Y Cyfarfod Llawn

Plenary

19/02/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai sydd gyntaf y prynhawn yma. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Andrew R.T. Davies.

Adeiladu Tai

1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyflymu'r gwaith o adeiladu tai yng Nghymru? OQ62358

Diolch yn fawr. Rydym yn buddsoddi’r lefelau uchaf erioed mewn ystod eang o raglenni cymorth ar gyfer adeiladu tai. Yn ddiweddar, cyhoeddais £10 miliwn ychwanegol i helpu i gyflymu datblygiad 16 o gynlluniau tai fforddiadwy newydd, yn ogystal â £57 miliwn i ymestyn cynllun Cymorth i Brynu—Cymru am 18 mis arall.

Diolch, Weinidog. Mae'r ffordd y mae’r Prif Weinidog wedi ffurfio ei Chabinet, yn amlwg, yn golygu bod cynllunio mewn portffolio gwahanol i’ch un chi, ond chi yw’r Gweinidog sy’n gyfrifol am y cyflenwad tai, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Mae llawer o geisiadau'n cael eu dal yn ôl gan y system gynllunio. Mae’r Prif Weinidog wedi sôn am hyn fel un o’i blaenoriaethau i ddiwygio’r system gynllunio yma yng Nghymru. Sut y mae eich adran yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi i wneud i hynny ddigwydd ar lawr gwlad, fel y gall llawer o adeiladwyr bach a chanolig fforddio’r gost gychwynnol o gyflwyno’r ceisiadau hynny a fydd yn sicrhau bod cynigion yn cael eu hadeiladu ac yn diwallu’r angen am dai sydd mor daer yma yng Nghymru, i sicrhau'r niferoedd hynny?

Diolch yn fawr. Mae'n gwestiwn pwysig ynglŷn â sut rydym yn gweithio ar draws y Llywodraeth ar y mater pwysig hwn hefyd. Cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a minnau â’r grŵp ymgysylltu ag adeiladwyr tai yn ddiweddar, ar 28 Ionawr, i drafod amrywiaeth o faterion sy’n gysylltiedig â chyflymu'r gwaith o adeiladu tai. Felly, rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn alinio ar lefel weinidogol, ac yn cyfarfod â phobl gyda’n gilydd, i gael y trafodaethau hynny, yn ogystal, yn amlwg, â swyddogion sy’n gweithio ar draws y maes hwnnw hefyd. Fe fyddwch yn gwybod bod ymgynghoriad cynllunio wedi'i gynnal sy'n hyrwyddo gwasanaeth cynllunio gwydn sy'n perfformio'n dda. Mae hwnnw’n nodi ein cynigion ar gyfer gwella capasiti a gwytnwch gwasanaethau cynllunio. Mae hynny'n rhywbeth sy'n cael ei arwain gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio. Ac rydych yn llygad eich lle—dyma un o flaenoriaethau’r Prif Weinidog, a gallaf roi sicrwydd i'r Senedd ac i chi y byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd i wneud yn siŵr fod gennym system sy’n sicrhau bod gennym y tai yn y mannau cywir a’n bod yn gwneud popeth yn ein gallu i gynyddu’r nifer o dai sy'n cael eu hadeiladu ledled Cymru.

Awdurdodau Lleol

2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru yn cael eu hariannu'n ddigonol? OQ62345

Diolch, Sioned. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i flaenoriaethu llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen yn ei phenderfyniadau cyllidebol. Mae’r setliad llywodraeth leol dros dro ar gyfer 2025-26 yn darparu dros £6.1 biliwn mewn cyllid refeniw craidd. Mae hyn yn gynnydd cyfartalog o 4.3 y cant neu £253 miliwn ar sail debyg am debyg.

Diolch. Er bod y setliad eleni yn well na’r disgwyl yn wreiddiol, mae’n dal i fod yn llai na hanner y bwlch cyllidebol o £560 miliwn a oedd wedi cael ei nodi gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Am dros ddegawd, wrth gwrs, mae cynghorau yn fy ardal i wedi cael eu rhoi dan bwysau ariannol aruthrol yn sgil polisïau llymder, ac mae penderfyniadau diweddar, fel cynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr a thorri taliadau tanwydd gaeaf i'r mwyafrif o bensiynwyr, yn creu heriau newydd. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, bydd penderfyniad Llywodraeth lafur San Steffan i gynyddu'r cyfraniadau yswiriant gwladol yn creu pwysau o bron £5.7 miliwn. Bydd e hefyd yn effeithio'n ddirfawr ar gostau darparwyr gwasanaethau sy'n cael eu comisiynu. Mae'r cyngor ddim ond wedi derbyn hanner yr hyn y maen nhw ei angen o ran cynnydd yn eu setliad. Felly, ydych chi, Ysgrifennydd Cabinet, wedi gwneud asesiad o sut y bydd y diffyg ariannol a'r cynnydd mewn yswiriant gwladol yn effeithio ar wasanaethau cynghorau fel Castell-nedd Port Talbot, yn ogystal â'r gwasanaethau sydd wedi cael eu comisiynu, fel eu bod nhw'n gallu cwrdd â'r galw a gwasanaethu'r bobl rwy'n eu cynrychioli?

Diolch, Sioned. Diolch am hynny. Peidiwch ag anghofio ein bod wedi cael £1.5 biliwn yn ychwanegol ar gyfer ein blaenoriaethau a'r gwasanaethau cyhoeddus y mae pob un ohonom yn dibynnu arnynt, gan roi Cymru yn ôl ar y llwybr tuag at dwf. Felly, bydd pob adran yn elwa o gynnydd mewn cyllid yn y Senedd hon. Rhaid inni gofio'r hyn rydym wedi bod drwyddo dros y 14 mlynedd diwethaf, ac felly nid yw un gyllideb yn mynd i newid hynny. Ond bydd cael dwy Lywodraeth sy’n rhannu’r un gwerthoedd ac yn cydweithio yn wirioneddol bwysig.

Ar y pwynt rydych wedi’i godi ynghylch yswiriant gwladol, fe fyddwch yn gwybod nad yw yswiriant gwladol wedi’i ddatganoli. Ein hamcangyfrif cychwynnol o gost ychwanegol y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol i gyflogwyr sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru yw £253 miliwn, ac o hyn, mae £33 miliwn yn ymwneud ag athrawon a £77 miliwn â staff llywodraeth leol eraill. Nid ydym wedi cael cadarnhad eto o faint o gyllid ychwanegol y bydd Cymru’n ei gael i gefnogi’r costau ychwanegol i gyflogwyr sector cyhoeddus datganoledig, ond rydym yn parhau i weithio gyda Thrysorlys EF i nodi'r manylion a lefel y cymorth a fydd yn cael ei ddarparu.

13:35

Ysgrifennydd y Cabinet, mae awdurdodau lleol ar draws fy rhanbarth yn torri cyllidebau, yn lleihau gwasanaethau, ac ar yr un pryd, yn codi biliau'r dreth gyngor. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft, yn torri £3.5 miliwn o'r gyllideb ysgolion a £2.2 miliwn o’r gyllideb gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, ond yn llongyfarch eu hunain am gyfyngu'r cynnydd yn y dreth gyngor i 4.5 y cant yn unig. Mae disgwyl i weithwyr ar gyflogau isel ar draws Gorllewin De Cymru dalu mwy am lai. Ysgrifennydd y Cabinet, sut rydych chi'n sicrhau bod y cronfeydd hynny'n cael eu gwario'n ddoeth ac yn darparu gwerth am arian, sef yr hyn rydych newydd ei drafod gyda Sioned yn eich ateb?

Diolch, Altaf, ac fel y dywedwch, bydd awdurdodau lleol yn edrych ar eu cyllidebau ar hyn o bryd ac yn sylweddoli eu bod yn gwneud penderfyniadau anodd iawn, a hoffwn eu canmol am y gwaith y maent yn ei wneud ac y maent yn parhau i'w wneud. Pan fyddaf yn cyfarfod ag arweinwyr awdurdodau lleol a phrif weithredwyr ac uwch-dimau, mae wedi bod yn ddiddorol iawn faint o drawsnewid sydd wedi bod mewn awdurdodau lleol a llywodraeth leol dros nifer o flynyddoedd. Fel y dywedais, mae hon yn gyllideb sy’n well nag y gallem fod wedi’i ddisgwyl. Ni chredaf fod yr un gyllideb hon yn mynd i ddatrys popeth, yn anffodus, ond fel y dywedaf, rwy'n credu y byddwn yn troi cornel gyda’r gyllideb.

Fel y dywedaf, bydd cynghorau'n rhoi ystyriaeth ofalus i ystod o opsiynau o ran y dreth gyngor a gwariant drwy ymgynghori, ac mae'n iawn eu bod yn gwneud hynny. Mae'n rhaid i awdurdodau gydbwyso'n ofalus effaith cynnydd yn y dreth gyngor ar gyllid aelwydydd â cholli cymorth a gwasanaethau fel arall. Felly, gwyddom fod y penderfyniadau y mae awdurdodau lleol yn gorfod eu gwneud yn rhai gwirioneddol anodd, ond fel y dywedaf, mae gobaith gwirioneddol ein bod yn troi cornel o gymharu â'r hyn y gallem fod wedi’i gael pe na baem wedi cael Llywodraeth Lafur yn San Steffan.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ar ôl ymweld â Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghasnewydd yn ddiweddar, mae’n gliriach i mi fod cyfran uchel o’r bobl sy’n ddigartref yn gyn-filwyr. Gwn fod pob un ohonom yn y Siambr hon am sicrhau, ar ôl iddynt beryglu eu bywydau er ein diogelwch ni, y gall ein cyn-filwyr gael mynediad amserol at dai. Ychydig flynyddoedd yn ôl, bu'n rhaid i un cyn-filwr o Ben-y-bont ar Ogwr aros am 10 mlynedd am dŷ cymdeithasol. Onid ydych chi'n cytuno â mi fod angen darparu pecyn cymorth i ddynion a menywod y lluoedd arfog cyn iddynt adael y fyddin a dychwelyd i fywyd sifil, ac y dylai'r un peth fod yn berthnasol hefyd i bobl sy'n gadael carchar a phobl sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty, a allai wedyn fod yn fesur ataliol allweddol wrth atal digartrefedd yng Nghymru? Mae hefyd yn peri pryder, wrth imi edrych ar hyn, nad oes unrhyw waith rheolaidd yn mynd rhagddo ar gasglu ystadegau cywir ar ddigartrefedd ymhlith cyn-filwyr, a hoffwn glywed eich barn ar hynny hefyd. Diolch.

Diolch, Laura. Diolch am hynny, ac mae’n dda iawn eich bod wedi gallu ymweld â Byddin yr Iachawdwriaeth a’r gwaith anhygoel y maent yn ei wneud yn yr ardal. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn mynd i weld drosoch eich hun a chanmol y gwaith a wnânt, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ddydd ar ôl dydd.

Fel y dywedoch chi, fe wnaethoch chi sôn am gymorth i gyn-filwyr a'r ffaith bod eraill mewn perygl o ddod yn ddigartref, ac fe fyddwch yn gwybod y byddwn yn cyflwyno ein deddfwriaeth ar ddigartrefedd yn nes ymlaen eleni, a fydd, yn fy marn i, yn sicrhau newid gwirioneddol yn y ffordd rydym yn trafod digartrefedd a sut y mae'r system yn ymdrin â digartrefedd yng Nghymru. Ac rwy’n siŵr fod cyn-filwyr wedi bod yn rhan o'r ymgynghoriad hwnnw, yn union fel y buont drwy gydol yr ymgynghoriad a’r Papur Gwyn.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, edrychaf ymlaen at fod yn rhan o hynny hefyd a sicrhau ein bod yn edrych ar y mater mewn ffordd fwy ataliol yn hytrach nag adweithiol.

Mae angen i’r Llywodraeth hon ystyried gwneud cartrefi’n addas i'r diben yn fesur ataliol allweddol ar draws y Llywodraeth, yn enwedig ym maes iechyd, gan fod ansawdd tai gwael yn costio £95 miliwn y flwyddyn i’n GIG. Er enghraifft, ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan y llynedd, fe wnaeth Gofal a Thrwsio arbed 6,978 o ddiwrnodau gwely mewn ysbytai, sy’n cyfateb i £2.2 miliwn. Un o’r problemau mawr yn Gofal a Thrwsio, y gwn fod y ddwy ohonom wedi ymweld â hwy yn sir Fynwy a Thorfaen, yw prinder sgiliau sylweddol a methu sicrhau contractwyr dibynadwy. Yn ail, mae'r gwaith atgyweirio a wnânt yn syml, ond mae ceisiadau ariannu cymhleth yn rhwystro contractwyr dibynadwy a medrus. A ydych chi'n cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, fod arnom angen newid o’r orddibyniaeth ar gronfeydd lles ar gyfer sefydliadau gwych fel Gofal a Thrwsio i strwythur ariannu mwy parhaol, efallai, i sicrhau bod y gwaith hanfodol hwn yn cael ei gwblhau'n gyflym, a hefyd ymdrech i annog contractwyr i weithio yn y maes hollbwysig hwn er mwyn gwneud gwaith hanfodol o'r fath? Diolch.

13:40

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynghylch y gwaith y mae Gofal a Thrwsio, a sefydliadau eraill, yn ei wneud ar addasiadau, oherwydd fel y dywedwch yn gywir ddigon, mae atal mor bwysig yn hyn o beth. Mae sefydliadau fel Gofal a Thrwsio yn amhrisiadwy, ac mae siarad yn uniongyrchol â phobl yr effeithiwyd arnynt yn dangos hynny i chi, a hefyd, trafodaethau gyda'r byrddau iechyd, yr wyf wedi'u cael hefyd, ynglŷn â sut y mae hynny'n cadw pobl allan o'r ysbyty, sydd mor bwysig nid yn unig i'r byrddau iechyd a'n GIG ond hefyd i'r unigolyn dan sylw, gan fod mynd i'r ysbyty—. Rydym am atal hynny i'r graddau mwyaf posibl, tan y bydd rhaid i bobl fynd. Felly, credaf fod cadw pobl yn eu cartrefi eu hunain yn hollbwysig. Mae’n rhywbeth yr wyf wedi’i drafod â’r Gweinidog gofal cymdeithasol hefyd, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd. Rwy’n awyddus i gael y drafodaeth ehangach honno ynglŷn â beth arall y gallwn ei wneud yn y maes hwn. Yn amlwg, roedd hynny’n rhywbeth a nodwyd gennym yn y gyllideb ddrafft, a rhoi rhagor o arian i sefydliadau fel Gofal a Thrwsio.

Diolch. Mae hynny'n wych i'w glywed. Mae’n rhywbeth y mae angen mynd i’r afael ag ef ar draws y portffolios, felly edrychaf ymlaen at glywed canlyniadau eich sgyrsiau. Mae llawer o gynghorau bellach yn ddwfn yn eu hymgynghoriadau cyllidebol cyn y codiadau yn y dreth gyngor ym mis Ebrill. Fe ddefnyddiaf Gyngor Sir Fynwy fel enghraifft nawr gan ei bod yn enghraifft leol y mae’r ddwy ohonom yn ei deall. Maent wedi dweud yn ddiweddar eu bod yn gwrthod diystyru cynnydd pellach yn dilyn y cynnydd arfaethedig o 7.8 y cant yn y dreth gyngor. Mae hwn eisoes yn gynnydd aruthrol yn y dreth gyngor sy’n uwch na chwyddiant, ac nid yw’n mantoli’r cyfrifon o hyd. Mae Cyngor Sir Fynwy eisoes £23 miliwn yn brin er mwyn darparu’r un lefel o wasanaethau â’r hyn a wnaethant ei ddarparu y llynedd. Bydd toriadau'r cyngor yn effeithio ar lawer o bobl, yn enwedig plant a phobl agored i niwed. Mae'r adroddiadau diweddaraf yn dangos y bydd rhai ysgolion hyd yn oed yn gorfod rhannu penaethiaid. Ysgrifennydd y Cabinet, mae Cyngor Sir Fynwy a phob cyngor ledled Cymru yn mawr obeithio am gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gau’r bwlch o £4 miliwn a grëwyd gan eich cyd-aelodau o'r blaid Lafur yn San Steffan drwy’r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol. A ydynt yn mynd i'w gael? A phryd y bydd yr 21 o gynghorau eraill yng Nghymru yn cael eglurder ynglŷn â pha bryd y cânt ddigon o arian, digon o filiynau o bunnoedd, i dalu'r bil yswiriant gwladol anferth newydd gwerth miliynau y mae Llafur wedi'i roi iddynt, neu ond ydych chi'n gwybod yr ateb i hynny o hyd? Diolch.

Diolch yn fawr, Laura. Fel y soniais yn gynharach wrth drafod y materion y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu wrth i bob un ohonynt bennu eu cyllidebau mewn ymgynghoriad â’r cyhoedd, er ein bod ar fin troi cornel, mae anawsterau o hyd. Rwy’n sylweddoli pa mor heriol yw'r sefyllfa i awdurdodau lleol ar hyn o bryd, ond fel y dywedais, mae’n rhaid inni roi yn ei chyd-destun y sefyllfa byddem wedi bod ynddi pe na baem wedi cael yr etholiad cyffredinol pan wnaethom, a byddai awdurdodau lleol a ninnau yma yn Llywodraeth Cymru wedi wynebu rhywbeth tra gwahanol, yn fy marn i.

Ar y dreth gyngor, fel y dywedais, bydd cynghorau’n ystyried amrywiaeth o opsiynau mewn perthynas â'r dreth gyngor a gwariant. Eu cyllideb hwy yw hi, eu hymgynghoriad hwy. Ni fydd unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor yn cael ei groesawu gan gymunedau lleol, ond serch hynny, mae’n ffynhonnell bwysig o gyllid i awdurdodau lleol i’w galluogi i ddarparu gwasanaethau lleol. A mater i bob awdurdod yw cyfiawnhau ei benderfyniad ar y dreth gyngor i gymunedau.

Cafwyd pwyntiau eraill yn ymwneud ag yswiriant gwladol. Fel y dywedais, rydym yn parhau i weithio gyda Thrysorlys EF i gael eglurder ynghylch manylion lefel y cymorth a ddarperir. Pan fyddwn yn gwybod beth yw'r lefelau ariannu, byddwn yn defnyddio llwybr safonol yr is-grŵp dosbarthu a’r is-grŵp cyllid i drafod dosbarthiad cyllid. Rwy’n ymwybodol fod gan wahanol awdurdodau gyfrannau gwahanol o staff a gyflogir yn uniongyrchol, gwasanaethau a gomisiynir, neu wasanaethau sy'n cael eu contractio allan. Felly, bydd angen cael y trafodaethau hynny.

Ond fel y dywedaf, mae ein setliad cyffredinol ar gyfer 2025-26 fwy nag £1 biliwn yn uwch nag y byddai wedi bod o dan Lywodraeth flaenorol y DU. Ac fel y dywedaf, ni ellir trawsnewid 14 mlynedd o’r cyllid cyfyngedig hwnnw mewn un gyllideb yn unig.

13:45

Diolch, Llywydd. Mae un o bob 215 o aelwydydd yn byw mewn llety dros dro yng Nghymru. Mae llawer o’r teuluoedd yma mewn llety anaddas am gyfnodau hir, a hynny oherwydd nad oes yna ddigon o dai cymdeithasol ar gael. Dyna ydy’r broblem waelodol. Yn ogystal ag adeiladu tai newydd carbon isel, pa mor barod ydych chi i edrych ar eiddo sydd ar gael ar gyfer ei ailbwrpasu yn gartrefi cymdeithasol? Ac a gaf ofyn beth ydy’ch gweledigaeth chi ar gyfer ailbwrpasu adeiladau ffydd—eglwysi, capeli, addoldai o bob math, y rhai sydd yn wag erbyn hyn? A beth ydy’ch barn chi am adroddiad diweddar gan Sefydliad Bevan, sy’n argymell bod Llywodraeth Cymru yn archwilio’r potensial yma ac yn gweithio efo partneriaid perthnasol?

Diolch, Siân. A diolch am nodi Sefydliad Bevan a Housing Justice Cymru, a byddaf yn ystyried y canfyddiadau hynny. Gwn fod digwyddiad wedi bod yma yn y Senedd hefyd, y gwn fod rhai o fy swyddogion wedi’i fynychu, yn ogystal ag Aelodau yma. Felly, rydym yn parhau i weithio gyda Housing Justice Cymru a Cwmpas, ynghyd â phartneriaid eraill ar draws y sector, i wireddu potensial tir ac adeiladau ledled Cymru. Rydym hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol drwy raglen Trawsnewid Trefi i ailddatblygu eiddo gwag, gan gynnwys eiddo masnachol gwag mewn trefi ledled Cymru, a all gynnwys darparu cartrefi. A thrwy ein cynllun benthyciadau, rydym wedi dod â 400 eiddo yn ôl i ddefnydd fel cartrefi.

Ond oes, mae gennyf gryn ddiddordeb yn yr adroddiad, a gwn hefyd y bydd y tasglu sy’n ymchwilio i hyn yn edrych ar hyn hefyd. Felly, maent yn ymwybodol o'r mater, ond mae gennyf gryn ddiddordeb yn y maes hwn.

Diolch yn fawr. Dwi’n falch o glywed eich bod chi yn gweld potensial mewn adeiladau sydd yn wag ar hyn o bryd, nid yn unig adeiladau ffydd, ond pob math o adeiladau gwag ar ein strydoedd mawr ni, er enghraifft. Ond os ydy’r Llywodraeth am ddatgloi'r potensial yna ar gyfer creu cartrefi cymdeithasol, bydd yn rhaid caniatáu mwy o hyblygrwydd o ran y canllawiau cynllunio a dylunio. Mae hi, wrth gwrs, yn nod teilwng i greu cartrefi o ansawdd uchel sy’n ynni effeithlon, ond mae cyrraedd safon EPC A yn debygol o ychwanegu £15,000 at gost pob tŷ. Ac mae cymdeithasau tai yn dadlau y byddai caniatáu safon EPC B yn arwain at greu 1,000 o dai ychwanegol efo’r un gyllideb. Felly, dwi yn gofyn a oes yna le fan hyn ar gyfer hyblygrwydd yn y maes yna.

Ac wedyn, o droi at eiddo sy’n bodoli’n barod, os ydy’r rhain yn mynd i chware rôl mwy canolog wrth greu mwy o gartrefi cymdeithasol, mae’n rhaid i chi ystyried caniatáu mwy o hyblygrwydd. A fyddwch chi yn gwneud hynny? Dwi ddim yn clywed synau cadarnhaol i’r perwyl yna. Felly, mae dweud eich bod chi’n gweld potensial ar yr un llaw ond wedyn ddim yn gallu trio symud y rhwystrau yn gwrthddweud ei gilydd, mewn gwirionedd.

Diolch, Siân. A dylwn ddweud hefyd, ar fannau addoli, fod Cadw wedi cyfarfod â Sefydliad Bevan hefyd ynghylch y potensial i asedau afraid sy'n eiddo i sefydliadau ffydd ddarparu cartrefi cymdeithasol. Ac maent hefyd wedi darparu cyngor cyffredinol ar yr ystyriaethau sy'n angenrheidiol ar gyfer addasu adeiladau rhestredig hanesyddol at ddefnydd preswyl i ddiwallu anghenion tai cymdeithasol. Felly, gwn ein bod yn mynd i gyffwrdd ag agwedd y gofod mewn eiliad, ond mae rhai materion eraill ynghlwm wrth hyn. Ond rwy'n wirioneddol awyddus i weld sut y gallwn ddatgloi rhai o'r problemau hynny wrth weithio gyda'n gilydd.

O ran y safon gofod, mae hyn yn rhywbeth rwyf—. Pan fyddaf yn siarad ag awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, mae hynny'n cael ei godi ac rwy'n siarad â hwy, ac rwyf wedi gofyn am enghreifftiau, gan fod hyblygrwydd o fewn y cynllun ar hyn o bryd. Felly, rwy'n awyddus i glywed ble nad yw'r hyblygrwydd hwnnw'n bodloni'r angen, pryd y dylem edrych ychydig yn agosach ar hynny. Felly, fel y dywedaf, rwy'n clywed yr hyn y mae pobl yn ei ddweud, rwy'n awyddus i archwilio, ac fel y dywedais, mae hyblygrwydd o fewn y system ar hyn o bryd, ond rwy'n awyddus i glywed lle nad yw'r hyblygrwydd hwnnw'n gweithio, a byddaf yn amlwg yn adolygu hynny gyda swyddogion.

13:50

Diolch yn fawr am y newyddion yna. I droi, yn olaf, at argymhellion gan Bwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i chwarae rôl llawer mwy strategol a chlir o ran cyflenwi tai cymdeithasol, mae yna nifer o’r rhai a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor wedi cefnogi sefydlu corfforaeth ddatblygu hyd braich, efo’r gallu i ymyrryd yn y farchnad tir a chynllunio’n hir dymor tu hwnt i’r cylch etholiadol. Ac mae’r pwyllgor wedi awgrymu adolygu rôl y rhaglen Unnos, sydd yn rhan o waith Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, er mwyn esblygu hynny i fod yn endid ar wahân efo’r pwerau priodol. Y gred ydy nad ydy'r adran tir, neu'r adran lle dwi’n meddwl mae’n cael ei alw erbyn hyn, nad ydy’r adran yna ddim yn gallu ymateb yn ddigon cyflym i’r argyfwng tai. Ond mi ydych chi wedi gwrthod yr argymhelliad yna. Dwi eisiau trio deall pam, a dwi eisiau trio gweld a ydych chi’n barod i ailystyried, achos dwi ddim yn meddwl fod parhau efo’r status quo yn mynd i fod y ffordd i ni fedru diwallu’r angen anferth yna sydd allan yna. Diolch.

Diolch, Siân. Fel y dywedwch, mae yna agweddau lle mae hyn yn wirioneddol bwysig, gan fod her enfawr yn y maes hwn, ac rwy'n awyddus i edrych ar ble y gallwn wneud mwy. Fel y dywedwch, sefydlodd Gweinidogion yr is-adran tir i ychwanegu at raddfa a chyflymder y ddarpariaeth—mwy o leoedd a chartrefi cynaliadwy a fforddiadwy wedi’u cynllunio’n dda ar dir sector cyhoeddus—ac mae’r is-adran tir honno bellach yn rhan o is-adran lle sydd newydd ei ffurfio, sy’n dwyn ynghyd amcanion tir ac adfywio. Dylwn ddweud, ar hyn o bryd, fod gan yr is-adran lle 26 o safleoedd, dros 1,300 erw, gyda photensial i ddarparu mwy na 4,000 o gartrefi newydd, a gwerth y portffolio yw £44 miliwn. Byddwch wedi gweld, pan gawsom y ddadl yn y Senedd a fy ymateb i’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, er fy mod yn credu bod tri argymhelliad wedi'u gwrthod yn yr adroddiad hwnnw, nid yw hynny’n golygu nad ydym yn canolbwyntio ar yr heriau a gyflwynodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i ni, ond efallai ein bod yn gweld pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol mewn perthynas â hynny a sut i symud ymlaen. Ond fel y dywedaf, nid wyf yn amau bod y mater yn bodoli a sut y gallwn geisio symud ymlaen o hynny, ond efallai fod gennym ychydig o wahaniaeth barn o ran sut y gwnawn hynny, yn hytrach na beth yw’r mater mewn gwirionedd.

Etholiadau'r Senedd

3. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod etholiadau'r Senedd yn hygyrch i bawb? OQ62354

Diolch. Hygyrchedd yw un o'n hegwyddorion craidd ar gyfer diwygio etholiadol. Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion canlyniadau gefnogi pleidleiswyr anabl a threialu atebion pleidleisio i bobl ddall a rhannol ddall gyda Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall. Bydd ein platfform gwybodaeth etholiadau yn cynnwys mesurau hygyrchedd mewn gorsafoedd pleidleisio ac rydym hefyd yn galluogi ymgeiswyr anabl yn ariannol.

Diolch am yr ateb. 

Yr wythnos diwethaf, manteisiodd fy etholwr, sy’n ddefnyddiwr cŵn tywys, ar y cyfle i gymryd rhan yn y treial a ariennir gan Lywodraeth Cymru y mae Ysgrifennydd y Cabinet newydd sôn amdano, a gynhaliwyd ar y cyd â Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall, i wneud pleidleisio'n fwy hygyrch, ac rwyf wedi cael adborth hynod gadarnhaol gan fy etholwr. Eglurodd ei bod wedi gallu rhoi cynnig ar dri dull pleidleisio gwahanol, pob un â graddau amrywiol o lwyddiant. Ond y dull pleidleisio yr oedd fy etholwr yn fwyaf cyfforddus ag ef oedd cael y wybodaeth wedi’i darllen iddi drwy glustffonau, wrth iddi deimlo ei ffordd i lawr y papur pleidleisio cyffyrddadwy nes cyrraedd yr ymgeisydd roedd hi am bleidleisio drostynt. Ac roedd fy etholwr yn teimlo ei bod wedi gallu rhoi adborth ystyrlon ac wedi gallu awgrymu rhai newidiadau. Felly, ar y cyfan, cafodd brofiad gwirioneddol gadarnhaol, ac mae'n teimlo bod hwn yn gam cadarnhaol iawn, wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, i wneud pleidleisio'n fwy hygyrch, a bydd yn rhoi mwy o hyder i bobl sy'n ddall a rhannol ddall fynd i'r blwch pleidleisio ar eu pen eu hunain. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno mai dyma'r union reswm pam y comisiynwyd y treial hwn?

13:55

Diolch yn fawr, a hoffwn ddiolch i Julie Morgan a’i hetholwr am yr adborth hwnnw. Roedd yn dda iawn, ac roedd yn rhywbeth roeddwn yn falch iawn o fod ynddo hefyd. Rwy'n credu bod gweld y treialon yn digwydd yn bwysig iawn, a'r ffaith bod pobl yn falch iawn eu bod yn digwydd yw'r union reswm pam ei bod mor bwysig treialu'r atebion amrywiol hynny yn y lleoliadau hynny. Gwn fod hynny wedi digwydd yng Nghaerdydd yr wythnos cyn diwethaf, ac rwy'n credu iddo ddigwydd yn Wrecsam ddydd Llun hefyd. Felly, rydym yn treialu'r gwahanol ffyrdd hyn ledled Cymru. Rwyf hefyd yn hynod ddiolchgar i’r holl gyfranogwyr a gymerodd ran yn y ddau dreial, yn ogystal ag RNIB Cymru, Vision Support ac awdurdodau lleol a’n helpodd i sefydlu’r treialon hynny, ac edrychaf ymlaen at rannu’r canfyddiadau â swyddogion canlyniadau i’w helpu i roi’r cymorth mwyaf priodol ar waith fel y gall pobl ddall a rhannol ddall fod yn hyderus wrth bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol, sy’n hollbwysig, onid yw? Ac roedd yn rhywbeth y bu modd i mi ei drafod gyda Gweinidogion y Llywodraeth ar lefel y DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ddiweddar hefyd, gan fod diddordeb gan bob un ohonynt yn yr hyn a wnawn yma yng Nghymru.

Mae hygyrchedd etholiadau’r Senedd, ac yn arbennig y system bleidleisio newydd y tro nesaf, ym mis Mai, yn dal i fod yn bryder, gyda rhwystrau’n effeithio ar bleidleiswyr anabl, pleidleiswyr newydd a’r rheini sy’n defnyddio’r system bleidleisio drwy’r post. Er bod y rhan fwyaf o bleidleiswyr yn aml yn cymryd rhan yn hyderus, bydd rhai'n dal i wynebu heriau wrth geisio deall y system bleidleisio newydd a phleidleisio dros bleidiau gwleidyddol yn hytrach nag ymgeiswyr unigol. Nawr, mae newidiadau o Ddeddf Etholiadau 2022 yn caniatáu i unrhyw oedolyn gynorthwyo pleidleiswyr anabl, ond mae llawer o bobl o hyd heb fod yn ymwybodol o'r darpariaethau hyn. Rwy’n ymwybodol o’r gwaith caled y mae staff Comisiwn y Senedd yn ei wneud ar hyn o bryd i estyn allan at etholwyr sydd wedi’u difreinio, pleidleiswyr 16 oed ac unrhyw ran o’n system etholiadol lle maent yn teimlo bod angen iddynt wneud hynny. Felly, gyda chyllideb y Comisiwn Etholiadol bellach yn cynyddu o £29 miliwn i £46 miliwn, pa gamau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i warantu bod y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol i hybu ymwybyddiaeth o'r cymorth hygyrchedd sydd ar gael drwy'r swyddogion etholiadol, ac ar y system bleidleisio newydd yn enwedig, fel bod gennym fwy o hygyrchedd i'n hetholwyr fis Mai nesaf? Diolch.

Diolch yn fawr, Janet, ac rydych chi hefyd yn codi pwynt pwysig ynglŷn â sicrhau ein bod yn codi ymwybyddiaeth ymhlith pleidleiswyr anabl neu bobl sy’n rhannol ddall cyn iddynt fynd i mewn i orsaf bleidleisio, gan y credaf ei bod yn bwysig fod hynny’n cael ei godi, gan fod hyn yn ymwneud â’r hyder i fynd i’r orsaf bleidleisio hefyd. Felly, rydym wedi ymrwymo i gael gwared ar y rhwystrau i gymryd rhan mewn etholiadau ar gyfer pleidleiswyr ac ymgeiswyr. Fel y dywedais, roedd yn dda iawn gallu gweithio gyda Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall a’r awdurdodau lleol i dreialu’r cynlluniau peilot hynny, felly bydd yn ddiddorol iawn gweld beth a ddaw o hynny, ac roedd yn dda clywed peth o’r adborth hwnnw heddiw.

Y tu hwnt i hyn, byddwn hefyd yn edrych ar y ffordd orau o gefnogi pleidleisio hygyrch ar gyfer ystod ehangach o anghenion hygyrchedd. Felly, rwyf wedi ymrwymo £25,000 ar gyfer treialon pleidleisio hygyrch. Y mis nesaf, byddwn yn trafod y ddeddfwriaeth ar gyfer platfform gwybodaeth am etholiadau. Bydd hyn hefyd yn darparu gwybodaeth hygyrch a bydd yn allweddol i wella ymwybyddiaeth pleidleiswyr o etholiadau. Ac mae Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 yn rhoi’r gronfa mynediad i swyddi etholedig ar sail statudol, felly mae hyn yn darparu grantiau i ddileu rhwystrau i ymgeiswyr anabl. Ac mae ein grant ymgysylltu â democratiaeth yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau i wella hygyrchedd etholiadau.

Ystâd y Goron

4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ffioedd a dalwyd i Ystâd y Goron gan awdurdodau lleol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ62347

Diolch, Cefin. Nid yw Llywodraeth Cymru yn casglu gwybodaeth am ffioedd a delir gan awdurdodau lleol i Ystad y Goron. Mae’r ffioedd hyn yn fater i bob awdurdod lleol ei drafod gydag Ystad y Goron.

14:00

Wel, gan nad yw'r Llywodraeth yn casglu'r data yna, fe aeth fy swyddfa i ati, drwy geisiadau rhyddid gwybodaeth, i weld beth yw maint y ffioedd, ac maent wedi datgelu bod dros £105,000 yn cael ei dalu mewn ffioedd i Ystad y Goron bob blwyddyn rhwng cynghorau Ceredigion, sir Benfro a sir Gaerfyrddin, er mwyn caniatáu mynediad y cyhoedd i dir sy'n eiddo i'r ystad. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, £27,000 y flwyddyn ar gyfer mynediad at afon ac arfordir y Teifi, yng Ngheredigion.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydym mewn sefyllfa lle mae ein hawdurdodau lleol, yn wyneb costau cynyddol a chynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol, yn ystyried toriadau i wasanaethau cyhoeddus er mwyn gallu talu am ddiffyg cynyddol yn eu gwariant cyllidebol. Yn achos Ceredigion, mae'r cyngor yn wynebu diffyg o tua £5 miliwn ac mae'n ystyried codi'r dreth gyngor hyd at 14 y cant. A ydych chi'n cytuno â mi a fy nghyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru ei bod yn amhosibl cyfiawnhau'r ffaith bod cynghorau yn ne-orllewin Cymru yn unig yn anfon dros £100,000 y flwyddyn dros y ffin i Drysorlys y DU a'r teulu brenhinol, ac y dylai'r broses o drosglwyddo'r cyfrifoldeb am Ystad y Goron ddechrau cyn gynted â phosibl?

Diolch, Cefin. Ein safbwynt ni yw y dylid datganoli rheolaeth ar Ystad y Goron i Gymru. Byddai cymryd rheolaeth dros reoli asedau Ystad y Goron yng Nghymru yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gael mwy o ymreolaeth dros gyflymder a chyfeiriad datblygu eiddo Ystad y Goron sydd wedi'i leoli yng Nghymru, a byddai gennym gyfle i alinio rheolaeth Ystad y Goron yng Nghymru yn well ag anghenion dinasyddion Cymru. Mae rheolaeth ar asedau'r Goron hefyd yn cynhyrchu refeniw sylweddol i Drysorlys y DU, felly byddai datganoli Ystad y Goron yn alinio'r refeniw hwnnw'n well â'r incwm sydd ar gael i Lywodraeth Cymru gyflawni ein blaenoriaethau i ddinasyddion Cymru. Ac rydym hefyd yn sylweddoli pa mor bwysig yw creu amgylchedd sefydlog i sicrhau ein bod yn manteisio ar gyfleoedd gwynt ar y môr, er enghraifft, yng Nghymru.

Blaenoriaethau Adfywio ar gyfer Preseli Sir Benfro

5. Beth yw blaenoriaethau adfywio Llywodraeth Cymru ar gyfer Preseli Sir Benfro am y 12 mis nesaf? OQ62332

Diolch, Paul. Ein blaenoriaeth yw adfywio canol trefi i'w gwneud yn lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt. Ers mis Ionawr 2020, rydym wedi dyfarnu bron i £18 miliwn o gyllid drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi i gefnogi prosiectau adfywio canol trefi ledled sir Benfro.

Ysgrifennydd y Cabinet, efallai eich bod yn ymwybodol fod Cyngor Sir Penfro wrthi'n datblygu hyb trafnidiaeth gyhoeddus fel rhan o'i waith adfywio ehangach i adfywio canol tref Hwlffordd. Fodd bynnag, bydd yr hyb trafnidiaeth, sef safle bws a maes parcio i bob pwrpas, wedi'i leoli tua hanner milltir o orsaf drenau'r dref, nad yw'n gwneud synnwyr os yw'n ceisio annog mwy o bobl i ddod i ganol y dref. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod angen ystyried unrhyw brosiectau adfywio trafnidiaeth gyhoeddus gyda gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus lleol, gan mai dyna'r unig ffordd y gallwn adfywio canol ein trefi a'n cymuned. Felly, a allwch chi ddweud wrthym pa ganllawiau sy'n cael eu cyhoeddi i awdurdodau lleol fel Cyngor Sir Penfro i sicrhau dull cyfannol o ymdrin â phrosiectau adfywio bob amser?

Diolch, Paul. Rwy'n credu ei fod yn bwynt pwysig. Gwn fod datblygu cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus Hwlffordd—yn agos at ganol y dref, fel y nodwch—yn cael ei gefnogi gan gyllid Llywodraeth Cymru, a bydd y prosiect yn cefnogi gweithgaredd adfywio yng nghanol y dref. Ond mae eich pwynt pwysig ynglŷn â sut i sicrhau bod pob adran yn siarad â'i gilydd yn gwbl glir, ac mae hynny'n rhywbeth rwyf wedi siarad â fy nghyd-aelodau o'r Cabinet yma yn ei gylch, ac rwy'n awyddus inni gael dull cydgysylltiedig yma, fel y bydd gan awdurdodau lleol hefyd, gobeithio.

Mae rhai pethau da iawn yn digwydd yn sir Benfro. Ers mis Ionawr 2020, mae'r cyngor wedi derbyn tua £6 miliwn i gefnogi'r prosiectau adfywio strategol yn Hwlffordd drwy'r rhaglen Trawsnewid Trefi, gan gynnwys datblygiad blaenllaw Glan Cei'r Gorllewin. Mae llawer o bethau yn yr arfaeth hefyd. Ond mae'n bwysig fod yna ddull cydgysylltiedig o weithredu, a'n bod ni i gyd—holl aelodau'r Cabinet yma yn ogystal—yn ymwybodol iawn o hynny, a bod hynny ar frig eu hagenda hwy hefyd. 

14:05
Tai Fforddiadwy

6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o fynediad at dai fforddiadwy ledled Cymru? OQ62356

Diolch, Peter. Rwy'n cydnabod yn llawn yr angen am dai fforddiadwy ledled Cymru, a dyna pam ein bod ni'n buddsoddi cyllideb flynyddol o £411 miliwn ar gyfer tai cymdeithasol yn y flwyddyn ariannol nesaf—£81 miliwn ychwanegol, o'i gymharu â'r llynedd. Eleni, derbyniodd Cyngor Sir Fynwy ei hun dros £10.7 miliwn o grant tai cymdeithasol.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n amlwg iawn ein bod mewn argyfwng tai enfawr, ac mae hynny'n sicr yn cynnwys tai fforddiadwy. Nawr, gwn mai tua 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel oedd eich targed yn ystod y tymor hwn, ond dim ond tua hanner y rheini a gyflawnwyd gennych hyd yma. Felly, rhwng y Llywodraeth ac awdurdodau lleol, nid ydym yn gwneud gwaith da iawn o ddarparu digon o dai fforddiadwy ar gyfer y dyfodol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, beth yw eich nifer rhagamcanol o dai fforddiadwy ychwanegol y bydd y Llywodraeth hon a'r cynghorau yn eu darparu dros weddill y tymor hwn? A sut y mae eich Llywodraeth yn bwriadu gwrthdroi'r duedd a sicrhau bod datblygwyr yn darparu'r ganran o dai fforddiadwy y maent yn ymrwymo i'w darparu yn ystod y cam cynllunio? Yn rhy aml, maent yn tynnu allan neu'n newid oherwydd costau adfer a phethau felly. 

Diolch, Peter. Yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth rwy'n gweithio arno gydag awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Cyn gynted ag y dechreuais yn y swydd, roedd hynny'n rhywbeth roeddwn ei eisiau, nodi unrhyw rwystrau yn y system, ac mae hynny'n rhywbeth y gallasom ei wneud gyda'r cyhoeddiad am y £10 miliwn ychwanegol yn ddiweddar. Unwaith eto, rwy'n falch o nodi, ar 4 Chwefror, fod Cyngor Sir Fynwy wedi cymeradwyo datblygiad 96 o gartrefi fforddiadwy newydd ym Mabey Bridge yn ardal Brunel yng Nghas-gwent. Felly, mae'r cynllun hwnnw'n derbyn dros £10 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru. Felly, yn nhymor y Senedd hon, rydym wedi darparu bron i 9,000 yn fwy o gartrefi rhent yn y sector cymdeithasol. Bydd £10 miliwn ychwanegol y flwyddyn ariannol hon yn helpu i roi hwb i ddatblygu 60 o gynlluniau tai fforddiadwy newydd, gan arwain at adeiladu 238 o gartrefi newydd cyn diwedd tymor y Senedd. A daw hynny'n uniongyrchol o'r sgyrsiau a gefais cyn gynted ag y dechreuais yn y swydd. Felly, rwy'n ceisio sicrhau bod cysylltiad rhwng yr hyn y buom yn ei drafod a'r hyn a wnawn mewn gwirionedd. 

Felly, rwy'n awyddus iawn i wneud popeth a allaf. Mae gennym y tasglu o hyd, sy'n edrych ar enghreifftiau o ble mae rhwystrau a beth sy'n achosi hynny. Mae swyddogion yn edrych yn gyffredinol ar draws Cymru ar ble mae'r problemau, beth y gallwn wneud mwy ohono, beth sydd angen ei newid. Rydym hefyd wedi rhoi £30 miliwn tuag at Gynllun Lesio Cymru, sy'n gwella mynediad at dai fforddiadwy hirdymor yn y sector rhentu preifat, ac rydym hefyd wedi ymestyn y cynllun Cymorth i Brynu—Cymru drwy roi £57 miliwn ychwanegol. Felly, rydym yn ceisio gwneud pethau mewn pob math o ffyrdd gwahanol i fwy o bobl gael troed ar yr ysgol dai a chael mynediad at gartrefi fforddiadwy, cartrefi cymdeithasol yn enwedig, yng Nghymru. 

Tai Cymdeithasol i'w Rhentu yn Aberconwy

7. Faint o dai cymdeithasol newydd i’w rhentu sydd wedi'u hadeiladu dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn Aberconwy? OQ62343

Diolch, Janet. Mae'r datganiad ystadegol ar dai fforddiadwy yn cyhoeddi data yn ôl ardal awdurdod lleol ac mae'n dangos, yng Nghonwy, fod cyfanswm o 113 o gartrefi newydd ar gyfer rhent cymdeithasol wedi'u darparu gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig rhwng 2022 a 2024. Cafodd pum cynllun arall eu cymeradwyo ar gyfer Conwy yn 2023-24, gan ddarparu 178 o gartrefi newydd, gyda chynlluniau pellach wedi'u cynllunio yn y dyfodol agos.

Diolch. Wel, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gwelodd Aberconwy nifer cyfyngedig o dai rhent cymdeithasol newydd yn cael eu hadeiladu ac mae'n methu bodloni'r galw cynyddol am dai fforddiadwy. Mewn gwirionedd, yn ôl StatsCymru, nid yw'r stoc o dai landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn sir Conwy ond wedi cynyddu 100 rhwng 2022-23 a 2023-24, gan gyrraedd 6,604 o gartrefi. Ar yr un pryd, y llynedd yn unig, gwariodd Conwy £4 miliwn yn darparu llety dros dro a  llety mewn argyfwng. Mae'r dystiolaeth yn glir fod y galw'n llawer mwy na'r cyflenwad. Rwyf wedi dweud yn y Siambr ar sawl achlysur, lle mae awdurdodau lleol wedi nodi tir ar gyfer tai mewn cynlluniau datblygu lleol, y dylid rhoi ceisiadau gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i adeiladu ar y tir hwnnw ar lwybr carlam drwy'r system honno. Mae'n hollol anghywir ac anghynaladwy ei bod wedi cymryd blynyddoedd i rai cynlluniau tai cymdeithasol fynd o'r cysyniad i osod y fricsen gyntaf. Pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd, Ysgrifennydd y Cabinet, i roi'r broses gynllunio ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a thai rhent cymdeithasol da ar lwybr carlam?

14:10

Diolch, Janet. Fel y dywedais, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn arwain ar yr ymgynghoriad cynllunio hwnnw, sy'n amlwg yn cael effaith o ran tai. Rwy'n credu bod yn rhaid inni gofio, gyda'r pwysau yn y system, ein bod eisoes wedi buddsoddi dros £1.4 biliwn. Mae hon yn gyllideb flynyddol fwy nag erioed o £411 miliwn ar gyfer tai cymdeithasol yn y flwyddyn ariannol nesaf, a £81 miliwn ychwanegol o'i gymharu â'r llynedd.

Yn Aberconwy, bydd Builder Street, Llandudno yn gweld 77 o gartrefi newydd yn cael eu cwblhau erbyn mis Ebrill 2026, ac ym Mryn Hyfryd, Llanrwst, mae disgwyl 14 o gartrefi newydd erbyn mis Medi 2026. Dros ddwy flynedd gyntaf y rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro, derbyniodd Conwy ddyraniad o £12.3 miliwn i gyflwyno 111 o gartrefi ychwanegol, sy'n cynnwys dod â 65 o dai gwag yn ôl i ddefnydd, a chredaf fod hynny'n dda iawn, ac rwy'n awyddus i weld yr eiddo gwag hwnnw'n cael ei ailddefnyddio unwaith eto. Felly, eleni, rhagwelir y bydd Conwy'n ymrwymo £3.2 miliwn arall o gyllid y rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro i gyflwyno 39 o gartrefi ychwanegol, sy'n cynnwys 21 eiddo gwag, felly rwy'n credu bod cynnydd gwirioneddol yn cael ei wneud yno.

Ond fel y dywedais, mae gennym ffocws clir ar hyn ac rydym yn gwybod bod angen inni adeiladu mwy o gartrefi, mwy o dai fforddiadwy, ond mwy o gartrefi yng Nghymru yn gyffredinol, ac rydym yn gweithio i weld lle mae rhwystrau yn y system a sut y gellir cael gwared arnynt.

Isafswm Cynnydd ar gyfer Llywodraeth Leol

8. Pa ystyriaeth y mae'r Ysgrifenydd Cabinet wedi'i roi i osod isafswm cynnydd ar gyfer y setliad ariannol ar gyfer Llywodraeth Leol yn 2025-26 er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol fel Cyngor Gwynedd yn gallu diogelu gwasanaethau i’w trigolion? OQ62350

Diolch, Siân. Mae'r setliad dros dro i lywodraeth leol ar gyfer 2025-26 yn darparu dros £6.1 biliwn mewn cyllid refeniw craidd. Er bod hwn yn gynnydd cyfartalog o 4.3 y cant neu £253 miliwn ar sail debyg am debyg, mae'r Llywodraeth yn ystyried darparu cyllid ychwanegol yn y gyllideb derfynol i sicrhau isafswm cynnydd i bob awdurdod.

Diolch yn fawr. Ers bron i 15 mlynedd, mae Cyngor Gwynedd wedi cael eu gorfodi i dorri eu cyllidebau: cyfanswm o dros £74 miliwn yng Ngwynedd dros y cyfnod yna. Ac wrth gwrs, mae’r cyngor wedi parhau i geisio cynnal gwasanaethau hanfodol sy’n bwysig i’n cymunedau ni, ond mae hi'n mynd yn gynyddol heriol, ac felly, mae’n rhaid i gynghorau sir gael eu hariannu’n deg. Felly, dwi yn dehongli o’r hyn rydych chi newydd ei ddweud eich bod chi yn bwriadu gosod lleiafswm o gyllid y gellid ei gyflwyno i gynghorau sir, sef y llawr ariannol, neu rwyd diogelwch. Mi fyddai hynny yn gosod sylfaen decach i Gyngor Gwynedd wrth wynebu’r sialensau mawr. Fedrwch chi gadarnhau, felly, eich bod chi yn mynd i osod llawr ar gyfer cyllidebau llywodraeth leol?

Diolch, Siân, ac fel y dywedais mae'r Llywodraeth a minnau'n ystyried hyn ar hyn o bryd, oherwydd yn amlwg rydym wedi gweld gwahaniaethau ar draws Cymru. Felly, fel y dywedais, mae'r codiad i'r setliad cyffredinol yn 4.3 y cant ar gyfartaledd, ond gwyddom mai'r codiad i Wynedd yw'r ail isaf ar 3.1 y cant. Mae'r gwahaniaeth rhwng cyfartaledd Cymru a'r cynnydd isaf yn 1.7 pwynt canran, felly mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn edrych arno ar bob cyfle wrth osod y gyllideb o ran cyllido gwaelodol. Yn amlwg, rwy'n ymwybodol iawn fod hyn yn rhywbeth sy'n peri pryder i Aelodau ac awdurdodau lleol, ac mae mwy o wahaniaeth eleni nag a fu mewn blynyddoedd blaenorol o bosibl. Felly, dyna pryd y mae cyllid gwaelodol yn briodol, pan ystyrir nad oes modd rheoli'r newid yn y dyraniad ar gyfer awdurdod unigol.

Anghenion Tai

9. Pa asesiad y mae’r Llywodraeth wedi ei wneud o anghenion tai yng Nghymru? OQ62362

Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gynnal asesiad o angen tai i lywio dealltwriaeth leol fanwl. Mae hyn, yn ei dro, yn llywio cynlluniau datblygu lleol a phrosbectysau grant tai cymdeithasol. Rydym wedi dyrannu lefelau uwch nag erioed o gyllid yn y gyllideb ddrafft i helpu i ddiwallu'r angen am dai fforddiadwy ledled Cymru.

14:15

O ystyried bod yr amcangyfrifon presennol o angen tai yng Nghymru yn seiliedig ar ragamcanion sydd wedi dyddio, ar ddata a ffigurau cyfrifiad anghyflawn sydd wedi newid yn ddramatig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, sut y mae Llywodraeth Cymru yn cyfiawnhau ei phenderfyniad i beidio â sefydlu arolwg tai ar gyfer Cymru? Heb sylfaen dystiolaeth gadarn, gyfredol, sut y gallwn ni sicrhau bod polisi tai yn ymateb yn effeithiol i'r angen gwirioneddol am dai yng Nghymru?

Diolch, Llyr. Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gynnal asesiad o'r angen am dai, sy'n cael ei gwblhau drwy broses asesu'r farchnad dai leol. Ni chwblhawyd y cylch cyntaf o adroddiadau'n defnyddio'r dull newydd tan yn ddiweddar. Mae adroddiadau'n cael eu hadolygu yn erbyn y canllawiau i sicrhau eu bod yn cynnwys gofynion sylfaenol. Er bod asesiadau o'r farchnad dai leol yn darparu ffynhonnell ddata hanfodol ar gyfer angen tai lleol, nid eu bwriad yw adlewyrchu archwaeth awdurdod lleol i ddatblygu tai, felly efallai na fydd cydberthynas uniongyrchol bob amser rhwng yr asesiadau o'r farchnad dai leol a'r cynllun datblygu lleol neu brosbectws. Ond mae'n rhaid i gynlluniau datblygu lleol nodi sut a ble mae'r awdurdod yn bwriadu darparu'r tai fforddiadwy a thai'r farchnad i gyrraedd y targed y maent wedi'i sefydlu. Fel y dywedais, mae pob awdurdod lleol wedi cyflwyno asesiad drafft o'r farchnad dai neu asesiad terfynol o'r farchnad dai i'w ystyried gan swyddogion, ac mae swyddogion wedi gweithio'n agos gyda'r holl awdurdodau lleol ac yn parhau i weithio'n agos gyda hwy i sicrhau bod yr asesiadau o'r farchnad dai leol yn bodloni gofynion y canllawiau.

Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar gynnal adolygiad gwersi a ddysgwyd ar y dull newydd o weithredu asesiadau o'r farchnad dai leol, ac mae awdurdodau lleol wedi cymryd rhan ac yn rhoi adborth ar sut y gellid gwella'r broses. Mae rhagor o waith i'w wneud, ac fe fydd yn cael ei gwblhau dros y misoedd nesaf gyda golwg ar gyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru yn yr hydref.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Y cwestiynau nesaf, felly, fydd y rhai i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Y cwestiwn cyntaf gan Julie Morgan.

Rhaglen Taith

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith rhaglen Taith? OQ62353

Ers ei lansio, mae Taith wedi mynd o nerth i nerth, gyda'r nod o fynd â Chymru i'r byd a dod â'r byd i Gymru yn cael ei wireddu.

Diolch am yr ateb.

Fel y gwyddom, nod Taith yw helpu 15,000 o fyfyrwyr a staff yng Nghymru i deithio dramor, ac i 10,000, yn eu tro, weithio neu astudio yng Nghymru. Wrth gwrs, Taith yw fersiwn Cymru o'r hyn sy'n olynu rhaglen Erasmus+ y gwnaeth Llywodraeth y DU ei gadael o ganlyniad i Brexit. Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd rhoi cyfle i'n pobl ifanc fyw ac astudio dramor, er gwaethaf yr heriau a achoswyd gan Brexit, oherwydd rydym am i'n pobl ifanc yng Nghymru fod yn rhyngwladolwyr sy'n edrych tuag allan, ac mae Taith yn helpu ein pobl ifanc i brofi diwylliannau a safbwyntiau newydd na fyddent wedi ei wneud fel arall.

Nawr, Prifysgol Caerdydd a gafodd y dasg o gyflwyno Taith, ac rwy'n deall bod y rhaglen yn rhedeg tan 2026. Felly, gyda'r cyhoeddiad diweddar gan Brifysgol Caerdydd fod ysgolion sy'n gysylltiedig â darparu rhaglen Taith yn cael eu heffeithio gan y toriadau arfaethedig, rwy'n poeni am ei dyfodol. A allai'r Gweinidog gadarnhau y bydd Taith yn parhau i redeg fel y cynlluniwyd tan 2026, a yw'n mynd i gael ei hadnewyddu a ble y caiff ei lleoli yn y dyfodol os bydd y toriadau hyn yn digwydd?

Hoffwn ddiolch i Julie Morgan am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n rhannu eich brwdfrydedd ynglŷn â Taith, a gobeithio y gallaf dawelu eich meddwl ar eich pwynt olaf. Felly, fel y dywedoch chi, mae'n fuddsoddiad yn nyfodol ein pobl ifanc, ac rydym yn sicrhau y gall y genhedlaeth hon o ddysgwyr elwa o'r cyfleoedd hyn sy'n newid bywydau. Dylwn ddweud hefyd ei fod yn cynnwys dysgwyr sy'n oedolion, ac rwyf wedi cyfarfod ag ystod eang o ddysgwyr sydd wedi elwa'n fawr o Taith.

Erbyn diwedd 2025, bydd bron i £30 miliwn o gyllid Taith wedi'i ddyfarnu i brosiectau ym mhob sector addysg ledled Cymru. Rwy'n credu bod amrywiaeth y sefydliadau sydd wedi derbyn cyllid yn adlewyrchu ein pwyslais ar ddarparu rhaglen sydd o fudd i bob sector addysg ac ieuenctid ledled Cymru. Mae gan Taith ffocws go iawn ar ddarparu cyfleoedd i'r rhai na fyddent fel arall yn eu cael, ac mae diweddariad o'r strategaeth a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2023 yn pwysleisio gwerthoedd craidd y rhaglen, gan gynnwys ymrwymiad i gynorthwyo pobl o grwpiau na chânt eu cynrychioli'n ddigonol, fel rhai o gefndiroedd difreintiedig, i gymryd rhan.

Ar ddarparu Taith, caiff Taith ei ddarparu gan yr International Learning Exchange Programme Ltd, sef is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Prifysgol Caerdydd. Ac oherwydd y gwahanu clir rhwng y ddau a bod llythyr dyfarniad grant Llywodraeth Cymru wedi mynd yn uniongyrchol at ILEP Ltd, rydym yn hyderus na fydd y sefyllfa ehangach sy'n ymwneud â Phrifysgol Caerdydd yn effeithio ar y broses o ddarparu Taith. Daw'r grant presennol i ddarparu Taith i ben ym mis Mawrth 2027, ac mae fy swyddogion wrthi'n cytuno ar estyniad o flwyddyn gydag ILEP Ltd, y sefydliad sy'n darparu Taith, a fydd yn ymestyn y dyddiad gorffen i fis Mawrth 2028. Ond rydym wedi ymrwymo i Taith yn hirdymor.

14:20
Adeiladau Ysgol yn Nwyrain De Cymru

2. Sut y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gydag ysgolion i sicrhau'r adeiladau ysgol gorau posibl yn Nwyrain De Cymru? OQ62359

Mae'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy wedi buddsoddi dros £564 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru yn Nwyrain De Cymru ers 2014. Yn ddiweddar, cymeradwyais gynlluniau amlinellol strategol ar gyfer dros £707 miliwn o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru ar draws 42 o brosiectau yn Nwyrain De Cymru o dan y rhaglen dreigl naw mlynedd.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Pan fydd ysgolion yn cael eu cynllunio a'u hadeiladu, byddai rhywun yn meddwl efallai y byddai dysgwyr, athrawon a phenaethiaid yn rhan o broses gynllunio ac adeiladu'r adeilad. Yn anffodus, nid felly y bu yn achos Ysgol Croesyceiliog yn Nhorfaen. Pan orffennwyd yr adeilad, roedd yn edrych yn wych, a gallaf dystio fy mod wedi ymweld ag ef fy hun, ond roedd y penaethiaid, yr athrawon a'r dysgwyr fel ei gilydd wedi dychryn ac yn synnu gweld toiledau yn y lle anghywir, ffreutur nad oedd yn addas i'r diben a phrif neuadd a oedd mor fach fel bod myfyrwyr yn dal i gael eu gorfodi, adeg arholiadau, i logi ystafell i fyny'r lôn, mewn neuadd yno. Pe bai'r awdurdod lleol, y myfyrwyr a'r pennaeth wedi'u cynnwys yn briodol yn y broses gynllunio ac adeiladu, fel y gwelsom yn sir Fynwy ac adeilad newydd gwych Ysgol y Brenin Harri VIII yn y Fenni, gellid bod wedi osgoi hyn yn hawdd a gallai pawb fod wedi cael adeilad a oedd yn ymarferol ac yn addas i'r diben, yn ogystal â bod yn ddeniadol yn esthetig. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, sut rydych chi'n sicrhau bod yr holl ysgolion y cynllunnir ar eu cyfer yn cael eu cynllunio gyda'r holl bartïon perthnasol yr effeithir arnynt wrth symud ymlaen, er mwyn sicrhau bod yr ysgolion gorau posibl yn cael eu darparu yng Nghymru? Diolch.

A gaf i ddiolch i Laura Anne Jones am y cwestiwn atodol hwnnw a'i sicrhau, yn aml iawn, fod llawer o waith yn cael ei wneud gyda'r ysgolion a gweithio agos gyda'r tîm ar lawr gwlad wrth lunio'r cynigion hyn? Hefyd, mae yna broses gymeradwyo gadarn mewn tri cham cyn i geisiadau ysgol gyrraedd y cam pan fyddant yn mynd yn eu blaenau. Fe gyfeirioch chi at Ysgol y Brenin Harri VIII, a gwn eich bod wedi ymweld â hi yn ddiweddar, ac rwy'n siŵr eich bod yn croesawu'r £47 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Lafur Cymru ar gyfer yr ysgol honno. Ond yn fy mhrofiad i, pan af i weld ysgolion newydd, mae yna broses drylwyr iawn wedi bod o weithio gyda chymuned yr ysgol. Ac yn wir, euthum i Ysgol Uwchradd Pen y Dre beth amser yn ôl, ac roedd y bobl ifanc yno wedi cymryd rhan mewn gwersi a dysgu'n gysylltiedig ag adeilad newydd yr ysgol. Felly, mae llawer o gyfleoedd yma, ac yn fy mhrofiad i, mae llawer o gydgynhyrchu gyda'n rhaglen.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Questions now from the party spokespeople. The Welsh Conservatives' spokesperson, Natasha Asghar.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei chyhuddo o ddiystyru pryderon ynglŷn ag ymddygiad gwael yn Ysgol Dyffryn Aman dri mis cyn i ddau athro a disgybl gael eu trywanu. Ysgrifennodd cyn-ddirprwy bennaeth yr ysgol at Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2024 i fynegi pryderon am ymddygiad disgyblion a'r hyn a ddisgrifiodd fel diffyg eglurder mewn canllawiau i fynd i'r afael â hynny. Cafodd saith e-bost eu cyfnewid rhwng mis Ionawr 2024 a mis Ebrill 2024, gyda'r olaf wedi ei anfon ar fore'r ymosodiad ei hun. Dywedodd y cyn-ddirprwy bennaeth pan siaradodd yn ddiweddar, ac rwy'n dyfynnu:

'Cafwyd cyfres o e-byst lle roedd y Llywodraeth yn fy niystyru i ryw raddau. Dywedais nad oeddwn yn hapus gyda'u hymateb a fy mod eisiau sgwrs arall. Anfonwyd yr e-bost olaf ar fore'r ymosodiad... Nid ydych chi byth yn mynd mewn i ysgol gan feddwl y byddai hynny'n digwydd, ond rwy'n credu bod arwyddion rhybudd i bob ysgol yng Nghymru fod rhywbeth tebyg i hyn yn mynd i ddigwydd... Mae'r Llywodraeth yn cysgu wrth y llyw, ac rwy'n credu hynny o ddifrif. Rwyf am weld y canllawiau'n rhoi mwy o bwerau i ysgolion fel ei bod yn fwy eglur beth y gall ysgolion ei wneud a beth na all ysgolion ei wneud—a bod hyn yn galluogi ysgolion i fod yn fwy llym.'

Ysgrifennydd y Cabinet, a oedd Llywodraeth Cymru yn cysgu wrth y llyw?

14:25

Nid oeddem yn cysgu wrth y llyw mewn unrhyw fodd. Os caf droi at faterion ehangach ymddygiad, ac ailbwysleisio wrth y Senedd fod unrhyw fath o drais yn erbyn staff a disgyblion mewn ysgolion yn gwbl annerbyniol. Dylai ysgolion fod yn lleoedd diogel i ddysgwyr a staff, ac mae dyletswydd gyfreithiol ar bob lleoliad addysg yng Nghymru i ddarparu amgylchedd dysgu diogel.

Rwyf wedi nodi yn y Siambr o'r blaen yr ystod o gamau a gymerwn i fynd i'r afael â rhai o'r problemau gydag ymddygiad mewn ysgolion. Mae ein canllawiau gwahardd eisoes yn ei gwneud hi'n glir y gall defnyddio neu fygwth defnyddio arf ymosodol fod yn sail dros wahardd. Mae meddu ar arf neu ddefnyddio arf mewn lleoliad ysgol yn amgylchiad eithriadol yr ydym yn cydnabod ei fod yn creu risg mwy na risgiau eraill, ac felly gall yr ysgol gymryd camau ar unwaith a pharhaol. Hefyd, mae gan ysgolion bŵer i chwilio dysgwyr heb gydsyniad lle amheuir eu bod yn cario arf, neu gyda chaniatâd dysgwr am eitemau eraill fel fêps.

Os caf i droi at eich pwyntiau am Ceri Myers. Cysylltodd Ceri Myers, y dirprwy bennaeth ar y pryd yn Ysgol Dyffryn Aman, â ni am y tro cyntaf ym mis Ionawr 2024. Fe wnaeth hynny mewn perthynas â materion cyffredinol yn ymwneud ag ymddygiad gwael, defnyddio fêps a chyffuriau a phwerau i chwilio dysgwyr. Ni soniwyd am gyllyll a chafodd ymateb llawn i'w ymholiadau. Cafwyd gohebiaeth rhwng Mr Myers a swyddogion. Cafodd wybodaeth am y pŵer sydd gan ysgolion i chwilio dysgwyr, gyda a heb ganiatâd. Cyfarfu Mr Myers ag uwch swyddogion ym mis Hydref 2024.

Rwyf i fy hun wedi ymweld â'r ysgol ar ddau achlysur i drafod y digwyddiadau a welwyd yno. Credaf ein bod wedi darparu cyngor a chymorth clir, ond a gaf i fod yn gwbl glir eto na chawsom unrhyw ohebiaeth gan Mr Myers yn ymwneud â chyllyll cyn y digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman? Yn wir, pan gawsant yr ohebiaeth ac wedi iddynt ailedrych ar drawsgrifiad y cyfweliad gyda mi wrth gwrs, fe welwch fod ITV wedi newid eu stori ddoe i gywiro hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am eich ymateb. Rwy'n ei werthfawrogi. Fel roedd fy nghyd-Aelodau, lawer ohonynt, yn ei ddweud y tu ôl i mi, wedyn y digwyddodd hyn i raddau helaeth. Ond rydych chi'n dweud nad oedd y Llywodraeth yn cysgu wrth y llyw, felly pam y teimlai'r cyn-bennaeth ei fod wedi cael ei ddiystyru?

Wel, rwy'n credu fy mod wedi nodi, Natasha, ein bod wedi cael deialog barhaus gyda'r cyn-ddirprwy bennaeth. Fel y dywedais, ni soniwyd am gyllyll ar unrhyw adeg cyn yr ymosodiad yn Ysgol Dyffryn Aman. Mewn gwirionedd, dywedasom yn rhagweithiol yn un o'n hymatebion iddo y gall ysgolion chwilio am gyllyll a gallant wahardd dysgwyr os canfyddir bod ganddynt gyllell. Roedd y materion a gododd Mr Myers yn faterion cyffredinol yn ymwneud ag ymddygiad ac yn ymwneud â fêps a chyffuriau, ac fe wnaethom egluro beth oedd y sefyllfa mewn perthynas â chwilio am yr eitemau hynny.

Ni chafodd ei ddiystyru mewn unrhyw fodd o gwbl. Treuliodd swyddogion lawer o amser yn siarad ag ef, mewn gohebiaeth ac mewn cyfarfod. Ysgrifennais ato fy hun. Felly, rwy'n gwadu'n llwyr yr awgrym ei fod wedi cael ei ddiystyru.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn bersonol, mae arnaf ofn ei bod hi'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn cysgu wrth y llyw ac yn parhau i wneud hynny. Ar fore'r ymosodiad fe wnaeth y cyn-ddirprwy bennaeth e-bostio Llywodraeth Cymru gan gyfeirio at y pwerau sydd gan ysgolion yn Lloegr, a dweud—ac unwaith eto rwy'n dyfynnu, er budd y Siambr gyfan—pam nad yw Llywodraeth Cymru yn credu bod angen mesurau tebyg yng Nghymru i gefnogi ysgolion, athrawon ac i ddiogelu ein myfyrwyr? Ac fe groesawodd y cyfle i gael sgwrs ynglŷn â hyn. Oriau'n ddiweddarach, cafwyd y digwyddiadau erchyll yn yr ysgol, ac mae'n ddrwg gennyf ddweud na wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb i'w e-bost. Ysgrifennydd y Cabinet, yng ngoleuni'r honiadau difrifol hyn, a yw Llywodraeth Cymru wedi adolygu ei chysylltiad â'r ysgol i weld a gafodd unrhyw gyfleoedd eu colli a gwersi i'w dysgu?

Nid mater sy'n codi mewn un ysgol yn unig yw hwn. Yn ddiweddar cafwyd adroddiadau fod myfyrwyr wedi eu canfod â chyllell yn eu meddiant mewn ysgol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy'n dangos bod hon yn broblem eang, ac mae'n ddrwg gennyf ddweud mai dim ond gwaethygu a wnaiff wrth inni fynd yn ein blaenau. Rydych chi wedi dweud o'r blaen fod canllawiau mewn perthynas â phroblem cyllyll yn glir iawn, ond mae sylwadau'r cyn-ddirprwy bennaeth yn gwrth-ddweud hynny. Felly, a wnewch chi ymrwymo o leiaf i adolygu'r canllawiau nawr? Rydym wedi clywed llawer o sôn am uwchgynhadledd ar ymddygiad sydd ar y ffordd gan y Llywodraeth, i greu pecyn cymorth i ysgolion, ond pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yma, nawr? Diolch.

14:30

Iawn. Natasha, credaf fod yn rhaid ichi gydnabod, os oes rhywun yn ateb eich cwestiynau, ei bod yn bwysig ichi wrando ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud, gan fy mod wedi dweud yn gwbl glir nad oedd y llythyrau a’r e-byst a gawsom gan Mr Myers yn ymwneud â chyllyll. Nawr, hyd y gwelaf, atebwyd pob gohebiaeth gan Mr Myers, a chyfarfu swyddogion ag ef hefyd. Fe wneuthum innau ei ateb hefyd. Rydym wedi bod yn gwbl glir ynghylch y pwerau sy’n bodoli yng Nghymru mewn perthynas â chyllyll, pwerau sydd eisoes yn gryf iawn. Gall ysgolion wahardd disgybl os oes ganddynt gyllell yn yr ysgol. Mae hynny eisoes yn glir iawn. Nawr, mewn perthynas â'r hyn a ddigwyddodd yn Ysgol Dyffryn Aman y diwrnod hwnnw, hoffwn roi sicrwydd i'r Aelod y cynhaliwyd ymarfer yn syth ar ôl yr hyn a ddigwyddodd i adolygu’r hyn a ddigwyddodd o ran y ffordd yr oedd yr ysgol wedi rhoi eu gweithdrefnau brys ar waith, a gwnaethant hynny'n wirioneddol dda, ac fe wnaethant ymdrin â’r cyfan mewn ffordd drylwyr a phriodol iawn. Yna, gofynnwyd i bob awdurdod lleol adolygu eu gweithdrefnau brys, i sicrhau bod gweithdrefnau pawb yn gyfredol.

O ran dysgu ehangach o’r hyn a ddigwyddodd yn Ysgol Dyffryn Aman, rwyf wedi dweud yn glir iawn ers i’r achos ddod i ben fod yn rhaid dysgu ar sail ar yr hyn a ddigwyddodd, ac mae’r awdurdod lleol wedi cyhoeddi y bydd fforwm proffesiynol amlasiantaethol yn cael ei gynnal i ymchwilio i faterion yn arwain at y digwyddiad fis Ebrill diwethaf. Bydd y broses honno’n cynnwys rhannu gwybodaeth a mewnwelediad o wahanol safbwyntiau, er mwyn sicrhau dealltwriaeth gynhwysfawr o’r amgylchiadau a arweiniodd at y digwyddiad. Mae angen i ni roi’r amser sydd ei angen ar y bwrdd diogelu rhanbarthol i gynnal y fforwm proffesiynol amlasiantaethol, a hoffwn annog unrhyw un sydd ag unrhyw beth i’w rannu i wneud hynny.

Ac os caf ychwanegu, byddaf yn siarad â'r awdurdod lleol a chyda'r bwrdd diogelu rhanbarthol yn yr wythnosau nesaf. Rydym hefyd yn gweithio gyda’r awdurdod lleol ar gyfarfod ag athrawon yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad, fel yr ymrwymais i'w wneud ar ôl y rheithfarn, er fy mod eisoes wedi cyfarfod â Fiona Elias unwaith, ar un o’r ddau achlysur pan ymwelais â’r ysgol. Yn amlwg, os bydd unrhyw wersi i Lywodraeth Cymru eu dysgu o’r digwyddiad, byddwn yn derbyn hynny. Ond rydym eisoes yn adolygu'r dogfennau hyn, y canllawiau ar arfau a'r canllawiau ar ymatebion brys, yn rheolaidd iawn. Cawsant eu hadolygu sawl gwaith y llynedd, y canllawiau ar ymatebion brys, ac mewn gwirionedd, fe wnaed newidiadau i’r canllawiau hynny yn dilyn yr hyn a ddigwyddodd yn Ysgol Dyffryn Aman.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. A gaf i ddiolch i Natasha am ofyn y cwestiynau gwirioneddol bwysig hynny ynghylch diogelwch yn Ysgol Dyffryn Aman? Ond hoffwn fynd ymlaen at rywbeth hollol wahanol.

Ym mis Tachwedd y llynedd, cyflwynais gwestiynau ysgrifenedig i chi fel Ysgrifennydd y Cabinet, yn gofyn ynglŷn â faint o waith cynnal a chadw brys sydd wedi ôl-gronni ar gyfer adeiladau ysgolion yng Nghymru. Datgelodd eich ateb, yn syfrdanol—ond tybed pam nad ydym yn synnu—nad oedd Llywodraeth Cymru yn credu bod ganddi gyfrifoldeb i gasglu’r data hwn yn ganolog. Ers hynny, ym mis Rhagfyr—y mis canlynol—fe wnaethoch gyhoeddi oddeutu £10 miliwn mewn cyllid ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol i ysgolion atgyweirio a mynd i'r afael â materion cynnal a chadw. Nawr, o ystyried bod Llywodraeth Cymru, yn ôl pob golwg, wedi edrych ar y mater hwn erbyn hyn, ac wedi darparu rhywfaint o gyllid pellach, rwy'n cymryd eich bod nawr yn gallu ateb fy nghwestiwn gwreiddiol, ac fe'i gofynnaf eto: faint o waith cynnal a chadw brys sydd wedi ôl-gronni ar gyfer adeiladau ysgolion yng Nghymru?

Wel, a gaf i ddiolch i Cefin Campbell am ei gwestiwn? Fe fydd wedi clywed fy ateb i Laura Anne Jones, sy’n dangos faint a fuddsoddwn mewn adeiladau ysgol, mewn cyferbyniad llwyr â’r hyn sydd wedi digwydd dros y ffin. Nid yn unig ein bod yn buddsoddi mewn adeiladau newydd, drwy ein rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy arloesol, rydym hefyd yn blaenoriaethu buddsoddiad i ysgolion ac awdurdodau lleol fel y gallant wneud atgyweiriadau angenrheidiol. Mae’r wybodaeth am atgyweiriadau, yn amlwg, yn cael ei chadw ar lefel awdurdod lleol. Cawsom ddeialog reolaidd iawn ag awdurdodau lleol ychydig cyn pennu'r gyllideb—y gyllideb ddrafft. Cyfarfûm ag arweinwyr yr holl gynghorau. Cyfarfûm hefyd ag aelodau gweithredol o Gymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, ac roedd pob un ohonynt yn dweud wrthyf am y pwysau yr oeddent yn ei wynebu o ran cynnal a chadw adeiladau ysgolion, a dyna pam y gwnaethom gyhoeddi'r cyllid ychwanegol. Felly, fe wnaethom gyhoeddi £35 miliwn o gyfalaf ar gyfer gwaith atgyweirio mewn ysgolion a cholegau ac roedd £20 miliwn ohono ar gyfer cynnal a chadw—felly, dyna ni.

14:35

Wel, os nad yw Llywodraeth Cymru yn gwybod y tu hwnt i anecdot, na hyd yn oed yn casglu’r wybodaeth hon, mae’n sicr yn codi cwestiynau ynghylch sut y gallwn fod yn hyderus fod arian cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol, yn enwedig os nad ydych yn gwybod beth yw hyd a lled y broblem. Serch hynny, er na chafwyd ateb i’n cwestiynau ysgrifenedig, cyflwynodd Plaid Cymru geisiadau rhyddid gwybodaeth i holl awdurdodau lleol Cymru i ganfod beth yw’r ôl-groniad o waith cynnal a chadw ar gyfer adeiladau ysgol mewn gwirionedd, a faint o ysgolion sydd angen gwaith cynnal a chadw brys. O’r ymatebion a gawsom gan 19 o’r 22 o gynghorau, gallwn ddatgelu bod cyfanswm yr ôl-groniad o waith cynnal a chadw ar yr ystad adeiladau ysgol yng Nghymru yn £0.5 biliwn o leiaf, gyda chyfartaledd o £24.6 miliwn ym mhob awdurdod lleol. Mae cyfanswm yr ôl-groniad cynnal a chadw brys yn £93.8 miliwn o leiaf. Mae angen gwaith cynnal a chadw brys ar o leiaf 355 o ysgolion, sef 24 y cant o holl ysgolion Cymru. Yn Nhorfaen, Weinidog y Cabinet, yn eich etholaeth chi, mae angen gwaith cynnal a chadw brys ar 31 o'r 32 o ysgolion. Ar ôl 26 mlynedd o Lafur mewn grym yng Nghymru, a yw honno'n sefyllfa yr ydych yn falch ohoni?

Wel, diolch, Cefin, ac fel y dywedais yn fy ateb i'ch cwestiwn cychwynnol, fe wnaethom ddarparu £20 miliwn o gyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer gwaith atgyweirio ysgolion. Mae hynny ar ben yr arian a oedd yn y gyllideb beth bynnag ar gyfer gwaith atgyweirio, ac ar ben yr arian ar gyfer Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Rwy'n credu mai’r hyn nad yw Plaid Cymru byth yn ei wneud yw cydnabod, pan fyddwch yn galw am arian ar gyfer pethau, nad oes byth raid ichi nodi o ble y mae’n rhaid i’r arian hwnnw ddod—

Rydym wedi blaenoriaethu, fel rhan o’n cyllideb, ysgolion, addysg, ac mae hynny’n cynnwys cyllid ar gyfer adeiladau ysgolion. Bob wythnos, rydych chi'n sefyll yma ac rydych chi'n galw am wahanol botiau o arian ar gyfer gwahanol bethau, heb unrhyw amgyffred o’r hyn a wnawn o ran ceisio blaenoriaethu’r gyllideb i gyflawni dros Gymru. Nawr, rwy’n falch o’n hanes ar gyfalaf ysgolion ac rwy’n falch ein bod yn parhau i fuddsoddi mewn adeiladau ysgol. A dim ond o ganlyniad i'r arian ychwanegol a ddarparodd y Llywodraeth Lafur yn eu cyllideb y gallwn wneud y buddsoddiad ychwanegol hwnnw yn ystod y flwyddyn.

Ond nid yw'r £10 miliwn o'r £0.5 biliwn sydd ei angen hyd yn oed yn cyffwrdd â'r ochrau. A'r broblem yw nad ydych chi hyd yn oed yn gwybod beth yw maint y broblem gan nad ydych yn casglu'r data—nid ydych yn gofyn am y wybodaeth fel y gwnaethom ni yn eithaf hawdd; gallech wneud hynny i ganfod beth yw maint y broblem.

Mae astudiaethau ymchwil sy'n mynd yn ôl blynyddoedd wedi dangos bod cyrhaeddiad addysgol disgyblion yn gwella mewn ysgolion sydd ag amgylcheddau dysgu ffisegol gwell. Mae Llafur yng Nghymru yn amlwg yn methu disgyblion trwy beidio â rhoi amgylchedd diogel iddyn nhw ar gyfer dysgu, ac mae hyn hefyd yn cael effaith ar athrawon. Mae arolwg diweddar o athrawon yng Nghymru yn dangos bod traean ohonyn nhw yn dweud bod adeiladau a chyfleusterau gwael yn eu tanseilio nhw yn broffesiynol fel athrawon neu arweinwyr ysgolion. Dyna beth yw effaith bil ôl-groniad cynnal a chadw gwerth £0.5 biliwn Llafur Cymru i'n hysgolion. Dyna pam mae Plaid Cymru yn galw am arolwg cenedlaethol llawn a manwl o gyflwr adeiladau ysgolion, er mwyn cael darlun clir a chyson o'r argyfwng ar lawr gwlad. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi yn hynny o beth, bod angen yr arolwg yna? Onid yw'n bryd i Lywodraeth Cymru, unwaith ac am byth, ddeall hyd a lled cyflwr ystad ysgolion yng Nghymru?

14:40

Mae pob awdurdod lleol yn monitro eu hystad ysgolion. Mae rhwymedigaeth ar bob un ohonynt i sicrhau bod yr ystad ysgolion yn ddiogel ac yn addas i'r diben. Mae'r cwestiynau hyn braidd yn ddryslyd o ystyried ein bod yn buddsoddi'r symiau mwyaf erioed yn ein hadeiladau ysgol—bron i £2 biliwn ers i'r rhaglen ddiweddaraf hon ddechrau ar adeiladau newydd. Mae hynny ar wahân i'r arian a ddarparwn ar gyfer gwaith atgyweirio.

Credaf ei bod hefyd yn bwysig cydnabod bod cyllid yn mynd i'r grant cynnal refeniw ar gyfer gwaith atgyweirio, ac rydym yn parhau i gael y ddeialog honno gyda llywodraeth leol. Ond os siaradwch â llywodraeth leol, rwy'n credu y gwelwch eu bod yn werthfawrogol iawn o sut rydym ni, fel Llywodraeth, wedi parhau i fuddsoddi mewn cyfalaf ysgolion.

Rydych yn llygad eich lle pan ddywedwch fod adeiladau ysgol yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gyrhaeddiad, i lesiant, i gyfraddau cadw staff. Dyna pam fod gennym hanes o barhau i fuddsoddi yn yr adeiladau ysgol hynny, a hynny er gwaethaf 14 mlynedd o gyni pan oedd ein cyllidebau cyfalaf o dan bwysau aruthrol. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi parhau i fuddsoddi mewn cyfleusterau ar gyfer ein plant, pobl ifanc a’n hathrawon.

Prentisiaethau yn Ynys Môn

3. Sut y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i sicrhau bod polisi addysg drydyddol Llywodraeth Cymru yn cefnogi prentisiaethau yn Ynys Môn? OQ62366

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi prentisiaethau drwy ein polisïau addysg drydyddol a sgiliau. Rydym yn gweithio’n agos gyda Medr, a fydd, drwy ymgynghori â phartneriaid a rhanddeiliaid, yn llywio darpariaeth prentisiaethau yn y dyfodol yng Nghymru yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae £144 miliwn o gyllid ar gael ar gyfer prentisiaethau eleni a'r flwyddyn nesaf.

Diolch am yr ymateb yma. Roedd hi’n braf trafod yn ystod wythnos prentisiaethau yr wythnos diwethaf sut mae prentisiaethau yn gallu helpu pobl ifanc i ryddhau eu potensial. Rydyn ni angen rhyddhau’r potensial yna yn Ynys Môn ar gyfer y sector digidol, yn M-SParc, ar gyfer y sector bwyd, ar gyfer y sector ynni adnewyddol, ac yn y blaen. Ond, y llynedd, roedd rhaid i Goleg Llandrillo Menai wrthod ceisiadau oherwydd nad oedd ganddyn nhw'r capasiti i gynnig yr un nifer o gyfleoedd â mewn blynyddoedd blaenorol, ac arian, wrth gwrs, wrth wraidd hynny. Felly, beth ydy cynllun y Gweinidog a’i chydweithwyr yn y Cabinet i sicrhau bod darparwyr prentisiaethau fel Coleg Menai yn cael y gefnogaeth y maen nhw ei hangen fel bod y bobl ifanc hynny sydd eisiau cyfleon drwy brentisiaethau yn cael y cyfleon hynny?

Diolch am eich cwestiwn dilynol, Rhun. Rwyf wedi bod yn edrych ar y sefyllfa yng Ngrŵp Llandrillo Menai. Rwy'n credu bod y mater y cyfeiriwch ato'n ymwneud yn benodol â'r brentisiaeth adeiladu a chael gwared ar lefel 2 yno. Os felly, hoffwn roi sicrwydd i chi nad yw hynny'n ymwneud yn benodol â chyllid, ond yn hytrach, mae'n deillio o adolygiad Cymwysterau Cymru o'r sector a gynhaliwyd saith i wyth mlynedd yn ôl. Maent bellach wedi cyflwyno cymwysterau lefel 3 yn unol â'r argymhellion hynny, sy'n cyd-fynd â safonau a nodwyd gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu i'w defnyddio'n benodol yng Nghymru. Felly, byddai rhai dysgwyr heb fod yn barod eto ar gyfer cymhwyster lefel 3, ond gallant wneud cymhwyster lefel 2, a symud ymlaen ohono i brentisiaeth lefel 3, lle na fydd unrhyw ddysgu blaenorol yn cael ei ailadrodd a byddai unrhyw ddysgu blaenorol yn cael ei ystyried wrth iddynt ymgymryd â'r brentisiaeth. Os oes materion heblaw hynny a’ch bod yn dymuno ysgrifennu ataf fi a’r Gweinidog sgiliau ar y cyd, mae croeso ichi wneud hynny.

Rwy’n ddiolchgar i Rhun ap Iorwerth am godi’r pwynt hwn, oherwydd wrth gwrs, un o’r cyfleoedd gwych ar Ynys Môn yw porthladd rhydd Ynys Môn, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, sy'n creu mwy o swyddi, mwy o gyfleoedd i bobl ifanc a phobl o bob oed ar draws yr ynys, ac mae’n gyfle sy’n mynd i effeithio, ac sydd eisoes yn effeithio, ar Ynys Môn, ond ar ogledd Cymru i gyd hefyd, mewn lleoedd penodol fel y rheini y mae fy nghyd-Aelod Jane Finch-Saunders yn eu cynrychioli yn Aberconwy. Mae’r cyfleoedd i’r rhanbarth yn wirioneddol bwysig.

Ond wrth gwrs, mae cael y systemau a'r strwythur addysg cywir ar waith i alluogi’r porthladd rhydd i ffynnu hefyd yn bwysig iawn, fel y byddech yn cydnabod, rwy’n siŵr. Ac roedd cais y porthladd rhydd yn sôn yn benodol am elfen addysgol gref fel rhan o'r cais hwnnw, ac roedd yn canolbwyntio ar dri maes, ac un ohonynt oedd tollau a masnach; yna, rheoli'r gadwyn gyflenwi, ac fel y mae'n ei ddisgrifio, pob agwedd ar ynni. Felly, Weinidog, a ydych chi wedi cael unrhyw sgyrsiau penodol am rôl addysg gyda gwaith y porthladdoedd rhydd, a’r porthladd rhydd ar Ynys Môn, a ble y gallai’r cyfleoedd fod i weld ai prentisiaethau pellach neu fathau eraill o addysg fyddai orau i sicrhau bod y porthladd rhydd yn gallu ffynnu i'r graddau mwyaf posibl. Diolch.

14:45

Diolch am eich cwestiwn, Sam, ac rwy'n cytuno â chi fod y porthladd rhydd yn dod â chyfleoedd aruthrol i Ynys Môn a’r rhanbarth cyfan hefyd. Byddaf yn ymweld â'r gogledd yn yr wythnos ar ôl y toriad i gael trafodaethau ag addysg uwch ac addysg bellach ar amrywiaeth o faterion. Felly, edrychaf ymlaen at y sgyrsiau hynny, a allai ymchwilio i'r materion yr ydych newydd eu nodi, ac rwy'n awyddus i symud ymlaen â sgyrsiau pellach gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a'r Gweinidog sgiliau ar hynny hefyd.

Unedau Cyfeirio Disgyblion Newydd

4. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adeiladu unrhyw unedau cyfeirio disgyblion newydd? OQ62330

Yn ddiweddar, mae awdurdodau lleol wedi blaenoriaethu buddsoddiad yn eu hystad addysg ar gyfer eu hardaloedd fel rhan o’u cynllun naw mlynedd o dan ein rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy. Mae buddsoddiad cyllid cyfalaf arfaethedig o £750 miliwn wedi’i nodi dros oes y rhaglen newydd hon ar gyfer darpariaeth arbenigol, sy’n cynnwys unedau cyfeirio disgyblion.

Diolch. Yn 2023-24, roedd 2,597 o ddisgyblion yn cael rhyw fath ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol, dros 200 yn fwy o ddisgyblion na'r flwyddyn flaenorol. Mae bron i hanner y myfyrwyr hyn wedi'u rhoi mewn unedau cyfeirio disgyblion. Ers y pandemig, mae awdurdodau lleol wedi nodi cynnydd sylweddol mewn atgyfeiriadau, sy'n rhoi straen aruthrol ar ddarpariaeth sydd eisoes dan bwysau. Ac wrth gwrs, mae lleoedd mewn uned cyfeirio disgyblion yn Aberconwy yn parhau i fod yn brin.

Nawr, mae rhai penaethiaid wedi sôn wrthyf fod yr unedau cyfeirio disgyblion hyn yn aml mewn hen adeiladau nas defnyddir—adeiladau sy'n oer, yn ddrafftiog, a heb fod yn addas i'r diben. Nawr, gyda'ch model adeiladu ysgolion newydd—rwyf wedi gweld hyn pan gawsom Ysgol y Gogarth, adeilad ysgol newydd a phopeth, ac Ysgol Awel y Mynydd yng Nghyffordd Llandudno—maent wedi'u teilwra'n arbennig ar gyfer y system addysg benodol honno. Rwy'n credu bod plant sydd wedi’u difreinio o’r system addysg yn dal i haeddu addysg wedi'i darparu mewn adeilad cynnes, diogel. A wnewch chi ystyried sicrhau y ceir pwyslais ar yr unedau cyfeirio disgyblion hyn, gan nad yw'r sefyllfa'n ddigon da ar hyn o bryd? Diolch.

Wel, a gaf i ddiolch i Janet am ei chwestiwn? Gwn eich bod yn eiriolwr cryf dros ein plant a’n pobl ifanc mewn unedau cyfeirio disgyblion, ac rwy'n credu bod hynny’n wirioneddol bwysig. Fel y dywedais, rydym wedi clustnodi £750 miliwn o gyllid cyfalaf—mae hynny ar gyfer ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion. Ni ellir ei wario ar bethau eraill. Mae cyfradd ymyrraeth is hefyd. Rydym yn darparu mwy o arian i awdurdodau lleol pan fyddant yn buddsoddi mewn uned cyfeirio disgyblion. Felly, mae ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion yn denu cyfraniad o 75 y cant gan Lywodraeth Cymru, sy’n uwch na’r cyfraniad safonol o 65 y cant ar gyfer prosiectau prif ffrwd.

Mater i awdurdodau lleol, yn amlwg, yw edrych ar eu hystad a chyflwyno ceisiadau, ac rwyf eisoes wedi cyfeirio heddiw at y broses yr eir drwyddi. Rwy'n cytuno'n gryf ein bod am i’n plant gael eu haddysgu, gan gynnwys ein plant mwyaf agored i niwed, yn yr adeiladau gorau posibl. A gall pob awdurdod lleol wneud cais am y cyllid hwnnw, ac rydym wedi diogelu’r cyllid at y diben hwnnw.

Cyflwyno'r Cwricwlwm Newydd

5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cyflwyno'r cwricwlwm newydd? OQ62331

14:50

Bydd y broses o gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru wedi'i chwblhau ar gyfer pob dysgwr hyd at 16 oed—blwyddyn 11—erbyn mis Medi 2026. Mae ein gwerthusiad ffurfiannol yn mynd rhagddo, gan ddarparu gwybodaeth werthfawr am yr arweiniad a'r cymorth sydd eu hangen ar ysgolion i sicrhau bod pob plentyn yn cael yr addysg orau bosibl.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae iechyd mislif yn bwnc hynod o bwysig, y dylid ei wreiddio mewn myfyrwyr o oedran ifanc. Er bod y cwricwlwm newydd yn gwneud addysgu iechyd mislif mewn ysgolion yn orfodol, mae'r ansawdd yn sicr yn amrywio o ysgol i ysgol. Er enghraifft, efallai y bydd un ysgol yn cyflwyno sesiwn fanwl gref ar iechyd mislif, ond wedyn byddwn yn ymweld ag ysgol arall bum milltir i lawr y lôn a byddant yn gwibio drwy'r pwnc ac yn canolbwyntio ar y pethau sylfaenol yn unig. Yn ddiweddar, cefais y pleser o gyfarfod ag Anna Cooper, un o gyd-sylfaenwyr y Menstrual Health Project, elusen sy’n cefnogi pobl â phryderon a chyflyrau iechyd mislif. Gall arfogi pobl ifanc ag addysg drylwyr ar iechyd mislif leihau faint y mae unigolyn yn ei ddioddef, gan y byddant yn teimlo'n fwy grymus i eirioli drostynt eu hunain i gael atebion ar gyfer mislif poenus. Cymru, yn anffodus, yw’r genedl waethaf o ran diagnosis o endometriosis, gydag arhosiad cyfartalog o naw mlynedd a 10 mis. Ac yn y rhan fwyaf o achosion, mae menywod wedi dioddef ers eu harddegau cynnar, gan nad ydynt erioed wedi deall nad oedd yr hyn a ddioddefent yn normal. I’r perwyl hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo i gyfarfod â thîm y Menstrual Health Project i archwilio partneriaeth i sicrhau bod myfyrwyr yn cael addysg iechyd mislif addysgiadol a hollgynhwysol yn ein hysgolion? Diolch.

Diolch, Natasha. Ac mae hynny'n fater pwysig. Mae'n hanfodol ein bod yn grymuso ein pobl ifanc i wybod am iechyd mislif. Mae'n helpu i fynd i'r afael â stigma, mae'n helpu gyda phresenoldeb ac iechyd meddwl da, a dyna pam ei fod yn rhywbeth yr ydym yn ei gynnwys yn rhan o'n cwricwlwm. Ac rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â'r sefydliad y cyfeirioch chi ato.

Yn amlwg, rydym yn gobeithio y bydd rhan o’r cwricwlwm newydd yn canolbwyntio ar ieithoedd modern. Tybed a gaf i bwyso arnoch ar y cyfleoedd a gynigir gan hynny. Mae dirywiad sy’n peri cryn bryder yn nifer y disgyblion TGAU a Safon Uwch sy’n astudio ieithoedd modern. Nawr, canfu ymchwil Tueddiadau Ieithoedd Cymru y llynedd fod cofrestriadau ar gyfer TGAU Ffrangeg ac Almaeneg wedi mwy na haneru dros y degawd diwethaf. Nawr, ceir llawer o ysgolion nad ydynt yn cynnig cyrsiau o gwbl os nad oes digon o ddisgyblion. Nawr, os na wnawn wrthdroi'r duedd hon, drwy'r cwricwlwm newydd a chyn hynny, bydd cenhedlaeth o bobl ifanc yn colli mwy nag ieithoedd, gan y gwyddom, pan fyddwch yn dysgu iaith, nad yw'n ymwneud â dysgu geiriau ar dudalen yn unig, mae'n ymwneud â gweld sut y mae diwylliant arall yn gweld y byd, a gallai'r ffenest honno ar fyd arall gau. Rydych chi'n dysgu idiomau, rydych chi'n dysgu slang, y ffordd y mae iaith yn anadlu, sut y mae'n perthyn, sut y caiff ei ffurfio gan ei siaradwyr. Ac os na wnawn wrthdroi'r duedd honno—tybed a fyddech chi'n cytuno—rwy'n poeni y byddwn yn atal y genhedlaeth hon o blant rhag meddu ar y sgìl, y mewnwelediad, y ddealltwriaeth. Felly, sut y byddech chi'n defnyddio’r cwricwlwm newydd i wrthdroi’r duedd, os gwelwch yn dda?

Diolch, Delyth. Ac fel myfyriwr ieithoedd eich hun, fel finnau, rwy'n gwybod eich bod yn angerddol ynglŷn ag ieithoedd. Mae’r dirywiad mewn ieithoedd rhyngwladol, yn anffodus, yn rhan o ddarlun cyffredinol ar draws y DU ac nid yw’n unigryw i Gymru. Rydym mewn sefyllfa dda yng Nghymru yn yr ystyr ein bod wedi cyflwyno ieithoedd rhyngwladol yn yr ysgol gynradd, drwy’r cwricwlwm newydd. Golyga hynny fod mwy o ddysgwyr nag erioed yng Nghymru yn dysgu siarad iaith dramor fodern, a’n tasg ni nawr yw cefnogi’r ysgolion hynny i integreiddio addysgu iaith yn eu cwricwla ac adeiladu ar y momentwm y mae hynny’n ei gynhyrchu. Mae gennym hefyd ein rhaglen Dyfodol Byd-eang, sef ein cynllun sy'n canolbwyntio ar fynd i’r afael â rhai o’r heriau gydag ieithoedd tramor modern, a hoffwn annog pob ysgol i ymgysylltu â'r rhaglen honno. Ac fe wnaethom ymestyn y rhaglen am flwyddyn arall, er mwyn inni allu gweld sut y mae’r newidiadau mewn ysgolion cynradd yn ymwreiddio.

Ni chredaf fod y llun yn gwbl ddigalon. Credaf fod yn rhaid inni gydnabod y cryfderau hefyd. Lle mae dysgwyr yn dewis cymhwyster iaith ryngwladol, maent yn gwneud yn dda iawn. Er enghraifft, yn 2024, cododd cofrestriadau Almaeneg o 355 yn y flwyddyn flaenorol i 465, gyda 47 y cant o’r dysgwyr hynny’n cael gradd A neu uwch. Felly, mae'n galonogol gweld y cynnydd hwnnw yn nifer y cofrestriadau Almaeneg. Yr hyn yr hoffwn ei weld yw cynnydd cyffredinol mewn ieithoedd tramor modern.

Fe fyddwch yn ymwybodol fod gennym fentrau fel e-sgol hefyd, sy'n helpu gydag ieithoedd tramor modern. Felly, lle mae niferoedd bach iawn o bobl ifanc yn dymuno astudio ieithoedd tramor modern yng Ngwent, er enghraifft, mae'r ysgolion hynny'n gweithio gyda'i gilydd drwy e-sgol. Ond credaf fod y cwricwlwm newydd yn rhoi cyfle gwirioneddol dda i ni, gan fod plant ifanc fel sbyngau, a dyna pam eu bod yn gwneud mor dda pan fyddant yn dysgu Cymraeg o oedran cynnar iawn, onid e? Felly, mae gennym y cyfle hwnnw nawr, ac mae'n bwysig ein bod yn parhau i hybu hynny.

14:55
Yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru? OQ62327

Cyhoeddais ym mis Hydref y byddai corff cenedlaethol yn cael ei sefydlu i ddarparu cymorth arweinyddiaeth a dysgu proffesiynol i’n hathrawon, ein harweinwyr, ein cynorthwywyr addysgu a’n hymgynghorwyr. Bydd y corff yn dod â rhai o swyddogaethau presennol yr academi genedlaethol a phartneriaethau awdurdodau lleol ynghyd, a bydd yn weithredol o fis Medi ymlaen.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n croesawu'r academi genedlaethol ar gyfer arweinyddiaeth addysgol. Rwy’n cefnogi ei phrif ddibenion, sef cyfrannu at ddatblygu galluoedd proffesiynol arweinwyr presennol a darpar arweinwyr ar draws y system addysg; gweithredu fel arweinydd syniadau, gan ddatblygu, mynegi a gweithredu gweledigaeth a strategaeth ar gyfer arweinyddiaeth addysgol yng Nghymru; bod yn aelod uchel ei barch a gweithgar o haen ganol addysg, y pwynt cyswllt cyntaf i'r gweithlu addysgol mewn perthynas â materion arweinyddiaeth. Fy nghwestiynau yw: sut y mae’n mynd i gyflawni hyn, a sut y mae staff yn mynd i gael eu diogelu yn ystod y newidiadau?

Diolch, Mike, ac mae’r academi genedlaethol yn parhau i gyflawni ei chylch gwaith, a chyhoeddodd ei hadroddiad blynyddol diweddaraf yn ddiweddar, yn amlinellu’r ystod o gyfleoedd i arweinwyr addysg ddatblygu a rhwydweithio. Ond fel y byddwch yn gwybod, mae'r adolygiad o'n partneriaid addysg ac adolygiadau cysylltiedig eraill wedi nodi'n glir yr angen am arweinyddiaeth genedlaethol a darparu cymorth cenedlaethol lle bo angen. Clywsom dystiolaeth hefyd fod gormod o sefydliadau ynghlwm wrth y gwaith o ddatblygu a darparu cymorth arweinyddiaeth a dysgu proffesiynol. Felly, dyna pam ein bod wedi penderfynu sefydlu corff cenedlaethol newydd a fydd yn ein galluogi i wneud y defnydd gorau o adnoddau, a fydd yn creu cysondeb o ran argaeledd ac ansawdd dysgu proffesiynol cenedlaethol, ac a fydd yn ystwyth ac ymatebol i flaenoriaethau newidiol addysgwyr a Llywodraeth Cymru, ac yn glir hefyd i'r gweithlu a'r cyhoedd yn gyffredinol.

Os caf ddweud, rwy’n derbyn bod hwn yn gyfnod anodd i staff ym mhob sefydliad y mae’r newidiadau hyn yn effeithio arnynt. Hoffwn ddiolch i'r holl staff hyn am eu hymroddiad i gefnogi addysgwyr ac arweinwyr ein hysgolion, a rhoi sicrwydd i'r Aelod ein bod yn gweithio'n agos gyda'r holl staff y mae'r newidiadau'n effeithio arnynt i leihau'r effaith.

Adroddiad Blynyddol Estyn

7. Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith adroddiad blynyddol Estyn 2023-24 ar addysg yng Nghymru? OQ62351

Mae adroddiad blynyddol Estyn yn rhoi cyfrif annibynnol gwerthfawr o sut y mae'r system addysg yn perfformio. Rwy'n cytuno ag asesiad y prif arolygydd fod cryfderau yn y system, ond meysydd i’w gwella hefyd, sy’n cyd-fynd â fy mlaenoriaethau i hybu safonau a gwella presenoldeb.

Mae eich dehongliad o’r adroddiad hwnnw i'w weld yn hael dros ben, gan fod yr adroddiad blynyddol yn nodi blwyddyn arall o’r un problemau'n cael eu hamlygu eto fyth yn ein system addysg yng Nghymru: cyfraddau presenoldeb nad ydynt yn agos at ble y mae angen iddynt fod; y bwlch sy’n tyfu rhwng presenoldeb y rheini sy’n cael prydau ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt yn eu cael—ar gyfartaledd, mae disgyblion ysgolion uwchradd sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn dal i fethu un diwrnod ysgol yr wythnos, ystadegyn torcalonnus y mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu arno ar frys—yn ogystal â dirywiad mewn lefelau recriwtio a chadw staff sy’n parhau i effeithio ar safonau addysgu i'n pobl ifanc, gyda phynciau fel mathemateg, gwyddoniaeth a Chymraeg wedi’u hamlygu fel rhai y ceir pryderon sylweddol yn eu cylch o ran safonau; yn ogystal â gormod o amrywio yn nealltwriaeth ysgolion o'r cwricwlwm newydd.

Ond os yw'r adroddiad yn dweud un peth, rwy'n credu ei fod yn dweud hyn, sef bod addysg yng Nghymru wedi torri o dan Lafur, a hynny am fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi parhau i flaenoriaethu eu hideoleg dros y dystiolaeth yn ein system addysg. Yr hyn sydd ei angen arnom yw dull newydd o weithredu, i ddilyn yr hyn sy'n gweithio i drwsio addysg yng Nghymru. Felly, a fyddwn yn gweld hynny cyn yr etholiad neu a fydd yn rhaid i ni wneud hynny ar ôl yr etholiad?

15:00

Wel, os caf fod yn glir iawn nad yw'r adroddiad yn dweud bod addysg wedi torri yng Nghymru, ac ni fyddwn yn dal fy anadl y byddwch chi mewn sefyllfa i'w thrwsio ar ôl yr etholiad ychwaith.

Nawr, os caf droi at rai o'r materion dilys a godwyd gennych yn yr adroddiad, rwy'n cydnabod yn llwyr yr hyn y mae Estyn yn ei ddweud am bresenoldeb. Yn wir, rwy'n cyfarfod ag Estyn yfory i drafod presenoldeb, a byddaf hefyd yn trafod y materion eraill y maent wedi'u codi yn eu hadroddiad blynyddol. Mae hybu presenoldeb yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon; mae'n un o'r blaenoriaethau a nodir gan y Prif Weinidog. Rydym wedi rhoi £8.8 miliwn o gyllid ychwanegol tuag at hynny, fel y nodais mewn datganiad yn y Siambr hon.

Ar faterion recriwtio a chadw, mae heriau yno. Mae recriwtio i'n sector cynradd yn galonogol; mae'n fwy heriol yn y sector uwchradd, ac yn amlwg, rwy'n cydnabod y materion sy'n cael eu hamlygu yn yr adroddiad blynyddol. Rydym yn gweithio'n galed i wella recriwtio. Fel y gwyddoch, Tom, mae gennym y cynllun cymhelliant ar gyfer pynciau â blaenoriaeth, wedi'i dargedu at bynciau â blaenoriaeth, sy'n cynnwys ein pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, ieithoedd tramor modern, a'r Gymraeg. Rydym hefyd yn cynnig cymhelliant ychwanegol o £5,000 i fyfyrwyr sy'n hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg, a chymhelliant pellach o £5,000 i fyfyrwyr o leiafrif ethnig cydnabyddedig sy'n hyfforddi i addysgu.

Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi cyhoeddi cynlluniau yn ddiweddar i ddatblygu cynllun gweithlu strategol ar gyfer addysg yng Nghymru. Fe fydd yn gyfle i edrych yn gyffredinol ar yr heriau a wynebwn gyda recriwtio a chadw staff, nad ydynt wedi'u cyfyngu i Gymru o bell ffordd; rydym yn gweld yr un problemau yng ngweddill y DU ac mewn gwledydd eraill yn wir. Rydym yn canolbwyntio'n fawr ar weithio mewn partneriaeth â'n cymheiriaid yn yr undebau llafur, a chydag addysgwyr, i fynd i'r afael â'r materion hynny.

Honiadau o Gamymddwyn

8. Pa oruchwyliaeth sydd gan Lywodraeth Cymru dros awdurdodau addysg lleol sy'n methu ag ymchwilio'n iawn i honiadau o gamymddwyn? OQ62348

Mae'n hanfodol ymchwilio'n briodol i unrhyw honiadau o gamymddwyn. Mae hyn yn gyfrifoldeb cyfreithiol ar yr ysgol, y corff llywodraethu, a lle bo angen, yr awdurdod lleol. Rhaid i'r cyrff hyn roi sylw i ganllawiau Llywodraeth Cymru. Nid yw Gweinidogion Cymru yn cael ymyrryd mewn achosion unigol.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi yn bryderus iawn am yr honiadau o gamymddwyn mewn ysgolion ac ynglŷn â'r ffordd y cânt eu trin. Yn rhy aml, yr hyn a welwn yw ysgolion eu hunain yn cynnal ymchwiliad ac yna, pan gaiff pethau eu huwchgyfeirio i'r awdurdod addysg lleol, mae'r cyrff hynny'n marcio eu gwaith cartref eu hunain, heb unrhyw weithredwyr allanol yn dod i mewn i sicrhau eu bod yn gwneud popeth yn gywir. Mae hynny'n tanseilio tryloywder a hyder y cyhoedd yn y broses.

Yn ogystal, tynnwyd fy sylw at wrthdaro buddiannau clir lle mae Aelodau'r Senedd yn gwasanaethu fel llywodraethwyr ysgol, gyda'r perygl o ddylanwadu ar benderfyniadau ynghylch camymddwyn yn eu hysgolion, ac mae pobl yn meddwl weithiau tybed a ydynt yn edrych ar ôl eu gyrfaoedd gwleidyddol eu hunain ac nid y bobl sy'n cyflwyno cwynion ynghylch camymddwyn. Felly, edrychaf ymlaen at glywed gennych. Rwy'n gwybod eich bod wedi dweud na all Llywodraeth Cymru ymyrryd, ond rhaid bod rôl yma, os yw pobl yn credu nad yw'r broses hon yn gweithio'n iawn, i Lywodraeth Cymru gamu i mewn i sicrhau bod proses annibynnol ar waith, fel bod unrhyw un sydd wedi cwyno yn teimlo y cânt eu clywed.

Ac yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, fe wnaethom wahardd Aelodau'r Senedd rhag bod yn gynghorwyr oherwydd y gwrthdaro buddiannau, felly hoffwn glywed gennych: a ydych chi'n credu y gallai fod sefyllfa lle caiff llywodraethwyr ysgolion eu gwahardd rhag bod yn llywodraethwyr ysgol, oherwydd y gwrthdaro buddiannau posibl, y gall pethau a wnawn yma ddylanwadu'n uniongyrchol ar ein hysgolion?

Diolch, James, a gwn eich bod wedi ysgrifennu ataf ynghylch y mater hwn wrth gwrs, a byddaf yn ymateb i chi cyn bo hir. Rydym yn disgwyl i bob cwyn gael ei thrin yn deg, yn agored a heb ragfarn. Rydym yn disgwyl i gyrff llywodraethu feddu ar, a rhoi cyhoeddusrwydd i weithdrefn gwyno sy'n egluro sut yr ymdrinnir â chwyn. Mae'r awdurdod lleol yn gyfrifol am sicrhau bod y corff llywodraethu'n dilyn y weithdrefn y cytunwyd arni, a gall yr awdurdod lleol edrych ar y broses y mae'r corff llywodraethu'n ei defnyddio i ystyried cwyn. Ceir darpariaethau statudol ar gyfer ymyrryd yn y gyfraith hefyd. Os yw rhywun yn anhapus ynglŷn ag awdurdod lleol, fe wyddoch y gallant hefyd wneud cwyn i'r awdurdod lleol, ac os nad ydynt yn fodlon â'r modd y caiff ei datrys, mae cyfle iddynt fynd at yr ombwdsmon. 

15:05
3. Cwestiynau Amserol

Y cwestiynau amserol sydd nesaf, ac mae'r cyntaf o'r rhain i'w ateb gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, ac i'w ofyn gan Andrew R.T. Davies.

Prifysgol De Cymru

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gynlluniau ar gyfer toriadau i swyddi a chyrsiau ym Mhrifysgol De Cymru? TQ1305

Rwy'n deall bod Prifysgol De Cymru yn siarad â staff a myfyrwyr o heddiw ymlaen, ac rwy'n cydnabod y pryder y bydd yr ansicrwydd hwn yn ei achosi. Rwyf wedi bod yn glir fy mod yn disgwyl i unrhyw brifysgol sy'n gwneud newidiadau sy'n effeithio ar ei gweithlu weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ag undebau llafur, staff a myfyrwyr.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yn anffodus, mae fy rhanbarth etholiadol wedi gweld dau gyhoeddiad mawr nawr—un o Brifysgol Caerdydd a bellach o Brifysgol De Cymru. Rydym yn siarad am niferoedd mawr, ac maent yn tynnu sylw at y pwysau sydd ar y sector addysg uwch. Ar ôl cyfarfod â Phrifysgol Caerdydd y diwrnod o'r blaen, fe wnaethant nodi, yn amlwg, na allent siarad â phrifysgolion eraill oherwydd rheolau a rheoliadau'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. A yw'r Llywodraeth yn gweithredu fel pŵer cynnull gan fod y cynigion hyn yn dod allan bellach, i weld pa rolau y gall y prifysgolion weithio ar y cyd arnynt, i ddiogelu cyrsiau a diogelu swyddi? Oherwydd credaf fod honno'n rôl hwyluso bwysig, gan barchu annibyniaeth prifysgolion i allu rheoli eu gwaith yn annibynnol ar y Llywodraeth ar yr un pryd.

Ac fel y nodais yn fy sylwadau agoriadol, os caiff y cynigion hyn eu cyflawni yn eu cyfanrwydd, bydd fy rhanbarth etholiadol yn gweld dros 1,000 o swyddi'n cael eu colli ar draws y rhanbarth. Pa waith rydych chi'n ei wneud, gyda Gweinidog yr economi, i gefnogi'r aelodau staff hyn drwy gynlluniau Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr fod help i sicrhau cyflogaeth ychwanegol mewn ardaloedd eraill—fel nad ydym yn colli'r bobl bwysig hyn o'n heconomi leol—yn cael ei gynnig hyd eithaf gallu Llywodraeth Cymru, ar y cyd â'r prifysgolion, i ddod o hyd i waith arall ar eu cyfer?

Ac yn drydydd, mae'n bwysig iawn fod ymchwil yn cael ei hyrwyddo ym mhrifysgolion Cymru a bod patentau, yn enwedig, yn cael eu diogelu, fel y gellir sicrhau ffrydiau refeniw ar gyfer cyfleusterau addysg uwch. Yn anffodus, mae gan Gymru hanes truenus o ddenu'r patentau a fyddai'n dod â refeniw i brifysgolion. Oherwydd ni fydd cynnydd yn nifer y myfyrwyr sy'n dod drwy'r sector addysg uwch, felly mae'r dangosyddion refeniw trydedd, pedwaredd a phumed ffrwd hynny'n hanfodol, ac mae gan Lywodraeth Cymru swyddogaeth i geisio diogelu'r patentau hynny a mwy o gyllid ymchwil gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod y ffrydiau hynny'n cael eu diogelu yma yng Nghymru.

A gaf i ddiolch i Andrew R.T. Davies am y cwestiynau dilynol? Fe wnaf ymdrin yn gyntaf â'r mater yn ymwneud â rheolau'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd a godwyd gennych yno. Mae hyn yn rhywbeth y gofynnais i Medr edrych arno fel mater o frys, ac os darllenwch erthyglau academaidd ar hyn, fe welwch nad oes unrhyw ateb syml ar hyn o bryd. Caiff y rheolau eu dehongli'n wahanol o un lle i'r llall yn y DU, ac rwy'n deall bod yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn awyddus iawn i egluro'r materion hyn ar gyfer y DU gyfan, nid Cymru'n unig, ac rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol hanfodol. Oherwydd yr hyn y mae angen inni ei weld yw deialog rhwng prifysgolion a all helpu gyda chydweithredu, ac mae hynny'n rhywbeth y gofynnais iddynt yn ei gylch ers imi ddod i'r swydd ym mis Medi. Ac yn sicr, trwy'r cyfnod anodd hwn, dyna y chwiliwn amdano a'r hyn sydd ei angen arnom. Ac mae'n cyd-fynd â rhaglen ddiwygio Medr hefyd. Felly, fe fyddwch yn ymwybodol eu bod yn nodi eu cynllun strategol cyntaf yn fuan a byddant yn ymgynghori ar system reoleiddio newydd, gyda ffocws ar lywodraethiant a rheolaeth ariannol o ansawdd, a lles staff a myfyrwyr. Rwyf hefyd wedi gofyn iddynt fapio'r ddarpariaeth o gyrsiau ledled Cymru, fel bod gennym ddarlun o'r ddarpariaeth genedlaethol, gan gynnwys trwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, mae hynny i gyd yn gysylltiedig â'r mater a godwyd gennych ynghylch rheolau'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd.

Ar gyllid ymchwil, ers inni adael yr Undeb Ewropeaidd, mae hynny'n rhywbeth y mae ein prifysgolion yma wedi bod yn ymrafael ag ef, ac wedi bod yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar gymaint o gyllid ag o'r blaen. Unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth y gofynnais i Medr edrych arno, oherwydd yn sicr rydym ni yn Llywodraeth Cymru eisiau gwneud popeth a allwn i alluogi ein prifysgolion i gael mynediad at ffrydiau cyllido, cymaint â phosibl, trwy gyllid ymchwil Llywodraeth y DU. Felly, dyna waith arall rwy'n bwrw ymlaen ag ef ar hyn o bryd.

Yn olaf, ar eich cwestiwn ynglŷn â chyflogaeth, ar hyn o bryd cynigion yn unig yw'r argymhellion hyn, ac yn wir ni chafwyd cyhoeddiad ffurfiol gan Brifysgol De Cymru eto. Felly, nid wyf eisiau rhagdybio a dyfalu ynglŷn â hynny, ond yn sicr, os daw i'r pwynt lle mae swyddi'n cael eu colli, mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ystyried ei roi ar waith—cymorth ar gyfer hynny.

15:10

Wel, Llywydd, dyma ni unwaith eto yn dilyn cyhoeddiad diweddar gan Brifysgol Caerdydd am y posibilrwydd o golli 400 o swyddi a chyrsiau yn cael eu cau. Mae'r dominos yn dechrau cwympo, un ar ôl y llall. Mae yna ymgynghoriad yn digwydd nawr eto ym Mhrifysgol De Cymru ynglŷn â'r posibilrwydd o golli swyddi a thorri cyrsiau, a chadarnhad y prynhawn yma am y perygl, efallai, o golli 200 o swyddi ym Mhrifysgol Bangor. Mae'r holl newyddion yma'n ergyd andwyol i'r sector addysg uwch yng Nghymru. Gallwn ni ddim gorbwysleisio difrifoldeb y sefyllfa sy'n wynebu prifysgolion Cymru, ac eto mae Llafur Cymru'n parhau i droi llygad ddall at yr holl swyddi yma sydd yn cael eu colli, ac yn cynnig dim datrysiad o gwbl. 

Weinidog, un pryder penodol sydd gennyf, yn enwedig mewn perthynas â'r newyddion ym Mhrifysgol De Cymru yw eu bod hwythau, fel Caerdydd, yn ystyried cau cyrsiau pynciau cyfan o bosibl. Mewn ymateb i ddadl ddiweddar Plaid Cymru ar y sector addysg uwch yng Nghymru, dywedodd y Gweinidog y byddai cau cyrsiau yng Nghaerdydd yn cael ei liniaru trwy symud y ddarpariaeth o un sefydliad i'r llall, gan gynnwys Prifysgol De Cymru. Felly, un cwestiwn i'r Gweinidog yw: a yw hi wedi gallu gwneud asesiad yn ei thrafodaethau gyda Prifysgol De Cymru o ba gyrsiau sydd mewn perygl yno, ac ai'r un cyrsiau ydynt â'r rhai sydd mewn perygl yng Nghaerdydd? 

Felly, mae'n amlwg i mi fod angen adolygiad cynhwysfawr a llawn o gyllid prifysgolion Cymru ar frys, oherwydd yn amlwg mae'r model presennol yn sylfaenol doredig. Dyna pam yr ysgrifennais atoch yn ddiweddar yn gofyn i bob plaid gydweithio â rhanddeiliaid ac arbenigwyr mewn addysg uwch yng Nghymru i gytuno ar fodel cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Felly, onid yw'r Gweinidog yn cytuno y byddai'n fuddiol dechrau adolygiad o'r fath ar unwaith, fel y gallai adrodd yn ôl erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf, er mwyn arfogi Llywodraeth nesaf Cymru â chynllun ar gyfer newid cadarnhaol ar sail corff cryf o dystiolaeth yn ogystal â chonsensws gwleidyddol ar draws y pleidiau?

Diolch am y cwestiynau a'r sylwadau hynny, Cefin. Rwy'n gwrthod yn llwyr eich cyhuddiad fod Llywodraeth Cymru yn troi llygad dall at y sefyllfa sy'n wynebu ein prifysgolion. Mewn gwirionedd, ddoe yn unig, cyhoeddais £19 miliwn ychwanegol i brifysgolion i'w helpu i leihau costau gweithredu a chynnal gweithgareddau marchnata rhyngwladol trwy Cymru Fyd-eang, a dyna'r trydydd hwb ariannol y bu modd i mi ei ddyrannu i'r sector ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, ar ben y £200 miliwn a ddyrannwyd iddynt eisoes drwy Medr; y cynnydd mewn ffioedd dysgu, a fydd yn darparu hyd at £21.9 miliwn mewn incwm ychwanegol i'r prifysgolion; a'r cyhoeddiad o £10 miliwn ychwanegol yn yr hydref y llynedd yn dilyn datganiad yr hydref Llywodraeth y DU.

Yna fe wnaethoch chi drafod cyrsiau. Fel y dywedais yn fy ateb i Andrew R.T. Davies, rwyf wedi gofyn i Medr fapio'r ddarpariaeth o gyrsiau ledled Cymru, fel bod gennym ddarlun cenedlaethol o'r ddarpariaeth, gan gynnwys y ddarpariaeth Gymraeg. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn hefyd. Ond nid wyf yn credu y dylem godi yn y Siambr, yn ein Senedd genedlaethol, a dyfalu ynghylch materion lle na chafwyd cyhoeddiad ffurfiol gan Brifysgol De Cymru eto. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parchu'r broses. Y prynhawn yma, mae'r brifysgol yn siarad â staff a myfyrwyr, ac nid wyf yn credu y byddai'n briodol i mi nac i unrhyw un arall ddyfalu ynglŷn â pha feysydd a allai gael eu heffeithio. Ar ôl i'r wybodaeth honno gael ei darparu i mi, byddwn yn hapus i godi eto yn y Siambr ac ateb unrhyw gwestiynau penodol am feysydd a allai gael eu heffeithio. Roeddech chi'n sôn am eich llythyr ataf; rwy'n gobeithio eich bod wedi gallu gweld yr ymateb a roddais iddo.

Ac o ran adolygiad, rwy'n credu bod pawb yn y Siambr yn cytuno bod angen diwygio'r sector addysg uwch. Fy null i o weithredu bob amser yw siarad â chymaint o bobl â phosibl er mwyn deall yr heriau sy'n wynebu ein prifysgolion. Rwy'n gweithio yn gyntaf gyda Llywodraeth y DU i sicrhau ein bod yn ymrwymo i'w cynlluniau ar gyfer diwygio addysg uwch, gan fod cymaint o'r materion yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, felly mae'n iawn fy mod yn gwneud hynny, a fy mhrif flaenoriaeth bob amser fydd sicrhau bod unrhyw ganlyniadau'n berthnasol i anghenion Cymru.

Mae diwygio eisoes ar y gweill yng Nghymru gyda deddfwriaeth newydd ar waith a chreu Medr, ac rwyf am wneud y gorau o'r cyfle arwyddocaol hwn i drawsnewid y sector trwy siarad â chymaint o bobl â phosibl. Rwyf wedi gwahodd pob is-ganghellor i gyfarfod bord gron yn yr wythnos ar ôl y toriad am fwy o drafodaethau am yr heriau presennol sy'n wynebu'r sector, ac rwy'n siarad yn rheolaidd, nid yn unig ag is-gangellorion, ond â staff, undebau a dysgwyr hefyd. Ac rwyf hefyd yn edrych ar sut rydym yn ariannu ein pecyn cymorth i fyfyrwyr ar hyn o bryd a sut y gallwn annog dysgwyr i fanteisio ar addysg uwch, fel rhan o fy ffocws ar gynyddu ac ehangu cyfranogiad.

Rwy'n falch fod Prifysgolion Cymru a'r Undeb Prifysgolion a Cholegau wedi croesawu'r cyhoeddiad a wneuthum ddoe ynglŷn â chefnogaeth ychwanegol i'r sector. Nodais ein bod wedi gweithio'n adeiladol ac yn gadarnhaol gyda'n gilydd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n eich sicrhau bod llawer o waith eisoes yn mynd rhagddo yn Llywodraeth Cymru ar fynd i'r afael â'r heriau allweddol hyn.

15:15

Rwyf am fynd yn ôl, Weinidog, at yr ateb a roesoch i Andrew Davies, oherwydd mae incwm gwastad i brifysgolion o ffioedd myfyrwyr a'r cynnydd mewn costau yn effeithio ar bob prifysgol, a dyna pam ein bod yn gweld cymaint o brifysgolion mewn trafferthion. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod yr holl brifysgolion sydd gennym yn cael eu cadw gan eu bod i gyd yn chwarae rhan hanfodol yn ein tirwedd addysgol a datblygu economaidd. Ond mae'n rhaid iddynt allu cydweithio. Felly, siaradais â phrif swyddog gweithredol Universities UK, Vivienne Stern, yn y derbyniad y gwnaethoch chi a minnau ei fynychu yr wythnos diwethaf, a dywedodd ei bod yn bosibl eu bod wedi rhoi'r argraff na allai prifysgolion drafod newidiadau gyda'i gilydd oherwydd y gallent fod yn torri rheolau'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. Ac mae hynny wedi arwain at gyfres o ddigwyddiadau lle nad yw pobl wedi gallu cael sgyrsiau rhesymegol am y ffordd orau o drefnu pethau gyda llai o arian. Rwyf eisiau pwyso arnoch i gael yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i roi'r cyngor sydd ei wir angen arnom. Oherwydd o edrych ar y cyrsiau y mae Prifysgol De Cymru yn dweud eu bod yn mynd i ganolbwyntio arnynt yn eu hymchwil—maent i gyd yn bwysig. Ond mae angen inni sicrhau bod beth bynnag arall y credant y bydd yn rhaid iddynt ei golli yn rhywbeth y gallwn ei gael yn rhywle arall. Yn amlwg, mae yna groesi drosodd gyda nyrsio ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru ar gyfer yr un cohort o'r boblogaeth, felly mae angen inni gael y sgyrsiau hyn, ac mae'n bwysig ein bod yn gwneud hynny ar unwaith. Felly, a gaf fi ofyn pryd y mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn mynd i wneud cyhoeddiad.

Diolch am y cwestiynau ychwanegol hynny, Jenny, ac rwy'n cytuno â'r pwyntiau a wnewch, yn gyntaf, ar ffioedd dysgu myfyrwyr. Rydym am ddiogelu myfyrwyr rhag costau gormodol, ond ar yr un pryd, mae angen inni gydbwyso anghenion ein prifysgolion i gael y cyllid sydd ei angen arnynt, a dyna pam y gwnaeth cyn-Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a minnau y penderfyniad anodd i godi ffioedd dysgu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Ac ar y cynnydd y gwneuthum innau ei awdurdodi, gwyddom fod hwnnw'n debygol o ddod â £29.1 miliwn ychwanegol i'r sector, ac mae angen hwnnw'n fawr.

Rwy'n cytuno â phopeth a ddywedwch ynglŷn â'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd hefyd. Mae angen eglurhad ar hynny ar frys. Mae Medr yn arwain ar hynny. Ond fel y dywedais, ymddengys bod yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd eu hunain wedi bwrw iddi ar hyn nawr ac yn barod i ymgysylltu, oherwydd mae'n gwbl hanfodol ar unrhyw adeg fod gan brifysgolion ganllawiau clir ar ble mae cydweithio'n briodol a ble mae terfynau hynny, ond yn enwedig nawr, pan fo'r sector angen cymaint o gymorth ychwanegol, mae hyn yn rhan allweddol o'r materion sy'n ein hwynebu, ac rwy'n gobeithio y cawn arweiniad cryf gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ar hynny er budd y sector cyfan yn fuan iawn.

15:20

Pan fydd unigolyn ifanc yn gwneud cais i fynd i brifysgol, mae'n foment allweddol yn ei fywyd, ac rwy'n siŵr y gallwch ddeall, i'r rhai sydd wedi gwneud ceisiadau ar gyfer Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru, fod ansicrwydd a fydd cwrs yn bodoli ai peidio hefyd yn creu pryder ehangach ar adeg pan fo angen iddynt ganolbwyntio ar eu hastudiaethau. Eisoes yr wythnos diwethaf, gwelsom Brifysgol Cymru'n rhybuddio y bydd Cymru dan anfantais economaidd os na fyddwn yn cynyddu nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n mynd i'r brifysgol, gyda dim ond 32 y cant o bobl ifanc 18 oed yng Nghymru yn gwneud cais i fynd i brifysgol ym mis Ionawr, pwynt canran yn is na'r adeg hon y llynedd, ac ymhell islaw cyfartaledd y DU o 40.6 y cant ledled y DU.

Felly, Weinidog, gwn eich bod wedi dweud mewn cyfweliadau eich bod am ei gwneud hi'n haws i fwy o bobl ifanc fynd i'r brifysgol, ond sut y gallwn wneud hynny os nad yw'r cyrsiau'n bodoli, ac yn lleol iddynt, oherwydd mae nifer o bobl yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli yn dewis byw gartref, ac yn teithio i Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru? Felly, sut y gallwn ei wneud mor hawdd â phosibl, os nad yw'r cyrsiau hyn yn bodoli yn y rhanbarth, nac yng Nghymru o bosibl?

Diolch am y cwestiynau dilynol hynny, Heledd, ac rwyf am geisio ymdrin â'r holl bethau a godoch chi yno. Yn gyntaf, ar geisiadau myfyrwyr, ac fe siaradaf am Gaerdydd yn unig yma nawr, am mai Caerdydd yw'r unig brifysgol lle cawsom gyhoeddiad ffurfiol, ond yn sicr mae Caerdydd wedi cysylltu â'r holl fyfyrwyr sydd wedi gwneud cais am gyrsiau sydd dan ystyriaeth i'w colli yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod y myfyrwyr hynny'n ymwybodol fod y cwrs hwnnw'n dal i fodoli am y flwyddyn academaidd nesaf a'u bod yn ymrwymo i addysgu'r cwrs hwnnw i'w ddiwedd.

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi, mae angen i ragor o'n pobl ifanc a'n dysgwyr aeddfed fynd i'r brifysgol. Mae'r dystiolaeth yn dangos hynny, yn bendant, a dyna un o'r rhesymau pam y buddsoddodd Ysgrifennydd y Cabinet a minnau £1.5 miliwn yn yr agenda ehangu cyfranogiad, y siaradais amdani yn y Siambr sawl gwaith eisoes. Yr hyn yr hoffem ei wneud yno, yn benodol o ran addysg uwch, yw addasu'r rhaglen Seren bresennol at ddibenion gwahanol fel y gallwn edrych ar sut y mae'r bobl ifanc sy'n dangos yn yr ysgol ar hyn o bryd fod ganddynt botensial i fynd i'r brifysgol, ond nad ydynt efallai'n ymwybodol o hynny eu hunain, yn cael help llaw ac arweiniad i'w helpu i wneud penderfyniad gwybodus y gallai mynd i'r brifysgol fod yn rhywbeth yr hoffent ei wneud. Hefyd, wrth gwrs, mae buddsoddiad Ysgrifennydd y Cabinet mewn cyrhaeddiad a phresenoldeb i gyd yn rhan o hynny, er mwyn inni allu ddatblygu llif o ddarpar fyfyrwyr ar gyfer y dyfodol.

Ac ar y ddarpariaeth o gyrsiau y cyfeirioch chi ati yma yng Nghymru, rwy'n cytuno'n llwyr. Yr hyn yr hoffwn ei weld yw ystod eang o gyrsiau'n cael eu cynnig yma yn ein prifysgolion yng Nghymru a thrwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, a dyna pam y mae Medr eisoes wedi dechrau mapio'r ddarpariaeth honno ar ein cyfer. Byddaf yn cael cyfarfod bord gron gydag is-gangellorion yn ystod yr wythnos ar ôl y toriad, a bydd hwn yn fater y byddaf yn ei godi gyda hwy, ac rwyf hefyd yn disgwyl y bydd pob prifysgol yng Nghymru yn parhau i gymryd rhan mewn agenda ehangu cyfranogiad, ac edrychaf ymlaen at allu dod ag atebion yn ôl o'r cyfarfod i'r Senedd maes o law.

Mae'r newyddion sydd yn dod o Brifysgol Bangor y prynhawn yma yn creu pryder mawr yn yr ardal gyfan. Mae £15 miliwn o fwlch ariannol yn fwlch anferth, ac mi fyddai colli hyd at 200 o swyddi yn ergyd drom i economi'r gogledd-orllewin ac i'r gymdeithas drwyddi draw. Mae Prifysgol Bangor yn gyflogwr mawr ac yn rhan bwysig o fywyd yn lleol, felly mi fydd y newyddion yn creu pryder, nid yn unig i'r staff a'r myfyrwyr a'r darpar fyfyrwyr ond i fusnesau lleol hefyd—y rhai sy'n cyflenwi pob math o wasanaethau i'r brifysgol a'r busnesau hynny lle mae'r 10,000 o fyfyrwyr a'r 2,000 o staff yn gwario eu harian yn lleol.

Mae'r brifysgol wedi bod yn holi am ddiswyddiadau gwirfoddol ers rhai wythnosau, ond dwi'n ofni'n fawr fod diswyddiadau gorfodol yn anochel erbyn hyn. Ac mae'r toriad yma ar ben toriadau mawr sydd eisoes wedi digwydd yn y blynyddoedd diweddar yma. Felly, onid oes rhaid ichi rŵan gydnabod lefel yr argyfwng sydd yn wynebu'r sector addysg uwch yng Nghymru a rhoi cefnogaeth refeniw ar frys i Fangor? Buaswn i hefyd yn hoffi gwybod pa drafodaeth ydych chi'n ei chael efo Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, o gofio rôl allweddol y brifysgol o ran cyflogaeth leol. Pa fath o gymorth all ddod o'r cyfeiriad yna hefyd?

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

15:25

Hoffwn ddiolch i chi am y cwestiynau hynny, Siân. Ac yn debyg i'r cwestiynau sydd eisoes wedi cael eu gofyn i mi am Brifysgol De Cymru, yr hyn rwy'n ei ddweud ar hyn o bryd, ar y pwynt penodol hwn gyda Bangor, yw na chafwyd cyhoeddiad ffurfiol gan y brifysgol eto. Mae peth gwybodaeth wedi'i rhyddhau'n answyddogol i'r cyfryngau, ond rwy'n deall bod Bangor ar ddechrau proses ymgynghori, felly nid ydynt yn mynd i fod yn cyhoeddi unrhyw gynigion ynghylch cyrsiau nes eu bod wedi ymgysylltu'n llawn â staff a myfyrwyr drwy'r broses honno, ac rwy'n credu mai dyna'r ffordd iawn iddynt ei wneud. Felly, yn union fel gyda Phrifysgol De Cymru, nid wyf am fanylu gormod ar fy safbwyntiau ynglŷn â phethau ar y pwynt hwn, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i staff a myfyrwyr glywed am y cynigion hyn, fod cyhoeddiad ffurfiol yn cael ei wneud gan y brifysgol, ac ar ôl hynny, byddwn yn hapus i ateb mwy o gwestiynau yn y Siambr ar hynny.

Ond hoffwn roi sicrwydd i chi fy mod yn llwyr ddeall pwysigrwydd Prifysgol Bangor i'r rhanbarth hwnnw. Mae'r cysylltiadau economaidd, addysgol a chymdeithasol sydd ganddi wedi'u gwreiddio'n ddwfn ac yn hanfodol bwysig ac o ganlyniad i hynny, ceir sgyrsiau trawslywodraethol sy'n parhau yn y Cabinet ynglŷn â'r materion hyn. Ac o ran y cysylltiad â'r gymuned fusnes hefyd, fe wyddom fod gan Brifysgol Bangor rôl hanfodol bwysig i'w chwarae yn y rhanbarth, a dyna pam—. Mae'n chwerwfelys iawn nawr, onid yw, ond dyna pam ei bod mor braf clywed y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf fod £10.5 miliwn wedi'i adael i'r brifysgol, iddynt ei fuddsoddi nawr yn eu hysgol fusnes, gyda'r nod o barhau, dyfnhau a chryfhau'r cysylltiadau â'r economi ranbarthol a dod â mwy o ffyniant i'r ardal.

Mae'n rhaid imi ddweud fy mod ychydig yn siomedig gyda'r cyhuddiad o ddyfalu a daflwyd at Cefin Campbell. Cawsom y Gweinidog yn cyfeirio at hynny mewn ymateb i Siân Gwenllian hefyd. Nid wyf yn credu bod unrhyw beth o'i le mewn gofyn cwestiynau ynglŷn â beth yw cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer yr adeg pan fydd y sector yn wynebu newyddion am golli swyddi pellach. Mae angen arweiniad gan y Gweinidog, ac rwy'n credu ei bod yn gwbl rhesymol i ofyn cwestiynau ynghylch beth yw cynlluniau'r Llywodraeth.

Nawr, tynnodd y Gweinidog sylw at yr arian a gyhoeddodd ddoe. Nawr, cyllid cyfalaf yw hwnnw; nid dyna sydd dan sylw yma. Ond mae hefyd yn tanseilio'r hyn a gawsom gan y Llywodraeth dros yr wythnosau diwethaf ei bod yn gwbl ddi-rym yn y sefyllfa hon, oherwydd rydych chi'n dangos ymyrraeth yma y gellid ei gwneud mewn sawl ffordd arall. Nawr, pan fyddwch chi'n rhoi miliynau i'r sector addysg uwch, rydych chi'n bell o fod yn ddi-rym.

Gofynnodd Cefin Campbell ynglŷn â grŵp trawsbleidiol i edrych ar y fformiwla ariannu. Roedd hyn yn rhywbeth y dylem fod wedi ei wneud flynyddoedd yn ôl. A phan wrandawais ar eich ateb i Cefin Campbell, synhwyrais amharodrwydd i symud ymlaen ar hynny cyn gynted â phosibl. Clywsom fod gennych chi gyfarfod gyda'r is-gangellorion, nawr, ar ôl y toriad—beth am wneud y camau nawr i drafod y fformiwla ariannu? Rydym i gyd yn gwybod yn y Siambr hon ei bod yn hollol ddiffygiol, mae wedi torri'n llwyr, a gallai fod yn un o'r atebion sydd eu hangen arnom i gael trefn ar gyllid addysg uwch. Pam yr amharodrwydd? Pam nad ydym yn symud ymlaen ar hyn nawr? Dylai fod wedi digwydd flynyddoedd yn ôl.

15:30

Diolch am eich cwestiynau, Luke. Rwy'n fwy na pharod i ymateb ac i ddadansoddi ac egluro pethau. Felly, byddaf yn cyfarfod â'r is-ganghellor yn yr wythnos ar ôl y toriad, ond nid yw hynny'n golygu nad yw'r gwaith eisoes yn mynd rhagddo. Mae gennyf swyddogion Llywodraeth Cymru, Medr, eisoes yn gweithio ar yr hyn y mae angen inni ei wneud i ddiwygio'r sector. Mae gennym yr adolygiad o ddiwygiadau Diamond. Mae hynny’n mynd rhagddo ac rwy’n disgwyl rhai canfyddiadau cynnar o hwnnw erbyn yr hydref, ac mae’r fformiwla gyllido'n rhan allweddol o hynny. Rwy'n fwy na pharod i siarad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi'r sector, ac rwy'n teimlo fy mod wedi gwneud hynny eisoes yn fy atebion i Aelodau eraill. Ond yr unig beth nad wyf am ei wneud yw gwneud sylwadau sy'n dyfalu'n benodol am faterion arbennig ym mhob prifysgol, pan fo staff a myfyrwyr yn dal i gael y trafodaethau hynny. Rwy'n fwy na pharod i drafod y materion hynny pan fydd cyhoeddiad ffurfiol wedi’i wneud.

Fe ofynnoch chi'r cwestiwn am gyllid cyfalaf. Mae’r cyllid sydd newydd ddod ar gael yn gyllid yn ystod y flwyddyn, lle bu tanwariant ar draws y Llywodraeth. Cafodd y Cabinet drafodaeth ynglŷn â ble y gellid dyrannu hwnnw, ac rwy’n falch iawn fod y Cabinet wedi cytuno â fy safbwynt cryf mai addysg uwch oedd y maes lle dylid ei ddyrannu. O ganlyniad i sut y mae'r arian hwnnw wedi'i ddyrannu, dim ond drwy wariant cyfalaf y mae ar gael, a dyna’r rheswm pam fod hynny wedi digwydd yn y ffordd honno. Ond nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod lleddfu’r pwysau ar y gorbenion cyfalaf i brifysgolion yn cael effeithiau canlyniadol ar draws y sefydliad, ac yn cael effaith, rwy'n gobeithio, ar y penderfyniadau a wneir fel mai dim ond pan fetho popeth arall y caiff swyddi eu colli, fel y dywedais sawl gwaith dros yr wythnos ddiwethaf. Dyna rydym am ei weld.

Euro Merched 2025 UEFA

1. Pam mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £800,000 yn llai ar sicrhau gwaddol o Euro Merched 2025 UEFA o gymharu â’r gwariant ar Gwpan y Byd y dynion FIFA 2022? TQ1306

Am y tro cyntaf erioed, mae Llywodraeth Cymru yn darparu cronfa cefnogi partneriaid ar gyfer yr Ewros. Mae'r gronfa £1 filiwn yn gyfle sylweddol i Lywodraeth Cymru gefnogi prosiect a gweithgareddau sy'n dathlu ac yn creu gwaddol i gyflawniad hanesyddol menywod Cymru yn Ewros Menywod UEFA yn 2025, ym mis Gorffennaf.

Diolch am eich ymateb. Wrth gwrs, er fy mod yn croesawu’r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, nid wyf yn derbyn bod bron i hanner y cyllid a ddyrannwyd ar gyfer Cwpan y Byd yn Qatar yn dderbyniol, oherwydd, wedi’r cyfan, dyma’r tro cyntaf erioed yn hanes pêl-droed menywod yma yng Nghymru i’r tîm gyrraedd rowndiau terfynol unrhyw bencampwriaeth fawr, ac mae’n gyfle enfawr nid yn unig i hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol, ond i hybu cyfranogiad mewn chwaraeon yma yng Nghymru, yn enwedig ymhlith menywod a merched, fel rhan o strategaeth iechyd ataliol. Ymhellach, rwy’n pryderu nad yw’r gwersi a ddysgwyd o gwpan y byd 2022 wedi’u rhoi ar waith a bod hyn, unwaith eto, yn teimlo fel dull gweithredu adweithiol yn hytrach na'i fod yn rhan o strategaeth ehangach sy’n barod i fynd pan fydd ein timau cenedlaethol, ym mhob camp, yn cyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaethau mawr, neu pan fydd pencampwriaethau mawr yn cael eu cynnal yma yng Nghymru.

Roedd argymhellion 2, 4 a 6 yn y gwerthusiad o weithgareddau cwpan y byd yn sôn am yr angen i fynd ati'n rhagweithiol i nodi cyfleoedd cenedlaethol a rhyngwladol, cynnal partneriaethau ar lefel strategol, a defnyddio adnoddau presennol i sicrhau y gall tîm hyblyg ymateb i ddigwyddiadau yn y dyfodol i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd ar gyfer diplomyddiaeth ddiwylliannol a chwaraeon. Mae’r ffaith na chynhaliwyd cyfarfod cyntaf y grŵp llywio tan yr wythnos diwethaf, a’r ffaith mai dim ond ddoe, 11 wythnos ar ôl llwyddiant tîm y menywod ar 4 Rhagfyr, y cyhoeddwyd y gronfa, yn awgrymu i bob golwg fod amser gwerthfawr wedi’i golli. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i gyhoeddi, cyn y bencampwriaeth, y mesurau a’r targedau sy’n sail i’r buddsoddiad hwn, ac ymrwymo ymhellach i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd ynglŷn â sut y mae argymhellion blaenorol yn cael eu hymgorffori yn strategaeth ehangach y Llywodraeth?

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn. Rwy'n credu mai un peth y bydd pob un ohonom yn cytuno yn ei gylch yw pa mor hanesyddol yw’r foment hon a’n dyhead ar draws y Siambr i sicrhau ein bod yn hyrwyddo Cymru ac yn cynyddu cyfranogiad o ganlyniad i’r buddsoddiad y bwriadwn ei wneud. Hoffwn ddweud nad yw’r amser a gymerwyd rhwng cyrraedd y bencampwriaeth, os mynnwch, a heddiw a chyfarfod cyntaf y grŵp wedi’i wastraffu—mae wedi’i ddefnyddio i ymgysylltu â’n partneriaid i archwilio beth y dylai’r amcan craidd fod ar gyfer y gronfa benodol hon ac ar gyfer ein hymagwedd at y bencampwriaeth yn fwy cyffredinol.

Felly, mae’r amcanion craidd a ddatblygwyd wedi’u cytuno bellach gyda phartneriaid ac maent yn ymwneud â’r union bethau roedd Heledd Fychan yn sôn amdanynt o ran hyrwyddo Cymru i’r gynulleidfa fyd-eang a chyfleu ein gwerthoedd hefyd, ac yn enwedig felly mewn perthynas â chydraddoldeb a chynhwysiant. Ac un arall o'r amcanion craidd hynny yw hyrwyddo chwaraeon merched a menywod ac annog mwy o gyfranogiad, gan sicrhau gwaddol o'r gystadleuaeth.

Rwy’n falch iawn o ddweud y bydd datganiadau o ddiddordeb ar gyfer y gronfa £1 filiwn yn agor ddydd Gwener, a hoffwn roi sicrwydd hefyd i fy nghyd-Aelodau, yn enwedig mewn perthynas â’r argymhellion y cyfeiriodd Heledd Fychan atynt, y byddwn yn ceisio sicrhau bod gennym y dangosyddion perfformiad a’r targedau allweddol ystyrlon hynny mewn perthynas â sut y dylai llwyddiant edrych o ganlyniad i’r cyllid penodol hwn, unwaith eto, gan ddysgu o brofiad y gorffennol hefyd.

A hoffwn achub ar y cyfle hefyd i ddweud mai dim ond rhan o'n pecyn a rhan o'r gwaith y byddwn yn ei wneud yw'r cyllid a ddarparwn drwy'r gronfa cefnogi partneriaid sy'n werth £1 filiwn. Rhan arall hynod bwysig fydd yr ymgyrch farchnata, ac mae honno'n mynd i ganolbwyntio ar farchnadoedd rhyngwladol targed craidd mewn perthynas â brand, busnes a thwristiaeth yn ogystal â phresenoldeb cryf iawn i'r ymgyrch yng Nghymru. A bydd hefyd yn darparu gweithgareddau drwy waith gyda'n heiriolwyr mwyaf wrth gwrs, sef y cefnogwyr a'r lleisiau o Gymru yn ogystal â chyda phartneriaid a'n llysgenhadon Ewro 2025. Felly, mae gwaith sylweddol yn digwydd i wneud yn siŵr ein bod yn sicrhau’r manteision mwyaf posibl i Gymru o ran hyrwyddo Cymru dramor, ond hefyd y pwyntiau pwysig ynghylch cyfranogiad, yn enwedig ymhlith menywod a merched.

15:35

Ni allaf ond adleisio teimladau’r Aelod dros Ganol De Cymru yn y sylwadau hynny. Mae’r galw am bêl-droed menywod yn cynyddu, ond mae cyllid Llywodraeth Cymru yn lleihau, ac mae’n rhaid inni chwalu’r rhwystrau i fenywod a merched ymddiddori mewn pêl-droed. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod adnoddau digonol yn cael eu dyrannu i’r broblem hon a’r rhaglenni i ymgysylltu mwy â menywod a merched er mwyn sicrhau nad oes unrhyw rwystrau i fynediad ac i sicrhau parch cydradd ar draws y sector pêl-droed?

Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn. Fel y soniais wrth ymateb i’r cwestiwn cyntaf, dyma’r tro cyntaf erioed inni roi pecyn o gyllid o’r math hwn ar waith ar gyfer pencampwriaeth Ewros, felly credaf fod hynny’n arwydd o'n hawydd i wneud y mwyaf o botensial y bencampwriaeth hon, yn enwedig i fenywod a merched. Ond wrth gwrs, nid pêl-droed yn unig sy'n destun cyffro i ni eleni, gan ein bod yn cydnabod bod y flwyddyn hon, mewn gwirionedd, yn flwyddyn bwysig i chwaraeon menywod yng Nghymru, ac edrychwn ymlaen yn fawr at sawl digwyddiad mawr y bydd menywod o Gymru yn cymryd rhan ynddynt dros yr haf, neu ddigwyddiadau a gaiff eu cynnal yma yng Nghymru. Felly, un enghraifft wirioneddol dda yw Pencampwriaeth Golff Agored Menywod AIG ym Mhorthcawl. Rwy'n credu y bydd hwnnw'n gyfle enfawr inni arddangos Cymru i'r byd. Fel rhan o hynny, rydym wedi gallu darparu cyllideb gyfalaf, drwy Chwaraeon Cymru, ar gyfer rhaglen waddol gwerth £1 filiwn i Bencampwriaeth Golff Agored Menywod AIG ym Mhorthcawl, a diben y gronfa waddol honno yw denu a chadw menywod a merched yn y gamp drwy greu cyfleusterau cynhwysol, cyfeillgar i deuluoedd ar gyfer menywod yn y clybiau hynny. Felly, unwaith eto, rwy'n credu bod honno'n enghraifft arall o sut rydym yn ceisio manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd gwych hyn a sicrhau bod ganddynt waddol cryf, a byddai'n esgeulus ohonof i beidio â sôn hefyd am Gwpan Rygbi Menywod y Byd 2025, a fydd yn cael ei gynnal yn Lloegr.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 4 yw'r datganiadau 90 eiliad. Bydd y datganiad cyntaf gan Julie Morgan.

Diolch. Yr wythnos nesaf, yn ystod toriad y Senedd, mae’n Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta. Bob blwyddyn, yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta, rydym yn codi ymwybyddiaeth o’r cyflyrau iechyd meddwl cymhleth hyn, gan dynnu sylw at bwnc penodol. Eleni, rydym yn sôn am y modd y gall anhwylderau bwyta effeithio ar unrhyw un. Mae'n debyg y byddwch yn adnabod rhywun sy'n byw gydag anhwylder bwyta, ond efallai nad ydych chi'n sylweddoli hynny. Ar hyn o bryd, mae o leiaf 1.25 miliwn o bobl yn y DU a mwy na 60,000 o bobl yng Nghymru yn byw gydag anhwylder bwyta. Mae hynny'n fwy nag un o bob 50 o bobl, ond gallai'r nifer gwirioneddol fod hyd yn oed yn uwch.

Mae anhwylderau bwyta fel anhwylder osgoi/cyfyngu ar fwyd, anorecsia, bwlimia, anhwylder gorfwyta mewn pyliau ac anhwylderau bwyta penodol eraill yn gyflyrau iechyd meddwl cymhleth sy'n aml yn cael eu camddeall, eu cam-labelu neu heb eu diagnosio. Nid ar yr unigolyn a'u cyflwr yn unig y mae anhwylderau bwyta'n effeithio; mae ffrindiau a theuluoedd yn aml yn dod yn ofalwyr, yn teimlo'n ddiymadferth ac yn dorcalonnus wrth iddynt wylio eu hanwyliaid yn brwydro. Anhwylderau bwyta yw un o heriau iechyd meddwl mwyaf ein hoes a gallant effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg. Felly, rydym yn codi ymwybyddiaeth y gall anhwylderau bwyta effeithio ar unrhyw un ac nid pwy fyddech chi'n ei ddisgwyl o reidrwydd. Diolch.

15:40

Eleni, mae Neuadd y Gweithwyr, Caerffili yn dathlu ei chanmlwyddiant, 100 mlynedd ers iddi agor ei drysau am y tro cyntaf. Yn gynharach y mis hwn, mynychodd nifer ohonom gala yn y neuadd i nodi’r garreg filltir honno. Cawsom fwynhau cerddoriaeth gan Fand Pres BTM, Côr Meibion Caerffili, unawdwyr dawnus, ac areithiau gan wirfoddolwyr a meiri. Yr hyn oedd yn fwyaf gwefreiddiol oedd bod yn bresennol yn y neuadd union 100 mlynedd ers ei noson agoriadol.

Fel cymaint o neuaddau gweithwyr a neuaddau glowyr ar draws y Cymoedd, sefydlwyd Neuadd y Gweithwyr, Caerffili gan weithwyr lleol a gyfrannai rywfaint o'u cyflog bob wythnos i ariannu'r gwaith o adeiladu'r adeilad. Agorodd ar 7 Chwefror 1925 diolch i waith y mudiad lles, ac mae'n ein hatgoffa heddiw yn y Cymoedd o'r breuddwydion a oedd gan y glowyr hynny ar ein cyfer ni. Erbyn hyn, mae’r neuadd yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr, ac mae ymdrechion ar y gweill i drawsnewid y gofod yn ganolfan gelfyddydol. Mae’n sicr yn neuadd sydd wedi bod yn gartref i lawer o atgofion yn ei 100 mlynedd, a bydd meddyliau’r gymuned yn troi at y cam nesaf yn ei hanes.

Felly, diolch i'r gwirfoddolwyr oll, y rhai heddiw a'r rhai aeth o'u blaenau, ac edrychwn ymlaen at y 100 mlynedd nesaf.

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Plant sydd ar yr ymylon'
6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Yr adroddiad 'Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru'

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.

Felly, eitem 6 sydd nesaf, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar adroddiad 'Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru'. Galwaf ar James Evans i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8827 Paul Davies

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r adroddiad a gyhoeddwyd gan Goleg Brenhinol Nyrsio Cymru, 'Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru'.

2. Yn gresynu bod pobl yn ysbytai Cymru yn cael eu trin mewn amgylchedd nad yw’n ddiogel, yn urddasol nac yn dderbyniol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu wyth argymhelliad yr adroddiad yn llawn.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Paul Davies.

Heddiw, rydym yn trafod mater na ddylai byth fod wedi dod yn norm yn ysbytai Cymru: gofal mewn coridorau. Mae pob un ohonom wedi gweld yr adroddiadau dirdynnol, mae pob un ohonom wedi darllen y tystiolaethau ysgytwol, ac yn bwysicach fyth, mae pob un ohonom yn gwybod bod hwn yn argyfwng na ellir ei anwybyddu mwyach. Argyfwng lle mae cleifion—mamau, tadau, neiniau a theidiau—yn cael eu gadael i eistedd ar gadeiriau am oriau, ac am ddyddiau weithiau, yn aros am wely. Argyfwng lle mae criwiau ambiwlans yn treulio oriau wedi parcio y tu allan i ysbytai am nad oes lle y tu mewn, a phan fyddant yn dod i mewn, cânt eu gadael i aros mewn coridorau. Argyfwng lle mae meddygon a nyrsys, er gwaethaf eu hymroddiad a'u hymdrechion diflino, yn cael eu gwthio i ben eu tennyn, gan ddisgrifio eu gweithleoedd fel ardaloedd rhyfel gyda chleifion wedi'u lleoli ym mhobman. Mae'n warth cenedlaethol.

A gadewch imi fod yn gwbl glir, nid bai ein staff GIG arwrol yw hyn, gan eu bod hwy'n gwneud gwaith aruthrol o dan amgylchiadau eithafol. Hwy yw'r rhai sy'n dal y system doredig hon ynghyd. Mae hon yn broblem sy'n deillio o fethiant arweinyddiaeth wleidyddol, methiant cynllunio, a methiant i fuddsoddi yn y pethau pwysicaf. Gallwn atgyweirio’r argyfwng gofal mewn coridorau, ond mae angen arweinyddiaeth go iawn, buddsoddiad go iawn a chynllun go iawn i wneud hynny, gan weithio gyda’r sector i ddatblygu’r cynlluniau sydd eu hangen ar gyfer newid.

Mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi darparu cynllun clir, ymarferol i fynd i’r afael â gofal mewn coridorau, ac rwy'n eu cymeradwyo am eu gwaith yn y maes hwn. Nid cynnig atebion cyflym na thaflu bai yw nod eu hadroddiad; mae a wnelo â chyflawni newid go iawn, newid a fydd yn gwella gofal cleifion ac yn cefnogi gweithlu ein GIG wrth inni bontio i GIG yn y dyfodol sy'n addas at y diben.

Y cam cyntaf yw sicrhau urddas mewn gofal. Ni ddylid bod wedi caniatáu i ofal mewn coridorau ddigwydd o gwbl, ac ni ddylem byth ei oddef. Ac mae hyn yn golygu ei wneud yn rhywbeth nad yw byth yn digwydd—rhywbeth sydd mor annerbyniol fel na ddylai byth ddigwydd. Mae'n golygu sicrhau nad oes unrhyw glaf yn cael eu gadael i eistedd ar gadair am 24 awr, yn cael eu gadael heb fonitro priodol, heb fynediad at offer hanfodol, a'u gadael heb urddas sylfaenol hyd yn oed. Mae’n golygu cydnabod na ddylid derbyn mai dyma’r normal newydd, ac mai dyma y mae’n rhaid i ni ei dderbyn. Mae a wnelo â diogelwch cleifion, gan fod nyrsys a meddygon wedi dweud wrthym fod cleifion yn dirywio mewn coridorau, ac mae’n rhaid inni weithredu. Mae cleifion yn brwydro heb ocsigen, heb breifatrwydd. Mae rhai hyd yn oed wedi marw wrth aros am ofal. Mae hyn yn annerbyniol.

Os ydym o ddifrif ynglŷn â rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau, mae’n rhaid inni ryddhau mwy o gapasiti ysbytai hefyd. Mae’n rhaid inni atal y gostyngiad yn nifer y gwelyau ysbyty, a chynnal adolygiad cenedlaethol o gapasiti’r GIG. Nawr, gadewch imi fod yn gwbl glir. Nid mater o gynyddu nifer y gwelyau'n ddifeddwl yw hyn, na gwneud addewidion afrealistig i'r etholwyr. Byddai hynny’n anghyfrifol, ac nid yw'n rhywbeth y byddai darpar Lywodraeth—sef yr hyn rydym ni—yn ei wneud. Mae'n ymwneud â sicrhau bod gennym ddigon o welyau yn y lleoedd iawn i ateb y galw. Ond mae angen inni gyflymu'r broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty hefyd. Ar hyn o bryd, mae llawer o welyau'n cael eu defnyddio gan bobl a chleifion nad oes angen gofal ysbyty arnynt mwyach ond nad oes ganddynt unrhyw le arall i fynd. Pam? Am fod gofal cymdeithasol yn cael ei danariannu, heb ddigon o staff ac yn methu derbyn cleifion pan fyddant yn barod i adael. Y canlyniad: cleifion yn methu gadael gwelyau ysbyty pan allent fod wedi cael gwell gofal yn rhywle arall. Felly, mae angen inni fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol, nid yn unig er mwyn eu hurddas, ond er mwyn trwsio'r system gyfan. Ac mae angen sgwrs genedlaethol arnom ynglŷn â sut y gwnawn hyn, gan nad yw'r system gofal cymdeithasol ar ei ffurf bresennol yn gweithio ac mae'n annheg i'r unigolion sydd wedi talu tuag at y system drwy gydol eu hoes, gyda'r bygythiad o golli popeth i gael mynediad at ofal cymdeithasol.

Ond ni fydd unrhyw un o'r diwygiadau go iawn sydd eu hangen i drwsio'r system yn gweithio oni bai ein bod yn cefnogi gweithlu ein GIG. Ein gweithwyr gofal iechyd yw asgwrn cefn ein GIG, ac eto, yn rhy aml, ni chânt eu gwerthfawrogi ddigon a chânt eu gorweithio a'u gorfodi i weithio mewn amodau anniogel. Mae adroddiad y Coleg Nyrsio Brenhinol yn nodi'n glir fod angen rhagor o uwch benderfynwyr clinigol arnom ar y penwythnosau, fel y gellir rhyddhau cleifion yn gyflymach, gan leihau oedi, ac mae arnom angen mwy o nyrsys ardal a thimau gofal cymunedol hefyd, fel y gellir trin cleifion gartref yn hytrach na'u bod yn defnyddio gwelyau ysbyty yn ddiangen. Ac mae angen inni edrych hefyd ar ein hystad ysbytai bwthyn ledled Cymru, gan fod angen gofal cam-i-lawr ar lawer o'r cleifion hynny. Rydym wedi gweld gormod lawer o ysbytai bwthyn yn cau o dan Lywodraeth Lafur Cymru. Nid yw hynny’n ddigon da, ac mae angen inni edrych ar hynny eto.

Ac mae angen inni feithrin diwylliant lle mae staff y GIG yn teimlo'n ddiogel i godi pryderon, heb ofni canlyniadau. Oherwydd pan fydd ein nyrsys a'n meddygon yn codi eu lleisiau, mae’n rhaid inni wrando. Ac mae'n rhaid inni fynnu cynllunio a buddsoddi doethach. Nid oes unrhyw esgus dros rwystrau biwrocrataidd sy'n atal cleifion rhag cael gofal pan fydd ei angen arnynt. Mae'n rhaid i’r GIG yng Nghymru allu dargyfeirio cleifion yn ddiogel i wasanaethau cyfagos pan fo angen. Bydd hynny'n helpu i leddfu ac atal gofal mewn coridorau. Ac mae'n rhaid inni sicrhau hefyd fod ein GIG yn cael yr adnoddau priodol i gyflawni'r chwe nod ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng, fel bod llai o gleifion yn cyrraedd y coridorau yn y lle cyntaf.

Fe allwn drwsio hyn. Ond bydd angen arweiniad, buddsoddiad ac ymrwymiad diysgog i ddiogelwch cleifion. A gadewch imi fod yn glir iawn hefyd: ni chredaf mai mater o ariannu yw hwn. Mae dros hanner cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei gwario ar iechyd. Mae Cymru yn rhan o’r chweched economi fwyaf yn y byd. Mae arian yn y system, ond nid yw’n cael ei wario yn y mannau angenrheidiol. Mae’r Llywodraeth Lafur hon wedi dewis gwastraffu miliynau o bunnoedd ar brosiectau nad ydynt yn flaenoriaethau i bobl Cymru, ac nid ydynt wedi monitro symiau uwch o gyllid i’r GIG yn iawn. Ac o ganlyniad i'w camreoli a'u blaenoriaethau anghywir, beth y mae hyn yn ei olygu? Cleifion yn aros am ddyddiau yng nghoridorau ysbytai, criwiau ambiwlans yn methu symud y tu allan i'n hysbytai, a nyrsys a chlinigwyr ar ben eu tennyn.

Ac rwy’n dweud hyn wrth bobl Cymru: ni ddylech dderbyn gofal mewn coridorau fel rhywbeth normal. Nid yw'n iawn. Nid yw'n normal. Nid yw'n anochel. Ac nid oes yn rhaid i bethau fod fel hyn. Dewis gwleidyddol yw hwn ac mae'n ymwneud â blaenoriaethau gwleidyddol. Ac ar ôl 25 mlynedd o reolaeth Lafur, gofal mewn coridorau yw realiti eu hanes wrth y llyw. Ond gallwn wneud gwahaniaeth. Gallwn wneud dewisiadau gwahanol. Mae'n bryd trwsio Cymru. Mae'n bryd trwsio'r GIG. Mae'n bryd dod â gofal mewn coridorau i ben. Dyna fyddwn ni'n ymladd drosto. Ni fyddwn yn tincran ar yr ymylon, fel y mae’r Llywodraeth hon wedi’i wneud. Byddwn yn gwneud y penderfyniadau mawr sydd eu hangen i drwsio ein GIG, gan na ddylai unrhyw glaf gael eu trin mewn coridor eto. Ac rwy'n dweud hyn wrthych: o dan Lywodraeth Geidwadol Gymreig, ni fydd hynny byth yn digwydd.

15:50

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. 

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) yr adroddiad 'Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru' a gyhoeddwyd gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru a’i argymhellion; a

b) nad yw Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo rhoi gofal neu driniaeth reolaidd i bobl mewn amgylcheddau anghlinigol neu anaddas.

2. Yn cydnabod bod adegau pan fo’r GIG yn wynebu pwysau eithriadol, a all olygu bod pobl weithiau'n aros am amser hirach mewn rhannau o’r system ysbytai.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i weithio gyda'r GIG ac awdurdodau lleol i wella’r sefyllfa o ran rhyddhau pobl o'r ysbyty yn amserol ac i gefnogi gwasanaethau gofal cymunedol uwch i ddarparu dewisiadau amgen yn lle mynd i'r ysbyty lle bynnag y bo modd.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol. 

Bob wythnos mae yna adroddiad newydd yn cael ei gyhoeddi gan arbenigwyr yn y gwahanol feysydd polisi, ac yn ddieithriad, bob tro, mae yna feirniadaeth a phryderon dybryd am fethiannau yn y gwasanaeth iechyd, boed yn ddeintyddiaeth, yn ganser, offthalmoleg, rhestrau aros, niferoedd meddygon, neu, yn yr achos yma, gofal yn yr ysbyty. A phob tro mae’r materion yma yn cael eu codi yma ar lawr y Siambr, boed yn ddadl, yn gwestiwn amserol, neu yn gwestiynau i’r Llywodraeth, yr un yw’r ymateb: rhestru faint o bres sydd yn cael ei roi i mewn i’r system, rhestru ystadegau amheus a chreu’r argraff nad oes dim o’i le a bod pob dim yn iawn. Ond y gwir ydy bod yna lawer o bethau o’u lle, a na, dydy pethau ddim yn iawn.

Ac mae adroddiad y RCN yn paentio darlun du iawn, darlun o wasanaeth iechyd sydd yn peryglu cleifion a staff. Yn wir, mae’r adroddiad yn atgyfnerthu’r hyn yr ydym ni wedi ei glywed, gydag enghreifftiau tu hwnt o drist o gleifion yn marw yn eu cadeiriau mewn coridor yn yr ysbyty wrth aros am driniaeth. Mae’n ffordd cwbl anurddasol ac amharchus o drin ein hanwyliaid, ac mae angen i’r Llywodraeth sicrhau bod yr arfer yn dirwyn i ben. A'r hyn sydd waethaf ydy bod y cyfan yn gwbl ragweladwy. Er enghraifft, mae cyflwr yr ystâd yn uniongyrchol gysylltiedig gydag amgylchiadau triniaeth ddiogel. Ond, ers yr etholiad diwethaf, mae’r gost o ddod a’r ystâd i gyflwr lled dderbyniol wedi chwyddo dros 470 y cant i bron £800 miliwn. Mae’r niferoedd o gleifion sy’n styc yn ein hysbytai yn parhau yn ystyfnig o uchel, oherwydd methiant y Llywodraeth i fuddsoddi yn ein sector gofal, ynghyd â chwtogi faint o welyau sydd yn ein hysbytai, gan roi pwysau annioddefol ar ein hysbytai rhanbarthol.

Ond efallai yn bwysicach na’r cyfan yma yw’r ffordd y mae’r gweithlu yn cael eu trin. Mae ein nyrsys yng Nghymru yn parhau i frwydro dros dâl teg ac amodau a thelerau gwell, tra bod addewidion i adolygu eu cytundebau yn wag, heb weithredu ystyrlon. Ac os bydd ysgol nyrsio Prifysgol Caerdydd yn cau, yna bydd y sefyllfa fregus yma yn waeth fyth. Ond dyw o ddim anobeithiol, ac mae yna ddatrysiadau.

Felly, mewn ysbryd adeiladol, dwi’n annog y Llywodraeth i ystyried yr awgrymiadau canlynol, yn ogystal â derbyn a gweithredu argymhellion adroddiad y RCN yn llawn. Yn gyntaf, mae’n rhaid magu diwylliant o dderbyn beirniadaeth mewn modd adeiladol, heb guddio tu ôl i ystadegau amheus a gwadu cyfrifoldeb. Yn ail, mae angen cynllun datblygu ystâd hir dymor er mwyn gwyrdroi’r dirywiad difrifol sydd yn ystâd yr NHS a sicrhau ysbytai addas i bwrpas.

Yn drydydd, dwi’n annog y Llywodraeth, unwaith eto, i gyflwyno deddfwriaeth i roi byrddau partneriaeth rhanbarthol ar sail statudol, yn unol â chynllun Plaid Cymru i ddiwygio pensaernïaeth llywodraethiant y system iechyd. Dro ar ôl tro, rydym ni’n clywed oddi wrth bobl o fewn y sector nad ydy’r RPBs yma yn llwyddo yn ymarferol i gyflawni’r nod o wella cydweithio rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol ar faterion megis gofal y tu allan i’r ysbyty, yn bennaf oherwydd diffyg eglurder o ran eu rôl nhw. A thra bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi sôn eisoes ei fod yn medru hybu cydweithio heb angen deddfwriaeth, mae’r holl dystiolaeth yn awgrymu nad ydy hyn yn gweithio.

Yn bedwerydd, mae’n rhaid gweld gweithredu ar y cynlluniau i uno gwasanaethau iechyd a gofal a chau'r gagendor sydd rhwng y ddau wasanaeth, er mwyn sicrhau bod cleifion yn medru cael eu rhyddhau yn ddi-oed.

Yn bumed, mae angen rhoi ystyriaeth ddifrifol i sut mae’r tirwedd data presennol yn tanseilio gallu'r gweithlu i ymateb yn rhagweithiol i bwysau ar gapasiti gwelâu gofal. Mae’r ffaith bod yr RCN wedi gorfod cyflwyno FOIs er mwyn cael mynediad at wybodaeth gwbl sylfaenol ynglŷn â maint y gweithlu nyrsio yng Nghymru yn hollol annerbyniol—ac mae’r un gwyn am ddiffyg argaeledd data i’w chanfod ar draws y sector iechyd a gofal. Mae angen cynnal awdit cenedlaethol o’r ffynonellau data er mwyn cael darlun clir o’r bylchau, ac ymrwymo i gyflwyno safonau gofynnol ar argaeledd, tryloywder a dibynadwyedd gwybodaeth gyhoeddus ar y system iechyd. 

Ac yn olaf, mae angen i’r Ysgrifennydd Cabinet wneud datganiad clir nad yw gofal coridor yn dderbyniol, ac mai un o’i dargedau cyn diwedd y tymor yma ydy sicrhau bod yr arfer yma yn dirwyn i ben. Mae rheidrwydd cael y camau sylfaenol yma mewn lle er mwyn medru adnabod y camau nesaf ac adeiladu o’r newydd, ac o weithredu'r camau elfennol yma bydd y Llywodraeth o leiaf yn derbyn yr angen i wneud pethau yn wahanol ac yn dangos eu bod nhw’n deall difrifoldeb y sefyllfa.

15:55

Diolch i James am gyflwyno’r ddadl bwysig ac amserol hon. Mae’n annerbyniol fod gofal yn cael ei ddarparu mewn coridorau o gwbl, heb sôn am fod ar sail mor rheolaidd fel bod y Coleg Nyrsio Brenhinol wedi gorfod tynnu sylw ato. Mae pob un ohonom wedi cael llu o e-byst gan etholwyr pryderus yn amlinellu’r enghreifftiau ofnadwy o ofal mewn coridorau, er fy mod yn gyndyn o’i alw’n ofal o gwbl.

Mae adrannau brys ar draws fy rhanbarth yn cael eu gorlethu'n gyson gan gleifion, a heb y capasiti i drin ac arsylwi ar gleifion sy’n dod i’n hadrannau achosion brys. Mae staff yn cael eu gorfodi i wneud y dewis erchyll rhwng triniaeth anniogel neu beidio â chynnig triniaeth o gwbl. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig inni wrando ar brofiadau’r cleifion a’r staff yn ein hadrannau achosion brys, gan fod arweinwyr byrddau iechyd yn dweud wrthym dro ar ôl tro—rwy’n siŵr fod y Dirprwy Lywydd yn gwybod hynny—nad yw gofal yn cael ei ddarparu mewn coridorau. Dywedodd un etholwr wrthyf fod eu mam 73 oed wedi treulio Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan ar gadair, yn cael ei thrin yn yr ystafell aros ac mewn ystafell ochr yn Ysbyty Treforys. Fe wnaethant egluro bod eu tad wedi aros gyda hi drwy'r amser, ac nad oedd y naill na'r llall wedi gallu cysgu, na bwyta am nad oedd unrhyw fwyd ar gael. Ni chynigiwyd bwyd i'r claf ei hun hyd nes iddynt roi gwybod i'r staff ei bod yn ddiabetig.

Ni ddylai unrhyw un gael eu gorfodi i ddioddef diffyg gofal o'r fath, yn enwedig rhywun diabetig oedrannus. Wrth gwrs, bydd arweinwyr gofal iechyd yn rhoi’r bai ar bwysau’r gaeaf neu’r cyfnod gwyliau, neu ryw ffactor allanol arall, ond nid yw hyn yn ddim byd newydd. Rydym yn gweld yr un pwysau ar y gwasanaethau bob gaeaf. Mae hyn oherwydd diffyg arweinyddiaeth, methiant llwyr ac enbyd i gynllunio ar gyfer y galw, a dim cynllunio gweithlu cydlynol o gwbl dros y chwarter canrif diwethaf. Soniodd un nyrs sy’n gweithio mewn adran achosion brys yn fy rhanbarth i am anobaith staff sy’n gweithio ar y rheng flaen. Dyma'r sefyllfa yn eu geiriau hwy: 'Rwy'n gweithio llawer o shifftiau lle mae nyrsys wedi'u gorlethu'n llwyr am na allant ddarparu'r gofal diogel y maent yn dymuno'i ddarparu. Mae sefyllfaoedd brys wedi bod pan nad oedd unrhyw offer na hyd yn oed mynediad digonol at gleifion.' Mae staff mewn adrannau achosion brys yn gweithio ymhell uwchlaw'r canllawiau staffio y mae'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng yn eu hawgrymu. Mae'r staff wedi ymlâdd; nid ydynt yn edrych ymlaen at ddod i'r gwaith ac mae llawer yn teimlo'n hynod bryderus cyn eu shifftiau. Mae llawer o staff yn crio'n rheolaidd ar shifft ac yn ystyried gadael y GIG a gweithio i gwmnïau preifat neu adael y proffesiwn. Os yw nyrsys yn dweud wrthym fod y sefyllfa'n enbyd, dylem wrando a gweithredu. Nid yn unig ein bod yn siomi cleifion, rydym yn esgeuluso ein dyletswydd i staff ein GIG. Heb eu hymdrechion Hercwleaidd hwy, ni fyddai gennym wasanaeth iechyd.

Pan ddechreuais fy nghyfnod hyfforddi yn y GIG yn Lerpwl, roedd gan bob adran achosion brys wardiau arsylwi a wardiau triniaeth. Nid oedd cleifion byth yn cael eu trin yn yr ystafell aros nac yn y coridor, na byth mewn toiled i bobl anabl. Mae gennym ddeddfwriaeth sy'n pennu lefelau nyrsio diogel, ond dim byd i sicrhau—. Mae hyn yn bwysig, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gennym ddeddfwriaeth sy’n pennu lefelau nyrsio diogel, ond dim byd i sicrhau bod gennym nifer diogel o glinigwyr yn gweithredu ein hadrannau achosion brys. O ganlyniad, rydym yn gorfodi staff nyrsio i ymdrin â'r oedi mewn triniaeth, gan orfodi cleifion i aros mewn poen ac anghyfforddusrwydd, yn ogystal â chyfyngu ar lif cleifion, sy'n arwain at ofal mewn ambiwlansys a gofal mewn coridorau.

Mae ceisio darparu gofal mewn coridorau yn gwbl annerbyniol, ac mae’n rhaid inni fabwysiadu argymhellion y Coleg Nyrsio Brenhinol. Rwy'n annog yr Aelodau i wrthod gwelliant Llywodraeth Cymru sy'n taflu'r baich, a chefnogi staff rheng flaen drwy gefnogi ein cynnig. Diolch yn fawr.

16:00

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Coleg Nyrsio Brenhinol am eu hadroddiad pwerus, ond gofidus. Mae wedi dod yn fwy amlwg, onid yw, fod Llywodraeth Cymru wedi colli rheolaeth yn llwyr ar gyflwr gofal cleifion yn ein hysbytai. Mae tanariannu cronig ein sector gofal cymdeithasol, ynghyd â gostyngiad yn nifer y gwelyau a lefelau staffio annigonol ac arweinyddiaeth wael, wedi arwain at yr argyfwng gofal mewn coridorau, argyfwng sydd wedi datblygu yn sgil 26 mlynedd o oruchwyliaeth a rheolaeth wael gan Lywodraethau Llafur olynol.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ein hawdurdodau lleol yng Nghymru wedi wynebu diffyg o filiynau lawer o bunnoedd ar gyfer eu hanghenion gofal cymdeithasol, ac er y gallai mwy o arian gael ei ganfod ar gyfer y flwyddyn i ddod, mae'r diffyg blaengynllunio hanesyddol a diffyg goruchwyliaeth gyfannol ar y system iechyd wedi arwain at y methiant systemig a welwn nawr.

Wel, mae 14 mlynedd o gyni wedi effeithio ar ofal iechyd cymdeithasol. A'r un flwyddyn y gofynnodd cynghorau am gyllid ychwanegol, yn dilyn y blynyddoedd o doriadau, a phan gafodd ei rannu rhwng gofal iechyd cymdeithasol a'r GIG, fe ymosododd y Ceidwadwyr ar Lywodraeth Cymru am hynny. Felly, onid ydych chi'n credu—? Rydych chi newydd ddweud y dylid edrych arno'n gyfannol, felly, oni fyddech chi'n derbyn bod angen inni edrych ar ofal iechyd cymdeithasol a'r GIG gyda'i gilydd?

Rwyf wedi dweud lawer gwaith yn y Siambr y dylem fabwysiadu ymagwedd gyfannol tuag at ofal iechyd. Mae hynny'n golygu'r gwasanaeth iechyd gwladol a gofal cymdeithasol. Y llynedd, gwelsom tua £825 miliwn yn mynd i'r gwasanaeth iechyd a swm bach iawn yn mynd i ofal cymdeithasol. Ac os nad ydych chi'n mynd i'r afael â'r gofal cymdeithasol, nid ydych yn dadflocio'r system. [Torri ar draws.] Na, mae'n wir. Aeth £450 miliwn tuag at iechyd yn y gyllideb ddiwethaf, a chafwyd peth yn yr hydref cyn hynny, ac eto ychydig iawn a aeth tuag at ofal cymdeithasol yn yr un flwyddyn, ac nid aeth i'r afael ag ef.

Nawr, mae peth arian ychwanegol yn mynd tuag at ofal cymdeithasol eleni, ond ni fydd yn dadflocio'r rhwystr sydd gennym yn y system iechyd gyfan. Felly, yn amlwg, mae 26 mlynedd o Lywodraeth Lafur wedi gwneud cam â'r system. Nid yw'n ddim i'w wneud â 14 mlynedd o reolaeth Geidwadol. [Torri ar draws.]

Nid oes unrhyw sgyrsiau dwy-ffordd. Yr Aelod nawr i barhau â'i gyfraniad.

Diolch. Mae'n amlwg fod gennym fethiant systemig. Mae clinigwyr yn dweud hynny wrthym, a nyrsys, a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Y methiannau hyn sydd wedi ysgogi anghenion yr adroddiad, fel adroddiad y Coleg Nyrsio Brenhinol heddiw, neu ganfyddiadau Llais yr wythnos diwethaf, neu adroddiadau rheolaidd yr arolygiaeth iechyd a welwn yn tynnu sylw at ddiffygion yn ein byrddau iechyd. Ac nid dim ond cleifion sy'n cael cam, fel y clywsom. Mae staff ein GIG hefyd yn cael cam. Ni wnaethant ymuno â'r proffesiwn i orfod amddifadu cleifion o'r gofal sydd ei angen arnynt mor daer. Hyd yn oed pan fydd nyrsys yn dwyn problemau i sylw rheolwyr drwy'r system ar gyfer hynny, darllenwn na chaiff fawr o gamau eu rhoi ar waith, os o gwbl. Yn waeth byth, awgrymodd un aelod o staff y byddent yn cael eu herlid pe baent yn awgrymu nad oedd y system yn perfformio, ac nid yw hyn yn dderbyniol mewn unrhyw ffordd.

Clywn fod capasiti gwelyau'n gostwng. Yn wir, yn fy mwrdd iechyd fy hun, gwn fod nifer y gwelyau trawma wedi gostwng yn sylweddol ers agor ysbyty'r Faenor. Dywedwyd wrthyf fod tua 80 a mwy o welyau trawma ar gael cyn i'r Faenor agor, ac erbyn hyn mae oddeutu 40 ar gael. O ganlyniad, yn anffodus, nid oes wythnos yn mynd heibio heb inni glywed straeon dirdynnol am etholwyr yn dihoeni mewn amgylchiadau hollol annerbyniol wrth aros am driniaeth. Rwy'n cofio cael galwad ffôn y llynedd gan etholwr yn eu hystafell ysbyty. Roeddent yn cael triniaeth ar gyfer sepsis, ond ddwy waith gofynnwyd iddynt adael eu hystafell a mynd i'r coridor er mwyn galluogi rhywun arall i gael eu gwely. Fy nghyngor cryf oedd peidio â chytuno, am eu bod yn rhy wael. Bu'n rhaid imi ymyrryd ar y lefel uchaf i atal hyn. Sawl gwaith y mae'r math hwnnw o beth yn digwydd? Yn rhy aml, mae arnaf ofn.

Mae'r dyfyniadau gan y byrddau iechyd, a nodwyd yn adroddiad y coleg brenhinol, yn wirioneddol ddirdynnol. Mae un claf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn dweud,

'Cafodd fy merch, sy'n feichiog, hyperemesis a dywedwyd wrthi am fynd i'r ysbyty. Roedd hi'n chwydu mewn coridor '.

ac nid oedd gwres yno ychwaith.

'Bu'n rhaid iddi aros ar droli am ddiwrnod a hanner cyn cael ei symud i ward. Yna fe wnaethant ei symud i swyddfa meddyg, lle nad oedd seinwyr y gallai eu defnyddio os oedd angen help arni. Yna cafodd ei symud yn ôl i'r coridor. '

Mae hyn yn annerbyniol mewn unrhyw wlad yn yr unfed ganrif ar hugain, heb sôn am un o'r economïau mwyaf—

16:05

Nid oes amser. Altaf, mae ei amser eisoes ar ben. Rwy'n rhoi amser iddo am yr ymyriad blaenorol.

[Anghlywadwy.]—unrhyw un, fi fel clinigydd ydoedd.

Fe wnaf orffen yn gyflym. Adroddiad y Coleg Nyrsio Brenhinol sy'n crynhoi'r sefyllfa yng Nghymru orau, lle mae'n nodi

'Yr hyn yw gofal mewn coridorau yw methiant amlwg ac osgoadwy yr ewyllys wleidyddol i ddiwygio'r GIG a gofal cymdeithasol, a buddsoddi yn ei weithlu o dan lywodraethau diweddar.'

Mae'n amlwg, felly, fod angen i'r Llywodraeth wrando ar alwadau'r Coleg Nyrsio Brenhinol a gweithredu ei wyth argymhelliad yn llawn, gan sicrhau, yn y dyfodol, na fydd yn rhaid i'n plant orfod ymdopi â'r un amgylchiadau ysbyty ag y mae pobl yn gorfod ei wneud heddiw.

Russell George. Na? Esgusodwch fi. Rwy'n ymddiheuro, Janet, ond enw Russell sydd i lawr.

Felly, rwy'n sefyll yma heddiw unwaith eto i dynnu sylw at gyflwr ofnadwy triniaeth a gofal yn ysbytai Cymru, argyfwng yr ydym ni ar y meinciau hyn, yn anffodus, yn codi'n llawer rhy aml i siarad yn ei gylch. Ar ôl aros am oriau am ambiwlans, mae llawer o bobl yn cael eu gadael am oriau bwy'i gilydd wedyn yn yr ambiwlansys hynny y tu allan i'n hysbytai. Pan fyddant yn ddigon ffodus i gael eu trosglwyddo i mewn i'r system ysbyty, maent yn dal i orfod aros ar gadeiriau neu welyau troli am nifer fawr o oriau. Rwy'n gwybod am rai etholwyr, 48 awr, lle maent wedi bod yn eistedd ar gadair ac wedi dioddef briwiau pwyso o fod yn y gadair honno mor hir.

Mae adroddiad diweddar y Coleg Nyrsio Brenhinol, 'Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru' yn datgelu gwirionedd amlwg. A gaf i ddiolch i'r Coleg Nyrsio Brenhinol am yr holl waith a wnânt, i'w holl nyrsys a'n holl staff rheng flaen sy'n gweithio mewn ysbytai? Nid yw'r feirniadaeth hon wedi'i hanelu atoch chi, mae wedi'i hanelu at y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. A Carolyn, mae'n rhaid i mi ddweud, am y 14 mlynedd o gyni y sonioch chi amdanynt, fe soniwn ni am 26 mlynedd o fethiannau gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, gyda 12 mlynedd ohonynt pan oedd Llywodraeth Lafur yn San Steffan.

Mae adroddiad y Coleg Nyrsio Brenhinol yn rhoi darlun llwm o'r gwirionedd yn ein hysbytai, gwirionedd y mae Llywodraeth Cymru fel pe bai'n ei ddiystyru. Mae staff nyrsio'n disgrifio cleifion yn cael eu trin wrth iddynt eistedd ar gadeiriau am dros 24 awr—gwelais hynny'n digwydd am 48 awr—wedi eu gorfodi i aros mewn cynteddau neu o flaen allanfeydd tân am nad oedd digon o welyau ar gael. Rwy'n gwybod am un etholwr yn ddiweddar—. Fe'u gwelais yn cael eu trin mewn cwpwrdd.

Maent yn dweud eu bod yn teimlo'n ddigalon, yn methu darparu gofal o'r safon y gwnaethant ymuno â'r proffesiwn i'w ddarparu. Mae un nyrs wedi crynhoi'r peth yn dda: sut y mae'n deg dweud wrth rywun eu bod yn marw mewn coridor? Soniodd un arall am eu hiechyd meddwl o dan y pwysau aruthrol, gan ddweud, 'Rwy'n cael trafferth cysgu yn y nos cyn ac ar ôl fy shifft nesaf.' Sut y gallwn ni resymoli'r argyfwng hwn? Eisteddais drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; nid ydym gam ymhellach ymlaen nawr na phan oedd y ddeddfwriaeth honno'n mynd drwodd.

Mae'r data diweddaraf yn dangos, ym mis Rhagfyr yn unig, fod mwy na 6,500 o ambiwlansys wedi treulio o leiaf awr y tu allan i adran damweiniau ac achosion brys yng Nghymru, yn aros i ddadlwytho cleifion. Yn y gogledd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd â'r perfformiad gwaethaf o ran amseroedd aros pedair awr, wyth awr a 12 awr. Disgrifiodd un claf y profiad fel, 'Trawmatig. Fel cael eich trin ar faes brwydr.' Mae'n 2025, yn enw'r mawredd.

Er gwaethaf y gwirioneddau brawychus, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid wedi dadlau bod gormod o sylw ar ofal ysbyty yng Nghymru—datganiad brawychus—a dadleuodd dros lai o welyau a llai o ysbytai. Mae'n safbwynt sy'n groes i farn arbenigol a phrofiad ar y rheng flaen. Gwallgofrwydd llwyr. Ar hyn o bryd, mae gennym staff nyrsio digalon sy'n gofalu am gynifer â 40 o gleifion mewn coridor, yn methu cael gafael ar ocsigen, monitorau calon, offer sugnedd ac offer achub bywyd arall. Maent yn nodi bod cleifion benywaidd yn erthylu mewn coridorau, ac eraill yn dweud na allant ddarparu triniaeth adfywio cardiopwlmonaidd digonol nac amserol i gleifion sy'n cael trawiad ar y galon. Dywedodd mwy na naw o bob 10 nyrs a holwyd fod diogelwch cleifion yn cael ei beryglu'n gyson. Pe bai gennyf i weithlu, Ysgrifennydd y Cabinet, byddwn yn arswydo wrth glywed bod naw o bob 10 yn dweud bod diogelwch eu cleifion yn cael ei beryglu'n gyson.

Y mater craidd, wrth gwrs, yw diffyg llif cleifion drwy'r system gofal iechyd; cleifion sydd angen eu rhyddhau ond sy'n aros yn yr ysbyty oherwydd darpariaeth gofal cymdeithasol annigonol. Rhybuddiodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y llynedd fod cyllid gofal cymdeithasol yn anghynaladwy, ac eto, waeth faint yr honnwch eich bod wedi codi'r swm a roddwch, nid yw'r buddsoddiad angenrheidiol yn ddigon. Y canlyniad yw gwelyau ysbyty'n cael eu defnyddio gan gleifion nad ydynt eu hangen, gan arwain at adrannau brys gorlawn, ac yn y pen draw, at ofal mewn coridorau, cypyrddau, lle bynnag. I waethygu pethau fwyfwy, mae perchnogion cartrefi nyrsio yn Aberconwy bellach yn dweud wrthyf fod 50 o welyau nyrsio cyffredinol gwag ar gael yn sir Conwy yn y sector gofal cymdeithasol. Mae ganddynt welyau gwag tra bo gennych chi bobl mewn gwelyau mewn ysbytai, ac mae'r cleifion hyn eisiau mynd adref neu i'w cartref nyrsio.

Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi galw am ddiwygiadau brys, gan gynnwys saib ar y gostyngiad i welyau, buddsoddi mewn gofal cymdeithasol, cynyddu niferoedd nyrsys, a sicrhau bod cleifion yn cael eu trin mewn amgylcheddau priodol. Rydym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn gofyn am yr un peth. Rhaid i Lywodraeth Cymru beidio â gadael i lefelau nyrsio ostwng, rhaid iddynt beidio â chyfaddawdu ar allu Cymru i hyfforddi nyrsys newydd. Rhaid inni beidio â gadael i ysgol nyrsio Prifysgol Caerdydd gau—

16:10

—ac rwy'n erfyn ar Lywodraeth Cymru i gamu i'r adwy a defnyddio ei phŵer. Nid anghyfleustra yn unig yw gofal mewn coridorau, mae'n peryglu diogelwch cleifion. Mae hyn yn dal i ddigwydd ac mae'n digwydd o dan eich goruchwyliaeth chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Os gwelwch yn dda, er mwyn yr holl gleifion hynny, rhowch gamau ar waith ar unwaith i ddod â gofal mewn coridorau i ben, neu camwch o'r neilltu, a gadewch i'r Ceidwadwyr Cymreig drwsio'r GIG yng Nghymru.

Diolch, Janet.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn i ddechrau drwy gydnabod pwysigrwydd y mater hwn, a diolch i'r holl nyrsys am eu sylwadau ar y testun pwysig hwn.

Dylai pawb gael gofal mewn man clinigol priodol, lle mae'u diogelwch, urddas a'u preifatrwydd yn cael eu cynnal. Fel y mae gwelliant Llywodraeth Cymru yn datgan, dydw i ddim yn credu ei fod yn dderbyniol darparu gofal neu driniaeth mewn mannau sydd ddim yn glinigol, neu sydd yn anaddas. Ond mae hyn yn digwydd oherwydd bod y gwasanaeth iechyd yma ac ar draws y Deyrnas Unedig o dan bwysau mawr. Yn ogystal, dyw'r system iechyd a gofal ehangach ddim yn gweithio'n ddigon esmwyth ar hyn o bryd, gyda lefelau uchel o oedi wrth ryddhau cleifion, ac mae hwn yn cael effaith, wedyn, ar ysbytai a chymunedau. Yn anffodus, weithiau gallai'r diffyg llif yma olygu bod pobl yn aros am gyfnod hir i gael gwely ysbyty mewn adrannau achosion brys, unedau asesu meddygol neu rannau eraill o'r ysbyty.

Yn y cyfnodau heriol yma, mae'r ymroddiad ein gweithwyr gofal iechyd yn bwysicach nag erioed. Dyna pam rŷn ni am feithrin diwylliant yn y gwasanaeth iechyd sy'n helpu staff nyrsio i deimlo'n saff i godi pryderon am ddiogelwch cleifion heb ofn. Mae'r ymrwymiad yna yn rhan o'r ddyletswydd gonestrwydd a fframwaith y gwasanaeth iechyd ar gyfer codi llais heb ofn, gan wneud yn siŵr bod pryderon yn cael eu clywed ac yn cael y sylw priodol, a bod camau yn cael eu cymryd o ganlyniad.

Ddirprwy Lywydd, mae mynd i'r afael â materion llif cleifion yn galw am atebion strategol ar draws y system. Rydym yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r heriau hyn, nid yn unig mewn ysbytai, ond trwy gryfhau gofal yn y system iechyd a gofal drwyddi draw. Mae llawer iawn o waith yn digwydd yn y maes hwn. Mae ein rhaglen chwe nod ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng yn canolbwyntio'n benodol ar ddarparu'r gofal iawn yn y lle iawn y tro cyntaf. Mae'n cynnwys buddsoddiadau mewn gwasanaethau gofal cymunedol gwell, wardiau rhithwir, ymateb cymunedol brys a llwybrau gofal integredig i leihau nifer y derbyniadau i'r ysbyty a gwella llif cleifion.

Mae'r GIG wedi cyflwyno polisi uwchgyfeirio gweithredol newydd sy'n cefnogi byrddau iechyd a'r gwasanaeth ambiwlans i reoli pwysau drwy ymateb system gyfan a luniwyd i leihau gorlenwi mewn adrannau brys. Mae galwadau ac adolygiadau dyddiol o sefydliadau wardiau, gan gynnwys capasiti ymchwydd, bellach ar waith rhwng y GIG a Llywodraeth Cymru i gefnogi gofal amserol gydag urddas mewn lleoliadau priodol. Mae ein timau nyrsio ardal a chymunedol yn chwarae rhan hanfodol yn darparu gofal o ansawdd uchel yn nes at adref, gan atal derbyniadau diangen i'r ysbyty a chefnogi rhyddhau amserol o'r ysbyty. Rydym wedi ymrwymo i ehangu a buddsoddi yn y rhan hon o'r gweithlu nyrsio i ddiwallu anghenion ein poblogaeth a gwella canlyniadau.

Ddirprwy Lywydd, dros y gaeaf, rydym wedi herio byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i weithio gyda'i gilydd i ganolbwyntio ar 10 o gamau gweithredu yn seiliedig ar dystiolaeth i helpu i atal oedolion hŷn a bregus rhag cael eu derbyn i'r ysbyty yn ddiangen, ac i gyflymu cynlluniau rhyddhau er mwyn lleihau nifer yr achosion o oedi cyn rhyddhau cleifion. Cefais fy nghalonogi gan y systemau sydd bellach ar waith a'r cynnydd a wnaed yn ystod y cyfnod o 50 diwrnod. Arweiniodd at ostyngiadau yn nifer y preswylwyr cartrefi gofal a drosglwyddwyd i adrannau brys—[Torri ar draws.]—gostyngiadau yn nifer y bobl hŷn a gafodd eu derbyn i ysbytai—

16:15

—a gostyngiadau yn nifer y llwybrau lle bu oedi yn y gofal o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd. Iawn.

Diolch am dderbyn yr ymyriad, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn eisiau deall gennych yn eich cyfraniad heddiw—a allwch chi gadarnhau eich bod yn cytuno neu'n anghytuno â'r argymhellion a wnaed yn adroddiad y Coleg Nyrsio Brenhinol?

Wel, rwy'n ceisio rhoi cyfrif yn fy araith heddiw o'r gwaith sydd eisoes ar y gweill sy'n adlewyrchu llawer o'r argymhellion yn yr adroddiad, ac mae llawer o'r argymhellion yn bethau sydd eisoes ar y gweill, ac rwy'n derbyn y ddadl a wnaed bod angen gwneud mwy. Ar ôl darllen yr adroddiad, mae'r ymatebion y mae nyrsys yn eu rhoi ar y rheng flaen yn ein taro ni i gyd. Yr hyn y ceisiaf ei wneud yn yr araith hon yw nodi'r gwaith sydd eisoes ar y gweill i fynd i'r afael â nifer o'r blaenoriaethau y mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi'u nodi.

Rydym yn adolygu data ar gyfer y gaeaf a aeth heibio, Ddirprwy Lywydd, gan ystyried y gwersi a ddysgwyd a datblygu camau newydd i barhau â'r ffocws hwn. Bydd hyn yn cynnwys cynlluniau gweithredu mesuradwy, i ymdrin â meysydd fel atal, gofal sylfaenol a chymunedol brys, trosglwyddo o ambiwlansys ac ymgyrch o'r newydd am fwy o gynhyrchiant mewn arferion rhyddhau a chynllunio gan fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol. Byddaf yn rhoi mwy o wybodaeth i'r Senedd am y cynlluniau hyn ym mis Mawrth a mis Ebrill.

Ddirprwy Lywydd, rydym i gyd yn rhoi o'n gorau pan fyddwn ni'n teimlo ein bod yn cael ein gwerthfawrogi, ein trin yn deg ac yn gallu bod yn ni ein hunain yn y gwaith. Gweithlu diogel, wedi'i gefnogi a'i rymuso yw'r sylfaen i GIG cryf, a byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd i adeiladu system gofal iechyd sy'n helpu staff i roi o'u gorau i ddarparu gofal cleifion o'r safon uchaf.

Mae heriau yn y system heddiw ac mae'r adroddiad yr ydym yn ei drafod heddiw yn amlinellu nifer o'r heriau hynny'n glir iawn. Rydym yn gweithio i'w datrys. Byddwn yn mynd ymhellach i gynorthwyo mwy o bobl i aros yn y gymuned, yn ddiogel, ac i gael gofal, a gallu cael y gofal sydd ei angen arnynt y tu allan i leoliad ysbyty lle bynnag y bo modd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae argyfwng yn digwydd yn ein hysbytai ledled Cymru oherwydd bod pobl yn cael eu trin mewn amgylcheddau anniogel, diurddas ac annerbyniol. Nid sôn am un claf a wnawn, rydym yn sôn am gohort o gleifion yn eistedd mewn cadeiriau am oriau diddiwedd ac yn cael eu symud i wardiau o flaen diangfeydd tân, neu'n gorfod aros ar droli mewn coridor am lawer rhy hir. Credwn fod argyfwng mor fawr mewn gofal yn arwain at sefyllfa lle mae'n fwy tebygol y bydd cleifion yn marw o'i herwydd. Nid geiriau unrhyw un sydd wedi siarad yn y ddadl hon heddiw yw'r rheini, ac nid fy ngeiriau i ydynt—geiriau Helen Whyley o'r Coleg Nyrsio Brenhinol ydynt.

Ond adleisiwyd llawer o'r hyn a ddywedwyd ynddo yn sylwadau agoriadol James Evans yn ei gyfraniad heddiw, ac os caf grynhoi yr hyn a ddywedodd James yn ei sylwadau agoriadol, ynglŷn â pham y mae gofal mewn coridorau'n digwydd, nid oes gennym ddigon o nyrsys cymunedol, nid oes gennym ddigon o gapasiti nyrsio yn ein cartrefi gofal ac nid oes gennym ddigon o weithwyr cartrefi gofal proffesiynol. Ac yna, wrth gwrs, mae problemau gofal mewn coridorau'n cael eu gwaethygu gan ambiwlansys yn ciwio y tu allan i ysbytai oherwydd bod cleifion yn aros i gael eu derbyn, swyddi nyrsio gwag mewn ysbytai yn lleihau capasiti, niferoedd llai o welyau ysbyty, anallu i gyfeirio cleifion i fannau eraill am nad oes dewisiadau amgen ar gael, anallu i ryddhau cleifion oherwydd diffyg nyrsio yn y gymuned, a dealltwriaeth wael ymysg rheolwyr o'r risg wirioneddol i gleifion yn sgil gofal mewn coridorau. Codwyd nifer o'r pwyntiau hynny hefyd gan Mabon ap Gwynfor yn ei gyfraniad ef.

Siaradodd Altaf Hussain am y pwysau sylweddol sydd ar staff, pwysau y mae'n rhaid ei ddeall yma hefyd, ac mae'n rhaid inni gydnabod ymdrechion enfawr staff sy'n gweithio yn ein GIG. Ond wrth gwrs, soniodd Altaf hefyd am ddeddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli i sicrhau bod gennym lefelau cywir o staff nyrsio, ond dim byd i sicrhau bod gennym nifer diogel o glinigwyr, sy'n rhywbeth y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei ystyried o bosibl.

Siaradodd Peter Fox a Janet Finch-Saunders am y prinder gwelyau yng Nghymru, ac mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi galw am saib ar y gostyngiad i welyau ysbyty, sy'n gwrthgyferbynnu â sylwadau diweddar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg a'r Prif Weinidog. 

Gwrandewais yn ofalus iawn ar sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd heddiw. Rwy'n cael trafferth deall pam y byddai'n gwrthwynebu ein cynnig heddiw a pham y gwnaeth y Llywodraeth ddileu ein cynnig, oherwydd mae tri phwynt i'n cynnig heddiw. Mae'r cyntaf yn nodi'r adroddiad 'Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru' a gyhoeddwyd gan y Coleg Nyrsio Brenhinol. Nid oes dim i wrthwynebu nodi hynny. Mae'r ail bwynt 

'Yn gresynu bod pobl yn ysbytai Cymru yn cael eu trin mewn amgylchedd nad yw'n ddiogel, yn urddasol nac yn dderbyniol',

pwynt yr oedd Ysgrifennydd y Cabinet ei hun yn ei gydnabod. Ac yn drydydd mae

'Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu wyth argymhelliad yr adroddiad yn llawn.'

Wel, pan wneuthum ymyriad ar Ysgrifennydd y Cabinet, cadarnhaodd ei hun, yn ei farn ef, fod y rheini'n cael eu cyflawni yn ogystal â'r meysydd eraill y mae'r Llywodraeth yn eu gwneud. Felly, os yw hynny'n wir, pam na allai'r Llywodraeth fod wedi derbyn ein cynnig heddiw? Os oedd am ychwanegu at ein cynnig hefyd er mwyn camu ymlaen yn y maes hwn, byddai hynny wedi cael ei groesawu, ond mae'n siomedig na allai'r Llywodraeth gefnogi ein cynnig heddiw. 

Diolch i'r Aelodau ar draws y Siambr am eu cyfraniad ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn cefnogi ein cynnig heddiw heb ei ddiwygio. Diolch yn fawr. 

16:20

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl Plaid Cymru: Gaza

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol.

Eitem 7, dadl Plaid Cymru—Gaza. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8830 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn ailddatgan:

a) condemniad y Senedd o ymosodiadau Hamas ar sifiliaid Israel ar 7 Hydref 2023 ac ymateb milwrol Israel, sydd wedi arwain at farwolaethau mwy na 60,000 o bobl Palesteina ac wedi golygu bod angen cymorth dyngarol brys ar filiynau o sifiliaid yn Gaza yn groes i gyfraith ryngwladol; a

b) cefnogaeth y Senedd ar gyfer cadoediad parhaol, mynediad llawn i sefydliadau dyngarol, dychwelyd gwystlon a charcharorion, a heddwch cyfiawn a pharhaol drwy ddatrysiad dwy wladwriaeth.

2. Yn galw ar Lywodraeth y DU:

a) i gefnogi gwaith y Llys Troseddol Rhyngwladol wrth ddwyn i gyfrif arweinwyr Israel a Hamas sydd wedi eu cyhuddo o gyflawni troseddau rhyfel;

b) i gondemnio fel glanhau ethnig gynigion yr Arlywydd Trump i ddiboblogi Gaza; ac

c) i atal yr holl allforion arfau i Israel yn unol â chyfraith ryngwladol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i adolygu trefniadau caffael a buddsoddiadau’r sector cyhoeddus i sicrhau bod safonau moesegol yn cael eu cynnal;

b) i ymrwymo rhagor o gefnogaeth ddyngarol i Gaza; ac

c) i gefnogi cymunedau yng Nghymru sydd â chysylltiadau â Phalesteina ac Israel.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae 469 diwrnod wedi mynd ers i'r Senedd yma bleidleisio i ychwanegu ein llais ni at y pwysau rhyngwladol dros sicrhau cadoediad yn Gaza, dros ryddhau gwystlon ar unwaith, ac i ddatgan ein cefnogaeth i'r cymunedau o Israeliaid a Phalesteiniaid yng Nghymru, cymunedau Iddewig a Mwslemaidd a oedd wedi eu heffeithio gan y gwrthdaro.

Yn y 469 diwrnod hynny, mae lluoedd byddin Israel wedi lladd degau o filoedd o ddinasyddion diniwed Gaza, rhywbeth sydd, yn ôl Amnest Rhyngwladol, gyfystyr â hil-laddiad. Mae degau o filoedd yn fwy wedi'u hanafu ac mae mudiadau dyngarol, ynghyd â'r Cenhedloedd Unedig, yn rhybuddio bod y boblogaeth gyfan yn wynebu newyn.

Dyna pam mae Plaid Cymru wedi dod â'r cynnig yma gerbron y Senedd heddiw, am fod yr argyfwng dyngarol yn Gaza yn haeddu nid yn unig ein sylw ni, ond yn mynnu ymdrech ryngwladol frys i sicrhau heddwch.

Mae maint y dinistr yn Gaza y tu hwnt i ddirnad. Cafodd cymunedau cyfan eu chwalu, eu chwythu oddi ar y map. Teuluoedd cyfan wedi'u lladd. Rhieni'n cydio yn eu plant newynog mewn ysbytai dros dro heb unrhyw feddyginiaeth. Ni all ac ni ddylai Cymru barhau'n ddistaw yn wyneb anghyfiawnder mor ddifrifol. Mae'n ddyletswydd arnom i godi llais, i weithredu a rhoi'r holl bwysau a allwn ar y rhai sydd â phŵer uniongyrchol i ymyrryd i wneud hynny.

Ar 7 Hydref y flwyddyn cyn y llynedd, cyflawnodd Hamas ymosodiad erchyll ar sifiliaid Israelaidd, ymosodiad annirnadwy o greulon. A rhaid i'r rhai sy'n gyfrifol gael eu dal yn atebol. Cyhoeddodd prif erlynydd y Llys Troseddol Rhyngwladol warant i arestio arweinwyr Hamas—gyda digwyddiadau 7 Hydref yn rhan o'r dystiolaeth a arweiniodd at wneud y cyhuddiadau hynny o droseddau rhyfel. Ond nid yw'r hyn sydd wedi digwydd, yr hyn sydd wedi dilyn, y bomio di-baid, targedu sifiliaid yn fwriadol a dinistr llwyr holl seilwaith Gaza, wedi bod yn weithred o hunanamddiffyn nac yn gymesur. Mae gweithredoedd Israel yn gwbl groes i gyfraith ryngwladol. Mae targedu seilwaith sifil yn fwriadol, cosbi poblogaeth gyfan a gorfodi plant i newynu yn droseddau rhyfel o dan gonfensiynau Genefa. Mae'r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol eisoes wedi dyfarnu y gallai gweithredoedd Israel yn Gaza fod yn hil-laddiad, ac eto, er gwaethaf y dystiolaeth ysgubol hon, mae'r gymuned ryngwladol wedi methu gweithredu'n ddigon pendant.

Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod atal allforion arfau i Israel. Mae wedi dewis cymryd rhan yn hynny. Ac rydym yn dweud yma yn y Senedd heddiw nad yw hyn yn dderbyniol. Rhaid i Lywodraeth y DU atal pob gwerthiant arfau i Israel ar unwaith yn unol â chyfraith ryngwladol, yn union fel y mae sancsiynau'n bodoli'n briodol ddigon i atal arfogi Hamas. Os ydym yn honni ein bod yn cynnal trefn ryngwladol sy'n seiliedig ar reolau, rhaid i'r drefn honno fod yn gymwys i bawb yn yr un modd. Dyna pam y mae'r cynnig hwn hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi'r Llys Troseddol Rhyngwladol yn ei ymchwiliadau, ac i wrthod unrhyw ymdrechion i rwystro ei waith. Eto i gyd, yn lle amddiffyn cyfiawnder rhyngwladol, mae Llywodraeth y DU unwaith eto wedi bod ar yr ochr anghywir i hanes, gan fethu cefnogi'r Llys Troseddol Rhyngwladol fel y dylai.

A nawr gwelwn ddatblygiad newydd a pheryglus, ymosodiad llwyr ar gyfiawnder rhyngwladol ei hun. Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi dweud yn glir y bydd yn sancsiynu'r Llys Troseddol Rhyngwladol os yw'n meiddio ymchwilio i droseddau rhyfel Israelaidd. Dyma ymosodiad uniongyrchol ar reolaeth y gyfraith. Ymgais i danseilio'r union sefydliadau sy'n bodoli i ddal troseddwyr rhyfel yn atebol ac i gynnal heddwch rhyngwladol. Dyna pam y mae'n rhaid i'r Senedd anfon neges glir heddiw: nid yw cyfiawnder yn ddewisol yn ein barn ni, ni all fod yn ddewisol. Rhaid caniatáu i'r Llys Troseddol Rhyngwladol wneud ei waith a rhaid condemnio'n llwyr unrhyw ymdrechion i'w fygwth neu ei rwystro.

Ac mae dimensiwn peryclach fyth i ymyrraeth Donald Trump: ei alwad am ddadleoli poblogaeth gyfan Gaza drwy orfodaeth. Pan ddaw'r ymladd i ben, mae wedi cynnig y dylai Gaza fod yn eiddo i'r Unol Daleithiau, gyda'i 2.3 miliwn o drigolion yn cael eu gorfodi i adleoli i Wlad yr Iorddonen, i'r Aifft, ac ailddatblygu'r tir yn gyrchfan moethus—'rifiera'r dwyrain canol', fel y cafodd ei alw. Mae'n sôn am adsefydlu pobl fel pe na baent yn fodau dynol, fel pe na bai ganddynt hawl i'w tir eu hunain, i'w hanes eu hunain, eu dyfodol eu hunain. Ac mae hyn yn sarhaus eithriadol wrth gwrs, ond yn fwy na hynny mae'n alwad sy'n gyfystyr â glanhau ethnig, onid yw? Mae symud poblogaeth sifil drwy orfodaeth yn uniongyrchol groes i bedwerydd confensiwn Genefa, a byddai'n drosedd ryfel. Byddai fel ail Nakba, gan adlewyrchu'r glanhau ethnig a arweiniodd at droi bron i filiwn o Balestiniaid o'u cartrefi ym 1948.

Nid yw Palesteiniaid eisiau gadael eu tir, eu cartref. Nid yw pobl Gaza eisiau cael eu hadleoli; maent eisiau rhyddid. Rhaid i Lywodraeth y DU gondemnio'r cynigion hyn yn ddiamwys, a byddai unrhyw beth llai na hynny'n fethiant moesol a gwleidyddol. Rhaid i ni yn y Senedd wneud ein safbwynt yn gwbl glir, ein bod yn credu bod gan Balesteiniaid hawl i aros ar eu tir. Nid yw Gaza ar werth. Os yw'r argyfwng hwn wedi dangos unrhyw beth i ni, mae'n dangos bod dyletswydd ar bobl ym mhobman, ble bynnag y bônt, gan ein cynnwys ni yma yng Nghymru, i godi llais ac nid aros yn unig i eraill weithredu.

Dwi am droi cyn cloi, Dirprwy Lywydd, at y mater o gaffael a buddsoddiad yn y sector gyhoeddus, a'r alwad yng nghynnig Plaid Cymru i sicrhau nad oes yna gysylltiad rhwng y sector gyhoeddus a chwmnïau sy'n gyfrifol am fynd yn groes i hawliau dynol. Nid dim ond slogan ydy caffael moesol; mae o'n fater o sicrhau nad ydy arian cyhoeddus Cymru yn cyllido troseddau rhyfel. Ydy pensiynau'r sector gyhoeddus yn buddsoddi mewn cwmnïau arfau sy'n cyflenwi Israel? Oes yna gysylltiad efo cadwynau cyflenwi yng Nghymru a busnesau sy'n elwa o'r dinistr? Mae'n rhaid gofyn y cwestiynau yma, ac mae'n rhaid i Lywodraeth Prydain ddefnyddio ei ddylanwad mewn ffordd foesol, a ffordd sydd yn hybu heddwch. Dim mwy o allforio arfau; dim mwy o guddio y tu ôl i'r gwleidydda; dim mwy o gadw'n dawel. 

16:30

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Felly, wrth i filoedd yn Gaza barhau i fod yn dystion i farwolaeth a dinistr, ein neges ni ydy hyn: mae Cymru'n sefyll efo chi. Mae Cymru'n sefyll dros gyfiawnder. Mae Cymru'n sefyll o blaid rhoi terfyn ar y dioddefaint. A dwi'n atgoffa eto, rydym ni'n sefyll efo cymunedau Israelaidd a Phalestinaidd, Iddewig a Mwslimaidd, yma yng Nghymru. Llywydd, dwi'n annog Aelodau ar draws y Siambr hon i gefnogi cynnig Plaid Cymru, fel y gallwn ni rannu'r neges hon efo'r byd, a sefyll efo'n partneriaid yn rhyngwladol. [Cymeradwyaeth.]

Dwi wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Ac, os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol. Galw ar Paul Davies nawr i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 1—Paul Davies

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at farwolaethau sifiliaid diniwed Israel a Phalestina a'r effaith ddynol ddinistriol o ganlyniad i'r gwrthdaro yn Gaza yn dilyn ymosodiadau terfysgol dan arweiniad Hamas a chymryd gwystlon ar 7 Hydref 2023. 

2. Yn cefnogi ymdrechion i sicrhau bod cymorth dyngarol yn cael ei ddarparu ar frys i'r rhai mewn angen.

3. Yn ailddatgan cefnogaeth y Senedd i ryddhau'r holl wystlon sy'n weddill, sicrhau cadoediad parhaol, a chael datrysiad dwy wladwriaeth er mwyn sicrhau heddwch parhaol yn y rhanbarth.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Lywydd. Rwy’n falch o gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i. Rwy’n siŵr fod pob un ohonom yn gytûn yn ein condemniad o ddigwyddiadau echrydus 7 Hydref 2023, lle gwelsom oddeutu 1,200 o bobl yn cael eu lladd, a mwy na 250 o wystlon yn cael eu cymryd gan derfysgwyr Hamas. Dilynwyd yr ymosodiad hwnnw gan ymgyrch filwrol gan Israel yn Gaza, sydd wedi arwain at farwolaethau degau o filoedd o Balesteiniaid, llawer ohonynt yn sifiliaid diniwed. Mae nifer y bywydau a gollwyd yn dorcalonnus, ac mae pob un ohonom wedi clywed straeon am deuluoedd ar ddwy ochr y gwrthdaro, am y ffordd y mae eu bywydau wedi’u rhwygo gan y gwrthdaro hwn. Dyna pam fod angen cymryd camau i sicrhau bod y cadoediad hwn yn un parhaol.

Nawr, rwy'n siŵr fod pob un ohonom yn cydnabod bod y sefyllfa bresennol yn fregus, a bod angen gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr holl wystlon sy'n weddill yn cael eu rhyddhau. Wrth gwrs, mae rhai o’r gwystlon bellach wedi cael dychwelyd at eu hanwyliaid, ac rwy’n siŵr fod yr holl Aelodau wedi’u cyffwrdd, fel finnau, gan y lluniau o'r gwystl Prydeinig, Emily Damari, y cyfarfu ei mam, Mandy, ag arweinydd yr wrthblaid yn Tel Aviv y llynedd, yn cael ei rhyddhau ym mis Ionawr. Collodd Emily ddau fys ar ôl iddi gael ei saethu yn ei llaw pan gafodd ei herwgydio gan Hamas, ac rwy’n siŵr y bydd pob un ohonoch yn cytuno bod y ddelwedd o'i llaw sydd wedi’i newid yn barhaol wedi dod yn symbol o wytnwch a chryfder.

Rydym hefyd wedi gweld Eli Sharabi, mab yng nghyfraith Peter a Gillian Brisley o Ben-y-bont ar Ogwr, yn cael ei ryddhau. Pan gafodd ei ryddhau, roedd Eli yn wan a heb gael digon o faeth; nid oedd yn gwybod dim am dynged ei wraig, Lianne, a'u dwy ferch a oedd yn eu harddegau, a gafodd eu llofruddio'n greulon gan Hamas ar 7 Hydref. Dychmygwch ei boen wrth glywed y newydd hwnnw.

Fodd bynnag, er y cymerwyd rhai camau cadarnhaol tuag at heddwch ac mae rhai gwystlon wedi’u rhyddhau, mae’n rhaid inni gofio hefyd fod o leiaf wyth o wystlon na fyddant yn dod adref yn fyw, ac nid oes gennym unrhyw syniad o dynged ugeiniau o rai eraill. Dyna pam ein bod ni ar yr ochr hon i’r Siambr heddiw yn ailadrodd ein galwad ar Lywodraeth y DU i wneud popeth yn eu gallu, gyda phartneriaid, i wthio am fynediad dyngarol at y rhai sy’n dal i fod wedi'u dal yn wystlon. Credwn y dylai Llywodraeth y DU gynnig pa bynnag gymorth ymarferol y gall ei roi i hwyluso'r broses o ryddhau gwystlon yn ddidrafferth, a bydd ein cymheiriaid yn San Steffan yn parhau i wthio am hyn yn y Senedd.

Yma yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio i gefnogi elusennau’r Pwyllgor Argyfyngau Brys, ac rwy'n croesawu hynny’n fawr. Roedd datganiad Llywodraeth Cymru fis diwethaf yn ein hatgoffa bod oddeutu 1.8 miliwn o bobl yn Gaza yn wynebu prinder bwyd wrth i gyflenwadau ddod yn fwyfwy prin, a gwyddom hefyd fod llawer o bobl angen triniaeth a gofal meddygol. Mae'n gwbl briodol fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi elusennau'r Pwyllgor Argyfyngau Brys a'u partneriaid lleol i gynyddu faint o fwyd a chymorth brys arall y gallant ei ddarparu i Gaza. Mae’r sefydliadau hyn yn gallu cyrraedd mwy o deuluoedd mewn angen oherwydd y cymorth hwnnw, ac rwy’n siŵr fod pob un ohonom yn croesawu hynny.

Lywydd, rydym wedi galw am ddatrysiad dwy wladwriaeth, ac rydym yn parhau i annog arweinwyr Israel a Phalesteina i ddod at ei gilydd, gyda chefnogaeth y gymuned ryngwladol, i sicrhau hynny. Mae Amnest Rhyngwladol wedi dweud, yn gwbl briodol, fod oedi wedi bod o ran gweithredu diplomyddol a dim digon ohono, ac mae'n rhaid i hynny newid. Mae gan y gymuned ryngwladol gyfrifoldeb i sicrhau bod trafodaethau rhwng y ddwy ochr yn parhau, a hyderaf fod Llywodraeth y DU yn gwneud popeth yn ei gallu i annog y trafodaethau hynny. Mae cyfle pwysig i sicrhau bod y cadoediad hwn yn un parhaol, a dylai fod yn flaenoriaeth i bob Llywodraeth ryngwladol ddefnyddio’r ysgogiadau diplomyddol sydd ganddynt i hwyluso trafodaethau parhaus rhwng awdurdodau Israel a Phalesteina.

Ac yn olaf, Lywydd, mae gan Lywodraeth Cymru ran i'w chwarae yn cefnogi teuluoedd a chymunedau yng Nghymru sydd â chysylltiadau ag Israel a Phalesteina. Mae ystadegau diweddaraf y Swyddfa Gartref ar droseddau casineb yn dangos bod troseddau casineb crefyddol yng Nghymru a Lloegr wedi codi 25 y cant i’r lefelau uchaf erioed. Yn wir, mae’r adroddiad hwnnw’n datgan bod y cynnydd wedi’i ysgogi gan gynnydd mewn troseddau casineb yn erbyn pobl Iddewig a Mwslimaidd, a bod hynny wedi digwydd ers dechrau’r gwrthdaro rhwng Israel a Hamas. Ac felly mae'n rhaid i bob un ohonom wneud llawer o waith yma hefyd. Mae’n rhaid inni ddyblu ein hymdrechion i ddangos nad oes lle i gasineb crefyddol yma yng Nghymru.

Felly, i gloi, Lywydd, hoffwn ailadrodd y pwyntiau a wnaethom yn ein gwelliant, i gondemnio’r nifer enbyd o fywydau a gollwyd yn y gwrthdaro hwn, i gefnogi ymdrechion i sicrhau bod cymorth dyngarol yn cael ei ddarparu ar frys i’r rhai mewn angen, ac i ailddatgan eto ein cefnogaeth i ryddhau'r holl wystlon sy'n weddill, sicrhau cadoediad parhaol, a chael datrysiad dwy wladwriaeth er mwyn sicrhau heddwch parhaol yn y rhanbarth.

16:35

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol nawr i gynnig yn ffurfiol welliannau 2, 3 a 4.

Gwelliant 2—Jane Hutt

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:

safbwynt llywodraeth y DU bod rhaid i sifiliaid Palesteina allu dychwelyd i’w cartrefi ac ailadeiladu eu bywydau. 

Gwelliant 3—Jane Hutt

Dileu pwynt 2.

Gwelliant 4—Jane Hutt

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

i gefnogi rheolaeth y gyfraith a gwaith y Llys Troseddol Rhyngwladol.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3 a 4.

Member
Jane Hutt 16:37:39
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Yn ffurfiol.

Diolch, Lywydd. Ers nodi blwyddyn ers yr ymosodiadau erchyll ar ddinasyddion Israel gan Hamas ar 7 Hydref y llynedd, a’r gosb gyfunol anghyfreithlon a barbaraidd gan Lywodraeth Israel ar bobl Palesteina yn Gaza, rwyf wedi bod yn annog Llywodraeth Cymru i wneud datganiad neu gyflwyno dadl yn y Senedd ar y sefyllfa, sydd wedi newid ac wedi gwaethygu’n aruthrol ers i Blaid Cymru gyflwyno'r ddadl gyntaf yn y Senedd a ategodd ein galwadau am gadoediad ar y pryd. Ond rwyf wedi bod yn rhwystredig ac wedi fy siomi gan eu hamharodrwydd ers hynny i adlewyrchu neu ymateb i'r pryderon a leisiwyd ym mhob cymuned yng Nghymru am weithredoedd Llywodraeth Israel.

Ar dri achlysur, rwyf wedi cyflwyno cynigion, gyda chefnogaeth drawsbleidiol, i geisio sicrhau bod hynny’n digwydd. Dim ymateb, ac eithrio un datganiad ysgrifenedig, neu ddim ond pan gewch eich gwthio gan gwestiynau. Ni roddwyd unrhyw sylw i'r holl filoedd o ddinasyddion Cymru sydd wedi protestio yn erbyn y rhyfel yn Gaza ym mhob rhan o Gymru ac yma yn y Senedd. Mae Plaid Cymru nawr yn gwneud y cynnig hwn fel dadl wrthblaid am nad yw'r ymrwymiad a wnaeth y Llywodraeth mewn ymateb i gais am ddatganiad i

'ystyried y ffyrdd y gallwn ni drin a thrafod y sefyllfa yn Gaza, yn y Senedd hon,

wedi'i wireddu.

Er nad yw polisi tramor wedi’i ddatganoli, mae comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol wedi annog Llywodraeth Cymru i ddangos mwy o arweiniad ar y mater hwn. Yn ei lythyr at y Prif Weinidog, dywedodd y comisiynydd fod gan Lywodraeth Cymru gyfle i weithredu mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU er mwyn cynrychioli gwerthoedd Cymru ar y llwyfan rhyngwladol mewn perthynas ag ymosodiadau Israel ar bobl Gaza, yn unol â’i hymrwymiad statudol i fod yn genedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Ond nid yw’r Senedd wedi clywed ymateb llawn i’w alwadau, heb sôn am eu gweld yn cael eu derbyn. Ac mae pobl Cymru’n cofio na phetrusodd y Llywodraeth rhag lleisio’i barn ar wrthdaro diweddar arall, gan ailadrodd dro ar ôl tro ar y cofnod eu hundod pendant â phobl Wcráin yn wyneb ymosodiadau Putin. Ond ni chlywsom gondemnio Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, yn y fath fodd, er i'w luoedd droi cartrefi, busnesau, ysgolion, ysbytai a degau o filoedd o fenywod a phlant yn llwch. Mae adroddiadau'r Cenhedloedd Unedig yn dangos na laddwyd nifer uwch o blant mewn blwyddyn mewn unrhyw wrthdaro arall. Ble oedd y dicter ynghylch ymosodiadau Netanyahu? Ble oedd yr undod â phobl Palesteina?

Yna, cawsom y newyddion tyngedfennol a gobeithiol yn gynharach eleni fod cam cyntaf cadoediad wedi’i gytuno, ond eto, distawrwydd—nid oedd Llywodraeth Cymru yn barod i sicrhau bod llais ein cenedl yn cael ei glywed yn eirioli'n glir dros heddwch a chyfiawnder i bobl Palesteina, nawr ac yn y dyfodol, ar y pwynt hollbwysig hwn. Pam? Am nad yw Llywodraeth Cymru yn fodlon galw ar eu chwaer Lywodraeth Lafur yn San Steffan i roi’r gorau i werthu arfau i Israel, er bod hynny’n ofynnol o dan gyfraith ryngwladol. Dyna'r gwir amdani. Beth bynnag am roi 'plaid o flaen gwlad'; gwelsom roi 'plaid o flaen cyfraith ddyngarol ryngwladol', a dyna pam eu bod wedi dileu ail bwynt ein cynnig. Mae eich gwelliant yn datgan cefnogaeth i reolaeth y gyfraith. Ni allwch gefnogi rheolaeth y gyfraith os nad ydych yn fodlon condemnio cynigion Trump i ddiboblogi Gaza fel glanhau ethnig, gan fod y cynigion ffiaidd hynny'n amlwg yn groes i gyfraith ryngwladol.

Atgoffodd comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol Lywodraeth Cymru ynglŷn â’u cyfrifoldeb yn ei lythyr, ac fe’i hanogodd i gymryd camau brys, gan gynnwys eirioli dros roi’r gorau i werthu arfau, gan mai dim ond y cam cyntaf tuag at heddwch parhaol a chyfiawn yw’r cadoediad bregus presennol, ac mae'n rhaid ei gefnogi a’i warchod, ac mae hynny’n golygu atal gweithredoedd sy’n mynd yn groes i gyfraith ddyngarol ryngwladol, yn hytrach na chaniatáu i’r gwarchae, y goresgyniad a’r gorthrwm y mae pobl Palesteina yn ei wynebu barhau, ac mae gan Gymru ran i'w chwarae yn hynny. Dyna pam yr hoffwn glywed sut yn union y mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau ei bod wedi cymryd ac yn cymryd pob cam posibl o fewn ei chymhwysedd i sicrhau nad yw'n cyfrannu at droseddau rhyfel posibl drwy gysylltiadau, partneriaethau neu gyllid uniongyrchol neu anuniongyrchol. Dyna pam fod y cynnig yn galw am adolygiad llawn o drefniadau caffael a buddsoddiadau’r sector cyhoeddus. Mae’n rhaid inni sicrhau nad oes unrhyw arian cyhoeddus o Gymru, boed hynny drwy gontractau, buddsoddiadau neu bartneriaethau, yn cefnogi cwmnïau sy’n cyfrannu at weithgarwch neu oresgyniad milwrol anghyfreithlon. Mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth, mae Amnest Rhyngwladol Cymru wedi canfod nad yw Llywodraeth Cymru yn dilyn proses ddiwydrwydd dyladwy ar hawliau dynol. Felly, sut rydych chi'n sicrhau bod eich polisïau masnach a chaffael, eich cyllid a'ch partneriaethau yn cydymffurfio â chyfraith ryngwladol?

Yn olaf, Lywydd, hoffwn sôn am gymorth, gan fod peidio â rhoi'r cymorth hwnnw wedi chwarae rhan mor fawr yn y marwolaethau a’r dioddefaint a achoswyd yn anghyfreithlon i bobl ddiniwed Gaza. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru bellach wedi ychwanegu at eu rhodd i apêl dwyrain canol y Pwyllgor Argyfyngau Brys, fel bod y cyfanswm bellach yn £200,000. Fe wnaethoch chi roi £4 miliwn i apêl y Pwyllgor Argyfyngau Brys ar gyfer Wcráin. Rhaid eich bod yn gweld sut y mae hynny’n anfon neges anffodus i gymunedau yng Nghymru sydd â chysylltiadau â Phalesteiniaid Gaza. Felly, a wnewch chi ymrwymo rhagor o gymorth dyngarol i Gaza?

Hoffwn orffen gyda geiriau Eurgain Haf o Achub y Plant Cymru mewn erthygl ardderchog yng nghylchgrawn Barn:

'Er mwyn gofalu bod cymorth dyngarol yn gallu gwneud gwahaniaeth ac yn achub bywydau, bod sefydlogrwydd yn cael ei greu, bod heddwch yn bosibilrwydd real a bod atebolrwydd am droseddau yn erbyn plant, mae'n rhaid sicrhau bod y cadoediad yn un parhaol.'

Mae'n rhaid i Gymru chwarae ei rhan yn hynny. Diolch.

16:40

Fe wneuthum ganiatáu cymeradwyaeth yn dilyn yr araith agoriadol yn y ddadl hon. Nid oes gennym draddodiad, ac rwy'n awyddus iawn i osgoi datblygu traddodiad, o gymeradwyo areithiau amrywiol ac nid rhai eraill, felly os gallwn ganiatáu i’r ddadl barhau. Mae hon yn ddadl bwysig iawn, ac mae angen clywed lleisiau pawb yn y Siambr hon, a etholwyd gan bobl Cymru. Felly, gyda pharch, gofynnaf ichi beidio â chymeradwyo areithiau, os gwelwch yn dda. John Griffiths.

Diolch, Lywydd. Lywydd, mae gan y gwrthdaro ofnadwy diweddar yn Israel a thiriogaethau Palesteina hanes hir, wrth gwrs. Rwy’n mawr obeithio y bydd y cadoediad bregus iawn presennol yn para ac y gallwn weld cymorth dyngarol yn llifo i Gaza i helpu i leddfu rhywfaint o’r dioddefaint enfawr sydd wedi bod yn digwydd ac sy’n dal i ddigwydd yno, ac mae'n rhaid i’n holl ymdrechion ac ymdrechion rhyngwladol fynd tuag at sicrhau bod y cadoediad hwnnw’n dod yn barhaol a’n bod yn dechrau gweld ateb gwleidyddol i’r problemau hirsefydlog a’r dioddefaint ofnadwy diweddar a welsom yn ein cartrefi ar ein sgriniau teledu.

Lywydd, euthum i’r Lan Orllewinol dros 20 mlynedd yn ôl ac arhosais yn nwyrain Jerwsalem a theithiais i wahanol rannau o’r Lan Orllewinol, gan gynnwys Hebron a Ramallah, a gwelais yn uniongyrchol bryd hynny y wal wahanu’n cael ei hadeiladu, y siecbwyntiau, yr aneddiadau anghyfreithlon, yr anghydbwysedd mawr mewn cyfoeth a grym rhwng Israel a thiriogaethau meddianedig Palesteina a’r gormes a oedd yno bryd hynny ac sy'n dal yno nawr. Mewn rali a gorymdaith yng Nghasnewydd rai misoedd yn ôl, siaradodd y bardd o Gymro, Patrick Jones, am greulondeb y gormes, i’r rhai sy’n cael eu gormesu ond hefyd i'r rhai sy’n gormesu, a'r hyn y mae’n ei wneud i gymdeithas, i wladwriaeth ac i bobl, a’r trallod enfawr a ddaw yn ei sgil i bawb sydd yn y sefyllfa honno.

Ac rwy'n credu ein bod wedi gweld hynny, yr anghydbwysedd ofnadwy mewn grym milwrol, yn y gwrthdaro diweddar hwn a'r dinistr enfawr yn Gaza, y marwolaethau ofnadwy—menywod a phlant—y dinistr i'r seilwaith, y cyflenwad dŵr, y cyfleusterau meddygol, plant yn cael trychiadau heb anesthetig, fel y gwyddom, ar raddfa ofnadwy ac annirnadwy. Mae’r dioddefaint yn enfawr ac yn anodd ei ddeall, ac mae wedi’i ddogfennu gan y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol, y Llys Troseddol Rhyngwladol, Amnest Rhyngwladol, Human Rights Watch a Médecins Sans Frontières. Mae'r dystiolaeth yno, mae'n hil-laddol ei natur ac mae ar raddfa a lefel o annynoldeb nad ydym wedi'i gweld yn unman arall yn ddiweddar.

Yng ngoleuni hynny, fel y dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, António Guterres, Lywydd, ni ddylai’r un ohonom gadw'n dawel. A chredaf fod angen ymgyrch ryngwladol o foicotiau, dadfuddsoddi a sancsiynau arnom nawr. Rydym wedi gweld grym hynny mewn sefyllfaoedd rhyngwladol ofnadwy eraill dros lawer iawn o flynyddoedd, a dim ond y math hwnnw o ymdrech ryngwladol gyfunol a fydd yn rhoi’r math o bwysau y mae angen ei roi ar Israel i wneud rhywfaint o gynnydd ystyrlon o’r diwedd tuag at ddatrysiad dwy wladwriaeth neu ryw ddatrysiad arall sy’n dderbyniol i’r Palesteiniaid ac i Israel, i ddod â'r trallod a’r dioddefaint i ben o'r diwedd. Fel arall, Lywydd, byddwn yn gweld y gwrthdaro hwn yn ailgynnau dro ar ôl tro.

Ac a gaf i ddweud fy mod yn croesawu rhai o welliannau Llywodraeth Cymru yma heddiw, Lywydd? Cymorth dyngarol pellach, gan adeiladu ar y £200,000 a roddwyd i apêl y Pwyllgor Argyfyngau Brys eisoes—mae angen inni weld llawer mwy, ac rwy'n gobeithio y daw—ac adolygiad o bolisi caffael a buddsoddi yn ein sector cyhoeddus yma yng Nghymru. Mae’r rhain yn gamau i’w croesawu, ond yn amlwg, mae angen llawer mwy arnom, ac fel y dywedais, yr hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw dod at ein gilydd ar sail ryngwladol o amgylch y rhaglen honno o foicotiau, dadfuddsoddi a sancsiynau, a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae wedi gwneud gwahaniaeth mewn sefyllfaoedd rhyngwladol a oedd yn ymddangos yn amhosibl eu datrys, a gall wneud gwahaniaeth yn y dwyrain canol hefyd.

16:45

Nid rhyw wrthdaro tramor estron annelwig nad oes a wnelo dim â Chymru yw'r rhyfel yn Gaza. Mae gan lawer o’n dinasyddion gysylltiadau uniongyrchol â’r rhanbarth ac maent wedi dioddef colledion trychinebus. Clywodd llawer ohonom yr hanes dirdynnol gan Gillian a Pete Brisley o Ben-y-bont ar Ogwr, a soniodd am y boen o golli eu merch a’u hwyrion yn yr ymosodiadau ar 7 Hydref. Yn y digwyddiad yn y Senedd a noddais, clywsom gan un o feddygon y GIG a anwyd ym Mhalesteina, ac sydd bellach yn gweithio ac yn byw yn Abertawe. Wylodd wrth sôn am y 60 a mwy o aelodau o'i deulu a oedd eisoes wedi marw. Roedd yn dal i bryderu am ei rieni oedrannus, a oedd yn symud o un ardal i'r llall, yn ceisio ymochel rhag bomiau o'r awyr gyda dim ond pabell yn lloches.

Ond mae'r gwrthdaro wedi cyffwrdd â miloedd lawer o'n dinasyddion nad oes ganddynt unrhyw gysylltiadau teuluol â'r rhanbarth. Mae hynny wedi bod yn glir ar y nifer o orymdeithiau, gwrthdystiadau a gwylnosau a fynychais. Mae datgysylltiad mawr rhwng yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn Gaza a’r diffyg condemniad gan y gymuned ryngwladol. Mae datgysylltiad hefyd rhwng barn miloedd o bobl yng Nghymru a diffyg gweithredu’r Llywodraeth Lafur hon. Mae cydlyniant cymunedol, y cysylltiad cyffredin sydd gan bobl o fewn eu cymuned, yn bwysig, ac fel y gŵyr pob un ohonom, mae Cymru yn sicr yn gymuned o gymunedau. Mae’r her o sicrhau cymunedau cytûn, cydlynol gymaint yn fwy pan fo’r rhai ar y dde eithafol sy’n ceisio creu ymraniad a chasineb yn ein gwlad yn cael eu hariannu a'u trefnu’n well ac yn well, a heb unrhyw fath o gywilydd.

Y weledigaeth sydd gennyf i, a’r weledigaeth sydd wedi bod gan Blaid Cymru erioed, yw cymunedau lle caiff pawb eu trin yn gyfartal, gyda pharch, goddefgarwch a dyngarwch, ni waeth beth y bo’u cefndir na’u crefydd. Yn sicr, nid ydym yno eto, gan fod cymaint o ragfarn yn dal i fodoli yn ein cymdeithas. Ond cefais gipolwg ar hyn, o'r hyn sy'n bosibl, yn nigwyddiad y cyngor rhyng-ffydd yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd ddydd Iau diwethaf. Yno, cawsom bobl o gymunedau ffydd ledled Cymru yn ymgasglu o dan yr un to, gyda’r nod o sicrhau dealltwriaeth bellach ac undod ymhlith ei gilydd. Gofynnwyd inni ddisgrifio byd heddychlon: sut olwg a fyddai arno, sut y byddai'n swnio, sut y byddai'n teimlo? Yr hyn a ddisgrifiwyd oedd cymunedau'n byw'n gytûn mewn heddwch, boed hynny yma yng Nghymru, ym Mhalesteina, yn Wcráin neu unrhyw ran arall o’r byd lle ceir rhyfel. Dyna'r wobr, ond ni allwn ei hennill oni bai ein bod yn trin pawb yn gyfartal. Felly, i’r perwyl hwnnw, mae’n rhaid i’r Llywodraeth hon hefyd ymateb i ymosodiadau rhyngwladol yn gyfartal ac yn unol â dyfarniadau llysoedd rhyngwladol uchel eu parch.

Mae’r cynnig ffiaidd ar gyfer dyfodol Gaza o'r ochr draw i'r Iwerydd yn enghraifft wych. Dylai'r Llywodraeth hon ei gondemnio yn y ffordd y mae’n ei haeddu. Mae geiriau Trump yn beryglus. Maent yn rhoi pwys i'r lleisiau mwyaf eithafol yn Llywodraeth Israel sydd eisoes wedi sôn am gael gwared ar y Palesteiniaid o Gaza yn barhaol. Maent yn grymuso'r rheini sydd am ddileu hunaniaeth Palesteina, y rheini sydd am gyfeddiannu a gwladychu tir nad yw'n perthyn iddynt. A gadewch inni fod yn glir, nid heddwch yw hynny. Ni allwch gael heddwch pan wrthodir hawliau un grŵp o bobl yn llwyr. Ni allwch gael sefydlogrwydd os mai'r ateb honedig yw alltudio'r dioddefwyr yn hytrach na dwyn y cyflawnwyr i gyfrif. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU wrthod y rhethreg warthus hon yn llwyr. Mae'n rhaid iddi gondemnio pob galwad am ddadleoli gorfodol, a mynnu bod y gymuned ryngwladol yn diogelu hawliau Palesteiniaid i aros ar eu tir. Mae unrhyw beth llai na hynny'n gyfystyr â chefnogaeth. Ac fel Senedd, mae’n rhaid inni fynnu bod Llywodraeth Cymru yn datgan yn glir ei gwrthwynebiad i'r cynigion peryglus hynny ac yn parhau i sefyll dros gyfiawnder, hawliau dynol a hunanbenderfyniaeth, gan fod Gaza yn perthyn i'w phobl; nid yw ar werth.

16:50

Yr wythnos diwethaf, mynegodd gweithwyr meddygol proffesiynol o bob rhan o’r byd mewn cyfarfod yn Genefa bryderon ynghylch lleoliad Dr Hussam Abu Safiyya, cyfarwyddwr ysbyty Kamal Adwan yn Gaza. Soniaf am hyn am fod un o fy etholwyr wedi gofyn imi dynnu sylw ato, oherwydd ei rôl yn ceisio cynnal yr ysbyty gweithredol olaf yng ngogledd Gaza, a gafodd ei fomio a’i roi ar dân dros y Nadolig gan lu amddiffyn Israel. Ffodd yr holl bersonél meddygol, ond arhosodd Dr Abu Safiyya i geisio cynnal rhyw fath o bresenoldeb meddygol i'r boblogaeth sy'n dal i fod yn yr ardal. Felly, cafodd ei herwgydio gan Lu Amddiffyn Israel ar 27 Rhagfyr, yn ôl yr hyn a ddywedir wrthym, ac roedd dicter mawr ymhlith gweithwyr gofal iechyd, sy'n ei ystyried yn waethygiad difrifol yn yr hyn y maent wedi bod yn ei deimlo drwy gydol y gwrthdaro hwn: fod gweithwyr meddygol proffesiynol yn Gaza yn cael eu targedu'n systematig. Nid oes unrhyw dystiolaeth wedi'i darparu bod yr ysbytai'n cael eu defnyddio gan derfysgwyr Hamas. Dim. Mae'n ymddangos mai'r hyn sydd wedi bod yn digwydd yw dyhead i ddileu'r holl adeiladau sydd o unrhyw ddefnydd i bobl Gaza.

Dywedir wrthym, ac adroddwyd ar CNN, fod Abu Safiyya wedi'i ddwyn i lys heb roi gwybod i gyfreithiwr a heb bresenoldeb cyfreithiwr er mwyn i fyddin Israel ymestyn ei gyfnod cadw tan ddydd Iau yr wythnos diwethaf, ond nid oes gennyf unrhyw syniad beth sydd wedi digwydd iddo. Y rheswm pam fod hwn yn cael ei ystyried yn fater mor ddifrifol yw am fod gweithwyr meddygol proffesiynol yn ofni y bydd yn wynebu tynged debyg i unigolyn arall, Dr Adnan al-Bursh, a oedd yn llawfeddyg orthopedig amlwg a fu farw yn y ddalfa yn Israel 10 mis yn ôl, bedwar mis ar ôl iddo gael ei arestio yn ystod ymosodiad tir byddin Israel ar wersyll ffoaduriaid Jabalia. Felly, sefyllfa debyg iawn.

Cefais sioc fawr wrth dderbyn dolen yn ddiweddar iawn i wefan o'r enw Hamakom news, gwefan Hebraeg, sy'n golygu, 'Y lle poethaf yn uffern'. Roedd yn cynnwys adroddiad am gwpl oedrannus yn eu 80au a gafodd eu gorfodi i glirio bomiau heb ffrwydro o gymdogaeth Zeitoun yn Ninas Gaza. Gan ei fod yn Hebraeg, rwy'n tybio ei fod yn hygyrch i boblogaeth Israel a Phalesteina sy'n siarad Hebraeg. Dywedir bod y dyn anhysbys a'i wraig wedi'u saethu yn fuan ar ôl i lun troffi gael ei dynnu ohono ef gan y rhai a'i cipiodd. Nawr, mae hyn, yn amlwg, yn enghraifft gwbl glir o drosedd rhyfel, ac yn un y mae angen inni fynnu ymchwiliad iddi os daw heddwch parhaol i Israel a Phalesteina.

Mae'n anodd iawn i bawb ohonom ddeall beth yn union sy'n digwydd. Pan gyfarfûm â'r bobl wych a ddaeth i ymweld â ni dair wythnos yn ôl, dadleuodd siaradwyr Israelaidd a Phalesteinaidd yn gryf na ddaw atebion o ragor o ymladd. Gellir olrhain y problemau hyn yn ôl i dros 100 mlynedd yn ôl pan benderfynodd datganiad Balfour, a wnaed gan Lywodraeth Prydain, yn sydyn fod yr Israeliaid i gael lle i sefydlu ym Mhalesteina, ac arweiniodd hynny wedyn at wrthdaro mewn nifer o fannau dros dir. Ac nid oes cytundeb o hyd ynghylch sut y mae sicrhau bod Jerwsalem, sy'n ddinas ganolog i dair crefydd fawr, ar gael i bawb sy'n dymuno addoli yno.

Mae’n rhaid inni gefnogi ymdrechion pawb sy’n ceisio pontio’r gagendor rhwng y ddwy gymuned er mwyn galluogi Israeliaid a Phalesteiniaid i fyw mewn heddwch. Ni fyddwn yn gwneud hynny drwy gystwyo Llywodraeth Cymru, sydd, a dweud y gwir, â rhan fach iawn i’w chwarae yn hyn oll. Mae’n rhaid inni sicrhau y cedwir at ewyllys y Cenhedloedd Unedig, sef y dylai fod dwy wladwriaeth ochr yn ochr â’i gilydd. Rhaid inni wneud mwy i hyrwyddo’r datrysiad hwnnw, ac a dweud y gwir, byddwn wedi meddwl y byddai bron bawb yng Nghymru yn cytuno â’r pwyntiau ym mhwynt 2 yng nghynnig Plaid Cymru. Ond mae’n rhaid inni adeiladu consensws ymhlith ein cymunedau ein hunain, y mae gan lawer ohonynt gysylltiadau ag Israel a Phalesteina, er mwyn sicrhau eu bod hwythau hefyd wedi ymrwymo i ddatrysiad dwy wladwriaeth, fel gweddill y DU yn ogystal â gweddill Ewrop. Nid ydym yn mynd i gael unrhyw ddylanwad dros yr hyn y mae’r Arlywydd Trump yn mynd i’w wneud, oherwydd, a dweud y gwir, mae’n unigolyn gweithrediadol sydd ond â diddordeb yn ei fuddiannau ei hun a buddiannau ymddangosiadol yr Unol Daleithiau—[Torri ar draws.] Nid wyf yn credu y bydd hynny’n bosibl, gallaf weld y cloc.

Felly, yn sicr, rwy'n credu bod gennym ddyletswydd foesol i ddweud bod yn rhaid cadw at reolaeth y gyfraith, ond ni chredaf y dylem orfod—. Ni ddylem fod yn cweryla â'n gilydd, dylem fod yn unedig i sicrhau y gallwn wneud ein gorau glas a chael cymaint o ddylanwad ag y gallwn.

17:00

Mae’n anodd dirnad yr erchyllterau sydd wedi bod dros y 469 diwrnod, fel yr oedd Rhun yn ein hatgoffa ni, ers inni gael trafodaeth lawn ddiwethaf ar lawr y Senedd hon—y degau o filoedd sydd wedi eu lladd, y teuluoedd, yr isadeiledd, y cymunedau a'r cymdogaethau sydd wedi eu dinistrio’n llwyr. Mae bywydau’r rhai sydd wedi goroesi wedi eu trawsnewid am byth, gyda miliwn o blant yn Gaza angen cymorth ar frys, nid yn unig o ran yr anafiadau, ond o ran eu hiechyd meddwl, wedi dioddef trawma na ddylai neb fyth ei wynebu.

All neb ohonom ni, chwaith, ddweud nad oeddem ni'n ymwybodol o’r hyn oedd yn digwydd; mae’r cyfan wedi ei ddarlledu’n uniongyrchol i’n ffonau, i’n sgriniau teledu ac i'n cyfrifiaduron. Ac mi hoffwn ategu sylwadau Sioned Williams am y ffaith ein bod ni mor siomedig ein bod ni ddim wedi gallu cael cytundeb trawsbleidiol ar fater lle y gallem ni ac y dylem ni fod yn unedig. Dylem ni ddim bod mewn lle lle dŷn ni ddim yn gallu cytuno, wedi gweld yr erchyllterau drosom ni ein hunain.

Heledd, allaf i jest ddweud, fe gawson ni gytundeb trawsbleidiol; mi oedd lot o'r cynigion a oedd wedi'u rhoi gerbron wedi'u harwyddo'n drawsbleidiol—pob plaid ar un ohonyn nhw yn y Senedd yma? Y Llywodraeth oedd ddim yn cytuno.

A dyna lle mae angen arweiniad. Mae yna rai Llywodraethau, megis yn Iwerddon, sy'n fodlon rhoi'r arweiniad hwnnw, ac mae llais pob Senedd yn cyfrif.

Mi oedd Sioned Williams yn berffaith iawn i ddweud nad pawb oedd wedi anghofio na throi llygad ddall. A hoffwn innau hefyd dalu teyrnged i bawb yng Nghymru a thu hwnt sydd wedi peidio â gadael i hyn fynd yn angof, ac sydd wedi ymgyrchu'n gyson, ymhob tywydd, i godi ymwybyddiaeth a phigo cydwybod y rhai sydd wedi bod yn rhy dawedog. Mae briffiadau rheolaidd Oxfam Cymru wedi bod yn arbennig o bwerus, ynghyd â’r holl wylnosau a chyfarfodydd sydd wedi bod ledled Cymru, gan gynnwys y tu allan i’r Senedd hon.

Nid yw'r erchyllterau a gyflawnwyd yn Gaza wedi digwydd mewn gwactod; maent wedi digwydd o flaen llygaid y gymuned ryngwladol, gyda Llywodraethau'r gorllewin naill ai'n troi llygad dall neu'n mynd ati i'w galluogi. A nawr, pan fo cyfiawnder o fewn cyrraedd o'r diwedd, gwelwn rymoedd pwerus yn ceisio ei drechu. Ymosodir ar y Llys Troseddol Rhyngwladol, yr unig gorff sy'n gallu dwyn troseddwyr rhyfel i gyfrif. Ac unwaith eto, Donald Trump sy'n arwain yr ymosodiad hwnnw—Trump yn bygwth sancsiynu'r Llys Troseddol Rhyngwladol os yw'n meiddio ymchwilio i droseddau rhyfel Israelaidd. Mae wedi galw ar ei farnwyr a'i erlynwyr i wynebu cosb, yn union fel y gwnaeth yn 2020 pan ymchwiliodd y llys i droseddau rhyfel yr Unol Daleithiau yn Affganistan. Mae wedi ei gwneud yn glir fod rhai gwledydd uwchlaw'r gyfraith yn ei farn ef. Mae hwn yn ymosodiad uniongyrchol ar yr union gysyniad o gyfiawnder rhyngwladol. Mae'n ymgais i fwlio a dychryn corff cyfreithiol a ffurfiwyd yn bwrpasol ar gyfer dal troseddwyr rhyfel, o ba genedl bynnag, yn atebol am eu gweithredoedd. A gadewch inni fod yn glir, os caniatawn i un genedl gael ei gwarchod rhag erlyniad, rydym yn dweud mai dim ond i rai y mae cyfraith ryngwladol yn gymwys.

Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU wrthod y bygythiadau hyn yn ddigamsyniol. Mae'n rhaid iddi amddiffyn annibyniaeth y Llys Troseddol Rhyngwladol a'i allu i ymchwilio i droseddau rhyfel lle bynnag y digwyddant. Ni all barhau i honni ei bod yn cefnogi cyfiawnder yn Wcráin a'i danseilio ym Mhalesteina ar yr un pryd. Ac eto, nid yn unig y mae Llywodraeth y DU wedi aros yn ddistaw, mae wedi cymryd rhan yn hyn. Mae wedi gwrthod cefnogi ymchwiliadau'r Llys Troseddol Rhyngwladol. Mae wedi parhau i werthu arfau i Israel er gwaethaf tystiolaeth ysgubol fod yr arfau hyn yn cael eu defnyddio i gyflawni troseddau rhyfel.

Rhaid i Lywodraeth Cymru wneud safiad. Ni allwn ni yng Nghymru honni ein bod yn cynnal hawliau dynol gan aros yn dawel yn wyneb yr erchyllterau hyn. Rhaid i'r Senedd alw ar Lywodraeth Cymru, drwy gefnogi ein cynnig heddiw, i gefnogi ymchwiliadau'r Llys Troseddol Rhyngwladol yn gyhoeddus a chondemnio unrhyw ymdrechion i danseilio cyfiawnder rhyngwladol; torri pob cysylltiad â gweithgynhyrchwyr arfau sy'n cyfrannu at yr ymosodiad ar Gaza a gweithio i sicrhau nad yw Cymru'n chwarae unrhyw ran yn hwyluso troseddau rhyfel; ac adfer a chynyddu cyllid ar gyfer asiantaethau dyngarol sy'n gweithio yn Gaza, gan gynnwys Asiantaeth Cymorth a Gwaith y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ffoaduriaid Palesteina.

Yn ogystal, rhaid inni ddefnyddio llais Cymru i wthio am roi diwedd ar werthu arfau o'r DU i Israel, ac am safiad cryfach gan Lywodraeth y DU. Oherwydd heb atebolrwydd, nid oes unrhyw ataliaeth. Heb gyfiawnder, nid oes unrhyw heddwch. A heb weithredu, nid yw'r holl eiriau cynnes am hawliau dynol yn golygu dim.

17:05

Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. O ystyried natur fregus y cadoediad yn Gaza a graddfa erchyll y lladd a'r dinistr y caniatawyd iddo gael ei gyflawni heb ei gosbi am lawer rhy hir, mae'n hanfodol yn foesol fod y Senedd hon yn ailddatgan yn y termau cryfaf posibl ei chefnogaeth i heddwch parhaol yn y dwyrain canol. Rwy'n falch fod y cynnig hefyd yn gofyn i ni ymuno â'r alwad i'r rhai sydd wedi bod yn gyfrifol am gyflawni'r troseddau mwyaf difrifol yn erbyn dynoliaeth gael eu dwyn i gyfrif am eu gweithredoedd.

Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dwy rodd ar ddau achlysur gwahanol, cyfanswm o £200,000, i apêl ddyngarol y dwyrain canol y Pwyllgor Argyfyngau Brys. Ac rwy'n gwybod bod ein Prif Weinidog, Eluned Morgan, mewn cyfweliad diweddar gyda The Guardian, wedi dweud pe bai'n fenyw ifanc eto, y byddai hi eisiau mynd allan i helpu i ail-greu Gaza o rwbel y gwrthdaro. Felly, gwn y bydd Llywodraeth Cymru yn awyddus i gynorthwyo mewn unrhyw ffordd y gall yn y dasg anferthol hon.

Mae Amnest Rhyngwladol yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau ar unwaith i roi'r gorau i gaffael gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru gan gwmnïau sy'n gwneud busnes mewn aneddiadau Israelaidd yn nhiriogaethau meddianedig Palesteina, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn rhywbeth sy'n cael ei ystyried. Mae'r cadoediad, er mor fregus, wedi dod â seibiant calonogol rhag erchyllterau'r gwrthdaro, gyda Phalesteiniaid yn gallu dychwelyd i'w trefi a gwystlon a charcharorion o'r diwedd yn cael eu haduno â'u teuluoedd. Ond mae maint yr her o sicrhau heddwch ac ailadeiladu Gaza yn golygu bod gofyn i bob un ohonom chwarae rhan, ni waeth pa mor fach, i oresgyn yr her honno. Mae arnom angen datrysiad dwy wladwriaeth i sicrhau heddwch parhaol i'r rhanbarth. Ac fel y nodais yn gynharach, mae Cymru a'n Llywodraeth, gyda chefnogaeth yr Aelodau ar draws y Siambr hon, eisoes wedi cymryd camau calonogol i gyflawni ein cyfrifoldeb moesol. Ond rwy'n gobeithio y gall hyn barhau i symud ymlaen. Diolch.

Mae’r anfadwaith sydd wedi amlygu ei hun yn Gaza dros y flwyddyn a hanner diwethaf wedi profi i fod yn ddigwyddiad seminal. Mae’n rhyfel sydd wedi ein gorfodi ni bob un i astudio a dod i adnabod ein dynoliaeth a mynnu atebion.

Rŵan, nid honni ydw i yma fod un ochr yn iawn a’r ochr arall yn anghywir, fod cyfiawnder ar ochr un ac anghyfiawnder ar yr ochr arall. Roedd gweithredoedd Hamas ar 7 Hydref 2023 yn ddrwg—drwg yn yr ystyr Saesneg o 'evil'. Roedden nhw’n ddrwg, yn 'evil', hynny ydy, yn yr un modd ag yr oedd lladd 8,000 o Balesteiniaid gan wladwriaeth Israel yn ystod y ddeng mlynedd flaenorol yn ddrwg. Ond wedyn, wrth gwrs ei fod o’n ddrwg; pan fo rhywun yn penderfynu mai lladd pobl ydy’r ateb i unrhyw gwestiwn, yna dyna ydy’r diffiniad o 'ddrwg', o 'evil', oherwydd does yna ddim cyfiawnhad dros ladd. Os mai lladd ydy’r ateb, yna mae angen ailfframio’r cwestiwn yn llwyr.

Ond mae’n seminal oherwydd ein penderfyniad ar sut i ymateb i adwaith ffyrnig gwladwriaeth Israel yn erbyn pobl dlawd, a’r rhelyw ohonyn nhw yn blant. Amcangyfrifir fod gwladwriaeth Israel wedi gollwng tua 85,000 tunnell o fomiau ar Gaza, bron bum gwaith yn fwy na faint o fomiau a ollyngwyd ar Lundain adeg y Blitz. Dyma ichi lain o dir sydd hanner maint Ynys Môn, a chyda bron yr un boblogaeth â Chymru.

O’r bomio a’r ymosodiadau tir, dinistriwyd ysbytai, ysgolion, cartrefi, ffermydd a phob dim arall, gan arwain at nifer uchel iawn o farwolaethau. Mae’n anodd cael y ffigur cywir—amhosib i gael y ffigur cywir, o bosib—oherwydd yr amcangyfrifir fod degau o filoedd o’r meirw yn dal yn gorwedd o dan y rwbel a’r dinistr.

Fe gyhoeddodd y Lancet adroddiad ym mis Mehefin y flwyddyn ddiwethaf yn amcangyfrif bod bron i 190,000 o bobl wedi cael eu lladd, ac eraill yn amcangyfrif bod y nifer go iawn erbyn hyn dros 300,000 o farwolaethau. Gyda bod hanner y boblogaeth o dan 18, mi allwn ni fod yn sicr bod canran uchel o’r rhai hynny yn blant—plant oedd gyda bywydau o’u blaenau; plant a fedrai wedi helpu i adeiladu a chreu cymdeithas newydd, perthnasau newydd, byd newydd; plant a gollodd eu gallu i chwarae, y gallu i chwerthin, gan adael gwacter tawel, tywyll ar eu hôl, gwacter y genhedlaeth sydd yn byw bellach—os mai 'byw' ydy'r gair; bodoli maen nhw'n ei wneud—gyda thrawma a chreithiau mor ddyfn fel y bydd yn bwydo yr awydd am ddial, ac arwain at genhedlaeth newydd o dollti gwaed ymhen blynyddoedd i ddod.

Ac mae’r niferoedd o farwolaethau yn uchel oherwydd ein bod ni’n gwybod bod cymdeithas wedi torri i lawr yn llwyr yno. Does yna ddim gofal meddygol, does yna ddim bwyd na maeth, mae pibellau dŵr wedi torri ac ychydig iawn o ddŵr glân sydd yno, heb sôn am offer trin carthffosiaeth ac elfennau creiddiol eraill. Rydym yn gweld polio yn ymddangos yn Gaza unwaith eto, ac mae pobl yn marw o newyn. Ac roedd pob un o’r bywydau yna yn werthfawr, a phob un yn cael ei garu.

Mae hyn oll wedi digwydd o flaen ein llygaid—ar y sgriniau teledu, ar ein gliniaduron, ar ein ffonau symudol. Y gofid, y dioddefaint, y boen, a'r cwestiwn yw: sut y mae ymateb yn wyneb yr holl boen? A yw ein hymateb i estyn llaw o gariad a chyfeillgarwch yn dangos ein dynoliaeth, neu a yw'n caniatáu mwy o fomiau, mwy o ddioddefaint, mwy o ladd? Ydy, mae'n gywir dweud bod y mwyafrif helaeth o'r arfau a gyflenwir ar gyfer y bomio torfol diwahân wedi dod o'r Unol Daleithiau, ond cawsant eu gollwng o F-35s, gyda chydrannau allweddol wedi'u hadeiladu a'u cyflenwi yma yn y DU, ymhlith nifer o gydrannau allweddol eraill y gwahanol arfau a ddefnyddir mor ysgeler ar ysbytai, ysgolion a thai, yn erbyn menywod, plant a'r henoed—arfau a ddatblygwyd yn unswydd ar gyfer lladd. Mae Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn gartref i 160 o gwmnïau yn y sector amddiffyn, gydag arbenigeddau mewn gweithgynhyrchu arfau, meddalwedd a thechnoleg dronau, y bydd llawer ohonynt wedi'u defnyddio i ladd, a phob un yn arwain at ddinistr, gyda sefydliadau hawliau dynol yn galw'r rhain yn droseddau rhyfel.

Rwy'n ofni nad yw'r lladdfa drosodd. Oes, mae yna saib—fe allai fod yn saib byr neu fe allai fod yn saib hir—ond mae hanes yn dysgu i ni y bydd y tywallt gwaed yn parhau, oherwydd mae rhai'n credu mewn llygad am lygad ac ni fyddant byth yn caru eu gelynion.

17:10

Un sylw terfynol. Felly, mae'r cwestiwn yn aros i ni ac yn cael ei ofyn yn y cynnig hwn: a ydym yn caniatáu gwerthu arfau fel y gall rhai arllwys tân o'r nefoedd i'w difa, neu a ydym yn dewis peidio â dinistrio pobl, a'u hachub yn lle hynny? Shalom, Salam, heddwch.

Rydym yn aml yn cymharu lleoedd â maint Cymru. Wel, mae Gaza yn 141 milltir sgwâr, llai na'r pellter o Gaerfyrddin i Abertawe o ran hyd, a lled canol dinas Abertawe i'r Mwmbwls. Ardal fach yw hon. Mae llawer o arbenigwyr Beiblaidd yn ystyried Gaza fel y llwybr a ddilynodd Iesu, Mair a Joseff i gyrraedd yr Aifft o Bethlehem. Rwy'n meddwl ei bod hi'n anffodus iawn ein bod yn mynd i ymrannu ar bleidlais heddiw. Byddai wedi bod cymaint yn well—ac rwy'n dweud hyn wrth arweinydd Plaid Cymru ac eraill—pe byddem wedi cael cynnig wedi'i gytuno rhwng y tair plaid.

Rwyf wedi bod yn ceisio cael cynnig wedi'i gytuno ers misoedd. A wnaethoch chi wrando ar fy nghyfraniad, Mike?

Felly, byddech wedi deall. Pam dweud yr hyn rydych chi'n ei ddweud? 

Oherwydd rwy'n credu ei fod—. Nid wyf yn eich beio chi. Dywedais ei fod yn anffodus ac rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o'r bobl ar wahân i'ch meinciau chi hefyd yn ei ddisgrifio fel rhywbeth anffodus. Rwy'n siŵr na weloch chi fawr ddim i anghytuno ag ef yn sylwadau Paul Davies.

A gaf i barhau drwy ddweud fy mod yn condemnio ymosodiad Hamas ar sifiliaid Israel ym mis Hydref 2023, gan gynnwys llofruddiaeth sifiliaid a chymryd gwystlon? Roedd yn gythrudd diangen. Ac fel y dywedodd Mabon nawr, roedd yn weithred ddrwg ('evil')—ac nid wyf yn meddwl ein bod ni'n defnyddio'r gair evil yn ddigon aml pan fyddwn ni'n siarad am yr hyn sy'n digwydd yno. Rwyf hefyd yn condemnio ymateb milwrol Israel, a arweiniodd at fwy na 60,000 o farwolaethau Palesteinaidd a gadael miliynau o sifiliaid yn Gaza mewn angen brys am gymorth dyngarol. Mae arnom angen cadoediad parhaol, mynediad dyngarol llawn i sefydliadau cymorth, dychwelyd gwystlon a rhyddhau pob carcharor gwleidyddol.

Mae llawer y gall gwledydd eraill ei wneud. Gall yr Aifft agor ei ffiniau i ganiatáu mynediad i ffoaduriaid. Gall Saudi Arabia a'r Emiraethau Arabaidd Unedig werthu bondiau Americanaidd a pheidio â phrynu bondiau Americanaidd. Gallant werthu doleri'r Unol Daleithiau a'u troi'n ewros neu bunnoedd sterling. Peidiwch â phrynu mwy o ddoleri'r Unol Daleithiau. Fe all ac fe ddylai gwledydd eraill wneud yr un peth, gan ymateb i weithred yr Unol Daleithiau mewn modd y bydd yr arlywydd presennol yn ei ddeall: bydd yn achosi problemau ariannol iddynt.

Rhaid inni gondemnio cynnig yr Arlywydd Trump i ddiboblogi Gaza a glanhau ethnig, ac mae angen inni gefnogi'r cymunedau yng Nghymru sydd â chysylltiadau Palesteinaidd ac Israelaidd. Fel rhywun y mae ei nith yn briod â rhywun o gefndir Israelaidd, rwy'n deall pa mor frawychus ac anodd y gall fod i'w cymuned. Mae angen inni gydnabod gwladwriaeth Palesteina—mae 146 o aelod-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig wedi gwneud hynny, pam nad ydym ni? Gan fod gennym faner Wcráin y tu allan i adeilad y Senedd, dylem chwifio baner Palesteina i ddangos ein cefnogaeth.

Mae o leiaf 19,000 o blant amddifad yn Gaza a miloedd sydd wedi colli un rhiant. Mae o leiaf 28,000 o Balesteiniaid wedi cael eu lladd yn Gaza, gan gynnwys 11,500 o blant. Mae gan Gaza fwy o blant nag unrhyw le arall bron, gyda bron i hanner ei phoblogaeth o dan 18 oed. Mae holl blant Gaza wedi bod yn agored i brofiadau trawmatig rhyfel, gan arwain at ganlyniadau hirhoedlog. Mae tua 1.9 miliwn o bobl yn Gaza, a'u hanner yn blant, wedi cael eu dadleoli'n fewnol ac nid oes ganddynt fynediad at yr angenrheidiau sylfaenol, fel dŵr, bwyd, tanwydd a meddyginiaeth.

Mewn adroddiad gan y BBC yr wythnos diwethaf:

'Mae Zakaria yn 11 oed'—

hynny yw, oedran diwedd yr ysgol gynradd—

'ac mae'n byw yn Gaza. Mae'n credu ei fod wedi gweld miloedd o gyrff ers dechrau'r rhyfel. Ond ar oedran pan fo plant i'w gweld fel arfer mewn ystafell ddosbarth, mae Zakaria yn gwirfoddoli yn un o'r ychydig ysbytai sy'n weithredol yn Gaza—al-Aqsa.

'Wrth i gyfres o ambiwlansys sy'n cludo dioddefwyr y rhyfel rhwng Israel a Hamas dynnu i fyny y tu allan i'r cyfleuster yn nhref ganolog Deir al-Balah, mae Zakaria yn clirio ffordd drwy'r torfeydd i gludo cleifion sydd newydd gyrraedd i mewn ar frys i gael triniaeth.

'Funudau yn ddiweddarach, mae'n rhedeg trwy goridorau'r ysbyty gyda stretsier ac yn ddiweddarach mae'n cario plentyn ifanc i mewn i'r ystafell triniaeth frys.

'Mae nifer o'i ffrindiau ysgol wedi cael eu lladd ers i'r gwrthdaro ddechrau ac mae aros o gwmpas yr ysbyty yn golygu bod Zakaria yn dyst i olygfeydd brawychus. Mae'n dweud iddo weld bachgen yn llosgi i farwolaeth o'i flaen ar ôl i fom Israelaidd daro'.

Yn y pen draw, fe ddaw heddwch; mae heddwch bob amser yn dod. Ond rydym am leihau nifer y plant, nifer y bobl sy'n cael eu lladd, eu niweidio a'u hanafu'n ddifrifol. Rwy'n credu bod angen boicot rhyngwladol nawr. Fe weithiodd ar Dde Affrica; gall weithio ar Israel.

17:15

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol nawr i gyfrannu—Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 17:18:23
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch, Lywydd. Rwy'n credu y gallwn fynegi heddiw y gydnabyddiaeth fod pob un ohonom o amgylch y Siambr hon wedi cael ein dychryn gan y trais yn Israel, Palesteina a'r rhanbarth ehangach dros yr 16 mis a mwy diwethaf. Er nad yw materion polisi tramor wedi'u datganoli, rydym yn ymwybodol fod pryderon a chanlyniadau gwirioneddol a pharhaol i ac yng nghymunedau Cymru. Mae'r Aelodau wedi siarad yn rymus heddiw yn y ddadl hon ac rwy'n falch o siarad ar ran Llywodraeth Cymru.

Rydym yn cefnogi pwyntiau 1(a) ac 1(b) yn y cynnig, sy'n cadarnhau condemniad y Senedd o ymosodiadau Hamas ar sifiliaid Israel ar 7 Hydref 2023 ac ymateb milwrol Israel, sydd wedi arwain at fwy na 60,000 o farwolaethau Palesteinaidd ac wedi gadael miliynau o sifiliaid yn Gaza mewn angen am gymorth dyngarol ar frys, yn groes i gyfraith ryngwladol, a chefnogaeth y Senedd i gadoediad parhaol, mynediad dyngarol llawn, dychwelyd gwystlon a busnes a heddwch cyfiawn a pharhaol trwy ddatrysiad dwy wladwriaeth.

Rhaid i Israel weithio'n agos gyda'r Cenhedloedd Unedig a phartneriaid fel bod y cadoediad hwn yn cael ei gynnal. A hyd yn oed gyda'r cadoediad hwn, fel y gwyddom mae'r sefyllfa ddyngarol yn Gaza, a ddisgrifiwyd mor fyw heddiw yn y ddadl hon, yn parhau i fod yn drychinebus. Mae miloedd lawer wedi cael eu lladd yn Gaza ac mae mwy na 90 y cant o'r boblogaeth wedi cael eu dadleoli, a hynny dro ar ôl tro yn achos llawer ohonynt. Rydym yn croesawu'r cytundeb yn y cadoediad i'w gwneud hi'n bosibl i sifiliaid Palesteinaidd ddychwelyd yn ddiogel i ogledd Gaza. Mae'r DU wedi dweud yn glir, yn cynnwys yn ystod trafodaethau yng Nghyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, na ddylid torri gogledd Gaza i ffwrdd oddi wrth y de. Rhaid caniatáu i sifiliaid Palesteinaidd, gan gynnwys y rhai a symudwyd o ogledd Gaza, ddychwelyd i'w cymunedau ac ailadeiladu. Rydym am gefnogi teuluoedd i allu dychwelyd i'w cartrefi, i ailadeiladu eu bywydau a dechrau'r broses araf tuag at adfer ar ôl y misoedd o ddinistr a galar am y miloedd o fywydau a gollwyd. Rhaid inni weld ymdrech gyfunol nawr gan y gymuned ryngwladol i ddarparu'r cymorth dyngarol sydd ei angen mor daer i Gaza, a rhaid i gymdeithas sifil chwarae rhan gref yn y gwaith cynnar o adfer Gaza. Y gymdeithas sifil honno fydd y sefyllfa orau i ailadeiladu cymunedau Gaza, ac rydym yn ystyried pa gymorth a chydgysylltiad y gallwn ei gynnig o Gymru i helpu i ailadeiladu Gaza.

Dros y gwrthdaro dinistriol hwn, cafwyd cyfnod hir pan oedd yn rhy beryglus i gymorth dyngarol gael ei ddosbarthu yn Gaza. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru groesawu'r cyhoeddiad gan y Pwyllgor Argyfyngau Brys ddiwedd y llynedd fod yr amodau wedi gwella'n ddigonol i'w galluogi i lansio apêl. Fe wnaethom gyfraniad o £100,000 tuag at yr apêl ar unwaith, ac roeddem yn falch o allu gwneud cyfraniad pellach o £100,000 ar gyfer cymorth dyngarol hanfodol y mis diwethaf. Bydd adfer cyflenwadau masnachol yn llawn yn allweddol i gynnal llif y cymorth. Hefyd, mae angen caniatáu mwy o fathau o nwyddau i mewn, fel pebyll, offer meddygol, a'r peiriannau sydd eu hangen i gefnogi ailddechrau gwasanaethau sylfaenol yn Gaza, yn ogystal â darpariaeth gofal iechyd newydd a chynaliadwy, clirio bomiau heb ffrwydro, a galluogi plant i ailddechrau addysg yn ddiogel. Mae cymorth y DU yn cyfrannu at y cynnydd mewn cymorth sy'n cyrraedd Gaza. Mae cyflenwadau meddygol sy'n achub bywydau a ariannwyd gan y DU wedi cyrraedd Gaza trwy hofrenyddion o Wlad yr Iorddonen mewn ymgyrch a gefnogir gan gynllunwyr milwrol y DU.

Lywydd, rydym hefyd yn cefnogi rhan 3 o'r cynnig hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod ers amser maith pa mor bwysig yw defnyddio ein pŵer deddfwriaethol i hyrwyddo caffael moesegol. Yn 2012, cyhoeddais bolisi caffael Cymru, a oedd yn nodi ein cyfrifoldebau fel corff caffael moesegol. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ddilyn y nodau llesiant drwy eu holl weithgarwch caffael. Un o'r nodau hyn yw i ni fod yn Gymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, ac rwy'n parchu cyfraniad y comisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn unol â'r nod hwnnw. Mae'n bwysig fod ein dull o gaffael yn cydymffurfio â'n rheolau caffael ein hunain yn ogystal â rhwymedigaethau rhyngwladol drwy gytundeb caffael y Llywodraeth. Rydym yn gweithio'n barhaus i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario mewn ffordd gyfrifol a moesegol yng nghyd-destun ein rhwymedigaethau cyfreithiol, ac rydym yn ymdrechu i sicrhau y bydd y canllawiau a roddwyd ar waith i gefnogi'r ddeddfwriaeth gaffael newydd a gyflwynir y flwyddyn nesaf yn galluogi awdurdodau contractio i gyflawni canlyniadau caffael cyfrifol a moesegol, gartref a thramor.

Lywydd, gallais gadeirio cyfarfod o'r Fforwm Cymunedau Ffydd yr wythnos diwethaf gydag arweinwyr ffydd Mwslimaidd ac Iddewig, yn ogystal ag arweinwyr ffydd eraill, a chroesawu'r newyddion am y cadoediad a rhyddhau gwystlon, ac mae'n hanfodol ein bod yn parhau i wneud yr hyn y gallwn ei wneud i weithio gyda'n cymunedau yma yng Nghymru y mae erchyllterau'r rhyfel wedi effeithio arnynt, ac mae ein perthynas ag arweinwyr ffydd yn rhan hanfodol o hyn. Peredur Owen Griffiths, fel y gwyddoch, roeddwn i gyda chi, a siaradais yng nghyfarfod Cyngor Rhyng-ffydd Cymru ddydd Iau diwethaf. Roedd yn bwerus iawn, yn dod â chynifer o bobl at ei gilydd, gan gynnwys y rheini sydd â grym a chyfrifoldeb i weithredu. Rydym wedi mynd ati'n weithgar i gefnogi cymunedau yng Nghymru sydd â chysylltiadau Palesteinaidd ac Israelaidd, ac rwyf wedi cyfarfod â'n cymunedau a'n cynrychiolwyr dros y flwyddyn ddiwethaf, a mwy na hynny'n wir.

Ond fel y dywedodd Paul Davies, nid oes lle i droseddau casineb crefyddol yma yng Nghymru, a diolch am roi sylw i hynny. Mae rôl ein Fforwm Cymunedau Ffydd mor bwysig. Diolch hefyd i Paul a hefyd i Peredur am roi sylw i ryddhau Eli Sharabi yn ddiweddar, a'i fam a'i dad-yng-nghyfraith, Gill a Pete Brisley, sy'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac sy'n gweithio'n ddiflino i gadw llygaid y byd ar y modd echrydus y cafodd ei gaethiwo, ynghyd â llawer o rai eraill. Ac ni fydd y boen aruthrol y mae'r teulu wedi'i brofi yn cilio, er i Eli gael ei ryddhau. Rhaid inni barhau i sicrhau bod yr holl wystlon yn cael eu rhyddhau. Rydym yn cytuno ynglŷn â hyn ar draws y Siambr yn y cynnig a'r ddadl. Rhaid i'r cadoediad barhau, ac mae angen i bob ymdrech ganolbwyntio ar weithredu'r camau sy'n weddill yn llawn.

Felly, i gloi, Lywydd, mae Llywodraeth Cymru yn dal i obeithio y bydd y cadoediad yn parhau er mwyn i'r holl wystlon sy'n weddill allu dychwelyd ac er mwyn gallu parhau i ddosbarthu cymorth yn Gaza. Ac mewn ymateb i'r pwyntiau a wnaed heddiw, byddaf yn cyfarfod â Phwyllgor Argyfyngau Brys Cymru, a sefydliadau dyngarol eraill hefyd, yn cynnwys Oxfam, yn ystod yr wythnosau nesaf i archwilio sut y gallwn ymrwymo rhagor o gymorth dyngarol i Gaza, a byddwn yn hapus iawn wedyn i ddod yn ôl i adrodd ar y gwaith dilynol o'r cyfarfod hwnnw.

Rwy'n gobeithio y gallwn ddod at ein gilydd heddiw i uno er mwyn cefnogi ein galwadau yn y Siambr heddiw am heddwch parhaol yn y dwyrain canol. Datrysiad dwy wladwriaeth yw'r unig ffordd o sicrhau heddwch a diogelwch i Balesteiniaid ac Israeliaid yn y tymor hwy, ac mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar droi'r cytundeb yn broses wleidyddol sy'n arwain at ddatrysiad dwy wladwriaeth, a bydd y cytundeb hwn yn parhau i fod yn fregus. Diolch, John Griffiths, am eich galwad heddiw—rhaid inni fagu hyder ar bob ochr i helpu i gynnal y cadoediad a'i symud o gam un i gam tri a thuag at heddwch parhaol.

Ac rwyf ar fin gorffen, felly ni fyddaf yn derbyn ymyriad.

Amlygwyd hyn yn amlwg yn rhaglen ddogfen BBC2 ar fywyd yn Gaza, a diolch i chi, Mike Hedges, am wneud sylwadau ar hynny. Mae llawer ohonom wedi ei gweld. Os nad ydych wedi'i gweld, gwyliwch hi. Gyda War through the eyes of a child, cawsom ein harwain gan Abdullah, Renad a Zakaria trwy'r erchyllterau y maent wedi'u profi. Mae arnom gyfrifoldeb i'r plant hynny i uno a chefnogi heddwch hirhoedlog. Ac fel y dywedodd Renad, 'Nawr, mae gennyf obaith gyda'r cadoediad wedi'i gyhoeddi.' Gobeithio y gellir gwireddu hyn i Renad a'i ffrindiau a'i theulu. Ond mae ein geiriau ni heddiw yn bwysig. Rwy'n gobeithio y gallant ddangos peth sicrwydd o'n hymrwymiad ni i gefnogi nid yn unig yr alwad am heddwch, ond y ffyrdd y gallwn ymateb gyda chymorth dyngarol tuag at ailadeiladu Gaza ar gyfer Palesteina. Diolch yn fawr.

17:25

Diolch, Llywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl yma heddiw.

Mae'r ddadl hon heddiw yn gyfle inni ddweud yn glir fod Cymru'n gwrthod bod yn dawel yn wyneb yr erchyllterau a welsom yn Gaza, yr hyn y barnodd Amnest Rhyngwladol ei fod yn hil-laddiad, a bod rhaid i ni yn y Senedd hon fynnu eglurder moesol a gweithredu gwleidyddol. Ni allwn ganiatáu i amwysedd cyfreithiol neu betruso gwleidyddol sefyll yn ffordd cyfiawnder.

Rydym wedi clywed yn y ddadl hon eto heddiw am erchyllterau 7 Hydref 2023, a'r ffordd ddiwahân y lladdwyd sifiliaid Israelaidd. Ond rydym hefyd wedi ail-fyw yr ymateb anghymesur ac anghyfiawn—mwy na 60,000 o Balesteiniaid wedi'u lladd, gan gynnwys miloedd lawer o blant. Rydym wedi clywed am ddinistrio ysbytai, ysgolion a gwersylloedd ffoaduriaid yn fwriadol. Clywsom am rwystro cymorth dyngarol, newyn poblogaeth gyfan, ac mae'r newyn y mae asiantaethau cymorth wedi ein rhybuddio ei fod ar ei ffordd bellach yn anochel. Nid damweiniau rhyfel yw'r rhain. Troseddau rhyfel bwriadol ydynt.

Clywsom hefyd am yr ymdrechion cynyddol i hel Palesteiniaid o'u tiroedd—ail Nakba, dadleoli gorfodol a fyddai'n gyfystyr â glanhau ethnig. Gadewch inni ei alw yr hyn ydyw. Nid yw Palesteiniaid eisiau gadael Gaza. Nid ydynt eisiau cael eu hadleoli. Maent am fyw mewn urddas, mewn diogelwch, mewn rhyddid, ar eu tir eu hunain. Gyda gofid mawr, rwy'n nodi gwelliant y Llywodraeth, gwelliant 3, sy'n ceisio dileu ein galwad ar Lywodraeth y DU i gondemnio cynlluniau'r Arlywydd Trump i wacau Gaza drwy orfodaeth a'i hailddatblygu. Rhaid inni wneud y galwadau hyn yn rhyngwladol, gyda'n gilydd. Ond mae'r cynnig yn gwneud mwy na galw am weithredu gan Lywodraeth y DU yn unig; mae hefyd yn ymwneud â'r camau y mae'n rhaid inni eu cymryd yma yng Nghymru. Os ydym am gynnal ein cyfrifoldeb moesol, mae'n rhaid inni sicrhau nad yw arian cyhoeddus Cymru yn cyfrannu mewn unrhyw ffordd, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, at droseddau rhyfel. Rhaid inni fod yn barod hefyd i ymrwymo cefnogaeth ddyngarol bellach i Gaza. Mae pobl Cymru eisoes wedi dangos eu hundod eisoes ym mhob rhan o'r wlad—cymunedau ym mhobman yn gweithredu, yn codi arian, yn anfon cymorth ac yn mynnu gweithredu gwleidyddol. Rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb i hynny gydag ymrwymiadau go iawn, sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y rhai mewn angen, a chefnogi gwaith hanfodol sefydliadau dyngarol ar lawr gwlad.

Ac yn olaf, rhaid inni gefnogi cymunedau yma yng Nghymru. Ar hynny, rhaid inni sefyll gyda'n gilydd. Y rhai sydd â theuluoedd Palesteinaidd ac Israelaidd sy'n byw mewn ofn a galar na ellir ei ddychmygu—rhaid inni sefyll gyda hwy, gan sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth a'r diogelwch sydd eu hangen arnynt ar yr adeg hynod drawmatig hon. Ni allwn sicrhau heddwch ar ein pen ein hunain, ond gallwn wrthod unrhyw ran yn y gwrthdaro, a gallwn fynnu bod ein Llywodraethau'n gweithredu. Y ddwy Lywodraeth. Rhaid inni alw ar Lywodraethau'r DU a Chymru i weithredu heddiw. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ddiffuant yn ei geiriau, ac rydym yn sefyll mewn undod yn y meysydd lle rydym yn rhannu safbwyntiau cyffredin a thir cyffredin. Ond fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Sioned Williams, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhy dawel yn rhy aml ar Gaza. Mynegwyd gofid na allwn gael cynnig unedig heddiw. Rwy'n cytuno'n llwyr. Ond na, ni allem gael cefnogaeth y Llywodraeth i'r alwad y credwn ei bod yn greiddiol, i roi'r gorau i werthu arfau i Israel, ac nid oedd y Llywodraeth am ryw reswm yn gallu galw ar Lywodraeth y DU i gondemnio sylwadau Arlywydd Trump yr Unol Daleithiau ynghylch dyfodol Gaza. Ond mae'n rhaid inni siarad yn unedig, a byddwn yn parhau i fynd ar drywydd hynny. Dyna pam y mae Plaid Cymru yn cyflwyno'r ddadl hon heddiw ar ran yr wrthblaid. Na, nid yw materion tramor wedi'u datganoli, fel y clywsom, ond gallwn sicrhau bod Cymru'n cymryd cyfrifoldeb am ei llais ei hun yn y byd, a chan ofyn eto am undod, rwy'n annog pob Aelod i gefnogi ein cynnig heddiw yn ei gyfanrwydd.

17:30

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw wrthwynebiad? Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, ac, oni bai fod tri Aelod eisiau i fi ganu'r gloch, fe wnawn ni symud yn syth i'r pleidleisiau. Mae'r pleidleisiau cyntaf ar eitem 6, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar yr adroddiad 'Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru', a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Yr adroddiad 'Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru'. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 24, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 fydd y bleidlais nesaf, felly. Agor y bleidlais ar welliant 1, yn enw Jane Hutt. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi ei basio.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Yr adroddiad 'Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru'. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Mae'r bleidlais nesaf ar y cynnig wedi ei ddiwygio gan welliant 1.

Cynnig NDM8827 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) yr adroddiad 'Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru' a gyhoeddwyd gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru a’i argymhellion; a

b) nad yw Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo rhoi gofal neu driniaeth reolaidd i bobl mewn amgylcheddau anghlinigol neu anaddas.

2. Yn cydnabod bod adegau pan fo’r GIG yn wynebu pwysau eithriadol, a all olygu bod pobl weithiau'n aros am amser hirach mewn rhannau o’r system ysbytai.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i weithio gyda'r GIG ac awdurdodau lleol i wella’r sefyllfa o ran rhyddhau pobl o'r ysbyty yn amserol ac i gefnogi gwasanaethau gofal cymunedol uwch i ddarparu dewisiadau amgen yn lle mynd i'r ysbyty lle bynnag y bo modd.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

17:35

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Yr adroddiad 'Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru'. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r cyfres o bleidleisiau nesaf ar eitem 7, sef dadl Plaid Cymru ar Gaza. Dwi'n galw am bleidlais i gychwyn ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod. 

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Gaza. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 fydd nesaf, ac os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol. Pleidlais ar welliant 1, yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod. 

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Gaza. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Paul Davies: O blaid: 13, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 sydd nesaf, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Gaza. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 50, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 3 sydd nesaf, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, un yn ymatal, 11 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant yna wedi ei dderbyn. 

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Gaza. Gwelliant 3, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 38, Yn erbyn: 11, Ymatal: 1

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 4 sydd nesaf, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Mae gwelliant 4 wedi ei dderbyn. 

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Gaza. Gwelliant 4, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 37, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8830 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn ailddatgan:

a) condemniad y Senedd o ymosodiadau Hamas ar sifiliaid Israel ar 7 Hydref 2023 ac ymateb milwrol Israel, sydd wedi arwain at farwolaethau mwy na 60,000 o bobl Palesteina ac wedi golygu bod angen cymorth dyngarol brys ar filiynau o sifiliaid yn Gaza yn groes i gyfraith ryngwladol;

b) cefnogaeth y Senedd ar gyfer cadoediad parhaol, mynediad llawn i sefydliadau dyngarol, dychwelyd gwystlon a charcharorion, a heddwch cyfiawn a pharhaol drwy ddatrysiad dwy wladwriaeth; ac

c) safbwynt llywodraeth y DU bod rhaid i sifiliaid Palesteina allu dychwelyd i’w cartrefi ac ailadeiladu eu bywydau.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i adolygu trefniadau caffael a buddsoddiadau’r sector cyhoeddus i sicrhau bod safonau moesegol yn cael eu cynnal;

b) i ymrwymo rhagor o gefnogaeth ddyngarol i Gaza; 

c) i gefnogi cymunedau yng Nghymru sydd â chysylltiadau â Phalesteina ac Israel; a

d) i gefnogi rheolaeth y gyfraith a gwaith y Llys Troseddol Rhyngwladol.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 13 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i diwygio yna wedi ei gymeradwyo. 

Eitem 7 - Dadl Plaid Cymru - Gaza. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 37, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

9. Dadl Fer: Cysylltiadau trafnidiaeth cyhoeddus yng nghymunedau ôl-ddiwydiannol Cymru

Byddwn ni'n symud ymlaen nawr i'r ddadl fer, ac mae'r ddadl fer y prynhawn yma yn cael ei chynnig gan Adam Price. 

Diolch yn fawr. Mae ein dadl heno yn cwmpasu trafnidiaeth gyhoeddus mewn cymunedau ôl-ddiwydiannol ar draws Cymru. Bydd tri o'n Haelodau—Carolyn Thomas, Peredur Owen Griffiths a Luke Fletcher—yn siarad mewn munud am eu cymunedau eu hunain, ond rwyf am ganolbwyntio ar ranbarth sydd wedi ei hanwybyddu'n rhy hir, Cymoedd y gorllewin, ac yn benodol rwyf am drafod potensial trawsnewidiol rheilffyrdd yn y cymunedau hyn.

Mae hyn yn bersonol i mi. Cefais fy ngeni yn y Tymbl, yng Nghwm Gwendraeth, a fy magu yn Nhycroes, sydd yn Nyffryn Aman ond o fewn milltir neu ddau i'r Afon Llwchwr. Rwyf wedi profi realiti cymunedau sydd wedi'u torri i ffwrdd o'r rhwydwaith rheilffordd, ac, fel yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr mewn dwy Senedd dros ddau ddegawd, rwyf wedi gwylio cyfleoedd yn llithro i ffwrdd gyda phob llinell rheilffordd ynghau a phob llwybr bws sydd wedi ei ganslo.

Gadewch i ni beintio darlun o Gymoedd y gorllewin. Mewn saith gwm ar draws pedair sir—Abertawe, Castell Nedd Port Talbot, sir Gaerfyrddin a Phowys—mae clwstwr o gymunedau a naddwyd drwy lo. Dyffryn Aman, yn ymestyn o Rydaman i Frynaman, Cwm Gwendraeth, y Fach a'r Fawr yn rhedeg i lawr i'r arfordir, cwm Tawe, yn cyrraedd i fyny o'r ddinas trwy Glydach a Phontardawe i Ystradgynlais, cwm Dulais o Aberdulais i Fanwen, a chwm Nedd, cwm Aman, a dyffryn Llwchwr—pob un â'i gymeriad ei hun, pob un â'i hanes ei hun; gyda'i gilydd, cartref i dros chwarter miliwn o bobl. Roedd y Cymoedd hyn yn enwog am eu glo carreg galed, glo o'r radd uchaf, yn cael ei werthfawrogi am ei rinweddau llosgi glân a’i wres dwys. Roedd eu rhwydwaith reilffordd yn wythïen bywyd iddynt. Roedd y llinellau canghennol yn cyrraedd i bob cwm; roedd gorsafoedd yn gwasanaethu pob cymuned. Roedd trenau cludo nwyddau yn cario’r glo gwerthfawr hwn i farchnadoedd ar draws Prydain, tra bod gwasanaethau teithwyr yn cysylltu pobl â gwaith a theulu a chyfleoedd. Yna daeth y cau; un ar ôl un, daeth y gwasanaethau teithwyr i ben, gorsaf ar ôl gorsaf yn mynd yn dawel. Arhosodd rhai llinellau ar agor ar gyfer cludo glo, cafodd eraill eu rhoi ar stop, diflannodd rhai yn gyfan gwbl. Dechreuodd y rhwydwaith rheilffordd mawr a gwnïodd ein cymunedau at ei gilydd ddadfeilio.

17:40

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Ond nid yw'r stori yn gorffen yn y fan honno. Bron i 10 mlynedd yn ôl, trafododd Plaid Cymru gytundeb cyllideb a sicrhaodd yr ymrwymiad cyntaf i fetro ym mae Abertawe a'r Cymoedd gorllewinol. Fe wnaeth y cytundeb hwnnw ariannu'r asesiad amlinellol strategol a osododd y sylfaen ar gyfer yr hyn y byddaf yn siarad amdano heno. Roedd yn ddechrau ond mae angen inni orffen yr hyn a ddechreuwyd gennym. Edrychwch ar draws Cymru, gwelwch beth y gall buddsoddiad yn y rheilffyrdd ei wneud: trawsnewidiad llinell graidd y Cymoedd, gydag oddeutu £1.1 biliwn wedi'i fuddsoddi. Rheilffordd Glynebwy, £160 miliwn yn dod â bywyd newydd i'r Cymoedd dwyreiniol. Buddsoddiadau da, buddsoddiadau hanfodol, buddsoddiadau trawsnewidiol sy'n dangos i ni beth sy'n bosibl pan ymrwymwn i reilffyrdd a dyfodol sy'n llawn o weledigaeth. Ond yn y Cymoedd gorllewinol, rydym yn aros; mae chwarter miliwn o bobl yn aros.

Gadewch imi ddweud wrthych am ddirywiad: ar un adeg roedd ein Cymoedd yn llawn o drenau. Roeddent yn rhedeg i bobman trwy bob cymuned, gan gysylltu pawb. Fel rhydwelïau dur, roedd rheilffyrdd yn cario einioes masnach a chymuned trwy bob plyg yn ein bryniau. Nawr, mae gennym dameidiau. Mae'r bysiau'n gwneud eu gorau—mae hynny'n bendant yn wir—ond mae cyllidebau tynn a thirwedd heriol yn gwneud eu llwybrau'n hir a'u gwasanaeth yn anfynych. Dywedwch wrth rywun yn y Cymoedd gorllewinol am ddal bws i'r gwaith; gwyliwch eu gwên flinedig. Maent yn gwybod beth y mae hynny'n ei olygu: arosiadau hir, teithiau hwy ac amserlenni sy'n llawn o dyllau.

Rwy'n siŵr fod y Gweinidog yn mynd i siarad am effaith bosibl masnachfreinio bysiau ac mae'r diwygio i'w groesawu, gan ei bod yn hen bryd. Ond fel y dywedaf yn nogfen cynllun y Cymoedd gorllewinol, os mai bysiau yw'r nerfau mewn system drafnidiaeth leol sy'n cynnig ystwythder a chyrhaeddiad, y rheilffordd yw'r asgwrn cefn sy'n rhoi cryfder, yr asgwrn cefn sy'n dal cymunedau'n gyfan, yr asgwrn cefn sy'n gadael iddynt ddal eu pen yn uchel a chamu ymlaen.

Cerddwch drwy ein Cymoedd heddiw, cyfrwch y llif diddiwedd o geir yn cropian ar hyd ein ffyrdd, gyda llawer o yrwyr yn dymuno dewis arall. Gwyliwch y carbon yn codi i'n haer fel y gwnâi ar un adeg i ysgyfaint ein cyndeidiau. Gwelwch y cyfleoedd yn llithro ymaith gyda phob cysylltiad a gollir. Mae hyn yn ymwneud â mwy na thrafnidiaeth; mae'n ymwneud â bywydau wedi'u gohirio, ond nawr mae gennym gyfle. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei buddsoddiad yn rheilffordd Rhydychen i Gaergrawnt, a elwir yn ddyffryn silicon Prydain. Yn wahanol i HS2, a'r anghyfiawnder amlwg hwnnw, mae'r prosiect hwn yn cynnig ffactor cymharedd o 100 y cant ar gyfer Barnett. Mae hynny'n golygu swm canlyniadol Barnett llawn, £7 biliwn o fuddsoddiad, sy'n golygu bod £392 miliwn o arian ychwanegol yn dod i Gymru a allai drawsnewid rheilffyrdd yn ein Cymoedd gorllewinol.

Nid breuddwyd yw cynllun y Cymoedd gorllewinol, nid dymuniad, ond peirianneg, economeg, tystiolaeth. Mae cam 1 ein cynllun yn dechrau gyda rhythm a chyflymder. Bob 30 munud, bydd trenau'n cysylltu Abertawe â Rhydaman trwy Bontarddulais, gorsafoedd newydd yn Nhreforys, Felindre, Pont-lliw, yna ymlaen, gan gyrraedd i fyny'r cwm i Lanaman, Garnant, Gwauncaegurwen.

Mae cwm Dulais yn deffro hefyd, o Gastell-nedd trwy Aberdulais, trwy Greunant, trwy Flaendulais yr holl ffordd i Onllwyn. A dyma ble y daw gweledigaeth wyneb yn wyneb â chyfle: yn Onllwyn mae'r ganolfan fyd-eang rhagoriaeth rheilffyrdd yn ymffurfio. Meddyliwch am hyn: cyfleuster profi rheilffyrdd o'r radd flaenaf yng nghanol ein Cymoedd gorllewinol. Ond ar hyn o bryd, ni all yr union gymunedau a fydd yn cynnal y ganolfan ragoriaeth ei chyrchu ar y rheilffordd. Byddai'r eironi'n chwerthinllyd pe na bai mor drasig. Gallai'r prosiect hwn greu cannoedd o swyddi medrus, ond pwy o blith y bobl leol sy'n mynd i allu eu cyrraedd?

Mae cam 2 ein cynllun yn gwthio ymhellach: Castell-nedd i Gwm-gwrach, gan ddod â Tonna a Resolfen yn ôl i'r rhwydwaith. Ailgysylltu cymunedau, adfer posibiliadau. Mae'r gost, wel, rydym yn gwybod yn fanwl beth fydd hi, £392 miliwn, yr un geiniog yn fwy na'r swm canlyniadol ar gyfer rheilffyrdd dwyrain-gorllewin yn seiliedig ar asesiadau cam 2 yr arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru y Llywodraeth ei hun ar gyfer y rheilffyrdd a nodwyd gennym, gydag addasiad ar gyfer chwyddiant. Nid yw'n ymwneud â dod o hyd i arian newydd; mae'n ymwneud â chyfeirio adnoddau a fydd gennym yn y dyfodol i ble mae eu hangen fwyaf. Mae'n ymwneud â rhoi'r un cyfle i'r Cymoedd gorllewinol ag y mae Cymoedd eraill, yn briodol ddigon, wedi'i gael.

Yna daw cam 3—beiddgar, ond cyraeddadwy—cwm Gwendraeth o Lanelli i Cross Hands ac ymlaen. Rheilffordd cwm Tawe yn ymestyn trwy Glydach a Phontardawe i Ystradgynlais ac Abercraf. Llwybr cwm Afan i gysylltu Port Talbot â'r Cymer. Mae pob un wedi'i gynllunio'n ofalus, pob un yn barod am ei foment fawr.

Dychmygwch hyn: y flwyddyn yw 2032, bob 30 munud, fel y cloc, mae trenau'n llithro trwy gwm Dulais, trwy ddyffryn Aman. Rhieni'n cyrraedd eu gwaith yn hanner yr amser, myfyrwyr yn cyrchu colegau heb deithiau bws diddiwedd a rhwystredig, preswylwyr oedrannus yn cysylltu â theulu a gwasanaethau. Mae'r ganolfan fyd-eang rhagoriaeth rheilffyrdd yn fwrlwm o weithwyr lleol yn cyrraedd ar y rheilffordd. Erbyn 2035, mae'r un trenau hynny'n cyrraedd Cwm-gwrach, wedyn cwm Gwendraeth, cwm Afan, cwm Tawe.

Heddiw, gofynnwn am bedwar peth: clustnodi'r swm canlyniadol rheilffyrdd dwyrain-gorllewin ar gyfer ein Cymoedd gorllewinol; symud yn gyflym i gamau cynllunio manwl ar gyfer camau 1 a 2; cynllunio camau'r dyfodol nawr; dangos arweinyddiaeth a gweledigaeth. Gofynion syml, canlyniadau trawsnewidiol. Weinidog, mae'r Cymoedd gorllewinol yn barod, mae ein cymunedau'n barod. Mae'r cynlluniau wedi eu llunio, mae'r costau wedi eu cyfrif, mae'r manteision yn glir. Nid oes a wnelo hyn â hiraeth am y gorffennol, mae a wnelo hyn ag adeiladu'r dyfodol, ag aer glân a ffyrdd clir, â swyddi o fewn cyrraedd a gwasanaethau hygyrch, â chymunedau cysylltiedig a lleihau carbon, â gorffen yr hyn a ddechreuwyd gennym bron i ddegawd yn ôl gyda'r ymrwymiad cyntaf i fetro bae Abertawe a'r Cymoedd gorllewinol.

Gadewch inni roi'r Cymoedd gorllewinol yn ôl ar fap rheilffyrdd Cymru. Gadewch inni roi'r system drafnidiaeth fodern, gynaliadwy a fforddiadwy y maent yn ei haeddu iddynt, fel nad oes unrhyw gwm yn cael ei adael ar ôl. Gadewch inni wneud cynnydd gyda'n gilydd nawr.

17:45

Rwy'n croesawu'n fawr y cynllun y mae Adam wedi'i nodi yn ei gyfraniad. Byddwn hefyd yn ychwanegu dau gwm arall sydd yn sir Pen-y-bont ar Ogwr, sef cwm Garw a chwm Ogwr. Cwm Ogwr i gysylltu Treorci â gweddill y Rhondda, ond cwm Garw hefyd yn arbennig, lle mae un ffordd i mewn ac un ffordd allan, a gwasanaeth bws annibynadwy. O ran trenau, a bydd Peredur yn gwybod am fy obsesiwn gyda thramiau, hoffwn ychwanegu hefyd y dylem edrych ar dramiau, rheilffyrdd ysgafn, y mathau hynny o systemau sy'n ein galluogi i ymdopi â thopograffeg y Cymoedd a all fod yn ddibynadwy ac yn rhatach na'r math o drenau a welwn yn gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd.

Ac yn olaf, rwy'n credu bod rhaid inni feddwl hefyd sut y gallwn ymgorffori teithio llesol yn hyn. Mae Rhun, Heledd a minnau wedi ymweld â thwnnel y Rhondda, ac os ydych chi am gael mynediad i'r twnnel hwnnw ar hyn o bryd, mae'n rhaid i chi naill ai fynd i lawr rhaff, trwy siafft, neu ar fwrdd sgrialu trwy dwnnel tynn iawn sy'n mynd â chi i mewn ar un pen. A gwn fod y Dirprwy Lywydd hefyd wedi bod i lawr yn y twnnel hwnnw: fe aethoch i lawr y siafft, euthum innau i lawr ar fwrdd sgrialu. Rwy'n credu bod rôl i'r hen seilwaith diwydiannol ei chwarae nawr yn y cynllun newydd hwn. Byddai agor twnnel y Rhondda yn agor y cysylltiad trawsgymunedol nad yw'n bodoli ar hyn o bryd. Felly, rwy'n gobeithio y cawn glywed rhywbeth gan y Gweinidog trafnidiaeth ar hynny, ac unrhyw gynlluniau posibl, neu lle mae'r Llywodraeth arni ar hyn o bryd, yn ei sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chael prosiect twnnel y Rhondda'n weithredol.

17:50

Roedd lle rwy'n byw yn arfer bod yn ardal lofaol brysur iawn ac roedd gorsaf reilffordd yno, ond pan ddaeth y diwydiant hwnnw i ben, cafodd yr hyn a gâi ei ystyried yn 'ddatblygiadau slymiau' eu clirio ar raddfa fawr, ac ailgartrefwyd pobl mewn tai cyngor; adeiladwyd cannoedd ohonynt yn y pentref ddwy filltir i fyny'r lôn. Ac fe newidiodd hynny y gymuned honno, yn ogystal â'n cymuned ni, a chaeodd yr orsaf. Yn ogystal â thai cyngor, roedd yno lety gwarchod hefyd gyda'r datblygiad. Ond iddynt hwy, mae'r gwasanaeth bws yn achubiaeth lwyr ac rydym wedi gorfod parhau i ymladd i'w gadw i fynd dros y blynyddoedd, ac mae'n dal i fynd o drwch blewyn.

Mae trafnidiaeth bysiau cyhoeddus yn sicrhau cyfle cyfartal, gan gludo pobl i weithio, i apwyntiadau iechyd ac i addysg. Mae'n helpu i gadw canol trefi a phentrefi'n fywiog ac mae'n cyflogi llawer o bobl, yn ogystal â bod yn hynod bwysig ar gyfer mynd allan a chyfarfod â phobl eraill yn gymdeithasol. Mae'n sicrhau bod pobl yn cael bywyd gweddus a chyfleoedd teg. Diolch.

Mae trenau, tramiau a hyd yn oed byrddau sglefrio angen llwybrau, ac mae Adam wedi darlunio'r weledigaeth ar gyfer y Cymoedd gorllewinol yn fyw iawn. Os ydym am gael opsiwn i ailadeiladu ein seilwaith rheilffyrdd yn y dyfodol ledled Cymru, mae blaengynllunio'n hanfodol. Gwyddom fod adeiladu eisoes wedi digwydd ar rai o'r hen reilffyrdd, felly hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet: a ydych chi'n credu y byddai'n syniad da newid y polisi cynllunio, fel y gallai darnau o goridorau rheilffyrdd ledled Cymru gael eu diogelu mewn cynlluniau datblygu lleol i ddiogelu hyfywedd y rheilffyrdd yn y dyfodol a chaniatáu inni ddatblygu ein rhwydwaith rheilffyrdd yn y tymor hwy? Gallwn adeiladu ar beth o weledigaeth yr hyn yr hoffem ei gyflawni a chael yr uchelgais hwnnw, ond mae angen y blociau adeiladu hynny arnom i allu adeiladu'r rheilffyrdd hyn mewn gwirionedd. Diolch.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i ymateb i'r ddadl. Ken Skates.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Adam Price am gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw ar bwnc hynod bwysig, cyffrous a chreadigol. Hoffwn ddiolch iddo hefyd am gyflwyno darlun mor glir o'r potensial yn y Cymoedd gorllewinol ar gyfer cysylltedd rheilffyrdd.

Mae gennym hanes cryf iawn yn y Llywodraeth o ymyrryd mewn cymunedau ôl-ddiwydiannol, yn enwedig mewn perthynas â thrafnidiaeth gyhoeddus. Llywodraeth Cymru, wedi'r cyfan, a gamodd i'r adwy i ailagor rheilffordd Glynebwy ar ôl i'r gwaith dur gau. A diolch i'n cyllid ar gyfer y prosiect penodol hwnnw, cafodd y llinell ei hymestyn yr holl ffordd drwy safle'r hen waith dur, i galon y gymuned. A chyllid pellach gan Lywodraeth Cymru sydd wedi arwain at ddyblu amlder gwasanaethau ar y lein erbyn hyn, gan gysylltu Glynebwy yn uniongyrchol â Chasnewydd am y tro cyntaf ers y 1960au.

Nawr, rwy'n credu ei bod yn deg dweud serch hynny mai'r arddangosiad gorau oll o'n hymrwymiad i gymunedau ôl-ddiwydiannol a'r buddsoddiad sydd ar gael ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus—

Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi dderbyn ymyriad gan Peredur Owen Griffiths?

Os caf sôn am reilffordd Glynebwy, pa ystyriaeth a roddwyd gennych i gyswllt Abertyleri hefyd, oherwydd mae hwnnw wedi'i addo ers amser maith? Rwy'n gwybod mai'r ymdeimlad yn y gymuned yno yw ei bod yn ymddangos ei fod wedi cael ei anwybyddu a'i anghofio. Mae'n rhywbeth sydd wedi cael ei addo ers y rhan orau o 20 mlynedd. A yw'n rhywbeth y byddech chi'n ei ystyried?

17:55

Wel, mae'n sicr yn ein meddyliau, ond fel y clywsom heddiw mae galwadau cystadleuol am fuddsoddiad ym mhob rhanbarth yng Nghymru, a dyna pam ei bod yn bwysig ein bod yn blaenoriaethu yn seiliedig ar allu i gyflawni, fforddiadwyedd, a galw hefyd, a'r angen i allu cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus lle nad yw'n bodoli ar hyn o bryd. Ond mae'n sicr yn ein meddyliau.

Gyda llinellau craidd y Cymoedd, fel y nododd Adam Price, rydym yn buddsoddi mwy na £1 biliwn i drawsnewid llinellau craidd y Cymoedd, ac mae trenau trydan newydd sbon bellach yn rhedeg ar y rhwydwaith hwnnw. Mae hynny, wrth gwrs, o ganlyniad i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru o £800 miliwn mewn trenau newydd. Gall teithwyr sy'n eu defnyddio yng Nghymoedd de Cymru ddefnyddio tocynnau cyfleus rhad bellach, diolch i gyflwyno talu wrth fynd. Rwy'n credu bod 150,000 o deithwyr wedi manteisio ar hyn ar draws y 95 gorsaf sy'n ffurfio metro de-ddwyrain Cymru.

A dyna gonglfaen ein gweledigaeth: sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau rheilffordd math metro ar gyfer cymunedau ôl-ddiwydiannol, gan wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fforddiadwy, yn integredig ac ar gael ledled Cymru gyfan. Dyma'r weledigaeth a fydd yn darparu system math metro yng ngogledd Cymru, ac un ym mae Abertawe a'r Cymoedd gorllewinol hefyd.

A gaf i ddiolch i Adam Price hefyd am eich sylw arbennig i'r ganolfan fyd-eang rhagoriaeth rheilffyrdd? Rwy'n credu bod hwn yn brosiect magned hynod bwysig ar gyfer y Cymoedd gorllewinol. Roedd yn rhywbeth y meddyliais amdano ar daith drên yn Sbaen gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, ond mae iddo botensial i fod yn fagned i gyflogaeth a buddsoddiad.

Yng ngogledd Cymru, mae angen inni ymgymryd â nifer o brosiectau seilwaith, ac maent yn cynnwys cael gwared ar yr ôl-groniad capasiti yng Nghaer. Mae yna ôl-groniad capasiti enfawr yng Nghaer y mae angen mynd i'r afael ag ef. Mae angen i ni hefyd weld gwelliannau ar lein Wrecsam i Bidston er mwyn caniatáu mwy o wasanaethau, ac yn y pen draw, gwasanaethau uniongyrchol math metro rhwng Wrecsam a Lerpwl. Nododd Carolyn Thomas heriau ôl-ddiwydiannol sy'n wynebu llawer o ogledd Cymru, yn enwedig yng ngogledd-ddwyrain Cymru, lle arweiniodd pethau fel cau gweithfeydd dur Shotton at nifer digynsail o bobl yn colli eu swyddi yn yr 1980au, ac mae'r ardal benodol honno yn dal i ddwyn creithiau colli niferoedd enfawr o swyddi. Rwy'n ddiolchgar iawn am angerdd Carolyn Thomas wrth hyrwyddo pwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus, nid yn unig yn y rhanbarth y mae'n ei gynrychioli, ond trwy Gymru gyfan.

Nawr, yn rhanbarth bae Abertawe a gorllewin Cymru, fel y gwn y bydd llawer o'r Aelodau'n gwybod, mae Trafnidiaeth Cymru'n gwneud gwaith datblygu ar orsafoedd newydd posibl ar brif reilffordd de Cymru yn y Cocyd, Winsh-wen a Glandŵr, ac ar reilffordd ardal Abertawe, fel y mae Adam Price wedi'i nodi, ym Mhont-lliw, Felindre, Treforys a Llandarcy.

Rwy'n credu bod Luke Fletcher wedi gwneud pwynt hynod bwysig am dechnolegau amgen a rhai sy'n datblygu. Mae tramiau awtonomaidd di-drac yn enghraifft o'r dechnoleg newydd hon. Maent eisoes yn cael eu cyflwyno yn Tsieina ac yng Nghanada, a dyma'r enghraifft ddiweddaraf o dechnoleg y mae'n rhaid inni fod yn effro iddi, oherwydd gallem ddefnyddio gwahanol fathau o ymyriadau ar draws gwahanol gymunedau yng Nghymru.

Y defnydd o fysiau yw tri chwarter yr holl deithiau trafnidiaeth gyhoeddus, ac maent yn achubiaeth lwyr i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed ac ynysig a difreintiedig yn ein cymdeithas. Y rheswm am hynny yw nad oes gan ychydig o dan 20 y cant o bobl yng Nghymru gar at eu defnydd. Maent yn dibynnu ar wasanaethau bysiau bob dydd, ac mae Adam Price yn iawn: y rheswm pam ein bod yn cyflwyno Bil bws uchelgeisiol gyda'r nod o gyflwyno masnachfreinio bysiau yw oherwydd y gall helpu'r rhai sydd fwyaf o angen y rhwydwaith bysiau. Fe allwn ac fe fyddwn yn cynllunio rhwydwaith bysiau yn y dyfodol sy'n rhoi pobl yn gyntaf ac yn ein galluogi i integreiddio gwasanaethau bysiau yn llawn â gwasanaethau rheilffordd.

Nid gwasanaethau bysiau traddodiadol yn unig y buom yn eu cefnogi. Rydym hefyd yn buddsoddi mewn atebion arloesol, dan arweiniad y gymuned. Gallaf nodi Blaenau Gwent fel un ardal lle mae gennym arloesedd o'r fath wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae'n wasanaeth sy'n darparu cymysgedd o wasanaeth confensiynol wedi'i drefnu yn ystod oriau golau dydd ac yna mae'n newid i wasanaeth y gellir ei archebu ymlaen llaw sy'n ymateb i'r galw gyda'r nos. Ac rydym wedi darparu cyllid yn ddiweddar i alluogi gwasanaethau cludiant cymunedol i ehangu yng Nghymoedd gorllewinol de Cymru.

Mae nifer o bobl wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cadw traciau. Mae hyn yn rhywbeth rwy'n gyfarwydd iawn ag ef, gyda'r ffordd y mae cyswllt rheilffordd Llangollen i Rhiwabon wedi ei golli'n raddol yn fy etholaeth i. Hoffwn yn fawr iawn weld trac rheilffordd yn cael ei gadw a'i ddiogelu i'w ddefnyddio yn y dyfodol. Mae'r hyn a ddigwyddodd yn ystod y degawdau diwethaf gyda chau llinellau cangen, cau gorsafoedd, yn golled mor ofnadwy, a dylem wneud popeth yn ein gallu i ddiogelu'r asedau sy'n dal i fod yno, ond sy'n fregus iawn.

Felly, rwy'n falch o'r mesurau yr ydym eisoes wedi'u rhoi ar waith i wella cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus yn ein cymunedau ôl-ddiwydiannol, sy'n haeddu ac yn galw am yr ymyriadau hynny a buddsoddiad trwm. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i wneud popeth yn ein gallu ar draws pob rhanbarth yng Nghymru, nid yn unig o ran rheilffyrdd, ond o ran gwasanaethau bysiau hefyd, Ddirprwy Lywydd, yn cynnwys yng Nghymoedd gorllewinol Cymru.

18:00

Diolch i Adam Price a'r Ysgrifennydd Cabinet, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben. 

Daeth y cyfarfod i ben am 18:01.