Y Cyfarfod Llawn

Plenary

10/07/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio sydd gyntaf heddiw, ac mae'r Ysgrifennydd Cabinet, Rebecca Evans, yn ateb ar ran Julie James. Cwestiwn 1, Jack Sargeant.

Pensiynau Llywodraeth Leol

1. Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda phartneriaid llywodraeth leol ynglŷn â manteision symud pensiynau llywodraeth leol Cymru i ffwrdd o fuddsoddiadau tanwydd ffosil? OQ61422

Member
Rebecca Evans 13:30:27
Cabinet Secretary for Finance, Constitution and Cabinet Office

Rwyf i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi trafod y broses barhaus o ddatgarboneiddio pensiynau llywodraeth leol yng Nghymru gydag arweinwyr ac eraill yn y cyngor partneriaeth. Byddwn yn parhau i annog cynnydd pellach.

Rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb ac am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud gyda CLlLC a phartneriaid llywodraeth leol yn y maes hwn. Mae symud pensiynau yn rhywbeth sy'n digwydd yng Nghymru a ledled y byd, ac mae'n digwydd am mai dyna'r peth iawn i'w wneud, gan fod economïau a buddsoddwyr mawr yn symud i dechnolegau eraill. Y cwestiwn yw: a all Cymru arwain y ffordd? Fel rwyf wedi'i ddweud o’r blaen, mae symud pensiynau yn rhoi cyfle, gan y gall cronfeydd pensiwn fuddsoddi symiau sylweddol mewn prosiectau cyfalaf. Os gwneir y gwaith i feithrin hyder buddsoddwyr, ac os oes digon o brosiectau ar y gweill, mae’n bosibl y gallai prosiectau ym maes tai cymdeithasol, ynni adnewyddadwy a seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru fanteisio ar y cyfle sydd gennym. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i barhau i archwilio’r cyfle hwn gyda phartneriaid a Phartneriaeth Pensiwn Cymru?

Byddwn yn sicr yn ymrwymo'n llwyr i barhau i archwilio’r cyfleoedd hynny, ond cyn imi wneud hynny, hoffwn ddiolch ar goedd i Jack Sargeant am ei waith anhygoel yn y maes yn codi hyn yn y Senedd dro ar ôl tro, yn y gwaith y mae wedi’i wneud wrth gael trafodaethau uniongyrchol â llywodraeth leol ar y mater y mae’n amlwg yn angerddol yn ei gylch, ac mae’n amlwg yn sbardun i’r newidiadau yr ydym yn eu gweld, a chredaf y dylai pob un ohonom groesawu’r newidiadau hynny.

Cytunaf yn llwyr y byddai’r gyfres honno o brosiectau’n helpu hyder buddsoddwyr, a chredaf fod y cyhoeddiad yn 2022 y byddem yn sefydlu cwmni ynni adnewyddadwy yng Nghymru i fod yn eiddo i Gymru ar gyfer pobl Cymru yn sicr wedi rhoi cyfle i ni yrru'r agenda hon yn ei blaen ymhellach. Ac fe wnaethom gyflawni'r ymrwymiad hwnnw. Mae Trydan Gwyrdd Cymru bellach wedi bod yn weithredol ers mis Ebrill eleni, a bydd yn cael ei lansio’n ffurfiol yn ddiweddarach y mis hwn, a bydd yn cyflymu’r broses o ddarparu ynni adnewyddadwy yng Nghymru, gan gadw mwy o’r gwerth yma. Felly, credaf fod hynny’n cyd-fynd yn llwyr â’r syniad y mae Jack Sargeant yn ei gyflwyno i’r Senedd heddiw.

Hefyd, rhaid imi groesawu'r gwaith gan Lywodraeth newydd y DU ar greu'r pwerdy cyllid gwyrdd a sicrhau bod gennym gronfeydd pensiwn yn rhan o hynny. Unwaith eto, rwy'n credu bod hynny’n rhan bwysig iawn o’r agenda o ran gwneud y newid hwn. Credaf ein bod yn gweld newid, ond yn sicr, mae mwy gennym i'w wneud.

Er ein bod o ddifrif ynghylch ein hymdrech i gyrraedd sero net, mae hefyd yn bwysig peidio â gwneud penderfyniadau brysiog a fydd yn arwain at ganlyniadau niweidiol. Mae’r mudiad symud pensiynau yn lobïo cynghorau lleol i symud pensiynau llywodraeth leol oddi wrth gwmnïau tanwydd, sy’n swnio’n dda mewn egwyddor, ond ni chredaf y byddai’n ddoeth neidio ar y drol hon heb edrych ar y canlyniadau lle mae hyn wedi digwydd hyd yma. Mae’r rhan fwyaf o gronfeydd pensiwn preifat heddiw yn buddsoddi yn ôl y sgoriau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethiant, ymhlith pethau eraill, a ddefnyddir i raddio cwmnïau ar sail eu moeseg a’u hymrwymiad i’r amgylchedd, ac rwy’n cymryd y bydd y rhan fwyaf o gronfeydd pensiwn llywodraeth leol eisoes yn gwneud rhywbeth tebyg. Ond rydym wedi gweld achosion amlwg lle mae cronfeydd pensiwn cymdeithasol gyfrifol wedi colli symiau sylweddol o arian yn sgil symud pensiynau, sy'n golygu eu bod yn torri eu dyletswyddau ymddiriedol. Ni fyddem am fod mewn sefyllfa lle mae cronfeydd pensiwn wedi’u disbyddu oherwydd buddsoddiadau gwael o ganlyniad i bwysau gan y Llywodraeth, ac ar ben hynny, byddai awdurdodau lleol yn agored i ymgyfreitha ar raddfa eang oherwydd tor dyletswydd ymddiriedol. Felly, mae gennyf fwy o ddiddordeb yn yr hyn y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei wneud i annog buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy yn hytrach na chosbi’r rheini sy’n buddsoddi mewn tanwyddau ffosil. Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y rheolau cynllunio yn sicrhau bod caniatâd cynllunio ar gyfer adeiladu prosiectau ynni adnewyddadwy yn cael ei roi'n llawer cyflymach gan mai dim ond y bobl ar y cyflogau isaf yn y sector cyhoeddus a fyddai ar eu colled o ganlyniad i'r agenda hon? Diolch.

Wel, wrth gwrs, mater i’r cronfeydd buddsoddi a’r byrddau yw ymgymryd â’u cyfrifoldebau personol penodol, ac nid oes gan Lywodraeth Cymru rôl i ymgymryd â’r cyfrifoldebau hynny. Ond credaf fod gennym rôl i allu rhannu arferion gorau, ac rydym wedi gallu gwneud hynny drwy gyngor partneriaeth Cymru. Ac mae’n galonogol iawn gweld cynllun Partneriaeth Pensiwn Cymru, a’r asesiad o’u cynnydd ar ddatgarboneiddio rhagor o’r gwerth £22 biliwn o asedau pensiwn llywodraeth leol yr oeddent yn gyfrifol amdanynt. Gwelsom yr adroddiad hwnnw ym mis Chwefror, ac mae ymrwymiadau wedi'u gwneud i’r bartneriaeth bensiynau fynd ymhellach.

Nid wyf yn cytuno â fy nghyd-Aelod mai neidio ar y drol yw buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy. Credaf mai dyma’r dyfodol, a dyma’r cyfeiriad y mae angen inni fynd iddo er mwyn creu’r ynni gwyrdd sydd ei angen arnom i dyfu ein heconomi yma yng Nghymru.

13:35
Hygyrchedd yng Nghanol Trefi

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am waith Llywodraeth Cymru gyda chynghorau lleol i wella hygyrchedd i drigolion anabl yng nghanol trefi? OQ61433

Mae'r 'Llawlyfr Strydoedd' yn nodi ein disgwyliadau ar gyfer lleoedd cynhwysol. Ar lefel leol, mae cynlluniau creu lleoedd yn amlinellu sut y bydd canol trefi'n cael eu gwella ar gyfer pob cymuned, gan gynnwys trigolion anabl. Gyda chefnogaeth Comisiwn Dylunio Cymru, mae awdurdodau lleol yn grymuso cymunedau i fod yn rhan o'r broses hon.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ddiweddar, cefais wahoddiad i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda Pobl yn Gyntaf RhCT, a drefnwyd gan sefydliad Leonard Cheshire, sy’n cefnogi pobl anabl. Yn ystod y sesiwn, codwyd nifer o faterion, ond un a glywaf dro ar ôl tro gan etholwyr ar draws y rhanbarth yw hygyrchedd yng nghanol ein trefi a'r cyffiniau—diffyg addasiadau, megis cyrbiau isel ar balmentydd, diffyg cyfleusterau newid addas, parcio hygyrch, pob un yn creu rhwystrau diangen i bobl anabl a all arwain at ynysu a diffyg cyfleoedd i gymryd rhan mewn bywyd cymunedol. Yng nghanol tref Pontypridd, er enghraifft, mae’r ffaith nad oes unrhyw ddrysau awtomatig o’r maes parcio aml-lawr yn cymryd yn ganiataol y bydd rhywun arall gydag unigolyn anabl os oes ganddynt anabledd corfforol, yn hytrach na'u bod ar sgwter neu beth bynnag. Felly, mae rhwystrau gwirioneddol i bobl o ran mynediad i ganol ein trefi. Mae gennym ffordd bell i fynd, ac a wnewch chi sicrhau bod cynghorau’n cael eu hariannu’n ddigonol i wneud y newidiadau angenrheidiol hyn, a gweithio gyda sefydliadau fel Pobl yn Gyntaf RhCT a Leonard Cheshire i sicrhau bod ein trefi’n hygyrch i bawb, oherwydd yn sicr, nid yw hynny’n wir ar hyn o bryd?

Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn y prynhawn yma, a hoffwn dalu teyrnged hefyd i waith Pobl yn Gyntaf RhCT a Leonard Cheshire, sy'n sefydliadau ymgyrchu anhygoel, ac maent yn sicrhau newid drwy'r amser, felly rwy'n llwyr gefnogi hynny.

Ar fater cyllid cynghorau, byddwn bob amser yn ceisio darparu’r setliad gorau y gallwn ei roi i lywodraeth leol. Ond—ac nid wyf yn mynd i rygnu ar y pwynt y prynhawn yma—gwyddom fod ein cyllideb yn werth cymaint llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod, ac mae’r un pwysau'n cael ei deimlo gan lywodraeth leol. Ond maent yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni, ynghyd ag iechyd, o ran cyllid.

Rwy'n credu mai dim ond rhan ohono yw cyllid. Mae'n ymwneud hefyd â sicrhau bod y polisïau cywir ar waith, a sicrhau, pan fyddwn yn darparu buddsoddiad, fod hynny'n digwydd gan ddefnyddio dull rhywbeth am rywbeth yn ogystal. Credaf fod y gwaith da sy’n mynd rhagddo mewn perthynas â chronfa Trawsnewid Trefi yn rhywbeth y gallwn dynnu sylw ato yn sicr, gan mai un o ragofynion y cyllid hwnnw yw bod cynlluniau bro priodol ar waith, neu o leiaf yn cael eu datblygu. Ac un o elfennau allweddol y cynlluniau bro hynny yw'r math hwnnw o weithgarwch creu lleoedd a ddylai gynnwys cymunedau—felly, dylai Pobl yn Gyntaf RhCT, Leonard Cheshire a sefydliadau eraill fod yn rhan bendant o'r gwaith creu lleoedd hwnnw er mwyn sicrhau bod ein cymunedau yn wirioneddol hygyrch i bawb. Ond mae’r pwyntiau wedi’u gwneud yn dda iawn, a phe bai’r Gweinidog ar gyfer y portffolio hwn yma, rwy'n siŵr y byddai’n cytuno â nhw hefyd.

I lawer o oedolion a phlant anabl, a’u teuluoedd, mae cael cerdyn parcio bathodyn glas yn hollbwysig er mwyn cael mynediad at wasanaethau a chyfleusterau yng nghanol trefi a sicrhau eu bod mor annibynnol â phosibl. Wrth siarad yn y grŵp trawsbleidiol ar anabledd ym mis Chwefror, dywedodd cwmni buddiannau cymunedol STAND Gogledd Cymru—'Stronger Together for Additional Needs and Disabilities'—a gyflwynodd y ddeiseb i'r Senedd i ddarparu bathodyn glas gydol oes i unigolion sydd â diagnosis gydol oes, eu bod wedi darganfod drwy ymchwil fod awdurdodau lleol naill ai heb fod yn ymwybodol o fathodynnau gydol oes, neu fod ganddynt ddealltwriaeth wahanol o’r hyn a olygent. Rhannodd siaradwr arall a gefnogais ei brofiad o wneud cais am fathodyn glas. Pan oedd ei gais y llynedd yn aflwyddiannus i ddechrau, cafodd wybod hefyd nad oedd proses statudol i apelio yn erbyn y penderfyniad a wnaed gan yr awdurdod lleol. Ac mae fy ngwaith achos helaeth ar ran etholwyr yr effeithiwyd arnynt yn cadarnhau ac yn dangos tystiolaeth o anghysondebau, aneffeithlonrwydd ac anghyfiawnderau difrifol sy’n deillio o ganllawiau cynllun bathodyn glas Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol. Sut y gwnewch chi ymgysylltu â'ch cyd-Aelodau o'r Cabinet i fynd i’r afael â hyn?

Felly, unwaith eto, rwy'n ddiolchgar am eich cwestiwn, ac mae'n adleisio un o'r cyfraniadau o feinciau Plaid Cymru ddoe, a oedd yn sôn am yr un heriau i bobl sydd â chyflyrau gydol oes ond sydd, er hynny, yn gorfod ailymgeisio bob tair blynedd, rwy’n credu, am eu bathodyn glas. Credaf fod hynny a'r pwynt nad oes proses apelio ffurfiol yn ddau bwynt pwysig iawn, ac rwy'n ymrwymo i’w trafod gyda’r Gweinidog wedi iddi ddychwelyd. Gwn y gall pobl wneud cais ychwanegol os ydynt yn gallu darparu tystiolaeth ychwanegol, ond gwn nad yw hynny yr un peth â phroses apelio. Felly, bu nifer o adolygiadau o gynllun y bathodyn glas dros y blynyddoedd diwethaf, ond o ystyried bod y pwyntiau hyn wedi codi ar ddau ddiwrnod yn olynol yn y Senedd nawr, rwy'n ymrwymo i godi hynny gyda fy nghyd-Aelod wedi iddi ddychwelyd.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Joel James.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae byd natur mewn argyfwng yn fyd-eang ac mae angen inni wneud mwy i sicrhau bod ein bywyd gwyllt nid yn unig yn ffynnu, ond bod y rhai sy’n defnyddio’r tir yn cael eu diogelu. Mae'n gydbwysedd bregus. Mae parciau cenedlaethol wedi chwarae rhan bwysig yn hyn ac wedi dod yn hafan ddiogel olaf i lawer o rywogaethau. Fodd bynnag, mae ymchwil gan yr ymgyrch dros barciau cenedlaethol wedi dangos bod angen gwneud llawer mwy yng Nghymru. Mae angen gweithredu ar y cyd i wella cyflwr safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, gyda dim ond 23 y cant yn ein parciau cenedlaethol wedi’u nodi fel rhai sydd ‘mewn cyflwr ffafriol’, sydd ond ychydig yn well na’r rheini y tu allan i'r parciau, ar 19 y cant. Mae llawer o’r SoDdGAau hyn wedi’u lleoli ar dir preifat, a deallaf nad yw Llywodraeth Cymru yn darparu unrhyw gymorth ariannol penodol i helpu tirfeddianwyr i gynnal yr ardaloedd hyn, a disgwylir iddynt dalu am hynny o'u pocedi eu hunain. Hefyd, nid oes unrhyw wybodaeth fonitro gyfredol a pharhaus ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o SoDdGAau, sy’n golygu ei bod yn anodd iawn cynllunio ar gyfer eu gwella. Gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gynlluniau sydd gennych i ariannu a chefnogi rheolwyr tir yn briodol i adfer SoDdGAau a'n parciau cenedlaethol i gyflwr ffafriol? Diolch.

Gallwch ymhelaethu ynglŷn ag a yw SoDdGAau yn eich portffolio.

Ni chredaf fod y rhain ym mhortffolio Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio. Fodd bynnag, byddaf yn sicr o archwilio hynny ar ôl y cyfarfod heddiw. Rwyf wedi briffio fy hun yn drylwyr dros oriau lawer, ond yn anffodus, nid yw'r mater penodol hwn wedi codi. [Torri ar draws.] Ie, dewch, Huw. [Chwerthin.]

Fe wnaf barhau, Lywydd. Mae'r holl gwestiynau hyn yn ymwneud â pharciau cenedlaethol, sydd ym mhortffolio Ysgrifennydd y Cabinet. Penderfynwch chi, Lywydd—a ddylwn i barhau?

Ie, rhowch gynnig arall arni, a chawn weld lle cyrhaeddwn ni. Roedd cryn dipyn o'r cwestiynau yn ymwneud â manylion y cyllid ar gyfer cynnal SoDdGAau. Nid fi yw'r unigolyn gorau i wybod ym mha bortffolio y mae hynny. Nid wyf am i Huw Irranca-Davies godi ar ei draed nawr ac ateb y cwestiwn. [Chwerthin.] Gadewch inni fynd am yr ail gwestiwn.

Gobeithio, croesi bysedd. Diolch, Lywydd. Un o ganfyddiadau allweddol ymchwil a wnaed gan yr ymgyrch dros barciau cenedlaethol yw mai dim ond 19 y cant o’n llynnoedd yn nhri pharc cenedlaethol Cymru a dim ond 44 y cant o’n hafonydd a gyflawnodd statws ecolegol da neu uwch, gyda llygredd carthion yn brif achos dros sgoriau mor isel. Rhwng 2017 a 2021, fe ostyngodd nifer y cyrff dŵr ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro a gyflawnodd statws cyffredinol da o 48.3 y cant i ddim ond 28 y cant, ac ym Mannau Brycheiniog, cafwyd gostyngiad o 43.4 y cant i 36.8 y cant. Fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n aml yn sôn yn y Siambr hon am ansawdd dŵr, oherwydd nid yn unig ei bod yn thema gyson a godwyd gyda mi, ond o'r hyn a gredaf, ychydig iawn o gynnydd sy'n cael ei wneud yn ôl pob golwg ar ddwyn Dŵr Cymru i gyfrif am hyn. Mae adroddiadau diweddar wedi dangos bod Dŵr Cymru yn gyfrifol am 5,635 o ollyngiadau carthion ym mharciau cenedlaethol Cymru, sy'n cyfateb i 51,555.75 awr o ollyngiadau. Fe wyddoch hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, na allwn adfywio byd natur os oes gennym y lefel hon o garthion yn ein llynnoedd, ein hafonydd a’n moroedd. Hoffwn glywed beth a wnewch i ddwyn Dŵr Cymru i gyfrif am lygredd carthion yn ein parciau cenedlaethol. Diolch.

Wel, mae’r rhain yn faterion i’r Gweinidog newid hinsawdd, ond rwy’n falch o roi gwybod i fy nghyd-Aelodau y bydd y Prif Weinidog yn cadeirio uwchgynhadledd arall ar ansawdd dŵr yn Sioe Frenhinol Cymru. Gwn y gwnaed cynnydd sylweddol yn dilyn y cyfarfod a gynhaliwyd yn flaenorol, a bod y Prif Weinidog ar y pryd wedi dangos diddordeb personol cryf yn y mater. Rwy’n falch o roi gwybod i fy nghyd-Aelodau fod gennym gynllun gweithredu sy’n ymrwymo i ddatgloi potensial tirweddau dynodedig i ddarparu mwy ar gyfer natur, ac yn y tymor byr, byddwn yn cefnogi’r parciau cenedlaethol a’r AHNEau i ddatblygu cynlluniau gweithredu â blaenoriaeth ar gyfer adfer natur, a sefydlu'r rhain yn y cynlluniau strategol. Ac yna, yn y tymor hwy, byddwn yn ailosod blaenoriaethau tirweddau dynodedig i wella a chyflymu gwaith adfer natur, wedi'i gefnogi gan bolisi, adnoddau a chanllawiau wedi'u diweddaru. A hefyd, gan gyfeirio at y pwynt cyntaf a gododd yr Aelod, byddwn hefyd yn datblygu'r dystiolaeth a'r offer mapio i alluogi tirweddau dynodedig i osod llinell sylfaen, targedu a monitro ardaloedd o werth uchel i natur.

13:45

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. A yw'n iawn imi fwrw ymlaen ag un cwestiwn olaf ar—?

Iawn, perffaith, diolch. Mae llawer o fentrau adfer natur parciau cenedlaethol yn cael eu harwain gan ystod eang o grwpiau ac unigolion, gan gynnwys ffermwyr, sefydliadau anllywodraethol, gwirfoddolwyr, cyrff cyhoeddus ac awdurdodau parciau cenedlaethol, a chredaf fod arnom ddyled fawr iddynt am eu hymdrechion parhaus yn helpu i adfer natur. Fodd bynnag, er gwaethaf ymdrechion gorau'r grwpiau hyn, mae'r dystiolaeth yn dangos nad yw eu mentrau’n dal i fyny â chyflymder dirywiad bioamrywiaeth, a bod parciau cenedlaethol yn ddibynnol iawn ar sefydliadau eraill, gan gynnwys tirfeddianwyr, rheolwyr tir ac awdurdodau lleol, i weithredu llawer o'r camau sydd eu hangen i gyflawni cynlluniau rheoli.

Ym mis Rhagfyr 2023, gosododd newidiadau deddfwriaethol a gyflwynwyd gan Ddeddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023 ofynion newydd ar gyrff cyhoeddus ac ymgymerwyr statudol yn Lloegr i gyfrannu at y gwaith o ddatblygu a gweithredu cynlluniau rheoli, ac i edrych ymhellach ar ddibenion statudol parciau cenedlaethol, yn ogystal â chyflwyno mesurau monitro a gorfodi mwy cadarn ar gydymffurfiaeth cyrff cyhoeddus a dyletswyddau bioamrywiaeth presennol. Bydd y ddeddfwriaeth hon heb os yn helpu i fynd i’r afael â llawer o’r problemau wrth roi cynlluniau rheoli ar waith. Fodd bynnag, nid yw’r mesurau hyn ar waith yng Nghymru. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gynlluniau sydd gennych i gyflwyno deddfwriaeth i'w gwneud yn orfodol i gyrff cyhoeddus ac ymgymerwyr statudol gyfrannu at gynlluniau rheoli parciau cenedlaethol fel rhan o’u hymrwymiadau statudol? Diolch.

Wel, nododd y Prif Weinidog ein rhaglen ddeddfwriaethol yn ei ddatganiad ddoe. Wrth gwrs, mae deddfwriaeth bob amser yn bwysig, ond credaf fod pethau eraill nad oes galw am ddeddfwriaeth i wneud cynnydd arnynt. A chredaf fod y cyfraniad a wnaeth y parciau cenedlaethol at yr archwiliad dwfn bioamrywiaeth yn bwysig iawn, ac o ganlyniad i hynny, edrychwn ymlaen nawr at ffocws llawer mwy cydgysylltiedig a strategol yn y dyfodol o ran gwella bioamrywiaeth ar lefel tirweddau. Ac wrth gwrs, mae mynd i'r afael â'r argyfwng natur, gan gynnwys o fewn ein parciau cenedlaethol, yn flaenoriaeth allweddol i ni, ac rydym eisoes wedi cyhoeddi ein cynlluniau uchelgeisiau ar gyfer y ffordd y byddem yn mynd ati i gyflawni hyn, ac mae'r rheini hefyd yn cynnwys argymhellion penodol y dylai ein parciau cenedlaethol chwarae mwy o rôl.

Gwn fod cyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar iawn i Howard Davies fel cadeirydd y grŵp ehangach sydd wedi goruchwylio’r gwaith ar fioamrywiaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac fel adlewyrchiad o bwysigrwydd y gwaith hwnnw, mae cyllid pellach yn cael ei ddarparu yn y flwyddyn i ddod i Mr Davies barhau yn y rôl hon, ac edrychwn ymlaen yn fawr at weld cynnydd pellach yn hyn o beth.

Cwestiynau nawr gan lefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.

Diolch, Llywydd. Dyma'r tro cyntaf imi ofyn cwestiynau fel y llefarydd tai. Mi hoffwn i ddiolch i Julie James am ei chydweithio adeiladol tra roedd y ddwy ohonom ni'n rhan o'r cytundeb cydweithio, ac i chithau hefyd yn yr un modd. Dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn dymuno adferiad buan i Julie, a diolch hefyd i Mabon ap Gwynfor am yr holl waith gwych mae o wedi'i wneud yn y maes yma.

Dwi am ddechrau y prynhawn yma efo cyllid a thai, gan fanteisio ar gael eich presenoldeb chi yma heddiw. Mae'r argyfwng tai yng Nghymru yn parhau i fod yn fater hanfodol i gannoedd ar filoedd o bobl, a'r rhai sy'n dioddef fwyaf ydy'r 90,000 o bobl sy'n aros am dai cymdeithasol, a'r 11,000 sydd mewn llety dros dro. Dwi'n deall yn hanesyddol fod Cymru wedi dyrannu cyfartaledd o ddim ond 2.2 y cant o gyfanswm gwariant y Llywodraeth ar dai dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac er bod hynny wedi cynyddu i 4.3 y cant, dydy'r gwariant ddim yn ymddangos i gyd-fynd â difrifoldeb yr argyfwng tai presennol. Felly, sut mae'r Llywodraeth yn cyfiawnhau'r lefel gymharol isel o wariant yng ngoleuni'r argyfwng tai, a pha gynlluniau sydd ar waith i alinio dyraniadau cyllideb yn well efo'r angen i ddelio ar frys efo'r argyfwng tai?

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, ac rwy'n eich croesawu i’ch rôl newydd fel y llefarydd.

O ran tai fforddiadwy, credaf y byddem bob amser yn awyddus i fuddsoddi mwy o gyllid mewn tai fforddiadwy, ond credaf ein bod wedi buddsoddi cryn dipyn o gyllid yn ddiweddar er mwyn ceisio cyflawni ein haddewid i gyflwyno 20,000 o gartrefi cymdeithasol yn nhymor y Senedd hon. Felly, rydym eisoes wedi darparu mwy na £330 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon i wneud cynnydd ar yr agenda honno. Credaf ei bod yn deg dweud ein bod wedi buddsoddi’n sylweddol iawn dros y blynyddoedd diwethaf mewn tai cymdeithasol, ond rydym wedi wynebu’r dewisiadau anodd hynny ar draws y Llywodraeth o ran y pwysau economaidd a chyllidebol a wynebwyd gennym, sy'n rhywbeth rwyf eisoes wedi cyfeirio ato yn y sesiwn hon y prynhawn yma.

Un peth y mae gennym ddiddordeb arbennig ynddo, serch hynny, yw edrych ar dai arloesol i weld beth y gallwn wneud mwy ohono yn y maes hwnnw, sy’n aml yn fwy costeffeithiol mewn sawl ffordd. Felly, dyma'r pethau yr ydym yn canolbwyntio'n arbennig arnynt, ond credaf fod y buddsoddiad o £330 miliwn eleni yn sylweddol iawn.

13:50

Mae hwnna'n swnio fel swm mawr o arian, ond cymharol fechan o ran canran o gyllideb y Llywodraeth hon, yn wir. Yn sylfaenol, dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni newid ein ffordd o feddwl am gartrefi, gan ddechrau eu gweld nhw fel hawl. Mae angen ymrwymiad cenedlaethol i'r egwyddor sylfaenol y dylai pob un ohonon ni gael yr hawl dynol, wedi'i ategu gan y gyfraith, i gael mynediad at dai digonol a chynaliadwy. Mae hyn yn ganolog i unrhyw ateb i'r argyfwng tai. 

Ydych chi'n cytuno, felly, mai rŵan ydy'r amser i gyflwyno'r hawl i dai digonol i gyfraith Cymru? Ac ydych chi'n cytuno y byddai'r gydnabyddiaeth gyfreithiol yma yn helpu i gyflymu'r ymdrechion i fynd i'r afael â'r argyfwng tai, ac yn sicrhau bod gan bob person hawl a mynediad at dai diogel a fforddiadwy?

Fel y soniais mewn ymateb i’r cwestiwn blaenorol, cawsom ddatganiad deddfwriaethol gan y Prif Weinidog ddoe yn nodi ein blaenoriaethau uniongyrchol o ran deddfwriaeth, a bydd fy nghyd-Aelodau’n ymwybodol ein bod wedi cael llawer o ddeddfwriaeth dros y blynyddoedd diwethaf gyda'r nod o wella mynediad at dai yn ogystal â gwella ansawdd y tai sydd ar gael i bobl.

Rwy’n deall yn llwyr y pwynt sy’n cael ei wneud am yr hawl i dai, a gwn fod cwestiynau cyfreithiol yn sail i hynny, nad wyf mor agos atynt, ond gwn ei fod yn sicr yn rhywbeth y mae gan y Gweinidog, Julie James, ddiddordeb arbennig ynddo, a gwn y byddai’n gwerthfawrogi sgwrs bellach gyda chi ar ôl iddi ddychwelyd.

O ran ein blaenoriaethau uniongyrchol ar gyfer tai, serch hynny, maent yn sicr yn cynnwys cyflawni’r targed o 20,000 o gartrefi cymdeithasol, ond gan gydnabod hefyd yr heriau gwirioneddol a gawsom gyda'n cyllideb gyfalaf dros y blynyddoedd diwethaf, sydd ond wedi cael £1 filiwn yn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon, gan gofio'r holl bwysau a'r holl chwyddiant sy'n cael effaith hefyd. Felly, credaf y byddai setliadau cyfalaf gwell yn y dyfodol yn ein helpu i sicrhau bod cyflenwad mwy o dai ar gael, ac yna ni fyddwn yn yr un sefyllfa, lle mae gennym gymaint o bobl yn aros am gartref da.

Diolch yn fawr. Dwi'n pryderu braidd na wnes i ddim eich clywed chi'n sôn yn fanna am y Papur Gwyn ar yr hawl i gartref digonol, sydd yn waith sydd ar y gweill. Rŵan, un ai efallai dydych chi ddim yn ymwybodol o'r gwaith yna, neu—dwi yn poeni—efallai fod yna oedi ar y gwaith gan y Llywodraeth, ac mi fyddai hynny'n newyddion gwael iawn. Mae cael fframwaith cyfreithiol yn hanfodol i flaenoriaethu materion tai o fewn y Cabinet, ac yn gallu dylanwadu—i fynd yn ôl at fy nghwestiwn gwreiddiol—ar ddyraniadau cyllidebol, gan sicrhau bod anghenion tai yn cael eu hystyried yn gyson ar y lefelau uchaf o Lywodraeth.

Fedrwch chi sôn am y Papur Gwyn, os gwelwch yn dda? Pryd ydyn ni'n disgwyl iddo fe gael ei gyflwyno? Sut fydd o'n sefydlu'r hawl i gartrefi digonol yn y gyfraith, ac wedyn yn rhoi'r gydnabyddiaeth gyfreithiol yma i helpu blaenoriaethu materion tai?

Rwy'n ymddiheuro i fy nghyd-Aelodau nad oes gennyf y dyddiad hwnnw wrth law ar hyn o bryd, ond byddaf yn ymdrechu i wirio'r dyddiad yn dilyn y cwestiynau y prynhawn yma, a byddaf yn e-bostio pawb yn ddiweddarach y prynhawn yma, Lywydd. Rwy'n ymddiheuro nad yw'r dyddiad gennyf.

13:55
Targedau Tai

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei thargedau o ran tai? OQ61423

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu mwy o gartrefi i ddiwallu anghenion pobl ledled Cymru. Rydym wedi dyrannu £1.4 biliwn ar gyfer tai cymdeithasol, ac yn ystod dwy flynedd gyntaf tymor y Senedd hon, rydym wedi llwyddo i ddarparu 5,775 o gartrefi tuag at ein targed o 20,000 o gartrefi i’w gosod ar rent yn y sector tai cymdeithasol.

Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, yn 2021, cyhoeddodd Plaid Lafur Cymru eu targed o adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd i’w gosod ar rent erbyn 2026, fel rydych chi newydd amlinellu, ond yn ôl yr amcanestyniadau presennol, ymddengys eich bod yn mynd i fethu’r targed hwn. Fel y dywedwyd, mae gennym argyfwng tai. Mae prinder enbyd o dai fforddiadwy yng Nghymru, ac yn sicr, nid oes cymaint o dai â'r nifer a addawyd gan y Llywodraeth hon. Y blaendal cyfartalog oedd £50,000 ar gyfer prynwyr tro cyntaf y llynedd, sy'n gynnydd o 67 y cant o gymharu â 10 mlynedd yn ôl. Nid yw’n syndod fod canran y prynwyr tro cyntaf wedi gostwng 21 y cant o gymharu â 2022, ac mewn ardaloedd gwledig, mae fforddiadwyedd yn waeth, gyda swyddog yng Nghyngor Sir Fynwy yn dweud bod prisiau tai yn yr ardal hon 10 gwaith yn fwy na’r incwm blynyddol cyfartalog. O’r ffigurau a welais ac rydych chi newydd gyfeirio atynt, ymddengys y bydd llai na hanner y tai rydych chi'n eu hadeiladu yn fforddiadwy. Ysgrifennydd y Cabinet, beth rydych chi a’ch Llywodraeth yn ei wneud i unioni’r sefyllfa gyda'r gyllideb sydd gennych, a chyda dyraniadau cyllidebol yn y dyfodol, ac i adeiladu’r tai y mae eu hangen mor daer ar bobl, yn enwedig tai fforddiadwy?

Rydym wedi bod yn buddsoddi’r lefelau uchaf erioed o gyllid yn y grant tai cymdeithasol i gyflawni'r targed o 20,000 o gartrefi yn ystod tymor y Senedd hon, ac wrth gwrs, nid ydych chi byth yn adeiladu nifer penodol o gartrefi ym mhob blwyddyn; rydych chi bob amser yn cynyddu'r rhaglen dros gyfnod o amser. Ond byddwn yn dweud bod ein cyflawniad yma yng Nghymru gymaint yn well na dros y ffin. Yn Lloegr, yn 2022-23, dim ond 15 y cant o’r tai fforddiadwy a ddarparwyd a oedd yn dai rhent cymdeithasol. Yma yng Nghymru, tai rhent cymdeithasol oedd 82 y cant o’r holl dai fforddiadwy a ddarparwyd gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn yr un flwyddyn.

Felly, fel Llywodraeth, rydym yn llwyr gydnabod y gall tai fforddiadwy o ansawdd da gael effaith gadarnhaol ar iechyd, iechyd meddwl, addysg, a dyna pam nad ydym erioed wedi cefnu ar ein cefnogaeth i'r tai mwyaf fforddiadwy, sef tai rhent cymdeithasol, ac mae hynny mewn gwrthgyferbyniad llwyr â Lloegr, lle mae’r ddarpariaeth o gartrefi rhent cymdeithasol wedi gostwng 76 y cant ers 2010.

Nid yw Llywodraeth Cymru yn adeiladwr tai, ond gall weithredu fel galluogwr, a byddai adeiladu tai cyngor ar yr un raddfa â’r 1950au a’r 1960au yn lleihau nifer y bobl sydd angen tai yn sylweddol. A wnaiff y Gweinidog roi ystyriaeth bellach i ehangu nifer y prosiectau tai cydweithredol? Oherwydd gŵyr pob un ohonom fod honno'n ffurf gyffredin ar ddarparu tai o Efrog Newydd i Sgandinafia, a’r rhan fwyaf o leoedd rhyngddynt. Fel y dywedaf yn aml, roedd John Lennon yn byw mewn darpariaeth dai cydweithredol. Pa gymorth pellach y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i dyfu'r gyfran o ddarpariaeth dai Cymru sy'n dai cydweithredol?

Mae gennym ymrwymiad y rhaglen lywodraethu i gefnogi tai cydweithredol, mentrau a arweinir gan y gymuned ac ymddiriedolaethau tir cymunedol, ac rydym wedi cynyddu ein cyllid drwy Cwmpas i £180,000 dros y tair blynedd rhwng 2022-23 a 2024-25. Mae Cwmpas yn gweithio gyda grwpiau ledled Cymru sy’n ceisio darparu tai fforddiadwy, gan gynnwys mentrau cydweithredol a grwpiau cymunedol llwyddiannus a newydd yn Abertawe, Caerdydd, Gwynedd a sir Benfro, ac rydym yn parhau i gefnogi grwpiau cydweithredol a grwpiau a arweinir gan y gymuned sy’n dymuno datblygu cartrefi newydd i gael mynediad at y grant tai cymdeithasol, lle maent yn partneru gyda landlord cymdeithasol cofrestredig. Ar hyn o bryd, mae pedwar grŵp yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i gael mynediad at y grant tai cymdeithasol, ac wrth gwrs, gall grwpiau a arweinir gan y gymuned gael mynediad at y rhaglen grant cartrefi gwag hefyd.

Yn ogystal â hynny, rydym wedi cryfhau ein cyllid cyfalaf drwy weithio gyda Cwmpas ac Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Gŵyr yn Abertawe i dreialu’r gronfa datblygu tir ac adeiladau sy’n cael ei defnyddio ar gyfer mentrau cydweithredol hefyd. Felly, mae Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Gŵyr wedi derbyn bron i £900,000 i ddatblygu 14 o dai fforddiadwy di-garbon, ac mae grwpiau eraill bellach yn awyddus i weithio gyda Cwmpas hefyd. Felly, wrth i’r cynlluniau penodol hyn ddod yn fwy gweladwy ac wrth i’r wybodaeth gynyddu a chael ei rhannu’n ehangach, credaf y byddwn yn gweld awydd cynyddol am y cynlluniau hyn. Dros flynyddoedd blaenorol, rwy'n credu bod hynny wedi bod yn rhan o’r her—ni chafwyd awydd o’r gwaelod i fyny am y cynlluniau hyn—ond wrth i ni eu gweld yn dechrau ac yn llwyddo, byddwn yn sicr yn gweld hynny’n tyfu yn fy marn i.

14:00
Blaenoriaethau Tai

4. Pa faterion o ran tai y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u nodi fel blaenoriaethau i fynd i’r afael â hwy dros weddill tymor y Senedd hon? OQ61432

Mae mynediad at gartref gweddus, fforddiadwy i'w brynu neu ei rentu yn parhau i fod yn broblem i ormod o bobl. Dyna pam mae darparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol fforddiadwy i'w gosod ar rent yn parhau i fod yn un o'n hymrwymiadau allweddol. Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn parhau i flaenoriaethu ein hymdrechion i atal digartrefedd a gwella diogelwch ac ansawdd tai.

Diolch am yr ateb.

Un o'r problemau mawr y mae pawb ohonom yn eu gweld yn ein hetholaethau bron bob dydd, rwy'n credu, yw argaeledd tai cymdeithasol, a chredaf ein bod i gyd yn gwybod, o'n gwaith etholaethol, pa mor anodd yw cael tai parhaol yn ogystal â thai dros dro, er gwaethaf ymdrechion mawr Llywodraeth Cymru y clywsom amdanynt heddiw, ac ymdrechion awdurdodau lleol. Yng Ngogledd Caerdydd, cafodd gwesty ei agor i deuluoedd digartref y llynedd. Mae hwn wedi bod yn llawn ers iddo agor, ac mae hyn wedi arwain at anawsterau gyda phlant yn gorfod teithio i ysgolion ledled Caerdydd, gan geisio cadw cysylltiadau lleol lle rydym yn gobeithio y byddant yn cael eu hailgartrefu yn y pen draw. A all Ysgrifennydd y Cabinet awgrymu unrhyw ffyrdd eraill o roi hwb i'r cyflenwad o dai cymdeithasol yng Nghymru? Rwy'n cydnabod, yn y cwestiynau blaenorol, eich bod wedi ymdrin â nifer o wahanol ffyrdd, ond hoffwn wybod pa ffyrdd a pha syniadau eraill sydd gennym i ymestyn y cyflenwad.

Rydym yn ceisio mynd i'r afael â'r mater hwn o'r ddwy ochr, yn yr ystyr ein bod yn ceisio atal pobl rhag colli eu cartrefi yn y lle cyntaf, ond ar y pen arall rydym hefyd yn ceisio darparu mwy o gartrefi fforddiadwy. Soniais am y £330 miliwn yr ydym yn ei fuddsoddi yn y flwyddyn ariannol hon. Mae hynny'n golygu bod cyfanswm y cyllid ar gyfer y grant tai cymdeithasol yn ystod pedair blynedd gyntaf tymor y Senedd hon yn £1.4 biliwn. Rwy'n credu bod hwnnw'n fuddsoddiad sylweddol yn hynny o beth, er fy mod yn cydnabod bod llawer mwy i'w wneud o hyd.

Rwy'n falch iawn ein bod wedi lansio ystod o gynlluniau a fydd yn darparu mwy o gartrefi gwirioneddol fforddiadwy cyn gynted â phosibl, ac un o'r rheini nad wyf wedi sôn amdano hyd yma yw'r rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro, a hefyd Cynllun Lesio Cymru. Rwy'n falch iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi agor y rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25, gyda gwerth dangosol o £100 miliwn. Gwnaed hynny ym mis Mehefin, ac mae hynny'n helpu i gyflwyno llety mwy hirdymor o ansawdd da i bobl sydd mewn llety dros dro ar hyn o bryd, fel y bobl rydych chi wedi siarad amdanynt yn eich etholaeth chi.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr y gallwn i gyd gytuno bod yr argyfwng tai yn peri pryder yma yng Nghymru, a byddwn yn dadlau'n gryf ein bod yn y sefyllfa hon o ganlyniad i fethiant Llywodraethau Llafur olynol i adeiladu digon o stoc dai dros y 25 mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae'r rheoliadau cynllunio wedi bod yn rhwystr i awdurdodau lleol ledled Cymru, ac rwy'n falch o weld, yn y rhaglen ddeddfwriaethol ddoe, fod bwriad i edrych ar y ddeddfwriaeth gynllunio.

Rhwystr arall yw'r ffaith bod busnesau adeiladu yn wynebu prinder gweithwyr medrus a diffyg mynediad at ddeunyddiau. Gyda hyn mewn golwg, a fyddech chi'n gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau y byddai'r Ysgrifennydd Cabinet perthnasol wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, o ran darparu cymorth i fusnesau adeiladu llai o faint er mwyn rhoi hwb i'r economi a'r cyflenwad o dai lleol?

Gwn fod y Gweinidog yn awyddus iawn i weithio ar draws y Llywodraeth, gan gydnabod pwysigrwydd sgiliau a phrentisiaethau yn y maes hwn, a'i bod yn cael sgyrsiau rheolaidd gyda Gweinidog yr economi, yn enwedig mewn perthynas ag archwilio sut y gallwn gryfhau a chefnogi'r gadwyn gyflenwi yma yng Nghymru, fel y gallwn sicrhau bod gennym yr unigolion medrus sydd eu hangen arnom yn y maes hwn, a gweld beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi ein busnesau bach a chanolig i ddarparu'r deunyddiau sydd eu hangen arnom hefyd. Felly, hoffwn sicrhau cyd-Aelodau bod y Gweinidog yn gweithredu'n drawslywodraethol mewn perthynas â'r agenda hon ac yn cael y trafodaethau hynny'n rheolaidd gydag Ysgrifennydd yr economi.

Polisi Datblygiadau Un Blaned

5. Pa werthusiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r polisi datblygiadau Un Blaned? OQ61428

Mae Llywodraeth Cymru wedi casglu a monitro data blynyddol ar nifer y datblygiadau Un Blaned a gymeradwywyd ac a wrthodwyd rhwng 2011 a 2019 ac mae wedi cyhoeddi'r wybodaeth hon ar-lein bob blwyddyn. Mae dadansoddiad o'r data wedi dynodi nad oes angen adolygiad ar hyn o bryd.

Diolch. Mae polisi cynllunio Llywodraeth Cymru wedi darparu ar gyfer datblygiadau Un Blaned, fel y'u gelwir, ers dros ddegawd. Yn ôl canllawiau ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygiadau Un Blaned, mae yna ystod o feini prawf llym y mae'n rhaid i'r datblygiadau hyn eu bodloni ar niwtraliaeth carbon a hunangynhaliaeth o ran incwm, bwyd, ynni a gwaredu gwastraff. Mae cyfres o geisiadau rhyddid gwybodaeth a wnaethom yn ddiweddar yn dangos mai sir Gaerfyrddin, sir Benfro a Cheredigion a gafodd y mwyafrif o geisiadau datblygiadau Un Blaned, gyda sir Gaerfyrddin ar frig y rhestr gyda 29. Mae'r ceisiadau rhyddid gwybodaeth hyn hefyd yn datgelu mai cyfyngedig iawn fu'r ymchwil i weld i ba raddau y mae'r datblygiadau Un Blaned hyn yn bodloni'r meini prawf ar gyfer rhoi caniatâd cynllunio. Mae nifer yr achosion gorfodi a agorwyd yn erbyn datblygiadau Un Blaned yn isel iawn, ac mae nifer yr hysbysiadau cydymffurfio a gyhoeddwyd hyd yn oed yn is. Yn wir, dim ond un a gyhoeddwyd yn unman yng Nghymru erioed. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n rhannu fy mhryder am y diffyg gorfodaeth, ac yn cytuno ei fod yn atgyfnerthu pryderon lleol y gallai datblygiadau Un Blaned gael eu defnyddio fel bwlch yn y rheolau, fel ffordd o osgoi cynlluniau datblygu a rheoliadau cynllunio lleol?

14:05

Rwy'n gwybod nad yw Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu newid y polisi datblygu Un Blaned ar hyn o bryd, a'r rheswm am hynny yw oherwydd y nifer fach iawn o geisiadau a ddaeth i law. Deallaf fod awdurdodau cynllunio lleol rhwng Ebrill 2014 a 2019 wedi darparu data sy'n dangos mai dim ond 19 o ddatblygiadau Un Blaned a gafodd ganiatâd, a bod saith wedi cael eu gwrthod. Rwy'n credu mai dyna'r rheswm pam nad oes bwriad i gynnal adolygiad mwy cyflawn. Fodd bynnag, os yw trigolion lleol yn pryderu bod unigolion wedi adeiladu eiddo neu'n byw y tu allan i amodau'r cytundeb a nodwyd yng nghanllawiau'r datblygiad Un Blaned, dylent godi hynny gyda'r awdurdod lleol yn y lle cyntaf. Ond os oes yna enghreifftiau penodol yr hoffech eu trafod, byddwn yn fwy na pharod i'w harchwilio gyda chi.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel rydym newydd glywed, mae llawer o bryderon ynghylch datblygiadau Un Blaned, ac rwy'n sicr wedi gohebu ar y mater hwn fwy nag unwaith dros y blynyddoedd gyda'ch cyd-Aelod Cabinet, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio. Yng ngoleuni'r pryderon a godwyd gyda mi yn sir Benfro, ers peth amser bellach rwyf wedi bod yn galw am adolygiad o bolisi datblygu Un Blaned. O ystyried bod yna bryderon difrifol wedi bod mewn perthynas â'r polisi penodol hwn ers blynyddoedd bellach, pam na wnaiff Llywodraeth Cymru adolygu'r polisi yng ngoleuni'r pryderon sydd wedi'u codi gyda ni fel Aelodau, ac fel rydym newydd ei glywed gan yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru hefyd?

Fel y dywedais yn fy ateb blaenorol, gwn nad yw Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu adolygu neu newid y polisi ar hyn o bryd, a'r rheswm am hynny yw oherwydd y nifer isel iawn o ddatblygiadau sy'n dod o dan hyn. Nid yw datblygiadau Un Blaned yn ymwneud â'r datblygiad yn unig, wrth gwrs; mae'n ymwneud â ffordd o fyw, lle mae'n rhaid cynhyrchu mwyafrif yr incwm, bwyd ac ynni sydd eu hangen i gynnal yr aelwyd o safle'r cais ei hun. Mae'r adeiladau hynny'n isel neu'n ddi-garbon o ran eu hadeiladwaith a dylent gynnwys deunyddiau diraddiadwy o ffynonellau cynaliadwy, er enghraifft pren ac ati. Fel y cynigiais i fy nghyd-Aelod ym Mhlaid Cymru, os oes datblygiadau penodol y mae cyd-Aelodau neu eu hetholwyr yn credu nad ydynt yn parchu'r cytundeb a wnaed pan gafodd y ceisiadau hynny eu cytuno, gallwn gael sgwrs am y rheini a'r ffordd orau o symud ymlaen.

Anghenion Tai Tenantiaid

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod tai yn diwallu anghenion tenantiaid ar bob cam o'u bywydau? OQ61442

Mae pob cartref newydd a adeiladir gyda chyllid Llywodraeth Cymru yng Nghymru yn cael ei adeiladu i'r safon cartrefi gydol oes, gan sicrhau bod cartrefi yn hygyrch ac yn gyfleus i bob tenant ac y gellir eu haddasu i anghenion hirdymor. Mae'n sicrhau bod anheddau'n hygyrch i denantiaid o bob oed a'r rheini sydd ag amhariadau corfforol.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae bob amser yn bleser clywed eich ymateb gofalus i'n cwestiynau. Fel y gwyddom i gyd, mae gennym brinder tai difrifol, ac rwy'n croesawu camau i gynyddu'r cyflenwad o gartrefi ledled Cymru wrth inni geisio dileu digartrefedd. Fodd bynnag, yn ogystal ag adeiladu'r cartrefi hyn yn gyflym, rhaid inni sicrhau eu bod yn diwallu anghenion y rhai sydd am fyw ynddynt. Rhaid inni sicrhau bod pob cartref a adeiladir yn darparu ar gyfer teuluoedd ifanc sy'n tyfu, gyda mynediad digonol at fannau awyr agored, a hefyd yn diwallu anghenion preswylwyr anabl, eiddil ac oedrannus. Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi'n aml yn cyfeirio at safonau ansawdd tai Cymru, ond nid yw eu hiteriad diweddaraf yn mynd i'r afael â'r hyblygrwydd sydd ei angen i sicrhau bod cartrefi'n diwallu anghenion sy'n newid. Pryd fydd safonau ansawdd tai Cymru yn cael eu diweddaru nesaf, a pha gynlluniau sydd gennych i fynd i'r afael ag anghenion gofal drwy safonau tai?

14:10

Mae pob cartref newydd sy'n cael ei adeiladu gyda chyllid Llywodraeth Cymru nawr yn cael ei adeiladu i'r safon cartrefi gydol oes. Er nad yw hwnnw'n safon cadair olwyn llawn, mae'n sicrhau bod cartrefi'n cael eu hadeiladu gyda grisiau y gellir gosod lifft risiau arnynt, a mwy o le i symud, cawod llawr gwaelod hygyrch, drysau mynediad lletach, a llwybrau mynediad allanol cyfleus. Mae'r nodweddion syml hynny'n eu gwneud yn hyblyg a gall ystod eang o ddeiliaid eu defnyddio drwy gydol oes y cartref, ac yn wir, drwy gydol oes yr unigolyn, a gallant ymateb i anghenion newidiol yr aelwydydd hynny hefyd. Mae'r cartrefi gydol oes hyn i gyd yn ymwneud â hyblygrwydd a'r gallu i addasu. Nid ydynt yn arbennig mewn unrhyw ffordd, yn yr ystyr o fod yn wahanol, ond maent wedi'u cynllunio'n feddylgar a'u nod yw creu ac annog amgylchedd byw gwell i bawb. Boed yn fagu plant bach neu ymdopi â salwch neu lai o symudedd yn ddiweddarach mewn bywyd, bydd y safon cartrefi gydol oes nawr, ym mhob tŷ sydd wedi'i adeiladu gyda chyllid Llywodraeth Cymru, yn gwneud y dyddiau da a'r dyddiau drwg mewn bywyd yn haws i bobl eu rheoli. Rwy'n credu bod hwnnw wedi bod yn gam pwysig ymlaen o ran gallu cefnogi pobl i aros gartref pan allai eu hanghenion gynyddu ar adegau penodol yn eu bywydau.

Mae'r ateb yna gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn dangos bod y Llywodraeth yn edrych i ateb rhai o anghenion corfforol pobl, ond, wrth gwrs, mae yna anghenion diwylliannol gan bobl, ac anghenion cymdeithasol, ac anghenion eraill. Wrth gwrs, y ffordd rwyddaf o sicrhau bod yr holl anghenion yma, i denantiaid a phawb arall, yn cael eu cyfarch ydy drwy sicrhau bod yna hawl i dai digonol gennym ni—deddfwriaeth rydyn ni wedi bod yn galw amdani ers sawl blwyddyn yma. Os ewch chi draw i ddinas fel Fienna, er enghraifft, cyn bod yna unrhyw ganiatâd cynllunio yn cael ei roi ar dai cymdeithasol i denantiaid yn fanno, maen nhw'n mesur anghenion cymdeithasol. Maen nhw'n sicrhau bod yna fynediad i drafnidiaeth gyhoeddus, bod yna fynediad i feddyg a deintydd, bod gan bobl oedrannus fynediad i ofal iddyn nhw yn eu hanghenion diwedd oes nhw, ac yn y blaen. Maen nhw'n astudio’r holl anghenion yma cyn rhoi caniatâd cynllunio. Mae hynny’n rhywbeth y dylem ni fod yn anelu tuag ato fan hyn yng Nghymru. Felly, yn absenoldeb Deddf hawl digonol, pa gamau mae'r Llywodraeth yma yn eu cymryd i sicrhau fod gan denantiaid fynediad i addysg, i iechyd, i drafnidiaeth a'r holl bethau eraill yma sydd eu hangen fel rhan o hanfodion eu bywydau beunyddiol nhw?

Rwy'n credu bod dau beth pwysig i'w cofio yma. Yn gyntaf, yn y math o ddull o greu lleoedd, y cyfeiriais ato mewn perthynas â'r ail gwestiwn y prynhawn yma, a oedd yn ymwneud â sut rydym yn sicrhau bod canol trefi'n addas ac yn hygyrch i bobl anabl, dylai'r un peth fod yn wir i'n cymunedau i gyd, a sicrhau bod gennym y math hwnnw o ddull o greu lleoedd, er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau hanfodol sydd eu hangen arnynt, at y bywyd cymdeithasol sydd ei angen arnynt, ac at eu diddordebau diwylliannol ac yn y blaen hefyd. Rwy'n credu y dylid cynnwys y pethau hynny i gyd o fewn y dull creu lleoedd, a ddylai, wrth gwrs, gynnwys unigolion a chymunedau wrth ddatblygu'r cynlluniau creu lleoedd hynny hefyd. Rwy'n credu bod hyn i gyd yn bwysig iawn.

Ac wrth feddwl am y sgyrsiau hynny a gawn pan fydd pobl angen gofal cymdeithasol, y sgwrs 'beth sy'n bwysig i chi', rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn hefyd, er mwyn sicrhau bod tai pobl yn eu galluogi i ymgymryd â chyfrifoldebau eraill—y cyfrifoldebau gofalu a allai fod ganddynt, mynd i'r ysgol—ac unwaith eto, eu galluogi i gael y diddordebau sy'n gwneud bywyd yn werth ei fyw. Felly, rwy'n credu y daw'r holl bethau gwahanol hynny at ei gilydd—y cynlluniau creu lleoedd, yr adeiladau eu hunain, yn ogystal ag unrhyw gymorth gofal cymdeithasol y gallai fod ei angen ar unigolion hefyd.

14:15

Ysgrifennydd y Cabinet, cyfarfûm â gofal a thrwsio Cwm Taf yn ddiweddar, ac fe wnaethant ddweud wrthyf fod nifer y bobl sy'n gofyn am gymorth ganddynt wedi cynyddu mwy na 134 y cant rhwng 2018-19 a 2022-23. Yn amlwg, mae'n well ym mhob ffordd i bobl os gallwn eu galluogi i aros yn eu cartrefi eu hunain, ond dywedir wrthyf fod perchnogion tai hŷn yn ei chael hi'n fwyfwy anodd ariannu'r gwaith trwsio cartrefi sy'n ei gwneud yn ddiogel iddynt wneud hynny. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gefnogi asiantaethau gofal a thrwsio ledled Cymru, fel y gallant gyflawni eu rôl hanfodol i sicrhau bod cartrefi pobl yn addas ar gyfer eu hanghenion?

Hoffwn ymuno â chi i gydnabod y gwaith pwysig y mae gofal a thrwsio yn ei wneud, gan helpu pobl i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi cyhyd â phosibl, ac rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi'r gwaith hwnnw. Ar hyn o bryd, mae asiantaethau gofal a thrwsio ledled Cymru yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy ein rhaglen asiantaethau gwella cartrefi, a hefyd ein rhaglenni addasiadau brys, a dyfarnwyd cyfanswm o £8.6 miliwn yn y flwyddyn ariannol gyfredol i asiantaethau gofal a thrwsio i'w cefnogi yn y gweithgarwch hwnnw. Mae asiantaeth Cwm Taf yn derbyn £800,000 o'r dyraniad hwn, a chredaf fod y gwaith y maent yn ei wneud, yn ymateb mor gyflym i anghenion pobl, yn wych wrth helpu pobl i ddod adref o'r ysbyty neu i aros yn eu cartrefi hefyd. Gall asiantaethau gofal a thrwsio gael cymorth ariannol drwy ein rhaglen ariannu Hwyluso hefyd. Mae'r rhaglen honno yn cael dyraniad blynyddol o £6 miliwn. Mae'r cronfeydd hynny, fodd bynnag, yn cael eu dyrannu i awdurdodau lleol i wneud addasiadau a gwaith byw'n annibynnol, ond fel y dywedais, gall asiantaethau gofal a thrwsio gael mynediad at y cyllid hwnnw ar gyfer eu gwaith.

Datgarboneiddio Cartrefi

7. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi’r broses o ddatgarboneiddio cartrefi? OQ61416

Rydym yn cael gwared ar rwystrau ac yn creu amgylchedd a fydd yn galluogi pawb yng Nghymru i leihau allyriadau o'u cartrefi, gan dargedu cymorth uniongyrchol tuag at aelwydydd incwm isel, gan gynnwys ein rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio gwerth £70 miliwn a'r cynllun Nyth Cartrefi Clyd gwerth £30 miliwn. Bydd y dull hwn o weithredu yn sicrhau pontio teg ac yn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Gydag 11 y cant o'n hallyriadau carbon yn dod o'n cartrefi, er mwyn cyrraedd ein targedau lleihau carbon, mae'n hanfodol ein bod yn gwella effeithlonrwydd ynni o fewn y stoc dai. Wrth gwrs, nid yw inswleiddio cartrefi ond yn un ffordd o wella effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio cartrefi, ond mae'n hanfodol bwysig. Yn ôl ymchwil gan Which?, mae lefelau inswleiddio mewn cartrefi yn ardal y canolbarth a'r gorllewin yn gymharol wael, yn enwedig yn yr ardaloedd mwy gwledig. Maent yn dweud hefyd fod cyflenwad cymharol isel o osodwyr inswleiddio, ac fe gafodd hynny ei adleisio yn y grŵp hollbleidiol ar adeiladu ddydd Llun. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod nifer ddigonol o bobl yn cael eu hyfforddi i ateb y galw am osodwyr inswleiddio?

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn, ac mewn gwirionedd mae'n fy atgoffa o'r cwestiwn a ofynnodd Peter Fox yn gynharach, a oedd hefyd yn ymwneud â sgiliau. Gall landlordiaid cymdeithasol gael gafael ar yr arian sydd ar gael drwy'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio tuag at hyfforddiant, gan gynnwys ar gyfer gosodwyr inswleiddio, ac rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'n sefydliadau academaidd, cymdeithasau sgiliau'r diwydiant a phartneriaid eraill i adolygu sgiliau'r gweithlu'n barhaus, i gyflawni ein huchelgeisiau ôl-osod a'n safonau.

Rydym hefyd wedi sefydlu hyb carbon sero net i gysylltu partneriaid â gwybodaeth arbenigol a manylion am y rhaglen sgiliau sydd ar gael, ac mae cyllid penodol ar gyfer hyfforddiant yn cynnwys y rhaglen sgiliau hyblyg, sef grant hyfforddi sydd ar gael i bob cyflogwr yng Nghymru, ac sy'n cynnig hyd at 50 y cant o'r costau hyfforddi i gyflogwr sy'n dymuno prynu cyrsiau hyfforddi i uwchsgilio eu gweithlu, a hefyd ein cyfrifon dysgu personol gwyrdd, sydd wedi'u cynllunio'n benodol i gefnogi sectorau allweddol, gan gynnwys ôl-osod ynni domestig. Felly, mae nifer o ffyrdd y gellir cael gafael ar gyllid i uwchsgilio pobl yn y sector pwysig hwn.

Mae cwestiwn 8 [OQ61407] wedi ei dynnu yn ôl. Cwestiwn 9, Russell George.

14:20
Systemau Chwistrellu Dŵr mewn Eiddo Newydd

9. Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda chwmnïau dŵr ynglŷn â gosod systemau chwistrellu dŵr mewn eiddo newydd? OQ61418

Nid yw Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cael unrhyw drafodaethau gyda chwmnïau dŵr ynghylch gosod systemau chwistrellu dŵr mewn cartrefi newydd.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Un o'r pethau y mae datblygwyr yn eu codi gyda mi yn weddol fynych yw'r gost ychwanegol iddynt yn aml, nid o osod y systemau chwistrellu dŵr eu hunain, ond lle nad oes digon o bwysedd dŵr wedi'i ddarparu gan gwmnïau dŵr, y gost ychwanegol o ddod o hyd i ddulliau eraill o hwyluso system chwistrellu dŵr, megis cost pympiau neu danciau dŵr. Felly, mae'r cwestiwn rwy'n ei ofyn, Weinidog, yn ymwneud â hynny, oherwydd, wrth gwrs, gyda'r costau ychwanegol hynny i'r datblygwr, cânt eu trosglwyddo, ac yna mae cartref, wrth gwrs, yn ddrutach i'r prynwr yn y pen draw. Ac wrth gwrs, rydym eisiau cadw cost y cartrefi hynny mor isel â phosibl, yn enwedig ar gyfer datblygiadau newydd lle mae pobl ifanc eisiau prynu am y tro cyntaf. Felly, a gaf i ofyn, Weinidog, beth allwch chi ei wneud i sicrhau bod cwmnïau dŵr yn darparu'r pwysedd dŵr angenrheidiol i wneud yn siŵr bod pwysedd dŵr yn addas ac yn briodol mewn ardal benodol pan fo datblygiadau newydd yn digwydd?

Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod yn gwybod bod gan gwmnïau dŵr yng Nghymru ddyletswydd statudol i ddarparu dŵr, ond nid oes gofyniad i'w ddarparu at ddibenion diffodd tân—felly, byddai hynny'n cynnwys dŵr ar gyfer systemau chwistrellu—o dan Ddeddf Dŵr 2014. Byddem yn dweud, cyn gweithredu'r—. Esgusodwch fi. O ystyried y pwysedd dŵr arferol y gellir ei ddisgwyl mewn eiddo, mae sicrhau llif digonol yn rhywbeth y dylai'r cynllun gwreiddiol ei ystyried, a lle mae problemau gyda phwysedd dŵr, ceir rhai atebion cynllunio amgen, fel tanc storio dŵr. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod bod arloesedd yn digwydd ar gryn gyflymder mewn gwirionedd, a gwelwyd arloesedd pwysig gan y diwydiant chwistrellu i fynd i'r afael â phwysedd dŵr isel. Er enghraifft, datblygwyd y pwmp mewnol, sy'n gwella'r llif a'r pwysedd, yn ogystal â'r defnydd o bennau chwistrellu llif isel, a allai olygu na fydd angen tanciau storio dŵr yn y dyfodol mewn gwirionedd. Felly, rwy'n credu y gallwn groesawu'r arloesedd, ond rwy'n cydnabod y pwynt sy'n cael ei wneud. 

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Eitem 2 yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Julie Morgan.

Offerynnau Cerddorol

1. Pa gynlluniau sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i annog pobl ifanc i ddysgu chwarae offerynnau cerddorol? OQ61431

Mae Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru yn galluogi pob plentyn a pherson ifanc, rhwng tair ac 16 oed, i elwa ar gyfleoedd i chwarae offeryn cerddorol, gan gynnwys drwy raglenni ysgolion fel Profiadau Cyntaf a Llwybrau Cerddoriaeth.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb, ac rwy'n croesawu'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol a'r rhaglen ysgolion yn fawr, ond fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, rwyf wedi bod yn rhan o'r ymgyrch i achub adran iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, dan arweiniad Rhianon Passmore ac eraill ar draws y Siambr, ac mae disgwyl i goleg brenhinol Cymru wneud cyhoeddiad ar y canlyniad ddydd Gwener nesaf, 19 Gorffennaf. A hoffwn ailadrodd, mae mwy na 400 o blant yn mynychu'r conservatoire iau. Dyma'r unig wasanaeth o'i fath yng Nghymru, sy'n darparu addysgu yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac mae dros 50 y cant o'r plant yn derbyn bwrsariaethau oherwydd incwm y teulu. Ac wrth gwrs, mae'r plant hyn yn dod o bob cefndir ac yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru mewn cerddorfeydd a theatrau ar draws y byd. Pe bai'r adran iau yn cau, Cymru fyddai'r unig wlad yn y DU heb conservatoire iau pwrpasol, sy'n golygu y byddai ein pobl ifanc dan anfantais sylweddol. Ac yn amlwg, mae i'r conservatoire ei le fel y datblygiad o'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol. Rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfarfod â phennaeth y coleg, ac fe wnaethom ei drafod mewn cwestiynau busnes ddoe, ond tybed a allai ddweud wrthym beth oedd canlyniad y cyfarfod hwnnw.

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn atodol, Julie. Gwn y bydd y cynigion i gau'r adran iau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi peri pryder i bawb dan sylw. Mae'n bwysig cofio bod y coleg yn gorff annibynnol sy'n gyfrifol am ei faterion academaidd ei hun. Maent wedi dweud eu bod yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddarparu cyfleoedd ym myd cerddoriaeth i bobl ifanc ac i greu llwybrau i hyfforddiant proffesiynol a byddant yn parhau i ddarparu gwaith prosiect mewn nifer o feysydd, gan gynnwys cyfres o weithdai trochi ar benwythnosau mewn cerddoriaeth, cyfnodau preswyl y Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol a chyrsiau gwyliau yn y celfyddydau cynhyrchu.

Yn wir, cyfarfûm â phennaeth y coleg ddydd Llun. Cefais sgwrs ddefnyddiol gyda hi. Cefais fy sicrhau o'i hymrwymiad hi a'i thîm i wasanaethau cerddoriaeth ieuenctid, ac er bod y pwysau ariannol y mae'r coleg yn eu hwynebu, fel llawer o brifysgolion yng Nghymru ac ar draws y DU, yn un o'r ffactorau sy'n gysylltiedig â'r cynigion presennol, mae yna ymrwymiad gwirioneddol hefyd i sicrhau bod gweithgarwch ieuenctid yn gynhwysol ac yn genedlaethol ei gyrhaeddiad a'i fod wedi ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol. Ac er bod y ddarpariaeth bresennol yn hynod werthfawr i'r rhai sy'n elwa ohoni, mae'r mwyafrif helaeth—bron 80 y cant—yn byw yng Nghaerdydd a'r cyffiniau yn ne-ddwyrain Cymru. Er enghraifft, nid oes unrhyw fyfyrwyr o ogledd Cymru a Cheredigion.FootnoteLink Ac o ran y bwrsariaethau, mae'r ffigurau a gefais yn dangos bod 24 y cant o fyfyrwyr cerddoriaeth ifanc yn derbyn bwrsariaeth. Fel y mae'r Aelod wedi nodi, mae'r broses yn parhau, ac mae disgwyl i'r coleg wneud cyhoeddiad ar 19 Gorffennaf.

14:25

Un o'r pethau sy'n drawiadol yn eich ymateb i gwestiwn Julie Morgan yw'r ffaith bod 80 y cant o fyfyrwyr cerddoriaeth sy'n defnyddio'r coleg cerdd a drama yn byw yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, felly pan fyddwch chi'n cyfarfod â'r coleg, a ydych chi'n pwysleisio pwysigrwydd darparu cyfleoedd addysg cerddoriaeth i bob darpar ddisgybl ledled Cymru? Ni waeth lle maent yn byw, dylai pawb gael mynediad cyfartal at addysg cerddoriaeth os ydynt yn dymuno cymryd rhan yn y maes astudio hwnnw. Felly, pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda'r sector cerddoriaeth er mwyn darparu cyfleoedd cyfartal i bobl ledled Cymru, ni waeth lle maent yn byw?

Diolch yn fawr, Gareth, ac yn wir, roedd hwnnw'n un o'r materion a drafodais gyda'r pennaeth. Os ydym yn sôn am ysgol gerddoriaeth genedlaethol, mae angen iddo fod yn wasanaeth cenedlaethol, ac mae'r coleg yn ymwybodol iawn o hynny, ac er eu bod yn mynd drwy'r broses hon ar hyn o bryd, maent yn ystyried sut y gallant sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei gynnig i bobl ifanc ym mhob rhan o Gymru.

Ni fyddwn eisiau i chi feddwl, oherwydd yr hyn a ddywedais am ffocws y coleg brenhinol yn y de-ddwyrain, nad ydym yn cynnig cyfleoedd cerddoriaeth ledled Cymru gyfan. Mae ein gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol yn darparu ystod o raglenni ar gyfer ysgolion ledled Cymru, sy'n cynnwys Profiadau Cyntaf mewn ysgolion cynradd, Llwybrau Cerddoriaeth mewn ysgolion uwchradd, yn ogystal â hyfforddiant cerddorol a cherddoriaeth fyw yn ehangach, ac mae'r cynlluniau hyn hefyd yn cael eu cefnogi gan blatfform cerddoriaeth digidol Charanga Cymru, sydd, hyd yma, wedi cael ei ddefnyddio gan dros 1,000 o ysgolion yng Nghymru, a hyd yma rydym wedi buddsoddi dros £13 miliwn yn y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol. Gallais ymuno â nhw mewn dathliad yn ddiweddar, ac mae'n wirioneddol wych, ond rydych chi'n gwneud pwynt pwysig y dylai cerddoriaeth fod ar gael i blant a phobl ifanc ledled Cymru.

Hoffwn dalu teyrnged i Julie Morgan hefyd am ei gwaith a'i chefnogaeth i fywyd diwylliannol Cymru.

Felly, fel y dywed Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n bwysig cydnabod arwyddocâd arloesol y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol cyntaf, ac yn arbennig, roeddwn eisiau talu teyrnged i Mari Pritchard am ei harweinyddiaeth arloesol. Ac rydych chi wedi sôn am rai o'r rhaglenni Cymru gyfan sy'n cael eu cyflwyno'n llwyddiannus iawn.

Mae fy nghwestiwn heddiw yn amlwg yn ymwneud â'r pyramid dilyniant pwysig iawn sy'n ganolog i'r cynllun cenedlaethol ar gyfer cerddoriaeth, a'r angen i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gael rhaglen ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog, ac mae llawer o'r rheini'n dod o etholaethau'r Cymoedd. Mae'n bwysig nodi, felly, nad yw'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol yn darparu ar gyfer y garfan honno, ac ni fwriadwyd iddo wneud hynny erioed, ac mae hefyd yn amlwg fod Coleg Cerdd Brenhinol y Gogledd hefyd yn lleoliad i rai o'n disgyblion o ogledd Cymru, ac mae'n bwysig fod y coleg yn cyflwyno rhaglenni mewn hybiau fel y gall  ei wneud.

Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd i'r lle hwn fod y cynllun cerddoriaeth cenedlaethol yn dal i fod yn hyfyw mewn perthynas ag ysgol iau ar ddyddiau Sadwrn, a bod popeth yn cael ei wneud i sicrhau adferiad adran iau briodol a model ariannu newydd yn y dyfodol sy'n addas ar gyfer conservatoire, fel sydd gennym ar draws y Deyrnas Unedig, i ariannu'r adran iau? Ac a wnaiff hi fynd ati ar frys i asesu sut mae hyn wedi digwydd a phwysleisio'r angen am adran iau ddwyieithog i'r conservatoire yng Nghymru?

Felly, edrychaf ymlaen at gyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet i geisio unioni'r sefyllfa hon i'r disgyblion gofidus, o ran eu cynnydd cerddorol a'r bwlch sydd ganddynt nawr a'u materion diogelu, ac i'r tiwtoriaid sydd bellach yn edrych y tu hwnt i Gymru—gwlad y gân—am gyflogaeth ar gyfer y dyfodol. Diolch.

14:30

Diolch yn fawr iawn, Rhianon, ac yn amlwg rwy'n ymwybodol o'ch ymrwymiad cryf yn y maes hwn ac rwy'n hapus iawn i gyfarfod â chi cyn diwedd y tymor i drafod hyn. Fel y dywedais wrth Julie Morgan, mae yna broses ar y gweill a bydd y coleg brenhinol yn gwneud cyhoeddiad yn seiliedig ar ei ymgynghoriadau. Rwyf wedi cael sicrwydd eu bod wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd parhaus i blant a phobl ifanc. Nid yw'r ffigurau a welais yn awgrymu bod cymaint â hynny o blant a phobl ifanc o'r Cymoedd yn defnyddio'r gwasanaeth. Fel y dywedais, mae 80 y cant yn dod o Gaerdydd ac ardal y de-ddwyrain. Rwy'n gwybod eu bod wedi ymrwymo i geisio sicrhau bod cynnig cynhwysol ar gyfer Cymru gyfan.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n cytuno ei bod yn bwysig iawn fod gennym gynnig cynhwysol, ond mae 50 y cant o'r disgyblion sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwn yn derbyn bwrsariaethau oherwydd eu hamgylchiadau incwm. Felly, efallai fod Caerdydd yn ymddangos fel dinas gyfoethog—nid yw hynny'n wir. Mae yna ardaloedd enfawr o amddifadedd ac mae'r bobl ifanc hyn yn defnyddio'r gwasanaeth hwn. Ac mae ychydig yn anodd gweld sut y byddai plentyn tair oed yn gallu teithio o sir Benfro neu ogledd Cymru er mwyn cymryd rhan yn y conservatoire iau, ac rwy'n credu bod angen gwneud llawer iawn o ailfeddwl ar y mater.

Ac rwy'n siomedig iawn o glywed bod y pennaeth wedi gwrthod cyfarfod â Jim Walker, a sefydlodd y gwasanaeth hwn yn ôl yng nghanol y 1990au, ac nid yw'n ymddangos ei fod yn ystyried y cynigion sy'n dod gan y staff i leihau hyd y conservatoire, a fyddai'n arbed 20 y cant neu fwy ar unwaith, yn dibynnu ar faint y byddant yn cyfyngu ar y gwasanaeth. Oherwydd byddai ei ddileu'n gyfan gwbl yn golygu na fydd yn bodoli mwyach, ond pe gallem leihau'r gwasanaeth i'w wneud yn gynaliadwy yn y tymor byr tra bod cyllid yn brin, byddai'n rhoi cyfle inni ddod o hyd i ffynonellau cyllid amgen i alluogi'r holl bobl ifanc ddifreintiedig hyn—50 y cant ohonynt ar incwm isel—i ddod yn gerddorion proffesiynol yn y dyfodol, os mai dyna fyddent yn dewis ei wneud. Ond os ydym yn ei ddileu, nid fydd conservatoire i bobl ifanc yn y wlad hon, ac mae dweud yn syml, 'Wel, am nad yw'n bodoli yng ngogledd Cymru, mae angen inni dorri ei goesau i ffwrdd', yn—. Roeddwn i'n meddwl tybed a ydych chi wedi siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, nad yw yn y Siambr mwyach, neu'n wir Ysgrifennydd y Cabinet dros ddiwylliant, i ddod o hyd i ateb cyn tynnu'r plwg ar y gwaith gwych sydd wedi bod yn digwydd ers bron i 20 mlynedd.

Diolch, Jenny, ac fel y dywedais wrth Julie Morgan, mae'r ffigurau a gefais yn dangos bod 24 y cant o fyfyrwyr cerddoriaeth ifanc yn derbyn bwrsariaeth ffioedd. Ac nid oes unrhyw gwestiwn o fod heb unrhyw ddarpariaeth i bobl ifanc yng Nghymru. Mae'n fater o—. Mae pob prifysgol yn profi anawsterau ariannol, mae llawer ohonynt yn edrych ar eu modelau gweithredu. Ond fel y dywedais wrth Julie, nid ymarfer ariannol yn unig yw hwn; mae'n ymwneud hefyd ag edrych ar gynwysoldeb a sut y darperir y gwasanaethau ledled Cymru a sut maent mor gynhwysol â phosibl.

Mae proses statudol yn parhau, ac ni allaf wneud sylw ar yr hyn y mae'r coleg brenhinol—pa gyfarfodydd y mae'r coleg brenhinol—wedi derbyn neu heb ei dderbyn. Rwy'n gwybod eu bod wedi ymrwymo i ymateb i'r ymgynghoriad erbyn 19 Gorffennaf ar ôl iddynt adolygu'r holl sylwadau a ddaeth i law, a bydd cyhoeddiad pellach wedyn. 

Mae'n rhaid imi ddweud wrth yr Aelod, mewn perthynas â'i chyfeiriad at Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, fod angen inni ystyried y pwysau ariannol enfawr sydd arnom fel Llywodraeth. Aethom i mewn i'r rownd gyllidebol hon gyda diffyg o £1.3 biliwn. Mae goblygiadau wedi bod i hynny. Roedd hynny allan o'n rheolaeth ni, ac yn deillio o ddiffyg buddsoddiad San Steffan. Mae'r gyllideb yng Nghymru ar gyfer addysg yn dal i fod £700 miliwn yn llai nag y byddem yn disgwyl iddi fod. Felly, mae'n rhaid cydnabod y problemau ariannol anodd iawn sy'n ein hwynebu ar draws y Llywodraeth.

14:35
Clybiau Gwyliau

2. Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o drefniadau diogelu ar gyfer clybiau gwyliau sy’n defnyddio adeiladau ysgolion? OQ61434

Mae diogelu pobl ifanc o'r pwys mwyaf i Lywodraeth Cymru. Rhaid i bob ysgol ddangos polisïau, gweithdrefnau ac ymarfer diogelu effeithiol. Wrth gomisiynu gweithgareddau gan sefydliad arall, neu ganiatáu iddynt ddefnyddio adeiladau, dylai ysgolion sicrhau bod gan ddarparwyr fecanweithiau cadarn ar waith i ddiogelu plant rhag niwed.

Diolch yn fawr am yr ymateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gennyf bryderon difrifol ynghylch clybiau gwyliau a'r gweithdrefnau diogelu a ddylai fod ar waith. Daeth i fy sylw efallai nad yw protocolau bob amser yn glir ac yn weithredol i fynd i'r afael â diogelu mewn clybiau gwyliau sy'n defnyddio adeiladau ysgol. Yn dibynnu ar y disgrifiad o'r clwb gwyliau, nid oes rheidrwydd cyfreithiol ar rai gweithredwyr i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru. Er y gall ysgolion lesio eu heiddo i ddarparwyr clybiau gwyliau preifat, mae rhieni'n rhagdybio bod polisïau'r ysgol ei hun, gan gynnwys diogelu, yn berthnasol i'r clwb gwyliau tra byddant yn gweithredu ar safle'r ysgol, ond fe wyddom nad yw hynny'n wir mewn gwirionedd, gan mai dim ond lesio adeiladau ysgol y mae clybiau gwyliau—ffaith y mae llawer o rieni'n anymwybodol ohoni. Gyda hyn i gyd mewn golwg, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i gau'r bylchau hyn a sicrhau bod yr holl fesurau diogelu angenrheidiol yn cael eu rhoi ar waith er lles ein plant?

Diolch yn fawr am y cwestiwn, Peter. Ac fel y nodwch, mae'n rhaid i leoliadau sydd wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru roi sylw i'r safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer gofal plant a reoleiddir, ac mae hynny'n cynnwys safonau penodol yn ymwneud â diogelu, er mwyn sicrhau bod plant yn ddiogel rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod a bod rhieni'n hyderus fod pob cam posibl i'w diogelu yn cael eu cymryd.

Diweddarwyd y safonau gofynnol cenedlaethol ym mis Mai 2023 i gynnwys trefniadau gwell ar gyfer hyfforddiant diogelu i'r holl staff sy'n gweithio mewn lleoliadau chwarae a gofal plant cofrestredig. Ar hyn o bryd rydym yn adolygu'r Gorchymyn eithriadau, sy'n nodi'r gwasanaethau a'r lleoliadau nad oes angen iddynt gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru na chydymffurfio â'r rheoliadau gwarchod plant a gofal dydd. Ac mae'r gwaith hwnnw ar y gweill.

Efallai y bydd o ddiddordeb i chi hefyd ein bod yn dilyn argymhellion allweddol o'r adolygiad gweinidogol o chwarae. Mae hynny'n golygu ein bod ar hyn o bryd yn edrych ar ba gymorth ac arweiniad a ddarperir i ddarpariaeth gofal plant anghofrestredig mewn perthynas â diogelu. Mae'r cod ymarfer diogelu yn cael ei hyrwyddo ymhlith lleoliadau chwarae i godi ymwybyddiaeth o faterion diogelu, ac mae'r cod hwnnw'n rhoi cyngor ar gamau rhesymol y gall unrhyw un sy'n cynnig gwasanaeth neu sy'n rhedeg gweithgaredd eu cymryd i greu amgylcheddau mwy diogel. Ac mae adolygiad a diweddariad o'r cod ymarfer diogelu wedi cychwyn. Bydd hynny'n cynnwys gwybodaeth i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gamdriniaeth, esgeulustod a niwed a'r camau hanfodol i'w cymryd lle mae hyn yn digwydd neu'n lle ceir amheuaeth ohonynt. Ac rydym hefyd yn mynd i adnewyddu a hyrwyddo'n eang y canllawiau cadw'n ddiogel sy'n cyd-fynd â'r cod ar gyfer unigolion, rhieni a gofalwyr.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau gan lefarwyr y pleidiau nawr. Llefarydd y Ceidwadwyr, Tom Giffard.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet.  

Ysgrifennydd y Cabinet, rydym wedi gweld llawer o Weinidogion yn eich rôl yn ceisio gwrthdroi'r llithro mewn perfformiad academaidd yn ein system addysg yng Nghymru ar ôl 25 mlynedd o'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Dro ar ôl tro, rydym wedi gweld Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn lansio cwricwla, strategaethau, cynlluniau, oll â'r nod o godi Cymru o'r lle trist yr ydym ynddo ar waelod tablau cynghrair y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr ledled y DU ym mhob pwnc bob tro y cawsom ein hasesu. Ond mae'r dystiolaeth yn dweud wrthym fod pob un ohonynt wedi methu, felly pa hyder allwch chi ei roi i'r Senedd y byddwch chi'n llwyddo lle nad yw eich rhagflaenwyr wedi gwneud hynny?

14:40

Diolch yn fawr, Tom. Rwy'n gwybod nad oeddech chi yma yr wythnos diwethaf ar gyfer fy natganiad diweddaraf ar ddiwygio'r cwricwlwm, lle nodais rai o'r mesurau y byddwn yn eu cymryd i sicrhau bod ein Cwricwlwm i Gymru arloesol yn cyflawni ar gyfer pob dysgwr. Credaf yn gryf mai ein dull o weithredu drwy'r cwricwlwm newydd yw'r un cywir: cwricwlwm pwrpasol i ennyn diddordeb ein holl blant a phobl ifanc mewn dysgu perthnasol, ond rwyf wedi cydnabod bod angen mwy o gefnogaeth ar rai ysgolion gyda hynny. Yr wythnos diwethaf, nodais y mathau o gamau y byddem yn eu cymryd i sicrhau ein bod yn cefnogi ysgolion sydd angen cymorth ychwanegol gyda hynny. Nid yw hynny'n golygu atal neu gyfyngu ar yr ysgolion sy'n llwyddo; mae'n golygu darparu cymorth ychwanegol ynghylch pethau fel cynllunio cwricwlwm, asesu, cynnydd, a rhoi llythrennedd a rhifedd ar fframwaith statudol, a bydd hyn oll yn rhan o gynllun cyrhaeddiad yr ydym yn ei roi at ei gilydd fel Llywodraeth. Rwyf wedi bod yn glir fod codi cyrhaeddiad yn brif flaenoriaeth i mi. Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn glir ynglŷn â hynny hefyd. Rwy'n cydnabod bod gennym lawer o waith i'w wneud. Mae'n ymwneud â mwy na PISA yn unig, fel y dywedais yr wythnos diwethaf; mae angen inni sicrhau bod ein cyrhaeddiad yn cyd-fynd â'n cwricwlwm newydd. Ond mae hon yn flaenoriaeth bwysig i bob un ohonom.

Diolch. Rwy'n falch eich bod wedi sôn am eich canllawiau newydd, oherwydd dyna oedd fy nghwestiwn nesaf. Wrth lansio'r canllawiau newydd, fe wnaethoch chi gyfaddef,

'bod angen manylion a chefnogaeth ychwanegol ar arweinwyr ac ymarferwyr i'w helpu i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd hynny, yn enwedig mewn meysydd fel dilyniant ac asesu.'

Ond mae'n codi'r cwestiwn pam nad oedd y manylion hynny'n bresennol yn y lle cyntaf, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwyddom fod rhai o'r newidiadau hyn wedi rhoi pwysau a llwyth gwaith enfawr ar ein staff addysgu hefyd. Dywedodd Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau mewn cyfweliad ddydd Llun eu bod yn clywed pryderon gwirioneddol am athrawon yn gadael y proffesiwn oherwydd y straen, y pwysau a'r diffyg cefnogaeth y maent yn gorfod ymdopi ag ef o ganlyniad i'r newidiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru. Mewn rhai arolygon, mae hyd at 80 y cant o athrawon yn teimlo fel hyn, ac mae hynny wrth gwrs yn gwaethygu'r argyfwng recriwtio athrawon yn y sector ac yn ei gwneud yn fwy annhebygol byth y byddwch chi'n llwyddo i wella ein canlyniadau PISA is nag erioed, lle mae'r rhagflaenwyr hynny wedi methu. Felly, a ydych chi'n derbyn bod camgymeriadau wedi'u gwneud wrth roi'r cwricwlwm ar waith ar y cychwyn a'u bod wedi rhoi pwysau annheg ar ein staff addysgu?

Wel, mae'n teimlo fel pe baem wedi bod yma droeon o'r blaen, oherwydd fe atebais lawer o'r cwestiynau hyn yr wythnos diwethaf pan nad oeddech chi yma, ond rwy'n hapus iawn i fynd dros hyn eto er eich budd chi. Mae lleihau baich gwaith athrawon yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Mae gennym grŵp strategol ar lwyth gwaith wedi'i sefydlu gydag amrywiol ffrydiau gwaith y mae ein partneriaid yn yr undebau llafur i gyd yn rhan ohonynt. Rwyf wedi bod yn glir iawn ers dod i'r swydd fy mod yn cydnabod ein bod yn gofyn llawer gan ein haddysgwyr ysgol. Ond mae yna frwdfrydedd enfawr hefyd dros ein cwricwlwm newydd yng Nghymru, ac yn enwedig mewn ysgolion cynradd. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod llawer o ysgolion yn llwyddo gydag ef mewn gwirionedd. Mae'n mynd ag addysgu a dysgu i lefel uchel. Mae'n ffordd wahanol o wneud pethau. Pan oeddem yn datblygu'r cwricwlwm newydd, dywedodd athrawon wrthym eu bod eisiau'r pŵer a'r parch i allu gwneud eu gwaith fel addysgwyr, a dyna beth rydym wedi ceisio ei roi iddynt. Ond ers dod i'r swydd, rwyf wedi cydnabod yr hyn y mae ysgolion wedi'i ddweud wrthyf, fod angen mwy o gefnogaeth ar rai ohonynt gyda hynny. Rwy'n credu bod hynny'n arbennig o wir ar lefel uwchradd, lle mae ysgolion yn dal i ganolbwyntio i raddau helaeth ar y system arholiadau bresennol sydd gennym, ac rydym wedi dweud y byddwn yn rhoi hynny ar waith. Rwy'n credu mai'r cwricwlwm newydd yw un o'r atebion i'r heriau recriwtio a chadw staff a wynebwn gydag ysgolion. Nid mater o sefyll o flaen plant yn trosglwyddo gwybodaeth yw hyn, mae'n ymwneud ag addysgu go iawn, eu hasesu mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a sicrhau bod pob dysgwr yn gallu cyflawni ei botensial. Nid wyf yn athro, ond pe bawn i, rwy'n credu y byddwn i'n ystyried hynny'n gyffrous ac yn atyniadol iawn.

Rydych chi wedi sôn amdano ddwywaith, felly rwyf am roi sylw iddo: nid oeddwn yma yr wythnos diwethaf, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Joel James am gymryd fy lle yr wythnos diwethaf, ond fe wneuthum baratoi'r sylwadau a wnaeth Joel James ar fy rhan ac rwyf wedi adolygu eich ymatebion. Felly, nid oes angen i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n poeni mwy am sicrhau bod ein myfyrwyr yn gallu cystadlu â'u cyfoedion yng ngweddill y Deyrnas Unedig, a nawr mae'n amlwg fod problem yn y baich y mae'r cwricwlwm yn ei roi ar ein staff addysgu, a chredaf eich bod wedi cydnabod hynny, ond nid wyf yn hollol siŵr, ac mae arolygon yr undebau'n paentio darlun llwm hefyd. Ond yr hyn sy'n fy mhoeni hefyd yw nad yw Llywodraeth Lafur Cymru yn dilyn y dystiolaeth o ran y dull o weithredu sy'n codi'r sgoriau PISA a'r safonau hynny. Dywedodd adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ar gwricwlwm newydd Llywodraeth Cymru

'mae dirywiadau wedi bod ym mhob gwlad sydd wedi mabwysiadu cwricwlwm o'r fath ar sail sgiliau'.

Ac eto, dyna'r union fodel y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi dewis ei fabwysiadu drwy flaenoriaethu dull seiliedig ar sgiliau yn hytrach na dull dysgu seiliedig ar wybodaeth y gwyddom ei fod yn gweithio. Yn wir, mae gwledydd fel Seland Newydd wedi gorfod camu'n ôl ar yr un dull, wedi gorfod newid o gwricwlwm sy'n seiliedig ar sgiliau am fod y dystiolaeth yn dangos yn glir nad oedd yn gwella safonau addysgol. 

Ysgrifennydd y Cabinet, rydym i gyd eisiau i'n pobl ifanc gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, fel y gallant gyflawni eu potensial wrth iddynt adael yr ysgol a chamu ymlaen i fyd gwaith. Ond er mwyn gwneud hynny, mae angen inni ddilyn y dystiolaeth ynglŷn â'r hyn sy'n gweithio. Ac eto, bron ym mhobman lle rhoddwyd cynnig ar y dull hwn o weithredu, profwyd ei fod yn methu. Felly, pam fod Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd y dull hwn yn hytrach na dull y gwyddom ei fod yn gweithio?

14:45

Wel, rydych chi'n codi adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn gyson, ac fel rwy'n gorfod esbonio o hyd, mae'r ystadegau am PISA a amlygwyd yn adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn ymwneud â phlant a phobl ifanc nad ydynt wedi bod drwy'r cwricwlwm newydd. Rydym hefyd yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau ein bod yn dysgu gan wledydd eraill lle maent wedi mynd ar drywydd diwygio'r cwricwlwm. Atebais gwestiynau yr wythnos diwethaf gan Cefin Campbell ynglŷn â sut rydym yn gwylio'r hyn sydd wedi digwydd gyda'r cwricwlwm rhagoriaeth yn yr Alban a sicrhau ein bod yn osgoi syrthio i rai o'r maglau hynny, a oedd yn cynnwys darparu gormod o fanylion i ysgolion.

Rwy'n credu bod yn rhaid inni gofio hefyd ei bod hi'n ddyddiau cynnar ar ddiwygio'r cwricwlwm. Mae'n dal yn y broses o gael ei gyflwyno i bob un o'n hysgolion. Mae gennym werthusiad ffurfiannol parhaus sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â sut mae pethau'n mynd. Mae'r dystiolaeth gan Estyn yn awgrymu bod ysgolion cynradd yn gwneud gwaith da iawn gyda'r cwricwlwm. Oes, mae angen mwy o gefnogaeth ar rai ysgolion, ond mae cefnogaeth dda i'r cwricwlwm newydd. Rwy'n credu mai dyma sydd ei angen i sicrhau bod ein plant yn cael addysg bwrpasol sy'n ennyn eu diddordeb yng Nghymru, ac rydym wedi ymrwymo i wneud yr hyn sy'n angenrheidiol i sicrhau ei bod yn cael ei darparu'n effeithiol mewn ysgolion.  

Diolch, Lywydd. Fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, rhyddhawyd dyraniadau ariannol diweddaraf prifysgolion Cymru ddoe, sy'n dangos gostyngiad sylweddol unwaith eto. Nawr, dyma rai o'r ffigurau, i daflu goleuni ar y sefyllfa real iawn y maent yn ei hwynebu: Prifysgol Aberystwyth, gostyngiad o £1.1 miliwn; Prifysgol Abertawe, £2.4 miliwn; Caerdydd, £3.7 miliwn; Bangor, £0.6 miliwn; y Drindod Dewi Sant, £0.8 miliwn. Fel y gwyddom, nid rhifau ar fantolen yn unig yw'r toriadau hyn i gyllid; maent yn ergyd drom i allu ein prifysgolion i ddarparu addysg a chymorth o ansawdd uchel i'n myfyrwyr. Nawr, bydd y toriadau hyn yn gorfodi prifysgolion i wneud penderfyniadau anodd, gan arwain o bosibl at ddiswyddo staff a llai o fuddsoddiad mewn adnoddau a chyfleusterau hanfodol. Rydym hefyd mewn perygl o golli rhaglenni academaidd allweddol a chynlluniau ymchwil sydd nid yn unig yn cyfoethogi addysg y myfyrwyr, ond sydd hefyd yn cyfrannu'n sylweddol at yr economi a'r gymdeithas ehangach. Felly, o ystyried bod y sector prifysgolion yn cael ei daro a'i gleisio o bob cyfeiriad, ar y sail honno, a ydych chi'n cytuno ag asesiad Prifysgol Caerdydd fod y model cyllido ar gyfer ein prifysgolion wedi torri?

Diolch am y cwestiwn, Cefin. Rwyf am gydnabod fy mod yn gwybod bod hwn yn gyfnod heriol iawn i sefydliadau addysg uwch nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU. Er bod dyraniadau cyllid CCAUC yn anodd i sefydliadau, cyhoeddwyd y gostyngiadau i gyllidebau addysg uwch yn y gyllideb derfynol ym mis Mawrth, a gwn fod y sector wedi bod yn cynllunio yng nghyd-destun y pwysau ar gyllid. Mae sefydliadau hefyd wedi teimlo effaith newidiadau i fisâu myfyrwyr a phwysau chwyddiant, ac mae honno'n broblem ledled y DU.

Er mwyn tawelu meddwl yr Aelod, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd ag arweinwyr y sector ac wedi cael trafodaethau parhaus ac adeiladol ynghylch sut i reoli sefydlogrwydd y sector, ac rwy'n deall bod arweinwyr y prifysgolion yn gwneud penderfyniadau anodd i reoli eu cyllidebau. Yn wir, cyfarfûm â Prifysgolion Cymru a'r Athro Paul Boyle ddoe i drafod hyn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod hefyd nad yw cyllid Llywodraeth Cymru drwy CCAUC ond yn 10 y cant o gyfanswm y cyllid sy'n mynd i sector darparwyr Cymru. Rydym hefyd yn gweld pwysau, fel y dywedais, o dan ffioedd myfyrwyr tramor, costau byw a gostyngiadau eraill mewn cyllid ar wahân i gyllid y mae prifysgolion yn ei gael. Er enghraifft, fe gawsant ergyd fawr i'w cronfeydd Ewropeaidd. Ond rwy'n cydnabod y pwysau sydd arnynt. Dyna hefyd yw un o'r rhesymau pam y gwnaethom gytuno i'r cynnydd mewn ffioedd myfyrwyr i £9,250, ac rwy'n parhau i gael y ddeialog honno. Rwyf hefyd wedi gofyn am gyfarfod cynnar gyda thîm addysg newydd y Llywodraeth Lafur fel y gallwn siarad am y pwysau sy'n effeithio ar addysg uwch ledled y DU.

14:50

Diolch yn fawr i chi. Jest dau bwynt yn dilyn eich ateb: un, mae gyda chi gyfle nawr, gan fod yna Lywodraeth newydd yn Llundain, i ddylanwadu, gobeithio, ar newid y cynllun fisas yma sydd wedi, yn sicr, effeithio ar allu myfyrwyr o dramor i ddod i astudio yma yng Nghymru. Yr ail bwynt, wrth gwrs, yw bod y baich mwyaf yn mynd i syrthio ar ein myfyrwyr, achos mae’n anochel, efallai, y bydd yna gynnydd mewn ffioedd dysgu a hefyd lleihad o ran y gwasanaethau sy’n cael eu rhoi i fyfyrwyr.

Ond y perygl, wrth gwrs, yw y gwelwn ni fwy o ddiswyddiadau yn digwydd. Eisoes, mae prifysgolion wedi sôn am ddiswyddiadau gorfodol a hefyd rhai gwirfoddol, gydag Aberystwyth yn ddiweddar yn sôn am golli rhyw 200 o swyddi, a Phrifysgol Abertawe ryw 190. Felly, does dim un prifysgol eisiau gwneud y penderfyniadau hyn, ond, o safbwynt parhau hyfywedd y colegau yma ar gyfer y dyfodol, does gyda nhw ddim dewis ond gwneud penderfyniadau anodd. Ydych chi’n derbyn, felly, fod colli swyddi yn anochel oherwydd y toriadau hyn, ac os felly, pa gynlluniau ŷch chi’n mynd i roi yn eu lle i geisio lliniaru’r effeithiau niweidiol ar yr economi leol ac ar swyddi yn uniongyrchol y bydd y toriadau yma yn eu cael o ran prifysgolion?

Diolch, Cefin, ac rydych chi'n llygad eich lle fod holl ymagwedd Llywodraeth flaenorol y DU tuag at fewnfudo a'r hinsawdd hynod ddigroeso sydd wedi'i chreu wedi cael effaith fawr ar recriwtio myfyrwyr tramor, ac mae hynny wedi achosi anawsterau sylweddol iawn i brifysgolion yng Nghymru, ac nid ydym wedi cefnu ar hynny eto. Yn amlwg, roedd adolygiad y pwyllgor cynghori ar fudo yn cynnwys canfyddiadau ffafriol, ac rwy'n bwriadu cael trafodaeth yn fuan am ymateb Llywodraeth newydd y DU i adolygiad y pwyllgor cynghori ar fudo, oherwydd mae gennym gyfle gyda myfyrwyr tramor i geisio gwella'r sefyllfa cyn iddi dyfu'n llawer mwy heriol.

Hyd y gwn i, diswyddiadau gwirfoddol a gafwyd gan y prifysgolion hyd yn hyn. Yn amlwg, mae pob diswyddiad yn anodd. Rwy'n cael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ynghylch y sefyllfa yn ein prifysgolion, ond nid wyf yn ymwybodol fod unrhyw ddiswyddiadau'n orfodol ar hyn o bryd. Yr hyn a ddywedais ddoe wrth Prifysgolion Cymru yw bod angen i ni gadw mewn cysylltiad agos ar hyn ac i mi ddilyn yr hyn sy'n digwydd fel y gallwn ymateb yn briodol, ond rwy'n cydnabod bod hwn yn gyfnod heriol. Fe wnaethom dorri'r gyllideb oherwydd y pwysau enfawr a wynebem fel Llywodraeth, yn ein cyllideb. Felly, mae wedi bod yn gyfnod anodd ac o ganlyniad, mae llawer o'r prifysgolion yn adolygu eu gweithdrefnau gweithredu, ond byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.

14:55

Rwy'n deall bod eich toriadau wedi digwydd o ganlyniad i doriadau Torïaidd dros nifer o flynyddoedd, ond mae cyfle i newid hynny nawr, ac rwy'n gobeithio, ymhen blwyddyn, pan gawn gwestiynau pellach ar hyn, y bydd y sefyllfa wedi newid. Ond mae eich agwedd annoeth yn y cyfamser yn golygu y bydd effaith wael ar rôl addysg uwch fel sbardun i dwf economaidd a symudedd cymdeithasol, oherwydd mae ein prifysgolion yn hybiau arloesi a datblygu ac mae eu tangyllido'n niweidio ein dyfodol fel gwlad. Os ydym yn credu mewn system addysg uwch gadarn ac wedi'i hariannu'n dda a all ddarparu addysg ac ymchwil o'r radd flaenaf, mae'n rhaid i fuddsoddi fod yn ganolog i hynny er mwyn creu dyfodol gwell i Gymru, oherwydd, os na wnawn ni hynny, mae'n golygu rhoi Cymru dan anfantais gystadleuol, wrth i ranbarthau eraill barhau i fuddsoddi yn eu systemau addysg uwch. Bydd Plaid Cymru bob amser yn brwydro am yr adnoddau a'r cymorth sydd eu hangen ar ein prifysgolion i ffynnu, a galwn ar Lywodraeth Cymru i gamu i'r adwy hefyd, i gyflawni ei chyfrifoldeb i ddiogelu a hyrwyddo addysg uwch. Felly, ai polisi eich Llywodraeth yw gadael i'n sector addysg uwch wywo, neu a wnewch chi gamu i'r adwy o'r diwedd a chefnogi'r sector hwn sydd mewn argyfwng?

Diolch, Cefin. Fel y dywedais yn fy ateb cyntaf i chi, prin fod cyllid Llywodraeth Cymru a ddarperir drwy CCAUC yn 10 y cant o gyfanswm cyllid y sector ar gyfer darparwyr Cymru. Mae'r heriau y maent yn eu hwynebu yn deillio o ystod o ffactorau, fel cyllid myfyrwyr tramor, newidiadau mewn refeniw masnachol ac incwm ymchwil. Rydym am wneud yr hyn a allwn i gefnogi ein sector prifysgolion, a dyna pam ein bod yn cynnal deialog mor agos â nhw a pham y gwnaethom y penderfyniad i godi ffioedd dysgu myfyrwyr yn dilyn y gyllideb y llynedd.

Fe wnaethoch chi hefyd gyfeirio yn eich cwestiwn blaenorol at fyfyrwyr yn talu'r pris. Roeddwn eisiau atgoffa'r Aelod mai ein pecyn cymorth ariannol i fyfyrwyr yng Nghymru yw'r mwyaf hael yn y DU. Felly, er y bydd ffioedd dysgu'n codi, caiff hynny ei gynnwys yn ein cynnig o gymorth ariannol i fyfyrwyr. Felly, o fewn y cyfyngiadau ariannol anodd iawn a wynebwn, rydym yn gwneud ein gorau glas i gefnogi ein sector prifysgolion.

Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig cofio bod ôl-16 yn ymwneud â mwy na phrifysgolion yn unig, ac mae'n cynnwys addysg bellach a sicrhau ein bod yn dal gafael ar y plant a'r bobl ifanc hynny hefyd. Mae Medr yn cael ei gyflwyno nawr. Mae hwnnw'n rhoi cyfle i ni gael dull mwy strategol ar draws y sector o weithredu addysg ôl-16, nid yn unig mewn prifysgolion a cholegau, ond yn chweched dosbarth ein hysgolion hefyd.

Mae cwestiwn 3 [OQ61406] wedi ei dynnu'n ôl. Cwestiwn 4, Laura Anne Jones.

Diswyddiadau Athrawon

4. Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith y nifer uchel o athrawon a ddiswyddwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar addysg mewn ysgolion? OQ61424

Awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu sy'n gyfrifol am gyflogi athrawon; ni all Gweinidogion Cymru ymyrryd. Er bod awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu yn gyfrifol am staffio ysgolion, rydym yn parhau i fonitro'r sefyllfa ledled Cymru ac yn gweithio gydag ysgolion i leihau'r effaith ar ddysgwyr.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Roedd hwnnw'n ymateb go siomedig. Byddai pob un ohonom yn y Siambr yn cytuno bod athrawon yn rhan hanfodol o gymdeithas, yn addysgu'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol a fydd yn gyfrifol am ddyfodol ein gwlad. Y llynedd, roedd nifer frawychus o uchel o athrawon yng Nghymru yn wynebu colli eu swyddi, ac ysgolion Cymru a gafodd y canlyniadau PISA gwaethaf yn y DU. Rwy'n gwybod nad ydych chi'n rhoi llawer o bwys ar y canlyniadau PISA hynny, ond maent yn hanfodol bwysig ac yn dangos ein bod ni ar ei hôl hi yn y DU.

O rywfaint o'r data a ryddhawyd yn fy rhanbarth i yn Ne Ddwyrain Cymru, cafodd o leiaf 46 aelod o staff eu diswyddo y llynedd oherwydd bod penaethiaid yn cael trafferth gyda biliau cynyddol neu gyllidebau a dorrwyd. Ac arweiniodd hyn, wrth gwrs, at ddosbarthiadau mwy o faint, torri cynnig y cwricwlwm ar gyfer arholiadau, a chyfuno grwpiau blwyddyn, yn ogystal â'r effaith ar ddysgwyr ADY wrth gwrs. Yn aml, pan fo cyllidebau'n dynn, er eu bod yn amhrisiadwy a heb fod yn cael tâl digonol, cynorthwywyr addysgu yw'r cyntaf i fynd. Yn y cyfamser, mae argyfwng recriwtio parhaus mewn rhai meysydd pwnc. A all Ysgrifennydd y Cabinet sicrhau'r Siambr ei bod yn ystyried y mater a bod ganddi gynllun ar waith, ochr yn ochr â'r ALlau, i gynnal cynorthwywyr addysgu mewn dosbarthiadau, ac i sicrhau bod digon o arian yng nghyllidebau ysgolion ar gyfer mwy o athrawon, nid llai?

15:00

Diolch am y cwestiwn atodol, Laura Anne. Fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, mae cyflogi staff ysgolion yn fater i awdurdodau lleol. Rhaid i gyrff sy'n cyflogi sicrhau bod staff digonol, addas yn cael eu cyflogi i weithio yn yr ysgol i ddarparu addysg sy'n briodol ar gyfer oedrannau, galluoedd ac anghenion y disgyblion. Rydym newydd gael y ffigurau ar gyfer faint o arian y mae llywodraeth leol wedi ei fuddsoddi mewn ysgolion eleni, ac mae hynny'n galonogol iawn mewn gwirionedd, gan ei fod yn dangos cynnydd o 7 y cant, sy'n fy nghalonogi'n fawr, o ystyried y pwysau ariannol sydd ar bawb ohonom.

Rwy'n rhyfeddu braidd at y diffyg hunanymwybyddiaeth wrth ymosod arnom ynghylch y pwysau ariannol sy'n wynebu'r sector pan oedd ein cyllideb, pan ddechreuodd y cylch cyllidebol, yn werth £1.3 biliwn yn llai oherwydd eich Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan. Mae ein cyllideb bresennol yn werth £700 miliwn yn llai oherwydd eich Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan. Er gwaethaf hynny, fe wnaethom y penderfyniadau anodd iawn i ddiogelu ein gwasanaeth iechyd, ein gwasanaeth gofal cymdeithasol a llywodraeth leol i ariannu ein hysgolion. Gan fod gennym Lywodraeth Lafur newydd yn San Steffan bellach sy'n gweld gwerth ein gwasanaethau cyhoeddus a dyfodol ein plant—nid yw'n mynd i ddigwydd dros nos oherwydd yr hyn a etifeddwyd yn sgil 14 mlynedd o Lywodraeth Dorïaidd—rwy'n gobeithio y gallwn ddechrau gweld buddsoddiad yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Fe fyddwch yn gwybod bod gennym ymrwymiad maniffesto ar lefel Plaid Lafur y DU ac yma yng Nghymru i flaenoriaethu buddsoddiad yn ein hathrawon.

Does yna ddim amheuaeth bod y sefyllfa efo niferoedd athrawon yn argyfyngus, ac yn arbennig, felly, efo athrawon cyfrwng Cymraeg, sydd hyd yn oed yn waeth. Mae'r ffaith bod Prifysgol Aberystwyth wedi penderfynu peidio â pharhau â'r cwrs hyfforddi athrawon am wneud pethau'n waeth fyth, yn enwedig i ysgolion cyfrwng Cymraeg ardal Dwyfor Meirionnydd, fel dwi'n ei chynrychioli, er enghraifft, sy'n ddibynnol ar Brifysgol Aberystwyth i ddarparu'r athrawon hynny ar gyfer ein hysgolion ni. Felly, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael â Phrifysgol Aberystwyth ynghylch hynny, a beth ydych chi am ei wneud er mwyn sicrhau bod nifer yn fwy o athrawon cyfrwng Cymraeg am ddod drwy'r system?

Diolch yn fawr, Mabon. Fe fyddwch yn ymwybodol fod penderfyniad Prifysgol Aberystwyth i dynnu'n ôl o addysg gychwynnol i athrawon wedi deillio o'r broses annibynnol a wneir ar ein rhan gan Gyngor y Gweithlu Addysg. Nid yw hynny'n rhywbeth a wnawn ni yn y Llywodraeth, a phenderfynodd Prifysgol Aberystwyth beidio ag apelio yn erbyn hynny. Roedd ein hymdrechion yn canolbwyntio felly ar geisio cefnogi'r bobl a gofrestrwyd i wneud eu hyfforddiant addysg gychwynnol i athrawon yn Aberystwyth—o'r hyn a gofiaf, roedd tua 21 o bobl—i wneud yn siŵr fod ganddynt ddarpariaeth amgen.

Rydych yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â'r angen i gael cyflenwad da iawn o athrawon cyfrwng Cymraeg. Nid ar gyfer ysgolion Cymraeg yn unig y mae hynny—yn fy etholaeth i, rwy'n gweld ysgolion yn ei chael hi'n anodd, ac mae'n hanfodol ein bod yn cael hynny. Dyna pam mae gennym ein cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, a bydd y rhai newydd yn dod i law imi gael golwg arnynt y mis hwn. Fe fyddwch yn ymwybodol y bydd fy nghyd-Aelod, Jeremy Miles, yn cyflwyno Bil addysg Gymraeg yn fuan iawn, a fydd yn gosod dyletswyddau statudol ynghylch cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, a bydd hynny'n galw am newid sylweddol yn ein hymagwedd tuag at y gweithlu cyfrwng Cymraeg.

Anghenion Dysgu Ychwanegol

5. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol? OQ61440

15:05

Mae'r fframwaith statudol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol i ddysgwyr ADY sy'n seiliedig ar ddull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant. Lluniwyd y Cwricwlwm i Gymru i chwalu'r rhwystrau i bob dysgwr, gan roi mwy o hyblygrwydd i athrawon ddiwallu anghenion unigol pob plentyn yn y ffordd orau.

Diolch i chi am hynny, ond mae'n rhaid i fi ddweud dwi'n cael mwy a mwy o rieni plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cysylltu â fi y dyddiau yma yn poeni'n fawr ynglŷn â'r toriadau sydd yn digwydd—rŷn ni'n gweld colli cefnogaeth un i un yn y dosbarth ar draws Cymru ar hyn o bryd—ac, yn aml iawn hefyd, dwi'n cael pobl yn dweud eu bod nhw'n methu â chael lle mewn ysgolion i'r rhai sydd ag anghenion dysgu.

Byddwch chi'n gwybod, wrth gwrs, roedd y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 i fod i fynd i'r afael â llawer o'r heriau rŷn ni wedi clywed amdanyn nhw yn y gorffennol, ond yn lle cael mwy o ddisgyblion yn cael diagnosis yn gynt, ac yn sgil hynny yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw, mae'n ymddangos i fi fod mwy yn ei chael hi'n anodd os nad yn amhosib cael y diagnosis sydd ei angen arnyn nhw ac, yn sgil hynny, y gefnogaeth maen nhw'n ei haeddu. Yn wir, hyd yn oed os ydyn nhw'n llwyddo i gael diagnosis, maen nhw'n aml iawn yn cysylltu â fi yn dweud wedyn fod y gefnogaeth sydd ei hangen ddim ar gael. Felly, pam ŷch chi'n credu bod hynny'n digwydd, ac, yn wir, beth ŷch chi fel Llywodraeth yn ei wneud i gywiro hynny?

Diolch yn fawr, Llyr. Os caf ddechrau drwy ddweud na ddylai plant a phobl ifanc fod angen diagnosis i dderbyn darpariaeth ddysgu ychwanegol. Rydym wedi bod yn glir iawn gydag ysgolion ac awdurdodau lleol ynglŷn â hynny. Rydym hefyd wedi buddsoddi'n helaeth iawn wrth weithredu ADY, sy'n dal i fod yn broses barhaus. Mae rhai plant yn dal i drosglwyddo o'r hen broses anghenion addysgol arbennig i'r broses ADY. Felly, yn y flwyddyn ariannol hon, gwariwyd £56 miliwn ar weithredu ADY a darpariaeth ADY mewn addysg cyn ac ôl-16, ac mae mwy o adnoddau mewn ysgolion i weithredu'r system ac arwain dulliau ysgol gyfan o wreiddio addysg gynhwysol. Ac fel y dywedais wrth Aelodau eraill, hefyd fe wnaethom ddiogelu'r setliad craidd i lywodraeth leol, sy'n ariannu ysgolion.

Mae mwy o waith i'w wneud o ran gweithredu, ac rwyf wedi bod yn glir iawn ynglŷn â hynny, pan euthum ger bron y pwyllgor a phan ymatebais mewn dadl yma. Mae arferion da iawn i'w cael yng Nghymru, ond mae angen inni wneud mwy i sicrhau gweithrediad cyson ledled Cymru, ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n gweithio arno ar hyn o bryd. Mae hynny'n cynnwys yr angen i sicrhau gwell cydweithio rhwng addysg ac iechyd, ac mae'n debyg eich bod yn cofio o'r gwaith craffu bod hynny'n un o'r materion craidd yr oeddem am eu gwella pan basiwyd y ddeddfwriaeth. Felly, mae mwy o waith i'w wneud. Rydym wedi cael adborth calonogol gan Estyn, ac ar hyn o bryd, maent yn cynnal adolygiad thematig arall. Mae gennym werthusiad parhaus hefyd o'r system ADY, ond fel y dywedais wrth y Siambr yn flaenorol, rwyf am wthio rhaglen waith i sicrhau bod y system ADY yn cael ei gweithredu'n gyson ledled Cymru, yn ogystal â datrys rhai o'r materion cyfreithiol sydd wedi codi gyda'r cod ymarfer a'r ddeddfwriaeth.

Y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr Unfed Ganrif ar Hugain

6. Sut y gellir defnyddio’r rhaglen ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif yn y modd mwyaf effeithiol yng nghanol dinasoedd? OQ61419

Mae ein rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn cyd-fynd yn llawn â'r datganiad sefyllfa ar ganol trefi ac egwyddorion 'canol trefi yn gyntaf' wrth ystyried ysgolion a cholegau newydd. Mae'r lleoliad a'r cysylltiadau â chanol trefi a dinasoedd yn cael eu hystyried yn allweddol i wella mynediad a chefnogi mwy o ymwelwyr.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Ysgol Gynradd Albany yn ysgol gymunedol bwysig iawn yng nghanol fy etholaeth, gydag arweinwyr ragorol, tîm staff ymroddedig a chorff llywodraethu nad yw wedi gadael i gyflwr ffisegol yr adeilad amharu ar ansawdd yr addysgu a'r dysgu. Ond mae'r ysgol Fictoraidd hon yn achosi llawer iawn o her i'r awdurdod lleol, sy'n ei chael hi'n anodd trwsio'r to a gwneud yr atgyweiriadau hanfodol eraill. Bu'n rhaid i'r disgyblion ddioddef tair blynedd o sgaffaldiau yn eu hiard chwarae, sydd eisoes yn fach ac yn cynnwys y nesaf peth i ddim man gwyrdd. Mae miliynau eisoes wedi'u gwario ar yr adeilad hwn ac nid yw'n addas i'r diben o hyd.

Sut y gellir cymhwyso rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain i ysgolion canol dinas fel ysgol Albany, sy'n parhau i wasanaethu cymuned lle mae poblogaeth sylweddol o bobl ifanc, ond lle nad oes tir dros ben i adeiladu arno, oni bai ein bod yn eu symud i barc ac yna'n eu symud yn ôl i mewn wedyn? Beth fyddai eich cynigion ar gyfer ysgolion fel hon, na all fod wedi eu cyfyngu i'r rhan hon o Gaerdydd yn unig?

15:10

Diolch, Jenny, ac mae'n wych clywed am y gwaith cadarnhaol a ddisgrifiwyd gennych yn ysgol Albany. Mae'r rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy yn cefnogi amrywiaeth eang o brosiectau ac mae'n ymwneud â mwy na darparu ysgolion a adeiledir o'r newydd, ac rydym wedi cyflawni prosiectau adnewyddu mawr i wella cyfleusterau presennol, yn enwedig lle mae cyfle cyfyngedig i ailadeiladu. Mae'r rhaglen yn cyd-fynd yn llawn â'n polisi ysgolion bro i sicrhau bod y prosiectau'n cael eu cyflawni mewn cydweithrediad â theuluoedd a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, er mwyn sicrhau'r manteision mwyaf sy'n bosibl o'n buddsoddiad.

Fodd bynnag, cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw datblygu eu blaenoriaethau buddsoddi wrth gwrs gan mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i ddeall anghenion eu cymunedau. Cefnogir y rhaglen hefyd gan amrywiaeth o grantiau cyfalaf atodol i'w buddsoddi yn ein hysgolion nad ydynt wedi'u cynnwys yn y rhaglen, a dros y tair blynedd diwethaf, rydym wedi dyrannu £60 miliwn o gyllid cyfalaf i gefnogi'r gwaith o ddarparu ysgolion bro, a dyrannwyd £5.4 miliwn o'r cyllid hwn i Gyngor Caerdydd. Fe wnaethom ddyrannu £108 miliwn i gefnogi gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ar draws yr ystad ysgolion, a dyrannwyd £11.8 miliwn o hynny i Gyngor Caerdydd. Ond yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am ddatblygu eu blaenoriaethau buddsoddi gan mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i ddeall anghenion eu cymunedau.

Polisïau Gwisg Ysgol Statudol

7. Pa gamau sy'n cael eu cymeryd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ysgolion yng Nghanol De Cymru yn gweithredu y polisïau gwisg ysgol statudol ddaeth i rym y llynedd? OQ61435

Yn dilyn cyhoeddi'r canllawiau statudol diwygiedig ar bolisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion, gofynnwyd i gyrff llywodraethu adolygu eu polisïau gwisg ysgol presennol. Rwy'n parhau i godi ymwybyddiaeth o'r canllawiau statudol gydag ysgolion. 

Diolch. Fel y byddwch chi’n gwybod, er bod y canllawiau'n statudol, does dim rhaid i'r ysgolion hyn fod yn eu gweithredu nhw. Mae'n dal yn opsiynol—canllawiau ydyn nhw, yn hytrach na dweud bod yn rhaid i’r llywodraethwyr weithredu’r polisi. Golyga hyn fod rhai ysgolion yn dal i fynnu ar wisg ysgol sy'n diystyru'r canllawiau, megis drwy fynnu logos ar bopeth, cael blazer drud yn rhan o'r wisg ysgol, neu fynnu ar got mewn lliw penodol. Mae hyn i gyd yn groes i'r canllawiau. Mae hyn yn creu pwysau ariannol mawr ar deuluoedd, yn arbennig y rhai sydd ag efallai dau neu dri phlentyn mewn ysgol, a dydy’r grant gwisg ysgol ddim yn mynd yn ddigon pell os nad ydy’r canllawiau yn cael eu dilyn. Does yna ddim digon o bres iddyn nhw allu prynu’r holl bethau sydd eu hangen. Felly, sut ydych chi am gryfhau'r polisïau i wneud yn siŵr bod ysgolion nid dim ond yn ystyried y canllawiau, ond yn eu gweithredu'n llawn? Oes angen inni eu gwneud nhw'n statudol?

Diolch, Heledd. Wel, mae'r canllawiau'n statudol eisoes, felly mae'n rhaid i ysgolion a chyrff llywodraethu roi sylw i'r canllawiau. Mae'r canllawiau statudol diwygiedig yn nodi na ddylai gwisg â brand, gan gynnwys y defnydd o logos, fod yn ofyniad gorfodol i ddisgyblion. Mae hefyd yn cynnwys y cyngor na ddylai ysgolion gael trefniadau un cyflenwr gyda chontractwyr penodol. Rwyf newydd anfon llythyr at bob ysgol yng Nghymru i'w hatgoffa bod y canllawiau'n statudol ac i'w hatgoffa o'r effaith ar deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol. Fel y gwyddoch, mae gennym ein grant hanfodion ysgol, nad yw'n swm bach o arian. Rydym wedi buddsoddi £13 miliwn yn hwnnw yn y flwyddyn ariannol hon.

Rydym hefyd yn gwneud llawer o waith prawfesur polisïau ar dlodi. Yn y llythyr a anfonais at ysgolion, rwyf hefyd wedi eu hatgoffa o'r gwaith sydd gan Plant yng Nghymru ar gael iddynt i'w cefnogi gyda hynny. Felly, mae'r canllawiau'n statudol ac rwy'n disgwyl i ysgolion ddilyn y canllawiau hynny.

Cymorth Iechyd Meddwl mewn Ysgolion

8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gymorth iechyd meddwl mewn ysgolion? OQ61430

15:15

Yn fy natganiad llafar i'r Senedd ar 14 Mai, dywedais mai iechyd meddwl da fydd y llwyfan y bydd ein system addysg yn cael ei hadeiladu arno. Mae'r Cwricwlwm i Gymru, ynghyd â'n canllawiau statudol ar ddull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol, yn cefnogi'r uchelgais hwn.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Paratowyd y cwestiwn hwn i mi gan unigolyn ifanc yng Nghaerffili sy'n mynychu'r ysgol ac sydd yn y chweched dosbarth. Disgrifiodd sut mae aelod o'i theulu wedi cael trafferth addasu i'r ysgol uwchradd oherwydd gorbryder cymdeithasol, ac o ganlyniad, dechreuodd wrthod mynd i'r ysgol yn rheolaidd, a wnaeth i'w phresenoldeb ostwng o dan 50 y cant. Mae'r rhiant wedi cyfarfod a gweithio gyda'r ysgol a'r awdurdod lleol yn rheolaidd i roi cynnig ar ddulliau gwahanol i annog ei phlentyn i fynd i'r ysgol. Weithiau, mae hyn wedi helpu yn y tymor byr, ond yn gyffredinol, nid yw wedi gwneud hynny. Mae'r rhiant wedi cael eu bygwth ag erlyniad gan yr ysgol, er iddynt wneud popeth yn eu gallu i geisio gwella'r sefyllfa. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu felly fod mwy y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i ganiatáu i ysgolion ddarparu mwy o gymorth i blant a theuluoedd sy'n cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl a phresenoldeb, yn enwedig cyn cyrraedd y pwynt lle caiff dirwyon eu rhoi a rhieni'n wynebu'r risg o erlyniad?

Diolch yn fawr, Hefin. Mae'n ddrwg iawn gennyf glywed am yr anawsterau y mae'r unigolyn ifanc y gwnaethoch gyfeirio atynt yn eu cael. Rwy'n siŵr eich bod yn cydnabod bod iechyd meddwl yn brif flaenoriaeth i mi ac i'r Llywodraeth. Dyna pam, er gwaethaf ein cyfyngiadau ariannol, ein bod wedi parhau i ddiogelu cyllid ar gyfer ein dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl, ac rydym yn buddsoddi tua £13 miliwn i'r perwyl hwnnw eleni. Mae'r Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar a minnau yn parhau i wthio cynnydd ar hynny. 

Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod mwy o waith i'w wneud. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod yn glir ein bod wedi dweud mai dim ond fel dewis olaf y dylid defnyddio dirwyon. Mae'n llawer pwysicach gweithio gyda theuluoedd, a dylai hysbysiadau cosb benodedig fod yn rhan olaf o becyn ehangach o strategaethau ymyrraeth a chymorth i wella presenoldeb, a dylai hynny gynnwys cymorth gydag iechyd meddwl a llesiant yn unol â'r fframwaith statudol a roddwyd ar waith gennym, sy'n ategu ein dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl. Mae angen i blant weld yr ysgol fel lle diogel a chroesawgar.

Dylwn ddweud hefyd ein bod wedi gweld cynnydd yn nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n cael anawsterau gyda mynd i'r ysgol oherwydd yr hyn a elwir gennym yn osgoi ysgol am resymau emosiynol, ac mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar hynny yn gofyn i ysgolion sicrhau eu bod wedi cwblhau'r asesiadau a mabwysiadu ymateb graddedig i osgoi ysgol am resymau emosiynol sy'n cynnwys diagnosis cynnar, dull ysgol gyfan, cyfathrebu â theuluoedd, ac adeiladu ar berthnasoedd cryf mewn ysgolion.  

Eco-Sgolion

9. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gyfranogiad ysgolion yn y rhaglen Eco-Sgolion? OQ61415

Mae'r rhaglen Eco-Sgolion yn gweithredu mewn 75 o wledydd gyda bron i 50,000 o ysgolion yn cymryd rhan, sy'n golygu mai hon yw'r rhaglen addysg amgylcheddol fwyaf yn y byd. Yng Nghymru, mae tua 90 y cant o ysgolion wedi ymgysylltu â'r rhaglen Eco-Sgolion gyda 60 y cant o ysgolion wedi cyflawni achrediad baner werdd. Yn ystod y ddegfed flwyddyn ar hugain o'n cyfranogiad, mae gan Gymru un o'r cyfraddau cyfranogi uchaf yn y byd.

Mae'n stori newyddion dda iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r rhaglen Eco-Sgolion yn hynod drawiadol, ac rydych eisoes wedi cyfeirio at beth o'r wybodaeth yr oeddwn am ei rhoi i chi—fod 90 y cant o ysgolion wedi cymryd rhan. Ond rwy'n credu ei bod yn galonogol iawn gweld cymaint o bobl ifanc yn cael cyfle i ddysgu a chymryd diddordeb mewn materion amgylcheddol yn eu hysgolion a'u cymunedau. Maent yn ei ddeall ac maent o ddifrif yn ei fwynhau. Maent yn dysgu mewn gofod awyr agored, weithiau heb sylweddoli eu bod yn dysgu, ac maent yn mynd ag ef adref hefyd. I genedl fach, rwy'n credu ei bod yn eithaf trawiadol fod gennym y canlyniad gorau yn y byd o ran cyfranogwyr fesul poblogaeth yn y rhaglen hon. Yr hyn rwy'n ei ofyn i chi heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, yw a wnewch chi ymuno â mi i ddiolch i'r holl bobl sydd wedi gwneud hyn yn bosibl yn ein hysgolion, mewn sefydliadau fel Cadwch Gymru'n Daclus, a'r holl unigolion a disgyblion hynny? Mae bob amser yn braf gorffen sesiwn gyda stori newyddion dda, ac mae hon yn stori newyddion wych.

15:20

Diolch yn fawr, Joyce. Rwy'n cytuno'n llwyr â'ch sylwadau a hoffwn achub ar y cyfle i gofnodi fy niolch o'r galon i'r holl staff, athrawon, disgyblion a sefydliadau fel Cadwch Gymru'n Daclus, sy'n cynrychioli ymrwymiad Cymru i adael ein planed mewn cyflwr gwell ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Roeddwn yn ddigon ffodus yn ddiweddar i brofi hyn yn uniongyrchol gan y bobl ifanc o rai o ysgolion cynradd Canolbarth a Gorllewin Cymru yr oedd Eluned Morgan wedi eu gwahodd i mewn ar gyfer ei digwyddiad Her Hinsawdd Cymru Earthshot. Cefais fy synnu gan ba mor angerddol oedd y plant. Fel oedolion, rwy'n credu y gallwn i gyd ddysgu llawer ganddynt o ran eu brwdfrydedd dros fynd i'r afael â'r agenda amgylcheddol hon. Diolch yn fawr iawn am y sylwadau cadarnhaol hynny am y rhaglen Eco-Sgolion. 

3. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 3 yw'r datganiadau 90 eiliad. Dim ond un sydd heddiw, a hwnnw gan Cefin Campbell.

Diolch yn fawr iawn. Fel un o drigolion Dyffryn Tywi, mae'n bosibl y dylwn i fod yn datgan diddordeb wrth i fi ganmol harddwch digymar yr ardal, o gopa’r Garn Goch i'r cestyll godidog, Parc Dinefwr a'r gerddi botaneg. Ond heddiw, fy mhleser i yw dathlu un o atyniadau eraill yr ardal, sef Gerddi Aberglasne ger Llangathen, dafliad carreg, fel mae'n digwydd, o lle dwi'n byw, wrth i’r safle ddathlu 25 mlynedd ers i’r gerddi gael eu hadfer a’u hagor i’r cyhoedd.

Mae hen hanes yn perthyn i’r ystad ryfeddol hon, gan iddi ddyddio nôl i’r canol oesoedd. Mae cyfeiriad ati yng nghywydd Lewys Glyn Cothi ar droad yr unfed ganrif ar bymtheg, lle mae e'n sôn am ei 'naw o arddau yn wyrddion’. Dros y canrifoedd, mae’r gerddi a’r plasty wedi bod yn gartref i sawl cymeriad lliwgar, o foneddigion i feirdd, artistiaid, yfwyr o fri a llwyrymwrthodwyr, a hyd yn oed ambell i ysbryd, os yw storïau lleol i'w credu. Er bod yr ystad wedi pylu i ebargofiant yn yr ugeinfed ganrif, trawsffurfiwyd ffawd y gerddi a’r ystad ddiwedd y 1990au yn y ganrif ddiwethaf, gan ddechrau ar y gwaith adfer, a oedd yn cael ei olrhain gan y BBC ar y rhaglen A Garden Lost in Time.

Bellach, mae’r plasty, y gerddi gogoneddus a'r ardd gloestr Elisabethaidd digymar yn un o brif atyniadau Sir Gâr. Felly, llongyfarchiadau gwresog i’r ardd, y staff a’r gwirfoddolwyr wrth gyrraedd y garreg filltir nodedig hon, a phob llwyddiant i'r ardd gyda’r dathliadau ac i'r dyfodol.

4. Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24

Eitem 4 yw'r cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar gynllun ieithoedd swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24. Galwaf ar Adam Price i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8633 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer y cyfnod 2023-24, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron y Senedd ar 19 Mehefin 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser cyflwyno adroddiad blynyddol Comisiwn y Senedd ar ei gynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer y flwyddyn 2023-24 gerbron y Senedd heddiw. Fe fydd Aelodau o’r Senedd yn ymwybodol ei fod yn ofynnol i Gomisiwn y Senedd, yn unol â Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012, gyflwyno adroddiad blynyddol ar ei waith.

Eleni, mae’r tîm ieithoedd swyddogol wedi cynnal arolwg sgiliau iaith Gymraeg ar draws staff Comisiwn y Senedd. Mae canlyniadau’r arolwg eleni yn gadarnhaol ac yn arwydd fod y penderfyniad i gyflwyno system cwrteisi ieithyddol yn y bumed Senedd wedi creu sylfaen gadarn, ac, fel rwyf yn nodi yn fy rhagair i’r adroddiad, yn dangos y potensial sydd i’r sefydliad i barhau i anelu’n uwch eto at y dyfodol. Mae’r tîm hefyd wedi dechrau ar y gwaith o ddadansoddi canlyniadau’r arolwg, ar y cyd â chynlluniau iaith y gwasanaethau unigol. Bydd hyn yn caniatáu inni fonitro capasiti dwyieithog ar draws y sefydliad ac yn cynnig sicrwydd ein bod yn gallu darparu gwasanaethau dwyieithog o’r radd flaenaf.

Y llynedd, fe ymrwymiais i ystyried y gefnogaeth sydd ar gael i Aelodau o'r Senedd i’w galluogi i ddefnyddio’r Gymraeg mewn trafodion. Mae’n bwysig ein bod yn cefnogi Aelodau, boed yn siaradwyr Cymraeg newydd neu yn siaradwyr Cymraeg rhugl, i fod yn hyderus i ddefnyddio eu sgiliau yn rheolaidd, a bod yr amodau a’r gefnogaeth mewn lle hefyd i’r staff sy’n eu cefnogi i baratoi ar gyfer busnes seneddol. Fodd bynnag, mae’r data yn yr adroddiad hwn yn dangos patrwm tebyg i’r llynedd o ran cyfraniadau Cymraeg ac o ran ei defnydd yn ysgrifenedig yn ein gweinyddiaeth seneddol. Fy mlaenoriaeth felly yw rhoi camau mewn lle i geisio adfer perfformiad i lefelau blaenorol yn y lle cyntaf gan esgor, gobeithio, ar ragor o ddefnydd o’r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn pwyllgorau ac yn y Cyfarfod Llawn, ac wrth gyflwyno busnes.

Rwyf yn falch o adrodd i’r Senedd ein bod wedi dechrau mynd i’r afael o ddifrif â hyn yn barod, a hoffwn ddiolch i aelodau fforwm y cadeiryddion am y gefnogaeth a gafwyd i gamau cychwynnol mewn cyfarfod ddydd Llun. Ddydd Llun nesaf, byddaf yn trafod papur gyda’m cyd Gomisiynwyr ar hyn a materion eraill yn ymwneud â’r Gymraeg gyda golwg ar ein gwaith yn y tymor byr, y tymor canol a’r hirdymor wrth edrych tua’r seithfed Senedd.

Mae diwygio seneddol yn cynnig cyfle cyffrous i ni edrych yn ôl ar yr hyn sydd wedi’i gyflawni ers pasio’r Ddeddf ieithoedd swyddogol, ac i edrych tua’r dyfodol gan ein herio ein hunain i holi beth mwy sydd angen ei gyflawni a beth yw’n huchelgais yn ystod y bennod nesaf. Bydd yn gyfle i sicrhau bod ein ffyrdd o weithio, ein hethos a’n fframwaith cyfreithiol yn gwarantu bod defnydd a statws y Gymraeg fel iaith gyfartal yn ganolog ac yn flaenllaw yng ngwaith y Senedd, a’n bod yn atebol i holl ddinasyddion Cymru am y rhan rydyn ni’n ei chwarae yn yr ymdrech genedlaethol drawsbleidiol i gynllunio dyfodol i’r iaith.

Cyn cloi, hoffwn dynnu sylw Aelodau at ambell i lwyddiant hefyd sy’n brawf pellach o’n hethos a’n diwylliant fel sefydliad cynhwysol. Mae’r adroddiad yn cynnwys ambell i sylw gan unigolion sydd wedi manteisio ar y ddarpariaeth dysgu Cymraeg sydd ar gael i Aelodau, staff cymorth a staff y Comisiwn. Ar y pwynt yma, efallai y dylwn i ddatgan buddiant gan fod fy mrawd, Adrian, yn un o'r tîm o diwtoriaid.

Mae’n bleser clywed am y ffordd mae’r gwersi wedi dod â phobl at ei gilydd ac wedi creu ymdeimlad o berthyn a ninnau yn dal i geisio deall ein ffyrdd newydd o weithio, sydd yn aml yn cynnwys mwy o weithio o bell. Mae clywed sgyrsiau yn Gymraeg yn rhan annatod o’r diwrnod gwaith, gyda’r sawl sy’n derbyn gwersi yn awyddus i ddefnyddio eu sgiliau ac i ddarparu gwasanaethau dwyieithog o’r radd flaenaf. Diolch yn fawr, felly, i holl staff y Comisiwn am eu hymdrechion a’u hymroddiad.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i chi, Aelodau’r Senedd, am eich cefnogaeth a’ch parodrwydd i ymgysylltu â ni i drafod ac i wella. Byddwn yn parhau i wrando ar eich barn a’ch sylwadau er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal y safonau uchaf posib ac yn chwilio am ffyrdd o wella'n barhaus. Edrychaf ymlaen nawr at y cwestiynau a fydd gennych chi. Diolch yn fawr.

15:25

A allaf i ddiolch i’r Aelod am gynnig y ddadl hon heddiw ac am y pwyntiau mae wedi’u gwneud? Dim ond cwpwl o bwyntiau sydd gen i i'w gwneud. Fe wnaf i ddechrau drwy ddweud ein bod ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn gwybod pwysigrwydd yr iaith Gymraeg, a hefyd pa mor bwysig yw hi bod y Senedd yn rhoi enghraifft i bobl ar draws Cymru o ran beth rydych chi’n gallu ei wneud yn y Gymraeg a defnyddio’r Gymraeg bob dydd. O ran y lefelau Cymraeg, y peth mwyaf i fi, dwi’n credu, oedd yr hyder. Rwy'n gwybod y geiriau, ond does gen i ddim yr hyder wastad i'w dweud nhw. Dwi’n credu bod y Dirprwy Lywydd yn yr un sefyllfa â fi, efallai, o ran safon yr iaith. Y peth mwyaf y gallaf i ddweud o’r tair blynedd dwi wedi bod yma yw dwi wedi datblygu’r hyder i ddefnyddio mwy a mwy, ac mae’r Senedd, dwi’n credu, yn gyfrifol am hynny, felly dwi’n ddiolchgar iawn i’r staff a phawb arall sydd yn gyfrifol am wneud hynny.

Gan ddarllen yr adroddiad, roedd cwpwl o bwyntiau rôn i'n moyn pigo lan arnynt. Dwi’n croesawu’r ffaith ein bod ni wedi gweld, o ran y survey rydych chi wedi’i gynnig, y nifer o bobl o lefelau 1 i 3 sydd yn gallu siarad Cymraeg yn mynd lan. Mae hwnna'n rhywbeth i'w groesawu. Rŷch chi'n dweud yn eich adroddiad hefyd—a dim ond yr adroddiad Saesneg sydd gen i i fy mlaen i, felly mae hwnna'n damaid bach o eironi, ond mae eich adroddiad yn dweud:

'Mae hyn yn arwydd fod y penderfyniad i gyflwyno Cwrteisi Ieithyddol yn y Senedd ddiwethaf wedi creu gwaelodlin cadarn i adeiladu arno'

Felly, a allaf ofyn beth yn union ydych chi'n mynd i'w wneud nesaf? Dŷch chi wedi cael y courtesy level, dŷch chi wedi cael y sgiliau dechreuol, ond beth yw'r cam nesaf, a sut ŷch chi'n mynd i adeiladu ar hynny?

Beth dŷch chi wedi gweld hefyd yw tamaid bach o sefyllfa statig o ran lefelau 4 a 5 o ran y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg. Felly, rwy'n credu efallai fod mwy i'w wneud yn fanna. Felly, beth ydych chi'n gweld yw'r sialens yna yn y dyfodol, fel ein bod yn gallu cael y rhifau hynny lan hefyd?

Rŷch chi wedi sôn hefyd am y Senedd nesaf. Dŷn ni'n gwybod y bydd mwy o Aelodau yn y Senedd—byddwn ni lan i 96—ac mae hwnna'n meddwl y bydd rhaid inni wneud pethau'n hollol wahanol y tro nesaf. Mae cwpwl o bwyntiau fan hyn: mae hyn yn mynd i roi pwysau, dwi'n credu, ar ein staff ni, os bydd mwy o bobl yn moyn defnyddio'r Gymraeg yma. Felly, mae'n mynd i roi mwy o bwysau ar y gwasanaethau sydd ar gael, ac mae hwnna'n bwysig iawn. Felly, pa asesiad ydych chi wedi ei wneud ar hynny? A beth y mae'n rhaid i'r Senedd ei wneud yn y dyfodol fel eu bod nhw'n gallu cope with it—fel ein bod ni'n gallu sicrhau bod y gwasanaeth dal yna, fel yr un rŷn ni wedi'i ddefnyddio hyd yn hyn? 

Hefyd, roeddwn i'n moyn dweud, pan ŷch chi jest yn dod i'r Senedd, pan ŷch chi wedi cael eich ethol am y tro cyntaf, mae'n damaid bach o whirlwind—mae lot yn digwydd ar yr un pryd. Mae'n rhaid ichi setio lan eich IT, sortio mas staff a swyddi a phopeth arall, felly sut ydyn ni'n sicrhau bod Aelodau newydd sy'n dod yma yn gwybod beth sydd ar gael—y gwersi sydd ar gael a sut maen nhw'n gallu defnyddio'r Gymraeg—a'u bod nhw ddim yn gallu colli hynny mewn rhyw welcome pack a bod pobl ond yn eu darganfod blwyddyn neu ddwy flynedd i mewn i'w tymor nhw? 

Y peth olaf rwyf yn moyn ei ddweud yw hyn: roedd yna lein fach neis yn eich foreword—cwestiwn da—ac roeddwn i am ei rhoi yn ôl i chi. Rŷch chi'n dweud:

'rwyf am i ni herio’n gilydd a holi: beth mwy sydd angen ei wneud i sicrhau y gellir ymwneud yn llwyr ac yn ddi-rwystr â busnes a gwaith y Senedd yn Gymraeg, fel y gellir ei wneud yn Saesneg ar hyn o bryd? Sut mae sicrhau bod y Gymraeg yn wirioneddol gydradd â’r Saesneg yn ein trafodion ac yng ngweinyddiaeth y Senedd? Ac yn bwysicach oll, sut ydym ni’n atebol i’r bobl ydym ni’n eu gwasanaethu—sef dinasyddion Cymru—am ein perfformiad ac yn chwarae ein rhan yn yr ymdrech genedlaethol, drawsbleidiol, i gynllunio dyfodol i’r Gymraeg?'

Felly, fe wnaf i droi hwnna nôl atoch chi: fel y Comisiynydd sydd yn gyfrifol am yr ieithoedd, beth yw eich asesiad chi o'r ateb i'r cwestiwn hwnnw dŷch chi wedi ei roi yn eich adroddiad chi? Diolch.

15:30

Dim ond newydd ddechrau yn y rôl yma oeddech chi flwyddyn yn ôl pan oeddem ni'n eich holi chi. Ac yn amlwg, mi oedd yna drafodaeth adeg hynny o ran siomedigaeth—efallai rhai o'r rhwystrau dŷn ni yn eu hwynebu o weld defnydd o'r Gymraeg.

Mae yna bethau mawr i'w dathlu yn fan hyn a dwi'n meddwl bod rhaid inni nodi hynny, ac mae'n dda clywed Tom yn cydnabod hynny. A dwi hefyd yn gwybod, o fod mewn pwyllgorau lle yn aml efallai mai fi ydy'r person mwyaf hyderus o ran y Gymraeg a dwi eisiau defnyddio fy Nghymraeg, mae wedi bod yn wych gweld Aelodau eraill, megis—. Dwi'n falch bod Hefin David yma yn defnyddio'r Gymraeg yn amlwg pan fo'n gallu, ond hefyd yn gefnogol o ran hynny. Ond mae o'n aml yn digwydd lle efallai mai dim ond un siaradwr Cymraeg hyderus sydd yna mewn pwyllgor ac mae hynny'n cael effaith wedyn o ran sut fath o iaith y mae'r pwyllgor yn ei ddefnyddio. Felly, roeddwn i'n falch o'ch clywed chi'n sôn ynglŷn â fforwm y Cadeiryddion.

Un o'r pethau sydd yn fy mhryderu i'n aml ydy sut ydyn ni'n cefnogi'r staff sydd yn ein cefnogi ni o fewn y Comisiwn i deimlo'r hyder i ddrafftio adroddiadau yn y Gymraeg? A sut wedyn dŷn ni'n defnyddio'r dechnoleg i alluogi wedyn fod Aelodau eraill yn gallu deall yr adroddiad hwnnw? Mae yna wastad y syniad yn parhau fod rhaid i bopeth fod yn y Saesneg i ddechrau, ac wedyn, pan fo'n dod i adroddiad terfynol, mi fydd yna fersiwn Cymraeg. Wel, mae'n bwysig ofnadwy ein bod ni'n ymbweru'r rheini sydd eisiau gweithio yn y Gymraeg i allu drafftio yn y Gymraeg. A dŷn ni'n lwcus eithriadol rŵan, a dwi ddim yn sôn am Google Translate—mae yna nifer fawr o ffyrdd gwahanol i ymbweru staff hefyd i deimlo eu bod nhw’n gallu drafftio yn Gymraeg. Felly, dyna un o’r elfennau y byddwn i’n hoffi, os oes gennych chi, eglurder arno fo.

Un o’r pethau a fyddai’n fuddiol, dwi’n credu, ydy deall beth ydy’r rhwystrau presennol y mae Aelodau yn eu teimlo, ac roeddwn i’n mynd i ofyn a oeddech chi wedi ystyried gwneud arolwg o’r Aelodau etholedig i ddeall eu defnydd nhw o’r iaith. Yn sicr, ar ôl gweld adroddiad y llynedd, dwi wedi trio fy ngorau glas i drio cyflwyno popeth yn fy enw i yn Gymraeg—ddim bob tro, weithiau mae yna rywbeth brys angen mynd i mewn, ac, yn amlwg, mae yna aelodau o staff yn rhoi pethau mewn ar ein rhan ni weithiau. Ond, yn sicr, dŷn ni fel grŵp hefyd—. Mae’r mwyafrif helaeth o’n cynigion ni a’n gwelliannau yn trio mynd mewn yn Gymraeg, ac mae hynna’n deillio o’r ffaith bod yr adroddiad hwn wedi dangos yn glir y llynedd pa mor ddiffygiol oedd rhai o’n prosesau ni, ac, efallai, ein bod ni bach yn ddiog, a’n bod ni angen y gic yna weithiau i atgoffa’n hunain i gyflwyno.

Dwi’n meddwl bod yna her hefyd—mae yna nifer o sefydliadau yn aml yn cysylltu gyda ni fel Aelodau’r Senedd yn gofyn inni gyflwyno cwestiynau ysgrifenedig ar amryw o bynciau. Mi fyddwn i’n dweud bod yna her iddyn nhw hefyd i ddarparu'r cwestiynau hynny yn ddwyieithog, a bod o ddim dim ond fyny i ni, ac os ydyn nhw'n ymgysylltu efo’r Senedd, rhaid iddyn nhw ystyried hefyd fod yna ddwy iaith swyddogol, a bod y ddwy iaith yn cael eu defnyddio.

Felly, fel dwi’n sôn, mae yna bethau calonogol fan hyn, ond dwi’n meddwl, o ran trafodion y pwyllgorau, trafodion y Cyfarfod Llawn a’r pethau efo’r Swyddfa Gyflwyno, yn amlwg fedrwn ni ddim gorfodi neb i gyflwyno yn Gymraeg, ond efallai ei fod o ddim yn ddrwg o beth deall yn iawn pam fod y rhwystrau hynny.

Roeddwn i’n sôn yn gynharach o ran pwyllgorau—a dwi wedi siarad efo nifer o Aelodau ynglŷn â hyn—ac mae hi’n anodd os taw chi ydy’r unig berson sydd yn defnyddio’r Gymraeg ar adegau, ac mae yna rôl bwysig gan y Cadeiryddion, dwi’n credu, o ran atgoffa, pan fo tystion yn dod i mewn, fod croeso iddyn nhw ateb yn Gymraeg. Efallai ei fod o’n un o’r pethau yna, ei fod o’n dda bod gennym ni’r adroddiad blynyddol yma i roi’r hwb yna i ni i gyd fod yn clywed hyn. Ond, yn amlwg, dydy pawb ddim yn y Siambr heddiw. Felly, os gallech chi ganolbwyntio, efallai, ar sut ydyn ni’n cael y neges i bob aelod o staff, pob Aelod etholedig, a chael eu mewnbwn nhw, fel ein bod ni’n cael Senedd lle mae’r ddwy iaith yn gydradd. Dŷn ni’n trio’n gorau, ond dwi’n credu bod yna fwy o bethau y gallem ni fod yn eu gwneud, ac mae’r datrysiadau o fewn y ffordd dŷn ni’n gweithio rŵan, yn sicr.

15:35

Dwi’n falch o allu siarad, neu i geisio siarad, ar yr eitem hon heddiw. Hoffwn i ddweud diolch wrth fy nhiwtor Cymraeg, Jordan. Mae Jordan yn diwtor ardderchog a brwdfrydig, ac mae e wedi fy helpu i lawer efo fy Nghymraeg. Fel arfer, dwi’n cael gwersi Cymraeg yn y Senedd ar-lein bob dydd Gwener. Yr haf diwethaf trefnodd Jordan wersi ychwanegol i fi, a mis diwethaf, fe wnes i fy arholiad Cymraeg cyntaf. Yr haf hwn, mae gen i lyfr gwaith arbennig.

Dwi’n dysgu Cymraeg achos hoffwn i siarad mwy o Gymraeg yn y Siambr ac yn y gymuned hefyd. Pan oeddwn i yn yr ysgol yn y Fflint, dysgais i Gymraeg, ond ni wnes i erioed sefyll arholiad. Dechreuais i ddysgu Cymraeg eto pan oeddwn i’n byw yn Llundain. Mae teulu fy nhad yn dod o ardal Ffynnongroyw sydd yn fy etholaeth i rŵan. Roedd fy nhaid yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, ond roedd fy nain yn dod o Lerpwl. Yn anffodus, doedden nhw ddim yn siarad Cymraeg gyda’i gilydd, a dyw fy nhad erioed wedi dysgu Cymraeg. Felly, tasai fy nhad wedi bod yn siaradwr Cymraeg, ni fyddai e wedi cwrdd â fy mam yn Ysgol Ramadeg Treffynnon. [Chwerthin.]

So, dwi’n hapus i fod yn dysgu Cymraeg, a dwi’n ceisio defnyddio ychydig o Gymraeg pan allaf i. Dwi’n cefnogi cynllun Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac mae’r cynllun ieithoedd swyddogol yn cefnogi hyn. Diolch. 

Diolch yn fawr, a dwi, dwi'n siŵr ar ran pawb sydd yma yn y Siambr, yn llongyfarch Hannah ar y ffordd mae hi wedi meistroli’r Gymraeg, a hynny mewn cyfnod byr iawn. Felly, llongyfarchiadau mawr.

Hoffwn i longyfarch y Comisiynydd am roi ffocws a phwyslais clir ar y Gymraeg, a hynny ar ddechrau’r adroddiad. Ond mae gen i bryderon am sut mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a’i defnyddio yn y sefydliad yma. Mae’r adroddiad yn sôn am achosion lle na fuodd modd i unigolion ddefnyddio eu dewis iaith, lle na anfonwyd gohebiaeth yn ddwyieithog. Dwi’n meddwl mai sôn am y Gymraeg mae’r adroddiad yn hynny o beth, ac nid am yr iaith Saesneg. Ond 'dewis iaith' ydy’r term sy’n cael ei ddefnyddio, ac mae hynny’n wahanol i bob sefydliad cymharol a chyrff democrataidd eraill yng Nghymru. Mae’r Senedd yma yn gweithredu o dan fframwaith cyfreithiol sy’n rhoi pwyslais ar hyrwyddo dewis iaith, yn hytrach na hyrwyddo’r Gymraeg. Ond mae pob dim dŷn ni’n gwybod am gynllunio ieithyddol yng Nghymru ac, yn wir, bolisi iaith cenedlaethol Cymru, yn pwysleisio hyrwyddo’r Gymraeg.

Yn anffodus, mae’r fframwaith presennol, sydd yn arwain at hyrwyddo dewis iaith yn hytrach na’r Gymraeg, yn tanseilio'r ymdrechion ac yn beth od iawn i fod yn gwneud, a dweud y gwir. Felly, buaswn i’n licio cael eich ymateb chi i hynny. Ydy hi’n bryd inni feddwl am newid hyn, a bod y Senedd yn ymuno yn yr un fframwaith polisi a chyfreithiol â phob corff cyhoeddus arall? Mae hynny er mwyn gweld y Gymraeg yn tyfu yn y sefydliad yma. Achos dŷn ni wedi gweld gostyngiad. Mae Heledd Fychan wedi sôn am ostyngiad yn nifer y cwestiynau ysgrifenedig sydd wedi cael eu cyflwyno yn Gymraeg—mae wedi syrthio o 4 y cant i 3 y cant, ac yna i 1 y cant eleni. Mae cwestiynau llafar ac amserol yn dangos yr un un patrwm, a dirywiad pellach yn nefnydd y Gymraeg yn y Cyfarfod Llawn.

Jest rhai pwyntiau penodol yn codi o’r adroddiad: byddem ni’n cwestiynu a ydy’r ffigur o 34 dogfen a baratowyd yn fewnol gan bwyllgorau yn uniaith Saesneg yn gywir. Byddwn i’n meddwl ei fod llawer iawn mwy, oherwydd mae adroddiadau drafft pwyllgorau, sydd yn niferus, yn dal i gael eu cyflwyno yn uniaith Saesneg fel arfer ac wedyn yn cael eu cyfieithu ar y cam olaf, sef jest cyn eu cyhoeddi nhw.

O ran y comisiynydd safonau, medraf ddweud o brofiad fy mod i ac aelodau staff y gwn i amdanyn nhw wedi gorfod ymwneud â’r comisiynydd ar lafar yn yr iaith Saesneg. O dan y fframwaith cyfreithiol presennol, dwi ddim yn credu bod hawl defnyddio’r Gymraeg. Mae angen edrych ar gapasiti swyddfa'r comisiynydd safonau, felly—eu capasiti nhw i weithio yn Gymraeg heb angen dibynnu ar gyfieithydd, ac a oes angen ychwanegu at y capasiti yna. Mae trafod materion sensitif cymaint yn fwy effeithiol o wneud hynny yn eich mamiaith yn uniongyrchol efo aelod staff, yn hytrach na drwy gyfieithydd.

Yn olaf, mae angen hefyd edrych ar y fewnrwyd. Dwi’n gwybod bod yna broblem efo’r cyfeiriadur staff ac Aelodau o ran ansawdd a chywirdeb y wybodaeth. Buaswn i’n hoffi i’r Comisiwn sicrhau bod y wybodaeth am sgiliau iaith Aelodau a’u staff yn gywir ac yn cael ei adolygu’n rheolaidd. Diolch yn fawr.

15:40

Diolch, Dirprwy Lywydd, a dwi'n ddiolchgar iawn i’r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Fel un bachan o Rydaman i fachan arall, byddwn i’n dweud, Tom, fod dy Gymraeg di’n grêt. Mae’n rhywbeth mae’n rhaid i mi ddweud wrth fy hunan wrth edrych yn y drych. Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n adeiladau a magu hyder ymhlith ein gilydd, a hefyd yn holl amrywiaeth ieithyddol Cymru. Mae yna wahanol dafodieithoedd, gwahanol ffyrdd o siarad Cymraeg, ac mae’n rhaid iddyn nhw i gyd gael eu hadlewyrchu yma. Mae hynny’n rhan bwysig o’r neges.

Dwi’n meddwl, o ran y pwyntiau roeddet ti’n gwneud ynglŷn ag anwytho, dylai fod y Gymraeg yn rhan ganolog o’r profiad anwytho, felly fe wnawn ni edrych ar hynny wrth inni baratoi at ddiwygio’r Senedd. O ran sgiliau iaith, un o’r pethau dwi’n credu y byddwn ni’n awyddus i edrych arno fe yw cymryd y math o ddynesiad, y math o beth rŷn ni wedi gwneud nawr gyda staff y Comisiwn, ac edrych ar gasglu'r data yna, gyda chytundeb pawb, wrth gwrs, gydag Aelodau a staff Aelodau, fel ein bod ni'n gallu cael darlun cyfan wedyn ar draws yr holl Senedd. Felly, mae hwnna'n un ffordd i ni adeiladu ar y profiad da dŷn ni wedi ei gael o ran cwrteisi sylfaenol ac yn y blaen, drwy ymestyn hynny, a'r arolwg sgiliau a'r gwaith hwnnw, ar draws yr holl staff seneddol, fel petai, ac Aelodau.

Ac wedyn, o ran adeiladu ar y profiad, wel, bron â bod, Tom, roeddet ti wedi ateb dy gwestiwn dy hunan. Dŷn ni wedi gosod y seiliau, ond beth ŷn ni nawr yn edrych ar gynyddu ar bob lefel a sut dŷn ni yn gallu creu peuoedd, er enghraifft, lle mae yna fwy a mwy o gyfathrebu mewnol a gweinyddu a gweithio o fewn y Gymraeg? Achos mae hwnna'n un ffordd arbennig o ymarferol i helpu pobl i wella eu sgiliau ieithyddol hyd yn oed yn fwy fyth. Llongyfarchiadau i Hannah, yn sicr, ar y llwyddiant gyda'r arholiad. Ac mae'n ffantastig i weld mwy a mwy o Aelodau yn defnyddio'r Gymraeg yn y gwahanol fforymau sydd gyda ni.

Ie, byddwn ni yn edrych yn benodol, fel dywedais i—. Mae yna glwstwr, amrediad nawr, o syniadau gyda ni ar gyfer sut i wella a chynyddu'r lefel o ddefnydd mewn pwyllgorau. Mi fyddwn ni yn treialu'r rheini ac yn gweld y cynnydd dros gyfnod o chwe mis. Dwi yn credu—. Mi wnaf ysgrifennu at yr Aelodau gwahanol, yn arbennig Siân. Rwy'n credu roeddech chi wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol; fydd dim o'r atebion gyda fi nawr. Ond jest cwpwl o bethau dwi am eu dweud yn fwy cyffredinol. Dwi yn credu, fel Senedd, nawr yw'r amser inni edrych ar y fframwaith yn gyffredinol. Mae'r pwynt roedd Siân yn ei wneud—dŷn ni yn trin y ddwy iaith yn gyfartal, yn hytrach na hyrwyddo. Ac, wrth gwrs, does dim problem gyda ni yn y Senedd ynglŷn â'r Saesneg. Hynny yw, mae gyda ni diwtoriaid Cymraeg, felly, mewn ffordd, onid hyrwyddo dŷn ni yn ei wneud yn barod? Ond dyw'r fframwaith cyfreithiol sydd gyda ni ddim yn mynd â ni ar hyd y llwybr yna. Felly, mae'n rhaid i ni edrych ar hwnna.

Ac mae'n rhaid i ni edrych ar rannau o fywyd seneddol sydd tu fas, hyd yn oed, i'n fframwaith ni ar hyn o bryd, hynny yw, o ran y comisiynydd safonau, y bwrdd taliadau, yr is-ddeddfwriaeth sydd yn dod yn Saesneg yn unig, fel sy'n cael ei nodi yn yr adroddiad. Felly, mae'n rhaid inni edrych, rwy'n credu, ar fframwaith sydd yn gwbl gwmpasol, fel bod pob agwedd o waith seneddol yn trin y Gymraeg yn gyfartal ac yn creu'r cyfleon i ni i gyd ddefnyddio'r Gymraeg sydd gyda ni. Diolch yn fawr.

15:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Hawliau darlledu Pencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad'

Eitem 5 heddiw yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Hawliau darlledu Pencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad'. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Delyth Jewell. 

Cynnig NDM8635 Delyth Jewell

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ‘Hawliau darlledu Pencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ebrill 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae’r pwyllgor wedi bod wrthi ers peth amser, bellach, yn ymchwilio i ddarlledu cyhoeddus yng Nghymru. Rhan allweddol o’r gwaith yma oedd ein hymchwiliad ar hawliau darlledu pencampwriaeth y chwe gwlad. Mae'r ddadl o ran a ddylai gemau’r chwe gwlad gael eu rhestru ar gyfer darlledu llawn ar sianeli darlledu cyhoeddus wedi bod yn mynd rhagddi ers tro. Yn 2009, fe wnaeth adolygiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig awgrymu y dylid darlledu gemau Cymru yn y bencampwriaeth ar sianeli darlledu cyhoeddus, gan gydnabod pwysigrwydd y gêm yng Nghymru. Ond, gwaetha’r modd, ar sawl achlysur, mae’r Llywodraeth yn San Steffan wedi bod yn gyndyn i newid hyn. Fodd bynnag, agorwyd cil y drws, yr hydref diwethaf, pan wnaeth Gweinidog y Llywodraeth Syr John Whittingdale ddweud wrth y pwyllgor:

'Rydym bob amser wedi dweud, pe bai Senedd Cymru yn dadlau'n gryf iawn fod angen inni edrych eto ar y digwyddiadau rhestredig er lles chwaraeon yng Nghymru, y byddem yn edrych arnynt, yn sicr. Felly, nid yw'r drws wedi'i gau.'

O’r herwydd, fe wnaethon ni, fel pwyllgor, benderfynu archwilio’r cwestiwn a ddylai’r chwe gwlad ddod yn ddigwyddiad rhestredig grŵp A, drwy siarad ag Undeb Rygbi Cymru ac arbenigwyr rygbi a darlledu ym mis Chwefror 2024. Yn ystod ein gwaith o gasglu tystiolaeth, fe wnaethon ni ddod ar draws nifer o heriau gwahanol, y byddaf yn sôn amdanynt yn gryno. Dirprwy Lywydd, mae storm berffaith o ddeinameg y farchnad ym maes darlledu chwaraeon byw wedi codi wal dalu o flaen mwy a mwy o ddigwyddiadau. Mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn wynebu cyfyngiadau cyllidebol sylweddol, boed hyn o doriadau hirdymor i ffi’r drwydded, neu ddirywiad yn y farchnad hysbysebu ar deledu darlledu. Mae'r costau cynhyrchu cynyddol yn faen tramgwydd pellach ar y naill a’r llall.

Mae dyfodiad gwasanaethau ffrydio byd-eang hefyd yn golygu bod gwerth hawliau darlledu chwaraeon wedi'i gynyddu. Er enghraifft, yn 2021, collodd y BBC ac S4C yr hawliau darlledu byw i gemau rhyngwladol yr hydref. Yn fwy diweddar, wedyn, dywedodd prif weithredwr Rygbi’r Byd y gallai gemau cwpan y byd yn y dyfodol hefyd fynd y tu cefn i wal dalu.

Eto i gyd, mae’r galw’n glir i rygbi rhyngwladol barhau i fod ar sianeli rhad ac am ddim. Cymru yw’r unig wlad yn y DU lle mae gemau rygbi rhyngwladol yn ymddangos ymhlith y 10 rhaglen fwyaf poblogaidd, fel ag yr oeddent yn 2022 a 2021. Er gwaethaf y galw hwn, mae yna broblem ariannol, wrth gwrs, ac fel hyn mae'r pwyllgor wedi bod yn pwyso a mesur y pethau gwahanol. Mae’r heriau ariannu sy’n wynebu rygbi Cymru yn hysbys iawn. Dywedodd Undeb Rygbi Cymru wrthym

'gallai goblygiadau ariannol negyddol symud gemau rygbi rhyngwladol ym Mhencampwriaeth Rygbi'r Chwe Gwlad i'r rhestr warchodedig gael effaith ddinistriol ar y gêm gyfan yng Nghymru yn y tymor canolig ac yn hirdymor.'

Mae hawliau'r cyfryngau yn unig yn cyfrif am £20 miliwn o gyfanswm refeniw'r undeb, sef £90 miliwn. Roedd Undeb Rygbi Cymru o’r farn y byddai cadw tensiwn yn y farchnad—hynny yw, y gystadleuaeth rhwng darlledwyr cyhoeddus a darlledwyr ar-alw—y byddai’r tensiwn hwnnw yn caniatáu ar gyfer cynhyrchu incwm digonol ar gyfer y gêm yng Nghymru.

Nawr, ochr yn ochr â’r heriau ariannu, fe wnaethon ni hefyd ystyried yr effaith y gallai unrhyw newidiadau mewn darlledu ei chael ar gyfranogiad. Fe gawson ni wybod gan Undeb Rygbi Cymru yn flaenorol fod tuedd ar i lawr yn nifer y bobl sy’n chwarae rygbi, yn enwedig yng ngêm y dynion. Dywedodd y darlledwr Huw Llywelyn Davies wrthym, a dwi'n dyfynnu ei eiriau,

'dwi'n credu, fod llai o bobl yn gwylio rygbi ar y teledu a bod hynny yn andwyol, mewn ffordd, i'r gêm yng Nghymru, oherwydd mae yna gysylltiad rhwng y nifer sy'n gwylio'r teledu a'r nifer sy'n chwarae.'

Fodd bynnag, mynegodd yr Athro Richard Haynes hyn yn berffaith pan ddywedodd wrthym:

'Allwch chi ddim bod yr hyn na allwch chi ei weld.'

Fe gawson ni wybod, hefyd, fod darpariaeth darlledu Cymraeg yn hanfodol. Roedd pob tyst yn cefnogi hynny, ac, ar y mater hwn, dywedodd Seimon Williams, yr awdur a’r colofnydd rygbi, wrthym, ac eto dwi'n dyfynnu ei eiriau,

'mae'n rhaid iddo fe fod ar gael ac yn hawdd i'w gyrraedd, ac o safon hefyd.'

Felly, y cwestiwn syml sydd yn ein hwynebu oedd yn ein hwynebu fel pwyllgor oedd: a ddylid gwneud pencampwriaeth rygbi’r chwe gwlad yn ddigwyddiad grŵp A ai peidio? Nid oedd hwn yn gwestiwn syml i ni ei ystyried, Dirprwy Lywydd, a buom yn pwyso a mesur, fel dwi wedi ei ddweud, nifer o ffactorau yn ein hystyriaethau. Rwyf wedi cyffwrdd â’r rhain yn barod. Mae yna her sylweddol wrth geisio cadw’r ddysgl yn wastad rhwng anghenion cystadleuol cynhyrchu incwm digonol i alluogi rygbi i ffynnu ac, ar yr un pryd, cyrraedd y nifer uchaf o bobl a sicrhau bod yna niferoedd digonol yn ymgymryd â’r gamp. Mae hynny yn densiwn. Serch hynny, rôl unigryw rygbi yn ein bywyd cenedlaethol oedd y ffactor allweddol i ni. Tra bo Cymru wedi perfformio’n gryf mewn sawl camp yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae rygbi’n ddiamheuol yn rhan arbennig o’n bywyd diwylliannol. Mae’r pwyllgor o’r farn bod yn rhaid amddiffyn yr elfen arbennig hon er mwyn sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu cysylltu â rygbi heb orfod talu am y fraint. Mae rygbi yn gêm sydd wedi cael ei chofleidio gan ddosbarthiadau gweithiol Cymru ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac sydd wedi helpu i adrodd stori Cymru ar lwyfan y byd. Byddai'n anod mesur cymaint byddai ein diwylliant ar ei golled pe byddem ni'n colli'r cysylltiad cryf hwnnw â'r gêm.

Rŷn ni'n croesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'n hargymhellion. Rŷn ni hefyd yn cefnogi'r camau maent wedi eu cymryd hyd yn hyn i godi'r mater gyda Llywodraeth San Steffan. Mae'n anffodus ond yn ddealladwy nad ydym wedi cael ymateb gan Lywodraeth San Steffan ar y mater hwn yn sgil yr etholiad wythnos diwethaf. Er gwaethaf hyn, mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru ei bod yn nodi natur ddatganoledig polisi chwaraeon. Nododd hefydd y byddai'n agored i Lywodraeth Cymru gynnal gwerthusiad cynhwysfawr o ran a oes y cydbwysedd cywir ar hyn o bryd rhwng y pethau gwahanol. Yn hyn o beth, dyma ofyn nawr i Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei hymateb, i amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal gwerthusiad o'r fath. Hoffwn hefyd ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet, o ystyried ein bod bellach yn gwybod bod Llywodraeth newydd yn San Steffan, sut y bydd hi'n codi'r mater hwn gyda'r Ysgrifennydd Gwladol newydd. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod bod ganddi gefnogaeth lawn y Siambr ar y mater hwn, felly dyma annog ymagweddau cryf, rhagweithiol ar y mater hwn ar unwaith, cyn cytuno ar yr hawliau ar gyfer y twrnamaint nesaf. Diolch.

15:55

Diolch i’r Cadeirydd a chlercod y pwyllgor am gyflwyno’r ddadl hon heddiw. Yn ôl Llywodraeth y DU, digwyddiad rhestredig yw un y teimlir at ei gilydd fod iddo bwysigrwydd cenedlaethol arbennig ac yn cynnwys elfen sy’n uno’r genedl. I Gymru, rygbi’r undeb yw’r gamp honno. Drwy’r adegau da a drwg, mae rygbi’n dod â phobl o bob rhan o Gymru ynghyd, ac mae wedi gwneud hynny ers cenedlaethau. Pan ddaeth y gêm yn boblogaidd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fe'i cofleidiwyd gan Gymru fel ein gêm ein hunain. Yn wahanol i’r gwledydd cyfagos, mae’r gêm yng Nghymru yn gamp dosbarth gweithiol bendant sy'n dod â chymunedau lleol ynghyd. O 1900, enillodd Cymru y Goron Driphlyg chwe gwaith mewn 11 mlynedd, gan ddenu degau o filoedd i'w gwylio. Helpodd rygbi i hyrwyddo Cymru ar y llwyfan rhyngwladol hefyd, wrth inni herio goreuon y byd a'u curo. Bydd gan lawer ohonom atgofion diweddar o ennill y Gamp Lawn; mae'r blynyddoedd 2005, 2008, 2012 a 2019 yn rhai pwysig yn y llyfrau hanes. Mae gennym yr atgofion hynny diolch i wasanaethau teledu rhad ac am ddim. Drwy gydol y cyfnod hwnnw, cawsom lawer o chwaraewyr anhygoel, sydd wedi’u hanfarwoli nid yn unig oherwydd eu hymroddiad i’r gamp ond hefyd i Gymru. Yng ngeiriau Ken Owens:

'Mae hanes y crys yn ymestyn yn ôl bron i 140 mlynedd. Nid eich crys chi yw e: crys y genedl yw e... mae gennych gyfrifoldeb i wneud eich gorau dros y genedl’.

Mae chwaraewyr yn fodelau rôl i gynifer o athletwyr ifanc, ac mae mor bwysig fod pobl ifanc yn cael cyfle i wylio eu harwyr yn chwarae ar y teledu. Mae rygbi'n rhan annatod o'n diwylliant, ac nid oes unrhyw beth yn cymharu'n llwyr â chlywed 70,000 o gefnogwyr yn canu'r anthem genedlaethol, 'Hen Wlad fy Nhadau' gyda'i gilydd yn Stadiwm Principality. Mae cefnogwyr yn mynd â'n hiaith a'n caneuon gyda nhw wrth deithio, ac rwy'n cofio gwenu ar fideos o gefnogwyr yn canu 'Sosban Fach' a 'Calon Lân' yn Ffrainc yn ystod cwpan y byd y llynedd. Mae pobl yn dymuno dysgu’r caneuon a’r iaith, ac mae gwylwyr ledled Cymru yn gysylltiedig â’r gêm ac yn rhannu balchder unedig, yn sgil ei gwylio ar y teledu. Gêm rygbi chwe gwlad Cymru yn erbyn Ffrainc, a ddarlledwyd ar BBC1 ar 11 Mawrth 2022, oedd y rhaglen â'r nifer fwyaf o wylwyr yng Nghymru mewn blwyddyn, gyda chynulleidfa gyfartalog o 652,000, a byddwn yn sicr yn dadlau bod niferoedd gwylio mor uchel yn adlewyrchu pwysigrwydd cenedlaethol arbennig. Mae gemau chwe gwlad hefyd yn rhoi hwb enfawr i'r sector lletygarwch sy'n ei chael hi'n anodd ac sy'n dal i geisio adfer ar ôl y pandemig. Byddai caniatáu rhoi rygbi rhyngwladol y tu ôl i wal dalu yn ormod o faich iddynt hwy a phawb arall ei ysgwyddo.

Rwy'n cydnabod y sefyllfa ariannol anodd y mae URC ynddi, ac yn nodi eu pryderon ynghylch colli cystadleuaeth yn y farchnad ar gyfer hawliau darlledu pencampwriaethau. Ond mae perygl gwirioneddol yma y byddem yn gollwng y bêl drwy osgoi gweithredu. Mae'n rhaid inni sicrhau y gall cenedlaethau'r dyfodol ymgysylltu â'r gêm heb orfod talu am y fraint. Nhw yw’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr, ac ni fyddem am weld gostyngiad yn nifer y bobl sy’n cymryd rhan yn y gamp oherwydd wal dalu, yn union fel rydym wedi’i weld gyda chriced—fel y mae Alun yn ei grybwyll yn aml iawn. Ond nhw hefyd yw'r genhedlaeth nesaf o gefnogwyr, wedi'u huno gan y cariad a rannant at y gêm a balchder yn ein cenedl.

Ac rwy’n falch o argymhellion y pwyllgor a chefnogaeth Llywodraeth Cymru iddynt. Gyda Llywodraeth Lafur newydd yn y DU, rwy'n gobeithio y byddwn mewn pâr diogel o ddwylo, ac y gallwn gael darllediadau rhad ac am ddim gwarchodedig o bencampwriaeth y chwe gwlad dros y llinell gais.

16:00

Gaf i ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor a'r clercod am eu gwaith ar yr adroddiad hwn? Er fy mod i bellach nôl ar y pwyllgor diwylliant, doeddwn i ddim yn aelod pan ymgymerwyd â’r gwaith hwn, ac felly dwi'n falch iawn o weld y gwaith trylwyr rydych chi wedi ei wneud. Oherwydd, wedi'r cyfan, mae hwn yn bwnc sy’n tanio’r dychymyg, ac mae barn gref iawn, iawn ymysg nifer o’n hetholwyr. Ac yn ddiwahân, o fy mhrofiad i beth bynnag, mae pawb sy’n dilyn ein timau rygbi cenedlaethol yn credu y dylai pawb fedru dilyn hynt a helynt Cymru ym mhencampwriaeth y chwe gwlad am ddim ac yn eu dewis iaith yma yng Nghymru.

Wrth gwrs, dwi’n deall ac yn cydnabod, fel y gwnaeth y Cadeirydd a'r pwyllgor, yr angen i Undeb Rygbi Cymru i wneud arian. Ond dwi’n gobeithio hefyd fod Undeb Rygbi Cymru yn deall pwysigrwydd y cefnogwyr o ran eu model busnes a hefyd pwysigrwydd darlledu’r gemau hyn yn y Gymraeg, a pham nad ydy cael opsiwn gwylio yn y Gymraeg ar blatfform megis Amazon Prime yn cyfateb â darlledu ar S4C. Dwi’n gwybod am nifer fawr o bobl sy’n ddihyder yn y Gymraeg neu sy’n dysgu neu sydd â dim Cymraeg o gwbl sydd wastad yn gwylio'r rygbi ar S4C. A dwi hefyd yn gwybod am nifer o glybiau rygbi a thafarndai ledled y wlad sydd yn dangos y gemau yn fyw ar S4C, gan felly normaleiddio’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned a chlywed y Gymraeg fel iaith berthnasol—llefydd fel Clwb y Bont ym Mhontypridd, lle nad oes gan neb broblem gwylio’r gêm yn y Gymraeg. Dyma’r math o bethau sy’n cadw’r iaith yn fyw ac yn berthnasol. Ac rydyn ni wedi gweld o'r blaen Cymdeithas Pêl-droed Cymru yn cydnabod pwysigrwydd hynny wrth gyhoeddi partneriaethau gydag S4C. Felly, mae'n rhaid inni weld Undeb Rygbi Cymru yn ymateb yn gryfach o ran hynny hefyd.

Roeddech chi'n sôn yn eich agoriad, Gadeirydd, ynglŷn â'r ffaith bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi ysgrifennu at Weinidogion yn San Steffan. Ac yn amlwg, mae yna obaith rŵan, ac os nad ydy hi eisoes wedi ysgrifennu, dwi'n gobeithio y bydd hi'n ysgrifennu'n fuan iawn at y Gweinidogion newydd ar y mater hwn. Gydag un o Weinidogion y DCMS yn cynrychioli sedd yng Nghymru lle mae rygbi heb os yn ganolog i’r gymuned, efallai fod cyfle i ofyn i’r Llywodraeth ailystyried. A dwi’n falch bod y pwyllgor wedi nodi pwysigrwydd y gemau hyn o ran y diwydiant lletygarwch hefyd. Fel rydyn ni'n gwybod, mae COVID wedi bod yn gyfnod eithriadol o heriol i nifer o'n clybiau a thafarndai lleol ni, sydd yn aml yn galon i'r gymuned. Felly, dwi'n falch eich bod chi wedi rhoi'r pwyslais hwnnw.

Felly, beth am gymryd heddiw fel cyfle i ailddatgan barn y Senedd ar y mater hwn, ailddatgan bwriad i gael datrysiad ac ymrwymo i weithio gyda'r Llywodraeth newydd yn San Steffan i wireddu hyn? Mae'n bwnc y bydd nifer o bobl eisiau inni gael barn arno fo, ond eisiau gweld gweithredu arno fo hefyd. Fe soniwyd eisoes gan Carolyn o ran beth ddigwyddodd gyda chriced, er enghraifft. Does neb eisiau gweld hynny'n digwydd. Bore yma, roeddem ni'n trafod efo'r Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â phwysigrwydd chwaraeon, y celfyddydau a diwylliant o ran yr ochr ataliol, ac mae nifer o bobl yn cael eu hysgogi gan weld chwaraeon ar y teledu i fod yn ymgymryd â'r chwaraeon eu hunain. Er enghraifft, gyda'r chwe gwlad, rydyn ni'n canolbwyntio ar y dynion yn aml, ond mae gweld y chwe gwlad efo'r merched yn cystadlu yn eithriadol o bwysig hefyd, i bobl gael y role models hynny, i fod eisiau ymgymryd â gweithgareddau o'r fath. Felly, dwi'n gobeithio'n fawr y byddwn ni'n unedig fel Senedd ar hyn, ond rŵan rydyn ni angen gweithredu gan Lywodraeth San Steffan. 

Diolch ichi fel Cadeirydd y pwyllgor, Delyth, am ddod â hyn i'r Senedd heddiw.

A diolch yn arbennig i'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol—y teitl pwyllgor hiraf, rwy'n credu, mewn 25 mlynedd o ddatganoli—am yr hyn sydd, o edrych arno, yn gysyniad syml, yn ymchwiliad syml: a ddylai gemau rygbi'r chwe gwlad Cymru fynd y tu ôl i wal dalu? Ond yn y cwestiwn syml hwnnw mae cymhlethdod o atebion, pethau nad ydynt yn wybyddus ac na ellir eu deall, yn enwedig mewn perthynas â'r elfen ariannol i Undeb Rygbi Cymru.

Ac mae'n gyfarwydd iawn i'r rhai ohonom sy'n dilyn rygbi a rygbi rhanbarthol yng Nghymru, ac rwy'n siŵr y bydd siaradwyr a ddaw ar fy ôl yn siarad yn fanwl am hyn hefyd, am yr effaith ariannol y mae rygbi proffesiynol yng Nghymru yn ei wynebu ar hyn o bryd, ac rwy'n cydymdeimlo â hynny. Mae gennyf gydymdeimlad â'r elfen ariannol, a sut yr aeth rygbi proffesiynol yng Nghymru ar drywydd contractau a oedd yn talu'n dda pan drodd y gêm yn broffesiynol yng nghanol y 1990au, yn hytrach na deall natur syml y gêm o ran proffesiynoli, ac fe wnaethom ddilyn hemisffer y de, Seland Newydd, a oedd yn broffesiynol de facto am o leiaf 20 mlynedd cyn i'r gêm droi'n broffesiynol ei hun. Rwy'n deall bod hynny wedi dod yn ôl ar ei ben o ran agweddau ariannol y peth.

Ond rwy'n dal i ddod yn ôl at elfen ddiwylliannol bur y chwe gwlad a rygbi fel gêm i ni yma yng Nghymru, ac rwy'n cofio pan wnaethom drafod hyn nôl ym mis Ionawr, fe wneuthum ailadrodd fy hoff linell, 'Shave away, Gavin, shave away,' gan y diweddar Eddie Butler, wrth i Gavin Henson gicio'r gic honno. Hyd yn oed cyn hynny yn ôl ym 1999, a Chwpan Rygbi'r Byd, ac rwy'n cofio'r teledu yn yr ysgol yn cael ei wthio i mewn ym 1999 i wylio'r seremoni agoriadol yn Ysgol Wdig. Roeddwn yn yr ysgol; roeddwn yn—faint oedd fy oed i ym 1999? Yn iau na'r rhan fwyaf a fyddai wedi bod yn y Siambr hon. Ond rwy'n cofio'r elfen ddiwylliannol gyda Tom Jones a Shirley Bassey yn agoriad cwpan y byd yn Stadiwm y Mileniwm, Stadiwm Principality erbyn hyn—dyna ddangos sut mae nawdd yn newid elfen ariannol y gêm, gyda Stadiwm y Mileniwm bellach â hawl nawdd. Ond mae'r elfennau diwylliannol hynny yn aros gyda ni; maent yn aros gyda ni fel unigolion, yn enwedig yma yng Nghymru, ac rwy'n credu bod yr argymhellion yn yr adroddiad hwn yn eithaf clir.

Mae argymhelliad 2 yn arwain at yr argymhelliad cyntaf yn eithaf amlwg, yn yr ystyr y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i geisio sicrhau bod hyn yn cael ei symud i'r haen uchaf. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich ymateb, hoffwn wybod a ydych chi wedi gwneud y cais hwnnw i Lywodraeth newydd y DU, neu a ydych chi'n bwriadu gwneud y cais hwnnw, a sut rydych chi'n bwriadu mynd ati i wneud hynny.

Ond hoffwn ofyn cwestiwn hefyd, gan ein bod yn sôn am gyllid, ynghylch y cynllun benthyciad tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws—a bydd y Gweinidog yn gwybod fy mod wedi codi hyn mewn cwestiynau ysgrifenedig i'r Gweinidog o'r blaen—ynghylch y gyfradd llog o 8 y cant y mae Undeb Rygbi Cymru yn ei thalu ar fenthyciad y cynllun benthyciad ar hyn o bryd, neu y mae rhanbarthau 'n talu ar fenthyciad y cynllun i Lywodraeth Cymru, pan wnaeth Llywodraeth y DU, Llywodraeth flaenorol y DU, ei gosod ar 2 y cant yn unig ar gyfer timau uwch gynghrair Lloegr. Rwy'n credu bod hwnnw'n gyfyngiad ariannol sy'n brifo ein clybiau proffesiynol yma yng Nghymru. Gwelwn gyda'r Gweilch nawr yn ystyried adleoli yn ôl i Sain Helen fod y gêm yng Nghymru yn newid; mae'n newid am nad ydym yn gweld cymaint o bobl yn cefnogi ein clybiau.

Un ffordd y credaf y gallwn ni sicrhau hynny yw drwy wneud yn siŵr fod ein gêm genedlaethol ar deledu rhad ac am ddim. Rwy'n credu bod honno'n ffordd bwysig iawn o ddod â phobl i allu gweld y gêm, gan wybod bod yna glybiau yn eu cymunedau, a gallu mynd i gefnogi'r clybiau hynny yn eu cymunedau—nid yn unig y clybiau proffesiynol, ond Clwb Rygbi Dinbych-y-pysgod, y gweithiais gyda nhw i geisio cael eu hail 15 i mewn i'r gynghrair i geisio eu cael i chwarae. Mae hwnnw'n glwb sy'n tyfu oherwydd eu bod yn gallu gwylio rygbi ar deledu daearol. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn ac mae'n wych fod gennym lu o dimau ail 15 o glybiau yng ngorllewin Cymru, yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, bellach yn mynd i mewn i strwythur y gynghrair genedlaethol, ond rwy'n cofio o fy 10 mlynedd o chwarae rygbi fel oedolyn, fod nifer y timau wedi gostwng, ac mae nifer y chwaraewyr wedi gostwng, ond rydym wedi gweld cynnydd bach yn ddiweddar, sy'n addawol iawn.

Felly, rwy'n credu'n wirioneddol fod cyfle yma gydag elfen ddiwylliannol y chwe gwlad a gemau Cymru i ddiogelu hynny a deall ei bwysigrwydd i ni fel cenedl, ac yna deall a chydnabod a bod yn bragmatig gyda'r sefyllfa ariannol y mae URC yn gweld eu hunain ynddi, ac edrych ar fesurau eraill—benthyciad y cynllun benthyciad tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws—wrth geisio codi rhywfaint o'r baich oddi ar y gêm broffesiynol yma yng Nghymru, ac fel eu bod yn gallu bod heb eu cyfyngu: gallwn gael teledu rhad ac am ddim heb straen yr elfen ariannol hefyd.

Felly, rwy'n cymeradwyo'r Cadeirydd ac aelodau'r pwyllgor am ymchwiliad da iawn i hyn, ac edrychaf ymlaen at ymateb Ysgrifennydd y Cabinet ar hyn, ac rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn ni fel Senedd, gydag un llais, fod yn unedig wrth obeithio gofyn am i gemau chwe gwlad Cymru allu parhau ar deledu rhad ac am ddim. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

16:05

Atgof yr Aelod o'r gêm broffesiynol oedd mynd i mewn i gwpan y byd ym 1999, a fy atgof i o fynd yn broffesiynol oedd mynd i rygbi'r gynghrair yn y dyddiau hynny. Hefin David.

Sylw golygyddol gan y Dirprwy Lywydd yno. [Chwerthin.] Rwy'n cofio mai 1998 oedd hi, roedd gemau Lloegr ar Sky, felly pan chwaraeodd Cymru yn erbyn Lloegr yn Twickenham, roedd honno ar Sky mewn gwirionedd, ac mae gennyf lawer yn gyffredin â Rishi Sunak, gan nad oedd fy nhad yn gadael i ni gael Sky ychwaith, ac roedd yn rhaid i ni wrando arni ar y radio. [Chwerthin.]  Nawr, rwy'n eithaf argyhoeddedig—. Dyna'r cyfan sydd gennyf yn gyffredin â Rishi Sunak. Rwy'n eithaf argyhoeddedig pe bai'r gweddill ohono heb fod ar y teledu, mae'n debyg na fyddai fy niddordeb ym myd rygbi'r undeb a oedd yn datblygu wedi bod mor frwd, felly yn sicr mae'r agwedd honno wedi'i nodi eisoes. Harddwch y chwe gwlad hefyd, fel roedd Carolyn a minnau'n sôn nawr, yw ei bod yn eich tynnu o aeaf llwm i wanwyn ffres, mae'r bencampwriaeth gyfan yn eich cario chi drwodd, a Chaerdydd yn byrlymu, er fy mod yn ei gwylio yn nghlwb y gweithwyr Gilfach y dyddiau hyn—

—yng nghanol fy nghymuned, gyferbyn â'm swyddfa.

Felly, mae'n bwysig i mi fod cymunedau'n parhau i gael mynediad at ddarllediadau'r chwe gwlad. Nawr, gofynnais am i argymhelliad 3 gael ei gynnwys oherwydd roeddwn i'n aelod o'r pwyllgor pan gafodd hwn ei baratoi, felly mae fy argymhelliad 3 i bob pwrpas yn gynllun B. Fe ddarllenaf yr argymhelliad i chi:

'Os bydd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn cael ei darlledu ar blatfformau talu i wylio, dylai Llywodraeth y DU gyflwyno mesurau i ddiogelu’r diwydiant lletygarwch, gan gynnwys cymal contractiol gorfodol sy'n caniatáu tanysgrifiadau talu i wylio rhatach ar gyfer tafarndai a chlybiau â gwerth ardrethol islaw swm penodol. Dylid gwneud hyn yn dilyn ymgynghoriad â'r diwydiant lletygarwch i bennu'r dull mwyaf priodol.'

Nawr, y rheswm rwy'n codi hyn yw oherwydd fy mod wedi cyfarfod â Mark, Jan ac Eric, sy'n rhedeg clwb y gweithwyr Gilfach, ac roeddent yn dweud wrthyf eu bod yn talu £514 y mis am y tanysgrifiad lletygarwch i Sky TV, ac un o'r atyniadau mwyaf yn y clwb yw pêl-droed yr uwch gynghrair. Felly, mae hwnnw'n atyniad mawr ar nosweithiau pan allant ddangos y pêl-droed. Mae pris premiwm, yn amlwg, am ei ddarlledu mewn clwb, ac maent yn cael gostyngiad bach, ond mae'n ostyngiad gwirfoddol. Nid oes deddf sy'n dweud bod yn rhaid iddynt gael gostyngiad yn seiliedig ar faint y clwb. Felly, pe baent yn ychwanegu'r chwe gwlad i blatfform talu i wylio gwahanol, ni fyddai'n dod gan Sky, felly byddai'n rhaid iddynt gael ffi ychwanegol bob mis i'w gael, dyweder, gan Amazon, ac yna os byddai snwcer, dyweder, yn mynd yr un ffordd, pencampwriaeth y byd snwcer neu'r dartiau, sydd hefyd yn boblogaidd iawn, efallai y byddai'n rhaid iddynt brynu tanysgrifiad arall. Wel, ni all clwb y gweithwyr Gilfach fforddio hynny.

Felly, rwy'n credu bod angen mesur statudol arnom os yw'n mynd i ddigwyddiadau grŵp B yn y pen draw a'i fod yn dod yn wasanaeth talu i wylio; mae'n rhaid inni gael mesur statudol i ganiatáu i dafarndai a chlybiau mewn cymunedau fel fy un i gael ffi is o lawer, yn enwedig os byddent eisoes yn tanysgrifio i blatfformau eraill ar y pryd, fel na allent fforddio ei gadw i fynd. Ie.

16:10

Diolch yn fawr, Hefin, am dderbyn yr ymyriad, ac rwy'n gwerthfawrogi eich argymhelliad 3. Rwy'n credu ei fod yn un gwerthfawr iawn, ac mae'n gais i Lywodraeth y DU. A wnaethoch chi edrych yn eich trafodaethau yn y pwyllgor, a maddeuwch i mi nad wyf yn gwybod, ar fesurau eraill o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer lliniaru'r gost bosibl? Rwy'n meddwl am ardrethi busnes.

Wel, mae ardrethi busnes yn fater sy'n parhau, ac yn rhywbeth rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog cyllid sydd yn yr ystafell nawr yn gwrando arno, ond na, ni wnaethom fanylu ar fesurau Llywodraeth Cymru, roeddem yn edrych ar y chwe gwlad o safbwynt y rhestrau A a B, felly roedd yn ymwneud yn benodol â hynny. Ond os ydych chi'n mynd i gael lleoliadau amgen o fewn cymunedau yn dangos y gemau hyn, ac yn y Gymraeg hefyd, rhaid i'r clybiau mewn cymunedau incwm is allu eu darparu, ac mae hon yn her enfawr i lefydd fel clwb y gweithwyr Gilfach. Felly, gallai newid i dalu wrth wylio amddifadu cymunedau cyfan o'r cyfle i wylio'r rhain ac amddifadu cymunedau hefyd o'r cyfle cymunedol i wylio'r rhain. Felly, hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet fynd i'r afael â hynny'n benodol a mynd i'r afael â hynny gyda Llywodraeth y DU, ac efallai y bydd dulliau y gallai Llywodraeth Cymru eu defnyddio yn hynny o beth. Mae Sam Kurtz wedi awgrymu hynny hefyd.

Ond i grynhoi, roedd hi'n ddadl gytbwys, onid oedd? Rydym yn meddwl am y fargen y mae URC yn ceisio'i chael. Os ydynt yn dewis y BBC, a bod y BBC ac ITV yn gwybod mai nhw yw'r unig ddewis sy'n bodoli, mae'n effeithio ar y gyfradd y gallant ei chael gan y darlledwyr hynny, felly mae'r canlyniad hwnnw'n bodoli hefyd. Cefais yr argraff gan y prif weithredwr a chadeirydd URC ar y pryd eu bod am iddo fod yn rhad ac am ddim pe bai modd iddynt wneud hynny, ond roeddent am gadw'r opsiwn ar y bwrdd i fynd ar drywydd talu i wylio er mwyn cael y fargen orau bosibl, a phwy all eu beio am hynny mewn gwirionedd yn yr hinsawdd ariannol bresennol i rygbi Cymru?

Rwy'n ddiolchgar i'r Cadeirydd ac i staff y pwyllgor hefyd am ein helpu a'n cefnogi gyda'r ymchwiliad hwn. Wrth gwrs, John Whittingdale a awgrymodd ein bod yn dechrau'r ymchwiliad hwn. Hyd y gwn i, dyma'r tro cyntaf i unrhyw bwyllgor yma ddechrau ymchwiliad ar gais Gweinidog Llywodraeth y DU. Rwy'n falch o weld bod John Whittingdale wedi goroesi'r cliriad mawr yr wythnos diwethaf. Efallai y caiff gyfle hefyd i ddarllen yr adroddiad hwn.

Mewn sawl ffordd, mae'r sgwrs a gawsom wedi bod yn sgwrs rhyngom ni fel cenedl yn hytrach na phleidiau gwleidyddol a gwleidyddion, oherwydd rwy'n credu ein bod i gyd wedi mwynhau gwahanol achlysuron yn gysylltiedig â'r chwe gwlad. Mae Carolyn yn ein hatgoffa o gamp lawn 2005; rwy'n cofio ei bod hi wedi cymryd pedwar diwrnod i fi ddod nôl o Gaeredin ar ôl i ni ennill yn Murrayfield a bron i mi fethu gêm Iwerddon, ond mae honno'n stori ar gyfer achlysur arall. Ond yr holl achlysuron hyn—[Torri ar draws.] Ddim nawr. Mae'r holl hanesion hyn yn ymwneud â'n hanesion personol hefyd, am bwy ydym ni fel pobl a phwy ydym ni fel unigolion a chymunedau. Rwy'n siŵr fod gan bob un ohonom yn y Siambr hanesion tebyg am y ffordd y mae pencampwriaeth y chwe gwlad wedi newid a siapio ein hatgofion.

Felly, nid gêm yn unig ydyw, ond etifeddiaeth ddiwylliannol mewn pob math o ffyrdd gwahanol. Rwy'n cofio Graham Henry yn siarad am ei syndod pan gyrhaeddodd Gaeredin ar gyfer gêm Murrayfield, y tro cyntaf iddo reoli Cymru i fyny yno, a dywedodd na allai ddeall pam fod yr holl Gymry hyn yn cerdded i lawr Princes Street. Wrth gwrs, erbyn inni gyrraedd Murrayfield, nid oeddem ni'n gallu deall pam ein bod yno ychwaith. Ond roedd yn fynegiant diwylliannol go ryfeddol hefyd, ac wrth gwrs, ar ôl colli i Iwerddon ac i'r Alban y flwyddyn honno, aethom yn ein blaenau i ennill yn y Parc des Princes ac wrth gwrs, curo Lloegr yn Wembley hefyd.

Mae'r pethau hyn yn rhan o bwy ydym ni. Rwyf am i fy mab ei fwynhau, ac rwyf am i wyrion yr Aelodau yma ei fwynhau hefyd. Rwy'n credu bod y dadleuon a wnaeth Abi Tierney yn ei gohebiaeth i ni, ac a wnaed gan URC wedyn mewn tystiolaeth lafar, yn ddadleuon pwerus. Nid wyf yn credu y dylai ein cariad tuag at y gêm a'n cariad at y profiad a'n hanes a'n hanesion a'n straeon ein dallu i'r problemau economaidd go iawn sy'n wynebu URC a dyfodol y gêm. Ac felly, mae'n ddadl y mae'n rhaid inni ei chael; mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni ei gymryd o ddifrif. Ac rwy'n credu bod y dadleuon a wnaeth Abi Tierney yn ddadleuon pwerus iawn; roeddent yn ddadleuon hynod bwerus. Ond mae'n rhaid imi ddweud hefyd wrth Undeb Rygbi Cymru fod Heol y Porth yn wahanol iawn i faes parcio'r gorllewin, a phrofiad cefnogwyr rygbi Cymru yw ei fod yn rhywbeth a rannwn gyda'n gilydd fel cenedl. Rwy'n ofni bod dweud y bydd hyn yn ein helpu i gael digon o arian yn ymateb annigonol i rai o'r heriau sy'n wynebu rygbi'r undeb heddiw ac yn y dyfodol.

Rydym ar adeg anodd yn ein hanes. Rydym yn edrych ar y gêm leol, y gêm ar lawr gwlad, rydym yn edrych ar y gêm ranbarthol, ac yn ystod yr wythnos ddiwethaf, ar y gêm genedlaethol, ac nid ydym yn gweld llwyddiant. Ond rwy'n credu mai'r her fwyaf sydd gennym yw perswadio bechgyn a merched ifanc i chwarae'r gêm yn y lle cyntaf. Faint o gemau o rygbi llawr gwlad sy'n cael eu canslo am nad oes modd i dimau godi digon o chwaraewyr? Sawl gwaith y gwelsom, yn ein hetholaethau a'r ardaloedd a gynrychiolwn, gemau wedi'u canslo am nad oes digon o bobl i chwarae? A sawl gwaith y gwelsom gaeau rygbi gwag a gêm yn cael ei chwarae heb neb yn ei gwylio? Mae angen inni fynd i'r afael â'r argyfwng go iawn yn rygbi Cymru a sicrhau bod y gêm yn bodoli ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac rwy'n credu bod cysylltiad â phencampwriaeth y chwe gwlad yn hanfodol i hynny. Defnyddiais esiampl criced Morgannwg, a'i orddefnyddio o bosibl, ond mae'n codi ofn arnaf, po fwyaf y tynnwn y gêm oddi ar y sgriniau, po fwyaf y gwnawn ei thynnu oddi wrth ein cymunedau a'r bobl sy'n mwynhau gwylio'r gêm, y lleiaf y bydd yn gamp genedlaethol i ni.

Felly, er bod y ddadl a wnaeth URC yn un bwerus, rwy'n credu y dylem fynd i'r afael â'r her a osodwyd i ni gan John Whittingdale a dadlau'r achos pwerus i sicrhau bod pencampwriaeth y chwe gwlad yn parhau i fod yn rhad ac am ddim i bawb ledled Cymru ac ar draws y byd.

16:20

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r pwyllgor, o dan gadeiryddiaeth Delyth Jewell, am gyflwyno'r ddadl hon. Mae'n amlwg iawn o gyfraniad pob Aelod ein bod ni i gyd yn cytuno bod rygbi yng Nghymru yn chwarae rhan bwysig iawn yn ein hunaniaeth chwaraeon, ein hunaniaeth ddiwylliannol a'n hunaniaeth genedlaethol. Mae pencampwriaeth y chwe gwlad yn enwedig yn taro tant gyda llawer o gymunedau, teuluoedd ac unigolion ar draws y wlad. Nid wyf yn credu bod unrhyw ddigwyddiad chwaraeon arall yn debyg iddi.

Yn gyntaf oll, mae pencampwriaeth y chwe gwlad yn fwy na chyfres o gemau rygbi yn unig; mae'n uno Cymru mewn dathliad o chwaraeon, traddodiad a balchder cenedlaethol, ac i lawer, mae gwylio'r gemau hyn yn foment o lawenydd a chyffro cyfunol, wedi'i rannu â theulu a ffrindiau. Mae gwneud y chwe gwlad yn rhad ac am ddim yn sicrhau bod pawb, ni waeth beth fo'u sefyllfa ariannol, yn gallu teimlo'n rhan o'r profiad cyffredin hwn. Mae'r cynhwysiant yn cryfhau clymau cymunedol ac yn meithrin ymdeimlad o berthyn. 

O safbwynt hygyrchedd, mae cadw'r bencampwriaeth yn rhad ac am ddim yn hanfodol. Gall modelau talu i wylio neu rai sy'n seiliedig ar danysgrifiad gau pobl allan, gan eithrio'r rheini—y rhai tlotaf yn ein cymunedau fel arfer—nad ydynt yn gallu fforddio'r gost ychwanegol. Ar lawer o aelwydydd, yn enwedig mewn cyfnod sy'n heriol yn economaidd, yn aml gwariant dewisol ar adloniant yw'r peth cyntaf i gael ei dorri. 

Mae'r ddarpariaeth yn Gymraeg a Saesneg yn galluogi cynulleidfaoedd i fwynhau'r bencampwriaeth yn eu dewis iaith. Mae'r ddarpariaeth Gymraeg yn gyfrwng i dynnu sylw at y Gymraeg, gan atgyfnerthu ei pherthnasedd ac ysbrydoli siaradwyr rhugl a newydd i'w defnyddio'n fwy gweithredol.

Mae darlledu digwyddiadau chwaraeon fel pencampwriaeth rygbi'r chwe gwlad mewn tafarndai a chlybiau hefyd yn dod â refeniw mawr ei angen i'r sefydliadau hyn, gan ddarparu achubiaeth ariannol i lawer o glybiau chwaraeon yng Nghymru, sefydliadau sy'n profi amseroedd anhygoel o anodd ar hyn o bryd. Drwy gadw'r gemau'n rhad ac am ddim, rydym hefyd yn sicrhau bod rygbi'n parhau i fod yn hygyrch i bob cefnogwr, hen a newydd, gan feithrin cariad at y gamp ar draws cenedlaethau. 

Drwy ein rhaglen lywodraethu, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo mynediad cyfartal at chwaraeon, cefnogi athletwyr ifanc a thalentog a chlybiau llawr gwlad a buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon. Fe wyddom gan Chwaraeon Cymru sut mae ein buddsoddiad mewn chwaraeon yn sicrhau elw cymdeithasol enfawr ac yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles ein cenedl. Mae'r chwe gwlad yn ysbrydoli plant a phobl ifanc i ymgymryd â'r gamp am y tro cyntaf, a bydd yn annog eraill i barhau i ddatblygu eu sgiliau i efelychu'r chwaraewyr y byddant yn eu gweld ar eu sgriniau. Bydd hyn yn helpu Undeb Rygbi Cymru i gyflawni ei strategaeth uchelgeisiol newydd gyda'r nod, ymhlith targedau eraill, o ddatblygu clybiau cystadleuol a thimau cenedlaethol ysbrydoledig, meithrin gêm gymunedol ffyniannus a chynaliadwy a chyflymu datblygiad yr ecosystem rygbi menywod a merched y cyfeiriodd Heledd Fychan ati.

Ar ben hynny, gall darlledu rhad ac am ddim roi hwb sylweddol i boblogrwydd y gamp. Mae mwy o wylwyr yn golygu mwy o gefnogwyr, mwy o gyfranogiad ar lawr gwlad a dyfodol cryfach i rygbi yn y pen draw. Pan fydd plant a phobl ifanc yn gweld eu harwyr yn chwarae ar y teledu, cânt eu hysbrydoli i godi pêl rygbi eu hunain. Mae'r ysbrydoliaeth hon yn hanfodol ar gyfer datblygu'r gamp ar lefel gymunedol, gan fwydo i mewn i lif iachach a mwy cadarn o dalent ar gyfer timau cenedlaethol y dyfodol. 

Os caf fynd ar drywydd ambell gwestiwn penodol, roedd Delyth Jewell yn holi ynglŷn â gwerthuso darlledu chwaraeon. Yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth y gallem ei wneud. Nid wyf wedi ei ystyried hyd yma, ond yn sgil y cwestiwn hwnnw, byddaf yn sicr yn gofyn i swyddogion roi cyngor pellach i mi ar hynny. Soniodd Sam Kurtz am ohebiaeth a gawsom ynghylch y benthyciad a gafodd URC. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol nad oedd y cyllid a roddodd Llywodraeth Cymru yn ystod COVID yn ad-daladwy—cyllid grant ydoedd—er y bu'n rhaid ad-dalu cyllid Llywodraeth Geidwadol y DU gan mai benthyciad COVID uniongyrchol ydoedd. Fel y gwyddoch, rydym ar hyn o bryd yn cynorthwyo i ddarparu cyllid iddynt ei dalu'n ôl. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw ohebiaeth arall, ond os oes, rhowch wybod i mi.

Rwy'n credu bod Sam Kurtz ac Alun Davies wedi cyfeirio at hwn fel mater eithaf cymhleth, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parchu safbwynt URC, na all wneud unrhyw benderfyniadau yn unochrog. Ond i mi, mae budd darlledu i gymaint â phosibl o bobl a manteision ariannol contractau darlledu cyfyngol yn gydbwysedd bregus iawn, ac mae'n bwysig fod y Senedd yn trafod hyn. Rwy'n credu bod Alun Davies wedi dweud yn glir iawn nad mater i ni fel gwleidyddion yn unig mohono, mae'n fater i Gymru gyfan, ac rwy'n awyddus iawn i gynnal trafodaethau rhyngof i ac URC, a Llywodraeth y DU hefyd wrth gwrs. Gofynnodd Delyth a oeddwn i wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU eto. Nid wyf wedi gwneud hynny; rwy'n dal i chwilio drwy'r holl Weinidogion sy'n berthnasol i fy mhortffolio i weld pa un yw'r Gweinidog cywir i ysgrifennu atynt. Ond erbyn diwedd yr wythnos, byddaf wedi ysgrifennu at yr holl Weinidogion sy'n berthnasol i fy mhortffolio. Mae'n bwysig iawn—

16:25

A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad? Felly, i gadarnhau, fe fyddwch yn ysgrifennu at y Gweinidog cyfatebol newydd yn yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i ofyn am i gemau chwe gwlad Cymru barhau i fod ar deledu rhad ac am ddim.

Y peth cyntaf y byddaf yn gofyn amdano yw cyfarfod—rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cyfarfod wyneb yn wyneb—ac yna byddaf yn llunio'r agenda. Os nad yw'n bosibl cyfarfod yn y dyfodol agos iawn, byddaf yn sicr yn ysgrifennu'n benodol ar rai pynciau, a byddai hwn yn un o'r rheini, oherwydd, fel y dywedwch, bydd yn fis Chwefror cyn bo hir iawn, ac mae angen inni wybod ble rydym arni ar hyn o bryd.

Rwy'n derbyn y gallai fod pryderon o safbwynt URC ynghylch refeniw posibl a gollir o beidio â gwerthu hawliau darlledu i'r sawl sy'n gwneud y cynnig uchaf, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod pawb yn ystyried y darlun ehangach yma, ac mae hynny'n cynnwys URC. Gall mwy o wylwyr ysgogi lefelau uwch o nawdd, refeniw hysbysebu, a brandiau i geisio manteisio ar y gynulleidfa fawr frwd. Yn ogystal, mae yna lawer o ewyllys da y gellir ei gynhyrchu o fod yn hygyrch i bawb. Rwy'n credu y gall hynny wella gwerth brand a chynaliadwyedd hirdymor camp yn y byd chwaraeon.

Ar ben hynny, mae darlledu rhad ac am ddim yn cefnogi hunaniaeth a balchder cenedlaethol, ac mae rygbi, yn enwedig y chwe gwlad, yn fwy na gêm yn unig; mae'n naratif am hanes, am gystadlu ac am undod. Mae caniatáu mynediad digyfyngiad i'r gemau hyn yn helpu i gynnal a meithrin y gwead diwylliannol sy'n clymu ein cymunedau ledled Cymru gyda'i gilydd. Rwy'n credu ei fod yn ddathliad o dreftadaeth hefyd, lle mae'r gorffennol a'r presennol yn cydgyfarfod ar y cae chwarae, ac mae pawb, rwy'n credu, yn haeddu sedd yn y rhes flaen. Felly, gadewch inni geisio gwarchod ysbryd rygbi a sicrhau bod pawb yn gallu trysori ei eiliadau gwefreiddiol. Diolch. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon, a dylwn i wedi dweud ar ddechrau'r ddadl, wrth gwrs, diolch i aelodau'r pwyllgor ac i dîm y pwyllgor am eu gwaith gyda hyn.

Yn y ddadl hon, amlinellodd Carolyn yn gyntaf arwyddocâd diwylliannol unigryw rygbi i'n seice ni. Pan oedd Carolyn yn ail-fyw rhai o'r buddugoliaethau enwog, cafwyd bonllefau o'r Siambr—mae hynny'n dweud y cyfan, onid yw? Roeddwn wrth fy modd â'r mwyseirio, Carolyn—rhaid inni beidio â gollwng y bêl; gadewch inni ei chael dros y llinell gais. Ai mwyseirio yw hynny? Ie, dyna ydyw. [Torri ar draws.] 'Oni bai ei bod hi'n ei chicio dros yr ystlys,' meddai Llyr. Ba-bwm!

Diolch am hwnna, Carolyn. [Torri ar draws.]

Na, nid wyf am ddyfynnu'r rhain i gyd. 

Fel y dywedodd Heledd, mae rygbi'n gêm sy'n tanio'r dychymyg. Mae'r cefnogwyr, wrth gwrs, yn bwysig i fusnes Undeb Rygbi Cymru, dwi'n cytuno, a diolch, Heledd, am amlygu pa mor bwysig ydy darlledu rygbi byw i'r Gymraeg, i glywed y Gymraeg fel iaith normal sydd yn berthnasol i fywydau pob dydd. Mae hwnna'n rhywbeth gallwch chi ddim rhoi pris arno fe. A gobeithio'n wir, fel roedd Heledd yn ei ddweud, y bydd Llywodraeth San Steffan yn ailystyried y sefyllfa fel oedd hi o'r blaen.

Fel y nododd Sam, pan edrychwch arno gyntaf, mae'n ymddangos fel cwestiwn syml, ond fel y nododd Sam, efallai ei fod yn cuddio cymhlethdodau, ac roedd gennym ni fel pwyllgor hefyd gydymdeimlad â safbwynt URC yn sicr. Nid oedd ein hymateb yn rhy rwydd mewn unrhyw ffordd i'r pryderon a godwyd. A diolch am ddyfynnu'r diweddar Eddie Butler; mae ei eiriau bob amser yn hyfryd i'w clywed. Mae angen edrych yn bragmataidd ar sut i leddfu'r beichiau ar URC, ac rydym yn effro iawn i hynny, ond fel y dywedodd Sam, ni ddylai hynny dynnu oddi wrth arwyddocâd diwylliannol y gêm a bod modd iddi fod ar gael i bawb, ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol hefyd.

Hefin, pwy wyddai fod gennych gymaint yn gyffredin â Rishi Sunak? I unrhyw un a gollodd ddechrau'r ddadl, nid wyf yn mynd i roi cyd-destun.

Rwyf am ei adael fel y mae. Nid wyf yn mynd i roi cyd-destun. Roedd yn ymwneud â Sky. Nid wyf yn mynd i wneud hynny i Hefin. Roedd yn ymwneud â Sky. Jôc oedd hi. Ond yn wir fe wnaeth Hefin bwyso am argymhelliad 3 yn yr adroddiad hwn, i sicrhau bod yr amddiffyniadau yno i'r diwydiant lletygarwch fel cynllun B, ac roeddem yn unedig fel pwyllgor yn ein cefnogaeth i hynny. Hir oes i glwb y gweithwyr Gilfach. Pe bawn i wedi chwarae triwant o'r ysgol yn fy awr ginio pan oeddwn yn y chweched dosbarth, dyna fyddai fy nhafarn lleol, ond roeddwn i bob amser yn llawer rhy gall i wneud hynny wrth gwrs, felly rwy'n hapus i gofnodi hynny. Ond na, hir oes i glwb y gweithwyr. Nawr, mae'n bosibl—.

Fel roedd Alun yn dweud—

—mae'n bosib mai dyma'r tro cyntaf i ymchwiliad pwyllgor Senedd gael ei sbarduno gan awgrym Gweinidog Llywodraeth y DU. O ran yr anecdotau y mae cymaint o Aelodau wedi eu rhannu neu, yn bryfoclyd yn achos Alun, yr anecdot na chafodd ei rannu, am y pedwar diwrnod coll yn yr Alban, a chredaf ein bod i gyd eisiau clywed hwnnw ar ryw bwynt—ond o ran yr anecdotau hynny, maent yn siapio ein hatgofion. Ac rwy'n cytuno ag Alun nad gêm yn unig yw rygbi, ond etifeddiaeth ddiwylliannol.

Nawr, roedd dadleuon Undeb Rygbi Cymru yn bwerus, fel y mae Alun ac eraill wedi nodi. Mae problemau economaidd gwirioneddol yn wynebu'r gêm. Mae'n rhaid inni fynd i'r afael â nhw, a'r ffordd o wneud hynny, fel y noda Alun, yw annog merched ifanc, bechgyn ifanc i gymryd rhan yn y gêm. Ac unwaith eto, rwy'n troi at eiriau un o'n tystion i'r ymchwiliad: ni allwch fod yn rhywbeth na allwch ei weld.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am eich ymateb i'r ddadl. Y profiadau hynny a rennir sydd mewn perygl o gael eu colli. Ac ydy, mae sylwebaeth Gymraeg yn ysbrydoli siaradwyr newydd.

Mae'n werth amhrisiadwy i'r Gymraeg.

Ac o ran gwerthuso darlledu chwaraeon, roeddwn yn falch o glywed y byddwch chi'n gofyn am gyngor pellach ar hynny, ac rwy'n credu ei bod yn galonogol hefyd y byddwch chi'n ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol newydd. Yn amlwg, hoffwn ofyn i chi wneud hynny ar frys.

Nawr, nid mater i wleidyddion yn unig yw hwn, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n fater i bobl Cymru mewn dathliad o'n treftadaeth.

Felly, Dirprwy Lywydd, dim ond ychydig fisoedd yn ôl oedd hi pan siaradodd y Siambr ag un llais yn galw am barhad i fod yn rhydd i wylio pencampwriaeth y chwe gwlad. Mae’n amlwg, yn sgil y cyfraniadau heddiw, fod y farn hon yn parhau. Fel soniais i yn gynharach, mae gan rygbi le sbesial iawn yng nghydwybod, neu seici, y Cymry. Rydyn ni i gyd wedi profi’r awyrgylch hwnnw ar benwythnos chwe gwlad yng Nghymru, boed ar Westgate Street neu le bynnag, y gobaith angerddol ar y dechrau taw eleni fydd ein blwyddyn ni, y gorfoledd sy’n dod law yn llaw â’r fuddugoliaeth honno, a’r tristwch ar y cyd wrth golli. Y cyfle i ddweud, 

'Roeddwn i yno'.

Mae rygbi yn fwy na gêm. Mae’n rhan o’n hunaniaeth, mae’n rhan o’n hetifeddiaeth fel cenedl. Mae dyletswydd arnon ni, felly, i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn gallu profi’r un peth. Mae sicrhau bod pencampwriaeth y chwe gwlad yn parhau i gael ei darlledu yn gyhoeddus yn allweddol i hynny. Diolch.

16:30

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl Plaid Cymru: Cyllid a phwerau datganoledig

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Eitem 6 heddiw yw dadl Plaid Cymru: cyllid a phwerau datganoledig. A galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8634 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi canlyniad etholiad cyffredinol y Deyrnas Gyfunol.

2. Yn credu y dylai Cymru gael o leiaf yr un pwerau â’r gwledydd datganoledig eraill.

3. Yn galw ar Lywodraeth newydd y Deyrnas Gyfunol i:

a) cynyddu’r Gyllideb Gymreig o £700 miliwn i’w hadfer i’r lefel a osodwyd yn ystod yr adolygiad o wariant yn 2021;

b) datganoli pwerau dros reolaeth Ystad y Goron a’i hasedau i Gymru;

c) datganoli pwerau dros blismona a chyfiawnder i Gymru; a

d) dychwelyd y gallu i wneud penderfyniadau a dyraniadau cyllid strwythurol i Weinidogion Llywodraeth Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mi osodwyd y cynnig yma ym merw ymgyrch yr etholiad cyffredinol, etholiad lle gwnaeth Plaid Cymru roi pwyslais digyfaddawd ar flaenoriaethau Cymru a rhoi buddiannau Cymru yn gyntaf. Mae'r ffaith bod y neges honno wedi treiddio drwy gymunedau ymhob rhan o Gymru yn cael ei adlewyrchu yng nghanlyniad gorau erioed Plaid Cymru mewn etholiad San Steffan.

Mi oedd hi hefyd yn etholiad llwyddiannus iawn i Blaid Lafur Keir Starmer, yn rhoi mandad clir iddyn nhw lywodraethu. Ac mae hyn yn rhywbeth, dwi’n gobeithio, y bydd Llafur yng Nghymru yn myfyrio arno fo, er mai cwymp oedd yna yn y bleidlais Lafur yng Nghymru, wrth gwrs.

Y cwestiwn i unrhyw blaid yn dilyn llwyddiant etholiadol ydy beth maen nhw'n ei wneud efo'r mandad sydd wedi'i roi iddyn nhw. Heb amheuaeth, mi fydd y pedwar Aelod Seneddol Plaid Cymru yn defnyddio sêl bendith eu hetholwyr nhw i ddal y Llywodraeth newydd i gyfrif ar yr holl faterion sydd dan sylw yn ein cynnig ni heddiw. Ond mae'n ddyletswydd ar y Llywodraeth Lafur newydd i ymateb i'r sgrwtini hwnnw ac i gymryd sylw o ddyheadau Cymru.

Mae llawer wedi cael ei ddweud ynglŷn â chael dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio ochr yn ochr â'i gilydd. Fi fydd y cyntaf i groesawu cydweithio, yn sicr. Fe wnaeth Llafur addo newid, gan gynnwys newid yn y berthynas rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU. Roedd hi'n hen bryd. Ond mae'n rhaid i eiriau cynnes plaid a oedd unwaith yn wrthblaid droi'n weithredoedd plaid sydd bellach mewn grym. Gadewch i mi ddyfynnu Prif Weinidog blaenorol Cymru:

'Yn rhy aml, rydym yn gweld Llywodraeth y DU yn gweithredu mewn ffordd unochrog ymosodol, gan honni ei bod yn gweithredu ar ran y DU gyfan, ond heb ystyried statws y gwahanol wledydd a mandadau democrataidd eu llywodraeth.'

Rydym yn gweld undebaeth gyhyrog yn hytrach na gweithio tuag at berthynas wirioneddol adeiladol a chydweithredol rhwng Llywodraethau'r DU. Yn briodol ddigon, roedd cyn-arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru yn gwawdio agwedd ddirmygus Llywodraethau Ceidwadol blaenorol y DU, ond yn ystod y toriad hwn, os mai dyna ydyw mewn gwirionedd, gadewch inni froceru bargen newydd. Pan fydd Prif Weinidog Cymru yn ffonio Stryd Downing, gadewch inni gael sicrwydd fod Prif Weinidog y DU nid yn unig yn ateb yr alwad ond ei fod yn gweithredu ar alwadau Cymru hefyd. Ychydig funudau yn ôl, clywsom Ysgrifennydd y Cabinet dros ddiwylliant yma yn dweud y byddai'n gofyn am gyfarfod gyda'r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Pe bai modd trefnu hynny'n gynnar, gwych, os na, fe fyddai'n ysgrifennu atynt. Wel, dywedir wrthym mai'r fantais o gael dwy Lywodraeth Lafur yw y dylid gallu trefnu'r cyfarfodydd hynny, a gwneud hynny'n gyflym.

Mae yna lawer y gallwn ni gytuno efo fo yng ngwelliant y Llywodraeth heddiw. Ydy, mae llanast y Llywodraeth Geidwadol flaenorol wedi gadael cyd-destun heriol iawn o ran y pwrs cyhoeddus, ac, oes, mae yna angen i Lywodraethau Cymru a San Steffan weithio efo'i gilydd i gryfhau datganoli. Ond yr hyn sydd yn rhyfeddol—ac mae o wir yn rhyfeddol—ydy nad ydy Llywodraeth Lafur Cymru yn teimlo y gallan nhw gefnogi cynnig Plaid Cymru fel y mae o, a'u bod yn barod i gael eu gweld yn dileu pethau maen nhw eu hunain yn eu cefnogi, neu dylwn i ddweud, pethau maen nhw wedi eu cefnogi yn y gorffennol: cydraddoldeb i Gymru efo'r gwledydd datganoledig eraill; adfer y gyllideb Gymreig i lefelau adolygiad gwariant 2021; datganoli Ystâd y Goron, plismona a chyfiawnder—pob un o'r pethau yma yn bethau mae Aelodau Llafur y Senedd yma wedi eu cefnogi, a phob un wedi eu gwreiddio yn yr egwyddor sylfaenol o degwch ariannol, tegwch democrataidd, tegwch economaidd a chymdeithasol i Gymru. 

Mae gwelliant y Llywodraeth yn cadarnhau'r hyn y mae Plaid Cymru bob amser wedi'i nodi fel y prif wahaniaeth rhyngom ni a'r Blaid Lafur yng Nghymru: mewn perthynas â thegwch ac uchelgais i Gymru, byddant yn amlach na pheidio yn dewis gwanhau ein gofynion a lleihau maint y dyhead sydd gennym ar gyfer dyfodol ein cenedl. Felly, pan fo Ysgrifennydd Gwladol Cymru Jo Stevens yn beio mini-gyllideb Liz Truss, er mor ofnadwy oedd y fini-gyllideb honno, ond pan fydd hi'n beio honno'n llwyr fel y rheswm pam nad oes arian ar gyfer symiau canlyniadol HS2, mae hi'n bradychu ei gwir farn, sef nad yw hwn yn fater o egwyddor i Lafur, dim ond mater o arian. Oes, mae yna gydnabyddiaeth ariannol hanfodol yn ganolog i hynny, ond mae unioni'r cam hwn yn fater o degwch sylfaenol i Gymru. Byddwn yn disgwyl i Ysgrifennydd Gwladol Cymru frwydro dros y cyfiawnder hwnnw, nid ysgubo'r mater dan y mat. 

Pe bai Llafur eisiau rhoi ei chyfran deg o wariant HS2 i Gymru, gallent fod wedi'i roi yn y golofn nad yw'n agored i drafodaeth wrth gostio eu maniffesto. Yn hytrach, fe wnaethant ei ddad-flaenoriaethu, a thrwy wneud hynny, maent wedi dad-flaenoriaethu cyfiawnder economaidd i Gymru. Yn yr un modd, pe bai Llafur yn malio go iawn am ddatganoli cyfiawnder a phlismona, byddent yn gwrando ar yr arbenigwyr—comisiwn Brown, eu comisiwn Brown eu hunain, y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru—yn hytrach na defnyddio iaith ddiystyriol, a sarhaus a dweud y gwir, gan honni y byddai'n gyfystyr â ffidlan gyda strwythurau a systemau, fel y dywedodd Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru, unwaith eto.

A beth am Ystad y Goron? Roedd ei hasedau yng Nghymru yn werth mwy na £600 miliwn yn 2021, ond mae'r holl elw yn mynd yn uniongyrchol i Drysorlys y DU. Os yw'n ddigon da i'r Alban, lle mae'r pwerau hynny bellach wedi'u trosglwyddo ac mae'r refeniw o asedau'r Alban yn mynd yn syth i Lywodraeth yr Alban bellach, pam na fyddai Llywodraeth Lafur y DU eisiau'r un peth ar gyfer Llywodraeth Lafur yng Nghymru? Yr unig esboniad yw bod Plaid Lafur y DU—a nhw sy'n dal llinynnau'r pwrs, cofiwch, nid gwleidyddion Llafur Cymru yma yn y Senedd—yn gosod mwy o bremiwm ar gadw pwerau yn San Steffan na grymuso Cymru a'i phobl pan ddaw'n fater o arfer y pŵer sydd ganddynt bellach.

Pan roddwyd pwysau ar Brif Weinidog blaenorol Cymru i egluro ymrwymiad Llafur i ddatganoli pellach, dywedodd y byddai'n rhaid i Lywodraeth Lafur newydd yn y DU gydbwyso blaenoriaethau sy'n cystadlu â'i gilydd. Wrth gwrs hynny, ond pwy sy'n cynrychioli llais Cymru wrth benderfynu ar y blaenoriaethau hynny? Roedd yna leisiau Cymreig yn yr ystafell pan gynhaliwyd proses faniffesto'r Blaid Lafur. Oni fyddent wedi dadlau dros y mathau o bolisïau rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi dadlau drostynt ers tro, ac y daeth y Blaid Lafur, dan Mark Drakeford, i gytuno â ni yn eu cylch? Efallai nad oedd unrhyw lais Cymreig yno, neu efallai fod, ond ei fod wedi cael ei anwybyddu? Roeddwn o dan yr argraff fod Aelodau Llafur yma yn cytuno gyda ni ar gyllid teg ac ar gyllid canlyniadol HS2. Yn anffodus, ychydig iawn o dystiolaeth a welsom ym maniffesto etholiadol Llafur, a phur ychydig yn sicr yn ystod yr etholiad neu ers yr etholiad, fod unrhyw un o fewn y Blaid Lafur yn San Steffan wedi bod yn dadlau dros gyfran deg i Gymru.

Nawr, pan rybuddiais am y perygl fod Plaid Lafur Keir Starmer yn cymryd Cymru yn ganiataol, fe wneuthum hynny am fy mod yn ofni bod buddiannau Cymru'n cael eu gwthio o'r neilltu, ac fe wneuthum hynny am fod hynny'n fy mhoeni, fel rhywun sydd eisiau'r gorau i Gymru. Mae Llywodraeth newydd y DU wedi addo newid, felly mae angen i ni yng Nghymru wybod y gall y newid hwnnw fod er gwell. Ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru, sydd o'r un blaid â Llywodraeth y DU, nodi ei gofynion—yn adeiladol, wrth gwrs, ond oni bai bod ein Llywodraeth Lafur ni ein hunain yng Nghymru bob amser yn barod i ddadlau'r achos dros Gymru, rydym yn amheus iawn y dylid ymddiried ynddynt i lywodraethu Cymru o gwbl.

Felly, rwy'n gofyn i Aelodau Llafur yma heddiw newid eu meddyliau am eu cynnig 'dileu popeth'. Mae'r rhain yn alwadau y maent wedi ymuno â ni i'w gwneud o'r blaen, ond os yw cael Llywodraeth Lafur yn y DU wedi gwneud Aelodau Llafur yma yn fwy swil, yn rhy ofnus i siglo'r cwch, neu os yw buddugoliaeth Keir Starmer yn golygu y byddant yn dewis rhoi eu plaid o flaen eu gwlad nawr, wel, rwy'n cymeradwyo ein cynnig ni ac yn galw ar yr holl Aelodau, gan gynnwys Llafur, i ymrwymo i'r uchelgais sydd wedi'i gynnwys yn y cynnig gwreiddiol.

16:40

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet i gynnig yn ffurfiol welliant 1.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu canlyniad etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig.

2. Yn credu bod yr etholiad yn cynnig cyfle newydd i lywodraethau'r DU a Chymru gydweithio ar sail parch at ei gilydd a chydag ymdeimlad o ddiben cyffredin er budd pobl Cymru a'r DU gyfan.

3. Yn nodi’r sefyllfa heriol o ran cyllid cyhoeddus y DU a’r baich trethi ar aelwydydd yng Nghymru o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth flaenorol y DU.

4. Yn cydnabod y bydd camreoli economaidd Llywodraeth flaenorol y DU yn golygu y bydd yn cymryd amser i adfer y sefyllfa o ran y cyllid cyhoeddus.

5. Yn croesawu'r ymrwymiadau ym maniffesto Llafur y DU, gan gynnwys cynigion i adnewyddu cysylltiadau rhynglywodraethol, diweddaru Fframwaith Cyllidol Cymru, dychwelyd y gallu i wneud penderfyniadau am gronfeydd strwythurol ar ôl yr UE i Lywodraeth Cymru, datganoli cyllid cymorth cyflogaeth nad yw’n ymwneud â’r Ganolfan Byd Gwaith, ac ystyried datganoli cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau prawf.

6. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth newydd y DU i gryfhau datganoli ymhellach yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Member
Rebecca Evans 16:42:03
Cabinet Secretary for Finance, Constitution and Cabinet Office

Yn ffurfiol.

Galwaf nawr ar Peter Fox i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 2—Darren Millar

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu at y gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl a bleidleisiodd.

Yn galw ar Lywodraeth newydd y DU i amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac ydw, rwy'n cynnig ein gwelliant yn enw Darren Millar.

Ar ôl yr holl gicio a tharo gwleidyddol dros y chwech neu saith wythnos diwethaf, mae'n dda byw mewn gwlad lle mae trosglwyddo grym heddychlon wedi digwydd mewn modd mor esmwyth a chyfeillgar; nid yw hwn yn rhywbeth y dylai unrhyw un ohonom ei gymryd yn ganiataol. Ac rwyf hefyd eisiau dymuno pob lwc i'r Prif Weinidog newydd, ac fel y dywedodd ei ragflaenydd, ei lwyddiant ef yw ein llwyddiant ni, ac rwy'n gobeithio'n ddiffuant y bydd yn llwyddo er lles Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.

Do, fe enillodd y Llywodraeth Lafur fwyafrif hanesyddol yn yr etholiad cyffredinol yr wythnos diwethaf, ac mae'n rhaid i'r Blaid Geidwadol wrando'n astud ar bleidleiswyr ac ailadeiladu, yn union fel y gwnaeth y Blaid Lafur yn dilyn eu haflwyddiant enfawr yn 2019. Wedi dweud hynny, mae yna rai pryderon gwirioneddol o dan Lafur Cymru yma yng Nghymru na ellir eu hanwybyddu. Mae'n amlwg fod nifer y pleidleiswyr wedi cwympo a bod ffydd yn ein democratiaeth yma yng Nghymru yn enwedig yn gwegian, ac nid wyf yn synnu, o ystyried y sgandalau a fu'n gysylltiedig â gwleidyddiaeth Cymru dros yr wythnosau diwethaf, ynghyd â methiannau hanesyddol Llafur Cymru, yn enwedig o ran rheoli ein gwasanaeth iechyd yng Nghymru a'n heconomi. Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru, wrth symud ymlaen, yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i bobl Cymru. Mae Plaid Cymru, yn eu cynnig, yn gofyn am £700 miliwn i adfer cyllid a ragwelwyd yn 2021—syniad hyfryd, ond rwy'n credu mai breuddwyd gwrach yw hynny yn ôl pob tebyg. Ond mae'n werth rhoi cynnig arni, a gobeithio y bydd yn llwyddiannus. Rhaid inni beidio ag anghofio bod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi dyrannu'r lefelau uchaf erioed o gyllid i Lywodraeth Cymru, gyda'r setliadau eleni yn fwy nag a gafodd Cymru erioed. Pe bai Llywodraeth Cymru wedi gwneud y dewisiadau cywir ynglŷn â sut i'w wario, wel, efallai na fyddem yn y llanast rydym ni ynddo.

Yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, byddai'n braf peidio â chlywed Llywodraeth Cymru'n beio Llywodraeth Geidwadol y DU am bopeth; bydd yn rhaid iddynt ddioddef yr hyn sy'n cael ei ddarparu yn y dyfodol, gan eu Llywodraeth eu hunain yn y DU, ac rwy'n amau'n fawr y bydd popeth y maent wedi gobeithio amdano ac wedi'i ddychmygu yn dod i lawr yr M4. Ond cawn weld. A gadewch inni beidio ag anghofio mai'r Ceidwadwyr a weithiodd gyda Llywodraeth Cymru i gytuno ar y fframwaith cyllidol diwygiedig a arweiniodd at sicrhau bod y premiwm yn darparu £1.20 am bob £1 a werir yn Lloegr, ac oherwydd y negodiadau hynny, ni fydd hwnnw byth yn gostwng o dan £1.15. Ac ni ddylem gael ein cymell i geisio datganoli pwerau ychwanegol i Gymru, a mynd ar drywydd materion nad yw'r mwyafrif helaeth o bobl Cymru yn malio amdanynt, fel rheolaeth ar Ystad y Goron. Mae gennyf bryderon difrifol ynglŷn â datganoli plismona a chyfiawnder. Mae record y Llywodraeth hon o ddarparu gwasanaethau mawr, allweddol yn wael a dweud y lleiaf; nid oes ganddynt gapasiti i fynd i'r afael â rhywbeth mor sylfaenol â'r system gyfiawnder a phlismona. Yn hytrach, mae angen inni ganolbwyntio ar gyflawni'r hyn sydd wedi'i ddatganoli yma yn dda, gan greu gwell—

16:45

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn ymyriad. Rydym yn siarad yma am bwerau sydd eisoes wedi'u datganoli. Mae plismona, er enghraifft, nid yn unig wedi'i ddatganoli i Ogledd Iwerddon ac i'r Alban, ond i ddinasoedd hyd yn oed yn Lloegr. Pam y credwch nad ydym ni fel cenedl yn gallu rheoli'r materion hyn? Rwy'n cytuno â chi o ran fy agwedd tuag at y Llywodraeth bresennol sydd gennym, ond rydym yn siarad yma am Gymru yn gwneud y penderfyniadau hyn drosom ein hunain.

Wel, diolch am hynny, ond yr hyn rwy'n ei ddweud yw nad oes gennym y dystiolaeth fod y Blaid Lafur, sef y Llywodraeth sydd mewn grym ar hyn o bryd—

Wel, maent mewn grym yma ar hyn o bryd. Ni allwn ymddiried pwerau datganoledig pellach iddynt. Ni allant reoli'r pwerau sydd ganddynt eisoes yn dda. Rydym angen eu gweld yn cyflawni'n dda ar addysg—[Torri ar draws.] Mae angen inni eu gweld yn cyflawni'n dda cyn inni ystyried rhoi mwy iddynt. Cynhaliodd y Ganolfan Newid Cyfansoddiadol arolwg ar ddatganoli yng Nghymru a'r Alban ym mis Rhagfyr 2023. Canfu fod llai na hanner ymatebwyr Cymru yn cytuno bod datganoli wedi bod o fudd i'w cenedl, a dim ond traean oedd yn ystyried bod datganoli yn fuddiol i'w cymunedau lleol. Nawr, rwy'n cefnogi datganoli, ond mae'n rhaid inni gael yr hyn sydd eisoes wedi'i ddatganoli yn iawn cyn inni fynd i chwilio am fwy o bwerau. Diolch.

Os nad oes gennych ffydd yn y Senedd hon i wneud penderfyniadau, mae hwnnw'n gyfraniad eithaf amheus, a bod yn onest. Fel y dywedodd Rhun, nid ydym yn credu bod Llywodraeth bresennol Cymru yn iawn o ran ei huchelgeisiau ar gyfer Cymru, ond gall pobl bleidleisio dros gael gwared ar Lywodraeth; dyna y gobeithiwn y bydd yn digwydd yn 2026. Ni ddylem ddal y Senedd hon yn ôl oherwydd pwy sydd mewn grym ar hyn o bryd. Felly, mae'n dda gwybod bod y Ceidwadwyr wedi rhoi'r ffidl yn y to ar 2026 eisoes; nid ydym ni wedi gwneud hynny, yn sicr.

Mynnu tegwch i Gymru: dyna sydd yn ganolog i’n dadl heddiw, a bod yn uchelgeisiol i Gymru, a gobeithio’n fawr fod pob Aelod o’r Senedd hon yn cytuno ar yr egwyddor hwnnw. Mae’n siomedig iawn, o ystyried thema’r ddadl hon, y ffaith ein bod ni ar drothwy pennod newydd yn San Steffan, cyn lleied o Aelodau sydd yma o’r pleidiau eraill, oherwydd mae hon yn ddadl o bwys; mae hi’n ddadl ynglŷn â phethau rydyn ni’n gytûn arno fo. Mae’r rhan fwyaf ohonom ni’n gytûn y dylai Cymru gael tegwch, y dylem ni gael mwy o rymoedd.

Mae tegwch i Gymru’n golygu cyfle teg i bawb sy’n byw yng Nghymru, a phob cymuned yng Nghymru, a’r adnoddau i ni ffynnu, tegwch fel bod penderfyniadau ynglŷn â dyfodol Cymru’n cael eu gwneud yma yng Nghymru a phenderfyniadau’r Senedd hon yn cael eu parchu, ac nid eu diystyru, gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Ddylai gofyn am degwch a pharch ddim fod yn ddadleuol, ond eto, dro ar ôl tro dros y 25 mlynedd diwethaf, a hyd yn oed yn yr wythnosau diwethaf yn ystod ymgyrch etholiad San Steffan, rydym wedi clywed Aelodau Seneddol sy’n cynrychioli seddi yma yng Nghymru, gan gynnwys Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru, yn diystyru gweithredu ar rai o’r pethau byddai’n sicrhau tegwch a pharch. Wedi’r cyfan, ar ôl 14 mlynedd o Lywodraeth ddinistriol y Ceidwadwyr, mae Cymru ddirfawr angen Llywodraeth bydd yn parchu’r Senedd hon. Gwelwyd Brexit yn cael ei ddefnyddio fel esgus i Whitehall gymryd penderfyniadau oddi arnom a thanseilio ein Senedd. Mae tranc haeddiannol y Torïaid, felly, yn rhoi cyfle allweddol i ni ar gyfer rhoi taith datganoli’n ôl ar y trywydd iawn, i’n symud ymlaen yn hytrach na chael ein dal yn ôl.

Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym ni wedi clywed nifer o Aelodau Llafur Cymru’n siarad yn delynegol am y posibilrwydd y bydd eu plaid mewn Llywodraeth yn San Steffan. Rhoddodd y cyn Brif Weinidog sicrwydd i ni ddiwedd y llynedd y byddai Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig yn cyflawni’r buddsoddiad sydd ei angen arnom yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Gwnaeth ddatganiadau beiddgar hefyd am y firepower y gallai Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig ei roi ar waith ar ran Cymru. Bu ei olynydd yr un mor gadarn ei barn. Yn ymateb am y tro cyntaf i gwestiynau fel Prif Weinidog, dywedodd wrthym am yr addewidion mawr gan Keir Starmer o ran adfer pwerau a chyllid a gafodd eu dwyn o Gymru. Ond buan iawn y daeth i'r amlwg yn ystod yr ymgyrch etholiadol nad oedd newid mewn Llywodraeth yn San Steffan yn golygu yn bendant y newid yr ydym yn ei ddeisyfu neu'n hytrach yn ei fynnu yma. Roedd addewidion am bwerau pellach, a oedd eisoes wedi’u gwanhau gan adroddiad Gordon Brown, wedi’u gwanhau yn y maniffesto, cynlluniau o ailosod sylfaenol mewn cysylltiadau rhynglywodraethol yn cael eu peryglu ar unwaith, a maniffesto sydd gyda diffyg uchelgais llwyr ar unrhyw un o'r materion rydym ni eisoes yn gytûn arnynt fel Senedd ers blynyddoedd lawer. Mae'n rhaid i ‘newid’ fod yn fwy na slogan gwag. Mae'n rhaid iddo fo olygu rhywbeth. A chyda Keir Starmer bellach yn 10 Stryd Downing, mae'n rhaid i ni fynnu y newid hwnnw sydd ddirfawr ei angen ar Gymru, nid dim ond gobeithio’r gorau.

Golyga newid gwirioneddol i Gymru adfer cyllideb Cymru i'r hyn yr oedd yn ystod adolygiad o wariant 2021—codiad o £700 miliwn i wrthdroi difrod camreolaeth economaidd y Torïaid. Mae newid gwirioneddol i Gymru yn golygu datganoli asedau Ystâd y Goron. Mae newid gwirioneddol i Gymru yn golygu datganoli cyfiawnder a phlismona’n llawn. Ac mae newid gwirioneddol i Gymru yn golygu anrhydeddu addunedau hir sefydlog ar ddychwelyd i'r Senedd hon y pwerau gwneud penderfyniadau dros gronfeydd strwythurol. Nid cynrychiolwyr o Gymru ddylai gael penderfynu, ond yn hytrach Llywodraeth ein cenedl. Dyma ydy gwir ystyr newid a thegwch, a dyna pam y gofynnwn heddiw i'n cyd Aelodau bleidleisio o blaid y cynnig heb ei ddiwygio ac ymrwymo i weithio gyda ni i gyflawni dros ein cymunedau, ein pobl a’n cenedl.

16:50

Rwy'n croesawu'r ddadl bwysig hon, sy'n galw am fwy o bwerau datganoli i Gymru, galwad rwy'n ei chefnogi'n llwyr. Ers dros ddegawd yma yng Nghymru, rydym wedi bodloni ar friwsion bach oddi ar fwrdd Ceidwadol San Steffan. Boed yn roi mwy o gyllid ffyniant bro i ardal ariannol Llundain na Chymru gyfan, neu fethu cymeradwyo £1 biliwn ar gyfer trydaneiddio rheilffordd arfordir gogledd Cymru, rydym wedi gorfod dioddef sawl Prif Weinidog Torïaidd yn trin Cymru a'i Llywodraeth gyda dirmyg llwyr.

Gyda Llywodraeth Lafur newydd y DU, rydym eisoes yn gweld, yn yr ychydig ddyddiau cyntaf, fod y berthynas honno'n ailffurfio er gwell, gan adeiladu ar sylfaen o barch at ein gilydd, ac mae hynny'n cynnwys ymrwymiad Llywodraeth y DU i adolygu fframwaith cyllidol Cymru sydd wedi dyddio, ymrwymiad sydd i'w groesawu. Ac rwy'n falch fod cyfarfod o gyngor y cenhedloedd a'r rhanbarthau wedi'i gynnal.

Yma yn y Senedd, ein gwaith ni yw gwneud y gorau o'r newid cadarnhaol hwnnw, nid yn unig drwy gefnogi unrhyw gynlluniau gan Lywodraeth y DU i ddatganoli grym ymhellach, ond hefyd drwy gyflwyno'r achos iddynt fynd ymhellach. Mae'n rhaid inni gydnabod bod ethol Llywodraeth newydd yn rhoi cyfleoedd i ni, gan gynnwys ymrwymiadau maniffesto i ddychwelyd y gallu i wneud penderfyniadau am gronfeydd strwythurol ar ôl yr UE i Lywodraeth Cymru, datganoli cyllid cymorth cyflogaeth nad yw'n ymwneud â'r Ganolfan Byd Gwaith, ac ystyried datganoli cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau prawf. Ond mae'n rhaid inni gydnabod hefyd y bydd y galwadau ar y Llywodraeth honno yn dod o bob cyfeiriad. Mae'r Llywodraeth newydd wedi etifeddu anawsterau ariannol difrifol a achoswyd gan gamreoli economaidd o dan y Torïaid. [Torri ar draws.] Ie.

A ydych chi'n sylweddoli bod y tri pheth rydych chi newydd eu crybwyll nawr yn wanhad o'r hyn y mae'r Llywodraeth yma a'r hyn y mae Llafur yng Nghymru wedi'i addo. Felly, nid yw ar y lefel y byddech chi, fel plaid, eisiau ei weld. Mae'r Blaid Lafur yn Llundain yn gwanhau—

Ydych. Felly, mae'r Blaid Lafur yn Llundain yn gwanhau'r hyn rydych chi wedi'i addo yma.

Mae—. Mae'n ddrwg gennyf, fe anghofiais lle roeddwn i wedi cyrraedd. [Torri ar draws.] Iawn. Mae'r Llywodraeth newydd wedi etifeddu—diolch—anawsterau ariannol difrifol—

Rwy'n iawn, diolch. Mae'n cynnwys y baich treth mwyaf ar aelwydydd Cymru ers yr ail ryfel byd. Mae'n rhaid inni dderbyn y bydd yn cymryd amser i gyllid cyhoeddus adfer yn dilyn hyn. Fodd bynnag, rwy'n credu y bydd benthyca darbodus i adeiladu tai cyngor yn arwain at fuddion ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ystyried gwneud hynny ac y gallwn gael cyllid canlyniadol i wneud hynny hefyd. Yn ogystal â'r argymhellion yn y cynnig hwn, rwy'n credu bod cefnogaeth drawsbleidiol a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i roi pwerau benthyca darbodus i Gymru. Byddai darparu pwerau benthyca darbodus, ochr yn ochr â gofynion y cynnig, yn rhoi pŵer i Lywodraeth Cymru fod yn bartner gwirioneddol i Lywodraeth newydd y DU, i drawsnewid ein gwlad er gwell.

Felly, lle mae cefnogaeth drawsbleidiol gyffredin yn y Senedd, ac rwy'n meddwl bod cefnogaeth o'r fath i ddatganoli Ystad y Goron, cynyddu cyllideb Llywodraeth Cymru a datganoli pwerau plismona a chyfiawnder—fel rwyf eisoes wedi'i ddweud, byddai o fudd i bawb ohonom uno yn y Senedd i ymgyrchu dros gael y pwerau hyn. Ac wedi'r cyfan, os nad ydym ni fel gwleidyddion etholedig yng Nghymru yn fodlon codi llais dros allu'r Senedd hon i gael grym democrataidd dros fwy o faterion yn ein gwlad, pwy fydd?

16:55

Hoffwn ddweud wrth y rhai sy'n gwrthwynebu: os nad ydych chi eisiau mwy o bwerau i'r lle hwn, os nad ydych chi eisiau brwydro am gyllid teg, pam ydych chi yma? Os yw'r Aelodau'n hapus i fod yn rheolwyr mae digon o gyfleoedd y tu allan i'r lle hwn. Oherwydd rwy'n ofni bod yr agwedd reolwrol a'r diffyg uchelgais yn rhemp—rhywbeth sy'n amlwg gydag Ystad y Goron. Er gwaethaf honiadau mynych o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i ddatganoli Ystad y Goron, nid yw'n flaenoriaeth i'r Prif Weinidog o hyd ac nid yw hyd yn oed yn ôl-ystyriaeth i Lywodraeth Lafur y DU. Ac nid yw'r dihidrwydd ond yn tanseilio potensial Cymru i harneisio ei hadnoddau naturiol er budd ei phobl.

Fel y mynegwyd yn y cynnig, rydym yn dadlau dros reolaeth lawn i Gymru dros ei hadnoddau naturiol, cymryd rheolaeth ar Ystad y Goron yng Nghymru, sy'n werth £835 miliwn, alinio prosiectau gydag anghenion Cymru a sicrhau bod buddion o fuddsoddiadau'n dychwelyd i Gymru. Yn sylfaenol, rydym yn galw am ddatganoli pwerau dros Ystad y Goron, ac mae'n ymwneud â rheoli ein hadnoddau'n democrataidd, mae'n ymwneud â phŵer i weithredu'n unol ag anghenion economaidd Cymru, ac mae'n ymwneud ag ymateb i newid hinsawdd. Bydd datganoli Ystad y Goron yn ein galluogi i osod telerau prosiectau ynni yn y dyfodol o fewn ffiniau'r ystad. Bydd hyn yn sicrhau bod yr holl gynlluniau'n cyd-fynd â'n nodau amgylcheddol ac anghenion cymunedau, gan baratoi'r ffordd ar gyfer arferion cynaliadwy a diogeledd ynni hirdymor.

Nawr, yn yr Alban, maent wedi cael rheolaeth dros Ystad y Goron ers 2017, sydd eisoes wedi darparu miliynau i Lywodraeth yr Alban. Rhaid i Gymru gael yr un rheolaeth dros ei hadnoddau naturiol ei hun, fel y gallwn reoli ac elwa'n uniongyrchol wedyn o elw prosiectau ynni ar y tir a gwely'r môr yng Nghymru, oherwydd mae gwerth asedau Ystad y Goron yng Nghymru yn £853 miliwn. Gwnaeth Ystad y Goron yn ei chyfanrwydd yr elw refeniw net uchaf erioed yn 2023, sef £442 miliwn. Roedd hwnnw £129 miliwn yn uwch nag yn 2022. Mae amcangyfrifon hefyd wedi awgrymu y gallai ffermydd gwynt newydd ar y môr yn nyfroedd Cymru gynhyrchu £43 biliwn mewn rhenti. Dychmygwch beth y gallem ei wneud â'r arian hwnnw.

Ar draws môr y gogledd, mae Norwy wedi gwneud mwy na dychmygu. Mae wedi defnyddio ei hadnoddau naturiol ei hun ers amser maith i adeiladu cyfoeth er budd ei phobl. Erbyn hyn, amcangyfrifir bod cronfa cyfoeth sofran Norwy yn werth $1.6 triliwn, sy'n cyfateb i $295,000 am bob dinesydd Norwyaidd, a gwnaeth elw o $213 biliwn yn 2023. Canfu astudiaeth gan PwC yn 2008 y gallai'r DU fod wedi cronni cronfa gwerth £450 biliwn pe bai wedi rhoi derbyniadau treth o olew a nwy mewn cronfa debyg—cyfle a gollwyd dros ddegawd o doriadau wedi'u hysgogi gan gyni a wnaeth ddinistrio Cymru, dinistrio gwasanaethau cyhoeddus, dinistrio cymunedau a dinistrio bywydau. Rydym ar drothwy ffyniant gwyrdd, ac mae angen inni osod y telerau ar gyfer y ffyniant hwnnw er budd ein pobl.

Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Er fy mod yn gwerthfawrogi'r bwriad y tu ôl i'r cynnig hwn, bydd yn rhaid imi dynnu sylw at y pryderon sydd gennyf yn ei gylch. Yn gyntaf, gadewch inni ystyried y cynnig i gynyddu cyllideb Cymru £700 miliwn a'i adfer i'r lefelau a osodwyd yn ystod adolygiad o wariant 2021. Gadewch imi fod yn glir: nid wyf yn erbyn gwneud hyn. Ond mae'n bwysig cydnabod bod y tirlun ariannol wedi newid yn sylweddol ers 2021. Roedd yn rhaid i Lywodraeth y DU ar y pryd ymateb i heriau annisgwyl—pandemig COVID-19, effeithiau'r rhyfel yn Wcráin—ac arweiniodd hynny i gyd at addasiadau cyllidebol yr oedd yn rhaid eu gwneud ar draws y Deyrnas Unedig. Er ei bod yn hanfodol fod Cymru'n cael cyllid digonol, nid wyf yn credu mai mynnu cynnydd mympwyol heb ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol yw'r ffordd orau o weithredu ac rwy'n credu bod hynny braidd yn anghyfrifol. Rydym angen cynnydd ariannol wedi'i gostio'n llawn sy'n gynaliadwy wrth symud ymlaen. Nid yw amrywiadau cyllid o flwyddyn i flwyddyn yn gwneud unrhyw beth i helpu gyda chynlluniau cyllidebol hirdymor y Llywodraeth yma yng Nghymru.

Serch hynny, mae'r Llywodraeth Lafur yma wedi bod yn dweud ers i mi gyrraedd y Senedd, ynghyd ag Aelodau eraill yma ers 2021, y byddai Llywodraeth Lafur newydd yn y DU yn agor y tapiau ac y byddai gennym fwy o gyllid yn dod i Gymru—arian iawn yn dod i Gymru, a byddai cyllid Cymru'n cael ei adfer. Felly, ni allaf aros i glywed beth fydd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i hyn, oherwydd byddwn wrth fy modd yn gwybod pryd fydd Llywodraeth Lafur newydd y DU yn nodi ei blaenoriaethau ar gyfer Cymru a hefyd ei blaenoriaethau cyllido, oherwydd rydych chi wedi bod yn gofyn amdanynt, felly cawn weld yn fuan a fydd Jo Stevens a Keir Starmer yn ateb.

Felly, gan symud ymlaen at yr elfennau yn y cynnig sy'n gofyn am fwy o bwerau i'r Senedd, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Peter Fox, cynhaliodd y Ganolfan Newid Cyfansoddiadol arolwg ar y setliad datganoli yng Nghymru a'r Alban ym mis Rhagfyr 2023, ac o'r bobl a arolygwyd, roedd bron i hanner yn credu nad yw datganoli wedi bod o fudd i Gymru. A dylai hynny godi ofn ar bawb ohonom yn y lle hwn. A dywedodd traean na fu gwelliant lleol i'w hardal. Ac maent yn dweud ei bod hi'n bryd canolbwyntio ar ddefnyddio ein pwerau presennol yn effeithiol a pheidio â galw am fwy o bwerau. Os ydym am gryfhau datganoli yma yng Nghymru, credaf fod angen inni roi hyder i bobl fod y pwerau sydd gennym ar hyn o bryd yn cael eu defnyddio'n briodol ar addysg, iechyd, datblygu economaidd a meysydd eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu rheoli.

Mae'r cynnig hefyd yn galw am ddatganoli pwerau Ystad y Goron a'i hasedau i Gymru. Yn 2021-22, cynhyrchodd Ystad y Goron £312 miliwn ar gyfer Trysorlys y DU. Ac rwy'n credu, pe baech chi'n gwrando ar Blaid Cymru, y byddech chi'n meddwl nad yw Cymru'n cael unrhyw gyfran o'r cyllid hwnnw o gwbl. Mae rhywfaint o'r cyllid hwnnw—. A dweud y gwir, daw cyfran ohono'n ôl i Gymru i ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus, ac fe'i hariennir yn ganolog gan Lywodraeth y DU wrth iddo ddod allan, oherwydd dyna lle mae'r holl arbenigedd ar gyfer rheoli'r gwasanaeth hwn: yn Llywodraeth y DU. Os ydych chi'n datganoli hwnnw i Gymru, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru greu adran newydd sbon gydag arbenigedd cwbl newydd i'w reoli, ac mae hynny'n costio.

Mae'r cynnig hefyd yn galw am ddatganoli pwerau plismona a chyfiawnder i Gymru. Rwy'n cydymdeimlo â rhai elfennau'n ymwneud â chyfiawnder ieuenctid, ond mae angen ystyried hyn yn ofalus iawn, oherwydd mae gan y system bresennol sydd gennym ddull unedig o weithredu plismona a chyfiawnder ledled Cymru a Lloegr. Mae'n ei gwneud hi'n bosibl dyrannu adnoddau'n effeithlon a gorfodi'r gyfraith a'r safonau a ddisgwylir gennym mewn modd cyson. [Torri ar draws.] Iawn, fe wnaf dderbyn ymyriad, Rhun.

17:00

Sut y credwch chi y maent yn llwyddo i gael cysondeb rhwng Lloegr a’r Alban?

Wel, mae plismona'n fater sydd wedi'i ddatganoli yn yr Alban ers amser maith, ac mewn gwirionedd, maent wedi cael eu system cyfiawnder troseddol eu hunain ers amser maith hefyd, felly mae'r system ychydig yn wahanol.

Roedd ganddynt eu system gyfreithiol eu hunain cyn gweddill y Deyrnas Unedig. Mae'r Alban wedi bod ag un ei hun, ac felly ni chredaf fod y ddadl honno'n berthnasol iawn i hyn; rydych chi'n sôn am rywbeth cwbl wahanol.

Ond credaf fod datganoli'r meysydd hyn yn creu risg o greu anghysondebau ac aneffeithlonrwydd ar draws y system. Nid wyf yn ei weld ar hyn o bryd, ac nid wyf yn gweld y dystiolaeth—. Roeddwn yn credu eich bod yn mynd i wneud ymyriad, Peter, gan imi eich gweld yn hofran ymlaen yn eich sedd.

Er bod plismona wedi'i ddatganoli i'r Alban a Gogledd Iwerddon, maent yn dibynnu ar gyfrifiadur cenedlaethol yr heddlu, felly mae rhyngweithio rhwng heddluoedd, ac mae'n rhaid—mae'n rhaid cael hynny. Felly, er bod y meysydd hyn wedi'u datganoli i'r gwledydd hynny, maent yn gweithio'n eithaf cydweithredol.

Wel, fel unoliaethwr balch yma, mae’r Deyrnas Unedig yn gweithio’n dda pan fo'n cydweithio. Felly, Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Dyna’r ffordd orau i’n Teyrnas Unedig weithio, gyda’n gilydd ac nid yn rhanedig. [Torri ar draws.] Fe gredais fod rhywun arall yn mynd i wneud ymyriad.

Felly, i gloi, ar bwerau, rwyf o'r farn fod pobl Cymru am inni fwrw yn ein blaenau a defnyddio'r pwerau sydd gennym ar hyn o bryd. Dywedwyd mewn arolygon a wnaed nad ydym yn ei wneud yn briodol ar hyn o bryd, a chredaf y bydd mynd ar drywydd mwy o bwerau yn peri mwy o ddryswch—mwy o ddryswch i'r etholwyr. Ac fel gwrthblaid, yn hytrach na galw am fwy o bwerau, rwy'n credu y dylem ganolbwyntio ar ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn fwy effeithiol ar y pwerau sydd ganddi ar hyn o bryd.

Mae'r Blaid Lafur wedi bod yn rhwyfo nôl mor gyflym ynglŷn â'i hymrwymiadau o ran heddlu a chyfiawnder efallai y dylen nhw wneud cais am fynediad hwyr i'r Gemau Olympaidd. [Chwerthin.] Dwi erioed wedi gweld newid yn digwydd mor gyflym, o’r adroddiad comisiwn Thomas, wrth gwrs, roedd y cwbl lot yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru; roedd popeth yn mynd i ddod i Gymru. Dyma ni wedi hynny yn cael consensws ar y comisiwn annibynnol, wrth gwrs, gyda chyn-Aelod Seneddol San Steffan ar gyfer Ynys Môn yn aelod o’r comisiwn yna. Aeth e lawr wedi hynny i'r heddlu, gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid. Do. Wedi hynny, adroddiad Brown a dorrodd yr heddlu mas o’r hafaliad, felly roedd yn dal gyda ni’r gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid. A dyma ni wedi cyrraedd diwedd y daith, a beth sydd ar ôl? Hynny yw, mae cyfiawnder ieuenctid wedi mynd nawr, mae'n debyg.

So, beth sydd ar ôl ydy cysidro—cysidro—datganoli gwasanaeth prawf, ond—wait for it, wait for it—yng nghyd-destun trafodaethau sydd yn digwydd ar draws Cymru a Lloegr. Felly, nid hyd yn oed datganoli ar sail genedlaethol i Gymru, ond, 'Fe gewch chi yr un peth rydyn ni’n mynd i wneud yn Middlesbrough ac mewn rhannau eraill o Loegr, ac yn y blaen.' Felly bron â bod, mae’r addewid yna wedi troi yn ddi-ddim, a bod yn hollol onest. Hynny yw, mae’r math o ddadleuon rydyn ni’n eu cael ddim yn gwneud unrhyw synnwyr. Hynny yw, roedd yr Ysgrifennydd Gwladol newydd nawr wedi dweud, yn ystod yr ymgyrch:

'Ni fyddai unrhyw un yn cael maddeuant am geisio chwalu ac ail-lunio'r Swyddfa Gartref a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar adeg pan fo troseddu'n rhemp yn ein strydoedd'.

Felly, dilynwch resymeg hynny: yr union sefydliadau sydd wedi arwain at y sefyllfa hon lle mae troseddu'n rhemp yn ein strydoedd yw’r union sefydliadau a ddylai gael a chadw’r pwerau. Edrychwch ar y sgandal ofnadwy yng ngharchar y Parc ar hyn o bryd; lefel carcharu ein cymunedau ethnig lleiafrifol yng Nghymru—yr uchaf yn y byd, ymddengys; yn sicr yng ngorllewin Ewrop. Ai’r rhain yw’r sefydliadau, y Swyddfa Gartref a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, yr ydym yn ymddiried ynddynt i gyflawni polisi cyfiawnder troseddol?

Ac fel y dywedodd Jenny Rathbone, nid ydym byth yn cael newid blaengar o'r Swyddfa Gartref, a chredaf ichi gyfeirio at bŵer y wasg asgell dde: mae hyd yn oed Ysgrifenyddion Cartref Llafur yn ei chael hi'n anodd iawn trechu hynny. Mae ceidwadaeth gynhenid ​​wrth wraidd y sefydliad. Y stori enwog iawn am Jack Straw pan gafodd ei benodi gyntaf yn Ysgrifennydd Cartref, a chafodd wahoddiad i weld yr Ysgrifennydd Parhaol yn y Swyddfa Gartref—hael iawn o’r Ysgrifennydd Parhaol i ddod o hyd i amser yn ei ddyddiadur i weld yr Ysgrifennydd Cartref newydd—ar y seithfed llawr. Fe'i galwodd i mewn, a dywedodd wrth yr Ysgrifennydd Cartref newydd, 'Edrychwch drwy'r ffenestr. Dywedwch wrthyf beth a welwch.' Ac edrychodd Jack Straw drwy'r ffenestr, a dywedodd, 'Wel, dim ond awyr las a welaf.' 'Anghywir,' meddai. 'Anghywir. Dychmygwch daflegryn Exocet yn dod drwy'r awyr las honno, a chwalu popeth, gan mai dyna sut mae hi yn y Swyddfa Gartref.' Natur y sefydliad yw ei fod yn anhygoel o amddiffynnol, ceidwadol, yn aros am y pennawd gwael nesaf bob amser, ac felly mae'n atal unrhyw Ysgrifennydd Cartref diwygiadol rhag rhoi unrhyw raglen ar waith i newid. Ac yn wir, mae hyd yn oed Ysgrifenyddion Cartref Ceidwadol wedi gwneud yr un pwynt yn union, o safbwynt gwleidyddol gwahanol iawn—maent wedi sôn am lesgedd sefydliadau'r Swyddfa Gartref a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Dyna pam fod angen inni fynnu rheolaeth, gan na fyddwn byth yn cael y newid blaengar, y newid radical sydd ei angen arnom i sicrhau gwell diogelwch yn ein cymunedau a gwell cyfiawnder i'n pobl. Peidiwch ag ymddiried yn y sefydliadau hyn; maent wedi gwneud cam â phobl Cymru ar eu telerau eu hunain, a dyna pam fod angen datganoli ar frys. Nid wyf am ei weld yn digwydd fesul cam; mae ei angen arnom nawr.

Pan fyddwch yn siarad ag uwch swyddogion yr heddlu yng Nghymru, maent yn galw amdano. Nid gwleidyddion mo'r rhain; maent yn galw amdano o safbwynt gweithredol, 'Mae ei angen arnom, gan fod gennym syniadau, o bob rhan o'r byd, y gallem eu rhoi ar waith yma yng Nghymru, a sicrhau cynnydd ar gyfer ein cymunedau.' Ac fel y dywedodd Gareth nawr—fe anfonaf gerdyn aelodaeth atoch, Gareth, edrychwch—gallwn gael datganoli a gallwn barhau i gael cydweithredu trawsffiniol o ran ein plismona; mae'r model yno eisoes. Gyda llaw, ni all cydweithredu trawsffiniol yn y byd a wynebwn nawr gyda throseddu cyfundrefnol difrifol ddod i ben hyd yn oed ar ffiniau’r Deyrnas Unedig, felly mae angen inni gael hynny bob amser, ond gallwn gael hynny a chael penderfyniadau democrataidd a pholisi gwell yma yng Nghymru.

17:10

Dyw perthnasau rhynglywodraethol ddim wedi bod yn dda iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dwi’n siŵr y bydd y Ceidwadwyr yn y Senedd yn ddigon parod i gyfaddef hynny. Ers Brexit, mae San Steffan wedi gweithio’n galed i danseilio datganoli. Doedd dim ystyriaeth o Senedd Cymru wrth basio deddfau fel Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020. Doedd dim cyfathrebu wedi bod, ychwaith. Rŷn ni i gyd yn cofio Mark Drakeford ar S4C, yn y rhaglen ddogfen, yn dweud

Dear me, he really, really is awful

am Boris Johnson. Gwnaeth Liz Truss ddim ffonio o gwbl ac ni chysylltodd Rishi Sunak am faterion pwysig i Gymru fel Tata. Dwi’n wirioneddol falch bod Keir Starmer yn ystod ei ddyddiau cyntaf wedi ymweld â Llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon a chyfarfod â meiri Lloegr. Dyw hynny ddim yn anodd, mae’n fater o gwrteisi. Ond cwrteisi sydd wedi bod yn absennol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ond nawr y gweithredu sy’n bwysig.

Fel dangosodd y sylwadau am ddŵr coch clir, dyw’r ffaith bod yr un blaid mewn grym yn San Steffan ac ym Mae Caerdydd ddim o reidrwydd yn arwain at gytundeb. Rydym ni wedi gweld hyn eisioes.

Mae’r Cwnsler Cyffredinol unwaith eto wedi ailadrodd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatganoli cyfiawnder, tra bo'i gyd-aelod o'r blaid Lafur yn Llundain yn ei alw’n ‘ffidlan’. Fel y dywedodd Adam Price, maent yn rhwyfo’n ôl yn gyflym iawn.

Mae cyfoeth o dystiolaeth yn dangos bod set newydd o bwerau datganoledig nid yn unig yn ddymunol, ond yn angenrheidiol er budd pobl Cymru. Gyda'n setliad datganoli presennol, prin ein bod yn crafu'r wyneb ar rai o'r materion pwysicaf sy'n ein hwynebu. Mae angen inni fynd i’r afael â nhw'n uniongyrchol. Mae'n rhaid inni wrthod cyfaddawdau er mwyn cadw pleidiau Llundain yn hapus. Mae’r setliad datganoli yng Nghymru wedi bod yn gyfres o gyfaddawdau anymarferol. Mae hyn wedi ein gadael â setliad datganoli sy'n bopeth ond sefydlog. Mae cyfaddawdau i blesio eraill yn costio i Gymru ac yn costio i bobl Cymru. Rwy’n mawr obeithio na fydd ein cyd-Aelodau Llafur Cymru yn ceisio plesio eu meistri ym Mhlaid Lafur y DU, ond yn hytrach yn gweithio i roi pwysau arnynt i wneud yr hyn sydd orau i bobl Cymru. Mae arnom angen Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU sy’n cydweithio ar ran pobl Cymru, yn hytrach nag er mwyn plesio ychydig o ASau.

Ym 1999, nododd Llafur Newydd yr hyn sy’n gweithio i Lywodraeth fodern, a dywedasant fod angen llunio polisïau ar sail tystiolaeth. Nawr, yn unol â dadl Peter Fox y dylid dyrannu pwerau ar sail perfformiad, dylai San Steffan fod wedi colli ei holl bwerau flynyddoedd yn ôl, a dylai James Evans wybod o guro ar ddrysau nad oes gan bobl unrhyw ffydd yn San Steffan ychwaith. Byddwn yn fwy na pharod i roi gwers hanes iddo am y system gyfreithiol a oedd yn bodoli am ganrifoedd yng Nghymru, a bod gennym ein system llysoedd ar wahân ein hunain tan 1830, ond nid af i lawr y llwybr hwnnw nawr.

Yn ogystal ag ailosod y berthynas gyda’r Llywodraethau datganoledig, rwy'n gobeithio y gwelwn rai o'r naratifau ôl-wirionedd sydd wedi cael eu gwthio gan rai Torïaid uchel eu statws yn cael eu gwrthod. Rwy'n gobeithio y bydd sylwadau fel 'mae pobl wedi cael digon ar arbenigwyr' yn cael eu gwrthod yn llwyr bellach. Os yw’r Blaid Lafur yn erbyn datganoli cyfiawnder ac yn erbyn datganoli Ystadau’r Goron, gofynnaf i Brif Weinidog y DU, sy’n uwch fargyfreithiwr uchel ei barch, ddangos y dystiolaeth i ni. Pam ei fod yn erbyn hyn? Dywedwch wrthym, Keir Starmer, pam eich bod yn credu bod yr Arglwydd Thomas, Rowan Williams a Laura MacAllister yn anghywir.

Hoffwn weld Cymru, o'r diwedd, yn gallu bod yn labordy byw ar gyfer datblygu polisi, Cymru sy'n gallu rhoi polisïau radical ar waith, a bod yn destun eiddigedd go iawn i genhedloedd eraill. Mae hyn yn bosibl, gallai Llywodraeth newydd y DU wneud hyn pe dymunent. Rhowch y pwerau i’r lle hwn i ryddhau Cymru i allu cyflawni ei photensial llawn o’r diwedd. Diolch yn fawr.

Yr Ysgrifennydd Cabinet dros y cyfansoddiad i ymateb. Rebecca Evans.

17:15
Member
Rebecca Evans 17:15:03
Cabinet Secretary for Finance, Constitution and Cabinet Office

Diolch. Rwyf wrth fy modd gyda chanlyniadau'r etholiad cyffredinol a'r hyn y bydd yn ei olygu i bobl Cymru. Ar ôl 14 mlynedd hir o Lywodraeth Geidwadol y DU, sydd wedi gweithredu fel cystadleuydd ymosodol yn hytrach na phartner adeiladol, mae gennym gyfle gwych nawr i ailosod y berthynas a dechrau cyfnod newydd o bartneriaeth, gyda dwy Lywodraeth Lafur yn cydweithio ar gydweledigaeth i Gymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau’n gyson dros ddull gweithredu Llywodraeth y DU sy’n cefnogi Cymru gryfach mewn Teyrnas Unedig decach. Un o’r pethau cyntaf y mae Prif Weinidog y DU wedi’u gwneud yw teithio i gyfarfod ag arweinwyr y Llywodraethau datganoledig wyneb yn wyneb. Mae hyn ynddo'i hun yn dangos awydd i ailosod perthynas sydd wedi bod o dan straen ddifrifol dros y blynyddoedd diwethaf. Yr hyn sy’n glir yw bod Prif Weinidog y DU am fabwysiadu ymagwedd fwy aeddfed a chydweithredol tuag at gysylltiadau rhynglywodraethol, ac mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn ei groesawu’n fawr. Gwaith partneriaeth go iawn yw’r unig ffordd effeithiol o sicrhau newid cadarnhaol ar draws y pedair gwlad.

Nid arwydd o fwriad yn unig oedd ymweliad Prif Weinidog y DU â’r Senedd yn gynharach yr wythnos hon; mae Llywodraeth newydd y DU wedi bwrw iddi yn syth bin, a thrafododd Prif Weinidog y DU a Phrif Weinidog Cymru nifer o feysydd allweddol lle gallwn gydweithio’n effeithiol o’r diwrnod cyntaf un. Nid yw hyn yn bwysicach yn unman nag y mae i ddyfodol dur Cymru. Mae gennym bartner ymroddedig bellach ar lefel y DU sy'n rhannu ein gweledigaeth, ac rydym yn gweithio'n gyflym i ddod o hyd i ateb sy'n gwarantu'r nifer fwyaf o swyddi. Wrth edrych ymlaen, mae cyfleoedd gwirioneddol i ni gydweithio ar draws ystod o feysydd, gan gynnwys ar strategaeth ddiwydiannol newydd a allai agor cyfleoedd pwysig ar gyfer buddsoddi a swyddi ledled Cymru. A chefais gyfle i drafod hyn gyda Phrif Ysgrifennydd newydd y Trysorlys y bore yma.

Bydd Llywodraeth Lafur newydd y DU hefyd yn adfer pwerau gwneud penderfyniadau ynghylch cronfeydd strwythurol i Lywodraeth Cymru. Cafodd y pwerau hyn eu tynnu'n ôl gan y Ceidwadwyr, a adawodd Gymru â llai o lais dros lai o arian. Mae’n enghraifft glir iawn o sut y bydd y Llywodraeth Lafur yn troi’r ddalen ar ôl blynyddoedd o ddiystyru a thanseilio'r Senedd. Ac mae gan gyngor y cenhedloedd a’r rhanbarthau a gynigir gan Lywodraeth newydd y DU botensial i ddarparu strwythur newydd ar gyfer gweithio rhynglywodraethol, a bydd yn dod ag arweinwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ledled y DU at ei gilydd yn fwy rheolaidd er budd pob un ohonom.

Gyda Llywodraeth newydd y DU yn canolbwyntio'n llwyr ar sicrhau twf economaidd a dull gweithredu newydd sy'n cefnogi potensial twf gwyrdd Cymru, gallwn ddatgloi cyfleoedd mwy uchelgeisiol ledled Cymru. Mae gennym ymrwymiad newydd i atgyweirio ac ymestyn datganoli ar ôl cyfnod parhaus o ymosodiadau er mwyn agor y drws ar gyfnod newydd i’r Senedd a Llywodraeth Cymru. Edrychaf ymlaen at weithio’n agos gyda Llywodraeth newydd y DU i osod y sylfaen ar gyfer twf economaidd parhaus, buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus ac i lunio dyfodol llewyrchus. Ar yr un pryd, mae'n rhaid inni gydnabod—

A allwch chi egluro pam fod y Blaid Lafur wedi rhwyfo’n ôl ar yr addewid i ddatganoli plismona a chyfiawnder?

Rydym wedi dweud yn glir iawn—ac rwy’n mynd i ddod at hyn—fod datganoli yn y meysydd hyn bob amser yn mynd i fod yn broses, ac rydym wedi nodi’r prif feysydd blaenoriaeth allweddol y byddwn yn edrych arnynt i gychwyn. Ond hoffwn ddweud yn glir iawn hefyd wrth fy nghyd-Aelodau nad yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar y materion hyn wedi newid o gwbl. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir iawn ein bod wedi derbyn pob un o argymhellion adroddiad y comisiwn cyfansoddiadol, ac rydym yn dal i'w derbyn yn llwyr. Ac mae sawl peth inni fwrw ymlaen â nhw yn yr adroddiad hwnnw, megis arloesi democrataidd, ac yn y blaen. Felly, ein safbwynt ar hynny a'n safbwynt ar Ystad y Goron—nid oes dim o hynny wedi newid. Ond yr hyn a wyddom yw ein bod chwe diwrnod i mewn i Lywodraeth newydd y DU. Cyfeiriodd un o’r cyd-Aelodau ar feinciau Plaid Cymru yn y ddadl at hyn—ac ysgrifennais y dyfyniad—fel diwedd y daith. Nid dyma ddiwedd y daith, dyma ddechrau taith newydd a chyffrous, ac fel rydym wedi'i nodi ar sawl achlysur, rydym yn ystyried datganoli yn y meysydd hyn yn broses. Ond dof at rai o'r pethau hyn mewn mwy o fanylder yn nes ymlaen.

Yr hyn roeddwn am ei wneud oedd cydnabod y niwed a wnaed gan y Ceidwadwyr, sy’n golygu bod sefyllfa gyllidol y Deyrnas Unedig yn anodd iawn, a bod Llywodraeth newydd y DU yn cymryd meddiant ar sefyllfa anodd na ellir ei gwrthdroi ar unwaith. Un o’r camau cyntaf a gymerwyd gan y Canghellor newydd, Rachel Reeves, oedd gofyn i swyddogion y Trysorlys ddarparu asesiad o’r sefyllfa o ran gwariant cyhoeddus, a bydd yr asesiad hwn yn cael ei gyflwyno cyn toriad haf Senedd y DU.

Fel y mae ein gwelliant yn nodi, nid oes dianc rhag y ffaith bod cartrefi Cymru wedi teimlo effaith lawn camreolaeth Llywodraeth flaenorol y DU ar yr economi: cynnydd mewn morgeisi, rhenti, biliau ynni, trethi—sydd oll wedi golygu bod teuluoedd ledled Cymru yn ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd. Mae’n rhaid inni fod yn onest gyda’r cyhoedd, ac mae Llywodraeth y DU wedi bod yn onest gyda’r cyhoedd, nad oes ateb cyflym i’r problemau hyn. Fe gymer amser i wrthdroi pethau, a chredaf y byddai methu cydnabod hynny'n ychwanegu at y sinigiaeth a deimlir ynghylch gwleidyddiaeth.

Er gwaethaf yr heriau, gwn y bydd gennym bartner newydd a pharod yn Llywodraeth newydd y DU sydd am gydweithio â ni i sicrhau bod gennym y dulliau gweithredu cywir sydd eu hangen arnom i gyflawni'r dyheadau a rennir gennym ar gyfer Cymru. Mae cefnogaeth drawsbleidiol ar draws y Senedd hon i’n cynnig fod yr hyblygrwydd cyllidebol a roddir i Lywodraeth Cymru yn annigonol, ac rydym yn awyddus i weithio gyda’r Canghellor a’i thîm i fynd i’r afael â hyn, yn ogystal â sicrhau dull teg o weithredu cyllid ledled y Deyrnas Unedig. Unwaith eto, roedd hyn yn rhan o fy nhrafodaeth gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys y bore yma.

Dyma foment ar gyfer ailosod ac adnewyddu. Mae Llywodraeth Cymru a’r Senedd hon wedi derbyn canfyddiadau’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, fel y dywedais, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth newydd y DU, ac yn wir, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, i sicrhau tirwedd ddatganoledig sefydlog. Mae’n ffaith, wrth gwrs, fod newid cyfansoddiadol, yn gwbl briodol, yn cymryd amser. Mae ein setliad datganoli wedi dioddef ymosodiadau parhaus dros y blynyddoedd diwethaf, a byddai hyn wedi parhau pe bai’r Ceidwadwyr wedi parhau mewn grym yn San Steffan; nid oes ond angen ichi edrych ar y cynigion yn eu maniffesto i weld hynny. Nid oedd unrhyw gynnig ar gyfer datganoli rhagor o bwerau ym maniffesto'r Ceidwadwyr. Yn wir, yn lle hynny, roeddent yn ceisio cynnig y byddent yn torri rhai o'r pwerau sydd gennym, yn gwbl briodol, yma yng Nghymru.

Rydym yn croesawu ymrwymiadau gan Lywodraeth newydd y DU ar atgyweirio ac ymestyn datganoli. Bydd datganoli cyllid cymorth cyflogaeth yn sicrhau bod gwasanaethau’r Ganolfan Byd Gwaith yma yng Nghymru yn cysylltu’n well â’r gwasanaeth gyrfaoedd datganoledig, a bod pobl yn cael y cymorth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt. Rwyf eisoes wedi sôn am ddychwelyd ein pwerau dros gronfeydd strwythurol, ac arian ar eu cyfer. Edrychwn ymlaen hefyd at weithio gyda Llywodraeth y DU i archwilio opsiynau ar gyfer datganoli pwerau dros gyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau prawf. Mae’r rhain yn feysydd a nodwyd gennym ni a’r comisiwn annibynnol fel meysydd posibl ar gyfer datganoli cyfiawnder yn gynnar gan eu bod wedi'u cysylltu mor agos at feysydd sydd eisoes wedi’u datganoli lle gallem sicrhau gwelliannau’n gyflym.

Ein safbwynt ni o hyd yw y credwn y dylai cyfiawnder a phlismona fod yn gyfrifoldebau i Lywodraeth Cymru a’r Senedd, ond rydym hefyd wedi nodi'n glir, fel y dywedais, fod angen datganoli maes mor fawr a chymhleth â hwn fesul cam, a chytunodd y comisiwn annibynnol â ni ar hynny. Byddwn yn parhau i ddadlau'r achos dros hynny, a byddwn yn parhau i gynllunio i fwrw ymlaen â’r agenda bwysig hon, gan flaenoriaethu, fel y dywedais, y meysydd hynny lle gallwn wella canlyniadau fwyaf i ddinasyddion Cymru.

Rydym hefyd yn glir ar fater HS2, y dynodwyd yn anghywir ei fod yn brosiect ar gyfer Cymru a Lloegr. Dylai Cymru gael ei chyfran deg o’r cyllid; rwyf wedi gwneud y pwynt hwnnw dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU ac rwyf eisoes, mewn gwirionedd, wedi dadlau'r achos hwnnw, unwaith eto, i Brif Ysgrifennydd newydd y Trysorlys wrth inni groesawu’r cynlluniau a nodwyd i roi mwy o lais i Gymru ar y seilwaith rheilffyrdd.

Rwyf am droi yn gyflym iawn at welliant y Ceidwadwyr, dim ond i ddweud ein bod yn cytuno bod angen inni edrych yn fanwl ar yr hyn a ddigwyddodd yng Nghymru mewn perthynas â’r nifer a bleidleisiodd yn yr etholiad cyffredinol. Mae’r gostyngiad yn y nifer a bleidleisiodd yn siomedig iawn wrth gwrs, ond nid yw’n annisgwyl, ac mae’n un o’r rhesymau pam y rhoesom y dasg o ystyried dyfodol llywodraethiant Cymru yn ei ystyr ehangaf i’r comisiwn annibynnol. Bydd unrhyw un sydd wedi darllen yr adroddiad hwnnw a’r argymhellion yn gwybod nad rhestr ddymuniadau yn unig ydyw o’r pethau sydd i’w cyflawni yng Nghymru, ond golwg o ddifrif ar wendidau strwythurol llywodraethiant yng Nghymru, ac mae hynny’n cynnwys canfyddiad dinasyddion o lywodraeth a’r rhai sy’n eu cynrychioli.

Hoffem roi camau ar waith i roi dinasyddion yn ôl wrth wraidd llywodraeth, gan roi mwy o reolaeth iddynt dros y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt bob dydd, y tu hwnt i ddim ond bwrw eu pleidlais yn y blwch pleidleisio. Rydym hefyd wedi datblygu cynigion i gynyddu’r nifer sy’n pleidleisio ac sy'n ymwneud ag etholiadau Cymru drwy Fil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), sydd newydd gael ei gytuno gan y Senedd hon. Gyda’r etholiad y tu ôl i ni a Llywodraeth newydd o’n blaenau, nawr yw’r amser i fwrw iddi ar adeiladu dyfodol gwell i Gymru a’r DU.

17:20

Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a diolch yn fawr iawn i bob un sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl yma. Ar wahân i'r cyfraniadau o'r meinciau yma, mae'n rhaid imi ddweud mor siomedig ydw i yn y cyfraniadau heddiw. 

Rwy'n siomedig heddiw nid yn unig ynghylch y diffyg hyder yng Nghymru a glywaf gan Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr—mae'n debyg ein bod wedi arfer â hynny, ond dylai fod gennych rywfaint o hyder yn y cyfleoedd y mae datganoli yn eu cynnig i ni. Ond y siom fwyaf yw gwrando ar y Gweinidog yn siarad. Ac mae'n ddrwg gennyf, ond mae'n rhaid imi ddweud wrthych sut oedd hynny'n swnio o'r fan hon. Roedd yn swnio fel pe bai gennym un o Weinidogion Llywodraeth Cymru yn darllen araith gan Stryd Downing i bob pwrpas.

Dyma Lywodraeth Lafur Cymru sy’n swnio fel pe bai wedi penderfynu rhoi’r gorau i fynegi ei barn; Llywodraeth Lafur a oedd wedi dod gyda ni ar daith hir ar ddatganoli troseddu a chyfiawnder ac ar ddatganoli Ystad y Goron, a nawr, mae wedi penderfynu rhoi hynny i gyd i'r naill ochr. Ac ni allaf ddychmygu eich cefnogwyr Llafur, Aelodau Llafur, hyd yn oed, yng Nghymru—pa mor siomedig y byddant ein bod yma gyda Gweinidog Llafur ac Aelodau Llafur ar fin pleidleisio ar gynnig dileu popeth, yn dileu cynnig sy'n galw am gynnydd mewn cyllid i Gymru. Nid oes arnoch ei eisiau. Cynnig dileu popeth yn galw am ddileu'r alwad am drin Cymru yn gyfartal â’r Alban. Bydd y siom yn rhengoedd Llafur yn sicr yn rhywbeth a ddaw yn ôl i frathu’r Llywodraeth hon.

Soniodd Carolyn Thomas am godi llais dros Gymru. Y cyfan a glywaf yw synau encilio a dweud y gwir, ac mor fuan ar ôl yr etholiad. A do, fe ddywedodd y Gweinidog ei bod wrth ei bodd ynglŷn â chanlyniad yr etholiad—wrth gwrs ei bod wrth ei bodd ynglŷn â chanlyniad yr etholiad, ond rhaid bod y boddhad hwnnw'n mynd yn ddyfnach na chyfrif nifer y seddau, er cymaint o seddau a gafwyd; mae'n rhaid iddo ymwneud â beth y gallai hynny ei gynnig i Gymru, ac rwy'n clywed Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn ailfeddwl ynglŷn ag un mater ar ôl y llall.

Dywedwyd wrthym y byddai unoliaetholdeb cyhyrog yn dod i ben gyda Llywodraeth Lafur yn San Steffan, ond mae Keir Starmer, hyd y gwelaf i, yn dal i ystwytho ei gyhyrau. Cawsom ein hatgoffa gan Peter Fox ein bod wedi bod drwy gyfnod o gicio a tharo gwleidyddol, ond y cyfan a welais dro ar ôl tro oedd dyheadau Cymru'n cael eu taro'n ôl. Mae gennych uwch Aelodau Llafur sydd bellach yn Weinidogion yn y Llywodraeth—Jo Stevens, Stephen Kinnock, Nick Thomas-Symonds—pob un yn brwydro yn erbyn, yn diystyru’r syniadau o gyllid ychwanegol i Gymru ar droseddu a chyfiawnder, neu ar Ystad y Goron. Ond nid yn unig y rheini yn nhîm Syr Keir Starmer ac sy’n ddiolchgar i fod yn Weinidogion yn y Llywodraeth honno sy'n gwneud hynny nawr; mae Aelodau Llafur yma wedi penderfynu codi eu dwylo heddiw a dweud, 'Rydym yn mynd i fod yn llai uchelgeisiol dros Gymru nawr, gan fod gennym Lywodraeth Lafur ar lefel y DU.' Llafur yma yng Nghymru sydd wedi penderfynu, yn hytrach nag ystwytho eu cyhyrau dros Gymru, y byddant yn dileu popeth. Os gwelwch yn dda, cefnogwch gynnig Plaid Cymru heddiw.

17:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar yr eitem yna tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Cwestiynau Amserol

Eitem 7 sydd nesaf, a'r cwestiynau amserol yw'r rhain. Mae'r cyntaf i'w ofyn gan Andrew R.T. Davies a'i ateb gan y Prif Weinidog. 

Datganiad Hannah Blythyn AS

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatganiad Hannah Blythyn AS yn Siambr y Senedd ar 9 Gorffennaf 2024 iddi gael ei diswyddo fel Gweinidog Llywodraeth Cymru heb ddigon o dystiolaeth ei bod yn euog o ryddhau negeseuon? TQ1146

Diolch am eich cwestiwn. A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Llywydd am gytuno i newid yr amser ar gyfer y cwestiwn amserol, er mwyn imi allu mynd ar ymweliad yn ymwneud â'r cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth, ond hefyd am roi caniatâd i mi roi ymateb cychwynnol hirach na'r arfer i'r cwestiwn amserol, er mwyn imi allu egluro hyn mewn mwy o fanylder i’r Aelodau, a'i gofnodi?

Yn gyntaf, hoffwn ddechrau drwy gydnabod dewrder yr Aelod dros Delyn, Hannah Blythyn, wrth iddi wneud ei datganiad personol i’r Senedd ddoe. Rwy’n cydnabod, unwaith eto, y cyfraniad balch a wnaeth yn y Llywodraeth. Fel y gweddill ohonom, rwy'n falch o’i gweld yn ôl yn y Siambr, ac rwy'n rhannu ei theimladau ynglŷn â'r wleidyddiaeth fwy caredig yr ydym am ei gweld yma yng Nghymru. Wrth ymdrin â’r amgylchiadau anodd a arweiniodd at ei hymadawiad â'r Llywodraeth, rwy'n ailadrodd bod lles personol wedi bod ar flaen fy meddwl drwy’r amser, ac mae hynny’n parhau heddiw, er mor anodd ydyw.

Ddechrau mis Mai, cawsom ffotograff o ddarn o sgwrs iMessage gan newyddiadurwr, a gofynnwyd inni roi sylwadau ar ei gynnwys. Roedd yn ffotograff o sgwrs grŵp a grëwyd am un diwrnod ym mis Awst 2020, gydag 11 o Weinidogion Llafur Cymru a Dirprwy Weinidogion yn aelodau. Mae’n hanfodol, wrth gwrs, i weithrediad y Llywodraeth fod gan Weinidogion ymddiriedaeth yn ei gilydd bob amser, a bod trafodaethau preifat yn parhau’n breifat. Mae rhoi'r negeseuon hyn i newyddiadurwr yn torri'r ymddiriedaeth honno.

Siaradais â fy Nghabinet ar ôl i’r negeseuon gael eu datgelu, ac roedd consensws fod ymddiriedaeth y Gweinidogion wedi’i thorri. Nodais fy mod yn archwilio’r dystiolaeth yn fanwl, ac os byddem yn canfod pwy oedd yr unigolyn a oedd yn gyfrifol am y ffotograff, ni allent aros yn y Llywodraeth. Ar ôl croeswirio'r ffotograff gyda'r set lawn o negeseuon, daeth yn amlwg mai dim ond o ffôn un Aelod y gallai'r ffotograff fod wedi dod. Hoffwn ddweud yn glir unwaith eto y byddai’n well gennyf beidio â thrafod y manylion hyn yn gyhoeddus.

Mae Gweinidogion, wrth gwrs, yn gyfrifol am ddiogelwch eu data. Pan gefais y dystiolaeth honno, o dorri cod y gweinidogion, bu’n rhaid imi wneud y penderfyniad anodd ynglŷn ag a allai’r Aelod aros yn y Llywodraeth. Fy mhenderfyniad i yn unig yw’r penderfyniad hwnnw fel y Prif Weinidog. Ar ôl ystyried, deuthum i’r casgliad fod natur y tramgwydd yn erbyn y cod gweinidogol a chryfder y teimlad o fewn y Cabinet ynghylch y datgeliad answyddogol yn golygu na allai’r Aelod aros yn y Llywodraeth.

Siaradais â Hannah wyneb yn wyneb ar 16 Mai a gofyn iddi adael y Llywodraeth. Nid oedd yn benderfyniad hawdd, ond roeddwn yn credu bryd hynny ac rwy'n credu nawr mai dyna oedd y penderfyniad iawn. Yn y cyfarfod hwnnw, fe wneuthum gadarnhau bod gennyf dystiolaeth i gefnogi’r penderfyniad. Trefnwyd cyfarfod pellach wedi hynny i fynd drwy’r dystiolaeth gyda’r Aelod yng ngogledd Cymru ar 24 Mai. Yn anffodus ac yn ddealladwy, nid oedd Hannah yn gallu bod yn bresennol gan ei bod ar absenoldeb salwch.

Hoffwn sôn hefyd am y pryder penodol ynghylch y sylw a roddwyd i les a llesiant. Fel sydd eisoes yn wybodaeth gyhoeddus, gofynnais am gyngor gan yr Ysgrifennydd Parhaol ar y broses y dylwn ei dilyn ac fe'i dilynwyd yn llawn, gan gynnwys yr angen i roi sylw i adroddiad rheoliad 28 a gyhoeddwyd gan grwner gogledd Cymru ym mis Gorffennaf 2019 ac ymateb Llywodraeth Cymru. Fy ffocws i a'r Prif Chwip, a chyd-Weinidogion eraill yn wir, oedd ac yw llesiant. Cymerwyd nifer o gamau i sicrhau y gallai Hannah gael mynediad at gymorth yn ôl yr angen, ac mae hynny’n parhau hyd heddiw.

Mae hwn wedi bod yn brofiad anodd iawn i bawb sy'n gysylltiedig ag ef ac rwy’n cydnabod yr effaith a gafodd. Gan fod yr Aelod wedi cael cyfle nawr i annerch y Siambr, rwy'n gobeithio y gallwn symud ymlaen. Fel y dywedais yn fy llythyr at Hannah ym mis Mai, rwy'n credu bod llwybr yn ôl i’r Llywodraeth iddi yn y dyfodol, a dyna yw fy marn o hyd y prynhawn yma.

17:30

Diolch, Brif Weinidog, am yr ymateb manwl hwnnw i fy nghwestiwn cychwynnol ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r ffaith, yn amlwg, fod unrhyw Gabinet yn cael ei ffurfio ar gais y Prif Weinidog, ac mai'r Prif Weinidog sy'n dewis pwy fydd yn gwasanaethu yn y Cabinet hwnnw. Nid oes neb yn anghytuno â hynny. Ond roedd y dystiolaeth a gyflwynwyd yn y datganiad personol ddoe gan yr Aelod yn nodi rhai nodweddion pryderus yn y ffordd yr ymdriniwyd â hyn.

Dywedodd yr Aelod yn benodol, ac felly hoffwn ofyn i chi gadarnhau os yw hyn yn wir—. A hysbyswyd yr Aelod ar unrhyw adeg ei bod yn destun ymchwiliad? Yn ail, a roddwyd unrhyw dystiolaeth i'r Aelod yn ystod y broses y gallai edrych arni ac ymateb iddi cyn iddi gael ei diswyddo o'r Cabinet? Ac ymhellach, mae hi'n gwneud y pwynt—a geiriau'r Aelod ei hun yw'r rhain—

'ni chefais wybod ar unrhyw adeg ac ni ddangoswyd tystiolaeth fy mod o bosibl wedi torri cod y gweinidogion.'

Dyna dri phwynt penodol iawn a oedd yn natganiad yr Aelod i'r Cyfarfod Llawn ddoe. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech egluro a darparu atebion i'r tri phwynt penodol hwnnw. Ac a wnewch chi gadarnhau a fyddwch chi'n cyhoeddi'r dystiolaeth yr ydych chi wedi seilio eich barn arni? Oherwydd er gwaethaf yr hyn rydych chi wedi'i ddweud heddiw, mae yna ddau gyfrif sy'n gwrthdaro o'r hyn a ddigwyddodd yn ystod y digwyddiad anffodus hwn, fel y'i galwn, oherwydd mae wedi effeithio ar lawer o bobl, a'r Aelod ei hun yn arbennig, ac yn amlwg rwy'n credu bod y Siambr hon yn haeddu'r parch o gael y dystiolaeth honno fel y gallant weld drostynt eu hunain y gyfres o ddigwyddiadau a arweiniodd at ddiswyddo'r Gweinidog o'r Cabinet.

Fel y dywedais yn y datganiad, dywedais yn glir yn y Cabinet, ac yn wir, mewn cyfarfod grŵp Llafur, pe bawn i'n gallu nodi pwy oedd yn gyfrifol am y ffotograff, yna ni fyddent yn gallu aros yn y Llywodraeth. Rwy'n glir iawn ei fod, yn fy marn i, yn torri cod y gweinidogion, a gwnaed hynny'n glir yn y llythyr a aeth ar ôl y cyfarfod. Roeddwn i'n bwriadu mynd drwy'r dystiolaeth yn ystod y cyfarfod wyneb yn wyneb, ond yn ddealladwy—ac mae yna bwynt dynol yn hyn o beth—nid oedd hynny'n bosib. Rwyf hefyd yn deall, fel y dywedaf yn y datganiad, pam nad oedd hi'n bosibl cael cyfarfod dilynol hefyd. Unwaith eto, roedd y dystiolaeth, ac mae'r dystiolaeth, yn syml, ac mae'r cynnig wedi'i wneud i'w darparu i'r Aelod unwaith eto. 

Cyfrifoldeb y Prif Weinidog yw penderfynu a gafodd cod y gweinidogion ei dorri. Nid oes unrhyw ffordd o osgoi'r cyfrifoldeb hwnnw a gwneud penderfyniad am y peth cywir i'w wneud i'r Llywodraeth ac i'r wlad, yn hytrach na mater o gyfleustra i mi, a dyna'r ffordd rwyf wedi dewis gweithredu drwy gydol hyn.

Mae fersiwn wedi'i golygu eisoes yn y parth cyhoeddus. Nid wyf yn bwriadu cyhoeddi unrhyw wybodaeth bellach. Fel yr eglurais ar fwy nag un achlysur, mae angen meddwl am fuddiannau pobl eraill. Ni fyddaf yn cyhoeddi'r wybodaeth oni bai bod pob person sy'n gysylltiedig â'r mater yn fodlon i hynny ddigwydd. Nid wyf yn credu ei fod yn ychwanegu at y dewis a wnaed, nac at effaith y dewis a wnaed yn wir, a'r ffaith bod yn rhaid i Aelodau yn y Llywodraeth allu ymddiried yn ei gilydd er mwyn i fusnes y Llywodraeth barhau mewn ffordd y byddai unrhyw un ohonom yn ei disgwyl gan y Llywodraeth hon, neu unrhyw lywodraeth arall.

17:35

Roedd y rhan fwyaf ohonom yma ddoe pan wnaeth yr Aelod dros Delyn ei datganiad personol, ac ar draws y meinciau yn y Senedd hon mae arnom ddyletswydd i'n gilydd i ofalu am ein gilydd, ac roeddem i gyd yn deall pa mor anodd fyddai hi wedi bod i Hannah siarad ddoe. Siaradodd yn ddewr, ac rwy'n credu bod arnom ddyletswydd iddi i fynd ar drywydd hyn heddiw. Ysgrifennais at y Prif Weinidog ddoe yn gofyn iddo gyhoeddi'r dystiolaeth, ac mae gennym gyfle nawr, drwy'r cwestiwn hwn, i fynd ar drywydd pethau ymhellach. 

Mae un peth yn dal i beri pryder i mi. Y prynhawn yma, mae'r Prif Weinidog wedi egluro un rhan o'r broses sy'n ymwneud yn benodol â sut y caiff Gweinidog ei ddiswyddo, ac rydym yn gwybod pam fod y Prif Weinidog wedi mynd drwy'r broses honno. Mae arnaf ofn nad wyf yn argyhoeddedig o hyd ynglŷn â sut y daeth y Prif Weinidog i'r casgliad fod y dystiolaeth a oedd ganddo yn ei feddiant yn ddigon cryf i gyfiawnhau diswyddo Gweinidog. Ac rwy'n cytuno'n llwyr y dylai Prif Weinidog allu gwneud y penderfyniadau mewn perthynas â phenodi a diswyddo Gweinidogion, a bod ymddiriedaeth yn ganolog i'r penderfyniadau hynny.

Ond rydym yn gwybod na chafodd unrhyw ymchwiliad i ddatgeliad answyddogol ei gomisiynu neu ei gyflawni oherwydd fe ysgrifennodd cyfarwyddwr moeseg Llywodraeth Cymru at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i ddweud hynny. Felly beth oedd natur yr ymchwiliad i'r datgeliad? A oedd yn ymchwiliad i ddatgeliad a gynhaliwyd gan y Prif Weinidog ei hun i bob pwrpas gyda thîm agos, neu a oedd hon yn broses arall o dan god y gweinidogion neu weithdrefnau llywodraethol eraill y gallai'r Prif Weinidog ymhelaethu arnynt heddiw, gobeithio? 

Fodd bynnag, yn y bôn, mae gennym ddwy fersiwn sylfaenol wahanol o'r un digwyddiad. Mae gennym y Prif Weinidog yn dweud bod y dystiolaeth yn glir yn ei feddwl ef, ac mae gennym Aelod yn ei gwneud yn glir iawn ei bod yn gwadu hynny. Nid wyf mewn sefyllfa i allu dewis ochr, ond mae angen inni sicrhau ein bod yn rhoi'r holl dystiolaeth honno yn y parth cyhoeddus er mwyn caniatáu i'r cyhoedd yng Nghymru ddod i'w casgliad eu hunain.

Felly, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno—? Ac ailadroddaf yr hyn a ddywedais yn y llythyr ddoe fod angen inni sicrhau bod y broses a ddilynwyd ganddo, a ddarparodd y dystiolaeth honno iddo a beth yw'r dystiolaeth honno, yn cael ei chyhoeddi'n llawn. A yw'n dal i gytuno bod methu gweithredu gyda thryloywder llwyr ar hyn yn parhau i danseilio ffydd yn ei arweinyddiaeth?

17:40

Rwy'n credu bod mwy nag un peth yma, ac rwy'n credu bod y ffordd y daeth yr Aelod i ben yn adleisio'r hyn a ddywedodd ar y dechrau hefyd. Rwyf wedi bod yn glir ac yn onest drwy gydol y broses. Rwyf wedi bod yn glir ac rwyf wedi ailadrodd yn y datganiad heddiw, pan ddeuthum i gasgliad, fod rhaid imi wneud penderfyniad. A dim ond fi, fel Prif Weinidog, oedd yn gallu gwneud y penderfyniad hwnnw ynghylch gweithrediad y Llywodraeth a'r ymddiriedaeth sy'n angenrheidiol rhwng Gweinidogion. Rwyf wedi nodi'n glir yn y datganiad heddiw fod y broses ar gyfer gwneud hynny yn un syml mewn gwirionedd. Mae'r ffaith bod yr Aelod yn chwilio am gymhlethdod yn gwrth-ddweud natur ffeithiol, syml y sefyllfa rydym ynddi.

Ar ôl nodi'r natur syml honno, mae gennych ddewis anochel i'w wneud. Dyna'r dewis rwyf wedi'i wneud, ac mae o ddifrif yn rhoi'r Llywodraeth a buddiannau'r wlad o flaen fy muddiannau personol fy hun. Byddai wedi bod yn llawer haws pe bawn i wedi gofyn i bobl eraill fwrw yn eu blaenau ac ymddwyn fel pe na bai unrhyw her er ei bod yn amlwg fod her yno. Nid wyf yn credu y byddwn wedi bod yn gwneud fy swydd pe na bawn wedi mynd i'r afael â'r mater a oedd yn bryder real iawn ymhlith Gweinidogion a thu hwnt. Dyna'r ffordd y dewisais ymddwyn, a dyna'r gonestrwydd rwyf wedi'i ddangos ym mhob swydd a wneuthum erioed ac y byddaf yn parhau i'w gwneud.

I ddechrau, rwy'n fodlon i fy enw gael ei ddangos.

A wnaeth Andrew Davies egluro pam ei fod wedi diswyddo Nick Ramsay fel Cadeirydd pwyllgor, pan oedd ar drên ar y ffordd yn ôl o Ewrop? A wnaeth Leanne Wood egluro pam y diswyddodd Dafydd Elis-Thomas fel Cadeirydd pwyllgor? A wnaeth Mark Drakeford egluro i mi pam y rhoddodd gadeiryddiaeth y pwyllgor a gadeiriais yn y Senedd ddiwethaf i Blaid Cymru? Mae dau Weinidog cyfredol wedi cael eu diswyddo gan gyn-arweinwyr yn y gorffennol—mae un yn nodio'u pen.

Sut y gall y Prif Weinidog fod yn sicr na wnaed unrhyw olygu lluniau neu olygu fideo ar yr hyn a welodd?

Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o'r cwestiynau hynny ar gyfer pobl eraill, ac i fod yn deg, mae Mike Hedges eisoes wedi nodi—. Siaradais â Mike ar y diwrnod pan welwyd y ffotograff, oherwydd roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n bosibl y gellid ei adnabod, ac nid oeddwn eisiau iddo weld hynny heb gael gwybod, a dyna pam y siaradais ag ef, oherwydd roeddwn i'n meddwl mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Materion ar gyfer pobl eraill yw'r cwestiynau eraill am y ffordd y mae pobl eraill wedi dewis gwneud newidiadau i'w tîm.

Fodd bynnag, mae arnaf ofn, gyda'r llun, nad wyf yn credu bod yr awgrym fod y llun wedi cael ei olygu yn esboniad credadwy. Nid dyna'r casgliad y deuthum iddo. Roedd yn sgwrs a ddigwyddodd go iawn, ac mae hynny wedi cael ei gadarnhau, oherwydd mae mwy nag un gyfres o luniau'n bodoli. Ac rwyf wedi nodi hynny yn y datganiad—mae'r gallu i groeswirio yn cadarnhau pa ffôn y tynnwyd y llun oddi arno. Mae mor syml â hynny.

Rwy'n ofni ein bod yn dal i fod mewn sefyllfa hynod anodd lle mae gennym ddau gyfrif sy'n gwrthdaro o'r hyn a ddigwyddodd, sy'n ymddangos yn amhosibl i'w cysoni, ac ni allwn ei adael heb ei ddatrys. Nid yw'n deg o ran yr unigolion dan sylw, ond mae hefyd yn niweidio enw da'r Llywodraeth a'r sefydliad hwn. O ran cyfeiriad y Prif Weinidog at y darn o ffotograff a ddisgrifiodd—a dywedodd fod fersiwn wedi'i olygu wedi'i chyhoeddi—nid oes unrhyw beth yn y ddelwedd wedi'i golygu a fyddai'n arwain unrhyw un i ddod i'r casgliad a wnaeth ef, sef mai Hannah Blythyn a'i datgelodd, a dyna pam fod angen tryloywder arnom, i ddeall y sail dros y penderfyniad. Ni allwch wneud hynny o'r llun a olygwyd, felly mae angen inni ddeall beth a arweiniodd y Prif Weinidog i ddod i'r casgliad y mae Hannah Blythyn yn ei herio.

A gaf i ddweud hyn? Pan fyddwn mewn sefyllfa fel hon, lle mae gennym ddau gyfrif sy'n gwrthdaro, nid yw'n iawn fod un o awduron y cyfrifon hynny yn farnwr yn ei lys ei hun. Yr hyn a wnawn mewn amgylchiadau o'r fath yw cael proses annibynnol, cymrodeddwr annibynnol. Dyma'n union y mae'r weinyddiaeth Lafur yn San Steffan yn addo ei wneud: cryfhau proses y cynghorydd annibynnol yng nghod y gweinidogion er mwyn osgoi sefyllfaoedd lle ceir gwrthdaro buddiannau wrth geisio dod o hyd i'r gwirionedd. Felly, a gaf i awgrymu wrth y Prif Weinidog, gan fabwysiadu'r egwyddor y bydd Llafur yn ei sefydlu yn San Steffan, gadewch inni gael adroddiad annibynnol fel y gallwn ddod o hyd i'r gwirionedd mewn perthynas â'r hyn a ddigwyddodd yn yr achos hwn?

17:45

Rwy'n credu bod tri phwynt byr i'w gwneud, mae'n debyg. Yn gyntaf, pan wneir cwynion o dan god y gweinidogion, nid yw'r Prif Weinidog yn gofyn am gyngor bob amser; mae rhai ohonynt yn ddigon syml i fynd i'r afael â nhw. Fel arfer nid ydynt yn arwain at gyhoeddi adroddiadau. Yn y pen draw, fodd bynnag, mae'n rhaid i'r Prif Weinidog, pwy bynnag ydyw, wneud penderfyniad. O ran y mater hwn, nid oes gwrthdaro buddiannau; mae yna gyfrifoldeb syml i wneud penderfyniad. Hoffwn atgoffa'r Aelod unwaith eto o'r hyn a ddywedais yn y datganiad: ar ôl croeswirio'r ffotograff gyda'r set lawn o negeseuon, daeth yn amlwg na allai ond bod yn ffotograff o ffôn un Aelod yn unig.

Diolch i’r Prif Weinidog. Bydd y cwestiwn nesaf yn cael ei ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg, ac yn cael ei ofyn gan Luke Fletcher.

Tata Steel

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth newydd y DU mewn perthynas â Tata Steel ym Mhort Talbot? TQ1142

Member
Jeremy Miles 17:47:21
Cabinet Secretary for Economy, Energy and Welsh Language

Rwyf i a'r Prif Weinidog wedi cael trafodaethau gyda Llywodraeth newydd y DU am Tata Steel, ac edrychwn ymlaen at gydweithio'n agos â nhw wrth symud ymlaen.

Diolch am yr ateb, Cabinet Secretary.

Ers wythnosau bellach, mewn ymateb i unrhyw gwestiwn am Tata a Phort Talbot, dywedwyd wrthym am aros am Lywodraeth Lafur yn y DU. Wel, rydym ni yma nawr ac nid oes gennym syniad o hyd beth yw'r cynllun. Cafwyd dadl ddiddorol ddoe rhwng arweinydd y Ceidwadwyr a'r Prif Weinidog, lle gwadodd y Prif Weinidog ei fod wedi dweud bod yna gynllun parod ar gyfer Port Talbot. Nawr, roedd yn iawn i ddweud hynny, oherwydd ni ddywedodd yr union eiriau hynny erioed, ond i fod yn deg, fe ddywedodd y byddai'n disgwyl i Lywodraeth Lafur newydd gael cynllun ar gyfer Tata. Nid yw'n ymddangos bod yna gynllun, ac rwy'n ofni na wnaeth sylwadau'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach y bore yma ar Radio Wales lawer i dawelu'r ofnau hynny. Ar ôl gohirio dyddiad cau arfaethedig yr ail ffwrnais chwyth, derbyniodd fod safbwynt Tata wedi bod yn ddisymud iawn. Felly, beth mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei feddwl o hyn? Mae Tata wedi bod yn awgrymu ers misoedd nad ydynt yn fodlon aildrafod. Rydym wedi gweld hynny yn eu cyfweliadau. Rydym wedi gweld hynny yn eu tystiolaeth i'r pwyllgor economi yma yn y Senedd hon. Felly, beth ydych chi wedi bod yn ei wneud i baratoi ar gyfer y sefyllfa hon?

Nawr, gadewch inni edrych ar y darlun llawn: gadewch inni edrych ar y sylwadau gan Tata, gadewch i ni edrych ar y sylwadau gan Lywodraethau dros y misoedd diwethaf. Rwy'n ofni bod y casgliad rhesymegol yn arwain at gau ffwrnais chwyth 5 ym mis Medi. Felly, mae'n bryd i chi fod yn onest gyda ni: a yw'r Llywodraeth wedi ymrwymo i gadw ffwrnais chwyth 5 ar agor, neu a yw bellach yn canolbwyntio ei holl adnoddau a'i hamser ar sicrhau buddsoddiad yn y dyfodol? Mae gweithredoedd a geiriau yn awgrymu hynny, ac wrth gwrs, os mai dyna yw'r cynllun gweithredu, mae gweithwyr a'u cymunedau'n haeddu cael gwybod.

Wel, os caf atgoffa'r Aelod: cynhaliwyd yr etholiad cyffredinol ddydd Iau diwethaf. Daeth y canlyniadau ddydd Gwener. Yn fwyaf diweddar, cyfarfûm ag undebau a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach, Jonathan Reynolds, y bore yma, a chydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, y prynhawn yma, i drafod y sefyllfa yn Tata Steel. Byddaf yn mynychu'r bwrdd pontio gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru yfory. Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru a Phrif Weinidog y DU drafod Tata yn ystod ymweliad y Prif Weinidog â Chymru yn gynharach yr wythnos hon, a chafwyd sgyrsiau dros y penwythnos yn ogystal yn rhan o'r cyflwyniadau. Mae amser yn amlwg yn bwysig, ond mae llai nag wythnos ers ffurfio Llywodraeth newydd y DU, ac ni allai'r gwahaniaeth rhwng ymgysylltiad y weinyddiaeth Lafur hon ac ymgysylltiad y Llywodraeth Dorïaidd flaenorol fod yn fwy amlwg. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod cynhyrchu dur a'r sefyllfa yn Tata Steel yn uchel iawn ar agenda'r Llywodraeth hon, ac y bydd y trafodaethau'n mynd rhagddynt o ddifrif nawr. Mae'n bwysig cydnabod na fydd yn briodol cyflwyno llawer o fanylion unrhyw drafodaethau masnachol gyda Tata Steel tra byddant ar y gweill, ac rwy'n credu y bydd yr Aelodau'n deall hynny. Ond i fod yn glir, rydym eisiau gweld lefel newydd o flaenoriaeth yn cael ei roi i swyddi, i fuddsoddiad ac i gynhyrchiant dur sylfaenol, ac rwy'n hyderus mai dyma yw safbwynt a'r lefel o flaenoriaeth a roddir i hyn gan y Llywodraeth Lafur newydd.

17:50

A gaf i ddiolch i'r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn hwn? Mae'n bwysig ein bod yn edrych ar lle mae'r dyfodol gyda Tata. Ddydd Iau diwethaf, ar ddiwrnod yr etholiad, cafodd Rhif 5 ei gau. Ar yr un diwrnod, pleidleisiodd pobl Port Talbot a'r rhanbarth ehangach dros obaith ac optimistiaeth drwy roi Llywodraeth Lafur mewn grym. Nawr, mae'n bwysig ein bod ni, felly, yn cefnogi'r optimistiaeth a'r gobaith hwnnw, oherwydd, hebddynt, byddem wedi gweld Rhif 4 yn cau hefyd—yr wythnos diwethaf o bosibl, o ystyried y ffordd roedd pethau'n mynd, ond yn nes ymlaen yn sicr.

Ac fe wrandewais ar sylwadau Jonathan Reynolds y bore yma, ac fe wnaeth gydnabod eu bod nhw wedi bod yn ddisymud, ond roedd yn gobeithio gwneud iddynt symud, oherwydd mae wedi dweud bod yna gynllun newydd yn ei le erbyn hyn, a bod yna drafodaethau newydd yn mynd rhagddynt nawr, a bod y cyfleoedd i edrych ar sut y gallwn gyflwyno'r arian a'r buddsoddiad—. Mae mwy o arian ar y bwrdd nawr. Ni roddodd y Llywodraeth flaenorol unrhyw beth heblaw'r £500 miliwn heb unrhyw amodau ynghlwm wrtho. Felly, nawr mae gennym fwy o arian ar y bwrdd, cyfleoedd i roi amodau ar waith sy'n diogelu swyddi ac amodau sy'n cynnig gobaith a chyfle i gynhyrchu mwy o ddur. Ac fe nododd y bore yma hefyd ei fod yn credu bod dur yn elfen hanfodol o'r economi.

Felly, a ydych chi'n cytuno â mi, heb y Llywodraeth Lafur hon, na fyddai unrhyw obaith, na fyddai gennym unrhyw uchelgais, ac y byddem wedi gweld Rhif 4 yn cau ym mis Medi? Ond ar hyn o bryd, mae yna gyfleoedd i drafod, mae yna arian i gael y trafodaethau hynny i gefnogi'r newidiadau a heb hynny, ni fyddem yn y sefyllfa rydym ynddi. Ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Lafur y DU yn manteisio ar y cyfle hwnnw nawr, ac rwy'n gobeithio y bydd Tata yn manteisio ar y cyfle hwnnw hefyd, oherwydd mae cyfle nawr i ymestyn y cyfnod pontio, oherwydd, ar hyn o bryd, rydym i gyd yn gwybod ei fod yn dorbwynt. Yr hyn a ddywedodd yn glir y bore yma: rydym eisiau sicrhau bod y cyfnod pontio yn gweithio i weithwyr a'r cymunedau. Mae hynny'n golygu ei ymestyn, wrth inni symud tuag at ddatgarboneiddio, tuag at ddur gwyrdd, mae'n golygu hefyd ein bod yn gweld swyddi'n cael eu cadw ym Mhort Talbot, a chynhyrchiant dur yn cael ei gadw ym Mhort Talbot, fel y gallwn gadw hynny i fynd. A ydych chi'n cytuno mai dyna'r ffordd gywir ymlaen?

Diolch i David Rees am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n cytuno mai dyna'r ffordd gywir ymlaen, a'r ffordd y'i disgrifiodd, fel cyfnod pontio sy'n gweithio i weithwyr ac i'r gymuned, dyna'n union rydym eisiau ei weld, a'r hyn a welsom eisoes, yn y dyddiau cyn yr etholiad mewn gwirionedd, o ran gweithio ar y cyd i weithio gyda Tata, i weithio gyda'r undebau, mewn perthynas â'r sefyllfa dyngedfennol a wynebem ar y pryd. Mae hynny wedi rhoi lle a chyfle i'r trafodaethau hyn ddigwydd. Ac mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno lefel newydd o gyllid, lefel newydd o ddisgwyliad a lefel newydd o frys i'r trafodaethau hynny. A hoffwn pe baem wedi bod yn y sefyllfa hon flwyddyn yn ôl, a chael Llywodraeth Lafur bryd hynny, a gallu gweithio gyda Tata, oherwydd y gwir amdani yw ein bod wedi dod i mewn i'r trafodaethau hyn yn hwyr yn y dydd, onid ydym? Pe bai gennym Lywodraeth Lafur flwyddyn yn ôl, byddem wedi cael llawer mwy o le ar gyfer y trafodaethau hynny. Ond rwy'n falch o ddweud bod y gofod hwnnw wedi'i greu, ac mae angen inni weld y trafodaethau'n symud ymlaen ar frys nawr.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi gwrando'n astud ar eich atebion i Luke Fletcher a David Rees, ac rwy'n gweld realiti'r gwahaniaeth o orfod llywodraethu—Llywodraeth Lafur y DU yn gorfod llywodraethu—yn hytrach na bod yn wrthblaid. Ac os caf droi'n ôl at gwestiwn cychwynnol Luke, a chwestiynau Dai Rees am y cyfnod pontio, a yw'r Llywodraeth hon bellach wedi cyfaddef ei bod yn fodlon iddynt gau ffwrnais chwyth Rhif 4? Oherwydd, pan fo Dai Rees yn sôn am y cyfnod pontio, mae'n golygu newid o gynhyrchu dur ffwrnais chwyth tuag at gynhyrchu dur arc trydan. Felly, a yw hwnnw'n gyfaddefiad nawr gan Lywodraeth Cymru, gan Lywodraeth y DU, gan Jonathan Reynolds, gyda'r sylwadau 'disymud iawn' a wnaeth y bore yma—a yw hwnnw'n gyfaddefiad fod cynhyrchiant dur ffwrnais chwyth yn dod i ben ym Mhort Talbot?

Gadewch i mi fod yn glir ein bod eisiau sicrhau cyfnod pontio llyfn a theg i gynhyrchiant dur mwy cynaliadwy yn y dyfodol. Dyna yw ein safbwynt wedi bod drwy'r amser. Dyna yw ein safbwynt o hyd. Ac mewn gwirionedd, nid oedd sylwadau Jonathan Reynolds y bore yma yn ddisymud. Roedd yn arddangos lefel o ymrwymiad i'r negodiadau, i'r trafodaethau, ac roedd yn ein hatgoffa ni i gyd o'r lefel newydd o gyllid a gyflwynwyd i'r trafodaethau hyn, lefel newydd o ddisgwyliad, lefel newydd o flaenoriaeth i swyddi, i fuddsoddiad, ac ymrwymiad i gynhyrchiant dur sylfaenol. Mae angen inni wneud yn siŵr fod hyn oll yn ganolog i'r trafodaethau dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.

17:55

Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddom, mae gweithgarwch Tata yng Nghymru wedi'i ganoli ym Mhort Talbot, ond mae amryw o safleoedd eraill, wrth gwrs, gan gynnwys Llan-wern. O ran y cyfnod pontio, fel rydych chi wedi'i ddisgrifio ac fel y mae David Rees wedi'i ddisgrifio, bydd y lefel newydd o fuddsoddiad yn cynnig cyfleoedd i'r safleoedd eraill hynny, ochr yn ochr â Phort Talbot. Hoffwn gael sicrwydd gennych, fel y gofynnais i chi sawl gwaith, y bydd Llan-wern yn rhan o'r cynlluniau hynny ac yn rhan o'r buddsoddiad hwnnw, oherwydd mae gennym hanes hir o gynhyrchu dur yn Llanwern. Mae'n safle pwysig iawn, sy'n cynnig llawer o gyfleoedd, ac wrth gwrs mae gennym weithlu eithaf ifanc ac mae llawer o brentisiaid yn awyddus i chwarae rhan mewn cynhyrchu dur gwyrdd yng Nghymru yn y dyfodol.

Gallaf roi'r sicrwydd y mae John Griffiths yn chwilio amdano. Drwy gydol y trafodaethau a gawsom fel Llywodraeth, rydym wedi edrych ar effeithiau'r newidiadau arfaethedig ym Mhort Talbot ar Lan-wern, ar Drostre, ar Shotton a Chaerffili a'r safleoedd hynny, ac mae'r gweithfeydd hynny'n cael lle llawn yn y trafodaethau a gawsom, ac rydym yn ceisio eglurder mewn gwirionedd ar rai elfennau o'r effaith ar y safleoedd hynny. Rwyf am ddweud wrtho ein bod eisiau gweld buddsoddiad yn yr holl gynhyrchiant dur ledled Cymru, yn y ffordd y gofynnodd amdano yn ei gwestiwn.

Diolch, Lywydd. Dywedwyd wrthym yn aml gan wleidyddion Llafur y byddai newid Llywodraeth yn San Steffan, yn eich geiriau chi, yn newid

'cyd-destun cynhyrchu dur yn y DU yn gyfan gwbl.'

Fe ddywedoch chi mai safbwynt Llywodraeth Cymru yw bod

'bargen well, ar gyfer dur ac i'r gweithlu, ar gael ac y dylai fod wedi bod yn fath o gytundeb a gafodd ei negodi rhwng Llywodraeth y DU a Tata.'

Pa fargen? Beth oedd gennych chi mewn golwg? Dywedodd y Prif Weinidog, am gynlluniau blaenorol Llywodraeth y DU, fod

'modd atal y canlyniad yr ydym ni'n ei wynebu a'r golled y mae'n ei chynrychioli, ac y gellir ei atal o hyd.'

Wel, sut? Rhaid bod cynllun wedi bod, oherwydd fe gafodd ei gostio, oni chafodd? Dywedodd Keir Starmer faint y byddai'n ei wario, neu faint mwy y byddai'n ei wario, felly sut y gallwch chi gostio cynllun heb fod yna gynllun? Nid yw dweud bod y Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn newydd yn ddigon da, oherwydd nid yw eich Llywodraeth Lafur chi yn newydd. Felly, pa waith a wnaethoch chi gyda'r costau hynny mewn golwg? Mae etholwyr sy'n wynebu colli eu swyddi, ac sy'n colli gobaith a dweud y gwir, wedi cysylltu â mi ar ôl pob datganiad o'r fath a glywsom, yn dweud, 'Beth fydd yn cael ei wneud?' 'Newid' oedd slogan ymgyrch etholiadol Llafur, felly beth sydd wedi newid nawr, yn ymarferol, nid yn rhethregol, i weithwyr dur a chontractwyr Port Talbot sy'n dibynnu ar Tata Steel, eu teuluoedd a'u cymunedau, neu a yw eu dyfodol nhw a'n gallu i gynhyrchu dur sylfaenol yn dal i fod yn ddarostyngedig i fympwyon cwmni rhyngwladol?

Wel, hoffwn atgoffa'r Aelod o'r pwyntiau a wneuthum eisoes mewn perthynas â'r ateb a roddais i Luke Fletcher. Rydym ddyddiau—lai nag wythnos—i mewn i dymor Llywodraeth newydd, sy'n dod â lefel newydd o ymrwymiad i wneud dur, i gynhyrchu dur, i'r economi, i strategaeth ddiwydiannol. Mae hwn yn dirlun sydd wedi newid ar gyfer dur. Nid wyf yn credu y bydd pobl sy'n gwylio'r ddadl hon yn disgwyl i Lywodraeth Lafur a etholwyd lai nag wythnos yn ôl fod wedi cwblhau trafodaethau gyda Tata o fewn dyddiau. Mae'r trafodaethau hyn yn parhau. Rwyf wedi bod yn glir iawn fod lefel yr ymgysylltiad, a lefel y cyflymder, y brys a'r adnoddau a ymrwymwyd i'r trafodaethau hynny, yn sylweddol uwch na'r hyn a welsom o dan y Llywodraeth flaenorol, a hoffwn ofyn i'r Aelod ganiatáu lle i bethau ddigwydd, er mwyn i'r trafodaethau hynny ddwyn ffrwyth, fel y mae pawb ohonom yn ei obeithio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Y cyfnod pleidleisio sydd nesaf ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch byddwn ni'n symud yn syth i'r pleidleisiau. Mae'r pleidleisiau heddiw ar eitem 7, sef dadl Plaid Cymru ar gyllid a phwerau datganoledig. Dwi'n galw am bleidlais, yn gyntaf, ar y cynnig heb ei ddiwygio. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Canlyniad y bleidlais, felly: o blaid 12, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

18:00

Eitem 6. Dadl Plaid Cymru—Cyllid a phwerau datganoledig. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Y gwelliant fydd nesaf, sef gwelliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Felly, pleidlais ar welliant 1, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi ei gymeradwyo, ac mae gwelliant 2, felly, yn cael ei ddad-ddethol.

Eitem 6. Dadl Plaid Cymru—Cyllid a phwerau datganoledig. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 27, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Cynnig NDM8634 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu canlyniad etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig.

2. Yn credu bod yr etholiad yn cynnig cyfle newydd i lywodraethau'r DU a Chymru gydweithio ar sail parch at ei gilydd a chydag ymdeimlad o ddiben cyffredin er budd pobl Cymru a'r DU gyfan.

3. Yn nodi’r sefyllfa heriol o ran cyllid cyhoeddus y DU a’r baich trethi ar aelwydydd yng Nghymru o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth flaenorol y DU.

4. Yn cydnabod y bydd camreoli economaidd Llywodraeth flaenorol y DU yn golygu y bydd yn cymryd amser i adfer y sefyllfa o ran y cyllid cyhoeddus.

5. Yn croesawu'r ymrwymiadau ym maniffesto Llafur y DU, gan gynnwys cynigion i adnewyddu cysylltiadau rhynglywodraethol, diweddaru Fframwaith Cyllidol Cymru, dychwelyd y gallu i wneud penderfyniadau am gronfeydd strwythurol ar ôl yr UE i Lywodraeth Cymru, datganoli cyllid cymorth cyflogaeth nad yw’n ymwneud â’r Ganolfan Byd Gwaith, ac ystyried datganoli cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau prawf.

6. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth newydd y DU i gryfhau datganoli ymhellach yng Nghymru.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn. 

Eitem 6. Dadl Plaid Cymru—Cyllid a phwerau datganoledig. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

9. Dadl Fer: Lle llawen i orffwys pawen—Darparu llety diogel i anifeiliaid anwes yng Nghymru

Y ddadl fer sydd nesaf. Mae'r ddadl fer heddiw yn cael ei chyflwyno gan Carolyn Thomas. 

Ac wrth i'r Aelodau adael yn dawel, rwyf am ganiatáu i Carolyn Thomas ddechrau ei chyfraniad pan fydd hi'n teimlo bod y Siambr yn ddigon tawel. Carolyn Thomas.

Diolch, Lywydd. Hoffwn roi munud o fy amser i James Evans a hefyd i Luke Fletcher. Diolch. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Billie-Jade o'r RSPCA a Dewi o'r Dogs Trust am eu cymorth wrth ddarparu ymchwil a thystiolaeth i gefnogi'r ddadl hon, 'Lle llawen i orffwys pawen—darparu llety diogel i anifeiliaid anwes yng Nghymru.' I lawer o bobl, mae eu hanifeiliaid anwes yn rhan o'u teuluoedd, ac yn rhoi cwmnïaeth, cysur a manteision iechyd meddwl cadarnhaol iddynt. Yn ôl yr RSPCA, mae mwy o bobl yng Nghymru yn dweud eu bod yn caru anifeiliaid nag yn unrhyw wlad arall yn y DU. Mae pobl ledled Cymru yn cydnabod manteision bod yn berchen ar anifail anwes, yn cynnwys cadw perchnogion yn iach drwy hybu eu systemau imiwnedd a’u hannog i ymarfer corff yn rheolaidd. Dangosir bod gan bobl hŷn sy’n mynd â’u cŵn am dro yn rheolaidd well symudedd yn eu cartrefi, ac mae tyfu i fyny gydag anifeiliaid anwes yn gwella sgiliau cymdeithasol plant, gan annog cyfrifoldeb a thosturi o oedran cynnar hefyd.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Er bod anifeiliaid anwes yn rhoi cymaint o fudd i ni, ar hyn o bryd mae anifeiliaid yn wynebu mwy o heriau nag erioed yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw, gyda hyd at un o bob pump o bobl yng Nghymru yn poeni am gost bwydo eu hanifeiliaid anwes, ac yn dorcalonnus, mae un o bob 10 yn torri'n ôl ar eu hangenrheidiau eu hunain ar hyn o bryd er mwyn bwydo eu hanifail anwes. Rydym hefyd wedi gweld cost biliau milfeddygol yn codi’n aruthrol yn ddiweddar, ac mae hyn, ynghyd â gostyngiad yn nifer y bobl sy’n talu am yswiriant anifeiliaid anwes, yn bryder difrifol o ran lles anifeiliaid. Wrth i lawer o aelwydydd ei chael hi'n anodd ymdopi, rhaid archwilio pob llwybr i sicrhau bod anifeiliaid anwes yn gallu aros mewn cartrefi da lle cânt gariad.

Mae’r DU hefyd yng nghanol argyfwng tai, a gwyddom fod gan 53 y cant o aelwydydd anifail anwes, ond dim ond 8 y cant o eiddo rhent sy’n cael eu hysbysebu fel rhai sy’n gyfeillgar i anifeiliaid anwes. Mae prinder cartrefi sy’n gyfeillgar i anifeiliaid anwes yn un o’r prif resymau pam fod pobl yn rhoi eu cŵn i ganolfannau ailgartrefu yng Nghymru, ac mewn cyfnod o dri mis, holodd 118 o bobl ynglŷn â rhoi eu cŵn i’r Dogs Trust, gan nodi newid llety neu gytundeb rhentu fel rheswm dros orfod cael gwared ar eu ci. Gall sgil-effeithiau iechyd meddwl y gwahanu gorfodol hwn fod yn ddinistriol i'r anifail ac i'r perchennog. Mae hefyd yn gwbl ddiangen; canfu tystiolaeth a gasglwyd gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai fod perchnogion anifeiliaid anwes yn gwneud tenantiaid rhagorol mewn gwirionedd, am eu bod yn fwy tebygol o aros mewn llety rhent am gyfnod estynedig o amser, ac nid yw'r mwyafrif helaeth o landlordiaid yn cael unrhyw ddifrod wedi'i achosi gan anifeiliaid anwes i'w heiddo o gwbl. Byddai gwneud anifeiliaid anwes yn gyfreithiol ddiofyn mewn cytundebau tenantiaeth yn caniatáu i fwy o rentwyr gadw neu fabwysiadu anifeiliaid a mwynhau'r buddion niferus y mae anifeiliaid anwes yn eu darparu. Yn anffodus, mae prinder cartrefi rhent sy’n gyfeillgar i anifeiliaid anwes hefyd yn gwaethygu’r sefyllfaoedd erchyll i berchnogion anifeiliaid anwes sy’n wynebu trais domestig, gan ei gwneud yn anos byth iddynt ddod o hyd i rywle i ddianc. Mae cam-drin anifeiliaid yn digwydd mewn 88 y cant o deuluoedd lle cofnodwyd bod cam-drin plant yn gorfforol wedi digwydd, ac mae anifeiliaid anwes yn aml yn cael eu defnyddio fel blacmel mewn achosion o gam-drin domestig.

Mae gwasanaeth achub Cats Protection yn wasanaeth maethu cyfrinachol rhad ac am ddim i gathod y mae eu teuluoedd yn ffoi rhag cam-drin domestig fel y gallant fod yn dawel eu meddwl y bydd eu cath yn cael gofal hyd nes y cânt eu haduno'n ddiogel. Ymdrinnir ag atgyfeiriadau gan dîm arbenigol a phrofiadol. Maent yn cefnogi perchnogion a atgyfeirir at y gwasanaeth, yn trefnu i gasglu cathod ac yn trefnu lleoliadau maeth drwy rwydwaith gwych o wirfoddolwyr achub ymroddedig. Ac mae'r Dogs Trust yn darparu gwasanaeth maethu cŵn arbenigol tebyg yn rhad ac am ddim er mwyn helpu pobl i ddianc rhag cam-drin domestig. Fe'i gelwir yn Brosiect Rhyddid. Mae'r gwasanaethau hyn yn gwneud gwaith anhygoel ac yn rhoi amser i oroeswyr ddianc rhag camdriniaeth a sefydlu cartref newydd heb boeni am ddiogelwch eu hanifail anwes.

Byddai diwygio cymalau anifeiliaid anwes ar gyfer rhentu preifat hefyd yn gam cadarnhaol i sefydliadau lles anifeiliaid fel llochesi a chanolfannau achub ac ailgartrefu sydd ar hyn o bryd yn ei chael hi'n anodd ymdopi gyda chostau uwch ar adeg pan fo llai o bobl mewn sefyllfa i ymrwymo i berchnogaeth anifeiliaid anwes. Ar hyn o bryd, mae llawer o sefydliadau o’r fath yn llawn dop, gan gynnwys yr RSPCA ym Mryn-y-maen yng ngogledd Cymru, a’r llynedd, daeth y ganolfan o hyd i gartrefi newydd ar gyfer 349 o anifeiliaid, gan gynnwys cŵn, cathod, cwningod, ffuredau a mwy. Gyda chymaint o anifeiliaid a achubwyd angen cartrefi parhaol, mae'n hanfodol fod pobl yn cael eu hannog yn weithredol i ystyried mabwysiadu anifail anwes yn hytrach na siopa am un. A gallech roi cynnig ar faethu hefyd. Mae hyn hefyd yn addas ar gyfer rhywun a hoffai fod yn berchen ar anifail anwes ond sy'n poeni am yr ymrwymiad neu'r gost, ac yn aml iawn, bydd canolfannau achub yn talu biliau milfeddygol ac yn helpu gyda chostau bwyd i gartrefi maeth. Nid yw maethu ci yn ymrwymiad oes; mae'n ymrwymiad i achub bywyd. Byddai rheoleiddio llochesi a chanolfannau achub ac ailgartrefu gan Lywodraeth Cymru hefyd yn sicrhau bod gan y cartrefi dros dro lle cedwir anifeiliaid a achubwyd safonau lles da a bod gan y rhai sy’n gofalu am anifeiliaid agored i niwed y sgiliau, y profiad, y wybodaeth a’r arian i allu gwneud hynny.

Rydym wedi trafod rasio milgwn yn helaeth yn y Siambr a’r angen am waharddiad yng Nghymru. Mae’r data diweddaraf gan Fwrdd Milgwn Prydain yn dangos bod mwy na hanner y milgwn y rhoddir y gorau i'w rasio—ac fel arfer, mae’r rhan fwyaf ohonynt yn iau na phum mlwydd oed—yn cael eu trosglwyddo i elusennau, ac mae hyn yn cyfateb i filoedd o gŵn. Byddai gwahardd yr arfer creulon hwn yng Nghymru yn golygu y byddai angen ailgartrefu llai o gŵn ar ddiwedd eu gyrfa rasio, gan ddiogelu lles anifeiliaid ac ysgafnhau’r baich ar elusennau ailgartrefu.

Yn y dyddiau heriol hyn, mae’n bwysicach nag erioed fod pobl yn sicrhau eu bod mewn sefyllfa i ymrwymo i fod yn berchen ar anifail anwes, eu bod wedi gwneud gwaith ymchwil perthnasol, ac nad yw’r penderfyniadau a wnânt yn cael eu harwain gan ffasiynau neu edrychiad anifail anwes—eu bod yn ddatganiad ffasiwn—cyn iddynt gael cartref.

Mae bridio ar gyfer cydffurfiadau eithafol wedi dod yn fwyfwy cyffredin dros y degawd diwethaf, fel y dangoswyd gan y cynnydd yn y nifer yr anifeiliaid byrben. Anifeiliaid anwes ag wynebau gwastad yw'r rheini; yn aml iawn, ni allant anadlu. Mae hyn yn cynnwys nifer o fridiau poblogaidd o gŵn, cathod a hyd yn oed cwningod. Gydag anifeiliaid anwes byrben yn fwy tebygol o fod angen ymyrraeth filfeddygol yn amlach, mae'n hanfodol fod perchnogion yn meddwl yn ofalus iawn ai prynu un o'r anifeiliaid hyn yw'r peth iawn i'w wneud. Wrth baru perchnogion â'r anifail anwes cywir, mae'n rhaid i chi feddwl a oes angen mynd â nhw am dro, efallai nad ydynt yn hoffi mynd am dro, a oes angen eu rhoi ar dennyn, a ydynt yn hoffi rhedeg drwy gaeau, a ydynt yn gi mawr neu'n gi bach. Weithiau, y cŵn lleiaf yw'r rhai mwyaf ffyrnig, felly hoffwn sicrhau bod pobl yn meddwl yn ofalus iawn am hyn.

Roeddwn yn falch o weld bod Llywodraeth Lafur newydd y DU wedi ymrwymo i waharddiad mewn perthynas â mewnforio cŵn bach yn gyfreithlon. Gallai gwaharddiad ar fewnforio cŵn sydd â'u clustiau wedi'u tocio ddod o dan y ddeddfwriaeth hon hefyd. Gall anffurfio ci arwain at effaith hirdymor ar ei ymddygiad a'i allu i gyfathrebu. Byddai gwaharddiad o'r fath yn helpu i gau bwlch sy'n cael ei ecsbloetio ar hyn o bryd gan y rhai sy'n ceisio blaenoriaethu elw dros les drwy honni bod y cŵn wedi'u mewnforio â'u clustiau wedi'u tocio yn barod yn hytrach na bod y driniaeth wedi digwydd yma.

Mae sicrhau bod perchnogion a darpar berchnogion cŵn yn gallu cael mynediad at y canllawiau a’r cyngor perthnasol yn hynod bwysig i gynorthwyo perchnogion i ddarparu cartrefi da i’r cŵn. Dylai hyn fod yn wir ni waeth pa frîd y mae unigolyn yn berchen arno. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn darparu’r cyngor a’r canllawiau perthnasol drwy ei gwefan, yn ogystal â’i chod ymarfer ar les cŵn. Gallai hyrwyddo’r canllawiau a’r cod yn well fel rhan o ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd eu gwneud yn hygyrch i fwy o bobl, gyda’r potensial hefyd i adeiladu arnynt ymhellach. Er enghraifft, gallai Llywodraeth Cymru ddarparu adnoddau a chyngor ar sut i nodi a deall iaith corff cŵn, cyfeirio at hyfforddwyr cŵn cymeradwy, ymddygiadwyr a dosbarthiadau cŵn bach, a rhoi cyngor i berchnogion y gallai fod angen iddynt hyfforddi eu ci i wisgo safnffrwyn hefyd, os oes angen. Byddai atgoffa perchnogion cŵn o'u rhwymedigaethau cyfreithiol i gadw eu hanifeiliaid dan reolaeth briodol bob amser yn addas hefyd.

Gwn fy mod wedi sôn am lawer o bethau yma heddiw, ond rwy'n gobeithio fy mod wedi tynnu sylw at y meysydd allweddol i’w gwella o ran darparu’r cartref perffaith i anifeiliaid anwes yng Nghymru. Mae gan bob un ohonom rôl i’w chwarae yn sicrhau ansawdd bywyd da i anifeiliaid yng Nghymru. Er bod perchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid anwes yn hynod bwysig, ni ellir diystyru rôl y rhai sy'n gwneud penderfyniadau fel Llywodraeth Cymru a ninnau fel Aelodau o’r Senedd. Mae'n hanfodol fod unrhyw newidiadau deddfwriaethol yn ystyried ymdeimladoldeb anifeiliaid a bod y penderfyniadau a wnawn ar ran anifeiliaid—mae ganddynt oll deimladau, mae ganddynt oll emosiynau, fel pobl—er eu lles nhw yn ogystal â'n lles ni. Mae angen inni fod yn llais iddynt hwy hefyd. Diolch.

18:10

A gaf i ddweud, Carolyn, ei bod yn hyfryd gweld un o'r dadleuon byr hyn ar fater y gwn eich bod chi, Luke Fletcher a llawer o Aelodau eraill yn y Siambr hon yn teimlo'n angerddol yn ei gylch, sef lles ein hanifeiliaid anwes ledled Cymru? Hoffwn ddiolch i chi hefyd am roi munud o'ch amser i mi siarad am hyn. Mae’n siŵr fy mod hanner ffordd drwy fy munud yn barod, Ddirprwy Lywydd.

Ond un peth sy'n peri pryder i mi, ac rydych chi wedi'i godi, Carolyn, yw pobl sy'n prynu anifeiliaid anwes, boed yn gŵn, cathod neu anifeiliaid anwes egsotig, heb wybod yn iawn am y cyfrifoldebau gofalu a ddaw gyda rhai o'r anifeiliaid hyn. Credaf efallai fod hynny'n rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru—gwn efallai nad yw ym mhortffolio'r Dirprwy Weinidog; mae'n debyg ei fod yn y portffolio materion gwledig a newid hinsawdd—weithio arno mewn gwirionedd, gydag ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd ar berchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid anwes. Dyna ble gwelwn y problemau’n codi, onid e, gyda phlant ifanc yn cael eu brathu, yn cael anafiadau sy’n newid bywydau, anifeiliaid anwes yn gorfod mynd i ganolfannau ailgartrefu, am nad yw pobl yn deall yn iawn faint o ymrwymiad sydd ei angen i feithrin a gofalu am yr anifeiliaid anwes hynny. Un pwynt rwy'n hoffi ei ailadrodd wrth bobl, sy'n bwysig iawn i mi, yw pan fyddwch yn mynd allan i brynu anifail anwes, nid ar gyfer y Nadolig yn unig y maent, nid am bum munud yn unig y maent, ac nid y ffasiwn ddiweddaraf mohonynt; maent yn rhywbeth sy'n mynd i fod gyda chi, fel fy nghi diwethaf—bu gyda mi am 14 mlynedd; nid wyf am siarad am y peth rhag imi ddechrau crio, ond bu gyda mi am 14 mlynedd—ac maent yn un o'r pethau hynny, maent yn aelodau o'ch teulu, ac mae'n rhaid ichi ofalu amdanynt am weddill eu bywydau. Ac rwyf bob amser yn dweud wrth bobl hefyd, 'Peidiwch â mynd allan i brynu cŵn a welwch ar y gwahanol sianeli gwerthu, fel Facebook neu beth bynnag. Ewch i gael ci o ganolfan ailgartrefu, os gallwch.' Mae llawer o elusennau da ar gael sy'n ailgartrefu pob math o gŵn, ac mae angen cartrefi da a bywydau da ar bob un ohonynt. Ond diolch yn fawr iawn, Carolyn, am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw.

Diolch am roi munud o'ch amser i mi, Carolyn. Hoffwn sôn am ddau faes penodol yma. Un ohonynt yw llety rhent preifat, yn benodol yr heriau a wynebir gan bobl ddigartref sy'n berchen ar anifeiliaid anwes. Nawr, nid yw'r rhan fwyaf o ddarpariaethau llety digartrefedd yn caniatáu anifeiliaid anwes, felly, yn aml, mae'r rheini sy'n ddigartref ond sydd ag anifail anwes yn gorfod penderfynu rhwng cael gwared ar eu cydymaith, sydd, yn amlach na pheidio, wedi bod drwy'r felin gyda nhw, a pharhau i fod yn ddigartref. Nawr, mae hwnnw'n benderfyniad ofnadwy i orfod ei wneud, a byddwn yn gobeithio y gallai'r Llywodraeth wneud rhywbeth i sicrhau nad yw pobl ag anifeiliaid anwes sy'n wynebu digartrefedd yn cael eu rhoi dan anfantais annheg wrth geisio dod o hyd i lety a cheisio dod oddi ar y stryd.

Hoffwn adleisio rhywbeth a ddywedodd James hefyd ynglŷn â pherchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid anwes. Credaf fod angen ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o'r gwahanol fridiau o gŵn—hynny yw, mae gan wahanol fridiau o gŵn anghenion gwahanol; mae anghenion chihuahua yn mynd i fod yn wahanol iawn i anghenion ci Alsasaidd. Ac rwy'n credu, weithiau, fod penderfyniadau'n cael eu gwneud ar sail pa mor cŵl y mae'r brîd penodol hwnnw'n edrych. Roeddwn yn gwybod yn union beth oeddwn i'n ei wneud pan ddewisais gorfilgi; roeddwn yn gwybod y byddent yn ddiog ac roeddwn yn gwybod y byddent yn dawel—perffaith i mi, tebyg iawn i mi—ond mae angen inni sicrhau bod pobl yn gwybod beth sydd o'u blaenau, eu bod yn gallu ymdopi â'r ci, ymdopi ag anghenion y ci ac ymdopi ag anian y ci. Fel arall, rydym yn mynd i weld y senarios a welsom yn ddiweddar yn digwydd yn rhy aml.

18:15

A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet i ymateb i'r ddadl. Rebecca Evans.

Member
Rebecca Evans 18:16:00
Cabinet Secretary for Finance, Constitution and Cabinet Office

Diolch. A diolch yn fawr iawn i Carolyn Thomas am godi’r mater hwn, sydd mor bwysig i gymaint o bobl. Rwy'n falch iawn o gael cyfle i ymateb ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio i'r ddadl y prynhawn yma. Hoffwn gydnabod, i gynifer o bobl, fod anifeiliaid anwes yn fwy nag anifeiliaid yn unig; maent yn aelodau o'r teulu ac maent yn rhoi cwmnïaeth, cysur a chariad diamod i ni. A'n cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod eu diogelwch a'u lles yn cael eu diogelu bob amser, ac yn arbennig felly pan fo amgylchiadau'n gwneud eu cartrefi presennol yn anaddas i fyw ynddynt neu'n anniogel.

Mae tystiolaeth yn dangos i ni y gall anifeiliaid anwes, yn enwedig cathod a chŵn, leihau straen, lleihau pryder ac iselder, lleddfu unigrwydd, annog gweithgarwch corfforol a chwarëusrwydd, a hyd yn oed gwella iechyd cardiofasgwlaidd. A gall gofalu am anifail hefyd helpu plant i dyfu i fyny yn teimlo'n fwy diogel ac yn fwy egnïol. Ac efallai'n bwysicach na dim, gall anifail anwes ychwanegu llawenydd gwirioneddol at fywyd.

Yng Nghymru, rydym yn deall y gwerth y mae pobl yn ei roi ar eu hanifeiliaid anwes, ac mae’n ddealladwy fod pobl sydd am rentu cartrefi yn y sector preifat yn awyddus i ddod o hyd i lety priodol sy’n darparu noddfa nid yn unig iddynt hwy eu hunain, ond i’w hanifeiliaid anwes hefyd. O dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, gall landlordiaid a deiliaid contractau gytuno ar delerau ychwanegol ar gyfer cadw anifeiliaid anwes. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau sy’n nodi y dylai unrhyw gymal anifail anwes ganiatáu i ddeiliaid contractau ofyn am ganiatâd i gadw anifail anwes ac na chaniateir i’r landlord wrthod y cais yn afresymol. Wrth gwrs, mae cael anifail anwes yn ymrwymiad difrifol ac mae darparu llety diogel iddynt yn allweddol i’w lles a’u hiechyd. Mae diogelwch y llety yr un mor berthnasol i'r anifail anwes ag i'r perchennog.

Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yn nodi’n glir y rhwymedigaethau ar y landlord i sicrhau, ar ddechrau a thrwy gydol y contract meddiannaeth, fod yr annedd yn ffit i bobl fyw ynddi, ac mae’r rheoliadau hyn yn nodi 29 o faterion ac amgylchiadau y mae'n rhaid eu hystyried wrth bennu a yw eiddo yn ffit i fyw ynddo. Ac mae'r rhain yn cynnwys lleithder, oerfel a glanweithdra a gofynion penodol, megis gosod larymau mwg gwifredig sy'n gweithio, larymau carbon monocsid ac archwiliadau trydanol rheolaidd. Mae pob un o’r darpariaethau hyn yn darparu mesurau diogelu rhag risgiau, niwed a pherygl posibl i ddeiliaid contractau yng Nghymru, gan gynnwys eu teuluoedd a’u hanifeiliaid anwes.

Gwn fod gallu perchnogion anifeiliaid anwes i gael llety yn y sector rhentu preifat yn fater y mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi clywed tystiolaeth yn ei gylch, fel rhan o’i ymchwiliad parhaus i’r sector rhentu preifat. Fel yr amlygwyd yn ei thystiolaeth i’r pwyllgor, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi mynegi ei chefnogaeth i ganllawiau arferion gorau’r RSPCA ar gyfer anifeiliaid anwes mewn eiddo rhent preifat. Ynghyd â chanllawiau Homes for All, mae’r canllawiau arferion gorau hyn wedi’u rhannu â landlordiaid preifat ac asiantiaid drwy Rhentu Doeth Cymru. Mae’r canllawiau’n cynnig cyfle unigryw i hyrwyddo i’r sector rai o’r materion allweddol y dylid eu hystyried ynghylch cadw anifeiliaid anwes mewn llety rhent preifat, gan chwalu ar yr un pryd y stigma a’r ofn sy'n rhwystro rhai landlordiaid rhag caniatáu hyn.

Drwy Rhentu Doeth Cymru, rydym hefyd wedi rhannu gwaith ymchwil diweddar gan Brifysgol Huddersfield, a gomisiynwyd gan elusen lles anifeiliaid Battersea, ar effaith ariannol perchnogaeth ar anifeiliaid anwes mewn eiddo rhent. Mae canfyddiadau’r ymchwil yn eithaf grymus, lle dywedodd tri o bob pedwar landlord nad oeddent wedi dod ar draws difrod a achoswyd gan anifail anwes, ac i’r rhai a oedd, cyfanswm cost y difrod oedd £300, o gymharu â £775 ar gyfer difrod na chafodd ei achosi gan anifail anwes. Er y gall fod gan landlordiaid resymau dilys dros beidio â chaniatáu anifeiliaid anwes, yn aml, mae cyfaddawdau y gellir eu cyrraedd, megis cael cymal yn y contract sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r tenant dalu am lanhawr proffesiynol ar ddiwedd tenantiaeth, neu flaendal tenantiaeth ychydig bach uwch i dalu am unrhyw ddifrod posibl.

Yng Nghymru, mae ein hagwedd gefnogol tuag at alluogi pobl i gael llety yn y sector rhentu preifat a'r sector tai cymdeithasol wedi’i gwreiddio yn y wybodaeth y gall caniatáu i anifeiliaid anwes domestig fyw gyda’u perchnogion gynyddu’r gobaith o drefniant rhentu llwyddiannus, gan godi safonau lles anifeiliaid ar yr un pryd. Mae lles anifeiliaid da, wrth gwrs, yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon, a’n huchelgais yw i bob anifail yng Nghymru fyw bywyd da. Yng Nghymru, rydym yn ymfalchïo yn ein safonau lles anifeiliaid rhagorol, a gyflawnwyd drwy weithio gyda rhanddeiliaid i annog perchnogaeth gyfrifol.

Hoffwn achub ar y cyfle hefyd i dynnu sylw at bwysigrwydd anifail anwes i rywun sy'n ddigartref. Gwyddom fod y ffactorau sy’n cyfrannu at ddigartrefedd yn gymhleth, ond yn aml, maent yn deillio o chwalfa deuluol, profedigaeth neu golli swydd—gall pob un ohonynt arwain at straen sylweddol ar iechyd meddwl. Drwy gydol yr amser hwn, i’r unigolyn sy’n ddigartref, mae eu ci neu anifail arall yn hanfodol i’w helpu i ymdopi â’r sefyllfa y maent ynddi, ac efallai mai dyma’r unig ffactor cyson a dibynadwy yn eu bywydau. I bobl sy’n profi trawma digartrefedd, yn enwedig y rheini ar y pen mwyaf acíwt sy’n cysgu allan, mae gallu cael llety lle gallant gadw eu hanifail anwes yn agwedd hanfodol ar ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n ystyriol o drawma.

Mae hyn yn amlwg yn ein menter Tai yn Gyntaf, sy’n darparu tai sefydlog a dull o weithredu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n ystyriol o drawma gyda phobl sy'n aml â hanes hir o fod yn ddigartref a chysgu allan. Un o egwyddorion allweddol Tai yn Gyntaf yw rhoi dewis a rheolaeth i’r unigolyn. Felly, pan fo rhywun ag anifail anwes y maent yn dibynnu arno fel cydymaith yn cael eu nodi ar gyfer cymorth o dan y rhaglen, cânt eu cynorthwyo i gael llety addas a chynaliadwy sy’n derbyn yr anifail anwes.

Mae cod canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol ar ddyrannu llety ar gyfer pobl ddigartref yn nodi'r berthynas gadarnhaol a allai ddatblygu rhwng rhywun sy'n ddigartref a'u hanifail anwes. Mae'n annog awdurdodau i ddod o hyd i lety brys neu lety dros dro sy'n caniatáu i'r berthynas gadarnhaol â'r anifail anwes barhau. Mae trafodaethau gyda rhai awdurdodau lleol yn awgrymu newid diwylliannol amlwg, gyda mwy o ddarparwyr yn fodlon caniatáu i anifeiliaid anwes gael llety gyda’u perchnogion. Ac rydym yn gobeithio y bydd landlordiaid yn y sector rhentu preifat, sy'n parhau i fod yn betrus ynghylch darparu eiddo rhent i bobl ag anifeiliaid anwes, yn ystyried manteision amlwg ymagwedd o'r fath.

Ac yn hollbwysig, ni waeth ble y bydd pobl yn byw, rydym yn cydnabod bod cŵn ac anifeiliaid anwes yn aml yn cael eu hystyried yn aelodau o’r teulu a bod angen eu hystyried pan fydd pobl yn chwilio am le i’w alw’n gartref. Rwy'n ategu teimladau Carolyn Thomas yn llwyr a’r Aelodau eraill sydd wedi siarad heddiw am ddarparu llety diogel i anifeiliaid anwes, ac mae’n cynnig manteision i'r anifail anwes a’r perchennog. Rwy'n gwybod bod ystod eang o agweddau pwysig eraill wedi'u crybwyll yn y ddadl heddiw, a gwn y bydd gan y Gweinidog sy’n gyfrifol am les anifeiliaid yn enwedig ddiddordeb brwd iawn ynddynt.

18:20

Daeth y cyfarfod i ben am 18:23.