Y Cyfarfod Llawn

Plenary

09/10/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sioned Williams.

Cyllid ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus

1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â sicrhau cyllid digonol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru? OQ61633

Llywydd, diolch yn fawr. Mae Llywodraeth Cymru wedi trafod cyllid y dyfodol gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rheolaidd ers 4 Gorffennaf. Fydd y niwed rŷn ni wedi’i weld yn y 14 mlynedd diwethaf ddim yn cael ei ddatrys dros nos—pwynt a wnaed yn glir gan Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol.

Diolch yn fawr. Mae ein gwasanaethau cyhoeddus, sydd eisoes mewn cyflwr argyfyngus oherwydd polisïau llymder, yn wynebu mwy o doriadau eleni, fel rŷch chi’n gwybod, wrth i fyrddau iechyd ddatgelu diffygion o ddegau o filiynau yn eu cyllid, ysgolion yn gorfod diswyddo athrawon a chynorthwywyr, awdurdodau lleol dros Gymru nawr yn rhybuddio y bydd cannoedd yn colli swyddi, â’u gwasanaethau yn methu cwrdd â’r galw. Ac rŷn ni’n gwybod taw’r rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau sydd angen cefnogaeth gwasanaethau cyhoeddus fwyaf, gan amlaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y sefyllfa gyllidol yn un anodd. Felly, a fyddwch chi’n galw ar Lywodraeth San Steffan i ddiwygio’r fformiwla sy’n ein hamddifadu o’r arian rŷn ni ei angen i gwrdd ag anghenion pobl Cymru? Bues i’n cwrdd ag arweinwyr cyngor Castell Nedd Port Talbot yr wythnos diwethaf, sydd, fel y gwyddoch, eisoes dan bwysau ychwanegol yn sgil colli miloedd o swyddi yng ngwaith dur Tata a’r gadwyn cyflenwi. A wnewch chi, felly, ymhellach, alw am gyllid ychwanegol penodol gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i sicrhau bod y cyngor ac awdurdodau lleol cyfagos yn cael cymorth i gwrdd â’r pwysau ychwanegol yma?

Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Sioned Williams am y cwestiynau ychwanegol yna. Dwi’n cytuno, wrth gwrs, fod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn dal i fod yn fregus, ac mae’r cyllid sydd gyda ni yn dal i fod yn anodd hefyd. Rŷn ni'n cydweithio’n agos nawr â’r Llywodraeth newydd yn San Steffan, a dwi wedi cael cyfle, yr wythnos diwethaf, i gwrdd â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, gyda’r Gweinidogion sy’n gyfrifol am gyllid yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban hefyd. A bob tro rŷn ni’n cael y cyfleon yna, mae’n gyfle i ni wneud yr achos i’r Llywodraeth newydd i ariannu gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau yma yng Nghymru.

Fel y dywedais i yn yr ateb gwreiddiol, dyw hwnna ddim yn mynd i ddigwydd dros nos. Mae’r problemau sylfaenol yn economi y Deyrnas Unedig yn dal i fod yna, ond uchelgais y Llywodraeth newydd yn San Steffan yw i gynyddu’r economi a, thrwy hynny, i gael mwy o arian i fuddsoddi yn y pethau sy’n bwysig i ni yma yng Nghymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich rôl flaenorol fel Prif Weinidog, pan oedd yna Lywodraeth Geidwadol, roeddech chi'n ddi-flewyn-ar-dafod, onid oeddech, yn eich galwadau am fwy o gyllid i Gymru, gan honni nad oedd y Llywodraeth Geidwadol yn darparu digon, fel rydych chi newydd ailadrodd. Gan fod Llafur mewn grym bellach, mae'n ymddangos bod y galwadau cyhoeddus hynny wedi tawelu. Fe wnaethoch chi adeiladu gobeithion y cyhoedd y byddai Llywodraeth Lafur yn sicrhau mwy o arian i Gymru, ond ers yr etholiad ychydig iawn o sôn sydd wedi bod am hyn. Os oedd eich galwadau am gyllid yn ddiffuant, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr eich bod wedi treulio'r misoedd diwethaf, fel rydych chi newydd ddweud, fel Gweinidog cyllid, yn mynnu arian ychwanegol gan eich cymheiriaid yn San Steffan. Rydych chi'n dweud eich bod chi wedi gwneud hynny ers i chi fod yn y swydd. A allwch chi rannu manylion y sgyrsiau hynny gyda ni a dweud wrthym faint yn ychwanegol y bydd Cymru'n ei gael?

Wel, Lywydd, ysgrifennais at Ganghellor y Trysorlys ar 17 Medi, yn nodi ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru a sut y gallai'r rheini gael eu hadlewyrchu yn y gyllideb sydd i ddod. Rwy'n hapus iawn i sicrhau bod sylwedd y llythyr hwnnw ar gael i'r Aelod gan y bydd yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn dal ati wrth gwrs i gyflwyno'r achos dros gyllid i Gymru ar gyfer blaenoriaethau allweddol. Y gwahaniaeth yw ein bod bellach yn ymdrin â Llywodraeth sy'n rhannu'r uchelgeisiau hynny yn hytrach na Llywodraeth a oedd bob amser yn benderfynol o'u tanseilio.

Bydd y gyllideb bob amser yn gyfyngedig, felly mae'n bwysig gosod blaenoriaethau. Rydym wedi gofyn am fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion yn lle Barnett. Ond fel y dengys y fformiwla llywodraeth leol, mae fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion yn gymhleth, ac nid yw pawb yn cytuno â'r canlyniad. Os yw popeth yn flaenoriaeth, yna i bob pwrpas nid oes unrhyw beth yn flaenoriaeth. Gwelsom yng nghyllideb y llynedd, ar wahân i iechyd, fod rheilffyrdd yn cael eu blaenoriaethu ar draul diwylliant a'r amgylchedd. A yw'r Llywodraeth wedi ystyried proses ar gyfer blaenoriaethu cyllidebau, a chyhoeddi'r canlyniad, fel y gallwn weld beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei flaenoriaethu, ar wahân i iechyd?

13:35

Wel, Lywydd, mae pob ymarfer cyllidebol yn ymarfer blaenoriaethu, ac ni fydd yr un hwn yn wahanol, oherwydd pan fydd gennych swm penodol o arian ar gael i chi, mae'n anochel fod penderfyniad i wario mwy o arian ar un pwnc yn benderfyniad i wario llai o arian ar un arall. Ac mae hynny'n wir beth bynnag yw maint y gyllideb, oherwydd yn y diwedd mae'r gyllideb yn swm sefydlog. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r ymarfer blaenoriaethu hwnnw wedi bod yn arbennig o llym, a chafodd Llywodraeth Cymru ei harwain gan gyfres o egwyddorion blaenoriaethu i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen craidd cyn belled ag y bo modd, er mwyn blaenoriaethu swyddi yn y penderfyniadau gwario hynny, a chael anghenion yr aelwydydd sy'n dioddef waethaf ar flaen y meddwl yn y penderfyniadau hynny, ac fel y dywedaf, mae penderfyniad i wario mwy ar rywbeth yn golygu bod yn rhaid i chi wario llai ar rywbeth arall. Felly, roedd yn egwyddor benodol yn y rownd gyllidebol ddiwethaf y dylem ailffocysu arian i ffwrdd oddi wrth feysydd heb eu datganoli a defnyddio'r arian hwnnw i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus. Felly, dyna fydd y dull a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru o hyd. Ymarfer blaenoriaethu fydd y gyllideb, fel y dywedodd Mike Hedges, a chaiff y blaenoriaethau hynny eu gosod gerbron y Senedd a gerbron y Pwyllgor Cyllid pan fydd y gyllideb ddrafft yn cael ei gosod a'i thrafod.

Cyllido Awdurdodau Lleol

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw drafodaethau y mae wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ynghylch cyllido awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru? OQ61658

Lywydd, byddaf yn cynnal cyfarfodydd dwyochrog ar y gyllideb gyda holl Ysgrifenyddion y Cabinet yr wythnos hon. Bydd trafodaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol yn canolbwyntio ar ariannu pob awdurdod lleol ledled Cymru.

Diolch yn fawr am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet.

Rydym yn gwybod yn rhy dda am y pwysau llym ar gyllidebau Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol o ganlyniad i 14 mlynedd o gyni. Gwyddom hefyd am yr effaith y mae hynny'n ei chael nid yn unig ar ein gwasanaethau cyhoeddus, ond ar bawb sy'n darparu gwasanaethau mewn cymunedau ledled y wlad. Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch chi a minnau hefyd yn gyfarwydd iawn â phryderon awdurdodau lleol fel fy un i yn sir y Fflint ynglŷn â'r fformiwla ariannu, ac er fy mod i'n bersonol yn credu ein bod ni wedi cyrraedd pwynt nawr lle mae angen inni edrych ar ariannu llywodraeth leol yn ei gyfanrwydd, o'r ffordd y mae grantiau'n gweithio i'r penderfyniadau sy'n sail i gyllido neu a ddylai awdurdodau lleol fod yn ariannu pethau fel gwasanaethau tân ac achub, hoffwn ganolbwyntio ar un agwedd benodol y prynhawn yma.

Rwy'n ymwybodol fod awdurdodau lleol sy'n agos at y ffin yng ngogledd Cymru, fel sir y Fflint a Wrecsam, yn ei chael hi'n fwyfwy anodd recriwtio a chadw staff mewn rhai rolau, fel gweithwyr cymdeithasol, am eu bod yn cystadlu'n gynyddol gydag awdurdodau mawr dros y ffin ac nad ydynt yn teimlo eu bod mewn sefyllfa i gynnig yr un cyflog cystadleuol ac amodau. Felly, a gaf i ofyn i Lywodraeth Cymru roi rhywfaint o ystyriaeth i'r hyn y gellid ei wneud i liniaru hyn, boed hynny drwy bwysoliad yn y fformiwla ariannu i adlewyrchu materion o'r fath, neu drwy ddull arall? Rwy'n siŵr eich bod yn cytuno ei bod yn bwysig cadw gwasanaethau, a gweision cyhoeddus hefyd, ochr yn ochr â'n dyheadau i fod yn genedl gwaith teg ac yn un sy'n gweld gwerth gwasanaethau cyhoeddus. Diolch.

Diolch i Hannah Blythyn am y pwyntiau diddorol a pherthnasol hynny. Fe fydd hi'n gwybod bod y fformiwla ariannu llywodraeth leol yn fformiwla sy'n cael ei gyrru gan ddata—caiff tua 4,000 o wahanol bwyntiau data eu defnyddio wrth gyfrifo dosbarthiad y cyllid y gallwn ei ddarparu i awdurdodau lleol, gyda'r mwyafrif helaeth o'r fformiwla honno yn cael ei yrru gan ystyriaethau poblogaeth, ystyriaethau amddifadedd ac ystyriaethau teneurwydd poblogaeth, a hynny oherwydd bod pob un awdurdod lleol yng Nghymru, yn ei ffordd ei hun, yn wynebu'r heriau y mae Hannah Blythyn wedi cyfeirio atynt.

Mae hi'n llygad ei lle yn tynnu sylw at y ffaith y bydd awdurdodau lleol ar hyd y ffin â Lloegr yn wynebu her recriwtio gydag awdurdodau lleol eraill gerllaw, yn yr un modd ag y mae awdurdodau lleol ar gyrion gorllewinol Cymru yn wynebu problemau recriwtio tebyg ond gwahanol o ran natur oherwydd teneurwydd y boblogaeth sydd ar gael i recriwtio ohoni. Felly, rwy'n hapus iawn i ddweud wrth yr Aelod y bydd y materion hynny, wrth gwrs, yn rhan o'n trafodaethau parhaus gydag awdurdodau lleol. Rwy'n bwriadu mynychu cyfarfod o'r is-grŵp cyllid sydd gennym gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a fydd yn cael ei gadeirio gan Jayne Bryant, fel y Gweinidog, ar 22 Hydref, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u codi ar ran y rhan o Gymru y mae'n ei chynrychioli yn cael eu codi a'u trafod yno eto.

13:40

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n credu mai dyma'r tro cyntaf i mi eich annerch yn eich swydd ffurfiol, ac rwy'n eich croesawu i'r rôl hon.

Fe fyddwch yn cydnabod mai un o'r cyfrifoldebau mwyaf sydd gan awdurdodau lleol yw gofal cymdeithasol. Mae'r boblogaeth hŷn yn arbennig yn dibynnu'n helaeth ar wasanaethau gofal cymdeithasol, ac mae hyn yn cael effaith yng ngogledd Cymru, sydd â phoblogaeth anghymesur o hŷn. Yn eich ymateb i Hannah Blythyn, fe wnaethoch chi siarad am y pwyntiau data sy'n bwydo i mewn i'r fformiwla ariannu ar gyfer awdurdodau lleol. Efallai eich bod yn ymwybodol fod rhai o'r pwyntiau data hynny'n gweithio ar sail ymylon clogwyn. Er enghraifft, mae pobl dros 60 oed yn werth ychydig o bunnoedd i awdurdod lleol yn y fformiwla ariannu honno, ond mae pobl dros 85 oed yn werth ychydig filoedd o bunnoedd. Mae gwahaniaethau amlwg iawn yn y symiau o gyllid sydd ar gael i awdurdodau lleol, yn dibynnu ar oedran eu poblogaeth. Ac wrth gwrs, fe fyddwch chi'n cydnabod bod cynghorau sy'n cael eu hariannu'n briodol ar gyfer gofal cymdeithasol yn alluogwyr enfawr i greu lle yn ein hysbytai, er mwyn osgoi blocio gwelyau. Felly, yn eich sgyrsiau gyda'ch cyd-Aelodau y dywedoch chi y byddech yn eu cael, pa ystyriaeth fyddwch chi'n ei rhoi'n benodol i gyllid gofal cymdeithasol mewn awdurdodau lleol, gan gydnabod yr effaith ar bobl hŷn mewn lleoedd fel gogledd Cymru, a chydnabod hefyd y pwyntiau data ymylon clogwyn hynny, y carwn awgrymu bod angen eu hadolygu.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn ac am ei sylwadau agoriadol. Mae'r ddadl am gyllid llywodraeth leol ar lawr y Senedd yn aml wedi bod yn eithaf cylchol, onid yw, gyda galwadau am newidiadau i'r fformiwla. Nid oes yr un awdurdod lleol yng Nghymru o'r farn fod y fformiwla'n adlewyrchu ei anghenion a'i amgylchiadau ei hun yn llawn, ond mae'r anghenion a'r amgylchiadau hynny'n golygu nad yw awdurdodau lleol byth mewn lle da i gytuno ar yr hyn y dylai'r newidiadau hynny fod. Nid yw hynny'n golygu, fodd bynnag, nad yw'r elfennau unigol o fewn y fformiwla yn cael eu hadolygu ac nad ydynt yn cael eu diweddaru i ystyried tystiolaeth newydd. Gwneir y gwaith hwnnw gan is-grŵp dosbarthu'r grwpiau sy'n edrych ar gyllid llywodraeth leol rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru. Ac mae gan yr is-grŵp dosbarthu, yn ogystal â chynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol wrth gwrs, aelodau annibynnol ynddo i sicrhau bod y gwaith hwnnw'n cael ei wneud yn annibynnol ac yn drylwyr. Rwy'n falch o allu rhoi gwybod i'r Aelod fod yr is-grŵp dosbarthu ar hyn o bryd yn adolygu'r fformiwla mewn perthynas â gofal cymdeithasol. Felly, er y gall fod yn anodd gwneud cynnydd ar adolygiad o'r fformiwla ei hun, mae gwaith yn mynd rhagddo ar edrych ar elfennau unigol ynddi, ac mae gofal cymdeithasol yn un o'r rhai sydd ar frig yr agenda honno.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau llefarwyr y pleidiau nesaf. Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i eich croesawu chi'n ffurfiol i'ch rôl newydd, er ein bod ni wedi siarad o'r blaen? Ac a gaf i ddiolch i chi hefyd am eich ymgysylltiad hyd yn hyn? Mae hynny'n argoeli'n dda i ni gael perthynas adeiladol, wrth symud ymlaen.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n ymddangos bod mater gwariant HS2 yng Nghymru yn un dadleuol ymhlith llawer o'ch cyd-Aelodau. Nawr, mae fy nghyd-Aelodau i a minnau wedi bod yn glir—rwy'n credu y dylai Cymru gael ei chyfran deg o gyllid gan HS2, fel yr arferai sawl un ar eich meinciau chi weiddi arnom yn rheolaidd oddi yma. Nawr, y llynedd, roedd yn ymddangos fel pe bai Ysgrifennydd Gwladol Cymru yr wrthblaid yn cytuno â mi, gan ddweud y dylai'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan, ac rwy'n dyfynnu, ryddhau biliynau. Nawr ei bod wedi cael ei dyrchafu a'i bod mewn Llywodraeth Lafur sydd mewn grym, mae'n ymddangos ei bod wedi rhoi'r gorau i'r galwadau hynny. Yn yr un modd, mae'n ymddangos bod y Prif Weinidog eisiau ymbellhau oddi wrth alwadau blaenorol Llafur am biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad, a byddai bellach yn bodloni ar oddeutu £350 miliwn, rwy'n credu. Nawr, mae'n amlwg fod eich plaid wedi newid ei chân ynghylch y buddsoddiad hwn. Pam y mae'r Llywodraeth wedi gwneud tro pedol o'r fath ar ei disgwyliadau o HS2? Onid yw hyn yn gam â phobl Cymru?

Diolch i Peter Fox am y cwestiwn, wrth gwrs, ac edrychaf ymlaen at y trafodaethau misol a gawn, ac at barhau i allu ymdrin yn uniongyrchol â llefarwyr o bleidiau eraill ar faterion sy'n codi mewn perthynas â'r gyllideb a chyllid.

Rwy'n credu bod y gwahaniaeth yn y ffigurau yn hawdd iawn ei egluro, ac yn sicr nid yw Llywodraeth Cymru wedi cefnu ar y gred hirsefydlog fod gwariant ar HS2 wedi'i ddosbarthu'n anghywir gan y Llywodraeth ddiwethaf ac y dylai Cymru fod wedi cael cyllid rheilffyrdd o ganlyniad i gyllid yn Lloegr. Mae'r £350 miliwn yn ffigur sy'n adlewyrchu'r hyn y credwn y byddai'n gyfran o'r arian sydd eisoes wedi cael ei wario a'i ymrwymo. Mae prosbectws HS2 yn mynd ymhell y tu hwnt i'r adolygiad o wariant presennol, ac os bydd mwy o arian yn cael ei wario yn y dyfodol, yn ein barn ni dylai hwnnw hefyd gynhyrchu arian a fyddai'n dod i Gymru, ac yn dibynnu ar faint sy'n cael ei wario, a bydd y ffigur hwnnw'n sylweddol uwch na'r £350 miliwn. Y £350 miliwn yw'r hyn y credwn y dylem fod wedi'i gael eisoes, gan mai dyna'r arian sydd eisoes wedi'i ymrwymo ac sydd eisoes wedi'i wario. Bydd arian yn cael ei wario yn y dyfodol ac mae hynny'n egluro peth o'r gwahaniaeth yn y ffigurau.

Ond i fod yn glir, ac fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, nid oes gwahaniaeth yn ein hagwedd sylfaenol at hyn. Cafodd HS2 ei gategoreiddio ar gam fel prosiect ar gyfer Cymru a Lloegr, pan oedd yr holl wariant a'r holl fudd yn mynd i Loegr. Dylem fod wedi cael swm canlyniadol o'r cyllid hwnnw. Edrychaf ymlaen at drafodaethau pellach gyda'n cymheiriaid yn y DU ynglŷn â sut y gellir unioni hynny.

13:45

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym wedi clywed cyd-Aelodau ar y meinciau hynny yn dweud cymaint o weithiau fod tangyllido o £6 biliwn wedi bod, ac mae Jo Stevens wedi dweud yr un peth yn Siambr San Steffan, y dylem ryddhau biliynau, felly gallwch ddeall pam fod pobl yn eithaf dryslyd pan daflwn ffigurau mawr fel £5 biliwn neu £6 biliwn o gwmpas a dod i lawr i £350 miliwn wedyn.

Mae Cymru nid yn unig yn cael ei hamddifadu o arian, ond mae yna gost cyfle hefyd i roi'r gorau i'r frwydr am fwy o arian. Oherwydd mae pob £1 na chaiff ei rhoi gan Lywodraeth y DU ar gyllid canlyniadol HS2 yn arian nad yw'n cael ei fuddsoddi yn ein seilwaith ein hunain. Rydym i gyd yn gwybod bod seilwaith Cymru yn gwegian a byddai'r ffigur o tua £4 biliwn sydd wedi'i daflu o gwmpas gan eich plaid chi yn mynd yn bell i wella pethau. Felly, pa asesiad a wnaed gennych o gost cyfle peidio â mynd ar drywydd popeth y mae Cymru yn ei haeddu, oherwydd mae mor bwysig ein bod ni'n cael yr arian hwnnw'n gynt yn hytrach nag yn hwyrach? Rydym yn deall bod mwy o arian eisoes yn cael ei ystyried i'w wario ar HS2 i gyfeiriad gwahanol—beth ydym ni'n ei wneud i lobïo i gael yr arian hwnnw i ni?

Lywydd, mae'r arian sydd ei angen i fuddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru yn cynnwys HS2 ond mae'n mynd y tu hwnt iddo. Bydd ein trafodaethau gyda Llywodraeth bresennol y DU yn edrych ar fwy na HS2—byddwn yn edrych ar y buddsoddiad y mae angen iddo ddod i Gymru i gynnal llinellau craidd y Cymoedd, o gofio eu bod wedi'u trosglwyddo i Gymru. Byddwn am edrych ar gynlluniau Network Rail ar gyfer buddsoddi ar draws y Deyrnas Unedig, i sicrhau bod Cymru, yn y dyfodol yn wahanol iawn i'r gorffennol, yn cael cyfran deg o hynny. Felly, o ran hynny, rwy'n cytuno â Peter Fox, mae llawer iawn o dir y mae angen ei adfer, o ystyried y ffordd y cafodd Cymru ei hesgeuluso dros y 14 mlynedd diwethaf. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chymheiriaid Llafur ar hynny.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n mynd i symud ymlaen at faes arall sy'n haeddu rhywfaint o eglurhad yn fy marn i. Ddoe gofynnodd fy nghyd-Aelod, Sam Kurtz, gwestiwn yma am gyfreithlondeb gwario £16,000 ar ddigwyddiad Dydd Gŵyl Dewi yn Efrog Newydd, lle clywsom fod cimychiaid ac amryw bethau drud wedi'u gweini—nid oes yr un ohonynt yn fy nharo i fel pethau arbennig o Gymreig nac yn werth am arian. Ar yr wyneb, mae hyn yn ymddangos yn gwbl afresymol, yn enwedig o ystyried yr anhawster ariannol y mae pawb ohonom yn debygol o'i wynebu. Rwy'n credu'n gryf fod angen inni ddangos Cymru i'r byd, a gallai fod cost i hynny—rwy'n derbyn hynny—ond mae angen inni sicrhau bod yr arian yn cael ei wario'n briodol ac yn darparu manteision y gallwn eu gweld i bobl Cymru—manteision diriaethol. Felly, nid dyma'r unig wariant mawr y talwyd amdano gan gardiau caffael Llywodraeth Cymru; mae yna nifer o bryniannau'n codi cwestiynau. Mae'n siŵr y bydd esboniadau gwych iawn amdanynt, ond y ffaith nad oes eglurder i'r cyhoedd sy'n codi ofn. Gan eich bod bellach yn Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi edrych ar archwiliad mewnol o hyn a chanfyddiad y cyhoedd, efallai, o'r hyn sy'n wariant diofal o arian trethdalwyr? 

13:50

Lywydd, nid yw'r ffigurau ond ar gael oherwydd prosesau archwilio mewnol Llywodraeth Cymru. Dyna sut y daw'r ffigurau hyn i gael eu nodi a'u rhyddhau i'r cyhoedd. Felly, nid wyf yn credu bod diffyg eglurder yno. Edrychwch, fe wnaeth Peter Fox y pwynt sylfaenol: roedd hwn yn wariant a oedd yn ymwneud â mwy na Dydd Gŵyl Dewi, roedd yn ymwneud â'r gêm a chwaraewyd rhwng Cymru ac Unol Daleithiau America yn ystod cwpan y byd pêl-droed. Pa gyfle gwell i arddangos Cymru i Unol Daleithiau America na phan oedd ein dau dîm pêl-droed yn chwarae ei gilydd ar y llwyfan hwnnw? Ac mae'n gwybod na fyddai byth wedi gwahodd grŵp o fuddsoddwyr i Fynwy a dweud wrthynt, 'Dewch i weld popeth sydd gan Fynwy i'w gynnig, a phan gyrhaeddwch chi, fe gynigiaf baned o ddŵr cynnes i chi mewn cwpan blastig', oherwydd pan fyddwch chi'n ceisio ennyn diddordeb buddsoddwyr mawr a chwmnïau mawr a dangos beth sydd gan Gymru i'w gynnig, fe wyddoch fod yn rhaid i chi sicrhau eich bod yn dangos y gorau y gall Cymru ei gynnig a defnyddio'r cyfleoedd hynny. Dyna beth a ddigwyddodd pan gynhaliwyd y digwyddiadau hynny. Rydym wedi cyhoeddi'r budd uniongyrchol a ddaeth i Gymru o ganlyniad i'r gwariant ar adeg cwpan y byd, ac rwy'n hapus iawn fod y ffigurau hynny yno yn gyhoeddus i unrhyw un eu gweld. 

Diolch, Llywydd. Dwi innau hefyd yn croesawu'r Ysgrifennydd Cabinet i'w rôl. Dwi'n ddiolchgar iawn am yr ymgysylltu buan sydd wedi bod ac yn edrych ymlaen at gydweithio'n adeiladol. Mae'n rhaid i fi ddweud, mae rhagrith y Ceidwadwyr yn drawiadol dros ben, ond mae'n bwysig ein bod ni, fel Senedd, yn unedig o ran eirioli ar ran Cymru, a mynnu cyllid teg gan San Steffan i’n cenedl. Mae angen lleisiau cadarn a chryf i fynnu hynny, a gyda’r awdurdod a’r profiad sydd gennych chi, fel cyn arweinydd ein cenedl, mi rydych, heb os, mewn sefyllfa unigryw i wneud hynny. 

Fis Gorffennaf diwethaf, fe wnaethoch chi haeru yn y Siambr hon y byddai ethol Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn arwain at Gymru’n derbyn

‘y buddsoddiad sydd ei angen arnom yn ein gwasanaethau cyhoeddus.’

Ond o ystyried ei bod hi'n ymddangos y bydd cynlluniau gwariant Llafur yn gadael meysydd yng nghyllideb Cymru nad ydynt wedi’u neilltuo yn wynebu diffyg o £683 miliwn mewn termau real erbyn 2028-29, ac mai un o weithredoedd mwyaf nodedig Llywodraeth Lafur San Steffan, hyd yma, fu tynnu’r lwfans tanwydd gaeaf i ffwrdd o filoedd o bensiynwyr agored i niwed, a fydd, wrth gwrs, yn cynyddu pwysau a chostau ar ein gwasanaeth iechyd, a ydych chi'n gresynu at eich hyder blaenorol yng ngallu Keir Starmer i adfer cyllid cyhoeddus Cymru?

Wel, beth allaf i ddweud, Llywydd, wrth gwrs, yw y bydd cyfleon gyda fi, a chyfleon gyda'r Prif Weinidog hefyd, i sgwrsio â'r Llywodraeth newydd yn San Steffan ac i siarad â nhw am bethau sy'n bwysig i ni yma yng Nghymru, ac i wneud hynna mewn ffordd lle mae'r Llywodraeth yn San Steffan yn cydnabod pethau sy'n bwysig i ni ac eisiau gweithio gyda ni mewn ffordd adeiladol.

Fel dywedais i yn yr ateb i'r cwestiwn cyntaf gan Sioned Williams, ni fydd yr arian yn dod yn syth i ni yma yng Nghymru, na thros y Deyrnas Unedig i gyd, achos dyw sefyllfa economaidd y Deyrnas Unedig ddim yn ddigon da i ni wneud hynny. Ond uchelgais y Llywodraeth yn San Steffan yw cynyddu'r economi, a thrwy wneud hynny gael mwy o arian i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus a'r pethau eraill sy'n bwysig i ni yng Nghymru.

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet. Ond rwy'n siŵr eich bod yn cytuno â mi fod pobl yng Nghymru yn dyheu am weld rhethreg y bartneriaeth o bŵer yn cyd-fynd â'r realiti. Addawyd cymaint iddynt. A sut y gall fod yn bartneriaeth go iawn os yw un ochr yn anwybyddu'r llall yn gyson ar faterion fel datganoli Ystad y Goron, cyllid canlyniadol HS2 ac yn bwysicaf oll, cyllid teg i Gymru? 

Yr wythnos diwethaf, fel y nodoch chi'n gynharach, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf o'r pwyllgor Cyllid: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ers yr etholiad cyffredinol yn Belfast. A drafodwyd cael model ariannu yn seiliedig ar anghenion yn lle fformiwla Barnett ar gyfer Cymru? Ac os felly, beth oedd ymateb cynrychiolwyr Llywodraeth y DU?

Wel, Lywydd, mae'n ymddangos i mi fod cyferbyniad llwyr rhwng yr hyn yr oedd Plaid Cymru yn ei ddweud cyn yr etholiad a'r hyn y maent yn ei ddweud wrthyf nawr. Rwy'n cofio llawer iawn o gwestiynau gan arweinydd Plaid Cymru yn gofyn ble roedd uchelgais Llafur i Gymru, pam fod Syr Keir Starmer mor amharod i ymrwymo i wariant a phethau? Yr hyn roedd Syr Keir Starmer yn ei wneud oedd esbonio'r heriau y byddai Llywodraeth Lafur newydd yn eu hwynebu a'r amser y byddai'n ei gymryd i unioni popeth a oedd wedi mynd o'i le dros y 14 mlynedd flaenorol. Felly, nid wyf yn cytuno â'r Aelod pan ddywed fod y rhestr o bethau a amlinellodd wedi'u hanwybyddu. Mae'r pethau hynny yno i weithio arnynt ac nid ydynt i gyd yn mynd i gael eu datrys yn y tri mis cyntaf.

Felly, i ddod at ei chwestiwn penodol, fe wneuthum fynychu'r pwyllgor Cyllid: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol yn Belfast yr wythnos diwethaf. Ni thrafodwyd fformiwla Barnett yn y pwyllgor ei hun a hynny am na fydd ein cymheiriaid yn yr Alban byth yn cytuno i'r math o ddiwygio y dymunwn ni ei weld yma yng Nghymru, sef fforwm pedair gwlad. Rwyf wedi codi fformiwla Barnett gyda chymheiriaid yn Llundain wrth gwrs, oherwydd bod budd Cymreig penodol ynddo. Ond os ydych chi'n meddwl bod y pwyllgor Cyllid: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol yn lle da i wneud cynnydd ar hynny, pe byddech chi wrth y bwrdd, mae arnaf ofn y byddech chi'n gweld nad dyna'r cyd-destun lle rydych chi'n debygol o wneud unrhyw gynnydd.

13:55

Wel, ni fydd Plaid Cymru byth yn ymddiheuro am fanteisio ar bob cyfle posibl i sefyll dros Gymru a galw am gyllid teg. Mae hynny'n siomedig iawn i lawer o bobl a fyddai'n disgwyl i Lywodraeth Cymru fod yn manteisio ar bob cyfle posibl. 

Mae yna arwyddion bod gweinyddiaeth Keir Starmer yn dilyn ôl troed eu rhagflaenwyr o ran meddwl bod San Steffan yn gwybod yn well na'r Senedd hon. Mi ddylem ni allu penderfynu yma sut mae ein harian ein hunain yn cael ei wario. Er enghraifft, mae Canghellor y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd yn ystyried ystod eang o ddiwygiadau i gronfeydd buddsoddi pensiwn a allai weld yr wyth cronfa bensiwn llywodraeth leol a rhanbarthol yng Nghymru, ochr yn ochr â Phartneriaeth Pensiwn Cymru, yn cael eu cyfuno o fewn un gronfa Cymru a Lloegr. Heb os nac oni bai, mae hwn yn faes y mae angen ei ddiwygio, ond mae'r ffaith mai dim ond 3.3 y cant o asedau Cronfa Bensiynau Clwyd sydd yn y Deyrnas Unedig yn arwydd damniol o sut mae strwythurau buddsoddi yn aml wedi'u halinio'n wael i wasanaethu buddiannau domestig.

Ond yn sicr, nid yr ateb ydy cael gwared ar arolygiaeth leol o gronfeydd o’r fath a chanoli awdurdod o ran gwneud penderfyniadau yn Llundain. Dylai methiannau cronig yr agenda levelling-up fod yn rhybudd yn hyn o beth. A ymgynghorwyd gyda chi gan eich cyd-Aelodau yn San Steffan ynghylch y diwygiad posib hwn, ac a ydych chi'n credu mai cronfa bensiwn unedig Cymru a Lloegr yw’r model gorau ar gyfer sicrhau bod arian Cymru yn cael ei ailfuddsoddi’n effeithiol ac yn gyson er budd ein cymunedau ein hunain?

Wel, Lywydd, roedd sylwadau cyntaf llefarydd Plaid Cymru yn glyweliad ganddi am arweinyddiaeth y frigâd ysgafn, onid oeddent? Nid yw'n poeni am y cyd-destun lle byddai'n hyrwyddo achos Cymru, mae'n barod i'w wneud ym mhobman, pa un a fyddai'r achos hwnnw'n sicr o fethu ai peidio. I symud ymlaen—[Torri ar draws.]  Na, na. Er mwyn hyrwyddo achos Cymru, nid yw'n ddigon meddwl mai bocs sebon a megaffon fydd yr ateb cywir bob amser. Mae'n rhaid i chi fod yn sensitif i'r cyd-destun rydych chi ynddo a hyrwyddo'r achos lle mae ganddo'r gobaith mwyaf o lwyddo.

Nid wyf ychwaith yn rhannu ymagwedd genedlaetholgar tuag at gronfeydd pensiwn. Rwyf am i gronfeydd pensiwn weithio i'r bobl sy'n cyfrannu atynt, ac mae hynny'n golygu bod yna ddiddordeb uniongyrchol iawn i Gymry sydd ag arian yn y cronfeydd pensiwn hynny i weld yr arian hwnnw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer buddsoddiad hirdymor yma yng Nghymru. A yw hynny'n golygu na fuaswn yn fodlon i arian a fuddsoddwyd mewn cronfa bensiwn yn Lloegr gael ei wario yma yng Nghymru? Wrth gwrs nad ydyw. Rwyf am i'r arian hwnnw gael ei ddefnyddio i'r defnydd gorau posibl ac os yw hynny'n golygu y byddwn yn cydweithredu â chronfeydd pensiwn yr ochr arall i'r ffin, am y byddai gwneud hynny'n fuddiol i Gymru, nid oes gennyf unrhyw anhawster gyda hynny o gwbl.

Hybu'r Defnydd o'r Gymraeg

3. Pa gefnogaeth mae'r Llywodraeth yn ei ddarparu ar gyfer hybu'r defnydd o'r Gymraeg yn rhanbarth Dwyrain De Cymru? OQ61664

Diolch yn fawr i Peredur Owen Griffiths, Llywydd, am y cwestiwn. Rydym yn darparu cefnogaeth grant i amrywiaeth o bartneriaid lleol a chenedlaethol i hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg ar draws rhanbarth Dwyrain De Cymru er mwyn gwireddu gweledigaeth 'Cymraeg 2050'.

Diolch am yr ateb yna. Dwi ar ddeall bod rhai awdurdodau lleol yn well na'i gilydd ar ymgysylltu â rhanddeiliaid ynglŷn â'r ddarpariaeth Gymraeg yn eu siroedd. Un o'r esgusodion sy'n cael ei roi yw does dim digon o gymhwysedd yn y sir i alluogi'r defnydd o'r Gymraeg. Fel rydych chi'n gwybod, mae'r Bil addysg Gymraeg yn cael ei graffu arno ar hyn o bryd, gyda ffocws ar y Gymraeg mewn ysgolion, ond sut mae hyn yn hybu'r defnydd o'r Gymraeg y tu hwnt i ysgolion mewn cymunedau lle nad oes dwysedd o bobl yn defnyddio'r Gymraeg yn rheolaidd er mwyn rhoi cyfle i bobl ifanc ddefnyddio'r Gymraeg y tu hwnt i addysg?

Un o'r mudiadau sydd yn gallu helpu gyda hyn, wrth gwrs, ydy'r mentrau iaith, sy'n gwneud gwaith arwrol yn siroedd y de-ddwyrain gyda llai a llai o adnoddau o flwyddyn i flwyddyn. Gaf i ofyn ichi, felly, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, a allwch chi gadarnhau cefnogaeth ariannol well i'r mentrau iaith i helpu tuag at gyrraedd eich targedau o nifer y siaradwyr Cymraeg, yn ogystal â chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn gymdeithasol, fel sy'n cael ei nodi yn y Bil?

14:00

Wel, diolch yn fawr am y cwestiynau ychwanegol. Dwi'n cytuno ar bwysigrwydd y mentrau iaith, a dwi'n awyddus i weld y cyllid rŷn ni'n ei fuddsoddi gyda'r mentrau iaith ar hyn o bryd yn parhau at y dyfodol. Mae cyllid yn y de-ddwyrain o bron i £350,000 yn cael ei wario gyda'r mentrau iaith. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, roedd mwy na 1,000 o weithgareddau wedi'u trefnu gan y pedair menter iaith yn y de-ddwyrain, ac roedd mwy na 10,000 o bobl yn cymryd rhan yn y digwyddiadau yr oedden nhw'n rhoi ymlaen. Mae hynny'n bwysig, fel yr oedd Peredur Owen Griffiths yn ei ddweud, i roi cyfleon i bobl ddefnyddio'r iaith, nid jest yn yr ysgol ond mewn pethau maen nhw'n eu gwneud bob dydd.

Mae'r arian rŷn ni'n ei fuddsoddi yn y mentrau iaith yn mynd gyda'r pethau eraill rŷn ni'n eu buddsoddi—Cymraeg i Blant, yr Urdd, darpariaeth dysgu'r Gymraeg ac yn y blaen. Dwi'n siŵr yr oedd yr Aelod wedi clywed y Prif Weinidog yn yr Eisteddfod ym Mhontypridd yn ôl ym mis Awst yn cyhoeddi'r ffaith bydd ail gylch o waith i'w wneud gyda'r comisiwn rŷn ni wedi'i sefydlu, y Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Bydd gwaith nesaf y comisiwn yn canolbwyntio ar yr ardaloedd o Gymru lle mae yna ddwysedd is o siaradwyr Cymraeg, a bydd hynny, wrth gwrs, yn help mawr, gobeithio, i'r cynghorau sydd yn y de-ddwyrain.

Ysgrifennydd y Cabinet, er ein bod i gyd eisiau gweld y Gymraeg yn cael ei chefnogi ledled Cymru, gan gynnwys Dwyrain De Cymru, rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig sicrhau, lle mae'n fater o ddiogelwch, fod y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu cyflwyno'n glir ac yn ddealladwy i bawb. Rwyf wedi cael gwybod gan nifer o etholwyr fod arwyddion negeseuon amrywio cyflymder ar draws yr M4 sy'n dangos negeseuon yn ymwneud â rhybuddion brys am giwiau i ddod, amodau gyrru gwael neu i arafu oherwydd damwain sydd newydd ddigwydd ond wedi bod ar gael yn Gymraeg, ac felly maent yn anodd eu deall i lawer o yrwyr cerbydau nwyddau trwm sy'n teithio i Gymru o dramor, twristiaid a thrigolion nad ydynt yn hyderus yn y Gymraeg neu nad ydynt yn ei siarad o gwbl, yn wir.

Rwy'n deall yn iawn fod arwyddion dwyieithog yn ofyniad o dan ddeddf yr iaith Gymraeg, ac mewn sawl achos mae awdurdodau yn ceisio sicrhau bod arwyddion Cymraeg a Saesneg yn cael eu dangos am yn ail lle nad yw'r arwyddion yn ddigon mawr i arddangos y ddwy iaith. Ond gyda nifer digynsail o adroddiadau diweddar gan etholwyr yn dweud mai arwyddion Cymraeg yn unig sydd wedi bod ar yr M4 ar sawl achlysur, lle dylai diogelwch fod yn brif ystyriaeth, beth allwch chi ei wneud i sicrhau bod negeseuon dwyieithog, nid unieithog, yn cael eu dangos bob amser? Diolch.

Wel, Lywydd, fe wneir ymdrechion mawr, wrth gwrs, i sicrhau bod arwyddion ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg. Rwy'n dychmygu bod yr achlysuron pan nad yw pobl ond yn gallu gweld rhybudd yn yr iaith Gymraeg yn eithaf prin. Mae yna arwyddion sy'n dangos pethau yn Saesneg ac yna yn Gymraeg wrth gwrs, ac yna yn Saesneg ac yna yn Gymraeg, ac mae honno'n ffordd berffaith ddealladwy o fynd ati. Os yw'r Aelod am ysgrifennu ataf gydag achosion unigol o'r broblem, fe edrychaf arnynt, ond mae'n swnio fel myth i mi. Nid dyma'r tro cyntaf imi glywed hyn, a phob tro yr edrychaf arno, mae'n ymddangos nad yw'n broblem fel y'i cyflwynwyd. 

Effeithlonrwydd Gwariant

4. Pa gyfleoedd ar gyfer arbedion effeithlonrwydd gwariant a nodwyd gan Lywodraeth Cymru cyn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2025-26? OQ61667

14:05

Diolch i Peter Fox am hynny, Lywydd. Mae paratoadau ar gyfer cyllideb ddrafft 2025-26 ar y gweill. Bydd camau pellach i sicrhau gwariant effeithlon ar adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn cael eu nodi yng nghyd-destun cyllideb Llywodraeth y DU ar 30 Hydref.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n derbyn bod bod yn arweinydd yn golygu gwneud penderfyniadau anodd, yn enwedig mewn perthynas â dyraniadau'r gyllideb. Mae'n amlwg fod angen gwella llawer o'n gwasanaethau cyhoeddus, a bod gofyn buddsoddi'n helaeth i sicrhau bod pobl Cymru yn cael gofal iechyd, addysg a seilwaith sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Rydym wedi clywed yn barod heddiw sut y mae awdurdodau lleol yn ei chael hi'n anodd hefyd. 

Nawr, yn gynharach y mis hwn, nododd y Prif Weinidog ei rhestr hir o flaenoriaethau ar gyfer y Llywodraeth. Fodd bynnag, fel y dywedodd Mike Hedges yn gynharach yma heddiw, os yw popeth yn flaenoriaeth, nid oes unrhyw beth yn flaenoriaeth. Gyda hyn mewn golwg, pa feysydd y rhagwelwch chi yr effeithir arnynt fwyaf er mwyn cyllido eich blaenoriaethau tebygol?

Lywydd, amlinellodd y Prif Weinidog bedair prif flaenoriaeth yn ei datganiad llafar yma ar lawr y Senedd, a bydd y pedair blaenoriaeth yn gyrru penderfyniadau drwy'r gyllideb. Ni fydd llawer o'r blaenoriaethau hynny'n newydd i Aelodau'r Senedd, gan eu bod yn adlewyrchu'r sgyrsiau a gynhaliodd y Prif Weinidog dros yr haf. Felly, bydd torri amseroedd aros y GIG, sef y peth cyntaf un iddi ei grybwyll yn ei datganiad, yn sicr yn flaenoriaeth yn y broses gyllidebol.

Roedd y cwestiwn gwreiddiol y gofynnodd Peter Fox yn ei gylch yn ymwneud ag effeithlonrwydd gwariant, a fy swydd i, fel Ysgrifennydd y Cabinet â chyfrifoldeb dros gyllid, yw dyrannu symiau o arian ar gyfer blaenoriaethau allweddol, a sicrhau hefyd fod yr arian hwnnw'n sicrhau'r gwerth mwyaf o'r gwariant sydd gennym. Ac rwy'n ei sicrhau, yn fy sgyrsiau gyda fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet, pan fyddaf yn clywed ganddynt am y blaenoriaethau y maent am fynd ar eu trywydd yn ystod y flwyddyn i ddod, rwyf bob amser eisiau gofyn cwestiynau iddynt ynglŷn â sut y gallant roi sicrwydd fod yr arian hwnnw'n cael ei ddefnyddio mewn ffordd sy'n cael yr effaith fwyaf ar wasanaethau cyhoeddus Cymru.

Y Sgandal Gwaed Heintiedig

5. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch pryd y bydd cyllid ar gael i dalu iawndal i bobl yng Nghymru y mae'r sgandal gwaed heintiedig yn effeithio arnynt? OQ61668

A gaf i ddiolch i Julie Morgan am y cwestiwn hwnnw, Lywydd? Cyfarfûm â Nick Thomas-Symonds, Gweinidog y DU sydd â chyfrifoldeb am yr ymchwiliad gwaed heintiedig, ar 14 Awst. Mae system Cymru wedi cael cyllid gan Lywodraeth y DU ac wedi llwyddo i wneud taliadau iawndal dros dro i fuddiolwyr heintiedig a phartneriaid rhai a fu farw. Mae paratoadau ar y gweill i wneud taliadau i ystadau cymwys yn ystod yr wythnosau nesaf.

Diolch am yr ateb.

Ym mis Ebrill 2023, cyhoeddodd Syr Brian Langstaff, cadeirydd yr ymchwiliad gwaed heintiedig, ei ail adroddiad interim ar iawndal i leddfu dioddefaint uniongyrchol a chydnabod marwolaethau pobl sydd heb gael eu cydnabod hyd yma. Dywedodd hefyd ei bod yn ffaith bod tua 380 o blant ag anhwylderau gwaedu wedi'u heintio â HIV yn ystod y 1970au a'r 1980au, fod rhai ohonynt wedi marw yn ystod plentyndod, ac nad yw eu rhieni erioed wedi cael iawndal. Argymhellodd Syr Brian y dylid gwneud taliad dros dro i deuluoedd na chafodd eu cydnabod yn flaenorol drwy gynlluniau cymorth presennol y DU, er mwyn sicrhau nad oedd yn rhaid i'r grŵp hwn aros hyd nes y sefydlid cynllun newydd ledled y DU, ac y dylai hwn fod yn weithredol erbyn diwedd 2023. Fodd bynnag, mae 18 mis wedi mynd heibio ers y cyhoeddiad hwnnw, ac eto nid oes unrhyw daliadau wedi'u gwneud i ystadau. Nid yw teuluoedd wedi cael gwybod pryd y bydd y cyfnod ymgeisio'n agor a pha dystiolaeth y bydd ei hangen arnynt i wneud hawliad. A all yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau pryd y bydd ceisiadau dros dro gan ystadau'n agor drwy gynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru, a pha dystiolaeth y bydd angen i deuluoedd ei darparu? Mae'r Llywodraeth hefyd wedi dweud y bydd ceisiadau ar gyfer dioddefwyr byw o dan yr awdurdod iawndal gwaed heintiedig newydd ledled y DU yn dechrau ddiwedd eleni. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau hyn? 

Diolch i Julie Morgan. Y wybodaeth sydd gennyf yw y bydd cyfnod ymgeisio am y taliadau dros dro i ystadau yn agor y mis hwn, y bydd taliadau dros dro o hyd at £100,000 yn daladwy i ystadau pobl a fu farw a gofrestrwyd gyda chynllun cymorth gwaed heintiedig neu sefydliad rhagflaenol Alliance House, lle cafodd pobl eu heintio â gwaed neu gynhyrchion gwaed halogedig ac nad yw eu marwolaethau wedi'u cydnabod eto. Felly, dywedir wrthym y bydd hynny'n agor cyn diwedd mis Hydref, a phan fydd yn agor, bydd manylion y broses ymgeisio yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd.

A gaf i ddiolch i'r Aelod yn arbennig, Lywydd, am nodi yn gynharach yn yr haf yr angen i Hemoffilia Cymru gael eu cynnwys yn fwy uniongyrchol yn y cynlluniau ar gyfer yr awdurdod iawndal gwaed heintiedig ledled y DU? Llwyddais i godi hyn fy hun gyda Nick Thomas-Symonds, Gweinidog y DU sy'n gyfrifol, ac rwy'n deall bod trefniadau bellach yn cael eu rhoi ar waith i Lynne Kelly, cadeirydd Hemoffilia Cymru, gyfarfod â Syr Robert Francis, a fydd yn gadeirydd yr awdurdod iawndal gwaed heintiedig, i wneud yn siŵr fod barn dioddefwyr o Gymru yn gwbl hysbys wrth i'r cynlluniau ar gyfer yr awdurdod iawndal gael eu cadarnhau. Mae disgwyl i Jeremy Miles gyfarfod â Gweinidog y DU a Gweinidogion eraill y DU ar 16 Hydref a dywedir wrthyf fod Llywodraeth y DU yn disgwyl i'r awdurdod iawndal gwaed heintiedig ddechrau asesu hawliadau a gwneud taliadau i bobl sydd wedi'u heintio o dan y cynllun iawndal gwaed heintiedig erbyn diwedd eleni.

14:10

Weinidog, rwy'n hynod falch fod yr Aelod, Julie Morgan, wedi codi hyn. Bydd hi a minnau'n cofio—rydym yn ddigon hen i gofio—y drasiedi ofnadwy hon, ac rwy'n siŵr ei bod hi, fel finnau'n falch fod Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU wedi cytuno y bydd iawndal yn cael ei roi o'r diwedd. Rwy'n hynod falch fod y Llywodraeth newydd, Llywodraeth y DU, wedi parhau â'r ymrwymiad hwnnw.

Rwy'n poeni braidd sut y bydd yr iawndal yn cael ei ddosbarthu. Mae mor bwysig sicrhau bod y rhai yr effeithiwyd arnynt gan y sgandal yn cael gofal da. Fel y dywedwyd eisoes, mae pobl wedi marw yn aros am hyn—pobl a oedd yn aros ac a fu'n dioddef dros lawer o flynyddoedd, gyda'r pryder a'r cyflyrau. Yn ôl Hemoffilia Cymru, yn y 1970au a'r 1980au, cafodd 283 o gleifion yng Nghymru eu heintio â hepatitis C, a chafodd 55 eu heintio â HIV drwy grynodiadau ffactorau a wnaed o gydgyfraniadau plasma a fewnforiwyd. Mae'n frawychus meddwl bod dros 70 o bobl â hemoffilia'n unig wedi marw.

Felly, rydym yn chwilio am sicrwydd, Ysgrifennydd y Cabinet, fod pawb sy'n gymwys i gael iawndal yng Nghymru wedi'u nodi, ac yn sicr mae'n braf clywed bod cyswllt bellach wedi'i agor i'r ystadau fel y byddant yn dechrau derbyn iawndal nawr. Diolch.

Lywydd, diolch i Janet Finch-Saunders am hynny. Mae hwn yn uchelgais a rennir ar draws y Siambr, rwy'n gwybod, i sicrhau bod pobl a gafodd eu dal gan y digwyddiadau erchyll hyn yn derbyn yr iawndal y mae ganddynt hawl iddo; mae £60.2 miliwn wedi dod i Gymru drwy Lywodraeth y DU i ariannu'r taliadau iawndal dros dro sydd wedi'u gwneud hyd yma, ac mae £3 miliwn ychwanegol ar gael ar gyfer taliadau dros dro i'r ystadau. Mae'r cyllid wedi'i glustnodi at y diben hwnnw, a fy nghyfrifoldeb i fel y Gweinidog cyllid yw sicrhau bod yr arian yno at y dibenion y'i bwriadwyd ar eu cyfer.

Mae Jeremy Miles, fel y dywedais, yn cyfarfod â Nick Thomas-Symonds ac eraill yr wythnos nesaf i wneud yn siŵr, fel y dywedodd Janet Finch-Saunders, fod yr arian hwnnw'n cyrraedd yr holl bobl sydd â hawl i hawlio. Rwy'n siŵr y bydd yn cadw llygad barcud ar y ffordd y mae cyfrifoldeb yn trosglwyddo yng Nghymru. Mae cynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru yn un y mae pobl yn gyfarwydd ag ef. Mae pawb yn cytuno y dylai'r buddiolwyr hynny drosglwyddo i'r awdurdod annibynnol, ond byddwn yn gwylio'n agos iawn i sicrhau bod y trosglwyddo hwnnw'n digwydd mewn ffordd sy'n diogelu buddiannau defnyddwyr presennol y cynllun iawndal yng Nghymru a'i ddefnyddwyr yn y dyfodol.

Roeddwn innau hefyd eisiau ychwanegu fy llais dros wthio am symud yn gyflym ar hyn. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Ogledd Caerdydd am ofyn y cwestiynau heddiw ac wrth gwrs, am ei holl waith gyda'r grŵp trawsbleidiol ar waed halogedig yma sy'n cael ei ei gadeirio gennyf i bellach. Ac rwy'n cytuno â'r pwynt a wnaeth, ac a gymeradwywyd gan Ysgrifennydd y Cabinet, o ran talu teyrnged i Hemoffilia Cymru a galw arnynt i gael eu cynnwys mor agos â phosibl yn y gwaith o sicrhau bod taliadau'n cael eu gwneud yn gyflym.

Mae wedi bod yn dda gweld symud yn ystod y misoedd diwethaf, ond mae cryn dipyn o ffordd i fynd cyn y gwelwn gyfiawnder yn cael ei wneud ar hyn. Rwy'n credu mai yn ôl ym mis Gorffennaf y dywedodd Nick Thomas-Symonds, y Tâl-feistr Cyffredinol, y byddai'r taliadau dros dro ar gyfer marwolaethau heb eu cydnabod yn flaenorol yn cael eu gwneud ym mis Hydref. Mae hi bellach yn fis Hydref ac nid yw'r rhai a allai fod yn gymwys i gael taliad wedi cael gwybod eto pa dystiolaeth y byddai angen iddynt ei darparu, er enghraifft, i fwrw ymlaen â'u hawliad, dioddefwyr sydd wedi gorfod aros cyhyd. Fy nghwestiwn yn syml yw i Ysgrifennydd y Cabinet wneud popeth yn ei allu, a'i gyd-Aelodau yn y Cabinet, i atgoffa Llywodraeth y DU o'r brys gwirioneddol i wneud y taliadau hyn. 

14:15

Gallaf sicrhau'r Aelod y manteisir ar y cyfleoedd hynny, yn bendant. Fel y dywedais, fe siaradais â Nick Thomas-Symonds yn uniongyrchol ynglŷn â'r mater hwn ym mis Awst. Bydd yn cyfarfod gyda Jeremy Miles yr wythnos nesaf. Y sicrwydd a gawn yw y bydd y cyfnod ar gyfer taliadau'r cynllun ystadau'n agor ym mis Hydref, ac y bydd y wybodaeth y mae'n rhaid i bobl ei darparu er mwyn dangos eu bod yn gymwys i gael taliadau yn cael ei hysbysebu'n briodol i'r rhai y bydd angen iddynt wybod hynny. 

Hyder wrth Siarad Cymraeg

6. Beth yw cynlluniau y Llywodraeth i gynyddu hyder pobl i siarad Cymraeg? OQ61642

Llywydd, y ffordd orau o godi hyder pobl i siarad Cymraeg yw cynyddu cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith. Dyna pam rydym ni’n anelu at greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050 a dyblu’r defnydd o’r iaith mewn bywyd bob dydd yng Nghymru.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gen i gefnder, a dweud y gwir, oedd yn digwydd bod yn yr un flwyddyn â chi yn yr ysgol yng Nghaerfyrddin, ac er bod ei rieni yn siarad Cymraeg—does dim storis gen i—ond er bod ei rieni yn siarad Cymraeg, mae e'n reit bendant nad yw e'n gallu'r Gymraeg. Ond yna mewn sgwrs, bydd yn dweud pethau fel hyn: 'John Jones, he's ffaeledig iawn these days' neu 'I can't remember his name—be' ti'n galw?' A dwi'n profi rhywbeth tebyg gyda chyd-ddisgyblion i mi o Ysgol Glantaf. Dwi'n cwrdd â nhw ac maen nhw'n dweud, 'Oh well, I've forgotten all my Welsh', ac yna mae'r sgwrs wrth hel atgofion yn frith o eiriau Cymraeg. Roeddech chi'n eistedd drws nesaf i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ddoe, a dywedodd hi, 'Even though I have an A-level in Welsh, I don't have the confidence.' Mae hyder mor bwysig ac mae'n rhan o'ch strategaeth chi fel Llywodraeth i greu dinasyddion sy'n hyderus yn y Gymraeg erbyn 2050. 

Yn bersonol, rŷch chi wedi llwyddo; mae yna eraill fan hyn sydd wedi llwyddo. Sut mae modd i ni ddatblygu hynny a throsglwyddo hynny y tu hwnt i'r Senedd? Diolch yn fawr.  

Dwi'n cytuno, wrth gwrs, â'r Aelod. Pan dwi'n siarad â phobl sy'n dysgu Cymraeg, bob tro, maen nhw'n dweud wrthyf i fod diffyg cyfleon iddyn nhw ddefnyddio beth maen nhw'n ei ddysgu yn y dosbarth yn eu bywydau tu fas i'r dosbarth. So, i greu mwy o gyfleon i bobl i ymarfer siarad Cymraeg, dyna'r ffordd orau i godi hyder. Y mwyaf rŷch chi'n siarad, y mwyaf rŷch chi'n fodlon siarad. So, mae lot o bethau rŷm ni'n trio eu gwneud fel Llywodraeth. 

A allaf i jest ddweud hefyd, dwi yn meddwl bod cyfrifoldeb gan bobl sydd yn siarad Cymraeg i helpu pobl sydd yn dysgu, i greu cyfleon iddyn nhw i ddefnyddio Cymraeg hefyd? Ambell waith, dydy pobl sydd yn dysgu Cymraeg ddim yn fodlon defnyddio Cymraeg gyda phobl sydd yn siarad Cymraeg achos maen nhw'n teimlo eu bod nhw'n arafu pethau, neu y bydd pobl yn feirniadol o safon yr iaith, ac yn y blaen. 

So, mae lot o bethau mae'r Llywodraeth yn gallu eu gwneud gyda phartneriaid yn yr awdurdodau lleol, yn y trydydd sector, ac yn y blaen. Jest un enghraifft y prynhawn yma, Llywydd, jest i dynnu sylw at broject codi hyder ARFer, achos mae hwnna'n rhywbeth newydd. Mae wedi dod mas o gynllun Arfor a oedd yn rhan o'r cytundeb rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yma ar lawr y Cynulliad. Mae Canolfan Bedwyr wedi llwyddo i dderbyn grant o gronfa Arfor er mwyn datblygu ap, a'r nod yw i weithleoedd ar draws Cymru ddefnyddio'r ap er mwyn cynyddu defnydd iaith yn y gweithle. So, dyna ffordd arall lle gallwn ni roi cyfleon i bobl, a thrwy hynny roi mwy o gyfleon i godi hyder pobl i ddefnyddio'r iaith. 

14:20

Diolch i Rhys ab Owen am y cwestiwn, cwestiwn pwysig. Roeddwn i'n falch o'ch clywed chi—roeddwn i bron â'ch galw chi'n 'Brif Weinidog'—Ysgrifennydd Cabinet, yn defnyddio'r gair 'defnydd' yn eich ateb cyntaf i Rhys ab Owen, ac mae hwnna'n bwysig, oherwydd mae gennym ni darged o ran nifer y siaradwyr Cymraeg—ac rŷn ni wedi sôn yn y cwestiwn hwn am bobl sydd yn siarad Cymraeg—ond o ran y bobl sydd yn cymryd y cam i siarad Cymraeg yn y lle cyntaf, mae e wastad yn syndod i fi fod yr un bobl ddim yn moyn sôn am ddarllen neu ysgrifennu yn Gymraeg, ac mae hwnna'n sgil hefyd. Dŷn ni ddim yn siarad amdano fe ddigon, dwi ddim yn credu. Felly, beth mwy y gallem ni ei wneud i adeiladu hyder ac adeiladu sgiliau o ran nifer y bobl sydd nid dim ond yn siarad Cymraeg, ond yn darllen ac yn ysgrifennu yn Gymraeg hefyd?

Diolch yn fawr. Mae hwnna'n bwynt pwysig. I fi, y ffordd orau i'w wneud e yw dechrau gyda siarad, ac os ydyn ni'n gallu perswadio pobl i ddefnyddio'r iaith fel yna, mae hwnna yn mynd at helpu pobl i ddod yn fwy hyderus i ysgrifennu'r iaith ac i ddarllen yr iaith hefyd. Ond heb fwy o gyfleon i siarad ac i ddefnyddio'r iaith fel yna, dwi ddim yn meddwl y bydd lot o bobl yn eisiau mynd ymlaen i ddatblygu sgiliau eraill yn yr iaith heb gael mwy o gyfleon i jest ddefnyddio'r iaith ym mywyd bob dydd. So, dechrau gyda siarad, codi hyder pobl i siarad, a thrwy wneud hynny, helpu i berswadio pobl i ddatblygu mwy o sgiliau yn darllen ac yn ysgrifennu hefyd.

Cynlluniau Peilot Nyrsio Ardal yn y Gymdogaeth

7. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch darparu arian ar gyfer parhau i ehangu cynlluniau peilot nyrsio ardal yn y gymdogaeth? OQ61663

Lywydd, bydd y trafodaethau hyn yn rhan o waith paratoi'r gyllideb ddrafft.

Diolch, a chlywais yn gynharach eich bod yn mynd i fod yn cael y cyfarfodydd hynny yr wythnos nesaf. Mae llwyddiant y cynlluniau peilot nyrsio cymunedol yn nhair ardal y treialon bellach wedi ehangu i dros 60 o dimau ledled Cymru, ond nid yw'n weithredol drwy Gymru gyfan o hyd, oherwydd, yn amlwg, rydych chi am gadw'r tîm yn ddigon bach i allu cynrychioli cymuned naturiol. Ac os ydym am ostwng y rhestrau aros, sydd, fel y dywedoch chi eisoes, yn brif flaenoriaeth i Eluned Morgan, mae cadw pobl allan o'r ysbyty neu osgoi oedi wrth drosglwyddo gofal sy'n costio £350 y dydd fan lleiaf, yn allweddol i gyflawni'r amcan hwnnw. Felly, beth yw'r cyfyngiadau ariannol, os o gwbl, i ehangu'r timau nyrsio cymunedol hyn ar gyfer Cymru gyfan?

Wel, Lywydd, diolch i Jenny Rathbone. Rwy'n cytuno â hi fod ehangu'r timau nyrsio cymunedol wedi bod yn llwyddiant mawr yma yng Nghymru. Dechreuodd hyn hefyd gyda chytundeb ar y gyllideb gyda Phlaid Cymru, fel mae'n digwydd, i gynnal treialon Buurtzorg yma yng Nghymru, gan ddysgu o'r arbrofion yn yr Iseldiroedd. Rwy'n gwybod bod y pwyllgor iechyd ar y pryd wedi bod â diddordeb yn hyn oll ac wedi gwneud rhai argymhellion y gallasom eu gweithredu hefyd. Ond fe ofynnodd yr Aelod, 'Beth yw'r cyfyngiadau ariannol, os o gwbl?', ac rwy'n ofni mai'r gwir trist yw bod y cyfyngiadau ariannol yn real iawn, oherwydd bod gwasanaethau cyhoeddus o dan gymaint o bwysau ar eu cyllidebau fel ei bod yn frwydr ychwanegol i allu symud arian at bethau newydd, pan fyddwch chi'n dal i orfod parhau â'r gwasanaeth y gwnaethoch chi ddechrau gydag ef. Ond mae'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn y cynllun hwn wedi bod yn real, ac rwy'n disgwyl trafod gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd sut y gallwn barhau i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw yn y dyfodol.

Cyfraddau Treth Incwm

8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gyfraddau treth incwm yng Nghymru? OQ61635

Lywydd, mae cyfraddau treth incwm yng Nghymru yn cael eu gosod bob blwyddyn yn rhan o'r broses gyllidebol flynyddol, drwy benderfyniad ar gyfradd y cytunir arno gan y Senedd.

Ysgrifennydd y Cabinet, dros yr haf, cyhoeddodd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg adroddiad a oedd yn awgrymu y gallai toriadau treth wedi'u targedu ysgogi gweithgarwch economaidd a chymdeithasol mewn ardaloedd sy'n wynebu diboblogi, fel ardaloedd gwledig. Yn wir, mae'r adroddiad yn cyfeirio at bolisi rhanbarth Castilla-La Mancha yn Sbaen, lle cynigir gostyngiad treth incwm o 25 y cant i drigolion mewn ardaloedd gwledig. O ystyried yr adroddiad hwn, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi gadarnhau pa un a yw Llywodraeth Cymru yn ystyried gostyngiadau treth wedi'u targedu ar gyfer y rheini sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, ac a allwch chi ddweud wrthym hefyd pa fesurau ariannol eraill sy'n cael eu trafod fel ffordd o fynd i'r afael â diboblogi?

14:25

Wel, diolch i Paul Davies am y cwestiwn hwnnw, Lywydd. Nid yw'r telerau y cafodd cyfraddau treth incwm Cymru eu datganoli i Gymru arnynt yn caniatáu inni gael toriadau treth wedi'u targedu ar sail ddaearyddol. A dweud y gwir, mae'r offeryn sydd gennym yn wan iawn heb yr hyblygrwydd sydd gan ein cymheiriaid yn yr Alban i ymdrin â'r pwerau datganoledig sydd ganddynt yn y maes hwn. Felly, er ei fod yn syniad diddorol ac rwy'n ymwybodol o'r adroddiad, nid yw'r pwerau presennol sydd gennym yn caniatáu inni symud i'r cyfeiriad hwnnw.

Mae'r darlun ehangach y mae Paul Davies yn cyfeirio ato, wrth gwrs, yn un sy'n berthnasol ar draws yr ystod gyfan o gyfrifoldebau portffolio. Er mai fy nghyd-Aelod, Huw Irranca-Davies, sydd â chyfrifoldeb penodol dros gymunedau gwledig, mae'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu ym maes iechyd ac addysg, mewn trafnidiaeth a'r holl gyfrifoldebau eraill sydd wrth fwrdd y Cabinet yn effeithio ar fywyd pob dydd yn ein cymunedau gwledig, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd syniadau'n dod i'r amlwg yn ystod y broses gyllidebol a fyddai'n effeithio ar y cymunedau y cyfeiriodd Paul Davies atynt.

2. Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Eitem 2 yw'r cwestiynau i'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Darren Millar.

Parc Cenedlaethol Newydd yn y Gogledd-ddwyrain

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu parc cenedlaethol newydd yng ngogledd-ddwyrain Cymru? OQ61639

Member
Huw Irranca-Davies 14:27:03
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Yn wir. Mae dynodi parc cenedlaethol yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn ymrwymiad rhaglen lywodraethu. Rydym wedi gofyn i CNC gynnal yr asesiad manwl a'r gwaith ymgysylltu sy'n angenrheidiol. Bydd CNC yn gofyn am farn y cyhoedd nawr ar gynigion wedi'u mireinio ar gyfer ffin parc cenedlaethol newydd, ac rwy'n annog pawb sydd â diddordeb i gymryd rhan.

Diolch am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Brif Weinidog. Fel y bydd Aelodau'r Siambr hon yn gwybod, rwyf wedi bod yn galw am sefydlu parc cenedlaethol yng ngogledd-ddwyrain Cymru ers blynyddoedd lawer. Mewn gwirionedd, gelwais am hynny gyntaf yn ôl yn 2010, pan oedd yn amhoblogaidd iawn ar feinciau'r Blaid Lafur, rhaid imi ddweud, felly rwy'n falch eich bod chi o'r un farn â mi bellach.

Un o'r heriau gyda pharciau cenedlaethol yw y gall pobl fod yn ofidus weithiau ynghylch yr hyn y maent yn ei ystyried yn ddiffyg atebolrwydd democrataidd gan awdurdodau parciau cenedlaethol. Fel y gwyddoch, rheolir statws AHNE, statws ardal o harddwch naturiol eithriadol, fel dynodiad gan awdurdodau lleol, sydd wedyn yn golygu nad yw'r diffyg atebolrwydd democrataidd y mae pobl yn ei ganfod gan barciau cenedlaethol yn broblem. A gaf i ofyn pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ddiwygio parciau cenedlaethol yn y fath fodd fel y gall awdurdodau lleol reoli'r dynodiadau'n uniongyrchol, yn hytrach na thrwy sefydlu awdurdod parc cenedlaethol arall i wneud hynny?

Darren, diolch am y cwestiwn hwnnw, ac a gaf i gydnabod y ffordd yr ydych chi'n hyrwyddo'r parc cenedlaethol hwn? Roedd deddfwriaeth y parciau cenedlaethol, wrth gwrs, yn un o fuddugoliaethau mwyaf y Llywodraeth Lafur wedi'r rhyfel, ac roeddwn i'n falch fel Gweinidog a wasanaethai o dan Ysgrifennydd Gwladol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar y pryd, Hilary Benn, o fwrw ymlaen ag un o'r parciau cenedlaethol etifeddol na chawsant eu cyflwyno gan y Llywodraeth honno wedi'r rhyfel, yn South Downs.

Rwy'n sylweddoli bod hwn yn ymgymeriad sylweddol, ond mae'n rhan o'n rhaglen lywodraethu, ac mae'r pwynt a wnewch am ymgysylltiad democrataidd yn un dilys. Yr hyn y buaswn i'n ei ddweud yw, yn y cyfnod hwn nawr gydag CNC yn bwrw ymlaen â'r ymgysylltiad cyhoeddus—ac mae llawer iawn o fanylder wrth wraidd yr ymgysylltiad hwnnw—rwy'n annog pobl i gymryd rhan yn y cyfleoedd, gyda'r sioeau teithiol a'r ymgynghoriad ehangach, i fwydo'r safbwyntiau am ymgysylltiad democrataidd, oherwydd mae modelau gwahanol wedi dod i'r amlwg dros y blynyddoedd—dros y degawdau, mewn gwirionedd—o ran y ffordd y gellir gwneud ymgysylltiad democrataidd o fewn y parciau cenedlaethol. Nid wyf am achub y blaen ar bethau; rwy'n credu ei bod yn iawn ein bod yn gwrando, oherwydd yn yr ymgymeriad sylweddol hwn, bydd argymhelliad yn cael ei gyflwyno ar ryw adeg i Lywodraeth Cymru, ataf i fel Ysgrifennydd y Cabinet. Os bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen wedyn i ddynodi parc cenedlaethol newydd, rhoddir ystyriaeth fanwl i'r model gorau, mewn ystod eang o feysydd, gan gynnwys ymgysylltiad democrataidd.

Ond rydych chi'n gwneud pwynt dilys, a hoffwn eich annog chi ac eraill i gyflwyno barn ar y modelau, ar weithrediad, a blaenoriaethau. Peidiwch ag anghofio hefyd mai un o gyflawniadau mwyaf y parciau cenedlaethol hyn yw nid yn unig cydnabod eu bod yn dirweddau byw, ond hefyd y gallu i alluogi pobl sydd ar garreg y drws, neu hyd yn oed ymwelwyr o bell, i gael mwynhad tawel o rai o'n tirweddau cenedlaethol mwyaf arwyddocaol, ac wrth gwrs, gwella bioamrywiaeth a datblygu gwytnwch hinsawdd hefyd. Felly, mae'n bwynt da iawn yn wir, ac ymunwch â mi i annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwnnw.

14:30

Hoffwn i ddiolch i Darren Millar am godi’r mater hwn.

Roeddwn yn falch iawn o sefyll ar addewid maniffesto yn 2021 i archwilio parc cenedlaethol newydd yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Rwy'n credu y bydd yn dod â llawer o fuddion i'n cornel ni o'r wlad, ac yn taflu goleuni ar bopeth sydd gennym i'w gynnig. Ond mae'n bwysig iawn, fel y crybwyllwyd, fod cymunedau'n teimlo'n rhan lawn o'r broses hon a'u bod yn ymwybodol o'r cynnig yn gyfan gwbl. Roeddwn mewn cyfarfod o Sefydliad y Merched Caerwys—menywod gwych Sefydliad y Merched—dros yr haf, ac roedd yn drawiadol faint o bobl, er eu bod mewn ardal a fyddai o fewn parc cenedlaethol newydd, nad oedd yn gwbl ymwybodol o hynny. Felly, rwy'n awyddus, yn fy rôl, i sicrhau bod pobl a chymunedau'n ymgysylltu'n llawn.

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn i chi roi rhagor o fanylion am y cyfnod ymgynghori 10 wythnos, a sut y gall pobl fwydo'r safbwyntiau hynny i mewn? Ond hefyd, sut y byddech chi'n gweld ein rôl ni fel Aelodau sy'n awyddus i hyrwyddo'r cynnig hwn i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael ag unrhyw amheuon neu gamddealltwriaeth bosibl am yr hyn y gallai parc cenedlaethol ei olygu?

Diolch am y cwestiwn hwnnw. Unwaith eto, rwy'n cydnabod y ffordd yr ydych chi wedi hyrwyddo hyn. Yn y cyfnod cyn yr etholiad, fe wnaethoch chi hyrwyddo hyn, ac rydych chi'n parhau i wneud hynny, i sicrhau y gall pawb ddweud eu dweud ar sut olwg a allai fod ar gynnig ar gyfer parc cenedlaethol yn y gogledd-ddwyrain.

Rwy'n falch o ddweud bod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y gweill. Bydd yn rhedeg rhwng 7 Hydref ac 16 Rhagfyr, felly mae digon o amser i bobl leisio eu barn, ond peidiwch â cholli'r cyfle. Mae yna ardal astudiaeth, y cyfeirir ati fel 'ardal chwilio', a rannwyd yn ystod cyfnod ymgysylltu â'r cyhoedd ddiwedd 2023. Ac ar ôl casglu tystiolaeth, cafwyd rhai newidiadau i hyn bellach. Felly, ymgynghorir â'r cyhoedd ynghylch yr ardal arfaethedig, a dylai Sefydliad y Merched, ac eraill, gymryd rhan yn hyn.

Bydd y digwyddiadau'n gyfle i ddysgu mwy am y prosiect a'r dystiolaeth a gasglwyd hyd yma, i ofyn y cwestiynau treiddgar hynny i'r tîm sy'n datblygu'r cynnig, ac i rannu eu hadborth ar y map ffiniau drafft, y cyfeirir ato nawr fel y 'map ardal ymgeisiol'. Bydd 10 digwyddiad galw heibio, wedi'u gwasgaru ar draws yr ardal astudiaeth. Bydd tri digwyddiad cyhoeddus ar-lein hefyd, i'w ehangu i'r rhai na allant fod yn bresennol yn y cnawd. Mae saith digwyddiad grŵp arall wedi'u targedu ar gyfer cynulleidfaoedd allweddol, gan gynnwys ar gyfer Aelodau etholedig ar draws y Siambr, ac aelodau etholedig eraill, ar gyfer grwpiau amgylcheddol a threftadaeth, y sector ynni adnewyddadwy, y sector amaethyddol a ffermio, tirfeddianwyr, ac yn wir, busnes a thwristiaeth hefyd. Felly, bydd sesiynau wedi'u targedu ar eu cyfer.

Mae crynodeb o'r digwyddiadau ymgynghori ar-lein, ac unwaith eto, carwn ddweud wrth bawb sydd â diddordeb yn hyn—gan gynnwys y rheini fel chi, Hannah, sydd wedi bod yn hyrwyddo hyn—y dylent annog pobl i gymryd rhan a dweud eu barn ar hyn.

Mynychais gyfarfod cyntaf yr ymgynghoriad cyhoeddus hwnnw nos Lun, ond roeddwn yn bryderus braidd, mewn gwirionedd, oherwydd roedd yno leisiau cynghorwyr sir etholedig, a chynghorwyr tref a chymuned hefyd, a deimlai nad ymgysylltwyd yn ystyrlon â hwy hyd yma. Roedd un dref yn arbennig a oedd y tu allan i'r ffin a gynigiwyd yn wreiddiol ond sydd bellach yn canfod ei bod y tu mewn i'r ffin yr ymgynghorir arni, ond ni ofynnwyd am farn y cyngor tref yno hyd yn oed. Felly, mae materion yn codi ynghylch yr ymgynghoriad, ac wrth gwrs, rwy'n annog pawb i gymryd rhan, ond efallai y bydd angen i chi ystyried pa mor effeithiol y digwyddodd hyn hyd yma.

Fe wnaethoch chi sôn am y manteision i fioamrywiaeth. Wrth gwrs, fe wyddom nad yw creu parc cenedlaethol yn ateb i bob problem amgylcheddol. Dim ond 6 y cant o'r parciau cenedlaethol presennol sy'n cael eu rheoli'n effeithiol ar gyfer natur. Felly, a ddylem ganolbwyntio ar gael yr hyn sydd gennym yn iawn yn y lle cyntaf, yn hytrach na gorymestyn ein hunain o ran adnoddau ac ymdrech i greu parc cenedlaethol newydd ychwanegol?

Diolch, Llyr. Rwy'n credu, unwaith eto, yn eich cwestiwn, eich bod wedi dangos pa mor bwysig yw hi i bobl ymgysylltu, gweld yr hyn y maent yn ei hoffi a'r hyn nad ydynt yn ei hoffi, a lle mae ganddynt bryderon, neu lle mae ganddynt gefnogaeth lwyr i'r cynigion. Mae'n rhaid imi gamu'n ôl o'r broses sydd ar y gweill, oherwydd yn y pen draw, bydd cynnig o ryw fath yn cael ei ddwyn ger fy mron i. Ymgynghorir yn drylwyr ar fanylion y cynnig, adolygiad o'r ffiniau ac yn y blaen. Dyna'n union sydd allan yno nawr i'r cyhoedd fynegi eu barn arno: 'A yw'n iawn?'. Yr un fath â'r broses ar gyfer South Downs, rwy'n siŵr y bydd yna gymunedau'n dweud, 'Rydym am gael ein cynnwys'; bydd eraill yn dweud, 'Nid ydym am gael ein cynnwys, rydym am aros y tu allan iddo'. Ond dyna'n union beth y mae hyn yn ei olygu.

Ar bwynt bioamrywiaeth, rydych chi'n hollol gywir nad parciau cenedlaethol yn unig sy'n ein helpu i gyflawni'r gwelliannau i adfer bioamrywiaeth yr ydym am eu gweld a mynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth; mae yna dirweddau a rhannau dynodedig eraill y tu allan i dirweddau dynodedig, yn wir. Gwyddom fod ein tirweddau dynodedig—pob un ohonynt—yn darparu cyfraniad gwerthfawr i reoli cadwraeth, ond mae potensial hefyd i wneud mwy gyda'r offer a'r adnoddau cywir.

Mae gennym nifer o fentrau ar y gweill i wneud hyn bellach, gan gynnwys swyddogion strategol adfer natur ar draws rhannau o Gymru i helpu i gydlynu'r gweithgaredd hwn. Yn wir, rydym yn cynnal hyfforddiant i aelodau parciau cenedlaethol; rydym wedi cynyddu ein cyllid ar gyfer prosiectau bioamrywiaeth. Er bod llawer mwy i'w wneud yn y maes hwn, fe wyddom fod hyn yn galw am gydweithio a mewnbwn partneriaid ymhell y tu hwnt i Lywodraeth Cymru a'r parciau cenedlaethol i yrru bioamrywiaeth. Ond os caiff cynnig ei gyflwyno a'i fod yn bodloni'r ystyriaeth y byddwn yn ei wneud yn ei gylch, rydym yn gwybod y gall parciau cenedlaethol fod ar flaen y gad gyda gwaith adfer natur rhagweithiol—mae ganddynt rôl i'w chwarae. Ond unwaith eto, rwy'n annog pobl nawr i rannu eu syniadau yn y cyfnod ymgynghori hwn.

14:35
Targedau Bioamrywiaeth

2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cynnydd tuag at gyrraedd ei thargedau bioamrywiaeth? OQ61670

Bydd adroddiad ar sefyllfa adnoddau naturiol 2025 yn darparu asesiad o gyflwr bioamrywiaeth a'n hadnoddau naturiol yng Nghymru. Bydd y Bil llywodraethiant amgylcheddol a thargedau bioamrywiaeth sydd ar y ffordd yn cyflwyno pwerau i Weinidogion Cymru osod targedau bioamrywiaeth mewn is-ddeddfwriaeth, ochr yn ochr â gwaith monitro, gwerthuso ac adrodd effeithiol.

Weinidog, rydym yn edrych ymlaen at weld Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r ddeddfwriaeth flaenllaw honno, a fydd yn rhoi'r llywodraethiant amgylcheddol, yr egwyddorion amgylcheddol a'r pwerau ar waith i osod targedau bioamrywiaeth. Bydd hyn unwaith eto'n dangos arweiniad yma gartref. Ond Weinidog, mae angen inni hefyd ddangos arweiniad cryf yn rhyngwladol. Felly, a gaf i ofyn beth fydd y prif flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru yn y cyfnod cyn COP16 ar fioamrywiaeth?

Rhianon, diolch am y cwestiwn dilynol hwnnw. Rydych chi'n iawn: mae angen inni ddangos arweiniad yma gartref ac yn rhyngwladol hefyd. Rwy'n aml yn disgrifio Cymru fel gwlad fach ond nerthol o ran ein dylanwad a'n gallu i rannu ein profiad a ble rydym yn arwain mewn rhai meysydd, yn anad dim, er enghraifft, y cyhoeddiad diweddar fod ein rhaglen bum mlynedd ar fawndiroedd—rydym yn hynod falch o'r gwaith sydd wedi ei wneud yma yng Nghymru, gyda swyddogion ond hefyd gyda gwirfoddolwyr—wedi cyrraedd y targed uchelgeisiol o adfer 3,000 hectar o fawndir flwyddyn yn gynnar. Mae hyn yn mynd ymhell i sicrhau bod y mathau hyn o gynefinoedd gwerthfawr yn gallu goroesi ac addasu mewn hinsawdd sy'n newid. Mae mwy y byddwn yn ei wneud yn seiliedig ar ganfyddiadau'r archwiliad dwfn bioamrywiaeth hefyd.

Ond rydych chi'n tynnu sylw yn gywir ddigon at y ffaith bod gennym rôl i'w chwarae yn rhyngwladol hefyd. Mae COP16 yn agosáu'n gyflym. Mae fy swyddogion wedi ymgysylltu'n ddyfal â phartneriaid yno, ac mae gan Gymru rôl i'w chwarae yno. Byddwn yn canolbwyntio ar flaenoriaethau allweddol, yn gyntaf oll, a phontio'r bwlch cyllid bioamrywiaeth, sy'n bryder gwirioneddol. Byddwn yn canolbwyntio ar bartneru dros natur, chwilio am atebion, mecanweithiau, partneriaethau arloesol rhwng y term erchyll hwnnw—ac rwy'n casáu'r term, Lywydd—Llywodraethau 'is-genedlaethol'—. Ond fe wyddom fod effaith rhai o'r dinasoedd a'r rhanbarthau mawr ledled y byd, ynghyd â gwledydd fel Cymru, yn sylweddol; gall sbarduno proses adfer bioamrywiaeth, ochr yn ochr â'r sector preifat a banciau datblygu amlochrog hefyd, i fynd i'r afael â'r bwlch cyllid bioamrywiaeth. Byddwn yn gwthio cyfranogiad yn yr High Ambition Coalition for Nature and People, felly byddwn yn rhannu'r gwaith a wnawn yng Nghymru ar y dull 30x30 i warchod a rheoli 30 y cant o'n tir, ein dŵr croyw a'n cefnforoedd yn effeithiol erbyn 2030. 

Byddwn yn arddangos y gorau o'r hyn a wnawn yng Nghymru, megis y rhaglen weithredu ac adfer mawndiroedd, a chyflawni'r targedau hynny cyn pryd. Bydd swyddogion yn mynychu'r wythfed uwchgynhadledd ar gyfer y llywodraethau is-genedlaethol a'r dinasoedd, gan weithio gydag eraill ar lefel is-genedlaethol, gan gynnwys Regions4, a rhaglen amgylchedd y Cenhedloedd Unedig, i sicrhau y gall ein llais ni a lleisiau'r llywodraethau lleol ac is-genedlaethol hynny wthio'n galed ar fioamrywiaeth. Felly, mae amrywiaeth o bethau sydd gennym yn flaenoriaeth, ac mae'n dangos nad yw'r gwaith a wnawn ar arweiniad yn dod i ben yma o fewn ffiniau Cymru—mae angen inni hefyd weithio gydag eraill i hybu adfer bioamrywiaeth yn rhyngwladol.

14:40

Ysgrifennydd y Cabinet, mae Cyfoeth Naturiol Cymru, fel llawer o sefydliadau a ariennir gan y Llywodraeth, yn ei chael hi'n anodd gydag anawsterau ariannol difrifol. I fod yn fanwl gywir, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o fwlch cyllido o £13 miliwn dros y flwyddyn ddiwethaf, y disgwylir iddo godi i £17 miliwn yn 2026-27. Mae'r diffygion hyn wedi arwain at y sefydliad yn gorfod torri 265 o swyddi, wrth symud ymlaen, a fydd yn debygol o weld Cymru'n cael ei gadael heb gymaint o staff ar lawr gwlad yn canolbwyntio ar ddiogelu bioamrywiaeth. Ddirprwy Brif Weinidog, rwy'n gwybod, yr wythnos diwethaf, mewn ymateb i'r ddadl, eich bod wedi dweud bod, 

'mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur yn allweddol o amcanion y Llywodraeth hon'.

Ond, yn anffodus, yr hyn sydd hefyd yn ymddangos yn allweddol i'r Llywodraeth hon—a gwn fod llawer o fy nghyd-Aelodau wedi dweud hyn—yw gwario £24,000 mewn bwyty moethus ym Manhattan, a £5,150 mewn clwb i aelodau yn Los Angeles. Pan gafodd ei godi gan fy nghyd-Aelod Sam Kurtz ddoe ddiwethaf, cafodd ei gyhuddo o 'chwilota', sydd—

Bydd angen i mi—. Rwy'n cael trafferth braidd i wybod ble mae bioamrywiaeth yn cysylltu â'ch cwestiwn.

Peidiwch â phoeni, ni fyddwn yn mynd ar drywydd cimychiaid. Mae'n iawn. Fe ddof ag ef yn ôl i chi, peidiwch â phoeni.

—ond rwy'n ei chael hi'n anodd ei weld. Os gallwch ddod at eich cwestiwn, os gwelwch yn dda.

Iawn. Rydych chi'n deall i ble rwy'n mynd, Ddirprwy Brif Weinidog, gyda'r biliau eithaf ffiaidd hyn yn cael eu hysgwyddo gan y trethdalwr, yng nghanol argyfwng costau byw, a phan fydd pob sefydliad a redir gan y Llywodraeth yn mynd yn brin o arian, roeddwn i'n meddwl tybed a fyddech chi'n ystyried ailgyfeirio'r cronfeydd hyn tuag at flaenoriaethau honedig eich Llywodraeth, fel bioamrywiaeth, yn lle'r prydau bwyd hyn. Diolch.

Diolch, Natasha. Fe dynnaf y wleidyddiaeth allan o hyn am y tro, ond hoffwn nodi, bythefnos yn ôl, fy mod i—datgeliad llawn—yn wythnos hinsawdd Efrog Newydd. Ac yn wythnos hinsawdd Efrog Newydd, cyfarfûm â llawer o bartneriaid is-genedlaethol; cyfarfûm â Gweinidogion y Deyrnas Unedig hefyd. Ac fe lwyddasom, am y tro cyntaf, ar ôl amharodrwydd Llywodraeth Geidwadol y DU am dros ddegawd, i weld Llywodraeth y DU yn ymrwymo i'r gynghrair uchelgais mawr ar newid hinsawdd, am y tro cyntaf erioed. Fe wnaethant nodi wrth wneud hynny—a da iawn nhw—yr ymgysylltiad uniongyrchol a gawsant gyda Llywodraeth Cymru. Felly, mae yna reswm weithiau, Lywydd, pam y mae Cymru'n mynd yn rhyngwladol, i weithio gyda'r diaspora, i weithio gydag eraill, ar werthoedd a rannwn gyda chwaraewyr rhyngwladol eraill, gan gynnwys yn fuan, mae'n rhaid imi ddweud, pan fydd ymwelwyr o blith yr Indiaid Wampi yn dod i ymweld â'r Senedd. Rydym yn gweithio'n rhyngwladol—mae rheswm dros wneud hynny.

Ond ar y prif bwynt, mae'n wir fod yna fwlch cyllido y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ceisio ei gau. Maent o dan bwysau sylweddol, ac wedi bod ers tro. Nid wyf am ailadrodd y dadleuon, er mor ddilys ydynt, ynghylch y degawd a mwy y bu'n rhaid i bob sefydliad cyhoeddus ledled y DU ei wynebu oherwydd y bylchau cyllido a gawsom, wedi'u gwthio gan gyni. Nid wyf am oedi gyda hynny. Ond yr hyn y maent wedi'i wneud yw cynnal adolygiad sylfaenol, gan edrych ar eu swyddogaethau craidd. Maent yn parhau i fynd drwy'r ymarfer hwnnw o edrych ar sut y maent yn cyflawni'r hyn y mae disgwyl iddynt ei wneud yn gyfreithiol, yn statudol, yn rheoleiddiol. Ac maent yn canolbwyntio ar hynny'n ddwys. Yn y gwaith y maent yn canolbwyntio arno ar hyn o bryd, er mor sensitif ydyw, er mor anodd ydyw, gyda staff gweithgar iawn, maent yn gweithio gyda'r undebau llafur i wneud yn siŵr y gallant liniaru'r gwaethaf o'r heriau hynny gan gyflawni'r pethau y disgwyliwn iddynt eu gwneud fel aelodau o'r cyhoedd ac fel Aelodau o'r Senedd, a sicrhau eu bod yn gwarchod ein hamgylchedd, ein dyfroedd, ein pridd, yn darparu'r galluoedd sydd ganddynt o ran llifogydd, a llawer mwy.

Rwy'n hyderus y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud hynny, ac mae ganddynt ddyletswydd i wneud hynny hefyd. Ond peidiwch â chael eich twyllo, nid yn unig ynghylch ble y daethom ohono o ran yr heriau ariannol, ond wrth fynd yn ein blaenau, nid yw'n edrych fel pe baem ni'n ei chael hi'n braf yn sydyn iawn—bydd rhagor o heriau'n dod. Ond rwy'n llwyr ddisgwyl, ac rwy'n optimistaidd, y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ceisio parhau i gyflawni ei ddyletswyddau ar ran pobl Cymru a'r amgylchedd naturiol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau llefarwyr y pleidiau nawr. Llefarydd y Ceidwadwyr, James Evans.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r asiantaeth sy'n gyfrifol am fonitro rheoliadau'r parthau perygl nitradau ledled Cymru. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Natasha Asghar, maent yn wynebu toriadau ariannol enfawr a cholli swyddi. A allwch chi gadarnhau heddiw sut rydych chi'n disgwyl i CNC barhau i fonitro parthau perygl nitradau gyda'r pwysau enfawr y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi arnynt gyda thoriadau cyllid? Dim ond hyn a hyn y gallant ei wneud. Mae'r Llywodraeth hon yn gofyn iddynt wneud mwy na hynny. Os ydych chi'n gofyn iddynt wneud mwy, mae'n rhaid i chi roi'r arian iddynt i'w galluogi i'w wneud, oherwydd ni fydd swyddogion nad ydynt yno yn gallu cyflawni'r hyn y mae'r Llywodraeth hon ei eisiau.

14:45

Unwaith eto, gan fyfyrio ar yr ateb a roddais i'ch cyd-Aelod, Natasha Asghar, i CNC, nid yw hyn yn newydd, y pwysau sydd ar CNC. Maent wedi cael sawl blwyddyn o orfod canolbwyntio'n ôl ar yr hyn sy'n ofynnol iddynt ei wneud o ran diogelu'r amgylchedd a diogelu rhag llifogydd a'u dyletswyddau statudol a rheoleiddiol eraill, gan gynnwys llygredd amaethyddol, ansawdd afonydd a'r holl agweddau hynny. Dyna'r ymarfer y maent wedi bod yn ymwneud ag ef ers peth amser. Mae'r trafodaethau presennol y maent yn eu cael yn fewnol ar sut y gallant ganolbwyntio ar y dyletswyddau hynny, cyflawni'r dyletswyddau hynny'n briodol, a'u gwneud gyda dadansoddiad priodol yn seiliedig ar risg hefyd. Maent yn sylweddoli nad ydynt yn ddiogel fel corff cyhoeddus na chorff hyd braich rhag y pwysau ariannol sy'n cael effaith, nid yn unig yma, ond hefyd ar Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr ac mewn mannau eraill hefyd.

Ond rhaid imi ddweud fy mod yn rhoi clod i'r swyddogion yn CNC sy'n gwneud gwaith penigamp. Rwyf wedi gofyn iddynt ar brydiau yn ystod fy nghyfnod yma i weithio gyda ni ac i weithio gyda'r gymuned ffermio i wneud yn siŵr eu bod yn gallu gweithio mewn ffordd sy'n dangos empathi tuag at yr heriau y mae ffermwyr yn eu hwynebu, ac maent wedi gwneud hynny. Felly, mae gennyf hyder yn CNC y byddant yn gwneud eu gorau glas i gyflawni eu dyletswyddau wrth symud ymlaen.

Rwy'n siŵr y byddant yn gwneud hynny, ond mae nifer y swyddi sy'n cael eu colli yn aruthrol. Mae'n rhaid iddynt edrych ar lygredd amaethyddol, ansawdd dŵr, coedwigaeth, llifogydd—i enwi ond rhai o'r pethau y maent yn eu gwneud. Bydd yn ddiddorol gweld sut y maent yn rheoli hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, roedd rheoli rheoliadau llygredd amaethyddol yng Nghymru yn cynnwys cyfnod gwaharddedig ar gyfer lledaenu slyri, gyda'r nod o leihau llygredd maethynnau mewn cyrsiau dŵr. Fodd bynnag, gall amgylchiadau annisgwyl, fel heriau sy'n gysylltiedig â'r tywydd a chlefydau, arwain at storfeydd slyri llawn. Mae hynny'n peri risg sylweddol i ffermwyr allu cydymffurfio â'r rheolau y mae'r Llywodraeth hon yn eu gosod. Yn ogystal, mae cael caniatâd cynllunio ar gyfer storfeydd slyri yn broblem enfawr ledled Cymru. Felly, o ystyried yr heriau hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y dylai ffermwyr eu cymryd i sicrhau cydymffurfiaeth â'r cyfnodau gwaharddedig ac i atal y risgiau i'w busnesau? Un peth a glywaf, Ysgrifennydd y Cabinet, yw pwy y dylai ffermwyr gysylltu â hwy i drafod y problemau y maent yn eu cael, oherwydd mae CNC yn dweud wrth bobl am gysylltu â Llywodraeth Cymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn dweud wrth bobl am gysylltu â CNC, a rhwng hynny i gyd, maent yn dweud wrth bobl am gysylltu â'u hawdurdodau lleol? Gallwch ddeall pam fod hyn yn ddryslyd i'r sector amaethyddol, felly a allwch chi ein goleuo heddiw: pwy y mae ffermwyr i fod i gysylltu â hwy?

Gallaf. Maent i fod i gysylltu â CNC os yw'r mater y mae'n rhaid iddynt ymdrin ag ef yn ymwneud â CNC. CNC ydyw. Felly, James, byddai'n help mawr pe gallech egluro i ffermwyr sy'n cysylltu â chi mai dyna'r cam cywir. Yn sicr, nid Llywodraeth Cymru mohono. Er bod gennyf bâr o welintons i'w gwisgo i fynd allan i ffermydd, nid wyf allan yno bob dydd yn ymdrin â phob fferm ar draws Cymru gyfan. Mae CNC yn gwneud hynny, ac maent yn ei wneud er gwaethaf yr heriau ariannol.

A gaf i ddweud wrthych mai lefel fach iawn o storio slyri y mae'r rheoliadau sydd gennym yn galw am ei darparu i helpu i atal llygredd amaethyddol? Ar hyn o bryd, mae'r problemau sy'n wynebu ffermwyr yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwaith rheoli tail da i atal llygredd. Mae'r canllawiau sy'n cyd-fynd â'r rheoliadau yn ei gwneud yn glir y gallai fod angen storfeydd ychwanegol i gydymffurfio â gofynion y rheoliadau. Bydd faint o storfeydd sydd eu hangen yn dibynnu'n fawr ar arfer ffermio unigol y busnes fferm unigol hwnnw, felly nid yw'r rheoliadau'n faich diangen ar ffermydd a allai weithredu gyda lefel is o storfeydd, y lleiafswm statudol. Rydym yn gwybod bod rhai ffermydd, yn wir, wedi wynebu anawsterau, ac rwyf wedi bod yn trafod hyn gyda'r undebau ffermio ac eraill. Maent wedi wynebu anawsterau o ran cynllunio, gydag awdurdodau cynllunio lleol yn dweud wrthyf fod cynllunio fel arfer yn cymryd tua 10 i 18 wythnos. Felly, darparwyd cyfnod pontio o 174 wythnos—174 wythnos—mewn perthynas â storio slyri a'r cyfnod gwaharddedig, sy'n golygu y bydd y rhan fwyaf o ffermydd, gyda'r cynllunio cywir, wedi cael digon o amser i addasu ac i gynllunio ar gyfer hyn.

Fodd bynnag, rwy'n cydnabod yr anawsterau y mae ffermydd wedi'u hwynebu ers cyflwyno'r rheoliadau, gan gynnwys effaith digwyddiadau byd-eang ar ddeunyddiau a chostau a'r angen am amser i gael gafael ar gymorth ariannol i sicrhau cydymffurfiaeth. Felly, mewn ymgynghoriad â CNC, rwyf wedi ystyried gorfodaeth yn yr amgylchiadau hyn. Rydym wedi nodi rhai newidiadau i safonau dilysadwy trawsgydymffurfio Llywodraeth Cymru, a fydd yn ystyried y materion hyn, a byddant yn cael eu cyhoeddi ddiwedd y mis hwn. Bydd achosion o dorri'r gofynion storio slyri, y cyfnodau gwaharddedig a'r cyfyngiadau sy'n berthnasol yn dilyn y cyfnodau gwaharddedig, yn cael eu lleihau lle nodir y tramgwydd cyn 1 Awst 2025. Bydd hyn ond yn digwydd pan fydd y capasiti storio rheoleiddiol sy'n bodoli eisoes wedi ei gyrraedd a bod tystiolaeth ar gael o fod wedi cymryd camau rhesymol i sicrhau cydymffurfiaeth. Ac fel gyda'r holl ofynion trawsgydymffurfio, James, byddai unrhyw amgylchiadau eithriadol a allai atal cydymffurfiaeth yn cael eu hystyried fesul achos. Ond Lywydd, rwy'n ailadrodd fy nghyngor cryf iawn y dylai unrhyw fferm gysylltu â CNC cyn gynted â phosibl i gael cyngor lle mae risg, yn enwedig lle mae risg y bydd y storfa slyri yn llenwi y tu hwnt i'r bwrdd rhydd, oherwydd, pan fydd y bwrdd rhydd yn cael ei gyrraedd, gall achosi risg o fethiant trychinebus y storfa, gan roi'r ffermwr ac eraill mewn perygl sylweddol.  

14:50

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Gyda'r manylion yr ydych newydd eu hamlinellu, credaf y byddai'n ddefnyddiol iawn i'r Siambr hon pe gallem gael diweddariad gennych a datganiad ar y newidiadau yr ydych wedi'u gwneud, yn hytrach na'u cyhoeddi heddiw. Pe gallem gael y datganiad hwnnw gennych yn y dyfodol, credaf y byddai hynny'n ddefnyddiol iawn.

Un peth na wnaethoch ei grybwyll oedd bod yr asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer y parthau perygl nitradau yn amcangyfrif cost ariannol sylweddol ymlaen llaw adeiladu storfeydd slyri i ffermwyr—tua £360 miliwn ar gyfartaledd ar gyfer cydymffurfio â pharthau perygl nitradau ledled Cymru, a dim ond £20 miliwn yr ymrwymodd Llywodraeth Cymru tuag at hynny. Felly, y Llywodraeth hon sydd unwaith eto'n cyflwyno rheoliadau, ond yn methu rhoi'r swm llawn o arian yno i alluogi ein ffermwyr i gyflawni'r rheoliadau a gyflwynwyd gennych. Felly, o ystyried y beichiau ariannol a osodir ar ein ffermwyr, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau ffermwyr yn cael yr arian ychwanegol sydd ei angen arnynt i fodloni eich gofynion, i adeiladu'r storfeydd slyri, i'w cael drwy'r cam cynllunio, a all hefyd fod yn gostus iawn pan fydd yn rhaid ichi gydymffurfio â'r holl reoliadau gwahanol a chael popeth wedi'i gymeradwyo mewn pryd? Felly, hoffwn wybod beth rydych chi'n ei wneud i ychwanegu at yr £20 miliwn er mwyn sicrhau bod pobl yn ei wneud, oherwydd os na rowch chi ragor o arian ar y bwrdd, bydd ffermwyr yn mynd i'r wal, a'r hyn a welwn yw llwyth o ffermwyr ledled Cymru yn methu cydymffurfio â'r rheoliad hwn. Nid yw hynny'n rhywbeth rwy'n awyddus i'w weld, oherwydd nid wyf am weld ffermwyr yn cael dirwyon ledled Cymru am wneud rhywbeth yr ydych chi wedi'i orfodi arnynt. 

Wel, gadewch inni fod yn hollol glir nad oedd yr £20 miliwn diweddar, a oedd yn rhan o'r cytundeb a ddaeth drwy'r cytundeb cydweithio yn wir, ac a gafodd groeso mawr gennyf—cyflwyno'r cyhoeddiad o £20 miliwn—yn sefyll ar ei ben ei hun. Mae'n dod â chyfanswm ein cynnig i £52 miliwn i gefnogi buddsoddiad mewn seilwaith ar y fferm ers i'r rheoliadau gael eu cyflwyno. Fe wnaf ailadrodd hynny: mae £52 miliwn wedi mynd tuag at hyn. Nawr, rydym dan bwysau o ran y gyllideb, ond fe ddaethom o hyd i'r £20 miliwn ychwanegol. Byddwn yn edrych yn y dyfodol, wrth symud ymlaen hefyd, ar yr hyn y gellir ei wneud. Ond rwy'n ymwybodol o'r pwysau ar fy nghyd-Aelod, yr Ysgrifennydd cyllid, a'r ymateb y bydd yn ei roi i bob un ohonom, sef, 'Sut mae mantoli'r cyfrifon yma?' Ond yn y cyhoeddiad diweddaraf, fe wneuthum yr apêl, Lywydd, i undebau ffermio ac i'r gymuned ffermio ehangach, 'Os gwelwch yn dda, cyflwynwch eich ceisiadau', oherwydd nid ydym bob amser wedi gweld ffermwyr yn manteisio ar yr arian sydd wedi ei roi ar y bwrdd. Y tro hwn, maent yn gwneud hynny. Mae dros 800 o ffermwyr wedi gwneud cais am yr arian hwnnw. Byddwn yn cymeradwyo'r mwyafrif helaeth yn fuan iawn, cyn belled â bod yr achosion busnes yn eu lle ac yn y blaen.

Rydym hefyd wedi gwneud dyfarniadau grant ychwanegol gwerth £1.6 miliwn o dan y cynllun gorchuddio iardiau hefyd. Rydym hefyd wedi buddsoddi yn y cynllun buddsoddi mewn rheoli maethynnau, gyda dros 900 o ffermwyr. Felly, mae hwn ymhell o fod yn fuddsoddiad unigol o £20 miliwn. Rydym wedi rhoi ein harian ar ein gair, ond rydym am ddweud wrth ffermwyr, 'Camwch ymlaen, cynlluniwch ar gyfer hyn, gweithiwch trwy'r anawsterau cynllunio, yr anawsterau o ran y tywydd, ac yn y blaen'. Rwy'n ymwybodol iawn ohonynt. Rwyf wedi bod allan yn siarad â ffermwyr yn ddi-baid ar y mater hwn, yn gwrando arnynt ac yn ceisio addasu'r ffordd yr ydym yn symud ymlaen. Ond mae cytundeb ar y bwrdd sy'n dweud bod arnom angen i ffermwyr gamu i'r adwy a gweithio drwy hyn a mynd amdani, bachu'r arian, gweithio drwy'r cynllunio a rhoi'r rhain yn eu lle.

14:55

Ar ôl popeth rŷn ni wedi'i glywed yn yr wythnosau diwethaf ynglŷn â phroblemau gwagu storfeydd slyri, ac yn y blaen, a'r tywydd gwlyb difrifol rŷn ni wedi'i brofi, ydych chi'n dal i gredu bod ffermio yn ôl y calendr yn gweithio?

Rwyf wedi cael ymgysylltiad diddorol â ffermwyr sydd wedi cynnig ffyrdd eraill o edrych ar y broblem hon, ac mae'n broblem. Mae'n broblem wirioneddol, oherwydd yr anfantais o beidio â mynd i'r afael â'r mater yw diraddiad pridd, a diraddiad ansawdd dŵr hefyd mewn mannau, ac nid yw'n dda i enw da ein bwyd a'n ffermio, sydd mor llwyddiannus yma yng Nghymru—yn ddomestig o ran yr hyn a gynhyrchwn, ac yn rhyngwladol gyda'r farchnad allforio.

Yn yr adolygiad o reoliadau llygredd amaethyddol, sydd ar y gweill bellach, ac rydym wedi penodi'r Athro Susannah Bolton i fwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw—mae eisoes yng nghanol y gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ei gylch—bydd yn edrych ar sut y mae'r rheoliadau'n gweithio, ac rwy'n siŵr y bydd pobl yn bwydo eu barn a'u ffyrdd ymlaen amgen i mewn hefyd. Ond peidiwch â chael eich twyllo, ac rwy'n credu y byddem yn rhannu hyn, Llyr, pa bynnag ffordd y symudwn ymlaen, mae angen inni gyrraedd craidd y broblem o ran llygredd pridd a llygredd dŵr. Felly, rwy'n mynd i ddal yn ôl rhag dweud bod un ffordd neu'r llall yn ffordd iawn, oherwydd rwyf am i'r adolygiad pedair blynedd fynd rhagddo, a bydd hynny'n digwydd trwy gydol yr hydref ac i mewn i ddechrau'r gwanwyn, ac yna cawn weld pa ffordd y daw. Rwyf am i randdeiliaid ymgysylltu â ni ar hynny hefyd.

Rwy'n ymwybodol o'r feirniadaeth o'r calendr, ond rwyf hefyd yn ymwybodol o fethiannau cynlluniau olynol gwahanol hyd yn hyn i fynd i'r afael â'r broblem wael hon sydd gennym. Ac ar wahanol wythnosau, byddai eich cyd-Aelod Delyth yn sefyll yno ac yn gofyn imi wthio'n galed—a gwn eich bod chi'n credu hyn hefyd—ar fynd i'r afael â llygredd amaethyddol a lle mae'r methiant. Felly, rwy'n credu bod gennym yr uchelgais gyffredin honno y tu cefn inni.

Wel, dwi'n siŵr bod pawb yn rhannu yr uchelgais yna, ond, wrth gwrs, fel dwi wedi rhybuddio o'r cychwyn cyntaf gyda’r rheoliadau yma, dyw ffermio yn ôl y calendr ddim yn gwneud synnwyr. Nid edrych ar y calendr sydd eisiau ichi wneud, ond edrych mas drwy’r ffenestr i weld os ydy'r amgylchiadau'n addas ar gyfer gwagu storfeydd slyri.

Wrth gwrs, y sefyllfa nawr, fel rŷn ni wedi clywed, yw, oherwydd y tywydd gwlyb, oherwydd bod y tir mor feddal, oherwydd yn aml iawn mae yna rush munud olaf a bod yna ddiffyg contractwyr hefyd i symud y slyri yma, fod yna ddewis gan ffermwyr i'w wneud. Naill ai maen nhw'n ei chwalu e doed a ddelo, ac mae yna oblygiadau, wrth gwrs, yn hynny o beth—yn negyddol iawn, rhai ohonyn nhw—neu maen nhw'n mynd i adael e yn eu storfeydd, a fydd wedyn, wrth gwrs, yn sicr o fod yn orlawn, ac o bosib yn gorlifo, yn ystod y cyfnod caeedig. Nawr, beth dwi eisiau gwybod gennych chi yw, i'r ffermwyr hynny sy'n wynebu'r dilema yna, beth yw’ch cyngor chi iddyn nhw. Pa un o'r ddau yna fyddech chi’n dewis?

Gan gofio'r hyn y soniais amdano yn gynharach am yr amser rydym wedi'i gymryd a'r amser rydym wedi'i roi i ffermwyr fod yn barod ac i fanteisio ar y cyfleoedd i fuddsoddi mewn rheoli slyri, hoffwn ddweud wrthynt, 'Defnyddiwch y cyfleoedd hynny, gwnewch eich cais, ymgeisiwch amdano, adeiladwch y storfeydd slyri, gwnewch y gwaith rheoli slyri, gwnewch y gwaith rheoli iardiau, a dangoswch fod hynny'n cael ei wneud. Ac os ydych chi'n cael problemau, siaradwch cyn gynted ag y bo modd â CNC.' Esboniais mewn ymateb i ateb blaenorol rai o'r ffyrdd y bydd CNC yn ymdrin, mewn ffordd fwy empathig, â'r rhai sy'n dweud, 'Wel, nid ein bai ni yw'r ffaith na allwn wneud hyn', ond rwy'n credu bod angen iddynt ddangos, fesul achos, eu bod wedi ceisio gwneud eu gorau glas i gydymffurfio â'r rheoliadau fel y maent ar hyn o bryd. Ers gormod o amser, rydym wedi bwrw ymlaen, flwyddyn ar ôl blwyddyn, gyda phobl yn meddwl na fydd yna ben draw ac yn oedi—rhai pobl, nid pawb, oherwydd roeddwn yn dweud nawr fod dros 800 o bobl bellach wedi gwneud cais am yr arian yr ydym newydd ei ddarparu. Ond yn rhy aml o'r blaen, nid yw ffermwyr wedi dod ymlaen, ac maent bellach yn cael eu dal. Felly, mae'n rhaid i ni eu hannog—chithau a minnau ac eraill—i wneud y buddsoddiad angenrheidiol a bachu'r arian tra bo ar gael.

Dwi wedi codi consýrn gyda chi a gyda’ch rhagflaenydd sawl gwaith yn y Siambr yma a thu hwnt ynglŷn â’r hyn sydd yn digwydd yn Hybu Cig Cymru. Mae yna ofid difrifol ynglŷn â’r diwylliant sydd o fewn y gweithle yn fanna. Mi fyddwch chi’n ymwybodol, dwi'n siŵr, fod yna lefel uchel o staff yn gadael eu swyddi. Mae yna lefel uchel o staff yn absennol o’u swyddi. Mae yna wariant uchel yna ar hyn o bryd ar staff dros dro ac, wrth gwrs, rŷn ni'n ymwybodol bod aelodau o'r bwrdd wedi ymddiswyddo. Dwi wedi galw arnoch chi yn y gorffennol i ymyrryd. Dwi eisiau ailadrodd yr alwad yna y prynhawn yma. Ac os nad ŷch chi'n barod i wneud hynny, beth yw eich esboniad chi i'r talwyr lefi pam nad ŷch chi'n teimlo bod angen ichi nawr gymryd rheolaeth o'r sefyllfa?

15:00

Wel, mae Hybu Cig Cymru yn sefydliad a noddir, ond nid oes gennym reolaeth weithredol uniongyrchol dros y sefydliad hwnnw, ac ni ddylai fod ychwaith. Gallaf roi sicrwydd, fel y gwneuthum yma ar lawr y Senedd yn y gorffennol, fy mod wedi cyfarfod â chadeirydd Hybu Cig Cymru, a'r bwrdd—dros yr wythnosau diwethaf, yn wir. Mae fy swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â Hybu Cig Cymru, ac mae'n rhaid imi ddweud, rydym wedi cael sicrwydd. Rydym wedi ceisio ac wedi cael sicrwydd nad yw'r gwaith pwysig y mae Hybu Cig Cymru yn ei gyflawni ar ran y sector cig coch yng Nghymru wedi cael ei effeithio'n negyddol gan unrhyw ddigwyddiadau diweddar. Byddwn ni, fel Llywodraeth, yn parhau i gefnogi Hybu Cig Cymru i gyflawni ar ran y sector cig coch, oherwydd mae'n rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth absoliwt i'r sefydliad a'i randdeiliaid.

Nawr, mae yna faterion disgyblu y cyfeiriwyd atynt. Materion i HCC, fel y cyflogwr, yw bwrw ymlaen â hyn, yn unol â'u prosesau a'u gweithdrefnau. Mae honiadau eraill wedi cael eu cyflwyno. Rydym wedi ceisio ac wedi cael sicrwydd gan HCC eu bod yn ymchwilio i unrhyw bryderon a godwyd gan staff a'u bod yn gweithredu yng ngoleuni canlyniadau'r ymchwiliadau hynny. Ond o ddifrif, nid mater i Ysgrifennydd Cabinet yw ymyrryd â chorff hyd braich a noddir a dweud wrthynt sut i wneud, yn weithredol, yr hyn y dylent fod yn ei wneud yn unol â'r drefn briodol. Rydym wedi ceisio'r sicrwydd hwnnw. Rydym wedi ceisio ac wedi cael sicrwydd ynghylch yr hyn y dylent fod yn ei wneud mewn perthynas â materion adnoddau dynol. Neu, yr hyn sy'n sicr yn gyfrifoldeb arnom ni i'w wneud yw sicrhau bod y corff hwnnw a noddir yn cyflawni ar ran eu rhanddeiliaid, ac unwaith eto, rydym wedi ceisio ac wedi cael y sicrwydd hwnnw gan HCC. Ond rydym yn ymwybodol iawn o rai o'r pryderon sy'n cael eu mynegi, ac mae angen i'r bobl hynny ymgysylltu, yn enwedig os ydynt yn rhanddeiliaid HCC, a gwneud y pryderon hynny'n glir, a cheisio'r un sicrwydd ag a geisiwn ni fel Llywodraeth Cymru.

Llyr Gruffydd, a hoffech chi ofyn eich cwestiwn ar slyri hefyd? Un arall—cwestiwn 3.

O, ie. Mae'n ddrwg gennyf.

Diolch, Llywydd, am eich amynedd.

Cefnogi Isadeiledd ar Ffermydd

3. A wnaiff yr Ysgrifenydd Cabinet roi diweddariad ar y cynlluniau grant i gefnogi isadeiledd ar ffermydd i wella storfeydd slyri? OQ61669

Diolch yn fawr iawn, Llyr. Eleni rydym wedi cynnig ffenestri ymgeisio ychwanegol o'r cynllun grantiau bach gorchuddio iardiau a'r cynllun buddsoddi mewn rheoli maethynnau i gefnogi ffermwyr i wella eu systemau storio slyri. Mae dros 800 o fusnesau fferm wedi gwneud cais am gymorth.

Ac mae'n bositif iawn fod 800 o ffermydd wedi gwneud cais am gymorth i gwrdd â'r isadeiledd newydd sydd ei angen, ond, wrth gwrs, mae'r ffaith bod 800 wedi ymgeisio yn awgrymu i fi fydd yna o leiaf 800 o ffermydd, pan ddaw'r dyddiad cau, ddim yn gymwys i gwrdd â'r rheoliadau. Mi sonioch chi yn gynharach fod yna ffordd nawr i bobl godi'r consérn yna gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Allwch chi gadarnhau i fi, felly, fod yr 800 o fusnesau yna yn rhai fydd yn gymwys ar gyfer cael eu cynnwys yn y categori o'r rhai sydd wedi cymryd beth roeddech chi'n eu galw'n 'gamau rhesymol' pan ŷch chi'n ystyried y posibilrwydd o gosbi'r rhai sydd ddim yn cwrdd â'r gofynion?

Rwy'n credu bod y rhai sydd wedi gwneud cais—. Mae'r rhai sydd eisoes yn y broses ac wedi gwneud cais yn flaenorol, ynghyd â'r rhai sydd wedi gwneud cais nawr, yn amlwg yn dangos bwriad i fwrw ymlaen â'r gwaith. Efallai fod hwn yn gam go iawn gan y sector a ffermwyr unigol i ddweud, 'Rydym yn gwybod bod angen inni fwrw ymlaen â hyn', ac rwy'n croesawu hynny.

Rwy'n ailadrodd yr hyn a ddywedais yn gynharach, fod CNC bellach yn cydnabod—ac maent mewn trafodaethau â mi fel Ysgrifennydd y Cabinet a'm swyddogion—yr anawsterau y mae ffermydd wedi'u hwynebu ers cyflwyno'r rheoliadau. Maent wedi ystyried y dull gorfodi yn yr amgylchiadau hyn. Nodwyd rhai newidiadau i'r safonau dilysadwy trawsgydymffurfio, a byddaf yn cyflwyno manylion pellach mewn perthynas â hynny ddiwedd y mis. Ac i bob pwrpas, bydd torri'r gofynion storio slyri hynny, y cyfnodau gwaharddedig, y cyfyngiadau gofynnol sy'n berthnasol yn dilyn y cyfnodau gwaharddedig, yn lleihau lle nodwyd bod y tramgwydd wedi digwydd cyn 1 Awst 2025, ond ni fydd hyn ond yn digwydd lle mae'r capasiti storio rheoleiddiol sy'n bodoli eisoes wedi'i gyrraedd a lle ceir tystiolaeth fod camau rhesymol wedi'u cymryd i sicrhau cydymffurfiaeth. Ac fel gyda'r holl ofynion trawsgydymffurfio hynny, byddai unrhyw amgylchiadau eithriadol a allai atal cydymffurfiaeth yn cael eu hystyried fesul achos. Ond unwaith eto, os oes gan unrhyw un o'r ffermwyr hynny amheuon, cysylltwch â CNC a gofynnwch iddynt hwy.

15:05

Ryw'n gofyn fy nghwestiwn yng nghyd-destun eich ymatebion i James Evans a Llyr Gruffydd ar y mater hwn, ond y mater rwy'n dychwelyd ato yw ceisiadau cynllunio sydd wedi'u cyflwyno i awdurdodau cynllunio lleol ar gyfer storfeydd slyri a'r ôl-groniad sy'n wynebu llawer o adrannau cynllunio awdurdodau lleol. Clywais eich ymateb i James Evans pan ddywedoch chi fod CNC yn ystyried y camau gorfodi priodol ac yn cymryd hynny i ystyriaeth, ond a gaf i ofyn i chi pa sgyrsiau a gawsoch gyda chyd-Aelodau yn y Llywodraeth ynglŷn â darparu canllawiau cynllunio priodol neu nodyn i awdurdodau lleol i ofyn iddynt ystyried cyflymu a blaenoriaethu'r ceisiadau hyn?

Diolch, Russell, ac mae'n bwynt dilys, ond fel y soniais mewn ymateb i James, eich cyd-Aelod, yn gynharach, mae'r rheoliadau hyn wedi bod ar waith ers peth amser. Felly, rydym wedi bod yn annog ffermwyr yn gyson—fi a fy rhagflaenwyr, CNC a chynghorwyr—i ddechrau'r broses mewn gwirionedd, nid yn unig yn ddiweddar, nid eleni, ond gryn dipyn o amser yn ôl. Felly, rwy'n credu bod rhai ffermwyr mewn sefyllfa nawr lle maent yn hwyr yn gweithredu ar hyn ac maent yn cael eu dal allan, ond mae yna faterion cynllunio gwirioneddol yn codi. Mae angen iddynt ymgysylltu â'r awdurdodau cynllunio ar hynny, ond mae angen iddynt ymgysylltu â CNC fesul achos, os ydynt yn credu y gallant ddangos eu bod wedi bod ar y blaen yn hyn o beth; os ydynt yn hwyr yn gweithredu, gallai fod yn fwy heriol, rhaid imi ddweud.

Ond hoffwn ddweud hefyd y buaswn i'n synnu pe bai unrhyw un yn y Siambr hon neu'n wir, unrhyw un o fewn y sector amaethyddol, yn anghytuno bod atal llygredd a sicrhau rheolaeth briodol ar faethynnau—mae maethynnau'n ased hefyd, os ydym yn eu rheoli'n briodol—er budd pennaf ein holl ffermwyr ar hyn o bryd, ac yn wir, cenedlaethau'r dyfodol o ffermwyr. Felly, drwy sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn iawn, mae'n rhaid inni hefyd gael uchelgais ar y cyd i reoli slyri'n effeithiol. Felly, mae cynllunio yn broblem. Yn gynharach, tynnais sylw at y math o amserlen y mae awdurdodau lleol yn gweithio iddi, ond mae'r rheoliadau hyn wedi bod ar waith ers llawer mwy o amser na'r amserlen honno ac mae ffermwyr wedi cael llawer mwy o amser i symud ymlaen. Felly, hoffwn annog pob un ohonynt yn gryf, unwaith eto, i ddod ymlaen, os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny, a sicrhau eu bod yn rheoli eu slyri.

Tipio Anghyfreithlon

4. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith tipio anghyfreithlon yn Nyffryn Clwyd? OQ61652

Diolch, Gareth. Mae data digwyddiadau tipio anghyfreithlon awdurdodau lleol yn cael ei gasglu a'i asesu bob blwyddyn gan grŵp Taclo Tipio Cymru. Mae'r dull hwn o weithredu'n helpu i nodi tueddiadau, deall effeithiau ariannol tipio anghyfreithlon ac mae'n galluogi Taclo Tipio Cymru i dargedu eu cefnogaeth i awdurdodau lleol. Mae hyn yn cynnwys rhoi camau ataliol ar waith a gwella gweithgarwch gorfodi mewn ardaloedd problemus.

Mae tipio anghyfreithlon yn broblem gyson yn sir Ddinbych, ond mae'r lefelau wedi saethu i fyny ers i weithdrefnau casglu gwastraff Cyngor Sir Ddinbych fethu'n llwyr yn gynharach eleni, yn dilyn eu hymdrechion aflwyddiannus i gyflwyno system ailgylchu Trolibocs. Mae trigolion ar draws Dyffryn Clwyd yn sylwi bod mwy o wastraff yn cael ei adael ar ochr y ffyrdd ac mewn alïau, ac mae wedi dod yn gasbeth cyson na ddylai pobl orfod byw gydag ef yn eu cymunedau. Mae pryderon hefyd wedi codi ynghylch cynnydd posibl mewn tipio anghyfreithlon yn Wrecsam, gydag awdurdodau lleol ledled Cymru yn lleihau amlder casgliadau gwastraff. Fe wnaethom i gyd ganmol cyfraddau ailgylchu gwych Cymru eleni, ond hyd y gwn i, data gwastraff cartrefi yn unig yw hwn. Felly, os oes cyfran uwch o wastraff cyffredinol bellach yn cael ei adael ar briffyrdd ac mewn ardaloedd preswyl, a yw'r data hwnnw'n adlewyrchiad cywir o realiti?

Gadewch inni ddychmygu cerdded allan o'n cartrefi bob dydd i weld pentwr mawr o fagiau du, hen ddodrefn, matresi budur a gwastraff cartrefi. Nid dyma beth y mae pobl eisiau ei weld wrth gerdded i'r gwaith yn y bore, a gall fod yn annymunol i'r un bobl glywed ein gwleidyddion yn canmol ein hymdrechion ailgylchu. Mae hynny'n rhoi'r argraff i breswylwyr mewn rhannau o fy etholaeth i eu bod allan o gysylltiad. Felly, hoffwn wybod sut y mae Llywodraeth Cymru yn cofnodi gweithgarwch tipio anghyfreithlon yn Nyffryn Clwyd, ac a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ynghylch tuedd gyffredinol tipio anghyfreithlon yng Nghymru? A yw'n gwella neu'n gwaethygu yn gyffredinol, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau i awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r ymddygiad hwn a sicrhau bod ein cymunedau'n aros yn lân? Diolch.

Diolch, Gareth. Wel, mae tipio anghyfreithlon yn broblem dragwyddol. Rwy'n credu bod yn rhaid inni ddweud yn glir iawn, o'r Siambr hon a mannau eraill, wrth unigolion sy'n tipio'n anghyfreithlon, ei fod nid yn unig yn anghyfrifol, mae'n drosedd, mae'n weithgarwch troseddol; ni ellir ei gyfiawnhau o dan unrhyw amgylchiadau. Mae pawb—pawb—yn gyfrifol am sicrhau bod eu gwastraff yn cael ei waredu'n gyfreithlon. Byddwn yn targedu'r rhai sy'n dewis torri'r gyfraith a llygru ein hamgylchedd. Dyna pam, Gareth, ein bod yn parhau i gefnogi rhaglen Taclo Tipio Cymru a weithredir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydym wedi darparu £1.2 miliwn o gyllid i fynd i'r afael â'r drosedd hon dros y tair blynedd diwethaf. Er diddordeb i chi, mae'r cyllid wedi caniatáu i'r tîm recriwtio swyddog gorfodaeth ychwanegol ar gyfer gogledd Cymru yn benodol, a'i rôl yw cefnogi timau gorfodaeth tipio anghyfreithlon yr awdurdod lleol yng Nghlwyd ac ar draws y rhanbarth. Mae hefyd wedi caniatáu iddo gynnal ymchwiliadau i ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon ar dir a reolir gan CNC. Mae'r rôl wedi meithrin perthynas gadarn gyda thimau gorfodaeth awdurdodau lleol a Heddlu Gogledd Cymru, ac mae'n parhau i gyflawni gorfodaeth yn llwyddiannus, gyda sawl erlyniad a chamau gorfodi eraill yn erbyn pobl sy'n tipio'n anghyfreithlon. Ond mae hefyd yn bwysig ein bod yn canolbwyntio ar atal. Mae'r rhaglen ddyletswydd gofal, 'Eich dyletswydd i ofalu', gan grŵp Taclo Tipio Cymru, yn tynnu sylw pobl at sut y gallant wneud yn siŵr eu bod yn defnyddio cludydd gwastraff cofrestredig cyfreithlon, ac mae hefyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth ymhlith masnachwyr yn ogystal â deiliaid tai o'r risgiau o drosglwyddo gwastraff i weithredwyr gwaredu anghyfreithlon.

Ac mewn perthynas â sir Ddinbych, a'r hanes balch iawn sydd gennym nawr o fod yn ail yn y byd, a grybwyllwyd yn benodol, gyda llaw, gan ymwelwyr o bob cwr o'r byd, o Taiwan, o Fecsico, o America, a oedd yma yng Nghaerdydd, yng Ngerddi Sophia, ddoe, yn dysgu o esiampl Cymru, lle rydym wedi gwneud y penderfyniadau caled ac anodd, gan weithio gydag aelodau o'r cyhoedd ac awdurdodau lleol a'r trydydd sector a phartneriaid eraill i wella ein cyfraddau ailgylchu, a oedd yn arfer bod yn erchyll ac sydd bellach gyda'r gorau yn y byd—. Dyna mae sir Ddinbych yn ceisio ei wneud. Mae pob awdurdod lleol sydd wedi mynd drwy hyn wedi wynebu heriau, ond buaswn i'n dweud, a dywedir wrthym fod dros 90 y cant o gasgliadau wedi cael eu casglu'n llwyddiannus yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mae angen iddynt fynd gam ymhellach, gwneud yn well, mae angen iddynt oresgyn y problemau a gawsant, ond nid ydynt wedi bod ar eu pen eu hunain yn hyn, ac un o'r pethau a wnaethom gyda sir Ddinbych yw eu mentora gydag awdurdodau lleol eraill sydd wedi bod drwy'r un broses. Fe gyrhaeddwn y nod, ond byddem yn croesawu eich cefnogaeth i barhau i fwrw ymlaen â hyn, oherwydd dyma'r peth iawn i'w wneud i helpu'r cymunedau lleol hynny i fynd i'r afael â gwastraff.

15:10
Dulliau Ffermio Cynaliadwy

5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gael mwy o ffermwyr i ddefnyddio dulliau ffermio cynaliadwy? OQ61666

Diolch, Jenny. Ein huchelgais yw cael diwydiant ffermio bywiog, ffyniannus a chynaliadwy. Yn y cyfnod cyn cyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy, mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cefnogi ffermwyr drwy Cyswllt Ffermio, yn ogystal â thrwy gynlluniau grant cyfalaf.

Diolch. Rwy'n rhannu'r uchelgais hwnnw, ac rwy'n rhyfeddu at faint o lysgenhadon ffermio cynaliadwy sydd i'w cael. Cyfarfûm ag un ohonynt i fyny'r grisiau yn y Neuadd ddoe a oedd yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o gynyddu nifer y gylfinirod, gan sicrhau glaswellt wedi'i wella cystal fel eu bod yn gorfod lleihau'r bwyd yr oeddent yn ei roi i'w gwartheg er mwyn eu hatal rhag mynd yn sâl. Yn yr un modd, dros yr haf, ymwelais â fferm Hywel Morgan ym Myddfai yn sir Gaerfyrddin, lle maent wedi cynyddu eu gorchudd coed, ac wedi rheoli eu dŵr i wella'r lloches ar gyfer eu holl anifeiliaid, a'u galluogi i aros yn yr awyr agored am y rhan fwyaf o'r flwyddyn, gan leihau eu stociau a chynyddu eu hincwm. Yn yr un modd, aeth pwyllgor yr economi i ganolbarth Cymru yr wythnos diwethaf i weld y fferm organig fwyaf yng Nghymru a Lloegr, sy'n cael ei rheoli gan gwmni dŵr gyda'r RSPB. Ac mae'r rhain i gyd yn enghreifftiau gwych o sut y gallwn gyfuno gwyddoniaeth a phrofiad pobl i achub y byd rhag yr argyfwng hinsawdd, a bioamrywiaeth. Felly, sut y gallwn ni gynyddu'r niferoedd sy'n gwneud cais am y cynlluniau yr oeddech chi'n sôn amdanynt wrth James Evans yn gynharach a galluogi mwy o bobl i groesawu'r dull hwn o ffermio, sy'n llawer mwy effeithiol a phroffidiol, yn gyflymach?

Diolch, Jenny, ac rwy'n credu eich bod chi'n chwalu'r ddeuoliaeth ffug rhwng ffermio a chadernid hinsawdd, neu ffermio a bioamrywiaeth, neu ffermio a natur. A dweud y gwir, mae'r ffermwyr gorau yn gwneud gwaith anhygoel ar hyn o bryd yn gwneud hynny i gyd ac yn cynhyrchu bwyd o safon hefyd, yn ogystal â chynnal ein hysgolion a'n cymunedau lleol, a'r Gymraeg. Felly, mae cynhyrchu bwyd yn hanfodol, ond mewn gwirionedd, y perygl mawr gyda chynhyrchu bwyd yn y tymor hir yw diffyg gallu i wrthsefyll hinsawdd a lleihad prosesau naturiol ar ffermydd a thirwedd. Felly, ni allwn barhau i gael sgwrs ar wahân am fwyd neu ffermio yn erbyn yr amgylchedd, yr un peth ydynt, maent yn ddibynnol ar ei gilydd.

Nawr, mae'r cynllun ffermio cynaliadwy yn mynd i fod yn allweddol i hyn, ac rydym yn gweithio'n ddyfal arno yn y cyfarfodydd bord gron gweinidogol, y grŵp swyddogion, y grŵp atafaelu carbon, gydag ystod o randdeiliaid yn rhan o hynny i geisio dod i gasgliad lle rydym yn rhannu amcanion yr hyn y ceisiwn ei wneud gyda ffermio gwirioneddol gynaliadwy, gan adeiladu ar beth o'r gwaith y cyfeirioch chi ato eisoes a'r arferion da sydd i'w cael, ond gan lunio cynllun sy'n hygyrch i'r holl ffermwyr sydd am fod yn rhan ohono a bwrw ymlaen i'r cyfeiriad hwnnw, wedi'i ategu gan yr amcanion rheoli tir cynaliadwy o fewn Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023.

Rydym yn y cyfnod pontio hwn nawr wrth inni symud tuag at 2026. Rydym yn gweithio'n ddyfal gyda'r holl randdeiliaid i geisio cael y cynllun ffermio cynaliadwy yn iawn. Os gwnawn hynny, bydd yn darparu glasbrint ar gyfer dyfodol ffermio cynaliadwy ac ar gyfer ffermio sy'n adeiladu gallu ohono'i hun i wrthsefyll y digwyddiadau tywydd trawmatig a welwn, ac sy'n darparu lloches i dda byw ac i wartheg a defaid ar eu ffermydd sydd â phridd o ansawdd da, pridd cyfoethog ac yn y blaen. Felly, dyna rydym yn ceisio'i wneud, ond yn y cyfamser, byddwn yn parhau â chynllun Cynefin Cymru hefyd, ar gyfer tir cynefin. Byddwn yn parhau i weithio ar ein safleoedd dynodedig wrth symud ymlaen. Felly, nid ydym wedi stopio, rydym yn dal ati gyda'r gwaith a wnawn, a gobeithio, erbyn dechrau 2026, y byddwn yn gallu lansio'r cynllun newydd a fydd yn sicrhau ffermio gwirioneddol gynaliadwy nawr ac yn y dyfodol.

15:15
Cynaliadwyedd Ffermio

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cynaliadwyedd ffermio? OQ61645

Diolch yn fawr iawn, Sioned. Drwy Cyswllt Ffermio a’n cynlluniau cymorth amaethyddol, rydym yn parhau i gefnogi ffermwyr i wella perfformiad technegol, ariannol ac amgylcheddol eu busnesau.

Diolch yn fawr. Yn ddiweddar, ymwelais â datblygiad tai Bryn Môr yng Nghastell-nedd. Mae'r datblygiad arloesol hwn gan Wellspring Homes yn defnyddio concrid cywarch yn ei ddeunyddiau adeiladu, sy'n cyfrannu at allu'r cartrefi i wrthsefyll llwydni ac i ddefnyddio ynni'n effeithlon—sydd mor bwysig yn y cyfnod hwn o dlodi tanwydd. Mae astudiaeth gan Brifysgol Aberystwyth ar botensial tyfu cywarch diwydiannol wedi archwilio ei amrywiaeth gyfoethog o ddefnyddiau, o decstilau i ddeunyddiau adeiladu, yn ogystal â llawer o fanteision i ffermio, gan gynnwys ei allu i wella iechyd pridd, lleihau erydiad ac atafaelu carbon. Yn gyffredinol, canfuwyd y gall y cnwd amlbwrpas hwn sy'n tyfu'n gyflym fod o fudd economaidd ac amgylcheddol sylweddol i Gymru a'n sector amaethyddol. Mae'r rheoliadau presennol ar dyfu cywarch diwydiannol a diffyg cyfleusterau prosesu yng Nghymru yn cyfyngu ar dwf y diwydiant newydd hwn a allai gyfrannu cymaint o atebion i'n diwydiant ffermio a hefyd ar gyfer amcanion polisi tai a'r amgylchedd. Felly, pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda phartneriaid i hwyluso twf cywarch diwydiannol gan ffermwyr Cymru a datblygu cyfleusterau prosesu cysylltiedig? A fyddech chi'n ystyried siarad â'ch cymheiriaid yn San Steffan i archwilio pa newidiadau rheoleiddiol sydd eu hangen?

Sioned, diolch am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n credu eich bod wedi crybwyll maes diddorol. Deuthum ar draws peth o'r gwaith hwnnw, ac nid wyf yn credu mai'r un bobl ydoedd, ond yn rhyfedd, mewn cynhadledd ar bren yn Abertawe, lle roedd ganddynt stondin gyda chywarch. Nawr, roeddwn i'n ymwybodol o gywarch oherwydd bod tŷ ar fy stryd wedi'i adeiladu â chywarch, ac ni fyddech chi'n gwybod hynny, ni fyddech chi'n gwybod o gwbl, ond mae wedi'i wneud o gywarch a choncrid cywarch. Efallai mai'r un bobl ydynt, nid wyf yn gwybod, a'u bod bellach yn bwriadu bwrw ymlaen ac ehangu.

Mae'n dechnoleg wirioneddol gyffrous. Rwy'n credu ei bod yn werth edrych ar ble y gallwn gael cefnogaeth. Mae'n dechnoleg sy'n datblygu, ac mae ganddo effeithiau gwledig ehangach, o bosibl, hefyd, fel y dywedwch, yn gywir ddigon, yn economaidd i berchnogion tir a ffermwyr drwy dyfu cywarch a'r defnydd lluosog sydd iddo. Rwy'n credu ei bod yn ddyddiau cynnar ar hyn o bryd o gymharu â datblygiadau technolegol eraill, arloesi technolegol cynaliadwy, ond rwy'n fwy na pharod i drafod gyda fy swyddogion ac ymgysylltu â Llywodraeth y DU a gweld pa botensial sydd ar gael ar gyfer cywarch ym maes adeiladu hefyd. Yn y cyfamser, rydym ni hefyd yn awyddus iawn—. Yn ogystal â chywarch, sy'n datblygu fel deunydd newydd diddorol o fewn y maes adeiladu, mae gennym ddiddordeb mawr hefyd mewn gweld sut y gallwn fwrw ymlaen ag adeiladu â phren hefyd, gyda'i ddefnydd hirdymor mewn adeiladu; yn hytrach na'n bod yn ei ddefnyddio mewn pyst ffens, sy'n pydru ymhen ychydig flynyddoedd, ein bod yn ei ddefnyddio'n ddwfn yng ngwead ein tai. Ond mae cywarch yn ddiddorol iawn, ac rwy'n fwy na pharod i gael golwg arno.

15:20
Treth Etifeddiaeth a Busnesau Amaethyddol

7. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ynghylch effaith newidiadau posibl i'r dreth etifeddiaeth ar fusnesau amaethyddol yng Nghymru? OQ61651

Diolch, Laura. Nid yw'r dreth etifeddiaeth wedi'i datganoli. Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddodd Trysorlys Ei Fawrhydi ymgynghoriad ar drethi rheoli tir amgylcheddol, gan gynnwys rhyddhad eiddo amaethyddol. Roedd fy swyddogion yn ymgysylltu â'u cymheiriaid yn y DU ar hyn ar y pryd.

Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, ffermydd teuluol yw asgwrn cefn ein cymunedau gwledig, gan gyfrannu nid yn unig at yr economi, ond at wead diwylliannol ein cefn gwlad. Mae rhyddhad y dreth etifeddiaeth wedi bod yn achubiaeth hanfodol ers amser maith, gan sicrhau y gellir trosglwyddo ffermydd drwy genedlaethau heb ofni beichiau treth andwyol. Byddai cael gwared ar y rhyddhad hwn yn arwain at ganlyniadau dinistriol, gan greu perygl o orfodi teuluoedd i werthu eu tir, chwalu ffermydd a thanseilio economïau gwledig. Mae yna risg y byddai'n gwthio mwy o dir i ddwylo corfforaethau mawr, gan erydu'r traddodiadau a gynhelir gan ffermydd teuluol. A all y Gweinidog amlinellu pa drafodaethau a gafodd gyda'r Canghellor ynghylch dyfodol rhyddhad y dreth etifeddiaeth i ffermydd teuluol? Ac a wnaiff ymrwymo i wneud popeth yn ei allu i ddiogelu'r cymorth hanfodol hwn i'n cymunedau gwledig yng Nghymru?

Yn ein holl drafodaethau gyda'r Trysorlys, rydym wedi canolbwyntio'n fawr—a diolch, hefyd, i Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid a'i ragflaenydd—ar bwysleisio pwysigrwydd cynaliadwyedd ffermio a rheoli tir yng Nghymru. Fe fyddwch yn deall, serch hynny, na allaf ddyfalu ynghylch newidiadau i'r dreth etifeddiaeth, er bod llawer o ddyfalu'n digwydd ar hyn o bryd; rydym i gyd yn aros yn eiddgar am gyllideb gyntaf Llywodraeth y DU. Rwy'n derbyn y pwyntiau a wnaethoch, Laura, ond i fod yn onest, ni fyddai o gymorth mawr i mi geisio dyfalu gan ychwanegu at y dyfalu sy'n digwydd eisoes.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Cyfoeth Naturiol Cymru

8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Cyfoeth Naturiol Cymru? OQ61657

Diolch, Sam. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru ac arbenigedd proffesiynol ei staff yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd, natur a llygredd sy'n ein hwynebu. Gan ystyried yr heriau ariannol, mae'n cynnal adolygiad cynhwysfawr o'i waith ar hyn o bryd, gan gydnabod bod yn rhaid blaenoriaethu'r gwaith o gyflawni ei swyddogaethau craidd a'i ddyletswyddau statudol o fewn y cyllidebau cyfredol.

Diolch i chi am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac wrth gwrs, mae nifer eisoes wedi mynegi pryderon wrthych ynglŷn â dyfodol CNC yn y Siambr hon y prynhawn yma, fel rydych chi newydd ei nodi, a'r heriau ariannol y mae'n rhaid iddynt eu hwynebu. Wrth gwrs, bydd dadl bellach y prynhawn yma, ac rwy'n disgwyl y byddwch chi'n ymateb i honno hefyd.

Fel y gwyddoch, rwy'n cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar weithgareddau awyr agored. Maent wedi codi pryderon sylweddol am effaith y mesurau torri costau y mae CNC yn ceisio eu cyflawni, a'u pryderon penodol, ysgrifennais atoch yr wythnos diwethaf yn amlinellu'r rheini, ond fe fyddwch yn ymwybodol eu bod yn cynnwys mynediad at y mannau awyr agored hollbwysig hynny. Ac rwy'n gwybod eich bod yn deall y gwahaniaeth y mae'r gofodau hynny'n ei wneud i fywydau pobl, boed i iechyd corfforol, iechyd meddwl neu ddim ond gweld yr harddwch sydd gan Gymru i'w gynnig mewn amgylchedd diogel. Felly, yn dilyn ein dadl yr wythnos diwethaf, ac wrth gwrs, gyda dadl bellach y prynhawn yma, roeddwn i'n meddwl tybed a ydych chi wedi cael cyfle pellach i fyfyrio ar yr hyn yr ysgrifennais atoch yn ei gylch a phryderon y sector gweithgareddau awyr agored yma yng Nghymru, a pha syniadau sydd gennych ynglŷn â sut y gallant gael mynediad at y lleoedd hyn yn ddiogel yn y dyfodol, ni waeth beth a ddaw. Ac a fyddech chi'n derbyn y cynnig i gyfarfod â mi fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol hwnnw a chyda phartïon sydd â diddordeb yn y sector gweithgareddau awyr agored hefyd?

Diolch, Sam, a diolch am y llythyr ac am y gwahoddiad i gyfarfod â chi. Gadewch imi ddweud fy mod yn fwy na pharod i gyfarfod â chi, ond mae'r amseru'n bwysig, gan nad wyf am ymyrryd â'r ymgynghoriad sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd gyda CNC.

Rwy'n credu bod y rôl sydd gennych fel cadeirydd trawsbleidiol y grŵp, yn hel safbwyntiau'r rhai sy'n ymwneud â'r sector pwysig hwn yng Nghymru, yn hanfodol, ac rwy'n credu eu bod wedi mynegi eu barn yn glir iawn eu bod eisiau gweld y canolfannau hyn yn parhau, ond efallai na fyddant ar yr un ffurf nac yn cael eu harwain gan yr un bobl. Yn wir, mae rhai ohonynt wedi mynegi diddordeb mewn ymgymryd â hyn eu hunain neu fod yn rhan o weithrediad rhai o'r canolfannau hyn, mewn llefydd fel Plas y Brenin ac yn y blaen. Ond mae yna ymgynghoriad ar y gweill ar hyn o bryd ac mae'n rhaid imi barchu hynny, ac mae'n ymgynghoriad sy'n cynnwys y gweithlu a'r undebau hefyd. Mae'n ymwneud ag agweddau ar ganolfannau ymwelwyr ac yn y blaen, ond mae'n ehangach na hynny, wrth gwrs.

Ond mae un peth rwy'n awyddus i'w wneud yn glir: yn y sicrwydd yr wyf fi a fy swyddogion wedi'i geisio gan CNC, nid oes bwriad i gau canolfannau ymwelwyr; nid dyna yw'r bwriad o gwbl. Yr hyn a wnânt yw chwilio am bartneriaid sydd mewn sefyllfa well i ddarparu, yn fwyaf arbennig, y gwasanaethau manwerthu a'r gwasanaethau arlwyo yn y canolfannau hyn. Ni fydd CNC yn tynnu'n ôl o'r gwaith o reoli'r safleoedd o amgylch y canolfannau ymwelwyr hyn—felly, pethau fel y llwybrau cerdded, y llwybrau beicio ac yn y blaen—yn hynny o beth. Bydd y safleoedd yn parhau ar agor ar gyfer cerdded a beicio, mannau chwarae, maes parcio, darpariaeth toiledau ac yn y blaen. Ond mae CNC yn ystyried llu o bosibiliadau, gan gynnwys darparu cyfleoedd i fusnesau lleol a gweithio mewn partneriaeth â grwpiau cymdeithasol a chymunedol ac eraill, ar reoli ei ganolfannau yn y dyfodol. Ond ar yr adeg briodol, Sam, a byddaf yn ymateb i'ch llythyr, rwy'n hapus iawn i gyfarfod â chi.

15:25
3. Cwestiynau Amserol

Eitem 3 yw'r cwestiynau amserol. Mae dau gwestiwn amserol heddiw, a bydd y cyntaf gan Heledd Fychan.

Adroddiad Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg i Ladd June Fox-Roberts

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru yn dilyn cyhoeddi argymhellion adroddiad Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg i ladd June Fox-Roberts? TQ1196

Rydym yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i bob digwyddiad ac adolygiad. Mae hwn yn achos trasig, ac rwy'n disgwyl i bob asiantaeth ystyried yr argymhellion; mae hyn yn cynnwys y bwrdd iechyd, swyddogion a gweithrediaeth y GIG. Mae gwasanaethau iechyd meddwl y bwrdd iechyd yn cael eu monitro'n ofalus, ac maent wedi rhoi sicrwydd eu bod wedi rhoi camau ar waith yn dilyn y digwyddiad hwn.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwy'n gobeithio eich bod wedi cael cyfle i ddarllen yr adroddiad yn llawn, a'r deyrnged wych gan deulu June, sy'n dangos yn glir pa mor annwyl oedd hi a chymaint o golled sydd ar ei hôl. Yn eu geiriau eu hunain,

'Roedd June yn deulu, yn ffrind, yn graig ac yn hafan ddiogel i ni, a byddwn yn teimlo'r golled hon am weddill ein bywydau.'

Mae'r ffaith y gallai June ddal i fod yn fyw heddiw pe bai Luke Deeley wedi cael y driniaeth yr oedd ei hangen, a phe bai rhywun wedi gwrando ar ei deulu pan wnaethant godi eu pryderon a gofyn i'r awdurdodau am gymorth, yn rhywbeth y mae'r ddau deulu wedi myfyrio yn ei gylch yn gyhoeddus ac yn rhywbeth y dylem i gyd fyfyrio yn ei gylch—yr holl ddinistr, yr holl loes a phoen, y gellid bod wedi eu hosgoi. 

Mae'r adroddiad yn nodi bod o leiaf bedwar adolygiad yn gysylltiedig â lladdiadau iechyd meddwl wedi'u comisiynu yn ardal Cwm Taf Morgannwg rhwng 2018 a 2021, a cheir argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad thematig o'r dysgu a ddeilliodd o'r digwyddiadau hyn i nodi themâu cyffredin a chamau gweithredu cysylltiedig. Felly, os gwelwch yn dda, a allwch chi gadarnhau: a fydd hyn yn cael ei wneud, a fydd yn annibynnol a beth fydd yr amserlen ar gyfer y gwaith?

Rwy'n siŵr eich bod yn rhannu fy mhryderon hefyd ei bod wedi cymryd bron i dair blynedd i gyhoeddi'r adroddiad, gan ymestyn y boen i aelodau'r teulu, ond hefyd ymestyn yr amser cyn i wersi gael eu dysgu a'u gweithredu. Felly, ymhellach, a yw Llywodraeth Cymru yn barod i wneud byrddau iechyd yn destun mesurau arbennig os daw'n amlwg nad yw gwersi wedi'u dysgu o'r digwyddiad trasig hwn a phob digwyddiad tebyg arall? Rwy'n siŵr nad oes yr un ohonom yn y Siambr eisiau gweld adroddiad arall eto'n cael ei gyhoeddi gydag argymhellion tebyg. Ni all ymddiheuriadau, er eu bod yn bwysig, unioni'r methiannau sydd wedi digwydd, na lleihau'r boen a'r effaith pan fo pethau'n mynd o chwith mewn ffordd mor drasig. 

Diolch, Heledd Fychan, am rannu hynny mewn ffordd sy'n crynhoi'n union, fel y dywedoch chi, yr hyn rydym i gyd yn ei deimlo yn y Siambr: ni all hyn byth ddigwydd eto ac mae'n rhaid dysgu gwersi, ac mae'n bryd myfyrio nawr.

O ran Cwm Taf Morgannwg, maent ar statws uwchgyfeirio lefel 4 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau, sy'n cynnwys iechyd meddwl, ac mae hyn yn golygu bod gwasanaethau iechyd meddwl y bwrdd iechyd yn cael eu monitro'n ofalus. Maent wedi rhoi sicrwydd eu bod wedi rhoi camau ar waith yn dilyn y digwyddiad hwn a byddwn yn parhau i sicrhau eu bod yn gweithredu argymhellion yr adolygiad hwn.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi comisiynu sicrwydd ychwanegol gan bob bwrdd iechyd yn ymwneud â gweithredu gwasanaethau iechyd meddwl acíwt i gleifion mewnol sy'n oedolion yn effeithiol, gan gynnwys dilyniant ar ôl rhyddhau, rheoli risg a chynllunio gofal a thriniaeth. Mae'r themâu a nodwyd yn yr adroddiad hwn ar gyfer iechyd eisoes yn flaenoriaethau yn ein rhaglen strategol ar gyfer iechyd meddwl, y rhaglen diogelwch cleifion iechyd meddwl a'r strategaeth iechyd meddwl sydd ar y ffordd. Mae'r gwersi sydd i'w dysgu o hyn a digwyddiadau blaenorol yn bwydo i mewn i'r rhaglen diogelwch cleifion.

Cynhelir uwchgynhadledd weinidogol ar ddiogelwch iechyd meddwl ym mis Tachwedd, lle bydd byrddau iechyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, sef fi, ar gynnydd i wella ansawdd a diogelwch gofal. Rydym hefyd yn parhau i fuddsoddi i weithredu ein cynllun gweithlu iechyd meddwl strategol. Ein nod yw sicrhau gweithlu iechyd meddwl cynaliadwy ac amrywiol ar draws y maes iechyd meddwl a gofal cymdeithasol i ategu gwelliannau yn y dyfodol er mwyn gwella ac asesu canlyniadau gwasanaethau iechyd meddwl.

O ran yr hyn a wnawn wrth symud ymlaen pan ddaw digwyddiadau o'r fath yn hysbys, fel y crybwyllais wrthych o'r blaen, rydym bellach wedi lansio'r adolygiad diogelu unedig sengl, ac mae hwn yn ddull newydd arloesol o ddarparu adolygiadau ymarfer sy'n ymwneud â digwyddiadau a marwolaethau trasig yng Nghymru. Mae'n ganlyniad cydweithio traws-sector sylweddol gyda phartneriaid, gan gynnwys byrddau diogelu, partneriaethau diogelwch cymunedol, y Swyddfa Gartref, comisiynwyr heddlu a throseddu, sefydliadau iechyd a thrydydd sector. Bydd yn cyfuno adolygiadau ymarfer oedolion, ymarfer plant, iechyd meddwl, lladdiadau, lladdiadau domestig, a lladdiadau ag arfau ymosodol mewn un broses drwyadl, a bydd yn atal yr angen i deuluoedd gymryd rhan mewn adolygiadau lluosog, beichus a thrawmatig yn aml, fel rydych chi wedi'i ddweud.

Mae'r broses yn caniatáu i dimau adolygu amlasiantaethol fynd ati'n gyflym i nodi gwersi i'w dysgu, meithrin gwell dealltwriaeth o'r hyn sydd wedi digwydd yn ystod digwyddiad a pham, a darparu cynllun gweithredu clir i wella gwasanaethau. Ac yn bwysig, bydd yn sicrhau bod dysgu'n cael ei fabwysiadu ledled Cymru. Ac yn ganolog i gyflawni hyn mae datblygiad ystorfa ddiogelu heb ei hail yng Nghymru.

Felly, ar lefel genedlaethol, mae hyb cydlynu penodedig gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o gyflawni'r broses, ac mae hyn yn cynnwys y bwrdd gweinidogol, sy'n goruchwylio aelodaeth arweinwyr allweddol ledled Cymru ac ar draws y sector cyhoeddus. Mae'r bwrdd yn darparu swyddogaeth arweinyddiaeth bwysig, gan oruchwylio proses yr adolygiad diogelu.

Mae hyn oll yn dangos bod y mater hwn yn destun ystyriaeth ddifrifol iawn, fel y dywedais, i geisio mynd i'r afael â phopeth a ddywedoch chi, a cheisio sicrhau nad yw hyn byth yn digwydd eto ac nad oes rhaid i deuluoedd fynd drwy'r adolygiadau erchyll hyn byth eto. Diolch yn fawr.

15:30

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelod Heledd am ofyn cwestiwn amserol mor bwysig heddiw. Fel y mae llawer ohonoch yn gwybod efallai, rwy'n dod o Lanilltud Faerdref. Roeddwn i'n adnabod June; roeddwn yn yr un ysgol â'i phlant, ac mae'r digwyddiad trasig hwn wedi cael effaith ddinistriol ar bawb yn y pentref cyfan.

Yn anffodus, gwelwn fod argymhellion adroddiad bwrdd diogelu Cwm Taf Morgannwg yn dangos yn eithaf clir fod y system ar gyfer cofnodi a chyfathrebu materion iechyd meddwl rhwng gweithwyr proffesiynol, o fewn y GIG a rhwng sefydliadau y tu allan i'r GIG a oedd yn ymwneud â gofal iechyd meddwl Luke Deeley, yn ddiffygiol. ac mae'r canlyniadau wedi bod yn drychinebus i June a'i theulu. Mae'r ffaith nad oedd gan unrhyw sefydliad ar y pryd ddarlun cywir o gyflwr iechyd meddwl Luke Deeley yn fy mrawychu. Rwy'n siŵr ei fod yn brawychu pawb arall yma. A'r gwir amdani yw bod ymddiriedaeth y cyhoedd yng ngwasanaethau iechyd meddwl bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi bod yn eithriadol o isel ers peth amser.

Yn anffodus, Weinidog, er y gallai'r ffordd y cafodd June ei lladd fod yn ddigwyddiad prin eithriadol, mae'n glir iawn hefyd y gellid bod wedi ei atal, ac mae'r arwyddion rhybudd fod yr uned iechyd meddwl yng Nghwm Taf Morgannwg yn ei chael hi'n anodd wedi bod yn hysbys ers peth amser. Mae angen mwy o adnoddau arnynt ac mae angen systemau mwy cadarn ar waith. Gyda hyn mewn golwg, Weinidog, beth y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i ddod â'r holl sefydliadau sy'n ymwneud â gofal iechyd meddwl yng Nghymru at ei gilydd i ganiatáu rhannu data ac adroddiadau iechyd meddwl? A beth yw'r amserlenni ar gyfer hyn, oherwydd, yn y pen draw, oni wneir y newidiadau, mater o amser yw hi cyn i rywbeth arall fel hyn ddigwydd eto? Diolch.

Diolch yn fawr, Joel James, a hefyd am ei gysylltu'n ôl â'r teulu a'r gymuned. Fel y gwyddoch, cefais innau fy magu yn Nhon-teg hefyd, ychydig i lawr y ffordd o Lanilltud Faerdref, ac mae hon yn ergyd anferth i'r gymuned.

Roeddwn eisiau dweud hefyd fy mod yn cydnabod popeth a ddywedoch chi, yn debyg i'r hyn a nododd Heledd Fychan, ac rwyf am ailadrodd, o ran yr argymhellion i Lywodraeth Cymru, ein bod bellach wedi sicrhau bod yr adolygiad diogelu unedig sengl wedi mynd yn fyw. Ac ar lefel genedlaethol, mae hyb cydlynu penodedig gan Lywodraeth Cymru i gefnogi cyflawniad y broses hon, a hefyd mae'r rhwydwaith cymorth yn darparu swyddogaeth oruchwylio hanfodol. Mae hyn yn cynnwys bwrdd gweinidogol yr adolygiad diogelu unedig sengl, sy'n goruchwylio aelodaeth arweinwyr allweddol ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, unwaith eto gyda'r Swyddfa Gartref, comisiynwyr heddlu a throseddu a'r comisiynydd cam-drin domestig. Mae'r bwrdd yn darparu swyddogaeth arweinyddiaeth allweddol sy'n goruchwylio'r broses adolygu diogelu, gan fynd i'r afael â materion a uwchgyfeiriwyd a harneisio cyfleoedd ar gyfer cydweithredu a dysgu traws-sector. Diolch yn fawr.

15:35

Dwi am ddechrau, os caf fi, drwy estyn fy nghydymdeimladau dwysaf i deulu June Fox-Roberts yn ystod y cyfnod anodd yma. Mae ein meddyliau ni efo nhw. Yr hyn, wrth gwrs, sy’n gwneud y mater yma hyd yn oed yn fwy trist ydy bod yr erchylltra yn gwbl ataliadwy, fel y cyfeiriodd Heledd ato yn ei chwestiwn agoriadol. Mae’n hynod o bwysig felly fod gwersi yn cael eu dysgu cyn gynted â phosib, yn enwedig er mwyn sicrhau bod y systemau iechyd meddwl yn llawer mwy effeithiol a rhagweithiol wrth adnabod ac wrth adweithio i gyflyrau cymhleth yn gynnar, ac nid gadael i broblemau waethygu heb roi sylw dyledus iddyn nhw.

Fel y soniais i yn fy nghyfraniad i ddoe, yn hanesyddol, mae llawer iawn mwy o sylw ac adnoddau wedi cael eu neilltuo i'r cyfnod hwnnw o argyfwng ym mywyd rhywun—y creisis yna ym mywyd unigolyn—yn hytrach na buddsoddi ynghynt, i fyny'r nant, fel petai, fel y maen nhw'n ei ddweud yn Saesneg, cyn eu bod nhw'n cyrraedd yr argyfwng hwnnw. Ac fel y dywedodd Heledd, roedd teulu Luke Deeley wedi mynegi pryderon ei fod o'n mynd i ddisgyn nôl i mewn i drafferthion iechyd meddwl cyn cyrraedd y pwynt yna o argyfwng.

Felly, gaf fi ofyn, yn sgil hyn i gyd, am eglurhad gennych chi fel Gweinidog am y camau ymarferol a fydd yn cael eu gweithredu i gyflawni’r nod yma o sicrhau bod buddsoddiad ac ymyrraeth gynnar yn cael ei gwneud, a'r buddsoddiad yna lawer iawn ynghynt? A dwi yn nodi, ac yn falch o'ch clywed chi yn dweud yn eich ymateb, fod arfer da yn mynd i gael ei ddysgu ac yn mynd i gael ei rannu ar hyd a lled y byrddau iechyd. Wrth gwrs bod hynny i'w groesawu, ond mae arnaf ofn, yn hanesyddol, fod hynny wedi cael ei ddweud drosodd a throsodd. Bob tro, mae yna addewidion bod arfer da yn cael ei ddysgu, rydyn ni'n ei glywed e rŵan—pobl yn dweud bod arfer da yn mynd i gael ei ddysgu—ond, eto, mae'n amlwg ei fod o ddim. Felly, pa hyder all pobl ei gael yn y Llywodraeth yma heddiw eich bod chi'n mynd i gadw at y gair hwnnw, a bod yr arferion da yna'n mynd i gael eu rhannu ar draws Cymru, ac na fyddwn ni felly'n gweld digwyddiadau fel hyn eto?

Diolch yn fawr. Fel y dywedais, o ran yr argymhellion, mae hyn er mwyn i'r bwrdd iechyd, y swyddogion a gweithrediaeth y GIG sicrhau bod yr holl argymhellion hynny'n cael eu dilyn. Rydym wedi cwblhau argymhelliad Llywodraeth Cymru, a bellach fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau bod pob un o'r lleill yn cael eu cyflawni, a dyna pam, unwaith eto, ein bod yn cynnal yr uwchgynhadledd ym mis Tachwedd, a dyna beth rwy'n disgwyl ei weld. Nid gyda Chwm Taf Morgannwg yn unig y digwyddodd hynny, mae bellach wedi'i gyflwyno'n gyffredinol i sicrhau bod hyn yn digwydd ar draws pob bwrdd iechyd.

Ar y camau ymarferol, bydd gennym y strategaeth iechyd meddwl sy'n dod yn y flwyddyn newydd, yn ogystal â'r strategaethau atal hunanladdiad a hunan-niweidio. Bydd popeth a grybwyllwyd gennych yno yn cael ei ymgorffori, yn ogystal â'r 370 o ymatebion a gawsom gan bobl ar lawr gwlad, neu bobl sydd â phrofiad bywyd. Cyfarfûm â grŵp cynghori'r gynghrair iechyd meddwl y bore yma, a dyna'n bennaf y buom yn ei drafod, yn union yr hyn a ddywedoch chi: mae llawer o ffocws ar argyfwng. Mae gennym '111 pwyso 2', ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn siarad llawer amdano mewn perthynas â hynny a sut y gallwn ei gryfhau, ond hefyd mae'n ymwneud ag atal ac ymyrraeth gynnar, ac mae hynny'n rhywbeth y mae pawb ohonom yn awyddus iawn i'w weld a chyfeirio adnoddau tuag ato hefyd. Felly, byddaf yn rhoi diweddariad penodol ar hynny yn y flwyddyn newydd, ond mae hyn i gyd yn rhan o'r un genhadaeth, yn y pen draw, i sicrhau nad oes rhaid i bobl gyrraedd pwynt lle maent mewn argyfwng, ac nad oes rhaid i deulu fynd drwy'r profiad erchyll a thrasig hwn.

Dŵr Cymru

2. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod Dŵr Cymru, ynghyd â thalu’r gosb ariannol o £24.1 miliwn, yn gwneud gwelliannau hirdymor o ran lleihau llygredd a gollyngiadau? TQ1197

Member
Huw Irranca-Davies 15:39:04
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch, Delyth. Rwy'n cysylltu ag Ofwat, y rheoleiddiwr economaidd annibynnol sy'n gyfrifol am bennu cosbau ariannol, ar eu rheoleiddio. Rwyf hefyd yn ymgysylltu â Dŵr Cymru i sicrhau eu bod yn cymryd camau cyflym a chadarn i gyflawni gwelliannau. Bydd y cwmnïau dŵr yn gosod targedau ymestynnol pellach ar gyfer 2025-30.

Dwi'n ddiolchgar i chi am yr ymateb yna. Rŷn ni wedi dysgu, wrth gwrs, fod Dŵr Cymru yn mynd i orfod talu nôl yr arian yma—miliynau—i gwsmeriaid. Dyw hyn ddim dim ond am un cwmni, wrth gwrs; mae e’n codi cwestiynau pwysig am stâd ein hisadeiledd a’r effaith y mae hynna’n ei gael ar yr amgylchedd.

Yn 2023, dadlwythwyd carthion i’n dyfroedd gan Dŵr Cymru am 916,000 o oriau, sy’n cynrychioli rhyw 20 y cant o’r dadlwytho dros Gymru a Lloegr. Mae yna issue yma gyda maint y pibellau. Mae pibellau llai gan Dŵr Cymru ar y cyfan, ac mae’r ffordd mae’r dadlwytho yn cael ei fesur ddim wastad yn cymryd hynny mewn i ystyriaeth. Ond mae hyn yn broblem sylweddol, dal. Dyna pam mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi is-raddio eu perfformiad. Mae angen gweld newid. Rwy’n gweld eich bod chi’n cytuno â hynny.

Bydd yr ad-daliad hwn o £24 miliwn yn rhyddhad, rwy’n siŵr, i gwsmeriaid, ond rwy’n siŵr y byddwch chi hefyd yn cytuno â fi—achos bod hyn yn dod ar yr un adeg ag yr ydym yn disgwyl i filiau godi yn y tymor hir achos yr angen yma am fuddsoddiad yn ein isadeiledd—dyw’r rhyddhad yna ddim yn mynd i fynd yn bell. Rhaid inni sicrhau bod y buddsoddiad hwn yn arwain at leihau llygredd a mynd i’r afael â’r broblem.

Felly, sut bydd y Llywodraeth yng Nghymru yn sicrhau nad ydy’r gosb hon yn fix dros dro ac na fyddwn ni'n gweld rhywbeth fel hyn yn digwydd o hyd ac o hyd? O ran cydbwyso’r angen i gael balans rhwng fforddiadwyedd biliau a’r angen am fuddsoddiad, pa rôl ydych chi’n rhagweld y bydd gennych chi i sicrhau nad ydy cwsmeriaid bregus yn dioddef yn arbennig?

Mae Dŵr Cymru wedi cydnabod yr angen am newid syfrdanol. Mae angen inni weld adrodd tryloyw, ac rwy’n meddwl hefyd ymrwymiad gan y Llywodraeth y byddwch chi yn monitro hyn yn ofalus. Ac i gloi, ydych chi’n cytuno na ddylai cwsmeriaid Cymru gael eu hanfanteisio oherwydd problem nad ydyn nhw wedi ei chreu? Ddylem ni ddim ychwaith orfod dewis rhwng biliau fforddiadwy ac amgylchedd glân. Oni ddylem ni fod yn edrych eto ar sut rydyn ni’n rheoleiddio dŵr?

15:40

Diolch yn fawr iawn, Delyth. Diolch i chi am godi'r ffaith nad yw hyn yn annisgwyl mewn rhai ffyrdd. Mae'n adlewyrchiad o danfuddsoddi hanesyddol mewn rhannau sylweddol o seilwaith hynafol. Rydym yn rhannu siom y cyhoedd yma ynghylch y perfformiad a welsom gan Dŵr Cymru, fel yr amlygwyd yn yr adroddiad hwn, a'i fethiant i gyrraedd ei dargedau presennol. Rwy'n meddwl bod pob un ohonom ni yma yn glir—rwy'n glir iawn fy mod i'n disgwyl i gwmnïau dŵr yng Nghymru gyflawni'n effeithiol i gwsmeriaid ac i'r amgylchedd, ac i wneud yn siŵr eu bod yn cadw biliau'n fforddiadwy hefyd.

Rydym yn ymrwymedig iawn yn Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y sector dŵr yn cyflawni'r cyfrifoldebau hynny, ac yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru ac ar gyfer yr amgylchedd. Rydym wedi bod yn gwbl glir fod yn rhaid i'r sector wneud yn well. Sut rydym ni'n gwneud hynny? Mae ein datganiad blaenoriaeth strategol i Ofwat a'n canllawiau strategol i gwmnïau dŵr yn nodi'n glir beth yw'r disgwyliadau ar gyfer gwelliannau sylweddol ym mherfformiad cwmnïau dŵr ar gyfer y cyfnod o'n blaenau, 2025 i 2030.

Mae Ofwat wedi camu i mewn yma. Ofwat sy'n gyfrifol am ysgogi gwelliannau a gosod cosbau, fel y gwnaethant, lle mae cwmnïau dŵr yn methu cyrraedd eu targedau. Bydd Ofwat nawr yn ei gwneud yn ofynnol i Dŵr Cymru gyhoeddi cynllun ymrwymiad gwasanaeth, amlinellu pryd a sut y bydd cwsmeriaid yn derbyn y gwasanaeth y maent yn ei ddisgwyl, a sut y byddant yn ymgymryd ag ymyrraeth wedi'i thargedu a monitro, fel y dywedwch yn briodol, i ysgogi'r gwelliannau hynny. Tra bo'r cyfrifiadau'n digwydd ar hyn o bryd, mae'n dda gweld hefyd y bydd cwsmeriaid Dŵr Cymru yn cael credyd tuag at eu biliau dŵr. O'm safbwynt i fel Ysgrifennydd y Cabinet, byddaf yn parhau i gynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda'r cwmnïau dŵr a chyda'r rheoleiddiwr hefyd, i fonitro'r cynnydd hwn ac i ysgogi'r camau brys i wella'r dyfrffyrdd.

Os caf ddweud hefyd, fe gafodd y penderfyniadau drafft hynny eu cyflwyno gan gwmnïau dŵr ar gyfer 2025 i 2030, lle cafwyd cynnydd sylweddol mewn buddsoddiad, a bydd y penderfyniad terfynol i osod y biliau'n cael ei wneud rywbryd ym mis Rhagfyr. Rwy'n cydnabod, fel chithau, fod cyfaddawd anodd iawn i'w daro rhwng cael lefel y buddsoddiad sydd ei angen arnom i ddarparu gwasanaeth dŵr a dŵr gwastraff gwydn yn y dyfodol gan wella perfformiad yn y ffordd yr ydym am ei weld, a chadw biliau'n fforddiadwy.

Ond er diddordeb, rydym hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar gyflwyno'r Bil Dŵr (Mesurau Arbennig), sydd â mesurau ynddo hefyd i lanhau ein dyfrffyrdd. Diolch, Delyth, am godi hyn heddiw, a'r ffordd y gwnaethoch ei osod mor glir, yn yr ystyr nad yw'n rhywbeth sydd wedi digwydd yn annisgwyl; mae hwn yn fater hanesyddol sy'n cael sylw nawr, ac mae Ofwat wedi gwneud eu gwaith yn briodol.

15:45

Rwyf wedi ymdrin â llu o faterion yn fy etholaeth yn ymwneud â phroblemau llifogydd a gollyngiadau carthffosiaeth yr oedd Dŵr Cymru yn gyfrifol amdanynt. Wrth gwrs, rwy'n rhannu'r siom ynghylch gollyngiadau llygredd parhaus a gollyngiadau carthffosiaeth, ac rwy'n credu bod angen cosbau ariannol neu hyd yn oed droseddol mewn ymateb i lefelau annerbyniol o lygredd. Yn ôl Dŵr Cymru, afonydd Cymru yw rhai o'r afonydd sydd â fwyaf o garthion ynddynt yn y DU, a'r llynedd oedd y perfformiad gwaethaf a gofnodwyd erioed. Yn fy etholaeth i, mae pobl yn dwyn hyn i fy sylw'n fwyfwy aml. Mae gollyngiadau carthion yn afon Clwyd ac ar hyd arfordir y Rhyl a Phrestatyn yn dod yn fwy cyffredin, ac ni ddylai pobl orfod dioddef hyn. Mae'r rhain yn weithredoedd sy'n achosi niwed parhaus a gofidus i'n hamgylchedd, ond maent hefyd yn annymunol iawn i drigolion ardal, na ddylent orfod dioddef hyn. Rwy'n falch fod gwybodaeth amser real am ollyngiadau carthion a llygredd yn cael ei chynnig, ond mae pobl, yn briodol ddigon, yn mynd yn fwy dig, gan eu bod bellach yn gwybod mwy am ba mor fudr yw eu moroedd a'u hafonydd, gyda'r sefyllfa'n gwaethygu yn hytrach na gwella.

Ar ôl cyfarfod â Dŵr Cymru fy hun, cefais sicrwydd eu bod yn gweithio ar y problemau yn sir Ddinbych, o leiaf, gyda'r defnydd o dechnoleg i arolygu seilwaith am gysylltiadau gwan y gallant eu gwella neu eu trwsio'n rhagataliol, a thrwy hynny lanhau iechyd cyffredinol ein seilwaith carthion a dŵr. Ond gosod plastr dros y broblem yw hynny o hyd. Mae llawer o'r seilwaith yn hen ac mae angen ei uwchraddio, ac mae angen rhoi adnoddau er mwyn cyflawni hynny. Heb uwchraddio seilwaith sy'n dadfeilio, rydym yn annhebygol iawn o weld unrhyw welliant yn iechyd cyffredinol ein dyfrffyrdd. Felly, yn gyffredinol, rwy'n siomedig fod llygredd yn gwaethygu yn ein dyfrffyrdd yng Nghymru, ac rwy'n falch fod Dŵr Cymru wedi cael cosb. Ond beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau eu bod yn cael yr adnoddau cywir i uwchraddio seilwaith sy'n dirywio? A sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau yr ymgynghorir â'r cyhoedd ynglŷn â phryderon ynghylch ansawdd dŵr? Diolch.

Diolch, Gareth. Yn gyntaf oll, a gaf i dalu teyrnged i'r rhai sy'n ymgyrchu ar fater ansawdd dŵr? Oherwydd maent yn ein dwyn ni, y cwmnïau dŵr, y rheoleiddiwr a phawb sy'n gysylltiedig i gyfrif, ac felly y dylai fod. Ond hefyd, rydych chi'n dweud yn gywir yma fod angen mwy na phlastr dros y broblem. Dyna pam y mae penderfyniad drafft PR24 yn hwb sylweddol. Mae rhai o'r cwmnïau dŵr ar draws y DU eisiau mynd ymhellach a gwneud mwy eto, ond mae cydbwysedd i'w gael wedyn i ddiogelu defnyddwyr a fforddiadwyedd biliau. Ond rydych chi'n dweud yn iawn, ac rwy'n falch iawn o'ch clywed yn ei ddweud, fod angen newid sylweddol mewn buddsoddiad i ymdrin â maint y broblem sydd gennym. Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen yn y Siambr, Ddirprwy Lywydd: rydym wedi profi y gallwn wneud hyn o'r blaen pan gawn ein gyrru i'w wneud. Roedd y camau ymlaen a gawsom dros y degawdau diwethaf gyda glanhau ansawdd dŵr ymdrochi yn un o'r achosion hynny, wedi'u gyrru yn yr achos hwnnw gan gyfarwyddebau ansawdd dŵr yr UE sy'n berthnasol i ni yma. Ond mae angen inni lanhau ein hafonydd o bob math o lygredd. Yn yr achos penodol hwn, mae gwir angen inni weld y buddsoddiad yn mynd i mewn.

Bydd y penderfyniad drafft, yr ymgynghorir arno ar hyn o bryd i'n dau gwmni dŵr yng Nghymru—Hafren Dyfrdwy a Dŵr Cymru—yn cael ei gwblhau ym mis Rhagfyr, ac mae angen i'r cydbwysedd fod yno, gyda newid sylweddol mewn buddsoddiad a diogelu defnyddwyr hefyd. Rwy'n credu mai'r hyn a rannwn ar draws y Siambr hon yw'r siom ynghylch ansawdd rhannau sylweddol o afonydd eiconig, ond mae'n werth cydnabod hefyd, rhag ofn ein bod yn credu bod pob afon allan yno yn garthffos agored, nad yw hynny'n wir; mae cynnydd da iawn yn rhai o'n hafonydd yng Nghymru—o ran cynefin, statws ecolegol ac yn y blaen. A siarad yn gyffredinol, er bod yn rhaid i ni i gyd wneud llawer mwy, rydym mewn lle gwell na llawer o'r afonydd dros y ffin, oherwydd y buddsoddiad a wnaethom a'r gwaith partneriaeth a wnaethom. Ond mae hyn yn dangos, yn sicr, y rôl y mae'n rhaid i'r cwmnïau dŵr ei chwarae nawr. Mae'n rhaid iddynt wella. Mae ein disgwyliadau ohonynt yn uchel, ac fe ddylent fod yn uchel, yr un fath â disgwyliadau ein hetholwyr.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae clwb pêl-droed Gwndy yn fy etholaeth i yn Nwyrain Casnewydd yn dathlu eu llwyddiant yng ngwobrau rhanbarthol a chenedlaethol Cymdeithas Bêl-droed Cymru y mis hwn. Mae Gwndy yn glwb pêl-droed cymunedol, llawr gwlad, cynhwysol, angerddol, felly nid yw'n syndod i'r bobl sy'n adnabod ac yn ymwneud â'r clwb eu bod wedi llwyddo i fynd â'r wobr 'ysbryd pêl-droed llawr gwlad' adref am eu gwaith. Mae'r clwb yn derbyn unrhyw un yn y gymuned o dan eu hadain, ni waeth beth fo'u hoedran, eu gallu na'u cefndir, ac yn eu croesawu i grŵp cefnogol a chynhwysol. Felly, llongyfarchiadau i glwb pêl-droed Gwndy ar eu cyflawniad, gan gydnabod gwaith caled ac ymrwymiad y tîm, gwirfoddolwyr, hyfforddwyr, chwaraewyr, a'r cefnogwyr yn wir, i helpu i wneud y clwb hwn yn gymaint o batrwm o arfer da i bêl-droed llawr gwlad yma yng Nghymru.

15:50

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, a ddathlodd 125 o flynyddoedd ers eu gêm gyntaf yr wythnos hon. Chwaraeodd y clwb, a elwid yn wreiddiol yn Riverside AFC, yn erbyn Barry West End ar 7 Hydref 1899 yng Ngerddi Sophia. Fel y bydd llawer o'r Aelodau yma'n gwybod, ffurfiwyd y clwb a oedd i ddod yn Ddinas Caerdydd gan Bartley Wilson, aelod o glwb criced Riverside, gyda'r syniad o gadw'r chwaraewyr yn ffit yn ystod y gaeaf, ac maent wedi mynd o nerth i nerth. A Ddirprwy Lywydd, nhw yw'r unig dîm o hyd y tu allan i Loegr i fod wedi ennill Cwpan yr FA. I nodi pen-blwydd y foment allweddol hon, rwyf wrth fy modd eu bod yn goleuo waliau castell Caerdydd, yn ogystal â goleudy parc y Rhath, yn las, sydd ond yn dangos cryfder y gefnogaeth, y cariad a'r hwb y mae'r Adar Gleision yn eu cael gan ein prifddinas. Gyda hyn mewn golwg, Ddirprwy Lywydd, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno'r gorau i Gaerdydd yn y dyfodol, ac yn eu gêm nesaf yn erbyn Plymouth Argyle. Diolch.

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau, 'Rhyddid i ffynnu: Trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i bobl ifanc'

Eitem 5 yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau, 'Rhyddid i ffynnu: Trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i bobl ifanc'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Carolyn Thomas.

Cynnig NDM8683 Carolyn Thomas

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Rhyddid i ffynnu: Trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i bobl ifanc’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Cafodd yr adroddiad rydym yn ei drafod ei ysgogi gan ddeiseb a gyflwynwyd gan Charlie Steven Evans. Daeth y ddeiseb i ben ar 18 Gorffennaf y llynedd, gyda 381 o lofnodion. Mae'r ddeiseb yn dweud:

'Darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i'r rhai o dan 18 oed yng Nghymru er mwyn lleihau allyriadau carbon a hybu twf. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn chwarae rhan annatod wrth gysylltu plant Cymru â chyfleoedd addysgol, cymdeithasol a gwaith. Fodd bynnag, yn sgil yr argyfwng costau byw, yn ogystal â'r argyfwng hinsawdd, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cymell trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn lleihau allyriadau carbon a gwella twf economaidd. Roedd cynhadledd ENYA yn 2022, lle roedd 2 gynrychiolydd ifanc o Gymru yn bresennol, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy a fforddiadwy.'

Aeth y deisebwyr ymlaen i alw ar Lywodraeth Cymru i

'ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus eco-gyfeillgar ddibynadwy, reolaidd, caffaeladwy, hygyrch, diogel a fforddiadwy i bob ardal, gan gynnwys ardaloedd gwledig.'

Roeddent yn nodi bod y cynllun tocynnau €9 yn yr Almaen, a oedd yn darparu cludiant diderfyn i deithwyr mewn ardaloedd rhanbarthol a lleol, wedi arbed 1.8 miliwn tunnell o garbon deuocsid, ac wedi arwain at gynnydd o 80 y cant mewn teithiau trên i ardaloedd twristaidd gwledig. Maent yn tynnu sylw at ba mor anfforddiadwy yw trafnidiaeth gyhoeddus, gan fod cost trenau, bysiau a choetsys wedi codi rhwng 33 y cant a 74 y cant yn ystod y degawd diwethaf, a bod hyn yn arbennig o bryderus pan nad oes gan 23 y cant o bobl Cymru, a'r rhan fwyaf o bobl dan 18 oed, gar at eu defnydd. 

Rwy'n gwybod o fy ymwneud fy hun â rhanddeiliaid, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar drafnidiaeth gyhoeddus, fod Ffocws ar Drafnidiaeth a CPT hefyd yn awyddus i weld ymgyrch i ennyn diddordeb ac annog pobl iau. Maent hefyd yn nodi'r Alban, lle gall pobl dan 22 oed deithio am ddim ar fysiau ar hyn o bryd. Hoffwn nodi, fodd bynnag, fod adborth wedi bod gan weithredwyr fod y cynllun wedi achosi rhai problemau gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol, a phe bai pawb yn talu ffi gyffredinol o £1, meddent, yn hytrach na'i fod yn rhad ac am ddim, efallai y byddai'n cael ei werthfawrogi'n well. Lle cyflwynwyd cap ar brisiau, fel yn Rhondda Cynon Taf, mae nifer y teithwyr wedi codi. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi gobeithio archwilio cap ar brisiau, ond roedd y pwysau cyllidebol yn gwneud hyn yn anodd.

Fel Cadeirydd newydd y pwyllgor, hoffwn ddiolch i'r deisebwyr, Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru ac aelodau presennol a chyn-aelodau'r pwyllgor am roi sylw i'r  mater pwysig hwn. Mae llond llaw o wahanol ddeisebau wedi tynnu sylw ato, ac adroddiad 'Ffyrdd Gwyrdd' Senedd Ieuenctid Cymru: nid oes dim i gymharu â chlywed o lygad y ffynnon am brofiadau pobl ifanc.

Fel y mae'r cyn-Gadeirydd, Jack Sargeant, yn nodi yn yr adroddiad, ceir consensws cyffredinol y byddai darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc yn caniatáu iddynt ffynnu. Mae lleddfu pwysau costau byw, mynd i'r afael ag effaith tlodi plant a rhoi mynediad haws at gyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth i gyd yn rhan o'r pecyn hwnnw. Bydd hefyd yn helpu i fynd i'r afael â thagfeydd ar ein ffyrdd, gwireddu ein huchelgeisiau hinsawdd a chefnogi adferiad a thwf y sector trafnidiaeth gyhoeddus.

Nid teithio gan ddysgwyr oedd ffocws sesiynau'r pwyllgor, ond roedd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ei ystyried yn rhan o'u hymchwiliad i fynediad at addysg i bobl ifanc anabl. Mynegodd y pwyllgor hwnnw siom nad oedd yr adolygiad teithio gan ddysgwyr wedi bod yn fwy mentrus ynghylch gwneud newidiadau deddfwriaethol, a gwneud argymhellion mewn perthynas â chanllawiau, hyfforddiant a mynediad i blant ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae darparwyr hyfforddiant hefyd wedi dweud wrth Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig fod costau teithio i brentisiaid sy'n dechrau ar yr isafswm cyflog, yn enwedig y rheini yng nghefn gwlad Cymru, yn rhwystr mawr yn eu dewisiadau gyrfa. Maent yn bryderus wrth weld pobl ifanc yn dewis swyddi â chyflogau uwch ond â sgiliau is yn agosach at adref.

Argymhelliad cyntaf y Pwyllgor Deisebau, wedi'i lywio gan dystiolaeth gan randdeiliaid, oedd y dylai Llywodraeth Cymru nodi uchelgais clir i ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob unigolyn ifanc cyn gynted â phosibl. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn hyn. Fodd bynnag, thema glir yn ymateb y Llywodraeth yw bod y sefyllfa ariannol yn gwneud symud i deithio am ddim yn amhosibl. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud:

'Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i ystyried ymestyn FyNgherdynTeithio i gynnig tocynnau teithio rhatach i bobl ifanc. Wrth inni baratoi ar gyfer cyflwyno masnachfreinio, byddwn yn ystyried a yw'r rhagolygon ariannol yn caniatáu inni gyflwyno cynllun o'r fath.'

Mae llawer yn dibynnu ar ddiwygiadau arfaethedig i wasanaethau bysiau a chyflwyno masnachfreinio. Ond mae'r diwygiadau hynny'n dal i fod beth amser i ffwrdd, ac nid yw'r Bil wedi'i gyflwyno eto. Yn y cyfamser, mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi gwrthod ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac yn dweud bod llawer o waith wedi'i wneud i edrych ar gynlluniau prisiau tocynnau. Rwy'n croesawu ei gydnabyddiaeth na ddylai fod unrhyw rwystrau i fynediad i bobl ifanc, ac y bydd gwaith i bennu strwythurau prisiau tocynnau yn y dyfodol yn cynnwys ystyried a oes arian yno ar gyfer cyflwyno teithio am ddim i bobl ifanc 'heb oedi'.

Mae cymaint y gellir ei ennill o wella a hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus yma yng Nghymru. Diolch i'r deisebwyr eto am ddod â'r mater pwysig hwn i sylw'r Aelodau, ac edrychaf ymlaen at y ddadl heddiw. Diolch.

15:55

A gaf innau hefyd ddiolch i'r deisebydd am gyflwyno'r ddeiseb? Ein pobl ifanc yw ein dyfodol, ac mae'r gallu i ehangu gorwelion yn rhan hynod bwysig o hybu rhagolygon pobl ifanc yng Nghymru. Mae trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc wedi bod yn bolisi y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dadlau drosto ers tro. Yn anffodus, mae trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn parhau i fod yn llai ac yn llai fforddiadwy, gyda chost tocynnau trên, bysiau a choetsys wedi codi rhwng 33 y cant a 74 y cant dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae hyn yn peri pryder arbennig am nad oes gan bron i chwarter ein pobl ifanc gerbyd preifat at eu defnydd. Os ydym am gefnogi ein pobl ifanc i gyflawni eu potensial, mae'n amlwg fod angen inni sicrhau eu bod yn gallu ehangu eu gorwelion.

Un agwedd bwysig ar y ddadl hon yw hygyrchedd, ac mae'n amlwg fod trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn brin ohono at ei gilydd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, oherwydd diffyg cyllid cronig. Mae'r straeon am ganslo llwybrau bysiau yn dod yn llawer rhy gyfarwydd i lawer o Aelodau sydd ag etholwyr mewn ardaloedd gwledig, ac yn anffodus mae hyn yn golygu bod cyfleoedd i'n pobl ifanc yn crebachu. Mae'n amlwg fod gwir angen y buddsoddiad llawn ar Gymru er mwyn gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn sylweddol yma, ac rwy'n gobeithio na fydd Llywodraeth Cymru yn gadael i Lywodraeth y DU wneud cam â hi gyda phethau fel HS2.

Fel y gwyddom i gyd, mae Cymru'n dioddef o fod â phoblogaeth sy'n heneiddio, a hynny'n bennaf am fod nifer helaeth o bobl ifanc yn cael eu gorfodi i adael er mwyn dod o hyd i waith gwell mewn ardaloedd eraill, ac ni allwch eu beio. Ac rwy'n credu'n gryf fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud Cymru'n lle mwy deniadol i bobl ifanc, gan roi mwy o gyfleoedd iddynt a mwy o allu i symud o gwmpas. Ni fydd defnydd am ddim o drafnidiaeth gyhoeddus yn datrys yr holl heriau sy'n eu hwynebu, ond fe aiff rywfaint o'r ffordd i'w galluogi i ddod o hyd i gyfleoedd gwaith gwell. Diolch unwaith eto i'r deisebydd.

16:00

Cefais y fraint o fod yn aelod o'r Pwyllgor Deisebau pan gawsom dystiolaeth ar y mater hwn a chynhyrchu'r adroddiad. Hoffwn ddiolch i'r deisebydd, fel y mae eraill wedi'i wneud, a'r tystion, ac yn enwedig y Senedd Ieuenctid am eu rhan yn y pwnc hwn. 

Fel y clywsom y prynhawn yma, ac fel y nodwyd yn yr adroddiad, mae cyd-destun yr adroddiad yn hollol amlwg: yr argyfwng costau byw, y pandemig a bron i ddegawd a hanner o gyni. A oes unrhyw syndod fod ein pobl ifanc yn chwilio am rywfaint o obaith? Ond nid yw'n dod i ben yn y fan honno. Mae ein rhwydwaith rheilffyrdd yn dioddef o danfuddsoddi cronig. Rydym wedi gweld toriadau enfawr yn ein gwasanaethau bysiau, ac mae cost trafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i godi. Mae'r costau cynyddol hyn a chyfyngu ar wasanaethau yn taro pobl ifanc yn galetach na neb, gan eu bod yn aml yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i gael mynediad at addysg, cyflogaeth a chyfleoedd cymdeithasol. Mae cytundeb eang ar draws y sectorau y byddai pàs teithio ieuenctid nid yn unig yn rhoi mynediad at gyfleoedd economaidd ac addysgol i bobl ifanc, ond hefyd yn helpu i fynd i'r afael â thlodi plant a lleihau pwysau costau byw ar deuluoedd ledled Cymru. Mae pàs teithio ieuenctid yn gyfle i feithrin cenhedlaeth sy'n llai dibynnol ar geir, a gallai dalu amdano'i hun yn y pen draw trwy greu defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus gydol oes a fydd yn talu prisiau llawn wrth iddynt dyfu'n hŷn. 

Addawodd y Llywodraeth hon warantu addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant i bobl ifanc fel rhan o'r ymrwymiad maniffesto, ac eto mae'r addewid hwnnw'n methu, gyda niferoedd Cymru o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn uwch nag unman arall yn y DU. Ysgrifennydd y Cabinet, galwodd ail argymhelliad y pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i wneud gwaith paratoi ar gyfer cyflwyno trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc. Fe wnaethoch chi wrthod yr argymhelliad hwn ac rwy'n eich annog i ailystyried a chynnal yr astudiaeth sylfaenol. Yn yr Alban clywsom fod nodi llinell sylfaen yn her allweddol, ond roedd hefyd yn hanfodol ar gyfer symud ymlaen. Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch chi y byddwch yn ystyried cynllun o'r fath ond nid ydych am wneud y gwaith sylfaen sydd ei angen i werthuso pàs teithio ieuenctid yn briodol. Mae hyn yn gwneud i'ch addewid i'w ystyried deimlo'n wag.

Clywsom gan eich cymheiriaid yn San Steffan y bydd rheilffordd HS2 yn debygol o ymestyn i Euston Llundain, gan ddod â mwy o gyllid canlyniadol i'r Alban a Gogledd Iwerddon mae'n debyg, ond nid i Gymru, mae'n ymddangos. Ni fyddwn yn gweld yr arian sydd ei angen i gefnogi pàs teithio ieuenctid yma yng Nghymru, fyddwn ni, Ysgrifennydd y Cabinet? Rydych chi'n cefnogi hyn er eich bod wedi datgan o'r blaen fod £5 biliwn yn ddyledus i Gymru o HS2.

Dychmygwch yr hyn y gallem ei gyflawni i'n pobl ifanc pe bai masnachfreinio bysiau yn cael ei weithredu'n briodol, mwy o wasanaethau ar gael a theithio'n fforddiadwy. Byddem hefyd yn gallu lleddfu rhai o'r heriau y mae Cymru'n eu hwynebu gyda chludiant ysgol a mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg. Os na wnewch chi wrando arnaf i, Ysgrifennydd y Cabinet, na gwrando ar gyn Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Sophie Howe, na Chomisiynydd Plant Cymru, rwy'n eich annog i wrando ar ein pobl ifanc—cenedlaethau'r dyfodol a phleidleiswyr y dyfodol.

Mae'r data'n glir: mae hwn yn bolisi y mae pobl ifanc ei eisiau. Rydym yn annog ein hieuenctid yn gyson i ddangos diddordeb mewn gwleidyddiaeth a phleidleisio, ond pan fyddant yn cyflwyno galwad polisi clir i Lywodraeth Cymru, nid yw Llafur yn gwrando. Diolch. 

Mae yna sawl rheswm pam dwi'n cefnogi'r egwyddor yma heddiw, ond hoffwn i y prynhawn yma ganolbwyntio ar ddau yn benodol. Yn gyntaf, fel dywedodd Peredur, mae'n rhaid inni newid arferiad pobl. Mae seicolegwyr yn dweud bod arferiad yn cymryd amser i ddatblygu, a dwi'n siŵr bod pob un ohonon ni fan hyn heddiw yn adnabod pobl sydd bron byth yn cerdded i unman a byth yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Maen nhw'n neidio yn syth mewn i'r car hyd yn oed pan fo'r siwrnai yn fyr iawn, neu pan fo opsiwn cyfleus ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus. Pam maen nhw'n gwneud hyn? Wel, dwi'n credu ei fod e llawer i'w wneud â'r hyn maen nhw wedi arfer ei wneud dros y blynyddoedd. Os ydych chi wedi bod yn gyrru i bob man ers oeddech chi'n 17 mlwydd oed, yna mae'n anodd torri'r arferiad hyn, hyd yn oed os ydych chi wedi symud i ardal lle mae yna drafnidiaeth gyhoeddus well. Wrth gynnig trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i’n pobl ifanc, bydden nhw, trwy arferiad, yn llawer mwy tebygol o barhau i’w defnyddio yn y dyfodol. Byddai hyn yn fanteisiol yn amgylcheddol, yn economaidd ac yn gymdeithasol. Gallwn droi tocyn am ddim yn ymddiriedaeth gydol oes mewn trafnidiaeth gyhoeddus yma yng Nghymru.

Yn ail, fel dywedodd Carolyn a Peter, mae hyd at chwarter o bobl ifanc Cymru heb fynediad at gar, ac mae dysgu gyrru ac yna rhedeg car yn hynod o ddrud. Yn ôl yr RAC, ar gyfartaledd, mae’n rhaid gwario £2,000 ar wersi cyn pasio i yrru. Yna, ar gyfartaledd, mae car cyntaf yn costio rhyw £2,000 yn ychwanegol, heb ystyried yr yswiriant, sy'n £1,000 ar ben hynny. Dwi'n siŵr efallai fod rhai ohonoch chi fan hyn wedi bod trwy'r profiad poenus yma gyda’ch plant yn ddiweddar. A dydyn ni ddim hyd yn oed wedi dechrau sôn am gost petrol a chost cynnal a chadw. Mae’r costau yma yn faich eithriadol, os nad yn faich amhosib, i nifer o unigolion a’u teuluoedd. Bydd darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim yn gam positif ymlaen at unioni anghyfartaledd ac yn gymorth i deuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd. Mae’r adroddiad, i fi, yn dystiolaeth bellach i ddangos y bydd darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i’n pobl ifanc yn fuddsoddiad yn ein dyfodol fel gwlad, gwlad sy'n fwy cyfartal, gwlad sy'n gynaliadwy, gwlad lle mae cyfle i bawb ffynnu, pwy bynnag ŷn nhw.

Felly, mae ymateb y Llywodraeth yn siomedig. Dwi'n deall y pwysau ariannol, ond mae yna fwy fan hyn na manteision economaidd a manteision amgylcheddol. Mae hyn yn mynd i sicrhau cyfle i'n pobl ifanc ni yng Nghymru i gael mynediad at gyfleoedd addysgol ac at gyfleoedd gwaith. Yn hynny o beth, Ysgrifennydd y Cabinet, bydd y buddsoddiad yma yn siŵr o fod yn talu ar ei ganfed. Diolch yn fawr.

16:05

Mae pobl ifanc sy'n cael eu cefnogi gan yr elusen GISDA yn fy etholaeth i yn ymgyrchu am docynnau bws am ddim i bobl ifanc o dan 25 oed. Mi ges i gyfarfod efo cynrychiolwyr o'u plith nhw'n ddiweddar, a gwnes i addo y byddwn i'n sôn am eu hymgyrch nhw a thynnu sylw at eu hymgyrch nhw ar lawr y Senedd, felly dyma fi'n cymryd y cyfle y prynhawn yma.

Yn y cyfarfod efo criw GISDA, fe dynnwyd sylw at y rhwystrau sydd yn atal pobl ifanc rhag cael mynediad at y drafnidiaeth maen nhw ei hangen. Roedd cost tocyn bws yn bryder mawr ar adegau. Roedd talu am wasanaeth bws yn cymryd hanner—hanner—eu hincwm am yr wythnos. Mi wnaethon nhw hefyd sôn am ymddygiad gwrthgymdeithasol, a bod hynny yn broblem ar y bysiau o dro i dro hefyd. Roedd pris y tocyn bws yn stopio pobl ifanc rhag cael mynediad at gyfleon gwaith, hyfforddiant, addysg, at fywyd cymdeithasol llawn, ac ar gyfer pethau hanfodol fel siopa bwyd ac apwyntiadau meddygol.

Mae'r adroddiad, 'Tlodi yn Arfon' gan y Sefydliad Bevan, a gomisiynwyd gan y cyn-Aelod Seneddol Hywel Williams, yn tynnu sylw at y premiwm costau byw yn Arfon, sef premiwm sydd yn golygu bod aelwydydd yn wynebu costau tai, costau tanwydd a chostau trafnidiaeth uchel, sydd yn rhoi pwysau ychwanegol ar deuluoedd incwm isel, yn enwedig yn rhannau gwledig yr ardal. Felly, mi fyddai unrhyw gynllun sy'n lleihau costau trafnidiaeth yn cyfrannu at leihau tlodi yn Arfon ac o gymorth mawr i bobl ifanc yn enwedig, ac mae'r manteision eraill, fel sydd wedi cael eu hamlinellu y prynhawn yma, yn gwbl glir hefyd. Diolch.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates.

16:10

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am godi'r mater pwysig hwn drwy nifer o ddeisebau, ac yn enwedig y bobl ifanc a leisiodd eu barn mor huawdl yn ystod ymchwiliad y pwyllgor, ac yn ehangach, y gwaith a wnaed gan Senedd Ieuenctid Cymru sydd wedi arwain at yr adroddiad grymus 'Ffyrdd Gwyrdd' a gyhoeddwyd yr adeg hon y llynedd. Fel y dywedwyd, pobl ifanc yw ein dyfodol, ac rydym yn credu'n sylfaenol mewn sicrhau bod eu lleisiau a'u barn yn cael eu clywed. Hoffwn gofnodi fy niolch personol i holl aelodau'r Pwyllgor Deisebau, o dan y cyn-Gadeirydd, Jack Sargeant, a gyflwynodd y galwadau hyn am newid a chrynhoi'r safbwynt yn gynhyrchiol yn yr adroddiad 'Rhyddid i ffynnu'. 

Mae Llywodraeth Cymru yn hynod werthfawrogol o ddull pragmatig y pwyllgor o ddrafftio ei gasgliadau a'i argymhellion, sy'n cydnabod y cyd-destun ariannol heriol yr ydym yn gweithio ynddo. Mae hefyd yn galw, yn briodol ddigon, arnom ni fel Llywodraeth i fod ag uchelgeisiau clir ar gyfer ein pobl ifanc. Nawr, rwyf am fod yn glir, rydym yn cefnogi casgliadau'r adroddiad hwn yn llawn; rydym yn deall y rôl hanfodol y mae trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy, hygyrch ac integredig yn ei chwarae, yn enwedig i bobl ifanc; ac rydym yn cydnabod y cyfleoedd cymdeithasol, addysgol ac economaidd sy'n deillio o gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus ddiogel a dibynadwy, yn ogystal â'r manteision amgylcheddol sylweddol.

Nawr, rydym camu i gyfnod o drawsnewid sylweddol, a chyda hynny daw cyfle. Fel y nodir yn ein hymateb ysgrifenedig i'r pwyllgor, ac a ategwyd yn amlwg gan flaenoriaethau'r Prif Weinidog, ein ffocws ar gyfer gweddill y tymor hwn yw gyrru cynnydd yn ei flaen, ac mae hyn yn arbennig o wir mewn perthynas â chysylltu cymunedau, gan gynnwys trawsnewid ein rhwydweithiau rheilffyrdd a bysiau er gwell.

Nawr, ein blaenoriaeth yw cyflwyno'r Bil bysiau, a fydd yn dod â bysiau yn ôl o dan reolaeth y Llywodraeth, a bydd ein cynlluniau i ddiwygio bysiau yn rhoi fframwaith i ni wneud newidiadau i lwybrau, i amserlenni ac yn hollbwysig, i strwythurau prisiau tocynnau. Hoffwn sicrhau'r Aelodau fod cryn dipyn o ddadansoddi manwl eisoes wedi'i wneud, i edrych ar wahanol gynlluniau prisiau tocynnau ar gyfer gwahanol garfannau o bobl, gan gynnwys pobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys cyflawni ein hymrwymiad rhaglen lywodraethu i archwilio estyniadau i'r cynllun fyngherdynteithio. 

Ddirprwy Lywydd, ar ôl myfyrio ymhellach ar ganfyddiadau'r pwyllgor, yr argymhelliad tebyg yn adroddiad blynyddol y comisiynydd plant eleni, ac ar ôl gwrando ar y ddadl heddiw, rwy'n credu bod yna waith pellach i'w wneud i helpu i lywio ein rhaglen ddiwygio bysiau, felly rwyf wedi gofyn i fy swyddogion weithio gyda swyddfa'r comisiynydd plant i ddeall y cymhellion yn ogystal â'r rhwystrau i annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Bydd hyn yn cysylltu â'r grŵp cynghori plant a phobl ifanc, sy'n cael ei sefydlu gan Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd, a bydd y gwaith hwn yn ein galluogi i archwilio cyfleoedd gyda phobl ifanc i gyflwyno system brisio decach i bobl ifanc pan fydd gennym reolaeth dros strwythurau prisiau tocynnau drwy ein rhaglen ddiwygio bysiau.

Wrth inni ganolbwyntio ar gyflwyno'r Bil bysiau a chydnabod y cyfyngiadau cyllido rydym yn parhau i'w hwynebu, ni allwn ymrwymo i docynnau am ddim i bobl ifanc ar hyn o bryd, ond yr hyn rwy'n ei ofyn gennych chi, a gofynnaf yr un peth gan y comisiynydd plant, yw ein bod yn gwneud popeth a allwn i hyrwyddo'r teithio am bris gostyngol a rhad ac am ddim sydd ar gael i bobl ifanc ar hyn o bryd, oherwydd rydym eisoes yn gweithredu. Mae'r cynllun fyngherdynteithio yn darparu hyd at draean oddi ar bris pob taith fws i bobl ifanc 16 i 21 oed, ac rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o deithio am ddim ac am bris gostyngol i bobl ifanc ar ein llwybrau trên ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys, ymhlith llawer o gynigion eraill, teithio am ddim i rai dan 11 oed ar wasanaethau rheilffyrdd a weithredir gan Trafnidiaeth Cymru a theithio am ddim i bobl dan 16 oed os ydynt yn teithio gydag oedolyn sy'n talu ar wasanaethau adegau tawel.

Diolch unwaith eto i Jack, i Carolyn ac i'r pwyllgor am eu holl waith yn dod â'r adroddiad gwerthfawr hwn i'r Senedd. Wrth inni symud ymlaen ar ein taith i ddiwygio'r diwydiant bysiau yng Nghymru, gallaf eich sicrhau y bydd y sylwadau, y safbwyntiau a'r dystiolaeth a gyflwynir yn cyfrannu at ddatblygiad cynllun prisiau tecach wrth inni adfer rheolaeth ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.

Diolch. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau. Dywedodd Peter Fox mai pobl ifanc yw ein dyfodol, ac mae'n cytuno bod fforddiadwyedd a hygyrchedd yn broblem, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. 

Soniodd Peredur am effaith y pandemig a chyni, yn enwedig ar ein pobl ifanc, a sut y mae angen i ni fuddsoddi yng nghenedlaethau'r dyfodol.

Soniodd Rhys am newid arferion pobl a thrwy gynnig trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc, rydym yn creu arferiad mewn pobl ifanc fel y byddant, gobeithio, yn parhau—crybwyllwyd hyn gan y gweithredwyr hefyd—a thynnodd sylw at fforddiadwyedd bod yn berchen ar gar mewn gwirionedd—mae angen inni eu cael ar drafnidiaeth gyhoeddus yn lle hynny.

Soniodd Siân Gwenllian sut y bu'n ymwneud â grŵp lleol—rwy'n credu mai GISDA a ddywedoch chi—sydd wedi bod yn ymgyrchu dros drafnidiaeth am ddim, a soniodd am gost trafnidiaeth, ond hefyd am gostau byw ar hyn o bryd—a gallu fforddio trafnidiaeth pan fyddwch chi'n gorfod talu am bopeth arall.

Codwyd mynd i'r afael ag anghydraddoldeb sawl gwaith gan lawer o Aelodau. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb ac am gefnogi'r casgliadau, a hefyd am ei uchelgeisiau wrth symud ymlaen, a hefyd y cynnig i weithio gyda'r comisiynydd plant i wrando ar bobl ifanc a'u safbwyntiau, wrth symud ymlaen.

Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am roi amser i ni drafod y ddeiseb hon. Ond yn bwysicaf oll, hoffwn ddiolch i Elin Wyn Davies, Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru ac ymgyrchwyr eraill am eu hymdrechion i godi ymwybyddiaeth o'r mater ac am ddal i bwyso am welliannau. Credaf fod yr ewyllys yno i gael trafnidiaeth am ddim neu am gost isel i bawb yn lle'r consesiynau presennol i'n pobl ifanc yma yng Nghymru. Hyd yn oed yn y cyfnod anodd hwn, rwy'n gobeithio y gellir dod o hyd i ffordd ymlaen i gyflawni hyn, yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, ac yn y cyfamser, fe fydd pobl ifanc yn parhau i'w chael hi'n anodd. Maent yn haeddu'r gorau y gellir ei gynnig i'w helpu i ffynnu. Diolch.

16:15

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Seinio’r Larwm: Llywodraethiant Gwasanaethau Tân ac Achub'

Eitem 6 heddiw yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Seinio'r Larwm: Llywodraethiant Gwasanaethau Tân ac Achub', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Jenny Rathbone.

Cynnig NDM8685 Jenny Rathbone

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: 'Seinio’r Larwm: Llywodraethiant Gwasanaethau Tân ac Achub' a osodwyd ar 6 Mehefin 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr. Roedd yr adolygiad o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru gan Fenella Morris CB yn anodd i bob un ohonom ei ddarllen—ei ddatgeliadau o fwlio, casineb at fenywod, hiliaeth a nepotistiaeth a oedd yn gwenwyno'r sefydliad ac a gafodd ei adael i ledaenu'n ddirwystr. Roedd hyn yn gwbl groes i gyfraith partneriaeth gymdeithasol, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a chyfres o ddeddfau sy'n gwahardd gwahaniaethu.

Roeddem yn dibynnu ar ddewrder chwythwyr chwiban i alw am roi diwedd ar yr ymddygiad cywilyddus hwn. Arweiniodd eu parodrwydd i siarad at ddatgeliad Morris o wir raddau'r methiannau yng ngwasanaeth de Cymru, ac mae wedi arwain at adolygiadau tebyg ar hyn o bryd yng ngwasanaeth gogledd Cymru a gwasanaeth canolbarth a gorllewin Cymru. Mae'n werth nodi rôl ITV Cymru, a dorrodd y stori hon ac sydd wedi glynu gyda hi, gan ddarparu ocsigen cyhoeddusrwydd i bryderon yr oedd cryn dipyn o bobl yn ymwybodol ohonynt, mae'n rhaid, ond nad oeddent yn teimlo y gallent fynd i'r afael â hwy. Nid gwaith y pwyllgor oedd ymchwilio i'r pryderon hyn. Byddant yn parhau i fod yn ddienw hyd nes ac oni bai eu bod yn cael eu hargyhoeddi y bydd eu cyflogwr yn ymchwilio'n deg i'w pryderon ac na chânt eu cosbi, ond fe gânt eu cefnogi yn eu hymdrech. Ac mae hyn yn hanfodol er mwyn ailadeiladu ymddiriedaeth yn niwylliant y sefydliadau hyn.

Mae'n werth nodi nad oedd y materion annifyr hyn yn unigryw i Gymru. Fe ganfu'r arolygydd gwasanaethau tân yn Lloegr, HMICFRS, y patrymau hyn o ymddygiad problemus mewn dros hanner y gwasanaethau tân yn Lloegr hefyd. Ni all unrhyw wasanaeth brys fforddio diystyru'r heriau hyn. Mae gwaith tîm yr un mor hanfodol ag ymroddiad a dewrder wrth wneud gwaith mor beryglus ac amhosibl ei ragweld ag ymladd tanau. Gwaith y pwyllgor oedd canolbwyntio ar y methiannau llywodraethu yn awdurdodau tân ac achub Cymru a ganiataodd i'r diwylliant gwenwynig hwn oroesi a ffynnu am lawer gormod o amser. Neges ganolog y pwyllgor i wasanaethau tân ac achub Cymru a'r holl randdeiliaid eraill sy'n gysylltiedig yw nad yw dim newid yn opsiwn, ac rydym yn ddiolchgar am ymateb cadarnhaol Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad. Gobeithiwn y bydd yn helpu i gyflawni'r newidiadau sydd eu hangen i bolisïau, personél a'r trefniadau llywodraethu.

Yn ôl ym mis Chwefror, rhoddodd Hannah Blythyn gamau effeithiol ar waith ar ran y Llywodraeth drwy benodi pedwar comisiynydd i ysgwyddo cyfrifoldebau Awdurdod Tân ac Achub De Cymru, ac fe wnaethom gefnogi'r cam hwnnw'n llawn. Mynegwyd pryderon penodol wrthym ar y dechrau ynglŷn â phenodiad prif swyddog dros dro ar gyfer de Cymru gan y comisiynwyr. Mynegwyd y rhain dro ar ôl tro wrth y pwyllgor yn ystod ein hymchwiliad ac roedd risg y byddent yn atgyfnerthu canfyddiadau negyddol a'r ymrwymiad i newid. Ond mae penodiad Is-Farsial yr Awyrlu Dr Fin Monahan yn bennaeth Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn lleddfu'r pryderon hynny. Mae'n dod â phrofiad gwerthfawr o'r tu allan i'r rôl, ac rydym yn dymuno'n dda iddo, wrth iddo ddechrau yn ei swydd, gyda'r dasg heriol o feithrin perthnasoedd ac ennill ymddiriedaeth ledled y sefydliad. Ond ni all newid parhaol a chynaliadwy ddibynnu ar benodiad un neu ddau unigolyn yn unig.

16:20

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Wrth edrych y tu hwnt i dde Cymru, roedd y pwyllgor yn poeni am dystiolaeth amddiffynnol uwch arweinwyr tân ac achub ledled Cymru, a oedd yn brin o onestrwydd ar adegau. Atgyfnerthodd hyn ein pryderon nad yw uwch arweinwyr yn llwyr ddeall maint y newid sydd ei angen yn y gwasanaethau tân ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Rydym yn croesawu uchelgais cadarn yr Ysgrifennydd Cabinet blaenorol i wneud uwch dimau arwain yn fwy amrywiol a chwistrellu sgiliau a phrofiad o'r tu allan i'r gwasanaethau tân i mewn i'n hawdurdodau tân ac achub.

Mae'r cyrff hyn yn anacronistaidd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru am nad ydynt yn ddigon amlwg atebol i unrhyw gorff allanol, ac mae eu haelodaeth yn fawr ac anhydrin; mae gan bob un rhwng 24 a 28 o aelodau. Cymharwch hynny, er enghraifft, ag awdurdod tân gorllewin canolbarth Lloegr, gyda 15 aelod ar gyfer poblogaeth sy'n debyg i un Cymru gyfan. O fewn y byrddau mawr hyn yng Nghymru, mae diffyg gwahanu rhwng swyddogaethau gweithredol a chraffu. Mae gan swyddfa archwilio Cymru gylch gwaith culach nag ar gyfer cyrff cyhoeddus cymaradwy, ac ar hyn o bryd nid oes digon o ddannedd gan y drefn arolygu. Fel arall, mae popeth yn berffaith. Mae angen cryfhau rôl y prif gynghorydd ac arolygydd tân yn enwedig. Mae wedi gwneud adolygiadau gwerthfawr o gapasiti a gallu swyddogion tân, ond mae angen diffinio a deall ei swyddogaeth i archwilio diwylliant y gwasanaethau tân yn well. Mae angen i'r fframwaith cenedlaethol adlewyrchu'r ymchwil ddiweddaraf a chael ei ddiweddaru'n fwy rheolaidd.

Gadewch inni nodi bod ymdrechion blaenorol i ddiwygio wedi methu. Mae 10 mlynedd ers i Gomisiwn Williams ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus nodi nad yw awdurdodau tân ac achub yn gallu craffu'r gwasanaethau a'r prif swyddogion yn effeithiol am eu bod yn gyfrifol yn y pen draw ac yn gyfreithiol am bob penderfyniad. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi wynebu gwrthwynebiad enfawr i ddiwygio yn y pumed Senedd. Roedd penodiadau awdurdodau lleol ac uwch bersonél y gwasanaeth tân yn gwrthwynebu. Daeth y pwyllgor i'r casgliad fod hunan-ddiddordeb wedi chwarae ei ran, ac rydym yn gwybod nad yw twrcïod byth yn pleidleisio dros y Nadolig. Fodd bynnag, mae'r manylion dirdynnol yn adroddiad Fenella Morris wedi tawelu'r rhai sy'n gwrthwynebu diwygio—am y tro.

Amlygir llawer o'r hyn sydd angen ei newid yng ngwaith prif gynghorydd ac arolygydd tân ac achub Llywodraeth Cymru, sydd—. Cyhoeddwyd adroddiad ddoe sy'n nodi'n ddefnyddiol, o'r holl adolygiadau thematig a gynhaliwyd ganddo, fod cymaint o'i argymhellion wedi'u hanwybyddu. Mae hyn yn sicr yn un o'r gwendidau yn y system. Y syniad y gallwch chi glywed beth yw'r dystiolaeth ddiweddaraf, yn seiliedig ar ymchwil drylwyr, a'i hanwybyddu—. Mae'r holl adroddiadau ar y gwersi sydd i'w dysgu yn sgil Grenfell, rôl diffoddwyr tân a sut y gellid eu hehangu, a'r ymagwedd ddigyfeiriad tuag at hyfforddiant, oll yn cael eu crynhoi yn yr adroddiad a gyhoeddwyd ddoe. Yn ne Cymru, mae'n dda gweld bod y comisiynwyr yn bwrw ymlaen â'r argymhellion hyn, gyda grwpiau prosiect wedi'u sefydlu gan y comisiynwyr a'r prif swyddog tân dros dro, ond yn amlwg, ceir methiant llywodraethu sylfaenol lle mae argymhellion, yn seiliedig ar ymchwil drylwyr o'r fath a thanau go iawn i wneud gwasanaethau tân yn fwy costeffeithiol a mwy diogel, yn cael eu hanwybyddu.

Felly, beth fydd rôl y gwasanaeth brys 24 awr hwn yn y dyfodol? Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru roi ystyriaeth ddifrifol nawr i ddiwygio'r gwasanaethau hyn y tu hwnt i fynd i'r afael â'r methiannau yn y trefniadau llywodraethu presennol. Mae'r gostyngiad o bron i 70 y cant yn nifer yr achosion o danau yn gyffredinol yn dyst i lwyddiant dull ataliol, ac mae hynny i'w edmygu, yn bendant. Nid yw tanau byth wedi'u cynllunio, fodd bynnag, felly, yn amlwg, mae'n rhaid i'r gwasanaeth tân ac achub barhau i fod yn wasanaeth ymateb brys 24 awr, ond fel y gwasanaethau brys eraill, mae'n rhaid inni edrych ar effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yr adnoddau sy'n cael eu defnyddio a sut y gellir eu defnyddio'n fwy proffidiol i gefnogi gwasanaethau brys eraill. 

Nid yw amser o'n plaid. Rydym yn gwerthfawrogi bod y Llywodraeth wedi derbyn ein holl argymhellion, a gofynnwn i'r Llywodraeth gynhyrchu Papur Gwyn o fewn y 14 mis nesaf sy'n adlewyrchu'r ymgynghoriad â'r holl randdeiliaid, yn unol â'r dull partneriaeth gymdeithasol, fel y gellir cyflwyno cynigion clir ar gyfer diwygio mwy radical i'r etholwyr cyn etholiadau'r Senedd yn 2026. 

16:25

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelodau ar y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a'r tîm clercio am baratoi'r adroddiad amhrisiadwy a manwl hwn sydd, yn fy marn i, yn crynhoi llawer o'r problemau sy'n wynebu gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru. Fodd bynnag, wedi dweud hynny, hoffwn nodi ychydig o bwyntiau, os caf, am y modd y gwnaeth Llywodraeth Cymru a chomisiynwyr ymdrin â'r sefyllfa hon, gan ei bod yn ymddangos bod eu hymateb llawn panig i ganfyddiadau adolygiad Morris a'r modd cyflym y gwnaethant gael gwared ar y prif swyddog tân Huw Jakeway wedi arwain at wactod gweithredol yn y gwasanaeth yn y pen draw ac yn sicr wedi gwaethygu'r sefyllfa. 

Er nad oes gennyf unrhyw amheuaeth fod adolygiad Morris wedi archwilio methiannau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, buaswn yn dadlau na wnaeth ystyried llawer, os o gwbl, o'r arfer da a oedd yn digwydd ac rwy'n credu bod hyn wedi helpu i danio condemniad eang y cyhoedd o'r gwasanaeth tân ar y pryd. Roedd cyhoeddi penodiad Stuart Millington fel prif swyddog tân dros dro—rhywun a oedd â gwrandawiad tribiwnlys cyflogaeth yn yr arfaeth ar y pryd—yn gamgymeriad gan y comisiynwyr ac yn un a daniodd y condemniad cyhoeddus hwn ymhellach. I'w roi yn blwmp ac yn blaen, aeth yn groes i'r cylch gorchwyl o sefydlu uwch dîm rheoli heb eu ddifwyno gan y methiannau a nodwyd yn adroddiad Morris ac ar y gorau, dangosodd ansensitifrwydd ar ran y comisiynwyr a Llywodraeth Cymru tuag at y cyhoedd a'r gwasanaeth tân yn gyffredinol. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n credu bod y cyhoedd a'r gwasanaeth tân yn haeddu ymddiheuriad am y modd yr ymdriniwyd â'r sefyllfa hon, a thybed a fyddech chi'n barod i roi un nawr.

Fel y bydd llawer yma'n cytuno, mae'n ymddangos i mi y gallai llawer o'r materion a godwyd yn adolygiad Morris fod wedi cael eu nodi lawer yn gynt gan y prif gynghorydd ac arolygydd tân ac achub pe baent wedi adolygu'r diwylliant o fewn y sefydliad yn systematig. Mae'n destun pryder nad ystyriwyd materion diwylliant ar y pryd yn rhan arferol o rôl y prif gynghorydd ac arolygydd tân ac achub, ac mae'r bai am hyn yn llwyr ar ysgwyddau Llywodraeth Cymru. Cibddallineb ar ran Llywodraeth Cymru sydd wedi golygu na chafodd problemau mo'u nodi a'u datrys yn briodol am lawer gormod o amser. Ac rwy'n awyddus i wybod, mewn perthynas â rôl y prif gynghorydd tân ac achub, pa gynlluniau sydd ar waith nawr i sicrhau bod asesiad parhaus o'r diwylliant yn y gwasanaethau tân ac achub bellach yn dod yn rhan o'r norm, a pha feysydd posibl eraill y gallai'r prif gynghorydd ac arolygydd tân ac achub eu cwmpasu nawr. 

Yn y pen draw, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n amlwg i bawb fod angen ailwampio'r gwasanaeth tân ac achub yn llwyr. Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd ddoe am yr arolygiad o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru i effeithiolrwydd ei ymateb i danau mewn anheddau domestig, yn dangos bod angen gwneud gwaith sylweddol i wella safon hyfforddiant a gweithdrefnau gweithredol. Ac fel y nodwyd gennych, Ysgrifennydd y Cabinet, yn adolygiad Morris, mae materion llywodraethu'n codi hefyd ynghylch digonolrwydd strwythurau cyfreithiol, sy'n ymwneud â bodolaeth pwerau statudol, a materion y model llywodraethu a ddefnyddir mewn perthynas â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fel y mae'r Cadeirydd wedi nodi. Rwy'n awyddus i glywed yn eich ymateb beth yw eich disgwyliadau o ran ailwampio'r gwasanaeth tân ac achub a pha amserlen rydych chi'n ei hargymell. 

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn drafod mater amseroldeb. Mae'r gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru wedi profi ymosodiad digynsail yn sgil eu methiannau, a chafwyd adroddiad gan ITV News yn ddiweddar am aelod o staff sy'n gwasanaethu yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru sy'n dweud nad oes llawer wedi newid ers adroddiad Morris mewn gwirionedd. Cawsant eu cofnodi'n dweud

'ei bod yn ymddangos nad oes unrhyw beth wedi symud ymlaen o gwbl.'

'Nid oes unrhyw beth yn digwydd, nid oes unrhyw beth yn newid.'

'Rwy'n ôl i'r pwynt lle roeddem flwyddyn yn ôl, lle nad wyf yn falch o fod yn ddiffoddwr tân mwyach ac rwy'n chwilio am gyfleoedd newydd.' Mae ITV News hefyd wedi dweud eu bod wedi cael gohebiaeth bron bob wythnos gan gyn-staff a staff sy'n gwasanaethu ers eu hadroddiad cyntaf ar y sefyllfa ym mis Ionawr eleni, a'r cyfan yn nodi nad yw pethau wedi newid. Mae derbyn argymhellion adroddiad y pwyllgor yn un peth, ond mater arall yw gweithredu'r newidiadau hynny mewn modd amserol. Mae'n ymddangos bod angen i gyflymder yr ymateb gan Lywodraeth Cymru a'r comisiynwyr newid, oherwydd ni allwch adael i bersonél ymroddedig mewn gwasanaeth tân deimlo eu bod wedi cael eu hanghofio, ac nad ydynt yn flaenoriaeth. Diolch.

16:30

Mae hwn yn adroddiad arwyddocaol a phellgyrhaeddol iawn oherwydd mae'n dangos mai'r mater sylfaenol yma yw methiant Llywodraeth Cymru dros nifer o flynyddoedd i ddiwygio llywodraethiant gwasanaethau tân ac achub Cymru. Yr hyn y mae'r adroddiad yn ei ddatgelu yw mai rhan o ganlyniad y methiant hwnnw oedd diwygio'i ddiwylliant a'i ymarfer, a'r effaith andwyol a gafodd hynny ar ei staff, a'r staff sydd wedi talu'r pris am y methiant hwn mewn gwirionedd. Ac mae'n eithaf syfrdanol mewn gwirionedd. Clywsom bethau brawychus yn ein hymchwiliad pwyllgor ac mae'r adroddiad yn haeddu'r teitl 'Seinio'r Larwm'. Clywsom dystiolaeth glir fod menywod yn y gwasanaeth tân wedi bod, ac rwy'n dyfynnu,

'yn cwestiynu ers degawdau yr angen dros newid a’r angen i gefnogi menywod'

—ers degawdau.

Byth ers canfyddiadau'r adolygiad damniol i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru gan Fenella Morris CB, mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad i ddiwylliant yr holl wasanaethau tân ac achub yng Nghymru, ac fe gafwyd hwnnw yn y pen draw, diolch byth, yn ystod yr ymchwiliad. Ond mae'n amlwg fod methu mynd i'r afael â'r mater hwn yn gynharach wedi cael effaith wirioneddol niweidiol ar hyder staff. Ac roedd yn warthus ond yn dweud llawer, rwy'n credu, am amharodrwydd y Llywodraeth i sicrhau bod gweithredu'n digwydd ar y mater hwn, ei bod wedi cymryd ymdrechion newyddiadurwyr newyddion ITV Cymru i gasglu tystiolaeth bellach gan chwythwyr chwiban, ac efallai hefyd y dystiolaeth i'n hymchwiliad pwyllgor, i roi pwysau ar y Llywodraeth i gymryd y camau a gymerodd yn y diwedd.

Ond wedyn cawsom y sefyllfa hynod, ac anffodus a bod yn onest, a gododd oherwydd penodiad Stuart Millington, gan gomisiynwyr a benodwyd gan y Llywodraeth yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, fel y prif swyddog tân dros dro, a oedd ar y pryd yn wynebu honiadau ei hun, ac a fu'n bennaeth diogelu yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, y gwasanaeth lle roedd mwy na 35 o chwythwyr chwiban wedi dweud bod diwylliant yr un mor annerbyniol yn bodoli. Felly, mae'n deg dweud nad yw'r ffordd yr ymdriniwyd â hyn wedi sicrhau y gallai staff a'r cyhoedd fod yn hyderus fod ymddygiad annerbyniol wedi cael sylw cywir a llawn, a'r broses newid wedi'i gwreiddio'n briodol.

Rwyf am droi'n benodol at y pryderon a glywsom am strwythur ac effeithiolrwydd yr awdurdodau tân ac achub yn dwyn gwasanaethau tân ac achub Cymru i gyfrif. Dywedodd Cymdeithas y Gwasanaethau Tân ac Achub fod llawer o aelodau'r awdurdod tân ac achub yn

'ystyried uchafiaeth dynion yn y gwasanaethau, a'r drefn ddisgyblaethol, yn gysurol',

ac roeddent

'yn amaturiaid gyda bwriadau da, heb unrhyw brofiad o ysgogi newid diwylliannol mewn unrhyw sefydliad, heb sôn am wasanaeth brys.'

O glywed tystiolaeth fel hon, nid oes unrhyw syndod wrth gwrs ein bod wedi canfod nad oes unrhyw gwestiwn o gwbl fod angen diwygio'r strwythur llywodraethu aneffeithiol ac aneffeithlon hwn ar frys a'i bod hi'n hen bryd gwneud hynny. Yn ddiweddar, mae Archwilio Cymru wedi adleisio pryderon a chanfyddiadau'r pwyllgor yn eu hadolygiad eu hunain, a gyhoeddwyd fis diwethaf, a chyfeiriodd hefyd at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi methu bwrw ymlaen â'u hargymhelliad i ddiwygio strwythurau llywodraethu'r awdurdod, a wnaed ym Mhapur Gwyn 2018.

Felly, ni all fod mwy o esgusodion am ddiffyg cyflawniad mor warthus, sydd wedi arwain at ganlyniadau mor ofnadwy. Rydym wedi gweld enghraifft arall heddiw gyda chyhoeddi adroddiad Prif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub Cymru, sy'n datgelu bod y ffordd y mae tân ac achub de Cymru wedi bod yn ymdrin â thanau domestig wedi arwain at nifer sylweddol o ddigwyddiadau sydd wedi creu risg ddiangen i ddiffoddwyr tân a hefyd wedi arwain at ddifrod i eiddo y gellid bod wedi ei osgoi. Mae data ar danau domestig fel hyn yn cael ei ddarparu i awdurdodau tân ac achub, ond rwy'n deall bod gwahaniaeth sylweddol yn y ffordd y caiff y data hwn ei adrodd a'i graffu, a gwnaed argymhellion ar bryderon ynglŷn â hyn gan Brif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub Cymru mewn adroddiadau blaenorol, ond ymddengys na weithredwyd arnynt.

Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno bod y diffyg cynnydd yn y maes hwn dros y blynyddoedd wedi arwain yn rhannol at y sefyllfa annerbyniol hon, a gofnodwyd yn ein hadroddiad ni ac eraill? A wnewch chi gofnodi eich cydnabyddiaeth heddiw na wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb yn ddigonol i'r pryderon a nodwyd yn ei hymgynghoriad ei hun yn 2018 ynghylch diwygio'r awdurdodau tân ac achub?

Rwy'n falch iawn fod y Llywodraeth wedi derbyn casgliadau 3 a 4 yr adroddiad yn llawn. Yr hyn rwy'n poeni yn ei gylch yw cynnydd. Dywedir wrthym fod y gwaith diwygio a'r hyn y mae'n ei olygu ar y gweill, ac mae consensws eang yn datblygu, ond mae angen amserlenni arnom nawr i yrru hyn ymlaen yn gyflym, felly hoffwn glywed ymateb manylach i'r awgrymiadau a nodwyd gennym yn argymhelliad 5 ynghylch sut y dylai Llywodraeth Cymru wella gallu aelodau'r awdurdod tân ac achub i ddwyn y gwasanaeth tân ac achub i gyfrif. Maent i gyd yn awgrymiadau da ac ymarferol, yn seiliedig ar y dystiolaeth a gymerwyd gennym, a dywedir wrthym eu bod yn cael eu hystyried. Wel, mae'r amser i ystyried wedi hen fynd heibio. Beth yw eich casgliadau, oherwydd mae'r larwm wedi cael ei seinio, nid yn unig gan ein hadroddiad; mae wedi bod yn seinio ers degawdau?

16:35

Hoffwn ddiolch yn gyntaf i'r pwyllgor am eu gwaith a hefyd i Fenella Morris am ei gwaith caled yn catalogio methiannau difrifol y gwasanaeth tân ac achub yma yng Nghymru. I'r rhai ohonom ar y pwyllgor, roedd peth o'r dystiolaeth a glywsom yn syfrdanol yn y modd y mae'n diystyru profiadau'r rhai a oedd yn ddigon dewr i godi llais. Yn anffodus, mae canolbwyntio ar fethiannau difrifol y gwasanaeth tân ac achub wedi tynnu sylw oddi ar y gwaith gwych y mae swyddogion diogelwch tân dirifedi ledled yr amrywiol wasanaethau yma yng Nghymru wedi'i wneud ac yn ei wneud. Dyma fenywod a dynion sy'n wynebu perygl, gan roi eu bywydau yn y fantol ar adegau, er diogelwch pobl Cymru, felly hoffwn ddechrau drwy ddiolch iddynt hwy am eu dewrder a'u hymroddiad i'r gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru.

Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnig darlun difrifol iawn o'r diwylliant o fewn llywodraethiant y gwasanaethau tân ac achub. Hoffwn ychwanegu at yr hyn a ddywedodd Sioned a'r hyn y mae ein Cadeirydd wedi'i ddweud hefyd: mae pobl bwerus, dynion yn bennaf, wedi galluogi diwylliant lle nad yw pobl sydd â honiadau o fwlio yn eu herbyn wedi wynebu unrhyw ganlyniadau o gwbl. Nododd y pwyllgor fod dros 70 y cant o'r rhai sydd mewn swyddi uwch reolwyr ar draws y sefydliad yn ddynion. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod menywod wedi gofyn yn barhaus dros ddegawd am newid, fel y dywedodd Sioned, a newid o ran cefnogi menywod o fewn y gwasanaeth, ond nid yw hyn wedi'i gyflawni. Nid ystadegau yn unig yw'r rhain, ond pobl go iawn sy'n dweud yn yr adroddiad fod hyder staff yn cael ei danseilio wrth i brofiadau pobl gael eu diystyru.

Mae arnaf ofn mai canlyniad diwylliant o 'swyddi i'r bois' oedd hyn, diwylliant a oedd wedi'i wreiddio yn y gwasanaethau tân ac achub. Nid opsiwn yn unig yw newid, ond cam angenrheidiol tuag at wasanaeth mwy amrywiol a theg. Mae'n amlwg fod angen ffordd newydd o wneud pethau o hyn ymlaen. Yn rhy aml, rwyf i, fel llawer o bobl eraill, wedi cael fy siomi gan ymateb Llywodraeth Cymru i faterion diogelwch tân a'r arafwch i sicrhau newid ystyrlon i bobl Cymru. Mae'r Llywodraeth yn sôn am yr angen dybryd am newid yng ngoleuni trychineb Grenfell, ond roedd hynny saith mlynedd yn ôl, ac mae'r diffyg gweithredu ac oedi yn parhau. Felly, a wnaiff y Llywodraeth nodi a oes ganddi amserlen ar gyfer pryd y bydd y trefniadau llywodraethu newydd ar waith, fel y gallwn roi diwedd ar y diwylliant rhywiaethol a hiliol a chasineb at fenywod yn y gwasanaeth tân? Diolch yn fawr iawn.

Hoffwn i ddiolch i’r pwyllgor am eu gwaith.

Fe ddechreuaf drwy ddweud fy mod i'n mynd i fyfyrio ar ble nesaf yn hytrach nag ar yr hyn sydd wedi digwydd, oherwydd rwy'n teimlo yn fy rôl i nawr na fyddai'n briodol i mi wneud hynny. Ond rwy'n croesawu gwaith y pwyllgor yn fawr, ac rwyf wedi parhau i'w ddilyn yn agos iawn. Rwy'n credu bod yr Aelodau eisoes wedi dweud ei bod yn hollol iawn na all fod cwestiwn o ddim newid, ac mai mater o sut olwg fydd ar y newid hwnnw ydyw, ac roeddwn i eisiau cynnig rhai syniadau personol ynglŷn â sut y gallai hynny edrych, ond hefyd yn bendant iawn, y rôl i'r lle hwn, i bartneriaid ac i'r cymunedau y mae ein gwasanaethau'n eu gwasanaethu hefyd.

Rwy'n credu ei fod yn galw am dair agwedd, felly yn gyntaf, y ffurf. Soniwn am lywodraethu, sut y mae angen i'r llywodraethiant newid, sut y mae angen iddo adlewyrchu cymunedau'n well, sut y mae angen gwell arbenigedd ac atebolrwydd, ac rwy'n credu bod angen iddo hefyd edrych ar faint a phatrwm rhai o'r awdurdodau hynny hefyd. Mae hefyd yn ymwneud â'r swyddogaeth. Rydym wedi siarad am rôl ehangach diffoddwyr tân ac yn sicr mae yna gapasiti i wneud hynny. Pan gefais y fraint o gyfarfod â grŵp newydd o recriwtiaid yng ngogledd Cymru ar safle yn y Rhyl, siaradais â hwy am y posibiliadau a sut olwg fyddai ar hynny ac roeddent yn frwdfrydig ynglŷn â'r newid hwnnw. Rwy'n credu bod dyletswydd ar eraill o fewn y gwasanaeth, a allai fod wedi bod yno ers mwy o amser, iddynt hwy a chynaliadwyedd y gwasanaeth i groesawu'r newid hwnnw hefyd, a'i gyflwyno. Mae'r peth arall yn ymwneud ag ariannu. Rwy'n credu bod angen inni edrych ar gyllid. Mae ardoll ar awdurdodau lleol. Nid yw'n atebol ac rwy'n credu ei fod braidd yn hen ffasiwn hefyd, ac rwy'n credu y bydd y ffordd y cânt eu hariannu yn adlewyrchu eu ffurf a'u swyddogaeth yn y dyfodol.

Lywydd, unwaith eto, rwyf innau hefyd am gofnodi fy niolch o galon a thalu teyrnged i'r rhai a ddaeth ymlaen i ddweud am bethau a ddigwyddodd iddynt, pethau anodd iawn. Rydym i gyd yn gwybod nad yw hynny'n beth hawdd i'w wneud ac ni ddylai fod wedi cymryd hynny i'r adroddiad hwn ddigwydd ac i gamau gael eu cymryd. Ac nid yn unig fod arnom hynny iddynt, y newid hwn o fewn y gwasanaeth tân, ond mae gwersi y gellir eu dysgu gan wasanaethau cyhoeddus drwyddi draw ac yn ehangach i fywyd cyhoeddus yng Nghymru hefyd, a hoffwn weld rhai o'r gwersi hynny'n cael eu rhoi ar waith ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus a'r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Yn olaf, hoffwn ymuno â Jane Dodds ac eraill i dalu teyrnged i'r diffoddwyr tân ymroddedig sy'n gwasanaethu ein cymunedau ac yn wynebu perygl pan fyddai'r gweddill ohonom yn rhedeg oddi wrtho. Cefais brofiad fy hun un tro. Rydych chi'n cael profi rhai pethau yn y Llywodraeth, amseroedd heriol, wrth gwrs, ond hefyd rydych chi'n cael y fraint o brofi pethau na fyddech chi'n eu gwneud fel arall. Rwy'n cofio, yn eglur iawn, pan gefais gyfle i fynd i ganolfan hyfforddi gyda'r cit llawn amdanaf, gan gynnwys offer anadlu, mewn efelychiad o sut y byddech chi'n diffodd tân, ac roeddwn i'n cael trafferth codi'n ôl ar fy nhraed wedyn am fod y cit mor drwm ac ni allech chi weld unrhyw beth. Felly, dyna sgìl aruthrol a thalent ac ymroddiad sydd yno. Ond er mwyn i'r gwasanaeth hwnnw gynnal ei hun, fel y dywedodd Jane Dodds, rwy'n credu bod angen inni newid mewn ffordd sy'n cynnwys amrywiaeth, nid yn unig o ran pwy sy'n gwasanaethu yn y gwasanaeth hwnnw, ond y rôl y maent yn ei darparu wrth wasanaethu ein cymunedau hefyd.

16:40

Gaf innau ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith? Buaswn i'n licio hefyd diolch i newyddiadurwyr ITV am y gwaith a wnaethon nhw yn cael at y gwirionedd yn fan hyn, a hefyd diolch i'r staff hynny a swyddogion undeb o fewn y gwasanaeth tân am eu parodrwydd nhw i siarad efo fi, a siarad yn agored iawn ac yn onest iawn ynglŷn â'u profiadau.

Mae'r adroddiad yma yn ddi-flewyn ar dafod. Mae o wedi amlygu materion o gonsýrn difrifol iawn ac mae o'n cynnig camau positif ymlaen i sicrhau bod safonau priodol yn dychwelyd i lywodraethiant y gwasanaeth tân.

Nid yw'r materion a nodwyd yn yr adroddiad hwn yn faterion newydd. Gwelwyd methiant ar ran Llywodraeth Cymru i weithredu ers i Archwilio Cymru ddatgelu pryderon am lywodraethiant y gwasanaeth tân ac achub am y tro cyntaf yn ôl yn 2018. Ac fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Sioned Williams, mynegwyd pryderon am blynyddoedd cyn hynny.

Ym mis Ebrill, nodais faterion wrth y Prif Weinidog blaenorol yn ymwneud ag adroddiad gwahanol, un a gomisiynwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i ymddygiad Stuart Millington, a oedd newydd gael ei benodi'n brif swyddog tân dros dro Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ym mis Chwefror. Daeth yr adroddiad hwnnw i'r casgliad y gallai fod tystiolaeth i gefnogi achos yn erbyn Stuart Millington o fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu, neu aflonyddu ar sail gweithgarwch undebau llafur. Cyflwynwyd adroddiad i brif swyddog tân gogledd Cymru, Dawn Docx, ym mis Hydref y llynedd—bron flwyddyn yn ôl—a phedwar mis cyn i Mr Millington gael ei ddyrchafu gan gomisiynwyr a benodwyd gan Lywodraeth Cymru i'r swydd dros dro. Nawr, o ystyried bod yr adroddiad hefyd wedi'i rannu â Llywodraeth Cymru, hoffwn ofyn heddiw: a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon fod ei ganfyddiadau yn hysbys i'r comisiynwyr cyn penodiad Mr Millington, ac os na, pa gamau y bydd hi'n eu cymryd nawr i sicrhau y bydd yr holl wybodaeth berthnasol ar gael pan fydd penodiadau tebyg yn cael eu gwneud yn y dyfodol?

Ar faterion sy'n codi o'r gwaith hwn gan y pwyllgor, cafwyd llawer o alwadau ar y meinciau hyn i Lywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad annibynnol i'r gwasanaethau tân yng ngogledd, canolbarth a gorllewin Cymru hefyd. Dywedir wrthym, ac mewn gwirionedd, fe fydd ymchwiliadau nawr, ond hoffwn ofyn hefyd pa mor hyderus yw Ysgrifennydd y Cabinet fod y rhain yn adolygiadau gwirioneddol annibynnol a chynhwysfawr a fydd yn bodloni'r rhai yn y gwasanaeth tân sy'n awyddus i weld y gwir yn dod i'r amlwg. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet esbonio'r anghysondeb ymddangosiadol yn y dull o weithredu lle nad oes ond cyfnod o dair blynedd yn cael ei archwilio yn yr ymchwiliadau hynny, pan ymchwiliwyd i gyfnod o saith mlynedd ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru? Rwy'n siŵr y byddai'n cytuno na all torri corneli fod yn rhywbeth sy'n digwydd pan fyddwn yn ceisio darganfod y gwir.

Yn olaf, ac o bosib hwn sy'n fy mhryderu fwyaf, er yr ymchwiliad a'r adroddiad damniol i mewn i'r gwasanaeth yn ne Cymru, mae staff o fewn y gwasanaeth hwnnw yn parhau i ddweud mai prin ydy'r newidiadau maen nhw yn eu gweld ac yn eu teimlo. Mae'r larwm yn canu yn uchel iawn, fel y mae'r adroddiad yma yn ei ddweud, ond dydy'r dystiolaeth ddim yn glir iawn, dal, fod penaethiaid yn gwrando. Mi fuaswn i'n licio hefyd i'r Ysgrifennydd Cabinet ddweud mewn termau cryf iawn—yn y termau cryfaf posib—fod unrhyw ymgais i erlid diffoddwyr tân am ganu'r larwm hwnnw, am chwythu'r chwiban, yn anghyfiawn ac yn gwbl annerbyniol. I gloi, fel y mae'r adroddiad yma yn ei amlygu, mae gan y gwasanaeth tân weithlu ymroddgar sy'n gweithio'n ddiflino i gadw eu cymunedau yn saff, a'r peth lleiaf y gallan nhw ei ddisgwyl ydy diwylliant gwaith sydd yn ddiogel iddyn nhw hefyd.

16:45

Hoffwn ddechrau drwy adleisio rhai o'r pwyntiau allweddol a godwyd gan fy nghyd-Aelodau Sioned Williams a Rhun ap Iorwerth: nid oes unrhyw le o gwbl i ymddygiad o'r fath yng nghymdeithas Cymru, yn enwedig yn ein gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y gwasanaeth tân ac achub. Mae'n hanfodol fod argymhellion adroddiadau diweddar yn cael eu gweithredu'n gyflym i atal niwed pellach i ddioddefwyr a'r cyhoedd yn ehangach.

Wrth inni aros am ganlyniadau dau adolygiad diwylliant ychwanegol yn y gwasanaethau tân eraill yng Nghymru, mae angen eglurder ar y cynnydd sy'n cael ei wneud ar yr argymhellion yn adolygiad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Pa gamau pendant sydd wedi'u cymryd hyd yn hyn a sut y mae'r newidiadau hyn yn cael eu holrhain i sicrhau eu bod yn gwneud gwahaniaeth go iawn?

Yn ogystal, clywsom am y diwygiadau parhaus i'r strwythurau llywodraethu o fewn yr awdurdodau tân. Mae'n bwysig deall sut y mae'r diwygiadau hyn yn cael eu cyfathrebu a'u gweithredu, yn enwedig gyda'r diffoddwyr tân ar y rheng flaen. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y gweision cyhoeddus hanfodol hyn yn rhan o'r daith hon tuag at ddiwygio?

Yn olaf, hoffwn glywed mwy am weledigaeth ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer y tri gwasanaeth tân yng Nghymru. Pa newidiadau hirdymor sydd wedi'u cynllunio i sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn addas i wasanaethu ein cymunedau gyda'r safonau uchaf o uniondeb a diogelwch? Mae'n peri pryder mawr ac yn fy nhristáu i glywed am y cwynion a'r problemau diwylliant parhaus. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau pendant nawr fel nad ydym yn wynebu'r un problemau eto ymhen blwyddyn. Diolch yn fawr.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau heddiw am eu cyfraniadau i'r ddadl bwysig hon a diolch i'r pwyllgor am ei adroddiad meddylgar a phwysig. Rydym eisoes wedi nodi yn ein hymateb ffurfiol ein bod yn derbyn holl argymhellion y pwyllgor. Hoffwn innau hefyd, fel y dywedodd Aelodau eraill yma heddiw, dalu teyrnged i'r rhai sydd wedi codi llais. Fel y dywedodd y Cadeirydd, mae'n hanfodol ailadeiladu ymddiriedaeth. 

Pan wnaethom benodi comisiynwyr i oruchwylio Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ym mis Chwefror, nid dim ond oherwydd bod bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu yn amlwg yn y sefydliad hwnnw y gwnaethom hynny, ond am oedd nad oedd y rhai a oedd yn gyfrifol am arwain a llywodraethu wedi mynd i'r afael â'r broblem. Canfu Fenella Morris CB dystiolaeth sylweddol o gamreoli ac arferion gwael ar bob lefel a oedd yn caniatáu i ymddygiad annerbyniol fynd heb ei herio.

Yn sail i hynny mae yna ymdeimlad eang fod angen diwygio trefniadau llywodraethu yn y sector ar frys. Efallai fod gormod o aelodau wedi bod gan awdurdodau tân ac achub i'w gwneud hi'n bosibl gwneud penderfyniadau clir, ac efallai nad oes digon o graffu mewnol effeithiol yn digwydd ynddynt. Mae'n heriol i aelodau arwain y gwasanaeth a dwyn uwch reolwyr i gyfrif am yr hyn sy'n aml yn faterion technegol cymhleth. Nid oes atebolrwydd priodol ychwaith i unrhyw haen arall o Lywodraeth, na'r etholwyr, yn enwedig ar faterion ariannol. Yn yr amgylchiadau hynny, nid yw'n syndod ei bod yn anodd iawn sicrhau rheolaeth a diwylliant effeithiol o fewn y gwasanaethau.

Rwy'n falch fod y pwyllgor yn galw am ddiwygio, fel y gwnaeth Archwilio Cymru yn ei adroddiad fis diwethaf. Roeddwn yn falch hefyd fod cadeiryddion ein dau awdurdod tân ac achub arall wedi cydnabod yr angen am newid yn eu tystiolaeth i'r pwyllgor. Pylodd ymdrechion blaenorol i ddiwygio yn wyneb dadleuon gwrthwynebus cryf fod y system bresennol yn gweithio'n dda ac nad oedd angen newid. Mae digwyddiadau yn ne Cymru wedi profi nad yw hyn yn wir. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch i Hannah Blythyn a Julie James am eu gwaith yn y maes hwn.

Bu datblygiadau pellach ers i'r pwyllgor adrodd. Yn fwyaf arbennig, yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddodd y prif gynghorydd tân ac achub adroddiad arolygu yn codi pryderon difrifol am effeithiolrwydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ymladd tanau mewn anheddau. Mae'r rhain yn faterion difrifol. Ond rwyf am fod yn glir nad ydynt wedi'u cyfyngu i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ac nid ydynt ychwaith mewn unrhyw fodd yn beirniadu diffoddwyr tân rheng flaen, sy'n parhau i wneud eu gorau glas i gadw pobl yn ddiogel. Maent wedi'u seilio ar y tactegau a fabwysiadwyd i ymladd tanau mewn anheddau gan wasanaethau tân ac achub ledled y DU. Rwy'n disgwyl i bob un o'r tri gwasanaeth tân ac achub ledled Cymru weithredu ar frys ar y canfyddiadau hyn, a byddaf yn codi'r mater gyda fy nghymheiriaid yn y DU a'r Llywodraethau datganoledig eraill. Yn sicr, nid yw'n ymwneud â thorri unrhyw gorneli.

O ran y cynnydd a wnaethom yn y maes hwn—a hoffwn ddweud 'diolch' wrth y comisiynwyr sy'n gwneud gwaith yn y maes—wyth mis i mewn, maent yn gwneud cynnydd, ond nid yw'r comisiynwyr a Llywodraeth Cymru o dan unrhyw gamargraff o gwbl nad yw hon yn dasg anodd, a bydd yn cymryd amser i gyflawni'r newid sydd ei angen yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Mae'r comisiynwyr yn canolbwyntio ar roi'r sylfeini yn eu lle i gynnal gwelliant hirdymor a chynaliadwy. Mae'r rhain yn cynnwys ailstrwythuro a chryfhau'r tîm arweinyddiaeth yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, trwy gystadleuaeth deg ac agored, a chan gynnwys staff a rhanddeiliaid yn y broses honno. Mae'r comisiynwyr hefyd yn ailosod y berthynas â staff ac undebau, gan gynnwys gwneud gwelliannau i brosesau ymgysylltu a chyfathrebu â staff, ac maent yn rhoi rhaglen gadarn ar waith ar gyfer gweithredu newid hirdymor.

Efallai na fydd rhywfaint o'r gwaith sy'n cael ei wneud bob amser yn arwain at newid gweladwy ar unwaith, er bod y comisiynwyr wedi gosod marciwr cynnar clir ar gyfer eu cefnogaeth gyffredinol i weithwyr benywaidd, gan gyflwyno polisi o 52 wythnos o absenoldeb mamolaeth ar gyflog llawn ym mis Mawrth. Mae hyn yn llawer mwy hael na'r ddarpariaeth a nodir yn y cytundeb cyflog ar y cyd ledled y DU. Hefyd, mae'r comisiynwyr eisoes wedi cytuno ar bolisi newydd ar gyfer mynychu galwadau tân diangen—un o elfennau allweddol eu cylch gorchwyl. Mae hyfforddiant ar y gweill a bydd polisi newydd yn cael ei weithredu o fis Ionawr 2025.

Ond mae heriau'n parhau. Rwyf wedi gwrando ar yr hyn a ddywedodd Aelodau ac eraill heddiw, a byddaf yn parhau i wneud hynny. Ar y pwyntiau allweddol ynghylch diwygio llywodraethiant yr awdurdod tân ac achub, gallaf sicrhau'r Siambr heddiw fy mod wedi ymrwymo i ddiwygio llywodraethiant yr awdurdod tân ac achub cyn gynted â phosibl. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dechrau ymgysylltu ag awdurdodau lleol, cyn-aelodau a chomisiynwyr Awdurdod Tân ac Achub De Cymru, a'r ddau awdurdod tân ac achub arall, ac mae consensws eang yn datblygu ynghylch yr angen i ddiwygio llywodraethiant. Rwy'n bwriadu datblygu cynigion ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus llawn yn y flwyddyn newydd, yn dilyn ymgysylltiad pellach â rhanddeiliaid perthnasol. Byddaf yn ystyried barn y pwyllgor ac argymhellion diweddar Archwilio Cymru ar aelodaeth awdurdodau tân ac achub, a chefnogaeth aelodau, yn fy nghynigion diwygio.

Mae'n rhaid i ddiwygio ddigwydd, nid yw diffyg gweithredu yn opsiwn, ac rwy'n glir, ond mae'n rhaid iddo ddigwydd mewn partneriaeth os yw am lwyddo a chael ei gynnal. Ac mae angen iddo ddigwydd yn fuan. Mae arnom angen system lywodraethu effeithiol newydd i adfer rheolaeth gan y comisiynwyr pan ddaw'r ymyrraeth i ben, ac mae angen yr un system arnom ledled Cymru i sicrhau bod gan y gwasanaeth y llywodraethiant da a'r arweinyddiaeth glir y mae'n ei haeddu. Mae gennym bwerau helaeth i newid y trefniadau llywodraethu trwy ddiwygio'r Gorchmynion cyfunol a sefydlodd y tri awdurdod tân ac achub presennol ym 1995, a dyna lle bydd fy ffocws. Ond os bydd angen inni ddefnyddio deddfwriaeth sylfaenol yn y tymor hwy, byddwn yn ystyried hynny. Rwy'n gobeithio cyflwyno cynigion ar gyfer diwygio yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Wrth gloi, hoffwn ailadrodd fy niolch i'r pwyllgor ac i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu heddiw. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau i'r Senedd wrth gwrs. Diolch.

16:55

Diolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau. Er bod llawer o'r Aelodau yn edrych yn ôl ac yn poeni am y ffordd y penododd y comisiynwyr brif swyddog dros dro ar gyfer de Cymru—crybwyllwyd hyn gan Joel James, Sioned Williams a chan Jane Dodds—rwy'n credu bod yn rhaid i ni—a Rhun ap Iorwerth, rwy'n credu—edrych ymlaen nawr. Oherwydd mae gwir angen inni fwrw ymlaen â hyn. Rwy'n croesawu Ysgrifennydd y Cabinet i'w swydd, oherwydd mae hi wedi ymgymryd â gwaith mawr iawn yma, a gwaith sy'n ei gwneud yn ofynnol i chi ymgysylltu â'r holl bartneriaid, neu fel arall byddwn yn dychwelyd i sefyllfa 'rhy anodd i'w wneud' lle mae pawb yn gwrthwynebu'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei gynnig.

Ond hefyd, mae gwir raid inni newid. Rwy'n credu mai'r un peth yr oeddwn i'n poeni amdano yn sylwadau y Gweinidog yw 'efallai' fod gennym ormod o aelodau ar fyrddau, pan fo'n amlwg fod gennym ormod o aelodau ar fyrddau. Mae awdurdod tân ac achub gorllewin canolbarth Lloegr wedi creu argraff fawr arnaf, drwy fod â 15 aelod yn unig, ond yn amlwg yn y broses o newid. Oherwydd nid yw hyn yn unigryw i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Mae hyn yn endemig ar draws diwydiant sydd wedi ei ddominyddu gan ddynion, diwydiant sydd wedi cael anhawster moderneiddio ei brosesau. Ond yn yr un modd, mae wedi cael trafferth mynd i'r afael â llywodraethiant y sefydliad.

Roedd yn wych clywed gan Hannah Blythyn, oherwydd yn amlwg fe wnaethoch chi gymryd y camau cadarn ar ran y Llywodraeth drwy ymyrryd a dweud mai digon oedd digon—ni allwn barhau fel hyn. Ond rwy'n credu eich bod yn dweud na all awdurdodau lleol gwestiynu maint yr ardoll. Buaswn i'n awgrymu nad yw'n cwestiynu maint yr ardoll. Ac mae datgysylltiad llwyr rhwng y bobl a benodir i gynrychioli pob un o'r awdurdodau lleol yn yr ardal dan sylw, ac unrhyw gyfeirio'n ôl. I bwy y maent yn adrodd yn ôl? Pwy sy'n eu cwestiynu? Neb yn eu hawdurdod lleol eu hunain, mae'n ymddangos. Ac nid oes neb yn dweud, 'Pam ydych chi angen cymaint o arian? Oherwydd bydd yn rhaid i'r hen sylfaen dreth druan ddarparu mwy o arian yn y dreth gyngor oherwydd eich bod chi'n gofyn am fwy. A beth yw gwerth eich cais chi am fwy o arian yn hytrach na gwasanaethau cymdeithasol neu addysg neu unrhyw beth arall y mae'n rhaid i awdurdodau lleol ymdopi ag ef?'

Credaf fod hon yn fuddugoliaeth gynnar i'r Ysgrifennydd Cabinet yma. Yn sicr, mae gennym ormod o aelodau. Ac mae cael gormod o aelodau yn ei wneud yn anhylaw ac yn anodd iawn gweithredu'r newidiadau sy'n ofynnol, sy'n mynd ymhell y tu hwnt i ddim ond tincian gyda'r trefniadau llywodraethu.

Rwy'n credu bod yr adroddiad a gyhoeddwyd ddoe gan y cynghorydd ac arolygydd yn rhywbeth arall y gallech ei wneud yn eithaf cyflym. Efallai y bydd angen darn byr o ddeddfwriaeth, ond efallai y gellid ei wneud drwy orchymyn gweinidogol. Oherwydd os yw Estyn yn dweud bod rhaid i rywbeth newid, mae'n newid. Ni all ysgolion ddewis a dethol yr hyn y maent yn ei argymell, ac mae'r hyn y mae'r arolygydd wedi'i wneud drwy edrych ar sut y gallem wella canlyniadau ar danau domestig—mae'n olwg fforensig arno, gan edrych ar bob un digwyddiad tân difrifol sydd wedi digwydd dros gyfnod o dair blynedd. Felly, ni allaf weld ym mha amgylchiadau y gall unrhyw awdurdod tân ddweud, 'Nid oes gan hyn unrhyw beth i'w wneud â ni', oherwydd trwy wneud hynny, maent yn peryglu eu staff eu hunain, yn ogystal â'r cyhoedd a allai fod mor anffodus â dioddef tân. 

Rwy'n croesawu'r ymyriadau gan Peredur a chan Rhun ap Iorwerth, oherwydd mae gwir angen i bawb ohonom roi ystyriaeth ddifrifol i hyn, oherwydd roeddem yn siomedig na chawsom fwy o dystiolaeth ar y cwestiwn ynglŷn â sut olwg sydd ar lywodraethiant da yn y sector hwn. Roedd yn amlwg o'r dystiolaeth a gawsom gan wasanaeth ambiwlans Cymru eu bod yn teimlo bod ganddynt ddigon o broblemau eu hunain; nid oeddent am gael yr holl gur pen sy'n amlwg yn y gwasanaeth tân ac achub. Ond sut, felly, y gwnawn ni ddefnyddio'r holl gapasiti dros ben sy'n cael sylw mawr yn adroddiad y prif arolygydd? A dylai rhai o'r pethau y mae'n eu dweud yn yr adroddiad a gyhoeddwyd ddoe beri pryder. Nid yw'r system shifft bresennol, sy'n dyddio'n ôl i'r 1970au, yn caniatáu digon o amser ar gyfer hyfforddiant, ymarfer corff a gweithgareddau lleihau risg. Dyrennir 50 y cant o'r holl amser sydd ar gael ar gyfer seibiannau bwyd, cyfnodau astudio preifat a gorffwys, gyda'r olaf yn 14 awr o'r 48 awr sydd ar gael a gaiff eu gweithio o fewn cyfnod cyfeirio o wyth diwrnod. Ac mae'n aneffeithlon iawn os yw diffoddwyr tân yn cysgu am y cyfnod gorffwys llawn ar draul hyfforddiant a gweithgareddau lleihau risg. Gwnaed hyn mewn adroddiad blaenorol—. Sioned.

17:00

Diolch, Jenny. Lle rydym yn sôn am newidiadau i delerau ac amodau gyda'r diwygiadau hyn, hoffwn bwysleisio—[Anghlywadwy.]—y nodwyd bod angen iddynt digwydd, oherwydd arferion gwael ac ymarfer sydd wedi dyddio, y dylid gwneud hynny, wrth gwrs, mewn partneriaeth gymdeithasol lawn ag Undeb y Brigadau Tân. 

Yn wir, ond y pwyslais a gawsom gan Undeb y Brigadau Tân oedd eu bod yn cydnabod bod yn rhaid i rôl newidiol y gwasanaeth tân ac achub gael ei gweld am y cyfnod o 20 neu 30 mlynedd nesaf, ac mae angen inni drafod ar unwaith gyda'r bobl hyn a nodi—y bobl sy'n cynrychioli'r gweithlu—fod y system bresennol yn peryglu eu haelodau drwy beidio â gwneud digon o hyfforddiant, drwy beidio â gweithredu'r ymchwil a'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sut i drin tanau'n well. 

Felly, mae llawer iawn sydd angen ei wneud, ac mae'n rhaid inni weld Papur Gwyn erbyn diwedd y flwyddyn hon os ydym yn mynd i gael cynigion deddfwriaethol i'w cyflwyno i'r etholwyr ar gyfer yr etholiad yn 2026. Mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i bawb ohonom ei berchnogi. Nid oes unrhyw ddiben beio Llywodraeth Cymru am yr hyn na wnaeth yn y pumed Senedd. Mae'n rhaid inni berchnogi hyn gyda'n gilydd nawr—

—gan fod gennym ddyletswydd tuag at y cyhoedd i sicrhau bod ein gwasanaethau tân yn effeithiol wrth gadw pobl yn ddiogel. 

Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl ar ddeiseb P-06-1474, 'Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau canolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Coed y Brenin ac Ynyslas'

Eitem 7 yw'r ddadl ar ddeiseb P-06-1474, 'Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau canolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Coed y Brenin ac Ynyslas'. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Carolyn Thomas.

Cynnig NDM8682 Carolyn Thomas

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau canolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Coed y Brenin ac Ynyslas’ a gasglodd 13,247 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl heddiw. Cyflwynwyd y ddeiseb gan Gareth Jones a daeth i ben ar 9 Medi, gyda 13,247 o lofnodion. Mae'r ddeiseb yn dweud: 'Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau canolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Coed y Brenin ac Ynyslas'.

'Mae cau’r canolfannau hyn yn mynd yn groes i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015... Byddai cau’r canolfannau ymwelwyr hyn yn cael effaith negyddol pellgyrhaeddol ar yr economi leol, yr amgylchedd, a llesiant cymunedol.'

Gosododd y pwyllgor ystyriaeth o'r ddeiseb hon ar lwybr cyflym ar gais y deisebwyr, am eu bod yn credu bod bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru i fod i gyfarfod ym mis Medi i ystyried toriadau i'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ac y byddai'r toriadau hyn yn arwain at lefel sylweddol o golli swyddi ac israddio gwasanaethau. Maent yn destun pryder i'r Aelodau ar draws y Siambr, ac rwy'n falch fod y Pwyllgor Busnes wedi cytuno i'n cais am ddadl gynnar.

Dyma'r ail ddeiseb y mae'r pwyllgor wedi ei hystyried ar gau canolfannau ymwelwyr. Daeth deiseb gynharach gan Kim Williams, yn ymwneud â thynged canolfan ymwelwyr Ynyslas yn unig, i ben ym mis Mehefin eleni, ar ôl casglu 2,422 o lofnodion. Ac mewn ymateb i'r ddeiseb honno, nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

'nid oes unrhyw sefydliadau wedi'u heithrio o'r sgyrsiau a'r penderfyniadau cyllidebol anodd iawn y bydd yn rhaid eu gwneud.'

A nododd Ysgrifennydd y Cabinet mai penderfyniadau ar gyfer bwrdd CNC oedd y rhain yn y pen draw, ac ysgrifennodd prif weithredwr CNC at y pwyllgor wedyn i egluro eu bod yn bendant ynghylch cadw'r gwarchodfeydd eu hunain a chynnal mynediad y cyhoedd atynt. Ond mae Clare Pillman hefyd wedi dweud wrth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith fod angen i CNC ystyried pob opsiwn er mwyn sicrhau gostyngiad o £13 miliwn yn ei gyllideb staff grant cymorth. Mae'n ddealladwy fod edrych ar ddewisiadau amgen hyfyw ar gyfer rhedeg cyfleusterau caffi a manwerthu yn y canolfannau ymwelwyr yn rhan o'r ymarfer hwnnw.

Pan ystyriwyd y ddeiseb bresennol ar 16 Medi, nododd y pwyllgor ohebiaeth a gydlofnodwyd gan Cycling UK, Beicio Cymru, Cynghrair Llwybr MTB y DU, Beicio Mynydd Cymru a Sefydliad Twristiaeth Antur Cymru, ynghyd â 90 o grwpiau, sefydliadau a busnesau eraill. Mae'r sefydliadau hyn yn bryderus iawn am effaith newidiadau i weithgarwch canolfannau ymwelwyr ar y sector beicio mynydd ac awyr agored. Nid hon yw dadl gyntaf y Pwyllgor Deisebau y tymor hwn sy'n canolbwyntio ar effaith economaidd a chymdeithasol toriadau cyllidebol ac yn sicr nid hon fydd yr olaf. Mae'n bwysig ein bod yn mynd i'r afael â phryderon y cyhoedd a'n bod yn sicrhau bod ymgysylltiad digonol â chymunedau lleol a phartïon sydd â diddordeb i ddod o hyd i atebion creadigol i gynnal cyfleusterau gwarchodfeydd heb unrhyw gau. Mae parhad yn bwysig eithriadol.

Mae ymateb CNC yn egluro eto ei fod yn chwilio am bartneriaid i ymgymryd â swyddogaethau caffi a manwerthu, ac mae mwy o ymgysylltu wedi'i gynllunio'n lleol i ddod o hyd i atebion pwrpasol ar gyfer pob un o'r safleoedd. Mae'r llythyr hefyd yn esbonio nad staff canolfannau ymwelwyr sy'n gyfrifol am reoli'r tir yn y canolfannau ac o'u cwmpas, felly nid ydynt yn gyfrifol am reoli llwybrau a mynediad. Mae'n bwysig deall y rhesymeg dros broses 'Achos dros Newid' CNC a chofio eu bod yn ceisio lleihau nifer y swyddi staff a gollir, fel rhan o broses ymgynghori gydag undebau llafur. Fel y mae CNC wedi nodi, mae ganddynt ddyletswyddau statudol i'w cyflawni o dan y pwysau ariannol presennol, ac mae'r llythyr diweddaraf gan Clare Pillman yn cyfaddef eu bod yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd.

Roeddwn yn falch o ymweld ag Ynyslas fy hun y penwythnos diwethaf i weld sut y mae'r ganolfan yn gweithredu a deall mwy am bryderon y deisebydd. Roeddent yn dweud wrthyf nad yw CNC wedi bod yn agored i drafodaeth am atebion ystyrlon, ac mae ganddynt lawer iawn o'r rheini; maent wedi bod yn amddiffynnol. Mae'n ganolfan addysg ac adnoddau eithriadol yr ymwelwyd â hi gan 3,000 o fyfyrwyr, 50 o ysgolion a phrifysgolion, a llawer ohonynt o ardaloedd trefol, yn cysylltu â natur a dysgu am ecosystemau, bioamrywiaeth a newid hinsawdd am y tro cyntaf yn eu bywydau. Mae wedi ei hamgylchynu gan dwyni tywod, sy'n gartref i ystod amrywiol o rywogaethau yn ogystal â thraeth helaeth. Mae yno goedwig suddedig, sy'n dangos sut y mae newid hinsawdd yn cael effaith. Cyfarfûm â llawer o ymwelwyr sy'n defnyddio'r ganolfan ar gyfer iechyd meddwl a llesiant meddyliol. Mae parciau carafanau a faniau sy'n gartref i'w perchnogion gerllaw sy'n defnyddio ac yn dibynnu ar y ganolfan fel atyniad i ymwelwyr. Mae'n ychwanegu'n sylweddol at yr economi leol fel atyniad, gyda 250,000 o ymwelwyr y flwyddyn—a dim ond un ganolfan ymwelwyr yw honno. Bydd y ganolfan yn dal i gael ei defnyddio fel swyddfa i'r warden ond ni fydd yn agored i'r cyhoedd, ac nid yw hynny'n gwneud synnwyr. Mae llawer o bobl yn parcio ar y traeth, yn fodlon talu'r tâl o £4, ond nid oedd neb yn ei gasglu. Mae staff y ganolfan ymwelwyr yn gwneud mwy na gweithio yn y siop fach; maent yn cynghori pobl am ddiogelwch cerrynt, ymwybyddiaeth o adar sy'n nythu ar y ddaear a'r ecoleg, yn casglu'r bagiau baw cŵn niferus, yn archwilio'r ardal, maent wedi ymdrin â photsio, ac yn casglu arian y maes parcio pan fydd adnoddau ar gael.

Mae'r iaith a ddefnyddir i ddisgrifio'r cau yn cynnwys 'enfawr', 'niweidiol', 'dinistriol', a 'pheryglus'. Diolch i'r deisebwyr am ddod â'r mater pwysig hwn i sylw'r Aelodau, ac edrychaf ymlaen at y ddadl heddiw. Diolch.

17:05

Wrth longyfarch y Cadeirydd newydd, Carolyn, a gaf i ddweud bod hwnnw'n gyfraniad ardderchog? Roeddwn yn cytuno â chi. Yn ail, hoffwn ategu eich sylwadau'n diolch i'r deisebwyr a ddaeth â hyn i'n Senedd.

Ni ddylid cymryd y mathau hyn o gau a phethau yn ysgafn. Rydym yn ymwybodol o drafferthion cyllid CNC, ond weithiau mae'n rhaid imi edrych ar rai o'u prosesau meddwl o ran iechyd a lles i bobl a'r agweddau gwybodaeth ar hyn oll, ac mewn rhai achosion, lle rydych chi newydd ddweud, Cadeirydd, o ran y cyngor y maent yn ei roi am y cerrynt a allai achub bywydau.

Nawr, mae'r datgeliad fod angen i CNC arbed £13 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf yn frawychus, felly mae'n rhaid cwestiynu a yw Llywodraeth Cymru wedi cael ei holl flaenoriaethau gwariant yn iawn. Gwyddom o'n cyfarfod yr wythnos diwethaf yn unig fod sôn amdanynt yn rhoi'r gorau i gynnal llwybrau MTB ar gyfer beicio mynydd o bosibl, neu ganolfannau hamdden awyr agored eraill, ac unwaith eto, rwy'n credu pe byddech chi'n siarad â'r trethdalwr cyffredin, y byddent yn dweud, 'Wel, dyma'r math o bethau rydym am i'n treth gael ei gwario arnynt.' Er fy mod yn deall y swyddogaethau statudol sydd gan CNC, mae'n rhaid iddynt gydbwyso hyn, rwy'n credu.

Felly, mae'n dorcalonnus gweld y gallai 260 o swyddi gael eu colli, gyda CNC yn symud ei gyfrifoldebau i ffwrdd o'r gwasanaethau arlwyo a manwerthu mewn canolfannau ymwelwyr. Ond yr hyn rydych chi newydd ei ddweud yn gynharach am y wardeiniaid yn dal i fod yno a'i fod ar gau, fel menyw fusnes, nid wyf yn deall hynny o gwbl. 

Yn ogystal, mae awgrymu y dylai'r rhain gael eu rhedeg gan sefydliadau allanol yn anwybyddu'n llwyr yr ymrwymiad a'r cysylltiad y mae CNC wedi'i adeiladu gyda'r gymuned leol dros y blynyddoedd. Gadeirydd, roedd hi'n wirioneddol ddigalon clywed gennych eu bod yn teimlo nad ydynt wedi cael rhan yn yr ymgynghoriad hwn nac wedi cael eu cynnwys mewn unrhyw drafodaethau hyd yn oed. Nid yw'n edrych yn dda i'r sefydliad ei hun. Mae ymwelwyr yn dibynnu ar yr amwynderau hyn am brofiad llawn, a hebddynt, mae'r canolfannau mewn perygl o ddod yn llai hygyrch, yn llai apelgar, ac felly byddant yn gweld dirywiad cyson yn eu defnydd, ac yna gall pobl ddweud, 'Wel, prin y câi ei ddefnyddio, bla bla bla.'

Rwyf i fy hun wedi bod yn siarad â gwahanol grwpiau a sefydliadau sy'n dibynnu ar y canolfannau hyn—Cynghrair Llwybrau MTB y DU, y mae ei 500 km o lwybrau beicio mynydd ledled Cymru yn dibynnu ar y cyfleusterau hyn, ac maent yn bryderus iawn y bydd y toriadau hyn yn ddechrau ar ddirywiad cyson a fydd yn gweld eu llwybrau heb eu cynnal ac yn cael eu gadael i wirfoddolwyr a grwpiau cymunedol i godi'r darnau, a gallai wneud y llwybrau hynny'n anghynaladwy. Mae'r sefydliadau hyn yn pwysleisio'n gywir ddigon fod y cyfleusterau'n cefnogi'r llwybrau, gan ddenu ymwelwyr ar gyfer gweithgareddau awyr agored a chynnal buddsoddiad yn ein heconomi dwristiaeth leol. Yn wir, mae tua 100,000 o bobl yn ymweld ag atyniad canolfan feicio Coed y Brenin yng Ngwynedd bob blwyddyn. Mae sut na all CNC weithredu siop a chaffi yn y lleoliad hwnnw, gyda chynifer o ymwelwyr, yn codi llawer o gwestiynau i mi ynglŷn â chraffter busnes CNC eu hunain.

Yn yr un modd, mae Ynyslas yn denu tua 400,000 o bobl y flwyddyn, sy'n fwy na digon o gwsmeriaid i gael dau ben llinyn ynghyd. Mae angen adolygu'r model busnes yn hytrach na phenderfynu cau'r pethau hyn. Dylai CNC gyhoeddi'r cyfrifon ar gyfer y canolfannau, sydd, mae'n debyg, yn dangos colled gyfartalog o £50,000 y flwyddyn. O ddifrif, pe byddech chi'n siarad â grwpiau busnes neu sefydliadau eraill neu berchnogion busnes unigol, rwy'n siŵr y gallent fwrw golwg a rhoi CNC ar y droed iawn. Ond fe ddylent gyhoeddi'r cyfrifon. 

Yn yr un modd, mae canolfan Nant yr Arian yn enwog am fwydo barcutiaid bob dydd. Mewn gwirionedd, mae yn y 10 y cant uchaf o leoedd i ymweld â hwy yn y byd yn ôl TripAdvisor. Nid yw hyn yn gwneud unrhyw synnwyr i mi. Mae'r ffordd na all CNC groesawu'r cyfle anhygoel sy'n dod gyda hynny i ddod â refeniw i mewn yn peri penbleth. Mae'n tynnu sylw eto at benderfyniadau strwythurol a busnes difrifol a gwael yn CNC ei hun. Rwy'n galw ar y prif weithredwr, Clare Pillman, i gael golwg arall ar hyn ac i adrodd yn ôl i ni fel Senedd.

Croesewir yr ymgynghoriad sydd ar y gweill a'r cyfle i gynnal cyfarfodydd cyhoeddus, ond dylai'r ffocws fod ar ddod o hyd i atebion ariannu cynaliadwy ac opsiynau staffio amgen, nid gwneud toriadau a fydd yn lleihau gwerth y mannau gwerthfawr hyn. Rhaid sicrhau dyfodol y canolfannau hyn er budd pawb, ac rwy'n annog CNC i wneud safiad, gwrando ar yr hyn y mae'r deisebwyr yn ei ddweud, gwrando ar yr hyn y mae Aelodau'r Senedd yn ei ddweud, a chanolbwyntio o ddifrif ar flaenoriaethau gwariant sydd o bwys gwirioneddol i'n cymunedau lleol. Diolch yn fawr.

17:15

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Fel Aelod o'r Senedd sydd yn cynrychioli'r tair canolfan dan sylw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, gaf i groesawu'n fawr y ddeiseb? Dwi'n hynod o falch o weld bod dros 13,000 o bobl wedi'i llofnodi, sydd yn dangos poblogrwydd a’r gwerthfawrogiad o'r canolfannau yma, nid yn unig gan ymwelwyr a defnyddwyr, ond hefyd y cymunedau lleol. Nawr, dwi'n gwybod y bydd Mabon ap Gwynfor yn sôn yn benodol am Goed y Brenin ym Meirionnydd, a'r ddarpariaeth ryfeddol sydd fanna, mewn eiliad neu ddwy, ond dwi eisiau jest canolbwyntio ar y ddwy ganolfan arall, sef Bwlch Nant yr Arian ac Ynyslas yng Ngheredigion. Fel mae'r don o ddicter am y posibiliad o gau’r canolfannau yma yn dangos, nid canolfannau cyffredin yw’r rhain. Mae'r ddau safle wedi datblygu yn drawiadol dros y blynyddoedd diwethaf, wrth gael arian Ewropeaidd, i gynnig profiadau a gwasanaethau gwerthfawr iawn i’r gymuned leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Nawr, rŷn ni'n gwybod bod twristiaeth yn cyfrannu miliynau o bunnoedd bob blwyddyn i economi Ceredigion a gorllewin Cymru. Yn wir, un ôl data gan Mid Wales Tourism, mae gwerth blynyddol y tri safle gyda’i gilydd i'r economi leol yn rhyw £37 miliwn. Nawr, am eiliad, gadewch i ni feddwl am y neges a'r optics mae'r penderfyniad i gau'r canolfannau hyn yn ei gael ar y croeso cynnes Cymreig rŷn ni'n enwog amdano. Fel sydd wedi cael ei amlygu yn barod y prynhawn yma, rhyngddyn nhw, mae'r tair canolfan yn croesawu rhyw 750,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, yn feicwyr, yn gerddwyr neu yn bobl sydd jest eisiau dod i gael rhyw ymweliad mwy hamddenol. Does dim dwywaith bydd eu cau yn ergyd i'r economi leol, a hynny mewn cyd-destun o grebachu eisoes ar wasanaethau gwledig. Yn sicr, mae’n ergyd a hanner, heb sôn am y colledion, wrth gwrs, o ran lefelau staffio.

Ac fel sydd eisoes wedi'i nodi, yr un mor rhwystredig â'r penderfyniad posib hwn yw'r ffordd mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mynd o gwmpas y broses ymgynghori a thrafod gyda'r cymunedau lleol. So, tra fy mod i'n rhannu barn y ddeiseb hon dylai'r canolfannau hyn barhau ar agor, mae'n hanfodol yn y cyfamser bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried bob opsiwn ynghylch y dyfodol. Nawr, bellach, mae'n hysbys bod amryw o fentrau lleol wedi dangos diddordeb mewn mabwysiadau'r canolfannau hyn a'u rhedeg fel rhyw fath o fentrau cydweithredol, ac mae hynny i'w groesawu’n fawr. Ond dwi'n pryderu y gallai biwrocratiaeth haearnaidd atal hyn rhag digwydd; os ydy NRW, er enghraifft, yn oedi’r broses yn rhy hir, neu'n 'mothball-o’ y canolfannau hyn, mi welwn ni wedyn bod y diddordeb lleol yna yn dirywio ac yn pylu. Felly, mae hwn yn gyfle i gael y sgwrs yna gyda phobl sydd â diddordeb lleol mewn cymryd y canolfannau yma drosodd.

Gaf i felly eich annog chi, Weinidog, i ystyried o ddifri gryfder y gefnogaeth sydd i gadw’r canolfannau hyn ar agor ac, yn bwysicach oll, i chi bwyso ar Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau eu bod nhw’n ystyried pob opsiwn am ddyfodol y canolfannau hyn er mwyn sicrhau eu bod nhw yn aros ar agor am byth, fel adnodd economaidd pwysig i'r ardal ac fel adnodd hamdden pwysig i bobl sydd yn dod yma o bell yn ogystal? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Carolyn, am gyflwyno'r ddeiseb a'r drafodaeth yma, a llongyfarchiadau ar y penodiad i'r swydd, a phob lwc.

Dwi yn mynd i sôn yn benodol am Goed y Brenin. Wrth gwrs, Coed y Brenin ydy crud beicio mynydd lawr allt Ewropeaidd, o bosib. Yno mae pobl yn mynd i feicio mynydd lawr allt, i feicio mynydd yn gyffredinol. Mae yna bobl yn mynd i redeg ac mae yna bobl yn mynd i gerdded a mwynhau gogoniant Coed y Brenin. Ac wrth gwrs, oherwydd y ffaith mai Coed y Brenin oedd y cyntaf o'i fath, mae gan y lle yna frand, sydd yn adnabyddus ac yn cael ei adnabod ar draws y byd, mewn gwirionedd, yn y sector beicio mynydd. Ac roedd y protest ddaru iddo gael ei gynnal yng Nghoed y Brenin ddydd Sadwrn yn dyst i'r cariad a'r cynhesrwydd at y lle. Roedd yna gannoedd o bobl yna, ac mi ges i'r fraint o'r siarad efo pobl ddaeth yno o Southampton, o Gaerlŷr, o Nottingham, a phob man ar draws Lloegr, er mwyn cefnogi Coed y Brenin.

Mae'n bechod, mewn gwirionedd, fod y Llywodraeth heb wneud astudiaeth o werth economaidd beicio lawr mynydd. Rydym ni'n gwybod bod yr Alban wedi gwneud astudiaeth o'r fath, ac mae o'n sôn bod beicio lawr mynydd yn cyfrannu gwerth £150 miliwn at economi yr Alban. Mae yna un astudiaeth yn awgrymu, o nifer yr ymwelwyr sy'n dod i Gymru, fod 10 y cant ohonyn nhw yn dod oherwydd beicio mynydd. Ac mi ydym ni'n gwybod, fel ddaru i Cefin sôn rŵan, fod y tair canolfan yna, yn cynnwys Coed y Brenin, yn denu degau o filiynau o bunnoedd i mewn i'r economi lleol. Felly, mae'n amlwg bod Coed y Brenin a'r ddwy ganolfan arall yn atyniadau o bwys, ac nid yn unig o ran y beicio mynydd, ond yr un peth canolog yna, sef y ganolfan ymwelwyr sydd yn sicrhau bod pobl yn cael y ddarpariaeth angenrheidiol pan fyddan nhw'n cyrraedd Coed y Brenin a Nant yr Arian ac Ynyslas.

Rŵan, dwi'n gwybod bod y Gweinidog, neu'r Dirprwy Brif Weinidog, mae arnaf i ofn, wedi sôn yn y drafodaeth wythnos diwethaf nad y bwriad oedd cau'r canolfannau yma, ond y gwir ydy, pen draw'r hyn sy'n digwydd ydy mai cau byddan nhw. Yn wir, mae arnaf i ofn y bydd y ganolfan ymwelwyr yng Nghoed y Brenin yn cau cyn y Nadolig, ar y rât yma, oherwydd mae pobl yn gwybod ei fod yn mynd i ddirwyn i ben erbyn mis Ebrill neu fis Mai, felly mae'r gweithlu sydd yno ar hyn o bryd yn chwilio am swyddi eraill, ac mi fydd y lle yn gorfod cau o ganlyniad.

Rŵan, pan oeddwn i mewn trafodaeth gyhoeddus, mewn cyfarfod cyhoeddus efo Cyfoeth Naturiol Cymru nôl ym mis Chwefror, dywedwyd mai ymgynghoriad oedd hyn a doedd dim byd yn mynd i ddigwydd am ddwy neu dair blynedd. Rŵan, maen nhw'n edrych i wneud arbedion o £1.2 miliwn yn y flwyddyn ariannol yma, sydd wedi achosi'r argyfwng yma. Felly, mae yna gwestiwn i ofyn: sut ydym ni wedi cyrraedd y sefyllfa yma, lle maen nhw mewn gwirionedd yn gorfod gwneud arbedion o £13 miliwn gyda £1.2 miliwn o'r arbedion yna yn y tair canolfan yna? Sut ydyn nhw wedi cael cyrraedd y sefyllfa yma?

Mae sôn eu bod nhw am ei osod o allan i dendr, ond dydy hynny ddim am ddigwydd tan fis Mai, ac mae gennym ni beth sy'n cael ei alw'n cliff edge, onid oes, bryd hwnnw, lle bydd y gweithlu wedi mynd erbyn Ebrill, ac, os nad oes neb wedi cymryd y lle drosodd, er gwaethaf bod yna dendr yn mynd i fod, bydd y lle yn gorfod cau cyn bod rhywun arall yn gallu dod i'w ailagor, o bosib ymhen dwy flynedd. Dydy hynny ddim digon da. Pan fydd y lle wedi cau, fydd yn anos i'w agor. Bydd y brand wedi colli ei werth.

Rŵan, y gwir hefyd amdani ydy pe bai Llywodraeth Cymru wedi cadw at eu gair—neu yn hytrach, Llafur Cymru—ac wedi mabwysiadu Deddf yn rhoi hawl cymunedol i brynu adnoddau, yna fuasai hyn ddim wedi digwydd. Mi fuasai mudiadau lleol wedi gallu cael y cais i brynu. Ond yn anffodus, ddaru i'r Blaid Lafur peidio cadw at eu haddewidion maniffesto, mewn dau faniffesto, ac mi ydym ni yn y sefyllfa yma lle nad ydy'r gymuned leol yn cael y flaenoriaeth.

Hefyd, dwi am gyfeirio at un peth arall ddaru i Rhys Llywelyn, cadeirydd Caru Coed y Brenin ei ddweud. Mae'n ymddangos bod yna rywbeth wedi mynd ar goll yn y cyfieithu, oherwydd yn y Saesneg rydym ni'n cyfeirio at Natural Resources Wales, ac, yn y Gymraeg, Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae 'resource', 'adnodd', yn sôn am rywbeth y gellir ei ecsbloetio, nad oes gymaint o werth iddo fo; mae'n bosib ei newid a'i addasu a'i werthu o. Mae 'cyfoeth' yn y Gymraeg yn golygu rhywbeth llawer iawn gwahanol, rhywbeth sydd yn berchen i ni. Ein cyfoeth naturiol ni ydy o. Pobl Coed y Brenin, pobl yr ardal yna, sydd wedi gwneud Coed y Brenin beth ydy o, ac mi ddylai Coed y Brenin aros yn rhan o berchnogaeth leol.

Felly, fy mhle terfynnol i ydy: mae angen £1.2 miliwn ar Gyfoeth Naturiol Cymru am y cyfnod yma. A wnaiff y Llywodraeth, a wnaiff y Dirprwy Brif Weinidog, ystyried rhoi'r £1.2 miliwn i Cyfoeth Naturiol Cymru, naill ai fel benthyciad, neu fel rhodd, neu ryw ffordd arall, er mwyn eu clymu nhw drosodd am y cyfnod yma, er mwyn cadw'r canolfannau yna ar agor fel nad yw'r staff yn mynd, fel bod y ganolfan yn gallu gweithredu ac yna fod yna gyfle i gwmniau a busnesau cymunedol ddod ynghyd a chymryd perchnogaeth dros y flwyddyn nesaf? A hefyd a wnaiff y Dirprwy Brif Weinidog gyfarfod efo fi—

17:25

—a chynrychiolwyr lleol er mwyn trafod yr opsiwn yna, os gwelwch yn dda? Diolch am eich amynedd. 

Roeddwn i eisiau codi ychydig o bethau yn fyr, oherwydd, yn amlwg, rydym yn dibynnu ar CNC i wneud pethau na all neb ond nhw eu gwneud. Y gwaith cadwraeth, arolygu a gorfodi yn sgil digwyddiadau llygredd, rheoli llifogydd, cynyddu nifer y coed a blennir, a'r goeden iawn yn y lle iawn—mae'r holl bethau hyn yn gwbl hanfodol. Ond nid oes gwir angen iddynt fod yn weithredwyr canolfannau ymwelwyr, ac mae'n ymddangos i mi ei bod yn gwbl synhwyrol eu bod yn meddwl, 'Beth nad oes angen i ni ei wneud er mwyn canolbwyntio ar y pethau y mae'n rhaid i ni eu gwneud?'

Felly, gallaf weld y gallent fod eisiau ymwneud ag adeiladu capasiti arbenigedd unrhyw weithredwr newydd i sicrhau eu bod yn gwybod am y fflora a'r ffawna yn yr ardal, ond yn ystod ymweliad pwyllgor yr economi â chanolbarth Cymru a thrafodaethau gyda busnesau twristiaeth yr wythnos diwethaf, fe wnaethant adrodd nad oeddent yn credu mai CNC oedd y rhai gorau i redeg canolfannau ymwelwyr yn seiliedig ar eu harchwiliad o gyfrifon CNC. Maent yn weithredwyr masnachol, felly mae'n debyg eu bod yn gwybod ynglŷn â hynny. Ond roeddent yn meddwl y byddai'n berffaith bosibl i sefydliad arall redeg y tair canolfan yn broffidiol. Dyna rydym ei eisiau, onid e, fel bod hwn yn parhau i fod yn gynnig twristiaeth sydd ar gael i ymwelwyr.

Roeddent yn dweud bod sefydliadau lleol eraill wedi mynegi diddordeb mewn ymgymryd â'r canolfannau hyn, ond bod CNC yn gwrthod siarad â hwy. A soniodd Carolyn Thomas am hyn yn ei chyfraniad ar y dechrau. Felly, yn amlwg—

Diolch. Rwy'n poeni braidd am eich agwedd negyddol tuag at gadw'r canolfannau hyn ar agor. Oni fyddech chi'n cytuno bod 13,000 o lofnodion yn nifer dda ac y dylem wrando ar y deisebwyr hefyd?

Janet, nid oeddwn yn dadlau am hynny o gwbl. Rwy'n dadlau y dylem gadw'r canolfannau ymwelwyr ar agor. 

Felly, mae'n peri penbleth mawr i mi pam y mae'r gweithredwyr twristiaeth hyn yn dweud bod CNC yn gwrthod siarad â hwy. Yn amlwg, mae'n rhaid i CNC gadw buddiannau ei staff ei hun mewn cof, mae'n rhaid eu diogelu, a byddai angen i unrhyw weithredwr newydd wybod faint o bobl a fyddai'n cael eu trosglwyddo o dan Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981. Ond rydym eisiau sicrhau eu bod yn cael eu trosfeddiannu fel busnes gweithredol, yn hytrach na'u cau a'u hailagor wedyn. Felly, fy nghwestiwn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yw: a yw'n wir fod CNC yn gwrthod siarad â phobl sydd â diddordeb mewn ymgymryd â'r busnesau hyn? Os felly, pam, gan ei bod yn amlwg yn fwy buddiol i dwristiaeth i'w cadw ar agor a chael rhywun arall i'w rhedeg? Nid yw'r twristiaid yn poeni pwy sy'n eu rhedeg, maent am iddynt fod yno, dyna i gyd. 

Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies. 

Member
Huw Irranca-Davies 17:28:28
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i'r Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw. Dwi'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Deisebau a'r Cadeirydd, yn wir, am ddod â hyn i drafodaeth. Hoffwn ddechrau drwy ystyried y ffaith bod dros 13,000 o bobl wedi llofnodi'r ddeiseb hon. Mae 13,000 o bobl yn nifer sylweddol. Mae'n dangos pa mor angerddol mae nifer o'r cyhoedd yn teimlo am ein tri thrysor cenedlaethol ym Mwlch Nant yr Arian, Coed y Brenin ac Ynyslas—yn teimlo'n angerddol am ymweld â, a mwynhau, pob un o'r rhain, mwynhau'r awyr agored, natur, antur a phopeth a ddaw yn ei sgil, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Fe fydd pawb ohonom yn ymwybodol o ddadl yr wythnos diwethaf ynghylch craffu blynyddol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith ar Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn y ddadl honno, soniais am yr angen am 'Achos dros Newid' Cyfoeth Naturiol Cymru i gefnogi ailwampio'r sefydliad hwn, i fynd i'r afael â bwlch cyllido o £13 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ac yn wir, i ganolbwyntio ar hanfodion allweddol, craidd yr hyn y mae gofyn iddynt ei wneud. Nawr, mae'r gweithgaredd hwn yn dal i fynd rhagddo, gyda'r ymgynghoriad ffurfiol â'r undebau llafur wedi dod i ben yn ddiweddar. Bydd bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried y cyfraniadau a'r sylwadau gwerthfawr hyn i ddod i benderfyniad ynghylch yr 'Achos dros Newid' yn ei gyfarfod bwrdd yn yr hydref.

Yn gysylltiedig â hyn, yn ystod y ddadl yr wythnos diwethaf fe wneuthum gyffwrdd â dyfodol tair canolfan ymwelwyr Cyfoeth Naturiol Cymru ym Mwlch Nant yr Arian, Coed y Brenin ac Ynyslas, ac ymatebion unigolion a chymunedau lleol, y crybwyllwyd llawer ohonynt yn y cyfraniadau da iawn yma heddiw. Un peth i fod yn glir yn ei gylch yw mater cau canolfannau ymwelwyr Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd wedi cael ei gam-adrodd yn gyson. Eglurais y sefyllfa yn ystod gwaith craffu blynyddol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith ar Cyfoeth Naturiol Cymru yr wythnos diwethaf, ac rwy'n croesawu'r cyfle eto heddiw.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud yn glir ac wedi fy sicrhau'n uniongyrchol nad eu bwriad yw cau eu canolfannau ymwelwyr. Maent wedi dweud yn glir drwy gydol yr 'Achos dros Newid' eu bod yn chwilio am bartneriaid sydd mewn sefyllfa well i ddarparu'r gwasanaethau manwerthu ac arlwyo yn y canolfannau hyn. [Torri ar draws.] Fe ildiaf mewn munud. Bydd y safleoedd yn parhau ar agor ar gyfer cerdded, beicio, mannau chwarae, parcio ceir, darpariaeth toiledau a bydd gweithgareddau eraill, fel y soniwyd heddiw, megis bwydo'r barcutiaid ym Mwlch Nant yr Arian, hefyd yn parhau, ac rwy'n credu bod hyn yn hanfodol bwysig i'w ddeall. Rwy'n un o'r bobl sydd wedi ymweld â phob un o'r rhain yn rheolaidd a byddaf yn parhau i wneud hynny. Rwyf am eu gweld ar agor fy hun hefyd, fel ymwelydd â'r mannau hyn. Ond rwyf am egluro nad oes unrhyw fwriad—ac mae CNC wedi dweud yn glir nad oes unrhyw fwriad—i'w cau; maent am ddod o hyd i bartneriaid nawr i gynnal y rhain wrth symud ymlaen, ond mae amrywiaeth o bethau y byddant yn parhau i'w gwneud yn y safleoedd hyn.

17:30

Diolch am roi ffordd. Ydych chi'n derbyn serch hynny, er gwaethaf eu bod nhw'n dweud nad ydy'r llefydd yma'n mynd i gau, y canolfannau ymwelwyr, y gwir ydy, mewn cyfarfod efo fi, maen nhw wedi dweud mai rhyw fath o external catering fyddan nhw'n ei gael—rhyw garafán, o bosib, nid defnyddio'r adnoddau sydd yno, sydd i bob pwrpas yn golygu cau—a gan fod y tendr ddim yn mynd i fod ar agor tan fis Mai, ac o bosib na fyddan nhw'n apwyntio am ddwy flynedd, pen draw go iawn hynny, yn weithredol, ydy y bydd y ganolfan ymwelwyr yn cau, oherwydd fydd yna ddim gweithredu yno? Bydd o wedi 'mothball-io' hwyrach, yn un term, ond cau mewn gweithred.

Rwyf innau wedi clywed y pryder hwnnw'n cael ei fynegi hefyd, ac rwy'n credu y bydd CNC yn clywed hynny'n glir yn ogystal. Maent yn awyddus iawn i archwilio gyda'r holl bartneriaid y gwaith o barhau i redeg y canolfannau a'r cyfleusterau hyn yn gynaliadwy, ac rwy'n credu y byddant wedi clywed yr alwad i wneud yn siŵr nad oes unrhyw fwlch, unrhyw fwlch hir yn y canol, ond mae angen iddo fod yn gynaliadwy—gadewch imi ddod at hynny mewn eiliad—oherwydd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried llu o wahanol opsiynau posibl i ddarparu'r gwasanaethau hyn, gan gynnwys yr hyn a allai fod yn bartneriaethau a chyfleoedd i fusnesau lleol, neu waith mewn partneriaeth, yn wir, gyda grwpiau cymunedol lleol neu grwpiau cymdeithasol, neu fentrau cymdeithasol, a'r disgwyl yw y bydd yr ymgysylltiad hwn yn parhau i fynd rhagddo'n gyflym pan fydd y cyfeiriad ar gyfer y dyfodol wedi'i benderfynu.

Nawr, cofiwch mai newydd gau y mae'r 'Achos dros Newid' a'r ymgynghoriad gydag undebau llafur, nid yw'r bwrdd wedi cyfarfod eto ac rwy'n credu bod teimlad o fewn CNC fod angen iddynt ddod â'r rhan honno i ben cyn mynd ati i ymgysylltu'n frwd. Ac rwy'n credu y byddant wedi clywed y ddadl heddiw, awydd yr holl Aelodau ar draws y Siambr i ddweud, 'Wel, ie, ewch ymlaen â hynny cyn gynted ag y gallwch, os gwelwch yn dda.'

Mae'n galonogol, rhaid imi ddweud—. Fy ymddiheuriadau, Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi mynd ychydig dros fy amser; fe fyddaf yn gyflym iawn. [Torri ar draws.] Diolch i chi, a chyda'r ymyriad; diolch. Mae'n galonogol iawn gweld y datganiadau o ddiddordeb yn cael eu cyflwyno gan wahanol bartneriaid ar hyn o bryd, ond mae dod o hyd i'r partneriaid cywir i ddarparu'r gwasanaethau yn gymhleth. Mae angen dilyn y drefn briodol, yn hytrach na dim ond dosrannu cyfleoedd, er mwyn sicrhau y gellir darparu gwasanaethau cynaliadwy ymhell i'r dyfodol yn y canolfannau hyn. Nid ydym eisiau llamu ymlaen yn fympwyol; mae angen i hyn fod yn gynaliadwy. Ac rydym yn parhau, gyda llaw, i fod yn ymrwymedig i alluogi mwy o bobl i fwynhau ein cefn gwlad, manteisio ar y llu o fanteision iechyd a llesiant y gall mynd allan i'r awyr agored eu cynnig. Rydym yn gwybod am fanteision hamdden awyr agored a'r manteision iechyd. Mae'r tri thrysor cenedlaethol hyn yn galluogi pobl leol ac ymwelwyr i fwynhau'r holl gyfleoedd hyn.

Gallaf ddeall pam y codwyd pryderon gan fod pobl yn teimlo'n angerddol am y ffordd y mae'r cyfleusterau hyn yn ei gwneud yn haws inni fwynhau ein hawyr agored a'n hamgylchedd naturiol gwych mewn ffordd dawel neu ffordd fwy egnïol hefyd. Rydyn ni’n rhannu’r angerdd hwnnw, ond dwi’n gobeithio fy mod hefyd wedi gallu mynd i’r afael â rhai o’r pryderon sydd wedi codi drwy gam adrodd am y posibilrwydd o gau’r canolfannau ymwelwyr.

Unwaith eto, hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno’r ddeiseb hon i’w thrafod, a diolch hefyd i’r aelodau hynny o’r cyhoedd ac Aelodau’r Senedd sydd wedi siarad heddiw am bwysigrwydd sicrhau bod y cyfleusterau hyn yn parhau i gyflawni eu rôl bwysig.

17:35

Diolch. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau. Cwestiynodd Janet flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru a chraffter busnes CNC, gan annog atebion amgen. Dywedodd Cefin yn gywir ddigon fod nifer y llofnodion yn amlygu poblogrwydd y canolfannau ac fe nododd eu cefnogaeth i dwristiaeth a'r economi. Mae'r tri safle'n werth £37 miliwn i'r economi leol, ac mae rhwystredigaeth ynghylch diffyg ymgynghori a biwrocratiaeth anhyblyg. Gallai eu cau am unrhyw amser o gwbl fod yn ddinistriol.

Dywedodd Mabon mai Coed y Brenin yw man geni beicio mynydd i lawr rhiw—am wych yw hynny. Dywedodd hefyd sut y maent i gyd yn atyniadau pwysig ac mae'n bwysig fod cyfleusterau'n cael eu cadw. Mae eu hangen ar gyfer ymwelwyr. Mae'n ymddangos bod negeseuon cymysg ynghylch pryd y byddant yn cau. Nid ydym eisiau i'r brand gau o gwbl. Mae angen cysondeb, a'u cadw ar agor.

Siaradodd Jenny am y diffiniad a rôl graidd CNC wrth symud ymlaen a soniodd am ymweliad gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn ddiweddar â chanolbarth Cymru, lle nodwyd y gellid eu gweithredu mewn ffordd well efallai, gyda gweithredwr newydd yn gweithio mewn partneriaeth, ond mae angen eu trosfeddiannu fel busnes gweithredol, ac nid eu cau yn gyntaf.

Hoffwn ddiolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb. Rwy'n deall bod angen i CNC ailwampio a chanolbwyntio ar ei hanfodion craidd o dan ei 'Achos dros Newid'. Rwy'n croesawu'r eglurhad, er gwaethaf pryderon, na fydd y canolfannau ymwelwyr yn cau a'u bod yn chwilio am bartneriaid sydd mewn sefyllfa well i gyflawni gwasanaethau manwerthu ac arlwyo. Diolch i chi am hynny a'ch goruchwyliaeth drosto.

Diolch i'r Pwyllgor Busnes am roi amser i'r ddadl bwysig hon, a diolch i Gareth Jones a'r holl ymgyrchwyr eraill am eu hymdrechion i godi ymwybyddiaeth o'r mater hwn. Mae cymaint o bobl wedi bod yn rhan o hyn am eu bod yn bryderus. Mae'r canolfannau hyn yn asedau cenedlaethol hanfodol ac mae'n ddealladwy fod pryderon ynghylch lefelau uchel parhaus o ddiogelwch amgylcheddol, gwaith cadwraeth a phryderon diogelwch i ymwelwyr â'r gwarchodfeydd hyn. Bydd yr Aelodau'n ceisio sicrwydd fod popeth posibl yn cael ei wneud gan CNC i ymgysylltu â phawb dan sylw, gan gynnwys ymgyrchwyr a grwpiau cymunedol, ac i ddod o hyd i atebion lleol cynaliadwy ym mhob un o'r canolfannau ymwelwyr. Byddwn yn cadw llygad barcud ar y datblygiadau hyn. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi’r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl Plaid Cymru: Ariannu addysg

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.

Eitem 8 heddiw yw dadl Plaid Cymru ar ariannu addysg. A galwaf ar Cefin Campbell i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8686 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r adroddiad ‘Syrthio’n brin: Yr argyfwng cyllido ysgolion yng Nghymru sy’n dwysáu' gan yr NAHT sy'n nodi bod y dirwedd addysgol yng Nghymru ar hyn o bryd yn wynebu argyfwng cyllido dirdynnol.

2. Yn gresynu o ganlyniad i gamreolaeth a thanariannu Llywodraeth Cymru:

a) fe welodd Cymru ei chanlyniadau PISA gwaethaf erioed yn 2022;

b) ei bod wedi methu ei tharged ar gyfer recriwtio athrawon ysgol uwchradd am yr wyth mlynedd diwethaf;

c) fod canllawiau ar ddysgu sgiliau darllen sydd wedi dyddio a’u tanseilio wedi cael effaith negyddol ar sgiliau llythrennedd; a

d) cyrhaeddodd nifer y swyddi gwag o ganlyniad i diffyg sgiliau yng Nghymru cyrraedd uchafbwynt o 20,630 yn 2022.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) anrhydeddu ar unwaith yr ymrwymiad a wnaed gan Lafur yng Nghymru yn eu maniffesto Etholiad Cyffredinol 2024 ar gyfer cyllid ychwanegol ar gyfer addysg;

b) gwrthdroi'r toriad o 6 y cant mewn gwariant fesul disgybl o fewn y gyllideb addysg, fel y nodwyd gan yr NAHT, fel cam cyntaf i gefnogi athrawon a disgyblion a chodi lefelau cyrhaeddiad; ac

c) diffinio faint mwy o athrawon fydd yn cael eu hariannu gan addewid Llafur yng Nghymru, a phryd y byddant yn dechrau addysgu mewn ystafelloedd dosbarth.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi’n dechrau gyda dyfyniad, ac mae e’n mynd fel hyn:

'Mae’r dirwedd addysgol yng Nghymru ar hyn o bryd yn wynebu argyfwng cyllido dirdynnol, gan daflu cysgodion dros ansawdd a hygyrchedd addysg i’w phobl ifanc.

'Y gwir brawychus yw bod traean o ysgolion Cymru yn ceisio ymdopi â diffyg yn eu cyllideb ar hyn o bryd',

a bod

'mwy na hanner yr holl ysgolion yn rhagweld y byddant yn wynebu diffyg ariannol tebyg.'

Nid fy ngeiriau i yw’r rhain, er fy mod i’n cytuno â nhw, ond geiriau llywydd NAHT Cymru.

Gadewch i fi ddweud ar y cychwyn fel hyn fod Plaid Cymru yn sefyll yn gadarn gydag athrawon, disgyblion a rhieni wrth fynnu gwell gan y Llywodraeth hon pan fydd hi’n dod i fuddsoddi yn ein hysgolion a gwella safonau addysg. Dyna yw hanfod ein cynnig ni yma heddiw.

Yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol, un o brif addewidion Llafur yng Nghymru oedd mwy o athrawon er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r problemau dwi wedi bod yn sôn amdanyn nhw yn y Siambr hon ers nifer o wythnosau, a'r llu o broblemau eraill sy'n wynebu ein system addysg ar hyn o bryd. Yn blwmp ac yn blaen, yn ystod yr ymgyrch etholiadol, rhoddwyd addewid o fwy o arian a mwy o athrawon i Gymru.

Nawr, fel rŷn ni wedi clywed gan athrawon a'u hundebau ers tro bellach, mae'r sefyllfa ariannol yn drychinebus nawr. Mae'r sector yn wynebu creisis o ran recriwtio athrawon nawr, ac mae'r bwlch sgiliau ar ei lefel uchaf erioed nawr. A dyna pam rŷn ni'n galw ar y Llywodraeth i ddweud faint mwy o athrawon fydd yn cael eu hariannu gan yr addewid y gwnaethon nhw a phryd byddant yn dechrau mynd o flaen dosbarthiadau yn ein hysgolion ni.

Hefyd, ble mae'r arian i wrthdroi'r toriad o 6 y cant mewn gwariant fesul disgybl o fewn y gyllideb addysg, fel y nodwyd eto yn yr adroddiad gan yr NAHT? Byddai gwireddu'r cynlluniau hyn o leiaf yn gam i'r cyfeiriad iawn er mwyn cefnogi athrawon a disgyblion, a gwella lefelau cyrhaeddiad yn ein hysgolion.

Ymhellach, nododd y Prif Weinidog ar y pryd, Vaughan Gething, y byddai'r arian yma nid dim ond yn cael ei ddefnyddio ar gyfer mwy o athrawon, ond at lu o bethau eraill hefyd, fel cefnogi anghenion dysgu ychwanegol, diwygio'r cwricwlwm a gwella lefelau absenoldeb a chyrhaeddiad. Felly, yn absenoldeb unrhyw blatfform polisi arall, byddai'n dda cael gwybod gan y Llywodraeth a'r Prif Weinidog newydd a'r Ysgrifennydd Cabinet a yw hyn yn dal i fod yn fwriad. Byddai'n dda cael cadarnhad o hynny'r prynhawn yma.

Mae'n cynnig ni hefyd yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi methu ei tharged ar gyfer recriwtio athrawon ysgol uwchradd am yr wyth mlynedd ddiwethaf. Ers 2016, wyth mlynedd yn ôl, mae dros 5,500 o athrawon wedi gadael y proffesiwn, sydd gyfystyr—a gwrandewch ar hyn—â 100,000 o flynyddoedd o brofiad wedi'u colli o roi'r holl athrawon gyda'i gilydd. Can mil o flynyddoedd o brofiad wedi'u colli. Dwi'n gobeithio, Weinidog, fod yr ystadegau hyn yn eich sobreiddio a'ch bod yn derbyn erbyn hyn nad yw'r sefyllfa hon yn gynaliadwy. Felly, hoffwn i glywed mwy am beth yw'ch cynlluniau chi i fynd i'r afael â'r broblem ddifrifol hon.

Yn ogystal, fel rŷn ni wedi clywed droeon yn y Siambr erbyn hyn, roedd y canlyniadau profion addysg PISA, a gyhoeddwyd y llynedd, y rhai gwaethaf erioed i Gymru. A hynny o ganlyniad i gamreolaeth y system addysg a thanariannu gan Lafur yng Nghymru. Safonau mathemateg, lawr. Safonau gwyddoniaeth, lawr. Safonau darllen, lawr. Ond nid oes rhaid bod y sefyllfa cyn waethed â hyn.

Edrychwch draw dros y môr at yr Iwerddon, lle rŷn ni'n gweld esiampl o lwyddiant, gyda'u disgyblion nhw ymysg y gorau yn y byd o ran lefelau darllen. Ac yng Ngogledd Iwerddon, mae'r cynllun darllen, cyfrif a llwyddo, sydd yn llawn targedau a cherrig milltir mesuradwy, wedi arwain at gynnydd yn eu safonau addysg nhw. Felly, does dim angen ailddyfeisio'r olwyn, yr hyn sydd angen yw edrych unwaith eto ar y pethau sylfaenol—get back to basics—ac ystyried beth sy'n gweithio fan hyn yng Nghymru ac mewn gwledydd eraill er mwyn galluogi ein plant i lwyddo. Does dim cyfrinach yn hynny o beth.

Gadewch inni droi at lythrennedd nawr. A yw'n syndod ein bod ni wedi gweld lefelau cyrhaeddiad mor isel yma yng Nghymru? Wel, mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhoi negeseuon cymysg ar y canllawiau addysgu ar gyfer sgiliau darllen. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae'r saga sy'n datblygu ynghylch addysgu sgiliau darllen yn crynhoi'n berffaith, mewn un pwnc, y camreoli ehangach ym maes addysg gan Lafur yng Nghymru. Fel y nododd adroddiad ITV Cymru ar y mater,

'Mae cannoedd o astudiaethau wedi dangos bod angen cyfarwyddyd penodol ar blant ifanc o ran sut y mae'r llythrennau a welant ar y dudalen yn cysylltu â'r synau a wnânt. Gelwir hyn yn ffoneg... canfuwyd mai ffoneg yw un o'r dulliau mwyaf effeithiol o ddysgu darllen.'

Fodd bynnag, yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i hyrwyddo ciwio, dull nad yw, yn ôl yr Athro Rhona Stainthorp,

'yn seiliedig ar unrhyw dystiolaeth empirig o sut y mae plant yn dysgu darllen.' 

Wrth gwrs, nid oedd raid iddi fod fel hyn; yn wir, cwestiynodd fy nghyd-Aelod Plaid Cymru Siân Gwenllian ddull y Llywodraeth o addysgu sgiliau darllen yn y Siambr hon yn ôl yn 2021. Er i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ddilyn y dystiolaeth bryd hynny, mae'n ymddangos ei bod wedi parhau i hyrwyddo canllawiau addysgu hen ffasiwn a wrthbrofwyd, a chryfhaodd ei hymrwymiad i'r dull hwn mor ddiweddar â llynedd, gan effeithio'n negyddol ar lefelau llythrennedd o ganlyniad.

Mewn ymateb i'r datgeliadau, beth a gawsom gan Weinidogion Llywodraeth Cymru? Atebolrwydd a chyfaddefiad eu bod yn anghywir? Na. Ymateb cyflym a chyson i'r methiant polisi hwn? Na. Eglurhad clir ar unwaith o'r canllawiau fel y gallai athrawon fod â hyder i fwrw ati i wneud yr hyn a wnânt hwy orau a rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant yng Nghymru? Na. Yn hytrach, yr hyn a gawsom oedd Gweinidog yn gwrthod ateb cwestiynau mewn cyfweliad pan dorrodd y stori, a llefarydd yn dweud nad yw'r Llywodraeth

'yn hyrwyddo unrhyw un dull penodol o addysgu darllen',

a'r Prif Weinidog yn dweud wedyn y byddai datganiad ar wella pethau yn ystod y misoedd nesaf, a'r diwrnod wedyn, Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud

'ffoneg synthetig yw'r hyn rydym yn ei ddisgwyl fel y blociau adeiladu',

er na wnaeth neb yn Llywodraeth Cymru ddweud hyn yn benodol o'r blaen, ac yna eglurhad arall y diwrnod wedyn gan lefarydd yn derbyn

'bod yna lefydd yn ein canllawiau lle mae angen i bwysigrwydd ffoneg fod yn fwy eglur',

a hyn oll cyn inni gael datganiad ysgrifenedig rhy fyr a rhy hwyr yn y diwedd gan Ysgrifennydd y Cabinet yn amlinellu sut y mae'n bwriadu unioni hyn. Felly, a yw'n syndod fod athrawon, rhieni a disgyblion wedi'u drysu gan hyn i gyd, os nad oes gan y Llywodraeth syniad beth y mae'n ei wneud neu'n ei ddweud o un diwrnod i'r llall?

Mae'r methiant hwn i wella lefelau llythrennedd yn feirniadaeth ddamniol o ddiffyg uchelgais Llafur yng Nghymru ar ran pobl ifanc, sy'n llusgo ar ôl eu cyfoedion yng ngwledydd eraill y DU. Nid yw'n ddigon da nad yw plant yn cael dysgu'r hanfodion yn ein hysgolion oherwydd methiannau Llafur. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd hyn yn newid yng ngoleuni datganiad ysgrifenedig hwyr Ysgrifennydd y Cabinet yn ddiweddar.

Drwy gydol y ddadl hon, byddwn yn clywed gan fy nghyd-Aelodau am sut mae'r argyfwng ariannol yn cael effaith ar ein hysgolion a sut mae tlodi yn cael effaith ar lefelau cyrhaeddiad plant, yn ogystal â sut mae methiannau'r Llywodraeth o ran addysg yn cael effeithiau mwy hirdymor ar ein heconomi yn gyffredinol. Felly, er lles plant a phobl ifanc Cymru, rwy'n cyflwyno'r cynnig hwn yn enw Heledd Fychan.

17:45

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi’r adroddiad ‘Syrthio’n brin: Yr argyfwng cyllido ysgolion yng Nghymru sy’n dwysáu’ gan yr NAHT, ac yn cydnabod y pwysau ar gyllidebau ysgolion ac awdurdodau lleol.

2. Yn diolch i athrawon a staff ysgol ymroddedig Cymru am eu gwaith caled, ac yn croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i bumed adroddiad Corff Adolygu Annibynnol Cyflog Cymru, sy'n cynnwys codiad cyflog o 5.5 y cant i athrawon.

3. Yn cydnabod, er gwaethaf effaith enbyd 14 mlynedd o lywodraeth Geidwadol ar gyllid cyhoeddus Cymru, bod Llywodraeth Cymru wedi:

a) cyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru a system newydd o gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, y mae’r ddau ohonynt yn rhoi'r dysgwr wrth wraidd y system addysg;

b) gweithredu dull ysgol gyfan i gefnogi plant a phobl ifanc gyda'u hiechyd meddwl a'u lles; ac

c) diogelu’r cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus craidd yn 2024-25 drwy godiad o 3.3 y cant i gyllidebau awdurdodau lleol a chynnal y cyllid grant uniongyrchol i ysgolion gan gynnwys y Grant Datblygu Disgyblion sy'n cefnogi dysgwyr o aelwydydd incwm isel.

4. Yn cefnogi hybu safonau mewn ysgolion a cholegau fel blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys ffocws ar wella cysondeb yn genedlaethol a darparu mwy o gymorth ar gyfer llythrennedd a rhifedd.

5. Yn cefnogi targedu recriwtio athrawon mewn meysydd pwnc prin fel mathemateg, gwyddorau ac ieithoedd tramor modern, ac addysg cyfrwng Cymraeg.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Mae pwnc y ddadl heddiw yn atgyfnerthu pwysigrwydd addysg i ddyfodol ein gwlad, ond bydd hefyd yn tynnu sylw at realiti creulon y 14 mlynedd diwethaf o gyni. Er gwaethaf hyn, yng Nghymru mae gennym hanes i fod yn falch ohono o fuddsoddi mewn cyfalaf—y cyfleusterau ar gyfer ein hathrawon a'n dysgwyr. Mae mwy na £3 biliwn wedi'i fuddsoddi ers 2014 mewn cenhedlaeth newydd o adeiladau ar gyfer ein hysgolion a'n colegau; buddsoddwyd dros £350 miliwn ohono yn nyfodol Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae'r cyfleusterau hyn yn rhan o greu amgylchedd ar gyfer addysgu a dysgu, ond maent hefyd yn cynrychioli buddsoddiad mewn cymunedau, a gwn o fy etholaeth fy hun fod hyn yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y ffordd y mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u gweld.

Rydym wedi bod yn llawer gwell yn ystod y degawd diwethaf hefyd am sicrhau bod cyfleusterau cymunedol yn cael eu creu yn yr adeiladau newydd hyn, a'n bod yn cael mwy o werth o sgiliau, prentisiaethau a gwariant yn ein heconomïau lleol. Eleni, rydym wedi darparu cynnig cyflog o 5.5 y cant i athrawon—ymhell uwchlaw'r gyfradd chwyddiant bresennol. Rwy'n falch iawn o weld yr wythnos hon fod yr Undeb Addysg Cenedlaethol wedi pleidleisio o blaid derbyn y cynnig hwnnw. Ac mae peidio â chael codiadau cyflog y sector cyhoeddus wedi'u consurio o arian heb arian canlyniadol wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rydym wedi gweld patrwm poenus a chywilyddus gan Lywodraeth Dorïaidd flaenorol y DU o osgoi symiau canlyniadol, neu wneud cynigion cyflog heb eu hariannu i'r sector cyhoeddus. Nid yw'r cynnig cyflog cyfredol ond yn un enghraifft amlwg o fantais cael dwy Lywodraeth Lafur yn cydweithio.

Rwy'n edrych ymlaen at weld maniffesto Llafur y DU yn cael ei gyflawni, maniffesto a helpodd i gael 27 o 32 o ASau Cymru, gydag ymrwymiad clir i ddod â thoriadau treth ysgolion preifat i ben a buddsoddi'r arian hwnnw yn addysg y wladwriaeth yn lle hynny, gyda dewisiadau ynglŷn â sut y dylai'r Llywodraeth hon ddefnyddio'r arian hwnnw yma yng Nghymru, gyda chyllideb y mae'n rhaid i'r Senedd hon ddewis ei phasio ai peidio.

Rwy'n falch o'r ffaith bod y cytundeb cydweithio wedi darparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd. Rwy'n fwy balch byth o fod wedi pleidleisio o blaid y cyllidebau a gyflawnodd hynny. Mae'n ddewis a wnaethom ynglŷn â sut i ddefnyddio adnoddau i wneud gwahaniaeth ym maes addysg. Ac rwy'n credu y bydd yn gwneud gwahaniaeth i bob disgybl, ond nid yw'n ychwanegu'n benodol at y cyllidebau ar gyfer addysgu a dysgu. A dyna beth yr hoffwn ddod yn ôl ato yn ail hanner y cyfraniad yma: y cyllidebau sydd gennym i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus ac i dyfu'r economi yma yng Nghymru.

Yn gynharach heddiw, cawsom ddadl ar deithio gan ddysgwyr, ac yn wir, y ddadl flaenorol ar ganolfannau ymwelwyr, gyda galwadau eang ar draws y Siambr am ganfod mwy o arian i wella neu gynnal yr hyn sydd gennym. Ac mae'n ddadl resymol lle gallai buddsoddi yn y gwasanaeth neu'r ddarpariaeth honno wneud gwahaniaeth go iawn. Gallem nodi llawer o feysydd eraill hefyd, boed yn dai, prentisiaethau neu ddiwygio bysiau. Mewn ysgolion yn fy etholaeth fy hun, rwy'n siarad â phenaethiaid ac yn gwrando arnynt am yr heriau gwirioneddol y maent yn eu hwynebu wrth gyflwyno diwygio ADY, y cwricwlwm newydd a chanolbwyntio ar wella llythrennedd a rhifedd mewn amgylchedd sy'n cefnogi llesiant disgyblion. O fewn hynny, mae ffocws ar ffoneg gan y Llywodraeth hon o ran sut i addysgu a dysgu, ond mae'r pwysau y tu allan i'n hysgolion yn real ac yn sylweddol, ac yn effeithio ar ddysgu a chyrhaeddiad ein plant. Fodd bynnag, rwyf bob amser yn cael fy nghalonogi gan ymrwymiad nid yn unig y penaethiaid, ond yr athrawon a'r staff cymorth y byddaf yn eu cyfarfod i wneud eu gorau glas gyda ac i'r plant a'r teuluoedd yng nghymuned eu hysgol. Nid yw hon yn dasg hawdd pan fydd cyllidebau'n dynnach ac yn dynnach, er gwaethaf cynnydd o ran arian parod.

Mae realiti costau byw uwch yn real iawn yn ein gwasanaethau cyhoeddus hefyd—rhan arall eto o waddol y 14 mlynedd a wastraffwyd. Yr hyn nad oes gennym ni—ac nid yw'r cynnig yn gwneud unrhyw ymdrech i nodi—yw llwybr i sicrhau'r gyllideb gynyddol honno. Yn y flwyddyn hon, cyllidebwyd bron i £3.6 biliwn ar gyfer gwariant ar ysgolion—cynnydd o 7.4 y cant o'i gymharu â'r llynedd. Mae hynny'n glod nid yn unig i'r Llywodraeth hon, ond i awdurdodau lleol, eu bod yn parhau i flaenoriaethu gwariant ysgolion, er gwaethaf yr heriau real iawn wrth osod cyllidebau cytbwys tra bo rhai gwasanaethau'n cael eu lleihau. Pe baech yn cynyddu hynny 6 y cant yn nhermau arian parod eleni, byddai'n golygu bod £215 miliwn ychwanegol yn cael ei ganfod o fewn y flwyddyn hon. Ni allaf ddod o hyd i'r llinell sylfaen ar gyfer y gostyngiad termau real o 6 y cant y cyfeirir ato, ond nid wyf yn tanamcangyfrif yr alwad. Nid yw £215 miliwn i ysgolion wedi ymddangos mewn trafodaethau ar y gyllideb, ac nid yw ychwaith wedi'i nodi lle byddai toriadau amgen yn digwydd. Nid yw'n onest yn ddeallusol inni honni y gellid dod o hyd i'r adnoddau o wastraff neu ymosod ar gamreoli canfyddedig.

Rwyf am orffen yn y fan hon, Ddirprwy Lywydd: rwy'n hyderus y bydd yr ysgrifennydd addysg yn ymladd am fuddsoddiad parhaus yn nyfodol addysg, ADY, cyrhaeddiad a phresenoldeb, a'r dyhead a'r cyflawniad y dylai hynny ei greu ym mhob cymuned yma yng Nghymru. Diolch.

17:50

Mae elfen bwysig o'n cynnig heddiw ynglŷn â'r argyfwng cyllido, ydy, ac mae hyn yn cael ei amlinellu yn adroddiad 'Syrthio’n brin' yr NAHT. Mae'n rhaid inni gydnabod y straen mae ysgolion yn mynd drwyddo, ac mae'n rhaid inni gael datrysiadau. Drwy ddileu ein cynnig ni, mae yna ddiffyg cydnabyddiaeth o'r straen aruthrol sydd ar athrawon. Mi fyddwn i'n hoffi tynnu sylw, o ran NEU Cymru, eu bod nhw'n glir ynghylch y diffyg cyllid, ond hefyd mi oedden nhw'n sôn ynglŷn â'r diffyg gweithredu ar nifer o bethau eraill, megis llwyth gwaith. Felly, dydy o ddim jest ynglŷn ag arian. Mae yna bethau y gallai'r Llywodraeth fod yn eu gwneud yn wahanol gyda'n hundebau ni, ac mi oedden nhw'n glir am hynny—nid dim ond yr arian. Mae'n rhaid i ni gael y gydnabyddiaeth yna. Mae'n siomedig gweld y cyn-Brif Weinidog dim ond yn canolbwyntio ar arian, a ddim yn cydnabod y gellid bod wedi gwneud pethau'n wahanol.

Dydyn ni ddim yn sôn am fethiant dros 14 mlynedd—rydyn ni'n sôn am fethiant dros 25 mlynedd. Mae'n rhaid i ni fod yn glir am hynny. Dylai'r holl ystadegau a ddyfynnwyd gan Cefin Campbell ein sobri ni, ein brawychu ni. Yr elfen arall, wrth gwrs, ydy'r holl blant sydd ddim yn yr ysgol ar hyn o bryd—bod absenoldebau'n cynyddu. Felly, mae'n rhaid i ni edrych ar sut ydyn ni'n mynd i fynd ar afael â'r argyfwng hwn, ac mae yn argyfwng. Dwi'n falch bod NAHT wedi rhoi hyn mor gynhwysfawr yn eu hadroddiad.

Os edrychwch ar brif grŵp gwariant addysg yng nghyllideb Cymru, cafodd ei dorri 3.7 y cant mewn termau real, a dylid ei osod yng nghyd-destun y toriad refeniw o £76.7 miliwn fel rhan o'r ymarfer ailgyllidebu canol blwyddyn fis Hydref diwethaf a'r duedd hirdymor o gynyddu cyllid addysg yng Nghymru 3 y cant yn unig yn y cyfnod 2009-10 i 2022-23, y gyfradd isaf o gynnydd o bell ffordd yn unrhyw un o wledydd y DU. Fel y nodwyd, mae ysgolion ledled ein gwlad yn ei chael hi'n anodd gyda diffygion sylweddol ac mae un o bob tri aelod o Gymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon bellach yn nodi diffyg blynyddol yng nghyllideb eu hysgolion, sy'n agos at dair gwaith yn fwy o'r aelodau na'r nifer yn 2021. Fel y nodwyd gan Gymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon,

'mae angen i ni wneud ein galwad yn glir am fwy o gyllid i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru’n gallu cael y dechrau mewn bywyd y maent yn ei haeddu.'

Gyda'r methiant hwn i fuddsoddi mae enillion cymdeithasol o lefelau cyrhaeddiad yn lleihau'n barhaus ac yn llithro ymhellach ar ôl gweddill y DU, gyda'r llusgiad canlyniadol ar berfformiad economaidd a photensial ein plant heb ei wireddu. Er bod hybu gwariant, yn enwedig fesul disgybl, yn ddi-os yn hanfodol er mwyn unioni'r darlun truenus hwn, fel yr amlygodd yr undebau, dim ond rhan o'r ateb yw hynny. Mae angen i'r Llywodraeth fod yn llawer craffach hefyd wrth fynd ati i gynllunio a dyrannu ei hadnoddau.

Roedd adroddiad diweddar gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ar addysg yng Nghymru yn arbennig o ddamniol yn hyn o beth. Er gwaethaf lefelau tebyg o wariant Llywodraeth ar addysg yn y ddwy wlad, canfu fod plant difreintiedig yn Lloegr wedi sgorio 30 pwynt yn uwch ar gyfartaledd na phlant difreintiedig yng Nghymru yn y canlyniadau PISA diweddaraf. Yn wir, gellid cymharu perfformiad cyfartalog plant difreintiedig yn Lloegr yn fras â pherfformiad plant yng Nghymru beth bynnag y bo'u cefndir economaidd-gymdeithasol. Mae angen inni ddeall yn well pam y mae hyn yn digwydd a chefnogi ein hysgolion fel y gallant gyflawni'r canlyniadau y maent eisiau eu cyflawni ar gyfer ein plant.

Dwi hefyd eisiau tynnu sylw at y pryderon a fynegwyd yn adroddiad yr NAHT o ran adnoddau ar gyfer darpariaeth i ddysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol, gydag 87 y cant yn dweud bod y cyllid a dderbynnir ar gyfer hyn yn annigonol. Mae'n drueni, felly, gweld yn ngwelliant y Llywodraeth ei bod yn dathlu'r diwygiadau o ran cyflwyno'r system newydd o gefnogi ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, ond ddim yn cydnabod yr heriau hyn. Mae wedi bod yn glir, hefyd, yn adroddiad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd.

Mi ysgogodd gwaith y pwyllgor imi gynnal arolwg o brofiad teuluoedd o'r system newydd ADY yn fy rhanbarth, ac mi oedd y profiadau a rannwyd gyda mi yn dorcalonnus. Y gwir amdani ydy bod y diffyg adnoddau sydd gan ysgolion o ran anghenion dysgu ychwanegol yn golygu bod rhai ysgolion yn methu cefnogi dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol, ac felly mae mwy a mwy o rieni yn gorfod dechrau addysgu o gartref. Nid dewis dysgu eu plant mae nifer o'r rhieni hyn, ond yn hytrach yn cael eu gorfodi i wneud gan nad ydy'r system yn gweithio. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â hyn?

Mater arall sydd yn codi'n gyson ydy'r diffyg darpariaeth o ran cyfrwng Cymraeg efo anghenion dysgu ychwanegol yn benodol. Mae gennym ni heriau aruthrol, ac mae'r undebau'n iawn i dynnu sylw at yr argyfwng. Mi ofynnaf i'r Senedd hon gefnogi ein cynnig, ac i'r Llywodraeth ddechrau cydnabod maint yr her a rhoi cynllun ar waith i gefnogi ein hathrawon a'n hysgolion. Dydy dweud bod popeth yn iawn ddim yn golygu ei fod o. Mae'n rhaid i ni gael datrysiadau, ac mae'n allweddol bwysig ein bod ni'n dechrau gweld y newidiadau hynny ar lawr gwlad, ond hefyd o ran canlyniadau rydyn ni'n eu gweld gan ein pobl ifanc ni.

18:00

A allaf i ddechrau drwy ddiolch i Blaid Cymru am ddod â'r ddadl yma i'r Senedd heddiw? Rwy'n credu ei bod yn ddadl bwysig iawn inni ei chael, ac mae'n bleser dweud y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw. 

Ar ôl darllen adroddiad Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon, 'Syrthio'n brin', rwy'n credu mai'r ymadrodd yw 'brawychus ond nid yw'n syndod', oherwydd rwy'n credu y bydd unrhyw un ohonom sydd wedi siarad ag arweinwyr ysgolion yn ein cymunedau, ein rhanbarthau a'n hetholaethau ledled Cymru wedi clywed y frawddeg gyfarwydd 'Nid wyf yn gwybod o ble y daw'r arian' pan fyddwch chi'n gofyn am flynyddoedd cyllidebol yn y dyfodol, a dyna rwy'n ei glywed dro ar ôl tro wrth siarad ag arweinwyr ysgolion ar draws Cymru. Mae'n ddarlun llwm.

Amlygodd yr adroddiad rai ystadegau brawychus: 75 y cant o'r ymatebwyr naill ai'n nodi diffyg eleni neu gyllideb gytbwys sydd ond wedi bod yn bosibl oherwydd yr arian a drosglwyddwyd o flynyddoedd blaenorol, a/neu doriadau sylweddol yn y gyllideb. Roedd tair gwaith y nifer o ymatebwyr eleni yn nodi diffyg nag a wnaeth yn 2021. Mae'r ystadegau'n dal i fynd a mynd, a'r hyn a welwn mewn termau real yw gostyngiad yn nifer y staff addysgu a gostyngiad yn nifer y pynciau y mae rhai ysgolion yn eu cynnig hefyd, gan leihau dewis, ac ansawdd yr addysg yn y pen draw. 

O ystyried y darlun ehangach a baentiwyd hyd yma gan siaradwyr blaenorol, lle rydym ni arni yng Nghymru gydag addysg? Y canlyniadau PISA gwaethaf yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, sy'n is na chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar gyfer darllen—y canlyniadau addysg gwaethaf yn unman yn y DU bob tro y cawsom ein hasesu yma yng Nghymru. Yn 2009, dywedodd y Gweinidog addysg ar y pryd fod canlyniadau PISA y flwyddyn honno yn canu larymau ar system hunanfodlon, ac eto 15 mlynedd yn ddiweddarach mae'r canlyniadau hyd yn oed yn waeth. Beth y mae hynny'n ei ddweud ynglŷn â ble rydym ni arni heddiw? 

Ond mae'r rheswm arall pam y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw yn ymwneud â mwy na chyllid yn unig, gan ei fod hefyd yn sôn am gamreolaeth gan y Llywodraeth Lafur hon. Cafodd hynny sylw amlwg yn ystod yr wythnosau diwethaf o ganlyniad i'r ffocws cynyddol ar ddarllen, a'r dryswch, fel y nododd Cefin Campbell, o un wythnos i'r llall—neu un diwrnod i'r llall weithiau—ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei gredu yw'r safbwynt. Ac os yw Llywodraeth Cymru ei hun yn ddryslyd ynghylch yr hyn y mae ei chanllawiau'n ei ddweud, ni allaf ond dychmygu beth y mae'n rhaid bod yr addysgwyr sy'n ceisio addysgu darllen mewn ysgolion yn ei wneud o'r canllawiau hynny. O ganlyniad, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno dadl yr wythnos nesaf am ein bod yn bwriadu parhau i dynnu sylw at y mater hwn, oherwydd nid ydym am orffwys hyd nes bod darllen yn cael ei addysgu yn y ffordd iawn yn ysgolion Cymru fel y gall ein plant gyflawni eu potensial llawn. 

Roeddwn yn falch hefyd o weld yr adroddiad yn sôn am y pwysau a ddaeth yn sgil diwygiadau ADY yng Nghymru. Nawr, yn amlwg, yr hyn a welsom yw bod y system newydd yn fiwrocrataidd ac yn ddrud, ac fe allech chi fod wedi disgrifio'r hen system yn y ffordd honno. Un o'r rhesymau pam y cyflwynwyd y system newydd oedd i osgoi hynny, a rywsut mae wedi cael ei wneud hyd yn oed yn waeth. Dywedodd 88 y cant o ysgolion yn yr adroddiad fod cyllid ADY wedi rhoi pwysau ariannol enfawr ar ysgolion ac mae 87 y cant o arweinwyr yn dweud nad yw'r cyllid y maent yn ei gael ar gyfer ADY yn ddigonol, ac nid yw hynny wedi newid llawer yn yr amser ers i ni fod o dan y system ADY newydd. Rwy'n croesawu'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet, yn dweud y byddai'n edrych eto ar rai o'r canllawiau ADY a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, ond mae'n amlwg fod cymaint mwy i'w wneud yma o ran gweithredu'r diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol, a hefyd o ran y cyllid i fynd gyda hynny, oherwydd weithiau rhoddir y baich ychwanegol hwn ar ysgolion a chyllidebau ysgolion. 

Yn olaf, hoffwn ddweud gair cyflym am recriwtio staff yn fwy cyffredinol, oherwydd credaf na fyddwn byth yn sicrhau ein bod yn cyrraedd ein potensial yn ein hysgolion oni bai bod gennym staff mewn ystafelloedd dosbarth sy'n gallu darparu addysg a dysgu o ansawdd uchel. A chlywsom y bore yma, er enghraifft, yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wrth graffu ar Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) am yr ymdrech i recriwtio a hyfforddi athrawon Cymraeg. Fe wyddom fod targed Llywodraeth Cymru o 30 y cant o bobl yn mynd ar drywydd dysgu i addysgu yn y Gymraeg yn bell o gael ei gyrraedd. Dim ond 18 y cant yw'r nifer mewn ysgolion uwchradd, ac mae hynny'n creu pwysau enfawr yn nes ymlaen o ran gallu ac argaeledd athrawon i ddod i mewn ac addysgu nid yn unig yn y Gymraeg, ond mewn ystod o bynciau eraill hefyd. O ystyried lle rydym arni mewn addysg, o ystyried ein bod ar waelod y tablau PISA yn y DU, rwy'n credu mai dyma'r union foment pan na ddylid bod yn hunanfodlon. Dyma'r union foment pan na ddylid nodi addysg fel yr unig fan lle bydd torri'n ôl, fel sydd wedi'i wneud yn y gyllideb atodol. A dyma'r union foment pan na ddylid pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn heddiw, ac fe fyddwn ni'n ei gefnogi.

18:05

O'i roi yn syml, mae'r system sgiliau bresennol yng Nghymru yn tangyflawni, mae'n gwneud cam â'n pobl ifanc, ac yn y pen draw mae'n niweidiol i'n heconomi a'n lles cymdeithasol. Beth yw'r canlyniad? Wel, bwlch sgiliau sylweddol ar draws yr economi. Nawr, yn 2024, canfu ymchwil gan y Brifysgol Agored fod bron i 50 y cant o fusnesau Cymreig yn wynebu prinder sgiliau, a nododd gwaith ymchwil tebyg gan Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru fod 80 y cant o fusnesau bach yn cael trafferth recriwtio yn 2022. Nawr, mynegodd llawer o'r busnesau hynny a gyfwelwyd ar gyfer yr ymchwil uchelgeisiau ar gyfer twf, ond gwelsant fod prinder sgiliau wedi eu gorfodi i gefnu ar gynlluniau i ehangu neu eu gohirio. Felly, gallwn weld sut y mae methiant i fynd i'r afael â'r system addysg, a methu cael strategaeth sgiliau glir yng Nghymru, yn rhwystro twf economaidd. Ni fyddwn yn gweld y twf a ddymunir ac a amlinellwyd gan y Llywodraeth ddoe heb gael hyn yn iawn.

Ar hyn o bryd, rydym yn wynebu anfantais gystadleuol. Rydym yn agored i allanoli a thramori ac yn methu tyfu ein sylfaen fusnes ddomestig yn llawn. Mae'r bylchau sgiliau hyn yn arbennig o ddinistriol, gan mai rheolaeth dros y system sgiliau yw un o'r ychydig ysgogiadau y mae gennym reolaeth drostynt yma yng Nghymru. Os yw busnesau'n parhau i fod yn brin o sgiliau yn y meysydd hyn, ac os nad oes gennym weithlu digon medrus mewn meysydd fel peirianneg, cynnal a chadw technegol a sgiliau hanfodol eraill ar gyfer yr economi werdd, ni fyddwn yn cyflawni ein huchelgeisiau. Un peth yw hi i'r Llywodraeth siarad am fuddsoddi mewn sectorau gwyrdd a thechnolegau newydd, ond os nad oes gennym bobl â'r sgiliau cywir, mae hi ar ben arnom cyn inni ddechrau hyd yn oed. Yna byddwn yn dod yn ddibynnol ar fuddsoddiad ac arbenigedd tramor, gan ein hatal wedyn rhag manteisio i'r eithaf ar y buddion economaidd o sectorau sy'n datblygu.

Ar hyn o bryd, nid oes gennym ddealltwriaeth gynhwysfawr o anghenion sgiliau Cymru yn y presennol na'r dyfodol, a dyna pam y mae Plaid Cymru wedi galw am archwiliad sgiliau cenedlaethol, i fapio'n gynhwysfawr anghenion sgiliau'r presennol a'r dyfodol yng Nghymru er mwyn penderfynu'n well ble a sut y dylid dyrannu adnoddau ac fel bod pobl yn cael eu cefnogi'n well i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnom i dyfu a gwyrddu ein heconomi. a'r rhai sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau bodlon. Mae bylchau sgiliau nid yn unig yn effeithio ar gymdeithas a'r economi gyfan, mae'n cael effaith ddofn hefyd ar les economaidd a chymdeithasol yr unigolyn. Mae datblygu set sgiliau unigolyn ac alinio sgiliau'n well â chyflenwad a galw yn hanfodol er mwyn gwella symudedd cymdeithasol a chodi pobl allan o dlodi. Yn y cyd-destun hwnnw, mae'n bwysig ystyried pobl ifanc.

Ar hyn o bryd, Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant o holl wledydd a rhanbarthau'r DU, felly beth y mae hynny'n ei ddweud am warant Llywodraeth Cymru i bobl ifanc? Mae'n bolisi pwysig i'w gael yn iawn ond ceir awgrym nad yw'r warant yn mynd i'r afael â'r mater yn iawn. Nawr, mae cenedlaethau'r dyfodol yn haeddu gwell na'r sefyllfa ddigalon sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd, felly rwy'n annog y Llywodraeth i wneud yn well, i ddefnyddio un o'r ychydig ysgogiadau sydd ganddynt ar gael iddynt, i wrando ar Blaid Cymru a mynd ati o'r diwedd i drwsio ein system.

Hoffwn bwysleisio unwaith eto mai dim ond un mesur addysg yw PISA ac nid yw'n ystyried llesiant ein disgyblion. Mae arnom angen disgyblion hapus sy'n frwdfrydig ac yn barod i ddysgu. Nid ydym wedi mynd ar drywydd profion di-baid a marchnata addysg yng Nghymru oherwydd y straen sylweddol a achosai i bobl ifanc a oedd yn gorfod eu gwneud, ac i'r staff a'r ysgolion a gâi eu hasesu ganddynt. Roedd dyfarniadau'n seiliedig ar sut roedd disgyblion yn perfformio mewn profion yn hytrach nag ar ddatblygiad disgybl. Nid ystadegau yw plant, ac ni all rhifau ar dudalen adlewyrchu cynnydd yr unigolyn dan sylw'n iawn na'r oriau gwaith a wneir gan athrawon a staff cymorth. Gallem addysgu i safonau PISA yn unig, ond ai dyna'r safonau cywir? Pam y dylem addysgu yn ôl y rheini'n unig? Rydym am sefydlu system addysg sy'n cynhyrchu pobl ifanc cyflawn sy'n barod i gymryd rhan yn y gymdeithas ehangach, a dyna pam y mae'r cwricwlwm newydd wedi'i gynllunio i gyflawni yn y ffordd honno.

Mae Llywodraeth Cymru wedi, ac fe fydd yn parhau i bwysleisio rôl dysgu awyr agored ar draws y cwricwlwm mewn meysydd sy'n cynnwys iechyd, gwyddoniaeth a thechnoleg, y dyniaethau a'r celfyddydau mynegiannol. Mae gwaith gwych yn cael ei wneud gan ysgolion ledled Cymru i ennyn diddordeb plant yn yr awyr agored, gan gynnwys dysgu awyr agored yn y cyfnod sylfaen, ysgolion y goedwig a dysgu drwy dirweddau. Os nad yw plant yn cysylltu â natur pan fyddant yn blant, nid ydynt yn mynd i wneud hynny fel oedolion. Ymwelais ag ysgol San Pedr yn Wrecsam yn ddiweddar, lle roeddent wedi cael cyllid grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddysgu am eu hardal awyr agored, gan gysylltu â natur a'u cymuned leol. Maent wedi bod yn gweithio ar brosiect morwellt, gan ymgorffori rhifau a ffigurau gyda hynny, ac fe ddaethant â hynny i lawr i risiau'r Senedd, a oedd yn anhygoel, a gweld y fath gyfranogiad, hapusrwydd a llesiant yn dod drwodd, y parodrwydd i ddysgu. Yng Nghymru, rydym yn mabwysiadu dull llesiant yn gyntaf, ac wedi gweld manteision hynny gyda phrydau ysgol am ddim i bawb, gan weithio mewn partneriaeth, sydd bellach o fudd i bob plentyn ysgol gynradd ledled y wlad.

Rwy'n cofio poeni yn fy nyddiau cynnar fel cynghorydd sut yr aem i'r afael ag addysg ac ôl-groniad cynnal a chadw ein hadeiladau. Roedd y rhestr yn mynd yn hirach ac yn hirach bob blwyddyn ac roeddent yn dirywio'n gyflym, ond dywedwyd wrthym gan ein swyddog addysg fod rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ar y ffordd ac y byddai'n helpu i fynd i'r afael â hynny. Wrth gwrs, roeddwn i'n amheus, ond roedd yn llygad ei le, ac ym mhob cymuned nawr gallwn weld buddsoddiad mewn adeiladau addysg da, adeiladau colegau, adeiladau blynyddoedd cynnar, gan greu'r amgylchedd iawn ar gyfer dysgu, ac rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wedi buddsoddi dros £3 biliwn yn y cyfleusterau addysg hyn. Yn wahanol i Loegr lle maent yn cael trafferthion gyda choncrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth, mae'r buddsoddiadau hyn wedi'u gwneud er gwaethaf heriau cyllidebol enfawr, ac rydym wedi wynebu'r holl heriau hyn o dan 14 mlynedd o gyni, sydd wedi bod yn anodd iawn. Rwy'n cofio, unwaith eto, fel aelod o gabinet y cyngor, y dewisiadau anodd a wynebem, ond roedd blaenoriaethu addysg bob amser ar frig y rhestr, hyd yn oed os oedd hynny'n golygu penderfyniadau amhoblogaidd iawn, ac rwy'n cofio cael fy ngalw i mewn ddwywaith ynghylch gweithredu taliadau am bethau eraill, ond addysg oedd ar frig y rhestr honno bob amser.

Mae dwy Lywodraeth Lafur yn cyflawni nawr ar ran pobl Cymru drwy bartneriaeth. Mae'r codiad cyflog a gynigiwyd i lawer o weithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys athrawon, wedi bod yn bosibl oherwydd symiau canlyniadol o gytundebau cyflog a gafodd eu cytuno gan Lywodraeth y DU yn Lloegr. Nid yw hyn wedi digwydd bob amser o'r blaen dros y 14 mlynedd diwethaf. Dywedwyd wrthym weithiau fod arian wedi ei ganfod i lawr cefn y soffa ac nad oedd ar gael i ni yng Nghymru. Felly, mae'n bwysig ein bod yn cydnabod heriau'r degawd diwethaf o gyni a phandemig byd-eang, sydd wedi effeithio ar addysg ac ar ein pobl ifanc. Dyna'r her fwyaf ohonynt. Ond rwy'n credu bod angen inni gael gobaith a bod golau ar ben draw'r twnnel, a thrwy weithio gyda'n gilydd, gallwn sicrhau dyfodol disglair i addysg ein plant yma yng Nghymru.

18:10

Enw'r adroddiad rŷn ni'n ei nodi yn ein cynnig yw 'Syrthio'n Brin: Yr argyfwng cyllido ysgolion yng Nghymru sy'n dwysáu'. Mae e'n parhau; dyw e ddim yn aros yn llonydd, dyw e ddim jest yn rhywbeth sydd wedi digwydd fel effaith y blynyddoedd o lymder rŷn ni wedi'i weld gan y Ceidwadwyr—mae'n parhau. Dyw pethau heb newid, er i ni gael addewid o hynny. Ac ynglŷn â'r feirniadaeth yna sydd wedi bod yn y ddadl o ran adnabod ffordd o sicrhau mwy o gyllid, wel, petaem ni ond wedi cael etholiad a newid yn y Llywodraeth i'r Llywodraeth Dorïaidd yna sydd wedi achosi hyn i gyd—o, arhoswch funud.

Wrth gael ei chyfweld gan y BBC am yr adroddiad, gofynnwyd i Laura Doel, cyfarwyddwr yr NAHT, os oedd hi'n derbyn y ffaith bod Llywodraeth Cymru nawr am flaenoriaethu cyllid ar gyfer y gwasanaeth iechyd i leihau rhestrau aros. Wrth ddweud, yn ddigon iawn, na ddylid gosod un gwasanaeth cyhoeddus craidd yn erbyn y llall, pwysleisiodd hi bwysigrwydd sylfaenol addysg fel y drws i ddyfodol mwy llewyrchus i'n cymunedau, yn fuddsoddiad yn nyfodol cenedlaethau'n dyfodol. Atgoffodd hi ni fod y plant sydd yn ein hysgolion heddiw yn cael un cyfle—un siot, meddai. Os nad ŷn ni'n cael hynny'n iawn, rŷn ni nid yn unig yn eu hamddifadu nhw o'u cyfleon, rŷn ni hefyd yn amddifadu ein cenedl, ac rwy'n cytuno'n llwyr. A dyna gnewyllyn y ddadl i fi. Mae'r rhai sydd fwyaf angen y gefnogaeth i greu'r dyfodol llewyrchus yna, iddyn nhw ac i'w cenedl, yn cael eu bwrw galetaf wrth fygwth gallu y system addysg i ddarparu'r gefnogaeth honno. Ac mae hynny, felly, yn drychinebus, iddyn nhw ac i Gymru.

Mae bron i draean o blant Cymru, rŷn ni'n gwybod, yn byw mewn tlodi, ac felly mae cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein hysgolion yn medru gweithio'n effeithiol i liniaru effaith andwyol lefel gywilyddus o uchel y tlodi hwnnw yn un cwbl hanfodol. A dyna sydd yn cael ei danseilio gan y diffyg buddsoddi. Yn ddiweddar, fel rŷn ni wedi clywed, gwelodd Cymru ei chanlyniadau PISA gwaethaf erioed. Mae yna lawer o ffactorau, wrth gwrs, yn cyfrannu at hyn, ond ni ellir gwadu mai un o’r prif ffactorau yw tlodi plant a’r effaith mae'n ei gael ar gyrhaeddiad plentyn. Ar yr un diwrnod y cyhoeddwyd y canlyniadau PISA yna, cyhoeddwyd arolwg oedd yn nodi bod 11 y cant o ddisgyblion yn y Deyrnas Gyfunol yn mynd heb fwyd oherwydd tlodi. Amlygwyd y gydberthynas hon rhwng lefelau uchel o dlodi bwyd a chyrhaeddiad mewn ysgolion hefyd yn adroddiad blynyddol Plant yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf. Yn yr adroddiad yna, mae’n nodi bod diffyg bwyd i’w weld yn effeithio’n sylweddol ar y gallu i ganolbwyntio ac ymgysylltu â dysgu.

Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn falch o sicrhau bod pob plentyn nawr mewn ysgolion cynradd yn cael cinio am ddim drwy'r cytundeb cydweithio gyda'r Llywodraeth. Ond mae'r darlun sydd wedi ei ddatgelu gan yr adroddiad yn ei gwneud hi'n glir bod diffyg cyllid yn cael effaith benodol ar sicrhau gweithredu ar lefelau presenoldeb, er enghraifft, sydd â chysylltiad uniongyrchol â lefelau tlodi, achos, yn ôl data Llywodraeth Cymru, mae 16.3 y cant o fyfyrwyr rhwng 11 a 15 oed wedi disgyn i’r categori o fod yn absennol yn barhaus yn 2022-23, bron i dair gwaith yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig. Fodd bynnag, ar gyfer plant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd, mae’r ffigur yna bron yn ddwbl ar 35.7 y cant, ac mae canran y disgyblion oedran ysgol uwchradd a oedd yn absennol yn barhaus wedi mwy na dyblu i 37.1 y cant ers 2018-19. Ac roedd 61.4 y cant o ddisgyblion oed ysgol uwchradd a oedd yn gymwys i gael prydau bwyd am ddim yn absennol yn barhaus yn 2023-24. Mae'n ffigur cwbl, cwbl drychinebus.

Mae'r comisiynydd plant yn glir bod angen ystyried absenoldeb parhaus yng nghyd-destun tlodi, ac mae'r angen yna i fynd i'r afael â thlodi plant yn sbardun allweddol, felly, i leihau absenoldeb. Mae plant sy’n byw mewn tlodi hefyd bedair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu problem iechyd meddwl erbyn eu bod yn 11 oed, ac rŷn ni'n gwybod bod hyn yn effeithio ar gyrhaeddiad plant yn yr ysgol ac yn ffactor mewn absenoldeb.

Mae'r ffigurau hyn, wrth gwrs, oll yn peri pryder. Dywed yr NAHT, fodd bynnag, fod ysgolion yn gwybod beth sy'n gweithio a beth y gellid ei wneud i gefnogi'r plant yma, ond mae angen adnodd—yn adnodd staff a chyllid.

Dywedodd y Prif Weinidog, wrth restru ei blaenoriaethau i ni yma ryw fis yn ôl, mai, a dwi'n dyfynnu,

'Un o'r pethau a wnaeth fy ysbrydoli i ddod i fyd gwleidyddiaeth oedd gwylio talentau a galluoedd y rhai nad oedden nhw'n cael cyfleoedd yn cael eu gwastraffu.'

Ar hyn o bryd mae'n ymddangos bod ei Llywodraeth yn caniatáu i'r union beth hynny i ddigwydd, ac mae’n warth ar genedl sydd yn ymfalchïo yn ei record o hyrwyddo hawliau plant ac o ystyried lles cenedlaethau’r dyfodol.

A dwi'n gorffen nawr, Dirprwy Lywydd. Dylai Cymru fod yn genedl lle gall unrhyw blentyn gyrraedd ei lawn botensial mewn addysg ac mewn bywyd, heb i gyfyngiadau tlodi ei gadw rhag gwireddu hynny.

18:15

Diolch, Lywydd. Roeddwn i eisiau dechrau drwy gydnabod y pwysau ariannol sy'n wynebu ein hysgolion. Rwy'n gwybod o fy nhrafodaethau fy hun gydag arweinwyr ysgolion pa mor bryderus ydynt am gyllidebau ysgolion, a byddai'n anghywir peidio â chydnabod hynny. Roeddwn i hefyd eisiau manteisio ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i'r arweinwyr ysgolion, athrawon ystafell ddosbarth a chynorthwywyr addysgu sy'n gweithio mor galed, o un dydd i'r llall, i gyflawni dros ein plant a'n pobl ifanc.

Cyfarfûm ag arweinwyr llywodraeth leol y bore yma a siaradodd yn bwerus ac yn glir am y pwysau ariannol y maent yn eu hwynebu, ac rwy'n diolch i'n partneriaid llywodraeth leol am eu gwaith caled a'u hymrwymiad mewn cyd-destun heriol iawn.

Rwyf wedi bod yn y swydd ychydig dros chwe mis, ac mae wedi bod yn fraint ac yn wirioneddol ysbrydoledig gweld y gwaith gwych sy'n cael ei wneud, o un dydd i'r llall yn ein hysgolion, er gwaethaf yr heriau. Nid ydym yn gwneud digon i ddathlu'r gwaith gwych yn ein hysgolion yn y Siambr hon. Yng nghyd-destun effaith greulon 14 mlynedd o Lywodraeth Dorïaidd ar gyllid cyhoeddus, rydym yn diwygio anghenion dysgu ychwanegol, y cwricwlwm newydd, dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl, ac rydym wedi cyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru. Mae ein rhaglen gyfalaf cymunedau dysgu cynaliadwy ran o'r ffordd drwy ei hail gam, gyda chyfanswm buddsoddiad o £3.95 biliwn mewn 199 o brosiectau. Mae'r cyllid a'r rhaglen adnewyddu ehangach a chyfleusterau a adeiladwyd o'r newydd wedi golygu mai dim ond pum achos o goncrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth a geir yn ysgolion Cymru, yn wahanol i Loegr, lle mae wedi bod yn eang. Yr wythnos diwethaf cefais yr anrhydedd, gyda maer ac arweinydd cyngor Casnewydd, o agor yr Adeilad Balch yn Ysgol Basaleg, a adeiladwyd â £24 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru. Ond rwy'n cydnabod bod heriau gyda chyllid refeniw ac rwy'n croesawu adroddiad Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon ar gyllido ysgolion. Dywedais pan ddeuthum i'r swydd fy mod am wrando ar y proffesiwn, ac rwy'n bwriadu parhau i wneud hynny.

Mae ein setliad eleni yn dal i fod £700 miliwn yn is mewn termau real na'r disgwyl adeg adolygiad o wariant 2021, ac mae ein cyllideb eleni £3 biliwn yn is na phe bai wedi tyfu yn unol â chynnyrch domestig gros ers 2010. Nid yw Llywodraeth Cymru yn ariannu ysgolion yn uniongyrchol. Bydd llywodraeth leol yn ystyried y £5.72 biliwn o gyllid heb ei neilltuo ochr yn ochr â ffynonellau incwm eraill, a bydd yn gosod cyllidebau ar gyfer y gwasanaethau y maent yn eu darparu, gan gynnwys ysgolion. Mae'r dull hwn o weithredu yn rhan allweddol o'n polisi mai awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i ddarparu'r gwasanaethau hyn. Er gwaethaf pwysau sylweddol, rydym wedi parhau i flaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus gyda chynnydd o 3.3 y cant i gyllid llywodraeth leol eleni. Rydym hefyd wedi ailflaenoriaethu cyllid fel y gallwn ddiogelu ysgolion gymaint â phosibl, ac mae hyn yn cynnwys diogelu'r lefelau cyllid a ddarperir yn y grant addysg i awdurdodau lleol. Mae'r grant hwn yn £379 miliwn i gefnogi ein hysgolion a'n hawdurdodau lleol eleni, ac nid yw'n cynnwys grantiau yn ein cynlluniau seiliedig ar alw. Mae hyn yn cynnwys cyllid i gefnogi'r meysydd sydd o dan y pwysau mwyaf, gan gynnwys y grant safonau ysgolion a'r grant datblygu disgyblion. Rydym yn parhau i fwrw ymlaen ag argymhellion yr adolygiad cyllido ysgolion, gan gynnwys cynnal adolygiad o fformiwlâu cyllido ysgolion awdurdodau lleol, i ystyried sut y gellir gwella'r system i wneud cyllid yn fwy tryloyw, cymaradwy a chyson ar draws ysgolion Cymru.

Ein hathrawon yw asgwrn cefn ein system addysg. Rwy'n falch ein bod wedi gallu rhagori ar y dyfarniad cyflog a argymhellwyd trwy gynnig 5.5 y cant i athrawon ar draws pob ystod gyflog. Mae hyn yn dangos y gwahaniaeth y gall cael Llywodraeth Lafur yn San Steffan ei wneud. Rwy'n arbennig o falch ein bod wedi gallu dod o hyd i £5 miliwn ychwanegol i sicrhau bod gwaith hanfodol cydlynwyr ADY yn cael ei gydnabod yn briodol. Rwy'n gwybod o fy nhrafodaethau fy hun gyda chydlynwyr ADY pa mor galed y maent yn gweithio. Daeth ymgynghoriad ar y cynnig cyflog arfaethedig a'r argymhellion eraill gan adolygiad strategol annibynnol corff adolygu cyflogau Cymru i ben ar 7 Hydref. Er bod recriwtio i raglenni addysg gychwynnol athrawon cynradd yn parhau'n gryf, rydym yn cydnabod bod heriau yn y sector uwchradd, yn enwedig mewn pynciau cyfrwng Cymraeg a phynciau â blaenoriaeth. Mae recriwtio i bynciau uwchradd yn broblem fyd-eang, ac rydym yn parhau i gynnig pecyn cymhelliad hael, sy'n werth hyd at £25,000, i ddenu myfyrwyr mewn pynciau â blaenoriaeth. Rydym hefyd yn cydnabod ein bod yn wynebu mwy o gystadleuaeth gan broffesiynau eraill, ac un o'r prif heriau sy'n wynebu'r gweithlu yw llwyth gwaith, ac rydym yn gwneud cynnydd da mewn partneriaeth ag undebau llafur ar fynd i'r afael â beichiau diangen.

Llythrennedd yw un o fy mhrif flaenoriaethau. Mae ein holl adroddiadau diweddar, gan gynnwys ein canlyniadau PISA, wedi bod yn siomedig, ac yn dweud wrthym fod yn rhaid inni weithredu nawr i wella safonau llythrennedd yng Nghymru. Dyna pam y cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig sy'n dwyn ynghyd yr ystod o gamau rydym yn eu cymryd i wella safonau llythrennedd. Bydd y camau a gymerwn yn cael eu llywio gan y dystiolaeth ddiweddaraf a'u cefnogi gan y panel arbenigol rwy'n ei gynnull y tymor hwn. Yn gyntaf, rydym yn cynnal adolygiad o'n fframwaith llythrennedd a rhifedd, i gefnogi athrawon i ddatblygu a gwreiddio sgiliau llythrennedd ar draws y cwricwlwm cyfan. Mae hynny'n golygu sicrhau bod y canllawiau'n glir ar bwysigrwydd defnyddio ffoneg gan bob ysgol fel bloc adeiladu allweddol ar gyfer addysgu dysgwyr i ddarllen. Ond nid camau cynnar darllen yn unig sy'n bwysig. Byddwn hefyd yn sicrhau bod ein disgwyliadau ar gyfer llythrennedd ar draws y continwwm dysgu cyfan, o dair i 16 oed, yn ddigon ymestynnol i'n dysgwyr ac yn eu cynorthwyo i ddatblygu sgiliau ar lefel uwch. A byddwn yn cryfhau'r fframwaith hwn trwy ei roi ar sylfaen statudol, gan sicrhau dull mwy cyson ledled Cymru. Ond yn ogystal â bod yn glir ynglŷn â'r 'beth', mae'n rhaid inni gefnogi ysgolion gyda'r 'sut', gan sicrhau bod y dulliau seiliedig ar dystiolaeth mwyaf effeithiol o addysgu llythrennedd yn cael eu defnyddio yn ein hysgolion, yn ganolog i safonau ac yn rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant a phobl ifanc. Ac felly rydym yn datblygu egwyddorion cenedlaethol clir ar gyfer addysgu llythrennedd effeithiol. Ac yn olaf, mae'n rhaid inni gefnogi ysgolion i roi'r canllawiau hynny ar waith. Dyna pam ein bod yn gweithio gyda'n partneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol ac Estyn, i sicrhau bod gan bob ysgol fynediad at yr un hyfforddiant a chefnogaeth o ansawdd uchel ar gyfer llythrennedd.

Rwy'n falch o weithio'n agos gyda fy nghyd-Aelod Vikki Howells ar gyflawni blaenoriaeth y Llywodraeth i hybu safonau yn ein hysgolion a'n colegau, fel y nodwyd gan ein Prif Weinidog. Mae'r gwaith ar y flaenoriaeth hon yn cynnwys: darparu'r cymorth cywir i ysgolion gael y cwricwlwm yn iawn; codi lefelau presenoldeb fel bod llai o ddyddiau dysgu'n cael eu colli; gwella'r system ADY yn barhaus; atgyfnerthu dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant meddyliol; a sicrhau bod ein gweithlu addysg yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol.

18:25

Diolch am dderbyn yr ymyriad, ac mae'n gadarnhaol clywed rhestr hir o bethau y bwriadwch eu gwneud fel Llywodraeth i geisio mynd i'r afael â'r hyn sydd wedi dod yn batrwm clir o fethiant mewn addysg yng Nghymru ers blynyddoedd lawer. Pam y credwch chi ei bod wedi cymryd tan nawr, a ninnau wedi cael Gweinidogion addysg Llafur ers 25 mlynedd, i gydnabod bod problem gyda safonau mewn addysg yng Nghymru?

Wel, Rhun, rwyf wedi nodi'n glir iawn y camau rwy'n eu cymryd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a dim ond newydd ddod i mewn i'r ddadl rydych chi a heb glywed y drafodaeth lawn ychwaith. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn i'n meddwl nad oedd yma. 

Iawn. Mae'n ddrwg gennyf.

Byddaf yn rhoi diweddariad pellach i'r Aelodau y tymor hwn i nodi mwy o fanylion am ein cynlluniau ar gyfer gwella ysgolion a chodi cyrhaeddiad. Ddirprwy Lywydd, nid wyf yn bychanu maint yr her sy'n wynebu addysg yng Nghymru, sy'n ganlyniad i set gymhleth o ffactorau. Ni fyddaf byth yn hunanfodlon yn y dasg hon, ac rwyf am sicrhau'r Aelodau eto mai lles plant a phobl ifanc fydd fy nghymhelliant ysgogol bob amser.

Er eglurder, clywais yr ymddiheuriad gan Ysgrifennydd y Cabinet am iddi nodi nad oeddech chi yma er eich bod chi yma. 

Galwaf ar Cefin Campbell i ymateb i'r ddadl.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl bwysig hon heddiw. Dwi'n ddiolchgar iawn i'r Ceidwadwyr am eu cefnogaeth nhw. Ond dwi jest eisiau ymateb i rai o'r pwyntiau sydd wedi codi cyn fy mod i'n dod â'r araith i ben. 

Vaughan, fe ddechreuoch chi drwy gyfeirio at gyni a'r cyfyngiadau cyllidebol tynn yr ydych chi wedi gorfod eu hwynebu dros y 14 mlynedd diwethaf. Ac mae hynny'n iawn, ond wrth gwrs roedd yn rhaid i Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wynebu'r cyni hwnnw hefyd, ond mae eu canlyniadau addysg yn llawer gwell na'n canlyniadau ni. Felly, beth sydd wedi mynd o'i le? Mae hyn yn ymwneud â mewnbynnau, ac rydych chi'n iawn i restru'r mewnbynnau, ac fe restrodd Ysgrifennydd y Cabinet y mewnbynnau hefyd, ond mae'n rhaid inni weld y canlyniadau. Ac i bobl ifanc a rhieni, mae'r canlyniadau'n bwysig iawn, a dyna lle rydym yn gwneud cam â'n pobl ifanc. Nid ydym yn cyflawni'r canlyniadau, er gwaethaf y sglein a roddwch arno gyda buddsoddiad mewn adeiladau a rhaglenni ac yn y blaen. Nid yw'n arwain at y canlyniadau, ac rwy'n credu mai dyna'r pwynt pwysig sy'n rhaid i ni ei wneud yma. 

Roedd Heledd Fychan yn sôn am absenoldebau. Mae hyn yn effeithio ar gyraeddiadau addysg plant. Ac un peth diddorol y dywedoch chi oedd bod ysgolion yn byw gyda diffygion ariannol. Dyma yw'r normal newydd yn ein system addysg ni—yn gorfod byw gyda diffyg ariannol. Mae’r peth yn gwbl anghredadwy. Ac o safbwynt anghenion dysgu ychwanegol, mae 87 y cant, yn ôl adroddiad NAHT Cymru, yn dweud bod y gefnogaeth yn annigonol. 

Tom, fe sonioch chi yn eich dadansoddiad fod yr adroddiad gan Gymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon yn frawychus ond nad yw'n syndod, ac rwy'n credu y byddem i gyd yn ategu hynny. Roeddech chi'n sôn am ostyngiad yn nifer y staff addysgu a hefyd y meysydd pwnc a ddysgir. Fe wnaeth un linell fy nharo—yn ôl yn 2006, pan ddechreuwyd cael canlyniadau PISA gyntaf, rwy'n meddwl bod y Gweinidog ar y pryd wedi dweud eu bod yn canu larymau. Er mwyn y mawredd, faint o larymau sydd eu hangen arnom cyn inni sylweddoli ein bod yn gwneud cam â'n pobl ifanc?

Luke, roeddech chi'n siarad am y cysylltiad rhwng addysg a'r economi a sut y mae'r system sgiliau yn gwneud cam â'n pobl ifanc ar hyn o bryd, gan arwain at fwlch sgiliau yn yr economi, yn enwedig mewn sectorau sy'n datblygu, a sut nad ydym yn manteisio ar y sectorau hynny sy'n datblygu.

Unwaith eto, Carolyn Thomas, roeddech chi'n sôn am gyni a'r pandemig fel dau ffactor lliniarol, ond fe wnaf ailadrodd eto, roedd hi'r un fath i holl wledydd y DU. Rywsut, fe wnaethom ni'n llawer gwaeth na hwy.

18:30

Felly, rydych chi'n meddwl ein bod ni'n methu yng Nghymru. A yw hynny'n seiliedig ar ganlyniadau PISA yn unig, felly, eich bod chi'n dweud hynny? Oherwydd—

—fel y dywedais yn gynharach yn fy araith, mae yna fesurau gwahanol, onid oes, o ran sut y mae plant yn ymdopi.

Gadewch imi ganolbwyntio ar ddau yn benodol. Mae canlyniadau PISA yn siarad drostynt eu hunain, ond hefyd canlyniadau TGAU. Soniodd Heledd fod Lloegr 30 pwynt yn well mewn ardaloedd difreintiedig na Chymru. Mae hynny'n syndod pan fyddwch chi'n meddwl amdano. Mae'n fy arwain at y pwynt yr oedd Sioned Williams yn ei wneud am y cysylltiad rhwng addysg a thlodi. Mae'n cael effaith drawmatig ar bobl ifanc.

Fe ddywedoch chi fod tlodi yn arwain at broblemau iechyd meddwl, yn arwain at lefelau presenoldeb is, ac mae hyn hefyd yn cyfyngu ar uchelgais pobl ifanc, ac mae hynny yn bwysig iawn, iawn.

Rwyf am orffen gyda phwynt Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym wedi cael rhestr o ymrwymiadau—sydd i'w croesawu, wrth gwrs, ond mae'n rhy ychydig yn rhy hwyr i genhedlaeth o bobl ifanc. Ers 25 mlynedd rydym wedi bod yn cael canlyniadau gwael yng Nghymru.

So, gadewch i fi orffen, Dirprwy Lywydd, drwy ddweud hyn: allwn ni ddim â chefnogi gwelliant y Llywodraeth, oherwydd nid yw’n rhoi unrhyw sicrwydd i ni ynglŷn a sut y mae pethau yn mynd i wella o ran ariannu addysg yng Nghymru.

Rwy'n credu mai'r hyn a wnaed yn glir yn ystod y ddadl hon yw bod Llafur yng Nghymru wedi rheoli dros ddirywiad yn safonau ysgolion a wnaed yn waeth oherwydd methiant i fynd i'r afael ag argyfwng recriwtio a chadw staff addysgu a diffyg model cyllido teg ar gyfer addysg yng Nghymru. Clywsom am y canllawiau sydd wedi dyddio a'u tanseilio ar addysgu sgiliau darllen, y canlyniadau PISA—nid wyf am fynd dros hynny eto. Ond rhaid cadw addewidion am fwy o arian i addysg yng Nghymru. Rydych chi wedi gwneud yr addewid hwnnw. Felly, gadewch inni weld beth fydd yn digwydd i hwnnw dros y mis neu ddau nesaf.

Dwi’n gorffen gyda hyn, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddweud hyn wrth y Llywodraeth? Os nad ydych chi’n gallu delifro addysg o safon i’n plant, yna camwch o’r neilltu i adael i blaid sydd â’r weledigaeth ac ymroddiad i wneud hynny yn eich lle chi. Mae’n hen bryd inni gael Llywodraeth yn cael ei arwain gan Blaid Cymru, sydd â’r uchelgais i sicrhau dyfodol llewyrchus i’n plant a’n pobl ifanc. Byddai pleidlais o blaid y cynnig hwn yn dad-wneud y dirywiad cyson mewn safonau addysg dros flynyddoedd lawer ac yn buddsoddi yn ein system addysg a rhoi’r cyfle gorau i’n pobl ifanc i lwyddo mewn bywyd. Cefnogwch y cynnig hwn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohirir y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Ac rydyn ni wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio yna nawr. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.

18:35
9. Cyfnod Pleidleisio

Yn gyntaf, galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio ar eitem 8, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Oes gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig heb ei ddiwygio wedi'i wrthod. 

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Ariannu addysg. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 23, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Ariannu addysg. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 25, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8686 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi’r adroddiad ‘Syrthio’n brin: Yr argyfwng cyllido ysgolion yng Nghymru sy’n dwysáu’ gan yr NAHT, ac yn cydnabod y pwysau ar gyllidebau ysgolion ac awdurdodau lleol.

2. Yn diolch i athrawon a staff ysgol ymroddedig Cymru am eu gwaith caled, ac yn croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i bumed adroddiad Corff Adolygu Annibynnol Cyflog Cymru, sy'n cynnwys codiad cyflog o 5.5 y cant i athrawon.

3. Yn cydnabod, er gwaethaf effaith enbyd 14 mlynedd o lywodraeth Geidwadol ar gyllid cyhoeddus Cymru, bod Llywodraeth Cymru wedi:

a) cyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru a system newydd o gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, y mae’r ddau ohonynt yn rhoi'r dysgwr wrth wraidd y system addysg;

b) gweithredu dull ysgol gyfan i gefnogi plant a phobl ifanc gyda'u hiechyd meddwl a'u lles; ac

c) diogelu’r cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus craidd yn 2024-25 drwy godiad o 3.3 y cant i gyllidebau awdurdodau lleol a chynnal y cyllid grant uniongyrchol i ysgolion gan gynnwys y Grant Datblygu Disgyblion sy'n cefnogi dysgwyr o aelwydydd incwm isel.

4. Yn cefnogi hybu safonau mewn ysgolion a cholegau fel blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys ffocws ar wella cysondeb yn genedlaethol a darparu mwy o gymorth ar gyfer llythrennedd a rhifedd.

5. Yn cefnogi targedu recriwtio athrawon mewn meysydd pwnc prin fel mathemateg, gwyddorau ac ieithoedd tramor modern, ac addysg cyfrwng Cymraeg.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Ariannu addysg. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 25, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Daw hynny y pleidleisio i ben am heddiw.

Os ydych chi'n gadael, gwnewch hynny'n dawel fel y gallwn barhau â'r ddadl fer. 

10. Dadl Fer: Llenwi’r bwlch: Yr achos dros hyfforddi deintyddion ym Mangor

Galwaf nawr ar Siân Gwenllian i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi hi. Siân.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi wedi cael cais i siarad yn y ddadl hon gan bump o fy nghyd-Aelodau yn y Siambr yma: Carolyn Thomas, Rhun ap Iorwerth, Mabon ap Gwynfor, Llyr Gruffydd a Darren Millar. Diolch am eich diddordeb, a dwi'n edrych ymlaen at glywed eich cyfraniadau chi. Mae'n dda gweld consensws a chefnogaeth drawsbleidiol yn dechrau ffurfio o gwmpas pwnc y ddadl fer yma. 

Yn gyntaf, dwi am osod y cyd-destun ar gyfer y ddadl yma. Dwi am sôn am yr ysgol feddygol newydd ym Mangor, sôn am ddatblygiadau eraill sydd ar y gweill, gan wedyn ymhelaethu ar brif ffocws y ddadl, sef yr achos dros hyfforddi deintyddion ym Mangor. 

Wythnos diwethaf, roedd o'n braf bod yn bresennol yn agoriad swyddogol ysgol feddygol gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor. Dyma ddatblygiad arwyddocaol o ran gwella gofal iechyd, creu cyfleon hyfforddi i bobl ifanc lleol, datblygiad i'r brifysgol ym Mangor, a'r economi leol. Mae yna 80 o fyfyrwyr yn astudio meddygaeth ym Mangor, gyda'r nifer yn cynyddu i 140 y flwyddyn o 2029 ymlaen.

Mi fuodd hi'n ymgyrch hir, a dwi yn credu bod yr adroddiad 'Delio â'r Argyfwng' a gomisiynwyd gan y cyn-Aelod Seneddol Hywel Williams a minnau nôl yn 2017 wedi bod yn gyfraniad pwysig i wneud y ddadl dros sefydlu'r ysgol feddygol ym Mangor.

Mae datblygiadau pellach ar y gweill sy'n cadarnhau safle Bangor fel canolfan o hyfforddiant yn y byd iechyd yng Nghymru. Gan adeiladu ar yr holl hyfforddi sy'n digwydd eisoes, fe fydd ysgol fferylliaeth yn cael ei sefydlu cyn hir. Y cynllun ydy cyflwyno dwy raglen i israddedigion, efo'r disgwyl y cohort cyntaf o fyfyrwyr i gychwyn flwyddyn o rŵan, efo 35 ar y dechrau, gan gynyddu'n raddol i 100 o lefydd.

Mae yna ddatblygiadau pwysig yn digwydd o ran gwasanaethau cymunedol hefyd, gan gynnwys sefydlu canolfan llesiant ac iechyd yn yr hen Debenham's yng nghanol dinas Bangor, a fyddai'n adfywio'r stryd fawr, yn ogystal â chreu gwell cyfleusterau ar gyfer y boblogaeth leol a llefydd hyfforddi i gyd-fynd efo'r anghenion hyfforddiant iechyd yn y brifysgol. Mi fyddai cael sicrwydd gan y Llywodraeth eu bod nhw'n mynd i gyfrannu'n ariannol at y prosiect hwn, ar y cyd â Chyngor Gwynedd a bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, yn hwb mawr ymlaen. A gobeithio y gall y Llywodraeth ddarparu'r sicrwydd yma'n fuan iawn, os na fedran nhw ei wneud o y prynhawn yma—byddai hynny'n wych.

Felly, dyna'r cyd-destun cyn belled, a'r cam naturiol nesaf ydy sefydlu ysgol ddeintyddiaeth ym Mangor, gan adeiladu ar y sylfeini cadarn. Er mwyn cyfrannu at y drafodaeth, dros yr haf, mi fûm i'n gweithio efo cwmni annibynnol Lafan ar adroddiad arbennig o'r enw 'Llenwi'r Bwlch'—a dwi'n mynd i ddangos hwn y tro yma, hefyd. Cafodd yr adroddiad yma ei lansio ddiwedd Medi ym Mangor, ag ymateb brwd iawn iddo fo. Mi wnaeth hi gymryd amser hir i ddarbwyllo'r Llywodraeth o'r angen am ysgol feddygol. Dwi yn gobeithio y cawn ni'r maen i'r wal yn llawer cynt o ran hyfforddi deintyddion y dyfodol ym Mangor. Mae'r angen yn gwbl glir, ac rydym ni'n amlinellu'r problemau a'r heriau di-rif sy'n wynebu trigolion yn Arfon. Mae hi bron yn amhosib i unigolion a phlant sy'n dymuno gweld deintydd ar gyfer triniaeth neu archwiliad o dan y gwasanaeth iechyd gwladol gael gwneud hynny yn etholaeth Arfon. Mae'r sefyllfa'n wael ar draws Cymru, ond mae yna dystiolaeth yn dangos bod y broblem o gleifion yn methu cael mynediad at ddeintydd y gwasanaeth iechyd hyd yn oed yn waeth yn ardal y bwrdd iechyd.

Dyma i chi gwpl o ystadegau. Cafodd 44 y cant o boblogaeth Cymru driniaeth ddeintyddol trwy'r NHS yn y ddwy flynedd o 2021 i 2023—44 y cant yn unig o boblogaeth Cymru yn cael triniaeth trwy'r NHS. Ond dim ond 36 y cant o boblogaeth ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr gafodd eu trin. Mae 31 y cant o bractisys deintyddol yng Nghymru efo swyddi deintyddion yn wag. Mae'r ffigur yn cyrraedd 40 y cant yn ardal Betsi Cadwaladr. Felly, mae'r sefyllfa'n wael ar draws Cymru, ond mae hi hyd yn oed yn waeth yn y gogledd.

Yn fy marn i, mae gan bawb hawl i dderbyn gwasanaeth deintyddol trwy'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol, ond dydy'r hawl yna ddim yn cael ei ddiwallu'n llawn yng Nghymru, nac yn Arfon—mae'r ystadegau'n profi hynny. Mae rhai yn dewis ac yn gallu fforddio talu am driniaeth breifat, ond dydy'r llwybr hwnnw ddim ar gael i bawb, yn enwedig i'r rhai mwyaf bregus, tlawd a difreintiedig, sydd ddim â'r modd i dalu na theithio, yn enwedig yn yr argyfwng costau byw a'r llymder economaidd presennol. Mae prinder darpariaeth y gwasanaeth iechyd cenedlaethol yn golygu bod nifer cynyddol o bobl a phlant yn dioddef poen diangen, yn troi at ddulliau amhriodol o leddfu'r boen, ac, yn yr achosion mwyaf difrifol, yn gorfod troi at adrannau brys ein hysbytai am gymorth, gan greu baich gwaith ac ariannol y gellid ei osgoi trwy atal y broblem rhag datblygu yn y lle cyntaf. Felly, mae'r heriau yn ddybryd.

Beth mae'r adroddiad yn ei ddweud wrthym ni, felly? Wel, mae o'n dweud wrthym ni fod yna achos hollol gadarn a bod yr ymchwilwyr annibynnol sydd wedi dod â'r adroddiad yma ynghyd yn hollol argyhoeddedig bod angen sefydlu ysgol ddeintyddol ym Mangor. Mae'r adroddiad yn tynnu at ei gilydd farn rhanddeiliaid ar draws y sector ac yn cyflwyno'r achos yma yn gryf iawn. Fe ddefnyddiwyd cyfuniad o ddulliau ymchwil i archwilio'r achos dros sefydlu ysgol ddeintyddol ym Mangor, ac fe gafwyd adborth gan ystod o randdeiliaid, gan gynnwys unigolion, teuluoedd, myfyrwyr, deintyddion ac aelodau allweddol o'r gwasanaethau iechyd ac addysg, gan ddefnyddio cymysgedd o ddulliau ansoddol a meintiol.

Ac er bod y Llywodraeth yn cydnabod problemau cenedlaethol o ran cael mynediad at ddeintydd, dwi wedi fy argyhoeddi bod y sefyllfa yn Arfon yn cael ei dwysáu yn sgil diffyg darpariaeth leol, diffyg gweithlu a diffyg cyfleoedd hyfforddi. Mae angen brys i wella'r gwasanaethau deintyddol cyhoeddus yn yr ardal, ac mi fyddai sefydlu ysgol ddeintyddol, ynghyd â chamau eraill sydd eu hangen i gryfhau deintyddiaeth yr NHS yng Nghymru, yn cyfrannu at gyfarch yr her.

Dwi'n sôn bod eisiau gwneud; mae yna fwy iddo fo na sefydlu ysgol ddeintyddol. Mae yna fwy i'r darlun na hyfforddi. Mae yna broblemau eraill sydd angen mynd i'r afael â nhw i wella y gwasanaethau deintyddol, yn cynnwys y contract, ac yn y blaen, ond mae'r adroddiad yma yn canolbwyntio ar hyfforddi, fel rhan hollol, hollol hanfodol o'r jig-so er mwyn datblygu gwasanaeth deintyddol ar y NHS i fod yn un cadarn ac yn un gwydn, yn y gogledd yn arbennig.

Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad bod yna gefnogaeth eang ar gyfer ysgol ddeintyddol newydd ym Mangor. Mae ystod o randdeiliaid yn credu y byddai ysgol ddeintyddol yn gwella iechyd y geg yn y rhanbarth, yn denu myfyrwyr lleol i aros yn yr ardal, a chyfrannu at yr economi leol. Mi fyddai'r ysgol ddeintyddol yn ychwanegiad gwerthfawr i'r gymuned; mi fyddai hi yn ychwanegu at yr economi yn lleol. Mae'r adroddiad wedi edrych ar yr achos busnes pum cam ac yn dod i'r casgliad bod yna achos strategol, achos economaidd, achos masnachol, achos ariannol ac achos rheolaethol dros sefydlu ysgol ddeintyddol ym Mangor, a dwi'n dyfynnu o'r adroddiad:

'Oll yn oll, mae’r achos dros sefydlu ysgol ddeintyddol ym Mangor yn gryf iawn, gan gynnig cyfleoedd i gael effaith gadarnhaol ar iechyd, economi, ac addysg y rhanbarth.'

Diolch.

18:45

Hoffwn ddiolch i Siân Gwenllian am funud o'i hamser ar y pwnc pwysig hwn. Ar y cais diwethaf, nid oedd deintyddion GIG ar gael yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ac roeddent yn brin ar draws gweddill gogledd Cymru, fel y dywedwyd. Mae cadw cleifion yn anodd i'r GIG am mai dim ond hanner y nifer o gleifion fydd angen i ddeintyddion eu gweld yn breifat i wneud yr un faint o arian. Clywais fod deintyddiaeth y GIG yn Lloegr yn hedfan pobl i mewn o Ewrop i weithio am bedwar diwrnod i lenwi'r bwlch.

Mae amrywioldeb enfawr yn y tâl a godir gan ddeintyddion preifat hefyd. Dywedodd un o drigolion ifanc fy etholaeth wrthyf iddo gael dyfynbris o oddeutu £850 am bedwar llenwad a sglein, mewn man lle mae ei dad yn glaf GIG. Roedd yr un driniaeth yn cael ei chynnig i lawr y lôn am oddeutu £300 yn llai, ond yng Nghaerdydd, cafwyd dyfynbris o oddeutu hanner y pris, gyda phris llenwadau'n amrywio rhwng £210 ac £83. Ni allaf gredu sut y mae cymaint o wahaniaeth. Nid yw'n dderbyniol, ac rwy'n cefnogi eich cynnig.

Dwi ddim ond eisiau diolch yn fawr iawn i Siân am ddod â'r ddadl yma ac am ddod â'r adroddiad i'r Senedd y prynhawn yma. Roedd hi'n braf iawn bod yn Neuadd Reichel cwpl o wythnosau yn ôl, lle oedd y gefnogaeth mor, mor amlwg ar draws ystod eang o bobl â diddordebau gwahanol yn hyn, dros sefydlu yr ysgol ddeintyddol. Rydym ni wedi galw ers tro, ar y meinciau yma, am yr ysgol ddeintyddol, ond mae'r adroddiad yma, mae yna deimlad rŵan o'r momentwm go iawn yn tyfu, ac mae'r angen yn amlwg. Mae yna ddeintyddfa arall yn fy etholaeth i, yn ddiweddar, Valley Dental, wedi penderfynu tynnu allan o gynnig gwasanaethau NHS. Rydym ni'n gwybod bod pobl yn methu â chael gafael ar wasanaethau deintyddol, a'r rhai sydd â'r lleiaf o adnoddau ydy’r rhai sydd yn dioddef fwyaf bob amser. Roedd hi’n braf iawn, yn agoriad yr ysgol feddygol, gweld beth ydy ffrwyth llafur degawd o ymgyrchu ar hynny, a Siân wedi bod yn allweddol yn yr ymgyrch honno hefyd. Ond gadewch i ni rŵan wthio ymlaen a sicrhau bod hwn yn cael ei wireddu hefyd.

18:50

Dwi ddim yn gwybod lle mae'r Llywodraeth yma yng Nghymru’n cael y syniad bod yna wersi i'w dysgu gan Lywodraeth San Steffan o Gymru pan fydd hi'n dod i ddeintyddiaeth achos, os ydy fy inbox i yn unrhyw ffon fesur, mae'n amlwg bod yna argyfwng yn mynd ymlaen yn neintyddiaeth yma yng Nghymru. Mae gennyf i bobl sy'n gorfod teithio. Dwi'n cyfeirio yn aml at un sy'n gorfod mynd i fyny i'r Alban o'r Bala er mwyn cael mynediad at ddeintydd NHS.

Felly, dwi'n croesawu'r adroddiad hwn mae Siân wedi ei gyhoeddi. Dwi'n meddwl bod o'n gam pwysig ymlaen tuag at drio cael ysgol ddeintyddol. A'r hyn rydyn ni'n gwybod, mae'r dystiolaeth i gyd yn ei ddangos, pan fydd yna ysgol feddygol, ysgol ddeintyddol—y math yna o sefydliad mewn ardal—yna mae'r myfyrwyr sydd yn mynd yn yno yn fwy tebygol o aros yn yr ardal. Felly, nid yn unig fydd ysgol ddeintyddol ym Mangor o fudd yn amlwg i ogledd-orllewin Cymru, ond mi fydd o fudd cenedlaethol hefyd, yn cynhyrchu deintyddion. Felly, buaswn i eisiau clywed yr Ysgrifennydd Cabinet yn cydnabod, os yn bosibl, y byddai yna rôl yna, yn genedlaethol, i ysgol ddeintyddol newydd er mwyn sicrhau bod gennym ni'r niferoedd. Achos yr un her sydd yn ein hwynebu ni ydy recriwtio, ac mi fyddai ysgol ddeintyddol newydd yn sicrhau recriwtio nifer mwy o ddeintyddion ar gyfer Cymru. Diolch, Siân. 

Wel, hoffwn gefnogi galwadau Plaid Cymru am ysgol ddeintyddiaeth yng ngogledd Cymru yn llwyr oherwydd rydym wedi gweld, yn fwyaf diweddar yng Nghoed-poeth, practis deintyddol Dant y Coed yn cau ei ddrysau i gleifion y GIG—dros 12,000 o gleifion yno nawr, yn amlwg, ddim yn siŵr sut y gallant gael gafael ar wasanaethau. Ac mae gennym wasanaeth sy'n fwyfwy tair haen yng Nghymru o ran deintyddiaeth: y rhai sy'n dal i gael mynediad at ddeintydd GIG, ac mae'r rheini'n amlwg yn nifer sy'n lleihau; y rhai sydd bellach yn gorfod talu am ddeintyddiaeth breifat, felly os ydych chi'n deulu o bedwar yng Nghoed-poeth, rydych chi'n wynebu'r posibilrwydd o dalu dros £500 y flwyddyn am ddau archwiliad, a hynny cyn bod angen unrhyw driniaeth bosibl o ganlyniad; ac wrth gwrs, yr haen arall—yr haen gynyddol, o ran rhifau—yw'r rhai sydd heb fynediad at ddeintyddion o gwbl. Oes, mae problemau gyda chontractau; oes, mae problemau gyda chyllid, ond fe wyddom hefyd fod angen digon o gyflenwad o ddeintyddion yn dod drwy'r system, a dyna pam rwy'n gobeithio bod y Llywodraeth yn gwrando ar alwadau Plaid Cymru ac yn symud yn bendant tuag at sefydlu ysgol ddeintyddiaeth yng ngogledd Cymru.

A gaf innau hefyd gefnogi'r galwadau am ysgol ddeintyddiaeth yng ngogledd Cymru? Mae'n gwbl amlwg fod prinder deintyddion ledled y wlad. Gwelais ddeintyddion yn fy etholaeth fy hun, yn Rhuthun ac ym Mae Colwyn ac yn y Rhyl a Llandudno gerllaw, yn tynnu'n ôl o ddeintyddiaeth y GIG, ac mae'n cael effaith enfawr ar bobl sydd angen mynediad at y gwasanaethau hynny ac na allant eu fforddio, fel y dywedwyd eisoes. Felly, mae angen gweithredu ar hyn.

Un ffordd o gau'r bwlch yn y gweithlu yw sicrhau bod gennym gyflenwad gweddus, a chlymu pobl i mewn drwy ddefnyddio contractau, fel bod yn rhaid iddynt weithio yn y GIG pan fyddant wedi cymhwyso ac wedi cael eu hyfforddi yn ein prifysgolion. Os gallwn wneud hynny, gallwn ddechrau gwneud cynnydd ar y broblem hon, fel nad yw fy etholwyr yn gorfod talu ffortiwn pan fydd angen triniaeth arnynt, ac fel nad ydynt yn gorfod teithio, hyd yn oed i fyny i'r Alban ar hyn o bryd. Mae gennyf etholwyr yn teithio i'r Alban i weld y deintydd GIG yr oeddent wedi cofrestru gyda hwy'n flaenorol. Nid yw'n dda.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i Siân Gwenllian am gyflwyno’r ddadl fer hon am gynyddu llefydd hyfforddi deintyddol. Mae hi wedi amlinellu’r achos dros wella’r gweithlu yn y maes hwn a'r potensial ar gyfer darparu gwasanaethau deintyddol dan yr NHS drwy sefydlu ail ysgol ddeintyddol yng Nghymru, ac mae hi’n gwneud yr achos o blaid Bangor fel lleoliad.

Rwyf am achub ar y cyfle hwn i nodi sut ŷn ni'n comisiynu’r gweithlu deintyddol a'r gwaith ŷn ni'n ei wneud i gynyddu niferoedd a gwella mynediad at wasanaethau deintyddol yr NHS. Yr ysgol ddeintyddol ym Mhrifysgol Caerdydd yw’r unig un yng Nghymru. Y Llywodraeth a'r ysgol ddeintyddol sy'n cytuno ar nifer y llefydd hyfforddi deintyddol, sef 74 y flwyddyn fel arfer. Mae'r rhif hwn yn cyfateb i nifer y llefydd hyfforddi sylfaen sydd ar gael i fyfyrwyr ar ôl graddio. Ar hyn o bryd, byddai cynyddu’r niferoedd hyn ymhellach yn heriol oherwydd yr hinsawdd ariannol bresennol a'r pwysau ar bwrs y wlad.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi cyhoeddi cynllun ar gyfer y gweithlu deintyddol fydd yn ein helpu i nodi’r ffyrdd gorau o ddatblygu’r gweithlu yng Nghymru yn y dyfodol. Byddai unrhyw gynnydd yn y broses o gomisiynu llefydd hyfforddi yn dibynnu ar ddata a modelu cadarn, wrth gwrs, ar gyfer y gweithlu. Mae yna ymrwymiad penodol i ddatblygu modelau gweithlu deintyddol sy’n seiliedig ar anghenion a chynllunio senarios. Bydd hyn yn ein helpu i lywio maint a siâp y gweithlu, ac i gomisiynu addysg a hyfforddiant yn y dyfodol.

Rwy'n deall angerdd yr Aelod, sydd wedi'i hen sefydlu a'i ailadrodd eto yn y Siambr heddiw, ac os yw'n caniatáu imi ddweud hynny, rwyf hefyd yn deall y ddadl sydd wedi'i hymchwilio'n dda dros yr achos dros ail ysgol ddeintyddol yng ngogledd Cymru, i gynnig hyfforddiant gradd. Ond ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gynlluniau pendant ar gyfer ysgol o'r fath. Nid yw hyn yn golygu na fydd yna byth ail ysgol yng ngogledd Cymru, neu rywle arall yng Nghymru, pe bai'r hinsawdd ariannol yn gwella. Byddai angen i unrhyw benderfyniad fod yn seiliedig ar ddata a thystiolaeth gadarn, a buaswn am weld prifysgolion a byrddau iechyd yn cydweithio ar y cynigion.

Yr wythnos diwethaf, ymunais â'r Prif Weinidog yn agoriad swyddogol ysgol feddygol newydd gogledd Cymru ym Mangor, ac roedd Siân Gwenllian yno hefyd, fel y nododd, ac fe fanteisiodd ar y cyfle i fy atgoffa am ei galwad am ysgol ddeintyddol. Roedd yr ysgol feddygol ym Mangor yn benllanw pum mlynedd o waith caled, ac yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr a Llywodraeth Cymru. Mae'n enghraifft bwerus o'r hyn y gellir ei gyflawni drwy weithio mewn partneriaeth effeithiol. Fodd bynnag, fel y cydnabuwyd yn y ddadl eisoes, rwy'n credu, ni fydd cynyddu'r ddarpariaeth o hyfforddiant deintyddol yng Nghymru ar ei ben ei hun yn gwella mynediad at ofal GIG. Rhaid inni ddiwygio deintyddiaeth y GIG hefyd.

Un o'r prif nodau ar gyfer diwygio deintyddiaeth yw gwella mynediad i gleifion newydd, er mwyn sicrhau, fel y clywsom heddiw, y bydd pobl sydd wedi cael trafferth yn y gorffennol i gael mynediad at ofal deintyddol y GIG yn gallu gwneud hynny. Rydym wedi cyflwyno cyfres o ddiwygiadau i'r contract unedau o weithgaredd deintyddol presennol. Mae'r wybodaeth reoli ddiweddaraf yn dangos bod bron i 380,000 o gleifion newydd wedi cael cwrs llawn o driniaeth ers mis Ebrill 2022, o ganlyniad i'r diwygiadau hyn, a bod 114,000 arall wedi cael triniaeth frys ers 2023. Nid yw'r rhain yn niferoedd bach, ac mae'n golygu bod bron i 0.5 miliwn o bobl nad oeddent wedi cael gofal deintyddol y GIG ers mwy na phedair blynedd bellach wedi ei gael. Yn amlwg, mae rhagor i'w wneud. Ond mae'r niferoedd hyn yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei hymrwymiad i wella mynediad at ddeintyddiaeth y GIG.

Mae hefyd yn bwysig ein bod yn cydnabod, fel rydym yn ei wneud rwy'n siŵr, fod y gweithlu deintyddol yn cynnwys mwy na deintyddion. Mae cymysgedd sgiliau yn parhau i fod yn nod clir mewn deintyddiaeth wrth symud ymlaen. Dangoswyd hyn drwy sefydlu rhaglen hylenwyr deintyddol ym Mangor, a chynnydd yn nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer therapyddion deintyddol yng Nghaerdydd. Fe wnaethom y penderfyniadau i ehangu'r tîm deintyddol, ac i sicrhau y gallai weithio'r cwmpas ymarfer llawn. Ac fe gawsom wared ar y problemau rheoleiddiol a oedd yn atal hylenwyr a therapyddion deintyddol rhag dechrau a gorffen cyrsiau triniaeth y GIG. Mae gennym gynlluniau hefyd i gynyddu nifer yr hylenwyr a therapyddion deintyddol sy'n cael eu hyfforddi. Byddant yn chwarae rhan bwysig yng ngweithlu deintyddol y dyfodol, wrth inni barhau i ddatblygu deintyddiaeth y GIG i ganolbwyntio ar atal a symud i ffwrdd o hen fodel diflas yr unedau o weithgaredd deintyddol.

Rwy'n gobeithio bod yr ymateb hwn wedi bod yn ddefnyddiol, ac rwy'n gobeithio ei fod hefyd wedi rhoi sicrwydd i'r Aelodau fod y materion a godwyd yn y ddadl bwysig hon, a gyflwynwyd gan Siân Gwenllian y prynhawn yma, yn flaenoriaethau i minnau hefyd, ynghyd â'r camau a gymerwn i fynd i'r afael â hwy.

18:55

Daeth y cyfarfod i ben am 18:59.