Y Cyfarfod Llawn
Plenary
03/12/2024Cynnwys
Contents
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Adam Price.
1. A yw Llywodraeth Cymru'n agored i sefydlu cronfa effaith weledol, yn debyg i’r cynllun a gyflwynwyd gan Ofgem yn 2014, ond wedi’i ffocysu ar gefnogi’r broses o danddaearu llinellau trydan newydd? OQ62006
Mae’n rhaid i Gymru fod yn barod i wneud newidiadau sylweddol i seilwaith ynni, i wneud yn siŵr bod ein cartrefi ni a’n busnesau ni yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae’r mecanweithiau ar gyfer talu am seilwaith newydd yn fater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi'n adnoddau ni mewn cynllunio rhwydweithiau strategol, a bydd hyn yn helpu i leihau’r effaith gyffredinol.
Diolch i’r Prif Weinidog am yr ateb. Fel y dywedais i, 10 mlynedd yn ôl, mi oedd Ofgem wedi creu cronfa—tua £1 biliwn dros y cyfnod yna. Ond er mwyn tanddaearu llinellau presennol, onid oes cyfle gyda ni yng Nghymru i wneud hynny ar gyfer llinellau newydd, i roi cyfle i ni arbrofi gyda thechnolegau newydd o ran tanddaearu, hefyd, wrth gwrs, a ffordd i ni ddatgarboneiddio yn gyflymach—oherwydd mae yna wrthwynebiad, wrth gwrs, i beilonau ar hyn o bryd—wrth i ni greu cronfa all wedyn dalu am y gwaddol ar ôl er mwyn gwneud llinellau yn economaidd? Gallwn ni wedyn danddaearu 100 y cant, sef polisi Llywodraeth Cymru, rhoi Cymru ar y blaen o ran y dechnoleg tanddaearu yma, a chael cefnogaeth cymunedau i’r cynlluniau datgarboneiddio, yn hytrach na’r gwrthwynebiad sydd yn digwydd ar hyn o bryd oherwydd y gofid ynglŷn â pheilonau.
Diolch yn fawr. Wel, dwi’n meddwl bod rhaid i ni gydnabod y bydd effeithiau mawr ar y grid yn y dyfodol. Ac, wrth gwrs, mae ein polisi ni yn un sy’n gofyn am danddaearu lle bo hynny’n bosibl. Ond dwi’n meddwl bod yn rhaid i ni gyd dderbyn bod hwnna’n gostus tu hwnt—lot yn fwy costus—ac, felly, mae’n rhaid i ni drefnu a deall bod hwn yn ardal lle mae energy networks heb eu datganoli. Pe byddem ni'n cymryd ymlaen y cyfrifoldeb ar gyfer tanddaearu, byddai hynny’n gostus tu hwnt, ac fe fyddai’n rhaid i ni dorri’r arian o rywle arall.
Ond dwi'n meddwl ei bod hi’n bwysig ein bod ni yn derbyn ac yn clywed yr hyn sydd gan bobl leol i’w ddweud, ond mae’n rhaid i ni hefyd dderbyn bod costau ar gyfer egni yn uchel yn barod, ac, felly, mae’n rhaid i ni jest fod yn sensitif o ran gweld y costau hynny yn mynd yn uwch.
Rŷch chi’n dod o orllewin Cymru. Dwi jest eisiau talu teyrnged heddiw—
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gwasanaethau deintyddol yng Ngogledd Cymru? OQ62007
Mae yna 88 o bractisau deintyddol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Yn 2023-24, fe wnaeth y practisau hyn weld mwy na 170,000 o gleifion a rhoi dros 238,000 cwrs o driniaeth ar yr NHS. Mae hyn yn cynnwys cwrs llawn o driniaeth ar gyfer bron i 28,000 o gleifion newydd a gofal brys i fwy nag 14,200 o gleifion newydd.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Lywydd, ac a gaf innau ddymuno'n dda i arweinydd y grŵp Ceidwadol?
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros triniaethau canser yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OQ61965
Diolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn yma. Fe wnes i godi amseroedd canser cenedlaethol gyda’r Ysgrifennydd Cabinet yr wythnos diwethaf, ac fe wnaeth o gydnabod ei fod o’n siomedig yn y perfformiad, a dweud bod y darlun yn amrywio o le i le. Mae’n amlwg, felly, fod yna broblem yn Betsi Cadwaladr yn benodol.
Mae gen i achosion yn fy etholaeth i. Mae un etholwr wedi dod mewn yn dweud ei bod hi’n aros saith wythnos am famogram; etholwraig arall yn aros am driniaeth canser y croen, ac yn aros 24 wythnos am y driniaeth. Wrth gwrs, mae diagnosis cynnar yn hanfodol, ond mae’n hanfodol er mwyn medru cael triniaeth ar gyfer yr afiechyd. Felly, ydy’r Prif Weinidog yn meddwl ei fod o’n dderbyniol bod pobl yn fy etholaeth i yn gorfod aros cyhyd am driniaeth? A pham fod yna loteri cod post rhwng ardaloedd yng Nghymru ar gyfer diagnosis a thriniaeth?
Diolch yn fawr. Mae’n drueni, achos roedd Betsi yn arfer bod yn arbennig o dda o gymharu â byrddau iechyd eraill yng Nghymru. Felly, mae’n drueni eu bod nhw wedi mynd am yn ôl—neu efallai eu bod nhw ddim wedi mynd am yn ôl, ond jest eu bod nhw ddim wedi gallu cadw i fyny â'r gofyn yna, sydd wedi cynyddu cymaint dros y blynyddoedd diwethaf.
Ond fel dwi’n dweud, beth sydd wedi digwydd yw eu bod nhw nawr, dwi’n meddwl, yn gwella’r sefyllfa. Jest o ran, er enghraifft, dermatology, mae dau clinical lead wedi cael eu penodi. Yn ddiweddar iawn, roedd yna broblem yn arbennig yn y gorllewin yn eich ardal chi, lle'r oedd pob un yn ddibynnol ar un consultant, ac, wrth gwrs, mae hynna’n creu system sydd ddim yn robust iawn. Felly, mae pethau’n gwella, mae yna lwybr clir, ond, yn amlwg, fe fydd y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros hyn yn cadw golwg craff ar bethau.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau amseroedd aros ambiwlansys yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ61992
Rŷn ni’n cymryd camau i reoli anghenion gofal brys pobl yn y gymuned a gwella’r gwaith cynllunio i’w rhyddhau nhw o ofal iechyd. Bydd hyn yn rhyddhau capasiti ambiwlansys brys. Yn yr wythnosau diwethaf rŷn ni wedi lansio’r her 50 diwrnod, wedi lansio canllawiau newydd ar gyfer trosglwyddo cleifion o ambiwlansys ac wedi recriwtio 26 o glinigwyr i roi cyngor o bell o ganolfannau cyswllt 999.
5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl yn y system cyfiawnder ieuenctid? OQ61988
6. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar waith adfer gwaith diffygiol o dan gynllun Arbed yn Arfon ar ôl cynnal yr arolygon dros yr haf? OQ61986
Mae swyddogion wedi adolygu’r arolygon a gafodd eu cynnal yn Arfon dros yr haf ac yn edrych ar opsiynau rhesymol o fewn cyfyngiadau ein hadnoddau. Bydd cyngor yn cael ei anfon at Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai er mwyn ystyried y ffordd orau o fynd ati i ddatrys y mater ar gyfer perchnogion tai sydd wedi cael eu heffeithio.
Diolch am yr ateb. A dyma ni yng nghanol gaeaf gwlyb a stormus arall, ac mae rhai o fy etholwyr i yn dal i ddisgwyl, yn dal i ddisgwyl i Lywodraeth Cymru weithredu ar eu haddewidion i wneud gwaith adferol ar eu cartrefi. Dyma etholwyr sydd wedi rhoi eu ffydd yng nghynllun Arbed, cynllun eich Llywodraeth chi, oedd yn addo gwella eu cartrefi, ond, mewn gwirionedd, mae dwsinau o bobl yng Ngharmel, Fron, Dinorwig a Deiniolen, cymunedau sydd efo'r stoc tai ymhlith y salaf yng Nghymru—maen nhw wedi cael eu gadael i lawr. Mae eu cartrefi nhw mewn cyflwr gwaeth rŵan na chyn iddyn nhw ymuno â chynllun Arbed flynyddoedd yn ôl bellach.
O'r diwedd, tua diwedd cyfnod Julie James fel yr Ysgrifennydd Cabinet tai, fe ddaeth gobaith, ac fe gynhaliwyd arolygon ar 42 o dai dros yr haf diwethaf, yn dilyn pwyso cyson gen i, ond does yna ddim byd wedi digwydd ers hynny, a dwi'n mawr obeithio nad oes yna dro pedol yn mynd i fod rŵan ar ôl codi gobeithion. Dwi'n cymryd ychydig bach o gysur o'ch ateb chi, ond beth ydy'r amserlen ar gyfer adfer y gwaith diffygiol, os gwelwch yn dda?
Wel, diolch yn fawr, Siân. Mae wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl i ymateb achos natur fanwl yr adroddiadau, a bydd y swyddogion yn ysgrifennu at ddeiliaid tai i'w hysbysu bod y broses yn parhau. Nawr, unwaith y bydd penderfyniad wedi'i gytuno gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, bydd deiliaid tai yn derbyn y camau nesaf a'r amserlen ar gyfer pryd fydd unrhyw waith posibl yn cael ei wneud. Ac, wrth gwrs, bydd hwnna'n amodol, i ryw raddau, ar amodau'r tywydd. Felly, rŷn ni'n gwybod bod tua 393 o dai wedi elwa o Arbed yn Arfon, ac mae 57 o'r rheini gyda'r potensial i gael problemau.
7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ganfyddiadau adroddiadau 'False Economy of Big Food' a 'Changing the Conversation' gan y Food, Farming and Countryside Commission? OQ62005
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Lesley Griffiths.
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod targedau ambiwlans galwadau coch yn cael eu cyrraedd? OQ61976
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf yw eitem, felly, fydd y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Gareth Davies.
1. Sut y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Cabinet i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei thargedau dros y 18 mis nesaf? OQ61974
Un targed sydd yn bell iawn, iawn o'i chyflawni ydy'r targed i godi 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd erbyn 2026. Mae'n rhaid i mi gondemnio’r diffyg cyflawni. Dim ond 5,775 o'r cartrefi sydd wedi cael eu hadeiladu erbyn diwedd 2023-24. Mae'r diffyg tryloywder am y cynllun yn peri pryder hefyd. Does yna ddim sicrwydd y bydd pob un o'r nifer bychan yma yn parhau fel tai cymdeithasol i'r dyfodol, a does yna ddim sicrwydd eu bod nhw'n cael eu hadeiladu yn y llefydd cywir er mwyn datrys lle mae'r problemau ar eu gwaethaf. Gydag eich Llywodraeth chi mor bell i ffwrdd o'r targed, a diffyg tryloywder er mwyn rhoi hyder i ni fod y rhain y math cywir o gartrefi yn y llefydd priodol, sut byddwch chi'n symud y gwaith ymlaen? Sut byddwch chi yn cyflawni? A sut gallwch chi honni bod eich Llywodraeth chi yn delio efo'r argyfwng tai?
2. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ei chynlluniau i wella cyflawni o ran Llywodraeth Cymru dros y 18 mis nesaf? OQ61966
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
3. Sut y bydd y Bil tribiwnlysoedd arfaethedig yn sicrhau annibyniaeth swyddogaethau paneli apêl gwahardd ysgolion? OQ61970
4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau bod data cyfiawnder wedi'u dadgyfuno ar gael i Gymru? OQ61971
Yn olaf, cwestiwn 5, Gareth Davies.
5. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am bumed adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru? OQ61975
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf. Mae'r datganiad yma gan y Trefnydd, Jane Hutt.
Diolch, Lywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
A gaf i ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol am y cyhoeddiad a gafodd ei wneud wythnos diwethaf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynglŷn â'r posibilrwydd y bydd rhaid aros efallai 10 mlynedd arall cyn gweld adeiladu ysbyty newydd yng ngorllewin Cymru? Nawr, i'r rhai ohonon ni sydd yn byw yn yr ardal, rŷn ni'n gwybod bod yr ysbytai presennol, Glangwili a Llwynhelyg, yn ei gweld hi'n anodd darparu'r lefel o gefnogaeth glinigol sydd ei hangen. Fe ddechreuodd y sgyrsiau am ysbyty newydd nôl yn 2006, felly gyda'r oedi o 10 mlynedd, efallai bydd 28 mlynedd o godi gobeithion ac addewidion gwag wedi digwydd. Felly, mae hyn, fel y gwyddoch chi, yn cwbl annerbyniol.
Felly, mae angen buddsoddiad brys ar ystadau. Mae angen technoleg newydd, cyfleusterau pwrpasol a chyfarpar clinigol modern er mwyn darparu'r gofal gorau posibl i gleifion yr ardal. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet i esbonio sut mae e'n bwriadu cyflawni hyn a sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu cefnogi'r bwrdd iechyd i weld adeiladu ysbyty newydd yn yr ardal?
Ac yn olaf, Mabon ap Gwynfor.
Diolch i'r Trefnydd.
Eitem 4 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, her 50 diwrnod newydd i helpu cleifion i adael yr ysbyty ac i wella gofal cymunedol. A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o dan bwysau sylweddol. Mae’r darlun yng Nghymru yn debyg i’r un mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Mae pobl yn byw yn hirach, sy’n gadarnhaol iawn, i raddau helaeth yn sgil safonau byw gwell a datblygiadau mewn gofal iechyd. Ond mae mwy o bobl yn byw gyda chyflyrau iechyd cronig a hir dymor, sy’n golygu bod ganddyn nhw anghenion iechyd a gofal cymhleth. Mae hyn, yn ei dro, yn rhoi mwy o alw, wrth gwrs, ar ein gwasanaethau iechyd a gofal. Yr her i ni yw darparu’r cydbwysedd cywir o ofal a chymorth mor agos at adref â phosib i gefnogi pobl fel y gallan nhw fywydau annibynnol yn eu cymunedau lleol.
Ond, ar hyn o bryd, dŷn ni ddim wedi cael y cydbwysedd hwn yn iawn.
Dwi yn ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei barodrwydd i ddod â'r manylion yma ger ein bron ni heddiw, a hynny'n dilyn y cwestiwn amserol ddaru ni ei gyflwyno dair wythnos yn ôl. Fel gwnes i sôn bryd hynny, mae oedi rhyddhau cleifion o ysbytai, sy'n effeithio ar tua 20 y cant o welyau mewn rhai achosion, wedi bod yn broblem aruthrol, a hynny ers tipyn, ac mae'n adlewyrchiad o'r diffyg aliniad strwythurol ac o argaeledd adnoddau rhwng yr NHS a'r sector gofal. Mae'r ffaith bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi adnabod y methiannau sydd wedi digwydd yn y gorffennol ac wedi dangos agwedd newydd at y broblem yma hefyd i'w groesawu, ac mi ydym ni'n barod i'w ddal i gyfrif ar y targedau y mae wedi eu gosod.
Dwi'n llwyr gydnabod taw ar ddiwedd y cyfnod o 50 niwrnod bydd yr amser addas am werthusiad llawn o'r fath, ac mi fuaswn i'n gwerthfawrogi pe bai'r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu ymrwymo i ddod â datganiad i'r Siambr cyn gynted ag y mae'r cyfnod o 50 niwrnod wedi dod i ben. Ond mae'n werth nodi bod yna bryderon wedi'u mynegi eisoes ynglŷn â chapasiti'r byrddau iechyd a'r awdurdodau lleol i weithredu amcanion y cynllun, a hynny'n ymarferol.
Er enghraifft, yn ystod cyfarfod bwrdd diweddaraf Aneurin Bevan, fe wnaeth y prif weithredwr, Nicola Prygodzicz, sôn am ei gofidion ynglŷn â gallu'r bwrdd iechyd i ryddhau gwelyau ychwanegol yn ddigon cyflym er mwyn ymdopi â'r pwynt o alw uchaf, sydd yn debygol o fwrw yng nghanol mis Ionawr. Fe wnaeth Phil Robson, cynghorwr arbennig y bwrdd, hefyd sôn am sut mae diffyg eglurder ynglŷn â threfniadau perthnasol gyda mudiadau gofal lleol yn rhwystr yn y cyd-destun yma hefyd. I'w ddyfynnu e yn uniongyrchol,
Felly gaf i ofyn am ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet i’r pryderon yma, a sut y mae o'n mynd i fynd ati i sicrhau cydweithio effeithiol a systematig rhwng y byrddau iechyd a’r awdurdodau lleol?
Dwi’n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno â fi taw’r elfen allweddol fan hyn ydy sicrhau nad peth tymhorol yn unig fydd unrhyw lwyddiant sy’n deillio o’r cynllun yma, a bod yna fesurau mewn lle gyda’r byrddau iechyd a’r awdurdodau lleol i wreiddio arfer da, a hynny ar sail barhaus. Yn eich ymateb i fy nghwestiwn amserol ar y pwnc yma, fe wnaethoch chi sôn eich bod yn cael sgyrsiau â phartneriaid yn ystod y 50 niwrnod ynglŷn â pha adnoddau y gallai fod eu hangen i wneud yr ymyrraeth yn gynaliadwy. Gaf i ofyn am ddiweddariad felly ar y trafodaethau yma, ac os oes gan y Llywodraeth ddealltwriaeth bellach am y fath o adnoddau ychwanegol posib fydd eu hangen y tu hwnt i'r cyfnod 50 niwrnod, yn enwedig wrth ystyried y pryderon sydd wedi cael eu mynegi yn barod gan fwrdd iechyd Aneurin Bevan?
Ac i gloi, hoffwn droi yn ôl at y thema agoriadol yn fy nghyfraniad, sef bod yr oedi yma wrth ryddhau cleifion yn symptom o’r ffaith nad yw ein system gofal mewn cyflwr i fedru cyflawni’r nod o symud gofal yn agosach i’r gymuned a’r cartref—y pwynt ddaru'r Ysgrifennydd Cabinet ei hun wneud yn ei gyfraniad agoriadol. Fe wnaeth Conffederasiwn GIG Cymru fynegi neges syml iawn ar hyn pan gafodd y cynllun ei gyhoeddi fis diwethaf:
Pan wnes i godi hyn yn ystod fy nghwestiwn amserol fis diwethaf, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet ddweud nad oedd wedi cael cyfle i ystyried asesiad conffederasiwn yr NHS yn llawn. Felly rŵan eich bod chi wedi cael yr amser i adlewyrchu, beth yw eich ymateb? Diolch yn fawr iawn.
Diolch am y cwestiynau. Mae'r ffigurau o ran pobl sydd wedi bod yn aros tu hwnt i'r amser maen nhw'n barod i adael yr ysbyty wedi bod yn gostwng fis ar ôl mis drwy gydol y flwyddyn hon. Felly, mae hynny'n galonogol. Mae angen, wrth gwrs, mynd llawer ymhellach. Dyna bwrpas y rhaglen. Ond mae hynny wrth wraidd y patrwm rydyn ni wedi bod yn edrych arno fe ac yn ei weld. Felly, dwi ddim yn credu—. Mae adnoddau yn amlwg yn bwysig, ac mae'r datganiad heddiw wrth gwrs yn cynyddu'r adnoddau sydd ar gael. Mae angen darparu'r adnoddau rydyn ni wedi eu gwneud, ac mae hynny yn sgil trafodaethau gyda phartneriaid i weld lle mae'r prif bwysau. Mae'n amlwg gyda rhywbeth fel reablement, gan ei fod e'n sail i bob peth arall rydych chi'n ceisio ei wneud i alluogi pobl i fynd adref, ei fod e'n thema gyffredin, os hoffwch chi. Beth mae hynny'n caniatáu gyda'r adnoddau yma yw dodi'r systemau yn eu lle fydd yn gallu wedyn cael eu hariannu gan y cynlluniau ariannol eraill sydd eisoes gyda ni—a gwnes i amlinellu rhai ohonyn nhw yn y datganiad—a'u gwneud nhw'n gynaliadwy i'r hirdymor. Ond, fel dwi'n siŵr y bydd yr Aelod yn cydnabod, pan rydych chi'n ceisio gwneud diwygiadau, un o'r pethau rydych chi'n gorfod gwneud yw rhedeg dwy system ar yr un pryd, ambell waith. Felly, mae angen arian ac adnoddau arnoch chi yn y cyfnod hwnnw fel eich bod chi'n gallu trosglwyddo i ffyrdd eraill o weithio sy'n fwy cynaliadwy, gan gynnwys yn fwy cynaliadwy o ran adnoddau yn y tymor hirach. Byddwn i'n barod, ac yn bwriadu beth bynnag, i wneud datganiad pellach yn sgil y 50 diwrnod i fod yn dryloyw ynglŷn â'r hyn sydd wedi llwyddo a'r hyn sydd, efallai, wedi bod yn fwy heriol.
Roedd yr Aelod yn sôn am rai o'r pethau sydd wedi bod yn heriol. Dwi ddim wedi clywed y dystiolaeth yn uniongyrchol, ond dwi'n derbyn bod pethau ymarferol i weithio trwyddyn nhw. Mae hynny wedi bod yn rhan o'r gwaith partneriaeth. Gwnes i ddim clywed enw'r person gwnaeth sôn bod y peth yn 'woolly', ond gaf i jest fod yn gwbl glir, i unrhyw un sydd ynghlwm yn y broses hon, partneriaeth sydd wrth wraidd y peth? Felly, os oes unrhyw un yn teimlo ei fod e'n woolly, eu cyfrifoldeb nhw yw sicrhau ei fod e ddim yn woolly. Felly, nid jest mater o bwyntio'r bys at bobl eraill; os oes angen gwella gweithredu partneriaeth, mae cyfrifoldeb ar bob partner i wneud hynny.
Y cwestiwn olaf y gwnaeth e ddweud oedd ynglŷn â chonffederasiwn yr NHS. Wel, mae'r datganiad yn gwbl amlwg, onid yw e? Does neb wedi dweud mai dyma'r unig beth rydyn ni'n ei wneud. Felly, ar lefel gyffredinol, mae'n—dwi ddim yn moyn dweud 'arwynebol', ond mae'n amlwg. Beth fyddwn i yn dweud yw bod yr aelodau sydd ynghlwm wrth y gwaith uniongyrchol o ddelifro hwn wedi bod yn gweithio, dwi'n credu, yn dda gyda'i gilydd, ac wedi ymrwymo i fynd i'r afael â hyn. Cawn ni weld ar ddiwedd y 50 diwrnod beth fydd y darlun ar lawr gwlad. Fel dwi'n dweud, byddaf yn hapus iawn i roi diweddariad i'r Senedd bryd hynny.
Ac yn olaf, Lesley Griffiths.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Symudwn ymlaen at eitem 5 ar ein hagenda ni, datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar wella presenoldeb. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Lynne Neagle.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad. Mae Plaid Cymru wedi bod yn gefnogol ers tro i'r syniad o ymbweru ysgolion i allu cefnogi anghenion eu cymunedau er mwyn gwella presenoldeb a safonau. Rwy'n gobeithio y bydd y cynlluniau yma ar gyfer penodi swyddogion ymgysylltu teuluoedd newydd yn cyflawni hyn, os ydyn nhw'n gallu cael eu gweithredu yn effeithiol.
Nawr, mae'r ystadegau'n glir: dyw'r lefelau presenoldeb ddim wedi cyrraedd nôl i'r lefelau a welwyd cyn y pandemig; yn wir, maen nhw wedi gostwng dros 4 y cant ers 2019. Mae anghydraddoldeb hefyd yn parhau ymysg disgyblion sydd yn derbyn prydau ysgol am ddim, gyda'u cyfraddau presenoldeb nhw dros 5 y cant yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol.
Gan edrych nawr ar ystadegau gwaharddiadau mewn ysgolion, roedd pob math o waharddiadau wedi cynyddu ers y flwyddyn gynt, ac wedi cyrraedd y gyfradd uchaf ers dros 10 mlynedd. Nawr, yn y cyd-destun hwnnw, cyfradd y gwaharddiadau parhaol gan ddisgyblion â darpariaeth anghenion addysg arbennig ac anghenion dysgu ychwanegol oedd 2.4 o bob 1,000 o ddisgyblion, o gymharu â 0.5 o bob 1,000 heb y gefnogaeth yma. Felly, ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn rhannu fy mhryder i fod, efallai, cyfraddau presenoldeb yn gwella ychydig ar draws Cymru oherwydd bod disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu gwahardd yn barhaol o'r ysgol?
Felly, i gloi, mae nifer o adroddiadau gwahanol wedi cyflwyno amrywiaeth eang o argymhellion i ysgolion, i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf ar sut i wella presenoldeb, megis adroddiad thematig gan Estyn, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, ynghyd ag adroddiad annibynnol i'r Llywodraeth ar wella presenoldeb yn sgil y pandemig. Felly, cwpwl o gwestiynau i gloi: a fydd yr holl argymhellion blaenorol hyn wedi cael eu gweithredu cyn cyhoeddi'r adroddiad terfynol gan y tasglu? Ac yn olaf, beth yw'r amserlen ar gyfer eu gweithredu nhw ac unrhyw argymhellion a chamau newydd, oherwydd, heb amserlen fesuradwy, sut gallwn ni warantu y bydd unrhyw gynllun newydd yn creu newid positif i ddysgwyr ar draws Cymru, yn lle bod yn un o'r llu o gynlluniau eraill ym Mharc Cathays sy'n casglu llwch ar y silff? Diolch.
Ac yn olaf, Julie Morgan.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 6 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: datganiad sefyllfa canol trefi. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y datganiad. Jayne Bryant.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Diolch yn fawr i’r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad heddiw a’r newyddion am sefydlu’r bwrdd. Mae mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r stryd fawr yn fater o frys. Mae ein strydoedd mawr ni yn atgof gweladwy o’r caledi economaidd parhaus sy’n cael ei wynebu gan bobl ledled Cymru, ac mae twf siopa ar-lein a lleoli archfarchnadoedd ar gyrion ein trefi ni wedi creu sefyllfa dorcalonnus mewn rhai ardaloedd.
Does unman yn dangos hynny’n gliriach na stryd fawr Bangor yn fy etholaeth i. Fel stryd fawr hiraf Cymru, mae hi’n enghraifft, yn anffodus, o ddirywiad mawr, efo busnesau’n cau eu drysau ac eiddo wedi cael ei adael yn wag. Ond mae yna ddatrysiadau clir y gallai Llywodraeth Cymru eu cefnogi i roi bywyd newydd i’n strydoedd mawr ni, a hynny mewn cyd-destun newydd, cyffrous. Mi ddaru chi sôn am hwb creadigol y Frân Wen yn yr hen eglwys ym Mangor, ac mae yna gynlluniau eraill ar waith yn y ddinas hefyd, yn cynnwys troi’r hen Debenhams yn hwb iechyd a llesiant. A gyda llaw, mi fyddai'n dda cael newyddion da ar hyn gan yr Ysgrifennydd Cabinet iechyd cyn y Nadolig.
Y tu hwnt i golli busnesau, rydym ni hefyd wedi gweld colli gwasanaethau hanfodol fel banciau a swyddfeydd post, ac mae'r colledion yma yn gwaethygu'r heriau economaidd mae’n cymunedau ni yn eu hwynebu. Yn ôl Archwilio Cymru, mi fu gostyngiad o bron i 30 y cant yn nifer y canghennau banc a chymdeithasau adeiladu.
Dwi’n mynd i ofyn ichi yn gyntaf, felly, ble mae banc cymunedol Cymru a oedd yn addewid ym maniffesto Llafur, banc cymunedol a allai fod yn darparu gwasanaethau i ddinasyddion, yn hytrach nag elw i gyfranddalwyr? Mae'r sefyllfa yr un mor enbyd efo’r swyddfeydd post. Yn y degawd diwethaf, mae nifer y swyddfeydd post yng Nghymru wedi gostwng, ac yn ddiweddar, mae cau cangen swyddfa bost fawr yng Nghricieth wedi gwthio gwasanaethau post yng Ngwynedd i argyfwng. Ac yn y cyfamser, mae cangen Caernarfon yn fy etholaeth i hefyd dan fygythiad. Felly, fy ail gwestiwn i ydy: sut ydych chi fel Llywodraeth yn gweithio efo Llywodraeth y DU i sicrhau bod Swyddfa’r Post yn blaenoriaethu anghenion cymunedau gwledig dros elw?
Dwi’n troi fy sylw rŵan at drafnidiaeth, sy’n hollol bwysig efo adfer canol ein trefi ni, ac mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi amlygu hynny dro ar ôl tro. Mae gwell cysylltiadau trafnidiaeth yn gallu hybu datblygu economaidd ac annog pobl i ymweld â’n canolfannau ni, ac mae o’n gallu arwain at leihau tagfeydd er mwyn gwella profiadau ymwelwyr. Ond ar hyn o bryd, rydym ni’n yn dal i ddisgwyl y Bil bws, wrth gwrs, ac mae hwnnw’n cynnig gobaith, ond mae gwirioneddol angen mwy o gyllid.
Felly, fy nhrydydd cwestiwn i ydy: mae adroddiad Centre for Cities 'Fare outcomes' yn awgrymu pump mecanwaith codi refeniw i gefnogi bysiau; ydy Llywodraeth Cymru wedi asesu’r argymhellion hynny? Ar hyn o bryd, mae bysiau’n cyfrif am dri chwarter y teithiau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, ac eto, mae gwariant Llywodraeth Cymru ar fysiau ymhell y tu ôl i wariant ar drenau. Mae’n rhaid inni roi sylw i’r anghydbwysedd yma. Ac yn ogystal, parcio: a oes modd i Lywodraeth Cymru weithio efo awdurdodau lleol i ailfeddwl sut mae parcio’n cael ei reoli? Mae canolfannau siopa tu allan i’r dref yn cynnig digon o le parcio am ddim, a hynny’n rhan o dynnu pobl i ffwrdd o’r stryd fawr. Felly, oes yna ffordd i fedru trethu’r datblygiadau ar gyrion trefi er mwyn helpu i roi cymhorthdal i barcio rhatach i’r rhai sydd yn cefnogi busnesau yng nghanol ein trefi?
A jest un sylw byr: rhaid i bolisi tai gyd-fynd ag adfywio canol trefi. Mae yna gyfle gwirioneddol i Lywodraeth Cymru, yn gweithio efo awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, i gynnig tai cymdeithasol yng nghanol ein trefi ni, uwchben siopau ac eiddo gwag. Mi fedrwn ni achub ar y cyfle i ailfeddwl ac adfywio ein strydoedd mawr, nid yn unig fel canolfannau economaidd, ond eu gweld nhw i’r dyfodol fel canolfannau cymunedol, ac yn llefydd ffyniannus i fyw ynddyn nhw hefyd. Diolch yn fawr.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Eitem 7 heddiw yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, arloesi ym maes gofal iechyd. Galwaf ar y Gweinidog, Sarah Murphy.
Ac yn olaf, Gareth Davies.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 8 sydd nesaf, Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2024. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig—Jayne Bryant.
Cynnig NDM8749 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2024 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Tachwedd 2024.
Cynigiwyd y cynnig.
Mae Plaid Cymru yn cefnogi'r rheoliadau yma, sy'n ehangu'r meini prawf i gynnwys pobl—merched fydd llawer ohonyn nhw—sydd dan anfantais mawr ar hyn o bryd. Bychan ydy'r cohort, ond cohort bregus iawn, ac mae diwygio'r rheoliadau yn pwysleisio bod Cymru yn genedl noddfa—yn lle saff a chroesawgar ar gyfer y rhai sydd heb gartref ac sy'n byw dan amgylchiadau anodd iawn.
Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb i'r ddadl.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes; felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Nid oes pleidlais heddiw, felly daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:22.