Y Cyfarfod Llawn

Plenary

11/02/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Teyrngedau i’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Ar nodyn trist iawn rŷn ni’n cychwyn ein sesiwn y prynhawn yma, yn dilyn y newyddion ddydd Gwener am farwolaeth Dafydd Elis-Thomas, cyfaill agos i rai yma, cydymaith gwleidyddol i nifer, enigma i bawb.

Dafydd oedd Llywydd cyntaf ein Cynulliad, ei Assemblée Nationale, yn ei hoff enw e am y lle. Mae’r Senedd hon heddiw yr hyn yw hi oherwydd, i raddau helaeth iawn, Dafydd Elis-Thomas. Ac, yn bendant, mi rydyn yn yr adeilad yma, y Siambr wych yma, oherwydd gweledigaeth a dyfalbarhad Dafydd. Mae’n gwerthfawrogiad yn fawr am ei 12 mlynedd wrth y llyw. Ei waddol yw Senedd gadarn i’w genedl, ac mae hwnnw’n dipyn o waddol.

Mi fydd y Prif Weinidog yn arwain y teyrngedau iddo, ond, cyn hynny, gadewch i ni oll fan hyn, holl staff y Senedd, godi am funud o dawelwch i gofio am Dafydd Elis-Thomas.

Cynhaliwyd munud o dawelwch.

Heddiw, rŷn ni’n anrhydeddu Dafydd Elis-Thomas, cydweithiwr, ond rhywun hefyd roedd llawer ohonom yn ei adnabod fel ffrind. Roedd hi’n anodd iawn i beidio â dod ar draws Dafydd ym mywyd gwleidyddol Cymru. Mae taith ei fywyd yn debyg i gyfrol hanesyddol o’r Gymru fodern. Roedd stori Dafydd wedi’i blethu yn adeiladwaith ein cenedl.

Fel yr Aelod Seneddol ieuengaf yn Nhŷ’r Cyffredin yn 1974, fe dorrodd e dir newydd o’r cychwyn. Ond, i’r rheini ohonom oedd yn ei adnabod yn well, roedd e’n llawer mwy na rhestr hir o’r swyddi a gyflawnodd yn ystod ei yrfa. Roedd e’n gymeriad rhyfeddol—cawr gwleidyddol, gydag ochr ddrygionus. Roedd e’n feistr ar adeiladu pontydd gwleidyddol, a llwyddodd i wneud hynny tra’n ymddangos yn gwbl ddiymdrech, bob amser yn egwyddorol, bob amser yn adeiladol.

Roedd ei lwybr gwleidyddol yn un annisgwyl, o brotestio yn erbyn arwisgiad y Tywysog Siarl yng nghastell Caernarfon, i dderbyn lle yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Roeddwn i'n meddwl erioed bod ei daith yn ddiddorol dros ben, o rebel ifanc i aelod o Dŷ'r Arglwyddi, ac roeddwn i wrth fy modd gyda'r ffordd y gwnaeth rhyw wag addasu cân Catatonia, 'Every day when I wake up / I thank the Lord I’m Welsh', gan addasu hynny fel Dafydd i, 'Every day when I wake up / I thank the Welsh I'm Lord'.

Fe aeth o arwain adran ieuenctid Plaid Cymru i fod yn hoff rebel y sefydliad. Ac, yn wir, mi oedd e’n rebel. Roedd ei gyfnod fel ein Llywydd cyntaf am 12 mlynedd yn nodweddiadol o Dafydd. Llwyddodd i fod yn amddiffynnwr mwyaf y sefydliad, ond hefyd ei feirniad mwyaf urddasol. Brwydrodd yn ddiflino dros yr adnoddau a’r parch oedd eu hangen ar ein democratiaeth ifanc, a helpodd i sefydlu’r sefydliad hwn pan oedd yn flodyn bregus.

Roedd yn ymgorffori’r gorau o’r traddodiad deallusol Cymreig—yn ddysgedig, ond byth yn ymhongar, o ddifri dros ei diwylliant, ond wastad yn barod gydag ymateb ffraeth yn y naill iaith neu’r llall.

Roedd ganddo’r ddawn i greu penawdau newyddion, fel datgan nad oedd yna gadarnle gan yr iaith Gymraeg. Ond, wedyn, fe ymddangosodd fel ei fod e mewn sioc gyda’r cynnwrf a ddilynodd, tra’n ceisio cuddio gwên. Ac eto, islaw'r ochr ddrygionus honno, roedd yn ddyn o bwrpas difrifol.

Y tu hwnt i wleidyddiaeth, roedd Dafydd yn ffrind caredig a hael, bob amser yn barod gyda chyngor doeth a geiriau gwresog o anogaeth. Roeddwn i'n adnabod Dafydd gyntaf pan roeddwn i'n ymchwilydd yn y cyfryngau, yn trefnu cyfleoedd ffilmio ar draws y cyfandir, lle hyrwyddodd ei angerdd tuag at y cysylltiadau hanesyddol, diwylliannol a gwleidyddol rhwng Ewrop a Chymru. Ac yn ddiweddarach, fe wnes i helpu i guradu sioe sgwrsio teledu hwyr yn y nos yr oedd yn ei gyflwyno ar S4C, Hwyr neu Hwyrach.

Dylanwadodd Dafydd nid yn unig ar Blaid Cymru, ond Plaid Lafur Cymru hefyd. Cafodd y newid o'r traddodiad mwy unoliaethol, a oedd yn flaenllaw yn y blaid tan y 1990au, i'r strwythurau a'r credoau datganoledig sydd gennym ni heddiw, ei helpu ar y ffordd oherwydd eiriolwyr synhwyrol ond angerddol dros ddatganoli, fel Dafydd. Ac, fel mae'n digwydd, ef hefyd oedd ein harf cyfrinachol i lenwi cynulleidfa. Ni fu digwyddiad Cymdeithas Cledwyn yng nghynhadledd y Blaid Lafur erioed yn fwy llwyddiannus na'r flwyddyn y cytunodd Dafydd i fod yn westai. Ond dyna sut un oedd ef—gallai bob amser fod uwchlaw carfannau pleidiol, gan ddod â phobl at ei gilydd trwy gyfeillgarwch a oedd yn bwysicach na rhaniadau gwleidyddol. Roedd yn deall, er efallai ein bod ni i gyd yn eistedd ar feinciau ar wahân, ein bod ni i gyd yno i wasanaethu Cymru, manteisiodd i'r eithaf ar bob cysylltiad, bob amser gyda chynhesrwydd, haelioni a'r lefel berffaith o ddengarwch. Roedd mor falch o ddod yn Weinidog Llywodraeth Cymru, a dywedodd mai dyna oedd cyflawniad mwyaf ei yrfa. Ac roedd y portffolio y gweithiodd arno wir yn gweddu i'w gryfderau—twristiaeth, diwylliant, y celfyddydau a threftadaeth.

Byddai bob amser yn rhoi cynnig ar bethau. Ar un achlysur, aeth ar ymweliad â Zip World. Roedd gweld Arglwydd yn bownsio i fyny ac i lawr ar drampolîn yn yr ogofâu yn Llechwedd, clywais, yn olygfa gwerth ei gweld. Ac yn arddull glasurol Dafydd, pan ddaeth allan o'r chwarel, pwyntiodd at blac ar y wal a ddadorchuddiwyd ganddo 40 mlynedd ynghynt. Dyna sut un oedd Dafydd. Roedd wedi bod ym mhobman ac roedd yn adnabod pawb.

Fe wnaethom ni weithio ochr yn ochr â'n gilydd yn ystod y pandemig, ac mae unrhyw un a aeth drwy hynny gyda'i gilydd mewn Llywodraeth ynghlwm am oes. Ym mhob swydd, roedd yn cynnig yr un cyfuniad hwnnw o ddifrifoldeb a ffraethineb ysgafn, â gallu rhyfeddol i wneud hyd yn oed yr achlysuron mwyaf ffurfiol deimlo'n fwy dynol, heb fyth golli golwg ar y gwaith difrifol a oedd wrth law. Roedd ei angerdd dros ein diwylliant a'n hiaith yn heintus, gan ein herio ni i gyd i feddwl yn fwy dwys am yr hyn yr oedd yn ei olygu i fod yn Gymro neu'n Gymraes—weithiau'n ddadleuol, ond bob amser yn feddylgar. Er y gallai danio dadl ffyrnig, roedd bob amser yn dod o le o gariad dwys tuag at Gymru a chred ansigladwy yn ei dyfodol.

I Mair a'r teulu cyfan, rydym ni'n rhannu yn eich colled ddwys. Ond rydym ni'n gobeithio y gallwch chi gymryd cysur o wybod bod etifeddiaeth Dafydd yn parhau, nid yn unig yn y sefydliadau y gwnaeth helpu i'w hadeiladu, ond yn y bywydau di-rif y cyffyrddodd â nhw gyda'i garedigrwydd, ei ddoethineb a'i angerdd diwyro at ei wlad. Mae Cymru wedi colli un o'i gweision mwyaf, gan adael marc annileadwy ar daith ddemocrataidd y genedl. Bydd ei bresenoldeb i'w deimlo yma bob amser, a bydd ei weledigaeth o Gymru falch, hyderus a diwylliannol fywiog yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau i ddod.

Yn fwy na hynny, bydd ei esiampl o sut i wasanaethau gydag angerdd a hiwmor, gydag egwyddor a chyfeillgarwch, yn parhau i fod yn destun arweiniol i bob un ohonom a gafodd y fraint o'i adnabod. Dafydd, mi fyddwn ni'n dy golli di'n fawr, a byddaf fi yn fythol ddiolchgar am dy esiampl, dy garedigrwydd a dy gyfeillgarwch. Nos da, annwyl gyfaill. Gorffwys mewn hedd.

13:35

Gyda thristwch dwys heddiw yr ydym ni'n nodi marwolaeth yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, ac mae ein calonnau yn mynd allan i Mair a'i holl anwyliaid, sydd yn sicr yn ein meddyliau a'n gweddïau ar hyn o bryd.

Nid yw'n dweud rhy ychydig o ddatgan bod Dafydd yn un o gewri gwleidyddiaeth Cymru. Doedd ei daith o fod yn genedlaetholwr gwrthsefydliadol i fod yn wladweinydd yng nghalon sefydliadau Cymru yn ddim llai na rhyfeddol.

Roedd yn ŵr trwsiadus. Roedd hances boced sidan yn y boced bob amser, ac roedd yn arfer rhoi her dda i David Melding, o ran ei wisgoedd sionc ar adegau, ond rwy'n meddwl mai Dafydd oedd â'r fantais bob amser oherwydd bod ganddo sanau cyfatebol i fynd gyda'r tei a'r hances hefyd. [Chwerthin.]

Ac, wrth gwrs, roedd yn ŵr â deallusrwydd, ffraethineb ac argyhoeddiad mawr, byth yn ofni herio'r sefyllfa oedd ohono, ond bob amser yn agored i esblygiad ei syniadau ei hun. Ac ar ôl bod yn Llywydd cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru a oedd newydd ei sefydlu ar y pryd, llaw gadarn Dafydd wnaeth helpu i gadarnhau lle'r Senedd wrth galon ein bywyd cenedlaethol a'n democratiaeth yng Nghymru.

Roedd ei daith wleidyddol yn unigryw. Roedd yn weriniaethwr balch, a safodd y tu allan i'r system ar un adeg ond a gafodd ei hun yn rhan ohoni yn y pen draw, gan ddod yn ffrind da i'n Brenin Charles erbyn hyn. Ac, wrth gwrs, daeth yn AS ac yn un o Arglwyddi'r deyrnas, ac yn ffigwr uchel ei barch a hoffus ar draws pob rhaniad gwleidyddol. O gadarnleoedd y Gymraeg yng Ngwynedd i ystafelloedd bwyta Palas Buckingham, roedd Dafydd Elis-Thomas yn gwbl gartrefol. Ac nid ei ddawn gwleidyddol yn unig oedd yn ei wneud yn wahanol, ond ei wresogrwydd, ei hiwmor a'i allu i ddod â phobl ynghyd. Roedd bob amser yn gallu diarfogi ei wrthwynebwyr gyda ffraetheb wedi'i hamseru'n dda yr un mor hawdd ag y gallai gyflwyno araith wych gydag angerdd a deallusrwydd. Roedd, ym mhob ystyr, yn un o wŷr y dadeni.

Wrth gwrs, fe wnes i gyfarfod Dafydd gyntaf pan roedd yn Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd yn 2007, a gallaf gofio sawl achlysur pan roedd yn Llywydd pan gafodd effaith ar fy mywyd. Gallaf gofio prynhawn eithriadol o ddiflas—ac rydym ni'n cael llawer o'r rheini yn y Senedd, mae gen i ofn dweud—â datganiadau maith, ac ar ddiwedd y trafodion dywedodd, 'Mae hynna'n dirwyn i ben diwrnod cyffrous arall ym mywyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru'.

Ac, wrth gwrs, roedd yn gyfaill mawr i sefydliadau cenedlaethol Cymru. Un o'r sefydliadau yr oedd yn angerddol gefnogol ohonyn nhw oedd Cymdeithas Sŵoleg Genedlaethol Cymru, sw genedlaethol Cymru, Sw Mynydd Cymru. A gallaf ei gofio yn mynd i ddigwyddiad yno i nodi agoriad cyfleuster newydd, a chyn gynted ag y gwelodd fi, rhedodd draw a dywedodd, 'Rwyf i wedi dod i'ch gweld chi yn eich cynefin naturiol.' [Chwerthin.]

Wyddoch chi, prin iawn yw'r gwleidyddion sy'n cael y fraint o weld eu gyrfaoedd yn dod i ben yn fuddugoliaethus, ond roedd Dafydd yn un ohonyn nhw. Ac mae ei etifeddiaeth nid yn unig yn y Senedd y gwnaeth ei helpu i'w llunio, ond ym mharch, anwyldeb ac edmygedd pawb a oedd yn ei adnabod. Mae Cymru, yn wir, wedi colli gwladweinydd, rydym ni wedi colli ffrind, ond bydd ei ddylanwad yn sicr yn parhau am genedlaethau lawer i ddod. Felly, gorffwysed mewn hedd, Dafydd—

—a diolch am bopeth.

13:40

Diolch, Llywydd.  Efo tristwch mawr y clywon ni’r newyddion fore Gwener am farwolaeth y dihafal Dafydd Elis-Thomas. I mi, o fore oes, mi oedd o yno: yn ffrind, yn ffrind i’r teulu, yn ddylanwad, yn ysbrydoliaeth mewn cymaint o wahanol ffyrdd. Ond, i ni i gyd, o fore oes ein democratiaeth ni , mi oedd Dafydd yno i’n tywys. Mi draddododd o ei weledigaeth ar y llwyfannau i gyd, onid do—ar strydoedd ei gymuned, mor ifanc yn Nhŷ’r Cyffredin, i’r ail siambr wedyn, tra ar yr un pryd yn treiddio'n ddyfnach ac yn ddyfnach i fywyd cyhoeddus ein cenedl, ein hiaith, byd addysg ac yna i’n Senedd ein hunain. Ac ie, y gweledydd o Lywydd, mab y mans, yn dod, maes o law, ei hun yn Weinidog heb enwad.

Ar y meinciau yma, wrth gwrs, rydyn ni hefyd yn cofio Dafydd am ei ddegawdau o wasanaeth i Blaid Cymru—ein harweinydd am wyth mlynedd, ond yn rhan o’n DNA am ymhell dros hanner canrif, ers iddo fo ymuno efo’r blaid yn llanc 16 oed yn Ysgol Ramadeg Llanrwst. Mi roddodd i’r blaid wasanaeth wedi ei yrru gan angerdd at ei wlad ac mi adawodd waddol hirhoedlog.

Ydy, mae’n perthynas ni i gyd efo’n pleidiau yn gallu bod yn gymhleth o bryd i’w gilydd, a doedd Dafydd yn ddim gwahanol yn hynny o beth, ond mi oedd yna symlder yng nghysondeb di-siglo cariad Dafydd at Gymru, a dyna oedd yn nodweddu ei holl flynyddoedd mewn bywyd cyhoeddus. Er yn ysgolhaig heb ei ail, ymgyrchydd oedd Dafydd wrth reddf. Pan ofynnwyd iddo fo unwaith beth yr oedd o'n fwyaf balch ohono fo, yr ateb heb oedi oedd sicrhau iawndal i chwarelwyr. Ydy, mae Cymru yn ddyledus i Dafydd am siapio'r Siambr hon fel y mae hi heddiw, ond mae ei dyled hi yr un mor fawr iddo fo am sefyll dros yr hyn oedd yn gyfiawn, ac mi siapiodd ein cenedl ni yn unol â’r gwerthoedd hynny.

Ni allai ein Senedd fod wedi dymuno am Lywydd cyntaf gwell na Dafydd. Roedd yn bensaer gwleidyddol, yn ŵr o weledigaeth feiddgar, â chynllun i'w gwireddu. Adeiladodd bontydd ar draws y rhaniad gwleidyddol, talent a gafodd ei meithrin yng nghoridorau San Steffan efallai, yng nghanol cythrwfl Llywodraeth leiafrifol yn y 1970au. Er ei fod yn gymeradwy os nad weithiau'n ddireidus o ddigyfaddawd yn ei annibyniaeth meddwl, roedd Dafydd yn ystyried consensws fel arf gwerthfawr ac ymdrechu bob amser i ddod o hyd i dir cyffredin, ac, ar draws rhaniadau gwleidyddol heddiw, rydym ni'n ei gofio ac yn gwerthfawrogi gwaith ei oes.

Mi fyddwn ni’n cofio ei ddireidi, mi fyddwn ni’n cofio ei ddawn a’i gyfraniad amhrisiadwy i ddatganoli ac i Gymru. Ac, ar ran Plaid Cymru, dwi’n anfon ein cydymdeimlad dwysaf at Mair, ac at Rolant a Meilyr a Cai, a’r teulu i gyd. Heddwch i chi, Dafydd.

13:45

Yr oedd gan Dafydd Elis-Thomas lawer o ffrindiau yn fy mhlaid, ac roeddem ni’n drist iawn i glywed am ei farwolaeth.

Roedd ganddo ran hynod bwysig yn y gwaith o ddatblygu Cynulliad dwyieithog, ac mae'r setliad a ddatblygodd wedi parhau hyd heddiw. Rwy'n mynd i rannu stori gan Kirsty Williams a'i hatgofion ohono. Fe wnaethon nhw gyfarfod ar rifyn o The Midnight Hour yn 1997 ac, o'r eiliad honno, fe wnaeth ei hannog a'i herio. Ei hoff atgof fyddai pan wnaethon nhw hedfan drwy Gaerdydd yn ei hen Mini glas o stiwdio'r BBC i'r parti cyfrif ar noson y refferendwm. Y noson honno, wrth i'r pleidleisiau ddod i mewn, roedd Kirsty a'r gwesteion eraill a oedd o blaid datganoli mewn anobaith yn y stiwdio radio, ond ni wnaeth Dafydd anobeithio o gwbl. Pan ddaeth pleidlais sir Gaerfyrddin i mewn, rhoddodd y wên gyfrwys nodweddiadol honno ac amnaid o'i ben.

Yn ôl i'r Siambr, pan gymerodd ran yng nghwestiynau i'r prif weinidog, os oes hi'n meddwl ei bod ar y trywydd iawn ac yn gwneud gwaith da byddai'n gadael i Kirsty gael mwy o gwestiynau nag yr oedd hi i fod i'w cael, er gwaethaf protestiadau croch y meinciau Llafur. Os oedd yn meddwl bod ei thrywydd cwestiynu yn wael, byddai'n rhoi terfyn ar ei chyfraniad. Pan fydd cymeriadau cryf yn marw, mae'n amser cofio ein bod ni yma fel Aelodau o'r Senedd yn sefyll ar ysgwyddau cewri.

Rydym ni fel Aelodau yma oherwydd bod Aelodau fel Dafydd Elis-Thomas wedi troedio o'n blaenau ni a chreu llwybr i sicrhau dyfodol mwy llewyrchus i Gymru. Diolch yn fawr iawn i chi, Dafydd.

Roedd Dafydd yn gawr gwleidyddol, ac mae diolch Cymru yn enfawr iddo. Fe wnaeth gyfraniad amhrisiadwy i wleidyddiaeth Cymru. Dilynodd Dafydd a minnau lwybrau bywyd digon tebyg mewn sawl ystyr. Yn feibion i’r mans, bu i’r ddau ohonom ni gael ein geni yng Nghaerfyrddin, cyn symud i fyw i Landysul, graddio ym Mhrifysgol Bangor, ac yna ymgartrefu ym Meirionnydd. Mae’r ffaith felly fy mod i wedi olynu'r cawr gwleidyddol yma i'r Senedd yr oedd o mor ganolog i'w chreu yn destun balchder i mi. Er yn wleidydd anghonfensiynol ac enigmataidd, roedd yna edefyn clir yn rhedeg trwy ei fywyd gwleidyddol, sef ei angerdd dros Gymru, ei phobl a'i diwylliant cyfoethog, ac roedd y bobl yn hoff iawn ohono fo hefyd. Roedd ei lwyddiant rhyfeddol yn etholiad 1974 yn dyst i hynny, wrth iddo lwyddo i droi cadarnleoedd Llafur i fod yn gadarnleoedd Plaid Cymru. Mae'n cymryd nerth cymeriad ac apêl magnetaidd i wneud hynny, ond dyna oedd grym apêl Dafydd El. 

Roedd yn wleidydd craff oedd yn adnabod llwybrau cudd gwleidyddol y Deyrnas Gyfunol a Chymru er mwyn dylanwadu a chyflawni ei amcanion. Ond, er gwaethaf nerth ei ddadleuon a'i allu areithiol digyffelyb, sylwodd dros gyfnod o bron i ddau ddegawd yn San Steffan nad oedd y doniau amlwg yma am sicrhau'r llwyddiannau roedd o'n eu deisyfu dros ei genedl. Rhaid felly oedd canfod ffyrdd amgen i ddylanwadu a sicrhau'r newid yr oedd o'n ei ddyheu, ac fe ddefnyddiodd ei rwydweithiau er mwyn sicrhau enillion dros Gymru a'i hiaith. Cymru oedd yn bwysig i Dafydd. 

Fel Llywydd y Cynulliad, a ddaeth i fod yn Senedd, y daeth ei gyfraniad pwysicaf. Dafydd oedd un o benseiri ein Senedd, gan sicrhau bod gennym ni yng Nghymru ein deddfwrfa ein hun am y tro cyntaf mewn 600 mlynedd, ac fe normaleiddiodd y defnydd o'r Gymraeg trwy ei lywyddiaeth. Fe gynrychiolydd bobl Meirionnydd, Meirionnydd Nant Conwy a Dwyfor Meirionnydd gydag urddas dros gyfnod o bron i 40 mlynedd. Fel ei olynydd fel Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, mae fy niolch personol yn enfawr iddo. Roedd bob amser yn barod ei gefnogaeth, ac fe ddangosodd gefnogaeth lwyr i fi o'r eiliad y cefais fy ethol. Cydymdeimladau dwysaf i'w anwyliaid yn eu galar, felly. Mae Cymru wedi colli cawr.

13:50

Roedd angen Dafydd Elis-Thomas arnom bob un ohonom ni, onid oedd, ar wahanol adegau. Cwrddais ag ef gyntaf yn y 1980au, ac rydym ni i gyd yn cofio'r un digwyddiadau ychydig yn wahanol. I mi, ar yr adeg honno yng nghanol y 1980au, roedd Cymru yn wlad lle'r oedd gwrthdaro; roedd yn wlad ranedig. Roedd y tai gwyliau wedi bod yn llosgi ychydig flynyddoedd ynghynt ac roedd y glowyr ar streic. Roedd 15 AS Torïaidd yn cynrychioli etholaethau Cymru. Roeddem ni'n wlad wedi'i rhannu ymhlith ein gilydd. Ac yna clywais y llais yma yn codi—llais a siaradodd â brys bywiog am undod, am y pethau sy'n dod â ni at ein gilydd, am bwy ydym ni fel cenedl ac fel gwlad. Mae gwleidyddion diog wedi ceisio creu rhaniadau erioed; yr hyn a wnaeth Dafydd oedd creu undod. Doedd dim gogledd yn erbyn y de. Roedd eisiau cefnogi glowyr maes glo de Cymru yn yr un modd ag y perswadiodd fi yn ddiweddarach i gefnogi gweithwyr y chwareli ym Mlaenau Ffestiniog. Yr un frwydr oedd hi. Ac roedd y weledigaeth honno, y weledigaeth gadarnhaol, galonogol, ddyrchafol honno yn gyffrous i mi bryd hynny, fel yr oedd pan glywais ei lais drwy gydol fy mywyd. 

Roedd llais Dafydd El yn wahanol i'r rhan fwyaf o wleidyddion yr ydym ni'n eu clywed, naill ai bryd hynny neu ers hynny. Ef oedd y siaradwr yr wyf i'n ei gofio o ymgyrchoedd i achub Cyngor Llundain Fwyaf, yn codi llais yn Llundain. Roedd hefyd yn un o'r lleisiau a safodd yn erbyn cymal 28. Ei weledigaeth o Gymru oedd un lle mae gan bob un ohonom ni le, lle mae pob cymuned yn bwysig. A'r weledigaeth honno o Gymru mewn heddwch â'i hun oedd y weledigaeth fwyaf radical oll o bosibl. A'r radicaliaeth honno, y radicaliaeth honno yr oedd yn ei ddal y tu mewn iddo, oedd yn herio bob un ohonom ni drwy'r amser. Roedd y deallusrwydd hwnnw, yr hiwmor hwnnw, lled honno'r weledigaeth a'r uchelgais ar gyfer ein gwlad yn gallu pontio'r holl raniadau yr ydym ni wedi eu gweld dros y blynyddoedd.

Ac fe wnaeth y Prif Weinidog sôn am allu Dafydd El—rwyf i bob amser yn dweud 'Dafydd El'; nid wyf i byth yn dweud 'Dafydd Elis-Thomas'—i weithredu fel y bont honno, a'r bont honno rhwng pwy rydym ni wedi bod a phwy roeddem ni eisiau ei fod, ond hefyd roedd ymdeimlad o garedigrwydd. A wyddoch chi—? Rwy'n cofio, ym 1998, pan ymwelodd Nelson Mandela â Chaerdydd, roedd fy merch yn ddeufis oed. Roeddwn i'n gwbl benderfynol: mae'r ferch hon yn mynd i weld Nelson Mandela. Felly, fe es i â hi yn ei phram, neu beth bynnag oedd ef, i lawr i Gaerdydd ac fe wnes i ei dal hi i fyny fel ei bod hi'n gweld Nelson Mandela, ac yntau yn ei gweld hi. Ac o rywle, mae Dafydd Elis-Thomas yn ymddangos. 

'Dyma dy ferch?' 'Ydy.' 'Beth yw ei hoedran hi?' 'O, dau fis.' 'Aros fan hyn.' 

Ac yng nghanol y sgarmes hon i gyd, mae'n diflannu, ac ar ôl ychydig nid yw wedi dod yn ôl ac rwy'n meddwl, 'Beth sy'n digwydd fan hyn?' Ac yna mae'n ailymddangos gydag anrheg i'm merch, dilledyn babi bach. Ac rydych chi'n meddwl, yng nghanol y materion gwladol hyn, y digwyddiadau mawr hyn, roedd Dafydd Elis-Thomas yn rhuthro i ffwrdd i ddod o hyd i anrheg i'm merch ddeufis oed. Ac mae'n rhywbeth sy'n aros gyda chi, onid yw, y weithred honno o garedigrwydd diangen.

Ac yna rwy'n ei gofio yma fel y Llywydd. Ac rwy'n cofio bryd hynny sut roedd ei weledigaeth o'r lle hwn—.

'Dyw e ddim yn Senedd, Alun; mae'n Gynulliad.' 'Cofia, Alun', ddywedodd e,

'Assemblée Nationale—dydych chi ddim yn gwybod eich hanes.' Rwy'n cofio wedyn y gwaith a wnaeth, yn gweithio, Julie, gyda Rhodri i achub y sefydliad a oedd gennym ni, ac rwy'n cofio, Mark, y cyfraniad a wnaethoch chi bryd hynny. Heb bobl â'r weledigaeth, â'r uchelgais, ni fyddai'r lle hwn wedi gallu cael ei sefydlu yn y ffordd honno. Ac rydym ni i gyd yn gwybod hefyd sut y gallai ddominyddu'r Siambr hon—ei dominyddu gyda'i ddeallusrwydd, ei dominyddu gyda'i wybodaeth, ei dominyddu gyda grym ei ddadl—ond hefyd sut yr heriodd ein rhagdybiaethau diog ni i gyd am bethau yr oeddem ni'n meddwl yr oeddem ni’n gwybod amdanyn nhw a rhywfaint o'r dogma yr ydym ni i gyd yn cael ein carcharu ynddo ar wahanol adegau. Roedd ef bob amser yn ein herio ni i feddwl eto, bob amser yn ein herio ni i fod yn rhywbeth efallai nad oeddem ni'n sylweddoli y gallem ni ei fod. Arweinydd Plaid Cymru a ddiystyriodd annibyniaeth. Aelod diwygiadol radical o Dŷ'r Arglwyddi. Roedd bob amser yn herio pob un ohonom ni, ac efallai mai ei weledigaeth o Gymru oedd ei her fwyaf oll. 

Llywydd, rwy'n cofio taro arno, a dweud y gwir, yn ystod yr ad-drefnu pan ymunodd â'r Llywodraeth, ac rwy'n cofio'r ymdeimlad hwnnw o lawenydd llwyr o weld y gŵr hwn yn Llywodraeth y wlad hon o'r diwedd. Fe'i gwahoddais i Dredegar a dywedais wrtho, 'Edrychwch, rwyf i eisiau siarad â chi am Aneurin Bevan.' 'Iawn', meddai, 'da iawn.' Ac rwy'n cofio gwahodd grŵp o gynghorwyr i gyfarfod ag ef wrth y cloc yn Nhredegar, ac roeddem ni'n disgwyl, fel y byddwch chi, am Weinidog, ac roedd y cynghorwyr hyn, y cynghorwyr Llafur hyn, fel plant ar fore Nadolig—wyddoch chi, 'Ble mae ef?' Ac mae'n ymddangos, ac rydym ni'n gwybod sut oedd Dafydd. Roedd yn naturiol. Roedd yn rhwydd. Roedd yn ddifyr, ac roedden nhw wedi'u swyno ganddo. A phan wnaethon nhw dynnu sylw at Rif 10, Y Cylch—'O ie, Rhif 10, Y Cylch, dyna lle'r oedd gan Walter Conway ei swyddfa.' Roedd yn gwybod y pethau hyn. Roedd yn gwybod yr hanes, roedd yn gyfarwydd â'r diwylliant, roedd yn adnabod y gymuned, roedd yn gwybod beth roedd pobl ei eisiau ganddo.

A wyddoch chi—? Yn fwy na dim arall, yr hyn y byddaf yn ei gofio, ac fe wnaf i orffen gyda'r pwynt hwn: roeddem ni'n eistedd yn Nhŷ Bedwellty wedyn gyda phice ar y maen a phaned o goffi. Roeddem ni'n sgwrsio am wahanol bethau a dywedodd y swyddfa breifat, 'Weinidog, mae'n rhaid i chi fynd. Weinidog, roedd angen i chi adael awr yn ôl. Weinidog, mae gennych chi bethau eraill i'w gwneud, mae'n rhaid i chi fynd.' Ac roedd Dafydd El yn dal i sgwrsio, roedd yn edrych ar wahanol arteffactau yn Nhŷ Bedwellty. Roedd yn siarad, 'Dyma lle roedd Aneurin Bevan yn eistedd ar gyngor tref Tredegar', y mathau hyn o bethau. Ac yna mae'n gadael—ei bocedi yn llawn pice ar y maen, i ffwrdd ag ef. A throdd cyfaill ataf a dweud, 'Am ddyn hyfryd. Am ddyn hyfryd', ac roeddem ni yn Nhŷ Bedwellty eto ddydd Gwener ychydig ar ôl i ni glywed y newyddion. Dywedodd eto, 'Am ddyn hyfryd.' Efallai pan fyddwn ni'n meddwl am Dafydd, y byddwn ni'n meddwl am ei oes o wleidyddiaeth a chyfraniad at y wlad hon, at ein pobl ac at ein cenedl, ond efallai, Mair, yn fwy na dim arall, y byddwn ni'n meddwl, 'Am ddyn hyfryd.'

13:55

Fe wnes i gyfarfod â Dafydd yn bersonol gyntaf pan roeddwn i'n ymgeisydd yn etholiad 2003, rai misoedd cyn yr etholiad hwnnw pan roeddwn i'n siarad ar lwyfan etholiad rwy'n credu yng Ngholeg Llandrillo, os cofiaf yn iawn, a gallwn weld yr wyneb hwn yn gwenu yn y gynulleidfa wedi'i amgylchynu gan fyfyrwyr a staff wrth i mi a'r ymgeiswyr eraill gael ein croesholi ar faterion di-rif. Wedyn, ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben, daeth yn syth ataf i a chyflwyno ei hun yn wylaidd iawn, fel pe na fyddwn i'n gwybod pwy oedd ef, ac er syndod dymunol i mi fe wnaeth fy annog fel Ceidwadwr Cymreig, a dywedodd 'Rwyf eisiau eich gweld chi yn y Cynulliad', gan ei fod eisiau'r sefydliad agored, cynhwysol, democrataidd hwnnw lle'r oedd gennym ni, oedd, craffu gwirioneddol, atebolrwydd a gwleidyddiaeth drawsbleidiol priodol a difyr, ond roedd hefyd eisiau'r bobl yno yr oedd yn teimlo y gallen nhw sicrhau hynny. Nid wyf i'n dymuno swnio'n ymffrostgar, ond rwy'n teimlo balchder ei fod wedi fy annog i ar yr adeg honno. Ac, wrth gwrs, pan gyrhaeddais i, ef oedd un o'r bobl gyntaf un i ddod ataf a'm cyflwyno.

Nawr, efallai y bydd rhai o'r Aelodau sydd wedi bod yma am gyfnod hirach, gan gynnwys y Llywydd presennol efallai, yn cofio, yn y dyddiau hynny, bod clwb nos Fawrth yn yr ystafell baned, fel yr oeddem ni'n dal i'w galw, a oedd yn gynulliad siriol o wleidyddion trawsbleidiol, rhai gweision sifil a newyddiadurwyr, nifer eithaf mawr ohonom ni fel rheol, ac roedd bob amser yn gyfeillgar; roedd bob amser yn gyfeillgar. Y rheol oedd: nid oedd dim byth yn gadael yr ystafell honno. Felly, gallem ni gael sgyrsiau agored, gonest heb wleidyddiaeth bleidiol, am unrhyw fater o dan yr haul, tra'n blasu gwydraid neu ddau o win gyda'n gilydd. Ac mi wnes i flasu sawl gwydraid o win gyda Dafydd ac eraill, ac roeddem ni'n grŵp o ffrindiau. Nid oeddem ni bob amser yn gynghreiriaid gwleidyddol, ond roeddem ni'n grŵp o ffrindiau, ac fe wnaethom ddatblygu ymddiriedaeth rhyngom ni.

Rwy'n cofio ei frwdfrydedd, yn y dyddiau hynny, am yr adeilad hwn, a oedd yn dwll yn y ddaear, ac ef yn fy llusgo i ffwrdd un noson, ar ôl un neu ddau o'r gwydreidiau hynny o win, i weld y model a oedd wedi'i leoli bryd hynny y tu allan i'r hen Siambr drafod, gan fy argyhoeddi i o'i rinweddau a pham y dylwn i fod yn cefnogi'r adeilad hwn, ar adeg pan roedd ein grŵp ni yma—gadewch i ni ei roi yn gwrtais iawn—yn feddwl-agored, ac weithiau'n elyniaethus tuag at gost a fyddai'n gysylltiedig.

Rwy'n cofio'r achlysur, rwy'n meddwl mai agoriad 2007 oedd ef, pan roedd fy ngwraig yn canu yn yr ystafell baned, a doedd ef ddim yn hapus. Roedd yn teimlo bod hyn yn tresmasu ar urddas y sefydliad, ac fe'i gwnaeth yn eglur i'm gwraig mai dyna oedd ei deimladau. Nid oedd yn gwybod ar yr adeg honno bod fy ngwraig yn un ddygn, a ymatebodd yn yr un modd, ac fe ddaethon nhw'n ffrindiau da ar ôl hynny, gyda, rwy'n credu, parch ar y ddwy ochr wedi'i seilio ar y cyfarfyddiad cychwynnol hwnnw.

Rwy'n cofio'r achlysur, wrth gwrs, pan enillodd y wobr mwyaf trwsiadus, nid yn unig ar gyfer y Senedd, ond rwy'n credu mai ef oedd gwleidydd mwyaf trwsiadus y flwyddyn, os cofiaf. Rwy'n cofio'r achlysur, efallai y bydd Aelodau o'r cyfnod hwnnw yn ei gofio, a dyna'r unig achlysur yr wyf i'n ei gofio yn digwydd, pan wnaeth Dafydd Elis-Thomas, yn yr hen Siambr, fel Llywydd, ein taflu ni i gyd allan. Oherwydd yn y dyddiau hynny, cyn fod y rheol dim alcohol cyn 6.00 p.m. ar waith—mae'n ddrwg gen i, gyhoedd, ond dyna oedd yn digwydd; yn y dyddiau hynny, roedd alcohol ar gael cyn 6.00 p.m. i'r rhai a oedd yn dymuno ei gael—roedd derbyniad amser cinio ar gyfer yr Ymgyrch dros Gwrw Go Iawn. Roedd fwy neu lai pob un Aelod, gan gynnwys pob Aelod o'r Weithrediaeth ar y pryd, cyn i ni ei alw'n 'Llywodraeth', yn bresennol yn y derbyniad hwnnw gan, yn gwrtais iawn, gymryd o leiaf un sampl am ddim, os nad mwy. Pan wnaethom ni gyrraedd y Siambr, roedd yn swnllyd. Mor swnllyd bod Dafydd yn teimlo bod y trafodion wedi parhau yn ddigon hir a gofynnodd i ni—dywedodd wrthym ni a dweud y gwir, yn gadarn iawn—i adael, a dywedodd y byddai'n caniatáu i ni ddychwelyd mewn hanner awr pe baem ni'n ymddwyn yn well, ond pe na baem ni, byddai trafodion yn cael eu dirwyn i ben am y diwrnod. Felly, fe wnaethom ni fel y dywedwyd wrthym ni, a diolch byth, pan ddaethom ni yn ôl i mewn, caniatawyd i'r trafodion barhau.

Ac fe wnaf i gloi trwy gyfeirio—aeth blynyddoedd lawer heibio, wrth gwrs—fel y mae eraill wedi ei wneud, at ei gyfnod fel Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, a sut y gwnaeth weithio'n galed ac yn dawel, a'i gariad at y briff hwnnw. Ychydig wythnosau yn ôl, fe es i ar ymweliad ffurfiol â Theatr Clwyd, i edrych ar y gwaith ailwampio, ond rwy'n cofio mynd at Dafydd, yn breifat, pan roedden nhw'n gofyn am yr arian oedd ei angen arnyn nhw i wneud i hynny ddigwydd. A do, daeth cyllid arall i mewn yn ddiweddarach, gan gynnwys rhywfaint o gyllid bach gan Lywodraeth y DU, ond pe na bai Dafydd wedi mynd i'r afael â hynny, ni fyddai'r gwaith ailwampio newydd ardderchog hwnnw yn digwydd.

Ac fe wnaf i gloi gydag un o'm hatgofion anwylaf, pan roedd yn y swydd honno, yn ymweld â chastell Gwrych ger Abergele gydag ef, y castell a aeth ymlaen i fod yn enwog yn rhyngwladol fel cartref I'm a Celebrity...Get Me Out of Here! Cafodd ei swyno mwy gan hanes yr adeilad, pensaernïaeth yr adeilad, na'r gwir reswm yr oeddem ni yno, gyda Mark Baker y gŵr ifanc a oedd wedi arwain y gwaith o adfer ac achub yr adeilad gwych hwnnw. Serch hynny, fe gyrhaeddon ni yno yn y diwedd, ac roedd yn gefnogol yn y fan honno hefyd.

Felly, Dafydd, rwy'n siŵr, fel y mae llawer o bobl eraill wedi ei ddweud, y bydd colled mawr ar eich ôl, ond roedd yn fraint a phleser eich adnabod. Ac eto, fel eraill, anfonaf fy nghydymdeimlad at Mair a'r teulu ar yr adeg hon o golled ofnadwy.

14:05

Bu llawer o ffigurau mawr yn nhirwedd wleidyddol Cymru dros yr 50 mlynedd ddiwethaf, ond ychydig a all hawlio iddynt drawsnewid y dirwedd ei hun gymaint â Dafydd Elis-Thomas. Roedd yn sicr yn rhywun a ymhyfrydai yn ei wrthddywediadau ei hun, fel rydyn ni wedi clywed: y radical a oedd wrth ei fodd â thraddodiad; y cenedlaetholwr Cymreig yn sgwrsio'n gyfforddus â theulu brenhinol Lloegr. Ond, er gwaethaf y gwrthddywediadau, roedd y cysondeb nid yn y dull, ond y nod, y nod a oedd bob amser yr un peth, sef adeiladu'r genedl wleidyddol Gymreig. Tactegau oedd popeth arall.

Pan nad oedd un dull yn gweithio, rhoddodd gynnig ar un arall. Clywais y cyfweliadau dros y penwythnos pan wnaeth Dafydd, yn ei ffordd ddigyffelyb, wadu'n llwyr ei fod erioed yn Farcsydd. Codais hanner ael fy hun, fel yn ôl pob tebyg y byddai Dafydd o oes gynharach wedi ei wneud. Ond roedd yn sicr yn edmygydd gydol oes o'r Marcsydd gwych hwnnw o Sardinia, Antonio Gramsci, a wnaeth, gan ysgrifennu o gell carchar, annog blaengarwyr i fod yn besimistiaid o'r deallusrwydd, ond yn optimistiaid o'r ewyllys. Roedd Dafydd yn ymgorffori'r gredo honno; roedd ganddo'r besimistiaeth ddeallusol i wybod nad oedd wtopiâu cyflym bob amser yn bosibl. Doedd Cymru ddim yn mynd i ddeffro'n sydyn wedi'i thrawsnewid dros nos. Ond roedd ganddo'r ewyllys optimistaidd i ddyfalbarhau, flwyddyn ar ôl blwyddyn, wedi'i argyhoeddi bod pob cam bach, pob buddugoliaeth fach, pob cynghrair newydd, yn rhan o ddarlun llawer mwy. Roedd ei orymdaith ef wir yn un faith drwy'r sefydliadau, yn ymgorfforiad o'r syniad hwnnw mai'r weithred fwyaf chwyldroadol weithiau yw cymryd eich sedd wrth y bwrdd, a newid y sgwrs o'r tu mewn mewn ffordd eithriadol o gynnil.

Roedd ysbryd tebyg i Gwydion iddo, onid oedd, yn union fel Cymru ei hun, fel y dywedodd Gwyn Alf Williams wrthym ni. Fe wnaeth ail-greu ei hun, nid fel diletant neu oportiwnydd, ond fel strategydd medrus a oedd bob amser yn darllen y ffeithiau gwleidyddol ar lawr gwlad i ddod o hyd i'r ffordd orau ymlaen ar gyfer y prosiect o adeiladu cenedl a oedd yn ei lywio.

Fel actifydd ifanc brwd, disgrifiais Dafydd Elis-Thomas unwaith fel hen wraig pantomeim gwleidyddiaeth Cymru, gan ei fod yn newid ei ddillad gwleidyddol gyda phob golygfa. Yn nodweddiadol o Dafydd El a'i ffraethineb direidus, dywedodd ei fod yn ystyried hynny fel canmoliaeth, gan mai'r hen wraig oedd y cymeriad mwyaf creadigol yn theatr yr adferiad.

Yn fwy na neb arall, efallai, fe wnaeth Dafydd El—ac i'r rhai ohonom ni oedd yn ei adnabod a'i garu, Dafydd El fydd ef am byth—ehangu gorwelion gwleidyddol posibiliadau Cymru. A nawr, wrth i ni baratoi i ddymchwel y waliau y tu ôl i ni i ehangu ein Senedd a'n democratiaeth unwaith eto, mae'n briodol ein bod ni'n cydnabod ei ran sylfaenol. Nid eistedd yn y Gadair yr ydych chi'n eistedd ynddi nawr yn unig wnaeth ef, Llywydd, fe wnaeth ei chreu, gan arfer ei rym gyda chyffyrddiad crefftwr, gan ddeall bod newid y byd yn aml yn golygu gweithio gyda graen sefydliadau i raddau sy'n ddigon i'w hail-lunio. Am y cawr hwn o Gymro, gallwn ddweud yn sicr ei fod wedi gadael ei farc ar y Gymru sydd i ddod.

Mae'n diolch iddo'n ddiddiwedd.

Mae'n anodd coelio na fydd Dafydd El efo ni bellach i brocio a phryfocio, i agor ein meddyliau, a gwneud inni fyfyrio y tu allan i'r bocs. Bu ei gyfraniad yn enfawr, a'i ddylanwad ar fywyd Cymru'n eithriadol. Mae yna eraill y prynhawn yma wedi rhestru ei holl orchestion. Fe wnaf i sôn am ei ddylanwad arnaf i'n bersonol.

Dwi'n cofio'n iawn y tro cyntaf imi gwrdd â'r dyn byr, trwsiadus a oedd yn byrlymu siarad. Roeddwn i'n fyfyriwr blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth, a'r ddau ohonom ni mewn rhes yn disgwyl i gael ein harwyddo i mewn i glwb yn y dref, clwb oedd ar agor yn y prynhawn pan oedd pob man arall ar gau. Fel yna oedd hi yn y 1970au. Ac, wrth gwrs, buan iawn y gwnaeth y sgwrs droi at wleidyddiaeth Cymru, a minnau yn cael fy hudo yn llwyr gan ei weledigaeth a’i radicaliaeth y chwith. Fe’m hysbrydolodd i agor fy ngorwelion—rhai oedd yn eithaf cul bryd hynny, rhaid cyfaddef. Cyfrannodd eraill at y broses o ddatblygu ynof fi wleidyddiaeth wedi ei gwreiddio mewn egwyddorion cadarn o blaid tegwch a chydraddoldeb, ond Dafydd El ddaru blannu’r hadyn.

Roedd Dafydd yn coelio mewn defnyddio pob llwybr posib er mwyn gwireddu ei freuddwyd o Gymru rydd. Fedraf i ddim dweud fy mod i wedi cytuno efo pob un o'r tactegau hynny, o'r llwybrau hynny, ond mae cydweithio yn bragmataidd efo eraill er mwyn cyrraedd y nod yn bwysig, ac mi ddangosodd Dafydd El y ffordd i ni i gyd yn hynny o beth.

Dwi'n meddwl am Mair a'r hogiau, ei deulu a’i ffrindiau ar yr adeg hynod drist yma, ond yn gwybod y bydd Dafydd El yn byw am byth yn ein calonnau ni i gyd.

14:10

Fel cadeirydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, hoffwn dalu teyrnged i'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd gan y rhai a fydd wedi gweithio ochr yn ochr â Dafydd, naill ai yma neu yn San Steffan, atgofion llawer gwell ohono na minnau. Fodd bynnag, mae'r teyrngedau i Dafydd i gyd wedi dilyn thema debyg: cawr o wleidyddiaeth Cymru, cymeriad, a chyfaill i lawer. Dim ond ychydig o weithiau ers fy ethol y gwnes i gwrdd â Dafydd, ond roeddwn bob amser yn gweld gwên a glint yn ei lygaid wrth iddo ofyn cwestiynau i fi. Ac, er gwaethaf ei safbwyntiau gwleidyddol gwahanol, hoffwn feddwl bod Dafydd, fel Llywydd cyntaf y lle hwn, craig sylfaen ein Senedd, yn falch o weld siaradwr Cymraeg ifanc o gefn gwlad Cymru wedi cael ei ethol i'r lle y gwasanaethodd ei etholwyr a Chymru gyfan ag urddas ac angerdd. Mae cydymdeimlad grŵp y Ceidwadwyr Cymreig gyda Mair, ei deulu a'i ffrindiau ar yr adeg drist hon.

Mae gen i gof plentyn o Dafydd yn dod i'n tŷ ni, wrth gwrs, oherwydd roedd fy nhad yn gweithio i'r blaid, ac adeg streic y glowyr yn yr 1980au, ac adeg rhai o ymgyrchoedd mawr y blaid yn sir Gaerfyrddin—ymgyrch Hywel Teifi, ymgyrch Rhodri Glyn yn y 1990au cynnar, ac yn y blaen—ac roedd ei glywed e yn areithio yn ddigon i gynhyrfu ysbryd unrhyw lanc ifanc fel fi, heb os nac oni bai.

Ond, wrth gwrs, fel rŷn ni wedi clywed, fel Llywydd y Cynulliad a'r Senedd hon y bydd yn cael ei gofio yn bennaf. Fel y dywedodd rhywun dros y penwythnos: y dyn iawn, yn y lle iawn, ar yr amser iawn. Ac mi glywon ni'n gynharach y Prif Weinidog yn dweud ei fod e'n un am adeiladu pontydd. Wel, mi oedd e'n un am adeiladu cynghreiriau. Mae’n ffaith iddo fo gynrychioli Dwyfor Meirionnydd, neu Meirionnydd Nant Conwy fel yr oedd hi, am ddegawdau lawer, a chreu'r cynghreiriau yna o'r trigolion lleol ar y stadau cyngor yn ei gefnogi e, a'r rheini oedd wedi symud i mewn o Loegr, efallai, yr un mor debygol o'i gefnogi e. Ac, wrth gwrs, y gallu yna i adeiladu cynghreiriau oedd yn bwysig i ddatganoli.

Ar ôl buddugoliaeth y refferendwm o drwch blewyn, Dafydd El oedd yr un i roi hyder i bobl Cymru yn y sefydliad newydd yma. A'r adeilad yma hefyd, wrth gwrs, fel rŷn ni wedi clywed, yn destament o ba mor benderfynol oedd e i sicrhau bod ein Senedd genedlaethol ni yn cael y statws dyledus i unrhyw senedd genedlaethol.

Ond pan ddes i yma gyntaf yn 2011, mi oedd Dafydd newydd sefyll i lawr fel Llywydd, wrth gwrs, ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, fel oedd e yn y pedwerydd Cynulliad. Roedd Dafydd yn gadeirydd profiadol, wrth gwrs, ond roedd pob un o'r naw aelod arall o'r pwyllgor yn Aelodau newydd sbon o'r Cynulliad, fel oedd e, ac wrth gwrs roedd e wrth ei fodd, onid oedd e, yn ein dysgu i ni sut oedd craffu’r Llywodraeth, ac yn y blaen, a'r gair o gyngor yna rŷn ni wedi clywed amdano fe sawl gwaith y prynhawn yma. Ac roedden ni'n cellwair yn aml iawn fod y naw Aelod fel disgyblion yn dysgu wrth draed yr Arglwydd, ac yn sicr mi ddysgon ni lawer, oherwydd edrychwch ble maen nhw nawr. Mae yna o leiaf un wedi mynd ymlaen i fod yn Brif Weinidog. Mae yna o leiaf tri wedi bod yn Weinidogion Llywodraeth. Mae yna ddau ohonom ni yn Gadeiryddion pwyllgor. Mae yna un yn Ddirprwy Lywydd y Senedd yma.

Felly, pan rŷn ni'n sôn am gofadail neu legasi Dafydd, wrth gwrs rŷn ni'n meddwl am ei ddylanwad cyfansoddiadol e. Wrth gwrs ein bod ni'n meddwl am ei ddylanwad e ar y mudiad cenedlaethol, a'r bensaernïaeth brics a morter yr adeilad rŷn ni'n sefyll ynddo fe heddiw. Ond gadewch inni gofio hefyd am ei ddylanwad e ar bobl ac ar unigolion, a dwi'n falch iawn i gyfri fy hun yn un o'r rheini. Felly, coffa da ar ei ôl e, ac rŷn ni'n anfon, wrth gwrs, ein cariad a'n cydymdeimlad at Mair a'r bechgyn a'r teulu i gyd. Diolch.

14:15

Fe gwrddais i â Dafydd Elis-Thomas am y tro cyntaf ar ddiwedd y 1990au a dechrau'r 2000au, pan ddaeth ef i Lanfihangel Glyn Myfyr i ddathlu troi'r ysgol gynradd a oedd wedi cau yn ganolfan gymunedol i'r fro gyfan, ac roedd wrth fodd ei galon yno. Roedd mor falch o fod yn Llywydd y Senedd ac o'i ran yn y gwaith o fod yn bresennol i ddathlu'r trawsnewidiad hwn i fod yn gyrchfan newydd sbon lle byddai pobl yn dysgu sut i ddefnyddio cyfrifiaduron, a oedd yn rhywbeth braidd yn ddyrys ar yr adeg honno.

Felly, dim ond rhan fechan iawn oedd gennyf i yn hynny; ni chymerodd ef unrhyw sylw ohonof i. Ond roedd yn un da iawn am ymgysylltu â phawb ac roedd hi'n hynod gyffrous i mi gael cwrdd ag ef unwaith eto, mewn gwirionedd, pan ddeuthum i'r Senedd yn 2011, ac erbyn hynny, wrth gwrs, roedd ef wedi rhoi'r gorau i fod yn swydd y Llywydd. Ond roedd yn un ardderchog am annog pob un ohonom ni, fel dywedodd rhai eisoes, fel gwnaeth Llŷr. Fe fyddai ef yn dweud wrthyf i ar y grisiau bob tro, 'Daliwch ati; gofynnwch chi'r cwestiynau yna." Ac roedd yn hen foi iawn ac yn mwynhau ei fywyd cymaint. Roedd yn Weinidog diwylliant a'r celfyddydau delfrydol, oherwydd roedd yn un mor dda am drin yr holl bobl ar y tu allan a oedd mewn gwirionedd yn gyfrifol am ddarparu'r diwylliant a'r celfyddydau a'r chwaraeon. Felly, fe fydd colled fawr ar ei ôl, ac roedd yn un o sefydlwyr ein Senedd ddatganoledig, ac nid oes unrhyw beth arall y gellir ei ddweud heblaw am ddweud ei fod yn gwbl ragorol ac rydym ni i gyd yn hiraethu amdano.

Diolch ichi i gyd am eich geiriau o deyrnged hyfryd a haeddiannol i Dafydd El. Nid jobyn hawdd yw cwmpasu cyfraniad a chymeriad Dafydd mewn un sesiwn deyrnged neu mewn ychydig eiriau. Mae'r disgrifiad cryno gorau ohono dwi wedi ei glywed yn eiddo i'w ffrind annwyl Laura McAllister: yr anghydffurfiwr gwleidyddol, the political nonconformist. Mi oedd Dafydd yn llwyddo i fod ychydig yn anghydffurfiol hyd yn oed mewn rhai o'r sefyllfaoedd mwyaf cydymffurfiol, ac mi ffeindiodd Dafydd ei hunan yn sawl un o'r rheini dros ei flynyddoedd.

A do, mi newidiodd Dafydd rai o'i dactegau gwleidyddol yn ystod ei yrfa, ond mewn hanner canrif o wleidyddiaeth, gydag amgylchiadau yn newid yn barhaus, arwydd o gryfder gwleidydd yw addasu, ac mi oedd Dafydd wastad twtsh bach tu blaen y cyrf. Ond mi oedd y gwerthoedd wastad yn gyson: yn awyddus i weld Cymru yn wlad flaengar, feiddgar, ddwyieithog, gwyrdd a chynhwysol, a hynny oll yn y traddodiad Ewropeaidd.

Mae'n anodd dychmygu Cymru heb Dafydd El. Mae e wedi bod yn hollbresennol ym mywyd gwleidyddol nifer fawr ohonon ni. Ond mae hi hefyd yn anodd dychmygu coridorau'r Senedd yma heb Dafydd y person. Oes, mae yna Siambr o wleidyddion ar draws y pleidiau heddiw yn tristáu o golli Dafydd, ond mae'r tristwch yna hefyd heddiw i'w deimlo yn y coridorau, yn y cantîn, yn y car park, gan yr holl staff a gydweithiodd gyda Dafydd. Mi oedd Dafydd yn browd iawn o staff y Senedd. Ac ymhob ystyr y gair, felly, mi adeiladodd Dafydd Senedd—y waliau o'n cwmpas ni, y staff sy'n ein cynorthwyo ni, a'r genedl mae pobl Cymru yn ein hethol i'w gwasanaethu. O un Llywydd i’r llall, felly: diolch, Dafydd, am y sylfaen, yr ysbrydoliaeth a'r hwyl ar hyd y ffordd.

Ac wrth gloi, mae'n meddyliau ni'n troi at Mair, ac at Rolant, Meilyr, Cai, a'r teulu oll, rhai ohonyn nhw yma heddiw. Diolch am rannu cymaint o Dafydd gyda ni, a diolch, Mair, yn enwedig, am gyd-deithio gyda Dafydd mewn chwarter canrif o fywyd yn ein Senedd.

14:20
2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Ac yn awr, i aralleirio Dafydd, ymlaen â ni at brynhawn cyffrous arall ym mywyd ein Senedd. [Chwerthin.] 

Cwestiynau i'r Prif Weinidog, felly. Y cwestiwn cyntaf, Laura Anne Jones.

Ffordd Osgoi A40 Rhaglan

1. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi diweddariad ar astudiaeth ddiogelwch ffordd osgoi yr A40 Rhaglan a gynhaliwyd gan Asiant Cefnffyrdd De Cymru? OQ62303

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried diogelwch ar y ffyrdd yn bwysig iawn ac rydym ni'n defnyddio astudiaethau ar sail tystiolaeth a arweinir gan ddata i lywio mesurau priodol i wella diogelwch ar y rhwydwaith ffyrdd strategol.

Prif Weinidog, ers degawdau erbyn hyn, mae'r cyffyrdd ar ffordd osgoi Rhaglan wedi bod yn berygl bywyd i drigolion sir Fynwy, ac maen nhw wedi achosi damweiniau difrifol a oedd bron yn angheuol. Yr wythnos diwethaf fe gynhaliodd Cyngor Cymuned Rhaglan gyfarfod gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r gwasanaeth diogelwch a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru ar y tamaid hwnnw o'r ffordd. Roedd hi'n dda clywed bod y terfyn cyflymder o 50 mya sydd eisoes ar waith yn debygol o fod yn ateb mwy parhaol—mae hynny i'w groesawu—ond roedd hi'n hynod siomedig, er bod y posibilrwydd o ddamweiniau angheuol yn cael ei gydnabod gan y sawl a oedd yn y cyfarfod, yn ôl meini prawf Llywodraeth Cymru, nid yw'r cyffyrdd hyn yn ddigon peryglus i deilyngu datrysiadau pellach, ac mae hyn er gwaethaf y gydnabyddiaeth o'r perygl ar y cyffyrdd hyn gan Lywodraeth Cymru ac Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru, a oedd yn awgrymu bod angen naill ai croesfannau twcan, cylchfannau neu oleuadau traffig.

Prif Weinidog, dim ond trwy lwc yn unig yr osgowyd marwolaeth hyd yma. A gaf i achub ar y cyfle hwn i ofyn i chi a/neu eich Ysgrifennydd Cabinet, Ken Skates, ymweld â'r darn hwn o ffordd yr A40 gyda mi, ni, i weld y perygl o ran y cyffyrdd hyn, nid yn unig i drigolion, ond i blant ysgol sy'n cael eu cludo drostynt yn rheolaidd? A gaf i ofyn i'r Llywodraeth hon ailystyried y penderfyniad i beidio â rhoi unrhyw un o'r atebion hynny ar waith a gyflwynwyd gan Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru? Ydy, mae cost atebion gwirioneddol yn uchel, ond mae'r gost o wneud dim yn uwch ac fe fydd yn arwain at golli bywydau. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, ac rwy'n falch iawn i chi gael adborth o'r cyfarfod a gafodd ei gynnal yr wythnos diwethaf gyda swyddogion a chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Fynwy a Chyngor Cymuned Rhaglan ac eraill. Rydym ni'n ymwybodol iawn, wrth gwrs, fod sawl damwain wedi digwydd dros amser, ond nid ydyn nhw ar hyn o bryd ar gyfradd sy'n golygu clwstwr o wrthdrawiadau, ac rwy'n siŵr eich bod chi wedi clywed hynny yn y cyfarfod. Nawr, nid yw hynny'n golygu nad oes angen gwneud unrhyw beth, ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gweld y terfyn cyflymder dros dro hwnnw'n cael ei ostwng i 50 mya o 70 mya, ac y bydd hwnnw'n barhaol nawr ac fe fydd ymgynghoriad hefyd ar bartneriaeth camerâu diogelwch GanBwyll. Felly, yn amlwg, mae'n rhaid i ni flaenoriaethu, ac ar hyn o bryd, mae blaenoriaethau eraill o fewn cwmpas Llywodraeth Cymru.

Cefnogaeth Anhwylderau Bwyta

2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu'r cymorth sydd ar gael i bobl ag anhwylderau bwyta? OQ62322

Rydym ni wedi ymrwymo i wella cymorth ar gyfer anhwylderau bwyta ac rydym ni wedi darparu cyllid i gefnogi byrddau iechyd i wneud hyn. Yn rhan o'r rhaglen strategol ar gyfer iechyd meddwl, mae gwaith yn cael ei wneud hefyd i wella mynediad at wasanaethau ymyrraeth gynnar ar gyfer anhwylderau bwyta.

Diolch am yr ateb.

Mae chwe deg mil o bobl yng Nghymru yn dioddef oherwydd anhwylderau bwyta ac yn ôl yr elusen anhwylder bwyta Beat, fe allai triniaethau cymunedol a dydd dwys roi cymorth amlddisgyblaethol strwythuredig i gleifion, gan gynnwys therapi, prydau dan oruchwyliaeth a chyfranogiad teuluoedd gan eu galluogi i aros yn eu cartrefi, sy'n lleihau'r angen i dderbyn pobl i'r ysbyty. 

Mae canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a'r Scottish Intercollegiate Guidelines Network ar gyfer anhwylderau bwyta yn argymell hefyd y dylai'r rhan fwyaf o gleifion ag anhwylderau bwyta gael eu trin ar sail cleifion allanol, ac yn ôl adroddiad diweddaraf elusen Beat, 'There is no place like home', fe all triniaethau o'r fath sicrhau canlyniadau cyfatebol i ofal cleifion mewnol. Ac rwy'n credu bod anghysondeb yng Nghymru o ran triniaethau dydd a chymunedol dwys, felly a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i sicrhau y bydd triniaethau o'r fath ar gael yn fwy eang yng Nghymru?

Diolch yn fawr iawn i chi. Rydym ni'n ymwybodol iawn o adroddiad Beat ac argymhellion hwnnw. Nawr, mae'r rhwydwaith gweithredu clinigol yn gyfrifol am ddatblygu model Cymru gyfan o ran yr ymyrraeth gynharaf, a hwnnw yw'r peth allweddol, yn fy marn ni, o ran pobl ag anhwylderau bwyta, ac fe fydd hwnnw'n canolbwyntio ar salwch sy'n ymddangos ac ar ei gyfnod cynnar, gyda'r nod o atal yr angen am ofal cleifion mewnol. Felly, rydych chi'n hollol gywir, mae'n rhaid i ni geisio osgoi hynny os bydd modd gwneud felly. Yr hyn a wyddom ni yw y gall y model gofal hwnnw leihau'r angen am ofal cleifion mewnol hyd at 35 y cant gyda mwy o bobl yn cael gofal yn y gymuned. Felly, mae hyn yn cyd-fynd â'r model cyffredinol sydd gennym ni yn Llywodraeth Cymru, sef symud adnoddau yn ôl i'r gymuned a maes gofal sylfaenol a chanolbwyntio ar atal.

14:25

Prif Weinidog, fel gwyddoch chi'n iawn, rwy'n siŵr, fe all rhai sy'n dioddef ag anhwylderau bwyta fod yn eithriadol o agored i niwed ac, yn aml, maen nhw'n dargedau ar gyfer cynnwys ar-lein sy'n gallu gwaethygu'r sefyllfa eto. Er i'r rhyngrwyd fod yn ffynhonnell ardderchog o gymorth a chefnogaeth i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd o bosibl, fe geir llawer o lwyfannau ar-lein hefyd sy'n cyhoeddi cynnwys cynhyrfus a graffig sy'n annog anhwylderau bwyta, hunanladdiad a hunan-niweidio. Mae edrych ar gynnwys fel hyn yn bosibl ar unrhyw lwyfan ar-lein bron iawn, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol a gwasanaethau rhannu fideo, ac fe ellir rhannu'r cwbl unwaith eto ar fforymau ar-lein, byrddau negeseuon a grwpiau a sefydlir ar gyfer pobl sy'n profi teimladau o'r fath. Gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu ysgolion, elusennau a sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl agored i niwed i godi ymwybyddiaeth o'r cynnwys niweidiol y gellir cael gafael arno a'r ffordd orau o'i anwybyddu a'i drechu? Diolch i chi.

Diolch yn fawr i chi. Rwy'n credu ei bod hi'n dorcalonnus o ran y trawma y mae llawer o bobl yn ei deimlo oherwydd anhwylderau bwyta, ac mae hynny'n effeithio ar bobl o bob oed, ond fe geir grŵp neilltuol sef menywod ifanc, yn arbennig felly, y mae hi'n ymddangos yr effeithir arnyn nhw yn waeth nag eraill. Nawr, mae Pwyllgor Gweithredol GIG Cymru wedi penodi arweinydd penodol ar fater anhwylderau bwyta ledled Cymru, ac mae'n gweithio yn y maes hwnnw o atal, ond, fel dywedais i, rydym ni'n ariannu Beat mewn gwirionedd, sef elusen bwysig iawn sy'n gwneud gwaith sylweddol a da iawn gyda phobl. Ac o ran mater yr wybodaeth hon sydd ar-lein a'r anhawster gyda rhai o'r delweddau yr oeddech chi'n sôn amdanynt—yn sicr, Beat, rwy'n sicr, yw'r sefydliad sy'n gallu estyn cymorth i bobl wrth reoli sefyllfa o'r fath.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf fe welsom ni ddiwedd yr achos llys a oedd yn ymwneud â'r ymosodiad yn Ysgol Dyffryn Aman pryd trywanodd merch ysgol yn ei harddegau ddau athro ac un o'i chyd-ddisgyblion. Ym mis Ionawr eleni yn unig, cafodd pedair ysgol gyfnodau clo oherwydd ymddygiadau bygythiol a chythryblus yng Nghymru ac ymosodiadau honedig ar athrawon, ynghyd â'r adroddiad am gyllell yn cael ei darganfod ym mag disgybl ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ym mis Mehefin fe wnaeth NASUWT, yr Undeb Athrawon gyhoeddi adroddiad a oedd wedi canfod bod bron i 10 y cant o athrawon yng Nghymru wedi cael profiad o ddisgyblion yn cludo arfau i'r ysgol. Nawr, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, bod trais yn erbyn athrawon neu gamdriniaeth ohonyn nhw yn yr ysgol yn gwbl annerbyniol. Felly, yng ngoleuni hyn, pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i'n hysgolion o ran diogelwch athrawon, a pha gamau, yn benodol, a ydych chi'n eu cymryd i atal pobl ifanc rhag cludo arfau fel cyllyll i ysgolion Cymru?

Diolch yn fawr. Chwarae teg iddo ef am ymuno â ni'r wythnos hon.

Mae trais o unrhyw fath neu unrhyw gamdriniaeth o staff neu ddisgyblion yn ein hysgolion ni'n gwbl annerbyniol yn fy marn i. Mae'n rhaid i ysgolion fod yn fan lle mae plant yn teimlo'n ddiogel, ac nid plant yn unig, ond staff hefyd. Mae dyletswydd gyfreithiol arnom ni i ddarparu amgylchedd dysgu sy'n ddiogel, felly mae hi'n ofynnol i bob ysgol fod â pholisi ymddygiad sy'n hyrwyddo ymddygiad da gan ddisgyblion, ac fe all ysgolion yng Nghymru sgrinio unrhyw ddisgybl am gyllell neu arfau eraill eisoes. Felly, eisoes, mae mesurau eglur iawn yn bosibl o ran ymddygiad mewn ysgolion, ond rwy'n falch iawn o weld y bydd yr Ysgrifennydd Addysg yn cynnal uwchgynhadledd i drafod ymddygiad yn fuan iawn.

Rwy'n falch iawn o glywed am yr uwchgynhadledd i drafod ymddygiad, ond, yn amlwg, nid yw'r camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ddigonol, oherwydd fe gyhoeddodd undeb yr athrawon eu harolwg, Big Question Survey, ym mis Rhagfyr, ac roedd y canlyniadau, a dweud y gwir, yn syfrdanol. Fe ofynnwyd i athrawon yng Nghymru am broblemau o ran ymddygiadau disgyblion a oedd yn peri'r pryder mwyaf o ddydd i ddydd, ac roedd bron i un ym mhob pedwar yn nodi ymosodiad corfforol, a gododd o 4.3 y cant yn unig yn 2021. Yn frawychus, ymatebodd bron i 8 y cant o athrawon i fynegi pryder beunyddiol y bydd disgyblion yn dod ag arfau i'r ysgol, a bod y gyfradd o ymatebion 50 y cant yn uwch nag yr oedd dros y ffin yn Lloegr. Ac eto, er gwaethaf yr heriau hyn, yn hytrach na grymuso'r canllawiau i gefnogi ein hathrawon yn ysgolion Cymru, mae eich Llywodraeth chi wedi bod yn glastwreiddio'r canllawiau hynny drwy newid y gofynion o ran adrodd am arfau a gwaharddiadau. Fel roedd Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau yn tynnu sylw at y mater, roedd cludo arf yn rheswm adroddadwy dros wahardd yn y canllawiau a roddwyd i'r ysgolion yn 2019, ond fe gafodd hynny ei newid ym mis Ebrill 2024 fel nad yw cludo arf yn rheswm adroddadwy dros wahardd erbyn hyn. A wnewch chi ddweud wrthym ni, Prif Weinidog, pam ar y ddaear y cafodd y canllawiau hyn eu newid, ac a ydych chi'n cytuno â mi y dylid adrodd i'r awdurdod lleol bob amser os caiff arf ei gludo i'r ysgol ac y dylai hynny fod yn arwain at waharddiad?

14:30

Diolch yn fawr iawn. Fel dywedais i, mae'r canllawiau ar gyfer gwaharddiadau yn ei gwneud hi'n eglur y gall defnyddio neu fygwth defnyddio arfau ymosodol fod yn sail i waharddiad. Ac o ran yr agwedd ar bethau ynglŷn â data, mae trafodaeth, yn amlwg, yn digwydd ar hyn o bryd rhwng yr Ysgrifennydd Addysg a'r undebau—dyna fydd y cyfarfod hwn o'r uwchgynhadledd ymddygiad yn manylu llawer arno. Ond yr awgrym yw y byddan nhw'n newid hyn yn ei ôl i'r hyn a oedd yn digwydd o'r blaen. 

Wel, rwy'n falch o glywed eich bod chi am newid hyn yn ei ôl, ond mae'r cwestiwn yn parhau o ran pam y cafodd hyn ei newid yn y lle cyntaf. Nid ydym ni'n dymuno bod mewn sefyllfa lle gallai hynny fod yn arwain at waharddiad, hynny yw, cludo arf i ysgol; fe ddylai hynny arwain yn syth at wahardd o'r ysgol. Nid oes rhyfedd fod disgyblaeth yn ein hysgolion ni, a dweud y gwir, yn mynd ar chwâl yma yng Nghymru. A'ch methiant chi yn y Llywodraeth yw mynd i'r afael â'r mater hwn sydd wedi achosi'r cynnydd mewn trais a cham-drin athrawon yn ein hysgolion, ac wedi arwain at argyfwng recriwtio a chadw athrawon nawr, yn anffodus. Mae'r data diweddaraf a adroddwyd ac a gyhoeddwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg yn dangos, dros y degawd diwethaf, bod nifer yr athrawon sydd wedi cofrestru gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru wedi gostwng 20 y cant—mae dros 7,500 o athrawon wedi dod oddi ar y rhestr honno. Ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yr adroddwyd amdani—2023—fe welsom ni'r ymadawiad mwyaf o'r proffesiwn addysgu ers dros ddegawd, ac rydych chi a minnau'n gwybod ein dau, Prif Weinidog, nad ydym ni'n hyfforddi digon o athrawon ysgol uwchradd newydd i lenwi'r bwlch hwnnw. Felly, dan stiwardiaeth Llafur yma yng Nghymru, mae trais a chyfnodau clo mewn ysgolion ar i fyny, mae perfformiad addysgol ar i lawr, ac mae athrawon yn gadael y proffesiwn ar raddfa sy'n frawychus. Felly, pryd ydych chi am gydnabod y problemau hyn, a derbyn eich cyfrifoldeb a darparu'r system addysg y mae ein plant a'n hathrawon yn ei haeddu?

Wel, diolch yn fawr iawn. Rwyf i am ailadrodd unwaith eto fod ein canllawiau ni eisoes yn ei gwneud hi'n eglur y gall cludo cyllell arwain at waharddiad, a bod yr agwedd o ran data ar wahân ar hyn o bryd, ond mae honno'n cael ei newid yn ei hôl.

Nawr, fe wyddoch chi nad yw mater recriwtio athrawon yn unigryw i Gymru; mae'n rhywbeth sy'n digwydd yn fyd-eang. Nid yw hynny'n golygu nad ydym ni'n gwneud ymdrechion enfawr mewn gwirionedd i annog pobl i ymgymryd â gyrfa sy'n werthfawr iawn.

Rwy'n credu ei bod hi'n werth dweud hefyd ein bod wedi gofyn i Estyn gynnal adolygiad thematig o ymddygiad mewn ysgolion uwchradd, ac rydym ni'n disgwyl i hwnnw gael ei gyhoeddi cyn yr haf.

Diolch, Llywydd. Cafodd rheolaeth ar Ystad y Goron ei datganoli i'r Alban yn 2017. Mae eu hadroddiad blynyddol diweddaraf nhw'n dangos bod Ystad y Goron yr Alban wedi cynhyrchu £103 miliwn ar gyfer pwrs y wlad yn yr Alban. Ond er bod Ystad y Goron yn cyhoeddi'r elw net uchaf erioed, mae Cymru miliynau o bunnau ar ei cholled o hyd am na chafodd ei datganoli yma. Wrth gwrs, rydym ni'n dymuno gwneud y mwyaf o bosibiliadau ein hadnoddau naturiol, creu swyddi a helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw ac ati. Mae hynny'n golygu ei datganoli. Mae'n rhywbeth a gefnogodd Llywodraeth Cymru. Mae'n rhywbeth sy'n bwysig i Lywodraeth Cymru. Yr wythnos diwethaf, er hynny, rhoddwyd cyfle i ASau Llafur yn San Steffan gefnogi gwelliant gan Blaid Cymru ar gyfer trosglwyddo rheolaeth asedau Ystad y Goron yng Nghymru i Lywodraeth Cymru. A oedd y Prif Weinidog yr un mor rhwystredig ag yr oeddwn innau am fod ASau Llafur wedi rhwystro hwnnw?

Wel, gadewch i mi egluro mai ein safbwynt ni o hyd yn y Llywodraeth yw y dylai Ystad y Goron gael ei datganoli, ac fe fyddwn ni'n parhau i ddadlau'r achos hwnnw ger bron Llywodraeth y DU. Rydym ni'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i gomisiynydd i Gymru, ond mae hynny'n sicr yn rhywbeth yr wyf i'n ei ystyried yn ddim ond cam dechreuol.

Iawn, dyna eiriau i'w croesawu. Fel dywedais i, mae datganoli Ystad y Goron yn ymwneud â sicrhau y bydd yr elw a gynhyrchir o'n tir a gwely'r môr yn dod yn uniongyrchol i Gymru, ac, yn y gorffennol, mae'r Prif Weinidog wedi cytuno â mi ynglŷn â'r angen i'w datganoli, ac rwy'n falch o glywed yr egwyddor yn cael ei hailadrodd eto. Ond roedd naw AS Llafur yn dymuno tawelu llais Cymru yn y bleidlais honno, a rhwystro'r gwelliant, gan ein hamddifadu o'r pwerau sydd eisoes gan yr Alban. Unwaith eto, rydym ni'n dychwelyd at y mater o faint y dylanwad sydd gan Brif Weinidog Cymru ar aelodau ei phlaid yn San Steffan ac ar Keir Starmer; rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod y mha le y mae'r grym yn y bartneriaeth honno. Ond mae gwir angen iddi hi allu ymarfer ei dylanwad ar ASau Llafur o Gymru o leiaf; y hi yw arweinydd Llafur yng Nghymru. A fyddai hi'n cytuno bod angen cefnogaeth Aelodau Llafur o Gymru yn San Steffan os ydym ni am lwyddo i fagu consensws trawsbleidiol ar y mater hwn—nid dim ond siarad am y peth, ond ei gyflawni?

14:35

Diolch yn fawr. Gwrandewch, mae yna lawer o bethau yr ydym ni'n cytuno arnyn nhw, ac mae yna bethau yr ydym ni'n anghytuno arnyn nhw. Mae hwn yn un o'r meysydd lle rydym ni'n anghytuno. Fe fyddaf i'n dal ati i ddadlau'r achos. Roeddwn i'n falch iawn o weld bod yr Arglwydd Murphy yn rhywun sydd wedi ein helpu ni i gyflwyno'r achos yn Nhŷ'r Arglwyddi ar ochr Llywodraeth Cymru i'r ddadl. Ond nid wyf i'n rhoi'r ffidil yn y to o ran yr achos hwn. Mae hwn yn achos pwysig i'n cenedl ni. Fe hoffwn ei gwneud hi'n gwbl eglur mai'r genedl sy'n dod yn gyntaf, ac nid plaid.

Mae'r rhain yn eiriau teg. Maen nhw'n eiriau teg iawn, iawn, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny, ac rwy'n gobeithio y byddan nhw'n decach fyth yr wythnos nesaf, ond nid oes dim yn cael ei wneud. Ac nid yn unig nad oes dim yn cael ei wneud, ond mae rhwystrau yn cael eu codi gan ASau Llafur, gan gynnwys ASau Llafur o Gymru. Y Prif Weinidog yw arweinydd Llafur yng Nghymru. Rydym ni'n cael gwybod dro ar ôl tro mai datganoli Ystad y Goron yw polisi'r Blaid Lafur yng Nghymru, ond mae angen i ni gyflawni hynny. Mae Is-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, AS Llanelli, Nia Griffith, o'r farn mai gwastraff amser yw datganoli Ystad y Goron—dyna a ddywedodd hi ddim ond wythnos diwethaf. Mae pwy sy'n siarad dros Lafur yng Nghymru yn gwestiwn yr ydyn ni'n ei ofyn yn fwy aml. Felly, pan ddywed y Prif Weinidog wrthym ni, fel gwnaiff hi unwaith eto heddiw, ei bod hi'n ymladd ar flaen y gan o ran Ystad y Goron, mae hynny'n swnio yn wych, dyna sydd ei angen arnom ni, ond nid yw hi hyd yn oed yn ennill y frwydr ymhlith ei haelodau etholedig hi ei hun yng Nghymru, heb sôn am y blaid yn fwy eang.

Unwaith eto, wrth geisio magu consensws yn hyn o beth, yr wythnos diwethaf, fe ysgrifennais i at Brif Weinidog Cymru, yn pwysleisio'r achos y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i bwyllgor San Steffan i drafod Bil Ystad y Goron, gan ddadlau'r achos, a chymryd camau ymarferol. A wnaiff hi gadarnhau a yw'r Llywodraeth wedi gwneud hynny neu beidio, ac os nad felly, neu'n wir os nad yw'r Llywodraeth yn bwriadu gwneud hynny, oni fyddai hynny'n codi cwestiynau pellach ynghylch pa mor ddifrifol yw Llywodraeth Cymru o ran cyflawni hyn?

Diolch yn fawr. Gadewch i mi egluro bod trafodaethau wedi cael eu cynnal a bod Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi cyhoeddi ymateb pellach i Blaid Cymru, sy'n rhoi ar gofnod y cynhaliwyd trafodaethau â Llywodraeth Cymru ar lefelau swyddogion a gweinidogion. Felly, rydym ni wedi egluro ein safbwynt ni ar y mater hwn yn eglur iawn. Ond yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw mai holl bwrpas hyn yw sicrhau ein bod ni'n cael ein haeddiant yng Nghymru. Yr hyn yr ydym ni'n ei chwilio amdano yw cynnydd a fydd yn ein helpu ni i gyfrannu at wella bywydau pobl y genedl hon. Mae gennym ni gyfle i wneud felly. Fe welsom ni'r cynnydd mwyaf yn y gyllideb a gafwyd erioed yn hanes datganoli—£1.4 biliwn—ac fe fyddwn ni'n pleidleisio ar hynny ar 4 o fis Mawrth. Mae yna gyfle i chi gefnogi pobl Cymru ar 4 o fis Mawrth. Rydych chi'n ymfalchïo yn—. Rydych chi'n eich galw eich hunain yn Blaid Cymru; nid Plaid Cymru mohonoch chi os na fyddwch chi'n helpu i ddarparu'r £600 miliwn ychwanegol hwnnw ar gyfer y gwasanaeth iechyd y maen nhw'n edrych tuag atom ni i'w gyflawni.

Undebau Llafur

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd undebau llafur i weithleoedd yng Nghymru? OQ62324

Mae undebau llafur yn hanfodol i weithleoedd yng Nghymru. Maen nhw'n cefnogi gwell amodau gwaith, yn diogelu hawliau gweithwyr ac yn hyrwyddo dysgu a datblygu yn y gweithle. Mae hi'n Wythnos CaruUndebau'r wythnos hon, ac rydym ni'n falch o ymuno â'r undebau llafur i ddathlu eu swyddogaeth hanfodol wrth wneud gwaith yn well, yn fwy diogel ac yn decach.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Brif Weinidog.

Rwyf i am ddechrau drwy ddatgan buddiant fel aelod undeb llafur balch ac yn aml yn uchel fy nghloch. Rwy'n eglur fy mod i wedi cael fy llunio yn y mudiad undebau llafur. Fel roeddech chi'n dweud, yr wythnos hon yw Wythnos CaruUndebau'r TUC, sy'n rhoi cyfle i hyrwyddo undebau llafur yn ein gweithleoedd, yn ein cymunedau ac yn ein gwlad. Mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi arwain at ddeddfu ar bartneriaeth gymdeithasol, tra bod Llywodraeth Lafur y DU ar fin grymuso gweithwyr gyda'r Mesur Hawliau Cyflogaeth, sy'n ategu'r ffordd Gymreig honno o weithio. Serch hynny, mae gwaith i'w wneud eto a heriau i'w goresgyn, bydded hynny'n rhywbeth sy'n digwydd yn y sector preifat i weithwyr fel yn Oscar Mayer yn Wrecsam neu mewn sefydliadau mawr fel Prifysgol Caerdydd. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno bod undebau llafur yn rym blaengar er daioni nid yn unig yn y gweithle, ond er lles Cymru hefyd? Ac yn Wythnos CaruUndebau, a phob wythnos, a wnewch chi ymuno â mi i anfon neges o undod ac ymrwymiad parhaus i weithredu ar gyfer gweithwyr sy'n wynebu arferion gwaith annheg, rheolwyr gwael a gwahaniaethu ledled y wlad? Diolch.

14:40

Diolch yn fawr. Fe wn i y bydd Jack Sargeant, sef y Gweinidog â chyfrifoldeb portffolio dros bartneriaeth gymdeithasol, yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i Wythnos CaruUndebau. Nawr, yn ystod Wythnos CaruUndebau ac yn ystod y flwyddyn ar ei hyd, fe  fyddwn ni'n cydsefyll gyda gweithwyr ac undebau llafur yn erbyn arferion camfanteisiol a thros waith teg. A diolch i chi am dynnu sylw at Fil Hawliau Cyflogaeth Llywodraeth y DU. Fe fydd hwnnw'n sicrhau'r uwchraddiad mwyaf o ran hawliau'r gweithwyr ers cenhedlaeth ac fe fyddwn ni'n falch o gefnogi hwnnw. Bil gan y Blaid Lafur a fydd yn gwella hawliau gweithwyr sy'n mynd trwy Senedd y DU nawr, Bil sy'n datgan y bydd yn rhwystro cyflogwyr rhag eich diswyddo os na wnewch chi gytuno i weithio am lai o gyflog ac amodau gwaeth—diswyddo ac ailgyflogi, dyna'r hyn yr ydym ni'n ei weld yn Oscar Mayer. Pwy a bleidleisiodd yn erbyn cyflwyno'r Bil hwn? Nigel Farage. Bil gan y Blaid Lafur sy'n datgan, os ydych chi wedi gweithio i gwmni am lai na dwy flynedd, na ddylai'r cwmni hwnnw fod â hawl i'ch diswyddo chi heb reswm digonol. Pwy a bleidleisiodd yn erbyn hwn? Nigel Farage. Bil sy'n datgan na ddylai eich rheolwr chi allu penderfynu ar ba oriau y byddwch chi'n gweithio heb eich caniatâd chi. Pwy a bleidleisiodd yn erbyn hyn? Nigel Farage. Bil sy'n mynegi y bydd yn atal cyflogwyr rhag gwrthod eich talu chi am dri diwrnod os ydych chi'n sâl. Pwy a bleidleisiodd yn erbyn y Bil hwn? Pawb gyda'i gilydd: Nigel Farage. 

Na, na, na. Nid ydym yn llafarganu yn y lle hwn. Nid ydym yn llafarganu. Rwy'n cyfeirio at ymagwedd Dafydd Elis-Thomas nawr. Nid ar gyfer llafarganu y mae'r Siambr hon. Sam Rowlands.

Diolch yn fawr, Lywydd. A, Llywydd, rydych chi'n sicr yn ymwybodol o'm swyddogaeth yn llywodraethwr ysgol, mae hynny ar gofnod. Ac o ran ysgolion, Prif Weinidog, mae'r NAHT, yr undeb llafur sy'n cynrychioli arweinwyr ysgolion, wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am ddiffyg eglurder ynghylch cyllid ychwanegol dichonadwy i ysgolion sy'n deillio o gyllid canlyniadol fformwla Barnett. Yn wir, mae'r NAHT yn dweud eich bod chi wedi, ac rwy'n dyfynnu,

'methu ag ateb cwestiynau sylfaenol'

am yr arian ychwanegol hwn sy'n deillio o symiau canlyniadol Barnett. Felly, o ystyried pwysigrwydd yr undebau llafur yn eich golwg chi, Prif Weinidog, a wnewch chi roi ateb i'r feirniadaeth honno a rhoi sicrwydd i'r undeb llafur, addysgwyr a rhieni o ran y cyllid ychwanegol penodol hwnnw?

Diolch yn fawr. Wel, rwy'n gweld hynny'n hollol frawychus mewn gwirionedd, oherwydd fe wnaethom ni roi £200 miliwn ychwanegol i ysgolion dros y ddwy flynedd ddiwethaf dros ben y grant cynnal refeniw. Felly, os ydych chi'n gofidio cymaint am hyn, ewch yn ôl at yr undeb a dywedwch wrthyn nhw eich bod chi am bleidleisio dros y gyllideb, oherwydd, os na fydd hwnnw'n mynd trwodd, ni ddaw unrhyw gyfran o'r arian ychwanegol hwnnw iddyn nhw. Felly, ewch yn ôl atyn nhw, edrychwch i fyw eu llygaid a dywedwch, 'Diolch yn fawr iawn i chi am y cynnig yna; nid wyf i am eich cefnogi chi yn hyn o beth'. Peidiwch â dod i mewn yma a gofyn am fwy o arian os ydym ni'n ei roi ar y bwrdd a chithau'n gwrthod pleidleisio drosto. Mae angen i bobl ddeall yr hyn sy'n digwydd yn y lle hwn.

Wrth gwrs, mae Plaid Cymru yn pwysleisio ei chefnogaeth unwaith eto i fudiad yr undebau llafur a swyddogaeth yr undebau llafur wrth amddiffyn gweithwyr rhag elfennau gwaethaf cwmnïau sy'n cael eu hysgogi gan elw. Er hynny, er i mi glywed nifer o ddatganiadau cadarnhaol o feinciau Llafur, un peth y gallem ei wneud mewn gwirionedd ar gyfer dangos ein cefnogaeth i'r undebau llafur yw cefnogi'r ymgyrch gyfredol Undeb y Brigadau Tân sef DECON sy'n ymdrin â dadlygru. Erbyn hyn, mae diffoddwyr tân 365 y cant yn fwy tebygol o gael canser o ganlyniad i'w swyddi. Rydym ni wedi galw am fonitro iechyd ataliol ar gyfer diffoddwyr tân, ac eto mae'r Llywodraeth wedi bod yn amharod i symud ymlaen gyda hynny. Po fwyaf fydd yr oedi, y mwyaf o ddiffoddwyr tân a fydd yn marw; po fwyaf y byddwn ni'n oedi, y mwyaf fydd y Llywodraeth yn gyfrifol am esgeulustod o ran ein diffoddwyr tân. Felly, yn ystod yr Wythnos CaruUndebau, a fydd y Llywodraeth yn cefnogi'r ymgyrch gan Undeb y Brigadau Tân nawr ac yn rhoi'r monitro iechyd ataliol hwnnw ar waith?

Wel, diolch yn fawr iawn, a diolch i chi am ddal ati i fynd ar drywydd y mater pwysig hwn. Yr hyn yr wyf i'n ei wybod yw bod pobl yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i hyn a bod yr Ysgrifennydd Iechyd wedi gofyn i'r prif swyddog meddygol roi ystyriaeth i hyn ar fyrder.

Prif Weinidog, fel gwyddoch chi, rwy'n undebwr llafur balch iawn. Roeddwn i'n cynrychioli fy nghydweithwyr fel stiward llawr gwaith y GMB ac fe weithredais i, yn llythrennol felly, dros filoedd o aelodau undebau llafur ar draws y mudiad yn gyfreithiwr cyflogaeth. Rwy'n dal i gofio cwrdd â rhywun a oedd yn rheolwr rhanbarthol, sef Dawn Bowden a ddaeth i'r Siambr hon yn y diwedd, pan oeddwn i'n gyfreithiwr ifanc. Fe weithiais i'n adeiladol ac yn onest gyda phartneriaid mewn undebau llafur ers i mi gael fy ethol i'r lle hwn, ond, yn ystod fy nghyfnod i'n cynrychioli aelodau undebau llafur yn y gweithle, fe welais i drosof fy hunan pa mor ddinistriol yw effaith bwlio yn y gweithle a'r dylanwad sydd gan hynny nid yn unig yn y gweithle ond ar fywydau pobl yn eu cyfanrwydd. Mae aelodaeth undebau llafur wedi bod o gymorth i rai pobl wrth symud ymlaen, ond mae'r difrod yn wirioneddol, boed yn gyflogwyr mawr neu gyflogwyr bach.

Rydym ni wedi tynnu sylw yn aml yn y Siambr hon at reolwyr gwael ac ymddygiadau bwlio yn y gwaith, ond a ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, fod cyfrifoldeb ar bob un ohonom ni yn y Siambr hon nid yn unig i ddweud y pethau iawn yn y Siambr hon, ond i wneud yr hyn sy'n iawn o ran ein ffordd o ymddwyn gyda staff yn yr adeilad hwn, ac yn enwedig o ran cyflogwyr? Rwy'n gobeithio bod honno'n genadwri y byddai arweinwyr pleidiau eraill yn cytuno â hi o ran penderfynu pwy all ddychwelyd i'r lle hwn yn ymgeisydd neu'n Aelod yn y dyfodol.

14:45

Diolch yn fawr. 'Does dim yn waeth na'r ymdeimlad hwnnw o arswyd wrth gerdded i mewn i'r gwaith gan wybod y bydd bwli yn ormes ar eich diwrnod chi. Rwy'n dychmygu sut beth fyddai hynny i bobl ledled y genedl hon, ac mae yna bobl sy'n byw fel hynny. Mae'n rhaid i ni sicrhau y bydd systemau cymorth ar waith i ymdrin â hynny, ac rwy'n siŵr bod y Llywydd yn ymwybodol iawn o'r angen i roi'r systemau hynny o gymorth ar waith yn y Senedd hefyd.

Rhoddion Gwleidyddol

4. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r rheolau ar roddion gwleidyddol cyn etholiad nesaf y Senedd? OQ62285

Mae’r rheolau ar roddion i bleidiau gwleidyddol yn Rhan 4 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Mae maes y Rhan honno yn gyfrifoldeb i San Steffan.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Dwi’n siŵr ein bod ni i gyd yn cytuno fan hyn mai dim ond pobl sy’n gymwys i bleidleisio mewn etholiadau Prydeinig a ddylai roi symiau sylweddol o arian i bleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr. Ond mae yna loophole enfawr ar hyn o bryd: mae pobl yn gallu cyfrannu symiau sylweddol trwy fusnesau. Gallwn ddysgu llawer o’n cymdogion. Yn Ffrainc, does dim hawl gan gwmnïau i gyfrannu o gwbl, a dim ond uchafswm o €7,500 gall unigolion gyfrannu bob blwyddyn. Nawr, mae’n ddigon posib, amser etholiad nesaf y Senedd, oherwydd datblygiadau Prydeinig a datblygiadau rhyngwladol, y bydd yna fwy o ddiddordeb yn etholiadau Senedd Cymru nag erioed o’r blaen. Mae’n ddigon posib y bydd unigolion sydd â chyfoeth llawer yn fwy na chyllideb Llywodraeth Cymru yn gweld ein hetholiadau ni fel dress rehearsal cyn etholiadau nesaf San Steffan. Nawr, roedd ym maniffesto San Steffan Llafur i amddiffyn democratiaeth trwy gryfhau rheolau cyfraniadau gwleidyddol. Heddiw, wrth inni gofio un o benseiri democratiaeth Cymru, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’w cymryd i amddiffyn democratiaeth Cymru ac i sicrhau nad yw’n hetholiadau ni yn dod yn gêm wleidyddol i billionaires? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr. Roedd maniffesto Llafur y Deyrnas Unedig, fel roeddech chi’n ei ddweud, ar gyfer yr etholiad yn cynnwys ymrwymiad i amddiffyn democratiaeth drwy dynhau’r rheolau o gwmpas rhoddion i bleidiau gwleidyddol. Mae’r Comisiwn Etholiadol hefyd wedi gwneud argymhellion o’r blaen i gryfhau rheolaeth yn y maes hwn. Wrth gwrs, fel rydych chi’n ymwybodol, mae hwn yn fater sy’n reserved, felly mae’n bwysig bod hynny’n digwydd ar frys. Achos, fel rŷch chi’n ei ddweud, mi fyddwn ni yn mynd gyntaf, a dwi’n gobeithio y bydd yna bosibilrwydd y byddwn ni’n gweld tynhau cyn ein hetholiad ni.

Prynhawn da, Prif Weinidog. 

Diolch hefyd i Rhys am godi'r maes yma,

oherwydd mae'r mater hwn yn taro wrth galon un o'r materion mwyaf sy'n wynebu gwleidyddion a gwleidyddiaeth: diffyg ymddiriedaeth a thryloywder. Nid yw'r dylanwad sydd gan y biliwnyddion a'r cwmnïau mawr yn dod oherwydd eu harian yn unig ond fe ddaw drwy ddylanwad ar y cyfryngau a hysbysebu gwleidyddol hefyd. Yn ôl y Comisiwn Etholiadol, yn 2011, roedd gwariant ymgyrchwyr gwleidyddol ar hysbysebu digidol yn ddim ond 0.3 y cant, ond yn 2017 fe gynyddodd hyd at 42.8 y cant. Dim ond cynyddu a wnaiff y ffigurau hyn i'r dyfodol. Mae diffyg rheolau yn diraddio ansawdd y drafodaeth wleidyddol ledled y DU. Yr wythnos diwethaf, fe welsom ni'r erthygl ym mhapur newydd The Guardian am y Blaid Lafur yn defnyddio brandio tebyg i Reform wrth ymffrostio am allgludiadau. Roedd hynny wir yn golygu gwaethygiad mawr yn ansawdd ein gwleidyddiaeth. Felly, fe hoffwn i ofyn i'r Prif Weinidog: a fyddech chi'n cytuno â mi fod hyn yn annerbyniol ac nad ydym ni'n dymuno gweld hynny'n digwydd yma yn etholiadau'r Senedd? Diolch yn fawr iawn.

14:50

Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod y newid a fu yn y ffordd y mae pleidiau gwleidyddol yn gwario eu harian yn ystod etholiadau. Mater o farn wleidyddol yw hysbysebion ymosodol, ac rwy'n credu y byddem i gyd yn ystyried ein terfynau ni mewn ffyrdd gwahanol iawn i'n gilydd. Ond rwy'n credu y dylai terfyn fodoli na ddylai unrhyw blaid wleidyddol gamu drosto.

Fe welsom ni sut mae arian tywyll o dramor yn gallu llygru ein gwleidyddiaeth ni dros nifer o flynyddoedd. Fe welsom ni ddylanwad arian tywyll ar y refferendwm Brexit, er enghraifft, ac fe welsom ni hefyd sut y gall unigolion ormesu o dramor ar ein gwleidyddiaeth ni a phennu agendâu heb unrhyw gyfrifoldeb ac nid oes unrhyw allu gennym ni, yn ddeddfwyr na dinasyddion i ymarfer unrhyw gyfradd o reolaeth ar hynny. Mae hi'n ymddangos i mi fod angen consensws trawsbleidiol newydd i sicrhau y bydd ein gwleidyddiaeth ni'n parhau i fod yn rhydd oddi wrth ddylanwad biliwnyddion ac yn dal i fod yn rhydd ar gyfer unigolion ledled Cymru i sicrhau bod gan bawb gyfran yn ein gwleidyddiaeth.

Prif Weinidog, a wnewch chi arwain consensws trawsbleidiol i sicrhau na fydd yr etholiad nesaf i'r Senedd yn cael ei lygru gan naill ai'r biliwnyddion o dramor neu arian tywyll, ac na chaiff ei lygru gan y bobl hynny sy'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i godi ofn, sy'n gyrru pobl, weithiau, i gasineb, a sicrhau hefyd y bydd pobl Cymru yn gallu gwneud dewis sy'n deg a rhydd o ran ethol Llywodraeth newydd i Gymru'r flwyddyn nesaf?

Wel diolch yn fawr iawn. Bydd ymdrech i ddiweddaru rheoleiddio gwariant pleidiau gwleidyddol yn etholiadau'r Senedd ar gyfer adlewyrchu'r newidiadau ehangach i'n system etholiadol. Fe fydd hyn yn digwydd o 2026. Nawr, fe geir rheolaethau o ran rhoddion, ac mae pleidiau gwleidyddol yn gallu bod yn destun rheoliadau cadarn yn etholiadau'r Senedd eisoes, ond mae hynny'n bennaf yn ystod cyfnod yr etholiad ei hun. Felly, rwy'n credu y bydd angen cael trafodaeth fwy eang, mae'n debyg. Bu ymgynghoriad ar amrywiaeth o fodelau ar gyfer system o wariant ymgyrchu a fydd yn gweithio gyda'r system etholiadol newydd. Bwriedir cyhoeddi barn Llywodraeth Cymru ar yr ymatebion ddydd Gwener yr wythnos hon, sef 14 Chwefror.

Datgarboneiddio Adeiladau

5. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda'r diwydiant hamdden am y camau y maent yn eu cymryd i ddatgarboneiddio eu hadeiladau? OQ62325

Mae meithrin economi gryfach, wyrddach wrth i ni wneud y cynnydd mwyaf posibl tuag at ddatgarboneiddio yn rhaglen allweddol ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth a fydd yn ein helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac yn adfer natur. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal trafodaethau rheolaidd gyda'r sector hamdden ar eu swyddogaeth nhw o ran cyflawni'r ymrwymiad hwn.

Dyna newyddion ardderchog, Prif Weinidog. Rwy'n falch iawn fod y pwll 25m newydd yng Nghanolfan Hamdden Pentwyn yn fy etholaeth i, a gomisiynwyd gan Gyngor Caerdydd, wedi gosod cynaliadwyedd i mewn yn y datblygiad, gyda phaneli solar a phwmp gwres ffynhonnell aer, yn ogystal â llawr sy'n codi ac yn disgyn ar ran o'r pwll i arbed ynni a niwtraleiddio cost cynhesu'r dŵr. Mae hi'n ymddangos i mi, os yw'r rhain yn cael eu rhedeg gan yr awdurdod lleol neu'n cael eu hallanoli i gwmni arall, yn sicr mae angen i bob gweithredwr hamdden fod yn ymwybodol o'r gofyniad i ddatgarboneiddio pob adeilad cyhoeddus erbyn 2030. Felly, sut mae Trydan Gwyrdd Cymru yn blaenoriaethu cael defnyddwyr ynni uchel, fel canolfannau hamdden, yn enwedig y rhai sydd â phyllau nofio, i droi at ynni adnewyddadwy? Fe allai ychwanegiadau technoleg isel fel gorchudd pwll hyd yn oed wneud gwahaniaeth enfawr.

Diolch yn fawr iawn, Jenny. Nawr, nid wyf i'n gwybod a ydych chi'n ymwybodol o hyn, Jenny, ond roeddwn i'n arfer bod yn achubwr bywyd, ac felly fe dreuliais i lawer o amser mewn canolfannau hamdden, a'r hyn yr wyf i'n ei wybod yw eu bod nhw'n dwym iawn bob amser. Felly, roeddwn i'n bob amser yn meddwl tybed beth oedd costau gwresogi'r adeiladau hynny, ac roeddwn i'n falch iawn o weld bod Cyngor Caerdydd wedi llwyddo yn eu cais i Ynni Cymru, sef y cynllun grant gwerth £10 miliwn ar gyfer systemau ynni lleol clyfar ledled Cymru. Felly, mae hynny'n newyddion da iawn. Mae Trydan Gwyrdd Cymru yn ddatblygwr ynni adnewyddadwy, ond mae hwnnw'n canolbwyntio ar brosiectau gwynt. Felly, mae honno'n gronfa wahanol o arian ac yn ffynhonnell wahanol. Felly, pe bydden nhw'n dymuno cael cefnogaeth, y llwybr cywir fyddai llwybr Ynni Cymru, yn hytrach nag un Trydan Gwyrdd Cymru.

Mewn Cymru ddelfrydol, fe fyddem ni'n llwyddo i ddatgarboneiddio ein hadeiladau cyhoeddus i gyd erbyn 2030, ond mae'n rhaid i ni wynebu realiti yn hyn o beth. Rwy'n gweld gormod o ganolfannau hamdden yn wynebu sefyllfa o orfod cau oherwydd tanariannu difrifol. Rhybuddiodd Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai 2023 am yr angen am gyllid hirdymor ar frys, ac eto mae awdurdodau lleol ac yn wir y Gweinidogion yma, yn methu ag amgyffred eu gwaith hanfodol ym maes iechyd a llesiant. Yn fy awdurdod lleol fy hun, mae ffioedd campfa a ffioedd canolfannau hamdden wedi dyblu, sy'n prisio llawer o'r farchnad, gan gynnwys rhai ar gynlluniau atgyfeirio meddygon teulu, sy'n hanfodol ar gyfer ffitrwydd pobl hŷn. Yn y cyfamser, yn ddiweddar iawn fe ddarparodd Llywodraeth Geidwadol y DU hwb o £63 miliwn i Loegr, a oedd yn dyblu'r cyllid fesul canolfan o'i gymharu â Chymru—

14:55

[Anghlywadwy.]—arian awdurdod lleol am 14 mlynedd.

Gyda Nofio Cymru yn rhybuddio bod 30 y cant o byllau ar ymyl y dibyn, ac yn fuan ni fydd unrhyw ganolfannau hamdden ar ôl i'w datgarboneiddio, hyd yn oed. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i wthio disgwyliadau sydd heb eu hariannu ar yr awdurdodau lleol, ac mae angen i chi gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb os ydych chi'n bwriadu datgarboneiddio. Mae angen i ni fynd i'r afael â'r tanariannu dybryd yn ein canolfannau hamdden a sicrhau hefyd—. Hynny yw, £1.8 miliwn yw'r cyfan a wnaethoch chi ei ddyrannu ar gyfer yr agenda hon, beth bynnag—

—pam nad ydych chi'n edrych yn gyntaf ar ddarparu'r hyn sydd ei angen ar y canolfannau hamdden i ddal ati, fel bydd fy etholwyr i'n gallu cael mynediad at le mewn canolfan hamdden? Diolch.

Edrychwch, os na wnewch chi bleidleisio dros y gyllideb, os na fyddwn ni'n gallu cael ein cyllideb drwodd, ni ddaw'r cynnydd o ran y cyllid i'r awdurdodau lleol yr ydym ni'n ei gynnig. Nid ystyr hynny fyddai dim rhagor o arian iddyn nhw; ond ni fyddai'r arian sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd ganddyn nhw o gwbl. Felly mae hyn yn eich gofal chi; ewch i ddweud wrth eich awdurdod lleol chi a dywedwch eich bod chi am bleidleisio yn erbyn cyllideb a fyddai'n rhoi mwy o arian iddyn nhw. Ewch a dywedwch wrth eich etholwyr chi—ewch a dywedwch wrth eich etholwyr chi beth fyddwch chi'n ei wneud. Mae'r arian ar y bwrdd i ni afael ynddo a'i gymryd ac nid ydych chi am afael ynddo na'i gymryd. Mae pobl yn eich gwylio.

Atgyweiriadau Ffyrdd

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau pan fydd atgyweiriadau ffyrdd yn digwydd ar y rhwydwaith cefnffyrdd? OQ62290

Pan fydd gwaith atgyweirio mawr hirdymor yn dechrau ar y gefnffordd, fe roddir cefnogaeth i'r gymuned leol o ran materion sy'n gysylltiedig â'r gwaith yn y lle cyntaf, a ddarperir gan reolwr y safle. Mae cwestiynau cyffredin ynglŷn â'r cynllun ar gael hefyd, ynghyd â rhifau cyswllt, ar wefan Traffig Cymru.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog, am eich ateb. Fe wn eich bod chi'n ymwybodol o'r ffordd sydd ar gau ar yr A470 ar hyn o bryd, yn Nhalerddig, ar gyfer gwaith i atgyweirio'r ffordd. Ar hyn o bryd mae gwyriad o 70 milltir yn weithredol, sy'n achosi amhariad sylweddol, ac amhariad hefyd ar ffyrdd llai, yn ogystal â hynny. Nawr, fe gynigiais i, fel gwnaeth eraill hefyd, waith 24/7 i gwblhau'r gwaith yn gyflymach, neu weithio dros nos yn unig, a dargyfeiriad i ddigwydd ar hyd ochr y rhwydwaith cefnffyrdd hefyd—ac fe gafodd pob un ohonyn nhw ei wrthod. Ar hyn o bryd yr unfed ar ddeg o fis Ebrill yw'r dyddiad ar gyfer traffig unffordd yn ôl ar waith eto, ond tybed a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni o ran unrhyw waith sy'n cael ei gwblhau cyn hynny, oherwydd fe fyddai hynny'n cael ei werthfawrogi yn fawr.

Hefyd, fe ddylwn i ychwanegu bod gwefan Traffig Cymru yr oeddech chi'n cyfeirio ati yn tynnu sylw at y ffaith na fydd gwasanaethau bws uniongyrchol rhwng Machynlleth a'r Drenewydd, ac mae hynny'n annog pobl i ddefnyddio gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru. Ond yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd Network Rail y bydd y rheilffordd rhwng Aberystwyth a'r Amwythig ar gau am 16 diwrnod rhwng misoedd Mawrth ac Ebrill, gan ddweud eu bod nhw'n annog pobl i ddefnyddio'r gwasanaeth bysiau. Felly, yn amlwg, fe geir anhawster yma ac mae hi'n gwbl amlwg i mi nad oes llawer o gydlyniad wedi bod o ran Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a Network Rail hefyd. Ar ben hynny, oherwydd bod y ffyrdd ar gau, mae myfyrwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio'r gwasanaeth rheilffordd i fynd o Dalerddig a Charno i'r ysgol ym Machynlleth; yn amlwg, ni fydd hynny'n bosibl yn ystod y cyfnod o 16 diwrnod, ac ar hyn o bryd nid oes unrhyw gynllun ar waith i gludo'r plant hynny i'r ysgol. Rwy'n meddwl tybed, Prif Weinidog, a fyddech chi'n barod i ymyrryd yn y sefyllfa hon.

Diolch yn fawr. Fe ddechreuwyd y gwaith o gau'r A470 yn llwyr yn Nhalerddig ar 20 Ionawr, fel roeddech chi'n ei awgrymu; rydym ni'n gobeithio y bydd hynny'n cael ei gwblhau ar 11 Ebrill. Ond rydym ni'n gweithio yn agos iawn gyda'n cadwyn gyflenwi i fyrhau'r cyfnod hwn cyn belled ag y bo modd gwneud hynny. Roeddech chi'n awgrymu bod croesddywediad o ran mater y ffordd a'r rheilffordd; fe fyddaf i'n gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet edrych ar y wefan a gwneud yn siŵr bod cysondeb yn hynny o beth.

15:00
Partneriaeth Gymdeithasol

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid undebau llafur i hyrwyddo dull partneriaeth gymdeithasol? OQ62282

Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda'n partneriaid undebau llafur, drwy wreiddio partneriaeth gymdeithasol mewn deddfwriaeth a chan gynnwys cynrychiolwyr yr undebau ar y cyngor partneriaeth gymdeithasol. Ac yn y modd hwn, rydyn ni'n sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n ysgogi ymrwymiad ar y cyd i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol. Dyma'r ffordd yma yng Nghymru.

Diolch. Hoffwn i hefyd ddatgan fy mod i'n aelod balch o undeb llafur Unite. Ni all Bil Hawliau Cyflogaeth Llywodraeth y DU ddod yn ddigon buan. Ceisiodd y Torïaid ei atal. Gwnaeth Nigel Farage bleidleisio yn ei erbyn. Ond mae gwir angen hwnnw ar waith arnom ni nawr ar gyfer gwaith teg. Mae pum cant a hanner o weithwyr Oscar Mayer yn wynebu toriadau yn eu cyflogau. Ar y wefan, mae'r cyflogwr yn dweud mai cwtogiad o £20 yr wythnos yn unig ydyw, ond pan ydych ar gyflog isel iawn ac mae prisiau'n codi oherwydd chwyddiant a biliau trydan yn cynyddu, mae £20 yn dipyn o arian. Nid yw'r trafodaethau'n mynd rhagddynt. Ar y wefan, mae'r cyflogwr yn dweud ei fod yn agored i ddeialog mewn ffordd adeiladol i ddatrys yr anghydfod. Felly, Prif Weinidog, a allech chi ddweud wrthyf i pa mor llwyddiannus fuodd Llywodraeth Cymru wrth gyfarfod â'r cyflogwr, oherwydd rwy'n credu bod y cyflogwr wedi canslo cyfarfod arall y funud olaf, a beth wnewch chi ynghylch hyn? 

Diolch yn fawr. Rwyf i eisiau talu teyrnged i'r bobl sy'n ymladd dros eu hawliau yn Oscar Mayer. Ysgrifennais i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, at Oscar Mayer i fynegi ein pryderon, a gwnaethom ni eu gwahodd nhw i drafod eu cynigion ar gyfer y gweithlu gyda ni ym mis Hydref 2024. Mae cytundeb nawr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn cyfarfod â'r prif swyddog gweithredol ar 21 Chwefror. Rwyf i eisiau'i gwneud yn glir nad oes lle i arferion diswyddo ac ailgyflogi mewn marchnad lafur fodern, wâr ac mae'n groes i werthoedd gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol. 

Sector Addysg Uwch

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fanteisio ar ymchwil a datblygu a wneir gan sector addysg uwch Cymru? OQ62319

Yn y flwyddyn ariannol hon yn unig, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £100 miliwn mewn ymchwil ac arloesi sy'n digwydd ym mhrifysgolion Cymru, gan ganolbwyntio ar ymchwil sy'n cael yr effaith fwyaf ar ein heconomi a'n pobl. Mae cyllid yn cael ei ddosbarthu drwy Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Yn anffodus, mae ein hanes o fanteisio ar yr arloesedd sy'n deillio o'n prifysgolion yn warthus, o'i gymharu â'n cystadleuwyr rhyngwladol. Mae sefydliadau'r UD yn cofnodi cannoedd o geisiadau patent bob blwyddyn, ond prin y mae ein prifysgolion yn cofrestru unrhyw beth. Mewn gwirionedd, mae chwilio am wybodaeth am batentau ar wefan y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn dychwelyd dim canlyniadau, felly nid ydyn nhw hyd yn oed yn monitro'r gweithgareddau.

Prif Weinidog, os ydym ni eisiau cystadlu ar y llwyfan byd-eang, mae angen i ni nid yn unig feddwl yn uchelgeisiol, ond gweithredu'n uchelgeisiol. Mae gormod o gwmnïau tramor yn manteisio ar lawer o syniadau sy'n deillio o'n prifysgolion. Pa gamau y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod ein sefydliadau'n datblygu cynhyrchion yn seiliedig ar yr ymchwil y maen nhw'n ei wneud?

Diolch yn fawr. Rydych chi'n hollol gywir: rwy'n credu bod yn rhaid i ni, bob amser, wneud mwy o ymdrech o ran mynd o ymchwil i arloesi i fasnacheiddio. Rydyn ni'n eithaf da—nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y DU—o ran yr ymchwil; nid ydyn ni gystal, o'i gymharu â gwledydd eraill, ym maes arloesi.

Dyna pam mae gennym ni'r strategaeth arloesi erbyn hyn, ac mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda Medr, prifysgolion Rhwydwaith Arloesi Cymru a'r sector addysg drydyddol ehangach i gefnogi dull mwy cydweithredol, fel ein bod ni'n gwneud y mwyaf o werth yr ymchwil honno ac yn sicrhau bod ein blaenoriaethau'n gywir. Felly, rydyn ni eisiau cryfhau ymchwil ac arloesi cydweithredol mewn addysg uwch. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y strategaeth arloesi newydd honno yn helpu i ysgogi'r mathau o bethau yr ydych chi'n chwilio amdanyn nhw. 

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd sy'n gwneud y datganiad hwnnw. Jane Hutt.

15:05
Member
Jane Hutt 15:05:04
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r datganiad llafar ar adolygiad Undeb Rygbi Cymru o drafodaethau contract y tîm menywod hŷn wedi'i dynnu'n ôl. Bydd yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau'n electronig.

Trefnydd, byddwn yn ddiolchgar pe gallen ni gael datganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch gwasanaethau cymorth i deuluoedd yng Nghymru. Mae teulu yn fy etholaeth yn gorfod teithio i Abertawe ar gyfer apwyntiadau cyswllt teulu, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno nad yw'n dderbyniol ac yn rhoi mwy o bwysau ar deuluoedd ar adeg sydd eisoes yn gyfnod llawn straen iddyn nhw. Rwyf hefyd wedi cael gwybod bod y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd yn wynebu toriadau, a bydd, wrth gwrs, yn cael effaith enfawr ar blant sy'n mynd drwy'r broses hon. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe gallen ni gael datganiad gan Lywodraeth Cymru am y camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod apwyntiadau cyswllt teulu mor hygyrch ac agos at adref â phosibl, yn ogystal â mwy o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth i wasanaethau i ddiogelu plant drwy'r broses llys teulu yma yng Nghymru.

Diolch yn fawr, Paul Davies. Mae hwnna'n gwestiwn pwysig iawn o ran galluogi'r gwasanaethau cymorth i deuluoedd holl bwysig hynny fod yn hygyrch, fel y dywedwch chi, i'r teuluoedd hynny. Dyma un o'r meysydd hynny sydd wedi'u datganoli'n rhannol o ran y gwasanaeth llys, a gyda CAFCASS, mae gennym ni rôl a chyfrifoldebau. Yn sicr, mae hyn yn rhywbeth rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol yn ymwybodol iawn ohono, felly byddwn ni'n ceisio rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y mater hwn o ran mynediad at gefnogaeth i deuluoedd. Ac mae'r canolfannau cyswllt hynny'n bwysig iawn. Yn sicr, rwyf i wedi ymweld â llawer dros y blynyddoedd mewn gwahanol rolau a gyda gwahanol gyfrifoldebau, ac mae angen i ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf am sut y maen nhw'n galluogi pobl ac, o ran cyfrifoldebau, sut mae'r gwasanaethau hynny'n cael eu defnyddio.

Byddwn i'n croesawu dadl, os gwelwch yn dda, yn amser y Llywodraeth am ddyfodol gwasanaethau meddygon teulu. Rwy'n poeni am ddyfodol rhai meddygfeydd. Yn ystod y misoedd diwethaf, rwyf i wedi bod yn codi pryderon yn y Senedd am nifer o wasanaethau meddygon teulu'r Cymoedd, practisau yr oedd cwmni preifat, EHarley Street yn dal eu contractau. Nid oedd meddygon yn cael eu talu; roedd hi bron yn amhosib i gleifion cael apwyntiadau. Rwyf i wedi codi pryderon am lywodraethu clinigol ac, yr wythnos diwethaf, dywedais i wrth y Prif Weinidog bod un meddyg, a oedd wedi gweithio yn un o'r practisau hyn, wedi dweud wrthyf i nad oedden nhw'n teimlo'n ddiogel oherwydd yr holl bwysau a oedd arnyn nhw.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydyn ni wedi cael newyddion bod contractau nifer o'r practisau hyn wedi cael eu trosglwyddo'n ôl i'r bwrdd iechyd, ond nid ydyn ni'n gwybod o hyd beth mae hyn yn ei olygu i'r practisau sydd ar ôl, fel Gelligaer, ac nid oes gennym ni eglurder chwaith ynghylch a fydd yr arian sy'n ddyledus i feddygon yn cael ei dalu iddyn nhw, na sut y bydd y bwrdd iechyd yn ennill ei hymddiriedaeth yn ôl, neu, yn wir, ymddiriedaeth y cleifion. Hoffwn i gael dadl i ystyried beth arweiniodd at yr argyfwng hwn, beth fydd yn digwydd i'r practisau sy'n weddill, pa wersi y mae'n bosibl eu dysgu a sut y mae modd adfer ffydd cleifion a staff yn sgil yr hyn y maen nhw i gyd wedi'i wynebu.

Diolch yn fawr iawn, Delyth Jewell, am godi'r mater pwysig iawn hwn, sy'n effeithio ar eich etholwyr, ac, yn wir, mae wedi cael ei godi gan lawer o Aelodau ar draws y Siambr hon o ran eu hetholaethau a'u rhanbarthau. Mae'n ffaith, fel y gwyddoch chi, fod y bwrdd iechyd wedi ymgymryd â rheoli practisau EHarley Street, a hefyd wedi cymryd diddordeb gweithredol mewn dyddiadau trosglwyddo i sicrhau bod anghenion cleifion yn cael eu diwallu. Mae partneriaid wedi cytuno i roi cynlluniau manwl i'r bwrdd iechyd am y contractau. Rwy'n arbennig o ymwybodol bod hyn yn croesi nifer o ardaloedd, gan gynnwys yr ardal a'r practis a gafodd ei godi gennych chi heddiw. Ond, yn wir, mae hi yn ôl ar y cofnod heddiw, a'r pryderon, fel y dywedwch chi, am y gweithlu, y taliadau a'r staff a'r amodau, a chyn bwysiced â hynny, wrth gwrs, mynediad at wasanaethau ar gyfer cleifion. Wrth gwrs, mae ein gwasanaeth meddygon teulu a gofal sylfaenol ar flaen y gad o ran darparu gwasanaeth iechyd. Mae'n dda iawn ein bod erbyn hyn wedi cael y contract gwasanaethau meddygol cyffredinol newydd hwn, gyda'r buddsoddiad o £52.1 miliwn mewn meddygaeth deulu eleni, ac wrth gwrs mae'n rhaid i ni sicrhau bod holl ddinasyddion Cymru yn mynd i elwa ar hynny.

15:10

Cefais i gyfarfod gyda Chomisiynydd Heddlu De Cymru yr wythnos diwethaf, ac wrth drafod y cynnydd arfaethedig o 7.32 y cant ym mhraesept yr heddlu, cefais i fy sicrhau, o leiaf, o glywed bod panel craffu sy'n cynnwys cynrychiolwyr pob un o'r awdurdodau lleol yn ne Cymru wedi craffu ar y cais am y cynnydd sylweddol hwn fesul llinell, ac wedi dod i'r casgliad bod hwn yn deg. Ond un o'r pethau a gododd oedd nad oes gan Gaerdydd gyllideb ychwanegol am fod yn brifddinas Cymru, sy'n amlwg yn golygu llawer o blismona ychwanegol o ran y protestiadau wythnosol, o leiaf, sy'n digwydd yng Nghaerdydd, yn ogystal â'r nifer fawr iawn o ddigwyddiadau mawr yn y diwydiant adloniant yn arbennig, ym maes chwaraeon a cherddoriaeth, a'r rheini'n amlwg yn mynd i gostau o le arall. Nawr, rwy'n hollol sicr bod Llundain yn cael swm ychwanegol mawr iawn ar gyfer y swyddogaeth hon, ac roeddwn i'n meddwl tybed a ydych chi wedi cael unrhyw sgyrsiau gyda Shabana Mahmood ynghylch a yw Caerdydd yn cael chwarae teg yn ei rôl fel prifddinas ai peidio.

Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone, ac wrth gwrs nid yw cyllid yr heddlu, fel yr ydych chi wedi'i gydnabod yn y cwestiwn olaf yna wedi'i ddatganoli'n llwyr. Mae'r cynlluniau gwario cyffredinol ar gyfer yr heddlu yng Nghymru a Lloegr yn cael eu pennu a'u hysgogi gan y Swyddfa Gartref, ond yn wir, mae'n dda iawn clywed o'ch cyfarfod â CHTh Emma Wools, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, am y ffyrdd y mae hi'n ymgysylltu â gwaith craffu ar y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud  o ran y praesept sy'n cael ei godi ar gyfer Heddlu De Cymru, Ac mae'r ymgynghoriad hwnnw, wrth gwrs, yn bwysig iawn.

Ydy, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi'i godi. Rwy'n cadeirio'r bwrdd partneriaeth plismona, ac mae'r materion hynny'n cael eu dwyn i'n sylw ni, yn enwedig o ran y pwysau ar brifddinas Cymru a'r holl ddigwyddiadau sy'n dod, sydd mor bwysig i ni yng Nghymru ac i'r ddinas. Mae hwn yn rhywbeth lle rwy'n gobeithio y byddwn i'n gallu—. Ac rwy'n siŵr bod y comisiynydd heddlu a throseddu ei hun, ac yn wir y prif gwnstabliaid, yn cyfarfod yn rheolaidd â chydweithwyr Llywodraeth y DU a gyda'r Gweinidog plismona, Diana Johnson, yr wyf i fod i gyfarfod â hi cyn bo hir, ac rwy'n siŵr y bydd hyn ar yr agenda.

Trefnydd, fel y gwyddoch efallai, mae cleifion yn fy rhanbarth i—ac rwy'n disgwyl ei bod hi'r un fath ym mhobman arall—yn ei chael hi'n fwyfwy anodd dod o hyd i fannau parcio ceir yn ein hysbytai, gan ychwanegu at y straen y mae llawer yn ei ddioddef wrth ymweld ag ysbyty. Efallai eich bod chi wedi gweld y sylw diweddar ynghylch Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, lle mae'r ysbyty wedi cael gwared ar lawer o fannau parcio i bobl anabl yn ddiweddar i osod unedau meddygol dros dro, a gallaf i dystio bod parcio yr un mor wael yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful ac Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Gallwn i gyd weld bod lle mewn ysbytai yn brin, ac mae'n siŵr bod llawer o ysbytai'n teimlo bod angen mwy o gapasiti arnyn nhw. Fodd bynnag, mae'n rhaid nodi bod angen parcio digonol, gyda lle ychwanegol ar gyfer mannau parcio i bobl anabl, hefyd. Gyda hyn mewn golwg, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r problemau parcio parhaus yn ein hysbytai, a pha gamau sy'n cael eu cymryd i wella'r sefyllfa? Diolch. 

Diolch yn fawr iawn, Joel James. Wrth gwrs, cyfrifoldeb y byrddau iechyd yw trefniadau parcio ac mae'n amrywio'n fawr ledled Cymru o ran capasiti ar gyfer parcio, ac wrth gwrs mae mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn allweddol, a threfniadau parcio a theithio hefyd. Mae'n bwysig iawn bod gennym ni drefniadau fel y gallwch chi barcio am ddim, a bod gennym ni fannau hygyrch ar gyfer pobl anabl, yn amlwg hyd at derfyn amser pan fydd yn rhaid i chi dalu. Ond mae hwn yn fater i fyrddau iechyd a byddwn ni'n eich cynghori chi i godi hynna gyda'ch bwrdd iechyd o ran yr enghreifftiau penodol yr ydych chi wedi'u rhoi.

Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Iechyd, os gwelwch yn dda, ar effaith cau ysgol nyrsio Prifysgol Caerdydd ar fyrddau iechyd ledled Cymru ond yn arbennig Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae byrddau iechyd ledled Cymru eisoes yn cael trafferth gydag argyfwng cadw a recriwtio nyrsys, a bydd cau cwrs nyrsio Prifysgol Caerdydd yn cael effaith negyddol sylweddol ar ysbytai, fel Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân, a gofal iechyd ar draws fy rhanbarth. Mae cyfarwyddwr nyrsio Aneurin Bevan wedi disgrifio'r cam fel ergyd gwirioneddol, ac mae cyfarwyddwr y gweithlu wedi dweud, 'Bydd yn cael effaith sylweddol ar ardal fy mwrdd iechyd'. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno ei bod yn bwysig ein bod ni'n cael datganiad ar ba gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau'r effaith ar wasanaethau iechyd yn fy rhanbarth, a hefyd, yn ehangach, pa effaith y bydd cau'r ysgol nyrsio fwyaf blaenllaw yng Nghymru a'r pumed yn y DU yn ei chael ar gadw nyrsys yr ydyn ni wedi'u hyfforddi yng Nghymru yn gweithio yng Nghymru, a niferoedd y gweithlu? Diolch.

15:15

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwn. Rydyn ni wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi sector addysg uwch cynaliadwy, sefydliadau cryf sy'n gallu cyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer addysg, ymchwil a gwasanaethau cyhoeddus, ac mae hynny'n cysylltu'n glir â'ch cwestiwn am nyrsio. Rydyn ni'n siomedig iawn bod cyrsiau nyrsio yn rhan o gynigion Prifysgol Caerdydd, ac rydyn ni'n gweithio ar frys gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i sicrhau ein bod ni'n hyfforddi'r un nifer o nyrsys yng Nghymru. Ond yn amlwg, rydyn ni ar bwynt ymgynghori ac mae hwn yn fater i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, sy'n ymgysylltu â'r materion hyn o ran eu heffaith.

A gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ar y cymorth sydd ar gael i glybiau criced ar lawr gwlad yng Nghymru, oherwydd mae un enghraifft yn fy etholaeth i, Clwb Criced Doc Penfro, yn codi arian tuag at ystafelloedd newid newydd i ddynion, menywod a phlant iau ar eu maes yn Lôn Imble i sicrhau parhad y clwb a thwf y gêm yn Noc Penfro? Ac rydw i wedi mwynhau llawer o gemau caled yn erbyn y doc sydd wedi gwneud gwaith elusennol anhygoel yn ystod y blynyddoedd, gan godi tua £45,000 i elusennau lleol, ond nawr mae'n bryd rhoi'r gefnogaeth iddyn nhw fel y gallan nhw barhau i dyfu. Maen nhw'n gweithio gyda'r awdurdod lleol a'r grant Gwella Sir Benfro ond mae angen cymorth arall arnyn nhw.

Ac mae Clwb Criced Penfro cyfagos hefyd wedi gweithio'n ddiflino ers y pandemig, gan wella eu cyfleusterau yn Treleet, gan gynnwys rhwydi newydd, gorchuddion ar gyfer y wiced ac adnewyddu'r pafiliwn. Maen nhw hyd yn oed wedi gallu cyflwyno trydydd tîm uwch i gynghrair sir Benfro, sydd yn dangos twf y gêm yn sir Benfro. 

Felly, datganiad, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog o ran sut mae'n gweithio gyda Chwaraeon Cymru, Bwrdd Criced Cymru a Lloegr a Chriced Morgannwg i gynnig y gefnogaeth honno i glybiau criced ar lawr gwlad, fel y gall un o chwaraeon mwyaf blaenllaw'r byd barhau i dyfu ledled ein gwlad. Diolch, Llywydd. 

A gaf i ddiolch yn fawr iawn chi am y cwestiwn yna, Samuel Kurtz? Wrth gwrs, rydych chi wedi manteisio ar y cyfle i dynnu sylw at fywiogrwydd, rwy'n credu, criced ar lawr gwlad yng Nghymru, yr ydyn ni'n gwybod am y clybiau ar lawr gwlad hynny ym mhob un o'n rhanbarthau a'n hetholaethau ni. Wrth gwrs, mae llawer o hynny yn ymwneud nid yn unig â sgiliau pawb sy'n hyfforddi, cefnogi a chwarae, ond y gwirfoddolwyr a'r ddarpariaeth o bafiliynau, clybiau hefyd, ystafelloedd newid ac ati. Nawr, mae hyn yn rhywbeth lle mae Chwaraeon Cymru yn ymgysylltu'n gryf â'r cynllun ariannu grantiau, a hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud, trwy'r rhaglen cyfleusterau cymunedol, rwyf i wedi gallu ariannu rhai o'r gwelliannau sydd eu hangen ac adnewyddiadau sydd eu hangen yn aml ar y clybiau cymunedol sy'n aml yn eiddo i wirfoddolwyr. Felly, rwy'n gobeithio hefyd y byddech chi'n cysylltu â Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, sydd â phorth cyllido, oherwydd mae yna lawer o ymddiriedolaethau a ffynonellau cyllid cymunedol. Ond yn sicr, mae'n bwysig eich bod chi wedi dwyn hyn i sylw'r Siambr, a gallwn ni ddathlu'r bywiogrwydd criced hwnnw a mwynhau'r tymor wrth iddo ddechrau, yn enwedig Morgannwg byddwn i'n ei ddweud—mae hynny'n dangos ffafriaeth braidd.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar ddatganiad parth atal ffliw adar Cymru gyfan yn ddiweddar? Rydyn ni i gyd yn gwybod y bygythiad y mae ffliw adar yn ei gyflwyno nid yn unig i'n da byw ond hefyd i bobl, ac mae'n peri pryder mawr pan wnaethon ni glywed, dim ond ddoe, rwy'n credu, bod yna achos arall yn Lerpwl. Rydyn ni'n gwybod y cafodd miliynau o adar eu lladd yn sir Amwythig heb fod ymhell yn ôl, a chafodd y parth ei roi ar waith yn sgil hynny. Fodd bynnag, mae etholwyr eraill wedi cysylltu â mi sy'n pryderu am y disgwyliad bod yn rhaid iddyn nhw lenwi rhai ffurflenni, fel rhan o'r parth, ac maen nhw'n ei chael hi'n anodd cael mynediad at y ffurflenni hynny ac, yn wir, eu llenwi, ac roeddwn i ond yn meddwl tybed a allai datganiad ddod gan yr Ysgrifennydd Cabinet, yn amlinellu pa gefnogaeth fydd ar gael, i sicrhau bod pobl yn gallu llenwi'r ffurflenni angenrheidiol a chael gafael arnyn nhw. A hefyd hoffwn i wybod pa gefnogaeth a chynlluniau sydd ar waith i dawelu meddyliau y nifer o ffermwyr dofednod a cheidwaid adar eraill ledled Cymru sy'n mynd yn bryderus iawn ar hyn o bryd.

15:20

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Peter Fox, diolch am godi hyn, ac, wrth gwrs, yr ydyn ni'n ymwybodol o hyn ac yn gwybod bod yr angen am barth atal ffliw adar yn cael ei adolygu'n rheolaidd, fel rhan o waith y Llywodraeth i fonitro a rheoli risg ffliw adar. Byddwch yn ymwybodol iawn y bydd angen i bob ceidwad dofednod ac adar dof eraill gydymffurfio â gofynion y parth atal ffliw adar. Rhaid i geidwaid hefyd fod yn wyliadwrus am arwyddion o glefyd. Mae'n glefyd hysbysadwy, a dylid adrodd unrhyw amheuaeth ar unwaith i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion—APHA. Rydyn ni'n gweithio gyda gweinyddiaethau eraill, ac APHA, ar yr achosion hyn, ac yn cadw golwg fanwl ar sefyllfa ffliw adar, ym Mhrydain Fawr ac ar lefel ryngwladol.

Arweinydd y tŷ, a yw'n bosibl cael datganiad gan y Llywodraeth  mewn cysylltiad â'r dyfarniad yr wythnos diwethaf, neu'r diffyg cystadleuaeth, gan ddinas-ranbarth Caerdydd o ran y contract a gafodd ei ddyfarnu i ddymchwel gorsaf bŵer Aberddawan? Yn y nodyn i siambrau'r bargyfreithwyr a oedd yn gweithredu ar ran y cwmni a ddaeth â'r achos, maen nhw'n credu bod eu cais yn werth dros £10 miliwn. Byddwn i wedi meddwl bod £10 miliwn yn haeddu datganiad gan Lywodraeth Cymru, o ystyried ei fod erbyn hyn yn hawliad diwrthwynebiad, a bydd y trethdalwr ar ryw ffurf yn talu am yr arian hwn. Felly, a gaf i erfyn ar y Llywodraeth, gan fod ganddyn nhw fuddiant yn hyn, i sicrhau bod y datganiad ar gael i'r Aelodau, fel y gallwn ni weld yn union beth sydd wedi digwydd yma a phan fydd datblygiad Aberddawan yn mynd rhagddo, bydd gan ddatblygwyr preifat yr hyder y byddan nhw'n cystadlu ar delerau teg os ydyn nhw'n mynd i mewn i broses gynnig, a bydd ganddyn nhw ddisgwyliad rhesymol i'r cynigion hynny gael eu hystyried, a'u hystyried yn ôl teilyngdod economaidd ac nad yw unrhyw ffactor arall o gwbl ar waith?

Wel, diolch yn fawr iawn, Andrew R.T. Davies, am godi'r mater yna. Mae'n fater i brifddinas-ranbarth Caerdydd, ac, wrth gwrs, mae hynny'n gydweithrediad rhwng yr awdurdodau yn y rhanbarth i gyfrif am y sefyllfa. Yn bendant, gwnaf sicrhau fy mod yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf yr wyf i wedi gofyn amdani o ran y sefyllfa gyda'r Aelodau .

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i godi datganiad, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ar grant cyfalaf diogelwch ffyrdd a refeniw Llywodraeth Cymru, a dyraniad y gronfa hon i Gyngor Sir Ddinbych. Mae darn o ffordd wledig beryglus y mae damweiniau’n dueddol o ddigwydd arni yn fy etholaeth i, sy'n cael ei galw'n 'droadau penysgafn', rhwng y Rhyl a Dyserth, sy'n yn aml yn arwain at ddamweiniau traffig a fu bron â digwydd. Ar hyn o bryd mae cerbyd sydd wedi'i ddifetha’n llwyr, Citroen Xsara Picasso, wedi'i adael mewn cae cyfagos ers ymhell dros flwyddyn, yn dilyn damwain, gyda rhai trigolion yn dweud wrthyf i eu bod yn ddiolchgar am y dolur llygad, gan ei fod yn eu hatgoffa nhw o'r troadau peryglus sydd o'u blaenau nhw a dylen nhw fod yn ofalus. Ond ni ddylai pobl orfod dibynnu ar gar sydd wedi bod mewn damwain fel mesur diogelwch ar y ffyrdd; dylai addasiadau fod wedi cael eu gwneud i'r ffordd amser maith yn ôl i wella diogelwch. Ond, yn anffodus, rwyf wedi canfod bod yr awdurdodau lleol yn amharod i wario arian ar welliannau diogelwch ffyrdd oni bai fod marwolaethau'n digwydd. Ni ddylid disgwyl am farwolaeth cyn i hyn ddigwydd, ac mae gormod o lawer o ddamweiniau a damweiniau a fu bron â digwydd ar y rhan hon o'r ffordd, ac mae nifer o bobl yn ei hosgoi oherwydd ei henw drwg am fod yn beryglus.

Amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru fod Llywodraeth Cymru yn datganoli'r maes hwn i awdurdodau lleol, drwy gyd-bwyllgorau corfforaethol, ond rwy'n pryderu mai dim ond £49,500 a dderbyniodd Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer y grant diogelwch ffyrdd a refeniw cyfalaf, ac maen nhw'n amharod i wario'r arian hwnnw. Felly, a gaf i dderbyn datganiad yn amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan awdurdodau lleol y canllawiau cywir i wario'r arian grant yn yr ardaloedd cywir a'u bod yn cael adnoddau digonol? Diolch.

15:25

Diolch am y cwestiwn yna. Yn amlwg, mae'r cyhoeddiadau y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi'u gwneud yn ddiweddar ynghylch dyrannu cyllid a rôl y pwyllgorau corfforaethol, ac yn wir, cyfrifoldebau'r awdurdodau lleol, yn hanfodol i sicrhau bod y dyraniad hwn o gyllid ffyrdd, yn enwedig ar gyfer gwella diogelwch ar y ffyrdd, yn cyd-fynd â chanllawiau clir ar sut y caiff yr arian hwnnw ei ddyrannu. Ac, wrth gwrs, mae'n gwbl hanfodol ei fod yn canolbwyntio ar ddiogelwch ar y ffyrdd. Bydd y grant, wrth gwrs, yn cael ei gynyddu, os byddwch chi'n cefnogi ein cyllideb, yn y flwyddyn i ddod. Bydd yn bwysig iawn darparu'r gwelliant diogelwch ar y ffyrdd yr ydych chi'n galw amdano.

4. Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: Prentisiaethau

Eitem 4 heddiw yw'r datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: prentisiaethau. Galwaf ar y Gweinidog, Jack Sargeant. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf i yma heddiw yn cyflawni'n union yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud wrth ein Prif Weinidog, yn ystod ei hymarfer gwrando, oedd yn bwysig: swyddi, cyfleoedd ac economi gryfach yng Nghymru. Ac nid oes unrhyw enghraifft well o weledigaeth drawsnewidiol Llafur Cymru ar waith na'n rhaglen brentisiaethau arloesol ni. 

Nid dim ond sôn am swyddi a chyfleoedd y mae Llywodraeth Lafur Cymru, rydyn ni'n eu cyflawni, wedi'u pweru gan un o lwyddiannau mwyaf Cymru. Llywydd, fel eich Gweinidog sgiliau, a ddechreuodd fel prentis fy hun, rwy'n brawf byw o sut mae gweledigaeth prentisiaeth Llafur Cymru yn trawsnewid bywydau. Aeth yr hyfforddiant hwnnw â mi o lawr gwaith i radd mewn peirianneg ddiwydiannol, ac yn y pen draw i arwain agenda sgiliau Cymru. Nid polisi yn unig yw hyn i mi, mae'n bersonol. 

O dan arweinyddiaeth Llafur Cymru, rydyn ni wedi datblygu rhywbeth anghyffredin, rhaglen o'r radd flaenaf sy'n bywiogi pob cornel o'n heconomi. O adeiladu gwyrdd i'r diwydiannau creadigol, o ynni adnewyddadwy i beirianneg uwch, o ofal iechyd i letygarwch, mae Llafur Cymru wedi creu llwybrau prentisiaeth sy'n pweru Cymru ymlaen. 

Gan ddychwelyd i Goleg Cambria yn ddiweddar, lle dechreuodd fy nhaith fy hun, gwelais i'n uniongyrchol sut mae buddsoddiad beiddgar Llafur Cymru mewn sgiliau yn talu ar ei ganfed. Nid dim ond dysgu y mae'r prentisiaid hyn, maen nhw'n datblygu economi Cymru yn y dyfodol, yn llawn brwdfrydedd ac uchelgais sy'n profi pam mai prentisiaethau yw conglfaen ein hagenda sgiliau blaengar. 

Mae'r llwyddiant gweledigaeth Llywodraeth Lafur Cymru i'w weld yn y ffigurau: lansiodd dros 6,200 o bobl ifanc eu gyrfaoedd trwy brentisiaethau mewn chwe mis yn unig y llynedd. Llywydd, rydyn ni'n mynd ymhellach, gan greu cyfleoedd i bobl ar bob cam o'u bywydau. Dechreuodd mwy na 2,290 o bobl 40 oed a hŷn ar brentisiaethau, gan brofi nad yw byth yn rhy hwyr i ddilyn breuddwydion newydd. A gyda dros hanner ein prentisiaid 25 oed a mwy, rydyn ni'n helpu pobl i ailddyfeisio eu gyrfaoedd ar unrhyw oedran. 

Llywydd, rydyn ni'n chwalu rhwystrau ac yn agor drysau. Dyna ffordd Llafur Cymru. Mae 59 y cant o'n prentisiaid yn fenywod, gan godi i 67 y cant mewn prentisiaethau uwch. Rydyn ni wedi dyblu cyfranogiad gan gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i 10 y cant, ac rydyn ni'n dal i wthio ymlaen. Y llynedd roedd gennym ni gymysgedd o 515 o bobl anabl ac mae pobl ag anghenion dysgu ychwanegol yn ymuno â'n rhaglenni prentisiaethau. Nid ystadegau yn unig yw'r rhain,  Llafur Cymru yn cyflawni newid gwirioneddol yw hyn, cyfleoedd gwirioneddol i bawb.

Ystyriwch Needle Rock yn etholaeth y Llywydd ei hun yng Ngheredigion, lle mae dau brentis erbyn hyn yn paratoi i gymryd awenau'r cwmni. Neu Megan Christie, a symudodd ymlaen o brentisiaeth beirianneg yn GE Aviation i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf ar draws Cymru. Nid llwyddiannau yn unig yw'r rhain, maen nhw'n brawf byw o ymrwymiad Llafur Cymru i ddatblygu Cymru gryfach.

Mae ein gweledigaeth yn ymestyn ar draws 23 sector a phedair lefel, o lefel sylfaen i lefel gradd, gan greu llwybrau sy'n gweithio i bawb. Mae cyflogwyr yn cael y gweithlu medrus sydd eu hangen arnyn nhw, wrth i brentisiaid ennill arian wrth ddysgu, gan gyfuno profiad ymarferol â rhagoriaeth academaidd.

Mae Llywodraeth Cymru yn ysgogi chwyldro gwyrdd Cymru drwy ein rhaglen brentisiaethau. O hyfforddi mewn technolegau gwyrdd blaengar i arloesi digidol a deallusrwydd artiffisial, rydyn ni'n datblygu'r gweithlu medrus a fydd yn pweru economi gynaliadwy yfory. Nid rhaglenni hyfforddi yn unig yw'r rhain; nhw yw ein buddsoddiad yn nyfodol Cymru. Llywydd, atgyfnerthodd fy nghyfarfod diweddar ag Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru ein hymrwymiad i wrando ac addasu. Oherwydd nid yw hyn yn ymwneud â phenderfyniadau o'r brig i lawr; mae'n ymwneud â Llafur Cymru yn gweithio law yn llaw â dysgwyr i greu rhaglenni sydd wir yn diwallu eu hanghenion nhw.

Ac mae'r effaith yn ymestyn ymhell y tu hwnt i lwyddiannau unigol. Mae hyn yn ymwneud â gweledigaeth Llafur Cymru ar gyfer Cymru gryfach, decach a mwy llewyrchus. Pan fydd busnesau'n hybu cynhyrchiant trwy brentisiaethau, mae ein heconomi gyfan ni'n tyfu'n gryfach. Pan fydd pobl o bob oed yn cael mynediad at gyfleoedd newydd, mae ein cymunedau'n ffynnu. Llywydd, dyna wahaniaeth Llafur—cyflawni newid go iawn, cyfleoedd go iawn a chanlyniadau go iawn i Gymru. Drwy ein rhaglen brentisiaethau, rydyn ni'n datblygu Cymru lle mae pawb yn cael cyfle i lwyddo, ac ni fyddwn ni'n rhoi'r gorau iddi nes ein bod wedi gwireddu'r weledigaeth honno. Diolch. 

15:30

Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog ar brentisiaethau ac yn diolch iddo am roi golwg o flaen llaw arno heddiw. Rwyf i hefyd yn croesawu'r cyfle i gydnabod Wythnos Prentisiaethau Cymru 2025 a'r rhan hanfodol y mae prentisiaethau'n ei chwarae yn ein heconomi. Maen nhw'n helpu i greu gweithlu cyfnerth, medrus a deinamig yng Nghymru. Mae prentisiaethau'n darparu llwybr gwerthfawr at ffyniant, gan chwalu'r myth mai dim ond trwy'r brifysgol y mae modd cyflawni llwyddiant. Rwy'n cymeradwyo'r Gweinidog am hyrwyddo  prentisiaethau'n ddiflino, o'r meinciau cefn ac yn awr o'r meinciau blaen. Fodd bynnag, rwyf i eisiau canolbwyntio ar record Llywodraeth Cymru ar brentisiaethau, oherwydd nid yw'r datganiad heddiw yn rhoi unrhyw wybodaeth newydd i ni a dim cyhoeddiadau newydd.

Gweinidog, dangosodd ffigurau dros dro a gafodd eu rhyddhau fis Tachwedd diwethaf fod nifer y rhaglenni prentisiaethau a wnaeth gychwyn wedi gostwng o 5,335 yn chwarter 3 2022-23 i ddim ond 4,565 yn chwarter 3 y flwyddyn ganlynol—gostyngiad o 15 y cant. Ydych chi wedi nodi achos y dirywiad hwn, a sut y bydd yn cael sylw? Gostyngodd Llywodraeth Cymru ei tharged ar gyfer prentisiaeth o 125,000 i ddim ond 100,000, efallai gan ragweld y gostyngiad mewn niferoedd. Cafodd cyllideb rhaglen flaenllaw'r prentisiaethau ei thorri 14 y cant yn 2024-25, a'r amcangyfrif yw y bydd hyn yn arwain at hyd at 10,000 yn llai o bobl yn dechrau ar brentisiaethau. Fel eiriolwr cryf dros brentisiaethau, Gweinidog, pa neges ydych chi'n credu bod hyn ei hanfon at bobl Cymru? Mae deng mil yn llai o gyfleoedd yn golygu bod 10,000 yn llai o bobl ifanc yn datblygu eu gyrfaoedd ac yn gwneud cynnydd mewn bywyd. Nid yw hynny'n swnio i mi fel cyflawni.

Wedi dweud hynny, rwy'n cymeradwyo'r cynnydd yn nifer y menywod sy'n ymgymryd â phrentisiaethau, yn ogystal â'r cynnydd i 10 y cant mewn cyfranogiad gan gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, fel y gwnaethoch chi ei nodi yn eich datganiad. Mae'r llwyddiannau hyn yn sylweddol, ond maen nhw'n dod yn erbyn cefndir o lai o leoedd yn gyffredinol. Yn y cyfamser, mae sectorau allweddol yn wynebu dirywiad mawr. Gostyngodd nifer y dysgwyr sy'n dechrau prentisiaethau sylfaenol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol 34 y cant eleni, wrth i'r rhai sy'n dechrau prentisiaethau yn y sector ostwng 27 y cant. Yn yr un modd, ym maes adeiladu—diwydiant sydd eisoes yn wynebu diffyg rhagamcanol o ryw 9,000 o weithwyr erbyn 2027—rydyn ni erbyn hyn yn disgwyl colli 565 o brentisiaid eleni. Bydd y prinder sgiliau hyn yn costio degau o filiynau o bunnau i'n heconomi ni mewn allbwn wedi'i golli, yn arafu twf a niweidio cymunedau. Mae cwmnïau mawr fel Airbus, yr wyf i'n edrych ymlaen yn fawr iawn at ymweld â nhw yn ddiweddarach yr wythnos hon, a phurfa olew Valero ym Mhenfro, wedi hen sefydlu cynlluniau prentisiaethau. Ond, o ystyried eu crynhoad daearyddol, mae'n rhaid i ni gefnogi'r mentrau bach a chanolig—BBaChau—sydd wedi'u lledaenu ledled Cymru. Mae'r baich o gyflogi prentisiaid ar gyfer busnesau bach yn sylweddol, felly sut mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud hi'n haws i unig fasnachwyr a busnesau bach a chanolig gyflogi prentisiaid?

Y tu hwnt i doriadau cyllid, mae system brentisiaethau Cymru yn brin o gydlyniad strategol. Mae Estyn wedi nodi diffygion difrifol, darpariaeth anghyson, canllawiau annigonol ac absenoldeb strategaeth genedlaethol glir. Gweinidog, gwn i na fyddwch chi'n fodlon â'r sefyllfa hon, felly sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â phryderon Estyn ac yn pontio'r bylchau data i sicrhau bod prentisiaethau'n cyd-fynd ag anghenion y farchnad lafur? Cam allweddol ymlaen fyddai archwiliad sgiliau—rhywbeth yr ydw i wedi galw amdano ers tro—fel bod Cymru'n gallu deall anghenion ei gweithlu presennol ac yn y dyfodol yn well a sut y gall prentisiaethau lenwi'r bylchau hynny. O ffermydd gwynt arnofiol ar y môr i hydrogen a phopeth yn y canol, a oes gan y Llywodraeth ddarlun clir o'r sgiliau y bydd eu hangen ar Gymru? Yn bwysicach fyth, sut mae'n creu cyffro o fewn y system addysg fel bod pobl ifanc yn gweld y cyfleoedd sy'n dod i'r amlwg yn y diwydiannau newydd hyn ac, felly, eisiau bod yn brentisiaid gan ddilyn y llwybr hwnnw?

Rwyf i hefyd yn credu bod Cymru, yn anffodus, ar ei hôl hi o ran Lloegr o ran cyfleoedd prentisiaeth. Mae'r amrywiaeth o brentisiaethau gradd sydd ar gael yma yn arbennig o gyfyngedig, gan orfodi llawer o bobl ifanc i edrych mewn mannau eraill. Nawr, nid oes gennyf i broblem gyda myfyrwyr yn ehangu eu gorwelion drwy adael Cymru i astudio, ond rydw i yn gweld problem os ydyn ni'n methu â darparu'r cyfleoedd cywir yng Nghymru ei hun, p'un ai'n gyfleoedd cyflogaeth neu'n gyfleoedd hyfforddi, yn enwedig o ystyried amrywiaeth yr economi sydd gennym ni yma yng Nghymru. Dirprwy Lywydd, fel y dywedais i yn y Siambr hon bythefnos yn ôl, nid rhywbeth 'braf ei chael' yw economi gref, mae'n hanfodol. Mae prentisiaethau yn hanfodol i'n dyfodol economaidd. Rwy'n credu bod y Gweinidog yn poeni'n fawr am hyn, nid yn unig yn wleidyddol ond yn bersonol. Fodd bynnag, rwy'n credu bod angen gwneud mwy hefyd. Bydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn parhau i gymryd tystiolaeth ar brentisiaethau—

15:35

—ac rwy'n annog y Gweinidog i gymryd o ddifrif yr argymhellion fydd yn cael eu cyflwyno. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Diolch i Sam Kurtz am ei gydnabyddiaeth a'i eiriau caredig amdanaf i fel cyn-brentis, Dirprwy Lywydd, ond yn sicr y gydnabyddiaeth ar gyfer Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau o'i feinciau ef—wythnos bwysig i bawb ei chydnabod, a phwysigrwydd yr hyn y mae prentisiaeth yn ei olygu i'n heconomi ni, ond hefyd, os ydych chi'n cyflawni’ch amser fel prentis, beth all hyn ei olygu i chi a'ch cyfleoedd bywyd, wrth symud ymlaen. Mae'n braf iawn clywed hynny, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am y ffordd y mae'n darparu cwestiynau adeiladol ar lawr y Siambr. Gwnaf i geisio mynd trwy gymaint ag y gallaf i yn yr amser, Llywydd.

Mae'r Aelod yn tynnu sylw at ymrwymiad o 100,000 o brentisiaethau'n cychwyn. Mae'n gwybod yn iawn y rhesymau y tu ôl i hynny; cawsant eu nodi ym Mhwyllgor yr Economi ym mis Mehefin 2024 gan gyn-Ysgrifennydd yr Economi. Ac mae fy neges i Gymru ynghylch prentisiaethau a'n hymrwymiad i brentisiaethau yng nghylch nesaf y gyllideb, sy'n dod o flaen holl Aelodau'r Senedd hon, ac mae £144 miliwn wedi'i neilltuo ar gyfer prentisiaethau. Nid dyna'r unig gynnig sgiliau sydd gennym ni yn ein cyllideb, Llywydd. Mae gennym ni gynnydd yn y rhaglen sgiliau hyblyg, o £6.5 miliwn. Mae gennym ni gefnogaeth ar gyfer y cyfrifon dysgu personol gwyrdd. Mae gennym ni gefnogaeth i gyllid Cronfa Ddysgu Undeb Cymru. Felly, mae ein neges yn glir: rydyn ni'n cymryd sgiliau o ddifrif, ac mae prentisiaethau wrth wraidd hynny. Dyma'r swm mwyaf o arian yr ydyn ni erioed wedi'i fuddsoddi mewn prentisiaethau, ac mae hynny yn erbyn cefndir colli cyllid Ewropeaidd—canlyniad uniongyrchol Brexit. Nawr, er fy mod i'n derbyn y refferendwm a chanlyniad y refferendwm, mae'n rhaid i ni hefyd sylweddoli'r effeithiau sy'n dod yn sgil hynny.

Mae'r Aelod yn cyfeirio at nifer o leoedd o fewn ei gyfraniad, yn enwedig o ran iechyd a gofal cymdeithasol, ac adeiladu. Maen nhw'n ddau sector hanfodol yn economi Cymru—adeiladu, yn benodol, ar gyfer yr holl bethau, i datblygu'r seilwaith y mae angen i Gymru ei weld. Ac roeddwn i'n ddiolchgar iawn am gyfarfod bord gron gyda phrentisiaid amgylchedd adeiledig o bob rhan o'r sector, yn Wrecsam yr wythnos diwethaf, i drafod eu heriau o fewn y system, ond hefyd y pethau da yn y system brentisiaethau ac i annog mwy o bobl i'r amgylcheddau a'r gyrfaoedd hynny.

Ar y pwyntiau sy'n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol, bydd yr Aelod yn gwybod mai prentisiaethau iechyd a gofal cymdeithasol yw bron i hanner ein rhaglenni prentisiaeth sy'n dechrau yn Llywodraeth Cymru. Felly, mae'n faes yr ydyn ni'n ei gymryd o ddifrif. Ond rydyn ni'n gwybod, onid ydyn ni, Dirprwy Lywydd, o'r heriau yn y sector penodol hwnnw, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac rwy'n arbennig o awyddus i gael deialog â rhanddeiliaid allweddol ynghylch, efallai, y dewisiadau eraill yn y cyllidebau presennol fel y gallwn ni roi mwy o gyfle yn y sector hwnnw.

Yna mae'r Aelod yn cyfeirio at archwiliad sgiliau. Bydd yn falch o wybod, rwy'n siŵr, fy mod i wedi cynnal adolygiad sgiliau gwyrdd gyda'r Gweinidog Addysg Uwch ac Addysg Bellach, gan edrych ar ein darpariaeth hyd yma ar y cynllun gweithredu sero net, ond hefyd yn edrych i'r dyfodol o ran ble y gallwn ni gymryd y camau hynny i ddatblygu'n fwy yn y sector hwnnw. Mae swyddi mewn twf gwyrdd yn flaenoriaeth allweddol i'r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru hon, ac rydyn ni'n ei gymryd o ddifrif.

Dim ond rhai pwyntiau i orffen, Dirprwy Lywydd, i'w rhestru. Mae'n sôn am gyffro yn y sector. Wel, rwy'n cytuno—mae angen iddo ddechrau'r oedran hwnnw. Dyna pam rwy'n falch bod Gyrfa Cymru yn cymryd camau i annog myfyrwyr i feddwl am brentisiaethau. Dyna pam ei bod yn bwysig bod gennym ni'r datganiad hwn heddiw ac ymrwymiad yr Aelod a'i feinciau. Hefyd, efallai, mae mwy o rôl ar gyfer prentisiaethau iau, ac rwy'n gwybod bod gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ddiddordeb yn hynny. Rwy'n edrych ymlaen at argymhellion pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i weld beth ddaw o hynny. Byddaf i, wrth gwrs, yn ei gymryd o ddifrif.

Dirprwy Lywydd, mae miloedd o brentisiaid ym mhob un etholaeth ar draws Cymru. Mae hynny'n rhywbeth yr ydyn ni'n ei gyflawni yn ei erbyn. Rwyf wedi ymrwymo i 100,000 o brentisiaid yn nhymor y Senedd hon. Mae hynny'n nifer sylweddol yn erbyn cefndir o gyllideb o £144 miliwn eleni. Diolch.

15:40

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad.

Nawr, mae'r Gweinidog yn gywir—mae nifer o bethau y gallwn ni fod yn falch ohonyn nhw o ran sut yr ydyn ni wedi datblygu rhaglenni prentisiaeth yma yng Nghymru. Bydd llawer o hynny, wrth gwrs, yn cael ei arddangos yfory yn y Neuadd mewn digwyddiad sydd wedi'i noddi gan y grŵp trawsbleidiol ar brentisiaethau. Byddwn i'n annog pob Aelodau i fynd i lawr, i siarad â'r prentisiaid hynny, i weld y cynnig sydd ar gael i ddysgwyr, a chymryd rhan. Bydd potensial symudedd cymdeithasol prentisiaethau yn cael ei arddangos yn llawn, ac mae'n hynod addawol ac yn edrych fel digwyddiad fydd yn hynod fuddiol.

Rwy'n deall bod angen i'r Gweinidog wneud datganiad heddiw ar brentisiaethau o ystyried ei bod hi'n wythnos brentisiaethau, ond mae'n rhaid i mi ddweud bod y datganiad hwn i'w weld fel ymarfer ticio blychau. Oes, mae angen i ni ddathlu'r hyn sy'n cael ei gyflawni, ond mae angen i ni hefyd gydnabod gwirionedd moel y sefyllfa sy'n ein hwynebu ni yn y dyfodol. Rwy'n gwybod ei fod yn ymwybodol o hynny, ond roedd angen rhywfaint o fyfyrio arnon ni ar y ffordd ymlaen gan y Gweinidog heddiw. Er enghraifft, mae Medr, er enghraifft, erbyn hyn wrthi'n dylunio rhaglen brentisiaethau newydd. Lle mae'r Gweinidog yn gweld hynny'n mynd? Materion yn ymwneud â chyllido—sut mae'r Gweinidog yn gweld hynny'n datblygu? Mae pryderon gwirioneddol yn y sector ar hyn o bryd. Felly, ie, gadewch i ni ddathlu, ond gadewch i ni hefyd ddangos ein bod ni'n chwilio am atebion i'r materion hynny. Felly, gadewch i ni ganolbwyntio ar rai o'r materion hyn.

Yn gyntaf, mae ColegauCymru yn galw am strategaeth addysg a hyfforddiant galwedigaethol ôl-16 clir i ymdrin â'r diffyg cyfeiriad yn y polisi presennol. Bydd gwneud sgiliau yn gydnaws ag anghenion economaidd yn ysgogi twf, yn creu cyfleoedd teg ac yn cefnogi gweithlu cryfach, a thrwy hynny yn cyd-fynd ag argymhellion allweddol gan Lywodraeth Cymru ac ymchwil i system o'r radd flaenaf yn y Ffindir. Soniodd ef am strategaeth sgiliau. Pryd fyddwn ni'n gweld yr adolygiad o sgiliau gwyrdd hwnnw a beth mae ef yn ei olygu mewn gwirionedd gan 'sgiliau gwyrdd', oherwydd yr adborth cyson yr ydyn ni'n ei gael gan ddarparwyr pan fyddwn yn sôn am sgiliau gwyrdd yw, 'Beth mae'n ei olygu mewn gwirionedd?' Nid ydyn nhw'n siŵr beth yn union y mae disgwyl iddyn nhw ei wneud yn y sefyllfaoedd hynny. Felly, beth mae'n ei olygu yn union wrth 'sgiliau gwyrdd'?

Yn ail, mae prinder sgiliau yn parhau i fod yn her fawr i fusnesau bach a chanolig, gan gyfyngu ar fuddsoddiad mewn twf economaidd. Fe wnaethoch chi sôn am dwf yn eich datganiad. Wel, dyma un ffordd o ddatgloi twf yng Nghymru. Mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau y gall busnesau gael mynediad i'r gweithlu medrus sydd eu hangen arnyn nhw drwy gyflwyno strategaeth sgiliau sy'n canolbwyntio ar fusnesau bach a chanolig trwy Medr a chryfhau Gyrfa Cymru i gysylltu busnesau yn well â darparwyr addysg. Pa sgyrsiau sy'n digwydd yn hynny o beth?

Yn drydydd, mae rhwystrau cyson yn dal ar waith i ddysgwyr gael mynediad at raglenni prentisiaethau. Mae rhwystrau fel costau trafnidiaeth a chyflogau prentisiaeth isel yn dal i effeithio ar gyfraddau cwblhau prentisiaethau ac yn atal pobl rhag dechrau prentisiaethau, yn enwedig o'r ardaloedd difreintiedig hynny. Felly, lle ydyn ni ar edrych ar sut yr ydyn ni'n dileu'r rhwystrau hynny i ddysgwyr?

Yn olaf, yn ystod y pwyllgor, Gweinidog, fe wnaethoch chi ddweud nad oeddech chi'n cytuno â holl gynnwys adroddiad y Ganolfan Economeg ac Ymchwil Busnes a gafodd ei gomisiynu gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a CholegauCymru, gan nodi bod rhywfaint o'r dadansoddiad yn seiliedig ar ddata o hyd at ddegawd yn ôl. Nawr, rwy'n credu bod rhanddeiliaid wedi drysu gan eich sylwadau mai dim ond data a oedd hyd at ddegawd oed a gafodd ei ddefnyddio i edrych ar dueddiadau yn ystod y degawd diwethaf. Fe wnaethoch chi awgrymu hefyd nad oedd yr adroddiad yn corffori ymyriadau Llywodraeth Cymru ar sail un flwyddyn, gan gynnwys chwistrelliadau o arian drwy'r rhaglen brentisiaethau, a wnaeth gynyddu gweithgaredd. Felly, a allech chi roi rhywfaint o eglurder ynghylch y sylwadau hynny? Byddwn yn gwerthfawrogi hynny'n fawr iawn.

Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, ie, gadewch i ni ddathlu'r wythnos brentisiaeth hon, ond gadewch i ni hefyd weithio i sicrhau bod gennym ni rywbeth i'w ddathlu yn y dyfodol.

15:45

Diolch yn fawr, Luke, am y sylwadau hynny ac, unwaith eto, diolch am y ffordd y gwnaeth yr Aelod osod y sylwadau a'r cyfraniad y prynhawn yma. Mae ei waith fel cyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar brentisiaethau yn hanfodol, rwy'n credu, yn y Senedd, ac rwy'n ddiolchgar am yr amser y mae'n ei dreulio ar hynny. Rwy'n dymuno'n dda iddo yn y digwyddiad yfory yn y Senedd. Rwy'n gobeithio bod yno, Llywydd, ond gall ymddangosiadau mewn mannau eraill fy atal nawr rhag gallu gwneud hynny. Ond yn sicr, fe wnaf i geisio fy ngorau i ymgysylltu â'r sector, heb os, mewn fforymau eraill os nad yw hynny'n bosibl.

Mae'r Aelod yn nodi nifer o bwyntiau, onid yw? Mae'n sôn am Medr a rôl Medr. Wel, bydd Medr yn cyflawni yn erbyn y datganiad polisi y mae Llywodraeth Cymru wedi'i nodi, a byddaf i'n gweithio gyda Medr i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd, o ran rhaglenni prentisiaeth, i bobl Cymru. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o waith Medr a darpariaeth prentisiaethau yn y dyfodol a sut y dylen nhw edrych ar ôl 2027, gan ystyried y blaenoriaethau a gafodd eu pennu gan Lywodraeth Cymru. Felly, bydd angen iddo weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i sicrhau bod beth bynnag a ddaw nesaf yng Nghymru yn diwallu anghenion dysgwyr, ei fod yn diwallu anghenion cyflogwyr a'i fod yn diwallu anghenion yr economi. Rwy'n credu y bydd ei grŵp trawsbleidiol yn chwarae rhan bwysig yn hynny, a sefydliadau fel ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.

Yna mae'r Aelod yn mynd yn ei flaen i sôn am â'r adolygiad sgiliau gwyrdd. Cefais i gyfarfod cyntaf yr adolygiad sgiliau gwyrdd y mis diwethaf, yng nghanol y mis diwethaf, a wnaeth nodi amrywiaeth o safbwyntiau gan randdeiliaid mewn diwydiant, o'r sector addysg yn ogystal ag o undebau llafur yno. O ran sgiliau gwyrdd, fe gaf i fy arwain gan anghenion diwydiant yn benodol, ond, dim ond i roi blas ar le rwy'n gweld pethau, Llywydd, i gefnogi datgarboneiddio yn ein diwydiannau pwysig, i ddatblygu'r technolegau newydd hynny, p'un ai yw hynny ym maes hydrogen neu feysydd eraill, i wireddu'r potensial o ran ynni adnewyddadwy, yn enwedig ffermydd gwynt ar y môr: beth yw'r sgiliau sydd eu hangen arnon ni; sut mae'r cynllun gweithredu sgiliau sero net, sydd eisoes yn disgrifio rhai o'r sgiliau hynny, sut ydyn ni'n cyflawni yn erbyn hynny; a oes camau eraill y mae angen i ni eu cymryd i sicrhau ein bod ni'n cyflawni'r cynllun gweithredu hwnnw? Felly, dyna fydd sail yr adolygiad o sgiliau gwyrdd. Byddaf i'n dweud mwy am hynny pan fydd y broses honno'n dod i ben yn y dyfodol agos, Luke.

Yna mae'r Aelod yn sôn am rwystrau i bobl ddod yn brentisiaid, efallai, a phrentisiaethau. Rwy'n credu, wrth ymateb i Sam Kurtz, ni wnes i ateb ei bwynt ar fusnesau bach a chanolig. Soniodd ef am Airbus, yr ydyn ni'n ddiolchgar iawn amdano, a bydd ef yn cael ymweliad gwych â fy etholaeth i pan fydd yn mynd yno, Llywydd, ond pwysigrwydd busnesau bach a chanolig wrth wneud hynny—. Rwy'n cydnabod rhai o'r rhwystrau y mae'n sôn amdanyn nhw. Byddwn ni'n gweithio gyda busnesau bach a chanolig i sicrhau eu bod yn ceisio goresgyn y rhwystrau hynny, ond rwy'n gofyn i swyddogion wneud hynny nawr. O ran rhwystrau i ddarpar fyfyrwyr ddod yn brentisiaid, dyna'r gwaith pwysig. Dyna pam ges i'r drafodaeth gydag UCM Cymru am eu rôl a llais dysgwyr, er mwyn ceisio goresgyn rhai o'r heriau.

Y pwynt am gyflogau, Llywydd, mae'n bwynt yr wyf i wedi'i godi gyda'r Comisiwn Cyflogau Isel. Nid fy nghyfrifoldeb i yw hyn, ond rwyf i wedi cael y sgwrs gyda'r Comisiwn Cyflogau Isel ar lefel y DU ynghylch yr angen i sicrhau bod prentisiaid yn cael cyflog teg, a'r cyflog cywir, yn yr amgylchiadau sydd ohoni

Dau bwynt olaf, Llywydd. O ran yr adroddiad a'r sylwadau a gafodd eu gwneud yn y pwyllgor, rwy'n hapus i ysgrifennu at yr Aelod yn fanylach am y rhesymau hynny. Mae'r Aelod yn cyfeirio at ymarfer ticio blychau, Llywydd. Mae gan yr Aelod ddewis i'w wneud ymhen ychydig wythnosau i roi tic yn y blwch cywir ac i bleidleisio dros fwy o arian i brentisiaid pan ddaw'r gyllideb. 'Unrhyw hen esgus' meddai. 'Unrhyw hen esgus.' Edrychaf ymlaen at weld yr Aelod yn dewis rhoi'r tic cywir yn y blwch cywir ar y diwrnod hwnnw.

15:50

Roeddwn i'n falch iawn o helpu i nodi'r wythnos brentisiaethau trwy ymweld â dau leoliad yn fy etholaeth i ddoe, Gweinidog: meithrinfa Dechrau'n Deg yng Nghil-y-coed, lle gwelais i'n uniongyrchol yr amgylchedd effeithiol a meithringar iawn yno i blant o gefndiroedd mwy difreintiedig, eu teuluoedd a'r cymunedau ehangach, ac yna ymlaen i gartref gofal preswyl trawiadol iawn, sydd bron yn newydd sbon, ar gyrion Cil-y-coed, sydd wir o'r ansawdd uchaf. Roedd gan y ddau leoliad hynny brentisiaid o bob oed, fel y gwnaethoch chi sôn yn gynharach, Gweinidog, ac roedden nhw, yn fawr iawn, yn rhan o'r ymdrech tîm, gan ddarparu gwasanaethau o'r safon uchaf i'r cymunedau lleol hynny. Yn wir, yn y lleoliad gofal plant, y feithrinfa Dechrau'n Deg, Gweinidog, fe wnes gwrdd â Sidney, eu haelod ieuengaf o staff, a adawodd yr ysgol yn 16 oed, ac sydd erbyn hyn yn cwblhau ei phrentisiaeth gofal plant, gan ragori yn ei gwaith, ac mae hi hyd yn oed wedi'i henwi mewn adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru am ansawdd ei gwaith. Roedd y cyfan yn gadarnhaol iawn, ond un mater a gafodd ei godi gyda mi, Gweinidog, oedd nad yw pobl ifanc yn yr ysgol, yn aml iawn, yn cael digon o wybodaeth am y llwybr prentisiaeth a'r cyfleoedd sydd ar gael drwy brentisiaethau. Fe wnaethon nhw ofyn i mi godi hynny'n benodol o ran yr hyn y gallwn ni ei wneud i sicrhau eu bod yn cael yr wybodaeth briodol.

Diolch i John Griffiths am hynny a manteisio ar y cyfle i ddathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau ar lawr y Senedd drwy ymweld â'r ddau fusnes hynny, meithrinfa Dechrau'n Deg a'r cartref gofal preswyl yn ei etholaeth ef, gan brofi, ym mhob cwr o Gymru, ar draws nifer o sectorau, Llywydd, bod yna brentisiaid yn y busnesau hynny a sicrhau bod y busnesau hynny'n ffynnu mewn ffordd gynhyrchiol. A gaf i gofnodi fy nymuniadau gorau oll i Sidney, yn benodol, pan fydd hi'n gwneud ei hastudiaethau, a dymuno'n dda iddi ar gyfer ei gyrfa yn y dyfodol?

Gwnaeth John Griffiths bwynt pwysig iawn ynghylch sicrhau bod disgyblion sy'n gadael yr ysgol neu ddarpar ddisgyblion sy'n gadael yr ysgol yn cael gwybod am y dewisiadau. Dyna waith Gyrfa Cymru a'r gwaith y maen nhw'n ei wneud. Ond gwaith pob un ohonon ni fel Aelodau unigol, Llywydd, yw hyrwyddo'r cyfleoedd hynny hefyd. Ac fel cyn-brentis fy hun, rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar brentisiaid nawr, a'r cyn-brentistiaid hynny, i ystyried beth y gallan nhw ei wneud i hyrwyddo'r gwaith hwnnw. Ac roeddwn i'n cael sgwrs gyda fy nghyn-gydweithiwr, Mike, y gwnes i rannu fy amser fel prentis gyda ef, Llywydd. Erbyn hyn, mae ganddo radd Meistr mewn Rheoli Peirianneg. Mae'n arwain prosiectau ar draws gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, ac mae'n hyrwyddo prentisiaethau i ddisgyblion sy'n gadael yr ysgol. Mae angen mwy o hynny. Mae llawer o straeon cyffrous am hyn. Mae hyn yn rhan o'r wythnos hon. Dyna pam rwy'n cyflwyno'r datganiad hwn ar lawr y Siambr heddiw.

Hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad hwn heddiw. O fy safbwynt personol fy hun, rwy'n credu bod dysgu yn sgil, fel prentisiaeth, yr un mor bwysig â meddu ar radd weithiau, os nad yn fwy, yn fy marn i. Oherwydd bod llawer iawn o waith caled, weithiau, yn cael ei wneud ar brentisiaethau.

Ond yr hyn yr hoffwn i ei godi gyda chi, Gweinidog, yw, yn fy etholaeth i, mae yna fusnes o'r enw Kiernan steel yn Llandrindod, ac maen nhw'n gwneud gwaith gwych wrth ddenu prentisiaid o gymunedau gwledig i weithio iddyn nhw, er mwyn cael y sgiliau hynny ac yna i barhau â'u bywyd gwaith. Fodd bynnag, maen nhw'n wynebu rhywfaint o anhawster gyda'r ardoll prentisiaeth. Felly, a fyddech chi'n croesawu dod i ymweld â'r busnes hwnnw gyda mi fel y gallwn ni drafod y problemau hyn gyda nhw'n uniongyrchol, fel eich bod chi'n gallu clywed hynny a mynd â hynny yn ôl at eich cyd-Aelodau yn y Llywodraeth i helpu i lywio polisi'r Llywodraeth ar y maes busnes pwysig hwn?

A gaf i ddiolch i James Evans am hynny? Rwy'n cytuno: mae dysgu sgil a chrefft o bwysigrwydd arbennig ledled Cymru. Fe wnes i ddweud yn aml, Llywydd, pan oeddwn i ar y meinciau cefn, y dylen ni fod â mwy o brentisiaid, neu rai sydd wedi cyflawni prentisiaethau, mewn swyddi o fewn y Senedd, a gan gynnwys y Llywodraeth hefyd. Felly, byddwn i'n cytuno ag ef ar bwysigrwydd a chydnabyddiaeth i brentisiaethau, ochr yn ochr â'r angen am y bobl hynny sy'n dewis llwybr y brifysgol. Ond heb anghofio bod gennym ni raglenni prentisiaeth gradd hefyd, ac mae gennym ni gyfleoedd eraill i archwilio'r llwybr hwnnw.

Mae'r Aelod yn cyfeirio at Kiernan Steel yn ei etholaeth ef ac at yr ardoll prentisiaeth. Bydd yn ymwybodol o waith Llywodraeth y DU ynghylch yr ardoll twf a sgiliau newydd. Mae'r manylion am hynny yn dal i gael eu datblygu, ond wrth gwrs hoffwn i glywed barn busnesau Cymru a darparwyr dysgu Cymraeg o ran y farn ynghylch yr ardoll prentisiaethau. Roeddwn i'n falch iawn o weld, Llywydd, y llynedd, rwy'n credu ym mis Hydref, gyhoeddiad Kiernan Steel o ehangu o fewn ei etholaeth, gyda chefnogaeth £140,000 o arian Llywodraeth Cymru i gefnogi'r ehangu hwnnw, gan greu 39 o swyddi newydd, gan gynnwys pum prentis, ym maes adeiladu a seilwaith a'r dur sydd ei angen ynghylch hynny. Fel y dywedais i, Llywydd, mae swyddi a thwf gwyrdd yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon. Y math hwnnw o waith a fydd yn helpu i gyflawni yn erbyn hynny. Yn sicr, fe wnaf i ystyried dod i etholaeth yr Aelod i glywed yn uniongyrchol gan y busnes a'r prentisiaid eu hunain, pan fydd fy nyddiadur yn caniatáu hynny.

15:55

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n credu fy mod i'n gywir wrth ddweud mai chi yw unig ddeiliad y portffolio hwn erioed sy'n gyn-brentis, felly mae'n wych iawn cael eich profiad yn hyn.

Mae llawer i'w ddathlu yma gyda'r model prentisiaeth sy'n cael ei gynnig yng Nghymru, ac rydych chi wedi sôn o'r blaen am yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu Cymru o ran datblygu technoleg newydd—deallusrwydd artiffisial a seilwaith carbon-niwtral. Mae'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y rheini yn eithaf sylweddol, mewn gwirionedd, wrth symud ymlaen. Rwy'n credu y byddan nhw'n cynnwys pobl yn ymgymryd â phrentisiaethau o ansawdd uchel iawn, fel y rhai sydd ar gael mewn cwmnïau fel Airbus, a hefyd yn y cyfleuster cynnal a chadw tyrbinau gwynt yng Ngholeg Llandrillo yr ymwelais i ag ef yn ddiweddar, sy'n gyfleuster sydd wedi'i ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru hefyd, ac mae croeso mawr iddo yn y Rhyl. A allwch chi amlinellu ymhellach y sgyrsiau yr ydych chi wedi'u cael gyda darparwyr ynghylch sut y gallwn ni gefnogi'r rhain ymhellach, wrth symud ymlaen?

Diolch yn fawr, Carolyn Thomas, am y cwestiynau hynny, ac am godi pwysigrwydd prentisiaethau o ansawdd uchel yng Nghymru. Mae'r Aelod yn cyfeirio at ddwy enghraifft yn y gogledd, Llywydd: yn gyntaf, Airbus, yn fy etholaeth i, sy'n adnabyddus am fod â rhaglenni prentisiaeth safon aur ar draws y byd. Maen nhw'n hyfforddi'r peirianwyr awyrennau gorau un o'u ffatri ym Mrychdyn, mewn cydweithrediad â Choleg Cambria yng Nglannau Dyfrdwy, a byddwn i'n parhau i'w cefnogi drwy'r gyllideb brentisiaeth o £144 miliwn yng nghylch nesaf y gyllideb.

Mae'r Aelod hefyd wedyn yn cyfeirio at RWE, ac rwy'n credu, y technegwyr cynnal a chadw ffermydd gwynt ar y môr sy'n cael eu hyfforddi yn y gogledd. Rwy'n gwybod bod yr Aelod wedi bod, ar sawl achlysur, i weld pwysigrwydd y rhaglen honno, a dim ond y technolegau carbon-niwtral o ansawdd uchel y maen nhw'n eu defnyddio, a'r profiadau ym maes awtomeiddio, digideiddio a deallusrwydd artiffisial. Llywydd, cefais olwg sydyn ar nifer o gynlluniau prentisiaeth sydd ar agor ar gyfer ceisiadau nawr. Mae tyrbinau gwynt alltraeth RWE yn un ohonyn nhw. Felly, dylai cyd-Aelodau y tu allan i Siambr y Senedd ystyried edrych yno ac edrych ar wefan Prentisiaethau Cymru i ddarganfod lle mae mwy o gyfleoedd yn y ddau faes allweddol hynny y gwnaeth Carolyn gyfeirio atyn nhw, ond ardaloedd ledled y wlad hefyd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf i hefyd yn edrych ymlaen fel cyd-noddwr y digwyddiad yfory, oherwydd fi yw cyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar brentisiaethau. Maen nhw'n chwarae rhan hanfodol wrth lunio gweithlu'r dyfodol, ac mae mentrau fel Cyfle yn cael effaith enfawr. Rwyf i wedi gweld cynllun prentisiaethau ar y cyd de-orllewin Cymru yn tyfu ac yn ffynnu ers iddo ddechrau fel prosiect bach yn sir Gaerfyrddin. Mae wedi helpu, hyd yn hyn, 780 o blymwyr, bricwyr, plastrwyr, seiri coed a gweithwyr adeiladu eraill dan hyfforddiant i ddysgu crefftau hanfodol sydd yn aml yn talu'n dda. Wedi'i lansio yn 2013, dyma'r cynllun prentisiaeth ar y cyd mwyaf yn y DU erbyn hyn. Mae hynny’n lwyddiant enfawr yng Nghymru, gan gefnogi oedolion ifanc i gael gwaith cynaliadwy yn y diwydiant adeiladu a'u helpu i ddatblygu eu gyrfaoedd a'u cyfleoedd i gael gwaith. Ar hyn o bryd, mae tua 90 y cant o brentisiaid sy'n cwblhau'r tair blynedd wedi sicrhau cyflogaeth llawn amser yn eu crefft ddewisol, ond beth mae'n ei wneud sy'n ei gwneud hi'n unigryw—

16:00

Fe wnaf. Mae'n cynnig yr hyblygrwydd i gyflogi prentisiaid i'r BBaChau yn fy ardal i drwy weithio mewn partneriaeth â busnesau lleol. Fy nghwestiwn i chi yw hwn, Gweinidog: mae'n gynllun prentisiaeth a rennir hynod o lwyddiannus, sy'n gwasanaethu'r prentisiaid a'r busnesau bach a chanolig, felly, yn gyntaf oll, a wnewch chi eu llongyfarch am yr holl waith maen nhw'n ei wneud, ond edrych yn ehangach ar y math hwnnw o fodel i helpu i dyfu busnesau lle mae'r BBaChau yn brif gyflogwr?

A gaf i ddiolch i Joyce Watson am y sylwadau a'r cwestiwn, Llywydd? Mae croeso mawr i waith Joyce Watson dros nifer o flynyddoedd bellach—nid yn unig fel cyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol prentisiaeth, ond ar y grŵp trawsbleidiol ar gyfer adeiladu a'r amgylchedd adeiledig hefyd—ac mae'n mynd yn bell o ran cefnogi'r diwydiant a bod yn llais diwydiant yma yn y Senedd.

Mae'r Aelod yn tynnu sylw at y cynllun rhannu prentisiaethau fel llwyddiant gwirioneddol drwy ymyrraeth y Llywodraeth Lafur hon, ac mae hi'n hollol gywir: mae'r cynllun yn caniatáu i brentisiaid gwblhau rhaglen brentisiaeth lawn trwy weithio gyda nifer o gyflogwyr gwahanol i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i fod yn gymwysedig. Mae hyn yn arbennig o bwysig i'r sector busnesau bach a chanolig, fel y nododd Joyce Watson, ac mae'r cynllun rhannu prentisiaethau ar gael ar draws pob rhanbarth yng Nghymru mewn nifer o sectorau, gan gynnwys peirianneg, creadigol, digidol a'r cyfryngau, theatr dechnegol, a chwaraeon cymunedol. Maent hefyd yn darparu amgylchedd cyflogaeth â chymorth a chefnogaeth i'r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, ac rwy'n credu bod croeso mawr iddo hefyd.

Byddwn yn parhau â'r cynllun rhannu prentisiaethau, ac wrth gwrs byddaf yn llongyfarch y prentisiaid hynny yn y cynllun hwnnw, ond hoffwn longyfarch yr holl brentisiaid a diolch i'r holl ddarparwyr dysgu a chyflogwyr am gyflogi prentisiaid a chefnogi Wythnos Brentisiaethau yr wythnos hon. Mae Llywodraeth Cymru a Gweinidogion yn y Cabinet yn edrych ymlaen at archwilio'r cynlluniau yn eu portffolios eu hunain ledled Cymru yr wythnos nesaf, a thrwy gydol y flwyddyn hefyd. Rwy'n ddiolchgar am eu holl gefnogaeth a byddwn yn parhau i gefnogi prentisiaid yma yng Nghymru, ac rwy'n falch iawn o ddweud hynny, fel cyn-brentis fy hun sydd bellach yn gyfrifol am brentisiaethau yng Nghymru.

5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip: Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru: Diweddariad ar gynnydd

Eitem 5 sydd nesaf, datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip ar 'Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru', gyda diweddariad ar gynnydd. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 16:03:38
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mis Chwefror yw Mis Hanes LHDTC+ yn y DU, pryd rydym yn myfyrio ar y cynnydd sydd wedi'i wneud tuag at gael cymdeithas gynhwysol, lle mae ein holl ddinasyddion yn teimlo'n rhydd i fyw, i ffynnu ac i ddisgleirio.

Bob blwyddyn, mae thema, ac eleni y thema yw gweithredu, a hoffwn dynnu sylw at Leo Abse, Aelod Seneddol Llafur Cymru a frwydrodd i sicrhau bod argymhellion adroddiad Wolfenden 1957 i ddad-droseddoli cyfunrywioldeb yn y DU yn cyrraedd y llyfr statud. Mae'n amheus a fyddai'r DU wedi pasio'r ddeddfwriaeth nodedig mor gynnar â 1967 heb ymgyrchu diflino Leo Abse. Heb hyn, mae'n bosibl y byddai cynnydd graddol deddfwriaeth ar gydnabod rhywedd, cydraddoldeb ac ar briodas gyfartal wedi cael ei ohirio am flynyddoedd lawer.

Rydym yn cael ein cydnabod yn rhyngwladol am y cynnydd da rydym wedi'i wneud. Yn 2023, canmolwyd y 'Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru' gan arbenigwr annibynnol y Cenhedloedd Unedig ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd ar ei uchelgais i fynd i'r afael â hawliau dynol LHDTC+. Mae'r cynllun yn cael ei ystyried yn enghraifft o arfer da wrth lunio polisi hawliau dynol, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gyflawni'r camau gweithredu a nodir yn y cynllun trwy ein cydweithrediad â sefydliadau'r trydydd sector.

Dirprwy Lywydd, rydym yn comisiynu proses werthuso allanol i edrych ar sut rydym yn gwneud Cymru'n lle mwy diogel, gwella canlyniadau gofal iechyd, sicrhau bod addysg yng Nghymru yn gynhwysol, a gwella cynhwysiant a chyfranogiad ym mhob maes ar gyfer pobl LHDTC+. Ysgrifennodd menyw draws o Aberystwyth atom yn ddiweddar, gan ddweud,

'Mae'n dda bod cynnydd nawr yn cael ei wneud ar Gynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru. Mae llawer o waith i'w wneud o hyd i gyflawni'r amcanion a nodir yn y cynllun ac mae'n hanfodol ein bod yn cynnal momentwm a'r ewyllys wleidyddol i'w fwrw ymlaen. Yn bersonol, rwy'n teimlo fy mod wedi fy nghalonogi bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r cynllun, ond hoffwn weld rhai canlyniadau pendant yn deillio ohono gorau po gyntaf.'

Rwy'n hapus i gydnabod y cynnydd rydym wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan gytuno bod llawer i'w wneud o hyd. Rwy'n addo parhau i ymdrechu fel Llywodraeth i wella bywyd ein holl ddinasyddion LHDTC+.

Y llynedd, cafodd digwyddiadau Pride ar lawr gwlad ledled Cymru gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys Glitter Cymru, Y Bont-faen, Gisda, Y Barri, Mynwy, Y Fflint a Bae Colwyn, i enwi ond rhai. Dywedodd Michael Price, cadeirydd Pride Aberhonddu:

'Mae digwyddiadau Pride fel Pride Aberhonddu yn cael effaith wirioneddol drawsnewidiol ar gymunedau gwledig fel ein un ni'.

Bydd cefnogaeth i Pride Cymru ochr yn ochr â digwyddiadau Pride ar lawr gwlad yn parhau trwy 2025 i sicrhau y gall cymunedau a chynghreiriaid LHDTC+ ar hyd a lled Cymru ddathlu a choffáu terfysgoedd a gorymdeithiau rhyddhad cynharach Stonewall mewn undod.

Mae fy swyddogion eisoes wedi bod yn gweithio gyda'u swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd y Bil i wahardd defnyddio arferion trosi annerbyniol ac aneffeithiol, a addawyd yn Araith y Brenin y llynedd, yn diwallu anghenion pobl LHDTC+ yng Nghymru yn llawn. Mae'r gwaith yn mynd rhagddo'n dda ac edrychwn ymlaen at ei gyflwyno yn ystod y sesiwn seneddol bresennol.

Rydym wedi gweithio'n agos dros y flwyddyn ddiwethaf, gan ariannu Galop i sicrhau bod gwaith eiriolaeth a gwasanaethau therapiwtig ar gael i'r rhai yn y gymuned LHDTC+ sydd wedi profi arferion trosi niweidiol ac sydd angen cymorth arbenigol. Rydym wedi gweld y gwasanaethau hyn yn allweddol i ddangos ein cefnogaeth wrth i ni weithio gyda Llywodraeth y DU tuag at y Bil gwahardd arferion trosi, a byddwn yn parhau i gefnogi Galop trwy 2025.

Mae swyddogion wedi dechrau siarad â Llywodraeth y DU am gydnabod rhywedd, gan sicrhau y bydd llais Cymru wrth wraidd ystyriaethau ar ddiwygiadau pellach a fydd yn lleihau'r beichiau ar bobl draws yn yr hyn sydd, ac a fu erioed, yn broses weinyddol yn unig.

Mae ein 'Cynllun Gweithredu HIV i Gymru 2023-2026' yn parhau i gyflawni mewn partneriaeth â Fast Track Cymru, gyda holl fyrddau iechyd Cymru, y flwyddyn ariannol hon, ar fin ymrwymo i ddatganiad Paris ar ddod ag achosion HIV newydd a marwolaethau sy'n gysylltiedig ag AIDS i ben a dileu'r stigma sydd ynghlwm wrth HIV.

Rydym wedi gweithio gyda chydweithwyr yn Busnes Cymru i gynhyrchu ystod o wybodaeth, offer ac arweiniad ar-lein ar greu amgylcheddau gwaith amrywiol a chynhwysol, er mwyn gwella dealltwriaeth perchnogion busnes o waith teg. Mae'r adnoddau hyn bellach ar gael a byddant yn cael eu hyrwyddo drwy ymgyrch gyhoeddusrwydd yn ystod y gwanwyn eleni, 2025.

Wrth i ni edrych tua'r dyfodol, hoffwn ganmol tri arwr LHDTC+ cyfredol, Lou Englefield, Charlotte Galloway a Jess Williams, a arweiniodd y cais llwyddiannus i ddod â gemau'r Ewros, y digwyddiad aml-chwaraeon mwyaf i athletwyr a chynghreiriaid LHDTC+ yn Ewrop, i Gaerdydd yn 2027. Bydd hyn yn dod â phobl o lawer o wledydd i'n prifddinas a bydd yn rhoi cyfle i ni ddangos ein gwerthoedd o gynnwys, croesawu a dathlu bywydau LHDTC+.

Rydym yn parhau i ymdrechu i wneud Cymru y genedl fwyaf cyfeillgar i LHDTC + yn Ewrop. Mae'n rhaid i Gymru fod yn lle diogel, lle i bob un person fyw a charu fel pwy yr ydym ni.

16:05

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, yn ogystal â'ch briff cynharach. Fel y dywedwch yn eich datganiad, y mis hwn rydym yn dathlu Mis Hanes LHDTC+, ac rydych yn nodi'r achlysur hwn mewn ffordd addas iawn trwy roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am eich cynlluniau i wneud Cymru y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDT yn Ewrop.

Rydym wedi cymryd camau breision wrth fynd i'r afael â chasineb a gwahaniaethu a ddioddefir gan aelodau'r gymuned LHDT, ond mae gennym dipyn o ffordd i fynd o hyd. Ni ddylai neb wynebu casineb neu ragfarn oherwydd pwy y maen nhw'n dewis syrthio mewn cariad â nhw. Hoffwn ymuno â chi i gymeradwyo gwaith Leo Abse wrth ddod â throseddoli cyfunrywioldeb i ben. Roedd cael arwyr cenedlaethol a thrysorau cenedlaethol wedi'u carcharu oherwydd eu rhywioldeb yn gyfnod tywyll i'n cenedl, ac mae ymdrechion Leo i weithredu adroddiad Wolfenden i'w cofio a'u coffáu.

Hoffwn hefyd dalu teyrnged i AS arall a hyrwyddodd hawliau LHDT: David Cameron. Nid yn unig cyflwynodd briodas o'r un rhyw, roedd hefyd yn cydnabod ac yn ymddiheuro am yr adran 28 atgas. Ysgrifennydd Cabinet, a ydych chi'n cytuno bod angen mwy o ASau fel Leo a David arnom a llai fel Oliver Ryan ac Andrew Gwynne, y mae eu sylwadau homoffobig wedi arwain at eu gwaharddiad o'r Blaid Lafur?

Rwy'n croesawu'r trafodaethau rydych chi wedi'u cael ar wahardd therapi trosi. Ysgrifennydd Cabinet, a allwch chi ddarparu unrhyw fath o amserlen ar gyfer cyflwyno'r gwaharddiad? Er fy mod yn cytuno â'r angen i ddod ag arferion trosi i ben cyn gynted â phosibl, pa drafodaethau ydych chi neu'ch swyddogion wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw unrhyw ddeddfwriaeth yn rhwystro gallu rhieni a gweithwyr meddygol proffesiynol i helpu pobl ifanc sy'n cael trafferth gyda dysfforia rhywedd? Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n nodi bod eich swyddogion yn siarad â Llywodraeth y DU am ddiwygiadau i gydnabod rhywedd. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni yn dilyn adroddiadau yn y cyfryngau nad yw Llywodraeth y DU bellach yn ceisio newid y broses o gydnabod rhywedd?

Yn olaf, Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n croesawu'r cynnydd ar y cynllun gweithredu HIV a hoffwn ddiolch i Brif Weinidog y DU am gymryd prawf HIV yn y cartref, i helpu i roi diwedd ar y stigma ynghylch HIV a phrofi. A wnewch chi annog eich cyd-Aelodau yn y Cabinet i efelychu Prif Weinidog y DU? Diolch eto am eich datganiad ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i roi diwedd ar homoffobia a thrawsffobia yng Nghymru. Diolch yn fawr.

16:10

Diolch yn fawr, Altaf Hussain, a diolch yn fawr iawn i chi am groesawu'r cyfle hwn i roi'r diweddariad hwn heddiw, ac ymuno â ni i ddathlu mis hanes. Rwy'n credu eich bod chi wedi gwneud hyn bob tro yr ydym ni wedi gwneud hyn. Ac yn wir, byddaf yn talu teyrnged i Hannah Blythyn, wrth gwrs, y cyn-Ddirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, a ddaeth â'r cynllun i ni, i'w basio gan y Senedd hon.

Rydym wedi cymryd camau mawr, ond mae gennym ffordd bell i fynd. Rwy'n credu mai un o'r problemau, yn enwedig mewn perthynas â throseddau casineb, byddwn i'n dweud, yw eich bod chi'n meddwl eich bod chi wedi gwneud cam ymlaen ac yna rydych chi'n canfod mewn gwirionedd eich bod chi'n cael eich tynnu'n ôl. Rwy'n credu bod eich pwyntiau am arweinyddiaeth, arweinyddiaeth Leo Abse, fel rwyf eisoes wedi cydnabod, ac rwyf hefyd yn cydnabod arweinyddiaeth David Cameron ac yn gresynu at unrhyw wleidydd o unrhyw blaid—a nodaf ichi gyfeirio at Andrew Gwynne—am gasineb a fynegir mewn unrhyw ffordd. Rhaid dwyn pobl sydd â grym a chyfrifoldeb, mewn unrhyw blaid wleidyddol i gyfrif.

Oherwydd pan edrychwn ar droseddau casineb, rydym wedi ymrwymo i roi terfyn ar droseddau casineb yng Nghymru a chreu lle diogel i'r gymuned LHDTC+, ond hefyd mae angen yr arweinyddiaeth arnom o gyfeiriad plismona. Rydym yn gweithio'n agos gyda phlismona yng Nghymru i archwilio a gwella gweithdrefnau o fewn yr heddlu, a chanllawiau i swyddogion, sy'n ymwneud â throseddau casineb. Ac rydym yn cefnogi'r ymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru. Mae'n bwysig cydnabod bod heddluoedd, er enghraifft, yn ymgysylltu â'r Swyddfa Gyfathrebu i drafod gweithredu Deddf Diogelwch Ar-lein 2023, oherwydd dyma lle gwelwn wenwyndra a negyddiaeth yn y cyfryngau cymdeithasol o ran y byd yr ydym yn byw ynddo ar hyn o bryd. A dyma lle gall troseddau casineb fod mor dreiddiol.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf, fel yr wyf wedi'i wneud, am y gwaith yr ydym yn ei wneud i gefnogi Llywodraeth y DU, sydd wedi ymrwymo i'w maniffesto ar arferion trosi. Roedd yn amlwg yn Araith y Brenin bod gwaith yn mynd rhagddo'n dda i sicrhau bod y gwaith hwn yn cael ei gyflwyno yn ystod y sesiwn seneddol hon, ac i gydnabod bod hyn yn rhywbeth lle, yn ein rhaglen lywodraethu, y dywedom y byddem yn defnyddio'r holl bwerau sydd ar gael i wahardd pob agwedd ar therapi trosi LHDTC+ sydd yn ein pwerau, a cheisio datganoli unrhyw bwerau ychwanegol angenrheidiol hefyd.

Rwy'n falch eich bod wedi tynnu sylw at y cynllun HIV, a'r ffaith mai ein Prif Weinidog yn Llywodraeth y DU, Syr Keir Starmer, ynghyd â chynrychiolydd Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, oedd y Prif Weinidog cyntaf i gael prawf cartref cyflym. Unwaith eto, mae hyn yn ymwneud ag arweinyddiaeth a chodi ymwybyddiaeth o Wythnos Genedlaethol Profi HIV. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddod ag achosion HIV newydd i ben erbyn 2030, ac mae ganddi gynllun y mae'n ei gyflwyno yn yr haf eleni.

Ond, wrth gwrs, mae gennym ein cynllun gweithredu HIV ein hunain, fel y dywedais. Mae'n parhau i gael ei gyflawni mewn partneriaeth â Fast Track Cymru, fel y dywedais yn fy natganiad. Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod bod hyn yn ymrwymo i ddatganiad Paris hefyd. Felly, unwaith eto, diolchaf i chi, Altaf Hussain, am eich arweinyddiaeth, am sefyll i fyny, am gydnabod ein bod eisiau gweld, fel y dywedoch, y gall Cymru fod y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC + yn Ewrop.

16:15

Rydych chi wedi cyfeirio at arweinyddiaeth ychydig o weithiau yn eich ymateb, Ysgrifennydd Cabinet, ac rwy'n credu nad yw arweinyddiaeth erioed wedi bod yn fwy hanfodol wrth gynnal hawliau LHDTC+. Mae angen i ni weld hynny o gyfeiriad Llywodraeth Cymru yn fwy nag erioed, wrth i ni weld ymosodiad parhaus a dwys ar hawliau pobl LHDTC+ i allu byw'n rhydd a chydag urddas yn cael ei arwain gan wleidyddion poblyddol, yma a thramor, sy'n benderfynol o wasgu'r hawliau hynny wrth iddynt wneud grwpiau lleiafrifol yn fychod dihangol, gan achosi creulondeb a gwaradwydd.

Tra bo Trump yn erlid grwpiau ymylol trwy orchymyn gweithredol o'r Tŷ Gwyn, clywn Weinidogion Llafur y DU, fel Wes Streeting, yn ymateb â chwibanau cŵn cywilyddus, fel a welwyd ym mhapur The Sun dros y penwythnos, lle awgrymodd fod rhaglenni cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn y GIG yn nonsens llwyr. Clywsom hefyd yr adroddiadau y cyfeiriodd Altaf Hussain atynt y penwythnos hwn, sef nad yw Llafur y DU bellach yn ceisio cadw ei addewid maniffesto i ddiwygio'r broses trosi rhywedd, moderneiddio Deddf Cydnabod Rhywedd 2004. Dyfynnwyd bod ffynonellau Llafur yn disgrifio mater hunaniaeth rhywedd fel rhywbeth a allai achosi trafferthion mawr ac ni wadodd ffynonellau yn yr Adran Addysg, sydd â chyfrifoldeb ar lefel y DU am y briff cydraddoldeb, yr adroddiad. Mae'r maniffesto Llafur yn dweud:

'Byddwn yn moderneiddio, yn symleiddio ac yn diwygio'r gyfraith cydnabod rhywedd ymwthiol a hen ffasiwn i broses newydd.'

Ac, wrth gwrs, mae'r cynllun gweithredu LHDTC+ yma yng Nghymru yn nodi y bydd yn ceisio datganoli pwerau mewn perthynas â chydnabod rhywedd er mwyn cefnogi ein cymuned draws yn well. Rydych chi wedi dweud y prynhawn yma, fel rydych chi wedi'i dweud yn gynharach eleni, bod eich swyddogion wedi cwrdd â Llywodraeth y DU i nodi ein blaenoriaethau polisi ar gyfer diwygio'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd ymhellach, a byddant yn gweithio gyda Llywodraeth y DU wrth i'w polisi eu hunain ddod i'r amlwg.

Dywedoch chi y byddai'n well cael yr un ddeddfwriaeth yng Nghymru a Lloegr, ond rydych yn cadw'r ymrwymiad hwnnw i geisio datganoli pwerau i ddeddfu, pe bai'n briodol, yn dilyn eich trafodaeth gyda Llywodraeth y DU. Wel, mae'n teimlo i mi fod ceisio datganoli pwerau ar frys bellach yn gwbl briodol, o ystyried ei bod yn ymddangos fel pe bai newid meddwl ynghylch cefnogi hawliau pobl draws, ac o ystyried bod y cynllun gweithredu LHDTC+ yn ymrwymo'n bendant i helpu pobl draws i gael tystysgrif cydnabod rhywedd, yn ffordd o ddangos bod cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'n cymunedau traws yn weladwy. Felly, a yw Llywodraeth y DU wedi trafod gyda Llywodraeth Cymru eu safbwynt o ran diwygio'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd? Ac os nad ydyn nhw'n mynd i gadw eu haddewid maniffesto, pryd allwn ni ddisgwyl y cais hwnnw am ddatganoli pwerau?

Ar lawer o gamau gweithredu yn y cynllun, mae'r cynnydd wedi bod yn rhy araf. Enghraifft arall yw darparu canllawiau traws cenedlaethol ar gyfer ysgolion ac awdurdodau lleol. Roedd hwn i fod i gael ei gwblhau erbyn haf 2023. Yna, yn y diweddariad y llynedd, dywedwyd wrthym y byddai ymgynghoriad cyhoeddus, y byddai ei ganlyniad yn cael ei gyhoeddi yn 2024. Felly, pa ddiweddariad allwch chi ei ddarparu ar y camau hyn i alluogi addysg fwy cynhwysol, a nodwyd fel un allweddol gan y cynllun?

Mae Plaid Cymru yn credu bod yr hinsawdd wleidyddol bryderus bresennol yn gofyn am ymrwymiadau blaengar cryfach, fel yr amlinellir yn y cynllun gweithredu LHDTC+, yn hytrach nag ymdrechion llwfr i fachu cyfle a dyhuddo'r adain dde boblyddol. Mae hwn, wrth gwrs, yn fis hanes LHDTC+, a'r thema eleni yw gweithredu a newid cymdeithasol. Wel, mae gweithredu yn golygu cymryd camau gweithredu yn hytrach na siarad amdano, a herio er mwyn sicrhau newid. 

Mae gwleidyddiaeth yn ymwneud â dadl, ond yr hyn na ddylai fod yn destun dadl yw pa un a ddylid caniatáu i'r wladwriaeth dargedu grŵp bach o'i dinasyddion er budd gwleidyddol annoeth, sydd eisoes yn wynebu'r lefelau uchaf erioed o anoddefgarwch, bwlio a rhagfarn, sy'n ysgogi lefelau annerbyniol o droseddau casineb yn eu herbyn a chyfraddau aruthrol o hunan-niweidio a hunanladdiad. Yn y cyd-destun llwm a phryderus hwn y mae'n rhaid i ni weld cynnydd yn cyflymu ar nod datganedig y cynllun gweithredu LHDTC+, y buom ni ym Mhlaid Cymru, wrth gwrs, yn cydweithio â chi arno yn ystod y broses o'i ffurfio. A ydych chi'n cytuno, ac os felly, sut mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y gyllideb ddrafft, gyda'r dyraniad o £700,000 wedi'i wasgaru ar draws y gyllideb cydraddoldeb a hawliau dynol cyfan? Diolch.

16:20

Diolch yn fawr, Sioned Williams. Fel y dywedoch chi, nid yw arweinyddiaeth erioed wedi bod yn fwy hanfodol, ac mae'n dda ein bod yn cael mynegiant cydweithredol iawn o gefnogaeth heddiw yn y Siambr hon, gan ddangos arweinyddiaeth drawsbleidiol i'n cynllun gweithredu LHDTC+. Roeddwn yn cyfeirio'n ôl at y cynllun ei hun, pan gafodd ei lansio ym mis Ionawr 2023, ac roeddwn yn ymwybodol iawn o'r ffaith mai dyma'r hawliau LHDTC+ sydd wedi'u hymgorffori yn ein rhaglen lywodraethu ar gyfer y weinyddiaeth hon, y Llywodraeth hon, ac fel y dywedoch chi, roedd yn rhan allweddol o'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Rydym wedi datblygu'r cynllun gweithredu beiddgar hwn. Gadewch i ni gofio'r geiriau hynny eto yn rhagair y gweinidog gan Hannah Blythyn:

'Rydym am i Gymru fod yn wlad lle mae pawb yn teimlo’n ddiogel i fod yn nhw eu hunain, bod yn agored am eu cyfeiriadedd rhywiol, eu rhywedd, a’u mynegiant rhywedd, yn y cartref, yn y gwaith neu yn ystod gweithgareddau hamdden, heb deimlo dan fygythiad. Mae’n rhaid i’r Cynllun Gweithredu hwn fod yn rhan o’n hymrwymiad ar y cyd i greu Cymru lle mae pawb yn teimlo’n rhydd'.

A'r ymrwymiad ar y cyd hwnnw sydd—. Rhaid i ni sicrhau bod y neges honno'n dod drwodd o ganlyniad i'r datganiad hwn heddiw. Roeddwn yn ymateb i Altaf Hussain am gynnydd troseddau casineb, ac yn enwedig cyfrifoldeb arweinyddiaeth, yn enwedig o ran gwleidyddion, a sicrhau ein bod yn sefyll i fyny ac yn glir iawn am ein hymrwymiad i'r cynllun gyda'n gilydd.

Fe wnaethoch chi rai pwyntiau penodol iawn, ac rwy'n falch iawn o ymateb o ran rhywedd—. Rwyf eisoes wedi ymateb o ran y gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo o ran gwahardd arferion trosi, ond o ran diwygio cydnabyddiaeth rhywedd, mae gennym ni, yn ein rhaglen lywodraethu, fel y gwyddoch chi, yr ymrwymiad hwnnw yn datgan y byddem yn sbarduno cais i ddatganoli'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd a chefnogi ein cymuned draws. Rydym yn trafod gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â chynllunio a diwygio'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd. Mae'n ymrwymiad o fewn maniffesto Llywodraeth y DU. Roeddwn i'n falch iawn o gwrdd â'r Fonesig Nia Griffith AS yr wythnos diwethaf. Mae hi'n Weinidog Swyddfa Cymru, fel y gwyddoch chi, ond mae ganddi gyfrifoldebau hefyd, fel Gweinidog cydraddoldeb, dros bolisi LHDTC+. Felly, hi yw'r un yr ydym yn ymgysylltu â hi'n uniongyrchol, ac mae'n dda cael Gweinidog Swyddfa Cymru gyda'r cyfrifoldeb hwnnw. Buom yn trafod y materion a'r diweddariadau ar wahardd arferion trosi, a diweddariad ar ddiwygio cydnabyddiaeth rhywedd hefyd.

Mae hefyd yn bwysig ein bod yn cael ein dwyn i gyfrif am ein holl ymrwymiadau o fewn y cynllun, ac mae hynny'n cynnwys edrych ar ein pobl ifanc a'r ymrwymiadau yr ydym wedi'u gwneud. Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i nodi a rhannu'r ffyrdd gorau i ysgolion gefnogi ein dysgwyr traws, anneuaidd a rhywedd-gwestiynol. A hefyd dim ond i gydnabod, fel y dywedais ar y dechrau, ein bod yn ceisio gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau bob dydd bobl LHDTC+, ac rydym yn mesur ein llwyddiannau a'n gwaith yn rhagweithiol. Felly, rydym wedi sefydlu grŵp cynghori LHDTC+ gyda phrofiad bywyd a all ddarparu adborth. Roedd gennym banel, panel arbenigol, yn helpu i ddatblygu'r cynllun, ond mae angen i ni nawr gael y grŵp cynghori profiad bywyd hwnnw i'n helpu, ochr yn ochr â'r gwaith y byddwch chi'n ei wneud, ac yn wir o ran cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, gan edrych ar sut rydym ni'n cyflawni i sicrhau ein bod ni'n cael cynhwysiant traws.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod ym mhob rhan o'n cynllun gweithredu LHDTC+ ein bod yn cael ein dwyn i gyfrif. Rydym yn edrych, fel y dywedais, ar ffyrdd y gallwn ddeall sut rydym yn ei weithredu, a beth arall y gallwn ei wneud i fesur cynnydd. Nawr mae gennym uned dystiolaeth cydraddoldeb, sy'n ein helpu gyda hyn, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud bod y broses werthuso allanol hon—a byddaf yn adrodd mwy ar hynny—yn ein helpu i weld a ydym yn gwneud y gwahaniaeth hwnnw mewn gwirionedd. Wrth gwrs, mae'n ymwneud ag addysg, fel rydych chi'n dweud Sioned. Mae hefyd yn ymwneud â gwella canlyniadau iechyd, ac mae'n ymwneud â chynhwysiant a chyfranogiad ym mhob maes bywyd.

16:25

Rwy'n petruso cyn siarad ar faterion y bûm yn gweithio arnynt yn y Llywodraeth. Nid wyf eisiau bod fel ysbryd Gweinidogion o'r gorffennol yn ymddangos yn y Siambr, ond mae hwn yn eithriad, oherwydd ymgyrchais dros gydraddoldeb LHDTC+ ymhell cyn i mi gael fy ethol, ac rwy'n parhau i fod mewn lleiafrif bach yn y Siambr hon o hyd sy'n gallu siarad ar y mater hwn o brofiad a gyda dilysrwydd. Ac rwy'n sefyll yma ar adeg pan fo'r larwm yn seinio ledled y byd, ac yn anffodus yn agosach at adref, gyda hawliau LHDTC+ dan ymosodiad. Roeddwn i'n ddigon ffodus i fynychu cynhadledd arweinwyr LHDT byd-eang yn Washington DC ddiwedd y llynedd, ac roedd yr ofn a deimlwyd yn yr ystafell honno yn amlwg. Roeddech chi'n ei deimlo, ac roedd yn ofidus, ac felly rydym ni'n gwybod nad yw cynnydd yn anochel yn anffodus, boed hynny ar gydraddoldeb neu ar gynlluniau gweithredu.

Felly, gyda'r thema gweithredu ar gyfer mis hanes LHDT—a Dirprwy Lywydd, dydw i ddim yn mynd i'ch sbwylio chi a sôn am bob un o'r 46 o gamau gweithredu yn y cynllun—lle rwy'n credu bod angen gweithredu pellach a chyflymach arnom yn bendant yn ymwneud ag iechyd a llesiant pobl ifanc draws yma yng Nghymru, ac mae'r bobl ifanc hynny yn ganolog i lunio hynny, ymwneud â mynd i'r afael â bwlio homoffobig, dod ag arferion trosi i ben, ac yn fwy eang, gofal iechyd cynhwysol nad yw'n tybio eich bod yn heterorywiol nes i chi brofi fel arall.

Felly, nid yw ein gwaith wedi'i wneud, ac os yw Llywodraeth Cymru eisiau sefyll gyda'r gymuned LHDTC+, yna ni all dynnu'r droed oddi ar y sbardun. Ond fy neges i'r bobl hynny sydd eisiau dileu ein hawliau a boddi ein llais yw: brwydrodd y gymuned LHDTC+ dros yr hawliau hynny o'r blaen, a byddwn yn ymladd drostynt eto.

Diolch yn fawr iawn i chi, Hannah Blythyn, a diolch am eich arweinyddiaeth barhaus ragorol. Rwy'n edrych ymlaen at ymuno â'r derbyniad ar ôl hynny. A chysylltu â'ch ymrwymiad undeb hefyd, y ffaith yw eich bod wedi cael cymaint o ddylanwad yn ein mudiad undebau llafur, yn ein plaid wleidyddol, ac, yn wir, nawr trwy eich rôl yn y Llywodraeth yng Nghymru, trwy helpu i saernïo ac ymgysylltu i gynhyrchu'r cynllun gweithredu LHDTC+. Rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn, ac rwy'n hoffi ei ailadrodd pan fyddaf yn cael y cyfle, y ffaith ei fod yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel enghraifft o arfer da wrth lunio polisi hawliau dynol. Rwy'n siŵr pan wnaethoch chi ymuno â'r digwyddiad arweinwyr byd-eang yn Washington, byddai cydnabyddiaeth o hynny wedi bod. Yn sicr, roeddem yn falch iawn eich bod yn arweinydd Cymreig yn y digwyddiad hwnnw, ac rwy'n credu bod Adam Price hefyd wedi bod yn y digwyddiad hwnnw yn y gorffennol. Dyma ein llais ni ar raddfa ryngwladol hefyd.

Rwy'n credu mai un o'r pethau pwysig rydych chi wedi'i ddweud yw nad yw cynnydd yn anochel. Gallwch gael cynlluniau, llawer o gynlluniau, yn enwedig ynghylch meysydd mewn perthynas â mynd i'r afael ag anghydraddoldebau a rhagfarn a gwahaniaethu, ac oni bai fod y rhai mewn rolau arweinyddiaeth yn cael eu dwyn i gyfrif, oni bai fod gennym yr ymgyrchoedd parhaus hynny i ddangos i ni ble nad oes digon o ffocws, pwyslais, sylw, cyllid—. Rydym yn gwybod nad yw'r gwaith yn cael ei wneud nes ein bod yn cyflawni'r canlyniadau yr ydym eisiau eu cyflawni.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig hefyd ein bod yn edrych ar y pwyntiau hynny ynghylch mynediad i'n holl wasanaethau cyhoeddus, er enghraifft, darparu gwasanaethau clinigol ar gyfer plant a phobl ifanc traws, anneuaidd a rhywedd-gwestiynol. Rydym am sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cael mynediad at wasanaethau yn agosach at ble maent yn byw, a bod y gwasanaethau hynny'n canolbwyntio ar angen clinigol, yn seiliedig ar dystiolaeth glinigol hefyd. 

Rwyf eisiau dweud hefyd nad ydym wedi crybwyll—fe wnes i yn fy natganiad—pwysigrwydd gwirioneddol fawr yr effaith ar godi ymwybyddiaeth y mae digwyddiadau Pride ledled Cymru yn ei chael. Unwaith eto, mae yn ein cyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf sef y byddwn yn cefnogi llawer mwy o ddigwyddiadau Pride y flwyddyn nesaf.

Ond roeddwn i eisiau dweud, yn olaf, ein bod ni'n parhau i ariannu Stonewall Cymru—mae hynny'n ymrwymiad pwysig iawn—i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r uchelgeisiau a'r camau gweithredu a nodir yn y cynllun gweithredu. Ac mae hefyd yn cefnogi unigolion i gymryd rhan weithredol mewn bywyd cyhoeddus. Bydd llawer ohonoch yn ymwybodol o'r rhaglen Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, y rhaglen fentora y mae Stonewall Cymru yn chwarae rhan ynddi ochr yn ochr ag Anabledd Cymru, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod a Thîm Cymorth Ieuenctid a Lleiafrifoedd Ethnig Cymru, gan edrych ar yr angen croestoriadol hwnnw i fentora pobl, y gallai rhai ohonynt feddwl y gallent ddod yn Aelodau o'r Senedd, yn sicr ymgymryd â rolau gwleidyddol a bywyd cyhoeddus. Mae bron i 300 o bobl wedi cwblhau'r rhaglen. Mae llawer wedi mynd ymlaen i rolau arwain—gwleidyddiaeth, byrddau elusennau, gwasanaeth sifil, y trydydd sector—ac rydym wedi mwynhau cefnogaeth bron i 200 o fentoriaid; mae llawer yn gwirfoddoli ac yn cefnogi'r rhai sy'n cymryd rhan yn Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal. Roeddwn yn falch iawn y gallem roi cyllid ychwanegol i mewn i hynny pan ddaeth cam cyntaf y rhaglen Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal i ben. Felly, rydym bellach yn ei ariannu ar gyfer y cam nesaf ac mae cyllid arfaethedig o £102,000 ar gyfer Stonewall Cymru yn 2025-26.   

16:30

Yn sgil yr ymosodiad byd-eang ar gydraddoldeb LHDT y cyfeiriodd Hannah Blythyn a Sioned Williams ato, a yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi ystyriaeth bellach i greu cronfa o undod ymarferol, fel rhan o'n hymrwymiad i gyfrifoldeb byd-eang, i gefnogi eiriolaeth LHDT a sefydliadau cymunedol ledled y byd, yn enwedig yn Affrica ar hyn o bryd, sy'n wynebu penderfyniad Trump i beidio ag ariannu ond cael gwared ar Asiantaeth yr Unol Daleithiau ar gyfer Datblygu Rhyngwladol, er enghraifft. Mae angen i ni lenwi'r gwagle hwnnw. Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud yn hynny o beth? 

Yn ail, ymrwymodd y cynllun gweithredu LHDTC+ i sicrhau bod pobl ifanc a rhanddeiliaid yn cymryd rhan mewn trafodaethau ynghylch creu o leiaf wasanaeth gofal iechyd interim ar gyfer ieuenctid traws yng Nghymru, fel nad oedd yn rhaid iddynt deithio y tu allan i Gymru. A wnewch chi gyfarfod, Gweinidog, a chyda Gweinidogion eraill, ag ieuenctid traws i drafod gwasanaethau iechyd ar gyfer pobl ifanc draws? Ac a wnewch chi hefyd gwrdd â chlinigwyr yng Nghymru sydd wedi bod yn dadlau'r achos dros greu gwasanaeth rhywedd ieuenctid Cymru? A wnewch chi gyfarfod â nhw i gael yr ymgysylltiad hwnnw, fel y gwnaethoch addo yn y cynllun? 

Yn olaf, sut ydych chi'n mesur y nod hwn—canmoladwy, rydym ni i gyd yn ei gefnogi—o fod y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDT yn Ewrop? Roedd ymrwymiad o'r blaen ein bod yn mynd i gyhoeddi'r data ar gyfer Cymru yn erbyn mynegai'r enfys, sy'n mesur cenhedloedd ar gydraddoldeb LHDT ledled Ewrop, a gynhyrchwyd gan ILGA-Europe. A wnewch chi gyhoeddi'r mynegai hwnnw fel y gallwn weld lle rydym ni ar y daith honno i fod y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDT?  

Diolch yn fawr iawn, Adam Price, ac, unwaith eto, yr undod ar y cyd a welsom yn dod trwy'r Siambr y prynhawn yma, gan gydnabod, fel y dywedwch, yr ymosodiad byd-eang ar lawer o bobl LHDTC+ ledled y byd, a chydnabod ei fod ar garreg ein drws ein hunain hefyd—. Byddai'r gynhadledd arweinwyr byd-eang, rwy'n credu, wedi nodi hynny, yr ydych chi a Hannah Blythyn wedi ei mynychu ac wedi sicrhau bod pobl yn gwybod ein bod yn sefyll i fyny â'n cynllun ar gyfer pobl LHDTC+ a'u hawliau. Byddaf yn sicr yn edrych ar fynegai'r enfys, a diolch am godi hynny—rwy'n gwybod eich bod wedi codi hynny yn y gorffennol—a gweld a oes gennym fynediad at y data hwnnw, i'n galluogi, oherwydd mae hwnnw wedi cael ei weld yn rhwystr, ond byddaf yn edrych ar hynny, a hefyd, wrth gwrs, ar ein nod o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i fod yn genedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Mae ein plant yn tyfu i fod yn ddinasyddion sy'n gyfrifol yn fyd-eang, ac rwy'n croesawu'r gwaith a'r ffyrdd y mae llawer o blant mewn ysgolion yn gweithio gyda'i gilydd ac yn dysgu gyda'i gilydd am eu bywydau eu hunain, eu profiadau eu hunain a'u hanghenion eu hunain.

Dywedais i yn gynharach ein bod eisiau sicrhau bod plant a phobl ifanc traws yn gallu cael mynediad at wasanaethau yn agosach at ble maen nhw'n byw, ac mae hynny'n amlwg yn cynnwys gwasanaethau iechyd. Felly, mae gennym wyth darparwr rhanbarthol yn cael eu sefydlu, ac rydym yn gweithio trwy Gyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru ar gomisiynu gwasanaethau hunaniaeth rhywedd i bobl ifanc. Wrth gwrs, fel y gwyddoch, mae hynny trwy GIG Lloegr, ond mae gennym ymchwil mewn gwirionedd, y mae'n rhaid iddi fod yn hygyrch i blant a phobl ifanc. Byddwn yn hapus iawn i gwrdd â phobl ifanc i drafod y materion hyn hefyd.

Ac eto, diolch am yr arweinyddiaeth a'r cryfder ar y cyd, rwy'n credu, a welwn heddiw yn y Siambr hon, i gefnogi'r cynllun gweithredu LHDTC+, a hefyd am ein dwyn i gyfrif i sicrhau ein bod yn ei gyflawni, oherwydd mae angen i ni gael ein profi, ac mae'r mynegai enfys yn un ffordd o wneud hyn. Ond, wrth i ni fynd i mewn i fisoedd y gwanwyn a'r haf, rwy'n gobeithio y bydd mwy o Aelodau'r Senedd yn annog ac yn cefnogi digwyddiadau Pride. Mae digwyddiadau Pride ar lawr gwlad yn cael effaith enfawr—fel y dywedodd Michael Price yn Aberhonddu, 'effaith wirioneddol drawsnewidiol'.

16:35

Ysgrifennydd Cabinet, o ran digwyddiadau Pride, rwy'n siŵr yr hoffech ymuno â mi i longyfarch Pride in the Port yng Nghasnewydd, sydd newydd gael ei ddewis gan UK Pride i gynnal y digwyddiad hwnnw yn y DU y flwyddyn nesaf yn 2026. Mae Pride yn y Porthladd yn sefydliad eithaf newydd mewn gwirionedd; dim ond yn 2022 y dechreuodd y digwyddiad, gyda digwyddiad agoriadol yn ein Parc Belle Vue, ac yna symudodd i ganol y ddinas, gyda gorymdaith, cerddoriaeth, dawnsio a stondinau. Felly, mae wedi tyfu'n gyflym iawn, ac mae'n rhan o gynnig diwylliannol sy'n cynyddu'n gyffredinol yng Nghasnewydd.

Seiliwyd Pride in the Port ar un egwyddor syml, Ysgrifennydd Cabinet: sef na ddylai unrhyw blentyn yng Nghasnewydd deimlo bod yn rhaid iddo adael cartref i fod yn ef ei hun. Felly, rwy'n siŵr yr hoffech chi, fel y dywedais, ymuno â mi i'w llongyfarch am wneud Casnewydd yn lle mwy cynhwysol a chroesawgar, a gwneud y cynnydd sylweddol iawn hwnnw wrth gynnal y digwyddiad hwnnw ledled y DU y flwyddyn nesaf.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, John Griffiths, eich bod wedi gallu rhannu hyn gyda ni. Rwy'n gwybod ei fod wedi bod yn y newyddion, ond gadewch i ni ddathlu'r ffaith y bydd Casnewydd yn cynnal y digwyddiad hwnnw yn y DU yn 2026. Bydd yna bobl o bob rhan o Gymru a thu allan i Gymru a thu hwnt i'r DU yn dod i Gymru, yn dod i Gasnewydd. A hefyd a allwn ni ganmol a diolch i'r rhai yn eich cymuned, gyda'ch cefnogaeth, rwy'n gwybod, sydd mewn gwirionedd yn trefnu'r digwyddiadau hyn sy'n arwain ato ac yn gwneud y cyflwyniad hwnnw, gan wneud Casnewydd yn lle cynhwysol lle gall pobl ifanc dyfu i fyny a bod yr hyn ydyn nhw, ac y gallwn eu cefnogi yn eu bywydau?

6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Datganiad Ansawdd Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol

Yr eitem nesaf yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, datganiad ansawdd gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol. Galwaf ar y Gweinidog, Sarah Murphy.

16:40

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o allu cyflwyno'r datganiad llafar hwn heddiw, gan nad yw'r Ysgrifennydd Cabinet, yn anffodus, yn teimlo'n dda iawn.

Mae beichiogrwydd a genedigaeth yn ddigwyddiad sy'n newid bywyd i fenyw a'i theulu. I'r mwyafrif, maen nhw'n amser i ddathlu wrth i fywyd newydd ddod i mewn i'r byd. Mae gan staff mamolaeth a newyddenedigol rôl unigryw i'w chwarae wrth gefnogi menywod, eu partner a'u babi trwy feichiogrwydd a genedigaeth. Maen nhw hefyd yn chwarae rôl allweddol wrth roi'r cychwyn gorau mewn bywyd i blant. Heddiw, rydym yn cyhoeddi'r datganiad ansawdd ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol. Mae'n nodi'r canlyniadau a'r safonau y gall menywod beichiog, mamau-i-fod a'u teuluoedd ddisgwyl eu derbyn wrth gael gofal. Yn y pen draw, fe'i cynlluniwyd i sicrhau bod gan bob gwasanaeth y priodoleddau ansawdd sydd eu hangen i gefnogi'r gwaith o ddarparu'r gofal iawn yn y lle iawn y tro cyntaf, gan arwain at ganlyniadau a phrofiadau gwell i fenywod, babanod a'u teuluoedd yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth a'r cyfnod ôl-enedigol.

Rydym yn cyhoeddi hwn yn erbyn cefndir o newidiadau a heriau ar gyfer gwasanaethau. Mae ansawdd a diogelwch gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ledled y DU wedi bod yn ganolbwynt cyfres o adolygiadau proffil uchel a phryderus iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, y mae pob un ohonynt wedi canfod methiannau pryderus mewn unedau yng Nghymru a Lloegr. Mae adolygiadau annibynnol o wasanaethau mamolaeth wrthi'n cael eu cynnal ar gyfer gofal mamolaeth yn Abertawe ac yn Nottingham. Bydd y datganiad ansawdd yn adlewyrchu'r hyn a ddysgwyd o'r adolygiadau hyn.

Mae natur y gofal sy'n cael ei ddarparu i fenywod beichiog yn newid wrth i'r gyfradd genedigaethau ostwng. Rydym yn gweld cymhlethdod cynyddol yn y gofal a ddarperir i fenywod, wrth i fwy o fenywod brofi cyflyrau fel diabetes, gan gynnwys yn ystod beichiogrwydd. Rydym hefyd wedi gweld cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â ffactorau ffordd o fyw, o fabanod sydd â phwysau geni isel i ffactorau sy'n gysylltiedig â phroblem gynyddol cymdeithas â gordewdra.

Mae'r datganiad ansawdd hefyd yn cydnabod y materion a'r rhwystrau penodol y mae menywod o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn eu hwynebu wrth gael mynediad at ofal mamolaeth a newyddenedigol a'r gwahaniaethau negyddol mesuradwy mewn canlyniadau iechyd, yn enwedig yn y cyfnod amenedigol. Rydym yn gwella dulliau casglu a dadansoddi data er mwyn deall yn well brofiadau menywod du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol a'u teuluoedd, yn ogystal â staff y GIG.

Mae datganiadau ansawdd wedi'u cynllunio i nodi'r disgwyliadau polisi a chynllunio ar gyfer cyflyrau a gwasanaethau clinigol. Mae'r datganiad ansawdd newydd hwn ar gyfer gofal mamolaeth a newyddenedigol yn nodi'n gwbl glir sut mae 'da' yn edrych ac yn helpu i wella canlyniadau a phrofiadau i fenywod. Mae hefyd yn adeiladu ar y rhaglen genedlaethol ar gyfer cefnogi diogelwch mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol. Wrth i ni symud ymlaen i 2025 ac edrych tua'r dyfodol, ein huchelgais yw parhau i yrru egwyddorion gofal mamolaeth ymlaen: darparu gofal diogel ac effeithiol sy'n canolbwyntio ar y teulu; galluogi parhad gofal drwy ddarparu timau amlbroffesiynol medrus; a darparu gwasanaeth cynaliadwy o ansawdd.

Rydym am integreiddio gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ymhellach i greu un llwybr gofal ar gyfer y fam a'r babi, yn ogystal â nodi'n glir y disgwyliadau o ran ansawdd, diogelwch ac effeithiolrwydd gwasanaethau.Mae'r datganiad ansawdd yn nodi saith cam gweithredu allweddol ar gyfer pob bwrdd iechyd. Bydd y rhain yn cynnwys defnyddio'r system famolaeth ddigidol genedlaethol newydd erbyn mis Mawrth 2026; cynnig dewis priodol o leoliadau geni i bob menyw feichiog, hyd yn oed os yw hyn yn golygu mewn ardal bwrdd iechyd arall; gweithredu a chyflwyno'r llwybrau profedigaeth i gefnogi menywod a theuluoedd sy'n profi colli plentyn.

Rwyf am fod yn glir y bydd angen i bob gwasanaeth mamolaeth a newyddenedigol wneud gwelliannau i gyflawni'r uchelgeisiau yn y datganiad ansawdd ac i sicrhau bod gofal o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu'n gyson a bod profiadau a chanlyniadau yn cael eu hoptimeiddio. Bydd y gwelliannau hyn yn cael eu cyflawni drwy gam gweithredu tair blynedd y rhaglen cefnogi diogelwch mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol. I sicrhau bod menywod a theuluoedd yn derbyn gwasanaeth diogel, tosturiol o ansawdd sy'n cwmpasu ymdeimlad cyfannol o ddiogelwch emosiynol, ysbrydol a seicolegol, rhaid sicrhau bod ymgysylltu a chydweithio â menywod, rhieni a theuluoedd i ddeall sut beth yw 'da' wrth wraidd y cynlluniau gweithredu hyn.

Mae'n rhaid i'r GIG weithio gyda menywod a theuluoedd i wella gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, ac mae'n rhaid iddynt sicrhau bod lleisiau pob teulu yn cael eu clywed. Rydym hefyd yn cyhoeddi fframwaith ymgysylltu amenedigol Cymru gyfan heddiw. Mae hwn yn nodi'r safonau gofynnol ar gyfer gweithgarwch ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth o ansawdd uchel ar draws pob bwrdd iechyd, ac yn rhoi manylion y 10 ymrwymiad sydd eu hangen i gyrraedd y safon hon. Bydd yn cefnogi gweithredu methodolegau a mecanweithiau ymgysylltu sy'n ofynnol i nodi adborth a'i ymgorffori wrth ddylunio a gwella gwasanaethau.

Dirprwy Lywydd, mae'r datganiad ansawdd hwn yn cyfeirio at wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn unig, ac mae wedi'i gynllunio i gefnogi gwelliant yn y gwasanaethau hynny ac o ran profiad a chanlyniadau menywod a babanod. Fodd bynnag, ni ddylid ei ystyried ar ei ben ei hun. Mae beichiogrwydd a genedigaeth, wrth gwrs, yn rhan bwysig iawn o'n bywydau. Mae'r datganiad ansawdd hwn yn ategu'r uchelgais a nodir yn y 'Datganiad Ansawdd ar gyfer iechyd menywod a merched' a'r cynllun iechyd menywod, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, ac mae'n cefnogi iechyd ataliol, gan gynnwys gofal cyn cenhedlu, a fydd yn arwain at feichiogrwydd iachach a bywydau iachach.

Mae'r dystiolaeth yn dangos yn gynyddol bod cael pethau'n iawn o'r dechrau, trwy ymyrryd yn y 1,000 diwrnod cyntaf, yn creu sylfaen gref ar gyfer y dyfodol. Gall dorri cylchoedd o anfantais, a dyma'r ffordd orau a mwyaf costeffeithiol o greu dyfodol hapusach, iachach a thecach i Gymru. Diolch yn fawr.

16:45

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad heddiw, a hoffwn anfon fy nymuniadau gorau at Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd am wellhad buan.

Rwy'n croesawu cyhoeddi'r datganiad ansawdd ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol a chydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru o'r heriau sy'n wynebu'r gwasanaethau hanfodol hynny. Mae sicrhau bod menywod a babanod a'u teuluoedd yn derbyn y safonau uchaf o ofal yn hollbwysig. Fodd bynnag, er bod y datganiad yn amlinellu dyheadau clodwiw, mae'n amlwg bod angen camau pendant ar unwaith i fynd i'r afael â'r materion sydd wedi hen wreiddio gyda'n gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol.

Fe sonioch chi yn y fan yna, o ran y datganiad ansawdd, am saith cam gweithredu allweddol, a'r fframwaith ymgysylltu amenedigol. Mae gennyf ddiddordeb mewn clywed gennych chi, Gweinidog: pwy fydd yn gyfrifol am ddwyn byrddau iechyd i gyfrif am gyflawni'r camau hynny? Ai Gweithrediaeth GIG Cymru fydd yn gyfrifol, neu a fydd hynny'n digwydd ar lefel weinidogol? Oherwydd, fel y gwyddoch yn iawn, mae byrddau iechyd yn gyrff ymreolaethol yn eu rhinwedd eu hunain, a does dim rhaid iddyn nhw wneud popeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud wrthyn nhw, oherwydd yr hyn y byddan nhw'n ei ddweud yw nad ydyn nhw'n flaenoriaethau i'r byrddau iechyd unigol hynny. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn gweld sut rydych chi'n ymateb i hynny.

Mae adroddiadau diweddar o adolygiadau annibynnol wedi amlygu pryderon sylweddol. Mae'r ymchwiliad sy'n mynd rhagddo i ofal mamolaeth yn Ysbyty Singleton Abertawe yn tanlinellu'r angen am dryloywder ac atebolrwydd, oherwydd mae teuluoedd wedi mynegi anfodlonrwydd â'r broses adolygu gyfredol, ac maen nhw wedi blino'n lân ac yn teimlo nad oes neb yn eu clywed. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed gennych chi heddiw, Gweinidog, ynghylch yn union beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu tryloywder ac atebolrwydd i deuluoedd sy'n ymwneud â hynny.

Mae'r ymrwymiad i ddefnyddio system famolaeth ddigidol genedlaethol newydd erbyn mis Mawrth 2023 yn gam cadarnhaol. Fodd bynnag, rhaid i chi sicrhau nad yw buddsoddi mewn seilwaith digidol yn gorbwyso'r angen dybryd am fwy o staff rheng flaen. Mae ein gwasanaethau mamolaeth yn wynebu prinder gweithlu, ac mae bydwragedd a nyrsys newyddenedigol o dan bwysau aruthrol. Mae mynd i'r afael â'r prinder hwn yn hanfodol er mwyn darparu'r gofal y mae menywod a babanod yn ei haeddu yn ystod y cyfnod cynnar hwnnw o fywyd. Felly, hoffwn wybod pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran prinder gweithlu yn y maes hwn. Oherwydd er mwyn cyflawni'r strategaethau rydych chi wedi'u nodi, mae angen gweithlu i'w cyflawni, onid oes?

Mae'r addewid i gynnig dewis gwirioneddol o leoliadau geni i famau, hyd yn oed os yw'n golygu defnyddio gwasanaethau mewn ardal bwrdd iechyd arall, yn gymeradwy. Rwyf o blaid rhoi dewis i gleifion o ran lle maen nhw'n cael eu gofal. Fodd bynnag, i lawer o deuluoedd, mae gwasanaethau mamolaeth lleol eisoes dan bwysau mawr, sy'n cyfyngu ar eu dewisiadau, felly mae'n hanfodol bod system famolaeth gynaliadwy â'r adnoddau priodol yn cael ei sefydlu ar draws pob bwrdd iechyd, gan sicrhau nad oes unrhyw deulu yn cael ei orfodi i deithio'r pellteroedd hir iawn hynny i dderbyn y lefel uwch honno o ofal. Felly, hoffwn wybod heddiw, o'r gyllideb ddrafft, faint yn union rydych chi'n ei roi i'r maes hwn i sicrhau bod ein gwasanaethau mamolaeth yn cael eu hariannu'n dda ar draws Cymru gyfan.

Mae'r uchelgais i greu un llwybr integredig ar gyfer gofalu am famau a babanod yn egwyddor gadarnhaol. Nid dyma'r tro cyntaf i ni weld hyn. Rydym wedi ei weld mewn llawer o ddisgyblaethau eraill ar draws y GIG yng Nghymru. Fodd bynnag, rhaid i hyn gael ei gefnogi gan fuddsoddiad priodol a goruchwyliaeth gadarn, a chydweithio gwirioneddol gyda'r menywod a'r teuluoedd i sicrhau bod y gwasanaethau hynny'n diwallu eu hanghenion. Rhaid i leisiau'r rhai sydd â phrofiad bywyd, yn enwedig y rhai sydd wedi dioddef oherwydd methiannau'r system, fod yn ganolog i unrhyw welliant mewn gwasanaethau. Felly, hoffwn wybod sut mae lleisiau'r bobl hynny sydd â phrofiadau byw wedi llywio'r strategaeth gyffredinol hon, oherwydd rwy'n credu, os ydym yn mynd i weld y datganiadau ansawdd hyn yn cael eu cyflwyno, mae'n rhaid i leisiau pobl sydd â phrofiad bywyd fod o'r pwys mwyaf drwyddi draw. Mae'n iawn i weision sifil eu hysgrifennu gyda'r system, ond, fel y dywedais, mae profiad bywyd bob amser yn ychwanegu mwy o bwysau at y datganiadau hyn.

Mae cyhoeddi 'Fframwaith Ymgysylltu Amenedigol Cymru Gyfan', fel y dywedais, yn gam i'w groesawu, ond mae'n rhaid iddo arwain at newid diriaethol. Rhaid i ymarferion ymgysylltu arwain at welliannau gwirioneddol. Allan nhw ddim bod yn ymarferion ticio blychau yn unig. Ac allwn ni ddim cael ymgynghoriad ac ymgynghori yn unig, allwn ni? Mae'n rhaid gweld gweithredu. Felly, hoffwn wybod beth fydd yn dilyn ymlaen o'r pethau hynny. Ac er bod y datganiad ansawdd hwn yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ledled Cymru, fel y dywedais, rhaid i ni symud y tu hwnt i'r datganiadau hyn trwy'r amser. Rydym yn gweld datganiadau, rydym yn gweld strategaethau, ond dydyn ni ddim yn gweld gwelliannau. Felly, gadewch i ni obeithio y bydd hyn yn cyflawni rhai gwelliannau, Gweinidog, ond yn yr amser byr yr wyf wedi bod yn y Siambr hon, rwyf wedi gweld mwy o ddatganiadau a strategaethau yn dod allan o'r GIG nag y gallwn eu cyfrif ar un llaw, ac i fod yn onest, nid yw'n ymddangos eu bod yn cyflawni ar lawr gwlad. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed gennych chi, neu efallai y gallech chi ysgrifennu ataf, ynghylch sut y bydd y pethau hyn yn cael eu monitro'n iawn, oherwydd heb fonitro a sicrhau bod byrddau iechyd yn cyflawni, mae'r datganiadau hyn yn gwbl ddiwerth. Diolch. 

16:50

Diolch yn fawr iawn, James Evans ac am groesawu, yn gyffredinol, nod ac ethos y datganiad ansawdd hwn a'r strategaeth sydd wedi'i nodi.

O ran yr hyn sy'n digwydd nawr, rwyf am eich sicrhau bod llawer iawn o waith da yn digwydd ar lawr gwlad. Hoffwn nodi, er enghraifft, bod gennym uned gofal trosiannol ym mwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, lle mae 16 o welyau ar gyfer mamau a babanod sydd angen bydwreigiaeth ôl-enedigol cleifion mewnol a gofal newyddenedigol. Mae gennym hefyd y gwasanaeth profedigaeth dan arweiniad seicoleg mamolaeth, yr wyf wedi cael y pleser o gyfarfod â nhw, sef y gwasanaeth profedigaeth cyntaf a arweinir gan seicoleg yn GIG Cymru i'r rhai sy'n profi marwolaeth babi. Ac mae gennym hefyd wasanaeth cynhwysiant iechyd Caerdydd a'r Fro, sy'n sgrinio iechyd ceiswyr lloches. Felly, mae llawer iawn o waith da yn cael ei wneud yn barod, a hoffwn ddechrau yn y fan honno.

O ran gosod y safonau a phwy fydd yn goruchwylio hynny, wrth gwrs, yng Nghymru, fel y gwyddoch, rydym ni yn Llywodraeth Cymru yn nodi'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl, ac yna mae Gweithrediaeth GIG Cymru yn allweddol i sicrhau'r ddarpariaeth honno. O ran y pwynt y gwnaethoch chi dynnu sylw ato am y saith maes blaenoriaeth allweddol, mae rhif pedwar yn ymwneud â'r gweithlu, felly bydd hwnnw yn cael ei oruchwylio gan AaGIC hefyd. Ond rwyf am eich sicrhau bod y darn hwn o waith sy'n cael ei gyflwyno yn ddarn o waith difrifol iawn, ystyriol iawn sy'n cael ei arwain gan dystiolaeth ac sy'n cynnwys llawer o weithgarwch ymgysylltu, ac, yn sicr, bydd disgwyl a bydd yn ofynnol i bob un bwrdd iechyd gael cynllun ar waith i allu cyflawni hyn, a hefyd i allu cael y gweithlu i gyd-fynd ag ef.

Fe sonioch chi wedyn am y tryloywder a'r atebolrwydd sydd eu hangen. Dyna'r hyn oedd yn dod trwodd i ni yn yr ymgysylltiad. Roedd cymaint o amrywiaeth yn y gwasanaethau ledled Cymru, ond nid dim ond hynny, roedd amrywiaeth yn y modd yr oedd pobl yn gallu bwydo'n ôl i'r system. Felly, rydym wedi creu, yn y fan yma, mewn gwirionedd, system hollol newydd o allu casglu'r wybodaeth honno, fel bod pob un teulu yn mynd i gael ei glywed. Gofynnir i mi yn aml yn y Siambr hon, fel y gofynnir i lawer o Weinidogion Llywodraeth Cymru, fel y dylai ddigwydd, i fod â chynlluniau a strategaethau a strategaethau cyflawni sydd â mesurau ynddynt, sydd â thargedau a mesurau ynddynt. Yn sicr, bydd hynny'n wir o ran hyn, oherwydd yr hyn sy'n dda amdano yw ein bod ni wedi gwneud cymaint o ymgysylltu ar y gwaith hwn fel ein bod wedi gosod targedau a chanlyniadau clir iawn, a nawr bod gennych chi'r canlyniadau hynny, dyna'r hyn y bydd pobl yn cael eu mesur arno. Ac rydym yn disgwyl ansawdd uchel iawn, iawn gan y GIG.

O ran y cwestiynau oedd gennych chi am ddigidol, yn amlwg mae hyn yn rhywbeth sy'n agos iawn at fy nghalon. Mae'r ap mamolaeth yn mynd i gael ei gyflwyno nawr ar draws pob bwrdd iechyd, ar draws Cymru gyfan, erbyn dechrau'r flwyddyn nesaf. Rwy'n deall yr hyn rydych chi'n ei ddweud am y gweithlu a digidol, ond yn sicr nid yw'n naill ai/neu. Os rhywbeth, mae'r gweithlu'n ymbil i gael mwy o'r cymorth digidol hwn. Felly, er enghraifft, gyda'r ap mamolaeth, roeddwn i'n falch iawn o weld bod Coleg Brenhinol y Bydwragedd wedi ei groesawu, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld yr ap yn cael ei gyflwyno ym mhobman, oherwydd mae'n dod yn ôl, i raddau helaeth, at yr ethos sydd wedi bod gyda ni yn y cynllun iechyd menywod, sef ei fod yn ymwneud ag addysgu, ei fod yn ymwneud â grymuso, ei fod yn ymwneud â sicrhau bod gan bobl y gallu hwnnw i eirioli drostyn nhw eu hunain ac i ddwyn y system i gyfrif. Ac, yn wir, dyna'n union y bydd hwn yn gallu ei wneud, yn fy marn i, oherwydd bydd menywod yn gallu gweld eu hapwyntiadau a byddan nhw'n gallu ymgysylltu â'u bydwragedd cymaint yn haws. Felly, rwy'n credu bod hwn yn gam enfawr ymlaen, ac mae'r gweithlu wrth eu boddau ag ef.

Gan symud ymlaen i'r gweithlu, ac edrych ar sut rydym yn mynd i sicrhau bod—. Fel y gwyddom, bydd bydwragedd a staff newyddenedigol yn ganolog i ddarparu'r gofal hwn, felly, fel y soniais, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn gweithio gyda GIG Cymru a rhanddeiliaid allweddol i gyflawni'r cynllun gweithlu amenedigol amlddisgyblaethol hwnnw. Bydd y cynllun yn cwmpasu hyfforddi, recriwtio a chadw gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a fydd yn sicrhau bod gan GIG Cymru y gweithlu amenedigol cywir ar waith, nawr ac ar gyfer darparu gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn y dyfodol. Mae hefyd yn ymwneud â'r hyn yr oeddech chi'n ei ofyn o ran y cyllid. Felly, rydym yn gwneud y buddsoddiad mwyaf erioed mewn addysg a hyfforddiant ar gyfer gweithlu'r GIG, sef £294 miliwn yn 2025-26, ac ers 2017, mae lleoedd hyfforddi bydwreigiaeth wedi cynyddu 67 y cant ledled Cymru.

Roeddwn i hefyd eisiau sôn am yr hyn y gwnaethoch chi ei nodi am y dewis, sydd wedi bod yn rhywbeth allweddol iawn sydd wedi bod yn dod drwodd gan lawer o fenywod beichiog, am fod eisiau cael y dewis hwnnw ynghylch a ydyn nhw'n rhoi genedigaeth gartref, p'un a ydyn nhw'n rhoi genedigaeth dan arweiniad bydwragedd, neu a ydyn nhw'n dewis rhoi genedigaeth mewn ysbyty, ac, yn ddelfrydol, byddai pawb yn gallu cael y dewis hwnnw a dyna fyddai'n digwydd. Rydym yn ymwybodol, fodd bynnag, ym Mhowys, er enghraifft, na fyddech chi'n gallu cael dewis o dan arweiniad meddyg ymgynghorol yn eich ardal leol, felly dyna pam rydym wedi cynnwys y gofyniad hwnnw nawr y dylai pob menyw gael yr opsiwn hwnnw, hyd yn oed os yw hynny'n golygu bod yn rhaid iddi fynd y tu allan i'w hardal ac ardal ei bwrdd iechyd. Mae'n gwbl hanfodol bod y cydraddoldeb hwnnw a'r cysondeb hwnnw ledled Cymru.

Ac yna, roeddwn i eisiau cyffwrdd â'r hyn roeddech chi'n ei ofyn am yr ymgysylltu. Mae'n rhywbeth sydd gennych chi a fi yn gyffredin, James, ein bod ni'n gwerthfawrogi profiad bywyd yn fawr. Rwy'n clywed gan lawer o weithwyr proffesiynol, gweithwyr proffesiynol colegau brenhinol yng Nghymru, sydd wir yn teimlo mai Cymru sy'n gwneud hyn orau allan o holl wledydd y DU. Mae gennym ni'r math hwn o—. Efallai ei fod oherwydd ein maint, efallai ei fod oherwydd bod gennym ni'r gallu hwnnw i wneud hynny. Mae pobl yn teimlo'n agos iawn at y Senedd, at Lywodraeth Cymru, ac mae hynny bob amser yn dod drwodd ym mhopeth rydym yn ei wneud. Felly, hoffwn eich sicrhau ein bod ni wedi ymgysylltu'n helaeth â chroestoriad eang o arweinwyr gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, i gyfleu ein bwriad i gynhyrchu'r datganiad ansawdd hwn, a hefyd roedd rhestr ddrafft o briodoleddau ansawdd a ddatblygwyd, yn seiliedig ar y mewnwelediadau a gafwyd o'r holl adolygiadau a arweiniodd at hyn. Mae wir wedi cael ei arwain gan bobl sydd â phrofiad bywyd. A dyma'r hyn y mae menywod ei eisiau: maen nhw eisiau teimlo'n dawel eu meddwl eu bod nhw'n mynd i gael dewis lle maen nhw'n rhoi genedigaeth, eu bod nhw'n mynd i dderbyn gofal o'r ansawdd uchaf posibl gan dîm amlddisgyblaethol nad yw wedi'i ymestyn yn rhy denau, ac sy'n mynd i fod yno ar adeg sy'n un o'r amseroedd mwyaf anhygoel yn eu bywydau, ond adeg hefyd pan allwch chi deimlo'n agored iawn i niwed.

Felly, mewn ffordd, rwy'n petruso cyn dweud hyn weithiau, ond mae'n eithaf arloesol ein bod ni'n gwneud hyn yng Nghymru. Rwy'n teimlo ein bod ni'n wynebu hyn; dydyn ni ddim yn ei ysgubo o dan y carped, nad yw'r hyn sydd wedi mynd o'r blaen wedi bod yn ddigon da i rai, ac rydym yn mynd i sicrhau nawr bod pob un bwrdd iechyd yn darparu'r hyn yr ydym wedi'i nodi heddiw. Diolch.

16:55

Rwy’n croesawu cyflwyno’r datganiad ansawdd hwn i sefydlu safonau a disgwyliadau clir o ran darparu gofal mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru. A dweud y gwir, mae’n hen bryd, yn enwedig yng ngoleuni’r methiannau difrifol a nodwyd yn Ysbyty Singleton tua diwedd 2023.

Mae genedigaeth yn broses llawn risg ar y gorau, felly mae’n sefyll i reswm y dylai safonau ac adnoddau gofal adlewyrchu hyn. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fyddwn yn ystyried tueddiadau demograffig dros y degawd diwethaf. Mae mwyafrif y merched sy’n rhoi genedigaeth yng Nghymru bellach dros 30 oed ac mae’r proffil oedran hŷn wrth roi genedigaeth fel arfer yn gofyn am lefelau uwch o gymorth gan staff. Mae’r blynyddoedd diwethaf hefyd wedi gweld cynnydd yng nghyfran y merched sy’n adrodd am gyflwr iechyd meddwl yn eu hasesiad cychwynnol, sydd yn ei dro â goblygiadau sylweddol o ran arbenigedd a chapasiti staffio.

Ac er nad oes gennyf ond edmygedd o fydwragedd ymroddedig Cymru, sy’n cyflawni eu dyletswyddau’n ddiwyd a phroffesiynol, rwy’n bryderus ynghylch gwytnwch y gweithlu i reoli’r galw ychwanegol hwn yn gynaliadwy. Er enghraifft, ers mis Rhagfyr 2023, mae lefelau bydwreigiaeth llawn amser yng Nghymru wedi bod yn disgyn. Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau bydwreigiaeth yng Nghymru hefyd wedi gostwng dros 35 y cant ers 2021, sy’n uwch na chyfartaledd y Deyrnas Gyfunol. Byddwn yn ddiolchgar felly pe gallai’r Gweinidog gadarnhau a yw pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn bodloni’r lefelau staffio diogel a argymhellir ar gyfer bydwreigiaeth, fel y nodir yn offeryn gweithlu Birthrate Plus, ac a yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal asesiad o sut y bydd angen i’r gweithlu addasu i fodloni’r tueddiadau demograffig y soniais amdanynt ynghynt.

Gan droi at fater gofal newyddenedigol, byddwch chi'n ymwybodol bod adroddiad diweddar 'Saving Babies' Lives', gan uned bolisi Sands a Tommy's, wedi canfod bod Cymru ar ei hôl hi yn y maes hwn. Cymru sydd â'r gyfradd marw-enedigaethau uchaf yn y DU ers 2014, ac er i Loegr a'r Alban weld gostyngiad mewn cyfraddau marwolaethau babanod newydd-anedig rhwng 2010 a 2022, cynyddodd y cyfraddau hynny yng Nghymru dros y cyfnod hwn. Rydym wedi siarad yn aml am bwysigrwydd cael targedau clir fel ffocws ar gyfer cyflawni polisi effeithiol, ond er bod gan GIG Lloegr darged i haneru cyfraddau marw-enedigaethau, marwolaethau babanod newydd-anedig, achosion o eni cyn amser, marwolaethau mamau ac anafiadau i'r ymennydd erbyn 2025 o gymharu â lefelau 2010, nid oes targed o'r fath yn bodoli yma yng Nghymru ar hyn o bryd. Felly, yng ngoleuni'r datganiad ansawdd hwn, a yw Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno targedau penodol i leihau cyfraddau marw-enedigaethau a marwolaethau babanod newydd-anedig?

Mae'r ffaith nad yw rhwydweithiau newyddenedigol Cymru yn bodloni pedwar o'r pum metrig allweddol a ddefnyddir gan y rhaglen archwilio newyddenedigol hefyd yn dangos nad yw ansawdd y ddarpariaeth newyddenedigol lle y dylai fod. Allwch chi gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â'r rhaglen archwilio newyddenedigol genedlaethol i asesu sut y gellir gwneud y gwelliannau angenrheidiol ac a allwch chi roi amserlen ar gyfer cyflawni'r metrigau hyn?

Yn olaf, hoffwn ailedrych ar fater Ysbyty Singleton, sy'n tanlinellu pam mae hi mor bwysig gosod y safonau hyn. Mae'r trawma a brofodd pobl fel Kate Barrett, Nathalie Borland, Mr a Mrs Channon a sawl un arall o ganlyniad i fethiannau difrifol yn ansawdd y gofal yn uned geni'r ysbyty yn rhywbeth na ddylai unrhyw riant newydd orfod ei ddioddef erioed. Mae'n wirioneddol anfaddeuol bod eu poen wedi'i gwaethygu ers hynny gan ddiffyg ymgysylltiad llwyr ar ran y bwrdd iechyd yn ystod yr ymchwiliad annibynnol, i'r graddau eu bod wedi cynnal eu hymchwiliad eu hunain. Mae'n dditiad damniol o ddiffygion y mecanweithiau adolygu ac ymchwilio bod y teuluoedd hyn yn teimlo nad oedd ganddyn nhw unrhyw ddewis ond cymryd materion i'w dwylo eu hunain. Felly, er mwyn dangos mewn gweithredoedd yn ogystal â geiriau y bydd y datganiad ansawdd hwn yn rhoi sylw dyledus i lais rhieni, a wnewch chi ymrwymo i weithredu argymhellion yr ymchwiliad dan arweiniad y teuluoedd? Diolch.

17:00

Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor, am hynny ac am groesawu'r datganiad ansawdd ar y cyfan. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod bod ei angen yn fawr, ac mae llawer iawn o waith wedi mynd i mewn iddo, ac rwy'n teimlo mai'r safonau rydym yn gofyn amdanyn nhw ac yn eu gosod yn hyn yw'r hyn sydd ei angen ar fenywod a'r hyn maen nhw'n ei ddisgwyl i deimlo'n ddiogel pan fyddan nhw'n rhoi genedigaeth, lle bynnag maen nhw'n dewis rhoi genedigaeth. Rwyf hefyd yn eich clywed o ran y pryderon hyn sydd gan fenywod. Mae gen i lawer o ffrindiau sydd wedi rhoi genedigaeth ac sy'n mynd i fod yn cael plant hefyd, ac roeddwn i'n gwrando ar rywbeth y diwrnod o'r blaen ar bodlediad oedd yn dweud ei bod hi'n ymddangos ein bod ni mewn meddylfryd ar hyn o bryd lle mae disgwyl bron â bod y bydd rhywbeth yn mynd o'i le, ac mae hi bron yn brin ac yn arbennig os ydych chi'n cael yr hyn sy'n cael ei ystyried yn enedigaeth dda. Mewn gwirionedd, dylai fod y ffordd arall o gwmpas. Fe ddylech chi deimlo, ar y cyfan, eich bod chi'n mynd i gael y profiad gorau, eich bod chi'n mynd i deimlo'n ddiogel, eich bod chi'n mynd i deimlo eich bod chi'n derbyn gofal, eich bod chi'n mynd i gael gofal meddygol o'r ansawdd gorau os bydd ei angen arnoch chi, ac mai'r achosion hynny ddylai fod yr allanolion. Nhw ddylai fod y rhai sy'n digwydd yn anaml iawn, iawn. Dyna'r hyn yr ydym am ei weld, ac mae'n digwydd mewn sawl man hefyd, ond rwyf hefyd am i fenywod deimlo, ac rwy'n gobeithio mai dyna sy'n mynd i ddod drwyddo yn y datganiad ansawdd hwn heddiw gan Lywodraeth Cymru, ein bod ni'n ymwybodol iawn, iawn o'r pryderon hynny, ac rydyn ni'n mynd i fachu ar y cyfle hwnnw nawr, fel y mae pobl bob amser yn dweud wrthym am wneud, i wneud rhywbeth am y peth.

Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn roeddech chi'n ei ddweud am iechyd meddwl, wrth gwrs, iechyd meddwl amenedigol—mae iechyd meddwl menywod sy'n rhoi genedigaeth yn gwbl hanfodol. Un o'r timau gorau rwyf wedi cael y cyfle i gwrdd â nhw hyd yma yw'r un ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Fe gwrddais i â'r tîm i fyny yno sy'n gwneud llawer o'r sgyrsiau gyda'r mamau cyn iddynt roi genedigaeth, maen nhw'n mynd trwy bethau fel eu sbardunau, maen nhw'n mynd trwy'r pethau a allai fod yn sensitif, lle gallen nhw deimlo'n arbennig o agored i niwed. Yr hyn maen nhw'n ei ganfod yw, trwy gael y sgwrs cyn yr enedigaeth, mae'n gwneud gwahaniaeth enfawr ac mae menywod yn teimlo'n llawer mwy diogel ac mewn rheolaeth pan fyddan nhw'n mynd i mewn i roi genedigaeth, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym am ei weld i bawb.

Rwyf hefyd eisiau dweud y bydd ganddyn nhw fynediad at gymorth iechyd meddwl bob amser hefyd, ac mae hynny nid yn unig i famau, ond mae hynny i'r tadau hefyd. Felly, rydych chi wedi bod yn clywed gan Mark Williams, sy'n ffrind i mi, sydd wedi bod yn hyrwyddo'r gefnogaeth y mae ei hangen ar dadau hefyd i allu cefnogi eu teulu, a hefyd y gefnogaeth ar gyfer y staff eu hunain a grybwyllwyd gennych. Felly, fe es i i gyfarfod â'r tîm mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ac roeddwn i'n dweud wrthyn nhw, 'Ond beth ydych chi'n ei wneud?', oherwydd, yn amlwg, mae yna adegau pan fydd babi yn cael ei golli a bydd hynny'n effeithio arnyn nhw hefyd, ac fe ddywedon nhw fod ganddyn nhw linell gymorth am ddim y mae Llywodraeth Cymru yn talu amdani ar gyfer yr holl staff iechyd a staff gofal cymdeithasol hefyd. Fe ddywedais i, 'A yw hynny'n ddefnyddiol mewn gwirionedd? A yw hynny'n rhywbeth y dylem barhau i fuddsoddi ynddo?' Ac fe ddywedon nhw, 'Gant y cant.' Roedden nhw'n meddwl ei bod yn hollol wych. Felly, unwaith eto, roedd clywed hynny'n uniongyrchol ganddyn nhw yn anhygoel, ac mae honno ar gael i bawb. Ac efallai bod hynny'n rhywbeth y mae angen i ni ei wthio ychydig yn fwy.

O ran yr adroddiad a grybwyllwyd gennych a lle rydym arni ar hyn o bryd, fe ofynnaf i'r Ysgrifennydd Cabinet ysgrifennu atoch ar hynny, ond yn sicr hefyd mae disgwyl y bydd y bwrdd iechyd a'r GIG yn cydweithio'n ddiwyd i gyflawni popeth rydym wedi'i nodi yn y datganiad ansawdd hwn. Mae'n ofynnol iddynt ddatblygu dangosfwrdd gwyliadwriaeth ansawdd amenedigol hefyd, gyda metrigau safonol allweddol sy'n llywio goruchwyliaeth ar lefel rhwydwaith ac yn genedlaethol, a fydd, yn ei dro, yn llywio'r cyfeiriad polisi hwnnw. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n ateb eich cwestiwn hefyd am yr hyn y byddwn ni, o bosibl, yn ei fesur yn y dyfodol. Rwy'n credu bod y datganiad ansawdd hwn yn eithaf manwl o ran y saith maes blaenoriaeth a'r 10 ymrwymiad rydym yn chwilio amdanynt, ond hefyd, wedyn, wrth i ni ddechrau casglu mwy o wybodaeth a mwy o'r data hwn i fynd gyda'r dangosfwrdd gwyliadwriaeth ansawdd amenedigol, rwy'n credu y byddwn ni'n dechrau gweld y targedau hynny'n cael eu gosod. Nid fy lle i fyddai eu gosod, ond fe fyddan nhw'n cael eu gosod.

Roeddwn i hefyd eisiau dod at eich cwestiwn am Singleton a bae Abertawe, a chwestiwn a ofynnir i ni yn aml: sut ydyn ni'n sicrhau nad yw'r methiannau'n cael eu hailadrodd eto? Oherwydd fe oedden nhw'n fethiannau, ac mae fy nghalon yn mynd allan i bob un teulu, ac rwy'n diolch iddyn nhw am eu dewrder, mewn gwirionedd, wrth ail-fyw i wneud yn siŵr nad yw'n digwydd eto. Roeddwn i eisiau dweud bod gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn y bwrdd iechyd wedi cael eu huwchgyfeirio, fel y gwyddoch, i lefel 3, monitro uwch, ym mis Rhagfyr 2022, ac maen nhw'n cael eu cefnogi i wneud y gwelliannau angenrheidiol gan Lywodraeth Cymru a gweithrediaeth y GIG. Mae cynnydd da yn cael ei wneud, fel yr amlygwyd wrth ailagor Canolfan Geni Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, a'r ganolfan geni gartref hefyd, ym mis Hydref y llynedd. Mae babanod bellach yn cael eu geni eto ym Mhort Talbot, fel y dylen nhw fod—sori, roedden nhw wastad yn cael eu geni ym Mhort Talbot, ond nawr maen nhw'n cael eu geni ym Mhort Talbot yn y ganolfan geni, i egluro.

Ym mis Tachwedd 2023, wrth gwrs, comisiynodd bae Abertawe adolygiad allanol, sy'n hanfodol, yn fy marn i, o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol i roi sicrwydd i'r bwrdd iechyd a sicrwydd i'r teuluoedd o ran y gwasanaethau a ddarperir ac i nodi cyfleoedd i wella gwasanaethau. Cytunodd y bwrdd hefyd i sefydlu panel goruchwylio sy'n adrodd yn uniongyrchol i'r bwrdd, a bydd yr adolygiad yn archwilio diogelwch ac effeithiolrwydd y gwasanaeth presennol. Yr wybodaeth ddiweddaraf y gallaf ei rhoi i chi yw bod y bwrdd iechyd wedi rhoi diweddariad ar gynnydd i'w fwrdd ym mis Ionawr 2025, fis diwethaf, ac roedd y diweddariad a dderbyniwyd gan y bwrdd iechyd ym mis Ionawr 2025 yn nodi bod yr adolygiad ar y trywydd iawn i gael ei gwblhau yr haf hwn.

Felly, rwy'n gobeithio mai dyna'r holl gwestiynau y gwnaethoch chi eu gofyn i mi. Os na, rydw i—. O, Tommy's—sori, fe wnaethon ni siarad am Tommy's a Sands ac roeddwn i eisiau ateb ar yr un yma, oherwydd, unwaith eto, dyma fy maes i ac rwy'n gweithio'n eithaf agos gyda Sands. Fe wnes i ddarllen trwy'r adroddiad blynyddol a nodwyd ganddynt y llynedd, ar gyfer 2024. Rwyf bob amser yn croesawu cael yr adroddiadau hyn ac rwyf bob amser yn croesawu cael adroddiadau yn seiliedig ar y DU hefyd. Rwy'n credu eu bod nhw'n gyfle da iawn i ni wynebu'r realiti ac i ddwyn ein hunain i gyfrif. Yr hyn fyddwn i'n ei ddweud yw fy mod i'n meddwl ei bod hi'n ddiddorol iawn eu bod nhw wedi gwneud y pwynt nad yw'n ymwneud â'r cyllid yn unig, yr oeddent, wrth gwrs, yn sicr yn galw amdano—ein bod ni bob amser yn cael y cynnydd hwnnw mewn cyllid i gyd-fynd â chwyddiant. Ond fe ddywedon nhw hefyd nad yw'n ymwneud â'r cyllid yn unig, mae hefyd yn ymwneud â chael y lefelau gofal cenedlaethol, y safonau hynny, y safonau gofal cenedlaethol hynny—dyna oedden nhw'n galw amdano, dyna beth yw hyn. Felly, rwy'n gobeithio y byddan nhw'n gweld hyn a'u bod nhw'n gallu gweld ein bod ni'n gwrando ac nad ydyn ni'n osgoi mynd i'r afael â hyn—rydym yn bod yn atebol ac yn dryloyw. Ac rydym wedi nodi datganiad ansawdd nawr, lle rydym yn disgwyl i'n holl fyrddau iechyd fod yn atebol ac yn dryloyw a chyrraedd y safonau uchel hyn rydym wedi'u gosod. Diolch.

17:05

Fel y dywedoch chi yn eich datganiad, mae'r gyfradd genedigaethau wedi gostwng, ond mae tystiolaeth yn dangos bod beichiogrwydd, yn gynyddol, yn dod yn fwy cymhleth. Gall cael babi fod yn un o'r adegau mwyaf cyffrous, brawychus, gwefreiddiol a phryderus, ac mae'r gofal a'r gefnogaeth gywir mor bwysig, ar gyfer lles corfforol a meddyliol.

Hoffwn godi gyda chi fanteision rhaglen bwydo babanod yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Mae'n fenter beilot—fe'i codwyd gan etholwr, Lisa, a gafodd fabi chwe wythnos yn gynnar, drwy lawdriniaeth Gesaraidd. Nid yw atgyrchau babi wedi'u datblygu'n llawn bob amser bryd hynny, ac felly bu'n rhaid i'r babi gael ei fwydo drwy diwb. Ond fe wnaeth y rhaglen bwydo babanod hon, y peilot hwn, ei helpu i fynd ymlaen i fwydo'r babi ar y fron. Heb hynny, fe ddywedodd efallai na fyddai hi wedi bod yn llwyddiannus. Fe wnaeth ei helpu hi gymaint. Fe helpodd gyda'i hiechyd meddwl hefyd, i gysylltu â'r babi. Felly, mae hi'n gobeithio—. Roedd hi eisiau i mi godi hyn gyda chi, yn y gobaith ei fod yn beilot y gallech ystyried parhau i'w ddefnyddio yn y dyfodol efallai. Roedd e'n gymaint o help iddi. Diolch.

17:10

Diolch yn fawr iawn, Carolyn Thomas, am y cwestiwn hwnnw, ac am allu clywed gan eich etholwr, a gafodd y gefnogaeth yr oedd ei hangen arni er gwaethaf yr hyn a oedd, rwy'n siŵr, yn gyfnod pryderus iawn, ac roedd hi yn y lle iawn mewn gwirionedd i allu cael budd o'r peilot hwn. Yng Nghymru a Llywodraeth Cymru, rydym yn hyrwyddo bwydo ar y fron a'i fanteision, i'r rhai sy'n gallu a'r rhai sydd am wneud hynny. Mae'n swnio fel ei bod hi eisiau gwneud hynny a'i bod hi wedi cael cymorth i allu gwneud hynny.

Felly, byddaf yn sicr yn mynd i ffwrdd a byddaf i neu'r Ysgrifennydd Cabinet yn edrych ar hynny ac yn edrych ar y cynllun peilot hwnnw i weld beth allwn ni ei wneud. Ond dywedodd diolch yn fawr iddi am rannu ei phrofiad yn y Senedd heddiw a hefyd am ddweud sut mae hi'n credu y byddai hynny mor ddefnyddiol i famau eraill. Felly, diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr.

Mae'n hanfodol bod iechyd meddwl mamau cyn, yn ystod ac ar ôl cael baban yn cael lle cwbl ganolog mewn unrhyw gynllun sy’n sôn am ansawdd gwasanaeth. A ydych chi’n hyderus bod y cynllun yma yn rhoi ffocws digonol ar iechyd meddwl?

Yn ôl yr ystadegau mamolaeth a genedigaethau a gafodd eu diweddaru yn yr haf y llynedd, roedd 32 y cant o ferched beichiog yn adrodd bod ganddyn nhw gyflwr iechyd meddwl. Mae hyn yn gynnydd o 12 y cant ers 2016, pan ddechreuwyd casglu’r data. Dydy’r ganran yma ddim yn cynnwys data o ddau fwrdd iechyd—Cwm Taf Morgannwg a bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Y rheswm sy’n cael ei roi am hyn yw nad ydy’r data yn ddibynadwy. Dwi’n dyfynnu o’r adroddiad:

'dibynadwyedd y data iechyd meddwl a gofnodwyd yn y ddau fwrdd iechyd hyn wedi bod yn isel'.

A ydych chi’n meddwl bod hynny’n dderbyniol? Mae o’n syfrdanol yn fy meddwl i, o gofio bod penderfyniadau gwallus diweddar gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr a’r Llywodraeth wedi cael eu gwneud, a rŵan dŷn ni’n ffeindio allan nad oes yna ddim data dibynadwy gan y bwrdd iechyd yna ynghylch iechyd meddwl mamau amenedigol.

Mae hyn yn cynnwys, wrth gwrs, y penderfyniad i gomisiynu dau wely mewn ysbyty yn Lloegr ar gyfer merched o’r gogledd mewn argyfwng iechyd meddwl, a’u babanod, yn hytrach na chreu darpariaeth newydd ar dir Cymru. Dau wely yn unig, mewn ysbyty lle na fydd hawliau siarad Cymraeg ar gael, mewn lleoliad sydd yn bell iawn i ffwrdd o anwyliaid i nifer o deuluoedd. Rŵan, dwi’n ffeindio bod—

Ia, symud ymlaen. Dwi’n ffeindio nad oes data dibynadwy ar gael. Dŷch chi wedi addo adolygu’r penderfyniad yma. Pryd fydd canlyniad yr adolygiad yma ar gael, ac a fyddwch chi, felly, yn adolygu’r penderfyniad i greu’r ddarpariaeth yn yr uned yn y Countess of Chester, yn hytrach nag yn y gogledd?

Diolch yn fawr iawn, Siân Gwenllian, ac rwyf bob amser yn gwerthfawrogi sut rydych chi bob amser yn canolbwyntio ar iechyd meddwl mamau ac iechyd amenedigol, yn enwedig yn y gogledd. Rydych chi'n angerddol iawn am hyn, ac rwyf bob amser wedi croesawu eich cwestiynau a'ch mewnwelediad i hyn. Felly, diolch.

Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw, o ran diffyg data, na, nid yw'n ddigon da, ac rydyn ni'n mynd i'w newid. Mae'n ddiddorol mai Betsi Cadwaladr a Chwm Taf Morgannwg sydd dan sylw. Dyna'r ddau fwrdd iechyd sydd, ers i mi ddod i'r swydd, wedi derbyn yr arian ychwanegol hwnnw i arwain nawr ar y cofnodion iechyd meddwl electronig. Felly, Betsi sy'n mynd gyntaf; rwyf wedi cwrdd â'r tîm. Maen nhw'n gwneud yn dda iawn ar hynny, ac maen nhw'n bwrw ymlaen â hynny. Ac yna bydd Cwm Taf Morgannwg yn gweithio ochr yn ochr â nhw i wneud hynny hefyd, cyn gynted â phosibl. Roeddem yn cydnabod bod brys gwirioneddol ynghlwm wrth hyn, ac felly dylwn i allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am lle maen nhw arni cyn gynted â phosibl. Ond mae cynnydd da iawn yn cael ei wneud yn y maes hwn.

Pan ddaw, wedyn, i fynediad i uned mamau a babanod ar gyfer y gogledd, fel yr ydym wedi trafod yn flaenorol, penderfynwyd y bydd dau wely yn cael eu comisiynu yn Ysbyty Iarlles Caer yn eu huned mamau a babanod newydd sbon. Ers siarad â chi, ar ôl i mi ddod i'r swydd, ac fe wnaethoch chi godi pryderon gyda mi a dweud, 'Sut ydyn ni'n gwybod bod hynny'n mynd i fod yn ddigon o welyau, a pham na allwn ni ei gael yn y gogledd ein hunain? Pam na allwn ni adeiladu ein huned mamau a babanod ein hunain?', fe es i nôl at y cydbwyllgor comisiynu ac fe fynnais, ac fe wnaethon nhw gytuno i wneud adolygiad llawn trylwyr iawn arall, fel y gallaf weld eu holl ganfyddiadau cyn i ni wneud penderfyniad ar gyfer y dyfodol. Felly, fel y gwyddoch, mae hynny'n mynd i fod yn dod tuag at ddiwedd mis Chwefror, ac rwy'n gobeithio gallu rhannu hynny wedyn cyn gynted â phosibl. Rwyf am eich sicrhau, fel yr wyf wedi'i ddweud o'r blaen, fy mod wedi cwrdd â'r tîm i fyny yno pan es i i ymweld â nhw, ac fe wnaethon nhw ddweud wrthyf fod yna gyfnodau yn 2024 lle nad oedd angen gwelyau, ac yna roedd yna gyfnodau lle roedd angen ambell wely. [Torri ar draws.] Rwy'n gwybod—yn union, ond mae hynny'n anecdotaidd, a dydw i ddim yn hapus gydag anecdotaidd yn unig. Ac, fel rydych chi wedi gofyn i mi o'r blaen, ac fel rwy'n cytuno â chi, sut rydyn ni'n gwybod nad oedd menywod allan yna a fyddai wedi cael budd ohoni? Felly, yn yr adolygiad hwn y mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn helpu ag ef hefyd, ac y mae'r cydbwyllgor comisiynu yn ei wneud, maen nhw'n mynd i fod yn siarad â menywod hefyd, gan eu bod nhw'n mynd i fod yn mynd allan a gwneud cyfweliadau wyneb yn wyneb, oherwydd rwyf am fod yn gwbl sicr o'r angen am y gwasanaeth.

Fodd bynnag, yr hyn fyddwn i'n ei ddweud yw bod uned mamau a babanod Ysbyty Iarlles Caer yn mynd i fod yn agor yn fuan, ac i fenywod yn y gogledd sydd angen y gwelyau hynny, ac na allant ac nad ydynt am ymweld â Thonna, yr wyf yn ei ddeall yn llwyr, y tebygolrwydd yw y byddwn ni'n bwrw ymlaen ac yn comisiynu'r gwelyau hynny, oherwydd hyd yn oed pe bai'r penderfyniad yn cael ei wneud i adeiladu ein huned mamau a babanod ein hunain yn y gogledd, bydd hynny'n cymryd amser ac mae angen y gwelyau nawr. Felly, fel y dywedais, rwy'n hapus iawn, iawn i gwrdd â chi, cyn gynted ag y bydd yr adolygiad hwnnw ar gael i ni, i drafod beth sy'n mynd i ddigwydd, wrth symud ymlaen, ond, yn y cyfamser, rwy'n credu y byddwn ni'n comisiynu'r gwelyau yn Ysbyty Iarlles Caer fel bod gennym ni'r argaeledd hwnnw i fenywod yn y gogledd, os a phan y bydd eu hangen arnynt. Diolch.

17:15

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu mai pwynt pwysig iawn yw'r angen i fydwragedd dreulio digon hir gyda menywod i wybod beth yw eu hanghenion, felly rwy'n gobeithio nad yw'r gostyngiad yn y gyfradd genedigaethau yn esgus i fyrddau iechyd dorri niferoedd bydwragedd—oherwydd y fenyw a'i theulu.

Marathon nid sbrint yw cael babi, ac mae angen i'r rhai sy'n dewis ymyriadau meddygol, fel ysgogi a llawdriniaeth Gesaraidd, er mwyn cadw ymgysylltiad cymdeithasol, ymddiried yn eu bydwraig o ran canlyniadau'r dewis hwnnw, ac yna dydyn nhw ddim yn ymddiried yn eu bydwragedd pan nad yw'r bydwragedd yn treulio digon o amser gyda nhw. Felly, mae angen i ni sicrhau eu bod yn adeiladu perthynas, gofal parhaus. Dyna sy'n gwarantu'r esgoriadau digymell drwy'r wain yr ydym i gyd am eu gweld ym mhob amgylchiad lle bo hynny'n bosibl.

Does dim sôn yn eich datganiad am y bwyd rhataf a mwyaf maethlon oll, sef bwydo ar y fron, er ei fod wedi'i godi mewn perthynas ag ymyriad ardderchog yn Betsi Cadwaladr i sicrhau bod mam yn gallu bwydo ar y fron ar ôl i'r babi orfod bod mewn deorydd o ryw fath. Wrth gwrs, mae'n dibynnu ar y fam yn cael bwyd maethlon, ac rwyf am ganmol Lynne Neagle am y gwaith gwaith a wnaeth hi pan oedd hi yn eich swydd chi i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar dalebau Cychwyn Iach, sy'n allweddol i hynny. Felly, tybed a allech chi ddweud wrthym beth yw'r cyfraddau bwydo ar y fron ar hyn o bryd ar ôl chwe wythnos a chwe mis, a pha welliannau rydych chi'n disgwyl eu gweld o ystyried bod cynifer o bobl yn ein cymdeithas dros bwysau ac yn ordew. Yn sicr, dyma'r ffordd gyflymaf o atal hynny.

Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Roeddwn i'n mawr obeithio y byddech chi'n gofyn cwestiwn i mi heddiw, oherwydd rydych chi bob amser yn dathlu pwysigrwydd menywod yn cael dewis, a phwysigrwydd bwydo ar y fron i'r rhai sydd eisiau ac sy'n gallu gwneud hynny hefyd. Roeddwn i eisiau dweud ein bod ni wedi cael galwadau am fwy o gymorth i famau sy'n bwydo ar y fron, ac felly mae cefnogi teuluoedd yn rhan allweddol o'n cynllun gweithredu bwydo ar y fron, sy'n cael ei gydlynu gan arweinwyr bwydo ar y fron ym mhob bwrdd iechyd, ac mae'r clinigwyr hyn yn rhan o rwydwaith bwydo babanod Cymru, a gefnogir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i fonitro gwasanaethau cyfredol, nodi materion a rhannu arfer gorau. Rydym hefyd yn falch i adrodd—a dyma'r data diweddaraf sydd gennyf—mai'r cyfraddau bwydo ar y fron yn 2023 oedd yr uchaf erioed ar draws pob oedran o'r plentyn, gan barhau â thueddiadau tymor hwy o gynyddu cyfraddau bwydo ar y fron. Fel y dywedais ar ddiwedd fy natganiad, y mae fy nghyd-Aelod Dawn Bowden yn ei arwain, gwyddom fod y 1,000 diwrnod cyntaf hynny'n gwbl hanfodol, ac mae hynny mewn gwirionedd o'r cenhedlu hyd at ddwy oed, ac mae'n hanfodol bwysig, ac mae ar gyfer eu dyfodol, ac ar gyfer dyfodol yr oedolyn y byddant yn dod hefyd, nid dim ond y plant. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc er mwyn rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd iddynt. Mae gennym amrywiaeth o raglenni ategol, sy'n cynnwys rhaglen Plant Iach Cymru, 'Magu plant. Rhowch amser iddo', addysg iechyd y geg a chymorth iechyd meddwl mewn ysgolion. Felly, mae'n cwmpasu'r cyfan.

Roeddwn i hefyd eisiau dweud eich bod chi'n hollol gywir ei bod hi mor bwysig bod menywod beichiog yn cael yr amser hwnnw gyda rhywun i weithio trwy'r cwestiynau hynny sydd ganddyn nhw, yr wyf eisoes wedi dweud ei bod yn elfen allweddol o wirio a chynllunio'ch cynllun geni, deall y gallai pethau newid, a beth fydd yn digwydd os byddan nhw'n newid hefyd. Efallai y byddwch chi'n dewis rhoi genedigaeth gartref ac yna'n newid eich meddwl, gan wybod bod hynny'n hollol iawn a bod pethau'n mynd i ddigwydd. Ac rwyf wedi dweud hyn o'r blaen yn y Siambr, rwy'n credu mai'r hyn rwyf wedi'i ddysgu gan Mothers Matter, sydd wedi'i leoli yn Nhonypandy, yw nad y cynllun geni yn unig sy'n bwysig iawn i famau, ond hefyd y cynllun adfer, a gall hynny gynnwys, fel y dywedoch, bwydo ar y fron.

Roeddwn i hefyd eisiau dweud bod bydwragedd ymgynghorol ym mhob bwrdd iechyd sy'n darparu cymorth drwy ddadfriffio hefyd ar ôl genedigaeth, ac mae hynny'n helpu gyda dewisiadau geni mewn beichiogrwydd dilynol ac wrth sefydlu cynllun gofal a geni unigol gyda'r fam pan fydd yn mynd ymlaen i gael mwy o blant, ac rwy'n credu bod hynny'n cysylltu â'r hyn roeddech chi'n ei ddweud am y gyfradd genedigaethau sy'n gostwng. Mae rhai pobl yn cael un ac yn penderfynu stopio, ac weithiau mae hynny oherwydd wnaethon nhw ddim cael profiad gwych neu wnaethon nhw ddim teimlo bod ganddyn nhw lawer o reolaeth dros y sefyllfa, ac rwy'n credu bod cael y fydwraig ymgynghorol honno i gael sgwrs â nhw yn mynd yn bell iawn, iawn. Rwyf hefyd wedi gweld ym mhrosiect Caerdydd a'r Fro lle mae mamau sydd wedi colli babi yn cael y gefnogaeth seicolegol go iawn honno bryd hynny, fel y gallan nhw fynd ymlaen a chael babi arall a gallu rheoli'r pryderon hynny y byddai ganddyn nhw, yn ddealladwy.

Ac yna, ie, o ran gordewdra, mae hyn yn rhywbeth sy'n dod drwodd yn gryf iawn mewn llawer o'r ymchwil. Mae'n cael effaith ar y fam a'r babi, wrth gwrs, felly byddai hyn hefyd yn dod o dan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac o dan y gwaith rydym yn ei wneud ar gyfer 'Cymru Iachach' a gordewdra yn gyffredinol, mewn gwirionedd, ledled Cymru. Rwy'n gwybod bod gennych chi ddadl yfory gyda'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet ar hyn, felly edrychaf ymlaen at glywed honno, gan y byddaf yma yn y Siambr i'w mwynhau, ac mae'r cyfan yn gysylltiedig. Felly, diolch yn fawr.

17:20
7. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip: Cenedl Noddfa

Eitem 7 ar ein hagenda ni yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a'r Trefnydd: cenedl noddfa. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jane Hutt. 

Member
Jane Hutt 17:23:13
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru eisiau i'n gwlad fod yn genedl noddfa.

Mae ein gweledigaeth yn ceisio sicrhau bod ceiswyr lloches yn cael mynediad at wasanaethau cynghori, gwybodaeth am hawliau a chyfrifoldebau, a'r hyn sydd ei angen i gyfrannu'n llawn at fywyd Cymru. Rydym ni wedi ymrwymo i'r weledigaeth hon, ac wedi ymrwymo i fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil ymfudo i helpu ein heconomi a'n cymunedau i ffynnu.

Ym mis Tachwedd y llynedd, cyhoeddwyd fersiwn newydd o 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'. Mae'r cynllun yn cynnwys sawl pennod, un ohonynt yw'r bennod wedi ei diweddau ar fod yn genedl noddfa, ac mae'r bennod hon yn disodli ein cynllun cenedl noddfa blaenorol ac ymrwymiadau blaenorol eraill, ac fe hoffwn i ddiolch i'r holl bartneriaid am eu hymdrechion i gefnogi hyn. Er mwyn esbonio'r bennod, a hefyd yng ngoleuni'r rhethreg ymrannol barhaus a welsom ni, mae'n bwysig fy mod yn gwneud datganiad i ddangos ein huchelgais diwyro i ddod yn genedl noddfa. Bydd gwneud hynny o fudd i ni i gyd yn y tymor hir.

Mae'r ymgyrch i fod yn genedl noddfa, fel y bu erioed, yn ymgyrch ar y cyd yng Nghymru, sy'n sicrhau ein bod yn gweithio'n agos ac yn cydymdrechu â'n partneriaid. Gyda chefnogaeth hanfodol llawer o bartneriaid, byddwn yn parhau i wneud y cynnydd mae arnom ni eisiau ei weld. Yr hyn sy'n ein huno yw awydd cyffredin i wella'r ffordd rydym ni'n gwneud pethau, fel bod ceiswyr lloches yn cael eu cefnogi'n effeithiol a chymunedau Cymru yn teimlo manteision mudo. Rydym yn ail-ganolbwyntio ymrwymiadau dros yr ychydig flynyddoedd nesaf ac yn cyflwyno 10 egwyddor i helpu i gyfleu'r hyn y mae'r genedl noddfa yn ei olygu.

Mae ein dull cenedl noddfa yn golygu helpu pobl i deimlo bod croeso iddyn nhw trwy eu helpu i gael mynediad at wasanaethau a dechrau integreiddio â'r cymunedau lle maen nhw'n byw. Byddwn yn sicrhau bod pawb yn cael eu trin â pharch ac yn cael cyfle i gyfrannu a llwyddo. Bydd hyn yn ein helpu i atal canlyniadau niweidiol. Rydym yn cydweithio â'r rhai yr effeithir arnyn nhw'n uniongyrchol gan ein penderfyniadau, gan gynnwys gyda phob awdurdod cyhoeddus, fel tîm Cymru. Rydym yn chwilio am atebion integredig hirdymor i heriau. Ein nod yw meithrin cysylltiadau da rhwng grwpiau a meithrin cydlyniant cymunedol, gan gynnwys drwy sicrhau cydraddoldeb cyfleoedd i unrhyw un sydd angen cymorth yng Nghymru. Yn olaf, rydym yn cymryd ymagwedd ragweithiol o fewn ein pwerau i sicrhau lles y rhai sy'n byw yng Nghymru ac i fod yn Gymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Dyma'r egwyddorion a fydd yn parhau i arwain ein gwaith.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:25

Mae gennym ni ethos cryf o gefnogi ceiswyr lloches yng Nghymru. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae rhai o'n sefydliadau cymorth, a'r cysyniad o ddarparu noddfa ei hun, wedi cael eu targedu. Rydym ni'n sefyll mewn undod â sefydliadau sydd wedi'u targedu gan wybodaeth anghywir a chamdriniaeth. Mae heddiw hefyd yn Ddiwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel, ac rydym yn annog pawb i oedi a meddwl cyn iddyn nhw rannu gwybodaeth a allai fod yn niweidiol ar-lein.

Ein pwyslais yw cyflawni'r uchelgais hon yn ymarferol. Ers i Weinidogion Llafur newydd y DU fod yn eu swyddi, mae ein hymgysylltiad rhynglywodraethol wedi cynyddu'n sylweddol. Rwyf bellach yn cyfarfod yn rheolaidd â chymheiriaid yn y Swyddfa Gartref a'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol. Mae hyn yn ein galluogi i fynegi'r gwelliannau y gellir eu gwneud i gynlluniau Llywodraeth Lafur y DU yng Nghymru. Er gwaethaf camwybodaeth i'r gwrthwyneb, dim ond o fewn cymhwysedd datganoledig y gallwn reoli penderfyniadau. Fodd bynnag, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth newydd y DU i geisio sicrhau bod y system fewnfudo yn gweithio i Gymru. Rwy'n falch o weld dechrau'r cynllun arbrofol symud ymlaen 56 diwrnod i geiswyr lloches, sy'n ymestyn y cyfnod tyngedfennol sydd gan ffoaduriaid sydd newydd eu dynodi felly i drosglwyddo o lety lloches i wasanaethau tai a chymorth prif ffrwd. Bydd hyn yn helpu i atal digartrefedd a gwella integreiddio.

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i archwilio cyfleoedd ar gyfer dyfodol y system loches. Rydym ni wedi gweld y rôl gadarnhaol y gall awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru ei chwarae drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin, rhaglen ailsefydlu Afghanistan a'r cynllun adsefydlu byd-eang. Rydym yn ystyried ffyrdd y gallwn ni  gymhwyso'r dysgu hwn i gael dull mwy effeithiol o weithio fel Cymru unedig yn y dyfodol.

Llywydd, ers i Putin ddechrau ymosod yn llawn ar Wcráin ar 24 Chwefror dair blynedd yn ôl, mae bron i 8,000 o Wcreiniaid wedi dod o hyd i loches yn y DU diolch i noddwyr o Gymru. Mae pob awdurdod lleol, miloedd o gartrefi yng Nghymru a llawer o bartneriaid trydydd sector yn parhau i ddarparu cefnogaeth anhygoel. Dechreuodd Llywodraeth y DU dderbyn ceisiadau fisa i ymestyn caniatâd ffoaduriaid o Wcráin yn gynharach y mis hwn. Mae hyn yn caniatáu i'r rhai ar unrhyw un o gynlluniau Wcráin wneud cais i ymestyn eu harhosiad yn y DU am 18 mis ychwanegol. Mae Gweinidogion y DU hefyd wedi cadarnhau'n ddiweddar y bydd Wcreiniaid yn gallu parhau i ddefnyddio eu trwyddedau gyrru presennol ar ffyrdd y DU.

Bydd Llywodraeth y DU yn parhau i ddarparu taliadau 'diolch' i letywyr yn 2025-26, a bydd hyn hefyd yn berthnasol i'r bobl hynny sydd wedi rhoi croeso i Wcreiniaid sydd â fisa ymestyn caniatâd, lle roedd eu gwestai ar fisa Cartrefi i Wcráin i ddechrau. Rwy'n deall y bydd yr ehangu hwn o fuddiolwyr cymwys yn bosibl trwy ddychwelyd at daliad 'diolch' o £350 y mis o 1 Ebrill. Rwy'n falch o gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ychwanegu at daliad 'diolch' Llywodraeth y DU, gan sicrhau £500 y mis i unigolion sy'n cynnal gwesteion yn ystod eu blwyddyn gyntaf o gyrraedd y DU. Rydym yn gobeithio y bydd ein hychwanegiad yn annog mwy o westeion i gynnig lleoliadau y mae mawr eu hangen i newydd-ddyfodiaid.

Llofnododd Prif Weinidog y DU a'r Arlywydd Zelenskyy bartneriaeth hanesyddol 100 mlynedd ym mis Ionawr, gyda'r nod o ddyfnhau cysylltiadau diogelwch a chryfhau'r berthynas rhwng y DU ac Wcráin ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n falch o ddweud yr ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru ynghylch y testun arfaethedig, ac rydym yn falch o barhau i sefyll mewn undod ag Wcreiniaid.

Rydym yn parhau i weithredu ein fframwaith integreiddio mudwyr ar gyfer Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2023. Yn 2024, fe wnaethom ni osod y sylfaen ar gyfer glasbrint mapio data, ac eleni byddwn yn canolbwyntio ar drawsnewid sut rydym yn casglu profiadau mudwyr a sefydlu llinell sylfaen ddata. Mae ein canllaw dim hawl i gyllid cyhoeddus yn cynorthwyo cyrff sector cyhoeddus a sefydliadau'r trydydd sector i gefnogi pobl heb unrhyw hawl i arian cyhoeddus. Mae hyfforddiant newydd yn mynd rhagddo ar gyfer timau awdurdodau lleol, ac rydym yn gofyn am adborth gan lywodraeth leol ac elusennau i wella ein canllaw dim hawl i gyllid cyhoeddus. Ac rydym yn parhau i weithio ar fynediad i drafnidiaeth, yn dilyn cynllun y tocyn croeso.

Yng nghyllideb ddrafft 2025-26, rwyf hefyd wedi gallu dyrannu arian i barhau ac ehangu gwaith ein prosiect symud ymlaen i ffoaduriaid a gwasanaeth noddfa Cymru. Bydd y ddau brosiect yn gallu darparu cymorth wyneb yn wyneb ledled Cymru. Rydym yn parhau i fod yn gefnogol i fodel gwasgaru lloches yn y gymuned, gan mai dyma'r ffordd orau o integreiddio a chreu cymuned. Rydym yn disgwyl i Gymru gefnogi cyfran gymesur o'r bobl hynny sy'n ceisio lloches yn y DU. Llywydd, rydym ni wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y DU, awdurdodau lleol Cymru, y trydydd sector ac eraill i gefnogi'r gwasgaru hwn mewn ffordd a reolir yn ofalus ac effeithiol.

17:30

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Rwy'n siŵr y bydd pawb yn y Siambr hon yn cytuno y dylem ni fod yn genedl noddfa i'r rhai sy'n ceisio lloches. Fel y nodwyd gennych chi yn eich datganiad, mae Cymru'n croesawu gyda breichiau agored y rhai sy'n ffoi rhag rhyfel unbenaethol Putin yn Wcráin, yn ogystal â chroesawu'r rhai a gefnogodd luoedd NATO yn Afghanistan. Fe ddylem ni bob amser groesawu ffoaduriaid a gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud iddyn nhw deimlo'n gartrefol ac yn aelodau gwerthfawr o'n cymunedau. Rwy'n croesawu ymestyn fisa caniatâd Wcráin am 18 mis arall. Ni allwn ni ond gobeithio a gweddïo y bydd yr ymosodiad anghyfreithlon ar Wcráin ar ben erbyn hynny, a'r rhai sy'n dymuno dychwelyd adref yn medru gwneud hynny.

Ysgrifennydd Cabinet, os ydych chi am ddarparu cartref croesawgar i ffoaduriaid, mae'n rhaid i ni sicrhau bod gennym ni gartrefi iddyn nhw a phawb arall sydd angen un. Sut ydych chi'n ymateb i Housing Justice Cymru, sy'n dweud bod yr argyfwng tai yn bygwth rhwystro ymdrechion i ddod yn genedl noddfa? A ydych chi'n cytuno â Housing Justice Cymru bod dod yn genedl noddfa a mynd i'r afael â digartrefedd yn cydblethu, na allwn ni gyflawni'r naill na'r llall heb weithredu ar y ddwy elfen? Mae gwledydd eraill, fel Gweriniaeth Iwerddon, wedi cyflwyno tai modiwlaidd y mae modd eu hadeiladu yn gyflym er mwyn cynyddu nifer y tai yn gyflym. A wnewch chi ymrwymo Llywodraeth Cymru i fabwysiadu cynllun o'r fath, fel y gallwn ni ymateb i argyfyngau ffoaduriaid yn y dyfodol, yn ogystal â chynnig tai o ansawdd mwy parhaol i'r rhai sydd eisoes wedi ceisio lloches ar ein glannau?

Yn olaf, Ysgrifennydd Cabinet, cynhaliodd Llywodraeth y DU ymgyrch enfawr ar fudo anghyfreithlon, gyda chyrchoedd ar safleoedd gan gynnwys bariau ewinedd, golchfeydd ceir a bwytai ledled y wlad. Ydych chi'n croesawu'r ffordd yr aeth Llywodraeth y DU ati? Ac a ydych chi'n cytuno, er mwyn i'r cyhoedd yng Nghymru gofleidio eich gweledigaeth o genedl noddfa, fod yn rhaid i ni ddangos nad yw croesawu ffoaduriaid yn golygu ffiniau agored? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, a diolch yn fawr iawn am eich cwestiynau ac, yn wir, am eich cefnogaeth, yn enwedig wrth i chi gyfeirio'r gefnogaeth i'n cynllun uwch-noddwyr ar gyfer Wcreiniaid, yr wyf wedi siarad amdano a thystio iddo ar sawl achlysur yn y Siambr hon, a hefyd i gefnogi'r holl gymunedau a'r lletywyr hynny sydd wedi cefnogi'n uniongyrchol Wcreiniaid sydd wedi dod i Gymru, sydd wedi dod o hyd i loches yng Nghymru, a hefyd i ddiolch i'r holl awdurdodau lleol, fel y dywedais i, a sefydliadau'r trydydd sector. Mae hyn i raddau helaeth iawn yn ymgyrch unedig gan Gymru i sicrhau y gallwn ni gefnogi'r rheini o dan yr amgylchiadau hynny. Ac mae'n ddiddorol iawn y buom ni'n croesawu ffoaduriaid o Afghanistan ac yn cefnogi ffoaduriaid Afghanistan, a'r gwir amdani yw bod cymaint o'r rheini—ac rwy'n gwybod, oherwydd rydyn ni wedi bod yn eu cefnogi nhw yn fy etholaeth i—yn cefnogi'r lluoedd arfog mewn gwirionedd. Roedden nhw'n gyfieithwyr, roedden nhw'n swyddogion diogelu, roedden nhw'n yrwyr, ac, wrth gwrs, roedd yn rhaid iddyn nhw ffoi rhag y Taliban, ac mae llawer ohonyn nhw wedi bod mewn trydydd gwledydd am amser hir cyn gallu dod yma ar gynllun ailsefydlu diweddaraf Afghanistan, a ddechreuwyd gan y Llywodraeth flaenorol mewn gwirionedd o ran ailsefydlu. Rwy'n credu mai'r hyn sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn o ran cynllun ailsefydlu newydd Afghanistan yw ei fod mewn gwirionedd yn dwyn ynghyd yr holl gynlluniau sydd wedi bod yn helpu dinasyddion Afghanistan i ailsefydlu ac adleoli, a chefnogi'r rheini.

Yn ddiddorol iawn o ran data, roedd Cymru wedi cefnogi 693 o Affghaniaid, 7,855 o Wcreiniaid—roedd hyn yn 2024—ac roedd yn gartref i 3,441 o geiswyr lloches. Rydym yn chwarae ein rhan fel cenedl noddfa.

Rydych yn codi mater pwysig iawn mewn perthynas â thai a digartrefedd. Dywedais y bûm i'n pwyso ers peth amser ac ar y Llywodraeth flaenorol ynghylch gorfod cael y cynllun peilot symud ymlaen sefydlog hwnnw o 56 diwrnod, ac rydym ni'n croesawu'n fawr benderfyniad Llywodraeth y DU i dreialu'r cyfnod symud ymlaen hwn i ffoaduriaid o 56 diwrnod, gan ei fod yn fesur pwysig i geisio atal digartrefedd ac amddifadedd ar yr union adeg y mae angen amddiffyn ceiswyr lloches, ac mae hynny bellach wedi cael ei gydnabod gan Lywodraeth y DU. Felly, diolchaf i Weinidog y DU dros Ddiogelwch Ffiniau a Lloches am y cynllun peilot hwn. Gobeithiwn y bydd yn dod yn fesur parhaol y tu hwnt i fis Mehefin y flwyddyn nesaf.

Ond hefyd, dim ond i ddweud, o ran mynd i'r afael â digartrefedd, ac rwy'n cydnabod gwaith Housing Justice Cymru, yr ydym ni'n ei gefnogi fel partner trydydd sector, ein bod ni wedi, wrth gwrs—. Rwyf wedi sôn am y cynnydd mewn cyllid ar gyfer y gwasanaeth symud ymlaen i ffoaduriaid; mae'n darparu cymorth i ffoaduriaid sydd newydd eu cydnabod i ddod o hyd i lety amgen, cofrestru gyda gwasanaethau bancio a gwasanaethau eraill o fewn 56 diwrnod ar ôl i'r Swyddfa Gartref roi statws ffoadur. Yr hyn oedd yn bwysig iawn y llynedd oedd ein bod wedi datblygu, a hynny drwy'r cyn Weinidog newid hinsawdd a thai, y rhaglen gyfalaf llety trosiannol, sydd wedi bod yn ariannu llawer o'r cyfleusterau llety newydd—y mae rhywfaint yn fodiwlaidd—i gefnogi nid yn unig ffoaduriaid ond hefyd i helpu diwallu angen tai Cymru. Yn amlwg, mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth enfawr mewn nifer o etholaethau ar draws Cymru. Byddwch yn ymwybodol o'r cyllid sydd ar gael i awdurdodau lleol sicrhau bod gennym ni'r llety trosiannol hwnnw. Er mwyn rhoi syniad byr i chi o'r hyn y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol ei fod yn £87.2 miliwn o gyllid grant a ymrwymwyd y llynedd ar gyfer y rhaglen drosiannol, ac, ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, gwerth dangosol o £100 miliwn, ac mae hynny'n galluogi awdurdodau lleol i fuddsoddi gymaint â hynny'n ychwanegol mewn tai.

Mae'n bwysig iawn hefyd ein bod yn edrych ar ein cyfrifoldebau ac yn gweithredu lle mae gennym ni gyfrifoldeb o ran gweledigaeth ar gyfer bod yn genedl noddfa, ac yn wir lle mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb. Dyna pam ein bod ar hyn o bryd yn adolygu'r Bil Diogelwch Ffiniau, Lloches a Mewnfudo newydd i weld beth fyddai ei effaith ar Gymru a materion datganoledig. Mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf o ddarpariaethau'r Bil yn ymwneud â materion a gadwyd yn ôl, nad ydyn nhw'n ymwneud yn uniongyrchol â Chymru, ond byddwn yn ymgysylltu wrth i hyn ddatblygu o ran y polisi a gyflwynir.

17:35

Mae nod Cymru o fod yn genedl noddfa'n bwysicach nag erioed.

Fe hoffwn i ddarllen geiriau prif weithredwr y Cyngor Ffoaduriaid i chi, sydd wedi beirniadu Llywodraeth Lafur y DU am y ffordd yr aeth ati yr wythnos hon wrth ryddhau lluniau a fideos o gyrchoedd mewnfudo ac alltudiadau. Dywedodd:

'Doedd hi ddim yn bell yn ôl pan fu i griwiau llawn casineb geisio llosgi ffoaduriaid yn fyw mewn gwesty. Mae cymunedau'n dal i wella o'r trais erchyll yr haf diwethaf, felly ni ddylai'r llywodraeth fentro cynyddu diffyg ymddiriedaeth trwy ddefnyddio tactegau perfformiadol sy'n ategu naratifau negyddol a pheryglus am fewnfudo. Mae'r cyhoedd eisiau system sy'n drefnus ac yn rheoledig ond hefyd yn dosturiol. Mae hynny'n cynnwys dychwelyd pobl heb hawl i fod yn y DU, ond gwneud hynny mewn ffordd urddasol yn hytrach na lluniau teledu melodramatig na fydd yn meithrin ymddiriedaeth yn y llywodraeth.'

Mae'r cynllun cenedl noddfa yn nodi bod yn rhaid i ni yng Nghymru gydnabod yn bennaf oll mai pobl yw'r rhain, ac y dylem gymryd ymagwedd hawliau dynol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn,

'ac er bod eu statws mewnfudo’n rhoi hawliau a rhwymedigaethau pwysig iddynt, ni ddylid ystyried bod hynny’n fwy pwysig na sicrhau llesiant a diogelwch i bob unigolyn.'

Felly, a gafodd Llywodraeth Cymru sgyrsiau â Llywodraeth Lafur y DU ynghylch effaith bosibl y dull hwn ar amcanion cynllun y genedl noddfa a chydlyniant cymunedol? A ydych chi'n cytuno â'r Cyngor Ffoaduriaid bod y dull hwn mewn peryg o ategu naratifau peryglus a negyddol?

Rhaid i ni beidio sefyll o'r neilltu chwaith tra bod y dde eithafol yn gorlifo'r cyfryngau cymdeithasol gyda chamwybodaeth beryglus—yn aml yn cael ei chwyddo gan bobl fel Elon Musk ac, yn frawychus, hyd yn oed Aelod Ceidwadol o'r Senedd hon—mewn ymgais i ysgogi casineb, hiliaeth a chreu rhaniadau yn ein cymunedau. Mae sefydliadau fel Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn gwneud gwaith hanfodol yn cefnogi ceiswyr lloches, gan feithrin dealltwriaeth a hyrwyddo cynhwysiant yn ein cymunedau. Ond, yn ddiweddar, daethant yn darged i'r casineb hwn a daniwyd. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau diogelwch y sefydliadau trydydd sector hynny sy'n cefnogi gwaith sy'n ganolog i gynllun y genedl noddfa a hefyd, wrth gwrs, y rhai maen nhw'n eu cefnogi?

Fe hoffwn i hefyd fynd i'r afael â Bil Ffiniau, Lloches a Mewnfudo Llywodraeth y DU 2025, sydd ar ei ffordd drwy'r Senedd ar hyn o bryd. Er ein bod yn croesawu diddymu cynllun Rwanda, ac rydym yn cytuno bod yn rhaid i ni weld gwelliannau mawr yn y ffordd y cynhelir y system lloches a dod â'r rhai sy'n gloddesta ar anobaith eraill o flaen eu gwell, rhaid i ni wrando ar rybuddion Refugee Action ac eraill y bydd y Bil yn niweidio ffoaduriaid yn anadferadwy trwy drin mudo fel bygythiad diogelwch cenedlaethol. Mae'r Cyngor Ffoaduriaid wedi dweud eu bod yn bryderus iawn, trwy greu troseddau newydd, y gallai llawer o ffoaduriaid eu hunain hefyd gael eu herlyn, a fyddai'n gamweinyddu difrifol o gyfiawnder. Maen nhw'n ailadrodd safbwynt llawer o ymgyrchwyr hawliau dynol mai'r ffordd fwyaf effeithiol o dorri gafael y gangiau smyglo yw atal ffoaduriaid rhag gorfod mynd i'r cychod yn y lle cyntaf, sy'n golygu rhoi ffordd ddiogel a chyfreithiol iddyn nhw wneud cais am loches yn y DU. Felly, allwch chi ddweud wrthym ni pa sgyrsiau penodol—? Rydych chi'n dweud y buoch chi'n trafod hyn, ond rydych chi'n dweud, yn bryderus, nad yw llawer o hyn yn ymwneud yn uniongyrchol â'r cynllun cenedl noddfa. Byddwn yn anghytuno â hynny, oherwydd credaf ei fod yn effeithio ar nodau'r cynllun cenedl noddfa, ac fe hoffwn i gael ychydig mwy o fanylion gennych chi ynghylch hynny, os gwelwch yn dda.

Gan droi at y sylw a wnaethoch chi am gynlluniau ffoaduriaid Wcráin, rwy'n croesawu'r ychwanegiad o £500 a gyflwynwyd, oherwydd, ar y pryd, os cofiaf yn iawn, roedd Llywodraeth y DU yn torri hynny ac yn newid y ffordd y cai hynny ei dalu. Fe wnaethoch chi fynegi anfodlonrwydd gyda Llywodraeth y DU am wneud hynny ar y pryd, a chamu i mewn. Nawr mae gennym ni Lywodraeth newydd, pam—ac rydych chi'n dweud eich bod chi'n ymgysylltu'n uniongyrchol ac yn gadarnhaol â Gweinidogion y DU—onid yw Llywodraeth y DU yn gwneud hynny? Pam mae'n rhaid i ni gamu i mewn ac ychwanegu at y taliad croeso hwnnw?

Hefyd, wrth gwrs, roedd yn siomedig y llynedd pan wnaeth Llywodraeth Cymru dorri'n sydyn y cynllun tocynnau croeso a roddodd fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus am ddim neu gost isel, sydd, wrth gwrs, yn achubiaeth i'r rhai sy'n ceisio noddfa. Rydych chi wedi rhoi sicrwydd i ni y bydd yn cael ei ailgyflwyno. Nid ydym ni wedi clywed pryd. Felly, a allech chi roi manylion pryd? Oherwydd rydym ni nawr yn agosáu at flwyddyn ers iddo ddod i ben.

Ac yn olaf, fe hoffwn i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr argyfwng o ran mynediad at gyfiawnder yng Nghymru. Mae Sefydliad Bevan wedi tynnu sylw at y ffaith mai dim ond pum darparwr sydd ar ôl yng Nghymru sy'n rhoi cymorth cyfreithiol ynghylch mewnfudo, gan gynnal chwe swyddfa rhyngddyn nhw. Mae 60 y cant o swyddfeydd cymorth cyfreithiol mewnfudo yng Nghymru wedi cau mewn ychydig dros bum mlynedd, ac mae'r galw mwyaf am wasanaethau cyfreithiol mewnfudo y tu hwnt i gwmpas cymorth cyfreithiol. Gall methu â chael mynediad at gyfiawnder ar yr adeg gywir, wrth gwrs, arwain at golli hawliau, cyflogaeth, tai, statws mewnfudo ac, yn y pen draw, gall arwain at amddifadedd neu alltudiaeth. Felly, pa sgyrsiau rydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth Lafur y DU i helpu sicrhau bod y rhai sy'n ceisio noddfa yng Nghymru yn gallu cael gafael ar y cymorth cyfreithiol sydd ei angen arnyn nhw ac fel yr addawyd fel un o'r camau gweithredu yn y cynllun newydd? Diolch.

17:40

Diolch, Sioned Williams. Diolch am eich cwestiynau ac am barhau—. Rwy'n ei gymryd yn ganiataol; rwy'n gwybod eich bod chi a'ch plaid yn cefnogi ein gweledigaeth ar gyfer y genedl noddfa. Ac fel y dywedwch chi, mae hyn yn ymwneud â sut rydym ni, yng Nghymru, gyda'n cyfrifoldebau a'n pwerau, yn mynd ati yn y ffordd yna, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ar hawliau dynol, ac rwy'n cymryd cyfrifoldeb ar ran Llywodraeth Cymru am y camau a'r polisïau a amlinellais yn fy natganiad, ac wrth gwrs mae'r rhain yn gyfrifoldebau trawslywodraethol mewn perthynas ag iechyd, gofal cymdeithasol, tai, ac rwyf eisoes wedi ymateb i'r pwyntiau hynny yn gynharach, i'r cwestiwn cynharach.

Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein dwyn i gyfrif am yr hyn y gallwn ni ei wneud yng Nghymru. Mae gennym ni 33 o gamau gweithredu yn y bennod newydd yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Rydym ni am ganolbwyntio ar gyflawni'n effeithiol ar y materion mwyaf dybryd ar gyfer gweddill tymor y Senedd hon. Mae arnom ni eisiau blaenoriaethu cymorth i'r rhai sydd fwyaf agored i ganlyniadau niweidiol, ac mae arnom ni eisiau gweithio'n agos gyda Llywodraeth newydd y DU a dylanwadu arni i wella gweithrediad cynlluniau lloches ac ailsefydlu yng Nghymru. Dyna fy mhwyslais. Dyna fy mhwyslais ar lywodraeth leol. Ac mae gen i gyfarfod yfory, ble byddaf yn cyd-gadeirio gyda'r Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, bwrdd goruchwylio strategol cenedl noddfa. Rydym ni wedi gwahodd Gweinidogion Llywodraeth y DU i'r bwrdd hwnnw, ac rwy'n gobeithio y byddant yn bresennol yn y dyfodol.

Ein gwasanaeth noddfa yng Nghymru yw lle gallwn ni ddarparu'r gefnogaeth a'r allgymorth i'n ffoaduriaid a'n ceiswyr lloches, gan barhau, fel y dywedais i, i ddarparu cyngor a gwasanaethau hanfodol i geiswyr lloches, gan gynnwys eich pwynt pwysig am y gwasanaethau cyfreithiol arbenigol. Rydym yn ariannu drwy wasanaeth noddfa Cymru gwasanaethau cyfreithiol arbenigol ar gyfer pobl ifanc. Ond rwy'n codi'r materion hyn o ran prinder cyngor cyfreithiol arbenigol a mynediad at gymorth cyfreithiol. Ac rwyf wedi codi'r rhain gyda Llywodraethau blaenorol y DU a Llywodraeth y DU hon hefyd.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fy mod yn cofnodi heddiw ein bod yn ariannu'r bartneriaeth grant ceisio noddfa. Rydym yn cefnogi'r lleoliadau hynny sy'n cael eu cynnal ar gyfer y rhai y gwrthodwyd lloches iddyn nhw mewn cymunedau yng Nghymru, fel y gallant nhw gael mynediad at loches, sefydlogrwydd a chyngor cyfreithiol. Mae llawer wedi ffoi rhag erledigaeth a rhyfel. Ac rydym ni'n darparu cyngor cyfreithiol diduedd i helpu'r rhai sy'n ystyried eu hapeliadau lloches, apeliadau lloches o'r newydd, neu yn ymwneud â phrosesau dychwelyd gwirfoddol y Swyddfa Gartref. Felly, mae'n ymwneud â'n dull cenedl noddfa, yr wyf yn gobeithio y byddwch yn ei chydnabod a'i pharchu, ond hefyd yn amlwg yn ei herio o ran gweithredu.

Mae hi mor bwysig ein bod ni hefyd yn gweithio gyda grwpiau sy'n cefnogi cymunedau lleiafrifol, i dawelu meddyliau dinasyddion a mynd i'r afael â chamwybodaeth. Rwyf wedi cyfeirio ato yn fy natganiad, ac rydych chi wedi cyfeirio ato hefyd. Mae cyfiawnder troseddol wedi'i gadwn ôl i Lywodraeth y DU, ond rydym ni'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid i sicrhau bod bygythiadau gwrthderfysgaeth i Gymru yn cael eu deall a'u cyfathrebu'n briodol. Yng Nghymru, nid oes lle i wahaniaethu, casineb, erledigaeth, aflonyddu na cham-drin, ac rydym yn gwrthwynebu pob ffurf ar hyn.

Nawr, y tocyn croeso. Rydym yn falch iawn o'r hyn a gyfrannodd y cynllun tocynnau croeso dros ddwy flynedd i helpu ffoaduriaid i integreiddio i gymdeithas Cymru. Fe wnaethon ni ei gyflwyno'n gyflym iawn ar ddechrau'r rhyfel yn Wcráin. Rydyn ni'n amcangyfrif bod dros 1 miliwn o deithiau am ddim wedi'u darparu i bobl sy'n chwilio am noddfa o Wcráin, Afghanistan, Hong Kong—ffoaduriaid o bob cwr o'r byd—ac rydym ni'n gweithio'n galed i nodi ffyrdd y gallwn ni gael gafael ar ddata, sy'n hanfodol i gyflawni'r cynllun, er mwyn bwrw ymlaen â hyn. Rydym ni'n gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i lansio cam 2 cyn gynted â phosibl. Yn amlwg, byddwn yn eich diweddaru bryd hwnnw.

Ar hyn o bryd, fel y dywedais i, rydym yn adolygu'r Bil Diogelwch Ffiniau, Lloches a Mewnfudo newydd. Rydym yn asesu ei effaith ar Gymru a materion datganoledig. Fel y dywedwch chi, rydym yn falch o weld diddymu rhai o agweddau mwyaf niweidiol Deddf Mudo Anghyfreithlon 2023 a diddymu Deddf Diogelwch Rwanda (Lloches a Mewnfudo) 2024. Roedd y mesurau hynny, wrth gwrs, yn destun memorandwm cydsyniad deddfwriaethol blaenorol, a gynigwyd gennym ni, ac fe gynigir eu diddymu yn y Bil newydd hwn. Roedd croeso mawr i Aelodau'r Senedd bleidleisio i atal cydsyniad ar gyfer y cymalau hynny, felly rwy'n siŵr y bydd croeso i'r rhain, ac wrth gwrs, byddaf yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar effeithiau'r Bil, a dyna pam rwy'n croesawu'r ymgysylltiad cynyddol sydd gennyf.

Ond rwyf heddiw'n siarad am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yma yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio fy mod wedi eich sicrhau bod hyn yn ymwneud â'r ffordd y mae angen i ni fynd ati. Ydym, rydym ni, yng Nghymru, wedi penderfynu cynyddu'r taliad 'diolch'. Ein penderfyniad ni oedd cynyddu'r taliadau 'diolch' ar gyfer cynnal teuluoedd Wcreinaidd ledled Cymru. Mewn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig, roedd pobl yn dod ymlaen, ac roedd yn bwysig iawn ein bod yn gallu darparu'r cynydd hwnnw i'r taliadau 'diolch'. Felly, rwy'n falch ein bod yn gallu parhau i wneud hynny yn ystod y flwyddyn nesaf hefyd. 

17:50

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad? Efallai mai dim ond i ddechrau, roedd arna i eisiau ail-bwysleisio hefyd y pwynt sydd wedi'i wneud am ddiffyg cynghorwyr mewnfudo, yn enwedig cyfreithwyr mewnfudo, a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar y gallu i ddarparu'r mathau o wybodaeth a'r cymorth sy'n angenrheidiol i'r rhai sy'n gorfod cymryd rhan mewn amgylchiadau a sefyllfa gymhleth iawn yn aml.

A gaf i hefyd, felly, fynd ymlaen i groesawu'r datganiad hwn, oherwydd llwyddiant y genedl noddfa a'r enw da y mae'n ei roi i Gymru? Yn hanesyddol mae Cymru wedi croesawu ffoaduriaid erioed, gan fynd yn ôl i gyfnod cyn yr ail ryfel byd, ar ôl yr ail ryfel byd, a byddwch chi'n gwybod hefyd, dros y 1970au a'r 1980au, gan groesawu rhai o Dde Affrica, Chile, Irac, Iran ac ati, llawer ohonyn nhw wedi ymgartrefu yn awr ac sydd yn awr wedi ymsefydlu o fewn cymdeithas Cymru ac economi Cymru.

Rwy'n ddiolchgar iawn, yn sicr, am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn arbennig gyda ffoaduriaid o Wcráin, Syria ac Afghanistan, ac yn enwedig Wcreiniaid, oherwydd byddwch yn ymwybodol o fy niddordeb personol. Maen nhw'n grŵp braidd yn anarferol o ffoaduriaid, oherwydd eu bod nhw'n fenywod a phlant yn bennaf, oherwydd eu bod wedi gorfod gwahanu oddi wrth eu gwŷr, llawer ohonyn nhw yn ymladd ar y rheng flaen. Ac, wrth gwrs, byddwch yn ymwybodol bod yna rai sydd wedi colli eu gwŷr mewn gwirionedd yn rhan o hynny. Felly, rwy'n credu bod llwyddiant gwirioneddol yr hyn sydd wedi'i wneud hyd yn hyn yn bwysig iawn, ond hefyd gyda'r grwpiau eraill hynny, yr un mor bwysig.

Y cwestiwn yr wyf am ofyn amdano yw gwenwyndra'r amgylchedd yr ydym ni ynddo nawr. Rydym ni'n gweld ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn gwleidyddiaeth yn gyffredinol gamwybodaeth am ffoaduriaid. Rydym ni wedi ei gweld o fewn y Senedd hon ei hun, camwybodaeth yn cael ei bedlera, ac mae hyn i gyd yn ategu agenda adain dde eithafol, bwriadol, rwy'n credu, o ran mewnfudo, ei defnyddio fel offeryn gwleidyddol, ac mae wedi creu amgylchedd hynod wenwynig i wleidyddion, i wirfoddolwyr mewn cymdeithas, ac yn enwedig i lawer o'r ffoaduriaid bregus sydd gennym ni. Tybed a allech chi ddweud pa ystyriaeth rydych chi wedi'i rhoi, pa drafodaethau y gallech chi fod wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU, o ran yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yn benodol i wrthsefyll y gwenwyndra hwn, i wrthsefyll y camwybodaeth, oherwydd y ffordd rwy'n ei gweld hi, mae'r rhan fwyaf o'r ffoaduriaid a'r bobl sydd wedi bod yn dod i Gymru bellach yn gyfranwyr gwerthfawr i economi Cymru. Maen nhw'n cyfrannu at ein lles mewn gwirionedd, ac mae'n rhywbeth sy'n bwysig iawn nawr i sawl rhan o economi Cymru a oedd yn tanberfformio. Ond yr elfen wenwynig yw'r maes yr wyf yn poeni amdano a'r ffordd y mae hynny'n datblygu, Gweinidog.

Diolch yn fawr iawn, Mick Antoniw, a diolch am eich cefnogaeth—cefnogaeth hirdymor—o'n gweledigaeth o Gymru fel cenedl noddfa, a rhoi'r atgof hwnnw i ni o hanes Cymru fel cenedl groesawgar i ffoaduriaid a'r rhai sy'n ffoi rhag gwrthdaro, rhyfel ac erledigaeth. A dyna pam mae'n rhaid i ni barhau i sefyll dros y 10 egwyddor hynny yr wyf wedi'u hamlinellu er mwyn i'n gweledigaeth i Gymru fod yn genedl noddfa. Diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus i ffoaduriaid a dinasyddion Wcráin, ac rwyf hefyd yn cydnabod eich cefnogaeth, ac yn wir, cefnogaeth Alun Davies ac eraill ar draws y Siambr, i Wcreiniaid wrth i chi deithio a mynd â'r cyflenwadau, cerbydau, cyflenwadau meddygol holl bwysig hynny i Wcráin. Ac rwy'n gwybod y byddwch chi'n mynd ar ymgyrch arall yn fuan hefyd, felly rydym ni'n diolch i chi ac yn eich cydnabod am yr ymrwymiad hwnnw a'r dewrder hwnnw.

Mae'n bwysig ein bod ni'n dangos undod gyda'n ffoaduriaid o ble bynnag maen nhw'n dod yn y byd; dyna'r pwynt pwysicaf. Rwy'n credu bod pobl yng Nghymru wedi cynnig eu calonnau a'u cartrefi, yn enwedig i Wcreiniaid. Maen nhw'n integreiddio'n effeithiol iawn i gymunedau Cymru. Rwy'n siŵr y byddwch yn falch o'r cyhoeddiad am barhau â thrwyddedau gyrru hefyd, oherwydd mae Wcreiniaid bellach yn dal swyddi, yn gweithio ac yn cael addysg mewn ysgolion. Ond rwy'n credu y bu hi hefyd yn bwysig iawn bod Cymru wedi dangos, gyda'n hawdurdodau lleol, y gallem ni groesawu ein gwesteion i 52—aethom ni i lawer gyda'n gilydd, Mick—o ganolfannau croeso ar draws Cymru gyfan, ac yna cafodd gwesteion eu cefnogi i lety tymor hwy ac rydym ni'n parhau i helpu, gydag awdurdodau lleol, i gefnogi'r rhai sydd angen llety. Rwyf eisoes wedi sôn am y rhaglen gyfalaf llety trosiannol; rwy'n falch iawn o weld yn fy etholaeth i, Bro Morgannwg, effaith y cyllid hwnnw mewn datblygiad gwych lle rwyf wedi ymweld â theuluoedd Wcreinaidd sy'n byw ochr yn ochr â theuluoedd Cymru, a theuluoedd sydd angen llety ac yn ceisio am hynny.

Ond rydych chi wedi gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â'r amgylchiadau, y sefyllfa rydym ni'n byw ynddi nawr. Rwyf wedi sôn amdano yn fy natganiad. Hynny yw, mae hon yn sefyllfa lle mae'n rhaid i ni sefyll gyda'n gilydd a sefyll gyda sefydliadau ac unigolion sy'n cefnogi ein gweledigaeth o fod yn genedl noddfa, ac sydd hefyd eisiau meithrin cydlyniant. Rwyf wedi siarad yn fy natganiad fwy nag unwaith am y ffaith fod a wnelo hyn â chydlyniant, integreiddio, cyfraniad; dyna fanteision mudo. Mae ein partneriaid yn gweithio i wireddu'r weledigaeth hon o fod yn genedl noddfa. Maen nhw'n gwneud y gwaith hanfodol, maen nhw ar y rheng flaen. Rydym ni'n eu cefnogi yn erbyn camwybodaeth a cham-drin wedi'i dargedu, ac fe hoffwn i ddweud un pwynt am hyn: mae'n hanfodol bod cwmnïau cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg yn gwneud popeth o fewn eu gallu i amddiffyn eu defnyddwyr rhag niwed ar-lein, ond nid ydym ni'n gweld hynny'n digwydd. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gydag Ofcom yn rhinwedd ei swyddogaeth newydd fel rheoleiddwyr diogelwch ar-lein yn y DU. Rwyf wedi sôn ei fod yn ddiwrnod diogelwch ar-lein, ac mae adran 'cadw'n ddiogel ar-lein' Hwb ar gael i ysgolion a'r gymuned ehangach.

Rwyf eisoes wedi ymateb i'ch pwynt ynglŷn â mynediad at gyngor cyfreithiol. Dyna pam rydym ni'n ariannu ein partneriaeth grantiau ceisio noddfa ar gyfer y sefydliadau hynny ar y rheng flaen—Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Housing Justice Cymru, y Groes Goch Brydeinig, pob un ohonyn nhw ar y rheng flaen—ac yn ariannu ein prosiectau integreiddio aduno teuluoedd, sy'n helpu i aduno teuluoedd gyda'u hanwyliaid. Rhoi sylw i hawliau plant, er mwyn sicrhau y gellir aduno teuluoedd yn ein cymunedau. Dyna hanfod cyflwyno'r cynllun cenedl noddfa. Ac mae'n ddiddorol, pan ddaeth Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig i Gymru ym mis Hydref, ac inni gyfarfod â chynrychiolydd, fe ddywedon nhw fod Cymru'n parhau i osod esiampl bwysig o fewn y DU ac ar draws Ewrop, fel rhan o'r ymdrech fyd-eang i helpu amddiffyn a dod o hyd i atebion i ffoaduriaid. Dyna sy'n rhaid i ni allu ei gyflawni, a'r gydnabyddiaeth honno.

17:55

Ysgrifennydd Cabinet, fel y cofiwch, o'm cyfraniadau blaenorol, credaf fod Cymru fel cenedl noddfa yn achos clodwiw, i gynnig amddiffyniad i rai o bobl fwyaf bregus y byd sy'n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth. Mae'n werth craidd y mae'n rhaid i ni ei gynnal. Fodd bynnag, rwy'n ymwybodol iawn, fel y mae llawer o rai eraill yn y Siambr hon, fod sefyllfa pobl dosbarth gweithiol gwyn yn un sydd angen sylw brys, oherwydd mae llawer ohonyn nhw'n teimlo nad yw'r genedl hon yn genedl noddfa iddyn nhw.

Byddwch yn ymwybodol o'r ystadegau lle mae pobl dosbarth gweithiol gwyn wedi cael eu siomi, ac yn aml rydym yn clywed sut maen nhw'n tanberfformio'n gyson o'u cymharu â chyfoedion o grwpiau ethnig eraill, ac mae hyn o'r blynyddoedd cynnar hyd at addysg uwch. Mae hyn yn arbennig o drawiadol, oherwydd er eu bod yn llai tebygol fel grŵp ethnig o fod dan anfantais, y tlotaf yn eu plith yn y pen draw yw'r grŵp difreintiedig mwyaf yn y wlad. Gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd Cabinet, sut gall ethos cenedl noddfa, sydd—rwy'n dyfynnu—er mwyn

'sicrhau bod y cymunedau hyn yn wynebu llai o anghydraddoldeb, bod mynediad at gyfleoedd yn cael ei gynyddu, a bod y berthynas rhwng y cymunedau hyn a’r gymdeithas ehangach yn cael ei gwella',

yn cael eu cymhwyso i Gymru gyfan, gan gynnwys ei chymunedau dosbarth gweithiol gwyn? Diolch.

18:00

Roeddwn yn falch iawn, Joel James, o fod y Gweinidog a geisiodd ddeddfu dyletswydd economaidd-gymdeithasol Deddf Cydraddoldeb 2010, ac rwy'n cofio bod hynny yn ystod y pandemig. Rwy'n cofio'r Prif Weinidog, pan oeddem yn edrych i adfer o'r pandemig—un o'r pethau yr oeddem am ei wneud, yr oedd Llywodraeth Geidwadol y DU yn gwrthod ei wneud, oedd deddfu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, oherwydd mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gofalu am ein holl ddinasyddion yng Nghymru o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol. Ond heddiw rydw i yma i fod yn falch o sefyll i gefnogi ein cenedl noddfa a'n gweledigaeth a'n gwerthoedd sydd wedi cael eu cydnabod gan y bobl sy'n dod yma, yn chwarae eu rhan, yn gweithio ac yn byw gyda'i gilydd, gyda'n plant, yn ein hysgolion, gan ddysgu gyda'n gilydd o ran integreiddio fel y gall Cymru fod y genedl wych, amrywiol yr ydym ni i gyd mor falch o fyw ynddi.

Fe hoffwn i chi fwrw eich meddwl yn ôl i 23 mlynedd yn ôl, ac mae'n syndod ei bod hi mor bell yn ôl erbyn hyn, ond un o'r cynlluniau sy'n ymgorffori'r gwaith a wnaed gyda ffoaduriaid yw cynllun meddygon sy'n geiswyr lloches a ffoaduriaid Cymru, neu gynllun WARD, y gwn i eich bod yn gefnogol iawn iddo—rwyf wedi bod yn ymrwymedig iddo—a'r gwaith sydd wedi cael ei wneud gan Displaced People in Action, pan oeddwn yn ymddiriedolwr yno a chyn fy amser ac ar ôl hynny. Mae'n dal i gefnogi meddygon a deintyddion sy'n ffoaduriaid nawr, rwy'n credu, i ymgymryd â'r hyfforddiant sydd ei angen. Rwy'n credu bod hyd at 340 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol bellach wedi bod drwy'r cynllun hwnnw.

Felly, fe hoffwn i ofyn: a ydych chi'n dal i ymrwymo i'r cynllun hwnnw ac yn gefnogol iddo? Sut ydych chi'n gweithio gyda'r cynllun hwnnw i ddatblygu cyfleoedd pellach o ran optegwyr, i weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, i fydwragedd, i nyrsys? Sut ydym ni'n gwella'r ddarpariaeth ac yn rhoi hwb i helpu'r GIG i gael staff cymwysedig a all ddod yma a chyflawni'r elfen honno? 

Y drydedd agwedd yw sut ydym ni'n cefnogi myfyrwyr meddygol a meddygon iau sydd newydd gymhwyso sydd wedi dod o lefydd fel Palestina a Gaza, sydd wedi dod o ardaloedd lle mae gwrthdaro? Sut gallwn ni eu helpu i orffen eu haddysg? Sut ydym ni'n defnyddio'r sgiliau hynny yn y GIG yma yng Nghymru, ond hefyd fel cyfle iddyn nhw, os ydyn nhw'n dymuno, fynd yn ôl a helpu i ailadeiladu eu gwledydd yn dilyn gwrthdaro? Felly, fe hoffwn i gael eich barn ynghylch sut ydym ni'n cyflawni ein rôl fel gwlad ryngwladol ac yn edrych allan i'r byd i gefnogi'r bobl sydd wedi bod trwy gymaint o galedi a gwrthdaro.

Diolch yn fawr iawn, Peredur, am y cwestiynau pwysig iawn hynny, gan ein hatgoffa o un o gyflawniadau cynnar datganoli, mewn gwirionedd, o'n Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Rydym ni mor ymwybodol ohono wrth i ni gofio cyfraniad Dafydd Elis-Thomas, a oedd yn gefnogol iawn i'r math yma o ddatblygiadau. Roedd y cynllun meddygon sy'n ffoaduriaid yn rhywbeth a ddatblygwyd gydag asiantaethau anllywodraethol, Displaced People in Action. Fe hoffwn i gydnabod hefyd fod Aled Edwards yn ysgogydd allweddol i'r cynllun meddygon sy'n ffoaduriaid pan oeddwn i'n Weinidog iechyd. Felly, fel rydym ni'n ei wneud yng Nghymru, rydym ni'n dod at ein gilydd, ac rydym ni'n dweud, 'Beth allwn ni ei wneud? Gadewch i ni fwrw ati', ac fe wnaethon ni fwrw ati.

Nid oes gennyf yr ystadegau diweddaraf, ond mae cannoedd o feddygon ledled Cymru, ond nid yng Nghymru yn unig, oherwydd unwaith y byddant yn cael mynediad at, os oes angen, ESOL, Saesneg fel ail iaith, cymwysterau, a chefnogaeth y Cyngor Meddygol Cyffredinol, maen nhw wedi bod yn gweithio yn y GIG, nid yn unig yng Nghymru, ond yng ngweddill y DU, ac mae llawer yn mynd yn ôl i wledydd eraill hefyd. Mae'n bwynt pwysig iawn y byddaf yn mynd ag ef yn ôl i AaGIC, gan weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, o ran y proffesiynau iechyd eraill a nodwyd gennych, ond hefyd y cyfle i allu cadw eich sgiliau a'ch cymwysterau proffesiynol, nid yn unig ar gyfer cydnabyddiaeth yma, ond i allu ymarfer fel y gallwch chi ddychwelyd adref. A sawl gwaith rwyf i, yn sicr, wedi cwrdd â meddygon o Afghanistan, a ddaeth yn dilyn y ffoi oddi yno—Syria, Afghanistan a cheiswyr lloches eraill, ac yn wir Palestina ac o bob cwr o'r byd—sydd â'r sgiliau hynny? Y sgiliau hynny rydym ni'n eu trysori pan fyddant gyda ni, ond rhaid inni hefyd eu cefnogi wrth iddyn nhw ddychwelyd adref i ailadeiladu eu tiroedd a'u cenhedloedd.

18:05

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i'r holl sefydliadau gwych sydd gennym yma yng Nghymru, sy'n ein helpu i ddod yn genedl noddfa. Rwy'n falch o fod yn un o sylfaenwyr Cyngor Ffoaduriaid Cymru, sydd eisoes wedi'i grybwyll yma yn y Siambr heddiw, ac rwy'n gwybod o lygad y ffynnon y gwaith cwbl amhrisiadwy y maen nhw'n ei wneud i gefnogi pobl ar adeg fwyaf brawychus a bregus eu bywydau, mae'n debyg. Wrth gwrs, yng Nghaerdydd, mae gennym Oasis yn darparu cefnogaeth am ddim i geiswyr lloches yma, ac maen nhw'n croesawu tua 150 o bobl trwy eu drysau bob dydd. Ac yna mae'r Tîm Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru yn cynnig cefnogaeth benodol a llawer o sefydliadau eraill. Rwy'n credu mai dim ond ychydig o'r sefydliadau sy'n gwneud i bobl deimlo'n ddiogel ac yn gartrefol yng Nghymru yw'r rhain, ac ni allaf ddweud, mewn gwirionedd, faint rydym yn dibynnu arnyn nhw wrth greu'r genedl noddfa hon.

Felly, rwy'n falch iawn bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud yn ei datganiad—ei bod wedi gofyn i bobl fod yn ofalus yn y geiriau maen nhw'n eu dweud a'r sylwadau maen nhw'n eu rhoi ar-lein. A yw'r Gweinidog yn cytuno y dylid dathlu'r grwpiau hyn ac nad ydynt byth yn destun sylwadau camwybodus a bygythiol, a bod y rhethreg gwrth-fudwyr sydd o amgylch yn niweidiol i ni i gyd?

Diolch yn fawr iawn, Julie Morgan. Rwy'n cefnogi popeth rydych chi wedi'i ddweud yn llwyr ac yn canmol y sefydliadau hynny—Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Oasis, Housing Justice Cymru, y Groes Goch Brydeinig a llawer mwy—sy'n gweithio ar y rheng flaen gyda'n cefnogaeth ni. Rwyf wedi dweud mai tîm Cymru yw hwn, ac rydym nid yn unig yn eu cefnogi o ran y ffaith bod llawer o'r sefydliadau hyn wedi bod yn destun camwybodaeth a cham-drin erchyll a hynny wedi achosi ofn mawr iddyn nhw, i'r staff a'r swyddfeydd i'r rhai sy'n gweithio yn y lleoedd hynny yn y rheng flaen. Ond maen nhw, fel yr ydym ni, yn cydnabod ein bod ni yma i gydweithio a'u cefnogi—y bobl sy'n ffoi rhag gwrthdaro ac sy'n dod yma i obeithio dod o hyd i genedl noddfa y mae angen i ni eu cydnabod a gwneud popeth o fewn ein gallu i'w cefnogi. Ac mae'n bwysig bod hyn mewn gwirionedd yn arwain at gymunedau, at gydlyniant cymunedol, at ddealltwriaeth a bendith fawr amrywiaeth, wrth i'n plant ddysgu byw gyda'i gilydd yn ein hysgolion. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y dylem ni ei ganmol a gweiddi allan amdano pryd y gallwn, i amddiffyn y rhai sydd, yn sicr, fel y dywedwch chi, dan fygythiad mewn unrhyw ffordd. A byddwn yn cefnogi'r sefydliadau hynny trwy'r adegau anodd a hawdd.

Ysgrifennydd Cabinet, hoffwn ymuno â Julie Morgan i gydnabod y grwpiau a'r gwirfoddolwyr ledled Cymru sy'n helpu i wneud Cymru'n genedl noddfa. Un enghraifft o'r fath yw Mark Seymour, sydd, yng Nghasnewydd, wedi bod yn allweddol yng ngwaith Eglwys Gymunedol Bethel, a ffurfiodd y Noddfa, sydd bellach wedi dod yn Gap Wales, sy'n ceisio llenwi bylchau a adawyd gan wasanaethau eraill wrth ddarparu cymorth a chefnogaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae'n darparu croeso cynnes, cyfle i alw heibio bob dydd ac amrywiaeth o weithgareddau a gweithdai. Mae'n darparu addysg ar fasnachu pobl, a hefyd beiciau a helmedau, ac, ar y cyd â Casnewydd Fyw, yn hyfforddi ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ddefnyddio'r beiciau hynny. Mae'n nodi, Ysgrifennydd Cabinet, ei fod yn ymwneud â gofal a chonsyrn a ddarperir mewn ffordd ymarferol, trwy gefnogi pobl o gymunedau ffoaduriaid a cheiswyr lloches, trwy feithrin cyfeillgarwch ac adfer ymdeimlad o berthyn a chymuned, gan roi cefnogaeth ymarferol ac emosiynol. Mae'r gwirfoddolwyr hynny wedi bod yn cyflawni hynny ers nifer o flynyddoedd bellach, gan gryfhau a chynyddu'r cymorth a'r gefnogaeth honno. Rwy'n siŵr yr hoffech ymuno â mi, Ysgrifennydd Cabinet, i roi croeso cynnes iawn i'r gweithgareddau hynny a thalu teyrnged iddyn nhw, wrth helpu, fel y dywedais i, i wneud Cymru'n genedl noddfa ledled ein gwlad.

18:10

Diolch yn fawr iawn. Byddwn nid yn unig yn ymuno â chi i longyfarch Mark Seymour a'r eglwys gymunedol a Gap Wales, hoffwn ymweld, yn wir, John Griffiths. Roeddwn i eisiau dweud i gloi, Llywydd, bod gennym arolwg cenedlaethol ar gyfer Cymru bob blwyddyn, ac rydym wedi bod yn sôn am gydlyniant cymunedol, a manteision mawr mudo a hefyd ein hegwyddorion cenedl noddfa. Rydym yn gofyn i bobl a ydyn nhw'n teimlo ymdeimlad o berthyn yn eu hardal, ac a ydyn nhw'n teimlo bod pobl o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu'n dda yn eu hardal leol, ac rwy'n gwybod y bydd hynny'n wir gyda'ch eglwysi cymunedol, ac a yw pobl yn trin ei gilydd â pharch. Mae'n rhaid i mi ddweud heddiw bod y mwyafrif helaeth o'r ymatebwyr yn awgrymu bod Cymru'n lle cydlynol a chynhwysol i fyw ynddo i raddau helaeth. Gadewch i ni gadw hynny i fynd.

Diolch i'r Gweinidog. Diolch i bawb am y cyfarfod y prynhawn yma. Dyna ni. Dyna'r diwedd.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:12.