Y Cyfarfod Llawn

Plenary

14/01/2025

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da, a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Rhys ab Owen.

Y Diwydiant Teledu a Ffilm

1. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i weithwyr llawrydd ym maes teledu a ffilm i sicrhau bod sgiliau yn cael eu cynnal yn y diwydiant? OQ62111

Ers 2020, rŷn ni wedi ariannu 51 o brosiectau yn y sector allweddol yma, gan arwain at £342 miliwn o wariant yng Nghymru. Bydd llawer o weithwyr llawrydd wedi cael cyfleoedd i weithio o ganlyniad i'r buddsoddiad hwn.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Dwi'n gobeithio y cawsoch chi'r cyfle i wylio dros y Nadolig y Gavin and Stacey Christmas special—fe wnes i weld bod hwnna'n ddymuniad gyda chi. Mae honna'n un enghraifft, onid yw hi, o lwyddiant rhaglenni teledu Cymreig. Mae rhaglenni Cymraeg yn cael eu gwerthu i gwmnïau fel Netflix, a dwi'n gweld bod Un Bore Mercher a Keeping Faith yn mynd i gael eu dangos mewn Corëeg a Ffrangeg bellach. Ond, wrth gwrs, y tu ôl i'r llwyddiant, mae pobl, ac, fel y gwyddoch chi, mae BECTU wedi dweud bod y diwydiant llawrydd yn poeni'n fawr am ei ddyfodol—bron i hanner yn ddi-waith, a 78 y cant yn stryglo i dalu biliau. Nawr, mae yna enghreifftiau diddorol o'r hyn sy'n digwydd gyda Llywodraethau tramor, fel yn Ffrainc ac Iwerddon, i gefnogi'r diwydiant llawrydd. Beth, yn ymarferol y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i wneud ymhellach i gynnal y diwydiant ac i sicrhau bod rhaglenni Cymreig ar gael ar sgriniau dros y byd i gyd? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn. Dŷch chi'n iawn—dwi'n ffan massive o Gavin and Stacey, fel, rwy'n siŵr, mae'r rhan fwyaf o bobl yn y Siambr yma. Roedd hi'n braf gweld Cymru'n cael ei hadlewyrchu mewn ffordd rîli positif, a phobl Cymru'n cael eu gweld mewn ffordd bositif, a bod cymaint o bobl dros y Deyrnas Unedig, a'r byd, wedi gweld pa fath o le ydym ni. Ond rŷch chi'n iawn—mae'r sector yn bwysig iawn i economi Cymru. Mae hi hefyd yn werth ystyried bod nifer fawr o bobl wastad wedi gweithio yn llawrydd yn y sector yma. Dwi'n meddwl bod perfect storm wedi digwydd, achos roedd y pandemig ac wedyn roedd y streiciau yn yr Unol Daleithiau. Dyna pam roedd cymaint o bobl, ar un adeg, allan o waith yn y sector yna. Mae e wedi dod lawr rywfaint, ond mae hon yn broblem, fel rŷch chi'n dweud, sydd wedi effeithio ar bobl ar draws y diwydiant, ar draws Ewrop. Felly, fel dwi'n dweud, beth rŷn ni wedi ei wneud fel Llywodraeth yw'r buddsoddiad yna, sydd ddim yn fuddsoddiad bach, ond mae wedi arwain at £342 miliwn. A beth sy'n digwydd wedyn yw bod pobl sy'n gweithio yn y diwydiant—y gweithwyr llawrydd yna—yn cael cyfle i weithio. Felly, dyna sut rŷn ni fel Llywodraeth yn helpu. Hefyd, dwi'n meddwl ei bod hi'n werth dweud ein bod ni'n rhoi cymorth i ddatblygu sgiliau trwy'n cronfa sgiliau Cymru Greadigol, ac rŷn ni hefyd yn gweithio'n anuniongyrchol trwy raglenni partner fel y siop un stop a gafodd ei lansio'n ddiweddar.

13:35
Seilwaith Ffyrdd yng Ngogledd Cymru

2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella seilwaith ffyrdd yng ngogledd Cymru? OQ62115

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

13:45

Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, mi wnaeth y Prif Weinidog fy ngwahodd i i ganolbwyntio dim ond ar bethau mae ganddi hi ddylanwad drostyn nhw, nid ar faterion yn ymwneud â'i pherthynas hi efo Llywodraeth Keir Starmer, er mai hi ydy arweinydd plaid Keir Starmer yng Nghymru. Mae gen i ofn does dim modd golchi dwylo mor hawdd â hynny. Ond mi wnes i, fel bydd hi'n cofio, ofyn cwestiwn ynglŷn ag amseroedd aros y gwasanaeth iechyd—rhywbeth, wrth gwrs, y mae hi'n llwyr gyfrifol amdano. Mi fethodd â rhoi sicrwydd y byddai hi’n gallu cyrraedd ei tharged o dorri amseroedd aros dwy flynedd erbyn mis Ebrill. Wel, o ystyried absenoldeb cynlluniau cadarn gan Lywodraeth Cymru i dorri amseroedd aros, dwi'n annog y Prif Weinidog i edrych ar gynlluniau Plaid Cymru a gafodd eu cyhoeddi heddiw. Drwy gyflwyno hybiau arbenigol rhanbarthol, gwasanaeth triage cenedlaethol, deddfwriaeth frys i greu capasiti, gwell defnydd o dechnoleg i asesu symptomau, rydym ni'n credu y gall amseroedd aros gael gymaint â’u haneru mewn cyfnod cymharol fyr. O ystyried pwyslais y Prif Weinidog ar wrando, ydy hi’n barod i ystyried y cynlluniau yma, a gafodd eu datblygu mewn partneriaeth, wrth gwrs, efo gweithwyr iechyd proffesiynol yr NHS?

13:50

Pe bai'r pethau yma i gyd yn cael eu gwneud yn barod, fyddai rhestrau aros ddim fel ag y maen nhw ar hyn o bryd.

13:55
Amddiffyn Pobl Ifanc sy'n Agored i Niwed

3. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch amddiffyn pobl ifanc sy'n agored i niwed yng Nghymru rhag gangiau camfanteisio rhywiol? OQ62129

14:00
Gwerthoedd Pobl Cymru

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DG i sicrhau bod gwerthoedd pobl Cymru yn cael eu cynrychioli ar y llwyfan ryngwladol? OQ62125

Ein mandad yw hyrwyddo'r gwerthoedd Cymreig sydd wedi’u nodi yn ein strategaeth ryngwladol, ac sy’n rhan hefyd o’n gwaith ymgysylltu rhyngwladol ar draws y Llywodraeth. Mae ein swyddfeydd tramor, sydd wedi’u lleoli ar y cyd â swyddfeydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn gweithio gyda'i gilydd bob dydd i hyrwyddo Cymru, ac mae hynny’n cynnwys ein gwerthoedd.

Diolch, Brif Weinidog. Ar ddechrau'r flwyddyn newydd, bu pobl o bob cwr o Gymru yn ymgynnull y tu allan i brif ysbytai Cymru i dynnu sylw at y gweithwyr iechyd sydd wedi eu lladd, eu hanafu a'u dal mewn carchar heb gyhuddiad gan luoedd Israel yn Gaza. Mae ysbytai wrth gwrs wedi'u gwarchod dan gyfraith ddyngarol ryngwladol, ac mae'r ymosodiadau ar gyfleusterau a gweithwyr iechyd yn cael eu cyfrif yn droseddau rhyfel. Yn eu plith roedd Dr Hussam Abu Safiyya, cyfarwyddwr ysbyty olaf gogledd Gaza, a losgwyd gan luoedd Israel. Roedd y bobl oedd yn mynychu'r gwylnosau hyn yn galw ar Lywodraeth Cymru i siarad mas yn erbyn hyn. 

Felly, a wnewch chi wrando, ac ar ran pobl Cymru, gondemnio ymosodiadau Israel ar ysbytai Gaza, a galw ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i fynnu rhyddhau Dr Abu Safiyya a'r holl weithwyr iechyd sy’n cael eu dal yn anghyfreithlon gan Israel?

Wrth inni glywed bod cadoediad posibl ar y gorwel, a wnewch chi felly sicrhau, fel y mae Llywodraeth yr Alban wedi gwneud, fod llais eich cenedl yn cael ei glywed yn glir, yn eiriol dros heddwch a chyfiawnder ar gyfer pobl Palesteina, nawr ac i'r dyfodol, a galw ar Lywodraeth San Steffan i atal gwerthu arfau i Israel nes bod cadoediad parhaol a chadarn wedi'i gytuno?

Wel, diolch yn fawr. Mae trydydd llinyn ein strategaeth ryngwladol yn hyrwyddo Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang, ac mae hynny’n cynnwys gwerthoedd, pethau fel hawliau dynol, a dydyn ni ddim wedi gweld lot o hynny'n digwydd yn y dwyrain canol ac yn Wcráin yn ddiweddar. Fel dwi wedi dweud o'r blaen, mi wnes i godi hyn mewn uwchgynhadledd Iwerddon-Prydain yn ddiweddar, lle'r oedd y Prif Weinidog yn bresennol. Mi wnes i alw'n gynnar am gadoediad ac, wrth gwrs, mi ddylem ni sefyll gyda’r gweithwyr iechyd hynny yn Palestine.

Dwi’n siŵr bod pawb yn falch o weld arwyddion posibl fod cadoediad efallai yn mynd i fod yn bosibl rhwng Israel a Hamas; mae'n rhaid i ni i gyd weddïo bod hynny yn mynd i ddigwydd. Dwi'n meddwl bod pobl yr ardal yna wedi dioddef digon. Ond wrth gwrs, yn gyffredinol, mae materion rhyngwladol yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond mi fyddaf i hefyd yn sicrhau bod fy llais i yn cael ei glywed fel rhywun sydd yn awyddus iawn i weld cadoediad.

14:05

Mae cwestiwn 5 [OQ62126] wedi ei dynnu yn ôl. Cwestiwn 6, Natasha Asghar.

Canlyniadau Addysgol

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau addysgol yn Nwyrain De Cymru? OQ62089

14:10

Un o'r penderfynyddion mwyaf pan mae'n dod i ganlyniadau addysgol ydy darllen llyfrau, ond mae cymaint o heriau'n wynebu’r diwydiant cyhoeddi ar hyn o bryd yng Nghymru. Yn y de-ddwyrain, mae cyhoeddwyr megis Rily yng Nghaerffili yn gwneud gwaith mor bwysig wrth gyhoeddi llyfrau plant. Rŷn ni'n gwybod bod darllen llyfrau yn helpu plant gyda'u llythrennedd, sydd yn bwnc pryder, ond mae hefyd yn datblygu'r dychymyg; mae'n helpu o ran empathi, sgiliau rhyngbersonol a'u gallu i ddeall pobl a phlant eraill. Mae'r sefyllfa wedi cyrraedd pwynt o greisis i'r diwydiant cyhoeddi llyfrau ac mae nifer o gwmnïau’n poeni am eu dyfodol. Rŷn ni'n clywed yn anecdotaidd am ysgolion newydd sbon sydd newydd agor, ond heb gyllid ar gyfer gwario ar lyfrau neu ar lyfrgelloedd. Felly, beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i wella'r sefyllfa hon, plis, sefyllfa eithriadol o ddifrifol, cyn i ni golli cenhedlaeth o blant sydd yn mwynhau darllen?

Wel, diolch yn fawr iawn. Mae'n bwysig bod plant yn darllen ac yn darllen am bleser, ac mae hwnna'n anodd y dyddiau yma achos mae cymaint o blant ar eu sgriniau nhw drwy'r amser, ac felly mae sicrhau bod ganddyn nhw lyfrau sydd yn ddiddorol ac yn eu denu nhw'n bwysig. Dyna pam rŷn ni'n dal i sicrhau bod yna arian ar gyfer cyhoeddwyr yng Nghymru. Mae hwnna'n wir yn arbennig yn y maes cyhoeddi Cymraeg, achos, yn amlwg, mae'n anodd sicrhau eich bod chi'n cael digon o arian nôl os ŷch chi'n ei wneud e mewn ffordd commercial yn Gymraeg. Dyna pam dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n parhau. Dwi'n ymwybodol iawn bod cyhoeddwyr wedi gweld toriad unwaith eto achos y penderfyniadau anodd yna yn y blynyddoedd diwethaf, ond rŷn ni'n dal i'w cefnogi nhw, ac rŷn ni'n ymwybodol iawn eu bod nhw mewn sefyllfa fregus.

Diogelwch Llethrau

7. Pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi ei wneud o ddiogelwch llethrau yng Nghymru yn dilyn tirlithiadau diweddar? OQ62131

Mae Llywodraeth Cymru a'n hasiantau cefnffyrdd yn archwilio ac yn monitro’r seilwaith geodechnegol yn rheolaidd. Mae hyn yn cynnwys llethrau sydd gerllaw’r rhwydwaith ffyrdd strategol ar draws Cymru, yn unol â safonau'r Deyrnas Unedig.

Diolch yn fawr iawn. Mi fyddwch chi'n ymwybodol, o adroddiadau sydd wedi bod yn y wasg, fod yr asiant cefnffyrdd wedi gwneud gwaith ar ffordd yn Ninas Mawddwy a bod ffordd ger Corris wedi cau, y ddwy ohonyn nhw'n ffyrdd allweddol i fynd o'r de i'r gogledd. Diolch byth doedd y ddwy ffordd ddim ar gau ar yr un pryd. Ond mi achosodd o niwed anferthol i fusnesau oedd angen mynd, angen cario nwyddau ar draws y ffyrdd yna, ac i bobl a oedd eisiau teithio i gael meddyginiaeth ac i fynd i weld meddygon teulu ac yn y blaen. Mae hyn yn debygol o ddigwydd yn amlach wrth fod mwy o ddŵr yn disgyn ar ein mynyddoedd ni, felly mae eisiau i ni gael asesiad o ba ffyrdd sy'n debygol o gael tirlithriadau, pa diroedd sy'n fwy tebygol o fod yn agored i ddifrod o'r fath. Felly, dwi eisiau deall yn union pa asesiadau rydych chi wedi'u gwneud fel Llywodraeth er mwyn paratoi ar gyfer tirlithriadau fel yma.

Diolch yn fawr. Rŷn ni'n cymryd y risg o dirlithriadau, yn arbennig ar gyfer ein seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru, o ddifrif. Ar y rhwydwaith, rŷn ni'n arolygu tua 200 km o wrthgloddiau bob blwyddyn, ac rŷn ni'n monitro dros 75 o safleoedd yn rhagweithiol. Felly, mae'r monitro hynny'n digwydd. Rydw i'n meddwl bod difrifoldeb y stormydd diweddar wedi cael effaith ar gymunedau a busnesau yng Nghymru. Mae'r hinsawdd yn newid, ac rydyn ni'n ymwybodol o'r sefyllfa yn Ninas Mawddwy a ger Corris. Diogelwch y ffyrdd oedd y peth pwysicaf yn fanna. Cafodd y gwaith ei wneud dros gyfnod y Nadolig, felly rydw i eisiau diolch i’r bobl a ddaeth allan yn ystod cyfnod y Nadolig i sicrhau bod y ffyrdd yna yn ailagor cyn gynted ag oedd yn bosibl.

14:15
Byw mewn Tlodi

8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl sy'n byw mewn tlodi? OQ62130

Rŷn ni wedi buddsoddi bron i £5 biliwn rhwng 2022 a 2025 mewn cynlluniau i gefnogi pobl ym mhob rhan o Gymru sy'n byw mewn tlodi. Mae'r rhain yn gynlluniau sy'n targedu'r cymorth at y bobl sydd ei angen fwyaf, yn helpu pobl i gael gafael ar yr hyn mae ganddyn nhw hawl iddo, ac yn helpu i gadw arian ym mhocedi pobl.

14:20
Gwella Gwasanaethau Iechyd

9. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella gwasanaethau iechyd i bobl canolbarth Cymru? OQ62090

14:25
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Rwy'n gofyn i'r Trefnydd wneud y datganiad yma. Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 14:26:22
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig. 

14:30

Trefnydd, dwi ddim eisiau swnio fel tôn gron, ond mi fuaswn i'n hoffi gofyn pryd ydyn ni'n mynd i gael datganiad llafar gan y Gweinidog efo cyfrifoldeb dros ddiwylliant a chwaraeon ynglŷn â sut y mae Cymru'n mynd i fod yn cael ei hyrwyddo yn sgil yr Ewros yr haf hwn. Yn amlwg, mi gawson ni hynny pan aeth y dynion i gwpan y byd, ond lle y mae'r un sylw rŵan fod y merched yn mynd i fod ar y llwyfan rhyngwladol? Mi oeddech chi'n dweud bod y Gweinidog yn awyddus i wneud hyn; dydy o'n dal ddim ar yr agenda. Felly, gawn ni wybod beth ydy'r cynlluniau, os gwelwch yn dda, oherwydd buan y daw'r haf hwn, a buan y byddwn ni wrthi'n cefnogi'r merched wrth iddyn nhw hyrwyddo Cymru i'r byd.

Diolch yn fawr am godi mater pwysig iawn i ferched, ac i bawb, dwi'n meddwl.

14:35
14:40

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ynglŷn â’r sefyllfa sydd nawr yn wynebu darlledu masnachol ar donfeydd radio yng Nghymru, oherwydd yr wythnos diwethaf fe gyhoeddodd cwmni radio Global eu bod nhw'n rhoi’r gorau i ddarlledu llawer iawn o’u hallbwn rhanbarthol, gan gynnwys yr orsaf radio Capital Cymru? Nawr, mae’r orsaf honno, wrth gwrs, yn unigryw oherwydd mae crynswth ei hallbwn hi yn ystod y dydd drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cwmni, o ganlyniad, yn mynd i gau ei stiwdio yn Wrecsam; mae yna 12 o swyddi yn cael eu colli. Ond mae’r oblygiadau, wrth gwrs, yn bellgyrhaeddol, oherwydd dyma ddiwedd ar ddarlledu masnachol cyfrwng Cymraeg yn y gogledd ac mae hynny’n mynd i fod yn ergyd nid yn unig i’r iaith Gymraeg, ond i’r sector gerddoriaeth Gymraeg hefyd.

Nawr, mae’r penderfyniad yn dod, wrth gwrs, yn dilyn cyflwyno Deddf Cyfryngau 2024 newydd gan Lywodraeth San Steffan. O dan yr hen drefn, mi oedd Ofcom yn gallu mynnu bod yna allbwn cyfrwng Cymraeg fel rhan o amodau trwyddedu rhai o'r cwmnïau masnachol yma. Ac er i bwyllgor diwylliant y Senedd alw am amddiffyn hynny o fewn y ddeddfwriaeth newydd, mi anwybyddwyd yr alwad honno. Felly, ydych chi'n cytuno â fi mai datganoli cyfrifoldebau dros ddarlledu ydy'r unig ateb yn y pen draw i amddiffyn darlledu Cymraeg a Chymreig? Ac a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth yn esbonio beth rydych chi'n bwriadu ei wneud i geisio amddiffyn y ddarpariaeth Gymraeg a Chymreig yma, sydd yn prinhau nawr ar ein gorsafoedd masnachol ni?

14:45
14:50

Diolch yn fawr, Sioned Williams. Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn. 

14:55
3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Cartrefi Clyd

Eitem 3 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ar Gartrefi Clyd. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jayne Bryant.

15:00
15:05
15:10

Diolch am y datganiad. O feddwl mai rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru ydy conglfaen yr ymdrechion i liniaru tlodi tanwydd yma yng Nghymru, mae yna ddau fater yn codi pryder yn syth i mi, ac i nifer o bobl eraill hefyd, ac y cyntaf ydy lefel y buddsoddiad yn y rhaglen yma. Dim ond tua 1,700 o gartrefi'r flwyddyn all gael cefnogaeth o fewn y cyllid presennol, ond mae yna dros 200,000 o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru, felly fe welwch chi pam dwi'n poeni am lefel y buddsoddiad. Felly, a fedrwch chi fanylu ychydig yn fwy am y gyllideb, y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond hefyd y gyllideb yn fwy hir dymor? Oes yna unrhyw arian ychwanegol ar y ffordd o San Steffan? Pa ddulliau ariannu—yn enwedig, efallai, ariannu cyfalaf a dulliau amgen—sy'n cael eu hystyried, a faint o flaenoriaeth ydy ystyried y dulliau ariannu amgen yma gan Lywodraeth Cymru?

Yr ail fater sy'n codi pryder ydy diffyg eglurder am nod polisi'r rhaglen. Beth yn union ydyn ni'n ceisio ei wneud yn fan hyn? Ydyn ni'n ceisio defnyddio'r rhaglen er mwyn cyrraedd net sero yn gyflymach, neu ydy Cartrefi Clyd yn ceisio mynd i'r afael â'r argyfwng uniongyrchol tlodi tanwydd? Neu ydy o, rywsut, yn trio gwneud y ddau beth? Mewn rhai achosion, mae'r ddau beth yn gallu mynd law yn llaw. Ond mae o hefyd yn gallu creu gwrthdaro pan ydych chi'n trio cyflawni dau nod polisi o fewn yr un rhaglen, ac yn sicr os nad oes yna eglurder ynglŷn â beth rydych chi'n ceisio ei wneud. Er enghraifft, tra bo pympiau gwres yn dechnoleg bwysig ar gyfer datgarboneiddio, dydyn nhw ddim bob amser, wrth gwrs, yn addas ar gyfer pob cartref, nac yn fforddiadwy i bob aelwyd o ran eu cynnal nhw a'u rhedeg nhw, oherwydd y costau gweithredu uwch o'u cymharu efo boeleri nwy. Rŵan, mi fedrwn ni fynd i bob math o drafodaethau ynglŷn â pha mor annheg ydy hynny, a'r system fel mae o yn dibynnu ar bris nwy, ond mae o yn golygu ar hyn o bryd fod yna bach o wrthdaro yn digwydd o ran y ddau nod polisi, a buaswn i'n hoffi clywed tipyn bach mwy am hynny gennych chi.

Mae hi'n galonogol bod y cynllun atgyweirio ac ailosod boeleri wedi cael ei adfer, ond mae’n bryderus mai dim ond hyd at fis Mawrth eleni mae’r sicrwydd yna’n bod, ac felly mi fyddwn i’n hoffi gwybod beth fydd yn digwydd o fis Ebrill yma ymlaen. Ydy’r cynllun atgyweirio yma’n mynd i gario ymlaen, ynteu ydych chi’n mynd i fynd yn ôl i beth oedd yn y cynllun gwreiddiol? Yn amlwg, mae arnom angen dull tymor hir a hyblyg sy'n ystyried anghenion penodol cartrefi ac aelwydydd.

Ac yn olaf gen i, y mater yma o fonitro, gwerthuso ac addasrwydd y rhaglen. Mae’r monitro a gwerthuso yn parhau i fod yn aneglur, gan ei gwneud hi’n anodd felly i asesu cynnydd neu nodi meysydd i’w gwella. Ond beth rydym ni yn ei wybod drwy randdeiliaid, a beth dwi’n ei wybod drwy waith achos hefyd, ydy bod yna bryderon yn codi ynghylch cymhwysedd, hygyrchedd y rhaglen Nyth, a’r diffyg dull gweithredu ar sail ardal oedd ar gael cyn hyn, oedd yn helpu i dargedu cefnogaeth yn effeithiol. Ac at hyn hefyd, mae yna broblemau efo’r cyfeiriadau, y referrals, yn golygu bod rhai aelwydydd sydd yn gymwys yn dal i lithro drwy'r rhwyd, ac felly, mi fyddai symleiddio'r rhaglen a'i gwneud yn fwy hygyrch yn gwella'r sefyllfa. Felly, pa gamau sydd ar y gweill gennych chi fel Llywodraeth i symleiddio’r rhaglen ac i sicrhau bod y cymorth yn cyrraedd pawb sydd yn gymwys i’w gael o? Diolch.

15:15
15:20
15:25
15:30
15:35
4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip: Gwneud y Gorau o Incwm a diweddariad ar waith i weithredu Siarter Budd-daliadau Cymru

Eitem 4 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a'r Trefnydd ar wneud y gorau o incwm a diweddariad ar waith i weithredu siarter budd-daliadau Cymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jane Hutt. 

15:40
Member
Jane Hutt 15:40:14
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Dirprwy Llywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle i wneud datganiad am ymrwymiad Llywodraeth Lafur Cymru i helpu aelwydydd Cymru i wneud y gorau o'u hincwm.

15:45
15:50

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

15:55

Diolch am y diweddariad ar y gwaith hanfodol yma. Mae'n flwyddyn gyfan ers i chi lansio'r siarter, fel y gwnaethoch chi sôn, a dwi'n meddwl bod y cwestiynau ynglŷn â pham rŷn ni angen y siarter wedi'u hen ateb. Rŷn ni wedi cael digon o ymchwil gan bobl fel Policy in Practice, gan y Sefydliad Bevan, a hynny ers bron i ddegawd—degawd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru, a phobl Cymru yn dioddef dan effeithiau llymder Torïaid San Steffan. 

Fe wnaethoch chi sôn, flwyddyn yn ôl, yn eich datganiad bryd hynny, ei bod hi nawr yn amser i weithredu, i gyflawni, ac fe ddywedon ni, ar y meinciau yma, 'Amen i hynny.' Ond fe wfftioch chi ein galwad ni i'r system fod yn un statudol er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflawni'n brydlon gan bob awdurdod lleol. A dyma ni flwyddyn yn ddiweddarach ac rŷn ni’n dal heb gyflawni cam 1. Roedd y cynllun gweithredu i fod yn barod cyn haf y llynedd, ac o gofio am y rhybudd rŷn ni wedi'i glywed gan arweinwyr cyngor ers i chi gyhoeddi eich cyllideb ddrafft fod yna dwll du enfawr o £0.5 biliwn yn eu cyllid, sy'n mynd i olygu bod toriadau a diswyddiadau yn bosib iawn. Felly, ŷch chi wedi cael sicrwydd y bydd capasiti ac adnoddau digonol ganddyn nhw i gyflawni cyfnod un y gwaith yma yn brydlon, heb sôn am fwrw ymlaen a sicrhau bod y cynllun yn ei gyfanrwydd yn cael ei wireddu? Mae £550,000 yn ychwanegol yn cael ei ddyrannu i gefnogi'r gwaith yma nawr gan Policy in Practice i edrych ar y rhwystrau, fel gwnaethoch chi eu disgrifio nhw. Ydy hyn yn ddigonol, o gofio, fel dywedodd Trussell mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn sgil y sefyllfa argyfyngus sydd ohoni o ran tlodi, fod angen i Lywodraeth Cymru gyflymu ei hymdrechion i roi ymrwymiadau'r siartr ar waith? Mae'n bryderus taw dim ond 11—dim ond hanner—ein hawdurdodau lleol sydd am ymuno yn y fenter newydd yma gyda Policy in Practice. Ydy hynny'n foddhaol, Ysgrifennydd Cabinet? Mae yn codi cwestiynau, dwi'n meddwl, ar allu awdurdodau lleol i ymrwymo i'r gwaith hollbwysig yma.

Hoffwn hefyd drafod mater mae Sefydliad Bevan wedi bod yn codi, sef yr angen dirfawr i adolygu'r trothwyon cymhwysedd ar gyfer budd-daliadau Cymreig. Os nad ŷch chi'n cynyddu'r trothwyon cymhwysedd yn rheolaidd, dyw e ddim yn mynd i gwrdd ag anghenion y bobl rŷch chi eisiau eu cefnogi, wrth gwrs; mae'n rhaid i chi fod yn dlotach ac yn dlotach ac yn dlotach er mwyn bod yn gymwys ar gyfer cefnogaeth, ac mae'n cosbi gweithwyr incwm isel am fynd mas ac ennill eu tamaid. Felly, gadewch i ni eich atgoffa hefyd, yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi annog Llywodraeth San Steffan dro ar ôl tro i uwchraddio trothwyon cymhwysedd budd-daliadau yn flynyddol. Felly, ydych chi'n mynd i arwain trwy esiampl? Pam nad ŷch chi wedi gwneud yr un peth gyda'ch grantiau a'ch lwfansau eich hun? Eich ateb chi ddoe i'r cwestiwn yna yn y pwyllgor oedd yn craffu ar eich cyllideb chi oedd cyfrifoldeb yr holl Weinidogion yn Llywodraeth Cymru yw hyn; wel, chi yw'r Ysgrifennydd Cabinet ddylai fod yn cynnig arweiniad, felly pa sgyrsiau sydd wedi digwydd am hyn gyda'ch cyd-Weinidogion wrth osod y gyllideb ddrafft?

Wrth ymateb i gwestiynau llefarydd y Ceidwadwyr wrth lansio'r siartr y llynedd, gwnaethoch chi feirniadu system fudd-daliadau Llywodraeth San Steffan a'r newidiadau i amodau hawlio credyd cynhwysol, a'r modd roedden nhw'n defnyddio mesurau fel sancsiynau i orfodi pobl i mewn i swyddi nad oeddent o reidrwydd yn addas iddyn nhw. Felly, ydych chi wedi bod yn cyfleu'r un anfodlonrwydd a dicter i'ch chwaer Lywodraeth Lafur, gan eu bod nhw'n parhau â'r drefn yma? Ydych chi wedi codi'r ffaith bod diwygiadau creulon y Torïaid i'r asesiadau gallu i weithio ar gyfer pobl anabl yn cael eu cadw nawr gan Lywodraeth Keir Starmer, yr hyn sydd wrth gwrs wedi anelu at leihau nifer y bobl sy'n gymwys ar gyfer cymorth budd-daliadau?

Felly, modd o gyflawni nod, onid yw e, yw'r system fudd-daliadau. Y nod yw sicrhau bod teuluoedd sydd ar incwm isel yn derbyn cefnogaeth yn amserol, yn urddasol, yn drugarog. Mae'n fesur i atal effeithiau niweidiol a hirdymor tlodi, niwed sy'n effeithio gymaint yn nhermau dynol a hefyd yn ariannol. Mae'n achubiaeth, nid yn addewid wedi'i ohirio neu gynllun sy'n hel lluwch. Felly, beth yw dyddiad targed Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu system budd-daliadau Cymru llawn ar gyfer pob grant a lwfans sydd ar gael drwy awdurdodau lleol a'r Llywodraeth? Mae tlodi yn dileu breuddwydion. Mae angen i ni wneud popeth yn ein gallu i atal hynny.

16:00
16:10
16:15
16:20
5. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cofrestru Etholiadol heb Geisiadau) (Cynllun Peilot) (Cymru) 2025

Eitem 5 fydd nesaf, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cofrestru Etholiadol heb Geisiadau) (Cynllun Peilot) (Cymru) 2025 yw hyn, a dwi’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig, sef Jayne Bryant.

Cynnig NDM8782 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cofrestru Etholiadol heb Geisiadau) (Cynllun Peilot) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

16:25
16:30
16:35
16:40

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly gwnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Bydd y cynigion nesaf ar eitemau 6 a 7. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig o dan eitemau 6 a 7 ar yr egwyddorion cyffredinol a phenderfyniad ariannol Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yn cael eu grwpio i'w trafod, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Os nad oes yna wrthwynebiad i hynny, fe wnaiff hynny ddigwydd. 

6. & 7. Egwyddorion Cyffredinol Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) a'r penderfyniad ariannol ynghylch Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)

Gwnawn ni symud ymlaen i alw'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i gynnig y cynigion yma—Mark Drakeford.

Cynnig NDM8780 Mark Drakeford

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru).

Cynnig NDM8781 Mark Drakeford

Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n symud y cynigion ar y papur trefn. Dyma'r ail ddadl yn y Cyfarfod Llawn yn ystod Cyfnod 1 o drafodion y Senedd ar Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru). Mae'r ddadl heddiw yn digwydd yn dilyn gwaith craffu tri o bwyllgorau'r Senedd a'r dystiolaeth a gyflwynwyd gan lawer o unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb yn y Bil. Rwy'n ddiolchgar iawn i Gadeiryddion ac aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid am yr adroddiadau sydd bellach ar gael i'r Aelodau. Mae'r adroddiadau hynny'n arbennig o ddefnyddiol i Aelodau wrth i ni wneud y penderfyniad yn y Senedd heddiw. Ar ddiwedd Cyfnod 1, gofynnir i chi gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil a chaniatáu iddo symud ymlaen i Gyfnod 2.

Yn ei hanfod, mae'r Bil yn bodoli i gefnogi uchelgais y Senedd hon ar gyfer y Gymraeg. Mae'n newid y ffordd y mae'r Gymraeg yn cael ei chynllunio a'i darparu yn y system addysg fel bod pob disgybl yn dod yn ddefnyddwyr Cymraeg annibynnol a hyderus erbyn iddynt gyrraedd diwedd eu haddysg orfodol. Cafodd y Bil ei ddatblygu yn ystod cyfnod y cytundeb cydweithio. Mae sylwedd y Bil yn parhau i ddod o'r gwaith a wnaed ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ac rwy'n parhau i fod yn ddiolchgar am gyfraniad yr Aelodau dynodedig yn y gwaith o lunio'r Bil.

Llywydd, argymhelliad cyntaf adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yw bod y Senedd yn derbyn egwyddorion cyffredinol Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru). Rwy'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor, ac i Gadeirydd y pwyllgor, Buffy Williams, am roi'r argymhelliad yna ar ddechrau eu hadroddiad nhw.

Nawr, Lywydd, mae hi bron yn 12 mlynedd ers i mi, fel yr Aelod cyfrifol, helpu i  fynd â deddfwriaeth drwy'r Senedd am y tro cyntaf, mewn proses yr oeddem ni i gyd yn dal i ddod yn gyfarwydd â hi. Yn ystod yr holl amser yma—mwy na degawd nawr—dwi ddim yn credu bod unrhyw Fil heb gael ei wella gan y broses graffu, a dydy’r Bil hwn ddim yn eithriad.

Er fy mod yn ddiolchgar iawn i’r pwyllgorau am eu cymeradwyaeth eang yn ystod Cyfnod 1, ac yn gobeithio’n fawr y bydd y Senedd yn dilyn y cyngor hynny y prynhawn yma, rwyf am ddefnyddio gweddill y cyfraniad hwn i edrych ymlaen, drwy nodi beth mae’r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud mewn ymateb i argymhellion yn adroddiadau’r pwyllgorau am bethau i’w gwella.

Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at Gadeirydd pob pwyllgor yn ymateb i bob argymhelliad. Byddaf nawr yn tynnu sylw at chwech o’r materion mwyaf sylweddol. Lywydd, os yw’r Bil am lwyddo, rhaid sicrhau bod capasiti yn y system addysg i’w weithredu. Roedd hon yn thema a godwyd yn rheolaidd yn ystod Cyfnod 1—yr angen am weithlu sydd â’r gallu i gyflawni’r camau newydd a nodir yn y Bil.

16:45

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Ddoe, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, gyhoeddi datganiad am y gwaith sydd wedi dechrau i lunio cynllun gweithlu addysg i Gymru. Bydd y cynllun hwnnw’n cynnwys addysgu’r Gymraeg ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond fel mae adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ei argymell, mae’r cynllun gweithlu hwn yn mynd y tu hwnt i’r Bil yn unig ac yn cwmpasu datblygiad y gweithlu addysg yn fwy cyffredinol. At ddibenion penodol y Bil yma, rwy’n bwriadu cyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 i osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i nodi, yn y fframwaith cenedlaethol, y camau sydd i’w cymryd i sicrhau bod gweithlu digonol yn cael ei ddatblygu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Nawr, ochr yn ochr â mater y gweithlu, mae’r mater o ran llwyth gwaith. Bydd asesiad o’r effaith ar lwyth gwaith wedi’i ddiweddaru yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd trafodion Cyfnod 2, a hwnnw wedi’i lywio gan y dystiolaeth a glywyd gan y pwyllgorau a thrafodaethau pellach gydag undebau athrawon ac eraill.

Ddirprwy Lywydd, roedd y term 'addysg Gymraeg' yn destun pryder i rai ymatebwyr. Bydd y Llywodraeth yn creu fersiwn bellach o’r memorandwm esboniadol, wrth i’r Bil fynd yn ei flaen drwy’r Senedd, er mwyn rhoi mwy o eglurder ar y mater yma. Am heddiw, gallaf gadarnhau bod pwrpas y Bil yn cynnwys addysgu’r Gymraeg fel pwnc a darparu addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg. I roi sicrwydd pellach, fel mae rhai ymatebwyr wedi gofyn amdano, bydd gwelliannau yn cael eu cyflwyno yng Nghyfnod 2 i gadarnhau’r pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i’w roi i gynyddu cyfran y disgyblion sy’n derbyn eu haddysg mewn ysgolion prif iaith Cymraeg.

Ddirprwy Lywydd, gofynnodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg hefyd inni ystyried faint o addysg Gymraeg fyddai i’w darparu ymhob categori iaith ysgol a sefydlir yn y Bil. Bydd hynny'n fater i reoliadau ei gadarnhau ac ar gyfer y broses ymgynghori y bydd ei hangen ar gyfer y rheoliadau hynny. Fodd bynnag, rwyf wedi fy mherswadio gan gasgliadau'r pwyllgor y byddai'n ddefnyddiol darparu mwy o fanylion am yr ystod debygol o ddarpariaeth iaith yr ydym yn rhagweld y byddwn yn ymgynghori arno, a byddwn yn ychwanegu'r wybodaeth yma wrth ddiweddaru'r memorandwm esboniadol a'r datganiad o fwriad polisi.

Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, byddwn hefyd yn cyflwyno gwelliannau i sicrhau bod y fframwaith cenedlaethol yn cynnwys addysg drydyddol. Bydd y memorandwm esboniadol, fel roedd y pwyllgor yn awgrymu, yn egluro'r berthynas rhwng yr athrofa a'r sector addysg drydyddol, gan gynnwys Medr a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n ymwybodol iawn o'r materion pwysig nad ydw i wedi cael y cyfle i'w trafod y prynhawn yma, gan gynnwys agweddau ar y Bil ei hun, y gwelliannau pellach y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu cyflwyno mewn ymateb i argymhellion y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Mae hyn i gyd i'w weld yn yr ymatebion a roddwyd i'r adroddiadau hynny, ac os aiff y Bil yn ei flaen heddiw, bydd yn destun dadl bellach gan y Senedd yng Nghyfnodau 2 a 3. Er mwyn i hynny ddigwydd, bydd y Bil angen cefnogaeth yr Aelodau i symud ymlaen, ac yn ysbryd adeiladol adroddiadau Cyfnod 1, rwy'n gobeithio y gallwn ni wneud hynny. Edrychaf ymlaen at gydweithio pellach â phob plaid yn ystod Cyfnod 2 a 3 hefyd. 

16:50

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Buffy Williams

16:55

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.

17:00

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a dwi’n croesawu’r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl yma heddiw. Yn ein hadroddiad, daethom ni i ddau gasgliad a gwnaethom ni chwe argymhelliad. Dwi’n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi derbyn pump o’n hargymhellion ond yn siomedig ei fod wedi gwrthod un argymhelliad, a byddaf yn sôn am yr argymhelliad hwnnw yn ddiweddarach yn fy nghyfraniad.

Rydym yn croesawu ac yn cefnogi diben cyffredinol y Bil, sef cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050. Fodd bynnag, rydym wedi nodi rhai materion penodol i’r Ysgrifennydd Cabinet eu hystyried, gyda'r nod o wella'r wybodaeth ariannol a gyhoeddir ochr yn ochr â'r Bil hwn. Dŷn ni'n fodlon ar y cyfan â goblygiadau ariannol y Bil, ac rydym yn cytuno â'r dull o ddarparu'r amcangyfrifon cost fel ffigur manwl gywir yn hytrach nag fel ystod o ffigurau, o ystyried yr amrywiaeth eang o gostau sy’n deillio o’r Bil. Mae hwn yn ddull cadarnhaol, ac yn ddull y mae'r pwyllgor yn ei gefnogi.

Fodd bynnag, mae’n siomedig nad yw Llywodraeth Cymru ar yr achlysur yma wedi dilyn ei chanllawiau arfer gorau ei hun, drwy gynnwys dadansoddiad cost a budd ar gyfer yr holl opsiynau a amlinellir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, yr RIA. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd cynnal gwaith craffu llawn a chadarn ynghylch goblygiadau ariannol Biliau. Rydym felly’n argymell y dylid cynnwys gwaith dadansoddi ar gyfer yr holl opsiynau sy’n cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru mewn RIA, a hynny fel mater o drefn. Felly, rydym yn gresynu’r ffaith bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi gwrthod yr argymhelliad hwn, yn enwedig gan fod y pwyllgor ddim ond yn atgoffa’r Llywodraeth i ddilyn ei harfer gorau ei hun yn yr achos yma.

Rydym hefyd yn pryderu na chynhaliwyd unrhyw ymarfer modelu fel rhan o’r gweithgarwch ynghylch datblygu’r gweithlu ysgolion, ac rydym o’r farn bod angen rhagor o wybodaeth cyn y gall Llywodraeth Cymru ddarparu amcangyfrifon cost mwy cywir. Gwnaethom ofyn am gadarnhad ynghylch pryd y bydd y data hyn ar gael, ac rwy’n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cadarnhau y bydd y ffigurau yn cael eu cynnwys yn y fframwaith cenedlaethol cyntaf.

Rydym yn nodi bod y Bil yn cynnwys darpariaethau ar gyfer cyflwyno rheoliadau a fyddai’n ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol ddrafft. Fodd bynnag, nid yw’r costau sy’n deillio o reoliadau o’r fath wedi’u cynnwys yn yr RIA ar gyfer y Bil. Er ein bod yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi asesiad effaith ar gyfer unrhyw reoliadau o’r fath, rydym yn pryderu mai prin yw’r amser sydd ar gael i graffu ar y costau sy’n deillio o reoliadau o’r fath. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol nad dyma’r tro cyntaf i ni godi pryderon am y diffyg amcangyfrifon costau sy’n gysylltiedig â darpariaethau ym Miliau’r Senedd sy’n cael eu harfer gan bwerau dirprwyedig. Felly, rydym yn argymell y dylai RIAs gynnwys yr amcangyfrif gorau o’r costau a’r buddion sy’n gysylltiedig ag is-ddeddfwriaeth ochr yn ochr â’r ddeddfwriaeth sylfaenol berthnasol.

Dwi'n croesawu’r ffaith bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi ymrwymo i’r cam o gynhyrchu RIA ar gyfer pob set o reoliadau, gan y bydd hyn yn hanfodol o ran caniatáu inni ddeall effaith ariannol y Bil yn ei gyfanrwydd. Rydym yn cefnogi’r ddarpariaeth yn y Bil sy’n caniatáu ar gyfer cydweithio ar draws ysgolion wrth ddatblygu eu cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n ddoeth, a gallai arwain at rai arbedion cost.

Ond, yn ogystal, mae’r Bil hefyd yn creu corff statudol newydd, sef yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Nodwn fod yr RIA yn rhagdybio y daw’r athrofa yn weithredol pan ddaw'r cytundeb ariannu presennol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ben. Fodd bynnag, mae gwahaniaeth yn y costau a amcangyfrifir ar gyfer yr athrofa o'u cymharu â'r costau ar gyfer y ganolfan ar gyfer yr un cyfnod, os na chytunir ar y Bil hwn. Rydym wedi gofyn i'r Llywodraeth ddarparu RIA wedi'i ddiweddaru yng Nghyfnod 2 er mwyn darparu dadansoddiad llawn o'r costau sy'n gysylltiedig â'r athrofa a sut y maent yn cymharu â chostau’r ganolfan. Rwy'n croesawu’r ffaith bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cytuno i wneud hyn.

Mae ein hargymhelliad nesaf eto yn ymwneud â’r angen i gynnwys mwy o waith modelu o fewn yr RIA, y tro hwn mewn perthynas â chyrsiau trochi iaith. Rydym yn cydnabod bod trochi yn ddull cymharol newydd, a bod nifer y bobl sy'n dilyn cyrsiau trochi wedi cynyddu'n sylweddol. Gall y ffactorau hyn ei gwneud yn anodd i Lywodraeth Cymru ddarparu amcangyfrifon o'r gost. Fodd bynnag, rydym o’r farn y gallai’r RIA fod wedi cynnwys rhywfaint o waith modelu ar gyfer y maes hwn er mwyn darparu amcangyfrifon o’r costau dan sylw, yn seiliedig ar senarios twf gwahanol. Felly, rydym yn argymell bod yr RIA yn cael ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2 i ddarparu amcangyfrifon cost sy’n gysylltiedig â’r cynnydd mewn galw am gyrsiau trochi iaith. Unwaith eto, rwy’n croesawu’r ffaith bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn mynd i ddarparu’r ffigurau hyn mewn RIA diwygiedig.

Dirprwy Lywydd, mae ein hargymhelliad olaf—a dwi'n dod i ben â hyn—yn ymwneud â'r adolygiad ôl-weithredu. Rwyf wedi siarad droeon yn y Siambr yma am bwysigrwydd adolygiadau o’r fath o ran sicrhau bod amcanion deddfwriaethol yn cael eu bodloni yn unol â’r disgwyliadau, a bod gwerth am arian yn cael ei sicrhau. Felly, rydym yn croesawu’r cam o gynnwys adolygiad ôl-weithredu ac asesiad fforddiadwyedd yn y Bil ac yn croesawu hefyd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i asesu costau cyffredinol y newid yn ystod y cyfnod adolygu. Yn benodol, rydym yn argymell bod yr adolygiad hwn yn asesu costau a buddion cyffredinol y drefn gydsynio newydd ac os yw'n bodloni’r disgwyliadau a nodir yn yr RIA. Rydym yn croesawu’r ffaith bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi ymrwymo i wneud hyn, ac rydym yn edrych ymlaen at weld canlyniadau’r adolygiad, unwaith y bydd y Bil wedi’i roi ar waith. Diolch yn fawr.

17:05

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am drafod hyn gyda mi yn gynharach heddiw—dwi'n gwerthfawrogi hynny yn fawr iawn. Rwyf fi a fy mhlaid yn croesawu'r uchelgais i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Fel siaradwr Cymraeg, rwy'n angerddol am weld mwy o bobl yn defnyddio'r iaith yn eu bywydau bob dydd.

Er ein bod yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, mae deddfwriaeth effeithiol yn gofyn am graffu manwl i sicrhau ei bod yn cyflawni ei nodau. Rwy'n gwerthfawrogi gwaith y tri phwyllgor wrth lunio eu hadroddiadau, ac rwy'n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i fynd i'r afael â'u hargymhellion. Fodd bynnag, mae heriau allweddol yn parhau, yn enwedig o ran capasiti'r gweithlu. Tynnodd Ysgrifennydd y Cabinet sylw priodol at yr angen am weithlu sy'n gallu cyflawni'r newidiadau yn y Bil hwn. Mae'r datganiad diweddar gan y Gweinidog addysg ar ddatblygu cynllun gweithlu addysg yn gam ymlaen, ond dylai'r cynllun hwn fod wedi cael ei ddatblygu ochr yn ochr â'r Bil, o ystyried pa mor agos mae'r ddau yn gysylltiedig. Hefyd, doedd yna ddim sôn am yr iaith Gymraeg yn y datganiad a ddaeth mas ddoe. 

Rwy'n croesawu'r gwelliant Cyfnod 2 arfaethedig i osod dyletswydd ar Weinidogion i amlinellu camau ar gyfer datblygu gweithlu digonol i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn hanfodol, gan fod materion recriwtio a chadw cyfredol, yn enwedig mewn ardaloedd Saesneg eu hiaith, yn bygwth llwyddiant y Bil. Rwyf hefyd yn nodi bwriad y Llywodraeth i egluro'r term 'addysg Gymraeg', a rhoi mwy o fanylion am ddarpariaeth iaith yng nghategorïau ysgolion. Mae'r eglurder hwn yn holl bwysig, gan fod Estyn ac eraill wedi rhybuddio bod termau fel 'Prif Iaith Saesneg, rhannol Gymraeg' yn peryglu cymysgu rhieni a thanseilio ymdrechion i ehangu addysg Gymraeg. Mae'n galonogol clywed y bydd rhagor o ddeunyddiau esboniadol yn cael eu cynhyrchu ac y bydd gwelliannau'n mynd i'r afael â phryderon am gynyddu carfan y disgyblion mewn ysgolion prif iaith Cymraeg.

Mae cludiant i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn parhau i fod yn rhwystr sylweddol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig a difreintiedig. Mae llwyddiant y Bil yn dibynnu ar fynd i'r afael â'r heriau logistaidd hyn, ac eto nid yw'r mater hwn wedi cael sylw digonol hyd yn hyn. Mae teithio gan ddysgwyr yn hanfodol er mwyn ehangu mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg, ac rwy'n annog y Llywodraeth i sicrhau bod hyn yn cael ei flaenoriaethu yn y rheoliadau a'r fframwaith polisi cysylltiedig.

Yn olaf, ni ellir anwybyddu goblygiadau ariannol. Mae'n annhebygol y bydd y grant Cymraeg mewn addysg bresennol o £6.7 miliwn yn ddigon i gyflawni nodau uchelgeisiol y Bil. Mae ysgolion ac awdurdodau lleol eisoes wedi'u hymestyn, fel yr amlygwyd gan bennaeth Ysgol yr Olchfa yn Abertawe, a rhybuddiodd y bydd rhywbeth arall ar ei golled. Tybed a all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu beth fydd hwn.

I gloi, rwy'n cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil ac yn croesawu'r ymrwymiad cyffredinol i gryfhau ein treftadaeth ieithol. Fodd bynnag, byddaf yn cyflwyno fy ngwelliannau fy hun i fynd i'r afael â rhai o'r prif bryderon, fel y'u gwelaf. Rwy'n falch bod y Gymraeg yn parhau i fod yn bwnc sy'n ein huno o fewn y Senedd hon, ac edrychaf ymlaen at gydweithio pellach i sicrhau canlyniadau ystyrlon, ymarferol a chynhwysol ar gyfer addysg a'r Gymraeg. Diolch, Dirprwy Lywydd.

17:10

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am gyflwyno cyfnod cyntaf Bil y Gymraeg ac Addysg. Chwarter canrif wedi agor y Senedd hon, mae'n hynod o siomedig bod y mwyafrif o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn parhau i gael eu hamddifadu trwy ein system addysg o'r cyfle i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg. Dyna pam mae hi'n holl bwysig ein bod ni'n deddfu yn y maes hwn.

Nawr, fel dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet, cyflwynwyd y Bil yma yn wreiddiol yn dilyn cyhoeddiad Papur Gwyn y llynedd fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru. Ac ar gyfer y record, hoffwn i nodi, wrth gwrs, roeddwn i'n rhan o'r trafodaethau yna fel Aelod dynodedig.

Ond, wrth gwrs, fe gyflwynwyd y Bil fel y mae e ar ôl i'r cytundeb ddod i ben, a rhaid dweud, dyw uchelgais y Bil ar ei ffurf bresennol ddim yn cyrraedd yr hyn y byddwn i eisiau iddo fe fod, ac mewn rhai adrannau rwy'n ofni bod y Llywodraeth wedi rhwyfo nôl ar rai elfennau o'r Papur Gwyn gwreiddiol.

Fel rŷn ni wedi clywed yn barod, mae'r pwyllgor plant a phobl ifanc wedi derbyn tystiolaeth gan ystod eang o randdeiliaid yn ystod y sesiynau llafar, a phob un ohonyn nhw wedi croesawu prif egwyddorion y Bil ac yn cefnogi'r prif amcanion polisi o gael o leiaf miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a datblygu system addysg sydd yn sicrhau bod pob disgybl yn dod yn siaradwr Cymraeg hyderus erbyn diwedd eu cyfnod mewn addysg statudol.

Mewn perthynas â'r rhai sydd wedi cwestiynu a yw'r Bil a'i darpariaethau yn flaenoriaeth yn wyneb heriau addysgol eraill, dwi'n sicr fy marn bod yn rhaid gweithredu nawr er mwyn gwyrdroi'r hyn rŷn wedi ei weld dros y degawdau diwethaf, sef cwymp yn nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, ac mae hynny'n fater o bryder mawr i ni i gyd.

Heblaw am drosglwyddiad iaith yn y cartref, y system addysg yw'r dull mwyaf effeithiol o dyfu a datblygu sgiliau iaith ac i annog cynnydd mewn defnydd o'r Gymraeg yn y gymuned. Felly, does dim amheuaeth ynghylch a ddylai’r Bil a’i ddarpariaethau fod yn flaenoriaeth i ni yn y Senedd.

Ond dwi am daro nodyn cwbl ddifrifol. Rŷn ni wedi gweld ymrwymiadau gan y Llywodraeth ar hyd y blynyddoedd, mewn strategaethau amrywiol i dyfu addysg cyfrwng Cymraeg, sydd wedi methu yn llwyr. Allwn ni ddim cario ymlaen gyda’r drefn o gyhoeddi cynlluniau sydd yn ffaelu â chyflawni’r nod sylfaenol o alluogi pob plentyn i ddod yn ddefnyddiwr Cymraeg hyderus drwy’r system addysg. Ers dros 20 mlynedd, mae targedau cenedlaethol anstatudol gan y Llywodraeth i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg wedi eu methu. Mae hyn yn cwmpasu targedau 'Iaith Pawb' yn 2003, dros 20 mlynedd yn ôl, y strategaeth addysg Cymraeg genedlaethol yn 2010, a thargedau 'Cymraeg 2050' a gyhoeddwyd yn 2017.

A ble mae hynny wedi ein gadael ni? Wel, os edrychwn ni ar y sefyllfa dros y ddegawd diwethaf yn unig, yn 2014, roedd 21.9 y cant o ddisgyblion ysgolion cynradd yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Erbyn 2024, 10 mlynedd yn ddiweddarach, y ganran gyfatebol oedd 22.5 y cant—cynnydd bychan iawn o ddim ond 0.6 y cant dros 10 mlynedd. Dros yr un cyfnod, ar gyfer disgyblion mewn ysgolion uwchradd, mae’r ganran o’r rhai oedd yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg wedi gostwng, o 14.2 y cant i 13.5 y cant. Mae’n gwbl amlwg felly fod angen trawsnewid y system bresennol er mwyn sicrhau twf sylweddol mewn addysg cyfrwng Cymraeg, a newid sylfaenol yn y ffordd mae’r Gymraeg yn cael ei haddysgu yn ein hysgolion Saesneg ni.

Ac yn ganolog i hynny, wrth gwrs, mae’r gweithlu. Roedd hi’n siomedig darllen ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet dros y Gymraeg i argymhelliad y pwyllgor ar gynnwys ymrwymiad i ddatblygu gweithlu dwyieithog fel rhan o’r Bil. Wedyn cafwyd, fel rŷn ni wedi clywed yn barod, datganiad ysgrifenedig gan yr Ysgrifennydd addysg ddoe wnaeth anwybyddu’r mater yma yn llwyr. Doedd dim cyfeiriad at y Gymraeg neu ddatblygu gweithlu dwyieithog yn y datganiad yna o gwbl. Ond dwi'n falch o gael esboniad y prynhawn yma gan yr Ysgrifennydd fod yna ymrwymiad yn mynd i fod i hynny. Mae rhywun yn colli hyder o weld datganiadau fel hyn.

Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, yn fy marn i, mae’n rhaid cryfhau nifer o agweddau’r Bil, ond, serch hynny, mae'r egwyddorion cyffredinol i’w croesawu fel man cychwyn, a bydd Plaid Cymru yn pleidleisio o blaid yr egwyddorion hynny y prynhawn yma. Ond, i fod yn glir, mi fyddwn ni'n defnyddio’r wythnosau a’r misoedd nesaf i gynnig gwelliannau er mwyn sicrhau bod gan bob plentyn yng Nghymru gyfle i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus.

17:15

Efallai dwi'n mynd i ddefnyddio tôn braidd yn wahanol i Cefin Campbell achos dwi'n optimist. Mi oeddwn i pan oeddwn i'n Weinidog yn sefyll fan hyn yn cyflwyno’r targed o filiwn o siaradwyr, a dwi'n optimist heddiw fod hynny yn bosibl. Ond mae'n her.

Mae'n her i bob un ohonom ni, ac mae'n her i'r Llywodraeth, ond mae'n her i ni fel gwlad hefyd. Mae'n her i ni fel cenedl, achos dydy’r filiwn o bobl sy'n mynd i siarad a defnyddio’r Gymraeg ddim yn filiwn o bobl sy'n ymddangos mewn araith gan y Gweinidog neu’r wrthblaid; mae'n filiwn o bobl sy'n byw yng Nghymru, yn filiwn o bobl sy'n dewis defnyddio a siarad y Gymraeg. A dwi'n meddwl bod hynny yn bwysig, achos pa bynnag ddeddfwriaeth dŷn ni'n ei mabwysiadu fan hyn, dŷn ni ddim yn gallu deddfu i orfodi rhywun i siarad unrhyw iaith. Dŷn ni ddim yn gallu fy ngorfodi i siarad Cymraeg gyda fy mab pan fydd Cardiff City yn colli unwaith eto. Dŷn ni ddim yn gallu deddfu i fynnu fy mod i'n defnyddio’r Gymraeg pan dwi'n trio perswadio’r crwt i wneud ei waith cartref. Mae'n rhaid i ni berswadio. Ac mae'n rhaid i ni hefyd ddangos y posibilrwydd a'r cyfleodd sy'n dod o ddefnyddio a siarad Cymraeg.

Roeddwn i wedi croesawu'r cyfle i ymuno â'r pwyllgor, a dwi'n gwerthfawrogi'r gwaith mae'r Cadeirydd wedi ei wneud yn arwain y gwaith o sgrwtineiddio'r ddeddfwriaeth yma. A hefyd, pan rych chi'n sgrwtineiddio deddfwriaeth-dydyn ni ddim yn gwneud digon ohono fe fan hyn, ambell waith-rydych chi'n gwerthfawrogi Stage 1, cyfnod cyntaf y broses deddfu, achos dyna lle mae'r cyhoedd yn siarad, ble mae pobl Cymru yn cael eu cyfle i fynegi barn ar y ddeddfwriaeth rŷn ni'n ei phasio yn fan hyn. Dydy e ddim yn digwydd lan y ffordd yn San Steffan, a dwi'n credu bod y stage cyntaf o'n proses ddeddfu ni yn hynod o bwysig, ac ambell waith rydyn ni'n anghofio hynny.

Ond mi ddysgais i lot fawr drwy eistedd ar y pwyllgor yma. Mi ddysgais i amboutu y pwysau eto sydd ar athrawon ac yn y system addysg. Gwnaeth fy nysgu i am bwysigrwydd dod â phobl gyda ni, siarad gydag ein cyd-Gymry amboutu'r amcanion yma, a sut rydyn ni wedi hynny yn gallu cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr, trwy berswâd, trwy ddangos y posibiliadau, bod y Gymraeg yn rhywbeth sy'n bia i bob un ohonom ni ac yn rhywbeth i'w groesawu ym mhob un o'n cymunedau.

Dwi'n falch iawn ar hyn o bryd o weld ysgol Gymraeg—y cyntaf—yn cael ei hadeiladu yn Nhredegar. Pan oeddwn i yn yr ysgol, wrth gwrs, doedd dim Cymraeg yn yr ysgol o gwbl. Pan oedd dad yn yr ysgol, doedd dim Cymraeg yn yr ysgol. Pan oedd mam-gu yn yr ysgol, roedden nhw'n cael eu gorfodi i beidio â siarad Cymraeg. So, mewn canrif, rydyn ni wedi gwrthdroi y sefyllfa yn Nhredegar. Dyna beth dwi eisiau ei wneud ar draws ein gwlad. Ac fe ddysgon ni lot yn ystod y cyfnod yma o sgrwtineiddio'r ddeddfwriaeth. Leiciwn i ofyn i'r Gweinidog i ystyried ambell ran o'r ddeddfwriaeth, i feddwl, 'Ydyn ni'n gallu gwella'r Bil yn fwy na mae hi ar hyn o bryd?' A dwi yn meddwl bod y Bil yn wellhad pwysig i'r system bresennol. Mae'n rhaid dweud hynny.

I fod yn hollol onest â chi, a doeddwn i ddim eisiau dweud hyn ar y pryd, ond pan oeddwn i'n Weinidog y Gymraeg, ac erbyn hyn, dwi'n dal ddim yn siŵr fy mod i'n deall yr holl gategorïau o ysgolion sydd gyda ni, sy'n categoreiddio sut ydyn ni'n defnyddio'r Gymraeg ym mhob un ysgol. Dwi'n credu, ambell waith, rŷn ni'n cymhlethu pethau gormod, a buaswn i'n leicio gofyn i'r Gweinidog i edrych eto ar rai o'r categorïau sydd gyda ni, a beth mae hynny yn ei feddwl i blant, i athrawon ac i'r cymunedau.

Dydy e ddim yn bwynt pwysig yn y llun mawr, ond mae'n bwysig ein bod ni'n gallu gwahaniaethu rhwng addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac addysg Gymraeg. Rwy'n credu bod addysg drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod yn llwyddiannus iawn, a thwf yn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod yn bwysig iawn, ac mae pobl yn deall hynny, ac mae pobl yn deall beth mae e'n ei feddwl. Felly, dwi ddim yn credu fy mod i eisiau ein gweld ni'n symud i ffwrdd o hynny. Dwi hefyd eisiau deall, Gweinidog, sut mae'r continwwm addysg Gymraeg rŷn ni wedi bod yn sôn amdano fe yn y blynyddoedd diwethaf yn ffitio i mewn i'r gyfundrefn newydd yma. Beth mae hynny yn ei feddwl yn y byd newydd rŷn ni'n ei fabwysiadu yn fan hyn?

Ac fe wnaf i bennu gyda dau bwynt cloi. Pan oedden ni'n gosod y targed, roedden ni'n defnyddio'r sensws i fesur faint ohonom ni sy'n siarad ac yn medru'r Gymraeg, ac roeddwn i'n meddwl bod hynny yn bwysig. Mae'r Llywodraeth nawr yn cyflwyno'r CEFR newydd. Doeddwn i ddim yn deall hyn cyn inni ddechrau gwaith ar y Bil. Dwi'n croesawu hynny. Ond leiciwn i ddeall sut ydy hynny yn mynd i arwain polisi Llywodraeth. A'r peth olaf dwi eisiau ei wneud yw dychwelyd at y pwynt o hyrwyddo'r Gymraeg. Sut ydyn ni'n gallu hyrwyddo'r Gymraeg a sut ydy'r Llywodraeth yn gallu sicrhau bod pobl yn cael y cyfle, lle bynnag maen nhw'n byw yn y wlad, i fwynhau y Gymraeg? Ambell waith, dwi'n becso amboutu tôn y drafodaeth—

17:20

—a dwi yn meddwl, pan oeddwn i'n mynd ati i ddysgu Cymraeg, es i ati i ddysgu Cymraeg drwy fwynhau fy hun fel myfyriwr yn y coleg yn Aber. Sut ydyn ni nawr yn perswadio plant, pobl yn eu harddegau, pobl ifanc, i ddefnyddio'r Gymraeg pan ŷn ni i gyd yn gwybod mai'r dewis amlwg i bob un ohonom ni yw siarad Saesneg? So, mae'n rhaid meddwl amboutu sut rŷn ni'n gallu hyrwyddo'r Gymraeg a sicrhau bod pobl yn defnyddio'r Gymraeg heb gael eu gorfodi i wneud.

17:25

Dwi innau'n optimist hefyd, Alun Davies, ond dwi ddim yn meddwl ein bod ni'n dod o gyfeiriadau gwahanol o ran hyn, oherwydd nid mater o orfodaeth ydy o, mae o ynglŷn â rhoi'r cyfle i bawb. A dydy'r cyfle yna ddim yn bodoli ar y funud. Rydyn ni'n sôn am ddewis, bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, ac ati—maen nhw'n bethau sy'n cael eu dweud drwy'r adeg rŵan—ond dydy'r Gymraeg ddim yn perthyn i bawb ar y funud, oherwydd pan dwi'n mynd i ysgolion yn fy rhanbarth i, mae'n stori wahanol iawn o ysgol i ysgol. Dwi wrth fy modd, fel mae nifer ohonoch chi, dwi'n siŵr, yn cyfarfod â phobl ifanc a chlywed eu barn nhw, ac mae nifer sy'n 16 neu'n 17 oed rŵan yn flin eu bod nhw wedi cyrraedd yr oed y maen nhw, bod y Senedd hon wedi bodoli ers iddyn nhw gael eu geni a'u bod nhw ddim gyda'r iaith. Maen nhw'n teimlo, 'Dwi'n methu siarad Cymraeg.' Ac efallai eu bod nhw eisiau rŵan, wrth iddyn nhw fod yn 16 neu'n 17 oed, yn mynd ati efo Duolingo, ac ati. Ond maen nhw yn y system addysg rŵan. Mi ddylen nhw allu'r Gymraeg erbyn hyn. Felly mae yna ddatrysiadau yn cael eu cynnig yn y Bil hwn.

Dwi'n cytuno, wrth gwrs, efo Cefin Campbell, dydy o ddim yn mynd yn ddigon pell eto ac mae yna waith fydd angen ei wneud i gryfhau hynny, ond dydy'r dewis ddim yna ar hyn o bryd, ac mae'n rhaid inni fod yn onest am hynny. A'r cyfleoedd i fwynhau yn y Gymraeg, yr holl bethau roedd Alun Davies yn sôn amdanyn nhw, dydy'r rheini ddim ar gael i bawb ar y funud. Felly, sut ydyn ni'n sicrhau hynny? Oherwydd pan fyddwch chi'n cael y cyfle hwnnw, mae plant a phobl ifanc yn ffynnu. [Torri ar draws.] Ie, hapus i gymryd ymyriad.

Gwych. Wel, does yna ddim ffordd well o ddisgrifio hynny. A dyna un o'r pethau sydd efallai'n mynd ar goll wrth inni drafod y Bil hwn, nad dim ond am addysg y mae o. A dwi yn gresynu, efallai, drwy'r broses craffu, ein bod ni ddim wir wedi cael y cyfle i edrych ar yr elfennau eraill sydd ynglŷn â defnydd. A dwi'n edrych ymlaen, wrth i'r Bil fynd rhagddo, at sut y byddwn ni'n gallu canolbwyntio ar hynny, oherwydd mae hwn yn Fil gydol oes. Mae o ynglŷn â'r Gymraeg yn fyw ac yn berthnasol i'ch bywyd chi, beth bynnag fo'ch oed chi.

A dyna pam dwi innau hefyd yn croesawu sefydlu dull safonol i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg, oherwydd mae hwnnw'n rhywbeth sydd i'w weld yn wendid, onid ydy, o ran y cyfrifiad ac ati, bod pobl yn teimlo, 'Dwi ddim yn hyderus i ddisgrifio fy hun fel hyn.' Mae cael rhyw fath o fframwaith, gobeithio, yn mynd i helpu pobl. Dwi ddim yn gwybod faint o weithiau rydych chi wedi cael y profiad, efallai, o gael rhywun yn trio am swydd sy'n dweud bod dim Cymraeg ganddyn nhw. Wel, dwi'n gwybod bod Cymraeg gan rai pobl sydd wedi trio am swyddi, ac rydych chi'n gallu cynnal sgwrs efo nhw, ond maen nhw'n meddwl gan fod eu Cymraeg nhw ddim yn berffaith eu bod nhw ddim hyd yn oed yn gallu dweud ar ffurflen eu bod nhw'n gallu'r Gymraeg, sy'n golygu weithiau nad ydyn nhw hyd yn oed yn cael y cyfle i fynd i gyfweliad. Felly, gobeithio bydd hwn hefyd yn help i rheini sy'n mynd am swyddi lle mae'r Gymraeg yn ddymunol neu'n hanfodol, eu bod yn gallu gweld wedyn eu bod nhw'n gallu ymgeisio.

Felly, yr hyn yr hoffwn i ofyn i'r Gweinidog—. Mae yna un peth sy'n dal i fy mhryderu i, sef y categori dwy iaith yn benodol. Un ysgol sydd yng Nghymru sydd efo'r model hwn ar y funud. Dwi'n feddwl agored o ran y model hwn, ond o ran y sail ymchwil bod hwn yn fodel sy'n mynd i weithio i Gymru, mae gen i bryderon, a dwi'n gobeithio y byddwn ni'n gallu gweld sut y bydd hwn yn gweithio. Mae'n rhaid i ni hefyd fod yn onest ar y funud, mae yna rai penderfyniadau yn cael eu hariannu gan y Llywodraeth sy'n effeithio yn negyddol ar y Gymraeg. A dwi'n sôn am ysgolion newydd, ac ati. Mae hynny'n gallu cael effaith. Ac mae'r ffaith y bydd y Bil yma'n sicrhau bod ysgolion yn methu newid categori iaith i israddio, mae hynny i'w groesawu.

Dwi eisiau mynd ar ôl un pwynt roedd Samuel Kurtz wedi ei godi o ran cludiant, oherwydd mae hwn yn fater hollbwysig hefyd. Mae hwnnw yn rhwystr ar hyn o bryd. Rydyn ni'n gwybod bod pobl yn gwneud y dewis i fynd am addysg Saesneg yn hytrach na'r Gymraeg. Felly, dydy o ddim yn fater o bobl yn dewis y Gymraeg neu beidio wedyn; dydy o ddim yn ddewis os nad oes cludiant. Felly, mi fyddwn i'n hoffi gwybod sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu mynd i'r afael â hyn. 

Felly, mae yna nifer o agweddau cadarnhaol, wrth gwrs, ond mae'n rhaid inni fod yn onest: nid ynglŷn â dewis ydy hyn, mae o am gyfle cyfartal i bawb i allu siarad iaith ein cenedl. Mae o ynglŷn â dod â Chymru yn agosach at y byd, gan fod dwyieithrwydd, amlieithrwydd yn normal mewn gwledydd eraill. Felly, a gawn ni symud y drafodaeth ymlaen? Mae yna rai yn parhau i fod yn negyddol am y Gymraeg allan yna, oes; wel, mi fyddan nhw'n ddeinosoriaid yn y dyfodol wrth i ni roi'r cyfle hyderus i bawb ddod yn siaradwyr Cymraeg.

17:30

Dwi ddim yn aml yn siarad Cymraeg yn y Siambr achos dwi ddim yn ddigon hyderus; dwi ddim yn teimlo fy mod i'n gallu dweud mewn ffordd ffurfiol y pethau dwi eisiau eu dweud, a'r ffordd dwi eisiau eu dweud nhw. Ond dwi'n cofio mynd i Nant Gwrtheyrn am sbel a chael sgwrs gyda dyn o America a dyn o Awstralia oedd wedi dysgu Cymraeg yn wych. Rôn ni'n chwarae Monopoly gyda'n gilydd, ac rôn i wedi siarad yr holl amser wrth y ddau ohonyn nhw yn Gymraeg. Rôn i'n esbonio iddyn nhw y ffordd mae'r sensws yn gweithio yng Nghymru, a'r ffaith nad yw pobl fel fi ddim yn disgrifio ein hunain yn y sensws fel siaradwyr rhugl. Ac rwy’n cofio nhw’n dweud wrthyf fi, ‘Beth wyt ti’n meddwl? Rydych chi wedi siarad â ni yr holl waith yn Gymraeg. Beth sy’n bod arnoch chi?’ Sylweddolais i eu bod nhw’n hollol gywir. Ond mae barier seicolegol gyda ni, a dwi ddim yn credu bod y ffordd roeddem ni’n meddwl am y Gymraeg rhwng y categories hyn o ddysgwyr a siaradwyr rhugl yn helpu. Rwy’n cofio pobl yn dweud pan oeddwn i’n tyfu lan, ‘Mae e’n siarad fel dysgwr', ac roedd hynny yn hollol unhelpful—dyna’r gair.

17:35

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i ymateb i'r ddadl. 

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i bob un sydd wedi cyfrannu at y ddadl—dadl ddiddorol, dadl adeiladol. A diolch yn fawr i bob un sydd wedi dweud o bob plaid maen nhw’n mynd i gefnogi’r Bil i symud ymlaen ar ôl Cyfnod 1. Dwi’n cytuno gyda beth ddywedodd Alun Davies: pan oeddwn i’n darllen yr adroddiadau ar ôl Cyfnod 1 dros y Nadolig, beth oedd yn fy nharo i oedd safon y ddadl tu ôl i adroddiadau’r pwyllgorau. Dwi’n meddwl bod hwnna wedi cael ei adlewyrchu ar lawr y Senedd y prynhawn yma.

Yn y ddadl sydd wedi bod o gwmpas y Bil, rydych chi’n gallu clywed pethau ar lawr y Senedd y prynhawn yma. Ar un ochr, roedd Sam Kurtz yn ei gyfraniad adeiladol e yn dechrau gyda’r heriau sydd tu ôl y Bil. Mae’r Bil yn heriol, a bydd y Bil yn heriol mewn rhai ardaloedd yma yng Nghymru. Dyma pam rŷn ni’n mynd i wneud gwaith gyda’n gilydd i roi system yn ei lle ble mae pob rhan o Gymru’n gallu defnyddio’r Bil. Ar yr un ochr, mae yn heriol.

Ar yr ochr arall, roedd Cefin Campbell yn dweud dyw’r Bil ddim yn ddigon uchelgeisiol, ac, wrth gwrs, roedd y pwyllgor wedi clywed wrth bobl o bob ochr. Roedd rhai pobl yn dweud ei fod e'n rhy heriol, roedd rhai pobl yn dweud nad yw e ddim yn ddigon uchelgeisiol. Dwi’n meddwl bod y Bil yn uchelgeisiol, ac mae’n uchelgeisiol dros bob plentyn yma yng Nghymru. Fel roedd Lee Waters yn ei ddweud, rydym ni wedi llwyddo. Rydym ni wedi cael llwyddiant mawr yma yng Nghymru yn tyfu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg a safon yr addysg mae pobl yn ei chael pan fyddan nhw’n mynd trwy'r system yna. A jest i ddweud unwaith eto y prynhawn yma, dyna uchelgais y Llywodraeth hefyd: cynyddu y ganran o blant sy’n cael eu haddysg trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Ond ar yr ochr arall, mae’r rhan fwyaf o blant yng Nghymru yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Saesneg. Mae wedi bod yn orfodol iddyn nhw ddysgu Cymraeg am ddegawdau nawr, ond rydym ni’n gwybod dydyn ni ddim wedi llwyddo i roi’r un safon o brofiadau iddyn nhw, a dyna beth mae’r Bil yn trio ei wneud, tynnu pob un plentyn sydd gyda ni i mewn i system ble mae pob un yn gallu dod mas ar y diwedd yn gallu siarad Cymraeg yn hyderus ac yn teimlo bod y profiadau maen nhw wedi eu cael pan oedden nhw mewn addysg yn rhai sy’n mynd i fod yn ddefnyddiol iddyn nhw. Ac i fwynhau’r Gymraeg, fel oedd Alun Davies yn ei ddweud, trwy ei wneud e fel yna.

Dwi’n edrych ymlaen, Dirprwy Lywydd, at gael mwy o gyfleon yn ystod Cyfnod 2 a Chyfnod 3 i ddelio gyda rhai o’r manylion mae pobl wedi eu codi y prynhawn yma.

—Cyfnod 2 a Chyfnod 3. Dwi'n edrych ymlaen. Un o'r pethau rŷn ni wedi llwydo i'w wneud, ac mae'n hollbwysig, dwi'n meddwl, yw cadw'r iaith ar lawr y Senedd fel rhywbeth sy'n bwysig i ni yn drawsbleidiol. Mae pob plaid fan hyn eisiau gweld y Gymraeg yn ffynnu yn y dyfodol. A thrwy wneud pethau yn y ffordd yna, rŷn ni'n gallu gweld ffordd ymlaen, ffordd sydd yn optimistig, ffordd sydd yn gallu rhoi mwy o gyfleoedd a mwy o hyder i bobl yma yng Nghymru at y dyfodol i gadw'r iaith yn fyw, cadw'r iaith yn rhywbeth rŷn ni'n ei defnyddio bob dydd, a chadw'r iaith sy'n bwysig i ni fel cenedl. Mae'r Bil yn un peth sy'n ein helpu ni i wneud hynny. Dwi'n ddiolchgar iawn i bob un sydd wedi cyfrannu i'r ddadl a dwi'n edrych ymlaen at gydweithio gyda phobl pan fydd y Bil yn mynd drwy'r Senedd. Diolch yn fawr.

17:40

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Bydd yr unig bleidlais heno ar eitem 5, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cofrestru Etholiadol heb Geisiadau) (Cynllun Peilot) (Cymru) 2025. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal ac 14 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Eitem 5. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cofrestru Etholiadol heb Geisiadau) (Cynllun Peilot) (Cymru) 2025: O blaid: 38, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 17:44.