Y Cyfarfod Llawn
Plenary
09/07/2024Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mike Hedges.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fformiwla Barnett a sut y mae'n gymwys i Gymru? OQ61413
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau diwygiadau pwysig i fformiwla Barnett yn ystod y blynyddoedd diwethaf i roi ei chyllid ar sail fwy cynaliadwy. Fodd bynnag, mae'r fformiwla yn parhau i fod yn ddiffygiol fel mecanwaith hirdymor ar gyfer dyrannu cyllid ar draws y Llywodraethau datganoledig yn y DU.
Diolch. Ychydig flynyddoedd yn ôl, treuliais sawl trafodaeth yn egluro wrth Richard Wyn Jones bod elfen o angen yn y fformiwla. A dydyn ni erioed wedi rhoi digon o glod i Carwyn Jones am negodi llawr Barnett. Ceir consensws bod angen ei newid, ond i beth? Ceir dau newid a fyddai'n gwneud Cymru'n llawer iawn gwaeth ei byd, sef cyfran o'r boblogaeth, neu ein henillion treth llai ein cyfran o wariant San Steffan. Rydym ni wedi cael datganoli tameidiog ac anghymesur, y mae angen mynd i'r afael ag ef. A wnaiff y Prif Weinidog, fel mater o frys, gysylltu â Phrif Weinidog y DU a gofyn am adolygiad annibynnol o gyllid Cymru drwy fformiwla Barnett, gan greu fformiwla newydd?
Diolch am y cwestiwn. Yn ogystal â Carwyn Jones, y Prif Weinidog, mae hefyd yn deg myfyrio, gan ei fod yn y Siambr, y bu gan y Gweinidog Cyllid ar y pryd ran i'w chwarae yn y trafodaethau uniongyrchol hynny i gyflwyno elfen seiliedig ar anghenion ychwanegol yn y fformiwla ariannu, a bod y gwaith a wnaeth Mark Drakeford yn golygu ein bod ni mewn sefyllfa lawer gwell nag ar ddechrau datganoli o ran y fformiwla. Ond rydym ni'n cydnabod nad yw'n ateb hirdymor. Dyna pam mae'r ymrwymiadau'r maniffesto i ddiweddaru'r fframwaith cyllidol i'w croesawu, ac mae mwy o waith i ni ei wneud. Tan y byddwn ni'n sicrhau gwell fformiwla hirdymor, yn unol â'r cynigion yn 'Diwygio ein Hundeb', mae cael tegwch ar Barnett wir yn bwysig. Rydym ni wedi arfer yn ystod y pedair neu bum mlynedd diwethaf â chael ymdrechion rheolaidd osgoi Barnett hefyd. Ac rwy'n credu, nawr bod mwy o ddatganoli sylweddol yn Lloegr hefyd, gyda meiri metro, y bydd yn ein helpu i wneud y ddadl bod cyllid ar gyfer cenhedloedd y DU, mewn gwirionedd, ac ar gyfer rhanbarthau Lloegr, wir yn bwysig. Ac fe wnaeth Prif Weinidog y DU addewid yn ei gynhadledd gyntaf i'r wasg am y ffaith bod angen i rym a chyfrifoldeb am wneud penderfyniadau ddod allan o San Steffan. Mae hynny'n newyddion da i ni, yn newyddion da i weddill y DU, ac, rwy'n credu, bydd yn ein rhoi ar drywydd i fformiwla ariannu hirdymor decach.
Prif Weinidog, rwyf i wedi gwneud fy safbwynt yn eglur iawn dros nifer o flynyddoedd o ran fformiwla Barnett. Rwy'n credu ei fod wedi dyddio a bod angen model ariannu tecach, sy'n seiliedig ar anghenion yma yng Nghymru. Nawr, fel y gwyddoch chi, mae sawl gwahanol fodel yn cael ei ddefnyddio ledled Ewrop, gan gynnwys modelau ffederaliaeth ariannol yn yr Almaen, mecanweithiau cydraddoli cyllidol yn Ffrainc, ac ati. Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar y modelau a ddefnyddir mewn gwledydd Ewropeaidd eraill, ac a allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa fath o fodel ariannu rydych chi'n ei gredu sy'n gweithio er budd pennaf Cymru a'r DU?
Wel, rydym ni wedi cyflwyno cynigion Llywodraeth Cymru yn 'Diwygio ein Hundeb', i chwilio am ddull seiliedig ar egwyddorion o ymdrin â fframweithiau cyllid a chyllidol y DU. Mae'n beth wirioneddol gadarnhaol. Ceir cydnabyddiaeth bod y fframwaith cyllidol presennol ar gyfer Cymru wedi dyddio. Ac mae hynny'n bwysig iawn mewn amrywiaeth eang o feysydd, o ran yr hyblygrwydd sydd gennym ni ynghylch rheoli ein harian. Gwelsom hyn yn ystod y pandemig, pan, mewn gwirionedd, oherwydd ein bod ni wedi bod yn fwy effeithlon o ran y ffordd yr oeddem ni wedi gwario arian a'i ddefnyddio, gawsom ein trin wedyn, mewn gwirionedd, fel adran arall o Lywodraeth y DU, lle, mewn gwirionedd, roedd ganddyn nhw danwariant enfawr yn yr hyn yr oedden nhw'n ei wneud. Roedd hynny'n golygu, o ran arian y dylai Cymru fod wedi gallu ei drosglwyddo mewn ffordd gwbl arferol, y gwnaed penderfyniad gan y Trysorlys i beidio â chaniatáu hynny. Bydd yr hyblygrwydd ehangach sydd ei angen arnom ni wrth ddiweddaru'r fframwaith cyllidol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth i ni symud tuag at y gyfres o gynigion a gyflwynwyd gennym ni yn 'Diwygio ein Hundeb'.
Mae cwestiwn 2 [OQ61405] wedi'i dynnu'n ôl. Cwestiwn 3, Vikki Howells.
3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi Eisteddfod Genedlaethol 2024? OQ61408
Diolch am y cwestiwn. Rwy'n falch bod cydweithio rhyngom ni â'r Eisteddfod Genedlaethol yn gryfach nag y bu erioed. Trwy gydweithio, rŷn ni'n sicrhau bod pawb, o bob cefndir, yn cael profi ein diwylliant a'r Gymraeg. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at fynychu'r Eisteddfod fel Prif Weinidog am y tro cyntaf.
Diolch, Prif Weinidog. Ar 3 Awst, mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Bontypridd—y tro cyntaf iddi gael ei chynnal yn y de ers 2010. Ar ôl i'r cyhoeddiad gael ei wneud yn Aberdâr yn fy etholaeth i y llynedd, a chyda rhaglen o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ledled ardal gyfan yr awdurdod lleol, mae hwn wir yn ddathliad i Rondda Cynon Taf gyfan. Rwy'n awyddus ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y manteision diwylliannol, addysgol ac economaidd hirdymor o hyn. Felly, Prif Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau etifeddiaeth sy'n para i'r gymuned leol yn sgil yr Eisteddfod?
Mae'n gwestiwn da iawn, ac rwy'n falch eich bod wedi atgoffa pawb bod y cyhoeddiad wedi cael ei wneud yn Aberdâr. Efallai fod y digwyddiad ffisegol yn digwydd yn etholaeth y Cwnsler Cyffredinol, ond mae wir yn ddigwyddiad i RhCT gyfan. Mae'r budd economaidd a amcangyfrifir dros £22 miliwn i'r ardal leol. Ond, mae'n fwy nag ymdeimlad o falchder yn unig; mae'n berthynas dwy flynedd mewn gwirionedd, o'r cyhoeddiad drwodd a thu hwnt, ac rwy'n gobeithio y bydd yn gadael etifeddiaeth a phositifrwydd sydd wir yn para. Mae'n ymwneud â chofio bod yr Eisteddfod a'r iaith a'r diwylliant yn perthyn i bob un ohonom ni, a sut rydym ni'n cael mynediad atyn nhw gyda'r gallu iaith Gymraeg sydd gennym ni. Rwy'n credu bod y lleoliad, mewn gwirionedd—ei wneud yn wirioneddol hygyrch trwy barc Ynysangharad—yn gam da iawn ymlaen hefyd. Rwy'n gwybod bod rhai pobl yn hoffi mynd i babell fawr ymhellach i ffwrdd o ganolfan boblogaeth, ond mae cael cymysgedd o ran sut mae'r Eisteddfod yn gweithio rwy'n credu yn helpu i'w gwneud yn hygyrch, o un Eisteddfod i'r llall. Rydym ni'n buddsoddi arian yn fwriadol i wneud yn siŵr bod pobl sy'n dod o gefndiroedd incwm is yn gallu cael mynediad at yr Eisteddfod hefyd. Rydym ni wedi cynorthwyo hynny gyda £350,000 eleni—datganiad gwirioneddol o'r ffaith fod yr iaith a'r diwylliant yn perthyn i bob un ohonom ni, waeth beth yw ein gallu yn y Gymraeg. Edrychaf ymlaen at ymweld â'r Eisteddfod a'i mwynhau fy hun ac at gael y cyfle i arddangos fy sgiliau fel oedolyn sy'n ddysgwr Cymraeg parhaus.
Prif Weinidog, mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ddigwyddiad hynod bwysig i ardal ei chynnal, ac rwyf i wrth fy modd ei bod yn cael ei chynnal yn fy nhref enedigol, Pontypridd eleni, sef cartref anthem genedlaethol Cymru. Nid yn unig y bydd yn dod â thwristiaeth i'r dref, ond bydd yn sicrhau budd economaidd sylweddol ac yn arddangos yr hyn sydd gan yr ardal i'w gynnig. Fodd bynnag, fel y byddwch yn gwybod, mae Pontypridd wedi dioddef lefelau uchel o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gysylltiedig ag alcohol a chyffuriau ers cryn amser. Mae cyngor RhCT wrthi'n ymgynghori ar adnewyddu ei orchymyn diogelu mannau cyhoeddus sydd wedi bod ar waith ers 2018 ac sy'n cynnwys canol y dref, parc coffa Ynysangharad, a'r gorsafoedd rheilffordd a bysiau. Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn debygol o ddenu cannoedd o filoedd o ymwelwyr i Bontypridd dros y naw diwrnod y mae'n cael ei chynnal. Gyda hyn mewn golwg, rwy'n awyddus i wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo'r heddlu lleol a'r cyngor i helpu i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Diolch.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig myfyrio, pryd bynnag a ble bynnag y cynhelir yr Eisteddfod, bod partneriaeth gref iawn rhwng yr Eisteddfod ei hun, yr awdurdod lleol sy'n ei chynnal ac, yn wir, Llywodraeth Cymru a sefydliadau partner eraill, gan gynnwys yr heddlu wrth gwrs. Felly, rwy'n falch iawn o'r ffaith ein bod ni'n darparu £1 filiwn o gyllid craidd a'r symiau ychwanegol y cyfeiriais atyn nhw mewn ymateb i Vikki Howells i'w gwneud yn wirioneddol hygyrch i bobl o bob cefndir. Felly, bydd sgyrsiau gyda'r heddlu, gyda'r awdurdod lleol a chyda'r Llywodraeth ynglŷn â sut rydym ni'n rheoli'r Eisteddfod, mewn amgylchedd sy'n gyffredinol yn ddigwyddiad sy'n addas i'r teulu, lle gall ac y bydd teuluoedd yn mynychu ac yn gwneud yr ymdrech i fynd yn fwriadol. Ond, mewn gwirionedd, y traffig achlysurol gan bobl ym Mhontypridd a'r cyffiniau—. Rwyf i wir yn edrych ymlaen at fynd i'r Eisteddfod, at weld pobl yn cael mynediad at yr Eisteddfod, rhai ohonyn nhw am y tro cyntaf, a'i mwynhau mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar. Dyna'r wyf i wedi ei ganfod erioed pan wyf i wedi bod i'r Eisteddfod, yn fy nghyfnod presennol fel Aelod o'r Senedd a hefyd pan oeddwn i wir yn ŵr ifanc ac yn llywydd UCM Cymru, yn mynd i'r Eisteddfod ac yn teimlo croeso gwirioneddol ar y maes ac yn rhoi cynnig ar y darnau o Gymraeg, yr wyf i'n gobeithio bod gen i fwy ohonyn nhw yn ystod tua'r 20 mlynedd diwethaf.
Rydyn ni'n lwcus iawn heddiw gan fod gennym ni senedd Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James efo ni, sef yr ysgol Gymraeg agosaf at faes yr Eisteddfod. Dwi’n gwybod eu bod nhw wedi bod wrthi yn paratoi bunting, baneri, ac yn edrych ymlaen yn arw at gael yr Eisteddfod yn eu tref nhw. Felly, dwi eisiau dilyn ymlaen o bwynt Vikki Howells—mae’r gwaddol yn sicr i’w deimlo. Mae’r ffaith bod gyda ni gymaint o ddigwyddiadau Cymraeg yn mynd ymlaen wedi bod yn ffantastig. I rywun sydd fel arfer yn trio mynd i bopeth Cymraeg, mae wedi bod yn amhosibl mynd i bopeth, sydd yn beth prin iawn mewn ardal fel Pontypridd. Ond, y gofid ydy bod y bwrlwm yma yn mynd i ddod i ben. Mae yna nifer o ffynonellau ariannol, er enghraifft, wedi mynd i mewn i greu’r digwyddiadau yma. Felly, gaf i ofyn, fel rhan o’r strategaeth 'Cymraeg 2050', sut ydyn ni am sicrhau’r gwaddol pendant hwnnw, y twf sydd ei angen hefyd o ran addysg Gymraeg yn yr ardal, fel ein bod ni felly yn gallu cael yr holl waddol yma rydyn ni i gyd eisiau? Dwi yn meddwl bod angen arian a strategaeth; dydy hynny ddim yn mynd i ddigwydd heb gefnogaeth y Llywodraeth, dwi’n ofni.
O ran sut rydym ni eisiau parhau i dyfu'r iaith ymhlith pobl ifanc, yn enwedig y rhai yn yr ysgol—ac mae'n wych gweld ysgol leol yn yr oriel gyda ni heddiw—byddaf yn gwneud datganiad deddfwriaethol yn cadarnhau ein cynigion ar gyfer dyfodol a gwelliant addysg cyfrwng Cymraeg. Ond mae'n fwy na hynny; mae'n ymwneud mewn gwirionedd â sut mae dyfodol diwylliannol ac economaidd i'r iaith, i bobl ifanc allu defnyddio'r iaith yn eu bywyd bob dydd, gan gynnwys trwy gerddoriaeth a chymdeithasu, yn ogystal â'r dyfodol economaidd. Felly, ceir amrywiaeth o wahanol ymyriadau sy'n mynd o gwmpas hyn, yn ogystal â'r hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud yn ein hysgolion, mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac, wrth gwrs, gwella addysgu a dysgu'r Gymraeg yn y ffrwd Saesneg hefyd.
Yn hynny i gyd, mae angen y staff arnom ni i wneud y gwaith, ac mae angen i ni gynhyrchu ysbryd o frwdfrydedd a chynwysoldeb o amgylch yr iaith hefyd, fel eich bod chi, beth bynnag yw eich gallu cyfrwng Cymraeg, yn teimlo'n gadarnhaol ynghylch defnyddio hwnnw, ac mae hynny'n rhan o sut y byddwn ni'n tyfu'r iaith. Ac mae honno'n wers bwysig iawn i ddysgwyr sy'n oedolion, fel fi, o'r safbwynt nad ydych chi'n mynd i gael rhywun yn eich beirniadu am gael rhai rhannau ohono ddim yn berffaith gywir, ond eu bod nhw i'w croesawu a'u hannog mewn gwirionedd i wneud mwy ac i ddefnyddio mwy. Ac rwy'n gobeithio dangos hynny nid yn unig yn ystod wythnos yr Eisteddfod, ond drwy wahanol rannau o'm hamser fel Prif Weinidog.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ddoe, fe wnaethoch chi groesawu Prif Weinidog newydd y DU. Siaradodd am ffatri Tata—[Torri ar draws.] Roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n cael bloedd i chi, o leiaf, unwaith yn y Siambr hon, Prif Weinidog. [Chwerthin.] Fe gewch i ddiolch i mi nes ymlaen. Daeth Prif Weinidog newydd y DU i'r Senedd ddoe. Yn amlwg, mae sefyllfa Tata Steel ym Mhort Talbot ar feddyliau pawb, sy'n destun cyfyngiadau amser dybryd nawr bod Tata wedi cau un ffwrnais chwyth, ffwrnais chwyth 5, ac, yn amlwg, ceir y llinell amser ar gyfer ffwrnais chwyth 4 ym mis Medi. A allwch chi oleuo'r Siambr heddiw ynghylch a yw Llywodraeth newydd y DU wedi cyflwyno cynllun newydd i Tata Steel i sicrhau goroesiad ffwrnais chwyth 4 fel y gall aros ar agor cyhyd â phosibl? Ac, os yw'r cynllun hwnnw wedi cael ei gyflwyno, pa linell amser y mae Tata Steel wedi nodi y maen nhw'n gweithio'n unol â hi i'w asesu ac, yn y pen draw, rhoi ateb i chi yn ei gylch?
Diolch am nodi bod Prif Weinidog y DU, ar ôl ychydig ddyddiau yn unig yn ei swydd, wedi dod yn gorfforol i Gymru. Mae hwnnw'n ddatganiad wirioneddol gadarnhaol. Ni chefais gyfle i gyfarfod â Phrif Weinidog blaenorol y DU yng Nghymru. Fe'i gwelais am ychydig yn Normandi. Pan ofynnwyd i bobl, wrth gwrs, beth roedden nhw ei eisiau yn yr etholiad hwnnw, rwyf i wrth fy modd bod pobl Cymru wedi dewis cyflwyno gwaharddiad llwyr ar ASau Torïaidd yng Nghymru, ac yna mae gennym ni gyfle i gyflawni'r maniffesto yr etholwyd 27 allan o 32 o ASau Cymru ar ei sail. Ac mae Tata yn rhan sylweddol o hynny. Rydym ni'n ymdrin, fodd bynnag, ag etifeddiaeth y cytundeb blaenorol a gynigiwyd gan y Llywodraeth Geidwadol, a ddathlwyd gan Kemi Badenoch fel newyddion da—dyna'r cynllun y mae Tata yn gweithio ar ei sail i bob pwrpas—â cholledion swyddi aruthrol yn rhan ohono, ac rydym ni'n sicr wedi cyrraedd pen y llinell yn hyn o beth.
Ac mae'n rhaid i mi fyfyrio unwaith eto, sawl blwyddyn yn ôl, pan gefais fy mhenodi'n Weinidog yr economi am y tro cyntaf ar y pryd, daeth Kwasi Kwarteng, fel yr Ysgrifennydd busnes, i gyngor dur yng Nghaerdydd, ac roedd cytundeb i'w gyflawni a fyddai wedi sicrhau cyd-fuddsoddiad sylweddol a dyfodol gwahanol a gwell i ddur ar y pryd. Preswylwyr 10 ac 11 Downing Street ar y pryd nad oedd yn fodlon gwneud y cytundeb hwnnw, ac nid yw'n syndod bod Boris Johnson a Rishi Sunak wedi ein gadael mewn sefyllfa ddim gwell nawr. Fodd bynnag, rydym ni'n rhan o drafodaethau ewyllys da gyda'r cwmni. Ymgysylltiad gan Lywodraeth Cymru yw hynny, fi ac Ysgrifennydd yr economi, yn ymgysylltu'n uniongyrchol â Jonathan Reynolds, fel yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros Fusnes a Masnach, a sgyrsiau gydag arweinyddiaeth y DU a Mumbai. Mae'r trafodaethau hynny ar sail maniffesto y gellir ei gyflawni nawr. Y £0.5 biliwn sydd heb ei wario, y £2.5 biliwn sydd ar gael i drawsnewid dur ar draws y DU ac mae gan y trafodaethau hynny ffenestr gyfyngedig dros gyfnod o wythnosau i lwyddo. Ni allwn gynnal y trafodaethau hynny yn gyhoeddus, ac nid wyf i'n credu y byddai gweithwyr dur na chymunedau dur yn disgwyl hynny. Yr hyn y maen nhw'n ei ddisgwyl yw y bydd y ddwy lywodraeth, yma yng Nghymru ac ar draws y DU, yn brwydro am fargen well i ddur ac i weithwyr dur, a dyna'n union yr ydym ni'n ei wneud.
Roedd fy nghwestiwn yn gymharol syml: a oes cynllun wedi cael ei gyflwyno i fwrdd Tata? Oherwydd dywedwyd wrthym ni fod gennych chi gynllun parod ar gyfer y ffwrn i'w gyflawni ar ôl i chi gymryd swyddi Gweinidogion ac Ysgrifenyddion Gwladol Llywodraeth y DU yn gallu sicrhau cytundeb newydd gyda Tata. Dyna'r hyn a ddywedwyd wrthym ni. Ac rwy'n sylwi, yn eich ateb maith, na wnaethoch chi nodi bod unrhyw gytundeb wedi cael ei gyflwyno i Tata Steel. Ond yr hyn yr ydym ni'n ei wybod, yn y pen draw, yw bod y cloc yn sicr yn tician yn hyn o beth. Felly, a yw'r trafodaethau—[Torri ar draws.] A yw'r trafodaethau yn canolbwyntio—[Torri ar draws.] A yw'r trafodaethau yn canolbwyntio mwy ar fuddsoddiad newydd ar gyfer prosiectau yn y dyfodol, neu a yw'r trafodaethau'n canolbwyntio ar ymestyn oes ffwrnais chwyth 4? Rydym ni'n deall na allwch chi drafod materion masnachol sensitif, ond rhowch rywfaint o obaith o leiaf ynghylch y trywydd yn absenoldeb yr atebion yr ydych chi wedi'u rhoi sy'n dangos nad oes unrhyw gynllun wedi'i gyflwyno eto.
Mae gen i ofn mai'r cwbl y mae'r ail gwestiwn yn ei wneud yw cyfrannu at lefel wirioneddol o sinigiaeth y mae pobl yn ei deimlo ynghylch gwleidyddiaeth. Defnyddiwyd yr ymadrodd a ddefnyddiodd yr Aelod, 'parod ar gyfer y ffwrn', gan y Ceidwadwyr yn 2019 am y cytundeb Brexit, a gwelsom yr hyn a ddigwyddodd yn y fan honno. Nid wyf i erioed wedi dweud hynny, nid yw Jeremy Miles erioed wedi dweud hynny, nid yw Prif Weinidog y DU erioed wedi dweud hynny, nid yw Jonny Reynolds erioed wedi dweud hynny. Yr hyn yr ydym ni wedi ei ddweud yw'r hyn yr ydym ni wedi ei ddweud yn gyson: mae gwahanol lefel o fuddsoddiad ar gael gan Lywodraeth Lafur bresennol, erbyn hyn, y DU. Ceir gwahanol lefel o uchelgais ar gyfer dyfodol dur sydd ar gael gyda Llywodraeth Lafur y DU hon, â mandad sylweddol a chynllun economaidd a fydd angen mwy o ddur yn ein dyfodol, nid llai. Mae ceisio honni ein bod ni wedi defnyddio ymadrodd nad yw erioed wedi cael ei ddefnyddio yn—gallech chi bron â dweud ei bod yn weithred o ddichell fwriadol.
Rwy'n credu, pan gyrhaeddwn ni fusnesau difrifol trafodaethau gyda'r cwmni, sef yr hyn a amlinellais yn fy ateb cyntaf, dyna'n union sy'n digwydd. Ni fyddwn yn cael ein gorfodi i'r math o iaith a'r diffyg ffyddlondeb i'r ffeithiau y mae'r Aelod yn ceisio eu gorfodi arnom ni. Ac, ar y mater hwn, mae angen i'r Ceidwadwyr gydnabod eu bod nhw'n gwbl ddi-hygrededd. I ddweud nawr bod y cloc yn tician a'n bod ni bron wedi cyrraedd y terfyn, pan mewn gwirionedd y bu blynyddoedd pan allai ac y dylai cytundeb fod cael ei sicrhau—roedd gwell cytundeb ar gael i'w sicrhau sawl blwyddyn yn ôl. Dyna realiti hyn. Rydych chi wir yn fy atgoffa o losgwr gyda'i fatsys yn gweiddi'n ddig ar y frigâd dân. Rydym ni bellach yn y sefyllfa o geisio achub difrod ac esgeulustod eich 14 mlynedd ledled y DU. Ni wnaf i gymryd yr un anadl o bregeth gennych chi nac unrhyw Geidwadwr arall ar ein huchelgais a'n hymrwymiad i ddyfodol dur.
Prif Weinidog, rydych chi wedi fy nghyhuddo o fod yn llosgwr; rydych chi wedi fy nghyhuddo o gamarwain yn fwriadol. Rydych chi'n Brif Weinidog sy'n sefyll yn y fan yna gyda phleidlais o ddiffyg hyder o amgylch ei wddf. Rydych chi'n Brif Weinidog a gymerodd £200,000 gan ddyn â dwy euogfarn droseddol. Rydych chi'n ddyn sydd, yn y pen draw, wedi sefyll yn y fan yna wythnos ar ôl wythnos ac wedi methu ag ateb y cwestiynau yr ydym ni wedi eu gofyn i chi wythnos ar ôl wythnos am y rhoddion hynny. A gallaf weld eich Gweinidog iechyd yn lapan yn y fan yna o'r fainc flaen—
Gan bwyll. Doeddwn i ddim yn ymyrryd, ond mae'n debyg nad yw 'lapan' yn ddigon parchus i drafod—. Roedd hi'n gwneud sylwadau, fel y mae pob un ohonoch chi yn y Siambr hon yn ei wneud ar hyn o bryd. Rwy'n siŵr eich bod chi'n dod â'ch cwestiwn i ddiweddglo. Parhewch, Andrew R.T. Davies.
Gofynnais i chi am ddau bwynt. Un: oes yna gynllun ar y bwrdd, ac a yw hwnnw wedi cael ei gyflwyno i fwrdd Tata? Mae'n amlwg nad ydych chi wedi nodi bod cynllun wedi cael ei gyflwyno i fwrdd Tata. A dau: a fydd y buddsoddiad a nodwyd, y £2.5 biliwn yr ydych chi'n sôn y bydd y Llywodraeth yn ei wneud ar gael, ar gyfer prosiectau yn y dyfodol neu i gynnal parhad ffwrnais chwyth 4? Felly, rwy'n rhoi'r ddau bwynt hynny i chi unwaith eto: ble mae'r cynllun ac, yn anad dim, a yw'n gysylltiedig â buddsoddiad yn y dyfodol neu a yw'n gysylltiedig â pharhad ffwrnais chwyth 4 a fydd yn diogelu'r swyddi ym Mhort Talbot yn ystod y cyfnod pontio i ffwrnais arc, yr ydym ni wedi ei gefnogi ac yn parhau i'w gefnogi?
Wel, er gwaethaf yr holl weiddi a phwyntio bysedd, rwy'n meddwl nad yw arweinydd yr wrthblaid wedi bod yn gwrando ar yr hyn yr wyf i wedi bod yn ei ddweud. Mae gwrando yn bwysig mewn Llywodraeth ac mewn gwleidyddiaeth, ac os edrychwch chi ar yr hyn yr wyf i wedi bod yn ei ddweud, mae'r trafodaethau yn parhau gydag arweinyddiaeth y DU a chydag arweinyddiaeth Mumbai. Nid ydym yn mynd i gynnal y trafodaethau hynny yn gyhoeddus ynghylch sut mae bargen well ar gyfer dur yn edrych. Yn y ffenestr gyfyngedig sydd gennym ni'n weddill ar ôl i'r Ceidwadwyr adael y maes, er, a dweud y gwir, prin yr oedden nhw'n chwaraewyr egnïol dros y blynyddoedd diwethaf ar y materion hyn, byddwn yn deall a ydym ni wedi gallu sicrhau gwell bargen â chyd-fuddsoddiad ychwanegol sylweddol ar gael, gydag uchelgais ychwanegol sylweddol ar gyfer dyfodol dur, ac nid wyf i'n credu o gwbl y bydd unrhyw un o eiriau neu brotestiadau dig yr Aelod yn cael unrhyw effaith mewn cymunedau dur. Maen nhw'n gwybod pwy sydd wedi bod ar eu hochr a phwy sydd ar eu hochr o hyd, ac maen nhw'n gwybod ei leoliad ef yn y sefyllfa honno.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn. Dwi am ddechrau drwy longyfarch bob Aelod Seneddol gafodd eu hethol yng Nghymru'r wythnos diwethaf, a dymuno'n dda iawn iddyn nhw yn cynrychioli cymunedau Cymru. Mi wnaeth Cymru ddatgan ei barn yn glir iawn am 14 blynedd o lywodraetha Ceidwadol, ond mi oedd yna neges amlwg iawn i Lafur hefyd i beidio â chymryd Cymru yn ganiataol. Mi wnaeth Plaid Cymru sefyll ar blatfform positif dros degwch ac uchelgais, ac mi oedd hi'n hyfryd bod efo Ann Davies a Llinos Medi yn San Steffan ddoe, wrth iddyn nhw ymuno efo Liz a Ben yno.
Rwyf i wedi ysgrifennu at Brif Weinidog newydd y DU yn ei llongyfarch ac rwy'n gwybod y bydd y pedwar AS Plaid Cymru yn ei ddwyn ef a'i Lywodraeth newydd i gyfrif yn gadarn ond yn adeiladol. Rydym ni eisoes wedi clywed llawer gan Brif Weinidog y DU am ei ddymuniad i ailosod y berthynas rhwng Llywodraethau a chenhedloedd y DU, ond mae'n rhaid i'r geiriau hynny, er eu bod i'w croesawu, olygu rhywbeth, ac mae arnaf i ofn fy mod i'n dal i boeni am rywfaint o'r hyn yr wyf i'n ei glywed: y Gweinidog Llafur newydd, Stephen Kinnock, ar y BBC dros y penwythnos yn dweud na ddylid datganoli Ystad y Goron i Gymru. 'Nid wyf i'n credu bod angen i ni boeni'n ormodol am broses, nawr, symud y darnau o gwmpas y jig-so', meddai—y math o agwedd ddiystyriol a oedd yn adleisio'r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru am y ffaith fod datganoli cyfiawnder yn fater o 'ffidlo o gwmpas gyda strwythurau'.
Nawr, mae'r Prif Weinidog yn gwybod yn iawn bod y materion hyn, yn ogystal â chyllid teg a chyllid HS2 ac yn y blaen, yn llawer mwy na phroses a strwythurau; maen nhw'n faterion sylfaenol o degwch. Felly, a wnaeth y Prif Weinidog anghofio gwneud cais cynnar i'r Prif Weinidog i ychydig o barch gael ei ddangos i Gymru, neu a yw'r Llywodraeth newydd eisoes yn dewis peidio â gwrando?
Wel, rwy'n llongyfarch pob Aelod Seneddol newydd sydd wedi cael ei ethol i gynrychioli Cymru yn San Steffan. Rwy'n siŵr y byddan nhw i gyd yn gwneud eu gorau dros y cymunedau sydd wedi dewis eu hethol. Ni wnaf i enwi pob un o'n 27 o ASau Llafur Cymru na'r 11 enw newydd sy'n cynrychioli etholaethau yng Nghymru, ond rwy'n credu y byddan nhw'n hyrwyddwyr gwych i bob rhan o'r wlad y maen nhw'n yn ei chynrychioli, ac rwy'n dymuno'n dda iddyn nhw i gyd. Oherwydd rhan o'n her, a dweud y gwir, yw sut rydym ni'n ailgyflwyno'r ddadl dros wleidyddiaeth fel ymgais gadarnhaol i wasanaethu'r wlad. Ceir pobl ar draws y Siambr hon sy'n bobl nobl sy'n anghytuno; mae llawer gormod o drafodaeth wleidyddol dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod i ddemoneiddio a gwadu hynny i bobl nad ydym yn cytuno â nhw. Ac rwy'n gobeithio y gallwn ni wneud yn well na hynny, ac mae hynny'n dod o'r brig, yma ac yn wir ar draws Llywodraeth y DU.
O ran safbwynt Llywodraeth Lafur newydd y DU, cefais gyfarfod cynnes a chadarnhaol iawn gyda Phrif Weinidog y DU. Nid wyf i'n cytuno â'r ymgyrch o achwyn a siom yn ystod yr wythnos gyntaf y mae arweinydd Plaid Cymru mor awyddus i'w gorfodi arnom ni. Nid dyna farn pobl Cymru, chwaith, yn y ffordd y gwnaethon nhw bleidleisio. Rwy'n awyddus ein bod ni'n cyflawni'r maniffesto a roddwyd gerbron pobl Cymru gennym ni—bydd hynny'n symud datganoli ymlaen, a bydd yn arwain at gynnydd gwirioneddol ar draws ein heconomi a chefnogaeth i wasanaethau cyhoeddus ar amrywiaeth eang o feysydd lle gellir cyflawni cenhadaeth i'r DU dim ond os bydd Cymru yn chwarae ei rhan lawn. Felly, edrychaf ymlaen nid yn unig at degwch o ran cyllid, ond mewn gwirionedd, dyfodol llawer gwell i bob un ohonom ni yma yng Nghymru, ac rwy'n credu y bydd ethol Llywodraeth Lafur y DU wir yn cyflawni'r newid sydd ei angen ar Gymru a Phrydain. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Prif Weinidog a thîm newydd o Weinidogion Llafur ar draws y DU i wneud yn union hynny.
Bydd llawer o bobl sy'n gwrando ar hynna yn gresynu nad yw Prif Weinidog Cymru yn mynnu ar y tegwch hwnnw i Gymru a'r penderfyniadau hynny am ariannu o amgylch HS2. Ac i gael Prif Weinidog yn dweud ei fod yn hapus i faniffesto gael ei weithredu nad oedd yn addo mynd ar drywydd buddiannau Cymru o ran datganoli trosedd a chyfiawnder, mae hwnnw'n arwydd pryderus ar ddechrau'r Llywodraeth newydd hon yn y DU.
Nawr, mae'n rhaid, yn sicr, i achub miloedd o swyddi ym Mhort Talbot fod yn un o'r blaenoriaethau strategol pwysicaf i Keir Starmer. Wyth wythnos yn ôl, hedfanodd y Prif Weinidog ei hun i India gan annog rheolwyr Tata Steel i aros am Lywodraeth Lafur yn y DU cyn gwneud penderfyniad terfynol am Bort Talbot. Nawr, roeddem ni i gyd yn gwybod bod yr hyn yr oedd y Torïaid yn ei gynnig yn druenus o annigonol, ac mae cyfle bellach i ddilyn llwybr gwahanol. Ond, fel y mae fy nghyd-Aelod, Luke Fletcher, wedi tynnu sylw ato sawl gwaith, er gwaethaf yr ymrwymiad i'w groesawu o £3 biliwn i'r sector dur yn ei gyfanrwydd, nid oes gennym ni lawer o ddealltwriaeth, rwy'n credu, o hyd, o'r hyn y mae hynny'n ei olygu, gan gynnwys, yn hollbwysig, faint o'r £3 biliwn hwnnw y gellir ei neilltuo i Bort Talbot, sut i achub y swyddi a sut y gellir ei ddefnyddio i geisio parhau gwaith gwneud dur sylfaenol yng Nghymru. Felly, a all y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni nawr, ar ôl y cyfarfod hwnnw gyda Phrif Weinidog y DU ddoe, fel bod gweithwyr Port Talbot yn cael y sicrwydd sydd ei angen arnyn nhw? A wnaiff ef roi mwy o fanylion i ni ar beth, sut a phryd cynlluniau Llafur i ddiogelu dyfodol dur Cymru?
Rwy'n credu bod tri phwynt eang i'w crybwyll. Y cyntaf yw bod maniffesto Llafur Cymru yn mynd ar drywydd buddiannau Cymru, ac mae'n faniffesto y dychwelwyd 27 o 32 o ASau y DU ein cenedl ar ei sail. Mae'n faniffesto a fydd yn arwain at fwy o lais i Gymru ar ddyfodol Cymru. Mae'n faniffesto a all, rwy'n credu, arwain at lawer mwy o fuddsoddiad yn ein seilwaith, gan gynnwys ar draws trafnidiaeth. Os meddyliwch chi am y gogledd yn unig, lle nad oedd unrhyw wirionedd o gwbl i'r honiad bod buddsoddiad o £1 biliwn—fe'i gwnaed gan blaid ar ddiwedd ei chyfnod mewn Llywodraeth—rydym ni'n chwilio am gynllun i sicrhau buddsoddiad go iawn yn ein seilwaith trafnidiaeth. Mae penodiad yr Arglwydd Hendy fel y Gweinidog rheilffyrdd yn enghraifft dda o rywun y gallwn ni weithio ag ef sy'n deall yr angen am fuddsoddiad pellach yma yng Nghymru. Rwy'n hyderus y bydd ein tîm o Weinidogion yma, a'r 27 o hyrwyddwyr Llafur Cymru sydd wedi mynd i San Steffan, yn gwneud y ddadl ac yn sicrhau buddsoddiad gwirioneddol yn ein seilwaith rheilffyrdd a llawer mwy.
Mae'n werth nodi hefyd bod y gronfa cyfoeth genedlaethol yn enghraifft arall o le rwy'n disgwyl i Gymru elwa, ac elwa yn anghymesur. Os ystyriwch chi eto y buddsoddiad mewn porthladdoedd a wnaed o dan y Llywodraeth ddiwethaf, gyda £160 miliwn ar gyfer y DU gyfan, roedd Doc Penfro ac Aberdaugleddau wedi'u heithrio o hynny. Rydyn ni bellach yn mynd i weld pedair gwaith hynny yn y gronfa cyfoeth genedlaethol, ynghyd â'r gallu i ddenu mwy o fuddsoddiad preifat. Mae'r holl bethau hynny'n bwysig wrth ymdrin â'n hargyfyngau hinsawdd a natur, ond, yn fwy na hynny, dim ond os byddwn ni'n darparu cyfran sylweddol o hynny yma o Gymru a'r swyddi a ddylai ddod o Gymru hefyd y gellir ennill y ras am bŵer glân. Dyna pam rwyf i eisiau gweld camau ar unwaith ynghylch Ystad y Goron—mae er mwyn gwneud yn siŵr y gallwn ni gael cynnig llawer gwell o ran y gadwyn gyflenwi. Y gwir werth sy'n cael ei ddarparu yw'r gadwyn gyflenwi honno, gyda rhestr tymor hwy o swyddi mewn cymunedau a fydd yn gweld pŵer yn cael ei gynhyrchu. Rwyf i eisiau gweld cyfleoedd fel y gall pobl gynllunio, wedyn, dyfodol gwirioneddol uchelgeisiol yma yng Nghymru. Dyna'r hyn yr ydym ni'n gweithio tuag ato, hynny yw, y Llywodraeth hon yn sefyll dros fuddiannau Cymru, ac â phartner parod a chadarnhaol i wneud hynny, a dyna'r hyn yr wyf i'n credu y pleidleisiodd pobl drosto yr wythnos diwethaf.
Ni atebodd y Prif Weinidog fy nghwestiwn am y £3 biliwn a pha gyfran o hynny fydd yn dod i ddur yng Nghymru; efallai y gall ddychwelyd at y pwynt hwnnw. Ond fe wnaf i gloi gydag iechyd. Prin fod yr Ysgrifennydd iechyd newydd yn Lloegr wedi camu i mewn i'r adran iechyd cyn iddo ddatgan bod y GIG wedi torri. Rwy'n tybio ei fod yn siarad am y GIG yn Lloegr, er, gan fod Llafur yng Nghymru wedi cymylu'r sefyllfa yn fwriadol ar y mater datganoledig penodol hwnnw yn ystod yr etholiad, ni allaf fod yn hollol siŵr.
Ond, os yw'r GIG wedi torri yn Lloegr, siawns ei fod wedi torri yng Nghymru hefyd, gyda'i restrau aros mwyaf erioed. Nawr, er gwaethaf gwaith caled ac ymroddiad y staff, mae ein GIG ar ei liniau yma yng Nghymru, yn bennaf oherwydd penderfyniadau Gweinidogion iechyd Llafur dros 25 mlynedd, ac ynghyd, yn wir, â thoriadau'r Torïaid. Felly, dywedodd Wes Streeting:
'O heddiw ymlaen, polisi'r adran hon yw bod y GIG wedi torri.'
Nid wyf i'n anghytuno ag ef, gyda llaw, a dyna pam y galwodd Plaid Cymru ar Lywodraeth Cymru i ddatgan argyfwng iechyd yn ôl ym mis Chwefror. Ond a all y Prif Weinidog gadarnhau ai cyfaddef bod y GIG wedi torri yw bolisi swyddogol adran iechyd ei Lywodraeth Lafur ef yng Nghymru hefyd bellach, neu a wnaiff ef barhau i gymryd yr agwedd, o ran y GIG o dan Lafur yng Nghymru, nad oes dim i'w weld yma?
Wel, eto, mae arweinydd Plaid Cymru yn ceisio rhoi geiriau yn fy ngheg i nad wyf i erioed wedi eu defnyddio, ac i geisio gwneud dyfarniad nad yw'n ddyfarniad y Llywodraeth hon, yn sicr. Rwy'n cytuno, fodd bynnag, bod ein staff o dan bwysau aruthrol, a heb ymrwymiad ac arbenigedd rhyfeddol ein staff ym maes gofal sylfaenol a gofal mewn ysbytai, ni fyddem yn gallu darparu ein gwasanaeth. Mae'n ffaith bod y rhan fwyaf o bobl yn cael canlyniad da ac yn cael gofal prydlon yn eu profiad eu hunain. Ein her ni yw bod llawer gormod o bobl yn aros yn rhy hir, ac mae llawer gormod o bobl ddim yn cael y profiad y byddem ni eisiau iddyn nhw ei gael. Rydym ni'n gwybod bod ôl-groniad enfawr a grëwyd ar ôl y pandemig gyda'r mesurau eithriadol y bu'n rhaid i ni eu cymryd. Mae'n ymddangos bod adferiad yn ein gofal iechyd yn cymryd hyd yn oed yn hirach nag yr oeddem ni'n meddwl y byddai'n ei wneud. Dydyn ni dal ddim ar yr un lefel o effeithlonrwydd eto o ran amrywiaeth o lawdriniaethau yn y gwasanaeth—mae hynny'n cael effaith. Rydym ni wedi dargyfeirio £1 biliwn i fynd i'r afael â'r ôl-groniad, gydag arosiadau hirdymor yn gostwng, ond rydym ni'n gwybod bod mwy i'w wneud. Mae hynny wedi golygu nad ydym ni wedi gallu buddsoddi yn y drws ffrynt, os mynnwch, y rhan gofal sylfaenol a gofal cymunedol o'n system, yr ydym ni'n gwybod fydd yn cyflawni canlyniadau gwell, tymor hwy, ac yn lleihau angen o fewn ein system. Hefyd, mae gennym ni heriau iechyd cyhoeddus enfawr ar draws gymdeithas gyfan. Mae'r gwasanaeth iechyd yn ymdrin â phen mwy miniog hynny, ond mewn gwirionedd mae amrywiaeth eang o fesurau y mae angen i ni eu cymryd yn llwyddiannus i geisio cael gafael ar y rheini.
Nid wyf i erioed wedi bod ac ni fyddaf byth yn hunanfodlon ynghylch yr heriau a'r pwysau eithriadol sydd ar ein system gofal iechyd. Bydd cael gafael ar hynny, gweld y gwelliant yr ydym ni'n gwybod y mae angen i ni ei weld, yr ydym ni ei eisiau, nid yn unig yn golygu sloganau yn y lle hwn, bydd yn golygu gwaith caled go iawn. Bydd yn golygu diwygio ac adnoddau. Bydd yn golygu moderneiddio. Rydym ni wedi bod yn moderneiddio ein gwasanaeth mewn amrywiaeth o feysydd. Ac, mewn gwirionedd, mae Wes Streeting yn edrych ar gyflawni amrywiaeth o'r gwelliannau yn y ddarpariaeth o ofal iechyd yr ydym ni wedi eu cyflawni yma yng Nghymru. Mae gennym ni gynnig llawer gwell o ran fferylliaeth yng Nghymru nag yn Lloegr. Mae'n bwriadu gwneud mwy o hynny. Rydym ni wedi newid y ffordd y mae deintyddiaeth yn contractio—gyda mwy o gyfnodau cleifion newydd. Rwy'n falch iawn o'r gwaith yr ydym ni wedi ei wneud ym maes optometreg. Yn ddiddorol, pan oeddwn i'n gweld pobl yn Iwerddon, roedd ganddyn nhw ddiddordeb mawr yn yr hyn yr oeddem ni wedi ei wneud o ran symud mwy o wasanaethau â mwy o fynediad at optometreg rheng flaen. Felly, mae gennym ni nifer o bethau y dylem ni fod yn falch ohonyn nhw, yn ogystal â chydnabod y nifer sylweddol o heriau sydd gennym ni.
Ac o ran Tata, rwy'n ei gyfeirio at yr ateb yr wyf i wedi ei roi i arweinydd yr wrthblaid: rydym ni mewn trafodaeth—trafodaeth â ffenestr gyfyngedig. Byddwch wedi clywed arweinydd Community—yr undeb dur mwyaf ym Mhort Talbot, yr undeb dur mwyaf yn y DU—yn dynodi yn ei farn ef ffenestr o bedair i chwe wythnos, i ddarganfod a ellir taro bargen well, os gallwn ni berswadio Tata i newid trywydd, i fuddsoddi yn y dyfodol a rhoi gwahanol gyfnod pontio i ni. Mae hynny'n bosibl dim ond oherwydd bod dwy Lywodraeth ar y maes bellach, yn brwydro dros ddur a gweithwyr dur, oherwydd bod lefel wahanol o gyd-fuddsoddiad, a lefel wahanol o uchelgais ar gyfer dyfodol dur. Ac rwy'n credu bod gweithwyr dur a'u cymunedau yn deall hynny, ac yn gwybod ein bod ni'n gwneud popeth y gallem ni ac y dylem ni ei wneud drostyn nhw, ac, yn wir, yr hyn y mae'n ei olygu i'n dyfodol economaidd hefyd.
4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd canlyniad yr etholiad cyffredinol yn ei chael ar bobl Cymru? OQ61445
Diolch am y cwestiwn. Rydym ni'n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Lafur newydd y DU a mynd i'r afael gyda'n gilydd â'r heriau a'r cyfleoedd niferus y mae Cymru a'r DU ehangach yn eu hwynebu. Rydym ni eisiau helpu i greu partneriaeth newydd i ddarparu sefydlogrwydd economaidd, cyfrifoldeb cyllidol a hybu twf. Roeddwn i'n falch o gael y cyfle i ddechrau'r sgwrs uniongyrchol honno gyda Phrif Weinidog y DU ddoe.
Diolch, Prif Weinidog. Yn anffodus, difaterwch oedd enillydd mwyaf yr etholiad cyffredinol. Cawsom ni un o'r niferoedd lleiaf o bleidleiswyr a gofnodwyd erioed. Mae fy mhlaid i yn cymryd llawer o'r bai am hynny, ond felly hefyd y mae eich plaid chi. Ymhell o gael mandad aruthrol, cefnogaeth dim ond traean o'r etholwyr a wnaeth drafferthu pleidleisio y sicrhaodd eich plaid. Felly, Prif Weinidog, mae gennych chi dasg enfawr o'ch blaen o ran perswadio pobl i gymryd rhan mewn democratiaeth. Fe wnaethoch chi nifer enfawr o addewidion yn ystod yr ymgyrch. Pryd fyddwch chi'n eu cyflawni nawr, o gofio mai prin yr ydych chi wedi ei wneud i dyfu'r economi, i wella cyrhaeddiad addysgol, neu i fynd i'r afael â rhestrau aros y GIG? Sut wnewch chi argyhoeddi pobl bod eu pleidlais yn bwysig?
Wel, rwy'n credu bod pobl a aeth i bleidleisio yn deall bod eu pleidleisiau wir yn bwysig. Fe wnaethon nhw newid pendant, oddi wrth y Ceidwadwyr ac o ran deall mai'r Blaid Lafur ym mhob cenedl o'r DU oedd yn cynrychioli'r newid hwnnw. Dyna pam mae gennym ni fwyafrif o Aelodau Seneddol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd bellach, ac ni fyddwn yn disgrifio bod â mwy na 400 o ASau Llafur yn Senedd y DU fel canlyniad gwael. Rwy'n credu ei fod yn ganlyniad cadarnhaol iawn â mandad sy'n rhoi'r lle i ni weithredu ledled y DU, a bydd Cymru yn elwa o hynny, ond hefyd y cyfrifoldeb i wneud hynny hefyd, i gyflawni'r maniffesto sydd gennym ni. Ac, mewn gwirionedd, bydd cadw at yr addewidion yr ydym ni wedi eu gwneud mewn grym yn gwneud gwahaniaeth, gan ddeall bod rhaniad bwriadol y rhyfeloedd diwylliant a ddechreuwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei roi y tu ôl i ni. Os ydym ni'n credu y bydd ein prif bleidiau yn elwa o fynd tuag at eithafion barn neu fynnu bod pawb yn derbyn bod eu gwrthwynebwyr rywsut yn eithafwyr pan ei bod yn amlwg nad ydyn nhw, rwy'n credu y bydd hynny yn gyrru mwy a mwy o bobl oddi wrth wleidyddiaeth mewn gwirionedd. Mae'r bleidlais gwrth-wleidyddiaeth i bobl a bleidleisiodd dros blaid amgen, y difaterwch gwrth-wleidyddiaeth sy'n bodoli gyda'r cwymp i nifer y pleidleiswyr, rwy'n credu eu bod nhw'n adlewyrchiad o sut mae ein dadleuon yn cael eu cynnal a'r sinigiaeth yr wyf i'n credu sy'n bodoli mewn llawer gormod o gymunedau.
Rwy'n edrych ymlaen at bartneriaeth wirioneddol gyda Llywodraeth y DU. Rwy'n edrych ymlaen at ymateb i'r her onest ar sawl carreg drws am faint o amser y bydd yn ei gymryd i wneud iawn am y 14 mlynedd diwethaf, gan ddangos bod pwy rydych chi'n pleidleisio drosto yn bwysig, a'n bod ni'n bobl nobl yn y bôn sy'n anghytuno â'n gilydd am sut i wella'r wlad. Rwy'n cydnabod bod pobl nobl yn y Blaid Geidwadol; rwy'n anghytuno â chi am y dyfodol i'r wlad. Rwy'n credu y bydd ymgysylltu gonest o ddaioni i bob un ohonom ni, ac rwy'n edrych ymlaen at gyflawni ein mandad yma yng Nghymru ac, yn wir, y mandad ehangach hwnnw ledled y Deyrnas Unedig.
Mae i'w groesawu wrth gwrs, bod trafodaethau yn digwydd rhwng Tata a Llywodraeth newydd y DU. Rydym ni'n dal i fod yn eglur os ydym ni eisiau'r sicrwydd o swyddi, yna mae gwladoli yn un ffordd o sicrhau hynny. Nawr, rwy'n derbyn yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog am drafodaethau sy'n parhau, ond os bydd Llywodraeth y DU yn mynd ar drywydd y strategaeth o roi arian i Tata i'w perswadio i aros, a fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod yn rhaid i'r arian hwnnw ddod â thelerau ac amodau penodol, yn wahanol i'r buddsoddiad a roddwyd gan y Llywodraeth flaenorol? Ac a fyddai'n cytuno hefyd y dylai cyfranddaliad euraidd i'r Llywodraeth fod yn un o'r amodau hynny, fel y gellir adennill unrhyw fuddsoddiad a wneir pan fydd y cwmni hwnnw yn gwneud elw unwaith eto?
Edrychwch, mae nifer o drafodaethau y mae'n rhaid eu cynnal ac sy'n cael eu cynnal, ac rwy'n credu ei fod yn un o'r pethau y dylai pobl fyfyrio ar realiti lle'r ydym ni wedi bod, nid dim ond y sefyllfa yr ydym ni wedi cael ein glanio ynddi ar ôl sawl blwyddyn o Lywodraeth Geidwadol a wnaeth ffoi'r maes o ran y mater hwn, ond hefyd pan oedd perygl gwirioneddol y byddai'r ddwy ffwrnais chwyth yn cau. Siaradais i a Jeremy Miles gyda'n gilydd; siaradais â Keir Starmer, arweinydd yr wrthblaid o hyd; cawsom sgwrs gyda Jonathan Reynolds, dal yn Ysgrifennydd busnes yr wrthblaid ar y pryd, a chawsom nid yn unig sgyrsiau gyda ni ein hunain ond gyda'r cwmni a phartneriaid eraill hefyd. Ac fe wnaeth hynny wahaniaeth, rwy'n credu, o ran symud i sefyllfa lle mae sgwrs am y dyfodol yn dal yn bosibl, pan efallai na fyddai wedi bod drwy'r wythnos etholiad honno. Ac mae hynny wedi parhau ar ôl yr etholiad.
Felly, nid yw hyn yn ymwneud ag ewyllys da yn unig. Nid yw'n ymwneud ag uchelgais yn unig. Mae'n ymwneud â sgwrs uniongyrchol gyda Llywodraeth sydd â mandad i weithredu, a'r gallu i gyd-fuddsoddi yn y dyfodol. A byddwn yn disgwyl y byddai'r cyd-fuddsoddiad hwnnw yn dod gyda disgwyliadau a chytundebau ar swyddi a buddsoddiad yn y dyfodol. Rwy'n credu ei bod hi'n bosibl cael bargen well. Hyd yn oed pe bai'n bosibilrwydd bach yn unig, mae'n rhaid iddi fod yn ddyletswydd ar y Llywodraeth hon ac unrhyw Lywodraeth y DU werth chweil i fynd ar drywydd y posibilrwydd hwnnw, i geisio diogelu mwy o swyddi, a'r gallu hwnnw i wneud dur sy'n hanfodol ar gyfer dyfodol ein heconomi yma yng Nghymru ac yn y DU ehangach.
Prif Weinidog, mae ein system cyfiawnder troseddol a charchardai mewn cyflwr enbyd, ac ni ddylai llawer o'r bobl sydd yn y carchar fod yno yn y lle cyntaf; mae angen eu helpu nhw'n well gyda'r ffactorau sylfaenol sydd wrth wraidd eu troseddu. Ac, wrth gwrs, os yw'r carchardai yn orlawn, mae'n gwneud adsefydlu yn anodd iawn, ac mae hynny'n creu mwy o aildroseddu, mwy o ddioddefwyr troseddau. Felly, rwy'n falch iawn bod ein Prif Weinidog newydd, Keir Starmer, wedi gwneud James Timpson yn Weinidog Gwladol dros Garchardai i ymdrin â'r problemau hyn, oherwydd trwy ei syniadau a thrwy ei weithredoedd yn ei fusnes ei hun, mae wedi dangos ei agwedd flaengar a sut y gellir ymdrin â'r materion hyn yn briodol.
Felly, gyda'r dull newydd hwn a fydd gennym ni, Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i wasanaethau Llywodraeth Cymru, fel iechyd meddwl, sgiliau a hyfforddiant, digartrefedd ac, wrth gwrs, camddefnyddio alcohol a chyffuriau? Yr holl wasanaethau hyn, a wnewch chi wneud yn siŵr eu bod nhw'n rhan o'r dull adeiladol newydd hwn, fel bod gennym ni lai o ddioddefwyr troseddau a gwell safonau byw yn ein cymunedau?
Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig am yr argyfwng gwirioneddol yr ydym ni'n ei weld ar draws carchardai. Mae'n frawychus gweld yr hyn a ddywedodd yr arolygiaeth yn ddiweddar am yr amodau mewn carchardai: y gorlenwi, yr amodau sy'n dadfeilio hefyd—amgylchedd cwbl amhriodol—a faint mae ein carchardai yn llenwi hefyd. Rydym ni ar y pwynt lle gallai Llywodraeth y DU gael ei gorfodi i adeiladu carchardai newydd, nid oherwydd ei bod hi eisiau rhoi mwy o bobl yn y carchar, ond gan nad yw'n gallu ymdopi â'r bobl sydd ganddi, ac mae'r ystad mewn cyflwr mor wael y bydd angen i ni gau carchardai hefyd. Nawr, mae honno'n rhan arall o'r etifeddiaeth y mae Llywodraeth y DU yn ei hetifeddu.
Rwy'n cytuno â chi, mae penodiad James Timpson yn arwydd go iawn o fod eisiau deall sut rydych chi'n dod â phobl i mewn gydag arbenigedd sy'n gallu sicrhau cynnydd ymarferol. Ceir safbwynt ideolegol, os mynnwch, y bydd llawer ohonom ni'n ei fabwysiadu ynglŷn â beth ddylai'r math cywir o ateb fod, ond mae'n hynod ymarferol hefyd. Os edrychwch chi ar yr hyn y mae busnes Timpson wedi ei wneud, ac eraill, maen nhw'n cynnig llwybr i bobl adael y carchar a chael bywyd sefydlog mewn cymdeithas ehangach. Mae hynny o fudd i bob un ohonom ni. Mae o fudd i bob un ohonom ni fel trethdalwyr, fel pobl a allai fod â chysylltiad â phobl yn yr ystad carchardai nawr, ond hefyd i gymunedau lle mae pobl yn dychwelyd hefyd. Felly, nid yw hyn yn ymwneud â'r elfen gosbi o roi pobl yn y carchar yn unig; mae'n ymwneud ag atal ac adsefydlu ac angen gwneud hynny'n iawn, fel nad yw pobl ar chwyrligwgan o fynd i mewn ac allan o'r system cyfiawnder troseddol.
Ac mae'n sail i'r sgwrs y mae angen i ni ei chael am ddyfodol gwasanaethau prawf. Ni fydd pawb wedi darllen maniffesto Llafur y DU, ond mae'n sôn am yr hyn sydd eisoes yn digwydd ym Manceinion Fwyaf, lle maen nhw'n gallu cysylltu gwasanaethau datganoledig, gan gynnwys tai ac eraill, ac fe wnaethon nhw lwyddo i gysylltu hynny â phrawf, ac mae'n sicrhau canlyniadau gwell. Nid mater syml o ailddylunio map o le'r ydym ni eisiau i bwerau fod yw hwn; mewn gwirionedd, mae'n fater o le a sut y gallwch chi ddarparu gwell gwasanaethau gyda chanlyniadau gwell i'r bobl sydd wedi'u hymgysylltu ac yn cymryd rhan, yn ogystal â'r trethdalwr. Ac rwy'n credu nad trafodaeth yn unig y byddwn ni'n ei chael yw hi, gyda Lesley Griffiths yn Weinidog arweiniol i ni yn y Llywodraeth hon, ond rwy'n credu ei bod yn gyrchfan i'r DU a Chymru gael gwahanol fath o sefydliad i sicrhau canlyniadau llawer gwell y gall pob un ohonom ni fod yn falch ohonyn nhw.
5. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllid teg i Gymru? OQ61421
Rwyf i wedi cael y cyfle i gyfarfod a thrafod blaenoriaethau uniongyrchol Cymru gyda Phrif Weinidog newydd y DU a Changhellor yr wrthblaid ar y pryd, y Canghellor bellach, dros yr wythnosau diwethaf. Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio â Llywodraeth newydd y DU i wynebu a goresgyn yr heriau niferus y mae Cymru a'r DU yn eu hwynebu, ond hefyd i fanteisio ar y cyfleoedd sydd gennym ni o'n blaenau hefyd.
Diolch am hwnna.
Nid yw'r Torïaid mewn Llywodraeth yn San Steffan mwyach, a haleliwia am hynny, ond a fydd y newid y mae Starmer wedi ei addo bod yn fwy na gair gwag i Gymru? Pan wnaethoch chi gyfarfod â Syr Keir ddoe, a wnaethoch chi drafod cyllid teg i'n cenedl? A wnaethoch chi fynnu'r arian sy'n ddyledus i ni o Ystad y Goron a HS2? Oherwydd mae llywodraethu yn golygu dewis, dewis yr hyn sy'n cael ei flaenoriaethu. Nawr, rydym ni eisoes wedi clywed bod rhai ffigurau allweddol yng Nghabinet newydd Syr Kier wedi ei gwneud yn eglur na fydd Cymru yn flaenoriaeth iddyn nhw, naill ai o ran datganoli pwerau na rhoi'r arian sy'n ddyledus i ni. Felly, Prif Weinidog, sut wnewch chi sefyll dros Gymru yn erbyn greddfau amheus ynghylch datganoli y gyfundrefn newydd? Yng ngwasanaeth pwy wnewch chi ddewis llywodraethu?
Rwyf i eisoes wedi dewis llywodraethu yng ngwasanaeth pobl Cymru, ac rwy'n falch iawn o wneud hynny. A byddaf yn parhau i gyflawni'r swyddogaeth honno gyda phartneriaid yn Llywodraeth y DU. Ac, mewn gwirionedd, yn y sgwrs gyda Keir Starmer, wrth gwrs fe drafodais ddyfodol tegwch ynghylch Barnett, wrth gwrs fe wnes i drafod y cyfleoedd buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd a'r angen i gyflawni rhywbeth a fydd wir yn diwallu anghenion ein gwlad. Rwy'n chwilio am gynllun a all wir gyflawni, ac rwy'n dychwelyd at esiampl gogledd Cymru, gan nad oedd yr addewid o £1 biliwn a honnwyd erioed yn gynllun; ni fu unrhyw gyfleoedd go iawn i wneud hynny erioed. Yr hyn yr wyf i ei eisiau yw cynllun go iawn a fydd wir yn arwain nid yn unig at gytundeb ar flaenoriaethau—gwnaed rhywfaint o'r gwaith hwnnw eisoes—a deall sut mae gennym ni gynllun a fydd yn arwain at fuddsoddiad a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Rwy'n credu mai dyna'r gofod lle mae'r cyhoedd eisiau i ni fod hefyd, ac yn hytrach na—.
Rwy'n deall y naratif y mae arweinydd Plaid Cymru eisiau ei gael, ond os gwnaethoch chi wrando ar yr hyn a ddywedodd Prif Weinidog y DU yn ei gynhadledd gyntaf i'r wasg, fe'i gwnaeth yn eglur iawn bod gormod o rym yn San Steffan, a bod angen iddo fynd i bobl sydd â buddiant yn y sefyllfa: y rhai sy'n gwneud penderfyniadau lleol yn rhanbarthau Lloegr; y rhai sy'n gwneud penderfyniadau cenedlaethol yma yng Nghymru ac, yn wir, yn yr Alban. Ni wnaeth Prif Weinidog y DU fynd ar daith i ymweld â chyd-Aelodau Llafur yn unig; dangosodd y parch y mae'r DU yn ei haeddu ac sydd wedi bod yn absennol dros y degawd a mwy diwethaf, trwy ddod yn bersonol i gyfarfod ag arweinwyr cenhedloedd y DU a'i gwneud yn eglur y bydd newid gwirioneddol i'r ffordd y mae'r DU yn cael ei llywodraethu ac yn y dewisiadau y byddwn ni'n eu gwneud, a bydd hynny'n arwain at gyflawni'r maniffesto yr etholwyd 27 o 32 o ASau Cymru ar ei sail. Wrth gwrs, rwy'n parchu hawl y rhai sydd â gwahanol addewidion maniffesto i wneud eu dadleuon.
Peter Fox.
Mae'n ddrwg gen i, Llywydd.
Mae'n iawn. Os ydych chi eisiau gofyn cwestiwn—. Na. Mae hynny'n iawn. Fe wnawn ni symud ymlaen.
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngogledd Cymru? OQ61444
Diolch am y cwestiwn. Ein blaenoriaeth ni yw datblygu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus dibynadwy, fforddiadwy a chynaliadwy sy'n darparu ar gyfer pobl a chymunedau ledled Cymru, gan gynnwys, wrth gwrs, rhai y gogledd, y mae'r Aelod yn eu cynrychioli. Byddwn ni'n grymuso ein rhanbarthau ni i ddatblygu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol sy'n diwallu anghenion eu hardal ac yn darparu cymorth ymarferol i helpu i'w cyflawni.
Diolch, Prif Weinidog. Mae'r buddsoddiad diweddar o gerbydau newydd gan Lywodraeth Cymru drwy Trafnidiaeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth enfawr, yn ogystal â grant bysiau Llywodraeth Cymru, sydd wedi cynnal gwasanaethau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Fel y dywedoch chi'n gynharach, ni wnaeth Llywodraeth y DU gymeradwyo'r £1 biliwn i drydaneiddio rheilffordd arfordir y gogledd, a ddwywaith fe wnaethon nhw wrthod ceisiadau am gyllid ffyniant bro yn lle cyllid yr UE ar gyfer seilwaith rheilffyrdd yn y gogledd. Prif Weinidog, gan weithio gyda Llywodraeth Lafur newydd y DU ar draws ffiniau, a fyddech chi'n ystyried defnyddio rhywfaint o'r cyllid strwythurol—y cyllid newydd—ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus integredig a chynllun peilot bysiau yn y gogledd, datblygu gwybodaeth a gwasanaethau clir, sy'n bwysig iawn, yn seiliedig ar angen teithwyr, gweithio mewn partneriaeth â Trafnidiaeth Cymru, cynghorau lleol, gweithredwyr a thrigolion i ddatblygu'r rhwydwaith a chynnal a dychwelyd gwasanaethau, fel y digwyddodd yn ddiweddar ym mhentref Llandegla yn y gogledd? Diolch.
Rwy'n falch iawn o weld gwasanaethau yn dychwelyd i Landegla, rhywbeth y mae'r Aelod wedi tynnu sylw ato, ond hefyd i gadarnhau eto nad oedd yr addewid cyn yr etholiad gan y Ceidwadwyr ar drydaneiddio'r gogledd erioed yn gynllun gwirioneddol. Nid oedd yn ddatganiad onest i'w wneud i'r cyhoedd. Mae Network Rail, fel y gŵyr yr Aelod, wedi cadarnhau, er gwaethaf yr addewid, na chafodd unrhyw waith datblygu ffurfiol ei wneud. Ni chawson nhw gylch gwaith ac nid oes unrhyw waith ffurfiol wedi'i wneud gyda nhw ers 2013.
O ran yr hyn y gallen ni ei wneud yn y dyfodol, mae cyflawni addewid ein maniffesto i adfer y broses o wneud penderfyniadau dros gyllid UE blaenorol yn un o'r cyfleoedd mawr sydd gennym ni. I fynd drwy hynny, bydd angen i ni weithio gyda phartneriaid i ddeall beth fydd y blaenoriaethau hynny a gweithio gyda'r hyn yr ydyn ni wedi gallu ei wneud eisoes. Rwy'n falch iawn bod yr Aelod wedi tynnu sylw at y grant bysiau sydd wedi cadw gwasanaethau ar waith a allai fod wedi peidio fel arall. Mae'n debyg y byddwn ni'n siarad mwy am fysiau yn y datganiad yn ddiweddarach y prynhawn yma. Ond mae hynny'n golygu bod gennym ni gyfleoedd i edrych eto ar y fframwaith buddsoddi rhanbarthol a gafodd ei gyd-gynhyrchu gydag amrywiaeth o bartneriaid cyn yr etholiad diwethaf, i ddiweddaru hynny ac i sicrhau bod gennym ni ddealltwriaeth glir o'r hyn y gallwn ni ei wneud â hynny, yn ogystal â meysydd eraill o ddatganoli yn y dyfodol.
O ran sgiliau, rwy'n teimlo'n gyffrous iawn am yr hyn y gallwn ni ei wneud wrth adfer arian i brentisiaethau ac wrth ddatganoli cyllid cymorth cyflogaeth. Mae cyfleoedd mawr i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mhob cymuned. Yr hyn y bydd yn rhaid i ni ei wneud, serch hynny, yw penderfynu beth yw ein blaenoriaethau strategol a sut yr ydyn ni'n dewis defnyddio'r rheini. Yn eithaf priodol, mae hynny yng nghylch gwaith y Llywodraeth hon, sef i gael ein dal yn atebol gan y Senedd, a gwneud y gwaith hwnnw gyda'n partneriaid yw'r hyn yr wyf i'n bwriadu i ni ei wneud.
7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn tyfu economi twristiaeth Cymru? OQ61412
Diolch. Mae ein strategaeth dwristiaeth, 'Croeso i Gymru', yn nodi ein dull o dyfu'r economi ymwelwyr. Mae'n pwysleisio'r meysydd cyflawni craidd sy'n canolbwyntio ar wariant cynyddol, gan ledaenu budd economaidd a helpu i ymdrin â materion tymhorol, gyda chynaliadwyedd wrth wraidd ein holl weithgarwch. Mae hyn yn cael ei gefnogi gan gronfa fuddsoddi twristiaeth Cymru gwerth £50 miliwn ar gyfer prosiectau mawr a chronfa 'y pethau pwysig' gwerth £5 miliwn ar gyfer buddsoddi cyfalaf ar raddfa lai.
Diolch yn fawr iawn. Byddwch chi'n gwybod, gyda misoedd hollbwysig yr haf i ddod, fod pryder eang ynghylch cyflwyno treth dwristiaeth bosibl yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru. Mae'r pryder hwnnw mor eang fel ei fod, mewn gwirionedd, wedi lledaenu i'r Canghellor newydd, Rachel Reeves, a oedd, yr wythnos diwethaf, pan gafodd hi ei gofyn a oedd hi'n cefnogi cyflwyno treth twristiaeth yn Bournemouth, 'Nid ydw i o blaid gwneud gwyliau gartref yn ddrytach nag y maen nhw eisoes. Rwyf i eisiau i fwy o bobl fynd ar wyliau ym Mhrydain. Rwyf i eisiau cefnogi ein sector lletygarwch a hamdden bywiog. Felly, pan ydyn ni yng nghanol argyfwng costau byw, fel yr ydyn ni ar hyn o bryd, nid ydw i'n credu mai dyna'r peth iawn i'w wneud.' Felly, a all y Prif Weinidog egluro pam mae Canghellor Llafur mewn un rhan o'r Deyrnas Unedig yn dweud y byddai'r dreth hon yn niweidiol i'n heconomi ni ac yn gwneud gwyliau gartref yn ddrytach nag y maen nhw eisoes, ac mae Llywodraeth Lafur Cymru yma ym Mae Caerdydd yn dilyn yr union bolisi hwnnw?
Yn hollol ar wahân i eironi Aelod o'r Senedd yn methu â deall datganoli, mae'n werth nodi na fydd ardoll twristiaeth yn dod i rym tan 2027 ar y cynharaf. Bydd yn bŵer caniataol i awdurdodau lleol benderfynu beth i'w wneud, ac yna bydd ganddyn nhw ddewisiadau i'w gwneud ynghylch sut i'w defnyddio. Mae'n werth nodi nad yw hyn ond yn gyffredin mewn sawl rhan o weddill y byd. Os ewch chi ar wyliau haul a thywod i gyrchfannau Ewropeaidd, mae'n debyg y byddwch chi'n talu ardoll twristiaeth o ryw fath, os nad dau fath gwahanol. Os ewch chi i Ogledd America, byddwch chi bron yn sicr yn talu ardoll talaith ac yn aml ardoll lefel y ddinas hefyd. Os edrychwch chi o fewn y DU, mae Manceinion Fwyaf wedi defnyddio ardoll y maen nhw wedi'i buddsoddi mewn cefnogi digwyddiadau, i gynhyrchu mwy o elw ar gyfer eu heconomi gyda'r nos ac ymwelwyr. Mae bod yn greadigol o ran sut yr ydyn ni'n cefnogi'r sector yn bwysig er mwyn deall sut olwg sydd ar fod yn gynaliadwy. Ac mae hyn yn ymwneud â ni mewn gwirionedd yn sicrhau nad yw datganoli yn gorffen ym Mae Caerdydd. Rydyn ni'n chwilio am ddeddfwriaeth i roi pwerau i awdurdodau lleol wneud dewisiadau, iddyn nhw fod yn atebol am y dewisiadau hynny, i ddangos mantais neu fel arall defnyddio'r pwerau hynny ai peidio. Rwy'n credu bod hyn yn enghraifft dda. Yn y tymor hwy, rwy'n credu y bydd pobl yn gweld hyn fel llwyddiant gwirioneddol. Wrth gwrs, mae gan yr Aelod hawl i barhau i wneud ei ddadl sydd wedi cael cymaint o lwyddiant gyda phobl Cymru yr wythnos diwethaf.
8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella iechyd plant yng Nghymru? OQ61439
Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau darpariaeth gofal iechyd o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae amrywiaeth gynhwysfawr o bolisïau a rhaglenni, sydd wedi'u gweithredu ar draws y Llywodraeth, yn chwarae rhan ganolog wrth wella canlyniadau iechyd a hyrwyddo iechyd a lles plant i blant yma yng Nghymru.
Diolch am eich ymateb, Prif Weinidog. Heb os, mae'r sefyllfa ar lawr gwlad gydag iechyd plant yn gwaethygu. Nid fy ngeiriau i ydyn nhw, ond geiriau Dr Nick Wilkinson o'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant. Mae'n dweud bod meddygon yn gweld
'lefelau uwch o drallod, lefelau cynyddol o bydredd dannedd...a chynnydd yn absenoldeb ysgol o ganlyniad i gyflyrau iechyd'.
Bydd yr anawsterau iechyd hynny sy'n digwydd yn ystod plentyndod, fel y byddwch chi'n ei ddeall, Prif Weinidog, yn cael effaith fawr ac yn dilyn y bobl hynny trwy gydol eu hoes. Byddwch chi'n gwybod nad yw hynny'n dda iddyn nhw ac nid yw'n dda i'n gwasanaethau iechyd sydd dan bwysau, y bydd angen iddyn nhw ofalu amdanyn nhw am ddegawdau i ddod. Felly, mae'n amlwg bod angen mynd i'r afael ag iechyd plant yma yng Nghymru. Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo'n bersonol i weithio gyda grwpiau fel Cydweithrediad Iechyd Plant Colegau Brenhinol Cymru i sicrhau bod iechyd plant yn cael ei flaenoriaethu a'i wreiddio ar draws meysydd portffolio'r Llywodraeth?
Nid wyf i'n anghytuno â llawer iawn o'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud. Rydyn ni yn wirioneddol bryderus am ganlyniadau i blant a phobl ifanc yng Nghymru, ond nid ydyn ni'n honni mai her iechyd yn unig yw hon. Mae'r materion yr ydych chi'n eu gweld yn aml yn ein system gofal iechyd, ar gyfer oedolion a phlant, yn cael eu hachosi gan heriau a phroblemau cymdeithasol ehangach. Mae gennym ni lawer i'w wneud ar wella iechyd y cyhoedd yng Nghymru, wrth ddeall sut yr ydyn ni'n perswadio pobl i wneud dewisiadau iachach iddyn nhw—nid i'r Llywodraeth na'r gwasanaeth iechyd, ond iddyn nhw—a'r hyn y mae'n ei olygu i'w bywydau. Byddwch chi wedi gweld hyn yn eich bywyd blaenorol pan oeddech chi'n gweithio fel ffisiotherapydd. Mae llawer o'r heriau y byddwch chi wedi'u gweld yn dod trwy'ch drws chi'n cael effaith sy'n dechrau ymhell y tu hwnt i'r system gofal iechyd. Yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw nid dim ond deall sut mae hynny'n gweithio, ond sut y gallwn ni berswadio pobl i wneud dewisiadau gwahanol.
O ran y camau a fydd yn cael eu cymryd, yr argyfwng costau byw oedd y prif fater ar garreg y drws yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac rydyn ni'n gwybod bod hynny'n cael effaith wirioneddol ar ganlyniadau i blant a phobl ifanc. Bydd cael mwy o sefydlogrwydd yn y wlad, adolygu'r hyn y gallai ac y dylai Llywodraeth y DU ei wneud i droi'r llanw ar y cynnydd mewn tlodi plant yr ydyn ni wedi'i weld dros y 14 mlynedd diwethaf, yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran canlyniadau iechyd plant. Ac, yn fwy na hynny, byddwn ni, wrth gwrs, yn gweithio gyda nifer o glymbleidiau ynghylch gwneud gwell camau ymlaen ar fynd i'r afael â thlodi plant a chanlyniadau i blant a phobl ifanc. Dyna pam y bydd Jayne Bryant yn ymateb i'r gydweithfa yn dilyn y llythyr yr anfonon nhw ataf ychydig wythnosau yn ôl.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i fusnes y Cyfarfod Llawn yr wythnos yma. Mae'r amser ar gyfer y ddadl Cyfnod 3 ar y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) wedi cael ei leihau i ddwy awr. Mae busnes drafft ar gyfer gweddill tymor yr haf a phythefnos cyntaf tymor yr hydref wedi'i nodi yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
A gaf i alw am ddatganiad, Trefnydd, ar oryrru ar y rhwydwaith cefnffyrdd? Mae problem yn fy etholaeth i fy hun o ran cefnffordd yr A494, sy'n mynd trwy bentref Llanferres yn sir Ddinbych. Mae trigolion yno wedi bod yn galw am ostwng y terfyn cyflymder a gwella diogelwch ar y ffyrdd ers blynyddoedd lawer, ond nid oes unrhyw gynnydd yn digwydd mewn gwirionedd. Mae gennym ni sefyllfa lle mae'r cyflymder trwy'r pentref, yn ôl y prawf canradd wythdeg pump, yn 53 mya, ac mae hyn ar adeg pan fo'r cyflymder ar ffyrdd nad ydyn nhw'n gefnffyrdd drwy bentrefi tebyg yn 20 mya. Yn amlwg, mae'r cyflymder hwnnw trwy'r pentref yn anghysondeb. Mae angen ymdrin ag ef. Cafodd rhywfaint o waith ei wneud gan yr asiantaeth gefnffyrdd, gan edrych ar yr arwyddion traffig a'r marciau ffordd drwy'r pentref, ond er eu bod yn cytuno bod angen rhywfaint o weithredu hyd yn oed ar hynny, nid oes unrhyw beth wedi'i drefnu mewn gwirionedd. Felly, a gaf i ofyn am ddiweddariad brys ar ddiogelwch cefnffyrdd, beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael ag anghysondebau fel hyn, fel y gall pentrefwyr yn Llanferres ac mewn mannau eraill mewn sefyllfaoedd tebyg deimlo'n ddiogel? Ac yn ogystal â hynny, a gaf i hefyd ofyn am amserlen glir ar gyfer gweithredu mesurau ar ôl i'r asiantau cefnffyrdd gytuno arnyn nhw, fel sy'n digwydd yn y pentref penodol hwn?
Diolch yn fawr iawn, Darren Millar. Rwy'n credu eich bod chi wedi tynnu'n sylw at hyn ar achlysuron blaenorol. Rwy'n credu eich bod wedi cael Gweinidogion a chyn-Brif Weinidogion yn ymweld â'r pentref hwn. Mae'n bwysig bod yr asiantaeth cefnffyrdd yn edrych ar hyn. Yn amlwg, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth hefyd yn ymwybodol iawn o hyn, a gobeithio y bydd hyn yn cael ei ddatrys. Rwy'n credu bod hwn yn fater ledled Cymru gyfan mae'n debyg, gyda'r adolygiadau hynny sydd wedi cael eu cyflawni gan awdurdodau lleol o ran goryrru. Ond mae hon yn gefnffordd, ac mae angen mynd i'r afael â hyn drwy'r asiantaeth gefnffyrdd.
Trefnydd, roeddwn i eisiau cywiro rhywbeth y dywedais i wrthych chi'r wythnos diwethaf am stampiau ffug. Roeddwn i eisiau rhoi gwybod i bawb bod yna broses ar hyn o bryd lle nad yw pobl yn cael eu codi arnyn nhw am stampiau ffug wrth i Swyddfa'r Post ymchwilio hyn. Mae'n ymddangos bod un ymgeisydd yn yr etholiad wedi postio llythyrau heb stampiau arnyn nhw i lawer o bobl ym Mhontypridd, o achos hynny y cefais i nifer o gwynion. Ond mae Swyddfa'r Post nawr yn mynd i fod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni i gyd am fater stampiau ffug sydd wedi bod yn cylchredeg.
Un o'r pethau roeddwn i eisiau ei godi gyda chi oedd bod nifer o etholwyr wedi bod mewn cysylltiad gan ddweud eu bod wedi wynebu rhwystrau wrth bleidleisio. Yn amlwg, rydyn ni'n gwybod bod prawf adnabod â llun arno yn rhwystr i rai, ond mae hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio yn parhau i fod yn broblem. Nid oedd rhai pobl yn gallu mynd i mewn i'r gorsafoedd pleidleisio yn gorfforol er mwyn gallu bwrw eu pleidleisiau. Felly, a gaf i ofyn a all Llywodraeth Cymru weithio gyda phob awdurdod yng Nghymru i sicrhau nad oes rhwystr yn ei le erbyn etholiadau'r Senedd, fel ein bod ni'n deall beth aeth o'i le y tro hwn? Oherwydd, yn amlwg, dylai pawb gael yr hawl ddemocrataidd honno i bleidleisio, ac mae clywed bod rhwystrau yn eu lle o hyd nawr yn peri pryder mawr i bob un ohonon ni, rwy'n siŵr.
Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Diolch am yr eglurhad hwnnw ar stampiau ffug. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd wedi bod â diddordeb yr wythnos diwethaf pan wnaethoch chi godi hyn. Ond mae hwn yn fater y byddwn ni'n amlwg yn clywed mwy amdano, rwy'n siŵr, o ganlyniad i'r ymchwiliad hwnnw.
O ran rhwystrau i bleidleisio, mae'n bwysig iawn, oherwydd yn sicr, fel llawer o bobl, fe wnes i guro ar ddrysau pobl a ddywedodd, 'Ni allaf bleidleisio oherwydd nad oes gen i unrhyw brawf adnabod pleidleiswr.' Roedd yna gwpl nad oedd ganddyn nhw drwydded yrru, na phasbort, a—gadewch i ni wynebu'r ffaith—mae llawer o bobl yn y sefyllfa honno, yn enwedig pobl ifanc a theuluoedd ar incymau is. Felly, diolch byth fod gennym ni reolaeth dros ein systemau etholiadol yng Nghymru, beth bynnag. Edrychaf ymlaen at ddadl Cyfnod 4 ar y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) y prynhawn yma, oherwydd bydd hynny'n ein helpu i fynd i'r afael â llawer o'r pethau hyn. O ran hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio, unwaith eto, mae angen i ni adrodd yn ôl ar draws y Siambr ar brofiadau y cafodd ein hetholwyr o ran hygyrchedd i orsafoedd pleidleisio. Rwy'n gwybod bod rhai gwelliannau yn fy etholaeth i, ac rwy'n siŵr bod hynny'n cael ei adlewyrchu'n ehangach. Ond hefyd, mae'n ddiddorol iawn gweld beth all fod yn orsaf bleidleisio. Rwy'n credu bod angen i ni ddysgu oddi wrth—. Pob etholiad, rydyn ni'n dueddol, efallai, i beidio â dysgu cymaint ac yna mynd yn syth i mewn i'r un nesaf, ond pwyntiau pwysig iawn—diolch yn fawr, Heledd.
Bydd y Trefnydd yn ymwybodol o'r diddordeb yn y Siambr hon am dynged adran iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a'r holl ymdrechion, dan arweiniad Rhianon Passmore ac eraill, i geisio ei hachub. Cafodd deiseb o dros 10,000 o lofnodion ei hanfon i'r Senedd, a chytunodd y Pwyllgor Deisebau y bydden nhw'n mynd am dadl. Ond gyda'r toriad ar fin dod yn fuan, ac rydyn ni'n ei deall—ac mae'r rhieni'n sicr yn ei ddeall—y bydd cyhoeddiad sydd ar fin digwydd am dynged y coleg ar 19 Gorffennaf, am ei ddyfodol, a oes unrhyw ffordd y gall y Trefnydd alluogi cynnal dadl yn y Siambr, fel y gall fod llais ystyrlon gan y cynrychiolwyr etholedig am y mater pwysig iawn hwn a fydd yn effeithio ar ddyfodol ein gwaddol cerddoriaeth a drama yng Nghymru?
Diolch yn fawr iawn, Julie Morgan, a diolch am ddod â hyn i sylw'r Senedd unwaith eto. Mae hwn yn llwybr pwysig iawn, drwy'r datganiad busnes, lle mae modd codi materion, ac mae'r Aelodau'n eu codi'n rheolaidd. Mae wedi'i gofnodi ac wrth gwrs, mae'n rhaid i'r Llywodraeth ymateb, ond hefyd cydnabod y gwaith a gafodd ei wneud wrth gasglu'r ddeiseb hon o fwy na 10,000 o lofnodion.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig ystyried rhywfaint o'r gwaith sydd wedi'i wneud yn ymwneud â chyfarfodydd, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi ysgrifennu at Lynne Neagle, ein Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, cyn lansio ymgynghoriad staff mewn ymateb i'r heriau ariannol sy'n wynebu'r coleg, ac roedd yr ymgynghoriad hwnnw'n cynnwys cynigion i atal rhywfaint o'i waith presennol gyda phobl ifanc oed ysgol, yn benodol y cyrsiau penwythnos actio a cherddoriaeth i'r ifanc. A hefyd i roi gwybod i Julie Morgan, ac Aelodau eraill sydd wedi codi hyn—Rhianon Passmore—bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i drafod ei gynigion, ac, yn wir, fe wnaeth Lynne Neagle gyfarfod â Helena Gaunt—mae hi wedi dod i mewn i'r Siambr nawr—pennaeth y coleg yn gynharach yr wythnos hon.
Mae'n gorff ymreolaethol. Mae'n gyfrifol am ei faterion academaidd ei hun, ac nid yw'r cyrsiau hynny'n cael eu hariannu'n uniongyrchol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru na Llywodraeth Cymru. Ond, yn amlwg, mae ymrwymiad y coleg i ddarparu cyfleoedd mewn cerddoriaeth a theatr i bobl ifanc a chreu llwybrau at ddysgu a hyfforddiant proffesiynol wedi cael ei adrodd yn ôl i ni'n glir iawn, ac maen nhw'n mynd i barhau i gyflawni ar nifer o feysydd gwaith prosiect.
Rwy'n deall ynghylch y penderfyniad y gwnaethoch chi gyfeirio ato, a chafodd hyn ei godi o'r blaen, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig adrodd yn ôl y bydd dadl yn gynnar yn nhymor yr hydref. Yn sicr, cytunodd y Pwyllgor Busnes y bore yma o ran cydnabod cais y Pwyllgor Deisebau i drefnu'r ddadl honno yn gynnar yn nhymor yr hydref.
A gaf i ddatganiad, os gwelwch yn dda, ar amseroedd aros cleifion yn Ysbyty Glan Clwyd yn fy etholaeth i? Maen nhw wedi dechrau gweld gwelliannau araf mewn amseroedd aros ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn enwedig gyda thriniaeth am ganser, ond, yn anecdotaidd, rwy'n clywed gan etholwyr am eu profiadau yn aros yn rhy hir o lawer yn adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Glan Clwyd. Clywais gan glaf â chyflwr ar y galon a gyrhaeddodd yn adran damweiniau ac achosion brys Glan Clwyd gyda phoenau difrifol yn y frest ac roedd yn rhaid iddo aros am gyfnod rhy hir o lawer a chael poenladdwyr tra'r oedd yn aros. Yn y pen draw, cafodd ei ryddhau a chafodd wybod y byddai angen sgan CT ac angiogram arno, nid oedd modd eu trefnu am ddau i dri mis arall er gwaethaf natur frys y cyflwr hwn. Fe wnaeth menyw arall aros tair awr mewn ambiwlans ac yna treuliodd y 24 awr nesaf mewn coridor.
Cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr rybudd coch mor ddiweddar â mis Mai eleni, gan fod eu hadrannau brys dan bwysau eithafol ar hyn o bryd, ac mae amseroedd aros hir dros ben i'w disgwyl. Nid wyf i'n siŵr beth sydd wedi achosi'r cynnydd diweddar hwn mewn amseroedd aros gormodol yng Nglan Clwyd, ond mae angen ymdrin ag ef ar frys. Felly, a allai Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n achosi'r amseroedd aros gormodol hyn yn adran damweiniau ac achosion brys Glan Clwyd, a pha fesurau sy'n cael eu cymryd i leddfu'r pwysau ar frys, o ystyried ei fod o dan fesurau arbennig, y mae gan Lywodraeth Cymru reolaeth uniongyrchol drostyn nhw? Diolch.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Fel y gwyddoch chi, mae lleihau amseroedd aros yn flaenoriaeth i ni. Rydyn ni wedi buddsoddi £170 miliwn y flwyddyn i ymdrin â'r cyfnodau aros hir a gododd oherwydd y pandemig, ac mae cyfnodau aros dwy flynedd 70 y cant yn is nag yr oedden nhw wrth lansio'n cynllun adfer—mae hynny'n gyflawniad enfawr o fis Ebrill 2022. Ond gwyddom ni, fel y gwyddoch chi fel Aelod o'r gogledd, fod y galw am ofal GIG Cymru wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae gennym ni staff arwrol y GIG yn ymdrin â 2 filiwn o gysylltiadau bob mis, swm rhyfeddol ar gyfer poblogaeth o ychydig dros 3 miliwn. Mae cynnydd wedi'i wneud. Rydyn ni'n cydnabod bod amseroedd aros yn rhy hir o hyd, ac rydyn ni'n cefnogi byrddau iechyd i ysgogi gwelliant pellach.
Mae gwaddol gwastraff cemegol yn ein Cymoedd yn gwenwyno'n tir a hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, gan y Llywodraeth yn ymdrin â'r problemau enfawr y mae'r cemegau bythol hyn yn eu hachosi. Bydd y Siambr yn gyfarwydd â thrafferthion Ynysddu yn fy rhanbarth i lle mae cemegau o'r enw biffenyls polyclorinedig, neu gemegau PCB, yn dal i halogi'r dŵr a'r tirlun. Mae'r actor a'r ymgyrchydd Michael Sheen wedi tynnu sylw at y sgandal hon yn y wasg yn ddiweddar, ac mae cynghorwyr ac ymgyrchwyr lleol wedi gofyn am atebion ers tro am pam nad yw'r tocsinau hyn yn cael eu cydnabod na'u clirio, oherwydd mae cemegau PCB yn wenwynig iawn. Mae cynhyrchu'r cemegau hyn wedi'i wahardd mewn 151 o wledydd, gan gynnwys y DU erbyn hyn. Ond, yn anffodus, mae'r cymunedau hynny lle y cafodd y cemegau PCB eu gadael i lygru'r tir yr holl flynyddoedd hynny yn ôl—maen nhw'n dal i ddioddef oherwydd y llanastr. Felly, a gawn ni ddatganiad yn rhoi sicrwydd i fy etholwyr bod Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol yn cymryd y mater hwn o ddifrif ac y bydd ymateb cenedlaethol i amddiffyn y cymunedau hynny rhag y cemegau PCB hyn o'r diwedd?
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw, Delyth Jewell. Rwy'n credu ei bod yn dda iawn bod gennym ni amrywiaeth o Ysgrifenyddion Cabinet yma heddiw—mae hwn yn fater trawslywodraethol i raddau helaeth. Rydyn ni'n cydnabod hyn. O ran y dystiolaeth sy'n dod o'ch rhanbarth chi ynghylch y safleoedd penodol hynny lle mae cemegau PCB a halogiad, yn sicr, fe wnaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet am ffordd briodol o ystyried hyn o ran cydnabod y pryderon i etholwyr ledled Cymru.
Prynhawn da, Trefnydd. Tybed a gaf i'r wybodaeth ddiweddaraf, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar y broses ymgynghori yn y broses drwyddedu lles anifeiliaid. Mae llawer ohonon ni yn drawsbleidiol yma yn y Siambr wedi bod yn ymgyrchu dros wahardd rasio milgwn, sy'n rhan o'r broses ymgynghori honno, felly bydden ni wir yn gwerthfawrogi'r wybodaeth ddiweddaraf, os gwelwch yn dda, ar yr amserlenni a phryd y gallem ni gael canlyniad. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane Dodds, a diolch am godi materion pwysig unwaith eto, yn ôl eich arfer, yn y cyd-destun hwn o drwyddedu sefydliadau lles anifeiliaid, yn enwedig yn ymwneud â lles milgwn. Rydych chi'n gwybod bod ymgynghoriad 12 wythnos ar drwyddedu gweithgareddau ac arddangosion sefydliadau lles anifeiliaid, ac roedd hynny'n cynnwys rasio a hyfforddi milgwn. Cafodd ei lansio ar 8 Rhagfyr y llynedd. Mae'n cefnogi ein gwaith i ddatblygu model cenedlaethol i wella rheoleiddio lles anifeiliaid. Daeth yr ymgynghoriad hwnnw i ben ar 1 Mawrth. Felly, nawr, mae'n fater o ddadansoddi'r ymgynghoriad ar drwyddedu gweithgareddau ac arddangosion sefydliadau lles anifeiliaid. Daeth 1,100 o ymatebion i law. Mae'n bwysig cael hyn yn iawn, pwyso a mesur y dystiolaeth ac nid rhagdybio canlyniadau, gan gynnwys dyfodol rasio milgwn, ymhellach ar hyn o bryd. Ond rydyn ni'n disgwyl cyhoeddi ymateb y Llywodraeth i'r ymgynghoriad yn ddiweddarach eleni. A gaf i ddweud eto, Llywydd, ac wrth Jane Dodds, mae'n bwysig iawn eich bod chi'n rhoi'r eitemau hyn ar agenda'r datganiad busnes fel y gallwn ni roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi, a gall yr Ysgrifennydd Cabinet glywed y pryderon a gofyn am eglurder ynghylch yr ymgynghoriad hwnnw a chanlyniadau'r ymgynghoriad hwnnw?
Rwy'n galw am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru. Y cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar godi ymwybyddiaeth o symptomau a chymhlethdodau diabetes math 1. Ym mis Mawrth y llynedd fe wnes i alw am ddatganiad yma ar godi ymwybyddiaeth o ketoacidosis diabetig, neu DKA, cymhlethdod diabetes math 1, ar ôl cwrdd â mam o sir y Fflint, Dee Pinnington, i drafod ei hymgyrch codi ymwybyddiaeth, yn dilyn marwolaeth ei mab Alistair—neu Ali—Thomas yn 2018 o DKA. Wrth siarad yma fis Hydref y llynedd, nodais fod Dee Pinnington wedi trefnu gŵyl gerdd—Gŵyl Ali 2024—yn sir y Fflint ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf eleni, gyda'r holl arian yn cael ei roi i Diabetes UK Cymru. Agorais i'r ŵyl hon ddydd Iau diwethaf. Mae codi ymwybyddiaeth pobl sydd naill ai'n byw gyda, yn gweithio gyda, yn ffrindiau gyda neu'n dod i gysylltiad ag unrhyw un sydd â diabetes math 1 yn hanfodol, lle mae deall y symptomau a rhybuddio gwasanaethau meddygol yn briodol, fel y gallan nhw gategoreiddio eu cymorth a blaenoriaethu ambiwlans, yn gallu bod y gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth. Rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny.
Yn ail, yn olaf, rwyf i hefyd yn galw am ddatganiad ar ddiwygio 'Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021', y cod ADY. Wrth ymateb yma i'r ddadl ar 8 Mai ar y ddeiseb ar hyn, daeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i'r casgliad:
'rydym yn clywed yn rhy aml fod yn rhaid i deuluoedd plant ag ADY frwydro am y cymorth a’r addysg gywir, ac mae’n rhaid i hyn newid.'
Yn fy nghyfarfod dilynol gydag ADY—
Mae'n ddrwg gen i dorri ar eich traws, Mark Isherwood, ond rydych chi'n bell dros amser ar y cais hwn. Os gallech ddod â'ch ail gais am gwestiwn i'r Gweinidog, os gwelwch yn dda.
Iawn. Wel, yn fy nghyfarfod dilynol gydag ymgyrch Diwygio ADY Cymru, dywedon nhw wrthyf i eu bod nhw wedi cael—
Na. Mae'n wir ddrwg gennyf i. Ond nid wyf i eisiau glywed yr hyn y gwnaethon nhw ei ddweud wrthych chi ar hyn o bryd. A wnewch chi ond gofyn am y datganiad?
Felly, rwy'n galw am ddatganiad yn ateb eu cwestiwn: 'O ble mae'r atebolrwydd ar hyn yn dod?'
Iawn. Gwnaethoch chi hynny'n glyfar, Mark Isherwood, gwnaethoch chi hynny'n glyfar.
Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood. Rwy'n credu bod y ddau Ysgrifennydd Cabinet wedi clywed y ddau bwynt, gwestiwn, yr ydych chi wedi'u codi. Nid oes gen i unrhyw gwestiwn o gwbl—amheuaeth—bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn deall yn llwyr. Ac mae'r adborth, wrth gwrs, gan bobl â diabetes, yn enwedig eu profiad fel cleifion eu hunain, o ran symptomau a chymhlethdodau, yn bwysig iawn i adrodd nôl arno, ac, wrth gwrs bydd pawb sy'n gysylltiedig yn cael eu gwneud yn ymwybodol ohono. Ac mae hyn nid yn unig gan ein gweithwyr iechyd proffesiynol, ond hefyd grwpiau cleifion a chefnogaeth.
Ac, ie, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi clywed eich galwadau o ran edrych ar y cod ADY a'r hyn y mae'n ei olygu a sut mae'n cael ei gyflawni. Mae'n ymwneud â gweithredu, sef yr hyn y mae'r Ysgrifennydd addysg yn ymwneud ag ef. Diolch.
Mae sawl etholwr o ardal Cefn Glas ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi codi pryderon gyda mi ynghylch diogelwch llwybr beicio arfaethedig yn yr ardal, yn benodol ynghylch graddiant yr ardal arfaethedig a'i agosrwydd at rhodfeydd tai preswyl. Nawr, mae trigolion wedi gweithio i geisio eglurhad ar ddiogelwch y llwybr beicio arfaethedig, ond maen nhw'n wynebu diffyg tryloywder. Ychydig iawn o wybodaeth sydd wedi dod ynghylch y cynigion, a phan fo cwestiynau wedi eu codi, mae trigolion wedi gorfod aros misoedd am ymatebion rhyddid gwybodaeth, nad ydyn nhw wedyn yn darparu unrhyw wybodaeth newydd. Felly, yng ngoleuni hyn, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio ar sut y gallwn ni agor y broses gynllunio, sicrhau tryloywder gyda gwybodaeth a rhoi llais i breswylwyr?
Diolch yn fawr iawn, Luke Fletcher. Wel, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod pwysigrwydd ein rhaglenni a'n targedau adeiladu tai, ac, yn wir, sut yr ydyn ni'n sicrhau, o ran cynllunio, ein bod ni'n bwrw ymlaen â hyn. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni ein targedau ar gyfer cartrefi newydd yng Nghymru sydd wedi'u gosod yn lleol. Mae pob awdurdod lleol, wrth gwrs, yn cynhyrchu ei asesiad marchnad dai lleol i ddarparu'r sylfaen ar gyfer targedau ar gyfer marchnadoedd a chartrefi fforddiadwy. A hefyd, o edrych ar hynny o ran 'Polisi Cynllunio Cymru', yr ydyn ni wedi bwrw ymlaen ag ef, rwy'n credu ei bod yn ffodus bod gennym ni bolisïau cynllunio cyfredol a chyson ar lefelau cenedlaethol a lleol, wedi'u darparu gan 'Cymru'r Dyfodol', 'Polisi Cynllunio Cymru' a'n cynlluniau datblygu lleol, a fyddai, wrth gwrs, yn ymdrin â rhai o'r materion yr ydych chi wedi'u codi o ran safleoedd penodol posibl.
Trefnydd, fel y gwyddoch chi, mae cryn bryder wedi bod ymhlith rhai trigolion yn fy rhanbarth i am y ffordd y cafodd pleidleisiau drwy'r post eu dosbarthu ar gyfer yr etholiad cyffredinol yr wythnos ddiwethaf. Roedd oedi wrth gyhoeddi pleidleisiau drwy'r post i nifer o etholwyr yn golygu iddyn nhw beidio â'u derbyn mewn pryd ar gyfer eu gwyliau neu ymrwymiadau gwaith, ac, yn anffodus, ni chafodd rai trigolion bleidleisiau drwy'r post o gwbl ac nid oedden nhw'n gallu eu casglu o swyddfeydd y cyngor. Ar ddiwrnod yr etholiad ei hun, cefais wybod hefyd—ac nid wyf i'n gwybod a yw hyn yn wir ai peidio—bod swyddogion y cyngor allan yn curo ar ddrysau pobl nad oedd wedi derbyn eu pleidleisiau post gan ofyn iddyn nhw eu llenwi yn y fan a'r lle. Er nad wyf i'n amau unrhyw weithredu annheg yma, os yw'n wir, gallwch chi ddychmygu bod hyn yn agor y drws i gyhuddiadau o dwyll yn y system bleidleisio, ac mae'n lleihau hyder yn ddifrifol yn y system bleidleisio drwy'r post. Gyda hyn mewn golwg, Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth, yn esbonio sut maen nhw'n bwriadu gwella hyder yn y system bleidleisio drwy'r post a sicrhau bod pleidleisiau drwy'r post yn cael eu derbyn mewn modd amserol cyn etholiadau yn y dyfodol? Diolch.
Wel, rwy'n gwybod y bydd yna ddadansoddiad—mae yna un bob tro—i'w ystyried, gyda swyddogion canlyniadau etholiadol, gweithredu'r holl reolau, rheoliadau, gweithdrefnau a pholisi sy'n ymwneud â'r etholiad diwethaf. Rwy'n credu, ar draws y pleidiau, ein bod ni'n gwybod bod problem gyda'r Post Brenhinol o ran pleidleisiau drwy'r post, ac, rwy'n credu, cwestiynau cynharach hefyd o ran hygyrchedd, yn sicr, rydyn ni'n ymdrin â phob un ohonyn nhw o ran ein pwerau etholiadol. Rwy'n siŵr y bydd y Cwnsler Cyffredinol, wrth i ni symud ymlaen, gobeithio, gyda Chyfnod 4 y Bil y prynhawn yma, hefyd yn ymateb i'r pwyntiau hyn—nid y prynhawn yma, ond o ran ei rolau a'i gyfrifoldebau yn y dyfodol.FootnoteLink
A gaf i ofyn am ddatganiad brys i'r Senedd, yn amlinellu effeithiau tymor byr a thymor hwy ar gau yn sydyn yr adran iau ar gyfer artistiaid ifanc yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gan amlinellu sut y mae hyn wedi digwydd a beth yw'r dyfodol i'r llu o fyfyrwyr ifanc trist iawn hyn, y mae'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael bwrsariaethau prawf modd, a'r cerddorion talentog sydd heddiw yn cael gwybod nad oes eu hangen nhw mwyach, llawer hefyd yn cael eu heffeithio gan doriadau Opera Cenedlaethol Cymru? Ac a all y datganiad i'r lle hwn amlinellu'r dyfodol ar gyfer unig conservatoire Cymru heb unrhyw adran iau na llif talent, gan y bydd hynny'n anghynaladwy i Gymru ac yn anghynaladwy i'r myfyrwyr talentog hynny, nawr ac yn y dyfodol?
Diolch yn fawr iawn, Rhianon Passmore, a diolch eto am ddod â hyn i sylw'r Siambr drwy'r datganiad busnes. Ni fyddaf i'n ailadrodd yr hyn y dywedais i'n gynharach mewn ymateb i gwestiwn Julie Morgan. Rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud y byddwn ni'n trafod hyn yn gynnar yn y tymor nesaf o ganlyniad i'r ddeiseb. Ac, unwaith eto, mae'r ffaith bod ein Ysgrifenyddion Cabinet wedi cyfarfod â phartneriaid nid yn unig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru, ond ein holl sefydliadau diwylliannol gwych—wedi eu cyfarfod ac wedi trafod y materion hyn a'r heriau hyn. Ond, hefyd, ar gyfer coleg brenhinol Cymru, unwaith eto mae wedi datgan ei ymrwymiad llawn i ddarparu'r cyfleoedd hynny mewn cerddoriaeth a theatr i bobl ifanc. Hefyd, fe wnaethon nhw adrodd yn ôl ar y ffaith eu bod yn cynnal eu gweithdai ymgolli mewn cerddoriaeth dros y penwythnos, preswyliad y Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol, a chyrsiau gwyliau yn y celfyddydau cynhyrchu.
Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ddarparu canolfannau gofal dydd i oedolion yng Nghymru? Mae canolfan gofal dydd Anchorange yn Noc Penfro, y mae Cyngor Sir Penfro yn berchen arno wedi bod yn hafan ddiogel i oedolion agored i niwed ag anawsterau dysgu ac anghenion ychwanegol ers degawdau lawer. Mae llawer o gysylltiadau pwysig wedi datblygu rhwng mynychwyr yn ystod y cyfnod hwn. Yn wir, dywedodd un rhiant wrtha i ei bod fel teulu. Yn anffodus, mae'r ganolfan wedi'i chlustnodi ar gyfer cau, er gwaethaf deiseb a gafodd ei llofnodi gan gannoedd yn galw am ei chadw ar agor. Byddai ei chau yn golygu tarfu difrifol ar y rhai sy'n mynychu—rhai o'r oedolion mwyaf agored i niwed—a byddai'n effeithio'n ddifrifol ar eu lles.
Mae tudalen 9 o ganllawiau statudol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau lleoli oedolion yn nodi bod y gofyniad canlynol ar ddarparwyr gwasanaethau yn cael ei wneud, ac rwy'n dyfynnu:
'Parhau i oruchwylio'r trefniadau ariannol a'r buddsoddi yn y busnes er mwyn sicrhau cynaliadwyedd ariannol fel bod yr unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn cael cymorth i gyflawni eu canlyniadau personol a'u bod yn cael eu gwarchod rhag y perygl o ddileu neu newid gwasanaethau a ddarperir heb i hynny gael ei gynllunio, yn sgil pwysau ariannol'.
Felly, mae aelodau teulu'r rhai sy'n mynychu Anchorage yn credu bod gweithredoedd Cyngor Sir Penfro wedi torri'r rheoliadau hyn, a byddwn ni'n ddiolchgar pe byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi naill ai datganiad llafar neu ysgrifenedig ar ddarparu canolfannau gofal dydd i oedolion yng Nghymru fel bod modd diogelu safleoedd fel y ganolfan gofal dydd Anchorage ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Diolch.
Diolch am y cwestiwn hwnnw. Rydyn ni wedi siarad am y llawenydd mawr, cyn belled ag yr wyf i yn y cwestiwn, a ni yma hefyd, o gael Llywodraeth Lafur newydd yn y DU, yn gweithio mewn partneriaeth â'n Llywodraeth Lafur yng Nghymru. Hefyd, rwy'n credu mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig, nad ydyn ni wedi'i grybwyll heddiw, yw pa mor dda y bydd i lywodraeth leol yng Nghymru ac i'r trydydd sector oherwydd, mewn gwirionedd, partneriaeth yw hon. Lle byddwn ni'n gweld newid, y bydd hi'n anodd, a bydd ein Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid yn fy ngwylio i'n agos ar hyn—[Chwerthin.] Ond bydd newid, bydd cyfle, oherwydd mae cymaint o'r canolfannau a'r lleoedd gofal gwych hyn wedi cael eu bygwth gan 14 mlynedd o gyni. Gobeithio y bydd rhywfaint o newid, ond gadewch i ni hefyd gefnogi ein hawdurdodau lleol yn y penderfyniadau heriol ledled Cymru gyfan y maen nhw'n dal i orfod eu gwneud, gan ystyried anghenion y bobl y maen nhw'n eu gwasanaethu.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio, os gwelwch yn dda, ar y broses o wneud cais am fathodyn glas a chael bathodyn glas ar gyfer pobl ag anableddau? Nawr, yn amlwg, dyna'r bathodynnau y mae pobl yn eu cael i'w galluogi nhw i ddefnyddio mannau parcio hygyrch. Mae'r system bresennol yn gorfodi unigolion i ailymgeisio am eu bathodynnau glas bob tair blynedd, ac mae hynny'n achosi pryder i lawer, oherwydd mae gan ganran uchel o ddefnyddwyr bathodynnau glas gyflyrau hirdymor neu gydol oes mewn gwirionedd, ond eto mae'n rhaid iddyn nhw wneud cais bob tair blynedd am eu bathodynnau glas newydd. Mae'n bwysig nodi nad oes yn rhaid i chi adnewyddu trwydded yrru am dros 10 mlynedd—neu mae'n 10 mlynedd ar y tro—ac yn yr un modd gyda phasbort, mae'n 10 mlynedd. Felly, mae hyn yn achosi problemau, yn arbennig, wrth gwrs, pan fydd angen llun pasbort newydd arnoch chi ar gyfer pob cais newydd, ac mae gan fythau lluniau broblemau hygyrchedd yn aml iawn, a hynny cyn i chi ddechrau llenwi'r ffurflenni hir iawn. Felly, mae angen i mi ddeall gan Ysgrifennydd y Cabinet a fydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu i leddfu'r baich hwn, oherwydd yn sicr, os oes gennych chi gyflwr gydol oes, yna dylech chi allu cael bathodyn glas gydol oes.
Diolch yn fawr, Llyr Gruffydd. Mae’n gwestiwn pwysig iawn.
Mae hyn yn rhywbeth yr ydyn ni wedi'i drafod ar sawl achlysur. Mae'n debygol eich bod chi wedi bod mewn pwyllgorau lle'r ydyn ni wedi trafod newidiadau a datblygiadau o ran darparu bathodynnau glas. Mae'n bwysig o ran cynwysoldeb, hygyrchedd a hefyd cefnogi pobl anabl wrth iddyn nhw ymgeisio nid yn unig am fathodynnau glas, ond mewn gwirionedd, eu cadw a'u hadnewyddu. Felly, diolch am ei godi eto. Mae wedi cael ei godi mewn datganiad ar achlysur cynharach, ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi gyda datganiad ar fathodynnau glas.
A gaf i ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, Trefnydd, y cyntaf o ran y bwriad i gau felodrom Canolfan Maendy, lleoliad chwaraeon olaf gemau'r ymerodraeth yng Nghaerdydd yn 1958, a maes hyfforddi i feicwyr fel Geraint Thomas. Mae Parc Maendy yn eiddo i elusen, a'r cyngor yw ei hunig ymddiriedolwr. Nawr, mae modd dadlau bod cau'r felodrom yn torri pwerau'r cyngor ac, efallai, ei ddyletswydd cydraddoldeb yn y sector cyhoeddus os nad yw hawliau preswylwyr anabl wedi'u cynnwys mewn asesiadau effaith.
Yn ail, a gaf i gefnogi galwad Julie Morgan a Rhianon Passmore am ddadl ar raglen ieuenctid y coleg brenhinol cyn toriad yr haf? Ddoe fe welson ni'r Prif Weinidog a Phrif Weinidog y DU yn cael eu hudo gan Ysgol Treganna, ac rwy'n siŵr y bydd ein cantorion ifanc yn gwneud yr un argraff ar rai ymwelwyr ddydd Iau. Rwy'n gwerthfawrogi'ch sylwadau bod y coleg brenhinol yn ymreolaethol, ond mae angen i ni ddiogelu enw da Cymru fel gwlad y gân ac actorion enwog. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Wel, mae Canolfan Maendy yn fater i Gyngor Caerdydd, ac rwy'n ymwybodol iawn, fel yr ydyn ni i gyd, o'i hanes a'i le, ac ni wnaf i sylw pellach am y peth, oherwydd rwy'n siŵr y byddwch chi'n ei godi fel Aelod rhanbarthol o ran y gobeithion a'r dewisiadau eraill sy'n cael eu trafod ar gyfer y ddarpariaeth honno.
Ac eto, o ran pwysigrwydd darpariaeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar gyfer pobl ifanc, ie, dim ond wythnos sydd gennym ni i fynd ar gyfer busnes y Cyfarfod Llawn, ac rwy'n credu y bydd y ddadl yn bwysig ym mis Medi, ac mae'n bwysig iawn i bawb y mae hyn wedi'u heffeithio arnyn nhw ein bod ni wedi rhoi'r fath sylw iddi y prynhawn yma.
Yn olaf, Natasha Asghar.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gweinidog Busnes, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol am y materion parhaus yn Ysbyty Athrofaol y Faenor yn fy rhanbarth i yn ne-ddwyrain Cymru? Mae'r mater hwn wedi codi sawl gwaith, ond, yr wythnos diwethaf, fe wnaeth gyrraedd y pwynt isaf oll. Aeth etholwr i mi i ysbyty'r Faenor yr wythnos diwethaf ar ôl mynd yn ddifrifol wael. Cafodd ei gadael yn ystafell aros yr ysbyty mewn poen ofnadwy, gan chwydu'n arw o flaen yr holl gleifion eraill. Nid yw hyn, rwy'n siŵr y gallwch chi gytuno, Gweinidog, yn dderbyniol o gwbl. Ar ôl cysylltu â fy swyddfa am gymorth, cysylltais â bwrdd iechyd Aneurin Bevan i weld a oedd modd gwneud unrhyw beth i roi ychydig o breifatrwydd i'r etholwr. Mewn ymateb, cefais i wybod nad oedd gwelyau ar gael ar y pryd ac y gallai fod yn gryn amser cyn i un ddod ar gael. Felly, Gweinidog busnes, rwy'n gwerthfawrogi'r ymateb y gwnaethoch chi ei roi i fy nghydweithiwr Gareth Davies, ond dim ond yn 2020 yr agorodd ysbyty'r Faenor, fel y gwyddom ni i gyd, ac mae eisoes yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r gofyn. Er nad oes gennyf i unrhyw broblem o gwbl gyda'r staff ac rwy'n gwbl deyrngar iddyn nhw am y gwaith caled y maen nhw'n ei wneud, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £14 miliwn i wella adran achosion brys yr ysbyty, ac mae hynny, wrth gwrs, yn newyddion i'w groesawu, ond mae angen gwneud rhywbeth i gynyddu capasiti'r gwelyau hefyd. Felly, roeddwn i'n gwerthfawrogi sylwadau'r Gweinidog iechyd yr wythnos diwethaf, y gwnaeth hi yma yn y Siambr, pan ddywedodd bod ei thîm yn cadw llygad barcud arno, ond a all y Gweinidog iechyd gyflwyno datganiad sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ar sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu gwella'r Faenor, oherwydd, fel y mae pethau, mae fy etholwyr wir, wir yn dioddef? Diolch.
Diolch am y cwestiwn yna, Natasha Asghar. Mae hwn i fwrdd iechyd Aneurin Bevan fynd i'r afael ag ef. Rydym wedi clywed gennych chi y prynhawn yma am amgylchiadau pwysau enfawr, ac, fel y dywedais i yn gynharach mewn perthynas â chwestiwn cynharach, mae'r galw yn y GIG wedi cynyddu cymaint yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae ein staff GIG arwrol unwaith eto yn delio â 2 filiwn o gysylltiadau bob mis—y cynnydd aruthrol hwnnw mewn pwysau. Ond, unwaith eto, rydym yn gwneud cynnydd, ac rwy'n credu y byddwn yn gwneud cynnydd pellach oherwydd bod gennym Lywodraeth Lafur yn San Steffan yn ogystal ag yma yng Nghymru erbyn hyn.
Diolch i’r Trefnydd.
Dwi wedi cytuno y gall Hannah Blythyn wneud datganiad personol. Hannah Blythyn, felly.
Diolch, Llywydd. Hoffwn i ddechrau trwy ddweud diolch i bawb a anfonodd negeseuon i fi. Diolch o galon.
Efallai nad oeddwn i mewn sefyllfa i ymateb i bob un ohonyn nhw, ond roedden nhw'n golygu llawer ac fe wnaethon nhw wahaniaeth. Nid yw hwn yn ddatganiad sy'n hawdd i mi ei wneud, nac yn un yr wyf yn ei wneud ar chwarae bach. Yn wir, bu adegau yn y gorffennol pan nad oeddwn yn siŵr y byddwn i, neu y gallwn i, sefyll a siarad yn y Siambr hon eto. Rwy'n gwneud hynny heddiw oherwydd rwy'n gwybod bod fy niddymu o'r Llywodraeth wedi bod yn destun trafod yn y lle hwn pan nad ydw i wedi bod yma. Rwyf hefyd yn teimlo ymdeimlad o gyfrifoldeb i'r rhai sydd agosaf ataf ac at fy etholwyr niferus sydd wedi dangos amynedd, dealltwriaeth a ffydd fawr ynof.
Llywydd, rwyf am ddechrau drwy sôn yn fyr am yr amgylchiadau yn ymwneud â mi'n gadael y Llywodraeth. Rwy'n gwybod y gallaf edrych ym myw llygad fy holl gyd-Aelodau sy'n eistedd ar y meinciau hyn a dweud nad wyf erioed wedi gollwng na briffio'r cyfryngau am unrhyw un ohonoch chi. Yn wir, gallaf ddweud hynny wrth bawb yn y Siambr. Er na fyddaf yn rhannu'r manylion, fe wnaf rannu fy mod wedi codi pryderon yn ffurfiol am y broses a ddefnyddiwyd i fy niddymu o'r Llywodraeth, gan gynnwys peidio â dangos unrhyw dystiolaeth honedig i mi cyn fy niswyddo, peidio â chael gwybod fy mod yn destun ymchwiliad erioed ac ni chefais wybod ar unrhyw adeg ac ni ddangoswyd tystiolaeth fy mod o bosibl wedi torri cod y gweinidogion. Rwy'n cydnabod ac yn parchu'n llwyr ei bod o fewn gallu unrhyw Brif Weinidog i benodi a diddymu aelodau o'u Llywodraeth. Rwy'n deall natur gwleidyddiaeth ac yn derbyn hynny'n llwyr. Rwy'n codi pryderon nid oherwydd hunan-fudd, ond oherwydd fy mod yn sylfaenol yn credu mewn datganoli a gwasanaeth cyhoeddus. Mae gen i bryderon gwirioneddol hefyd nad yw gwersi wedi cael eu dysgu o'r gorffennol. Mae angen i'r broses briodol nid yn unig fod ar waith a chael ei dilyn er mwyn urddas a pharch unigolion dan sylw, ond hefyd i gynnal uniondeb y gwasanaeth sifil a swydd y Prif Weinidog.
Rydw i eisiau cymryd eiliad i fyfyrio ar rywbeth sy'n bersonol iawn ac ychydig yn anodd i mi, ond rwy'n teimlo ei bod hi'n bwysig dweud er mwyn y ffordd rydyn ni'n gwneud gwleidyddiaeth. Rwy'n gwybod bod dyfalu wedi bod ynghylch fy amgylchiadau ac a wyf wedi bod yn ddigon da i weithio. Mae hyn wedi amrywio o'r hyn a oedd yn gyfystyr â chamwybodaeth a'r hyn y gellid ei briodoli i gamddealltwriaeth. Ni ddylai fod yn syndod bod yr hyn a ddigwyddodd wedi bod yn niweidiol iawn i mi ar lefel bersonol, ac wedi arwain at orbryder a straen acíwt. Nid wyf erioed wedi cael llofnod meddyg i ddweud nad ydw i'n ddigon iach i weithio o'r blaen pan fyddaf wedi cael trafferth gyda hyn ynddo'i hun, ond roedd yna adeg pan oedd y syniad o droi fy nghamera ymlaen i bleidleisio, a'ch gweld chi i gyd, yn llythrennol yn mynd â fy anadl. Rwy'n rhannu hyn nawr nid i chwilio am gydymdeimlad—dydw i ddim eisiau cydymdeimlad pobl—ond oherwydd bod fy mhrofiad diweddar wedi gwneud i mi sylweddoli, er ein bod ni i gyd yn sôn am iechyd meddwl, mae mwy i'w wneud o hyd i wella ein dealltwriaeth a'r effaith y mae'n ei gael ar unigolion a'u gallu i wneud pethau y byddem fel arfer yn eu cymryd yn ganiataol. Yn drist, rwy'n credu, weithiau, ein bod yn cael ein suo cymaint gan y wleidyddiaeth fel nad ydym bob amser yn meddwl am y person.
Yn ddiweddar, fe wnes i wrando ar bodlediad o'r enw Broken Politicians, Broken Politics. Dydw i ddim wedi torri, ond rwy'n gwybod yn awr fwy nag yr oeddwn o'r blaen fy mod yn gallu cael fy nhorri, fel yr ydym ni i gyd mewn gwirionedd, ac nid wyf yn credu bod gwleidyddiaeth wedi torri, ond yn sicr gallai fod yn well. Rydyn ni wedi sôn yn aml yn y lle hwn am wleidyddiaeth fwy caredig, ond allwn ni ddim cael gwleidyddiaeth fwy caredig heb bobl garedig, ac ni fyddwn yn cael gwell gwleidyddiaeth heb fod yn well bobl. Mae ein hymddygiad a'n cymeriad ein hunain yn allweddol i'r cyhoedd ymddiried yn y rhai sy'n eu gwasanaethu ac yn credu y gall gwleidyddiaeth fod yn rym er daioni.
Llywydd, bu'n fraint cael gwasanaethu yn Llywodraeth fy ngwlad, yn enwedig dan arweinyddiaeth Mark Drakeford. Gwnaeth mudiad yr undebau llafur nid yn unig lywio fy ngwerthoedd, ond fe helpodd i roi fy llais i mi, ac rwy'n falch fy mod wedi tywys y ddeddfwriaeth undebau llafur fwyaf blaengar yn oes ddatganoli. Ac ni fyddwn i, pan oeddwn yn iau, pan oeddwn yn ymbalfalu gyda fy rhywioldeb, erioed, erioed wedi credu, y byddwn i, un diwrnod, yn arwain y cynllun i wneud Cymru y genedl fwyaf cyfeillgar i LHDTC+ yn Ewrop.
Rwy'n wirioneddol ddiolchgar am y cyfle hwnnw a bydd bob amser yn fraint llwyr i wasanaethu'r gymuned a luniodd fi fel Aelod o'r Senedd. Rwyf dim ond yn pwy ydw i a lle yr ydw i oherwydd o ble rydw i'n dod. Ac er gwaethaf yr heriau a'r anawsterau—efallai o'u herwydd—rwy'n teimlo ymdeimlad o ymrwymiad o'r newydd i wleidyddiaeth gwasanaeth cyhoeddus ac yn teimlo'n benderfynol yn wirioneddol i barhau i gyfrannu at ein democratiaeth ddatganoledig, fy nghymuned a'n gwlad. Diolch. [Cymeradwyaeth.]
Diolch yn fawr, Hannah Blythyn.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan y Prif Weinidog ar y rhaglen ddeddfwriaethol. Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Heddiw, mae hi'n bleser i mi allu nodi'r blaenoriaethau deddfwriaethol ar gyfer fy Llywodraeth i. Rwyf i wedi bod yn eglur y bydd yn rhaid i ni ganolbwyntio ein hadnoddau ar yr hyn sydd bwysicaf ym mywydau pobl bob dydd. Mae ein henw da am gyflawni a'n cynlluniau i'r dyfodol fel ei gilydd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i newid radical, blaengar a thrawsnewidiol i bob cwr o Gymru.
Mae ein cyflawniadau deddfwriaethol ni dros y 12 mis diwethaf yn adlewyrchu'r ymrwymiad hwn gan ein bod ni wedi pasio deddfau sy'n hanfodol i ddyfodol Cymru i'r hirdymor. Mae Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), a gafodd Gydsyniad Brenhinol yn gynharach eleni, yn arddangos ein hymrwymiad ni i wella'r aer yr ydym ni'n ei anadlu a hyrwyddo seinweddau llesol. Wrth i ni symud tuag at allyriadau sero net erbyn 2050, bydd angen trawsnewid ein heconomi i bweru ffyniant gwyrdd. Bydd Deddf Seilwaith (Cymru), a basiwyd ym mis Ebrill, â rhan allweddol wrth gyflawni ein nodau ynni adnewyddadwy ac fe fydd yn symleiddio'r broses gydsynio ar gyfer prosiectau seilwaith mawr.
Rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau gofal iechyd a chymdeithasol effeithiol, cynaliadwy o ansawdd uchel i ddarparu canlyniadau gwell. Ym mis Mai, fe wnaethom ni gyflwyno'r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), a fydd yn gwahardd gwneud elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal yn rhan o'n rhaglen ni i drawsnewid gwasanaethau plant. Bydd Deddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru), a gafodd Gydsyniad Brenhinol eleni, yn gwella effeithlonrwydd ac yn canoli gofal iechyd ar y claf ei hun. Ynghyd â'r rheoliadau yn ddiweddarach eleni, fe fydd hynny'n cyflwyno trefn newydd ar gyfer caffael gwasanaethau'r GIG i ddiwallu anghenion y sector a'r bobl y mae'n rhoi gwasanaeth iddyn nhw. Mae'r rhain yn enghreifftiau o'r is-ddeddfwriaeth sylweddol sy'n rhoi sail i'n rhaglen ddeddfwriaethol ni, sy'n cynnwys rheoliadau i weithredu Deddfau'r Senedd, fel Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023.
Llywydd, fe fydd y Biliau a gyflwynwyd gennym ni yn nhrydedd flwyddyn y rhaglen ddeddfwriaethol yn cyflawni newidiadau cadarnhaol i ddemocratiaeth yng Nghymru hefyd. Fe fydd Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) (Cymru), a gafodd Gydsyniad Brenhinol fis diwethaf, yn creu Senedd fodern, a fydd yn gallu cynrychioli a gwasanaethu pobl Cymru yn fwy effeithiol. Bydd mesurau pellach i ddiwygio'r Senedd yn cael eu hystyried wrth drafod egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) yr wythnos nesaf. Mae'r uchelgais yn gyffredin ar draws y Senedd o ran cyflwyno mecanwaith adalw ar gyfer Aelodau'r Senedd ac mae fy Llywodraeth i'n barod i gefnogi'r gwaith hwnnw. Rydym ni wedi ymrwymo hefyd i lunio deddfwriaeth i'r Senedd ei hystyried ynglŷn â dichell gan Aelodau'r Senedd ac ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad i'r Senedd. Rydym ni'n edrych ymlaen at argymhellion y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar y ddau fater hyn yn rhan o'i waith ar atebolrwydd Aelodau unigol.
Yn ddiweddarach y prynhawn yma, fe fyddwn ni'n ystyried Cyfnod 4 y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), a fydd yn datblygu system etholiadol sy'n addas i'r unfed ganrif ar hugain. Bydd yr Aelodau yn ystyried gwelliannau i'r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn ddiweddarach heddiw hefyd. Mae'r Bil yn rhan o'n gwaith ni i ddiwygio ardrethi annomestig a'r dreth gyngor. Bydd Bil terfynol ein rhaglen blwyddyn tri, Bil y Gymraeg ac addysg, yn cael ei gyflwyno'r wythnos nesaf. Ein nod ni yw helpu disgyblion yng Nghymru i fedru'r Gymraeg a bod yn annibynnol a hyderus wrth wneud hynny.
Llywydd, rwyf i am droi nawr at y Biliau hynny y bydd fy Llywodraeth i'n eu cyflwyno yn ystod gweddill tymor y Senedd hon. Mae agenda ddeddfwriaethol lawn gennym ni o'n blaenau wrth i ni barhau i lunio deddfau a fydd yn sicrhau newid cadarnhaol a blaengar. Mae fy Llywodraeth i wedi ymrwymo i wella rhwydweithiau trafnidiaeth, a helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac adfer yr ymdeimlad o berthyn, cysylltiad a chymuned. Fe fyddwn ni'n ail-lunio'r system drafnidiaeth gyhoeddus mewn modd sylweddol, gan gyflwyno Bil bysiau i ganiatáu cydweithio ar bob lefel o lywodraeth yng Nghymru. Yna fe allwn ni ddylunio rhwydweithiau bysiau sy'n caniatáu i bobl gael gafael ar wasanaethau dibynadwy, cynaliadwy ac a fydd yn rhoi dewisiadau gwirioneddol ar wahân i deithio mewn car.
Llywydd, yn gyfochrog â hyn, rydym ni wedi ymrwymo i foderneiddio tacsis a thrwyddedu cerbydau hurio preifat i greu sector sy'n fwy diogel a theg. Felly, fe fyddwn ni'n ymgynghori ar Fil drafft tacsis a cherbydau hurio preifat yn nhymor y Senedd hon, ac fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda theithwyr, yr awdurdodau masnach a thrwyddedu i fwrw ymlaen â diwygiadau trwy ddulliau nad ydyn nhw'n rhai deddfwriaethol. Efallai y bydd yr Aelodau yn dymuno datgan buddiant o ran cwmni Veezu, yn ogystal â'm haelodaeth o undebau llafur Unite a GMB.
Fe fyddwn ni'n parhau i arddangos ein hymrwymiad i fynd i'r afael â bygythiad cynyddol i'r amgylchedd drwy gyflwyno Bil egwyddorion amgylcheddol a bioamrywiaeth. Fe fydd hwnnw'n sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol statudol i Gymru, a fydd yn ymgorffori egwyddorion amgylcheddol yng nghyfraith Cymru ac yn cyflwyno dyletswydd gyfreithiol gyda nodau ar gyfer amddiffyn ac adfer bioamrywiaeth. Mae'r Bil yn arwydd o'n hymrwymiad amlwg y bydd gweithredu ac arweinyddiaeth yn digwydd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur ac fe fydd honno'n dal i fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
Mae tomenni glo yn waddol gorffennol glofaol Cymru. Bydd Bil mwyngloddiau a chwareli (tomenni nas defnyddir) yn rhoi mwy o sicrwydd i'r bobl sy'n byw yn eu cysgod nhw. Bydd hwnnw'n amddiffyn seilwaith hanfodol ac yn diogelu'r amgylchedd trwy ymgorffori cyfundrefn reoleiddiol sy'n gynaliadwy, addas i'r diben yn y gyfraith ar gyfer diogelwch tomenni nas defnyddir.
Llywydd, rwyf i wedi egluro bod rhaid i ni ganolbwyntio ein hymdrechion ar y materion mwyaf pwysig yng ngolwg pobl Cymru. Fe ddylai pawb fod â lle y gallant ei alw'n gartref, ac mae diogelwch ein preswylwyr ni'n hollbwysig. Bydd ein Bil digartrefedd yn helpu pobl i aros yn eu cartrefi ac yn canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar i wella'r system ddigartrefedd a thai yn sylweddol. Fe ddaeth cyfres o is-ddeddfwriaethau i rym ym mis Ebrill a oedd yn cyflwyno rheolaethau adeiladu sy'n fwy tyn. Bydd ein Bil Diogelwch Adeiladau yn ymestyn hynny drwy sefydlu cyfundrefn diogelwch i adeiladau newydd. Fe fydd hyn yn diwygio ystyriaethau meddiannaeth a rheolaeth barhaus ar adeiladau amlbreswyl ac yn mynd i'r afael â materion diogelwch tân mewn ffyrdd sylweddol.
Fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil a fydd yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr. Fe fydd yr arian a gaiff ei godi yn cefnogi twristiaeth, yn helpu ein cymunedau ac yn diogelu harddwch Cymru i genedlaethau'r dyfodol. Bydd y Bil llety ymwelwyr (rheoleiddio) yn gwella'r profiad i ymwelwyr drwy sicrhau bod llety ymwelwyr yn bodloni'r safonau a fydd yn ofynnol. Bydd y Bil yn sefydlu cofrestr o letyau i ymwelwyr ac yn caniatáu i ddarparwyr arddangos eu cydymffurfiaeth â'r gofynion diogelwch.
Mae gwella hygyrchedd ein cyfraith yn agwedd bwysig arall ar ein rhaglen ddeddfwriaethol. Bydd ein Bil deddfwriaeth nesaf yn diddymu'r darpariaethau anarferedig ac a ddisbyddwyd o'r llyfr statud ac yn ffurfioli'r system o lunio a chyhoeddi offerynnau statudol Cymru. Fe wn i fod yr Aelodau yn awyddus i weld grymuso'r gyfraith gynllunio, a aeth yn fwyfwy anhygyrch a gorgymhleth i weithredwyr a defnyddwyr y system gynllunio. Fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil tua diwedd y Senedd hon a fydd yn symleiddio ac yn moderneiddio'r gyfraith yn y maes hwn.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU o ran deddfwriaeth y DU, ac fe fyddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd yn dilyn Araith y Brenin yn ddiweddarach y mis hwn. Hefyd, fe fydd yna raglen o is-ddeddfwriaeth i weithredu Deddfau a luniwyd i'r DU yn sesiwn flaenorol senedd San Steffan. Mae hyn yn cynnwys Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024, a oedd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gyflawni diwygiadau yn y maes hwn.
Llywydd, fe hoffwn i ddiolch i'r Aelodau a phwyllgorau'r Senedd, yn ogystal â'n partneriaid cymdeithasol a'n rhanddeiliaid ni, am eu rhan nhw wrth ddatblygu a chraffu ar y ddeddfwriaeth. Fe fydd ein rhaglen ddeddfwriaethol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, ac fe fydd yn helpu i wella cysylltiadau trafnidiaeth ledled y wlad, yn amddiffyn ein pobl a'n cymunedau ni, ac yn ein helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Rwy'n cymeradwyo'r rhaglen hon i'r Aelodau. Rwy'n edrych ymlaen at barhau i gydweithio ar y blaenoriaethau hyn i feithrin dyfodol uchelgeisiol ar gyfer Cymru decach, gryfach a gwyrddach.
Diolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad chi'r prynhawn yma ar y rhaglen ddeddfwriaethol. Rwy'n dweud hyn bob blwyddyn: mae hi'n peri syndod i mi bob amser pan fyddwn ni'n sefyll yma a meddwl yn ôl am ddyddiau'r Gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol, pryd yr oedd Aelodau, pe bydden nhw'n dymuno, neu hyd yn oed pe byddai'r Llywodraeth yn dymuno dod â deddfwriaeth drwodd, yn gorfod rhuthro i San Steffan a chyflwyno honno fel achos cychwynnol, yn amlwg, ac yna, pe bydden nhw'n cael cymeradwyaeth i honno, fe allen nhw gyflwyno eu Mesurau, fel roedden nhw'n cael eu galw yn y dyddiau hynny, cyn i'r broses ddeddfwriaethol ddechrau, a sut roedd hynny'n ein rhwystro ni yma yn Senedd Cymru rhag cyflwyno deddfwriaeth a ddylai fod, ac rwy'n cytuno â'r Prif Weinidog, yn ceisio gwella bywydau pobl Cymru a gwella gwasanaethau bob amser. A gyda hynny mewn cof rwy'n tynnu sylw at natur gyfyngedig y rhaglen ddeddfwriaethol a gyflwynodd y Llywodraeth hyd yn hyn. Pan edrychwch chi, ers 2021 yn yr Alban, er enghraifft, mae 43 o Filiau wedi cael eu cyflwyno yn yr Alban; os edrychwch chi ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU yn San Steffan, sy'n ddeddfwrfa llawer mwy, mae yna tua 165 o Filiau, ac yn y fan hon ers 2021, rydym ni'n sôn am 13 darn o ddeddfwriaeth—13 darn o ddeddfwriaeth. Felly, mae yna ddiffyg o ran uchelgais, fe fyddwn i'n awgrymu, gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n gwerthfawrogi bod y Gweinidog iechyd yn dymuno gweiddi ar draws trwy'r amser heddiw. Pe byddai hi'n gwneud cymaint o ymdrech wrth geisio datrys y rhestrau aros yma yng Nghymru, efallai y byddai gwelliant yn hynny o beth wedyn. Yr hyn a fyddwn i'n ei ddweud wrth y Prif Weinidog yw ceisio deall yn union sut y bydd y datganiad deddfwriaethol hwn yn gwneud y gwelliannau hynny er mwyn pobl Cymru.
Fe wnaethoch chi siarad am y Bil iechyd a gofal cymdeithasol yn gynnar yn eich datganiad, a gyflwynwyd ym mis Mai. O ystyried y darlun newidiol, oherwydd y newid yn y Llywodraeth yn San Steffan sy'n digwydd yn Lloegr, pan fo'r awdurdodau yma yng Nghymru yn ceisio llawer o wasanaethau, yn enwedig o ran plant sy'n derbyn gofal, ac ymrwymiad Wes Streeting i sicrhau y bydd mwy o ddefnydd o'r sector annibynnol yn narpariaeth y gwasanaethau hynny, pa mor gydnaws fydd y ddeddfwriaeth hon yma yng Nghymru gyda'r fenter polisi i sicrhau mai hwnnw yw'r canlyniad gorau i'r unigolyn mewn gwirionedd, yn hytrach na'r cyfyngiad deddfwriaethol, sy'n cyflawni ar gyfer yr unigolyn hwnnw mewn gwirionedd? Oherwydd mae yna fwlch eang yn agor gyda bwriadau polisi Wes Streeting a'r hyn y mae ef yn awyddus i ddefnyddio'r sector annibynnol ar ei gyfer ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac, yn amlwg, yr hyn yr ydych chi yn y Llywodraeth yn ei hyrwyddo yn y ddeddfwriaeth hon. Ac os ydych chi'n byw yn y canolbarth, er enghraifft, fe fyddai llawer iawn o'r ddarpariaeth y byddech chi'n ei defnyddio i'w chael dros Glawdd Offa, yn hytrach nac yn ardal Powys, yn amlwg, er enghraifft. Felly, pe gallai'r Prif Weinidog egluro hynny, fe fyddwn i'n ddiolchgar.
O ran y gyfraith diogelwch adeiladau y cyfeiriodd ef ati, a fyddai ef yn cadarnhau heddiw a fydd y gyfraith diogelwch adeiladau honno'n defnyddio adrannau 116 a 124, yn un o'r seiliau i'w chydnawsedd deddfwriaethol, oherwydd mae llawer o ymgyrchwyr sydd wedi tynnu sylw at y darn penodol hwnnw o ddeddfwriaeth yn Lloegr wedi tynnu sylw at ba mor bwysig yw hwnnw o ran eu galluogi nhw i geisio adfer a grymuso'r broses o herio datblygwyr am ddiffygion eu hadeiladau yn Lloegr, ond, yn anffodus, nid yw'r Llywodraeth yng Nghymru wedi cyflwyno darpariaethau tebyg hyd yn hyn mewn unrhyw ddeddfwriaeth? Felly, rwy'n gweld yr hyn y mae ef ei ddweud yn y datganiad ynglŷn â bod hyn o gymorth ataliol o ran diogelwch tân. A wnaiff ef gadarnhau heddiw a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried ac a fydd hi'n cynnwys hynny yn y ddeddfwriaeth?
O ran y gyfraith gynllunio yn arbennig a'r Ddeddf seilwaith—unwaith eto, maes polisi mawr arall a darlun newidiol yn Lloegr, fel gwelsom ni gan y Canghellor ddoe—. Rwy'n deall gwleidyddiaeth ddatganoledig; yn amlwg, mae gan y Llywodraeth yma'r hawl i fod â'i pholisi ei hun a'i deddfwriaeth ei hun, ond, pan fydd buddsoddwyr yn ceisio rhoi arian mewn prosiectau, maen nhw'n amlwg yn chwilio am y llwybr cyflymaf i'r farchnad a'r fframwaith mwyaf hwylus sydd ar gael iddyn nhw ar gyfer gwneud y dewis hwnnw. Ac er mwyn i Gymru barhau i fod yn gystadleuol, a yw ef yn hyderus mai'r Ddeddf seilwaith a basiwyd y llynedd, rwy'n credu, a'r Ddeddf gynllunio y mae ef yn sôn amdani'n cael ei rhoi ar waith cyn yr etholiad nesaf i'r Senedd, fydd yr amgylchedd mwyaf cystadleuol bosibl wrth barhau i amddiffyn cymunedau rhag gorddatblygu a diogelu, yn y pen draw, yr hyn yr ydym ni'n malio amdano, sef tirwedd a chefn gwlad eang Cymru, sydd yn aml mewn perygl oherwydd datblygiadau nad ydyn nhw'n addas i'r ardaloedd neilltuol hynny.
A wnaiff y Prif Weinidog ddweud ychydig bach am ei farn ef ynglŷn â manteision y Ddeddf tomenni nas defnyddir y mae ef yn sôn amdani—y darn hwn o ddeddfwriaeth? Yn un y mae ei ranbarth ei hun, Canol De Cymru, yn cwmpasu llawer o'r ardaloedd hyn, mae ef yn sôn yn natganiad heddiw, yn amlwg, am seilwaith a diogelu seilwaith a chymunedau. A wnaiff y Prif Weinidog nodi sut y bydd y darn hwn o ddeddfwriaeth yn gwneud hynny mewn gwirionedd a'r hyn a fydd yn ei gyflawni er mwyn cymunedau, yn enwedig yn yr hen feysydd glo? Oherwydd, yn amlwg, mae yna beryglon difrifol yn rhai o'r cymunedau hynny oni bai fod y tomenni hynny, nid yn unig yn cael eu diogelu gan ddeddfwriaeth, ond hefyd o ran caniatáu deddfwriaeth i gymunedau ac awdurdodau lleol ddefnyddio asedau ar gyfer diogelu'r cymunedau hynny.
Y Bil egwyddorion amgylcheddol a bioamrywiaeth—
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Rydych chi wedi mynd dros eich amser. Allai hwn fod yr un olaf os gwelwch chi'n dda?
Fe allwn i fynd ymlaen ac ymlaen.
Fe wn i hynny, ond nid oes gennych chi amser.
Rwyf i am sôn ychydig bach am y pwynt olaf hwn felly, os caf i. O ran yr egwyddorion amgylcheddol a'r Bil bioamrywiaeth, fe fydd hwn yn amlwg yn ddarn allweddol o ddeddfwriaeth. Ni fydd y Senedd olaf i ddeddfu darn o ddeddfwriaeth o'r fath—rwy'n credu fy mod i'n gywir wrth ddweud hynny. Mae'r Alban a Lloegr eisoes wedi rhoi deddfwriaeth o'r fath ar y llyfr statud. A fydd hwn yn ddarn unigryw o ddeddfwriaeth, neu a fydd yn ddim ond hybrid o'r hyn a welwyd yn cael ei gyflwyno mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, yn yr Alban ac yn Lloegr, ac yn cael ei gyflwyno yma yng Nghymru? Felly, a allech chi roi blas i ni ar ei ehangder a'r uchelgais sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y darn penodol hwnnw o ddeddfwriaeth, a beth yn union fydd yr amddiffyniadau sydd ynddo? Diolch i chi, Dirprwy Lywydd.
Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Nid wyf i'n derbyn ei feirniadaeth ef o ran diffyg uchelgais yn y rhaglen ddeddfwriaethol. Hyd yn hyn rydym ni wedi bod â rhaglen lawn, fel bydd pobl sy'n gwasanaethu ar bwyllgorau craffu yn ei gydnabod, a'r Gweinidogion yn treialu deddfwriaeth drwodd. Wrth gwrs, yn y dyfodol, fe fydd gennym ni Senedd gyda mwy o allu i graffu ar ddeddfwriaeth. Yr hyn y mae angen i ni ei ystyried hefyd yw sut y byddwn ni'n cyflwyno darn o ddeddfwriaeth addas i'r diben a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Wrth graffu, rwy'n credu bod awydd yn codi yn aml i ychwanegu mwy o bethau at y Biliau sy'n cael eu cyflwyno. Mae hynny'n digwydd ym mhob Senedd, a bod yn deg, ni waeth beth fyddo ei gogwydd gwleidyddol, ond mae cyflwyno Bil ysgubol aruthrol fawr yn ei gwneud hi'n broses lai sicr yn aml a heb ei hanelu mor agos at gyflawni'r gwelliannau gwirioneddol y mae angen i ni eu cyflawni nhw. Felly, rwyf i'n ymddiddori yn y deddfau a all ac a fydd yn gwneud gwahaniaeth i ganlyniadau er lles pobl hefyd.
Fe fyddai'n rhaid i mi ddweud fy mod i o'r farn, yn ei sylwadau ef am Wes Streeting, ei fod ef yn chwilio am raniad lle nad oes un yn bod. Mae gennym ni ddiddordeb yn sut rydym ni'n gwella canlyniadau ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Ac mae'r Bil y gwnaethom ni ei gyflwyno sy'n diddymu elwa yn ariannol ar wasanaethau gofal preswyl plant nid yn unig yn rhywbeth yr oeddwn yn falch o lofnodi'r datganiad unwaith eto ar ran Llywodraeth Cymru gyda phlant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, mae'n ymwneud â sut yr ydym ni'n cyflawni canlyniadau gwell. Ar hyn o bryd, mae gennym ni system a fydd yn mynd yn gynyddol gostus heb ymyrraeth, ac mewn gwirionedd rydym ni'n dymuno darparu system gyda chanlyniadau gwell yn ei sgil. Fe fydd canlyniadau sy'n well i'r trethdalwr, ond, yn hollbwysig, fe fydd yna ganlyniadau gwell i'r plant a'r bobl ifanc sy'n cael profiad o fod mewn gofal yn ystod eu hoes. Ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n arwain hefyd at newid yng nghyfeiriad y ddadl ynghylch y mesurau yr ydym ni'n ceisio eu llunio ar gyfer gwella canlyniadau gyda phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal ac er eu mwyn nhw. Rwy'n awyddus i egluro fy mod i'n falch iawn o hyd o'r hyn y mae'r Llywodraeth hon yn parhau i'w wneud o ran cefnogi pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal gyda'r cynllun treialu incwm sylfaenol, ac rwy'n gobeithio y bydd rhai o'r datganiadau gwarthus ac anwir a gafodd eu gwneud am y cynllun treialu hwnnw'n dod i ben nawr am fod cyfres wahanol o ran yr arweinyddiaeth a'r rheolaeth ar lefel y DU, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn cael ei ystyried ar bob ochr i'r Siambr hon a'r tu allan iddi.
O ran diogelwch adeiladau, rydym ni wedi ystyried yr hyn sydd yn Neddf Diogelwch Adeiladau'r DU 2022, yn adrannau 116 i 125. Yr hyn sydd gennym ni yng Nghymru eisoes yw llwybr newydd i fynd i'r afael â diogelwch tân ym mhob adeilad preswyl o 11m a throsodd. Nid yw hynny'n gyfyngedig i adeiladau â chladin ac mae'n berthnasol i faterion diogelwch tân y tu mewn a'r tu allan. Ni yw'r unig wlad yn y DU sydd wedi gwneud yr ymrwymiad hwnnw, felly mae ein hymagwedd ni'n wahanol i'r un yn Lloegr. Fe wn i fod Julie James wedi mynd dros hynny sawl gwaith yn y Siambr hefyd. Rydym ni wedi bod yn eglur hefyd na ddylid gorfodi lesddeiliaid i dalu am waith i gywiro materion o ran diogelwch tân nad ydyn nhw'n gyfrifol amdanyn nhw. Dyna pam y bydd gennym ni gynllun ar gyfer personau cyfrifol, er mwyn gallu gwahodd pob lesddeiliad yn yr adeilad hwnnw i gael cefnogaeth addas, ac mae gennym ni gefnogaeth ar gael i lesddeiliaid hefyd a allai fod ag angen i weithredu.
O ran y Ddeddf seilwaith, rwy'n credu bod y Ddeddf seilwaith yn ein symud ni ymlaen. Dyna'r diben bwriadol wrth i ni ei basio, ar gyfer ddiweddaru ein strwythur cynllunio fel y gall pobl sy'n dymuno buddsoddi mewn seilwaith a datblygiad mawr yma fod â fframwaith sy'n addas i'r diben ar gyfer gwneud hynny. Ac mae cydbwysedd, fel nododd yr Aelod, rhwng ein huchelgeisiau ni'n fwy eang ar gyfer sicrhau budd economaidd a buddsoddiad mewn seilwaith, yn ogystal â rhai o'r heriau lle mae'r datblygiad hwnnw'n digwydd, a lle bydd seilwaith yn digwydd o'i amgylch hefyd. Dyna pam rydym ni wedi ceisio cydbwyso hynny eisoes ar gyfer rhoi sicrwydd i fuddsoddwyr, ond ar gyfer deall sut y gall pobl ddylanwadu ar y system gynllunio a'r ystyriaethau i'w gwneud yn iawn wrth wneud felly.
Er enghraifft, ni fyddwn i'n credu y byddai hi'n beth synhwyrol, o ystyried yr egni a'r ymdrech a roddwyd i adfer mawndiroedd ledled Cymru, i aredig ardaloedd eang o'r mawndir hwnnw gyda'r holl fudd sylweddol ychwanegol y mae'n ei roi i fioamrywiaeth yma yng Nghymru hefyd. Felly, rwy'n credu y bydd y ddeddfwriaeth sydd gennym ni o gymorth gyda sicrwydd o'r fath i fuddsoddwyr, oherwydd rwy'n awyddus i weld buddsoddiad yn digwydd yma yng Nghymru. Rwy'n awyddus i'w weld yn digwydd pan fyddwn ni'n cael swyddi yn dod yn ei sgil, nid cyfle i ennyn un rhan o'r gadwyn economaidd a dyna i gyd.
Bil i gydgrynhoi yw'r Bil cynllunio mewn gwirionedd, ac mae hi'n dal i fod yn bwysig sicrhau bod y ddeddfwriaeth gynllunio sy'n berthnasol gennych chi i gyd mewn un lle. Y perygl fel arall yw bod ystyriaethau cynllunio gennych chi mewn gwahanol rannau o'n fframwaith deddfwriaethol, a bod angen llawer o allu cyfreithiol a chwilio arnoch chi ar gyfer sicrhau eich bod chi'n casglu hynny i gyd mewn un lle. Nawr, os ydych chi'n awdurdod cynllunio sydd ag adnoddau da neu'n ymgynghorydd cynllunio sy'n gweithio yn y sector preifat, mae gennych chi'r gallu i wneud hynny. A dweud y gwir, mae yna elfen o ansicrwydd y gallwn ni helpu i'w lliniaru eto pe byddwn ni'n yn pasio'r Bil cynllunio yn y ffurf y cyflwynir ef. Rwyf i o'r farn, unwaith eto, y bydd yn llesol i fusnesau, yn llesol i'r awdurdodau lleol, ac yn llesol i drigolion a chymunedau unigol fod ag un lle i fynd iddo ar gyfer ystyriaethau cynllunio.
O ran y Bil llywodraethu amgylcheddol a bioamrywiaeth, fe fydd hwnnw, fel dywedais i yn y datganiad, yn nodi ein hymrwymiadau ni ar gyfer adferiad a gwelliant. Felly, fe fydd y Bil Egwyddorion Amgylcheddol a Bioamrywiaeth yn unigryw i Gymru o ran ei ystyriaeth o'r hyn y mae angen i ni ei wneud yma yng Nghymru, ond wrth gwrs, fe fyddwn ni wedi achub ar y cyfle i ddysgu o'r hyn a wnaeth rhannau eraill o'r DU, a dyna'r hyn y dylem ni ei wneud. Ni ddylem ni fod yn ofni dysgu a sylwi ar syniadau da eraill y gallem ni eu cymhwyso yma, ac, yn yr un modd, fe ddylem ni fod â bwriad amlwg yn ein penderfyniad i fod â deddfwriaeth sy'n wirioneddol addas i'r diben. Ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn craffu ar y ddeddfwriaeth honno i sicrhau eu bod nhw'n fodlon ar y cynllun a nodwyd gennym, ond ar y nodau a fydd gennym ni hefyd ar gyfer adfer a gwella bioamrywiaeth a natur ledled y wlad.
Pan ddaeth o'n Brif Weinidog yn ôl ym mis Mawrth, mi amlinellodd y Prif Weinidog ei uchelgais o i gyflawni newid cadarnhaol a blaengar, ac mi oeddem ni ar y meinciau yma yn barod i hyrwyddo'r weledigaeth honno, mewn ffordd, ac i weithio'n adeiladol efo'r Llywodraeth i'w chyflawni. Ac, wedi'r cyfan, mi oedd cyflawni newid cadarnhaol a blaengar wrth wraidd y cytundeb cydweithio a oedd eisoes wedi cyflwyno mentrau arloesol iawn mewn meysydd o brydau ysgol am ddim, gwarchod y farchnad dai, gofal plant, diwygio'r Senedd, ac yn y blaen.
Ond wrth i'r Prif Weinidog symud o un sgandal i'r llall ohono'i hun o'r cychwyn cyntaf, mi hefyd welsom ni y weledigaeth uchelgeisiol yna yn cael ei gwthio i'r naill ochr a nifer o ymrwymiadau deddfwriaethol uchelgeisiol yn cael eu rhoi ar y silff wrth i'r Llywodraeth, dwi'n ofni, flaenoriaethu amddiffyn ei buddiannau ei hun yn hytrach na delifro ar ran pobl Cymru. Ac, yn wir, os ydy Keir Starmer rŵan, wrth ddod yn Brif Weinidog, yn ddiffuant wrth iddo fo ddweud ei fod o'n dymuno gweld Llywodraeth yn troi nôl at eu priod waith o wasanaethu pobl sy'n eu hethol nhw, mi fyddai'n gwneud yn dda i'r Prif Weinidog fyfyrio ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd, dwi'n meddwl, dros y pedwar mis diwethaf.
Rydym ni yn y sefyllfa anffodus erbyn hyn o fod â rhagor i'w ddweud am yr hyn a adawyd allan o raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth na'r hyn sydd ynddi hi: mae trefniadau llywodraethu amgylcheddol ôl-Brexit sydd wedi bod ar waith ers amser maith mewn gwledydd eraill yn y DU yn cael eu dal yn ôl o hyd; oedi mesurau arloesol i greu Senedd gytbwys o ran rhywedd dro ar ôl tro, o bosibl o nawr tan 2030; gweithredu pecyn trawsnewidiol o ddiwygiadau i'r dreth gyngor, a ddatblygwyd yn rhan o'n cytundeb cydweithio, sy'n cael ei wthio yn ôl tan ar ôl yr etholiad nesaf i'r Senedd. Rydych chi'n gwarantu y bydd yr aelwydydd mwyaf difreintiedig yn dal i gael eu cosbi yn anghymesur gan system sy'n annheg, atchweliadol a hen ffasiwn am o leiaf bedair blynedd arall.
Nawr, yng nghanol y siomedigaethau hynny i gyd ac, wyddoch chi, siomedigaethau mawr, mae ambell i lygedyn o obaith y byddem ni'n sicr o ddal ati i annog y Llywodraeth i beidio â cholli golwg arnyn nhw yn ystod y flwyddyn a hanner sydd ar ôl yn nhymor y Senedd hon. Rydym ni o'r farn fod diwygio masnachfreintiau bysiau i gysylltu ein cymunedau a gafodd eu datgysylltu yn hanfodol a bod angen gwneud hynny ar fyrder. Rwy'n croesawu'r hyn a gawn ni yn y datganiad heddiw ynglŷn â deddfwriaeth i hyrwyddo cyfleoedd i ddysgu'r Gymraeg i bawb, a meithrin sector twristiaeth mwy cydnerth yng Nghymru. Rydym ni'n croesawu'r ffaith hefyd fod y Llywodraeth wedi addo cyflwyno deddfwriaeth i wahardd dweud celwyddau mewn gwleidyddiaeth, mewn ymateb i waith da fy nghyd-Aelod, Adam Price.
Ond, ar y cyfan, rwy'n credu bod pobl Cymru ag angen a dyhead am fwy na'r hyn sydd gennym ni yn y rhaglen hon. Maen nhw'n hiraethu am fwy o degwch ac uchelgais i Gymru sef yr hyn sy'n ysgogi ein grŵp newydd, estynedig ni o ASau o Blaid Cymru yn San Steffan. Fe fyddan nhw'n sicr yn cyflwyno'r achos yn San Steffan am gyllid teg ar gyfer cyfran deg Cymru o HS2, a hefyd am fesurau i frwydro yn erbyn tlodi plant a sicrhau datganoli pellach, gan gynnwys Ystad y Goron. Ond fel dywedais i, yr hyn sy'n amlwg yn yr agenda ddeddfwriaethol hon a glywsom ni'n cael ei hamlinellu heddiw yw'r hyn sydd ar goll ohoni.
Er enghraifft, mae hi'n nesáu at chwe mis erbyn hyn ers i'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru gyhoeddi ei adroddiad terfynol. Nid oes unrhyw beth yn cael ei amlinellu yma a fyddai'n cyflawni unrhyw un o'i argymhellion, argymhellion yr hoffai'r Senedd hon eu gweld nhw'n cael eu derbyn yn llawn a hynny ar fyrder. Nid oes unrhyw beth yn cael ei amlinellu o ran braenaru'r tir ar gyfer datganoli pellach, gan gynnwys trosedd a chyfiawnder, rhywbeth y mae Llafur yng Nghymru wedi ei honni ers amser maith ei fod yn flaenoriaeth, ond y mae'r Ysgrifennydd Gwladol newydd wedi diystyru hynny'n fynych ac yn benodol. Os yw'r agenda ddeddfwriaethol hon yn cynrychioli cwmpas uchelgais Llafur i Gymru, wel, fe fydd llawer o bobl yn cael eu siomi. Rwy'n eiddgar i weld Llywodraeth sy'n gwthio'r ffiniau o ran yr hyn y gall y setliad datganoli presennol ei gyflawni, ac nid dyna'r hyn sydd gennym ni ger ein bron heddiw.
Rydym ni ym Mhlaid Cymru'n glir am y mathau o bethau rydym ni'n credu y dylai Llywodraeth ddatganoledig geisio eu cyflawni ar gyfer Cymru. Mi wnawn ni amlinellu llawer o'r rheini rhwng rŵan a mis Mai 2026: sicrhau datblygiad economaidd yn seiliedig ar dargedau uchelgeisiol; strategaeth wirioneddol ar gyfer brwydro yn erbyn tlodi plant—eto, efo targedau mesuradwy; cronfa gyfoeth sofran i Gymru sy'n sicrhau bod refeniw ein hadnoddau naturiol ni yn cael ei gadw a'i fuddsoddi yma yng Nghymru.
Rydym ni'n clywed yn aml, onid ydyn, Ddirprwy Lywydd, fod yn rhaid i Lywodraethau Llafur ar y naill ben i'r M4 gydweithio efo'i gilydd er mwyn budd Cymru. Wel, os ydy hynny'n wir, ydy'r Prif Weinidog yn cytuno efo fi fod yna ddim esgus bellach i Lywodraeth Lafur Cymru beidio â bod yn uchelgeisiol wrth gynllunio ei hagenda, achos mae'r hyn sydd wedi'i gyflwyno heddiw, mae gen i ofn, yn fyr iawn o'r hyn rydym ni fel plaid, ac yn bwysicach fyth, o'r hyn y mae pobl Cymru yn ei ddisgwyl?
Wel, roedd rhai o'r sylwadau a wnaeth arweinydd Plaid Cymru yn cyfeirio at y rhaglen ddeddfwriaethol, ond nid oedd llawer ohonyn nhw'n ymwneud â'n rhaglen ddeddfwriaethol ni na'r anghydweld syml rhwng ein pleidiau o ran cyfeiriad y dyfodol i Gymru. Rwy'n falch o ddweud fy mod i'n credu yn nyfodol yr undeb sy'n cyflawni ar gyfer Cymru a Phrydain, fy mod i'n awyddus i weld diwygio er mwyn i hynny ddigwydd. Mae cyfle gennym ni i fwrw ymlaen â datganoli, nawr bod Llywodraeth Lafur gennym ni sydd o blaid datganoli yn y DU. Fe ellid ac fe ddylid cyflawni llawer yn hynny heb angen gweld unrhyw ddeddfwriaeth ychwanegol er mwyn i hynny ddigwydd.
Rwy'n edrych ymlaen at adferiad rhai pwerau. Rwy'n edrych ymlaen at weld meysydd newydd o ddatganoli yn dod i'r Senedd hon a Llywodraeth Cymru, ac nid wyf i'n credu bod angen gweledigaeth arnom ni sy'n ceisio ail-lunio'r sefyllfa wirioneddol o ran yr hyn a wnaethom ni eisoes, boed hynny trwy'r cytundeb cydweithio neu'r ymrwymiadau a wnaethom ni, neu'r sefyllfa wirioneddol o ran y ffordd yr ydych chi'n cyflwyno rhaglen ddeddfwriaethol mewn gwirionedd. Mae hi'n cymryd amser i ddatblygu a mynd drwy'r cyfnodau sy'n ymgysylltu ag unrhyw bolisi, y Papur Gwyn, ac ymgysylltu wedyn â Biliau i'w rhoi gerbron y Senedd. Fe allai'r syniad y gallem ni lunio rhestr o saith neu wyth o wahanol Filiau fel awgrymodd yr Aelod a allai fod yn digwydd, ond nid yw hynny'n realistig iawn ac nid yw'n brosbectws diffuant i'w roi gerbron pobl Cymru.
Fodd bynnag, rydym ni'n dal ati i weithio drwy nifer o feysydd sy'n dilyn yn ddidwyll o'r cytundeb cydweithio. Rydym ni wedi bod yn onest o ran y cynnydd hyd yma gyda diwygiadau i'r dreth gyngor, ac fe fu yna drafodaethau gwirioneddol barchus ac adeiladol ynglŷn â hynny. Nid wyf i'n ystyried hynny'n fethiant; rwy'n ystyried hynny'n onestrwydd o ran ein sefyllfa bresennol, ac nid oedd yr arian i'w gael gennym ni i gyflawni'r math o gynllun y byddai angen i ni ei lunio. Wrth ymdrin â'r argyfwng costau byw sy'n parhau, ni fyddai cyflawni cynllun a fyddai wedi cymryd arian i'w rannu â'r aelwydydd mwyaf cefnog, yn fy marn i, wedi bod yn rhywbeth y gallem ni ei wneud ar hyn o bryd. Fe fyddai angen i ni fod â rhywbeth ar gyfer pontio i'r cynllun. Mae honno'n sgwrs ddiffuant a gafodd ei chynnal. A phan fo hynny'n digwydd ynghylch ble rydym ni am gyrraedd gyda Chyfnod 1 ar y Bil rhestrau ymgeiswyr, rwyf i o'r farn, unwaith eto, fod gonestrwydd ynghylch y sefyllfa fel ag yr oedd hi ar ddiwedd cyfnod fy rhagflaenydd i yn y swydd, ynghylch yr angen i ddeall yr adroddiad Cyfnod 1 hwnnw ac ystyried hwnnw, a deall sut yr ydym ni am fwrw ymlaen â'r materion hyn.
Rydym ni wedi gweithredu gyda didwylledd, ac fe fyddwn ni'n parhau i wneud felly. Dyna pam y gwelwch chi ymrwymiadau o hyd o ran yr ardoll ymwelwyr a'r Biliau llety ymwelwyr yn y datganiad hwn, oherwydd rydym wedi gwneud ymrwymiadau yr ydym ni'n cadw atyn nhw. Dyna pam y byddwn ni'n parhau i gyflawni yn unol â'r Bil bysiau, oherwydd rydym ni'n deall y bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth enfawr i gymunedau ledled Cymru, ar gyfer bod â dull llawer mwy rhesymol o fuddsoddi arian cyhoeddus yn ein rhwydwaith bysiau. Rydym ni eisoes yn buddsoddi llawer iawn yn y rhwydwaith bysiau. Arian cyhoeddus yw'r rhan fwyaf o'r arian sy'n mynd i gynnal bysiau yng Nghymru. Os byddwn ni'n pasio'r Bil, fe fydd gennym ni ffordd lawer gwell o reoleiddio hynny, a deall sut mae'r masnachfreintiau yn gweithio, a sicrhau bod yr arian yn cyflawni ei bwrpas economaidd a chymdeithasol gwirioneddol hefyd. Fe ddylem ni fod â rhwydwaith bysiau gwell o ganlyniad i hynny.
Rwy'n falch o'r rhaglen yr ydym ni'n ei rhoi gerbron y Senedd. Rwy'n credu y bydd pasio'r Biliau hyn yn gwneud gwahaniaeth ymarferol i fywydau pobl ledled Cymru. Fe fydd yn ein galluogi ni i ddod wyneb yn wyneb â phobl a dweud y bydd yr hyn a wnaethom ni yma wrth basio cyfreithiau wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu bywydau nhw o ddydd i ddydd—a mwy na hynny: y pwerau a chyfrifoldebau eraill i gyd sydd gennym ni yma nad oes angen deddfwriaeth i'w gwireddu ond sy'n gyfran fawr iawn o'n hagenda ni o ran gwneud gwahaniaeth i bobl yma yng Nghymru. Nid oes unrhyw ddiffyg o gwbl yn yr uchelgais, na'r gofyniad i fod â'r uchelgais honno, i ddyfodol Cymru. Rwyf i o'r farn fod cyfle gwirioneddol gennym ni nawr i fod â dwy Lywodraeth sy'n gallu bod yn bartneriaid gwirioneddol yn llwyddiant Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at arwain y Llywodraeth hon i wneud hynny'n union.
Mike Hedges, fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
Rydych chi wedi galw arnaf i ar gyfer yr un anghywir; rwyf yn ymwneud â'r dreth trafodiadau tir.
Mae'n ddrwg gen i, Mike, rydych chi ar y rhestr hon. [Torri ar draws.] Nac oes, nid oes ganddo ef 5 munud. [Chwerthin.] Ac felly, Vikki Howells.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad chi yma heddiw. Yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, rwy'n croesawu eich cyfeiriad chi at y gwaith pwysig y mae fy mhwyllgor i'n ei wneud ar atebolrwydd Aelodau unigol a'ch bod chi unwaith eto wedi datgan yr ymrwymiad i ganiatáu deddfwriaeth ar fater pwysig dichell. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi fod posibilrwydd gan y gwaith hwnnw i alluogi ein Senedd ni i fod yn Senedd enghreifftiol yn y DU ac y bydd o gymorth wrth adfer ymddiriedaeth y cyhoedd yng ngwleidyddiaeth?
Yn ail, Prif Weinidog, fe hoffwn i droi at y Bil bysiau, deddfwriaeth sydd o'r pwys mwyaf i'm hetholwyr i, ac yn hanfodol, wrth gwrs, i ddadwneud y difrod a wnaethpwyd i'n rhwydwaith bysiau gan ddadreoleiddio Thatcher flynyddoedd maith yn ôl. Rwy'n croesawu'r cynlluniau i ail-lunio ein gwasanaethau bysiau yn sylweddol, ac rwy'n nodi eich sylwadau chi am weithio gyda phob lefel o'r Llywodraeth er mwyn cyflawni hynny. Mae gan ein cymunedau a grwpiau eraill fel yr undebau llafur sy'n cynrychioli gyrwyr bysiau swyddogaeth hanfodol hefyd. Felly, sut gellid annog y cyfranogiad ehangaf posibl gan gymdeithas sifil wrth i'r cynlluniau gael eu datblygu?
Diolch i chi am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwyf i am fynd i'r afael â'ch sylwadau chi fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau yn gyntaf, ac yna â'r hyn yr wyf i'n credu sydd o fwy o ddiddordeb i etholaeth yn y Bil bysiau.
O ran safonau, rydym ni i gyd yn deall pam rydym ni wedi dod at drafodaeth ynghylch adalw, yn dilyn cosb sylweddol yn erbyn un Aelod a'n dealltwriaeth ni o sut wedd ddylai fod ar ein cyfundrefn. Mae hynny'n rhannol oherwydd newidiadau a wnaeth Senedd y DU, ac yn rhannol am ein bod ni i gyd, ar draws pleidiau, o'r farn nad dyna'r ffordd y dylid ymdrin â'r materion hyn yn y dyfodol. A'r un pwynt ydyw hwnnw ynglŷn â dichell: mae hyn yn ymwneud â'r pwynt ynghylch y safonau a ddisgwyliwn gan Aelodau, ac, yn yr achos hwnnw, gan ymgeiswyr i'r Senedd hefyd.
Yr hyn yr wyf i'n ymddiddori ynddo yw'r cynllun cydlynol y gallem ni fod ag ef o ran ystyriaeth briodol yn y Senedd hon o'r safonau yr ydym ni'n eu disgwyl gan ein gilydd, yr hyn y mae'r cyhoedd yn ei ddisgwyl gennym ni, sut mae'r dewisiadau hynny'n cael eu gwneud, a chanlyniadau'r dewisiadau hynny hefyd wedyn. Rwyf i o'r farn fod materion i'w hystyried o ran gwelliannau a wnaethpwyd yn Senedd y DU—rwy'n credu bod y broses adalw yn well—ond i ystyried meysydd hefyd lle na fyddwn i mor awyddus i ddilyn y patrwm yn San Steffan.
Rwy'n credu mai camgymeriad oedd bod â phroses ar wahân ar gyfer achosion unigol o aflonyddu ar staff yn sefyll ar wahân i ymddygiad Aelodau. Mae datgysylltu'r rhain, yn fy marn i, yn gwneud y system yn llai cydlynol. Mae gen i ddiddordeb o ran sut, gan weithio gyda thrawsbleidiol y pwyllgor safonau, gallwn fod â chynllun gwirioneddol gydlynol sy'n edrych ar bob math o ymddygiad y gallem ni ac y dylem ni ei ddisgwyl gan Aelodau, y broses gwneud penderfyniadau, ac yna'r arbenigedd i ymgymryd â hynny hefyd.
Nid yw honno'n feirniadaeth o unrhyw unigolyn a allai fod yn gomisiynydd safonau, ond ni fyddech chi'n disgwyl i unrhyw unigolyn fod â'r holl ddealltwriaeth angenrheidiol i ymchwilio i bob cwyn unigol a allai godi. Felly, mae hyn yn ymwneud a sut i fod â system sy'n cefnogi pwy bynnag fo yn gomisiynydd i gynnal ymchwiliadau. Fe fues i'n ddigon ffodus i fod yn gynrychiolydd undeb llafur ac yn gyfreithiwr cyflogaeth, ac felly rwyf i'n deall rhannau helaeth o sut mae byd gwaith yn gweithio, gan gynnwys, am i mi fod yn gyfreithiwr gwahaniaethu arbenigol—. A dweud y gwir, fe all hyn fod yn heriol ac yn wahanol. Mae yna gyfreithwyr cyflogaeth nad ydyn nhw'n arbenigwyr ac nid yw'r un ddealltwriaeth nac arbenigedd ganddyn nhw.
Felly, mae yna rywbeth ynglŷn â sut y byddwn ni'n cefnogi pwy bynnag fyddo'r comisiynydd i gael gafael gwirioneddol ar y gefnogaeth briodol i ymgymryd â'r gwaith ymchwilio, a sicrhau bod gennym gynllun cydlynol wedyn a fydd yn diwallu'r awydd trawsbleidiol gwirioneddol i rymuso ein proses. Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo yn ddifrifol i ganiatáu i'r Senedd ystyried cynllun cydlynol ac y gall Aelodau bleidleisio ar hwnnw cyn diwedd y tymor hwn, felly mae hwnnw ar waith ar gyfer tymor y Senedd nesaf yn 2026.
O ran y Bil bysiau, rwy'n credu mai hwnnw yw un o'r darnau mwy cyffrous o ddeddfwriaeth a fydd yn gwneud y gwahaniaeth yr ydym ni'n siarad amdano mor aml. Ni fydd pawb o'r cyhoedd yn cyffroi pan ddywedir wrthyn nhw fod gwleidyddion am lunio deddf newydd, ond rwy'n credu y bydd hon yn un a fydd yn gwneud gwahaniaeth ymarferol gwirioneddol ar draws cymunedau. O fewn y gymuned y mae'r Aelod yn ei chynrychioli, fe fydd bod ag ymagwedd fwy cydlynol tuag at wasanaethau bysiau yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol—ac yn fy etholaeth innau hefyd. Fe all pawb yn y Siambr hon, rwy'n credu, dynnu sylw at y mannau y byddai system well o reoleiddio a chymorth bysiau yn gwneud gwahaniaeth mwy sylweddol ac er gwell.
Rydym ni'n cynnig system newydd, i symud i ffwrdd oddi wrth ffordd hynod anstrategol ac aneffeithlon o fuddsoddi arian cyhoeddus at un lle gallwn ni fod â mwy o gydlyniad a gwaith gwirioneddol gyda'r awdurdodau lleol ar gyfer deall y llwybrau angenrheidiol yn y broses o gomisiynu a masnachfreinio priodol, yn hytrach na'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd, gyda'r awdurdodau lleol yn ceisio achub llwybr sy'n hanfodol yn gymdeithasol ond nad yw'n gallu gwneud elw i gwmni preifat. Fe fydd yn symud oddi wrth fod yn broses o gystadleuaeth am ddim ond y llwybrau sy'n gwneud yr elw mwyaf gan anwybyddu'r rhai sydd o werth cymdeithasol enfawr. Ar hyn o bryd, mae'r pwysau i gyd ar yr awdurdodau lleol a'r Llywodraeth i fod, os hoffech chi, yn fuddsoddwr yn niffyg dim arall. Fe allwn ni wneud yn well na hynny, ac fe fydd y Bil bysiau, rwy'n credu, yn dangos ffordd i ni wneud hynny mewn partneriaeth wirioneddol â chydweithwyr ar draws llywodraeth leol a thu hwnt i hynny.
Prif Weinidog, a gaf i ddechrau drwy gydnabod digwyddiadau'r wythnos diwethaf? Rwy'n gobeithio y gall eich Llywodraeth chi a'n Llywodraeth newydd ni yn y DU ddod â buddiannau i Gymru. Rwy'n edrych ymlaen at wneud fy rhan wrth graffu ar y cynnydd yn hynny o beth. Mae angen i ni weld buddiannau yn llifo o'r berthynas newydd honno.
O ran y rhaglen ddeddfwriaethol, er nad wyf i am fyfyrio gormod ar yr hyn sydd ynddi hi, rwy'n cydnabod bod rhai pethau da yn cael eu cyflwyno ynglŷn â'r amgylchedd a chynllunio a phethau o'r fath. Rwyf i am ganolbwyntio mwy ar yr hyn nad oes i'w gael ynddi. Fe wn i nad oes amser nawr i gynnwys hyn, mae'n debyg, ond mae'n siŵr eich bod chi'n gwybod am fy niddordeb i mewn bwyd, felly roeddwn i'n siomedig nad oedd y rhaglen ddeddfwriaethol yn cydnabod pwnc hanfodol diogeledd bwyd. Fe geir llawer o sôn am fioamrywiaeth, yr amgylchedd, a phethau o'r fath. Y peth sylfaenol sy'n deillio o hynny yw bwyd. Mae diogeledd bwyd mor sylfaenol i'r genedl hon—yn wir, i'r byd cyfan—ac mae angen i ni wneud mwy ynglŷn â hyn.
Er i fy Mil bwyd drengi, ac nid wyf i'n galaru amdano, roedd cryn gefnogaeth iddo o bob cwr o'r wlad, gan iddo gydnabod pwysigrwydd y pwnc pwysig hwn o ran cael bwyd lleol i mewn i bobl leol i fynd i'r afael â materion cymdeithasol allweddol. Rwy'n croesawu swyddogaeth Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wrth geisio codi proffil diogeledd bwyd, a'r hyn y mae ef yn ei wneud eisoes. Ond a gaf i eich annog—
Peter, mae angen i chi ofyn eich cwestiwn, os gwelwch chi'n dda.
Mae'n ddrwg gen i, roeddwn i'n credu bod gennyf i ragor o amser.
Nac oes, un munud i bob unigolyn.
Y cwestiwn, Prif Weinidog, yw hwn: a gaf i awgrymu gyda phob parch bod angen i'ch Llywodraeth chi gymryd y pwnc hwn o ddifrif a chymryd camau i ddeddfu ar gyfer sefydlu dull ar sail Cymru gyfan o ran diogeledd bwyd a'r system fwyd, yn hytrach nag arddull mwy tameidiog, fel sydd i'w weld ar hyn o bryd?
A gaf i groesawu'r sylwadau cymodol a chadarnhaol a wnaeth yr Aelod ar y dechrau? Rwy'n meddwl yn aml fod gan yr Aelod hanes y tu allan i'r Siambr hon o orfod gweithio gydag arweinwyr awdurdodau lleol Llafur a'i fod wedi gallu gwneud hynny mewn ffordd bragmataidd ar gyfer cyflawni amcanion. Roeddwn i eisiau gwneud hynny gyda'r Llywodraeth flaenorol. Roedd yna adegau y buon ni'n gallu gwneud hynny, ond gobeithio y cawn ni fwy o gyfle i fod o fudd i'r wlad nawr. Ac rwy'n parchu'r ffaith y bydd yr Aelod yn craffu ac yn ein herio drwy gydol y broses honno.
O ran bwyd a diogeledd bwyd, rwy'n croesawu menter comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n ymwneud mewn gwirionedd ag edrych ar y ffyrdd y gallwn ni ddarparu bwyd mewn ffordd ddiogel a chynaliadwy ar ein cyfer ein hunain, a'r hyn y mae'n ei olygu i allforion bwyd hefyd. A dweud y gwir, mae'r twf sylweddol yn niwydiant bwyd a diod Cymru wedi bod yn llwyddiant ysgubol nad ydym ni'n sôn digon amdano, ac mae hwnnw'n llwyddiant gwirioneddol mewn sawl ardal o Gymru. Ac mae'n ychwanegu gwerth at hynny hefyd, felly nid dim ond gwerthu'r cynnyrch amrwd yr ydym ni. Rwy'n gwybod nad yw Alun Davies yn y Siambr heddiw, ond pan honnodd ef y byddwn ni'n cynyddu cynhyrchiant bwyd a diod y genedl a gwerth economaidd hynny, roedd llawer o bobl o'r farn na fyddem ni'n cyflawni'r gwahaniaeth yr oedd ef yn sôn amdano. Mewn gwirionedd, rydym ni wedi rhagori ar hynny. A'r pwynt hefyd ynglŷn â mynd ymhellach i fyny'r gadwyn ar gyfer gwerth economaidd a gweithgynhyrchu bwyd. Mae'r rhain yn parhau i fod yn bethau y mae angen i ni eu gwneud ac fe allwn ni eu gwneud nhw mewn ffordd wirioneddol gynaliadwy.
Rwy'n credu bod hon yn enghraifft wirioneddol dda o rywbeth nad oes angen i chi newid y gyfraith ar gyfer gwella canlyniadau. Mewn gwirionedd, dyma'r ffordd yr ydym ni'n cydbwyso ein cyfrifoldebau amgylcheddol ar gyfer cynhyrchu bwyd a diod o ansawdd uchel. Fe fydd hynny'n ein helpu ni i sicrhau diogeledd bwyd a deall o ble mae ein bwyd ni'n dod—y bwyd yr ydym ni'n ei allforio a'i fewnforio—mewn ffordd lle mae gwir grebwyll o ran sut beth yw cynaliadwyedd mewn system fwyd gyfan. Fe fydd hynny'n ymdrin hefyd â rhai o'r heriau yr wyf i'n credu byddwn ni'n eu hwynebu o ran rhai o'r sylwadau y mae Jenny Rathbone yn eu gwneud yn rheolaidd ynghylch angen deall effaith bwyd nad yw'n iach ar iechyd y cyhoedd a sut y byddwn ni'n ymdrin â bwyd a gafodd ei brosesu hefyd. Rwy'n credu bod hon yn ddadl gron y gallwn ni ei chael nad yw hi o reidrwydd yn gofyn am newid ar raddfa fawr yn y gyfraith ond sy'n gofyn am wahaniaeth o ran dulliau o weithredu a dulliau ynglŷn ag adnoddau a pholisi.
Brif Weinidog, buaswn i’n hoffi gwybod, plis, faint o flaenoriaeth bydd y Mesur diogelwch tomenni glo i’ch Llywodraeth. Pryd fydd pobl y Cymoedd yn gallu gweld y ddeddfwriaeth honno'n cael ei chyflwyno, plis? O ystyried hefyd y gwaith manwl sydd wedi cael ei wneud o sgrwtineiddio gan bwyllgor newid hinsawdd y Senedd ar Ffos-y-frân a llefydd opencast, a fyddech chi’n ystyried ehangu sgôp y Mesur hwnnw i gynnwys y llefydd hynny?
Pan wnaethoch chi gwrdd â Syr Keir Starmer ddoe, a wnaethoch chi ailadrodd wrtho fe eich cred y dylai cost clirio’r tomenni glo gael ei rhannu gyda San Steffan? Achos dydy'r gwirionedd sylfaenol hwnnw, yr achos moesol, heb newid dim. Felly, rwy'n cymryd bod eich safbwynt chi ar hwnna heb newid ychwaith.
Yn olaf, Brif Weinidog, mae eich datganiad yn sôn am Fil egwyddorion amgylcheddol a bioamrywiaeth. Rwyf wir yn croesawu hynny. A fyddech chi'n gallu cadarnhau y bydd hwnna yn ateb galw'r RSPB ac eraill i wella bioamrywiaeth erbyn 2030 ac iddo fe fod mewn sefyllfa iach a gwydn erbyn 2050? Os gallech chi roi diweddariad i ni ar hynny. Diolch yn fawr iawn.
Ar y cwestiwn olaf yn gyntaf, rydym ni'n disgwyl gallu ateb galwad ystod o weithredwyr ym maes eiriolaeth natur yn fwy eang gyda golwg ar welliant sylweddol erbyn 2030 a gwelliant pellach y tu hwnt i hynny. Felly, rwy'n credu y gall pobl fod yn gadarnhaol nid yn unig o ran cael datganiad, ond pan gyhoeddir manylion y Bil hefyd. Rwy'n credu bod hynny, a'ch cyfeiriad chi at y Bil Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni Nas Defnyddir), yn rhan o'r anghytundeb sylweddol sydd gennyf i gydag arweinydd Plaid Cymru ynglŷn â bod hon yn rhaglen nad yw hi'n uchelgeisiol rywsut. Fe fydd y ddau ddarn yma o ddeddfwriaeth ar eu pennau eu hunain yn gwneud gwahaniaeth mawr ar draws y wlad—newid cadarnhaol mawr wrth ein helpu ni i fod â ffordd amgen o reoli'r amgylchedd a deall sut y gallwn ni wneud chwareli a thomenni nas defnyddir yn ddiogel. Am fod gormod o bobl yn byw eu cysgod nhw. Mae gennym ni niferoedd anghymesur o'r rhain yng Nghymru, oherwydd ein gorffennol diwydiannol. Mae hynny'n wir yn y gogledd, de a'r gorllewin. Felly, nid mater sy'n canoli ar un rhan o'r wlad yn unig mohono.
Rwy'n wirioneddol falch y byddwn ni'n cyflwyno'r Bil hwnnw. Fe ddylid ei gyflwyno cyn diwedd y flwyddyn eleni. Dyna yw ein cynllun ni. Rwy'n credu y byddwch chi'n croesawu'r Bil pan fyddwch chi'n ei weld, er bod dewis ynghylch peidio â chynnwys glo brig ynddo. Fe fyddai hynny'n ehangu'r cyrhaeddiad deddfwriaethol yn sylweddol, ac rwy'n credu bod angen darn gwahanol o ddeddfwriaeth arnom ni i ystyried rheoli ac adfer glofeydd brig yn y dyfodol. Ystyr hyn yw mynd i'r afael â chwareli a mwyngloddiau nas defnyddir, sy'n ymgymeriad sylweddol ynddo'i hunan, a dyna'r hyn yr ydym ni wedi ymrwymo i'w wneud. O ran eich pwynt ynghylch cefnogaeth i'r dyfodol ar gyfer sut i gyflawni'r gwaith hwn, rwyf i wedi cynnal trafodaethau eisoes gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'r Prif Weinidog ynghylch y ffaith fod honno'n flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Rwy'n disgwyl y byddwn ni'n gwneud ceisiadau pellach am gyllid yn y dyfodol.
Un o'r pethau mwy siomedig yn y gorffennol diweddar yw bod cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru erbyn hyn wedi cytuno i gefnogi cais am gyllid i ddod i Gymru—ac mewn gwirionedd, yn nhermau gwariant y DU, nid oedd hwnnw'n swm enfawr o arian. Ac yna fe wrthododd yr ymrwymiad hwnnw ac fe wrthododd wneud a chefnogi cais i'r adnodd hwnnw ddod yma. Rwy'n credu y gallwn ni fod yn hyderus y bydd newid gwirioneddol a sylweddol gyda'r bartneriaeth newydd sydd gennym ni. Ymhell o gael ein siomi gyda'r partneriaid sydd gennym ni nawr, rwy'n credu bod achos gwirioneddol i optimistiaeth a bod yn gadarnhaol. Felly, rwy'n edrych ymlaen at allu cyflawni hynny.
Hoffwn i sôn yn fyr am y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru). Yn gyntaf, rwy'n falch o fod mewn Cymru sy'n ceisio dileu'r elw o ofal. Ac rwy'n annog pawb, yn enwedig os oes amheuwyr yn y Siambr—er enghraifft, efallai arweinydd y Ceidwadwyr—i gyfarfod â rhai o'n pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal. Dywedodd Georgia Toman ei bod yn teimlo ei bod yn cael ei hecsbloetio gan gwmnïau preifat sy'n gwneud elw ar draul pobl ifanc ofnus sydd wedi dioddef trawma. Felly, byddaf yn siarad ag arweinydd yr wrthblaid i weld a allwn wneud y cysylltiad hwnnw fel y cewch gyfle i wrando ar ein pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
Ond mae'r ail fater i mi yn ymwneud â gofalwyr di-dâl. Ar hyn o bryd, nid yw ffurflenni monitro cydraddoldeb yn gofyn a oes gan rywun gyfrifoldebau gofalu di-dâl. Nid oes unrhyw ofyniad uniongyrchol i wneud addasiadau syml a rhesymol ar eu cyfer yn y gweithle. Felly, hoffwn ofyn eich barn ynghylch a ydych chi'n credu mai ffordd arbennig o drawsnewidiol o fynd i'r afael â'r gwahaniaethu hwn fyddai gwneud statws gofal yn nodwedd warchodedig. Diolch yn fawr iawn.
Edrychwch, mae'n awgrym diddorol. Rwyf eisiau dechrau drwy groesawu'r hyn oedd ganddi i'w ddweud am ein Bil i ddileu elw preifat. Rwy'n credu nad datganiad gwerth yn unig ydyw, er, mor bwysig yw hynny, mae'n gam ymarferol ymlaen i sicrhau bod yr arian sy'n bodoli ac sy'n gorfod cael ei wario o fewn y system yn cael ei ddefnyddio at bwrpas gwell ac, mewn gwirionedd, mewn ffordd fwy effeithlon. Mae achos effeithlonrwydd gwirioneddol dros wneud hyn sy'n mynd y tu hwnt i p'un a yw pobl yn hoffi'r ffaith bod y sector preifat yn gweithredu yn y maes hwn neu beidio. Ond mae'n bwysig i blant a phobl ifanc sydd wedi bod drwy'r system ofal. A chefais fy synnu'n fawr gan ba mor gryf oedd y farn honno, eu bod wedi teimlo—gyda'r union eiriau a ddefnyddioch chi—wedi cael eu hecsbloetio gan y ffaith bod arian yn cael ei wneud ar eu traul nhw, ac mewn ffordd pan, mewn gwirionedd, nad oedd eu profiad wedi bod yn un da.
Rwy'n meddwl yn ôl at nifer o'r sgyrsiau a gefais pan oeddwn yn Ddirprwy Weinidog iechyd, ond mewn gwirionedd un o'r pethau a drawodd yn fy meddwl oedd sgwrs gyda Mark Drakeford, pan ddywedodd, 'Rydym yn gwario llawer o arian yn y system hon, ac nid ydym yn prynu canlyniadau da i'n plant a'n pobl ifanc. Ar y cyfan, rydym yn prynu canlyniadau gwaeth nag y dylem eu cyflawni. Felly, nid sefyll yn ôl a rhoi mwy o arian yn y system yw'r peth iawn i'w wneud.' Ac mae hynny'n dal yn wir nawr, am yr holl welliannau yr ydym wedi'u gwneud. Felly, rwy'n falch iawn yn gyffredinol o gefnogi'r Bil y mae fy Llywodraeth yn ei gyflwyno ar ddileu elw preifat, ac rwy'n credu y bydd yn cael ei ystyried yn rhywbeth sy'n llawer gwell defnydd o arian ymhob ystyr.
O ran a ddylai gofalwyr di-dâl fod yn nodwedd warchodedig, mae gennyf feddwl agored ond heb fy narbwyllo. Byddai gen i ddiddordeb mewn gweld pa wahaniaeth ymarferol fyddai hynny'n ei wneud, sut y gallai hynny ddigwydd. Nid yw o fewn y rhaglen ddeddfwriaethol hon. Bydd pobl yn yr ystafell hon sy'n ofalwyr di-dâl, gyda chyfrifoldebau gofalu nid yn unig i blant ond i oedolion hŷn hefyd. Nid wyf yn argyhoeddedig bod hyn ynddo'i hun yn ffordd o wella canlyniadau i ofalwyr di-dâl. Mae yna bethau eraill yr ydym yn eu gwneud, ond rwy'n fwy na pharod i barhau i gymryd rhan yn y sgwrs, fel yn wir, rwy'n siŵr y bydd Gweinidogion eraill yn y Llywodraeth, o ran sut y gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf. Oherwydd dyna'r pwynt yma: sut ydym ni'n gwneud gwahaniaeth gyda'r gofalwyr di-dâl ac iddynt er mwyn cydnabod yr hyn maen nhw'n ei wneud, nid yn unig i'w hanwyliaid, ond beth mae'n ei olygu i bob un ohonom.
O edrych ar ddatganiad y prynhawn yma o safbwynt trafnidiaeth, roedd yn rhywbeth anodd iawn i mi fod yn gyffrous yn ei gylch. Wrth gwrs, mae sôn am Fil bysiau, ac rwy'n edrych ymlaen at fynd drwyddo'n fanylach, a Bil tacsis a cherbydau hurio preifat, ond i mi, Prif Weinidog, dyna'r cwbl mewn gwirionedd. Nid oedd yn uchelgeisiol iawn, yn fy marn i. Daeth yr ymgynghoriad ar y Bil tacsis a cherbydau hurio preifat i ben ym mis Mehefin 2023, ac nid ydym wedi clywed unrhyw beth ers hynny. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi amlinellu pam mae'r darn hwn o waith wedi bod mor araf yn dod ger ein bron?
Nid yw datganiad y prynhawn yma yn sôn am gynllun terfyn cyflymder dadleuol 20 mya eich Llywodraeth. Prif Weinidog, pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i gyflwyno Bil cefnogi gyrwyr, a fyddai'n rhoi'r hyn y mae'r cyhoedd eisiau drwy adolygu eich prosiect 20 mya diffygiol a rhoi llais cryfach i gymunedau dros y materion hyn. Unwaith eto, rwy'n siomedig iawn nad oes neges nac yn wir unrhyw sôn am agenda adeiladu ffyrdd. Gall pob un ohonom gytuno bod ffyrdd yn bwysig nid yn unig i'n heconomi, ond maent yn hanfodol ar gyfer cael pobl o A i B, boed hynny ar drafnidiaeth gyhoeddus neu mewn cerbyd preifat. Mae rhestr hir o brosiectau y mae angen eu cynnwys a'u hadeiladu, fel trydedd groesfan Menai a ffordd osgoi Cas-gwent. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i gyflwyno pecyn o fesurau sy'n canolbwyntio ar adeiladu ffyrdd? Dim ond yr wythnos diwethaf fe godais fater Maes Awyr Caerdydd gyda'ch Ysgrifennydd Cabinet. Os yw Llywodraeth Cymru mor hyderus y gall wella sefyllfa'r maes awyr, yna pam nad yw darn o waith yn nodi'r mesurau hyn yn cael eu cyflwyno? Mae trenau hefyd yn faes arall sydd wedi cael ei esgeuluso yn y datganiad heddiw, ac rwy'n ofni ei fod yn dangos—
Mae angen i chi ofyn eich cwestiwn olaf nawr, os gwelwch yn dda.
—diffyg uchelgais clir gan y Llywodraeth hon. Felly, wrth symud ymlaen, Prif Weinidog, mae croeso i chi fy mhrofi'n anghywir y prynhawn yma trwy amlinellu pa Filiau eraill sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth fydd yn dod i'r amlwg yn y Siambr hon yn y dyfodol. Diolch.
Wel, nodais y Biliau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth a fydd yn cael eu cyflwyno yn y datganiad rhaglen ddeddfwriaethol hwn. Mae'r cliw yn y teitl: nid oes gan lawer o'r hyn a ddywedodd yr Aelod unrhyw beth i'w wneud â deddfwriaeth. O ran ein gallu i ddeddfu, rydym yn deddfu mewn ffordd y credaf y bydd Aelodau'r Senedd yn brysur iawn yn ymdrin â'r ddeddfwriaeth hon. Pan fydd yr Aelodau'n dweud mwy o ddeddfwriaeth, yna, ar ben hyn, credaf fod hynny'n gamddealltwriaeth go iawn o faint o waith sydd o flaen Aelodau, gweinidogion sy'n arwain Biliau ac yn wir unrhyw aelodau meinciau cefn sy'n ceisio cyflwyno deddfwriaeth. Efallai y byddech eisiau siarad â'ch cyd-Aelod am y gwaith sylweddol y bu'n rhaid iddo ymgysylltu ag ef fel Aelod oedd eisiau cyflwyno darn o ddeddfwriaeth ar wahân, ac yn wir yr holl aelodau meinciau cefn a fydd yn craffu ar y Biliau a fydd yn cael eu cyflwyno.
O ran eich sylwadau ehangach, rwy'n credu ei bod yn bwysig myfyrio ar sylwadau Peter Fox wrth gydnabod y newid sylweddol a ddigwyddodd ddydd Iau. Pan ofynnwyd i bobl yng Nghymru am yr hyn yr oeddent eisiau ei weld, un o'r cynigion clir ym maniffesto'r Ceidwadwyr a wrthodwyd yn llwyr oedd y Bil cefnogi gyrwyr, yr ymosodiad blaen llawn ar ddatganoli a fyddai wedi cymryd pwerau i ffwrdd o'r lle hwn, yn hytrach na'n hymrwymiad maniffesto ni ar 20 mya a'r adolygiad rwy'n falch iawn bod Ken Skates yn ei arwain, a fydd, rwy'n credu, yn dangos ein bod yn gwrando ar y cyhoedd ac yn gweithredu ar hynny. Felly, ymhell o fodolaeth mandad ar gyfer y galwadau rydych chi'n eu gwneud, rwyf am atgoffa'r Aelod, pan ofynnwyd i bobl Cymru, dewison nhw weithredu gwaharddiad cyffredinol ar ASau Torïaidd yng Nghymru, ac rwy'n croesawu eu doethineb a'u barn gadarn wrth wneud hynny.
Mae yna bedwar Bil yn eich rhaglen ddeddfwriaethol sydd o ddiddordeb penodol i mi fel llefarydd tai newydd Plaid Cymru, so dwi’n edrych ymlaen at weld y Bil digartrefedd a’r Bil diogelwch adeiladu. Dwi yn sylwi bod yna enw newydd ar y Bil cofrestru a thrwyddedu statudol, sef Bil rheoleiddio llety twristiaeth, sydd yn sefydlu cofrestr. A wnewch chi gadarnhau y bydd y Bil yma hefyd yn cynnwys trwyddedu statudol yn ogystal â sefydlu cofrestr, ac a wnewch chi hefyd gadarnhau amserlen cyflwyno’r Bil yma? Mae’n rhaid cael trwyddedu statudol os ydy hwn am fod yn ddarn effeithiol o ddeddfwriaeth.
Yn y rhaglen lywodraethol, yn sgil y cytundeb efo fy mhlaid i, mae yna ymrwymiad i gyhoeddi Papur Gwyn i gyflwyno cynigion ar gyfer yr hawl i gartref digonol. Dwi yn deall na fydd hwn yn cael ei gyhoeddi rŵan tan yr hydref. Fedrwch chi gadarnhau hynny, a chadarnhau y bydd y Papur Gwyn yn rhoi sylw teilwng i’r hawl i gartref digonol?
Yn olaf, dwi’n nodi’r cyfeiriad at gynllunio, a dwi yn credu mai’r bwriad gwreiddiol oedd cydgrynhoi’r gyfraith bresennol, y consolidation Bill, ond dwi yn gweld eich bod chi’n sôn rŵan am symleiddio a moderneiddio’r gyfraith ym maes cynllunio, sydd i’w groesawu. Felly, a fedrwch chi gadarnhau nad jest tynnu pethau at ei gilydd bydd y Bil yma, ac y bydd yna gyfle gwirioneddol i ddiwygio’r gyfraith gynllunio, a hynny er budd cymunedau ar draws Cymru ac er mwyn hwyluso adeiladu tai newydd?
Wel, rwy'n credu bod pwyntiau pwysig ynghylch sut rydym yn hwyluso adeiladu cartrefi newydd. Mae cynllunio yn rhan o hynny, ond nid dyna'r brif ran ohono yn aml. Mewn gwirionedd, y brif ran yn aml yw cyflenwad tir a sicrwydd a gwneud penderfyniadau; mae hynny'n gapasiti o fewn y system gynllunio yn hytrach na'r rheolau fel y maent yn berthnasol mewn gwirionedd. Bydd y Bil cydgrynhoi yn gwneud hyn yn llawer symlach, er mwyn deall sut rydym eisoes wedi gweld diwygio cynlluniau. Rwy'n credu yn nau dymor blaenorol y Senedd, cawsom ddeddfwriaeth diwygio cynllunio yn mynd trwyddo. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw ei gwneud yn llawer mwy hygyrch fel bod y rheolau'n glir i bawb, ac yna mae angen i ni wneud darn o waith yr wyf i wrth fy modd fy mod wedi cytuno â Julie James y bydd Jack Sargeant yn arwain gweithgor i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud o ran cyflwyno'r cyflenwad, a sut mae gennym ddealltwriaeth gliriach nid yn unig o faint o dai sydd eu hangen arnom, ond ansawdd y tai hefyd. Mae o fudd economaidd go iawn. Bydd yn ein helpu i gyrraedd rhai o'n targedau hinsawdd hefyd os gallwn ddarparu nid yn unig mwy o gartrefi, ond cartrefi llawer gwell hefyd, a bydd hynny'n aml yn arwain at ganlyniadau cyflogaeth lleol sylweddol.
Disgwylir i'r Bil llety ymwelwyr (rheoleiddio) gael ei gyflwyno yn 2025, mewn digon o amser i'w basio yn y tymor hwn, a bydd yn edrych ar gofrestru a thrwyddedu, felly gallwch ddisgwyl i hynny ddigwydd. Ysgrifennydd yr economi yw'r Gweinidog sy'n arwain hynny, o ystyried ei gysylltiadau uniongyrchol â'n rhagolygon economaidd a'n dyfodol. Roedd angen i ni ddewis pwy oedd y Gweinidog arweiniol. Roedd diddordeb gan lawer mwy o bobl, ond rwy'n hyderus y byddwn yn gweld darn o ddeddfwriaeth sy'n cyflawni yn erbyn ein maniffesto ac, yn wir, fel y dywedais i yn gynharach, yr ymrwymiadau didwyll yr ydym wedi'u gwneud yn y cytundeb cydweithio.
Mae hynny hefyd yn berthnasol i ddiogelwch adeiladau ac ar gyfer ein deddfwriaeth digartrefedd. Rwy'n credu y bydd y Bil digartrefedd unwaith eto yn ddarn arall o ddeddfwriaeth y bydd pobl yn cydnabod ei bod yn wirioneddol flaengar—ymyrryd yn gynt ac atal digartrefedd, yr hyn y mae hynny'n ei olygu i deuluoedd a phlant, yr hyn y mae'n ei olygu o ran sut rydym yn defnyddio'r ystad gyhoeddus sydd gennym, yn ogystal â, i orffen ar y pwynt y gwnaethoch chi orffen arno, yr ysgogiad ar gyfer adeiladu cartrefi sydd wir yn addas i'r diben. Mae pawb yn haeddu lle i'w alw'n gartref, yn lle diogel a gweddus i'w alw'n gartref. Dyna'r hyn yr ydym wedi ymrwymo i'w wneud.
Un o'r materion a oedd yn glir iawn ar garreg y drws oedd yr angen am fwy o fysiau a rheini'n rhai gwell, felly rwy'n croesawu'r Bil bysiau yn fawr fel y gallwn gyfeirio'r buddsoddiad a wnawn mewn bysiau i'r mannau lle gallwn sicrhau'r gwerth cymdeithasol mwyaf posibl. Fodd bynnag, rwy'n siomedig bod y Bil tacsis a cherbydau hurio preifat yn cael ei ohirio ac mai dim ond drafft yr ymgynghorir arno. Ac roeddwn i'n meddwl tybed pam na fu'n bosibl cysylltu'r ddeddfwriaeth tacsis a cherbydau hurio preifat ag un y Bil bysiau, oherwydd mae pryder gwirioneddol yng Nghaerdydd, sy'n ceisio cadw cydbwysedd rhwng cyflenwad a galw—yn hytrach, yr hyn sydd gennym yw gyrwyr tacsi yn methu gwneud bywoliaeth oherwydd cystadleuaeth annheg pan fo gyrwyr tacsi o awdurdodau lleol eraill lle ceir trwyddedu heb reolaeth yn dod i Gaerdydd ac yn tanseilio busnes pobl eraill. Felly, rwy'n credu fy mod yn poeni nad ydym yn bwriadu rheoleiddio hynny'n well yn y tymor hwn.
Roeddwn eisiau ychwanegu at—
Yn gyflym, os gwelwch yn dda.
—bryderon Delyth Jewell ynghylch arllwysiad o domenni nas defnyddir, oherwydd yr egwyddor rheoleiddio yw y dylai'r llygrwr barhau i fod yn gyfrifol am niwed amgylcheddol ei weithredoedd, wrth symud ymlaen, sut y gellid gwneud hynny yn berthnasol i gwmnïau fel Monsanto, sydd bellach wedi gadael y glannau hyn? Ac a ydych chi wedi cael cyfle i drafod gyda Llywodraeth Lafur newydd y DU i gadarnhau na fydd eu hagwedd tuag at gyfrifoldeb dros domenni glo, wrth gwrs, yr agwedd warthus a oedd gan Lywodraeth flaenorol y DU, sef nad oedd gan hwn dim byd i'w wneud â nhw, er—
Diolch yn fawr, Jenny.
—bod yr holl domenni glo wedi cau ymhell cyn datganoli?
O ran bysiau, rwy'n croesawu cefnogaeth yr Aelod i'r Bil bysiau. Mae'n fater sylweddol yn etholaeth Canol Caerdydd, a'r Canol Caerdydd presennol yn y Senedd, wrth gwrs, mae'r orsaf fysiau newydd wedi agor o'r diwedd, ac yn gyfnewidfa go iawn gyda'r rheilffordd, ac yn wir gyda gwasanaethau tacsi hefyd.
O ran bysiau a thacsis, roedd gennym gynnig o'r blaen i wneud y ddau beth mewn un darn o ddeddfwriaeth, a daeth y Bil yn anymarferol ac yn rhy fawr yn y diwedd, ac roedd angen i ni hefyd sicrhau bod gennym yr arbenigedd sy'n canolbwyntio ar gyflawni yn erbyn y darn o ddeddfwriaeth a oedd yn bwysig, yn hytrach na gorfod gwasgu'r ddau i mewn. Fodd bynnag, mae gennym fater polisi a mater ymarferol ynghylch materion trawsffiniol. Rwy'n ei glywed yn glir iawn. Fodd bynnag, mae angen i ni hefyd weithio ar hyn gyda rhanddeiliaid gwahanol, gan gynnwys cynrychiolwyr gyrwyr tacsi eu hunain, i ddeall beth fyddai ffurf datrysiad. Dyna waith y mae Ken Skates yn ymwneud ag ef gyda'i swyddogion, gydag awdurdodau lleol, gyda gweithredwyr ac, fel y dywedais i, cynrychiolwyr gyrwyr tacsi eu hunain, oherwydd rwy'n awyddus ein bod yn gweld cynnydd. Gwn hefyd fod yna ymrwymiadau i edrych ar y mater hwn yn Lloegr hefyd, oherwydd mewn rhannau helaeth o Gymru, nid yw materion trawsffiniol yn ymwneud ag awdurdodai lleol yn unig, mae'n ymwneud â phobl sy'n symud o un awdurdod lleol dros y ffin gyfan hefyd, felly rydych chi'n gweld nifer o bobl yn teithio o Fryste i weithio yng Nghymru. Rydych yn gweld y symudiad hwnnw, sy'n gwbl angenrheidiol ac yn rhesymol ar gyfer llawer o deithiau yn y gogledd-ddwyrain, lle mae gennym nifer o ardaloedd lle mae'r ffin yn rhedeg trwy aneddiadau.
O ran tomenni glo, fel y dywedais i mewn ymateb i gwestiynau cynharach, rwy'n credu y byddwn yn cael ymateb llawer mwy cadarnhaol gan y Llywodraeth newydd o ran parchu a myfyrio ar etifeddiaeth ddiwydiannol tomenni glo a chwareli nas defnyddir. Mae'n orffennol diwydiannol sy'n rhagflaenu datganoli, ac eto mae heriau gwirioneddol iawn yn bodoli nawr. Ni fyddwn i eisiau i arllwysiad mawr ddigwydd o dan fy ngoruchwyliaeth i. Rwyf eisiau i ni fod â rhaglen a rennir lle rydym yn deall sut mae'r ddwy Lywodraeth yn barod i fuddsoddi i unioni'r pethau hyn. Mae rhywfaint o waith i ddeall sut olwg fydd ar hynny wedi'i wneud eisoes. Yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw parodrwydd gan Lywodraeth y DU i fuddsoddi ochr yn ochr â ni i wneud hynny.
Diolch i chi, Prif Weinidog, am amlinellu'r rhaglen ddeddfwriaethol fel y gwnaethoch chi yma y prynhawn yma. Rwy'n synnu at y diffyg pwyslais ar wasanaethau iechyd o fewn y rhaglen ddeddfwriaethol, fel yr ydych wedi'i hamlinellu. Yn amlwg—[Torri ar draws.] Wel, deddfwriaeth yn ymwneud â gwasanaethau iechyd—ysgwyd pennau yn y rhes flaen acw. Iechyd, wrth gwrs, sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o gyllideb Llywodraeth Cymru a dyma'r maes mwyaf canlyniadol o dan reolaeth y Llywodraeth hon, ac rydym yn gwybod yr heriau y mae gwasanaethau iechyd yng Nghymru yn eu hwynebu. Yn benodol, rydym yn ymwybodol o'r rhestrau aros hiraf erioed, ac rydym yn ymwybodol nad yw pobl yn gallu cael ymatebion ambiwlans o fewn yr wyth munud. Mae'n amlwg bod angen sylw arno ar lefel ddeddfwriaethol.
Sam, un eiliad. A all Aelodau ar feinciau'r Llywodraeth ganiatáu i'r Aelod gyfrannu at ei ddatganiad mewn gwirionedd?
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Felly, fy nghwestiwn i yw, Prif Weinidog: a ydych chi'n credu bod y rhaglen ddeddfwriaethol hon yn adlewyrchu'n gywir y sylw a'r pwyslais y mae ein gwasanaeth iechyd yn eu haeddu?
Wel, dyna gamddealltwriaeth sylweddol, yn ddiniwed neu fel arall, ynghylch pwrpas rhaglen ddeddfwriaethol. Rydym ni fel Llywodraeth yn ymrwymo ein hadnodd ariannu mwyaf sylweddol i'r gwasanaeth iechyd gwladol ac rydym yn falch o wneud hynny: cynnydd o 4 y cant a mwy i gyllideb y GIG yn y gyllideb a basiwyd gan y lle hwn y llynedd, o'i gymharu ag ychydig dros 1 y cant dros y ffin yn Lloegr a oedd yn Geidwadol ar y pryd. Nid oes angen i ni basio Biliau blocbyster er mwyn gael y diwygiadau y mae angen i ni eu gweld yn cael eu cyflawni, ynghyd â'r adnodd yn y gwasanaeth iechyd. Ni allwch ddeddfu i wella cynhyrchiant. Ni allwch ddeddfu i newid pob rhan o ymddygiad iechyd y cyhoedd. Ac rwy'n siŵr bod yr Aelod yn deall nad trwy'r datganiad hwn mae gwelliant sylweddol mewn gwasanaethau iechyd yn cael ei gyflawni. Nid oes angen i ni newid y gyfraith i wella canlyniadau iechyd; mae gwir angen i ni newid y ffordd y gallwn fuddsoddi yn nyfodol ein gwasanaeth a'i drefnu o amgylch y claf ac o amgylch ein staff i ddarparu'r gofal gorau posibl yn y lle iawn ar yr adeg iawn.
Rwy'n siŵr y bydd llawer o'ch etholwyr, Prif Weinidog, yn falch iawn o glywed y bydd Bil diogelwch adeiladau yn cael ei gyflwyno, ond o gofio bod saith mlynedd wedi mynd heibio ers Grenfell ac mae llawer o bobl yn dal yn methu symud ymlaen â'u bywydau, pryd mae'n rhagweld y bydd y Bil hwnnw'n cael ei gyflwyno?
Yn ail, mae'n dair blynedd ers i ni dderbyn adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar dribiwnlysoedd datganoledig, ond nid oes gennym amserlen o hyd o ran deddfwriaeth yn y maes hwn. Trwy'r tribiwnlysoedd datganoledig, mae gennym sylfaen i adeiladu system gyfiawnder deg yng Nghymru. Pryd fydd y ddeddfwriaeth angenrheidiol yn cael ei chyflwyno?
Ac yn olaf, hoffwn ailadrodd pryderon y cyfeiriwyd atynt gan arweinydd yr wrthblaid. Ers yr etholiad diwethaf, mae Senedd yr Alban wedi pasio 26 o Ddeddfau, gyda phump o Filiau eraill yn aros am Gydsyniad Brenhinol a 14 Bil yn y rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer eleni. I'r gwrthwyneb, dim ond 10 Deddf y Senedd sydd wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol. A yw'r Prif Weinidog yn fodlon bod deddfu yn derbyn digon o adnoddau oddi wrth Lywodraeth Cymru? Diolch yn fawr.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Rwy'n credu bod tri phwynt cymharol fyr. Y cyntaf yw bod y Bil diogelwch adeiladau, fel y nodais, yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Bydd yn cael ei gyflwyno yn y flwyddyn nesaf. Rydym eisoes yn darparu, heb fod wedi pasio deddfwriaeth flaenorol—. Fel ymatebais i Andrew R.T. Davies, rydym yn darparu cymorth ymarferol i lesddeiliaid sy'n dymuno ystyried cymryd camau cyfreithiol yn erbyn datblygwr eu heiddo ynghylch materion diogelwch tân, ac rydym hefyd yn cynnal llwybr i helpu i wella materion diogelwch tân, gan gynnwys yr adeiladau hynny nad oes ganddynt gladin. Ni yw'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig i wneud hynny.
O ran eich pwynt ynghylch tribiwnlysoedd, rwy'n gwerthfawrogi y bydd gan gyfreithwyr adennill ddiddordeb yn hyn. Mae'n bwysig ein bod yn cael system gydlynol o ran cyfiawnder Cymru. Mae hwnnw'n Fil y gallwn ddod ato ar ddiwedd y tymor hwn os gallwn gyflawni pob rhan arall o'r rhaglen. Felly, mae'n gyflwyniad posibl ar ddiwedd y tymor, ond mae'n dibynnu ar faint o amser mae'n ei gymryd i ni ddeddfu. Gallaf ddweud wrthych fy mod wedi bod yn Aelod yn y lle hwn ers 2011, ac rwyf wedi gweld yn rheolaidd sut y mae deddfwriaeth naill ai'n cael ei rhuthro neu'n cael ei cholli mewn ffordd nad yw'n ddefnyddiol i unrhyw un ohonom. Nid wyf eisiau i'r Biliau mawr yr ydym wedi'u nodi yma fod mewn perygl o gael eu colli yn ystod wythnos neu ddwy ddiwethaf y tymor. Os gallwn wneud cynnydd da ar yr holl ddeddfwriaethau radical a sylweddol yr ydym wedi'u nodi, yna efallai y bydd cyfleoedd i gyflwyno Bil terfynol ar y diwedd, ond dyma'r blaenoriaethau allweddol ac mae'r Llywodraeth hon wedi dod i farn ar dad-flaenoriaethu—dewisiadau anodd, ond mae hynny'n caniatáu llwyfan mwy cadarn i gyflawni'r rhaglen ddiwygio ddeddfwriaethol radical a blaengar hon, ac rwy'n falch o wneud hynny; ni fyddaf yn ymhél â chymharu niferoedd y Biliau yn hytrach nag effaith ymarferol y ddeddfwriaeth yr ydym yn ei phasio. Dyna'r prawf yr wyf eisiau i ni ei osod: sut y gallwn ddefnyddio ein pwerau i wneud gwahaniaeth gyda deddfwriaeth addas i'r diben, nid cyfrif y rhifau'n unig a pheidio â phoeni am y gwahaniaeth y maent wedi'i wneud.
Prif Weinidog, diolch am eich datganiad heddiw. Yn ystod cyfnod ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, cefais y fraint wirioneddol o gwrdd â chymaint o bobl ifanc ledled Cymru, yn enwedig y plant hynny a oedd â phrofiad o fod mewn gofal, ac mae'n dda iawn clywed pobl ar draws y Siambr heddiw yn sôn am ein plant â phrofiad o fod mewn gofal a'r gwaith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud yn y maes hwn. Yn yr adroddiad a gyflwynwyd gennym, soniodd y pwyllgor am hyd at naw argymhelliad; daeth yr argymhellion hyn oddi wrth y bobl ifanc a gymerodd ran yn yr ymchwiliad hwnnw mewn gwirionedd, gyda meysydd lle gallai Llywodraeth Cymru ddeddfu i wella bywydau plant sy'n derbyn gofal ledled Cymru. Ar ben yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud, a allwch amlinellu unrhyw le pryd gallai'r Llywodraeth ddeddfu yn y dyfodol i wella bywydau ein pobl ifanc ar hyd a lled Cymru? Ac ar ben hynny, Prif Weinidog, rwy'n edrych ymlaen hefyd at weithio gyda chi ac un o'ch Gweinidogion, Jayne Bryant, yma ar ddatblygu fy Mil safonau gofal iechyd meddwl.
Diolch am y sylwadau. O ran cyfleoedd yn y dyfodol, rydym yn cymryd adroddiadau o ddifrif a ddarperir gan ein pwyllgorau craffu a pholisi. Nid yw'r Llywodraeth bob amser yn cytuno â nhw, ond mae yna adegau pan fyddwn ni'n gweld datblygu syniadau a all arwain at wella polisi a chyflawni, neu o bosibl mewn deddfwriaeth. Rwy'n siarad heddiw am y rhaglen ddeddfwriaethol sydd gennym, yn hytrach na'r hyn a allai ddigwydd ar ddiwedd y tymor hwn, ac wrth gwrs bydd gan bleidiau eu maniffestos eu hunain ar gyfer y dyfodol. Felly, nid oes meddwl caeedig o ran yr hyn y gall y dyfodol ei gynnig, ond mae gennym gyfnod penodol o gapasiti o fewn gweddill y tymor hwn: dyna'r Biliau yr ydym wedi'u nodi yn rhaglen y Llywodraeth ac wrth gwrs y Biliau yr wyf wedi ymrwymo iddynt, a'r Cwnsler Cyffredinol, i gefnogi gwaith y pwyllgor safonau, efallai na fydd hynny'n gyfnod sylweddol o ddeddfwriaeth mewn gwirionedd, ond bydd ei heffaith yn arwyddocaol iawn, felly credaf fod yr ymgynghoriad a'r gwaith o gael hynny'n iawn yn bwysig iawn, ac mae'n faes lle gallwn weld nad hyd y Bil yw'r mater, mae'n sicrhau ein bod yn cael pethau'n iawn yn y ddeddfwriaeth a'r canllawiau y bydd angen iddynt ddod ar ôl hynny hefyd.
Ac rwy'n edrych ymlaen at barhau â'r sgwrs adeiladol a gawsom ar y ddeddfwriaeth y mae'r Aelod eisiau ei datblygu. Gyda Llywodraeth y DU sydd newydd gael ei hethol gydag ymrwymiadau maniffesto i ddiwygio deddfwriaeth iechyd meddwl, sydd i'w groesawu, edrychaf ymlaen at weld a oes maes ymarferol i wneud cynnydd gyda'r Aelod yn y maes y mae wedi'i ddewis, ac rwy'n gwybod y bydd yn parhau i gael sgyrsiau adeiladol gyda Jayne Bryant, ac rwy'n gefnogol iawn iddynt.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf fydd eitem 4, y Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2024 yw’r eitem yma, ac felly, yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid i gyflwyno’r cynnig—Rebecca Evans.
Cynnig NDM8632 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin 2024.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Mae'r rheoliadau gerbron y Senedd yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft. Os yw'r Senedd yn eu cymeradwyo heddiw, rwy'n disgwyl iddynt ddod i rym ddydd Gwener. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiadau. Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi codi pwynt craffu technegol ac rydym wedi ymateb. Mae'r camgymeriad bach iawn a nodwyd yn yr offeryn statudol drafft bellach wedi'i gywiro cyn i'r rheoliadau gael eu gwneud. Bydd y rheoliadau yn gwneud newidiadau i reolau ad-daliadau cyfraddau preswyl uwch ac eithriadau treth trafodiadau tir. Mae ad-daliadau rhannol treth trafodiadau tir ar gael i'r rhai sydd wedi talu'r cyfraddau preswyl uwch wrth brynu cartref newydd cyn gwerthu eu cartref presennol. Mae eithriadau cyfraddau preswyl uwch treth trafodiadau tir ar gael i'r rhai sy'n gwerthu eu hen gartref cyn prynu un newydd ond sy'n berchen ar fuddiant mewn annedd arall ar yr adeg y maent yn prynu'r cartref newydd. Mae'r ad-daliad a'r cyfnodau eithrio ar gael am dair blynedd o adeg trafodiad perthnasol ac maent yn fuddiol i brynwyr tai sy'n pontio rhwng cartrefi.
Mae tystiolaeth yn dangos, er bod tair blynedd fel arfer yn ddigon hir i gefnogi prynwyr tai, gall fod yn rhy fyr mewn rhai amgylchiadau gwirioneddol eithriadol. Felly, rydym yn cynnig ymestyn yr ad-daliad a'r cyfnodau eithrio heb gyfyngiad ar gyfer trafodiadau eiddo sy'n cael eu gohirio gan ddiffygion diogelwch tân heb eu datrys a chyfyngiadau brys. O ran diffygion diogelwch tân heb eu datrys, bydd y rheolau newydd yn caniatáu hawliadau ad-daliad yn y dyfodol mewn perthynas â thrafodiadau sy'n digwydd ar ôl i'r rheoliadau ddod i rym, ond hefyd mewn perthynas â hawliadau pryd y mae'r cyfnod o dair blynedd eisoes wedi dod i ben, ar yr amod y byddent wedi bod yn gymwys fel arall o fewn y cyfnod tair blynedd gwreiddiol. O ran cyfyngiadau brys, bydd y rheolau newydd yn ymestyn y cyfnod o dair blynedd ar gyfer ad-daliadau ac eithriadau sy'n ymwneud â thrafodiadau perthnasol lle bydd cyfyngiadau brys o'r fath yn digwydd yn y dyfodol. Mae ymgynghoriad cyhoeddus diweddar wedi dangos rhywfaint o gefnogaeth i'r cynigion, a gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Diolch, Llywydd. Trafododd y pwyllgor y rheoliadau drafft hyn yr wythnos diwethaf, ac mae ein hadroddiad, sy'n cynnwys ymateb Llywodraeth Cymru, ar gael ar agenda heddiw. Fel y mae'r Ysgrifennydd Cabinet newydd ei amlinellu, mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 5 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 a byddant yn ymestyn y cyfnodau tair blynedd sy'n berthnasol i amnewid eithriad prif breswylfa rhag cyfraddau preswyl uwch o dreth trafodiadau tir. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet felly'n arfer pŵer Harri'r VIII sydd ar gael i Weinidogion Cymru.
Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys dim ond un pwynt adrodd technegol a dau bwynt adrodd ar rinweddau. Dim ond ymateb gan y Llywodraeth i'r pwynt adrodd technegol y gwnaethom ofyn amdano, a byddaf yn crynhoi hyn yn fyr fel a ganlyn. Mae paragraff 35 o Atodlen 5 i'r Ddeddf treth trafodiadau tir yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phan fo gan brynwr fuddiant mawr mewn annedd y tu allan i Gymru. Nid oedd y pwyllgor yn glir pam fod y rheoliadau'n ychwanegu cyfeiriadau penodol at is-baragraff (4) paragraff 35. Gellir dod o hyd i'r manylion penodol yn ein hadroddiad. Gofynnom i'r Llywodraeth egluro'r dull a gymerwyd o ymdrin â'r cyfeiriadau hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y pwynt yr ydym wedi'i godi, ac yn mynd i ddiwygio'r rheoliadau cyn eu gwneud fel bod y cyfeiriadau y nodwyd gennym fel rhai anghywir yn cael eu dileu.
A gaf i ddweud, ar nodyn personol, rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y newidiadau sy'n cael eu gwneud? Rwy'n credu y byddant o fudd i nifer o bobl, felly diolch yn fawr iawn.
Does gyda fi ddim mwy o siaradwyr, ac felly ydy Ysgrifennydd y Cabinet eisiau ymateb? Rebecca Evans.
Dim ond i ddweud diolch yn fawr iawn i Mike Hedges, yn enwedig am y sylwadau terfynol yna a wnaed o safbwynt mwy personol, ond hefyd iddo ef a'i bwyllgor am y gwaith y maent wedi'i wneud, yn enwedig wrth nodi'r camgymeriad drafftio bach hwnnw. Fel y dywedais i, rydym bellach wedi dileu'r cyfeiriadau y cyfeiriodd Mike Hedges atynt, ac mae swyddogion wedi ateb adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, ac mae testun yr offeryn statudol wedi'i gywiro cyn i'r rheoliadau gael eu gwneud. Ac yna dim ond cytuno eto gyda Mike Hedges fod y rheoliadau hyn yn bwysig iawn i bobl sy'n cael eu hunain mewn rhai amgylchiadau anodd ond eithriadol iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, does yna ddim gwrthwynebiad. Felly, mae’r cynnig yna wedi ei dderbyn o dan Reol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 5 yw’r eitem nesaf, Cyfnod 4 y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) yw hwn. Y Cwnsler Cyffredinol i wneud y cynnig. Mick Antoniw.
Cynnig NDM8636 Mick Antoniw
Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru).
Cynigiwyd y cynnig.
Rwy'n cynnig y cynnig.
Diolch, Llywydd. Pleser i mi yw gwneud y cynnig Cyfnod 4 ar y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru). Yn ystod oes y Senedd hon, rŷn ni wedi cyflwyno deddfwriaeth radical ac arloesol. Mae'r Bil yma yn un o'r rhai mwyaf radical, am ei fod yn mynd at wraidd ein democratiaeth, ein system etholiadol. Mae'n cyflwyno nid yn unig system reoli newydd ar gyfer etholiadau Cymru, ond hefyd system i gofrestru etholwyr yn awtomatig. Trwy wneud y gofrestr etholiadol yn ddigidol, mae'n agor y drws i gyfle technolegol i wneud ein system etholiadol yn fwy hygyrch nag erioed yn ein hanes ni.
Mae'n Fil a fydd yn dechrau moderneiddio ein system etholiadol yng Nghymru, i greu system sydd â'n hiechyd democrataidd wrth ei chalon, sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Gyda'r Bil hwn, rydym yn ceisio gwella ein democratiaeth trwy wella sut y caiff etholiadau eu cynnal a sut y gall pobl ymgysylltu â nhw. Caniatáu cofrestru awtomatig; sicrhau bod gwybodaeth glir ar gael i egluro etholiadau a'r dewis gerbron y pleidleisiwr; rhoi gwasanaethau ar waith i annog pobl o'r grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli fwyaf i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar ein bywydau ni i gyd drwy'r fraint o wasanaethu ein cymunedau a'n cyrff etholedig; sefydlu'r bwrdd rheoli etholiadol, gan roi sylfaen gadarnach i waith gwirfoddol rhagorol y gymuned etholiadol. Er y bydd y Bil yn arwain at ddiddymu Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, bydd yr egwyddorion a'r dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth y mae'r panel wedi'u mabwysiadu yn cael eu hadeiladu a'u cryfhau wrth i'r swyddogaeth o ran taliad cydnabyddiaeth ddod yn rhan o Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.
Mae'r diwygiadau hyn yn ategu diwygiadau i'r Senedd a wnaed drwy Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 a byddant hefyd yn agor y drws i ddeddfwriaeth ychwanegol, yr ymrwymais iddi yng Nghyfnod 3 yr wythnos diwethaf, i gyflwyno Bil pellach ar gyfer 2026 i gyflwyno system adalw neu symud ymaith Aelodau'r Senedd pan fo camymddwyn difrifol wedi digwydd, ac i ddeddfu i ymgeiswyr ac Aelodau gael eu dwyn i gyfrif am ddatganiadau o ddichell fwriadol. Rwy'n falch o nodi'r gefnogaeth drawsbleidiol i'r amcan hwn. Edrychaf ymlaen at dderbyn argymhellion y pwyllgor safonau maes o law.
Mae gennym Lywodraeth newydd yn San Steffan, ac rwy'n falch eu bod hefyd wedi ymrwymo i ddeddfu ar gyfer cofrestru awtomatig ac ymestyn y fasnachfraint etholiadol i 16 ar gyfer etholiadau'r DU. Yng Nghymru, rydym wedi arwain y ffordd drwy ymestyn yr etholfraint etholiadol i bobl ifanc 16 oed yn barod. Trwy gofrestru awtomatig, byddwn yn ymateb i'r her a berir gan y Comisiwn Etholiadol i fynd i'r afael â diffyg cofrestru. Mae cael cofrestr etholiadol gynhwysfawr yn hanfodol i'n democratiaeth. Bydd gan gofrestru awtomatig y potensial i ychwanegu'r 400,000 o etholwyr Cymreig coll at y gofrestr. Ar gyfer etholiadau'r DU, mae ganddo'r potensial i ychwanegu tua 7 miliwn at y gofrestr. Os nad yw dinasyddion ar y gofrestr, ni allant bleidleisio. Os ydynt ar y gofrestr, gallant wneud hynny.
Mae sefydlogrwydd ein democratiaeth a'n hiechyd democrataidd yn dibynnu ar gyfranogiad pleidleiswyr a'u mandad. Gallwn weld ledled y byd, ac yn wir gartref, yr heriau cynyddol i ddemocratiaeth, rhyddid a rheolaeth y gyfraith. Rwy'n cofio'r doethineb gwleidyddol sy'n cael ei arddangos ar faner Undeb Cenedlaethol y Glowyr glofa'r Tower, 'Pris rhyddid yw gwyliadwriaeth dragwyddol', ac yn wir mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus wrth wrthwynebu'r rhai a fyddai'n tanseilio sylfeini ein rhyddid a'n democratiaeth a'n hawliau sifil, y bu ein rhagflaenwyr yn ymladd mor galed drostynt gyda chymaint o aberth.
Gallwn fod yn falch bod Cymru, drwy'r Senedd hon, wedi arwain ar draws y DU wrth ddechrau'r broses o adeiladu system etholiadol yr unfed ganrif ar hugain, gan gynnal egwyddorion uchaf atebolrwydd etholiadol, hygyrchedd, cynhwysiant ac amrywiaeth. Felly, nid dyma ddiwedd y ffordd, ac mae mwy i'w wneud.
Mae gan y Bil hwn gonsensws eang. Rydym wedi gweld hyn o fewn y Senedd, a gyda'r gymuned ehangach o sefydliadau â diddordeb a groesawodd gynnwys y Bil, yn ein hymgynghoriad Papur Gwyn ym mis Hydref 2022, ac yn wir yn ystod craffu. A hoffwn fynegi fy niolch i'r holl Aelodau a'r pwyllgorau am eu hystyriaeth a'u craffu ar y Bil hwn. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i Joel James am weithio gyda ni ar ei welliant, a fydd yn helpu i sicrhau perthynas briodol rhwng cynghorau tref a chymuned a'u clercod. Hoffwn ddiolch i Adam Price am ei ymgysylltiad sylweddol â'r Bil hwn. Gwnaethom gytuno ar rai o'i welliannau yn y pwyllgor ac roeddem yn cefnogi egwyddor llawer o rai eraill, ond yn anghytuno, weithiau, ar y modd. Mae eich cyfraniadau wedi sicrhau bod y Bil hwn yn y sefyllfa orau y gall fod, ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi. Rwy'n ddiolchgar i'r holl randdeiliaid ac arbenigwyr sydd wedi cyfrannu eu barn a'u harbenigedd yn ystod gwaith craffu deddfwriaethol y Bil; hefyd i swyddogion Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Senedd am eu cefnogaeth i mi ac Aelodau drwy gydol taith y Bil hwn. Rwy'n gobeithio y bydd y Senedd yn cefnogi'r darpariaethau sydd wedi'u hystyried a'u llunio'n dda sydd yn y Bil hwn.
Dwi’n edrych ymlaen nawr at glywed barn fy nghyd-Aelodau ar y Bil. Diolch yn fawr.
Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch unwaith eto, i holl dîm y Bil am eu holl waith—maen nhw wedi rhoi llawer iawn o waith i mewn i hwn. Hefyd, a gaf i ddiolch i Adam Price a'r Cwnsler Cyffredinol am eich ymgysylltiad hael drwy'r broses? Er nad oeddem bob amser yn cytuno â phethau, roedd yn gyfle iach i ddod at ein gilydd.
Er ein bod wedi ein tristáu, neu rwyf i'n drist, na dderbyniwyd mwy o'n gwelliannau, megis ein gwelliant hygyrchedd, a fyddai wedi gwneud pleidleisio'n bersonol yn fwy hygyrch i bawb, rydym yn ddiolchgar bod ein gwelliannau sy'n cynnwys cynnydd yn y cyfnod rhybudd o 45 diwrnod i 60 diwrnod y bydd person ar ôl hynny yn cael ei gofrestru i bleidleisio heb gais. Fel yr wyf wedi crybwyll ym mhob cyfnod y Bil, mae angen i ni fod yn ofalus gyda gwybodaeth pobl, ac mae pobl yn aml yn dymuno aros yn ddienw am reswm da, felly rydym yn falch bod y cyfnod rhybudd hwn wedi'i ymestyn. Hefyd, derbyniwyd ein gwelliant sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal ymgynghoriad cyn gwneud unrhyw reoliadau treialu mewn perthynas â chofrestru etholiadol heb gais hefyd gan y Senedd, ac rwy'n ddiolchgar amdano.
Hoffwn ddiolch hefyd i Joel James am yr holl waith y mae wedi'i wneud ar welliannau 23 a 24, sy'n sicrhau nad yw clercod yn gallu dod yn gynghorwyr cymuned, sir a bwrdeistref sirol, a fydd yn sicrhau bod eu rolau fel swyddogion—swyddogion priodol—yn annibynnol ac nad ydynt wedi'u cymell yn wleidyddol. Rydym yn ddiolchgar fod y newidiadau hyn hefyd yn cael eu derbyn.
Llywydd, er fy mod yn cydnabod faint o waith a wnaed yn y Bil o bob ochr i'r Siambr hon, rwy'n ofni na allwn ei gefnogi'n llawn, hyd yn oed wedi'i ddiwygio, oherwydd yn bennaf ein gwrthwynebiad i'r cofrestriad i bleidleisio heb gais.
Un canlyniad, fodd bynnag, o'r Bil, a gafodd ei yrru drwy'r broses hyd yma, oedd, yn amlwg, y drosedd newydd o ddichell a gyflwynwyd gan Adam Price. Nawr, gwn fod hynny wedi diflannu, ond roedd eich ymrwymiad yn y Siambr yr wythnos diwethaf i'w groesawu'n fawr, a chafodd ei nodi yn y rhaglen ddeddfwriaethol yn gynharach heddiw. Mae hynny'n rhoi hyder i mi y gallwn fwrw ymlaen â hynny a dechrau ailadeiladu'r ymddiriedaeth y mae gwir angen i ni ei wneud.
Hoffwn ddiolch unwaith eto i bawb am eu gwaith ar y Bil hwn, ond am y rheswm a rannais nawr, bydd y grŵp Ceidwadol yn pleidleisio yn erbyn yng Nghyfnod 4.
Byddwn ni ym Mhlaid Cymru yn cefnogi'r Bil pwysig yma oherwydd y cynnydd y mae'n cynrychioli o ran diwygio democrataidd yng Nghymru, a phrif ganolbwynt, wrth gwrs, y Bil, o ran cofrestru awtomatig, fel oedd y Cwnsler Cyffredinol yn sôn, fydd yn sicrhau bod ein democratiaeth ni yn gallu cynrychioli barn ein dinasyddion yn fwy effeithiol. Rŷn ni hefyd yn croesawu rhai agweddau eraill ar y Bil yr oedd y Cwnsler Cyffredinol wedi cyfeirio atyn nhw, sef ymgais i sicrhau gwell amrywiaeth o fewn ein strwythurau democrataidd ni, ar lefel Senedd Cymru ac ar lefel llywodraeth leol, a hynny unwaith eto er mwyn sicrhau bod ein democratiaeth ni yn gallu adlewyrchu'r gymdeithas yn gyfan oll, felly, a hefyd creu a theilwra cynlluniau unigol i fynd i'r afael â diffyg cynrychiolaeth o ran rhai adrannau pwysig o'r gymdeithas. Felly, rŷn ni'n croesawu'r elfennau positif hynny.
Rŷn ni yn siomedig, fel y crybwyllwyd gan Peter Fox, fod yna rai gwelliannau ddim wedi cael eu derbyn gan y Llywodraeth, er enghraifft, y gwelliannau oedd yn ymwneud â hygyrchedd—gallu pobl ddall, er enghraifft, i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd mewn ffordd gydradd. Hefyd, rŷn ni yn siomedig iawn o hyd â gwrthodiad y Llywodraeth o ran gosod y system etholiadol ar sail ieithyddol gydradd, a gosod y system etholiadol o dan safonau'r Gymraeg, a dŷn ni dal yn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn newid ei barn ynglŷn â hynny.
Roedd nifer o bethau eraill oedd wedi cael eu hawgrymu yn ystod y broses o drafod, er enghraifft, ymgais i ddefnyddio'r gallu sydd gennym ni i reoleiddio effaith negyddol posibl deallusrwydd artiffisial, fideos ffug, deepfake, ac yn y blaen. Mae Lee Waters wedi cynnig rhai sylwadau ynglŷn â hyn ar sail y seminar roedd e'n rhan ohono fe yn Singapôr yn ddiweddar. Rwy'n gobeithio y bydd hwn yn bwnc y gallwn ni ddychwelyd ato fe maes o law, ac os nad os yna weithredu ar lefel y Deyrnas Gyfunol, fe ddylem ni yn sicr ddefnyddio'r pŵer sydd gyda ni i reoleiddio ein democratiaeth ni ein hunain yng Nghymru.
Rwy'n croesawu'r gwelliannau mi oedd y Llywodraeth wedi'u derbyn. Byddwn i wedi hoffi gweld mwy o ymgysylltu a mwy o barodrwydd i gydweithio, i adlewyrchu'r ffaith nad oes gan y Llywodraeth fwyafrif yn y lle yma. Mi fyddwn ni yn cefnogi y Cyfnod 4, ond heb fod yna rai o'r gwrthbleidiau yn cefnogi'r Llywodraeth ar y pwynt yma, mi fyddai'r Bil yma yn cael ei golli. Felly, mae'n rhaid, dwi'n credu, gwella y ffyrdd rŷn ni'n cydweithio'n drawsbleidiol ar draws y Senedd, i adlewyrchu rhifyddeg ein democratiaeth ni, a bod yna ddim monopoli gan unrhyw blaid, gan gynnwys y blaid lywodraethol, ar wirionedd neu syniadau da.
Mi ddylwn i gyfeirio, fel oedd y Cwnsler Cyffredinol a Peter Fox wedi cyfeirio, at un o bynciau trafod mawr y Bil yma, sef y cwestiwn yma o ddichell, sydd yn bwnc hanfodol o bwysig ar gyfer nid yn unig ein democratiaeth ni yng Nghymru, ond ar draws y byd ar hyn o bryd. Dŷn ni'n edrych ymlaen nawr i gydweithio ar y sail drawsbleidiol honno wrth inni gymryd y syniad yma a'i roi ar waith yng nghyfrwng y Bil oedd wedi cael ei grybwyll yn y rhaglen ddeddfwriaethol yn gynharach heddiw.
Mae'n bwysig ein bod ni'n mynd i'r afael â diffyg ymddiriedaeth yn ein gwleidyddiaeth ni, oherwydd dŷn ni'n wynebu her a chreisis mewn democratiaeth. Fe welon ni y canran isel oedd wedi cymryd rhan yn yr etholiad cyffredinol yng Nghymru—dim ond 56 y cant—felly mae yna heriau gyda ni o ran cryfhau ein democratiaeth ni. Buaswn i'n dweud mai dim ond drwy ysbryd trawsbleidiol, cydweithredol, pawb yn cynnig syniadau, pawb yn ceisio gweithio gyda'i gilydd i gyrraedd y nod mae'n siŵr ein bod ni i gyd yn ei rannu, sef cael y ddemocratiaeth fwyaf hyfyw posibl y gallwn ni ei chael yng Nghymru—. Yn yr ysbryd hwnnw, byddwn ni'n cefnogi'r Bil yng Nghyfnod 4. Rŷn ni'n croesawu'r cynnydd mae e'n ei gynrychioli, ond yn edrych ymlaen at gario ymlaen i'r bennod nesaf yn y Bil arall wnes i ei grybwyll gynnau.
Mae gen i ychydig o eiriau i'w dweud, mewn gwirionedd, oherwydd bod Peter Fox ac Adam Price wedi ymdrin â meysydd allweddol iawn yma. Ond hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r rhai sy'n ymwneud â'r Bil hwn hyd yma, gan gynnwys y Cwnsler Cyffredinol a'r swyddogion, Aelodau ar draws y Siambr a'r staff eraill hefyd.
Rwy'n croesawu'r sefyllfa yr ydym wedi ei chyrraedd. Cafwyd trafodaethau sylweddol a gwaith caled i gyrraedd man lle rwy'n credu ein bod yn symud ymlaen mewn perthynas â sut y gallwn wneud ein hunain yn dryloyw ac yn atebol mewn gwirionedd. Mae'n rhaid i ni gofio bod angen i ni weithredu ag uniondeb a gonestrwydd, ac mae'r Bil hwn yn sicrhau ein bod yn cymryd camau i gyrraedd hynny. Fel y dywedodd Adam, mae angen i ni wella iechyd ein democratiaeth yma yng Nghymru, a sicrhau bod mwy o bobl yn cymryd rhan. Rydym wedi mynd trwy etholiad cyffredinol lle cawsom y gyfradd isaf o bobl yn cymryd rhan—56 y cant eleni, sydd mewn gwirionedd i lawr o ffigur 2019 sef 67 y cant. Dylai hynny fod yn her wirioneddol ac yn rhybudd amserol i ni i gyd yma yn y Siambr, yn enwedig wrth i ni symud ymlaen at 2026 a sicrhau bod gennym Senedd wirioneddol gynrychioliadol yma yng Nghymru.
Felly, rwy'n edrych ymlaen, yn olaf, at y camau a gymerir, yn enwedig o ran cyflwyno Bil a deddfwriaeth i fynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â dichell fwriadol. Mae'r Bil hwn yn gam pwysig ac angenrheidiol i sicrhau bod Cymru'n fwy democrataidd, yn fwy rhydd ac yn decach. Mae'n un cam ar ffordd nad yw, gobeithio, yn rhy hir i sicrhau ein bod yn cael y Gymru ddemocrataidd yr ydym yn ei haeddu a'i hangen. Diolch yn fawr iawn.
Y Cwnsler Cyffredinol nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n croesawu'r holl sylwadau a gyflwynwyd. Gan gyfeirio at sylwadau Jane Dodds yn olaf oll, mae iechyd ein democratiaeth, rwy'n credu, yn fater mor bwysig. O ran y pwyntiau a godwyd gennych rydym i gyd yn ymwybodol ohonynt ac wedi cael sylwadau arnynt. Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw hi i'n sefydlogrwydd, ond hefyd i'n rhyddid sylfaenol. Wrth gwrs, mae'r gallu i wneud y newidiadau hyn heddiw—a'r rhain yn newidiadau radical iawn—yn dod o Ddeddf Cymru 2017. Roedd yn un o'r prif rannau pam roeddwn i mor gefnogol i'r Ddeddf honno, oherwydd os nad oes gennych reolaeth dros eich system etholiadol, rydych chi'n cael eich dadrymuso i bob pwrpas, ac mae ein gallu ni heddiw i wneud newid radical yn etholiadol ac i foderneiddio ein system yn bwysig iawn.
Os caf gyfeirio at sylwadau Peter Fox, rwy'n siomedig iawn nad yw'r wrthblaid Geidwadol yn cefnogi'r Bil hwn. Mae'n rhaid i mi ddweud reit ar y dechrau roeddwn bob amser yn meddwl na fyddech chi fel grŵp, oherwydd mae'r Blaid Geidwadol wedi cefnogi pob math o ddulliau o atal pleidleiswyr dros y blynyddoedd diwethaf. Mae mor siomedig eich bod mewn gwirionedd yn gwrthwynebu cyflwyno cofrestru awtomatig a'r posibilrwydd y bydd 400,000 o etholwyr eraill o Gymru ar y gofrestr etholiadol. Rydw i mor siomedig oherwydd rwy'n amau mai dyna'r prif reswm pam eich bod chi mewn gwirionedd yn gwrthwynebu'r Bil hwn—oherwydd ei fod yn agor democratiaeth mewn ffordd a fyddai'n llawer mwy cynhwysol yn fy marn i ac yn cynnwys llawer mwy o bobl. Rwy'n credu eich bod wedi cael trafferth dod o hyd i resymau dros wrthwynebu'r Bil hwn. Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n ailystyried, ond rwy'n amau y bydd hynny'n digwydd mewn gwirionedd.
Adam, o ran y pwynt a godoch chi, rwyf yn cymryd sylw manwl o'r pwyntiau rydych chi'n eu gwneud ar amrywiaeth. Mae amrywiaeth a chynwysoldeb yn rhan bwysig iawn o'r Bil penodol hwn. Mewn gwirionedd, mae'r Bil hwn yn mynd â ni ymhellach yn y meysydd penodol hynny rwy'n credu nac mewn unrhyw ddeddfwriaeth flaenorol arall. Mae'r materion sy'n ymwneud â digideiddio'r gofrestr etholiadol yn agor y drws i newid radical, dramatig iawn a sylfaenol iawn. Rwy'n credu bod y ddeddfwriaeth hon yn gam arwyddocaol iawn ymlaen.
Diolch am y gefnogaeth. Rwy'n annog pob Aelod nawr i gefnogi Cyfnod 4 fel y gall y ddeddfwriaeth radical hon—sy'n torri tir newydd ar gyfer y DU—fynd ymlaen i gael Cydsyniad Brenhinol. Diolch.
Fe fydd yna bleidlais nawr yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C. Mae'n rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, byddwn ni'n symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio.
Dydw i ddim yn gwybod beth sydd o'i le ar fy sgrin, ond ni allaf ymuno â'r pleidleisio. A gaf i bleidleisio ar lafar?
Cewch, rwy'n caniatáu i'r bleidlais gael ei bwrw ar lafar os oes problem.
Fe wnawn ni symud at y bleidlais ar Gyfnod 4 y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yn enw Mick Antoniw. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.
Eitem 5. Cyfnod 4 Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru): O blaid: 39, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Fe fyddwn ni nawr yn cymryd egwyl fer cyn i ni ddechrau trafodion ar Gyfnod 3 y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru). Byddwn ni'n canu'r gloch bum munud cyn inni ailgychwyn.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:34.
Ailymgynullodd y Senedd am 16:46, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.
Mae’r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud â dyletswydd i ymgynghori. Gwelliant 3 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn. Galwaf ar Peter Fox i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant hwn a'r gwelliannau eraill yn y grŵp.
Cynigiwyd gwelliant 3 (Peter Fox).
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i gyfrannu at y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru). Hoffwn ddiolch hefyd i'r tîm am yr holl waith a wnaethant ar y Bil hwn. Rwyf am siarad yn benodol am fy ngwelliannau. Mae'r diwygiadau hyn yn nodi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymgynghori â phobl y maent yn credu sy'n briodol cyn rhoi neu dynnu'n ôl ryddhad a chyn gwneud rheoliadau. Bydd hyn yn sicrhau bod lleisiau cynghorau a sefydliadau eraill yn cael eu clywed. Hefyd, bydd ymgynghori yn cynyddu lefelau atebolrwydd a thryloywder yr ydym i gyd yn bwriadu eu cyflawni. Er ein bod yn deall, fel y nododd yr Ysgrifennydd Cabinet yng Nghyfnod 2, y bydd y rheoliadau hyn yn dilyn y broses ymgynghori arferol, credwn y bydd hyn yn helpu i fagu hyder yn ogystal â gwella tryloywder ac atebolrwydd. Am y rheswm hwn rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliannau hyn.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch. Cyn i mi siarad am y gwelliannau yn y grŵp hwn, hoffwn amlinellu i'r Aelodau bwysigrwydd y ddeddfwriaeth hon a phwrpas y Bil. Rydym yn dod â chysondeb, hyblygrwydd a chynnydd i sicrhau bod trethi lleol yn parhau i fod yn effeithiol ac yn weithredol am flynyddoedd i ddod. Rydym yn deddfu ar gyfer y dyfodol ac nid y gorffennol. Mae trethiant lleol yn rhan annatod o lywodraeth leol. Ar draws y Siambr, mae'r Aelodau'n hyrwyddo llywodraeth leol a'r gwahaniaeth y mae'n ei wneud i'n bywydau bob dydd. Daw ein cyfraniad at wasanaethau hanfodol yn rhannol o'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig, gan ddarparu sylfaen i ddemocratiaeth leol.
Mae'r darpariaethau allweddol yn y Bil yn gwella tegwch y dreth gyngor ac ardrethi annomestig drwy sicrhau eu bod yn adlewyrchu amgylchiadau economaidd yn fwy rheolaidd. Mae'n mynd i'r afael ag osgoi ardrethi annomestig ac yn gwella gweinyddiaeth. Rydym hefyd wedi ceisio moderneiddio'r gyfraith a'i gwneud yn fwy ymatebol i anghenion polisi sy'n newid. Felly, mae'r Bil hwn yn sicrhau newid ystyrlon i'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig, nid yn unig yn y tymor byr ond hefyd o ran paratoi'r ffordd ar gyfer diwygiadau pellach yn y dyfodol. Mae'n gyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i system drethu sy'n effeithio ar bron pob person a busnes yn y wlad.
Hoffwn gofnodi fy niolch i'r Aelodau hynny a staff y pwyllgorau sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith o graffu ar y Bil. Rwy'n ddiolchgar am eu hystyriaeth ofalus o'r ddeddfwriaeth hon ac am y dull gweithredu adeiladol y maent wedi'i fabwysiadu. Mae fersiwn ddiwygiedig o'r memorandwm esboniadol wedi'i chyflwyno, gan adlewyrchu fy ymrwymiadau mewn ymateb i argymhellion y pwyllgor a gwelliannau Cyfnod 2.
Fe drof yn awr at y gwelliannau yn y grŵp hwn, a byddai angen ymgynghori â phob un ohonynt cyn y gallai Gweinidogion Cymru arfer y rhan fwyaf o'r pwerau deddfu yn y Bil mewn perthynas ag ardrethi annomestig a'r dreth gyngor. Fel y nodais yn ystod camau craffu cynharach, nid oes angen gofyniad statudol yn hyn o beth a gall fod yn anghymesur o dan rai amgylchiadau, megis lle gellir gwneud mân ddiwygiadau gweinyddol i reoliadau. Wrth ystyried a ddylid ymgynghori â rhanddeiliaid, rydym yn ystyried polisi Llywodraeth Cymru ar ymgynghori ac rydym yn gweithredu yn unol â dyletswyddau ymgynghori cyfraith gyffredin. Nid oes unrhyw un o'r ystod o bwerau presennol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas ag ardrethi annomestig a'r dreth gyngor yn ddarostyngedig i ddyletswyddau ymgynghori statudol.
Er fy mod yn gwerthfawrogi'r egwyddor sy'n sail i'r holl welliannau hyn, mae'n bwysig bod yn glir ynghylch y perygl o ganlyniadau anfwriadol gwirioneddol a allent eu hachosi. Gallai ymgynghoriad statudol ym mhob amgylchiad roi talwyr trethi lleol yng Nghymru dan anfantais drwy oedi neu hyd yn oed atal darparu cymorth newydd. Byddai'r gwelliannau hyn yn ei gwneud yn anymarferol fwy neu lai i ddarparu cymorth newydd i dalwyr ardrethi mewn rhai amgylchiadau, gan gynnwys pan fydd datganiad hydref Llywodraeth y DU yn effeithio ar ddull Llywodraeth Cymru. Nid mater damcaniaethol mo hwn—mae'n codi'n flynyddol fel ystyriaeth graidd wrth bennu cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.
Yn ystod camau craffu cynharach, rhoddais enghreifftiau o amgylchiadau diweddar lle na allem fod wedi gweithredu i ddarparu cefnogaeth yn yr amserlenni gofynnol pe bai gofyniad o'r fath wedi bod yn berthnasol i'n pwerau presennol. Er na fyddai effaith y diwygiadau hyn yn berthnasol i'r pwerau presennol hynny, mae'r enghreifftiau'n helpu i ddangos y rhwystr rhag ymyrraeth gadarnhaol y byddai'r gwelliannau hyn yn ei gyflwyno.
Rhoddaf yn nawr sylwadau ar y gwelliannau unigol yn y grŵp hwn, gan gyfeirio at yr enghreifftiau mwyaf perthnasol a ddarparwyd gennyf o'r blaen. Mae gwelliannau 3 i 5 yn ymwneud â phŵer i roi a thynnu rhyddhad ardrethi annomestig trwy reoliadau. Ni allem fod wedi cyflwyno rheoliadau mewn pryd i ddarparu rhyddhad trosiannol ar gyfer ailbrisio 2023 pe byddem wedi gorfod ymgynghori ar y cynigion yn gyntaf. Dyma ymyrraeth a gafodd gefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd ac fe'i croesawyd gan dalwyr ardrethi. Byddai darparu'r rhyddhad flwyddyn yn ddiweddarach wedi bod yn rhy hwyr a byddai miloedd o dalwyr ardrethi wedi bod dan anfantais. Nid wyf yn credu bod hwn yn ganlyniad y byddai'r Senedd wedi'i ddymuno ac na ddylai beri risg mewn perthynas ag ymyriadau y bydd yn dymuno eu cefnogi yn y dyfodol sy'n dibynnu ar y pwerau a ddarperir yn y Bil.
Mae gwelliant 8 yn ymwneud â phwerau i roi a thynnu eithriadau ardrethi annomestig trwy reoliadau. Yn yr un modd â rhyddhad, gallai'r gwelliant hwn roi talwyr ardrethi yng Nghymru dan anfantais trwy ohirio darparu eithriad newydd mewn amgylchiadau lle ystyrir mai dyma'r ffordd fwyaf priodol o leihau atebolrwydd ardrethi annomestig i sero.
Mae gwelliant 10 yn ymwneud â'r pŵer i osod lluosyddion gwahaniaethol trwy reoliadau. Yn ystod cyfnodau craffu cynharach, rhoddais esboniad manwl o ganlyniadau anfwriadol posibl dyletswydd o'r fath, ac ymrwymais i ymgynghori cyn cyflwyno unrhyw luosydd gwahaniaethol. Fodd bynnag, gallai dyletswydd barhaus i ymgynghori mewn perthynas â chynnal lluosyddion gwahaniaethol yn flynyddol roi talwyr ardrethi dan anfantais. Mae hyn oherwydd na ellid gweithredu unrhyw waith cynnal blynyddol o'r fath tan ar ôl datganiad Llywodraeth y DU yn yr hydref, sy'n llywio dull Llywodraeth Cymru o osod y lluosydd yn flynyddol. Pe bai angen ymgynghori mewn perthynas â chynnal lluosyddion gwahaniaethol yn flynyddol, ni fyddai digon o amser i baratoi rheoliadau a'u dwyn i rym cyn i awdurdodau lleol ymgymryd â'u bilio blynyddol.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gwneud rheoliadau i gefnogi talwyr ardrethi trwy rewi neu gyfyngu ar dwf chwyddiant yn y lluosydd, yn gyffredinol gyda chefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd. Ni fyddai'r gwelliant hwn yn rhoi'r hyblygrwydd blynyddol cyfatebol i ni mewn perthynas â lefel gymharol unrhyw luosydd gwahaniaethol a allai fodoli yn y dyfodol. Felly, gallai ein hatal rhag ystyried opsiynau posibl y gallai'r Senedd eu cefnogi, megis rhewi neu gapio lluosydd gwahaniaethol. Mae hwn yn ddull y mae'r Ceidwadwyr Cymreig eu hunain wedi dadlau drosto, pan fyddwn yn gosod y lluosydd ar gyfer y flwyddyn bresennol. Nid yw'n bosibl ystyried dull o'r fath ar hyn o bryd, a byddai'r sefyllfa honno'n parhau pe bai gwelliant 10 yn cael ei fabwysiadu.
Mae gwelliannau 13, 16 a 17 yn ymwneud â phwerau i wneud rheoliadau ynghylch gostyngiadau'r dreth gyngor. Gallai'r gwelliannau hyn roi talwyr y dreth gyngor dan anfantais yng Nghymru drwy ohirio neu hyd yn oed atal darparu cymorth newydd, yn enwedig mewn sefyllfaoedd brys. Yn ystod camau craffu cynharach, rhoddais enghreifftiau o bryd y gallem ymateb yn gyflym i sicrhau na fyddai cartrefi lletyol sy'n cynnig llety i bobl Wcráin sy'n ceisio diogelwch rhag rhyfel ar eu colled o ran hawliau i ostyngiadau gan wynebu costau treth gyngor ychwanegol. Ni fyddai'r cymorth hwn wedi cael ei ddarparu'n hwylus pe bai gweithdrefnau o'r fath wedi eu defnyddio. Felly, i gloi, byddwn yn gofyn i'r Aelodau wrthsefyll gwelliannau 3, 4, 5, 8, 10, 13, 16 a 17.
Peter Fox i ymateb.
Diolch yn fawr, Ysgrifennydd Cabinet, am eich ymateb. Roeddwn i'n meddwl mai dyna fyddai'r achos. Credaf ei bod yn bwysig ailadrodd pwysigrwydd yr angen am gyfnod ymgynghori cadarn, a fydd yn cynyddu tryloywder ac yn gwella hyder. Dylai ymgynghori bob amser fod yn rhywbeth y dylid ymdrechu ato ac y dylid ei ymgorffori mewn prosesau. Dyna'r cyfan sydd gen i i'w ddweud, Dirprwy Lywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Gwelliant 3: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Peter, gwelliant 4.
Cynigiwyd gwelliant 4 (Peter Fox).
Cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 5 wedi ei wrthod. Peter, gwelliant—. Sori, mae gwelliant 4 wedi ei wrthod.
Gwelliant 4: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Cynigiwyd gwelliant 5 (Peter Fox).
Cynnig.
Agor y bleidlais.
O, mae'n ddrwg gennyf—na. [Torri ar draws.] Nawr, arhoswch eiliad. [Chwerthin.]
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 5? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 5 wedi ei wrthod.
Gwelliant 5: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Mae'r ail grŵp o welliannau yn ymwneud â rhyddhad ardrethi elusennol. Gwelliant 6 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn, a galwaf ar Peter Fox i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant hwn a'r gwelliannau eraill yn y grŵp.
Cynigiwyd gwelliant 6 (Peter Fox).
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwyf am siarad am fy ngwelliannau 6, 7, 22, 23 a 25. Mae'r gwelliannau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ar sut y dylai awdurdodau bilio yng Nghymru benderfynu ar geisiadau am ryddhad ardrethi elusennol mewn perthynas â hereditamentau heb eu meddiannu yng Nghymru. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gan awdurdodau bilio feini prawf penodol o ran penderfynu ar geisiadau am ryddhad elusennol. Er ein bod yn croesawu bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud yng Nghyfnod 2 eu bod wedi derbyn argymhellion y pwyllgor yng Nghyfnod 1 ynghylch cyhoeddi canllawiau, roeddem yn teimlo ei bod yn dal yn bwysig ailadrodd yr ymdrech i ddarparu mwy o arweiniad a chymorth i awdurdodau bilio, yn yr un modd â'r canllawiau hyn gallant wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth a fydd yn sicrhau bod sefydliadau'n gallu derbyn rhyddhad ardrethi elusennol os ydynt yn bodloni'r gofynion. Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet.
Byddai gwelliannau 6 a 7 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol ar y meini prawf cymhwysedd cryfach ar gyfer rhyddhad ardrethi elusennol ar gyfer eiddo heb ei feddiannu. Byddai'r canllawiau hynny'n canolbwyntio ar y profion newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol fod yn fodlon ar y rhesymau pam y mae'r eiddo heb ei feddiannu a sut ddefnydd a fwriedir ar ei gyfer yn y dyfodol. Rwyf wedi derbyn argymhelliad Cyfnod 1 Llywodraeth Leol a'r Pwyllgor Tai i weithio gydag awdurdodau lleol ar ganllawiau i'w cyhoeddi cyn i adran 6 o'r Bil ddod i rym, ond nid oes angen gofyniad statudol. Rydym eisoes yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i gefnogi gweithredu newidiadau polisi ac mae gennym ganllawiau presennol ar yr ystod lawn o ryddhad ardrethi annomestig, gan gynnwys mewn perthynas ag elusennau ac eiddo heb ei feddiannu. Mae ein canllawiau yn cael eu diweddaru'n rheolaidd i gefnogi awdurdodau lleol a thalwyr ardrethi.
Mae gwelliannau 22, 23 a 25 yn ganlyniadol ar welliant 7, a byddwn yn gofyn i'r Aelodau wrthsefyll gwelliannau 6, 7, 22, 23 a 25.
Peter Fox i ymateb.
Diolch. Credwn y gall ymrwymiad cadarn yn y Bil hwn i ddarparu arweiniad i awdurdodau bilio dim ond bod o fudd i'r awdurdodau bilio a'r sefydliadau sy'n gwneud cais am ryddhad ardrethi elusennol. Felly, unwaith eto, mae'n anffodus na fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cefnogi'r gwelliannau hyn. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad. Felly symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Gwelliant 6: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Peter, gwelliant 7.
Cynigiwyd gwelliant 7 (Peter Fox).
Y cwestiwn—
Na.
Os na dderbynnir gwelliant 7, bydd gwelliant 23 yn methu. A'r cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 7? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 7 wedi ei wrthod.
Gwelliant 7: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Methodd gwelliant 23.
Peter, gwelliant 8.
Cynigiwyd gwelliant 8 (Peter Fox).
Cynigiwyd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 8? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Symudwn ni i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 8 wedi ei wrthod.
Gwelliant 8: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Grŵp 3 sydd nesaf. Mae'r trydydd grŵp o welliannau yn ymwneud â lluosyddion ardrethu annomestig, a gwelliant 9 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn. Galwaf ar Peter Fox i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant hwn a'r gwelliant arall yn y grŵp.
Cynigiwyd gwelliant 9 (Peter Fox).
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Felly, at ei gilydd rwyf am siarad am fy ngwelliant 9, a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan y pwerau lluosydd gwahaniaethol arfaethedig newydd ym mharagraff A16, gyda'r effaith mai Gweinidogion Cymru sy'n pennu hereditamentau â gwerthoedd ardrethol penodol mewn rheoliadau pan fo'r lluosydd cymwys yn llai na'r lluosydd safonol.
I grynhoi, mae'r gwelliant hwn yn galw am greu lluosydd busnes bach ar wahân yn yr un ffordd â cheir yn Lloegr a'r Alban. Mae'n bwysig bod y gwahaniaethau rhwng busnesau bach a busnesau canolig a mawr yn cael eu cydnabod yn yr ardrethi y maent yn eu talu. Yng Nghyfnod 2, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet nad oedd polisi cyfredol i fabwysiadu lluosydd busnesau bach ac nad ymgynghorwyd ynghylch lluosydd busnesau bach. Fodd bynnag, mae mwyafrif busnesau Cymru naill ai'n fusnesau bach neu'n ficrofusnesau, a dylid cefnogi'r busnesau hyn a'u helpu i dyfu. Oherwydd hyn mae'n bwysig na ddylai busnesau bach fod yn wynebu'r un lluosyddion â busnesau canolig a mawr. Am y rheswm hwn rydym yn annog Aelodau i gefnogi'r gwelliant hwn.
Diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl yma heddiw, a diolch hefyd i bawb sydd wedi cefnogi’r gwaith i ddod â’r Bil yma gerbron. Mi fyddwn ni yn cefnogi gwelliant Rhif 9. Yr ydyn ni’n cytuno am yr angen i deilwra’r pwerau sydd yn y ddeddfwriaeth yma ar gyfer busnesau bach yn enwedig a sicrhau bod dylunio non-domestic rating multipliers o hyn ymlaen yn ffafrio ein sector busnes domestig.
Gwnaf fynd ymlaen i siarad am welliant 1.
Byddai gwelliant Rhif 1 yn gosod rhwymedigaeth ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi datganiad polisi ar osod y lluosydd ardrethi annomestig yng Nghymru ac i osod hyn gerbron y Senedd i'w drafod. Er ein bod yn llwyr gefnogi'r rhesymeg dros y Senedd yn cael y pwerau angenrheidiol i osod lluosyddion ardrethi annomestig ei hun, a fyddai'n caniatáu i ardrethi gael eu teilwra yn unol ag anghenion ein sector busnes, rydym yn siomedig bod y Llywodraeth wedi methu â nodi'r bwriad polisi hwn wrth gymryd y pwerau hyn, a thrwy hynny ysgubo eu defnydd ymarferol o'r neilltu. Gan ei bod yn deg dweud bod ceisio a chael pwerau yn ysgrifenedig, ond heb eu defnyddio'n ymarferol, wedi dod yn duedd ailadroddus gyda'r Llywodraeth hon, y ffaith nad ydynt eto wedi deddfu adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017, a fyddai'n alinio cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd dros ddŵr â ffiniau daearyddol Cymru, yn arwyddocaol yn hyn o beth. Ar adeg pan fo ein busnesau bach a chanolig domestig yn parhau i'w chael hi'n anodd yn sgil y cwymp ar ôl y pandemig, prisiau ynni uchel a'r argyfwng costau byw, y lleiaf y maent yn ei haeddu yw i Lywodraeth Cymru fod yn onest ynglŷn â'r rhesymeg y tu ôl i bennu'r lluosydd ar gyfer pob blwyddyn ariannol, gan gynnwys achosion lle nad yw'n newid. Diolch.
A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch. Gan droi at y gwelliant a gyflwynwyd gan Peter Fox, byddai gwelliant 9, i bob pwrpas, yn ei gwneud yn ofynnol i'r pwerau a ddarperir gan adran 10 gael eu defnyddio i bennu lluosydd busnesau bach, ac fel y nodais yn ystod cyfnodau craffu cynharach, nid oes bwriad polisi ar hyn o bryd i greu lluosydd busnesau bach yng Nghymru. Dyma un enghraifft yn unig o ddull y byddai'n bosibl ei fabwysiadu o dan y pwerau yn adran 10 y Bil. Mae ffyrdd eraill y gallai Llywodraeth Cymru ddymuno targedu'r defnydd o unrhyw luosyddion gwahaniaethol mewn perthynas â'n blaenoriaethau ac anghenion Cymru, a bwriad adran 10 yw galluogi dadansoddiad o ystod ehangach o opsiynau polisi wrth ystyried a ddylid cyflwyno lluosydd gwahaniaethol i Gymru. Yn bwysig, ni fu unrhyw ymgynghoriad ar gyflwyno lluosydd busnes bach. Byddai diwygio'r Bil fel hyn yn mynd yn groes i'r egwyddor y tu ôl i welliant 10 mewn perthynas ag ymgynghori a'm hymrwymiad i ymgynghori cyn cyflwyno lluosydd gwahaniaethol.
Gan droi at y gwelliant arall yn y grŵp hwn, a gyflwynwyd gan Peredur Owen Griffiths, byddai gwelliant 1 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad o'u polisi ar ddefnyddio'r pwerau i gyfrifo lluosyddion ardrethi annomestig. Byddai hyn yn berthnasol nid yn unig i'r pŵer i wahardd lluosyddion gwahaniaethol yn adran 10, ond hefyd i'r pŵer presennol i bennu'r lluosydd sengl sy'n bodoli ar hyn o bryd. Fel yr eglurais yn ystod trafodion Cyfnod 2, nid yw'r gwelliant hwn yn angenrheidiol gan fod y fframwaith presennol eisoes yn caniatáu ar gyfer yr eglurder a'r cyfle arfaethedig ar gyfer craffu. Mae cyfrifiad diofyn hir sefydledig y lluosydd, fel y nodir mewn deddfwriaeth sylfaenol, yn cynnal refeniw ardrethi annomestig mewn termau real. Bob tro y byddwn yn defnyddio ein pwerau i wyro oddi wrth y cyfrifiad hwnnw, byddwn yn parhau i nodi polisi Llywodraeth Cymru fel rhan o'r ddadl sy'n ofynnol i geisio cymeradwyaeth y Senedd i'r rheoliadau cysylltiedig o dan y weithdrefn gadarnhaol. Rwyf wedi ymrwymo i ymgynghori cyn cyflwyno unrhyw luosydd gwahaniaethol, a fydd yn naturiol yn golygu nodi ein polisi. Unwaith y bydd unrhyw luosydd gwahaniaethol yn cael ei weithredu, bydd yr ystyriaethau a'r prosesau blynyddol sefydledig yn berthnasol. Felly, i gloi, byddwn yn gofyn i'r Aelodau wrthsefyll gwelliannau 1 a 9.
A galwaf ar Peter Fox i ymateb.
Diolch yn fawr, Ysgrifennydd Cabinet. Nid oes gennyf lawer i'w ddweud, dim ond y dylem bob amser fod yn ymdrechu i helpu ein busnesau lleiaf i godi'n ôl ar eu traed, yn enwedig gan gydnabod eu bod wedi cael cymaint o drafferth. Dylem fod yn meddwl o ddifrif am greu lluosydd ar gyfer busnesau bach, fel sydd gan yr Alban a Lloegr. Nawr bod gennych bartneriaeth ar draws y DU, efallai y byddwch yn cymryd rhywfaint o gyngor ganddynt ac efallai yn cyflwyno hynny yn y dyfodol. Diolch. Diolch yn fawr, Cadeirydd.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 9. A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad. Felly, symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal a 25 yn erbyn. Felly, gwelliant 9 wedi'i wrthod.
Gwelliant 9: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Peter Fox, gwelliant 10.
Cynigiwyd gwelliant 10 (Peter Fox).
Cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, gwelliant 10 wedi'i wrthod.
Gwelliant 10: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Peredur Owen Griffiths, gwelliant 1.
Cynigiwyd gwelliant 1 (Peredur Owen Griffiths).
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, gwelliant 1 wedi'i wrthod.
Gwelliant 1: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Grŵp 4 nawr: mae'r pedwerydd grŵp o welliannau yn ymwneud â phwerau gwneud rheoliadau. Gwelliant 11 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn. Galwaf ar Peter Fox i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant hwn a'r gwelliannau eraill yn y grŵp. Peter.
Cynigiwyd gwelliant 11 (Peter Fox).
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Felly, rwyf am siarad am welliannau 11, 12, 15, 18 a 27. Mae'r gwelliannau hyn yn darparu ar gyfer isafswm cyfnod o 60 diwrnod, ac eithrio cyfnodau diddymu neu doriad o fwy na phedwar diwrnod, er mwyn caniatáu i'r Senedd graffu ar reoliadau drafft, megis pwerau a fewnosodir yn Neddf 1988 gan adrannau 5, 9, 10 a 12 o'r Bil, sy'n honni eu bod yn gwneud unrhyw un o'r canlynol: rhoi neu dynnu rhyddhad o atebolrwydd i ardrethu annomestig hereditamentau yng Nghymru; rhoi neu dynnu eithriadau o ardrethu annomestig ar gyfer hereditamentau rhagnodedig yng Nghymru; a gwneud darpariaeth mewn perthynas â lluosyddion gwahanol ar gyfer cyfrifo atebolrwydd ardrethi annomestig ar gyfer hereditamentau yng Nghymru.
Yng Nghyfnod 2, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet fod y 60 diwrnod yn ei gwneud yn weithdrefn uwchgadarnhaol, a all oedi newidiadau. Fodd bynnag, drwy gael yr amser hwn i graffu, bydd yn gwella tryloywder ac atebolrwydd ac yn yr ysbryd hwn rydym yn annog Aelodau i gefnogi'r gwelliannau hyn.
Rydym yn hapus i gefnogi'r gwelliannau hyn, sy'n dilyn yr argymhellion a wnaed gan y pwyllgor ynghylch yr angen i ganiatáu ar gyfer isafswm cyfnod o 60 diwrnod i bwyllgorau perthnasol graffu ar reoliadau a gynigir o dan y pwerau yn adran 5. Credwn fod natur y pwerau y mae'r Llywodraeth yn gofyn amdanynt yn gofyn am lefel briodol o oruchwyliaeth gan y Senedd, y byddai'r diwygiadau hyn yn ei gwarantu. Diolch.
Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet.
Fel y clywsom, byddai'r rhan fwyaf o'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn gwneud rheoliadau a wneir o dan y rhan fwyaf o’r pwerau yn y Bil yn ddarostyngedig i weithdrefn uwchgadarnhaol ar ffurf isafswm cyfnod gosod o 60 diwrnod. Defnyddir gweithdrefn uwchgadarnhaol dim ond mewn achosion eithriadol lle nad ystyrir bod y weithdrefn gadarnhaol yn ddigonol. Ac, fel y nodais yn ystod cyfnodau craffu blaenorol, nid wyf yn credu bod hynny'n wir mewn perthynas â'r darpariaethau yn y Bil hwn.
Mae gwelliant 11 yn ymwneud â'r pwerau mewn perthynas ag ardrethi annomestig i ddiffinio trefniadau osgoi artiffisial, rhoi a thynnu rhyddhad ac eithriadau, a phennu lluosyddion gwahaniaethol trwy reoliadau. Mae gwelliannau 12, 15 a 18 yn ymwneud â phwerau i wneud rheoliadau ynghylch gostyngiadau treth gyngor. Nid oes unrhyw un o'r ystod o bwerau presennol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas ag ardrethi annomestig a'r dreth gyngor yn ddarostyngedig i weithdrefnau uwchgadarnhaol. Er fy mod yn gwerthfawrogi'r egwyddor sy'n sail i'r gwelliant hwn, mae'n bwysig bod yn glir ynghylch y perygl o ganlyniadau anfwriadol gwirioneddol. Gallai gweithdrefnau uwchgadarnhaol roi talwyr trethi lleol dan anfantais yng Nghymru drwy ohirio neu hyd yn oed atal darparu cymorth newydd. Byddai hon yn broblem benodol lle effeithir ar y gyllideb sydd ar gael i lywio dull Llywodraeth Cymru gan ddatganiad Llywodraeth y DU yn yr hydref, neu lle rydym yn penderfynu darparu cymorth newydd mewn amgylchiadau brys. Mae'r enghreifftiau a amlinellais mewn perthynas â'r dyletswyddau ymgynghori statudol arfaethedig yr un mor berthnasol i'r mater hwn. Mae'r enghreifftiau hyn, na fyddaf yn eu hailadrodd, yn dangos sut y gallai'r gwelliant hwn atal ymyriadau i gefnogi talwyr trethi lleol, y byddai'r Senedd hon yn eu cefnogi. Byddai gweithdrefn uwchgadarnhaol hefyd yn arwain at oedi wrth fynd i'r afael â threfniadau osgoi ardrethi annomestig, gan arwain at osgoi atebolrwydd hirfaith.
Byddai gwelliant 27 yn cymhwyso'r weithdrefn gadarnhaol i gychwyn y dyletswyddau newydd i dalwyr ardrethi ddarparu gwybodaeth i Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Nid yw'n arfer safonol i Orchmynion cychwyn fod yn destun gweithdrefn graffu. Fel yr eglurais yn ystod cyfnodau cynharach, mae'r darpariaethau wedi'u nodi'n llawn ac ar gael er mwyn craffu arnynt yn ystod hynt y Bil. Rwyf wedi rhoi sicrwydd clir na fydd y darpariaethau'n cael eu cychwyn nes bod Llywodraeth Cymru yn fodlon y gellir disgwyl yn rhesymol i dalwyr ardrethi gydymffurfio.
Roedd tystiolaeth Asiantaeth y Swyddfa Brisio i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn ystod Cyfnod 1 yn rhoi mwy o sicrwydd ynghylch y gwaith y maent yn ei wneud i sicrhau bod y trefniadau'n syml i dalwyr ardrethi ymgysylltu â nhw. Nid wyf felly'n argyhoeddedig bod angen cymeradwyaeth bellach gan y Senedd pan fyddwn yn barod i ddechrau'r darpariaethau. Felly, i gloi, byddwn yn gofyn i'r Aelodau wrthsefyll gwelliannau 11, 12, 15, 18 a 27.
Peter Fox i ymateb i'r ddadl.
Symud i'r bleidlais.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, gwelliant 11 wedi'i wrthod.
Gwelliant 11: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Peter, gwelliant 12.
Cynigiwyd gwelliant 12 (Peter Fox).
Cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 12? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, gwelliant 12 wedi'i wrthod.
Gwelliant 12: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Peter, gwelliant 13.
Cynigiwyd gwelliant 13 (Peter Fox).
Cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 13? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, gwelliant 13 wedi'i wrthod.
Gwelliant 13: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Grŵp 5 sydd nesaf, ac mae'r pumed grŵp o welliannau yn ymwneud â'r dreth gyngor: disgownt person sengl. Gwelliant 14 yw'r prif welliant a'r unig welliant yn y grŵp hwn, a galwaf ar Peter Fox i gynnig y prif welliant ac i siarad amdano.
Cynigiwyd gwelliant 14 (Peter Fox).
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae gwelliant 14 yn welliant pur dreiddgar. Fe hoffem ni ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet ymrwymo i gynnal y gostyngiad i bobl sengl ar o leiaf 25 y cant, a heb osod amodau neu gyfyngiadau newydd ar gymhwysedd ar gyfer y gostyngiad. Rydym yn croesawu bod yr Ysgrifennydd Cabinet, yn ystod Cyfnod 2, wedi datgan y bydd yn ychwanegu hyn. Fodd bynnag, fe hoffem ni ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet ailadrodd yr ymrwymiad hwnnw heddiw, oherwydd, fel y gwyddom ni, yn y memorandwm esboniadol, ar dudalen 90, mae'n amlwg iawn bod llinell yno sy'n caniatáu i gynghorau ddiystyru’r gostyngiad hwn neu ei leihau mewn rhai amgylchiadau. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n hollbwysig ein bod yn cael ymrwymiad cadarn, hollol gadarn y bydd isafswm o 25 y cant wastad yn bodoli. Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet.
Mae gwelliant 14 yn cyflwyno gofyniad, mewn unrhyw reoliadau a wneir yn y dyfodol sy'n ymwneud â dyfodol y gostyngiad person sengl, fod yn rhaid i'r gostyngiad fod o leiaf 25 y cant. Mae hwn yn faes pwysig o gefnogaeth i dros 0.5 miliwn o gartrefi ledled Cymru. Diben ehangach adran 18 y Bil yw moderneiddio, cydgrynhoi a darparu cysondeb ar draws yr ystod o bwerau yn Neddf 1992 sy'n pennu atebolrwydd i dalu'r dreth gyngor ar hyn o bryd. Mae'r dirwedd gyfreithiol yn gymhleth ac yn anghyson, ar ôl datblygu fesul tipyn dros 30 mlynedd, gan ei gwneud hi'n anodd i drethdalwyr ddeall yr ystod o ostyngiadau, eithriadau a'r diystyriadau. Mae hefyd yn gymhleth i asiantaethau cynghori, fel Cyngor ar Bopeth, ddeall wrth helpu pobl, ac i awdurdodau lleol weinyddu. Rwyf wedi bod yn gwbl glir, fodd bynnag, y byddaf yn ailddatgan y gostyngiad person sengl ar 25 y cant mewn rheoliadau. Mae'r gostyngiad person sengl wedi ei ymgorffori yn y gyfraith a bydd hynny'n parhau. Felly, i gloi, byddwn yn gofyn i'r Aelodau wrthwynebu gwelliant 14.
Peter Fox i ymateb.
Diolch, a diolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet. Nid wyf yn amau eich bod yn mynd i wneud hynny; dim ond bod y gyfraith drwy'r rheoliadau ar hyn o bryd yn caniatáu i'r cynghorau hynny ddefnyddio'r gallu i ddatgymhwyso'r elfennau hynny, a dyna sy'n rhoi rhywfaint o bryder i ni. Fel y gwyddoch chi, mae cymaint o bobl yn dibynnu ar y gostyngiad hwn o 25 y cant, ac mae llawer o'r bobl hynny yn dlawd iawn o ran arian. Efallai eu bod yn bobl sengl oedrannus mewn tai mawr, sy'n talu symiau enfawr o dreth gyngor, tai sydd wedi dirywio fwy na thebyg mewn sawl ffordd, ac felly mae'n bwysig bod hynny'n parhau. Felly, rwy'n falch y byddwch chi'n gwneud hynny. Fodd bynnag, byddaf yn cynnig y gwelliant.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 14? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, gwelliant 14 wedi'i wrthod.
Gwelliant 14: O blaid: 13, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Peter, gwelliant 15.
Cynigiwyd gwelliant 15 (Peter Fox).
Cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 15? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, gwelliant 15 wedi'i wrthod.
Gwelliant 15: O blaid: 23, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Peter, gwelliant 16.
Cynigiwyd gwelliant 16 (Peter Fox).
Cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 16? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, gwelliant 16 wedi'i wrthod.
Gwelliant 16: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Peter, gwelliant 17.
Cynigiwyd gwelliant 17 (Peter Fox).
Wedi cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 17? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Symudwn ni i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 17 wedi'i wrthod.
Gwelliant 17: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Peter, gwelliant 18.
Cynigiwyd gwelliant 18 (Peter Fox).
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 18? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Symudwn ni i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn, felly mae gwelliant 18 wedi'i wrthod.
Gwelliant 18: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Grŵp 6 sydd nesaf. Mae'r chweched grŵp o welliannau yn ymwneud â chyhoeddi hysbysiadau, a gwelliant 19 yw'r prif welliant a'r unig welliant yn y grŵp hwn. Galwaf ar Peter Fox i gynnig y prif welliant ac i siarad amdano.
Cynigiwyd gwelliant 19 (Peter Fox).
Diolch yn fawr, Llywydd. Cyn i mi sôn am y gwelliant hwn, fe hoffwn i yn wir ganu clodydd yr Ysgrifennydd Cabinet am geisio cyflwyno gwelliant hwyr i geisio datrys hyn. Rwyf yn wir yn diolch iddi am y ffordd yr aeth i'r afael â hyn. Yn anffodus, nid felly oedd hi i fod.
Mae gwelliant 19 yn dileu adran 20 o'r Bil. Bydd hyn yn sicrhau y bydd newidiadau i hysbysiadau treth gyngor yn parhau i gael eu hargraffu mewn papurau newydd. Er bod y rhan fwyaf o bethau wedi symud ar-lein, mae'n bwysig nodi nad yw'r hysbysiadau ar-lein hyn bob amser yn hygyrch i bawb. Mae yna bobl sy'n dibynnu ar gyhoeddi'r hysbysiadau hyn mewn papurau newydd, a bydd cynnal hyn yn helpu i gynyddu atebolrwydd a thryloywder.
Yn ystod Cyfnod 2, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet fod technoleg wedi symud ymlaen, a bod ystod eang o wybodaeth am newidiadau i'r dreth gyngor ar gael, ac y bydd pobl yn cael eu hysbysu drwy eu bil. Er ein bod yn derbyn bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi nodi, os yw awdurdod lleol am barhau i ddefnyddio papurau i gyhoeddi hysbysiadau, ni fydd yr adran hon yn gwarafun hynny iddyn nhw, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu ei bod hi'n dal yn bwysig parhau i gyhoeddi'r hysbysiadau hyn mewn papurau newydd lleol, gan y bydd yn sicrhau y bydd yr wybodaeth hon ar gael i bawb.
Yr hyn yr oeddem yn gobeithio y gallem fod wedi'i wneud oedd cytuno ar gyfnod pontio a fyddai'n fodd o gyflwyno hyn dros gyfnod o bum mlynedd. Nid oeddem yn gallu gwneud hynny, felly byddaf yn symud ymlaen gyda'r gwelliant fel y mae.
Mae'r trafodaethau rhwng Peter a'r Ysgrifennydd Cabinet a minnau ynghylch y gwelliant hwn wedi bod yn gynhyrchiol iawn, ond nid oedd modd bwrw ymlaen â'r gwelliant hwnnw. Ond mae modd parhau â'r un yma ac rydym yn hapus i gefnogi'r gwelliant hwn, a fyddai'n dileu'r ddarpariaeth sydd ar hyn o bryd yn y Bil i ddatgymhwyso'r gofyniad statudol i gynghorau gyhoeddi newidiadau treth gyngor mewn papurau newydd lleol printiedig. Nid yn unig y byddai hyn yn gam yn ôl o ran sicrhau hawliau'r cyhoedd i gael gafael ar wybodaeth, yn enwedig y rhai nad oes technoleg ddigidol ganddyn nhw, fel yr amlygir yn aml gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, credwn hefyd y byddai'n amddifadu newyddiaduraeth leol o ffynhonnell refeniw hanfodol ar adeg pan fo ffynonellau cyfryngau o'r fath dan bwysau ariannol parhaus. Mae Cymru'n cael bargen wael iawn gan ei chyfryngau, a achoswyd yn rhannol gan enciliad newyddiaduraeth leol o'n cymunedau dros y blynyddoedd diwethaf. Heb os, byddai'r ddarpariaeth hon o'r Bil yn ychwanegu at y mater, sy'n dod â goblygiadau niweidiol ehangach i iechyd democrataidd ein cenedl.
A wnewch chi ildio? Yn fyr iawn, rwy'n deall eich dadl yn llwyr, ond rwyf wedi siarad â golygydd y Caerphilly Observer, ac un o'r pethau a ddywedodd Richard Gurner yw bod hwn yn gymhorthdal, fel y dywedwch, i raddau, ond mae angen trafodaeth onest arnom ni hefyd ynghylch sut yr ydym ni'n sybsideiddio newyddiaduraeth gymunedol, ac yn wir, yn y dyfodol, nid dyma'r ffordd i wneud hynny. Mae angen i ni feddwl yn ofalus ynghylch sut rydym ni'n gwneud hynny, ac mae angen trafodaeth bellach ar hynny.
A dyna un o'r trafodaethau yr oeddem yn eu cael, a byddai cael cyfnod pontio wedi caniatáu ar gyfer y drafodaeth honno, ond nid ydym ni wedi gallu gwneud hynny yn yr achos hwn. Ond rwy'n sicr yn hapus i siarad am hynny, a sut mae'r drafodaeth yna'n mynd yn ei blaen, achos credaf ei bod hi mor bwysig bod hynny'n digwydd.
Ar ben hynny, mae'n amlwg bod awydd o hyd am hysbysiadau cyhoeddus printiedig o'r math hwn ymhlith y cyhoedd yng Nghymru. Canfu arolwg diweddar gan Gymdeithas y Cyfryngau Newyddion fod 47 y cant o ymatebwyr o Gymru wedi defnyddio cyfryngau newyddion lleol i gael gwybod am benderfyniadau ynghylch y dreth gyngor—y gyfran fwyaf o holl wledydd y DU. Felly, mae'r rhesymeg dros gyflwyno cymal 20 i'r Bil yn seiliedig ar ragdybiaethau ar ymgysylltu digidol, ac mae'n peri risgiau diangen i hyfywedd masnachol newyddiaduraeth brint leol, tebyg i'r Caerphilly Observer a grybwyllwyd yn gynharach gan Hefin, sy'n cyflawni swyddogaeth mor hanfodol wrth gyfoethogi a grymuso ein cymdeithas ddinesig.
Felly, gyda chefnogaeth i'r gwelliant hwn o bob ochr i'r Siambr, fel y gwelir yn y datganiad barn gan Mike Hedges, byddwn yn annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliant hwn.
Dim ond eisiau dal sylw ar rai pwyntiau oeddwn i yn y fan yma, oherwydd rydym ni i gyd yn cytuno â'r egwyddor y tu ôl i hyn rwy'n credu: mae arnom ni eisiau sicrhau bod papurau newydd lleol yn parhau, yn enwedig i'r rhai nad oes ganddyn nhw fynediad at wybodaeth ar-lein. Ond, serch hynny, mae'r hysbysiadau penodol hyn yn mynd yn uniongyrchol i gartrefi pobl beth bynnag oherwydd, yn amlwg, maen nhw'n arbennig i'r unigolyn. Ac mae llawer o'r hysbysiadau papur newydd hyn mewn gwirionedd yn annarllenadwy i'r rhan fwyaf o bobl, oherwydd eu bod mewn ffont sydd mor fach fel na fydd pobl oedrannus yn arbennig, sydd ymhlith darllenwyr mwyaf brwd papurau newydd lleol, yn gallu eu darllen. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i ni feddwl am ffordd wahanol o gefnogi papurau newydd lleol, ac rwy'n sylweddoli bod cytundeb na fyddwn yn gwneud unrhyw beth radical, ond nid dyma'r ffordd orau o geisio gwneud hyn mewn gwirionedd.
Yn fyr, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig nad ydym yn drysu dulliau a chanlyniadau yn y fan yma. Rwy'n credu mai'r canlyniad y mae arnom ni eisiau ei weld yw cefnogi newyddiaduraeth leol. Nid drwy roi cymhorthdal i hysbysebion astrus yw'r ffordd i wneud hynny. Mae arnom ni eisiau cefnogi gwneud gwybodaeth yn hygyrch i bobl. Nid cyhoeddi hysbysebion astrus mewn papurau newydd yw'r ffordd i wneud hynny. Nid ydym yn mynd i ddod i gytundeb heddiw, ond rwy'n credu bod hyn yn amlygu bod hwn yn fater llawer mwy cymhleth nag sy'n cael ei gyflwyno, a bod angen inni i gyd feddwl ymhellach yn ei gylch.
Rwy'n cytuno'n gryf â hynny. Rwy'n anghytuno â'r hyn a ddywedwyd yn gynharach. Cylchrediad y Gwent Gazette yw 393 o bobl. Nawr, bydd y ddarllenyddiaeth ychydig yn uwch na hynny, yn amlwg, ond mae awgrymu bod hwn yn ffordd o gyfathrebu i awdurdod lleol neu unrhyw un arall yn ffwlbri noeth. Dydy hynny ddim yn wir. Nid yw'r niferoedd yn cynnal y ddadl. Ac ar adeg pan fo'r Ceidwadwyr yn arbennig yn sôn am arbed rhywfaint o wariant cyhoeddus, mae'n debyg nad rhoi cyllid gwladol i rai o grwpiau papur newydd mwyaf yn y wlad yw'r lle i ddechrau. Felly, byddwn yn awgrymu—. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi gwneud y cytundeb hwn y prynhawn yma, ond byddwn yn awgrymu ein bod yn ailedrych ar hyn yn fuan iawn oherwydd, ar hyn o bryd, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw dweud ar y naill law fod gwasanaethau cyhoeddus o dan bwysau aruthrol, ac ar y llaw arall rydym ni'n mynd i wastraffu degau a channoedd o filoedd o bunnau ar hysbysebion sy'n cael eu darllen gan fawr neb.
Rwy'n credu, a minnau o gefndir dosbarth gweithiol, fod yn rhaid i mi egluro pethau i rai pobl. [Torri ar draws.] Mae yna lawer o bobl oedrannus sy'n dibynnu ar y cyfryngau printiedig er mwyn cael gwybodaeth. Mae yna broblem hefyd ynghylch pobl yn rhoi pethau ar y cyfryngau cymdeithasol a mathau eraill o gyfryngau y mae'n hawdd eu golygu, y mae'n hawdd eu newid i roi gwybodaeth hollol anghywir. Ac rwy'n credu y gallwch chi ddibynnu yn bur ffyddiog ar yr hyn sy'n cael ei argraffu mewn papur newydd lleol oherwydd bod angen iddyn nhw gadw pobl leol yn hapus. Efallai nad yw hynny'n wir am bapurau newydd cenedlaethol, ond os ydym ni'n sôn am sybsideiddio pethau, a all rhywun egluro i mi pam mae gennym ni Radio 1 lle rydyn ni'n sybsideiddio cerddoriaeth bop?
A galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet.
Diolch. Felly, diben gwelliant 19 yw dileu adran 20 o'r Bil, sy'n disodli'r gofyniad hen ffasiwn presennol i awdurdodau lleol gyhoeddi hysbysiadau'r dreth gyngor mewn papur newydd lleol gyda gofyniad i gyhoeddi'r wybodaeth yn electronig. Ac rwy'n credu mai dyma oedd seren annisgwyl y sioe mewn perthynas â'r hyn sy'n ddarn cymhleth ac eang iawn o ddeddfwriaeth sy'n diwygio cyllid llywodraeth leol.
Rwy'n ddiolchgar i'r holl gyd-Aelodau am y pwyntiau a godwyd yn y ddadl hon, ac rwy'n ddiolchgar iawn i bwyllgorau'r Senedd am eu gwaith craffu dwys ar y ddarpariaeth benodol hon. Yn wir, cynhaliodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai sesiwn dystiolaeth ychwanegol ar y pwnc hwn, a glywodd dystiolaeth a barn wahanol gan ystod o randdeiliaid. Rwyf wedi ysgrifennu at Aelodau yn nodi fy rhesymeg dros gynnwys y mesurau hyn yn y Bil, y bwriedir iddyn nhw foderneiddio arferion gwaith sy'n ymwneud â'r dreth gyngor, a manteisiais hefyd ar y cyfle yn yr ohebiaeth honno i gywiro rhai o'r camargraffiadau a fynegwyd hefyd.
Rhoddwyd y gofyniad statudol i awdurdodau lleol gyhoeddi hysbysiadau treth gyngor ar waith ym 1992, pan oedd hi'n arferol cyfathrebu â dinasyddion trwy hysbysiadau mewn papurau newydd, ond nawr, 30 mlynedd yn ddiweddarach, ystyrir bod hyn yn ddull anhyblyg o ddarparu gwybodaeth am y dreth gyngor, nad oes gofyn amdano mwyach oherwydd datblygiadau technolegol a newidiadau eraill yn y system drethi.
Rwy'n cydnabod yn llwyr y gwaith amhrisiadwy y mae ein papurau newydd lleol a chenedlaethol yn ei wneud i hysbysu ac ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru, ac rwy'n llwyr ddeall yr hinsawdd economaidd anodd y mae papurau print yn gweithredu ynddo ar hyn o bryd. Yr wythnos diwethaf, cwrddais â chynrychiolwyr Cymdeithas y Cyfryngau Newyddion a gwrando ar yr hyn oedd ganddyn nhw i'w ddweud. Fe allais i roi sicrwydd iddyn nhw mai'r bwriad yw peidio â dileu gofynion statudol ar gyfer mathau eraill o hysbysiadau—yn wir, byddai hynny y tu hwnt i gwmpas cytunedig y Bil.
Mae rheswm clir pam y mae hysbysiadau treth gyngor yn wahanol i fathau eraill o hysbysiadau cyhoeddus. Mae hysbysiadau cyhoeddus am geisiadau cynllunio, er enghraifft, yn darparu gwybodaeth bwysig i drigolion gael y cyfle i wrthwynebu neu leisio eu cefnogaeth i gynlluniau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar eu cymdogaeth, nad ydyn nhw'n ymwybodol ohonyn nhw fel arall. Fodd bynnag, mae hysbysiad y dreth gyngor yn darparu gwybodaeth y bydd pob talwr treth gyngor yn ei dderbyn yn uniongyrchol fel rhan o'r bil blynyddol, p'un a ydyn nhw'n dewis derbyn hynny'n electronig neu ar ffurf copi caled, ac am y rheswm yna, rwy'n credu, nid yw'r dadleuon am eithrio digidol yn dal dŵr mewn gwirionedd. Fodd bynnag, mae'r Bil yn darparu dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau bod yr wybodaeth yn hygyrch i bobl na allan nhw fynd ar y we, ac fe wnes i dderbyn argymhelliad Cyfnod 1 i weithio gyda llywodraeth leol i fonitro gweithrediad y ddarpariaeth honno.
Rwy'n ofni nad wyf ychwaith yn credu ei bod hi'n rhesymol dadlau y byddai colli refeniw a gynhyrchir o un hysbyseb fesul blwyddyn ariannol, a allai fod cyn lleied â £600, yn gwneud papur newydd yn anghynaladwy. Ond rwy'n cytuno â chyd-Aelodau y prynhawn yma sydd wedi siarad am bwysigrwydd cael y drafodaeth ehangach honno am yr hyn sydd mewn gwirionedd yn fater llawer mwy cymhleth o ran sut rydym ni'n cefnogi'r cyfryngau lleol a hefyd sut rydym ni'n cyfathrebu'n fwyaf effeithiol â phreswylwyr. Nid yw'n ymddangos bod hysbyseb flynyddol a gyhoeddwyd ar ddiwrnod amhenodol ym mis Mawrth sy'n cyrraedd llai na 1.5 y cant o breswylwyr yn cyflawni'r nod o gyfathrebu'n effeithiol.
Ond, Dirprwy Lywydd, ar ôl dweud hynny i gyd, rwy'n cydnabod yn llwyr gryfder teimladau ymhlith cyd-Aelodau ar y mater penodol hwn, ac rwyf wastad yn awyddus i ddod o hyd i feysydd ble gallwn ni gyfaddawdu, lle gallwn ni, a gweithio gyda phartïon eraill. Rwy'n ddiolchgar iawn i Peter Fox a hefyd i Peredur Owen Griffiths am y trafodaethau cydweithredol a chreadigol a gawsom ni ar y mater penodol hwn.
Rwyf wedi gorfod gofyn i gyd-Aelodau wrthsefyll gwelliannau eraill heddiw, oherwydd y canlyniadau anfwriadol posibl a allai effeithio'n negyddol ar drethdalwyr, ond nid wyf yn credu bod y gwelliant hwn yn un o'r rhai hynny. Felly, yn ysbryd gwrando ar gyd-Aelodau a gwrando ar randdeiliaid a pharchu'r sgyrsiau hynny, byddwn yn ymatal yn y bleidlais ar y gwelliant penodol hwn heddiw.
Galwaf ar Peter Fox i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, a diolch i bawb a gymerodd ran yn y drafodaeth. Fe lwyddodd rhywbeth cymharol fach mewn dadl mor bwysig i gael cymaint o bobl i fyny ar eu traed; mae'n drueni na fu cymaint o frwdfrydedd efallai am rai o'r meysydd pwysicach.
A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am wrando a gweithio gyda phobl? Oherwydd er y gellid ystyried hyn yn fater dibwys, mae dau faes sy'n cael eu cyfuno yma: yn amlwg, fel y noda Mike, y mynediad at wybodaeth i'r rhai sy'n dal i fod yn anfedrus ar-lein hyd yma—a gobeithio y bydd y nifer hwnnw'n lleihau, wrth inni symud ymlaen—a dyna'r mater arall yma am gefnogi papurau newydd a newyddiaduraeth a phethau felly. Felly, mae angen trafodaeth yn y dyfodol, does dim amheuaeth am hynny. Felly, diolchaf i'r Ysgrifennydd Cabinet am ymatal. Am y tro, bydd hynny'n gadael pethau fel y maen nhw, ond gobeithio y bydd trafodaeth fanylach ar ryw adeg yn y Siambr hon am y materion ehangach. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 19? Oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad, felly symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. O blaid 24, 23 yn ymatal, dau yn erbyn. Felly, mae gwelliant 19 wedi’i dderbyn.
Gwelliant 19: O blaid: 24, Yn erbyn: 2, Ymatal: 23
Derbyniwyd y gwelliant
Mae’r seithfed grŵp o welliannau’n ymwneud â diwygio’r dreth gyngor. Gwelliant 2 yw’r prif welliant a’r unig welliant yn y grŵp hwn. Galwaf ar Peredur Owen Griffiths i gynnig y prif welliant ac i siarad amdano.
Cynigiwyd gwelliant 2 (Peredur Owen Griffiths).
Dwi'n cynnig y gwelliant.
Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae'r dreth gyngor yn gosod baich anghymesur ar aelwydydd incwm is, gan waethygu anghydraddoldebau cymdeithasol sydd wedi ymwreiddio. Mae'r achos dros ddisodli'r system drethu atchweliadol hon gyda model tecach, mwy blaengar, yn ddi-ddadl, yn hir-ddisgwyliedig ac yn cael ei gydnabod yn eang. Mae diwygio'r system drethu doredig a hen ffasiwn hon wedi bod yn gonglfaen i bolisi Plaid Cymru ers blynyddoedd lawer, ac roeddem yn falch o weithio ar y cyd â'r Llywodraeth i gyflawni hyn o fewn tymor y Senedd bresennol. Credwn yn gryf fod gennym ni fframwaith credadwy a allai fod wedi bod ar waith erbyn dechrau'r flwyddyn ariannol nesaf, fel yr addawyd, ond yn anffodus roedd y Llywodraeth yn meddwl fel arall, ac nid am y tro cyntaf, rydym yn wynebu rhan allweddol o'u hagenda ddeddfwriaethol yn cael ei dadflaenoriaethu oherwydd problemau mewnol y Blaid Lafur.
Nid ydym o dan unrhyw amheuaeth y bydd y diwygiad hwn yn ymgymeriad cymhleth, ac rwy'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ceisio cyfiawnhau'r oedi ar y sail honno yn ei hymateb. Ond gan mai dyna natur yr ateb radical ac angenrheidiol sydd ei angen arnom ni i greu cymdeithas decach, byddwn yn gofyn i Aelodau Llafur yma'n benodol fyfyrio ar oblygiadau gwirioneddol gohirio'r diwygio hwn, yn enwedig i deuluoedd incwm is sy'n parhau i gael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd yn ystod yr argyfwng costau byw. Fel y dywedoch chi'n gynharach, Ysgrifennydd Cabinet, byddai oedi yn rhoi'r rhai mwyaf agored i niwed dan anfantais, ond trwy beidio â gweithredu ar ddiwygio'r dreth gyngor tan 2028 ar y cynharaf, mae'r Llywodraeth hon yn condemnio'r rhai sy'n llai abl i dalu i dair blynedd arall o filiau treth gyngor anghymesur o uchel, pryd nad yw'r rhai â mwy o fodd yn gorfod talu eu cyfran deg am wasanaethau cyhoeddus.
Er ein bod wedi clywed dro ar ôl tro yn yr ymgyrch etholiadol ddiweddar mai etholiad ar gyfer newid oedd hwn, ar y cyfle cyntaf i newid yng Nghymru cawn yr un hen drefn am y tair blynedd nesaf. Felly, mae newid yn golygu mwy o'r un peth. Ond nid yw'n rhy hwyr i unioni'r llwybr. Yn yr ysbryd hwn, rydym ni wedi cyflwyno'r gwelliant hwn, a fydd yn gosod rhwymedigaeth ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r dreth gyngor erbyn mis Ebrill 2025, fel y bwriadwyd yn wreiddiol. Er mwyn lleddfu'r pwysau ar gyllidebau aelwydydd y rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas, byddwn yn annog yr Aelodau i afael yng nghyrn yr arad ac ymrwymo i'r diwygiad hanfodol bwysig hwn cyn gynted â phosibl. Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet.
Byddai gwelliant 2 yn ychwanegu gofyniad i Weinidogion Cymru weithredu diwygio'r dreth gyngor erbyn 1 Ebrill 2025. Fodd bynnag, nid oes diffiniad yn cael ei gynnig yn y gwelliant o'r hyn a olygir gan ddiwygio'r dreth gyngor. Felly, mae drafftio'r gwelliant hwn yn rhy eang i fod yn gyfraith ymarferol neu glir mewn perthynas â'r system dreth gyngor.
Rydym wedi dangos ein bod wedi ymrwymo i wneud y dreth gyngor yn decach ac yn llai atchweliadol. Rydym wedi cyhoeddi llawer iawn o dystiolaeth am ein hystyriaethau, mewn partneriaeth â'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, ac rydym wedi rhyddhau dau ymgynghoriad yn 2022 a 2023 yn gofyn am farn ar gynigion. Bydd cydweithwyr yn ymwybodol bod hyn yn rhan o'r gwaith a wnaethom mewn partneriaeth â Phlaid Cymru. Rwy'n hynod ddiolchgar am y gwaith a wneuthum ar y cyd â Cefin Campbell ar hyn fel rhan o'r cytundeb cydweithio blaenorol. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol iawn yn ein hystyriaethau. Arweiniodd y gwaith pwysig hwnnw at ryddhau ystod o gynigion yn yr ymgynghoriad cam 2, a gaeodd ym mis Chwefror eleni, gan ofyn am farn ar raddfa a chyflymder y diwygiad.
Canlyniad yr ymgynghoriad oedd bod pobl a rhanddeiliaid wedi mynegi awydd clir i ddiwygio'r system i'w gwneud yn decach, ond dros gyfnod arafach o amser, o 2028. Er bod 2025 wedi'i gynnwys yn yr ymgynghoriad fel yr opsiwn cyflymaf, nid yw'n ymarferol bellach i gyflwyno system wahanol yn yr amserlen honno. Mae'r dyddiad cau ar gyfer rheoleiddio ar gyfer bandiau newydd a chyfraddau treth bellach wedi mynd heibio. Mae'n ymarfer gweithredol ar raddfa fawr, sy'n cynnwys cyrff annibynnol a llywodraeth leol. Yn hanfodol, ni fyddem bellach yn gallu cynnig rhyddhad trosiannol i gefnogi aelwydydd trwy'r newidiadau.
Rydym yn gwrando ar bobl Cymru drwy symud ymlaen gydag ailbrisio a diwygio'r dreth gyngor yn 2028, a phob pum mlynedd ar ôl hynny, gan gadw'r dreth gyngor yn deg ac yn ymatebol i amgylchiadau economaidd. Mae'r Bil hwn yn sail i gyflawni'r hyn y buom yn gweithio arno ynghyd â Phlaid Cymru. Yn y cyfamser, rwyf hefyd yn cyflwyno nifer o ddiwygiadau eraill i'r dreth gyngor i'w gwneud yn decach, fel yr amlinellwyd yn fy natganiad ar 15 Mai, er enghraifft ar drin aelwydydd mewn dyled, ar apeliadau, ac ar ddisgowntiau a gostyngiadau. Felly, i gloi, byddwn yn gofyn i'r Aelodau wrthsefyll gwelliant 2.
Peredur Owen Griffiths i ymateb.
Diolch, Ysgrifennydd Cabinet. Rwy'n siomedig nad yw'r Llywodraeth wedi cytuno i'r gwelliant hwn ar y mater hwn. Fel yr wyf eisoes wedi dweud, nid yw diwygio'r dreth gyngor yn fater o syndod i neb—mae wedi bod yn destun craffu difrifol a chynhwysfawr dros nifer o flynyddoedd, ac wedi ffurfio rhan allweddol o'n cytundeb cydweithio ar gyfer tymor presennol y Senedd. Mae'r achos moesol dros weithredu'r newid hwn yn anferthol, ac o ystyried y pwysau ariannol parhaus sy'n wynebu aelwydydd ar hyd a lled ein cenedl, nawr yw'r amser i achub ar y cyfle. Drwy ohirio'r rhaglen waith hanfodol hon tan ar ôl yr etholiad nesaf, mae'r Llywodraeth yn gwneud penderfyniad ymwybodol heddiw i ddiystyru’r cyfle hanfodol hwn lle mae'n amlwg bod rhifyddeg seneddol o blaid newid. Byddwn yn annog yr Aelodau i bleidleisio dros y newid a phleidleisio dros y gwelliant hwn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad, felly symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi'i wrthod.
Gwelliant 2: O blaid: 12, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Symudwn ymlaen at grŵp 8. Mae'r wythfed grŵp o welliannau yn ymwneud â chynnydd yn y dreth gyngor. Gwelliant 20 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn. Galwaf ar Peter Fox i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant hwn a'r gwelliant arall yn y grŵp.
Cynigiwyd gwelliant 20 (Peter Fox).
Diolch yn fawr, Llywydd. Bydd y gwelliannau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i alw refferendwm lleol o dan amgylchiadau penodol. Bydd cynnydd yn y dreth gyngor wedi cael effaith uniongyrchol ar holl ddinasyddion Cymru. Dyna pam y dylai eu lleisiau a lleisiau cynghorau gael eu clywed pan wneir y penderfyniadau hyn. Yn ogystal â hyn, bydd cynnal y refferenda lleol hyn yn helpu i gynyddu tryloywder ac atebolrwydd unrhyw gynnydd posibl mewn treth. Er ein bod yn deall bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi mynegi, yn ystod Cyfnod 2, fod hyn yn gwyro o farn Llywodraeth Cymru ar leoliaeth, credwn fod rhoi llais i'r bobl y bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnynt yn hanfodol bwysig. Rwy'n cytuno â hynny. Mae lleoliaeth yn ymwneud â rhoi dewisiadau i bobl leol. Ni all cynghorau barhau i gynyddu'r dreth gyngor yn ormodol flwyddyn ar ôl blwyddyn. Fe wnes i gynyddu'r dreth gyngor, rwy'n cyfaddef hynny, bob blwyddyn. Roedd yn rhaid i ni wneud hynny. Ond mae terfyn ar ba mor hir y gall y cyhoedd barhau i roi eu dwylo yn eu pocedi. Weithiau mae angen iddyn nhw gael dweud eu barn a yw hyn yn iawn ai peidio, ac mae'n rhaid i'r cynghorau fynd yn ôl i'r dechrau a chanfod ffyrdd eraill o ategu eu cyllid. Gyda hynny, Dirprwy Lywydd, rwy'n cynnig y gwelliant.
Rydym yn gwrthwynebu'r gwelliannau yn y grŵp hwn a fyddai'n gorfodi awdurdodau lleol i gynnal refferenda lle bynnag y bydd yn rhaid iddyn nhw godi'r dreth gyngor o fwy na 5 y cant. Fel yr ydym ni wedi trafod sawl gwaith o'r blaen, mae cyllid llywodraeth leol yng Nghymru yn mynd ar lwybr hollol anghynaladwy. Mae awdurdodau lleol Cymru yn wynebu diffyg cyfunol o bron i £0.75 biliwn erbyn 2027—canlyniad uniongyrchol i etifeddiaeth drychinebus cyni a newynodd wasanaethau cyhoeddus hanfodol o gyllid, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae'r gwelliant hwn yn portreadu diffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth lwyr o'r amgylchiadau niweidiol eithafol y mae ein cynghorau lleol yn cael eu gorfodi i weithredu ynddyn nhw, a'r ffaith bod y sector llywodraeth leol wedi dwyn baich camreoli economaidd San Steffan a Llywodraeth Cymru yn gyson. Nid yr ateb, felly, yw trwy fesurau di-fudd fel hyn, a fyddai ond yn gwaethygu'r pwysau presennol ar adnoddau llywodraeth leol, ond yn hytrach i sicrhau bod y sector yn cael ei ariannu'n iawn yn y lle cyntaf. Mae hyn yn golygu taflu'r polisi trychinebus o gyni i fin sbwriel hanes am byth. Er nad yw'r Torïaid na'r Blaid Lafur i'w gweld yn barod i derfynu'r arfer o dorri gwariant cyhoeddus, byddwn yn parhau i sefyll dros ein cynghorwyr gweithgar ar hyd a lled y wlad drwy gyflwyno'r ddadl dros adfer cyllid llywodraeth leol i lefel sy'n adlewyrchu anghenion ein cymunedau mewn gwirionedd. Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet.
Fel y clywsom ni, byddai gwelliant 20 yn gosod dyletswydd newydd ar Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau bilio yng Nghymru gynnal refferenda lleol ar godiadau treth y cyngor sy'n fwy na 5 y cant. Amlinellais yn ystod gwaith craffu Cyfnod 2 fy mod yn ystyried y gwelliant hwn yn wyriad sylweddol o ymagwedd hirsefydlog a chlodwiw Llywodraeth Cymru tuag at leoliaeth. Rwyf hefyd yn pryderu nad oes unrhyw ymgynghoriad â threthdalwyr na rhanddeiliaid wedi digwydd ar newid polisi mor sylweddol. Yng Nghymru, mae gennym ni berthynas ag awdurdodau lleol yn seiliedig ar barch at ei gilydd. Mae'n bwysig bod gan awdurdodau lleol ryddid i bennu eu blaenoriaethau gwariant eu hunain a lefelau'r dreth gyngor. Maen nhw'n awdurdodau annibynnol, statudol sy'n gyfrifol am reoli eu materion ariannol eu hunain. Rydym ni i gyd yn ymwybodol iawn y caiff awdurdodau lleol eu hethol yn ddemocrataidd i wneud y penderfyniadau pwysig hyn.
Efallai y bydd yr Aelodau'n gwybod bod refferenda lleol wedi eu cyflwyno yn Lloegr yn 2012, i reoli gweithdrefnau gosod cyllideb a chyfyngu ar atebolrwydd llywodraeth leol. Hyd yma, nid oes unrhyw gyngor yn Lloegr sydd wedi cynnal refferendwm wedi gallu bwrw ymlaen â'i anghenion cyllideb gwreiddiol, gan ychwanegu cost ac amser at y broses flynyddol. Y profiad yn Lloegr ers 2012 fod gosod terfynau yn y modd hwn i bob pwrpas yn dod yn darged i bob awdurdod lleol godi'r dreth gyngor i'r uchafswm a ganiateir, yn hytrach nag ystyried yn ofalus beth sydd ei angen. Yng Nghymru, rydym ni wedi gweld ystod eang o gynnydd blynyddol, gan ddangos amrywiadau mewn pwysau lleol. Mae gan awdurdodau lleol hyblygrwydd i ymateb. Mae hon yn nodwedd bwysig o ddemocratiaeth leol ac yn gwneud arweinwyr awdurdodau lleol yn atebol i'w trigolion am benderfyniadau. Nid mater i Lywodraeth Cymru yw ymyrryd yn y broses ddemocrataidd hon.
Roedd rhan o'r drafodaeth hon rhwng Aelodau pwyllgor Cyfnod 2 yn canolbwyntio ar y cwestiwn ehangach o gyllid sydd ar gael i lywodraeth leol. Rydym ni wedi darparu'r setliad cyllido mwyaf hael i lywodraeth leol y gallem ni, gan ystyried y pwysau termau real ar ein cyllideb ein hunain. Mae ein sefyllfa gyllidebol ein hunain yn ganlyniad i lefel yr arian a ddarperir gan Lywodraeth y DU i ni. Mae'r galw am wasanaethau a chwyddiant costau yn golygu bod awdurdodau lleol yn gwneud penderfyniadau anodd.
Ac yn olaf, gan droi'n ôl at y syniad o fynnu refferenda lleol ar y dreth gyngor, mae'n bwysig cydnabod bod cymhlethdod a chost cynnal refferenda yn rhoi baich ychwanegol ar adnoddau awdurdodau lleol. Byddai hyn yn gwaethygu'r pwysau ariannol a wynebir ganddyn nhw ar hyn o bryd ymhellach. Mae gwelliant 26 yn ganlyniadol i welliant 20. I gloi, byddwn yn gofyn i'r Aelodau wrthod gwelliannau 20 a 26.
Galwaf ar Peter Fox i ymateb i'r ddadl.
Diolch. Fydd neb yn sefyll cornel cynghorau yn fwy na fi. Bûm yn rhedeg un am 13 mlynedd. Peidiwch ag anghofio bod cynnydd o 5 y cant yn y dreth gyngor yn gynnydd mawr yn y dreth gyngor. Rydym ni'n sôn am godiadau i'r dreth gyngor y tu hwnt i hyn, lle mae'n fyrbwyll—rwy'n credu y gall fod yn fyrbwyll. Felly, pwy sy'n sefyll cornel y dinasyddion? Rydym ni'n sefyll cornel y cynghorau, onid ydym ni. Rydym ni bob amser yn gwneud hynny. Ond pwy sy'n sefyll cornel y dinasyddion, y person sydd bob amser yn gorfod rhoi eu llaw yn eu pocedi i dalu am benderfyniadau na chloriannwyd mohonyn nhw? Mae cyfle—[Torri ar draws.] Rydych chi wedi fy nhaflu oddi ar fy echel nawr, Alun. [Torri ar draws.] Ydy, mae'n gweithio.
[Anghlywadwy.]—gwrando ar y meinciau cefn—llefarydd yr wrthblaid.
Diolch. Felly, fel y mae pobl wedi dweud yn fan yma lawer gwaith, mae angen i ni ganfod ffordd gynaliadwy o ariannu awdurdodau lleol fel nad oes rhaid i ni barhau i fynd yn ôl at y sawl sy'n talu'r dreth gyngor. Mae Peredur yn sôn am gyflwyno diwygiadau i'r dreth gyngor yn gynharach oherwydd bod cymaint o bobl dan anfantais, ond yna rydych chi'n dweud, 'Gynghorau, ewch chi ymlaen a chodwch gymaint o dreth gyngor ar y bobl hynny ag y dymunwch chi.' Rydym ni'n dweud, 'Gadewch i ni ofalu am y dinasyddion. Gadewch iddyn nhw wneud y dewis pan fydd y dreth gyngor yn rhy ddrud.' Felly, nid wyf yn gwneud unrhyw esgus dros gyflwyno'r refferendwm hwn—nid y refferendwm hwn, ond y gwelliant hwn i gael refferendwm, ac rwy'n ei gynnig.
Os na dderbynnir gwelliant 20, bydd gwelliant 26 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 20? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad. Felly, symudwn ni at bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, roedd un yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 20 wedi ei wrthod.
Gwelliant 20: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Methodd gwelliant 26.
Y grŵp olaf yw grŵp 9. Mae'r nawfed grŵp o welliannau yn ymwneud ag adolygu'r defnydd o bwerau. Gwelliant 21 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn, a galwaf ar Peter Fox i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant hwn a'r gwelliant arall yn y grŵp.
Cynigiwyd gwelliant 21 (Peter Fox).
Bydd, bydd y gwelliannau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal adolygiad o'r pwerau a gynigir yn adrannau 5, 9, 10 ac 18 o'r Bil a chyhoeddi casgliadau'r adolygiad hwnnw erbyn diwedd 2029, gan y bydd yn bwysig i'r pwerau hyn gael eu hadolygu yn unol â'r nodau polisi nad ydyn nhw wedi eu hamlinellu eto. Am y rheswm hwn rwy'n annog cefnogi'r gwelliant hwn.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch yn fawr, Llywydd. Gan mai dyma fy nghyfle olaf i siarad yn y ddadl hon, hoffwn ddiolch unwaith eto i gyd-Aelodau o bob plaid am eu sylwadau adeiladol a diolch hefyd i staff y Comisiwn am eu cefnogaeth i gael y Bil mor bell â hyn. A hoffwn hefyd, wrth gwrs, ddiolch i'n swyddogion dawnus a diwyd iawn o Lywodraeth Cymru am eu gwaith rhagorol dros nifer o flynyddoedd ar y Bil hwn. Mae cymaint o waith yn mynd rhagddo y tu ôl i'r llenni yn ystod y broses hon, ac nid yw'r rhan fwyaf ohoni yn cael ei chydnabod y tu hwnt i'r Siambr hon, ond hoffwn gydnabod yr ymdrech enfawr sy'n rhan o gynhyrchu deddfwriaeth o'r raddfa hon ac ansawdd uchel y cyngor a roddir i'r Aelodau ar yr hyn a roddir i'r Aelodau ynghylch yr hyn sy'n faterion cymhleth iawn.
Ac ar y cyfan, credaf fod y Bil hwn yn enghraifft dda iawn o gydweithio ac rwy'n falch iawn o'r cynnydd y mae'n ei gyflawni. Ac ni ddylai'r ffaith nad yw'r Llywodraeth wedi gallu cynnig ei chefnogaeth o blaid gwelliannau y prynhawn yma awgrymu am eiliad na fu gwaith trawsbleidiol cwbl ardderchog ers amser maith ar yr agenda benodol hon. A hoffwn fynegi fy niolch i gyd-Aelodau o bob rhan o'r Senedd am eu gwaith ar y Bil hwn.
Felly, gan droi nawr at y gwelliannau yn y grŵp terfynol, byddai gwelliant 21 yn ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal adolygiad o'r defnydd o bwerau deddfu a gyflwynwyd gan y Bil. Rwy'n sylweddoli pwysigrwydd y bwriad y tu ôl i'r gwelliant hwn, a dyna pam y derbyniais mewn egwyddor yr argymhelliad cysylltiedig o Gyfnod 1 gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. O ganlyniad, rwyf wedi cyhoeddi memorandwm esboniadol wedi'i ddiweddaru ers hynny, sy'n cynnwys fy ymrwymiad i gynnal adolygiad ôl-weithredu o weithrediad ac effaith y ddeddfwriaeth hon cyn diwedd y seithfed Senedd. Byddai hyn yn cynnwys ystyried pwerau deddfu yn y Bil. Rwy'n dal o'r farn bod cytuno ar adolygiadau statudol tameidiog o ddarnau unigol o ddeddfwriaeth yn ddiangen ac yn ffordd anghyflawn o fynd ati, a gallai'r Senedd, wrth gwrs, ymgymryd â gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol, pe bai'n dewis gwneud hynny.
Mae gwelliant 24 yn ganlyniadol i welliant 21. Felly, i gloi, byddwn yn gofyn i'r Aelodau wrthod gwelliannau 21 a 24.
Peter Fox i ymateb.
Diolch yn fawr, Llywydd. Dyma fy nghyfle olaf i siarad hefyd, byddwch i gyd yn falch o wybod. Ac a gaf i hefyd adleisio diolch yr Ysgrifennydd Cabinet i bawb sy'n ymwneud â chyflwyno'r Bil hwn, ac unwaith eto, sôn am y ffordd gydweithredol yr ydym ni wedi ymgysylltu â hyn? Er nad ydym ni bob amser yn cytuno ar y gwelliannau, rydym yn cydnabod safbwyntiau ein gilydd.
Fe wnes i gyflwyno'r grŵp hwn i ail-bwysleisio pryder y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r sylwadau a wnaethant am y pwerau yn yr adrannau hyn. Dirprwy Lywydd, gyda hynny, nid wyf yn credu bod angen i mi ddweud mwy am y Bil hwn.
Os na dderbynnir gwelliant 21, bydd gwelliant 24 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 21? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad, felly symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 21 wedi ei wrthod.
Gwelliant 21: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Methodd gwelliant 24.
Ni chynigiwyd gwelliant 22 (Peter Fox).
Felly, gwelliant 25 sydd nesaf. Peter.
[Anghlywadwy.]—yn yr un modd, fel gyda 23.
Ddim wedi ei gynnig. A allwch chi gadarnhau nad yw'n cael ei gynnig, Peter?
Ddim yn cael ei gynnig.
Ni chynigiwyd gwelliant 25 (Peter Fox).
Cynigiwyd gwelliant 27 (Peter Fox).
Wedi ei gynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 27? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly symudwn i bleidlais. Gwelliant 27. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 27 wedi ei wrthod.
Gwelliant 27: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Ac rydym wedi dod i ddiwedd ystyriaeth Cyfnod 3 o Fil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru). Datganaf y bernir bod pob adran o'r Bil a phob Atodlen iddo wedi eu derbyn. A daw hynny â thrafodion Cyfnod 3 i ben, a daw hynny â busnes heddiw i ben.
Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:03.