Y Cyfarfod Llawn

Plenary

17/09/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn. Croeso nôl i chi i gyd wedi toriad yr haf. Cyn i ni gychwyn ar yr eitem gyntaf, hoffwn hysbysu’r Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar ddydd Llun 9 Medi, a bod Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar ddydd Llun 16 Medi.

1. Enwebiadau ar gyfer Cadeiryddion Pwyllgorau

Eitem 1 sydd nesaf. Enwebiadau ar gyfer Cadeiryddion pwyllgorau yw hwn, a dwi nawr yn mynd i wahodd enwebiadau, o dan Reol Sefydlog 17.2F, i ethol Cadeiryddion pwyllgorau. Dim ond aelod o’r grŵp gwleidyddol y dyrannwyd y pwyllgor hwnnw iddo a all gael ei enwebu’n Gadeirydd, a dim ond aelod o’r un grŵp plaid sy’n cael cynnig yr enwebiad. Cytunwyd ar y dyraniad Cadeiryddion grwpiau gwleidyddol yma yn unol â Rheol Sefydlog 17.2A ac 17.2R. Pan fo gan grŵp plaid fwy nag 20 Aelod, mae’n rhaid i’r enwebiad gael ei eilio gan aelod arall yn yr un grŵp. Os bydd unrhyw Aelod yn gwrthwynebu enwebiad, neu os ceir dau enwebiad neu fwy ar gyfer yr un pwyllgor, bydd yna bleidlais gyfrinachol yn cael ei chynnal.

Felly, symudwn ni ymlaen yn gyntaf i wahodd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, sydd wedi ei ddyrannu i’r grŵp Llafur. Oes yna enwebiad i gadeiryddiaeth y Pwyllgor Deisebau? Hannah Blythyn. 

Mae Rhianon Passmore wedi ei henwebu. Oes yna eilydd i’r enwebiad yna?

Oes, mae wedi cael ei eilio gan Mick Antoniw. Oes yna enwebiad arall ar gyfer cadeiryddiaeth y Pwyllgor Deisebau?

Mae Carolyn Thomas wedi ei henwebu gan Buffy Williams. Oes yna eilydd i’r enwebiad hynny?

Mae Joyce Watson yn eilio'r enwebiad yna o Carolyn Thomas, felly. A oes rhagor o enwebiadau ar gyfer y gadeiryddiaeth yma? Nac oes, does yna ddim rhagor o enwebiadau. Gan, felly, fod yna fwy nag un enwebiad, mi fydd yna bleidlais gyfrinachol ar gyfer y gadeiryddiaeth yna.

Dwi’n symud ymlaen nawr i wahodd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, hwn eto wedi ei ddyrannu i’r grŵp Llafur. Oes yna enwebiad ar gyfer y gadeiryddiaeth yma?

Mae Julie Morgan yn enwebu Hannah Blythyn. A oes eilydd i’r enwebiad yna?

Oes, mae yna eilyddio i hynny gan Lesley Griffiths. A oes rhagor o enwebiadau? Na, dim rhagor o enwebiadau. Felly, gan taw un enwebiad yn unig sydd, a oes yna wrthwynebiad i’r enwebiad hynny—unrhyw wrthwynebiad i’r enwebiad o Hannah Blythyn yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad? Nac oes. Gan fod un enwebiad heb ei wrthwynebu, felly, dwi’n datgan bod Hannah Blythyn wedi ei hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a phob hwyl gyda’r gwaith yna.

Gan fod yna fwy nag un enwebiad ar gyfer y Pwyllgor Deisebau, fe fydd yna bleidlais nawr yn cael ei chynnal. Bydd y bleidlais yna’n un gyfrinachol ac yn cael ei chynnal yn ystafell briffio 13, a bydd Aelodau yn derbyn e-bost yn fuan i’w hysbysu bod y pleidleisio yn agor am 2.15 p.m., ac fe fydd y cyfnod pleidleisio yn dod i ben am 4.15 p.m. Fe fyddwn ni yn cyfri’r bleidlais ac yn datgan yr enillydd ar ddiwedd y prynhawn. Reit, dyna'r housekeeping wedi ei wneud. 

2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Fe awn ni ymlaen nesaf at gwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae’r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Buffy Williams.

Y Warant i Bobl Ifanc

1. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar y warant i bobl ifanc? OQ61541

Y warant i bobl ifanc yw ein cynnig o gymorth i bob unigolyn ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg, hyfforddiant neu brentisiaeth, neu i ddod o hyd i swydd neu i ddod yn hunangyflogedig. Ers ei lansio, mae dros 38,000 o bobl ifanc wedi dechrau ar y rhaglenni cyflogadwyedd a sgiliau.

13:35

Mae darparu cyfleoedd go iawn yn hanfodol i'n pobl ifanc. Rydym ni'n gwybod, yng Nghymru, y bydd llawer yn dilyn llwybr traddodiadol drwy'r ysgol a'r brifysgol, ond mae'n amlwg nad oes un ateb yn addas i bawb o ran addysg. Mae cyrsiau mewn colegau fel Coleg y Cymoedd, yn fy etholaeth i, a phrosiectau addysg amgen, fel y Prosiect Golau Gwyrdd, sy'n cael ei redeg gan gyngor Rhondda Cynon Taf drwy elusennau fel Cambrian Village Trust, yn hanfodol i gynorthwyo myfyrwyr â gwahanol anghenion. Gyda hyn mewn golwg, a allech chi amlinellu, os gwelwch yn dda, eich cynlluniau ar gyfer ehangu cyfleoedd addysg amgen ledled Cymru yn y dyfodol, a pha ran ydych chi'n gweld prentisiaethau iau yn ei chwarae i'r rhai efallai nad ydyn nhw eisiau dilyn y llwybr academaidd confensiynol?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n cytuno'n llwyr bod pobl yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol iawn ac nad yw un ateb yn addas i bawb, a dyna pam mae'n bwysig iawn ein bod ni'n darparu'r llwybrau amgen hynny. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n wych am y warant i bobl ifanc yw y gall ddarparu'r dewis amgen hwnnw yn hytrach na'r dull dysgu traddodiadol a chael gafael ar swydd. Rydym ni'n gwybod y bydd angen cymorth sydd wir wedi'i deilwra a phenodol ar rai, ac mae'r cynllun prentisiaethau iau hwnnw y gwnaethoch chi sôn amdano yn un llwybr y mae pobl yn ei ddefnyddio. Mae wedi'i anelu at ddysgwyr blynyddoedd 10 ac 11, ac maen nhw'n mynychu'r coleg yn llawn amser—maen nhw'n cyflawni rhaglen dwy flynedd. A'r hyn sy'n wych yw ei fod yn cael ei gynnig ar hyn o bryd gan tua phum coleg yng Nghymru ac mae'n helpu tua 150 o ddysgwyr. Nawr, mae Estyn newydd gynnal adolygiad o'r rhaglen prentisiaethau iau, ac rydym ni bellach yn ystyried yr argymhellion sydd wedi dod o ganlyniad i hwnnw. Ond rwy'n credu, mae'n debyg, bod hon yn adeg briodol hefyd i ni longyfarch y bobl hynny a fu'n llwyddiannus yn y digwyddiad WorldSkills a gynhaliwyd yn Lyon. Mae hyn yn rhywbeth y mae Cymru yn ei wneud yn dda iawn, iawn. Rydym ni'n gwneud mor dda bob blwyddyn—rwy'n dweud 'ni'; nid ni, ond y bobl ifanc hynny sydd wedi dilyn y llwybrau anhraddodiadol hynny ond sydd â sgiliau o'r radd flaenaf. Un o'r rheini yw Ruben Duggan o Fanmoel yn y Coed Duon, a enillodd fedal arian mewn plymio a gwresogi. Ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd eisiau anfon ein llongyfarchiadau iddo ef, ac i weddill y bobl a lwyddodd mor dda yn y digwyddiadau WorldSkills hynny.

Trwy'r warant i bobl ifanc, dylem ni fod yn gweld mwy o bobl mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant, ond rydym ni'n gweld y gwrthwyneb, yn anffodus. Rhybuddiodd penaethiaid prifysgolion fis diwethaf bod angen i ni boeni am nifer y bobl ifanc o Gymru sy'n gwneud ceisiadau am leoedd mewn addysg uwch, sydd yr isaf yn y DU yn ôl data Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau. Nid yw targedau prentisiaeth wedi cael eu bodloni yn gyson, ac yna maen nhw wedi cael eu diwygio i lawr i 125,000. Y mis Medi hwn, yn ôl ColegauCymru, rydym ni'n edrych ar 10,000 yn llai o bobl yn dechrau prentisiaethau oherwydd toriadau cyllideb Llywodraeth Cymru, a fydd yn effeithio'n sylweddol ar economi Cymru hefyd. 14.5 y cant yw cyfradd y bobl yng Nghymru rhwng 19 a 24 oed nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, neu NEET, sydd wedi cynyddu'n araf 5.3 y cant dros y pum mlynedd diwethaf. Nid yw beth bynnag y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn gweithio. Ni fydd y warant i bobl ifanc yn helpu pobl ifanc i gaffael sgiliau a hyfforddiant os yw Llywodraeth Cymru wedi torri'r gyllideb sgiliau a hyfforddiant yn sylweddol. Sir Ddinbych sydd â'r drydedd gyfradd diweithdra ymhlith pobl ifanc uchaf yng Nghymru, ac mae gorllewin y Rhyl yn un rhan o bump o gyfanswm sir Ddinbych, sy'n ffigwr digalon iawn. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ddychwelyd ei haddewid prentisiaeth yn ôl i 125,000 a darparu'r cyllid angenrheidiol i roi'r cychwyn i'n pobl ifanc y maen nhw'n ei haeddu?

Wel, dydw i ddim yn credu fy mod i'n mynd i ymddiheuro am ein record ar brentisiaethau. Rydym ni wedi gwneud yn ardderchog, yn enwedig pan fyddwch chi'n cymharu'r hyn sydd wedi digwydd yn Lloegr. Ac os edrychwch chi ar ddiweithdra ymhlith pobl ifanc, sy'n rhywbeth y gwn ein bod ni i gyd yn poeni amdano, os nad ydych chi'n cael pobl ifanc i mewn i waith yn gynnar, mae'n debygol y bydd yn effeithio arnyn nhw am weddill eu bywydau. Felly, mae datrys hynny'n iawn yn arwyddocaol ac yn bwysig. A'r ffaith yw, ydyn, mae cyfraddau diweithdra ymhlith pobl ifanc yn rhy uchel yng Nghymru, ar 7.4 y cant, ond maen nhw'n llawer iawn gwell nag y maen nhw yn Lloegr ar ôl 14 mlynedd o Lywodraeth Dorïaidd—11.3 y cant yno. Felly, rydym ni'n gwneud llawer yn well, ac mae hynny diolch i'r warant honno yr ydym ni wedi ei rhoi i'r bobl yng Nghymru.

Toriadau Posibl i Wariant gan Lywodraeth y DU

2. Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU am effaith toriadau posibl i wariant gan Lywodraeth y DU ar drigolion Gorllewin De Cymru? OQ61501

Cefais gyfarfod gyda'r Canghellor ar 21 Awst, ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ar y pryd. Nawr, fe wnaethom ni drafod goblygiadau'r sefyllfa gyllidol dynn a'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus allweddol, a byddwn yn parhau i flaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus sydd bwysicaf i bobl Cymru.

13:40

Diolch, Prif Weinidog, a llongyfarchiadau ar gymryd y swydd newydd hon, sy'n wych.

Yn anffodus, mae bron i un o bob chwech o bobl hŷn yn byw mewn tlodi, a chan fod gan Gymru fwy o bobl hŷn na gweddill y DU fel cyfran, bydd ymosodiad y Canghellor ar lwfansau tanwydd y gaeaf, sydd wedi'i ysgogi gan ideoleg, yn ofnadwy i'm hetholwyr. Nid oes gan bob un ohonom ni ffrindiau cyfoethog a wnaiff dalu am ein sbectol neu wisgo ein gwragedd yn y ffasiynau diweddaraf. I lawer o bobl hŷn, maen nhw'n wynebu dewis llwm y gaeaf hwn: gwres neu fwyta. Prif Weinidog, os na allwch chi berswadio Llywodraeth y DU i ailgyflwyno lwfans tanwydd y gaeaf, pa gamau wnaiff eich Llywodraeth chi eu cymryd i sicrhau nad yw pobl hŷn yng Nghymru yn rhewi y gaeaf hwn? 

Wel, diolch yn fawr iawn, Altaf. Mae hyn yn sicr yn rhywbeth sy'n achosi cryn bryder ymhlith pobl hŷn yng Nghymru, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod hynny. Mae hyn yn sicr yn rhywbeth sydd wedi codi dro ar ôl tro gyda mi ar y strydoedd yn ystod fy ymarfer gwrando dros yr haf. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw mai gwaith y Llywodraeth yw gwneud yn siŵr ei bod hi'n gallu mantoli'r cyfrifon, a'r gwir amdani yw bod y Ceidwadwyr wedi gadael twll du gwerth £22 biliwn ac nid yw hwnnw'n swm dibwys. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw bod Llywodraeth Cymru, eisoes, yn rhoi cymorth sylweddol i warchod y bobl fwyaf agored i niwed. Dim ond un enghraifft o hynny yw ein bod ni'n rhoi £30 miliwn i gynorthwyo pobl yn ein prosiect Nyth Cartrefi Clyd. Felly, mae llawer iawn o gymorth. A'r peth arall, wrth gwrs, yw y dylai'r bobl hynny sy'n gymwys wneud cais, ac rydym ni wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU dros yr haf i wneud yn siŵr bod pobl sy'n gymwys, ac mae llawer iawn nad ydyn nhw'n derbyn y credyd pensiynwyr ar hyn o bryd, y dylen nhw fod yn gwneud cais, sy'n golygu y bydden nhw'n gymwys i gael y cymorth tanwydd gaeaf hwnnw.

Ceir dewisiadau eraill ar gyfer 'mantoli'r cyfrifon', fel rydych chi'n ei ddisgrifio. Bydd tua 82,000 o bensiynwyr yn fy rhanbarth i ar eu colled oherwydd cynllun Llywodraeth y DU i dorri taliad tanwydd y gaeaf. Dywedodd eich Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol eich hun y bydd y cam gan Weinidogion Llafur yn gwthio pensiynwyr ledled Cymru i dlodi tanwydd dyfnach. Nid yw Llywodraeth Lafur y DU wedi cynnal asesiad effaith hyd yn oed. A yw eich Llywodraeth chi wedi cynnal asesiad o faint o'n dinasyddion oedrannus fydd yn cael eu heffeithio? Sut ydych chi'n mynd i'w cynorthwyo y gaeaf hwn, oherwydd bydd yn rhaid i chi eu cynorthwyo; fyddan nhw'n mynd i mewn i ysbytai? Faint mae'r penderfyniad hwn gan Lafur y DU yn mynd i'w gostio i Lywodraeth Cymru? A ydych chi'n condemnio'r toriad?

Wel, yr hyn yr wyf i'n ei wybod yw bod y clo triphlyg wedi cael ei sicrhau hefyd, ac mae hynny'n golygu bod £900 o gyllid ychwanegol eleni i bensiynwyr a £400 y flwyddyn nesaf i bensiynwyr. Ond rwy'n derbyn bod yna bobl sy'n teimlo'n rhwystredig iawn am y sefyllfa hon. Felly, beth ydym ni'n ei wneud yn Llywodraeth Cymru? Oherwydd dyna rwyf i yma i'w wneud, bod yn atebol am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn Llywodraeth Cymru. Nawr, rydym ni wedi darparu, er enghraifft, £5.6 miliwn o gyllid i'r Sefydliad Banc Tanwydd ers mis Mehefin 2022 i gynorthwyo'r ddarpariaeth o gynllun talebau tanwydd a chronfa wres genedlaethol. Mae'r gronfa gynghori sengl wedi helpu mwy na 280,000 o bobl i ymdrin â gwerth dros £1.1 miliwn o broblemau lles cymdeithasol ers mis Ionawr 2020. Felly, rydym ni'n darparu'r cymorth, ond, yn amlwg, mae cyfrifoldeb ar Lywodraeth y DU ac mae cyfrifoldeb arnom ni.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, fe wnaethoch chi dynnu sylw at y ffaith eich bod wedi cyfarfod â'r Canghellor yn ôl ym mis Awst, ac rwy'n gobeithio, yn y sgyrsiau hynny, eich bod chi wedi cyfeirio'r Canghellor at y dicter gwirioneddol sy'n bodoli ynghylch y cam hwn i dynnu lwfans tanwydd y gaeaf yn ôl yma yng Nghymru. A wnaethoch chi ddangos eich dicter a'ch mantell ac, mewn gwirionedd, dweud wrthi ei bod hi wedi gwneud y penderfyniad polisi anghywir, a sut y bydd hyn yn effeithio ar 400,000 o bensiynwyr yma yng Nghymru ac yn cymryd gwerth £110 miliwn o fudd-daliadau oddi wrth rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas?

13:45

Wel, rwy'n deall bod hwn yn gyfnod anodd a gofidus iawn i lawer o bensiynwyr yng Nghymru. Mae pobl, fel y dywedais i, wedi codi'r pryder hwnnw gyda mi yn ystod yr haf hwnnw o wrando. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod y bu'n rhaid i Lywodraeth y DU wneud rhai penderfyniadau anodd iawn. Os edrychwch chi ar Brexit, rydych chi'n gweld y ffaith bod allforion wedi gostwng yn sylweddol o'r Deyrnas Unedig. Cawsom ni Lywodraeth Liz Truss a wthiodd daliadau cyfradd llog i fyny. Digwyddodd yr holl bethau hyn, a nawr mae'n rhaid i ni glirio'r llanast y gwnaethoch chi ei adael.

Dim ymddiheuriad. Dim edifeirwch. A'r ffigur a ddywedais i wrthych chi oedd y bydd 400,000 o bensiynwyr Cymru yn colli'r cymorth hwn, y cymorth hanfodol hwn sydd ei angen arnyn nhw i gadw eu hunain yn gynnes y gaeaf hwn. Dyma'r polisi anghywir a'r dewis anghywir, ac mae eich cydweithwyr yn San Steffan wedi gwneud y dewis hwnnw ac wedi tynnu'r budd-dal hwnnw yn ôl. Ond nid yw'n rhy hwyr. A wnewch chi ysgrifennu at y Canghellor, erfyn ar y Prif Weinidog i ddiddymu'r penderfyniad polisi hwn a rhoi'r arian hwnnw yn ôl ym mhocedi pensiynwyr y gaeaf hwn fel y gallan nhw gadw eu hunain yn gynnes? Oherwydd dywedodd ffigur eich plaid eich hun yn 2017 y byddai'r penderfyniad polisi hwn o dynnu lwfans tanwydd y gaeaf yn ôl yn golygu y byddai 4,000 o farwolaethau pensiynwyr cynamserol o'i herwydd.

Wel, fe fyddaf i'n atebol am weithredoedd fy Llywodraeth i, a bydd yn rhaid i Keir Starmer fod yn atebol am weithredoedd ei Lywodraeth ef. Nid wyf i'n mynd i ddod yma wythnos ar ôl wythnos i ymateb i gwestiynau a ddylai gael eu gofyn yn briodol i Keir Starmer. Os ydych chi eisiau mynd i ofyn i Keir Starmer, dylech chi fod wedi mynd i San Steffan. Nawr, yr hyn y gwnaf i ei wneud yma yw gwneud yn siŵr bod pobl wedi deall bod llawer o ffyrdd, mewn gwirionedd, yr ydym ni'n cynorthwyo pobl yng Nghymru gyda'u tanwydd gaeaf, yn enwedig y rhai sydd fwyaf agored i niwed. Mae gennym ni'r cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor—mae hynny'n 0.25 miliwn o aelwydydd sy'n cael eu cynorthwyo i dalu dim treth gyngor o gwbl—mae hynny'n golygu ei fod yn eu rhyddhau i allu gwario'r arian hwnnw ar danwydd y gaeaf. Rydym ni'n gwybod bod y cymorth hwnnw y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi wedi helpu—gwerth £137 miliwn o gymorth wedi mynd i bocedi pobl yng Nghymru. Llywodraeth Cymru sy'n gwneud yn siŵr bod pobl yn hawlio'r hyn sy'n perthyn iddyn nhw. Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU dros yr haf ar yr ymgyrch benodol honno, rydym ni wedi cynnal ein hymgyrch ein hunain, gan weithio gyda llywodraeth leol, i wneud yn siŵr bod y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn cael y cymorth y maen nhw'n ei haeddu.

Prif Weinidog, fe wnaethoch chi roi llawer o sylw yn eich cyfweliad ddydd Sul i ddweud eich bod chi'n mynd i sefyll dros Gymru pan fo angen i hynny ddigwydd a chodi llais dros bobl yma yng Nghymru. Rwyf i wedi dweud wrthych chi, ar sail ffigurau eich plaid eich hun, 4,000 o bobl—. Rwy'n clywed yr Aelod dros Flaenau Gwent yn ochneidio at y sylw am 4,000 o farwolaethau cynamserol. Eich ffigur chi o 4,000 o farwolaethau cynamserol yw hwn. Tynnu gwerth £110 miliwn o gymorth yn ôl a 400,000 o bensiynwyr yn wynebu gaeaf llwm iawn yn wir. A fyddech chi'n cytuno â mi, ar ôl dau gyfle i sefyll dros Gymru yma ar lawr Senedd Cymru, eich bod chi wedi methu'n druenus yn eich taith gyntaf allan, ac yn y pen draw y pensiynwyr fydd yn talu pris y methiant hwnnw yma yng Nghymru gan fod eich cydweithwyr yn San Steffan wedi dewis polisi diwerth dros wneud yn siŵr eu bod nhw'n cadw pensiynwyr yn gynnes yma yng Nghymru?

Fe wnaf i ddweud wrthych chi pwy sydd wedi methu'n druenus: eich Llywodraeth chi. Eich Llywodraeth chi a adawodd bobl y wlad hon, y rhai mwyaf agored i niwed, mewn sefyllfa enbyd oherwydd i chi chwalu'r economi. Fe wnaeth Liz Truss, rhywun y gwnaethoch chi ei chefnogi—[Torri ar draws.] Fe wnaethoch chi gefnogi Liz Truss ac fe wnaeth hi wthio cyfraddau llog i fyny. Mae'n golygu bod gennym ni dwll gwerth £22 biliwn—

A allaf i gael ychydig o dawelwch i glywed y Prif Weinidog, os gwelwch yn dda?

Fe wnaethoch chi adael twll gwerth £22 biliwn y mae'n rhaid i ni ei lenwi nawr. Lle mae eich ymddiheuriad chi? Lle mae eich ymddiheuriad chi? Fe ddywedaf wrthych chi beth: rydych chi eisiau fy nwyn i gyfrif, fe allwch chi fy nwyn i gyfrif am yr hyn sy'n digwydd yn y Siambr hon, ond Keir Starmer sy'n dal i fod yn gyfrifol am drwsio'r llanast y gwnaethoch chi ei adael.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rhyw ychydig dros fis sydd yna ers roedden ni'n sefyll yn y fan hyn yn llongyfarch y Prif Weinidog newydd ar ei phenodiad. Rŵan, yn ein sesiwn gyntaf i'w holi hi, beth rydym ni'n ei ganfod o hyd, neu beth rydym ni'n trio ei ganfod, ydy beth yn union mae'r penodiad newydd yn ei olygu i Gymru.

Fel ei rhagflaenydd—ei dau ragflaenydd, a dweud y gwir, dros y chwe mis diwethaf—mae'r Prif Weinidog newydd yn dweud wrthym ni dro ar ôl tro y dylai bod â dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio mewn partneriaeth fod o fudd i Gymru. Nid yw'n teimlo felly pan ddaw i daliad tanwydd y gaeaf. Mae'r ddwy blaid, wrth gwrs, Llafur a'r Ceidwadwyr, yn gydgynllwynwyr yn hyn o beth—syniad a gynigiwyd gan Brif Weinidog y DU Ceidwadol ac a gyflwynwyd yn y pen draw gan Brif Weinidog y DU Llafur. A yw Prif Weinidog Llywodraeth Cymru yn gweld, trwy gymeradwyo, fel y mae hi wedi ei wneud, y penderfyniad anodd gan Rachel Reeves, ei bod hi mewn gwirionedd yn cymeradwyo parhad cyni cyllidol y Ceidwadwyr?

13:50

Wel, os oedd arweinydd Plaid Cymru eisiau dwyn Llywodraeth y DU i gyfrif, efallai y dylai fod wedi glynu wrth ei gynllun cyntaf a mynd i San Steffan. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw, oherwydd y bartneriaeth sydd gennym ni bellach gyda Llywodraeth y DU, yr haf hwn rydym ni wedi gallu rhoi dyfarniadau cyflog sy'n goresgyn chwyddiant i weision cyhoeddus ledled Cymru—dros 200,000 o bobl yn elwa o lwfans cyflog yr oeddem ni'n gallu ei roi, dyfarniad cyflog, oherwydd y Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan. Ac ar ben hynny, fel y byddaf yn amlinellu yn ddiweddarach heddiw, rydym ni'n gallu rhoi bargen llawer gwell i'r gweithwyr yn Tata. Felly, dim ond dwy enghraifft yw'r rheini o ddyddiau cynnar iawn yn y trefniant partneriaeth newydd hwn lle'r ydym ni'n cyflawni'n uniongyrchol dros bobl Cymru. 

Rwy'n falch bod y Prif Weinidog yn cydnabod fy ymrwymiad i Gymru o fod yma yn ymladd dros Gymru yn Senedd Cymru. Rydym ni'n gwybod bod ganddi ei sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi fel y Farwnes Morgan o Drelái, wrth gwrs. Rydym ni'n clywed Llafur yn siarad am benderfyniadau anodd, onid ydym ni? Tybed a hoffai'r Prif Weinidog gynnig sylwadau ar y penderfyniadau anodd iawn y mae'n rhaid i bensiynwyr mewn tlodi eu gwneud nawr o ran dewis rhwng gwres a bwyta. Mae'n ddewis eithaf anodd, onid yw? Yr hyn yr ydym ni'n ei weld, yn anffodus, ac roeddwn i'n ofni hyn, yw amharodrwydd Llafur yng Nghymru i sefyll i fyny i'w meistri yn Llundain ac ymladd dros Gymru a thros yr hyn sydd er budd y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Nawr, nid yw hyn yn sefyll dros Gymru gan y Prif Weinidog; mae'n achos o ildio a rhoi plaid, unwaith eto, cyn gwlad. 

Nawr, hoffwn symud ymlaen, os caf, at fater arall. Yn 2007, addawodd un o'i rhagflaenwyr eraill, Carwyn Jones, y byddai Llafur yn cael gwared ar fformiwla Barnett. Ni ellid ei hamddiffyn, meddai. Pam, felly, yn ei llythyr diweddar i mi yr oedd y Prif Weinidog yn dal i'w hamddiffyn, a pham wnaeth Llafur fethu â chadw ei gair?

Wel, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fy mod i'n atebol am yr hyn sy'n gyfrifoldeb i mi, ac, os bydd disgwyl i mi lenwi twll bod tro y bydd rhywbeth yn newid yn San Steffan, yna nid ydym ni'n mynd i fynd yn bell iawn yma. Felly, gadewch i ni fod yn hollol eglur: byddaf yn cymryd cyfrifoldeb am fy ngweithredoedd yma, fy nghyfrifoldebau i, ond, os ydych chi eisiau holi Keir Starmer, dylech chi fod wedi mynd i San Steffan. 

Nawr, dim ond o ran fformiwla Barnett, roedd hi'n drafodaeth yr ydym ni wedi ei chael eisoes gyda'r Canghellor newydd. Llwyddais i wneud hynny dros yr haf, ond hefyd i siarad â Keir Starmer am sut y mae angen cymorth arnom ni yn Llywodraeth Cymru yn ariannol ac adolygiad o'r sefyllfa ariannol, a addawyd ym maniffesto Cymru. Felly, mae honno'n sgwrs yr ydym ni'n ei cychwyn. Cawn weld pa mor bell yr awn ni, ond gallaf eich sicrhau chi, eisoes—eisoes—maen nhw'n barod i wrando ac, wrth gwrs, bydd yn rhaid i ni i gyd aros tan y byddwn ni'n gweld y gyllideb honno, a fydd yn dod yn yr hydref.

Rwy'n cael fy meirniadu gan y Prif Weinidog am fynnu dros Gymru yr hyn sydd ei angen ar Gymru o ran cyllid teg. Y Blaid Lafur a ddywedodd wrthym ni y byddai popeth yn hyfryd cyn gynted ag y byddai gennym ni Lywodraeth Lafur yn San Steffan, ac nawr mae hynny gennym ni. Ac rydym ni wedi gweld toriad i daliad tanwydd y gaeaf i bensiynwyr, miloedd lawer ohonyn nhw'n byw o dan y llinell dlodi. 

Nawr, ar danwydd y gaeaf a chyllid teg, mae'r Prif Weinidog wedi cadarnhau mai Keir Starmer sy'n gwneud y penderfyniadau. Erbyn hyn, wrth gwrs, mae ganddi Lywodraeth ei hun—dim un newydd a dweud y gwir. Mae hyd yn oed wedi sôn am ddod â wyneb cyfarwydd yn ôl fel angor i'r Llywodraeth honno: y Prif Weinidog olaf ond un. Yn uchel ei barch, wrth gwrs, ond wedi synnu'n fawr ei hun, rwy'n siŵr, o fod yn ôl yn chwarae rhan mor ddylanwadol o fewn y Llywodraeth hon. Cawn weld pa mor ddylanwadol yw'r swyddogaeth. Nawr, os gwnaiff y Prif Weinidog faddau i mi am ymhelaethu ychydig ar y metaffor a ddewiswyd ganddi, os cymerwn ni Lywodraeth yn ei chyfanrwydd, mae angor, wrth gwrs, yn dda iawn am eich cadw chi'n llonydd, yn dda iawn am eich dal chi'n ôl, ond ddim cystal am symud pethau ymlaen. Felly, heddiw, gofynnaf i'r Prif Weinidog roi syniad i ni o leiaf am yr hyn y mae hi'n credu y mae ei Llywodraeth yn ei wneud a'i thrywydd. Rydym ni ar ein trydydd Gweinidog iechyd mewn chwe wythnos—drws tro i gystadlu â'r Torïaid. Dywedodd wrth y BBC bod ganddi strategaeth, ond ble mae hi? Pryd fyddwn ni'n gweld rhestrau aros yng Nghymru yn dechrau lleihau? Mae Keir Starmer yn dweud bod y Torïaid wedi torri'r GIG yn Lloegr a'i fod yn cynllunio proses ailadeiladu. A wnaiff hi dderbyn o'r diwedd nawr ei bod hi a'i rhagflaenwyr Llafur wedi torri ein un ni, a bod angen diwygio brys arnom ni, rhywbeth y mae Llafur wedi dangos, dro ar ôl tro, nad yw'n gallu ei wneud?

13:55

Wel, rwy'n credu eich bod chi'n gwrando ar wahanol ymgyrch i mi, oherwydd roedd yr ymgyrch a glywais gan Lafur yn un a oedd yn ofalus iawn mewn gwirionedd ynglŷn â rheoli disgwyliadau oherwydd y llanast yr oeddem ni'n gwybod bod y Torïaid yn ei adael i ni. Felly, os ydych chi'n credu ein bod ni wedi addo sefyllfa hyfryd yn y dyfodol, roedd honno'n wahanol ymgyrch i'r un yr oeddwn i'n ei chlywed.

Ond gadewch i mi ddweud wrthych chi'r hyn y byddaf i'n ei gynnig. Gadewch i mi ddweud wrthych chi'r hyn y byddaf yn ei gynnig. Mark Drakeford, rydych chi yn llygad eich lle, rwy'n hapus iawn ac yn falch ei fod wedi derbyn swydd yn y Llywodraeth. Bydd yn angor, ond ddywedaf i wrthych chi beth, fi yw capten y llong nawr—[Torri ar draws.]—a'r hyn y byddwn ni'n ei wneud, yr hyn y byddwn ni'n ei wneud, yw y byddwn ni'n gwasanaethu'r cyhoedd yng Nghymru. Rwyf i wedi bod ar ymarfer gwrando dros yr haf a byddaf yn cyflwyno, yn ddiweddarach heddiw, y blaenoriaethau—nid ein blaenoriaethau ni, ond blaenoriaethau'r bobl, y pethau y maen nhw eisiau i ni ganolbwyntio arnyn nhw—ond bydd yn rhaid i chi fod ychydig yn fwy amyneddgar cyn i mi gyflwyno beth ydyn nhw.

Ynni Prydain Fawr

3. Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU ynghylch sut y bydd Ynni Prydain Fawr o fudd i Ganolbarth a Gorllewin Cymru? OQ61507

Yn ystod ymweliad â fferm wynt yn sir Gâr, ces i drafodaethau cynnar, cadarnhaol iawn gyda'r Prif Weinidog. Er bod Ynni Prydain Fawr ar gam cynt o lawer na'n cwmni ynni ni, rŷn ni’n ystyried sut gallai gweithio mewn partneriaeth sicrhau manteision i bob rhanbarth yng Nghymru.

Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch o glywed eich bod chi wedi dod i sir Gâr i weld fferm wynt ym Mrechfa gyda Syr Keir Starmer. Ac ynddi hi, gwnaeth e ddweud yn hyderus iawn, iawn y byddai GB Energy yn dod â manteision hollbwysig i Gymru. Nawr, ers yr ymweliad, dwi wedi bod yn stryglo ychydig bach i ddeall beth yn union mae hynny yn ei olygu; gobeithio y byddwch chi'n gallu esbonio mwy prynhawn yma. Fel dwi'n gweld pethau, mae GB Energy'n tanseilio'n gallu ni fel cenedl i ddatblygu sector ynni adnewyddadwy domestig sy'n elwa'n cymunedau ni, gan gynnwys drwy'r gwaith mae Ynni Cymru yn ei wneud. I fi, mae GB Energy'n edrych fel cyfrwng ar gyfer unwaith eto defnyddio adnoddau naturiol Cymru er budd Ystad y Goron ac, yn y pen draw, y Trysorlys, a bod yr un hen batrwm rŷn ni wedi'i weld dros y blynyddoedd o'n glo, ein dur, ein dŵr, ein llechi ac yn y blaen yn cael eu hecsbloetio er budd San Steffan, nid er budd cymunedau Cymru.

Nawr, dim ond drwy ddatganoli Ystad y Goron y gallwn ni ddatblygu system ynni sydd wir o fudd i'n cymunedau, ac rŷch chi fel Llywodraeth yn cytuno â ni ar hynny. Felly, a allwch chi gadarnhau, Brif Weinidog, eich bod chi'n barod wedi cael sgwrs gyda San Steffan ynglŷn â datganoli Ystad y Goron?

Diolch yn fawr. Wel, roeddwn i'n falch dros ben bod Keir Starmer wedi dod i Gymru yn gynnar iawn, unwaith y gwnaethom ni ei wahodd e, a'i fod e'n falch iawn o ymweld â'r fferm wynt yna yn sir Gâr, achos mae hwn yn rhan o sut rŷn ni'n mynd i dyfu'r economi, yr economi werdd, yng Nghymru. Mae lot mawr o botensial gyda ni, ond dyw hi ddim yn rhywbeth sy'n rhwydd i'w wneud, ac mae'n hollbwysig ein bod ni'n defnyddio pob gallu sydd gyda ni, nid jest yng Nghymru, ond ddefnyddio'r leverage ychwanegol yna sy'n dod o gydweithredu gyda'r Llywodraeth newydd yn San Steffan.

Beth gallaf ei ddweud yw bod Trydan Gwyrdd Cymru ar flaen y gad. Rŷn ni wedi dechrau ar yr ymgyrch yma yn barod. Mae eisoes ffermydd gwynt wedi eu codi mewn ardaloedd sydd eisoes yn dod ag arian nôl i mewn i'r pwrs cyhoeddus. Ond mae Trydan Gwyrdd Cymru dim ond yn gallu gwneud stwff sydd ar dir. Dwi'n meddwl bod yna gyfle nawr inni gydweithio gyda GB Energy i weld pa mor bell rŷn ni'n gallu mynd trwy gydweithredu pan fo'n dod i offshore developments hefyd. Felly, mae'r trafodaethau yna wedi dechrau, o ganlyniad yr ymweliad yna gan Syr Keir Starmer, maen nhw'n barod iawn ac yn awyddus i ddysgu o beth rŷn ni wedi'i wneud yn barod, ond wrth gwrs bydd y swm sydd gyda nhw i'w roi i mewn i'r cyllid yn help aruthrol i ni, ac maen nhw'n awyddus iawn i fod o help i ni.

14:00

Rwy'n credu bod hwn yn gwestiwn da ar y papur trefn heddiw, ac rwy'n awyddus i ddeall sut y byddai GB Energy o fudd i ganolbarth Cymru. Byddwch yn ymwybodol o'r hanes maith yn y canolbarth o'r pryderon am or-luosogiad datblygiadau ffermydd gwynt, ond yr hyn sy'n fwy o bryder yw diwydiannu tirweddau gyda pheilonau yn rhedeg trwy gymoedd a bryniau ar draws y canolbarth. Felly, a gaf i ofyn, Prif Weinidog, o gofio'r ffaith y bu cynnig gerbron y Senedd hon ychydig cyn yr haf a oedd yn galw am ddiweddariad i 'Polisi Cynllunio Cymru', fel bod cludiant seilwaith newydd yn gwbl danddaearol yn hytrach na dim ond yr opsiwn a ffefrir gan Lywodraeth Cymru, a gaf i ofyn, Prif Weinidog, o gofio'r ffaith fod gan GB Energy gylch gwaith, fel yr wyf i'n ei ddeall, i gydgysylltu gweithredwyr trawsgludo i lansio uwch-dendr ar gyfer darparu'r cadwyni cyflenwi grid, a wnewch chi efallai ailystyried y sefyllfa hon o danddaearu fel newid i 'Polisi Cynllunio Cymru', o gofio eich bod chi'n Brif Weinidog newydd â blaenoriaethau newydd, ac a wnewch chi ymrwymo hefyd i gyfarfod â GB Energy, wrth iddyn nhw ddatblygu, i ddeall sut y gallai'r canolbarth elwa o danddaearu llinellau trawsgludo yn hytrach na'r hyn a gynigir ar hyn o bryd?

Wel, diolch yn fawr iawn. Yn gyntaf oll, dydw i ddim yn mynd i ymddiheuro o ran beth yw ein huchelgeisiau o ran datblygu ynni gwyrdd. Y potensial yng Nghymru, gallai hyn fod yn drawsnewidiol i'n heconomi a bydd yn rhaid i bob un ohonom ni weithio allan sut rydym ni'n gwneud hyn tra'n gwneud yn siŵr ein bod ni'n edrych ar sicrwydd cyflenwad, fel nad ydym ni'n ddibynnol ar nwy o Rwsia a mympwyon y marchnadoedd rhyngwladol, fel ein bod ni'n edrych ar fanteision amgylcheddol bod ag ynni gwyrdd, ond hefyd fforddiadwyedd.

Gadewch i ni fod yn gwbl eglur: rydym ni wedi bod yn siarad am fforddiadwyedd ynni heddiw a cheir goblygiadau o roi popeth o dan y ddaear. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn ymwybodol nad yw'n un peth na'r llall mewn gwirionedd. Mae hyn yn anodd iawn, iawn ac yn sensitif iawn, a dyna pam rydym ni wedi cael adroddiad 'Gridiau Ynni'r Dyfodol i Gymru', ac mae hynny'n dangos y gallai'r galw am drydan yng Nghymru fod dair gwaith yn fwy erbyn 2050. Nawr, gallwch chi gladdu eich pen yn y tywod os hoffech chi yn hynny o beth, ond fel arweinydd Llywodraeth, rwy'n credu bod gennym ni gyfrifoldeb i wneud yn siŵr, er enghraifft, y gall pobl yn y canolbarth ddechrau defnyddio cerbydau trydan, ac ar hyn o bryd ni fyddan nhw'n gallu gwneud hynny gan fod y grid mor wan, felly ceir heriau. A gadewch i mi ddweud wrthych chi ein bod ni wedi ymgynnull grŵp cynghori annibynnol i ddatblygu dealltwriaeth o ddulliau posibl o ddarparu seilwaith trawsgludo trydan, ac wrth gwrs bydd yn rhaid i ni gael sgyrsiau anodd mewn meysydd sensitif ynghylch y ffordd orau o wneud hynny. Wrth gwrs, tanddaearu os yw'n ymarferol, os yw'n bosibl, os yw'n fforddiadwy, ond weithiau, yn syml, ni fydd hynny'n bosibl.

Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd

4. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd? OQ61515

Rwy'n falch iawn o ddweud bod yr ymrwymiad wedi'i gyflawni'n llawn. O ddechrau'r tymor, mae 22 o awdurdodau lleol bellach wedi cwblhau'r broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim cyffredinol i bob dysgwr yn y dosbarth derbyn hyd at flwyddyn chwech, gan gynnwys y rhai sy'n darparu prydau bwyd i ddysgwyr meithrin llawn amser.

Diolch am yr ateb.

Mae'n wych gwybod bod pob plentyn yng Nghymru, beth bynnag fo'i statws, yn ein hysgolion cynradd, yn derbyn cinio maethlon am ddim bob dydd, a sicrhawyd gan y ddwy blaid yn cydweithio yma yn y Senedd. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gweld canlyniadau cadarnhaol hyn: gwell iechyd, gwell dysgu, gwell sgiliau cymdeithasol ar gyfer ein cenedlaethau yn y dyfodol, oherwydd mae mor bwysig bod plant yn gallu dysgu pan fyddan nhw'n gallu bwyta, a bydd yn eu helpu nhw cymaint. Felly, a allai'r Prif Weinidog ddweud wrthyf i a fydd unrhyw waith gwerthuso yn cael ei wneud i fesur llwyddiant cyflwyno'r cynllun pwysig iawn hwn, a champ nodedig i'r Senedd hon?

Diolch yn fawr, Julie. Cyn i mi ateb y cwestiwn, hoffwn ddiolch i chi am y gwaith yr ydych chi wedi bod yn ei wneud ar y rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol. Mae'n bwysig cydnabod bod rhai plant sy'n cael trafferth yn dod o hyd i fwyd yn ystod gwyliau'r haf, a dyna pam mae'r rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol honno wedi bod mor bwysig, a diolch i chi am gyflawni'r gwerthusiad hwnnw ar hynny.

Rwy'n credu bod hwn yn bolisi y dylem ni fod yn falch iawn ohono. Mae'n ddiddorol iawn, onid yw, bod adroddiad wedi'i gyhoeddi heddiw gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus sy'n awgrymu yn union y dylem ni fod yn cyflwyno, ar draws y Deyrnas Unedig, prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd. Onid yw'n wych mai ni yw'r rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig i wneud hynny? Ac mae'n rhaid i mi dalu teyrnged i Blaid Cymru: mae hyn yn rhan o'r cytundeb cydweithio, mae hyn yn rhywbeth a wnaethom gyda'n gilydd. Diolch i chi am y cydweithrediad hwnnw ac, rwy'n credu, pan allwn ni weithio gyda'n gilydd, y dylem ni. Mae hwnna'n wahoddiad ar gyfer y dyfodol. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod bod hyn yn rhywbeth y bydd plant ledled Cymru yn elwa ohono.

Dim ond o ran y gwerthusiad, bu tendr. Mae'r contract wedi cael ei ddyfarnu eisoes. Mae'r contract gwerthuso tair blynedd yn fuddsoddiad sylweddol ac, rwy'n credu, yn dangos y pwysigrwydd yr ydym ni'n ei neilltuo i'r polisi hwn. Felly, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn seiliedig ar dystiolaeth. Nid ar sut y mae'n cael ei wneud yn unig rydym ni'n edrych, ond 'A ydym ni'n defnyddio'r maeth cywir? A ydym ni'n defnyddio cyflenwadau lleol?' Rwy'n credu bod yr holl bethau hyn yn bethau y byddwn ni eisiau eu gweld yn ymddangos yn ystod y gwerthusiad hwnnw.

14:05

Mae gen i ddiddordeb yn eich ateb, Prif Weinidog, i Julie Morgan yn y fan yna lle gwnaethoch chi ddweud bod hwn wedi bod yn ymrwymiad a gyflawnwyd yn llawn ac, yn anffodus, rhan o'r ymrwymiad hwnnw oedd sicrhau nad oes 'unrhyw blentyn yn mynd heb fwyd'. Yn anffodus, nid yw hynny wedi cael ei gyflawni, oherwydd canfu Comisiynydd Plant Cymru, ym mis Ebrill, fod 80 y cant o'r plant a holwyd yn dal i fod yn llwglyd ar ôl bwyta pryd o fwyd a ddarparwyd mewn ysgol. Felly, yn amlwg, nid yw'r polisi hwn yr un llwyddiannus yr ydych chi'n honni ei fod os yw 80 y cant o blant sy'n cael pryd o fwyd yn yr ysgol yn dweud eu bod nhw dal i fod eisiau bwyd. Felly, beth ydych chi'n ei wneud i fynd i'r afael â hynny?

Mae'n rhaid i mi ddweud, mae'n well eu bod nhw'n cael rhywbeth, a heddiw maen nhw'n cael mwy nag unrhyw beth y maen nhw'n ei gael yn Lloegr o ganlyniad i 14 mlynedd o Lywodraeth Dorïaidd. Ond gadewch i mi ddweud wrthych chi ei fod yn bwysig. Rwy'n cydnabod bod angen i ni edrych ar hyn, a dyna pam, eisoes, yr ydym ni'n diwygio'r rheoliadau bwyta'n iach mewn ysgolion, a bydd hynny'n nodi'r hyn y ceir ac na cheir ei weini ym mhob ysgol a gynhelir yng Nghymru. A gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn rhan o'i datganiad llafar yn ddiweddarach y prynhawn yma, lle byddwn yn dathlu'r garreg filltir bwysig hon—. Gadewch i ni beidio â'i danbrisio: nid yw hyn yn rhad, ond mae'n bwysig. Mae hyn yn rhan o fynd i'r afael â'r broblem o dlodi plant yng Nghymru; mae'n golofn sylfaenol, a dylem fod yn falch iawn o hyn, a gwn y bydd y Gweinidog addysg yn rhoi pennod ac adnod i ni ar hynny yn ddiweddarach heddiw.

Parcffordd Caerdydd

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygiad arfaethedig Parcffordd Caerdydd yn Llaneirwg? OQ61542

Mae cais cynllunio parcffordd Caerdydd o dan ystyriaeth weithredol a bydd penderfyniad yn cael ei gyhoeddi maes o law.

Diolch am yr ymateb. Rwy'n croesawu'r hyn yr ydych chi wedi ei ddweud dro ar ôl tro, fel Prif Weinidog, am yr angen i dyfu'r economi. Mae parcffordd Caerdydd yn gynnig trafnidiaeth a datblygu economaidd yn nwyrain fy etholaeth. Cymeradwyir y cynnig hwn yn adroddiad Burns; mae ganddo gytundeb adran 106 ar y cyd; eto wedi'i gymeradwyo gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar liniaru amgylcheddol; ac mae wedi'i ariannu'n breifat, gyda Llywodraeth Cymru yn bartner menter ar y cyd lleiafrifol. Rydym ni i gyd yn deall nad oes gan y gyllideb drafnidiaeth y cyfalaf dros ben i gyflawni'r cynnig hwn.

Cymeradwyodd Cyngor Caerdydd y cynnig cynllunio ym mis Ebrill 2022. Cafodd ei alw i mewn gan Weinidogion Cymru ym mis Tachwedd 2022. Cynhaliwyd dau ymchwiliad arolygiaeth cynllunio bellach, ym mis Medi 2023 ac ym mis Chwefror 2024. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ba Weinidog fydd yn penderfynu ar y mater hwn nawr? A phryd allwn ni ddisgwyl penderfyniad ar ba un fydd y cynnig hwn yn cael ei gymeradwyo?

Wel, diolch yn fawr iawn. Yn amlwg, nid yw'n briodol i mi wneud sylwadau ar achos cynllunio byw, ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi, nawr bod fy Nghabinet newydd wedi'i benodi, yw y bydd Ysgrifennydd Cabinet yn cael ei neilltuo i'r achos yn ystod yr wythnos nesaf, fel y gall fod yn gweithio tuag at benderfyniad ar y mater hwn. Ond ni allaf wneud unrhyw sylw pellach ar rinweddau'r cynnig hwn, er mwyn osgoi rhagfarnu'r penderfyniad terfynol.

Prif Weinidog, fel yr ydym ni newydd glywed, er bod parcffordd Caerdydd wedi cael ei ariannu'n breifat, ceir bwriad y bydd datblygiad arfaethedig Cledrau Croesi Caerdydd yn cysylltu ag ef yn y pen draw, sy'n cael eu hadeiladu gan Gyngor Caerdydd gyda chymorth Trafnidiaeth Cymru. Fodd bynnag, fel y byddwch yn gwybod, gwnaeth Trafnidiaeth Cymru golled o bron i £300 miliwn y llynedd ac roedd angen cyllid ychwanegol gan y Llywodraeth hon o tua £125 miliwn. Mae ei brosiect metro de Cymru blaenllaw £260 miliwn dros y gyllideb hefyd ar hyn o bryd. Rwy'n credu y byddai'n ddiogel dweud bod hyder y cyhoedd yn Trafnidiaeth Cymru ar ei isaf erioed, yn enwedig o le rwyf i'n dod, ond byddai gen i ddiddordeb mewn gwybod, Prif Weinidog, a oes asesiad wedi cael ei wneud o'r gwir debygolrwydd y bydd Cledrau Croesi Caerdydd yn cysylltu â pharcffordd Caerdydd, a pha effaith y byddai'n ei chael ar ddatblygiad y parcffordd, pe baen nhw'n methu â gwneud hynny. Diolch.

14:10

Diolch. Eto, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i mi beidio â chael fy nhynnu i mewn i unrhyw faterion cynllunio, ond mae cynnig parcffordd Caerdydd ar gyfer gorsaf newydd yn Llaneirwg. Nid wyf i'n derbyn eich gosodiad nad yw Trafnidiaeth Cymru yn perfformio'n dda. Mewn gwirionedd, dyma'r gwasanaeth rheilffordd sy'n perfformio orau yng Nghymru. Wrth gwrs, yr hyn yr ydym ni'n ei wybod yw ein bod ni wedi buddsoddi symiau enfawr o arian, a dros y misoedd nesaf, byddwch yn gweld buddsoddiad newydd sylweddol yn mynd i mewn i'r gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru ac yn eu gweddnewid.

Diolch, Prif Weinidog. Gan roi'r materion cynllunio o'r neilltu, cynigiwyd i'r prosiect hwn—parcffordd Caerdydd—gael ei arwain yn gyfan gwbl gan y sector preifat i gychwyn, a gorsaf reilffordd newydd yn cael ei hariannu gan y sector preifat. Fy nealltwriaeth i yw mai £120 miliwn oedd y costau diwethaf. Mae hynny cyn COVID, felly rydym ni'n rhagweld y bydd hynny'n llawer mwy. Ai dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o hyd yw y bydd y costau hynny yn cael eu talu'n llwyr gan y datblygwyr preifat, ac os na fyddan nhw, o ble fyddai'r cyllid hwnnw i lenwi'r bwlch yn dod? Ac a allai hefyd gadarnhau a yw Trafnidiaeth Cymru wedi edrych ar fodelau gorsafoedd rheilffordd amgen ai peidio? Gellid dadlau bod y model prif reilffordd pedair llinell a gyflwynwyd gan y datblygwyr dros ben llestri, a gellid dadlau bod gorsaf teithio nawr leol, fel yr un sy'n cael ei datblygu i fyny'r rheilffordd ym Magwyr, yn fwy priodol. A yw Trafnidiaeth Cymru wrthi'n datblygu'r cynnig hwnnw fel y gall pobl dwyrain Caerdydd gael opsiwn rheilffordd pa un a yw'r cynnig hwn yn llwyddiannus ai peidio?

Diolch yn fawr iawn. Wel, yn sicr, nid wyf i'n gwneud unrhyw ymrwymiadau economaidd i'r rhaglen hon. Mae ein cyllideb wir wedi'i hymestyn, ac mae'n rhaid i ni weithio allan yn union beth yw'r blaenoriaethau. Gan siarad yn fwy cyffredinol am drafnidiaeth yn yr ardal, mae Trafnidiaeth Cymru yn gwneud gwaith i ddatblygu gorsafoedd rheilffordd newydd i'r dwyrain o Gaerdydd sydd â'r potensial i alluogi miloedd o deithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus. Byddai'r gorsafoedd hyn yn gallu gwneud defnydd o'r gwelliannau arfaethedig i reilffordd liniaru prif reilffordd de Cymru, a argymhellwyd gan yr Arglwydd Burns. Ers iddo wneud yr argymhellion hynny yn 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi i ddatblygu'r cynnig drwy Trafnidiaeth Cymru, ynghyd â buddsoddiad o £2.7 miliwn gan Lywodraeth y DU. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw'r gwahaniaeth enfawr o ran cydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ers i Lafur ddod i rym. Gwn fod Ken Skates wedi cael trafodaethau sylweddol a chyson gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol, mae'r berthynas wedi gweddnewid, ac maen nhw'n deall bod angen mwy o fuddsoddiad o ran seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru.

Ansawdd Dŵr mewn Afonydd

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gamau Llywodraeth Cymru i wella ansawdd dŵr mewn afonydd? OQ61498

Mae Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu dull dalgylch integredig i wella ansawdd dŵr yn ein hafonydd, gan gydweithredu â'r holl sectorau dan sylw. Rydym ni hefyd wedi gwneud dros £40 miliwn o gyllid ychwanegol ar gael rhwng 2022 a 2023 a 2024-25, i fynd i'r afael â heriau ansawdd dŵr ledled Cymru.

Diolch am yr ateb yna. Mae gollwng llawer iawn o ddŵr gwastraff heb ei drin sy'n llawn microblastigau a charthffosiaeth yn peryglu ansawdd dŵr yn ddifrifol ac yn peri trallod i gynefinoedd dŵr croyw, bywyd morol, a phobl eu hunain yn y pen draw. Er bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trwyddedau i ganiatáu gollwng dŵr gwastraff heb ei drin ar ôl glaw trwm, mae gwaith ymchwil yn dangos bod cwmnïau dŵr yng Nghymru ac yn Lloegr yn mynd yn groes i'r amod hwn fel mater o drefn. Mae gollwng carthion amrwd i Afon Tawe yn achosi pryder difrifol ymhlith pysgotwyr a thrigolion. A wnaiff Llywodraeth Cymru gryfhau deddfwriaeth i atal yr arfer cywilyddus ond eang o ollwng carthion heb eu trin i afonydd Cymru fel mater o drefn?

Wel, diolch yn fawr iawn, Mike. Byddwch yn ymwybodol y bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn gwneud datganiad heddiw ar lanhau ein hafonydd, ein llynnoedd a'n moroedd, lle rwy'n siŵr y bydd yn mynd i fwy o fanylder ac yn gallu ateb y cwestiwn yn llawer mwy manwl nag y gallaf i ei wneud heddiw.

Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw mai rhan o'r rheswm y mae gennym ni lygredd yn ein hafonydd, fel rydych chi'n ei awgrymu, yw oherwydd y gollyngiadau o'r gorlifoedd storm hynny yn ystod adegau o law trwm. Maen nhw'n chwarae rhan bwysig o ran lleihau'r risg o garthffosydd yn gorlifo i gartrefi a mannau cyhoeddus, felly mae swyddogaeth ar eu cyfer, ond fel rydych chi'n ei ddweud, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu rheoli'n dynn, a chyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru yw hynny. Mae'n bwysig eu bod nhw'n gollwng ar adegau o law trwm yn unig, pan eir y tu hwnt i gapasiti'r garthffos.

Mae cynllun amgylcheddol cenedlaethol Dŵr Cymru yn cynnwys gofyniad i drin mwy o lif trwy waith trin dŵr gwastraff Trebanos yn nalgylch Tawe. Maen nhw eisoes wedi dechrau dylunio hynny, felly rwy'n gobeithio y bydd hynny'n helpu'r etholwyr yn eich ardal.

14:15
Llifogydd

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau y mae llifogydd yn effeithio arnynt? OQ61532

Yn y flwyddyn ariannol hon, 2024-25, rydym ni'n buddsoddi £75 miliwn yn unol â'n rhaglen rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Mae hyn yn cynnwys dyrannu dros £8.2 miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer yr awdurdodau rheoli risg yn y canolbarth a'r gorllewin i ddatblygu cynlluniau llifogydd, ac rydym ni'n amcangyfrif y bydd hyn o fantais i 5,207 eiddo.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog, ac a gaf i achub ar y cyfle hwn i'ch llongyfarch chi ar ddod yn Brif Weinidog benywaidd cyntaf Cymru?

Roeddwn i'n falch o weld eich bod chi a'r Dirprwy Brif Weinidog wedi ymweld â Rhydaman yr wythnos diwethaf i weld y cynllun rheoli perygl llifogydd drosoch eich hunain sy'n werth miliynau o bunnau ac sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Fe'i cynlluniwyd i leihau'r perygl o lifogydd i dros 380 o adeiladau yn y dref honno. Mae Rhydaman wedi dioddef llifogydd lawer gwaith dros y 40 mlynedd diwethaf, sydd wedi bod yn ddinistriol i fusnesau ac unigolion. Gyda rhagolygon y bydd digwyddiadau tywydd eithafol yn cynyddu o ganlyniad i newid hinsawdd yn y blynyddoedd i ddod, rhagwelir y bydd y perygl o lifogydd yn cynyddu ochr yn ochr â hynny. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, fe welsom ni dystiolaeth o'r llifogydd sydyn hyn, ac nid yn unig mewn sawl cwr o Gymru, ond—ar raddfa a oedd  yn syfrdanu pawb—ledled Ewrop. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi am gymryd yr hyn a ddysgwyd o'r prosiect hwnnw yn Rhydaman a'i gyflwyno i'r prosiectau ledled Cymru i'w gynnwys yn y rhain hefyd?

Diolch yn fawr i chi. Roedd hi'n bleser mawr i mi, ynghyd â'r Dirprwy Brif Weinidog, gael mynd i agor y cynllun hwnnw i liniaru llifogydd yn Rhydaman yn ffurfiol yr wythnos diwethaf, sy'n fuddsoddiad o £6 miliwn. Fel rydych chi'n dweud, mae llawer o bobl yn elwa ar hynny. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gofio hynny drwy'r amser: mae hyn yn ymwneud â rhoi cefnogaeth i bobl y gallen nhw gael ysgytwad ofnadwy oherwydd effaith llifogydd ar eu cartrefi. Roedd hi'n ardderchog cael cwrdd â Rosa Lee, a oedd yn un o'r bobl yn y gymuned honno a fyddai'n cael budd mawr o'r cynllun. Fe hoffwn ddiolch i Cyfoeth Naturiol Cymru am eu gwaith caled wrth gyflawni cynllun lliniaru llifogydd mawr arall yng Nghymru unwaith eto.

Dim ond un enghraifft yn unig yw cynllun Rhydaman o'r nifer fawr o gynlluniau yr ydym ni'n eu cyflawni drwy gyfrwng ein rhaglen ni i reoli'r perygl o lifogydd a gwarchod arfordiroedd sydd yn werth £75 miliwn. Yr hyn a wyddom ni yw bod newid hinsawdd yn newid y ffordd y mae ein cymunedau yn gweithio ac yn byw. Mae'n cael effaith o ddydd i ddydd. Fe welsom ni Boris yn mynd drwy ei bethau'r wythnos hon; nid y Boris yr ydym ni'n fwy cyfarwydd ag ef, gyda'i fop mawr o wallt gwyn, ond y Boris yn nwyrain Ewrop oedd hwnnw, lle gwelsom ni effaith sylweddol ar gymunedau yn yr ardaloedd hynny. Ni fydd hynny'n dod i ben, mae'n rhaid i ni gymryd hyn o ddifrif, ac wrth gwrs, mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i gyfrannu mewn unrhyw ffordd y gallwn ni i geisio lliniaru mater newid hinsawdd yn ein cymunedau ni.

Gwasanaethau Iechyd ym Mhreseli Sir Benfro

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd ym Mhreseli Sir Benfro? OQ61491

Ers 2022, mae nifer y llwybrau cleifion sy'n aros dwy flynedd wedi mynd i lawr 80 y cant ym mwrdd iechyd Hywel Dda. Er hynny, mae mwy i'w wneud. Drwy ymyrraeth wedi'i thargedu, mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda'r bwrdd i wella mynediad at iechyd a gofal diogel ac amserol.

14:20

Prif Weinidog, fel gwyddoch chi, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi penderfynu cau Meddygfa Tyddewi a gwasgaru tua 3,000 o gleifion i bractisau sy'n bellach i ffwrdd. Mae hynny'n cynnwys cleifion oedrannus a'r rhai sydd â chyfyngiadau ar eu dewisiadau o ran teithio, na fyddan nhw'n gallu cael gafael ar ofal meddygol yn lleol erbyn hyn. Rydych chi'n siŵr o fod yn ymwybodol o'r cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd yn ddiweddar, pan ddaeth dros 150 o bobl i gyfarfod ar gyfer trafod y ffordd orau o apelio yn erbyn penderfyniad y bwrdd iechyd a'r posibilrwydd o brynu'r feddygfa bresennol hyd yn oed er mwyn iddi fod yn ased cymunedol. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi nad yw hi'n dderbyniol i ddinas Tyddewi fod heb feddygfa leol o hyn allan. Mae'r gymuned yn iawn i alw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd, o ystyried bod y pŵer ganddi i wneud hynny. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi a, gyda'n gilydd, sefyll dros bobl Tyddewi ac ymladd yn erbyn cynllun y bwrdd iechyd er mwyn i'r trigolion barhau i dderbyn gwasanaethau meddygon teulu yn eu cymuned leol? Nid ydyn nhw'n haeddu dim yn llai.

Diolch yn fawr iawn. Yn amlwg, mae'n rhaid i mi ddatgan buddiant o ran y feddygfa hon, oherwydd y hi yw'r feddygfa y mae llawer o aelodau fy nheulu yn ei defnyddio. Mae'r penderfyniad ar yr hyn a fydd yn digwydd o ran sut bydd trefnu ar gyfer iechyd yn un i'r bwrdd iechyd, ac fe geir gweithdrefnau sefydledig ar gyfer ymdrin â chynigion i newid y ddarpariaeth o'r gwasanaethau lleol hynny. Fe wyddom ni fod Meddygfa Tyddewi wedi rhoi gwybod i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ym mis Ebrill am y bwriad i drosglwyddo'r cytundeb hwnnw'n ei ôl. Mae disgwyl i'r gwasanaethau ddod i ben ym mis Hydref. Rwy'n gwybod bod y bwrdd iechyd wedi ymgysylltu â thrigolion ynglŷn â dyfodol y gwasanaethau, oherwydd roeddwn i'n bresennol yno. Serch hynny, mae hi'n bwysig bod yn ymwybodol fod Llais wedi bod â rhan drwy gydol y broses honno.

Nid yw hyn yn ymwneud ag adeilad yn unig. Nid prynu'r adeilad yw unig ystyr hyn. Mae'n rhaid i chi staffio'r safleoedd hyn, a denu pobl i weithio yn y meddygfeydd hynny a byddai angen i ni gynnig symiau ychwanegol sylweddol o arian yn hynny o beth. Rhan o'r rheswm dros drosglwyddo'r contract hwnnw yn ei ôl oedd oherwydd ei bod hi'n anodd cael pobl i ddod i weithio yn y feddygfa honno. Rwy'n gwybod mai'r cynllun yw sefydlu a chadw gwasanaeth dan arweiniad nyrsys yn Nhyddewi, ac rwy'n credu y byddai hynny'n bwysig i'r henoed, yn enwedig, yn yr ardal honno.

3. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Mae'r eitem nesaf wedi ei ohirio—eitem 3, sef y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol.

4. Cynnig i atal Rheolau Sefydlog

Nawr fe gawn ni, o dan eitem 4, gynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu cynnal yr eitem nesaf o fusnes. Y Prif Weinidog sy'n cynnig hwn yn ffurfiol.

Cynnig NNDM8655 Eluned Morgan

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8654 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 17 Medi 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Oes yna wrthwynebiad i atal y Rheolau Sefydlog dros dro? Nac oes. Felly, mae hynny wedi ei gymeradwyo.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Cynnig i gymeradwyo enwebu Cwnsler Cyffredinol

Mae hynny'n ein caniatáu ni i gymryd eitem 5, sef y cynnig i gymeradwyo enwebu Cwnsler Cyffredinol. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud yr enwebiad yna. Eluned Morgan.

Cynnig NNDM8654 Eluned Morgan

Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 49(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 9.1, yn cytuno â’r argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Fawrhydi y Brenin benodi Julie James AS yn Gwnsler Cyffredinol.

Cynigiwyd y cynnig.

Rwy'n enwebu Julie James ar gyfer swydd y Cwnsler Cyffredinol, ac rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi ei henwebiad hi.

Does neb arall eisiau cyfrannu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn a Julie James wedi ei hethol yn Gwnsler Cyffredinol. Pob hwyl gyda'r gwaith yna.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf. Y Trefnydd sy'n gwneud y datganiad hwn. Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 14:24:00
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae nifer o newidiadau i fusnes yr wythnos hon, fel y nodir ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd ar gael i’r Aelodau yn electronig.

Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar ofal lliniarol a gofal diwedd oes yng Nghymru? Fel gŵyr llawer o Aelodau'r Senedd, fe gawsom ni gopi o adroddiad Marie Curie yn ddiweddar yn ymdrin â gofal gwell ar ddiwedd oes. Roedd hwnnw'n ystyried profiadau cleifion a gofal diwedd oes ledled Cymru a Lloegr. Yn anffodus, roedd rhai canfyddiadau pryderus o ran sefyllfa Cymru, gan gynnwys y ffaith bod 36 y cant o bobl yn dioddef poen enbyd neu aruthrol yn ystod eu hwythnosau olaf o fywyd, ac nad yw 19 y cant ag unrhyw gyswllt â'u meddyg teulu yn ystod tri mis olaf eu bywyd. Rwy'n siŵr y byddwn ni i gyd yn cytuno ynglŷn â'r angen sydd i fynd i'r afael â'r ystadegau hynny. Er bod datganiad Llywodraeth Cymru ar ansawdd gofal lliniarol a diwedd oes yn uchelgeisiol ac yn dda iawn ar bapur, mae hi'n bwysig, yn amlwg, bod hwnnw'n cael ei roi ar waith. Felly, rwy'n credu mai da o beth fyddai i ni gael diweddariad gan y Gweinidog er mwyn cynnal trafodaeth, fel Aelodau'r Siambr hon, i wireddu'r uchelgeisiau hyn sydd gennym ni.

Yn ail, a gaf i alw am ddatganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd? Testun balcdher i ni, yn gwbl briodol, yn y Siambr hon yw cyflawniad gwych Cymru o ran cyfraddau ailgylchu, ond fe geir rhai pryderon yn fy etholaeth i mewn rhannau o sir Ddinbych ynghylch cyflwyno'r system ailgylchu newydd sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i bobl wahanu eu gwastraff wrth ymyl y ffordd. Mae hynny'n peri penbleth i'm hetholwyr o ran y gofyn iddyn nhw wahanu'r gwastraff dim ond iddo gael ei gymysgu yn ei ôl ar gefn y lorïau sy'n rowlio trwy eu cymunedau nhw. Yn amlwg, Llywodraeth Cymru sydd â'r cyfrifoldeb pennaf wrth sicrhau bod yr awdurdodau lleol yn gwneud gwaith da, ac maen nhw wedi buddsoddi llawer yn y cynllun newydd hwn yn sir Ddinbych. Felly, a gawn ni ddatganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog ynglŷn â chyfraniad Llywodraeth Cymru gyda Chyngor Sir Ddinbych i roi cefnogaeth wrth weinyddu'r system hon yn iawn unwaith ac am byth fel nad yw pobl yn gorfod dioddef y profiadau annifyr hyn o weld eu gwastraff yn cael ei gymysgu unwaith eto ar ôl iddyn nhw fynd i'r drafferth i'w wahanu?

14:25

Diolch yn fawr iawn i chi, Darren Millar. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod, fel rydych chi'n ei wneud ynghyd â phawb ohonom ni yn Siambr a'r grŵp trawsbleidiol hefyd, mai gweithio mewn partneriaeth yr ydym ni i ddarparu gofal lliniarol a gofal diwedd oes. Rydym ni'n gweithio gyda'r GIG, gan weithio ar y rheng flaen, mewn partneriaeth ag elusennau a gwasanaethau cyflawni Marie Curie. Un enghraifft yn unig yw honno, oherwydd mae cymaint o hosbisau gennym ni ledled Cymru sy'n cael eu rhedeg gan lawer o wahanol sefydliadau lleol a chenedlaethol. Ac felly'r bartneriaeth glòs honno sy'n hanfodol. Fel rydych chi'n ei gydnabod, fe gyflwynir polisi a datganiad Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth ac mai ein huchelgais ni yw darparu'r gofal lliniarol a diwedd oes gorau posibl. Bob blwyddyn, rwy'n lansio ymgyrch Apêl Cennin Pedr Fawr Marie Curie, ac rwy'n credu bod hwnnw'n gyfle i gydnabod y staff sy'n gweithio mewn gwasanaethau gofal lliniarol, yn enwedig y nyrsys sydd nid yn unig yn gweithio mewn hosbisau, ond yn y gymuned hefyd. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystyried sut y gall roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyflawniadau sy'n digwydd.

Ydyw, mae'r Dirprwy Brif Weinidog yn bresennol ac mae ef wedi cydnabod bod mater yn bodoli o hyd o ran gweithredu i gyflwyno'r trefniadau ailgylchu newydd gan Gyngor Sir Ddinbych. Hynny yw, wrth gwrs, y rheidrwydd i symud at y gwasanaeth ailgylchu hwnnw a wahenir yn ei ffynhonnell, y mae llawer ohonom ni yn y Siambr hon bellach yn ei anwesu ac yn byw gydag ef, ac mae hwnnw'n gweithio yn arbennig o dda. Mewn gwirionedd mae hynny ar gyfer dod â sir Ddinbych yn unol â glasbrint y casgliadau glas. Felly, rwy'n credu fy mod i wedi cael sicrwydd mai digwyddiad untro oedd yr adroddiadau diweddar o wastraff bwyd yn cael ei gymysgu gyda deunyddiau eraill i'w hailgylchu, er enghraifft, a gafodd ei godi. Mae mwy o hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth o arfer gorau ymhlith y gweithwyr sydd, unwaith eto, gadewch i ni gydnabod y gweithwyr yn ein cenedl ailgylchu—rydym ni'n genedl sy'n ailgylchu, ar flaen y gad yn fyd-eang—ond ein gweithwyr ni sydd mewn gwirionedd yn darparu'r gwasanaeth hwnnw. Ond mae'n rhaid i mi ddweud bod y gwelliannau parhaus i'r gwasanaeth wedi arwain at gasglu dros 99 y cant o ailgylchu yn sir Ddinbych fel dylai ddigwydd, yn ystod yr wythnos diwethaf. Ond rwy'n credu y bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn dymuno rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf, fel rydych chi'n ei ddweud.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Trefnydd, hoffwn ofyn am ddau beth o ran busnes y Senedd, os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, sicrwydd y bydd cysondeb, rŵan, o ran busnes y Llywodraeth, rŵan bod Llywodraeth wedi'i phenodi, yn hytrach na newidiadau munud olaf a'r ansicrwydd a wnaeth ein hwynebu ni cyn toriad yr haf, ac, felly, dros yr wythnos diwethaf o ran busnes heddiw. Yn ail, hoffwn wybod pryd fydd y rhestr o gyfrifoldebau gweinidogol yn cael ei rhannu fel ein bod yn gwybod pa Ysgrifennydd y Cabinet neu Weinidog sy'n gyfrifol am beth. Mae yna gymaint o heriau yn wynebu Cymru a dydy'r ansicrwydd yma ddim yn help i unrhyw un o bobl Cymru. Felly, mae dirfawr angen hynny. 

Hefyd, o ran y rhanbarth, hoffwn ofyn am ddiweddariad ynglŷn â’r adolygiad o’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Mi gawson ni wybod nad oes yna arian. Dŷn ni’n deall hynny, ond buaswn i yn hoffi gwybod gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros drafnidiaeth, a hefyd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, pa asesiad sydd wedi ei wneud o effaith hyn ar bresenoldeb dysgwyr. Sut ydyn ni’n mynd i sicrhau bod dysgwyr yn medru cyrraedd yr ysgol, oherwydd dwi’n clywed yn barod am heriau dirfawr—sydd yn benodol yng Nghaerdydd—sy’n stopio dysgwyr rhag cyrraedd yr ysgol oherwydd bod yna ddim trafnidiaeth ysgol a bod y bysys ddim ar gael? Felly, mae’n rhaid inni gael sicrwydd ar hyn os ydyn ni eisiau i’n disgyblion ni fod yn yr ysgol.

14:30

Diolch yn fawr, Heledd Fychan. A, do, fe welsom ni, heddiw, ein Pwyllgor Busnes cyntaf yn dod ynghyd, ac rwy'n gwerthfawrogi bod angen i ni ddangos yn Llywodraeth Cymru ein bod ni'n barod i weithio, i gyflawni, ac rwy'n credu y byddwch chi'n clywed beth yw blaenoriaethau ein Prif Weinidog ni'n fuan iawn. Fel y dywedodd, hi yw capten y llong, ac mae angen i ni sicrhau, wrth gwrs, gyda'n cyd-Aelodau ar draws y Senedd, fod busnes ein Llywodraeth yn eglur ac yn ddealladwy, ac, yn wir, bod hynny'n caniatáu ar gyfer y craffu yr ydym ni'n ei ddisgwyl ac fe wnaeth hynny argraff ddofn arnaf i. Ac rwy'n credu ein bod ni eisoes wedi cael enghraifft ardderchog o hynny o ran pa mor adeiladol fu sesiwn cwestiynau'r Prif Weinidog gyda'n Prif Weinidog newydd, Eluned Morgan, wrth y llyw.

Ond mae'n bwysig hefyd ein bod wedi nodi'r datganiad busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf, ac fe aethom drwy hynny ym musnes ein Pwyllgor Busnes y bore yma, yn gwbl briodol. Ac fe allaf i eich sicrhau chi bod y cyfrifoldebau gweinidogol yn cael eu cwblhau heddiw, ac fe fyddwn yn gallu rhannu'r rheini gyda phob Aelod yn y Senedd.

A gair byr hefyd o ran bod gennym ni brynhawn llawn iawn o fusnes heddiw—busnes y Llywodraeth—sy'n bwysig iawn, ynglŷn â pholisïau allweddol, nid blaenoriaethau ein Llywodraeth ni'n unig, dan arweiniad y Prif Weinidog, ond yr holl faterion eraill, materion polisi a blaenoriaethau eraill drwy gydol y prynhawn. Felly, fe fyddwn ni'n clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg am gyflogau'r sector cyhoeddus. Yn bwysig iawn, yn ddiweddarach y prynhawn yma, fe fyddwn ni'n clywed hefyd oddi wrth ein Hysgrifennydd dros addysg yn y Cabinet am gyflwyniad campus prydau ysgol am ddim, gan gydnabod bod hwnnw'n un o lwyddiannau mawr ein cytundeb cydweithio.

Fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog dros addysg am yr wybodaeth ddiweddaraf o ran sut mae'r adolygiad o'r Mesur teithio gan ddysgwyr yn digwydd, sut mae hwnnw'n cael ei roi ar waith, a lle ceir problemau. Ac rydych chi wedi codi rhai ohonyn nhw heddiw yn eich rhanbarth chi, ac fe wnaf i dynnu ei sylw hi at hynny.

Fe hoffwn i gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar brinder cyffuriau a phroblemau sy'n codi yn sgil y protocolau prinder difrifol, yn enwedig o ran therapi adfer hormonau. Rhwng 2022 a 2023 fe gafwyd cynnydd o 47 y cant mewn presgripsiynau ar gyfer eitemau therapi adfer hormonau, ac yng Nghymru, ers 2015, mae nifer y presgripsiynau therapi adfer hormonau wedi cynyddu fwy na 90 y cant, sydd, ochr yn ochr â phroblemau gweithgynhyrchu a dosbarthu, wedi arwain at brinder eitemau therapi adfer hormonau.

Rwy'n clywed oddi wrth fenywod yn fy etholaeth i sy'n wynebu anawsterau wrth ddod o hyd i gyffuriau amgen hefyd, gan nad oes system TG gydgysylltiedig y gall pobl ei defnyddio i ddod o hyd i gyffuriau eraill. Mae hyn yn gwneud y protocolau prinder difrifol yn ddiangen, gan fod llawer o fferyllfeydd yn rhedeg allan o gynhyrchion therapi adfer hormonau, ac nid oes system i gleifion wirio ym mha le y mae'r cyffuriau i'w cael. Yn hytrach na hynny, maen nhw'n gorfod mynd o un fferyllfa i'r llall, i weld a oes cynhyrchion eraill sy'n briodol mewn stoc. Fe allai methu â chael gafael ar y rhain fod yn annymunol iawn i fenywod, gan arwain at byliau o wres, pyliau o banig, newid hwyliau sydyn ac osteoporosis, ymhlith cyfres o symptomau annifyr.

Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi ynglŷn â sut maen nhw'n gweithio gyda gweithgynhyrchwyr i sicrhau cyflenwad parhaus o gynhyrchion therapi adfer hormonau, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn adolygu'r protocolau prinder difrifol ac yn trefnu ffordd i gleifion ddod o hyd i gyffuriau eraill lle nad yw'r un a ragnodir ar gael? Diolch i chi. 

Wel, diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn pwysig iawn yna, Gareth Davies. A dim ond dweud bod unrhyw doriad ar gyflenwad meddyginiaeth mor ofidus i'r bobl sydd ei hangen, ac, yn wir, i'w clinigwyr nhw hefyd, achos mae hyn yn rhywbeth lle, yn amlwg, mae'r berthynas honno â chleifion, mewn gofal sylfaenol, yn enwedig—. Roeddech chi'n canolbwyntio ar yr effaith mae hyn yn ei gael o ran diffyg cynhyrchion therapi adfer hormonau. Wrth gwrs, nid problem i gleifion yng Nghymru yw hon yn unig, mae hi'n broblem llawer ehangach yn y DU ac yn fyd-eang. Felly, rwy'n falch iawn hefyd fod y Prif Weinidog, yn rhan o'i blaenoriaethau hi, mewn gwirionedd—ac rwy'n siŵr bod hyn yn dod drwodd o'i phrofiad pan oedd hi'n Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol—ar iechyd menywod, ac mae gennym ni gynllun iechyd menywod. Dyma achos lle mae angen i ni ddod at ein gilydd a chydnabod yr effeithiau y mae'r prinder penodol hwn yn eu cael o ran cynhyrchion therapi adfer hormonau. Felly, rwyf i am ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn ag argaeledd cynhyrchion therapi adfer hormonau.

14:35

Croeso nôl i'r rôl i'r Trefnydd.

Mae Sefydliadau'r Glowyr ym Maenor Llancaeach Fawr a'r Coed Duon yn wynebu'r sefyllfa fel ei gilydd y bydd cyngor Caerffili yn eu cau nhw'n fuan iawn. Rwy'n dymuno i Lywodraeth Cymru wneud datganiad brys i fynd i'r afael â phwysigrwydd hanfodol cadw safleoedd diwylliannol fel rhain yn agored i'r cyhoedd. Cafodd ein cymoedd eu llunio gan ein hanes. Mae Llancaeach Fawr yn dod â'r hanes hwnnw'n fyw. Mae ganddyn nhw actorion sy'n tywys teithiau o amgylch yr adeilad, ac yn mynd â chi'n ôl mewn amser. Ni allwch roi pris ar ba mor werthfawr y gall y profiad hwnnw fod, yn arbennig i blant. Ac mae Sefydliad y Glowyr y Coed Duon yn lleoliad a agorwyd bron i 100 mlynedd yn ôl, y talwyd amdano gan y glowyr, i sicrhau bod gan y pwyllgor rywle i fynd ar gyfer cyngherddau, adloniant, a difyrrwch. Pam na ddylai ein cymoedd ni'n fod â'r llawenydd hwnnw a'r safleoedd hynny sy'n gwneud bywyd yn werth chweil? Mae'r safleoedd hyn, Trefnydd, yn fwy na dim ond adeiladau. Fe ddaeth ymgynghoriad i ben yr wythnos hon ar y cynnig i'w cau nhw. Fe ddigwyddodd hwnnw dros yr haf, pan fyddai cymaint ohonom wedi bod i ffwrdd, pan oedd ein Senedd wedi torri, ac fe wrthodwyd ein ceisiadau ni i ymestyn yr ymgynghoriad. Felly, a all Llywodraeth Cymru ymyrryd ar frys, ac a wnewch chi bopeth sy'n bosibl i sicrhau, pe byddai'r cyngor yn cau'r safleoedd hyn, y byddan nhw'n cael eu cadw ar gyfer y gymuned ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol?

Diolch i chi, Delyth Jewell. Rwy'n gobeithio iddi fod o ddefnydd fy mod i wedi cwrdd â chi, yn rhinwedd fy swydd flaenorol yn Ysgrifennydd y Cabinet dros ddiwylliant, yn ystod yr wythnos diwethaf, i fynd i'r afael â'r materion hyn, ac yn wir hefyd cael cynnal yr un trafodaethau â Hefin David, yn ogystal â'r Aelod lleol yn y Senedd. Wrth gwrs, fel cafodd ei drafod yn y cyfarfod hwnnw, mater i gyngor sir Caerffili yw hwn, ac fe ddaeth yr ymgynghoriad i ben. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i'r Senedd wybod hefyd, ar gofnod, fod Cyngor Celfyddydau Cymru wedi bod â rhan fawr yn hyn, wrth fonitro'r sefyllfa, wrth roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r datblygiadau. Rhoddodd Cyngor Celfyddydau Cymru ymateb manwl i ymgynghoriad Cyngor Caerffili, ac, yn wir, eu diddordeb nhw yn hyn yw, yn ystod 2023-24, fe fuddsoddodd Cyngor Celfyddydau Cymru dros £255,000 mewn gweithgarwch celfyddydol yng Nghaerffili, gyda Sefydliad y Glowyr yn y Coed Duon yn cyfrif yn uniongyrchol am 54 y cant o hyn. Felly, mater yw hwn o drafodaeth barhaus sy'n cael ei hystyried.

Ysgrifennydd Busnes, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch yr ehangiad newydd i'r parth talu cosb gan Trafnidiaeth Cymru. Mae etholwr wedi cysylltu â mi yn ddiweddar—ac mae llawer yn debyg i hwn—a fydd, yn yr achos penodol hwn, yn prynu tocyn ar y trên fel arfer ar gyfer ei daith o Lanhiledd i Gaerdydd, lle byddai disgownt yn cael ei roi wrth gyflwyno cerdyn teithio rhatach Trafnidiaeth Cymru. Serch hynny, o ddydd Llun yr wythnos diwethaf, nid oedd hi'n bosibl gwneud hynny mwyach ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, gan y bydd teithwyr yn cael eu dirwyo os cânt eu dal ar drên heb docyn. Er bod peiriannau tocynnau wedi cael eu gosod mewn gorsafoedd, nid oes unrhyw ddewis fyth i allu manteisio ar y disgownt ar gyfer teithwyr neilltuol. Ac mae hi'n werth nodi hefyd eu bod nhw'n aml allan o wasanaeth neu'n araf iawn, gyda chiwiau hir o bobl yn ceisio prynu tocynnau, yn enwedig mewn gorsafoedd lle nad oes yna ond un peiriant. Fel pe na bai'r Llywodraeth Lafur wedi cosbi'r rhai dros 60 oed yn ddigonol yn ystod yr wythnos diwethaf, yn anffodus, mae hyn yn wir yn aml erbyn hyn, yn enwedig o ran pobl oedrannus ledled Cymru, sy'n awyddus i fanteisio ar y gostyngiad pan fyddan nhw'n teithio. Yn anffodus erbyn hyn, maen nhw'n cael dirwy gan Trafnidiaeth Cymru am beidio â bod â thocyn ar y trên. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar am ddatganiad ar sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio unioni'r cam hwn, er mwyn i gymudwyr hawlio eu disgownt nhw wrth ddefnyddio'r peiriannau mewn gorsafoedd heb orfod gwneud hebddo, oherwydd eu bod nhw'n iawn ar hyn o bryd i fod yn ofni cael cosb. Diolch i chi.

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn yna. Rwy'n credu bod hwn yn un o'r cwestiynau hynny lle gallai hi fod yn ddefnyddiol i chi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn uniongyrchol, dim ond ar gyfer tynnu sylw at yr enghraifft hon. Oherwydd os yw hynny'n digwydd mewn mannau eraill, mae hi'n bwysig iawn nodi'r effaith a gafodd hynny o ran y trefniant penodol hwnnw i brynu tocynnau rhatach. Rwy'n ymwybodol hefyd, wrth gwrs, fod gan yr Ysgrifennydd Cabinet ei gwestiynau llafar yn y Senedd yr wythnos nesaf. Ond rwy'n credu, yn y cyfamser, y byddai hi o ddefnydd mawr i chi godi'r achos arbennig hwn, er mwyn iddo allu ymchwilio i'r hyn sydd wedi digwydd a beth yw'r union amgylchiadau. 

14:40

A gaf i ofyn am ddatganiad, naill ai gan y Gweinidog materion gwledig neu'r Gweinidog â chyfrifoldeb dros gynllunio, neu efallai'r ddau gyda'i gilydd a dweud y gwir, ynglŷn â'r sefyllfa o safbwynt delio â cheisiadau cynllunio yn ymwneud â siediau ieir yng Nghymru? Nawr, rŷn ni'n gwybod bod yna nifer ohonyn nhw yn eistedd ar ddesg Gweinidogion yn aros i gael eu penderfynu arnyn nhw ac wedi bod felly ers amser maith. Mae angen amserlen, o leiaf, i fod yn glir ynglŷn â beth gall disgwyliadau'r unigolion yma fod.

Ond dwi hefyd eisiau cyfeirio at rywbeth bach yn wahanol, sef, wrth gwrs, y gofynion lles anifeiliaid newydd mae archfarchnadoedd yn eu gosod ar gynhyrchwyr pan fo'n dod i ddofednod, sy'n gofyn am fwy o le i ddofednod yn y siediau sy'n cynhyrchu. Ac er mwyn cynnal lefel y cynhyrchiant, mae'n rhaid i'r cynhyrchwyr yna gael mwy o le, felly mae angen codi sied newydd. Er bod yna ddim mwy o ddofednod, bydd yna ddim mwy o dail, ddim mwy o wastraff ac yn y blaen, bydd angen mwy o le. Dwi'n gwybod am un busnes bwyd yn y gogledd, sy'n gweithio gyda'u cynhyrchwyr ar draws y gogledd, fydd angen 24 sied newydd dim ond i aros yn llonydd. Felly, mae yna nifer fawr o geisiadau ychwanegol ar y ffordd i gyfeiriad y Llywodraeth cyn mis Chwefror, a dwi eisiau clywed gan y Gweinidogion beth yw eich cynllun chi i fedru delio gyda'r rheini yn effeithiol a sicrhau y bydd y ceisiadau hynny'n cael eu delio â nhw mewn modd rhesymol, ond hefyd amserol pan fo'n dod i gyrraedd y nod o gyflawni hyn erbyn mis Chwefror. 

Diolch yn fawr, Llŷr. Yn yr achos hwn mae'r Dirprwy Brif Weinidog gennym ni yma yn y Siambr. Fe glywodd ef y cwestiwn yna. 

Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn. 

Rwyf i o'r farn hefyd mai cwestiwn yw hwn sy'n ymwneud â chynllunio. Ond mae'n arbennig o bwysig o ran y sector, o ran darparu siediau ieir, ond mae'n fater o ran lles anifeiliaid hefyd, sydd, wrth gwrs, yn rhan o gyfrifoldeb y Dirprwy Brif Weinidog, oherwydd mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, ac fe nodwyd rheoliadau eglur iawn gennym ni hefyd: Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007, er enghraifft, sy'n nodi amodau manwl y mae'n rhaid cadw anifeiliaid a ffermir yn unol â nhw. Ond mae'n bwysig o ran y diwydiant, o ran y sector, o ran lles anifeiliaid, felly rwy'n ddiolchgar fod y cwestiwn hwn wedi cael ei ofyn brynhawn heddiw.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad brys ar TB buchol yng Nghymru? Fe aeth y Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog i sioe sir Benfro eleni, lle roedd NFU Cymru yn amlygu bod 40 y cant—40 y cant—o'r holl wartheg a gafodd eu difa yng Nghymru yn ystod y 12 mis diwethaf yn dod o sir Benfro yn unig. Mae hwn yn ystadegyn syfrdanol ac mae'n hynod drawmatig i'r ffermwyr dan sylw. Yn wir, mae 20 y cant o'r buchesi gwartheg yn sir Benfro yn gweithredu o dan gyfyngiadau TB ac mae hynny'n annerbyniol. Ac mae hynny yn cael effaith ar les anifeiliaid, ond nac anghofiwn y ffermwyr sy'n ymdrin â TB buchol hefyd, gan fod 85 y cant o aelodau NFU Cymru a oedd yn cymryd rhan yn yr arolwg TB buchol yn dweud bod TB wedi cael effaith andwyol ar eu hiechyd meddwl nhw a'u teuluoedd. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad brys gan Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig ar TB buchol yng Nghymru, yn enwedig o ystyried bod Llywodraeth y DU yn cymryd camau atchweliadol yn ei pholisi hi ei hun i ddileu TB, er gwaethaf y cynnydd sy'n digwydd a adolygir gan gymheiriaid? Diolch, Dirprwy Lywydd. 

Diolch i chi, Sam Kurtz. Do, rwy'n credu bod llawer ohonom ni wedi mynd i'r sioeau amaethyddol yn ein cymunedau ni. Yn sicr, fe es i sioe'r Fro, ynghyd â chyd-Aelodau sydd yma heddiw. Ond hefyd, yn amlwg, roedd hon yn drafodaeth gyda'r gymuned ffermio a'u hundebau llafur nhw—yr NFU, yr FUW—rwy'n sicr, ac roedd y Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog yn gyfrannog o honno. Ac rydym ni'n sylweddoli maint effaith TB buchol, ac yn sicr fe ddysgais yn ystod yr haf ynglŷn â'r ffordd y mae'r gymuned ffermio yn cymryd eu camau eu hunain i fynd i'r afael â'r mater ar lefel leol iawn yn seiliedig ar leoedd. Ond, unwaith eto, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig a'r Dirprwy Brif Weinidog wedi clywed y cwestiwn, ac rwy'n siŵr pan fydd hi'n amser iddo ateb ei gwestiynau llafar, ond cyn hynny hefyd, fe fydd yna gyfle iddo roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag ymateb Llywodraeth Cymru. 

14:45

Gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet newydd dros yr economi, ynni a chynllunio am gynlluniau Llywodraeth Cymru i edrych eto ar yr amodau cynllunio wnaeth alluogi i ddatblygwr greu ystâd o dai ym Mrynteg yn Ynys Môn? Mae Brynteg yn bentref bendigedig. Mae’n ystâd fendigedig o dai sy’n edrych yn addas iawn ar gyfer teuluoedd lleol, ond mae’r tai ar gael i brynwyr ail gartrefi yn unig. Mi gafodd y caniatâd ar gyfer y datblygiad ei roi yn 2010. Mae’r ail phase ar werth erbyn hyn am bris rhad, a hynny mewn cyfnod lle mae hi’n mynd yn fwy a mwy anodd i bobl leol sy’n gobeithio cael eu troed ar yr ysgol dai i ffeindio cartref i’w brynu neu i’w rentu. Bwriad yr amodau cynllunio fyddai i hybu gweithgaredd economaidd, ac, ohoni’i hun, mae hynny’n egwyddor sy’n iawn. Ond dwi’n siŵr y bydd y Trefnydd yn cytuno efo fi a nifer o drigolion Ynys Môn yn ein rhwystredigaeth ni bod cynllunio a rheolau cynllunio yn caniatáu datblygiad fel hyn sydd yn eithrio ac yn gwahardd teuluoedd lleol rhag prynu tai. Felly, mi fyddai datganiad yn gyfle i ni glywed ymrwymiad, gobeithio, gan y Gweinidog i edrych eto ar yr amodau cynllunio i sicrhau nad yw datblygiad o’r math yma yn gallu digwydd.

Diolch yn fawr, Rhun ap Iorwerth. Mae hwn yn fater mor bwysig, gan ein bod ni'n gweld rhai o'r canlyniadau cadarnhaol iawn, yn fy marn i, o ganlyniad i'r polisi ail gartrefi a ddatblygwyd gennym ni gyda'n gilydd, a sut rydym yn gweld bod hynny'n dechrau cael effaith adeiladol wrth sicrhau bod tai ar gael i'n pobl leol ni a'n cymunedau lleol ni. Ni allaf i wneud unrhyw sylw ar y stad dai unigol ym Mrynteg yr ydych chi'n tynnu sylw ati heddiw, ond, yn amlwg, mae'r Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio newydd gennym ni ac, wrth gwrs, mae hyn yn cysylltu i raddau helaeth iawn â chyfrifoldebau Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol. Rwy'n credu i'r pwynt hwnnw gael ei wneud yn effeithiol o ran eu hymateb nhw i'r materion hyn.

A gaf i alw am ddatganiad unigol, os gwelwch chi'n dda, ynglŷn â chefnogaeth i economi'r gogledd? Mae arweinydd cyngor Wrecsam wedi dweud y byddai'n wirioneddol siomedig pe bai'r gronfa dref gwerth £20 miliwn a ddyrannwyd i Wrecsam yn cael ei dileu gan Lywodraeth Lafur y DU, a oedd yn rhan o gynllun buddsoddi hirdymor ar gyfer trefi sy'n cael eu diystyru a'u cymryd yn ganiataol, gan gynnwys pedair tref yng Nghymru. Roedd ef yn dweud drachefn fod sibrydion, ar ben y cwbl, y gallai parth buddsoddi'r gogledd o £160 miliwn gael ei dynnu nôl. Pe byddai hynny'n digwydd, fe fyddai hwnnw'n drychineb i Wrecsam a sir y Fflint gan fod hwnnw i fod i ddwyn gwerth tua £1 biliwn o fuddsoddiad i mewn i'r ddwy sir. Fe ddaw hyn yn dilyn datganiadau yn ystod yr haf yn bwrw amheuaeth ar y cynllun tua biliwn o bunnau i drydaneiddio rheilffordd y gogledd, a chynlluniau i adeiladu atomfa fawr yn Wylfa ar Ynys Môn—cyhoeddiadau gan Weinidogion Llywodraeth y DU. Felly, mae angen i ni wybod pa gamau, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i frwydro dros y cynlluniau hyn—cynlluniau, er mai cynlluniau'r Llywodraeth Geidwadol oedden nhw, a oedd yn ennill cefnogaeth drawsbleidiol i raddau helaeth yn y rhanbarth—neu a fydd yn rhaid i'r gogledd aros sawl blwyddyn i wneud cais am y rownd nesaf o gynlluniau cyn i fwy o oedi ddigwydd eto? Rwy'n galw am ddatganiad ynglŷn â hynny am nad yw'r rhanbarth yn dymuno nac yn gallu fforddio colli allan ar gannoedd o filiynau a biliynau o bunnau o fuddsoddiad o bosibl yr oedd yn bwriadu ei fuddsoddi eisoes.

Diolch i chi, Mark Isherwood. Mae hyn yn rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn ymwybodol iawn ohono, ond Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio hefyd, mewn gwirionedd. Mae'n rhaid i mi ddweud, mae hyn yn cyfeirio yn ôl at rai o'n trafodaethau yn gynharach y prynhawn yma. Wrth gwrs, mae'r oedi hwn sydd ar hyn o bryd o ran yr hyn a fydd yn digwydd nesaf o ran—. Mae penderfyniadau Llywodraeth y Ceidwadwyr blaenorol yn gul ac ynysig iawn, a heb ymrwymiad Llywodraeth Cymru, wedi ein rhoi yn y sefyllfa hon. Ac mae wedi ein rhoi ni yn y sefyllfa hon oherwydd y gagendor mawr yr ydych chi wedi ei adael i ni, y gagendor mawr gwerth £22 biliwn, ac rwy'n ymddiheuro, ond fe fyddwch chi'n clywed hyn lawer gwaith eto oddi wrthym ni, oherwydd dyna'r gwirionedd o ran y llanast yr ydych chi wedi ein gadael ni i'w glirio. A dweud y gwir, ni welsom ni erioed mo'r arian a addawyd i ni drwy'r cronfeydd strwythurol, wedi Brexit, ac yna roedd y cynllun hwn gennych chi a oedd yn ffafriol iawn i rai, lle digwyddai i'r AS lleol fod yn un o'r Ceidwadwyr. Ac, mae'n ddrwg gennyf i, rwy'n awyddus i hwn gael ei ailystyried, heb sôn am awydd Llywodraeth y DU i'w ailystyried. Felly, Mark, ydym, wrth gwrs, rydym ni'n derbyn bod Wrecsam yn dref wych, gyda llawer o ragolygon da, ac mae'r cyfan yn cael ei ystyried, gan yr awdurdod lleol, gan Aelod y Senedd ei hun, Lesley Griffiths, ond gadewch i ni roi hyn yn ei gyd-destun o ran sut y gwnaethom ni gyrraedd y sefyllfa hon.

14:50

Diolch, Dirprwy Lywydd. Trefnydd, hoffwn alw am ddatganiad ar y ddarpariaeth o wasanaethau ambiwlans gan Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Nawr, mae staff ambiwlans wedi rhannu eu pryderon â mi am wasanaethau yn sir Benfro, a chefais fraw o glywed y bydd 30 o welyau yn cael eu symud o ysbyty Llwynhelyg ac ysbyty Glangwili maes o law. Cefais fraw hefyd o glywed nad yw ambiwlansys sy'n cael eu hanfon i sir Benfro bellach wedi'u clustnodi i ddychwelyd, a'r flaenoriaeth yw clirio'r ôl-groniad yn ysbyty Glangwili cyn unrhyw ôl-groniadau yn ysbyty Llwynhelyg. Nawr, dywedodd staff wrthyf eu bod nhw'n wynebu mwy o waith papur a thargedau nag erioed o'r blaen. Mae ganddyn nhw darged bellach o 15 munud i gyflawni trosglwyddiad claf gydag adrannau damweiniau ac achosion brys a 15 munud i ailstocio a glanhau'r ambiwlans. Afraid dweud bod ysbryd ymhlith staff yn eithriadol o isel, felly nid yw staff yn awyddus i weithio goramser, yn enwedig yn y nos, gan eu bod nhw'n teimlo y gallen nhw fod yn treulio llawer iawn o amser mewn ambiwlans yn aros i ryddhau cleifion. Ac felly, yng ngoleuni difrifoldeb y pryderon a godwyd, rwy'n credu bod angen datganiad arnom ni nawr gan Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i roi sylw i rai o'r pryderon hyn cyn gynted â phosibl.

Diolch, Paul Davies. Mae'n bwysig iawn i Aelodau gael adborth ar ddarpariaeth eu gwasanaethau lleol, ac mae'r gwasanaethau ambiwlans yn sicr yn flaenllaw yn ymateb ein GIG ac o dan bwysau enfawr o ran y galw cynyddol am ein gwasanaethau ambiwlans a gofal brys ac argyfwng. Ond, mae ein Hysgrifennydd Cabinet newydd dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn edrych yn fanwl ar bob gwasanaeth yr ydym ni'n ei ddarparu, yn ôl i flaenoriaethau ein Prif Weinidog, a gwn y bydd y gwasanaethau ambiwlans yn rhan o'r adolygiad hwnnw. Ond mae hefyd yn bwysig iawn, eto, i ni gydnabod gwaith ein parafeddygon a'n gwasanaethau ambiwlans. Ac rydym ni'n gweld dros yr haf, yn enwedig, rwy'n siŵr, yn eich etholaeth a'ch ardal chi—y pwysau drwy fisoedd yr haf, y tymor ymwelwyr a thwristiaid hefyd. Ond mae hyn yn rhywbeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn edrych arno, wrth gwrs.

7. Datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: Y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth yng Nghymru
8. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: Yr economi werdd
9. Datganiad gan y Prif Weinidog: Cysylltiadau rhynglywodraethol
10. Datganiad gan y Prif Weinidog: Blaenoriaethau'r Llywodraeth

Eitem 10 heddiw yw datganiad gan y Prif Weinidog ar flaenoriaethau'r Llywodraeth, a galwaf ar y Prif Weinidog, Eluned Morgan. 

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Pan wnes i sefyll o'ch blaenau chwe wythnos yn ôl, fe wnes i addo bod yn Brif Weinidog sy'n gwrando, ond fe wnes i ei gwneud yn eglur fy mod i eisiau gwrando nid yn unig ar y rhai sydd â'r lleisiau mwyaf croch neu'r rhai sydd â'r mwyaf o rym, ond ar bawb i sicrhau ein bod ni'n canolbwyntio ar y materion sydd bwysicaf i bobl Cymru. A dyna'n union yr wyf i a'm cydweithwyr wedi ei wneud. Dros yr haf, fel Prif Weinidog, rwyf i wedi siarad â channoedd o bobl ym mhob cwr o Gymru. Ymatebodd dros 7,000 o bobl i arolwg gan y Blaid Lafur o ran yr hyn yr hoffen nhw i ni ei flaenoriaethu fel Llywodraeth Cymru. Felly, cyn i mi fynd ymhellach, hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i rannu eu gobeithion, eu pryderon a'u barn gyda mi a'm cydweithwyr, boed ar-lein neu wyneb yn wyneb. Rydym ni wedi cael ymateb anhygoel.

Mae eich lleisiau wedi llunio gwaith eich Llywodraeth Lafur newydd yng Nghymru. Rydym ni wedi gwrando ar bobl yng nghanol ein trefi, gweithwyr yn Airbus, myfyrwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ymwelwyr â sioeau amaethyddol yn sir Benfro, aelodau o gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn Abertawe, a chawsom ymatebion gan Men's Shed ym Maesteg hyd yn oed. Ac rydych chi wedi rhoi neges eglur i ni yn y Llywodraeth: iechyd a gofal cymdeithasol, a mynd i'r afael â'r amseroedd aros hir hynny am driniaeth yn arbennig, yw'r prif flaenoriaethau. Ceir awydd cryf hefyd i ni wneud cynnydd cyflymach ar wella safonau addysg, ac o ran creu swyddi a thyfu'r economi dros y 18 mis nesaf. Ceir pryder gwirioneddol hefyd ynghylch cyflwyno'r terfynau cyflymder 20 mya ac awydd i weld newidiadau ar ffyrdd penodol.

Ar draws Cymru gyfan, gan gynnwys ym Mhontypridd ac yn Wrecsam, clywais gan bobl yr oedd ganddyn nhw brofiadau personol cadarnhaol o'r gwasanaeth iechyd, ond roedden nhw'n poeni am bwysau cyffredinol ar y system ac ar amseroedd aros. Yn Nhorfaen, dywedodd menywod ifanc wrthyf eu bod nhw eisiau mwy o gefnogaeth ar gyfer materion iechyd meddwl ac iechyd menywod, fel poenau mislif ac endometriosis.

Dywedodd y gymuned fusnes a datblygwyr tai yn ein prifddinas wrthyf eu bod nhw eisiau ein gweld ni'n cyflymu'r broses gynllunio. Yn Aberhonddu, dywedwyd wrthyf fod angen codi safonau ysgolion, a dywedodd llawer ledled Cymru wrthyf sut yr oedden nhw'n ei chael hi'n anodd talu eu rhent. Dywedodd un gŵr wrthyf fod ei deulu yn oedi cyn cael ail blentyn oherwydd pryderon ynghylch costau cynyddol, ac roedd eisiau swyddi o ansawdd sy'n talu'n well. Yn y Cymoedd, galwodd bobl yn galw am well cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus. Yng Nghei Connah, roedd bron pob un sgwrs am yr angen i drwsio'r ffyrdd.

Nawr, mae'r sgyrsiau hyn, a llawer o rai eraill tebyg iddyn nhw, wedi helpu i ddiffinio blaenoriaethau'r Llywodraeth hon. Rydym ni'n gwrando. Nawr, allwn ni ddim gwneud popeth, felly rydym ni'n pennu blaenoriaethau. Ar ôl gwrando ar bryderon, uchelgeisiau a gobeithion pobl, sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd yn Llafur Cymru, byddwn yn bwrw ymlaen trwy weddill tymor y Senedd hon i ysgogi cynnydd mewn pedwar maes allweddol.

Y cyntaf yw darparu iechyd da. Byddwn yn lleihau amseroedd aros y GIG, gan gynnwys ar gyfer iechyd meddwl, byddwn yn gwella mynediad at ofal cymdeithasol, a byddwn yn gwella gwasanaethau ar gyfer iechyd menywod. Yn ail, ochr yn ochr â Llywodraeth y DU, byddwn yn canolbwyntio ar swyddi a thwf gwyrdd. Byddwn yn creu swyddi sydd nid yn unig yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, ond sy'n helpu i wneud teuluoedd yn well eu byd ac yn adfer natur. A byddwn yn cyflymu penderfyniadau cynllunio i dyfu ein heconomi yng Nghymru.

Un o'r pethau a wnaeth fy ysbrydoli i ddod i fyd gwleidyddiaeth oedd gwylio talentau a galluoedd y rhai nad oedden nhw'n cael cyfleoedd yn cael eu gwastraffu. Felly, rydym ni'n mynd i sicrhau cyfleoedd i bob teulu. Byddwn yn hybu safonau yn ein hysgolion a'n colegau ac yn darparu mwy o gartrefi ar gyfer rhent cymdeithasol, gan sicrhau bod pob teulu yn cael cyfle i lwyddo. A byddwn yn cysylltu cymunedau. Byddwn yn trawsnewid ein rheilffyrdd ac yn darparu rhwydwaith bysiau gwell. Byddwn yn trwsio ein ffyrdd ac yn grymuso cymunedau lleol i wneud dewisiadau ynghylch 20 mya. Rwy'n falch o gyhoeddi'r blaenoriaethau hyn heddiw, ochr yn ochr â thîm Cabinet gwych, a fydd yn gyfrifol am gyflawni'r blaenoriaethau hyn.

Mae llawer wedi cael ei wneud. Mae llawer i'w wneud. Ond mae llawer iawn i'w golli os na fyddwn ni'n gwneud hyn yn iawn. Rydym ni'n Llywodraeth sydd â synnwyr dwfn o wasanaeth i chi, bobl Cymru. Dyna pam y byddwn ni'n parhau i wrando ond, yn bwysicach, i gyflawni. Cyflawni, atebolrwydd a gwell cynhyrchiant fydd arwyddeiriau fy Llywodraeth—gwneud i bethau ddigwydd o ran blaenoriaethau'r bobl. A bydd hyn yn cynnwys mwy o dryloywder a gwelededd i'r cyhoedd, fel bod trethdalwyr yn gwybod ble mae pethau'n mynd yn dda a ble mae lle i wella. Bydd y pwyslais eglur hwn ar flaenoriaethau, ochr yn ochr â thrawsnewid y ffordd yr ydym ni'n monitro cyflawniad, yn rhoi min ar ein ffocws.

Rydw i wedi penodi Gweinidog Cyflawni a fydd yn arwain y newid hwn. Dros yr wythnosau nesaf, byddwn ni'n datblygu rhestr gynhwysfawr o'r hyn sy'n cael ei gyflawni, pryd y bydd angen ei gyflawni, a gan bwy, o fewn yr adnoddau ariannol sydd gennym ni. Bydd y Cabinet wedyn yn cwrdd yn fisol i fonitro cynnydd ein huchelgeisiau a’n hamcanion pwysicaf.

Ond, os ydyn ni eisiau cyflawni ei hamcanion ar y cyd, mae’n rhaid inni fod yn onest ac yn realistig. Mae penderfyniadau anodd o’n blaenau ni. Mae’n rhaid inni flaenoriaethau amser ac adnoddau cyfyngedig y Llywodraeth. Dwi’n gwybod na fydd hyn yn hawdd, a dwi’n gwybod am y niwed y mae 14 mlynedd o gamreolaeth y Ceidwadwyr wedi’i wneud i gyllid y Deyrnas Unedig. Fel y dywedodd Nye Bevan, sylfaenydd yr NHS, iaith blaenoriaethau yw crefydd sosialaeth. Dyw hynny ddim cweit yn gweithio yn y Gymraeg.   

'Iaith blaenoriaethau yw crefydd sosialaeth.'

Dyna ddywedodd Aneurin Bevan. Rwy'n credu yn y geiriau hynny. Dyna'r hyn yr ydym ni'n mynd i'w wneud yn y Llywodraeth: penderfynu beth fydd ein blaenoriaethau.

Heddiw, mae gyda ni'r cyfle gorau mewn mwy nag 14 mlynedd i wireddu ein huchelgeisiau dros Gymru. Am gyfnod rhy hir, mae'r Ceidwadwyr yn San Steffan wedi rhwystro ein pwerau datganoledig ac wedi ceisio atal ein huchelgeisiau ar bob cyfle. Ond nawr mae newid wedi dod.

Ychydig ddyddiau yn ôl, dangosodd y cytundeb rhwng Tata Steel a Llywodraeth y Deyrnas Unedig sut mae cael Llywodraeth Lafur o fudd i fywydau pobl yng Nghymru, a sut y bydd y buddiannau yma'n parhau. Nawr yn y Llywodraeth, mae'r Blaid Lafur wedi ymrwymo i gronfa cyfoeth cenedlaethol gwerth £2.5 biliwn i ailadeiladu'r diwydiant dur. Mae'r pecynnau diswyddo sy'n cael eu cynnig i weithwyr dur yn fwy hael na'r rhai a gafodd eu cynnig o dan y Torïaid chwe mis yn ôl. Byddaf yn gwneud datganiad mwy manwl am y diwydiant dur yn hwyrach heddiw.

Nawr mae gyda ni bartneriaeth mewn pŵer: dwy Lywodraeth Lafur yn cydweithio dros Gymru. Dyma'r foment inni godi ein huchelgeisiau, ac rŷn ni eisoes wedi dangos beth allwn ni ei wneud gyda'n gilydd. Achos, yr wythnos diwethaf, fe wnaethon ni gyhoeddi cynigion cyflog i weithwyr y sector cyhoeddus sydd wedi codi mwy na chostau byw a chwyddiant, gan dderbyn yn llawn yr argymhellion cyflog gan gyrff adolygu cyflogau annibynnol, ac yn adlewyrchu barn y cyhoedd sydd wedi dweud wrthym ni ar y strydoedd dros yr haf fod gwasanaethau cyhoeddus a'r bobl sy'n gweithio ynddyn nhw o bwys. Mae hynny'n golygu dyfarniad cyflog o 5.5 y cant i athrawon, 6 y cant i ddoctoriaid a deintyddion, yn cynnwys meddygon teulu, gyda £1,000 ychwanegol ar gyfer doctoriaid iau, a 5.5 y cant i staff y gwasanaeth iechyd sydd ar delerau ac amodau 'Agenda ar gyfer Newid'.

Nid rhifau yn unig yw cynnydd uwch na chwyddiant i gyflogau gweithwyr sector cyhoeddus. Mae hwn yn arian gwirioneddol, haeddiannol ym mhocedi pobl sy'n gweithio'n ddiflino, bob un dydd, yn ein gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr, ac maen nhw'n haeddu ein cefnogaeth. Nhw yw asgwrn cefn y gwasanaethau yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw, a dywedodd y cyhoedd wrthym ni dro ar ôl tro ar y strydoedd, 'Cefnogwch ein gwasanaethau cyhoeddus.'

Trwy ganolbwyntio ar flaenoriaethau pobl Cymru, byddwn yn adeiladu cenedl lle mae pawb yn teimlo eu bod nhw'n cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a'u clywed: cenedl decach, wyrddach a mwy llewyrchus sy'n rhoi'r hyder i bobl ddechrau teulu neu dyfu busnes, Cymru lle gall pob person ifanc deimlo'n hapus ac yn obeithiol ar gyfer y dyfodol. Rydym ni wedi gwrando, rydym ni wedi dysgu a byddwn yn cyflawni. Diolch.

15:00

Prif Weinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma. Rwy'n credu mai hwn yw'r seithfed datganiad deddfwriaethol/datganiad blaenoriaeth Prif Weinidog/datganiad rhaglen lywodraethu yr ydym ni wedi ei gael yn ystod y 12 mis diwethaf gan y Blaid Lafur yma yn y Senedd. Nid yw'n syndod, yn amlwg, nad yw'r rhai sy'n gyfrifol am gyflawni hyn, y gweision sifil a'r gweision cyhoeddus eraill sy'n gweithio'n ddiwyd ledled Cymru, wir yn gwybod pa ffordd i droi pan fyddan nhw'n ceisio gweithredu rhywfaint o'r fframwaith polisi hwn. Oherwydd, fel y soniodd y Prif Weinidog yn ei datganiad, dywedodd bod pobl yn dweud wrthi am 20 mya, eu bod nhw'n dweud wrthi am drwsio'r ffyrdd. Wel, y Llywodraeth Lafur flaenorol a newidiodd safbwyntiau polisi i dynnu buddsoddiad oddi wrth ffyrdd ac i fodelau trafnidiaeth eraill. Nawr, mae hwnnw'n safbwynt polisi perffaith i'w fabwysiadu, ond eich plaid chi wnaeth y penderfyniad hwnnw. Ac 20 mya, yn amlwg, penderfyniad eich Llywodraeth chi, neu'r Llywodraeth flaenorol, oedd rhoi hynny ar waith ledled y wlad, a nawr mae'n rhaid i awdurdodau lleol ddargyfeirio adnoddau i ddatod y sbageti y maen nhw'n ei ganfod o geisiadau o'u blaenau i geisio dychwelyd ffyrdd i 30 mya, y mae etholwyr a phobl Cymru yn dweud yw'r dull synnwyr cyffredin.

Felly, y pryder yn sgil y datganiad hwn yw ei fod mor ysgafn o ran y ffordd y bydd y mentrau hyn yn cael eu cyflawni. Fe wnaeth y Prif Weinidog anelu sylwadau at brif weithredwyr y gwasanaeth iechyd yn ei chyfweliad ar BBC Cymru ddydd Sul. Penodwyd chwech o'r saith o brif weithredwyr hynny ers 2021. Roedd amser y Prif Weinidog fel Gweinidog iechyd yn yr un cyfnod, felly mewn gwirionedd hi benododd chwech o'r saith o brif weithredwyr hynny y dywedodd fod angen iddyn nhw gamu i'r adwy nawr a chyflawni o ran amseroedd aros. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru lasbrint o sut yr oedden nhw'n mynd i leihau amseroedd aros yn y GIG, ond maen nhw wedi methu pob targed i gael gwared ar yr amseroedd aros hynny sydd wedi bod mor ystyfnig o uchel, ac, a dweud y gwir, dros y mis neu ddau ddiwethaf, maen nhw wedi dechrau mynd yn ôl i fyny. Felly, beth mae'r Prif Weinidog yn ei gredu, yn ei swydd fel Prif Weinidog, y gall ei wneud i wthio'r amseroedd aros hynny i lawr na allai ei wneud pan oedd hi'n Weinidog iechyd? Oherwydd rydym ni wedi clywed y cwbl o'r blaen, Prif Weinidog. Dro ar ôl tro mae Gweinidogion Llafur wedi dod i'r Siambr hon i ddweud mai rhestrau aros yw'r flaenoriaeth. Wel, wrth ei flas mae profi pwdin. Mae'r rhestrau aros yn mynd i fyny yma yng Nghymru, a phan edrychwn ni ar ofal cymdeithasol, mae 20 y cant o welyau yn ysbytai Cymru wedi'u llenwi gan bobl a allai fod yn y gymuned, yn eu cartrefi eu hunain, yn derbyn gofal, ac mae gofal cymdeithasol yn rhan yr un mor bwysig o'r hafaliad hwn â'r gwasanaeth iechyd ei hun, ac rwy'n sylwi nad oes llawer o sôn amdano yn y papur safbwynt polisi hwn y mae'r Llywodraeth wedi ei gyflwyno heddiw.

O ran addysg, dim byd am absenoliaeth, mynd i'r afael ag absenoliaeth, sy'n ystyfnig o uchel yn rhai o'n cymunedau tlotaf. Mae gan dri deg wyth y cant yn rhai o'n cymunedau absenoliaeth reolaidd mewn teuluoedd sy'n methu cyfleoedd cyfle bywyd drwy'r system addysg. Mae'r datganiad yn dawel ynghylch hynny. Mae'n dawel ynghylch yr hyn yr ydych chi'n bwriadu ei wneud gyda chyllid prifysgol, lle mae llawer o'n prifysgolion yn cael eu hunain â'u cefnau yn erbyn y wal. A byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Prif Weinidog amlygu sut y mae'r Llywodraeth yn mynd i fynd i'r afael â'r ddwy elfen allweddol hynny o absenoliaeth a buddsoddiad yn ein prifysgolion.

Ac o ran yr economi, ceir datganiad ar Tata Steel yn ddiweddarach, felly fe wnaf i adael y Prif Weinidog i roi sylw i'r materion hynny yn ymwneud â Tata Steel yn y datganiad hwnnw. Ond nid oes unrhyw sôn am y cynllun ffermio cynaliadwy yn y datganiad hwn, a dyma ein cyflogwr mwyaf, gyda'r sector prosesu bwyd a'r gymuned amaethyddol yn cynhyrchu bwyd ar gyfer y wlad hon, ond hefyd ar gyfer y cyfleoedd allforio sy'n bodoli ledled y byd. Dim byd, dim sôn o gwbl am hynny yn y datganiad blaenoriaeth, er gwaethaf yr holl rethreg gan y Dirprwy Brif Weinidog ei fod ef a chithau yn gwrando wrth i chi fynd o amgylch Cymru.

Byddwn hefyd yn tynnu sylw at adroddiad diweddar yr archwilydd cyffredinol ar dargedau tai, targedau tai cymdeithasol y Llywodraeth ei hun o 20,000 o unedau i gael eu hadeiladu dros oes y Senedd hon, a'r archwilydd cyffredinol yn nodi bod y Llywodraeth ar y trywydd iawn i fethu'r targed hwnnw. Dim cyfeiriad at sut rydych chi'n mynd i gael eich hun yn ôl ar y trywydd iawn ac yn ôl i adeiladu dros Gymru. Rydym ni'n gwybod yn y sector masnachol eich bod chi'n methu'r nod o gynhyrchu digon o dai ar sail gynaliadwy, reolaidd ac wedi'i chynllunio. Rydych chi'n sôn am ddiwygio'r system gynllunio. Wel, mae Gweinidogion cynllunio wedi dod yma dro ar ôl tro o'r meinciau Llafur ac wedi methu â chyflwyno system gynllunio a all fanteisio ar y cyfleoedd economaidd sy'n bodoli gyda system gynllunio ymatebol a fydd yn cael Cymru yn adeiladu, gan greu swyddi a chartrefi o ansawdd ar gyfer y dyfodol.

A hoffwn hefyd geisio deall, gyda phenodiad y Gweinidog cyllid yn dod yn ôl i'r Llywodraeth—. Gwelsom yr angerdd a ddangoswyd ganddo wrth siarad am ddiwygio'r flwyddyn ysgol. A yw hynny yn ôl ar y bwrdd nawr bod y Gweinidog cyllid yn ôl yn y Llywodraeth? A gafwyd hynny oddi wrthych chi pan gafodd ei drafodaethau ar gytuno i wasanaethu a bod yn angor yn y Llywodraeth? Oherwydd, yn yr un modd, y rhan arall o raglen y Llywodraeth a gafodd ei hepgor yn ddiweddar oedd diwygiadau i'r dreth gyngor. A oes unrhyw sôn am ailgyflwyno'r diwygiadau i'r dreth gyngor a oedd yn rhan annatod o ddwy, os nad tair blynedd, o dymor y Senedd hon?

Ac rydych chi'n sôn am gyflawni. Mae pob Prif Weinidog yn ystod fy nghyfnod i yma sydd wedi dod i'r Siambr hon wedi sôn am unedau cyflawni, sefydlu Swyddfa Cabinet, ac mae cyflawni yn ganolog i bopeth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud. Wel, nid oes yr un Prif Weinidog yn mynd i ddod yma a dweud, 'Nid ydym ni'n mynd i gyflawni.' Ond sut yn union ydych chi'n mynd i fod yn wahanol yn y ffordd y byddwch chi'n cyflawni, dros yr 20 mis nesaf, y blaenoriaethau yr ydych chi'n dweud sydd yn y datganiad hwn? Mae'n rhaid i mi ddweud—

15:05

—dyma'r datganiad ysgafnaf gan Brif Weinidog yr wyf i wedi ei weld ar adeg agor tymor Senedd. Mae angen i chi gamu i'r adwy, mae angen i'ch Gweinidogion gamu i'r adwy, ac ni fydd y datganiad hwn yn newid y cyfeiriad, ni fydd yn symud y nodwydd. Y cynharaf y byddwn ni'n cyrraedd 2026 ac y byddwn ni'n cael y cyfle hwnnw i newid cyfeiriad yma yng Nghymru, y gorau y bydd i bobl Cymru. 

Wel, mae'n rhaid i mi ddweud wrthych chi, dyma'r blaenoriaethau sy'n dod oddi wrth y cyhoedd, ac, os nad ydych chi'n eu hoffi, mae angen i chi fynd allan a siarad â'r cyhoedd. Oherwydd mae hyn yn bwysig, cydnabod mai'r pethau yr ydym ni wedi eu datgan yma yn eglur iawn yw'r pethau sydd fwyaf pwysig i'r cyhoedd. Nawr, gadewch i ni fod yn eglur bod gennym ni gyfrifoldeb cyfreithiol o hyd i gyflawni mewn llu o feysydd y byddwn ni, wrth gwrs, yn eu cyflawni fel y mae angen i ni fel Llywodraeth. Ond mae hyn yn ymwneud â chanolbwyntio ein sylw. Mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr ein bod ni'n edrych yn ofalus ar y meysydd y mae pobl yn poeni fwyaf amdanyn nhw. 

Nawr, os cymerwch chi ddim ond rhai o'r pethau y soniodd amdanyn nhw, am sicrhau ein bod ni'n cyflawni. Beth sy'n mynd i fod yn wahanol, er enghraifft, o'i gymharu â phan oeddwn i'n Weinidog iechyd? Wel, yn gyntaf oll, nid fi oedd y person a oedd yn penodi'r prif weithredwyr erioed; rwy'n penodi'r cadeiryddion, a'r cadeiryddion sy'n dwyn y prif weithredwyr i gyfrif. Ac roeddwn i'n eu cael nhw i mewn yn fisol i'w holi'n drylwyr am yr hyn sy'n digwydd yn eu byrddau iechyd. A byddwn yn gwneud llawer mwy o hynny yn y dyfodol, ond hefyd wir yn edrych ar dryloywder hynny, oherwydd rwy'n credu bod gan y cyhoedd hawl i wybod sut mae eu bwrdd iechyd yn perfformio o'i gymharu ag eraill. Bydd yn rhaid i ni weithio allan yn union i ba lefel o fanylder yr awn ni, ond mae hynny'n rhywbeth a fydd yn newid yn y dyfodol. Ond, yn amlwg, cyfrifoldeb y Gweinidog iechyd newydd fydd bwrw ymlaen â hynny nawr, a gwn y bydd yn canolbwyntio'n llwyr ar hyn.

Ond gadewch i mi ddweud wrthych chi am rywbeth arall sy'n mynd i newid sef bod gennym ni Weinidog cyflawni, a bydd y Gweinidog cyflawni yn gyfrifol am wneud yn siŵr, mewn gwirionedd, fod pawb ar draws y Llywodraeth yn rhan o'r broses hon, ein bod ni i gyd yn cael ein dwyn i gyfrif—ein bod ni i gyd yn cael ein dwyn i gyfrif. A byddwn yn cynnal cyfarfod Cabinet misol a fydd yn canolbwyntio'n llwyr ar gyflawni, lle bydd yn rhaid i bawb gyfrannu eu sgiliau, eu galluoedd, eu gwybodaeth at y materion sydd bwysicaf i'r cyhoedd.

Wrth gwrs, rydym ni'n awyddus iawn i weld pethau fel diwygio'r system gynllunio, ond mae nifer enfawr o bobl mewn gwahanol adrannau ar draws y Llywodraeth a fydd yn gallu cyfrannu at y ddadl honno, a dyna pam y bydd cael y Llywodraeth gyfan i gymryd rhan yn hyn yn bwysig. Felly, mae'n amlwg y byddwn ni'n parhau i wneud y math o waith dydd i ddydd y mae'n rhaid i Lywodraeth ei wneud, ond mae hyn yn ymwneud â chanolbwyntio ar y materion sydd fwyaf pwysig i'r cyhoedd yng Nghymru. Dyna'r hyn y byddwn ni'n ei wneud. Rydym ni wedi ei gyflwyno yma. Ni fyddwn yn cael ein dargyfeirio o'r blaenoriaethau hynny ac, wrth gwrs, rydym ni'n gwybod ein bod ni'n mynd i gael ein barnu arno ymhen 18 mis.  

15:10

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am y datganiad? Ac, ar ddechrau tymor seneddol, dwi'n dymuno'n dda iawn iddi yn ei gwaith. Mi fyddaf i'n ei hannog hi i ddangos uchelgais go iawn bob un dydd, ond, yn anffodus, dydy'r dystiolaeth sydd wedi ei chyflwyno drwy'r datganiad yma ddim yn rhoi llawer o hyder i rywun. Cwestiwn ymarferol ar y dechrau, os caf i. Roeddwn i o dan yr argraff mai ymgynghoriad Llywodraeth oedd yn cael ei gynnal yr haf yma. Dwi'n reit siŵr bod y Prif Weinidog wedi defnyddio arian cyhoeddus i wneud y gwaith, ac eto mae'n dweud mai arolwg gan y Blaid Lafur gafodd ei gynnal, a data wedi ei gasglu gan y Blaid Lafur oedd hwn. Efallai y gall y Prif Weinidog egluro beth yn union oedd natur y berthynas yna. Mae rhywbeth sydd ddim cweit yn iawn yn y fan yna, ond yn sicr mae o'n cadarnhau—ac mae hynny'n bwysig—mai darn o waith ar gyfer tawelu'r dyfroedd o fewn y Blaid Lafur oedd hyn, yn hytrach na rhywbeth er budd pobl Cymru. 

Mae'r Prif Weinidog yn galw'r hyn a ddigwyddodd yr haf hwn yn ymgynghoriad; rwy'n ei alw'n ymarfer cysylltiadau cyhoeddus. Yr hyn a welais i oedd haf o dawelwch. Nid oedd y Prif Weinidog hyd yn oed yn credu ei bod hi'n werth chweil penodi Llywodraeth barhaol ar unwaith, gan aros tan yr wythnos diwethaf i wneud hynny. Byddwn i'n awgrymu, yn wleidyddol, bod hynny'n amser a wastraffwyd o'i safbwynt hi, ond os ydych chi'n glaf ar restr aros neu'n rhiant sy'n poeni am addysg eich plentyn, neu'n chwilio am gyfleoedd cyflogaeth ac yn poeni am economi heb dwf, yna yn sicr mae'r rheini wedi bod yn chwe wythnos a wastraffwyd. A chanlyniad yr ymarfer, fel y dywedwyd wrthym ni heddiw—syrpréis, syrpréis—oedd mai iechyd ac addysg a'r economi oedd y prif flaenoriaethau. Bobl bach, os nad oedd plaid sydd wedi bod yn arwain Llywodraeth Cymru ers 25 mlynedd wedi sylweddoli mai dyna oedd y blaenoriaethau, yna rydym ni mewn mwy o drafferthion gyda Llafur nag yr oeddwn i'n ei feddwl. 

Ac, wrth gwrs, ar iechyd ac ar addysg a datblygu economaidd, ac, ie, ar ffyrdd, y flaenoriaeth arall a amlinellwyd yn y datganiad tenau iawn, iawn hwn heddiw, ac, mewn gwirionedd, yr holl elfennau eraill hynny na soniwyd amdanyn nhw hyd yn oed—amaethyddiaeth yn un o'r rheini—mae hyn oll yn etifeddiaeth o 25 mlynedd o Lywodraethau dan arweiniad Llafur. Nawr, gallan nhw fod yn falch bod pobl wedi ymddiried ynddyn nhw i arwain ein Llywodraethau yn y chwarter canrif cyntaf hwn o ddatganoli, ond mae'n rhaid hefyd iddyn nhw gymryd cyfrifoldeb am gyflwr gwasanaethau cyhoeddus ar ôl y 25 mlynedd hynny. Mae arwain a llywodraethu yn golygu cymryd cyfrifoldeb. Ac, os caf i ddweud, os yw Eluned Morgan yn benderfynol na ddylem ni gyfeirio at Keir Starmer—ac rwy'n tybio ei bod hi'n golygu unrhyw Brif Weinidog arall y DU—yn ein cwestiynau iddi, fel y dywedodd yn gynharach, mae'n rhaid felly iddi gydnabod bod canlyniadau yn rhai i Lafur yng Nghymru, ac yn gyfan gwbl i Lafur yng Nghymru eu cyfiawnhau.

Rŵan, mae gwaddol y rhestrau aros hiraf erioed, y cwymp mewn safonau yn ein hysgolion, cyflogau isel, yn dangos inni fod Llywodraethau Llafur wedi cael eu cyfle ac wedi methu. Dwi'n gwybod beth mae pobl yn ei ddweud wrthyf i, nid mewn rhyw ychydig o wythnosau o ymgynghoriad tawelu'r dyfroedd, ond yn gyson. Beth maen nhw'n ei ddweud ydy eu bod nhw angen gobaith am NHS cynaliadwy, am system addysg sy'n cryfhau. Ac ydych chi'n gwybod beth, mae'r gobaith yna wedi mynd yn beth prin iawn, iawn dan Lywodraethau Llafur erbyn hyn, a dyna pam bod yn rhaid cael dechrau ffres, ac rydym ni'n cynnig hynny. Roedd hynny'n wir cyn yr etholiad cyffredinol diwethaf; rŵan, mae teyrngarwch Llafur i'w penaethiaid yn San Steffan yn datblygu i fod yn broblem fwy nag yr oeddwn i wedi'i hofni, hyd yn oed—yr amharodrwydd yna i frwydro cornel Cymru go iawn rhag cynhyrfu'r dyfroedd. Allwn ni ddim fforddio Llywodraeth felly.

Nawr, ar ddiwygio fformiwla Barnett, ar gyllid canlyniadol HS2, ar ddatganoli Ystad y Goron, ar gyfiawnder a phlismona, neges Llafur i Gymru yw 'na', 'na', 'na'. Felly, gadewch i mi ofyn i'r Prif Weinidog weithredu ar y meysydd blaenoriaeth hyn. Yn gyntaf, cyhoeddwch gerydd cyhoeddus go iawn i'r Prif Weinidog am dorri taliadau tanwydd gaeaf i bensiynwyr, a chynnal y cap dau blentyn hefyd. Byddai'n arwydd o leiaf nad yw'r ffynnon o ddŵr coch clir a grybwyllwyd unwaith yn rhedeg yn hollol sych. Cafodd gyfle i wneud hynny yn gynharach; dewisodd deyrngarwch i Keir Starmer ac i Rachel Reeves.

Yn ail, dywedwch wrth y Canghellor am yr effaith y bydd cyni cyllidol pellach yn ei chael ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'n rhaid i'r Prif Weinidog gadw'n driw, rwy'n credu, i'r hyn a ddywedodd yn ei hymgyrch arweinyddiaeth yn 2018. Dywedodd:

'Mae rhoi terfyn ar gyni cyllidol...yn annhebygol o ddigwydd oni bai ein bod ni'n cael llywodraeth Lafur [y DU].'

Wel, edrychwch ar sut mae hynny wedi troi allan.

Ac yn drydydd, cyfaddefwch yr argyfwng yn y GIG a dechrau ailadeiladu'n iawn. Anaml iawn y mae gwneud yr un peth drosodd a throsodd a disgwyl gwahanol ganlyniadau yn gweithio.

Mae Cymru angen Llywodraeth sydd ddim yn ofni herio San Steffan, pwy bynnag sydd â'r allwedd i Rif 10 Downing Street. Dim ond felly y gallwn ni drio cael tegwch i'n cenedl ni, tegwch cyllidol, tegwch cyfansoddiadol, agwedd newydd at daclo tlodi, yr angen am fuddsoddi strategol mewn gofal iechyd ataliol, ffocws ar godi safonau addysg, ar greu cyfoeth, meithrin sgiliau, codi cyflogau, cefnogi nid cosbi busnesau bach, cefnogi cefn gwlad ac amaeth, a cheisio cadw a denu talentau ifanc. Dyna fydd blaenoriaethau Plaid Cymru, a dwi'n edrych ymlaen at fanylu mwy ar ein gweledigaeth dros y 18 mis nesaf, tra'n dal y Llywodraeth Lafur yma i gyfrif ar ran pobl Cymru. Felly, efo'r cwestiwn yma i gloi: pryd cawn ni dargedau ar iechyd, ar addysg, ar drwsio ffyrdd, ar dwf economaidd? Achos, fel arall, mae hwn wirioneddol yn ddatganiad tenau y prynhawn yma.

15:15

Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ei bod i'w ddisgwyl i ni gael yr ymateb sinigaidd a negyddol hwn gan Blaid Cymru. Y gwir yw, yn yr ymarfer hwnnw, lle ymgysylltwyd, yn wirioneddol, â channoedd o bobl, heb hidlo, heb gynllunio, lle gwnaethon nhw ddweud wrthym ni wyneb yn wyneb yr hyn yr oedden nhw eisiau i ddigwydd, doedden nhw ddim yn credu ei fod yn sinigaidd. Roedden nhw'n meddwl ei bod hi'n braf iawn cael pobl allan yno, ar y strydoedd, yn gwrando ar yr hyn y maen nhw'n poeni amdano. Felly, ydw, wrth gwrs, rwy'n disgwyl y math yna o ymateb negyddol. A dweud y gwir, roedd yn rhywbeth a godwyd. Roedden nhw'n sôn dro ar ôl tro pa mor negyddol oedd rhai o'r gwrthbleidiau.

Ond nid wyf i'n derbyn bod hwnna'n haf o dawelwch; rwy'n credu bod y ffaith ein bod ni wedi ymgysylltu â miloedd o bobl ledled Cymru yn bwysig. A gadewch i ni fod yn eglur, ymarfer Llywodraeth oedd hwn wrth gwrs, ond cymerodd llawer o bobl eraill ran yn yr ymarfer gwrando hwnnw. Felly, cymerodd y Blaid Lafur ran—roedd croeso i chi gymryd rhan hefyd, ond efallai eich bod chi wedi dewis peidio. Ond gallaf ddweud wrthych chi bod pobl ledled Cymru yn hapus iawn i gyfrannu, ac nid wyf i'n derbyn ei fod yn haf o dawelwch. 

Y dyfarniad cyflog sector cyhoeddus uwch na chwyddiant: nid oedd yn haf o dawelwch i'r 200,000 o bobl sydd wedi elwa o'r codiadau cyflog hynny a fydd yn sail i'r ffaith y byddwn ni'n gallu lleihau'r rhestrau aros hynny, oherwydd cyn hynny roedd problemau ynghylch faint o arian yr oeddem ni'n gallu ei roi iddyn nhw, a doedden nhw ddim yn hapus gyda'r hyn a gynigiwyd yn flaenorol, oherwydd nid oedd gennym ni'r arian gan Lywodraeth y DU. Dyna'r gwahaniaeth y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud. Dyna'r gwahaniaeth: arian ym mhocedi pobl, pobl sy'n helpu ein gwasanaethau cyhoeddus.

Yr un peth o ran Tata: mae'r cytundeb sydd ar y bwrdd nawr, y byddaf i'n ei drafod yn fwy manwl yn ddiweddarach, yn well na'r cytundeb a oedd ar y bwrdd yn gynharach. Y ffaith ein bod ni wedi gallu trafod gyda'r heddlu a chymunedau lleol yr aflonyddwch a ddigwyddodd mewn rhannau eraill o'r wlad, nid oedd hynny'n haf o dawelwch iddyn nhw, ac roeddem ni'n falch iawn na wnaeth yr aflonyddwch hwnnw ddigwydd yn ein cymunedau ni.

Rwy'n fwy na pharod i chi fy nwyn i gyfrif am beth yw penderfyniadau Llafur yma yn Llywodraeth Cymru, ond ni wnewch chi fy nwyn i gyfrif am yr hyn y maen nhw'n ei wneud yn San Steffan. Nid fy nghyfrifoldeb i yw hynny, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig, pe baech chi eisiau gwneud hynny, ewch i San Steffan. Roeddech chi eisiau mynd yno—[Torri ar draws.] Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud hyn yn eglur o'r cychwyn.

15:20

Hoffwn wrando ar ymateb y Prif Weinidog. Mae hynna ar gyfer yr holl Aelodau, os gwelwch yn dda, felly rhowch gyfle iddi siarad.

Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod yw bod yna dwll du o £22 biliwn. Mae hynny wedi arwain at ganlyniadau i ni yma yng Nghymru. Mae wedi arwain at ganlyniadau uniongyrchol i ni, a'r hyn yr ydym ni'n ei wybod—[Torri ar draws.]

Prif Weinidog, gadewch i ni aros am eiliad nawr. Gofynnais am dawelwch fel y gallwn i glywed yr ymateb, a chyn gynted ag y siaradodd y Prif Weinidog, clywais leisiau eto yn tarfu arni. Gadewch i'r Prif Weinidog ymateb, os gwelwch yn dda.

Yr hyn y gwnaf i ei gynnig yw gobaith ar gyfer y dyfodol, gobaith i bobl Cymru sydd wedi bod trwy gyfnod anodd iawn. Maen nhw wedi bod drwy Brexit; maen nhw wedi bod drwy gyni cyllidol; maen nhw wedi bod drwy COVID. Maen nhw eisiau gweld pennod newydd yn hanes y genedl hon, pennod newydd y byddwn ni'n gallu ei gweld nawr, oherwydd yr ymgysylltiad â'r Llywodraeth Lafur honno yn y DU. Fe wnaf i gymryd cyfrifoldeb am fy rhan i; byddan nhw'n cymryd cyfrifoldeb am eu rhan nhw. Ond gadewch i mi ddweud wrthych chi, mae'r cydweithrediad hwnnw eisoes yn trawsnewid y ffordd y mae Cymru yn newid.

Yn gyntaf, a gaf i eich croesawu chi fel Prif Weinidog benywaidd cyntaf Cymru yn ogystal â'r mynegiad eglur o flaenoriaeth eich Llywodraeth heddiw? Ar ran cymunedau Islwyn, a gaf i ddiolch i chi am dreulio eich wythnosau cyntaf yn gwrando ar y bobl?

Yn Islwyn, mae'n eglur ein bod ni bod angen i'n Llywodraeth Lafur Cymru weithredu'n bendant. Mae pedair blynedd ar ddeg o gyni cyllidol neu doriadau Torïaidd wedi gwneud llanast o'n gwasanaethau cyhoeddus ac wedi ymestyn ein cymunedau i'r eithaf. Mae fy etholwyr yn Islwyn eisiau gweld amseroedd aros y GIG yn cael eu cwtogi; maen nhw eisiau gweld safonau byw yn cael eu gwella a llywodraeth leol yn cael ei chefnogi'n ariannol, ac maen nhw hefyd eisiau gwell mynediad at feddygon teulu, ac yn Islwyn, diogelu sefydliadau a lleoliadau celfyddydol poblogaidd fel Sefydliad y Glowyr Coed-duon, Opera Cenedlaethol Cymru, neu Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Prif Weinidog, beth all eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod llywodraeth leol yn cael ei galluogi, a bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio i wella bywydau beunyddiol pobl Cymru, a'n bod ni'n gweithio gyda'n gilydd ar draws y Siambr hon i sicrhau cyllid tecach, cyfiawn i bobl Cymru?

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn. Wel, y gwahaniaeth mawr nawr yw partneriaeth mewn grym, a dyna sydd gennym ni o dan Lywodraeth Lafur. Mae'r ffaith ein bod ni wedi cael cymaint o ryngweithio eisoes gyda Gweinidogion yn Llywodraeth Lafur y DU yn dangos y newid sylweddol sydd wedi digwydd o ganlyniad i Lafur nawr yn ennill yr etholiad cyffredinol yn y DU. Rydym ni'n gwybod pa mor bwysig yw llywodraeth leol o ran darparu ein gwasanaethau, felly mae angen trosi'r bartneriaeth honno, wrth gwrs, nid yn unig o'r fan hon o ran ni a Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'n gilydd, ond ni'n gweithio gyda llywodraeth leol, ac mae hynny'n arbennig o wir o ran gofal cymdeithasol ac ysgolion. Dyna pam mae'r ddau beth hynny yn cael eu blaenoriaethu gan y cyhoedd, a bydd y rheini'n cael eu hadlewyrchu o ran yr hyn yr ydym ni'n ei wneud ac, wrth gwrs, byddwn yn cyflwyno rhai targedau o ran sut yr ydym ni'n gwneud hynny, a dyna fyddwn ni'n ei wneud fel Llywodraeth. Rwyf i wedi gofyn i'r holl Weinidogion feddwl am eu syniadau ynghylch yr hyn y gellir ei gyflawni yn ystod y 18 mis nesaf, a byddwn yn gwneud yn siŵr bod y rheini'n cael eu cyflawni.

15:25

Hoffwn eich croesawu i swydd y Prif Weinidog, ac rwy'n falch o glywed eich bod chi'n bwriadu iddi fod yn Llywodraeth sy'n gwrando. Byddwn i wedi bod yn falch pe bai gan eich rhagflaenwyr yr un agwedd yn hynny o beth. Rydym ni wedi gweld, dro ar ôl tro, blaenoriaethau'r Llywodraeth yn gwbl anghydnaws â'r hyn y mae pobl Cymru yn poeni amdano a'r hyn y maen nhw'n gofyn amdano. Mae eich ymarfer gwrando, yn eich geiriau chi, wedi amlygu pryderon am 20 mya, a gyflwynwyd flwyddyn yn ôl i heddiw ac y mae gan bobl deimladau cryf amdano o hyd. Nid ydym yn gweld yr eithriadau a ddymunir yn cael eu gwneud. Er i Lywodraeth Cymru arwain pobl i gredu ei bod wedi ailfeddwl 20 mya, ni fu newid sylweddol i bolisi, ac mae pobl yn dal i fod yn ddig am ganlyniadau'r polisi hwn.

Fe wnaethoch chi ddweud bod iechyd a gofal cymdeithasol wedi cael eu codi'n aml yn eich ymarfer gwrando, ond eto rydym ni wedi gweld y gwasanaeth iechyd yn cael ei esgeuluso ers blynyddoedd gan Lywodraeth Cymru. Mae fy etholwyr yn Nyffryn Clwyd wedi bod yn aros dros 10 mlynedd i ysbyty cymunedol gael ei adeiladu yng ngogledd sir Ddinbych i dynnu pwysau oddi ar Ysbyty Glan Clwyd, sydd â rhai o'r amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys gwaethaf yn y bwrdd iechyd sy'n perfformio waethaf yng Nghymru.

Soniwyd am wella safonau addysg hefyd. Rydym ni'n gwybod mai canlyniadau PISA Cymru oedd y gwaethaf yn y DU. Nid yw'r un o'r materion hyn y tynnwyd eich sylw atyn nhw yn syndod, ond maen nhw wedi cael eu codi'n ddiddiwedd. Rwy'n falch eich bod chi'n gwrando o'r diwedd, ond rwyf i bellach yn disgwyl gweld y meysydd hyn yn brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, yn hytrach na phrosiectau porthi balchder fel diwygio'r Senedd, sydd wedi cyfeirio cyllid yn gywilyddus oddi wrth y meysydd blaenoriaeth hyn y mae'r cyhoedd wedi tynnu eich sylw atyn nhw. Nid yw etholwr erioed wedi dweud wrthyf i ar garreg y drws eu bod nhw eisiau Senedd fwy neu eu bod nhw eisiau treialon incwm sylfaenol cyffredinol neu fod eu gallu i deithio yn eu car wedi cael ei gwtogi. Rwy'n gobeithio eich bod chi'n bwriadu bwrw ymlaen â'r materion y mae pobl Cymru wedi eu codi gyda chi'n uniongyrchol ac anwybyddu'r pwysau gan grwpiau diddordeb arbennig ac ideolegwyr sy'n ymbleseru mewn cynlluniau porthi balchder gwastraffus nad ydyn nhw er budd y wlad hon. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Gareth, ac roedd yn wych treulio cryn dipyn o amser yn y gogledd, yn gwrando ar bobl y gogledd yn trafod eu pryderon, ac nid ydyn nhw mor wahanol â hynny, a dweud y gwir, i'r pryderon a glywsom ar draws gweddill Cymru, ond roedd yn bwysig ymgysylltu â nhw, fel y dywedais, mewn ffordd heb ei hidlo o gwbl, gan wneud yn siŵr ein bod ni'n troi i fyny heb i bobl wybod ein bod ni'n dod, felly roedd yn gignoeth iawn, ac rwy'n credu bod pobl wir yn gwerthfawrogi hynny.

Roedd teimladau cryf, ac rydych chi yn llygad eich lle, mae'r 20 mya yn dal i fod yn broblem—nid wyf i'n credu y gallwn ni osgoi'r ffaith honno—ond bu gostyngiad i nifer y damweiniau hefyd, a dylid cydnabod hynny hefyd ar y pen-blwydd hwn. O ran hynny, rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n gwrando, yn dysgu, ac yna ein bod ni'n sicrhau bod darpariaeth leol fel ein bod ni'n cael y cyflymderau cywir ar y ffyrdd cywir. Hoffwn ddiolch i'r holl filoedd o bobl hynny sydd wedi ysgrifennu at eu hawdurdodau lleol, sydd wedi dweud wrthyn nhw pa ffyrdd y maen nhw'n credu ddylai gael eu heithrio o dan y canllawiau newydd, a gwn y bydd y Gweinidog trafnidiaeth yn dilyn hynny'n fanwl iawn, gan wneud yn siŵr bod llywodraeth leol, mewn gwirionedd, yn ymateb i leisiau'r cymunedau lleol hynny, ond gan wneud yn siŵr, wrth gwrs, bod diogelwch yn ffactor pwysig yn hyn i gyd.

Er yr holl siarad am ailosod ac ailfywiogi'r Llywodraeth yma, ar ôl treulio naw mis yn rhoi blaenoriaethau’r Blaid Lafur yn flaenaf ar draul llywodraethu Cymru, roedd yna dôn cyfarwydd iawn i'w glywed yn y blaenoriaethau a nodwyd am iechyd a gofal, oherwydd mae'r hyn yr ydym ni wedi'i glywed heddiw, a dros yr wythnosau diwethaf, yn syfrdanol o debyg i'r hyn a ddywedodd ei rhagflaenydd yn ôl ym mis Ebrill. Neu yr hyn a ddywedodd ei ragflaenydd o. Ac yn wir yr hyn a ddywedodd ei ragflaenydd yntau. Edrychwch ar unrhyw un o ddatganiadau cenhadaeth unrhyw un o'r chwe Aelod Llafur sydd yn bresennol yma heddiw sydd wedi dal y portffolio iechyd ac mi welwch chi ddatganiadau tebyg. Ac, ydy, mae honna’n ystadegyn syfrdanol, onid ydyw? Mae yna chwech ohonoch chi bellach yn y Siambr yma sydd wedi dal y portffolio iechyd ac yn parhau i fethu. Dydy cysondeb, wrth gwrs, ddim yn beth gwael, ond er mwyn cael unrhyw hygrededd, yna mae'n rhaid profi bod dweud a gwneud yr un peth drosodd a throsodd yn dwyn ffrwyth. A dyna lle mae'r Llywodraeth yma wedi methu, dro ar ôl tro. Yn hytrach na gwella safonau, yr hyn yr ydym ni wedi ei weld ydy normaleiddio methiannau, a safonau yn disgyn o dan fethiannau Llafur yng Nghymru.

Pan benodwyd y Prif Weinidog yn Weinidog iechyd dair blynedd a hanner yn ôl, rhoddodd y bai ar ei rhagflaenydd i bob pwrpas, gan ddweud nad oedd yn sylweddoli bod pethau mor ddrwg. Wel, mae pethau hyd yn oed yn waeth nawr. Mae amseroedd aros wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed am chwe mis yn olynol yn ystod hanner cyntaf eleni, er ei bod yn ymddangos bod dau Brif Weinidog wedi rhoi'r mater hwn ar frig eu rhestrau o bethau i'w gwneud. Dim ond crib y rhewfryn yw hynny. Prin 50 y cant o gleifion canser yng Nghymru sy'n derbyn y driniaeth angenrheidiol o fewn y cyfnod amser gorau bosibl, ac mae amseroedd ymateb i achosion brys yn sylweddol arafach na'r rhai yng ngweddill Prydain Fawr. Mae'r materion hyn yn cael eu gwaethygu unwaith eto ac yn gwneud pethau'n waeth i'r Llywodraeth. Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn mynd i'w cymryd i wella'r gwasanaeth iechyd a gwneud yn siŵr y bydd gofal sylfaenol, a gofal eilaidd yn benodol, yn cael eu gwella dros y misoedd nesaf?

15:30

Diolch yn fawr iawn. Byddwn yn canolbwyntio ar y materion bara menyn sy'n bwysig i'r cyhoedd yng Nghymru. Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod yw bod pwysau aruthrol ar y gwasanaeth iechyd. Nid yw'n sefyllfa sy'n unigryw i Gymru, ac mae'n amlwg nad ydym ni'n mynd i drwsio'r GIG yn y 18 mis nesaf. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n rheoli disgwyliadau ynghylch hynny.

Rydym ni'n cydnabod bod y galw yn enfawr—2 filiwn o gysylltiadau bob mis mewn poblogaeth o 3.1 miliwn o bobl. Mae hynny'n llawer o weithgarwch ac yn llawer o bobl. Yr hyn a oedd yn ddiddorol iawn oedd clywed faint o bobl a ddywedodd, 'Gyda'r GIG, mae fy mhrofiad personol yn dda iawn, ond rwy'n gwybod bod pwysau enfawr ar y system'. Cododd hynny dro ar ôl tro. Pan oeddech chi'n eu herio nhw ar 'Beth yw eich profiad personol?' dywedodd llawer iawn, 'Mae fy un i yn un da'.

Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi, ymhlith yr holl bethau y mae angen i ni eu gwneud o fewn y GIG, yw y byddwn ni'n canolbwyntio ar leihau'r rhestrau aros hynny. Ond hefyd, y mater arall a godwyd yn eithaf aml oedd iechyd menywod. Ac efallai oherwydd bod gennych chi bellach Brif Weinidog sy'n fenyw yr oedden nhw'n fwy parod i siarad am hynny. Ond roedd yn fater a godwyd a dyna pam y byddwn ni'n canolbwyntio'n benodol ar hynny hefyd yn ein blaenoriaethau.

A gaf i eich llongyfarch hefyd ar ddod yn Brif Weinidog? Roedd yn wych bod gyda chi yng Nghei Connah, ac roedd yn anhygoel, pan oeddem ni'n siarad â phobl, faint ohonyn nhw a ddywedodd eu bod nhw'n eithaf hapus gyda'r ffordd y mae pethau yng Nghymru, sy'n wych i'w glywed. A phan wnaeth pobl godi iechyd fel problem, fe wnaethon nhw ddweud mewn gwirionedd eu bod nhw wedi cael profiadau da gyda gofal iechyd hefyd.

Ond a gaf i gadarnhau mai'r broblem fwyaf a godwyd gan bawb oedd tyllau mewn ffyrdd a chynnal a chadw priffyrdd? Un enghraifft o weithredu deddfwriaeth a pholisïau mewn ffordd fwy ymarferol ac amserol yn y dyfodol fyddai dileu'r cynigion a'r cyfyngiadau beichus o ran cyllid grant priffyrdd. Yn aml, gall ceisiadau fod yn feichus, yn 20 tudalen o hyd, yn dechnegol ac yn fiwrocrataidd, ac yn cymryd llawer o amser swyddogion priffyrdd, y gellid ei ddefnyddio mewn gwirionedd i gontractio a chyflawni'r gwaith. Felly, a fyddech chi'n cytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet, sydd wedi dweud o'r blaen y dylid datganoli cyllid priffyrdd a thrafnidiaeth i awdurdodau lleol i fwrw ymlaen â'u blaenoriaethau lleol eu hunain? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Roedd yn wych sgwrsio â chynifer o bobl yng Nghei Connah. Mam Jack Sargeant oedd un ohonyn nhw, a oedd yn digwydd bod yn siopa ar yr adeg benodol honno, felly roedd hynny'n syrpréis i'w groesawu. Ond rydych chi'n gwbl gywir; roedd yn eithaf diddorol bod materion penodol a godwyd mewn rhai ardaloedd yn fwy nag eraill, ac yn sicr tyllau yn y ffordd oedd y broblem yng Nghei Connah. Rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru yn iawn i leihau gwaith adeiladu ffyrdd. Roedd hwnnw'n bolisi da. Ond mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y ffyrdd sydd gennym ni yn cael eu cynnal. Felly, rwy'n gwbl sicr yn y ffaith bod angen i ni wneud mwy o waith ar hynny, a gwn fod y Gweinidog sy'n gyfrifol yn mynd i fod yn canolbwyntio ar hynny hefyd.

Fe wnaethoch chi ddweud eich bod chi eisiau gwrando ar bobl nad oedd ganddyn nhw rym, nad oedd ganddyn nhw leisiau croch. Wyddoch chi pwy sydd heb rym, a phwy sydd heb lais croch? Plant, yn enwedig plant mewn tlodi.

Doedd yna ddim sôn yn eich datganiad am dlodi plant. Mae’n hynod siomedig. Gofynnais i chi, pan ddaethoch chi’n Brif Weinidog, i roi trechu tlodi plant ar frig eich agenda ac adfer targedau. Dyna beth sy’n rhoi delivery i chi, Brif Weinidog—targedau, targedau i roi terfyn ar dlodi plant. Pan ollyngwyd y targed gan Lywodraeth Cymru yn 2016, dywedwyd bod hyn oherwydd bod polisi Llywodraeth San Steffan wedi gwneud y targed yn anghyraeddadwy. Un o'r polisïau hynny oedd y rhaglen diwygio lles, a'r ffaith nad oedd gan Lywodraeth Cymru'r pŵer i wneud y newidiadau sydd eu hangen i, er enghraifft, y cap dau blentyn a'r terfyn ar fudd-daliadau. Felly, pa newidiadau polisi y bydd Llywodraeth Cymru'n gofyn i Lywodraeth newydd San Steffan eu gwneud a fydd yn eich helpu chi i gyflawni amcanion eich strategaeth tlodi plant? Ac a fydd targedau i roi terfyn ar dlodi plant yn cael eu hadfer nawr bod Llywodraeth Lafur mewn grym yn Llundain?

15:35

Diolch yn fawr. Bydd Dawn Bowden, wrth gwrs, nawr yn gyfrifol am arwain ar yr agenda plant; rwy'n falch iawn ei bod wedi ymgymryd â'r rôl honno. Rwy'n credu mai un o'r meysydd lle rydym wedi gallu cyflawni'r materion o ran yr her ar dlodi gyda phlant yw prydau ysgol am ddim, a'r ffaith y cyflwynwyd hynny mewn amser byr iawn mewn gwirionedd. Oedd, roedd yn rhan o'r cytundeb cydweithio, ac rwy'n credu bod hynny'n enghraifft dda o gydweithio, gan ganolbwyntio a deall ble mae ein galluoedd fel Llywodraeth ddatganoledig. Mae'n rhaid i ni wneud yr hyn y gallwn ei wneud. Mae gennym rai ysgogiadau; nid oes gennym yr ysgogiadau mawr sydd gan Lywodraeth y DU. Ond, unwaith eto, os ydych chi eisiau gofyn iddyn nhw am y gefnogaeth honno, gofynnwch i'ch ASau holi Keir Starmer. Dyna'r ffordd mae hyn—[Torri ar draws.] Dyma'r ffordd—[Torri ar draws.] Dyma'r ffordd y mae'n gweithio: gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn i'ch ASau lleol ofyn i Keir Starmer. Diolch yn fawr iawn.

Rŷch chi'n ei galw hi'n bartneriaeth pŵer, ond, eto, dim ond chi sy'n cael siarad am y bartneriaeth, mae'n debyg.

Gaf i ofyn, ar fater arall, heblaw am y ffaith eich bod chi eisoes wedi tynnu nôl y Bil cwotâu rhywedd, ydych chi fel Prif Weinidog yn dal i fwriadu delifro pob Bil oedd yn rhaglen ddeddfwriaethol eich rhagflaenydd chi fel Prif Weinidog?

Diolch yn fawr iawn, Llyr. Nid wyf wedi mynd i fanylion y rhaglen ddeddfwriaethol. Mae'r Bil cwotâu yn rhywbeth yr ydym wedi'i dynnu'n ôl, mae wedi cael ei oedi am y tro. Ond dyna'r prif beth. Bydd rhai mân newidiadau i un o'r Biliau eraill, mewn perthynas â'r Bil twristiaeth a chofrestru, y byddwch yn cael mwy o fanylion arnynt yn y dyfodol agos iawn.

11. Datganiad gan y Prif Weinidog: Tata Steel

Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan y Prif Weinidog ar Tata Steel. Felly, y Prif Weinidog sy'n gwneud y datganiad yma eto. Datganiad ar Tata Steel—y Prif Weinidog.

Diolch yn fawr. Rwy'n falch o wneud datganiad ar ddatblygiadau diweddar ynglŷn â'r sefyllfa yn Tata Steel. Yr wythnos diwethaf, cadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bod wedi cwblhau cytundeb cyllid grant gyda Tata Steel am gyfraniad buddsoddi o £500 miliwn er mwyn i Tata Steel UK drawsnewid i wneud dur gwyrddach. Rydym i gyd yn cydnabod bod y 12 mis diwethaf wedi bod yn hynod anodd i weithlu Tata, i weithwyr yn ei gadwyn gyflenwi helaeth, ac wrth gwrs y cymunedau yr effeithiwyd arnynt wrth i Tata Steel drawsnewid. Mae Tata Steel wrth wraidd cymaint o weithgarwch economaidd yng Nghymru ac wrth wraidd y cymunedau lle mae ei ffatrïoedd dur wedi'u lleoli. Bu dyfalu'n gyson ar ei ddyfodol a'i effaith ar gyflogaeth, gan arwain at rwystredigaeth a phryder. Mae Llywodraeth Cymru, felly, yn croesawu cadarnhad o'r cytundeb. Bydd yn dod â rhywfaint o sicrwydd y mae mawr ei angen i'r hyn a fydd yn parhau i fod yn sefyllfa anhygoel o ansefydlog i weithwyr dur, cyflenwyr a'r cymunedau ehangach yr effeithir arnynt ledled Cymru.

Mae Llywodraeth y DU wedi gallu negodi cytundeb llawer gwell na'r cynllun a gyhoeddwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU nôl ym mis Medi 2023. Mae'r cytundeb gwell gafodd ei gadarnhau yr wythnos diwethaf yn cynnwys 100 o swyddi i'w gosod mewn cynllun tebyg i ffyrlo, wedi'i ariannu gydag arian ychwanegol gan Tata; taliadau diswyddo o 2.8 wythnos ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth, sy'n fwy hael nag y mae'r cwmni wedi'i roi o'r blaen; ymrwymiad na fydd unrhyw un yn cael ei adael ar ôl, felly bydd y rhai sydd mewn perygl o ddiswyddiadau gorfodol, y disgwylir iddynt bellach fod yn ddim mwy na 500 o rolau, yn gallu cael mynediad at gynllun hyfforddi hyd at 12 mis, gyda chyflog llawn am fis a'r gweddill yn 60 y cant wedi'i ariannu gan y cwmni; amodau grant llymach, felly bydd arian trethdalwyr yn cael ei dynnu'n ôl os na chyflawnir yr ymrwymiadau hyn; ac ymrwymiad gweithredol i ddatblygu cynlluniau buddsoddi yn y dyfodol dros y 12 mis nesaf y tu hwnt i ffwrnais arc drydan safleoedd Tata yng Nghymru.

Mae Llywodraeth y DU wedi cael cytundeb gwell nid yn unig ar gyfer y presennol, ond ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn adeiladu pont i ddyfodol cynaliadwy i ddur Cymru. Nid dyma'r cytundeb y byddem wedi dymuno ei gael, ond, o ystyried y paramedrau y bu'n rhaid i'r Llywodraeth newydd weithio ynddynt a'r pwysau amser i sicrhau bod y ffwrnais arc drydan newydd yn cael ei hadeiladu, mae'n gytundeb sydd wedi gwella'n sylweddol. Mae'r Llywodraeth Lafur newydd wedi ymrwymo cronfa gyfoeth genedlaethol gwerth £2.5 biliwn i'r sector dur ynghyd â strategaeth ddur, a fydd yn cael ei dadorchuddio gwanwyn nesaf. Fe wnes i ail-gadarnhau, yr wythnos diwethaf, i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn parhau i weithio mewn partneriaeth mewn perthynas â dyfodol y sector dur. 

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r holl weithwyr y mae trawsnewidiad Tata Steel UK yn effeithio arnynt a bydd yn cefnogi Llywodraeth y DU a'r cwmni i sefydlu trefniadau ar gyfer gwella'r cytundeb cyllid grant lle bo hynny'n briodol. Mae memorandwm cyd-ddealltwriaeth, sy'n ystyried y gwelliannau y cytunwyd arnynt yn y cytundeb cyllid grant, hefyd wedi'i gwblhau rhwng Tata a phwyllgor dur y DU, sy'n cynrychioli'r tri undeb dur. Fe wnaeth undebau Community a GMB gynnal pleidlais aelodau yr wythnos diwethaf ar y memorandwm cyd-ddealltwriaeth, gyda'r bleidlais yn cau am hanner dydd ddoe. Nid yw Unite wedi cynnal pleidlais aelodau. Gyda'r cytundeb cyllid grant a'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth bellach yn cael eu cwblhau, mae Tata Steel bellach yn gallu gosod archebion offer ar gyfer y ffwrnais arc trydan a'r ffwrneisi meteleg lletwad, yn ogystal â chomisiynu asedau newydd eraill. Bydd yr asedau pen trwm presennol, gan gynnwys ffwrnais chwyth 4, ar gau erbyn diwedd y mis hwn, gan ddod â chyfnod o wneud dur yn y ffordd draddodiadol i ben. Ond yr hyn sy'n cael ei gynnig nawr yw'r diogelwch a'r gobaith am ddull gwahanol o wneud dur a fydd yn llawer mwy cyfeillgar i'r amgylchedd. 

Mae gan Tata Steel drefniadau i barhau i wasanaethu eu cwsmeriaid drwy gydol y cyfnod pontio. Bydd hyn hefyd yn diogelu gweithfeydd dur yn Llanwern, Shotton a Throstre. Mae'r cwmni wedi cynnal ymarferion ymgynghori cyhoeddus ac yn bwriadu gwneud cais am gymeradwyaeth cynllunio erbyn mis Tachwedd eleni. Os bydd hyn yn cael ei gymeradwyo, bydd y gwaith adeiladu ar gyfer y trawsnewid yn dechrau tua mis Gorffennaf 2025, ac rŷn ni'n disgwyl i'r ffwrnais arc drydan fod yn weithredol o fewn tair blynedd. Mae Tata wedi dweud bydd y newid i wneuthuriad dur arc trydan drwy ddefnyddio sgrap sy'n cael ei gynhyrchu yn y Deyrnas Unedig yn lleihau allyriadau carbon diwydiannol y Deyrnas Unedig gan 8 y cant, a 90 y cant ym Mhort Talbot. Bydd hwn yn gosod meincnod o ran yr economi gylchol, gan ymateb i ofynion cwsmeriaid diwydiannol am ddur gwyrdd.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i chwarae rhan ganolog ar fwrdd pontio dur Tata, gan weithio yn agos ac ar y cyd gyda'r partneriaid ar y bwrdd i sicrhau bod pawb sy'n cael eu heffeithio yn derbyn y cymorth cywir. Yn ogystal â helpu unigolion, eu teuluoedd, busnesau'r gadwyn gyflenwi a'r cymunedau, bydd y bwrdd pontio hefyd yn edrych ar brosiectau adfywio ar gyfer y tymor byr, canolog a hirdymor i fynd rhywfaint o'r ffordd i leihau effaith colli swyddi ac i ddarparu golwg gadarnhaol ar y rhanbarth yn y dyfodol. Wrth ystyried y ddibyniaeth gynyddol ar ddur sgrap domestig fel y brif ffordd o gyflenwi'r ffwrnais arc drydan, dylai sicrhau'r cyflenwad hwn fod yn flaenoriaeth strategol i Lywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig wrth symud ymlaen, gan ddarparu cyfleoedd yn ogystal â heriau.

Mae'r cyhoeddiad am y cytundeb cyllid grant a'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn cynnwys cam negodi cynnig Tata Steel UK, a byddwn i gyd nawr yn symud i'r cam gweithredu yn barod ar gyfer gwneud dur gwyrddach. Mae dur yn parhau i fod yn ddeunydd hanfodol ar gyfer nawr a'r dyfodol yn fyd-eang. Adeiladu, modurol, seilwaith, ynni adnewyddadwy, maent i gyd yn dibynnu ar ddur. Bydd dur wrth wraidd ein trawsnewidiad sero net, gan helpu i gefnogi datblygiad diwydiannau newydd yn ogystal â chyflenwi ein sylfaen weithgynhyrchu presennol. Mae cadarnhad o'r cyllid grant gan Lywodraeth y DU yn sicrhau dyfodol cynhyrchu dur ym Mhort Talbot ac yn rhoi diogelwch i'r diwydiannau hynny sy'n dibynnu arno. Byddwn yn sefyll ochr yn ochr â Llywodraeth y DU wrth wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi gweithwyr, cyflenwyr a'r gymuned ehangach wrth i'r diwydiant drawsnewid i ddarparu dyfodol newydd ar gyfer cynhyrchu dur yng Nghymru.

15:45

Diolch i chi, Brif Weinidog, am y datganiad.

Mae dyfodol Tata a gwneud dur yng Nghymru wedi bod yn bwnc a drafodwyd yn y Siambr hon ar sawl achlysur, yn enwedig dros y misoedd diwethaf, a chau'r ffwrnais chwyth olaf, y cynlluniau ar gyfer ffwrnais arc drydan newydd, a'r effaith ar gymuned Port Talbot a'i weithlu sy'n wynebu diswyddiadau. Ni ddylai neb orfoleddu ynghylch y cytundeb hwn pan effeithir ar gymaint o fywydau ym Mhort Talbot. Dylai pobl gydnabod y dewis deuaidd oedd ar gael: gweld gwaith dur Port Talbot yn cau yn llwyr, neu gefnogi'r cwmni i symud tuag at ffwrnais arc drydan, gan gadw cynhyrchu dur yn ne Cymru. Dyna a ddewisodd y Llywodraeth Geidwadol flaenorol, ac rwy'n falch bod y Llywodraeth Lafur newydd wedi anrhydeddu'r ymrwymiadau a wnaed gan y Llywodraeth Geidwadol honno wrth fwrw ymlaen â'r cytundeb.

Fodd bynnag, yn sgil y ffordd y mae peiriant sbin Llafur wedi gorweithio, byddech yn disgwyl y byddai sawl gwahaniaeth mawr o fewn y cytundeb hwn, yn enwedig o ystyried bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru, pan oedd yn ei rôl gysgodol, wedi gwawdio'r cynllun gan ddweud bod y Llywodraeth wedi gwario £500 miliwn mewn arian trethdalwyr dim ond i golli 3,000 o swyddi. Dywedodd gwleidyddion Llafur yn y lle hwn ac mewn mannau eraill gyda llais uchel wrth bobl Port Talbot i aros—'Aros tan ar ôl etholiad a ffurfio Llywodraeth Lafur y DU, aros a daw cytundeb gwell.' Cefais fy nghystwyo ar y pryd am ddweud bod gobaith ffug yn cael ei roi i'r bobl a'r gweithlu ym Mhort Talbot. Rwyf wedi cael fy mhrofi'n iawn, ac nid wyf yn cymryd unrhyw bleser yn hynny. Dau fis i mewn i dymor Llywodraeth Lafur y DU, a dau fis i sylweddoli bod llywodraethu yn wahanol iawn i fod mewn gwrthblaid.

Mae'r realiti yr un fath. Mae'r cytundeb gwerth £500 miliwn yn parhau i fod yn gytundeb gwerth £500 miliwn. Mae'r 2,800 o ddiswyddiadau yn parhau i fod yn 2,800 o ddiswyddiadau. Bydd yr un cyllid grant yn dal i fynd tuag at yr un ffwrnais arc drydan a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU bron i flwyddyn yn ôl. Mewn gwirionedd, ar y materion sydd o bwys gwirioneddol i bobl, fel swyddi a thrawsnewid gwneud dur, nid oes unrhyw newid. Mewn gwirionedd, y cytundeb a gafodd ei gadarnhau gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU oedd y cytundeb gorau sydd ar gael. Mae'n ymddangos mai'r unig wahaniaeth nawr yw lliw'r rhoséd a wisgir gan yr Ysgrifennydd Gwladol sy'n cyflwyno'r cytundeb.

O ran y grym sydd gan y Llywodraeth hon yng Nghymru, pam Prif Weinidog, mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi methu â darparu pecyn o gymorth ariannol? Oeddech chi'n aros i Syr Keir Starmer a'r marchoglu tybiedig ddod i'r adwy i ddarparu mwy o arian a chytundeb gwell? Oherwydd mae'r realiti yn wahanol iawn erbyn hyn. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i wneud mwy i gefnogi'r gweithlu a'r gymuned ehangach.

Gadewch i ni droi at y dyfodol, dyfodol y mae'r gweithlu, eu teuluoedd a chymuned Port Talbot yn ei haeddu. Rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru sicrhau nad yw sgiliau gwerthfawr yn cael eu gwastraffu ac nad yw ein gweithlu, gyda'i botensial helaeth, yn mynd yn wastraff. Yr wythnos hon, datgelodd ystadegau newydd eto fod Cymru ar ei hôl hi o gymharu â bron pob rhan arall o'r DU o ran anweithgarwch economaidd. Os gwelwch yn dda, peidiwch â gadael i weithwyr Port Talbot ddod yn rhan o'r ystadegyn hwnnw. Er mwyn lliniaru hyn gymaint â phosibl, mae angen i Lywodraethau Llafur y DU a Chymru sicrhau bod yr arian sydd ar gael yn cael ei wario'n ddoeth ac yn rhagweithiol.

Ym mis Awst cafodd £13.5 miliwn ei ryddhau gan y bwrdd pontio. A all y Prif Weinidog amlinellu a yw'r arian hwnnw wedi cael ei wario, ac os felly, pa fetrigau sy'n cael eu defnyddio i sicrhau bod arian yn cael ei wario'n ddoeth ac yn wir yn helpu gydag effaith ehangach y trawsnewid o chwyth i wneud dur ffwrnais arc trydan?

Ac ar ddur, cyfeiriodd Tata, yn eu tystiolaeth at bwyllgor economi'r Senedd, eu bod yn agored i archwilio gwaith rhydwytho haearn uniongyrchol a melin blatiau sy'n gallu cynhyrchu dur sy'n addas ar gyfer tyrbinau gwynt. Nid yw'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth, yr ymrwymiad gweithredol i ddatblygu cynlluniau buddsoddi yn y dyfodol y tu hwnt i'r ffwrnais arc drydan y sonioch amdano, yn ddim byd newydd, dim ond cadarnhau'r hyn y mae Tata wedi'i ddweud wrth y Senedd hon eisoes. Felly, os gwelwch yn dda, a all y ddwy Lywodraeth roi'r gorau i'r sbin? Nid yw'n gwneud dim i gefnogi'r gweithwyr hynny, y gymuned honno ym Mhort Talbot, sy'n poeni am eu dyfodol, oherwydd mae'r gwaith caled o ran sicrhau nad yw'r gymuned hon a'r gweithwyr hyn yn cael eu gadael ar ôl yn dechrau nawr. Diolch, Llywydd.

15:50

Diolch yn fawr. Nid dyma'r diweddglo yr oedd unrhyw un ohonom eisiau ei weld, er fy mod yn credu bod yn rhaid i ni gydnabod, er ein bod yn edrych ar ddiwedd oes draddodiadol o wneud dur, mae pennod newydd yn dechrau, a phennod newydd a fydd yn golygu bod dyfodol i ddur yng Nghymru, ac edrychwn ymlaen at weld manylion y cynllun dur y bydd Llywodraeth y DU yn ei gyflwyno yn y gwanwyn. Rwy'n credu pe bai'r Llywodraeth Lafur wedi cael mwy o amser, efallai y byddai wedi cael y cyfle i wneud dewisiadau gwahanol, ond rwy'n credu bod y dis wedi'i daflu erbyn i'r Llywodraeth Lafur gael ei hethol.

Yr hyn a ddywedaf yw bod cytundeb diswyddo llawer gwell wedi'i roi ar y bwrdd o ganlyniad i drafodaethau Llywodraeth Lafur, ac mae'n wir fod tua 2,000 o bobl wedi derbyn y taliadau diswyddo. A'r hyn y gallaf ei ddweud wrthych hefyd yw y bu cefnogaeth sylweddol gan Lywodraeth Cymru eisoes. Rydym wedi ymrwymo cyfanswm o tua £25 miliwn drwy raglenni ReAct, Cymunedau am Waith a chyfrifon dysgu personol. Mae'r rhain i gyd ar waith. Ac ar ben hynny, onid oedd hi'n ddiddorol gweld bod y bwrdd pontio wedi bod yn siarad ac yn siarad ac yn siarad, ac nid tan i Ysgrifennydd Gwladol Cymru—daeth Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru, Ysgrifennydd Gwladol Llafur Cymru—i mewn, ac o fewn mater o wythnosau roedd wedi clustnodi £13.5 miliwn i gefnogi'r bobl yn yr ardal honno? Ond rydych chi'n hollol gywir, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus i beidio â cheisio sgorio pwyntiau gwleidyddol ar sefyllfa sy'n anodd iawn i'r bobl yn y cymunedau hyn. Mae hwn yn gyfnod trawmatig iawn i'r cymunedau hynny. Maen nhw wedi bod trwy brofiadau anodd iawn, ac mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn sefyll gyda nhw ar yr adeg anodd iawn hon.

Fel aelod o'r bwrdd pontio, rwyf wrth gwrs yn croesawu gwaith y bwrdd a gwaith Ysgrifennydd Gwladol Cymru wrth helpu'r bwrdd i ganolbwyntio, ac, i fod yn deg, y ffordd y gweithredodd y Llywodraeth ar frys dros yr haf i ryddhau peth o'r cyllid ar gyfer ailhyfforddi ac ailsgilio. I lawer ohonom, pan oedd gweithwyr yn ystyried streicio a Tata yn bygwth tynnu'n ôl yn gynnar, fe wnaeth hogi meddyliau o gwmpas y bwrdd a phwysleisio'r angen i sicrhau bod y pecyn hwnnw ar gael i weithwyr a oedd o bosibl yn mynd i golli'r swyddi hynny, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod gwaith y bwrdd pontio, yr Ysgrifennydd Gwladol, ac wrth gwrs Gweinidog blaenorol yr Economi yn ei rôl o ran cyflawni hynny hefyd.

Ond mae yna 'ond' yma. Ni ddylem fod wedi cyrraedd y pwynt hwn yn y lle cyntaf. Ni waeth sut mae'r Llywodraeth yn pecynnu'r datganiad hwn, y gwir yw: colli 10,000 o swyddi ar draws de Cymru, yn uniongyrchol yn Tata ac ar draws y cadwyni cyflenwi, a'r gallu i greu dur sylfaenol yn rhywbeth yn y gorffennol. Daw hanes 200 mlynedd o gynhyrchu dur sylfaenol yng Nghymru i ben y mis hwn. Gadewch i ni alw hyn beth ydyw—y methiant polisi diwydiannol unigol mwyaf ers cau'r pyllau glo. Ac o ran yr hyn sydd ei angen arnom i wyrddio ein heconomi, i amddiffyn ein diogelwch cenedlaethol ac i gyrraedd ein huchelgeisiau sero net, efallai fe welwn ei fod wedi bod hyd yn oed yn fwy o gam gwag. Ac rwy'n ofni bod y cyfrifoldeb nid yn unig wrth ddrws y blaid Dorïaidd, mae hefyd wrth ddrws y Blaid Lafur yn San Steffan dros y degawdau blaenorol.

Dro ar ôl tro, fe wnes i ac eraill ar y meinciau hyn godi ar ein traed i gynnig dewis arall. Dro ar ôl tro, dywedwyd wrthym na fyddai'r dewis arall hwn yn cael ei ystyried na'i archwilio oherwydd mai'r cyfan oedd ei angen arnom oedd Llywodraeth Lafur yn y DU. Roedd ganddyn nhw gynllun—pecyn gwerth £3 biliwn ar gyfer dur—ond lle mae e'? Lle mae'r cynllun hwnnw yr oeddech yn addo ei fod e' gennych chi? Er cymaint y gallwn fod wedi anghytuno â Llafur ar ei dull o ymdrin â dyfodol y safle ym Mhort Talbot, roeddwn yn onest yn gobeithio y gallai Llywodraeth newydd gael canlyniad gwahanol. Ond nid yw hynny wedi digwydd. Gyda phob parch, nid yw'r cytundeb y mae Llywodraeth y DU wedi'i gyhoeddi yn wahanol iawn i'r un blaenorol. Roedd llawer ohono ar y bwrdd o dan y Llywodraeth flaenorol, ac yn hollbwysig, mae'r bobl rwy'n siarad â nhw ym Mhort Talbot a'r cyffiniau yn ei chael hi'n anodd gweld y gwahaniaeth.

Nawr, wrth gwrs roedd sôn am y diogelwch ar gyfer 500 o weithwyr gorfodol. Mae hynny i'w groesawu wrth gwrs, ond beth am y gefnogaeth i'r diswyddiadau gwirfoddol a wnaed? Bydd rhai a adawodd yn gynnar i fanteisio ar y pecyn diswyddo, yn dal i gael trafferth dod o hyd i waith mewn mannau eraill. Ac, wrth gwrs, mae llawer o sôn am elfen buddsoddi'r cytundeb hwn yn y dyfodol. Nid oes unrhyw sicrwydd pendant. Y cyfan sydd gennym ar bapur yw ymrwymiad gan Tata i archwilio buddsoddiad yn y dyfodol ac nid yw hynny'n ddim byd newydd; roedd bob amser ar y bwrdd. Roedd Sam Kurtz yn iawn i nodi y gallai Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig fod wedi dweud wrthych cyn yr haf pan roddodd Tata dystiolaeth i'n hymchwiliad. Felly, mae'n rhagdybio'r casgliad: ai hwn yw'r gorau y gallem ei gael? Rwy'n gwrthod y syniad hwnnw'n llwyr. Hynny yw, roedd y ddadl a wnaed fod angen mwy o amser—roedd gan y Llywodraeth y dulliau i sicrhau mwy o amser ac nid oedd cais i Tata roi'r gorau i'w gynlluniau i symud ar y cynllun a oedd ganddo ar y bwrdd tra bod trafodaethau ar y gweill. Roedd Tata yn dal i symud ar ei gynigion tra bod trafodaethau'n digwydd.

Ac, wrth gwrs, i rwbio halen ar y briw ymhellach, adroddodd y Daily Mirror a'r rhan fwyaf o allfeydd newyddion eraill y penwythnos hwn y gallai Tata gael ychydig o elw cysurus, tua £74 miliwn, trwy werthu ei drwyddedau allyriadau carbon, sy'n seiliedig ar y ddwy flynedd flaenorol o allbwn carbon. Nawr, mae hyn wrth gwrs ar ben £1 biliwn o gymorthdaliadau dros y pedair blynedd diwethaf. Efallai y gall y Prif Weinidog ein sicrhau heddiw bod camau'n cael eu cymryd i atal hynny, oherwydd os ydyn nhw'n cael gwneud hynny, yna am gic yn y dannedd fyddai hynny i'n cymunedau.

Nawr, nid yw hwn yn ddiwrnod i ddathlu ac nid yw'n ddiwrnod i alw hwn, drwy sbin, yn llwyddiant; mae hyn, i ailadrodd, yn fethiant polisi truenus. Nid yw'r realiti wedi newid. Rydym wedi caniatáu i adnodd a chapasiti sy'n sylfaenol i'n heconomi, ein diogelwch cenedlaethol a'n lle yn y byd gael eu tynnu ymaith gan gwmni rhyngwladol mewn gweithred o danseilio diwydiannol. Rydym ar fin dod yr unig wlad G7 nad yw'n gallu cynhyrchu dur sylfaenol. Rydym wedi dewis mewnforio dur rhad a budr o rywle arall, wedi'i gynhyrchu i safonau gweithle is ac o dan amodau mwy peryglus i weithwyr, wedi'u hwyluso gan y tariffau ffafriol ar gyfer mewnforion trwy ein porthladdoedd rhydd newydd fel y'u gelwir. Yn awr, ac yn y gorffennol gweithwyr sydd wrth wraidd hyn bob amser. Wyddoch chi, Prif Weinidog, pa mor gryf yw'r emosiynau ym Mhort Talbot wrth i weithwyr dur oruchwylio'r gwaith o gau'r ffwrneisi y maen nhw a'u rhagflaenwyr wedi treulio eu bywydau gwaith cyfan yn eu bwydo ac yn tynnu dur allan ohonyn nhw—dur sydd wedi cael ei ddefnyddio i wneud pethau yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt bob dydd, o'n hoergelloedd i'n tostwyr, ein ceir a'n trenau, ein hysgolion a'n hysbytai. Felly, Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi heddiw bod ymddiheuriad yn ddyledus i'r gweithwyr hyn, eu teuluoedd a'u cymunedau?

15:55

Diolch yn fawr iawn, ac a gaf i ddiolch i chi am y gwaith rydych chi wedi bod yn ei wneud ar y bwrdd pontio, yn ogystal â phobl eraill sydd wedi cyfrannu yma, gan gynnwys Vaughan a Jeremy, ar y gwaith roedden nhw'n ei wneud gyda hynny? Dydw i ddim yn meddwl bod neb yn dathlu yma; dyna'r gwir. Mae hwn yn ddiwedd pennod anodd iawn i rywbeth sy'n wirioneddol ystyrlon a phwysig i bobl yr ardal honno.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod pobl yn cydnabod bod brys o ran sicrhau bod pobl yn cael eu hailhyfforddi, yn enwedig y bobl hynny sydd mewn perygl o ddiswyddiadau gorfodol, a gwn fod yna bellach raglen hyfforddi gynhwysfawr newydd y telir amdani gan Tata ar gyfer tua 500 o'r gweithwyr hynny sydd mewn perygl o ddiswyddiadau gorfodol. Rwy'n gwybod bod y pecyn diswyddo yn un o'r rhai mwyaf hael y mae Tata erioed wedi'i gynnig, a rhan o hynny yw'r negodi sydd wedi bod yn digwydd.

Ac rydych chi'n hollol iawn, mae'n fethiant polisi diwydiannol. Ni fu polisi diwydiannol ar lefel y DU ers amser maith a dyna pam rwy'n falch o weld y bydd o leiaf bolisi dur yn dod allan yn y gwanwyn, fel y gallwn lywio ffordd ymlaen. Mae llygedyn bach o obaith yma, sef y byddwn, mewn gwirionedd, yn parhau i wneud dur yng Nghymru. Byddwn yn ei wneud mewn ffordd wahanol, byddwn yn ei wneud mewn ffordd wyrddach, ond mae cydnabyddiaeth y bydd yn rhaid i bethau newid.

Y gwir amdani yw, yn flaenorol, roedd y cynnig ar gyfer diswyddo tua 2.6 wythnos o daliad am bob blwyddyn. Dyna beth oedd y cynnig. Mae hwnnw wedi cynyddu nawr i 2.8 wythnos am bob blwyddyn roedd pobl wedi gwasanaethu. Felly, nid yw'n gynnig an-hael i'r bobl sy'n gweithio. Ond rwy'n cydnabod bod hwn yn gyfnod anodd iawn, iawn i bobl a'u teuluoedd, ond hefyd i'r gadwyn gyflenwi; rwy'n credu bod yn rhaid i ni gofio'r effaith ar y gadwyn gyflenwi. Felly, er y gall Tata wneud y cynigion hael hyn i'r bobl sy'n gweithio'n uniongyrchol iddynt, mae'n rhaid i ni gofio'r cadwyni cyflenwi hynny, a dyna pam yr oedd yn ddefnyddiol iawn dod i fyny gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn yr haf i siarad â rhai o'r cwmnïau hynny yn yr ardal sy'n chwilio am ddewisiadau eraill, sy'n gallu gweithio gyda'r awdurdod lleol ar y pecyn newydd hwnnw o sut bydd hwn yn edrych yn y dyfodol. Roeddwn hefyd yn falch iawn o gyfarfod â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach ar 10 Medi fel y gallai amlinellu sut olwg oedd ar y pecyn hwn. Rwy'n gwybod ei fod wedi cael sgyrsiau blaenorol gyda Gweinidogion eraill yn Llywodraeth Cymru. Felly, mae'r cyfathrebu hwnnw wedi bod yn gryf. Nid dyma'r diwedd yr oeddem i gyd yn gobeithio amdano, ond rwy'n credu mai dyma'r cynnig gorau y gallem fod wedi'i negodi mae'n debyg.

16:00

Prif Weinidog, diolch am eich datganiad, ac a gaf i ddiolch i chi hefyd am eich ymrwymiad i'r bwrdd pontio a mynd iddo yn fuan ar ôl i chi gael eich penodi a dilyn ymlaen ar rolau eich rhagflaenwyr yn hyn, gan sicrhau bod dur yn bwysig i Lywodraeth Cymru? Nawr, nid hwn oedd y cytundeb yr oeddwn i ei eisiau. Nid dyma'r cytundeb yr oedd gweithwyr dur ei eisiau, ac nid dyma'r cytundeb yr oedd pobl yn fy nghymunedau'n gobeithio amdano.

Daeth yn amlwg nad oedd gan Tata unrhyw fwriad, yn anffodus, i newid eu cyfeiriad mewn gwirionedd, oherwydd cyn yr etholiad cyffredinol nid oeddent wedi archebu'r deunyddiau crai yr oedd eu hangen i gadw'r ffwrneisi chwyth hynny i fynd. Rydyn ni wedi gweld y llong fwynau olaf yn dod i mewn yn ystod mis Awst; gwelsom y llong olosg olaf yn dod i mewn yn ystod mis Awst. Doedden nhw ddim yn archebu unrhyw beth. Eu cynllun nhw oedd cau lawr ddiwedd mis Medi, dim ots beth fyddai'n digwydd, ac mae hynny'n siomedig iawn. Mae gen i gydymdeimlad â'r hyn mae Luke Fletcher newydd ei ddweud, oherwydd nid yw hwn yn ddull lle roedd Tata eisiau gwneud trawsnewidiad llyfn ac amserol mewn gwirionedd. Roedden nhw eisiau torri i ffwrdd a gorffen, a dydyn ni ddim yn gwybod pryd y byddwn ni'n gweld cynhyrchu dur yn ôl ym Mhort Talbot. Mae yna sôn am tua thair blynedd, ond mae llawer o gwestiynau yn codi. A fyddan nhw'n cael yr ynni yn ei le? A fydd y gwaith adeiladu yn cael ei wneud? Pa mor hir y bydd pethau'n ei gymryd? 'Ydyn nhw'n mynd i adeiladu mewn gwirionedd?' Dyna'r cwestiwn a glywir o hyd. Felly, mae gennym ni ychydig o bethau o'n blaenau.

Nawr, fe wnaethoch chi grybwyll yn eich datganiad y bydd 500 o swyddi'n cael eu colli'n orfodol. Wel, i mi, mae 500 yn 500 yn ormod, ac mae angen i ni edrych ar sut y gallwn gefnogi'r gweithwyr hynny, eu teuluoedd a'r cymunedau, a hefyd, fel y gwnaethoch dynnu sylw ato, y miloedd yn y gadwyn gyflenwi na fyddant yn cael yr un buddion â gweithwyr dur Tata. Felly, mae angen i ni edrych ar sut y gallwn gefnogi'r bobl hynny yn y dyfodol, wrth symud ymlaen.

Wrth edrych i'r dyfodol, gofynnaf dri chwestiwn. Nododd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach, yn ei ddatganiad, y byddai 385 erw o dir yn Tata ar gael i'w werthu neu ei drosglwyddo. Ond wyddoch chi, a ydych chi wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU i weithio allan, mewn gwirionedd, pwy fydd yn gwneud y gwaith adfer a phwy fydd yn talu am hynny i sicrhau bod modd defnyddio'r tir ar gyfer dod â diwydiant a buddsoddiad i mewn? Hefyd, soniodd am yr ymchwiliad hyfywedd i DRI, i edrych a fydd hynny'n gweithio. A ydych wedi cael trafodaethau gyda Gweinidogion y DU ynghylch a fydd DRI yn rhywbeth y maent am ei roi ym Mhort Talbot fel rhan o'r cynlluniau buddsoddi? Yn olaf, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda nhw am gostau ynni? Oherwydd un o'r rhesymau yr ydym ni wedi tynnu sylw ato ers blynyddoedd o ran cynhyrchu dur yw cost uchel ynni yn y DU, ac eto rydyn ni'n mynd am ffwrnais arc drydan, sy'n mynd i ddefnyddio llawer iawn o ynni a thrydan. Ydych chi wedi cael trafodaethau am gostau ynni? Oherwydd, os ydym yn edrych ar y dyfodol, mae angen i ni sicrhau y bydd hyn yn gweithio ac yn gweithio i'r cymunedau, nid yn unig ar gyfer gwneud dur, ond ar gyfer y diwydiannau a'r buddsoddiadau eraill yr ydym eisiau eu cyflwyno i'r dref.

Diolch yn fawr iawn, Dai. A gaf i ddiolch i chi hefyd am y gwaith anhygoel rydych chi wedi'i wneud yn eich cymuned wrth geisio cefnogi'r bobl sydd wedi cael eu bygwth gyda'r sefyllfa hon dros nifer o flynyddoedd? Byddwch yn ymwybodol fy mod wedi cwrdd â'r undebau hyd yn oed cyn i mi ddod yn Brif Weinidog, oherwydd roeddwn yn cydnabod y byddai hwn yn un o'r materion anoddaf y byddai'n rhaid i ni ei lywio yn y dyddiau cynnar hynny. Mae'n drist iawn gweld y bydd y ffwrnais chwyth hon yn cau tua diwedd y mis hwn.

Rwy'n credu, serch hynny, ei bod yn bwysig ein bod yn edrych i'r dyfodol a sut olwg fydd ar yr arc trydan. Y gwir amdani yw bod ymgynghoriad cyhoeddus eisoes wedi bod ar weithgareddau penodol yn ymwneud â gosod y ffwrnais arc trydan, a gwn fod y cwmni'n gweithio'n agos iawn gyda chyngor Castell-nedd Port Talbot i geisio gwneud cais am gymeradwyaeth cynllunio erbyn mis Tachwedd. Felly, roeddech chi'n siarad am y bwlch, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Mae yna bobl sy'n colli eu swyddi, ond nid yw'r dull arall hwn ar waith ac ni fydd am ychydig eto. Ond, dim ond er mwyn rhoi syniad i chi o'r amseru ar hynny, mae gwaith peirianneg wedi'i gwblhau. Mae'r cwmni bellach yn ceisio gosod archebion offer ar gyfer y ffwrnais arc trydan ac asedau cysylltiedig. Mae disgwyl i'r gwaith safle ar yr adeilad ddechrau ym mis Gorffennaf y flwyddyn nesaf, gyda'r ffwrnais arc drydan yn weithredol ymhen tair blynedd. Rwy'n credu ei bod yn werth nodi hefyd bod Tata yn disgwyl y gallai'r cyfnod adeiladu greu hyd at 500 o swyddi newydd, ac felly efallai y bydd cyfleoedd i weithwyr lleol a chwmnïau cadwyni cyflenwi o amgylch hynny hefyd. Ac rwy'n gwybod mai rhan o'r hyn y maen nhw'n ei gynnig yw ailhyfforddi pobl sy'n gweithio ac efallai y bydd cyfleoedd i ni gynnig rhywbeth cyfatebol.

Felly, ar y gwaith adfer, roedd hwn yn fater a godais yn uniongyrchol gyda'r Ysgrifennydd Gwladol ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n deall a'i fod ef yn deall y cyfrifoldeb o fod yn berchen ar ddarn o dir fel hwnnw a'r gwaddol, y gwaddol halogi sydd gyda hynny. Y peth olaf rydyn ni eisiau yw cael ein gadael yn dal y babi—mae hynny wedi digwydd yn rhy aml yng Nghymru, ac felly roedd hynny'n fater pwysig i'w godi gyda'r Ysgrifennydd Gwladol.

Ac o ran costau ynni, wrth gwrs, mae hyn yn broblem i Lywodraeth y DU. Rwy'n gwybod y bydd Tata wedi ei godi'n rheolaidd iawn. Ond, yn ddelfrydol, yr hyn sydd ei angen arnom yw sicrhau y gallwn gynhyrchu ynni gwyrdd fforddiadwy yma yng Nghymru, a dyna lle mae cysylltu hyn â'n huchelgeisiau ynghylch ynni gwyrdd, yn enwedig gwynt ar y môr, yn bwysig iawn.

16:05

Prif Weinidog, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, ac fel y cydnabuwyd ar draws y Siambr, mae'r cytundeb hwn a gyhoeddwyd heddiw yn union yr un fath, ym mhob ffordd, â'r cytundeb a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth Geidwadol y llynedd. Bydd y Llywodraeth yn talu £500 miliwn tuag at gost adeiladu ffwrnais arc gwerth £1.2 biliwn ac, yn anffodus, bydd 2,800 o swyddi'n cael eu colli. Y dewis arall fyddai cau holl safleoedd Tata a cholli 5,000 o swyddi ychwanegol. Yr unig beth sydd wedi newid yn y flwyddyn ddiwethaf yw bod gwleidyddion Llafur wedi condemnio'r cytundeb hwn y llynedd ac yn awgrymu y bydden nhw'n sicrhau bod £3 biliwn ar gael i arbed pob swydd. A heddiw, maen nhw wedi cydnabod mai'r cytundeb a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Geidwadol oedd yr unig gytundeb ac felly'r cytundeb gorau a oedd ar gael. Rydych chi'n dweud na ddylem ni sgorio pwyntiau gwleidyddol heddiw, a dyna'r cyfan wnaethoch chi cyn i chi gael eich ethol i Lywodraeth y DU a cheisio elwa arno yn etholiadol. Felly, a hoffai'r Prif Weinidog ddefnyddio'r cyfle hwn i ymddiheuro i'r holl weithwyr dur hynny a bleidleisiodd dros Lafur yn y gred y byddai Llywodraeth Lafur yn arbed pob swydd yn y diwydiant dur yng Nghymru?

Wel, nid yw'r cytundeb yn union yr un fath. Mae'r cytundeb gwell a gadarnhawyd yr wythnos diwethaf yn cynnwys y ffaith bod 100 o swyddi yn mynd i gael eu gosod mewn cynllun tebyg i ffyrlo a fydd yn cael ei ariannu gydag arian ychwanegol gan Tata—nid oedd hynny ar y bwrdd o'r blaen—taliad diswyddo o 2.8 wythnos am bob blwyddyn o wasanaeth, sy'n fwy hael nag yr oedd y cwmni'n ei gynnig o dan y Ceidwadwyr; ymrwymiad na fydd unrhyw un yn cael ei adael ar ôl, felly bydd y rhai sydd mewn perygl o ddiswyddiad gorfodol—a nawr rydym yn disgwyl i hynny beidio â bod yn fwy na 500 o swyddi—yn gallu cael mynediad at gynllun hyfforddi am 12 mis gyda chyflog llawn am un mis a'r gweddill ar 60 y cant o hynny, wedi'i ariannu gan y cwmni; ac wrth gwrs amodau grant llymach fel ein bod yn gwybod, os na chaiff pethau eu darparu, y bydd arian yn cael ei gymryd yn ôl; ac, ar ben hynny, ymrwymiad gweithredol i ddatblygu, dros y 12 mis nesaf, gynlluniau buddsoddi yn y dyfodol y tu hwnt i'r ffwrnais arc trydan ar safleoedd Tata yng Nghymru. Mae'r rhain i gyd yn ychwanegol at yr hyn a roddwyd ar y bwrdd o'r blaen.

Mae'r rhai a fydd yn colli eu swyddi yn bennaf yn byw yn y cymunedau rwy'n eu cynrychioli, ac, er gwaethaf eich honiadau, Prif Weinidog, nid oes unrhyw beth wedi newid i'r gweithwyr dur a'u teuluoedd ac mae'n ddyletswydd arnom i ni roi diwedd ar y sbin. Y ffaith yw bod bwriad o hyd i gau'r ail ffwrnais chwyth a'r olaf ddiwedd y mis hwn; nid oes gostyngiad yn nifer y swyddi a gollir ers y cytundeb a wnaeth Llywodraeth Dorïaidd flaenorol y DU; ac mae'r un faint o arian yn dod o'r Llywodraeth newydd hon ar gyfer adeiladu'r ffwrnais arc drydan newydd. Felly, y ffaith yw bod y gweithlu a'u teuluoedd wedi'u siomi; mae cwmni rhyngwladol wedi cael penderfynu ar eu dyfodol ac nid yw llywodraethau ar ddau ben yr M4 wedi gwneud dim. Pa sicrwydd sydd yno, ar gyfer y 500 o swyddi hynny y sonioch amdanynt a fyddai'n cael eu creu wrth adeiladu'r ffwrnais arc drydan newydd, y byddant yn mynd i bobl leol, i gwmnïau a chontractwyr lleol? Ac mae'r ergyd i'r cymunedau rwy'n eu cynrychioli yn mynd y tu hwnt i'r economi, mae hefyd yn gymdeithasol, mae'n ddiwylliannol ac emosiynol, felly sut ydych chi'n mynd i gefnogi'r cymunedau hynny i ymdrin â hynny?

16:10

Diolch yn fawr. Rydych chi'n iawn, mae cyfleoedd adeiladu ar gyfer y 500 o bobl sydd efallai mewn perygl o ddiswyddiadau gorfodol. Roedd yn gwestiwn a gododd yn y bwrdd pontio. Roedd yn gwestiwn a ofynnwyd, ac, yn sicr, rwy'n credu bod awydd o fewn Tata ei hun i weld a allai hynny fod yn bosibl. Ond, wrth gwrs, efallai nad ydynt wedi'u hyfforddi i fod yn barod ar gyfer hynny, a dyna pam mai'r hyn y maent yn ei roi ar waith yw pecynnau hyfforddi, fel y gallant fanteisio ar hynny.

Ar ben hynny, rwy'n credu, yn sicr yn Llywodraeth Cymru, ein bod yn cydnabod bod hwn yn gyfnod anodd iawn, iawn i'r gymuned ym Mhort Talbot a'r cyffiniau, a dyna pam rydym wedi rhoi cymorth iechyd meddwl helaeth ar waith i geisio sicrhau bod pobl yn gwybod bod cymorth, a mynediad at gymorth, ar gael iddynt. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog a oedd yn gyfrifol wedi cyfarfod â'r gymuned leol yn ddiweddar, a'r bwrdd iechyd, i sicrhau bod y cymorth hwnnw ar waith.

Prif Weinidog, diolch am y datganiad hwn heddiw, ac, yn benodol, bod y cytundeb anodd y cytunwyd arno yn golygu bod gan Tata Steel UK rai trefniadau ar waith i barhau i wasanaethu ei gwsmeriaid drwy gydol y cyfnod pontio hynod anodd hwn, ac amddiffyn, yn benodol, y gwaith dur yn Llanwern yng Ngwent. Mae Llanwern bob amser wedi bod yn ddarparwr lleol pwysig o gyfleoedd cyflogaeth da a chadarn i drigolion Islwyn, gyda llawer o weithwyr wedi'u lleoli yn Islwyn.

Fel yr adroddwyd yn y South Wales Argus heddiw, torrodd Tata Steel y record cynhyrchu ar gyfer faint o ddur a gynhyrchwyd yn wythnosol ym mis Awst 2024. Roedd y diwydiant dur, ein diwydiant dur ni, ac y mae, a bydd yn parhau i fod yn hanfodol i Gymru a'r Deyrnas Unedig. Ond mae gallu gwneud dur sylfaenol yn hanfodol i ddiogelwch y DU fel nad ydym yn gorfod dibynnu ar gyflenwadau o Tsieina neu Rwsia.

Prif Weinidog, gan fod Llywodraeth Lafur y DU yn ymrwymo £2.5 biliwn i'r gronfa gyfoeth genedlaethol ar gyfer y sector dur, a wnewch chi sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno sylwadau cryf i Lywodraeth Lafur y DU cyn iddynt ddadorchuddio eu strategaeth ddur y gwanwyn nesaf, a sicrhau bod Cymru'n parhau i fod ar flaen y gad yn niwydiant dur y DU, Amddiffyn ein buddiant cenedlaethol ar y lefel fwyaf sylfaenol ac elfennol? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Rhianon. Rydych chi'n llygad eich lle wrth amlinellu'r ffaith bod Llafur wedi ymrwymo i gronfa gyfoeth genedlaethol gwerth £2.5 biliwn. Wrth gwrs, mae dur yn mynd i fod yn hynod o bwysig yn hynny. Gallaf eich sicrhau ein bod eisoes wedi siarad â'r Ysgrifennydd Gwladol am sicrhau ein bod yn ymwneud â hynny'n weithredol iawn, a byddwn, wrth gwrs, yn gweithio gydag ef mewn perthynas â cheisio datblygu'r strategaeth ddur honno, a fydd yn edrych at ddyfodol cynhyrchu dur yng Nghymru.

Rwy'n credu ein bod ni wedi—. Hoffwn orffen ar nodyn cadarnhaol, sef y ffaith bod gennym ni gynhyrchu dur o hyd yng Nghymru. Mae gennym ni gynhyrchu dur gwyrdd erbyn hyn, ac mae'n bwysig i ni edrych i'r dyfodol, gyda'r cyfleoedd y bydd hynny'n eu rhoi i ni. Ond mae'r ffaith ein bod ni wedi llwyddo i sicrhau'r dyfodol hwnnw i gymuned Port Talbot ac o gwmpas, nid yn y ffordd roedden ni wedi gobeithio, ond mae rhywbeth yno—. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn dathlu'r llwyddiant arbennig hwnnw, ond nid dyma'r llwyddiant yr oeddem i gyd wedi gobeithio amdano.

A gaf i ddechrau drwy dalu teyrnged i gyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David T.C. Davies, y gwn ei fod yn rhan annatod o lunio'r cytundeb—cytundeb mor dda, mewn gwirionedd, fel bod y Llywodraeth Lafur hon wedi penderfynu ei gopïo? Rwy'n clywed y Prif Weinidog yn cyhuddo'r bwrdd pontio—yr wyf yn eistedd arno gyda Luke Fletcher a David Rees ac eraill—o siarad a siarad o dan ei arweinyddiaeth. Gadewch imi ddweud wrthych beth oedd yn digwydd yn ystod y cyfnod hwnnw. Roedd cynllun gweithredu economaidd yn cael ei adeiladu, ei gomisiynu a'i gymeradwyo gan y Trysorlys, a oedd yn caniatáu i arian gael ei ryddhau. Yn ogystal â hynny, nid oedd union natur colli swyddi yn hysbys am y rhan fwyaf o'r amser hwnnw, oherwydd yr ymgynghoriad parhaus. Felly, oni bai fod y Prif Weinidog yn awgrymu'n ddifrifol y dylai'r bwrdd pontio fod wedi talu arian heb gynllun ac i weithwyr chwedlonol—. Rwy'n credu bod hynny'n ffwlbri a dweud y gwir.

Nawr, y bobl sy'n euog o siarad a siarad, rwy'n credu, yw Llywodraeth Cymru, a wnaeth addo ac addo i weithwyr dur y byddai etholiad yn newid popeth, dim ond iddyn nhw ganfod bod yr un faint o arian wedi ei dalu, bod y ffwrneisi chwyth yn mynd i aros ar gau, a bod yr un lefel o ddiswyddiadau hefyd yn mynd i ddigwydd ym Mhort Talbot. Felly, Onid yw'n wir mai'r peth gorau y gallai'r Prif Weinidog ei wneud yw dechrau drwy ymddiheuro i weithwyr ym Mhort Talbot am eu camarwain gyda'r addewidion a wnaed cyn yr etholiad?

16:15

Na, ni fyddaf yn ymddiheuro am hynny. Hoffwn ddiolch i chi, serch hynny, Tom, am eich gwaith ar y bwrdd pontio. Rwy'n credu ei fod yn grŵp pwysig sydd angen dod at ei gilydd a sicrhau eu bod yn cyflawni ar gyfer y bobl yr effeithir arnynt ym Mhort Talbot. Ond y gwir amdani yw, ydw, rwy'n gwerthfawrogi bod cynllun wedi'i roi ar waith, ond ni ryddhawyd ceiniog yn ystod y cyfnod hwnnw. A'r ffaith yw, yn Llywodraeth Cymru, roedd yr arian yn cael ei wario. Roedd gennym gyfrifon dysgu personol a oedd eisoes yn helpu pobl o Tata i ailhyfforddi. Roedd gennym hefyd bobl yn gweithio gyda Cymunedau am Waith, gyda ReAct, gan sicrhau nad gweithwyr yn Tata yn unig oedd hynny, ond pobl yn y gadwyn gyflenwi hefyd, a oedd yn elwa ar yr arian hwnnw. Felly, fe lwyddon ni yn Llywodraeth Cymru i ryddhau'r cyllid hwnnw, ond wnaethoch chi ddim, a dyna drueni. Ond y foment y cawsom Lywodraeth Lafur, daethant i mewn ac, o fewn wythnosau, rhyddhawyd yr arian hwnnw.

Rwy'n falch iawn bod Cyngor Castell-nedd Port Talbot bellach yn gweithio gyda Busnes Cymru, ac maen nhw'n mynd i fod yn chwarae rhan allweddol o ran cefnogaeth i'r bwrdd cyflawni, gan ariannu cronfa hyblyg cadwyn gyflenwi. Felly, mae hynny i gyd yn cael ei roi ar waith, ac mae cyfleoedd, gobeithio, i bobl fanteisio ar yr arian, nid yn unig gan Lywodraeth y DU, ond hefyd gan Lywodraeth Cymru.

Prif Weinidog, fel y gwyddoch chi, mae gan Lanwern hanes balch iawn o ran bod yn rhan o'r diwydiant dur yng Nghymru a'r DU, ond mae hefyd yn chwaraewr economaidd sylweddol iawn o hyd, gyda'r rhai sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol yno, y contractwyr sy'n gweithio yno, y cyflenwyr i'r ffatri, a hefyd y gwariant y mae'n ei ddarparu ar gyfer yr economi leol. Mae'r gweithlu'n gymharol ifanc ac mae nifer o brentisiaid. Felly, wrth i ni edrych tuag at y trawsnewid i ddur gwyrdd a'r buddsoddiad rydych chi wedi'i grybwyll yn y dyfodol a fydd yn digwydd dros y 12 mis nesaf o ran y cynlluniau a fydd yn cael eu cynhyrchu, a wnewch chi sicrhau, yng ngwaith y bwrdd pontio, yr wyf yn falch iawn eich bod wedi gallu bod yn bresennol ynddo, Prif Weinidog, ac yn gyffredinol wrth i Lywodraeth Cymru weithio gyda'r undebau llafur, Tata a phartneriaid eraill, bod Llanwern yn rhan fawr o'r dyfodol dur gwyrdd hwnnw i Gymru, o ystyried ei rôl bresennol, y dyfodol y gall ei gael a'r rôl y gall ei chwarae?

Diolch yn fawr. Mae Llanwern wedi chwarae rhan mor bwysig yn hanes gwneud dur yng Nghymru, ac mae'n bwysig ein bod yn gwerthfawrogi effaith Llanwern ar yr economi leol a'r gwariant, fel y dywedwch chi, yn yr economi leol, a'r nifer fawr iawn o bobl sy'n gontractwyr. Gadewch i ni beidio ag anghofio'r contractwyr sy'n gweithio yn y gweithfeydd enfawr hyn, oherwydd maen nhw'n gwbl sylfaenol i waith yr economi honno a bydd yn effeithio arnyn nhw hefyd.

Rwyf wedi bod yn arbennig o bryderus am brentisiaid ifanc, yn enwedig y rhai sydd hanner ffordd trwy eu cynlluniau, a gwn fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n agos iawn ar hynny i sicrhau eu bod yn gallu cwblhau eu prentisiaethau ac y byddant yn cyflawni eu huchelgeisiau hefyd o ran prentisiaethau.

Rwyf am dalu teyrnged i'r undebau llafur hefyd, sydd wedi ymladd ac ymladd ac ymladd dros y swyddi mewn perthynas â dur yng Nghymru. Mae'n anodd iawn iddyn nhw, rwy'n siŵr, dderbyn hyn, ond maen nhw wedi bod yn gweithio'n anhygoel o galed i gael y cytundeb gorau posib. Rwy'n gwybod bod undeb Community a GMB ar hyn o bryd yn cynnal pleidlais aelodau ar fanylion y memorandwm cyd-ddealltwriaeth, ac rwy'n gwybod bod y pleidleisiau wedi cau ddoe, ar 16 Medi. Felly, cawn weld beth ddaw o hynny. Ac rwy'n gwybod nad yw Uno'r Undeb yn cynnal pleidlais ar gyfer ei aelodau ar y memorandwm cyd-ddealltwriaeth.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, does dim celu'r ffaith bod cau'r ffwrnais chwyth yn drychineb i economi Cymru ac ni all unrhyw becyn wneud iawn am hynny. Mae'n drychineb. Mae'r rhai a fu'n ymwneud â rheoli Tata yn y DU yn gwybod ers peth amser fod ystafell y bwrdd yn India wedi gwneud penderfyniad. Mae'n destun gofid nad oedd modd i Lywodraeth Lafur a ddaeth i mewn newid y sefyllfa, ond mae'n eithaf amlwg nad oeddent am symud. Rydym wedi cael rhywfaint o ailysgrifennu hanes y prynhawn yma yn y Siambr gan y Ceidwadwyr. Mae'n eithaf clir bod ymgais ddifrifol gan Tata i ymgysylltu â Llywodraeth y DU yn ôl pan oedd Kwasi Kwarteng yn Ysgrifennydd Busnes, ond ni fyddai prif weinidogaeth anhrefnus Boris Johnson yn ymgysylltu ag ef, nid oedd gan Liz Truss na Rishi Sunak ddiddordeb ynddo, a gwnaed penderfyniad i dynnu'n ôl. A does dim byd wedi bod yn bosib ei gyflawni ers hynny i newid eu meddyliau. Felly, cywilydd ar y Ceidwadwyr am geisio ailysgrifennu'r hanes hwnnw. Dyma eu methiant i gymryd cynhyrchu dur o ddifrif fel sector economaidd strategol.

Rydym yn edrych ymlaen at weld ffwrnais arc yn cael ei hadeiladu, ond yn y cyfamser mae busnesau bellach i lawr y gadwyn ledled Cymru sy'n dibynnu ar y defnydd crai a oedd yn dod allan o Bort Talbot. Mae Trostre yn fy etholaeth i fy hun yn dibynnu ar y defnydd crai hwnnw sy'n cael ei gyflenwi iddynt. Cyfarfûm â phrif weithredwr Tata yn y DU ac mae rhai pryderon yn lleol a fydd Trostre yn cael y cyflenwadau sydd eu hangen arno mewn modd amserol i barhau i fodloni ei lyfr archebion. Felly, pan fydd y Llywodraeth yn ymgysylltu â Tata yn barhaus o amgylch y pecyn hwn, a allwch chi sicrhau bod y pwysau'n cael eu cynnal i sicrhau eu bod yn anrhydeddu eu hymrwymiadau ar gyfer y defnydd crai sy'n hanfodol ar gyfer sicrhau bod Trostre a busnesau eraill ymhellach i lawr y gadwyn yn goroesi?

16:20

Diolch yn fawr iawn, ac rydych chi'n hollol iawn, Lee: mae'n rhaid i ni gofio am y busnesau hynny ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi sydd hefyd yn rhan sylfaenol o wead ein heconomi. Rydym wedi cael sicrwydd ynghylch y deunyddiau crai, eu bod nhw wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod y deunyddiau crai hynny yn parhau, fel bod y gweithfeydd hynny'n parhau. Felly, byddwn ni'n parhau i ofyn y cwestiynau hynny, ond yn sicr y sicrwydd yr ydym wedi'i gael hyd yma yw eu bod nhw'n hyderus y bydd yr anghenion cyflenwi hynny'n cael eu cymryd o ddifrif. Mae'r cwmni'n rhoi £750 miliwn tuag at gyfanswm buddsoddiad o £1.25 biliwn ar gyfer gweledigaeth wahanol iawn, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni bwysleisio hefyd fod ffrwd waith cysylltiadau cymunedol a llesiant wedi'i sefydlu fel rhan o fwrdd pontio Tata, ac mae honno'n cyfarfod bob pythefnos er mwyn gallu trafod unrhyw themâu a gweithredu arnyn nhw'n briodol.

12. Datganiad gan y Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg: Cyflogau'r sector cyhoeddus

Yr eitem nesaf, eitem 12, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ar gyflog yn y sector gyhoeddus. Felly, yr Ysgrifennydd Cabinet, Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth y Prif Weinidog gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion y cyrff adolygu cyflogau annibynnol ar gyfer 2024-25. Fe wnaeth hi hefyd gyhoeddi y byddai Llywodraeth Cymru yn ariannu cynnydd o hyd at gyfartaledd o 5 y cant i’r gwasanaeth sifil a staff sy’n cael eu cyflogi mewn cyrff hyd braich yng Nghymru, yn amodol ar eu negodiadau eu hunain gyda'r undebau llafur. Gyda’i gilydd, mae hyn yn golygu bydd dros 180,000 o weithwyr y sector gyhoeddus, o weithwyr glanhau ysbytai i athrawon a gweision sifil, yn cael dyfarniad cyflog sy’n uwch na chwyddiant eleni.

Gweithwyr y sector gyhoeddus yw asgwrn cefn y gwasanaethau rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw bob dydd. Ar ôl blynyddoedd o ostyngiadau gwirioneddol yng nghyflogau’r sector gyhoeddus oherwydd y ffordd roedd Llywodraeth flaenorol y Deyrnas Unedig yn rheoli cyllid a degawd o gyni, mae’r dyfarniad cyflog hwn yn adlewyrchu’r gwerth yr ydyn ni a’r cyhoedd yn ei roi ar wasanaethau cyhoeddus, a’r gwaith hanfodol y mae gweithwyr ymroddedig y sector gyhoeddus yn ei wneud. Mae darparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol yn fater sydd o bwys i holl ddinasyddion Cymru, ac mae cydnabyddiaeth deg i’r gweithwyr yn allweddol i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn gallu cyflawni.

Llywydd, pasiodd y Senedd hon gyllideb Cymru ym mis Mawrth eleni. Bydd yr Aelodau'n cofio ei bod yn adlewyrchu rhai dewisiadau anodd iawn, a wnaed yn wyneb y pwysau ariannol anoddaf yr ydym wedi'i brofi ers dechrau datganoli. Wrth baratoi'r gyllideb honno, rhagdybiwyd y byddai cyflogau'r sector cyhoeddus yn cynyddu'n fras yn unol â rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar gyfer twf cyflogau yn yr economi ehangach. Fodd bynnag, mae'r dyfarniadau hyn, y dyfarniadau a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru, sy'n amrywio o 5 y cant i 6 y cant, yn sylweddol uwch na'r rhagolygon hynny a lefel yr arian yr oedd hi'n bosibl ei roi o'r neilltu yn ein cynlluniau gwariant gwreiddiol.

Nawr, yn dilyn datganiad Canghellor y Trysorlys ddiwedd mis Gorffennaf, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio drwy'r haf i sicrhau bod y pecyn cyllido ar waith i gefnogi'r dyfarniadau cyflog hyn. Rydym wedi edrych yn fanwl ar adroddiadau'r corff adolygu cyflogau annibynnol a'r goblygiadau i'n cynlluniau gwariant, ac mae fy rhagflaenydd Rebecca Evans a'r Prif Weinidog wedi gweithio'n agos gyda'u cymheiriaid yn Llywodraeth y DU. O ganlyniad i'r holl waith hwnnw, rydym yn hyderus y gallwn ni ariannu'r dyfarniadau hyn heb fod angen lleihau gwariant yn y gwasanaethau cyhoeddus hyn neu wasanaethau cyhoeddus eraill.

Llywydd, gan gymryd pob sector yn ei dro, cytunwyd ar gyllid i weithredu'r dyfarniadau canlynol. Bydd athrawon yn derbyn dyfarniad cyflog o 5.5 y cant. Mae hyn yn uwch na'r 4.3 y cant a argymhellwyd gan gorff adolygu cyflogau annibynnol Cymru, gan adlewyrchu'r egwyddor sefydledig o ddim anfantais i athrawon Cymru. Byddwn ni hefyd yn darparu £5 miliwn ychwanegol i ariannu'r argymhelliad y dylai cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol gael eu symud i'r ystod cyflog arweinyddiaeth, gan adlewyrchu pwysigrwydd y gwaith maen nhw'n ei wneud o ran ein huchelgeisiau ar gyfer addysg. Mae'r Ysgrifennydd addysg wedi gwahodd sylwadau ysgrifenedig gan randdeiliaid allweddol erbyn 7 Hydref, a bydd y sylwadau hynny'n llywio ei phenderfyniad terfynol.

Fel yr Ysgrifennydd iechyd dros yr haf, nodais fanylion pellach i'r Aelodau am ddyfarniadau cyflog i staff, meddygon a nyrsys y GIG. Bydd staff y GIG ar delerau ac amodau 'Agenda ar gyfer Newid' yn derbyn codiad cyflog o 5.5 y cant. Bydd meddygon a deintyddion a gyflogir gan y GIG yn derbyn dyfarniad cyflog o 6 y cant, gyda £1,000 ychwanegol ar gyfer meddygon iau. I'r gweithwyr cyflogedig hynny yn y GIG, byddwn yn gweithredu'r codiadau cyflog ôl-ddyddiedig hyn cyn gynted â phosibl. I eraill, gan gynnwys meddygon teulu a deintyddion dan gontract, a'u timau, bydd gweithredu codiadau cyflog yn rhan o drafodaethau ynghylch contractau sydd ar ddod, ochr yn ochr â newidiadau eraill.

Ar gyfer staff sy'n gweithio mewn amrywiaeth o sefydliadau datganoledig ac yng ngwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru, rydym wedi cytuno ar amlen o gynnydd o 5 y cant ar gyfartaledd i gyfanswm y bil cyflog. Mae canllawiau cylch cyflog ar gyfer cyrff hyd braich wedi'u diweddaru a'u cyhoeddi i adlewyrchu'r penderfyniad hwn. Mater i'r cyflogwyr hynny nawr yw ystyried eu setliadau cyflog unigol, a dod i gytundeb terfynol gyda'u hundebau llafur.

Mae gweithwyr eraill yn y sector cyhoeddus y cytunir ar eu cyflog ar wahân i broses y corff adolygu cyflogau. Mae trafodaethau cyflog i'r rhai sy'n gweithio mewn llywodraeth leol, er enghraifft, yn parhau ac mae hyn, wrth gwrs, yn fater iddyn nhw. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol iawn o'r pwysau ariannol a wynebir gan awdurdodau lleol, a byddwn ni'n parhau i drafod gyda nhw i ba raddau y gallwn ni o bosibl gynnig cymorth pellach iddyn nhw eleni.

Llywydd, er gwaethaf hynny i gyd, mae'r hinsawdd ariannol bresennol yn parhau i fod yn heriol iawn, a bydd penderfyniadau anodd unwaith eto yn siapio cyllideb y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, mae gwneud y penderfyniad hwn nawr, gan roi sicrwydd i gyflogwyr yn y sector cyhoeddus ac, yn hollbwysig, i'r rhai sy'n gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus, yn golygu y bydd codiadau'n cael eu hadlewyrchu mewn pecynnau cyflog cyn gynted â phosibl, a chyn diwedd y flwyddyn hon fan bellaf. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio'n agos trwy bartneriaeth gymdeithasol gyda'n cydweithwyr yn yr undebau llafur wrth i drafodaethau pellach fynd rhagddynt. Ac, wrth gwrs, rhoddir diweddariadau i'r Aelodau unwaith y bydd y trafodaethau pellach hynny yn dod i ben.

16:25

A gaf i yn gyntaf eich llongyfarch chi, Ysgrifennydd Cabinet, ar eich rôl newydd, ac edrychaf ymlaen at ymgysylltu â chi'n adeiladol dros y misoedd nesaf? Diolch am eich datganiad heddiw. Rwyf am ddweud fy mod i'n croesawu nifer o'r codiadau i gyflog cyhoeddus. Efallai y bydd y cynnydd yng nghyflogau athrawon yn mynd rhywfaint o'r ffordd tuag at wella cyfraddau cadw, felly hefyd y codiad cyflog i'n staff GIG. Fodd bynnag, rhaid i ni beidio â cholli golwg ar y problemau mawr sy'n wynebu ein GIG a'n system addysg. Ni fydd codiad cyflog syml yn gwneud iawn am y straen mawr y mae ein gweithwyr GIG yn ei wynebu, wrth i restrau aros gynyddu ac wrth i'n gwasanaeth iechyd blygu. Ni fydd y codiad cyflog hwn yn gwella graddau ein myfyrwyr, sy'n cael eu gadael ar ôl gan fethiannau llywodraethau olynol Cymru. Mae angen i ni sicrhau bod mwy o waith yn cael ei wneud i gefnogi ein gweithlu gofal iechyd ac addysg ledled Cymru, ac nid yn unig drwy'r codiad cyflog hwn, ond drwy wella amodau gwaith a mynd i'r afael â'r problemau systemig y mae Cymru'n eu hwynebu. 

Mae bod mewn Llywodraeth a dyrannu cyllid yn ymwneud â gwneud dewisiadau anodd, fel y gwn eich bod chi'n gwybod, ac mae penderfyniadau'n adlewyrchu blaenoriaethau. Does dim gwerth siarad am flaenoriaethau; mae blaenoriaethau'n cael eu hadlewyrchu gan weithredoedd. Yn anffodus, rydym wedi gweld blaenoriaethau Llafur hyd yn hyn. Rwy'n gobeithio eich bod chi'n cytuno â mi, Ysgrifennydd Cabinet, y bydd y penderfyniad i gael gwared ar daliadau tanwydd y gaeaf yn drychinebus i lawer o'n pensiynwyr mwy agored i niwed, yn enwedig yng Nghymru, o ystyried y ffaith bod gennym ni gyfradd mor uchel o dlodi pensiynwyr. Fodd bynnag, mae gan benderfyniadau ganlyniadau ac, fel y soniais yn gynharach, maen nhw'n adlewyrchu blaenoriaethau'r Llywodraeth.

Mae gen i fy mhryderon ynghylch mater tâl cyhoeddus yn ei gyfanrwydd. Rhaid i ni fod yn ofalus nad yw'r Llywodraeth hon a'r un yn San Steffan yn colli rheolaeth dros gyflogau cyhoeddus. Mae'r Llywodraeth Lafur yn San Steffan wedi cynnig codiadau cyflog o bron i £10,000 i yrwyr trenau, sydd eisoes ar fwy na £60,000 y flwyddyn, tra'u bod yn cymryd taliadau tanwydd mawr eu hangen gan ein pensiynwyr. Rwy'n falch eich bod chi'n hyderus, yn wahanol i'ch cydweithwyr yn San Steffan, nad ydych chi'n teimlo bod yn rhaid i chi dorri gwasanaethau ar gyfer y rownd hon o godiadau cyflog. Mae hynny i'w groesawu. Fodd bynnag, fel y nodwch, gallai fod mwy o godiadau i ddod yn y sector cyhoeddus. Gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd Cabinet, pa sicrwydd allwch chi ei roi i bobl Cymru nad yw'r codiadau cyflog hyn yn y dyfodol yn mynd i ddod ar draul y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas?

16:30

Diolch i Peter Fox am y cwestiynau hynny ac am y croeso a roddodd i'r cyhoeddiadau a wnaed. Rwy'n cytuno ag ef y bydd gwobrwyo'r bobl sy'n gwneud y swyddi anodd a heriol hyn ar ran y cyhoedd yn briodol yn ein helpu ni gyda rhai heriau sydd gennym ni o ran cadw gweithwyr. Mae'n iawn nad yw cyflog ar ei ben ei hun yn ddigon i atgyweirio'r difrod sydd wedi'i wneud yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Yn wir, gwnaeth y cyrff adolygu cyflogau annibynnol eu hunain nifer o gynigion nad ydynt yn ymwneud â chyflog yn eu hargymhellion. Maen nhw, er enghraifft, yn rhan o'r ymarfer ymgynghori y mae fy nghyd-Aelod Lynne Neagle yn ei gynnal, cynigion nad ydynt yn ymwneud â chyflogau corff adolygu cyflogau annibynnol Cymru ar gyfer athrawon.

Rwy'n gobeithio y bydd yn bosibl mynd ar yr hyn a fydd, yn anochel, yn daith araf o adfer gwerth cyflogau'r sector cyhoeddus i'r man lle'r oedd cyn 14 mlynedd o erydiad yng nghyflogau'r sector cyhoeddus tra bod y Ceidwadwyr mewn grym yn San Steffan. Ni fydd hynny'n broses hawdd, ond mae'r ffaith bod Llywodraeth y DU, o fewn wythnosau i ddod i rym, wedi bod mewn sefyllfa i ddechrau'r busnes hwnnw yn dweud wrthym, a phobl yng Nghymru, ein bod ni'n gwerthfawrogi'r gwaith y mae ein gweithwyr sector cyhoeddus yn ei wneud, rydym yn dymuno iddyn nhw gael eu gwobrwyo'n briodol. Mae'r cyhoeddiadau rydyn ni wedi'u gwneud dros yr haf yn ddechrau pwysig ar y daith honno, ond yn sicr bydd mwy i'w wneud.

Hoffwn ddechrau heddiw drwy groesawu’r Ysgrifennydd Cabinet i’w rôl newydd a mynegi fy niolch hefyd i’w ragflaenydd, Rebecca Evans, am ei pharodrwydd i gyfarfod a chydweithio yn y cyfnod byr roeddwn i'n eich cysgodi chi, felly diolch yn fawr iawn.

Mae ein hathrawon gweithgar a staff y gwasanaeth iechyd yn rhan anhepgor o'n cymdeithas, a does dim dwywaith eu bod nhw wedi bod dan straen aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf. Bu’n dorcalonnus ymuno â nhw ar linellau piced, a chlywed yn uniongyrchol gan staff am y straen aruthrol sydd arnynt a pham nad ydy’r sefyllfa sydd ohoni yn gynaliadwy. Dwi'n meddwl ein bod ni i gyd yn deall pam bod cynifer wedi gadael y proffesiynau hyn, neu’n ystyried gadael. Mae wedi bod yn amser anodd dros ben. Pan ydych chi'n ystyried bod banciau bwyd wedi gorfod cael eu sefydlu mewn rhai o'n hysbytai ni, oherwydd yr argyfwng costau byw ac effaith hynny ar staff, mae'n sefyllfa ddirdynol, felly mae'n rhaid inni fod yn croesawu y newyddion hwn. 

Rhaid cydnabod hefyd nad yw'r setliad ddim chwaith yn rhoi'r sicrwydd i’r gweithwyr hyn o ran tâl yn y blynyddoedd i ddod, na chwaith yr heriau ariannol ehangach mae’r sector cyhoeddus yn eu hwynebu. Ac fel yr ydych chi'n nodi, wrth gwrs, yn y datganiad, dydy staff llywodraeth leol ddim yn rhan o’r setliad hwn. Rydych chi'n cyfeirio at yr angen i drafod yn bellach gyda llywodraeth leol a’r gefnogaeth posibl fydd ar gael iddynt. A gaf i ofyn a oes yna broses ac amserlen wedi'i osod ar gyfer y trafodaethau hyn, ac os nad oes yna eto, a wnewch chi ymrwymo i ddiweddaru’r Senedd o ran y gwaith hwn yn fuan?

Mae’r ffaith bod y Llywodraeth Lafur yn San Steffan yr un mor gaeth, mae'n ymddangos, i lymder â’u rhagflaenwyr Torïaidd yn bryderus dros ben, a byddwn yn gofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet—. Roeddech chi'n crybwyll rŵan ynglŷn â'r ymrwymiad o ran adfer lefelau cyflog i rai blaenorol—rhywbeth, wrth gwrs, rydyn ni'n cytuno efo fo—ond pa mor gyraeddadwy ydy hyn mewn gwirionedd o fewn cyd-destun yr agenda economaidd a osodwyd gan Rachel Reeves, a pha drafodaethau byddwch chi'n eu cael efo Llywodraeth Prydain er mwyn i ni gyrraedd yr uchelgais hwnnw? Oherwydd mi fyddai unrhyw beth yn llai na hyn unwaith eto yn amlygu'r addewidion gwag a wnaed o ran y manteision i Gymru o gael dwy Lywodraeth Lafur naill ben yr M4.

Wrth gwrs, er bod tâl yn ffactor o ran y gweithredu diwydiannol rydyn ni wedi'i weld, mae’n bwysig ein bod ni hefyd yn cydnabod bod staff hefyd wedi dewis gweithredu oherwydd eu pryderon ynglŷn ag amodau gwaith. Mae hynny wrth gwrs ynglŷn â'r cyllid sydd ar gael o ran y pethau ychwanegol hynny. Felly, tra rydyn ni'n croesawu'r cyhoeddiad hirddisgwyliedig am gyflog, mae’n bwysig ein bod heddiw’n cofio ac yn cydnabod nad yw hyn yn mynd i ddatrys yr holl broblemau sy’n wynebu’r gweithlu, na chwaith yn mynd i’r afael a’r trafferthion sy’n ein hwynebu o ran recriwtio a chadw staff. Er enghraifft, mae angen inni gyflwyno patrymau gwaith mwy hyblyg yn y gwasanaeth iechyd. Bydd hyn yn eithriadol o bwysig o ran ymdrechion i ddatrys problemau sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn ymwneud â chadw staff. Mae Llywodraeth Cymru wedi tueddu i gefnogi mewn egwyddor, ond wedi methu i raddau helaeth â chyflawni'n ymarferol.

Mae'r cyfyngiadau ar gyfleoedd ar gyfer datblygiad gyrfa parhaus hefyd yn asgwrn cynnen sy'n codi dro ar ôl tro i rai fel yr RCN, sydd wedi nodi'n gywir sut mae nyrsys y gwasanaeth iechyd o dan anfantais yn hyn o beth o gymharu â meddygon. Byddwn i felly’n annog Llywodraeth Cymru i ailgysylltu â’r materion ehangach hyn gyda phwrpas o’r newydd er mwyn sicrhau bod y gwerth a roddwn ar waith ein staff gwasanaeth iechyd ac athrawon ysgol yn adlewyrchu’n llawn ei werth i les ein cenedl. Gaf i ofyn felly sut byddwch chi'n gweithio gyda’ch cyd-aelodau Cabinet i sicrhau bod yr heriau cyllidol ehangach hefyd yn cael eu datrys?

Yn olaf, hoffwn groesawu bod y datganiad hwn hefyd yn sôn am gyrff hyd braich, a bod ymrwymiad i ariannu cynnydd o hyd at 5 y cant—rhywbeth, wrth gwrs, sydd ddim bob amser wedi digwydd. Mae trafod wedi bod am flynyddoedd bellach ynglŷn â’r angen i ariannu codiadau cyflog y cyrff hyn yn ganolog yn hytrach na'n bod ni'n mynd o flwyddyn i flwyddyn, oherwydd os nad ydyn nhw'n derbyn hwn, wrth gwrs, mae o'n doriad o ran y gyllideb. Rydyn ni wedi gweld hyn gyda'r llyfrgell genedlaethol ac Amgueddfa Cymru yn y gorffennol. Felly, gaf i ofyn a ydy hi’n fwriad gennych i fynd â’r gwaith hwn rhagddo?

16:35

Diolch yn fawr i Heledd Fychan am y sylwadau yna, a diolch iddi hi am beth roedd hi'n ei ddweud o ran croesawu beth rydym ni wedi'i gyhoeddi. Fel y dywedais i wrth Peter Fox, rŷn ni'n derbyn y ffaith nad yw'r datganiad yn datrys yr holl broblemau sydd gyda ni yn y gweithlu yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Ond, o ran y pethau eraill roedd hi'n sôn amdanynt, rŷn ni'n delio â phethau fel yna trwy'r patrwm o bartneriaeth gymdeithasol sydd gyda ni yn y maes iechyd, yn y maes addysg ac yn y blaen. So, mae pethau gyda ni yn barod ble gallwn ni ddod at ein gilydd gyda'r undebau llafur, gyda'r cyflogwyr, a gweithio gyda'n gilydd ar bethau ehangach na'r cyflog ei hun.

Wrth gwrs dwi eisiau gweld sefydlogrwydd yn y system o gyflogi pobl yma yng Nghymru. Mae'n amlwg bod Llywodraeth newydd San Steffan yn mynd i gymryd amser i baratoi am y tymor hir. Mae jest yn deg iddyn nhw gael yr amser i wneud hynny a dwi'n siŵr bod hwnna'n mynd i fwydo i mewn. Rŷn ni fel Llywodraeth yma yng Nghymru wedi dibynnu blwyddyn ar ôl blwyddyn ar gyllid un flwyddyn. Nawr, bydd cyfle inni gael rhyw fath o gyllid am y tymor hir, ac mae hwnnw'n mynd i’n helpu ni yn y gwaith rŷn ni'n ei wneud.

Dwi'n ymwybodol, wrth gwrs, fel y dywedais i yn y datganiad, am yr her sy'n wynebu awdurdodau lleol o ran dod i gytundeb gyda'r undebau yn y maes yna. Ar ddiwedd y dydd, eu cyfrifoldeb nhw yw hi. Maen nhw'n annibynnol, maen nhw'n ddemocrataidd annibynnol, ac mae'n bwysig inni gydnabod hynny. Ond, fel y dywedais i, rŷn ni'n ymwybodol o'r sefyllfa ariannol sydd yn eu hwynebu. Rydw i, fel yr Ysgrifenydd dros gyllid, eisiau trafod pethau gyda nhw, ac mae pethau yn y dyddiadur yn barod i helpu i wneud hynny.

Dim ond dau beth hoffwn i ddweud wrth gloi, Llywydd. Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu gwneud yr un trefniadau ar gyfer cyrff hyd braich yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n eu helpu gyda'r cyllidebau heriol, y gwyddom eu bod yn eu hwynebu hefyd.

Ond y tu ôl i'r hyn rydym wedi gallu ei wneud dros yr haf mae yna berthynas wahanol iawn rhwng y Llywodraeth hon a'r Llywodraeth newydd yn San Steffan. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, rwyf wedi bod yn ymwneud ag ymdrin ag ymdrechion Llywodraethau Ceidwadol olynol i ddod o hyd i ffyrdd o wneud cam â Chymru o ran cyflogau'r sector cyhoeddus. Pe gallent ddod o hyd i ffordd o gynnig ychydig yn llai i ni nag y dylem fod wedi'i gael, roeddent yn edrych i wneud hynny. Y tro hwn, gyda'n cydweithwyr newydd yn San Steffan, rydym wedi cael sicrwydd o'r dechrau y bydden nhw'n trin Cymru'n deg, pe bai arian yn cael ei ddarparu ar gyfer cyflogau yn Lloegr, y bydden ni'n cael ein cyfran deg o hynny, a gallem ddibynnu ar hynny'n digwydd. A gallaf ddweud wrthych fod hynny'n gwneud gwahaniaeth enfawr pan ydych chi'n ceisio pennu cyllidebau a chynnig sicrwydd i'n partneriaid wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Y berthynas wahanol honno yw'r rheswm pam y gallwn ni wneud y cyhoeddiadau rydym wedi gallu eu gwneud dros yr haf. Hoffwn ddiolch i'r Aelod am y croeso a roddodd i hynny, a gallaf ei sicrhau bod y darlun ehangach hwnnw a beintiodd yn un sy'n dra hysbys i Lywodraeth Cymru, ac y byddwn ni'n dod o hyd i ffyrdd o wneud ein gorau gyda'n partneriaid i fynd i'r afael â'r materion ehangach hynny hefyd.

16:40

Ein gwasanaethau cyhoeddus yw'r blociau rydym yn eu defnyddio i adeiladu'r economi ac un o'n cyflogwyr mwyaf. Maen nhw'n rhoi arian ym mhocedi preswylwyr ym mhob cymuned yng Nghymru, yn ogystal â darparu sylfeini ein cymdeithas, ein cadw'n iach, wedi'n haddysgu ac yn ddiogel. Rwy'n croesawu'r codiad yng nghyflogau'r sector cyhoeddus a bod yr arian wedi dod gan Lywodraeth y DU i'w ariannu, yn wahanol i flynyddoedd blaenorol. Fodd bynnag, pan fydd un sector yn cael codiad ac un arall ddim, mae'n achosi rhywfaint o anfodlonrwydd. Felly, heb geisio tynnu sylw oddi wrth y newyddion cadarnhaol hwn, pa sicrwydd fyddech chi'n ei roi i'r rhai sy'n darparu gofal yn y sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, sy'n ddwy flaenoriaeth enfawr i'r ddwy lywodraeth? Diolch.

Diolch i Carolyn Thomas am hynny, Llywydd. Fe ategodd yn ei sylwadau rhagarweiniol rhywbeth yr oedd Heledd Fychan wedi'i ddweud: mae gweithwyr y sector cyhoeddus i'w cael ym mhob cymuned yng Nghymru. Techneg y Blaid Geidwadol bob amser oedd gwahanu gweithwyr y sector cyhoeddus oddi wrth drethdalwyr rywsut. Mewn gwirionedd, mae gweithwyr y sector cyhoeddus yn drethdalwyr bob diwrnod o'r flwyddyn. Maen nhw'n bobl sydd â diddordeb ar y cyd mewn sicrhau bod yr economi'n llwyddo a'u bod nhw wedyn yn cael cyfran deg yn y rhaniad hwnnw—y difidend twf y mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i'w greu.

O ran gweithwyr gofal cymdeithasol, wrth bennu'r gyllideb yn ôl ym mis Mawrth fe wnaethom anrhydeddu ein hymrwymiad i sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael y cyflog byw gwirioneddol. Fe wnaethom ariannu ein hawdurdodau lleol i'w helpu i wneud hynny, ac rwy'n llawn ddisgwyl i awdurdodau lleol anrhydeddu'r ymrwymiad hwnnw. Mae yna grwpiau eraill o weithwyr yn y sector cyhoeddus y gwyddom nad ydynt yn cael y gydnabyddiaeth, o ran parch cyhoeddus ac o ran cyflog, am werth y gwaith a wnânt. Mae'r bobl hynny yng ngweithlu'r sector cyhoeddus sy'n gweithio gyda phlant, rhai o'n plant mwyaf cythryblus, yn haeddu cael eu gwobrwyo'n briodol am y gwaith maen nhw'n ei wneud. Er gwaethaf yr amseroedd heriol, fel yr wyf wedi'u dweud mewn atebion i eraill, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i weithio gyda'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol i weld pa gymorth y gallwn ni ei gynnig iddyn nhw, os yn bosibl, pan fyddan nhw'n cyrraedd y setliadau y maen nhw'n gyfrifol amdanynt fel rhan o'n rheolaeth gyfrifol ein hunain o'r arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru.

16:45

Croeso i'r rôl yma, Mark. Mae'n dda eich gweld chi yn gwneud y rôl.

Fe hoffwn i ofyn dau gwestiwn dilynol, mewn gwirionedd, yn deillio o'r hyn yr oedd Carolyn yn siarad amdano a rhai o'r pethau y crybwyllodd Heledd. Y bobl trydydd sector hynny, er enghraifft nyrsys mewn hosbisau, sy'n meincnodi yn erbyn dyfarniadau cyflog y sector cyhoeddus, felly er mwyn gallu denu'r gweithwyr a'r nyrsys a'r bobl sy'n darparu'r gwasanaethau hyn yn y swyddi hyn. Pa waith sy'n cael ei wneud i gloriannu effaith dyfarniadau cyflog y sector cyhoeddus fel y rhain ar y cyflogwyr trydydd sector hynny, a beth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i gefnogi'r gwasanaethau hanfodol hynny a ddarperir gan y trydydd sector ac effaith y penderfyniadau hyn o ganlyniad i'ch penderfyniadau chi?

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Wel, diolch yn fawr i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Dwi'n edrych ymlaen at fod o flaen y pwyllgor bore fory, wrth gwrs.

Mae'r rhain yn bwyntiau pwysig y mae'r Aelodau'n eu gwneud. Mae'r datganiad heddiw yn ymwneud â chyflog y sector cyhoeddus a'r dyfarniadau yr ydym ni wedi gallu eu gwneud yn uniongyrchol i'r bobl hynny y mae eu cyflog yn cael ei lywodraethu gan yr oruchwyliaeth annibynnol a ddarperir gan y gwahanol fyrddau. Ond wrth gwrs, rydym yn cydnabod bod gan gytundebau a osodir yn y gwasanaeth cyhoeddus uniongyrchol oblygiadau canlyniadol i'r trydydd sector. Fe allwn ni fynd i'r afael â hynny mewn sawl ffordd. Dyna gyngor partneriaeth y trydydd sector, sy'n dod â'r trydydd sector cyfan ynghyd, ond yna ceir trafodaethau sectoraidd unigol. Bydd fy nghyd-Aelod, Jeremy Miles, yn siŵr o glywed gan fudiad yr hosbis yng Nghymru ac yn awyddus i drafod ag ef. Felly, lle ceir darparwyr gwasanaethau trydydd sector penodol y mae'r cyhoedd yn dibynnu arnyn nhw, fe allwn ni ymgysylltu â nhw ar sail y sector hwnnw, gan barhau i fod â'r trefniadau partneriaeth ehangach sydd wedi ein rhoi mewn sefyllfa dda dros holl gyfnod datganoli, ac sy'n parhau i fod yn nodwedd fywiog ac unigryw iawn o'r ffordd yr ydym yn ymwneud â'r perthnasoedd hynny yng Nghymru.

13. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Glanhau ein hafonydd, llynnoedd a moroedd

Eitem 13 yw'r datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: glanhau ein hafonydd, llynnoedd a moroedd. Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies.

Member
Huw Irranca-Davies 16:48:35
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dros yr haf, rydym wedi bod yn gweithio yn gyflym i fynd i'r afael â llygredd yn ein hafonydd, llynnoedd a moroedd, gan gynnwys cynyddu ein hymdrechion ar y cyd â Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig.

Rwy'n falch o ddweud ein bod yn dechrau tymor yr hydref y Senedd gydag ysbryd newydd o gydweithio trawsffiniol.

Ac mae hyn yn addas, yn anad dim am fod ein hafonydd eiconig, fel Afon Hafren, Afon Dyfrdwy ac Afon Gwy, wrth gwrs, yn croesi ffiniau cenedlaethol. Mae'r hyn sy'n digwydd i fyny'r afon yn Lloegr yn cael effaith i lawr yr afon yng Nghymru ac i'r gwrthwyneb. Ac felly mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd, ac mae'r bartneriaeth newydd rydym ni wedi'i gweld ers mis Gorffennaf i'w chroesawu'n fawr, ac roedd yn hen bryd ei sefydlu.

Wrth wneud y gwaith hwn rydym ni'n adeiladu ar yr hyn sydd eisoes wedi'i gyflawni yng Nghymru. Heddiw mae tair gwaith cymaint o afonydd yn ennill statws ecolegol da yng Nghymru, sef 44 y cant, nag yn Lloegr. Mae'n welliant o 8 y cant ar y dosbarthiadau cyntaf yn 2009. Y llynedd, yn wir, roedd 98 y cant o'n safleoedd dŵr ymdrochi dynodedig yn bodloni safonau ansawdd dŵr llym.

Ac rydym ni wedi ariannu rhaglen amlflwyddyn, gwerth miliynau o bunnau dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru, gan fynd i'r afael â materion gan gynnwys halogi o hen safleoedd mwyngloddio metel. Bydd hyn yn mynd yn bell i sicrhau gwell ansawdd dŵr yng Nghymru i bobl ac i fyd natur heddiw ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rydym ni hefyd wedi arwain y ffordd drwy ein cynllun i ailgylchu offer pysgota diwedd oes, sydd wedi casglu 10 tunnell o offer dros ddwy flynedd. Dyma'r unig gynllun cenedlaethol o'i fath yn y Deyrnas Unedig. Felly, rydym ni'n symud i'r cyfeiriad cywir, ond rydym ni hefyd yn gwybod bod angen i ni fynd ymhellach ac yn gyflymach.

Gyda realiti'r argyfwng hinsawdd, mae'r risg i'n sector dŵr yn cynyddu. Mae'r pwysau ar gyflenwadau dŵr ac ar seilwaith yn ddigynsail ac ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd meithrin cydnerthedd o ran newid hinsawdd. Bydd yn cymryd pob un ohonom ni—pob un ohonom ni—yn cydweithio nid yn unig i fynd i'r afael â heriau heddiw, ond hefyd i'n paratoi ar gyfer y rhai sydd i ddod. Felly, er bod llawer wedi'i wneud, mae llawer i'w wneud hefyd.

Yn yr ysbryd hwnnw o weithio trawsffiniol cydweithredol, rwyf wedi cytuno bod Bil Dŵr (Mesurau Arbennig) newydd Llywodraeth y DU yn cael ei ymestyn i Gymru. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn cryfhau pwerau'r rheoleiddiwr ac yn mynd i'r afael â llygredd dŵr. Bydd yn rhoi pŵer newydd i Ofwat gyfyngu ar y taliadau bonws a delir i swyddogion gweithredol. Bydd yn caniatáu i Cyfoeth Naturiol Cymru adennill costau gan gwmnïau dŵr ar gyfer gweithgareddau gorfodi. Bydd yn lleihau gweinyddiaeth trwy gosbau awtomatig am restr ddiffiniedig o droseddau. Bydd yn caniatáu dewisiadau gorfodi mwy effeithiol trwy alluogi rheoleiddwyr i gyflwyno cosbau sancsiynau sifil yn gyflymach.

Nawr, mae'r sector dŵr yng Nghymru, wrth gwrs, yn wahanol i'r hyn sydd yn Lloegr a gyda Dŵr Cymru Welsh Water yn gweithredu fel cwmni nid-er-elw. Rhaid i unrhyw newidiadau i'r gyfraith adlewyrchu anghenion Cymru a byddwn bob amser yn rhoi buddiannau pobl Cymru yn gyntaf. Ond rwy'n falch y buom ni'n gweithio'n agos gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig hefyd wrth adolygu dyfodol y rheoliadau dŵr ymdrochi i gryfhau'r rhaglenni ar ddwy ochr y ffin ymhellach. Mae'r rhaglen dŵr ymdrochi yn meithrin dull cydweithredol rhwng y Llywodraeth a rheoleiddwyr, awdurdodau lleol a chymunedau sy'n gweithio gyda'i gilydd. Mae hyn wedi rhoi'r grym i'r rheoleiddwyr a'r awdurdodau lleol weithredu'n gyflym i ddiogelu iechyd ymdrochwyr lle bo angen, ac edrychaf ymlaen at weld y canlyniadau ar gyfer tymor 2024 pan gânt eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Mae ein gwaith partneriaeth â Llywodraeth y DU yn adeiladu ar gamau eraill yr ydym ni wedi'u cymryd dros yr haf. Ym mis Awst cynhaliais y cyfarfod cyntaf gyda Dr Susannah Bolton, cadeirydd annibynnol yr adolygiad pedair blynedd o reoli rheoliadau llygredd amaethyddol. Mae'r adolygiad yn hanfodol bwysig, oherwydd mae'r rheoliadau yn allweddol i ddiogelu ansawdd dŵr ledled Cymru, a diben yr adolygiad yw penderfynu a yw'r rheoliadau'n addas i'r diben neu a ddylid eu haddasu i fod yn fwy effeithiol wrth atal neu leihau llygredd amaethyddol. Bydd yr adolygiad yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2025.

Rydym ni hefyd yn parhau i gefnogi ffermwyr i wella rheolaeth maethynnau a lleihau eu heffaith ar ansawdd dŵr. Fe wnaethom ni sicrhau bod £17 miliwn ar gael mewn grantiau dros yr haf, ac ym mis Gorffennaf roeddwn yn falch o gyd-gadeirio'r uwchgynhadledd ddiweddaraf ar afonydd, ochr yn ochr â Phrif Weinidog Cymru ar y pryd, gan ddod â phartneriaid at ei gilydd i weithredu a chanfod atebion i amddiffyn ein hamgylchedd dŵr heddiw ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Fel rhan o'r dull cydweithredol hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu byrddau rheoli maethynnau ar gyfer chwech o'n hafonydd sy'n ardaloedd cadwraeth arbennig. Byddant yn cynhyrchu cynlluniau rheoli maethynnau y gellir eu gweithredu, ac rwy'n edrych ymlaen at dderbyn cynlluniau'r bwrdd erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.

Rwyf wedi bod yn gyson, Dirprwy Lywydd, mai partneriaeth yw'r allwedd i fynd i'r afael â mater mor gymhleth ag ansawdd dŵr. Felly, rwy'n croesawu'r adroddiad diweddar gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ynghylch sut y gallwn ni wneud yr uwchgynadleddau yn fwy effeithiol a'r ffaith bod y comisiynydd bellach wedi gwneud ansawdd dŵr yn flaenoriaeth yn ystod ei dymor.

Nid oes gwadu'r cyfaddawd anodd rhwng cadw biliau'n fforddiadwy, gan barhau i gynnal gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff cydnerth ac uchelgeisiol. Cyhoeddodd Ofwat ei benderfyniadau drafft ym mis Gorffennaf, gan amlinellu'r pecyn buddsoddi mwyaf uchelgeisiol hyd yma. Nawr, mae'r broses yn parhau ond rydym ni wedi gwneud ein safbwynt yn glir iawn i Ofwat: mae'n rhaid i gwmnïau dŵr gyflawni eu hymrwymiadau perfformiad a darparu gwerth am arian trwy gryfhau ansawdd ein dŵr, cynnal cyflenwad dŵr cydnerth a diogelu'r amgylchedd. Rwy'n croesawu'r trafod fu ag Ofwat hyd yma, gan gynnwys drwy fforwm PR24 cydweithredol Llywodraeth Cymru gyda'r holl bartneriaid allweddol, ac edrychaf ymlaen at ganlyniad cadarnhaol ar gyfer y penderfyniad terfynol yn ddiweddarach eleni.

Mae gennym ni daith hir o'n blaenau o hyd i lanhau ein hafonydd, ein llynnoedd a'n moroedd, ond mae ein targedau yn uchelgeisiol ac mae ein disgwyliadau yn uchel. Ond rydym ni'n symud yn gadarn tuag at y gwelliannau y mae angen i ni eu gwneud. 

Rwy'n falch o'r cynnydd rydym eisoes wedi ei wneud o ran gwella ansawdd ein dŵr, a byddaf yn parhau i weithio yn agos gyda phartneriaid yn y Llywodraeth ac ar draws y sector dŵr i wireddu ein nodau cyffredin o Gymru wyrddach a mwy llewyrchus i ni ac i'r rhai sy'n dod ar ein holau. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.

16:55

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad, ac rydym ni i gyd yn gwybod sut mae ystadegau'n profi bod llawer o'n hafonydd yng Nghymru yn llygredig ac yn llawer is na safon dderbyniol. Yn ôl y gyfarwyddeb fframwaith dŵr ddiweddaraf—

Janet, gaf i ofyn i chi stopio am eiliad, oherwydd mae'n ymddangos bod eich sgrin wedi'i gorchuddio? Mae hynna'n well. Fe allwn ni eich gweld chi nawr; doeddem ni ddim yn gallu eich gweld chi, Janet. Ydych chi eisiau dechrau eto?

Oes, diolch i chi. Felly, fe wyddom ni i gyd, yn anffodus, ac mae ystadegau'n profi, fod angen llawer iawn o sylw ar lawer o'n hafonydd yng Nghymru a'u bod ymhell islaw'r safon yr ydym ni'n ei disgwyl. Yn ôl adroddiad diwethaf y gyfarwyddeb fframwaith dŵr, ar hyn o bryd dim ond 44 y cant o afonydd Cymru sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer statws ecolegol da. Nawr, croesawais—rwy'n dal i gyfeirio ato fel 'dirprwy', ond rwy'n tueddu i feddwl amdano nawr fel Gweinidog y maes hwn—ddatganiad y Gweinidog a oedd yn ardderchog. Nawr, yn 2023 cafodd cyfanswm o 115,523 o ollyngiadau eu cyfrif yng Nghymru gyda charthion heb eu trin yn cael eu rhyddhau am dros filiwn o oriau trwy orlifoedd storm. Mae hynny'n cyfateb i un gorlif storm yn gollwng carthion i'n llynnoedd, afonydd a moroedd bob awr o bob dydd am 114 o flynyddoedd. Felly, nid yw'n dderbyniol.

Nawr, rydym ni'n wynebu argyfwng amgylcheddol. Yn 2023 roedd chwech o afonydd mwyaf llygredig y DU yng Nghymru, yn bennaf oherwydd gollyngiadau carthion parhaus gan gwmnïau eraill, ond hefyd Dŵr Cymru. Yn y flwyddyn honno'n unig, fe wnaeth Dŵr Cymru ryddhau dros 900,000 awr o garthion i'n dyfrffyrdd, gan gyfrif am oddeutu 20 y cant o'r holl oriau rhyddhau, nid yn unig ledled Cymru, ond Lloegr hefyd. Mae llygredd yn cael effaith enfawr, ddinistriol ar ein hamgylchedd morol. Dim ond yr haf hwn y cyhoeddwyd rhybuddion i bobl beidio â mynd i nofio nac i mewn i'r môr oherwydd ansawdd dŵr gwael ar 25 o draethau Cymru.

Mewn ymdrech i fynd i'r afael â llygredd afonydd, ar 18 Gorffennaf 2022, bu i Brif Weinidog Cymru ar y pryd gynnull yr uwchgynhadledd gyntaf i drafod llygredd ffosfforws mewn afonydd yn ardaloedd cadwraeth arbennig yng Nghymru. Felly, rwy'n croesawu y cynhaliwyd uwchgynhadledd afonydd bryd hynny, ond a allech chi amlinellu, Gweinidog, pa atebion a aethpwyd ar eu holau ar ôl y cyfarfod hwnnw?

Rydych yn gwybod am fy ngwrthwynebiad i'r rheoliadau llygredd amaethyddol. Nid wyf yn credu y caiff hyn ei ddatrys yn unig gan y rheini, oherwydd roedd hynny fel defnyddio gordd i dorri cneuen. Rwy'n siomedig ymhellach bod Plaid Cymru, wrth gydweithio â Llywodraeth Lafur Cymru ar y rheolau, wedi ymuno â hynny. Felly, a wnewch chi egluro beth fydd yr adolygiad a wneir gan Dr Susannah Bolton a sut y bydd yn effeithio ar effaith economaidd y rheoliadau ar ffermwyr, oherwydd, wrth gwrs, gyda chyflwyno'r ddeddfwriaeth honno, mae ffermwyr yn gorfod buddsoddi miloedd o bunnau nad oes ganddyn nhw?

Byddwch yn ymwybodol fod gan Lywodraeth Cymru rwymedigaethau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i ddefnyddio datrysiadau naturiol yn fwy effeithiol. Mae Project Madoc yn astudiaeth ddichonoldeb gynhwysfawr 12 mis a ariennir gan gronfa forwrol a physgodfeydd Ewrop sy'n asesu hyfywedd economaidd, effaith amgylcheddol a derbynioldeb cymdeithasol datblygu diwydiant cynaliadwy a chystadleuol i Gymru, a sut y gallwn ni edrych ar brosesu a phuro gwymon naturiol. Rwyf wedi rhannu'r adroddiad hwnnw gyda chi o'r blaen.

Nawr, roeddwn yn falch iawn o sylwi yn eich datganiad am y ddeddfwriaeth newydd sy'n berthnasol i Gymru a sut y bydd Ofwat a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gallu adennill costau. Ond, Gweinidog, byddwch hefyd yn cofio fy mod wedi gofyn sawl gwaith—. Os yw cwmni, am naill ai llygredd tir, llygredd sŵn neu lygredd dŵr, os cânt eu dirwyo, mae'r arian hwnnw'n mynd i Drysorlys y DU, ac mae hynny bob amser wedi cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru fel esgus, bron, nad oes gennym ni'r arian i lanhau ein hafonydd llygredig. Pa gamau nawr, gan fod gennych chi Lywodraeth newydd, Llywodraeth Lafur newydd, yn y DU, y byddwch yn ceisio mynd i'r afael â nhw? Os caiff cwmni ddirwy o £200,000, siawns na ddylai hynny fynd i un o'r cyrff amgylcheddol—efallai i Cyfoeth Naturiol Cymru neu ryw gorff amgylcheddol—er mwyn i ni gael gwario'r arian hwnnw yng Nghymru. Os yw'r llygredd wedi digwydd yng Nghymru, fe ddylem ni gael yr arian hwnnw yma yng Nghymru i helpu i lanhau wedyn. Diolch.

17:00

Diolch yn fawr iawn, Janet. Fe wnaethoch chi ymdrin â chryn ystod o faterion yn y fan yna, a diolch am hynny, oherwydd mae'n cydnabod y ffaith bod hwn yn fater cymhleth y mae angen defnyddio cryn nifer o offer i'w ddatrys. Nawr, os caf i droi, yn gyntaf oll, at fater carthion a gollyngiadau heb eu trin, rydych chi a minnau a'r holl Aelodau yn gwybod y bu hyn yn fater pwysig i'r cyhoedd, yn enwedig wedi'i yrru yn ogystal gan wyddoniaeth dinasyddion a grwpiau allan yna sydd mor bryderus am hyn, sy'n dod â'r mater i'n cymhorthfeydd yn ogystal ag i lawr y Senedd yma i'w drafod.

Soniais yn fy natganiad agoriadol am benderfyniad drafft PR24, ac, yn dibynnu ar ganlyniad terfynol hwnnw ac, wrth gwrs, ein barn glir iawn hefyd bod angen i ni sicrhau bod unrhyw benderfyniad terfynol yn adlewyrchu yn ogystal amddiffyniad y cwsmeriaid mwyaf agored i niwed a'r bobl sy'n talu biliau dŵr hefyd—. Ond byddai'n newid sylweddol, o bosib, yn lefel y buddsoddiad wrth fynd i'r afael nid yn unig â'r gorlifoedd carthffosiaeth gyfun a'r hen bibellau Fictoraidd hynny ac ati, ond hefyd yn y gwaith trin ehangach hefyd ledled Cymru, oherwydd fe wyddom ni fod yna hanes o danfuddsoddi mewn rhai meysydd sylweddol o waith trin, yn ogystal â gorlifoedd carthffosiaeth gyfun. Felly, rydym yn edrych ymlaen at hynny, ond yn y cyfamser, wrth gwrs, rhwng 2020 a 2025, mae Dŵr Cymru eisoes wedi ymrwymo ac yn gwario tua £765 miliwn i ddiogelu'r amgylchedd a buddsoddi yn y maes hwn, ac mae'n cynnwys £101 miliwn i uwchraddio eu rhwydwaith rheoli dŵr gwastraff. Felly, nid ydynt yn aros am PR24; maen nhw'n bwrw ymlaen â hynny nawr. Un ffordd rwy'n deall bod Dŵr Cymru yn mynd ati, sy'n eithaf unigryw, yw nid yn unig edrych ar nifer y gollyngiadau, ond y rhai sydd â'r risg fwyaf sylweddol i ecoleg yr afonydd ac ati. Felly, maen nhw'n priodoli, cymaint ag y gallant, y wyddoniaeth go iawn i hyn i ddweud, 'Ble ddylem ni dargedu'r arian hwnnw yn gyntaf oll?' ac yna gweithio drwyddo. Ond gall PR24 gael effaith sylweddol.

Agwedd arall sy'n gysylltiedig â hyn yw'r gefnogaeth rydym ni'n ei rhoi i'r byrddau rheoli maethynnau. Rydym ni eisoes wedi ymrwymo dros £1 miliwn, £700,000 arall y flwyddyn ariannol hon, hyd yn oed yn y sefyllfa sydd gennym ni o orfod ymestyn arian, oherwydd ein bod yn cydnabod pwysigrwydd hyn. Ac, wrth gwrs, mae angen i ni fyfyrio hefyd, fel y dywedais yn glir yn fy natganiad agoriadol, nad oes a wnelo hyn yn unig â gollyngiadau a chwmnïau trin dŵr, ond hefyd y pwysau adeiladu a welwn ni wrth reoli'r rheini, a dyna pam rydym yn buddsoddi yn y byrddau rheoli maetholion i geisio gwireddu rhywfaint o'r awydd sydd gennym ni am dai ar hyd rhai o'r rhain heb effeithio ar ansawdd dŵr yr afon. Ond mae hefyd ynglŷn â'r hyn rydym ni'n ei wneud o ran llygredd amaethyddol yn ogystal. Felly, pan edrychwn ni ar rai o'r ardaloedd arbennig hynny o afonydd cadwraeth, rhai o'r effeithiau mwyaf arwyddocaol—ac mae modd datrys hyn—yw llygredd amaethyddol, nawr, ac os felly, mae angen yr adolygiad hwnnw o'r rheoliadau llygredd amaethyddol arnom ni. Ac rwyf wedi ei gwneud hi'n glir iawn—. Yn fy nhrafodaethau gyda'r cadeirydd annibynnol, rwyf wedi dweud yn glir iawn mai mater i'r cadeirydd annibynnol hwnnw yw gwneud, o fewn ei chylch gwaith, yr hyn y mae arni hi eisiau ei wneud, gyda chefnogaeth arbenigwyr, gan edrych ar beth fyddai'r ffordd orau o fynd i'r afael â llygredd amaethyddol gwasgaredig o wahanol fathau hefyd.

Dirprwy Lywydd, soniodd Janet am sawl maes yn ei—. Mae'n debyg imi dreulio cryn amser yn ateb rhai o'r meysydd hynny, ond rwy'n hapus i barhau i drafod, Janet, yr agweddau eraill gyda chi.

17:05

Diolch i chi, Dirprwy Brif Weinidog, am y datganiad. Ac mae fe'n ddatganiad rili bwysig a rili amserol, achos adnodd sylfaenol, wrth gwrs, ydy dŵr ar gyfer cynnal bywyd. Mae gennym ni yng Nghymru berthynas unigryw, sydd wedi'i gwreiddio'n ddwfn, â dŵr. Mae llawer o'n poblogaeth yn byw neu'n gweithio ar hyd yr arfordir. Mae ein hafonydd, ein llynnoedd a’n moroedd yn ganolog i'n heconomi ni a'n ffordd o fyw.

Ond, fel sydd wedi cael ei gydnabod yn barod, mae dŵr hefyd wedi bod yn ffynhonnell tensiwn. Mae ganddo fe, ie, wrth gwrs, arwyddocâd hanesyddol, os ydym yn mynd yn ôl at beth oedd wedi digwydd gyda Thryweryn—anghyfiawnder, camfanteisio—ond hefyd o ran beth sydd yn digwydd heddiw. Mae’r problemau gydag iechyd ein hafonydd yn rheolaidd yn cyrraedd uwchdeitlau’r wasg. Mae fe'n hanfodol bwysig i graffu ar ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin ag ansawdd dŵr a herio a ydych chi, fel Llywodraeth, yn mynd i'r afael yn ddigonol â'r pryder cynyddol.

Dwi wir yn gwerthfawrogi ac yn croesawu’r ffaith bod y datganiad yma wedi dod ger ein bron ni yn y Senedd ar y diwrnod cyntaf yn ôl. Rwy’n gobeithio bod hynny’n dangos eich bod chi wir eisiau mynd i’r afael â hyn—a, gosh, mae angen inni wneud hynny, achos mae bron i un o bob pum afon yng Nghymru wedi'u llygru gan garthffosiaeth. Eto, dŷn ni’n sôn am hyn drwy’r amser, ond mae fe’n rhywbeth sy’n troi stumog rywun, os ydych chi’n meddwl amdano fe—mae carthffosiaeth yn yr afonydd.

Mae Dŵr Cymru, fel sydd wedi cael ei ddweud yn barod, wedi cael rhybudd o erlyniad am ei fethiant i gyflawni gwelliannau ystyrlon. Eto mae'r cyhoedd yn dal i deimlo'n ddi-rym i allu wynebu’r mater yma, y carthion yn ein dyfrffyrdd. Mae fe'n broblem barhaus. Mae fe’n tanseilio, efallai, hyder y cyhoedd mewn cwmnïau dŵr a’r fframwaith rheoleiddio sydd gan y Llywodraeth. Mae grwpiau lleol fel Save the River Usk yn sir Fynwy, Angela Jones yn eu plith, maen nhw'n gwneud gwaith clodwiw, ond gwaith y Llywodraeth ydy hyn. Dwi wir eisiau clodfori’r gwaith sy’n cael ei wneud, ond mae’n rhaid i’r Llywodraeth fynd i’r afael â’r peth.

Un o'r cwestiynau mwyaf dybryd yw: pa gamau pendant y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod y cwmnïau dŵr yn cael eu dal yn gwbl atebol am eu methiannau? Rwy’n gweld bod hwn yn rhywbeth bydd yn rhaid cydweithio gyda’r Llywodraeth yn Steffan arno, ond mae'r cyhoedd yn haeddu mwy nag addewidion yn unig. Maen nhw angen gweld gweithredu ac, os oes angen, cosbau llym i'r cwmnïau hynny sy'n methu â chyrraedd y safonau derbyniol dro ar ôl tro.

I droi at fater arall, mae mater llygredd plastig, yn enwedig microblastigau, yn cymhlethu'r her o lanhau ein hafonydd a'n moroedd. Mae microblastigau, sydd bellach—. O, gosh, rŷch chi’n gallu dod o hyd iddyn nhw yng nghorneli mwyaf anghysbell y byd. Mae’n fygythiad uniongyrchol i iechyd pobl. Mae gronynnau wedi cael eu ffeindio mewn ysgyfaint dynol, llaeth y fron; maen nhw wedi cael eu ffeindio yng ngwaed pobl. Felly, pa gamau penodol fydd yn cael eu cymryd i wella monitro a gorfodi cwmnïau dŵr, lle mae eu practisau yn cyfrannu at lygredd plastig a microblastig? A sut ydych chi’n bwriadu cryfhau deddfwriaeth i ddiffinio a gorfodi lefelau diogel o lygredd microblastig yn ein dyfrffyrdd, i wneud yn siŵr nad oes mwy na hynny?

Mae risgiau hirdymor i fioamrywiaeth ac i iechyd y cyhoedd o hynny. Mae bywyd gwyllt dyfrol sy'n byw yn yr ardaloedd hyn—. Mae fe’n cael effaith ar ecosystemau, a hynny’n beryglus. Dydy’r bygythiadau yma, yn amlwg, ddim wedi cael eu hynysu i fywyd gwyllt; mae ganddyn nhw'r potensial i effeithio ar boblogaethau dynol hefyd. So, a allwch chi gadarnhau, plîs, pa fesurau fydd yn cael eu cyflwyno o fewn y ddeddfwriaeth llywodraethu amgylcheddol sydd ar ddod i fynd i’r afael â hyn?

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, cyn imi redeg mas o amser, pwynt hanfodol dŷn ni ddim yn gallu ei anwybyddu, dwi ddim yn meddwl, yw'r angen i Gymru gael rheolaeth lawn dros ei hadnoddau dŵr. Mae Plaid Cymru wedi galw'n gyson am ddatganoli’r pwerau hyn i Gymru, gan alinio cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd â ffiniau daearyddol ein cenedl. A fydd Llywodraeth Cymru yn gofyn yn ffurfiol am y pwerau i alluogi hynny i ddigwydd? Ac a allwn ni ddisgwyl i ddeddfwriaeth yn y dyfodol osod cynlluniau draenio a rheoli dŵr gwastraff ar sail statudol, gan sicrhau bod cwmnïau dŵr yn cyflawni’r hyn sy’n ofynnol arnynt? Diolch yn fawr iawn.

17:10

Diolch, Delyth, a diolch am y croeso i'r datganiad hefyd. Mae llawer o gwestiynau yna.

Diolch yn fawr iawn. Gadewch i mi geisio gwibio drwy rai o'r rhain. Yn gyntaf oll, nid wyf yn credu bod y cyhoedd yn ddi-rym, heb amheuaeth, ac, mewn gwirionedd, mae'n dda gweld bod natur a newid hinsawdd yn cael ei adlewyrchu'n gadarn yn natganiad blaenoriaethau'r Prif Weinidog heddiw. Ac mae hyn yn rhan o hynny—rhan o adfer ac adennill ecoleg ein hafonydd, rhan o'r ymgyrch ar bethau fel ansawdd dŵr ymdrochi, yn ogystal â'r statws ecolegol, ond hefyd y cysylltiad rhwng y llednant leiaf ar ben afon Llwchwr sy'n llifo i lawr wedyn trwy'r aber i'r moroedd. Mae hynny i gyd yn rhan annatod o'n dull gweithredu yn y Llywodraeth—felly, yr agwedd gyfan, gan gynnwys yr hyn a wnawn yn yr amgylchedd morol ehangach hefyd.

Yn sicr, nid yw'r cyhoedd yn ddi-rym. Rydym ni yn gwrando arnyn nhw. Ac rwy'n credu, rhai o'r grwpiau ymgyrchu hynny, a grwpiau lobïo, rwy'n deall eu rhwystredigaeth, ac weithiau nid ydyn nhw'n ymwybodol o'r cyfyngiadau rydym ni'n gweithio ynddyn nhw a'r cyflymder rydym ni'n gweithio o fewn y Llywodraeth, ond rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr. Ac, mewn gwirionedd, peth o'r gwaith, er enghraifft, gyda'r byrddau rheoli maetholion, wrth geisio delio â llygredd ffosffad mewn afonydd, ond, wrth wneud hynny, creu'r lle fel y gallwn ni wedyn adeiladu'r tai cymdeithasol sydd eu hangen arnom ni hefyd yng nghefn gwlad canolbarth Cymru ac yn y blaen, bu cynnydd gwirioneddol ar hynny, ond rydym yn gwybod bod angen i ni fynd ymhellach. Felly, mae'r cyhoedd ymhell o fod yn ddi-rym, ac mae angen iddyn nhw barhau i'n dwyn i gyfrif, ond hefyd i weithio gyda ni, oherwydd mae hyn yn ein dwylo ni i gyd. Ac mae hynny, gyda llaw, hefyd yn cynnwys y ffordd rydym ni'n delio â phethau fel llygredd microblastig. Fe allwn ni ddeddfu ar feysydd o hynny, ac rydym ni'n falch o fod yn gwneud hynny yng Nghymru ac arwain y ffordd o ran delio â phethau fel plastigau untro ac ati, ond mater i'r cyhoedd hefyd yw gwneud eu rhan a chydweithio â ni yn hyn o beth a dweud, 'Fyddwn ni ddim yn defnyddio rhai mathau o bethau, ond byddwn hefyd yn mynnu bod y manwerthwyr yn mynd ymhellach, a byddwn yn mynnu bod y Llywodraeth yn mynd ymhellach hefyd.' Mae'n rhaid iddo fod yn ymdrech ar y cyd. Dydyn nhw chwaith ddim yn ddi-rym oherwydd yr hyn rydym ni'n ei wneud ym mhroses yr uwchgynhadledd afonydd hefyd, ac rydym ni'n sicrhau bod gan hynny bwyslais da a'i fod wedi'i dargedu'n dda ac yn adlewyrchu eu blaenoriaethau.

Y pwerau ar y cwmnïau dŵr y sonioch chi amdanyn nhw—rwy'n credu ei bod hi'n iawn, lle bo'n briodol, ein bod ni mewn gwirionedd yn edrych ar y ddeddfwriaeth sy'n deillio o Araith y Brenin ac yn dweud, 'Ydy hynny'n ddefnyddiol i Gymru nawr, neu ydym ni'n aros am bedair neu bum mlynedd arall nes cawn y cyfle?' Rydym yn 18 mis olaf tymor y Senedd. Mae gennym ni raglen ddeddfwriaethol enfawr o'n blaenau eisoes gyda rhai Biliau pwysig iawn, gan gynnwys y Bil llywodraethu amgylcheddol. Ac, gyda llaw, yn rhan o hynny, rydym ni'n gweithio drwy'r—. Mae'n datblygu'n dda iawn, ond mae'r manylion am ba dargedau rydym ni'n eu cynnwys o fewn hynny mewn gwirionedd yn hanfodol. Roedden ni wastad wedi dweud y byddem ni'n aros—dywedodd fy rhagflaenydd Julie James y byddem ni'n aros—nes i Gynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig ar fioamrywiaeth osod nodau allweddol y Cenhedloedd Unedig, ac yna byddem ni'n canolbwyntio ar yr hyn roeddem ni wedi ei gynnwys yn y ddeddfwriaeth, a gwneud yn siŵr nad oedden ni'n efelychu pethau rydym ni eisoes yn eu gwneud. Felly, mae ychydig o aros a gweld beth fydd y rheini, ond fe gânt eu cyflwyno.

Ond, o ran y Bil sy'n cael ei gyflwyno gan Lywodraeth y DU, yr wyf wedi dweud heddiw y byddwn yn cydweithio arno, rydym yn credu bod potensial yn hynny, oherwydd, er bod gennym ni fodel gwahanol o gwmni dŵr yma, yn enwedig o fewn ein cwmni dŵr mwy yng Nghymru, Dŵr Cymru Welsh Water, mae'n fath gwahanol o fodel, mae'n gwmni gwahanol, a does arnom ni ddim eisiau eu cosbi, ei dynnu oddi arnyn nhw, pryd y gallent fod yn ei  fuddsoddi. Ond mae'r Bil hwn, er enghraifft, yn rhoi'r pwerau newydd hynny i gyfyngu ar y taliadau bonws a delir i swyddogion gweithredol ar sail eu perfformiad. Felly, mewn gwirionedd mae'n rhoi pethau ar waith fel profion addas a phriodol i'r bobl hynny sy'n benaethiaid ar y cwmnïau hynny. Rwy'n credu ein bod ni mewn sefyllfa ychydig yn wahanol yma yng Nghymru, mae'n rhaid i mi ddweud, gan rai o'r cwmnïau eraill mewn rhannau eraill o Loegr, ond rwy'n credu bod y rheini'n bwerau addysgiadol i'w cymryd. Y gallu i Cyfoeth Naturiol Cymru—. Rydym yn gwybod y pwysau sydd ar Cyfoeth Naturiol Cymru, ond mae'r gallu iddyn nhw adennill costau gan gwmnïau dŵr am orfodi, rwy'n credu, yn ddefnyddiol. Lleihau gweinyddiaeth mewn gwirionedd drwy gael cosbau awtomatig am restr ddiffiniedig o droseddau, a hefyd pethau fel cosbau gweithredu sifil, a all fod yn llawer cyflymach a phendant yn weinyddol—mae'r holl bethau hynny, rwy'n credu, yn werth bwrw ymlaen â nhw, ac mae'n werth ymgysylltu â Llywodraeth y DU yn eu cylch. Ond mae'n rhaid i ni sicrhau ei fod yn addas i Gymru, yn ein cyd-destun, a byddwn yn sicrhau ein bod yn gwneud hynny.

Un peth olaf. Fe wnaethoch chi sôn am yr agwedd ar y pwyslais parhaus ar ddatganoli dŵr, a'r ymrwymiadau sydd wedi'u gwneud o'r blaen, ac sy'n dal i fodoli, gyda llaw, hefyd. Dim ond i ddweud, fe wnaethom ni ymrwymo i barhau â'r gwaith hwn yn dilyn dwy ddadl yn y Senedd yn ôl yn 2023. Mae swyddogion wedi dechrau'r broses o ystyried y camau nesaf hynny, gan gynnwys cwmpasu'r goblygiadau llawn ar gyfer deddfwriaeth arall. Mae'n gymhleth iawn. Bydd yn cymryd amser a gwaith ymroddedig i'w ddatrys, ac fe allwch chi weld trywydd fy sylwadau i yn hyn o beth, oherwydd un o'r heriau ar hyn o bryd yw'r rhaglen ddeddfwriaethol sydd gennym ni nawr, a'r angen i gyflawni hynny mewn cyfnod cymharol fyr. Ond mae'n dal i fodoli. Mae yna ymrwymiad.

Un peth i'w wneud yn glir, fodd bynnag: nid trosglwyddo adnoddau y tu hwnt i'n ffiniau yw'r prif bwysau ar ein dŵr yng Nghymru, mewn gwirionedd mae a wnelo hynny â'r pethau sydd yng Nghymru y mae angen i ni fwrw ymlaen â nhw hefyd. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n ateb llawer o'r cwestiynau ofynnoch chi, ond byddwn yn parhau i drafod.

17:15

Rwy'n croesawu'r cyfle hwn yn fawr i drafod llygredd mewn afonydd ac yn y môr. Adroddwyd yn flaenorol bod bron i un o bob pum afon yng Nghymru wedi'u llygru â charthffosiaeth. Mae hyn wedyn yn mynd i mewn i'r môr. Nid yw'n diflannu, sy'n ymddangos yn farn y mae cwmnïau dŵr ac eraill yn ei harddel—y'i rhoddir yn y môr, ac mae'r cyfan wedi mynd.

Fel gydag aer, y gronynnau na allwch chi eu gweld, fel E. coli, dyna'r rhai mwyaf peryglus. Mae'r Athro Jamie Woodward wedi creu adroddiad o'i ymchwil i'r lefelau brawychus o lygredd microblastig yn afonydd y DU ac yn galw am weithredu ar frys i'w diogelu, fel y gwnaeth Delyth Jewell ychydig funudau yn ôl. Mae gronynnau bach o blastig wedi'u canfod ym mhobman, o ffos Mariana i ben Everest. A nawr mae astudiaethau'n canfod bod microblastigau i'w cael yn ein cyrff, sy'n peri pryder, rwy'n credu, i bob un ohonom ni. Mae presenoldeb mannau lle ceir llawer o ficroplastig mewn gwelyau afonydd yn arwydd clir o reoli dŵr gwastraff gwael. Gallai monitro gwelyau afonydd ar gyfer cynnwys microblastig fod yn ffordd effeithiol o blismona arferion cwmnïau dŵr. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fonitro a lleihau llygredd microblastig mewn afonydd?

Diolch yn fawr iawn, Mike. Rydych chi a Delyth wedi codi'r mater hwn, ac rwy'n credu y gallai fod yn ddefnyddiol ysgrifennu atoch chi'ch dau, ac unrhyw Aelodau eraill sydd â diddordeb yn hyn, gyda diweddariad ar yr hyn rydym ni'n ei wneud o ran monitro microblastigion.

Dim ond i ddweud, o ran y pwynt a godoch chi ynghylch faint o garthion sy'n mynd i afonydd—a gwneud y pwynt eto, nid yw llygredd yn yr afonydd i gyd yn ymwneud â charthffosiaeth cwmnïau dŵr, ond mewn rhai afonydd, mae'n fwy arwyddocaol nag eraill; mae pob afon ychydig yn wahanol—mae yna bethau y gallwn ni eu gwneud sy'n llythrennol i fyny'r afon o hynny hefyd. Felly, dim ond ychydig i lawr y ffordd o'r fan yma es i ddigwyddiad a oedd yn gynhadledd genedlaethol ar systemau draenio trefol cynaliadwy, er mwyn osgoi'r gorlif hwnnw sy'n mynd oddi ar y toeau i'n hen system Fictoraidd, y system garthffosiaeth gyfun—felly, gan leihau'r llwyth o fewn hynny. Mae'n dda gweld bod pobl yn dod o bob rhan o'r DU i edrych ar yr hyn yr oeddem ni'n ei wneud yma yng Nghaerdydd, ac o amgylch Cymru hefyd. Felly, fe allwn ni wneud pethau fel hyn hefyd.

A hefyd, Mike, rwy'n credu bod yr adolygiad prisiau wir yn darparu'r potensial ar gyfer newid sylweddol yn y buddsoddiad o fewn ein cwmnïau dŵr a'r hyn y gallant ei wneud i fynd i'r afael â'u rhan nhw o'r llygredd yn ein hafonydd. Ond rwy'n ailadrodd y pwynt: dyna'r hyn y gall pob un ohonom ni ei wneud, nid canolbwyntio ar un maes yn unig. Mae'n rhaid i ni wneud y cyfan ar unwaith.

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Cefais fy magu yn pysgota a nofio yn Afon Wysg, ac rwyf am i'm plant ac eraill allu gwneud hynny. Mae fy mhlant yn gwneud hynny nawr, ond mae'n gwneud i mi wingo ychydig, gan wybod beth sy'n dod i mewn i'n hafonydd, gyda charthion gweladwy yn fwy a mwy cyffredin, yn anffodus. Fel llawer yn sir Fynwy a thu hwnt, rwy'n pryderu'n fawr am lefelau llygredd, y mae Afonydd Gwy ac Wysg wedi dioddef o amrywiaeth o ffynonellau, gan leihau bywyd gwyllt ac, wrth gwrs, cynyddu'r algâu, sy'n weladwy iawn.

Y llynedd, fe wnaeth Llywodraeth y DU gydnabod y broblem hon a sefydlu cynllun gweithredu gwerth £35 miliwn i lanhau Afon Gwy ar ochr Lloegr. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i adeiladu llosgwyr tail dofednod ac i gefnogi arferion ffermio cynaliadwy i gadw maetholion yn y pridd, ac felly, rwy'n croesawu'r hyn a ddywedsoch chi am yr hyn rydych chi wedi bod yn ei wneud yn yr haf. Ond hoffai llawer o bobl weld camau pellach, gan gynnwys gwaharddiad llwyr ar gorlifoedd carthffosydd cyfun—CSOs—sy'n caniatáu i gwmnïau dŵr bwmpio'r carthion i'r afonydd. Felly, fy nghwestiwn i chi, Ysgrifennydd Cabinet, yw: a ydych chi'n barod i ganiatáu i Dŵr Cymru barhau i weithredu gorlifoedd carthffosydd cyfun? Os felly, allwch chi esbonio pam rydych chi'n meddwl bod hyn yn angenrheidiol? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Yn gyntaf oll, ar afon Wysg, dyna un o'n hafonydd pwysicaf. Mae hefyd yn un o'r afonydd lle mae rhai o'r problemau mwyaf cymhleth, a dyna pam mae cymryd ymagwedd ddalgylch at sut rydym yn glanhau ein hafonydd yn bwysig, fel bod gennym yr holl bartneriaid yn eistedd o gwmpas ac yn dweud sut y gallant gyfrannu ato. Mae CSOs yn rhan o hyn, ond nid nhw yw'r cyfan, ac nid ydynt, yn rhyfeddol, ar afon Wysg; nid dyma'r unig ffactor cyfrannol.

Mae'n bwysig ein bod ni'n delio ag unrhyw lygredd gan CSOs, unrhyw ollyngiadau llygredd—wrth gwrs ei fod. Pe baem ni'n llythrennol yn dweud—os oedd ffordd o'i wneud yn dechnegol ac yn ymarferol, a beth bynnag—'Stopiwch ryddhau trwy CSOs yn gyfan gwbl', byddai gennym rai sgil-effeithiau diddorol i ddeiliaid tai a busnesau unigol, oherwydd gyda'r system sydd gennym, etifeddiaeth degawdau lawer, cenedlaethau o danfuddsoddi, mae'r CSOs hynny a'r gollyngfeydd carthffosydd cyfun yno, yn ôl pob golwg, i ddelio ag adegau pan fydd llawer iawn o law, pan fo'r system wedi'i gorlwytho, yn hytrach na'i fod yn mynd yn ôl i fyny'r system ac yn llifo drwodd i dai pobl. Felly, byddai eu diffodd ar y sail honno yn unig, rwy'n gwybod na fyddai hi'n cefnogi hynny.

Ond rwy'n credu ei bod yn iawn os oes gennym ni'r buddsoddiad yn cael ei gyflwyno—. Ac rwyf wedi disgrifio'r buddsoddiad y mae Dŵr Cymru eisoes yn ei wneud, ac rwy'n gwybod yn fy ardal i fy hun fy mod i wedi eistedd i lawr gyda nhw ac wedi mynd drwyddo'n llythrennol—yn llythrennol wedi mynd trwyddo—y dasg boenus fesul gollyngfa, pa un yw'r gwaethaf, pa un ydyn ni'n ei flaenoriaethu ar gyfer yr arian. A byddwn yn argymell i unrhyw Aelod o'r Senedd wneud yr union yr un peth, oherwydd mae ganddyn nhw'r mapio, mae ganddyn nhw'r data sy'n dangos pa rai yw'r gwaethaf, ac yna i weithio'n ôl trwyddyn nhw, fel ein bod yn y pen draw yn cyrraedd y pwynt hwnnw lle nad oes gennym unrhyw ollyngfeydd. Ond byddai ei wneud dros nos yn arwain at ganlyniadau anfwriadol.

Byddai hefyd yn gofyn am wariant sy'n mynd ymhell y tu hwnt i PR24. Felly, mae'r PR24 yn newid sylweddol mewn buddsoddiad. Mae'n rhaid i ni gadw'r biliau hyn yn fforddiadwy. Os oeddech chi eisiau i Dŵr Cymru neu gwmnïau eraill ledled y DU wneud hyn dros nos, gallai lefel y buddsoddiad ein harwain ni i sefyllfa pan fo etholwyr yn dod i'n drysau, gan ddweud, 'Roeddem ni'n gwybod y byddai'n ddrud, doedden ni ddim yn sylweddoli y byddai mor ddrud â hynny.' Felly, gan gymryd dull graddol priodol at hyn yn seiliedig ar risg, ond i'w wneud mor gyflym â phosibl, yn gymesur â pheidio â thorri cefnau pobl ar filiau anfforddiadwy hefyd, oherwydd yn y pen draw dim ond un grŵp o bobl sy'n talu am hyn a ni a'n hetholwyr sy'n gwneud hynny yn y biliau dŵr.

Rwy'n falch, serch hynny, i ddweud, Dirprwy Lywydd, mai un o'r pethau sy'n dod o ddifidend Dŵr Cymru, os mynnwch chi, sef bod yn fodel nid-er-difidend yw eu bod yn canolbwyntio llawer yn fwy na llawer o gwmnïau dŵr eraill ar wneud yn siŵr bod yr amddiffyniadau ychwanegol y maen nhw'n eu rhoi ar gyfer y cwsmeriaid mwyaf agored i niwed ar waith. Ac mae hynny'n rhywbeth y dylem ei ganmol ac y dylem fod yn falch ohono yma. Diolch.

17:20

Dirprwy Brif Weinidog, yn eich ymgnawdoliad blaenorol yn Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn aml, fe wnaethoch chi ddadlau'r achos dros beidio â gofyn i San Steffan lunio deddfwriaeth, ond deddfu ein hunain yma. Felly, efallai y gallech chi egluro yn y lle cyntaf pam rydych wedi methu â pherswadio'ch hun o hynny. [Chwerthin.] O leiaf, a wnewch chi hefyd, ochr yn ochr ag unrhyw gynnig cydsyniad deddfwriaethol, gyflwyno adolygiad trylwyr o fodel llywodraethu cyfan y diwydiant dŵr, sef yr hyn y mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi dweud y byddant yn ei wneud yn Lloegr, fel y gallwn ni ofyn cwestiynau am y model y mae arnom ni ei eisiau? Mae awgrymiadau yn Lloegr y byddan nhw'n cael gwared ar Ofwat. Mae'r Athro Syr Dieter Helm yn awgrymu symud i fecanwaith corff rheoleiddio dalgylch afonydd. Wel, pa fodel oes arnom ni ei eisiau yng Nghymru? Felly, a allwn ni gael yr adolygiad hwnnw?

Mae rhai pethau da yn y Bil. Felly, data amser real o orlifiadau argyfwng ynghyd â dirwyon awtomatig, ond nid yw'r ddau yn gysylltiedig ar hyn o bryd. Onid oes cyfle wedi ei golli yn y fan yna? Ac a all fynd i'r afael â'r pwynt hollbwysig a wnaed gan Janet Finch-Saunders? Os oes gennym ni ddirwyon mwy difrifol a hefyd mwy o ddirwyon yn gyffredinol, siawns na ddylai'r arian hwnnw fynd i'r Trysorlys yn Lloegr yn y pen draw, sy'n wir ar hyn o bryd. Dylid ailfuddsoddi hynny, mewn gwirionedd, yn enwedig yn nhrefn orfodi Cyfoeth Naturiol Cymru, fel y gallwn ni gael budd o unrhyw welliant mewn rheoleiddio.

Adam, diolch yn fawr iawn, ac fe wnaethoch chi fy mhryfocio'n dda ar ddechrau eich cyfraniad, y gallwn ni ddychwelyd ato ar y diwedd. Ynghylch diwygio unrhyw strwythur rheoleiddio—ac rydym ni'n sylwi, yn anad dim wrth i ni ymrwymo i dymor cynadleddau'r pleidiau, fod tipyn o drafod ynghylch hyn hefyd—byddem yn awyddus i fod yn rhan o unrhyw drafodaethau ar hynny, yn enwedig gan ei fod yn effeithio arnom ni yma yng Nghymru. Nid yw'r rheini, mae'n rhaid i mi ddweud, yn uchel ar ein hagenda yma yn y Senedd hon ar hyn o bryd, o fewn y 18 mis, gan ein bod wedi cael y datganiad gan y Prif Weinidog yn gynharach, gan ganolbwyntio ar gyflawni. Mae'n ymddangos yn ymgymeriad eithaf mawr, ond byddem yn awyddus i sicrhau bod pwyslais ein system reoleiddio, ar ddiogelu'r amgylchedd, ond hefyd amddiffyn unigolion, a sicrhau bod gennym ni Filiau fforddiadwy a bod gennym ni lefel y buddsoddiad, yn amlwg byddem yn awyddus i fod yn rhan o unrhyw asesiad o hynny ac i adlewyrchu'r gwahanol ffordd a ddewiswyd yma yng Nghymru hefyd.

Mae'r pwynt dirwyon i Loegr yn un diddorol, gan ein bod ni wedi tueddu, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, i ganolbwyntio'n fawr ar gydweithio yng Nghymru ac nid o reidrwydd i gosbi pawb, cosbi'r cwmnïau dŵr, gyda dirwyon sydd wedyn yn wir yn mynd i rywle arall. Rydym ni wedi tueddu i eistedd i lawr gyda phobl, yn null yr uwchgynhadledd afonydd, a gychwynnodd fy nghydweithiwr i'r dde i mi pan oedd yn Brif Weinidog, ac wedi gweithio'n llwyddiannus iawn gyda phobl, i ddweud, 'Sut ydym ni'n datrys y problemau?', yn hytrach na—. Mae lle i ddirwyon, gyda llaw. Oes yn sicr, a dyna pam rydym ni'n cydweithio nawr ar ffordd ymlaen i'r DU, deddfwriaeth y DU sydd ar fin cael ei chyflwyno. Ond rydym ni'n credu bod mwy i'w ennill, a dweud y gwir, os gallwn ni gael cytundeb gan bawb bod yn rhaid iddyn nhw i gyd chwarae eu rhan ac yna pawb yn codi'r statws dŵr gyda'i gilydd.

Ond ynghylch eich sylw am fy nhroedigaeth anarferol i gefnogi mewn gwirionedd bod yn rhan o gydweithredu ar ddarn o ddeddfwriaeth, mae'n rhaid eich bod wedi bod yn cyfeirio at fy efaill-rwy'n credu. [Chwerthin.] Na. Ond, i siarad o ddifri, rwy'n sylweddoli bod elfen yma o botsiwr yn troi'n gipar. Ond pan wy'n eistedd yn y sedd yma ac edrych ar Filiau sy'n tarddu o Araith y Brenin—. Ac mae problemau gyda hyn, rwy'n cytuno â chi, oherwydd ar bwynt o egwyddor, byddai arnom ni eisiau, o safbwynt Llywodraeth Cymru, rwy'n credu, dweud pryd y gallwn ni wneud y ddeddfwriaeth ac mae gennym yr amser a'r gofod a'r pwyslais a'r flaenoriaeth i'w wneud, rydym ni'n ei wneud yma yng Nghymru. Mae yna nifer o resymau da, yr ydym ni wedi eu trafod yn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ynghylch pam mae hynny'n well.

Ond rydych chi'n gwybod, weithiau, hefyd, pan gyflwynir Biliau da a fydd o fantais i ni yma yng Nghymru, ac efallai na chawn ni gyfle i wneud hyn am bedair neu bum mlynedd arall neu beth bynnag, i ddod yn ôl ato, yna rwy'n credu mai dyma'r peth iawn i'w gyflwyno i'r Senedd a dweud, "Dyma fy esboniad pam rwy'n credu bod hyn yn iawn i'w wneud yn y sefyllfa hon." Nid yw hyn bob amser yn wir, ond rwy'n credu pan fyddwn yn gwneud hynny, mae angen i ni ei roi o flaen y Senedd, am eu cefnogaeth, ar gyfer eu cytundeb, ac i'w drafod hefyd. Ond y mesurau rydw i wedi'u disgrifio heddiw, yn y Bil a gyflwynir, cyn belled â'u bod nhw'n cael eu profi ar y sail, 'Gadewch i ni sicrhau eu bod nhw'n berthnasol yn y ffordd iawn i Gymru', yna rwy'n credu bod hynny'n beth da i fod yn rhan ohono ac ymgysylltu ag ef, ac i gymryd y cyfle hwnnw, yn hytrach nag aros am gyfle efallai na fydd yn dod eto tan dymor arall yn y Senedd. Felly, rwy'n sylweddoli fy mod i'n dipyn o botsiwr wedi troi'n gipar ar hyn, ond, ie, rwy'n pledio'n euog i hynny.

17:25

Mae Afon Dyfrdwy, yn yr ardal rwy'n ei chynrychioli, mewn gwirionedd yn croesi ffin Cymru a Lloegr ac yn dangos yn union pam mae hi mor bwysig bod angen i ni gydweithio â Llywodraeth y DU i wella ansawdd dŵr. Yn ogystal â'r diwygiadau yn y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig) i wella'r sector dŵr, beth arall y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael ag achosion llygredd yn lle mae hynny'n digwydd?

Ie, yn wir. Wel, mae yna lawer o fesurau rydyn ni'n eu gweithredu: y buddsoddiad enfawr rydym ni wedi'i wneud, er enghraifft, yn nalgylch Teifi. Mae dalgylch Teifi yn enghraifft dda iawn o gymryd llu o ddulliau i fynd i'r afael nid yn unig â llygredd o orlifoedd carthffosydd cyfun, ond llygredd amaethyddol, a hefyd gwaith adfer mwyngloddiau metel hefyd. Mae gennym ni byllau glo hynod halogedig, eithaf hyfyw yng Nghymru sy'n dal i ryddhau all-lifoedd i rannau penodol o afonydd, felly rydym ni'n buddsoddi yn hynny hefyd.

Ond o ran natur drawsffiniol ymgysylltu, mae hyn yn hanfodol, gan gynnwys yn Afon Dyfrdwy. Rwy'n adnabod Afon Dyfrdwy yn dda ac rwyf wedi canŵio ar Afon Dyfrdwy—wyneb i waered mewn darnau ohoni, yn anffodus—ond ni allwn ni ond mynd i'r afael ag Afon Dyfrdwy yn iawn os ydym ni mewn gwirionedd yn ymuno â'r dulliau ar draws y dalgylch cyfan ar ddwy ochr y ffin, a chydag awdurdodau lleol, a chyda thirfeddianwyr a phartneriaid. Rwy'n falch iawn, y tu hwnt i'r ddeddfwriaeth rwyf wedi'i disgrifio heddiw, fod yr ymgysylltiad a gawsom ni gyda Gweinidogion y DU yn trafod yr union faterion hyn wedi'i drawsnewid o'r diffyg ymgysylltiad a gawsom ni yn flaenorol. Rydym ni yn llythrennol yn siarad â'n gilydd am sut y gallwn ni wneud mwy gyda'n gilydd i adnabod ffynonellau llygredd, gweithio gyda'n gilydd ar sail dalgylch, rhannu ein hymchwil, ein harbenigedd, ein timau. Mae gennym ni lawer iawn o arbenigedd yma yng Nghymru, ond felly hefyd yng nghydweithwyr DEFRA. Ar lefel swyddogol, mae rhywfaint o hynny wedi'i gyfuno dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae wedi'i gyfyngu. Nawr, mae yna deimlad mai dim ond newid sylweddol sydd ei angen arnom ni yn hyn o beth. Felly, yn Afon Dyfrdwy, yn rhai o'n hardaloedd cadwraeth arbennig fel Afon Wysg, yn rhai o'n hafonydd trawsffiniol fel Afon Hafren ac yn y blaen, mae gwir angen i ni fod yn gweithio gyda'n gilydd yn llawer mwy effeithiol.

17:30

Mi gyfeirioch chi, Ysgrifennydd Cabinet, yn eich datganiad at yr adolygiad ar reoliadau rheoli llygredd amaethyddol. A allwch chi jest gadarnhau mai ffocws canolog yr adolygiad yna bydd edrych ar y posibilrwydd o fabwysiadu technolegau newydd i geisio cyflawni'r nod y mae'r rheoliadau'n ceisio ei gyflawni? Rŷn ni wedi cyfeirio'n aml at y gwaith mae pobl fel Gelli Aur ac eraill wedi'i wneud i ddatblygu technolegau cyfoes yn y maes yna, a hefyd y defnydd posib o facteria cyfeillgar, probiotics ac yn y blaen, i fynd i'r afael â rhai o'r elfennau yma sydd â'r potensial i lygru cyn iddo fe ddod yn broblem. Byddai gwneud hyn, wrth gwrs, yn caniatáu wedyn i rai o'r rheoliadau yma symud oddi wrth rai o'r dulliau mwy cyntefig sydd gyda ni, fel ffermio yn ôl y calendr.

Does arna i ddim eisiau rhagdybio—ac rwy'n dweud hyn yn rheolaidd—y gwaith sy'n mynd ymlaen o ran edrych ar lygredd amaethyddol a'r ffordd i ymdrin â hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n iawn dweud wrth y cadeirydd annibynnol, 'Edrychwch arno, ond edrychwch ar y gwaith sydd wedi bod yn digwydd ar hyn o bryd', a chan gynnwys rhai o agweddau arloesi technolegol hefyd, rhai o'r arloesiadau diddorol iawn mewn apiau nad ydyn nhw'n seiliedig ar linellau llym mewn calendrau. Rwyf wedi bod i'w weld fy hun; es i Gelli Aur tua phythefnos yn ôl, ar ddiwrnod da, un o'r dyddiau da prin a gawsom ni, ac roeddwn allan yno yn llythrennol yn y maes gyda'r arbenigwyr hynny'n dangos i mi y ffordd y gofynnai hynny am waith monitro cymhleth iawn nid yn unig uwchben y ddaear, nid dim ond y pethau meteorolegol, ond mewn gwirionedd i lawr, yn ddwfn o dan y ddaear, beth oedd ansawdd y dŵr daear ac yn y blaen, ac mae ganddyn nhw botensial go iawn.

Ond yn hytrach na fi'n rhagdybio lle gallem gyrraedd ar hyn, rwy'n credu ei bod yn iawn bod y cadeirydd annibynnol yn edrych ar holl bosibiliadau rheoleiddio, ond hefyd, yn y gwaith rydym yn ei wneud ar y cynllun ffermio cynaliadwy hefyd, ein bod yn parhau i archwilio beth yw'r ffyrdd gorau yr ydym yn ffermio nad yw'n 'ffermio sy'n gyfeillgar i natur', ond ei fod yn ffermio sy'n gyfeillgar i natur yn ôl ei union ddyluniad—felly, pa ffordd ydym ni'n defnyddio technoleg er mwyn hyrwyddo ansawdd pridd da, diffyg dŵr ffo, yn ogystal â'r buddsoddiad rydyn ni'n ei wneud i reoli slyri hefyd. Rydym ni'n cadw meddwl agored ar hyn, yn wir, ond yr hyn sydd angen i ni ganolbwyntio arno yw sut ydym ni'n osgoi—. Mae ffermwyr yn aml yn dweud wrtha i, a byddan nhw'n ei ddweud wrthych chi hefyd, 'Rydym ni wedi blino cael ein portreadu fel dihirod y darn', felly mae angen i ni ddod o hyd i'r atebion fel nad nhw yw dihirod y darn, nhw yw'r atebion i'r heriau sydd gennym ni mewn gwirionedd, ond gan gydnabod ar yr un pryd bod yn rhaid i ni ddelio â'r mater.

Gwelwn enghreifftiau gwych o arfer da ym myd ffermio. Rydw i wedi bod allan gyda'ch cyd-Aelodau, yn eich plaid chi, ac wedi gweld rhai o'r arferion gwael iawn hefyd. Nid bai, fel arfer, unrhyw ffermwr unigol yw hyn, ond mewn gwirionedd, mae defnyddio'r holl offer sydd ar gael, gan gynnwys technoleg os yw'n briodol, yn rhoi rhai syniadau diddorol ynghylch y ffordd ymlaen. Ond mae'n rhaid i ni ddelio â'r mater; ni allwn guddio oddi wrtho, fel yr ydw i'n parhau i ddweud yn bendant. Oherwydd yn aml mewn dadleuon fel hyn mae tuedd i ganolbwyntio ar un peth neu'i gilydd—'Mae'n fai cwmnïau dŵr', neu, 'Mae'n fai adeiladwyr tai'. Mewn gwirionedd, mae pob un ohonom ni'n cyfrannu ato, gan gynnwys dinasyddion unigol Cymru, ac mae angen i bob un ohonom ni ddod o hyd i ffyrdd o ddatrys hyn gyda'n gilydd.

17:35

Rwy'n croesawu eich datganiad, Gweinidog, a gwn fod pob un ohonom yn ymwybodol o newid hinsawdd. O ran y bwrdd rheoli maethynnau, mae'n rhaid iddo ystyried y ffaith ein bod wedi cael y gaeaf, yr hydref a'r gwanwyn gwlypaf erioed y llynedd, ac mae'n debyg y bydd yr un peth eto y flwyddyn nesaf. Ac eto, nid yw'r ffordd rydym yn rheoli pethau yn caniatáu ar gyfer y sefyllfaoedd hynny wrth symud ymlaen. Nodaf eich bod yn mynd i gael adroddiad ym mis Mawrth, sy'n ymddangos yn bell i ffwrdd, o ystyried ein bod ni i fod i gael adroddiadau, ac yna nid ydym wedi eu cael, a dyma ni eto. Beth ydych chi'n ei wneud yn y cyfamser? Allwn ni ddim aros tan fis Mawrth i ddarganfod bod hyn i gyd wedi digwydd eto, a bod hynny'n ein synnu. Allwn ni ddim gael ein synnu ganddo mwyach. Beth sy'n digwydd yn y cyfamser y tu hwnt i'r hyn rydych wedi'i amlinellu a thu hwnt i'r hyn rydych eisoes wedi'i ddweud yn fanwl heddiw?

Nid wyf yn credu y gallwn aros i weithredu ar y materion hyn, ac nid ydym mewn gwirionedd. Cafodd y byrddau rheoli maethynnau—y gwnaethoch gyfeirio atynt, Joyce, yn hollol gywir—pan gawsant eu sefydlu, eu cynllunio i edrych ar lwyth ffosffadau mewn afonydd a sut y gellid mynd i'r afael â hynny, ond hefyd i greu rhywfaint o hyblygrwydd y gallem hefyd gael twf economaidd, gydag adeiladu pethau fel tai cymdeithasol. Oherwydd i ni ganfod bod y llwythi ffosffad mewn afonydd mor uchel mewn rhai ohonynt, gan gynnwys ein hafonydd ACA—ein rhai pwysicaf, ac yn cynnwys rhannau o gefn gwlad canolbarth Cymru—yn syml ni allem ganiatáu, o dan y strwythur rheoleiddio, ddatblygiadau tai, pan oedd pobl yn galw'n daer am gartrefi. Mae hynny eisoes wedi cael buddiannau.

Rydym wedi rhyddhau cannoedd ar gannoedd o ddatblygiadau posibl o gartrefi newydd a chartrefi fforddiadwy a thai cymdeithasol. Nawr, mae angen iddynt gael eu hadeiladu. Dyna'r peth, dyna'r her. Felly, nid ydym yn aros, rydym yn bwrw ymlaen â dull y byrddau rheoli maethynnau, ac rydym yn rhyddhau'r lle hwnnw i feddwl. Rydym yn gweithio arno nawr. A diolch i bawb sy'n ymwneud â'r hanner dwsin o fyrddau rheoli maethynnau ar yr afonydd allweddol hynny am y gwaith y maent wedi'i wneud eisoes. Rwy'n gobeithio mynd allan yn fuan i ymweld â nhw a thrafod gyda nhw beth arall y gallant ei wneud.

Yn yr un modd, ar uwchgynadleddau afonydd, ni fu honno'n broses segur. Mae dod â'r bobl hynny at ei gilydd eisoes wedi talu ar ei ganfed o ran yr ymrwymiadau y maent wedi'u gwneud, y camau y maent wedi'u cymryd ar yr afonydd hynny i wella'r ardaloedd hynny. Mae cynllun buddsoddi Dŵr Cymru, yr wyf yn cyfeirio ato ar hyn o bryd, wedi cael ei ysgogi gan y dull hwnnw eto—sut mae pawb yn cyfrannu at ddatrys y materion hyn. Ond byddwn i'n dweud eich bod eich her yn iawn, Joyce. Gadewch i ni fwrw ymlaen â hyn nawr, gadewch i ni beidio ag aros am PR24, gadewch i ni beidio ag aros am, yn syml, ddiwedd trafodaethau cadeirydd y rheoliadau llygredd amaethyddol—gadewch i ni fwrw ymlaen â hyn nawr, ond yna gadewch i ni hefyd gael yr uchelgais sy'n dweud bod angen i ni fynd ymhellach ac yn gyflymach.

Dywedodd y Prif Weinidog yn glir yn gynharach yn ei datganiad ar flaenoriaethau—lle cafodd natur a hinsawdd eu cynnwys yn glir iawn—fod y cyfan nawr yn ymwneud â chyflawni. Rhan o'r hyn a wnawn yn y mecanweithiau hyn rydym wedi'u creu, yn briodol, sy'n dod â phawb at ei gilydd ac yn eu herio yw faint mwy y gallwn ei wneud nawr yn y 12 mis sydd i ddod, y 18 mis sydd i ddod, ond mewn gwirionedd y tu hwnt i'r etholiad hefyd. Oherwydd mae'r dasg o glirio ein hafonydd yn enfawr, ond mae'n rhaid i mi ddweud bod yr hyn a wnaethom yn flaenorol ar bethau fel ansawdd dŵr ymdrochi yn dangos yr hyn y gallwn ei wneud os oes gennym yr ewyllys i'w wneud. Gyda'n gilydd, rydym yn barod i wneud hynny. Diolch, Joyce.

14. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd

Eitem 14 heddiw yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar brydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle.

Diolch, Llywydd. Gall Cymru fod yn falch o'i record yn y DU fel cenedl lle mae pethau'n digwydd am y tro cyntaf. Ni oedd y cyntaf i gyflwyno presgripsiynau am ddim, y cyntaf i ymgorffori hawliau plant yn ein cyfraith ddomestig, y cyntaf i ddeddfu i ddiogelu a sicrhau llesiant cenedlaethau'r dyfodol. A nawr, rwy'n falch o gadarnhau mai Cymru yw'r genedl gyntaf yn y DU i gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd. Mae'r ymyrraeth drawsnewidiol hon, sy'n cynrychioli cam pwysig tuag at fynd i'r afael â thlodi a newyn plant, eisoes yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn ysgolion a chymunedau ledled Cymru. Rwyf wedi gweld y gwahaniaeth hwn yn uniongyrchol: teuluoedd â mwy o arian yn eu pocedi, plant yn cymdeithasu ac yn bwyta gyda'i gilydd, heb ddim o'r stigma yr oedd rhai yn arfer ei deimlo am gael cynnig cinio am ddim, a dim o'r pryder ynghylch a allant fforddio pryd bwyd y diwrnod hwnnw.

Mae plant a rhieni yn cael eu hannog i roi cynnig ar fwydydd newydd fel rhan o fwydlenni wedi'u hailgynllunio a mwy o hyrwyddo pwysigrwydd bwyta'n iach. Mae'r rhain yn effeithiau tymor hwy ar genedlaethau'r dyfodol, sy'n allweddol i leihau anghydraddoldebau a sicrhau'r canlyniadau iechyd gorau posibl. Nid yw'n ymwneud â'r bwyd ar y plât yn unig. Mae amrywiaeth eang o brosiectau a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n gwneud y defnydd gorau o gynnyrch Cymreig a chynnyrch sydd wedi'i dyfu'n lleol wedi creu argraff arnaf hefyd. Gydag amser, bydd y gwersi a ddysgwyd o'r dulliau hyn yn cysylltu dysgwyr â'r bwyd y maent yn ei fwyta, yn effeithio ar gadwyni cyflenwi lleol, ac yn cefnogi economi Cymru. Mae hyn yn adeiladu ar y momentwm a gyflawnwyd hyd yma, lle rydym wedi gweld dulliau caffael cyhoeddus cydweithredol a chyflwyno prydau am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yn dyblu gwariant awdurdodau lleol ar fwyd o Gymru, a mwy, ers 2021. 

Dirprwy Lywydd, rwy'n falch o gadarnhau bod yr ymrwymiad hwn wedi'i gyflawni yn gynt na'r disgwyl. Ar ddechrau'r tymor, mae 176,000 o ddysgwyr newydd yn gymwys i gael pryd bwyd, ac mae bron i 30 miliwn o brydau ychwanegol wedi cael eu gweini ers y lansiad—ffigurau gwirioneddol ryfeddol. Ochr yn ochr â'n cynllun llaeth ysgol am ddim ac â chymhorthdal, a'n hymrwymiad i barhau i roi brecwast am ddim i ddisgyblion cynradd, Cymru sydd â'r arlwy bwyd ysgol mwyaf hael o blith holl wledydd y DU. Mae hyn yn rhywbeth y gall bob un ohonom fod yn haeddiannol falch ohono.

Ond nid yw wedi bod yn syml. Nid yw newid o'r maint hwn byth yn syml. Mae'r datganiad heddiw yn dilyn mwy na dwy flynedd o gydweithio ac ymdrech ar y cyd ar draws y system addysg, a thu hwnt, yn yr hyn y gellir ond ei ddisgrifio fel dull 'tîm Cymru'. Er mwyn gwneud i hyn ddigwydd, roedd yn rhaid i ni roi'r blociau adeiladu yn eu lle drwy wneud gwaith uwchraddio hanfodol i geginau a seilwaith bwyta ysgolion, gan fuddsoddi mwy na £60 miliwn o gyllid cyfalaf. Digon yw dweud na fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb ymdrechion penderfynol ein partneriaid awdurdod lleol, eu darparwyr gwasanaeth dan gontract, timau arlwyo, ac ysgolion. Mae pob un ohonynt wedi gweithio'n ddiflino i wireddu'r ymyrraeth drawsnewidiol hon. Hoffwn gofnodi fy niolch am eu cefnogaeth. Diolch. Hoffwn ddiolch hefyd i Siân Gwenllian, sydd, fel Aelod dynodedig Plaid Cymru dros y cytundeb cydweithio, wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a Gweinidogion Cymru er mwyn helpu i sicrhau llwyddiant y polisi hwn.

Gyda'r ymrwymiad wedi'i gyflwyno'n llawn erbyn hyn, mae ein ffocws yn troi fwyfwy at sut rydym yn ymgorffori'r gwersi o'r broses weithredu a gwella'r ddarpariaeth ymhellach. Nid ydym am fod y cyntaf yn unig; rydym am fod y gorau hefyd. Gwnaethom dargedu darpariaeth i bawb mewn ysgolion cynradd oherwydd ein dealltwriaeth bod tlodi plant yn uwch ymhlith teuluoedd â phlant iau. Felly, fel blaenoriaeth gychwynnol, rwyf am ddeall y rhwystrau a all fod yn atal rhai dysgwyr rhag peidio â bwyta pryd ysgol. Mae'r nifer sy'n manteisio ar y cynnig oddeutu 75 y cant yn genedlaethol unwaith y caiff lefelau presenoldeb eu hystyried, ond mae rhannau o Gymru lle mae'r nifer sy'n manteisio ar y cynnig yn amrywio, ac nid yw'r rhesymau pam yn amlwg ar unwaith. Rwyf wedi ymrwymo i gyhoeddi'r data hwn fel y gellir cynnal sgyrsiau yn lleol, gan archwilio beth allai fod yn ysgogi'r gwahaniaethau hyn.

Yn ail, bydd y cynnig hwn yn cael ei werthuso, a bydd argymhellion sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn cael eu defnyddio i ysgogi gwelliant. Mae contractwr wedi'i benodi a bydd gwaith maes yn dechrau yn nhymor yr hydref. Bydd lleisiau plant a phartneriaid yn flaenllaw ac yn ganolog wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo, gan ddarparu mewnwelediadau i wella'r ddarpariaeth ac archwilio effeithiau sy'n dod i'r amlwg. Yn drydydd, byddwn yn parhau i archwilio sut y gall dulliau caffael cyhoeddus gynyddu ymhellach faint o fwyd sy'n cael ei gynhyrchu a'i ddosbarthu'n lleol. Drwy'r ymdrechion hyn, ein nod yw sicrhau bod budd i economïau lleol a chysylltu dysgwyr yn well â gwreiddiau'r bwyd y maent yn ei fwyta. Mae'r cynnydd yn y galw yn darparu cyfleoedd enfawr i weithio gyda phartneriaid i gynyddu'r cyflenwad o fwyd Cymreig ar blât yr ysgol. Felly, byddwn yn dysgu o weithgaredd y prosiect sydd ar y gweill ac yn ymgorffori ffyrdd newydd o weithio.

Yn olaf, fel y nodais yn gynharach, rydym eisiau'r cynnig bwyd ysgol gorau yn y DU. Er mwyn cyflawni hynny, mae'n rhaid i ni roi'r dechrau iachaf y gallwn ei gynnig i'r genhedlaeth bresennol o ddysgwyr a dysgwyr yn y dyfodol. Mae pob un ohonom yn rhannu pryderon am anghydraddoldebau iechyd a brofir gan blant a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar iechyd a llesiant, nawr ac yn y dyfodol. Mae deiet gwael yn ffactor sy'n cyfrannu at hyn. Gall bwyd ysgol gyfrif am draean neu fwy o gymeriant plentyn yn ystod yr wythnos, a gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at sicrhau deiet cytbwys iach ac arferion bwyta da. Felly, byddwn yn adolygu'r rheoliadau a'r canllawiau bwyta'n iach mewn ysgolion, gan fyfyrio ar yr argymhellion a'r cyngor gwyddonol diweddaraf sydd ar gael ar faeth a maint dognau. Mae'r gwaith hwn eisoes ar y gweill. Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei ddatblygu ar gyfer gwanwyn 2025 a bydd y rheoliadau diwygiedig yn cael eu gwneud a'u gosod gerbron y Senedd ym mis Ionawr 2026, gan ddod i rym yn fuan wedyn. Fel yn achos cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd, bydd hon yn ymdrech gydweithredol, ac edrychaf ymlaen at wrando ar Aelodau'r Senedd a'r cyhoedd yng Nghymru fel rhan o ddull parhaus tîm Cymru. Diolch. 

17:45

A gaf fi ddiolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad heddiw? Ac rwy'n cytuno â rhai o'r pwyntiau a wnaethoch, yn enwedig pan wnaethoch sôn am yr effaith y gall deiet gwael ei chael, nid yn unig ar les person ifanc, ond ar ei ddysgu a'i allu i ddysgu ac ymgysylltu yn yr ystafell ddosbarth hefyd, a dyna pam y cefais fy siomi o weld rhai o'r argymhellion a welsom ym mis Ebrill gan y comisiynydd plant, yr arolwg a wnaeth gyda phobl ifanc yn edrych ar effaith y prydau ysgol yr oeddent yn eu cael ac yn ceisio barn pobl ifanc am y prydau ysgol yr oeddent yn eu cael. Gwnaethoch sôn, wrth symud ymlaen, y byddai lleisiau plant a phobl iau yn rhan annatod o'r ffordd y bydd y polisi hwn yn datblygu yn y dyfodol, ac rwy'n gobeithio y bydd gwaith y comisiynydd plant yn rhan enfawr o hynny, oherwydd yr hyn a ddysgon ni gan y comisiynydd plant yw bod cynifer ag 80 y cant o bobl ifanc yn dweud eu bod yn dal i fod eisiau bwyd ar ôl pryd ysgol, ac fel y nodwyd gennych yn gywir, i lawer o bobl ifanc, dyma fydd eu prif bryd bwyd. Efallai mai dyma'r unig bryd y byddant yn ei gael mewn diwrnod, ac felly mae'n peri pryder, rwy'n credu, i mi, fod cynifer o bobl ifanc yn gadael amser cinio yn yr ysgol, gyda phryd o fwyd a ddarperir gan yr ysgol, yn llwglyd ar y diwedd. Gwelsom hefyd yn yr arolwg hwnnw fod 44 y cant yn dweud, hyd yn oed os oeddent yn dal i fod eisiau bwyd, nad oeddent yn gallu cael rhagor, hyd yn oed os oeddent yn gofyn amdano. Felly, sut allwn ni wneud y system ychydig yn fwy hyblyg, nid yn unig o ran y bwyd sydd ar gael, ond gwrando ar ddysgwyr, o ddydd i ddydd efallai, heb sôn am y math o ganllawiau cyffredinol y deuwn atynt? Ond ar y pwynt hwnnw ynglŷn â maint dognau, oherwydd rwy'n credu bod hyn wrth wraidd hyn i gyd, ac fe wnaethoch ei grybwyll ar ddiwedd eich datganiad yn y fan yna, Ysgrifennydd Cabinet—.

Nawr, ar hyn o bryd, mae'n ymddangos bod gwahaniaeth clir, yn amlwg yn y canllawiau rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd, ond nid o reidrwydd o fewn yr ysgolion cynradd ac uwchradd hynny, ac, yn amlwg, bydd gan ddysgwr sy'n dechrau ei addysg gynradd anghenion gwahanol iawn i rywun ym mlwyddyn 6, er enghraifft, ond nid yw hynny'n cael ei adlewyrchu yn y canllawiau ar hyn o bryd. Gwnaethoch sôn y bydd hynny'n cael ei ystyried, ond roeddwn yn poeni braidd o weld na fyddai hynny'n cael ei ystyried, na'i osod gerbron y Senedd, ddylwn i ddweud, tan 2026, sy'n gyfnod eithriadol o hir i bobl ifanc mewn ysgolion fod yn llwglyd. Felly, pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd yn y dyfodol agos i ystyried hynny'n fanylach? Oherwydd, fel y dywedais, os mai dyna eu hunig bryd o fwyd, allwn ni ddim fod yn fodlon i'r sefyllfa honno barhau.

Mae nifer o rieni hefyd wedi sôn wrthyf am ansawdd rhai o'r prydau bwyd a geir ledled Cymru. Nawr, yn amlwg, mewn rhai achosion, mae'n mynd i fod yn oddrychol, felly mae'n eithaf anodd cyfleu'r darlun hwn yn gywir, ond rwy'n credu y byddwch yn ymwybodol, fwy na thebyg, Ysgrifennydd Cabinet, fel yr wyf innau, fod rhieni ac eraill yn sôn am ansawdd rhai o'r prydau a gânt. Nid y staff addysgu sydd ar fai am hynny, ond weithiau gall fod yn rhywbeth a all fod yn wahanol o ddydd i ddydd. Felly, sut allwn sicrhau bod gennym brydau bwyd o ansawdd cyson yn ogystal â'r meintiau dognau rydym wedi'u crybwyll?

Nawr, fe ddysgon ni hefyd—. Mae rhai o'r honiadau, dylwn i ddweud, sydd wedi eu gwneud am gyffredinolrwydd, os mynnwch, y polisi prydau ysgol am ddim, yn ymwneud â phresenoldeb, ac yn amlwg rwy'n poeni na fyddwch yn gallu cael y pryd ysgol hwnnw yn y lle cyntaf os nad ydych yn dod i'r ysgol. Felly, heb grwydro'n rhy bell oddi ar y pwnc, fe welwch chi pam mae presenoldeb yn bwysig mewn gwirionedd, nid yn unig i yrfa academaidd plentyn, ond hefyd ei allu i fwyta'n gyfan gwbl. Felly, sut allwn ni gynyddu presenoldeb, fel rwy'n ei ddweud, nid yn unig at ddibenion academaidd, ond am y rhesymau hyn hefyd? Pa wersi rydych wedi'u dysgu hyd yma o ran a yw'r polisi hwn yn hybu presenoldeb yn ein hysgolion mewn gwirionedd, oherwydd mae rhywfaint o'r ymchwil academaidd yn ei gylch yn gymysg? Rwyf wedi gweld rhai academyddion yn dadlau ei fod yn cael yr effaith gadarnhaol honno ar bresenoldeb, mae eraill yn dadlau mai ychydig iawn o effaith mae'n ei chael. Tybed pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith cyflwyno prydau ysgol am ddim hyd yma.

Ac yna, yn olaf, roeddwn i eisiau gwneud pwynt ynglŷn â'r nifer sy'n manteisio ar y cynnig, y gwnaethoch sôn yn eich datganiad ei fod tua 75 y cant. Mae hynny'n galonogol ond nid yw, fwy na thebyg, lle y dylai fod, a dweud y gwir. Felly, gwnaethom ystyried pam, rhai o'r rhesymau, ac efallai fy mod eisoes wedi trafod rhai o'r rhesymau ynghylch ansawdd, ynghylch maint dognau, ond roedd gen i ddiddordeb mawr yn yr anghyfartaledd daearyddol hwnnw y gwnaethoch sôn amdano hefyd, sydd fwy na thebyg yn dweud wrthych fod rhyw fath o stori gudd, rhywle ar hyd y ffordd. Rydych wedi ymrwymo i gyhoeddi'r data. A gaf i ddeall yr amserlenni disgwyliedig ar gyfer cyhoeddi'r data, ond hefyd a fydd rhyw fath o ymgyrch farchnata neu ryw fath o ymgyrch gyda phobl ifanc, rhieni fel y gallant ddeall y polisi, deall eu hawl a deall gwerth pryd o fwyd da yn yr ysgol? Diolch.

17:50

Diolch yn fawr iawn, Tom, am yr ymateb adeiladol hwnnw a'r gyfres o gwestiynau, ac rydych yn llygad eich lle i dynnu sylw at bwysigrwydd hyn, nid yn unig i gyrhaeddiad a dysgu plant, ond i'w hiechyd. Yn wir, mae'n un peth llai i rieni boeni amdano, onid yw, os yw arian yn broblem? Does dim rhaid iddynt boeni am ddod o hyd i'r arian hwnnw iddynt fynd i'r ysgol yn y bore.

Rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod lleisiau plant wrth wraidd unrhyw adolygiad a wnawn o'r gwaith hwn, ac rwyf hefyd yn awyddus iawn i gynnwys y comisiynydd plant hefyd. Yn amlwg, rwy'n ymwybodol iawn o'r gwaith a wnaeth a'r canfyddiadau a wnaeth ar feintiau dognau, ac nid wyf am i unrhyw blentyn fod yn llwglyd yn yr ysgol. Er ein bod yn mynd i fod yn adolygu meintiau dognau, hoffwn roi sicrwydd i'r Senedd bod y canllawiau presennol, ar hyn o bryd, yn caniatáu i ddognau ychwanegol o bethau fel ffrwythau a llysiau gael eu gweini y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir, a hefyd yn argymell y gellir cynnig bara ychwanegol ac ati i ddisgyblion er mwyn helpu i fodloni'r awydd am fwy o fwyd. Rydym hefyd wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol i'w hatgoffa bod ganddynt y disgresiwn i roi bwyd i blant. Nid ydym am i unrhyw un fynd heb fwyd oherwydd nad ydynt yn gallu ei fforddio.

O ran ansawdd prydau bwyd, mae'r prydau bwyd yn ddarostyngedig i'n rheoliadau bwyta'n iach ar hyn o bryd, ac maent wedi bod mewn grym ers 2013. Mae'n rhaid i ysgolion gydymffurfio â'r rheini, ond gwyddom fod llawer o ysgolion eisoes yn mynd y tu hwnt i'r gofynion hyn fel y'u nodir. Mae gan awdurdodau lleol rôl i'w chwarae wrth sicrhau bod ysgolion yn cydymffurfio â'r rheini, ond bydd rhan o'r gwaith rydym yn ei wneud ar adolygu'r rheoliadau yn cynnwys edrych ar y rôl y mae Estyn yn ei chwarae yn ei harolygiadau wrth sicrhau bod bwyd iach ar gael.

Rwy'n deall eich pryderon am yr amserlenni, ac mae hynny, yn wir, yn rhywbeth yr wyf wedi holi amdano fy hun fel Ysgrifennydd Cabinet. Rydym am i hyn gael ei wneud cyn gynted â phosibl, ond rydym hefyd am iddo gael ei wneud yn iawn. Rydym wedi blaenoriaethu gweithredu'r hyn a oedd yn ofyn mawr iawn wrth gyflwyno prydau bwyd ysgol am ddim i bob plentyn ysgol cynradd, ac mae awdurdodau lleol wedi ymgysylltu'n llawn ag ysgolion a phartneriaid eraill wrth gyflawni hynny, felly roedd hynny'n flaenoriaeth i ni, a nawr rydym wedi symud ymlaen i adolygu'r rheoliadau bwyta'n iach. Ond mae'n bwysig ein bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n ystyried—. Nid ydym eisiau unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn sgil newid y rheoliadau'n rhy gyflym, a gwn fod awdurdodau lleol yn eithaf pryderus am hynny. Felly, bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei ddatblygu ym mis Ebrill 2025 ac yna bydd y rheoliadau diwygiedig yn cael eu gosod gerbron y Senedd ym mis Ionawr 2026. Ond rydym eisoes wedi sefydlu tri grŵp gorchwyl a gorffen amlasiantaeth i ddeall y dirwedd bresennol a chasglu tystiolaeth. Rwyf hefyd wedi cytuno i gais gan awdurdodau lleol, mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, am gyfnod o brofion cyn ymgynghori, oherwydd nid ydym am fod mewn sefyllfa lle y bydd y newidiadau a wnawn o ganlyniad i hyn yn rhwystro plant rhag manteisio ar brydau ysgol am ddim.

Rydych yn gywir yn yr hyn rydych wedi'i ddweud am y nifer sy'n manteisio ar y cynnig. Yn wreiddiol, roeddem wedi anelu at gael tua 86 y cant; yn amlwg, nid ydym yno eto, ond mae gennym eisoes ymgyrch ragweithiol iawn o'r enw 'Hawliwch help gyda chostau ysgol', yr ydym yn ei defnyddio i hyrwyddo argaeledd prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd, a bydd y gwaith hwnnw'n parhau. Ac o ran cyhoeddi'r data, ar hyn o bryd, y data yw'r hyn y byddem wedi'i gasglu ar sail rheoli, felly nid yw wedi bod yn destun y math o brosesau trylwyr y byddai data y byddem fel arfer yn ei gyhoeddi wedi bod drwyddynt, ond rydym wedi sefydlu gweithgor nawr gyda llywodraeth leol i edrych ar y materion sy'n ymwneud â'r nifer sy'n manteisio ar y cynnig, ond hefyd i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i sicrhau bod gennym y data o ansawdd uchel sydd ei angen arnom. Mae'n gymhleth a phan wyf wedi ymweld ag ysgolion rwyf wedi gofyn amdano, ond bydd rhai plant yn cael pryd ysgol am ddim bob yn ail ddiwrnod; byddant yn ei gael os oes rhywbeth y maent yn ei ffansio ar y fwydlen. Mae gan rai ysgolion systemau arlwyo nad ydynt yn derbyn arian parod—nid yw hyn yn wir ar gyfer pob ysgol. Felly, mae'n ddarn eithaf mawr o waith, ond rydym wedi ymrwymo i gael yr wybodaeth honno a'i chyhoeddi, a hefyd i weithio gydag awdurdodau lleol drwy'r gweithgor newydd hwnnw er mwyn sicrhau ein bod yn cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar y cynnig ledled Cymru.

17:55

Diolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am y datganiad. Does dim amheuaeth bod prydau ysgol am ddim ymhob un o'n hysgolion cynradd ni yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau miloedd o blant ac yn helpu teuluoedd ledled Cymru ar adeg pan fo'r argyfwng costau byw yn gwasgu'n galed ac yn cael effaith gwirioneddol.

Nawr, dwi'n croesawu'r datganiad gennych chi, Ysgrifennydd Cabinet, ac yn falch o'ch clywed chi'n canmol y polisi sydd yn cyferbynnu yn llwyr iawn, wrth gwrs, gyda'ch safbwynt blaenorol chi fel y Blaid Lafur ac fel Llywodraeth yn y lle hwn. Allwn ni ddim anghofio'r ffaith, ar ddiwedd tymor y pumed Senedd a dechrau'r chweched Senedd hon, fe bleidleisiodd Aelodau'r grŵp Llafur a'r Llywodraeth yn erbyn galwadau Plaid Cymru am brydau ysgol am ddim i bawb. Mae'n amlwg eich bod chi â chof byr iawn, achos fe welon ni luniau yr wythnos cyn diwethaf ohonoch chi yn gwenu'n braf gyda phlant ysgol, yn canmol y polisi ac yn ei groesawu, ond gallwch chi ddeall y siom yr oeddwn i'n ei deimlo nad oedd unrhyw gydnabyddiaeth o gwbl yn y datganiadau yna o rôl Plaid Cymru, drwy'r cytundeb cydweithio, a oedd wedi sicrhau bod y polisi yma yn dod yn realiti. Ond o leiaf yn y datganiad rŷch chi'n cydnabod hynny, a dwi'n croesawu hynny, ac fe wnaeth y Prif Weinidog yn gynharach gydnabod rôl Plaid Cymru hefyd o safbwynt sicrhau bod y polisi yma yn weithredol, bellach, yn ein hysgolion cynradd ni.

Felly, oherwydd dylanwad Plaid Cymru, rydym wedi gallu sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd heb fwyd, a gwnaed hyn drwy'r cytundeb cydweithio, fel yr wyf wedi egluro eisoes. Felly, diolch i hynny, mae mwy na 175,000 yn fwy o ddisgyblion ledled Cymru nawr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac mae bron i 30 miliwn o brydau bwyd eisoes wedi'u darparu, sy'n eithaf rhyfeddol. Felly, mae'r cynllun hwn yn cyfrannu'n uniongyrchol at leihau tlodi a diffyg maeth, ac yn sicrhau bod pob plentyn ysgol gynradd yn cael ei drin yn gyfartal, sy'n bwysig iawn, ac yn dileu unrhyw stigma a oedd yn gysylltiedig â chael prydau ysgol am ddim yn flaenorol. Felly, ar gyfer y cofnod, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n bwysig y gwnewch chi gydnabod na fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl mewn unrhyw ffordd heb i Blaid Cymru wthio'r Llywodraeth i weithredu yn y maes hwn.

Rhaid canmol hefyd y ffordd mae'r cynllun yma yn helpu i leihau tlodi a diffyg maeth. Ond rhaid sicrhau bod y cynllun yn cael ei weithredu yn y ffordd fwyaf posibl. Rŷm ni wedi clywed yn barod mai tua 75 y cant sydd eisoes yn derbyn y cynnig, ac roeddwn yn falch i glywed bod yna gynlluniau gyda chi i sicrhau bod yna gysondeb ar draws awdurdodau lleol, a chynlluniau i wella’r ffigur hwnnw.

Felly, beth sy’n bwysig yn awr, wrth edrych ymlaen, yw mai'r cam nesaf amlwg yw i’r Llywodraeth ystyried ehangu’r prydau ysgol yma i’r sector uwchradd, ar gyfer y rhai sy’n dod o aelwydydd sy’n derbyn y credyd cynhwysol. Dyna’n galwad ni fel Plaid Cymru yma'n y Senedd. Dylem anelu at weithredu mwy uchelgeisiol byth i sicrhau bod dyfodol ein pob ifanc ni, a dyfodol ein cenedl, yn cael y sylw y mae’n ei haeddu, a bod ein pobl ifanc yn cael eu gwaredu rhag tlodi.

Gallai ehangu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol uwchradd o dan yr amodau dwi wedi’u nodi sicrhau na fydd miloedd o blant o aelwydydd incwm isel yn mynd heb bryd o fwyd, a fydd, i bob pwrpas, yn lliniaru effeithiau tlodi plant ar gyrhaeddiad mewn ysgolion.

I gloi, felly, a fydd Llywodraeth Lafur Cymru yn barod i gydnabod mai hwn yw’r cam amlwg nesaf i’w gymryd, a’ch bod chi’n barod i godi’r ffôn i’ch cyfeillion yn Llywodraeth Lafur y Deyrnas Gyfunol, yn mynnu cyllid teg o San Steffan a fyddai’n helpu i wneud hyn i gyd yn bosibl?

18:00

Diolch yn fawr iawn, Cefin, am eich sylwadau. Fel chithau, rwy'n cydnabod gwerth y fenter hon o ran mynd i'r afael â thlodi a helpu gyda'r argyfwng costau byw. Roeddwn yn glir iawn yn fy natganiad wrth gydnabod y rôl y chwaraeodd ein partneriaeth â Phlaid Cymru o ran sicrhau ein bod yn gallu cyflawni hynny, fel yr oedd y Prif Weinidog heddiw. Ni ofynnwyd i mi mewn unrhyw gyfweliadau yn y cyfryngau am Blaid Cymru, ond, petai rhywun wedi gofyn, byddwn wedi bod yn hapus iawn i gadarnhau hynny hefyd yn y cyfweliadau. Roedd cyfle i ni ddod at ein gilydd fel dwy blaid a oedd yn poeni am y mater hwn a chydweithio i gyflawni hyn, ac rwyf wedi bod yn ddiolchgar iawn am hynny, a dyna pam y gwnes i gofnodi fy niolch i Siân yn ystod fy natganiad.

O ran ehangu'r cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim i ysgolion uwchradd, rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod ein bod ni, fis yma, wedi cyrraedd y garreg filltir lle mae pob un awdurdod lleol yn darparu'r cynnig i ysgolion cynradd, sydd wedi bod yn ymrwymiad mawr. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, fel y dywedais, ein bod yn cael hynny'n iawn, ein bod yn sicrhau bod hynny ar waith yn gyson ym mhobman, ein bod yn sicrhau bod plant mewn ysgolion cynradd yn cael mynediad at gynnig iach.

Nawr, o ran ein hymrwymiad fel Llywodraeth, rydym yn defnyddio pob ysgogiad sydd gennym i gefnogi teuluoedd sydd angen y gefnogaeth honno. Yn ein rhaglen lywodraethu, roedd ymrwymiad i adolygu'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim ac ymestyn yr hawl i'r graddau yr oedd adnoddau yn caniatáu, ac o leiaf i bob dysgwr oed ysgol gynradd. Fel y dywedais, rydym wedi canolbwyntio ar ddarparu'r cynnig ysgol gynradd hwnnw. Mae'r gost o ymestyn hyn i ddisgyblion ysgolion uwchradd ar hyn o bryd yn anfforddiadwy mewn gwirionedd. Mae amcangyfrifon cychwynnol yn dangos cost flynyddol o £28 miliwn o leiaf, ac mae hynny cyn costau cyfalaf a gweinyddu, ac nid yw ychwaith yn rhoi cyfrif am gostau ehangu i sefydliadau addysg bellach. Felly, byddai costau gwirioneddol ehangu yn sylweddol uwch. Rydym yn cydnabod bod hwn yn gyfnod heriol iawn i deuluoedd, ac rydym wedi ymrwymo i adolygu'r meini prawf cymhwysedd hynny yn y tymor hwy. Rydym hefyd yn monitro effaith bosibl cynnydd yn y cyflog byw cenedlaethol ar nifer y dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim drwy feini prawf sy'n gysylltiedig â budd-daliadau. Felly, ar hyn o bryd, byddwch yn gwybod yn iawn, oherwydd roeddech yn rhan o rai o'r trafodaethau a gawsom am y gyllideb ar gyfer eleni, pa mor anodd y mae'r gyllideb hon wedi bod i Lywodraeth Cymru. Mae'r posibilrwydd o'u hymestyn, ar hyn o bryd, yn anfforddiadwy, ond rydym yn parhau i adolygu hynny. Ond rydym hefyd am sicrhau ein bod yn gweithredu'r cynnig cynradd mewn ffordd gyson hefyd.

18:05

Mae hyn yn rhywbeth i'w ddathlu, yr hyn rydym wedi'i gyflawni yma yng Nghymru, felly hoffwn longyfarch Llywodraeth Cymru. Rwy'n cofio ymweld ag ysgol ychydig flynyddoedd yn ôl a dangosodd y pennaeth focs cinio i mi, ac ynddo roedd dwy fisgïen, ac wn i ddim ai dicräwch ynteu fforddiadwyedd oedd y rheswm am hynny. Rwy'n cofio, pan oeddwn yn yr ysgol, roedd cynorthwyydd cinio gwydn a oedd yn fy annog i fwyta popeth ar y plât, ac roedd yn rhaid i ni, mewn gwirionedd. Ond mae'n broblem ymhlith plant—dicräwch. Roeddwn i yn y cynllun Ffitrwydd, Bwyd a Darllen yn sir y Fflint yn ystod yr haf, sy'n wych, ac roedd y plant yn dewis y brechdanau ond yn gadael y ffrwyth ar ôl. Rwy'n cofio fy mhlant innau'n dicra, felly roedd gen i siart sêr, ac os oeddent yn bwyta rhywbeth nad oeddent yn ei hoffi, yr oedd eu brawd neu chwaer yn ei hoffi, roeddent yn cael seren, ac yn y pen draw fe gawson nhw gyfle i flasu gwahanol fwydydd, dod yn gyfarwydd â nhw a'u hoffi. Ac wedyn, pan wnaethom siarad yn gynharach am y nifer sy'n manteisio ar hyn, gwnaeth hynny i mi feddwl am hyn i gyd. Felly, hoffwn i wybod, a oes rhaglen o anogaeth ysgafn i blant roi cynnig ar fwydydd gwahanol, i'w haddysgu am fwyta'n iach ar yr un pryd, i weld a allwn ni eu hannog i roi cynnig ar fwydydd gwahanol ar lefel ysgol gynradd, fel eu bod yn dod yn gyfarwydd â nhw? Diolch.

Diolch, Carolyn, a diolch am y sylwadau hynny. Fel y dywedwch, gall rhai plant fod yn fwytawyr dicra yn naturiol, ac rydym am iddynt roi cynnig ar wahanol lysiau. Roeddwn i'n siomedig iawn, pan oeddwn i yn Ysgol Cynwyd Sant, nad oedd yr un o'r plant yn mynd â'r llysiau yr oeddwn yn eu cynnig iddynt, er i mi gael un ferch fach a gytunodd i gael bresych, a dywedais i, 'Hwrê, mae hyn yn wych.' Hyd y gwelaf i, mae ysgolion yn gwneud hynny yn barod; maent yn ceisio annog y plant i fwyta'n iach. Yn sicr, dyna welais i yn Ysgol Cynwyd Sant—ysgol gynradd yn y Barri yr ymwelais â hi yn ddiweddar—lle roedd y cogydd wedi bod yn gwneud rhai pethau gwirioneddol arloesol i gael y plant i roi cynnig ar ddewisiadau iach, ond mae hefyd yn rhywbeth y gallwn ei godi yn ein hadolygiad o'r rheoliadau bwyta'n iach mewn ysgolion hefyd.

A dim ond i ddweud, mae hwn yn beth trawsbortffolio hefyd. Mae fy nghyd-Aelod, Sarah Murphy, yn gyfrifol am yr agenda gordewdra yng Nghymru, a phan oeddwn i'n ymgymryd â'r rôl honno, roeddem yn arfer ariannu, bob blwyddyn, rywbeth o'r enw Bwytewch y Llysiau i'w Llethu, sy'n cymryd llysiau—. Felly, maent yn mynd i mewn i ysgolion ac maent yn gwneud gwersi ynghylch llysiau, oherwydd nid yw rhai plant yn cael llysiau gartref, ac mae yna system wobrwyo ac, yn ôl y sôn, mae rhai plant yn frwd iawn dros lysiau ar ôl gwneud hynny. Felly, rwy'n credu ei fod hefyd yn ymwneud â mabwysiadu dull iechyd y cyhoedd o ymdrin â'r pethau hyn hefyd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cyffredinoliaeth yw conglfaen y polisi prydau ysgol am ddim, a ddatblygwyd oherwydd y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, oherwydd mae'n sicrhau nad oes neb yn syrthio rhwng y bylchau. Does dim dibyn o ran cymhwysedd, nid yw'r stigma yn atal y rhai sydd â hawl i gael cymorth rhag cael y cymorth hwnnw, ond mae gennym blant llwglyd yn ein hysgolion o hyd nad ydynt yn cael y cymorth hwnnw. Un o'r prif ffactorau yn y bwlch cyrhaeddiad addysg yw tlodi, wrth gwrs, ac, yn ôl ymchwil ddiweddar gan Sefydliad Bevan, mae polisi Llywodraeth Cymru yn cyfyngu ar hawl oddeutu 1,500 o blant mewn ysgolion uwchradd i gael pryd o fwyd hanfodol. Ac, yn aml, mae'n rhwystro mynediad hefyd i'r grant hanfodion ysgol, oherwydd bod cymhwysedd yn seiliedig ar statws mewnfudo rhieni, ac mae hyn yn cael effaith anghymesur ar blant o leiafrifoedd ethnig a du ac yn arwain at wahaniaethu. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, os ydych chi wir eisiau gweld y bwlch cyrhaeddiad hwnnw'n cau a dod â'r gwahaniaethu hwn i ben, a sicrhau nad yw rhai o'n plant tlotaf yn llwgu, a wnewch chi newid hyn o fod yn gymorth dewisol, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd o ran darparu prydau ysgol am ddim i blant o deuluoedd sydd heb hawl i arian cyhoeddus, i hawl glir, fel sy'n digwydd yn Lloegr?

18:10

Diolch, Sioned, ac, yn amlwg, rwyf wedi gweld ymchwil Sefydliad Bevan yr wythnos hon ac, fel y dywedais, rydym yn adolygu'r maes cymhwysedd hwn yn gyson, yn seiliedig ar y pwysau ariannol difrifol iawn yr ydym yn eu hwynebu hefyd. O ran y teuluoedd rydych wedi cyfeirio atynt nad oes hawl ganddynt i gael arian cyhoeddus, fy nealltwriaeth i yw ein bod ni eisoes wedi ei gwneud hi'n glir i awdurdodau lleol y gallant gynnig cymorth i'r teuluoedd hynny. Byddaf, ar sail yr hyn rydych wedi'i ddweud, yn sicrhau ein bod yn ailadrodd y neges honno i awdurdodau lleol. Ond fyddwn i ddim yn disgwyl gweld unrhyw ysgol sy'n sefyll o'r neilltu ac yn gweld plant yn llwgu, ond rwy'n hapus iawn i fynd ar drywydd hynny i chi.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. 

Cyn i ni orffen, byddaf yn datgan canlyniad y bleidlais ar gyfer cadeiryddiaeth y Pwyllgor Deisebau. Bwriwyd cyfanswm o 54 pleidlais. Cafodd Rhianon Passmore 15 o bleidleisiau, a chafodd Carolyn Thomas 39 o bleidleisiau. Felly, mae Carolyn Thomas wedi'i hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau. Llongyfarchiadau. 

A daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:11.