Y Cyfarfod Llawn

Plenary

02/07/2024

Cynnwys

Contents

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: Tata Steel
4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Y cynnydd o ran diwygio’r cwricwlwm a'r camau nesaf
5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Gweithio mewn partneriaeth ar gyfer y cynllun gorfodol newydd i ddileu Dolur Rhydd Feirysol Buchol
6. Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024
7. Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru)
9. Cyfnod 3 y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)
Grŵp 1: Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru—swyddogaethau (Gwelliannau 26, 27, 36)
Grŵp 2: Cofrestru etholiadol (Gwelliannau 7, 28, 8, 29)
Grŵp 3: Pwerau a rheoliadau peilot etholiadau Cymreig (Gwelliannau 9, 10, 11, 12)
Grŵp 4: Rheoliadau diwygio etholiadol (Gwelliannau 13, 14)
Grŵp 5: Cymorth i bleidleiswyr ag anableddau (Gwelliannau 15, 30)
Grŵp 6: Amrywiaeth ymhlith personau sy’n ceisio swydd etholedig (Gwelliant 16)
Grŵp 7: Platfform gwybodaeth am etholiadau Cymreig (Gwelliannau 17, 18, 31, 1, 32, 33, 34)
Grŵp 8: Cynllun cymorth ariannol—gweithredu (Gwelliannau 35, 19)
Grŵp 9: Gofynion o ran y Gymraeg ar gyfer swyddogion canlyniadau (Gwelliannau 37, 38, 51)
Grŵp 10: Adolygiadau o drefniadau etholiadol (Gwelliannau 2, 3, 4, 5)
Grŵp 11: Cyhoeddi manylion cyswllt cynghorau cymuned (Gwelliant 39)
Grŵp 12: Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru—swyddogaethau sy’n ymwneud â chydnabyddiaeth ariannol Aelodau etholedig (Gwelliannau 40, 41)
Grŵp 13: Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd (Gwelliant 42)
Grŵp 14: Anghymhwyso rhag bod yn Aelod o Senedd Cymru neu lywodraeth leol (Gwelliannau 20, 21, 22, 23, 24)
Grŵp 15: Anghymhwyso rhag bod yn Aelod o Senedd Cymru—y drosedd o ddichell (Gwelliannau 43, 6, 44, 45, 46, 47, 48, 49, 50, 52, 53, 25)

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jack Sargeant. 

Diogelu Eiddo rhag Llifogydd

1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i ddiogelu eiddo yn Alun a Glannau Dyfrdwy rhag llifogydd? OQ61368

Os caf i, cyn i mi ymateb, Llywydd, groesawu Jack Sargeant yn ôl o absenoldeb tadolaeth, a llongyfarchiadau ar ddechrau eich taith fel rhiant. Gobeithio bod gennych chi ddigon o gwsg yn y banc. 

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'n hawdurdodau lleol ledled Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru fel awdurdodau rheoli perygl llifogydd arweiniol. Cyhoeddwyd rhaglen rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol 2024-25 ar 19 Mawrth, ac mae'n cynnwys £800,000 i Cyfoeth Naturiol Cymru fwrw ymlaen â gwaith adeiladu yn Sandycroft yn sir y Fflint.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei groeso cynnes yn ôl i Siambr y Senedd, a diolch yn fawr, Llywydd, ar draws y Siambr, i'r holl ffrindiau yma? Mae fy nheulu a minnau'n ddiolchgar iawn am y croeso cynnes hwnnw i Noa. 

Prif Weinidog, rwyf i wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid sylweddol yn Sandycroft, Mancot a Phentre ar gyfer gwaith a ddylai amddiffyn cymunedau ehangach rhag perygl llifogydd. Rwyf i wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â'r grŵp gweithredu ar lifogydd cymunedol lleol yno. Maen nhw wedi gweithio'n galed i gadw'r mater hwn yn flaenllaw ym meddyliau'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau. Prif Weinidog, rwy'n awyddus iawn i weld Cyfoeth Naturiol Cymru yn sicrhau nawr bod y gwaith yn digwydd yn gyflym ac yn brydlon. Fel y gallwch chi ddychmygu, Prif Weinidog, bob tro y bydd hi'n bwrw glaw, mae trigolion a minnau yn bryderus dros ben. Maen nhw wedi dioddef llifogydd ddwywaith yn yr un faint o flynyddoedd, ac mae eu pryderon a'u gofidiau yn dychwelyd i flaen eu meddyliau. A gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, ddefnyddio eich swyddogaeth i annog Cyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu diweddariadau rheolaidd i drigolion, ac i gyfleu neges gan drigolion—gennyf i a hwythau—am eu dymuniad i'r gwaith gael ei gwblhau cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl? Diolch.

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn dilynol, a dim ond nodi bod hon wedi bod yn nodwedd reolaidd mewn cwestiynau gan yr Aelod—rwy'n credu bod chwe chwestiwn llafar a thri chwestiwn ysgrifenedig ar y mater hwn—gan wneud yn siŵr ei fod yn parhau i bwyso'r achos dros ei etholwyr. Ac rwy'n gwybod bod storm Babet wedi effeithio'n arbennig ar sir y Fflint fis Hydref diwethaf. Dyna pam rydym ni'n falch ein bod ni wedi gallu dyrannu £800,000 i allu bwrw ymlaen â gwaith adeiladu yn Sandycroft, Pentre a Mancot. Er gwaethaf yr holl bwysau ym mhwrs y wlad, mae hwn yn faes yr ydym ni wedi dyrannu adnoddau ar ei gyfer oherwydd y peryglon sy'n bodoli. Y newyddion da yw bod ein swyddogion yn yr adran newid hinsawdd a materion gwledig wedi cyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Sir y Fflint ym mis Mai i drafod cynnydd y ddau brosiect, ac yr wythnos diwethaf, anfonodd Cyfoeth Naturiol Cymru lythyrau at drigolion lleol Sandycroft a Phentre i'w hysbysu am waith adeiladu arfaethedig y disgwylir iddo ddechrau yn ddiweddarach yr haf hwn.

Os oes unrhyw oedi, neu unrhyw broblem gyda diffyg cyfathrebu—rwy'n hyderus y bydd yr Aelod, ond hoffwn ei roi ar y cofnod—os oes problemau, cysylltwch â mi a'r Ysgrifennydd newid hinsawdd, a byddwn yn sicrhau bod cyfathrebu priodol yn cael ei gynnal. Ond dylai'r gwaith fod yn dechrau'r haf hwn, ac rwy'n gobeithio y bydd trigolion yn gweld hynny'n ffisegol, oherwydd rwy'n cydnabod y gofid y byddai gan drigolion mewn unrhyw ran o Gymru os ydyn nhw wedi dioddef llifogydd rheolaidd, ac mae hwn yn gynllun yr ydym ni'n falch o'i gefnogi.

Mae'n rhaid i mi ddweud bod cymesuredd hyfryd i'r ffaith bod cwestiwn cyntaf tad Noa ar ôl iddo ddychwelyd am lifogydd. [Chwerthin.] Y cwestiwn nesaf, Mark Isherwood.

[Anghlywadwy.]—trigolion a ddioddefodd lifogydd ym Mrychdyn, sir y Fflint yn 2021, rhoddodd Cyngor Sir y Fflint fanylion y camau y bydden nhw'n eu cymryd, gan gynnwys y byddai blaenoriaeth yn cael ei rhoi i drigolion oedrannus ac agored i niwed mewn mannau problemus hysbys ar gyfer llifogydd. Ar ôl storm Babet fis Hydref diwethaf, ysgrifennodd etholwr, 

'Cafodd cartref fy rhieni yn Bretton, sir y Fflint, ger Brychdyn, ei ddinistrio'n llwyr gan ddŵr llifogydd. Mae fy rhieni ill dau yn bensiynwyr'. 

Fe wnaethon nhw ychwanegu na ddanfonwyd bagiau tywod, er iddyn nhw ffonio sawl gwaith, ac fe wnaethon nhw ddweud,

'ond fe wnaeth bagiau tywod gael eu danfon i ferch cynghorydd sir Llafur uwch sy'n byw'n gyfagos.'

Mae'r achos hwn gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru bellach, ac rwy'n sylweddoli na allwch chi wneud sylw felly. Ond, wrth ymateb i mi ar hwn ac ar achosion eraill, mae'r cyngor bellach wedi datgan na ellir cynnig unrhyw sicrwydd i drigolion, ac na allan nhw gynorthwyo gyda phob achos o lifogydd. Beth, felly, yw polisi neu ganllawiau Llywodraeth Cymru ar ddosbarthu bagiau tywod fel blaenoriaeth i drigolion hŷn ac agored i niwed mewn mannau problemus ar gyfer llifogydd?

Wel, materion i awdurdodau lleol eu datrys yw'r rhain. Rwy'n bryderus o glywed am y digwyddiad y mae'r Aelod yn ei adlewyrchu. Yn amlwg, nid dyna'r holl dystiolaeth yn y mater a dywedodd yr Aelod bod cwyn yn cael ei chodi yn ei gylch. Yr hyn yr ydym ni'n ei ddisgwyl yw i awdurdodau lleol weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar ddeall rhybuddion risg a sut y gallan nhw wneud eu gorau i gynorthwyo trigolion yn yr ardal y maen nhw'n parhau i fod â chyfrifoldeb amdani. Ond mae hyn yn ymwneud, fodd bynnag, â rhan o'n her ynghylch realiti newid hinsawdd, y ffaith y gallwn ni ddisgwyl cael mwy o ddigwyddiadau tywydd eithafol—mae hynny'n cynnwys glawiad ac, yn wir, gwres eithafol hefyd. Felly, yr hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud yw gweithredu ar draws y Llywodraeth gyfan, yn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i geisio mynd i'r afael â phroblemau llifogydd, lle mae rhywfaint o'r gwaith seilwaith anoddach yn digwydd, yn ogystal â gwaith ehangach y Llywodraeth ar fynd i'r afael â realiti'r newid yn yr hinsawdd. Mae hwnnw'n fater sydd ar feddyliau trigolion, pa un a oes etholiad ai peidio, ac rydym ni'n falch o'r ffaith ein bod ni wedi ymrwymo i'r gwaith hwnnw. Rwy'n gobeithio y bydd gennym ni bartneriaeth yn y dyfodol a fydd yn arwain at fwy o flaenoriaeth i hyn ledled y DU gyfan a'n dull i allu cymryd camau ymarferol ac effeithiol.

13:35

Pan gyhoeddwyd y cyllid ym mis Mawrth, cefais e-bost gan Gyngor Sir y Fflint. Roedden nhw mor falch y byddai'r holl geisiadau a gyflwynwyd ganddyn nhw ar gyfer lliniaru llifogydd yn cael eu cwmpasu gan y cyllid grant, ac y byddai hefyd yn helpu gyda chydnerthedd yn yr adran ddraenio, sydd wedi dioddef yn dilyn mwy na degawd o doriadau a chyni cyllidol. Fe wnaethon nhw ddweud ei bod hefyd yn bwysig cynnal momentwm a pharhau i weithio mewn partneriaeth â Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, fel y dywedodd Jack Sargeant. Gall dinistr llifogydd gael effaith enfawr ar fywydau pobl, a chefais fy effeithio gan storm Babet hefyd. Felly, rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud hyn yn flaenoriaeth ac wedi cyfrannu llawer o gyllid at hyn. Mae'n bwysig iawn. Felly, a fyddech chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, bod hon yn rhaglen gadarnhaol arall o fuddsoddiad mewn lliniaru llifogydd a gwasanaethau cyhoeddus, y mae mawr ei hangen, sy'n cael ei darparu gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn helpu miloedd o bobl gydag effaith llifogydd? Diolch.

Mae'r Aelod yn iawn—mae'n rhaid cael partneriaeth, partneriaeth rhwng y Llywodraeth, awdurdodau lleol a thrigolion, ac i Cyfoeth Naturiol Cymru chwarae eu rhan yn hyn. Rydym ni wedi cael heriau gwirioneddol o ran ein cyllidebau cyfalaf. Er gwaethaf hynny, fodd bynnag, rydym ni wedi gallu darparu cymorth ar gyfer pum cynllun yn y rhaglen eleni, i ddatblygu'r achos i wneud yn siŵr bod hynny ar gael. Mae gennym ni ddau gynllun graddfa fach hefyd—un ym Mrychdyn, un yn Ffordd Lerpwl—i geisio mynd i'r afael â rhai o'r problemau y mae'r Aelod yn sôn amdanyn nhw o ran problemau draenio a chwlfertau, i wneud yn siŵr bod y rheini'n cael eu clirio ac y gofalir amdanyn nhw'n briodol. Felly, mae hyn yn ymwneud â gwelliannau graddfa fach, yn ogystal â gwaith mwy, ac mae'r cwbl yn cael ei wneud fel partneriaeth i gymryd i ystyriaeth y risg wirioneddol i drigolion lle mae llifogydd wedi digwydd ac yn debygol o ddigwydd yn y dyfodol heb i'r mathau hyn o gamau gael eu cymryd. A diolchaf i'r Aelod am dynnu sylw at y diolch gan Gyngor Sir y Fflint am y gwaith partneriaeth gyda'r Llywodraeth hon.

Economi Canolbarth a Gorllewin Cymru

2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r economi yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ61374

Diolch. Mae ein cynllun ar gyfer gwella'r economi ledled Cymru wedi'i nodi yn ein cenhadaeth economaidd: sicrhau trosglwyddiad cyfiawn i economi werdd a chynhyrchiol, llwyfan i bobl ifanc, gwaith teg, sgiliau a llwyddiant, gyda phartneriaethau cryfach ar gyfer rhanbarthau cryfach, ac, wrth gwrs, yr economi bob dydd a sut rydym ni'n buddsoddi ar gyfer twf.

Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae gan Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, hanes profedig o helpu'r economi yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, drwy ei chefnogaeth i ficro-fusnesau, a busnesau bach a chanolig eu maint yn y rhanbarth, busnesau fel LEB Construction Limited yn Aberystwyth, a dderbyniodd grant o £537,000 i helpu i dyfu ei fusnes, ac Airflo ym Mhowys, a dderbyniodd £566,000 o gyllid gan gronfa dyfodol yr economi Llywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn fuddsoddiadau eithriadol o bwysig sy'n helpu i sicrhau swyddi yn yr ardaloedd mwyaf gwledig. Ac mae cymorth i fusnesau, drwy Busnes Cymru, sydd wedi helpu busnesau di-rif ledled Cymru, a'r gronfa paratoi at y dyfodol sydd newydd gael ei lansio, a fydd yn helpu busnesau i leihau eu costau rhedeg a buddsoddi mewn prentisiaethau, yn enghreifftiau pellach o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i helpu'r economi yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi bod y buddsoddiadau hyn yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i helpu'r economi i dyfu yng nghefn gwlad Cymru, ac os bydd gennym ni Lywodraeth y DU ymhen tridiau, y bydd Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Lafur y DU, yn gallu darparu'r sefydlogrwydd y mae wir ei angen y maen nhw i gyd wedi bod yn chwilio amdano?

Mae'n bwynt pwysig iawn am sefydlogrwydd yn yr economi. Mae'n un o'r pethau y mae busnesau ar bob ochr yn chwilio amdano. Pa un a yn yr economi wledig, economi'r arfordir neu'r economi drefol, bu diffyg sefydlogrwydd nid yn unig yn ystod y 14 mlynedd diwethaf, ond yn yn ystod y pedair i bum mlynedd diwethaf yn arbennig. Er y bu rhai ffactorau byd-eang, ysgogwyd llawer ohono gan yr anhrefn a'r ansefydlogrwydd eithriadol ar lefel y DU. Rwy'n edrych ymlaen at bartneriaeth wahanol a gwell, yn dibynnu ar sut mae pobl Cymru a Phrydain yn pleidleisio ddydd Iau. Ond, yn fwy na hynny, mae'n mynd ochr yn ochr â'n huchelgais i wneud buddsoddiadau ymarferol yn yr economi wledig, ac nid yr enghreifftiau y mae'r Aelod wedi eu crybwyll yn unig, ond Grŵp Marrill, y grŵp cydrannau modur ym Mhowys, Atherton Bikes—stori lwyddiant go iawn, ac rydym ni wedi bod yn rhan o'u cynorthwyo hwythau hefyd. Ac, wrth gwrs, Aber Instruments, os ydym ni'n sôn am gefn gwlad Cymru—yn falch iawn o hynny gan eu bod nhw'n rhan o'r perchnogaeth gweithwyr o fewn ein heconomi yr ydym ni wedi ei ddyblu, gan gyflawni addewid maniffesto o flaen amser, ac mae'n dangos gwerthoedd ar waith yn ymarferol.

Gallem ni wneud cymaint mwy pe bai gennym bartneriaid mewn sefydlogrwydd—er enghraifft, y buddsoddiad yn y sgiliau uchel yr ydym ni'n gwybod y bydd eu hangen arnom ni yn yr economi wledig hefyd—a phe gallem ni symud oddi wrth y gystadleuaeth niweidiol a oedd yn bodoli lle mae gan ein Llywodraeth bresennol yn y DU fwy o obsesiwn â chymryd pwerau ac arian oddi wrth Gymru yn hytrach na phartner sefydlog gwirioneddol lle'r ydym ni'n gweithio gyda'n gilydd dros Gymru a Phrydain. Dyna'r bartneriaeth yr wyf i'n chwilio amdani, ac rwy'n credu mai dyna allwn ni berswadio pobl Cymru i bleidleisio drosti ddydd Iau.

13:40

Prif Weinidog, cefais y pleser o ymuno â Stephen Crabb yn ddiweddar i gwrdd â siambr fasnach Dinbych-y-pysgod, y siambr fasnach sydd newydd gael ei hailsefydlu, ym mwyty ardderchog Qube yn y dref. Er iddyn nhw rannu rhai o'u pryderon gyda ni, un pethau allweddol a ddaeth i'r amlwg oedd penderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri rhyddhad ardrethi busnes a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar ein heconomïau yn ein trefi arfordirol, fel yr ydych chi newydd sôn. Felly, mae hynny'n rhoi sir Benfro a Chymru dan anfantais gystadleuol ag ardaloedd eraill dros y ffin yn Lloegr. Felly, pryd wnaiff y Llywodraeth hon gefnogi busnesau o'r diwedd ac ailgyflwyno rhyddhad ardrethi busnes, nid fel y gall ein busnesau ffynnu a goroesi gyda'i gilydd, ond fel y gallwn ni gael rhywfaint o lwyddiant economaidd mewn rhannau o Gymru nad ydyn nhw wedi ei weld o dan y Llywodraeth Lafur hon?

Pan wnaethoch chi gyfarfod â siambr fasnach Dinbych-y-pysgod—ac mae'n wych gwybod eu bod nhw wedi cael eu hailsefydlu—rwy'n gobeithio eich bod chi'n onest â nhw am y ffaith bod Stephen Crabb wedi pleidleisio dros gyllidebau sy'n golygu bod cyllidebau'r Llywodraeth hon yng Nghymru wedi gostwng £700 miliwn mewn termau real dros y tair blynedd diwethaf. Rwy'n gobeithio eich bod chi wedi eu hatgoffa nhw am Stephen Crabb yn pleidleisio gyda balchder dros gyni cyllidol yn ystod y 14 mlynedd diwethaf. Rwy'n gobeithio eich bod chi wedi tynnu sylw at nifer y Prif Ysgrifenyddion i'r Trysorlys y bu'n rhaid i Rebecca Evans eu brwydro—y nifer fwyaf erioed mewn cyfnod cymharol fach. Maen nhw'n gwybod, fel yr ydym ni, pan fydd ein cyllidebau wedi cael eu lleihau, bod yn rhaid i ni wneud dewisiadau. Pan fydd gennym ni wahanol bartneriaeth ar gael o'r diwedd, mae gwahanol weledigaeth ar gyfer Cymru a Phrydain sy'n bosibl. Rwy'n credu y dylai'r pethau hynny ddigwydd.

Rydym ni eisoes yn cefnogi busnesau Cymru, gyda Busnes Cymru, fel y soniodd Joyce Watson, a chyda Banc Datblygu Cymru, stori lwyddiant Gymreig go iawn. Yn fwy na hynny, wrth gwrs, ceir y cyferbyniad uniongyrchol rhwng Dyfrffordd y Ddau Gleddau, lle gwrthododd Llywodraeth y DU gefnogi buddsoddiad yn Nyfrffordd y Ddau Gleddau, penderfynu peidio â chefnogi'r cynlluniau hynny, a'r addewid y byddwch chi'n ei weld ym maniffestos Llafur—un Llafur Cymru ac un Llafur y DU—i fuddsoddi bedair gwaith yn fwy yn ein porthladdoedd i ddatgloi buddsoddiad yn ein heconomi. Dyna'r cyferbyniad. Dyna sydd ar y papur pleidleisio ar 4 Gorffennaf. Rwy'n edrych ymlaen at bleidleiswyr Dinbych-y-pysgod ac, yn wir, y darlun ehangach yng Nghymru, i weld yr hyn y maen nhw wedi ei benderfynu a phwy maen nhw'n barod i ymddiried ynddyn nhw.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Torïaid, y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Llywydd. Fel yr oeddech chi'n ei amlygu yn y fan yna, Prif Weinidog, mae rhywbeth yn digwydd ddydd Iau—etholiad yw ef, a bydd yn cynnig y dewis i bobl Cymru. Ond, yr hyn yr ydym ni wedi ei glywed gan arweinydd y Blaid Lafur yw embaras llwyr am hanes Llywodraeth Lafur Cymru. Roedd yn arfer mynd ar y cofnod a dweud, 'Ar gyfer yr hyn y byddem ni'n ei wneud yn San Steffan, edrychwch ar Lywodraeth Cymru—dyma'n glasbrint', gan dynnu sylw at y ffaith bod amseroedd aros mwyaf erioed yma yng Nghymru, gydag un o bob pedwar o bobl ar restr aros. Mae nifer uwch nag erioed o bobl yn aros am ddwy flynedd neu fwy i gael llawdriniaeth—21,600, sydd wedi cynyddu 1,600 o bobl. Rydym ni wedi gweld y dirywiad i safonau addysg fel y nodwyd gan PISA, ac mae gennym ni economi ddisymud sy'n talu'r cyflogau isaf yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. A oes unrhyw syndod na wnaiff Keir Starmer dynnu sylw at yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, a dyna pam y mae ganddo gymaint o gywilydd nawr yn yr ymgyrch bresennol hon o'r hyn y mae Llafur Cymru wedi ei gyflawni dros Gymru dros y 25 mlynedd diwethaf?

Mae pobl yng Nghymru wedi dewis cefnogi Llafur Cymru mewn etholiadau datganoledig dros y cyfnod hwnnw gan nad ydym erioed wedi eu cymryd yn ganiataol. Rydym ni bellach yn canfod sefyllfa, ar ôl 14 mlynedd o'r Ceidwadwyr, lle ceir etholiad. Gallwch gael mwy o'r un peth gan y Torïaid, neu gallwch gael newid gyda Phlaid Lafur y DU, yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru yr wyf i'n falch o'i harwain. Meddyliwch yn ôl i'm ychydig ddiwrnodau cyntaf yn y swydd a'r tri grŵp o bobl y gwnes i eu cyfarfod. Gyda'r meddygon, rydym ni bellach wedi datrys y streic. Mae dyddiau o streicio yn digwydd yn Lloegr. Ceir y ffermwyr, a oedd yn deall ac sy'n deall nawr, oherwydd bradychiad addewidion maniffesto, nad yw £250 miliwn, neu £0.25 biliwn, os mynnwch, a ddylai fod wedi cael ei fuddsoddi yn yr economi wledig wedi cael ei fuddsoddi oherwydd bod yr arian hwnnw wedi aros yn San Steffan—dewis Torïaidd i dorri eu haddewidion maniffesto eglur. A meddyliwch eto am le'r ydym ni gyda gweithwyr dur. Byddwch yn clywed datganiad yn ddiweddarach heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg am y gwaith yr ydym ni wedi ei wneud yn ymarferol i wneud yn siŵr bod bargen well bosibl ar gyfer dur os awn ni y tu hwnt i ddydd Iau gyda Llywodraeth Lafur sy'n barod i fuddsoddi. Dyna sut mae partneriaeth yn edrych, dyna beth mae'r Llywodraeth hon eisiau ei weld yn y dyfodol. Y ffordd yr ydym ni wedi gweithio gyda chydweithwyr yn ein tîm Llafur fel gwrthblaid i wneud yn siŵr y gallwn ni gael sgyrsiau go iawn am y dyfodol ar gyfer dur yw'r hyn sydd ar y papur pleidleisio ar 4 Gorffennaf. Rwy'n falch o'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Keir Starmer os bydd pobl ledled Cymru a Phrydain yn dewis ethol Llywodraeth Lafur i'r DU.

13:45

Wel, nid yw e'n falch iawn ohonoch chi, Prif Weinidog, oherwydd ni all hyd yn oed sôn am eich hanes chi yma yng Nghymru. Rydych chi wedi tynnu sylw at bethau yr ydych chi'n credu sy'n gadarnhaol yma yng Nghymru; dim ond lledrithiau ydyn nhw, ar ddiwedd y dydd, wedi'u hadeiladu ar dywod a fydd yn diflannu gyda'r hwrdd cyntaf o wynt. Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod yw bod newid ar y papur pleidleisio ddydd Iau. Gallwch symud oddi wrth y llwyddiant economaidd y mae'r Ceidwadwyr yn ei gyflawni, sydd wedi sicrhau twf termau real i gyflogau a thorri chwyddiant o 11 y cant i 2 y cant. Gallwn weld y twf economaidd cyflymaf o unrhyw wlad G7, neu gallwn symud at yr ansicrwydd a'r anobaith y mae Llafur yn eu cynnig, lle mae diweithdra wedi cynyddu, y mae'r arian wedi diflannu a'r trethi yn codi bob tro y maen nhw wedi gadael grym. Yr hyn yr ydym ni eisiau ei weld yw gwneud yn siŵr bod pobl Cymru yn gwybod beth yw'r newid hwnnw, a bod y newid hwnnw yn symud oddi wrth y cyfleoedd economaidd sy'n cyflawni dros bobl ar hyd a lled Cymru gyda methiant Llafur Cymru yma yng Nghymru i gyflawni unrhyw un o'i phrif addewidion, pa un a yw hynny'n golygu'r economi, iechyd neu addysg.

Rwy'n edmygu ei amseriad gwych fel digrifwr yn siarad am lwyddiannau'r Ceidwadwyr yn yr economi. Yr argyfwng costau byw fu'r brif broblem ar garreg y drws ar hyd a lled y wlad. Ac mewn gwirionedd nid ailadrodd yr hyn yr oeddem ni'n ei feddwl a'r hyn yr oeddem ni'n ei wybod yn unig fu hyn—nid dim ond y ffigurau chwyddiant bwyd 31 y cant mewn tair blynedd, neu chwyddiant o 58 y cant mewn biliau ynni yn y tair blynedd diwethaf—ond mewn gwirionedd bu'n destun gofid mawr gwrando ar y straeon hynny yn uniongyrchol ar garreg y drws gan bobl sydd dal wir yn gwneud dewisiadau rhwng bwydo eu plant a rhoi'r gwres ymlaen. Ac mae pobl yn dal i fethu prydau bwyd. Pe baech chi'n mynd i siarad â'r bobl hynny ac yn ceisio dweud wrthyn nhw bod hanes pur o lwyddiant gan y Ceidwadwyr ac mai'r risg fwyaf yw newid trywydd, rwy'n credu y byddech chi'n cael ymateb pendant iawn.

Nid yr anobaith y mae'r Aelod yn siarad amdano yw'r hyn y mae gennym ni ddiddordeb ynddo—roedd yn araith anobeithiol. Rydym ni'n chwilio am gyfle i droi'r dudalen ar y 14 mlynedd diwethaf, cyfle i fuddsoddi yn yr economi a gwasanaethau cyhoeddus i gael sefydlogrwydd go iawn, cyfle i droi'r dudalen ar anghymhwysedd ofnadwy y pedair neu bum mlynedd diwethaf. Meddyliwch yn ôl i'r newyddion o'r wythnos diwethaf: £1.4 biliwn o gyfarpar diogelu personol sydd wedi cael ei wastraffu ac y bu'n rhaid ei losgi.Mae hynny ar ôl y rhaglen profi ac olrhain yn Lloegr—£22 biliwn—a ddisgrifiwyd gan gyn-Ysgrifennydd Parhaol yn y Trysorlys fel y gwastraff mwyaf a'r rhaglen gwariant cyhoeddus mwyaf anghymwys yn hanes y DU. Dyna hanes y Llywodraeth y mae ef wedi ei chefnogi. Dyna mae Andrew R.T. Davies yn gofyn i bobl bleidleisio drosto. Rwy'n gofyn i bobl bleidleisio dros rywbeth gwell. Rwy'n gofyn i bobl bleidleisio dros newid, gwahanol Lywodraeth yn y DU sy'n credu mewn datganoli, sy'n credu mewn partneriaeth, i gael dwy Lywodraeth Lafur yn cydweithio.

Ac rwyf i wedi mwynhau fy holl ymgyrchu ochr yn ochr â Keir Starmer. Rwyf i wedi mwynhau nid yn unig ymddangos ar flaen maniffesto Cymru ond yr hyn y gallem ni ei wneud gyda'n gilydd fel partneriaid ar gyfer y dyfodol. Dyna sydd ar y papur pleidleisio ar 4 Gorffennaf, ac edrychaf ymlaen at ddyfarniad pleidleiswyr yma yng Nghymru.

Mae'n ddiddorol nodi nad oeddech chi ar y bws ymgyrchu a aeth i etholaeth Paul Davies y diwrnod o'r blaen. Tybed pam. Withyhedge, efallai. Ond mae eich tôn nawddoglyd o siarad â phobl am yr argyfwng costau byw—. Cafwyd argyfwng costau byw. Rydym ni i gyd fel Aelodau etholedig wedi gweld ein hetholwyr ac wedi edrych i fyw eu llygaid ac wedi teimlo eu poen. Ond dangoswch i mi ddemocratiaeth orllewinol nad yw wedi cael pwysau economaidd tebyg. Yn y pen draw, yr hyn yr wyf i'n ei ddweud wrthych chi, Prif Weinidog, yw ein bod ni'n dod allan o hynny. Rydym ni wedi adeiladu model economaidd sydd wedi sicrhau'r cyfraddau uchaf erioed o gyflogaeth, y cyfraddau uchaf erioed o setliadau cyflog sydd bellach dros chwyddiant i fyny i 6 y cant o'i gymharu â chwyddiant o 2 y cant. A'r hyn yr ydym ni'n ei weld gan y Blaid Lafur yw'r bygythiad o drethiant uwch, twf economaidd arafach a dilyn hanes Llafur Cymru yma yng Nghymru sydd wedi cyflawni'r amseroedd aros hiraf erioed, safonau addysgol sy'n gostwng ac economi sy'n ddisymud. Dyna'r newid sydd ar y papur pleidleisio ddydd Iau: y gallwch chi fynd yn ôl gyda Llafur, neu ymlaen gyda'r Ceidwadwyr. Os byddwch chi'n newid y naratif yn economaidd, bydd pob gŵr, gwraig a phlentyn yn y wlad hon yn waeth eu byd, a dyna lle'r wyf i'n credu y bydd synnwyr da pobl Cymru yn disgleirio ac yn y pen draw yn gwrthod hanes Llafur Cymru yma yng Nghymru a'r hanes o fethu â chyflawni gwelliannau y mae pobl yn eu haeddu yma yng Nghymru.

13:50

Rydw i wedi mwynhau ymgyrchu yng Nghanolbarth a De Sir Benfro ac rwy'n edrych ymlaen at wneud hynny yn ystod y dyddiau nesaf. Rwyf i hefyd yn edrych ymlaen at yr hyn y mae pobl Cymru yn ei ddewis. Wrth i'r pleidleisiau hynny gael eu cyfrif drwy noson 4 Gorffennaf ac i mewn i fore 5 Gorffennaf, byddwn yn gweld a fydd pobl yn credu darlun gobeithiol Andrew R.T. Davies o ba mor llwyddiannus fu'r pedair i bum mlynedd diwethaf a'r 14 mlynedd diwethaf ar draws y DU. Does dim byd nawddoglyd am yr argyfwng costau byw. Mae'n real iawn ac yn anochel i lawer gormod o'n teuluoedd. Hoffwn pe gallai'r Aelod ddangos ychydig yn fwy o ddealltwriaeth o'r hyn y mae llawer gormod o deuluoedd Cymru yn mynd drwyddo a chydnabod cyfrifoldeb Llywodraeth bresennol y DU yn y dewisiadau y maen nhw wedi eu gwneud. Nid oes unrhyw nifer o honiadau ffeithiol diffygiol am yr hyn sydd ddim ym maniffesto'r Blaid Lafur yn mynd i newid hynny; mae pobl yn deall sut mae eu bywydau wedi newid. Mae'r ffigurau'n dangos nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn well eu byd o gymharu â 14 mlynedd yn ôl. Mae'r ffigurau'n dangos mai hon yw'r unig Senedd mewn hanes pan gymerwyd cofnodion lle mae safonau byw yn is ar ddiwedd Senedd y DU nag ar y cychwyn. Mae'r ffigurau'n dangos bod pobl sy'n gweithio yn talu trethi uwch nawr nag yn y 70 mlynedd diwethaf, y cwbl o dan oruchwyliaeth y Ceidwadwyr. Rwy'n edmygu ei ddewrder yn ceisio honni nad oes yr un o'r pethau hyn yn wir, ond edrychaf ymlaen at ddyfarniad y bobl. Newid gwirioneddol ar draws y DU, dwy Lywodraeth Lafur yn cydweithio dros Gymru a Phrydain—dyna sydd ar y papur pleidleisio, ac fel y dywedais i, edrychaf ymlaen at ddyfarniad pobl Cymru yn y blwch pleidleisio.

Diolch, Llywydd. Dwi'n wleidydd sydd yn licio pwysleisio’r positif o ran dyfodol Cymru. Dwi'n dweud ‘ie’ i ddyfodol tecach a mwy llewyrchus ac rydym ni wedi dweud ‘ie’ ers degawdau bellach fel cenedl.

Mae hanes gwleidyddol Cymru ers bron i 30 mlynedd yn un o ddweud 'ie': 'ie' i gael ein Senedd ein hunain ym 1997, 'ie' mawr i roi dannedd go iawn iddo yn 2011. 'Ie' gan ein bod ni wedi gweld y gallwn ni gyflawni cymaint mwy o gael yr arfau i wneud y gwaith. Cyn yr etholiad cyffredinol ddydd Iau, mae Plaid Cymru yn dweud 'ie' i gyllid canlyniadol HS2 a allai drawsnewid seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru. Rydym ni'n dweud 'ie' i ddatganoli plismona a chyfiawnder i roi system gyfiawnder fwy effeithiol i Gymru. Mae'n 'ie' gennym ni ar ddatganoli Ystad y Goron i wneud y gorau o'n hadnoddau naturiol. Mae'n 'ie' ar bob un o'r rhain, oherwydd mae gennym ni agwedd o allu gwneud, cred nad dyma'r gorau y gall pethau fod i Gymru. Ond er gwaethaf y ffaith, ar yr holl faterion hynny, bod hyd yn oed Aelodau Llafur yng Nghymru yn y Senedd hon yn cytuno â ni, pam mae Syr Keir Starmer mor benderfynol o ddweud 'na' wrth bob un ohonyn nhw a 'na' i Gymru yn 2024?

Rwy'n credu y bydd gennym ni berthynas sydd wedi'i thrawsnewid ar draws y DU os bydd Llywodraeth Lafur y DU, ag ymrwymiadau eglur i sicrhau nad yw Prif Weinidog y DU yn anwybyddu Prif Weinidogion ar draws y wlad, a chyngor o genhedloedd a rhanbarthau. Ac nid yn unig hynny; ceir y datganiad y byddwch chi'n ei glywed gan Ysgrifennydd yr economi Jeremy Miles yn ddiweddarach heddiw ar ddifrifoldeb eithriadol yr hyn a ddigwyddodd yr wythnos diwethaf, y pryder gwirioneddol iawn mewn cymunedau gwneud dur, nid yn unig ym Mhort Talbot. Yn flaenorol, ni fyddai Prif Weinidog y DU, Rishi Sunak, yn codi'r ffôn i siarad â Mark Drakeford. O fewn ychydig oriau, cafodd Jeremy Miles, Jo Stevens a minnau sgwrs gyda Keir Starmer a Jonathan Reynolds am yr hyn y byddem ni'n ei wneud i geisio symud pob un ohonom ni i sefyllfa well. Dyna bartneriaeth go iawn, a dyna ddigwyddodd. Ac rydym ni'n credu ei fod yn rhan o wneud gwahaniaeth, o geisio gweld gwahanol lefel o uchelgais i'r wlad a gwahanol bartneriaeth. Dyna'r hyn y gallem ni ei gael ar 4 Gorffennaf os bydd pobl yn pleidleisio'r ffordd iawn. Rwy'n credu mai dyna'r hyn y byddwn ni'n ei gael. Dyna'r hyn yr wyf i'n gweithio i'w gael.

Bydd hefyd yn gweld maniffesto i fwrw ymlaen â datganoli: tegwch o ran Barnett, adolygu a diweddaru'r fframwaith cyllidol yn iawn, gweld datganoli yn cael ei symud ymlaen gan ddychwelyd ein pwerau a'n harian o hen gronfeydd yr UE, a datganoli cyllid cymorth cyflogaeth. Ac, yn fy marn i, byddwn yn gwneud cynnydd ar ddatganoli cyfiawnder a phrawf ieuenctid. Mae'r holl bethau hynny ar y papur pleidleisio ar 4 Gorffennaf, ac rwy'n edrych ymlaen at weld beth mae pobl Cymru yn pleidleisio drosto. Os byddan nhw'n pleidleisio dros Lywodraeth Lafur y DU ar sail y maniffesto yr ydym ni wedi ei gyflwyno, byddwn yn bwrw ymlaen â hwnnw, ac rwy'n credu y gallwn ni ddychwelyd at y bobl a bod yn eglur am yr addewidion yr ydym ni wedi eu gwneud ac yr ydym ni wedi eu cadw, mewn cyferbyniad uniongyrchol â'r 14 mlynedd diwethaf o anhrefn Torïaidd. Nid yw'n anochel y byddwn ni'n ennill ddydd Iau. Os yw pobl eisiau newid, mae angen iddyn nhw bleidleisio drosto.

13:55

Yn wir, mae'r Prif Weinidog wedi siarad droeon am ei obeithion am berthynas fwy adeiladol rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU pe bai Llafur yn mynd i Downing Street ddydd Gwener. Rwy'n siŵr y byddai'r Prif Weinidog yn gwneud galwad gynnar i Syr Keir, Prif Weinidog y DU, i'w longyfarch, pe bai hynny'n digwydd. Ond mae Cymru'n disgwyl llawer mwy na geiriau gwresog o'r sgwrs honno. Bydd gan y Prif Weinidog y moethusrwydd o beidio â gorfod mynd drwy switsfwrdd Rhif 10. Rwy'n siŵr y bydd ganddo linell uniongyrchol. Rwy'n siŵr y gallai hyd yn oed anfon neges destun ato, er y byddwn yn argymell ei fod yn cadw cofnod ohoni. Ond a all y Prif Weinidog gadarnhau'r hyn y gallai Cymru obeithio amdano o'r sgwrs gychwynnol honno? Ar ôl ymgyrch etholiad cyffredinol lle mae Llafur y DU wedi dweud 'na' i gyllid canlyniadol HS2, 'na' i gyllid teg, 'na' i gael gwared ar y cap budd-daliadau dau blentyn, 'na' i ddatganoli cyfiawnder a phlismona, fel y mae hyd yn oed Llafur yng Nghymru wedi cytuno â ni yn ei gylch, a yw'r Prif Weinidog yn hyderus y gall berswadio Prif Weinidog Llafur yn y DU i newid ei feddwl ar unrhyw un o'r materion hyn, neu a fydd Syr Keir, fel ei ragflaenydd Torïaidd, yn rhoi'r ffôn i lawr ar obeithion Cymru?

Unwaith eto, nid yw canlyniad yr etholiad gennym ni eto, ond mae Rhun ap Iorwerth eisoes yn siomedig am Lywodraeth nad yw wedi cael yr un diwrnod mewn grym. Mae angen i ni ennill yr etholiad yn gyntaf. Gallaf ddweud wrtho yn sicr nad ydym yn hunanfodlon ynghylch y canlyniad. Dyna pam rydym ni wedi bod yn mynd allan ac yn gweithio gyda phobl Cymru, yn gwrando arnyn nhw ac yn siarad â nhw ers misoedd ar fisoedd. Dyna pam mae'r ymgyrch hon mor bwysig iawn i ni. Oherwydd rwy'n cofio'r Llywodraeth Lafur ddiwethaf. Ar ddechrau honno, roeddwn i'n ŵr gwirioneddol ifanc yn 1997. Rwy'n cofio pa mor wael oedd y wlad bryd hynny a'r golled o obaith a oedd wedi digwydd. Rwy'n cofio'r ffaith bod y Llywodraeth honno wedi arwain at godi cannoedd o filoedd o blant allan o dlodi. Rwyf i wedi bod yn rhan o Lywodraeth yma yn ystod yr 11 mlynedd diwethaf sydd wedi gwneud ein gorau glas i geisio tynnu'r gwres allan o'r hyn y mae'r Torïaid wedi ei wneud i ni. Ac eto rydym ni'n gwybod bod mwy o blant yn byw mewn tlodi nawr, oherwydd dewisiadau uniongyrchol a wnaed yn Downing Street. Mae'n dangos bod y dewisiadau yn yr etholiadau hyn yn bwysig.

Rwy'n falch bod ymgeiswyr Llafur Cymru yn sefyll ar sail maniffesto sydd eisiau gweithredu ar dlodi plant ac adolygu ein system fudd-daliadau i wneud yn siŵr bod gwaith yn talu, i wneud yn siŵr bod pobl yn cael eu cynorthwyo, i wella'r buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud yn y blynyddoedd cynharaf, i gynorthwyo pobl mewn gwaith, i ddweud 'ie' i fwrw ymlaen â datganoli, i ddweud 'ie' i sefydlogrwydd economaidd, i ddweud 'ie' i unioni rhai o anghyfiawnderau ein gorffennol, boed yn gomisiynydd Windrush, boed y camau yr ydym ni'n mynd i'w cymryd ar gyfiawnder yng ngwarged cronfa bensiwn y glowyr, boed y gwir am Orgreave. Mae'r holl bethau hynny ar y papur pleidleisio—gweledigaeth gadarnhaol a phartneriaeth gadarnhaol. Edrychaf ymlaen at berthynas adeiladol gyda Phrif Weinidog Llafur y DU os mai dyna sut mae'r wlad yn pleidleisio. Ni fyddaf yn cymryd hynny'n ganiataol. Fodd bynnag, os gwnawn ni hynny, rwy'n disgwyl cael Llywodraeth Lafur y DU sy'n cyflawni ein hymrwymiadau maniffesto, sy'n cadw ein haddewidion, ac edrychaf ymlaen at weld sut mae pobl yng Nghymru yn dewis pleidleisio.

Y diffyg addewidion i Gymru sydd mor amlwg yn yr etholiad hwn, os caf i ddweud. Rydym ni'n gwybod y byddai'r methiant i gyflawni o ran unrhyw un o'r materion hynny y soniais amdanyn nhw a anwybyddwyd gan y Prif Weinidog, heb sôn am anwybyddu pob un ohonyn nhw, yn gyfystyr â bradychu buddiannau Cymru. Ni allwn ganiatáu i Lafur mewn Llywodraeth gymryd Cymru yn ganiataol.

O agwedd ddirmygus, a bod yn onest, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yr wrthblaid, Jo Stevens, i'r cynllwyn o dawelwch ar y biliynau ychwanegol o doriadau i ddod a fydd yn effeithio ar Lywodraeth Cymru yma, gadewch i ni fod yn onest, ar faterion mwy o bwerau a chyllid teg, nid yw Llafur yn cynnig unrhyw newid gwirioneddol i'r Torïaid. Rydym ni i gyd yn edrych ymlaen at daflu'r Ceidwadwyr allan o rym, ac mae Plaid Cymru ar flaen y gad i wneud hynny, o Ynys Môn i Gaerfyrddin, ond gwaith Plaid Cymru yn unig fu gwneud y ddadl dros Gymru, pa un a yw'n gael gwared ar y cap dau blentyn i godi plant allan o dlodi neu drawsnewid ein rhwydwaith trafnidiaeth gydag arian HS2, yn yr etholiad hwn. Rydym ni eisiau'r gorau i Gymru, heb os nac oni bai.

Rhodri Morgan a ddywedodd unwaith fod perthynas y Torïaid â Chymru yn seiliedig ar ymddiriedaeth a dealltwriaeth: dydyn ni ddim yn ymddiried ynddyn nhw a dydyn nhw ddim yn ein deall ni. Wel, rwy'n ofni bod Syr Keir hefyd wedi dangos diffyg dealltwriaeth amlwg. Byddaf i ac ASau Plaid Cymru yn ei wrthwynebu ac yn ei ddwyn i gyfrif; pam mae Jo Stevens a'r Prif Weinidog mor benderfynol o beidio â gwneud hynny?

14:00

Wel, rwy'n dychwelyd eto at y ffaith bod gan bobl yn yr etholiad hwn ddewis ynglŷn â'r hyn i'w wneud: ar ôl 14 mlynedd o'r Torïaid, ai mwy o'r un peth ydyw, neu ai newid ydyw? Rwy'n falch o ddweud bod fy mhlaid i yn cynrychioli newid ledled y DU. Mae hynny'n golygu bod angen i ni ofyn i bobl bleidleisio dros y newid hwnnw; mae hynny'n golygu peidio ag anfon llais gwan o brotest o Gymru, ond anfon llywodraeth i Gymru, i anfon hyrwyddwyr Llafur Cymru a fydd yn sefyll dros eu cymunedau a'n gwlad o ran bod eisiau newid ein gwlad er gwell. Dyna sydd ar y papur pleidleisio. Ac os edrychwch chi ar gymryd pethau'n ganiataol, nid ydym ni'n cymryd dim yn ganiataol yn yr etholiad hwn, dim byd yn ganiataol yn ein perthynas â'r etholwyr. Mae gennym ni faniffesto sydd â'r nod o ddarparu mwy o bwerau i Gymru, mwy o gyllid i Gymru a phartneriaeth well, un o barch, wedi'i hadeiladu ar barch at ddatganoli a'r gwahanol genhedloedd sy'n rhan o'r DU. Dyna sydd ar gynnig ar 4 Gorffennaf, ac rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae pobl Cymru yn pleidleisio. Ac os ydyn nhw'n dewis rhoi eu hymddiriedaeth yn ein plaid ni eto, rwy'n gobeithio y bydd gan yr Aelod yr ewyllys da i gydnabod y dyfarniad hwnnw, ac i weithio mewn gwirionedd gyda phobl eraill sydd eisiau gweld cynnydd i Gymru. Rwy'n falch o arwain Llywodraeth a fydd yn parhau i sefyll dros Gymru, a pheidio â bod ofn cael y sgyrsiau y mae angen i ni eu cael, ac yn yr un modd peidio ag ofni bod yn eiriolwyr balch dros y bartneriaeth yr wyf i'n credu y gallem ni ei chael, gyda dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio dros Gymru a Phrydain; nid llais o brotest ond llais o lywodraeth a newid. Dyna sydd ar y papur pleidleisio ar 4 Gorffennaf.

Gweithwyr Rhyngwladol yn y GIG a Gofal Cymdeithasol

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfraniad pobl o'r tu allan i Brydain Fawr sy'n gweithio yn y GIG a'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru? OQ61358

Gwnaf. Rwy'n falch iawn o gydnabod ein bod ni'n gwerthfawrogi'n fawr cyfraniad ein gweithlu rhyngwladol yng Nghymru heddiw, ond hefyd o'r union hanes, o ddechrau ein gwasanaeth iechyd gwladol, sy'n dathlu pen-blwydd arall eto ar 5 Gorffennaf, ac rwy'n gobeithio y bydd yn cael anrheg pen-blwydd cynnar gyda newid i'r Llywodraeth ar lefel y DU. Mae'n rhaid i'r gwaith hanfodol y mae ein gweithlu yn ei wneud ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, tra'n cydnabod unrhyw recriwtio o dramor, fod yn foesegol a pheidio â bod yn niweidiol i wasanaethau yn y gwledydd yr ydym ni'n recriwtio ohonyn nhw.

Diolch. Ymwelais â dau gartref gofal yn Nwyrain Abertawe yr wythnos diwethaf, lle cwrddais â gofalwyr o Guyana a Trinidad a Tobago. Rwyf hefyd wedi ymweld ag ysgolion ac wedi cyfarfod â phlant gweithwyr iechyd yn Ysbyty Treforys. Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd gweithwyr tramor i iechyd a gofal cymdeithasol. Ar adeg gadael yr UE, roedd gennym ni nifer fawr o ddeintyddion o dde a dwyrain Ewrop yma, ond fe wnaethon nhw adael. Er fy mod i'n croesawu'r gwaith sy'n cael ei wneud i hyfforddi mwy o ddeintyddion, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i gynyddu nifer deintyddion yr UE sy'n ymarfer yn y GIG yng Nghymru yn ôl i'r nifer a oedd gennym ni cyn i ni bleidleisio i adael?

Wel, nid wyf i'n siŵr, yn gyfan gwbl, o'r holl rifau ar ddeintyddion Ewropeaidd sy'n parhau i weithio yn GIG Cymru. Y newyddion cadarnhaol ym maes deintyddiaeth, fodd bynnag, yw ein bod ni'n dal i gydnabod yr un cymwysterau. Ceir rhannau eraill o'n system iechyd a gofal lle nad yw hynny'n wir ac mae'n gwneud recriwtio yn llawer anoddach.

Rwy'n gresynu'r ffaith bod rhai pobl wedi gadael ar ôl 2016, ac rwy'n cydnabod mai un o'r pethau y gallwn ni ei wneud i annog pobl i aros neu ddod i weithio yng Nghymru yw'r ffordd yr ydym ni'n siarad am weddill y byd, natur ein perthnasoedd. Ni allwn ddweud wrth bobl ein bod ni'n difaru'r ffaith bod yn rhaid i ni siarad â'u gwlad a gweithio gyda nhw ac yna disgwyl i bobl o'r gwledydd hynny ddod i weithio a theimlo eu bod yn cael eu croesawu a'u cynnwys yn ein gwlad a'n cymdeithas. Felly, mae'r newid i dôn ein sgyrsiau gyda gweddill y byd wir yn bwysig, yn ogystal, wrth gwrs, â'r manylion uniongyrchol ar sut y gall pobl ddod i mewn i'r wlad i weithio mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys deintyddiaeth. Mae hynny'n mynd law yn llaw â'n cynlluniau i gynyddu ein gallu i hyfforddi pobl o Gymru. Ac os meddyliwch chi am yr hyn yr ydym ni eisoes wedi ei wneud a'r datganiad yr wythnos diwethaf gan yr Ysgrifennydd iechyd ynglŷn â'r buddsoddiad ychwanegol yr ydym ni'n ei wneud mewn gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, y buddsoddiad ychwanegol y byddwn ni'n ei wneud yn nyfodol meddygon yma yng Nghymru pan fyddwn ni'n agor ysgol feddygol newydd sbon ym Mangor yr hydref hwn—sydd i gyd yn bethau yr ydym ni'n eu gwneud, i gyd o gyllidebau y mae Aelodau Llafur Cymru wedi pleidleisio drostyn nhw. Ac os oes gennym ni wahanol berthynas yn y DU gyfan, rwy'n credu y byddwn ni mewn sefyllfa well o lawer i recriwtio a chadw pobl o bob cwr o'r byd mewn ffordd deg a moesegol, yn union fel y mae'r Aelod yn ei awgrymu.

I ddod at y mater moesegol, Prif Weinidog, fel rhywun a anwyd y tu allan i Brydain Fawr, a dreuliodd ei yrfa yn gweithio yn y GIG, gallaf dystio'n bersonol i'r cyfraniadau y mae meddygon, nyrsys, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gofalwyr tramor yn eu gwneud at ein system iechyd a gofal. Ond rwyf i hefyd yn ymwybodol iawn o anfanteision ein dibyniaeth ar weithwyr tramor, sef ein bod ni'n amddifadu eu gwlad wreiddiol o'u doniau. Fel meddyg o Kashmir, un o'r pethau rwy'n eu hedifarhau fwyaf yw'r ffaith bod gofal iechyd yn fy ngwlad enedigol wedi parhau i ddirywio, heb fod yn agos at ddigon o feddygon. Mae'r un peth ar draws is-gyfandir India, Ynysoedd Philippines a rhannau helaeth o Affrica. Mae eu goreuon a'u mwyaf disglair yn dod yma i gael gwell cyflogau ac amodau gwaith, tra bod gofal iechyd gartref yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i staff. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno bod ein dibyniaeth ar staff tramor yn gwneud anghymwynas â llawer o genhedloedd tlotach? A wnewch chi amlinellu'r camau pendant yr ydych chi'n eu cymryd i hyfforddi a chadw dinasyddion Prydain fel meddygon a nyrsys?

14:05

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Hoffwn gydnabod nad wyf i'n croesawu ei safbwyntiau ar wleidyddiaeth—rydym ni'n anghytuno ac rydym ni mewn gwahanol bleidiau—ond rwy'n cydnabod ac yn croesawu ei gyfraniad at wasanaeth cyhoeddus yn ein gwasanaeth iechyd. Mae'n rhan o lwyddiant ein GIG. Os bydd unrhyw un yn mynd i theatr lawdriniaeth mewn unrhyw ysbyty GIG yng Nghymru neu ledled y DU, byddan nhw'n gweld yr hanes o lwyddiant rhyngwladol hwnnw o'u blaenau. Mae'n rhan o sut y cafodd ein gwasanaeth iechyd ei greu a sut mae'n cael ei gynnal. Hefyd, wrth gwrs, rydym ni'n parhau i fuddsoddi hyd yn oed mwy mewn hyfforddi nifer fwyaf erioed o staff yma yng Nghymru. Os edrychwch chi ar niferoedd nyrsio, niferoedd bydwreigiaeth, ffisiotherapyddion—amrywiaeth eang o feysydd lle'r ydym ni wedi cynyddu ein buddsoddiad mewn hyfforddiant yn fwriadol, a nodwyd hynny gan yr Ysgrifennydd iechyd yr wythnos diwethaf—. Mae hynny'n ogystal a'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yn yr ysgol feddygol newydd a fydd yn agor ym Mangor, ac yn ogystal â'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud yn llwyddiannus yn ystod y pum i chwe blynedd diwethaf wrth gynyddu nifer yr ymarferwyr cyffredinol dan hyfforddiant yn gynaliadwy hefyd. 

Yn ogystal â hynny, rydym ni'n recriwtio pobl o rannau eraill o'r byd, ac rydym ni'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n gynaliadwy ac yn foesegol. Enghraifft dda o hynny yw yn Kerala, talaith yn India lle maen nhw'n gorhyfforddi ac yn gorgyflenwi gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol yn fwriadol. Mae gennym ni gytundeb i recriwtio 250 o nyrsys a meddygon o Kerala gan fod gennym ni bartneriaeth foesegol â nhw, ac mae hwn yn ddewis bwriadol lle mae pobl eisiau gweithio mewn rhannau eraill o'r byd, lle mae ganddyn nhw gysylltiadau teuluol o hyd i fynd yn ôl, ac rydym ni'n falch o'r ddeuoliaeth yn hynny. Rwy'n rhywun a anwyd mewn gwahanol wlad hefyd. Rwyf i yma ac rwy'n sicr yn gallu dathlu treftadaeth fy mam—man fy ngeni—a man geni fy nhad yn Aberogwr. Dyna pwy wyf i a rhan o stori ein gwlad, a llwyddiant ein gwlad, wrth symud ymlaen. Felly, byddwn yn parhau i hyfforddi a recriwtio yng Nghymru a'r DU. Byddwn hefyd yn parhau i recriwtio'n foesegol o rannau eraill o'r byd, ac mae cytundeb Kerala a lofnododd yr Ysgrifennydd iechyd gyda Phrif Weinidog Kerala yn enghraifft dda o hynny.

Mae Mike Hedges yn berffaith iawn i bwyntio allan bwysigrwydd gweithwyr o dramor yn y sector gofal. Ddaru Mike gyfeirio at bobl o Guyana a Thrinidad, er enghraifft; dwi'n ymwybodol o nifer o Nigeria sydd yn gweithio yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd ac yn gwerthfawrogi'r gwaith y maen nhw'n ei wneud. Ond, wrth gwrs, ddaru'r Llywodraeth Geidwadol bresennol ddod mewn â ban ar fisas i bartneriaid a theuluoedd nifer o'r gweithlu yma sydd yn dod i'r sector gofal, sydd, yn ei dro, yn achosi trafferth, nid yn unig yn y sector gofal ond hefyd yn y sector iechyd. Rŵan, yn ddiweddar iawn—tua mis yn ôl, dwi'n meddwl—ddaru Wes Streeting o'r Blaid Lafur, sydd yn mynd i fod yn Weinidog iechyd yn San Steffan, ddweud nad oedd gan Lafur unrhyw fwriad i sgrapio'r cynllun yna o roi ban ar fisas i deuluoedd gweithwyr sector gofal. Ydy Wes Streeting yn iawn i ddweud hynny? Ydych chi'n cytuno efo fo?

Rwy'n credu bod angen i ni edrych ar sut rydym ni'n recriwtio pobl yn gynaliadwy o rannau eraill o'r byd, a beth mae hynny'n ei olygu iddyn nhw gael eu recriwtio yma. Mae gennym ni broblem ehangach hefyd, mewn gwirionedd, am gael sgwrs resymol ynghylch mewnfudo, nad yw wedi digwydd yn ystod y 14 mlynedd diwethaf. Rwy'n credu bod angen i ni edrych ar y darlun cyfan wrth wneud hynny'n llwyddiannus ac yn gynaliadwy. Mae angen i ni hefyd gydbwyso ein gallu nid yn unig i recriwtio o rannau eraill o'r byd ar gyfer y sector gofal yn benodol—. Os caf i, Llywydd, mae'n werth nodi nad yw'r sector gofal yno i helpu'r GIG yn unig—mae'n rhan hanfodol o sut mae llif yn digwydd yn ein GIG a chael pobl allan o wely GIG pan nad oes angen iddyn nhw fod yno, ond mae hefyd yn lle o werth gwirioneddol ynddo'i hun ac iddo'i hun; rwy'n gwybod hynny yn fy nheulu fy hun, a bydd Aelodau eraill yma yn gwybod hynny hefyd.

Felly, yr hyn y mae angen i ni ei wneud hefyd, ochr yn ochr â recriwtio pobl o rannau eraill o'r byd, yw codi dyheadau a'r ddelwedd o bobl yn y sector gofal. Mae'n cael ei weld yn rhy aml fel gwaith nad yw'n cyfrif am yr un gwerth ag eraill, ac ni ddylai fod yn wir. Dyna pam rwy'n falch iawn, yn y maniffesto sy'n mynd gerbron pobl ar 4 Gorffennaf, bod ymrwymiad i edrych ar ofal cymdeithasol, i edrych ar sut rydym ni'n ei ariannu'n iawn, ac fel y maes cyntaf yn y fargen newydd i bobl sy'n gweithio gael cytundeb cyflog teg, gofal cymdeithasol sy'n cael ei dargedu. Byddai cael cyflog priodol o fewn y sector gofal cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn i bobl fynd i mewn iddo, yn ogystal â'r cymwysterau ochr yn ochr ag ef, ac mae hynny'n rhan o'r ddadl resymegol ynghylch y dyfodol i sicrhau bod gennym ni'r bobl sydd eu hangen arnom ni ym mhob agwedd—y bobl sydd eu hangen arnom ni—boed hynny'n recriwtio rhyngwladol, neu, yn wir, sut rydym ni'n hyfforddi ac yn cynnal gweithlu yma i ni'n hunain.

14:10

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd wedi gweld yma heddiw y cyfraniad uniongyrchol y mae pobl a anwyd y tu allan i'r DU yn ei wneud at ofal cymdeithasol a gofal iechyd yma yng Nghymru. Fel y nododd Mike Hedges, dros y blynyddoedd diwethaf, gwelais ostyngiad yn nifer y gweithwyr mewn cartrefi gofal o ddwyrain Ewrop a chynnydd i nifer y gweithwyr o is-gyfandir India—o India a Bangladesh, yn benodol. A byddaf yn fythol ddiolchgar am y gofal y maen nhw wedi ei roi, yn aml, fel y dywedodd Mabon, gan adael aelodau eu teuluoedd eu hunain, eu hanwyliaid, ar ôl. Rwy'n cofio siarad ag un unigolyn a oedd yn ei dagrau—unigolyn o Bangladesh—na allai fynd i angladd ei mam gan ei bod yn gweithio mewn cartref gofal yma ym Mae Caerdydd. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud yn eich ateb cyntaf, mae angen newid tôn yn y sgwrs, a byddwch yn fwy nag ymwybodol bod sylwadau a ddywedwyd yr wythnos diwethaf gan arweinydd y Blaid Lafur yn greulon iawn i aelodau'r gymuned Bangladeshaidd—y mae rhan fawr ohoni'n byw yn eich etholaeth chi. A wnaiff y Prif Weinidog fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud bod y gymuned Bangladeshaidd yng Nghaerdydd a ledled Cymru yn cael ei gwerthfawrogi, ac i ddiolch iddyn nhw am eu cyfraniad anhygoel at Gymru, at ein cenedl? Diolch yn fawr.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig myfyrio, yn dilyn y sesiwn cwestiwn ac ateb ar lwyfan a gynhaliwyd, bod arweinydd y Blaid Lafur wedi myfyrio'n gyflym ar rywfaint o'r geiriad a ddefnyddiwyd mewn ymatebion, gan gydnabod ei fod wedi cam-siarad ar un adeg, ac ail-bwysleisio’r berthynas hirsefydlog sydd gennym ni gyda Bangladesh a'i phobl, o ran amrywiaeth eang o feysydd gweithgarwch, nid yn unig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ond yn yr economi hefyd.

Rwy'n falch iawn o gynrychioli trigolion Caerdydd a Phenarth sy'n dod o Bangladesh yn y Senedd hon. Rwy'n falch iawn o'r hyn y maen nhw wedi ei gyfrannu at hanes Cymru. Ac os meddyliwch chi am beth yw Cymru heddiw, ceir sawl rhan o Gymru na fyddai'n Gymru heb y stori ryngwladol honno, o fwyd i gelf i ddiwylliant, a sut rydym ni'n gweld ein hunain a'n lle yn y byd. Rwy'n awyddus iawn bod Cymru'n parhau i fod yn bartner rhyngwladol cadarnhaol sy'n edrych tuag allan. Rydym ni wedi gwneud llawer mwy o hynny yn ystod y degawd diwethaf, ac rwy'n falch iawn o'r ffaith ein bod ni wedi gwneud hynny. Rwy'n gobeithio y gall Prydain hefyd fod yn aelod llawer gwell o deulu'r cenhedloedd yn y dyfodol, gan sefyll dros ein buddiannau, ond gan fod yn bartner gwirioneddol sydd eisiau cyfeillgarwch a phartneriaeth gyda gweddill y byd, yn hytrach na gwrthdaro ac arallgyfeirio ein heriau ein hunain yma. Rwy'n credu y gallem ni weld hynny ar ôl 4 Gorffennaf.

Gwasanaethau Bysiau

4. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gwasanaethau bysiau? OQ61397

Diolch am y cwestiwn. Yn ogystal â buddsoddi dros £115 miliwn i ddiogelu gwasanaethau bysiau yn ystod y flwyddyn ariannol hon, rydym ni'n gweithio mewn partneriaeth agos ag awdurdodau lleol, ac yn parhau i weithio'n gyflym i gyflwyno deddfwriaeth newydd i drawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau bysiau eu darparu ar draws Cymru gyfan.

Diolch am yr ateb.

Roeddwn i'n falch iawn o ddarganfod yn ddiweddar bod y llwybr bws 86, sy'n teithio drwy'r Mynydd Bychan, Llys-faen, Thornhill a Llanisien yn fy etholaeth i, ac sydd hefyd yn teithio drwy etholaeth Caerffili fy nghymydog Hefin David, wedi cael ei achub, diolch i gais llwyddiannus i grant rhwydwaith bysiau Llywodraeth Cymru. Roedd y gwasanaeth hwn yn bwysig iawn i aelodau fy etholaeth, yn enwedig pobl sy'n hŷn ac yn agored i niwed. Bu lobi enfawr i'r holl Aelodau etholedig yng Ngogledd Caerdydd, a gwn fod fy nghyd-Aelod Hefin David wedi cynnal cymhorthfa lle codwyd hyn yn gryf iawn gydag ef, felly mae'n wych ei fod wedi cael ei achub. Bydd yr arian gan Lywodraeth Cymru yn cadw'r gwasanaeth yn rhedeg tan fis Mawrth y flwyddyn nesaf, ac rwy'n mawr obeithio y bydd yn parhau ar ôl hynny. Felly, a fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno bod hon yn enghraifft dda o Lywodraeth Cymru yn cefnogi trafnidiaeth gyhoeddus hanfodol yng Nghymru, a beth arall ellir ei wneud i wella a lledaenu'r gwasanaethau bysiau?

Diolch. Mae'n braf iawn clywed stori a phartneriaeth wirioneddol lwyddiannus rhwng Julie Morgan ac un o'i chymdogion etholaethol, Hefin David, ac, wrth gwrs, disgwylir i'r gwasanaeth 86 ailgychwyn o Lys-faen, y Mynydd Bychan a Thornhill ddechrau mis Medi. Newyddion da. Mae'r grant rhwydwaith bysiau gwerth £39 miliwn wedi bod yn rhan o sut y cynorthwywyd hynny, eto gyda gwaith gyda'r awdurdod lleol. Mae'n enghraifft dda o'r hyn y gallwn ni ei wneud o fewn ein pwerau presennol nawr. Ac wrth gwrs mae hefyd yn enghraifft o wasanaeth a fydd yn mynd i gyfnewidfa fysiau Caerdydd sydd wedi agor nesaf at orsaf reilffordd Caerdydd Canolog. Mae stori dda i'w hadrodd yma am sut mae'r buddsoddiad bwriadol hwnnw yn dod â thrafnidiaeth rhyng-gysylltiedig at ei gilydd.

Yn fwy na hynny, fodd bynnag, mae hyn yn ymwneud â sut rydym yn diwygio ac adolygu'r rheoliadau sydd gennym ni ar hyn o bryd. Dyna pam mae'r Bil bysiau yn mynd i fod mor bwysig, i wneud yn siŵr bod ffordd lawer mwy rhesymegol o wario arian i gefnogi'r diwydiant bysiau, i wneud yn siŵr ei fod yn ddewis go iawn i bobl mewn gwahanol gymunedau ledled y wlad, yn union fel y mae yn yr enghraifft hon a roddwyd i ni gan yr Aelod o Ogledd Caerdydd. Rwy'n credu y gall pob Aelod fod yn falch o'r hyn yr ydym ni'n mynd i ddewis ei wneud wrth gyflwyno'r Bil hwnnw. Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn craffu arno ac yna'n ei gefnogi yn y pen draw, ac yna bydd y buddsoddiad y byddwn ni'n parhau i'w wneud mewn ffordd resymegol o gydgysylltu trafnidiaeth gyhoeddus a gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael gwell gwerth am yr arian cyhoeddus yr ydym ni'n ei fuddsoddi, a gwell gwasanaeth i'r bobl yr ydym ni yma i'w cynrychioli.

14:15
Ysbyty Glan Clwyd

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad Ysbyty Glan Clwyd? OQ61373

Diolch. Nid yw'r perfformiad presennol yn Ysbyty Glan Clwyd, mewn nifer o feysydd, yr hyn yr ydw i, y cyhoedd na'r staff yn disgwyl iddo fod. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i ysgogi gwelliant cynaliadwy sy'n galluogi cleifion i fanteisio ar wasanaethau iechyd a gofal diogel ac amserol, ac rydyn ni wedi gosod disgwyliadau clir ar gyfer gwella.

Prif Weinidog, byddwch chi'n ymwybodol bod gan Ysbyty Glan Clwyd un o'r adrannau brys sy'n perfformio waethaf yn y Deyrnas Unedig, yn anffodus, gydag un o bob pedwar ar hyn o bryd yn aros mwy na 12 awr yn yr adran damweiniau ac achosion brys. Yn ddiweddar, mae etholwyr wedi cysylltu â mi y mae aelod o'u teulu wedi treulio hyd at 48 awr a hyd yn oed 72 awr yn aros am wely yn yr ysbyty. Mae'r mathau hyn o amserau'n gwbl annerbyniol, ac mae'n ymddangos yn amlwg iawn i mi, ni waeth pa mor galed y mae'r staff yn y gwaith ysbyty hwnnw'n gweithio nid yw Glan Clwyd yn gallu ymdopi ag anghenion y boblogaeth leol.

Felly, rwy'n mynd i ofyn i chi eto, Prif Weinidog: ble mae'r ysbyty newydd yn Y Rhyl? Addawyd un i ni dros 11 mlynedd yn ôl. Cafodd ei gynllunio i leddfu rhai o'r problemau hyn yn ein hadran frys ac yng Nglan Clwyd. Rydych chi wedi bod yn adeiladu ysbytai newydd yn y de, ac eto ni yn y gogledd yw'r bwrdd iechyd sydd â'r broblem fwyaf o ran ein hadran achosion brys. Mae angen ein cyfran deg o fuddsoddiad arnom ni yn y gogledd er mwyn lleihau'r materion hyn ac ymdrin â nhw. Peidiwch â dweud wrthym ni nad oes gennych chi'r arian. Mae gennych chi arian i losgi ar fwy o wleidyddion, mwy o newidiadau i derfynau cyflymder, ac rydych chi wedi anfon £155 miliwn yn ôl i'r Trysorlys yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, a allwn ni, am unwaith, gael ateb clir gennych chi ar yr amserlen ar gyfer darparu'r darn pwysig hwn o seilwaith yn y gogledd yn nhref y Rhyl?

Mae yna gwpl o bethau i ymateb iddyn nhw. Y cyntaf, fel y mae'r Aelod yn ei wybod, yw bod y buddsoddiad ar gyfer yr Alex wedi'i flaenoriaethu. Mae'n bartneriaeth gydag nid yn unig y bwrdd iechyd, ond gydag eraill hefyd, a ffynonellau cyllid gwahanol. Mae angen i'r achos busnes diwygiedig ddod yn ôl atom ni er mwyn i ni ei gymeradwyo.

Mae'n wir hefyd, a gadewch i ni wneud y pwynt hwn yn glir, y rheswm nad oedd yn bosibl i ni wario'r holl arian a gawsom yn ystod y pandemig oedd oherwydd bod Prif Ysgrifennydd Ceidwadol y Trysorlys, ar adeg o argyfwng eithriadol wrth ymdrin â'r pandemig, wedi dewis cymryd arian yn ôl mewn ffordd a oedd yn eithaf rhyfeddol. Ac roedd oherwydd yr hyn nad oedd adrannau Llywodraeth y DU yn gallu'i wneud ar y pryd. Oherwydd ein bod ni wedi bod yn ddoeth gyda'r ffordd yr oeddem ni wedi rheoli ein harian ni, roedd yn golygu na allen ni drosglwyddo arian mewn ffordd a oedd yn gwbl arferol i adrannau Llywodraeth y DU. Os yw'n ddig am hyn, dylai herio Steve Barclay am y dewisiadau a wnaeth fel Prif Ysgrifennydd y Trysorlys. Mae'n enghraifft arall lle y bydd tegwch yn y ffordd y mae arian yn gweithredu ledled y DU yn golygu cytundeb llawer gwell i ni yma yng Nghymru.

A'r pwynt olaf, dim ond i fynd yn ôl i'r sgwrs yr ydyn ni'n ei chael am ofal cymdeithasol, mae gofal cymdeithasol yn broffesiwn o ddewis i nifer o bobl. Mae angen mwy o bobl arnom ni sydd eisiau gweithio yn y sector hwnnw er ei fwyn ei hun. Mae yna berthynas â'r gwasanaeth iechyd, a rhan o'r rheswm bod Ysbyty Glan Clwyd yn wynebu cymaint o her yn ei berfformiad drws ffrynt ar gyfer derbyniadau brys yw nid yn unig y gwaith da iawn sy'n cymryd—. Mae'r amser brysbennu cyfartalog yng Nglan Clwyd mewn gwirionedd yn 20 munud, felly rydych chi'n cael eich gweld a'ch brysbennu yn eithaf cyflym. Yr her yw, i bobl nad oes ganddyn nhw angen brys, mae angen iddyn nhw aros am amser hir; y rheswm pennaf am hynny yw bod gormod o lawer o bobl mewn gwely'r GIG pan nad dyma'r lle cywir ar gyfer eu gofal bellach. Mae hynny'n peri risg y bydd cyflwr y person sydd mewn gwely GIG yn dirywio. Mae potensial hefyd ar gyfer heintiau a ddelir wrth gael gofal iechyd, ac mewn gwirionedd, mae angen iddyn nhw fod mewn rhan wahanol o'n system iechyd a gofal ar gyfer eu gofal, triniaeth a chymorth sydd bron bob amser yn barhaus. Os gallwn ni ddatgloi hynny gyda phartneriaid ar draws gofal cymdeithasol, bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobl yn y lle anghywir ar gyfer eu gofal, mewn gwely ysbyty pan na ddylen nhw fod yno, yn ogystal â'r bobl hynny wrth ddrws ffrynt ysbyty ac, yn bwysicach byth pobl yn y gymuned na allwn ni eu cyrraedd oherwydd nad oes gennym ni ddigon o lif yn mynd trwy ein hysbytai. Mae'n rhan o'r hyn sydd ei angen arnom, mae'n rhan o'r hyn y mae buddsoddi a diwygio ar gyfer y dyfodol yn ei olygu. Dyna pam rwy'n falch iawn ein bod ni'n sefyll ar faniffesto nid yn unig i roi mwy o arian i'r gwasanaeth iechyd, ond i barhau ar y daith ddiddiwedd o ddiwygio a gwella ar draws ein system iechyd a gofal.

14:20
Trwyddedu Arfau Tanio

6. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch trwyddedu arfau tanio yng Nghymru? OQ61356

Er ein bod ni'n gweithio'n agos gyda'r heddlu ar faterion yn ymwneud â phlismona yng Nghymru, mae trwyddedu arfau tanio yn fater a gedwir yn ôl. Yr heddlu yw'r awdurdod trwyddedu ar gyfer arfau tanio ac maen nhw'n defnyddio gwybodaeth leol a chanllawiau'r Swyddfa Gartref i lywio eu dyfarniad.

Prif Weinidog, fel y gwyddoch chi, pan fydd pobl yn adnewyddu neu'n gwneud cais am drwydded newydd, mae bellach yn ofyniad cyfreithiol iddyn nhw gael cofnod iechyd meddwl gan eu meddyg teulu i gyflwyno'u cais; ar gyfer y cofnod, rwy'n ddeiliad trwydded. Yn Lloegr, mae cofnodion meddygon teulu a'r heddlu bellach yn gysylltiedig, felly, os bydd deiliad trwydded yn wynebu argyfwng iechyd meddwl neu ddiagnosis terfynol, er enghraifft, y tu allan i'r broses adnewyddu, caiff yr heddlu eu hysbysu'n awtomatig pan gaiff hyn ei ychwanegu at ffeil feddygol y trwyddedai, ac mae modd gwneud y gwiriadau bugeiliol perthnasol. Mae hyn yn rhan o weithgaredd parhaus gan yr heddlu i atal hunanladdiad a llofruddiaeth sy'n gysylltiedig â dryll.

Fodd bynnag, nid yw hyn yn wir yng Nghymru. Nid yw cofnodion meddygon teulu na'r heddlu wedi'u cysylltu, oherwydd cyfyngiadau system technoleg gwybodaeth GIG Cymru. Mae hyn nid yn unig yn golygu nad yw'r heddlu'n cael eu hysbysu os oes newid yn iechyd y trwyddedai, ond mae hefyd yn golygu na all y pedwar prif gwnstabl yng Nghymru gydymffurfio â'r canllawiau arfau tanio statudol. Felly, Prif Weinidog, pa ymrwymiad y gwnaiff Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd  heddluoedd yng Nghymru yn cael eu monitro'n briodol os bydd deiliad arf tanio neu ddryll yn dioddef o argyfwng iechyd neu feddyliol yn y cyfnod pum mlynedd rhwng adnewyddu'r drwydded, a pha ymrwymiad y byddwch chi'n ei wneud i uwchraddio systemau TG GIG Cymru i ganiatáu ar gyfer marcwyr meddygol? Diolch.

Edrychwch, rwy'n credu bod cwpl o wahanol bwyntiau yma. Mae un yn ymwneud â sicrhau bod gwybodaeth gofal iechyd priodol ar gael. Hefyd, os yw hynny'n golygu gwaith ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd, mae hynny'n cael ei gydnabod. Ac mae problem llif cyllid yno, oherwydd os yw staff gofal iechyd yn ymgymryd â hynny, dydyn nhw ddim yn gwneud rhywbeth arall, ond mae'n arwydd pwysig o sut y dylai trwyddedu weithio. Mewn gwirionedd, cyn yr etholiad, roedd Llywodraeth y DU yn edrych ar adfer y gost lawn ar gyfer trwyddedu, a gallai hyn fod yn rhan o hynny. Mae ymrwymiad maniffesto ym maniffesto Llafur y DU i fwrw ymlaen â hynny, ac rwy'n credu bod hynny'n gam cadarnhaol.

Mae'r ffordd yr ydych chi'n cysylltu systemau TG yn llawer mwy cymhleth na hynny. Mae gennyf i ddiddordeb o ran sut yr ydyn ni'n gwneud hyn yn ymarferol, ond os yw'n golygu bod angen buddsoddiad ychwanegol gan y GIG, bydd angen i ni ddeall sut mae hynny'n cael ei wneud a sut mae hynny'n cael ei flaenoriaethu hefyd. Mae yna, er hynny, eisoes—. Mae gwaith wedi'i wneud ar ffurflen pro forma syml iawn y mae heddluoedd ledled Cymru yn ei defnyddio i gael adroddiad iechyd meddwl gan wasanaethau iechyd lleol pan fo ceisiadau trwyddedu yn cael eu gwneud. Felly, mae yna waith sydd eisoes yn cael ei wneud yn ymarferol. Mae yna ddiwygiad deddfwriaethol yr hoffwn ei osod o amgylch y trwyddedu, ac, wrth gwrs, byddwn ni'n cadw diddordeb yn y ffordd yr ydyn ni'n cyflawni ein rhwymedigaethau ac, ar yr un pryd, nad yw costau'n cael eu symud yn fwriadol o un rhan o'r Llywodraeth i'r llall. Mae o fudd i bawb ohonom ni fod y system yn gweithio ac yn gweithio'n dda yn yr hyn sydd, yn sylfaenol, yn faes cyfrifoldeb a gedwir yn ôl.  

Gwasanaethau Bysiau

7. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau bysiau? OQ61394

Yn ystod y flwyddyn ariannol hon yn unig, rydyn ni'n falch o'r buddsoddiad o fwy na £115 miliwn yr ydyn ni wedi'i wneud i gefnogi gwasanaethau bysiau trwy gynlluniau fel tocynnau consesiynol a'r grant rhwydwaith bysiau.

Diolch, Prif Weinidog. Mae'r 86X y gwnaeth Julie Morgan sôn amdano hefyd yn cael ei ychwanegu ato gan y 26, a fydd nawr yn teithio i'r de-orllewin allan o fy etholaeth i etholaeth Mick Antoniw, gan gynnwys Ffynnon Taf a Nantgarw hefyd. Nawr, fe ddaeth hyn o gymhorthfa bysiau a gafodd ei chynnal gennym ar 1 Mawrth yn Neuadd y Gweithwyr Bedwas, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod fy swyddog cymorth cymunedol, Laura Green, yn allweddol yn sefydlu hyn, ac mae hi'n gwylio yn yr oriel heddiw. Ond yr hyn a ddigwyddodd oedd bod gennym ni nifer enfawr o drigolion yn mynychu'r gymhorthfa bysiau honno, i'r fath raddau fel bod ond lle i sefyll, ac fe wnaethon nhw ddweud wrthyn ni am y gwasanaethau hyn. Ac roedd yna bobl a oedd yn gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru a oedd eisiau i hynny gael ei adfer, a phobl oedd eisiau adfer y gwasanaeth i ganolfan ganser Felindre. Cyllid Llywodraeth Cymru sydd wedi galluogi hynny i ddigwydd drwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn rhyngweithio â Stagecoach. 

Rwy'n credu bod model rhyngweithio yn un y mae angen ei gynnwys a'i ystyried yn y ffordd y bydd y Bil bysiau'n gweithredu'n ymarferol. Mae'n rhaid i ni gael lleisiau cymunedol, lleisiau defnyddwyr bysiau a'r rhai a fyddai fel arall yn teithio mewn car, eu lleisiau nhw, wrth weithredu'r Bil bysiau. Felly, sut fydd y Prif Weinidog yn cyflawni hynny?

14:25

Wel, mae'r Aelod yn nodi rhan o'r hyn yr ydyn ni'n ceisio'i wneud gyda'r Bil bysiau y byddwn ni'n ei gyflwyno. Mae'n ffordd resymol o fuddsoddi yn nyfodol y gwasanaeth i gyflawni'r nodau y mae e'n eu nodi—pobl sy'n gweithio mewn gwahanol leoliadau, mae angen i bobl gael mynediad i'r lleoliadau, naill ai fel ymwelwyr neu fel cleifion neu fel arall—a sut i roi dewis gwirioneddol i bobl beidio gorfod mynd i mewn i'w car.

Mae yna hefyd, wrth gwrs, y pwynt bod gan lawer o'n hetholaethau gymunedau mawr lle nad yw perchnogaeth ar gar yn gyffredin. Mae gennyf i hyn yn fy etholaeth i fy hun hefyd yn nwyrain Caerdydd; mae perchnogaeth ar gar yn isel iawn fel cyfran. Felly, mae'n ymwneud a'i wneud yn ddewis gwirioneddol, ac, mewn gwirionedd, i wneud hynny, mae'n rhaid i ni edrych eto ar y ffordd nad ydyn ni'n rheoleiddio bysiau ar hyn o bryd—rydyn ni'n caniatáu i bobl gystadlu ar lwybrau proffidiol, nid ar lwybrau sy'n hyfyw'n gymdeithasol—i gael ffordd llawer gwell o fasnachfreinio a deall sut y gall bloc cyfan o deithio wneud y gwahaniaeth mwyaf posibl. Dyna'r gwaith yr wyf i'n falch iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth yn ei arwain, ac rwy'n edrych ymlaen at y craffu gan Aelodau, wrth i ni gyflwyno'r Bil hwnnw, i gyflawni'r nodau y mae'r Aelod yn eu nodi'n briodol. Rwy'n disgwyl y bydd e'n parhau i gael cymorthfeydd prysur ar y mater hwn hyd nes y bydd ein diwygiad yn cael ei gyflawni, ac yna gallwn ni gael fframwaith i fuddsoddi'n briodol ynddo ar gyfer y dyfodol. Rwy'n siŵr y bydd llawer o ddiddordeb yn yr hyn y gallen ni ei addo i bobl ym maniffestos y dyfodol.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i fusnes y Cyfarfod Llawn yr wythnos yma. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Economi, Ynni a'r Gymraeg yn gwneud datganiad ar Tata Steel yn syth ar ôl y datganiad busnes. Mae busnes drafft ar gyfer gweddill tymor yr haf ac wythnos gyntaf tymor yr hydref wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

Diolch, Llywydd, a diolch yn fawr, Trefnydd. A gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am y lluoedd arfog? Fe wnaethon ni i gyd nodi, wrth gwrs, Diwrnod y Lluoedd Arfog ledled y DU, dros y penwythnos, ac roedd gan lawer ohonon ni ddiddordeb brwd mewn gweithgareddau yn ein hetholaethau ein hunain. Rydyn ni wedi bod yn falch iawn, wrth gwrs, o weithio ar y cyd ar draws Siambr y Senedd yn ystod y blynyddoedd ar gefnogi ein cyn-filwyr a chefnogaeth i deuluoedd ein lluoedd arfog, ac un o'r mentrau yr ydyn ni wedi bod yn falch iawn o'i gweld yn blodeuo yng Nghymru yw rhaglen ysgolion cyfeillgar y lluoedd arfog. Ond yn ddiweddar fe wnaeth y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid ymweld â Chanolfan Battle Back y Lleng Brydeinig Frenhinol yn Lilleshall, a chlywson ni yno'n uniongyrchol pa mor bwysig yw hi fod clybiau chwaraeon hefyd yn gyfeillgar i'r lluoedd arfog. Felly, tybed pa drafodaethau y gallai'r Ysgrifennydd Cabinet eu cael gyda'r gwahanol gyrff chwaraeon, yn ogystal ag aelodau'r grŵp trawsbleidiol, wrth geisio datblygu rhaglen clwb chwaraeon cyfeillgar i'r lluoedd arfog yma yng Nghymru, fel y gallwn ni unwaith eto arwain ar draws y DU o ran darparu'r gefnogaeth orau un i'n teuluoedd a'n cyn-filwyr lluoedd arfog ar draws y genedl wych hon.

Diolch yn fawr, Darren Millar, a diolch i chi am dynnu sylw eto at yr achlysur a'r cofio hollbwysig a ddaeth â ni at ein gilydd yr wythnos diwethaf ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog. Ac rwy'n siŵr, fel chi, fod llawer ohonon ni wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau yn ein hetholaethau. Roedd yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am y lluoedd arfog, wrth gwrs, hefyd yn weithgar iawn, nid yn unig yn y gogledd, gyda'r mentrau yr oedd e'n eu cymryd o ran cefnogi cyn-filwyr, ond rwy'n siŵr y bydd yn barod iawn i ddod i'r grŵp trawsbleidiol maes o law, ac rwy'n deall y byddai'n hapus iawn i drafod y cyfle hwn i ddatblygu clybiau chwaraeon cyfeillgar i'r lluoedd arfog. Diolch am ei godi.

Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol. Nawr, rwy'n gwybod, o ran y Post Brenhinol, nad yw hynny wedi'i ddatganoli, ond mae gan yr Ysgrifennydd Cabinet y prif gyfrifoldeb dros fonitro materion Swyddfa'r Post a'r Post Brenhinol yng Nghymru.

Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi ynglŷn â stampiau ffug a'r ffaith eu bod yn gorfod talu £5 i dderbyn llythyr, os yw rhywun wedi defnyddio stamp ffug. Mae rhai wedi dweud wrthyf i nad ffug yw rhai o'r stampiau hyn mewn gwirionedd, o'r hyn yr ydw i—. Mae rhai pobl wedi anfon llythyrau o'r un llyfr stampiau ac mae rhai o'r derbynwyr a fwriadwyd wedi gorfod talu, ond nid eraill. Wrth siarad â dynion post—rydyn ni i gyd wedi bod allan yn ddiweddar, felly rydyn ni wedi gweld nifer o'n dynion post a'n menywod post—maen nhw wedi bod yn dweud eu bod nhw'n meddwl bod problem gyda sut mae'r cod bar yn cael ei sganio, ac os nad yw rhywbeth yn hollol syth, neu os oes problem, bod tâl yn cael ei godi ar bobl ac nad ydyn nhw mewn gwirionedd yn ffug. 

Hoffwn i sefydlu, os yn bosibl, sut mae hyn yn effeithio ar bobl, oherwydd, yn amlwg, gallai fod yn bost hanfodol iawn yr ydyn ni'n ei golli. Felly, a gawn ni drafodaeth gyda'r Ysgrifennydd  Cabinet i weld beth sy'n cael ei wneud? Oherwydd roedd cyfnod o burdah ar hyn, lle nad oedden nhw'n codi tâl, ond nid yw hynny'n wir bellach. Mae'r Post Brenhinol i fod i gyflwyno sganiwr stampiau ffug newydd ar eu hapiau. Nid ydyn nhw wedi gwneud hynny. Felly, mae hyn yn peri pryder i breswylwyr y mae £5 yn cael ei godi arnyn nhw ac nad ydyn nhw'n gwybod am beth y mae'r tâl yn cael ei godi arnyn nhw, oherwydd nid ydyn nhw'n gwybod pa lythyr, yn amlwg, sydd heb eu cyrraedd.

14:30

Diolch yn fawr, Heledd Fychan, a diolch am eich cwestiwn pwysig iawn. Diolch am dynnu sylw at hyn. 

Rwy'n credu ein bod ni'n ffodus eto bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol yn eistedd yma ac wedi clywed y cwestiwn pwysig hwnnw, sydd, wrth gwrs, yn rhywbeth y bydden ni'n bryderus iawn amdano o ran ein hetholwyr ni a'r effaith y mae'n ei chael, a'n gweithwyr post, fel y dywedwch chi, hefyd. Felly, a gaf i ofyn i'r Aelod, Heledd Fychan, ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet, fel y gallwn ni sicrhau bod hyn yn cael ei ddatblygu, a bydd ymateb ar y gweill?

Fel pencampwr rhywogaeth y gwenoliaid du, rwy'n falch iawn o dynnu sylw at Wythnos Ymwybyddiaeth y Gwenoliaid Du yr wythnos hon, ac rwy'n gwybod bod llawer o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ledled Cymru i ddathlu'r adar anhygoel hyn. Ond, er hynny, mae achos pryder, gan fod y DU wedi colli mwy na hanner poblogaeth y gwenoliaid du sy'n magu ac, yn anffodus, mae hynny'n digwydd oherwydd pan fydd adeiladau hŷn yn cael eu hadnewyddu neu'u dinistrio, yn amlwg mae'r nythod traddodiadol y mae gwenoliaid yn eu defnyddio yn diflannu gyda nhw. 

Roeddwn i'n ddiolchgar iawn y llynedd bod Julie James wedi'i gwneud hi'n orfodol i adeiladau newydd dros faint penodol gynnwys briciau gwenoliaid du yn y bondo, ond nid yw'n glir gan bwy na sut mae'r gydymffurfiaeth hon yn cael ei thracio. Felly, tybed a allen ni gael datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet tai a llywodraeth leol i nodi sut y bydd y rheoliad adeiladu newydd hwn yn gwneud gwahaniaeth o ran gwella'r dyfodol i wenoliaid du yn ein gwlad.

Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone, ein pencampwr rhywogaeth—pencampwr rhywogaeth y gwenoliaid du. Mae'n bwysig iawn eich bod chi wedi codi hyn yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth y Gwenoliaid Du, fel y dywedoch chi ac, wrth gwrs, mae llawer o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal, sgyrsiau, codi ymwybyddiaeth, yn enwedig gydag arbenigwyr gwenoliaid du a selogion fel chi eich hun. Ond, hefyd, dim ond i gydnabod bod rhaid i ni ddiogelu a chefnogi'r gwenoliaid du, a'r golled—y ffigyrau y gwnaethoch chi eu rhoi—mor ofidus o ran colli'r gwenoliaid du. 

Rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio, fel y gwyddoch chi, fis Hydref diwethaf, yn bwysig, wedi diweddaru 'Polisi Cynllunio Cymru' ar leoedd unigryw a naturiol—ym mhennod 6 'Polisi Cynllunio Cymru'. Ac roedd hynny'n ymwneud â'r seilwaith gwyrdd. Fe wnaf i gadarnhau gyda hi hefyd, yn amlwg, o ran lle mae hyn yn cyd-fynd â'r datblygiad pwysig penodol o ran diogelwch a chyfrifoldebau adeiladu o ran nythu'r gwenoliaid du, a gofyn iddi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar y pwynt hwn.

Ond rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig iawn cydnabod bod hyn yn bwysig fel rhan o'r fframwaith bioamrywiaeth byd-eang, y cytunwyd arno yn COP15, a hefyd argymhellion Llywodraeth Cymru ei hun i archwiliad dwfn bioamrywiaeth. Ac mae'r system gynllunio yn allweddol, fel y dywedwch chi, wrth sicrhau canlyniadau amrywiaeth cadarnhaol. 

Am y pumed tro, hoffwn i alw am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am lywodraeth leol ynghylch y diffyg ailgylchu parhaus ers i'r model gwastraff newydd gael ei gyflwyno fis yn ôl gan Gyngor Sir Ddinbych dan arweiniad Llafur. Er gwaethaf y nifer o weithiau yr wyf i wedi codi'r mater hwn gyda chi, Trefnydd, mewn pum datganiad busnes yn olynol, nid wyf eto wedi derbyn ymateb gwybodus a chynhwysfawr gennych chi na'r Ysgrifennydd Cabinet.

Mae pobl yn fy etholaeth i'n gweld gwastraff yn pentyrru ar y strydoedd, gwylanod ymosodol, mwy o gnofilod a mwy o berygl i iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd. Mae hyn yn dechrau edrych yn debyg iawn i'r golygfeydd o ddiwedd y 1970au yn ystod yr wythnos dridiau o dan Harold Wilson, ac yn ddiweddarach, Jim Callaghan. Nid wyf i'n gwybod a yw'r ffigurau hyn yn y gorffennol yn enghraifft ar gyfer arweinyddiaeth bresennol sir Ddinbych, ond pe baen nhw'n ceisio dilyn eu harweiniad ar bwrpas, ni allen nhw fod wedi gwneud llawer yn waeth nag y maen nhw ar hyn o bryd, yn anffodus. Felly, a allwch chi ddweud wrthyf i pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda sir Ddinbych ynghylch y mater parhaus hwn, i sicrhau y gallan nhw ddatrys hyn unwaith ac am byth a chyrraedd y targed ailgylchu o 70 y cant, sydd ei angen arnoch chi ganddyn nhw?

14:35

Diolch yn fawr, Gareth Davies. Ac rydyn ni, unwaith eto, yn ffodus bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yma yn y Siambr heddiw, fel y gwelwch chi. Ac rwy'n credu ei fod yn bwysig. Rwy'n deall eich bod chi'n dod â hyn yn ôl i'r datganiad busnes bob wythnos, ac mae'n gyfle i ni eich sicrhau chi, fel Llywodraeth, ein bod ni'n ymdrin â hyn yn effeithiol, mewn partneriaeth, wrth gwrs, gyda Chyngor Sir Ddinbych. Felly, unwaith eto, gallaf i eich sicrhau chi bod gan Lywodraeth Cymru gynghorwyr arbenigol sy'n gweithio'n weithredol gyda sir Ddinbych i helpu i ymdrin â'r problemau cynnar hynny ers i'r newid yn y gwasanaeth gael ei weithredu.

Hefyd, dim ond er mwyn eich sicrhau chi ac, wrth gwrs, pobl sir Ddinbych, bod camau ar waith i ymdrin â'r ôl-groniad hwnnw o gasgliadau. Mae'n cael ei ddatrys gan sir Ddinbych yn ddyddiol, o ran datrys hynny, ac rydyn ni hefyd yn deall bod gwelliant yn nifer ac ansawdd y deunyddiau sy'n cael eu casglu ar gyfer ailgylchu. Ac, wrth gwrs, bydd hyn yn symud i sir Ddinbych, mewn gwirionedd, gan gyd-fynd â glasbrint y casgliadau, yr arfer gorau y mae Lywodraeth Cymru yn ei argymell. Y gefnogaeth arbenigol honno ac, yn wir, gweithio gydag awdurdodau lleol—ac rwyf i wedi sôn am hyn o'r blaen—ar arfordir y gogledd sydd eisoes yn gweithredu hyn. Ac rwy'n gobeithio y gallwn ni, mewn gwirionedd, weld bod y problemau hyn yn fyrhoedlog a'i fod yn drawsnewidiad llwyddiannus fel y mae awdurdodau lleol eraill eisoes wedi'i gyflawni. 

A gaf i ofyn am ddatganiad, unwaith eto, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd, ond y tro hwn ynglŷn â llygredd diwydiannol o safle Kronospan yn y Waun yn fy rhanbarth i? Nawr, yn ystod y misoedd diwethaf, mae problemau hirsefydlog gydag allyriadau o'r safle wedi dwysáu. Mae cymylau o ficroffibrau o'r ffatri yn amharu ar gannoedd o gartrefi yn rheolaidd, ac mae hynny, yn ei dro, yn amlwg yn codi pryderon ymhlith pobl leol am unrhyw effaith y mae hynny'n ei chael ar eu hiechyd. Nawr, clywodd cyfarfod cyhoeddus diweddar yn y dref nad oedd rheolwyr y cwmni, er gwaethaf cydnabod bod y broblem yn bodoli, yn gallu nodi tarddiad y llygredd. Yn amlwg, dylai hynny fod yn achos pryder pellach, yn enwedig i'r corff cyhoeddus sy'n gyfrifol am fonitro'r gwaith, Cyfoeth Naturiol Cymru, ond nid yw i weld eu bod yn ymateb yn effeithiol naill ai i bryderon lleol, yn benodol, neu eto o ran yr effaith ar iechyd.

Rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth, yn amlinellu pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i helpu i ddatrys y sefyllfa hon a sut y byddwch chi'n gweithredu  gan ddiogelu iechyd y rhai sy'n byw ger y safle. Mewn gwirionedd, byddwn i'n galw am asesiad iechyd efallai i fesur effaith hirdymor y llygredd parhaus hwn ar lesiant pobl. Mae angen i ddinasyddion hirymaros y Waun wybod pa gamau ymarferol y bydd y Llywodraeth hon yn eu cymryd nawr i sicrhau bod llygredd diwydiannol yn y Waun yn cael ei leihau, a bod iechyd y cyhoedd a diogelwch y cyhoedd yn cael eu blaenoriaethu.

Wel, diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn, a diolch yn fawr iawn, oherwydd mae hyn yn rhywbeth—eto, mae gennym ni'r Ysgrifennydd Cabinet yma—lle mae angen i ni wybod am y pryderon hyn gan drigolion lleol, yn enwedig o ran llygredd diwydiannol a'r effaith y mae'r safle hwn yn ei chael yn Y Waun. Felly, unwaith eto, byddai'n ddefnyddiol os gallech chi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet, ond mae ef eisoes yma i'w nodi a mynd ar ei ôl, nid yn unig gyda'i swyddogion, ond yn amlwg gyda'r rheoleiddiwr, Cyfoeth Naturiol Cymru. 

Trefnydd, a gaf i, os gwelwch yn dda, ofyn am ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi a hyrwyddo busnesau masnach deg Cymru? Yn y pen draw, Trefnydd, rydych chi'n ymwybodol iawn o'r mudiad masnach deg yng Nghymru, ond mae sgyrsiau diweddar yr wyf i wedi'u cael wedi tynnu fy sylw at yr angen i Lywodraeth Cymru wella dealltwriaeth defnyddwyr o brynu cynhyrchion cynaliadwy a'r gefnogaeth y gall busnesau masnach deg Cymru ei gael. Un o'r prif faterion sy'n bodoli yw'r dryswch ynghylch pa gynhyrchion sy'n dod o ffynonellau cynaliadwy a sut mae gwario mwy ar gynhyrchion masnach deg yn cael effaith mor gadarnhaol ar ffermwyr ledled y byd. Rwy'n credu'n llwyr ein bod yn dal i fod ar ddechrau'r daith hon, ac mae angen ymwybyddiaeth o pam mae angen masnach deg nawr yn fwy nag erioed. Gyda hyn mewn golwg, a gawn ni datganiad, llafar neu fel arall? Diolch.

14:40

Diolch yn fawr, Joel James. Mae hwn yn fater trawslywodraethol o ran cyfrifoldeb, ond rwy'n falch iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi gwneud datganiad yn ymwneud â hyn yr wythnos diwethaf. Rydyn ni wedi bod yn falch iawn eleni, ac adeg y Pasg cawson ni ddathliad yma yn y Senedd o'r ffaith mai ni oedd y Genedl Masnach Deg gyntaf. Rydyn ni eisiau gwireddu hynny. Mae llawer ohonon ni'n ymwneud â grwpiau masnach deg, trefi, dinasoedd a siroedd ledled Cymru oherwydd mae'n hanfodol ein bod ni'n galluogi'r busnesau hynny i ffynnu. Byddwn ni hefyd bob amser yn tynnu sylw at waith arloesol Jenipher's Coffi. Rydyn ni'n gwybod y gallwn ni ddod o hyd iddo, nid yn unig gan y busnes ym Mhorthcawl, ond hefyd ar-lein. Mae Jenipher's Coffi yn fenyw sy'n dyfwr coffi masnach deg, sydd wedi'n symud ni ymlaen o ran dysgu am y gadwyn gyflenwi a phwysigrwydd y gadwyn gyflenwi a'r gefnogaeth yr ydyn wedi'i rhoi o ran cael y rhostio mwyaf effeithiol ar gyfer y ffa coffi hynny. Ond, ie, diolch am godi hynny heddiw.

Dwi eisiau codi mater difrifol iawn efo chi y prynhawn yma. Mae Neil Foden wedi ei ddedfrydu i 17 mlynedd yn y carchar ar ôl ei gael yn euog o droseddau erchyll yn erbyn plant oedd yn ei ofal yn Ysgol Friars Bangor, yn fy etholaeth i. Mae'r plant a'r teuluoedd yn ein meddyliau. Rhaid i ni rŵan roi blaenoriaeth i sicrhau nad oes yna unrhyw blentyn—unrhyw blentyn—yn dioddef fel hyn byth eto. Dwi yn gobeithio y bydd yr adolygiad ymarfer plant sy'n cael ei gynnal gan fwrdd diogelu'r gogledd yn mynd peth o'r ffordd at gyrraedd y sefyllfa honno, ond mae yna alwadau cynyddol am ymchwiliad statudol. Yn fy marn i, dyna'r unig ffordd i ddysgu'r holl wersi er mwyn atal troseddau dychrynllyd rhag digwydd i'r dyfodol. Felly, a wnewch chi sicrhau datganiad gan y Llywodraeth cyn toriad yr haf yn amlinellu ymateb y Llywodraeth i'r alwad am ymchwiliad statudol? Dyma'r ail waith rŵan i fi godi'r mater yma yn y Siambr.

Diolch yn fawr, Siân Gwenllian. Hoffwn ddiolch i'r Aelod am godi'r mater hwn, un pwysig iawn.

Mae'n achos brawychus a phryderus, ac rydych chi wedi codi hyn gyda mi o'r blaen yn y Siambr, fel y dywedoch chi. Mae'n rhaid i'n meddyliau fynd at bawb a effeithiwyd gan ymddygiad troseddol, rheolaethol a sarhaus Neil Foden. Fel y dywedwch chi, yr effaith ar blant a phobl ifanc a'r rhai a roddodd dystiolaeth yn yr achos hwn—y dewrder y gwnaethon nhw ei ddangos i helpu i ddod â'r person camdriniol hwn yr oedd eraill yn ymddiried ynddo ac yr oedd ganddo bŵer yn rhinwedd ei rôl, o flaen eu gwell. Rydyn ni eisiau talu teyrnged i'w dewrder. Rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yma hefyd y prynhawn yma.

Mae'r broses droseddol wedi dod i ben. Mae'r bwrdd diogelu rhanbarthol yn cynnal adolygiad ymarfer plant. Adolygiad annibynnol yw hwn, felly bydd yn ystyried cyfranogiad asiantaethau perthnasol, yn nodi dysgu ac yn gwneud argymhellion i wella arferion diogelu yn y dyfodol. Mae angen i ni sicrhau, fel y byddech chi'n parchu, rwy'n gwybod, y gall y broses fynd rhagddi gan wrando ar yr hyn sydd gan bobl sy'n rhoi tystiolaeth i'w ddweud cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ynghylch pa gamau eraill y gallai fod angen eu cymryd.

Rwy'n gofyn am ddatganiad brys gan yr Ysgrifennydd iechyd a gofal cymdeithasol ar ffioedd cartrefi gofal. Ar 6 Mehefin, ysgrifennodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr at ddarparwyr gofal yn y gogledd, gan nodi cynnydd o 3.71 y cant yn unig yn ffioedd cartrefi gofal ar gyfer 2024-25, gan fethu â chyfateb â chynnydd awdurdodau lleol ac yn is hyd yn oed na chynnydd cyfartalog ffioedd sir y Fflint o 5.33 y cant, sef yr isaf yng Nghymru tan hynny. Mae'n golygu y byddai darparwyr yn derbyn llai am ddarparu gofal iechyd parhaus na gofal nyrsio wedi'i ariannu, er bod yr achosion gofal iechyd parhaus yn fwy cymhleth a bod ganddyn nhw ofynion nyrsio ychwanegol.

Ddydd Gwener diwethaf, fe wnaeth Gareth Davies AS a minnau gyfarfod â Fforwm Gofal Cymru i drafod eu pryderon am hyn. Fe wnaethon ni glywed bod gan y gogledd erbyn hyn, y ffioedd cartrefi gofal isaf yng Nghymru, gan roi pwysau ar ddarparwyr i roi'r gorau i dderbyn cleifion gofal iechyd parhaus newydd ac i roi rhybudd i'w preswylwyr presennol sy'n cael eu hariannu gan gynllun gofal iechyd parhaus, canlyniad gofidus nad oes neb eisiau'i weld ar yr union adeg pan nad yw'r angen erioed wedi bod yn fwy a bod taer angen y gwelyau cartrefi gofal hyn ar fyrddau iechyd. Felly, mae angen ymyrraeth frys i sicrhau setliad cynaliadwy a dull cenedlaethol o osod ffioedd i ddarparu ffigur sylfaenol. Rwy'n galw am ddatganiad brys yn unol â hynny. 

14:45

Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, am y cwestiwn pwysig iawn, ac rwy'n gwybod bod hynny'n rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ymdrin ag ef yn weithredol, ond nid yw ychwaith yn gwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn unig; yn amlwg, mae'n gwestiwn i'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol ac mae'n gwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio. Mae'r holl gyfrifoldebau trawslywodraethol hyn, cyfrifoldebau'r Cabinet, yn allweddol i ymdrin â'r mater hwn. Ac, yn wir, gwnaeth y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden, ddatganiad am ofal cymdeithasol yn ddiweddar. Felly, diolch i chi am roi hyn eto ar y cofnod o ran rhoi'r cyfle i mi ymateb i'r Llywodraeth gan gymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif.

Gweinidog Busnes, dros y penwythnos, roeddwn i'n teithio ar drên o Hendy-gwyn ar Daf yn sir Gaerfyrddin i Gasnewydd, taith, yr wyf i wedi cael gwybod, y dylai gymryd llai na dwy awr a hanner. Yn hytrach, cymerodd ychydig yn llai na phedair awr. Fe stopiodd y trên yng Nghaerfyrddin am tua dwy awr oherwydd bod gyrrwr a oedd i fod i gymryd cyfrifoldeb am y trên yn sownd mewn traffig. Cafodd teithwyr wybod, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn, pobl oedrannus, y rhai â phlant mewn pramiau y gallen nhw gael trên gwahanol o blatfform 1. Gwnaeth pawb ruthro yno, dim ond i gael eu hanfon yn ôl at y trên gwreiddiol. Nawr, roedd hi'n ddiwrnod arbennig o boeth, ac er gwaethaf cael fy sicrhau ar ôl i mi gwyno ar Twitter, sy'n cael ei alw'n X hefyd, y byddai dŵr ar gael i deithwyr ar y trên yn Abertawe, yn anffodus, ni ddigwyddodd hynny, ac a dweud y gwir, roedd y sefyllfa y tu hwnt i jôc. Nawr, roedd pobl ar y trên hwn â chyflyrau iechyd difrifol, felly hoffwn i wybod pwy fyddai wedi cymryd cyfrifoldeb am hyn, petai rhywbeth wir wedi digwydd i un o'r teithwyr hynny. Rhaid i Trafnidiaeth Cymru wneud gwelliannau, a dylai gweithredwyr eraill nodi, er mwyn sicrhau bod llesiant teithwyr ar frig eu rhestr o flaenoriaethau, yn gyntaf drwy sicrhau bod trenau'n cael eu stocio â photeli dŵr y mae modd eu rhoi i deithwyr sydd wedi'u dal mewn amgylchiadau nad oes modd eu rhagweld. Dyna pam yr wyf i wedi ysgrifennu at ddarparwr pob rheilffordd ledled Cymru i sefydlu darpariaethau os nad oes un ohonyn nhw ar waith ar hyn o bryd. Byddai datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth yn amlinellu pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni'n cael ei groesawu'n fawr. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Natasha Asghar. Wrth gwrs, fe wnaethoch chi adrodd profiad ar ddiwrnod poeth iawn, ac rwy'n credu y gallen ni i gyd gydnabod yr anhawster i deithwyr bryd hynny ac, yn wir, y staff sy'n cefnogi'r teithwyr hynny. Felly, o ran y pwynt penodol hwnnw yn y cais hwnnw, yn amlwg, fe wnawn ni dynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth ato. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig, er hynny, gydnabod mai Trafnidiaeth Cymru a welodd y gwelliant mwyaf mewn prydlondeb ar draws pob un masnachfraint ym Mhrydain Fawr yn ystod tri mis cyntaf eleni, 2024, o'i gymharu â'r llynedd—yr ail welliant mwyaf mewn dibynadwyedd. Rydyn ni'n gobeithio bod hynny'n digwyddiad un tro am resymau na allaf i gyfrif amdanyn nhw fy hun, ond rwy'n credu ein bod ni wedi dangos bod yr ystadegau hynny'n dangos ein bod ni wedi troi'r gornel gyda'n Trafnidiaeth Cymru, ac rydyn ni'n falch iawn o hynny. Rydyn ni'n gweld gwelliannau i deithwyr yn gyson, gan gludo mwy o deithwyr, yn cynnal mwy o wasanaethau ac yn perfformio ar lefelau sylweddol uwch. Felly, byddwn yn mynd â'ch profiad penodol chi yn ôl. Ond rwy'n credu hefyd, o ran sir Benfro, fod teithwyr ar reilffordd Doc Penfro bellach yn elwa ar drenau dosbarth 197 newydd sbon, a ddechreuodd redeg o ddydd Llun 10 Mehefin. Felly, oes, mae digwyddiadau fel yna yn resynus ac yn anffodus, ond byddwn ni'n edrych arno o ran cael cyfle i fanteisio ar y lluniaeth holl bwysig hwnnw, ond hefyd yn cydnabod y datblygiadau da o ran darparu ein gwasanaethau rheilffyrdd.

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: Tata Steel

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg ar Tata Steel. Dwi'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud ei ddatganiad, felly. 

Member
Jeremy Miles 14:49:39
Cabinet Secretary for Economy, Energy and Welsh Language

Diolch, Llywydd. Fel y gŵyr Aelodau, gwnaeth y newyddion a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf y gallai Tata ddiffodd ffwrneisiau chwyth 4 a 5 ym Mhort Talbot yr wythnos hon yn sgil gweithredu diwydiannol achosi cryn ofid i bawb, yn enwedig y gweithwyr a'r gymuned ehangach. Rwy'n falch iawn fod pawb perthnasol wedi cytuno ar y ffordd ymlaen er mwyn osgoi'r sefyllfa hon, ac y bydd y trafodaethau rhwng yr undebau a'r cwmni yn parhau.

Allwn ni ddim gorbwysleisio pwysigrwydd hyn, a hoffwn ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau ffordd ymlaen. Rydw i a'r Prif Weinidog wedi bod yn trafod yn rheolaidd gyda phartneriaid ers i'r newyddion gael ei gyhoeddi'r wythnos diwethaf, yn cynnwys gyda phrif swyddog gweithredol Tata Steel, Unite, Community a GMB. Rydyn ni'n falch iawn y bydd pawb yn dod ynghyd nawr i ailddechrau'r trafodaethau, a byddwn yn parhau i bwyso am gydweithredu a chyfathrebu cyson dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.

Ers i Tata gyhoeddi eu cynigion gwreiddiol y llynedd, mae Gweinidogion wedi mynegi pryderon ynghylch amserlen dynn y broses bontio arfaethedig. Rydyn ni wedi pwysleisio o'r dechrau'n deg ein bod yn credu y gallai'r ymgynghori rhwng y cwmni a'r undebau fod wedi sicrhau proses bontio hirach a thecach, gan olygu bod cyn lleied â phosib o swyddi'n cael eu colli.

Daeth ymgynghoriad ffurfiol rhwng Tata Steel UK a phwyllgor dur y DU, sydd, fel gŵyr yr Aelodau, yn cynnwys y tri undeb dur, Community, Unite a GMB, i ben ym mis Ebrill. Ers hynny, mae trafodaethau wedi bod yn parhau rhwng y cwmni a phwyllgor dur y DU dros becynnau diswyddo gwirfoddol, y mae Tata yn datgan eu bod y telerau diswyddo gorau erioed iddyn nhw eu cynnig i weithwyr.

Ym mis Ebrill, fe wnaeth y cwmni gadarnhau ei amserlen ar gyfer datgomisiynu ffwrnais chwyth 5 ar ddiwedd mis Mehefin, a datgomisiynu ffwrnais chwyth 4 wedyn erbyn diwedd mis Medi. Dywedodd Tata ar goedd gwlad unwaith eto ym mis Mehefin ei fod yn bwriadu parhau gyda'r gwaith o gau'r asedau pen trwm a'r rhaglen ailstrwythuro ym Mhort Talbot yn ystod y misoedd nesaf. Maen nhw wedi dweud hefyd fod yr asedau pen trwm presennol yn nesáu at ddiwedd eu rhawd, a'u bod yn weithredol ansefydlog a bod hynny'n arwain at yr hyn y maen nhw'n ei ddisgrifio fel colledion ariannol anghynaliadwy. Cafodd y ffyrnau golosg, sy'n gyfleuster hanfodol ar gyfer cynhyrchu sylfaenol, eu cau ym mis Mawrth, wrth i'w cadw nhw ar waith fynd yn anymarferol ac anniogel. Ein dealltwriaeth ni yw y bydd Tata yn parhau gyda'i gynlluniau i ddatgomisiynu ffwrnais chwyth 5 yr wythnos hon, erbyn 7 Gorffennaf. Rydym ni o'r farn fod y posibilrwydd y bydd Llywodraeth newydd yn cael ei hethol yn y DU yn ddiweddarach yr wythnos hon yn gweddnewid cyd-destun cynhyrchu dur yn y DU yn gyfan gwbl, gyda chyllid penodol i'w roi ar gyfer dur ac ymrwymiadau ehangach i fuddsoddi mewn seilwaith.

Mae Tata wedi dweud eisoes, yn rhan o'r cynllun gwerth £1.25 biliwn, y bydd yn gallu cwrdd ag anghenion ei gwsmeriaid yn ystod y cyfnod pontio o dair blynedd i gynhyrchu dur gyda ffwrnais arc drydan, a pharhau â'r cynhyrchu yn eu safleoedd eilaidd, a fydd yn dibynnu ar fewnforion o dramor. Mae effaith lawn y pontio ar symiau ar draws holl safleoedd Tata yng Nghymru, nid yn unig ym Mhort Talbot, ond y gweithfeydd eilaidd a leolir yn Llanwern, Trostre, Shotton a Chaerffili, yn dal i fod yn aneglur, ac mae'n rhaid rhoi eglurder cyn gynted â phosibl. Wrth symud ymlaen, mae angen i ni fod â gweledigaeth glir oddi wrth y cwmni sy'n cynnwys buddsoddiad sylweddol ym mhob safle, ac un sy'n parhau i ddefnyddio arloesedd yn ein prifysgolion ni. Mae Tata wedi cyhoeddi eisoes y bydd disgwyl i hyd at 2,800 o swyddi gael eu colli yn rhan o'i gynllun pontio, gyda disgwyl i'r diswyddiadau cyntaf ddigwydd ym mis Medi. Fe fyddwn ni'n parhau â'n gwaith gyda bwrdd pontio Tata i roi'r mecanweithiau ar waith ar gyflymder a fydd yn caniatáu i weithwyr Tata a'r busnesau sydd yn ei gadwyn gyflenwi, a theuluoedd a chymunedau allu cael gafael ar unrhyw gymorth a allai fod ar gael. Rwy'n ymrwymo i wneud popeth yn fy ngallu i sicrhau y bydd gwaith y bwrdd pontio mor hyblyg â phosibl ac yn addas i'r diben er mwyn cefnogi anghenion y gweithwyr, y gadwyn gyflenwi a'r gymuned yn fwy eang yn y cyfnod hwn.

Mae'r bwrdd pontio wedi cytuno ar bum maes i'w blaenoriaethu ar gyfer cefnogaeth. Mae'r rhain yn cynnwys paru swyddi, sgiliau a chyflogadwyedd, sefydlu cronfa bontio cadwyn gyflenwi, yn ogystal â chronfa twf busnes a dechrau busnes, ac, yn hollbwysig, cefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, ac ar gyfer prosiectau adfywio. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn sicrhau bod cymorth ar gael drwy ei rhaglenni cyflogadwyedd ac uwchsgilio, sef ReAct+ a Cymunedau am Waith a Mwy, sy'n gallu rhoi cymorth ar gyfer hyfforddiant a mentora i Tata a'i gadwyn gyflenwi ar gyfer gweithwyr sy'n dymuno aros yn y farchnad lafur. Fe all Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru roi cymorth i unigolion sy'n wynebu colli eu swyddi os ydyn nhw'n awyddus i ystyried hunangyflogaeth neu ddechrau eu busnes eu hunain, ac fe allan nhw ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar ddechrau busnes, yn ogystal â chael gafael ar gyllid busnes. Bydd sesiynau galw heibio yn cael eu cynnal ym Mhort Talbot ddwywaith yr wythnos, gydag ymgynghorwyr o'r Adran Gwaith a Phensiynau, Gyrfa Cymru, Busnes Cymru, Cyngor ar Bopeth, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Grŵp Colegau Cyngor Castell-nedd Port Talbot wrth law i ymateb i bryderon a chwestiynau. Mae ffeiriau swyddi yn yr arfaeth, a chynhaliwyd rhai ar 12 Mehefin yn fwyaf diweddar, a chynllunir gweithdai ar gyfer gweithwyr Tata drwy gydol mis Gorffennaf. Yn ogystal â hynny, mae tudalen we ar gael erbyn hyn ar wefan Cyngor Castell-nedd Port Talbot, sy'n cynnig siop un stop, un pwynt cyswllt i bawb sy'n ymofyn cymorth a chyngor. Mae'r dudalen we yn cyfeirio at ddolenni ar gyfer unigolion a busnesau i'r gefnogaeth gyfan sydd ar gael. Mae hi'n bwysig bod y rhai sydd ag angen am y cymorth yn gallu cael hwnnw'n gyflym, ac fe fyddaf i'n gweithio yn wirioneddol galed gydag unrhyw Lywodraeth newydd, sydd ar ddod yn y DU a'r rhanddeiliaid lleol i gyd ar gyfer sicrhau bod cymorth ar gael i'r rhai sydd ag angen amdano.

Rydym ni'n eiddgar i weld dyfodol hyfyw i ddiwydiant dur gwyrdd yn y de, ac mae'r tyndra dros y dyddiau diwethaf wedi dod â'r hyn sydd yn y fantol i'r amlwg. Rwy'n ddiolchgar bod pawb dan sylw wedi dewis peidio â mynd â materion ymhellach er mwyn osgoi argyfwng yn syth. Ein nod yn Llywodraeth Cymru nawr yw parhau i gydweithio gyda'r undebau, gyda Tata a gyda Llywodraeth newydd yn y DU i frwydro dros ein cymunedau dur a gwneud ein gorau un er eu mwyn nhw.

14:55

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am y datganiad.

Yn sicr, rydym ni'n croesawu'r gostegu a'r ewyllys da a ddangoswyd gan Tata Steel ac undebau'r gweithwyr dur fel ei gilydd dros y dyddiau diwethaf, ac rydym ni'n ddiolchgar am fod Tata wedi penderfynu peidio â chau'r ail ffwrnais chwyth yn gynnar, yn dilyn y newyddion fod Unite wedi gohirio ei streic. Fe fyddai cau yn gynnar wedi bod yn newyddion drwg i gynhyrchiant dur yng Nghymru, ac i'r gweithwyr a'r cymunedau, yn amlwg. Rydym ni'n naturiol, hefyd, yn croesawu unrhyw drafodaethau sy'n dod â'r gweithwyr dur a Tata at y bwrdd i sicrhau moddion i gefnogi swyddi yn y tymhorau byr a chanolig, oherwydd fe fyddai cau'r ffwrneisi chwyth yn gynnar yn pentyrru gofid ychwanegol ar deuluoedd sydd eisoes yn ymdrin â phryderon lawer. Ni ellir bychanu'r effaith a achosodd y cynnwrf hwn ym Mhort Talbot i unigolion, teuluoedd a'r cymunedau yn fwy eang. Mae ein safbwynt ni'n eglur o hyd: rydym ni'n dymuno gweld Tata yn parhau i gadw ffwrnais chwyth i fynd wrth iddyn nhw sicrhau pontio teg i ffwrnais arc drydan, a fyddai'n caniatáu cadw sgiliau yn yr ardal a chadw swyddi Felly, er y bydd ffwrnais chwyth 5 yn cynhyrchu dur am y tro olaf erbyn diwedd yr wythnos hon, fe allwn ni obeithio y gall y sgyrsiau diweddaraf hyn arwain at drefniadau pontio sy'n fwy cadarn.

Am fod un ffwrnais yn cau, mae angen i ni ganolbwyntio nawr ar yr hyn sy'n digwydd nesaf i weithwyr dur Cymru. Ysgrifennydd Cabinet, fe wnaethoch chi gadarnhau i mi drwy gyfrwng cwestiwn ysgrifenedig fod cyfanswm gwerth rhaglen gymorth sgiliau Tata Steel 2016-19 yn £11.7 miliwn—croeso mawr i hynny. Ond a wnewch chi gynnig unrhyw eglurder ynghylch a yw'r sgiliau a enillwyd drwy hyfforddiant a dalwyd amdano drwy'r gronfa hon yn sgiliau sydd ag achrediad ehangach, neu a yw'r sgiliau hyn yn rhai na ellir eu trosglwyddo ac na ellir eu defnyddio nhw dim ond yng nghyfleusterau Tata? Fe allwn ni fod â chyfran o obaith y gall y pontio i ffwrnais arc drydan, ochr yn ochr â datblygiadau'r porthladd rhydd Celtaidd, gynnig cyflogaeth y mae taer angen amdani i'r rhai a allai fod yn colli eu swyddi yn Tata, boed hynny mewn adeiladu, mewn gweithrediadau neu o ran gwaith cynnal a chadw. Roeddech chi'n sôn yn eich datganiad am y cynigion diswyddo gwirfoddol a roddwyd i weithwyr, ond rwy'n dymuno gofyn i chi, Ysgrifennydd Cabinet, a oes gennych chi unrhyw syniad am niferoedd y bobl a fydd, neu a allai fod, yn derbyn y cynnig hwn?

Thema gyffredin a fynegwyd yn ystod y drafodaeth ynghylch dyfodol cynhyrchu dur ym Mhort Talbot yw, 'Gadewch i ni aros am Lywodraeth Lafur yn y DU. Gadewch i ni ddibynnu ar Lywodraeth Lafur y DU sydd ar ddod o bosibl i helpu i gario'r dydd.' Rydych chi'n dweud yn eich datganiad eich bod chi o'r farn fod gobaith yr etholiad a Llywodraeth newydd yn y DU yn ddiweddarach yr wythnos hon yn newid y cyd-destun ar gyfer cynhyrchu dur yn y DU, gyda chyllid penodol ar gyfer ymrwymiadau dur ac o ran buddsoddiad mewn seilwaith yn fwy eang. Fe wyddom ni eisoes fod Llafur y DU eisoes yn cyfrif buddsoddiad £500 miliwn Ceidwadwyr y DU yn Tata yn eu cynllun dur gwyrdd gwerth £3 biliwn nhw. Felly, o'r £2.5 biliwn sy'n weddill, a allwch chi gadarnhau faint mwy a aiff i Bort Talbot, pe byddai Llafur yn ennill ar ddydd Iau? Fel arall, onid ydych chi'n gwneud dim ond cynnig gobaith gwag i'r gweithwyr hyn, eu teuluoedd nhw a'r cymunedau hyn?

Ac wrth siarad am y bwrdd pontio, fel gwnaethoch chi yn eich datganiad, roeddech chi'n sôn eich bod chi'n barod i weithio gydag ef i roi'r holl gefnogaeth angenrheidiol i weithwyr, ac mae hyn yn newyddion ardderchog. Ac er bod y bwrdd pontio yn cael ei redeg ar lefel y DU, a chyda'r potensial o fod ag Ysgrifennydd Gwladol newydd i Gymru erbyn diwedd yr wythnos hon, a gaf i ofyn i chi, Ysgrifennydd Cabinet, pa warantau a gawsoch chi o ran rhediad llyfn y bwrdd pontio wedi'r etholiad cyffredinol? Mae hi'n amlwg fod parhad y bwrdd yn elfen hanfodol bwysig o'r cynnig o gefnogaeth a fydd yn angenrheidiol i weithwyr Tata a'r gadwyn gyflenwi yn fwy eang wrth symud ymlaen. Rwy'n awyddus i ailadrodd ein bod ni'n rhoi croeso cynnes i ohiriad y streiciau, tawelu'r tyndra ac ailddechrau'r trafodaethau, ond mae rhai cwestiynau yn aros ynghylch yr hyn a fydd yn newid yma mewn gwirionedd, o ystyried mynegiant blaenorol Tata o'i gyfeiriad ei daith ddewisol. Diolch, Llywydd.

15:00

Rwy'n diolch i Sam Kurtz am y croeso a roddodd i'r datblygiadau yn ystod y dyddiau diwethaf. Rwy'n dymuno  dweud nad wyf i'n credu ei bod hi'n fuddiol i ni siarad am obeithion gwag ar hyn o bryd. Mae hon yn sefyllfa anodd iawn i filoedd o bobl. Rwy'n gwybod nad dyna oedd ei fwriad ef, ond rwy'n credu bod angen i ni fod â honno'n ystyriaeth ganolog i ni wrth i bawb ohonom ni geisio mynd i'r afael â'r sefyllfa gymhleth ac anodd iawn hon, yn enwedig o safbwynt pobl.

O ran y cwestiynau penodol a ofynnodd ef i mi, o ran cymorth sgiliau, dros y blynyddoedd, pan ofynnwyd i ni gefnogi datblygiad sgiliau yn Tata, fe wnaethom ni allu gweithio gyda Tata i sicrhau bod y mathau o ffigurau y mae ef wedi siarad amdanyn nhw, a symiau eraill yn ogystal â hynny ar gael mewn gwirionedd. Maen nhw wedi bod yn gymysgedd o gymorth sgiliau mewn ystyr fwy cyffredinol, ond yn rhai sydd wedi arwain at gymwysterau achrededig penodol hefyd. Un o'r tasgau pwysig iawn sydd ar y gweill ar hyn o bryd—ac roeddwn i'n cyfeirio at y pum maes a ddynododd y bwrdd pontio yn gategorïau sydd i'w blaenoriaethu ar gyfer cymorth—yw'r broses honno o sicrhau y bydd y rhai sydd wedi datblygu sgiliau medrus iawn yn aml iawn yn y gweithle ond heb fod ag achrediad penodol sy'n caniatáu eu trosglwyddo i gyd-destunau eraill yn cael eu hachredu yn wirioneddol. Mae gwaith eisoes ar y gweill gyda cholegau addysg bellach ar draws y de i gyflawni'r gwaith hwnnw. Felly, mae'r broses honno ar y gweill eisoes, ac rwy'n credu bod honno'n rhan bwysig iawn o'r broses.

O ran y diswyddiadau gwirfoddol, nid yw'r wybodaeth honno gennyf i. Dyna'r hyn sy'n cael ei weithio drwodd, yn amlwg, gyda'r cwmni. Yn amlwg, mae trafodaethau wedi cael eu cynnal ynghylch telerau diswyddo gwirfoddol, ond nid yw'r trafodaethau hynny wedi dod i ben. Mae honno'n rhan o'r trafodaethau y mae Tata wedi dweud y byddan nhw'n parhau i'w cael gyda'r undebau o ganlyniad i'r cyhoeddiadau yn ystod y dyddiau diwethaf.

Mae ef yn gwneud y pwynt ynglŷn â'r arian sydd ar gael. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud nad oes dim o'r arian hwnnw o £500 miliwn wedi cael ei wario hyd yn hyn, ac felly mae hi'n bwysig cofio hynny. Mae natur yr ymrwymiad cyffredinol a wnaeth y Blaid Lafur, sydd, o ystyried y swm hwnnw, yn ymrwymiad o £3 biliwn, yn fater i'w drafod gyda'r cwmnïau dur. Nid mater i'r Llywodraeth yw penderfynu sut y caiff ei wario. Fe fyddwn ni mewn tirwedd sydd wedi ei thrawsnewid yn llwyr, wrth ethol Llywodraeth Lafur newydd—os dyna'r hyn a welwn ni ar ddiwedd yr wythnos—gyda chyfraddau newydd o ymrwymiad i fuddsoddiad mewn seilwaith, ac felly fe fydd angen i hwnnw fod yn bwnc i'w drafod rhwng y Llywodraeth sydd ar ddod i mewn a Tata ac eraill hefyd. Mae'r Aelod yn ysgwyd ei ben. Nid wyf i'n credu fy mod i mewn sefyllfa i wrando ar ddarlith am y telerau a'r amodau sy'n gysylltiedig â chyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru. Rwy'n credu ein bod ni'n gweld yn eglur iawn y gallai mwy fod wedi cael ei wneud gan y Llywodraeth ymadawol—rwy'n gobeithio—o ran y cyllid yr oedd ef yn siarad mor uchel amdano ers nifer o fisoedd.

Dim ond gair, yn olaf, Llywydd, os caf i, o ran y bwrdd pontio, nid wyf i mor siŵr y byddai unrhyw un ohonom ni sydd wedi bod â rhan yn hyn yn credu i'w rediad fod yn arbennig o lyfn, ond rwy'n derbyn y pwynt a wnaeth yr Aelod. Rwy'n credu bod cyfle ar hyn o bryd i ystyried sut y gallwn ni wella'r ffordd y mae'n gweithio, er mwyn i'r symiau o arian a addawodd pobl eu rhoi allu cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol, yn y ffordd fwyaf ymatebol. Rwy'n credu bod cyfle i edrych eto gyda'n gilydd—yn gyflym, rwy'n gobeithio—ar sut y gellir cyflunio hynny'n wahanol i wneud y gwaith hwnnw mewn ffordd sy'n dod â'r partneriaid i gyd at ei gilydd, ond gyda'r canolbwyntio hwnnw ar sicrhau bod y gefnogaeth ar gael mor gyflym ac mewn ffordd mor fuddiol â phosibl.

Rwy'n croesawu'r newyddion am Tata yn tynnu ei fygythiad yn ôl i gau'r ffwrneisi chwyth hyn yn gynnar. Pe byddai'r penderfyniad wedi mynd rhagddo, fe fyddai hi wedi bod yn drychinebus. Rwy'n dymuno cyfeirio hefyd at rywbeth a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi ym mhwyllgor yr economi'r wythnos diwethaf sef y bydd adferiad y bwrdd pontio a gwaith hwnnw'n flaenoriaeth pan ddaw'r Llywodraeth Lafur newydd hon yn y DU i rym. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn bryderus iawn am gynnydd gwaith y bwrdd pontio. Rydym ni wedi colli amser. Mae hi'n bwysig nawr ein bod yn dychwelyd at hynny cyn gynted â phosibl. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cofio nad yw'r trafodaethau a gynigir nawr gan Tata wrth symud ymlaen yn trafod o'r newydd y cynigion sydd ar y bwrdd eisoes. Trafodaeth ydyw hi ar fuddsoddiad yn y dyfodol, felly mae'r frwydr i gadw'r ffwrneisi chwyth hynny'n parhau.

O edrych ar yr hyn a ddywedodd y Llywodraeth i ymateb, mae yna gwestiwn dilys iawn yn hyn, rwy'n credu, a hwnnw yw a yw'r Llywodraeth wedi rhoi'r gorau i'w hymgais gadw ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot. Mae hi'n ymddangos fod y datganiad hwn yn nodi bod hynny'n wir, am fod y mynegiant hwn yn parhau gan y Llywodraeth am yr angen i drafod, yr angen i aros am Lywodraeth Lafur yn y DU gyda chyllid penodol ar gyfer dur. Rwy'n credu bod Sam Kurtz yn iawn i godi pa mor brin yw'r manylion ynghylch y £3 biliwn hwnnw. Ni fyddwn i wedi ymhél â dweud mai cynnig gobaith gwag yw hyn, ond yr hyn a fyddwn i'n ei ddweud yw ei fod yn rhoi peth sicrwydd a rhyw arwydd o ba gyfran o'r £3 biliwn a fyddai'n cael ei ddyrannu i Tata ym Mhort Talbot ar gyfer cynnig mwy o obaith a rhoi mwy o ddiogelwch, ac felly fe fyddai croeso mawr i rywfaint o fanylion ynglŷn â hynny.

Ond mae Tata wedi ei gwneud hi'n glir na fyddan nhw'n ailnegodi. Mae'r Llywodraeth yn siarad am yr angen am drafodaethau diffuant; wel, ni allwch chi gael trafodaethau diffuant os nad yw un o'r partneriaid yn ymddwyn yn ddiffuant ac nad yw'n eich cyfarfod chi yn y canol ar gyfer trafod, ac mae hynny'n amlwg o ddatganiad Tata a sut maen nhw wedi trin gweithwyr drwy gydol yr anghydfod diwydiannol hwn. Ai dyna pam nad oedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gallu ateb fy nghwestiwn i ym mhwyllgor yr economi ynglŷn â beth yw'r ôl-stop os na fydd y trafodaethau yn llwyddiannus? Ai oherwydd bod y Llywodraeth wedi rhoi'r ffidil yn y to eisoes o ran aildrafod y cynigion sydd ar y bwrdd ar gyfer y ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot?

A gadewch i ni gofio sut y gwnaeth Tata drin eu gweithwyr yn ystod yr anghydfod hwn. Yn gyntaf, fe wnaethon nhw fygwth tynnu'r pecynnau diswyddo oddi ar unrhyw un fyddai'n mynd ar streic. Fe wnaethon nhw fygwth cyflymu'r broses gau am fod gweithwyr wedi sefyll i fyny drostyn nhw eu hunain. Mae Unite wedi dweud wrthym ni fod y cwmni wedi galw gweithwyr i mewn i ystafell ar gyfer sesiwn friffio, dim ond i geisio eu hatal nhw rhag gadael yr ystafell wedyn oni bai eu bod yn dweud eu bod am streicio. Nid ymddwyn yn ddidwyll mo hynny, ac nid gweithredoedd cwmni cyfrifol mohonyn nhw chwaith. Fe fyddwn i'n mynd cyn belled â gofyn y cwestiwn ai dyna'r fath o gwmni yr ydym ni dymuno iddo fod yn weithredol yng Nghymru. Ym mha ffyrdd y mae Tata yn cyd-fynd ag agenda gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol Llywodraeth Cymru? Oherwydd rwy'n ei chael hi'n anodd gweld sut mae Tata yn cyd-fynd â gweledigaeth y Llywodraeth yn hyn o beth.

Ni fydd unrhyw un yn synnu ein bod ni'n parhau i fod o'r farn, os ydym ni eisio datrys yr argyfwng hwn mewn gwirionoedd—oherwydd dyna'r hyn ydyw, argyfwng—yna mae'n rhaid i wladoli fod yn ddewis sydd ar gael. Gadewch i ni fod yn eglur ynghylch yr hyn yr ydym ni'n ei olygu. Nid ymwneud ag ideoleg yw hyn, mae hyn yn ymwneud â diogelu adnodd strategol a gwneud hynny i'r dyfodol. Mae'n ymwneud â defnyddio gwladoli fel offeryn i brynu amser er mwyn gwneud y buddsoddiad ar ein telerau ein hunain, a bodloni nodau strategol y Llywodraeth hon, a pheidio â chael ein gorchymyn gan gorfforaeth ryngwladol nad yw'n malio dim am y cymunedau y mae'n effeithio arnyn nhw. Pan wnawn ni'r buddsoddiad hwnnw, bydd gennym ni lwybr ar gyfer dyfodol amgen posibl a fyddai'n gaeëdig i ni fel arall.

Rydym wedi bod yn eglur mai perchnogaeth gydweithredol o'r fath sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn yng Ngwlad y Basg yw ein hopsiwn dewisol ni. Nid ydym ni'n sôn am fod ym mherchnogaeth y Llywodraeth am byth, ond rydym ni'n eglur o ran bod gan y Llywodraeth swyddogaeth allweddol i ddiogelu a chynnal cyfran yn y diwydiant hwn. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n ei chael hi'n rhyfeddol, wrth i ni awgrymu hwnnw fel llwybr posibl, nad yw'r Llywodraeth yn gwneud dim i archwilio'r syniad. Mewn gwirionedd, nid yw'n gwneud dim i archwilio unrhyw syniad, ac mae'n glynu yn agos wrth y gorchmynion a ddaw o'r pencadlys yn Llundain. Ble mae chwilfrydedd Plaid Lafur Cymru, fel mae hi'n ei galw ei hun; ble mae'r uchelgais? Pam mae cymaint o amharodrwydd i archwilio'r syniadau hyn? Rydym ni'n sôn am ddull Cymru o wneud pethau yma, ein bod ni'n meddwl ac yn gwneud pethau yn wahanol yng Nghymru; wel, ynglŷn â'r mater hwn, nid wyf i wedi gweld hynny'n digwydd eto.

Felly, rwy'n dychwelyd at fy nghwestiwn cyntaf, sef gofyn am onestrwydd oddi wrth y Llywodraeth hon: a ydyn nhw wedi rhoi'r ffidil yn y to o ran ceisio newid cynigion Tata? A ydyn nhw'n canolbwyntio nawr ar ddim ond buddsoddiad posibl yn y dyfodol? Oherwydd os yw'r ateb yn un cadarnhaol, yna mae llywodraethau Llafur a Thorïaidd fel ei gilydd wedi goruchwylio'r methiant mwyaf o ran polisi diwydiannol ers cau'r pyllau glo yn y 1980au, a dyna dystiolaeth eto fod y wlad hon ar gael i'r cynigydd uchaf mewn arwerthiant.

15:05

Rwy'n amgyffred grym rhethregol dadl yr Aelod, ond rwy'n credu mewn gwirionedd fod rhaid i ni ymgysylltu â'r sefyllfa y mae gweithwyr yn ei hwynebu ar lawr gwlad. Rwy'n deall y pwynt a wnaeth sawl gwaith ynglŷn â dewisiadau amgen, ond ar lefel datganiadau gwleidyddol y maen nhw, ac nid cynlluniau gwirioneddol mohonyn nhw. Yr hyn yr ydym ni'n ei gyflwyno yn rhan o faniffesto Llafur y DU yw ymrwymiad pendant i fuddsoddi yn yr economi ac mewn cynhyrchu dur yn benodol. Rwy'n credu bod pobl yn disgwyl uchelgais ac nid ydyn nhw'n disgwyl, yn y cyd-destun arbennig, ymosodiadau gwleidyddol o'r fath y mae'r Aelod yn eu gwneud yn ei ddatganiad ef.

Gadewch i ni geisio gweld yr hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad. Mae Llywodraeth gennym ni sydd ar ddod i mewn gydag ymrwymiad sylweddol o £3 biliwn i'r sector. Mae hon yn gyfradd drawsnewidiol o ymrwymiad. Fe fydd yn gwneud gwahaniaeth i gyd-destun cynhyrchu dur yn y DU. Mae hi'n amlwg i mi y bydd disgwyliadau sylfaenol gwahanol iawn gan y Llywodraeth Lafur sy'n dod i mewn o ran y cyllid hwnnw, ac mae hi'n amlwg i mi fod hynny'n cael ei ddeall yn llawer ehangach yn y sector hefyd. Rwy'n credu bod honno'n sail dda ar gyfer cynnal y math o sgyrsiau y mae angen eu cael, ac fe ddylai hynny, a dweud y gwir, fod wedi digwydd cyn hyn gan Lywodraeth y DU i roi'r sail gynaliadwy honno ar gyfer cynhyrchu dur. Rydym ni wedi bod yn eglur iawn yn y Llywodraeth hon: rydym ni o'r farn fod dyfodol gwell a bargen well wedi bod ar gael o ran dur ers cryn amser, ac rwy'n hyderus y bydd Llywodraeth Lafur yn y DU yn gallu defnyddio hynny wrth gynnal trafodaethau gyda Tata a gyda'r sector yn fwy eang.

Mae ef yn gwneud pwynt am bartneriaeth gymdeithasol a gwaith teg. Mae hi'n bwysig fod cyflogwyr mawr yn cymhwyso'r egwyddorion hynny wrth ymdrin â'u gweithluoedd—mae'n gwbl dyngedfennol. Dyna pam rwy'n falch o ddweud ein bod ni wedi gallu gweithio gyda'n gilydd gyda'r undebau yn ystod y dyddiau diwethaf, gan gydweithio â Tata—gan liniaru'r tyndra a gododd oherwydd y cynlluniau. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nawr fod y cyfle hwn yn cael ei ddefnyddio i gynnal y trafodaethau hynny, i gynnal trafodaethau parhaus fel hyn a fydd mor bwysig ac, yn y byrdymor, sydd wedi galluogi datrysiad i'r argyfwng hwn nawr.

15:10

Diolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad. Cyn i mi ddechrau, a gaf i dawelu meddwl llefarydd  Plaid Cymru gan ddweud nad wyf i wedi rhoi'r ffidil yn y to o ran cynhyrchu dur sylfaenol ym Mhort Talbot?

Roedd y newyddion ddydd Iau diwethaf, gadewch i ni fod yn onest am y peth, yn ddinistriol i deuluoedd, gweithwyr dur a chymunedau ym Mhort Talbot ac yn yr ardal ehangach. Fe'u torrwyd yn deilchion gan y newyddion hynny. Nid oedden nhw'n gwybod a fyddai ganddyn nhw gyflog yn dod i mewn yr wythnos nesaf na beth fyddai eu hincwm am y blynyddoedd i ddod, am yr wythnosau i ddod a'r dyddiau i ddod, hyd yn oed. Beth fyddai eu ffordd nhw o fyw? Roedd hwnnw'n arswyd iddyn nhw. Rwy'n credu, a bod yn onest, er fy mod i'n cydnabod y dadleuon o ran diogelwch, mai ymddygiad gresynus oedd hwn gan Tata a gwneud hynny ar ddechrau penwythnos heb roi cyfle i bobl fynd o amgylch mewn gwirionedd i ofyn, 'Sut gallwn ni siarad â'r undebau neu siarad â phobl?' Roedd hwnnw'n ymddygiad gwarthus, a bod yn onest. Fel dywedais i, ni allwn ond dychmygu'r gofid yr aeth pobl drwyddo. Fe wyddom ni am yr anawsterau y mae'r teuluoedd hynny'n eu hwynebu, a'r effaith y gallai hyn ei chael ar iechyd meddwl y bobl hyn, mewn amser o orfod wynebu ansicrwydd eisoes, wrth gael gwybod nad mis Hydref fyddai hi, mewn gwirionedd, ond yr wythnos nesaf. Mae hynny wedi codi dychryn mawr arnyn nhw.

Fe hoffwn i ddiolch i chi a'r Prif Weinidog am yr ymdrechion yr wyf i'n gwybod a wnaethoch chi dros y penwythnos i geisio datrys hyn. Rwy'n falch iawn fod pob plaid wedi dod yn ôl at y bwrdd erbyn hyn ar gyfer cynnal y trafodaethau hynny. Mae hynny'n hanfodol. Rwy'n ymwybodol nad oes gennyf i gymaint o amser i siarad am rai o'r materion ag sydd gan eraill. Felly, mae gennyf i ddau gwestiwn yn gyflym. Y bwrdd pontio, roeddech chi'n sôn am hwnnw. Yn fy marn i, mae wyth mis wedi bod ac nid oes ceiniog wedi cael ei gwario fyth. Roedd digwyddiadau'r wythnos hon mewn gwirionedd yn tynnu sylw at yr angen i wario'r arian hwnnw ar gyfer rhoi pobl yn eu lle a'u cefnogi nhw. Felly, a wnewch chi sicrhau bod y bwrdd pontio nid yn unig yn cwrdd ar fyrder, ond ein bod ni mewn gwirionedd yn gweld rhywfaint o weithredu yn ei sgil ac yn cael rhywfaint o arian oddi arno i wthio'r cwch i'r dŵr? Ni all pobl aros tan y flwyddyn nesaf, chwe mis arall, i bethau ddigwydd; mae angen iddyn nhw ddigwydd nawr. Yn ail, rwy'n croesawu'r posibilrwydd o fuddsoddi incwm dur gan Lywodraeth y DU sydd ar ddod, ac rwy'n gobeithio mai Llywodraeth Lafur fydd honno, am eu bod yn ymrwymo i ddur. Ond a wnewch chi a'r Prif Weinidog sicrhau eich bod chi'n cael cyfarfod brys yn ystod y dyddiau cyntaf gyda'r Llywodraeth nesaf i siarad am ddyfodol dur, a sicrhau bod Port Talbot a dur yng Nghymru ar frig yr agenda honno o ran dyfodol dur?

Rwy'n diolch i David Rees am y pwyntiau a wnaeth ef. Rwy'n cytuno yn llwyr ag ef. Mae gallu cynhyrchu dur sylfaenol wrth wraidd yr hyn yr ydym ni'n awyddus i'w ystyried fel buddsoddiad ledled economi'r DU gyda Llywodraeth newydd—o ran dur yn benodol, ond yn ein seilwaith hefyd, ein seilwaith adnewyddadwy. Mae bod â'r gallu hwnnw i gynhyrchu'r dur sylfaenol hwnnw yn gwbl hanfodol yn hynny o beth.

O ran y pwyntiau a wnaeth ynglŷn â'r bwrdd pontio, rwy'n cytuno ag ef. Yr hyn y mae angen i ni ei weld yw bwrdd pontio sy'n gallu defnyddio'r arian a glustnodwyd gan bobl mewn gwirionedd. Mae rhaglenni Llywodraeth Cymru yn cael eu defnyddio gan weithwyr eisoes, a dyna'r hyn yr ydym ni'n dymuno ei weld. Rydym ni'n dymuno gweld pobl yn gallu manteisio ar yr arian hwnnw i ddatblygu gwahanol sgiliau, ar gyfer bod â dewisiadau. Ond, mewn gwirionedd, yr hyn na welsom ni yw'r bwrdd pontio yn gallu gweithredu mewn ffordd sy'n symud ymlaen yn ddigon cyflym yn hynny o beth. Rwy'n cytuno yn llwyr ag ef mai dyna'r hyn y mae'n rhaid i ni ei weld. Rwy'n hyderus, ac yn gobeithio, y bydd gennym ni Lywodraeth newydd ar waith ar ddiwedd yr wythnos hon, y bydd gennym weledigaeth gyffredin â Llywodraeth y DU ynghylch hynny, ac fe allaf ei sicrhau ef y bydd y Prif Weinidog a minnau yn ceisio sicrhau'r cyfarfod hwnnw ar ein cyfle cyntaf gyda'n haelodau cyfatebol yn Llywodraeth y DU. Y profiad yn ystod y dyddiau diwethaf—. Roedd y Prif Weinidog yn sôn yng nghwestiynau'r Prif Weinidog yn gynharach am y cyfarfod a gawsom ni gyda Keir Starmer, ond gyda Jonathan Reynolds a Jo Stevens hefyd, a oedd yn arddangos lefel o gydweithio sef, yn fy marn i, yr union beth sydd ei angen arnom ni ar gyfer gallu rhoi dyfodol amgen ar waith ar gyfer cynhyrchu dur yng Nghymru ac yn y DU.

15:15

Roeddech chi'n dweud yn eich datganiad fod y tyndra dros y dyddiau diwethaf wedi tynnu sylw at y ffaith fod cymaint yn y fantol ar hyn o bryd. Yr hyn a ddaeth i'r golwg i mi oedd agwedd resynus tuag at hawliau dilys gweithwyr, yr ymladdwyd mor galed i'w hennill. Mae'n debyg na ddylai hi fod o syndod i ni, o ystyried bygythiadau ffiaidd Tata dros y mis diwethaf, y tynnodd fy nghyd-Aelod, Luke Fletcher, sylw atyn nhw mewn ffordd mor briodol. Mae hi'n ymddangos bob amser fod digon o arian gan y cwmnïau hyn ar gyfer ymgais i danseilio'r hawl i streicio. A ydych chi'n cytuno bod y gweithlu, y gweithlu galluog a theyrngar sydd wedi gwasanaethu'r diwydiant dur ym Mhort Talbot ers cenedlaethau, yn haeddu gwell oddi wrth eu cyflogwr? Ac o gofio y bydd y trafodaethau gyda'r undebau yn ailddechrau nawr ac fe wyddom ni bron yn gyfan gwbl sicr y bydd newid yn y Llywodraeth yn San Steffan, sut mae Llywodraeth Cymru am wneud ei rhan hi, ar y cyd â Llywodraeth newydd y DU, i sicrhau y bydd lleisiau gweithwyr a'r gymuned yn fwy eang yn cael eu clywed a'u bod yn cael eu trin yn deg, ac nad yw eu dyfodol nhw'n cael ei ddal yn bridwerth gwaith gan gwmni y mae hi'n ymddangos ei fod yn malio cyn lleied am lesiant y bobl sydd wedi rhoi cymaint o wasanaeth iddo?

Rwy'n diolch i Sioned Williams am y cwestiynau yna. Ie, yr hyn yr ydym ni'n dymuno ei weld nawr yw ymgysylltiad a thrafodaethau priodol rhwng Tata a'r tri undeb llafur. Dyna'r hyn yr ydym ni'n ei obeithio y bydd yn digwydd nawr, gyda chanlyniad y penderfyniadau a gafodd eu gwneud ar ddydd Sul a dydd Llun yr wythnos hon. Rwyf i o'r farn y bydd cael trafodaethau ar y gweill rhwng Tata a phwyllgor dur y DU i weithio drwy'r buddsoddiad yn y dyfodol a gweithio drwy'r telerau—. Wyddoch chi, roeddech chi'n sôn am yr ymrwymiad gorau posibl oddi wrth Tata—rydym ni'n dymuno gweld hynny'n rhan o'r trafodaethau, y broses ymddiswyddo, y telerau gwirfoddol; rydym ni'n dymuno gweld y telerau gorau posibl ar gael i'r gweithlu, ond y gefnogaeth yn fyw eang hefyd, ac yn hollbwysig, y buddsoddiad i'r dyfodol. Fe wyddom ni fod dyfodol cynaliadwy ar gyfer cynhyrchu dur yng Nghymru ac yn y DU. Rydym ni'n dymuno gweld y buddsoddiad hwnnw yn ei le ar gyfer gwireddu hynny, fel ein bod ni'n gallu—. Roeddech chi'n sôn am y gweithlu teyrngar a galluog ac ni allwn gytuno mwy â chi; mae hwn yn weithlu hynod alluog ac anhygoel o deyrngar sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr at economi Cymru ac economi'r DU ers degawdau ac rydym ni'n awyddus i weld dyfodol lle bydd swyddogaeth allweddol ganddyn nhw sy'n cyfrannu cymaint at yr economi ac yn cyfrannu at gymunedau'r de a Chymru gyfan, fel bu hi ers degau o flynyddoedd.

Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad heddiw a'i waith ynghylch y mater hwn a gwaith Llywodraeth Cymru, nid yn unig dros y dyddiau diwethaf ond dros y blynyddoedd wrth gefnogi diwydiant dur Cymru. Rwy'n falch o gynrychioli cymuned gynhyrchu dur yn Shotton; mae'r cysylltiadau rhwng fy nghymuned i yno a Phort Talbot yn gryf ac rwy'n adleisio sylwadau David Rees. Mae'r gallu i gynhyrchu dur crai ym Mhort Talbot yn hanfodol i'r diwydiant, mae hynny'n hanfodol i'n cenedl ac mae bod â chyflenwad hirdymor o ddur o ansawdd da yn hanfodol i safle Shotton yn Alun a Glannau Dyfrdwy.

Ysgrifennydd Cabinet, a gaf i ofyn i chi: a wnewch chi barhau i weithio gyda phartneriaid, a fydd yn cynnwys, rwy'n gobeithio, Llywodraeth Lafur yn San Steffan wedi'r etholiad ddydd Iau, i bwysleisio bod angen gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig i ddiogelu'r diwydiant a diogelu swyddi sy'n galluogi perthyn i undeb ac sy'n talu yn dda yng Nghymru? Diolch.

Rwy'n diolch i Jack Sargeant am y cwestiwn yna. Mae ef yn gywir: mae'r gallu i gynhyrchu dur sylfaenol yn gwbl hanfodol i'r dyfodol uchelgeisiol hwnnw i bawb ohonom ni. Ac rwy'n credu ei fod ef yn iawn hefyd i ddweud mai gweithio fel hyn mewn partneriaeth, gyda sianeli eglur o gyfathrebu a thrafodaethau ymgysylltiedig a fydd yn arwain at y dyfodol cynaliadwy hwnnw gyda dur. Rwy'n gallu ei sicrhau ef y byddwn ni yn y Llywodraeth yn gwneud ein rhan gyflawn yn hynny o beth, gan weithio, fel rydym ni'n gobeithio, gyda Llywodraeth Lafur newydd ar ddiwedd yr wythnos hon, ond gyda Tata hefyd a'r undebau i sicrhau y bydd y dyfodol hirdymor a chynaliadwy hwnnw ar gyfer cynhyrchu dur yng Nghymru yn cael ei wireddu.

Ysgrifennydd Cabinet, mae hi'n ymddangos yn eglur i mi fod pobl yn gallu deall yr achos dros gynhyrchu dur sylfaenol a dur fel diwydiant strategol ar gyfer amddiffyn a gweithgynhyrchu yn gyffredinol, a thros y seilwaith y bydd ei angen arnom ni, ac maen nhw'n deall bod angen pontio at ddur gwyrdd oherwydd her newid hinsawdd. Felly, rwy'n mawr obeithio, gyda Llywodraeth Lafur newydd y DU yn gweithio gyda'n Llywodraeth ni yma yng Nghymru, yr undebau—yr undebau dur—a Tata, fe fyddwn i'n gobeithio, y bydd y gydnabyddiaeth honno y byddwn ni mewn sefyllfa wahanol wedyn, gyda Llywodraeth newydd gydag ymrwymiad o'r fath, a strategaeth ddiwydiannol sydd, wyddoch chi, yn edrych yn wirioneddol ar sut y byddwn ni'n pontio a sut byddwn yn ei gyflawni—y byddwn ni mewn sefyllfa wahanol iawn wedyn. Fe fydd hynny'n gweddnewid y rhagolygon ar gyfer ein cymunedau cynhyrchu dur, ar gyfer Llanwern a gweithfeydd eilaidd eraill, Ysgrifennydd Cabinet—y byddwn ni'n gweld y buddsoddiad angenrheidiol ar gyfer datgarboneiddio a phontio at ddur gwyrdd ar gael ar y lefel eilaidd hefyd, sydd, yn amlwg, mor bwysig i Lanwern a llawer o'n cymunedau dur eraill yma yng Nghymru.

15:20

Rwy'n cytuno â John Griffiths yn hynny o beth. Rwyf i o'r farn fod y pwynt y mae ef yn ei wneud am gyfraniad dur i'r strategaeth ddiwydiannol yn gwbl sylfaenol Fe wyddom ni am y cyfleoedd sydd yng Nghymru o ran datgarboneiddio ein cyflenwad ynni a sicrhau ein bod ni'n buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy yma—y cyfle o ran gwynt arnofiol ar y môr. Cyfleoedd yw'r rhain y gallwn ni fanteisio'n llawn arnyn nhw dim ond i ni fod â'r gallu hwnnw i gynhyrchu dur a fydd o ddefnydd i'r prosiectau adeiladu hynny. Dyna pam mae hi mor hanfodol i ni allu cydgysylltu, os hoffech chi, elfennau amrywiol y strategaeth ddiwydiannol honno yn y ffordd y mae John Griffiths yn ei disgrifio.

Yn ail, mae hi'n bwysig gweld buddsoddiad ym mhob safle sy'n cynhyrchu dur yng Nghymru, cwmnïau eilaidd yn ogystal â'r capasiti sylfaenol. Roeddwn i'n sôn ychydig bach yn fy natganiad i am bwysigrwydd deall y cyflenwad o gynnyrch ar gyfer safleoedd eilaidd, ac rydym ni'n gweithio i nodi a chael darlun mwy eglur nag sydd gennym ni o'r sefyllfa honno ar hyn o bryd. Ond mae hi'n iawn dweud ein bod ni'n dymuno gweld buddsoddiad ym mhob safle yng Nghymru er mwyn i bob safle fod â rhan briodol yn y dyfodol hwnnw o ddur gwyrdd.

Ysgrifennydd Cabinet, diolch i chi am eich datganiad heddiw i ddiweddaru'r Senedd ar y sefyllfa ddiweddaraf o ran lliniaru'r anghydfod ynghylch Tata Steel. Yn un o Aelodau'r Senedd dros Went rwy'n croesawu eich bod chi wedi pwysleisio y bydd y penderfyniadau hyn yn effeithio ar weithfeydd eilaidd, gan gynnwys y rhai yn Llanwern, a'r cadwyni cyflenwi eilaidd. Ond mae'r sefyllfa o ran y gweithlu, fel roeddech chi'n dweud, wedi bod yn un anodd iawn ac mae hi'n parhau i fod felly, ac maen nhw wedi cael eu trin yn ddifrifol. Dylid cydnabod Unite, yr undeb llafur, a Tata am yr hyblygrwydd a ddangoswyd yn ystod y dyddiau cythryblus hyn.

Ysgrifennydd Cabinet, bydd pobl y DU yn bwrw eu pleidleisiau ar ddydd Iau, gyda Llywodraeth newydd yn cael ei ffurfio yn y DU erbyn bore Gwener. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru am eu cymryd nhw'n ddiweddarach yn ystod yr wythnos hon, pe etholid Llywodraeth a Phrif Weinidog o blaid newydd, i alw ar Lywodraeth newydd y DU i ystyried hyn unwaith eto, ac ystyried diogeledd ynni i Gymru ac, yn wir, i'r Deyrnas Unedig gyfan? A wnewch chi roi unrhyw sicrwydd i mi y bydd Llywodraeth Cymru yn mynegi unwaith eto fod yn rhaid gwneud popeth a ellir i achub swyddi medrus a gallu allweddol ein cenedl i fod yn gynhyrchydd dur sylfaenol?

Rwy'n diolch i Rhianon Passmore am y cwestiynau yna. Fe wn i, yn y trafodaethau a gafodd y Prif Weinidog a minnau gyda gweinidogion cyfatebol yng Nghabinet yr Wrthblaid yr ydym ni'n mawr hyderu y bydd y Cabinet gwirioneddol ar ddiwedd yr wythnos hon, y bydd yr ymrwymiadau y mae hi'n eu ceisio yn rhai a fydd yn cael eu rhoi yn barod iawn. Mae'r weledigaeth gyffredin honno ar gyfer cynhyrchu dur gwyrdd, gyda swyddi medrus, buddsoddiad mawr, ac mewn ffordd gynaliadwy yn un y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhannu â Phlaid Lafur y DU, ac rwy'n credu bod cyfle gwirioneddol i weithio law yn llaw mewn partneriaeth i gyflawni hynny. Dyna'r hyn yr ydym ni'n awyddus i'w weld; fe wn i mai dyna'r hyn y mae Aelodau cyfatebol ym Mhlaid Lafur y DU yn awyddus i'w weld. Dim ond os bydd pobl yn gwneud eu dewisiadau nhw ar ddydd Iau y daw hynny i fod. Nid yw'r buddsoddiad hwnnw am fod ar gael beth bynnag fydd y canlyniad ar ddydd Iau. Fe fydd y buddsoddiad hwnnw ar gael lle ceir Llywodraeth â gweledigaeth sy'n ymrwymedig nid yn unig i'r strategaeth ddiwydiannol ehangach yr ydym ni'n sôn amdani nawr, ond yn benodol i gefnogi cynhyrchiant dur, yn ogystal â hynny. 

Rwy'n diolch yn fawr iawn i chi am yr holl waith a wnaethoch chi ac eraill i ddod â phobl at ei gilydd ar yr adeg hynod anodd hon, oherwydd ni ellir gorbwysleisio pa mor bwysig yw dur i'n heconomi ni ac o ran datgarboneiddio ein heconomi ni i'r dyfodol. Mae angen i ni sicrhau cyflenwadau o ddur i adeiladu'r datrysiadau ynni gwyrdd i'r argyfwng hinsawdd yr ydym ni'n dymuno arwain arnyn nhw. Rwy'n nodi yn eich datganiad fod Tata yn dweud y bydd yn dibynnu ar fewnforion o dramor am y tair blynedd nesaf nes adeiladu'r ffwrnais arc drydan newydd hon. Serch hynny, roedd Celsa, mewn llythyr at Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, yn dadlau—mae ganddyn nhw, yn amlwg, ffwrnais arc drydan sy'n atgynhyrchu dur o hen geir a ailgylchwyd a pheirianwaith arall a ddaeth i ddiwedd ei oes—dros reoliadau i gyfyngu ar allforio dur sgrap i wledydd sydd â safonau amgylcheddol is ar gyfer cadw dur sgrap o ansawdd uchel yn y DU, ac roeddwn i'n meddwl tybed pa drafodaethau y gallech fod yn eu hystyried ar gyfer sicrhau y byddwn ni'n gallu dod o hyd i'r dur y mae cymaint o'i angen arnom ni i adeiladu'r holl dyrbinau gwynt hyn y bydd angen i ni eu hadeiladu ledled Cymru.

15:25

Mae'r trafodaethau hynny ar y gweill ac mae'r Aelod Jenny Rathbone yn iawn i ddweud ein bod am sicrhau, am resymau amgylcheddol, ein bod yn gallu defnyddio dur sgrap o fewn y DU, cyn belled ag y bo hynny'n bosibl, mewn cynhyrchu mewn rhannau eraill o'r DU. Rwy'n credu bod y pwynt y mae hi'n ei wneud yn amlygu, onid ydyw, y risg o allforio carbon i rannau eraill o'r DU gan rai o'r dewisiadau sydd o'n blaenau. Yr hyn yr ydyn ni eisiau ei weld, yn amlwg, yw dyfodol dur gwyrdd i Gymru ac i weddill y DU, a bydd rhan o hynny yn golygu newid sut mae'r farchnad sgrap yn gweithredu er mwyn i hynny fod ar gael yn haws yn y DU. Yn hollbwysig, rwy'n credu bod cyfle gwirioneddol i ni nawr, gyda'r lefel newydd o fuddsoddiad y byddwn yn ei weld yn dod i mewn i'r sector, i wneud rhai o'r dewisiadau gwell hynny ar gyfer dur gwyrdd.

4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Y cynnydd o ran diwygio’r cwricwlwm a'r camau nesaf

Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar y cynnydd o ran diwygio'r cwricwlwm a'r camau nesaf. Ac felly Lynne Neagle i gyflwyno'r datganiad yma.

Diolch, Llywydd. Ers dod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, cefais y fraint o ymweld â nifer o ysgolion a gweld y Cwricwlwm i Gymru ar waith. Mae mwy a mwy o'n harweinwyr a'n hathrawon yn manteisio ar y cyfle hwn i ddatblygu dysgu gyda phwrpas clir, sy'n denu sylw ac yn herio pob plentyn a pherson ifanc. A thrwy roi eu llesiant wrth wraidd dysgu, rydym yn sicrhau bod pob plentyn yn barod i ddysgu. Nid yn unig drwy ein dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl, nid yn unig drwy wneud iechyd a llesiant yn faes dysgu gorfodol, neu drwy ein canllawiau ar alluogi dysgu i bawb, ond drwy roi anghenion pob plentyn yn gyntaf.

Rydyn ni eisiau i blant gyrraedd eu potensial llawn. Rydyn ni am iddyn nhw ffynnu fel dysgwyr, dinasyddion, unigolion hyderus a chyfranwyr i gymdeithas, nid yn unig yn ystod eu hamser yn yr ysgol, ond am weddill eu hoes. Rydyn ni'n cyflawni hynny drwy ddysgu sy'n heriol, ond hefyd yn ysbrydoledig; yn drylwyr yn academaidd, ond gyda defnydd ymarferol clir yn y byd go iawn; sy'n ymateb i ddysgwyr, gan bennu disgwyliadau uchel, ymestynnol.

Gan mwyaf, mae penaethiaid yn dweud wrthyf eu bod yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru. Maen nhw'n gweld y cyfleoedd hyn, ac maen nhw eisiau gwneud pethau'n iawn. Ond mae'n amlwg i mi, yn dilyn effaith y pandemig a'r heriau parhaus sy'n wynebu'r sector, bod angen manylion a chefnogaeth ychwanegol ar arweinwyr ac ymarferwyr i'w helpu i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd hynny, yn enwedig mewn meysydd fel dilyniant ac asesu. Rwyf eisiau bod yn glir: rwyf wedi gwrando ar hyn a byddaf yn darparu'r gefnogaeth honno.

Rydym yn parhau i wneud cynnydd sylweddol. Hoffwn ganmol yr arweinwyr, yr athrawon ac ymarferwyr eraill y mae eu hymrwymiad personol i'w dysgwyr yn ysgogi'r newid hwn. Bob dydd, rwy'n gweld mwy a mwy o enghreifftiau rhagorol o ysgolion a lleoliadau yn defnyddio'r cwricwlwm i ysbrydoli a herio eu plant. Yn ein hadroddiad blynyddol Cwricwlwm i Gymru, a gyhoeddir yn ddiweddarach yr wythnos hon, aethom ati i nodi bod lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir, ysgolion arbennig a'r rhan fwyaf o ysgolion cynradd yn parhau i wneud cynnydd da wrth weithredu'r Cwricwlwm i Gymru. Rydym hefyd yn gwybod bod mwy o amrywioldeb mewn ysgolion uwchradd ac unedau cyfeirio disgyblion. Fodd bynnag, mae'r rhain yn ddiwygiadau hirdymor, ac rydym yn gwybod bod ffordd i fynd o hyd wrth i ni symud tuag at ei gyflwyno i bob grŵp blwyddyn ym mis Medi 2026, a dyfarnu ein TGAU, gwneud-i-Gymru, newydd yn haf 2027 am y tro cyntaf.

Eleni, cyhoeddais ganllawiau drafft ar gyfer dysgu rhwng 14 ac 16, ac mae fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid wrth i ni ddatblygu'r cymwysterau newydd hyn.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

15:30

Rwy'n benderfynol y bydd pob plentyn yn elwa ar y cyfleoedd helaeth a gynigir gan y cwricwlwm hwn. Dros weddill tymor y Senedd, bydd y Llywodraeth hon, mewn cydweithrediad â phartneriaid a'r sector, yn rhoi pecyn cymorth cenedlaethol ar waith ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. Byddwn yn sicrhau sylfaen gyffredin o ddisgwyliadau a chymorth, gan ganiatáu i bob ysgol fanteisio ar gyfleoedd y cwricwlwm i'w dysgwyr.

Yn gyntaf, byddwn yn darparu manylion a dulliau clir ar gyfer dylunio, datblygu ac asesu'r cwricwlwm, lle mae arweinwyr wedi lleisio'r angen am eglurder pellach yn fwyaf cyson. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cefnogaeth gydweithredol ddwys sydd ar gael yn genedlaethol ar gyfer dylunio, creu cynnydd ac asesu'r cwricwlwm. Bydd y rhaglen hon yn ategu'r gwersi o raglen dreialu dylunio'r cwricwlwm, y camau enfawr a wnaed gan athrawon, a'r gefnogaeth effeithiol bresennol yn y system. Bydd hyn yn dechrau yn yr hydref, ac yn ehangu dros y flwyddyn academaidd ac i mewn i 2025-26.

Byddwn yn cyhoeddi adnoddau a thempledi penodol i roi proses glir i ysgolion ar gyfer datblygu a gwella eu cwricwlwm, ni waeth beth fo'u man cychwyn. Mae hyn yn cynnwys rhagor o fanylion ar ddulliau o fynd ati i ddatblygu ac asesu, gan gynnwys gwerthuso a chyfleu'r cynnydd y mae dysgwyr yn ei wneud. Byddwn yn cyhoeddi'r cyntaf o'r gwanwyn nesaf ac yn adeiladu ar y rhain yn y flwyddyn academaidd ganlynol. Byddwn hefyd yn helpu ysgolion i weld enghreifftiau o ddylunio, creu cynnydd ac asesu'r cwricwlwm, drwy hyrwyddo a rhannu arfer effeithiol a ddatblygwyd drwy gydweithio rhwng ysgolion.

Rwyf wedi sôn o'r blaen am fy ymrwymiad i lythrennedd a rhifedd. Mae'r rhain yn byrth sylfaenol i ddysgu, ochr yn ochr â chymhwysedd digidol, ac maen nhw'n sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol. Mae cwricwlwm ysgol ar ei orau pan fydd yn caniatáu i ddysgwyr ddefnyddio, datblygu a mireinio'r sgiliau hyn, eu trosglwyddo a'u defnyddio mewn cyd-destunau newydd, ystyrlon. Mae hyn yn allweddol i godi safonau, felly, yn ail, byddwn yn canolbwyntio ar ddatblygu'r sgiliau hyn. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cymorth cydweithredol dwys sydd ar gael yn genedlaethol i helpu i wreiddio llythrennedd a rhifedd ar draws pob maes o'r Cwricwlwm i Gymru. Unwaith eto, bydd hyn yn cael ei ddatblygu gydag arweinwyr ac athrawon, gan adeiladu ar yr hyn sy'n gweithio'n dda. Bydd hyn yn cael ei dreialu yn y flwyddyn academaidd nesaf a'i ehangu yn y flwyddyn ganlynol. Byddwn yn cryfhau ein disgwyliadau cenedlaethol ar gyfer y sgiliau hyn trwy ddiweddaru'r fframweithiau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol a'u cyhoeddi fel canllawiau statudol. Bydd y statws arweiniad statudol hwnnw yn helpu i gefnogi dulliau mwy cyson ledled Cymru.

Byddwn yn ymgynghori ar fframwaith llythrennedd a rhifedd diwygiedig a chryf y flwyddyn nesaf, i'w gwblhau yn gynnar yn 2026, ac yna'r fframwaith cymhwysedd digidol yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Byddwn yn darparu egwyddorion cenedlaethol clir ynghylch addysgu a dysgu mewn llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, gan fod yn glir am y blociau adeiladu ar gyfer dysgu cryfach a'r adnoddau o ansawdd uchel sy'n cefnogi hyn. Rhaid i hyn ddilyn y dystiolaeth. O ran llythrennedd, er enghraifft, mae hynny'n golygu cydnabyddiaeth glir o bwysigrwydd allweddol ffoneg, yn ogystal â'r blociau adeiladu hanfodol eraill o ddarllen.

Yn olaf, byddwn yn cefnogi ymarferwyr i gynllunio dysgu o fewn ac ar draws y meysydd dysgu a phrofiad. Bydd y cymorth maes penodol hwn yn helpu gweithwyr proffesiynol i gynllunio cynnydd ym mhob maes. Bydd yn eu cefnogi i ddewis cynnwys ymestynnol a chynllunio datblygiad gwybodaeth a sgiliau perthnasol. Byddwn yn dechrau treialu hyn yn y flwyddyn academaidd nesaf. Ni fydd y gefnogaeth hon yn cael ei gwireddu dros nos, ac mae hynny am reswm da. Mae'n hanfodol ein bod yn cael y manylion a'r gefnogaeth ychwanegol hon yn gywir. Gwyddom o brofiad gwledydd eraill bod darparu mwy a mwy o arweiniad yn unig yn gorlwytho athrawon heb wella safonau. Mae'n rhaid iddo fod y math cywir o fanylder. Rhaid iddo fod yn glir ac yn syml. Dyna pam y byddwn yn gweithio gydag ymarferwyr, arweinwyr, partneriaid cyflawni a rhanddeiliaid i gyd-greu manylion y gefnogaeth hon.

Rwyf eisiau bod yn glir—does dim o hyn yn tynnu unrhyw beth oddi ar yr ysgolion hynny sydd eisoes yn gwireddu'r cwricwlwm ar gyfer eu plant. Mae hyn yn ymwneud â rhoi sylfaen gadarn ar waith ar gyfer y rhai sydd ei angen, peidio â rhoi nenfwd ar yr arloesedd yr ydym eisoes yn ei weld ledled y wlad. Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn gwricwlwm o gyfleoedd i bawb, a byddaf yn sicrhau bod gan ysgolion yr adnoddau a'r hyder sydd eu hangen arnynt i wneud y mwyaf ohonynt. Diolch.

15:35

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet am eich datganiad heddiw. Bu llawer o adroddiadau pryderus yn ddiweddar am athrawon yng Nghymru yn profi lefelau uchel o drais a cham-drin geiriol mewn ysgolion gan eu disgyblion ac yn sgil hynny yn teimlo bod awdurdodau lleol yn cefnu arnyn nhw pan godir hyn. Mae arolwg 'Ymddygiad mewn Ysgolion' NASUWT wedi datgelu bod bron i 40 y cant o athrawon yng Nghymru yn y 12 mis diwethaf wedi dweud eu bod wedi profi trais neu gam-drin corfforol yn yr ystafell ddosbarth; 95 y cant wedi profi cam-drin geiriol yn yr ystafell ddosbarth; ac roedd 91 y cant yn honni bod disgyblion wedi rhegi arnynt. Mae athrawon hefyd wedi gwneud honiadau eu bod wedi cael eu gwthio neu eu hyrddio, eu taro neu eu pwnio, eu cicio, poeri atynt a'u penio, ac mae rhai wedi dweud bod cadeiriau wedi'u taflu atynt. Yn gyntaf, Ysgrifennydd Cabinet, pam ydych chi'n meddwl bod hyn yn digwydd? Beth, yn eich meddwl chi, sydd wedi newid mor sylweddol fel bod disgyblion yn gwneud hyn?

Mae diwygio'r cwricwlwm yn rhywbeth i'w gefnogi, ond mae'n ddibwrpas os yw athrawon yn profi trais gan fyfyrwyr ac nad oes dim yn cael ei wneud am y peth. Mae tystiolaeth anecdotaidd a gefais gan nifer o etholwyr, sy'n gweithio mewn ysgolion ar draws fy rhanbarth, yn awgrymu mai un o'r prif broblemau y mae ysgolion uwchradd yn eu hwynebu yw'r nifer uchel o blant yn fepio, a bod rhai plant yn defnyddio dyfais untro gyfan y dydd, a all, fel y gwyddoch chi, gynnwys hyd at 20 mg o nicotin, tua'r un faint o nicotin ag a welir mewn pecyn o sigaréts cryf. Mae'r etholwyr hyn wedi dweud wrthyf sut maen nhw wedi gweld plant yn mynd yn ymosodol iawn os yw'r fêps yn cael eu hatafaelu, yn fwyaf tebygol oherwydd symptomau tynnu'n ôl o nicotin. Ond, gyda hyn mewn golwg, beth sy'n cael ei wneud i ymchwilio i hyn fel problem? Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod dyletswydd ar awdurdodau lleol ac ysgolion i sicrhau bod ysgolion yn amgylchedd diogel i bawb. Ond, yn amlwg, maen nhw'n methu. Rwy'n deall nad yw'r broblem hon yn mynd i ddiflannu dros nos, ond beth yw eich cynlluniau ar gyfer ymdrin â hyn? 

Rydych chi'n potsian gyda'r cwricwlwm, pan fo materion enfawr eraill sy'n ymddangos fel pe baen nhw'n cael eu hanwybyddu. Byddwch chi'n ymwybodol, Ysgrifennydd Cabinet, yn y flwyddyn a ddaeth i ben yn 2022, fod 1,175 o athrawon wedi gadael y proffesiwn yng Nghymru, a dim ond 125 o'r rhain oedd o oedran ymddeol. Roedd y niferoedd uchaf a adawodd mewn gwyddoniaeth a Saesneg, dau faes y mae Cymru yn ei chael hi'n anodd iawn ynddynt. Yn anffodus, mae nifer yr athrawon yng Nghymru wedi gostwng tua 2,000 ers 2014, sy'n cyfateb i tua 5 y cant, ac rydym yn gweld gostyngiad yn nifer yr athrawon sy'n addysgu pynciau y maent wedi'u hyfforddi ynddynt mewn gwirionedd. Er enghraifft, yn 2023, dim ond 35 y cant o athrawon gwyddoniaeth oedd wedi'u hyfforddi mewn gwyddoniaeth. Ac mae hyn yn golygu, Ysgrifennydd Cabinet, sut bynnag rydych chi'n edrych arno, ac er gwaethaf ymdrechion gorau athrawon, y bydd yna lawer a fydd yn brin o'r ddealltwriaeth sylfaenol o'r pynciau maen nhw'n eu haddysgu. Fodd bynnag, sut ydych chi'n mynd i gyfrif am hyn wrth ddiwygio'r cwricwlwm, pan fo'n amlwg bod ysgolion eisoes yn ei chael hi'n anodd dysgu pynciau craidd ar hyn o bryd?

Rydych chi'n sôn am eich ymrwymiad i lythrennedd a rhifedd; a dweud y gwir, nid yw hyn yn cael ei drosi i realiti. Ni fydd ychwaith, wrth gwrs, yn syndod i chi fod sgoriau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr wedi gostwng mwy yng Nghymru nag mewn unrhyw wlad arall—mwy nag yn y rhan fwyaf o wledydd eraill—yn 2022, gyda sgoriau yn gostwng o tua 20 pwynt, gan ddod â sgoriau yng Nghymru i'r lefel isaf erioed, yn sylweddol is na'r cyfartaledd ar draws gwledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac yn sylweddol is na'r rhai a welir ar draws gweddill y Deyrnas Unedig. Ni ellir egluro sgoriau is yng Nghymru, fel y byddwch, heb os, yn ei werthfawrogi'n llawn, Ysgrifennydd Cabinet, oherwydd lefelau uwch o dlodi. Mae plant difreintiedig yn Lloegr yn sgorio tua 30 pwynt yn uwch ar gyfartaledd na phlant difreintiedig yng Nghymru. Hyd yn oed yn fwy rhyfeddol, mae perfformiad plant difreintiedig yn Lloegr naill ai'n uwch na'r cyfartaledd neu'n debyg i'r cyfartaledd i bob plentyn yng Nghymru. Mae'n annhebygol y bydd y gwahaniaethau mewn perfformiad addysgol rhwng Cymru a Lloegr yn cael eu hesbonio gan wahaniaethau mewn adnoddau a gwariant, gan fod gwariant fesul disgybl yn debyg yn y ddwy wlad o ran lefelau cyfredol a thueddiadau diweddar dros amser.

Mae gan Gymru hefyd gyfran uwch o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant na gweddill y DU: 11 y cant, o'i gymharu â 5 y cant i 9 y cant mewn gwledydd eraill. A Chymru sydd â'r lefelau isaf o gyfranogiad mewn addysg uwch, yn enwedig ymhlith bechgyn. Nid wyf am ailadrodd y pwynt hwn ymhellach. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn deall yr hyn rwy'n ei ddweud yma, ac, Ysgrifennydd Cabinet, nid fy mwriad i yw sgorio unrhyw bwyntiau gwleidyddol o dynnu sylw at hyn. Nid yw'n rhoi unrhyw bleser i mi dynnu sylw at y canfyddiadau hyn, ac mae'n drist sefyll yma a nodi pa mor wael yw'r sefyllfa. Rwy'n credu bod angen i'r Llywodraeth hon esbonio'n iawn i bobl Cymru pam mae'r sgoriau PISA hyn yng Nghymru yn gostwng ar y gyfradd hon. Gwyddom fod athrawon yn gweithio'n galetach nag erioed. Gwyddom nad lefelau amddifadedd nac effaith mewnfudo sy'n achosi'r canlyniadau hyn. Mae effaith COVID wedi effeithio ar holl wledydd y DU ond eto, ar ôl 25 mlynedd o Lafur Cymru, rydym wedi gweld perfformiadau gwaethaf myfyrwyr mewn darllen, gwyddoniaeth a mathemateg yn hanes Cymru. Heb unrhyw siarad gwag gwleidyddol, Ysgrifennydd Cabinet, eich bai chi a neb arall yw hyn. Allwch chi egluro i mi pam mae disgyblion yng Nghymru yn cael cymaint yn fwy o drafferthion, o'i gymharu â phob gwlad arall yn y DU? Mae tystiolaeth yn awgrymu mai'r cwricwlwm cyffredinol sy'n seiliedig ar sgiliau y mae Llywodraeth Cymru yn ei wthio a allai fod yn achos dirywiad mewn perfformiad addysgol yng Nghymru. Felly, nid yw'r TGAU gwneud-i-Gymru newydd sydd i fod i gael eu haddysgu yng Nghymru yn mynd i helpu disgyblion i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gystadlu yn erbyn eraill a addysgir yn y DU. Rydych chi wedi dweud yn eich datganiad eich bod chi eisiau i blant gyrraedd eu llawn botensial, ond mae hyn yn nonsens; rydych chi'n dileu—

15:40

Diolch yn fawr, Llywydd. Rydych yn dileu gwyddoniaeth driphlyg fel opsiwn mewn ysgolion a bydd hyn, yn fwy na thebyg, yn cyfuno'r anghydraddoldeb addysgol ar gyfer disgyblion Cymru mewn STEM, o'i gymharu â gweddill y DU. Mae'n ymddangos bod pawb yn gallu gweld bod diwygio'r cwricwlwm yn gamgymeriad. Ysgrifennydd Cabinet, pam mae Llywodraeth Cymru mor benderfynol o roi plant Cymru dan gymaint o anfantais o'i gymharu ag eraill yn y DU? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Joel, am y sylwadau yna. Fe wnaf fy ngorau i ateb yr hyn a oedd yn ystod eithaf eang o sylwadau. Os caf ddechrau drwy ddweud ein bod ni i gyd, yn amlwg, eisiau i'n holl ysgolion fod yn fannau diogel a chroesawgar i bob plentyn a pherson ifanc a'n staff. Mae gan awdurdodau lleol ac ysgolion gyfrifoldeb i sicrhau bod ysgolion yn llefydd diogel i bobl weithio ynddyn nhw. Rwy'n ymwybodol o'r ymchwil gan NASUWT yr ydych chi wedi cyfeirio ato, ac yn wir fe drafodais ymddygiad mewn ysgolion gyda nhw yn ddiweddar, ac rwyf hefyd wedi trafod hyn gydag undebau llafur eraill. Mae'n faes sy'n peri pryder, o ran —. Rydych chi'n gofyn i mi pam mae hyn yn digwydd. Rwy'n credu bod hwnnw'n gwestiwn cymhleth iawn. Yr hyn sy'n amlwg i mi fel Ysgrifennydd Cabinet yw bod ystod eang o broblemau cymdeithasol bellach yn ymddangos yn ein hysgolion, ac mae hynny wedi gwaethygu ers y pandemig. Yn sicr, dydw i ddim yn credu bod y cwricwlwm yn unrhyw achos o hynny, ac yn wir rwy'n credu bod cwricwlwm pwrpasol a gafaelgar yn rhywbeth a fydd mewn gwirionedd yn helpu i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc a gwella ymddygiad mewn ysgolion.

Fe wnaethoch chi gyfeirio'n benodol at fepio. Yn amlwg, mae honno'n broblem sy'n amlwg iawn ar radar Llywodraeth Cymru ac roeddem ni, cyn yr etholiad, yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar ddeddfwriaeth ledled y DU ar dybaco a fepio. Yn anffodus, collwyd y ddeddfwriaeth honno oherwydd yr etholiad, ond rydym yn ymrwymo i wahardd fêps untro yng Nghymru. Os gallaf ychwanegu hefyd bod rhan o'n cwricwlwm yn cynnwys maes dysgu gorfodol ar iechyd a llesiant, a byddem yn disgwyl i hynny gwmpasu meysydd fel fepio. Rydym wedi datblygu, drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, becyn cymorth fepio ar gyfer ysgolion, sydd wedi cael ei ddefnyddio yn ein hysgolion, ac rwy'n gobeithio y bydd yn helpu gyda hynny. Yn bendant, dydw i ddim yn meddwl y gallwch chi alw pethau fel yna yn botsian gyda'r cwricwlwm, oherwydd yn sicr nid potsian yw'r hyn rydyn ni'n ei wneud; mae'n ddiwygiad radical iawn sy'n datblygu cwricwlwm pwrpasol sy'n helpu pobl ifanc i ddeall pam mae'r hyn maen nhw'n ei ddysgu yn bwysig ac yn rhoi'r sgiliau trosglwyddadwy iddyn nhw eu cymhwyso mewn lleoliadau eraill ac am weddill eu bywydau. 

O ran y mater cadw athrawon y gwnaethoch chi ei godi, yn amlwg, mae hynny'n her ar draws y DU. Dyna pam rydym yn gweithio mor galed ar recriwtio a chadw athrawon, pam mae gennym bwyslais mor gryf ar gymorth iechyd meddwl i'n gweithlu addysg, pam mae gennym gyfres o gymhellion mewn pynciau prinder i ddenu pobl i'r proffesiwn. Ond rwyf hefyd yn credu bod ein Cwricwlwm i Gymru newydd yn gwneud addysgu yng Nghymru yn broffesiwn llawer mwy deniadol i addysgwyr. Dysgu ac addysgu ar y lefel nesaf. Athrawon oedd yn awyddus i fod â'r effaith honno wrth ddatblygu'r cwricwlwm newydd yr oedd eu dysgwyr ei angen, ac rydym yn cyflawni hynny ar eu cyfer yng Nghymru, ynghyd â'r cymorth sydd ei angen i wneud hynny. 

Fe wnaethoch chi gyfeirio am gryn amser at ganlyniadau PISA. Os caf i eich atgoffa na chafodd y plant a'r bobl ifanc a safodd y profion PISA eu dysgu o dan y cwricwlwm newydd; cawson nhw eu haddysgu o dan y cwricwlwm presennol. Cyn y pandemig, Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i wella safonau mewn llythrennedd, rhifedd a gwyddoniaeth yn y profion PISA. Ac mae'n bwysig nodi bod y rhan fwyaf o ysgolion a dysgwyr wedi dewis peidio â chymryd rhan yn 2022 ac nad oedd yr un o wledydd y DU wedi cyrraedd y trothwy cyfranogi gofynnol. Felly, mae angen bod yn ofalus wrth edrych ar y sgorau PISA, ond, er gwaethaf hynny, rwyf wedi dweud bod y sgorau yn siomedig, a dyna pam rwyf i a'r Prif Weinidog wedi dweud bod codi cyrhaeddiad yn brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon.

Dim ond i'ch sicrhau chi ein bod yn gweithio'n galed eisoes ar gefnogaeth ar gyfer llythrennedd a rhifedd. Y llynedd, cyhoeddom ein pecyn cymorth llafaredd a darllen, a ddatblygwyd ar y cyd ag ymarferwyr, gan ddarparu pecyn o gymorth i ysgolion ddatblygu a gwreiddio dull ysgol gyfan o gyflawni safonau uchel o lafaredd a darllen yn Saesneg ac yn Gymraeg. Trwy gyllid grant blynyddol, rydym yn darparu adnoddau o ansawdd uchel i bob plentyn o mor ifanc â chwe mis, a'u teuluoedd, gyda'r nod o annog rhyngweithio ieithyddol a llythrennedd cadarnhaol trwy lyfrau, straeon a gemau. Mae gennym nifer o brosiectau sydd wedi'u cynllunio i hyrwyddo cariad at ddarllen, oherwydd mae'r holl dystiolaeth yn awgrymu bod mwynhau darllen yn hynod o bwysig i blant a phobl ifanc ar gyfer dysgu. Ac, o ran rhifedd, mae gennym ein cynllun mathemateg a rhifedd, sydd eisoes ar y gweill yng Nghymru. Ac mae'r cymorth hwnnw'n cael ei ddatblygu ar y cyd gydag ymarferwyr. Mae gennym hefyd y rhaglen cymorth mathemateg, a gyflwynir trwy Brifysgol Abertawe, yr ydym yn ei hariannu ac yr ydym yn ei hehangu. Felly, mae gennym bwyslais cryf iawn ar rifedd a llythrennedd eisoes, ond rydym yn bwriadu cryfhau hynny ymhellach. 

Os gallaf orffen drwy ddweud mai myth yw dweud mai cwricwlwm seiliedig ar sgiliau yn unig yw ein cwricwlwm. Mae hefyd yn gwricwlwm sy'n seiliedig ar wybodaeth. Mae'n glir iawn, os edrychwch chi ar fframwaith y cwricwlwm, bod yr wybodaeth a ddisgwylir gan ein dysgwyr wedi'i nodi'n glir iawn drwy'r meysydd dysgu, drwy'r datganiadau 'beth sy'n bwysig', trwy'r disgrifiadau o ddysgu a thrwy'r fframwaith dilyniant. Diolch.

15:45

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am y datganiad heddiw. Yn sicr, mae yna gefnogaeth gyffredinol ymhlith y sector addysg i brif egwyddorion y cwricwlwm cenedlaethol newydd, ac mae hynny'n cynnwys cefnogaeth glir gan Blaid Cymru. Rŷn ni yn hynny o beth, wrth gwrs, yn awyddus iawn i weithio'n drawsbleidiol yn y Siambr hon i sicrhau bod y cwricwlwm yn effeithiol ac yn gweithio i blant a phobl ifanc Cymru, achos does yna ddim byd pwysicach na'u dyfodol nhw a'u haddysg nhw.

Dwi'n croesawu'r cyhoeddiad heddiw hefyd am fwy o gefnogaeth i’n hathrawon wrth iddyn nhw gyflwyno’r cwricwlwm newydd a dwi'n edrych ymlaen, wrth gwrs, at dderbyn mwy o fanylion am hyn, ac mae'r undebau hefyd, wrth gwrs, yn edrych ymlaen at dderbyn mwy o wybodaeth. Ond mae'n rhaid i fi ddweud bod rhai cwestiynau yn aros o hyd gyda fi am y cwricwlwm, ynghylch y gweithlu a chynnwys y cwricwlwm yn benodol.

O ran y gweithlu, a gaf i ofyn ble a sut mae'r hyn rydych chi'n ei amlinellu heddiw yn gorgyffwrdd â'ch strategaeth ar recriwtio a chadw? Mae'r undebau athrawon wedi pwysleisio i mi effaith cyflwyno'r cwricwlwm newydd ar weithlu sydd eisoes dan bwysau ac sydd heb ddigon o adnoddau. Nawr, un o addewidion allweddol eich plaid yn yr etholiad, wrth gwrs, yw recriwtio mwy o athrawon. Mae'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gyfrifol amdano, ac mae'n rhaid i mi fod yn onest, mae gennych hanes eithaf gwael ar hyn. Nid yw'r mesurau a amlinellir heddiw yn mynd i'r afael â'r mater hollbwysig hwn, felly hoffwn ofyn, os gwelwch yn dda, am fwy o fanylion ar sut rydych chi'n bwriadu gwneud hyn.

O ran y cynnwys, byddwn yn tynnu sylw at adroddiad diweddar gan yr Institute for Fiscal Studies, gan Luke Sibieta, ac rwy’n siŵr y byddwch chi’n cytuno ei fod yn achosi cryn dipyn o bryder. Yn benodol, byddwn i’n tynnu sylw at adran yn yr adroddiad sydd yn amlygu y dylai Cymru fod yn dysgu gwersi pwysig o’r broses o gyflwyno Cwricwlwm Rhagoriaeth yr Alban. Nawr, mae Sibieta wedi codi yn benodol y risg a’r posibilrwydd na allai cwricwlwm sydd wedi’i seilio ar sgiliau cyffredinol fod yn effeithiol o ran datblygu’r sgiliau penodol hynny. Allaf i ofyn, felly, sut mae’r Llywodraeth yn bwriadu dysgu gwersi o’r camgymeriadau a wnaed yn yr Alban ac osgoi eu hailadrodd nhw yma yng Nghymru?

Ac yn olaf, hefyd ar fater cynnwys y cwricwlwm, a gaf i hefyd ofyn am ddiweddariad mwy penodol ar sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gyflawni'r ymrwymiad y bydd pob disgybl yng Nghymru yn dysgu am hanes Cymru fel rhan orfodol o'r cwricwlwm hwn? Oherwydd ei fod yn ymrwymiad yr wyf yn falch bod Plaid Cymru wedi gallu ei gyflawni drwy'r cytundeb cydweithio, a hoffwn gael yr wybodaeth ddiweddaraf gennych am y datblygiad hwn sydd i'w groesawu'n fawr. Diolch yn fawr.

15:50

Diolch yn fawr iawn, Cefin, a diolch yn arbennig am eich croeso a'ch cefnogaeth i'r cwricwlwm newydd, ac am eich datganiad o gefnogaeth Plaid Cymru. Does dim byd pwysicach na gweithio gyda'n gilydd i hybu plant a phobl ifanc yng Nghymru, felly rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr.

Rwyf wedi nodi rhai o'r pethau yr ydym yn bwriadu eu gwneud o ran cefnogaeth ychwanegol. Rwyf wedi siarad am y gefnogaeth gydweithredol sydd ar gael yn genedlaethol, gan adeiladu ar y rhaglenni presennol a'r ymrwymiadau a wnaed yn y cynllun mathemateg a rhifedd y llynedd. Llythrennedd a rhifedd yw'r prif flaenoriaethau i mi, ac rwyf eisiau sicrhau bod y rheini'n gyson ar draws y wlad. Rydym hefyd yn edrych ar gymorth ac offer i helpu athrawon, a dylwn fod yn glir am hyn, bod rhai ysgolion yn hedfan yn llwyr gyda'r cwricwlwm, ac nid yw hyn yn ymwneud â chlipio adenydd yr ysgolion hynny. Rydym eisiau i'r ysgolion hynny fwrw ymlaen â'r gwaith gwych y maent yn ei wneud. Mae hyn yn ymwneud â darparu cymorth ychwanegol i'r ysgolion hynny sy'n teimlo bod ei angen arnynt.

Felly, rhai o'r pethau yr ydym yn edrych arnynt yw: mae ysgolion wedi dweud y byddent yn hoffi mwy o enghreifftiau o sut y gall ac y dylai'r cwricwlwm edrych yn ymarferol, felly bydd y gefnogaeth hon yn darparu enghreifftiau a dulliau clir a syml i arwain ysgolion drwy broses ddylunio'r cwricwlwm. Soniais eisoes am roi'r fframwaith llythrennedd a rhifedd ar sail statudol. Gwyddom hefyd y byddai rhai ysgolion yn croesawu mwy o fanylion i helpu eu dealltwriaeth o gynnydd mewn gwahanol feysydd o'r cwricwlwm, felly byddwn yn bwriadu helpu gyda hynny hefyd, ond wrth gwrs mae'n bwysig ein bod yn gwneud y gwaith hwn mewn partneriaeth ag ymarferwyr.

Roeddech chi'n cyfeirio at yr undebau, ac yn amlwg rwy'n cwrdd â'r undebau yn rheolaidd. Mae gennym hefyd gyngor partneriaeth ysgolion. Rwy'n cydnabod y pryderon y mae undebau llafur wedi'u codi am lwyth gwaith mewn ysgolion. Dyna pam y gwnes i'r penderfyniad anodd i ohirio gwir weithrediad diwygio'r flwyddyn ysgol tan y Senedd nesaf, oherwydd roeddwn i eisiau gwrando ar y pryderon hynny a chydnabod nid yn unig eu bod yn mynd i'r afael â diwygio'r cwricwlwm, ADY, ond maen nhw hefyd yn dal i wella o'r pandemig. Ac rydym yn gweithio'n galed iawn i leihau straen llwyth gwaith ar y gweithlu. Mae gennym grŵp llwyth gwaith strategol y mae rhai o'r undebau yn ymwneud â'i gadeirio ac rydym yn datblygu offeryn llwyth gwaith digidol ar gyfer penaethiaid, felly mae hynny'n flaenoriaeth uchel iawn i ni yn y Llywodraeth.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at adroddiad IFS, ac rwyf wedi bod yn glir sawl gwaith yn y Siambr fy mod yn pryderu am rai o'r negeseuon yn adroddiad IFS, yn enwedig o ran y bwlch cyrhaeddiad rhwng Cymru a Lloegr. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, serch hynny, pwysleisio eto nad oedd y plant a wnaeth y profion PISA yn ddarostyngedig i'r cwricwlwm newydd, a hefyd ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth Joel. Rwy'n credu ei fod yn gamddealltwriaeth i ddweud mai cwricwlwm seiliedig ar sgiliau yn unig yw hwn, oherwydd mae hefyd yn gwricwlwm sy'n gyfoethog o ran gwybodaeth. Ond yr hyn yr ydym eisiau ei wneud yw sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cymryd yr wybodaeth honno a'i chymhwyso i wahanol leoliadau.

O ran eich ymholiadau am Gwricwlwm Rhagoriaeth yr Alban, dim ond i'ch sicrhau ein bod yn edrych ar enghreifftiau o gwricwla yn unrhyw le y gallwn, mewn gwirionedd, ac rydym hefyd yn awyddus iawn i ddysgu o'u profiad yn yr Alban. Un o'r pethau y gwnaethon nhw o'i le yn yr Alban mae'n debyg oedd eu bod wedi ymateb i'r pryderon am eu cwricwlwm drwy roi gormod o fanylion i'r hyn roedden nhw'n gofyn i ysgolion ei wneud, a dyw hynny ddim yn ymddangos fel ei fod wedi helpu'r broblem. Cwrddais â Graham Donaldson yr wythnos diwethaf i weld sut yr oeddem yn dod ymlaen. Rwy'n gwybod ei fod wedi mynychu digwyddiad rhwydwaith mawr gydag ymarferwyr, ac mae'n teimlo ein bod ni ar y trywydd iawn. Yn amlwg, mae mwy o waith i'w wneud, ac ni fyddwn byth yn awgrymu fel arall.

Yn olaf ar addysgu hanes neu hanesion Cymru, dim ond i'ch sicrhau chi, yn amlwg, roedd hynny'n ymrwymiad fel rhan o'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Deuthum i mewn ar ddiwedd y gwaith hwnnw, ond mae'r gwaith hwnnw'n parhau. Rydym wedi ymrwymo i'r darn hwnnw o waith a sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn gallu deall yr holl hanesion sydd wedi tyfu o'u cwmpas yng Nghymru.

15:55

Fel y dywedwch chi, mae llesiant wrth wraidd dysgu, ac mae lles pob plentyn yn gwbl hanfodol, a hefyd nad ydym yn ceisio rhoi pobl mewn siaced gyfyng. Mae pob plentyn yn wahanol. Mae gan bob plentyn arddull ddysgu wahanol ac mae'n dod â phrofiadau gwahanol o'r tu allan i'r ysgol y mae'n rhaid iddyn nhw fynd i'r afael â hi, fel y mae eu hathrawon. Felly, rwy'n cefnogi'n llwyr yr hyn rydych chi'n ei wneud.

Rwy'n nodi bod llawer o ysgolion yn ei chael hi'n anodd gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru oherwydd ei fod yn foment anodd iawn, iawn, o ran diffyg adnoddau, prinder adnoddau'n ariannol, a hefyd mae llesiant emosiynol disgyblion yn bryder mawr. Felly, does dim pwynt ailddyfeisio'r olwyn. Os oes gan rai ysgolion gynlluniau da eisoes ar waith, gadewch i ni eu rhannu. Dydyn ni ddim yn ceisio cael tabl cynghrair lle bydd cystadleuaeth rhwng ysgolion; rydym yn ceisio sicrhau bod pob un plentyn yng Nghymru yn cael yr addysg orau bosibl. Felly, rwy'n cymeradwyo'r symudiad hwnnw yn llwyr.

Rwyf am archwilio gyda chi sut rydym yn defnyddio'r buddsoddiad gwerth miliynau o bunnau mewn prydau ysgol am ddim yn gyffredinol, nid yn unig i fwydo plant sy'n llwglyd, ond hefyd i newid ein perthynas â bwyd, oherwydd, fel y gwyddoch chi, mae hefyd yn ymwneud â'r diwylliant. Ac felly, sut ydyn ni'n defnyddio rhyddhau'r cwricwlwm i alluogi addysgeg i ddefnyddio'r ddarpariaeth gyffredinol honno i ddeall o ble mae bwyd yn dod, beth mae'n ei gostio i'w gynhyrchu, pwy sy'n cymryd yr elw ohono, a sut rydyn ni'n ei wneud yn gyfrifol yn unol â'n hôl troed carbon?

Gan fy mod yn clywed bod y nifer sy'n derbyn prydau ysgol am ddim cyffredinol yn dioddef o'r gyfraith gofal gwrthdro, gyda'r ysgolion tlotaf yn cael y nifer lleiaf o bobl sy'n manteisio arnynt, tybed a fyddech chi'n barod i gyhoeddi'r data sydd gennych chi, fel y gallem ni i gyd fynd i'r afael â'r her go iawn honno, er mwyn sicrhau bod pob ysgol yn ymgysylltu â phlant i ddeall bod yr hyn maen nhw'n ei fwyta yn mynd i ddylanwadu ar eu hiechyd ar hyd eu hoes.

Diolch, Jenny, ac rwy'n credu bod eich cydnabyddiaeth bod pob plentyn yn unigryw yn bwysig iawn oherwydd bod ein cwricwlwm wedi'i gynllunio i ganolbwyntio ar yr unigolyn a chanolbwyntio ar y gymuned, ac yn seiliedig ar y cynefin y mae plant a phobl ifanc yn ei adnabod o'u cwmpas, ac mae hynny'n hynod o bwysig ac mae ganddo gysylltiad agos iawn â'u hiechyd meddwl. Fel yr ydych wedi tynnu sylw ato, mae pwyslais cryf iawn yn y cwricwlwm ar iechyd a llesiant; mae'n faes dysgu a phrofiad gorfodol. Ac yn gysylltiedig â hynny, mae gennym yr ymagwedd ysgol gyfan tuag at iechyd meddwl. Mae yna ddyletswydd gyfreithiol hefyd yn y cwricwlwm y dylem ni siarad mwy amdano fwy na thebyg. Wrth adeiladu'r cwricwlwm, mae'n rhaid i ysgolion roi sylw dyledus i iechyd meddwl. Rwy'n credu mai ni yw'r genedl gyntaf yn unrhyw le i fod wedi rhoi hynny yn y cwricwlwm, felly mae hynny'n gam cadarnhaol iawn ymlaen, rwy'n credu.

Rwy'n gwybod pa mor angerddol ydych chi am fwyd iach ac annog ysgolion i fod yn gynaliadwy. Mae wedi bod yn ymdrech fawr, gan gyflwyno'r prydau ysgol am ddim. Rwy'n hapus iawn i roi'r data sydd gennym i chi. Bydd pob ysgol gynradd wedi cwblhau eu cyflwyno nawr erbyn yr hydref, sy'n gadarnhaol iawn. Yn amlwg, mae hynny'n golygu llawer o fuddsoddiad, gan gynnwys llawer o fuddsoddiad cyfalaf ar gyfer pethau fel ceginau. Roeddwn i mewn ysgol yn y Barri yn ddiweddar, lle roedd y plant a'r bobl ifanc yn mwynhau'r prydau ysgol mwyaf bendigedig. Cwrddais â chogydd yr ysgol yno, ac roedd yr athrawon yn dweud wrthyf pa mor wych oedd hi am gael y plant i roi cynnig ar bethau gwahanol, a sut roedden nhw i gyd yn mwynhau eu bwyd yn fawr, fel y gallech chi yn sicr ei weld ar waith.

Mae llawer o leoliadau addysg hefyd yn defnyddio'r cwricwlwm i ddefnyddio eu mannau awyr agored i ddarparu gweithgareddau cyfoethogi dysgwyr, gan gynnwys tyfu ffrwythau a llysiau. Rydym hefyd, drwy ysgolion, wedi cefnogi datblygiad menter Big Bocs Bwyd mewn mwy na 60 o ysgolion cynradd, y mae llawer ohonynt yn tyfu eu ffrwythau a'u llysiau eu hunain. Mae'r maes dysgu iechyd a llesiant yn amlwg yn ymwneud â helpu plant i fyw bywydau iach ac egnïol, ond rydym hefyd eisiau i'r cwricwlwm gwmpasu pethau fel safbwyntiau ar benderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch dod o hyd i fwyd maethlon lleol, cynhyrchu bwyd a chynaliadwyedd, ac ar gyfer datblygu eu sgiliau coginio ymarferol, rhywbeth yr ydych hefyd yn teimlo'n gryf iawn amdano.

16:00

Mae fy merch yn athrawes dros y ffin yn Lloegr. Mae hi'n dysgu dosbarth o 30 o blant rhwng 4 a 5 oed; mae dau yn ddi-eiriau, pedwar y mae hi'n credu sydd angen sylw unigol, ond mae ganddi un cynorthwy-ydd dosbarth rhan-amser. Mae hi'n gweld beth sy'n digwydd yma ac mae hi'n meddwl ei fod yn wych. Addysgir y disgyblion hynny mewn sefyllfa lonydd. Byddai hi wrth ei bodd i symud yma. Mae gen i lawer o athrawon sy'n ffrindiau sy'n croesawu'r cwricwlwm newydd hwn. Rwy'n gwybod bod cadw athrawon yn fater mawr ar draws y DU, gyda chynnydd o 1 y cant am amser hir i athrawon, meddygon a nyrsys—cyni yn digwydd yw hynny, ac mae angen i ni gael newid yn hynny.

Es i i ymweld ag ysgol yn Wrecsam—ysgol fendigedig; maen nhw wedi bod yma ar risiau'r Senedd hefyd. Roedden nhw'n dysgu am lythrennedd, mathemateg a chreadigrwydd trwy fynd tu allan. Rhoddon nhw arddangosfa trwy ddawns, trwy gerddoriaeth, ysgrifennu creadigol a chelf. Roedden nhw'n siarad am yr hyn roedden nhw'n ei wneud. Roedden nhw'n ymgysylltu, roedden nhw'n hapus ac roedden nhw'n ddinasyddion cymunedol da hefyd. Ac nid dysgu mathemateg a Saesneg yn unig y mae'r plant; os ydyn nhw'n dysgu trwy gerddoriaeth, trwy ddawns, mae hynny'n agor rhan arall o'u hymennydd sy'n eu helpu i ddysgu mathemateg a ffiseg yn fwy. Felly, fy nghwestiwn i chi yw a ydych chi'n credu nad y Rhaglen Ryngwladol ar gyfer Asesu Myfyrwyr yw'r unig fesur o ba mor dda y mae ein plant yn ei wneud mewn addysg. 

Diolch yn fawr iawn, Carolyn, am y sylwadau cadarnhaol yna. Fel y dywedais i wrth Joel a Cefin, mae heriau cadw a recriwtio yn rhai go iawn, a dyna pam rydyn ni'n rhoi cymaint o bwyslais ar fod â chwricwlwm mor gyffrous a chefnogi iechyd meddwl ein gweithlu yn ogystal â'n plant a'n pobl ifanc. Diolch am yr enghreifftiau a roesoch o ddysgu yn yr awyr agored. Mae pwyslais cryf iawn yn y cwricwlwm ar ddysgu yn yr awyr agored, ac mae hynny'n mynd yn dda iawn. Rydych chi'n gwneud pwynt pwysig ynglŷn ag asesu. Byddwn yn parhau i gymryd rhan yn asesiadau PISA, ac, yn amlwg, rydym yn cyhoeddi pethau fel ein canlyniadau TGAU, ond rhan allweddol iawn o'r cwricwlwm, ac un y mae ymarferwyr wedi gofyn am fwy o gymorth arni, yw honno sy'n ymwneud ag asesu, a gall hynny fod ar sawl ffurf. Mae'n ymwneud â phlentyn unigol a sicrhau ei fod yn cyflawni hyd eithaf ei allu ac yn sicrhau ei fod yn cael ei ymestyn. Fel rhan o'r gwaith rydym yn ei wneud gyda'r rhaglen partneriaeth gwella ysgolion, sy'n canolbwyntio'n gryf iawn ar ysgolion yn cydweithio i rannu arfer da, rydym hefyd yn datblygu ecosystem wybodaeth a fydd yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o sut mae'r system ysgolion yn perfformio. Ond rydym eisiau i hynny gael ei wneud mewn ffordd sy'n cefnogi cynnydd dysgwyr unigol, yn hytrach nag fel mesur atebolrwydd.

16:05
5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Gweithio mewn partneriaeth ar gyfer y cynllun gorfodol newydd i ddileu Dolur Rhydd Feirysol Buchol

Eitem 5 sydd nesaf, datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: gweithio mewn partneriaeth ar gyfer y cynllun gorfodol newydd i ddileu dolur rhydd feirysol buchol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Huw Irranca-Davies. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn drafod heddiw sut y gall y diwydiant a'r Llywodraeth fynd i'r afael â mater trawsbynciol a heriol gyda'n gilydd: gwaredu dolur rhydd feirysol buchol, neu BVD, yng Nghymru.

Mae BVD yn effeithio'n ddifrifol ar iechyd anifeiliaid, safonau lles a chynhyrchu bwyd. Mae'n gwanhau ein buches genedlaethol, yn lleihau cynnyrch llaeth, ac mae'n arafu twf. Er nad yw'n risg iechyd y cyhoedd na diogelwch bwyd, mae BVD yn glefyd costus i ffermwyr ar adeg pan fo llawer o ffermwyr a chymunedau ffermio yn teimlo dan bwysau. Yr amcangyfrif yw bod colledion yn y miliynau o bunnoedd bob blwyddyn oherwydd llai o gynhyrchiant, costau milfeddygol uwch, a cholli da byw. Mae dileu BVD yn golygu hwb ariannol i'r diwydiant cyfan a buddugoliaeth i'r amgylchedd. Nid yw ond yn ymwneud â gwartheg hapus; mae ei ddileu hefyd yn cryfhau ein henw da fel arweinydd mewn amaethyddiaeth gynaliadwy, mae'n agor drysau i farchnadoedd newydd cyffrous, ac mae'n golygu mwy o gyfleoedd, mwy o dwf, a dyfodol mwy llewyrchus i'n cymunedau gwledig.

Y newyddion da yw bod modd atal BVD yn llwyr. Gan weithio gyda'n gilydd, gallwn ni ei ddileu o Gymru. Yn ogystal â'r enillion i ffermwyr, bydd dileu BVD yn helpu Cymru gyfan i gyflawni ein targedau sero-net yn gynt. Mae buchesau Cymru ar gyfartaledd yn cynnwys 40 o wartheg. Mae BVD yn cynyddu ôl troed carbon y fuches honno gyfwerth â thua 70 tunnell o garbon deuocsid bob blwyddyn. Pan fyddwch chi'n lluosi hyn â 11,000 o fuchesi yng Nghymru, mae dileu BVD yn gyfraniad i'w groesawu at gyflawni sero net. Gan gydnabod yr amrywiaeth o fuddion, mae ein cynllun gweithredu fframwaith iechyd a lles anifeiliaid presennol yn amlinellu ein bwriad i gyflwyno rhaglen orfodol o sgrinio BVD, wedi'i seilio ar ddeddfwriaeth.

Rhwng 2017 a 2022, gyda chefnogaeth ein rhaglen datblygu gwledig, diwydiant a'r Llywodraeth gyda'i gilydd wedi cymryd camau breision gyda'r rhaglen sgrinio wirfoddol. Cymerodd dros 80 y cant o'r buchesi gwartheg yng Nghymru ran ynddi, gyda 28 y cant ohonyn nhw wedi profi'n bositif am BVD. O fewn y buchesi hynny, cafodd 940 o anifeiliaid sydd wedi'u heintio'n barhaus—PI—ei nodi. Dyna pam mae'r rhaglen orfodol newydd mor bwysig. Mae BVD yn lledaenu'n bennaf trwy wartheg sydd wedi'u heintio'n barhaus, neu PI. Mae'r gwartheg hyn yn cael eu geni gyda'r clefyd, ar ôl dod i gysylltiad â'r firws BVD yn y groth. Maent yn gollwng firws BVD ac maen nhw'n ei ledaenu i wartheg brodorol o fewn y fuches, gan arwain at salwch, colledion atgenhedlu, neu enedigaeth mwy o anifeiliaid sydd wedi'u heintio. Felly, mae nodi ac yna symud gwartheg PI o'r fuches genedlaethol yn dileu ffynhonnell y clefyd. Mae hyn yn hanfodol i lwyddiant unrhyw raglen dileu BVD.

Mae dileu BVD yng Nghymru yn ymrwymiad hirsefydlog, ac rwy'n llwyr gefnogi'r diwydiant a'r Llywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth agos i gyflawni hyn. Dangosodd 89 y cant o'r ymatebwyr yn ystod y cyfnod ymgynghori gefnogaeth gryf y diwydiant i gyflwyno deddfwriaeth BVD yng Nghymru. Gwnaeth hyn annog Llywodraeth Cymru i gyd-ddylunio ac i hwyluso rhaglen dileu BVD orfodol ochr yn ochr â chynrychiolwyr y sector gwartheg. Rwy'n falch iawn o gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud Gorchymyn Dolur Rhydd Feirysol Buchol (Cymru) 2024 ar 1 Gorffennaf. Mae'r darn arloesol hwn o ddeddfwriaeth yn ymdrin â'r her o ddileu BVD yn gyfannol. Cafodd ei ddatblygiad ei sbarduno gan gynrychiolwyr ymroddedig ym mharthau gwartheg, milfeddygol a throsglwyddo gwybodaeth y diwydiant, ac mae'n cynrychioli datblygiad naturiol o'r cynllun gwirfoddol, Gwaredu BVD.

Mae cychwyn ar y cam nesaf hwn o raglen dileu BVD yng Nghymru yn gam balch a phwysig i Gymru. Hoffwn i gymryd dim ond eiliad i gydnabod ymdrechion ein diwydiant gwartheg i baratoi'r ffordd ar hyn. Gallwn ni gael gwared ar BVD trwy ymdrechion parhaus pob ffermwr gwartheg, gan weithio'n agos gyda'u milfeddygon, i sgrinio a diogelu eu buchesi. Felly, gan ddechrau o 1 Gorffennaf 2024, bydd pob anifail sydd wedi'i nodi yn anifail sydd wedi'i heintio'n gyson yn cael ei gyfyngu i'r fferm am weddill ei oes a'i gadw ar wahân i weddill y fuches. O dan y ddeddfwriaeth newydd hon, rhaid i fuchesi yng Nghymru, waeth beth yw eu maint, eu math neu eu lleoliad, gael profion sgrinio blynyddol ar gyfer BVD. Bydd gan geidwaid gwartheg tan 1 Gorffennaf 2025 i gwblhau eu prawf cyntaf, a'r amcangyfrif yw y bydd yn £100 y flwyddyn ar gyfer y profion buchesi blynyddol gofynnol.

Gan ddibynnu ar y math o fferm, gall dileu BVD roi hwb o £20 i £70 y fuwch y flwyddyn i elw ffermydd. Mae hyn yn cyfateb i rhwng £2,000 i £14,000 yn ychwanegol y flwyddyn fesul buches. Mae hwn yn fuddsoddiad synhwyrol i wella iechyd a chynhyrchiant eu buches. Dylai ffermydd fuddsoddi mewn diogelu iechyd eu hanifeiliaid, gan helpu i wneud eu busnesau'n fwy cynaliadwy ac yn fwy cydnerth. Os nad yw buchesi yn cael eu profi erbyn y dyddiad hwn, byddan nhw'n cael eu gosod o dan gyfyngiadau symud nes eu bod yn cael prawf gwrthgyrff negyddol BVD ac mae tystiolaeth nad oes anifeiliaid sydd wedi'u heintio â BVD yn y fuches.

Dirprwy Lywydd, drwy bartneriaeth, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi datblygu system cronfa ddata BVD a fydd yn integreiddio'n ddi-dor â system olrhain da byw amlrywogaeth Cymru. Bydd y gronfa ddata yn cofnodi canlyniadau'r profion blynyddol a bydd yn pennu statws BVD ar gyfer buchesi ac ar gyfer gwartheg unigol. Bydd hyn yn galluogi ffermwyr i ddod o hyd yn ddiogel i anifeiliaid sy'n dod i mewn ac yn caniatáu i ddiwydiant a Llywodraeth Cymru fonitro cynnydd dileu BVD ledled Cymru. Rydyn ni hefyd yn gweithio ar y cyd â'r diwydiant gwartheg, milfeddyg a chynrychiolwyr trosglwyddo gwybodaeth i sefydlu corff llywodraethu BVD. Bydd y corff hwn yn rhoi cyngor a chefnogaeth i ffermwyr a milfeddygon yn ogystal â rhoi adborth i Lywodraeth Cymru i helpu i gyd-ddatblygu unrhyw newidiadau deddfwriaethol sydd eu hangen arnon ni wrth gyflwyno'r rhaglen. Bydd y corff llywodraethu hefyd yn cael ei rymuso i wneud penderfyniadau i ddatrys materion gweithredol ac i ddylunio a gweithredu polisïau o fewn y ddeddfwriaeth bresennol. Rwy'n hyderus y bydd y dull partneriaeth arloesol hwn, gyda'r diwydiant yn arwain ar ddileu BVD, yn sicrhau canlyniad llwyddiannus.

Drwy weithio gyda'n gilydd, gyda'r ddeddfwriaeth newydd fel ein map ffordd, byddwn yn atal BVD rhag lledaenu, yn diogelu lles anifeiliaid, ac yn cynnal diwydiant gwartheg iach a chynaliadwy yng Nghymru. Bydd y weithred hon yn helpu i wneud ein cymunedau gwledig yn fwy ffyniannus ac yn helpu Cymru gyfan i leihau ein hallyriadau ac ymdrin â'r argyfwng hinsawdd. Fel stiwardiaid balch o'n tir a'n da byw, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb moesol i ddiogelu lles ein hanifeiliaid a'n hamgylchedd trwy weithio gyda'n gilydd. Mae ffermwyr, milfeddygon, addysgwyr a Llywodraeth Cymru yn cymryd camau breision i wneud Cymru'n rhydd o BVD.

Dirprwy Llywydd, hoffwn ailbwysleisio bod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar ein cymunedau gwledig a byddwn yn parhau i wrando. Mae gwaredu BVD yng Nghymru yn sicr yn bosibl. Mae'n tystio i ymroddiad, cydweithrediad a gweledigaeth ein ffermwyr, ein milfeddygon, ein harbenigwyr clefydau a'n Llywodraeth i greu Cymru iachach, gwyrddach a mwy ffyniannus ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae hynny, Dirprwy Lywydd, yn sicr yn rhywbeth i'w ddathlu. Diolch.

16:10

Hoffwn i ddiolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad y prynhawn yma yn amlinellu cynllun Llywodraeth Cymru i ddileu dolur rhydd feirysol buchol, BVD, o Gymru. Er fy mod i'n cydnabod y dyhead sydd gan y Llywodraeth, mae rhai pryderon sylweddol y mae angen ymdrin â nhw cyn y gallaf gefnogi'r rhaglen y mae'r Llywodraeth hon yn mynd ar ei hôl yn llwyr.

Dydw i ddim yn credu, Ysgrifennydd Cabinet, bod y datganiad hwn yn ymdrin yn llawn â'r costau sylweddol y bydd ffermwyr yn eu hwynebu. Amcangyfrifodd y Gymdeithas Cig Eidion Genedlaethol fod presenoldeb BVD mewn buchesi yn arwain at golledion blynyddol o hyd at £15,000 i rai ffermwyr llaeth. Fe wnaethoch chi siarad yn y fan yna am y gost profi flynyddol o £100. Efallai fod honno'n ymddangos yn fach, ond nid dyna'r unig gost, ife, Ysgrifennydd Cabinet? Oherwydd mae yna gostau ychwanegol ar gyfer mesurau bioddiogelwch a chostau milfeddygol. Os oes yn rhaid i chi wahanu gwartheg, efallai y bydd yn rhaid i chi godi siediau ychwanegol, ac efallai y bydd yn rhaid i chi addasu eich tir i wneud hynny. Ac fe allai'r costau hynny andwyo ein ffermydd bach. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, allwch chi amlinellu a oes unrhyw gynlluniau cymorth ariannol pendant y tu hwnt i rai o'r pethau yr ydych chi wedi'u crybwyll heddiw, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn cynnig grantiau sylweddol a mentrau rhannu costau i leddfu'r baich ariannol uniongyrchol hwnnw ar ein ffermwyr, yn enwedig y rhai yn ein ffermydd llai, oherwydd mae angen ymrwymiadau clir arnom ni gan y Llywodraeth ynghylch cyllid ar hyn? Mae'n beth da iawn bod y cynlluniau hyn yn cael eu cyflwyno, ond os nad oes unrhyw gyllid i gyd-fynd â nhw, mae'n mynd i fod yn anodd iawn i'r diwydiant amaethyddol.

Mae'n ymddangos bod y rhaglen yr ydych chi wedi'i gosod yn mabwysiadu dull eithaf unffurf, ac rwy'n credu bod hynny'n esgeuluso'r gwahaniaethau enfawr rhwng ein ffermydd mawr a'n ffermydd teuluol llai, yn enwedig y ffermydd organig hynny sydd gennym ni yng Nghymru. Felly, allwch chi ymhelaethu ar sut y bydd y rhaglen yn darparu ar gyfer anghenion y mathau amrywiol hyn o ffermydd, ac a oes protocolau profi a mesurau bioddiogelwch arall ar gyfer ffermwyr organig, fel y gallan nhw gadw at eu safonau ardystio, oherwydd mae perygl y bydd polisi cyffredinol ledled Cymru yn dieithrio ac yn cael effaith anghymesur ar y rhai yn y sector sy'n ei chael hi'n anodd cydymffurfio â rhai o'r safonau hyn yr ydych chi'n eu nodi?

Mae dileu yn nod uchelgeisiol, ac mae'n un yr wyf i'n ei rannu—rwy'n hoffi bod yn uchelgeisiol ac rwy'n credu bod angen i ni fod—ond rwy'n credu bod y rhaglen yn brin o fanylion hirdymor am gynaliadwyedd. Er i chi sôn am fonitro, does dim cynllun pendant wedi'i amlinellu. Mae astudiaethau'n bodoli, er enghraifft gan y Coleg Milfeddygol Brenhinol, sy'n arddangos rhaglenni dileu mewn gwledydd eraill sydd wedi arwain at ostyngiadau dramatig mewn lloi BVD a PI, ond sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu'r dysgu hwn? Pa raglenni hirdymor penodol ydych chi'n mynd i fod yn eu rhoi ar waith i atal  BVD rhag ailymddangos, ac a ydych chi wedi cael sgyrsiau â milfeddygon ar sut y gallwn ni roi'r strategaethau hirdymor hynny ar waith mewn gwirionedd i atal y clefyd hwn?

Ac o ran milfeddygon, Ysgrifennydd Cabinet, mae gennym ni brinder milfeddygon ledled Cymru, ac rydych chi dal ati i ofyn iddyn nhw wneud mwy a mwy, p'un ai'r fiwrocratiaeth gynyddol sy'n dod gyda TB yw hynny, yr ymweliadau cynyddol gan filfeddygon sy'n rhan o'r cynllun ffermio cynaliadwy, a nawr hyn ar ben hynny eto. Ac mae hynny ar ben y cynlluniau buchesi sydd gan bobl a chynlluniau iechyd defaid y mae milfeddygon yn dod o gwmpas i siarad amdanyn nhw. Mae hyn yn golygu y bydd milfeddygon yn treulio llawer o'u hamser ar ffermydd, felly byddai gennyf i ddiddordeb mewn gwybod pa sgwrs yr ydych chi wedi'i chael gyda milfeddygon ynghylch a oes ganddyn nhw'r adnoddau i wneud hynny.

Ac un peth sy'n allweddol iawn wrth gyflwyno'r rhaglen hon, yn fy marn i,—. Mae'n dibynnu'n helaeth ar uwchsgilio ein ffermwyr ledled Cymru, ac rwy'n credu bod prinder manylion yn y datganiad ynghylch hynny. Felly, rwyf i eisiau gwybod sut y bydd y rhaglen yn addysgu ac yn uwchsgilio ein ffermwyr am BVD, yr arferion gorau ar gyfer atal a rheoli, a'r systemau cymorth sydd ar gael. A oes unrhyw gynlluniau i ddatblygu adnodd addysgol neu raglen hyfforddi wedi'i theilwra'n benodol i ffermwyr Cymru o gwmpas—rwy'n baglu dros fy ngeiriau—BVD? Ac a wnaiff Llywodraeth Cymru gydweithio â chyrff y diwydiant fel yr NFU, yr FUW ac, yn amlwg, y mudiad ffermwyr ifanc hefyd, oherwydd ein ffermwyr ifanc ni yw dyfodol ein ffermio yng Nghymru, a byddai gennyf i ddiddordeb mewn gwybod a ydych wedi bod yn siarad â nhw?

Rwy'n credu fy mod i wedi gofyn digon o gwestiynau i chi, Ysgrifennydd Cabinet. Gallaf weld eich pen yn symud yn gyflym iawn ar draws y papur, yn ceisio cadw i fyny â'r hyn yr wyf wedi gofyn i chi. Ond o fy safbwynt i, mae dileu BVD yng Nghymru yn gam cadarnhaol. Rwy'n credu y gall ychwanegu buddion sylweddol i'r diwydiant, gyda chynhyrchiant cynyddol ac elw gwirioneddol ar ffermydd hefyd, ond rwy'n credu bod angen mwy o atebion arnom ni i'r cwestiynau yr wyf wedi gofyn i chi, Ysgrifennydd Cabinet, fel y gallwn ni drafod manylion hyn, oherwydd dim ond trwy gael y manylion llawn hynny y byddaf i'n gallu rhoi fy nghefnogaeth lawn i chi gyda'r cynllun hwn. Diolch.

16:15

Diolch yn fawr iawn, James, am y sawl cwestiwn hynny. Gallaf weld nad ydyn ni wedi eich argyhoeddi'n llwyr, ond byddwn i'n dweud wrthych chi fod hyn, mewn gwirionedd, wedi'i gyd-gynhyrchu a'i arwain gan y rhai yn y gymuned ffermio—y rhai yn y sector gwartheg sydd wedi bod yn awyddus iawn i weld y camau hyn ymlaen, yn benodol i ymdrin â dileu BVD, sy'n cael effaith mor sylweddol ar gynhyrchiant ein buchesi, ac mewn gwirionedd ar hyfywedd y buchesi hynny hefyd. Felly, mewn ymateb i'ch cwestiynau am y costau, fe nodais i yn fy sylwadau agoriadol—fe ddywedais i tua £100 ar gyfartaledd; mewn gwirionedd, ar gyfer deiliaid gwartheg llai, gan gynnwys, o bosibl, rhai o'r rhai organig hynny, mae yna amrywiaeth. Yn fras, mae'n £6 fesul anifail a brofir, felly o ran buches lai fe allech chi fod yn edrych ar rywbeth fel £50. O ran rhai eraill, gallai fod yn £150. Yn fras, mae'n £100 y flwyddyn. Rydych chi'n cydbwyso hynny yn erbyn yr arbedion cynhyrchiant, a allai fod hyd at £2,000 ar gyfer buches lai, neu hyd yn oed £14,000 ar gyfer buches fwy. Rwy'n credu bod cydbwysedd, a dyna pam mae'r rhai sydd wedi cyd-gynhyrchu hyn gyda ni mor gefnogol ohono. Felly, rwy'n gobeithio y gallwch chi oresgyn rhai o'ch amheuon ar y gost, oherwydd yr hyn y mae hyn yn ei wneud yw nid yn unig ein helpu ni gydag agweddau ar les anifeiliaid y fuches, ein helpu ni i ddileu BVD, mae hefyd yn ymdrin ag allyriadau carbon, oherwydd os oes gennych chi fuches iach, mae'r holl dystiolaeth yr ydyn ni'n ei gweld nawr—ac rwy'n gwybod ei gefndir yn y gymuned ffermio—yn dangos bod gwell cynhyrchiant o fewn buchesi hefyd yn ein helpu ni gyda'r gostyngiadau carbon, ond mae hefyd yn cynyddu'r hyfywedd oherwydd mae cost anifeiliaid llai cynhyrchiol i'r ffermwyr hynny yn eithaf sylweddol. Felly, mae'n fwy na gorbwyso'r buddsoddiad a'r £6 yr anifail yn fras ar gyfer y profion samplu.

I roi sicrwydd ynghylch hirhoedledd hyn, pan symudwn ni, fel y dywedais i yn fy natganiad cychwynnol, i system lle mae gennych chi'r integreiddio hwnnw o gronfeydd data, yr wybodaeth yn cael ei rhannu â ffermwyr ac yn hygyrch i'w milfeddygon ar y fferm ac yn y blaen, bydd y rhain yn offer a fydd ar gael i'r ffermwyr unigol hynny, yna, i wneud penderfyniadau, o ran symud gwartheg a dod â gwartheg newydd i'r fferm, ond hefyd o ran gwneud y penderfyniadau hynny ar y fferm, yna, lle mae ganddyn nhw anifeiliaid PI. Mater iddyn nhw, wedyn, fydd gwneud y penderfyniad busnes hwnnw p'un a ddylen nhw eu hynysu ac yn y blaen.

Felly, bydd tasg yn ystod y flwyddyn nesaf o ymgysylltu â'r ffermwyr, nid yn unig o ran gwneud y profion samplu cyn haf 2025, ond hefyd gweithio gydag undebau—NFU, FUW—ac eraill sy'n gysylltiedig, sefydliadau cynrychioliadol yn y gymuned ffermio, i ymgysylltu â ffermwyr ochr yn ochr â milfeddygon ar y fferm i esbonio sut y bydd hyn yn gweithio, sut y gallan nhw ei wneud mewn ffordd syml iawn. Er enghraifft, bydd ap yn cael ei gyflwyno fel rhan o hyn hefyd gyda'r gronfa ddata, fel bod yr offer ar gael i'r ffermwr unigol sydd eisiau eu defnyddio; nid pob ffermwr fydd eisiau gwneud hynny, rwy'n gwerthfawrogi hynny, ond bydd rhai eisiau gwneud hynny hefyd.

Mae'r prinder milfeddygon y gwnaethoch chi sôn amdano yn bwynt diddorol iawn. Rydyn ni'n gwybod cymaint o bwysau sydd ar filfeddygon. Rwyf i eisiau dweud: mae angen i unrhyw Lywodraeth y DU sy'n cael ei hethol mewn ychydig ddyddiau, pa bynnag liw ydyw, ymdrin â mater cytundebau milfeddygol ar sail y DU-UE. Mae angen i ni fynd yn ôl i'r sefyllfa honno lle mae llif da o arbenigedd, wedi'i reoli'n dda, yn ôl ac ymlaen. Ac mae hyn yn ddiddorol, oherwydd rhan o'r problemau prinder yr ydyn ni'n eu gweld, ac fe es i—rwy'n credu eich bod chi wedi mynd hefyd o bosibl—i gyfarfod blynyddol Cymdeithas Milfeddygol Prydain a'r cinio yr wythnos diwethaf—. Fe wnes i gyfarfod â nhw yn ystod y dydd. Roedd hyn yn un o'r pethau yr oedden ni'n ei drafod: sut y gwnaethon ni gyrraedd y pwynt hwn lle mae'n ymddangos ein bod ni wedi llesteirio'r hyn sydd ar gael.

Mae angen i ni hefyd, gyda llaw, barhau i ddatblygu ein harbenigedd ein hunain drwy ein hysgolion milfeddygol ac yn y blaen, ac rwy'n credu bod rhywbeth yn y fan yma y mae angen i ni ei ystyried gyda'r ffermwyr eu hunain a allai benderfynu, neu bobl ifanc ar ffermydd a allai benderfynu bod hwnnw'n llwybr iddyn nhw ei droedio. Felly, mae uwchsgilio ffermwyr yn fater y byddwn ni'n gweithio arno gyda'r milfeddygon, gyda'r undebau ffermio, gyda ffermwyr ifanc ac eraill yn ystod y flwyddyn nesaf i sicrhau bod pob ffermwr yn ymwybodol o sut i wneud y broses hon, a pham ei bod yn dda iddyn nhw wneud y broses hon, ac iddyn nhw gymryd perchnogaeth yn yr un modd ag y mae'r fenter hon wedi'i chyd-ddylunio mewn gwirionedd. Mae'r ffermwyr hynny'n mynd i fod yn rhan o'r datrysiad i ddileu BVD, y gallwn ni ei wneud.

16:20

A gaf fi ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad? Dwi wedi bod yn gefnogwr brwd o'r cynllun gwaredu BVD o'r dyddiau cyn bod y cynllun yn bodoli. Ac, wrth gwrs, roeddwn i'n falch iawn i weld bod y cynllun wedi dod i fod, a dwi eisiau achub ar y cyfle i dalu teyrnged i bobl fel Dr Neil Paton fuodd yn gwthio yn galed iawn i weld hyn yn digwydd, ac wrth gwrs sydd wedi gwneud cymaint i brofi gwerth yr approach ehangach yna i’r diwydiant, i’r Llywodraeth ac i eraill, a’i fod e'n gynllun sydd yn medru gwneud gwahaniaeth, fel ŷch chi wedi dweud, o safbwynt iechyd a lles yr anifail, o safbwynt productivity, elw, allyriadau, ac yn y blaen, ac yn y blaen.

Ond dwi hefyd wedi rhannu rhwystredigaeth nifer ynglŷn â'r oedi buodd rhwng diwedd ariannu gwaredu BVD a'r 18 mis wedyn cyn ein bod ni'n dod i ble ŷn ni nawr lle, wrth gwrs, mae hwn yn mynd i ddod dod yn rhywbeth mwy parhaol, a'r ffaith bod yna gwymp sylweddol wedi bod yn nifer y rhai oedd yn dod ymlaen i brofi am BVD. Efallai y gallwch chi esbonio pam yr oedi. Ydych chi'n rhannu'r rhwystredigaeth yna? Ond, wrth gwrs, y peth pwysig nawr yw ein bod ni wedi cyrraedd ble rŷn ni.

Nawr, beth sy'n digwydd nawr wrth gwrs yw bod y gost a'r baich biwrocrataidd yn disgyn yn drymach nawr ar ysgwyddau'r sector, ac fel ŷn ni wedi clywed, mae yna gwestiynau ynglŷn â'r effaith ymarferol efallai fydd hynny yn ei gael. Rŷch chi'n amlwg i fi yn dweud bod yna ddim adnoddau yn mynd i fod gan y Llywodraeth i gefnogi y sifft yna o safbwynt y sector. Os felly, beth fyddwch chi'n ei wneud i hyrwyddo'r manteision i'r sector, oherwydd rŷch chi wedi amlygu y bydd mwy o elw, o bosib, yn sgil gwneud hyn. Sut ŷch chi'n mynd i werthu hwnna i'r sector, fel bod y sector ehangach—achos mi all gynrychiolwyr gwahanol fod yn prynu i mewn i hyn, ond ar lawr gwlad, mae angen y ddealltwriaeth yna mai buddsoddiad yw hwn, mewn gwirionedd, ac efallai ddim o reidrwydd i edrych arno fe fel cost? Ond mae yna, wrth gwrs, ddisgwyl wedyn, os oes llefydd wedi cael eu heintio, fod anifeiliaid yn cael eu cadw dan do, wedi cael eu cadw ar wahân, hynny yw, wedi cael eu hynysu ac yn y blaen. Mae yna gost is-adeiledd, o bosib, yn mynd i fod yn sgil hynny—i ble fyddwch chi'n cyfeirio pobl sydd angen y math yna o gefnogaeth?

Mae yna argymhelliad hefyd, wedyn, fod anifeiliaid yn cael eu difa mor fuan ag sy'n ymarferol. Efallai y gallwch chi ehangu tamaid bach ynglŷn ag 'ag sy'n ymarferol'. Dwi'n cymryd bydd yna arweiniad—pa mor glir fydd yr arweiniad yna? Dŷn ni ddim eisiau sefyllfa fel ŷn ni wedi gweld gyda TB, er enghraifft, ontefe, lle mae yna ofid yn cael ei achosi yn ddiangen. Mae angen eglurder, ac mae angen gallu symud yn gyflym iawn ar y ffrynt yna os ydy'r achos yn codi.

Pa adnoddau sy'n cael eu rhoi i'r awdurdodau sydd yn gyfrifol am orfodi y gyfundrefn newydd, oherwydd fel ŷn ni'n cyfeirio yn aml iawn pan fo yna reoliadau newydd yn cael eu cyflwyno, dŷn nhw ddim ond mor effeithiol ag y maen nhw'n cael eu gorfodi yn effeithiol, felly mae hwnna efallai yn rhywbeth sydd angen sicrwydd ynglŷn ag e?

Rŷch chi'n dweud nawr ein bod ni'n symud i ryw gyfnod industry led, bod y diwydiant eu hunain yn mynd i arwain ar hyn, ond pa rôl, felly, ŷch chi'n gweld i'r Llywodraeth dros yr hirdymor o safbwynt llywodraethiant ac efallai o safbwynt cost sy'n ymwneud â chael gwared ar BVD? Mae yna gyfeiriad at gorff lywodraethiant BVD; allwch chi ymhelaethu pwy ŷch chi'n rhagweld, neu yn disgwyl bydd yn chwarae eu rhan ar hwnna? 

A jest i gloi gen i, mi wnaeth eich rhagflaenydd chi ddatganiad yn Ionawr y llynedd yn sôn mai'r ddau fygythiad yn y cyd-destun yma i'r sector yw BVD a sgab mewn defaid. Ble ŷn ni ar sgab mewn defaid? Beth yw eich uchelgais chi mewn perthynas â sgab? Os ŷch chi'n cyrraedd y pwynt yma nawr gyda BVD, ai dyna le ŷn ni'n mynd yn y cyd-destun arall? Diolch.

16:25

Llyr, diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny, a diolch hefyd am y croeso, yn gyffredinol, i hyn, ar y sail ei fod wedi cael ei gyflwyno gan bobl sydd wedi bod yn eirioli dros hyn ers amser maith, gan gynnwys Dr Neil Paton, ond hefyd ei fod yn cael ei gyflwyno gyda chyd-gynhyrchu llawn. Rydyn ni'n gorddefnyddio'r ymadrodd hwnnw yn aml, ond mae hyn yn wir yn y maes hwn, gyda chefnogaeth swyddogion Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth swyddfa'r prif swyddog milfeddygol, a'r sector milfeddygol o fewn yr asiantaeth hefyd. Ond mae wir yn cael ei arwain gan y rhai sy'n ymdrin â hyn o ddydd i ddydd. Nhw ofynnodd amdano. Fe ddywedon nhw, 'Mae angen i ni ymdrin â hyn a dileu hyn o'r sector gwartheg', am yr holl resymau yr ydyn ni wedi sôn amdanyn nhw eisoes. Felly, diolch am eich cefnogaeth gyffredinol i hyn.

Ond fe godoch chi bwyntiau diddorol yn y fan yna. Roedd un agwedd yn ymwneud â'r gefnogaeth gan y Llywodraeth wrth symud ymlaen. Wel, mae yna gefnogaeth, mae cefnogaeth wedi bod gan y Llywodraeth i gyrraedd y pwynt hwn, gan weithio gyda'r diwydiant i gyrraedd yma. Bydd cefnogaeth o ran cyflwyno corff llywodraethu, yr ydych chi wedi sôn yn fras amdano. Mae angen rhyw fath o lywodraethu arnon ni, ond mae angen iddo hefyd gael cyfeiriad sylweddol o fewn hynny, unwaith eto, gan y sector gwartheg ei hun fel y gallan nhw addasu, cynghori ynghylch ble arall y gallai fod angen i ni fynd, fel ein bod ni'n dileu BVD. Felly, bydd yn cael ein cefnogaeth ni i wneud hynny. Byddwn ni'n cyflwyno'r cronfeydd data ac yn integreiddio'r cronfeydd data hynny fel bod gennym ni, ar flaenau bysedd ffermwyr a'u milfeddyg ar y fferm, sut y gallan nhw ymateb i achosion o anifeiliaid PI, naill ai sydd o fewn y fuches, neu sy'n cael eu dwyn i mewn i'r fuches.

Fe fyddwn ni, i'ch sicrhau chi, fel y dywedais i wrth Jane, yn gweithio gyda'r sector, wrth symud ymlaen nawr yn yr holl ffyrdd clyfar y gallwn ni gysylltu â nhw i egluro nid yn unig pam mae hyn yn bwysig a pham y caiff gymaint o gefnogaeth, ond sut y bydd hyn yn gweithio. Mae gwaith i'w wneud ar hyn, oherwydd nid oes gan bob ffermwr gysylltiad ag undeb, nid oes gan bob ffermwr ymgysylltiad deinamig rheolaidd â milfeddyg ar ei fferm i'r un graddau ag eraill. Felly, bydd yn rhaid i ni ddefnyddio'r holl rwydweithiau hynny o bobl sydd ar gael i ni. Yn yr un modd ag yr ydyn ni wedi cyd-gynhyrchu hyn, bydd yn rhaid i ni fynd â'r gwaith o egluro hyn ymlaen gyda'n gilydd. Mae gennym ni flwyddyn i weithio gyda phob ffermwr i ddweud, 'Mae gennych chi tan yr haf nesaf i sgrinio, profi eich buches.' A bydd yn amrywio o fferm i fferm o ran natur y trafodaethau hynny a bydd yn bendant yn amrywio o ran cost hyn hefyd. Ond rydyn ni wedi gweithio'n galed, wrth gyd-gynhyrchu hyn, i sicrhau ein bod ni'n cadw'r costau hynny mor isel â phosibl.

Mae'r adnoddau ynghylch gorfodi hyn—rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig ac rwy'n credu y byddai'r grŵp sydd wedi dod â hyn at ei gilydd eisiau gweld y dull cywir o orfodi, oherwydd mae hyn i gyd yn ymwneud â lles buches Cymru yn ei chyfanrwydd a dileu BVD o'r fuches gyfan. Nawr, mae'n rhaid i mi ddweud, gallaf roi'r sicrwydd i chi, er bod ein gwasanaethau milfeddygol ar y fferm o dan bwysau sylweddol, fel yr ydyn ni eisoes wedi'i ddweud—ac mae ffyrdd o ddatrys hynny wrth i ni symud ymlaen—mae fy nhîm arbenigol iawn ac ymroddedig iawn fy hun, mae'n rhaid i mi ddweud, o dan y prif swyddog milfeddygol hefyd yn gweithio'n galed yn gyson i weithredu drwyddi draw ar hyn. Dydy hi ddim yn anodd i mi roi'r sicrwydd y bydd hyn yn cael ei orfodi yn y ffordd iawn, yn y ffordd gymesur er mwyn dileu BVD ac y bydd yn datblygu'r gwaith sydd wedi dod allan o waith cyd-gynhyrchu'r grŵp hefyd. Mae hyn yn cael ei oruchwylio, wrth gwrs, gan Lywodraeth Cymru. Hyd yn oed wrth roi'r corff llywodraethu ar waith, y byddwn yn ei gefnogi, bydd goruchwyliaeth gan Lywodraeth Cymru, ac, wrth gwrs, gan swyddfa'r prif swyddog milfeddygol hefyd. 

Fe wnaethoch chi sôn a yw hyn wedyn yn dangos y ffordd ymlaen ar bethau eraill. Rwy'n awyddus iawn i nodi, er fy mod i'n croesawu'r ffaith bod hwn yn ddarn o waith wedi'i gyd-gynhyrchu sydd wedi'i arwain gan y sector, sydd wedi'i hyrwyddo gan y sector ers peth amser, ac rydyn ni nawr wedi cyrraedd y pwynt pwysig iawn hwn heddiw, nid yw, ynddo'i hun, yn dweud, 'Mae hwn yn gynsail', ond mae angen i ni fwrw ymlaen â'r clafr hefyd. Nawr, rwy'n credu mai'r hyn y mae hyn wedi'i ddangos i ni yw bod ffordd o weithio gyda'r diwydiant i ddweud mewn gwirionedd beth yw'r ateb gorau. Mae'r model hwn, rwy'n credu, yn gwbl gywir ar gyfer hyn, ond gadewch i ni weld nawr. Rwy'n edrych ymlaen at gyflwyno rhai canlyniadau o'r gwaith yr ydyn ni wedi bod yn ei wneud ar y clafr, a'i rannu gyda'r pwyllgor hefyd, fel y gallan nhw ei weld, ac rwy'n credu mai dyna'r un nesaf y byddwn ni'n symud ymlaen ato. Ond mae hyn yn dangos ffordd y gallwn ni wneud hyn gyda'n gilydd. Diolch.

16:30

Rwy'n croesawu'r datganiad cadarnhaol hwn, Ysgrifennydd Cabinet. Roeddwn i'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r mater hwn ac yn cymryd ymagwedd bartneriaeth arloesol drwy wrando ar gymunedau gwledig a'r arbenigwyr, ac rwy'n ei gweld fel rhaglen buddsoddi i arbed hefyd. Felly, drwy wneud hyn, gallwn ni wella safonau iechyd a lles anifeiliaid, yn ogystal â gwella cynhyrchiant bwyd, lleihau carbon deuocsid a hybu elw ffermydd, wrth symud ymlaen.

Mae gweithio mewn partneriaeth hefyd yn ymwneud â chyfathrebu'n glir ac yn gyson â'r rhai dan sylw. Rwy'n clywed yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud: mae gennym ni flwyddyn i weithio ar hyn. Felly, unwaith eto, roedd gennyf ddiddordeb mewn gwybod sut y byddwn ni'n rhoi gwybod i'r gymuned ffermio am y newidiadau hyn. Mae'n swnio fel bod angen llawer o gyfathrebu; mae gennym ni'r cynllun ffermio cynaliadwy ynglŷn â hyn, felly sut fyddwch chi'n ei wneud? Rwy'n gwybod, yn aml iawn, eu bod yn gweithio o fewn eu cymunedau eu hunain, eu bod yn rhannu peiriannau, eu bod yn siarad â'i gilydd hefyd. Felly, rwy'n meddwl tybed sut y byddai hynny'n digwydd. A phwy fydd yn cael mynediad at y gronfa ddata BVD hon, a phwy fydd yn arwain arni mewn gwirionedd? Diolch.

Diolch, Carolyn, am hynny. Rydych chi'n iawn, mae'r dull o fwrw ymlaen â hyn, yn fy marn i, yn arwydd o'r ffordd yr ydyn ni eisiau gweithio ar draws amrywiaeth o sectorau a ffyrdd o weithio o fewn y Llywodraeth, sef gweithio gyda'r bobl hynny ar y rheng flaen, yn yr achos hwn, yn llythrennol, yn y maes, sy'n ymdrin â gwartheg o ddydd i ddydd, a dysgu ganddyn nhw beth fydd manteision hyn, yn ogystal â'r heriau. Rydyn ni'n gwneud hyn oherwydd fe ddaethon nhw ymlaen a dweud, 'Mae'n rhaid i ni wneud hyn. Gallwn ni wneud hynny. Mae hyn yn rhywbeth y gallwn ni symud yn gyflym i'w ddileu, ond bydd angen y sgrinio a'r profi a'r ynysu hynny nes y byddwn ni'n ei ddileu.' Ond mae'r parodrwydd i wneud hynny a'r gwaith partneriaeth, yn fy marn i, wedi bod yn foment nodedig i mi. Ac rwy'n credu bod gwneud hynny, cymhwyso hynny i feysydd eraill, yn ffordd dda o weithio. Rydych chi'n iawn wrth ddweud ei fod yn rhoi'r manteision amryfal hynny hefyd, o ran iechyd a lles anifeiliaid, o ran bod yn ddi-garbon, a hefyd—hefyd—o ran cynyddu cynhyrchiant ar ffermydd unigol. Rydyn ni'n gwybod cymaint o bwysau sydd ar ffermydd, o wahanol faint, ac os bydd manteision o ran hynny—rwy'n cytuno â'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud: mae bron yn fuddsoddi i arbed; mae'n ymwneud â chymryd y penderfyniadau oherwydd bydd hynny'n cynyddu cynhyrchiant, yn rhoi mwy o werth i mewn i'r anifeiliaid hynny, yn gwneud yn well ar gyfer elw'r fferm honno ar ddiwedd y flwyddyn—yna mae hynny'n gyfraniad gwych.

A byddwn angen—. Y fantais fawr sydd gennym ni, yr wyf bob amser wedi bod yn ymwybodol ohono yw, os ydyn ni'n ei ddefnyddio'n dda, os ydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd, mae gennym ni rwydwaith anhygoel o gryf o ffermwyr, undebau ffermio, sefydliadau cynrychioliadol, milfeddygon ac ati, ynghyd â'r gwaith y mae ffermwyr ifanc yn ei wneud, fel yr oedd James Evans yn ei ddweud, a'r ysgolion amaethyddol sydd gennym ni. Mae angen i bob un o'r rheini gyfuno nawr i gyfleu manteision niferus y dull hwn yr ydyn ni'n ei ddefnyddio, ond hefyd i roi sicrwydd a help i ddweud, 'Dyma sut y gallwch chi, fel ffermwr unigol, fwrw ymlaen â hyn nawr.' Ond mae hyn yn rhywbeth lle y gallwn ni weld y llinell gôl—y gôl—o'n blaenau ni, ac, wrth weithio gyda'n gilydd, mae hyn wir yn rhywbeth lle y gallwn ni weld afiechyd ac y gallwn ni ddweud, 'Gallwn ni ddileu hyn, wrth weithio gyda'n gilydd.'

16:35
6. Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024

Eitem 6 heddiw yw Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet i wneud y cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM8627 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Caffael (Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mehefin 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Rebecca Evans 16:35:50
Cabinet Secretary for Finance, Constitution and Cabinet Office

Diolch. Cynigiaf y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024. Caffael yw un o'r ysgogiadau mwyaf effeithiol sydd ar gael i gyflawni ein huchelgeisiau polisi yng Nghymru. Bob blwyddyn, mae awdurdodau contractio yng Nghymru yn gwario dros £8 biliwn ar gaffael cyhoeddus. Gall gwella'r ffordd rydym yn caffael ysgogi arloesedd a chydnerthedd, cefnogi ein heconomi leol a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i gyflawni canlyniadau cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol i Gymru.

Yn sgil ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd roedd yn ofynnol i ni foderneiddio ein deddfwriaeth caffael. Fe wnaethon ni ymgysylltu â rhanddeiliaid ledled Cymru, a chadarnhaodd y mwyafrif ohonynt eu bod yn fodlon â chyfeiriad diwygiadau arfaethedig Llywodraeth y DU. Roedden nhw'n ffafrio cysondeb, parhad ac eglurder i brynwyr a chyflenwyr ar ddwy ochr y ffin. Dyna pam, ar 18 Awst 2021, fe gyhoeddais i y byddai darpariaeth ar gyfer awdurdodau contractio yng Nghymru yn cael ei gwneud o fewn Bil Caffael Llywodraeth y DU, a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Hydref 2023. 

Gwneir y rheoliadau hyn gan ddefnyddio'r pwerau gwneud rheoliadau cyfatebol annibynnol ar gyfer Gweinidogion Cymru sydd wedi'u cynnwys yn y Ddeddf Caffael, a'n bwriad yw gwneud rheoliadau pellach cyn i'r Ddeddf ddod i rym ar 28 Hydref 2024. Mae'r rheoliadau hyn yn darparu'r manylion technegol ac ymarferol hanfodol sydd eu hangen i sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei gweithredu fel y'i bwriadwyd, gan gynnwys yr wybodaeth y bydd angen i awdurdodau contractio Cymru ei chynnwys yn eu hysbysiadau ar bob cam o'r broses gaffael.

Mae gwell tryloywder yn un o gonglfeini'r drefn gaffael newydd, a bydd ymgorffori mwy o dryloywder trwy gydol y cylch oes masnachol yn helpu i sicrhau y gellir craffu ar wariant arian trethdalwyr Cymru yn iawn a bod canlyniadau gwerth am arian yn cael eu cyflawni. Bydd y rheoliadau hyn yn galluogi awdurdodau contractio Cymru i gyflawni eu gweithgarwch caffael mewn ffordd fwy agored, addysgiadol a thryloyw, gan sicrhau cydymffurfiaeth â'n rhwymedigaethau rhyngwladol.

Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am yr ystyriaeth fanwl y maent wedi'i rhoi i'r rheoliadau hyn. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar y rheoliadau hyn, a gynhaliwyd yr haf diwethaf. Mae eu hadborth cadarnhaol ac adeiladol wedi helpu i ddatblygu'r rheoliadau hyn ymhellach cyn iddyn nhw gael eu gosod gerbron y Senedd, a gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau heddiw.

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Trafododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft hyn ar 24 Mehefin. Mae ein hadroddiad yn cynnwys 11 o bwyntiau technegol a dau bwynt adrodd ar rinweddau. Roedd gennym rai pryderon ynghylch yr ymateb i'n hadroddiad, a diolchaf i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei hymateb cyflym i'r llythyr a anfonwyd gennym i ofyn am eglurder. Yn anffodus, ni wnaeth ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet leddfu ein pryderon a gwnaethom gymryd y cam anarferol o ysgrifennu eto brynhawn ddoe. Mae ein hadroddiad a'r ohebiaeth ar gael ar yr agenda heddiw.

Mae'r rheoliadau hyn yn darparu manylion a gofynion ychwanegol sy'n angenrheidiol i sicrhau gweithrediad Deddf Caffael 2023. Bydd yr Aelodau'n gwybod bod y Senedd wedi cymeradwyo cynnig cydsyniad deddfwriaethol i gynnwys darpariaethau perthnasol yn y Ddeddf erbyn hyn. Dywedwyd wrth bwyllgorau'r Senedd, pan oeddent yn ystyried y memorandwm cydsyniad ar gyfer y Bil, bod swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio'n agos ar ddatblygu is-ddeddfwriaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb ar ôl hynny am wneud rheoliadau i Gymru gan ddefnyddio pwerau mewn deddfwriaeth sylfaenol a ystyrir gan Senedd wahanol o leiaf yn rhoi rhywfaint o reolaeth weithredol i'r Senedd dros y gyfraith a fydd yn berthnasol yng Nghymru.

Hoffwn dynnu sylw at ein pwyntiau adrodd 10 ac 11. Yn Atodlen 2 i'r rheoliadau, cyfeirir at Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac nid Comisiwn y Senedd, fel y mae ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod Llywodraeth y DU wedi cynghori na allai enwau gael eu newid. Yn yr ymateb a gawsom, ychwanegwyd hefyd, os bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu diwygio'r rhestr yn ei rheoliadau ei hun, y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio gwneud yr un peth. Gwnaethom ofyn i Lywodraeth Cymru rannu'r cyngor a roddwyd gan Lywodraeth y DU gyda ni, yn enwedig mewn perthynas ag enw Comisiwn y Senedd. Beth bynnag, roeddem yn synnu bod Llywodraeth Cymru, mae'n debyg, yn cymryd cyfarwyddiadau gan Lywodraeth y DU o ran sut i ddrafftio ei deddfwriaeth.

Fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrthym hefyd yn ei llythyr nad oedd gan Lywodraeth Cymru, yn hanesyddol, unrhyw bŵer i ddiwygio enwau cyrff Llywodraeth ganolog o ganlyniad i rwymedigaethau masnach ryngwladol. Mae'n wirioneddol aneglur i ni sut y gallai defnyddio enw cywir a chyfredol Comisiwn y Senedd beri risg i gydymffurfiad y DU â rhwymedigaethau masnach ryngwladol. Gofynnwn i gymaint o fanylion â phosibl gael eu rhoi i'r Senedd i egluro pam mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dull sydd i ni yn ymddangos yn afreolaidd ar y gorau. Ac, yn anffodus, ni roddodd yr Ysgrifennydd Cabinet gyngor Llywodraeth y DU i ni y dywedodd wrthym fod Llywodraeth Cymru wedi ei dderbyn a'i bod yn ei ddilyn.

Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn deall mai rôl allweddol y pwyllgor yw cynorthwyo'r Senedd i wneud deddfwriaeth dda. Rydym yn gyfaill beirniadol. Ac felly fe ddefnyddiaf fy sylwadau terfynol i dynnu sylw at ddiffygion hysbys yn y rheoliadau hyn. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi ymrwymo i gyflwyno offeryn statudol pellach yn yr hydref i gywiro pedwar mater y mae fy mhwyllgor wedi'u nodi. Credwn ei bod yn bwysig bod hynny ar y cofnod y prynhawn yma.

16:40
Member
Rebecca Evans 16:41:20
Cabinet Secretary for Finance, Constitution and Cabinet Office

Diolch. A gaf i ddweud eto pa mor ddiolchgar ydw i i'r pwyllgor am y craffu trylwyr maen nhw wedi'i wneud ar y rheoliadau hyn? Mewn ymateb i bryderon y pwyllgor ynghylch y rhestr o gyrff y Llywodraeth ganolog a restrir yn Atodlen 2 i'r rheoliadau, mae'r mater y maent wedi'i godi yn gymhleth yn dechnegol ac yn hanesyddol, ac mae'n gysylltiedig â'n rhwymedigaethau rhyngwladol. Er bod gan Lywodraeth Cymru y pwerau i basio deddfau sy'n ymwneud ag arsylwi a gweithredu rhwymedigaethau rhyngwladol, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gytuno ar gytundebau masnach ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan, ac, yn hanesyddol, mae hyn wedi golygu nad ydym wedi gallu diwygio enwau fel y rhai a restrir yn Atodlen 2, gan nad oes gennym y pwerau i wneud hynny. Ond rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig nodi bod ein penderfyniad i osod y rheoliadau hyn wedi'i ysgogi'n rhannol gan ein hymrwymiad i randdeiliaid Cymru y byddem yn rhoi digon o amser iddynt baratoi'n effeithiol cyn i'r drefn newydd ddod i rym. Mae'n hanfodol bwysig bod rhanddeiliaid yn cael golwg ar y rheoliadau hyn cyn y dyddiad mynd yn fyw, er mwyn llywio eu paratoadau eu hunain. Ac er bod y pwyllgor wedi tynnu sylw at rai meysydd y mae angen eu cywiro, nid yw methu â chywiro'r materion hyn ar hyn o bryd yn atal rhanddeiliaid rhag parhau â'u paratoadau ar gyfer y drefn gaffael newydd.

Fel y sylwais i yn fy—nodais, dylwn i ddweud—ymateb ysgrifenedig i'r pwyllgor, rydym wrthi'n archwilio opsiynau ar gyfer defnyddio pwerau o fewn y Ddeddf Caffael i ddiweddaru'r enwau a nodir yn Atodlen 2, gan na fydd y rheoliadau yn dod i rym tan 28 Hydref. Ac rwy'n hapus i roi sicrwydd y byddwn yn ceisio diwygio'r enwau, drwy reoliadau yn y dyfodol, cyn gynted â phosibl, pe bai hynny'n bosibl yn gyfreithiol.

Hoffwn hefyd gydnabod pryderon y pwyllgor ynglŷn â rhannu gwybodaeth, ac rwy'n gwerthfawrogi pwysigrwydd darparu cymaint o wybodaeth â phosibl i'r pwyllgor fel y gall gyflawni ei rwymedigaethau yn llwyddiannus i ddarparu craffu effeithiol ar y rheoliadau arfaethedig. Hoffwn sicrhau'r Cadeirydd fod fy swyddogion a minnau yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi'r pwyllgor gymaint â phosibl gyda hynny.

Bydd y rheoliadau hyn a'r Ddeddf Caffael, ochr yn ochr â Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 a Deddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024, yn darparu fframwaith effeithiol ar gyfer caffael yng Nghymru, a byddant hefyd yn cychwyn ffordd newydd ymlaen a fydd yn galluogi'r sector cyhoeddus yng Nghymru i drosoli pŵer caffael ac i gefnogi'r Gymru fwy cyfartal, fwy cynaliadwy a mwy ffyniannus yr ydym i gyd eisiau ei gweld.

Rwyf eisiau dweud bod hyn wedi bod yn enghraifft dda iawn o gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac rydym yn parhau i weithio'n agos ar ddatblygu ein cyfundrefnau caffael priodol. Er enghraifft, rydym wedi gallu newid dull Llywodraeth y DU o ymdrin â nifer o bethau. Er enghraifft, wrth ddrafftio'r Ddeddf Caffael, gwnaethom sicrhau cynnydd yn uchafswm tymor y contract ar gyfer pryd y cedwir contractau i gwmnïau cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus o dair blynedd i bum mlynedd, er enghraifft, ac roeddem hefyd yn gallu dylanwadu ar ddrafftio rheoliadau caffael Llywodraeth y DU mewn nifer o feysydd. Er enghraifft, pan fydd contract yn cael ei ddyfarnu i gyflenwr sydd wedi'i eithrio, gwnaethom awgrymu y dylid cynnwys enw'r cyflenwr yn yr hysbysiad dyfarnu contract, fel bod y cyhoedd, ym mhob achos, yn ymwybodol o'r bwriad i ddyfarnu i gyflenwr sydd wedi'i eithrio cyn i'r contract gael ei ymrwymo. Felly, mae ystod eang o enghreifftiau y gallwn eu dyfynnu o ran y dylanwad a gawsom ar ddull Llywodraeth y DU a'r gwaith da sydd wedi'i wneud ar y cyd.

Ac yna dim ond i dynnu sylw at ddau beth y credaf fydd o ddiddordeb arbennig i gyd-Aelodau o ran y dull yr ydym yn ei ddatblygu heddiw. Yn y ddeddfwriaeth mae dyletswydd benodol ar awdurdodau contractio i ystyried sut i leihau a dileu'r rhwystrau i fentrau bach a chanolig pan fyddant yn ceisio cael mynediad at y cyfleoedd caffael cyhoeddus hynny. Gwyddom y gall y rhwystrau hyn gynnwys prosesau tendro sy'n rhy gymhleth a'r gofyniad i gyflwyno dogfennau lluosog sawl gwaith, a gall busnesau bach a chanolig gael eu hunain dan anfantais wrth gystadlu yn erbyn cwmnïau mwy sydd ag adnoddau ysgrifennu cynigion pwrpasol, er enghraifft. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n gam cyffrous iawn ymlaen yn y dull yr ydym yn ei fabwysiadu. A hefyd, yn hollbwysig, bydd y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gaffaelwyr asesu tendrau ar sail y tendr mwyaf manteisiol. Yn flaenorol, hwn oedd y tendr mwyaf manteisiol yn economaidd, felly mae'n golygu, wrth ddileu'r cyfeiriad at feini prawf economaidd, y byddwn yn cael effaith gadarnhaol ar werth cymdeithasol, gan ganiatáu ar gyfer mwy o ystyriaeth o'r manteision ehangach i'r gymuned y bydd y contract yn cael ei gyflawni ynddi. Rwy'n gwybod y bydd hynny'n mynd i'r afael â llawer o bryderon y mae cyd-Aelodau wedi'u codi ynghylch caffael yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Diolch.

16:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru)

Eitem 7 yw'r cynnig i amrwyio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet i wneud y cynnig. Rebecca Evans. 

Cynnig NDM8625 Jane Hutt

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:

a) Adrannau 2-15;

b) Atodlen 1;

c) Adran 1;

d) Adrannau 17-21;

e) Adran 16;

f) Adrannau 22-25;

g) Teitl hir.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Rebecca Evans 16:46:38
Cabinet Secretary for Finance, Constitution and Cabinet Office

Yn ffurfiol.

Nid oes unrhyw siaradwyr eraill. Ydych chi eisiau ychwanegu unrhyw beth arall?

Ydych chi eisiau dweud unrhyw beth arall?

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Bydd egwyl cyn dechrau trafodion Cyfnod 3. Caiff y gloch ei chanu pum munud cyn i ni ailymgynnull. Byddwn yn annog Aelodau i ddychwelyd i'r Siambr yn brydlon, os gwelwch yn dda.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:47.

16:55

Ailymgynullodd y Senedd am 16:58, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

9. Cyfnod 3 y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)

[Anghlywadwy.]—y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru).

Grŵp 1: Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru—swyddogaethau (Gwelliannau 26, 27, 36)

Grŵp 1 yw'r grŵp cyntaf o welliannau sy'n ymwneud â Chomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, swyddogaethau'r comisiwn hwnnw. Gwelliant 26 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. A dwi'n galw ar Adam Price i gynnig y gwelliant yma—[Torri ar draws.]—ac i siarad i welliannau eraill y grŵp. 

Cynigiwyd gwelliant 26 (Adam Price).

Dyw'r araith ddim yn mynd i fod mor gyffrous â hynny, gallaf i ddweud.

Hoffwn ddechrau, Llywydd, trwy ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol a'i swyddogion ac i Aelodau'r pleidiau eraill am y gwaith adeiladol a chynhwysfawr sydd wedi digwydd yn ystod taith seneddol y Bil yma mor belled. Dwi'n croesawu'r ffaith ein bod ni wedi medru cael ymgysylltu trawsbleidiol positif trwy gydol y broses ddeddfwriaethol yma, ac un parchus ac adeiladol hyd yn oed lle mae yna wahaniaeth barn, a dwi'n edrych ymlaen at y trafodaethau heddiw yn yr un modd. Hoffwn ddiolch i'r clercod a'r cyfreithwyr sydd wedi gweithio'n galed ar y Bil yma dros y misoedd diwethaf. Mae'r staff seneddol wedi bod yn arbennig o amyneddgar a chymwynasgar wrth gynorthwyo gyda'r ystod eang o welliannau manwl sydd wedi eu cyflwyno mewn sawl maes, fel y mae tîm staff y Blaid. 

Gan adeiladu ar drafodion Cyfnod 2, rydym yn parhau i geisio cryfhau'r Bil yn ystod Cyfnod 3 er mwyn diogelu a datblygu seiliau democratiaeth Cymru ac ymddiriedaeth yn ein sefydliadau democrataidd yn oes deallusrwydd artiffisial a chamwybodaeth; cael yr hanfodion yn gywir mewn gweinyddiaeth etholiadau a gwarantu parch i'r holl ddinasyddion o ran triniaeth gyfartal ein hieithoedd cenedlaethol a hawliau pleidleiswyr ag anableddau; adeiladu ar a sicrhau cysondeb gyda'r hyn mae'r Senedd eisoes wedi'i chytuno yn y Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) o ran y drefn statudol newydd o enwi etholaethau, er enghraifft, gan sicrhau ail-luniad rhwng darpariaethau'r ddau Fil; ac yn olaf, cryfhau'r Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru i fod yn gorff gweithredol, pwerus sydd yn gyfrifol am bob agwedd ar ddatblygu ein democratiaeth, o fonitro ac annog amrywiaeth mewn gwleidyddiaeth ddatganoledig i gydlynu ac adrodd ar raglen o waith i wella iechyd ein democratiaeth a sicrhau cyfranogiad eang mewn etholiadau datganoledig, o ddelio â'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag sefyll fel ymgeiswyr i fod yn bwerdy arbenigedd a gwybodaeth am y profiadau o fod yn aelod etholedig, gan gynnwys ymddygiadau annerbyniol. Rydym am agor y drws hefyd i ychwanegu cyfrifoldeb i'r corff dros bob agwedd ar daliadau Aelodau'r Senedd yn ogystal â chynghorwyr sir.

Gan ein bod ni'n trafod Bil sydd, yn ei hanfod, â'r nod o gryfhau seiliau ein democratiaeth seneddol a chynrychioladol, mae'n addas bod y grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud ag iechyd ein democratiaeth. Mae democratiaeth yn y wladwriaeth hon, ac ar draws y byd, mewn cyfnod o greisis, ac yn nes at adref hefyd mae pethau ymhell o fod yn iach. Mae hyder y cyhoedd yn ein sefydliadau ar ei lefel isaf erioed, tra bod cysgod anwybodaeth yn parhau i dywyllu disgwrs gwleidyddol. Yn y cyfamser, mae'r demagogau a'r twyllwyr yn mynd o nerth i nerth, gan danseilio hanfodion egwyddorion democrataidd ym mhob man. Rŷn ni'n gweld yn Ffrainc, nag ŷn ni, ar hyn o bryd, hynny yw, y posibilrwydd y bydd yna arweinydd Llywodraeth adain dde eithafol am y tro cyntaf ers cyfnod Vichy. Rŷn ni'n gweld yr hyn sy'n digwydd yn yr Unol Daleithiau, a'r penderfyniad erchyll dros nos gan y Goruchaf Lys, yn rhoi rhwydd hynt i Trump i weithredu heb unrhyw ganlyniadau i'w ymddygiad o gwbl. Ond mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod nad ŷn ni yn rhydd o'r peryglon hyn yn y Deyrnas Gyfunol ac yng Nghymru hefyd. Mae'n gyfnod argyfyngus, ac mae'n rhaid inni ymateb yn gadarn ac yn greadigol i'r heriau sydd o'n blaenau ni o ran ein democratiaeth.

Mae'n deg hefyd nodi bod Llywodraeth San Steffan, o dan y blaid sydd ag ychydig ddyddiau i fynd yn dal wrth y llyw, wedi cyflwyno rhai polisïau dros y blynyddoedd diwethaf sydd wedi mynd â ni i'r cyfeiriad anghywir hynny, gan gynnwys y Public Order Act 2023—mesur draconaidd i gyflwyno defnydd ID mewn gorsafoedd pleidleisio a fydd yn bendant, yn yr etholiad yma, yn rhoi unigolion mwy difreintiedig a lleiafrifoedd ethnig o dan anfantais anghymesur. Mae'r bygythiad yma o wrth-lithriad democrataidd hefyd yn bodoli yng Nghymru. Mae yna ddiffyg ymwybyddiaeth ymysg ein dinasyddion o ran datganoli, o ran y setliad cyfansoddiadol, sydd yn deillio, yn rhannol, mae'n rhaid dweud, o ddiffygion ein cyfryngau cenedlaethol. Da gweld bod hynny wedi bod yn fater dŷn ni fel Senedd wedi ceisio mynd i'r afael ag e yn ystod y cyfnod diwethaf. Ond mae yna waith mawr, pwysig i'w wneud i sicrhau bod ein democratiaeth ni yn gweithredu ar sail lle mae'r dinasyddion yn ymwybodol o sut mae democratiaeth yn gweithredu.

O ganlyniad i hyn, mae difaterwch yn gyffredinol ynglŷn â democratiaeth wedi cynyddu ar bob lefel dros y degawdau diwethaf, sydd wedi'i adlewyrchu, er enghraifft, yn y canrannau isel sy'n troi allan i bleidleisio ar bob lefel, mae'n rhaid dweud. Mae gyda ni broblem benodol ŷn ni'n gorfod ei chydnabod o ran y canran sy'n troi mas ar gyfer etholiadau'r Senedd. Ond mae'r lefel cyfranogiad ar bob lefel o etholiadau yn annerbyniol o isel, ac mae'n rhaid i ni gydnabod hynny fel un o'r pethau mae'n rhaid ei ddatrys o ran sicrhau bod ein hiechyd democrataidd ni'n cynyddu. Rŷn ni hefyd yn dioddef o ddiffyg statws cyfartal i'r Gymraeg o fewn y cyd-destun yma, a defnydd ymarferol ohoni mewn gweinyddiaeth etholiadau, ac mi fyddwn ni'n dod ymlaen at hynny maes o law.

Mae gwelliant 26 yn cywiro amryfusedd gyda'r Bil drwy gadarnhau bod swyddogaethau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, fel y cânt eu hehangu gan y Bil yma, yn cynnwys cynghori Gweinidogion Cymru ar faterion sy'n ymwneud ag iechyd democrataidd Cymru. Dyna'r term sydd yn cael ei ddefnyddio ym mharagraff 1.2 memorandwm esboniadol y Bil yma, felly mae'n glir mai bwriad y Llywodraeth yw i'r corff gael y swyddogaeth honno, ond nid yw'n cael ei gynnwys ar wyneb y Bil. Mae angen i'r ddeddfwriaeth, yn ein barn ni, felly, fod yn driw i'r bwriad polisi, ac fel mater o dryloywder, dylai dinasyddion allu deall y swyddogaethau sy'n cael eu harfer gan y corff yma os ydyn yn edrych ar y ddeddfwriaeth.

Yn ystod Cyfnod 2, dadleuodd y Cwnsler Cyffredinol y gallai'r Llywodraeth ychwanegu at swyddogaethau'r corff i'w harfer gan y bwrdd rheoli etholiadol yn benodol drwy is-ddeddfwriaeth yn y dyfodol. Fodd bynnag, os mai'r bwriad ydy i'r corff gael y swyddogaeth yma o'r cychwyn o gynghori ynglŷn ag iechyd democrataidd, fel rydyn ni'n deall y nodyn yn y memorandwm esboniadol, mae angen bod yn glir am hynny yn y ddeddfwriaeth, felly gofynnaf i Aelodau gefnogi gwelliant 26.

Gan droi at welliant 27, mewn ymateb i argymhelliad cyntaf y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, rhestrodd y Llywodraeth rhai o'r gwahanol gyrff sy'n chwarae rhan yn meithrin iechyd democrataidd ein gwlad: Llywodraeth Cymru ei hun, Comisiwn y Senedd, a'r pŵer sydd gan y Comisiwn o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru i'r cyfeiriad yma, a'r Comisiwn Etholiadol, y corff cynghori ar ddarlledu a chyfathrebu, y cyfryngau, y trydydd sector, llywodraeth leol, ac, wrth gwrs, y comisiwn democratiaeth ei hun. Mae'r system addysg ac ysgolion hefyd yn gyrff allweddol o ran rôl y cwricwlwm yn meithrin dealltwriaeth a chyfranogiad, a dwi'n credu bod gyda ni eto fwy o waith i wneud i'r cyfeiriad hwnnw, ac mae Sioned Williams wedi bod yn hyrwyddo'r achos yma'n ddiweddar.

Y drafferth yw does dim un corff fel petai nhw'n arwain ar y gwaith cydlynu yma nac yn adrodd yn holistaidd ar lwyddiant ai peidio yr ymdrechion o ran iechyd democratiaeth. Argymhellodd y Pwyllgor Biliau Diwygio yng nghyd-destun codi ymwybyddiaeth o'r system etholiadol i'r Senedd newydd bod angen eglurder penodol am bwy fydd yn gyrru'r gwaith. Rhoddodd y Llywodraeth ymateb gychwynnol, gan addo ymateb o sylwedd maes o law. Dwi wedi gofyn dau gwestiwn ysgrifenedig i'r Cwnsler Cyffredinol, a dwi dal ddim yn gliriach, mae'n rhaid dweud, o ran bwriad y Llywodraeth i'r cyfeiriad yma.

Dywedodd y Cwnsler y byddai Cydsyniad Brenhinol y Bil Senedd Cymru cyntaf yn garreg filltir o bwys i alluogi'r gwaith i ddigwydd. Mae hynny bellach wedi digwydd, wrth gwrs, a dywedwyd y bydd diweddariad pellach i Aelodau ar ôl toriad yr haf. Ond rwy'n gofyn eto: pwy sydd yn gyfrifol am arwain a chydlynu'r gwaith? Mae gwelliant 27 yn ceisio rhoi ateb i'r cwestiwn hwnnw, a dŷn ni eisiau cael yr eglurder ynglŷn â hynny. Dwi'n gweld fy mod i—. Oes yna gyfyngiad amser ar y trafodion yma?

17:05

Mae gyda fi fwy i'w ddweud ynglŷn ag iechyd democratiaeth.

Bwriad gwelliant 27 yw sicrhau bod y comisiwn democratiaeth yn annog arloesi democrataidd, ac mae'r gwelliant yn gosod fframwaith ar sut y dylai'r comisiwn arfer ei swyddogaeth dros iechyd democrataidd y wlad drwy sefydlu uned o fewn y comisiwn gyda'r cyfrifoldeb o arwain cydlynu rhaglen waith ynglŷn â hyn. Mae'r gwelliant yn awgrymu rhai meysydd y gellir adrodd arnynt, gan gynnwys canran yr etholwyr a bleidleisiodd mewn etholiadau Cymreig, ac yn y blaen. Mae'r gwelliannau yma i gyd, felly, yn adeiladu yn ymarferol ar gasgliadau y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, yn ogystal â'r gwaith ardderchog ar y pwnc yma gan sefydliadau eraill, fel Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, wedi'i gomisiynu gan y Llywodraeth.

Mae rhan allweddol o iechyd democratiaeth hefyd yn ymwneud â sicrhau bod yr arena ddemocrataidd yn un diogel i bob cynrychiolydd ac ymgeisydd etholiadol. Mae fy ngwelliant olaf yn y grŵp hwn, gwelliant 36, yn gosod dyletswydd ar y comisiwn i fonitro aflonyddu ar gynrychiolwyr etholedig ac ymgeiswyr, eu cam-drin a’u bygwth; i sefydlu uned benodol i wneud y gwaith monitro yma; ac i adrodd ar ganfyddiadau’r monitro yna, a all fwydo i mewn i adroddiad blynyddol cynhwysfawr ar iechyd democratiaeth.

Does dim amheuaeth, yn anffodus, taw elfen arall o'r argyfwng rŷn ni'n ei wynebu yw lefelau arswydus o frawychiaeth, bygythiadau, trais, ac aflonyddu sy'n cael ei anelu at wleidyddion, yn enwedig yn erbyn menywod, a hefyd aelodau eraill o grwpiau sydd hefyd dan ormes—grwpiau o leiafrifoedd ethnig, er enghraifft, pobl LHDT. Mae llofruddiaethau Jo Cox a David Amess, wrth gwrs, yn tanlinellu’r canlyniadau mwyaf erchyll sy'n gallu deillio o hyn. Er gwaetha’r ymdrechion parhaol i fynd i'r afael gyda'r mater yma, y gwir amdani yw bod nifer eang o wleidyddion heddiw yn gorfod gofyn am warchod heddlu o ddydd i ddydd, a hefyd dŷn ni'n gwybod bod hwn yn arwain at bobl yn gadael gwleidyddiaeth, yn arbennig menywod, yn arbennig aelodau o leiafrifoedd ethnig a grwpiau eraill sydd dan orthrwm, a dyw hynny ddim yn dderbyniol.

Beth dŷn ni'n gofyn amdano fe drwy’r gwelliant yma yw ein bod ni yn cael gwybodaeth sydd yn rhoi i ni y data, fel man cychwyn, er mwyn asesu llwyddiant unrhyw ymyriadau dŷn ni a’r Llywodraeth yn eu gweithredu er mwyn mynd i'r afael gyda'r broblem. Oni bai bod gyda ni uned fonitro—. Ac mae unedau monitro fel hyn wedi cael eu creu nawr gan seneddau eraill ar draws y byd. Roedd y Dáil yn ddiweddar, yn Iwerddon, yn trafod hyn. Felly, pam na allwn ni wneud hynny ar lefel Cymreig er mwyn sicrhau bod gyda ni uned sydd nid yn unig yn monitro, ond sydd hefyd yn rhoi cyngor, sy'n rhoi cefnogaeth ymarferol, sydd yn cynghori pobl ynglŷn â beth allen nhw ei wneud os dŷn nhw'n wynebu'r math yna o aflonyddu? Felly, mae yna bethau ar y gweill. Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn sôn am y rheini. Ond beth am ddod â nhw i gyd ynghyd mewn un lle er mwyn sicrhau ein bod ni'n mynd i'r afael gyda'r broblem yma sydd yn effeithio mor negyddol ar ein democratiaeth ni ar hyn o bryd? A gyda hynny o sylwadau, mi wnaf i gau pen y mwdwl am y tro.

17:10

Er gwybodaeth i Aelodau, 10 munud yw'r mwyafswm ar gyfer cyfraniad, ond mi fues i'n hael yn fanna oherwydd taw cyfraniad cyntaf yr Aelod i'r ddadl hon oedd e. Efallai na fyddaf i ddim mor hael nes ymlaen. Y Cwnsler Cyffredinol nawr i gyfrannu.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n gobeithio, maes o law, y byddwch chi mor hael gyda mi, os bydd yr angen yn codi. Mae'r materion y mae Adam wedi eu codi yn faterion pwysig iawn—materion sydd, rwy'n credu, yn trethu ein meddyliau i gyd. Mae'r Bil yn cynnwys nifer o newidiadau a goblygiadau i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, a bydd angen blaenoriaethu'r rhain er mwyn osgoi peryglu'r ddarpariaeth. Felly, ni fyddaf yn cefnogi'r gwelliannau.

Rwyf am ddiolch i Adam am y gwelliannau, serch hynny, oherwydd eu bod yn gysylltiedig â materion pwysig y bydd angen i ni eu hystyried maes o law. Maent yn ychwanegu swyddogaeth ar gyfer DBCC—Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru—wedi'i ddirprwyo i'r bwrdd rheoli etholiadol, o gynghori Gweinidogion Cymru ar faterion yn ymwneud ag iechyd democrataidd Cymru, yn ogystal â'r angen am uned o fewn y DBCC yn cefnogi'r swyddogaeth hon ac i adrodd. Rwy'n derbyn y gallai'r materion hyn fod o gymorth ac yn faterion y mae'n bwysig i'r bwrdd rheoli etholiadol, neu'r DBCC yn ehangach, eu hystyried yn y dyfodol. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae mater iechyd democrataidd yn fater o bryder difrifol i mi. Mae'n un rwyf wedi sôn amdano sawl gwaith, ac mae'n sail i ystyriaeth ein holl waith ar ddiwygio etholiadol. Yn wir, efallai y bydd angen i ni geisio ychwanegu'r swyddogaethau hyn yn nes ymlaen trwy is-ddeddfwriaeth. Rwy'n ofni y gallai eu hychwanegu ar hyn o bryd beryglu ffocws uniongyrchol y DBCC, a dyna pam nad wyf yn eu cefnogi. Mae gen i bryderon gwirioneddol am orlwytho ar adeg pan fydden ni'n ymgymryd â thrawsnewidiad mor bwysig a sylfaenol i'r ffordd y bydd ein system etholiadol yn cael ei rheoli.

Gan droi at welliant 36, er ei fod yn tynnu sylw at fater o bryder mawr i Lywodraeth Cymru, credaf ei fod yn mynd y tu hwnt i gylch gwaith arfaethedig presennol y DBCC. Mae yna fecanweithiau eisoes ar gyfer adrodd am aflonyddu gwleidyddol, cam-drin a bygwth cynrychiolwyr etholedig drwy'r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus, pwyllgorau safonau lleol, pwyllgor safonau'r Senedd, ac ystod o arolygon rheolaidd. Dyna'r prif reswm, ond dim ond dweud bod gwaith parhaus yn y maes hwn wrth gwrs. Mae'n faes gwaith lle mae swyddogion yn ymgysylltu'n rheolaidd â Sefydliad Jo Cox, gan weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Un Llais Cymru, a chyfranddalwyr ehangach. Felly, nid wyf am leihau pwysigrwydd yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud mewn gwirionedd. Ar hyn o bryd, rwy'n credu, mae'n ymwneud â sicrhau ein bod yn blaenoriaethu ac yn canolbwyntio ar y trawsnewidiadau a'r newidiadau hyn i sicrhau eu bod ar waith ac mewn sefyllfa i gyflawni eu swyddogaethau ar gyfer 2026. Ond mae hon yn broses barhaus. Diolch, Llywydd.

17:15

Gan eich bod chi wedi bod mor hael gyda'r sylwadau agoriadol, dwi ddim eisiau ein dal ni llawer yn hirach. Diolch am ymateb ystyrlon y Cwnsler Cyffredinol. Rŷn ni dal o'r farn bod yna rinwedd mewn bod yn benodol ynglŷn â'r swyddogaethau eraill yma. Dwi'n deall nad oes anghytundeb ynglŷn â'r bwriadau. Ond gyda hynny o sylwadau, hoffwn i symud i'r bleidlais, os gwelwch yn dda.

Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn gwelliant 26? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 26. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais ar y gwelliant yma yn gyfartal. Felly, fe wnaf i fwrw fy mhleidlais yn unol â'r Rheolau Sefydlog, ac yn erbyn gwelliant 26. Felly, canlyniad y bleidlais yw bod 26 o blaid, neb yn ymatal, a 27 yn erbyn.

Gwelliant 26: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 27 (Adam Price).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 27? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe wnawn ni gynnal pleidlais ar welliant 27. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 27 wedi ei wrthod.

17:20

Gwelliant 27: O blaid: 25, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 2: Cofrestru etholiadol (Gwelliannau 7, 28, 8, 29)

Grŵp 2 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r rhain yn ymwneud â chofrestru etholiadol. Gwelliant 7 yw'r prif welliant a Peter Fox sy'n cynnig y gwelliant yma. Peter Fox.

Cynigiwyd gwelliant 7 (Peter Fox).

Diolch, Llywydd, a diolch am fy ngalluogi i gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw. Hoffwn ddiolch hefyd i dîm y Bil a phawb sydd wedi gweithio mor galed ar hyn, ac i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ymgysylltiad, ac rwy'n diolch i chi am hynny, ac i Adam Price, sydd wedi gweithio'n agos gyda ni hefyd. Byddwch yn falch o wybod nad oes gennyf ragymadrodd hir, ond mae materion pwysig yn y Bil hwn nad ydym yn fodlon â nhw, a dyna pam yr ydym yn cyflwyno gwelliannau. Felly, fe wnaf siarad am fy ngwelliannau 7 ac 8, ond byddwn hefyd yn cefnogi gwelliannau Adam Price yn y grŵp hwn. 

Felly, mae gwelliant 7 yn cynyddu'r cyfnod rhybudd o 45 diwrnod i 60 diwrnod, ac ar ôl hynny bydd rhywun yn gallu cofrestru i bleidleisio heb gais. Bydd y cynnydd i 60 diwrnod yn rhoi mwy o amser i'r rhai sy'n agored i niwed allu eithrio eu hunain os oes angen. Mae angen i ni fod yn ofalus gyda gwybodaeth am bobl, gan fod pobl yn aml yn dymuno aros yn ddienw am reswm da, ac am y rheswm hwn rydym yn bwriadu cynyddu'r cyfnod rhybudd. Er ein bod yn gwerthfawrogi bod y Cwnsler Cyffredinol wedi sôn yng Nghyfnod 2 y bydd 45 diwrnod yn cael eu hadolygu, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu y gall cael mwy o amser dim ond bod o fudd i bobl agored i niwed.

Mae gwelliant 8 yn galw am adolygiad ar effeithiolrwydd y newidiadau i weithrediad cofrestru etholiadol. Bydd hyn yn rhoi darlun clir i ni o ba mor effeithiol y mae'r mesurau wedi bod a beth arall y gellir ei wneud i wella'r nifer sy'n pleidleisio a'i gwneud yn haws i bobl gymryd rhan mewn democratiaeth. Ac fel y dywedais i, Llywydd, byddwn yn cefnogi gwelliannau Adam Price yn y grŵp hwn.

Hoffwn i ddiolch i Peter Fox am ei welliannau yn y grŵp yma. Fel plaid, rydyn ni yn gefnogol iawn o’r mesurau sydd yn y Bil yma i gyflwyno cofrestru etholiadol heb gais, ac yn credu bod hyn yn un cam cychwynnol all gynyddu cyfranogiad yn etholiadau Cymru. Am y rhesymau yma, nid ydym yn cefnogi gwelliant 7, am ein bod ni'n cytuno gyda rhesymeg y Llywodraeth fod y cyfnod o 45 diwrnod yn ddigonol fel cyfnod o sylw. Fodd bynnag, rydyn ni o hyd yn cydnabod gwerth a phwysigrwydd adolygu polisïau yn barhaol, ac felly rydym yn hapus i gefnogi gwelliant 8.

Gan droi at fy ngwelliannau i yn y grŵp yma, pwrpas gwelliant 28 yw sicrhau bod ceisiadau am gofrestriad awtomatig mor hawdd a hyblyg â phosib, yn benodol trwy ddileu’r angen i unrhyw etholwr yng Nghymru sy’n dymuno cofrestru’n ddienw ddarparu tystiolaeth ategol ar gyfer ei gais, a dileu'r gofyniad i adnewyddu cofrestriad ar gyfer cofrestriadau dienw.

Pwrpas gwelliant 29 yw sefydlu rheolau clir ynghylch hawliau etholiadol etholwyr sydd yn gofrestredig mewn mwy nag un breswylfa, rhywbeth sydd wedi bod o bwys yng ngwleidyddiaeth Cymru ers nifer fawr o flynyddoedd, yn ogystal â mannau ble mae'r mater o ail gartrefi yn her. Mae’n werth nodi bod oddeutu 36,000 o bobl yn byw mewn tai haf yng Nghymru am gyfnodau yn ystod y flwyddyn, nifer sylweddol a fydd yn medru cael dylanwad cryf ar etholiadau Cymreig yn y dyfodol, er gwaethaf y ffaith nad ydynt yn byw yn y tai hynny yn barhaol.

Mae yna sawl ymgais wedi bod dros flynyddoedd lawer yn San Steffan, er enghraifft, i gael gwared â’r sefyllfa yma sy’n bodoli ar hyn o bryd, lle mae rhywun, oherwydd bod ail gartref gyda nhw, yn medru dewis pleidleisio rhwng dau fan. Rydym o’r farn bod hynny’n sylfaenol annemocrataidd. Dyw'r ffaith bod gyda chi fynediad at fwy o eiddo ddim yn ein tyb ni yn rhoi hawliau i chi feddu ar fwy o benrhyddid i benderfynu mewn etholiadau ble i bleidleisio, a dylai fod hynny yn cael ei adlewyrchu yn y drefn etholiadol, yn sicr ar gyfer etholiadau cenedlaethol.

Rydyn ni'n meddwl bod angen gweithredu i wneud yn iawn am yr aneglurder ynglŷn â'r cwestiwn yma, ac mae'n werth nodi bod gan swyddogion cofrestru lleol ar hyn o bryd yr hawl i herio pobl sydd ag ail gartrefi o dan broses 1B, fel mae'n cael ei adnabod. Hynny yw, mae modd iddyn nhw gwestiynu rhywun sydd ar y gofrestr i weld a ydyn nhw â digon o gysylltiad lleol. Ond mewn gwirionedd, wrth gwrs, dyw hwnna ddim yn cael ei weithredu—yn gyson, o leiaf—ac mae angen, dwi'n credu, sicrwydd statudol i ddweud, 'Dyw cael tŷ haf rhywle ddim yn rhoi'r hawl i chi bleidleisio yn yr ardal yma. Hynny yw, mi ddylech chi fod yn pleidleisio yn y man lle mae'ch prif breswylfa.' Dŷn ni yn gosod mas eithriadau rhesymol o ran hyn, hynny yw pobl sydd yn gorfod bod i ffwrdd am gyfnod o'u prif breswylfa am resymau sydd yn ymwneud â chyflogaeth, gwasanaeth neu addysg ac yn y blaen. Ond os ŷch chi ddim ar y gofrestr oherwydd bod gyda chi dŷ haf rhywle, dylai hwnna ddim fod yn cael ei adlewyrchu yn ein democratiaeth ni.

Y rheswm pam fod hwn hyd yn oed yn fwy pwysig yw oherwydd cofrestru awtomatig. So, mi fyddai lot o'r bobl sydd yn y tai haf yna ddim yn cofrestru, ond nawr mae yna broses o gofrestru awtomatig, mae'r 36,000 yna yn sydyn reit yn mynd i fod ar y gofrestr, mewn sawl am y tro cyntaf erioed, ac mae'r 36,000 yna wedi cronni mewn ychydig iawn o etholaethau. Felly, fel cyfran o'r etholwyr yn yr etholaethau hynny, mae'n mynd i fod yn gyfran sylweddol, a dŷn ni jest yn meddwl bod yna annhegwch sylfaenol fan hyn sydd angen ei ddatrys.

Yn ystod Cyfnod 2, mi oedd y Cwnsler Cyffredinol wedi cydnabod bod hyn yn fater o bwys, bod gwerth asesu ffyrdd i dynhau y rheolau o gwmpas hawliau etholiadol pobl ag ail gartrefi, ond y casgliad oedd, bryd hynny, y byddai cynnwys rhywbeth yn y Bil yma yn rhoi baich diangen ar gofrestrwyr etholiadol. Rŷn ni yn amheus o'r rhesymeg yma, a dŷn ni yn meddwl, oni bai fod yna newid i berwyl y gwelliant yma, ein bod ni'n mynd i orffen lan yn y sefyllfa o annhegwch annemocrataidd, yn ein barn ni, dwi wedi rhybuddio amdani. 

17:25

Diolch, Llywydd. A gaf i ddiolch i Peter Fox ac Adam Price am eu cyfraniadau? Fe wnaf siarad yn gyntaf am welliant 7. Mae gwelliant 7, fel y crybwyllwyd, yn newid y cyfnod rhybudd o'r bwriad i gofrestru gan y swyddog cofrestru o 45 diwrnod i 60 diwrnod. Gallaf gefnogi'r gwelliant hwn. Byddwn yn treialu cofrestru heb gais a bydd y cyfnod aros yn cael ei werthuso fel rhan o hyn, felly teimlaf, er fy mod yn dal i fod o'r farn fod 45 diwrnod yn briodol, o gofio y bydd cynllun treialu, mae hwn yn gonsesiwn y gellir ei wneud yn rhesymol, ac yna byddwn yn gwerthuso.

Byddai gwelliant 28 yn dileu'r gofyniad i ymgeisydd sydd wedi'i gofrestru'n ddienw ddarparu tystiolaeth i gefnogi ei gais ar gyfer y gofrestr llywodraeth leol yng Nghymru. Byddai hefyd yn caniatáu i rywun aros wedi'i gofrestru'n ddienw nes iddo ofyn am gael ei dynnu oddi ar y gofrestr ddienw ar gyfer y gofrestr llywodraeth leol yng Nghymru. Felly, byddai'r gwelliant hwn yn creu system gofrestru ddienw wahanol ar gyfer y gofrestr llywodraeth leol yng Nghymru o'i chymharu â'r un ar gyfer cofrestr seneddol y DU. Ni fyddai'r gwelliant hwn, felly, yn lleihau'r baich gweinyddol ar yr etholwyr, gan y byddai'n rhaid iddynt gwblhau cais blynyddol sy'n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn aros ar y gofrestr seneddol.

Nid wyf yn cefnogi'r gwelliant hwn. Mae cofrestru i bleidleisio'n ddienw hefyd yn rhywbeth sydd wedi'i neilltuo'n benodol ar gyfer etholwyr sy'n gallu dangos y byddai cyhoeddi eu manylion ar y gofrestr etholiadol yn peryglu diogelwch yr ymgeisydd neu aelod o'u haelwyd. Mae cynnwys etholwr fel etholwr dienw ar y gofrestr yn golygu bod eu manylion ar gael i restr gyfyngedig iawn o sefydliadau yn unig ac y byddent yn eu hatal rhag gweithgareddau penodol, er enghraifft derbyn deunydd etholiadol drwy'r post. Felly, dyna pam rydym yn parhau i gredu mai dim ond ar gyfer y rhai sydd wir ei angen at y diben penodol hwnnw y dylid defnyddio cofrestru dienw. Mae cofrestru dienw wedi'i gadw ar gyfer yr amgylchiadau mwyaf difrifol, ac mae angen ei werthuso'n flynyddol er mwyn rhoi cyfle i adlewyrchu unrhyw newidiadau yn amgylchiadau'r etholwr. Mae cadw'r ddarpariaeth ar gyfer cofrestru dienw yng Nghymru sy'n unol â phob rhan arall o'r DU hefyd yn hanfodol i'r etholwr er mwyn lleihau dryswch. Mae cadw pobl a'u data mor ddiogel â phosibl o'r pwys mwyaf ac rwy'n credu bod y gwelliannau hyn yn peri risg ddifrifol i hynny.

Mae cefnogi ymgysylltiad cadarnhaol pleidleiswyr â phrosesau cofrestru etholiadol yn bwysig iawn i ni, a dyna pam y mae mesurau diogelu ychwanegol wedi'u hymgorffori yn ein darpariaethau cofrestru awtomatig pryd os nad yw etholwr eisiau cael ei gofrestru'n awtomatig, y gall eithrio ei hun o'r system unwaith y bydd wedi derbyn ei hysbysiad cofrestru. Yna bydd yn gallu dilyn y broses gofrestru etholiadol unigol arferol.

Os caf droi yn nawr at welliant 8, byddai'r gwelliant hwn yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, ddim hwyrach na diwedd cyfnod o 12 mis sy'n dechrau yn syth ar ôl diwedd yr etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru a gynhelir yn 2027, gynnal adolygiad a gosod adroddiad gerbron y Senedd yn ymwneud â gweithredu cofrestru etholiadol heb gais. Mae'n ofynnol i'r Comisiwn Etholiadol lunio adroddiad annibynnol sy'n gwerthuso'r cofrestriad heb gynlluniau treialu ymgeisio. Byddai'n gymhlethdod diangen ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud yr un peth, o gofio y bydd adroddiad y Comisiwn Etholiadol ar y cynlluniau treialu yn cael ei gyhoeddi a'i rannu gyda'r holl Aelodau. Felly, unwaith eto, nid wyf yn cefnogi'r gwelliant hwn.

Yn olaf, os caf siarad am welliant 29: mae'r gwelliant hwn, fel y mae'r Aelod wedi'i amlinellu, yn gosod gofyniad preswylio ar gyfer cofrestru llywodraeth leol, a byddai'n ei gwneud yn ofynnol i berson fod yn preswylio fel arfer yn yr ardal am o leiaf 182 diwrnod o'r flwyddyn. Mae gennyf gydymdeimlad â'r gwelliant, ond nid wyf yn cefnogi'r gwelliant, oherwydd rwy'n credu y byddai'n creu baich diangen ar y swyddogion cofrestru etholiadol, gan y byddai monitro cydymffurfiaeth yn anodd iawn, yn enwedig wrth i ni symud i gofrestru heb gais. Byddai hefyd yn gorgyffwrdd ac yn gwrthdaro â darpariaethau eraill sy'n bodoli eisoes mewn perthynas â phenderfynu ar breswyliad a chysylltiad lleol a gallai arwain at ganlyniadau anfwriadol mewn perthynas â hawl bresennol pobl i bleidleisio. Diolch, Llywydd.

17:30

Diolch, Llywydd, ac a gaf i ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am gytuno i gefnogi ein gwelliant 7? Rwy'n gwerthfawrogi hynny, ac rwy'n cydnabod eich safbwynt ynghylch gwelliant 8. Nid wyf yn teimlo bod angen i mi ddweud mwy, Llywydd.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly gwnawn ni gymryd pleidlais ar welliant 7. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal a 12 yn erbyn. Mae gwelliant 7 wedi ei dderbyn.

Gwelliant 7: O blaid: 40, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 28 (Adam Price).

Ydy, mae'n cael ei symud. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 28? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad; gwnawn ni gynnal pleidlais ar welliant 28. Agor y bleidlais. Mae canlyniad y bleidlais yn gyfartal, ac felly—. Cau'r bleidlais. Mi fyddaf i'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant, ac felly y canlyniad terfynol yw bod 26 o blaid, neb ymatal a 27 yn erbyn. Mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

Gwelliant 28: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 8 (Peter Fox).

Ydy, mae e, gan Peter Fox. Oes gwrthwynebiad i welliant 8? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i welliant 8. Fe gawn ni bleidlais, felly, ar welliant 8. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais, sy'n gyfartal, felly mi fyddaf i'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 8. Y canlyniad, felly, yw bod 26 o blaid, neb yn ymatal a 27 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

17:35

Gwelliant 8: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 29 (Adam Price).

Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna. Felly, fe gawn ni bleidlais ar welliant 29. Agor y bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Cau'r bleidlais. Rwy'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Y canlyniad yw bod 26 o blaid, neb yn ymatal a 27 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 29 wedi ei wrthod.

Gwelliant 29: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 3: Pwerau a rheoliadau peilot etholiadau Cymreig (Gwelliannau 9, 10, 11, 12)

Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 3. Y grŵp yma yn ymwneud â phwerau a rheoliadau peilot etholiadau Cymreig. Gwelliant 9 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Peter Fox i gynnig gwelliant 9.

Cynigiwyd gwelliant 9 (Peter Fox).

Diolch, Llywydd. Mae gwelliant 9 yn galw am newid y cylch etholiadau ar gyfer etholiadau awdurdodau lleol i bedair blynedd, gan y bydd hyn yn osgoi gwrthdaro rhwng etholiadau'r Senedd ac etholiadau awdurdodau lleol. Fel cyn-arweinydd cyngor, rwy'n gwybod am bwysigrwydd atebolrwydd a diogelwch, a byddai lleihau'r cylch o bum mlynedd yn rhoi cyfle i bleidleiswyr ddwyn eu hawdurdodau lleol i gyfrif. Dim ond trwy graffu da a'r gallu i ddwyn ein cynrychiolwyr etholedig i gyfrif y cawn ni arweinyddiaeth dda.

Rwyf eisiau troi yn fyr at welliant 11, sy'n tynnu sylw at yr angen i Lywodraeth Cymru ymgynghori â rhanddeiliaid sy'n cynrychioli ystod o grwpiau agored i niwed i fod yn rhan o gynlluniau treialu cynllunio sy'n ymwneud â chofrestriad etholiadol heb gais. Mae angen i ni sicrhau bod grwpiau agored i niwed yn cael eu cefnogi a bod eu buddiannau gorau yn cael eu diogelu pan gânt eu cofrestru'n awtomatig, a bod mesurau diogelu priodol yn cael eu rhoi ar waith i atal unrhyw fanipiwleiddio neu orfodaeth.

Yn olaf, rwyf eisiau ymdrin â gwelliant 12, a fydd yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cynnal cynlluniau treialu ar draws ystod ddaearyddol o ardaloedd, gan gynnwys ardaloedd gwledig a threfol. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn cael dealltwriaeth lawn o effeithiau unrhyw gynlluniau treialu a sut y byddant yn effeithio ar wahanol rannau o gymdeithas. Diolch. 

Rydym yn gefnogol o welliant 9 i fedru peilota cylch etholiadol o bedair blynedd ar gyfer etholiadau lleol, gan ei alinio â chylch etholiadol newydd y Senedd. Rydym hefyd yn cydnabod gwerth gwelliant 12 i greu dyletswydd i beilota mewn ardaloedd gwledig a threfol, lle bo hynny'n briodol, er mwyn cael data cynhwysfawr ynglŷn ag effaith y gwahanol gynlluniau peilot mewn ardaloedd gwahanol. Fel y gwnaethon ni sôn yn ystod Cyfnod 2, rydyn ni yn erbyn gwelliannau 10 ac 11, gan y byddai tynnu'r pŵer i orfodi awdurdodau lleol i gymryd rhan mewn peilot lle bo rhaid yn gallu llesteirio ei effeithiolrwydd, ac mae'r angen i ymgynghori ymhellach cyn treialu cofrestru awtomatig yn rhwystro un o fwriadau canolog y ddeddfwriaeth yma, yn ein tyb ni.

Diolch, Llywydd. Diolch i chi, Peter Fox, am agor y ddadl ar y gwelliannau yn y grŵp hwn, a diolch hefyd am y cyfraniad a wnaed gan Adam Price. Fe wnaf siarad yn gyntaf am welliant 9. Mae'r gwelliant hwn yn ychwanegu amlder cylchoedd etholiadol i'r rhestr o faterion y gellir eu treialu. Nid wyf yn cefnogi'r gwelliant gan nad wyf yn credu ei fod yn rhywbeth ymarferol i'w weithredu. Cynhelir etholiadau lleol ar draws Cymru gyfan, gan helpu i godi ymwybyddiaeth a chyfranogiad yn yr etholiadau. Byddai effaith cynllun treialu mewn un ardal yn debygol o olygu gwahaniaethau parhaol rhwng etholiadau.

Gan droi at welliant 10, byddai'r gwelliant hwn yn dileu pŵer Gweinidogion Cymru i gynnal cynlluniau treialu etholiadol heb ganiatâd yr awdurdod lleol. Mae'r gallu i gynnal cynlluniau treialu yn gywir yn hanfodol i werthuso'r newidiadau sy'n cael eu cynnig. Mae hyn yn golygu y gallai fod angen i Weinidogion Cymru weithiau orfodi awdurdod penodol fel bod proffil demograffig Cymru yn cael ei gynrychioli'n briodol drwy'r broses dreialu. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod mesurau diogelu ar waith fel bod hwn yn cael ei ddefnyddio pan fydd yn hollol angenrheidiol yn unig, felly nid wyf yn cefnogi'r gwelliant hwn.

Byddai gwelliant 11 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â rhanddeiliaid ynghylch cofrestru etholiadol heb gais. Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal ymgynghoriad â'r rhanddeiliaid hynny y maent yn eu hystyried yn briodol, ond, yn benodol, gyda'r rhai y maent yn ystyried eu bod yn cynrychioli grwpiau agored i niwed. Felly, gallaf gefnogi'r gwelliant hwn, a chadarnhau ein bod wedi ymrwymo nid yn unig i ymgynghori â'n rhanddeiliaid, ond hefyd Peter, i weithio'n agos gyda'n rhanddeiliaid i ddatblygu'r cynigion treialu gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys gweithio'n agos gyda'r rhai sy'n cynrychioli pleidleiswyr sy'n agored i niwed, pleidleiswyr ag anghenion ychwanegol a'r rhai mewn grwpiau anodd eu cyrraedd.

Yn olaf, o ran gwelliant 12, byddai'n ofynnol i'r gwelliant hwn fod â rheoliadau cynlluniau treialu, lle y bo'n briodol, i sicrhau bod cynlluniau treialu yn cwmpasu ystod ddaearyddol o ardaloedd ledled Cymru, gan gynnwys ardaloedd gwledig a threfol. Mae'r gwelliant yn rhy gyfyngol ac felly nid wyf yn ei gefnogi. Er enghraifft, gallai fod yn angenrheidiol cynnal cynlluniau treialu sy'n edrych ar faterion sy'n benodol i wahanol fathau o ardal, megis, er enghraifft, pleidleisio mewn ardaloedd gwledig. Diolch, Llywydd.

17:40

Diolch i chi, a diolch, unwaith eto, Cwnsler Cyffredinol, am y mewnbwn cadarnhaol sydd yna i'n gwelliannau, gwelliant 11 yn sicr. Unwaith eto, rwy'n nodi eich barn am y gwelliannau eraill, ac ni welaf lawer o bwynt mewn herio hynny.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 9? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 9. Agor y bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, felly byddaf i'n defnyddio fy mhleidlais fwrw. A chanlyniad y bleidlais, felly, yw bod 26 o blaid y gwelliant, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Gwelliant 9 wedi'i wrthod, felly.

Gwelliant 9: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Y gwelliant nesaf yw gwelliant 10.

Peter Fox, a yw'n cael ei gynnig?

Cynigiwyd gwelliant 10 (Peter Fox).

Ydy.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Pleidlais ar welliant 10. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Gwelliant 10 wedi'i wrthod.

Gwelliant 10: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 11 (Peter Fox).

Ydy. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gawn ni bleidlais ar welliant 11. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Gwelliant 11 wedi'i gymeradwyo.

Gwelliant 11: O blaid: 39, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 12 (Peter Fox).

Ydy. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 12? Gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 12. Agor y bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal; byddaf i'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Ac felly canlyniad y bleidlais yw bod 26 o blaid, 27 yn erbyn. Gwelliant 12 wedi'i wrthod.

Gwelliant 12: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 4: Rheoliadau diwygio etholiadol (Gwelliannau 13, 14)

Grŵp 4 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â'r rheoliadau diwygio etholiadau. Gwelliant 13 yw'r prif welliant. Peter Fox i gynnig y gwelliant yma. Peter Fox.

Cynigiwyd gwelliant 13 (Peter Fox).

Diolch, Llywydd, ac rwyf yn cynnig y gwelliant. Bydd y gwelliannau hyn yn sicrhau na fydd rheoliadau yn dileu nac yn creu unrhyw droseddau. Rwy'n pryderu y byddai'r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion addasu troseddau drwy reoleiddio yn hytrach na thrwy graffu priodol. Bydd hyn yn rhoi mwy o bwerau i'r Senedd, ac felly pobl Cymru, i graffu ar Weinidogion a'u dwyn i gyfrif. Am y rheswm hwn rydym wedi cyflwyno'r gwelliannau hyn. Dyna'r cyfan sydd angen i mi ei ddweud, Llywydd. 

17:45

Ydy'r Cwnsler Cyffredinol eisiau ymateb? Ydy; Mick Antoniw.

Diolch, Llywydd. Wel, diolch i Peter Fox am gyflwyno'r gwelliannau, ond ni fyddaf yn cefnogi gwelliannau 13 na 14. Mae cyfraith etholiadol eisoes yn nodi nifer o droseddau mewn gwahanol sefyllfaoedd, felly byddai gwelliant 13, yn y bôn, yn eithrio'r rhain yn llwyr o bob rheoliad diwygio yn y dyfodol, a fyddai'n anymarferol. Mae gwelliant 14 hefyd yn rhy gyfyngol a gallai arwain at ganlyniadau anfwriadol ar gyfer gwneud newidiadau i'r system weinyddu etholiadol sydd o fudd i bleidleiswyr, felly nid wyf felly yn ei gefnogi. Diolch, Llywydd. 

Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol. Er ein bod yn deall eich bod yn teimlo bod y gwelliannau hyn yn rhy gyfyngol, rydym wedi cyflwyno'r gwelliannau hyn o ganlyniad i'r awydd i gael mwy o atebolrwydd a thryloywder, ac am y rheswm hwnnw rydym ychydig yn siomedig na allwch eu cefnogi, ond yn hapus i barhau.

Y cwestiwn yw, felly: a ddylid derbyn gwelliant 13? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 13. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Gwelliant 13 wedi'i wrthod.

Gwelliant 13: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 14 (Peter Fox).

Ydy.

Oes yna wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni gymryd pleidlais ar welliant 14. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Mae gwelliant 14 wedi'i wrthod. 

Gwelliant 14: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 5: Cymorth i bleidleiswyr ag anableddau (Gwelliannau 15, 30)

Grŵp 5 o welliannau sydd nesaf. Y grŵp yma yn ymwneud â chymorth i bleidleiswyr ag anableddau. Peter Fox sydd yn cyflwyno'r prif welliant, gwelliant 15. Peter Fox.

Cynigiwyd gwelliant 15 (Peter Fox).

Diolch, Llywydd. Er fy mod yn gwerthfawrogi'r gwaith y mae Adam Price wedi'i wneud wrth eirioli dros bleidleiswyr rhannol ddall, mae gwelliant 15 yn mewnosod darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r rheolau ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru gynnwys gofynion penodol ar y cyfleusterau sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio ar gyfer pobl ag anableddau, lle mae'n rhesymol gwneud hynny. Bydd hyn yn cwmpasu'r gwelliant y mae Adam Price wedi'i gyflwyno, y byddwn hefyd yn ei gefnogi, yn ogystal â sicrhau y bydd pobl ag ystod eang o anableddau yn cael eu cefnogi i gymryd rhan yn y broses etholiadol ar y diwrnod. Er y gellir dadlau y gall pobl bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy eisoes, mae fy ngwelliant yn darparu mwy o ymreolaeth ac yn grymuso ystod eang o bobl i bleidleisio yn bersonol, rhywbeth sy'n hawl sylfaenol yn ein cymdeithas, ac am y rheswm hwn rydym yn annog pobl i gefnogi'r gwelliannau hyn.

Gaf i ddiolch i Peter Fox am gyflwyno gwelliant 15, sydd yn anelu at gyflawni nod tebyg i'n gwelliant ni, sef i sicrhau nad yw unrhyw anabledd yn rhwystr i'r hawl sylfaenol o bleidleisio? Rydym ni'n hapus iawn i gefnogi'r gwelliant yma. 

Pwrpas ein gwelliant ni yw estyn yr egwyddor hollbwysig yma i gynnwys darpariaethau penodol ar gyfer etholwyr dall a golwg rhannol. Yn dilyn trafodaethau gyda'r RNIB ar ôl Cyfnod 2, rydym wedi ychwanegu geiriad i'n gwelliant gwreiddiol i'w wneud e'n glir bod gan yr etholwyr yma'r hawl i allu bwrw pleidlais heb fod angen iddyn nhw gael cymorth pellach gan unrhyw berson arall; mae hwnna wedi cael ei godi yn ystod cyfnod yr etholiad cyffredinol San Steffan yma yn ddiweddar. Oherwydd y realiti yw, mwy na 150 o flynyddoedd ers y Ddeddf Pleidleisio oedd yn gwarantu'r hawl i bleidleisio yn annibynnol ac yn gyfrinachol ar gyfer rhai, o leiaf, mae pobl ddall ac â golwg rhannol yn parhau i gael eu hamddifadu o'u hawl ddemocrataidd fwyaf sylfaenol. 

Mae pleidleisio yn ymarfer gweledol, o ddarllen y papur pleidleisio i ddod o hyd i'r bocs cywir sy'n berthnasol i'ch dewis chi o ymgeisydd, a rhoi eich marc ynddo. Mae hyn yn golygu bod y mwyafrif llethol o bobl ddall yn cael eu gorfodi i rannu eu bwriad pleidleisio naill ai gydag aelod o'r teulu, ffrind neu staff gorsaf pleidleisio. Mae pleidleiswyr dall yn dweud eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu bychanu a'u siomi gan y system, ac mewn rhai achosion nid ydynt yn siŵr i bwy gwnaethant bleidleisio hyd yn oed, sydd yn hollol annerbyniol.

Fel y mae adroddiad diweddaraf yr RNIB ar y mater yma yn pwysleisio, llai nag un o bob pump—19 y cant—o bleidleiswyr dall oedd wedi gallu bwrw eu pleidlais yn annibynnol ac yn gyfrinachol yn yr etholiadau a gynhaliwyd, er enghraifft, yn 2021. Mae'n hen bryd mynd i'r afael â'r diffyg democrataidd yma, ac mae'r dechnoleg ar gael, gan gynnwys datrysiadau cyffyrddol a sain.

Hoffwn hefyd gymeradwyo cynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg sydd wedi cymryd arnyn nhw eu hunain i sefydlu gwasanaeth darllen papurau pleidleisio dros y ffôn i gefnogi pleidleiswyr dall a rhannol ddall. Mae'r RNIB yn gweithio gyda'r ddau awdurdod i hyrwyddo a gwerthuso'r gwasanaeth hwn. Mae hyn yn dangos bod atebion yn bosibl ac y gellid datrys y mater hwn yn gymharol syml ac heb fynd i gostau ychwanegol, pe bai'r ewyllys gwleidyddol i wneud hynny.

Doeddwn i, mae'n rhaid dweud, ddim yn fodlon gydag ymateb y Cwnsler Cyffredinol ar y mater yma yn ystod Cyfnod 2. Mae yna anghysondeb yn safbwynt y Llywodraeth, gan fynnu ar yr un llaw fod y darpariaethau yma yn medru cael eu cyflwyno drwy ddeddfwriaeth eilaidd, tra hefyd yn honni y bydd cyflwyno'r safonau yma yn creu anghysondeb rhwng etholiadau Cymreig ac etholiadau San Steffan. Rydym ni yn glir bod gennym gyfle felly i arwain fel esiampl yng Nghymru, a taw deddfwriaeth gynradd yw'r ffordd orau i gyflawni hyn. Byddwn felly yn symud y gwelliant yma. 

17:50

Diolch, Llywydd, a diolch i chi am yr holl bwyntiau sydd wedi'u gwneud, ac maen nhw wedi'u gwneud yn dda. Fy hoff ddull gweithredu, fel y dywedais i yng Nghyfnod 2, yw gosod dyletswyddau ar swyddogion canlyniadau drwy is-ddeddfwriaeth. Mae Llywodraeth Cymru ac, yn sicr, yr wyf i eisiau gwneud etholiadau Cymru mor hygyrch â phosibl i bob pleidleisiwr. Rwy'n awyddus iawn i ddysgu o etholiadau eraill, gan gynnwys yr etholiad cyffredinol yn ddiweddarach yr wythnos hon, i sicrhau ein bod yn cael hyn yn iawn i Gymru. Felly, er fy mod yn cytuno ag egwyddorion y gwelliannau, nid wyf yn cefnogi'r gwelliannau hyn oherwydd y fframwaith rheolau etholiadol sydd ar waith yng Nghymru.

Fel y dywedais i yng Nghyfnod 2, ac mae eisoes wedi cael ei grybwyll, ein dewis ddull yw gosod dyletswyddau ar swyddogion canlyniadau drwy'r rheolau a gynhwysir mewn is-ddeddfwriaeth i ddarparu offer sy'n rhesymol i helpu pobl anabl i bleidleisio'n annibynnol yn unol â chanllawiau'r Comisiwn Etholiadol.

Byddai gwelliant 30 yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion canlyniadau ystyried canllawiau gan Lywodraeth Cymru, yn hytrach na'r Comisiwn Etholiadol annibynnol a diduedd. Nid wyf yn credu bod hyn yn well. Byddai hefyd yn arwain at ddyletswyddau gwahanol a chanllawiau gwahanol ar gyfer swyddogion canlyniadau ar gyfer etholiadau neilltuedig a datganoledig mewn perthynas â hygyrchedd. Gallai hyn achosi cymhlethdod i weinyddwyr etholiadol a dryswch i bleidleiswyr. Ond rwy'n awyddus iawn i ddysgu o'r ymchwil a'r adborth presennol o'r etholiadau diweddar ac, fel y dywedais, o'r etholiad cyffredinol sydd i ddod, i sicrhau ein bod yn cael hyn yn iawn i Gymru.

Ond rwy'n credu y dylai fod trwy is-ddeddfwriaeth a chanllawiau'r Comisiwn Etholiadol a mesurau eraill, yn hytrach na dyletswydd ar wyneb y Bil hwn. Mae adborth o'r etholiadau diweddar wedi dangos y gellid gwella ymwybyddiaeth pleidleiswyr ac rydym yn edrych ar hynny drwy'r llwyfan gwybodaeth etholiadau hefyd. Dylid mynd i'r afael â'r materion hyn mewn is-ddeddfwriaeth, lle mae darpariaethau tebyg eisoes wedi'u lleoli. Mae'r rhain wedi'u nodi yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007, a elwir yn Orchymyn cynnal etholiadau, a rheolau etholiadau lleol 2021.

Bydd y Bil ei hun yn darparu lefel o atebolrwydd drwy roi dyletswydd ar y Comisiwn Etholiadol i adrodd ar y camau a gymerwyd gan swyddogion canlyniadau i gynorthwyo pobl ag anableddau i bleidleisio yn yr etholiad. Bydd y dull hwn yn adlewyrchu'r hyn a gymerwyd gan Ddeddf Etholiadau 2022, ac mae'n golygu y gall fod hyblygrwydd lleol i ddarparu offer a chymorth priodol i gael gwared ar rwystrau rhag pleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol, gan hefyd roi profiad cyson i bleidleiswyr rhwng etholiadau Cymru a rhai a gedwir yn ôl. Mae gennym yr opsiwn o hyd i ystyried darpariaethau pellach, wrth i ni ddatblygu is-ddeddfwriaeth.

Ar gyfer etholiadau'r Senedd, rydym wedi ymrwymo i atgyfnerthu ac ailddatgan y gyfraith fel rhan o fframwaith hygyrch, dwyieithog, am y tro cyntaf, cyn etholiad 2026. Rydym yn bwriadu ymgynghori ar Orchymyn drafft cyfunol dwyieithog, fel y bydd rhanddeiliaid yn cael cyfle i ystyried y newidiadau arfaethedig yn fanwl. Rydym yn edrych ymlaen at yr ymgysylltu parhaus â'r holl randdeiliaid ac yn ei werthfawrogi'n fawr wrth ddatblygu'r is-ddeddfwriaeth hon.

Rwy'n cytuno â theimlad y gwelliannau, er mwyn sicrhau bod pleidleiswyr yn gallu pleidleisio heb fod angen cymorth pellach gan unrhyw berson arall. Hoffwn gofnodi fy ymrwymiad i sicrhau bod pleidleiswyr yn gallu pleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol, ac i ddiogelu'r hawl ddemocrataidd sylfaenol honno yng Nghymru, trwy fesurau deddfwriaethol, ond hefyd, yn bwysig, trwy fesurau anneddfwriaethol. Diolch, Llywydd.

17:55

Diolch, Llywydd, a diolch, Cwnsler Cyffredinol, a diolch am gytuno ag egwyddorion yr hyn yr oeddem yn ceisio'i gyflawni yn ein gwelliannau. Rwy'n credu bod hwn yn gyfle a gollwyd. Rwy'n clywed yr hyn rydych chi'n ei ddweud ynghylch is-ddeddfwriaeth a datblygu hyn, ond, yn amlwg, rydyn ni i gyd eisiau sicrhau bod democratiaeth mor hygyrch â phosibl i gynifer o bobl â phosibl, ac ailadroddaf fy mod yn credu bod hwn yn gyfle a gollwyd; gallem fod wedi gwneud hynny yma ac yn awr, ond diolch, Llywydd.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 15? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 15. Agor y bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Byddaf yn defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Felly, canlyniad y bleidlais yw bod 26 o blaid, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Mae gwelliant 15 yn cael ei wrthod.

Gwelliant 15: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 30 (Adam Price).

Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 30? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna. Pleidlais ar welliant 30. Agor y bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, ac felly byddaf i'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Y canlyniad yw 26 o blaid, 27 yn erbyn. Mae gwelliant 30 yn cael ei wrthod.

Gwelliant 30: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 6: Amrywiaeth ymhlith personau sy’n ceisio swydd etholedig (Gwelliant 16)

Grŵp 6 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r grŵp yma'n ymwneud ag amrywiaeth ymhlith personau sy'n ceisio swydd etholedig. Gwelliant 16 yw'r prif welliant a'r unig welliant. Peter Fox sy'n cynnig y gwelliant.

Cynigiwyd gwelliant 16 (Peter Fox).

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn ymwybodol o'r lefelau cynyddol o aflonyddu y mae llawer o ymgeiswyr yn ei ddioddef ar draws pob plaid wleidyddol. Mae'r gwelliant hwn yn ceisio canfod mwy o wybodaeth ynghylch pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i gynnwys materion aflonyddu a cham-drin o ran cwestiynau ynghylch profiadau ymgeiswyr, gan y bydd casglu'r data hwn yn ein helpu i ddeall graddfa'r cam-drin a'r aflonyddu. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ymgeiswyr dynnu sylw at y pryderon hyn pan fyddant yn destun yr ymddygiad ffiaidd hwn. Y gobaith yw y bydd modd gwneud mwy i atal hyn, gyda mwy o gofnodi'r profiadau hyn, a fydd yn ei dro yn galluogi mwy o bobl i deimlo'n gyfforddus ynghylch sefyll mewn etholiad. Diolch, Llywydd.

Diolch Llywydd. Diolch yn fawr, Peter, am agor y ddadl hon. Fe siaradaf am welliant 16. 

Byddai'r gwelliant yn gofyn am arolygon ymgeiswyr i gynnwys cwestiynau am brofiad ymgeiswyr o gam-drin ac aflonyddu. Fel yr eglurais yn ystod trafodion Cyfnod 2, mae'r Bil yn ceisio cefnogi mwy o hyblygrwydd a pherthnasedd yr arolwg, felly mae'n bwysig cadw hyblygrwydd ynghylch cwestiynau y gellir eu gofyn mewn arolygon, ac yn enwedig o ystyried bod diwygio deddfwriaeth sylfaenol yn cymryd llawer o amser ac yn gostus. Bydd datblygu'r arolwg yn cynnwys ymgysylltu'n helaeth â rhanddeiliaid. Ar hyn o bryd, mae'r mater o gam-drin ac aflonyddu yn uchel ar agenda'r trafodaethau hyn. Felly mae arolygon blaenorol wedi cynnwys cwestiynau am gam-drin ac aflonyddu heb fod angen pennu'r gofyniad mewn deddfwriaeth sylfaenol, a dyna pam nad wyf yn cefnogi'r gwelliant. Diolch, Llywydd.

18:00

Diolch yn fawr, Llywydd. Felly, Cwnsler Cyffredinol, er fy mod yn deall y pryder ynghylch sut y bydd hyn yn effeithio, efallai, ar hyblygrwydd yr arolwg, credaf ei bod yn bwysig cofnodi a mynd i'r afael â hyn, oherwydd heb wneud hynny, ni fydd mwy o bobl yn teimlo'n gyfforddus wrth sefyll etholiad. Dyna pam roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n bwysig cyflwyno'r gwelliant hwn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 16? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna, felly pleidlais ar welliant 16. Agor y bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Mi fyddaf yn defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Felly, canlyniad y bleidlais yw bod 26 o blaid, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Mae gwelliant 16 wedi'i wrthod. 

Gwelliant 16: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 7: Platfform gwybodaeth am etholiadau Cymreig (Gwelliannau 17, 18, 31, 1, 32, 33, 34)

Grŵp 7 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r rhain yn ymwneud â phlatfform gwybodaeth am etholiadau Cymreig. Gwelliant 17 yw'r prif welliant. Peter Fox i gynnig y gwelliant. 

Cynigiwyd gwelliant 17 (Peter Fox).

Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig fy ngwelliant. Rwyf am ddechrau drwy siarad am fy ngwelliannau a chodi fy mhryderon ynghylch creu llwyfan gwybodaeth ar gyfer etholiadau Cymru. Rwy'n credu bod rhai materion yn ymwneud â rhyddid mynegiant a didueddrwydd yn ogystal â diogelu data.

Dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, rydym wedi gweld nifer o achosion o ddatgelu data heb ganiatâd ar draws amrywiaeth o dargedau gwerth uchel, felly rwy'n credu bod angen i ni fod yn hynod ofalus o ran sut rydym yn defnyddio data a sefyllfaoedd lle mae wedi'i goladu mewn un lle. Rwyf hefyd yn credu bod problem yn ymwneud ag annibyniaeth y llwyfan ac annibyniaeth canfyddedig. Gallaf ragweld sefyllfa lle mae'r llwyfan yn gwrthod cyhoeddi datganiad ymgeisydd, gan gwestiynu ei annibyniaeth. I'r gwrthwyneb, gallaf weld sefyllfa lle mae ymgeisydd yn fwriadol yn ceisio creu datganiad sy'n cael ei gyhoeddi er mwyn gwneud pwynt gwleidyddol. Er fy mod yn gweld y ddadl dros wella dealltwriaeth a gwybodaeth pleidleiswyr am ymgeiswyr, nid wyf yn cytuno mai llwyfan canolog a grëwyd gan y ddeddfwriaeth hon yw'r ffordd ymlaen.

Y pryder arall sydd gennyf yw mater atebolrwydd cyfreithiol o ran datganiadau ymgeiswyr. Er y byddwn yn gwrthwynebu gwelliant 31, gan nad ydym yn cefnogi'r llwyfan gwybodaeth, byddwn yn cefnogi gwelliannau 32, 33 a 34 Adam Price, sy'n amlinellu'r pryderon cynyddol sydd gennym i gyd ynghylch deallusrwydd artiffisial.

Rydym yn gwrthwynebu gwelliannau 17 ac 18 oherwydd rŷn ni'n credu'n gryf bod creu'r llwyfan hwn yn gyfle gwych i godi lefelau ymgysylltu democrataidd ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o sut mae democratiaeth yn gweithio. Yn sgil hyn, rydym ni hefyd wedi cyflwyno gwelliant 31 i ehangu sgôp y wybodaeth sydd yn cael ei dosbarthu ar y llwyfan, gan gynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â gorsafoedd pleidleisio, systemau pleidleisio, hanes cefndirol ynghylch etholiadau datganoledig yng Nghymru, a materion sy'n gysylltiedig ag iechyd democrataidd Cymru. Bydd hyn yn creu siop un stop, felly, ar gyfer etholwyr i ehangu eu dealltwriaeth o'n systemau democrataidd a sut maent wedi esblygu yn y chwarter canrif ers gwawr datganoli.

Rydym hefyd yn credu bod gan y llwyfan yma rôl bwysig i'w chwarae, fel roedd Peter Fox yn cyfeirio, o ran monitro dylanwad AI a thechnoleg deepfake mewn etholiadau. Fel y soniais i ar ddechrau'r ddadl hon, mae yna fygythiad clir i'n democratiaeth yn deillio o'r camdriniaeth o dechnoleg, a heb reoliadau cadarn yn y maes yma byddwn yn agor y drws i'n prosesau etholiadol gael eu cam-drin.

Pwrpas gwelliannau 31, 32, 33 a 34, felly, yw i alluogi'r llwyfan i gael ei ddefnyddio i wneud pobl yn ymwybodol o'r defnydd o AI mewn llenyddiaeth etholiadol, gan orfodi pob deunydd electronig sydd yn cael ei greu gan AI i gofrestru ar y llwyfan gydag argraffnod digidol priodol yn unol â'r Elections Act 2022. Bydd hyn yn sicrhau tryloywder, felly, drwy gael un man lle mae'r holl ddeunydd electronig hwn ar gael, fel bod cymdeithas sifil, ymgyrchwyr hawliau digidol, academyddion a dinasyddion yn gyffredinol yn gallu gweld yr hyn sy'n cael ei roi allan yn yr ether ddigidol, llawer ohono'n cynnwys gwybodaeth anghywir, llawer ohono’n defnyddio AI at ddibenion ysgeler, a llawer ohono’n ymwneud â fideo deepfake a sain.

Mae'r gwelliannau yma, felly, yn adlewyrchu fframweithiau deddfwriaethol presennol sydd eisoes wedi’u cyflwyno ledled y byd. Er enghraifft, mae'r Undeb Ewropeaidd bellach wedi cyflwyno rheoliad fframwaith eang iawn ynghylch y defnydd o AI mewn etholiadau, a'r hyn maen nhw wedi ei gyflwyno yw'r hawl i wybod bod AI wedi cael ei ddefnyddio mewn deunydd etholiadol digidol, fel rŷn ni'n awgrymu fan hyn. Yn yr un modd, mae'r angen am oruchwyliaeth rheoleiddio o ran fideos ffug, hynny yw technoleg deepfake, yn rhywbeth sydd wedi dod fwyfwy i'r amlwg dros y blynyddoedd diwethaf. Mi fydd rhai ohonoch chi, efallai, wedi gweld rhaglen ddogfen Dispatches ar Channel 4 yn ddiweddar ar yr union bwnc yma, a oedd yn eithaf brawychus, a dweud y gwir, ynglŷn â’r potensial i'r dechnoleg effeithio’n andwyol ar ein democratiaeth ni. Mae yna enghreifftiau, wrth gwrs, wedi bod yn etholiad Slofacia, o deepfake audio yn yr achos hynny, oedd wedi cael dylanwad, yn ôl rhai, ar ganlyniad yr etholiad, a hefyd yn ystod etholiadau diweddar yn achos India.

Mae yna anghysondeb yn bodoli ar hyn o bryd o ran goruchwyliaeth deunydd gwleidyddol cyhoeddus, ble ar un llaw mae yna reolau clir ar gyfer darlledwyr newyddion traddodiadol, ond bron i ddim sy'n berthnasol i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol, sy'n rhannu’r math o gynnwys ffug yma, yn ogystal â chwmnïau sy'n eu cynhyrchu. Mae'n rhywbeth all gael goblygiadau hynod o beryglus o ran uniondeb ein disgwrs gwleidyddol dros y blynyddoedd i ddod, a fedrwn ni ddim fforddio aros yn llonydd bellach.

Yn ein barn ni, mae angen ystyriaeth ehangach ar draws Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar wahardd deunydd deepfake yn gyfan gwbl o ran etholiadau, ond, yn y cyfamser, bydd y gwelliannau yma yn ein galluogi ni, o leiaf, i fonitro graddfa y mater yma yng nghyd-destun etholiadau Cymreig ac i gyflwyno cosbau priodol i'r sawl sydd yn methu cofrestru deunydd ffug ar y llwyfan. Mae 12 talaith yn yr Unol Daleithiau, ac yn cyfrif, wedi cyflwyno’r math hwn o ddeddfwriaeth, fel sy'n cael ei awgrymu fan hyn. Felly, dŷn ni ddim yn torri tir newydd, ac mae yna enghreifftiau da o ddeddfwriaeth, fel rwy'n dweud, mewn llefydd eraill, fel yr Undeb Ewropeaidd, ac mae yna gyfraith drafft yn bodoli mewn sawl Senedd ar draws y byd ar hyn o bryd, felly rŷn ni'n meddwl y byddai’n dda i ni yng Nghymru hefyd i fod yn wyliadwrus ynglŷn ag effaith bosib y dechnoleg yma ar iechyd ein democratiaeth ni.

18:05

Dychmygwch, os gallwch chi, eich bod yn bleidleisiwr anabl yng Nghymru. Gadewch i ni ddweud bod yn rhaid i chi ddefnyddio cadair olwyn. Rydych chi'n mynd i'r orsaf bleidleisio i fwrw eich pleidlais, sef eich hawl dynol, ac yna rydych chi'n canfod na allwch chi fynd i fyny'r grisiau. Nid oes esgynfa wedi'i gosod neu nad yw'r lifft yn gweithio. Neu gadewch i ni ddweud eich bod chi'n ddall yn gyfreithiol. Rydych chi'n cyrraedd yr orsaf bleidleisio, rydych chi'n gofyn am ddyfais bleidleisio gyffyrddadwy. Roedd y staff pleidleisio yn edrych yn ddryslyd—ychydig iawn o ddealltwriaeth sydd ganddynt o'r trefniant hygyrchedd ar gyfer yr orsaf bleidleisio hon. Maen nhw'n galw ar y swyddog llywyddu, maen nhw'n chwilota trwy nifer o focsys a bocsys offer i ddod o hyd iddo i chi, os oes ganddyn nhw un yn y lle cyntaf hyd yn oed. Nid yw'n syndod nawr bod yn well gan lawer o bleidleiswyr anabl ddefnyddio pleidleisiau post, ond mae hyd yn oed hynny'n llawn problemau. Os ydych chi angen i rywun arall bleidleisio drosoch chi, rydych chi, yn ôl diffiniad, wedi'ch eithrio o'ch hawl i bleidlais gudd. Gall wneud i chi deimlo'n ddiymadferth, wedi'ch dad-ddyneiddio, i wybod bod hyn yn cael ei ganiatáu mewn cymdeithas ddemocrataidd. Ac nid sefyllfa ddamcaniaethol yn unig yw hon; dyma'r realiti i filoedd o bobl neu bleidleiswyr ledled Cymru. Fe roddaf enghraifft i chi. Ar ddiwrnod yr etholiad, ar gyfer y Senedd hon, roeddwn yn Neuadd Llanofer, fy ngorsaf bleidleisio, i bleidleisio, yn amlwg, drosof fy hun. Gallwn glywed person â nam ar ei olwg yn dweud wrth glerc pleidleisio ei fod eisiau pleidleisio dros y dyn neis hwnnw Mark Drakeford. Roeddwn i'n amlwg yn siomedig—nid dyna'r tro cyntaf i mi glywed teimladau tebyg—ond roedd hi'n amlwg mor annheg fel na allai'r pleidleisiwr hwnnw arfer ei hawl am bleidlais gudd. Mae ymchwil gan RNIB Cymru wedi dangos bod llai nag un o bob pump o bleidleiswyr dall yn gallu bwrw eu pleidleisiau yn annibynnol ac yn gyfrinachol. Dangosodd ymchwil gan Wirfoddolwyr Democratiaeth nad oedd 15 y cant o'r gorsafoedd pleidleisio a welwyd ganddynt yn etholiad diwethaf y Senedd yn hygyrch i bleidleiswyr anabl. Yn sicr, nid yw hynny'n deg. Mae fy ngwelliant yn newid yr adran ar lwyfan gwybodaeth etholiadau Cymru, i sicrhau bod pob pleidleisiwr, ni waeth beth yw ei anabledd, yn gallu cael gwybod am y trefniadau hygyrchedd ar gyfer ei orsaf bleidleisio leol. Mae hyn yn golygu y gall gynllunio ymlaen llaw, gwneud cais am bleidlais frys drwy ddirprwy neu drwy'r post, os oes angen, ond, yn bwysicach fyth, mae'n rhoi'r hyder iddo wybod beth sydd ar gael, a allai fod yn ffactor wrth benderfynu a yw yn pleidleisio o gwbl. Os yw hyd yn oed un pleidleisiwr anabl arall yn bwrw pleidlais mewn ffordd annibynnol a chyfrinachol o ganlyniad i'r gwelliant hwn, i mi byddai hynny'n llwyddiant mawr.

Ond nid dyma ddiwedd y stori o bell ffordd. Mae angen i ni weithio gydag awdurdodau etholiadol i atal hierarchaeth rhag datblygu o ran anableddau. Mae canllawiau'r Comisiwn Etholiadol i staff pleidleisio yn dweud y dylai pob safle o leiaf sicrhau bod dyfais bleidleisio gyffyrddadwy ar gael, bwth pleidleisio ar lefel cadair olwyn, chwyddwydr a theclyn gafael mewn pensiliau. Dyma'r hyn a fydd, gobeithio, yn cael ei orfodi drwy welliant 15 Peter Fox, ac mae hynny'n dda iawn. Mae hynny'n ganmoladwy. Ond beth am bleidleisiau hawdd eu darllen? Beth am bleidleisiau print mawr? Beth am ddolenni clyw a dyfeisiau sain? Gellir rhoi pleidleisiau post mewn print bras neu braille neu fformat sain. Pam na allwn ni gael yr un peth yn yr orsaf bleidleisio? Dyna pam mae fy ngwelliant yn hanfodol. Mae'n bwysig, pan fydd pleidleiswyr yn mynd i'r orsaf bleidleisio, eu bod yn gwybod nad ydyn nhw'n cael dim ond y gefnogaeth fwyaf sylfaenol, nad ydyn nhw'n boen, eu bod nhw'n cael cefnogaeth wirioneddol a chynhwysfawr heb yr angen i ofyn. Mae angen iddynt wybod cyn iddynt fynd allan drwy'r drws beth sydd ar gael, a fydd esgynfa, a fydd chwyddwydr, a fydd yna ddyfeisiau sain. Yn hanfodol, o'n safbwynt ni, bydd yn caniatáu inni gynnal gorsafoedd pleidleisio o ansawdd safon uwch, er mwyn sicrhau bod pob pleidleisiwr yn cael yr hawl i bleidlais gudd ac annibynnol. Mae angen i ni wneud y peth iawn ar gyfer ein hetholwyr anabl, er mwyn sicrhau bod gwybodaeth am hygyrchedd ar gael mewn siop un stop, nad yw wedi'i gwasgaru ar draws y rhyngrwyd, nad yw wedi ei chuddio ar wefan awdurdod lleol. Dangosodd arolwg barn gan yr elusen anabledd, Sense, fod 47 y cant—bron i hanner—o bobl anabl yn credu nad ydyn nhw'n bwysig i bleidiau gwleidyddol, ac, felly, ddim yn bwysig i'r Senedd hon. Dyma'n cyfle ni heno i ddweud, 'Nid ydych yn cael eich anghofio gan y Senedd hon, byddwch yn cael eich cynnwys yn y broses o ddiwygio'r Senedd, ac mae eich pleidlais, eich llais, yn bwysig i ni i gyd.' Diolch yn fawr.

18:10

Os caf ddechrau efallai, oherwydd bu sawl cyfeiriad at yr RNIB—efallai fy mod wedi sôn am hyn yn un o'r gwelliannau cynharach, ond mae wedi'i grybwyll yma hefyd—dim ond dweud ein bod yn ymgysylltu'n rheolaidd â'r RNIB. Yn wir, cafwyd cyfarfod gyda swyddogion a nhw ar 24 Mehefin, mewn gwirionedd i siarad am fwriadau deddfwriaethol, ond hefyd y gwersi sy'n cael eu dysgu o etholiadau diweddar y comisiynwyr heddlu a throseddu a hefyd o ran y broses ddysgu a fydd yn berthnasol i'r etholiadau ar 4 Gorffennaf, a byddwn yn gweithio gyda nhw o ran cynnal profion defnyddwyr ar ddyfeisiau sain ac atebion fel gwasanaethau ffôn ac ati yng nghyd-destun Cymru, ac ystyried datblygiadau ac atebion ac enghreifftiau posibl ers gweithredu Deddf Etholiadau 2022. Roeddwn i wir eisiau cael hynny ar y cofnod, oherwydd mae'r mater hwnnw wedi'i godi ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ei fod yn gyhoeddus.

Byddai gwelliant 17 yn dileu'r ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddarparu llwyfan gwybodaeth etholiadau. Rydym wedi ymrwymo i roi llwyfan gwybodaeth i bobl Cymru i gefnogi eu hymgysylltiad â democratiaeth Cymru. Fe wnaethom ymgynghori ar hyn, a chafwyd cefnogaeth ysgubol i lwyfan o'r fath, gan sicrhau bod yn rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu cefnogaeth o'r fath i bleidleiswyr Cymru, ac y bydd hynny, rwy'n credu, yn rhoi cymorth sylweddol i wella cyfranogiad democrataidd yng Nghymru.

Byddai gwelliant 18 yn dileu'r tryloywder y darperir ar ei gyfer ar hyn o bryd yn y darpariaethau. Nid yw'r rhestr o faterion sydd i'w cynnwys yn y rheoliadau yn gynhwysfawr, ond bydd yn nodi'r materion hynny y mae'n rhaid darparu ar eu cyfer. Byddai'r gwelliant hefyd yn dileu'r eithriad rhag atebolrwydd am yr wybodaeth ar y llwyfan. Felly, nid wyf yn cefnogi'r un o'r gwelliannau hyn.

Os byddaf yn troi at welliannau Adam Price, mae 32 a 34 yn ymwneud â defnyddio deallusrwydd artiffisial. Mae'r rhain yn ddiangen gan y gall y rheoliadau eisoes nodi'r wybodaeth sydd i'w chynnwys, felly nid oes angen ei nodi ar wyneb y Bil. Mae gwelliant 33 yn ychwanegu at ddibenion y llwyfan a byddai'n ei danseilio fel ffynhonnell o wybodaeth ddibynadwy, niwtral ynghyd â datganiadau ymgeiswyr. Gall greu llwyfan anhylaw pe bai'r holl ddeunydd a gwmpesir gan gyfundrefn argraffnodau digidol y Ddeddf Etholiadau yn cael ei gynnwys. Mae hefyd yn ddiangen gan fod y pwerau deddfu eisoes yn gynhwysfawr.

A gaf i ddiolch i Rhys ab Owen am ei welliant, a byddaf yn ei gefnogi? Bydd y rheoliadau a'r cynnwys ar y llwyfan yn cael eu llywio gan ymgysylltiad helaeth â phartneriaid a'r gymuned etholiadol. Byddwn yn gweithio'n agos gyda'n rhanddeiliaid i ddeall pa wybodaeth fydd o'r defnydd mwyaf i etholwyr a sut i wneud y llwyfan mor hygyrch â phosibl. Diolch, Llywydd.

18:15

Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol. Roeddwn ar fai am beidio sôn am welliant 1 Rhys ab Owen, a ddisgrifiodd yn huawdl ac y byddwn yn ei gefnogi hefyd. 

Cwnsler Cyffredinol, rydym yn cydnabod yr ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud, ond mae gwir angen i ni ystyried y gellir defnyddio'r gwahanol lwyfannau hyn ar gyfer sgorio pwyntiau gwleidyddol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod y siawns y bydd hynny'n digwydd yn cael ei leihau. Diolch yn fawr, Llywydd.

Os derbynnir gwelliant 17, bydd gwelliannau 18, 31, 1, 32, 33 a 34 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 17? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 17. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Mae gwelliant 17 wedi ei wrthod.  

Gwelliant 17: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 18 (Peter Fox).

Ydy, mae'n cael ei symud gan Peter Fox. Os derbynnir gwelliant 18, bydd gwelliannau 31 ac 1 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 18? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad i hynny, felly fe gawn ni bleidlais ar welliant 18. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Mae gwelliant 18 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 18: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 31 (Adam Price).

Ydy, mae e. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 31? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 31. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 31 wedi ei wrthod.

Gwelliant 31: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

18:20

Cynigiwyd gwelliant 1 (Rhys ab Owen).

Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 1? Does yna ddim gwerthwynebiad i welliant 1. Mae gwelliant 1, felly, wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 32 (Adam Price).

Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i 32? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna, felly pleidlais ar welliant 32. Agor y bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, felly fe wnaf i ddefnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Felly canlyniad y bleidlais yw bod 26 o blaid, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Mae gwelliant 32 wedi ei wrthod.

Gwelliant 32: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 33 (Adam Price).

Ydy. Oes gwrthwynebiad i 33? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Pleidlais ar welliant 33. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, ac felly mi wnaf i ddefnyddio fy mhleidlais yn erbyn gwelliant 33, a'r canlyniad felly yw fod 26 o blaid a 27 yn erbyn, ac mae'r gwelliant yn methu.

Gwelliant 33: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 34 (Adam Price).

Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna, felly pleidlais ar welliant 34. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal ac mi wnaf i ddefnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 34, ac felly'r canlyniad yw 26 o blaid a 27 yn erbyn, ac mae gwelliant 34 yn methu.

Gwelliant 34: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 8: Cynllun cymorth ariannol—gweithredu (Gwelliannau 35, 19)

Y grŵp nesaf o welliannau fydd yr wythfed grŵp, ac mae rhain yn ymwneud â'r cynllun cymorth ariannol a gweithredu hynny. Gwelliant 35 yw'r prif welliant, a dwi'n galw ar Adam Price i gynnig y prif welliant yna a'r grŵp. 

Cynigiwyd gwelliant 35 (Adam Price).

Diolch, Llywydd. Pwrpas y gwelliant yma yw i sicrhau bod darpariaethau penodol ynghylch treuliau ar gael ar gyfer ymgeiswyr etholiadol. Yn yr un modd â rhai o'r gwelliannau eraill sydd eisoes wedi'u cyflwyno, bydd y gwelliant yma yn sicrhau bod cyfranogiad yn ein democratiaeth yn agored i bawb, beth bynnag eu hamgylchiadau personol. Rydym hefyd yn cefnogi gwelliant 19 yn y grŵp yma gan Peter Fox a fydd yn sicrhau bod y wybodaeth perthnasol ar y darpariaethau cyllidol ar gael i'r cyhoedd.

Byddwn yn cefnogi gwelliant 35 Adam Price, gan y bydd y gwelliant hwn yn galluogi pobl o bob rhan o gymdeithas allu sefyll etholiad. Am yr un rheswm yr ydym wedi cyflwyno gwelliant 19. Bydd y ffaith bod y cyhoedd yn fwy ymwybodol o unrhyw gymorth ariannol cyn unrhyw etholiad perthnasol yn helpu i leddfu unrhyw ofnau neu bryderon sydd gan bobl ynghylch ceisio am swydd etholedig. Am y rheswm hwn rydym yn annog Aelodau i gefnogi'r gwelliannau hyn.

Byddai gwelliant 35 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n gwneud darpariaethau ar gyfer costau gofal a chymorth ymgeiswyr i'w galluogi i gymryd rhan yn yr etholiad. Mae'r ddarpariaeth yn y Bil fel y'i cyflwynwyd yn galluogi'r ddarpariaeth o gynlluniau ar gyfer cymorth ariannol i ymgeiswyr sydd â nodweddion neu amgylchiadau penodedig, fel y nodir mewn rheoliadau. Gallai'r rheoliadau hyn gynnwys costau gofal a chymorth. Felly, nid oes angen y gwelliant hwn, ac nid wyf yn ei gefnogi.

Gan droi at welliant 19 Peter Fox, rwy'n cytuno'n llwyr fod hyrwyddo ymwybyddiaeth o gynlluniau cymorth ariannol yn hanfodol er mwyn denu ymgeiswyr sydd â'r amgylchiadau neu'r nodweddion penodol a sicrhau bod y cymorth sydd ar gael y cymorth gorau posibl. Fodd bynnag, yr amser gorau posibl ar gyfer codi ymwybyddiaeth fyddai ar ôl ymgynghori ar y rheoliadau a'u creu, pryd mae'r cynllun ar gael i ddarpar ymgeiswyr a phan fydd pobl yn ystyried cyflwyno eu hunain ar gyfer eu dethol. Felly, nid wyf yn cefnogi'r gwelliant hwn. Diolch, Llywydd.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 35? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly cawn ni bleidlais ar welliant 35. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Fe wnaf i ddefnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Ac felly, canlyniad y bleidlais yw fod 26 o blaid a 27 yn erbyn, ac mae gwelliant 35 wedi ei wrthod.

18:25

Gwelliant 35: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 19 (Peter Fox).

Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 19? [Gwrthwynebiad.] Oes. Pleidlais ar welliant 19. Aagor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. O blaid 26, yn erbyn 26. Rwy'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant, felly. Y canlyniad yw fod 26 o blaid a 27 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant yna, 19, wedi ei wrthod.

Gwelliant 19: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 36 (Adam Price).

Ydy. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad, ac felly cawn ni bleidlais ar welliant 36. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Felly, fe wnaf i ddefnyddio fy mhleidlais fwrw i yn erbyn gwelliant 36. Y canlyniad yw fod 26 o blaid, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Mae gwelliant 36 wedi ei wrthod.

Gwelliant 36: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 9: Gofynion o ran y Gymraeg ar gyfer swyddogion canlyniadau (Gwelliannau 37, 38, 51)

Grŵp 9 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma yn ymwneud â gofynion o ran y Gymraeg ar gyfer swyddogion canlyniadau. Gwelliant 37 yw'r prif welliant. Adam Price i gyflwyno'r ddadl yma.

Cynigiwyd gwelliant 37 (Adam Price).

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae gwelliannau 37, 38 a 51 yn galluogi Comisiynydd y Gymraeg i roi hysbysiad cydymffurfio i swyddogion canlyniadau etholiadol a'u gwneud yn agored felly i orfod cydymffurfio â rheoliadau safonau'r Gymraeg yn y dyfodol. Mae defnyddio deddfwriaeth gynradd fel cerbyd i ychwanegu cyrff neu sectorau i setiau o reoliadau safonau sydd eisoes wedi eu cytuno gan y Senedd yn ddull hirsefydlog o gyflawni'r nod ac yn un sydd wedi bod yn dderbyniol ac yn effeithiol i'r Llywodraeth mewn cyd-destunau eraill, gan gynnwys yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus a chorff llais y dinesydd.

Rydym yn manylu pa set o safonau fyddai'n berthnasol, sef y safonau yn Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1), sydd eisoes wedi pasio ers 2015, yr un safonau â Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a pharciau cenedlaethol. O ystyried mai anomali, i bob pwrpas, ydy'r ffaith bod cynghorau sir sydd fel arfer yn cyflogi swyddogion canlyniadau etholiadol a'r staff sydd yn eu cefnogi dan y safonau sydd wedi eu cytuno gan y Senedd yn Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015, does dim rheswm pam na ellir ychwanegu swyddogion canlyniadau etholiadol at y rheoliadau yma. Byddai'n arbed capasiti deddfwriaethol y clywn y Llywodraeth yn sôn amdano o bryd i'w gilydd.

Rŷn ni yn siomedig tu hwnt, felly, nad yw'r Cwnsler Cyffredinol yn dilyn trafodion Cyfnod 2 wedi penderfynu dod â gwelliannau ymlaen i unioni methiant y Llywodraeth i wneud yn dda ar y bwriad polisi y gwnaeth ymgynghori arno yn wreiddiol yn y Papur Gwyn fu'n sail i'r Bil hwn, ac sydd wedi ei drafod ers amser maith, ond sydd heb wneud ei ffordd i mewn i ddeddfwriaeth, sydd, yn ein barn ni yn Mhlaid Cymru, yn resyn o beth. Yr unig reswm o sylwedd gafodd ei roi i geisio cyfiawnhau hyn yn ystod Cyfnod 2 ydy y byddai gorfod gwneud safonau yn ormod i'r sector gyda'r newidiadau eraill y maent yn gorfod paratoi ar eu cyfer ar gyfer 2026.

Yn gyndyn, felly, a dwi ddim am eiliad yn dweud bod hyn yn dderbyniol, gan fod cymaint o oedi eisoes wedi bod, rydym wedi dod â gwelliant ychwanegol, 51, sydd yn golygu na all y darpariaethau yma, os cytunir nhw heddiw, ddod i rym nes 1 Mehefin 2026, ar ôl yr etholiadau nesaf i'r Senedd. Dwi'n gobeithio, felly, y bydd y Cwnsler Cyffredinol nawr yn medru cefnogi'r tri gwelliant yma fel pecyn, gan ein bod ni wedi gwrando ar, os nad yn cytuno gyda, ei ddadl yn ystod Cyfnod 2. Y cwbl fydd yn digwydd ar ôl 1 Mehefin 2026 yw y bydd y comisiynydd yn gallu dechrau proses eithaf estynedig o drafod gyda'r cyrff yr hyn sy'n rhesymol a chymesur iddyn nhw ei wneud o fewn bwydlen y safonau sydd yn Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) y cyfeiriais i atyn nhw.

Caiff y comisiynydd, yn ôl Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ond gosod safonau os yw hynny'n rhesymol ac yn gymesur, felly mae prawf llym eisoes mewn cyfraith o ran unrhyw bryderon am afresymoldeb. Byddai'n rhaid i'r comisiynydd ymgynghori â phob un swyddog canlyniadau ar ddrafft o hysbysiad cydymffurfio cyn rhoi hysbysiad terfynol. Os yw'r swyddogion canlyniadau o'r farn bod gofyniad i gydymffurfio â safonau yn afresymol neu'n anghymesur, yna maen nhw'n gallu apelio yn erbyn y gofyniad i Dribiwnlys y Gymraeg cyn bod rheidrwydd arnyn nhw i weithredu. Felly, yn amlwg, mae hon yn broses ofalus, hir, sy'n rhoi lot mwy o rym i'r cyrff yn barod, cyn dechrau, nac i'r dinesydd. 

Y pwynt sylfaenol fan hyn yw bod gan y Gymraeg statws swyddogol cyfartal yng Nghymru mewn egwyddor. Dyna'n sicr mae'r Llywodraeth am i ni gredu. Fodd bynnag, gan nad oes safonau wedi'u gosod, nid yw'r statws swyddogol yna wedi ymestyn mewn termau ymarferol i weinyddiaeth etholiadol a'r swyddogaethau mae swyddogion canlyniadau'n gyfrifol amdanyn nhw. Mae hyn yn amrywio o gynhyrchu papurau a ffurflenni swyddogol etholiadol, cyhoeddi'r canlyniadau, codi ymwybyddiaeth o drefniadau etholiadol, a gweithgareddau cysylltiedig, fel hyfforddi staff sydd yn eu cefnogi a datblygu eu sgiliau.

Mater o ddisgresiwn, nid dyletswydd gyfreithiol sylfaenol, felly, yw eu defnydd nhw o'r Gymraeg ar hyn o bryd. Golyga hyn y gall eu triniaeth o'r Gymraeg a gallu ein dinasyddion i weld, clywed a defnyddio'r Gymraeg yn y broses ddemocrataidd amrywio o le i le ar draws y wlad, gan nad oes gwaelodlin o ddisgwyliadau arnyn nhw. Os nad yw rhywun wedi gallu defnyddio'r Gymraeg, does dim modd iddyn nhw godi cwyn gyda Chomisiynydd y Gymraeg ac nid oes modd gorfodi hawliau siaradwyr Cymraeg yn y rhan hanfodol sylfaenol yma o fywyd dinesig a chenedlaethol, sef ein proses ddemocrataidd—un o freintiau mor sylfaenol bod yn ddinesydd, hynny yw. Mae'n gwbl annerbyniol, yn ein tyb ni, bod y Llywodraeth wedi rhwyfo nôl ar ei chyfrifoldeb i sicrhau cyfartaledd ein hieithoedd swyddogol ac ar ei dyletswydd sylfaenol i sicrhau bod y sawl sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg wrth arfer eu hawliau democrataidd a chymryd rhan yn y broses ddemocrataidd yng Nghymru yn gallu gwneud hynny.

Fel y gwnes i amlygu yn ystod Cyfnod 2, mae yna dystiolaeth i awgrymu nad yw'r gwelliannau yn y sector wedi gwreiddio rhyw lawer, ac mae'r Llywodraeth wedi cyfeirio atyn nhw, gan bod Mirain Gwyn, dynes o Wynedd, fu'n swyddog llywyddu yn ei gorsaf bleidleisio leol, wedi gwrthod gwasanaethu am y tro cyntaf ers 20 mlynedd yn etholiadau'r comisiynwyr heddlu ym mis Mai, gan nad oedd hi'n fodlon gwneud yr hyfforddiant gorfodol a oedd ond yn cael ei gynnig yn uniaith Saesneg. Yn ystod Cyfnod 2, fe gawsom ni gadarnhad y bydd yr hyfforddiant ar gael erbyn 2026 yn Gymraeg, ond fel mater o ewyllys da fydd hynny, ac ni allai unrhyw un sy'n profi anhawster godi cwyn gyda'r comisiynydd fel y byddant yn gallu ei wneud pe bai'r sector dan safonau.

Rŷn ni sydd yn siarad Cymraeg dim ond yn gofyn am rywbeth sylfaenol: yr hawl i gael ein trin yn gyfartal yn ein gwlad ein hunain wrth gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Rŷn ni nawr chwarter canrif ers sefydlu'r Senedd hon fel y Senedd genedlaethol, a dwi yma wedi gorfod dod â gwelliannau gerbron er mwyn gofyn am y parch a'r urddas syml i mi, fel siaradwr Cymraeg, gael fy nhrin yn gydradd â phawb arall yn fy ngwlad fy hun wrth gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Mae e'n warth o beth—mae e'n sarhad ar ein democratiaeth ac ar ein cenedl ni—ein bod ni hyd yn oed yn gorfod dod â'r gwelliannau yma gerbron. Mi ddylai fod wedi cael ei wneud flynyddoedd yn ôl.

Nawr, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol fod amheuaeth am beth allai'r safonau neu'r gofynion fod. Fyddan nhw ddim mwy na'r hyn sydd yn y rheoliadau sydd ar gael i bawb eu gweld yn barod. Mae'n bosib y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn sôn eto am ganllawiau penodol i'r sector, ond does dim rheswm i weithredu y tu hwnt i'r fframwaith cyfreithiol y mae'r Senedd yn barod wedi'i gytuno ym Mesur y Gymraeg 2011. Y Gymraeg fel mater llorweddol yw'r syniad canolog yn y Mesur yna, a'r statws swyddogol a gafodd ei sicrhau, nid pob sector yn gwneud fel y dymunant, fel y gwnaeth y Llywodraeth ei hun gydnabod yn ei Phapur Gwyn. Bydd unrhyw drefniant, cytundeb, canllaw neu addewid yn eilradd i hynny. Dyna'r gwir amdani ac mi ddylai fod y Llywodraeth a'r Cwnsler Cyffredinol yn gwybod hynny, yn cydnabod hynny ac yn cefnogi'r gwelliannau y mae Plaid Cymru wedi'u gosod.

18:35

A gaf i ddiolch i Adam am y pwyntiau y mae wedi'u codi a'r dadleuon amrywiol y mae wedi'u cyflwyno, ac, wrth gwrs, fe gawson ni rai o'r rhain yn y cyfnod diwethaf? A gaf i ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr â llawer o'r hyn y mae Adam wedi'i ddweud, yn enwedig o ran y mater hawliau sylfaenol y mae'n ei godi? Rwy'n credu ein bod yn gweithio tuag at gyrraedd yr un nod. Rwy'n credu mai'r her yw'r mecanwaith ar gyfer cyrraedd hynny mewn gwirionedd, ond rwyf am roi sicrwydd fy mod wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau ein bod yn cyrraedd yr un amcan hwnnw ar ôl 2026, ond efallai y gwnaf egluro ychydig yn fwy.

Er na fyddaf yn cefnogi gwelliannau 37, 38 a 51, fe wnaf ddatgan bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau y gall pobl gymryd rhan lawn yn ein democratiaeth gan ddefnyddio dwy iaith swyddogol ein gwlad. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod hefyd am y gwahanol sgyrsiau a chyfarfodydd a gawsom i geisio trafod hyn. Mae'r opsiynau ar gyfer cymhwyso safonau'r Gymraeg i swyddogion canlyniadau a swyddogion cofrestru etholiadol yn parhau i fod ar agor i ni drwy is-ddeddfwriaeth.

Ni fyddaf yn cefnogi gwelliant 37, a fyddai'n ychwanegu swyddogion canlyniadau at Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg 2011 fel categori o bobl y mae'n ofynnol iddynt gydymffurfio â safonau'r Gymraeg drwy ddeddfwriaeth sylfaenol. Byddai derbyn y gwelliant hwn yn golygu rhoi cyfrifoldebau pellach, heb eu nodi hyd yn hyn, ar gyfer swyddogion canlyniadau ar wyneb y Bil, ar adeg pan fydd eisoes yn rhaid iddynt addasu i newid sylweddol o ddiwygio'r Senedd ac etholiadol. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod gwelliant 51 yn ceisio dechrau'r ddarpariaeth hon ar ôl etholiadau'r Senedd yn 2026. Mae'r drafftio sy'n diffinio swyddog canlyniadau yn y gwelliant hwn yn ddiffygiol oherwydd ei fod yn cyfeirio at adran 35(1)(a) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, RPA 1983, nad yw'n bodoli; yr adran berthnasol yw 35(1A).

Rwyf wedi cael trafodaethau cadarnhaol iawn ar y materion hyn yn ddiweddar, ac mae hynny o ganlyniad i'r drafodaeth a gawsom yng Nghyfnod 2. Cefais y trafodaethau hynny gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a'r Comisiwn Etholiadol. Mae'r sgyrsiau hyn yn parhau ac rwy'n awyddus i ddatblygu memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar y cyd ar gyfer cefnogi a gwella'r ffordd y caiff etholiadau Cymru eu cyflwyno'n ddwyieithog. Dylai'r flaenoriaeth yn y tymor byr i'r tymor canolig fod i gydweithio â rhanddeiliaid i adeiladu ar arfer da sy'n bodoli eisoes—i wella'r arfer hwnnw. Byddai hyn yn cynnwys cydymffurfio â safonau perfformiad cyfreithiol-rwym y Comisiwn Etholiadol ar gyfer swyddogion canlyniadau. Bydd grŵp cynghori ar y Gymraeg o fwrdd cydlynu etholiadol Cymru hefyd yn cefnogi'r broses o gynnal etholiadau yn ddwyieithog, gyda'r cyfle i'r bwrdd rheoli etholiadol newydd adeiladu ar hyn.

Mae yna fater arall hefyd wedi dod i'r amlwg, ac rwy'n credu ei fod yn fater pwysig, o ran rôl a chyfrifoldebau'r Comisiwn Etholiadol ar gyfer cynnal etholiadau. Gallai hyn gael ei ddatrys yn y tymor byr gan brotocol neu gan femorandwm ar y cyd, ac yn y dyfodol efallai cytundeb ar y cyd ar safonau. Felly, rwyf am weithio tuag at yr amcan hwnnw, ond rwy'n credu bod angen rhagor o waith o hyd er mwyn cyflawni hynny.

18:40

Tybed a fyddai'r Aelod yn derbyn ymyriad byr iawn.

Nid wyf wedi bod yn rhan o'r trafodaethau hyn, ond mae'n mae'n fy nharo i, gyda nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, bod eich gwrthwynebiad a'ch amharodrwydd i dderbyn hyn yn ymddangos yn groes i hynny. Felly, tybed a allech chi wneud sylw, ar y naill law rydych chi'n dweud eich bod chi eisiau cyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg, ac eto nid ydych chi am gynnwys swyddogion canlyniadau yn y ddeddfwriaeth. Diolch yn fawr iawn.

Nid oes gwrthddywediad oherwydd bod yr amcan a'm cefnogaeth i'r amcan yno'n llwyr, mewn gwirionedd mae'n ymwneud â mecanwaith ymarferol cyrraedd hynny a chodi'r ddau fater penodol yr wyf yn credu fy mod i wedi'u codi. Un yw natur amhenodol hyd yma yr hyn y byddai'r cyfrifoldebau hynny a chael yr eglurder hwnnw. Swyddogion canlyniadau, wrth gwrs, er bod llawer ohonynt yn gweithio i lywodraeth leol, nid yw pob un yn gwneud hynny—ond, beth bynnag, pan fyddant yn gweithredu fel swyddog canlyniadau, maent yn gweithredu mewn swyddogaeth annibynnol. Yr un arall, wrth gwrs, yw bod y swyddogaeth o ran cynnal etholiadau yn swyddogaeth y Comisiwn Etholiadol mewn gwirionedd. Mae'n rhaid i ni fod yn glir ynghylch ble mae'r llinell gyfrifoldeb mewn gwirionedd o ran y swyddogaeth benodol honno. Dyna pam mae'r trafodaethau hynny'n parhau ar hyn o bryd a pham rwy'n ceisio dod â'r holl bleidiau at ei gilydd o ran cael cytundeb ynghylch y ffordd y byddwn yn symud ymlaen mewn gwirionedd. Ar hyn o bryd, nid wyf yn cefnogi'r gwelliannau, nid oherwydd fy mod yn anghytuno â'r gwelliannau ond oherwydd fy mod yn anghytuno ag ymarferoldeb sut yr ydym yn mynd i gyflawni hynny. Ond gallaf roi'r sicrwydd i chi rwy'n benderfynol ein bod mewn gwirionedd yn gweithio i'r un cyfeiriad yn union i gyflawni'r union un amcan, ac mae fy ymrwymiad—ac rwy'n rhoi hyn ar gof a chadw nawr—yno mewn gwirionedd.

Mae llawer o gynnydd wedi'i wneud. Soniodd Adam, wrth gwrs, am y mater o ran hyfforddiant, ac mae'n iawn. Dyma'r pethau a ddylai fod yn awtomatig, nid ydyn nhw'n bethau a ddylai orfod digwydd mewn ymateb. Ond, wrth gwrs, fe wnaethon nhw ddigwydd mewn ymateb i newidiadau ac wrth gwrs maen nhw'n bethau sydd wedi cael eu gweithredu. Rwy'n siŵr y bydd nid yn unig cynnydd yn cael ei gyflawni ond y byddwn yn cyrraedd man lle rwy'n credu y bydd gennym y safonau hynny. P'un a fydd cytundeb llwyr yn eu cylch, p'un a ydynt o dan swyddogaeth benodol Comisiynydd y Gymraeg neu'r Comisiwn Etholiadol—yr hyn sy'n ymddangos yn bwysig i mi yw bod y safonau hynny yno a'u bod wedi eu cyflawni mewn gwirionedd, eu bod yn gallu cael eu gweithredu, yn cael eu gweithredu, a chredaf mai dyna'r ffordd ymlaen. Diolch, Llywydd.

Dwi mor siomedig. Dyw e jest ddim yn ddigon da. Hynny yw, dyma'r gwahaniaeth sylfaenol, yntefe? Mae cytundebau rhwng gwahanol gyrff, protocol rhwng gwahanol gyrff, memorandwm o ddealltwriaeth, canllawiau, grŵp cynghori, arfer da—dyw'r rheini ddim yn rhoi unrhyw hawliau i fi. Mae hawl yn rhywbeth dwi yn gallu mynnu. Mae'n fy ngrymuso i fel siaradwr Cymraeg a phob siaradwr Cymraeg arall. Mae popeth arall, y cytundebau yma ac yn y blaen—dŷn nhw ddim yn rhoi unrhyw hawliau i fi. Dwi wedyn, fel pob siaradwr Cymraeg arall mewn cymaint o gyd-destunau, jest yn dibynnu ar ewyllys da, ar fympwy. Roeddwn i'n meddwl ein bod ni wedi symud o fynna. Roeddwn i'n meddwl ein bod ni wedi penderfynu ein bod ni eisiau rhoi hawliau. Mae'n berthnasol nid yn unig i'r union gyd-destun, mae'n ymwneud â theimlad o barch, teimlad o fod yn gydradd. Dylai ddim fod rhaid i fi ofyn drwy'r amser a tsiecio, 'Ydy hwn ar gael?'; dylwn wybod fel mater o ffaith ei fod yn hawl yng Nghymru gen i, ymhob maes. Yn sicr, mi ddylai fod yn wir pan fo'n dod at rywbeth mor sylfaenol â'r broses etholiadol.

Roedd yna lot o sôn am ymgynghori rhwng gwahanol gyrff ac yn y blaen, wel beth am ymgynghori gyda siaradwyr Cymraeg? Ble mae eu llais nhw yn hyn o beth? Oes rhywun wedi eistedd lawr a siarad gyda'r mudiadau iaith a gofyn iddyn nhw beth yw eu barn nhw? Alla i fentro dweud: dwi'n gwybod beth fydd yr ateb, 'Dyw hwn ddim yn ddigon da.' Mae'n torri'r hyn roeddech chi wedi'i awgrymu yn eich Papur Gwyn eich hunan, a gresyn o beth ydy bod y Llywodraeth yma, gyda'i pholisi a'i huchelgais ehangach, fel roedd Jane Dodds yn dweud, o ran y Gymraeg, yn gwrthod cefnogi'r gwelliannau rhesymol a chreiddiol bwysig o ran parch i'n hiaith yn ein proses ddemocrataidd. Gaf i ofyn unwaith eto i'r Llywodraeth ailfeddwl?

18:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 37? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gawn ni bleidlais ar welliant 37. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Mae gwelliant 37 wedi'i wrthod.

Gwelliant 37: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 38 (Adam Price).

Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 38? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly fe gawn ni bleidlais ar welliant 38. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Mae gwelliant 38 wedi'i wrthod.

Gwelliant 38: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 10: Adolygiadau o drefniadau etholiadol (Gwelliannau 2, 3, 4, 5)

Grŵp 10 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma'n ymwneud ag adolygiadau o drefniadau etholiadol. Gwelliant 2 yw'r prif welliant. Y Cwnsler Cyffredinol i gyflwyno'r gwelliant yma. Mick Antoniw.

Cynigiwyd gwelliant 2 (Mick Antoniw).

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i agor y ddadl ar y grŵp hwn o welliannau, sy'n ymwneud ag adolygiadau o drefniadau etholiadol. Awgrymodd adborth o raglen adolygiadau o drefniadau etholiadol 2017, a arweiniodd at Orchmynion ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yn 2021, y dylid ehangu'r ystod o faterion i'w hystyried wrth ystyried newidiadau i drefniadau etholiadol. Mae adran 40 o'r Bil yn nodi'r materion y dylid eu hystyried.  

Yn dilyn trafodaethau yng Nghyfnod 2 y Bil ynghylch pwysigrwydd eglurder ynghylch materion yn ymwneud â'r Gymraeg, mae gwelliannau 2 a 5 yn ei gwneud yn glir bod yn rhaid i'r rhain fod yn rhan o'r ystyriaethau wrth gynnal adolygiadau o brif ardaloedd ac ardaloedd cymunedol. Er bod hyn yn digwydd yn gyffredinol eisoes, mae'r newidiadau hyn yn rhoi hyn y tu hwnt i amheuaeth.

Mae gwelliant 3 yn ehangu cwmpas y ddarpariaeth i fod yn berthnasol nid yn unig i adroddiadau'r adolygiad, ond i'r broses ehangach.

Yn olaf, mae gwelliant 4 yn ei gwneud yn glir bod gan Gomisiynydd y Gymraeg gyfraniad pwysig i'w wneud fel rhan o'r broses adolygu ffiniau etholiadol. Mae'n rhoi hyn y tu hwnt i amheuaeth drwy ei gwneud yn ofynnol i'r comisiwn neu brif gyngor ystyried barn Comisiynydd y Gymraeg ynghylch, ymhlith pethau eraill, orgraff enwau Cymraeg wardiau. Diolch, Llywydd.

Cyflwynais welliant yng Nghyfnod 2 oedd yn ceisio efelychu a chymhwyso'r un egwyddorion sydd wedi'u derbyn yn achos enwi etholaethau arfaethedig y Senedd, gan fod Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) (Cymru) 2024 bellach ar y llyfr statud, i drefniadau llywodraeth leol a chymunedol. Mae'r egwyddorion yna yn achos y Senedd yn cynnwys disgwyliad i bob etholaeth gael un enw ar gyfer cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, oni bai fod hynny'n annerbyniol, sydd, i bob pwrpas, yn sefydlu rhagdybiaeth o blaid enw uniaith Gymraeg ac yn rhoi dyletswydd ar y comisiwn i gynnal rhag-ymgynghoriad gyda Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff neu sillafiad enwau cyn gwahanol gyfnodau ymgynghori o'r broses adolygu. 

Dwi'n falch o weld y Cwnsler Cyffredinol yn derbyn o leiaf rai o'r pwyntiau gafodd eu gwneud yng Nghyfnod 2 gyda'r gwelliannau yma, yn benodol o ran ffurfioli rôl Comisiynydd y Gymraeg, cynghori ar orgraff enwau ar sail statudol a'r gydnabyddiaeth o'r Gymraeg fel cwlwm lleol mewn adolygiadau ffiniau. Fodd bynnag, mae yn siomedig nad oes dal ddim symud ar y pwynt canolog am yr angen am gysondeb yn yr egwyddorion sy'n sail i'r broses o enwi ein wardiau etholiadol, ein cymunedau a'n hardaloedd ar lefel ddatganoledig drwyddi draw. Pam ei bod hi'n dderbyniol i'r Llywodraeth osod disgwyliad o blaid enw uniaith yn achos etholaethau'r Senedd, ond nid yn achos wardiau llywodraeth leol a chymunedol? Nid yw'n gwneud dim synnwyr, a bydd diffyg arweiniad gan y Llywodraeth ar y mater yma yn creu'r perygl o ddryswch, blerwch ac anghysondeb ar draws Cymru, a diffyg cyfarwyddyd clir i'r comisiwn ffiniau a phrif gynghorau fel ei gilydd.

Soniodd y Cwnsler Cyffredinol ei hun am ffwlbri 'y Barri' gydag 'i' a 'Barry' gydag 'y' yn y pwyllgor yng Nghyfnod 2, a dwi'n cytuno'r llwyr gydag e. Serch hynny, yn wahanol i'r Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), ni welaf unrhyw beth yn y gwelliannau yma i atal neu roi arweiniad i osgoi sefyllfa o'r fath. Dylwn nodi hefyd fod yr ymwneud rhwng y comisiynydd a'r comisiwn ychydig yn wahanol ac, eto, dydy hi ddim yn amlwg i mi pam y bydd gofyniad i gynnal rhag-ymgynghoriad ar orgraff enwau gyda Chomisiynydd y Gymraeg, a rhoi sylw i'w sylwadau cyn cyhoeddi adroddiad fel sail i ymgynghori gyda'r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill yn achos etholaethau'r Senedd, ond mae'r pwyslais i'w weld yn y gwelliant yma ar wneud hynny ar ôl ymgynghori a chyn cyhoeddi'r adroddiad terfynol. 

O ran manylder y gwelliannau mae wedi dod gerbron, mae gwelliant 4 y Cwnsler Cyffredinol yn gosod dyletswydd ar y comisiwn ffiniau neu brif gyngor i roi ystyriaeth i'r sylwadau gan Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch orgraff enw ward etholiadol neu orgraff enw arfaethedig ward etholiadol. Mae 'ward etholiadol' wedi'i ddiffinio yn adran 29(11) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, y mae'r Bil hwn yn ei diwygio, fel y ganlyn:

'unrhyw ardal yr etholir aelodau i awdurdod lleol ar ei chyfer',

neu

'unrhyw ardal yr etholir aelodau i awdurdod lleol ar ei chyfer'. 

Fodd bynnag, mae'r darpariaethau yn Rhan 3 o Ddeddf 2013 yn ehangach na dim ond wardiau ar gyfer ethol aelodau i awdurdod lleol. Maent yn cynnwys hefyd pennu wardiau cynghorau cymuned a rhai enwau eraill yr ardaloedd. Roedd yr enghreifftiau y gwnes i'u rhoi i chi yng Nghyfnod 2 yn ymwneud ag arolwg ffiniau cymunedol diweddar yng Ngheredigion. Felly, nid yw'n amlwg i mi fod testun y gwelliant yma yn ei wneud yn ofynnol i'r comisiwn neu brif gyngor roi sylw i'w sylwadau comisiynydd am orgraff enw tu hwnt i ward etholiadol awdurdod lleol. A ydy'r Cwnsler Cyffredinol yn gallu rhoi sicrwydd bod y broses enwi yn ei chyfanrwydd o dan y Rhan yma o Ddeddf 2013 wedi'i dal gan y gwelliant, a'i fod hefyd yn cynnwys enwau wardiau cynghorau cymuned ac enwau eraill yr ardaloedd sy'n deillio o Ran 3 Deddf 2013?

Mae hefyd yn sôn am orgraff enw ward etholiadol, neu orgraff enw arfaethedig ward etholiadol—unigol, yn hytrach na lluosog. Ond, yn absenoldeb unrhyw ddisgwyliad o blaid un enw, a fyddai hyn yn cynnwys sefyllfa lle mae dau enw, neu ddau enw arfaethedig?

18:50

Diolch i'r Aelod am y sylwadau, ac rwyf wedi nodi, yn fanwl iawn, y sylwadau hynny. Rwy'n ymwybodol iawn ohonynt. Un o'r rhesymau dros greu'r ddyletswydd yw, rwy'n sicr, y bydd yr ymgysylltiad cadarnhaol a'r rhwymedigaeth i ymgysylltu yn arwain, mewn llawer o'r materion hynny at ddatrysiad mewn gwirionedd. Mae yna lawer o enwau cymunedol ac enwau wardiau. Mae yna lawer o faterion lleol mewn llawer ohonyn nhw ynglŷn â'r defnydd a'r dewis o enwau ac ati. Unwaith eto, rwy'n credu ein bod yn mynd i gyfeiriad arbennig, ond mae creu'r ddyletswydd honno rwy'n credu yn un sy'n sicrhau yn benodol y cawn y mewnbwn hwnnw, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl fod yr ymgynghoriad hwnnw a bod ymgysylltu â'r comisiynydd iaith yn rhywbeth a fydd yn cael ystyriaeth ddifrifol iawn, iawn o fewn yr holl ystyriaethau hynny wrth geisio cyflawni'r amcan hwnnw.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? Na, does yna ddim gwrthwynebiad i welliant 2; gwelliant 2 yn cael ei gymeradwyo, felly.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3. Yn cael ei symud gan y Cwnsler Cyffredinol?

A yw'n cael ei gynnig, gwelliant 3?

Cynigiwyd gwelliant 3 (Mick Antoniw).

Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 3? Nac oes. Felly, mae gwelliant 3 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 4 (Mick Antoniw).

Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, gwelliant 4 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 5 (Mick Antoniw).

Ydy, mae e. Gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, gwelliant 5 hefyd wedi'i gymeradwyo. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 11: Cyhoeddi manylion cyswllt cynghorau cymuned (Gwelliant 39)

Y grŵp nesaf fydd grŵp 11. Mae'r grŵp yma yn ymwneud â chyhoeddi manylion cyswllt cynghorau cymuned. Gwelliant 39 yw'r prif welliant a'r unig welliant. Adam Price i gynnig y gwelliant.

Cynigiwyd gwelliant 39 (Adam Price).

Diolch yn fawr, Llywydd. Pwrpas gwelliant 39 yw disodli'r gofyniad presennol yn y Bil i brif gyngor gyhoeddi

'restr gyfredol o’r holl gymunedau a chynghorau cymuned yn ei ardal',

a'i newid am ofyniad ehangach sy'n cynnwys rhestr fwy cyflawn, yn cynnwys nid yn unig enwau cymunedau a chynghorau cymuned, ond hefyd manylion aelodau'r cynghorau cymuned a'u plaid wleidyddol lle bo hynny'n berthnasol, a'u manylion cyswllt, manylion cyswllt y cyngor cymuned ei hun, a'r clerc. Y bwriad yw ei gwneud hi'n haws ac yn fwy tryloyw i'r sawl sy'n ceisio'r wybodaeth a'i chael mewn un man canolog, yn lle gorfod mynd i chwilio mewn lleoedd gwahanol ar wefan bob cyngor cymuned, a'i gwneud hi'n rhwyddach o ganlyniad i gysylltu â chynghorwyr cymuned a'r cyngor cymuned.

18:55

Diolch i Adam Price am y gwelliant. Ni fyddaf yn ei gefnogi. Mae adran 54(2) o'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i bob prif gyngor gyhoeddi a chynnal rhestr gyfoes o'r holl gymunedau a chynghorau cymuned yn ei ardal gyda'u henwau presennol. Mae adran 55 o Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 eisoes yn gosod dyletswydd ar gynghorau tref a chymuned i ddarparu'r wybodaeth ychwanegol a bennir gan y diwygiad.

Mae tryloywder ac atebolrwydd yn y sector cynghorau tref a chymuned yn hollbwysig, ac mae hwn yn faes sy'n cael ei ystyried gan grŵp gorchwyl a gorffen iechyd democrataidd, a fydd yn adrodd yn yr hydref. Yn y cyfamser, ni all prif gynghorau gael eu dal yn atebol am unrhyw ddiffyg tryloywder gan gynghorau tref a chymuned. Rôl yr archwilydd cyffredinol yw sicrhau bod y gyfraith berthnasol yn cael ei dilyn. Ond, fel y dywedais i, bydd y grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw yn adrodd yn yr hydref, ac rwy'n siŵr y bydd trafodaeth bellach o ganlyniad i hynny. 

Symud i bleidlais ar welliant 39. A oes gwrthwynebiad i welliant 39? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna. Felly, fe wnawn ni gynnal pleidlais ar welliant 39. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 39 wedi ei wrthod.  

Gwelliant 39: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 12: Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru—swyddogaethau sy’n ymwneud â chydnabyddiaeth ariannol Aelodau etholedig (Gwelliannau 40, 41)

Grŵp 12 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r rhain yn ymwneud â Chomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, swyddogaethau sy’n ymwneud â chydnabyddiaeth ariannol aelodau etholedig. Gwelliant 40 yw'r prif welliant. Adam Price i gynnig y gwelliant yma.

Cynigiwyd gwelliant 40 (Adam Price).

Diolch, Llywydd. Gwelliannau syml sydd yma gyda ni yn y grŵp hwn. Mae gwelliant 40 yn sicrhau bod unrhyw benderfyniad gan Weinidogion Cymru i ddefnyddio'r pwerau o dan adran 69H i gyfarwyddo'r comisiwn i ailystyried penderfyniad blynyddol ad-daliadau a lwfansau cynghorwyr sir yn cael ei gyfathrebu i'r Senedd, a bod y rhesymau dros y penderfyniad yn cael eu cyhoeddi. 

Mae gwelliant 41 yn ceisio sicrhau bod y comisiwn yn cyhoeddi adroddiad blynyddol i dynnu ynghyd ac i greu darlun cenedlaethol mewn un lle o'r data mae wedi'i gasglu gan gynghorau sir wrth gyflawni ei swyddogaeth monitro, er enghraifft, gwybodaeth am daliadau ar gyfer absenoldeb teuluol. Byddai hynny'n ddefnyddiol i wirio bod cynghorau yn gweithredu yn deg ac yn gyson ar draws Cymru wrth weinyddu penderfyniad y comisiwn. Bydd hyn yn sicrhau bod yr wybodaeth ar gael yn rhagweithiol i bobl sydd eisiau ei weld, fel mater o dryloywder. 

Diolch, Llywydd. Dim ond i ddweud, yn amlwg, mae tryloywder mewn perthynas â'r dull o benderfynu a lefelau cydnabyddiaeth ariannol aelodau etholedig lleol yn fater cyhoeddus pwysig ac yn fater o ddiddordeb i'r cyhoedd. Fodd bynnag, mae'r Bil eisoes yn darparu ar gyfer lefelau uchel iawn o dryloywder, a fy marn i yw nad oes angen rhagor o welliannau. Fodd bynnag, rwy'n ddiolchgar am y gwelliannau. 

Mae gwelliant 40 yn ei gwneud yn ofynnol, pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd i'r comisiwn i ailystyried adroddiad drafft, rhaid iddynt ar yr un pryd osod datganiad gerbron y Senedd o'u rhesymau dros wneud y cyfarwyddyd. Nid oes angen y gwelliant. Offerynnau statudol yw cyfarwyddiadau ac fe'u cyhoeddir pan gânt eu gwneud. Yn ôl eu natur, maent yn cynnwys rhesymeg, ac felly mae hyn yn dyblygu proses sy'n bodoli eisoes ac felly dyna'r rheswm pam nad wyf yn ei gefnogi. 

Mae gwelliant 41 yn ei gwneud yn ofynnol i'r comisiwn gyhoeddi adroddiad sy'n nodi'r wybodaeth a gasglwyd gan y comisiwn wrth arfer ei swyddogaethau monitro o dan yr hyn a fydd yn dod yn is-adrannau adran 69L (2) i (4) o Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013. Nid yw'n glir beth fyddai'r gwelliant yn ei gyflawni y tu hwnt i gyhoeddi gofynion adrodd mewn perthynas â chydnabyddiaeth ariannol aelodau etholedig, y mae'n ofynnol eisoes iddynt gael eu cyhoeddi gan adroddiad ar daliadau cydnabyddiaeth. Felly, nid wyf yn cefnogi'r gwelliant hwn gan nad oes ei angen.

19:00

Fe wnawn ni symud i bleidlais, felly, ar welliant 40. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna. Fe gymrwn ni bleidlais ar welliant 40. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, felly gwnaf i ddefnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 40. Felly, mae gwelliant 40 yn cwympo. O blaid 26, 27 yn erbyn.

Gwelliant 40: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 41 (Adam Price).

Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 41? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 41. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Fe wnaf i ddefnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Mae'r canlyniad: o blaid 26, 27 erbyn. Gwelliant 41 wedi ei wrthod.

Gwelliant 41: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 13: Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd (Gwelliant 42)

Grŵp 13 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â bwrdd taliadau annibynnol y Senedd. Gwelliant 42 yw'r prif welliant. Adam Price sy'n cynnig y gwelliant.

Cynigiwyd gwelliant 42 (Adam Price).

Diolch yn fawr, Llywydd. Pwrpas y gwelliant yma yw sicrhau bod Comisiwn y Senedd yn cynnal adolygiad o'r bwrdd taliadau annibynnol, ac i'r adolygiad yma gychwyn o fewn blwyddyn i'r Ddeddf gael Cydsyniad Brenhinol. Mae'r gwelliant yn adeiladu ar y drafodaeth gawsom ni yn ystod y gwelliannau procio yng Nghyfnod 2 ar ddiddymu'r bwrdd a throsglwyddo'r swyddogaethau i'r comisiwn democratiaeth a ddaw yn sgil y Bil hwn, yn gyfrifol am gyhoeddi penderfyniad blynyddol ar lwfansau a chyflogau cynghorwyr sir. Hynny yw, y panel cyfatebol, felly, oedd mewn lle ar gyfer cymeradwyaeth llywodraeth leol yn cael ei ddiddymu, a'r swyddogaethau, trwy'r Bil yma, yn cael eu trosglwyddo i'r comisiwn wedi'i ailenwi. Mae hynny felly yn sail inni ystyried a ddylem ni hefyd wneud yr un peth, sef cymryd y swyddogaethau a'u rhoi nhw i un corff sydd, wedi hynny, yn datblygu arbenigedd, os mynnwch chi, yn yr holl gwestiwn yma o benderfynu, hyd-braich, ar gymeradwyaeth i aelodau etholedig ar bob lefel, yn hytrach na chael corff ar wahân.

Yn achos y panel ar gyfer llywodraeth leol, fe gynhaliwyd adolygiad 10 mlynedd yn eu hachos nhw, fel dŷn ni'n ei awgrymu yn y gwelliant yma—cynnal adolygiad hyd braich. Felly, nid y bwrdd taliadau yn cynnal adolygiad ei hunan—mae hynny wedi digwydd—ond adolygiad, fel y digwyddodd yn y panel ar gyfer llywodraeth leol, sydd yn wirioneddol hyd braich ac sydd yn edrych ar y 15 mlynedd, dwi'n credu, ers inni sefydlu'r bwrdd taliadau, ers i'r Mesur gael ei basio gan y Senedd, i ni ofyn y cwestiwn: ai dyma'r trefniant gorau ar gyfer nawr, neu oes yna ffordd arall o drefnu'r materion yma? Oherwydd mi oedd yr adolygiad 10 mlynedd o'r panel llywodraeth leol, os mynnwch chi, wedi dod i rai casgliadau sydd yn berthnasol o ran y bwrdd taliadau. Hynny yw, yn fras, doedden nhw ddim yn credu bod y patrwm o gael, hynny yw, bwrdd neu banel a secretariat, yn gweithio yn y pen draw, hynny yw, y dylid symud tuag at drefniant, strwythur, sydd ar sail fwy bwrpasol. A’r cwestiwn rŷn ni'n ei ofyn, wrth gwrs, drwy'r gwelliant yma, yw: ydy'r un peth yn wir nawr ar gyfer y trefniadau o ran ein taliadau ni, ac oni ddylem ni greu un adran, hynny yw, gyda staff parhaol ac yn y blaen, yn hytrach na strwythur sydd o reidrwydd yn ddibynnol iawn, weithiau, ar ymgynghorwyr allanol? Hynny yw, eich bod chi’n magu arbenigedd ynglŷn â’r cwestiwn cyffredinol ynglŷn â lefel cymeradwyaeth briodol ar gyfer gwleidyddion ar bob lefel, a bod hynny, efallai, yn rhywbeth y dylem ni ei ystyried ar gyfer y cyfnod sy'n dod, yn hytrach na strwythur oedd wedi cael ei greu, dwi'n credu, fel ymateb eithaf cyflym i'r creisis oedd yn San Steffan, yn bennaf, yn ymwneud â threuliau. Felly, ymateb yn gyflym i hynny, creu model oedd yn gwneud synnwyr, dwi'n credu, yn y tymor byr ac i'r tymor canol, ond onid yw hi nawr, 15 mlynedd yn ddiweddarach, yn gyfle i ni gael adolygiad hyd braich i asesu ai dyma’r model, sef y bwrdd taliadau sydd gyda ni, ddylai fod gyda ni wrth i ni edrych ymlaen 15, 20 mlynedd i'r dyfodol? Oes yna gyfle, yng nghyd-destun y newidiadau sydd yn digwydd drwy’r Bil yma, i greu un strwythur, neu a oes yna strwythurau eraill? Rŷn ni'n gallu edrych ar arfer da, wrth gwrs, ar draws Seneddau eraill, ac yn y blaen. So, dyna sydd wrth wraidd ein gwelliant.

19:05

Diolch, Llywydd. Yn gyntaf, dim ond i ddweud, fy mod i'n meddwl bod y materion sydd wedi cael eu codi, rwy'n gwybod eu bod nhw'n rhai y mae'n debyg sy'n cael eu rhannu gan nifer. Mae'n destun trafod ac mae'n taro tant gyda llawer o Aelodau, rwy'n siŵr. Ond a gaf i ddweud mai mater i'r Senedd, yn hytrach na Llywodraeth Cymru, yw penderfynu a oes angen adolygiad o'r bwrdd taliadau annibynnol, a'r mesurau y cafodd ei sefydlu drwyddyn nhw? Fodd bynnag, rwyf o'r farn bod y gwelliant yn ddiangen, ac rwy'n credu ei fod yn gyfansoddiadol broblemus am y rheswm penodol hwnnw. Os yw'r Senedd yn dymuno cynnal adolygiad, mae'n yng ngallu'r Senedd yn llwyr i wneud hynny. Nid oes angen i'r Senedd ei gwneud yn ddyletswydd ar ei hun i wneud hynny. Rwy'n credu ei bod hefyd efallai'n ddadleuol o ran priodoldeb ei gwneud yn ddyletswydd ar y Senedd ei hun er mwyn rhwymo ei hun.

Dylwn fanteisio ar y cyfle i'w gwneud yn eglur nad yw'r gwelliant hwn yn cyfateb i'r weithdrefn adolygu a nodir yn adran 19 Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024. Fe wnaeth y ddeddfwriaeth honno osgoi dull o'r fath drwy ei gwneud yn ddyletswydd ar y Llywydd i gyflwyno cynnig i gynnig sefydlu pwyllgor i adolygu gweithrediad ac effaith y ddeddfwriaeth honno. A thrwy wneud hynny, sicrhaodd fod y penderfyniad pa un a ddylid bwrw ymlaen â'r adolygiad hwnnw, a pha un a ddylid ei gynnal yn y modd hwnnw, yn dal i fod yn nwylo'r Senedd yn gyfan gwbl. I'r gwrthwyneb, mae'r gwelliant yn ceisio ei gwneud yn ddyletswydd uniongyrchol i'r Senedd ei hun i gynnal yr adolygiad ac yn nodi amserlen pan fo'n rhaid cychwyn yr adolygiad.

Fel y dywedais i wrth agor fy nghyfraniad, mater i'r Senedd yn gyfan gwbl yw penderfynu a ddylid cynnal adolygiad o'r bwrdd taliadau annibynnol. Ni fyddaf yn cefnogi'r gwelliant, ond mae'r Aelod wedi gwneud y sylwadau ac, wrth gwrs, maen nhw ar y cofnod cyhoeddus, ac rwy'n siŵr y bydd y mater yn cael ei drafod ymhellach mewn fforymau eraill.

Diolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei sylwadau. Dwi'n meddwl ei fod e’n bwnc, ar sail y sgyrsiau dwi wedi eu cael ar draws y Senedd, sydd yn cael ei groesawu. Dwi'n derbyn y pwyntiau mae'r Cwnsler Cyffredinol yn eu gwneud, hynny yw, gwelliant procio pellach er mwyn sicrhau bod gyda ni’r fforwm ehangach yma i godi’r materion yma. Mi fydd, efallai, cyfleon eraill i ni fynd â’r awgrym ymlaen o ran cynnal adolygiad ar hyd y llinellau dwi wedi sôn amdanyn nhw. Ond, gyda hynny o ymateb, hoffwn i dynnu’r gwelliant yn ôl a pheidio â'i symud e i bleidlais.

Mae'r gwelliant yn cael ei dynnu'n ôl gan yr Aelod, os ydy pawb yn gytûn â hynny, os nad oes gwrthwynebiad i dynnu'r gwelliant yn ôl. Felly, gwelliant 42 wedi cael ei dynnu'n ôl.

Tynnwyd gwelliant 42 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.

Grŵp 14: Anghymhwyso rhag bod yn Aelod o Senedd Cymru neu lywodraeth leol (Gwelliannau 20, 21, 22, 23, 24)

Grŵp 14 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma yn ymwneud ag anghymwyso rhag bod yn Aelod o Senedd Cymru neu lywodraeth leol. Gwelliant 20 yw'r prif welliant. Peter Fox i gyflwyno'r gwelliant yma.

19:10

Cynigiwyd gwelliant 20 (Peter Fox).

Diolch, Llywydd. Cyn i mi ddechrau, hoffwn ddiolch i'm cyd-Aelod Joel James am yr holl waith y mae wedi ei wneud i gyflwyno'r gwelliannau hyn, yr wyf i'n eu cyflwyno ar ran ein grŵp. Bydd gwelliannau 20, 21 a 22 yn galluogi cynghorwyr cymuned i ddod yn Aelod o Senedd Cymru. Fel yr ydym ni i gyd yn ei wybod, mae'r swydd o fod yn gynghorydd cymuned yn swydd wirfoddol, â dim ond lwfans bach, ond trethadwy, yn cael ei ddyrannu ar gyfer treuliau, y mae llawer yn ei wrthod. Gan fod y bobl hyn yn gwneud llawer o waith dros eu cymunedau ar sail wirfoddol, rydym ni'n credu y dylen nhw allu dod yn Aelod o'r Senedd, yn ogystal â pharhau â'u swydd wirfoddol fel cynghorydd cymuned.

Bydd gwelliannau 23 a 24 yn sicrhau na fydd clercod yn gallu dod yn aelodau o'r cynghorau cymuned, sir neu fwrdeistref sirol. Bydd hyn yn sicrhau bod eu swydd fel swyddog yn annibynnol, ac nad oes unrhyw gymhelliant gwleidyddol, gan y dylai clercod allu darparu cyngor a chyfarwyddyd annibynnol i'w cyngor heb fod unrhyw resymu gwleidyddol pleidiol yn sail iddyn nhw. Am y rhesymau hyn yr ydym ni'n annog Aelodau i gefnogi'r gwelliannau hyn.

Diolch, Llywydd. Rwy'n addo y byddaf i'n gryno gyda hyn. Hoffwn ddiolch i Peter am gyflwyno fy ngwelliant, sef rhif 23 yn benodol, a diolch i'r Llywodraeth am ei chefnogaeth yng Nghyfnod 2, a'r defnydd o gyfreithwyr y Senedd er mwyn tynhau hyn. Fel efallai y bydd llawer o bobl yn gwybod, rwyf i'n gynghorydd cymuned, felly mae angen i mi ddatgan buddiant yn hynny o beth, Llywydd. Ond un o'r pethau sydd wedi fy synnu braidd ers cael fy ethol yw'r nifer o weithiau yr wyf i wedi canfod clerc, naill ai clerc cyngor tref neu gymuned, sy'n wleidydd etholedig—maen nhw'n wleidydd pleidiol, boed yn Lafur, Ceidwadol, Plaid—ac rwyf i wedi bod yn bryderus ynghylch hynny erioed. Rwy'n credu, fel clerc, bod angen i chi fod yn wleidyddol niwtral ac y dylai fod yn swydd gyfyngedig. Ac fel gwleidydd gwrthblaid efallai, neu annibynnol efallai, pa hyder fyddai gen i y byddai'r sgyrsiau yr wyf i'n eu cael gyda'r clerc hwnnw, neu'r cyngor a roddwyd i mi, yn deg? A dyna pam rwyf i wedi cyflwyno hwn, a gobeithio y gall pawb ei gefnogi; byddai hynny'n anhygoel. Diolch, Llywydd. [Chwerthin.]

Diolch. Wel, rwyf i wedi bod yn falch o allu gweithio gyda Joel James ar y gwelliannau, a 24, a gyflwynwyd gan Peter Fox. Diolch am godi'r mater pwysig hwn, Joel.

A gaf i ddiolch i Peter Fox am welliannau 20, 21 a 22? Fodd bynnag, ni fyddaf yn eu cefnogi. Byddai gwelliant 20 yn dileu'r darpariaethau yn y Bil i anghymhwyso aelod o'r cyngor cymuned rhag bod yn Aelod o'r Senedd. Mae'r darpariaethau hynny yn bwysig ac yn cefnogi tegwch, cydraddoldeb ac atebolrwydd y Senedd a llywodraeth leol. Bydd y darpariaethau hyn yn sicrhau bod gan yr Aelodau ddigon o amser i gyflawni eu swyddi yn effeithiol ac osgoi gwrthdaro buddiannau a manteision annheg i Aelodau â dwy swydd. Felly, dylid gwrthod y gwelliant. Nid wyf i'n cefnogi gwelliant 21 am yr un rheswm.

Byddai gwelliant 22 yn caniatáu i gynghorwyr sir neu fwrdeistref sirol fod yn Aelodau o'r Senedd hefyd. Byddai hyn eto yn amhriodol o ran tegwch, cydraddoldeb, ac atebolrwydd y Senedd a llywodraeth leol. Hefyd, mae'r drafftio yn ddiffygiol, gan fod y gwelliant hwn hefyd yn dyblygu adrannau 61(5) a 61(6) y Bil. Oherwydd y gorgyffwrdd rhwng y darpariaethau hyn, mae'n debygol na fyddai gwelliant yn gweithio'n iawn tra bo'r darpariaethau adran 61 presennol yn dal i fod yn weithredol.

Gan droi at welliannau 23 a 24, cyflwynodd Joel James welliant yng Nghyfnod 2 i anghymhwyso aelodau etholedig prif gyngor cymuned neu Aelod o'r Senedd rhag cael eu penodi'n swyddog priodol o'r cyngor cymuned. Er fy mod i'n cefnogi'r egwyddor sy'n sail i'r gwelliant, dywedais fod angen ystyriaethau polisi a chyfreithiol pellach. Felly, rwy'n falch o fod wedi gweithio gyda Joel, ac rwy'n diolch iddo am gyflwyno'r ddau welliant hyn i ddisodli'r gwelliant a gyflwynodd yng Nghyfnod 2. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi gwelliannau 23 a 24, a gyflwynwyd gan Peter Fox.

Diolch, Llywydd, a diolch, Cwnsler Cyffredinol. Diolch eto i Joel—ei waith ef sydd dan sylw yma—ac rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth i 23 a 24, ac yn gofyn i symud i'r bleidlais ar y lleill, Llywydd.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 20? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 20. Agor y bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 20 wedi ei wrthod. Mae gwelliant 20 wedi ei wrthod. 

19:15

Gwelliant 20: O blaid: 12, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 21 (Peter Fox).

Gwelliant 21. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, ac felly fe gawn ni bleidlais ar welliant 21. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 21 wedi ei wrthod.

Gwelliant 21: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 15: Anghymhwyso rhag bod yn Aelod o Senedd Cymru—y drosedd o ddichell (Gwelliannau 43, 6, 44, 45, 46, 47, 48, 49, 50, 52, 53, 25)

Grŵp 15 sydd nesaf, a'r grŵp yma'n ymwneud ag anghymwyso rhag bod yn Aelod o Senedd Cymru oherwydd y drosedd o ddichell. Felly, gwelliant 43 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Adam Price i gyflwyno'r gwelliant a'r grŵp.

Cynigiwyd gwelliant 43 (Adam Price).

Diolch, Llywydd. Rwy'n credu ei fod yn eithaf addas, onid yw, mewn ffordd, bod y grŵp olaf hwn o welliannau o ran Bil sy'n ymwneud ag etholiadau a chyrff etholedig wir yn canolbwyntio ar rywbeth sydd mor bwysig wrth wraidd ein democratiaeth, yr ydym i gyd yn unedig amdano: pwysigrwydd gwirionedd a hygrededd ac ymddiriedaeth yn ein democratiaeth. Dyna gefndir y gyfres hon o welliannau mewn gwirionedd, sy'n diwygio'r adran 64 a fewnosodwyd yn y Bil yng Nghyfnod 2, wedi'i hwyluso ar sail drawsbleidiol, gadewch i ni ddweud, yr wyf i'n credu sy'n beth da. Mae hynny'n arwydd o ddemocratiaeth seneddol iach.

Y cefndir i hyn yw'r hyn y cyfeiriais ato yn fy sylwadau agoriadol cyntaf—y chwalfa i ymddiriedaeth. Mae bron yn ffenomen gyffredinol ar draws y rhan fwyaf o ddemocratiaethau yn y byd. Mae wedi bod yn gyson ac mae wedi bod yn gwaethygu. Gwelsom ni, oni wnaethom, hyd yn oed yn ystod y mis diwethaf rwy'n credu, dau o'r gwahanol fynegeion—un yr wythnos diwethaf—sy'n mesur geirwiredd, i ba raddau y mae pobl yn ymddiried mewn gwleidyddion, ymddiriedaeth yn gyffredinol. Mae'r ymddiriedaeth honno yn yr hyn yr ydym ni'n ei ddweud, fel gwleidyddion, wedi gostwng i'r lefel isaf erioed—y lefel isaf mewn 40 mlynedd ers iddyn nhw ddechrau ei mesur. Mae hwnnw'n fygythiad dirfodol, onid ydy? Mae democratiaeth yn dechrau chwalu os na all yr etholwyr ymddiried yn yr hyn y mae'r etholedigion yn ei ddweud. Gallwch ddim ond cael democratiaeth weithredol a chael yr holl ddadlau iach a'r anghytuno angerddol yr ydym ni'n ei gael yn briodol yn y Siambr hon, gyda'r dinasyddion yn rhan o hynny—gall hynny ddim ond gweithio os nad yw pobl yn credu mewn gwirionedd bod pawb yn dweud celwydd.

Ysgrifennodd Hannah Arendt, yr athronydd o'r Almaen, nid un ond dau draethawd enwog am wleidyddiaeth a dweud celwydd—roedd y pwnc hwn yn ei phoeni gymaint. Mae'n ddiddorol. Yr hyn a ddywedodd yw pan fydd dweud celwydd gwleidyddol yn cael ei normaleiddio, nid yw'n ffaith bod pobl wir yn credu'r celwyddau y mae'r gwleidyddion penodol yn eu dweud. Nid dyna'r achos. Y ffaith yw eu bod nhw'n rhoi'r gorau i gredu mewn gwirionedd yn gyffredinol, ac maen nhw'n rhoi'r gorau i gredu mewn gwleidyddiaeth yn gyffredinol. Maen nhw'n credu bod pawb yn dweud celwydd, ac yna ni allwch chi gael, mewn gwirionedd, democratiaeth weithredol. Felly, mae'r cymhelliant ar gyfer yr adran hon yn un y gwn ein bod ni i gyd yn cytuno ag ef, sef sut y gallwn ni adennill ac ailadeiladu a chynnal yr ymddiriedaeth honno mewn democratiaeth.

Mae'n rhaid i ni dderbyn, rwy'n credu, nad yw'r strwythurau a'r prosesau presennol sydd ar waith wedi cyflawni hynny hyd yma, oherwydd mae'r ffeithiau y siaradais amdanynt yn siarad drostyn nhw eu hunain. Felly, mae'r prosesau presennol, sy'n angenrheidiol ac yn bwysig yn eu cyd-destun eu hunain—gweithdrefnau safonau, ac ati, galw yn ôl—. Rwy'n gefnogwr o alw yn ôl. Mae wedi bod ar waith yn San Steffan ers naw mlynedd, ond nid yw wedi datrys y broblem hon. Rwy'n credu ei fod wedi mynd i'r afael â phroblemau eraill, ond nid yw wedi datrys y broblem hon o hygrededd mewn gwirionedd. Ac felly, dyna pam mae'n rhaid i ni arloesi. Mae'n rhaid i ni roi cynnig ar wahanol bethau, oherwydd nid yw'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud nid yn unig yma, ond mewn democratiaethau ledled y byd, wedi datrys y broblem hyd yma. Felly, dyna'r cymhelliant dros gyflwyno'r gwaharddiad cyffredinol hwn ar dwyll bwriadol, gan osod y safon uchel iawn, iawn. Lleiafrif bach o wleidyddion, demagogiaid poblyddol sy'n ystumio'r gwirionedd yn fwriadol er eu budd gwleidyddol eu hunain, ond maen nhw'n gwenwyno'r ffynnon i bawb—i bawb—nid yn unig pob gwleidydd arall, ond i ddinasyddion yn gyffredinol. A dyna'r broblem y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â hi.

Nid yw byth yn dderbyniol—byth yn dderbyniol—i wleidydd dwyllo'n fwriadol, a dyna oedd man cychwyn y daith hon. Dechreuodd yn wreiddiol fel Bil San Steffan, gan groesi dau wahanol Fil yma, aeth trwy wahanol gyfnodau. Mae'r gwelliannau a gyflwynir yma yn adlewyrchu'r ymatebion yr ydym ni wedi eu cael. Rwyf i bob amser yn gweld hyn: mae dadl dda, pan gaiff ei gwneud yn erbyn eich safbwynt, yn wybodaeth y dylech chi ei chroesawu, gan fod hynny'n eich helpu. Pan fyddwch chi'n ceisio diwygio, mae hynny'n eich helpu i fireinio eich syniadau. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl yr ydym ni wedi ei chael ynghylch adran 64. Mae wedi ein helpu i gyflwyno'r gwelliannau hyn, sy'n diwygio adran 64 fel y mae, mewn ffyrdd pwysig, o ran ceisio atal y posibilrwydd o gam-drin y broses a dod ag ychydig o eglurder pellach i'r hyn yr oeddem ni'n ei awgrymu, a hefyd i greu dull er mwyn cael yr ymgynghoriad cyhoeddus ehangach hwnnw â rhanddeiliaid, gan gynnwys yn y system cyfiawnder troseddol, a hefyd i gael craffu seneddol pellach. Felly, yn y dull cydweithredol hwnnw yr ydym ni wedi mynd i'r afael â'r mater hwn. Rwy'n ddiolchgar i'r Llywodraeth am yr ymgysylltiad adeiladol iawn yr ydym ni wedi ei gael yn ystod y dydd heddiw. Efallai y gwnaf i adael hynny i'r Cwnsler Cyffredinol ymhelaethu arno, ac efallai y gwnaf i ymateb i'w sylwadau ac i sylwadau Aelodau eraill yn fy sylwadau i gloi.

19:20

A gaf i hefyd ddiolch i Adam a'r Cwnsler Cyffredinol am eu hymwneud trylwyr â'r pwnc pwysig iawn hwn? Mae'n rhywbeth ddylai fod yn agos at ein calonnau ni i gyd. Mae'r rhan fwyaf ohonom ni yma—rwy'n siŵr bod pob un ohonom ni yma—yn credu yn egwyddorion bywyd cyhoeddus Nolan ac yn glynu atyn nhw'n gyson, ac mae mor sylfaenol ein bod yn ceisio ailennyn yr ymddiriedaeth sydd wedi lleihau yn ein galwedigaeth, oherwydd mae mor sylfaenol i ddemocratiaeth bod pobl yn ymddiried ynom ni ac yn ein credu ni, ac yn anffodus mae hynny wedi cael ei wanychu. Felly, er y gwyddom ni y bu safbwyntiau gwahanol ynghylch sut y gellid cyflwyno'r drosedd hon o dwyll, a safbwyntiau anghyson ynghylch sut y gellid ei ddatblygu, roeddem yn teimlo yn y grŵp hwn ei fod yn werth bwrw ymlaen ag ef ac roedd yn bwysig ein bod yn canfod ffordd ymlaen i'w gwneud yn dderbyniol i bawb yn y Senedd hon.

Nawr, rwy'n gwybod bod safbwyntiau gwahanol ynghylch sut y gallai hynny fod wedi digwydd. Ac rwyf wedi bod yn dyst—diolch—i rai o'r newidiadau mewn safbwyntiau a welsom ni nhw heddiw rhwng Adam a'r Cwnsler Cyffredinol. Fodd bynnag, yn y grŵp hwn, roeddem ni wedi ein synnu braidd o weld y newid safbwynt hwn, oherwydd roeddem ni'n teimlo ei bod hi'n beth pwysig i barhau ar y daith yr oedd arni, er bod diffygion neu wendidau yn y ffordd y gellid cynnal hynny. Ond roeddem ni'n teimlo bod digon o ddeialog ac ymrwymiad fel y gellid datrys y pethau hynny yn nes ymlaen—yn ystod cyfnod yr adroddiad—a allai fod wedi canfod ffordd lle gallem ni fod wedi uno, oherwydd rwy'n bryderus, heb geisio achub y blaen ar y Cwnsler Cyffredinol, na fyddai'n bosibl efallai i'r senedd roi amser i drafod y ffordd ymlaen y gellir ei gynnig er mwyn gwneud cynnydd gyda phethau, ond y byddai'r cwrs presennol yr ydym ni arno wedi gwneud hynny, byddwn wedi gobeithio. Felly, rwy'n falch ein bod ni'n mynd i ganfod ffordd ymlaen, gobeithio, i ailennyn ymddiriedaeth mewn swyddogaeth mor bwysig mewn bywyd cyhoeddus, ond bydd y grŵp ar hyn o bryd yn gwrthwynebu'r gwelliant i ddileu adran 64 o'r Bil. Diolch, Llywydd.

19:25

Wna i ddim cadw'r Aelodau yn hir heno. Rwy'n ddiolchgar i Adam am godi'r materion hyn, ac rwy'n ddiolchgar iddo ef ac eraill sydd wedi arwain dadl ar yr agweddau hyn, oherwydd mae gwleidyddiaeth wedi newid. Fel rhywun sydd wedi gwasanaethu yma ers bron i 20 mlynedd, rwyf wedi gweld y newid yn digwydd mewn pob math o wahanol ffyrdd. Mae llawer o'r materion y cyfeiriodd Adam atyn nhw heddiw yn fater o newidiadau mewn diwylliant a newidiadau mewn ymddygiad. Mae ymddygiad na fyddai wedi cael ei oddef 20 mlynedd yn ôl bellach yn cael ei dderbyn bron yn ddigwestiwn. Mae angen i ni newid hynny ac mae angen i ni newid y ffordd yr ydym ni'n gwleidydda. Mae angen i ni newid y ffordd rydym ni'n meddwl am wleidyddiaeth a newid y ffordd rydym ni'n trin ac yn trafod y materion hyn gyda phobl. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, yn ystod y pum neu chwe blynedd diwethaf, fy mod wedi cael fy siomi'n fawr gyda rhai o'r pethau yr wyf wedi'u clywed yn cael eu dweud a'u gweld yn cael eu gwneud, yn y Siambr hon a thu allan i'r Siambr hon.

Gadewch i mi roi enghraifft i chi o rywbeth y sylwais i arno y bore 'ma ar y cyfryngau cymdeithasol—un neges: 'Mae Llafur eisiau talu £1,600 y mis i fewnfudwyr anghyfreithlon'. Mae'n rhywbeth rydym ni'n gwybod sy'n hollol anwir, rhywbeth nad oes ynddo rithyn o wirionedd o gwbl, ac fe gafodd hynny ei drydar gan arweinydd yr wrthblaid, gan Andrew R.T. Davies. Nawr, ni fyddai Andrew—rwy'n credu fy mod i'n iawn wrth ddweud hyn—wedi trydar hynny pan gawsom ni ein hethol gyntaf yn 2007, oherwydd fydden ni ddim wedi dweud rhywbeth yr ydym ni'n gwybod nad yw'n wir. Ni fyddai'r un ohonom ni wedi gwneud hynny, waeth beth yw ein gwleidyddiaeth, ni waeth ble rydym ni'n eistedd yn y Siambr. Byddem ni wedi ceisio ac ymlafnio bod yn gywir. Mae dehongli ffeithiau yn fater gwahanol a bydd hynny'n cael ei drin a'i drafod bob amser, fel y dylai fod, ond ni fyddai neb wedi trydar rhywbeth y maen nhw'n gwybod ei fod yn anwiredd llwyr, yn gelwydd noeth, a digwyddodd hynny y bore yma gan arweinydd yr wrthblaid.

Ac rwy'n credu y dylem ni ddweud hyn ac y dylem ni fod yn glir iawn, iawn am hyn: mae hyn yn mynd â'n gwleidyddiaeth i'r gwter ac mae'n ein hatal rhag ymwneud â'n gilydd mewn dadl wleidyddol go iawn, ac mae angen i ni newid diwylliant hynny, ac mae hyn yn fater brys, rwy'n credu. Cyfeiriodd Adam at raglen Channel 4 Dispatches yr wythnos diwethaf. Roedd yn rhaglen hynod bryderus oherwydd ei bod yn dangos sut y gellir defnyddio deallusrwydd artiffisial nawr i darfu ar ein dadl wleidyddol fel ein bod yn gwybod ac yn deall nawr na allwn ni gredu'r hyn a welwn ni a'r hyn a glywn ni. Felly, pan welwn ni ddelweddau o arweinwyr gwleidyddol ar y cyfryngau cymdeithasol, gall y delweddau hynny gael eu haddasu i ddweud pethau nad yw'r arweinydd hwnnw erioed wedi'u dweud. Mae'r dyddiau pan allech chi ddweud nad yw llun byth yn dweud celwydd wedi hen ddiflannu, oherwydd mae lluniau yn dweud celwydd a byddan nhw'n fwy celwyddog yn y dyfodol nag y maen nhw heddiw. Felly, mae angen i ni newid y ffordd yr ydym ni'n ymdrin â hyn ac mae angen i ni newid diwylliant yr hyn a wnawn ni yn ogystal ag ymdrin â'r achosion unigol yr wyf eisoes wedi'u trafod heno.

Felly, sut ydym ni'n gwneud hyn? I mi, nid yw'n fater o droseddoli na dod â'r system cyfiawnder troseddol i mewn i'r broses oherwydd mae'n fater o sut rydym ni'n ymddwyn a'r esiampl a osodwn ni, ac mae angen i ni allu mynd i'r afael â'r materion hyn ein hunain. Mae'r gwaith y mae Vikki Howells yn ei arwain fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi gwneud argraff fawr arna i, a chredaf y dylem ni gefnogi'r gwaith y mae Vikki yn ei arwain yn rhan o'r pwyllgor hwnnw a chefnogi'r pwyllgor yn yr hyn y mae'n ei wneud, oherwydd mae'r hyn y mae'n ei wneud yn llawer mwy na chreu trosedd yn unig, a fyddai'n amhosibl ei herlyn mewn amserlen realistig yn fy marn i.

A'r hyn nad oes arna i chwaith eisiau ei weld yw ein dadl wleidyddol yn cael ei phenderfynu ac yn fater o ymgyfreitha barnwrol. Nid dyna beth ddylai gwleidyddiaeth fod. Dylai gwleidyddiaeth fod yn ymwneud â ni'n trafod, yn dadlau ac yn anghytuno—yn anghytuno'n gwrtais—gyda'n gilydd ac yn cydnabod ei fod yn anghytundeb gwleidyddol, nid casineb personol, a gallu cael y dadleuon hynny gyda phobl ac arwain y dadleuon hynny ledled y wlad gyda'r bobl rydym ni'n ceisio eu cynrychioli. Credaf fod ceisio troseddoli a mynd â hyn i amgylchedd barnwrol yn mynd â gwleidyddiaeth allan o wleidyddiaeth, os mynnwch chi, ac nid wyf yn credu y dylem ni fod yn gwneud hynny. Rwy'n credu y dylem ni fod yn gwneud rhywbeth gwahanol, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni wneud hynny. Felly, yr hyn yr hoffwn i ein gweld yn ei wneud yw ymdrin â hyn mewn ffordd fwy dwys ac, efallai, mwy difrifol, sef edrych yn fanwl ar y materion sy'n ein hwynebu a sicrhau y rhoddir mwy o ystyriaeth i'n hymateb na'r cynnig o'n blaenau ni heddiw.

Rwyf hefyd yn pryderu'n fawr am y mater o fraint. Pan sefydlwyd y lle hwn, roedd gennym ni fraint gyfyngedig a ganiatawyd i ni, ac mae'r fraint gyfyngedig honno yn bodoli heddiw. Credaf y dylid ehangu'r fraint honno ac y dylid ei gwneud yn fwy cynhwysfawr. Nid wyf yn credu y dylai'r Senedd hon fod yn destun adolygiad barnwrol o ran ein penderfyniadau. Mae gan y mwyafrif o seneddau ym model San Steffan, os mynnwch chi, ac nid dim ond Seneddau sofran Canada, Awstralia, San Steffan, a Gweriniaeth Iwerddon ac eraill, fraint llawer mwy helaeth ac eang, ac mae gan hyd yn oed Seneddau taleithiol yng Nghanada a deddfwrfeydd y wladwriaeth yn yr Unol Daleithiau ymdeimlad ehangach o fraint hefyd. Credaf mai dyna'r fraint y dylai fod gennym ni yma fel nad yw ein penderfyniadau yn ddarostyngedig i oruchwyliaeth farnwrol, oherwydd ni ddylai senedd fod yn ddarostyngedig i oruchwyliaeth farnwrol. Dylai senedd sy'n ceisio llywodraethu gwlad allu llywodraethu ei materion ei hun, ac mae hynny'n fater hynod bwysig.

Ond mae angen i ni gael pwyllgor breintiau, nad oes gennym ni ar hyn o bryd, fel y gellir adolygu'r penderfyniadau a'r ffordd yr ydym ni'n ymddwyn ac yn gweithredu yn y Siambr hon, ac y gallwn ni gael ein dwyn i gyfrif am sut rydym ni'n ymddwyn. Dylai'r enghraifft a roddais ar ddechrau fy nghyfraniad allu cael ei herio, oherwydd rwyf wedi defnyddio iaith a fyddai mewn rhai mannau yn cael ei disgrifio fel iaith anseneddol, a dylai hynny fod yn agored i graffu a dylai gael ei herio. Ond dylai fod yn agored i graffu a dylai gael ei herio gan senedd sydd â'r pwerau i wneud hynny, ac ni ddylai fod yn agored i graffu a herio lle byddai barnwr yn dechrau edrych ar ein materion a'n prosesau a'n trafodion yma. Nid wyf yn credu y dylem ni fod yn y broses honno.

Felly, rwy'n gobeithio, wrth fwrw ymlaen â'r ddadl heno y byddwn yn cael cyfle i ddechrau sgwrs, neu i ddilyn a pharhau â sgwrs, a fydd yn ymwneud â diogelu ein gwleidyddiaeth, diogelu ein trafodaeth wleidyddol, sicrhau ein bod yn anelu at gael trafodaeth wleidyddol o'r ansawdd uchaf, ond wedi'i gwreiddio mewn gwirionedd a gonestrwydd. Ac mae geirwiredd, Peter, a gonestrwydd yn sylfaenol i bwy ydym ni—y gwn i y byddech chi bob amser yn eu harfer, ac rydych chi wedi gwneud hynny drwy gydol eich amser—ond mae angen i ni allu bod yn gwbl uniongyrchol a'i herio pan nad yw'n digwydd, ac mae hynny'n her sy'n ein hwynebu ni i gyd. Rwy'n gobeithio, wrth bleidleisio ar y materion hyn heno, na fyddwn yn dod â'r ddadl hon i ben, ond y byddwn yn dechrau dadl gyda ni ein hunain a chyda'r bobl rydym ni'n eu cynrychioli i'n galluogi i gael proses sy'n cyflawni'r ansawdd a'r safonau y byddem yn eu disgwyl gan bawb, ond sydd hefyd yn dechrau mynd i'r afael â rhai o'r materion diwylliannol y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol. Diolch.

19:30

Hoffwn ailddatgan fy nghefnogaeth ddiwyro i egwyddor sy'n ganolog i'n bodolaeth: diogelu uniondeb democratiaeth Cymru ac atgyfnerthu rheolaeth y gyfraith i'n galluogi ni yma yng Nghymru i fyw mewn cymdeithas rydd a thecach. Rwy'n falch o glywed y bu cytundeb ar yr egwyddorion a oedd yn y gwelliant cychwynnol a gyflwynwyd, ac rwy'n diolch i'r Prif Chwip, y Cwnsler Cyffredinol, cynrychiolwyr o bob plaid wleidyddol, yn enwedig Adam Price am ei waith cwbl anhygoel o ran dod â phobl at ei gilydd mewn cyfnod byr iawn, tîm cyfreithiol gwych Compassion in Politics, a'r cynrychiolwyr sydd wedi helpu—mae yna lawer o bobl—cyflwyno hyn.

Gadewch imi ddweud rhywbeth ynghylch pam mae tosturi mewn gwleidyddiaeth yn bwysig, oherwydd mae hynny, i mi, yn ymwneud ag uniondeb, gwirionedd a gonestrwydd, yn ogystal â charedigrwydd. Ni allwn ni weithredu mewn lle nid yn unig yn ein plith ein hunain, ond hefyd ymhlith pobl eraill yn ogystal, mewn ffordd dosturiol oni bai ein bod yn seilio hynny ar wirionedd a gonestrwydd. Rydym yn gwybod am effaith gyrydol anonestrwydd gwleidyddol ar ymddiriedaeth y cyhoedd ar hyn o bryd. Datgelodd arolwg agweddau cymdeithasol Prydain eleni mai anaml os o gwbl y bydd 45 y cant o bobl yn ymddiried mewn llywodraethau i flaenoriaethu buddiannau cenedlaethol dros wleidyddiaeth bleidiol. Drwy gydol fy nghyfnod byr yma yn y Senedd, rwyf wedi ymfalchïo mewn bod yn rhan o Senedd sy'n enwog am ei dull blaengar ac arloesol. Ond nid oes unrhyw sefydliad yn rhydd rhag effeithiau celwyddau a chamwybodaeth. Mae gwirionedd yn ein cymdeithas yn fregus ac yn egwan.

Mae ein nod yn syml: mae ynghylch atal gwleidyddion, yr unigolion hynny sydd â'r safle unigryw hwn o ymddiriedaeth a grym, rhag dweud celwydd bwriadol. Mae honno'n weithred sy'n gallu cael effaith ddofn, trawmatig yn aml, ar fywydau pobl. Gadewch i ni fod yn glir yma, nid rhyddid i lefaru yw rhyddid i ddweud celwydd. Pam mae celwydd yn ffynnu mewn gwleidyddiaeth? Wel, mae'r ateb yn syml, ac mae'n sobreiddiol: oherwydd bod rhwydd hynt inni wneud hynny. Gall twyll fod yn bla ymhlith gwleidyddion, yn bennaf oherwydd nad ydym yn wynebu sgil-effeithiau go iawn. Mae ymdrechion San Steffan i ddiwygio wedi methu, mae'r rheoliadau presennol yn y fan yna ac yn ein Senedd ein hunain yn druenus o annigonol. Mae'n rhaid i ni wneud mwy.

Does dim esgus, a dyna pam rwy'n croesawu'n llwyr gynigion y Llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth i gael gwared ar y rhai sy'n euog o dwyll bwriadol ac, rwy'n gobeithio, adfer ymddiriedaeth yr etholwyr ynom ni. Mae gennym ni gyfle i arwain yma yng Nghymru drwy esiampl, nid yn unig yn y DU ond ar y llwyfan rhyngwladol. Rydym ni eisoes yn gwybod y bu cryn dipyn o ddiddordeb rhyngwladol ynghylch y mater penodol hwn. Mewn gwirionedd, heno, bydd sôn amdanom ni ar The Rest is Politics. Felly, rydym ni mewn gwirionedd wedi cyflawni yma yn y Senedd.

Mae atebolrwydd i bleidleiswyr wrth wraidd y system ddemocrataidd, ac, ers rhy hir o lawer, mae gwleidyddion ar draws y DU ac ar draws pleidiau gwleidyddol wedi trethu amynedd y cyhoedd. Dyma nid yn unig y peth iawn i'w wneud, ond yma mae gennym ni gyfle i gynyddu faint o ymddiriedaeth sydd yna mewn gwleidyddion. Mae hyn yn ymwneud â gosod safon newydd ar gyfer uniondeb gwleidyddol a dangos bod Cymru unwaith eto ar flaen y gad o ran diwygio democrataidd, oherwydd, yn y pen draw, y rhai sy'n caru gwirionedd sy'n caru rhyddid hefyd. Diolch yn fawr iawn.

19:35

Hoffwn ddiolch i'r Aelod cyfrifol, Adam Price, am ei holl ymwneud ac i'w dîm cyfreithiol a roddodd amser i ni siarad a chraffu ar eitemau unigol y mae gennyf bryder personol yn eu cylch. Fe hoffwn i ddiolch hefyd i'r Cwnsler Cyffredinol am roi yn hael iawn o'i amser, gan ddod i gwrdd â mi a Peter Fox i drafod hyn dro ar ôl tro. Rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith rydych chi a swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n gweithio gyda chi wedi ei wneud ar y gwelliant hwn.

Cyn i mi ddechrau, hoffwn ddweud fy mod yn cydymdeimlo'n llwyr ag Adam Price a'r hyn y mae arno eisiau ei wneud. Pan fo yna wleidyddion o bob lliw gwleidyddol yn lledaenu gwybodaeth ffug a lledaenu celwyddau, nid yw'n syndod, pan awn allan a siarad â'r cyhoedd, eu bod yn colli ffydd mewn swyddogion etholedig. Rydw i wedi bod yn mynd o gwmpas, fel y bu'r rhan fwyaf o bobl yn ddiweddar, yn siarad â fy etholwyr wrth ymgyrchu, ac mae nifer y bobl sydd wedi edrych i fyw fy llygad a dweud, 'Rydych chi i gyd cynddrwg â'ch gilydd. Rydych chi i gyd â'ch trwynau yn y cafn.' A dywedodd un etholwr wrthyf hyd yn oed, 'Roedd y person o'ch blaen chi o blaid wleidyddol arall yn dweud unrhyw beth i mi dim ond i gael pleidlais'. Mae palu celwyddau ar stepen y drws i gael pleidlais gan rywun—ni ddylid caniatáu i hynny ddigwydd. Fe hoffwn i feddwl fy mod i'n wleidydd sy'n cael ei ysgogi gan egwyddor sydd eisiau'r canlyniadau gorau ar gyfer fy etholwyr a phobl Cymru, ac mae'n fy ypsetio'n fawr. Es i fyd gwleidyddiaeth am y rhesymau cywir ac mae'n ofnadwy bod ar rai pobl sy'n gwneud y swydd freintiedig sydd gennym ni—mae'n fraint cael gwasanaethu yn y Senedd hon—eisiau mynd o gwmpas a lledaenu celwyddau ac anwireddau i hyrwyddo eu safbwyntiau gwleidyddol eu hunain.

Ond a ydw i'n credu y bydd y gwelliant hwn yn mynd i'r afael â'r problemau sy'n ein hwynebu? Dydw i ddim yn credu y bydd. Fodd bynnag, rwy'n credu y bydd yn mynd beth ffordd i ail-ennyn yr hyder y mae'r cyhoedd wedi ei golli mewn swyddogion etholedig dros y blynyddoedd. Y rheswm pam fy mod ychydig yn betrusgar dros y gwelliant hwn yw oherwydd y credaf y gallai wneud rhywfaint o ddifrod democrataidd gwirioneddol i'r Senedd yr ydym ni'n eistedd ynddi yma heddiw. Y mater mwyaf, fel rwy'n ei weld, yr un fath ag Alun Davies, yw'r potensial i danseilio ein braint seneddol. Gallaf sefyll yma heddiw, yfory a drennydd a chefnogi a sefyll dros yr etholwyr rwy'n eu cynrychioli; gallaf fynegi fy hun yn agored yn ystod dadleuon a thrafodion y Senedd heb ofni achosion cyfreithiol o enllib neu athrod. Does arna i ddim eisiau bod yn edrych dros fy ysgwydd bob tro rwy'n dweud rhywbeth yma, gan ofni y bydd corfforaeth neu gwmni mawr yn dwyn achos cyfreithiol yn fy erbyn am athrod am ddweud rhywbeth. Rydym yn mwynhau braint nawr, ac nid wyf yn credu y byddai ar unrhyw Aelod eisiau bod yn ymladd achos cyfreithiol dro ar ôl tro am rywbeth y mae rhywun yn meddwl sy'n anghywir. Oes arnoch chi eisiau dweud rhywbeth, Hefin? Rwy'n gweld eich bod wedi ymddangos yn fan yna, rydych chi ar bigau.

19:40

Doedd arna i ddim eisiau torri ar eich traws a chithau yn llif eich araith. Mae'r hyn rydych chi'n ei ddweud wir yn taro tant gyda mi. Rwyf wedi defnyddio braint seneddol fy hun i bobl Caerffili ac mae wedi bod yn effeithiol iawn. Ond hefyd, onid oes perygl, os oes gennym y bensaernïaeth a gormod o strwythur o amgylch cyfraith droseddol, y gallai rhai pobl ar yr adain dde eithafol, a hyd yn oed rhai pobl ar y chwith eithafol, ddefnyddio hynny mewn gwirionedd fel bathodyn anrhydedd, ac yna byddant yn dweud wrth bobl, 'Edrychwch, rwyf wedi cael fy erlyn am fy marn; dim ond eich cynrychioli chi ydw i.' Felly, gellid ei ddefnyddio mewn ffordd negyddol iawn gan y bobl hynny ar y dde eithafol. A fyddech chi hefyd yn cytuno â hynny fel pryder am wneud hynny'n fater troseddol?

Fe allwn i weld y byddai hynny'n broblem. Rwy'n credu bod rhai pobl sy'n sefyll am swydd etholedig mewn rhannau eraill o'r byd wedi defnyddio rhai o'u helfennau troseddol i hyrwyddo eu hymgyrchoedd gwleidyddol eu hunain.

Elfen arall sy'n fy mhoeni—ac mae'n rhywbeth rwyf wedi siarad â chyfreithiwr cyfansoddiadol amdano—yw'r elfen sydd, os ydw i'n sefyll yma ym mhob dadl ac yn dweud, 'Yn fy marn i', ac yna fy mod i'n cyflwyno fy nadl, caf fy eithrio o hyn, byddaf yn iawn, achos rwyf wedi datgan fy marn bendant fy hun sydd ddim yn cael ei ystyried yn ffeithiol mewn gwirionedd. Os na fyddaf yn dweud, 'Yn fy marn i', yna gallwn fod yn destun achos cyfreithiol, ac nid wyf yn credu ei bod hi'n iawn fod gennym ni ddarn o gyfraith sydd mor ddiffygiol. Nid wyf yn credu, felly, ei bod hi'n iawn y gellid herio barn bersonol rhywun yn y llys. Nid wyf yn credu y byddai ar y farnwriaeth eisiau herio barn bersonol rhywun mewn llys, gan feirniadu ar fforwm gwleidyddol.

Ond un peth, rwy'n credu, na ddywedwyd yw bod yna unigolion annifyr a fydd yn ceisio manteisio ar y broses hon. Mae yna bobl o bob plaid wleidyddol a phob grŵp gwahanol sydd eisiau dymchwel democratiaeth. Gallai pob Aelod unigol fod yn destun cwyn flinderus bob tro y byddant yn sefyll yn y Siambr hon, a bydd yn rhaid ymchwilio iddyn nhw i gyd. Rwy'n gwybod bod yr Aelod cyfrifol wedi cyflwyno rhai mesurau diogelu ynghylch hynny, ond mae rhai sefydliadau gyda phocedi dwfn iawn a fyddai'n eithaf hapus i anfon unrhyw Aelod yma i'r llys am unrhyw beth y maen nhw wedi'i ddweud. Mae hynny'n rhywbeth sy'n peri pryder mawr i mi.

Un peth yr hoffwn orffen arno, Llywydd, yw ymatebion gweinidogol. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, fel Aelodau, pan fyddwn yn gofyn cwestiwn, y gall Gweinidogion roi ateb i'r Aelodau hyd eithaf eu gwybodaeth, ar rywbeth y gallen nhw wybod amdano. Yr hyn rwy'n poeni amdano, a byddai fy etholwyr, rwy'n siŵr, yn poeni amdano, yw pe bai'n rhaid i Weinidog sefyll bob tro y gofynnais gwestiwn a dweud, 'Mae'n ddrwg gennyf. Ni allaf ymateb i'ch cwestiwn nes i mi gael cyngor cyfreithiol cyn i mi ymateb i chi. Does gen i ddim yr wybodaeth i gyd wrth law, ac mae gen i ormod o ofn i ymateb i chi rhag ofn cael fy hebrwng i'r llys'. Nid wyf yn credu bod hynny'n dda i ddemocratiaeth. Nid wyf yn credu ei fod yn dda i'n hetholwyr ac nid wyf yn credu mai dyna'r ffordd orau iddo gael ei ddatblygu.

Rwyf yn cefnogi gwaith y pwyllgor safonau yn hyn o beth; rwy'n credu bod rhan allweddol iddyn nhw yma. Rwy'n credu bod angen i ni adael i'r broses honno redeg ei chwrs a dod yn ôl atyn nhw a gweld beth maen nhw'n ei ddweud. Rwy'n gwybod y bu trafodaethau rhwng yr Aelod cyfrifol a'r Cwnsler Cyffredinol, ac rwy'n eithaf awyddus i glywed beth sydd gan y Cwnsler Cyffredinol i'w ddweud am hyn. Mae gennym ni'r pwyllgor safonau; mae yno i'w ddefnyddio. Fel y dywedais i, rwy'n cefnogi'r Aelod, rwy'n credu bod angen inni gael gwared ar gelwyddau mewn gwleidyddiaeth; mae'n tanseilio hyder y cyhoedd. A wyf yn credu mai dyma'r ffordd orau i'w wneud, gyda gwelliant hwyr i Fil nad oes a wnelo fo llawer â diben hyn? Dydw i ddim yn hollol siŵr. Rwy'n credu bod angen craffu seneddol priodol arno, bod angen treulio amser seneddol priodol arno, ac, yn fy rhesymu i, rwy'n credu bod angen i ni ddod o hyd i ffordd arall o edrych ar hyn a'i gyflwyno.

19:45

Rwy'n credu y bu'r dadleuon a gawsom ni ar y mater hwn yn enghraifft dda o'r broses seneddol ar waith a'r ffordd gydsyniol y gallwn ni weithio ar draws llinellau plaid yn y Senedd hon. Erbyn hyn mae consensws ar draws y Siambr bod dweud celwydd yn fwriadol yn tanseilio ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth ac yn berygl y mae angen mynd i'r afael â hi'n gadarn. Rwy'n credu mai'r prif wahaniaeth eithriadol yw a yw'n well ymdrin â dweud celwydd trwy broses a arweinir gan safonau o fewn y Senedd hon, neu a ellir cyfiawnhau cosb droseddol ar gyfer yr achosion mwyaf eithriadol o dwyll bwriadol er mwyn ail-ennyn ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth.

Rwy'n cydnabod barn llawer o fy nghyd-Aelodau ar y meinciau hyn na ddylai hyn fod yn fater i'r llysoedd, ond un ar gyfer y blwch pleidleisio. Rwy'n credu mai dyna lle, nawr, y dylai pwyslais ein dadleuon fod. Cefais fy ethol yma yn 2016, cyn refferendwm Brexit, cyn i Donald Trump ddod yn arlywydd, cyn i Boris Johnson dwyllo ei ffordd i mewn i Downing Street a thwyllo ei hun allan eto, a does dim amheuaeth bod gwleidyddiaeth yn y wlad hon wedi tywyllu yn yr wyth mlynedd hynny. Rwy'n poeni ein bod yn addasu i hynny, ac rwyf wedi ei weld drosof fy hun yn ystod y 12 mis diwethaf yn Llanelli: dweud celwydd, twyllo, cam-drin hiliol, llosgi bwriadol, torfeydd yn cael eu cynhyrfu gan ymweliadau gan y dde eithafol ac yn ymosod ar gartrefi'r rhai sy'n dangos eu hochr. Mae wedi bod yn brofiad ofnadwy, cynhyrfus gweld yr hylltra hwn yn cael ei normaleiddio'n dawel. Mae wedi cael effaith ddwys ar fy nghymuned ac mae'n rhywbeth rydw i wedi ei chael yn anodd iawn yn bersonol.

Ddydd Iau, mae un o arweinwyr yr ymgyrch camwybodaeth yn Llanelli yn sefyll dros y Senedd yn ein tref gyda chefnogaeth yr arweinydd asgell dde eithafol, Tommy Robinson. Mae'n naïf meddwl bod ein traddodiadau democrataidd yn sanctaidd—dydyn nhw ddim. Mae'n rhaid i ni sefyll drostyn nhw; mae'n rhaid i ni ymladd drostyn nhw. Rydym ni wedi cael cipolwg ar yr hylltra ond gallai fod gwaeth i ddod. Rwyf wedi siarad yma o'r blaen am erydu safonau ymddygiad arferol a'r peryglon o adael iddyn nhw lithro, a, thrwy hynny, i dderbyn safon is, a sut na ddylem ni ganiatáu y glastwreiddio hwn—difetha'r normalrwydd hwn—ar unrhyw ffurf.

Yn ddiweddarach yr wythnos hon, mae'n ddigon posibl y bydd gennym ni Aelodau Seneddol o'r dde radical yn Nhŷ'r Cyffredin. Dim ond 250 milltir oddi yma, bydd y dde eithafol wrth gatiau grym. Mewn ychydig fisoedd yn unig, gallai Arlywydd sy'n tanseilio'r hyn sy'n arferol fod yn ôl yn y Tŷ Gwyn. Rwyf wedi gweld y dyfodol, ac mae'n waeth. Mae angen i ni ei oddiweddyd a dweud yn glir nad yw erydu ein gwerthoedd democrataidd yn iawn ac na fyddwn yn ei oddef. Mae angen i'r cyhoedd wybod y gallan nhw ymddiried yn yr hyn a ddywedir, a dyna beth mae'r gwelliant i'r Bil hwn a basiwyd yn y pwyllgor, adran 64, yn ymwneud ag o: nid yn unig safonau'r rhai a etholir i'r Senedd, ond y rhai sy'n ceisio cael eu hethol hefyd. Dyna, i mi, yw diben allweddol y dadleuon gawsom ni. Yn syml, nid yw'n iawn dweud celwyddau noeth, a dylai fod canlyniadau os gwnewch chi hynny. Ni all celwydd ddod yn norm.

Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi amlinellu ei ddadleuon a'i bryderon mewn llythyrau ac mewn erthyglau, ac mae Adam Price a minnau wedi ymateb. Mae gwahaniaethau, a gall pobl farnu'r rheini, ond rwy'n falch o ddweud ein bod ni wedi gweithio'n dda ac yn galed iawn dros y 24 awr ddiwethaf gyda nifer o Weinidogion, ac rydym ni wedi ceisio canolbwyntio ar yr hyn yr ydym ni'n cytuno arno. Mae cytundeb y dylid cosbi celwydd, a'r cwestiwn sy'n aros yw a ddylai'r gosb ddod gan gyd-Aelodau'r Senedd. Nid wyf yn credu y dylai. Mae Alun Davies wedi cyflwyno dadl gref y dylai senedd lywodraethu ei materion ei hun. Yn fy marn i, dylai cynnal normau a safonau democratiaeth fod yn fater i'n sefydliadau annibynnol, oherwydd beth ydym ni'n ceisio'i wneud yma? Os ydym ni'n ceisio meithrin ymddiriedaeth, wel, nid yw pobl yn ymddiried mewn gwleidyddion i reoleiddio eu hunain. Fe welsom ni ddeisebau adalw yn San Steffan lle mae caiff pobl digon brith eu hailgyflwyno i'r etholwyr ac nad yw hynny wedi ail-ennyn ymddiriedaeth y cyhoedd. Dylai'r cyhoedd fod yn hyderus bod y tramgwyddau hyn wedi cael eu cloriannu gan dribiwnlys annibynnol, wedi'u hategu gan fesurau diogelu a phrosesau teg y system gyfiawnder, a'u bod yn ddarostyngedig i far uchel safon droseddol 'y tu hwnt i amheuaeth resymol', nid y prawf sifil isaf.

Rwy'n gwybod bod gan y Llywodraeth a chyd-Aelodau bryderon am hynny, ac yn enwedig am y ffaith na fu digon o ymgynghori a meddwl i ddeall canlyniadau anfwriadol posibl hyn, ac rwy'n deall hynny. Rwy'n credu y gellir lleddfu nifer o'r pryderon. Rwyf yn credu nad yw nifer o'r pethau y mae James Evans wedi'u dweud, wrth weithio drwyddyn nhw, fel y mae'n ei ofni, ac y gellir mynd i'r afael â nhw. Ond, fel y dywedodd, mae hyn wedi dod yn weddol hwyr yn y broses seneddol—fel sy'n briodol, a chredaf fod hynny'n beth da. Fe ddylem ni allu diwygio deddfwriaeth, nid dim ond cymryd yr hyn a roddir i ni gan y Llywodraeth a chael gwybod, 'Mae'n rhy hwyr i'w newid.'

Ond mae pobl yn teimlo bod y craffu wedi cael ei ruthro, ac rwy'n parchu hynny, felly rwy'n derbyn yr angen i ddatgysylltu gweithrediad manwl erlyn twyll o'r Bil hwn. Rwy'n credu y cawsom ni drafodaethau adeiladol iawn ynghylch sut i wneud hynny, a byddwn wrth fy modd yn clywed mwy gan y Cwnsler Cyffredinol. Ac rwy'n diolch iddo am y modd yr aeth i'r afael â hyn ag ysbryd o gyfaddawd, i Vikki Howells, fel y Cadeirydd safonau, sydd wedi bod yn barod i gyd-fynd â ni o ran y gwaith y mae'r Pwyllgor Safonau yn ei wneud gyda'r amcanion yma, ac, wrth gwrs, i Adam Price sydd wedi arwain y ddadl ar hyn, a'r tîm yn y grŵp ymgyrchu Compassion in Politics am eu cyngor a'u profiad o gefnogi'r ymdrechion hyn.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod consensws ar bethau mor ddifrifol. Nid wyf yn credu bod y ffyrdd arferol o wneud pethau'n bodloni maint yr her yr ydym ni eisoes yn ei hwynebu i'n democratiaeth, her sy'n mynd i fod yn fwy ffyrnig ac yn fwy peryglus. Yn syml, nid yw meddwl bod arnom ni eisiau i'r bobl dda ufuddhau i'r bobl dda yn addas ar gyfer perygl ein hoes. Rwy'n credu bod y safon droseddol, ymhell o liniaru'r ofnau sydd gan lawer yma, mewn gwirionedd yn darparu mwy o amddiffyniad nag y tybir yn gyffredin, oherwydd ei fod yn gosod y safon yn uchel iawn. Mae eithriadau sylweddol, os mynnwch chi, o'r ddeddfwriaeth, lle gall bobl sydd wirioneddol ynghlwm â hyn ganfod ffordd allan. Felly, nid wyf yn rhannu'r pryder am fuddiannau ariannol mawr sy'n ceisio arglwyddiaethu dros hyn a mygu trafodaeth. Ond y pwynt yw, mae angen profi'r pethau hyn ymhellach mewn ffordd sy'n meithrin hyder cyd-Aelodau, ac nid wyf yn credu bod hynny wedi digwydd o'r broses hon. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n iawn ein bod ni'n camu'n ôl ac yn mynd â hyn i'r pwyllgor safonau. Yr ymrwymiad y mae'r Llywodraeth wedi'i roi yw gweithio'n ddidwyll gyda'r ymdrech honno, ac edrychaf ymlaen at fod yn rhan o hynny.

Wrth gloi, Llywydd, wrth i ni gael y ddadl hon, mae angen i ni gydnabod y tywyllwch sydd yno o flaen ein llygaid. Rwyf wedi gweld ochr arbennig o hyll ohoni yn fy etholaeth i, ond gadewch i ni beidio â thwyllo ein hunain na fydd hyn yn dod yn fwy cyffredin. Fe ddylem ni weithredu nawr tra gallwn ni herio hynny ac chreu mesurau diogelu ar gyfer ein democratiaeth a gwead ein diwylliant gwleidyddol.

19:50

Diolch, Llywydd. A gaf i yn gyntaf sôn am yr hyn yr hoffwn i ei drafod? Hynny yw, byddaf yn cynnig gwelliant 6 i ddileu adran 64, ac yn gwrthwynebu pob diwygiad arall yn yr adran hon.

A gaf i yn gyntaf, ynghylch y drafodaeth bwysig iawn rydym ni wedi bod yn ei chael ynghylch materion sy'n sylfaenol i'n democratiaeth, ddiolch i Adam a diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o nifer pur sylweddol o drafodaethau dros yr wythnosau diwethaf? Rwy'n credu mai'r hyn y mae'n debyg yn ei ddweud wrthym ni yw bod hwn yn fater sy'n agos at galon pawb ac sy'n bryder difrifol a gwirioneddol iawn i bob un ohonom ni. Rydym ni i gyd yn adnabod pobl na fyddant yn derbyn swyddi cyhoeddus er enghraifft oherwydd yr amgylchedd y byddent ynddo. A gaf i ddweud hefyd, o ran y materion a godwyd o ran ein democratiaeth, fod gen i, mewn gwirionedd, 30 tudalen o araith heddiw na chewch chi, yn anffodus, y pleser o'i chlywed nawr, oherwydd mae'r gwynt wedi ei dynnu o'm hwyliau? Rydym ni'n sôn am y pleser rydw i wedi'i gael o ddarllen Deddf Hawliau 1689 a cheisio deall hynny. A gaf i ddweud cymaint o bleser oedd hi hefyd y bore yma i fynd i grŵp y Blaid Geidwadol, rwy'n credu am y tro cyntaf erioed? Rwy'n deall—

19:55

Peidiwch â bod yn rhy gysurus yno. [Chwerthin.]

Rwy'n deall imi fethu'r clyweliad, nid yw fy ngharden aelodaeth yn y post, a gobeithio na fyddaf yn darllen unrhyw beth amdano yn y cyfryngau cymdeithasol. Ond rwy'n credu y bu pwysigrwydd yr ymgysylltu, rwy'n credu, gyda grwpiau gwleidyddol ynghylch hyn yn bwysig iawn, iawn ac yn sylfaenol iawn, iawn. 

Y pryderon fu gennyf—. Ac rwy'n credu y bu'r rhain yn eithaf emosiynol ac yn bryderon dwfn iawn, oherwydd wrth fod eisiau ymdrin â'r mater o dwyll, ymdrin â mater bywydau, mater safonau, i mi y mater bob amser fu beth yw goblygiadau hynny, sut y bydd yn gweithio'n ymarferol, ond, ar yr un pryd, wrth geisio cyflawni amcan da a phwysig, nid, ar y llaw arall, i ddinistrio rhai o rannau sylfaenol ein democratiaeth mewn gwirionedd. Ac rwy'n credu mewn gwirionedd bod braint seneddol, sy'n fraint sy'n rhan o'r Senedd i alluogi pobl i siarad yn rhydd, heb ofn gan y llysoedd, gan y cyfoethog, gan fuddiannau breintiedig, yn gonglfaen sylfaenol i'n democratiaeth. Ac mae hynny'n rhywbeth a fu'n sail i fy niddordeb yn hyn—er mwyn cyflawni un amcan, yr hyn nad ydych chi'n ei wneud wedyn yw tanseilio eich strwythur democrataidd eich hun y mae angen i chi ei gynnal ac y mae angen i chi ei gadw mewn gwirionedd. Ac rwyf yn credu bod braint seneddol yn rhywbeth sylfaenol, ac, wrth gwrs, mae'n rhywbeth y gellir ei gam-drin, ac mae'n rhaid cael mecanweithiau ac ati er mwyn ymdrin â hynny.

A gaf i ddweud, serch hynny, na foed i ni anghofio hefyd bod rhan bwysig o'r ddadl a gawsom ni heddiw—rwy'n gwybod bod llawer wedi canolbwyntio ar y materion pwysig hyn—ei fod am rannau eraill y Bil hwn hefyd, sydd wir yn ymwneud ag amddiffyn ein democratiaeth, ymestyn ein democratiaeth? Dyna, yn y bôn, yr hyn y byddwn ni, gobeithio, yn ei wneud wrth gloi heddiw, a thrwy Gyfnod 4: rydym yn cyflwyno un o ddiwygiadau mwyaf sylfaenol ein system etholiadol, sef cyflwyno cofrestriad awtomatig—y cofrestriad awtomatig gan sicrhau y dylai pawb sydd â hawl i bleidleisio fod ar y gofrestr. Mae hynny'n rhoi'r her inni, felly, wrth gwrs, bod arnom ni eisiau sicrhau bod pobl yn pleidleisio, a dyna ein lle ni fel gwleidyddion i roi rheswm i bobl bleidleisio, i'w hannog nhw i bleidleisio, ond allwch chi ddim gwneud hynny oni bai eu bod ar y gofrestr benodol honno. Ac a gaf i ddweud pa mor arloesol yw hyn, oherwydd yr hyn rwy'n falch iawn ohono, yn yr ymrwymiad gan yr hyn rwy'n gobeithio a fydd yn Llywodraeth Lafur newydd—ei bod wedi rhoi ymrwymiad y bydd hefyd yn cyflwyno cofrestriad awtomatig, a chredaf fod y gwaith yr ydym ni wedi'i wneud a'r model a gyflawnir gennym ni, rwy'n amau mai dyma'r model ar gyfer gwneud hynny ledled y Deyrnas Unedig gyfan. I Gymru bydd yn golygu y gallai tua 400,000 o bobl gael eu hychwanegu at y gofrestr honno. Os yw wedi'i ymestyn i weddill y DU ar gyfer etholiadau sydd heb eu datganoli, rydych chi'n sôn am 7 miliwn neu 8 miliwn o bobl nad ydyn nhw ar y gofrestr. Nawr, mae'n dweud rhywbeth am ein democratiaeth, pan fydd gennych chi gymaint o bobl nad ydyn nhw ar y gofrestr a ddim hyd yn oed mewn sefyllfa i bleidleisio, yn ogystal â'r her sydd gennym ni, yr ydym ni i gyd wedi'i hwynebu ar garreg y drws, rwy'n siŵr, sef y bobl sy'n dweud, 'Na, dydw i ddim wir yn trafferthu gyda hynny. Dw i ddim yn trafferthu pleidleisio', ac ati—rhywbeth sydd bron wedi cael ei normaleiddio mewn cymaint o'r cartrefi rydym ni'n curo wrth eu drysau nhw. Mae hynny'n fygythiad i ddemocratiaeth hefyd, ac mae'n rhaid i ni gofleidio'r rheiny i gyd.

Yn wahanol i Lee, nid wyf mewn gwirionedd yn credu mai'r cyfeiriad troseddol yw'r ffordd inni fynd, oherwydd credaf mai'r hyn y mae'n ei wneud yw tanseilio'r fraint seneddol honno. Rwyf hefyd yn credu bod y llysoedd yn gangen o'r Llywodraeth. Ac un o'r pwyntiau am y chwyldro mawr a'r Bil Hawliau oedd, wrth gwrs, yr hyn a wnaeth oedd creu gwahaniad rhwng y llysoedd a'r Senedd i greu gallu pendant i'r Senedd allu gweithredu heb fygythiad y llysoedd ac ymyrraeth ac yn y blaen. Wedi dweud hynny, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r mater o adalw o fewn y strwythur cyfansoddiadol sydd gennym ni sy'n berthnasol i ni, ac rwy'n falch iawn o weld y gwaith y mae Vikki Howells a'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi'i ddechrau, ac rwyf wedi bod yn dilyn y dadleuon ac yn darllen y trawsgrifiadau. Rwy'n credu bod hynny'n cyd-blethu ac yn asio'n union â'r gwaith sydd ei angen mewn perthynas â mater twyll a sut y delir â hynny, a'r sancsiynau y mae angen eu cymhwyso o fewn hynny.

A gaf i ddweud, felly, yn yr ysbryd, o ran yr ymgysylltu, sydd wedi digwydd nawr ar sail drawsbleidiol, fy mod i'n meddwl ei fod yn ffordd ymlaen? Mae'n ffordd y bydd gennym y craffu manwl a thrylwyr hwnnw sydd ei angen arnom ni rwy'n credu i sicrhau mai'r ddeddfwriaeth sy'n deillio o'r fan yma yw'r ddeddfwriaeth fwyaf effeithiol bosib.

Felly, dim ond datganiad byr iawn sydd gennyf i'w wneud, sef y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth cyn 2026 ar gyfer gwahardd Aelodau ac ymgeiswyr a gafwyd yn euog o dwyll bwriadol trwy broses farnwrol annibynnol a bydd yn gwahodd y pwyllgor i wneud cynigion i'r perwyl hwnnw. Rwy'n ymrwymedig i hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hynny, ac rwy'n credu nawr fel Senedd yn ei chyfanrwydd ein bod ni i gyd wedi ymrwymo i hynny. Diolch yn fawr.

20:00

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl Aelodau hynny sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon, ac, yn wir, i bawb y tu allan i'r lle hwn sydd wedi ein helpu. Cyfeiriwyd at y gefnogaeth a gawsom ni gan Compassion in Politics, sydd wedi bod yn cynnal ymgyrch yn hyn o beth ers blynyddoedd lawer, ac, yn wir, y nifer fawr o arbenigwyr—cyfansoddiadol, cyfreithiol ac eraill—sydd wedi ein helpu i gyrraedd y pwynt hwn.

Rwy'n credu bod Lee Waters wedi crisialu—ac, yn wir, Aelodau eraill—y foment dyngedfennol, y pwynt tyngedfennol rydym ni ynddo. Mae hwn yn wahanol. Mae'r bennod rydym ni ynddi nawr yn wahanol. Rwyf wedi mwynhau'r drafodaeth a'r ddadl a gefais gyda'r Cwnsler Cyffredinol, gan fynd â ni yn ôl i'r ail ganrif ar bymtheg, ac mae'n bwysig cofio hanes ein cyfansoddiad ac ati. Rwy'n credu bod y bygythiad i'n democratiaeth, byddwn i'n dweud, os ydyn ni'n gwneud cyfatebiaethau hanesyddol, nid o du rhywbeth fel brenhiniaeth absoliwt y Stiwartiaid yn yr ail ganrif ar bymtheg, lle mai'r rheswm pam y cyflwynwyd braint seneddol yw oherwydd eu bod yn rheoli'r llysoedd yn y bôn, ac felly byddent yn defnyddio hynny i gyflwyno cyhuddiadau enllib bradwrus yn erbyn Aelodau.

Mae'r bygythiad i'n democratiaeth bellach yn wahanol. Mae'n dod i raddau helaeth o gyfeiriad gwahanol, ac os ydym ni am wneud cyfatebiaeth hanesyddol, mae'r cyd-destun bob amser yn wahanol, ond mae'n rhaid i ni edrych, onid oes, i'r cyfnod rhwng y rhyfel, y 1930au. Mewn gwirionedd, daw'r ysbrydoliaeth ddeallusol ar gyfer yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yma gan Karl Loewenstein, a oedd yn gyfreithiwr a damcaniaethwr cyfansoddiadol yn yr Almaen, a'r hyn y dadleuodd, yn y bôn, yw bod mewn amgylchiadau fel hynny, megis y 1930au, lle roedd gennych y demagogiaid dde eithafol yn y bôn yn dod i ddinistrio seiliau ein democratiaeth, yna bu'n rhaid i ddemocratiaeth amddiffyn ei hun, a bu'n rhaid iddi ddefnyddio'r gyfraith yn erbyn gelynion democratiaeth. Ac o'r traddodiad hwnnw y mae'r adran hon yn deillio.

Rwy'n credu bod llawer o gwestiynau technegol a chyfreithiol ac, yn wir, egwyddor gyfansoddiadol y byddwn yn awr yn cael cyfle i'w trafod ymhellach, ac rydym ni'n croesawu hynny, ond mae'r hyn sydd newydd gael ei gyhoeddi gan y Cwnsler Cyffredinol yn wirioneddol hanesyddol. Mewn gwirionedd, mae'n arloesi yn fyd-eang. Mae gennym ni ymrwymiad gan y Llywodraeth erbyn hyn mai ein democratiaeth fydd y cyntaf—y cyntaf yn y byd—i gyflwyno gwaharddiad cyffredinol ar dwyll bwriadol gan wleidyddion. Rwy'n credu ein bod yma eto, fel y gwnaethom ni gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ar ddechrau mudiad byd-eang i amddiffyn ein democratiaeth mewn gwirionedd, i adfer ymddiriedaeth yng nghalon ein gwleidyddiaeth.

Mae yna faterion o anghytundeb o hyd, anghytundeb diffuant. Yn aml, rwy'n dysgu mwy pan nad yw fy ngwefusau'n symud, felly, pan fyddaf mewn gwirionedd yn gwrando ar rywun yn cyflwyno dadl dda yn erbyn fy safbwynt, rwy'n ennill o hynny mewn gwirionedd. Felly, ni ddylem ni ofni cael yr anghytundeb parchus hwnnw. Ond lle rydym yn gytûn nawr ar sail drawsbleidiol a phleidiol—ac i hyn weithio go iawn yna dyna'r ffordd y mae'n rhaid i ni ei cherdded—yw ein bod ni'n gytûn y bydd hyn yn gynhwysfawr. Nid yw'n gweithio dim ond cael cod ymddygiad i Aelodau pan, mewn gwirionedd, y daw rhai o'r bygythiadau mwyaf yr ydym ni'n eu hwynebu, o ran lledaenwyr anwiredd, gan ymgeiswyr. Dydyn nhw ddim yn Aelodau yma, ddim yn rhwym wrth y cod ymddygiad. Felly, rydym yn siarad yma am anghymhwyso Aelodau ac ymgeiswyr a gafwyd yn euog o dwyll bwriadol. Ac yn allweddol hefyd, er mwyn iddo gael ymddiriedaeth y cyhoedd, mae'n rhaid iddo fod y tu allan i'r broses wleidyddol. Allwch chi ddim cael gwleidyddion yn pwyntio'r bys at ei gilydd a bod yn farnwr a rheithgor yn erbyn eraill. Gallai hynny, ar adegau tyngedfenol, gael ei gam-drin, yn gallai, am resymau anfad, a dyna pam mae gennym ni, wrth gwrs, sefydliadau'r gyfraith, sefydliadau barnwrol annibynnol. Mae hynny'n rhan o'r ffordd yr ydym ni'n amddiffyn ein democratiaeth ryddfrydol, a nawr mae angen i ni bwyso ar y traddodiadau hynny ac ar y sefydliadau hynny er mwyn trechu'r grymoedd gwrth-ddemocrataidd hynny sy'n ceisio dinistrio sylfeini ein democratiaeth.

Rwy'n credu mai'r broses lle rydym ni wedi cyrraedd y geiriau y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn eu disgrifio, rwy'n credu mai democratiaeth seneddol yw hon ar ei gorau. Democratiaeth Gymreig ar ei orau, onid yw? Rydym ni wedi cael llawer o anghytuno diffuant ac weithiau'n angerddol, ond edrychwch ar ble rydym ni wedi cyrraedd. Rydym ni'n mynd i—gyda'n gilydd, gyda'n gilydd—rydym ni'n mynd i wahardd dweud celwyddau gwleidyddol. Ni fydd y wlad gyntaf i wneud hynny, gan adeiladu dyfodol gwell i'n democratiaeth, ond hefyd dechrau mudiad byd-eang i adfer y dyfodol, amddiffyn democratiaeth, ac atal y rhai sy'n cynllwynio yn fyd-eang i danseilio democratiaeth yma yng Nghymru ac yn y dyfodol.

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Edrychaf ymlaen yn awr at fynd ag ef i'r cam nesaf, i weithredu hyn yn barod ar gyfer 2026 fel y gallwn ni adeiladu'r sylfaen orau bosibl ar gyfer dyfodol ein democratiaeth. Diolch.   

20:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 43? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly fe gawn ni bleidlais ar welliant 43. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, ymatal 13, 26 yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant wedi ei wrthod. 

Gwelliant 43: O blaid: 12, Yn erbyn: 26, Ymatal: 13

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 6. Cwnsler Cyffredinol, ydy e'n cael ei symud? 

Cynigiwyd gwelliant 6 (Mick Antoniw).

Os bydd gwelliant 6 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliannau 44, 45 a 46 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 6. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, 13 yn ymatal, 13 yn erbyn. Mae gwelliant 6 wedi ei dderbyn. Mae gwelliannau 44, 45 a 46 wedi methu.

Gwelliant 6: O blaid: 26, Yn erbyn: 13, Ymatal: 13

Derbyniwyd y gwelliant

Methodd gwelliannau 44, 45 a 46.

Gwelliant 47. Ydy e'n cael ei symud, Adam Price? Ddim yn cael ei symud. Na, dyw e ddim yn cael ei symud. Felly, fydd yna ddim pleidlais ar welliant 47. 

Ni chynigiwyd gwelliant 47 (Adam Price).  

Gwelliant 48, ydy e'n cael ei symud, Adam Price? Na, dyw e ddim yn cael ei symud, felly fydd na ddim pleidlais.

20:10

Ni chynigiwyd gwelliant 48 (Adam Price). 

Gwelliant 49, Adam Price. Ddim yn cael ei symud, felly fydd na ddim pleidlais.

Ni chynigiwyd gwelliant 49 (Adam Price). 

Ni chynigiwyd gwelliant 50 (Adam Price). 

Cynigiwyd gwelliant 22 (Peter Fox).

Yn cael ei symud. A oes gwrthwynebiad i welliant 22? [Gwrthwynebiad.] Oes. Pleidlais ar welliant 22. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Gwelliant 22 wedi ei wrthod.

Gwelliant 22: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 23 (Peter Fox).

Yn cael ei symud. A oes gwrthwynebiad i welliant 23? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gawn ni bleidlais ar welliant 23. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 23 wedi ei gymeradwyo.

Gwelliant 23: O blaid: 39, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 51 (Adam Price).

Ydy, mae e'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i welliant 51? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, agor y bleidlais ar welliant 51. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. 

Gwelliant 51: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 24 (Peter Fox).

Ydy, mae'n cael ei symud. A oes gwrthwynebiad i welliant 24? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 24. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 24 wedi ei dderbyn.

Gwelliant 24: O blaid: 39, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Ni chynigiwyd gwelliant 52 (Adam Price). 

Ni chynigiwyd gwelliant 53 (Adam Price). 

Dyw gwelliant 25 ddim chwaith wedi ei symud, ac felly fydd na ddim pleidlais ar welliant 25 chwaith.

Ni chynigiwyd gwelliant 25 (Adam Price). 

Mae hwnna'n dod â ni at ddiwedd y drafodaeth, ac rŷn ni wedi ystyried Cyfnod 3 o'r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru). A dwi'n datgan y bernir pob adran o'r Bil a phob Atodlen iddo wedi eu derbyn.

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.

Daw hwnna â'n gwaith ni am heddiw i ben. Diolch yn fawr iawn i bawb.

Daeth y cyfarfod i ben am 20:13.