Y Cyfarfod Llawn

Plenary

15/10/2024

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn o’r Senedd. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i’r Prif Weinidog, ac mae’r cwestiwn cyntaf gan Sioned Williams.

Y Diswyddiadau yng Ngwaith Dur Tata

1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi trigolion Gorllewin De Cymru sydd wedi cael eu heffeithio gan y diswyddiadau yng ngwaith dur Tata? OQ61696

Rydyn ni’n parhau i weithio gyda'r bwrdd pontio, awdurdodau lleol a phartneriaid i gefnogi iechyd a lles meddyliol mewn cymunedau lleol, a hynny trwy’r byrddau iechyd lleol. Rydyn ni hefyd yn defnyddio'r cyllid gwerth £100 miliwn i fuddsoddi mewn sgiliau a gweithgareddau adfywio ar gyfer yr ardal leol.

Diolch. Awdurdodau lleol sy’n darparu’r rhan fwyaf o wasanaethau i gefnogi trigolion sydd angen cymorth, ac fe glywon ni ddoe, onid do, fod yna dwll du o £540 miliwn o leiaf yn eu cyllidebau, a fydd yn cael effaith sylweddol ar eu gallu i wneud hynny. Fe fues i mewn cyfarfod gydag arweinwyr cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ddiweddar, a dros y ddwy flynedd diwethaf, maen nhw wedi gorfod gwneud gwerth £45 miliwn o doriadau, ac mae’r cyngor, fel pob un arall dros Gymru, yn cynllunio nawr ar gyfer toriadau cwbl enbyd, gyda’u costau wedi cynyddu o dros £20 miliwn ers y llynedd. Yn wahanol i’r rhelyw, maen nhw hefyd, wrth gwrs, yn mynd i orfod delio gyda’r sioc economaidd seismig yn sgil colli miloedd o swyddi Tata Steel a’r gadwyn gyflenwi. Er bod y cyngor angen gwneud gwaith hanfodol o helpu i ailadeiladu’r economi leol, a chefnogi’r miloedd sy’n cael eu heffeithio gan y diswyddiadau, mae Llywodraeth Cymru wedi’i rybuddio i ddisgwyl na fydd unrhyw gynnydd yn y grant cefnogi refeniw. A wnewch chi, Brif Weinidog, felly, sicrhau bod yna gyllid penodol ar gael i sicrhau bod cyngor Castell-nedd Port Talbot, ac awdurdodau lleol cyfagos, yn cael cymorth i gwrdd â’r galw ychwanegol ar eu gwasanaethau, gan wneud, efallai, yr achos dros hyn gyda’r Canghellor yn San Steffan?

Wel, diolch yn fawr. Dwi’n siŵr bydd yr Aelod yn ymwybodol bod yna gronfa arbennig ar gyfer helpu pobl sydd wedi dioddef o achos y ffaith bod Tata yn newid. Mae £80 miliwn o gronfa, sydd yn mynd i gael ei ddosbarthu gan gyngor Castell-nedd Port Talbot. Felly, mae’r arian yna'n ring-fenced. Ar ben hynny, wrth gwrs, mae yna bosibilrwydd i’r boblogaeth leol i gael access i beth o’r arian sy’n dod o ganlyniad i ReAct a Communities for Work. Ac, ar ben hynny, wrth gwrs, mae yna personal learning accounts ar gyfer Tata yn uniongyrchol, ac mae'r rheini hefyd wedi helpu 716 o bobl sydd yn gweithio yn Tata yn barod.

13:35
Adeiladau Cyhoeddus Cynaliadwy

2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i ddatblygu adeiladau cyhoeddus cynaliadwy? OQ61717

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.  

13:45

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fis diwethaf, mi wnaeth The Guardian redeg stori exclusive yn cynnwys y frawddeg ganlynol:

Rŵan, o gymryd bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan o’r penderfyniadau hynny, beth yn union oedd Jo Stevens yn ei olygu wrth hynny?

13:50
13:55
Diogelwch Tomenni Glo

3. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ddiogelwch tomenni glo yng Nghymru? OQ61695

14:00

Fel gwnaeth Delyth Jewell ein hatgoffa ni, mae hanes yn bwysig. Un o ddociau prysur Caerdydd oedd ar y lleoliad yma—doc a agorwyd i dderbyn glo a aeth i bedwar ban byd. Fe ddywedodd yr hanesydd Dr John Davies wrthyf taw gwastraff trychineb Aberfan a lenwodd y doc yma, ac felly mae ein Senedd ni, ac, yn hynny o beth, democratiaeth Cymru, wedi cael eu hadeiladu ar y trasiedi ofnadwy hwnnw. Felly, mae'n eironig o greulon, onid yw hi, mai un o fethiannau mwyaf y setliad datganoli, methiannau'r Ceidwadwyr, a nawr methiannau'r Blaid Lafur, yw ein bod ni heb ddod i gytundeb ar bwy sy'n mynd i glirio'r tomenni glo yna.

Fe gafodd Aberfan ei bradychu gan George Thomas, fe gafodd ei bradychu gan Lywodraeth Harold Wilson. Fe gafodd peryglon eu hanwybyddu, ac fe wnaeth iawndal i ddioddefwyr a theuluoedd gael ei ddefnyddio i glirio'r tomenni. Mae pobl ein Cymoedd yn haeddu llawer gwell na hyn, Brif Weinidog. A ydy Llywodraeth Keir Starmer yn mynd i dalu i glirio'r tomenni? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr. Dwi ddim wedi clywed hynny o'r blaen—bod y fan yma wedi'i hadeiladu ar wastraff trychineb Aberfan. Ond os yw hynny'n wir, dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n parchu ein gorffennol ac yn sicrhau nad ydyn ni'n gweld unrhyw beth tebyg yn digwydd yn ein cymunedau ni eto. Unwaith eto, mi wnes i godi'r achos yma gyda Keir Starmer, ac fe gawn ni weld os byddwn ni'n gweld gwahaniaeth yn y gyllideb. Rŷn ni'n gwybod bod yna lot fawr o ofynion ar y gyllideb, ond dwi eisiau ei gwneud hi'n glir fy mod i wedi gwneud achos clir iawn ynglŷn â'u cyfrifoldeb nhw hefyd ynglŷn â chlirio'r tomenni glo yma.

Adfer Cynefinoedd Morol

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i adfer cynefinoedd morol? OQ61723

14:05
Lleihau Gwastraff Bwyd

6. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar leihau gwastraff bwyd? OQ61727

14:10
Gwasanaethau Iechyd yn Sir Drefaldwyn

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd yn Sir Drefaldwyn? OQ61698

14:15
Seilwaith Rheilffyrdd

8. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU, cyn cyllideb nesaf Llywodraeth y DU, ynghylch seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru? OQ61728

Iechyd a Llesiant Diffoddwyr Tân

9. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi iechyd a llesiant diffoddwyr tân? OQ61726

Rydyn ni wedi cydweithio â'r gwasanaeth tân ac achub a’r undebau i leihau'r risg i iechyd diffoddwyr tân. Rydyn ni hefyd wedi gweithredu mewn ymateb i adroddiadau lle gallai fod risg i les diffoddwyr tân.

Diolch am yr ateb, Prif Weinidog.

On several occasions, I've highlighted the work of Professor Anna Stec in this Chamber, whose research has found that instances of cancer among firefighters aged 35 to 39 are 323 per cent higher than in the general population. Now, I know that the Welsh Government is familiar with that research and has taken it through the social partnership forum, and I want to seek an update on how this is being acted upon today. Because the Health and Safety Executive are now acting on the overwhelming evidence and have taken the welcome step of setting out plans to start inspecting fire and rescue services to regulate measures taken to protect firefighters. So, will the Welsh Government work with the Health and Safety Executive in Wales, and fire and rescue services, to bring in regulation that mitigates the effects of carcinogens on Welsh firefighters? And would this Government go one step further and bring in health monitoring for Welsh firefighters? This isn't something that we should have to wait on the UK National Screening Committee to provide advice on; the evidence is plain for all to see.

14:20
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n gofyn i'r Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 14:21:09
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Llywydd, a shwmae, bawb. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Shwmae, Trefnydd. Yn Awst 2023, ac yn deillio o'r cytundeb cydweithio, cyhoeddwyd adolygiad annibynnol o adroddiadau Adran 19 llywodraeth leol a Cyfoeth Naturiol Cymru am lifogydd eithafol yn ystod gaeaf 2020-21 gan yr Athro Elwen Evans KC. Mi dynnodd hi sylw at y newidiadau strategol ac ymarferol a newidiadau i bolisïau a allai gryfhau’r broses o ymchwilio i lifogydd, wrth gydnabod y gwendidau yn y system adran 19. Gaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet dros newid hinsawdd felly am ddatganiad yn rhoi diweddariad o ran y gwaith pwysig yma? Yn amlwg, mae llais y gymuned yn eithriadol o bwysig pan fo'n dod i ddeall llifogydd. Fel rydyn ni'n gwybod, fedrwn ni ddim atal llifogydd rhag digwydd, ond, yn sicr, mae cymunedau ddioddefodd lifogydd yn 2020-21 eisiau diweddariad o ran beth ddaeth o'r gwaith yma gan Elwen Evans a sut rydyn ni'n mynd i weld hynny wedyn yn cael ei adlewyrchu mewn newidiadau polisi.

14:25

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn, a shwmae, Hefin.

14:30

Diolch yn fawr, a shwmae, Paul. A diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn. 

Diolch yn fawr, Jane Dodds, a diolch yn fawr am eich cwestiwn. A shwmae, Jane, hefyd.

14:35
14:40

Wel, diolch yn fawr am eich cwestiynau pwysig iawn, a shwmae, Mike.

14:45
14:50
14:55
3. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Cyfleoedd yr economi gylchol a chanlyniadau Hotspot Economi Gylchol Cymru 2024

Eitem 3 heddiw yw'r datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar gyfleoedd yr economi gylchol a chanlyniadau Hotspot Economi Gylchol Cymru 2024. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Huw Irranca-Davies.

Member
Huw Irranca-Davies 14:56:46
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch, Dirprwy Lywydd, a shwmae, bawb. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn falch o agor digwyddiad rhyngwladol Hotspot Economi Gylchol Cymru. Dewiswyd Cymru i gynnal y digwyddiad Ewropeaidd, i gydnabod ein harferion da a'n statws fel enghraifft fyd-eang. Daeth dros 400 o bobl i'r gynhadledd, ac roedd llawer ohonynt wedi teithio i Gymru o bob cwr o'r byd i gael craffu ar ein cyflawniadau, cyfnewid gwersi a ddysgwyd, a chreu cyfleoedd i gydweithio.

Felly, mae llawer mwy i'w wneud, ond dylem ddathlu bod ailgylchu erbyn hyn yn rhan annatod o bwy ydym ni fel cenedl. Mae hefyd yn sail i’n galluogi i arwain y chwyldro diwydiannol nesaf yn yr un ffordd ag y gwnaethom ni yn ystod y chwyldro cynt, a thyfu swyddi gwyrdd y dyfodol. Diolch, Dirprwy Lywydd.

15:00

Diolch ichi, Ddirprwy Brif Weinidog, am y datganiad.

15:05
15:10

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad hwn heddiw. Dwi yn ei groesawu fe. Mae Cymru wedi arwain y ffordd yn rhyngwladol gydag ailgylchu, a dwi'n meddwl bod yn rhaid cydnabod hynny. Gallwn ni deimlo balchder yn y ffaith ein bod ni'n ail yn y byd. Mae diolch, felly, i'r cydweithio sydd wedi bod rhwng llywodraeth leol, Llywodraethau cenedlaethol a phobl Cymru am hynny. 

Ond ni ellir anwybyddu’r ffaith, ychwaith, fod y cynnydd hwnnw wedi arafu. Mae cyfraddau ailgylchu wedi aros yn yr unfan, bron, ac mae gwahaniaethau mawr rhwng llywodraethau lleol gwahanol. Tra bo rhai wedi mynd ymhellach na’r targed 70 y cant o flaen amser, mae eraill wedi stryglan i gyrraedd hyd yn oed y targed presennol o 64 y cant. Felly, beth fyddwch chi’n ei wneud i gynorthwyo’r cynghorau hynny sy’n stryglan? Pam mae yna dal rhai cynghorau sydd heb fabwysiadu’r glasbrint casgliadau? Beth all gael ei wneud i’w helpu nhw? Mae dal lot gormod o bethau sy’n gallu cael eu hailgylchu ond sydd, yn lle, yn bennu lan yn y ffrwd wastraff, fel sydd wedi cael ei grybwyll, gan gynnwys chwarter gwastraff bwyd. Sut fyddwch chi’n mynd ati i wella hynny, yn enwedig gyda gwastraff bwyd busnesau?

Ac i droi at yr economi crwn ehangach, os mai dyna yw circular economy, rhaid inni fabwysiadu egwyddorion osgoi gwastraff, trwsio ac ail-ddefnyddio. Mae mentrau fel Repair Cafe Wales a Benthyg Cymru yn esiamplau ardderchog o’r rhain. Maen nhw’n tueddu i ddibynnu ar grantiau tymor byr. Felly, pa gefnogaeth ariannol hirdymor fydd ar gael iddynt i sicrhau bod mentrau pwysig o’r fath yn gynaliadwy?

Rŷn ni wedi clywed yn barod, wrth gwrs, am y DRS. Mae hwn yn fater o gonsérn. Mae oedi wedi bod, sydd wedi arwain, efallai, at 647 miliwn o boteli PET, 332 miliwn o ganiau, a 61 miliwn o foteli gwydr yn cael eu claddu, eu llosgi, neu eu troi’n sbwriel. Mae’n amlwg—mae wedi cael ei grybwyll yn barod—fod Deddf marchnad fewnol wedi chwarae rhan yn yr oedi. Ond, o ystyried y newid Llywodraeth yn San Steffan, a fyddem ni'n gallu disgwyl amserlen fwy uchelgeisiol i gyflwyno’r DRS yma? Rwy’n gwybod—eto, mae hyn wedi cael ei grybwyll—fod gan fusnesau lleol bryderon. Mae hynny’n ddealladwy. Ond dwi’n cytuno gyda chi bod angen inni gefnogi’r newid yma i ddigwydd. Felly, a fyddwch chi’n sicrhau, nid yn unig pan fydd y DRS yn cael ei gyflwyno ond cyn hynny hefyd, ei fod e'n digwydd mewn ffordd sy’n cefnogi busnesau bach i gynllunio o flaen amser?

Ac yn olaf, hoffwn i bwysleisio’r angen i ffocysu nawr mwy a mwy ar leihau gwastraff. Rhaid i’r newid hwn ddigwydd law yn llaw gyda pholisïau megis right to repair, efallai lleihau VAT ar nwyddau ail law, a mwy o gefnogaeth i fusnesau sy’n gweithio gyda’r ethos hwnnw. Felly, beth fyddwch chi’n ei wneud i ddechrau sgwrs genedlaethol am hyn oll—am yr angen i newid ein harferion ni o fyw, ein harferion consumption ni? A fyddwch chi’n cyflwyno targedau clir o ran trwsio ac ail-ddefnyddio? Diolch.

15:15
15:20
15:25
15:30
4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Ynni a’r economi werdd

Yr eitem nesaf fydd datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ar ynni a’r economi werdd. A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y datganiad. Rebecca Evans.

15:35

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad.

15:40
15:45
15:50
15:55
16:00

Diolch am y datganiad. Dwi'n cytuno efo'r Gweinidog, wrth gwrs, ar yr angen i adeiladu economi werdd gyffrous newydd ar gyfer y dyfodol, ond dwi am gyfeirio at gynlluniau i ddatblygu ffermydd solar enfawr yn fy etholaeth i, a dadlau nad dyma'r ateb o gwbl os ydyn ni am greu swyddi yn y sector ynni adnewyddol yma. Dwi'n annog fy etholwyr i i ymateb erbyn y deadline yfory i'r broses gynllunio gan Pedwar er mwyn sicrhau bod ein cymuned ni yn cael ei llais wedi'i chlywed. Ond, gwrandewch, mae yna gymaint o le i solar yn y mix: ar do pob adeilad, ar ochr ffyrdd, mewn pocedi llai—llawer iawn o bocedi llai—o solar yn fy etholaeth i, ond mae gorchuddio miloedd o erwau o dir amaethyddol da Môn yn rhoi'r gwaethaf i ni o ran colli capasiti cynhyrchu bwyd, o ran yr impact weledol, o ran colli swyddi mewn amaethyddiaeth—does yna ddim swyddi yn fan hyn—ac mae'n rhaid i ni feddwl yn llawer mwy strategol. Rydyn ni'n sôn am y capasiti sydd yna i gynhyrchu ynni oddi ar arfordir Cymru: yn fanna mae'r swyddi; yn fanna mae'r gadwyn gyflenwi i allu cael ei datblygu yn y blynyddoedd i ddod. Canolbwyntiwch ar hynny, achos extractive, dyna ydy'r math yma o gynlluniau solar sydd yn yr arfaeth ar hyn o bryd: yn tynnu elw allan o'n cymunedau ni, yn creu impact negyddol, ac yn methu â dod ag unrhyw fudd lleol go iawn. Ydy'r Gweinidog yn cytuno â fi dyw solar ddim yn ateb y gofynion o ran yr elfen economaidd honno, a bod angen edrych ar bethau llawer mwy arloesol?

16:05
16:10

Y naratif rŷn ni'n ei glywed yn fwyfwy gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ydy bod rhaid—yn y cyd-destun yma o ran yr economi gwyrdd—adeiladu'n fawr, yn gyflym, yn gost isel, yn ddi-hid o unrhyw ystyriaeth arall, a dwi ddim yn meddwl mai dyna yw'r unig ffordd, fel roedd Rhun ap Iorwerth yn awgrymu. Er enghraifft, yn ystod y dyddiau diwethaf, mae'r llywodraethwr, Tim Walz, yr ymgeisydd is-arlywyddol yn America, wedi awgrymu tanddaearu'r grid cyfan yn America, oherwydd ei fod e'n meddwl, o ran yr hir dymor, oherwydd mae e'n fwy dibynadwy ichi wneud hynny, mai dyna'r dewis call.

Felly, mae mwy nag un ateb fan hyn, ac mae eisiau i Gymru ffeindio ei ffordd ymlaen ei hunain, fel roedd Jane Dodds yn awgrymu. Felly, ydyn ni'n gallu cael diweddariad gennych chi ynglŷn â gwaith y grŵp cynghorol gweinidogol ynglŷn â dyfodol y grid yng Nghymru, achos mae'r naratif yn fanna, os caf i ei ddweud, o ran y cylch gorchwyl rŷch chi wedi ei osod, yn wahanol? Mae e'n sôn am egwyddorion; nid cael gwared â'r system gynllunio—dyna'r math o naratif rŷn ni'n ei glywed yn Lloegr ar hyn o bryd—ond rhoi egwyddorion clir o ran y math o grid rŷn ni eisiau ei greu a buddsoddi ar gyfer yr hir dymor yn y ffordd orau, nid jest dilyn polisïau gorchuddio Cymru gyfan a'r Deyrnas Gyfunol gyfan gyda ffermydd solar a chyda pheilonau.

16:15
5. Datganiad gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch: Addysg drydyddol

Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ar addysg drydyddol. Dwi'n galw ar y Gweinidog, felly, i wneud y datganiad. Vikki Howells.

16:25
16:30
16:35

Diolch yn fawr i'r Gweinidog am ei datganiad. Gaf i hefyd ei llongyfarch hi ar ei phenodiad diweddar? Rŷn ni wedi cael cyfle i roi tipyn o sylw yn y Siambr hon yn ddiweddar i addysg statudol, ac fel rhywun mewn bywyd blaenorol oedd yn gweithio yn y maes addysg ôl-16 ac addysg gydol oes, dwi'n croesawu'r ffocws heddiw ar y sector ôl-16.

O ran y datganiad—byddaf yn dod yn ôl at rai pwyntiau penodol oedd yn y datganiad—yn nodweddiadol, rôn i eisiau mynd ar ôl rhywbeth, yn debyg i Tom, sydd ddim yn y datganiad, sef yr argyfwng ariannol sydd yn wynebu ein prifysgolion ni yma yng Nghymru. Dwi'n credu, os nad yw'r Llywodraeth yn gweithredu ar frys, fe allwn ni golli'r sefydliadau arbennig yma—nifer ohonyn nhw—sydd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer dysg ar lefel uchel iawn i ganiatáu i'n pobl ifanc ni wireddu eu hamcanion nhw mewn bywyd. Roedd yna gyfeiriad yn eich datganiad chi bod yna ddatganiad arall yn mynd i ddod yn nes ymlaen ar addysg uwch, ond y gwir amdani yw y gallai hynny fod yn rhy hwyr o lawer i rai o'n prifysgolion ni.

16:40

Jest o ran addysg Gymraeg, does yna ddim sôn gyda chi am addysg Gymraeg. Felly, jest cwestiwn penodol. Sut ŷch chi'n bwriadu cynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws y sectorau i gyd, yn arbennig mewn colegau addysg bellach ac addysg uwch? Diolch yn fawr iawn.

16:45
16:50

A gaf i ategu fy nghroeso innau i'r Gweinidog ar ei swydd newydd? Mi fyddwch chi wrth gwrs yn ymwybodol bod chweched dosbarth mewn ysgolion bellach yn dod o dan y diffiniad o addysg drydyddol, ac felly yn dod o dan gyfrifoldebau Medr. Mi fyddwch chi hefyd yn ymwybodol bod y niferoedd mewn chweched dosbarth mewn ysgol wedi bod yn gostwng dros y blynyddoedd diwethaf, ac, mewn rhai siroedd, nad oes unrhyw chweched dosbarth o gwbl mewn unrhyw ysgol, neu fod lleihad mawr wedi bod. Mae hyn yn arbennig o bryderus mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, sydd gyda rôl bwysig i’w chwarae o ran targedau 2050. Mi wnaethoch chi sôn am dair C; efallai fod yna bedwaredd C o ran eich datganiad, sef Cymraeg.

Amlygodd ymchwil, a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg yn Nhachwedd 2023, wahaniaethau rhwng dysgwyr ysgol a choleg o ran eu canfyddiad o’u gallu yn y Gymraeg, cyfrwng iaith eu haddysg, a’u hagweddau at bwysigrwydd y Gymraeg. Hoffwn ofyn, felly, sut mae’r Gweinidog yn credu y bydd Medr yn cefnogi ein chweched dosbarth mewn ysgolion, o ran darpariaeth lefel A a chyrsiau galwedigaethol, yn arbennig, felly, y rhai mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, fel eu bod yn parhau yn gynaliadwy. A pha rôl ydych chi'n gweld y bydd gan ysgolion chweched dosbarth o fewn strwythur llywodraethiant Medr?

16:55

Diolch, Weinidog. Dwi'n hoffi'r tair C, a dwi'n siŵr roedd hwn yn hollol fwriadol, ond mae'r tair C yn gweithio yn y Gymraeg hefyd: cydlafurio, cydweithio, a chymuned. Ond gaf i fod mor hy â—? Dwi'n cytuno gyda Heledd Fychan, mae yna C arall ar goll. Ar Ddiwrnod Shwmae Su'mae, mae Cymraeg ar goll o'ch datganiad, oherwydd y gwir yw, er, efallai, fod enwau uniaith Gymraeg ar rai o'r colegau yma, mai Saesneg yw cyfrwng y dysgu. Mae dros 99 y cant o'r hyfforddi yng ngholegau Canol De Cymru drwy gyfrwng yr iaith Saesneg. Os yw disgyblion yn gadael addysg Gymraeg i'r colegau trydyddol yma, Saesneg yw iaith y ddysg ar ôl 16. Dwi'n siŵr y byddwch chi'n cofio o'ch cyfnod ym myd addysg ba mor atyniadol yw'r colegau yma, gydag adnoddau arbennig a chyrsiau eang yn cael eu cynnig. Felly, beth ydych chi'n ei wneud—trwy, fel dywedoch chi o'r blaen, gydweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg—beth ydych chi'n ei wneud i hyrwyddo'r sector cyfrwng Cymraeg a hyrwyddo pobl i aros o fewn y sector cyfrwng Cymraeg o fewn y chweched dosbarth, oherwydd fanna maen nhw'n cael addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg, nid yn y colegau chweched dosbarth? Diolch yn fawr.

17:00

I ffocysu ar y trydydd C, sef cymuned, mewn tair blynedd, byddwn ni'n dathlu 100 mlynedd o addysg bellach yn Rhydaman ers sefydlu'r tech, y technical institute, yn ôl yn 1927. Ond mae'r dathliadau hynny, y cynlluniau hynny, o dan ychydig o gwmwl ar hyn o bryd oherwydd bwriad presennol Coleg Sir Gâr i gau’r campws fel na fydd yna unrhyw addysg bellach yn Rhydaman. Wrth gwrs, dyw'r colegau addysg bellach, er 1993, ers ymgorffori, ddim yn atebol i lywodraeth leol, a dŷn nhw ddim yn uniongyrchol atebol i Weinidogion Cymru, ond, yn yr achos yma, mae'r cynlluniau yma ynghlwm wrth benderfyniad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â phecyn buddsoddi. Felly, a allaf i ac Aelodau eraill sydd wedi mynegi eu gwrthwynebiad i'r cynlluniau—Cefin Campbell, Joyce Watson, Jane Dodds ac yn y blaen—gwrdd â chi, Gweinidog, i drafod cynllun amgen fydd yn achub dyfodol addysg bellach yn Rhydaman? Ac ar ôl hynny, allwn ni, efallai, hefyd drafod dadwneud y penderfyniad Thatcheraidd yna yn ôl yn 1993 ac efallai dod â cholegau addysg bellach yn ôl yn atebol un ai i lywodraeth leol neu i Lywodraeth genedlaethol?

6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Cymunedau Cymraeg

Yr eitem nesaf fydd eitem 6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg yw hwn, ar gymunedau Cymraeg, ac ,i wneud y datganiad yma, yr Ysgrifennydd Cabinet, Mark Drakeford.

Wel, Llywydd, shwmae, su'mae.

Diolch yn fawr am y cyfle i roi datganiad i'r Senedd y prynhawn yma i ddiweddaru’r Aelodau am y gwaith sydd wedi mynd ymlaen dros y misoedd diwethaf, ac i osod allan fy ngweledigaeth dros y misoedd nesaf hefyd.

Mae bron i ddwy flynedd ers i ni gyhoeddi 'Y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg'. Mi oedd y cynllun hwn yn fwy na jest edrych ar dai yn unig; roedd yn ystyried y pethau hynny sydd yn bwysig i greu cadernid yn ein cymunedau Cymraeg. Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar y cymunedau hynny sydd â dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg—hynny yw, cymunedau ble mae'r Gymraeg yn parhau i fod yn brif iaith y cymunedau hynny ac, felly, yn cael ei defnyddio yn naturiol ym mywyd pob dydd. Ac, wrth gwrs, mae gan yr ardaloedd hyn hefyd nifer uchel o ail gartrefi.

Mae’n braf heddiw i roi diweddariad i chi i gyd ar rai o brif raglenni’r cynllun. Yn gyntaf, hoffwn sôn am y gwaith sydd wedi digwydd i greu mentrau cymdeithasol neu brosiectau tai wedi’u harwain gan y gymuned. Hyd yma, mae dros 40 o grwpiau cymunedol wedi derbyn grant drwy brosiect Perthyn er mwyn sefydlu menter neu feithrin gallu cymunedol, a hynny drwy’r Gymraeg. Mae’r prosiectau hyn yn creu gwaith yn lleol ac yn dod â’r gymuned ynghyd er lles y Gymraeg. Ond, yn bwysicach, maent yn creu cymunedau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Heddiw, bydd rownd newydd o gynllun grant Perthyn yn agor i grwpiau cymunedol wneud cais am gyllid.

Yn ail, hoffwn dynnu sylw at y cynllun llysgenhadon diwylliannol, a bellach mae dros 150 o bobl wedi ymuno â'r cynllun. Rydw i am weld rhwydwaith o lysgenhadon, o Fôn i Fynwy, yn trafod ac yn gweithio er budd y Gymraeg yn eu cymunedau lleol.

17:05

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Yn drydydd, rydyn ni wedi sefydlu cynllun peilot fforddiadwyedd ac ail gartrefi yn ardal Dwyfor, mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri, Grŵp Cynefin a chymdeithas tai Adra. Mae'r peilot yn treialu sawl peth i reoli nifer yr ail gartrefi. Bydd Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, yn gwneud datganiad ysgrifenedig am hyn yfory. Fel rhan o'r cynllun, gwnaethom hefyd addewid i ddod ag arwerthwyr tai at ei gilydd yn ardal Dwyfor er mwyn cydgynllunio ac adnabod cyfleoedd i gydweithio a deall y farchnad dai yn well. Roedd hwn yn gyfarfod buddiol, a bydd cyfarfod arall yn digwydd cyn diwedd y flwyddyn.

Hefyd, fel rhan o'r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, rŷn ni wedi dyrannu £11 miliwn i brosiect Arfor 2. Mae Arfor yn treialu nifer o gynlluniau er mwyn cefnogi'r ardaloedd dwysedd uwch. Rydyn ni'n awyddus i ddysgu o'r cynlluniau hyn, yn enwedig i ddeall y berthynas rhwng economi ac iaith a rhannu arfer da o ran prif ffrydio'r Gymraeg i bolisïau eraill.

Ac, yn olaf, roedd y cynllun wedi datgan y bwriad i sefydlu comisiwn i edrych yn fanwl ar sefyllfa ein cymunedau Cymraeg. Mae'r comisiwn wedi cyflwyno'r adroddiad i'r Llywodraeth a hoffwn nodi heddiw fy mod yn croesawu'r gwaith yn fawr. Hoffwn hefyd gymryd ychydig o eiliadau i ddiolch i'r cadeirydd, Dr Simon Brooks, ac aelodau'r comisiwn am eu gwaith manwl. Mae'r adroddiad yn mynd i'r afael â'r heriau a'r cyfleoedd sy’n wynebu'r Gymraeg. Mae'n dadansoddi data cyfrifiad 2021 o ran y Gymraeg, ac mae'r 57 o argymhellion yn cynnwys meysydd fel cydraddoldeb, economi, gweithleoedd, tai, addysg a datblygu cymunedol. Rydyn ni'n gweithio ar draws y Llywodraeth ar hyn o bryd i baratoi ein hymateb i'r adroddiad.

Rydyn ni'n gwybod bod data cyfrifiad 2021 yn dangos bod ein hiaith yn colli tir yn y fro Gymraeg. Mae hyn yn wir yng Ngwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a sir Gâr, yn ogystal â'r ardaloedd cyfagos lle ceir y dwysedd uchaf o siaradwyr Cymraeg. Rwy'n cytuno gyda'r comisiwn fod unrhyw ddirywiad i'r Gymraeg yn y cymunedau Cymraeg dwysedd uwch yn peryglu ei dyfodol fel iaith genedlaethol.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi ail gam y comisiwn, a fydd yn edrych ar y Gymraeg yn yr ardaloedd hynny sydd wedi colli'r Gymraeg fel iaith gymunedol ond lle mae adfywiad wedi bod yn rhai o'r ardaloedd hyn yn ddiweddar. Bydd y comisiwn yn edrych ar ein polisi a'n rhaglenni gwaith er mwyn deall sefyllfa'r Gymraeg yn yr ardaloedd hyn hefyd.

I ddeall yn well beth yw'r sefyllfa a'r heriau yn ein cymunedau Cymraeg dwysedd uwch, rŷn ni'n gweithio ar Brosiect Bro. Mae hwn yn brosiect sy'n cael ei arwain gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar y cyd â Phrifysgol yr Ucheldiroedd a'r Ynysoedd yn yr Alban a Choleg yr Iesu, Rhydychen, i gynnal arolwg sosioieithyddol. Mae Prosiect Bro yn adeiladu ar waith tebyg sydd wedi ei wneud yn Iwerddon a'r Alban, ond dyma’r tro cyntaf i’r fethodoleg gael ei defnyddio yng Nghymru. Mae hwn yn brosiect tair blynedd, a bydd yn cyflwyno adroddiad terfynol i ni yn 2026. Fy ngobaith i yw y bydd Prosiect Bro hefyd yn adrodd y stori y tu ôl i’r ystadegau—pwy sy’n siarad Cymraeg, ble maen nhw’n ei siarad hi, a beth allwn ni ei wneud i’w helpu nhw ei siarad hi’n amlach.

Mae’r economi a’r gweithlu yn parhau i fod yn bwysig yn yr ardaloedd dwysedd uwch o ran taclo’r diboblogi a chreu cymunedau cynaliadwy. Mae gweithluoedd hefyd yn sicrhau bod yr iaith yn cael ei gweld fel iaith gwaith ar draws Cymru. Mae Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)yn sicr yn creu cyfle i bontio rhwng byd addysg a byd gwaith.

Cefais sgwrs adeiladol gyda Chomisiynydd y Gymraeg ddoe, lle gwnaethom ni drafod pwysigrwydd defnyddio'r Gymraeg o fewn gweithluoedd ar draws Cymru. Rwyf wedi derbyn adroddiad blynyddol y comisiynydd ac wedi ei osod yn y Senedd heddiw. Bydd cyfle i drafod cynnwys yr adroddiad hwn ar lawr y Senedd cyn diwedd y flwyddyn.

Wrth gloi, hoffwn bwysleisio bod y Gymraeg yn perthyn i bawb—y bobl sy’n gallu ei siarad, yn siarad ychydig ohoni a’r rhai nad yw yn ei siarad. Drwy weithio gyda’n gilydd, mae modd gosod sylfaen gadarn i’r Gymraeg, ac a gaf i ddweud diolch i bob parti yn y Senedd am eu cefnogaeth ac am y gefnogaeth, dwi'n siŵr, i barhau'r gwaith pwysig hwn.

17:10

Shwmae i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Gaf i ddechrau drwy sôn am Ddiwrnod Shwmae, achos dwi’n meddwl ei fod e'n bwysig iawn, nid dim ond o ran nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg ond y defnydd—faint o bobl sy'n defnyddio'r Gymraeg. Ac fe wnaethon ni glywed yr wythnos diwethaf, dwi'n credu mewn cwestiwn gan Rhys ab Owen, oedd yn sôn am hen ffrindiau oedd yn nabod yr iaith Gymraeg, yn gwybod y geiriau, os ŷch chi moyn, ond sydd nawr, ar ôl gadael yr ysgol, byth yn meddwl siarad Cymraeg mewn grŵp o ffrindiau. Dwi'n credu bod diwrnodau fel Diwrnod Shwmae yn bwysig iawn i ddechrau pobl ar daith lle mae sgyrsiau Cymraeg yn fwy naturiol, ac mae hynny'n bwysig hefyd.

A allaf fi ddechrau hefyd drwy gytuno? Roeddech chi wedi gorffen gan ddweud bod yr iaith Gymraeg yn iaith sydd yn perthyn i bawb. Ac rydych chi'n hollol wir wrth ddweud hynny. Wrth gwrs, mae’n bwysig ein bod ni'n edrych ar ddefnydd yr iaith Gymraeg a nifer y siaradwyr yng nghyd-destun y sensws. Mae hynny'n bwysig ac, wrth gwrs, beth welsom ni yn sensws diwethaf oedd bod nifer y siaradwyr nid dim ond mewn cymunedau Cymraeg, ond mewn cymunedau eraill yng Nghymru, yn mynd lawr, a'r sialens nawr i Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid yw i sicrhau, os ydym ni’n mynd i gyrraedd miliwn o siaradwyr yn 2050, ein bod ni’n gallu troi—turn the ship around, os ŷch chi'n moyn—i sicrhau bod rhywbeth yn mynd i newid.

Roeddwn i’n mynd i sôn am y cynllun tai, oherwydd roeddech chi wedi sôn amdano fe. Wrth gwrs, rŷn ni wedi cael llawer o drafodaethau yn y Siambr hon, a byddwch yn gwybod nad yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi llawer o’r polisïau dŷch chi wedi sôn amdanyn nhw'n barod. Ond beth roeddwn i'n moyn gofyn oedd—. Roeddech chi wedi sôn am y polisïau, ond beth yw, a ble mae, y mesurau a’r ffigurau, fel ein bod ni’n gallu asesu a yw’r polisïau'n gweithio? Intention, os ŷch chi'n moyn, y polisi oedd bod mwy o bobl yn gallu aros yn eu cymunedau fel eu bod nhw’n gallu siarad Cymraeg yn eu cymunedau a ddim yn gorfod symud. Ydy hynny’n gweithio, a ble mae’r ffigurau fel ein bod ni’n gallu darganfod i beth yn union sydd yn digwydd, ac sydd hefyd yn mynd i ddigwydd?

A allaf i hefyd groesawu—? Roeddech chi wedi sôn am Prosiect Bro, oherwydd dŷch chi’n iawn i ddweud bod yna fwy na jest ystadegau; mae straeon ynglŷn â pham mae pobl yn gadael cymunedau. Mae hwnna’n bwysig iawn os dŷn ni fel gwleidyddion yn mynd i sôn am bolisïau newydd o ran beth sy’n gweithio a beth sydd ddim. Hefyd, o fewn hynny, roeddwn i’n moyn sôn am y grant Ymgartrefu o Llwyddo’n Lleol roeddech chi’n gwybod amdano haf diwethaf, oherwydd dyw hwn ddim yn grant gan Lywodraeth Cymru, ond ydy Llywodraeth Cymru yn asesu’r grant hwn? Oherwydd os yw hwn yn rhywbeth sydd yn llwyddo, efallai bydd yn rhaid i ni edrych os yw hwnna’n rhywbeth dŷn ni’n moyn ei ddatblygu fel Senedd, achos bod y Llywodraeth hefyd yn moyn ei wneud e.

Roeddwn i’n moyn sôn hefyd am gymunedau sydd â llai o Gymraeg. Doeddwn i ddim yn moyn dweud 'cymunedau di-Gymraeg', ond cymunedau sydd â llai o bobl yn siarad Cymraeg. Roeddwn i’n moyn sôn am Goleg Gŵyr Abertawe, achos es i i goleg Gŵyr ar ddydd Gwener i gwrdd â nhw a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Roedden nhw’n sôn am y gwaith enfawr mae adran y Gymraeg yn ei wneud i ddatblygu pobl oedd yn dod i mewn i’r coleg gydag efallai tamaid bach o Gymraeg, efallai doedden nhw ddim yn gwneud eu cyrsiau yn Gymraeg, ond i ddatblygu’r iaith pan fyddan nhw’n gwneud cyrsiau gwahanol. Mae hwnna’n bwysig a dwi’n moyn rhoi ar y record fy niolch i'r adran Gymraeg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Ac i orffen, roeddwn i’n moyn sôn am Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) roeddwn i’n sôn amdano y prynhawn yma wrthych chi, y tu allan. Mae hwnna’n bwysig iawn ac mae ganddo’r potensial, os ŷch chi’n moyn, i fod yn dipyn bach o game changer o ran nifer y siaradwyr a chyrraedd y targed hwnnw. Ond, o eistedd ar y pwyllgor addysg, y peth sydd yn glir iawn, sydd yn dod oddi wrth y bobl sydd yn dod i mewn i roi tystiolaeth i ni, yw staff. Hwn yw beth dŷn ni wastad yn dod nôl ato—byddaf i’n gorffen nawr, Dirprwy Lywydd. Dŷn ni’n gwybod, er enghraifft, oddi wrth yr Education Workforce Council fod nifer y bobl sydd yn dysgu i ddysgu yn Gymraeg yn mynd lawr tua pob blwyddyn, a bydd hwnna’n creu rhyw fath o bottleneck yn y dyfodol i’n ambition ni i ddatblygu nifer y siaradwyr sy’n gallu siarad Cymraeg. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn esbonio hynny? Oherwydd os dŷch chi’n byw mewn cymuned sydd yn siarad Cymraeg, neu o fewn cymuned sydd ddim yn siarad Cymraeg yn draddodiadol, y peth mwyaf pwysig yw bod addysg Gymraeg ar gael i’r bobl sydd yn ei moyn hi, a dyw hwnna ddim yn mynd i ddigwydd heb athrawon. Diolch yn fawr.

17:15

Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr. Diolch i Tom Giffard am y cyfraniad adeiladol ac am y cwestiynau hefyd. Wrth gwrs, dwi’n cytuno ar y pwynt cyntaf roedd e’n ei wneud am bwysigrwydd defnydd yr iaith Gymraeg. Dyna beth roeddem ni’n ei drafod wythnos diwethaf. Mae uchelgais gennym ni i greu miliwn o siaradwyr, ond miliwn o siaradwyr sy’n gallu defnyddio’r iaith a defnyddio mwy o’r iaith bob dydd. Mae’r sensws yn anodd, ond mae’n gymhleth hefyd. Cafodd y sensws ei gymryd yn ystod cyfnod COVID, a dydyn ni ddim yn siŵr am yr effaith mae hwnna wedi ei gael a sut mae pobl wedi ymateb i’r sensws. Mae ffigurau arall sydd ddim yn mynd gyda’r sensws, a dyna pam mae gwaith yn mynd ymlaen gyda’r swyddogion yn Llywodraeth Cymru a phobl sy’n gweithio yn yr ONS.

Roedd nifer o gwestiynau am sut ydyn ni’n gwybod os yw'r cynlluniau sydd gennym ni ar hyn o bryd yn llwyddo. Wel, mae nifer o bethau rydym ni yn gallu eu defnyddio i wneud hynny. Rydym ni’n gwybod yn Nwyfor, er enghraifft, fod y gwaith sydd wedi mynd ymlaen i addasu homebuy wedi cynyddu nifer y bobl sydd wedi llwyddo i gael arian mas i aros yn lleol, ac i brynu tai i wneud hynny. Mae hwnna wedi mynd lan, ac wedi mynd lan yn gyflym hefyd, dros gyfnod y peilot. Mae’r ffigurau diweddaraf wedi dod mas am y dreth gyngor yng Ngwynedd a Dwyfor, sy'n gallu dangos os yw nifer yr ail gartrefi wedi mynd lan neu wedi mynd i lawr. Bydd hwnna yn y datganiad y bydd Jayne Bryant yn ei gyhoeddi yfory—y ffigurau yna. A'r bwriad nawr yw i weld os ŷm ni'n gallu defnyddio'r fethodoleg rŷn ni wedi'i defnyddio i ffeindio'r ffigurau yna yn ehangach na jest yn Nwyfor.

Roedd Tom Giffard yn cyfeirio at Llwyddo'n Lleol. Rhan o Arfor yw hwnna ac, wrth gwrs, mae gwaith ymchwil yn mynd ymlaen i weld os yw'r pethau mae pobl yn eu gwneud o dan y teitl Arfor yn llwyddo hefyd. Mae'r gwaith yna'n cael ei arwain gan Meirion Thomas o Penbryn Consulting a'r Athro Kevin Morgan o'r brifysgol yma yng Nghaerdydd. Ymchwil annibynnol yw e a bydd adroddiadau'n dod mas i ddangos i ni ble mae'r cynllun yna wedi bod yn llwyddiannus.

Diolch i Tom Giffard am beth ddywedodd e am bwysigrwydd y bobl sy'n dysgu pobl yn y cymunedau llai Cymraeg. Dwi'n edrych ymlaen at ail gam y comisiwn, sy'n mynd i ganolbwyntio ar gymunedau ble mae llai o Gymraeg yn cael ei defnyddio, ac i'n helpu ni i weld beth allwn ni ei wneud i helpu pobl, fel y bobl roedd Tom Giffard yn sôn amdanynt, sy'n gweithio mor galed i greu cyfleoedd i bobl i ddysgu ac i ddefnyddio'r iaith.

Yn olaf, dwi o flaen y pwyllgorau yr wythnos nesaf. Mae tri phwyllgor gen i ar y Bil, a dwi'n siŵr bydd y pwyntiau y mae Tom Giffard wedi eu codi am staffio yn cael eu codi. Jest yn fras, am y prynhawn yma, dyna pam mae'r Bil yn rhoi cyfleon dros ddegawd—dros ddegawd—i ysgolion ddod at y pwynt ble y gallan nhw wneud popeth rŷn ni eisiau eu gweld nhw'n ei wneud yn y Bil. Amser a fydd y peth i'n helpu, i recriwtio pobl, i hyfforddi pobl a dod at y pwynt ble rŷn ni'n gallu gwneud popeth mae'r Bil eisiau i ni ei wneud.

17:20

Gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad heddiw? Dwi'n gwybod mi oeddwn i wedi codi efo'r Trefnydd y byddwn i'n hoffi'r cyfle i ni drafod adroddiad y comisiwn, ond rydych chi wedi rhoi mwy i ni y tu hwnt i jest diweddariad a chyfle i drafod adroddiad y comisiwn. Dwi'n falch, hefyd, eich bod chi wedi cydnabod a rhoi diweddariad ar rai o'r elfennau o'r cytundeb cydweithio, sydd wedi bod mor bwysig o ran y gwaith hwn.

Mi fuaswn i'n hoffi ategu fy niolch innau i aelodau’r comisiwn am eu gwaith, dan arweiniad Simon Brooks. Mae'r ffaith bod gennym ni 57 argymhelliad yn dweud y cyfan, dwi'n meddwl, o ran yr holl ystod o feysydd lle mae angen gweithredu neu gryfhau. Dydy o ddim yn fater dim ond o addysg, ac ati, mae hwn ar draws bob portffolio ac mae'n wych gweld hynny'n cael ei adlewyrchu. Mae o’n adroddiad sy’n gwneud cyfraniad pwysig tuag at ddyhead pawb yn y Siambr hon i weld nod 'Cymraeg 2050' yn cael ei gyflawni. Mi wnaethoch chi gloi eich datganiad heddiw drwy ddweud ei fod o'n beth trawsbleidiol a dwi'n meddwl bod hynna'n gadarnhaol ohono fo'i hun. Heb os, mae’r argymhelliad cyntaf yn un sy’n allweddol o ran hyn, sef yr angen i gryfhau’r iaith fel iaith gymunedol, a bod angen felly i bolisi cyhoeddus adlewyrchu’r nodau o ran atgyfnerthu cymunedau Cymraeg a chryfhau cynaliadwyedd y Gymraeg yn y cymunedau hyn.

Dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n edrych ar hyn mewn cyd-destun hefyd. Dim ond yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd data diweddaraf o’r arolwg blynyddol o’r boblogaeth, a oedd yn cynnwys data ynglŷn â’r nifer sy’n siarad Cymraeg yng Nghymru. Yn y flwyddyn yn gorffen 30 Mehefin 2024, 27.8 y cant o bobl tair oed neu hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg, sef y ganran isaf i’w chofnodi ers wyth mlynedd—29.2 y cant oedd y ffigwr ym Mehefin 2023. Yn amlwg, mae Tom Giffard wedi cyfeirio at y cwymp a gofnodwyd yng nghyfrifiad 2021, a dwi'n nodi'ch ymatebion chi, ond os edrychwn ni ar yr arolwg blynyddol o'r boblogaeth hefyd, dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn bryderus o weld y cwymp hwnnw ac eisiau deall pam, er gwaethaf y ffaith ein bod ni efo Diwrnod Shwmae Su'mae, neu 'Ffordd ŷch chi?', os ydych chi o'r canolbarth, fel rhai o'm teulu i, fod rhywun yn meddwl felly pam, a ninnau efo agweddau mwy cadarnhaol, ein bod ni ddim yn gweld y niferoedd yn dod drwyddo.

Hyd yma, dydyn ni ddim wedi derbyn ymateb llawn gan y Llywodraeth i bob un o'r argymhellion, ond dwi'n croesawu eich bod chi wedi dweud eich bod chi'n eu croesawu nhw, ac y bydd ymateb yn dod gydag amser. A gaf i ofyn a oes yna amserlen ar gyfer hynny, neu ydych chi'n dweud, drwy groesawu'n fawr y rhain i gyd, eich bod chi'n derbyn y 57? Yn amlwg, wrth ymateb i Tom Giffard hefyd, mi oeddech chi'n sôn bod posibilrwydd o ran sut byddan nhw'n dod drwyddo yn rhan o bolisïau neu Filiau presennol y Llywodraeth, megis Bil y Gymraeg ac addysg. Mi fyddwn i'n ddiolchgar gwybod faint o gapasiti hefyd sydd gan y Llywodraeth i weithredu ar y 57, os taw'r bwriad yw gwneud hynny.

Roeddwn i'n falch o'ch clywed chi hefyd yn cyfeirio at yr ail ymchwiliad i ardaloedd eraill sydd â dwysedd canolig neu is o siaradwyr Cymraeg. Mi fyddwn i'n ddiolchgar i gael gwybod a oes amserlen wedi ei gosod ar gyfer y gwaith hwn, oherwydd, yn amlwg, mi gymerodd y comisiwn cyntaf ddwy flynedd. Ond mi fyddwn i'n dadlau, efallai fel rhywun o Ynys Môn yn wreiddiol, ond sydd bellach wedi ymgartrefu ym Mhontypridd, fod rôl y Gymraeg yn y cymunedau hyn yn eithriadol o bwysig. Mae yna gymuned Gymraeg ym mhob rhan o Gymru, mae o jest yn fater o ran faint sydd yna yn gallu siarad a chael y cyfleoedd felly drwy'r system addysg, ac i weithio yn y Gymraeg hefyd. Mae'n glir felly o'r adroddiad hwn fod gwneud fel yr ydym ni ar y funud ddim am gyflawni nod 'Cymraeg 2050', felly dwi'n meddwl y byddai'n fuddiol i'r Senedd i gael yr eglurder ar yr uchod wrth inni ddechrau craffu ar yr adroddiad hwn a'r 57 o argymhellion, ac, yn fwy na dim, gweithredu arnyn nhw.

Mi oeddech chi'n cyfeirio at y llysgenhadon diwylliannol. Dwi'n hyderus ein bod ni ar y meinciau hyn i gyd yn credu ein bod ni wedi bod yn llysgenhadon diwylliannol ers degawdau bellach. Dwi'n credu bod agweddau yn newid, ond o ran cynghorau sir hefyd, sydd â rôl mor flaenllaw, sut ydyn ni'n ehangu'r rhaglen yna o lysgenhadon a chael mwy o bobl yn rhan o gyfleu'r neges? Rydych chi'n iawn, wrth gwrs, fod y Gymraeg yn perthyn i bawb, ond dydy hi ddim yn teimlo ei bod hi'n perthyn i bawb ar y funud, ac efallai bod pawb ohonom ni ar yr un dudalen yn y Siambr hon, ond, yn anffodus, dydy hynny ddim yn wir ledled Cymru ar y funud. Sut ydyn ni'n sicrhau bod y rheini mewn rôl ddylanwadu ar yr argymhellion yn cyd-fynd â barn y Senedd hon?

17:25

Diolch yn fawr am y cwestiynau, wrth gwrs. Y pwynt dwi'n meddwl yw bod adroddiad 'Y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg' wedi codi lot mwy o waith, so dwi wedi trial rhoi adborth yn ôl ar y gwaith penodol dan y cynllun, ond hefyd i ddangos ble mae'r gwaith yna wedi mynd yn y ddwy flynedd ar ôl iddo gael ei gyhoeddi.

Dwi'n cytuno, wrth gwrs: nid jest addysg. Mae addysg yn hollol bwysig, ond mae nifer fawr o bethau rŷn ni'n gallu eu gwneud ar draws y Llywodraeth i hybu'r iaith Gymraeg. Mae'r ffaith bod yma yn y Senedd, yn drawsbleidiol, deimlad cryf i gefnogi'r Gymraeg, mae hwnna'n dal i fod yn bwysig inni i drial cario ymlaen gyda'r gwaith sydd yn mynd i fod yn effeithiol.

Wrth gwrs dwi'n pryderu am y cwymp yn y ffigurau yn y cyfrifiad, fel y dywedais i wrth Tom Giffard, ac mae hwnna'n dangos y ffaith nad rhywbeth am unrhyw barti neu le oedd e. Dwi'n bersonol yn becso am sir Gâr, ble mae'r ffigurau wedi mynd lawr mor gyflym, ac mae pethau rŷn ni'n eu gwneud i ganolbwyntio ar sir Gâr i drial ffeindio os oes yna resymau, achos mae'r cyngor sir yna yn gefnogol dros ben i'r Gymraeg, ac rŷn ni wedi cydweithio'n agos â nhw fel Llywodraeth fan hyn. So, mae jest angen inni drial meddwl beth sydd y tu ôl i'r ffigurau yna a beth y gallwn ni ei wneud i helpu pobl yn y cymunedau yna.

Bydd ymateb i adroddiad Dr Simon Brooks yn gynnar yn y flwyddyn nesaf. Dwi ddim am ddweud heddiw, wrth gwrs, ein bod ni'n mynd i dderbyn pob un o'r argymhellion yn yr adroddiad. Dyna pam mae gwaith yn mynd ymlaen ar draws y Llywodraeth i ystyried pob argymhelliad.

Bydd ail gam yng ngwaith y comisiwn yn cael ei adrodd nôl i'r Senedd, dwi'n meddwl, ym mis Rhagfyr 2026. Mae adroddiad penodol yn mynd i ddod mas o'r comisiwn ar y maes cynllunio erbyn diwedd y flwyddyn hon. So, mae un adroddiad arall i ddod yn y flwyddyn hon, a bydd adroddiad ar yr ail gam—cymunedau lle mae llai o Gymraeg yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd—erbyn diwedd 2026.

Hoffwn hefyd wahodd pob Aelod o'r Senedd i ddod yn llysgennad diwylliannol. Fel mae Heledd wedi dweud, mae lot o bobl yn gwneud y gwaith yna yn barod, ac wedi'i wneud e dros flynyddoedd. Ond dŷn ni eisiau creu rhwydwaith o bobl a chryfhau'r rhwydwaith yna, ac mae croeso mawr i unrhyw Aelod yn fan hyn sydd eisiau bod yn rhan o'r gwaith yna.

17:30

Liciwn i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad y prynhawn yma. Liciwn i, os caf i, ddiolch hefyd i Dr Simon Brooks am y gwaith mae e wedi'i arwain dros y blynyddoedd diwethaf. Dwi'n meddwl bod yr adroddiad yn waith hanesyddol pan mae'n dod i edrych ar ddyfodol cymunedau Cymraeg. Gobeithio bod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru, ac mae gen i llawn ffydd yn y Gweinidog y bydd e'n ymateb i bob un o'r argymhellion. Achos dyfodol cymunedau Cymraeg ydy hanfod beth rydyn ni'n trio ei wneud wrth greu miliwn o siaradwyr. Mae'n rhaid bod y Gymraeg yn iaith fyw mewn cymunedau lle mae'n bosibl siarad y Gymraeg yn naturiol, ac mae hynny'n hollbwysig i'r weledigaeth.

Dwi'n gweld hefyd bod y Gweinidog yn arwain y Bil addysg Gymraeg ar hyn o bryd, a dwi'n credu bod hynny'n elfen bwysig o'r gwaith hefyd. Buaswn i'n gwerthfawrogi'r cyfle i drafod hyn gyda'r Gweinidog rywbryd arall. Ond rwy'n gobeithio, os caf i, wrth siarad y prynhawn yma, Weinidog, eich annog chi i edrych ar bob un o'r argymhellion yn adroddiad Simon Brooks, a sicrhau bod yna ymateb difrifol a llawn i bob un ohonyn nhw. Achos mae'n rhaid i ni, os yw miliwn o siaradwyr yn meddwl unrhyw beth, newid y ffordd mae'r Llywodraeth yn meddwl, newid y ffordd mae'r Llywodraeth yn gweithio, sicrhau bod y Llywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg yn y cymunedau lle mae'r iaith yn byw. 

Diolch yn fawr i Alun Davies am y cyfraniad. Wrth gwrs, dwi'n cytuno gyda fe o ran dweud diolch i Simon Brooks a'r 10 aelod eraill o'r grŵp sydd wedi creu'r adroddiad. Bydd ymateb i bob argymhelliad. Dwi ddim yn gallu dweud heddiw fy mod i'n mynd i dderbyn pob un, ond bydd ymateb i bob un. 

Mae'r adroddiad, Dirprwy Lywydd, yn tynnu ar y hanes dros fwy na hanner canrif nawr i drio hybu'r iaith Gymraeg—nôl yn y 1960au, Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, a gwaith Mr Roberts o Gonwy. Dwi wedi bod yn darllen peth am hanes yr hanner canrif i weld beth allwn ni dynnu fel gwersi. Ces i gyfle i weld rhagymadrodd y Papur Gwyn o 2017, dan enw Alun Davies, lle roedd Alun yn dweud bod angen

Yn yr ymdrech yna i helpu pobl i ddefnyddio'r iaith bob dydd, dyna ble mae adroddiad Simon Brooks yn mynd i'n helpu ni i gryfhau'r posibiliadau lle mae pobl yn siarad Cymraeg yn barod bob dydd, ac i gryfhau'r cyfleon i bara ymlaen i wneud hynny at y dyfodol, ond hefyd i greu mwy o gyfleon i bobl yn y cymunedau ble bydd ail gam gwaith Dr Brooks yn edrych i'n helpu ni.

17:35

Weinidog, roedd Cowbridge Road yn fôr o goch y bore yma, nid oherwydd y gêm bêl-droed neithiwr ond oherwydd bod plant ysgol wedi gwisgo'n goch i fynd i'r ysgol i ddathlu Diwrnod Shwmae Su'mae. Mae yna rannau yng Nghaerdydd nawr sydd â mwy o siaradwyr Cymraeg yn ganrannol na threfi yn y fro Gymraeg; mae'r iaith yn tyfu yma. A mynd nôl rŷm ni—roedd yr iaith yn iaith fwyafrifol yng Nghaerdydd y ganrif cyn diwethaf. Mae llawer iawn o'r twf nawr oherwydd bod dros 70 y cant o blant o fewn addysg cyfrwng Cymraeg yn dod o gartrefi di-Gymraeg.

Liciwn i ganolbwyntio'n sydyn ar y slogan 'Cymraeg i Bawb'. Rŷm ni i gyd yn cytuno ar y peth, ond un peth yw cytuno gyda'r egwyddor, peth arall yw trosglwyddo hwnna i'n cymunedau ni. Wrth i mi ymweld ag ysgolion yng Nghaerdydd, dwi'n cael y teimlad—a does dim ffigurau, yn anffodus, i ddangos hyn—bod mwy o blant o gartrefi lle nad yw'r Gymraeg neu'r Saesneg yn iaith gyntaf yn mynd i addysg cyfrwng Saesneg nag addysg cyfrwng Cymraeg—ein bod ni'n colli pobl o gartrefi lle nad y Gymraeg neu'r Saesneg yw'r brif iaith, yr iaith gyntaf, o addysg cyfrwng Cymraeg. Sut mae modd i ni wirioneddol sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn iaith i bawb, a'n bod ni'n denu'r teuluoedd yma i addysg cyfrwng Cymraeg? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr i Rhys am y cwestiynau. Mae'r twf yn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn ardal Treganna wedi bod yn un o'r straeon mwyaf llwyddiannus dros y degawdau diwethaf. Dwi'n cofio bod yn y gadair yn y grŵp cyntaf yn un o'r ysgolion newydd yn Nhreganna, ble nad oedd nifer fawr o gwbl o bobl yn dod ymlaen at addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, a mae hynny wedi newid dros y degawdau. A dyna pam dwi'n meddwl rŷm ni'n gallu bod yn hyderus y gallwn ni wneud mwy a thynnu mwy o bobl i fewn o'r teuluoedd hyn lle nad yw'r Saesneg na'r Gymraeg yn cael eu defnyddio. 

Mae hynny wedi dechrau. Dwi'n cofio yn yr ysgol yna, ym mlwyddyn gyntaf yr ysgol, doedd dim wyneb du o gwbl yn yr ysgol yng nghanol Treganna, yng nghanol Glan-yr-afon, ble mae cymunedau fel yna yn byw. Mae hynny wedi newid. Mae lot mwy i'w wneud, ond gan dynnu ar beth sydd wedi digwydd yn barod yn y gymuned yma, dwi'n meddwl y gallwn ni fod yn hyderus a chymryd camau ymlaen i dynnu mwy o bobl i fewn i addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn y cymunedau lleol yna.

Rwy'n cytuno gydag Alun Davies; rwy'n credu bod yr adroddiad yma yn garreg filltir. Yn union fel gyda chreu Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, lle roedd consensws pleidiol ar draws pob plaid o blaid y Gymraeg am y tro cyntaf, rwy'n credu bod hwn nawr yn gam arall ymlaen: consensws o blaid pwysigrwydd amddiffyn a hyrwyddo'r Gymraeg lle mae'n iaith gymunedol bob dydd, gan edrych ymlaen, wrth gwrs, i'r diwrnod lle bydd hynny'n wir ym mhob rhan o Gymru. 

Mae pob un o'r 57 o argymhellion yn bwysig ac rwy'n edrych ymlaen i weld yr ymateb. Ond a gaf i dynnu eich sylw chi at, i mi, un o'r argymhellion creiddiol bwysig, sef 16? Mae'n sôn am greu corff i drefnu'r gwaith yma, i gydlynu'r gwaith yma. Oherwydd gallwch chi gael y syniadau gorau, ond heb bod yna gartref neu gyfrwng ar gyfer y syniadau hyn—. I ryw raddau, mae'r comisiwn wedi gweithredu fel yna yn ystod y blynyddoedd diwethaf a gyda'r gwaith sydd dal gyda'r comisiwn ar ôl, ond bydd angen dilyniant wedyn. 

Rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi dweud weithiau does dim problem yng Nghymru dyw Adam Price ddim eisiau creu corff yn ei gylch e. [Chwerthin.] Yn yr achos yma, dwi'n credu bod yna achos cyfiawn dros hynny. Ond tra eich bod chi'n ystyried hynny, oes angen pontio? Yn Arfor 1 ac Arfor 2, mae lot o waith da wedi digwydd, ond oes yna fodd cael o leiaf Arfor 3 tra'n bod ni'n ystyried beth yw siâp a sgôp ac union strwythur pa bynnag gorff fydd yn gallu mynd â'r gwaith yma ymlaen?

17:40

Diolch yn fawr i Adam Price. Mae Adam wedi dweud yn barod beth sydd gyda fi i'w ddweud, achos tu ôl argymhelliad 16 yw'r ddadl am a ydym ni eisiau gweld cyrff newydd sbon, neu oes rhywbeth gyda ni yn barod ble rŷn ni'n gallu addasu beth sydd gyda ni yn barod, a chreu y corff mae'r adroddiad yn ei awgrymu. Mae hwnna, siŵr o fod, yn tynnu ar y profiad yn Arfor fel rhywbeth sydd wedi bod yna nawr am sbel hir, a lot o lwyddiant tu ôl y gwaith maen nhw wedi'i wneud. So, pan rŷn ni'n ystyried yr argymhellion, gallwn ni feddwl unwaith eto am a oes corff newydd, neu allwn ni ddefnyddio beth sydd gyda ni yn barod, ac i bontio i'r dyfodol trwy ddefnyddio'r profiadau mae pobl wedi'u cael.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a shwmae. Dwi'n cytuno gyda chi 100 y cant am yr ymdeimlad yma fod Cymraeg i bawb. Un o'r heriau sydd gennym ni yn llefydd fel y Cymoedd ydy'r ymdeimlad sydd gan nifer o bobl fod eu Cymraeg nhw ddim yn ddigon da, y complex yma sydd gan bobl am bethau fel treigliadau. A fyddech chi yn ymuno gyda fi i ddweud, ie, mae Cymraeg i bawb, ond hefyd mae Cymraeg pawb yn ddilys, a bod croeso, dŷn ni'n cael ein cyfoethogi gan Gymraeg wahanol, gan dafodieithoedd gwahanol, ac na ddylai pobl ddim teimlo fel hynny? Beth ydych chi'n teimlo y byddai'n gallu cael ei wneud i sicrhau nad yw'r her hyder yna ddim yn golygu bod cymaint o bobl yn dweud yn y sensws nad ydyn nhw'n siaradwyr Cymraeg? Beth ydym ni'n gallu ei wneud er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl yn cymryd y naid yna a'u bod nhw'n teimlo balchder yn eu Cymraeg a pha mor gyfoethog mae hi yn gwneud gwahaniaeth?

Diolch i Delyth Jewell. Mae yna dau bwynt, dwi'n meddwl. Un pwynt yw jest i dynnu sylw at y ffaith bod pobl sy'n siarad Saesneg yn siarad Saesneg mewn ffyrdd hollol wahanol bob dydd, a does neb yn dweud, 'O, dydy fy Saesneg i ddim yn ddigon da i'w ddefnyddio'. So, pam bod pobl sy'n siarad Cymraeg yn meddwl fel yna?

A'r ail beth yw jest i ddweud wrth bobl mai'r unig ffordd i ddod i siarad Cymraeg yn well yw trwy ddefnyddio'r Gymraeg. Dwi'n gwneud camgymeriadau bob tro dwi'n siarad Cymraeg, ond rŷn ni i gyd yn. Dim ond trwy ddefnyddio'r Gymraeg ydyn ni'n gallu ei gwneud hi'n well, a dwi eisiau jest perswadio pobl i beidio â becso a jest defnyddio. Trwy ddefnydd o'r Gymraeg, rŷch chi'n mynd i ddefnyddio'r Gymraeg lot yn well.

7. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2023-24

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Heledd Fychan.

Eitem 7 yw'r ddadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2023-24. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol i wneud y cynnig. Jane Hutt.

Cynnig NDM8688 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2023-24.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Jane Hutt 17:43:55
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip
17:50

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Galwaf ar Joel James i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 1—Darren Millar

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod tua 30% o blant Cymru yn byw mewn tlodi.

Yn cefnogi galwadau Comisiynydd Plant Cymru i Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cymru gael targedau clir a chanlyniadau mesuradwy.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Comisiynydd Plant i weithredu ymgyrch Ymddiriedolaeth WAVE i leihau cam-drin plant, esgeulustod a phrofiadau niweidiol eraill yn ystod plentyndod erbyn 2030.

Cynigiwyd gwelliant 1.

17:55

Galwaf nawr ar Sioned Williams i wneud gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.

Gwelliant 2—Heledd Fychan

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod 14 mlynedd o lymder gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU wedi dwysáu lefelau tlodi, ac yn benodol tlodi plant, yng Nghymru.

Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru yn 2016 wedi cael gwared ar y targed o ddileu tlodi plant erbyn 2020.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae yna sawl elfen bwysig, dwi'n meddwl, yn yr adroddiad sydd angen sylw gan y Llywodraeth, nifer ohonyn nhw'n ymwneud ag effaith tlodi a'r modd y mae hawliau plant yn cael eu tanseilio. Hoffwn i, i ddechrau, roi ar gofnod ddiolch Plaid Cymru i'r comisiynydd am y modd y mae hi wedi herio y rhai sy'n dal awenau grym mewn modd mor gryf a diflewyn-ar-dafod, a'r modd y mae hi wedi cadw ffocws ar y modd y mae tlodi yn dal, yn ei geiriau hi, i ddifetha bywydau plant Cymru. 

Er ein bod yn cytuno gyda sylwedd gwelliant y Ceidwadwyr i'r cynnig, o ran cefnogi galwadau’r comisiynydd i strategaeth tlodi plant Llywodraeth Cymru gael targedau clir a chanlyniadau mesuradwy, mae gwelliant Plaid Cymru yn ei wneud yn glir bod yna gyfrifoldeb diamheuol hefyd ar Lywodraeth Geidwadol flaenorol y Deyrnas Gyfunol am ddwysáu lefelau tlodi plant yng Nghymru. Cafodd polisïau llymder y 14 mlynedd diwethaf effaith drychinebus ar wasanaethau cyhoeddus ac iechyd ein cenedl, gan greu argyfwng genedlaethol—argyfwng sy'n dal i ddwysáu.

Y Ceidwadwyr gyflwynodd y cap ar fudd-daliadau a'r terfyn dau blentyn sydd wedi dyfnhau y lefelau tlodi uchel hynny. Dagrau pethau yw bod Llafur wedi gwrthod gwyrdroi y cam anghyfiawn a niweidiol hwn pan fo'r grym yn eu dwylo i wneud hynny, a'n Llywodraeth ni yma yng Nghymru hefyd yn rhy lwfr i alw am hynny, yn rhy barod i roi buddion eu plaid cyn buddion ein plant. Ble mae eu hawliau nhw o dan erthygl 27 y confensiwn i safon byw ddigonol?

Mae ein gwelliant hefyd yn gresynu bod Llywodraeth Cymru yn 2016 wedi cael gwared ar y targed o ddileu tlodi plant erbyn 2020. Fisoedd lawer ers cyhoeddi'r strategaeth tlodi plant ddiwedd Ionawr eleni, a gyhoeddwyd heb dargedau, wrth gwrs, i osod uchelgais nac i yrru cyflawni, echdoe fe gawson ni olwg ar y fframwaith monitro sydd nawr wedi ei greu i fesur cynnydd. Er i un o brif feddylwyr eu plaid, Gordon Brown, wneud yr achos, lai na chwe mis yn ôl, am weledigaeth glir ac amserlen gyflawnadwy i roi terfyn ar dlodi nawr, a thlodi mewn 10 mlynedd, does dim targed o'r fath ar gyfyl y fframwaith gan Lywodraeth Cymru. Ydy, mae'n cynnig ffyrdd o fesur sut effaith gaiff amcanion y strategaeth, ond does dim uchelgais yma i yrru'r gwaith. Mae hi fel cael arwyddbost yn nodi faint o filltiroedd sydd wedi eu rhedeg mewn ras, ond fod yna ddim llinell derfyn. Pan ollyngwyd y targedau yn 2016, y rheswm a roddwyd gan y Llywodraeth oedd bod penderfyniadau Llywodraeth San Steffan y dydd yn gweithio yn erbyn cyrraedd y targedau. Felly, fy nghwestiwn i heddiw yw: a ydyn ni felly i gymryd bod hynny'n dal yn wir, er bod Llafur nawr yn dal allweddi Rhif 10?

Hoffwn i fanylu, i orffen, ar ddau o feysydd blaenoriaeth y comisiynydd, sy'n ymwneud ag anghydraddoldebau a diffyg gweithredu hawliau—sef mynediad plant sy'n geiswyr lloches ac yn ffoaduriaid at wasanaethau, a'r camwahaniaethu sy'n cael ei brofi gan blant sy'n perthyn i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae'r plant sy'n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches yn rhai o aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas. Mae sefydlu gwasanaeth gwarcheidiaeth wedi bod yn ddisgwyliad clir gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ers dyddiau cynnar datganoli, ac, yn sgil y ffaith ein bod yn datgan ein bod yn genedl noddfa, mae'n siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wasanaeth allai fod o fudd enfawr i blant sydd yn y sefyllfa yma i'w cefnogi nhw i lywio’r system lloches, sicrhau eu bod yn deall ac yn gallu arfer eu hawliau, ac eirioli drostyn nhw lle bo angen. Mae'r comisiynydd yn amlinellu ac yn crynhoi y corff o dystiolaeth sy'n bodoli i gefnogi'r alwad hon ac yn tanlinellu’r ffaith hefyd fod y diffyg mynediad yna at drafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei nodi fel rhwystr sy’n atal plant rhag derbyn eu hawliau.

Dwi'n falch o glywed y diweddariad bod yna gynllun arall yn mynd i ddod nawr ar ôl i'r Llywodraeth dorri'r Tocyn Croeso mor ddisymwth, heb roi cynllun arall mewn lle, ym mis Ebrill. Ond beth yw'r amserlen, achos dyw 'cyn gynted ag y bo modd' ddim yn ddigon da, mae gen i ofn?

Hoffwn i hefyd ofyn i'r Llywodraeth edrych ar y canllawiau ar ddefnydd disgresiynol awdurdodau lleol o ran darparu prydau bwyd am ddim i blant y mae eu rhieni nhw neu ofalwyr heb fynediad at gyllid cyhoeddus. Mae'n rhywbeth dwi wedi'i godi sawl tro yn y Siambr hon ond does dim gweithredu wedi bod. Mae hynny’n golygu, medd y comisiynydd, fod yr hyn y gall plant ei hawlio yn cael ei gysylltu â statws eu rhieni, sydd ddim yn cyd-fynd â’u hawliau o dan y comisiwn hawliau.

Yn olaf, hoffwn i gefnogi'r galwadau sy'n cael eu gwneud ynglŷn â'r anghydraddoldebau sy'n cael eu profi gan blant ein cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a’r ffaith bod y cynnydd ar y camau sy'n cael eu hamlinellu yn y 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' yn rhy araf. Mae lefelau absenoldeb yn y cymunedau hyn wedi codi i ddibyn hollol annerbyniol, a chyrhaeddiad addysgol plant yn y cymunedau hyn yw'r isaf o bob grŵp ethnig ar draws y cyfnodau allweddol. [Torri ar draws.] Dwi'n gorffen nawr. Mae adroddiad y comisiynydd yn tynnu sylw at y rhwystrau sy'n cyfrannu at hyn. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â’r cyfraddau presenoldeb isel ymhlith dysgwyr Sipsiwn a Theithwyr a Roma yn yr ysgol, a sut mae'r tasglu presenoldeb yn mynd i’r afael yn benodol â rhwystrau i addysg ar gyfer y dysgwyr yma? Diolch.

18:00

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Buffy Williams. 

18:05
18:10

Gaf i ddiolch am y cyfle i ni fod yn trafod adroddiad Comisiynydd Plant Cymru heddiw? Yn sicr, pan fyddwch chi’n ystyried bod gennym ni Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae’r ffaith bod yna gymaint yn yr adroddiad hwn sy’n dangos nad yw hawliau plant yn cael eu diwallu yma yng Nghymru yn rhywbeth sydd yn bryder aruthrol.

Mae nifer o bobl eraill eisoes wedi gwneud y pwyntiau o ran tlodi plant. Dwi’n ychwanegu fy llais innau at y galwadau hynny o ran targedau pendant. Mi oedd hi mor, mor siomedig pan wnaeth Llywodraethau Llafur blaenorol gael gwared ar y targed o ddiddymu tlodi plant erbyn 2020. Mae’n rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth, a dwi’n falch bod adroddiad y comisiynydd plant mor glir ar hynny.

Hefyd, o ran edrych ar anghenion dysgu ychwanegol, roeddwn i’n falch o weld Cadeirydd y pwyllgor yn canolbwyntio ar hynny, oherwydd, yn sicr, o ran y gwaith achos dwi’n ei dderbyn yn fy rhanbarth i, mae hwn yn rhywbeth sy’n dod drosodd dro ar ôl tro. Dydy o ddim yn fy synnu i, a bod yn onest—gan ei fod yn gyfanswm o 14 y cant o'r gwaith achos, sef y mater unigol mwyaf—mai dyma’r hyn sydd yn hawlio sylw Comisiynydd Plant Cymru.

Yn amlwg, drwy fy ngwaith blaenorol ar y pwyllgor hwnnw, mi welais i enghreifftiau lle, efo’r gefnogaeth gywir, mae’r plant a’r teuluoedd hynny’n gallu ffynnu. Mae yna ddarpariaeth ragorol mewn gwahanol rannau o Gymru. Ond, fel sy’n cael ei ddangos yn glir yn yr adroddiad yma, mae o’n loteri cod post ac mae straen aruthrol wedyn. Mae’r adroddiad hwn hefyd yn dangos yn glir eu bod nhw'n cael eu methu o oed ifanc iawn, iawn. Felly, mae hynny, sef yr effeithiau hiroes wedyn, yn rhywbeth mae’n rhaid inni adlewyrchu arno fo, ac, yn anffodus, rydyn ni wedi codi hyn nifer o weithiau, ond dydy pethau ddim yn gwella.

Hefyd, o edrych ar yr adroddiad, mae yna gyfeiriad at y papur ar y cyd a gyhoeddodd y comisiynydd gyda Chomisiynydd y Gymraeg o ran darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol yn y Gymraeg yn benodol. Dwi’n gweld bod y cyn-Weinidog addysg yma. Mi gawson ni drafodaeth pan oeddech chi yn y rôl honno o ran hynny, ond erys y ffaith bod yna rai teuluoedd yn dal i fethu â chael y ddarpariaeth honno, yn gorfod newid iaith yr aelwyd, neu rydyn ni’n gweld cynnydd hefyd mewn rhieni yn gorfod addysgu eu plant gartref. Mae yna ffaeleddau fan hyn, ac rydyn ni'n gweld hyn ar ddu a gwyn yn yr adroddiad, ond ble ydyn ni'n mynd i weld y cynnydd?

Mae geiriau’r comisiynydd ar nifer o'r materion hyn yn ddiflewyn-ar-dafod, a dwi'n meddwl bod hynna'n rhywbeth i'w groesawu: nad oes ofn herio'r Llywodraeth pan fo angen, ychwaith. Dwi'n meddwl ein bod ni'n cael dadl a bod o'n rhywbeth, wedyn—. Sut ydyn ni, wedyn, yn adrodd ar yr holl feysydd hyn? Yn amlwg, mae yna nifer o bwyllgorau sy'n mynd i fod yn edrych ar wahanol elfennau, ond dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig i ni gael, hefyd, y cyfle gan y Llywodraeth i wybod sut ydyn ni'n mynd i fod yn gweld gwelliant, ac mae'r pwynt o ran targedau'n bwysig yn y fan yna.

Mae fepio yn rhywbeth arall sydd yn cael ei godi'n aml iawn gan blant a phobl ifanc pan fyddaf i'n ymweld efo ysgolion. Dwi'n meddwl ei fod o'n glir bod hwn yn rhywbeth sy'n pryderu plant a phobl ifanc. Mae o'n dod drosodd yn yr adroddiad hwn a byddwn i'n hoffi gweld gweithredu.

A byddwn i'n hoffi ychwanegu fy llais i o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Mae hwn yn rhywbeth, unwaith eto, rydyn ni wedi bod yn ei drafod am flynyddoedd lawer. Mae'n dangos yn glir fan hyn ei fod o'n bryder ledled Cymru, sydd nid yn unig yn effeithio ar allu i gael mynediad at addysg, ond hefyd yr holl bethau cyfoethog sydd yn dod â hawliau plant: yr hawl i fod yn ymwneud efo chwaraeon, efo diwylliant, ac ati, i fod yn ymwneud efo chwaraeon ar ôl ysgol, oherwydd rydyn ni'n gweld cwymp yn nifer y plant o deuluoedd difreintiedig sy'n gallu cymryd rhan yn y math yna o weithgareddau. Felly, mae'n rhaid inni gael datrysiadau.

Felly, dwi'n croesawu'r adroddiad hwn. Yn anffodus, mae o'n rhoi darlun i ni o faint o her sydd yna ledled Cymru o ran rhoi hawliau i blant yng Nghymru. Beth dwi eisiau gwybod ydy sut y bydd Llywodraeth Cymru, rŵan, yn gweithredu ar nifer o'r argymhellion hyn, gan ddeall bod y sefyllfa ariannol fel y mae hi, ond yn sicr rydyn ni yn mynd i fod yn methu cenedlaethau'r dyfodol os nad ydyn ni'n gallu gweithredu.

18:15
18:20
18:25
18:30

Dwi'n falch o weld bod adroddiad y comisiynydd plant wedi adnabod iechyd meddwl fel maes blaenoriaeth i'w gwaith hi, oherwydd, fel dwi wedi sôn amryw o weithiau erbyn hyn, mae sicrhau triniaeth iechyd meddwl prydlon ac effeithiol i blant yn hollbwysig ar gyfer yr agenda ataliol. Y mwyaf o oedi sydd yn y system o ran darparu triniaeth, yna'r mwyaf o debygolrwydd y bydd problemau yn gwaethygu ymhellach ymlaen yn eu bywydau. Ond mae'n parhau i fod yn realiti trist bod plant yng Nghymru yn gorfod dioddef arosiadau am wasanaethau iechyd meddwl sy'n llawer uwch nag oedolion. Ar hyn o bryd, dim ond 57 y cant o ymyriadau therapiwtig sy'n dechrau o fewn y 28 diwrnod yn dilyn asesiad gan y tîm lleol ar gyfer pobl o dan 18 mlwydd oed, o'i gymharu â 77 y cant i bobl dros 18.

Yn anffodus, pan dwi wedi codi'r mater yma o'r blaen yn y Senedd, dwi heb dderbyn llawer o sicrwydd oddi wrth y Llywodraeth bod ganddyn nhw'r weledigaeth na'r dulliau cydweithio trawsbortffolio cadarn er mwyn mynd i'r afael â'r mater yma. Mae'r adroddiad yn sôn am droi hawliau i mewn i realiti, a does dim amheuaeth bod darpariaeth iechyd meddwl yn hawl sylfaenol sydd ddim ar gael i lawer gormod o'n plant ar hyn o bryd. Felly, gaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet pam fod y sefyllfa mor wael o ran cyflenwad iechyd meddwl i blant yng Nghymru ac a fydd y Llywodraeth yn derbyn argymhelliad y comisiynydd i ddatblygu cynllun gweithredu iechyd meddwl penodol ar gyfer plant a phobl ifanc?

Yn olaf, dwi am gyfeirio yn benodol at anghenion dysgu ychwanegol, sydd yn cael sylw penodol yn adroddiad y comisiynydd. Mae hi'n cyfeirio at bapur polisi ar y cyd â'r comisiynydd iaith, ac mae hwnna i'w groesawu. Fe wnaf i sôn am ychydig o enghreifftiau lleol. Dwi wedi cael nifer fawr o rieni a phlant yn dod i fy nghymorthfeydd, neu'n cysylltu efo fi, wedi cael diagnosis, neu yn aros am ddiagnosis, ac yn gorfod aros yn hwy ar gyfer plant cyfrwng Cymraeg, a hefyd nad ydy'r gwasanaeth ar gael, neu'r cymorth ar gael, i blant sydd ei angen trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn sen ar y Llywodraeth, eu bod nhw'n methu'r plant bregus yma, ac yn eu methu nhw yn eu mamiaith. 

Yn yr adroddiad yna, a'r papur polisi a ysgrifennwyd ar y cyd rhwng y comisiynydd iaith a'r comisiynydd plant, maen nhw'n gwneud amryw o alwadau, ac felly, os caf i ailadrodd rhai o'r galwadau ar y Llywodraeth, ac os gwnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ymateb: ydy'r Llywodraeth wedi blaenoriaethu'r gwaith o drefnu adolygiad cenedlaethol o'r maes a'r ddarpariaeth a gaiff ei chynnig ar hyn o bryd drwy'r Gymraeg, a ble mae'r Llywodraeth arni gyda hyn? Ydy'r Llywodraeth wedi cyhoeddi amserlen i adolygu bob pum mlynedd y ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg? Ydy'r Llywodraeth wedi datblygu cynigion ar drefniadau cydweithio rhwng awdurdodau lleol yn y maes yma? Diolch yn fawr iawn. 

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. 

Member
Jane Hutt 18:33:29
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip
18:35
18:40

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Rydym ni wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Yn gyntaf, galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

18:45

Eitem 7. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2023-24. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 26, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais yn awr ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2023-24. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 12, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, neb yn ymatal, naw yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

item 7. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2023-24. Cynnig: O blaid: 44, Yn erbyn: 9, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:46.