Y Cyfarfod Llawn

Plenary

19/03/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio sydd gyntaf y prynhawn yma. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Llyr Gruffydd.

Ynni Cymru

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu Ynni Cymru? OQ62481

Mae tîm Ynni Cymru yn gweithio gyda’r 32 o brosiectau ynni lleol clyfar ledled Cymru a ariennir gan y gronfa grant cyfalaf £10 miliwn eleni ac yn bwriadu agor rhaglen y flwyddyn nesaf ym mis Ebrill. Mae Ynni Cymru hefyd yn gweithio gyda phrosiectau cymunedol presennol i wella eu cynhyrchiant drwy eu rhaglen optimeiddio.

Diolch. Yr addewid gydag Ynni Cymru, wrth gwrs, yw y byddai’n arwain ar siapio’r system ynni er mwyn llywio Cymru tuag at gyflawni ei thargedau sero net. Nawr, yr hyn a welwn yn y byd go iawn yw llu o ddatblygwyr yn y sector preifat yn cymryd yr awenau i bob pwrpas ac yn gorlifo'r Gymru wledig â'r hyn na allaf ond ei ddisgrifio fel datblygiadau arfaethedig hapfasnachol. A wyddoch chi fod 126 o brosiectau ynni adnewyddadwy mawr arfaethedig ar y gweill gan gwmnïau preifat ar hyn o bryd, gyda chapasiti cynhyrchu o 40 GW, sydd 25 gwaith yn fwy na'r galw presennol am drydan yng Nghymru? Nawr, un prosiect o'r fath rwyf eisoes wedi'i godi gyda chi yw Ynni Celyn. Mae'n gynnig yng Ngwyddelwern yn fy rhanbarth i. Mae'n gyfleuster storio batri enfawr 4 GWh, ychydig gannoedd o fetrau yn unig o'r pentref. Cynigir y bydd yr un prosiect hwnnw’n costio cymaint â’r ffwrnais arc drydan ym Mhort Talbot. Felly, dyna'r raddfa rydym yn sôn amdani. Ac nid yw Ynni Celyn ond yn un o 79 o systemau neu gynlluniau storio ynni batri mawr sydd ar y gweill yng Nghymru ar hyn o bryd. Nawr, a fyddech yn cytuno â mi, felly, fod angen i Lywodraethau Cymru a San Steffan gael mwy o reolaeth ar y sefyllfa, oherwydd, fel y saif pethau, ymddengys i mi mai'r datblygwyr sydd wrth y llyw? Ac a yw'n iawn fod ein cymunedau gwledig yn wynebu cannoedd o geisiadau prosiect hapfasnachol heb amddiffyniad digonol rhag sefyllfa lle mae pawb, i bob pwrpas, yn gwneud fel y mynno?

Wel, mae arnaf ofn fod gennym wahaniaeth barn o ran yr hyn y sefydlwyd Ynni Cymru i’w wneud. Nid oedd Ynni Cymru byth yn mynd i fod yn gyfrwng ar gyfer cyflawni prosiectau ynni ar raddfa fawr ledled Cymru. Mae bob amser wedi ymwneud â systemau ynni lleol clyfar, ac mewn gwirionedd, mae wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth gyflawni ar y prosiectau penodol hynny. Nawr, fe wyddoch na allaf wneud sylwadau penodol ar y datblygiad arfaethedig y cyfeirioch chi ato, Ynni Celyn, oherwydd fy nghyfrifoldebau cynllunio. Ond yn y pen draw, bydd angen buddsoddiad gan y sector preifat ar ein system ynni yn y dyfodol, ond hefyd buddsoddiad drwy gyrff fel Ynni Cymru, Trydan Gwyrdd Cymru a Great British Energy, a fydd, wrth gwrs, yn rhan bwysig o'r cymysgedd hefyd.

Rwy'n credu mai'r peth pwysicaf yma yw, pan fydd gennym doreth o geisiadau yn cael eu cyflwyno, fod yn rhaid i'r system gynllunio ei hun fod yn gwbl gadarn, mae'n rhaid iddi roi cyfle i unigolion a chymunedau ddweud eu dweud, mae'n rhaid iddi bwyso a mesur yr effeithiau amgylcheddol yn iawn a'r effeithiau cyffredinol ar y cymunedau yr effeithir arnynt. Rwy'n credu bod gennym system gynllunio gadarn i edrych ar yr achosion penodol hynny. Ond gan fod y cwestiwn yn ymwneud ag Ynni Cymru, rwy'n credu ei fod wedi bod yn hynod lwyddiannus yn ei gamau cynnar, a'i fod yn dyst i’r gwaith da a wnaethom gyda’n gilydd drwy’r cytundeb cydweithio.

Effeithlonrwydd Ynni

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth Llywodraeth Cymru i alluogi sefydliadau yn Nelyn i ddod yn fwy effeithlon o ran ynni? OQ62480

Lleihau galw a buddsoddi mewn mesurau effeithlonrwydd ynni yw'r ffyrdd gorau o hyd o reoli ein hanghenion ynni ar gyfer y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi sefydliadau i gyflawni hyn drwy wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru, Banc Datblygu Cymru ac ystod eang o wasanaethau cynghori.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet.

Cefais wybod yn fwy uniongyrchol yn ddiweddar am y gwahaniaeth gwirioneddol y mae pethau fel cynlluniau Ynni Cymru yn ei wneud yn fy etholaeth i, pan euthum yn ôl i ymweld â Chlwb Pêl-droed Treffynnon unwaith eto. Rydych eisoes wedi crybwyll cyllid Ynni Cymru ar gyfer CPD Treffynnon yn y Siambr hon. Yn ymarferol, bydd y cyllid hwn yn golygu y bydd y clwb nid yn unig yn dod yn hunangynhaliol o ran ynni, ond bydd hefyd yn darparu buddion llawer ehangach i’r clwb, o allu gwerthu ynni yn ôl i’r grid i greu cyfleusterau mwy cyfforddus i’r gymuned gyfan eu defnyddio. Maent hefyd yn cynnwys cynllun Twf Swyddi Cymru+ ar y safle, sy’n cynnig lleoliadau lleol mewn sgiliau gwaith coed, gan ddarparu cyfleoedd, agor drysau, a helpu i newid bywydau pobl ifanc yr ardal, gobeithio. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn hynod ddiolchgar am y croeso cynnes a gefais gan Tracey a phawb yng Nghlwb Pêl-droed Treffynnon, a hoffwn gofnodi eu bod nid yn unig yn rhoi popeth ar y cae chwarae, ond hefyd yn mynd gam ymhellach, gan fod y clwb yn fwy na rhan o'r gymuned, mae'n galon i'r gymuned. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymuno â mi, yn gyntaf, i gydnabod popeth y mae'r tîm yn y clwb yn ei wneud a'r gwahaniaeth y maent yn ei wneud? A hefyd, a allwch gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i gefnogi sefydliadau fel CPD Treffynnon er budd yr amgylchedd, yr economi, ac wrth gwrs, y gymuned? Diolch.

13:35

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn, ac rwy'n credu bod y gwaith y mae Clwb Pêl-droed Treffynnon wedi'i wneud wedi bod yn aruthrol yn achub ar y cyfleoedd a gyflwynwyd gan Ynni Cymru. Mae'r prosiect eisoes bron â bod wedi'i gwblhau. Dim ond yn ddiweddar y darparwyd yr arian, ac mae eisoes wedi arwain at y goleuadau LED clyfar newydd, pympiau gwres o'r aer, paneli solar, cyfleuster storio batri a system reoli adeiladau glyfar, a chyda'i gilydd, mae disgwyl i'r rheini leihau costau rhedeg y clwb oddeutu 80 y cant. Ac mae'r holl arian hwnnw bellach yn gallu cael ei ailfuddsoddi mewn chwaraeon llawr gwlad yn yr ardal, gan ddarparu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan. A dyna'n union y math o brosiect y gwnaethom ei ragweld pan ddechreuodd Ynni Cymru ei waith.

Ac mae'n dyst i sefydliadau ledled Cymru o ran pa mor gyflym y maent wedi gallu dod at ei gilydd i wario'r arian i wneud gwahaniaeth, i leihau eu costau eu hunain, ond hefyd i leihau'r pwysau ar y grid a sicrhau eu bod yn gwneud eu cyfraniad ar ein taith tuag at sero net. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu darparu £10 miliwn arall yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a bydd gweminar yn cael ei chynnal ar gyfer sefydliadau, busnesau bach ac eraill sydd â ddiddordeb ym mis Ebrill fel y gallant archwilio sut y gallant wneud y gorau o'r cyllid hwnnw. Yn y rownd ddiwethaf, cawsom dros 100 o geisiadau. Rydym yn gallu cefnogi 32 ohonynt, felly mae hynny'n bendant yn dangos bod galw mawr iawn am y math hwn o waith.

Wrth siarad yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni ym mis Tachwedd 2023, dywedodd tîm ynni domestig sir y Flint—sydd bellach yn un o wasanaethau'r cyngor, ond yn wreiddiol, yn bartneriaeth â Chanolfan Cyngor Ynni Gogledd Cymru yn yr Wyddgrug, elusen—fod 'aelod o’r tîm yn rhedeg cynllun ECO Flex ar ein cyfer mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych. Mae'n ddefnyddiol dod ag ychydig o gynghorau ynghyd i'w redeg ar eich rhan. Mae'n bosibl monitro'r cynllun felly a rhoi'r cwsmer yn gyntaf. Rydym hefyd yn dod â sylfaen ardal ynghyd, gan ymgysylltu â pherchen-feddianwyr a rhentwyr preifat i geisio mynd i'r afael â materion yn yr ardal ehangach. Mae hwn yn brosiect sy'n gweithio'n dda iawn. Mae hyn yn mynd at wraidd beth yw awdurdodau lleol a'r hyn y gallant ei wneud, gan wneud y mwyaf o'r cynllun. Byddwn yn codi hyn yng nghyfarfodydd aelodau ein cabinet gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i rannu'r arferion da hyn.' Gan ddysgu o hyn, pa gamau, os o gwbl, y byddwch yn eu cymryd, felly, i gyflwyno rhaglen draws-sector arbed ynni Cymru ar gyfer cartrefi tlawd o ran tanwydd ar sail ranbarthol ledled Cymru?

Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn a'r enghraifft honno o brosiect sy'n gweithio'n dda iawn, ac rwy'n credu mai'r hyn sy'n gwneud y prosiect hwnnw mor llwyddiannus yw'r gwaith cydweithredol a thrawsffiniol sy'n mynd rhagddo. Ac mae'n dangos hefyd pa mor bwysig yw cyngor da ar ynni. Felly, mae angen inni sicrhau bod y cyngor hwnnw ar gael i aelwydydd, ac mae ar gael drwy Gynllun Nyth Llywodraeth Cymru, ond hefyd drwy wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru. Mae hynny'n cefnogi'r sector cyhoeddus, ac mewn gwirionedd, mae disgwyl i'r gwasanaethau a ddarperir gan y gwasanaeth ynni hwnnw gynhyrchu mwy na £367 miliwn drwy gynilion a thrwy gynhyrchu pŵer ar gyfer y sector cyhoeddus hefyd. Felly, mae hyn yn sicr yn dangos pa mor werthfawr yw cyngor da, i'r sector cyhoeddus a hefyd i gartrefi unigol. Ac yn sicr, byddaf yn edrych yn agosach ar yr enghraifft a ddarparwyd gan Mark Isherwood y prynhawn yma, gan fod hynny'n sicr yn swnio fel rhywbeth y dylid adeiladu arno.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf am ddechrau drwy edrych ar y ffeithiau. Ffaith 1: mae gwefan Llywodraeth y DU ei hun yn nodi mai,

'Twf economaidd yw prif genhadaeth y llywodraeth.'

Ffaith 2: mae'r ffigurau economaidd diweddaraf wedi dangos bod yr economi mewn gwirionedd wedi crebachu ym mis Ionawr. Er gwaethaf y nod o dwf, mae'n amlwg nad oedd cyllideb y Canghellor yn gyllideb ar gyfer twf o gwbl, oedd hi? Gofynnaf i chi, felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn eu cymryd i liniaru effeithiau niweidiol eu plaid yn San Steffan ar ben arall yr M4?

Credaf fod y set anodd iawn o amgylchiadau a wynebwyd gan Lywodraeth y DU pan ddaethant i rym ar ôl y gwaddol hir o gyni ar ran Llywodraeth y DU a biliynau o bunnoedd o ymrwymiadau heb eu hariannu wedi ei drafod yn helaeth. Felly, mae llanast mawr iawn i'w lanhau, ac nid yw'r math hwnnw o waith yn digwydd dros nos, a dyna pam fod Llywodraeth y DU, yn gywir ddigon, wedi rhoi pwyslais cryf iawn ar dwf, er gwaethaf y cyd-destun economaidd anodd cyffredinol.

O'n rhan ni, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd ar gyfer twf. Rydym yn gweld potensial mawr drwy strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU, sydd, rwy'n falch o ddweud, yn nodi'r sectorau hynny yng Nghymru lle rydym eisoes yn rhagori a lle rydym eisoes yn gweld potensial ar gyfer twf—er enghraifft, mewn perthynas â gweithgynhyrchu uwch, amddiffyn, lled-ddargludyddion, y diwydiannau creadigol, technoleg ariannol. Mae'r rhain oll yn feysydd lle rydym yn gwneud yn dda iawn yng Nghymru, ond maent hefyd yn feysydd lle gallwn dyfu. Felly, byddwn yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar hynny. Byddwn yn ceisio sicrhau cymaint o fuddsoddiad ag y gallwn drwy'r gronfa gyfoeth wladol, a Great British Energy, ac wrth gwrs, mae gennym ein huwchgynhadledd fuddsoddi ein hunain, y bydd y Prif Weinidog yn sôn mwy amdani yn nes ymlaen, sy'n anelu at ddenu buddsoddwyr o bob cwr o'r byd i Gymru gyda chynigion y gallwn eu rhoi ger eu bron ar gyfer meysydd lle gallant fuddsoddi, mewn man lle mae gennym Lywodraeth sefydlog, lle mae gennym gynlluniau hirdymor ar gyfer buddsoddiad a lle rydym yn glir iawn ynglŷn â'n cryfderau economaidd, sydd, yn fy marn i—mae'n ddrwg gennyf, ein cryfderau amgylcheddol—yn fwyfwy pwysig i fuddsoddwyr o dramor hefyd.

13:40

Wel, etifeddodd Llywodraeth y DU yr economi a dyfodd gyflymaf yn y G7 a lefelau diffyg a oedd yn 40 y cant o'r hyn a etifeddwyd yn 2010 gan Lywodraeth y DU—ffaith. Wrth gwrs, gwyddom pam fod yr economi wedi crebachu. Mae hyder busnes yn isel, ac mae ein mentrau bach a chanolig eu maint bellach yn llai tebygol o logi neu fuddsoddi. Ac wrth gwrs, mae economi sy'n crebachu yn golygu refeniw treth is, sy'n golygu llai o arian i'w wario, heb wariant cyhoeddus uwch, a fydd yn cynyddu chwyddiant a lefelau cost ac yn arwain at doriadau yn y dyfodol. Mewn gwirionedd, dangosodd adroddiad diweddaraf KPMG fod busnesau wedi gwneud sylwadau ar oedi neu gwtogi cynlluniau llogi oherwydd y rhagolygon economaidd gwan a chostau cynyddol o ran y gyflogres, sydd ar y ffordd er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth Lafur y DU wedi etifeddu’r economi sy’n tyfu gyflymaf yn y G7. Gyda’r Canghellor i gyhoeddi mini-gyllideb yr wythnos nesaf i geisio cywiro llwybr economi’r DU, pa gamau, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i bwyso am wrthdroi naill ai’r cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr neu'r dreth ar ffermydd teuluol er mwyn helpu i adfer hyder a buddsoddiad busnesau?

Wel, mae gennyf gryn ddiddordeb ym 'Maromedr Busnes' Banc Lloyds, a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon, ac roedd yn dangos y ffigurau diweddaraf yng Nghymru gyda chynnydd o dri phwynt mewn hyder busnes yng Nghymru, sydd i'w groesawu yn fy marn i, ac rydym yn sicr yn mynd i'r cyfeiriad iawn o ran hyder busnes. Felly, rwy'n croesawu hynny'n fawr. Nid wyf am ddyfalu beth y gallai'r Canghellor ei ddweud ar 26 Mawrth, ond gwn fod fy nghyd-Aelod, y gweinidog cyllid, wedi bod mewn cysylltiad agos â Llywodraeth y DU, yn nodi'r prif flaenoriaethau ar gyfer Cymru. Byddwn yn edrych yn ofalus iawn ar yr hyn a gyhoeddir ar 26 Mawrth.

Mae hyder busnes, fel y nodwch, yn allweddol, yn enwedig o ystyried mai yng Nghymru y mae'r cyflogau isaf y pen, y diweithdra uchaf y pen, ac ati. Rydym eisoes yn gweld BP ac Equinor yn lleihau ac yn haneru eu buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy, gyda'r pwyslais yn cael ei roi yn hytrach ar olew a nwy. Mae'n amlwg y bydd y diwydiannau etifeddol yma yn y tymor hir, gan y byddwn yn dibynnu ar olew am ddegawdau i ddod wrth gwrs. Ond gyda’r cyhoeddiadau hyn yn lleihau'r cyllid ar gyfer ynni adnewyddadwy, heblaw am greu grŵp gorchwyl a gorffen ar gyfer ynni gwynt ar y môr, pa gamau eraill, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddenu, er enghraifft, datblygiadau ffermydd gwynt arnofiol ar y môr?

Roeddwn yn falch iawn o fynychu digwyddiad a noddwyd gan eich cyd-Aelod Sam Kurtz neithiwr, i lansio prosiect CO2 Aberdaugleddau, a fydd yn bwysig iawn i fynd â busnesau fel RWE ar y siwrnai ddatgarboneiddio honno. Rydym yn gweithio i bwysleisio wrth Lywodraeth y DU pa mor bwysig yw cludo carbon deuocsid heb ddefnyddio piblinell. Felly, credaf fod yr holl bethau hynny'n bwysig iawn, ond mewn gwirionedd, y neges a gafodd ei chyfleu yn y digwyddiad a noddwyd gan Sam Kurtz neithiwr oedd lefel yr agwedd gadarnhaol sydd yno, ac yn arbennig felly o ran y grŵp sy'n edrych ar ffermydd gwynt arnofiol ar y môr. Felly, nid nod y grŵp hwn yw nodi beth yw'r cyfleoedd bras neu ddweud wrthym fod ffermydd gwynt arnofiol ar y môr yn dda ac y dylem fod yn mynd ar drywydd hyn; mae a wnelo'r grŵp hwn â sut rydym yn gwneud i hyn ddigwydd. Mae'r grŵp porthladdoedd yn enwedig yn is-grŵp o dan hynny, sy'n arwain y ffordd, yn gywir ddigon, oherwydd yn amlwg, y porthladdoedd, yn digwydd bod, yw ble fydd y buddsoddiad yn cael ei wneud gyntaf.

Rwy'n credu bod lefel yr agwedd gadarnhaol ynghylch y potensial ar gyfer ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, ac ynni gwynt ar y môr yn fwy cyffredinol, yn wirioneddol gadarnhaol. Unwaith eto, roeddwn gyda’ch cyd-Aelod Sam Kurtz yn nigwyddiad EmpowerCymru yr wythnos diwethaf, ac unwaith eto, fe wnaeth y digwyddiad hwnnw gynnull pawb sydd â diddordeb mewn ynni adnewyddadwy yng Nghymru, a phobl sy’n awyddus i fuddsoddi yng Nghymru. Ac roedd yr agwedd gadarnhaol yno, unwaith eto, yn anferth. Felly, rwy'n credu bod pobl yn gweld potensial enfawr yma yng Nghymru, gan fod ganddynt Lywodraeth sy'n canolbwyntio ar wella'r system gynllunio. Mae’r Ddeddf seilwaith newydd yn dod i rym gennym, ac rydym hefyd yn gweithio’n agos iawn gyda’n prifysgolion a’n colegau i sicrhau bod gan y datblygwyr hynny y sgiliau sydd eu hangen arnynt. Mae'n fy atgoffa o'r cwestiwn cyntaf a gawsom gan Llyr Gruffydd yn gynharach heddiw, ynglŷn â phwysigrwydd cael yr ymagwedd gytbwys honno at gynllunio, lle rydym yn cynnwys cymunedau o'r cychwyn cyntaf hefyd.

13:45

Diolch, Lywydd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet, heb os, wedi cael sgyrsiau â’i swyddogion cyfatebol ar lefel y DU mewn perthynas â’r cynigion ar gyfer prisio parthol ledled y DU. Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar y cynigion hynny?

Rwyf wedi cael trafodaethau gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU ynglŷn â'u hadolygiad o drefniadau’r farchnad drydan. A dweud y gwir, cefais drafodaethau ddoe ddiwethaf gyda’r Gweinidog, Michael Shanks, ynglŷn â hyn. Felly, ar hyn o bryd, fel y bydd fy nghyd-Aelodau’n gwybod, mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar ystod o opsiynau. Felly, maent wedi cynnal yr ymrwymiad hwnnw gan Lywodraeth flaenorol y DU i adolygu trefniadau’r farchnad drydan, gyda’r bwriad o ddarparu system gost is i gwsmeriaid. Ac un elfen allweddol o waith yr Adolygiad o Drefniadau’r Farchnad Drydan ar hyn o bryd yw archwilio beth y gallai'r opsiynau fod.

Felly, ydy, mae prisio parthol yn un o'r opsiynau sy'n cael eu hystyried. Opsiwn arall yw diwygio'r trefniadau prisio cenedlaethol presennol ar raddfa fwy. Nododd Llywodraeth y DU yn glir iawn yn ein cyfarfod ddoe nad ydynt wedi penderfynu ar opsiwn penodol eto. Mae llawer mwy o waith i’w wneud o ran yr asesiadau effaith hynny. Ond byddwn yn gweithio'n agos gyda hwy, ac mae ein swyddogion wedi bod gweithio ar hyn gyda Llywodraeth y DU ers peth amser.

O’n rhan ni, rydym yn awyddus iawn i bwysleisio, yng Nghymru, fod gennym rai diwydiannau sy’n dal i ddefnyddio llawer iawn o ynni, felly, mae angen inni fod yn ystyriol iawn o hynny. Ac mae'r rhain yn fusnesau na allant symud yn hawdd i wneud eu gwaith yn rhywle arall. Ond rydym hefyd yn wirioneddol awyddus i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn deall, yng Nghymru, fod llawer o bobl hefyd yn wynebu tlodi tanwydd. Nod cyffredinol hyn, wrth gwrs, yw darparu biliau is i bobl. Ond nid yw Llywodraeth y DU wedi gwneud penderfyniad eto, ac rydym yn awyddus i archwilio beth yw’r dystiolaeth.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r ddadl i’w chroesawu’n fawr, pan fyddwn yn ystyried, o safbwynt domestig a diwydiannol, fod prisiau ynni wedi cyflwyno her sylweddol ers peth amser bellach.

Pan edrychwn ar brisio parthol yn benodol, mae'r mathau o gynigion yn peri problem bosibl. Nawr, mae egwyddor prisio parthol, a system brisio parthol, lle caiff prisiau ynni eu gosod yn lleol i adlewyrchu galw a lefel cynhyrchu ynni, yn egwyddor dda. Ond efallai y bydd y Llywodraeth yn rhoi’r system hon ar waith yn wael drwy greu parthau lluosog yng Nghymru, sydd wedyn yn cael eu huno ag ardaloedd lle mae galw mawr am ynni, megis Llundain a Birmingham, a allai wedyn gynyddu biliau i bobl yng Nghymru. Nawr, mae Cymru, wrth gwrs, yn allforiwr ynni, felly dylai aelwydydd a busnesau deimlo budd hynny drwy brisiau rhatach. Felly, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y dylai unrhyw gynigion yn y dyfodol gynnwys un parth i Gymru?

Byddai’n rhaid imi roi rhywfaint o ystyriaeth i hynny, a pha effeithiau anfwriadol, os o gwbl, a fyddai'n deillio o hynny, gan y gwn fod Llywodraeth y DU yn bwriadu cynnal llawer o waith modelu i edrych ar ba baramedrau gwahanol a ddylai fod ar waith ar gyfer y parthau. Felly, byddaf yn sicr yn rhoi rhagor o ystyriaeth i hynny, ond gallaf weld y gallai hynny arwain at rai canlyniadau anfwriadol.

Rwy’n awyddus, wrth gwrs, i hyn arwain at y biliau is y mae Llywodraeth y DU yn anelu atynt. Ond fel y dywedaf, bydd cyfnod nawr o edrych ar wahanol fodelau ar gyfer sut olwg a allai fod ar y parthau hynny, a beth y gallai’r effeithiau fod. Mae’n bwysig, serch hynny, fod y parthau'n gwneud synnwyr yng Nghymru, fel y gall pobl ddeall pam eu bod mewn parth penodol. Ac unwaith eto, dyma rai o'r trafodaethau a gawsom ddoe gyda Llywodraeth y DU. Ac rydym yn awyddus i weithio'n agos iawn gyda hwy. Rwy'n credu bod bwriad gwirioneddol ar ran Llywodraeth y DU i sicrhau ein bod yn ymgysylltu’n briodol ac yn llawn â hynny. Disgwylir casgliad y cam datblygu polisi oddeutu canol 2025. Yn amlwg, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'n cyd-Aelodau wrth i bethau symud ymlaen.

13:50

Mae'n bwysig ein bod yn cael y ddadl honno, a chredaf fod hon yn ddadl y byddai'n fuddiol ei chael ar sail drawsbleidiol yn yr ystyr benodol hon, gan fod pob un ohonom yn awyddus i wireddu'r union amcan hwnnw, sef gostwng biliau ynni i'n hetholwyr, ond hefyd i'r busnesau sy'n gweithredu yng Nghymru. Mae egwyddor sylfaenol yma, ac un y dylai pob un ohonom fod yn eithaf cyfarwydd â hi, mewn gwirionedd, pan fyddwn yn wynebu rhai o’r datblygiadau ynni adnewyddadwy hyn, y datblygiadau ynni adnewyddadwy mawr, yn ein hetholaethau, sef, pan fo ynni’n cael ei gynhyrchu ar garreg ein drws, y dylem deimlo budd uniongyrchol cynhyrchu'r ynni hwnnw, ac un ffordd o wneud hynny yw drwy sicrhau bod biliau ynni'n is.

Un bonws, ac rwy'n mynd i geisio dechrau'r broses o argyhoeddi Ysgrifennydd y Cabinet mewn perthynas â chael un parth i Gymru, ac un o fuddion posibl cael un parth i Gymru fyddai y byddem yn cael y buddsoddiad hirddisgwyliedig hwnnw yn seilwaith y grid. Yn ein holl sgyrsiau ynghylch prosiectau ynni adnewyddadwy ac mewn diwydiant ar raddfa fawr, fe wyddom mai'r grid yw'r eliffant yn yr ystafell. Nid oes gennym gysylltiad rhwng gogledd a de—mae ffordd inni gael y ffocws hwnnw, o bosibl, gan Lywodraeth y DU ar seilwaith y grid yma yng Nghymru. Ond yn y pen draw, yr hyn sydd ei angen arnom yma, mewn gwirionedd, yw diogelwch, diogelwch a fyddai’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU yn dod i benderfyniad, gan fod mwy o oedi yn creu ansicrwydd rhag buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, ond hefyd o ran buddsoddiad diwydiant. Ac rwy'n meddwl yn benodol yma am y ffwrnais arc drydan ym Mhort Talbot. Ar hyn o bryd, gwyddom y bydd galw uwch am ynni yno, ond gwyddom hefyd fod hynny'n golygu mwy o gostau i'r safle.

Felly, yn y sgyrsiau â Llywodraeth y DU—ac rwy’n ddiolchgar fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau—a yw’n gallu sicrhau bod Aelodau ar bob ochr i’r Siambr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ar yr union sgyrsiau hynny, fel y gallwn ninnau gyfrannu, a chefnogi Ysgrifennydd y Cabinet, gobeithio, yn y trafodaethau hynny?

Ydw, rwy'n awyddus iawn i gael sgyrsiau gyda fy nghyd-Aelodau ynglŷn â'r mater penodol hwn. Rwy'n cydnabod, mewn gwirionedd, fod cryn dipyn o ddiddordeb trawsbleidiol. Roedd hwn yn waith a ddechreuodd o dan Lywodraeth flaenorol y DU. A gwn fod gan bob un ohonom ddiddordeb mewn darparu system gost is hefyd. Felly, ni chredaf fod hwn yn fater gwleidyddiaeth plaid; mae'n fater y bydd pob un o fy nghyd-Aelodau'n dymuno ei weld yn cael ei gyflawni'n llwyddiannus. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud hynny.

Rwy'n credu bod y pwyntiau ynglŷn â buddsoddi yn y grid yn gwbl hanfodol hefyd. Rwy'n clywed am bwysigrwydd gwella mynediad at y grid a chapasiti yn y grid bob dydd yn y swydd hon. Rwy'n chwarae gêm fach â mi fy hun: rwy'n gweld pa mor hwyr i mewn i'r diwrnod y gallaf gyrraedd cyn i rywun grybwyll y grid i mi. Roedd hi'n chwarter i naw y bore yma pan glywais y cyfeiriad cyntaf ato. Felly, mae'n rhywbeth sydd ar frig agendâu pobl, a hynny'n gywir ddigon.

Rwy'n croesawu'r gwaith y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud ar hidlo, os mynnwch, y ceisiadau ar gyfer y grid ar hyn o bryd, gan gael gwared ar brosiectau nad ydynt yn mynd i lwyddo, a symud y prosiectau y gellir bwrw ymlaen â hwy i fyny'r rhestr, yn y gobaith o'u cysylltu â'r grid yn gynt. Rwy'n credu bod y gwaith hwnnw i'w groesawu, ond ar ei ben ei hun, nid yw'n mynd i ddatrys y broblem. Felly, mae angen inni gynyddu capasiti.

Diwygio'r System Gynllunio

3. Pa gynlluniau sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i ddiwygio'r system gynllunio er mwyn darparu ar gyfer mwy o bŵer i gymunedau lleol mewn penderfyniadau? OQ62461

Mae mwy o bŵer i gymunedau lleol yn golygu sicrhau bod pobl yn ymgysylltu ar yr adeg iawn. Mae ein cynigion o dan Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024 yn sicrhau ymgysylltiad cynnar ac yn sicrhau bod hyn yn parhau drwy gydol y broses. Rydym hefyd wedi cychwyn prosiect ar ryngweithio digidol gyda'r system gynllunio leol sy'n edrych ar ymgynghori cyn gwneud cais.

Nid yw'r system gynllunio sydd gennym bob amser yn gweithio i gymunedau. Enghraifft wych o hyn yw'r hyn sy'n digwydd yn Ffos-y-frân ym Merthyr Tudful. Roedd Ffos-y-frân yn safle mwyngloddio glo brig tan y llynedd, ond ers i'r mwyngloddio ddod i ben, mae'r gymuned leol wedi cael ei gadael yn edrych ar safle adfeiliedig a budr, lle mae gwagle sydd wedi'i lenwi â dŵr halogedig yn ôl pob tebyg yno o hyd. Nawr, rai wythnosau yn ôl, cyflwynodd y cwmni gynllun adfer diwygiedig, ac nid yw'n agos at yr hyn a addawyd i'r gymuned pan ddechreuodd y gwaith yr holl flynyddoedd yn ôl. Byddai'n gadael y llyn halogedig heb ei lenwi, twmpathau o wastraff fel y maent, ac wyneb y graig yn ymestyn i lawr i'r dŵr. Nawr, byddai'r cynlluniau hyn yn gadael y safle nid yn unig yn adfeiliedig ond yn beryglus. Ond mae'r system gynllunio, fel bob amser, yn ffafrio'r datblygwr, nid y bobl sy'n gorfod byw ger y safle yn edrych arno bob dydd. Rwy'n sylweddoli na allwch ymyrryd yn uniongyrchol mewn cais fel hwn, ond a allwch chi ddweud wrthyf, os gwelwch yn dda, pa gynlluniau a fyddai gan y Llywodraeth i newid y system er mwyn atal sefyllfaoedd fel hyn rhag codi eto, ac a allem gael cyfarfod i drafod sut y gellid atal rhywbeth fel hyn rhag digwydd yn y dyfodol?

13:55

Rwy'n ddiolchgar iawn i Delyth Jewell am hynny a hefyd am y gwaith y gwn iddi wneud gyda fy rhagflaenydd yn y rôl hon ar Ddeddf Seilwaith (Cymru), a arweiniodd at gryfhau'r Ddeddf yn fawr o ran rôl cymunedau, yn enwedig, er enghraifft, y gwrandawiadau llawr agored, a allai ddigwydd yn y dyfodol. Mae papur ymgynghori sy'n cynnig y byddai is-ddeddfwriaeth yn nodi y byddai gwrandawiadau ac ymholiadau a gynhelir fel rhan o archwiliad yn cael eu darlledu ar-lein, ac mae a wnelo hynny â chynyddu hygyrchedd cyhoeddus yr archwiliad. A gwnaed gwaith hefyd i ddiweddaru'r Ddeddf seilwaith fel ei bod yn cynrychioli'r system fodern, gan y gwn nad oes gan lawer o'n prosesau cydsynio i Orchmynion, sy'n cael eu disodli gan y Ddeddf, megis Deddf Trydan 1989 neu'r Ddeddf Harbyrau 1964, unrhyw ofynion statudol ar gyfer yr holl ymgysylltu neu ymgynghori cyn ymgeisio. Felly, credaf y bydd Deddf Seilwaith (Cymru) yn gwneud newid amlwg yn y gwelliannau, a gwn fod y diolch am lawer o hynny i Delyth Jewell, a dylid rhoi clod iddi am y gwaith a wnaeth yn y maes penodol hwn.

Fel gyda llawer o geisiadau cynllunio, gall llawer o ymgyngoreion statudol, cwmnïau cyfleustodau, perchnogion tai, eiddo cyfagos, ac unrhyw geisiadau dadleuol ddenu grwpiau lobïo sy'n aml yn rhoi llawer o amser, egni ac ymdrech i gymryd rhan yn y broses gynllunio. Nid yw'n syndod fod y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu hysbrydoli i gymryd rhan am eu bod yn dymuno gwrthwynebu. Fodd bynnag, nid yw gwrthwynebu yn unig yn ddigon, ac ni waeth pa mor gryf yw'r gwrthwynebiad, mae'n rhaid i'r ceisiadau fod yn seiliedig ar bolisi cynllunio, ond dyna ble mae'r broblem. Yn gyffredinol, yn ein cymunedau, mae diffyg dealltwriaeth o bolisi cynllunio yng Nghymru, pan fydd gennych nodyn cyngor technegol 1, TAN 3, TAN 5— dyn a ŵyr sawl TAN—ac mae'n rhoi cymunedau lleol dan anfantais wrth wrthwynebu datblygwyr cyfoethog ar gynlluniau mawr. Mae gormod lawer o ymholiadau cyhoeddus neu apeliadau galw i mewn yn cael eu colli oherwydd y diffyg cyngor cyfreithiol a chyngor cynllunio sydd ar gael, ac yn rhy aml, mae cynlluniau'n cael sêl bendith diolch i fargyfreithwyr drud iawn sydd ar gael i'r datblygwyr ond nid i'r gymuned leol. Pa gamau rydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod lleisiau ein cymuned yn cael eu cymryd o ddifrif, ac a wnewch chi ystyried cronfa gynllunio gymunedol wrth gefn i ganiatáu i'r cyngor cyfreithiol hwn fod ar gael yn haws i bawb? Diolch.

Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn. Ydy, mae'n wir, er bod yn rhaid i benderfynwyr ystyried unrhyw safbwyntiau perthnasol a fynegir gan drigolion lleol a thrydydd partïon eraill ar faterion cynllunio, nid yw gwrthwynebiad neu gefnogaeth leol i gynnig yn unig yn sail resymol dros wrthod neu roi caniatâd cynllunio. Mae'n rhaid i'r gwrthwynebiadau neu'r gefnogaeth honno fod yn seiliedig ar ystyriaethau cynllunio dilys, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae aelodau'r cyhoedd nad oes ganddynt gefndir ym maes cynllunio—ac ni fyddai gan lawer—weithiau'n ei chael hi'n anodd ei ddeall.

Dyna un o'r rhesymau pam ein bod yn ariannu Cymorth Cynllunio Cymru. Mae yno i gefnogi unigolion a chymunedau i wneud sylwadau i'r broses gynllunio, fel eu bod yn gallu troi eu pryderon dilys neu gefnogaeth ddilys yn ddadleuon sy'n gydnaws ag ystyriaethau cynllunio dilys ac y gellir eu hystyried yn y cyswllt hwnnw. Felly, rwy'n sicr yn argymell Cymorth Cynllunio Cymru i bob un o fy nghyd-Aelodau. Mae'n adnodd rhagorol rhad ac am ddim i gymunedau, fel y gellir eu cefnogi i wneud y sylwadau hynny drwy'r broses gynllunio.

Fis Hydref diwethaf, siaradais mewn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod a gyflwynwyd gan Heledd Fychan AS, a'r hyn a oedd yn arbennig o berthnasol oedd y cais i ehangu chwarel a gafodd ei dderbyn er gwaethaf gwrthwynebiad y gymuned. Mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi egluro pam y gall hynny ddigwydd, ond ni chredaf fod y trigolion wedi'u helpu gan y ffaith bod angen cryfhau 'Nodyn Cyngor Technegol Mwynau (Cymru) 1: Agregau’, MTAN 1, nad yw wedi’i ddiwygio ers ei gyhoeddi gyntaf gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2004. Ac rwy'n credu y byddai cryfhau a diweddaru MTAN 1 wedi cynorthwyo'r trigolion hynny gyda'u gwrthwynebiad ac yn rhoi cyfle inni wella amddiffyniadau drwy brosesau cynllunio presennol awdurdodau lleol ar gyfer trigolion sy’n byw ger chwareli lle mae’r gweithrediadau hynny’n bwriadu ehangu. Felly, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon cyfarfod â mi ac Aelodau eraill o’r Senedd i archwilio hyn fel opsiwn ac i weld a allwn gryfhau’r broses honno?

14:00

Rwy'n hapus bob amser i gyfarfod â chyd-Aelodau ar unrhyw bwnc y credant y byddai sgwrs yn ddefnyddiol yn ei gylch. Rwy'n cydnabod bod MTAN 1 wedi'i gyhoeddi beth amser yn ôl, ond rwy'n credu bod yr egwyddorion a gynhwysir ynddo yn dal i fod yn ddilys, ac mae'n cynnwys polisi cynllunio cynhwysfawr, sy'n gadarn, ynghylch rheoli effeithiau chwarela. A dylid ei ddarllen ar y cyd â 'Polisi Cynllunio Cymru', felly ni ddylid ei gadw fel dogfen ar wahân. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' ei hun yn cael ei adolygu'n rheolaidd ac mae hwnnw'n nodi'r polisïau cyffredinol ar gyfer pob datblygiad mwynau, ond wrth gwrs rwy'n fwy na pharod i gael sgyrsiau gyda chyd-Aelodau ar y mater hwn. 

Prisiau Trydan

4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith prisiau parth ar brisiau trydan i ddefnyddwyr yng Nghymru? OQ62476

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddeall sut y gallai unrhyw ddiwygiadau posibl i drefniadau'r farchnad drydan effeithio ar ddefnyddwyr Cymru. Fel mater a gadwyd yn ôl, mae Llywodraeth y DU yn arwain asesiad effaith, a fydd yn cael ei ystyried yn y broses o wneud penderfyniadau.

Ychydig fisoedd sydd i fynd cyn i benderfyniad gael ei wneud. Felly, mae angen eglurder arnom ynghylch safbwynt Llywodraeth Cymru, ac nid wyf yn glir o hyd, er gwaethaf y pethau a ddywedoch chi wrth Luke Fletcher. A ydych chi'n derbyn y dadansoddiad mwyaf annibynnol ar hyn o bryd, sy'n awgrymu y byddai'r cynigion presennol, gyda Chymru wedi'u rhannu'n rhan o dri pharth, yn cael eu dominyddu gan ranbarthau lle mae'r galw'n uchel yn Lloegr, yn arwain at brisiau uwch yng Nghymru? A ydych chi'n derbyn safbwynt Octopus Energy ac eraill, pe bai parth penodol ar gyfer Cymru, yn seiliedig ar brofiad tebygol yr Alban, y byddai hynny'n arwain at brisiau is? Fe ddywedoch chi nad ydych chi wedi eich argyhoeddi o hynny oherwydd canlyniadau anfwriadol, felly a allwch chi nodi beth yw'r canlyniadau anfwriadol hynny, yn eich barn chi?

Yn fy nhrafodaethau gyda Llywodraeth y DU, fe wneuthum y pwynt, y gwn iddo gael ei wneud gan gyd-Aelodau, am rai o'r modelau dangosol sydd wedi'u rhannu. Roedd Llywodraeth y DU yn awyddus iawn i ddweud mai dim ond rhai o lawer o fodelau yw'r rheini. Nid ydynt wedi penderfynu eto ar ba fodel prisio parthol y byddid yn bwrw ymlaen ag ef, felly mae llawer mwy o waith y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud ar hyn o bryd yn edrych ar wahanol opsiynau gwahanol ar gyfer prisio parthol. Nid ydym yn mynd i gefnogi prisio parthol sy'n gwneud pethau'n anos i fusnesau yng Nghymru, sy'n gwneud pethau'n anos i ddefnyddwyr ynni mewn amgylchiadau domestig. Rydym yn awyddus iawn iddo gyflawni'r hyn y mae Llywodraeth y DU eisiau ei wneud, sef darparu system cost is i'n marchnad ynni yma yn y DU. Felly, rydym yn gweithio'n agos iawn. Ni allaf wneud sylwadau ar unrhyw gynigion penodol ar hyn o bryd, am mai modelau dangosol yn unig ydynt sy'n un o lawer, a bydd Llywodraeth y DU yn edrych ar fodelau eraill hefyd. Nid yw wedi datblygu'r rheini yn llawn eto, felly ni allwn gael y sgyrsiau hynny na deall beth y gallai'r canlyniadau fod. Ond byddwn yn sicr o godi'r pwyntiau y mae Luke Fletcher wedi'u gwneud y prynhawn gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU fel modelau posibl y dylid eu hystyried, ac rydym yn awyddus felly i archwilio beth a allai fod yn ganlyniadau anfwriadol. Fel y dywedais, rwy'n awyddus i hon fod yn drafodaeth barhaus gyda chyd-Aelodau, ond nid ydym mewn sefyllfa ar hyn o bryd i ffurfio barn ar fodelau penodol, am nad ydynt wedi'u cynhyrchu.

Ysgrifennydd y Cabinet, preswylwyr yng nghanolbarth a gogledd Cymru sy'n talu'r taliadau sefydlog uchaf yn unrhyw le ar draws y DU, felly mae hynny ynddo'i hun yn annheg. Ond wrth gwrs, mae'n annheg oherwydd, yn aml iawn, efallai mai ychydig iawn o drydan y bydd pobl yn ei ddefnyddio, neu ddim trydan o gwbl, ac mae'n dal i fod yn rhaid iddynt dalu'r tâl sefydlog hwnnw. Nawr, mae Ofgem wedi bod yn cynnal ymgynghoriad ar gyflwyno amrywiad cap ynni o bris tâl sefydlog sero. Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yw yfory, ac awgrymaf fod angen inni ddod â'r annhegwch hwn a'r loteri cod post i ben a sicrhau nad yw pobl yn fy etholaeth i a gogledd Cymru yn talu'n llawer uwch na phris pobl eraill mewn rhannau eraill o'r wlad o ran tâl sefydlog. Felly, a allwch chi nodi beth oedd neu beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad hwnnw, sy'n dod i ben yfory, ac unrhyw sgyrsiau eraill a gawsoch gydag Ofgem a Llywodraeth y DU ynglŷn â'r mater hwn?

14:05

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol sydd wedi bod yn arwain yn benodol ar y mater hwn, a gwn y byddai'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Russell George am y trafodaethau y mae hi wedi bod yn eu cael. Rwy'n gwybod bod hwn wedi bod yn fater a drafodwyd yn helaeth yn y Senedd. Mae'n rhywbeth y gwn fod Jack Sargeant wedi arwain arno; gwelsom ddadleuon a gefnogwyd ganddo yn y Siambr hefyd. Felly, mae'n fater hirsefydlog y mae cyd-Aelodau ar draws y Senedd wedi bod yn poeni amdano, felly rwy'n falch fod Ofgem yn edrych ar hyn. Fel y dywedaf, Jane Hutt sy'n arwain ar hyn, ond gwn y byddai hi'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi.  

Rwyf eisiau mynd yn ôl at y system gyfredol sydd gennym ar gyfer prisio parthol, lle mae gennym un pris ynni cyfanwerthol cenedlaethol wedi'i osod bob hanner awr yn ôl yr unedau ynni drutaf yn y cymysgedd—sef nwy, yn amlwg—sy'n cysylltu pob cartref â gweithgareddau'r cwmnïau tanwydd ffosil. Felly, mae'n ymddangos i mi mai un o ganlyniadau'r system genedlaethol bresennol, boed yn anfwriadol ai peidio, yw ei bod yn llesteirio cynhyrchiant er mwyn cynnal pris uchel artiffisial i fodloni'r cwmnïau tanwydd ffosil. Mae hynny i'w weld yn gwbl groes i'r hyn rydym i fod i'w wneud, sef yr angen i ddatgarboneiddio'n gyflym i achub y blaned ac allforio ynni i'r Almaen, er enghraifft, a fyddai'n prynu pob uned o drydan sydd gennym. Felly, rwyf am ddeall pam ein bod yn dal i gael sgwrs am y system gyfredol, pan fo mor anaddas i'r diben, ac mae angen inni sicrhau nad system felly a fydd gennym yn y dyfodol, yn seiliedig, gobeithio, ar un pris i Gymru. 

Mae hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth y DU yn arwain arno, am yr un rhesymau ag a ddisgrifiwyd, yn yr ystyr fod y farchnad drydan bresennol yn un a gynlluniwyd ar gyfer system drydan a oedd yn cael ei dominyddu gan asedau cynhyrchu tanwydd ffosil y gellir ei anfon. Nid yw hynny'n wir mwyach, nid yw lle rydym eisiau iddi fod, nid dyna lle rydym yn mynd yn y dyfodol. Mae'r prisio parthol, fel y dywedaf, yn un o'r opsiynau sy'n cael eu hystyried. Mae Llywodraeth y DU hefyd yn edrych ar ddiwygio'r trefniadau prisio cenedlaethol; dyna opsiwn arall y mae'n edrych arno ar hyn o bryd.

Ond nid wyf yn siŵr beth arall y gallaf ei ychwanegu heddiw y tu hwnt i'r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi'i ddweud ynglŷn â'i chynlluniau a'r trafodaethau a gefais gyda Michael Shanks. Mae'n ymwneud â Llywodraeth y DU yn ymgymryd â'r asesiadau effaith hynny, gan ddarparu modelu mwy manwl ar yr hyn y gallai prisio parthol ei olygu, ac yna gallwn ymwneud ychydig yn fwy manwl â'r asesiadau effaith a'r modelau posibl hefyd. Ond maent wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda ni ac i ymgysylltu'n llawn ar bob un ohonynt, ac felly, byddwn yn manteisio ar y cyfleoedd i gyflwyno'r achosion pan ddaw'r adegau hynny. 

Signal Ffonau Symudol yn Sir Fynwy

5. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â gwella signal ffonau symudol yn Sir Fynwy? OQ62462

Mae swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd â'u cymheiriaid yn Llywodraeth y DU a'r diwydiant ffonau symudol i drafod gwella signal ffonau symudol yng Nghymru, gan gynnwys cynnydd ar gyflawni'r rhaglen rhwydwaith gwledig cyffredin a ariennir gan Lywodraeth y DU a diwydiant, sy'n cynnwys seilwaith yn sir Fynwy.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Llangwm, pentref bychan yn sir Fynwy, bellach yn cael ei adnabod fel y pentref heb signal, ac mae trigolion wedi bod yn dioddef o fod heb signal ffonau symudol, sy'n effeithio ar eu gallu i redeg busnesau yn ogystal â gwneud galwadau ffôn syml, gan nad oes signal ffonau symudol am filltir y naill ochr a'r llall i'r pentref. Yn fwyaf pryderus, wrth gwrs, mae'n beryglus pan fydd trigolion am gysylltu â'r gwasanaethau brys, gyda llinellau tir hefyd yn colli signal. Yn hanesyddol, roedd mast wedi'i osod mewn pentref cyfagos, ac mae'r cyngor cymuned a'r cynghorwyr yn awyddus iawn i gael un wedi'i osod eto. Ysgrifennydd y Cabinet, yn 2025 ni ddylai unrhyw ardal yng Nghymru fod heb signal ffonau symudol priodol, felly a gaf fi ofyn i chi weithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU a sôn yn y trafodaethau hynny â darparwyr gwasanaeth mawr i geisio unioni'r sefyllfa hon a allai fod yn beryglus a gwella signal ffonau symudol yn Llangwm fel y gall y trigolion gysgu'n dawel. Diolch.  

Rwy'n hapus i gael y trafodaethau hynny gyda Llywodraeth y DU a Mobile UK, sy'n dod â'r darparwyr ffonau symudol at ei gilydd, i geisio unioni'r sefyllfa. Rwy'n gwybod bod data o adroddiad diweddaraf Ofcom 'Connected Nations' yn dangos bod y signal ffonau symudol yn sir Fynwy yn cyd-fynd yn gyffredinol â'r signal ledled Cymru gyfan, felly rwy'n credu bod hynny'n gadarnhaol. Ond wrth gwrs, nid yw hynny'n gysur o gwbl os ydych chi'n byw mewn cymuned heb signal. Felly, rwy'n hapus i sicrhau bod fy swyddogion yn mynd ar drywydd hynny ar unwaith, i geisio gweld beth y gallwn ei wneud i gyflymu datrysiad yn hynny o beth.

14:10

Rwy'n ddiolchgar i Laura Anne Jones am godi'r mater hwn. Nid Llangwm yw'r unig bentref yng Nghymru heb gwmpas band eang a heb signal symudol, gallaf eich sicrhau; mae yna drefi yn fy etholaeth lle mae'n anodd iawn gwneud galwad ar ffôn symudol, a hyn 20 mlynedd ar ôl i Blair greu Ofcom. Ar y pryd, dywedwyd wrthym fod Ofcom yn mynd i fod yn rheoleiddiwr sy'n symud yn gyflym, yn gallu symud gydag ystwythder ac eglurder a rhagwelediad i allu cyflawni ar ran ein holl etholwyr. Yr hyn a welwn ddau ddegawd yn ddiweddarach yw anallu i wneud galwad ffôn ar brif stryd Glynebwy. Felly, hoffwn i Lywodraeth Cymru weithio gydag Ofcom, gyda Llywodraeth y DU, i nodi'r rhannau o'r wlad nad oes ganddynt signal ffonau symudol, neu signal ffonau symudol digon cryf i gwblhau galwad ffôn, er mwyn sicrhau bod gan bob rhan o'r wlad y math o signal symudol a addawyd i ni ddau ddegawd yn ôl.

Mater i Lywodraeth y DU yw hwn, ond yn amlwg, mae gennym ddiddordeb mawr ynddo, felly byddwn yn sicrhau ein bod yn cael y trafodaethau hynny, gan adlewyrchu'r hyn y mae cyd-Aelodau wedi'i grybwyll y prynhawn yma.

Rwy'n gwybod bod y ddarpariaeth 4G awyr agored gan bob un o'r pedwar rhwydwaith symudol ledled Cymru yn 80 y cant, felly bydd hynny'n anodd i'r cymunedau nad oes ganddynt y signal penodol hwnnw. Wrth wrando ar Alun Davies, roeddwn i'n meddwl am gynnig arloesol iawn sydd wedi'i ddatblygu ym Mhowys, lle mae'r cyngor wedi ychwanegu technoleg at eu lorïau casglu sbwriel, a allai fynd ati wedyn i asesu beth oedd y signal symudol ar draws y sir. Felly, roeddwn i'n meddwl bod honno'n ffordd arbennig o arloesol o geisio nodi ble mae'r mannau problemus a gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU a Mobile UK i fynd i'r afael â hwy. Ond yn amlwg, mae hwn yn fater sy'n hynod bwysig i bobl ledled Cymru, a byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a Mobile UK.

Twristiaeth a Lletygarwch

6. Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cymryd i sicrhau bod y sector twristiaeth a lletygarwch yng Ngogledd Cymru yn cael ei gefnogi a'i fod yn barod cyn tymor twristiaeth y gwanwyn? OQ62477

Rydym yn cefnogi'r sectorau twristiaeth a lletygarwch drwy gydol y flwyddyn. Mae Croeso Cymru yn darparu cyllid ar gyfer prosiectau twristiaeth a gwella cyfleusterau lleol. Mae hefyd yn marchnata Cymru fel cyrchfan i ddefnyddwyr a'r fasnach deithio. Mae gogledd Cymru yn ymddangos yn yr ymgyrch 'hwyl' bresennol, sydd wedi denu sylw sylweddol gan y cyfryngau.

Yn 2024, roedd 12.8 y cant o fentrau yng ngogledd Cymru mewn diwydiannau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth, yr uchaf o'r holl ranbarthau. Mae twristiaeth yn ddiwydiant hanfodol sy'n denu llawer o ymwelwyr i gyrchfannau fel tref glan môr hyfryd Llandudno, y porth i Eryri, Betws-y-Coed, Llanrwst, Conwy a llawer mwy. Un o'r prif resymau a nodwyd gan ein holl fusnesau hunanddarpar yng ngogledd Cymru oedd bod cwsmeriaid yn cael trafferth gyda chostau byw. O ganlyniad i'r ffaith bod gan bobl lai o incwm gwario, dywedodd rhai busnesau fod pobl yn aros am lai o nosweithiau. Mae hyn yn naturiol yn achosi pryder i fusnesau sy'n gorfod bodloni'r trothwy deiliadaeth 182 diwrnod. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod y bydd ffactorau sy'n aml y tu hwnt i reolaeth busnesau hunanddarpar yn effeithio ar niferoedd nosweithiau deiliadaeth? Ac er mwyn dangos cefnogaeth i'r diwydiant hanfodol hwn, a wnewch chi adolygu'r penderfyniad i ddynodi'r trothwy deiliadaeth isaf o 182 diwrnod?

Wel, rwyf wedi bod yn edrych yn fanwl iawn ar ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol mewn perthynas â theithio gan deithwyr rhyngwladol i Gymru, ac rwy'n falch iawn o weld bod y ffigurau rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2024 i fyny 10 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.  Felly, rwy'n credu bod y pethau hyn yn symud i'r cyfeiriad cywir. A chyrhaeddodd gwariant i mewn i Gymru £203 miliwn, felly roedd hynny 7 y cant yn uwch o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Felly, rwy'n credu bod y ffigurau hyn yn gadarnhaol. 

Rwy'n credu hefyd fod yna lawer a wnawn ar ran y diwydiant nad yw'r diwydiant o reidrwydd yn ei ystyried, oherwydd mae llawer ohono'n ymwneud â hyrwyddo Cymru dramor. Felly, mae gogledd Cymru, er enghraifft, yn rhan fawr o'r gwaith a wnawn gydag asiantau teithio ar-lein mawr i sicrhau bod gogledd Cymru yn weladwy i ddefnyddwyr yn yr Unol Daleithiau a'r Almaen. Rydym hyd yn oed wedi bod yn gweithio gyda grŵp o'r enw Marketing Manchester yn yr Unol Daleithiau, ac mae hynny'n ymwneud â defnyddio Manceinion fel porth i ogledd Cymru. Felly, rydym yn edrych ar fanteisio ar bob cyfle posibl i farchnata Cymru i'r byd.

Hynny yw, gwn fod ein barn yn wahanol iawn mewn perthynas â'r 182 diwrnod, a gwn fod rhai cyd-Aelodau wedi gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu hynny. Rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru yn bendant o'r farn fod hyn yn gymharol newydd. Nid ydym yn gwybod eto beth yw'r effaith oherwydd mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn edrych ar gyfraddau deiliadaeth ar raglen dreigl dwy flynedd, felly nid ydym yn gwybod beth yw'r effaith hyd yma. Ac am y rheswm hwnnw, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn awyddus iawn i'r diwydiant ganolbwyntio ar gyrraedd y trothwy 182 diwrnod neu ystyried pa opsiynau sydd ar gael, yn hytrach nag ystyried yr hyn y byddent yn ei ddweud pe ceid adolygiad o'r 182 diwrnod, oherwydd mae'n credu y byddai hynny'n tynnu sylw oddi wrth y gwaith sy'n digwydd ar hyn o bryd.

14:15
Cysylltedd Band Eang mewn Cymunedau Gwledig

7. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i wella cysylltedd band eang mewn cymunedau gwledig? OQ62479

Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am wella band eang. Fodd bynnag, mae gennym hanes cryf o gefnogi cymunedau gwledig i gael mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy. Daeth ein hymyrraeth ddiweddaraf â band eang ffeibr llawn i fwy na 44,000 o adeiladau ac mae ein cynllun grant wedi darparu rhwyd ddiogelwch fawr ei hangen.

Diolch am yr ateb, Ysgrifennydd Cabinet. Wel, mi fyddwch chi, wrth gwrs, yn cofio storm Darragh ac effaith andwyol y storm honno ar nifer o'n cymunedau ni. Fe arweiniodd y storm at filoedd o aelwydydd a busnesau yn colli cysylltiadau ffôn a chysylltiadau â'r we. Yn eu plith oedd cymuned Llwyndyrys, a gollodd ei llinellau ffôn a Wi-Fi am dros dri diwrnod. Ers hynny, mae'r gymuned honno wedi adolygu'r isadeiledd ac wedi gweld bod y ceblau sydd yn rhedeg ar hyd polion mewn cyflwr bregus: maen nhw wedi cael eu pwytho drwy ganghennau'r coed ar ochr y ffordd. Y peryg ydy pan ddaw'r storm nesaf, y bydd y ceblau yma'n torri oherwydd y ffaith eu bod nhw wedi eu pwytho drwy ganghennau'r coed, ond yn amlwg, mae bron yn amhosibl mynd allan i drwsio cables yng nghanol storm. Felly, mi fyddai'n llawer gwell gwneud y gwaith diogelu a pharatoadol yma rhag blaen, ac mae hyn yn wir mewn cymunedau, wrth gwrs, ar draws Cymru. A wnewch chi, felly, siarad â Openreach i sicrhau eu bod nhw'n gwneud y gwaith diogelu hwn dros yr haf er mwyn osgoi problemau pan ddaw'r tymor stormydd yn yr hydref?

Gwnaf. Mae'n bwynt pwysig iawn ynghylch parodrwydd ar gyfer digwyddiadau tywydd garw yn y dyfodol, felly rwy'n fwy na pharod i fy swyddogion gael y trafodaethau hynny gydag Openreach ynglŷn â beth yw eu cynlluniau i sicrhau eu bod yn trwsio'r to tra bo'r haul yn tywynnu dros yr haf.

Maes Awyr Caerdydd

8. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i Faes Awyr Caerdydd? OQ62474

Y cymorth diweddaraf a roddodd Llywodraeth Cymru i Faes Awyr Caerdydd oedd £42.6 miliwn mewn cyllid grant achub ac ailstrwythuro, a ddyfarnwyd ym mis Mawrth 2021. Mae'r maes awyr bellach wedi hawlio'r grant yn llawn. Mae manylion am ein buddsoddiad yn y maes awyr hyd yma i'w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n credu ein bod i gyd yn gwybod bod potensial i Faes Awyr Caerdydd, ond go brin y gellid ei ystyried yn drysor eto. Nid yw'n ymddangos ei fod wedi gwella llawer ers iddo gael ei brynu gan eich Llywodraeth yn 2013. Ond yr haf diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn cyllido o £205 miliwn dros y degawd nesaf ar gyfer y maes awyr, er mawr bryder i bobl fel Maes Awyr Bryste a Birmingham a meysydd awyr eraill, oherwydd y niwed a allai ddigwydd iddynt hwy. Nawr, er bod yn rhaid croesawu buddsoddiad cadarnhaol, rwy'n credu bod pryder dilys ynglŷn ag o ble y daw'r arian. Ac rwy'n gwybod bod sylwadau wedi'u gwneud i'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, gan arwain at lawer o sylwadau cryf gan yr uned cyngor ar gymorthdaliadau. Nawr, yn amlwg, dylid defnyddio'r sector preifat i ddenu mwy o fuddsoddiad a thwf i'r maes awyr, a fyddai, yn ei dro, yn rhyddhau mwy o arian trethdalwyr i'w wario ar ardaloedd eraill yng Nghymru sydd ei angen yn daer. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, ar adeg pan fo cyllid y Llywodraeth eisoes dan bwysau, a gaf i ofyn pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i ddod o hyd i fuddsoddiad preifat o'r tu allan cyn i symiau mor enfawr o arian cyhoeddus gael eu tywallt i mewn i'r maes awyr unwaith eto?

14:20

Wel, rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn. Cyhoeddwyd asesiad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd o'n buddsoddiad hirdymor arfaethedig ym Maes Awyr Caerdydd ar 2 Hydref. Bydd cyd-Aelodau'n cofio fy mod wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig mewn ymateb i hynny. Felly, nid wyf yn mynd i allu gwneud sylwadau pellach y prynhawn yma oherwydd, fel y nodais yn y datganiad ysgrifenedig hwnnw, rydym yn cymryd yr amser sydd ei angen arnom i roi ystyriaeth lawn i asesiad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, ac rydym yn parhau i fod yn agored i fireinio ein rhaglen fuddsoddi arfaethedig ar sail yr asesiad hwnnw, ond rwy'n awyddus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gyd-Aelodau cyn gynted ag y gallwn, pan fyddwn wedi penderfynu ar y ffordd orau ymlaen.

2. Cwestiynau i’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Yr eitem nesaf bydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Cwestiwn cyntaf: Alun Davies.

Y Contract Meddygaeth Deulu Newydd

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar effaith y contract meddygaeth deulu newydd ar wasanaethau iechyd sylfaenol ym Mlaenau Gwent? OQ62471

Mae cytundeb y contract gwasanaethau meddygol cyffredinol, a gyhoeddais ym mis Ionawr ac a fydd yn berthnasol ym Mlaenau Gwent fel mewn mannau eraill, wedi arwain at fuddsoddiad o dros £52 miliwn gan Lywodraeth Cymru mewn gwasanaethau meddygon teulu eleni, sef y buddsoddiad blynyddol mwyaf ers y pandemig. 

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw, ac yn croesawu'n fawr y contract newydd a'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol. Ond un o'r agweddau mwyaf syfrdanol ar ffiasgo eHarley Street yn ddiweddar oedd y ffaith i Lywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd wneud y pwynt, er gwaethaf yr holl fethiannau gwasanaeth a welsom gydag eHarley Street, nad oedd y contract wedi'i dorri. Nawr, nid yw hynny'n dweud wrthyf fod eHarley Street yn darparu gwasanaethau da, oherwydd fe wyddom nad oeddent, ond yn hytrach, nad yw'r contract yn addas i'r diben.

Felly, mae fy nghwestiwn i chi y prynhawn yma, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddeublyg. Yn gyntaf oll, a allwn ni sicrhau bod y contract yn addas i'r diben ac yn gwarantu gwasanaethau gofal sylfaenol i bawb sy'n glaf mewn practis penodol ac mewn ardal benodol? Ond yn ail, mae hefyd yn dweud wrthyf nad yw'r model yr ydym wedi dibynnu arno ers i Aneurin Bevan sefydlu'r gwasanaeth iechyd gwladol, yr ymarferydd annibynnol, bellach yn addas i'r diben ei hun. Ni all warantu mynediad cynhwysfawr at wasanaethau gofal sylfaenol ledled y wlad mwyach, a dyna fu fy mhrofiad ers imi fod yn Aelod yma. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru edrych ar y ddwy agwedd hynny ar y contract? Yn gyntaf oll, gwarantu isafswm o wasanaethau i sicrhau, lle mae gennym wasanaeth sy'n methu, fel y gwelsom gydag eHarley Street, y gellir dangos bod y contract wedi'i dorri. Ac yn ail, edrych ar fodel newydd ar gyfer gofal sylfaenol, fel bod gan Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd opsiwn, lle nad yw'r gwasanaeth ymarferwyr annibynnol yn bodoli neu lle nad yw'n darparu'r gofal sydd ei angen arnom, i allu darparu gofal sylfaenol mewn ffordd wahanol.

Wel, rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am godi'r materion hyn yn y Siambr, fel y mae wedi'i wneud gyda mi o'r blaen a'r tu allan i'r Siambr hefyd. Rwy'n gobeithio y gallaf roi rhywfaint o sicrwydd iddo yn fy ateb heddiw. Mae'n gwybod, yn amlwg, mai byrddau iechyd sy'n gyfrifol am reoli'r contract gwasanaethau meddygol cyffredinol gyda'u practisau, ond rôl Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â hynny, yw sicrhau bod y contract yn cyflawni'r hyn rydym eisiau iddo ei wneud.

Ddwy flynedd yn ôl, fe wnaethom gyflwyno contract unedig, fel y bydd yn gwybod, ac ochr yn ochr â hynny fframwaith sicrwydd contract i fod yn arweiniad i fyrddau iechyd ar sut y dylent reoli'r contractau hynny. Ac i fod yn glir, rwy'n disgwyl i broses drylwyr o ddiwydrwydd dyladwy gael ei chynnal, ac yn amlwg, i fyrddau iechyd fonitro darpariaeth y gwasanaethau hynny drwy'r gweithdrefnau sefydledig. Mae safonau gorfodol ynghylch disgwyliadau ymarfer ar waith, ond rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar y prosesau contract a ddefnyddir yn gyffredinol, a'r fframwaith sicrwydd contract a roddwyd ar waith gennym yn 2023 i fod yn arweiniad i fyrddau iechyd ar broses reoli'r contractau hynny, er mwyn sicrhau bod gan fyrddau iechyd y dulliau sydd eu hangen arnynt i sicrhau ansawdd y gwasanaeth rydym am weld practisau'n ei ddarparu. Nid wyf am weld unrhyw ganlyniadau anfwriadol o'r ffordd y mae'r rheoliadau wedi'u hysgrifennu, a byddwn am edrych ar unrhyw feysydd y gallai fod angen inni ailedrych arnynt yng ngoleuni'r profiad hwn cyn gynted â phosibl.

14:25

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n newyddion da iawn fod meddygon teulu'n cefnogi'r contract meddygon teulu newydd, ond a gaf i ailadrodd y pryderon y mae'r Aelod dros Flaenau Gwent eisoes wedi'u hamlinellu? Byddwn hefyd yn dweud: cafodd y contract gwreiddiol ei wrthod yn bendant gan feddygon teulu yn ôl ym mis Rhagfyr, ac ar ôl i'r negodi ailddechrau ac wedi i gontract newydd gael ei gyflwyno, mae Cymdeithas Feddygol Prydain yn dweud ei fod wedi dyblu'r buddsoddiad cychwynnol a ddarparwyd yn y cynnig gwreiddiol. Mae'r contractau hyn yn cael effaith enfawr ar ddarpariaeth gofal sylfaenol a chadw a recriwtio ym Mlaenau Gwent, ond am ryw reswm, fe wnaeth y Llywodraeth ddal hanner y buddsoddiad y gallent fod wedi'i roi ym mis Rhagfyr yn ôl, nes i feddygon teulu wrthod y cynnig cychwynnol hwnnw. Pam y digwyddodd hynny?

Bydd yr Aelod yn cofio ein bod wedi ethol Llywodraeth yn San Steffan a oedd yn fwy tueddol o fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n fater syml o fathemateg, mae arnaf ofn, a ddylai fod yn amlwg i'r Aelod. Ac felly, gyda'r cyllid ychwanegol hwnnw, gallem ddod ag arian pellach i'r negodi. Ond yn ogystal â'r cyllid hwnnw, gallem hefyd drafod pethau ychwanegol gyda Chymdeithas Feddygol Prydain y byddai meddygon teulu yn gallu eu cyflawni ar ein rhan yn gyfnewid am y cyllid hwnnw. Felly, mae un o'r pethau allweddol y gallasom gytuno arnynt yn ymwneud ag ap y GIG, fel y gallwn gyflymu'r broses o gyflwyno ap, a fydd yn helpu cleifion, ond a fydd hefyd yn helpu practisau meddygon teulu hefyd.

Felly, rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu dod o hyd i ffordd o ddatrys y trafodaethau gyda meddygon teulu mewn ffordd sy'n gweithio i'r Llywodraeth, ond i gleifion, yn allweddol, ac i feddygon teulu. Ac un o'r cyfleoedd a gawn yn y misoedd i ddod, sy'n ateb yr ail bwynt a roddodd Alun Davies i mi, yw sut y gallwn weithio gyda meddygon teulu i ddatblygu model ar draws clystyrau sy'n fwy gwydn, ag iddo sylfeini mwy diogel, fel y gallwn ddarparu mwy o wasanaethau mewn lleoliad cymunedol, a fydd o fudd i gleifion am na fydd yn rhaid iddynt deithio i'r ysbyty ar gyfer diagnosteg ac yn y blaen, ond a fydd hefyd o fudd i bractisau meddygon teulu hefyd.

Roeddwn eisiau gofyn cwestiynau tebyg i'r hyn a ofynnodd Alun am fethiannau mewn contractau meddygon teulu yn lleol a amlygwyd gan y ffiasgo hwnnw. Efallai fod y cwmni preifat, eHarley Street, wedi dychwelyd y contractau ar gyfer nifer o feddygfeydd ym Mlaenau Gwent, ac yng nghwm Rhymni yn wir, ond mae cleifion yn dal i gael eu gadael mewn limbo. Gwyddom am rai practisau lle bydd y bwrdd iechyd yn cymryd rheolaeth ar wasanaethau o 1 Ebrill—mae hynny'n effeithio ar wasanaeth Bryntirion ym Margoed, er enghraifft—ond mewn mewn eraill mae'n debyg fod monitro gwell yn digwydd. Er bod cleifion yn dal i'w chael hi'n anodd cael apwyntiadau, nid yw staff yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, ac mae llawer o feddygon, y mae miloedd o bunnoedd yn ddyledus iddynt gan y cwmni am shifftiau na chawsant eu talu amdanynt, yn dal i aros am eu harian.

Felly, pa drafodaethau rydych chi'n eu cael, os gwelwch yn dda, gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod y gefnogaeth angenrheidiol yn cael ei rhoi ar waith i ddatrys yr holl faterion hynny, oherwydd mae hyn wedi bod yn llusgo yn ei flaen ers amser hir? Er nad yw'n denu'r penawdau mwyach, mae'n dal i effeithio ar fywydau pobl.

Fel yr adroddais yn flaenorol yn y Siambr, mae hwnnw'n waith sy'n destun monitro parhaus nawr rhwng y bwrdd iechyd a'r practisau. O 1 Mawrth, mae meddygfeydd Bryn-mawr, Aber-bîg a Blaenafon bellach yn cael eu rheoli'n uniongyrchol gan y bwrdd iechyd, ac fel y dywed yr Aelod yn gywir, o 1 Ebrill, bydd hynny'n digwydd yn achos meddygfa Bryntirion a Thredegar hefyd. Lle mae materion sydd angen eu datrys o hyd, bydd angen mynd ar drywydd y rheini yn y ffordd y mae'r bwrdd iechyd yn ei wneud ar hyn o bryd.

Gofal Strôc

2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd y system newydd ar gyfer ymateb i argyfwng yn ei chael ar ofal strôc? OQ62467

Un o'r rhesymau dros y newid yn ein fframwaith perfformiad yw bod y dull presennol yn annog defnydd o adnoddau nad ydynt yn gweithio mewn modd cyfartal. Bwriad y newidiadau sydd i'w cyflawni gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yw gwella profiad a chanlyniadau i bob defnyddiwr gwasanaeth, gan gynnwys y rhai sydd â symptomau strôc.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym eisoes yn gwybod bod cleifion strôc dan anfantais wrth gael triniaeth frys. Mae'r ymchwil yn dangos bod cleifion yn aros awr a hanner ar gyfartaledd rhwng dechrau symptomau a deialu 999. Ar ôl gofyn am ambiwlans, gall gymryd oriau lawer i ymateb brys gyrraedd. Er bod pob strôc yn wahanol, mae adferiad yn dibynnu ar ymyrraeth gynnar. Heb ofal cynnar, mae'r tebygolrwydd o anableddau gydol oes yn cynyddu. Mae hyn nid yn unig yn cael effaith enfawr ar yr unigolyn a'u teuluoedd, mae hefyd yn golygu bod yn rhaid i'r GIG ddarparu cymorth hirdymor. O safbwynt ariannol pur, mae'n gwneud synnwyr i ddarparu ymyrraeth gynnar, heb sôn am y rheidrwydd moesol a moesegol. Ysgrifennydd y Cabinet, pa ystyriaeth a roddwyd gennych i greu ymatebwyr cyntaf arbenigol ar gyfer strôc i ddarparu gofal wrth aros am ambiwlans?

14:30

Diolch am eich cwestiwn, Altaf Hussain. Fel y bydd efallai'n ei gofio o’r drafodaeth a gawsom yn y Siambr yr wythnos diwethaf, o dan y trefniadau presennol, nid yw oddeutu 34 y cant o’r bobl yn y galwadau coch sydd ag anawsterau anadlu yn cael eu cludo i’r ysbyty yn y pen draw, ond gwyddom fod gwir angen gofal arbenigol ar bobl sy’n cael strôc yn y ffordd a nododd. Felly, mae hynny'n ganolog yn y newidiadau sydd wedi'u cyflwyno. Rhoddwyd tystiolaeth gan yr arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer strôc a’r Gymdeithas Strôc i'r grŵp o glinigwyr ac arweinwyr systemau a gynorthwyodd i lunio’r dull newydd hwnnw fel rhan o’r adolygiad i helpu i lunio’r cyd-destun ar gyfer eu trafodaethau. Efallai y bydd yn cofio, yn fy natganiad yr wythnos diwethaf ar y newidiadau a fydd yn cael eu cyflwyno ym mis Gorffennaf ar gyfer y categori coch, imi ddweud fy mod wedi gofyn am adolygiad cyflym o’r categori oren hefyd, dros y deufis nesaf, felly cyn i’r model clinigol newydd ddod i rym, fel y gellir ystyried casgliadau’r adolygiad hwnnw, a fydd yn effeithio ar gleifion strôc a’r rhai yr amheuir eu bod wedi cael strôc, cyn i’r model clinigol newydd ddod i rym yn nes ymlaen eleni.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau yn awr gan lefarwyr y pleidiau. Yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Joel James.

Diolch, Ddirprwy Llywydd. Weinidog, fel y gwyddoch, mae astudiaethau wedi dangos cyfraddau brawychus o straen, iselder a gorbryder ymhlith y gymuned ffermio. Fe fyddwch yn ymwybodol iawn, fel proffesiwn, fod ganddo rai o’r cyfraddau hunanladdiad uchaf yn y wlad. Mae'n swydd sy'n aml yn greulon, sy'n llawn ynysigrwydd, oriau hir ac amodau gwaith caled. Ac eto, nid yn unig fod yn rhaid i’n ffermwyr ymdopi â’r amodau hyn, mae’n rhaid iddynt hefyd ymdopi â’r cludfelt bron yn ddiddiwedd o ddeddfwriaeth wrth-wledig a gwrth-ffermio gan eich Llywodraeth Lafur. Nid yn unig fod Llywodraeth Cymru wedi torri dros 30 y cant ar y gyllideb materion gwledig mewn termau real, ac yna wedi ychwanegu at hyn gyda gwerth £37.5 miliwn o doriadau pellach, mae hefyd wedi cael gwared ar allu ffermwyr i reoli eu tir yn briodol, wedi ceisio eu blacmelio i ildio’u tir yn gyfnewid am gymorthdaliadau ariannol, ac rydych bellach yn llwyr gefnogi newidiadau didostur Llywodraeth y DU i ryddhad eiddo amaethyddol. Byddwn yn dadlau bod y Blaid Lafur, yma yn y Senedd ac yn San Steffan, yn hybu’r argyfwng iechyd meddwl sy’n effeithio ar y gymuned ffermio. Felly, Weinidog, pryd y bydd y Blaid Lafur yn sylweddoli bod gwthio ffermwyr at ymyl dinistr ariannol a dirywiad eu hiechyd meddwl eu hunain nid yn unig yn mynd yn groes i’ch deddfwriaeth eich hun ar gyfer gwella iechyd a llesiant i genedlaethau’r dyfodol, ond hefyd yn mentro chwalu'r economi wledig a’n diogeledd bwyd? Diolch.

Diolch, Joel James, am eich cwestiwn cynhwysfawr iawn, sy’n cwmpasu sawl rhan o sawl portffolio gwahanol. Ond o ran fy mhortffolio fy hun, fel y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, rwyf am ddweud wrth bob ffermwr fod gwella iechyd meddwl a llesiant yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Gwyddom fod ffermwyr yn wynebu llawer o heriau, gan gynnwys, fel y dywedoch chi, yr ansicrwydd, yr ynysigrwydd a’r unigrwydd, a all gael effaith andwyol ar eu lles meddyliol. Cyfarfûm â llawer o elusennau sy’n gweithio yn y maes hwn ac sy’n cael cyllid gan Lywodraeth Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru y llynedd, ac rwy’n bwriadu gwneud yr un peth eto eleni. Fel gyda phob rhan o fy mhortffolio, mae'n bwysig iawn gwrando ar bobl sydd â phrofiad bywyd.

Mae hefyd yn hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cynnal iechyd meddwl, ac iechyd corfforol hefyd, gan gefnogi'r cymorth sydd ar gael a sut i gael mynediad ato. Ac rwy’n annog yn gryf unrhyw un sy’n wynebu straen neu broblemau iechyd meddwl i ofyn am gymorth. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi sawl gweithgaredd pwysig i gynorthwyo iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig, ac mae hyn yn cynnwys grŵp cymorth ffermydd Cymru, sy’n dod ag elusennau ffermio ynghyd i rannu gwybodaeth ac arbenigedd.

Diolch, Weinidog. Mae’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru yn bryderus iawn am y newidiadau diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud gyda chyflwyno treth dwristiaeth. Er bod ei chefnogwyr o bosibl yn credu ei fod yn swm cymharol, mae iddi effaith negyddol enfawr. Mae’n troi darpar gwsmeriaid ymaith, ac mae hefyd yn ei gwneud yn anodd i fusnesau gynllunio ar gyfer y dyfodol, oherwydd yn syml iawn, nid ydynt yn gwybod sut y bydd cwsmeriaid yn ymateb. Mae'r rheol fympwyol o 182 diwrnod ar gyfer llety hunanddarpar hefyd yn peri pryder enfawr.

Mae arolwg diweddar gan Gymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU wedi dangos bod 95 y cant o berchnogion llety hunanddarpar bellach yn teimlo cryn dipyn yn fwy o straen ynghylch proffidioldeb eu busnes yn y dyfodol, a dim ond 26 y cant o weithredwyr yng Nghymru sy’n teimlo y byddant yn cyrraedd y trothwy 182 diwrnod eleni. Mae adroddiadau gan Gymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU ynghylch iechyd meddwl gweithredwyr hefyd yn peri cryn bryder. Yn hytrach na bod perchnogion busnes yn mwynhau bywyd hapus a chynhyrchiol, maent bellach yn cael chwalfa nerfol, yn byw gyda phryder cyson am eu biliau, ac yn byw gyda blanced o orbryder ac iselder drostynt, am eu bod yn ofni colli eu busnesau.

Weinidog, y Blaid Lafur sy'n uniongyrchol gyfrifol am y lleiafswm mympwyol hwn o 182 diwrnod, ac sy'n uniongyrchol gyfrifol am yr effaith andwyol y mae’n ei chael ar iechyd gweithredwyr. Beth y bwriadwch ei wneud yn ei gylch?

14:35

Wel, unwaith eto, nid yw hyn yn fy mhortffolio i, yr ardoll dwristiaeth. Yn anffodus, ni fyddwn yn gallu ateb hynny'n uniongyrchol, oni bai am ddweud, fel y gwnaf gyda phob polisi a gyflwynwn ar draws Llywodraeth Cymru, ein bod yn cynnal ymgynghoriadau trylwyr gyda’n rhanddeiliaid, gyda phobl â phrofiadau bywyd, a’n bod yn ystyried yr hyn y mae pobl yn ei ddweud. Byddwn hefyd yn dweud ein bod, unwaith eto, wedi llwyr ymrwymo i gefnogi iechyd meddwl a llesiant pobl ledled Cymru. Os oes unrhyw un mewn trallod, cysylltwch â'r gwasanaethau sydd ar gael.

Hefyd, hoffwn grybwyll rhywbeth sy’n bwysig i fy mhortffolio i, sef y ffaith y byddwn yn cyhoeddi dwy strategaeth iechyd meddwl yn yr ychydig fisoedd nesaf. Y gyntaf fydd y strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio. Yr hyn sydd wrth wraidd hynny, a’r rhan allweddol bwysicaf o hynny, yw deall a gwrando ar bobl. A dweud y gwir, mae hyn yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i'r rhannau hynny o'r gymuned wledig y cyfeiriwch atynt. Wedyn hefyd bydd gennym y strategaeth iechyd meddwl a lles, sy’n mynd i’w gwneud yn llawer haws i bobl gael y sgwrs un sesiwn honno gyda rhywun pan fydd ei hangen arnynt.

Felly, dyma'r pethau y mae Llafur Cymru, Llywodraeth Cymru a minnau'n canolbwyntio arnynt i wella mynediad pobl at y cymorth iechyd meddwl sydd ei angen arnynt pan fydd ei angen arnynt.

Diolch, Weinidog. Rwy'n gobeithio y gallwch ateb fy nghwestiwn nesaf. Fel y gwyddoch, mae Wes Streeting, Ysgrifennydd iechyd Llafur yn San Steffan, yn credu bod cyflyrau iechyd meddwl wedi cael eu gorddiagnosio. A ydych yn cytuno â hyn, neu a wnewch chi ymuno â mi i gondemnio sylwadau mor anwybodus?

Ergyd wleidyddol arall yma, Joel, ond fe’i hatebaf. Rwy'n credu bod ymwybyddiaeth enfawr yn tyfu ynghylch materion iechyd meddwl. Rwy'n credu bod pobl angen cymorth a chlust i wrando pan fydd ei hangen arnynt—dim drws anghywir. Fe ddywedaf hefyd, serch hynny, fy mod yn gwrando ar lawer o bobl, fel y dywedais sawl gwaith eisoes, sydd â phrofiad bywyd. Nid yw bob amser yn ddefnyddiol cael diagnosis a label, a phan welwch fy strategaethau iechyd meddwl, fe welwch fod hynny'n amlwg iawn yn y cydgynhyrchu a'r gwaith trawslywodraethol a wnaethom ar hyn.

Yn y pen draw, mae pobl eisiau gweld rhywun pan fydd arnynt eisiau eu gweld, ac nid yw'n ymwneud o reidrwydd â'r diagnosis. Ni chredaf fod pobl yn cael eu gorddiagnosio â chyflyrau iechyd meddwl, dim ond fod angen mwy o gymorth ar bobl, a phan fyddant yn mynd i weld rhywun, nid wyf yn credu eu bod am gael eu rhoi ar restr aros i gael sgwrs â rhywun—mae angen y sgwrs gychwynnol honno arnynt, ac yna eu cyfeirio. Rwy'n credu y gall iechyd meddwl fod yn gymhleth iawn, ond rwy'n credu hefyd ei fod yn ddull cwrs bywyd—fel gyda llawer o’n polisïau ar draws Llywodraeth Cymru. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni dderbyn y gallwch gael problemau gyda’ch iechyd meddwl ac y gallwch wella, y gallwch gael problemau gyda’ch iechyd corfforol ac y gallwch wella, a bod y ddau beth yn aml yn cydblethu. Felly, dyna y byddwn yn ei ddweud yn uniongyrchol mewn ymateb i'ch cwestiwn. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Llywydd. Mae'r mis hwn yn Fis Ymwybyddiaeth Tiwmor yr Ymennydd. Hoffwn dalu teyrnged i Brain Tumour Research am eu gwaith rhagorol yn y maes hwn ac am eu stondin addysgiadol iawn yn y Farchnad ddoe. Fe wnaethant dynnu sylw’n gywir ddigon at y ffaith mai tiwmorau ar yr ymennydd yw'r canser sy'n lladd y nifer fwyaf o blant ac oedolion o dan 40 oed, a bod ymchwil i’r cyflyrau hyn wedi'i thanariannu a’u bod yn dioddef o ddiffyg blaenoriaethu polisi yn fwy cyffredinol.

Mae hyn yn arbennig o amlwg mewn perthynas â mynediad at dreialon clinigol yng Nghymru, a all fod yn ffynhonnell hanfodol o obaith i gleifion. Mae rhan o’r broblem yn ymwneud yn syml â phrinder dybryd o dreialon sydd wedi’u lleoli yma yng Nghymru, gan arwain at sefyllfa lle mai'r rheini sydd â modd i deithio, yn bell iawn yn aml, sy'n cymryd rhan mewn treialon. Gwaethygir hyn gan ymwybyddiaeth gyhoeddus isel o'r ychydig dreialon a gynhelir yma, er gwaethaf awydd cryf ymhlith cleifion i gymryd rhan.

A wnewch chi egluro, Ysgrifennydd y Cabinet, a oes strategaeth gan Lywodraeth Cymru i roi hwb i dreialon clinigol a gynhelir yng Nghymru? Beth a wnewch o ran gwaith allgymorth i wella ymwybyddiaeth yn y cyfamser? A fyddai sefydlu porth digidol un stop lle gall cleifion gael mynediad at dreialon o’r fath a chofrestru eu diddordeb mewn da bryd yn opsiwn gwerth ei archwilio?

14:40

Mae’r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig. Ar ymweliad diweddar â Chanolfan Ganser Felindre gyda Julie Morgan, bûm yn trafod gyda hwy y gwaith a wnânt mewn perthynas â threialon yng Nghymru, ond hefyd y treialon y maent yn eu harwain ac yn cymryd rhan ynddynt sy’n cael effaith ledled y DU, a ledled y byd yn wir. Mae'n bwysig ein bod yn gallu sicrhau ein bod yn defnyddio ein holl adnoddau fel gwasanaeth iechyd yng Nghymru i gefnogi treialon ac i arwain y treialon hynny pryd bynnag y gallwn.

Mae Llywodraeth Cymru, drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, eisoes yn hwyluso opsiynau treialon ymchwil ar gyfer unigolion yng Nghymru mewn amrywiaeth o feysydd. Mewn gwirionedd, mae hyb cyflawni gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sy’n darparu cymorth ar lefel genedlaethol fel y gallwn sefydlu astudiaethau’n effeithiol fel eu bod yn darparu cyfleoedd i gleifion gymryd rhan ac i wneud hynny cyn gynted â phosibl. Mae’r hyb hefyd yn darparu swyddogaeth sganio’r gorwel ar gyfer pob astudiaeth sydd ar agor ledled y DU, oherwydd ar gyfer cyflyrau nad ydynt efallai’n arbennig o gyffredin, gallai'r treialon hynny fod yn mynd rhagddynt mewn rhannau eraill o’r DU.

Rwy'n credu bod dull cydgysylltiedig yn wirioneddol bwysig, gan sicrhau bod Cymru’n chwarae ei rhan i sicrhau bod treialon yn cael eu darparu a’u harwain o Gymru, pryd bynnag y gallwn wneud hynny, pryd bynnag y bydd gennym yr arbenigedd a’r set sgiliau i wneud hynny, ond hefyd yn amlwg, mae'n bwysig sicrhau bod cyfres o dreialon ar gyfer y DU gyfan yn hygyrch.

Mae argaeledd gwasanaethau arbenigol yn faes arall lle mae cleifion canser prin a llai goroesadwy yng Nghymru o dan anfantais arbennig. Mae Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan yn rhagddyddio datganoli mewn gwirionedd, gan iddo gael ei sefydlu ym 1987, ond mae’n parhau i fod yn llawer rhy wan o gymharu â gwasanaethau cyfatebol yn Lloegr. Er enghraifft, nid oes gan y gwasanaeth yma yng Nghymru wasanaeth proffilio tiwmor gan ddefnyddio dilyniannu'r genhedlaeth nesaf, a all brofi am filoedd o fwtaniadau o fewn pob tiwmor, yn hytrach na dwsinau yn unig fel sy'n bosibl gyda chapasiti technolegol presennol. Yn ychwanegol at hynny, erbyn diwedd mis Ionawr, nid oedd unrhyw lwybr penodol i atgyfeirio cleifion o Gymru at Genomics England am driniaeth uwch, er gwaethaf yr uchelgais i gael un erbyn y Nadolig y llynedd.

A bod yn deg, mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno gwasanaeth cenhedlaeth nesaf yng Nghymru i gau’r bwlch hwn. Felly, a allai roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pryd y mae'n debygol o fod yn weithredol? Ac yn y cyfamser, a allai gadarnhau y bydd llwybr pwrpasol yn cael ei roi ar waith i gyflymu atgyfeiriadau at Genomics England hyd nes y caiff gwasanaeth ei sefydlu yng Nghymru?

A dweud y gwir, credaf fod genomeg yn faes lle mae gan Gymru hanes da iawn o ran buddsoddi a chyflawni. Rwy'n credu y byddai hynny’n asesiad teg y byddai cyfleusterau genomeg ym mhob rhan o’r DU yn ei gydnabod. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gallu parhau â'r cynnydd rydym wedi'i wneud. Mae ymchwil genomig a'r defnydd o ymchwil yn cynnig cyfleoedd ar gyfer diagnosis a thriniaethau cyflymach a mwy cywir i gleifion unigol hefyd. Mae Canolfan Iechyd Genomig Cymru, a agorwyd yn 2023, ac a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, yn darparu cyfleuster o’r radd flaenaf i GIG Cymru weithio gyda phartneriaid diwydiannol, sef lle mae’r ymchwil yn aml yn fwyaf llwyddiannus, yr ymchwil gydweithredol honno, ac mae hefyd mewn gwirionedd yn amgylchedd croesawgar iawn i gleifion. Rwy'n credu bod yna amrywiaeth o ffyrdd y mae’r cynnig genomeg yng Nghymru eisoes yn gryf iawn. Yn amlwg, fel y mae’r Aelod yn ei grybwyll, mae gennym gynlluniau i wneud mwy, ac mae’r gwaith hwnnw ar y gweill.

Diolch am eich ymateb. Mae'n drueni nad ydym wedi cael dyddiad hyd yn hyn o ran pryd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno'r gwasanaeth genomeg cenhedlaeth nesaf hwnnw, ond rydym yn aros, ac mae'n debyg mai'r neges yw 'Cawn glywed mwy yn y man'.

Yn anffodus, mae plant o dan hyd yn oed fwy o anfantais pan fo’n dod at ganser. Tra bo canser ymysg oedolion yn bennaf yn cael ei achosi gan ffactorau amgylcheddol, mae canser ymysg plant yn bennaf yn anghyffredin, neu mae llai o siawns ganddyn nhw o oroesi. Ond oherwydd diffyg gwasanaethau arbenigol yma yng Nghymru, mae bron i dri chwarter o gleifion yn gorfod teithio y tu hwnt i Gymru am o leiaf rhan o’u triniaeth, gyda rhai’n gorfod mynd mewn i ddyled er mwyn fforddio costau teithio a chostau llety.

Yn ogystal â hyn, mae adroddiad Archwilio Cymru wedi pwysleisio nad yw cynllun gwella canser y Llywodraeth yn ddigonol oherwydd y diffyg ystyriaeth i anghenion plant a phobl ifanc. Mae hyn yn adlewyrchiad o dueddiad ehangach lle mae plant yn dioddef canlyniadau cymharol gwaeth nag oedolion wrth ymgysylltu â’r system iechyd, yn enwedig o ran rhestrau aros. Un o ddyletswyddau pennaf cymdeithas ydy i warchod cenedlaethau’r dyfodol, ac, ar hyn o bryd, mae Cymru yn syrthio yn fyr yn hynny o beth. Felly, a gaf i ofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet i ystyried sefydlu cronfa er mwyn cefnogi costau teithio a llety cleifion canser ifanc sy’n gorfod teithio y tu hwnt i Gymru am driniaeth, ac i esbonio os ydy e’n credu bod angen datblygu strategaeth benodol canser i blant a phobl ifanc yng Nghymru, fel sydd eisoes yn bodoli yn yr Alban?

14:45

Diolch i’r Aelod am gwestiwn pwysig arall. O ran cwestiwn strategaeth benodol, dwi’n credu mai rhywbeth sy’n cael ei arwain yn glinigol yw’r penderfyniad hwnnw. Fy marn bersonol i yw nad diffyg strategaethau sydd gyda ni o ran y byd canser, ac mae angen sicrhau bod gwell cysylltiad rhwng yr holl weithgaredd sydd yn digwydd o ran canser plant, a chanser yn fwy cyffredinol hefyd. Rwy’n credu bod e’n anorfod ar un lefel bod elfen o deithio, yn enwedig, fel roedd yr Aelod yn cydnabod, lle mae rhai ffurfiau o ganser yn rhai sydd ddim yn codi’n aml iawn. Mae pobl hefyd yn teithio pellteroedd, yn cynnwys o Loegr, i ddod yma i Gymru am rai o’r triniaethau yna. Felly, mae’r berthynas honno yn un sydd wedi’i sefydlu. Byddwn i’n hoffi gweld mwy yn cael ei wneud yn lleol, wrth gwrs, ond mae elfen o hynny, rwy’n credu, yn anorfod.

Fe wnaeth e gyfeirio at adroddiad Audit Wales yn hyn o beth, ac rwyf wedi gwneud datganiad, wrth gwrs, yn sgil hynny, yn derbyn bod angen sicrhau bod arweiniad cliriach yn digwydd o ran y gwaith yn yr executive, i sicrhau bod y gofynion o’r system yn gliriach. Mae’r gwaith hynny nawr yn digwydd, a hefyd y bwrdd arweinyddiaeth rwyf wedi ei sefydlu ar draws yr holl raglenni, i sicrhau bod y rheini’n cydweithio mewn ffordd fwy effeithiol hefyd.

Capasiti Gofal Iechyd yn y Gogledd

3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella capasiti gofal iechyd yng ngogledd Cymru? OQ62470

Mae byrddau iechyd yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau i sicrhau bod digon o gapasiti i ddiwallu anghenion y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Wrth wneud hynny, bydd angen iddynt ystyried ystod o opsiynau i wneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael.

Fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, yn anffodus, nid yw capasiti’r gwasanaeth iechyd yn y gogledd yn ddigonol, a dyna pam nad yw llawer o gleifion yn cael y lefel o wasanaeth y maent yn ei haeddu, yn enwedig yn ein hadran achosion brys yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan. Gwn fod hyn yn peri pryder i chi ac i Lywodraeth Cymru hefyd. Nawr, un o’r atebion a gynigiwyd, dros 12 mlynedd yn ôl bellach, gan Lywodraeth Cymru oedd sefydlu ysbyty newydd sbon yn y Rhyl, er mwyn lleddfu'r pwysau ar Ysbyty Glan Clwyd drwy gael gwelyau ychwanegol ac uned mân anafiadau newydd. Deallaf fod rhywfaint o gynnydd yn cael ei wneud tuag at hynny, ond un pryder mawr ynghylch y cynnydd sy’n cael ei wneud yw bod nifer y gwelyau yn y cyfleuster newydd yn llai o lawer na’r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol, a hyn er bod perfformiad Ysbyty Glan Clwyd, yn enwedig yn ei adran achosion brys, wedi gwaethygu ymhellach dros y cyfnod o 12 mlynedd. Pam fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynnig sy’n llai uchelgeisiol, o ystyried bod y pwysau’n fwy acíwt?

Wel, mae mater y capasiti yn bwysig, ac ar y pwynt cyffredinol y mae’r Aelod yn ei wneud, rwy’n siŵr y byddai’r bwrdd iechyd yn cydnabod rhai o’r heriau capasiti y mae’n cyfeirio atynt yn ei gwestiwn. Rydym wedi darparu cyllid penodol er mwyn mynd i'r afael â heriau capasiti mewn amrywiaeth o feysydd—felly, amrywiaeth o feysydd gofal a gynlluniwyd, diagnosteg, ond hefyd, yn benodol, yn y ffordd yr oedd ei gwestiwn yn nodi, o ran lleihau'r pwysau ar adrannau achosion brys hefyd. Rwy'n credu ei bod yn deg cydnabod bod cynnydd wedi bod mewn perthynas ag Ysbyty Glan Clwyd. Ni fyddai unrhyw un yn meddwl nad oes mwy o ffordd i fynd; mae hynny'n amlwg. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod bod cynnydd wedi'i wneud.

Mewn perthynas â’r cynnig arall y cyfeiria ato, mae’r cynnig hwnnw'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Felly, nid wyf mewn sefyllfa i wneud sylwadau ar ei fanylion, gan nad ydym ar y pwynt hwnnw yn y broses. Ond rwy'n hyderus y bydd y bwrdd iechyd yn llunio cynnig sy'n adlewyrchu'r anghenion presennol ar draws y gogledd ac yn rheoli pwysau'r galw ar y naill law ac adnoddau ar y llaw arall. A byddwn yn cael trafodaeth adeiladol gyda'r bwrdd iechyd ynglŷn â'r cynnig a sut y bwrir ymlaen ag ef yn gyflym.

Amseroedd Aros ar gyfer Canser

4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi byrddau iechyd i sicrhau bod y targed llwybr lle’r amheuir canser 62 ddiwrnod yn cael ei gyrraedd yn gyson ar draws Cymru? OQ62466

Mae gwella canlyniadau canser a lleihau amseroedd aros canser yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon. Rydym yn buddsoddi mewn gwasanaethau canser ac yn gweithio gyda’r byrddau iechyd, gyda chefnogaeth gweithrediaeth y GIG, i hybu gwelliant cynaliadwy ar gyfer amseroedd aros canser, drwy roi’r llwybrau optimaidd cenedlaethol ar waith.

14:50

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Cysylltodd etholwr â mi a oedd wedi cael diagnosis dinistriol o ganser y fron. Yna, darganfu fy etholwr, ar ôl aros cyfanswm o 107 diwrnod am driniaeth, yn hytrach na’r 62 a fwriadwyd o dan y targed ar gyfer llwybr lle'r amheuir canser, y byddai angen mastectomi arni. Mae'n ansicr hyd heddiw a ellid bod wedi osgoi hyn pe bai'r amser targed wedi'i gyrraedd. Ond ar ôl llawdriniaeth hynod heriol yn feddyliol ac yn gorfforol, dywedwyd wrthi wedyn ei bod wedi dioddef niwed i'r nerfau o ganlyniad i'r llawdriniaeth a'i bod bellach ar restr aros arall gyda disgwyl y bydd rhaid iddi aros dwy flynedd am ail lawdriniaeth. Pan ofynnodd fy etholwr i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe pam y bu’n rhaid iddi aros 107 o ddiwrnodau yn hytrach na’r targed o 62, dywedwyd wrthi mai'r rheswm am hynny oedd, 'gwyliau banc'. Rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, fod hwnnw’n ymateb cwbl annerbyniol ac yn sefyllfa dorcalonnus i fy etholwr. Nid yw canser yn cymryd gwyliau banc. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn cyrraedd y targed 62 diwrnod hwnnw, yn hytrach na chuddio y tu ôl i esgusodion gwan, gan fod bywydau yn y fantol?

Wel, mae’n ddrwg gennyf glywed am brofiad eich etholwr. Yn amlwg, nid yw hynny’n ddigon da. Nid wyf mewn sefyllfa i wneud sylwadau ar yr ymateb gan y bwrdd iechyd, gan nad wyf yn ymwybodol o gyd-destun yr hyn a ddywedwyd. Yr hyn rwy'n ei wybod, mewn perthynas â chanser y fron yn benodol, yw bod pedwar bwrdd iechyd wedi cyflawni’r targed amseroedd aros ar gyfer canser, gan gynnwys bwrdd iechyd bae Abertawe, a gyflawnodd berfformiad o dros 80 y cant. Wrth gwrs, hoffem pe bai hynny hyd yn oed yn uwch, ond dyna’r sefyllfa ar hyn o bryd. Mae gennym raglen genedlaethol, a gefnogir gan weithrediaeth y GIG, i weithio gyda byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau GIG i adfer perfformiad amseroedd aros ar gyfer y pum canser â’r cyfraddau perfformiad isaf.

Mewn perthynas â chanser y fron, cafwyd llwyddiannau mewn rhannau o Gymru, lle mae byrddau iechyd wedi gallu datblygu dulliau siop un stop, a bydd cyfleuster o’r fath yn gwasanaethu rhannau o’i ranbarth. Ac yn yr ardaloedd hynny, fe wyddom fod y profiad yn llawer gwell i gleifion, gan ei fod yn brofiad cyflymach, a dweud y gwir, ond hefyd, mae'n galluogi'r bwrdd iechyd i gyrraedd lefelau llawer, llawer uwch o gydymffurfiaeth â'r targed, cymaint ag 89 neu 90 y cant. Felly, rydym am weld rhagor o arloesedd o'r fath o ran darparu gwasanaethau, i sicrhau nad oes yn rhaid i fenywod, fel eich etholwr, gael y profiad hwnnw.

Mae canserau prin yn cael eu diagnosio’n llai aml, ond gyda’i gilydd, dyna yw bron i un o bob pump o’r holl ddiagnosisau canser bob blwyddyn, ac maent yn cynnwys canserau gynaecolegol, a rhai o’r canserau llai goroesadwy, megis canserau’r stumog a chanser yr oesoffagws a chanserau’r gwaed. Bydd cael diagnosis cynharach o'r canserau prin hyn yn hanfodol er mwyn cyrraedd yr amser aros targed o 62 diwrnod. Ddydd Gwener diwethaf, aeth y Bil Canserau Prin, Bil Aelod preifat, drwy ei Ail Ddarlleniad yn Senedd y DU, ac mae’n gobeithio gwneud darpariaeth i gymell ymchwil a buddsoddiad i drin mathau prin o ganser ac at ddibenion cysylltiedig. Ac felly, er mai Lloegr yw ffocws y Bil, efallai y bydd ei effeithiau'n cael eu teimlo yma yng Nghymru, gan fod cymaint o gleifion yn teithio i Loegr i gael eu triniaeth ganser, fel y nodwyd yn gynharach yn y drafodaeth. Felly, a yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i’r effeithiau a’r canlyniadau i Gymru os daw'r Bil hwn yn gyfraith?

Diolch am eich cwestiwn pwysig. Cyflwynwyd y Bil Canserau Prin, wrth gwrs, fel Bil Aelod preifat, ond mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau ei chefnogaeth i’r ddeddfwriaeth, fel y mae’r Aelod yn amlwg yn gwybod. Bydd dyddiad ar gyfer y Cyfnod Pwyllgor yn cael ei gadarnhau; nid yw wedi'i nodi eto. Bu gohebiaeth rhyngom—rhwng y ddwy Lywodraeth—mewn perthynas â’r Bil, a chafwyd trafodaethau ar lefel swyddogol gyda swyddogion cyfatebol yn yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y goblygiadau a’r cyfleoedd posibl a allai godi yn y Bil. Mae cefnogaeth i wella ymchwil i fathau prin o ganser yma yng Nghymru. Rydym wedi cytuno y bydd swyddogion yn gweithio'n agos i sicrhau y ceir cydlynu a chydgysylltu ledled y DU mewn perthynas ag amcanion y Bil.

Soniais yn fy ateb i Mabon ap Gwynfor am waith hyb cyflawni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ond efallai ei bod yn werth nodi hefyd yng nghyd-destun canserau prin yn benodol fod Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru hefyd wedi penodi arweinydd arbenigedd ymchwil ar gyfer clefydau prin yn ddiweddar, a’u rôl yw cynyddu a chyflymu ymchwil ar draws GIG Cymru ar gyfer clefydau prin, gan gynnwys canserau.

14:55

Diolch i Tom Giffard am y cwestiwn yma, ond, yn anffodus, mae llawer gormod o enghreifftiau o etholwyr ddim yn derbyn triniaeth o fewn 62 diwrnod—y dyddiad disgwyliedig. Nid yn unig fod Tom wedi cyfeirio at etholwraig yn ei ardal o; rydw i yn llythrennol newydd dderbyn neges gan etholwraig o ardal Dinas Mawddwy a gafodd ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint nôl ym mis Tachwedd. Mae hi'n parhau i aros am driniaeth ac fe gafodd hi wybod mai'r cam nesaf fydd radiotherapi, ond mae yna broblem gyda'r ffiniau. Fe gafodd hi ddealltwriaeth y byddai hi'n gorfod teithio i lawr i Singleton yn Abertawe o Ddinas Mawddwy, ond wedyn nad fyddai hynny'n bosib oherwydd ei bod hi'n byw yn ardal Betsi Cadwaladr. Mae ei bywyd hi yn llythrennol yn y fantol, gyda'r canser o bosib yn tyfu, a thrwy hyn mae'r awdurdodau iechyd yn cecru am bwy ddylai gymryd y cyfrifoldeb am ei thrin hi oherwydd ble mae hi'n byw. Mae hyn yn wir am nifer fawr o gleifion. Nawr, mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud yn flaenorol fod y Llywodraeth wedi mynd i'r afael â'r loteri cod post yma, ond mae'n amlwg nad ydy hynny'n wir a bod cleifion yn dal i ddioddef oherwydd hyn. Ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn credu bod sefyllfa fy etholwraig i yn dderbyniol, a pha gamau sy'n cael eu cymryd i atal hyn rhag digwydd?

Wel, dwi ddim yn y sefyllfa i roi sylwadau penodol ar sefyllfa'r etholwraig. Dydy'r sefyllfa ddim yn dderbyniol yn y ffordd mae'r Aelod wedi disgrifio honno i fi. Os hoffai yrru llythyr ataf i gyda'r manylion, fe fyddwn i'n hapus iawn i edrych i mewn iddo fe.

Amseroedd Aros yn Ardal Hywel Dda

5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella amseroedd aros yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OQ62456

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r bwrdd iechyd i wneud gwelliannau mewn amseroedd aros gyda chyllid ychwanegol, ymyrraeth uniongyrchol a chymorth gan weithrediaeth y GIG. Cydnabuwyd gwelliannau ar draws gofal a gynlluniwyd, a gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn arbennig, yn y cyhoeddiad ar uwchgyfeirio a wneuthum yr wythnos diwethaf.

Ysgrifennydd y Cabinet, efallai eich bod yn ymwybodol y bu cynnydd deuddeg gwaith drosodd yn nifer y plant sy’n aros mwy na blwyddyn am asesiad awtistiaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Yn wir, mae dros 1,000 o blant yn aros am ddiagnosis yn sir Benfro, ac fel y gwyddoch, tra bo'r plant hynny’n aros am ddiagnosis, nid ydynt yn cael y cymorth cywir. Nawr, dywedwyd wrthyf, pan wrthodwyd fy Mil awtistiaeth gan eich plaid, nad oedd ei angen gan fod mesurau'n cael eu cyflwyno i wella pethau beth bynnag. Yn amlwg, nid yw hynny wedi digwydd, a phe bai fy Mil wedi llwyddo, efallai na fyddem yn y sefyllfa hon heddiw. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gyfarwyddyd brys sy'n cael ei roi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i dargedu rhestrau aros am ddiagnosis o awtistiaeth yn benodol? Ac yn y cyfamser, pa gymorth rydych chi'n ei gynnig i deuluoedd ac elusennau lleol yn yr ardal fel bod rhywfaint o gymorth ar gael i blant a’u teuluoedd tra byddant yn aros?

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Rwy’n cofio’r trafodaethau ynghylch y Bil, a chafwyd dadl dda ynglŷn ag a oeddem yn teimlo y byddai wedi cyflawni’r amcanion a osodwyd. Mae’r pwynt y mae’n ei wneud yn ei gwestiwn—[Torri ar draws.] Mae’r pwynt y mae’n ei wneud yn ei gwestiwn yn bwynt pwysig—[Torri ar draws.] Mae'r pwynt y mae’n ei wneud—

A gawn ni osgoi sgyrsiau ar draws y Siambr, os gwelwch yn dda? Gadewch i'r Gweinidog ateb.

Rwy’n ceisio gwneud cyfiawnder â chwestiwn yr Aelod. Fe fydd yn gwybod bod fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, wedi cyhoeddi rhaglen gymorth i leihau’r amseroedd aros i bobl ifanc mewn perthynas ag ystod o ddiagnosisau, gan gynnwys awtistiaeth. Mae cyllid ynghlwm wrth hynny a bydd o fudd i’r rheini sy’n aros hiraf. Yn sicr, cydnabyddir na fydd y cyllid hwnnw ar ei ben ei hun yn ddigon i fynd i'r afael â maint yr her yn y system, gan gynnwys yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Ynghyd â hynny, mae angen trawsnewid trefniadau asesu a diagnosis yn fwy cyffredinol. Mae gwaith ar y gweill. Cafwyd uwchgynhadledd ddefnyddiol iawn ddiwedd y llynedd ynghylch ailgynllunio llwybrau i gefnogi asesu a diagnosis, ac felly, wrth i’r rheini allu cael eu cyflwyno, rydym yn hyderus, ar draws y system, y bydd gwelliant mewn amseroedd aros. Yn y cyfamser, mae’r cyllid hwnnw yno i leihau’r amseroedd aros hiraf, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny o fudd i’w etholwyr fel y bydd i rannau eraill o Gymru.

Amseroedd Aros ar gyfer Llawdriniaeth Orthopedig

7. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau amseroedd aros i gleifion y mae arnynt angen llawdriniaeth orthopedig yn ne-ddwyrain Cymru? OQ62473

Mae gwella mynediad at ofal iechyd a lleihau amseroedd aros yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon. Mae byrddau iechyd ar draws y de-ddwyrain yn gweithio’n galed i ddarparu gwasanaethau amserol o ansawdd da, ac rydym yn cymryd camau clir a phendant i leihau’r holl amseroedd aros, gan gynnwys mewn orthopedeg.

15:00

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n dda clywed ei fod yn flaenoriaeth. Mae ailosod pen-glin a chlun wedi bod yn fater sy'n codi'n gyson i fy etholwyr ac rwy'n siŵr ei fod wedi dod i sylw'r rhan fwyaf o'r Aelodau yma. Mae'r aros rhwng gweld meddyg teulu a gweld clinigydd yn cymryd llawer gormod o amser, a hynny hyd yn oed cyn i'r claf allu mynd ar y rhestr aros, sy'n golygu ei bod hi'n arferol i bobl orfod aros hyd at dair blynedd cyn cael pen-glin neu glun newydd, ac mae hyn yn ddinistriol iddynt. Yn anffodus, fodd bynnag, hyd yn oed ar ôl aros, caiff pobl eu galw i gael llawdriniaeth ddim ond i'w chanslo ar fore'r llawdriniaeth. Mae un o fy etholwyr wedi gweld hyn yn digwydd dair gwaith ac wrth gwrs, roedd yn rhaid iddi roi trefniadau ar waith ar gyfer gofal a bu'n rhaid iddi ganslo. Ac mae hynny'n digwydd yn gyson. Clywsom hyn sawl gwaith. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau nad oes rhaid i bobl ddioddef fel hyn am flynyddoedd ac wynebu'r trallod emosiynol yn sgil canslo munud olaf?

Wel, ni ddylai pobl orfod aros mewn poen am amser hir i gael eu llawdriniaeth orthopedig. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Yn y de-ddwyrain yn arbennig, gwelsom ostyngiad o 73 y cant yn y cyfraddau orthopedig dros ddwy flynedd o'r hyn ydoedd ar ei anterth. Ond yn amlwg, dechrau yw hynny; mae angen inni fynd yn llawer pellach. Ac mae cyllid ychwanegol sylweddol wedi'i ddarparu i ranbarth y de-ddwyrain ar gyfer yr amseroedd aros hiraf, a bydd hynny'n cefnogi'r cleifion hynny sy'n aros am lawdriniaeth orthopedig. Rwy'n credu ei fod yn iawn i ddweud bod angen inni wneud yn siŵr fod cysondeb yn y cynnig i gleifion. Efallai y bydd yn cofio o drafodaethau blaenorol yn y Siambr fod gan y canllawiau cynllunio a gyhoeddais i'r GIG cyn y Nadolig ofynion penodol iawn mewn perthynas â thargedau orthopedig, nifer y llawdriniaethau ar restr, er mwyn sicrhau cysondeb ym mhob man. Mae yna ddull sefydledig iawn o sicrhau effeithlonrwydd mewn llawfeddygaeth orthopedig, Ei Gael yn Iawn y Tro Cyntaf, ac mae'n rhaid inni weld hynny'n cael ei gyflawni'n gyson ym mhob rhan o Gymru. Mae llawer gormod o amrywio rhwng ymarferwyr a rhwng safleoedd.

Rwyf eisiau gofyn am amseroedd aros am ben-glin a chlun newydd yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan, Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn enwedig am dryloywder ac eglurder y wybodaeth. Felly, ar wefan gofal wedi'i gynllunio GIG 111 Cymru, ar drawma ac orthopaedeg yn Aneurin Bevan, mae'n dweud wrthym mai'r amser aros ar gyfartaledd ar gyfer apwyntiad claf allanol cyntaf yw 26 wythnos; fod 10 y cant o bobl yn aros 61 wythnos neu fwy—hyn ar gyfer apwyntiad claf allanol cyntaf; yr amser aros cyfartalog i ddechrau triniaeth yw 33 wythnos; ac mae 10 y cant o bobl yn aros 85 wythnos neu fwy. Felly, nid yw'n dadansoddi gwybodaeth yn ôl math o lawdriniaeth, ac rwy'n credu y byddai'n llawer mwy defnyddiol i gleifion a'u teuluoedd allu cynllunio a bwrw ymlaen â'u bywydau a gwybod beth i'w ddisgwyl, mewn perthynas â chlun newydd er enghraifft, os gallent fynd ar y wefan a darganfod, o ran nifer y cleifion sy'n cael clun newydd yr wythnos hon, pryd y cawsant eu hatgyfeirio—sawl wythnos yn ôl y cawsant eu hatgyfeirio am driniaeth. O ran tryloywder a defnyddioldeb gwybodaeth, rwy'n credu y gallem wneud yn llawer gwell na'r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd. 

Diolch i John Griffiths am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n cytuno ag ef, gallwn wneud yn well. Nid wyf yn credu ei bod yn ddigon da ei fod yn cael ei ddarparu ar sail cyfartaledd y bwrdd iechyd yn unig. Darperir y wybodaeth yn ôl arbenigedd yn gyffredinol, ond mae'r lefel o fanylder y mae'n cyfeirio ato ar gael i fyrddau iechyd unigol, wrth gwrs. Mae ganddynt y wybodaeth honno, a gallant ei chyhoeddi. Rwy'n gobeithio ei bod yn rhoi rhywfaint o sicrwydd iddo wybod y byddwn yn cyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru i'r byrddau iechyd er mwyn iddynt ddarparu mwy o fanylion am amseroedd aros disgwyliedig yn eu llythyrau derbyn ar sail unigol, neu i allu cyfeirio at dudalennau gwe sydd â mwy o fanylion yn y ffordd y mae'n ei disgrifio ar amseroedd aros disgwyliedig. Yna byddant yn gallu dweud wrth gleifion am faint y bydd rhaid iddynt aros ar gyfartaledd yn ôl cyflwr, fel llawdriniaeth pen-glin neu lawdriniaeth clun. Yn amlwg, bydd hyn yn amrywio yn ôl bwrdd iechyd ac yn ôl cymhlethdod, felly mae angen i'r wybodaeth ddod gan fyrddau iechyd. Ond bydd y wybodaeth honno'n cael ei hadnewyddu yn y canllawiau newydd ym mis Ebrill, ac yna, dylai byrddau iechyd roi'r lefel hon o fanylder ar eu gwefan eu hunain a rhannu hynny hefyd gyda phartneriaid meddygon teulu.

15:05
Cludiant rhwng y Cartref a'r Ysbyty

8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar effaith canslo cludiant rhwng y cartref a'r ysbyty, a ddarperir gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ar fyr rybudd i gleifion y mae angen iddynt fynd i apwyntiadau ysbyty? OQ62478

Mae yna adegau pan na ellir darparu nifer gweddol fach o deithiau gwasanaeth cludiant cleifion nad ydynt yn rhai brys. Cwblhaodd y gwasanaeth dros 500,000 o deithiau i ysbytai a chlinigau ledled Cymru a'r DU yn ehangach y llynedd.

Diolch. Rwy'n ymddiheuro i fy etholwyr am orfod codi'r mater hwn eto gyda chi, ar ôl ei godi o'r blaen gyda'ch rhagflaenydd.

Nawr, yn ôl yr adroddiad blynyddol diweddaraf a gyhoeddwyd gan yr ymddiriedolaeth, mae perfformiad cludiant ambiwlans y gwasanaeth cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys wedi gwella ac wedi bod yn sefydlog, fel y nodwyd gennych yn gywir ddigon. Mae cynnydd yn y galw, yn enwedig ar gyfer cleifion arennol, yn effeithio ar faint o adnoddau sydd ar gael ar gyfer gweithgarwch cleifion allanol. Roedd y ganolfan i gael ei hail-restru yn ystod 2024-25, a disgwylir i hynny helpu gyda'r galw cynyddol, ynghyd â'r gallu i ailystyried y metrigau perfformiad ynghylch sut y caiff rhestrau eu cynllunio. Fodd bynnag, yn rheolaidd nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennyf etholwyr yn cysylltu â mi yn dweud bod eu gwasanaeth cludiant mewn achosion nad ydynt yn rhai brys wedi'i ganslo ar y funud olaf. Mae hyn yn gadael trigolion sy'n hynod agored i niwed ac sy'n sâl yn ceisio dod o hyd i ffordd arall o gyrraedd eu hapwyntiad. Ond hefyd, mae'n gadael y meddyg ymgynghorol yn aml yn aros am y claf nad yw'n cyrraedd, a dywedir wrthynt eu bod wedi methu apwyntiad. Ni all hyn fod yn iawn.

Felly, pa gamau y gallwch chi eu cymryd i weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i weld gwell cyfathrebu o leiaf, a cheisio sicrhau nad ydynt yn cael cymaint o gam yn y ffordd hon. Diolch.

Wel, rwy'n credu ei bod yn rhesymol dweud bod yna newidiadau annisgwyl weithiau—

Weithiau mae yna newidiadau annisgwyl a fyddai'n arwain at ganslo ar fyr rybudd. Rwy'n credu ei bod hefyd yn deg dweud bod hyn yn digwydd yn bennaf pan fydd angen ailgyfeirio adnoddau lle mae mwy o alw brys mewn mannau eraill, ac mae hynny'n aml yn golygu ymatebion gwasanaeth ambiwlans brys. Lle mae ymgynghoriadau, mae'r ddarpariaeth gludiant yn cael ei blaenoriaethu i gleifion sydd â'r lefel uchaf o anghenion, felly fel y soniodd hi, cleifion arennol, ond hefyd cleifion canser pan fyddant yn teithio ar gyfer triniaethau cynnal bywyd. Nod Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yw rhoi o leiaf 24 awr o rybudd i gleifion lle bynnag y gallant ac i geisio darparu cymorth gyda chyfeirio at ddarparwyr eraill, darparwyr cludiant cymunedol o bosibl. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio, o'r 0.5 miliwn—500,000—o deithiau sy'n cael eu gwneud bob blwyddyn, yn fisol, y llynedd, roedd nifer cyfartalog y teithiau a ganslwyd gan y gwasanaeth ei hun oddeutu 600 y mis, o gyfanswm o 500,000 o deithiau cleifion. Y llynedd, cafodd mwy na 70,000 o deithiau, felly bron i 10 gwaith cymaint, eu canslo ar y diwrnod teithio gan gleifion eu hunain. Nawr, canlyniad hynny yw bod hynny'n sicr yn achosi heriau o ran rhestru, felly mae'n ddarlun mwy cymhleth, rwy'n meddwl, nag y mae'r cwestiwn yn ei awgrymu efallai, er fy mod yn cydnabod ei fod wedi ei ofyn yn ddiffuant.

Gofynnodd am beth sy'n digwydd i geisio mynd i'r afael â rhai o'r heriau hyn. Mae adolygiad galw a chapasiti ar y gweill eleni. Bydd hwnnw'n cael ei gwblhau yn ddiweddarach eleni, 2025, a'r disgwyliad yw y bydd hwnnw'n helpu i ddarparu rhywfaint o gapasiti ychwanegol i adlewyrchu'r twf yn niferoedd cleifion wrth i weithgaredd gofal a gynlluniwyd gynyddu ar draws y system yn dilyn ein buddsoddiad.

Practisau Cyffredinol Gwledig

9. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod practisau cyffredinol gwledig yn cael digon o gyllid i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn byw o fewn pellter rhesymol i bractis cyffredinol? OQ62459

Rwy'n ymwybodol o'r heriau o ddarparu gwasanaethau meddygon teulu i boblogaeth cleifion gwledig sy'n wasgaredig. Mae natur wledig yn cael ei hystyried yn rhan o'r fformiwla ariannu ar gyfer practis, ac mae ein buddsoddiad mewn timau amlddisgyblaethol yn helpu i gefnogi mynediad at grŵp ehangach o weithwyr iechyd proffesiynol, gan gynnwys nyrsys a fferyllwyr, i sicrhau gofal yn nes at adref.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, fe fyddwch yn gwybod bod gan rai meddygfeydd fwy nag un lleoliad oherwydd eu bod yn ceisio darparu gwasanaethau i ardal ddaearyddol fawr iawn, a daw hynny â chost ychwanegol yn ei sgil. Mae rhai practisau gwledig yn adrodd wrthyf na allant redeg eu practisau'n hyfyw mwyach o dan y model presennol. Felly, rwy'n pryderu y gallai rhai practisau ddychwelyd eu contractau i'r bwrdd iechyd, a fydd, wrth gwrs, yn ei dro, yn arwain at bryderon a chostau ychwanegol. Nawr, pan godais hyn gyda chi mewn llythyr fis diwethaf, fe wnaethoch chi ymateb gan sôn am yr arian ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i ymarfer cyffredinol. Ond nid wyf yn credu bod eich ymateb yn cydnabod heriau practisau gwledig yn iawn. Rwy'n credu bod angen i fodelau ariannu gydnabod yn well yr heriau penodol o ddarparu gofal mewn ardaloedd gwledig a dyrannu adnoddau cyllido ychwanegol i gefnogi costau uwch y cymhlethdodau o redeg meddygfa ar safleoedd lluosog lle nad oes gwasanaethau meddygol eraill gerllaw yn ogystal ag mewn ardal ddaearyddol fawr iawn. Felly, a wnewch chi nodi pam nad yw hyn yn cael ei adlewyrchu'n ddigonol yn y fformiwla ariannu a pha gynlluniau sydd gennych i fynd i'r afael â hyn?

15:10

Fel y dywedaf, mae'n cael ei adlewyrchu yn y fformiwla ariannu. Mae natur wledig ardal yn un o set o feini prawf; nid dyma'r unig faen prawf a ddefnyddir i bwysoli cyllid trwy'r contract gwasanaethau meddygol cyffredinol. Fe fydd yn gwybod hefyd fod cydnabod rhai o'r pwysau cost ar bractisau meddygon teulu, gwledig ac fel arall, ar hyn o bryd yn rhan o setliad y cyllid—y negodiadau contract, yn hytrach, eleni, gan gynnwys taliad sefydlogi o £23 miliwn i alluogi practisau meddygon teulu i fynd i'r afael â pheth o bwysau costau ychwanegol. Yn amlwg, ar gyfer practisau gwledig, bydd hynny'n mynd i gefnogi rhai o'r heriau penodol a wynebant ac rwy'n eu cydnabod yng nghwestiwn yr Aelod. Rwy'n credu bod rhan o'r ateb hefyd yn y pwynt a wneuthum mewn ymateb i gwestiwn Alun Davies yn gynharach, sef darparu mwy o wasanaethau ar sail clwstwr, er mwyn darparu mwy o wytnwch, os mynnwch, a mwy o hyblygrwydd i'r practisau sydd weithiau'n darparu gwasanaethau ar gyfer mwy nag un lleoliad, fel y nodwyd ganddo. Byddai hynny o fudd i wytnwch y practisau hynny, ond hefyd o fudd i'w etholwyr ef a minnau sy'n gorfod teithio ymhellach nag yr hoffem i gael rhai o'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.

3. Cwestiynau Amserol

Eitem 3 sydd nesaf. Mae un cwestiwn amserol wedi ei dderbyn, a bydd hwnnw gan Sioned Williams.

Diwygiadau Lles

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru yn sgil diwygiadau Llywodraeth y DU i les? TQ1317

Member
Jane Hutt 15:13:10
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr am eich cwestiwn.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried goblygiadau diwygiadau lles arfaethedig yn ofalus ac yn ymateb i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd i sicrhau bod lleisiau pobl anabl yng Nghymru yn cael eu clywed.

Diolch. Gan fod gennym Lywodraeth Lafur yn y DU bellach, a yw pethau'n wahanol i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru? A ydynt yn wahanol i Lywodraeth Cymru, sy'n dal i orfod llenwi'r tyllau y mae San Steffan yn eu creu yn y rhwyd ddiogelwch sydd i fod i gadw pobl yng Nghymru rhag dioddef caledi? Mae gennym gyfraddau uwch o bobl anabl o oedran gweithio na chyfartaledd y DU, a phump o'r 10 awdurdod lleol yn y DU sydd â'r cyfraddau uchaf o anweithgarwch economaidd oherwydd salwch hirdymor. Felly, bydd effaith y toriadau digynsail hyn i fudd-daliadau anabledd ar Gymru yn ddinistriol. Mae elusennau anabledd wedi galw'r cynlluniau'n anfoesol, yn ddiegwyddor, yn gibddall. Dywedodd Anabledd Cymru fod y toriadau o £5 biliwn yn golygu

'bod llawer o bobl anabl yng Nghymru gryn dipyn yn waeth eu byd'.

Gallai pobl ar y taliad annibyniaeth bersonol golli rhwng £4,200 y flwyddyn a £6,300 y flwyddyn o gymorth yn ôl y Resolution Foundation. Y toriad hwn i incwm dinasyddion tlotaf Cymru yw'r hyn rydych chi a'ch Llywodraeth wedi treulio'r 14 mlynedd diwethaf yn achwyn yn ei gylch.

Fe wnaeth pawb ohonom glywed Liz Kendall a'n Prif Weinidog ni yn amddiffyn hyn ddoe trwy geisio pwysleisio'r pethau cadarnhaol, ac wrth gwrs, fe fyddem yn croesawu unrhyw ddiwygio sy'n helpu i fynd i'r afael â'r rhwystrau y mae pobl anabl sy'n gallu ac eisiau gweithio yn eu hwynebu wrth ddod o hyd i waith a'i gadw. Ond i Lywodraeth sydd bob amser yn awyddus i bwysleisio ei bod yn gwrando ar y rhai sydd â phrofiad bywyd, rhywbeth rydych chi newydd ei ailadrodd eto, nid yw'n ymddangos bod Prif Weinidog Cymru a'r Llywodraeth yn gwrando. A ydych chi'n gwrando, Ysgrifennydd y Cabinet, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am fynd i'r afael â thlodi a chefnogi hawliau pobl anabl? Dywedodd yr elusen iechyd meddwl, Mind, y byddai'r toriadau hyn yn gwaethygu'r argyfwng iechyd meddwl. Dywedodd y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant y bydd yn tanseilio ymdrechion i fynd i'r afael â thlodi plant. Dywedodd Ymddiriedolaeth Trussell y bydd yn tanseilio addewidion Llafur i gwtogi'r defnydd o fanciau bwyd. Dywedodd Sefydliad Joseph Rowntree y bydd yn ei gwneud hi'n anos i bobl fod yn gymwys i gael cymorth. Galwodd Oxfam Cymru ar Lywodraeth Cymru i fynnu bod eu cymheiriaid yn San Steffan yn trethu'r bobl gyfoethocaf i helpu i frwydro yn erbyn tlodi ac anghydraddoldeb. Mae Sefydliad Bevan wedi dweud y bydd y cynlluniau yn cael effaith enfawr a phryderus ar y 275,000 o bobl yng Nghymru sy'n derbyn y taliad annibyniaeth personol. Mae hyn yn creu heriau i Lywodraeth Cymru o ran yr angen am gymorth dwys ychwanegol i bobl ifanc a fydd yn colli llawer iawn o fudd-daliadau ac yna'n wynebu anfantais bellach os na chânt y cymorth hwnnw.

Rydym wedi gweld rhan o'r llythyr a anfonwyd gan y Prif Weinidog at Liz Kendall ac wedi clywed ei hatebion i'r cwestiynau a ofynnwyd gan Rhun ap Iorwerth ddoe. Yr hyn nad oedd yn glir oedd pa un a ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru ynghylch y cynlluniau hyn. Beth oeddech chi'n anghytuno ag ef? Pa newidiadau y gofynnwyd amdanynt yn y llythyr hwnnw, a pha newidiadau a wnaed? Pa asesiad effaith a gafodd ei rannu, os o gwbl? A allech chi roi ateb clir ynglŷn â beth oedd eich pryderon? A pha asesiad a wnaethoch ynglŷn â'r effaith ar bobl a'r gwasanaethau a ddarparwch—y galw am gyngor lles, am grantiau a lwfansau datganoledig fel y gronfa cymorth dewisol, ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd? Maent i gyd yn mynd i fod yn gymharol uwch yng Nghymru nag yn Lloegr. Felly, a ydych chi'n cytuno hefyd fod angen adnoddau ychwanegol ar gyfer y gwasanaethau hyn y bydd angen iddo fod yn uwch na chodiad Barnett, yn amlwg? Ac a fyddwch chi'n gofyn am hynny gan eich partneriaid yn San Steffan?

Yn olaf, pa fesurau wrth gefn rydych chi'n eu hystyried i liniaru'r dinistr sydd i ddod yn fuan yn sgil y toriadau hyn? A fyddwch chi'n sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol ar ddiwygio lles, fel y gwnaethoch chi yn 2015, i ystyried y camau sydd eu hangen ar Lywodraeth Cymru mewn ymateb i ganlyniadau toriadau San Steffan i les? Diolch.

15:15

Wel, diolch yn fawr am eich cwestiynau pwysig iawn.

Diolch am y cwestiynau hynny. Byddwn yn mynd ati'n ofalus i ystyried effaith y diwygiadau lles arfaethedig ar bobl yng Nghymru, a byddwn yn darparu ymateb trawslywodraethol hefyd. Roeddech yn nodi bod y Prif Weinidog wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gofyn pa ddadansoddiad a wnaed neu a fydd yn cael ei wneud ar effaith wahaniaethol unrhyw doriadau arfaethedig i les yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr.

Mae'n bwysig ein bod yn gwneud popeth a allwn o fewn ein pwerau i gefnogi pobl yng Nghymru, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Rydym eisiau sicrhau bod pobl sy'n gallu gweithio yn gallu dod o hyd i waith a chael y cymorth sydd ei angen arnynt. Ond rydym yn cytuno'n llwyr fod angen i'r system nawdd cymdeithasol sicrhau ei bod yn cefnogi pobl i weithio yn effeithiol ond yn cynnig rhwyd ddiogelwch ariannol effeithiol i bobl nad ydynt yn gallu gweithio. Fel y dywedais, rwyf wedi annog ac rwy'n parhau i annog pobl anabl a'r sefydliadau sy'n eu cefnogi yng Nghymru i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed drwy ymateb i'r ymgynghoriad, sy'n dod i ben ar 30 Mehefin. Fel y gwyddoch, rwy'n cadeirio fforwm cydraddoldeb i bobl anabl, a byddaf yn cynnal cyfarfod gyda'r fforwm i drafod hyn.

Rwy'n falch iawn hefyd fod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi llunio adroddiad pwysig iawn, ac rydych chi hefyd, fel aelod o'r pwyllgor hwnnw, wedi cyfrannu ato, 'Gellir Cyflawni Unrhyw Beth gyda'r Gefnogaeth Gywir: Mynd i'r Afael â'r Bwlch Cyflogaeth Anabledd'. Ond hefyd mae'n bwysig fod y gwaith y mae'r tasglu hawliau pobl anabl wedi'i wneud yng Nghymru wedi dangos ein hymrwymiad i wrando a chydweithio gyda phobl anabl. Felly, mae'n gynllun hawliau pobl anabl 10 mlynedd sy'n mynd i gael ei gyhoeddi'n fuan iawn. Ei nod yw cael gwared ar rwystrau a chreu newid cadarnhaol hirdymor i bobl anabl. Ac un pwynt yr hoffwn ei wneud—ac rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno—yw bod angen inni osod y model cymdeithasol o anabledd wrth wraidd yr ymateb i gynigion diwygio lles Llywodraeth y DU, ond hefyd wrth wraidd ein gweledigaeth a'n hymateb ni yng Nghymru.

Diolch am godi'r mater hwn, Sioned. A diolch, Weinidog y Cabinet; rydym yn aros am yr ymateb. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu'r camau gan Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r bil lles sy'n chwyddo fwyfwy. Yn un o'r cyhoeddiadau a gafodd fwyaf o sylw yn ddiweddar, daeth Rachel Reeves a Liz Kendall i'r un casgliad ag Ysgrifenyddion Gwladol Ceidwadol olynol, sef bod gwir angen gweithredu i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y system les ac i adfer tegwch. Wrth i fudd-daliadau sy'n gysylltiedig ag iechyd i bobl o oedran gweithio gyrraedd £71 biliwn y flwyddyn, llawer mwy nag a wariwn ar yr heddlu ac ar amddiffyn ein gwlad, mae wedi bod yn amlwg ers peth amser nad dewis yw diwygio mwyach. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n gresynu bod Llywodraeth y DU wedi beirniadu ac yna wedi cefnu ar gynlluniau'r Ceidwadwyr ac yna wedi gorfod ailgyflwyno diwygiadau lles am eu bod wedi chwalu'r economi gyda'u treth ar swyddi a'u bod bellach yn gorfod llenwi'r twll du ariannol sy'n deillio o hynny?

15:20

Ar chwalu'r economi, rwy'n credu ein bod yn gwybod pwy a wnaeth hynny, a chyfnod Liz Truss mewn grym a 14 mlynedd—

A gaf i ofyn i'r Aelodau roi'r gorau i weiddi ar draws y Siambr, fel y gall y Gweinidog ateb?

—o gyni. Ond diolch am eich cwestiwn pwysig, Altaf Hussain. A gaf i ddweud bod angen inni ddylanwadu—[Torri ar draws.] Yn amlwg, mae angen inni ddylanwadu ar yr ymateb i'r ymgynghoriad hwn ar ddiwygio lles. A'r hyn sy'n bwysig yw ein bod yn cael cyfarfod rhyngweinidogol y pedair gwlad gydag Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU—y pedair gwlad. Ac mae'n bedair gwlad, felly Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr, Llywodraeth y DU. Mae'n bwysig iawn cael yr ymgysylltiad pedair gwlad hwnnw. Fe'i sefydlwyd i drafod meysydd sydd o ddiddordeb i bawb, fel sut i ddiwygio'r system fudd-daliadau ac i sicrhau bod gwaith bob amser yn talu. Dyma lle gallwn gyfrannu gyda'r gwaith y buom yn ei wneud i sicrhau y gallwn helpu i fynd i'r afael â'r bwlch hwnnw, y bwlch cyflogaeth anabledd, y gwyddom ei fod yn bodoli. Wrth gwrs, rwy'n credu bod y gwaith a wnaethom, yn enwedig ar ein rhaglenni cymorth cyflogaeth, lle rydym yn ceisio sefydlu system cymorth cyflogadwyedd ddi-dor ac integredig, wedi'i theilwra tuag at swyddi gwaith teg—. Rydym yn canolbwyntio ar y rhai sydd agosaf at y farchnad lafur, pobl ddi-waith a di-waith yn fyrdymor.

Rydym hefyd yn cyflogi pum hyrwyddwr cyflogaeth pobl anabl, ac mae pob un ohonynt yn cyfrannu profiad bywyd a dealltwriaeth fanwl ac ymarferol o'r model cymdeithasol o anabledd. Maent yn gweithio, yn ymgysylltu â chyflogwyr, sefydliadau cynrychioli cyflogwyr ac undebau llafur ar draws y sector cyhoeddus a phreifat i hyrwyddo recriwtio, cadw a chynnydd pobl anabl. Mae cefnogaeth i hyn wedi dod gan ein tasglu hawliau pobl anabl, ac wrth gwrs, maent yn ein helpu i symud ymlaen gyda'n cynllun hawliau pobl anabl, yn seiliedig ar y model cymdeithasol o anabledd.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar rai o'r cynigion yn y cyhoeddiadau ddoe mewn perthynas â'r cyfle i sefydlu egwyddor hawl i roi cynnig arni, a fyddai'n golygu na fydd gwaith yn arwain at ailasesu, sydd, wrth gwrs, yn achosi ansicrwydd mawr i bobl anabl. Y bwriad yw deddfu cyn gynted â phosibl, fel y gall fod yn berthnasol i'r system bresennol yn ogystal â'r system ddiwygiedig. Rwy'n nodi, o lawer o'r ymatebion—ymatebion pryderus—gan sefydliadau anabledd a sefydliadau ymchwil gymdeithasol, fod yna gydnabyddiaeth fod yr hawl i roi cynnig arni yn bwysig, fel bod—. Ac rwy'n credu mai Sefydliad Bevan a ddywedodd:

'A dylai'r cynnig i egluro'r gwaith y gall hawlwyr ei wneud a gwarantu y gallant roi cynnig ar wneud swydd heb beryglu eu budd-daliadau helpu i gefnogi pobl i gael gwaith.'

Ond wrth gwrs, rydym wrthi nawr yn ymgysylltu â—. Mae'n bwysig ein bod yn ymgysylltu nawr, nid yn unig â'r holl sefydliadau pobl anabl yr ydym eisoes yn ymgysylltu â hwy, ond ein bod yn edrych ar adroddiad pwysig y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, yn cyhoeddi ein cynllun hawliau pobl anabl am y 10 mlynedd nesaf ac yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU yn adeiladol ac yn rhagweithiol ar y cynigion hyn.

15:25

Un o'r pethau a welsom dros y degawdau diwethaf, wrth gwrs, yw, pan fydd y Ceidwadwyr wedi bod mewn grym yn y DU, fod tlodi plant wedi cynyddu, a phan fydd Llafur wedi bod mewn grym yn y DU, mae tlodi plant wedi gostwng. Dyblodd cyfraddau tlodi plant yng Nghymru yn ystod y 1980au ac maent wedi bod yn cynyddu'n gyson ers 2010. Felly, mae angen inni fynd i'r afael â phroblemau tlodi yn y wlad hon. A ydych chi'n cytuno â mi, Weinidog, mai'r ffordd i fynd i'r afael â thlodi yn y wlad hon yw nid yn unig ymateb i faterion cymharol fyrdymor yn ymwneud â gwariant cyhoeddus, ond gosod amcan clir gan y Llywodraeth y byddwn yn dileu tlodi, y byddwn yn lleihau anghydraddoldeb, ac y dylai holl bolisi'r Llywodraeth, boed yma yng Nghymru neu yn y Deyrnas Unedig, gael ei yrru gan yr amcan hwnnw, a dyna'r prawf y byddwn yn ei ddefnyddio i brofi pob polisi a ddaw gan y naill Lywodraeth neu'r llall: sut y bydd hyn yn effeithio ar dlodi, sut y bydd hyn yn effeithio ar y rhai mwyaf agored i niwed a sut y bydd hyn yn effeithio ar y tlotaf a'r gwannaf mewn cymdeithas?

Diolch am hynny, a diolch am ailddatgan egwyddorion y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, Alun Davies. A dweud y gwir, mewn byr o dro, byddaf yn ymuno â chyfarfod tasglu tlodi plant y pedair gwlad, sydd wedi'i alw gan Lywodraeth y DU y prynhawn yma, lle byddaf yn gwneud y pwyntiau hyn ar fynd i'r afael â thlodi plant, ac mae'n bwysig fod Aelodau'r Senedd yn ymwybodol o hynny. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn deall sut y gallwn gefnogi'r rhai sy'n gallu gweithio, sut y gallwn eu cefnogi i gael gwaith, ac rydym yn gwybod bod hwnnw'n fater enfawr i lawer, fel y nododd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol—y teitl, 'Gellir Cyflawni Unrhyw Beth gyda'r Gefnogaeth Gywir'. Mae angen inni sicrhau ein bod yn cael yr arian ar gyfer y cymorth cywir ar gyfer rhaglenni cyflogaeth. Mae angen inni sicrhau bod rhwyd ddiogelwch ariannol effeithiol a diogel i bobl nad ydynt yn gallu gweithio. Rhaid i hynny gael ei gydnabod. A byddwn yn ystyried yn ofalus y cynnig ar gyfer elfen iechyd newydd, a fydd yn darparu cymorth ariannol ychwanegol i bobl sy'n hawlio credyd cynhwysol nad ydynt yn gallu gweithio.

Wel, dwi ddim yn gallu credu beth dwi'n ei glywed heddiw yma, i fod yn onest. Mae gennym ni fan hyn gangen o'r Blaid Lafur sydd wedi bod yn traethu am y materion yma ers degawdau, yn pwyntio'r bys at y Ceidwadwyr ac yn dweud mai nhw ydy'r rhai drwg, ac yn dweud bod y Ceidwadwyr wedi gorfodi pobl i dlodi, ac yn ymladd yn erbyn y Ceidwadwyr. Mae George Osborne ei hun wedi dweud na fuasai fo ddim wedi mynd mor bell â beth mae Rachel Reeves a Keir Starmer yn ei wneud yn San Steffan. Ond eto mae gyda ni Lafur yng Nghymru sydd mor llyweth, mor ddi-asgwrn cefn, yn gwrthod sefyll i fyny i'r bobl yma yn Llundain sy'n mynd i orfodi ein pobl ni yng Nghymru i mewn i dlodi—i mewn i dlodi eithafol. Rydym ni wedi clywed Save the Children yn dweud heddiw yn barod, os ydym ni'n meddwl bod tlodi plant mewn sefyllfa wael yng Nghymru ar hyn o bryd, mae'n mynd i fod yn waeth yn y flwyddyn, ddwy flynedd, dair blynedd nesaf, oherwydd eich penderfyniadau chi, eich Llywodraeth chi. Mae hyn yn mynd i fod ar eich ysgwyddau chi. 

Roeddech chi'n sôn, Ysgrifennydd Cabinet, eich bod chi am wneud pob dim o fewn eich grym er mwyn mynd i'r afael â hyn. Byddwch chi'n gorfod gweithio o fewn cyllideb dynn iawn. Byddwch chi'n gorfod gwneud pob dim o fewn eich cyllideb chi, ac mae'r gyllideb yna yn barod yn cael ei stretsio i bwynt lle nad ydy o'n bosibl gweithredu pob dim.

Wel, rydym ni'n gwybod bod llymder, austerity, yr hyn ddaru i'r Ceidwadwyr yn ei wneud, wedi brynaru'r tir ar gyfer Farage, ar gyfer Reform a'u criw. Llymder sydd wedi achosi'r sefyllfa yma lle rydym ni'n gweld yr adain de eithafol rŵan yn codi, oherwydd ein bod ni'n gweld gwasanaethau yn cwtogi. Rŵan mae Llafur, Llafur yn Llundain, eich Llafur chi, yn mynd i orfodi mwy o lymder ar bobl Cymru. Bydd hwn yn gwthio mwy o bobl mewn i freichiau pobl fel Farage achos eu bod nhw mor anobeithiol.

Felly, mae'n rhaid i ni gael dealltwriaeth o effaith y polisi yma ar Gymru. Mae'n mynd i effeithio ar eich cyfaill chi drws nesaf. [Torri ar draws.] Mi ddof i at y cwestiwn; diolch. Mae'n mynd i effeithio ar iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, pa asesiad ydych chi'n mynd ei wneud, ac sydd wedi'i wneud, o'r effaith ar gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol, a sut bydd awdurdodau lleol, felly, yn ymdopi â'r toriadau yma?

Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor. Roeddech chi'n cyfeirio at y Ceidwadwyr; wel, fe wnaethant hwy adael gwaddol echrydus o 3 miliwn o bobl ledled y DU yn ddi-waith am resymau iechyd, a methu mynd i'r afael ag achos sylfaenol anweithgarwch economaidd. Ond fel y dywedais wrth ateb y cwestiynau heddiw, mae'n bwysig ein bod yn ymateb i'r cynigion hyn, a'n bod yn ymgysylltu â sefydliadau pobl anabl, y rhai y mae hyn yn effeithio arnynt, a'n bod ni'n cyfrannu—ac rwyf wedi sôn am gyfarfod gweinidogol y pedair gwlad gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau—ac yn ymgysylltu hefyd.

Ond a gaf i fynd yn ôl? O ran yr asesiad, fe fyddwch chi'n gwybod, ac fe wnaf ailadrodd, ac fe glywsoch chi ddoe, fod y Prif Weinidog wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn gofyn pa ddadansoddiad a wnaed neu a fydd yn cael ei wneud ar effaith wahaniaethol unrhyw doriadau arfaethedig mewn lles ar Gymru o gymharu â Lloegr. Yn wir, ddoe, rwy'n cofio iddi ddweud ei bod wedi bod mewn cysylltiad â Rhif 10 hefyd, i wneud y pwyntiau hynny. Mae angen inni sicrhau ein bod wedyn yn gweithio gyda'n gilydd, fel y gallwn ddeall effaith hyn ar y bobl a wasanaethwn.

Ond rwyf hefyd eisiau gwneud un pwynt sy'n bwysig iawn yn fy marn i. Rwyf wedi siarad am y gwaith a wnawn eisoes gyda'n hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl a'r ffaith bod gennym ein tasglu hawliau pobl anabl. Rydym wedi dangos ein hymrwymiad i wrando ar bobl anabl a sefydliadau pobl anabl a chydweithio â hwy, ac i edrych ar yr holl faterion allweddol sy'n effeithio arnynt: byw'n annibynnol, iechyd, gofal cymdeithasol, cyflogaeth ac incwm, teithio, plant a phobl ifanc. Roedd y rhain i gyd yn ffrydiau gwaith y buom yn gweithio arnynt gyda'n gilydd, i wrando arnynt, i weithio gyda hwy, i ddod o hyd i argymhellion ar gyfer y Llywodraeth hon.

Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig, o ran anghenion pobl ifanc er enghraifft, fod gennym y warant i bobl ifanc yma yng Nghymru. Mae'r warant i bobl ifanc yn golygu y gall ein pobl ifanc sydd o dan 25 oed gael—. Ac mae gennym y ffigurau diweithdra ieuenctid is hynny, sy'n wirioneddol allweddol, o'i gymharu â gweddill y DU—6 y cant o'i gymharu â 11.5 y cant—oherwydd ein bod wedi darparu'r warant swyddi, gan gefnogi dros 48,000 o bobl ifanc. Mae'n ymwneud â swydd, hyfforddiant neu brentisiaeth. Felly, rwy'n credu y bydd y gwaith a wnawn eisoes—ac sy'n cael ei ariannu o fewn ein cyllideb—hefyd yn sicrhau ein bod yn cael ymateb cadarn i hyn. Rydym eisiau system les dosturiol, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ond system les sy'n galluogi pobl sydd eisiau gweithio i weithio. Diolch yn fawr.

15:30

Mae cymaint o etholwyr wedi cysylltu â mi yn bryderus iawn ynglŷn â hyn. Nid wyf yn gwybod beth i’w ddweud wrthynt, ac nid wyf yn gwybod beth i ddweud wrthynt yw safbwynt Llywodraeth Cymru, sy’n warthus, ac sy’n dangos nad yw’r bartneriaeth mewn grym yn ddim mwy na rhethreg. Gwn pa mor wahanol fyddai eich sylwadau pe bai gennym Lywodraeth Geidwadol yn dal i wneud y newidiadau hyn. A’r hyn yr hoffwn ei wybod yw: beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar y newidiadau hyn? Gan eich bod yn gwybod y manylion bellach, beth fydd yn y llythyr at Lywodraeth y DU? Rwy'n gobeithio y bydd llythyr. Beth rydych chi'n anghytuno ag ef, beth yw eich pryderon, a hefyd, beth fyddwch chi'n ei wneud yn ei gylch?

Wel, rwy'n credu fy mod wedi ateb y cwestiynau hynny fwy nag unwaith y prynhawn yma. Rydym eisoes wedi codi hyn; cododd y Prif Weinidog y mater cyn inni hyd yn oed gael y cynigion ddoe. Fe’i cododd—[Torri ar draws.]—fe’i cododd—[Torri ar draws.] Os ydych am weld a pharchu’r ffaith bod gennym Brif Weinidog a gododd y cwestiynau hyn yn uniongyrchol gyda’n cyd-Aelodau yn Llywodraeth y DU, a chydnabod y dylanwad sydd gan ein Prif Weinidog—[Torri ar draws.]—ac a fydd gennyf—

—rwy’n siŵr, pan fyddaf yn cyfarfod â grŵp rhyngweinidogol y pedair gwlad gyda Llywodraeth y DU. Nid fi yn unig a fydd yno fel Ysgrifennydd y Cabinet; bydd hefyd yn cynnwys Ysgrifennydd y Cabinet o Lywodraeth yr Alban, a fydd hefyd yn awyddus i achub ar y cyfle, fel y bydd y Gweinidogion o Ogledd Iwerddon. Mae hyn yn bwysig o ran ein cyfrifoldebau yn y Llywodraeth.

Ond hoffwn roi sicrwydd i chi mai'r pwynt pwysicaf i mi heddiw yw dweud y byddaf yn cyfarfod â phobl anabl yma yng Nghymru, ac yn siarad â hwy ynglŷn â'r effaith. Fe wnaf y dadansoddiad, ond edrychaf ymlaen hefyd at ymateb i’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol gwirioneddol bwysig, ac rwy'n gobeithio y gallwch groesawu’r cynllun hawliau pobl anabl 10 mlynedd. Dyna'r enw a roddwyd ar ein cynllun. Mae'n gynllun hawliau pobl anabl am ein bod yn credu yn y model cymdeithasol o anabledd. Rydym am gael gwared ar y rhwystrau i bobl anabl, ac wrth gwrs, y bobl anabl hynny sydd am gael gwaith ac sydd angen y cymorth y gallwn ei roi iddynt, dyna lle byddwn yn chwarae ein rhan.

15:35
4. Datganiadau 90 eiliad
5. Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

Felly, eitem 5 yw'r cynnig i atal Rheol Sefydlog 13.6 dros dro i ganiatáu cyfraniadau lluosog gan Aelodau unigol yn ystod eitem 6. A galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol, Heledd Fychan.

Cynnig NNDM8858 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8 yn: 

Atal Rheol Sefydlog 13.6 dros dro i ganiatáu i'r Aelodau gyfrannu ar fwy nag un achlysur yn ystod y Ddadl Agored ar NDM8839 yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 19 Mawrth 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cynnig yw atal Rheol Sefydlog 13.6 dros dro. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl Agored: A all ynni adnewyddadwy yn unig ddiwallu anghenion ynni Cymru?

Ac eitem 6, dadl agored: a all ynni adnewyddadwy yn unig ddiwallu anghenion ynni Cymru? A galwaf ar Carolyn Thomas i agor y ddadl.

Diolch. Hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Busnes am ddewis y pwnc pwysig hwn fel dadl agored gyntaf y Senedd. Rwy'n gobeithio y bydd y cwestiwn—a all ynni adnewyddadwy yn unig ddiwallu anghenion ynni Cymru—yn sbarduno trafodaeth fanwl ynglŷn â dyfodol ein sector ynni yma yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at glywed syniadau a chyfraniadau Aelodau o bob rhan o’r Siambr, ac efallai y byddaf yn cynnig rhai syniadau heriol hefyd.

Mae gan Gymru doreth o elfennau naturiol—tonnau, gwynt a haul—a all greu ynni a phweru ein cartrefi. Gallwn ei storio gyda batris, drwy greu hydrogen gwyrdd a thrwy ddefnyddio rhyng-gysylltwyr, a'i symud o gwmpas i ble mae ei angen a lle gallai'r gwynt fod yn chwythu. Mae cost nwy yn parhau i godi’n gyflym ac rydym yn dibynnu ar ei fewnforio ar gost uchel, ac mae angen inni ymbellhau oddi wrth danwydd ffosil niweidiol.

Gogledd Cymru sydd â’r taliadau ynni sefydlog ac unedol uchaf ym Mhrydain, oherwydd y rhwydwaith, dywedir wrthyf. A thaliadau ynni'r DU yw'r uchaf mewn unrhyw wlad ddatblygedig, gan nad ydym yn berchen ar ynni ac yn dibynnu ar fewnforion, ac eto mae gennym dair fferm wynt enfawr oddi ar arfordir gogledd Cymru—dyna ein golygfa allan i'r môr. Ond sut rydym yn elwa ohono? Ai prisio parthol yw'r ateb, fel y crybwyllwyd yn gynharach?

Mae angen inni sicrhau diogeledd ynni i bobl Cymru. Mae hynny’n golygu diwedd ar ddibynnu ar fewnforion tramor neu danwydd ffosil, a chanolbwyntio yn hytrach ar gynhyrchu ynni yma yng Nghymru i bobl am bris teg. Ar hyn o bryd, mae Cymru yn allforiwr trydan net. Yn 2022, cynhyrchodd ddwywaith cymaint ag a ddefnyddiodd, ac mae oddeutu traean o’i chynhyrchiant yn dod o ynni adnewyddadwy ar hyn o bryd, gyda’r gweddill yn dod o danwydd ffosil, nwy yn bennaf.

Mae angen inni droi’r fantol o blaid ynni glân, gwyrdd sydd o fudd i bobl leol. Byddai mwy o fusnesau Ewropeaidd a byd-eang yn hoffi buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy yng Nghymru, ac rydym yn gweld cymaint o geisiadau yn cael eu cyflwyno ar gyfer ynni gwynt ar y tir yn ogystal â llawer o ffermydd solar ar y môr, storio batri, ac fe glywais am gynnig ar gyfer morlyn llanw oddi ar fae Abertawe, sy'n ceisio cyllid gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Mae datblygwyr yn mynnu bod angen gweithredu i fynd i'r afael â rhwystrau allweddol, megis oedi yn y broses ceisiadau cynllunio, ond yn aml, mae polisïau'n gwrthdaro. Rwy'n gobeithio y byddwn yn dynodi parc cenedlaethol newydd yn y gogledd, ond beth y mae hynny’n ei olygu i ynni gwynt ar y tir a’i seilwaith? A ellir bwrw ymlaen i'w adeiladu? Mae angen inni adfer mawndiroedd, ond rydym yn adeiladu tyrbinau gwynt ar fawndiroedd, gan effeithio ar hynny. Beth sy'n cael blaenoriaeth? Rydym mewn argyfwng natur yn ogystal ag argyfwng hinsawdd.

Codais faterion ar ran dociau Mostyn, man geni'r fferm wynt yng Nghymru. Cafodd materion cynllunio a godwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru eu goresgyn yn y pen draw, ac yn flaenorol gyda Choleg Llandrillo yn y Rhyl, roeddent am fynd ati i adeiladu cyfleuster peirianneg er mwyn cynnal a chadw tyrbinau gwynt yn y Rhyl, ond dywedodd CNC 'na'. Mae'r Rhyl wedi'i chategoreiddio'n ardal risg llifogydd. Roeddent yn dweud 'na’ oherwydd hynny, ond mae angen sgiliau arnom i ynni gwyrdd allu mynd i’r afael â'r newid hinsawdd. Diolch byth, fe gafodd ei oresgyn, am fod rheswm yn drech.

Mae angen strategaeth gydgysylltiedig ar draws adrannau’r Llywodraeth sy’n cydbwyso cost a budd prosiectau mawr. Mae'r UE wedi pasio deddf newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i osod systemau solar ar adeiladau masnachol a chyhoeddus newydd, ar bob un sy'n destun gwaith adnewyddu perthnasol erbyn 2027, ar adeiladau preswyl newydd erbyn 2029, ac adeiladau cyhoeddus presennol erbyn 2030. Dyna'r targedau sy'n cael eu gosod ar gyfer systemau solar ffotofoltaig ar bob adeilad. Dywedir wrthyf fod Llywodraeth Cymru yn ystyried systemau solar ffotofoltaig gorfodol fel rhwystr i arloesi, ond hoffwn wybod pam. Pa fath o arloesedd polisi ynni domestig sy’n cael ei ddatblygu yng Nghymru y byddai systemau solar ffotofoltaig yn ei rwystro? Nid wyf yn deall.

15:40

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Ar hyn o bryd, ni all y grid cenedlaethol ymdopi ar ôl blynyddoedd o danfuddsoddi ac mae angen ei adnewyddu’n sylweddol, a fydd yn cymryd blynyddoedd. Mae fferm solar yn cael ei hadeiladu yn Saltney, a dywedwyd wrthynt na allent gysylltu â'r grid tan 2038, ond mae datblygwyr ffermydd solar yn dysgu'n gyflym ac yn ymgorffori storio batri hefyd. Dywedodd Scottish Power wrth gyngor yn y gogledd, ar ôl 60 mis o ofyn ac aros, na allent gysylltu’r paneli solar ar eu llety gwarchod â’r grid ac â’u rhwydwaith lleol—ni allai ymdopi—ond fe ddaethant o hyd i ffordd o wneud hynny gyda storio batri. Dyna y mae angen inni fod yn meddwl amdano.

Mae’n rhaid inni gydnabod hefyd y bydd cynnydd yn nifer y mathau o ynni adnewyddadwy a symud oddi wrth ddibyniaeth ar nwy yn golygu seilwaith mwy gweladwy, gan gynnwys peilonau a cheblau, yn ein cefn gwlad ac ar fryniau, gan mai dyna ble mae’r gwynt yn chwythu fwyaf. Mae angen inni sicrhau bod y cymunedau yr effeithir arnynt yn elwa o dariffau is a bod ceblau'n cael eu gosod o dan y ddaear lle bo modd.

Mae Llywodraeth y DU wedi ceisio mynd i’r afael â hyn. Maent wedi cyhoeddi Bil ar gynllun disgownt i sicrhau y bydd cartrefi ger peilonau newydd neu beilonau sy'n cael eu huwchraddio yn arbed hyd at £2,500 ar filiau dros 10 mlynedd. A yw hynny'n ddigon? A bydd gofynion cyfreithiol i gymunedau elwa’n uniongyrchol o gynnal seilwaith grid, i’w cyflwyno drwy’r Bil Cynllunio a Seilwaith.

Mae Ynni Cymru wedi ariannu prosiectau ynni lleol clyfar, gan greu ynni a’i ddefnyddio lle mae ei angen, gan helpu canolfannau hamdden a chymunedol, theatrau ac adeiladau cyhoeddus eraill gyda systemau solar ffotofoltaig i greu ynni, batris i’w storio lle bo angen, goleuadau ynni isel a chyfleusterau gwefru cerbydau trydan. Dyna enghraifft wych o economi gylchol fach, lle mae ei hangen. Ac fel yr eglurodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach heddiw, roedd 32 o bob 100 o geisiadau am grantiau Ynni Cymru yn llwyddiannus, sy’n dangos bod yr angen yno os oes mwy o arian. Mae £10 miliwn yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond a allwn gael mwy yn y pot gan rai o’r datblygwyr mawr hyn?

Rwyf hefyd yn credu y dylai Ystad y Goron fod yn gweithio er budd pobl Cymru. Dylai ei swyddogaethau yng Nghymru gael eu datganoli’n llwyr i gorff newydd sydd â phrif nod o ailfuddsoddi’r holl arian yng Nghymru er budd hirdymor pobl Cymru, ar ffurf cronfa gyfoeth sofran. Cymru yw'r wlad dlotaf ym Mhrydain, er gwaethaf ei thoreth o adnoddau naturiol. Mae’r system bresennol yn golygu bod y cyfoeth o ffioedd sy’n deillio o weithgarwch masnachol Ystad y Goron yng Nghymru yn cael ei drosglwyddo i Loegr—sefyllfa afresymol ac od.

Mae ynni adnewyddadwy hefyd yn bwnc llosg i'n proses ddeisebau cyhoeddus. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, rwy’n gweld pobl yn codi eu pryderon ynglŷn ag effeithiau amgylcheddol a lleol niweidiol prosiectau ynni adnewyddadwy sy'n dweud nad ydynt yn gweld manteision cymunedol digonol i’w hardal leol. Nid y broses ddeisebu yw’r ffordd fwyaf priodol bob amser o sianelu’r pryderon hyn—rydym yn credu efallai mai rhywbeth fel y broses gynllunio a allai fod y ffordd orau wrth symud ymlaen—ond mae’n ennyn diddordeb enfawr, sy’n wych ar gyfer ein Senedd. Maent yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn esiampl yr Almaen a gosod paneli solar ger ffyrdd, rheilffyrdd a meysydd parcio ac ar adeiladau masnachol, ac mae’r rheini sy’n gwrthwynebu prosiectau ynni gwynt a solar a chyfleusterau storio batri wedi codi hyn gyda ni.

O gael amser a buddsoddiad, rwy'n credu'n gryf y gall ynni adnewyddadwy yn unig ddiwallu anghenion ynni Cymru ac y dylem ganolbwyntio ar gyflawni hynny. Yn bersonol, rwy'n credu bod dal a storio carbon yn eliffant gwyn drud, wedi’i hybu gan gwmnïau tanwydd ffosil sy'n mynnu cyllid cyhoeddus o’n trethi, y dylent fod yn ei ariannu eu hunain, mewn gwirionedd. Clywais gan Eni. Siaradais â hwy pan oeddent am gael cyllid gan y Llywodraeth i adeiladu piblinell enfawr fel rhan o brosiect HyNet. Gofynnais, 'Pe na baech yn cael yr arian gan y Llywodraeth, a fyddech yn ei ariannu eich hun?' 'Wel, byddem,' meddent, 'gan ein bod wedi buddsoddi cymaint yn barod.' Dylem fod yn eu dal at eu gair.

Yn hytrach, dylai’r cymhorthdal gwerthfawr gwerth biliynau o bunnoedd sy’n mynd tuag at ddal a storio carbon fynd at grantiau ar gyfer lleihau ein biliau, ein cadw’n gynnes, insiwleiddio ein stoc dai, atgyweirio ffenestri a thoeau sy’n gollwng a boeleri aneffeithlon, a gosod systemau solar ffotofoltaig ar ein toeau. Mae dal a storio carbon yn dechnoleg sydd heb ei phrofi. Mae wedi methu mewn 10 o 13 o brosiectau ar draws y byd, ac mae wedi achosi i drigolion fygu pan fydd pibellau wedi rhwygo. Gall hefyd wneud niwed amgylcheddol enfawr os yw'n gollwng. Mae technoleg yn datblygu, a gallai'r carbon deuocsid a ddaliwyd gael ei droi'n belenni ar gyfer prosiect arall a'i ailddefnyddio.

Nid wyf ychwaith yn derbyn bod ynni niwclear yn fath o ynni adnewyddadwy mewn unrhyw ffordd. Nid yn unig am ei fod yn dibynnu ar ddeunyddiau cyfyngedig, ond hefyd am ei fod yn golygu gadael y cyfrifoldeb o ymdrin â'r gwastraff gwenwynig i'n plant a chenedlaethau'r dyfodol. Mae’n syfrdanol meddwl am yr holl amser a’r biliynau o bunnoedd sydd eisoes wedi’u gwastraffu ar brosiectau niwclear ledled y DU sy'n dal heb eu cwblhau. Mae'n arian y gellid bod wedi'i wario'n buddsoddi mewn cynhyrchu ynni'r dyfodol sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd ac ynni adnewyddadwy mwyfwy rhad a theilwng fel ynni gwynt, ynni solar, ynni hydrogen gwyrdd ac ynni'r llanw. Nid oes yn rhaid inni edrych yn bell i'w gweld yma yng Nghymru eisoes. Ac mae cynlluniau ar gyfer mwy, boed yn brosiect ynni llanw Morlais, yn ffermydd gwynt newydd ar y môr, neu'n forglawdd llanw posibl yng ngogledd Cymru neu Abertawe. Mae'r mathau hyn o ynni gwirioneddol adnewyddadwy yn golygu bod ynni niwclear yn dod yn fwyfwy diangen.

I grynhoi, mae arnom angen dull mwy strategol a gweledigaeth glir ar gyfer datgarboneiddio economi Cymru, gan sicrhau budd cymunedol, gyda thariffau a biliau is i bobl Cymru. Mae angen i ynni gael ei gynhyrchu wrth y ffynhonnell i oresgyn anawsterau o ran cael cysylltiad â'r grid ac mae angen i'r Llywodraeth ddatblygu grantiau i helpu trigolion unigol a chymunedau i leihau costau biliau a datblygu sgiliau gwyrdd a sicrhau pontio teg. Diolch. Edrychaf ymlaen at glywed eich cyfraniadau nawr.

15:45

Diolch, Carolyn. Felly, mae'n debyg y gallwn ddweud, 'A all ynni adnewyddadwy yn unig ddiwallu anghenion ynni Cymru?' ac fe ddywedaf, 'Ddim ar hyn o bryd, na'. Mae ar Gymru angen cyflenwad dibynadwy o ynni a dyna ni. Mae gennym argyfwng diogeledd ynni ar hyn o bryd. Mae angen i'r ynni hwnnw gael ei ddarparu drwy'r prosiectau ynni adnewyddadwy sydd gennym yn barod, y rhai rydym eisoes yn gweithio tuag atynt, megis Awel y Môr, Morlais, fel y nodoch chi, a ffynonellau ynni adnewyddadwy eraill. Ond gadewch inni wynebu ffeithiau, rydym angen ein nwy o hyd. Mae angen LPG arnom o hyd ar gyfer rhai tai yn ein cymunedau gwledig na allant gael mynediad at unrhyw fathau eraill o ynni. Mae angen llosgwyr coed ac olew arnom o hyd.

Rwy’n anghytuno â chi ynglŷn ag ynni niwclear. Yn sicr, bu Virginia Crosbie, cyn-Aelod Seneddol Ynys Môn, yn gweithio’n galed iawn, a gwnaeth Llywodraeth Geidwadol y DU gynnydd sylweddol tuag at ddatblygu gorsaf ynni niwclear newydd ar Ynys Môn. Mae gennym orsaf Trawsfynydd hefyd, ac mae potensial yno i honno fod yn rhan bwysig o'r model hwn. [Torri ar draws.] Gallwch ymyrryd os mynnwch, Rhun.

Parhewch, Janet Finch-Saunders. Anwybyddwch unrhyw fwmian.

Fe wnaethom gyflwyno model ariannu newydd, ac fe wnaethom brynu safle Wylfa. Wedi wyth mis o dan Lywodraeth Lafur newydd y DU, ymddengys bod y momentwm ar ynni niwclear yn Wylfa wedi’i golli. Dylai’r Senedd hon, a'r Llywodraeth yn wir, anfon neges glir heddiw at Lywodraeth y DU fod angen diweddariad clir arnom o ba gamau y maent wedi’u cymryd i ddenu buddsoddiad i Wylfa.

Rwy'n credu y gallai gymryd 15 mlynedd i gael caniatâd cynllunio yn unig. Mae Hinkley a Sizewell mor bell ar ei hôl hi, a thros gyllideb i'r fath raddau, yn cymryd blynyddoedd i’w hadeiladu, ac mae’n costio £43 biliwn nawr, rwy'n credu, ar gyfer un safle. Felly, gallai gymryd 20 mlynedd, 25 mlynedd, i ddod yn weithredol, a biliynau o bunnoedd o arian nad oes gennym. Mae EDF yn sybsideiddio'r gwaith adeiladu hwnnw hefyd. A ydych chi'n credu bod hynny'n rhwystr, wrth symud ymlaen?

Yn sicr, mae’n ymwneud â mwy na darparu’r ynni'n unig. Mae a wnelo â darparu'r swyddi y mae eu hangen yn ddirfawr ar Ynys Môn. Ond beth bynnag, rwy'n credu bod angen inni anfon neges glir heddiw—

Ar y pwynt hwnnw, mae'n wirioneddol bwysig cofio beth a ddigwyddodd yma. Mae safbwyntiau gwahanol ar ynni niwclear, ond methodd y prosiect hwnnw am fod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi methu ei gyflawni. Ac mae Carolyn yn llygad ei lle—fe gymerodd gymaint o amser i gyrraedd y pwynt hwnnw. Mae hynny oll wedi’i ddadwneud, sy’n ei gwneud yn bwysicach byth ein bod yn canolbwyntio ar yr holl agweddau eraill ar sut y gallwn greu swyddi a chynhyrchu ynni ar yr un pryd, mewn ffordd werdd, gan gadw llygad ar yr hyn y gellir ei wneud gydag Wylfa. Ond fe fethodd o dan y Torïaid.

Ni fethodd o dan y Torïaid. Fe fethodd am na chawsom ein hailethol i barhau â'r cynllun. [Torri ar draws.] Na.

Ochr yn ochr â’r cyflenwad sylfaenol o ynni a ddarperir gan ynni niwclear, fe allwn ac fe ddylem groesawu cyfleoedd ynni adnewyddadwy. Gyda’r holl afonydd a nentydd yng Nghymru, dylem weld prosiectau hydro bach a micro yn dechrau ledled y wlad. Fodd bynnag, mae buddsoddiad preifat yn y cynlluniau hyn yn cael ei atal am fod Llafur Cymru wedi tynnu'r tir o dan draed y rheini a oedd am i’r cynlluniau hyn fynd rhagddynt pan wnaethant ddechrau codi ardrethi busnes.

Ym mis Ionawr, cyflwynodd cyngor Rhondda Cynon Taf geisiadau cynllunio ar gyfer dau gynllun hydrodrydanol yn Nhrefforest. Mae ceisiadau o'r fath yn ysbrydoledig ac yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni ledled Cymru. Byddem yn gwerthfawrogi’n fawr y manylion ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn cydweithredu â holl awdurdodau Cymru i gyflwyno cynlluniau ynni dŵr newydd.

Mae potensial enfawr gydag ynni solar hefyd. Rwy'n cytuno â chi ynglŷn â'r adeiladau. Mae gennyf benaethiaid sydd wedi gofyn i mi yn Aberconwy, 'Pam na allwn gael paneli solar ar ein to? Byddai hynny wedyn yn rhoi ffurf rad iawn o ynni i ni ar gyfer yr ysgol'. Ond nid oes unrhyw frwdfrydedd gan Lywodraeth Cymru nac awdurdodau lleol i ganiatáu—[Torri ar draws.] Mae hyn yn mynd i fod yn hwyl.

15:50

Roeddwn yn mynd i gynnig, pe bai rhywfaint o arian grant ar gael gan y datblygwyr mawr hyn ar gyfer y prosiectau mawr, y gallai hwnnw fynd tuag at gynlluniau cymunedol fel gosod paneli solar ffotofoltaig ar ein hadeiladau cyhoeddus, tuag at gartrefi efallai ar sail arian grant—efallai y byddai hynny'n gweithio. A ydych chi'n credu bod hynny'n syniad da?

Ydw, ac a ydych chi'n cytuno, Carolyn, y dylai pob tŷ newydd gael paneli solar ar eu toeau? Rwyf wedi gweld dwy ystad newydd yn cael eu hadeiladu'n ddiweddar—dim un panel solar arnynt. Mae'n gyfle a wastraffwyd.

Mae Japan yn gwneud paneli solar ar dai newydd a godir gan gwmnïau adeiladu mawr yn ofynnol ar ôl mis Ebrill 2025. Beth arall y gallwn ei wneud i sicrhau bod paneli solar ar bob eiddo newydd yng Nghymru? Bydd ynni solar yn orfodol ar gyfer adeiladau cyhoeddus a masnachol newydd sy'n fwy na 250 metr sgwâr yn yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'r Sefydliad Ecoleg Gymhwysol wedi nodi capasiti ar gyfer ynni solar ger ffyrdd, dros feysydd parcio ac mewn ardaloedd diwydiannol yn yr Almaen. Ac rwy'n sylwi nawr fod Japan, yn hytrach na defnyddio paneli ffens, yn defnyddio paneli solar. Pe gallem gael y sgiliau yng Nghymru—. Yn amlwg, mae angen inni uwchsgilio ein gweithlu cyn bod unrhyw ran o hyn yn gyraeddadwy, ond dylai hynny fod yn nod i ni, dylai fod yn uchelgais i ni.

Mae angen iddynt fod ger ffyrdd, rheilffyrdd a thros feysydd parcio, nid o reidrwydd mewn caeau gwyrdd. Mae llawer o bobl yn y gymuned leol bellach yn ystyried bod ardaloedd gwledig hardd o Ynys Môn i wastadeddau Gwent dan fygythiad gan gaeau mawr agored sydd wedi'u gorchuddio â phaneli solar. Nid oes arnynt eisiau hynny. Mae perygl gwirioneddol y bydd y capasiti i gynhyrchu bwyd yn cael ei lesteirio, gan gynyddu dibyniaeth ar fewnforion. Ai dyna ein dymuniad ar gyfer y Gymru wledig? Dylai Llywodraeth Cymru oedi ceisiadau ar gyfer ynni solar ar ffermydd. Mae angen iddynt gynnal adolygiad o ynni solar ac mae angen iddynt ddatblygu strategaeth ynni solar.

Mae angen inni fod yn fwy uchelgeisiol gyda chynllun morlyn llanw. Gwn fod llawer o sgyrsiau yn mynd rhagddynt yn y gogledd ac mae cyn-gynghorydd rwy'n ei adnabod yno wedi gwneud llawer o waith ar hyn, ond eto, yn ei chael hi'n anodd cysylltu â Llywodraeth Cymru. Dyna oedd datganoli bob amser yn mynd i fod—fod Gweinidogion yn fwy hygyrch. Ond mae'r bobl hynny sy'n llunio cynlluniau da yn ei chael hi'n anodd gwneud hynny, ac felly mae angen inni fod â mwy o ben busnes fel Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy.

Mae angen inni edrych ar y cyfleoedd sydd i'w cael ar y môr. Mae'r cynnydd a wnaed gydag ynni gwynt i'w ganmol. Mae’r DU yn arwain y sector hwn yn fyd-eang. Yn ganolog i hyn mae proffesiynoldeb Ystad y Goron. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, am i’r sefydliad gael ei ddatganoli, ac maent wedi llwyddo i gael ambell awdurdod lleol i gytuno â hwy. [Torri ar draws.] Beth bynnag, diolch byth fod Llywodraeth Lafur Cymru yn synhwyrol yn hyn o beth, gan ei bod yn well gadael rhai pethau i fod. Os nad yw wedi torri, pam ceisio ei drwsio? A ydynt yn credu o ddifrif ei bod hi'n ddoeth creu sefydliad arall yng Nghymru a fyddai, yn seiliedig ar gost rheolwyr ac aelodau'r bwrdd yn yr Alban, yn costio dros £0.5 miliwn y flwyddyn?

Mae Ystad y Goron yn cyflwyno rowndiau prydlesu yn gynt nag erioed. O fewn blwyddyn i lofnodi’r cytundebau ar gyfer y bedwaredd rownd, roedd y bumed rownd wedi dechrau, ac mae Ystad y Goron yn gwario miliynau ar arolygu gwely’r môr i ganfod pa ardaloedd sydd fwyaf addas ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy. Yn hytrach na datganoli er mwyn datganoli—. A gadewch inni fod yn onest, byddai Plaid Cymru yn datganoli unrhyw beth a phopeth, gan eu bod am i Gymru fod yn annibynnol. Yr hyn y dylem ei wneud yw cydweithredu ag Ystad y Goron i greu cynllun gofodol cenedlaethol—[Torri ar draws.] Iawn.

15:55

Beth sydd gennych yn erbyn y syniad o Gymru yn cael rheolaeth dros ei hadnoddau naturiol ei hun?

Yn y pen draw, rydym yn cael arian i Gymru drwy Ystad y Goron, felly pam y byddech—? Yn bersonol, ni fyddwn am ei datganoli i Lywodraeth Lafur Cymru.

Yn hytrach na datganoli er mwyn datganoli a pheryglu’r rôl y mae Cymru’n ei chwarae yn y chwyldro ynni adnewyddadwy, yr hyn y dylem ei wneud yw cydweithredu ag Ystad y Goron i greu cynllun datblygu morol gofodol cenedlaethol i Gymru. Fel y mae’r Senedd wedi fy nghlywed yn dweud o’r blaen, byddai cynllun o’r fath yn debyg i gynlluniau datblygu lleol ar y tir, ac fel y cyfryw, byddem yn gweld map manwl o wely’r môr yn cael ei greu, yn nodi’n glir pa brosiectau all fynd i ble, a ble y gallwn gael ardaloedd gwarchodaeth wedyn ar gyfer adfer natur a’n rhywogaethau naturiol.

Rwyf wedi sôn am Morlais, ond hoffwn ymhelaethu. Fis diwethaf, cawsant newyddion gwych, wrth i brosiect Cydnerth gael ei gymeradwyo. Bydd yn diogelu cynllun ynni'r llanw Morlais at y dyfodol drwy fuddsoddi yn ei seilwaith, gan alluogi capasiti grid 18 MW y cynllun i gynyddu, dros amser, i ganiatáu’r 240 MW llawn. Bydd yr ehangu'n creu hyd at 230 o swyddi newydd a chyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi, gan ddiogelu lle'r rhanbarth yn y sector ynni llanw. Un o gryfderau allweddol Morlais yw'r model 'gosod a chwarae' y maent wedi'i ddatblygu. Er mwyn i ynni ffrwd lanw ddod yn fasnachol hyfyw, mae angen sicrwydd ar ddatblygwyr.

Heb Morlais, byddai’n rhaid i ddatblygwyr technoleg unigol ymdrin â chymhlethdodau caniatâd cynllunio, trwyddedu morol a chysylltiadau â'r grid trydan ar eu pen eu hunain. Drwy sicrhau’r caniatâd hwn ymlaen llaw, mae Morlais bellach wedi cael gwared â llawer o’r risgiau a allai arafu neu hyd yn oed atal buddsoddiad yn y sector fel arall. Mae hyn yn golygu y gall datblygwyr ganolbwyntio ar arloesi, gan ehangu eu technoleg, yn hytrach na gorfod ymdrin â phrosesau rheoleiddio cymhleth o'r dechrau.

Rwy'n gobeithio y gall Senedd Cymru, a Llywodraeth Cymru yn wir, ddysgu ac annog mwy o fodelau gosod a chwarae o'r fath. Yn wir, mae gan sawl safle o gwmpas Cymru gerhyntau llanw cryf tebyg, gan gynnwys Penmaen Dewi, Ynys Enlli a rhannau o afon Hafren. Rwy'n gobeithio fy mod wedi llwyddo i dynnu sylw at y cyfleoedd sylweddol ar gyfer ynni adnewyddadwy yng Nghymru, a dylid eu datblygu ochr yn ochr â chyflenwad sylfaenol o ynni niwclear. Ond ar hyn o bryd, rydym mewn argyfwng diogeledd ynni, ac mae angen ein tanwyddau ffosil. Diolch.

Mae hon yn ddadl i’w chroesawu. Rwy'n credu inni weld yn y sesiwn flaenorol, mewn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, y diddordeb sydd gan y Siambr mewn ynni. Yn benodol—a soniodd Carolyn am hyn yn ei sylwadau agoriadol—rwy'n credu bod elfen brisio parthol polisi Llywodraeth y DU yn rhoi cyfle i ni nawr i wneud pethau'n iawn ac i wneud rhywbeth a fydd o fudd i ddefnyddwyr a'r diwydiant drwy sicrhau biliau trydan rhatach. Ond dyna'r peth pwysig yma: mae angen inni wneud pethau'n iawn.

Ar hyn o bryd, y perygl yw y byddwn yn gweld lleoedd yng Nghymru yn cael eu paru â rhai o’r ardaloedd hynny lle mae galw mawr am ynni fel Llundain a Birmingham, na fyddant o fudd i bobl yng Nghymru, a byddwn yn gweld biliau ynni’n cynyddu. Felly, unwaith eto rwy'n gwneud y pwynt efallai fod angen meddwl am hyn yn fanylach. Rwy’n deall, wrth gwrs, beth y gallai rhai o’r canlyniadau anfwriadol y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet atynt fod mewn parth Cymru yn unig, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni gael y drafodaeth honno a’i chael yn iawn.

Cododd Jenny Rathbone, yn ei chwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet, bwynt pwysig iawn, sef pan fyddwn yn edrych ar bris ynni, mae'r ffaith ei fod yn ddibynnol ar bris tanwydd ffosil, sef nwy yn ein hachos ni, yn cyfyngu ar ein gallu i ddangos budd yr hyn y mae ynni adnewyddadwy yn ei olygu i bobl yn eu biliau ynni. Felly, unwaith eto, dyma gyfle inni wneud pethau'n iawn, ond mae gwir angen inni wneud hyn yn iawn. Ond yn benodol, ar ynni adnewyddadwy—

16:00

I adeiladu ar hynny, hynny yw, un o'r pethau gwrthnysig am y system bresennol, sy'n system hynod ganolog, yw mai'r hyn sy'n digwydd, pan fydd y galw yn y canol yn cyrraedd lefel benodol, yw bod cynhyrchiant ynni sydd ymhellach i ffwrdd o hynny yn cael ei ddiffodd mewn gwirionedd. Felly, maent yn diffodd—. Mae capasiti ynni adnewyddadwy sy'n cynhyrchu yng Nghymru yn cael ei ddiffodd yn hytrach na'i fod ar gael i ddefnyddwyr lleol am bris rhatach. Mae'n hollol hurt. Felly, i bob pwrpas, nid yw gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd o gynhyrchiant ynni gwastraff ar gael i'w ddefnyddio er budd dinasyddion Cymru ar hyn o bryd, oherwydd y system ganolog.

Rwy'n cytuno'n llwyr. Unwaith eto, mae'n dod i'r pwynt yr oeddwn yn ei wneud am yr angen i fynd i'r afael â rhai o'r materion strwythurol hynny yn y system ynni hefyd. Nid yw'r ffaith eich bod chi'n diffodd cynhyrchiant ynni adnewyddadwy am gyfnodau estynedig o amser yn gwneud synnwyr. Mae'r holl fuddsoddiad yn cael ei wastraffu, a'r ffaith y gallai'r ynni hwnnw wedyn fod wedi cael ei roi i bobl yn lleol ac am bris rhatach—nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr.

A gaf i ofyn i chi—? Rydym yn edrych ar brisio parthol, ond eisoes, mewn ffordd, mae gennym brisiau gwahanol, onid oes, gyda'r tâl sefydlog sy'n cael ei dalu—tâl sefydlog uchel iawn—yng ngogledd Cymru? A phris yr uned hefyd. Felly, mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod sut y gallwn ei wneud, oherwydd mae angen inni weld budd i'r bobl yr effeithir arnynt. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu trafod hyn yn y dyfodol ac na chaiff penderfyniadau eu gwneud ar ein cyfer, ac y gallwn ni gael mewnbwn. A dyna pam roeddwn i eisiau dod â'r ddadl heddiw, y prynhawn yma. Felly, hoffwn wybod sut y gallwn gael cyfathrebu yn y dyfodol ynglŷn â hynny—mewnbwn mewn unrhyw drafodaethau.

Ie, ac rwy'n gobeithio bod y ffaith ein bod wedi treulio pedair munud cyntaf fy nghyfraniad yn sôn am brisio parthol a phrisio ynni yn brawf i Ysgrifennydd y Cabinet fod diddordeb mawr yn hyn a bod llawer o gyfle yma yn ei thrafodaethau â Llywodraeth y DU i gael sgyrsiau, nid yn unig o fewn y Llywodraeth, ond y tu allan i'r Llywodraeth, ynglŷn â sut i wneud hyn yn iawn, ac edrychaf ymlaen at y sgyrsiau hynny. I fod yn deg, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y sgyrsiau hynny, felly edrychaf ymlaen at yr elfen honno.

Yn benodol ar yr ochr ynni adnewyddadwy i bethau fodd bynnag, un o fy mhryderon, a bod yn onest, ynglŷn â gweld y ddadl hon yn cael ei chyflwyno yw ein bod yn mynd i glywed yr un math o bethau yn cael eu dweud dro ar ôl tro. Hynny yw, fe'i clywsom yn y cyfraniad cyntaf gan Janet Finch-Saunders, mae'n debyg y byddwn yn ei glywed mewn cyfraniadau eraill hefyd, sef ein bod ni'n dweud, 'Wel, mae angen inni wneud y peth hwn, mae angen inni wneud y peth arall' ac yn y blaen. Rwy'n credu bod angen inni symud ymlaen o hynny nawr a dweud, 'Ssut mae gwneud y pethau y dywedwn fod angen inni eu gwneud?', oherwydd nid yw hynny wedi digwydd.

Rwy'n credu bod angen ymdeimlad cliriach o gyfeiriad neu strategaeth gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â beth yn union y ceisiwn ei gyflawni gyda pholisi ynni. Nawr, mae gennym yr egwyddor ganolog, sef datgarboneiddio Cymru a datgarboneiddio'r economi. Digon teg, ond efallai fod angen inni ddechrau meddwl ychydig yn ddyfnach nawr. Beth a wnawn gyda'r ffaith, er enghraifft, fod Cymru'n allforiwr ynni? Beth yw rhan hynny yn ein polisi ynni a'n strategaeth ynni yn y dyfodol? Ac i fod yn deg â Llywodraeth Cymru, mae cyfyngiadau mawr ar adnoddau. Clywsom eto yn y cyfraniad blaenorol, ac yng nghyfraniad Carolyn, am yr holl brosiectau gwahanol sydd ar gael—morlyn llanw bae Abertawe; rydym wedi siarad am hydrogen, niwclear. Ond i fod yn deg â Llywodraeth Cymru, ni all y Llywodraeth gamu i'r adwy ar bob un o'r prosiectau hyn. Felly, rwy'n credu y byddai sgwrs ehangach yn fuddiol efallai, yn gofyn 'Beth yr hoffem arbenigo ynddo? Beth rydym ni eisiau canolbwyntio o ddifrif arno?' A ydym am ganolbwyntio ar wynt ar y môr, er enghraifft, a gwneud y buddsoddiadau yno a dod yn symudwyr cyntaf gyda chynhyrchu gwynt ar y môr a'r holl fanteision sy'n dod gyda hynny ar y llwyfan rhyngwladol? A ydym eisiau canolbwyntio ar hydrogen? Mae potensial mawr i hydrogen, yn enwedig yng ngorllewin Cymru, gyda'r prosiectau sydd ar y gweill yno, yn ogystal â'r biblinell a fyddai'n mynd i lawr coridor yr M4, a fyddai'n cael effaith wedyn ar leoedd fel Port Talbot, lle gallem archwilio rhai sgil-gynhyrchion fel dur hydrogen, er enghraifft. Felly, rwy'n credu bod achos dros feddwl, 'A ydym eisiau arbenigo mewn rhywbeth? A ydym am i Gymru gael ei hadnabod am fath penodol o gynhyrchiant ynni a datblygu'r dechnoleg honno?' Hoffwn glywed barn yr Aelodau.

O edrych ar yr amser, fe gadwaf at siarad am fudd cymunedol ynni, oherwydd y gwir amdani yw bod angen inni ddod â chymunedau gyda ni ar y pwynt hwn. Rydym yn ei weld dro ar ôl tro yn ein hetholaethau lleol, pan fydd prosiectau'n cael eu cyflwyno ar gyfer cynhyrchu ynni ar raddfa fawr, maent yn aml yn wynebu llawer o wrthwynebiad lleol. Rwy'n credu y gallwn gyfarfod â phobl hanner ffordd mewn rhai achosion. Lle rydym yn edrych ar beth o'r arian cymunedol sydd ar gael—ac rydym wedi gwneud gwaith ar hyn ym Mhwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig—lle mae cronfeydd cymunedol ar gael, efallai y dylem fod ychydig yn fwy strategol ynglŷn â sut y defnyddiwn yr arian hwnnw, a'i ddefnyddio i ddatrys rhai o'r materion eraill sydd gennym mewn cymdeithas. Felly, er enghraifft, mae ôl-osod tai, gwneud tai'n gynhesach, gwell insiwleiddio, a rhoi paneli solar ar doeau tai i helpu, unwaith eto, i ostwng biliau ynni i bobl, yn un o'r atebion y gallwn eu canfod. [Torri ar draws.] Ie, Joyce.

16:05

Pan fyddwn yn siarad am baneli—ac rwy'n cytuno'n llwyr y dylem eu rhoi ar adeiladau—rwy'n credu bod cyfle yma i wneud defnydd o grantiau i fusnesau fel ein bod, pan fydd busnesau'n gwneud cais am grantiau i ymestyn eu busnes, yn gosod gofyniad ochr yn ochr â hynny fod hwnnw'n gais cyfalaf i roi paneli solar arno. Rwy'n meddwl yma am gymuned wledig. Felly, yn aml iawn rydym yn rhoi grantiau i fusnesau sy'n gweithredu yn y cymunedau gwledig hynny; gallent fod yn ffermydd, gallent fod yn adeiladau eraill sy'n cael eu codi, ac mae cyfle go iawn, yn fy marn i, ichi osod ffocws ochr yn ochr â llwyddiant y grant ar roi atebion ynni gwyrdd i mewn. A bydd hynny'n gwneud llawer o bethau. Bydd yn helpu'r busnes i gael ynni rhad iawn i redeg eu cynhyrchiant, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac mae ffermio'n enghraifft dda iawn o hynny, a hefyd, efallai, i redeg eu cerbydau, eu ceir, eu hoffer arall. Felly, rydym yn cael gwell defnydd o'r arian cyhoeddus sy'n mynd i mewn i hynny, oherwydd arian cyhoeddus ydyw yn y pen draw, pan fyddwch chi'n rhoi grant, a hefyd atebion gwell i'r bobl sydd angen yr help hwnnw.

Ie, ac rwy'n credu mai un o'r pethau gorau am y ffaith y gallwn helpu busnesau i gynhyrchu eu ynni eu hunain ar y safle neu eiddo domestig yn cynhyrchu ynni ar eu safle eu hunain yw ein bod yn eu hinswleiddio hefyd rhag rhai o'r siociau prisiau a welsom dros y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n gwybod am un neu ddau o fusnesau, nid yn unig yn fy rhanbarth i ond y tu allan i fy rhanbarth hefyd, sydd â galw uchel am ynni mewn gweithgynhyrchu, rhai ohonynt mewn bwyd a diod, a fyddai wedi elwa'n enfawr ac a fyddai wedi hoffi gweld rhyw fath o grant neu ryw fath o gymorth gan y Llywodraeth i allu cynhyrchu eu hynni eu hunain i wrthbwyso eu biliau ynni. Fel y gwyddom, mae pris ynni wedi bod yn un o'r gorbenion busnes mwyaf dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf; nid ydym wedi gwneud digon i fynd i'r afael â phethau'n ymwneud â hynny.

Unwaith eto, rwy'n edrych ar yr amser, Lywydd. Fe wnaf orffen drwy ddweud fy mod ychydig yn ddryslyd ynglŷn â'r sylw a wnaed gan Janet Finch-Saunders am Ystad y Goron ac ymagwedd synhwyrol Llywodraeth Cymru, oherwydd y tro diwethaf imi edrych, roedd Llywodraeth Cymru yn cefnogi datganoli Ystad y Goron. O na bai Llywodraeth y DU yn dod gyda Llywodraeth Cymru ar y daith honno.

Ar y gronfa gymunedol y soniais amdani a'u defnyddio mewn ffordd well, wel, rwy'n credu bod y gronfa gyfoeth sofran y gallem ei chael o ddatganoli Ystad y Goron yn bwysig iawn hefyd i fynd i'r afael â rhai o'r materion ehangach hynny mewn cymdeithas. Ac unwaith eto, fe wnaethom edrych ar ôl-osod. Gallwn edrych hefyd ar yr agenda sgiliau, oherwydd, unwaith eto, i gyflawni llawer o'r prosiectau ynni adnewyddadwy yr ydym am eu cyflawni, mae angen i bobl yng Nghymru gael sgiliau i allu gweithio ar safleoedd o'r natur honno. Felly, ar y nodyn hwnnw, Lywydd, fe ddof i ben. Diolch.

Rwy'n falch iawn fod cynnig Carolyn Thomas ar sut yr awn ati i ddiwallu anghenion ynni Cymru wedi'i ddewis fel ein pwnc cyntaf ar gyfer y ddadl agored, ac rwy'n credu ei bod eisoes wedi bod yn drafodaeth wirioneddol werth chweil a meddylgar am fater cymhleth ac amserol. Yn ddiweddar gwelsom yr effaith y gall bod yn ddibynnol ar bris byd-eang tanwydd ffosil ei chael ar ein cartrefi ac ar ein busnesau, a dyna pam y mae cael ffynhonnell ynni ddibynadwy a gwyrdd yn hollol hanfodol ar gyfer ein diogeledd ynni, ac mae'n hanfodol i sefydlogrwydd ein heconomi a'n cymdeithas ehangach yn y dyfodol.

Rydym wedi gosod y weledigaeth i Gymru bontio i system ynni sero net mewn ffordd sy'n creu mwy o fanteision i'n heconomi a'n cymdeithas na'r system sydd gennym heddiw, ac elfen hanfodol o hyn yw pontio i ynni adnewyddadwy a'i ehangu. Felly, rydym wedi gosod yr uchelgais i Gymru gynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein defnydd o drydan erbyn 2035, ac yna i gadw i fyny â'r twf yn y galw wedi hynny. Ac mae hwn yn darged uchelgeisiol iawn, oherwydd gwyddom y bydd y galw am drydan yn tyfu'n sylweddol wrth i'n cartrefi, ein trafnidiaeth, a'n busnesau a'n prosesau diwydiannol symud oddi wrth danwydd ffosil. Rydym hefyd yn gwybod y bydd angen amrywiaeth o dechnolegau arnom i gyrraedd y targed hwn. Bydd angen mwy o wynt ar y tir, mwy o solar, ac mae angen inni barhau i weld ynni adnewyddadwy ar y môr, yn ynni gwynt ac ynni'r llanw, yn cael ei roi ar waith yn gyflym.

Mae'r Prif Weinidog wedi gwneud y chwyldro ynni gwyrdd yn flaenoriaeth. Yn ystod y chwe mis diwethaf yn unig mae 10 datblygiad, sy'n cynhyrchu dros 459 MW, wedi cael cymeradwyaeth. Mae hynny'n ddigon i bweru 230,000 o gartrefi yng Nghymru. Felly, rydym yn bendant yn cyflawni. Rydym yn gwneud i bethau ddigwydd. Fel y mae cyd-Aelodau eraill wedi nodi, ni all Llywodraeth Cymru wneud hyn i gyd ar ei phen ei hun. Mae angen mewnbwn gan y sector preifat arnom yn bendant. Felly, dyna pam ein bod yn sefydlu amgylchedd sy'n ffafriol i ddatblygiad, ond un lle gallwn gadw'r manteision yng Nghymru, a lle mae gan ein cymunedau lais. Felly, dyna rai o'r rhesymau pam ein bod wedi symleiddio'r broses gynllunio, ac rydym wedi darparu adnoddau ychwanegol i gyrff sy'n cydsynio. Rwyf hefyd wedi sefydlu'r grŵp gorchwyl a gorffen ar wynt ar y môr i nodi'r camau y mae angen inni eu cymryd i sicrhau buddion economaidd parhaol i Gymru o'r cyfleoedd sylweddol y mae gwynt ar y môr yn eu rhoi inni.

Ond rydym hefyd yn gwybod na all ein system ynni yn y dyfodol yng Nghymru ddibynnu ar ynni adnewyddadwy yn unig, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni'r uchelgais ar gyfer pŵer glân erbyn 2030. Mae'r dadansoddiad y mae'r Gweithredwr Systemau Ynni Cenedlaethol, NESO, wedi'i wneud yn dangos, yn debyg i'n targed ni, y gallwn ddarparu digon o ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion, ond mae angen capasiti anfon ar gyfer adegau pan na all ffynonellau adnewyddadwy gynhyrchu digon o gyflenwad ar gyfer adegau o alw brig eithafol. Felly, ddydd Llun roeddwn yn falch iawn o ymweld â SAE Renewables a'u prosiect storio batri 120 MW yng Nghasnewydd, ac mae gan y cyfleuster hwn botensial i ddarparu rôl ganolog wrth reoli'r galw brig trwy storio trydan a gynhyrchir yn adnewyddadwy i'w anfon i'r grid pan fo angen. Mae'r dadansoddiad NESO wedi dangos y gofyniad am gynnydd sylweddol mewn capasiti storio i helpu i reoli system ynni adnewyddadwy.

Nid wyf yn derbyn y cyhuddiad a wnaed y prynhawn yma nad ydym yn hygyrch i'r diwydiant ynni adnewyddadwy. Byddwn i'n dweud mai'r gwrthwyneb sy'n wir. Mae Llywodraeth Cymru yn treulio llawer iawn o amser yn ymgysylltu â'r sector ynni adnewyddadwy, ac mae ein drws bob amser ar agor. Os na allaf fynd i ymweld a chyfarfod â sefydliadau a datblygwyr fy hun, rwy'n sicrhau bod swyddogion yn cyfarfod â hwy'n gyflym iawn. Mae honiad arall y mae'n rhaid i mi wthio nôl arno y prynhawn yma yn ymwneud â chefnogaeth i Morlais. Mae Morlais yn brosiect gwych. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd cyfran ecwiti o £8 miliwn ynddo, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod bod y prosiectau hyn yn digwydd oherwydd cefnogaeth Llywodraeth Cymru, naill ai cymorth ariannol neu'r amgylchedd cefnogol y ceisiwn ei ddarparu trwy gynllunio, ond gan sicrhau hefyd fod gan sefydliadau a busnesau y sgiliau sydd eu hangen arnynt i'w datblygu.

16:10

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd da iawn wrth weithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu set o gynlluniau ynni lleol i fapio, yn fanwl, y galw a'r cyflenwad ar lefel leol. Tybed a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y cynnydd tuag at gynnwys Cymru gyfan yn y cynlluniau ynni lleol hynny. Ac roedd ymrwymiad hefyd i ddatblygu cynllun ynni cenedlaethol erbyn diwedd y llynedd. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â ble rydym arni gyda hynny hefyd, os gwelwch yn dda?

Mae'r cynlluniau ynni lleol hynny gennym yn llawn, ac rwy'n credu bod hynny'n gwneud rhannau eraill o'r DU yn eiddigeddus ohonom, ac rydym yn sicr yn gweithio i sicrhau bod ein cynllun cenedlaethol yn cyd-fynd â'r cynlluniau a nodwyd gennym trwy ein proses gynllunio ac yn y blaen, i wneud yn siŵr fod y ddau beth yn cyd-fynd. Rwy'n credu bod yn rhaid ystyried y dull rhanbarthol hefyd, i archwilio beth arall y gallem ei wneud yn y dyfodol trwy gyd-bwyllgorau corfforedig, a deall eu rôl bosibl yn y gofod hwn yn y dyfodol. Felly, rwy'n credu bod llawer mwy y gallwn ei wneud yn y gofod hwn, ond o ran ein cynlluniau lleol, rwy'n credu ein bod mewn lle da bellach, ac mae hynny oherwydd y gwaith da y buom yn ei wneud gyda'n partneriaid llywodraeth leol, sydd wedi ymrwymo'n llwyr i'r agenda benodol hon hefyd.

Gan ein bod yn newid yn sylfaenol y ffordd yr awn ati i gynhyrchu a defnyddio ynni, rydym wedi cyd-gomisiynu NESO i ddatblygu'r cynllun ynni gofodol strategol. Nod y cynllun hwnnw yw datblygu'r system gost leiaf i gyrraedd sero net, ac mae hynny'n bwysig i bob un ohonom, er mwyn sicrhau bod gennym system effeithlon sy'n ystyried cost cynhyrchu, a'n blaenoriaethau gofodol ehangach yn ogystal, gan gynnwys adfer natur, ac sy'n cyd-fynd â'r pwynt a wnaed nawr gan Lee Waters. Felly, er y byddwn yn gweld newidiadau mawr yng Nghymru, rydym hefyd yn gwybod y bydd angen y pŵer anfon o gynhyrchiant pŵer nwy o hyd. Ond yr hyn rydym am ei weld yng Nghymru yw'r buddsoddiad a fydd yn cefnogi datgarboneiddio'r cyfleusterau hynny, a dyna pam ein bod wedi ymgynghori ar ein dull o ddal, defnyddio a storio carbon yng Nghymru, ac rydym yn cytuno â'r Pwyllgor Newid Hinsawdd fod dal, defnyddio a storio carbon yn anghenraid yn ein dyfodol, a dyna pam y mae ein dull o weithredu yn darparu fframwaith clir sy'n cefnogi dal, defnyddio a storio carbon, ond—dyma'r rhan bwysig—dim ond mewn sefyllfaoedd lle mae'n cyfrannu at ddatgarboneiddio.

Rydym hefyd eisiau gweld buddsoddiad mewn hydrogen carbon isel yng Nghymru, ac mae gennym arloesi gwych yn digwydd ym maes defnyddio hydrogen ledled Cymru, gan gynnwys treialon cartrefi hydrogen a'n hybiau hydrogen yng ngogledd a de Cymru. Bydd gan hydrogen ran bwysig i'w chwarae wrth ddatgarboneiddio diwydiant a sectorau allweddol eraill sy'n anodd eu datgarboneiddio, ac rydym am ddenu'r buddsoddiad hwnnw i Gymru. Rydym eisiau gweld—

16:15

Mae'n ddrwg gennyf, fe gymerodd eiliad imi brosesu'r hyn a ddywedoch chi am ddal, defnyddio a storio carbon. Dim ond pan ellir dangos ei fod yn cyfrannu tuag at leihau carbon meddech chi. Ond wrth gwrs, fe allech chi ddadlau nad oes dim ohono'n gwneud hynny, oherwydd mae carbon yn dal i gael ei gynhyrchu.

Mae'r ymgynghoriad a gyhoeddais—yn ôl ym mis Tachwedd, rwy'n credu—yn nodi ein dull polisi arfaethedig. Mae'r ymgynghoriad bellach ar gau, ac rydym yn ystyried yr ymatebion hynny. Ond roedd yr ymgynghoriad yn ymwneud â defnyddio'r dechnoleg hon mewn amgylchiadau lle mae'n arwain at ddatgarboneiddio yn unig. Felly, fe wyddom fod yna rai sectorau sy'n anodd iawn eu datgarboneiddio—cynhyrchu sment, er enghraifft. Nawr, mae sment yn sylwedd sylfaenol y bydd ei angen arnom ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith ac yn y blaen. Ac os ydym eisiau sment ar gyfer y seilwaith, mae'n rhaid inni ei wneud mewn ffordd sy'n arwain at ei ddatgarboneiddio. Felly, dyna enghraifft o un o'r sectorau sy'n anodd eu datgarboneiddio.

Defnyddir sment ar gyfer concrit, ond erbyn hyn mae gennym dechnolegau'n datblygu lle gallwch ddefnyddio concrit di-sment. Mae ffatri newydd gael ei hadeiladu yn Wrecsam. I ddal a storio carbon, rhaid ichi adeiladu cyfleusterau mawr wrth ochr rhai newydd, ac mae adeiladu'r ffatrïoedd hynny wrth eu hochr, y simneiau i ddal carbon, yn mynd i gymryd llawer o gynllunio a llawer o adeiladu seilwaith, a bydd yn cymryd amser. Ac yna mewn rhai achosion, fel gyda HyNet, maent yn mynd i orfod adeiladu pibell, a fydd yn mynd trwy gymunedau—rwy'n meddwl bod honno'n 32 km o hyd—i gysylltu â'r llall. Felly, mae hynny'n mynd i ryddhau carbon hefyd. Unwaith eto, mae'n rhyddhau carbon i adeiladu, ac yna mae rhoi'r bibell i mewn yn mynd i gael effaith hefyd gyda charbon. Felly, a yw hynny'n rhan o weithio'r cyfan allan, a'r carbon sy'n cael ei gynhyrchu, a yw hynny—yr holl waith adeiladu—yn rhan o'r cyfrifiadau yn ogystal?

Ddoe, lansiwyd prosiect carbon deuocsid Aberdaugleddau yn y Senedd ac mae hwnnw'n edrych ar sut y gall RWE ddatgarboneiddio ei weithrediadau trwy ddefnyddio dal a storio carbon, ond mae eu model yn edrych i raddau helaeth ar atebion nad ydynt yn biblinellau. Felly, ar hyn o bryd, rydym yn gweithio i geisio ymrwymiadau gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â dulliau nad ydynt yn biblinellau, a fyddai'n flaenoriaeth yn yr ardal honno, ac rydym yn gobeithio cael ymateb i Lywodraeth y DU i'w galwad am dystiolaeth ar hyn yn fuan iawn.

Felly, i symud ymlaen at fod eisiau gweld y trawsnewid sy'n cyflymu twf yng Nghymru a dod â swyddi a chyfleoedd newydd ar gyfer gweithrediadau yn y dyfodol, mae hyn yn ymwneud â chynnal y budd hwnnw yma yng Nghymru. Ers amser, mae ein polisïau wedi cefnogi dull lle mae seilwaith ynni'n cael ei ddatblygu gyda chymunedau, ac mae'n ffafrio perchnogaeth leol yn benodol. Dyna pam rwy'n falch ein bod eisoes wedi cyflawni ein targed perchnogaeth leol o 1 GW erbyn 2030 a'n bod am gyflawni o leiaf 1.5 GW o gynhyrchiant ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol erbyn 2035. Rydym hefyd yn cydnabod bod gan fusnesau unigol ac aelwydydd eu rôl i'w chwarae a'r cyfle i elwa o ynni adnewyddadwy ar eu safleoedd. Trwy ein rheoliadau adeiladu, mae gennym ofyniad i gartrefi ac eiddo annomestig leihau eu hallyriadau carbon yn y dyfodol, a byddwn yn ceisio cynyddu hynny yn y blynyddoedd i ddod.

16:20

Fe wnaethoch chi sôn am y targed perchnogaeth leol o 1 GW, ond ochr yn ochr â hwnnw, yn 2020, fe wnaethoch chi gyflwyno polisi a oedd yn dweud bod yn rhaid i bob prosiect adnewyddadwy yng Nghymru gynnwys elfen o berchnogaeth leol. A allwch chi roi syniad i ni pa mor llwyddiannus y buoch chi gyda hynny? Pa gyfran, yn fras, o brosiectau adnewyddadwy sydd wedi cael cyfran o berchnogaeth leol ers cyflwyno'r polisi bum mlynedd yn ôl?

Yn anffodus, nid oes gennyf y ffigurau hynny ar flaenau fy mysedd, ond fe wnaf yn siŵr fy mod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Adam Price ar hynny cyn gynted ag y gallaf, oherwydd, fel y dywedais, mae perchnogaeth leol yn rhywbeth yr ydym wedi'i ffafrio'n fawr ers amser maith.

Rwy'n meddwl tybed pa mor hael y bydd y Llywydd o ran—

Rwy'n teimlo'n hynod o hael y prynhawn yma, felly parhewch hyd nes eich bod wedi rhedeg allan o bethau i'w dweud. 

Iawn, mae'n well imi fod yn ofalus. O'r gorau. Parhewch hyd nes y byddaf i'n dweud. 

O'r gorau. Felly, fe wnaf barhau, ond nid wyf am gyfeirio at bethau y siaradais amdanynt eisoes yn ystod y cwestiynau llafar y prynhawn yma, oherwydd rwy'n gwybod, mewn cwestiynau y prynhawn yma, ein bod wedi cael trafodaeth eithaf trylwyr am Ynni Cymru, er enghraifft. Ond rwyf am dynnu sylw at waith Banc Datblygu Cymru. Maent yn treialu cynllun benthyciadau i gefnogi aelwydydd yng Nghymru i ddatgarboneiddio eu cartref, ac rwy'n credu ei fod yn gadarnhaol iawn. A bydd cyd-Aelodau'n gyfarwydd iawn â'r gwaith a wnawn drwy Trydan Gwyrdd Cymru yn ogystal i geisio sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o'n hasedau tir Llywodraeth Cymru ac yn archwilio sut y gallwn ddad-risgio, os mynnwch, y cyfleoedd i fuddsoddi ar ystad Llywodraeth Cymru drwy sicrhau bod safleoedd yn barod i fynd a'n bod yn gwneud y mwyaf o'r gwerth yr ydym yn ei gadw yng Nghymru. Ac mae Trydan Gwyrdd Cymru eisoes wedi bod yn cynnal ymgynghoriadau ar yr hyn y byddai cymunedau'n ei weld yn dderbyniol o ran buddion cymunedol, oherwydd credwn y gallwn fabwysiadu agwedd newydd tuag at fanteision cymunedol yn y gofod hwnnw. Ac mae angen meddwl ai'r gymuned leol benodol iawn a olygir neu a oes manteision y byddem am eu gweld ledled Cymru gan gwmni sy'n eiddo i Gymru. Felly, mae'r holl bethau hyn yn ddatblygiadau cyffrous sy'n digwydd ar hyn o bryd.

Ac wrth gwrs, mae gennym gyfle i ddarparu swyddi gwyrdd. Mae'r strategaethau ynni rhanbarthol wedi nodi dros 200,000 o swyddi newydd ar draws ein rhanbarthau o'r cyfleoedd buddsoddi. Mae'r gwaith ar gynlluniau ardal leol, y buom yn sôn amdanynt yn gynharach, bellach wedi nodi'r prosiectau a'r camau y mae angen inni eu cymryd er mwyn darparu'r swyddi hynny ym mhob ardal leol. Felly, unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth cyffrous iawn. 

Felly, yn ogystal â swyddi, bydd dod â'r ynni cost isaf hefyd yn hanfodol wrth inni fynd i'r afael â thlodi tanwydd a sicrhau economi gynaliadwy. Ac rydym yn gweithredu nawr, felly mae'r pethau y siaradais amdanynt yn gamau yr ydym yn eu cymryd nawr. Rydym yn cyflawni ar lawr gwlad i sicrhau bod cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol yn elwa o'r buddsoddiad sydd ei angen. A hefyd, drwy ein dull o reoli ein hadnoddau naturiol, rydym hefyd am sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur sy'n wynebu Cymru. 

Yn 2015, fe ymwelais i ac aelodau eraill o'r pwyllgor amgylchedd ar y pryd â Baden-Württemberg. Rwy'n meddwl bod Llyr Gruffydd yn un ohonynt. Ac ymhlith y cynlluniau ynni cymunedol gwych a welsom, fe wnaethom ymweld â phentref bach y tu allan i Freiburg gydag oddeutu 300 neu 400 o ddinasyddion ar y mwyaf. Roedd ganddynt 50,000 o gwsmeriaid ar gyfer yr ynni adnewyddadwy yr oeddent yn ei gynhyrchu o wynt, dŵr, solar a biomas. Nid yw hynny'n bosibl o dan y rheoliadau yr ydym ni'n dal i fyw oddi tanynt. Mae'n cael ei wneud yn anodd iawn i unrhyw fenter fach ddechrau ar hyd y llinellau hynny. Ac fe welsom hynny mewn pentrefi eraill hefyd, lle roedd cynlluniau hydro a ffyrdd eraill y gallem fynd i'r afael â hyn. Felly, rydym yn bell iawn o ble mae angen inni fod ar hynny. Ond er gwaethaf yr holl ymdrechion ar lefel gymunedol, mae'n eironig nad yw'r Almaen wedi gallu diffodd ei gorsafoedd pŵer glo. Oherwydd ei fod wedi diffodd ei holl orsafoedd pŵer niwclear ar ôl Chernobyl—am resymau da iawn—nid yw'n gallu diffodd ei gorsafoedd pŵer glo oni all ddod o hyd i feysydd ynni sylweddol iawn i gadw ei ddiwydiant i fynd.

16:25

Euthum ar ymweliad ychydig wythnosau yn ôl gyda Llyr a'r pwyllgor i Stuttgart a chawsom gyfarfod gydag EnBW, sy'n awyddus i wneud fferm wynt Mona oddi ar ogledd Cymru, mewn gwirionedd. Roedd yn ddiddorol clywed eu bod yn edrych ar roi paneli solar ffotofoltaig ar bob adeilad newydd yn y dyfodol ac maent wedi buddsoddi yn y grid hefyd. Felly, mae ganddynt gynlluniau ar waith i newid pethau'n gyflym, a oedd yn ddiddorol iawn, ac rwy'n credu bod gennym lawer i'w ddysgu gan wledydd eraill sy'n gwneud hyn, a chamu ymlaen, a hoffwn wybod pam nad ydym ni'n ei wneud yma yng Nghymru, a rhoi paneli solar ffotofoltaig ar adeiladau.

Iawn, diolch am hynny. Rwy'n credu mai'r pwynt roeddwn eisiau ei wneud yw cyfeirio'n ôl at y drafodaeth a gawsom yn gynharach am systemau prisio parthol a'r ffordd y maent yn llesteirio menter, oherwydd mae pris wedi'i osod ar y drutaf, nwy. Pan fydd y gwynt yn chwythu'n galed, dywedir wrth lawer o'r araeau i gau, oherwydd nid ydynt eisiau gorfod eu talu am ynni nad ydynt yn meddwl y gellir ei ddefnyddio yn y wlad hon. Ond mae'n hollol amlwg y gallem fod yn cynyddu ein hallforion ynni pe bai gennym system wahanol, ac mae angen inni addasu hynny.

Un o'r ffyrdd y gallwn gyflawni sero net yw trwy arbed ynni, ac rwy'n credu ei bod yn un o'r ffyrdd y mae Cymru wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac rwyf am ganmol y sefydliad ynni cynaliadwy sy'n gysylltiedig â'r gyfadran pensaernïaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd yn sicr wedi bod yn un o brif yrwyr y cynlluniau adeiladu ynni sero net sydd gennym nawr, gan ddefnyddio adeiladwaith ffrâm bren wedi'i adeiladu mewn ffatrïoedd ac y mae modd eu codi wedyn yn gyflym iawn, heb yr holl broblemau a gewch gyda'r tywydd.

Felly, rwy'n credu fy mod am weld dau beth gan Lywodraeth y DU. Un yw bod yn rhaid iddynt adolygu eu rheoliadau adeiladu, oherwydd maent yn dal i ganiatáu i'r chwe chwmni adeiladu mawr adeiladu tai gwael sy'n mynd i fod yn faich ar y bobl sy'n mynd i orfod cael morgeisi i brynu'r llefydd hyn; yna bydd yn rhaid iddynt ôl-osod yr addasiadau sero net i'w galluogi i beidio â gorfod gwario cymaint o arian ar ynni. Felly, bob tro y clywaf Keir Starmer neu Angela Rayner yn siarad am y 1.5 miliwn o gartrefi gwych y byddant yn eu hadeiladu yn ne-ddwyrain Lloegr, rwy'n teimlo fel sgrechian, oherwydd mae'n drychineb ac mae'n gwneud cam â phobl a fyddai wrth eu bodd yn cael eu cartref eu hunain ac sy'n mynd i orfod byw mewn cartref is na'r safon o ran arbed ynni.

Yr ail beth yr hoffwn weld Llywodraeth y DU yn ei wneud, ac un ar gyfer Rachel Reeves yw hyn, yw gwrthdroi penderfyniad trychinebus George Osborne yn 2015 i ddileu cymhellion treth i'r sector preifat ar gyfer ynni adnewyddadwy, gan fod hynny wedi cau piblinell o gyfalaf i gynhyrchu llawer mwy o weithgaredd yn y maes hwn.

Rwyf am ddiolch i Rebecca a Lee am dynnu sylw at y cynlluniau ynni lleol, oherwydd roeddwn yn dal i feddwl beth oedd Cyngor Caerdydd yn ei wneud, ac fe edrychais yn gyflym ar un Cyngor Caerdydd. Mae'n amlwg ei fod newydd ei gyhoeddi, oherwydd mae'r gofod ar y dechrau ar gyfer y rhagair yn dweud 'nodyn gan y cynghorydd'. [Chwerthin.] Ond serch hynny, rwy'n siŵr fod gwaith ardderchog wedi'i wneud, ac mae'r crynodeb gweithredol yn cynnwys ffeithiau diddorol iawn. Eu trosolwg yw y gellid cyflawni dyfodol sero net Caerdydd gyda'r hyn sy'n cyfateb i 12 fferm solar Ffordd Lamby—ac i'r rhai ohonoch nad ydych yn dod o Gaerdydd, Ffordd Lamby yw ein canolfan ailgylchu—ac mae cynlluniau i adeiladu fferm solar fawr ar y gorlifdir hwn—syniad ardderchog, rydym wedi bod yn siarad amdano ers blynyddoedd lawer, ac ni allaf ddeall yn iawn pam nad ydym wedi ei wneud eto—yn ogystal â'r hyn sy'n cyfateb i 115,000 o doeau domestig gyda phaneli solar ffotofoltaig. Mae hyn o ddiddordeb mawr i mi, oherwydd rwy'n synnu nad yw pobl sy'n berchen ar eu cartrefi eu hunain, sy'n penderfynu bod angen ail-deilsio'r to, yn rhoi paneli solar ar eu toeau. Dyma bobl sydd, yn y rhan fwyaf o achosion, yn berchen ar eu cartref, felly mae ganddynt arian i'w wneud, a pham nad ydynt yn ei wneud? Mae hon yn sgwrs a gefais gyda nifer o bobl. 'Pam fod gennych dowyr i fyny yno ac nad oes gennych baneli solar yn cael eu gosod ar y to sy'n wynebu'r de?'

16:30

[Anghlywadwy.]—i osod systemau solar ym mhob tŷ newydd, ac roeddent yn dweud mai'r rheswm am hynny yw y bydd yn gwneud pris yr uned yn rhy ddrud i bobl. Mae gan y rhan fwyaf o bobl forgais y maent yn ei dalu dros nifer o flynyddoedd, felly mae ychwanegu £20,000 at bris gwerthu tŷ, neu £10,000, pan fo’n forgais mawr, yn werth chweil yn y diwedd, gan y bydd yn sicr o gael ei dalu’n ôl cyn bo hir. Beth yw eich barn chi? A yw hynny'n rhywbeth y byddech yn meddwl amdano?

Rwy’n sylweddoli bod morgeisi rhai pobl yn ddrud iawn ac na allant fenthyg rhagor, ond nid wyf yn sôn am—. Mae digon o bobl—. Mae oddeutu 40 y cant o bobl yn berchen ar eu cartrefi'n gyfan gwbl, ac felly mae'n ddiddorol iawn deall pam nad yw pobl yn gwneud yr hyn sy'n gwbl amlwg, gan y gellir gwneud yr arian yn ôl o fewn 10 mlynedd, yn enwedig gyda chynnydd prisiau ynni, prisiau tanwydd ffosil. Dyna'r peth iawn i'w wneud i'r amgylchedd ac i'w pocedi.

Mae Caerdydd yn dechrau meddwl am wres a phŵer cyfunedig. Nid wyf yn gwybod ers sawl blwyddyn y mae Celsa wedi bod yn gweithredu, ond o'r diwedd, rydym bellach yn cael gwres a phŵer cyfunedig i lawer o'r cartrefi yn yr ardal a arferai gael ei galw'n Tiger Bay, yn yr ardal hon. Rwy'n siŵr y bydd llawer ohonoch wedi gweld yr holl waith adeiladu sy'n mynd rhagddo, ac mae'n ymwneud â gwres a phŵer cyfunedig, ac mae hynny i'w groesawu'n llwyr. Ond mae wedi cymryd mor hir â hyn.

Anghofiais ddweud ar ddechrau fy sylwadau fod angen imi gyfeirio’r Aelodau at fy natganiad o fuddiannau, gan fy mod yn cefnogi Awel Aman Tawe, rwy’n un o'r buddsoddwyr, ac rwy’n cael taliad bach am hynny, a hefyd mae fy mhartner yn gynghorydd i Bute Energy, sydd, yn amlwg, yn un o’r cwmnïau mwy sy’n gweithredu gyda'r bwriad o ddatblygu ynni adnewyddadwy ledled Cymru.

I fynd yn ôl at y prisiau parthol, y broblem yn ogystal â'r her sydd gennym o ran ynni cymunedol, yw bod yn rhaid inni allu egluro i bobl nid yn unig fod hyn yn dda i'r blaned, ond fod hyn yn dda i bob un ohonom gan y bydd yn costio llawer llai, cyhyd ag y gallwn sicrhau y gallwn brofi hynny. Felly, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn cael y cynllun prisio parthol hwn yn iawn, fel bod pobl, pan fyddant yn cwyno am y tarfu a achosir gan y gwaith o adeiladu systemau ynni adnewyddadwy, yn gallu gweld y bydd manteision iddynt, drwy ymuno â chynlluniau ynni cymunedol yn eu hardaloedd lleol, yn ogystal â gallu bod yn sicr o gael pris llawer gwell am eu hynni yng Nghymru, gan ein bod yn mynd i fod yn gyfrannwr mawr o ran ynni adnewyddadwy, a fydd o fudd i Brydain gyfan, a gallai hefyd wella ein cydbwysedd mewnforion/allforion.

Rwy'n falch iawn fod pob un o'r 22 awdurdod lleol bellach wedi ymuno â chynlluniau ynni lleol. Felly, da iawn i Rebecca am hynny, gan y gallwn graffu ar hynny nawr, a cheisio darganfod beth yn union y maent yn ei wneud. Un o’r rhwystredigaethau a deimlais yng Nghaerdydd yw’r diffyg uchelgais i roi paneli solar ar ysgolion, oherwydd yr ateb bob amser oedd, ‘Nid yw’r ysgolion mewn defnydd yn yr haf pan fo’r haul yn tywynnu fwyaf’, ond mae hynny'n camddeall y mater, oherwydd gyda batris, yn amlwg, fe allwch werthu'r trydan i'r grid unrhyw bryd, pa un a oes angen yr ynni hwnnw arnoch yno y diwrnod hwnnw ai peidio. Felly, hyd y gwn i, yr unig baneli solar sydd wedi’u gosod ar ysgolion yng Nghaerdydd yw’r rhai sydd ar y pedair ysgol Gatholig—Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Illtyd, Ysgol Uwchradd Mair Ddihalog, Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi ac Ysgol Gynradd Gatholig Padrig Sant—gan iddynt ymuno â menter gydweithredol ynni solar Egni, sy’n rhan o Awel Aman Tawe.

Rwy'n credu bod Awel Aman Tawe yn enghraifft wirioneddol wych o fenter gydweithredol sy’n gweithio, oherwydd, wedi’i lleoli yn nyffryn Aman, dechreuodd drwy osod paneli solar ar saith canolfan gymunedol leol a’u gwneud yn fwy hyfyw, ond ers hynny, mae wedi gosod dwsinau o brosiectau solar a gwynt ar draws de Cymru a thu hwnt. Mae ar fin lansio cynnig cyfranddaliadau treigl gwerth £30 miliwn ar gyfer gosod systemau solar ar doeau ar draws Cymru a Lloegr. Felly, da iawn, Awel Aman Tawe. Un o’r pethau pwysicaf yw bod unrhyw elw a gynhyrchir yn cael ei ailfuddsoddi mewn datblygiadau a rhaglenni addysg yn y dyfodol, ac yn sicr, mae’n rhaid inni gael y rhaglenni addysg hyn, fel y gall pobl ddeall pam fod angen inni wneud hyn. Rwy'n gweld bod fy amser ar ben, Lywydd, felly rwyf am eistedd. Diolch.

16:35

Diolch yn fawr iawn i Carolyn Thomas am gyflwyno'r cynnig yma heddiw. Fel Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn, mi allwch chi ddychmygu fy mod i'n optimistaidd iawn ynglŷn â'r potensial sy'n cael ei gynnig i ni drwy ynni adnewyddol.

Mae gennym ni hen, hen, hen hanes o gynhyrchu a defnyddio ynni adnewyddol yn Ynys Môn. Dwi'n meddwl bod y cofnodion am y melinau gwynt cyntaf yn Ynys Môn yn mynd yn ôl i rywbeth fel 1303 yn Niwbwrch. Ac, wrth gwrs, yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, mi oedd yna dwf mawr, mawr yn natblygiad melinau gwynt ar draws yr ynys, bob un yn gallu gweld y llall fel eu bod nhw'n gallu penderfynu pa bryd i roi'r hwyliau i fyny, ac yn y blaen, a hynny wedi cael ei yrru gan sychder, yn golygu bod y melinau dŵr ddim yn gweithio cystal ag y buon nhw a'r corn laws ac ati yn cynyddu pris grawn. Ac mi welsom ni ar yr ynys werth cynhyrchu'r ynni a defnyddio'r ynni yna ein hunain. A beth welsom ni dros amser oedd twf tanwydd ffosil a melinau'n cael eu gyrru gan stêm wedi'u gyrru gan lo yn tynnu'r angen am y defnydd yna o ynni adnewyddol yn lleol yn Ynys Môn. Dwi'n meddwl bod yna lot o wersi yn hynny i ni o ran annibyniaeth ynni: edrych ar beth ydy'n hanghenion ni ein hunain a thrio diwallu'r anghenion hynny ein hunain.

Heddiw, mae gennym ni'r fersiynau modern o dyrbinau gwynt. Fe wnaf i ddatgan budd bod un o'r tair fferm wynt ar Ynys Môn wedi'i datblygu'n rhannol ar dir sy'n perthyn i fy nheulu i. Ond, mae yna gymaint mwy, wrth gwrs, erbyn hyn, ar draws yr ynys, lle rydyn ni'n gallu gweld y posibiliadau. Mae Morlais sydd wedi cael ei grybwyll yn barod yn gynllun dwi'n falch iawn ohono fo oherwydd ei arloesedd yn y modd mae o'n cynhyrchu ynni, ond hefyd fel model o gynhyrchu a datblygu sector newydd fel menter gymdeithasol. Mae'n fodel, onid ydy, ar gyfer sut y dylem ni fod yn datblygu pethau. Ynni gwynt môr: mae yna gymaint o fudd all ddod i'n cymunedau ni o ddatblygu porthladd Caergybi fel hwb ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ffermydd gwynt môr. Gwynt môr yn arnofio ydy'r genhedlaeth nesaf eto, wedyn, yn fwy ac yn bellach o'r tir.

Os ydym ni'n edrych ar Gymru'n ehangach, mae yna dechnolegau eraill, wrth gwrs. Dwi'n cymryd diddordeb mawr yn y cynlluniau cafodd eu trafod yr wythnos yma ar gyfer moryd yr afon Hafren. Na, wnaeth y lagŵn yn Abertawe ddim gweithio ac mae'n drueni bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi methu â gweld y cyfle amlwg a oedd yn y fan honno, ond gadewch i ni edrych ar beth mae modd ei wneud ym moryd yr afon Hafren rŵan. Mae hydrogen yn faes mae gen i ddiddordeb mawr ynddo fo a chynhyrchiant hydrogen gwyrdd, ac o bosib canfod hydrogen o dan ein tir ni yng Nghymru. Beth rydyn ni'n ei weld yn fan hyn ydy bod yna dirwedd amrywiol iawn, iawn, iawn. 

Fy apêl i mewn dadl fel hyn ydy arnom ni fel Senedd i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gennym ni gynllun cenedlaethol, strategaeth genedlaethol, ar sut i wneud yn fawr o'r cyfleon. Dwi'n meddwl bod yna sawl haen i'r hyn y dylem ni fod yn ei weld mewn strategaeth o'r fath—hynny ydy, beth ydy'r blaenoriaethau fel sectorau ynni adnewyddol? Dwi wedi crybwyll rhai ohonyn nhw yn y fan hon. Beth ydyn ni'n meddwl ydy ein cryfderau ni? Sut ydyn ni am wneud yn fawr o'r cryfderau hynny? Sut mae Llywodraeth Cymru am sicrhau ein bod ni'n gwneud yn fawr o'r cyfleon hynny? Ble mae buddsoddiad cyhoeddus angen mynd i mewn, un ai ohono'i hun neu fel modd i annog rhagor o fuddsoddiad gan y sector preifat ac yn y blaen? Rydyn ni angen adnabod hynny. Rydyn ni angen adnabod beth sydd yn ein siwtio ni fel gwlad.

Mae solar yn enghraifft, reit? Nid dim ond pa fath, ond sut rydyn ni’n defnyddio’r gwahanol ddulliau o gynhyrchu ynni. Mae ‘arloesedd’ yn air sydd wedi cael ei ddefnyddio lot heddiw. Mae solar yn faes lle mae yna gymaint y gallwn ni ei wneud drwy arloesi. Roedd Jenny Rathbone yn cyfeirio at bethau cwbl amlwg fel gwneud yn siŵr bod ysgolion, pob adeilad cyhoeddus, wedi cael eu gorchuddio efo cymaint o baneli solar ag sy’n bosibl, a phob maes parcio cyhoeddus wedi cael eu gorchuddio efo paneli solar, a fyddai’n rhoi to ar gyfer pan fydd hi’n bwrw a chynhyrchiant pan fydd hi’n braf.

Mae yna gynlluniau ar y gweill yn Ynys Môn ar hyn o bryd sy’n dangos sut yn union i beidio â gwneud solar. Mi soniodd Jenny Rathbone eto am y syniad o ddatblygu ar ardal ddiwydiannol yng Nghaerdydd. Mae’r syniad o roi paneli solar ar filoedd o erwau o dir amaethyddol, tir amaethyddol mewn ardal oedd mor gynhyrchiol bod angen 50 o felinau gwynt er mwyn malu ei grawn hi mewn hanes—. Pam byddem ni eisiau tynnu’r tir yna allan o ddefnydd cynhyrchiant bwyd, creu hagrwch mewn ardal sy’n ddibynnol ar dwristiaeth a chreu drwgdeimlad efo’r boblogaeth wrth wneud hynny, pan allem ni fod yn ateb ein hanghenion solar ni mewn ffyrdd mwy arloesol? Ie, toeau, ond hefyd ochrau ffyrdd, ffensys sydd yn baneli solar ac yn y blaen. Mae angen inni fod yn symud yn llawer cyflymach hyd yn oed nag y gwnaeth Carolyn Thomas gyfeirio ato yn Ewrop rŵan—targedau o fewn rhyw bedair blynedd i fynnu cael solar ar dai preifat. Wel, mae angen symud ymlaen heddiw.

Mae angen pwysleisio wrth bobl pa mor fuan mae modd cael y buddsoddiad yn ôl. Dwi wedi buddsoddi fy arian fy hun mewn system gymharol fach ar fy nghartref fy hun. Y prif gymhelliad oedd chwarae fy rhan yn amgylcheddol, ond, bydd, mi fydd o wedi talu amdano’i hun o fewn rhyw saith mlynedd. Fe wnes i ychwanegu un rhan newydd at y system sy'n golygu bod ynni solar yn cynhesu dŵr y tŷ i gyd, ac mae hynny’n talu amdano’i hun mewn blwyddyn. Wel, siawns y dylem ni fod yn gallu bod yn arwain pobl i’w helpu nhw i wneud y penderfyniadau yma eu hunain. Felly—[Torri ar draws.] Sori, Carolyn, wrth gwrs.

16:40

Rwy'n cytuno â chi ynglŷn â systemau solar; dylem fod yn eu gosod ar adeiladau, ar dir trefol yn hytrach na thir amaethyddol, ond bydd datblygwyr yn datblygu, a ydych chi'n cytuno, yn y mannau hawsaf a rhataf? Dyna pam ei fod yn digwydd ar ein tir glas. Felly, a ydych chi'n cytuno efallai fod angen y cynllun cenedlaethol hwnnw arnom, strategaeth wrth symud ymlaen, fel nad yw'n digwydd ar ein tir amaethyddol?

Dwi'n cytuno'n llwyr. Mi soniodd y Gweinidog, dwi’n credu, am yr angen i glymu’r cynllunio a’r nod o ran cynhyrchiant ynni. Mae angen i’r cyfan glymu at ei gilydd, a pheidio â gwneud miloedd o erwau o dir amaethyddol ym Môn y lle hawsaf a rhataf i wneud solar. Extraction ydy hyn—cwmnïau mawr o’r tu allan i Gymru yn gwneud elw mawr oddi ar ein cymunedau ein hunain. Mi ofynnais i un cwmni pam eu bod nhw’n dewis tir amaethyddol ym Môn. Ie, am ei bod hi’r ffordd rataf iddyn nhw ei wneud o. Fe ofynnais i wedyn, 'Dewch ag un budd i mi o ddefnyddio’r tir da amaethyddol yma ar gyfer fferm solar', a’r ateb a gefais i oedd, 'Llai o draffig amaethyddol.' Mae’r traffig amaethyddol yna’n cynnal swyddi amaethyddol. Mae’r swyddi amaethyddol yna yn cynnal cymunedau gwledig. Mae'r cymunedau gwledig yna yn creu gwead ein gwlad ni, yn ei gwneud hi yr hyn ydy hi. Felly, mae angen i ni fod gymaint mwy arloesol. Ac mae'n rhaid i ni gofio pwy sydd wrth wraidd unrhyw gynlluniau rydyn ni'n eu datblygu: pobl Cymru a chymunedau Cymru ydy hynny. Mae eisiau cofio beth ydy'r budd rydyn ni ei angen iddyn nhw.

Mae cysylltedd ynni'n gorfod bod yn rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru. Nid cysylltu yn y ffordd ratach, ond cysylltu mewn ffordd sydd yn adnabod yr angen i ddod â phobl efo ni. Nid gosod peilonau ar draws Cymru, neu drwy Ddyffryn Tywi, neu ar draws Ynys Môn, ydy'r ffordd i annog pobl i ddod efo ni ar y daith adnewyddol yma. Ond gwneud y buddsoddiadau, rhannu'r gost ar draws defnyddwyr ynni yn gyffredinol, er mwyn gwneud y buddsoddiad lle allwn ni mewn tanddaearu, ac yn y blaen. Dwi'n cadw llygad ar y cloc.

Mae yna gyfleon enfawr o'n blaenau ni. Mae'r economi yn gallu ennill, cymunedau'n gallu ennill, pan ydyn ni'n ei wneud o yn iawn, a'r amgylchedd hefyd. Rydyn ni'n gwneud hyn. Rydyn ni eisiau llawer, llawer, llawer, llawer mwy o ynni yn y blynyddoedd i ddod. Dyna pam mae'r drafodaeth ar niwclear yn y cyd-destun gwyrdd yn un bwysig i'w chael. Hynny ydy, diwallu'r anghenion enfawr yna sydd yn mynd i ddatblygu mewn blynyddoedd i ddod. Dyna pam mae'r drafodaeth honno yn un economaidd ac amgylcheddol mewn llefydd fel Ynys Môn.

Ond mae yna gymaint o haenau i hyn. Arweiniad gan Lywodraeth, strategaeth gan Lywodraeth sy'n bwysig, ac mewn dadl fel heddiw, sydd yn fath newydd o ddadl yma yn y Senedd, beth rydyn ni eisiau ydy gwneud yn siŵr bod y Llywodraeth yn clywed y themâu sy'n codi yma: angen am strategaeth, angen am arloesedd ac angen gwneud yn fawr ar y cyfleoedd sydd gennym ni fel gwlad yn y maes ynni.

16:45

Yn gyntaf, a gaf i groesawu'r ddadl ffurf hirach hon? Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn parhau. Yn ail, hoffwn ddiolch i Carolyn Thomas am gyflwyno’r ddadl hon. Rwy'n credu ein bod wedi cael dadl dda iawn hyd yma, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn dal i feddwl hynny ar ôl i mi wneud fy nghyfraniad.

Y mathau o ynni adnewyddadwy a ddefnyddir fwyaf yw ynni solar, ynni gwynt ac ynni dŵr. Mae'n ddyddiau cynnar. Os cymharwch hyn â stêm, er enghraifft, roedd bron i 200 mlynedd rhwng cynhyrchu'r stêm cyntaf a James Watt yn cynhyrchu rhywbeth a oedd yn effeithlon. Mae bio-ynni a phŵer geothermol yn bwysig iawn mewn gwledydd eraill.

Nid wyf yn ystyried ynni niwclear yn ffynhonnell ynni adnewyddadwy. Mae ynni niwclear yn golygu gorfod cloddio am wraniwm, sy'n amlwg yn ffynhonnell anadnewyddadwy. Rwy'n feirniadol o ynni niwclear am resymau eraill, ond fe'i gadawaf ar hynny am y tro.

Gall gosodiadau ynni adnewyddadwy fod yn fawr neu'n fach, ac maent yn addas ar gyfer ardaloedd trefol a gwledig. Mae ynni adnewyddadwy yn aml yn cael ei ddefnyddio ynghyd â thrydaneiddio pellach. Mae iddo nifer o fanteision. Gall trydan ddarparu gwres a phŵer a gellir ei ddefnyddio i bweru cerbydau. Y nod yw i ffynonellau ynni adnewyddadwy gymryd lle tanwydd ffosil er mwyn arafu, ac yn y pen draw, atal newid hinsawdd. Achosir newid hinsawdd yn bennaf gan allyriadau nwyon tŷ gwydr, ac mae hyn yn cael effaith ddifrifol ar yr amgylchedd ac ar batrymau tywydd.

Edrychwch ar bŵer stêm. Datblygodd yn araf dros gyfnod o gannoedd o flynyddoedd, gan symud ymlaen drwy ddyfeisiadau drud a gweddol gyfyngedig ar ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg i bympiau defnyddiol yn y 1700au i injans stêm gwell Watt ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif—260 mlynedd o'r dechrau i gael y fersiwn well.

Rwy'n mynd i edrych ar bob math o ynni adnewyddadwy yn eu tro nawr. Yn gyntaf, pŵer solar. Nid yw pŵer solar yn newydd, yn yr ystyr ei fod wedi'i ddefnyddio ers cyn Crist, pan ddefnyddiwyd drychau i gynnau tanau. Heddiw, mae gennym systemau gwresogi a bwerwyd gan ynni solar a cherbydau trydan pwerus. Heddiw, rydym yn dal golau'r haul i gynhyrchu trydan defnyddiol. Mae ynni solar yn golygu defnyddio ymbelydredd o'r haul. Gall gynhyrchu gwres, a gellir defnyddio'r gwres hwnnw i gynhyrchu trydan. Mae'n ddi-garbon, ac nid yw'n cynhyrchu allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Caiff ynni solar ei greu gan yr ymasiad niwclear yng nghraidd yr haul, ac rydym yn cael budd ohono. Mae paneli solar yn dibynnu ar olau'r haul. Dim ond yn ystod y dydd y maent yn cynhyrchu trydan, pan fydd golau'r haul yn tywynnu arnynt. Nid yw paneli solar yn creu unrhyw nwyon niweidiol, felly maent yn ecogyfeillgar. Os yw'r haul yn tywynnu ar banel solar, gallwch ddefnyddio'r trydan ar gyfer eich anghenion pŵer eich hun, gan leihau eich bil trydan, a gellir gwerthu unrhyw ynni dros ben i'r grid. Os yw'n gymylog, maent yn llai effeithiol, ac yn y nos, nid ydynt yn cynhyrchu unrhyw drydan o gwbl.

Mae gennym ffermydd solar hefyd, sef ardaloedd mawr o dir wedi’u gorchuddio â miloedd o baneli solar sy’n cynhyrchu trydan. Fel y gŵyr Rebecca Evans, gan ei bod hi a minnau’n rhannu un, mae un ger Ysbyty Treforys sy’n cynhyrchu trydan sy’n cael ei ddefnyddio yn yr ysbyty. Felly, mae'n teithio pellter byr iawn. Cynhyrchiant lleol ydyw. Rwy'n gefnogwr brwd i gynhyrchiant ynni lleol. Mae gan rai ffermydd solar baneli solar sefydlog sydd bob amser yn wynebu'r un cyfeiriad. Mae gan rai baneli symudol sy'n troi fel eu bod bob amser yn wynebu'r haul yn uniongyrchol. Mae hyn yn eu helpu i gynhyrchu cymaint o drydan â phosibl o olau haul uniongyrchol. Hefyd, mae gan ffermydd solar fatris sy'n storio ynni fel y gallant barhau i ddarparu trydan pan nad oes golau uniongyrchol. Mae'r haul yn cynhesu'r ddaear hyd yn oed pan nad oes heulwen uniongyrchol. Pe na bai'n gwneud hynny, ni fyddem yn gallu byw yma.

Felly, ble nesaf? Mae Japan wedi datblygu paneli solar tryloyw a all ddefnyddio golau UV i gynhyrchu trydan. Gallai'r paneli hyn fod yn ddewis ynni-effeithlon yn lle ffenestri, a byddent yn cynhyrchu trydan 24 awr y dydd. Mae ymchwil yn America wedi cyfrannu at ddylunio paneli solar a all ddal ynni gwres o ymbelydredd isgoch o'r haul, a fyddai hefyd yn gweithio 24 awr y dydd. Felly, mae gennym dipyn o ffordd i fynd, ond rydym yn mynd i'r cyfeiriad cywir.

Ar dyrbinau gwynt, mae gwynt yn ffynhonnell gynyddol o ynni dibynadwy a glân ledled y byd, ac yn rhan hanfodol o'r daith at sero net. Mae wedi cael ei ddefnyddio ers miloedd o flynyddoedd. Yn 200 CC, cafodd pympiau dŵr wedi'u pweru gan wynt eu hintegreiddio yn Tsieina, ac mae melinau gwynt wedi cael eu defnyddio ledled y byd, gan gynnwys yn y dwyrain canol, Ewrop a Phrydain.

Yn Nenmarc, roedd ynni gwynt yn rhan bwysig o drydaneiddio datganoledig yn chwarter cyntaf yr ugeinfed ganrif. Erbyn 1908, roedd 72 o eneraduron trydan gwynt a chanddynt gapasiti rhwng 5 kW a 25 kW. Cafwyd cynnydd mawr ym 1978, lai na 50 mlynedd yn ôl, pan adeiladwyd tyrbinau gwynt aml-megawat cyntaf y byd. Paratôdd hynny y ffordd ar gyfer llawer o'r technolegau a ddefnyddir mewn tyrbinau gwynt modern. Roedd y gwaith o adeiladu'r adenydd yn arbennig o bwysig, a chafodd gymorth gan arbenigwyr awyrenegol o'r Almaen. Roedd gan yr orsaf bŵer a oedd yn gallu darparu 2 MW dyrau tiwbaidd, adenydd y gellid rheoli eu goleddf a thri llafn. Mae'n edrych yn gyfarwydd iawn.

Pwysleisiodd datblygiad ynni gwynt masnachol Denmarc welliannau cynyddrannol i gapasiti ac effeithlonrwydd, yn seiliedig ar fasgynhyrchu tyrbinau, a chanlyniad ymarferol hyn oedd bod pob tyrbin gwynt masnachol yn defnyddio cynllun tri llafn ysgafn a wynebai'r gwynt. Dechreuodd ynni gwynt ar y môr ehangu y tu hwnt i dyrbinau dŵr bas gwaelod sefydlog yn negawdau cyntaf y 2000au. Daeth tyrbin gwynt arnofiol dŵr dwfn gweithredol capasiti mawr cyntaf y byd yn weithredol oddi ar Norwy yn 2009. Mae hynny 15 mlynedd yn ôl.

Mae dau fyth yn bodoli am dyrbinau gwynt. Y cyntaf yw eu bod yn swnllyd iawn. Maent yn clicio pan ddônt ymlaen, ond fel arall, maent yn dawel. Maent am iddynt fod yn dawel am eu bod am iddynt droi ynni'r gwynt yn ynni trydanol; nid ydynt am ei droi yn sŵn. Yr ail yw eu bod yn lladd adar. Rwyf wedi ymweld â sawl fferm wynt, ac nid wyf erioed wedi gweld aderyn marw.

Gan droi at fôr-lynnoedd llanw, mae morlyn llanw bae Abertawe yn brosiect ynni adnewyddadwy yn Abertawe sydd â'r potensial i fod yn arloesol. Fe'i cynlluniwyd i fod yn forlyn llanw cyntaf y byd sy'n cynhyrchu ynni, gyda chapasiti o 320 MW, a'r gallu i bweru oddeutu 120,000 o dai am 120 mlynedd. Mae'r morlyn yn cynnwys tyrbinau tanddwr, a'i nod yw cyfrannu'n sylweddol at strategaeth ynni'r DU, gan ddarparu ffynhonnell o ynni cynaliadwy a helpu i leihau allyriadau carbon ar yr un pryd.

Yn anffodus, cafodd ei atal gan ddiffyg gweledigaeth y Llywodraeth Geidwadol. Gwyddom fod môr-lynnoedd llanw yn adnewyddadwy ac yn gynaliadwy. Mae ynni'r llanw yn cael ei gynhyrchu gan rymoedd disgyrchiant y lleuad a'r haul, sy'n golygu ei bod yn ffynhonnell gyson o bŵer. Mae'n rhagweladwy iawn. Yn wahanol i ynni gwynt a solar, mae patrymau'r llanw yn rhagweladwy, sy'n galluogi cynhyrchiant ynni dibynadwy. Cynhyrchir gwybodaeth am y llanw ar gyfer sawl blwyddyn i'r dyfodol, ond gellir ei chynhyrchu ar gyfer oes morlyn llanw. Mae pobl yn gwybod pryd y bydd y llanw'n mynd a dod.

Mae ei effaith amgylcheddol yn isel. Mae systemau ynni'r llanw fel arfer yn cael effaith fach iawn ar yr amgylchedd o gymharu â thanwydd ffosil. Nid oes unrhyw nwyon tŷ gwydr yn cael eu cynhyrchu yn ystod eu gweithrediad. Mae ganddynt oes hir. Gall seilwaith ynni'r llanw fel tyrbinau a morgloddiau gael bywyd gweithredol o fwy na 50 mlynedd. Nid ydym yn siŵr pa mor hir y gallant bara. O ran effeithlonrwydd ynni, gall môr-lynnoedd llanw gyflawni cyfraddau effeithlonrwydd uchel, gan drosi cyfran sylweddol o ynni cinetig o'r llanw yn ynni trydanol.

Mae angen gwell technoleg batri arnom. Gallai datblygiadau batris yn y dyfodol gynnwys batris graffîn, alwminiwm aer, magnesiwm haearn, calsiwm haearn, sinc aer, batris dot cwantwm, batris lithiwm sylffwr, batris haearn sodiwm, batris anod silicon, batris cyflwr solet. Nid wyf yn gwybod pa un o'r rhain a fydd fwyaf llwyddiannus, neu a fydd unrhyw dechnoleg batris arall yn cael ei dyfeisio. A gaf i roi cymhariaeth â fideos i chi? A ydych chi'n cofio Betamax, yna VHS, yna Blu-ray, ac yna lawrlwythiadau? Bellach, mae gennym fideo ar alw. Rwy'n credu bod yr un peth yn mynd i ddigwydd gyda batris. Rydym yn aros am naid fawr mewn technoleg batris. Bydd hwnnw’n gam mawr ymlaen.

Rydym ym mlynyddoedd cynnar datblygiad ynni adnewyddadwy. Bydd rhai mathau'n fwy llwyddiannus nag eraill. Yn allweddol i ddatblygiad ynni adnewyddadwy newydd fydd casglu ymbelydredd isgoch uwchfioled yr haul yn effeithlon, datblygu nifer fawr o fôr-lynnoedd llanw, creu darpariaeth ynni leol. Datblygwyd y grid i gynhyrchu trydan mewn gorsaf bŵer a'i ddosbarthu. Mae gallu’r grid i dderbyn ynni gan fusnesau ac unigolion yn llwyddiant technolegol aruthrol. Mae gennym y gallu i gynhyrchu trydan ym mhobman, gyda phob ardal yn dod yn hunangynhaliol neu bron yn hunangynhaliol. Mae gormod o gymunedau am i rywun arall gynhyrchu eu hynni.

Yn olaf, yr elfen allweddol yw technoleg batris—mae llawer o bosibiliadau. Gwella storio a'r gallu i ddarparu cyfleuster storio rhad yw'r datblygiad pwysicaf ar gyfer y dyfodol. Y dewis arall yw bod llawer o'r ddaear yn dod yn anghyfannedd. Yn olaf, rydym ym mlynyddoedd cynnar datblygiad ynni adnewyddadwy. Y gymhariaeth rwy'n hoffi ei defnyddio yw'r rheilffyrdd. Pan ddechreuodd, rwy'n siŵr fod rhai pobl yn dweud bod mynd ar geffyl yn gyflymach, ond wrth iddo ddatblygu, daeth gwelliannau'n gyflym. Rwy'n disgwyl i'r un peth ddigwydd gydag ynni adnewyddadwy.

16:55

Rwy'n ddiolchgar i Mike am y daith honno ar hyd y gorwel technolegol, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol agos. Os caf grynhoi'r rhan fwyaf o'r cyfraniadau rydym wedi'u cael hyd yma, rwy'n credu y gallwn ateb y cwestiwn arholiad a osodwyd i ni gan Carolyn Thomas: mae Cymru'n gallu; gall Cymru gyrraedd sefyllfa ynni gwbl adnewyddadwy, gan gael gwared â thanwyddau ffosil yn gyfan gwbl o’n holl ddefnydd o ynni, a heb droi at ynni niwclear ychwaith. A'r rheswm am hynny yn bennaf yw ein bod yn wlad wyntog, ar y tir ac ar y môr, felly mae gennym fynediad at y dechnoleg aeddfed honno. Ond mae technoleg solar ffotofoltaig, wrth gwrs, wedi cyrraedd y pwynt lle mae technoleg ynni solar yn gweithio'n hollol iawn yng Nghymru hefyd.

Mae gennym rai manteision ychwanegol i gyrraedd yno’n gynt, o bosibl, na gwledydd eraill oherwydd ein daearyddiaeth unigryw, ac felly gallwn ddatrys un o’r problemau, sef problem graidd ysbeidioldeb—y dunkelflaute, fel y maent yn ei alw yn yr Almaen—sef yr hyn a wnewch yn y cyfnodau tywyll, di-wynt hynny pan na all ynni solar na gwynt fodloni’r galw. Wel, mae gennym lynnoedd ym mynyddoedd Cymru, felly mae gennym gapasiti storio eithriadol, ac nid o ran batris yn unig, sy’n dal i fod yn dechnoleg ddatblygol ac arbrofol; mae gennym fatris naturiol yn Ninorwig a Ffestiniog, a byddwn yn ychwanegu at hynny cyn bo hir o bosibl gyda phrosiect Glyn Rhonwy—capasiti storio enfawr yno.

A hefyd, fel y clywsom mewn nifer o gyfraniadau, ar hyd ein harfordir helaeth, mae gennym botensial rhyfeddol—bron yn unigryw. Prin yw’r lleoedd eraill sydd â’r potensial sydd gennym ni gydag ynni'r llanw, ac mae’n ffynhonnell ynni adnewyddadwy sy’n rhagweladwy. Felly, os rhowch y rheini at ei gilydd, rydych chi'n datrys problem ysbeidioldeb. Ac nid ni yn unig sy'n dweud hynny. Edrychwn ar amcanestyniadau'r Gweithredwr Systemau Ynni Cenedlaethol ar gyfer 2050, pan fydd y DU, yn ôl eu hamcanestyniadau, yn cyrraedd sefyllfa sero net—o ffynonellau adnewyddadwy yn achos Cymru—ac maent yn rhagweld y bydd cyfanswm yr angen am ynni yng Nghymru yn 41 TWh y flwyddyn, a chyfanswm yr ynni a gynhyrchir o ffynonellau adnewyddadwy yn 71 TWh. Ac yn wir, os ychwanegwch yr ychydig gynhyrchiant sydd hanner ffordd rhwng Dyfnaint a Chymru—ac rwy'n credu y gallwn gymryd hanner hynny, oni allwn—mae'n fwy na 80 TWh. Felly, 100 y cant yn fwy o ynni adnewyddadwy yn cael ei gynhyrchu erbyn 2050 yng Nghymru o gymharu â’n defnydd o ynni. Mae'r dyfodol yn edrych yn eithaf cadarnhaol os gwireddwn ein potensial.

Y cwestiwn yw sut y gallwn gyrraedd yno. Mae gwahanol lwybrau, ac o gael y sgwrs honno, byddai'n ddefnyddiol mynd yn ôl at un o’r papurau arloesol gwreiddiol gan Amory Lovins, un o feddylwyr mawr ynni cynaliadwy a sylfaenydd y Rocky Mountain Institute. Ysgrifennodd bapur ym 1976 yn nodi'r hyn a alwai'n llwybrau ynni caled a meddal. Roedd y llwybr caled a ddisgrifiodd yn dibynnu ar dechnolegau cynhyrchu trydan cymhleth, ar raddfa fawr, wedi'u dosbarthu drwy gridiau foltedd uchel gan ddefnyddio peiriannau sefydliadol sy'n rhoi pŵer i fiwrocratiaethau canolog mewn oligopolïau corfforaethol, gan ymyleiddio dinasyddion. Mae'n swnio'n gyfarwydd iawn, ac roedd ganddo farn benodol. Roedd y llwybr caled yn pwysleisio graddfa, safoni, rheolaeth ganolog. Roedd y llwybr meddal yn blaenoriaethu, ie, effeithlonrwydd ynni—rydym eisoes wedi clywed cyfeirio at hynny yn achos Cymru—ond hefyd, dosbarthu ynni adnewyddadwy, felly ar raddfa gymunedol, systemau ynni wedi'u teilwra'n lleol, perchnogaeth leol, perchnogaeth gymunedol, a mwy o reolaeth gan ddinasyddion a chyfranogiad cymunedol.

Ar draws Ewrop, rydych chi wedi gweld gwahanol wledydd yn dilyn llwybrau gwahanol. Felly, yn y bôn, yn Nenmarc ac yn yr Almaen, maent wedi dilyn llwybr llawer meddalach. Felly, mae gennych chi, wyddoch chi—. Mae bron i hanner capasiti ynni adnewyddadwy Denmarc yn eiddo i'r gymuned, neu'n eiddo cydweithredol. Yn yr Almaen, mae'r Energiewende, y trawsnewidiad ynni, yn cael ei ddylanwadu'n fawr gan feddwl llwybr meddal. Ac mae gennych 40 y cant o gapasiti ynni adnewyddadwy, gyda dros 60 y cant o ynni gwynt yn yr Almaen nad yw'n eiddo i gorfforaethau, ond i ffermwyr neu gymunedau unigol. Ffrainc: llwybr caled iawn, yn seiliedig ar niwclear. Y DU: llwybr caled—mae'r Bwrdd Cynhyrchu Trydan Canolog wedi'i breifateiddio, ond eto, mewn gwirionedd, yn system anhygoel o ganolog. Y llwybr caled—am gyfnod, y rhuthr am nwy, a nawr, llwybr caled, ond gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy a niwclear.

Rwy'n credu mai'r broblem i mi gyda'r llwybr caled yw mater cyfiawnder ynni. Felly, gyda llwybr caled, mae'r manteision a'r costau wedi'u dosbarthu'n anwastad, os mynnwch. Mae'r manteision i berchnogion cyfalaf i raddau helaeth. Maent yn gwneud elw enfawr. Yr un cwmnïau sydd—. Hynny yw, i lawr y grisiau, BP Pulse sy'n gwefru ein ceir. Yn y bôn, mae'r un cwmnïau a oedd yn rhedeg tanwydd ffosil, mewn llawer o achosion bellach yn rhannu'r ysbail o ynni adnewyddadwy. Yn gwneud yr elw, ac eto mae'r gymuned yn gorfod talu'r costau, o ran effaith ar y dirwedd. Heddiw ddiwethaf, cefais e-byst gan etholwyr nad ydynt yn gallu cysgu oherwydd gwarantau sy'n cael eu cyhoeddi gan Green GEN i adeiladu peilonau ar draws eu tir ac ati. Felly, mae'r costau—. Ac mae'r costau'n fwy dwys mewn ardaloedd penodol fel Cymru, sydd ag ynni adnewyddadwy, ond eto nid ydym yn cael y budd.

Felly, rwy'n credu bod cwestiwn yma i ni: pa lwybr yr hoffem ei ddilyn? Ac ar y tir, os meddyliwch am anghenion ynni Cymru, rydym wedi ein cloi i mewn i system galed yn y DU, ond mewn gwirionedd dylem fod yn dilyn y math o fodel Nordig a llwybr meddalach ar y tir—ar raddfa gymunedol ac yn eiddo i'r gymuned. Felly, mynd â'r gymuned gyda ni, fel y gall pobl weld y manteision yn hytrach na dilyn y model economi echdynnol y cawsom brofiad chwerw ohono yng Nghymru ers gormod o amser. Ac os ydym am ddewis y llwybr meddal, mae yna bethau y gallwn eu gwneud. Gallwn ddarparu hawliau datblygu a ganiateir i'w gwneud hi'n haws cael datblygiadau ar raddfa gymunedol ac yn eiddo i'r gymuned. Gallwn osod terfynau ar ddatblygiadau o ran eu maint a'u dwysedd, fel y gallwn atal y math o ruthr gwyrdd corfforaethol a welwn. Mae'r ffigurau'n anhygoel. Ar hyn o bryd, mae ceisiadau ar gyfer 700 o dyrbinau yng Nghymru, a 46,000 erw o ddatblygiad solar a storio batri ledled Cymru. Nid pobl Cymru sy'n mynd i wneud y budd mwyaf o hynny. Felly, gallem wneud paneli solar ar doeau'n orfodol, fel y dywedwyd. Gallwn ddefnyddio cynlluniau ynni ardal leol, oni allwn, mewn ffordd gydgysylltiedig, i ddatblygu'r math hwnnw o lwybr meddal?

Rwy'n credu bod dull hybrid yn bosibl. Ar y môr, gallem dderbyn yr angen am ddatblygiad ar raddfa fawr yno, a'i gefnogi. Felly, gallech gael y llwybr meddal ar raddfa gymunedol ar y tir, ond ar y môr, gyda môr-lynnoedd llanw, gyda gwynt arnofiol, gydag ynysoedd ynni—. Mae Gwlad Belg a Denmarc yn adeiladu ynys ynni sefydlog; gallem wneud hynny oddi ar arfordir Cymru mewn datblygiad ar raddfa fwy o'r math hwnnw. Ac mewn gwirionedd, gallem greu synergedd rhwng y datblygiadau ar raddfa fawr—a gorau oll os oes gennym gyfran gyhoeddus ynddynt, gyda llaw, a datganoli Ystad y Goron fel y gallwn gael y refeniw ohonynt, hyd yn oed os ydynt, mewn rhai achosion, yn eiddo preifat. Gallech greu cronfa gyfoeth sofran, fel y dywedodd Carolyn Thomas, a fyddai'n buddsoddi wedyn yn y datblygiadau ynni lleol ar raddfa gymunedol ar y tir, fel y gallech greu synergeddau rhwng y ddwy system. Rwy'n credu mai dyna'r math o weledigaeth a allai weithio'n dda i Gymru, ac rwy'n credu bod angen inni ddatgysylltu ein hunain o lwybr y DU, sy'n cael ei yrru gan agwedd gorfforaethol, ganoledig, ac nad yw bob amser yn mynd i ddarparu'r manteision gorau i'n dinasyddion.

17:05

Rwy'n falch iawn o ddilyn yr araith feddylgar honno gan Adam Price, ac rwyf hefyd yn cytuno mai'r ateb i'r cwestiwn, 'A all Cymru ar ei phen ei hun ddiwallu ein hanghenion drwy ynni adnewyddadwy?' yn amlwg, yw 'Gall.' Arloesedd sydd ei angen arnom ar gyfer cyflenwad sylfaenol, nid niwclear. Nid wyf yn cytuno â safbwynt amwys y Llywodraeth fod angen hydrogen glas fel ffordd i ddiwydiant bontio, neu ddal a storio carbon ar gyfer cynhyrchu concrit. Tactegau oedi yw'r rhain—tactegau oedi a gyflwynwyd gan y diwydiant tanwydd ffosil oherwydd y buddiannau economaidd enfawr i'r diwydiant hwnnw. Rwy'n credu mai un o'r pethau mwyaf digalon dros y blynyddoedd diwethaf yw'r ffordd y mae'r agenda hon wedi'i gwthio'n ôl. Ddoe, fe welsom y dde yn y DU yn dilyn y dde yn yr Unol Daleithiau gan droi ei hwyneb yn erbyn sero net fel nod cyraeddadwy, gyda Kemi Badenoch, arweinydd y Blaid Geidwadol, yn dweud nad oedd yn gyraeddadwy ac y byddai'n niweidio'r economi. Wel, nid yw hynny'n wir yn ffeithiol; mae'n gyraeddadwy. Efallai nad yw eisiau wynebu'r hyn sy'n gysylltiedig â'i gyflawni.

Ac o ran niweidio'r economi, nid wyf yn credu bod pobl yn wynebu maint a chyflymder y newid sy'n dod tuag atom a'r effaith economaidd y bydd hynny'n ei chael. Rwy'n credu mai yn ôl yn 2007 y cynhyrchodd yr Arglwydd Stern ei adolygiad ar gyfer y Trysorlys lle dywedodd, oni bai ein bod yn cael allyriadau carbon i lawr i sero net, y byddai'r niwed economaidd blynyddol i'n heconomi yn ostyngiad o 5 y cant—5 y cant—mewn cynnyrch domestig gros bob blwyddyn. Nawr, nid enciliad mo hynny, ond dirwasgiad economaidd parhaus os methwn gael allyriadau carbon dan reolaeth. Felly, pan glywn arweinydd y Blaid Geidwadol yn dweud bod cyrraedd sero net yn niweidiol yn economaidd, mae'n dangos anwybodaeth o'r ffeithiau ac mae'n anghyfrifol o ran y wyddoniaeth a'r methiant i wynebu'r hyn y mae cymuned wyddonol y byd yn ei ddweud yn uchel ac yn glir. Pan fydd gwyddonwyr, sy'n bobl ofalus, yn defnyddio'r gair 'catastroffig' i ddisgrifio'r newid hinsawdd sy'n dod tuag atom—. Dyna beth y mae panel y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd yn ei ddweud—rydym yn wynebu newid hinsawdd catastroffig. Nawr, gadewch i bob un ohonom feddwl sut beth fyddai 'catastroffig' yn y cymunedau a gynrychiolwn.

Nawr, rwy'n gwybod bod mynd i'r afael â newid hinsawdd yn fater gwyddoniaeth wleidyddol cymhleth iawn yn ogystal â mater gwyddoniaeth hinsawdd, ac nid ydym yn meddwl digon am uniad y ddau. Mae newid yn anodd, ac mae yna gyfaddawdu, ac mae yna bobl nad ydynt eisiau i dir gael ei ddefnyddio ar gyfer solar, a phobl nad ydynt eisiau peilonau'n agos i ble maent yn byw, ond mae hynny'n rhannol am nad ydym yn cyfleu trafodaeth onest iddynt ynglŷn â sut olwg sydd ar beidio â gwneud unrhyw beth. Oherwydd mae newid hinsawdd catastroffig ym mhob un o'n cymunedau yn mynd i fod yn ddinistriol i'r economi a'r gymdeithas a dyfodol ein cymunedau. Mae Janet Finch-Saunders yn twt-twtian. Wyddoch chi, rwyf wedi eistedd trwy gymaint o areithiau ganddi yn galw arnom, pan fyddwn ni'n mynd i Gynhadledd y Partïon, i roi camau beiddgar ar waith, i sefyll dros yr argyfwng natur, ac mae yna anghysondeb gwybyddol, datgysylltiad dwfn rhwng yr hyn y mae hynny'n ei olygu yn haniaethol a'r hyn y mae'n ei olygu yn ymarferol, a dyna rwy'n ei ystyried yn ddigalon am y ddadl hon. Nid ydym yn wynebu maint, cyflymder a difrifoldeb peidio â mynd i'r afael â hyn ar y raddfa y mae angen inni ei wneud.

Nawr, mae heriau gwirioneddol yma, ac rydym wedi gweld nifer ohonynt yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae angen inni fynd i'r afael â mater swyddi. Rydym yn cau diwydiannau sy'n gyflogwyr mawr ond yn llygrwyr carbon enfawr: mae'n effaith andwyol ar ein heconomi yn y tymor byr, ac yn un real ac arwyddocaol iawn, ac ni ddylem ei ddiystyru. Nid oes gennym stori ddigon da am y pontio teg y siaradwn amdano'n haniaethol. Nid oes gennym gynllun ar gyfer pontio teg. Felly, pan fyddwn ni'n dweud, 'Ni chaiff eich ffatri, eich pwll glo ganiatâd i fwrw ymlaen', nid oes gennym ateb amgen, ac un o'r paradocsau, un o'r pethau sy'n ein dal yn ôl rhag pontio teg, yw'r sgiliau sydd eu hangen i sicrhau ein bod yn cael pontio teg—ôl-osod tai er mwyn arbed ynni, creu tyrbinau gwynt. Nid oes gennym sgiliau i'w gwneud, ac eto rydym yn gweld gwrthwynebiad am ein bod yn cael gwared ar swyddi, ac mae anghysondeb yma nad yw Llywodraethau ym mhob man yn ei wynebu ac yn cynllunio'n strategol ac yn paratoi ar ei gyfer. Ac nid oes unrhyw esgus, rydym yn gwybod ei fod yn dod, mae'r wyddoniaeth yn glir, rydym yn gwybod am yr effeithiau niweidiol, ac nid ydym yn cynllunio ar ei gyfer. Ac rydym yn mynd i wynebu adlach ddifrifol, oherwydd nid yw'r wyddoniaeth yn mynd i fynd yn haws, ac nid yw'r effeithiau tymor byr yn mynd i leihau. Mae'r gymuned wyddonol wedi dweud nad ydym yn mynd i wynebu newid llinol, rydym yn mynd i wynebu uchafbwyntiau a chafnau yma. Fe gawn argyfyngau sydyn, fe gawn sychder, fe gawn stormydd, fe gawn farwolaethau, fe gawn aflonyddwch economaidd enfawr. Rydym yn gwybod hynny, mae'n digwydd eisoes. Mae'n mynd i fynd yn fwy dwys. Pam nad ydym yn wynebu'r hyn y mae'n ei olygu i'n polisïau?

Mae cynnydd Llywodraeth Cymru ar gynlluniau ynni lleol yn wych ac yn haeddu cryn glod, a chlod hefyd i'r Sefydliad Materion Cymreig a ddechreuodd y gwaith hwn yn ôl yn 2019 gyda'i adroddiad lle gosododd fap ffordd ymarferol a dechreuodd y gwaith yn Abertawe ar gynlluniau ardal leol. Ac rydym wedi cael adroddiadau da iawn gan gomisiwn sero net Cymru, a sefydlwyd yn y cytundeb gyda Phlaid Cymru, ac a ddywedodd wrthym beth sydd angen inni ei wneud erbyn 2035. Cyhoeddodd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol ei argymhellion hefyd, yn 2023. Felly, nid oes unrhyw esgus yma. Fe wyddom beth sydd angen inni ei wneud. Mae'n anodd. Mae'n anodd, ac mae'n mynd i fod yn ddrud yn y tymor byr, ond rydym hefyd yn gwybod—gadewch i'r cofnod o'r ddadl hon fod yno ar gyfer y dyfodol i'w chwilio gan ddeallusrwydd artiffisial—fe wyddom ei fod yn dod, fe wyddom ei fod yn mynd i ddigwydd. Felly, pan fydd hyn yn cael ei chwilio mewn 50 mlynedd, gadewch inni beidio ag esgus nad oeddem yn gwybod, nid oeddem eisiau ei wynebu, dyna i gyd. Nid oeddem am wynebu'r gymuned ffermio nad oedd eisiau torri allyriadau a lleihau llygredd, nid oeddem am wynebu'r buddsoddwyr mawr a'r corfforaethau mawr a ddywedodd wrthym ei fod yn rhy ddrud ac yn rhy anodd, nid oeddem am wynebu'r dde amgen a ddywedodd wrthym, trwy eu rhyfeloedd diwylliannol a'u poblyddiaeth, ei bod hi'n haws creu rhwygiadau a chael problemau ymrannol. Mae'r rhain i gyd yn ddewisiadau y mae pawb ohonom wedi'u gwneud ac mae angen inni eu perchnogi.

Mae yna faterion cymhleth yr ydym yn eu hwynebu, yn enwedig yn gysylltiedig â'r grid, ynghylch derbynioldeb y cyhoedd, ynghylch sgiliau y mae'n rhaid inni gynllunio ar eu cyfer ac y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â hwy. Ac roedd Adam Price yn hollol iawn yn ei bwynt am berchnogaeth, a dyma'r darn arall nad ydym yn siarad digon amdano. Rwyf am i Gymru gofleidio'r cyfleoedd y mae'r pontio i economi gynaliadwy yn eu cyflwyno i ni, ac mae yna gyfleoedd go iawn. Ond hefyd, ni ddylai'r enillion ollwng allan o Gymru a mynd i rywle arall. Felly, mae'n anodd iawn gwneud achos brwdfrydig dros ddatblygiad ac wynebu gwrthwynebiad lleol gwirioneddol pan fydd manteision y cynllun hwnnw'n mynd i gronfa athrawon Canada neu Lywodraeth Sweden, neu Lywodraeth yr Almaen, sydd oll yn buddsoddi'n helaeth mewn cynlluniau ynni gwyrdd yn y wlad hon, a ninnau heb fod yn gwneud hynny. A dyna pam rwy'n credu mai creu GB Energy gan Lywodraeth y DU yw'r ffordd iawn ymlaen, ac mae angen iddi ehangu a buddsoddi yn hynny gyda hyder. Ond fel erioed, mae Cymru'n mynd i gael cam os nad ydym yn ofalus, wrth i'r adnoddau naturiol sydd gennym gael eu hecsbloetio gan eraill, gan ein gadael i oddef canlyniadau byrdymor gwneud hynny. Ac ni ddylem adael i hynny ddigwydd.

Ond gadewch imi orffen, Lywydd, drwy ailadrodd y pwynt pwysig i fy nghyd-Aelodau. Nid yw'r cyflymder yr ydym yn barod i symud arno, yr amwysedd y mae pob rhan o'r Siambr yn ei roi mewn cyfraniadau 'Ie, ond—' yn gyfartal â lefel yr her a wynebwn.

17:10

Mae yna gymaint dwi'n cytuno gyda fe. Beth fyddwn i yn gwthio’n ôl ychydig bach arno fe, wrth gwrs, yw bod yn rhaid inni fynd â phobl gyda ni ar y siwrnai yma, ac mae'n ffin denau rhwng gwthio’n galed a thynnu pobl tu ôl i ni. Ac ar adegau, dwi'n meddwl bod yn rhaid inni fod yn bragmatig yn hynny o beth. Ond dwi'n cytuno 100 y cant ynglŷn â maint yr her a maint yr ymateb sydd ei angen. A gadewch inni atgoffa ein hunain ble rŷn ni: 34 y cant o holl drydan Cymru sydd yn cael ei gynhyrchu o ynni adnewyddadwy ar hyn o bryd. Mae hynny i fyny o 27 y cant yn 2022, ond, wrth gwrs, fel rŷn ni'n gwybod, mae'n dibyniaeth ni lawer, lawer yn rhy drwm ar danwydd ffosil, yn enwedig nwy, wrth gwrs, gyda gweithfeydd mawr mewn llefydd fel Penfro a Chei Connah yn ganolog i hynny.

Ac mae hynny'n dod nôl at y pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud ynglŷn â’r dewis yma rhwng y llwybr caled a'r llwybr meddal. A dwi yn teimlo, er efallai y gallwn ni reidio dau geffyl mewn gwahanol gyd-destunau—ar y tir ac yn y môr—heb ein bod ni'n gweld y shift sylfaenol yma i ffwrdd o'r model hub and spoke lle rŷn ni'n cael y canolfannau yma sydd yn cynhyrchu lot fawr o ynni, sydd yn cael ei gyfleu yn aneffeithiol ac yn aneffeithlon iawn ar draws y wlad, gyda transmission loss ac yn y blaen, ac yn y blaen—heb ein bod ni'n symud i fodel sydd yn fwy o ryw fath o rwydwaith gwe pry cop, lle mae yna lawer mwy o gynhyrchiant yn digwydd ar raddfa lai mewn mwy o lefydd—sydd yn gyfundrefn llawer mwy resilient, gyda llaw, achos os oes peth o'r wifrynnau yna yn mynd lawr, wel, mae gyda chi'r cysylltedd a'r rhyngddibyniaeth i allu pwyso ar eraill i gynhyrchu; yn y model hub and spoke, os oes un o'r canolfannau mawr yn mynd lawr, mae hanner y wlad yn mynd mas; mae'n rhaid inni gael y sifft benderfynol yna yn y grid, i bob pwrpas, oherwydd y grid yw'r broblem, yn ei hanfod, fan hyn—dydyn ni ddim yn mynd i gyrraedd y nod rŷn ni'n awyddus i'w gyrraedd. Ac wrth gwrs y rhwystredigaeth arall inni fan hyn yw dyw'r grid ddim wedi ei ddatganoli. Felly, fe allwn ni gael y dadleuon yma mor aml â rŷn ni eisiau, ond heb fod y symudiad decisive yna yn dod o gyfeiriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r Grid Cenedlaethol, yna rŷn ni'n mynd i fod yn nofio yn erbyn y llif yn rhy aml o lawer.

Nawr, mae yna gyfleon, wrth gwrs. Mae yna beryglon, fel rŷn ni wedi'i glywed. Ond yr hyn sydd gennym ni ar hyn o bryd, dwi'n ofni, yw sefyllfa lle mae yna gwmnïau lu—cwmnïau rhyngwladol mawr—yn glanio yn ddisymwth ar gymunedau ar hyd a lled Cymru, yn chwilio am ganiatadau i ddatblygu'r projectau mawr yma, rhai ohonyn nhw'n addas, rhai ohonyn nhw yn gwbl anaddas, yn fy marn i. A'r hyn gewch chi wedyn, wrth gwrs, yw cymunedau yn adweithio i hynny—cymunedau sydd efallai yn cael eu brawychu ac sydd yn taro nôl. Problem y gyfundrefn yw hwnna, sy'n creu y gwrthdaro yma, a dyw e ddim, wrth gwrs, yn rhywbeth rŷn ni eisiau ei weld. Mae yna 126—. Wnes i gyfeirio at yr ystadegau yma yn gynharach. Mae yna 126 o brojectau ynni adnewyddadwy gyda'r National Energy Systems Operator ar hyn o bryd—hynny yw, yn geisiadau gan y sector ynni am gysylltiadau i'r grid cenedlaethol yma yng Nghymru. Maen nhw'n brojectau o bwys, hynny yw projectau arwyddocaol—nid projectau bychan, felly, fel ynni cymunedol, ffermydd solar bach, ffermydd gwynt bychan ac yn y blaen, ac nid projectau chwaith, wrth gwrs, fel rŷn ni wedi clywed, sy'n mynd i ddiwallu anghenion lleol, ond projectau o bwys cenedlaethol sydd angen cysylltiad i is-orsaf, wrth gwrs, er mwyn wedyn allforio y trydan yna ar linellau foltedd uchel 400 kV neu 132 kV—yr extraction yma roedden ni'n sôn amdano fe, neu'n clywed amdano fe, yn gynharach.

Nawr, mae cyfanswm allbwn arfaethedig y cynlluniau yma yw 40 GW, sydd tua 25 gwaith anghenion trydan Cymru ar hyn o bryd. Felly, pe baem ni'n llwyddo i ddadgarboneiddio ein heconomi ni yn llwyr a symud tuag at gyfundrefn ynni, trafnidiaeth a gwresogi carbon sero, yna pe bai'r rheini i gyd yn dod i fwcl, mi fydden ni â mwy na digon ar ein plât. Ond diffyg rheoleiddio, dwi'n teimlo, diffyg cynllun, diffyg cydlynu, sy'n agor y drws i hyn. Mae llawer o'r dechnoleg hefyd, wrth gwrs, yn newydd—storio trydan batri yn un ohonyn nhw sydd yn dod yn fwyfwy cynhennus mewn sawl cymuned. Dyw'r drefn rheoleiddio ddim yn ddigonol i gwrdd â scale a nifer y projectau sy'n dod ymlaen. A dyna, i raddau, dwi'n teimlo, yw pam rŷn ni'n gweld cymaint o brojectau yn cael eu twlu i mewn i'r pot gan y cwmnïau yma; hynny yw, rhyw fath o speculative punt yw nifer o'r rhain, yn aml iawn. Mae yna 79 o brojectau storio batri mawr wedi gwneud cais i'r Grid Cenedlaethol yma yng Nghymru, mewn un ffurf neu'r llall, ar hyn o bryd. Mae rhai ohonyn nhw yn cynhyrchu trydan ar yr un safle ac yn storio'r trydan, ond mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw—dros 40—yn brojectau storio yn unig. Fe wnes i sôn gynnau fod un ohonyn nhw, jest un—Ynni Celyn, yn fy rhanbarth i—yn mynd i gostio mwy neu lai yr un faint â'r buddsoddiad yn yr electric arc furnace ym Mhort Talbot, ym mhentref bach Gwyddelwern, sydd â chwpl o gannoedd o bobl yn byw ynddo fe. Beth rŷn ni'n ei weld yw Klondike newydd. Mae yna gold rush yn digwydd o flaen ein llygaid ni, ac mae yna gwmnïau yn heidio i mewn i'r cymunedau yma yn chwilio am eu cyfle i wneud arian mawr yn sydyn iawn. Ac rŷn ni nôl, wrth gwrs, i diriogaeth y glo a'r llechi, fel rŷn ni wedi clywed gan ambell i gyfraniad y prynhawn yma. Felly, mae angen i'r prosesau cynllunio a rheoleiddio ac mae angen i'r polisi Llywodraeth gadw lan gyda hyn, neu, fel rŷn ni'n gwybod, y cymunedau, ar ddiwedd y dydd, fydd yn adweithio ac wedyn, wrth gwrs, mi fyddwn ni i gyd yn colli'r frwydr o safbwynt symudiad tuag at fwy o ynni adnewyddadwy.

Mi bigaf i lan ar y pwynt a wnaethpwyd pan oedd Luke yn siarad ynglŷn â chronfeydd cymunedol. Mae gennym ni, yn ardal Clocaenog, brofiad yn sir Ddinbych ac ardaloedd o sir Conwy o flynyddoedd mawr o ynni gwynt a phrojectau yn darparu cronfeydd cymunedol. Dwi wedi cael pobl yn dod ataf i nawr yn dweud yn blwmp ac yn blaen, 'Rŷn ni wedi rhedeg mas o bethau i ofyn amdanyn nhw', ac mae hwnna'n gadael blas cas; mae e'n gadael rhywbeth ym mol pobl sy'n teimlo, 'Rŷn ni wedi cael ein prynu ychydig, fan hyn, gan y cronfeydd yma.' Nawr, peidiwch â fy nghael i'n rong, maen nhw wedi gwneud gwaith da, llawer o'r buddsoddiadau yma, ond dwi yn teimlo bod yr amser wedi dod, fel awgrymwyd, nid i brynu pethau ond i fuddsoddi mewn pobl, mewn sgiliau, mewn mentrau cymunedol, mewn rhywbeth fydd yn gadael legasi llawer mwy cyfoethog a llawer mwy adeiladol, os liciwch chi, o safbwynt creu cymunedau mwy cydnerth i fedru, efallai, cymryd mwy o reolaeth o'u dyfodol eu hunain. Jenny. 

17:20

Roedd gennyf ddiddordeb mawr yn yr hyn a ddywedoch chi am brosiect Clocaenog a phobl yn meddwl eu bod wedi rhedeg allan o bethau i ofyn amdanynt. Mae hyn yn mynd â ni'n ôl at rôl awdurdodau lleol, oherwydd ni allwch ddisgwyl i'r cyngor tref neu gyngor cymuned y pentref ddweud, 'Iawn, dyma sut rydym ni'n mynd i ddatgarboneiddio'r holl dai yn yr ardal.' Mae'n rhaid i chi gael arweinyddiaeth gan yr awdurdod lleol i ddweud, 'Ydym, rydym yn cynhyrchu cymaint â hyn o arian budd cymunedol, nawr mae angen inni gael cynllun mwy.' A dyna un o wendidau'r sefyllfa hon. Felly, mae'n rhaid i awdurdodau lleol gamu i'r adwy. Ni allwch ddisgwyl i ddinasyddion cyffredin wybod, 'Dyma sut rydych chi'n mynd i ddatblygu ynni adnewyddadwy.' Mae hon yn dechnoleg newydd. 

Yn wir, a dyna pam rwy'n teimlo weithiau bod rhai o'r cwmnïau rhyngwladol mawr hyn yn rhedeg cylchoedd o'n cwmpas ni yma yng Nghymru gyda'r mathau hyn o bethau. Ac un o'r cwestiynau rwy'n ei ofyn i rai o'r cwmnïau hyn—. Pan fyddant yn dweud, 'A oes gennych chi unrhyw awgrymiadau ynglŷn â ble gallem fuddsoddi ein cronfa gymunedol?', y cwestiwn cyntaf rwy'n ei ofyn iddynt yw, 'Wel, edrychwch, dywedwch wrthyf yn gyntaf: pa ganran o'ch elw rhagamcanol yw hyn?' Distawrwydd. Mae'n gwestiwn nad ydynt eisiau ei ateb. Nawr, nid yw hynny'n diystyru'r ffaith eu bod yn creu swyddi mewn ffyrdd eraill ac yn dod â buddsoddiad ac ati, ond mae'n teimlo mewn gwirionedd—. Yr holl beth echdynnol hwnnw. Mae yna deimlad, wyddoch chi, o ble mae'r gyfran gymunedol go iawn yn hyn? Ble mae'r ymrwymiad go iawn gan y gymuned? Ac nid ydym yn ei weld. 

Dydyn ni ddim yn ei weld e. Felly, ie, mae angen cymysgedd o brojectau mawr a bach, ac mae Cymru, wrth gwrs, yn benthyg ei hun yn berffaith ar gyfer hynny, fel rŷn ni wedi clywed. Ond adeiladau cyhoeddus—dwi wedi gweld cynlluniau ysgolion unfed ganrif ar hugain sy'n dweud eu bod nhw'n mynd i gwrdd â safonau BREEAM, ac rŷch chi'n gweld y darluniau yma gan gynllunwyr sy'n dangos paneli solar ac yn y blaen; chwe mis lawr y lein, wrth gwrs, 'O, mae'r gost wedi mynd lan. Mae'n rhaid inni dynnu rhywbeth mas', ac, yn sydyn iawn, dyw'r adeilad ddim yn edrych tamaid yn debyg i'r hyn welais i yn yr ymgynghoriad fuodd, efallai. Felly, mae'n rhaid inni drio symud o fanna hefyd. Ond, ar ddiwedd y dydd, mae'n rhaid i'n cymunedau ni ddod yn gyntaf yn yr hafaliad yma. 

Ac mae'n rhaid inni gymryd ysbrydoliaeth gan bobl fel Ynni Ogwen, Ynni Padarn Peris. Mae yna mwy y gall ein cymunedau ni ei wneud, ac nid dim ond ar scale bach hefyd, achos mae Morlais yn enghraifft, onid yw e, o'r hyn all ddigwydd ar scale lawer, lawer mwy ond yng nghyd-destun mentergarwch cymunedol a mentergarwch cymdeithasol. Felly, mae angen reset pan fo'n dod i'r meddylfryd yma—symud oddi wrth yr hub and spoke i symud tuag at rywbeth sy'n llawer haws i'w hymgorffori o fewn ein cymunedau ni ond sydd hefyd yn llawer mwy resilient pan fo'n dod i sicrhau bod y ddarpariaeth yna yn un gynaliadwy. 

Joyce Watson yw'r siaradwr olaf sydd gennyf sydd wedi gofyn am gael siarad cyn imi ofyn i Carolyn Thomas ymateb. Felly, Joyce Watson. 

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch iawn o gymryd rhan, a diolch i'r rhai a gyflwynodd y ddadl hon yma heddiw. Nodais yn flaenorol ein bod yn symud tuag at drydydd chwyldro diwydiannol, y cyntaf oedd stêm, yna nwy, ac ynni adnewyddadwy wedyn, ond tybed a ydym mewn gwirionedd yn mynd yn ôl at y chwyldro cyntaf, lle roedd y pŵer i gyd yn cael ei gynhyrchu'n naturiol yn y lle cyntaf.

Rwy'n credu fy mod yn iawn i ddweud, am y tro cyntaf erioed, mai ynni adnewyddadwy, ynni gwynt a solar yn bennaf, a gynhyrchodd y rhan fwyaf o drydan Prydain y llynedd. Ar yr un pryd, yn ôl Comisiwn Aber Afon Hafren, y mae ei adroddiad wedi cyrraedd y penawdau heddiw, mae'r galw am drydan yn y DU yn debygol o fwy na dyblu erbyn 2050. Felly, dyna'r paramedrau, mewn gwirionedd, ar gyfer y drafodaeth hon y prynhawn yma. Mae'n amlwg, ac mae pawb yn cytuno, fod achos dros fwy o ynni adnewyddadwy: y manteision amgylcheddol wrth gwrs, mwy o ddiogeledd ynni, buddsoddiad economaidd, a bod ffynonellau adnewyddadwy yn cynhyrchu trydan yn rhatach na gorsafoedd nwy.

Felly, os edrychwn ar y manteision amgylcheddol, maent wedi cael eu crybwyll sawl gwaith heddiw, ond datgarboneiddio'r ffordd y cawn ein hynni a hefyd, manteision amgylcheddol—ac mae wedi cael ei drafod—cael eich ynni wedi'i gynhyrchu a'i ddarparu'n lleol.

Mae'r diogeledd ynni'n eithaf clir; mae'r ffaith bod ein biliau ynni wedi saethu trwy'r to yn deillio o ansicrwydd ein cyflenwadau ynni fel y maent ar hyn o bryd. Ac mae'r buddsoddiad economaidd yn amlhaenog o ran hyfforddiant, o ran swyddi, ac o ran ailfuddsoddi'r enillion o gynhyrchu ynni gwyrdd yn uniongyrchol i'r cymunedau hynny. Ond mae'n rhaid inni fod yn glir yma—a chlywais beth a ddywedodd Llyr—mae'n rhaid inni fod yn glir ynglŷn â buddsoddi yn y ffordd y cynhyrchwn yr ynni. Mae'n eithaf sicr y bydd angen mwy o ynni gwyrdd yn llawer cyflymach nag y caiff ei gynhyrchu ar hyn o bryd. Bydd yn rhaid i rywun fuddsoddi yn hynny i wneud iddo ddigwydd, ac mae hefyd yn amlwg nad yw cyllid y DU o reidrwydd mewn sefyllfa i ariannu hynny, ond bydd GB Energy yn dod yn rhan o'r peth.

Rydym hefyd yn gwybod, os edrychwch chi ar y dadansoddiad a wnaed gan Rystad, y bydd yn 10 gwaith rhatach i gynhyrchu trydan o ynni solar nag y bydd o nwy. Felly, dyna beth enfawr arall i feddwl amdano ar gyfer y dyfodol. Ond bydd maint y buddsoddiad, y datblygiad a'r dechnoleg yn arwain at fwy o fanteision yn y diwedd. Ac rwyf eisoes wedi sôn am Great British Energy; mae eraill wedi sôn am Ynni Cymru yma yng Nghymru, ac mae angen inni gael budd, ond beth yw'r buddion, mewn gwirionedd? Wel, os edrychwch ar ddadleoliad pobl dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'n fwy nag erioed, ac yn rhannol o ganlyniad i newid hinsawdd. Clywais y ffigurau hynny ddoe. Nawr, os na all pobl fyw lle maent a'u bod yn dechrau symud—ac roedd hwn yn bwynt y dechreuodd Lee ei wneud yn gynharach—rydym yn mynd i gael haen ychwanegol arall sy'n dod i lawr y lôn o sut ydym ni'n mynd i allu helpu pobl. A yw pobl yn barod i helpu pobl os cânt eu dadleoli? Ac os ydym yn parhau i gynhyrchu ynni yn y ffordd y gwnawn—gan gyflymu'r newid yn y patrymau tywydd, os mynnwch—mae hynny'n mynd i ddigwydd yn eithaf cyflym, ac nid oes rhaid i chi fynd yn bell iawn—dim ond edrych ar Ewrop ar hyn o bryd sydd angen ichi ei wneud; mae ar garreg ein drws, pan edrychwch ar y tanau yng Ngwlad Groeg, yn Ffrainc, yn yr Eidal, ac yna'r llifogydd sy'n digwydd yn sgil hynny hefyd. Mae rhai o'r lleoedd hynny'n dod yn anghyfannedd nawr yn y ffordd yr arferai pobl fyw ynddynt. Felly, mae brys y tu ôl i hyn.

Mae'n rhaid inni wneud rhai dewisiadau, a dyna beth rwy'n dod ato. Felly, bydd yn golygu bod yn rhaid inni adeiladu peilonau; bydd yn golygu y bydd yn rhaid inni gael rhyng-gysylltwyr; bydd yn golygu y bydd gennym geir trydan ac inswleiddio yn ein heiddo a'n cartrefi newydd. Ni allwn ddibynnu ar un cyflenwad yn unig. Mae angen cymysgedd o'r holl bethau hyn. Mae'n rhaid inni fod yn onest gyda phobl pan fyddwn yn dweud nad yw'r dewisiadau hyn yno ac na fydd yn rhaid eu gwneud. Ond rwy'n cytuno hefyd na ddylid eu gwneud dros bennau pobl ychwaith; dylai'r gymuned fod yn rhan o'r penderfyniadau hynny, ac elwa o ganlyniad i gael hynny'n digwydd yn agos atynt.

Fel y gwyddom, gennym ni yma y mae'r tai lleiaf effeithlon o ran eu defnydd o ynni, yn y DU yn sicr, os nad yn Ewrop, ac mae llawer o'n tai dros 100 oed. Mae hynny'n golygu, ac mae'r Llywodraeth wedi buddsoddi ynddo, fod yn rhaid inni ddatgarboneiddio peth o'r stoc dai honno ac mae'n rhaid inni inswleiddio'r stoc dai bresennol. Mae llawer o bobl wedi dweud yma heddiw fod yn rhaid i ni, pan fyddwn yn adeiladu tai newydd, osod paramedrau i sicrhau nad ydym yn adeiladu'r un problemau i mewn ag yr ydym yn ceisio mynd i'r afael â hwy eisoes, am eu bod yno yn y ddaear ar hyn o bryd, a chyfeiriodd Jenny at hynny.

17:30

Ie. Wel, rwy'n credu ein bod mewn lle gwell nag yn Lloegr, yn sicr o ran hynny, ond mae'n rhaid inni ddatgarboneiddio nifer fawr iawn o'n cartrefi, ac fel y dywedwch, mae llawer ohonynt yn 100 oed ac yn adeiladau carreg ac yn anodd iawn i'w hôl-osod. Ond a ydych chi'n cytuno â mi felly fod angen inni roi llawer mwy o arian tuag at y rhaglen Cartrefi Clyd, yn enwedig cynlluniau'n seiliedig ar ardal, fel y gallwn gael llawer mwy o'r cymunedau tlotaf wedi'u hôl-osod a rhyddhau arian iddynt ei wario ar bethau eraill wedyn? Yn amlwg, rwy'n gweld bod Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid gyda ni yn yr ystafell, felly rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth—. Roeddwn i'n meddwl tybed a fyddech chi'n cytuno bod angen inni fuddsoddi llawer mwy o arian yn hynny.

Afraid dweud bod yn rhaid inni roi mwy o arian i mewn i Cartrefi Clyd, ac mae'n ymwneud â mwy na'r carbon yn unig, gan nad oes rhaid iddynt losgi mwy o danwydd i'w cadw'n gynnes; mae hefyd yn ymwneud â lefel o gyfiawnder i'r bobl hynny a hawl ddynol i fyw mewn cartref cynnes a pheidio â gorfod gwresogi un ystafell yn unig mewn hen gartref am na allant fforddio'r trydan. Felly, mae yna effaith lawer mwy eang na chynhesu cartref yn unig.

Rydym wedi edrych ar lawer o bethau yma heddiw. Soniais am ddadleoli pobl. Mae angen inni feddwl o ddifrif am hynny. Clywsom am bontio, ac rwy'n byw yn sir Benfro. Ni allwn droi'r tap i ffwrdd dros nos, oherwydd byddai pobl yn eithaf diymgeledd pe bai eu swyddi'n diflannu dros nos, ond mae angen pontio teg, ond pontio sy'n amserol hefyd, nid un sy'n mynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen.

Mae angen inni fuddsoddi mwy yn y sgiliau, Jenny, a'r grid. Pwy sy'n berchen ar y grid? Rydym i gyd yn gwybod pwy sy'n berchen ar y grid. Beth a wnawn am hynny? Beth a wnawn am ddosbarthu'r ynni y mae pawb ohonom yn gobeithio y byddwn yn ei gynhyrchu, a phwy fydd yn berchen ar y rhwydwaith dosbarthu hwnnw? Mae'r rhain yn gwestiynau allweddol y mae'n rhaid inni eu gofyn. Mae'r rhain yn gwestiynau allweddol y bydd yn rhaid inni ddod o hyd i'r atebion iddynt, oherwydd clywais lawer o sôn yn yr ystafell nad ydym eisiau allforio ein hynni—dyna beth a ddeallais gan Blaid Cymru ac efallai fy mod wedi cael hynny'n anghywir—ond mae'n ymddangos yn beth rhyfedd iawn i mi, os gallwch chi gynhyrchu ynni dros ben a'i allforio, a gwneud rhywfaint o arian i'w ailfuddsoddi yn eich gwlad ar yr un pryd, pam na fyddech chi'n gwneud hynny?

17:35

Rwyf wedi cael dau gais am gyfraniadau ychwanegol. Rwyf wedi cytuno i'r ddau: Lee Price—. 'Lee Price', dyna gyfuniad o'r ddau. [Chwerthin.] Lee Waters.

Am ddelwedd ofnadwy, Lywydd. Roeddwn eisiau manteisio ar newydd-deb ein rheolau ar gyfer y ddadl hon i ddod i mewn i ymateb i ddau bwynt pwysig iawn a wnaeth Joyce Watson yn ei chyfraniad. Yn gyntaf ar fater dadleoli pobl, rwy'n credu bod hwn yn bwynt nad yw wedi cael ei drafod. Rydym i gyd yn gweld ac yn teimlo effaith adlach o ganlyniad i lawer o bobl yn symud oherwydd rhyfeloedd ac oherwydd grymoedd economaidd. Ni fydd hynny'n ddim o'i gymharu â'r mudo a'r ceisio lloches yn seiliedig ar yr hinsawdd a welwn o ganlyniad i diroedd y gwyddom eisoes y byddant yn anghyfannedd oherwydd newid hinsawdd sydd eisoes yn digwydd yn yr atmosffer. Nid ydym ar y trywydd iawn i gyflawni targedau 2050 ledled y byd, felly mae hyn yn dod tuag atom ac mae'n mynd i wneud i lawer mwy o bobl symud tua'r gogledd a symud tuag at Ewrop a'r DU, ac mae hynny'n mynd i achosi aflonyddwch cymdeithasol enfawr. Mae hynny'n mynd i ddigwydd. Felly, dyna reswm pellach pam y mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn lliniaru hyn cyn gynted â phosibl. Nid yw pob peth arall yn gyfartal; mae newid cyflym yn dod tuag atom.

Ac i ail bwynt pwysig iawn Joyce Watson, sy'n ymwneud â'r galw cynyddol am drydan a wynebwn, ceir dwy weledigaeth wahanol o'r galw am ynni yn y dyfodol. Mae yna rai fel Elon Musk a Jeff Bezos, sydd eisiau defnyddio digon o ynni, fel y maent yn ei weld, i'n hanfon i Mars ar ôl dryllio'r blaned yma, a phweru ceir hedfan. A dyna farn ar y dde technegol, sydd â phob math o syniadau ffantastig ynghylch defnyddio ynni i wneud mwy o bethau. Ac yna mae yna safbwyntiau fel yn y llyfr hwn sy'n ysgogi'r meddwl gan yr Athro Gareth Wyn Jones, yn seiliedig ar ei ddarlith Nation.Cymru yma yn y Senedd rai misoedd yn ôl, sy'n gwneud y pwynt fod angen inni fyw ar lai o ynni fel planed, oherwydd mae effaith ecolegol cynhyrchu mwy a mwy a mwy yn mynd i fod yn gatastroffig i'n bioamrywiaeth, ac ni fydd hynny'n cefnogi bywyd dynol. Hyd yn oed os yw technoleg yn llwyddo i ddod o hyd i ffordd o gynhyrchu'r holl ynni ychwanegol, ni fydd yr ecosystem yn gallu ei gefnogi. Ac rwy'n credu nad ydym yn siarad digon am ddefnyddio llai o ynni. Dywedir yn aml mai'r math rhataf o ynni yw'r ynni nas defnyddir; arbed ynni. [Torri ar draws.] Rwy'n hapus i ildio i Jenny Rathbone.

Diolch. Roeddwn i'n edrych ar gynlluniau di-ynni Dŵr Cymru. Dim ond 3 y cant o'r glawiad sy'n cael ei yfed, felly rydym yn caniatáu iddo fynd i'r system garthffosiaeth, lle mae'n rhaid ei drin a'i bwmpio'n ôl i mewn i fywydau pobl. Felly, mae'n rhaid cael newid enfawr yn y ffordd rydym yn gwerthfawrogi ac yn rheoli dŵr, oherwydd ar hyn o bryd, rydym yn hollol anobeithiol am wneud hynny.

Yn hollol. I gloi'n fyr, mae gennym wastraff enfawr; mae gennym wastraff adnoddau enfawr ac rwy'n credu nad yw'r hyn a ddisgrifiwyd yn gywir gan Joyce Watson, a'r hyn yr anelwn tuag ato ar hyn o bryd, sef defnydd ychwanegol yn unig, yn gynaliadwy. Nid nad yw'n ddymunol; yn syml iawn, ni fydd modd ei gynnal. A dylem fod yn meddwl ac yn dadlau'n ofalus iawn ynglŷn â sut rydym yn lleihau'r defnydd o ynni, sut rydym yn cynyddu arloesedd ac effeithlonrwydd, cyn inni ddechrau ceisio cynhyrchu cynhyrchiant ychwanegol.

Rwy'n ddiolchgar iawn, Lywydd, am gael defnyddio'r elfen seneddol newydd hon. Roeddwn i eisiau ymateb yn arbennig i'r hyn y gwnaeth Lee Waters ein hatgoffa ohono'n gynharach, sef pwysigrwydd brys. Rwy'n cytuno'n llwyr ag ef, ac rwy'n gyflymwr—rwy'n credu bod angen inni symud yn llawer cyflymach nag a wnawn. Wrth feddwl am y ddau fodel, fel rwy'n eu disgrifio, y meddal a'r caled, y corfforaethol yn erbyn y raddfa gymunedol a pherchnogaeth gymunedol, yn aml, defnyddir y ddadl, yn enwedig gan y sector corfforaethol, 'Dim ond ni sydd, os ydych chi am gyrraedd yno'n gyflym.' Nawr, mae yna resymau pam y mae'r ffordd y cynlluniwn y system ar hyn o bryd, sy'n seiliedig ar fuddsoddiadau corfforaethol cymhleth ar raddfa fawr, pam eu bod yn gallu gwneud y ddadl honno, ond mae'r dystiolaeth yn pwyntio i gyfeiriad gwahanol. Felly, pan edrychwn ar wledydd lle ceir perchnogaeth leol sylweddol iawn, rydym wedi gweld y gwledydd hynny'n cyrraedd trawsnewidiadau ynni llawer cyflymach, yn enwedig y gwledydd Nordig, er enghraifft. Felly, os ydym am frysio, mae angen inni ddatgysylltu ein hunain oddi wrth y modelau corfforaethol, ac mae angen inni ei wneud ein hunain. Ac yna rydych chi'n alinio perchnogaeth leol, cefnogaeth leol, ac rydych chi'n cyrraedd yno'n gyflymach, oherwydd byddwch yn colli unrhyw wrthwynebiad sydd yno, pryderon ac ati. Felly, rwy'n credu bod achos cryf dros droi at y math o fodel sydd wedi bod yn fwy llwyddiannus yn union am fod angen inni gyrraedd yno yn gynharach.

O ran y cwestiwn ar allforio, yn hollol, os oes gennym ddigonedd o ynni, yna pam ddim allforio, ond dylech ddechrau gyda llunio eich system ynni leol o amgylch eich anghenion lleol. Yn benodol, mae'r mater hwn wedi codi yn Sgandinafia yn ddiweddar, lle mae eu prisiau ynni wedi bod yn isel iawn, ac mae rhyng-gysylltwyr wedi bygwth gyrru'r pris ynni i fyny, oherwydd byddai'n well gan berchnogion y cwmnïau werthu i'r Almaen a chael—. Felly, mae'n rhaid i chi seilio eich cynllun ynni ar berchnogaeth leol ac anghenion lleol, mewn ffordd deg, mewn ffordd sy'n darparu buddion i'ch cymunedau eich hun, ac edrych ar allforio ynni wedyn.

Yng nghyd-destun y drafodaeth ar brisio parthol a gawsom yn gynharach, rwy'n credu ei bod yn drawiadol iawn edrych ar wahanol leisiau'r sector corfforaethol. Felly, mae Octopus Energy, gyda rhyw fath o feddwl cymdeithasol, yn dweud, 'Edrychwch, yn hollol, ewch am brisio parthol, fel y gallwch chi rannu budd ynni adnewyddadwy helaeth lleol gyda phobl leol.' Mae'r sector ynni adnewyddadwy corfforaethol yn dweud, 'Na, peidiwch â gwneud hynny. Peidiwch â gwneud hynny oherwydd mae hynny'n difetha ein model ariannol, oherwydd rydym yn ei seilio ar ragweladwyedd pris.' Nid yw'r cwmnïau ynni adnewyddadwy corfforaethol hynny'n cael eu gyrru'n sylfaenol gan angen lleol a chyflawni budd lleol; maent yn seiliedig yn y bôn ar eu mantolen. Felly, mae angen inni wrando ar leisiau pobl fel Octopus Energy ac adeiladu'r math hwnnw o lwybr meddalach, yn hytrach na'r model corfforaethol sy'n mynd â ni ar hyd lôn bengaead.

17:40

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Mae'n eang iawn, onid yw? Mae'n cwmpasu cymaint, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn. Rwy'n mynd i geisio crynhoi cystal ag y gallaf.

Mae angen inni weithredu'n gyflym. Mae gennym argyfwng diogeledd ynni. Mae gennym lawer o ddatblygwyr mawr yn ymddangos nawr gyda llawer o geisiadau cynllunio, ac mae llawer o'r cwmnïau mawr hyn yn medi'r enillion, fel y dywedwyd. Mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn dod â'r gymuned gyda ni, a gobeithio y gallwn wneud yn siŵr fod gennym fwy o gynlluniau ynni sy'n eiddo i'r gymuned, mwy o fuddsoddiad cymunedol a budd cymunedol, gyda biliau is hefyd o bosibl.

Mae angen inni ystyried yr effaith ar yr hinsawdd, fel y nododd Lee. Os nad ydym yn gwneud hynny, gallai fod yn gatastroffig i'n hinsawdd, i'n natur. Mae un o bob wyth tŷ yng Nghymru mewn perygl o ddioddef llifogydd, ond mae yna effaith fyd-eang ar bobl hefyd. Mae angen iddo fod yn bontio teg, gan wneud yn siŵr ein bod yn dod â phobl gyda ni a gwneud yn siŵr fod y sgiliau yn eu lle hefyd. Roedd gennyf ddiddordeb mawr, fel Janet ac eraill, mewn gwneud yn siŵr fod gennym baneli solar ffotofoltaig ar bob adeilad, ar dai, yn y dyfodol. Hoffwn i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â hynny, ac edrych ar hynny eto, gan ei ymgorffori. Mae gwledydd eraill, gwledydd Ewropeaidd eraill, yn gwneud hynny nawr. Meddai Joyce, pan fyddwn yn rhoi grantiau i fusnesau, pam na wnawn yn siŵr—mae'n arian cyhoeddus—eu bod yn buddsoddi mewn ynni solar ac ynni adnewyddadwy?

Mae cael costau ynni wedi'u cysylltu â nwy i'w weld yn anghywir hefyd. Dylem geisio cyrraedd ynni adnewyddadwy. Mae newid i nwy yn anghywir. A hefyd diffodd ein hynni adnewyddadwy pan allem fod yn gwneud yn siŵr ei fod ar gael i bobl leol hefyd mewn cynlluniau lleol; mae gwir angen edrych ar hynny.

Mae angen strategaeth arnom hefyd. Rydym wedi trafod cymaint o wahanol elfennau heddiw. Mae angen strategaeth genedlaethol arnom ar gyfer y dyfodol, a gweithio gyda GB Energy fel bod gennym y strategaeth orau i Gymru, i'r Cymry, a gweithio gyda GB Energy, gan wneud yn siŵr eu bod yn cyd-fynd â hi. Mae yna gynllun ynni cenedlaethol, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, ond nid wyf yn siŵr a yw hwnnw yr un peth.

Soniwyd am edrych ar reoliadau adeiladu, ar gyfer tai newydd sy'n cael eu hadeiladu, i wneud yn siŵr eu bod yn cyrraedd safon dda, oherwydd nid ydym am fod yn ôl-osod y rheini yn y dyfodol, sy'n bwysig iawn. Ac mae angen inni fuddsoddi yn y gronfa Cartrefi Clyd ar gyfer pobl sydd â thai nad ydynt yn cyrraedd y safon ar hyn o bryd, fel y gallwn fuddsoddi a helpu pobl yn lleol i gael eu biliau ynni i lawr, i gael cartrefi cynnes a buddsoddi mewn ynni solar.

I orffen, mae llawer wedi'i ddweud heddiw. 'A all ynni adnewyddadwy yn unig ddiwallu anghenion ynni Cymru?' oedd fy nghwestiwn ar ddechrau hyn. Mae Adam a Lee yn dweud y gall. Rwy'n credu bod gennym ddigonedd o ynni naturiol yma. Mae gennym ein mynyddoedd, mae gennym ein llynnoedd, mae gennym y môr, mae gennym wynt. Mae gennym haul weithiau, ac mae angen inni ddal y pethau hynny er budd ein hinsawdd, pobl Cymru, ein trigolion, a dod â'r biliau i lawr a gweithredu cyn gynted â phosibl. Diolch.

17:45

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Daw hynny â'r ddadl agored heddiw i ben. Diolch yn fawr, Carolyn a phawb.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Yswiriant Gwladol y Cyflogwr

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Eitem 7 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig, yswyriant gwladol cyflogwyr. Galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8857 Paul Davies

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnydd Llywodraeth y DU i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, sy'n dod i rym ar gyfer y flwyddyn dreth 2025-26.

2. Yn cydnabod yr effaith niweidiol y bydd y cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn ei chael ar elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud sylwadau ar frys i Lywodraeth y DU i sicrhau y bydd elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cynnwys yn niffiniad Llywodraeth y DU o gyflogeion y sector cyhoeddus a ddiffiniwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac, o ganlyniad, y byddant yn cael eu had-dalu am y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar gynnig sy'n ceisio mynd i'r afael â mater sy'n creu perygl clir i bobl a gwasanaethau ledled Cymru. Rydym hefyd yn cefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Blaid Cymru, ond yn eu hannog serch hynny i bleidleisio dros y cynnig gwreiddiol yn hytrach na gweld gwelliant difäol Llafur yn cael ei dderbyn cyn eu gwelliant eu hunain.

Gadewch inni wynebu'r peth: Gordon Brown oedd pensaer cyni. Nid yn Stryd Downing y cafodd cwymp ariannol 2008 ei greu. Fodd bynnag, polisïau Llafur a roddodd y chwalfa fwyaf i ni. Wrth siarad yma yn 2004, rhybuddiais mai'r realiti economaidd yw bod Cymru'n byw ar ddyled barhaus, ac os byddai Gordon Brown yn parhau i gynyddu gwariant cyhoeddus yn gyflymach na thwf economaidd, fel mwy na mesur tymor byr, fe ddoi'n ddydd o brysur bwyso arnom i gyd. Dyna pam y beirniadodd y Gronfa Ariannol Ryngwladol ddull y Trysorlys o drin cyllid cyhoeddus a galwodd am gydgrynhoi cyllidol, sy'n golygu toriadau gwariant neu godiadau treth, yn 2005.

Yn 2010, etifeddodd Llywodraeth glymblaid y DU y diffyg cyllidebol mwyaf mewn cyfnod o heddwch ers canrif, dwbl unrhyw ddiffygion blaenorol a'r mwyaf mewn unrhyw economi fawr. Felly, bu'n rhaid iddynt gyflawni gweithred gydbwyso ofalus, gan reoli hyn i lawr ac osgoi toriadau llawer uwch gan y rhai sy'n ariannu dyled y Llywodraeth, gan gofio bod niferoedd y bobl mewn tlodi difrifol wedi cynyddu bron i 800,000 o dan Lafur, gyda thlodi plant yng Nghymru wedi cyrraedd y lefel uchaf yn y DU cyn y cwymp ariannol yn 2008, ar 32 y cant. Nawr mae gennym Rachel Reeves, y mae ei chyllideb sy'n gyrru dyled, codi trethi a dinistrio swyddi yn parhau i fod y rhwystr mwyaf i dwf economaidd a'r cyfrannwr domestig mwyaf at gynyddu costau byw. Yn ôl i'r dyfodol yw hi gyda Llafur.

Ledled Cymru, mae elusennau, sefydliadau nid-er-elw a mudiadau gwirfoddol yn chwarae rôl hollol hanfodol yn darparu'r gwasanaethau cyhoeddus y mae'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn dibynnu arnynt. Bydd penderfyniad creulon Llafur i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn cael effaith niweidiol arnynt hwy a'u gwaith gydag unigolion a theuluoedd o'r gwaelod i fyny, yn darparu gwasanaethau allweddol sy'n gwella bywydau gan leihau'r galw ar wasanaethau statudol ar yr un pryd.

Rwyf wedi codi dro ar ôl tro sut y bydd y cynnydd sylweddol i yswiriant gwladol a gyhoeddwyd yng nghyllideb hydref Llywodraeth y DU yn effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau elusennau a sefydliadau cymunedol, ac wedi gofyn beth sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i liniaru hyn. Hyd yma, mae'r Ysgrifennydd Cyllid wedi datgan mai mater i Lywodraeth y DU yw hwn, a dyna pam y mae ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â hyn. 

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid hefyd wedi ymateb i ymosodiadau ar ei gyllideb ei hun yng Nghymru drwy ofyn i ni beth y byddem yn ei dorri i ddiogelu cyllid ar gyfer gwasanaethau hanfodol y trydydd sector, gan wrthod cydnabod y bydd yr economïau ffug yn ei gyllideb yn creu galw ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus a fydd yn mwy na llyncu unrhyw gynnydd ariannol y mae wedi'i roi iddynt. Economeg dwp yw hon. 

Mewn ymateb i'r ddadl hon, mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru wedi dweud eu bod yn bryderus iawn am effaith cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr ar sefydliadau'r sector gwirfoddol ledled Cymru. Mae llawer o'r sefydliadau hyn yn dweud eu bod eisoes yn wynebu pwysau ariannol sylweddol ac mae'r cynnydd hwn yn bygwth rhoi straen ychwanegol ar eu hadnoddau ac o bosibl yn peryglu gwasanaethau hanfodol a ddarperir i gymunedau. Maent wedi annog Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gryf i gydnabod y rôl amhrisiadwy y mae'r sector gwirfoddol yn ei chwarae, yn enwedig mewn partneriaeth â gwasanaethau cyhoeddus. Maent yn credu ei bod yn hanfodol i sefydliadau gwirfoddol sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus gael eu trin yn gyfartal a'u cynnwys mewn unrhyw fesurau cymorth ariannol, gan sicrhau nad ydynt dan anfantais anghymesur gan y newidiadau polisi hyn. 

Mae'r elusen gofal canser Tenovus wedi galw'r cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol yn 'ddinistriol' ac wedi annog Gweinidogion Cymru i liniaru'r effaith. Dywedodd yr elusen iechyd meddwl a dibyniaeth Adferiad wrthyf y bydd hyn yn costio £600,000 y flwyddyn iddynt, a heb fesurau lliniarol, bydd yn rhaid iddynt adael i staff fynd a lleihau gwasanaethau. Dywed Shelter Cymru y bydd hyn yn arwain at gynnydd o £117,000 yng nghostau darparwyr cymorth tai ac atal digartrefedd yn ystod y chwe mis cyntaf yn unig, gan effeithio'n uniongyrchol ar staffio a'u gallu i atal digartrefedd. 

Mae adroddiad diweddar yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, 'Cyrhaeddiad cenedlaethol, effaith leol', yn tynnu sylw at yr angen am sicrwydd o godiadau i gontractau ar gyfer gwasanaethau gofalwyr awdurdodau lleol, byrddau iechyd a byrddau partneriaeth rhanbarthol a gomisiynir gan wasanaethau gofalwyr lleol elusennol er mwyn talu'r gost gynyddol o gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, lle maent yn amcangyfrif bod y gost ychwanegol gyfunol i'w sefydliadau gofal lleol yng Nghymru o dalu'r rhain oddeutu £300,000 yn 2025-26.

Mae'r 16 hosbis elusennol yng Nghymru sy'n gweithredu ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru yn gorfod ystyried toriadau sylweddol, a fyddai'n gadael bylchau enfawr yn y ddarpariaeth ar gyfer y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu na fydd y byrddau iechyd yn gallu eu cau. Maent yn darparu gofal hollbwysig i fwy na 20,000 o blant ac oedolion yng Nghymru yr effeithir arnynt gan salwch angheuol a salwch sy'n cyfyngu ar fywyd bob blwyddyn ac yn darparu arbediad cost enfawr i'r GIG, gyda dros ddwy ran o dair o ofal hosbis yn cael ei ddarparu drwy godi arian elusennol, gan godi i dros 85 y cant yn achos hosbisau plant. Fodd bynnag, mae pob hosbis yng Nghymru yn rhagweld diffyg ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.

Canfu arolwg gan Hospice UK fod dros 20 y cant o hosbisau Cymru yn lleihau nifer y gwelyau cleifion mewnol neu wasanaethau hosbis ehangach, a bod 90 y cant yn cytuno bod pwysau costau byw yn debygol iawn o arwain at lai o gymorth i'r system ehangach, fel ysbytai a chartrefi gofal. Maent yn dweud bod angen £5.9 miliwn o gyllid bob blwyddyn arnynt ar frys i dalu am effaith codiadau cyflog y GIG ar gostau staffio hosbisau os ydynt am ddiogelu dyfodol uniongyrchol gwasanaethau hosbis yng Nghymru a'r gofal hollbwysig y maent yn ei ddarparu, oni cheir trefniant cynaliadwy mwy hirdymor.

Maent yn croesawu'r £3 miliwn ychwanegol o gyllid rheolaidd a gyhoeddwyd yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, ond yn ychwanegu na ellir disgrifio'r ffigur hwn fel cynaliadwy, o ystyried y bydd yn cael ei ganslo'n gyflym gan yswiriant gwladol a chynnydd isafswm cyflog o £1.8 miliwn, ac effaith ddisgwyliedig cynnydd yr 'Agenda ar gyfer Newid' ar gostau staffio hosbisau yn y dyfodol. Felly, mae cefnogi hosbisau Cymru gydag yswiriant gwladol a'r cynnydd isafswm cyflog yn hanfodol, gan gydnabod eu rôl allweddol yn darparu gwasanaethau allweddol i'r sector cyhoeddus a chymunedau lleol.

Felly, mae ein cynnig yn galw ar y Senedd hon i gydnabod yr effaith niweidiol y bydd y cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn ei chael ar elusennau, sefydliadau nid-er-elw a mudiadau gwirfoddol Cymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi camau brys ar waith i fynd i'r afael â hyn cyn i niwed pellach gael ei wneud. Un peth yw i welliant Llywodraeth Cymru ddweud eu bod wedi gwneud sylwadau, ac y byddant yn parhau i wneud sylwadau i Lywodraeth y DU, y dywedwyd wrthym y byddent yn gweithio law yn llaw â hwy, ond mae hyn wedi bod yn aneffeithiol, ac mae angen inni weld camau pendant a thryloyw ac atebol ar frys. Diolch yn fawr.

17:55

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn ei henw hi.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth ar ol pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod:

a) nad yw yswiriant gwladol wedi'i ddatganoli:

b) bod elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru yn poeni am effaith cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr; ac

c) bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud sylwadau, a bydd yn parhau i wneud sylwadau, i Lywodraeth y DU ar ran gwasanaethau cyhoeddus ac elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru ynghylch cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Member
Jane Hutt 17:56:19
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Yn ffurfiol.

Gwelliant 2—Heledd Fychan

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at:

a) y bwriad i ddyrannu ad-daliadau’r Trysorlys i wasanaethau cyhoeddus craidd ar sail Fformiwla Barnett, a fyddai’n gadael Cymru yn wynebu diffyg o gymharu â Lloegr; a

b) y diffyg eglurder ynghylch swm llawn y costau i wasanaethau cyhoeddus craidd yng Nghymru o ganlyniad i’r newidiadau hyn, lai na mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol nesaf ac ar ôl i gyllideb Cymru gael ei phasio.

Gwelliant 3—Heledd Fychan

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud galwadau brys ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod costau cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr i wasanaethau cyhoeddus craidd yng Nghymru yn cael eu talu’n llawn gan Drysorlys y DU.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn amlwg, mae yna bryder mawr yn y Siambr hon ynglŷn â'r newidiadau hyn. Dyna pam y gwnaethom ni, fis Tachwedd, gyflwyno dadl Plaid Cymru ar y mater hwn, a dydyn ni heb newid ein barn o gwbl. Mi oedden ni'n pwysleisio, adeg hynny, faint o effaith mae'n mynd i'w gael ar gymaint o sectorau gwahanol, ar gymaint o bobl, ar gymaint o wasanaethau. Ac yn amlwg, mi ddaeth hynny hefyd drosodd yn glir yn ystod craffu ar y gyllideb, efo cymaint o bwyllgorau yn nodi eu pryder nhw o ran y newid hwn o ran yswiriant gwladol.

Felly, dwi'n gobeithio ein bod ni'n gallu bod yn unedig fel Senedd bod hwn yn newid sy'n mynd i effeithio'n fawr ar Gymru, bod hwn yn newid sy'n mynd i effeithio ar gyllideb Llywodraeth Cymru, a dyna pam dwi yn siomedig o weld gwelliant y Llywodraeth heddiw. Ydy, mae'n cydnabod bod elusennau, cwmnïau nid er elw a sefydliadau gwirfoddol yn poeni, ond byddwn i'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru hefyd yn poeni'n ddirfawr am hyn, yn arbennig oherwydd, hyd yn oed lle bydd yna ad-daliad, bydd y fformiwla Barnett yn cael ei ddefnyddio. Rydym ni wedi clywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg na fydd hyn yn ddigonol, na fydd hyn y swm yn ei gyfanrwydd yr ydym ni ei angen. Felly, mae yna ddiffyg yn mynd i fod, ac mae hyn yn mynd i effeithio ar gyllideb Llywodraeth Cymru.

Yn amlwg, yn gynharach heddiw, mi wnaeth Sioned Williams gyflwyno cwestiwn amserol ynglŷn â'r newidiadau lles, rhywbeth hefyd sy'n mynd i adael twll a bwlch yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, os byddwch chi'n gweithredu er mwyn rhoi'r gefnogaeth i'r rheini sydd dirfawr angen cefnogaeth yn ein cymunedau ni. Felly, os ydych chi'n ystyried beth sy'n mynd i ddigwydd o ran yswiriant gwladol a'r newidiadau lles, mae'n sefyllfa ddifrifol iawn.a

Byddwn i hefyd yn dadlau, o ran yr elusennau, cwmnïau nid er elw a sefydliadau gwirfoddol, nid dim ond poeni, maen nhw'n barod yn gorfod torri gwasanaethau. Maen nhw'n torri swyddi. Dwi'n gwybod am bobl sydd wedi gweithio am flynyddoedd lawer yn fy nghymuned i, yn cefnogi'r bobl fwyaf bregus, wedi gorfod cefnogi mwy o lawer o bobl oherwydd y polisïau llymder rydym ni wedi'u gweld yn y blynyddoedd diwethaf yma, ac mae eu gwasanaethau nhw dan straen aruthrol yn barod. Os ydy'r gwasanaethau yna yn crebachu a bod yna fwy o alw, mae hon yn sefyllfa ddifrifol dros ben.

Mae'n sefyllfa sy'n mynd i gael effaith eithriadol ar gymaint o bobl yn ein cymunedau ni, a dwi eisiau gweld mwy o weithredu gan y Llywodraeth na'r hyn rydym ni'n ei weld. Dydy llythyru ddim yn ddigon. Dydy gwneud galwadau ddim yn ddigon. Mae angen inni fod yn unedig, a hefyd fod yn onest o ran y bwlch a'r effaith y bydd o'n ei chael ar yr arian sydd ar gael i ni. Oherwydd y tu hwnt i benawdau'r gyllideb, mae'n rhaid inni ddechrau gofyn faint o'r arian hwnnw fydd yn gorfod mynd tuag at gadw'r gwasanaethau fel y maen nhw. Felly, mae hi'n broblem ddifrifol.

Felly, dwi yn ddiolchgar ein bod ni'n cyfle i gael y drafodaeth yma heddiw. Yn amlwg, mae gwelliannau Plaid Cymru yn mynd â'r cynnig yn bellach, a'r galwadau yn bellach, o ran y Llywodraeth. Yr hyn dydyn ni ddim yn ei wybod eto, wrth gwrs, ydy, beth ydy gwir gost y newid hwn i Gymru. Mi fyddai hi'n dda gwybod yn ymateb y Llywodraeth heddiw os oes yna fwy o waith wedi'i wneud o ran hynny, mwy o ddealltwriaeth o ran yr effaith, a hefyd ddeall os ydych chi wedi asesu pa wasanaethau fydd yn crebachu a ddim yn gallu parhau. Faint o swyddi sy'n cael eu colli yn y sectorau hollol hanfodol yma oherwydd y newid hwn? Dwi'n gobeithio, fel roeddwn i'n dweud ar ddechrau'r cyfraniad hwn, y gallwn ni uno fel Senedd, ond hefyd ein bod ni'n gallu herio rhai o'r penderfyniadau niweidiol hyn. Mae yna wasanaethau yn mynd i gael eu colli ar yr union adeg lle mae yna mwy o bobl, yn anffodus, yn mynd i fod angen y gefnogaeth ganddynt.

18:00

Mae'r ddadl heddiw yn un na ddylem fod yn ei chael. Ar un adeg, roedd gennym ganghellor yr wrthblaid a addawodd na fyddent yn codi trethi ar bobl sy'n gweithio. A dweud y gwir, fe'i dyfynnaf yn uniongyrchol pan ddywedodd,

'yn sicr ni fyddwn yn cynyddu...treth incwm nac yswiriant gwladol'.

Wel, beth a ddigwyddodd yr eiliad y daeth canghellor yr wrthblaid yn Ganghellor? Cywir, fe gynyddwyd cyfraniadau yswiriant gwladol, gan roi costau ychwanegol i fusnesau, gan arwain at arafu nifer y swyddi sydd ar gael a chyflogau is ym mhocedi pobl. Pwy ddywedodd nad yw Llafur yn gwybod beth a wnânt ar yr economi? Mae'r tlodi y mae'r Blaid Lafur yn crio dagrau crocodeil drosto yn llythrennol yn deillio o'u gweithredoedd eu hunain ac ni wnânt dderbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt. Roeddent yn honni eu bod wedi etifeddu twll du economaidd, ond nid oedd hynny'n wir ychwaith. Ni allodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ddod o hyd iddo. Rhagor o anwireddau Llafur i gyfiawnhau eu hagenda sosialaidd.

Ac fe glywn lawer ganddynt am yr hyn a etifeddwyd ganddynt, oni wnawn? Ond beth a etifeddwyd mewn gwirionedd? Fe wnaethant etifeddu'r twf uchaf yn y G7 gan y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf ac maent wedi llwyddo i golli'r holl gynnydd hwnnw mewn cwta wyth mis. Ym mis Ionawr, crebachodd yr economi o dan Lafur, tra bod economïau gwledydd tebyg ledled y byd wedi tyfu. Gwyddom fod trethi uwch yn arwain at drychineb economaidd; rydym yn deall hynny, ond nid ydynt hwy'n ei ddeall ac mae'r canlyniadau'n siarad drostynt eu hunain. Dyna pam y mae cynnydd yswiriant gwladol Llafur—yr un y gwnaethant addo na fyddent byth yn ei wneud—mor niweidiol. Ac nid yn unig ei fod yn niweidio busnesau a'n heconomi, mae'n niweidio ein helusennau hefyd. Amcangyfrifir y bydd y cynnydd i yswiriant gwladol yn costio £1.4 biliwn i'r trydydd sector. Meddyliwch am yr effaith y bydd hynny'n ei chael ar y gwasanaethau y mae cymaint o bobl ledled y wlad yn dibynnu arnynt. Bydd rhai o'n bobl dlotaf, rhai o'n pobl fwyaf sâl, rhai o'n pobl leiaf ffodus ar eu colled. Bydd ymgyrchoedd cymunedol hanfodol yn gweld toriadau ac mae'r rhai sydd angen y gefnogaeth na all neb ond elusennau ei darparu yn llythrennol yn gorfod mynd hebddi.

Gofynnodd arweinydd yr wrthblaid yn Senedd y DU, Kemi Badenoch, i Brif Weinidog y DU yn gynharach heddiw a fyddai'n eithrio hosbisau, neu hyd yn oed hosbisau plant yn unig, o'i dreth ar swyddi. Yn gywilyddus, fe wrthododd y Prif Weinidog. Gorchmynnodd ei ASau Llafur i'w flocio, gan orfodi'r dreth honno ar hosbisau plant. Lywydd, ni ddylem adael i Lafur bregethu am gyfiawnder cymdeithasol byth eto. Dyna pam ein bod wedi cyflwyno'r cynnig hwn heddiw—i gefnogi'r busnesau a fydd yn llythrennol yn mynd yn fethdalwyr, i gefnogi'r gweithwyr a fydd yn gweld eu cyflogau'n lleihau, i gefnogi'r rhai heb waith ond sy'n chwilio amdano, a fydd yn gweld y farchnad swyddi'n crebachu, i gefnogi'r elusennau sy'n darparu gwasanaethau hanfodol y mae pobl yn dibynnu arnynt pan fyddant fwyaf o'u hangen, ac i gefnogi'r rhai sydd angen elusennau am nad oes unrhyw un ohonom yn gwybod pryd y bydd eu hangen arnom ni ein hunain. Mae treth Llafur ar swyddi yn gic yn y dannedd i'r holl grwpiau hynny a mwy. Mae'n bryd inni gael ei gwared arni a chael gwared ar Lywodraeth Lafur ddiwerth hefyd.

Wel, mae hwn yn gynnig syfrdanol o sinigaidd gan y Ceidwadwyr, ac fe ddechreuodd yn y ffordd glasurol gan Mark Isherwood, sydd, unwaith eto, yn beio popeth ar Gordon Brown ac aeth ati wedyn i ddyfynnu un o'i areithiau ei hun yn 2004. Un peth y byddwn i'n ei ddweud am Mark Isherwood, ar ôl 20 mlynedd yn y Siambr hon, yw ei fod o leiaf yn gyson. Mae hanes yn dangos bod cyni'n ddewis gwleidyddol yn nhymor y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf. Bob blwyddyn, gostyngodd gwariant y pen mewn termau real bob blwyddyn rhwng 2010 a 2020, yn wahanol i economïau eraill y Gorllewin, a chydnabyddir bod y cwymp y cyfeiriodd ato yn 2008 yn wasgfa fyd-eang. Felly, ymgais dda, ond nid yw'r economegwyr yn cydnabod y darlun a baentiwyd gennych.

Nawr, mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'r dadleuon am gyfraniadau yswiriant gwladol. Nid wyf yn credu mai dyma'r dreth gywir i'w chodi, ac rwy'n gresynu at y ffaith bod trethi eraill wedi'u diystyru, a chaiff hon ei gadael ar ôl fel un o'r ychydig rai sy'n weddill y gellir eu defnyddio. Nid wyf yn meddwl mai hon a ddylai fod wedi'i dewis. Ond mae diffyg sylweddol mewn gwariant cyhoeddus. Nawr, bob ychydig wythnosau, cawn alwadau gan y Ceidwadwyr yn y Siambr hon i wario mwy o arian ar wahanol raglenni, ac nid ydynt byth yn dweud wrthym sut y byddant yn eu hariannu. Felly, gadewch imi ofyn hyn iddynt: y cynnydd o 40 y cant yn y buddsoddiad cyfalaf yn y GIG yng nghyllideb y DU eleni, o ble y byddech chi'n codi'r arian ar gyfer hynny? Os nad o gyfraniadau yswiriant gwladol, o ble? Nid oes gennych ateb. Y £235 miliwn o gyfalaf ychwanegol yng nghyllideb Llywodraeth Cymru y mae'r Ysgrifennydd cyllid wedi'i gyhoeddi: o ble y byddent yn cael hwnnw os nad o yswiriant gwladol? Ac nid oes ganddynt ateb, oherwydd mae eu safbwynt yn gwbl anghydlynol ac yn hollol oportiwnistaidd, ac yn gwbl groes i'r hyn a wnaethant hwy eu hunain.

Ac os oes unrhyw un ohonoch wedi rhoi eich hun trwy'r anghysur o ddarllen dyddiaduron Simon Hart, fe wneuthum hynny ar eich rhan, ac roedd y penderfyniad i alw'r etholiad cyffredinol ar y pryd yn un sinigaidd iawn, wedi'i wneud gan wybod yn iawn am y twll a oedd yn cael ei adael i Lywodraeth newydd. Mae'n mynd ymlaen i ddweud, mewn gwirionedd, fod y carchardai ar fin methu'n llwyr. Roeddent yn gwybod am y llanast a adawent ar ôl. Ac efallai fod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi dweud na allent ddod o hyd i dwll du, fel roeddent yn dweud, a'r rheswm syml am hynny yw oherwydd bod y rhagdybiaethau a wnaeth y Canghellor Ceidwadol ar gyfer y gyllideb honno, ac y seiliodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol eu rhagolwg arnynt, yn gwbl afrealistig, ac mae'r Resolution Foundation wedi dweud, pe bai Canghellor Ceidwadol wedi dychwelyd, y byddent wedi gorfod dod o hyd i £20 biliwn i lenwi'r gwariant a oedd wedi'i ymrwymo.

Felly, nid wyf am wrando ar unrhyw bregethau oddi ar y meinciau Ceidwadol ar drethi yswiriant gwladol. Maent wedi gadael llanast ofnadwy. Fe wnaethant adael gwasanaethau cyhoeddus wedi'u torri at yr asgwrn. Mae'r Llywodraeth hon wedi etifeddu economi bydredig. Nid wyf yn credu eu bod wedi gwneud y dewis cywir o ran pa dreth i'w chynyddu, ond roedd yn rhaid iddynt gynyddu rhyw dreth, ac rydym yn parhau i wynebu amseroedd anodd. A byddai iddynt fwy o hygrededd yn llygad y cyhoedd, a gafodd wared arnynt o Gymru yn yr etholiad cyffredinol, pe baent yn cydnabod eu gwaddol eu hunain.

18:05

Diolch i Lee am fod yn un o'r unig Aelodau Llafur yma i amddiffyn eu methiannau. Diolch i chi, Lee, am sefyll dros eich penderfyniad. Nid oes enghraifft well o gyn lleied o syniad sydd gan Lafur am dwf economaidd na'r cynnydd hwn i yswiriant gwladol. Trwy gydol yr etholiad cyffredinol, ac wedi hynny, clywsom gan Syr Keir Starmer ei fod eisiau gweld twf economaidd, ond nid ydym wedi clywed unrhyw fanylion ynglŷn â sut y bwriadai gyflawni hyn, ac mae'r ychydig gamau sydd wedi'u cymryd wedi bod yn gwbl wrthgynhyrchiol ac yn groes i synnwyr cyffredin. Nid yn unig y mae'r cynnydd hwn i yswiriant gwladol cyflogwyr yn torri ymrwymiad maniffesto, mae'n dreth uniongyrchol ar dwf, sy'n atal llawer o fusnesau bach rhag cyflogi staff newydd neu gynyddu cyflogau staff presennol. Mae ein busnesau wedi bod yn brwydro yn erbyn argyfwng costau gwneud busnes ers gormod o amser, a nawr maent yn wynebu'r dreth hon ar dwf. Sut y mae hyn yn gwneud unrhyw synnwyr? Rwyf wedi ei ddweud o'r blaen: nid yw twf yn bolisi ynddo'i hun. Rydym i gyd eisiau twf wrth gwrs, ond trwy bolisi economaidd cadarn yn unig y gellir ei gyflawni—rhywbeth y mae'r ddwy Lywodraeth Lafur ar y naill ochr a'r llall i'r M4 yn amlwg yn cael trafferth ei ddeall. 

Ddirprwy Lywydd, mae'r codiad treth hwn yn effeithio ar bob sector mewn cymdeithas, fel y clywsom—ein practisau gofal iechyd, ein busnesau, ein helusennau, ein darparwyr gofal allweddol sy'n gweithio'n agos gyda'r awdurdodau lleol hynny. Fel y gwyddom i gyd, mae'r mwyafrif o fusnesau yng Nghymru yn fusnesau bach a chanolig, ac ni fyddant yn gallu fforddio ehangu, diolch i'r polisi economaidd anllythrennog hwn. Mae maint elw llawer o'n busnesau bach a chanolig yn fach iawn ac ond yn ymwneud â chael dau ben llinyn ynghyd. Bydd ffermwyr, busnesau cludo nwyddau a busnesau lletygarwch yn enwedig yn cael trafferth. Nid oes unrhyw reswm heddiw i gyd-Aelodau Llafur yma beidio â chefnogi'r cynnig hwn. Mae'n drist nad ydynt yn mynd i wrando ar yr hyn y ceisiwn ei ddweud. Mae mor amlwg â'r dydd fod y codiad treth hwn yn cael effaith niweidiol nid yn unig ar fusnesau, ond ar elusennau hefyd ac fel y clywsom, ar sefydliadau nid-er-elw, yn ogystal â llawer o fudiadau gwirfoddol eraill. Fe glywsom yn y Siambr sut y mae awdurdodau lleol eisoes dan bwysau yn ariannol, a byddant yn teimlo effaith y codiad treth hwn. Dywedir wrthym fod arian yn dod gan y Llywodraeth ganolog i wneud iawn am hyn, ond nid yw'n glir faint o hyd. Ac wrth gwrs, mae ein hawdurdodau lleol yn ymdrin â'r cwmnïau preifat sy'n hollbwysig ar gyfer darparu gwasanaethau statudol, fel gofal cymdeithasol, fel gofal cartref. Bydd eu cynnydd i yswiriant gwladol yn cael ei drosglwyddo trwy fwy o gostau i'n cynghorau ac yn y pen draw, i deuluoedd gweithgar ledled Cymru trwy godi'r dreth gyngor. Dyna sut y mae'n mynd o gwmpas. Dim ond un set o arian sy'n bodoli.

Rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog yn awyddus iawn i osgoi cyfrifoldeb ac yn ceisio honni nad yw hi'n gyfrifol am yr hyn y mae Keir Starmer yn ei wneud. Ond, fel y dywedais i ac eraill, mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i wrthsefyll polisïau gwael yn San Steffan ac i ddadlau dros bobl Cymru, rhywbeth y methodd y Llywodraeth Lafur hon ei wneud gyda HS2, methodd ei wneud â thaliadau tanwydd y gaeaf, ac fel y clywsom yn ddiweddar, methodd ei wneud gyda'r codiad treth ar ffermwyr. Nawr, Ddirprwy Lywydd, roedd y Llywodraeth Lafur hon yn llawer rhy hapus i geisio beirniadu pob penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth flaenorol San Steffan, ond mae'n llawer rhy hapus i aros yn dawel nawr ei bod hi'n wleidyddol anghyfleus. Bydd pleidleisio dros ein cynnig heddiw yn anfon neges glir i bobl Cymru nad yw'r Senedd hon yn hapus â'r modd amlwg y cafodd y maniffesto ei dorri a'i bod eisiau i Lywodraeth Cymru wrthwynebu Llywodraeth y DU a beirniadu'r ymosodiad uniongyrchol hwn ar ddinasyddion Cymru, sefydliadau nid-er-elw, elusennau a busnesau bach. Diolch.

18:10

Yn ôl Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, sef y corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol, mae 84 y cant o fudiadau yn pryderu am eu gallu i fforddio'r cynnydd mewn yswiriant gwladol cyflogwyr, mae 34 y cant yn dweud eu bod yn ystyried lleihau nifer eu staff llawn amser, ac mae 14 y cant yn ystyried dirwyn eu gwasanaethau i ben. Ac mi fyddai gan hynny oblygiadau pellgyrhaeddol i rai o bobl fwyaf bregus ein cymdeithas. Dwi wedi bod yn tynnu sylw at y problemau sydd yn wynebu dau o fudiadau yn fy etholaeth i, sef Antur Waunfawr a GISDA, ar ôl iddyn nhw gysylltu efo'u pryderon. Mae yna lawer mwy wedi cysylltu ers hynny. Mae gwasanaethau cymorth tai wedi bod yn mynegi eu gofidiau hefyd. Dyma sector sydd yn cefnogi rhai o'r trigolion mwyaf bregus yn ein cymdeithas ni, pobl sydd yn wynebu colli eu cartref, pobl sy'n byw mewn llety dros dro cwbl anaddas am lawer rhy hir, a merched sydd yn ffoi rhag camdriniaeth a thrais yn y cartref. Dyma'r bobl fydd yn cael eu heffeithio gan y cynnydd yma.

Er bod yna groeso i'r cynnydd o £21 miliwn yn y grant cymorth tai, mi ddywedodd tystion wrth y Pwyllgor Tai a Llywodraeth Leol yn ddiweddar fod diffygion ariannol sylweddol yn wynebu'r sector ledled Cymru. Mi ddywedodd Cymorth Cymru fod y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol yn peri risg i gynaliadwyedd gwasanaethau ac y gallai arwain at ddiswyddiadau neu at gontractau yn cael eu rhoi yn ôl. Mi ddywedodd Platfform, pe bai prosiectau cymorth tai yn dod i ben, byddai'n rhaid i bob person sy'n cael cymorth droi at wasanaethau statudol sy'n cael eu cynnal gan awdurdodau lleol, ac rydyn ni'n gwybod pa mor heriol fyddai dod o hyd i arian ar gyfer hynny.

Dyna pam mae ein gwelliant ni yn gresynu at y bwriad i ddyrannu ad-daliadau'r Trysorlys i wasanaethau cyhoeddus craidd ar sail fformiwla Barnett. Mi fyddai hynny'n gadael Cymru yn wynebu diffyg o gymharu â Lloegr. Mae ein gwelliant ni hefyd yn gresynu at y diffyg eglurder ynghylch y swm fydd yn dod i lywodraeth leol, a hynny lai na mis cyn dechrau'r flwyddyn ariannol nesaf ac ar ôl i gyllideb Cymru gael ei phasio. Felly, mi rydyn ni yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud pob dim posibl rŵan i alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod costau'r cynnydd yn cael eu talu'n llawn gan Drysorlys y Deyrnas Unedig. Ac yn ogystal â hyn, mae'r trydydd sector angen gwybod ar frys pa arian sydd ar gael iddyn nhw er mwyn lliniaru effaith y cynnydd yswiriant gwladol ar y gwasanaethau hanfodol y maen nhw'n eu darparu.

Rŵan, dwi'n deall bod llymder y Torïaid wedi creu problem i'r Llywodraeth Lafur, a dwi yn cytuno efo Lee Waters—nid cynyddu yswiriant gwladol ydy'r ateb. Dylid diwygio'r system drethi a chreu system decach. Dylai'r rhai efo'r ysgwyddau llydan dalu mwy. Dyna'r ffordd ymlaen, nid cynyddu yswiriant gwladol, sydd am waethygu problemau i'r union bobl y dylem ni fod yn eu cefnogi yn llawn.

18:15

Mae'r cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr o 13.8 y cant i 15 y cant eleni ym mis Ebrill, a gyhoeddwyd gan y Canghellor, yn gywilyddus. Mae wedi achosi pryder mawr i gyflogwyr, busnesau bach, sefydliadau nid-er-elw ac elusennau, yn ogystal â llawer o awdurdodau lleol. Ac mae'n rhaid imi ddweud, Jane Hutt, rwyf bob amser wedi bod â pharch mawr tuag atoch, ond rydych chi wedi ei wneud eto:

'Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le

'Yn cydnabod:

'a) nad yw yswiriant gwladol wedi'i ddatganoli;'

Am esgus gwan a gwael. A'ch bod yn cydnabod

'bod elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru yn poeni am effaith cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr'.

Ac rydych chi'n cydnabod

'bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud sylwadau, a bydd yn parhau i wneud sylwadau, i Lywodraeth y DU ar ran gwasanaethau cyhoeddus ac elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru'

ynglŷn â'r yswiriant gwladol. Ond dim byd o gwbl am y cynnydd i'r bil cyflog i'n hawdurdodau cyhoeddus, ac yn bwysig iawn, ein cyflogwyr sector preifat gweithgar. Ac yna, wrth gwrs, yr esgus gennych eto ynghylch y toriadau i fudd-daliadau lles. Nid yw'n syndod eich bod bellach yn cael eich galw'n 'y blaid gas'. Er bod mesurau wedi'u rhoi ar waith i helpu i warchod rhai o'r microfusnesau lleiaf, fel y lwfans cyflogaeth, mae cyllideb Llywodraeth Lafur y DU wedi pwyso'n helaeth ar fusnesau llai, ac ar adeg pan fônt yn wirioneddol agored i niwed. Daw'r cynnydd hwn hefyd ar adeg pan fo hyder busnesau mor isel yn yr economi yma yng Nghymru. Caiff hyn ei adlewyrchu gan y data cynnyrch domestig gros diweddaraf, a ddangosodd gynnydd bach o lai na 0.2 y cant yn y tri mis cyn mis Ionawr 2025. Fe wyddom mai Cymru sydd â'r gyfradd gyflogaeth isaf yn y DU, sef 70 y cant; a'r nifer uchaf o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth; yr ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain, gyda'r lluosydd ar gyfer busnesau o bob maint yng Nghymru yn cynyddu i 56.8 y cant ym mis Ebrill 2025-26; a'r ail gyfradd oroesi isaf i fusnesau yn y DU. Gallwch ochneidio, ond ni allwch guddio na gwadu'r hyn rydych chi'n ei wneud i Gymru a'i sector busnes. Mae hyn yn hynod bryderus ac yn dangos y bydd y cynnydd i yswiriant gwladol cyflogwyr ond yn ychwanegu straen ac effaith bellach ar amgylchedd economaidd a busnes sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd yng Nghymru.

Bydd yr effaith hon i'w theimlo gan drydydd sector Cymru hefyd. Mae elusen flaenllaw yng Nghymru wedi rhybuddio y bydd yn rhaid iddi dalu £250,000 ychwanegol y flwyddyn oherwydd y cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol. Nid yw hynny'n elusengar iawn ar ran Llywodraeth Cymru. Rhoddodd yr elusen gofal canser, Tenovus, dystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid ar ddechrau'r flwyddyn hon, yn nodi y bydd y cynnydd hwn yn 'ddinistriol', ac roeddent yn annog Gweinidogion y DU i ailystyried, neu i Lywodraeth Cymru liniaru'r effaith mewn rhyw ffordd. Daw hyn yn sgil datganiad gwan a phathetig iawn gan y Prif Weinidog pan gafodd ei herio gan fy nghyd-Aelod Darren Millar yr wythnos diwethaf: o, eu bod wedi cael trafodaethau anffurfiol gyda Llywodraeth Lafur y DU am hyn. Wel, mae'n ddrwg gennyf, nid wyf yn credu hynny. Hoffwn weld gohebiaeth lle mae'r Prif Weinidog wedi dangos pryder go iawn am bobl Cymru.

Mewn tystiolaeth yn sesiwn graffu'r Pwyllgor Cyllid, amlinellwyd cost ychwanegol y cynnydd i yswiriant gwladol cyflogwyr i'r sefydliadau canlynol: cyflogeion uniongyrchol y GIG, £112 miliwn; llywodraeth leol, £77 miliwn; athrawon, £33 miliwn; gwasanaethau tân ac achub, £4 miliwn ychwanegol. Nid yw'n dderbyniol. Heb sicrwydd o arian ychwanegol i'r sefydliadau elusennol hyn, mae'r posibilrwydd yn cynyddu y gwelwn rai o'r elusennau hyn yn methu. Am y rheswm hwn y galwaf i a fy nghyd-Aelodau Ceidwadol Cymreig ar Lywodraeth Cymru i fynd ati ar frys i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod y sectorau hyn yn cael ad-daliad a sicrwydd. Bydd effeithiau'r cynnydd hefyd i'w deimlo gan y rhai sy'n gweithio yn y maes meddygol—meddygon teulu, cartrefi gofal—

18:20

—a hosbisau. Mae'n annerbyniol fod gofyn bellach i unrhyw un o'r sefydliadau hyn, unrhyw un o'r busnesau y soniais amdanynt, dalu am hyn. Onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod yna alwad gref a sylweddol am fwy o eglurder a sicrwydd ynglŷn ag ad-daliad am gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr?

Ac yn onest, fel y dywedais, mae'n gwaethygu bob dydd, ers i'ch Llywodraeth Lafur ddod yn Lywodraeth y DU yn San Steffan.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 18:21:51
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr. Rwy'n falch iawn o ymateb i'r ddadl hon ac i fanteisio ar y cyfle, fel y bydd pawb ohonom o amgylch y Siambr, rwy'n siŵr, i ddathlu a chydnabod rôl y trydydd sector—rwy'n credu ein bod i gyd wedi gwneud hynny heddiw—yng Nghymru a bywyd Cymru. Ac rydym yn falch o'r berthynas sydd gennym â'r sector. Eleni, mae'n 25 mlynedd ers lansio ein cynllun trydydd sector unigryw. Ac oherwydd ein cynllun, mae gan Lywodraeth Cymru gysylltiadau a llwybrau sydd wedi'u datblygu'n dda lle gall y trydydd sector godi eu pryderon yn uniongyrchol—yn uniongyrchol gyda mi, fel y gwnaethant yn ystod ein cyfarfod diweddar o gyngor partneriaeth y trydydd sector. Dyma'r ffordd rydym wedi ymgysylltu â'r trydydd sector, a chael y berthynas agored, onest honno fel y gall rhanddeiliaid fwydo'n ôl i mi, i ni ac i Lywodraeth Cymru a chyd-Aelodau unrhyw broblemau a phryderon, yn ogystal â chyfleoedd yn y dyfodol.

Ac wrth gwrs, rydym yn cydnabod bod trydydd sector cynaliadwy yn golygu gwell cefnogaeth i'r rhai sydd fwyaf o'i angen, fel y mae eu gallu i ymateb i'r galw am eu gwasanaethau a phwysau ariannol annisgwyl. Felly, rydym yn cydnabod—wrth gwrs ein bod yn cydnabod, ac rydym wedi datgan hynny'n glir—fod newidiadau gan Lywodraeth y DU i gyfraniadau yswiriant gwladol wedi achosi pryder. Ddirprwy Lywydd, yn ystod cyngor partneriaeth y trydydd sector yr oeddwn yn ei gadeirio fis diwethaf, codwyd pryderon penodol ar draws y sectorau am effaith cynnydd i yswiriant gwladol ar y sector cyhoeddus sy'n comisiynu gwasanaethau gan y trydydd sector. Nawr, mae'n bwysig cofnodi heddiw hefyd, yn y ddadl hon, fod Llywodraeth y DU wedi cydnabod yr angen i ddiogelu'r busnesau a'r elusennau lleiaf, a dyna pam ei bod wedi mwy na dyblu'r lwfans cyflogaeth i £10,500, sy'n golygu na fydd mwy na hanner y cyflogwyr sydd â rhwymedigaethau cyfraniadau yswiriant gwladol naill ai'n gweld unrhyw newid neu ar eu hennill yn gyffredinol yn 2025.

Ond oherwydd ein bod yn cydnabod y pryderon a godwyd, nid yn unig yng nghyngor y trydydd sector, yn amlwg, ond mewn sylwadau a wnaed ac mewn dadleuon yn y Siambr hon, rydym wedi cydnabod bod angen inni ymgysylltu'n uniongyrchol ar hyn gyda Llywodraeth y DU, oherwydd mae pawb yn y Siambr yn amlwg yn ymwybodol nad yw yswiriant gwladol wedi ei ddatganoli. A dyna pam yr ysgrifennodd ein Hysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ynglŷn â dyraniad y cyllid hwn a'r costau ychwanegol i gyflogwyr gwasanaethau dan gontract sy'n darparu ar ran y sector cyhoeddus. Ac wrth gwrs, fe ailadroddodd y pryderon hyn pan gyfarfu â'r Prif Ysgrifennydd ar 27 Chwefror. Roedd yn glir y dylai Llywodraeth y DU ariannu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr sector cyhoeddus Cymru yn llawn yn yr un modd â gwasanaethau cyhoeddus Lloegr. Ac yn ogystal, cododd Prif Weinidog Cymru ei phryderon yn uniongyrchol gyda'r Canghellor yn ysgrifenedig, ac yna pan gyfarfu â'r Canghellor fis diwethaf, ym mis Chwefror, ynglŷn â'r dyraniad disgwyliedig o gyllid i weithwyr gwasanaethau cyhoeddus.

18:25

Diolch am dderbyn yr ymyriad. Rydych chi'n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud sylwadau i sicrhau bod y sector cyhoeddus yn cael y cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol wedi'i dalu'n llawn. Rydych chi'n sôn sut y câi elusennau llai eu hystyried. A yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno unrhyw sylwadau am yr elusennau mwy, pobl fel Women's Aid, pobl fel Tenovus? A ydych chi wedi gwneud unrhyw sylwadau amdanynt hwy? Fe wyddom, ac rydych chi'n cydnabod yn eich gwelliant, yr effaith y bydd yn ei chael ar y gwaith y maent hwy yn ei wneud i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. A ydych chi wedi gwneud unrhyw sylwadau am yr elusennau mwy?

[Anghlywadwy.]—mae sylwadau wedi'u gwneud, rwyf eisoes wedi nodi, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid a'r Prif Weinidog ar draws y bwrdd, ond rwyf am ddweud hefyd, mewn ymateb i'ch cwestiwn, fod Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd yn darparu cyllid i gyflogwyr sector cyhoeddus i dalu am gostau cynyddol cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, sy'n bwysig i'r cyrff sydd hefyd yn comisiynu gwasanaethau gan y trydydd sector, ac yn bwysig, fod Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd yn darparu cyllid gan ddefnyddio diffiniad swyddogol y Swyddfa Ystadegau Gwladol o gyflogwr sector cyhoeddus, ac rydym mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar sut y bydd y cyllid hwnnw'n cael ei gyfrifo. Ond ein hamcangyfrif cychwynnol o gost ychwanegol yswiriant gwladol i gyflogwyr y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru yw £253 miliwn.

Felly, rwyf am ddweud hefyd, Ddirprwy Lywydd, fod yswiriant gwladol yn un her a godwyd yn y ddadl heddiw, ond wrth gwrs, roeddwn yn ymwybodol drwy gyngor partneriaeth y trydydd sector o faterion ehangach sy'n wynebu'r sector, fel galw cynyddol am eu gwasanaethau, heriau codi arian, ac maent wedi cael eu hystyried heddiw, yn ogystal â recriwtio a chadw staff a gwirfoddolwyr. Ac rwyf am adrodd yn ôl i'r Senedd fod hyn yn rhywbeth lle rydym yn cryfhau ein perthynas â'r trydydd sector, a'r mis diwethaf cytunodd y Cabinet ar god ymarfer cyllido diwygiedig ar gyfer y trydydd sector, sy'n dod o dan ein cynllun statudol ar gyfer y trydydd sector. Mae'n mynd i'r afael â'n pwerau a'n cyfrifoldebau. Nawr, mae'r cod diwygiedig hwnnw'n cydnabod pwysigrwydd cyllid aml-flwyddyn—sy'n bwysig iawn i'r trydydd sector—a phwysigrwydd sicrhau bod costau'n cael eu hadennill yn llawn. Felly, bydd y cod hwn yn cael ei gyhoeddi fis nesaf a bydd yn siapio ein perthynas ariannu â'r sector am flynyddoedd i ddod.

Ddirprwy Lywydd, ar draws fy mhortffolio, yn unol â'r cod, cynyddais linellau cyllideb 3 y cant ar gyfer 2025-26, ac rwyf wedi darparu cyllid aml-flwyddyn lle bo modd. Enghraifft o'r cyllid grant a ddyfarnwyd i'r trydydd sector fydd darparu gwasanaethau'r gronfa gynghori sengl, a bydd hwn yn gyfnod o dair blynedd rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2028, a bydd cyfanswm o £36 miliwn ar gael i'r gwasanaethau cynghori allweddol hynny, i helpu pobl mewn angen ac ar draws ystod o amgylchiadau a nodweddion. Felly, hoffwn fanteisio ar y cyfle i annog yr holl gyrff sector cyhoeddus i fabwysiadu'r cod cyllido ar gyfer y trydydd sector, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n codi hynny yn eich ymgysylltiad â'r sector cyhoeddus hefyd.

Ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi yn y sector mewn meysydd fel Newid, sydd â'r nod o ddarparu sgiliau digidol i'r sector, Credydau Amser Tempo, sy'n annog gwirfoddoli, y gronfa benthyciadau asedau cymunedol. A hefyd gadewch inni gydnabod bod Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn cefnogi 40,000 o sefydliadau'r trydydd sector. [Torri ar draws.] Ymyriad cyflym iawn, os yw'n dod—

Diolch. Clywsom lawer o sylwadau gennych am y sylwadau a gyflwynwyd gennych i Lywodraeth y DU ynghylch pa mor bwysig yw hi eu bod yn ariannu'r cynnydd i yswiriant gwladol i'r cyhoedd a'r trydydd sector. Dywedwyd wrthym yn yr etholiad cyffredinol y byddai dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio gyda'i gilydd er budd Cymru, ond eto, rydych chi wedi nodi bil o £0.25 biliwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wynebu. A yw'r bartneriaeth honno'n cyflawni i Gymru mewn gwirionedd?

Rwy'n credu bod yr amser wedi dod imi fynd i'r afael â rhai o'r sylwadau agoriadol a wnaed gan Mark Isherwood ar y pwynt hwn. Mae'n rhaid imi ddweud, ar ôl 14 mlynedd o gyni, a'n gadawodd gyda'r twll du hwn, fe ddewisodd Mark Isherwood ailysgrifennu hanes yn hytrach na defnyddio hyn fel cyfle i herio a chraffu go iawn—sy'n hollol iawn—ar y ffyrdd yr awn i'r afael â—[Torri ar draws.] Ni wnaf dderbyn ymyriad gennych, Mark, na; rwy'n siŵr eich bod chi'n mynd i ymateb. I'r union bwynt a wnaethoch chi, Tom, amdanom ni'n ymgysylltu â Llywodraeth y DU, chwalodd y Ceidwadwyr yr economi, a gadawodd dwll du o £22 biliwn. A diolch, Lee Waters, diolch am gywiro'r cofnod; diolch unwaith eto am ein hatgoffa ni i gyd yn y Siambr o'r llanast y gwyddai'r Torïaid eu bod yn ei adael—y llanast y gwyddent eu bod yn ei adael. Dyna oedd eu gwaddol. A ydych chi wedi anghofio'r streiciau? A ydych chi wedi anghofio, o dan eich rheolaeth—? A phan ddaeth Llywodraeth Lafur y DU i mewn, fe wnaethant godi cyflogau'r sector cyhoeddus yn uwch na chwyddiant, a gallodd ein Prif Weinidog ni gyhoeddi hynny pan ddaeth yn Brif Weinidog. A hefyd mae Llywodraeth y DU wedi ein helpu i ddarparu cyllideb o £1.6 biliwn ar gyfer 2025-26, y gwnaethoch chi fethu ei chefnogi. Rydych chi'n methu—. Fe wnaethoch chi fethu cefnogi'r trydydd sector, ac rydym ni'n ei gefnogi nawr yn ein ffordd ni.

Felly, byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid trydydd sector, fel y gwnaethom dros y blynyddoedd, i ymdopi â phwysau, adeiladu sector cynaliadwy, cefnogi pobl ledled Cymru, ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar y pwysau—

18:30

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi rhoi amser ychwanegol i chi ar gyfer yr ymyriadau.

—gan gydnabod eu rôl, ond hefyd os caf ddweud, i gloi, rwy'n hapus i gefnogi'r ddau welliant a gyflwynwyd gan Blaid Cymru yn unol â'r ymateb i'r materion a godwyd yn y ddadl heddiw.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi siarad yn ein dadl hynod bwysig heddiw ar y codiadau i yswiriant gwladol; y dreth ar swyddi, fel rwy'n hoffi ei galw, a osodwyd gan y Blaid Lafur.

Agorodd Mark Isherwood y ddadl gydag agoriad cynhwysfawr iawn, fel y daethom i'w ddisgwyl gan yr Aelod. Ac amlinellodd sut oedd Gordon Brown yn bensaer cyni, a dechreuodd hyn i gyd o dan Gordon Brown. A gallwn i gyd gofio'n ôl i 2010, Liam Byrne, oni allwn? Nid ydynt yn hoffi ei glywed, ond nid oedd arian ar ôl. Ac yn ôl i'r dyfodol yw hi gyda Llafur, onid e? Talu mwy, cael llai; dyna beth a gewch gan Lafur.

Nododd Mark Isherwood, fel y gwnaeth Aelodau eraill, yr effaith y bydd y cynnydd i yswiriant gwladol yn ei chael ar y trydydd sector—ac rwy'n gwybod gan yr holl sefydliadau rwy'n cyfarfod â hwy o ochr iechyd y portffolio sut y mae hyn yn mynd i effeithio arnynt hwy. Ac rwy'n gwybod, Mark Isherwood, cymaint a wnaethoch i hyrwyddo materion cyfiawnder cymdeithasol yn y Siambr hon, a'r holl elusennau yr effeithir arnynt.

Fe wnaethoch chi sôn am gyllideb Llywodraeth Cymru a'r economeg hurt sydd gan Lywodraeth Cymru yma, am nad ydynt yn ariannu'r codiadau yswiriant gwladol a'r pwysau y mae hyn yn ei roi ar ein systemau. Rydych—[Torri.] A ydych chi eisiau gwneud ymyriad, Mike?

Ni chaf wneud hynny, am nad wyf i wedi bod yma, ond rwy'n—

O, wel, dyna ni, felly. [Chwerthin.]

A rhestrodd Mark Isherwood nifer o elusennau: Tenovus, Adferiad, Shelter Cymru, Carers Trust, a phob un ohonynt yn codi'r problemau gyda'r costau yswiriant gwladol uwch a'r pwysau y bydd y cynnydd yn ei roi ar ein system GIG ehangach, am eu bod yn arbed llawer iawn o arian i'r GIG ac mae hyn yn mynd i effeithio arnynt hwy.

Amlinellodd Heledd ei phryderon hi a phryderon ei phlaid am y cynigion hyn. Fel Mark, amlinellodd ei phryderon am y newidiadau, ac mae ein pleidiau'n sefyll gyda'i gilydd ar y mater hwn—fod hon yn dreth greulon a osodwyd gan Lafur ar ein helusennau ac ar bobl weithgar y wlad hon. A thynnodd sylw hefyd at y ffaith bod elusennau'n gorfod gwneud toriadau nawr. Nid toriadau ar gyfer y dyfodol; mae'r bobl hyn yn lleihau gwasanaethau nawr. Gallwn gael geiriau cynnes gan y Llywodraeth, ond heb weithredu, fe welwn y gwasanaethau cyhoeddus hyn yn ein gadael.

Cododd Tom Giffard y sylwadau a wnaed gan y Canghellor pan oedd hi'n ganghellor yr wrthblaid, Rachel Reeves, yn dweud nad oedd hi'n mynd i godi trethi ar bobl sy'n gweithio. Mae'n debyg i'r addewidion a wnaethant i ffermwyr, onid yw, nad oeddent yn mynd i wneud unrhyw newidiadau yno. Mae'n ddrwg gennyf, mae Llafur wedi dweud celwydd wrth yr etholwyr ac fe gânt eu cosbi am wneud hynny mewn etholiadau yn y dyfodol. Tynnodd sylw at y ffaith bod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi gadael ein gwlad yn economi a oedd yn tyfu ac mai Llafur a chwalodd ein heconomi, ac maent yn gwthio tuag at argyfwng ariannol arall. Ac fe dynnodd sylw hefyd at yr holl filiynau o bobl sy'n gweithio ledled y wlad yr effeithir arnynt gan y newidiadau hyn.

Ac yna, fe wnaeth Lee Waters, y cyn-Ddirprwy Brif Weinidog, ei ymyriad am y toriadau gwariant y bu'n rhaid i'r Llywodraeth Geidwadol eu gwneud. Ac fel y nodais yn gynharach, ni fyddem wedi gorfod gwneud y penderfyniadau anodd hynny pe bai ei blaid ef wedi bod ychydig yn well gyda'i rheolaeth ariannol yn ôl cyn 2010. Ac meddai, 'Ble y byddai'r Ceidwadwyr yn dod o hyd i'r arian i wneud rhai o'r newidiadau yr hoffem eu gweld?' Wel, fe ddywedaf wrthych beth i'w wneud: pam na wnewch chi symud o'r neilltu a gadael i blaid sydd eisiau trwsio Cymru i ddod i mewn? Ac fe ddywedwn wrthych chi'n fuan sut y gwnawn y newidiadau i Gymru. A soniodd hefyd am lyfr Simon Hart. Gallaf ddweud ei fod yn ddeunydd darllen cystal â gwrando ar ei bodlediad, ond dyna ni. [Torri ar draws.] Tynnodd Peter Fox—. Nid wyf yn meddwl y bydd yn hoffi clywed hynny.

Tynnodd Peter Fox sylw at ba mor bwysig ydyw, sut y mae cael economi sefydlog yn cefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, ac yn enwedig eich profiad chi, Peter, mewn llywodraeth leol, a'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar lywodraeth leol. A beth fydd yn digwydd yw y bydd ein llywodraeth leol a'n cynghorau ledled Cymru yn y pen draw yn gwthio'r dreth hon ymlaen i bobl sy'n gweithio ar ffurf treth gyngor uwch. Dyna pam ein bod ni ar y meinciau hyn eisiau cael refferenda trethi cyngor, i wneud yn siŵr nad ydym yn gwthio mwy o drethi ar bobl sy'n gweithio. Ond soniodd hefyd am y busnesau ac elusennau eraill sy'n mynd i gael eu heffeithio gan hyn.

Fe wnaeth Siân Gwenllian bwyntiau pwerus iawn am y 34 y cant o elusennau sy'n lleihau nifer eu staff ledled Cymru a'r 14 y cant o elusennau sydd eisoes yn dirwyn gwasanaethau i ben. Dylai hynny ddychryn pob un ohonom yn y Siambr hon. Mae'r elusennau hynny'n gwneud gwaith anhygoel, ac mae colli'r gwasanaethau'n mynd i gael effaith. Nododd yr effaith ar elusennau yn ei hetholaeth, ac yn enwedig yr effaith ar dai. Rwy'n credu bod honno'n broblem enfawr sy'n cael ei cholli yma, am y bobl fregus ledled Cymru, ac yn enwedig, fel y soniodd, y menywod sy'n ffoi rhag trais domestig a'r elusennau sy'n eu cefnogi gyda thai. Ni allwn golli hynny.

Janet Finch-Saunders, fe ddywedoch chi—rydych chi bob amser yn rhoi araith angerddol i ni, onid ydych, Janet—sut y mae'r cynnydd hwn i yswiriant gwladol yn gywilyddus. Nid wyf yn anghytuno â chi. Mae'n gywilyddus. Mae'n dreth ar swyddi a threth ar bobl sy'n gweithio, ac ni allwn ganiatáu iddo ddigwydd. Ac rydych chi'n iawn, Janet, Llafur yw'r blaid gas nawr, ac fe fydd pobl yn gweld y niwed a wnânt trwy wneud mwy o bobl yn ddi-waith. Onid yw mor eironig? Maent yn newid y system fudd-daliadau, ond maent yn mynd i wthio mwy o bobl i mewn i'r system honno yn sgil y cynnydd i yswiriant gwladol. A hefyd canfyddiadau'r Pwyllgor Cyllid ein bod yn dal heb gael atebion gan y Llywodraeth ar faterion fel addysg, ein GIG, a'n gwasanaethau cyhoeddus ehangach—rhywbeth nad yw'r Llywodraeth wedi'i weld eto. Ac fel rydych chi'n dweud, mae'n gwaethygu bob dydd.

Ac yna fe wnaeth y Trefnydd ei haraith. Fel chithau, Drefnydd, rwy'n croesawu ac yn diolch i'r trydydd sector am bopeth a wnânt. Ond mae'n drueni heddiw, onid yw, nad yw'r Llywodraeth yn ein cefnogi ar y cynigion hyn, oherwydd nid oes ond angen ichi edrych yn ôl. Nid yw mor bell yn ôl â hynny pan oedd y Llywodraeth Lafur hon yn hapus iawn i gefnogi cynigion a gwelliannau yn rhoi celpen i Lywodraeth y DU ar faterion a gadwyd yn ôl. Am newid; mae'n ymddangos eu bod wedi cael amnesia ac nad ydynt yn cofio beth a ddigwyddodd yn y gorffennol. Un peth y methoch chi sôn amdano, Drefnydd, oedd y pwysau y mae hyn yn ei roi ar ein GIG, rhywbeth sy'n bwysig iawn i mi ac i Aelodau eraill, y pwysau y mae hyn yn ei roi ar ein deintyddion a'n meddygon teulu a'n gwasanaethau iechyd ehangach ledled Cymru, rhywbeth nad wyf yn credu bod y Llywodraeth Lafur hon yn ei ddeall. Ac yna dechreuodd y Trefnydd ar y dadleuon gwleidyddol arferol—

18:35

—iawn, fe ddof i ben nawr, Ddirprwy Lywydd—y dadleuon yn erbyn ein plaid a'n cyflawniad fel Llywodraeth. Rwy'n falch o gyflawniad y Ceidwadwyr, ac rwy'n meddwl bob amser, pan fyddant yn dechrau ymosod arnoch chi, mae'n dangos eu bod yn colli'r ddadl. Dwy Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd, 26 mlynedd mewn grym—mae arnaf ofn fod y gêm ar ben. Mae'n bryd trwsio Cymru, a dim ond un blaid yma sy'n gallu ei thrwsio, sef y Ceidwadwyr Cymreig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y Cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohirir y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. 

Rwy'n gwybod, rwy'n dod at fy sgrin, Lee.

Galwaf am bleidlais ar eitem 7, dadl y Ceidwadwyr Cymreig, ar y cynnig heb ei ddiwygio, yn enw Paul Davies. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi ei wrthod.

18:40

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Yswiriant Gwladol y Cyflogwr. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1, yn enw Jane Hutt. Os gwrthodir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.   

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Yswiriant Gwladol y Cyflogwr. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 3 yn enw Heledd Fychan.  Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 49, neb yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae gwelliant 3 wedi ei dderbyn.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Yswiriant Gwladol y Cyflogwr. Gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 49, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM5981 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnydd Llywodraeth y DU i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, sy'n dod i rym ar gyfer y flwyddyn dreth 2025-26.

2. Yn cydnabod:

a) nad yw yswiriant gwladol wedi'i ddatganoli:

b) bod elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru yn poeni am effaith cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr; ac

c) bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud sylwadau, a bydd yn parhau i wneud sylwadau, i Lywodraeth y DU ar ran gwasanaethau cyhoeddus ac elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru ynghylch cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud galwadau brys ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod costau cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr i wasanaethau cyhoeddus craidd yng Nghymru yn cael eu talu’n llawn gan Drysorlys y DU.

Open the vote. Close the vote. In favour 36, no abstentions, 14 against. Therefore, the motion as amended is agreed.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Yswiriant Gwladol y Cyflogwr. Cynnig wedi’i ddiwygio: O blaid: 36, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Daeth y cyfarfod i ben am 18:42.