Pwyllgor o'r Senedd Gyfan - Y Chweched Senedd

Committee of the Whole Senedd - Sixth Senedd

20/02/2024

Cofnodir y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y pwyllgor. Yn ogystal, cynhwysir trawsgrifiad o’r cyfieithu ar y pryd. Lle mae cyfranwyr wedi darparu cywiriadau i’w tystiolaeth, nodir y rheini yn y trawsgrifiad.

Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.

Dechreuodd y cyfarfod am 19:11.

1. Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)—y drefn ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2

Cyn i chi i gyd ddiflannu, mae angen i ni gyfarfod nawr yn sydyn fel y Pwyllgor o'r Senedd Gyfan sy'n trafod Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Mae Rheol Sefydlog 26.21 yn galluogi pwyllgor, gan gynnwys Pwyllgor o'r Senedd Gyfan, i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2 ar unrhyw Fil. Mae trefn ystyried arfaethedig ar gyfer ein hystyriaeth Cyfnod 2 o Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ar 5 a 6 Mawrth wedi'u nodi ar yr agenda ar gyfer y trafodion heddiw.
 

Cynnig:

bod y Pwyllgor o’r Senedd Gyfan yn cytuno ar y drefn ystyried a ganlyn ar gyfer trafodion Cyfnod 2 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): adrannau 1 i 17, Atodlen 1, adran 18, Atodlen 2, adrannau 19 i 25, a'r enw hir.

Cynigiwyd y cynnig.

A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r drefn ystyried hon? Oes yna wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:12.