Y Cyfarfod Llawn

Plenary

25/06/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau heddiw, mae'n bleser gen i i hysbysu'r Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar ddydd Llun 24 Mehefin. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Y cwestiwn cyntaf, John Griffiths. 

Aelwydydd Incwm Isel

1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi aelwydydd incwm isel ar draws Dwyrain Casnewydd? OQ61350

Diolch am y cwestiwn. 

Ers 2022-23, rydym ni wedi darparu cymorth gwerth tua £5 biliwn trwy raglenni sy'n darparu cymorth wedi'i dargedu i leddfu'r pwysau ariannol, i sicrhau bod incymau mor fawr a phosibl ac i adael arian ym mhocedi teuluoedd. Mae ein strategaeth tlodi plant yn amlinellu cynlluniau hirdymor Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant, gan gynnwys, wrth gwrs, teuluoedd yn Nwyrain Casnewydd.

Mae'r mudiad Llafur a'r Blaid Lafur yn bodoli i hybu polisïau cyfiawnder cymdeithasol, cyfle cyfartal a chanlyniadau mwy cyfartal, ac, ar ôl 14 mlynedd o gyni a safonau byw yn aros yn eu hunfan o dan Lywodraeth Dorïaidd y DU, bydd gan Lywodraeth Lafur y DU newydd lawer iawn o waith i'w wneud. Ond rwy'n credu, gyda Llywodraeth Lafur yng Nghymru a San Steffan yn cydweithio mewn partneriaeth agos, y bydd gennym ni'r cyfle i wneud cynnydd gwirioneddol i'n teuluoedd a'n cymunedau. Rydym ni'n gwybod, wrth gwrs, bod prif ysgogiadau trethiant a'r system fudd-daliadau yn dal i fod yn San Steffan, ond rwy'n credu y gallwn ni wneud gwahaniaeth gwirioneddol yma yng Nghymru os caiff gweinyddu budd-daliadau ei ddatganoli i'r Senedd ac i Lywodraeth Cymru, gan y byddai hyn yn helpu'r bartneriaeth honno ac yn sicrhau bod ein gwerthoedd cyfiawnder cymdeithasol, urddas a thosturi yn llywio darpariaeth y system honno, ac y byddai gennym ni gydweithio agos gyda gwasanaethau cyhoeddus datganoledig. Felly, Prif Weinidog, a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf heddiw am y cynnydd o ran datganoli gweinyddu budd-daliadau lles y DU i Gymru?

Diolch. Mae'n sgwrs rwy'n edrych ymlaen at fwrw ymlaen â hi os cawn ni newid i'r Llywodraeth ledled y DU, os cawn ni Lywodraeth Lafur y DU. Mae yna addewid maniffesto eglur i ddatganoli cyllid cymorth cyflogaeth i Gymru, ac rwy'n credu y byddem ni'n gallu gwneud defnydd gwych o hwnnw. Mae'r bartneriaeth yr ydym ni ei heisiau yn un lle nad yw dilysrwydd y lle hwn yn cael ei gwestiynu na'i danseilio, ond mae gennym ni bartneriaeth sy'n cydnabod bod llwybr datganoli yn rhywbeth lle mae gennym ni fwy o allu, yn enwedig gyda Senedd estynedig yn dod i fodolaeth, ac rwy'n credu y gallwn ni wneud cynnydd ymhellach ar drywydd datganoli budd-daliadau. Rwyf i yn credu, fodd bynnag, pan fyddwch chi'n meddwl am gyllid cymorth cyflogaeth, y bydd hwnnw'n gwneud gwahaniaeth mawr i'r hyn y gallwn ni ei wneud i gefnogi pobl i mewn i waith, gyda'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw, a sut y gallwn ni drefnu'r system honno a'r hyn y gallwn ni ei wneud yng ngweddill tymor y Senedd hon. Ac yna byddai gan bob plaid ddiddordeb yn yr hyn y gallen nhw ei gynnig i bobl Cymru pan ddaw etholiad Senedd yn y dyfodol. 

Mae hyn, wrth gwrs, yn rhan o'r hyn yr ydym ni eisoes yn ei wneud. Mae'r tua £5 biliwn y soniais amdano yn mynd ar draws amrywiaeth o raglenni wedi'u targedu. Rydym ni'n agosáu at yr haf, felly bydd rhaglen gyfoethogi gwyliau'r ysgol yn parhau hefyd, a'r gronfa cymorth dewisol reolaidd yr ydym ni'n ei rhedeg. Yr holl bethau hyn rydym ni'n ei wneud yn nannedd 14 mlynedd o gyni cyllidol Ceidwadol, pan fo'n cyllideb yn y tair blynedd ddiwethaf wedi cael ei lleihau dros £700 miliwn mewn termau real. Meddyliwch am yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud, meddyliwch am faint yn fwy y gallem ni ei wneud gyda gwahanol Lywodraeth ar draws y DU sy'n rhannu ein gwerthoedd.

Mae John Griffiths yn gofyn cwestiwn diddorol iawn yma, ond y gwir amdani yw nad oes llawer wedi cael ei gyflawni gan y Llywodraeth bresennol hon mewn gwirionedd, ac mae wedi cael ei gadael yn gloff gan sgandalau diddiwedd y Prif Weinidog. Mae cynorthwyo aelwydydd incwm isel ledled Cymru, rwy'n siŵr, yn un o'r nifer o feysydd yr hoffai'r Llywodraeth Lafur hon wneud mwy yn eu cylch, ond, yn anffodus, mae'r holl sylw wedi cael ei arallgyfeirio at frwydo'r achosion dadleuol sy'n llyncu'r Prif Weinidog. Rydym ni wedi cael rhodd amheus gan lygrydd a gafwyd yn euog, dileu ymddangosiadol negeseuon COVID, diswyddo Gweinidog hefyd ynghylch gollyngiad honedig, a, dim ond y penwythnos hwn, rhoddwyd ergyd arall i hygrededd y Prif Weinidog, wrth i raglen ddogfen Channel 4 ddatgelu bod y cwmni a roddodd £200,000 i ymgyrch arweinyddiaeth y Prif Weinidog dan amheuaeth o osgoi talu treth. Gadewch i ni beidio ag anghofio bod y Prif Weinidog wedi colli pleidlais o ddiffyg hyder. Mae hyn yn wirioneddol anhygoel ar gyfer y 100 diwrnod cyntaf yn y swydd. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi bod y sgandalau hyn yn amlwg yn tynnu sylw Llywodraeth Cymru oddi wrth fynd i'r afael â'r materion gwirioneddol sy'n bwysig, fel cynorthwyo aelwydydd incwm isel ledled Cymru, a phryd ydych chi'n mynd i wneud y peth iawn ac ymddiswyddo?

Felly, os edrychwch chi ar yr hyn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd gyda theuluoedd incwm isel yma yng Nghymru, fel y dywedais, tua £5 biliwn o gymorth yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hynny'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran sut y gallwn ni gynorthwyo pobl i hawlio'r hyn sy'n perthyn iddyn nhw ac mae hefyd yn bwysig am roi arian ym mhocedi pobl—a gwnaed hyn oll yn nannedd Llywodraeth Geidwadol sydd wedi torri ein cyllideb yn olynol dros y 14 mlynedd diwethaf. Ond yn fwy na hynny, amcangyfrifir bod dros 900,000 o blant wedi cael eu rhoi mewn tlodi oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd i gyflogau pobl. Mae deng mlynedd o chwyddiant wedi digwydd yn ystod y tair blynedd diwethaf, ar lefelau arferol. Dyna'r realiti y mae teuluoedd incwm isel yn ymdrin ag ef. Argyfwng costau byw y Ceidwadwyr yw'r prif bwnc ar garreg y drws.

Ac os ydych chi wir eisiau siarad am sgandalau, yna mae heddiw yn ddiwrnod i wneud hynny, onid ydyw, Natasha Asghar? Edrychwch ar gyn-aelod o staff y Ceidwadwyr yn y Senedd, Craig Williams, wedi'i hepgor o'r diwedd fel ymgeisydd Ceidwadol—[Torri ar draws.] A gadewch i ni fod yn eglur, pe bai pêl-droediwr proffesiynol wedi gwneud bet yn y ffordd y gwnaeth Craig Williams, byddai'n cael ei wahardd o'r gêm. Dyna beth fyddai'n digwydd. Os edrychwch chi wedyn hefyd ar sgandal arall o analluedd anferth—[Torri ar draws.]

13:35

Rwyf i angen clywed y Prif Weinidog yn ei ymateb, os gwelwch yn dda. Os caf i ychydig o dawelwch. Prif Weinidog.

Os ydych chi eisiau edrych ar anallu anferth, edrychwch ar y £1.4 biliwn o gyfarpar diogelu personol heb ei ddefnyddio a gaffaelwyd dros y ffin yn Lloegr—heb ei ddefnyddio, wedi'i wastraffu. Gallai hwnnw fod wedi talu am 37,000 o nyrsys. Os ydych chi'n chwilio am sgandal, mae digon ar record y Ceidwadwyr. Dyna pam rwy'n credu y byddwch chi'n cael eich gyrru allan o'ch swyddi ar lefel y DU ar 4 Gorffennaf. Edrychaf ymlaen at bartneriaeth newydd lle bydd teuluoedd incwm isel wir yn cael eu cynorthwyo gan y Llywodraeth hon, gan weithio mewn partneriaeth newydd gyda dwy Lywodraeth Lafur sy'n cyflawni dros Gymru.

Pobl â Thiwmor ar yr Ymennydd

2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pobl â thiwmor ar yr ymennydd? OQ61353

Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi polisi ar gyfer cyflyrau canser a niwrolegol sy'n canolbwyntio ar sicrhau bod gan bobl fynediad at wasanaethau diagnostig a thriniaeth o ansawdd uchel ar gyfer cyflyrau fel tiwmorau'r ymennydd. Mae ein dull yn seiliedig ar gynorthwyo sefydliadau'r GIG i ddarparu gofal yn unol â safonau clinigol.

Diolch am yr ateb.

Bydd llawer ohonom ni yma yn adnabod yr enw Molly Fenton a'i hymgyrch Love your Period, a oedd â'r nod o leihau'r stigma ynghylch y mislif a thlodi mislif. Fodd bynnag, ni fydd llawer yn gwybod bod Molly yn byw gyda thiwmor ar yr ymennydd ac fe'i gwnaed yn llysgennad ifanc yng Nghymru ar gyfer yr elusen Brain Tumour Support. Mae llawer o bobl, fel Molly, yn aml yn cael diagnosis o diwmor ar yr ymennydd ac yn mynd trwy brofiad diagnosis maith ac weithiau heb gymorth. Mae llawer o bobl yn y gymuned tiwmor yr ymennydd yn ymweld â'u meddyg teulu sawl gwaith cyn cael eu hanfon am atgyfeiriad, ac yn aml yn cael diagnosis anghywir. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella amseroedd diagnosis i'r rhai y mae tiwmorau'r ymennydd yn effeithio arnyn nhw?

Diolch am y cwestiwn. Hoffwn ddechrau trwy gydnabod yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud am Molly Fenton. Mae hi'n ferch ifanc wefreiddiol iawn. Gwnaeth ei gwaith ar urddas mislif argraff fawr arnaf i, ac mae hwnnw'n waith yr ydym ni wedi gallu ei gefnogi drwy'r Llywodraeth. Rwy'n ymwybodol ei bod yn byw gyda thiwmor ar yr ymennydd, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod profiad bywyd pobl fel Molly yn cael ei gymryd i ystyriaeth gan ein byrddau iechyd i ddeall beth arall y gallan nhw ei wneud nid yn unig i wella canlyniadau clinigol, ond profiad yr unigolyn sy'n mynd drwy'r daith. Felly, os nad yw Molly wedi cael y cyfle i siarad â'r bwrdd iechyd, rwy'n siŵr y byddai'r Aelod, neu mewn sgwrs gyda mi neu Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, eisiau gwneud yn siŵr bod cyfle i ddysgu o'i phrofiad.

Mae'r darlun ehangach gyda thiwmorau'r ymennydd mewn gwirionedd yn un lle gallwn ni gael nodi symptomau ac ymlaen at driniaeth bendant yn gynt na rhai mathau eraill o ganser. Ledled Cymru, dros 90 y cant sydd o fewn yr amser aros disgwyliedig. Yr her, fodd bynnag, yw cyrraedd y pwynt o gael diagnosis, deall yr hyn sydd wedi digwydd, oherwydd yn aml gall y symptomau effeithio ar gyflyrau eraill hefyd. Felly, rydym ni'n bodloni'r targed amseroedd aros fel mater o drefn ac mae gennym ni hefyd ganolfannau rhagoriaeth wedi'u hachredu gan Tessa Jowell Brain Cancer Mission yn y gogledd ac yn y de. Dyma hefyd lle'r ydym ni wedi ymrwymo i gyflwyno hyfforddiant pellach, ond hefyd ceir y buddsoddiad yr ydym ni eisoes wedi ei wneud yn ein canolfannau diagnostig cyflym, lle mae meddyg teulu yn amau canser ond nad yw'r symptomau'n eglur. Mae hwn yn bwynt am sut rydym ni'n addysgu ac yn dod â'n gweithlu gyda ni sy'n bodoli yn ogystal â'r gweithlu newydd. Mae'n fater o sut rydym ni'n buddsoddi mewn galluoedd diagnostig newydd, ac mae hefyd yn fater o wrando ar y claf a dysgu ganddo am yr hyn y mae'n ei weld, yr hyn y mae'n ei deimlo a'r hyn y mae'n cael profiad ohono. Felly, fel y dywedais, rwy'n credu ei bod yn gadarnhaol iawn cydnabod taith Molly ei hun, ac i ddysgu o honno'n uniongyrchol, ac i'r gweddill ohonom ni hefyd.

13:40

Diolch, Julie, am godi'r mater pwysig hwn. Prif Weinidog, y peth gorau y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gynorthwyo pobl â thiwmorau'r ymennydd yw sicrhau eu bod nhw'n cael diagnosis cynnar a thriniaeth gyflym, fel yr ydych chi wedi ei ddweud eisoes. Mae ymchwil canser a'r byd academaidd yn chwilio am driniaeth well a gwellhad, ond mae'n disgyn i'r Llywodraeth sicrhau'r cyfleoedd gorau i oroesi i'r rhai sy'n datblygu tiwmorau o'r fath, ac yn hyn rydym ni'n methu. Rydym ni wedi gweld cynnydd o tua 40 y cant i nifer yr achosion o diwmorau'r ymennydd cynradd dros y 30 mlynedd diwethaf. Prin fod cyfraddau goroesi cleifion tiwmor yr ymennydd wedi gwella dros y cyfnod hwnnw, ac mae'r cyfraddau goroesi ar gyfer y tiwmorau mwyaf ymosodol yn parhau i fod tua 10 y cant, ac yn ddiweddar mae'n ymddangos bod prinder yn y gweithlu diagnostig. Yn ôl adroddiad diweddar gan Goleg Brenhinol y Radiolegwyr, ceir diffyg syfrdanol o 34 y cant o radiolegwyr clinigol, a diffyg o 12 y cant o oncolegwyr clinigol. Os na chymerir camau ar unwaith, rhagwelir y bydd diffygion gweithlu ym meysydd radioleg glinigol ac oncoleg glinigol yn codi i 28 a 38 y cant. Rhagwelir y bydd hynny, erbyn 2028, y diffyg mwyaf ym mhob un o bedair gwlad y DU. Felly, Prif Weinidog, pa gamau brys ydych chi'n eu cymryd i fynd i'r afael â phrinderau ym meysydd radioleg ac oncoleg glinigol? Diolch.

Rwy'n credu efallai fod dau bwynt gwerth eu crybwyll cyn i mi wedyn ddod at y pwynt ynglŷn â dyfodol y gweithlu. Y llynedd, fe wnaethom ni weld dros 94 y cant o bobl â chanserau'r ymennydd a'r system nerfol ganolog o fewn ein targed o amheuaeth i driniaeth ddiffiniol gyntaf, felly, mewn gwirionedd, mae honno'n ganran gyffredinol sy'n perfformio'n uchel iawn. Nid yw'n golygu, os ydych chi'n rhywun ar ben anghywir hynny, nad yw honno'n sefyllfa anodd iawn, a hyd yn oed os cewch chi eich cyfeirio a'ch trin o fewn ein hamser targed, nid yw'n golygu nad yw'n brofiad anodd o bosibl. Dyna pam wnes i'r pwynt am ganlyniadau clinigol, ond hefyd am brofiad yr unigolyn. O ran canlyniadau, yn yr astudiaeth ddiwethaf a gynhaliwyd dros gyfnod sylweddol o amser, dangosodd welliant o 13 pwynt canran mewn goroesiad net am flwyddyn. Felly, rydym ni'n gwella; yr her yw faint yn gyflymach y gallwn ni gyflawni gwelliant yn y dyfodol. Mae hynny'n dibynnu ar barhau i fuddsoddi yn yr offer, felly mae'r pwynt am ddelweddu, ac, wrth gwrs, mae gennym ni academi ddelweddu yng Nghymru, ac rydym ni'n parhau i fuddsoddi yn yr offer diagnostig a delweddu newydd hwnnw, ond, yn fwy na hynny, mae'r academi ddelweddu sydd wedi cael ei chreu mewn gwirionedd yn ymwneud â sut rydym ni'n hyfforddi ac yn cadw ein staff.

Nawr, yn ddiweddarach heddiw, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn gwneud datganiad ar hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Rydym ni wedi buddsoddi'n gyson, dros nifer o flynyddoedd, mewn hyfforddi'r nifer fwyaf posibl o staff y gall ein system eu hyfforddi yma yng Nghymru, ac mae hynny'n dod â rhai manteision. Yr her yw bod y galw yn cynyddu ar raddfa mor sylweddol. Mae angen i ni barhau i fuddsoddi yn y gweithlu, yn y bobl sydd angen gwneud y gwaith, gan weld ar yr un pryd lle ceir mwy o adnoddau i allu gwneud hynny'n fwy llwyddiannus. Mae'n cymryd amrywiaeth eang o feysydd. Mae'n rhan o'r rheswm pam, pan fyddwch chi'n meddwl am y darn cyfan, rwy'n falch iawn bod y Llywodraeth hon yn mynd i ddarparu ysgol feddygol newydd ym Mangor o'r hydref hwn gyda'i derbyniad cyntaf. Mae hwn yn gam mawr ymlaen i bob un ohonom ni. Mae'n cymryd blynyddoedd i gyrraedd y pwynt dylunio, blynyddoedd i wneud y ddadl, ac yna'r buddsoddiad ariannol sylweddol. Byddwn yn elwa, fodd bynnag, ar yr enillion hynny, yn ogystal â'r gwaith ehangach yr ydym ni'n ei wneud yn y gweithlu cyfan. Fel erioed, mae hynny'n cymryd adnoddau, ac rwy'n gobeithio y bydd gennym ni sylfaen adnoddau fwy yn ystod tymor Senedd nesa'r DU i gyflawni hynny.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau gan arweinwyr y pleidiau nawr. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ddydd Gwener, darlledodd Dispatches, rhaglen ymchwilio ar Channel 4, raglen a ddatgelodd rai agweddau gofidus iawn ar safle tipio Withyhedge yn y gorllewin. Roedd ganddyn nhw wybodaeth fewnol a roddwyd iddyn nhw gan dystion a oedd wedi gweithio ar y safle ac a oedd wedi gweithio i Dauson Environmental hefyd, ac roedd ganddyn nhw dystiolaeth fideo hefyd i gefnogi tystiolaeth lafar a roddwyd i'r rhaglen. Rwy'n deall bod y Gweinidog wedi cyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnal adolygiad o'r hyn y maen nhw wedi ei gasglu hyd yn hyn. [Torri ar draws.] Nid yw hwnna'n gwestiwn amhriodol, y mae fy nghyd-Aelod o Breseli Sir Benfro yn ei ddweud wrth fy ochr: ble maen nhw wedi bod? Llwyddodd rhaglen ddogfen Channel 4 i gael tystiolaeth lafar a fideo o gamymarfer ar y safle hwn, ac eto bu'n rhaid i'r trigolion nesaf at y safle ddioddef dros chwe mis o amodau annioddefol sy'n niweidiol i'w hiechyd. Felly, gyda'r adolygiad hwn bellach wedi'i gadarnhau, beth yw eich disgwyliad o'r adolygiad hwnnw? Beth yw'r llinellau amser adrodd ar ei gyfer, ac, yn bwysig, pam nad yw'r rheoleiddiwr wedi cymryd camau mwy cadarnhaol?

13:45

Felly, er mwyn osgoi amheuaeth, rwy'n tynnu sylw eto at fy nghofrestr o fuddiannau. O ran y camau y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu cymryd yn Withyhedge, rwyf i wedi bod yn eglur iawn yn y Siambr hon a thu hwnt bod angen iddyn nhw weithredu fel y rheoleiddiwr yn ddiduedd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi gofyn am sicrwydd trwy uwch swyddog ynghylch y camau y maen nhw wedi eu cymryd yn y gorffennol, yn ogystal â'r camau y maen nhw'n eu cymryd nawr, ac mae hynny'n cynnwys gweithredwr blaenorol y safle yn ogystal â'r un presennol. A'r pwynt am y ddau fater ar wahân—. Yr un am faterion ansawdd aer, lle ceir monitro y talwyd amdano gan y gweithredwr ond sy'n cael ei weithredu a'i sicrhau'n annibynnol, ac mae hynny wedi'i gyhoeddi'n agored—fel y dylai—i ddeall a yw'r camau adfer yn llwyddiannus, a dyna'r pwynt, bod gweithredwr y safle yn ymdrin yn briodol â gofynion y rheoleiddiwr a bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn sicr o hynny. Ac yna hefyd mae'n fater o'r sicrwydd yr ydym ni wedi ei geisio—sef y mater ar wahân sydd wedi cael ei godi yn y rhaglen ddogfen—sy'n ymwneud â pha un a yw eitemau priodol yn mynd i safleoedd tirlenwi. Ac eto, y sicrwydd a geisiwyd yw hyn, mewn gwirionedd, os codwyd cwynion blaenorol gyda'r rheoleiddiwr, beth sydd wedi digwydd, pa gamau sydd wedi cael eu cymryd, ac i roi sicrwydd, pa un a yw'r rhain yn faterion etifeddol neu'n faterion cyfredol, eu bod nhw wedi cael eu datrys yn iawn. Dyna fy nisgwyliad eglur, a dywedaf eto: dyna fyddai fy nisgwyliad ni waeth ble mae safle tirlenwi yn gweithredu. Rwyf i eisiau gweld camau yn cael eu cymryd o fewn amserlen a bennir gan y rheoleiddiwr cyn gynted â phosibl, gyda'r sicrwydd yn ofynnol bod y camau hynny yn effeithiol i ymdrin â'r heriau a nodwyd gan y rheoleiddiwr.

Rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn poeni o beidio â deall pam nad yw'r Llywodraeth yn gyrru hyn ac yn rhoi llinell amser ar yr ymchwiliad hwn. Nid yw hynny'n afresymol yma, oherwydd bu'n rhaid i drigolion ddioddef bod yn gorfforol sâl gan fod y drewdod mor ddrwg. A allwch chi ddychmygu hynny, Prif Weinidog? Deffro yn y bore yn eich cartref eich hun ac mae'r drewdod o'r tu allan mor ofnadwy eich bod chi'n gorfforol sâl, ac eto allwch chi weld dim diwedd i hynny, felly rydych chi'n mynd drwy'r diwrnod wedyn a'r diwrnod wedyn a'r diwrnod wedyn. Felly, rydych chi'n sôn am fonitro annibynnol wedi'i dalu gan y cwmni—. Mae gennym ni dystiolaeth ffisegol a fideo yma o'n blaenau o'r rhaglen Dispatches hon, ac rwy'n talu teyrnged i'r sgiliau newyddiadurol ymchwiliol a ddangoswyd gan y gohebwyr yn y rhaglen honno. Mae'r Llywodraeth wedi comisiynu, o ddydd Gwener, fel rwy'n deall—dydd Sadwrn, mae'n ddrwg gen i—ar ôl y rhaglen hon, adolygiad o'r hyn y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn ei wneud. Beth ydych chi wedi ei wneud ynglŷn â'r cyhuddiad allweddol arall a oedd yn y rhaglen Dispatches honno, sef bod llwythi yn cael eu cymysgu fel y bydden nhw'n osgoi'r dreth tirlenwi, sy'n rhywbeth eto y mae Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gyfrifol amdano? Nid ydym ni'n siarad am geiniogau yma; rydym ni'n siarad o bosibl am ddegau o filiynau o bunnau, talu £3 mewn treth, yn hytrach na mwy na £100 mewn treth. Roedd tystiolaeth uniongyrchol yn y rhaglen honno gan gyn-weithiwr. A ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau fel Llywodraeth gydag Awdurdod Cyllid Cymru i ddeall maint yr hyn a ddatgelir yma yn y rhaglen hon, a pha gyfarwyddyd ydych chi wedi ei roi fel Llywodraeth i Awdurdod Cyllid Cymru ymchwilio i hyn a dod â'r anghysondeb hwnnw i ben?

Diolch i'r Aelod am y ddau gwestiwn yna. Mae'n bwysig rhoi un neu ddau o faterion ar y cofnod. Y cyntaf yw i ddychwelyd i'r adeg y gofynnwyd am y datganiad o sicrwydd gan uwch swyddog Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Roedd hynny yn ystod y cyfnod pan oedd gwneuthurwyr y rhaglen ddogfen yn gwneud gwaith ymchwil, ac fe wnaeth hynny wedyn achosi i swyddog Huw Irranca-Davies geisio sicrwydd ynghylch problemau posibl y tynnwyd sylw Cyfoeth Naturiol Cymru atyn nhw fel y rheoleiddiwr. Ac mae hynny'n gwbl briodol. Nid yw'n briodol i'r Llywodraeth weithredu yn lle y rheoleiddiwr, ond i geisio sicrwydd ynghylch yr hyn y mae'n ei wneud, pryd a sut, ac rwy'n credu bod hynny'n gwbl briodol.

O ran yr ail fater a godwyd gennych chi, nad oeddwn i'n ymwybodol ohono yn sicr, ac nid wyf i'n credu bod unrhyw aelod o'r Llywodraeth yn ymwybodol ohono tan i'r rhaglen ddogfen gael ei darlledu, ynghylch a fu awgrym ynghylch y defnydd amhriodol o safleoedd tirlenwi ac yna problemau gydag Awdurdod Cyllid Cymru, mae gan Awdurdod Cyllid Cymru amrywiaeth o bwerau i ymchwilio a sicrhau bod gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn talu'r swm cywir o dreth. Fodd bynnag, crëwyd Awdurdod Cyllid Cymru gan y Senedd, ac mae ganddo ddyletswydd gyfreithiol o gyfrinachedd. Dyna wnaethom ni ei gytuno, ac mae hynny'n safonol ar gyfer cyrff trethiant; mae'r un peth yn wir am CThEF. Felly, ni all ac ni ddylai'r Llywodraeth allu cyfarwyddo Awdurdod Cyllid Cymru i ymchwilio i faterion treth unrhyw unigolyn ac—mae hyn yn bwysig hefyd—ni all Gweinidogion gyfarwyddo Awdurdod Cyllid Cymru i beidio ag ymchwilio i faterion treth unigolyn. Mae gan yr awdurdod cyllid ddyletswydd gyfreithiol o gyfrinachedd. Ni allan nhw ddweud wrthym ni pwy sy'n destun ymchwiliad neu ddim. Felly, mater iddyn nhw yw ymgymryd â'r gweithgarwch hwnnw, yn gweithio gyda phartneriaid eraill, gan gynnwys, wrth gwrs, rheoleiddwyr perthnasol a chyrff gorfodi eraill, ac, os ydyn nhw'n mynd i weithredu, byddwn ni'n gwybod amdano pan fyddan nhw'n dechrau cymryd camau hefyd.

Mae gwahanu pwerau a buddiannau yn bwysig iawn i sicrhau nad oes unrhyw amhriodoldeb yn y trefniant rhwng Gweinidogion ac o bosibl cyfarwyddo ymchwiliad mewnwthiol i faterion treth. Rwy'n credu y byddai'n neges iasol pe bai unrhyw Weinidog yn y Llywodraeth hon neu unrhyw Lywodraeth arall yn gallu cyfarwyddo'r awdurdod treth i roi sylw penodol, neu i beidio â rhoi sylw penodol, i drethdalwr. Rwy'n eglur y dylai'r rheoleiddwyr yn y mater hwn neu unrhyw fater arall gyflawni eu dyletswydd yn ddiduedd, i edrych ar y dystiolaeth, ac, os ceir tystiolaeth newydd, dylai fod ganddyn nhw ddiddordeb yn honno i ddod i'w casgliadau eu hunain ynghylch y camau y dylid eu cymryd. Mae'r gwahaniad mewn pwerau rhwng Gweinidogion a rheoleiddwyr a chyrff gorfodi hyd braich yno i amddiffyn pob un ohonom ni. Rwyf eisiau iddo gael ei wneud cyn gynted â phosibl, ond rwyf eisiau iddo gael ei wneud yn iawn, ac rwy'n siŵr y byddai'r holl drigolion ledled Cymru yn dweud yr un peth.

13:50

Rwy'n deall gwahaniad pwerau, ac mae hynny'n bwysig, yn hanfodol bwysig mewn democratiaeth. Ond, fel y gwnaethoch chi ei amlygu, pasiwyd y ddeddfwriaeth gan y Senedd hon i godi refeniw ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Clywsom Weinidogion yn dweud drwy'r amser mai ar gyfer hyn y mae'r cyfrwng hwn yn cael ei ddefnyddio pan oedden nhw'n dod â chynigion trethiant newydd ger ein bron. Pan fo gennych chi dystiolaeth mor amlwg o achos o osgoi treth, y cwbl rwy'n ei wneud yw ceisio deall, hyd at ddarllediad y rhaglen hon, a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw beth. Nid wyf i'n credu ei bod hi'n afresymol ceisio gofyn hynny, gan mai chi, fel y Weithrediaeth, sy'n gyfrifol am y refeniw a'r gwariant, ac rwy'n credu fy mod wedi casglu o'r ateb a roddwyd gennych nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw beth. Dydyn nhw ddim wedi gwneud dim byd o gwbl, a gwelir hynny hefyd o ran y bobl druan sy'n byw o amgylch y domen hon sydd wedi gorfod dioddef wythnosau ac wythnosau, misoedd ar fisoedd o amodau amgylcheddol annioddefol yn y gorllewin. Ond ai dyna'r pwynt, Prif Weinidog, nad oes ots, gan ei fod yn y gorllewin? Pa hyder allwch chi ei roi eich bod chi â gafael ar y mater hwn, eich bod chi'n ymdrin ag ef a'ch bod yn arwain yr ymateb iddo drwy'r asiantaethau rheoleiddio—gyda'u gwahaniad o gyfrifoldebau, rwy'n deall hynny? Ond pan all dau newyddiadurwr ddatgelu tystiolaeth ddamniol o'r fath mewn cyfnod mor fyr, beth ar y ddaear mae'r Llywodraeth wedi bod yn ei wneud a'r rheoleiddwyr yn arbennig wedi bod yn ei wneud i amddiffyn trigolion y gorllewin?

Rwy'n credu bod dau neu dri mater yn y fan yna i ymateb iddyn nhw. Y cyntaf yw, ar weithrediad y safle, mae camau'n cael eu cymryd, ac rydych chi'n ymwybodol o hynny o ran Iechyd Cyhoeddus Cymru, y cyngor y maen nhw wedi ei roi, y monitro priodol o'r hyn sy'n dod o ran ansawdd aer, ac mae'n rhaid asesu hynny'n wrthrychol a'i gyhoeddi. Mae'n fater hefyd wedyn o'r gwaith rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru fel y rheoleiddiwr, ac, yn wir, ymgysylltiad yr awdurdod lleol. Yr hyn y mae angen iddo ddigwydd, fel sydd wedi digwydd yn yr achos hwn, mae angen i Cyfoeth Naturiol Cymru benderfynu beth yw'r camau cywiro. Mae angen i bwy bynnag yw gweithredwr y safle weithredu ar hynny yn unol â'r amserlen; yna mae angen iddyn nhw ddeall a yw hynny wedi datrys y broblem a nodwyd. Os nad yw, mae angen iddyn nhw gymryd camau pellach. Dyna sy'n digwydd yma, a dyna ddylai ddigwydd yn unrhyw le yng Nghymru. Rwyf i eisiau gweld y problemau'n cael eu datrys i drigolion nid yn unig yn y gorllewin, ond ym mhob rhan o Gymru. Ac os edrychwch chi ar hanes safleoedd tirlenwi, mae llawer o gymunedau wedi wynebu heriau ynghylch y ffordd y mae safleoedd tirlenwi wedi cael eu gweithredu ac y bu angen eu gwella. Yn gyffredinol, mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru hanes da i'w adrodd am yr hyn y maen nhw wedi ei wneud i helpu i gyflawni'r gwelliant hwnnw fel rheoleiddiwr. Rydym ni, drwy'r Ysgrifennydd Cabinet, wedi gofyn yn gwbl briodol am sicrwydd ynghylch materion cyfredol a hanesyddol, a dyna'r peth iawn i'w wneud.

O ran, rwy'n credu, y pwynt ehangach am safleoedd tirlenwi, mewn gwirionedd, mae hwn yn hanes o lwyddiant ers datganoli. Ym 1998, roedd 95 y cant o'n gwastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi; 1.6 y cant yw'r ffigur erbyn hyn. Yr her nawr yw beth arall y gallwn ni ei wneud nid yn unig i fod yr ail wlad ailgylchu orau yn y byd, ond yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i leihau ymhellach nifer y safleoedd tirlenwi a sicrhau gweithrediad priodol unrhyw safleoedd tirlenwi gweithredol yn unrhyw le yn y wlad.

A phan ddewch chi'n ôl at dystiolaeth amlwg o ddrygioni—ac rwy'n credu bod hwnnw'n ymadrodd diddorol i Geidwadwr ei ddefnyddio—rwy'n credu y byddai'n beth da i chi edrych arnoch chi eich hun ac amrywiaeth o broblemau o fewn eich plaid eich hun—[Torri ar draws.] Ac rwy'n credu—[Torri ar draws.] Ac rwy'n credu—

13:55

Mae angen i mi glywed y Prif Weinidog, os gwelwch yn dda. [Torri ar draws.] Mae'r Prif Weinidog yn ymateb i'r cwestiwn. Nawr, y Prif Weinidog i gwblhau ei ymateb, os gwelwch yn dda.

Rwy'n credu, wrth edrych ar dystiolaeth, ei bod hi'n bwysig bod y bobl sydd â chyfrifoldeb am wneud hynny yn edrych ar beth bynnag yw'r dystiolaeth, fel y dywedais. Mae angen i'r rheoleiddwyr, ble bynnag y maen nhw, weithredu'n ddiduedd, ar sail y dystiolaeth sydd ar gael iddyn nhw, ac mae'n rhaid i chi barchu'r ffaith nad yw'r awdurdod cyllid mewn sefyllfa—ac ni ddylen nhw fod—i rannu gwybodaeth gyda'r Llywodraeth am unrhyw ymchwiliad y maen nhw'n ei gynnal. Mae angen iddyn nhw gymryd y camau hynny, ac felly hefyd Cyfoeth Naturiol Cymru yn wir, pan ddaw i'w cyfrifoldebau eu hunain.

Diolch, Llywydd. Rydym ni o fewn wythnos ac ychydig i'r etholiad cyffredinol erbyn hyn. Mi allwn ni fod yn reit siŵr, dwi'n meddwl, mai Syr Keir fydd y Prif Weinidog, ond dyw hi ddim mor glir beth ddaw wedyn.

Mae Syr Keir yn defnyddio'r gair 'newid' yn aml, onid yw e, a Duw a ŵyr, mae angen i ni gael gwared ar y Llywodraeth hon yn y DU. Ond mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn rhoi rheswm i ni gredu na fyddai newid yn llawer mwy na slogan ymgyrchu o ran hanfodion Llywodraeth dan Lafur. Mae'r Sefydliad wedi taro Llafur a'r Torïaid gyda chyhuddiadau o gynnig fawr mwy nag uwd tenau, neu wactod gwybodaeth, neu gynllwyn o dawelwch ynghylch eu cynlluniau treth a gwariant. Felly, pan fydd Syr Keir yn siarad am yr etholiad hwn fel y foment yr ydym ni wedi bod yn aros amdani, rwy'n dal i aros am y foment honno pan fo ychydig mwy o onestrwydd, yn enwedig am yr hyn y mae hyn oll yn ei olygu i Gymru.

Nawr, gyda galwadau Plaid Cymru am gyllid teg, a hyd yn oed galwadau Aelodau Llafur am gyllid teg, yn syrthio ar glustiau byddar Llafur y DU, a yw'r Prif Weinidog wir yn hapus i groesi bysedd a gobeithio am y gorau, oherwydd rwy'n credu bod mwy yn y fantol na hynny?

Rwy'n credu bod tri phwynt y byddwn i'n eu gwneud. Y cyntaf yw bod y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn cydnabod bod angen meddwl nid yn unig am drethiant ond twf yn yr economi, sy'n her wirioneddol. Os ydych chi'n mynd i neilltuo cymaint o werth i'r hyn y mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn ei ddweud, bydd gennych chi, wrth gwrs, ddiddordeb yn yr hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud am faniffesto Plaid Cymru, lle mae'n dweud nad ydych chi'n onest am gostau eich maniffesto eich hun a'ch amcanion yn y pen draw. Yr ail bwynt y byddwn i'n ei wneud yw fy mod i'n disgwyl y bydd Llywodraeth Lafur yn y DU yn y dyfodol, os dyna fydd pobl yn pleidleisio drosti, yn deg ynghylch Barnett a symiau canlyniadol Barnett.

Rhan fawr o'n her fu osgoi symiau canlyniadol Barnett yn fwriadol mewn amrywiaeth eang o feysydd. Bu diwydiant yn Nhrysorlys y DU o geisio osgoi darparu symiau canlyniadol priodol o ddewisiadau a wnaed. Rwy'n disgwyl perthynas hollol wahanol, os cawn ni weinyddiaeth Lafur yn y DU, nid yn unig ar hyn, ond yn y ffordd y mae buddiannau Cymru yn cael eu parchu a'u diogelu mewn gwirionedd, gyda datganoli yn cael ei ddatblygu, gydag ymgysylltu'n rheolaidd â Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig. Byddwch yn cofio, ar ddechrau argyfwng Tata, nad oedd Prif Weinidog y DU yn fodlon codi'r ffôn i siarad â Mark Drakeford am y ffaith fod mwy na 2,800 o swyddi yn y fantol. Bydd gennym ni, os cawn ni Lywodraeth Lafur y DU, gyngor o genhedloedd a rhanbarthau, gyda Phrif Weinidog y DU a fydd yn cyfarfod yn rheolaidd â Phrif Weinidogion ar draws y DU, beth bynnag fo'u cefndir gwleidyddol, ac, yn wir, meiri metro ledled Lloegr—perthynas wahanol iawn ac i'w chroesawu sy'n parchu ac yn cydnabod datganoli.

Y pwynt olaf y byddwn i'n ei wneud yw, os yw pobl eisiau gweld newid, mae angen iddyn nhw bleidleisio drosto. Nid yw wedi'i sicrhau. Rwyf i eisiau nid yn unig llais o brotest o Gymru. Rwyf i eisiau anfon Llywodraeth i San Steffan, nid band bach o brotestwyr. Dyna'r hyn yr ydym ni'n ymladd drosto. Dyna sydd ar y papur pleidleisio.

14:00

Wel, mae'n rhaid i rywun godi llais dros Gymru, achos yn sicr nid yw ASau Llafur yn San Steffan yn gwneud hynny, mae'n ymddangos. Mae'n anodd iawn gwneud y ddadl dros symiau canlyniadol ar gyfer prosiect y mae llefarydd Llafur dros Gymru yn credu nad yw'n bodoli, i ddechrau. Ceir teimlad gwirioneddol yma na wnaiff Keir Starmer hyd yn oed godi'r ffôn i siarad ag arweinydd ei swyddfa gangen yng Nghymru.

Nawr, mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid hefyd wedi cymryd golwg agos ar gynlluniau'r Torïaid a Llafur ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant. Maen nhw'n cyfeirio at addewid Llafur i

'ddatblygu strategaeth uchelgeisiol i leihau tlodi plant'.

A dylwn eich atgoffa bod Llafur yng Nghymru wedi addo ar un adeg i ddileu tlodi plant, dim ond i gefnu ar y targed yn ddiweddarach. Ond mae cymaint o elusennau tlodi, wrth gwrs, yn rhybuddio bod datgysylltiad enfawr rhwng addewid Llafur nawr i fynd i'r afael â thlodi plant a'u gwrthodiad i ddileu cap budd-dal dau blentyn y Torïaid. Maen nhw'n dweud bod yn rhaid i godi'r cap fod yn gwbl ganolog i unrhyw strategaeth. Fe wnaf i ddyfynnu gan un ohonyn nhw yn unig, y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, sydd wedi dweud:

'Bydd yn rhaid i unrhyw lywodraeth sydd o ddifrif am wneud pethau'n well i'r genhedlaeth nesaf gael gwared ar y terfyn dau blentyn'.

Nawr, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â nhw, neu gyda phenderfyniad Syr Keir i ddilyn y Torïaid ar hyn? Neu a yw'n credu bod hwn yn un maes lle gallai Llafur y DU ddilyn esiampl Llafur yng Nghymru a chefnu'n gyfleus ar unrhyw dargedau pan na fyddan nhw'n cael eu cyrraedd?

Eto, pan fyddwch chi'n dychwelyd i ble'r ydym ni, mae lleihau tlodi plant yn rhywbeth y mae gennym ni hanes balch ohono yn ein Llywodraeth Lafur ddiwethaf yn y DU. Cafodd dros 0.5 miliwn o blant eu codi allan o dlodi trwy ddewisiadau bwriadol a wnaed gan Lywodraeth Lafur ddiwethaf y DU. Roedd cyflwyno'r system credyd treth—ailddosbarthu bwriadol ac eglur tuag at deuluoedd â phlant, a wnaeth i waith dalu ac a wnaeth yn siŵr bod rhieni mewn gwaith â phlant yn cael eu cynorthwyo—yn llwyddiant ysgubol, sydd wedi cael ei ddadwneud yn raddol gan y 14 mlynedd diwethaf o arweinyddiaeth y Ceidwadwyr ar draws y DU.

Bydd gennym fryn sylweddol i'w ddringo nawr i adfer y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Lafur ddiwethaf y DU, ac i fynd ymhellach. Rwy'n falch bod ymgeiswyr Llafur Cymru yn sefyll ar sail maniffesto sydd ag ymrwymiad i leihau tlodi plant, ac mae hynny'n cynnwys ymrwymiad i adolygu ein system fudd-daliadau. Adolygiad nid yn unig o gredyd cynhwysol, ond deall sut mae gwahanol rannau o'r system fudd-daliadau honno yn rhyngweithio, nid addewidion unigol mewn un rhan—. Rydym ni eisiau adolygu sut mae'r system gyfan yn gweithio a deall y llanastr llwyr y byddai Llywodraeth Lafur y DU yn y dyfodol yn ei etifeddu ar ôl y Torïaid.

Ac rwy'n dychwelyd at yr hyn a ddywedais mewn cwestiwn cynharach: ceir canlyniadau enfawr o wastraffu £1.4 biliwn ar gyfarpar diogelu personol, nid yn unig o ran gallu mewn Llywodraeth, ond yr hyn y gallai'r arian hwnnw fod wedi talu amdano. Rydym ni bellach mewn sefyllfa lle mae'r arian hwnnw wedi cael ei losgi a'i wastraffu. Bydd yn rhaid i ni adfer sefyllfa lle, mewn gwirionedd, mae economi'r DU wedi bod yn swrth, ac mae hynny'n effeithio ar nifer y plant sy'n byw mewn tlodi, gan nad yw cyflogau wedi codi. Mae argyfwng costau byw y Torïaid wedi gyrru mwy o blant i dlodi. Mae'r holl bethau hyn ar yr agenda. Dyna pam mae angen newid taer arnom ni ar lefel y DU. Dyna pam y dylai pobl bleidleisio dros newid, ac unwaith eto rwy'n dweud: nid yw'n ymwneud ag anfon neges gan lond llaw o bobl i San Steffan. Mae hyn yn ymwneud ag anfon Llywodraeth i San Steffan a fydd wir yn gwneud gwahaniaeth go iawn i blant a theuluoedd ledled ein gwlad. Rwy'n falch o gefnogi a sefyll ar sail y maniffesto hwnnw.

Gwrandewch, bydd Syr Keir Starmer yn dod yn Brif Weinidog ni waeth sut mae Cymru'n pleidleisio. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod gennym ni bobl yn San Steffan a fydd yn sefyll dros fuddiannau pobl Cymru. Dylai unrhyw un sy'n cydnabod creulondeb y cap dau blentyn fod yn gwneud addewid pendant i gael gwared ar y polisi Torïaidd creulon hwnnw. Mae Llafur yn gwrthod gwneud hynny.

Sefydliad uchel ei barch arall sydd wedi cynnal dadansoddiad manwl o addewidion Llafur yw Ymddiriedolaeth Nuffield. Maen nhw'n nodi, ac rwy'n dyfynnu eto

'y byddai'r cynnydd a nodir yn y maniffesto hwn yn gyfystyr â chynnydd termau real blynyddol o ddim ond 1.1% o'i ychwanegu at yr 1% o wariant refeniw blynyddol ychwanegol ar y prosiectau OBR'.

Byddai hynny, medden nhw, yn ein gadael â'r cyfnod tynnaf o gyllid yn hanes y GIG. Maen nhw'n rhybuddio

'Byddai hyn yn arafiad digynsail i gyllid y GIG, ac mae'n annirnadwy y byddai'n cyd-fynd â'r adferiad dramatig y mae pawb yn ei addo.'

Prif Weinidog, ai dyma oedd gennych chi mewn golwg pan wnaethoch chi ddweud, yn ôl ym mis Ebrill, eich bod chi'n chwilio am sefydlogrwydd tymor hwy gyda Llywodraeth Lafur yn y DU? Neu onid y gwir amdani yw bod cynlluniau gwariant Llafur, yn union fel rhai'r Torïaid, yn siŵr o arwain at bwysau pellach ar wariant cyhoeddus ac, o ganlyniad, ar GIG Cymru? Bydd ASau Plaid Cymru yn San Steffan yn gwneud y ddadl dros degwch cyllid. Pam na wnaiff rhai'r Blaid Lafur?

Wel, a dweud y gwir, rwy'n edrych ymlaen at Ganghellor Llafur sy'n rhan o Lywodraeth Lafur nesaf y DU, os bydd pleidleiswyr yn pleidleisio dros y Llywodraeth honno yma yng Nghymru ac ar draws gweddill y Deyrnas Unedig yn wir. Nid yn unig y mesurau uniongyrchol y byddai angen i Lywodraeth Lafur y DU eu cymryd sydd wedi cael eu nodi—cau bylchau ar gyfer pobl nad ydyn nhw'n byw yma, gwneud rhywbeth am ddadwneud y buddion treth na ellir eu cyfiawnhau y mae addysg breifat yn eu cael, buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus allweddol—ond, yn fwy na hynny, ymrwymiad i fuddsoddi yn nyfodol yr economi, y datganiad eglur y bydd oes cyni cyllidol drosodd, buddsoddi mewn cronfa gyfoeth genedlaethol a fydd yn gwneud buddsoddiad ychwanegol yn nyfodol allweddol nid yn unig Cymru ond y DU ehangach, buddsoddiad mewn porthladdoedd, mewn dur, ac yn ein sectorau adnewyddadwy, nid yn unig i wneud y peth iawn i'r blaned, ond y swyddi a fydd yn deillio ohono.

Mae'r holl bethau hynny'n bwysig, ac mae'r holl bethau hynny ar y papur pleidleisio. Rwy'n falch o gefnogi maniffesto Llafur Cymru a lansiwyd gennym ddiwedd yr wythnos diwethaf yn Sefydliad Lles Glowyr Llai. Mae'n fwy na chyllid yn unig, rydym ni'n cynnig llawer iawn mwy o ran bwrw ymlaen â datganoli, llawer iawn mwy o ran unioni camgymeriadau ein gorffennol. Dyna pam mae gennym ni ymrwymiad maniffesto i gomisiynydd Windrush, dyna pam fyddwn ni'n cyrraedd y gwir am Orgreave, pam mae gennym ni ymrwymiad i gael cyfraith Hillsborough, a dyna pam mai dim ond gyda Llywodraeth Lafur y DU y byddwn ni'n cael cyfiawnder ar warged cronfa bensiwn y glowyr. Dyna fydd ASau Llafur Cymru yn ei gyflawni. Y llais dros Gymru ar ôl yr etholiad hwn fydd ASau Llafur Cymru yn San , Aelodau Llafur Cymru'r Senedd, ac yn wir Prif Weinidog Llafur Cymru yn sefyll dros ddyfodol Cymru, dros gyllid teg, a'r dyfodol yr wyf i'n ei gredu y mae pobl yma yng Nghymru a ledled Prydain eisiau ei weld. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut y bydd pobl yn pleidleisio ar 4 Gorffennaf.

14:05
Diogelu'r Amgylchedd yng Ngogledd Cymru

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu'r amgylchedd yng ngogledd Cymru? OQ61355

Mae mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur yn dasg hanfodol i'r Llywodraeth hon, heddiw ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rhoddaf dair enghraifft yn unig i'r Aelod o gamau yr ydym ni'n eu cymryd neu yr ydym ni wedi eu cymryd: mae ein gwelliant ailgylchu sylweddol, yr ail orau yn y byd erbyn hyn, yn golygu ein bod ni'n arbed 400,000 tunnell o garbon deuocsid bob blwyddyn; rydym ni'n cymryd camau o ran afonydd i helpu i leihau llygredd, ac mae mwy i fynd; a byddwn ni'n cyflwyno Bil pwysig yn ddiweddarach yn nhymor y Senedd hon i helpu i adfer natur, gwella bioamrywiaeth, a gorfodi sancsiynau llymach am lygredd amgylcheddol.

Prif Weinidog, un o'r pethau nad yw'n helpu'r amgylchedd yn y gogledd yw'r sefyllfa echrydus sy'n wynebu pobl yn sir Ddinbych. Fel y byddwch yn gwybod, mae Cyngor Sir Ddinbych, dan arweiniad Llafur, wedi goruchwylio cyflwyniad gwbl ddi-drefn system ailgylchu newydd am gost o filiynau i drethdalwyr, y mae wedi golygu i rai trigolion nad yw eu gwastraff wedi cael ei gasglu am hyd at bum wythnos. Mae'n arwain, a bod yn blaen, at haf o anfodlonrwydd yn sir Ddinbych, gyda sbwriel sy'n pydru yn casglu ar strydoedd lleol, y mae rhai ohonyn nhw bellach, rwy'n ofni, yn atgoffa rhywun o Brydain dan arweiniad Llafur yn y 1970au. Mae hyn yn gwbl annerbyniol, mae'n arwain at blâu fel cnofilod a gwylanod yn mynd yn rhemp. Roedd y system ailgylchu biniau glas flaenorol yn sir Ddinbych yn gweithio'n dda iawn, roedd ganddi sgoriau bodlonrwydd rhagorol a sicrhaodd rai o'r cyfraddau ailgylchu uchaf yng Nghymru, yn uwch na'r rhai a sicrhawyd gan y system ailgylchu newydd mewn siroedd cyfagos eraill. Felly, a wnewch chi edrych eto ar ganllawiau ailgylchu Llywodraeth Lafur Cymru yng Nghymru a hyrwyddo systemau ailgylchu symlach, fel y system biniau glas, sy'n gweithio ac yn gwneud bywyd yn hawdd i drigolion lleol? Diolch.

Un o'n llwyddiannau sylweddol yn ystod cyfnod datganoli yw'r gwelliant sylweddol a wnaed o ran ailgylchu. Soniais yn gynharach am y ffaith bod 95 y cant o'n gwastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi ar drothwy datganoli. Mae honno'n system gwbl anghynaliadwy. Rwy'n falch o'r hyn a wnaed gan Lywodraethau olynol yma yng Nghymru, ond hefyd gan weinyddiaethau olynol mewn llywodraeth leol ledled Cymru o dan wahanol arweinyddiaethau gwleidyddol. Y bartneriaeth hirdymor honno sydd wedi cyflawni'r gwelliant sylweddol sydd bellach yn golygu mai ni yw'r ail genedl ailgylchu orau yn y byd.

I wella ymhellach, fel y mae angen i ni ei wneud o hyd, mae angen i ni wneud yn siŵr bod gennym ni welliannau pellach o ran ailgylchu. Mae hynny'n golygu llai o gymysgu gwastraff mewn casgliadau ymyl y ffordd. Mae'n golygu systemau newydd a ffyrdd newydd o gasglu'r gwastraff hwnnw. Pan edrychwch chi ar yr hyn y mae sir Ddinbych dan arweiniad Llafur yn ei wneud nawr, maen nhw'n bod yn onest ac yn gwrando ar yr hyn y mae pobl yn ei ddweud am rai o'r heriau yn y system. Maen nhw'n cydnabod bod gwelliannau i'w gwneud yn y fflyd ac yn y systemau TG i gyrraedd man lle'r ydym ni'n gwneud cam arall o welliant yn yr hyn sy'n digwydd. Mae'n rhaid gwneud hynny mewn modd aeddfed ar draws y Siambr, yn sir Ddinbych, ac ym mhob awdurdod lleol ledled y wlad.

Rwy'n credu y gallwn ni fod yn falch o'r hyn yr ydym ni eisoes wedi ei wneud yn ein gorffennol, ac yn fwy balch byth o gam nesaf y daith, oherwydd nid yw'n ymwneud ag ailgylchu yn unig, mae hefyd yn ymwneud â'r gwelliant y bydd yn ei wneud i'n heconomi. Mae deunydd ailgylchu o ansawdd uwch yn golygu bod mwy o hwnnw yn mynd yn ôl i gael ei ailddefnyddio a'i ailgylchu, mwy o fusnesau sydd eisiau sefydlu eu hunain yng Nghymru oherwydd yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, a bydd hynny'n bwysig i drigolion sir Ddinbych, yn union fel y bydd i weddill y wlad.

14:10

Rwyf i wedi bod yn gohebu â Chyngor Sir Ddinbych ac rwy'n ymwybodol eu bod nhw wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu'r sefyllfa, ac maen nhw'n ymddiheuro am y gofid a'r anghyfleustra a achoswyd i'w trigolion. Ar ôl iddyn nhw ddal i fyny a bod newid wedi cael ei ymwreiddio ymhlith y trigolion, bydd y cyfan wedi'i ddatrys.

Yn y gorffennol, fi oedd yr aelod cabinet dros wastraff ac ailgylchu yn sir y Fflint ac rwy'n ymwybodol bod casglu o filoedd o eiddo—40,000 yn sir Ddinbych—yn gydbwysedd anodd, ac os oes unrhyw darfu neu newid, fel adolygiad rowndiau, cerbyd yn torri i lawr neu unrhyw newid i gasgliadau, fel adeg y Nadolig, gall beri problemau. Mae'n gam mawr i ddidoli ymyl y ffordd ddigwydd. A bydd y deunydd a gesglir, fel y dywedwch, o well ansawdd, fel y gall fod yn well ar gyfer y farchnad ac ar gyfer ailgylchu. Mae cyd-gymysgu yn ychwanegu proses arall a dweud y gwir, y mae Cyngor Sir Ddinbych yn talu amdani, ac mae'n costio llawer o arian iddyn nhw fynd drwy'r system honno, felly bydd yn well pan fydd popeth wedi setlo. Gwn yn Lloegr bod cyfraddau ailgylchu yn 41 y cant yn unig, ac yn gostwng—yn lleihau—ac, yn Lerpwl, dim ond 17 y cant ydyw. Mae'n wael iawn.

Clywais yr wythnos diwethaf y bydd seminar yng Nghaerdydd, lle mae gwledydd a busnesau eraill sy'n defnyddio'r deunydd ailgylchu hwn, sydd wedi symud i Gymru, oherwydd mae'n dod â busnes yma—. Bydd seminar ym mis Hydref, felly roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi ddweud ychydig mwy wrthyf i am hynny, gan mai ni yw'r ail orau, yn gweithio mewn partneriaeth—Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a thrigolion—yn arwain y ffordd? Diolch.

Diolch. Rwy'n credu bod dau bwynt i'w gwneud. Y cyntaf yw, pan fyddwch chi'n cyflwyno system newydd, mae bob amser yn bosibl y bydd heriau, ac, wrth gwrs, rydych chi wedi cael profiad uniongyrchol ohono ar y rheng flaen fel aelod o'r cabinet, wrth geisio ymdrin â rhai o'r heriau a'r problemau hyn gan aelodau ward lleol ac, yn wir, trigolion lleol. Ac felly, yr hyn yr wyf i'n ei ddeall y mae sir Ddinbych wedi bod yn ei wneud yw nid yn unig edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd gyda'r system a gyflwynwyd, ond maen nhw wedi bod yn ceisio dod â cherbydau a staff ychwanegol i mewn, gan wneud yn siŵr bod mwy o griwiau allan ar ddydd Sadwrn, a sicrhau eu bod nhw'n gallu symud staff o gwmpas o fewn y cyngor i fynd i'r afael â'r heriau y maen nhw'n gwybod sy'n bodoli. A dyna un o'r pethau y mae'r rhan fwyaf o bobl yn gofyn amdano. Os bydd rhywbeth yn mynd o'i le, cydnabyddwch fod problem ac ymdriniwch â hi. Gwrandewch ar y broblem ac yna gweithredwch arni, a dyna'n union y mae sir Ddinbych yn ei wneud.

Rwy'n falch eich bod chi wedi tynnu sylw at y gwahaniaethau rhwng cyfraddau ailgylchu—40 y cant yn Lloegr, o'i gymharu â 65 y cant yma yng Nghymru. Ein nod yw mynd yn uwch na 70 y cant, ac rwy'n credu y gallwn ni wneud hynny. Ac mae hynny'n dod â mi at fy ail bwynt ynglŷn â'r digwyddiad ym mis Hydref. Mae hon yn bartneriaeth rhwng gwahanol Lywodraethau Cymru a gwahanol lywodraethau lleol dros gyfnod sylweddol o amser. Amcan hirdymor sy'n hanes pendant o lwyddiant. A hoffwn dalu teyrnged i'r ffaith y bu gwahanol arweinyddiaethau gwleidyddol sydd wedi gwneud hyn o fewn llywodraeth leol ac wedi ymrwymo i gynllun sydd wedi sicrhau enillion gwirioneddol. Dyna pam mae gan weddill y byd ddiddordeb yn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yng Nghymru, a bydd y digwyddiad ym mis Hydref yn dod â lleisiau eraill o bedwar ban byd i weld sut rydym ni wedi ei gyflawni, yr heriau o gyrraedd lle yr ydym ni wedi ei gyrraedd, a hefyd y ffaith, ar draws llywodraeth leol, bod diddordeb parhaus bellach yn y ffordd yr ydym ni'n cymryd y cam nesaf ymlaen. Ac mae'r bartneriaeth honno rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol o fudd gwirioneddol i ddinasyddion lleol, o fudd gwirioneddol i'r blaned ac, fel y gwnaethoch chi ei nodi, o fudd gwirioneddol i'n heconomi hefyd.

Gweithwyr sy'n Chwythu'r Chwiban

4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gweithwyr sy'n chwythu'r chwiban yng Nghymru yn gallu gwneud hynny heb ofn? OQ61331

Mae'r ddeddfwriaeth sy'n amddiffyn gweithwyr sy'n chwythu'r chwiban yn fater a gedwir yn ôl. Rydym ni'n gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i hyrwyddo arferion da. Mae ein cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol yn gofyn i sefydliadau ymrwymo i bolisi chwythu'r chwiban ysgrifenedig. Rydym ni hefyd yn hyrwyddo undebau llafur fel partneriaid dyfeisgar o ran helpu cyflogwyr ac, yn hollbwysig, o ran cynorthwyo gweithwyr i weithredu prosesau chwythu'r chwiban effeithiol.

Diolch, Prif Weinidog. Rwyf i wedi codi'r cwestiwn hwn oherwydd, dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, mae chwythwyr chwiban wedi cysylltu â mi o ddau safbwynt, yn gyntaf, o ffynonellau dienw sy'n gwybod nad yw pethau'n iawn, ond sy'n ofni yr ôl-effeithiau iddyn nhw a'u cyflogaeth os byddan nhw'n chwythu'r chwiban mewn gwirionedd, ac yna ceir y rheini—ac mae gen i rai achosion byw ar hyn o bryd—sydd wedi chwythu'r chwiban ac sy'n cael eu bygwth neu eu tanseilio yn gynnil neu'n uniongyrchol gan eu sefydliad neu eu cydweithwyr ac sy'n ofni am eu swyddi a'u henw da proffesiynol. Felly, pa gyngor mae'r Llywodraeth yn ei roi i'r rhai sy'n cael eu hunain yn y sefyllfa hon, a pha gyngor y gallwn sicrhau ei fod ar gael i'n swyddfeydd, i'w cynghori yn y ffordd gywir?

Nawr, rwy'n deall yr hyn yr ydych chi newydd ei ddweud—ei fod yn fater a gedwir yn ôl—ond mae gennym ni ddyletswydd o ofal yn y wlad hon i alluogi pobl i godi llais pan fo pethau'n anghywir, ac ni ddylid eu herlid am wneud hynny. Felly, Prif Weinidog, byddwn yn croesawu unrhyw gyngor y gallwch chi ei roi.

14:15

Rwy'n credu bod yr Aelod yn codi pwynt pwysig. Cyn bywyd yn y lle hwn roeddwn i'n gyfreithiwr cyflogaeth. Fe wnes i gynnal achosion ar gyfer chwythwyr chwiban. Diwygiodd Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 hawliau cyflogaeth; rhoddodd hawliau i chwythu'r chwiban am y tro cyntaf. Fodd bynnag, mae heriau o hyd yn y ffordd y mae deddfwriaeth yn gweithio. I ddechrau, mae'n rhaid i chi fod â'r modd o gymryd camau cyfreithiol ei hun, a gwir amcan y chwythwr chwiban yw ceisio datrys mater heb gyfaddawdu eu cyflogaeth. Fe wnes i roi cyngor yn rheolaidd i fy nghleientiaid: mae'n ymwneud â'r hyn y gallwch chi ei brofi, nid yr hyn yr ydych chi'n ei wybod, ac mae hefyd yn ymwneud â sut yr ydyn ni'n ceisio eich cadw chi yn y gwaith yn hytrach na chael diwrnod yn y tribiwnlys, oherwydd mae hynny'n dod â risg wirioneddol.

Byddwn i'n cynghori sawl peth. Y pwynt cyntaf yw bod ACAS bob amser yn ffynhonnell ddefnyddiol o gyngor a gwybodaeth o ran cymodwyr, cyfryngwyr a'r hyn y gallan nhw ei ddweud wrthych chi. Mae yna ail bwynt ynghylch ein cod ar gyflogaeth foesegol, oherwydd mae hynny'n ymwneud â sut yr ydyn ni'n disgwyl i wahanol sefydliadau partner ymddwyn. Er enghraifft, mae gan y rhan fwyaf o'n gwasanaethau cyhoeddus bolisïau ysgrifenedig da ar hyn. Mae'r her, serch hynny, yn niwylliant y gweithle, ac o ran cyflogwyr mawr yn y sector cyhoeddus neu'r sector preifat—a byddwch chi'n gwybod hyn o'ch amser yn gweithredu fel arweinydd cyngor—gall gwahanol rannau o sefydliad mawr fod â diwylliant eithaf gwahanol i eraill. Felly, mae'n ymwneud ag eisiau cefnogi pobl i godi materion heb ofni y gallai eu cyflogaeth gael ei gyfaddawdu. Felly, mae'r ddealltwriaeth honno o'r cyngor a'r gefnogaeth allanol sydd ar gael.

Mae dau bwynt olaf. Os ydych chi mewn undeb llafur, mae gennych chi gyfle i fanteisio ar gymorth a chyngor arall ac annibynnol. Nid swyddogion llawn amser yn unig sydd gan bron pob undeb llafur—mae ganddyn nhw gyfle i fanteisio ar gyngor cyfreithiol hefyd, ac mae'n rhaid i'r cyngor hwnnw fod yn ymarferol. Nid yw'n ymwneud yn unig â'r hyn y gallech chi ei ennill mewn tribiwnlys, ond sut yr ydych chi'n cefnogi rhywun yn ymarferol i gymryd camau sy'n ceisio ei gadw mewn cyflogaeth neu'n dod o hyd i lwybr ar ei gyfer i gyflogaeth wahanol ac amgen nad yw'n peryglu ei ddyfodol.

Y cyngor olaf yw fy mod i'n credu bod angen diweddaru'r gyfraith. Mae hynny'n rhan o'r hyn sydd yn ein cynnig maniffesto'r DU yn yr etholiad hwn. Rhan o'r cytundeb newydd i bobl sy'n gweithio yw diweddaru a gwella deddfwriaeth a hawliau chwythwyr chwiban. Mae hyn yn rhywbeth lle, wrth chwythu’r chwiban, y  gall siarad am eich cydweithwyr, rheolwyr neu eraill, fod yn boenus iawn, ac yna mae'n ymwneud â sut yr ydych chi'n cael eich cefnogi i wneud y peth iawn. Felly, rwy'n credu mai'r cyngor pwysicaf i unigolion yw ymuno ag undeb llafur, manteisio ar y cynnig y gall ACAS ei ddarparu, ac ystyried yr hyn y dylai eich cyflogwr fod yn ei wneud.

Os yw'r Aelod eisiau ysgrifennu ataf gyda materion unigol y mae eisiau eu trafod, byddwn i'n fwy na pharod i'w hystyried.

Lleoliadau Cerddoriaeth ar Lawr Gwlad

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad ledled Cymru? OQ61316

Mae Cymru Greadigol yn canolbwyntio ar y sector cerddoriaeth fasnachol, gan ddarparu cefnogaeth ar gyfer seilwaith fel lleoliadau llawr gwlad hyd at gymorth artistiaid. Mae hyn wedi cynnwys noddi digwyddiadau sy'n cael eu cynnal mewn lleoliadau yng Nghymru a chyllid uniongyrchol gwerth cyfanswm o dros £9 miliwn ers ei lansio yn 2020.

Mae'r llynedd wedi'i henwi fel y flwyddyn waethaf ar gyfer lleoliadau cerddoriaeth—cafodd 125 o leoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad ledled y DU eu cau yn y flwyddyn honno. Mae'r Music Venue Trust, sy'n cynrychioli cynghrair o 500 o leoliadau cerddoriaeth, wedi dweud bod hyn wedi arwain at golli 4,000 o swyddi. Er gwaethaf bod llawer o leoliadau yn cael trafferth gyda'r costau cynnal sydd eisoes yn uchel, mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi penderfynu lleihau rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant i 40 y cant, gan beri iddyn nhw ddioddef costau uwch na'u cystadleuwyr dros y ffin. Nid yn unig y mae Plaid Lafur Cymru yn torri cyllid i Opera Cenedlaethol Cymru, ond mae'r cynnydd hwn mewn ardrethi bellach yn rhoi traean o leoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad yng Nghymru mewn perygl o gau. Yn amlwg, mae'r Llywodraeth Lafur wedi ymrwymo i ladd enw da Cymru fel gwlad y gân.

Prif Weinidog, yn llythrennol, rydych chi'n gofyn i'r lleoliadau hyn gau trwy wneud hyn. Rwy'n cydnabod y £718,000 a gafodd ei roi i leoliadau cerddoriaeth gan Cymru Greadigol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ffurf gynaliadwy o gyllid. Mae pob lleoliad cerddoriaeth sy'n cau yn golled fawr i gymuned leol, gan ei fod yn darparu profiadau cofiadwy nid oes modd eu hailgreu ar-lein. Yn fy etholaeth i fy hun, roedd clwb TJ yn lleoliad poblogaidd yng Nghasnewydd, yr oeddwn yn mynd yno'n aml fy hun, ac fe wnaeth gynnal dros 5,000 o fandiau, ond erbyn hyn mae mewn cyflwr gwael, ar ôl cau yn 2010. A wnaiff y Llywodraeth hon weithio gyda Cymru Greadigol i wella'r system ariannu i'w gwneud yn gynaliadwy ar gyfer lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad sy'n digolledu am yr ardrethi uwch?

Rwy'n credu bod angen i ni ddechrau gyda'r cyd-destun cyllido yr ydyn ni'n gweithredu ynddo ac yna edrych ar yr hyn yr ydyn ni'n ei wneud yn rhagweithiol i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth. Nid oes modd i chi osgoi—yn enwedig fel Aelod Ceidwadol—y gwirionedd bod ein cyllideb ni wedi cael ei lleihau £700 miliwn mewn termau gwirioneddol. Pan gawson ni'r ddadl ar y gyllideb, roedd Aelodau Ceidwadol yn mynnu gwariant ychwanegol mewn bron pob maes—mwy o arian i'r GIG, mwy o arian i lywodraeth leol, mwy o arian i ysgolion, mwy o arian ym mhob maes heb ddweud byth beth fyddai'n cael ei ostwng i dalu am y galwadau a wnaed. Mae gan y Llywodraeth hon hanes balch o gynhyrchu cyllidebau sy'n cydbwyso, sy'n nodi'n glir beth yw ein blaenoriaethau ac sydd yna'n gorfod ariannu'r blaenoriaethau hynny, ac i wneud y dewisiadau anodd i sicrhau ein bod ni wir yn blaenoriaethu'r GIG a llywodraeth leol fel ein dau faes gwariant mawr yn y gyllideb ddiwethaf. Byddai gennym ni set o ddewisiadau gwell o lawer i'w gwneud pe bai twf yn yr economi wedi bod yn real yn ystod y degawd diwethaf, pe na fyddem wedi cael gostyngiad bwriadol i'n cyllideb.

O ran yr hyn yr ydyn ni'n ei wneud, rydyn ni wedi cefnogi 22 o wahanol leoliadau ledled Cymru gyda lefel uwch o gyllid. Mae'r Music Venue Trust ei hun yn flaenorol wedi canmol cyflymder ac effeithiolrwydd cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n gwybod ei bod hi'n gyfnod anodd i leoliadau cerddoriaeth. Mae'n dod yn ôl at y pwyntiau yr oedden ni'n sôn amdanyn nhw yn gynharach ar yr argyfwng costau byw. Mae lleoliadau cerddoriaeth yn wariant dewisol. Mae'n wariant ychwanegol y tu hwnt i hanfodion, nid yn unig i deuluoedd incwm isel ond i bobl mewn grwpiau incwm canol, sy'n ei chael hi'n anoddach ac yn galetach, yn enwedig gyda'r cynnydd mewn costau bwyd ac ynni nad ydyn nhw wedi diflannu. Honno, mewn sawl ffordd, yw'r her fwyaf sy'n wynebu ein lleoliadau cerddoriaeth—cael digon o bobl sydd â'r incwm ychwanegol sydd eisiau mynd allan a mwynhau lleoliadau cerddoriaeth ac wedyn yn gallu dod o hyd i amrywiaeth o leoliadau gwahanol sydd â chynnyrch maen nhw eisiau'i ddefnyddio a mynd yn ôl iddo. Dyna pam mae twf yn yr economi yn bwysig a pham mae'r gwaith yr ydyn ni eisoes wedi'i wneud yn bwysig. Dyna pam rwy'n falch y bydd Cymru Greadigol yn parhau i flaenoriaethu lleoliadau cerddoriaeth fyw yn ei chynllun busnes ar gyfer y flwyddyn i ddod, a bod ganddyn nhw nifer o gamau gweithredu i wneud hynny. Rwy'n credu'n gryf y byddai newid ar lefel y DU yn risg sy'n werth mentro arni ar gyfer y sector hwn a llawer o sectorau eraill.

14:20

Mae lleoliadau cerddoriaeth yn bwysig ar gyfer datblygu cerddorion. Mae'r Bunkhouse yn Abertawe yn enghraifft dda iawn. Pan chwaraeodd Ed Sheeran ym Mharc Singleton, dywedodd mai dyma oedd ei ail ymweliad ag Abertawe gan ei fod wedi chwarae yn Sin City, lleoliad cerddoriaeth bach yn Abertawe. Cynyddodd y rhent ar gyfer lleoliadau cerddoriaeth 37.5 y cant ar gyfartaledd y llynedd. A oes unrhyw gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i gyfyngu ar y cynnydd hwn, ac a yw'r Prif Weinidog yn cefnogi ardoll sector ar leoliadau cyngerdd mwy i gefnogi lleoliadau llai? 

Mae dau bwynt. Y cyntaf, fel arfer, yw mai materion landlordiaid  a thenantiaid preifat yw'r rhain, ond mae gen i ddiddordeb, yn enwedig os oes gan yr Aelod rai enghreifftiau, o ran sut olwg fyddai ar hynny, fel y gallaf gael trafodaeth â Lesley Griffiths, sef yr Ysgrifennydd Cabinet perthnasol, ar ba gamau y gallwn ni eu cymryd neu na allwn ni eu cymryd. Ond rwy'n credu bod materion landlordiaid masnachol wedi'u codi yr wythnos diwethaf gan Hefin David yn ogystal â'r pŵer cyfreithiol sydd gennym ni a sut y gallem ymyrryd ai peidio. Fodd bynnag, rydyn ni'n ystyried materion sy'n ymwneud â'r posibilrwydd ar gyfer ardoll. Mae cynnydd yn cael ei wneud ar ardoll wirfoddol bosibl a allai ddod o leoliadau mwy i helpu i gefnogi rhai llai. Mae hynny'n waith sy'n ddiddorol iawn yn fy marn i. Gallen ni o bosibl wneud hynny ar ein pen ein hun yng Nghymru. Gallen ni hefyd ystyried y posibilrwydd ar gyfer ardoll fwy a sut y byddai modd gwneud hynny. Gyda llwyddiant ysgubol, er enghraifft, Taylor Swift a'i theithiau, ac os ydych chi'n gweld y Foo Fighters heno, nid dim ond bod Caerdydd yn brifddinas digwyddiadau mawr ond mewn gwirionedd beth allai hynny wedyn ei olygu i leoliadau llai pe bai ardoll yn gallu cael ei gweithredu. Felly, rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y mae gennym ni, yn bendant, ddiddordeb yn ei drafod ymhellach gyda'r sector.

Yr Argyfwng Costau Byw

6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith yr argyfwng costau byw ar bobl yng Nghymru? OQ61321

Mae ymchwil a dadansoddi wedi dangos bod cymunedau ledled Cymru wedi wynebu'r gostyngiad mwyaf mewn safonau byw ers i gofnodion ddechrau o ganlyniad i'r argyfwng costau byw. Mae'r dadansoddiad hwn wedi llywio sut mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu ei gwariant i dargedu cymorth ar gyfer yr aelwydydd mwyaf agored i niwed. Fel y dywedais i mewn ymateb i John Griffiths yn gynharach, mae hynny wedi golygu tua £5 biliwn o gefnogaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf yma yng Nghymru.

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n aelod o'r Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol, ac yn  ddiweddar, mae wedi rhyddhau canlyniadau ei arolwg costau byw diweddaraf, gan amlygu sut mae argyfwng costau byw y Torïaid wedi effeithio ar bobl sy'n gweithio. Mae tri chwarter yr ymatebwyr yn teimlo'n waeth eu byd nag yr oedden nhw yn yr etholiad cyffredinol diwethaf, a 72 y cant yn ei chael hi'n anodd talu biliau ynni, 62 y cant wedi cymryd benthyciadau i dalu biliau bob dydd, a 45 y cant yn methu ag ymdopi ag ad-daliadau. Mae'r Llywodraeth Lafur hon yn gwneud popeth o fewn ei gallu i helpu pobl yng Nghymru, ond gyda chymaint yn methu cael dau ben llinyn ynghyd, sut fyddech chi'n gweithio gyda Llywodraeth Lafur sy'n dod i mewn i'r DU i gyflawni'r cytundeb newydd hwnnw i bobl sy'n gweithio y mae ein gwlad eu hangen mor daer?

14:25

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn ac am dynnu sylw at arolwg costau byw'r Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol. Rwy'n mynd yn ôl at rai pwyntiau y gwnes i yn gynharach: mae prisiau bwyd yn dal i fyny 31 y cant o'u cymharu â thair blynedd yn ôl, mae prisiau ynni yn dal i fyny 53 y cant o'u cymharu â thair blynedd yn ôl. Fel yr wyf i'n ei ddweud, i deuluoedd mewn grwpiau incwm canol, mae hynny'n her; i'n teuluoedd incwm is, mae honno'n her eithriadol ac mae'n tynnu sylw at pam mae cymaint o bobl yn cymryd camau anghyffredin i geisio ymdopi â gwariant o ddydd i ddydd.

Mae eto'n tynnu sylw, er hyn, at yr angen nid yn unig i fod â mwy o waith, ond i fod â gwell gwaith, a dyna pam mae'r cytundeb newydd i bobl sy'n gweithio, y cynllun i wneud i waith dalu, mor bwysig. Mae angen i ni dyfu'r economi a thyfu ansawdd y gwaith o fewn ein heconomi. Dyna pam yr ydw i mor gyffrous am ein cyfleoedd ynni adnewyddadwy, oherwydd dyma'r peth iawn i'w wneud i'r blaned i helpu i gynhyrchu mwy o'n hynni adnewyddadwy ein hunain. Ond mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â'r swyddi sy'n cyd-fynd â hynny mewn cymunedau, y gadwyn gyflenwi ehangach, sy'n gymaint o gyfle cyffrous o amgylch hyn. Dyna pam y gwnes i ddod ag ynni i mewn i adran yr economi, oherwydd rwy'n credu ei bod yn gwneud synnwyr bod  â'r ddau gyda'i gilydd. Dylai'r gwaith hwnnw a'r meysydd cyffredin, lywio'r hyn y gallwn ni ei wneud a'r bartneriaeth o'r hyn y gallen ei wneud gyda Llywodraeth Lafur y DU. Byddai arwyddocâd enfawr i'r cynnig cronfa cyfoeth hwnnw—byddai'r buddsoddiad mewn porthladdoedd yn cynyddu’r cynnig presennol pedair gwaith drosodd. Rwy'n credu nad i gymunedau arfordirol yn unig y mae pob un o'r pethau hyn yn bwysig; dyma sut yr ydyn ni'n datblygu economi ar gyfer y dyfodol lle gallwn ni wir wneud i waith dalu.

A hefyd—fe wnaf i'r pwynt olaf hwn—mae gofal cymdeithasol yn her i bob un ohonom ni ar draws y DU. Un o'r meysydd yr ydyn ni wedi ymrwymo iddo, yn nghynnig y DU o gytundeb newydd i bobl sy'n gweithio, yw ceisio bod â chytundebau cyflog teg, gyda gofal cymdeithasol y maes cyntaf. Oherwydd os gallwn ni wneud rhywbeth yn llawer ehangach i gael mwy o gytundeb ar sut y gallai, ac y dylai, cyflogau edrych yn y sector hwnnw, bydd yn codi'r safon i gannoedd o filoedd o weithwyr—ymhell dros 100,000 o weithwyr yng Nghymru. Rydyn ni eisoes wedi gweithredu'r cyflog byw gwirioneddol yma yng Nghymru; Mae angen i ni sicrhau bod hynny'n cael ei gynnal. Bydd gwariant ychwanegol yn Lloegr yn gwneud gwahaniaeth mawr i ni, ond yn hollbwysig, bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r bobl hynny, y mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n fenywod, mewn gwaith â chyflog cymharol isel, yr urddas yn eu llafur, yn llafur pobl yn y sector manwerthu a mwy, ac wrth sicrhau eu bod yn cael eu talu'n iawn. Dyna reswm arall pam mae'n werth pleidleisio dros newid ar 4 Gorffennaf.

Rhannu Arferion Da

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod arferion da yn cael eu rhannu ar draws ysgolion yn Islwyn? OQ61333

Yn Islwyn mae rhai enghreifftiau gwych o ysgolion yn rhannu arfer gorau i wella dysgu a chyrhaeddiad addysgol. Yn dilyn yr adolygiad diweddar o drefniadau gwella ysgolion, rydyn ni'n datblygu dull newydd a fydd yn rhoi mwy o ddylanwad i arweinwyr ysgolion i ysgogi'r gwelliant hwn er budd ein holl ddysgwyr.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Nos yfory, mae Seremoni Gwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru yn cael ei chynnal, ac mae'r ysgol gyfun y gwnes i fynd iddi hi a lle roedd fy nhad yn addysgu am 25 mlynedd, Ysgol Trecelyn wedi'i henwebu ar gyfer ysgol uwchradd y flwyddyn, yn dilyn adroddiad rhagorol gan Estyn yn ddiweddar, a nododd natur ofalgar y tîm ADY fel cryfder nodedig. Ac mae Ysgol Gynradd Libanus yng Nghoed Duon wedi'i henwebu ar gyfer ysgol gynradd y flwyddyn a phrosiect STEM y flwyddyn, prosiect a welodd disgyblion yn archwilio cynaliadwyedd a'r effaith ar yr amgylchedd o'u cwmpas.

Prif Weinidog, rwyf i wedi ymweld ag ysgolion Islwyn a gallaf i dystio'n uniongyrchol y rhagoriaeth sy'n digwydd o fewn cymunedau'r ysgolion hyn a phwysigrwydd staff medrus, gwerthfawr â chymhelliant , fel Hannah Hodges o Ysgol Gynradd Abercarn ac Emille Thornton a Lynne Richards o Ysgol Gynradd Libanus, sydd i gyd wedi'u henwebu ar gyfer gwobrau addysgu. Gan ddymuno pob lwc iddyn nhw. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i roi ar y cofnod eich gwerthfawrogiad o'n holl staff staff addysg, a hefyd i gyhoeddwyr y South Wales Argus, Newsquest, am drefnu a hyrwyddo'r gwobrau addysgol hyn, sy'n dathlu ac sy'n golygu rhywbeth i athrawon a staff ar draws ysgolion de Cymru?

I gloi, yr wythnos diwethaf fe ddywedoch chi, Prif Weinidog, y bydd mwy o athrawon yn cael eu recriwtio ar gyfer ysgolion y wladwriaeth yng Nghymru os bydd y Blaid Lafur yn ennill etholiad cyffredinol y DU ac os mai Keir Starmer fydd y Prif Weinidog nesaf, diolch i ymrwymiad maniffesto'r Blaid Lafur i drethu ffioedd ysgolion preifat. Sut y bydd ein Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn gweithio gyda Llywodraeth Lafur yn y DU yn y dyfodol i gefnogi addysgegwyr ac addysgeg ar lawr gwlad, buddsoddi mewn addysgu a dysgu, a sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael mynediad at addysg o safon uchel, nid dim ond i rai, ond i bawb?

Diolch. Hoffwn i longyfarch y South Wales Argus am dynnu sylw at ragoriaeth mewn addysg ac, yn arbennig, yr holl ysgolion a staff hynny a gafodd eu henwebu. Rwy'n gobeithio y byddan nhw'n mwynhau nid yn unig y noson, ond gobeithio y bydd yn parhau i fod yn broffesiwn a galwedigaeth wirioneddol werthfawr iddyn nhw.

Rwy'n credu, o ran beth yr ydyn ni eisiau'i wneud a ble, fy mod i wedi bod yn gefnogwr ers tro o fynd i'r afael â'r manteision treth cwbl anghyfiawn y mae  addysg breifat yn elwa arni. Mae'n hen bryd datrys hynny, a sicrhau bod yr arian hwnnw'n cael ei fuddsoddi mewn addysg y wladwriaeth, lle mae dros 90 y cant o'n plant ni'n mynd. A dweud y gwir, nid defnyddio arian ychwanegol ar gyfer athrawon yn unig yw'r hyn y byddwn ni'n ei wneud yng Nghymru, ond y cynigion sydd wedi'u nodi gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Mae'n ychwanegu at y 1,000 diwrnod cyntaf ym mywyd plentyn, i gefnogi rhieni a phlant i wneud y gwaith gorau oll yn y blynyddoedd cynnar hanfodol hynny. Mae wedyn yn ymwneud â sicrhau bod ein diwygiadau arloesol i'r cwricwlwm yn cael eu gweithredu'n iawn, ac mae'n ymwneud â'r tri maes canolbwyntio sydd gan Lynne Neagle ar bresenoldeb, ar gyrhaeddiad ac ar wneud ein diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol yn llwyddiant. Ac rwy'n falch eich bod chi wedi sôn am y tîm ADY yn Ysgol Trecelyn, oherwydd mae'n faes lle'r ydyn ni wedi buddsoddi £20 miliwn arall yn ystod y misoedd diwethaf, i sicrhau bod y diwygiadau hynny'n gallu bod yn llwyddiannus, bod y rhaglen yr ydyn ni ei heisiau ar waith, gyda'r staff y mae eu hangen arnoch yno, er mwyn gwneud gwahaniaeth i rieni a'u plant gyda'i gilydd.

Felly, cyrhaeddiad, presenoldeb, anghenion dysgu ychwanegol a gweithredu'n diwygiadau i'r cwricwlwm yn llwyddiannus, rwy'n credu y bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol nawr ac ar gyfer y dyfodol, ac rwy'n dymuno'n dda i bawb yn y seremoni wobrwyo yr wythnos hon.

14:30
Cyllid Meddygon Teulu

8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu yng Nghymru? OQ61352

Ym mis Chwefror, buddsoddodd Llywodraeth Cymru £20 miliwn mewn gwasanaethau meddygon teulu, ochr yn ochr â buddsoddiad arall y llynedd mewn gwasanaethau gofal sylfaenol ehangach i gefnogi meddygon teulu a'u timau. Bydd cyllid ar gyfer 2024-25 yn cael ei gyhoeddi yn dilyn y broses drafod sefydledig gyda chynrychiolwyr meddygon teulu.

Diolch am eich ymateb, Prif Weinidog. A, Llywydd, o ystyried yr heriau i gynaliadwyedd gwasanaethau meddygon teulu yr ydyn ni'n eu gweld yn dilyn cau meddygfeydd—mae 18 y cant o feddygfeydd teulu wedi cau yng Nghymru dim ond ystod y degawd diwethaf; rydyn ni wedi bod â nifer sylweddol o gontractau'n cael eu dychwelyd; rydyn ni'n gweld cynnydd mewn practisau wedi'u rheoli, a busnesau allanol yn meddiannu meddygfeydd Cymru—a wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei fodel dewisol ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu? Ac a wnaiff hefyd roi sicrwydd i feddygon teulu na fydd newidiadau arfaethedig i bethau fel caffael brechlyn y ffliw yn ganolog yn niweidio cyllid gwasanaethau meddygon teulu sydd eisoes o dan bwysau?

Gwnaf, gallaf roi'r sicrwydd hwnnw i chi. Rwy'n credu bod yna—. Ar eich tri phwynt ehangach—. O ran cyflwyno brechlyn y ffliw, gallwn ni roi'r sicrwydd hwnnw i chi. Rydyn ni'n gwybod bod angen i ni fod â model nad yw'n tanseilio'r hyn y mae gwasanaethau meddygon teulu'n eu gwneud ac sy'n sicrhau, i rai ohonon ni, lle y gallwn ni gael ein brechlyn mewn ffordd wahanol, sy'n bosibl hefyd. Mae bron pob Aelod o'r Senedd yn cael gwahoddiad i fynychu digwyddiad gyda fferyllfeydd cymunedol. Felly, mae'n ymwneud â sut rydyn ni'n cefnogi'r tîm gofal sylfaenol ehangach heb danseilio ymarfer cyffredinol, sef yr hyn yr ydyn ni'n ceisio'i wneud. Mae'n ymwneud â gweld practis meddyg teulu wrth wraidd y tîm gofal sylfaenol hwnnw, gan gydnabod y rôl arbenigol sydd gan feddygon teulu yn hynny. 

Nawr, o ran trefniadaeth yn y dyfodol, mae'n bwysig cydnabod bod nifer o bractisau'n newid, yn aml oherwydd bod pobl yn uno practisau i gael gwasanaeth mwy sy'n gadarnach—model mwy a chadarnach i'r meddygon eu hunain. Ac, mewn gwirionedd, rwy'n dod yn ôl i gyfatebiaeth yn fy mywyd i yn y gorffennol fel cyfreithiwr, pan oedd gennyf i swydd yr oedd pobl yn ei deall a'i pharchu—mae llawer o gyfreithwyr yn gweithio i gyfreithwyr eraill. Mae'r partneriaid mewn practis yn cyflogi cyfreithwyr eraill i wneud tasg. Dydych chi ddim yn disgwyl gweld dau neu dri chyfreithiwr i gyd yn cydweithio mewn partneriaeth; rydych chi'n disgwyl gweld sefydliad cadarn a all wneud popeth y mae angen i bartneriaeth ei wneud.

Mae llawer o feddygon teulu yn symud i fodel lle mae nifer llai o bartneriaid dros ardal fwy a chadarnach sy'n cyflogi meddygon eraill. Mae rhai o'r bobl hyn yn mynd ymlaen i fod yn bartneriaid. Nid yw rhai meddygon eisiau bod mewn partneriaeth ac maen nhw eisiau bod yn aelodau cyflogedig mewn partneriaeth ei hun. Nawr, mae hynny'n rhannol oherwydd newid. Nid yw pob person nawr eisiau dweud y byddan nhw gweithio mewn un gymuned ar hyd eu bywyd gwaith. Mae'r model o greu'r gwasanaeth iechyd gwladol yn wahanol erbyn hyn, gan fod pobl yn teimlo'n wahanol ynghylch sut maen nhw'n gweithio a ble maen nhw eisiau gweithio. Dyna pam mae buddsoddi yn nyfodol hyfforddiant meddygon teulu mor bwysig. Y llynedd, fe wnaethon ni hyfforddi 170 o feddygon teulu. Pan wnes i ddod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, fel yr oedd bryd hynny, nid oedd gennym ni'r gallu i recriwtio a chadw cymaint â hynny o feddygon teulu mewn lleoedd hyfforddi. Mae'n stori lwyddiant dymor hir, ein rhaglen Hyfforddi, Gwaith, Byw, y byddwn ni'n ychwanegu ati drwy agor yr ysgol feddygol ym Mangor. Ac mae hynny'n bwysig iawn ar gyfer dyfodol gwasanaethau meddygon teulu—gweld y goleuni ar ddiwedd y twnnel, gyda mwy o hyfforddeion bob blwyddyn, mwy o feddygon yn cael eu hyfforddi yng Nghymru. A bydd y dyfodol yn fodel cymysg—model cymysg o rai partneriaethau meddygon teulu yn y ffordd draddodiadol a mathau eraill o bractisau hefyd. Y pwynt allweddol yma yw: sut ydyn ni'n cael amgylchedd sy'n ddeniadol i feddygon a'r tîm gofal sylfaenol ehangach a'u bod eisiau gweithio ynddo; sut ydyn ni'n sicrhau cyfle da i fanteisio ar ofal o ansawdd uchel i bob un ohonon ni a'r bobl y mae'n fraint i ni eu cynrychioli? 

14:35
2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol sydd nesaf, a'r cwestiwn cyntaf gan Mabon ap Gwynfor. 

Datganoli Plismona a Chyfiawnder

1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar ddatganoli plismona a chyfiawnder? OQ61323

Diolch i chi am eich cwestiwn. Rydym ni'n parhau i gefnogi datganoli plismona a chyfiawnder i Gymru, fel argymhellodd comisiynau annibynnol niferus dros y blynyddoedd, gan gynnwys yn fwyaf diweddar, y comisiwn cyfansoddiadol.

Diolch am yr ateb yna. Wel, fel mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi cyfeirio ato, roedd datganoli heddlua a chyfiawnder yn ymrwymiad gan y Blaid Lafur, ac roedd o ym maniffesto y Blaid Lafur nôl yn 2021. Mae'r Cwnsler Cyffredinol, y cyn-Brif Weinidog ac eraill wedi siarad yn bwerus iawn ac yn gryf iawn o blaid datganoli heddlua a chyfiawnder sawl gwaith. Ond yn ôl y darpar Ysgrifennydd Cabinet dros Gymru, Jo Stevens, dydy datganoli heddlua a chyfiawnder ddim yn un o'u blaenoriaethau nhw. Yn wir, roedd hi'n cyfeirio ato fo fel 'ffidlan ar yr ochrau'. Ydy'r Cwnsler Cyffredinol, felly, yn credu bod yr hyn y maen nhw'n trio ei wneud fel Llywodraeth yn wastraff amser, neu ydy o wirioneddol yn credu bod datganoli heddlua a chyfiawnder yn rhywbeth sydd angen ei weld yma yng Nghymru?

Diolch am y cwestiwn. Mae mynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli cyfiawnder yn ei gyfanrwydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, yn ogystal â'r argymhellion a dderbyniwyd gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, yn ogystal â'r dull a argymhellir, sy'n ddull trosiannol dros nifer o flynyddoedd ar gyfer cyflawni'r rhain. Ac wrth gwrs, un o'r blaenoriaethau, ac un o'r rhai yr wyf i'n canolbwyntio yn arbennig arnyn nhw yw'r un o ran datganoli cyfiawnder a phrawf ieuenctid. Rwyf i o'r farn fod plismona yn sicr o ddilyn hynny, ac rwy'n credu y bydd datganoli plismona, maes o law, yn anorfod.

Fe glywais i'r sylwadau a gafodd eu gwneud, wrth gwrs. Mae'r sylwadau hyn yn cael eu gwneud yn aml yn ystod ymgyrchoedd etholiadau cyffredinol, ac fe'u gwneir weithiau heb ystyried, er enghraifft, yr adolygiad a arweiniwyd gan Carl Foulkes, cyn-brif gwnstabl heddlu gogledd Cymru, y mae pawb ohonom ni'n gallu elwa arno nawr, rwy'n credu. Yr hyn yr wyf i'n eiddgar iawn amdano yw'r cyfle sydd gennym ni nawr i ymgysylltu mewn ystod eang o feysydd na all ddigwydd ond gyda newid Llywodraeth, gyda Llywodraeth Lafur sydd ar ddod. Ac rwy'n weddol sicr, pan fydd y sylfaen o dystiolaeth y gwnaethom ni ei chasglu dros y blynyddoedd, pan ddaw'r ymchwil y gwnaethom ni ei gynnal yn fwy cyffredinol, y deallir hynny'n fwy eang ac ati, wrth i ni drafod datganoli cyfiawnder ieuenctid a phrawf, rwy'n credu yr agorir y drws o ran datganoli plismona.

A gaf i ddweud bod plismona, efallai, ar y maes hwnnw o flaenoriaeth yn dilyn cyfiawnder a phrawf ieuenctid yn bennaf oherwydd ein bod ni wedi cyflawni cymaint? Fe wnaeth fy nghyd-Weinidog, y cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau lawer o waith o ran datblygu'r bartneriaeth blismona. Mewn llawer o ffyrdd, mae llawer o blismona eisoes yn gweithredu fel pe byddai wedi cael ei ddatganoli. Ac, wrth gwrs, mae'r gwaith gyda chomisiynwyr yr heddlu a throseddu wedi bod yn sylweddol, ac roedden nhw i gyd yn gefnogol i hyn. Felly, mae hon yn ddadl barhaus, mae hi'n ddadl y byddwn ni'n ei gwthio i'r cyfeiriad cywir, rwy'n credu, ac rwy'n hyderus y bydd plismona, unwaith eto, yn cael ei ystyried yn naturiol yn rhan o'r datganoli naturiol hwnnw. 

Ôl-groniad Achosion mewn Llysoedd

2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ôl-groniad achosion mewn llysoedd yng Nghymru? OQ61314

Diolch i chi am eich cwestiwn. Mae ôl-groniad achosion mewn llysoedd yn cael eu hystyried yng nghyfarfodydd y Grŵp Rhyngweinidogol dros Gyfiawnder. Mae adroddiad diweddar y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn dangos maint cynyddol ôl-groniadau mewn Llysoedd y Goron ond nid yw'n cynnwys data na mewnwelediadau rhanbarthol. Rwy'n deall bod Cymru yn perfformio yn well na'r cyfartaledd, ac eto mae'r ôl-groniad cyfartalog o achosion llys yn ddifrifol ac yn annerbyniol.

14:40

Diolch i chi am ymateb, Cwnsler Cyffredinol. Dros y pum mlynedd diwethaf, fe welsom ni gynnydd syfrdanol o 346 y cant yn nifer yr achosion o drais rhywiol sydd wedi cael eu dal yn ôl mewn ôl-groniad yn Llysoedd y Goron, sy'n gwbl annerbyniol, gan fod oedi a diffyg cefnogaeth yn arwain at 42 y cant o ddioddefwyr yn tynnu eu hachosion yn ôl. Roeddwn i'n falch felly o weld Llafur y DU yn ymrwymo i sefydlu 80 o lysoedd trais newydd ledled Cymru a Lloegr. Bydd y llysoedd hyn yn cael eu defnyddio i gyflymu achosion fel rhan o gynlluniau i ymdrin â thrais yn erbyn menywod a merched. Cwnsler Cyffredinol, a ydych chi'n cytuno â mi fod gwir angen y newidiadau hyn ac y bydd dioddefwyr ledled Cymru yn croesawu'r newidiadau hyn?

Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod am y sylwadau yna am eich bod chi'n gwneud pwyntiau dilys iawn? Dros y 14 mlynedd diwethaf, rydym ni wedi gweld y ddarpariaeth o gyfiawnder yn mynd at ymyl y dibyn mewn gwirionedd. Mae cau llysoedd, methiant i gadw llysoedd, methiant i fuddsoddi yn y system gyfiawnder, methiant i fuddsoddi mewn cymorth cyfreithiol wedi dod â'n system gyfiawnder at y dibyn mewn gwirionedd. Ceir 67,573 o achosion llys sydd heb eu cynnal eto yng Nghymru a Lloegr erbyn hyn. Mae cynnydd o 78 y cant wedi bod mewn ôl-groniadau mewn Llysoedd y Goron ers 2019; roedd 18,045 o achosion ar 31 o fis Rhagfyr 2023 heb eu cynnal eto mewn Llys y Goron ers blwyddyn neu ragor; cafodd 1,436 o achosion eu gohirio ar ddiwrnod y gwrandawiad yn 2023 oherwydd nad oedd y gweithwyr proffesiynol cyfreithiol oedd eu hangen i gyd ar gael; fel roeddech chi'n dweud, bu cynnydd o 346 y cant yn nifer yr achosion trais rhywiol oedolion heb eu cynnal eto mewn Llysoedd y Goron rhwng 31 o fis Rhagfyr 2019 a 31 o fis Rhagfyr 2023; ac mae 16,005 o bobl sy'n cael eu cadw mewn carchar wedi bod yn aros am achos llys neu ddedfryd, gyda 2023 yn cofnodi'r gyfradd fwyaf ers 50 mlynedd o leiaf. Ydw, rwy'n croesawu'r llywodraeth Lafur newydd a ddaw gyda hyn, a llywodraeth a fydd wedi ymrwymo i sicrhau cyfiawnder ac atgyweirio peth o'r difrod a wnaethpwyd i'n system gyfiawnder ni dros y 14 mlynedd diwethaf.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood. 

Diolch, Llywydd. Wel, mae eich cyfrifoldebau fel Cwnsler Cyffredinol yn cynnwys y ddarpariaeth o raglenni deddfwriaethol yn ogystal â chyflawni swyddogaethau eraill er mwyn y cyhoedd. Mae datganiad barn yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadw'r ddyletswydd ddeddfwriaethol i argraffu hysbysiadau'r dreth gyngor mewn papurau newyddion lleol, a gyflwynwyd gan Mike Hedges AS, wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol. Mae hyn yn cydnabod bod darparu gwybodaeth drwy ddulliau ysgrifenedig yn bwysig i lawer o bobl. Pa drafodaethau a gawsoch chi felly gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet ynghylch y gwelliant Cam 3 i'r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) a gyflwynir gan Peter Fox AS ar 9 Gorffennaf i gadw'r ddyletswydd hanfodol hon, sy'n cydnabod, fel dywed y sector cyfryngau, pe bai'r Bil yn cael ei basio yn ei ffurf bresennol y gallai ddechrau achosi glastwreiddio gofynion statudol hanfodol eraill ar gyfer ystod eang o hysbysiadau cyhoeddus, yn ogystal â chreu loteri cod post o ran cyfraddau anghyson o dryloywder ledled Cymru—materion a fyddai'n dod o fewn eich cylch gwaith chi?

Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn? Mae'r mater ynghylch hysbysiadau cyhoeddus, wrth gwrs, yn fater pwysig. Rydym ni'n byw mewn oes o dechnoleg fodern ac mae yna sawl ffordd o wneud hysbysiadau mewn gwirionedd, felly mae hi'n gwbl gywir a phriodol bod adolygiadau o ran sut gellir rhoi gwybodaeth ynglŷn â materion o'r fath mewn ffordd sy'n hygyrch i'r cyhoedd. Nid yw hwnnw'n fater y gofynnwyd i mi roi cyngor arno; mater yw hwn yr ymdrinnir ag ef yn iawn gan yr Ysgrifennydd Cabinet priodol y gwnaethoch chi gyfeirio ati hi.

Wel, rwy'n gofidio na ofynnwyd i chi roi cyngor, yn enwedig ynglŷn â'r effaith y gallai hyn ei chael ar y rhai sydd wedi eu hallgáu yn ddigidol, yn enwedig pobl hŷn a phobl anabl. Ond gan aros gyda phwnc cyflawniad swyddogaethau eraill er mwyn y cyhoedd a'ch cyfrifoldebau ehangach chi, fe ofynnais i chi yma ym mis Tachwedd y llynedd ynghylch yr ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer datganoli plismona yng Nghymru, yn dilyn cwestiwn cynharach, pan nodais i fod adroddiad comisiwn Thomas ar gyfiawnder yng Nghymru, yn gwneud dim ond un cyfeiriad at y mater allweddol o droseddu trawsffiniol, a'r unig ateb a gynigir yw cydweithio ar draws y pedwar llu yng Nghymru, mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill, heb unrhyw gyfeiriad at y cydweithio sefydledig gyda phartneriaid cyfagos dros y ffin anweledig o ran troseddu a chyfiawnder sydd â Lloegr. A phan ymwelais i ag uned troseddau cyfundrefnol rhanbarthol gogledd-orllewin Cymru a Lloegr, sydd ar y cyd rhwng lluoedd heddweision gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, roedden nhw'n dweud wrthyf i fod tystiolaeth a roddwyd i gomisiwn Thomas yn cael ei hanwybyddu i raddau helaeth yn ei adroddiad. Felly, pa ddiweddariad allwch chi, felly, ei roi nawr ynglŷn â'r adolygiad a gomisiynwyd gennych chi, ac y gwnaethoch chi gyfeirio yn gryno ato'n gynharach, dan arweiniad cyn-brif gwnstabl gogledd Cymru, pan oeddech chi'n dweud wrthyf i mai'r ffordd allweddol ymlaen yw aros nes bydd y dystiolaeth honno'n dod, ei hystyried hi wedyn, ei gwerthuso, ac fe fyddwn ni'n ei thrafod yn y Siambr hon wedyn?

14:45

A gaf i ddiolch i'r Aelod am y pwyntiau pwysig a gododd ef? Maen nhw yn bwyntiau pwysig. A gaf i ddweud, ers hynny, wrth gwrs, comisiwn Thomas—? Wrth gwrs, roedd comisiwn Thomas yn ystyried agweddau ar blismona, ac roedd yn ystyried amrywiaeth eang o feysydd. Ond y gwaith pellach, wrth gwrs, yr ymgymerwyd ag ef yw'r gwaith, yr adolygiad, a arweiniwyd gan Carl Foulkes, a oedd yn ei gwneud hi'n eglur nad oes unrhyw reswm pam, er enghraifft, na ellid cadw cysylltiadau agos rhwng heddluoedd Cymru a Lloegr ar ôl datganoli. Fel gwyddoch chi, Carl Foulkes oedd prif gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, ac felly roedd ef yn ymwybodol iawn o'r heriau amrywiol. Roedd ei adolygiad ef yn ystyried, er enghraifft, y ffyrdd yr oedd heddluoedd Lloegr yn gweithio gyda Heddlu'r Alban a gyda'r hyn a oedd yn gyfatebol yng Ngogledd Iwerddon—Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon.

A gaf i ddweud hefyd fod trafodaethau sylweddol wedi cael eu cynnal gyda chomisiynwyr yr heddlu a throseddu? Wrth gwrs, mae yna nifer o'r rhain. Maen nhw wedi cynnal eu hymchwil eu hunain a'u gwaith eu hunain yn y maes arbennig hwn, ac wedi cynhyrchu eu hadroddiadau eu hunain, sydd, unwaith eto, yn gefnogol iawn i ddatganoli plismona. Felly, mae'r wybodaeth yno. Mae'r adolygiad dan arweiniad Carl Foulkes ar gael i'r Aelod. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn manteisio ar y cyfle i ystyried yr adroddiad hwnnw a'i adolygu, ac rwy'n siŵr fod y rhain yn faterion a fydd yn destun trafodaethau eto maes o law yn y Siambr hon.

Diolch i chi. Wrth gwrs, uwch swyddogion a fu'n gwasanaethu dan Carl Foulkes, pan ymwelais i â'r uned troseddau cyfundrefnol ranbarthol, a wnaeth godi'r pryderon hynny gyda mi.

Mae plismona yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn faterion datganoledig yno, ond, am resymau hanesyddol, daearyddol ac o ran poblogaeth a hefyd, gyda phatrymau troseddu rhwng Cymru a Lloegr yn digwydd dros y ffin, o'r dwyrain i'r gorllewin, mae'r sefyllfa yng Nghymru yn hollol wahanol. Yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon, mae gan Gymru ardal drawsffiniol boblog iawn gyda Lloegr, gydag amcangyfrif o 95 y cant neu fwy o droseddau yng ngogledd Cymru yn unig yn gweithredu ar draws y ffin, o'r dwyrain i'r gorllewin, a bron dim ar sail Cymru gyfan. Pam, felly, y mae Llywodraeth Cymru yn neilltuo cymaint o amser ac adnoddau i ddatganoli plismona a chyfiawnder oedolion i Gymru wrth dorri cyllidebau allweddol mewn mannau eraill, yn enwedig pan fydd AS Llafur mwyaf blaenllaw Cymru yn San Steffan, ysgrifennydd cysgodol Cymru, Jo Stevens, wedi ymuno â'r Ceidwadwyr unwaith eto i wrthod galwadau newydd i Lywodraeth Cymru fod yn cael rheolaeth dros blismona a chyfiawnder troseddol oedolion, ac nid yw maniffesto Llafur ar gyfer etholiad cyffredinol y DU yn cynnwys cefnogaeth i ddatganoli'r rhain?

A gaf i ddweud yn gyntaf nad wyf i o'r farn fod y sefyllfa yn gwbl wahanol yng Nghymru o'i chymharu â'r sefyllfa yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban? Fe geir llawer o feysydd cyffredin. Ar fater gweithredu trawsffiniol, mae gennym ni heddluoedd penodol sy'n gweithredu gyda rheolaeth weithredol o fewn yr heddluoedd penodol hynny. Maen nhw'n gweithio gyda'i gilydd dros ffiniau. Nid oes unrhyw awgrym y byddai datganoli plismona yn golygu y byddai hynny i gyd yn dod i ben ac na fyddai dim oll yn digwydd. Mae datganoli plismona yn bodoli mewn lleoedd fel Llundain ac, wrth gwrs, fe geir datganoli pwerau sy'n ymwneud â phlismona mewn lleoedd fel Manceinion. Mae ffiniau sylweddol iawn ganddyn nhw yno hefyd, ac ati.

Rwy'n credu mai'r cwestiwn gwirioneddol yw, er enghraifft, a fydd drwy ddechrau'r broses o ddatganoli agweddau ar gyfiawnder, plismona a phlismona modern chwarae rhan sylweddol, integredig mewn ystod eang o swyddogaethau datganoledig, ac y bydd gweithrediad plismona yn gweithio yn llawer gwell trwy ddatganoli. Rwy'n credu mai honno yw barn y comisiynwyr heddlu a throseddu—y pedwar comisiynydd heddlu a throseddu, ac rwy'n credu nad oes yna wrthwynebiad yn fwy eang. O ran blaenoriaethau, wrth i ni symud tuag at fwy o ddatganoli, fe fydd lle arbennig i blismona ar adeg arbennig. I mi, ar hyn o bryd, y meysydd pwysicaf o ran y gwaith sy'n digwydd fydd datganoli cyfiawnder a phrawf ieuenctid.

14:50

Diolch, Llywydd. Cwnsler Cyffredinol, rydych chi wedi dweud ar goedd eich bod yn gefnogwr mawr i ddeddf Hillsborough a fyddai'n dodi dyletswydd statudol o ddiffuantrwydd ar awdurdodau cyhoeddus a swyddogion cyhoeddus, ac mae yna ymrwymiad, wrth gwrs, gan weinyddiaeth Lafur sydd ar ddod i ddeddfu deddf Hillsborough fel hyn. Mae Hillsborough Law Now, sydd wedi arwain yr ymgyrch dros 30 mlynedd, yn dweud hyn ar eu gwefan:

'Mae hi'n bryd i fod â chyfraith sy'n gwneud dweud celwydd wrth y cyhoedd ym Mhrydain yn drosedd,'

Ac yn wir, mae'r gyfraith ddrafft yn gwneud felly. Mae honno'n datgan:

'Bydd gwas neu swyddog cyhoeddus yn cyflawni trosedd os yw ef neu hi yn fwriadol neu'n ddi-hid...yn camarwain y cyhoedd neu'r cyfryngau."

A ydych chi'n cefnogi cread y drosedd honno, Cwnsler Cyffredinol, ac a fyddai hi'n berthnasol i weision cyhoeddus yma yng Nghymru? A fyddai angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn yr achos hwnnw, ac a fyddech chi'n ei gefnogi ar y sail honno?

Wel, yn gyntaf, o ran Hillsborough, rwy'n gefnogwr brwd iawn o fater y ddyletswydd gonestrwydd. Nid yw'r mater wedi bod gymaint â hynny yn ymwneud â chynrychiolwyr etholedig, ond mae wedi bod ar lefel pa wybodaeth, ar y camau cynnar o ran gweision cyhoeddus ac ati, a gododd fel, mae'n debyg, pa wybodaeth briodol a gafodd ei rhoi a'i datgelu yn gynnar iawn. Felly, mae ymrwymiad y Llywodraeth Lafur nesaf i ddeddf Hillsborough yn rhywbeth yr wyf i'n ei gydnabod yn daer iawn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig nad ydym yn drysu mater gwneud celwydda yn drosedd gyda'r ddyletswydd gonestrwydd. Rydych chi'n siŵr o fod yn gwybod yn dda iawn mai fy marn i yw fy mod i'n cytuno yn llwyr â chi o ran y ffaith fod angen cymryd camau o ran gonestrwydd, uniondeb mewn bywyd cyhoeddus ac, yn wir, mewn gwasanaeth cyhoeddus ymhlith cynrychiolaeth etholedig. Rwy'n credu mai'r cwestiwn yw: sut rydych chi'n yn cyflawni hynny mewn ffordd sy'n gweithio yn wirioneddol, sy'n wirioneddol effeithiol, ac nad oes canlyniadau annisgwyl i hynny, ac nad yw hynny'n tanseilio uniondeb cyfansoddiadol y Senedd hon? Ac felly, rwy'n mawr groesawu'r gwaith sydd ar y gweill a'r ymrwymiad a roddwyd i ddeddfu maes o law ar sail argymhellion a wneir gan y pwyllgor safonau o ran mater adalw, ond rwyf i o'r farn fod y mater o ymdrin â thwyll yn rhywbeth arall hefyd a fyddai'n cael ei drin yn fwyaf effeithiol yn y fframwaith hwnnw ac yn y ddeddfwriaeth honno, ac fe fyddai hynny'n osgoi'r hyn yr wyf i'n credu a allai fod yn ganlyniadau annisgwyl neu anfwriadol difrifol dros ben.

Rwy'n credu bod y Cwnsler Cyffredinol yn ceisio cynnal y ddadl nawr y byddwn ni'n ei chael wythnos nesaf, ond rwy'n hapus—

Wel, nage, roeddwn i'n gofyn mewn gwirionedd am ddeddf Hillsborough. Roeddwn i'n dyfynnu yn uniongyrchol o'r Bil Awdurdodau Cyhoeddus (Atebolrwydd) a basiwyd ar ei Ail Ddarlleniad yn San Steffan yn ddiwrthwynebiad, gyda chefnogaeth pob plaid, a ddrafftiwyd gan Andy Burnham. Dyna ddeddf Hillsborough y mae'r Blaid Lafur wedi ymrwymo i'w gwneud yn gyfraith, ac mewn gwirionedd mae hi'n berthnasol ym mhob gwlad yn y Deyrnas Unedig, ac mae hi'n creu trosedd newydd pan fydd swyddogion cyhoeddus yn camarwain y cyhoedd neu'r cyfryngau.

Mae'r gyfres nesaf o gwestiynau yn mynd â ni i'r diriogaeth y gwnaethoch chi fy ngwahodd iddi hi. Pam, yn eich barn chi, os ydych chi'n cefnogi—? Rwy'n amau eich bod chi, Cwnsler Cyffredinol, yn cefnogi'r elfen honno, oherwydd ei bod hi yn y gyfraith. Pam nad yw cod y gwasanaeth sifil yn ddigonol i ymdrin â'r pwnc hwn, a pham mae angen trosedd newydd arnom ni o ran swyddogion cyhoeddus, a sut allem ni fod yn creu amgylchiadau lle gall swyddogion cyhoeddus gael eu dwyn i gyfrif, yn ôl safonau troseddol, mewn achosion o dwyll, pan nad yw'r gwleidyddion, y maen nhw'n atebol iddyn nhw, yn cael eu dwyn i gyfrif yn yr un modd?

Wel, oherwydd, yn gyntaf, o ran deddf Hillsborough, yr wyf i'n gefnogol iddi—ac, wrth gwrs, rydym ni'n aros i gael gweld drafft lawn o'r ddeddfwriaeth honno, yn wir, wrth gwrs, y craffu llawn a fydd ar y ddeddfwriaeth benodol honno—mae hynny'n wahanol i fater cyfansoddiadol braint seneddol, sydd, yn fy marn i, yn gonglfaen sylfaenol i'r ffordd y mae ein pedair Senedd ni'n gweithio mewn gwirionedd.

Nawr, y cwestiwn i mi yw: pa ffordd sydd fwyaf effeithiol ar gyfer cyflawni'r amcan? Ai trwy gyflwyno cyfraith sy'n troseddoli'r mater o dwyll yn y ffordd y mae'r gwelliant a gynigiwyd gennych chi'n ei awgrymu, neu a oes yna ffordd a fyddai'n fwy effeithiol? Mae'n rhaid i mi ddweud, ar hyn o bryd, ni chefais fy argyhoeddi fyth fod y cynnig a gyflwynwyd gennych chi'n un sy'n wirioneddol ymarferol, er nad yw'n achosi effeithiau a fyddai'n sylweddol ddinistriol o bosibl. Ac os mai dyna'r achos, a oes yna ffordd well o gyflawni hyn? Rwy'n credu bod ffordd lawer gwell a llawer mwy effeithiol o gyflawni o ran mater adalw, yn ogystal ag ymdrin â safonau ymddygiad yn y Siambr, wrth ddiogelu braint seneddol hefyd.

14:55

Rwyf i wedi bod yn darllen maniffestos y Blaid Lafur yn frwd dros y dyddiau diwethaf; mae hynny'n digwydd yn ystod cyfnodau etholiad, onid yw e?

Un o'r ymrwymiadau eraill sy'n berthnasol iawn i'r pwynt gwirioneddol y mae'r Cwnsler Cyffredinol newydd ei wneud yw ymrwymiad Senedd yr Alban i gyflwyno braint absoliwt, gynhwysfawr, ar yr un raddfa ag yn San Steffan, oherwydd mae'r Cwnsler Cyffredinol yn siŵr o fod yn ymwybodol mai yn achos Senedd yr Alban, ac yn ein hachos ninnau hefyd, dim ond braint gyfyngedig iawn sy'n bodoli; mae hynny'n berthnasol yn unig mewn achos difenwi sifil. Nawr, mae'r ymrwymiad hwnnw'n cael ei wneud o ran Senedd yr Alban. Nid yw hwnnw ym maniffesto'r Blaid Lafur o ran y Senedd hon. Ai polisi'r Blaid Lafur yw y byddan nhw'n cyflwyno braint lwyr ar yr un raddfa ag yn San Steffan ar gyfer y Senedd hon hefyd, fel maen nhw'n bwriadu ei wneud ar gyfer Senedd yr Alban?

Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn yn fy marn i oherwydd mae'r materion wedi codi o ran yr Alban, fel gwyddoch chi, oherwydd bod y fraint seneddol yn fwy cyfyngedig yno. Roedd yna bryder o ran gallu craffu ar y Llywodraeth oherwydd digwyddiadau amrywiol a fu beth amser yn ôl yno, ac fel rwy'n deall hynny, mae hwnnw'n fater sy'n bresennol oherwydd yr ymdeimlad o angen am fraint seneddol lawn i ganiatáu Senedd yr Alban i gyflawni ei dyletswyddau. Fy marn a'm dealltwriaeth i yw y bydd yr union beth yn berthnasol i Gymru, ond fel rwy'n deall mae'n ysgrifenedig, rwy'n credu, gyda rhagor o fanylder rywle o fewn y maniffesto y dylai pob Senedd fod â braint gyffelyb, ac felly, fe fyddai llawnder y fraint sy'n berthnasol yn San Steffan yr un mor berthnasol o ran yr Alban ond, yn ogystal â hynny, o ran Cymru hefyd. Dyna yw fy nealltwriaeth i, ond dyna'r hyn hefyd y byddwn ni'n ei ewyllysio ac rwy'n credu y byddai hi'n afresymegol i hyn gael ei ddatblygu yn yr Alban a pheidio â bod felly yng Nghymru hefyd.

Treuliau Cyfreithiol i Drigolion Cymru

3. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r cymorth sydd ar gael i drigolion Cymru ar gyfer treuliau cyfreithiol? OQ61315

Diolch i chi am eich cwestiwn. Rydym ni'n ymgysylltu yn rheolaidd â rhanddeiliaid yn y sector cyfreithiol, darparwyr cyngor y trydydd sector drwy'r Rhwydwaith Cyngor Cenedlaethol a rhwydweithiau cynghori rhanbarthol, a Phwyllgor Pro Bono Cymru ynghylch y cymorth cyfreithiol sydd ar gael i bobl yng Nghymru.

Cwnsler Cyffredinol, rydych chi'n ymwybodol bod yr Arglwydd Ganghellor yn cael ei ddwyn gerbron yn Uchel Lys oherwydd hawliadau bod ffioedd cymorth cyfreithiol mor isel a'u bod nhw'n atal cyfreithwyr rhag darparu cynrychiolaeth i filoedd o bobl sy'n gymwys ar ei chyfer. Mae'r Ceidwadwyr yn siomi dioddefwyr, gyda nifer yn methu â hawlio cefnogaeth ar gyfer dwyn achosion, sy'n cynnwys dioddefwyr cam-drin domestig, artaith a masnachu pobl.

A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi bod mynediad at gyfiawnder wedi bod o afael llawer o'r bobl fwyaf agored i niwed am lawer gormod o amser a bod angen i ni weld y rhwystrau hyn, yn ariannol neu fel arall, yn cael eu tynnu cyn gynted â phosibl?

Wel, diolch i chi am y cwestiwn yna ynglŷn â mater yr ydym ni wedi rhoi sylwadau arno dro ar ôl tro. Rwy'n cytuno â chi'n llwyr; rwy'n credu bod cwtogi ar gymorth cyfreithiol dros sawl degawd yn rhywbeth sydd â chanlyniadau difrifol iawn iddo, gan ei fod yn allgáu nifer fawr o'r bobl fwyaf agored i niwed erbyn hyn.

15:00
Ymchwiliad COVID y DU

4. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru am dystiolaeth a roddwyd gan Weinidogion Cymru i ymchwiliad COVID y DU ynghylch negeseuon wedi'u dileu? OQ61319

Diolch i chi am eich cwestiwn. Sicrhawyd gwasanaeth tîm cyfreithiol penodedig, sy'n cynnwys bargyfreithwyr, i gefnogi ymateb Llywodraeth Cymru i ymchwiliad cyhoeddus COVID-19 y DU.

Diolch am eich ateb fanna. Buaswn i'n gofyn, plîs, os ydy unrhyw aelodau o'r Llywodraeth wedi gofyn am gyngor cyfreithiol am negeseuon sydd wedi eu dileu gennych chi—cyngor gennych chi, hynny yw—a hefyd pa gyngor sydd wedi cael ei roi am negeseuon oedd wedi eu datgelu'n gyhoeddus yn ddiweddar. Mae fy mhryder i yn ymwneud â phrosesau a'r angen i ddysgu o'r rhain. Rwyf wedi dod i adnabod nifer o ymgyrchwyr teuluoedd COVID dros gyfiawnder wnaeth golli anwyliaid ac, heb os—ac rwyf i'n siŵr y byddech chi'n cytuno—iddyn nhw mae ein hatebion ni yn ddyledus. Ni ddylai hyn oll fod am benderfynu bai neu bwy sydd ar fai; mae am ddysgu gwersi ar gyfer argyfyngau iechyd cyhoeddus eraill yn y dyfodol. Ydych chi'n cytuno gyda mi taw'r unig ffordd gallwn ni gyrraedd at y gwirionedd am y gwersi hynny fydd trwy gynnal ymchwiliad COVID Cymreig fel mae'r teuluoedd eu hunain wedi ymgyrchu drosti mor ddiflino am gymaint o amser?

Wel, mae'r ymchwiliad COVID yn ymchwiliad hynod bwysig i un o'r digwyddiadau pwysicaf a effeithiodd ar ein holl gymunedau ni ledled y DU, ac, wrth gwrs, ar lawer yn rhyngwladol, ac rwy'n llwyr gefnogi'r gwaith y mae'n ei wneud. Rwy'n credu y bydd y rhai sy'n gwylio'r agweddau hynny ar yr ymchwiliad yn cydnabod iddo fod yn ymchwiliad effeithiol iawn. Wrth ymdrin â'ch pwynt olaf chi, y mater o ran yr ymchwiliad i Gymru gyfan, rwyf i bob amser wedi bod o'r farn mai'r ffordd fwyaf effeithiol o wneud hyn, o gynnal ymchwiliad, fyddai cael ymchwiliad o ran y DU. Pe byddwn i wedi bod o'r farn y byddai dewis amgen wedi bod yn well ac yn fwy effeithiol, yna fe fyddwn i wedi cefnogi hwnnw, ond nid wyf i'n ei gweld hi felly, oherwydd y ffordd y mae'r gwahanol agweddau ar wneud penderfyniadau ac ymgysylltu wedi bod mor ddilechdidol a rhyng-gysylltiedig, a bod y pwerau i ymchwiliad COVID ar lefel y DU yn llawer mwy eang hefyd na'r rhai a fyddai wedi bod ar gael i ymchwiliad ar gyfer Cymru yn unig. Nid wyf i'n credu y byddai ymchwiliad ar gyfer Cymru yn unig wedi gallu cyflwyno'r mathau o atebion yr wyf i o'r farn y mae'r ymchwiliad COVID yn ei wneud.

O ran y pwyntiau eraill y gwnaethoch chi eu codi, a gaf i ddweud hefyd, ar y dechrau yn deg, cyn i'r ymchwiliad ei hun ddechrau, fod Prif Weinidog Cymru ar y pryd yn gwbl eglur y byddai'r gyfradd uchaf bosibl o ddatgeliad ac, mewn gwirionedd, ildio—y wlad gyntaf i ildio hawl i fraint o ran dogfennau, y mae, wrth gwrs, Llywodraeth y DU yn parhau i'w chadw mewn gwirionedd, ac, wrth gwrs, ar y sail bod gan yr ymchwiliad hawl i ba bynnag wybodaeth y mae'n ystyried yn gymwys mewn gwirionedd. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn cydweithredu yn llawn â cheisiadau am wybodaeth ar gyfer yr ymchwiliad. Rydym ni wedi datgelu trawsgrifiadau negeseuon WhatsApp a negeseuon testun a chipluniau sgrîn. Bydd Llywodraeth Cymru yn datgelu unrhyw gyfathrebu anffurfiol, ac os gofynnir am unrhyw wybodaeth bellach fe fydd honno'n cael ei darparu. Bydd yr ymchwiliad yn adolygu ac yn penderfynu a yw'r cyfathrebiadau anffurfiol yn berthnasol i ymateb Llywodraeth Cymru i COVID-19 ai peidio, ond fe geir ymrwymiad llwyr i'r ystyriaeth y dylai'r ymchwiliad fod yn cael yr hyn y mae'n ei gredu sy'n angenrheidiol.

15:05
Cyngor Cyfreithiol am Ddim

5. Beth mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ei wneud i wella mynediad at gyngor cyfreithiol am ddim ledled Cymru, yn dilyn toriadau i Gyngor ar Bopeth? OQ61328

Diolch i chi am eich cwestiwn. Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw sicrhau bod cyngor cyfreithiol ar gael ac yn fforddiadwy i'r rhai sydd â'r angen amdano. O'n rhan ni, rydym ni wedi amddiffyn y gronfa gynghori sengl gwerth £11 miliwn yng nghyllideb 2024-25 i helpu pobl o'n cymunedau mwyaf difreintiedig ac ymylol, i'w galluogi i gael gafael ar y cyngor a'r cymorth y mae eu hangen arnyn nhw.

Diolch i chi. Rwy'n bryderus iawn ynghylch pan fydden nhw'n cael budd-daliadau a phethau tebyg, nid yw llawer o bobl yng Nghymru mewn gwirionedd yn cael y budd-daliadau llawn y mae ganddyn nhw hawl i'w cael a dyna pam mae Cyngor ar Bopeth â rhan mor bwysig yn hyn o beth. Mae ffigurau yn dangos bod dros £2 biliwn yn cael ei adael ar ôl heb ei hawlio yng Nghymru. Felly, mae'r arian hwnnw'n perthyn i'r bobl hyn. Mae Advicelink Cymru, gyda phwysau costau byw dros y blynyddoedd diwethaf, wedi cael ei hyrddio'n bendramwnwgl gan bobl sy'n chwilio am gymorth, ond mae'r arian hwn dal heb ei hawlio. Rwy'n nodi bod Canolfan Cyfraith Gymunedol Gogledd Cymru, a sefydlwyd yn 2022, yn darparu gwasanaeth y mae mawr ei angen i rai sydd ag angen cyngor cyfreithiol am ddim. A wnewch chi gytuno â mi bod angen i ni wneud mwy—y Gweinidogion i gyd a ninnau'r gwleidyddion? Os yw'r wybodaeth gennym ni, mae angen i ni ddod o hyd i'r bobl hyn, pan fo'r arian hwn yn ddyledus iddyn nhw, a sicrhau eu bod nhw'n ei gael. Diolch.

Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i chi? Mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn yr ydych chi'n ei godi, mewn gwirionedd, yn ogystal â'r pwynt yr ydych chi'n ei godi o ran y gogledd a'r prosiect braenaru ac yn y blaen. Rwy'n credu bod y rhain yn bwysig, ac fe wn i mi fod yn ymgysylltu â'r Is-Ysgrifennydd Gwladol blaenorol dros Gyfiawnder, Arglwydd Bellamy, yn ddyfal iawn ynglŷn â'r braenaru; roedd yr Aelod Jane Hutt, sef y Gweinidog bryd hynny, a minnau'n ymgysylltu gyda'r bwriad o fod yn annog ymestyniad y prosiect hwnnw. Fe aethom ni i fyny i'r gogledd i weld sut roedd hwnnw'n gweithio, ac rwy'n credu ein bod ni wedi llwyddo o ran cael cytundeb gan Arglwydd Bellamy. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn rhywbeth a fydd yn mynd yn ei flaen nawr i fod yn berthnasol i'r de-ddwyrain hefyd.

Yr hyn na allwn ni wneud iawn amdano, wrth gwrs, yw'r toriadau difrifol sydd wedi digwydd ers 2010 o ran cymorth cyfreithiol. Ond a gaf i ddweud, un maes—? Fe wnaethoch chi godi pwynt pwysig iawn ynglŷn â budd-daliadau. Mae biliynau o bunnau o fudd-daliadau yn mynd heb eu hawlio bob blwyddyn. Rwyf i o'r farn bob amser mai un o swyddogaethau'r asiantaeth les ac ati yw y dylai'r budd-daliadau sydd heb eu hawlio fod yn cael eu cyfeirio at ddarparu cyngor mewn gwirionedd ar gyfer sicrhau bod cymaint â phosibl o bobl yn manteisio ar y budd-daliadau hynny. Mae'r cronfeydd hynny ar gael; yr hyn sy'n digwydd yw eu bod nhw'n mynd yn ôl i goffrau'r Llywodraeth yn ganolog, ond mewn gwirionedd, rwy'n credu y dylid eu defnyddio nhw i sicrhau bod cymaint â phosibl yn manteisio arnyn nhw—dyna fyddwn i'n hoffi ei weld yn digwydd.

Cronfeydd sy'n Cymryd lle Rhai'r UE

6. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar y potensial o rannu penderfyniadau gyda Llywodraeth y DU ar gronfeydd sy’n cymryd lle rhai’r UE? OQ61324

Diolch i chi am eich cwestiwn. Mae cyllid wedi Brexit wedi bod yn ymarfer digyswllt a sinigaidd o ran torri cyllidebau Cymru a chanoli cyfrifoldebau datganoledig. Mae'n rhaid mai mater i Lywodraeth Cymru, y Senedd a'n partneriaid fydd penderfynu ar gam nesaf y buddsoddiad rhanbarthol yng Nghymru a'i gyflawni, ac fe fyddwn ni'n trafod hyn gyda Llywodraeth newydd y DU.

Wel, diolch yn fawr iawn i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb yna. Wrth gwrs, mae'r Llywodraeth Lafur yma wedi bod yn barod iawn i feirniadaeth o'r Ceidwadwyr yn San Steffan, wrth iddyn nhw hepgor Llywodraeth Cymru er mwyn ariannu prosiectau yma. Ond, yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydyn ni wedi clywed mai dyna hefyd ydy bwriad Llafur yn San Steffan, a hynny yn dilyn cyhoeddiad gan Jo Stevens ar y teledu rhai wythnosau yn ôl. Sut mae hynny, felly, am weithio, ac ydy'r Cwnsler Cyffredinol yn credu bod hyn yn foddhaol?

15:10

Wel, a gaf i ddweud nad yw hwnnw'n bortread cywir, yn fy marn i, o'r sefyllfa a oedd yn bodoli yn flaenorol, a'r sefyllfa a fydd yn cael ei hadfer mewn gwirionedd pan fydd Llywodraeth Lafur gennym ni? Yn y gorffennol, wrth gwrs, fe fyddai Comisiwn yr UE yn gosod fframwaith o ran buddsoddiad strwythurol rhanbarthol a buddsoddiad cymdeithasol. Fe fyddai'r fframwaith hwnnw'n bodoli, ac yna Llywodraeth y DU, ac fe fyddem ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU ar gyfer datblygu rhan benodol y DU o'r rhaglen arbennig honno. Yna, fe fyddem ni'n datblygu'r rhaglenni mewn gwirionedd a fyddai'n dod o fewn y fframweithiau hynny ac a fyddai'n berthnasol i Gymru. Ac yna fe fyddem ni'n ymgysylltu yn arbennig ac yn uniongyrchol â'r UE o ran y rhaglenni penodol hynny. Ni allwn ddianc rhag y ffaith, yn anffodus, ein bod ni wedi dod allan o'r UE, yn sicr, ar hyn o bryd, ac yn sicr o'r farchnad sengl. Ond mae'r syniad, o ran y ffaith y dylai fod yna fframwaith ledled y DU, o leiaf, yn ddim byd ond adfer y sefyllfa a oedd yn bodoli o'r blaen mewn gwirionedd.

Yr hyn a wnaeth y Llywodraeth Geidwadol drwy Ddeddf y Farchnad Fewnol a mesurau eraill oedd mynd heibio Llywodraeth Cymru a'r cyfrifoldebau datganoledig sydd gan Lywodraeth Cymru yn gyfan gwbl. Mae'r cyfrifoldebau penodol hynny am gael eu hadfer erbyn hyn mewn gwirionedd. Felly, mae hwn yn adferiad sylweddol iawn o ran cyfrifoldebau, ac yn adferiad sylweddol iawn o ran y cyllid sy'n dod i Gymru, ac yng Nghymru y caiff y penderfyniadau eu gwneud, ac, wrth gwrs, fe fydd hynny'n fanteisiol i ni, oherwydd nid oes anfantais i wneud hyn—i allu ymgysylltu ar fframwaith ehangach ledled y DU o ran buddsoddi, o ran buddsoddiad rhanbarthol. Felly, rwy'n hyderus iawn y bydd adfer y cyfrifoldebau hynny yn welliant sylweddol iawn, ac mae hwnnw'n waith pwysig iawn o ran adfer swyddogaethau datganoledig.

Offerynnau Statudol yn Gymraeg a Saesneg

7. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed ar sicrhau bod offerynnau statudol Cymru ar gael yn Gymraeg a Saesneg? OQ61305

Wel, rydym ni wedi ymrwymo i wella hygyrchedd y gyfraith ac, fel rhan o'n gweledigaeth ni ar gyfer hyrwyddo a hwyluso'r Gymraeg fel iaith cyfraith, rydym ni'n dymuno gweld pob offeryn statudol yn cael ei lunio a'i gyhoeddi yn ddwyieithog ar wedd gyfredol.

Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Dwi'n falch o glywed eich dyhead chi, ac roeddwn yn falch o ddarllen yn ddiweddar, yn adroddiad blynyddol 2023 ar ddyfodol cyfraith Cymru, fod 96 y cant o Ddeddfau a Mesurau Cymru ar gael yn y ddwy iaith. Fodd bynnag, fel rydych chi'n gwybod, nid yw hynny'n wir am offerynnau statudol, gyda dim ond 43 y cant ohonynt ar gael yn y Gymraeg. Os yw'r Gymraeg i'w thrin yn gyfartal â'r Saesneg, yna mae'n hafodol bod y ffigur bychan yma yn cynyddu'n sylweddol ac yn gyflym. Yn ogystal, byddwch yn gwybod, Gwnsler Cyffredinol, fod y pwyllgor deddfwriaeth wedi ysgrifennu atoch yn y gorffennol gyda chywiriadau i'r fersiynau Cymraeg. Beth, felly, ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod y fersiynau Cymraeg o ddeddfwriaeth ar gael yn amserol ac yn gywir? Diolch yn fawr.  

A gaf i ddiolch i chi? Mae hwn yn ddarn pwysig iawn o waith y mae angen ei wneud, ac mae yna waith yn mynd rhagddo. Fe fu yna gynnydd sylweddol, ac, fel rwy'n dweud wrth bobl yn aml iawn, rydym ni'n creu geiriadur cyfreithiol Cymraeg cwbl newydd erbyn hyn—un nad oedd yn bod o'r blaen—o ran y derminoleg, o ran y defnydd o iaith, ar y sail ei bod hi'n ofynnol i gyfreithiau yng Nghymru fod ar gael â statws cyfartal yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Pan fyddwn ni'n llunio cyfreithiau yng Nghymru, wrth gwrs, rydym ni'n eu llunio nhw'n ddwyieithog. Rwy'n croesawu'r gwaith a wnaeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn fawr iawn, yn benodol, ar gyfer bod â'r sicrwydd nad oes unrhyw reswm pam na ddylid llunio'r cyfreithiau hynny sy'n cael eu llunio ar y cyd, gan gynnwys Llywodraeth y DU, yn Gymraeg ar yr un pryd. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n credu ei bod hi'n annerbyniol i gyfeirio tuag at y Gymraeg fel iaith gwrteisi o ran argaeledd rhai o'r cyfreithiau hyni. Nid iaith gwrteisi mo'r Gymraeg o ran unrhyw gyfraith sy'n berthnasol yng Nghymru, mae hi'n iaith gyfartal, ac mae hwnnw'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni barhau i'w gynnal ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n cael cynnydd pellach yn hyn o beth.

Rydym ni, wrth gwrs, wedi bod yn diweddaru deddfwriaeth ar y wefan deddfwriaeth.gov.uk, ac rwy'n gwybod y bydd yr Aelod yn gyfarwydd â hi. Ers i ni ddechrau gweithio gyda'r tîm, rydym ni wedi gallu diweddaru 70.5 y cant o destun Cymraeg offerynnau statudol Cymru, ac 81.2 y cant o destunau yn y Saesneg. Mae hwnnw'n brosiect hirdymor gan fod dros 40,000 o effeithiau yn berthnasol i offerynnau statudol Cymru, nifer a fydd yn cynyddu eto wrth i ddeddfwriaeth gael ei diwygio yn y dyfodol. Ond rwy'n cymeradwyo'r aelodau staff hynny, y swyddogion hynny a'r cyfreithwyr hynny sy'n gweithio i Lywodraeth Cymru. Mae hwn yn ymrwymiad mawr i gyflawni hyn, i wneud cynnydd, ac fe fyddwn ni'n sicrhau'r cynnydd hwnnw cyn gynted ag y gallwn ni. Fel gŵyr yr Aelod, am resymau hanesyddol, mae yna ôl-groniad enfawr a llawer o waith i'w wneud eto, yn ogystal â mater codio a chydgrynhoi, sydd hefyd wrth gwrs yn trosglwyddo cyfraith a ysgrifennwyd yn Saesneg yn bennaf i fod yn destun dwyieithog.

15:15
Deddf Meinweoedd Dynol 2004

8. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch goblygiadau Deddf Meinweoedd Dynol 2004 ar y ffordd y mae cyrff yn cael eu cadw mewn corffdai ysbytai? OQ61318

Diolch i chi am eich cwestiwn. Sefydlodd Deddf Meinweoedd Dynol 2004 yr Awdurdod Meinweoedd Dynol i reoleiddio gweithgareddau sy'n ymwneud â thynnu, storio, defnyddio a chael gwared â meinweoedd dynol. Bydd corffdai yn ysbytai'r GIG sy'n ymgymryd â gweithgarwch trwyddedadwy, fel post-mortem, yn cael eu trwyddedu ac yn destun archwiliadau gan yr awdurdod.

Diolch yn fawr iawn i chi am hynna. Rydych chi'n siŵr o fod yn ymwybodol o'r materion a gododd ychydig fisoedd yn ôl pan, yn ysbyty'r Faenor, gafodd y cyrff anghywir eu cludo i deuluoedd ar gyfer claddedigaethau. Fe fyddwn i'n ddiolchgar i gael deall a fu unrhyw asesiad cyfreithiol gan Lywodraeth Cymru ynghylch y mater hwnnw, yn gyntaf i gyd.

Codwyd cwestiynau dirdynnol iawn hefyd ynglŷn â'r ysbyty hwnnw o ran ffotograffau a dynnwyd o bobl ar farw ac o gyrff y meirw yn ystod pandemig COVID. Mae perthnasau'r rhai a gollodd eu bywydau yn ystod COVID wedi codi pryderon gyda mi ynglŷn â sut y tynnwyd y ffotograffau hynny pan na allai eu perthnasau fod wedi cydsynio. Roedd y bobl hynny dan ofal y GIG, siawns na fydden nhw wedi bod â hawl i breifatrwydd yn ôl y gyfraith dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998, sy'n nodi'r hawliau ar gyfer rheoli sut gellir rhannu gwybodaeth am eich bywyd preifat, sy'n gynnwys ffotograffau a gafodd eu tynnu yn y dirgel.

Felly, os gwelwch chi'n dda, pa drafodaethau a gawsoch chi neu a gewch chi gyda'r Awdurdod Meinweoedd Dynol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn â'r materion hynny a godwyd yn ysbyty'r Faenor?

Diolch i chi am godi'r rhai o'r pwyntiau pwysig a gofidus iawn yn fy marn i—sy'n arbennig o ofidus i'r teuluoedd sy'n gysylltiedig â'r digwyddiadau hynny. Rydym ni'n gallu deall yn llwyr y gofid y maen nhw wedi ei ddioddef o ganlyniad i hynny. Ac wrth gwrs, unwaith eto, fe fu yna nifer o ddigwyddiadau cysylltiedig yn Lloegr hefyd—fel gwyddoch chi, cynhaliwyd ymchwiliad Fuller—yn ogystal â'r materion a ddigwyddodd yn y Faenor.

Felly, rydym ni'n cymryd safonau'r gofal yng nghorffdai'r GIG ac o ran urddas yr ymadawedig yn ddifrifol iawn. Rydym ni'n disgwyl i fyrddau iechyd y GIG gydymffurfio â gofynion y gyfraith, i fodloni safonau'r Awdurdod Meinweoedd Dynol, a bod yn dryloyw ac yn onest pan wneir camgymeriadau. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad rheolaidd â'r Awdurdod Meinweoedd Dynol, sy'n awdurdod iechyd arbennig yng Nghymru a Lloegr, ac wrth gwrs rydym ni'n penodi cynrychiolydd i hwnnw. Lle bod angen, mae swyddogion yn gweithio ar gyfer sicrhau y cydymffurfir yn llawn â'r safonau diogelwch a gofal mewn corffdai.

A gaf i ddweud hefyd fod y bwrdd iechyd yn cynnal ymchwiliad a fydd yn cael ei adolygu gan Weithrediaeth GIG Cymru, a golygir nodi unrhyw gamau neu ddysgu gofynnol eisoes ar gyfer gweddill Cymru a'u rhannu â sefydliadau eraill y GIG?

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd a'r Prif Chwip fydd yn gwneud y datganiad yma. Jane Hutt.

15:20

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i fusnes y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon. Mae'r amser sy'n cael ei neilltuo i'r cwestiynau i Gomisiwn y Senedd yfory wedi ei leihau i 10 munud. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

Hoffwn alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio ar fethiant Cyngor Sir Ddinbych i gyflwyno casgliadau gwastraff wrth ymyl y ffordd, a oedd, i ryw raddau, yn gynllun a grëwyd ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Y rheswm pam mae fy etholwyr mor ddig ar hyn o bryd yw bod y materion yn mynd ymhell y tu hwnt i broblemau cychwynnol. Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cael chwe blynedd i gynllunio ar gyfer cyflwyno'r cynllun hwn, ond hyd yn hyn rydym wedi gweld analluogrwydd llwyr ac, yn amlwg, diffyg diwydrwydd dyladwy wrth gynllunio i gyflwyno cynllun Trolibocs. Darparodd Llywodraeth Cymru gyllid ar gyfer tryciau sbwriel trydan newydd, sydd ond yn gallu casglu cyfran fach o'r gwastraff y gallai'r cerbydau blaenorol ei wneud, y mae wedi'i ddatgelu'n ddiweddar. Mae hyn, ar ben y prinder staff, wedi achosi methiant llwyr o ran gallu'r cyngor i gyflawni un o'r dyletswyddau mwyaf sylfaenol y mae trethdalwyr yn eu disgwyl ohono. Mae'r cyfathrebu rhwng trigolion a'r cyngor hefyd wedi bod yn warthus.

Felly, o ystyried bod Llywodraeth Cymru yn rhannu rhywfaint o'r bai oherwydd y cymhellion ariannol a osodwyd ar y cyngor, hoffwn i'r Ysgrifennydd Cabinet amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych i ddod o hyd i ateb yn gyflym a sicrhau bod preswylwyr yn cael eu diweddaru'n briodol ar unrhyw ddatblygiadau. Diolch.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch yn fawr, Gareth Davies. Wel, roeddwn i'n meddwl ein bod ni wedi cael trafodaeth fuddiol iawn, mewn gwirionedd, yn gynharach. Rwy'n siŵr ei bod wedi bod yn ddefnyddiol i chi hefyd, y cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'i ymatebion iddyn nhw—rwy'n credu eu bod wedi dod gan Darren Millar. Yn amlwg, rwyf wedi ateb cwestiynau bob wythnos ar y mater hwn, ac rwy'n credu ei bod hefyd wedi bod yn ddefnyddiol iawn clywed gan Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru, Carolyn Thomas, gan fod ganddi rôl cabinet yng Nghyngor Sir y Fflint o ran casglu gwastraff, a'r ffordd yr ydym, gyda'n gilydd ledled Cymru—ein holl awdurdodau lleol—yn cyflawni ar y newidiadau pwysicaf y mae angen i ni ymdrechu i'w cyflawni wrth gasglu gwastraff.

Rwy'n credu na allaf ond ychwanegu at yr hyn rwyf wedi'i ddweud ar achlysuron blaenorol sef bod y newidiadau y mae sir Ddinbych yn eu gweithredu—ac, wrth gwrs, symud i'r gwasanaeth ailgylchu hwnnw wrth ymyl y ffordd yw hynny—yn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'r glasbrint casglu, a dyna'r arfer gorau a argymhellir gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn deall ac rydym yn ymwybodol—. Ac rwyf wedi cael llawer o ymatebion o'm hymatebion yr wythnos diwethaf, ac rwyf yn parchu'r materion y mae preswylwyr wedi'u codi, ac, wrth gwrs, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd yn ymateb i'r rheini.

Rwy'n gobeithio, mewn gwirionedd, y bydd y cynghorwyr arbenigol, WRAP Cymru, sy'n gweithio gyda sir Ddinbych i ddatrys materion uniongyrchol, monitro'r gwasanaeth, nodi sut y gellir gwreiddio hyn, i gyflawni'r gwelliannau hynny, ac, yn y pen draw, rydym yn gobeithio na fydd y problemau'n para'n hir, gan ein bod ni wedi gweld trawsnewidiadau llwyddiannus sydd eisoes wedi'u cyflawni gan awdurdodau eraill ledled Cymru.

Trefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, a hefyd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Efo'r gwyliau haf yn prysur agosáu, dwi wedi cael nifer o gyrff sydd fel arfer yn cefnogi teuluoedd yn y gwyliau, megis banciau bwyd ac ati, ynghyd ag ysgolion, yn gofyn am wybodaeth ynglŷn â pha ddarpariaeth a chefnogaeth fydd ar gael. Mae yna'n dal ansicrwydd o ran beth fydd yn rhedeg a beth fydd ddim, a pha gymorth fydd ar gael, er enghraifft, efo cost trafnidiaeth ac ati. Ac rydyn ni'n gwybod i nifer o deuluoedd pa mor hanfodol ydy'r ddarpariaeth hon o ran galluogi rhieni i fod yn gweithio ac ati dros yr haf, ond hefyd er mwyn sicrhau bod nifer o blant, fel byddwch yn gwybod, yn fy rhanbarth i, sydd yn dioddef yn anffodus oherwydd tlodi plant, i sicrhau eu bod nhw'n gallu cael mynediad at fwyd yn rhwydd ac ati. Felly, a gawn ni eglurder, os gwelwch yn dda, pryd fydd y wybodaeth yma ar gael, a phryd y cawn ni, fel Aelodau'r Senedd, wybod am hyn hefyd, er mwyn sicrhau ein bod ni'n rhoi'r cyngor iawn i'r rheini sydd yn dod atom ni?

Diolch yn fawr, Heledd Fychan, a diolch am dynnu sylw at hyn hefyd. Mae hwn yn fater pwysig iawn i deuluoedd yng Nghymru. Diolch yn fawr am y cwestiwn pwysig iawn.

Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth lle rydym yn edrych ar ddarparu nid yn unig y rhaglen gwella gwyliau'r ysgol, y gwyddoch ei bod wedi'i chyflwyno gan awdurdodau lleol ledled Cymru, ond hefyd rydych chi'n dod â'r holl elfennau o ran sut y gallwn ni helpu teuluoedd a phlant, yn enwedig y rhai yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig, i gael mynediad at fwyd yn ogystal â hamdden, a materion yn ymwneud â gofal plant, wrth gwrs, hefyd. Ac mae hon yn fenter ac yn gyfrifoldeb trawslywodraethol, felly byddaf yn sicr yn gofyn i'r Ysgrifenyddion Cabinet perthnasol ddod yn ôl i adrodd ar y ffyrdd yr ydym yn cefnogi teuluoedd, plant a phobl Cymru yn ystod y gwyliau haf sydd i ddod. 

15:25

Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad. Wrth ymgyrchu yn yr etholiad, rwyf wedi cael fy siomi gyda nifer y tai gwag, ac mae hynny'n cynnwys tŷ pum ystafell wely ar wahân. Er bod y benthyciadau ar gyfer uwchraddio a'r dreth gyngor ychwanegol yn cael rhywfaint o effaith, a gaf i ofyn am ddatganiad ar ba gamau pellach y gall y Llywodraeth eu cymryd, a gofyn i'r Llywodraeth ystyried ystod o opsiynau, gan gynnwys caniatáu i gynghorau brynu eiddo sydd wedi bod yn wag ers pum mlynedd yn orfodol?

Yn ail, mae'r ffaith nad oes gennym ni ddigon o ddeintyddion yn amlwg i unrhyw un sy'n chwilio am ddeintydd y GIG. Yn dilyn y bleidlais i dynnu'n ôl o'r Undeb Ewropeaidd, yn y practis deintyddol rwy'n ymwybodol ohono, fe adawodd nifer fawr o ddeintyddion o ddwyrain a de Ewrop. Er bod y Llywodraeth yn gwneud cynnydd ar hyfforddi deintyddion, a gawn ni ddatganiad ar recriwtio deintyddion o dramor, yn debyg i'r hyn sy'n cael ei wneud i recriwtio nyrsys, ac ar y cynnydd o ran cael deintyddion i lofnodi contract newydd y GIG?

Diolch yn fawr iawn, Mike Hedges, am y ddau gwestiwn pwysig iawn hynny. O ran cartrefi gwag, rwy'n gwybod eich bod chi wedi codi'r cwestiwn hwn mewn datganiadau busnes blaenorol, a hefyd, rwy'n siŵr, i Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol a thai. Rydym yn gwybod y gall cartrefi gwag nid yn unig fod yn falltod ac yn niwsans yn ein cymunedau, ond maen nhw hefyd yn wastraff llety byw i bobl sydd angen y cartrefi hynny.

Felly, dim ond i grynhoi'r ymyriadau a'r ffrydiau ariannu hynny sydd gennym i leihau nifer y cartrefi gwag yng Nghymru: ym mis Ionawr 2023, fe gyhoeddon ni'r grant cartrefi gwag i sicrhau bod 2,000 o eiddo gwag hirdymor—ac mae llawer ohonyn nhw wedi bod yn wag am gyfnod hir, fel y dywedwch chi—yn cael eu defnyddio eto. Mae Cynllun Prydlesu Cymru, grant tai cymdeithasol a'r rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro. Ac, mewn gwirionedd, mae'r grant cartrefi gwag yn darparu grantiau o hyd at £25,000 i gael gwared ar beryglon sylweddol o'u heiddo, a chafwyd 721 o geisiadau dilys i'r cynllun hyd yma, yn ogystal â 65 eiddo wedi'u cwblhau, gyda phob perygl categori 1 wedi'i ddileu.

Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth lle rydym yn cefnogi awdurdodau lleol i ddefnyddio'r ystod lawn o'r pwerau deddfwriaethol sydd ganddyn nhw. Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant i gynghorwyr a swyddogion, ac mae pob awdurdod lleol hefyd wedi llunio cynlluniau gorfodi ym maes eiddo gwag, y mae pob un ohonyn nhw'n nodi o leiaf 10 eiddo gwag ar gyfer blaenoriaethu camau gweithredu. Felly, mae hwn yn faes polisi pwysig yr wyf yn siŵr y bydd holl Aelodau'r Senedd eisiau edrych arno a'i fonitro gyda'u hawdurdodau lleol.

O ran eich ail bwynt ynglŷn â deintyddiaeth, mae hwn yn fater rydych wedi'i godi, mewn gwirionedd, ynghylch recriwtio a chadw deintyddion o dramor. Mae'n heriol oherwydd rheolau cofrestru'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol. Does dim cofrestriad dros dro fel sydd mewn meddygaeth ar gyfer meddygon. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ddeintyddion sydd wedi astudio y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd sefyll arholiad ychwanegol i sicrhau cofrestriad GDC.

Cyn cyhoeddi etholiad cyffredinol y DU, lansiodd y Cyngor Deintyddol Cyffredinol ymgynghoriad ar wneud newidiadau i alluogi cofrestru dros dro. Mae hwnnw wedi cael ei ohirio tan ar ôl yr etholiad. Rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth newydd y DU yn codi'r mater ar unwaith er mwyn agor y drysau i recriwtio deintyddion o dramor. Mae hyn yn bwysig, gan fod angen i ni recriwtio a chadw'r deintyddion hyn, ac mae eu hangen arnom yn y GIG. Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth lle mae'r contract sydd gennym yng Nghymru yn bwysig, gan annog deintyddion i ddarparu gofal a thriniaeth ar sail risg ac angen.

15:30

Trefnydd, hoffwn alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ynghylch cyllid gofal iechyd parhaus. Rwyf wedi cael nifer sylweddol o negeseuon e-bost gan bobl sy'n pryderu'n ddifrifol am y newidiadau yn lefel y cyllid gofal iechyd parhaus gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr—cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yn y pen draw—a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar gapasiti ac urddas sylfaenol pobl sydd angen gofal, a'r cyllid hwnnw ar gyfer eu gofal. Fe fyddwch chi'n gwybod bod llawer o bobl fregus sy'n dibynnu ar y cyllid ar gyfer eu hanghenion gofal iechyd. Mae toriad mewn termau real i'r cyllid hwnnw ar hyn o bryd yn gadael bwlch wythnosol o tua £114 i rai pobl allu diwallu'r anghenion gofal iechyd sydd ganddyn nhw. Fe wnaeth un preswylydd sôn mewn e-bost i mi fod hyn yn teimlo fel penderfyniad byrbwyll a diofal arall, gan adael y bobl oedrannus fwyaf bregus ac anghenus mewn argyfwng. Yn amlwg, Trefnydd, mae pobl yn poeni'n fawr am hyn, ac maen iawn iddyn nhw deimlo felly. Felly, byddai datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet i fynd i'r afael â'r pryderon hyn yn cael ei groesawu'n fawr.

Diolch am y cwestiwn hwnnw. Mae ariannu gofal iechyd cymunedol, fel y gwyddoch chi, yn dibynnu'n fawr ar asesiad priodol o anghenion gofal claf. Mae hyn, wrth gwrs, yn rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ymwneud yn fawr ag ef. Yn wir, mae hefyd yn gysylltiedig iawn, yn aml, ag ystyried asesu sy'n ymwneud â gofal parhaus, gofal cymdeithasol ac opsiynau a diagnosis clinigol priodol ar gyfer trosglwyddo gofal o'n hysbytai hefyd. Byddaf yn gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet am ddiweddariad i egluro argaeledd gofal parhaus o ran cyllid, ond hefyd yng nghyd-destun yr asesiad, sy'n asesiad clinigol o ran yr angen am gyllid gofal clinigol i gleifion yn y sefyllfa hon.

Heddiw, dylem ddathlu cyflawniadau Douglas Gowan, yn dilyn ei sylwadau ar ddiffygion geni mewn gwartheg fel rhan o'i waith dros Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn ôl ym 1967. Erbyn hyn, rydym yn gwybod bod llygredd yn dod o chwareli Brofiscin a Meisgyn gerllaw, a oedd yn cael eu defnyddio fel safleoedd tirlenwi, yn enwedig gan Monsanto wrth ddympio biffenylau polyclorinedig. Er bod hwn yn fater hanesyddol, mae'n ymddangos nad yw PCBs yn diraddio a'u bod nhw'n dal i fod yn llygryddion pwerus iawn. Fe dreuliodd 50 mlynedd yn ymgyrchu yn erbyn dympio'r pethau hyn mewn safleoedd tirlenwi, yn enwedig mewn cymunedau tlawd. Ddoe, datgelodd cyfres o bodlediadau gan ddau newyddiadurwr ymchwiliol, Dan Ashby a Lucy Taylor, faint o waith yr oedd Gowan wedi'i wneud, a'i laddodd yn y pen draw nôl yn 2018. Tybed a allem gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd ar (a) pa indemniadau y bu'n rhaid i Monsanto eu gwneud cyn iddyn nhw werthu eu ffatri yng Nghasnewydd i gwmni arall, oherwydd yn amlwg mae rhai rhwymedigaethau cyfreithiol yn y fan yma sydd heb eu cyflawni, a (b) a allai'r Ysgrifennydd Cabinet hefyd amlinellu faint o'r safleoedd hyn a ddefnyddiwyd i waredu PCBs, a yw Llywodraeth Cymru yn gallu eu lleoli, a beth yw eu statws presennol.

Yn ail, ar fater cwbl wahanol—

Diolch yn fawr, Jenny Rathbone. Rydych chi wedi tynnu sylw at fater pwysig iawn. Diolch am gydnabod effaith hyn, yn enwedig ar y person a oedd mor gysylltiedig â mynd i'r afael â hyn a thynnu hyn at sylw'r awdurdodau priodol. Er mwyn egluro, ac ar gyfer y cofnod, adferwyd chwarel Brofiscin yn llwyddiannus nôl yn 2012-13, trwy gapio'r safle. Cafodd y gwaith hwnnw ei oruchwylio gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Nhw oedd y corff rheoleiddio a oedd yn gyfrifol am sicrhau bod y safle yn cael ei adfer, ar ôl iddo gael ei bennu'n dir halogedig o dan Ran IIA Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, a hynny gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Wrth gwrs, cysylltodd Llywodraeth Cymru yn agos iawn â Cyfoeth Naturiol Cymru a'r cyngor drwy gydol y broses ymchwilio ac adfer. Darparwyd cymorth ariannol i alluogi gwaith adfer a hefyd i liniaru risg llygredd posibl. Byddaf yn tynnu sylw'r Ysgrifennydd Cabinet dros newid hinsawdd at y cwestiynau rydych chi wedi'u gofyn ac yn gofyn iddo ymateb yn ysgrifenedig i hyn. Ond fe rannaf hyn—gyda'ch caniatâd—yn y llyfrgell ar gyfer yr holl Aelodau. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n cydnabod ein bod ni wedi gweithredu rhaglen grant cyfalaf tir halogedig yn ôl disgresiwn yn flaenorol. Mae honno wedi cael ei hariannu dros y blynyddoedd, ac mae wedi cefnogi awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i dargedu safleoedd sy'n achosi'r risg fwyaf i iechyd a'r amgylchedd ehangach.

15:35

Trefnydd, rwy'n gofyn unwaith eto am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r sefyllfa barhaus ar safle tirlenwi Withyhedge yn fy etholaeth. Fe wrandawais i'n ofalus ar sylwadau'r Prif Weinidog yn gynharach mewn ymateb i arweinydd yr wrthblaid, ond yn ei holl sylwadau doedd dim ymrwymiad o hyd gan Lywodraeth Cymru i ymyrryd a chefnogi'r gymuned mewn gwirionedd. Mae'n rhwystredig iawn ac, a dweud y gwir, yn ofnadwy ei bod wedi cymryd rhaglen ddogfen Channel 4 i Lywodraeth Cymru hyd yn oed alw am adolygiad, tra rwyf wedi gofyn wythnos ar ôl wythnos am gefnogaeth i fy etholwyr, sydd wedi bod yn byw yn y sefyllfa ofnadwy hon ers misoedd.

Ni ellir caniatáu i'r sefyllfa bresennol barhau. Ni all pobl barhau i ddioddef yn nwylo'r gweithredwr hwn. Yn fy marn i, dylai'r safle nawr gael ei gau'n barhaol. Mae'r sgandal hon wedi arwain pobl i gwestiynu a yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn addas at y diben bellach. Mae'n hanfodol bod ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i fynd at wraidd y llanast hwn. O gofio bod Llywodraeth Cymru yn cynnal yr adolygiad hwn erbyn hyn, mae angen i ni wybod beth mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth nawr gyflwyno datganiad yn esbonio yn union sut olwg fydd ar yr adolygiad hwnnw a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r rhai y mae'r sefyllfa ofnadwy hon yn effeithio arnyn nhw.

Diolch yn fawr, Paul Davies. Rwy'n cydnabod eich bod chi wedi codi'r cwestiwn hwn gyda mi ar sawl achlysur yn y datganiad busnes, ac, wrth gwrs, fe'i codwyd gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd, ac, yn wir, gyda'r Prif Weinidog. Ac, wrth gwrs, fe gafodd sylw llawn iawn y prynhawn yma yng nghwestiynau'r Prif Weinidog. Yn amlwg, mae'r pryder ymhlith y gymuned leol yn cael ei gydnabod, ac mae'r angen i weithredu'n gyflym i atal rhagor o ofid ac arogleuon sy'n deillio o'r safle wedi cael ei bwysleisio i Cyfoeth Naturiol Cymru. Unwaith eto, fe ddywedaf fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynyddu eu presenoldeb ar y safle a byddan nhw'n parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r gymuned.

O ran y pwynt rydych chi'n ei wneud, Paul Davies, am y gymuned a'r cyfathrebu, mae ganddyn nhw eu gwefan o ran gwybodaeth, ond maen nhw'n ymgysylltu hefyd. Wrth gwrs, mae Cyngor Sir Penfro, fel y gwyddoch chi'n dda, yn gysylltiedig hefyd ac yn ystyried gwaharddeb a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredwr atal y niwsans cyhoeddus. Mae'r cyngor hefyd yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu ei her gyfreithiol yn erbyn y gweithredwr. Yn amlwg, allwn ni ddim gwneud sylwadau ar y camau cyfreithiol parhaus hyn, ond rydych chi'n gwybod bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda'r awdurdod lleol yn sir Benfro, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Hywel Dda i ddatblygu'r dull hwn ar y cyd i fynd i'r afael â materion sy'n peri pryder i'r cyhoedd ar safle tirlenwi Withyhedge.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, cyflwynwyd hysbysiadau gorfodi i'r gweithredwr tirlenwi, y mae'n ofynnol iddo orchuddio'r holl wastraff agored a chwblhau gwaith peirianneg tirlenwi i atal a chasglu nwy tirlenwi. Os na fydd y gweithredwr tirlenwi yn cydymffurfio â dyddiad cau terfynol yr hysbysiad, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried cymryd camau gorfodi priodol, yn unol â'u polisi gorfodi ac erlyn.

15:40

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf eisiau gwybod beth y mae'n rhaid i rywun ei wneud fel Aelod etholedig o'r Senedd hon i gael arwydd brown. Pan oedd yr Ysgrifennydd Cabinet nawr yn Weinidog, fe wnaeth mwyngloddiau copr y Gogarth gais am arwydd brown. Mae gennym ni hefyd y ceir cebl, y llethr sgïo a'r tram yn Llandudno—atyniadau mawr i dwristiaid. Fodd bynnag, ar yr A55, neu unrhyw le, does dim arwydd brown yn nodi bod unrhyw beth yn digwydd yn Llandudno o gwbl, ac mae ceisiadau wedi'u gwneud am hyn. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allwn i gael datganiad, neu rywfaint o help, mewn gwirionedd. Mae angen arwydd brown arnom ar yr A55 neu, yn wir, ar yr A470, sy'n dangos bod Llandudno yn gyrchfan ardderchog i dwristiaid. Mae'n debyg fy mod i wedi cymryd tua saith mlynedd. Fe wnaethon nhw gais saith mlynedd yn ôl. Mae'r cais yn dal i fod yno, yn fyw, ac maen nhw wedi aros saith mlynedd. Dydy e' ddim yn ddigon da. Felly, byddai unrhyw beth y gallwch chi ei wneud—datganiad, neu unrhyw beth—yn fy helpu'n fawr. Diolch.

Diolch, Janet Finch-Saunders. Mae gennym ni arwyddion brown ledled Cymru, sy'n ein harwain i rai lleoedd hardd iawn, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cael eich un chi. 

4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: 'Cymraeg 2050'—Ein blaenoriaethau

Eitem 4 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg ar 'Cymraeg 2050' a blaenoriaethau. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jeremy Miles. 

Member
Jeremy Miles 15:41:37
Cabinet Secretary for Economy, Energy and Welsh Language

Mae’r Gymraeg yn berthnasol ac yn ganolog i bob agwedd ar gymdeithas, ac mae’n ddyletswydd arnon ni i gyd i’w gwarchod hi felly ac i sicrhau ei bod hi’n tyfu. Mae hynny’n golygu pob un ohonon ni yn Llywodraeth Cymru a’n partneriaid. Mae yna rôl i bawb yma.

Fy mlaenoriaeth gyntaf i’r Gymraeg yw cefnogi bod pawb yng Nghymru—plant, pobl ifanc ac oedolion—yn cael cyfle teg i ddod yn siaradwyr Cymraeg. Rŷn ni ar fin cyflwyno Bil i’r Senedd sy’n galw am newidiadau trawsnewidiol i’r ffordd rŷn ni’n meddwl am y Gymraeg ac addysg er mwyn i bawb ddod yn siaradwyr. Roedd y Papur Gwyn yn gosod allan y camau rŷn ni’n eu cynnig i alluogi holl ddisgyblion Cymru i ddod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus drwy’r system addysg statudol a ffordd i adnabod sgiliau Cymraeg i wneud y daith o’r ysgol i’r gweithle yn rhwydd.

Bydd y cysyniad o ddisgrifio lefelau gallu yn y Gymraeg ac o welliant parhaus er mwyn gweddnewid deilliannau ieithyddol yn ganolog i’r Bil. Bydd cael un continwwm iaith yn golygu y bydd gan ddysgwyr, athrawon, rhieni a chyflogwyr ddealltwriaeth gyffredin o’r daith tuag at ddod yn siaradwyr Cymraeg, a’u bod yn falch o’r sgiliau maen nhw wedi’u datblygu. Byddwn ni hefyd yn cynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar er mwyn rhoi mwy o gyfleoedd i fwy o blant gael cyffyrddiad â’r Gymraeg mor gynnar â phosib. Byddwn ni’n parhau i weithio i gynyddu nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg hefyd. Mynediad at fwy o Gymraeg i fwy o bobl yw'r hyn rwyf i eisiau, ac mae addysg yn ganolog i hyn. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda fy nghyfaill Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, yn hynny o beth. 

Fy ail flaenoriaeth yw edrych ar sefyllfa’r iaith yn ein cymunedau. Rwyf wedi bod yn ffodus i ddod â’r Gymraeg o’m portffolio blaenorol i’r un newydd. Mae dod â’r Gymraeg a’r economi at ei gilydd yn rhoi cyfle newydd i ni ac fe fyddaf yn edrych ar bolisi economaidd, cynlluniau sgiliau a ffynonellau ariannu drwy lens y Gymraeg. Fe fyddaf hefyd felly yn edrych ar yr economi ochr yn ochr â thai, cynllunio gwlad a thref, datblygu cymunedol, mentrau cymdeithasol a thrafnidiaeth. Y pethau hyn oll sy’n gosod yr isadeiledd a fydd yn gyrru datblygiad economaidd ein cymunedau Cymraeg. Fe fyddaf yn gweithio gyda'r cymunedau hynny a busnesau ledled Cymru i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg, i wneud yn siŵr eu bod nhw’n gynaliadwy at y dyfodol ac yn llefydd atyniadol i bobl fyw a gweithio ynddyn nhw.

Mae’n gyfle i barhau â phethau roedden ni eisoes yn eu gwneud, fel Arfor, rhaglen economaidd sydd â’r nod o gefnogi’r Gymraeg yn ogystal â chryfhau’r economi mewn ardaloedd gorllewinol. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at glywed canlyniadau trafodaethau’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg nes ymlaen eleni. Fel y gwnes i ddweud ar ddechrau fy rôl fel Gweinidog y Gymraeg, mae’n bwysig herio’n gilydd ac edrych yn ddwfn i sefyllfa’r iaith, a pheidio â bod ofn newid a rhoi cynnig ar bethau newydd.  

Rwyf wastad wedi meddwl am bolisi iaith fel rhywbeth sy’n torri ar draws pob dim, fel cydraddoldeb neu newid hinsawdd ac yn y blaen. Rwy’n meddwl bod cyfle nawr i edrych ar ein hiaith mewn cymunedau ac economïau lleol mewn ffordd fwy integredig nag o’r blaen. Byddwn ni’n seilio hyn i gyd—a llawer mwy—ar dystiolaeth. Mae cyfrifiad 2021 yn rhoi cipolwg i ni o’r hyn sydd wedi digwydd dros y degawd diwethaf. Rŷn ni’n edrych ar y canlyniadau hynny’n fanwl, ochr yn ochr â’r holl ystadegau ac ymchwil eraill sydd ar gael i ni. Ac rŷn ni wedi comisiynu arolwg sosioieithyddol a fydd yn para am dair blynedd, sef Prosiect Bro. Byddwn yn disgwyl y canfyddiadau erbyn diwedd 2026, a’r nod yw deall yn well ble mae’r Gymraeg arni ar lefel gymunedol. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall beth sydd ei angen i ddiogelu cymunedau Cymraeg, ond mae 2026 yn gallu teimlo’n bell i ffwrdd. Felly, bydd Prosiect Bro hefyd yn cefnogi gwaith y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, ac yn darparu elfen hollbwysig o’i adroddiad terfynol.

Fy nhrydedd flaenoriaeth yw trosglwyddo iaith. Rŷn ni eisoes yn gweithredu polisi trosglwyddo iaith mewn teuluoedd, yn ogystal â chydnabod rôl siaradwyr newydd wrth drosglwyddo’u Cymraeg i’w plant yn y dyfodol. Ond allwn ni ddim dibynnu ar drosglwyddo teulu yn unig rhagor. Mae'n rhaid inni ddeall yn well sut mae pobl ifanc sy’n siarad yr iaith yn cyfathrebu gyda’i gilydd, ac yn trosglwyddo’r iaith ymysg ei gilydd. Mae’n rhaid inni edrych ar drosglwyddo o fewn cymunedau hefyd, i greu cyfleoedd i siarad ac i fwynhau’r iaith.

Mae technoleg yn llinyn arian sy’n rhedeg ar draws pob un o’r meysydd hyn. Heddiw, felly, rwyf wedi cyhoeddi galwad am wybodaeth er mwyn inni allu siarad â phobl ledled Cymru a thu hwnt i gael eu mewnbwn i beth rŷn ni’n gwneud ar gyfer technoleg a’r Gymraeg yn y dyfodol. Mae pob un ohonom ni’n defnyddio technoleg mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Yn gynyddol, rŷn ni’n gweld deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio mewn mwy o sefyllfaoedd hefyd. Gall y ddau beth hyn chwarae rhan bwysig wrth gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ac rwyf am i dechnoleg helpu pobl i ddefnyddio mwy o’u Cymraeg, felly.

Ers inni gyhoeddi ein cynllun gweithredu technoleg Cymraeg yn 2018, rŷn ni wedi buddsoddi £2.5 miliwn i greu a gweithio ar nifer o’r elfennau digidol angenrheidiol i’n hiaith. O heddiw ymlaen, mae hwn yn cynnwys ein partneriaeth newydd gydag OpenAI i wella sut mae ChatGPT yn gweithio yn y Gymraeg. Ac rwy’n edrych ymlaen at weld beth fydd y datblygiadau nesaf.

Mae’r rhain oll yn allweddol i ddyfodol yr iaith—dyfodol sy’n rhoi cyfle teg i bob plentyn ac oedolyn ddod yn siaradwr, polisïau sy’n cefnogi cryfhau’r economi a gwarchod ein cymunedau Cymraeg, a chydnabod pwysigrwydd trosglwyddo iaith yn y teulu, yn ein cymunedau a’n gweithleoedd. I wireddu hyn, mae’n rhaid inni gyd chwarae ein rhan gyda’n gilydd.

15:45

Diolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad ac am y blaenoriaethau rydych chi wedi eu nodi heddiw. Fel llefarydd newydd yr iaith Gymraeg, dwi'n edrych ymlaen at weithio gyda chi. 

Gallwn ni gyd gytuno bod yr iaith Gymraeg yn symbol pwysig ac yn cynrychioli ein gwlad, ac felly gallwn ni hefyd gytuno bod angen llawer o waith ac ymdrech er mwyn cadw'r iaith yn fyw. Rwy'n credu y gallwn ni gyd gytuno hefyd ei bod yn hanfodol bod gennym ddulliau priodol ac effeithiol o fesur cynnydd targedau'r Llywodraeth, gallu siaradwyr Cymraeg a'r raddfa mae rhif y siaradwyr Cymraeg yn tyfu. 

Gwyddom fod arolwg blynyddol o'r boblogaeth yn un ffordd o fesur cynnydd, ond fel y dywedais i o'r blaen, nid yw'n adlewyrchiad cadarn o alluoedd neu niferoedd y siaradwyr Cymraeg. Nid yw data Cyngor y Gweithlu Addysg yn creu darlun llachar chwaith. Mae nifer yr athrawon cofrestredig sydd yn gallu siarad Cymraeg wedi gostwng ers 2019, ac mae nifer yr athrawon cofrestredig sydd ddim yn gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu hefyd. Yn ogystal â hyn, tynnodd arolygiadau Estyn 2022-2023 sylw at y ffaith bod nifer y bobl sy'n cwblhau eu hyfforddiant cychwynnol i athrawon drwy gyfrwng y Gymraeg llawer yn is na thargedau Llywodraeth Cymru. Dangosodd data y cyfrifiad diwethaf fod nifer y siaradwyr o dair oed neu'n hŷn wedi gostwng o 562,000 yn 2011 i 538,000 yn 2021. Dylai hyn godi clychau larwm i Weinidogion Cymru, wrth gofio eu bod yn seilio targed oddi ar gyfrifiad 2011. 

Byddwn yn nodi, Ysgrifennydd Cabinet, nad yw cael un targed cadarn o 1 filiwn o siaradwyr yn ddigonol, ond rŷn ni angen mwy o ffocws ar gynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, beth mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi yn ei le i fonitro cynnydd nifer y siaradwyr Cymraeg hyd at 2050? Ydych chi'n meddwl y byddai'n well mesur cynnydd mewn cyfnodau o bum mlynedd, er enghraifft, er mwyn sicrhau ein bod ni ar y trywydd iawn? A beth yw'r cynllun sydd yn ei le er mwyn sicrhau bod Cymru yn ôl ar y trywydd iawn, os yw'r Llywodraeth yn methu'r targedau hyn? Ar adeg y gosodwyd y targed, dywedodd y Gweinidog addysg ar y pryd, Kirsty Williams:

'Datblygodd gwasanaethau dadansoddol a gwybodaeth Llywodraeth Cymru amcanestyniad ar gyfer nifer y siaradwyr Cymraeg hyd at 2050, yn seiliedig ar ddata o gyfrifiad 2011.'

Felly, er fy mod i'n cytuno mai dyma'r dull gorau o fesur cynnydd siaradwyr Cymraeg, gellid awgrymu bod y rhesymau ar gyfer targed wedi dyddio. Mae hyn yn dangos nad yw Llywodraeth Cymru wedi dod o hyd i fetrig cadarn er mwyn mesur cynnydd.

Dylen ni hefyd nodi, ers 2017, pan osodwyd 'Cymraeg 2050', fod cyfrifoldebau'r iaith Gymraeg wedi'u trosglwyddo dros wahanol bortffolios Llywodraeth Cymru. Ar un adeg, roedd gan y cyfrifoldebau Weinidog eu hunain, a dŷn ni wedi'u gweld yn addysg, a nawr dŷn ni'n eu gweld yn eistedd gyda phortffolio'r economi. Mae hwn yn gallu amlygu, Ysgrifennydd Cabinet, nad yw Llywodraeth Cymru, ers blynyddoedd, wedi gallu gosod yr iaith Gymraeg mewn categori penodol ac wedi pasio cyfrifoldebau'r iaith Gymraeg rhwng gwahanol swyddfeydd gweinidogol, ac wedi'u gadael heb fawr o gysondeb, strwythur na diffiniad. Mae'n gadael yr iaith Gymraeg yn gyfrifoldeb heb unrhyw sylfaen gadarn na thystiolaeth. Rwy'n credu, os yw Llywodraeth Cymru o unrhyw blaid wleidyddol yn gwneud yr iaith Gymraeg yn flaenoriaeth, ni ddylent ei thaflu o amgylch portffolios gwahanol. Ysgrifennydd Cabinet, gyda'r ystyriaeth nad yw cyfrifoldeb yr iaith Gymraeg yn bendant nac yn barhaol, a gyda diffyg dulliau cadarn i fesur cynnydd, sut mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl cyrraedd targed 'Cymraeg 2050'?

Ac un pwynt olaf er mwyn cloi yw defnyddio'r Gymraeg yn y gymuned. Mae'n bwysig nad yw'r iaith Gymraeg yn cael ei defnyddio yn y dosbarth yn unig, er mwyn ticio blychau i ddangos cynnydd y siaradwyr, ond dylid ei defnyddio mewn bywyd pob dydd. Felly, pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i gymunedau a grwpiau er mwyn sicrhau bod defnyddio'r Gymraeg yn hawdd i'w wneud i'n cymunedau a bod yna adnoddau fyddai'n helpu i wneud hynny i ddigwydd ar gael ac yn hawdd eu defnyddio? Sut allwch chi fod yn sicr, felly, Ysgrifennydd Cabinet, y bydd yn hawdd cwrdd â tharged 'Cymraeg 2050' o 1 filiwn o siaradwyr ac nid ei gadael i farw ynghyd â'r polisïau eraill yr ydych chi wedi'u tynnu yn ôl? Diolch.

15:50

Wel, diolch i Tom Giffard am y cwestiynau hynny, a chroeso iddo fe i'w gyfrifoldebau newydd.

Wel, dyw e ddim yn wir i ddweud nad oes gan y Llywodraeth linyn mesur i asesu a ydyn ni ar y trac ar gyfer cyrraedd y nod. Y ffynhonnell ddata rŷn ni wedi'i defnyddio o'r cychwyn cyntaf, ac yn parhau i'w defnyddio, yw canlyniadau'r cyfrifiad. Felly, dyna pam rŷn ni'n cael trafodaethau yn y Siambr hon yn gyson ynglŷn â'r gostyngiad y gwelsom ni yn y canlyniadau diweddaraf, ac mae hynny, wrth gwrs, yn her ddigon teg gan Aelodau, yn cynnwys beth wnaeth Tom Giffard ei ddweud jest nawr. Ond mae'n iawn hefyd i ddweud nad yw hynny'n rhoi'r darlun cyflawn i ni. Mae wedi cyfeirio at arolygon blynyddol a'r ffynonellau data eraill. Rŷn ni wrthi ar hyn o bryd yn cydweithio gyda'r ONS i ddarganfod pam, am y tro cyntaf, dwi'n credu, fod y trend yn y cyfrifiad yn dangos rhywbeth mor ddramatig o wahanol i'r trend yng nghanlyniadau'r arolygon. Mae'r arolygon hefyd, gyda llaw, yn llenwi bwlch yn yr hyn mae'r cyfrifiad yn mesur—hynny yw, defnydd y Gymraeg. Dyw'r cyfrifiad ddim yn mesur defnydd. Ac fe wnaeth e orffen ar bwynt rwy'n cytuno ag e arno, sef bod hynny'n bwysig iawn, felly mae'r arolygon blynyddol yn dangos faint o ddefnydd sydd yn digwydd.

Felly, mae'r ffynonellau'n glir. Mae'n rhaid edrych, gyda llaw, yn y dyfodol, tuag at fyd lle na fydd cyfrifiad. Rŷn ni'n gwybod bod sut mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn creu data, yn defnyddio data, yn newid. Mae hynny, wrth gwrs, yn ddigon teg o ran newid yn y mathau o ffynonellau sydd gyda ni, felly os byddwn ni mewn cyfnod lle nad oes cyfrifiad, mae'n iawn i ddweud bod angen, ar y cyfnod hwnnw, cytuno ar ffynhonnell arall o ddata fel bod pobl yn gallu craffu'r Llywodraeth ar ein hamcanion ni.

Ond nid jest canlyniadau bob 10 mlynedd sydd gyda ni. Yn y taflwybr, hynny yw y ddogfen—fe wnaeth e gyfeirio at ddyfyniad gan Kirsty Williams, y gwaith mae KAS wedi bod yn bwydo i mewn iddo fe—mae'r taflwybr sy'n dangos sut rŷn ni'n mynd o le ydyn ni heddiw i 2050 yn rhywbeth sy'n cael ei adnewyddu'n gyson. Rŷn ni wrthi'n gwneud hynny ar hyn o bryd yn sgil canlyniadau'r cyfrifiad. Bydd e hefyd yn gweld pan wnawn ni gyflwyno Bil y Gymraeg mewn addysg fod cynigion penodol yn y Bil hwnnw'n mynd i'r afael â hynny.

O ran lle mae'r Gymraeg o fewn cyfrifoldebau Gweinidogion yn y Llywodraeth, wrth gwrs, mater i'r Prif Weinidog o bryd i'w gilydd yw hynny, ond mae, ar un lefel, her ymarferol. Mae e efallai'n ddelfrydol bod y person sy'n gyfrifol am y Gymraeg yn gallu medru'r Gymraeg—dyw e ddim yn angenrheidiol, ond efallai ei fod e'n fantais, felly mae hynny'n llywio'r dewis hwnnw mewn ffordd gwbl ymarferol. Ond jest i roi cysur, gobeithio, a rhoi sicrwydd i'r Aelod, o ran sut mae'r Llywodraeth yn trefnu gwaith y gwasanaeth sifil, mae lle a lleoliad adran y Gymraeg wedi bod yn gyson dros y blynyddoedd. Mae gyda ni nawr gyfarwyddwr cyffredinol sydd gyda chyfrifoldeb penodol am y Gymraeg yn ei theitl hi, felly mae hynny, y tu ôl i'r llenni, os hoffwch chi, yn dangos cysondeb. Dwi'n credu bod ffordd gadarnhaol o edrych ar hyn. Hynny yw, wrth gyfuno'r Gymraeg gydag addysg, wrth gyfuno'r Gymraeg gyda'r economi, a thros gyfnod arall gyda chyfrifoldebau eraill, mae'n rhoi cyfle newydd o bryd i'w gilydd i edrych ar y maes polisi hwnnw trwy lens, trwy ogwydd y Gymraeg, felly buaswn i'n disgrifio hwnnw fel rhywbeth sydd yn fantais.

O ran y cwestiwn olaf gwnaeth yr Aelod ofyn o ran y gefnogaeth sydd yn mynd i gynyddu defnydd, dwi'n cytuno gyda fe mai defnydd, defnydd, defnydd yw'r brif flaenoriaeth i ni, i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r Gymraeg ar waith, os hoffwch chi, i roi'r sicrwydd iddo fe bod y rhan fwyaf o'r gyllideb sydd gyda fi o ran cyfrifoldebau'r Gymraeg yn mynd mewn rhyw ffordd neu'i gilydd i gefnogi defnydd, yn cynnwys trwy ariannu cyrff a phartneriaid hyd braich i wneud hynny gyda ni hefyd.

15:55

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad heddiw. Tair blaenoriaeth, tair blaenoriaeth sydd yn anodd iawn i anghytuno efo nhw—hapus i gefnogi—er mae'n rhaid imi nodi bod uchelgais Plaid Cymru ar gyfer addysg Gymraeg i bawb yn mynd yn bellach na'r hyn y dywedodd y Gweinidog. Gwnaethoch chi ddefnyddio'r geiriau 'cyffyrddiad â'r Gymraeg' tra byddem ni'n dadlau mai trochi yn y Gymraeg yw'r ffordd orau i gyflawni'r amcanion hyn.

Ond, wrth gwrs, un peth ydy gosod blaenoriaethau, a mater arall yw eu cyflawni. Ac o ran hynny, mae gen i rai cwestiynau yr hoffwn gael atebion iddyn nhw heddiw. Un gair oedd ar goll yn eich datganiad oedd 'gweithlu', oherwydd, wedi'r cyfan, os ydy'r Bil addysg Gymraeg rydym wedi cydweithio arno fel dwy blaid am lwyddo, neu os ydym am gynyddu nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg neu gynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, wel, mae'r gweithlu'n gyfan gwbl hanfodol o ran hyn. Yn amlwg, mae gan y Llywodraeth gynllun, y gweithlu Cymraeg mewn addysg, ond o edrych arno ac edrych ar yr hyn sydd ei angen arnom, mae'n anodd gweld sut y gallwn gyflawni'r math o dwf sydd ei angen. Wedi’r cyfan, rydyn ni'n gwybod ein bod ni’n colli athrawon o’r sector yn barod, a dydyn ni ddim yn cyrraedd y niferoedd sy’n hyfforddi fel mae'r targedau yn eu lle. Felly, oes yna fwriad gennych i ail-edrych ar y cynllun hwn yng nghyd-destun y Bil?

Mater arall dwi wedi’i godi gyda chi’n gyson hefyd ydy’r niferoedd sy’n cymryd lefel A yn y Gymraeg, a’r ffaith bod hynny’n disgyn, a ddim yn agos at y 1,000 y flwyddyn o darged a osodwyd gan y Llywodraeth rai blynyddoedd yn ôl. Sut ydych yn gweithio gyda’r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg i wyrdroi hyn? Ac yn sicr hefyd, o ran edrych ar y cynllun Seren a'r nifer o fyfyrwyr sydd yn gadael Cymru rŵan, sut ydyn ni'n sicrhau bod nhw'n parhau efo'r Gymraeg os ydyn nhw'n astudio y tu hwnt i Gymru, a hefyd yn dychwelyd? Mae o’n bryder o weld y niferoedd hyn rŵan.

O ran cynyddu defnydd dyddiol o’r Gymraeg, roedd yna air arall ar goll hefyd, sef 'prentisiaethau'. Dwi’n siŵr eich bod o’r farn bod yna gysylltiad cryf rhwng cynyddu defnydd a’r angen i ddatblygu gweithluoedd dwyieithog, ac mae’r ffaith bod prentisiaethau bellach yn yr un portffolio â’r Gymraeg yn rhoi cyfle i gryfhau’r cyfleoedd sydd ar gael yn y Gymraeg yn y sector ôl-16. Byddwch, wrth gwrs, yn gyfarwydd gyda gwaith Comisiynydd y Gymraeg yn y maes hwn, a hefyd, wrth gwrs, y gwaith gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Allwch chi gadarnhau bod y cynnydd gafodd ei ail-broffilio ar gyfer y coleg Cymraeg o gyllideb eleni i gyllideb 2025-26 yn dal i sefyll?

A hefyd, os caf i edrych o ran defnydd, mi ydym ni wedi cael amryw o drafodaethau yn y Siambr hon o ran ymestyn safonau—bancio yn amlwg iawn, wrth gwrs. Un o'r pethau sydd yn taro fi, wrth i daflenni o'r pleidiau gwleidyddol ddod drwy’r drws hefyd, ydy'r defnydd o'r Gymraeg ar daflenni etholiad. Nid pob plaid sy'n eu darparu nhw'n ddwyieithog. Dwi'n siŵr eich bod chi’n ymwybodol o bobl o’ch plaid chi sydd ddim yn credu bod angen defnyddio’r Gymraeg ar rai o'r cyfathrebiadau hynny. Sut fath o neges mae hynny yn ei yrru o ran normaleiddio’r defnydd o'r Gymraeg? Dwi'n gwybod fyddai iaith y daflen ddim yn newid y ffordd byddaf i'n pleidleisio ar 4 Gorffennaf—

16:00

Ond, i nifer o bobl, mae o'n dangos amarch os nad ydy'r Gymraeg yn ymddangos, a hefyd, fel roedd Sioned Williams yn dweud rŵan, statws yr iaith hefyd—fedrwn ni ddim dim ond defnyddio’r Gymraeg os ydyn ni'n meddwl ei fod o’n mynd yn fanteisiol mewn etholiad. A dwi'n meddwl yr un peth efo busnesau. Mae'n rhaid inni normaleiddio bod pobl eisiau defnyddio’r gwasanaethau yn eu dewis iaith, ac nid opsiynol ydy'r iaith.

Dwi yn croesawu’r cyfeiriad gennych hefyd at bwysigrwydd technoleg, deallusrwydd artiffisial. Mae'r ffaith fy mod i'n cael trafferth meddwl beth ydy o yn y Gymraeg; rydyn ni'n mor gyfarwydd â dweud 'AI'. Ond mae pobl ifanc rŵan—. Mae'n normaleiddio’r defnydd, a'r mwyaf yn y byd dydyn nhw ddim ar gael yn y Gymraeg, y lleiaf tebygol ydyn nhw wedyn i newid o'r Saesneg i fod yn defnyddio’r math o dechnoleg yn y Gymraeg. Felly, mae o’n eithriadol o bwysig.

Yn sicr, mae yna deimlad trawsbleidiol yma, wrth gwrs, yn y Senedd hon, o ran pwysigrwydd y Gymraeg a'r angen i weld hyn yn gweithio, ond mae angen mwy na geiriau, mae angen gweithredu, a dwi yn pryderu ein bod ni ar goll efo’r targedau hyn. Roedd Tom Giffard yn sôn am gymaint o'r pethau lle rydyn ni yn disgyn ar ei hôl hi.

Dwi'n gobeithio byddwch chi’n cymryd hyn fel cwestiynau cadarnhaol o ran cyrraedd y lle rydyn ni i gyd eisiau ei gyrraedd, ond mae o sut rydyn ni hefyd yn sicrhau bod yr adnoddau gennych chi fel Ysgrifennydd Cabinet ac fel Llywodraeth i gyflawni'r hyn sydd ei angen er mwyn parhau ar y tair blaenoriaeth yma, ond eu troi nhw'n realiti. 

Mae'r cwestiynau’n ddigon teg, a dwi'n cymryd yr ysbryd maen nhw'n cael eu cynnig ynddo. Jest i ddweud, dwi'n cytuno—. Mi wnaeth yr Aelod gychwyn gyda throchi. Un o'r pethau rwyf yn fwyaf balch ohono dros fy nghyfnod fel Gweinidog addysg cyn hynny, a Gweinidog y Gymraeg, yw'r buddsoddiad mewn trochi, ac mae hyn yn digwydd ymhob rhan o Gymru nawr. Mae pob awdurdod lleol wedi cael mantais o hynny. Mae pob un mewn man gwahanol ar eu siwrnai, ond mae'n gwbl glir i fi fod pob awdurdod yng Nghymru yn gweld budd hyn ac yn gweld bod nhw ar lwybr tuag at ddarparu, a bydd hyn rhywbeth hefyd sydd yn cael ei gyfeirio ato yn y Bil pan ddaw hwnnw yn ei flaen.

O ran gweithlu, mae hyn, wrth gwrs, yn her. Dyna pam byddwn i'n dadlau fod e’n iawn o ran Plaid Cymru i osod nod, ond mae'n rhaid hefyd cael y ffordd eich bod chi’n gallu cyrraedd y nod hwnnw. Ac mae'r gweithlu, wrth gwrs, yn un o'r heriau hynny. Rŷn ni'n gwybod hynny ers blynyddoedd. Dŷn ni'n methu gorfodi pobl i ddewis dysgu. Dŷn ni'n methu gorfodi pobl i ddewis dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r cynllun gweithlu yn un creadigol, byddwn i'n dadlau. Mae'n un sydd wedi cael ei gyd-gynhyrchu gan bobl ar draws pob elfen o bob math o sectorau. Felly, dyw e ddim yn rhywbeth sydd heb her, sydd heb lefel o greadigrwydd, ac, os oes gan Aelodau syniadau gwahanol, rwy'n sicr bydd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a finnau ddiddordeb mewn clywed syniadau newydd yn hynny o beth. Rwy'n gwybod bod ymrwymiad yn y cynllun i ddatgan ar gynnydd, rwy'n credu, bob dwy flynedd, felly bydd hynny'n digwydd o fewn y patrwm hwnnw. Mae datblygiadau fel e-sgol yn gallu sicrhau ein bod ni'n darparu mynediad at Gymraeg lefel A. Mae hi yn bwysig bod pobl yn gwneud hynny. Mae'n ffordd gwbl anhepgor o sicrhau bod gyda ni ddigon o fyfyrwyr sydd yn astudio'r Gymraeg yn y brifysgol er mwyn gallu dysgu, felly rwy'n cytuno gyda'r Aelod bod hwnnw yn bwysig.

Fe wnaeth hi gyfeirio at y gwaith mae Seren yn ei wneud, ac rwy'n credu ei fod e'n rhywbeth inni i gyd fod yn falch ohono fe, ein bod ni'n defnyddio'r cynllun Seren i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu astudio ble bynnag sydd yn gweithio iddyn nhw. Mae'n iawn i ddweud bod cyfle pwysig inni sicrhau ein bod ni'n cynnal perthynas gyda myfyrwyr sydd yn gadael Cymru i astudio. Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi lansio cynllun i wneud hynny, yn benodol yng nghyd-destun addysgu, ond gellir gweld ffyrdd bod hynny'n gallu cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd ehangach hefyd, a byddwn i yn bersonol yn croesawu hynny. Gallaf i roi'r sicrwydd i'r Aelod fod y cynllun yn dal yn ei le i ailbroffilio'r adnoddau ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol hefyd.

O ran adnoddau fy adran i, rwy'n credu bod cynnydd wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf o ran cyllideb y Gymraeg, ac mae hynny'n beth pwysig. Mae'n sicrhau ein bod ni'n gallu buddsoddi mewn trochi, ein bod ni'n gallu buddsoddi mewn cymhelliant ariannol i ddenu pobl i ddysgu, ein bod ni'n gallu buddsoddi mewn technoleg ac ati. Felly, mae'n cael ei ddefnyddio mewn amryw o ffyrdd.

Y pwynt diwethaf byddwn i'n ei wneud yw o ran y safonau. Rwy'n derbyn y ddadl mewn un ffordd; dydw i ddim fy hun yn credu mai dyna'r peth sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf o ran cynnydd yn y Gymraeg, ond yn sicr mae gan safonau rôl i sicrhau bod defnydd yn cael ei normaleiddio, felly rwy'n derbyn hynny mewn ffordd gyffredinol. Rwy'n credu bod gyda ni raglen synhwyrol ar gyfer cynyddu cyrhaeddiad safonau. Mae gyda ni raglen sydd yn parhau tan yr etholiad nesaf, ac, os byddwn ni'n cyflawni hynny, fel rwy'n disgwyl byddwn ni, mae hynny yn mynd i ymestyn yn sylweddol iawn am elfennau o fywyd cyhoeddus, os hoffwch chi, sy'n dod o fewn cwmpas y safonau, felly bydd e'n gyfrifoldeb i'r Llywodraeth caiff ei ffurfio yn y Senedd newydd i gynllunio rhaglen bellach amser hwnnw. Byddwn i'n meddwl bod y mathau o awgrymiadau mae'r Aelod wedi eu gwneud heddiw yn bethau y byddai Llywodraeth newydd yn moyn edrych arnyn nhw bryd hwnnw.

16:05

Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Gweinidog. Yn gyntaf, a all y Gweinidog egluro beth mae'n ei olygu wrth '1 miliwn o siaradwyr Cymraeg'? A yw'n filiwn yng Nghymru neu filiwn ym Mhrydain Fawr, wrth i nifer fawr o siaradwyr Cymraeg symud i Loegr, yn enwedig Llundain, i weithio? Ydw i'n cyfrif, gan nad ydw i'n rhugl, ond dwi'n siarad Cymraeg bob dydd? Ydy'r Gweinidog yn cytuno mai'r ffordd orau o gynyddu siaradwyr Cymraeg yw cefnogi Ti a Fi a Mudiad Meithrin?

Mewn cymuned lle mae 80 y cant yn siarad Cymraeg, bydd pedwar o bob pump o bobl rydych chi'n cwrdd â nhw yn siarad Cymraeg. Mewn un pan fo hyn yn 60 y cant, bydd yn dri o bob pump, ac mewn un gyda 40 y cant, bydd yn ddau o bob pump. Yn y gymuned gyntaf, Cymraeg yw iaith naturiol y gymuned—mynd i Gaernarfon.Yn yr ail, fel Abertawe, Saesneg yw'r iaith naturiol. Sut mae cael mwy o'r ardaloedd arbennig, Cymraeg eu hiaith hyn, oherwydd dyna lle mae'r iaith ar waith?

Diolch i Mike Hedges am y cwestiynau hynny. Gallaf i gadarnhau, yn sgil y ffaith mai'r cyfrifiad yw'r ffynhonnell ddata ar gyfer mesur y miliwn o siaradwyr, mae unrhyw un sy'n gallu ymateb i'r cyfrifiad ac yn ymateb i ddweud eu bod nhw'n medru'r Gymraeg yn syrthio o fewn cwmpas y nod. Mae hynny, wrth gwrs, yn golygu dyw llawer o bobl sy'n byw tu allan i'r Deyrnas Unedig sydd yn medru'r Gymraeg ddim yn cael eu cyfrif yn y ffigurau hynny, ac rŷn ni'n gwybod bod pobl yn dysgu yn rhyngwladol, yn cynnwys ar y cynlluniau mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnig. Felly, pan oeddwn i'n byw yn Llundain am gyfnod, roeddwn i'n gallu ateb y cyfrifiad i ddweud fy mod i'n siarad Cymraeg ac yn cyfrannu felly tuag at y nod hwnnw. Rwyf i yn cytuno gyda fe bod buddsoddiad yn y blynyddoedd cynnar yn hollbwysig er mwyn sicrhau ein bod ni'n rhoi cynnig i bobl ifanc ac i rieni plant i'w cychwyn nhw ar y siwrnai honno drwy gyfrwng y Gymraeg, ac felly mae'r buddsoddiad hwnnw yn bwysig iawn. Un o’r elfennau y mae Prosiect Bro y gwnes i gyfeirio ato fe yn fy natganiad i yn edrych arno fe yw sut mae’r Gymraeg yn ymddwyn, beth yw patrymau'r Gymraeg, o fewn ardaloedd lle mae'r dwysedd yn uwch a'r dwysedd yn llai, felly'r math o enghreifftiau roedd yr Aelod yn sôn amdanyn nhw yn ei gwestiynau, ac edrych ar ba ddylanwadau economaidd gymdeithasol sydd wrth wraidd dwysedd yn y Gymraeg a newidiadau yn hynny. Rwy’n disgwyl cael adroddiad yn hwyrach eleni wrth y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, fydd, rwy’n gobeithio, yn dangos pa batrymau sydd ar waith yn y ffordd yna, a'r math yna o ddata, a'r math yna o dystiolaeth, sydd yn mynd i'n harwain ni tuag at ateb ei gwestiwn olaf fe o sut rŷn ni'n gallu cynyddu dwysedd siaradwyr yn ein cymunedau ni.

16:10

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n sori; dwi'n dysgu Cymraeg. Dwi'n siarad tipyn bach.

Mae llawer o wledydd â diddordeb yng Nghymru a'r Gymraeg, ac rwy'n meddwl bod hynny'n tyfu drwy chwaraeon—y math o gyhoeddusrwydd mae clwb pêl-droed Wrecsam yn ei dderbyn—drwy gerddoriaeth, y celfyddydau a diwylliant, ac mae clywed 'Mae hen wlad fy nhadau', 'Yma o Hyd' a 'Calon Lan' wedi meithrin ymdeimlad o falchder, rwy'n credu, ac awydd i fod yn rhan o'r gymuned Gymraeg ei hiaith a chanu Cymraeg hefyd, sy'n bwysig iawn. 

So, dwi'n dysgu Cymraeg,

ac rwy'n dal i ddweud wrth fy athro Cymraeg nad oes angen i mi fod yn rhugl; dwi ond eisiau gallu sgwrsio a deall a chymryd rhan pryd bynnag y gallaf. Dysgais i Eidaleg trwy drochi yn yr iaith ac oherwydd yr angen i'w siarad pan oeddwn yn byw yno, ond doeddwn i ddim yn gywir yn ramadegol nes i mi wneud fy TGAU ar ôl dychwelyd i'r wlad hon. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, mae gennym y targed hwn, a bydd cymaint o bobl yn dal i fod ar eu camau cyntaf ar gontinwwm y daith, felly a allwch chi amlinellu sut rydym yn diffinio siaradwr Cymraeg mewn gwirionedd? [Chwerthin.]

Wel, mae’r Aelod yn gwneud pwynt sydd ym meddyliau llawer o bobl wrth iddyn nhw ddysgu iaith newydd, yn cynnwys pobl sy'n dysgu'r Gymraeg, ac, i fod yn gwbl deg i’r Aelod, mae’n rhan o’r drafodaeth rŷn ni wedi bod yn ei chael am ddegawdau o ran beth yw siaradwr Cymraeg, a’r synnwyr yma bod yn rhaid cael lefel o hyfedredd neu ruglder yn y Gymraeg er mwyn ichi allu diffinio eich hunan fel siaradwr Cymraeg, ond mae’r dyddiau hynny wedi mynd. Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb, ac does dim angen bod yn rhugl yn y ffordd roedd yr Aelod yn sôn amdano fe er mwyn teimlo’r cynhesrwydd yna tuag at y Gymraeg a'r synnwyr bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd.

O ran beth yw siaradwr Cymraeg, mae'r cyfrifiad yn gofyn i unigolyn benderfynu a ydyn nhw yn siarad Cymraeg, felly penderfyniad personol yw hwnnw, ac mae'n gallu bod yn benderfyniad cymhleth, sy’n ymwneud â hunaniaeth pobl yn aml, ond un o’r pethau y bydd gyda ni gyfle i’w wneud wrth gyflwyno deddfwriaeth newydd yw rhoi rhywfaint o gyd-destun o amgylch hynny i roi cysur a chefnogaeth i bobl i sicrhau eu bod nhw'n deall nad oes rhaid cael y lefel honno o ruglder neu hyfedredd llwyr cyn eu bod nhw'n gallu dweud eu bod nhw'n siarad Cymraeg. Y peth sy'n bwysig yw ein bod ni'n annog pobl i ddefnyddio'r hyn sydd gyda nhw—jest ychydig bob dydd, os mai hynny yw hi—ac i ddysgu mwy a mwy bob dydd, os gallwn ni, fel ein bod ni ar y llwybr hwnnw.

5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: System fwyd Cymru—Cynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy

Eitem 5 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: system fwyd Cymru—cynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy. 

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n falch iawn o nodi ar gyfer Aelodau'r Senedd sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynnal sector bwyd a diod mwy cynaliadwy yn wyneb yr argyfwng hinsawdd. Ac fel y gwyddom ni, nid bygythiad pell yn y dyfodol yn unig yw newid hinsawdd y gallwn ei anwybyddu am y tro; mae'n realiti presennol i aelwydydd ac i fusnesau ledled Cymru heddiw. Yn wir, yn barod, dros y pum mlynedd diwethaf, mae Cymru wedi profi sawl digwyddiad tywydd eithafol. Rydyn ni'n gweld gwres eithafol, glaw trwm, stormydd gwynt, sychder, oerni eithafol ac eira. Mae adroddiad diweddar a gomisiynwyd gan WWF yn amcangyfrif bod newid hinsawdd yn costio degau o filiynau o bunnau i'r sector amaethyddol yng Nghymru bob blwyddyn, gydag amcangyfrif o golled o £175 miliwn yn 2018 yn unig.

Yn fyd-eang, mae sychder a thonnau gwres wedi effeithio'n niweidiol ar gadwyni cyflenwi coco, olew olewydd, reis, ffa soi, gan olygu bod llai ar gael a bod cynnydd sylweddol mewn prisiau yn y DU, sy'n rhoi pwysau ar gostau busnesau bwyd ac, yn y pen draw, ar brisiau i ddefnyddwyr.

Felly, yn wyneb yr heriau hyn, mae tuedd gynyddol, hefyd, o ddefnydd moesegol. Yn fwy nag erioed, mae'r cyhoedd yn disgwyl i gyflenwyr gofleidio arferion cynhyrchu cynaliadwy. Yn wir, mae mewnwelediad i'r farchnad yn datgelu bod un o bob tri defnyddiwr yn y DU wedi rhoi'r gorau i brynu rhai brandiau oherwydd pryderon yn ymwneud a moeseg neu gynaliadwyedd. Felly, fwy a mwy, rydyn ni'n gweld bod pobl eisiau gwario'r bunt yn eu pocedi mewn ffyrdd sydd hefyd o fudd i'r blaned.

Nawr, fel y gwyddom ni i gyd ar draws y Siambr, mae dyfodol cynaliadwy i ffermio yn allweddol i ddyfodol cynaliadwy bwyd a diod yng Nghymru. Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy yn hanfodol i gyflawni hyn, ac mae wedi bod yn destun datganiad llafar ar wahân ychydig wythnosau yn ôl. Rhaid i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, fel rhan o'r broses cynhyrchu bwyd ar ôl giât y fferm, hefyd ymateb i'r gofynion cynaliadwyedd hyn, fel yr ydym wedi'i nodi yn ein gweledigaeth ar gyfer y diwydiant bwyd a diod.

Fel rhan o'n hymrwymiad sero net, rydym yn cefnogi busnesau i leihau eu hôl troed carbon trwy effeithlonrwydd prosesau, defnyddio adnoddau a lleihau gwastraff. Felly, yn y cyd-destun hwn heddiw, byddaf yn canolbwyntio ar roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi i gyd am y cymorth rydym wedi'i roi ar waith er mwyn i weithgynhyrchwyr bwyd a diod Cymru ddatgarboneiddio, gwella darpariaeth effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol cadarnhaol, ac i ymateb i'r effeithiau hinsawdd ar gynhyrchu bwyd. Nawr, er y bydd datblygiadau polisi ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol yn gosod cyfeiriad y daith, bydd y farchnad ei hun hefyd yn gyrru'r diwydiant tuag at ddyfodol mwy cadarnhaol. 

Er mwyn cefnogi busnesau i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen ar yr agenda cynaliadwyedd, rydym wedi sefydlu rhaglenni hyfforddi wedi'u hariannu'n llawn ar gynaliadwyedd, datgarboneiddio ac addasu, wedi'u teilwra'n arbennig i'r diwydiant bwyd a diod. Mae'r rhain yn cynnwys pecynnau cymorth ymarferol ac offer hunanasesu ar-lein sydd wedi'u cynllunio i gefnogi busnesau i nodi eu cryfderau, meysydd i'w gwella, a gwendidau posibl sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd. Mae'r canllawiau'n ymdrin â meysydd allweddol ar gyfer gwell cynaliadwyedd fel rheoli ynni, effeithlonrwydd dŵr a lleihau gwastraff, yn ogystal â phryderon cymdeithasol am ddarparu gwaith teg. Mae cymorth hefyd yn helpu busnesau i ddatblygu technegau rheoli risg ar gyfer tarfu posibl ar drydan, cyflenwad dŵr a dosbarthu, yn ogystal â digwyddiadau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd fel llifogydd. Nawr, mae hyn i gyd yn helpu busnesau i gyrraedd strategaethau cynaliadwyedd pwrpasol, gan eu grymuso i feithrin cydnerthedd ac i ffynnu mewn tirwedd hinsawdd sy'n gynyddol anrhagweladwy.

Mae cymorth pellach hefyd i fusnesau gryfhau eu harferion cynaliadwyedd drwy'r clwstwr cynaliadwyedd, sydd bellach yn cynnwys dros 100 o fusnesau sy'n aelodau. Mae'r clwstwr cynaliadwyedd yn hyrwyddo'r agenda cynaliadwyedd mewn digwyddiadau bwyd mawr, fel Sioe Frenhinol Cymru, gan gynnig cyfleoedd amhrisiadwy i fusnesau a'u cadwyni cyflenwi ymgysylltu a dysgu. Edrychaf ymlaen at ymweld â'r stondin fy hun yn ddiweddarach y mis nesaf.

Ar 3 Gorffennaf, byddaf yn annerch cynhadledd gynaliadwyedd Bwyd a Diod Cymru, Paratoi Cymru ar gyfer y Dyfodol, yr ydym yn ei chynnal mewn cydweithrediad â'r cadwyni cyflenwi bwyd a diod, ac yn cael ei hysgogi gan y clwstwr cynaliadwyedd. Bydd y digwyddiad yn dwyn ynghyd fusnesau bwyd a diod gydag arbenigwyr a rhanddeiliaid allweddol yn y diwydiant. Gyda'n gilydd, byddwn yn dangos y rheidrwydd masnachol i fusnesau ymateb i'r galw cyhoeddus am fwyd a diod sy'n cael eu cynhyrchu'n gyfrifol, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol.

Yn y digwyddiad, bydd diwydiant yn dysgu am y cyfle i gymryd rhan yn rhaglen dreialu y cynllun lleihau carbon, a ddyluniwyd i gefnogi busnesau i ddeall eu hallyriadau carbon ac i ddatblygu cynlluniau y gellir eu gweithredu i'w lleihau. Mae tua 80 o fusnesau eisoes wedi mynegi diddordeb mewn cymryd rhan, ac rydym yn annog mwy i ymuno.

Bydd dau gyfle arall yn ddiweddarach eleni. Felly, ym mis Medi, gall busnesau sydd wedi cwblhau ein cyrsiau hyfforddi fynychu'r digwyddiad carfan cynaliadwyedd a datgarboneiddio yng Nghanolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru i rwydweithio, ymgysylltu ag arbenigwyr, ac i ymgynghori â hyfforddwyr ar eu cynnydd o ran cynaliadwyedd. Ym mis Hydref, gall busnesau yng nghynhadledd Blas Cymru/Taste Wales yn y gogledd ymweld â'r parth cynaliadwyedd bwyd a diod ac ymuno â chynrychiolwyr allweddol o fusnesau, y byd academaidd a diwydiant mewn trafodaeth ford gron i werthuso'r gefnogaeth bresennol ac i awgrymu mesurau pellach ar gyfer cynnydd. Ond nid yw ein gwaith yn gorffen yn y fan yna.

Ar hyn o bryd rydym yn nodi gofynion a bylchau trawslywodraethol i fynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd ar y system fwyd yng Nghymru. Bydd y gwaith hwn yn cael ei integreiddio i bolisi addasu hinsawdd Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru. Fel rhan o'r fenter hon, rydym yn datblygu canllawiau uniondeb cynhwysfawr y gadwyn gyflenwi sydd wedi'u cynllunio'n benodol i gefnogi manwerthwyr annibynnol a busnesau bwyd a diod i baratoi ar gyfer gwrthsefyll newid hinsawdd.

Rydym yn gwybod pa mor gryf y gall siociau posibl newid hinsawdd fod, ac felly rydym yn helpu busnesau i gydweithio â chanolfannau arloesi bwyd. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, y gallant ail-lunio ryseitiau, amnewid cynhwysion a allai ddod yn anghynaladwy, llai ar gael, neu hyd yn oed yn ddrytach yn y dyfodol oherwydd amrywiadau cynnyrch cnwd byd-eang disgwyliedig. Trwy hyn, ein nod yw sicrhau bod ein sector bwyd a diod yn parhau i fod yn gydnerth ac yn addasadwy yn wyneb dyfodol hinsawdd sy'n fwyfwy ansicr. A'r neges yw, Dirprwy Lywydd, y gallwn ni, gyda'n gilydd, greu dyfodol gwell, mwy diogel i fwyd a diod yng Nghymru yn wyneb yr argyfwng hinsawdd.

Yn dilyn argymhellion y Pwyllgor Newid Hinsawdd, rydym yn archwilio mandadu adrodd risgiau hinsawdd ar gyfer busnesau mawr bwyd a bwyd anifeiliaid. Ac er mwyn cyflawni Cymru sero net - cyllideb garbon 2, rydym yn datblygu cynllun datgarboneiddio cynhwysfawr i'r diwydiant gyflawni ein nodau cynaliadwyedd uchelgeisiol. Mae hyn i gyd yn dibynnu ar ein gallu i addasu, i arloesi ac i weithio gyda'n gilydd. Trwy gofleidio cynaliadwyedd, gallwn gynnig y cynhyrchion y mae'r cyhoedd eisiau eu gweld a sicrhau dyfodol ein diwydiant bwyd a diod, y busnesau a'r cadwyni cyflenwi. Bydd Llywodraeth Cymru bob amser yn uchelgeisiol yn ein gweledigaeth o dyfu diwydiant bwyd a diod cynaliadwy a diogel sy'n addas ar gyfer nawr ac ar gyfer y dyfodol hefyd. Diolch, Dirprwy Lywydd.

16:20

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae sut i ddarparu bwyd iach, maethlon i bawb yn wyneb adnoddau sy'n crebachu, poblogaeth sy'n tyfu ac, wrth gwrs, ansicrwydd byd-eang yn her fawr ar draws y byd, yn enwedig yma yng Nghymru. Mae'n her y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn ddiweddar iawn, yn enwedig Peter Fox a minnau, wedi'i derbyn, ac rydym wedi cynnig atebion deddfwriaethol. Roedd cynyddu diogelwch bwyd a mynd i'r afael â thlodi bwyd a chamfaethiad yn nodau allweddol y Bil Bwyd (Cymru). Rwy'n teimlo'n drist iawn pan fydd yr Aelodau'n cyflwyno'r cynigion deddfwriaethol hyn: Sam Rowlands yn ddiweddar, gydag addysg awyr agored, Paul Davies, pan gyflwynodd awtistiaeth ac anghenion dysgu ychwanegol—rhai cyfreithiau da iawn, pe baen nhw'n cael eu gweithredu nawr ni fyddem yn cael y problemau yr ydym yn eu cael nawr.

Roedd gan Fil Bwyd (Cymru) Peter ofynion gwych, gan gynnwys: gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio strategaeth fwyd flynyddol i Gymru i fynd i'r afael â thlodi a chamfaethiad; sicrhau twf cynaliadwy y sector bwyd a bod cynhyrchwyr bwyd lleol cynaliadwy yn cael mynediad at gefnogaeth a chymhellion digonol—pwy allai anghytuno â hynny; ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus eraill ddatblygu cynlluniau bwyd cymunedol; cryfhau caffael cyhoeddus—pwy allai anghytuno â hynny; cryfhau gofynion statudol ar labelu bwyd, megis y wlad wreiddiol a labelu bwyd sy'n cael ei fwyta gartref a bwyd sy'n cael ei fwyta mewn gwasanaethau bwyd, lleoliadau lletygarwch, lleoliadau ysbyty, lleoliadau ysgolion—pwy allai anghytuno â hynny; cael gwared ar wastraff bwyd drwy orfodi archfarchnadoedd a siopau eraill i roi bwyd diangen i elusennau a banciau bwyd—pwy allai anghytuno â hynny?

Felly, Ysgrifennydd Cabinet, o ystyried ein bod yn cyflwyno cynigion deddfwriaethol synhwyrol, a wnewch chi ailystyried y gwrthwynebiad i'r mesurau arfaethedig, ac efallai y gallwn edrych ar hyn ar sail fwy trawsbleidiol? Ym mis Ebrill, cyflwynais gynnig deddfwriaethol gerbron Senedd Cymru a fyddai'n creu dyletswydd i Lywodraeth Cymru osod targedau i wella diogelwch bwyd yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar am y 24 pleidlais o blaid, ond ni welaf unrhyw fwriad gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno hwn. Felly, a wnewch chi, eto, edrych ar hwnnw, edrych ar yr hyn rydyn ni wedi'i gynnig? Ac, hyd yn oed os byddwch yn cyflwyno Bil, os yw'n cynnwys llawer o'r cynigion a gyflwynwyd gennym ni, a oes ots enw pwy sydd ar y tun?

A gaf i, nawr, longyfarch ein cyflenwyr yn ystafell de a bwyty'r Aelodau, Rob, y rheolwr, a'r tîm o staff yno, yn gweithio gyda Chymdeithas y Pridd, a'n tîm yma yn adran gynaliadwyedd y Comisiwn? Maen nhw wedi cael gwobr, ac mae hynny'n wych—bod Aelodau ac ymwelwyr nawr yma, yn y Senedd hon, yn gallu bwyta bwyd cynaliadwy.

Mae ffigurau mwy diweddar a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod gwerth mewnforion bwyd a diod i Gymru ar gyfer 2022 yn £797 miliwn. Mae'r data diweddaraf a dynnwyd o wybodaeth fasnach CThEF y DU yn dangos bod gwerth bwyd a diod a fewnforiwyd i Gymru ar gyfer 2023 yn £803 miliwn. Mae'r orddibyniaeth ar fewnforion yn glir, ac mae'n golygu ein bod ni, fel cenedl, bellach yn agored i ansefydlogrwydd byd-eang. Er enghraifft, mae ansefydlogrwydd ym marchnadoedd amaethyddol Wcráin yn cael ei amlygu mewn amrywiadau mewn prisiau bwyd.

Rydym hefyd yn mewnforio, gydag ôl troed carbon mawr, ffa soia, gyda dofednod bellach yn cael eu bwydo ar ffa soia wedi'i fewnforio, yn hytrach na grawn, sef y prif gynhwysyn sydd ei angen—grawn a dyfir yn lleol—ers yr Ail Ryfel Byd. Rwy'n gwybod hyn oherwydd bod fy rhieni a neiniau a theidiau yn ffermwyr dofednod. Doedden nhw ddim yn gwybod bryd hynny beth oedd ffa soia, grawn oedd y cyfan. Edrychwch ar y cynllun ffermio cynaliadwy a ddaeth allan o gytundeb cydweithio Llafur Cymru a Phlaid Cymru: cafodd ei wrthwynebu'n llwyr gan ffermwyr. Mae ffermwyr yn gwybod beth maen nhw'n ei wneud, ac rydyn ni'n ffyliaid os nad ydyn ni'n gwrando mwy arnyn nhw mwy.

Y peth arall yr wyf eisiau ei ddweud, Gweinidog, yw fy mod eisiau gweld bwyd môr a physgod ffres yn cael eu cyflwyno'n lleol fel prif fwyd cynhenid i blant mewn ysgolion. Rydyn ni'n gwybod pa mor faethlon yw bwyd môr a physgod i blant, felly pam nad ydyn ni'n eu rhoi yn ein hysbytai, a pham nad ydyn ni'n eu rhoi yn neiet ein plant? Mae angen i ni annog mwy o randiroedd. Mae cymaint o bobl bellach wedi cael llond bol o fygythiadau i'n bwyd. Maen nhw eisiau tyfu eu ffrwythau a'u llysiau eu hunain.

Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy, gyda'r 10 y cant o dir ar gyfer coed a 10 y cant o dir ar gyfer natur, fel y gwyddoch chi, wedi cael ei wrthod—

16:25

Oes, rwy'n gwybod, rwy'n gwybod. Wyddoch chi, gallwn i siarad am hyn yn hirach—

—ond rwy'n siŵr y byddaf yn cyfarfod â'r Ysgrifennydd Cabinet. Mae angen i ni weithio gyda'n gilydd, rwy'n credu, yn drawsbleidiol. Mae bygythiadau difrifol i'n diogeledd bwyd byd-eang. Nid yw'n ymwneud â dewis yn unig mwyach. Rwyf eisiau gweithio gyda chi ar hyn, Gweinidog, wrth symud ymlaen. Diolch.

Janet, diolch yn fawr iawn, ac a gaf i ddechrau lle rydych chi wedi gorffen? Fy null i yw gweithio gyda phobl pan fo ganddyn nhw syniadau da, a cheisio symud y rhain ymlaen. Byddaf i, fel eraill, yn talu teyrnged i waith Peter, y gwnaethoch chi dynnu sylw ato nawr, wrth gyflwyno'r ddeddfwriaeth. Ond rwy'n dweud yn syml nad dyna'r achos bob amser—. Rwyf bob amser yn disgrifio fy hun fel y deddfwr anfoddog. Nid yw bob amser yn wir fod angen deddfau i wneud i bethau ddigwydd, neu strategaethau, neu bapurau mawr sy'n glanio ar silffoedd. Mae'n ymwneud â bwrw ymlaen â'r camau sydd eu hangen arnom i sicrhau diogeledd bwyd, cydnerthedd, cynaliadwyedd ac ati.

Felly, gadewch i mi grybwyll ychydig ohonyn nhw, oherwydd rwy'n hapus i weithio gyda chi a gydag eraill ar y ffyrdd gorau ymlaen. Felly, yn gyntaf oll, o ganlyniad, mewn gwirionedd—. Nid ar ddamwain, ar gefn y dadleuon a ddigwyddodd ynghylch polisi bwyd tua adeg cyflwyno Bil Peter, y sefydlwyd y fforwm polisi bwyd, yn ôl yn 2023. Mae'r ffocws hwnnw nawr, ar draws y Llywodraeth a gyda rhanddeiliaid, ar bolisi bwyd yn parhau.

Rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno 'Food Matters' yn fuan iawn, ac rwy'n gwybod y bydd Aelodau'r Senedd yn rhagddisgwyl, a hefyd yn cyflwyno, gobeithio, erbyn diwedd eleni—. Mae'n rhan o ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu i gyflwyno'r strategaeth bwyd cymunedol, ac rwy'n bwrw golwg, wyth neu naw wythnos i mewn i'r swydd hon, dros yr hyn y bydd y strategaeth bwyd cymunedol honno'n ei olygu a'r hyn na fydd yn ei olygu hefyd. Felly, nid rhyw gylch hud sy'n clymu popeth gyda'i gilydd, ond rwy'n credu y bydd y polisi 'Food Matters' yn dwyn ynghyd yr holl gamau hynny yr ydym yn eu cyflawni ar draws y Llywodraeth ac ar draws polisi. Bydd y strategaeth bwyd cymunedol, rwy'n credu, yn ychwanegu rhywbeth arwyddocaol.

Roeddech chi'n sôn am Rob a'r tîm arlwyo yma. Roeddwn i'n hapus iawn i ymuno â nhw, mewn gwirionedd. Maen nhw newydd gael y wobr efydd am gynaliadwyedd. Dyw'r wobr efydd ddim yn swnio fel llawer, ond mae'n gam enfawr, a dwi'n siŵr y bydd Rob a'r tîm yn bwriadu gwneud mwy. Ond mae'r ffaith eu bod yn ceisio dod o hyd i gymaint ag y gallant yn lleol, yn ffres, yng Nghymru, a hefyd yn edrych ar yr effeithiau amgylcheddol ehangach hynny y soniais amdanyn nhw yn fy sylwadau agoriadol, fel nad ydynt yn dinoethi, boed yn fforestydd glaw mewn rhan bell o'r byd neu gynyddu cynhyrchu soia, ac ati, yn bwysig iawn.

Mae cydnerthedd bwyd, wrth gwrs, yn rhan o ddiogeledd bwyd, ac mae hynny'n rhan fawr iawn o'm sylwadau agoriadol—yr hyn y gallwn ei wneud gyda chynhyrchwyr bwyd, ffermwyr ond hefyd cynhyrchwyr bwyd yn y gadwyn gyflenwi, er mwyn meithrin y cydnerthedd hwnnw ynddyn nhw. Mae'n ymwneud a dyluniad cynnyrch amgen hefyd, gan eu bod efallai yn wynebu tarfu ar eu cadwyni cyflenwi wrth symud ymlaen. Rwy'n credu bod hyn yn dda, rydym yn meddwl yn flaengar, gan weithio gyda rhanddeiliaid i wneud i hynny ddigwydd.

Mae bwyd môr mewn gwirionedd yn enghraifft dda iawn o rai o'r heriau sydd o'n blaenau. Credwch chi fi, nid yw hwn yn bwynt gwleidyddol, ond rwy'n edrych ar draws y Siambr yma arnoch chi ac Aelodau eraill sy'n cynrychioli etholaethau'r gogledd lle mae bwyd môr a physgodfa gregyn wedi bod, mewn rhai ffyrdd, yn llwyddiant mawr dros y blynyddoedd diwethaf, ond maen nhw wedi taro rhwystrau nawr gyda rhwystrau masnach ynghylch allforion ac ati a'r beichiau sydd wedi dod. Mae angen i ni edrych ar hynny wrth symud ymlaen, byddwn yn awgrymu gyda Llywodraeth y DU yn gwrando ar lais Cymru hefyd. Ond mae hefyd yn enghraifft dda, os gallwn greu'r farchnad honno gartref—a dyna'r cwestiwn—gyda'r pris cywir ar gyfer y cynnyrch hwnnw hefyd, oherwydd roedd yr hyn roedden nhw'n ei gael yn bris uchel am eu hallforion, yna mae hynny'n beth da i'w wneud.

Mae yna lawer o faterion eraill y gwnaethoch chi gyffwrdd â nhw, Janet, ond rwy'n awyddus i weithio gyda chi a gydag eraill ar y ffordd orau ymlaen ar gyfer bwyd cynaliadwy yng Nghymru. Yr hyn rwy'n bendant yn ei gylch yw, pryd bynnag y byddaf yn siarad â chynhyrchwyr, maen nhw'n dweud wrthyf mai ein safonau amgylcheddol a chynaliadwyedd yw dilysnod llwyddiant cynhyrchu Cymru. Mewn gwirionedd, mae'r ffordd rydym yn symud ymlaen yn creu'r cydnerthedd hwnnw ar gyfer y dyfodol, pan fyddwn yn wynebu heriau hinsawdd o'r mathau rydw i wedi'u disgrifio. Diolch yn fawr iawn.

16:30

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Dydw i ddim yn credu bod unrhyw beth ynddo yr wyf yn anghytuno ag ef. Roeddwn i'n cyfrif wrth i chi restru'r mentrau. Roedd tua naw gweithgaredd gwahanol sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd, ac yna fe wnaethoch chi grybwyll dau arall tua'r diwedd sydd efallai yn rhai o'ch uchelgeisiau chi. Mae un yn mandadu adrodd ar risg hinsawdd i fusnesau mawr bwyd a bwyd anifeiliaid. Mewn egwyddor, does gen i ddim problem o gwbl gyda hynny, ond yn amlwg mae cwestiynau ynglŷn â sut y gallai hynny weithio'n ymarferol gan osgoi ymarfer blwch ticio biwrocrataidd. Ond rwy'n siŵr y byddwch wedi ymrwymo i weithio gyda'r sector i ddatblygu hynny. Yn yr un modd wedyn, datblygu cynllun datgarboneiddio cynhwysfawr ar gyfer y diwydiant. Unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth rwy'n credu mewn egwyddor sy'n gwbl gywir, ond mae'n rhai ystyried y manylion o ran sut y gellir gwneud hynny i weithio.

Mewn gwirionedd, teimlais fod y datganiad, er imi gytuno â llawer ohono, ychydig yn ddryslyd. Roedd yn rhestr o weithgareddau unigol sydd ar waith. Roeddwn i'n gobeithio, ar ôl gweld teitl y datganiad hwn heddiw, ein bod ni'n adeiladu tuag at strategaeth fwyd gynhwysfawr, gydlynol, gydgysylltiedig, o'r fferm i'r fforc yma yng Nghymru. Roedd yn teimlo ychydig bach fel gwn yn gwasgaru pelets, mewn gwirionedd, o ran rhestru gwahanol fentrau. Ond efallai y gall y cynllun datgarboneiddio ddod â rhai o'r edeifion hynny at ei gilydd.

Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno mai'r hwb mwyaf i gynaliadwyedd y sector bwyd a diod yng Nghymru fyddai caffael bwyd mwy lleol-ychwanegu gwerth, creu swyddi, lleihau milltiroedd bwyd, rhoi bwyd iachach o ansawdd uwch ar ein platiau. Felly, efallai y gallech ddweud wrthyf beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn arbennig o ran caffael bwyd lleol a'ch cynlluniau o ran twf yn y maes hwnnw, ac, law yn llaw â hynny, wrth gwrs, beth rydych chi'n ei wneud i hyrwyddo prosesu lleol a chynyddu capasiti prosesu lleol. Fe wnes i godi pryderon gyda chi yr wythnos diwethaf am Mona Dairy, wrth gwrs, yn union y math o fenter rydyn ni eisiau ei gweld yn llwyddo yng Nghymru. Yn anffodus, dydyn nhw ddim wedi llwyddo. Mae'n gadael blas drwg yn y geg, mae'n tanseilio hyder cynhyrchwyr cynradd i gefnogi'r mathau hyn o fentrau. Felly, efallai y gallech chi ymhelaethu ychydig am sut y gallwn sicrhau ein bod yn parhau i weld twf yn y potensial hwnnw.

Fe wnaethoch chi grybwyll Brexit a chytundebau masnach Torïaidd sydd, a dweud y gwir, yn tanseilio llawer o'n cynhyrchwyr bwyd a diod ar hyn o bryd. A ydych felly yn cytuno â galwadau Plaid Cymru i Gymru gael feto ar gytundebau masnach yn y dyfodol os ydym yn credu eu bod yn niweidiol i'r sector bwyd a diod yma yng Nghymru? Ac a fyddech chi'n cytuno â Phlaid Cymru eto y byddem yn well ein byd fel rhan o farchnad sengl ac undeb tollau?

Mae cadwyn gyflenwi deg a gweithredol yn hanfodol. Nid oes gennym ni hynny ar hyn o bryd, felly, unwaith eto, byddai gen i ddiddordeb mewn clywed eich meddyliau am yr angen i gryfhau pwerau'r dyfarnwr nwyddau groser i fynd i'r afael ag arferion annheg. A fyddech chi, fel Ysgrifennydd Cabinet, yn fodlon lobïo unrhyw Lywodraeth y DU sy'n dod i mewn ynghylch hyn, i helpu i wella tryloywder o fewn ein cadwyni cyflenwi? Yn yr un modd, mae prinder llafur yn rhwystr i lawer o'r sector bwyd a diod yng Nghymru a thu hwnt. Mae gwir angen i ni sicrhau bod y rhestr o alwedigaethau lle ceir prinder yn cael ei diwygio mewn ffordd sy'n cefnogi ein cynhyrchwyr yma yng Nghymru. Rwy'n mawr obeithio y byddech chi'n barod i ymrwymo i hynny hefyd. Diolch.

16:35

Diolch, Llyr. Roedd rhai pwyntiau diddorol a defnyddiol iawn yna. Yn gyntaf oll i ddweud, wrth archwilio mandad adrodd risgiau hinsawdd ar gyfer y busnesau mawr bwyd a bwyd anifeiliaid—un o argymhellion y pwyllgor newid hinsawdd—a hefyd datblygu cynllun datgarboneiddio cynhwysfawr ar gyfer y diwydiant, byddwn, wrth gwrs, yn gweithio trwy fanylion hyn gyda rhanddeiliaid. Rydyn ni eisiau gwneud hyn yn iawn. Mae'n arwydd o'r dull yr wyf yn ei fabwysiadu. Rydym am gael y polisïau hyn yn iawn i bawb a symud ymlaen gyda'n gilydd. Ond gallai hynny fod yn dipyn o ddatblygiad, os ydym yn cyrraedd y pwynt hwnnw, oherwydd mae cael adrodd ar risg hinsawdd ar gyfer y busnesau mwy, cael y cynllun datgarboneiddio gwirioneddol fentrus hwnnw, yn mynd â ni i ble mae angen i ni fod yn mynd, nid yn unig ar gyllideb garbon 2, ond byddwn yn dechrau'r gwaith ar gyllideb garbon 3 hefyd, a gwn y bydd eich pwyllgor yn cadw llygad barcud ar hyn. Felly, y math hwnnw o arloesi, ond dod â phobl gyda ni, rwy'n credu sy'n bwysig iawn.

O ran bwyd sydd wedi'i gynhyrchu'n fwy lleol—dywedais i hyn dros ddeufis yn ôl nawr, rwy'n credu; rwyf wedi colli trywydd nawr—rwyf wedi dechrau edrych yn fanwl nawr ar y strategaeth bwyd cymunedol wrth symud ymlaen. Mae hynny'n elfen rwy'n obeithiol yn ei chylch, ac rwy'n awyddus i weld faint y gallwn ni ei wneud o fewn hynny, gan gymryd lle rydyn ni'n barod, peth o'r gwaith rydyn ni wedi'i wneud yn barod, ond gweld beth arall y gellir ei wneud. Rydyn ni yng nghanol etholiad cyffredinol, os oes rhywun heb sylwi. Mae rhai cynigion yn cael eu cyflwyno mewn gwahanol faniffestos ar hyn o bryd ynglŷn â beth arall y gallwn ei wneud. Rwy wastad wedi hoffi, fel Eidalwr Cymreig—dydw i ddim yn dweud mai dyma'r ffordd ymlaen—y syniad y gallwch chi nodi o fewn caffael yr elfennau lleol a ffres, fel maen nhw'n ei wneud yn yr Eidal, yn wir, ac fel maen nhw'n ei wneud mewn rhannau o Ffrainc. Yn rhyfedd iawn, gyda llaw, fel yr wyf wedi crybwyll o'r blaen, maen nhw'n gwneud hynny o fewn rheolau presennol yr UE, ond pwy a oedd yn gwybod? Felly, rwy'n credu bod rhywbeth i'w ystyried yn y fan yna, ac rwy'n obeithiol y bydd y strategaeth bwyd cymunedol, yr wyf yn cymryd ychydig o amser nawr i'w hystyried yn fanylach, yn mynd i'n helpu gyda hynny.

Ar fater llais Cymru mewn cytundebau masnach yn y dyfodol, nid oes gennym lais, Llyr.

Does dim llais gyda ni yn y trade deals.

Dim o gwbl. Byddai'n dda cael llais. Ni waeth pwy sy'n eistedd yn y seddi uchaf hynny ar lefel y DU wrth symud ymlaen, yn enwedig mewn bwyd, nid yn unig ein prif gynhyrchwyr, ond yn y gadwyn gyflenwi bwyd ehangach, mae angen i ni gael y llais hwnnw. Dydw i ddim yn dweud feto, rwy'n dweud llais. Dyma'r math o lais yr oeddem yn arfer ei gael, yn rhyfedd, cyn i ni fynd trwy Brexit. Nawr mae angen i ni ailddyfeisio hynny a pheidio â chael ein cloi allan o'r trafodaethau hynny. Mae hynny'n wleidyddiaeth ddifrifol, aeddfed iawn. Un o'r asedau mwyaf ar gyfer masnach a diwydiant y DU, fel y maent i Gymru, yw rhai o'n cynhyrchwyr yng Nghymru, fel Halen Môn, yr ymwelais â nhw bythefnos neu dair wythnos yn ôl, rwy'n credu am y trydydd tro. Gwelais i nhw pan oedden nhw'n fach, pan oedden nhw'n llythrennol yn defnyddio dyfais Heath Robinson, gan ddod ag ef drwy Ystad y Goron ac ati. Nawr mae'n feiddgar, ac mae eu henw da ledled y byd yn wych, ond, mewn gwirionedd, mae gallu siarad drostyn nhw, a'n ffermwyr, a phawb arall, yn bwysig. Siawns nad yw hynny'n fudd i'r DU, clywed ein llais ni, a llais yr Alban, ac ati.

O ran Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Nwyddau Groser, mae yna rai opsiynau diddorol sy'n cael eu cyflwyno mewn gwahanol faniffestos ar hyn o bryd. Roeddwn i yno pan ddaeth Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Nwyddau Groser i mewn i ddeddfwriaeth yn wreiddiol. Roedd dadleuon bryd hynny pa un a ddylid rhoi mwy o ddannedd iddo, pa un a allai ymestyn ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi ac ati. Nid wyf gant y cant yn sicr ynghylch hyn, ond os ydym yn mynd i wneud hyn, credaf fod angen i ni edrych arno eto fel endid y DU. Byddai gennyf ddiddordeb i gael y trafodaethau hynny gyda Gweinidogion y DU i ddweud, 'Wel, beth yw ein gwerthusiad o sut mae Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Nwyddau Groser wedi llwyddo, a allai wneud mwy, a phe bai'n gwneud mwy, beth fyddai'r opsiynau hynny?' Rwy'n credu ei bod yn drafodaeth agored ar hyn o bryd. Rwy'n sicr yn ymwybodol o'm cyfarfod yn ddiweddar gyda chynhyrchwyr cynradd, yn enwedig ffermwyr, sy'n dweud, 'Nid ydym yn teimlo ein bod yn cael y cytundeb sydd ei angen arnom ar gyfer peth o'n cynnyrch o hyd. Mae'n ymddangos bod y gwerth ymhellach i fyny'r gadwyn na ni.' Felly, naill ai drwy Ddyfarnwr y Cod Cyflenwi Nwyddau Groser, neu rywbeth a wnaeth fy rhagflaenydd, Lesley Griffiths, gyda'r manwerthwyr—. Rwy'n cael cyfarfod cyntaf gyda nhw yn fuan o fewn y pythefnos nesaf. Rwy'n awyddus i archwilio hyn hefyd gyda nhw i ddweud, 'A allwn ni wneud hyn ar wahân i gryfhau Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Nwyddau Groser, a oes parodrwydd yno, yn enwedig gyda'ch cynlluniau sicrwydd ac yn y blaen, i dalu'r pris uchel am yr hyn rydych chi'n gofyn i gynhyrchwyr ei wneud gyda safonau uchel lles anifeiliaid, safonau amgylcheddol uchel—a ydych chi'n mynd i drosglwyddo’r gwerth hwnnw i lawr neu a oes angen i ni ddod ato mewn ffordd wahanol fel Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Nwyddau Groser?' Ond diolch am y cwestiynau yna.

16:40

Dydw i ddim yn anghytuno ag unrhyw beth ddywedodd Llyr o gwbl, felly fe geisiaf beidio ag ailadrodd. Rwy'n credu mai 'cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy' yw eich teitl, ac nid dyna yn hollol oedd yn y datganiad, felly mae angen i rywun newid y teitlau.

Mae Puffin Produce wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth gael pob archfarchnad i gymryd eu tatws a'u llysiau craidd fel blodfresych, moron, winwns, hyd yn oed cennin. Beth yw mesurau gwrthsefyll llifogydd Puffin Produce, o gofio, mewn mannau eraill ym Mhrydain, y bydd tatws yn nwydd prin iawn, ac yn rhybudd i ni i gyd?

Fel y soniodd Llyr, ein huchelgais yw cryfhau'r economi sylfaenol, felly sut mae'r 100 a mwy o aelodau o'r clwstwr cynaliadwyedd yn helpu i ysgogi tyfwyr llysiau a ffrwythau lleol o gofio nad yw sychder a thonnau poeth yn effeithio ar rannau pell y byd yn unig ond ar dde Ewrop, fel yr Eidal, hefyd? Dyma'r marchnadoedd traddodiadol yr ydym wedi cael ein llysiau a'n ffrwythau ohonyn nhw, o ystyried nad ydym yn hunangynhaliol mewn unrhyw ffordd o gwbl.

Pa fesurau y mae archfarchnadoedd yn eu cymryd i roi trefn ar eu cadwyni cyflenwi fel na welwn wyau o ogledd Cymru yn cael eu hanfon i Swydd Lincoln i'w pecynnu ac yna eu hanfon yn ôl i siopau'r gogledd? Mae hynny'n hollol hurt. Yn lle'r modelau 'mewn union bryd' sydd gan yr archfarchnadoedd, mae angen model 'rhag ofn', ac argraffnod llawer mwy cynaliadwy ar bopeth maen nhw'n ei wneud.

Yn olaf, pa gamau sy'n cael eu cymryd i ddileu bwyd wedi'i brosesu'n helaeth o ryseitiau yn y cydweithrediad hwn â chanolfannau arloesi bwyd, o ystyried nad yw'n gynaliadwy o gwbl o safbwynt iechyd i barhau i ganiatáu'r cemegau hyn? A sut fyddwch chi'n sicrhau bod y cynhyrchwyr hyn yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau byd-eang i beidio â defnyddio cynhyrchion sydd wedi'u tyfu drwy rwygo'r goedwig law i lawr?

Diolch yn fawr iawn, Jenny—cyfres o gwestiynau da yna. O ran nid yn unig Puffin Produce ond y cynhyrchwyr ehangach a'r gadwyn gyflenwi hefyd, rwy'n credu mai dyna'n union pam y mae nifer o'r mesurau y soniais amdanyn nhw yn y datganiad agoriadol yn bwysig o safbwynt dylunio cynnyrch, i adeiladu cydnerthedd ac i ddefnyddio cynhwysion gwahanol, ac ati. Ond hefyd, ar lefel cynhyrchydd cynradd, y ffermwyr yn y caeau y mae Puffin Produce yn eu defnyddio, mae angen i ni roi'r cydnerthedd iddyn nhw hefyd, a dyna pam mewn gwirionedd mae cael y cynllun ffermio cynaliadwy yn hollol gywir ac yn iawn fel y gallwn ni i gyd symud ymlaen gyda'n gilydd yn bwysig. Oherwydd rhan o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy hefyd yw cynhyrchu—. Wel, mae'r 'cynaliadwy' yn y teitl yn cynnwys yr holl ystyron, ond mae'n cynnwys y cydnerthedd hwnnw i wrthsefyll newid hinsawdd. Ac a yw hynny'n golygu mewn gwahanol haenau o fewn y tir pori, a yw hynny'n golygu mewn gwahanol gnydau yr ydym yn eu defnyddio, gwahanol ffyrdd yr ydym yn diogelu ac yn gwella'r pridd, ac ati, mae pob un o'r rheini'n hanfodol i gydnerthedd gwrthsefyll newid hinsawdd. Felly mae'n rhaid i hyn fod yn rhywbeth rydyn ni'n ei wneud yr holl ffordd o'r fferm, fel roedd Llyr yn dweud, i silffoedd yr archfarchnad, reit ar hyd y gadwyn gyflenwi, ac mae hynny'n golygu dylunio cynnyrch gwahanol, mae'n golygu edrych ar gydnerthedd y tir hefyd, a phopeth yn y canol.

Mae rhai o'r pethau y soniais amdanynt yn fy natganiad agoriadol yn dangos y gwaith rydym yn ei wneud a'r buddsoddiad rydym yn ei wneud trwy bethau fel y clystyrau cynaliadwyedd ac eraill, i annog yr arloesedd hwnnw mewn gwirionedd. Ac mewn gwirionedd, fe wnaethoch chi nodi'n gywir, 'Wel, sut rydyn ni'n lledaenu hynny, yr arfer gorau hwnnw, nid yn unig ymhlith y cynhyrchwyr sy'n cymryd rhan ar hyn o bryd, ond yn ehangach yn y gadwyn gyflenwi?' Dyna'n union beth y bwriedir i'r clwstwr ei wneud. Rydyn ni'n tyfu hynny. Mae'n tyfu. Mae mwy o bobl, mwy o sefydliadau'n ymuno â hwnnw. A phwrpas y clwstwr hwnnw yw nid yn unig arloesi ond dangos trwy esiampl yn union beth y gellir ei wneud, ac yna lledaenu'r arfer gorau hwnnw. Fel cyd-weithredwr da, rwy'n hoffi'r dull hwnnw: dysgu, arloesi ac yna lledaenu arfer gorau. Rydym yn canolbwyntio'n fawr ar hynny. Bydd rhai o'r digwyddiadau y soniais amdanyn nhw yn fy sylwadau agoriadol yn rhoi cyfle i ni wneud hynny hefyd, a chael mwy o bobl i gymryd rhan ynddo.

Rydych yn crybwyll, yn gwbl briodol, y dull yr oedd gennym yn draddodiadol sef rheoli 'mewn union bryd'; dysgais hynny fel myfyriwr busnes HND tua 30 mlynedd yn ôl. Nawr, mewn gwirionedd, mae angen i ni feddwl yn wahanol. Mwy o'r cydnerthedd hwnnw—fel y dywedwch chi, rhag ofn—roedd gen i ddiddordeb mawr, bu cryn dipyn o Aelodau, chi yn un, yn ddiweddar yn y digwyddiad yn y Pierhead gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, ac rwy'n falch eu bod wedi troi eu sylw at fwyd hefyd a'i bwysigrwydd, a'r angen i wrthsefyll nid yn unig sioc yn y dyfodol ond siociau ar hyn o bryd i'r system hefyd. Felly, Rwy'n credu bod angen i ni adeiladu hynny i mewn wrth i ni gyflwyno'r strategaeth bwyd cymunedol, wrth i ni fwrw ymlaen—oherwydd mae hi wedi bodoli rwy'n credu ers 2021—ein strategaeth sector bwyd yn gyffredinol. Mae angen i ni adnewyddu'r rhain yng ngoleuni cydnerthedd, addasu ar gyfer newid hinsawdd ac ati.

A chemegau 'am byth' (PFAS)—diolch am drafod y rhain gyda mi ychydig yn gynharach heddiw hefyd. Rwy'n credu bod angen i ni droi ein sylw at hyn. Mae'r mater o ddeietau iach, maethlon a fforddiadwy, bod pobl yn gwybod o ble mae pethau'n dod ac yn gwybod nad yw pethau'n eu niweidio, ac yn gwybod nad yw pethau'n mynd i mewn i'r gadwyn fwyd ehangach a'r system amgylcheddol hefyd, yn hanfodol. Rwy'n credu bod hon yn un o'r heriau mawr sy'n ein hwynebu ni erbyn hyn, ac rwy'n dweud fy mod wir yn edrych ymlaen at droi fy sylw at hynny ac ymgysylltu â chi ac eraill sydd â hyn ar flaen eu meddwl, oherwydd nid yw'n iawn i ni efallai wynebu perygl clir a phresennol o gemegau 'am byth' a fydd yn effeithio nid yn unig ar y genhedlaeth hon nawr, ond cenedlaethau i ddod. Mae angen i ni ymdrin â hynny ac ar draws y gadwyn gyflenwi hefyd, ac mae hynny'n golygu cynnwys y manwerthwyr, y prynwyr, y cadwyni cyflenwi, y dosbarthwyr, a siarad am sut rydym yn dylunio bwyd maethlon da.

16:45

Rwy'n croesawu'r datganiad, popeth sydd wedi cael ei ddweud, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cael bwyd sydd wedi'i dyfu'n lleol, heb ei brosesu ar gyfer iechyd ac economi'r genedl. Hoffwn ofyn i chi am ddatgarboneiddio'r diwydiant. Felly, roeddwn i'n gweithio ar ymgyrch gyda Jo a Bleddyn o Gyfeillion y Ddaear ynghylch drysau oergell, drysau oerwyr, a chefais gyfarfod â manwerthwyr drwy Lywodraeth Cymru, ond mae'n ymddangos ei fod wedi aros yn ei unfan. Felly, meddwl oeddwn i tybed a fyddech chi'n helpu i wthio hynny ymhellach. Rydych chi'n mynd i mewn i archfarchnad ar ddiwrnod heulog cynnes a byddai'n rhewi oherwydd yr holl aer oer sy'n dod o oerwyr, ac mae'n gwastraffu cymaint o ynni. Felly, meddwl oeddwn i tybed a allech chi helpu i fynd ar drywydd hynny.

Carolyn, byddwn yn fwy na hapus. Pe gallech chi anfon nodyn i mi ar hynny, byddwn yn fwy na pharod i weld lle mae hwnnw wedi cyrraedd a rhoi hwb iddo. A sonioch chi sut y gallwn ni helpu gyda datgarboneiddio. Mae sawl ffordd; cyffyrddais â nhw yn fyr iawn, iawn yn fy sylwadau agoriadol, ond un ohonynt yw rhaglen dreialu y cynllun lleihau carbon. Mae hwn yn brosiect cyffrous iawn. Mae'n cael ei ddarparu trwy raglen ehangach yr adran fwyd, felly mae'n cynnwys y clwstwr cynaliadwyedd bwyd a diod, y datblygiad masnach a'r sgiliau ar gyfer rhaglenni llwyddiant. Mae'n gweithio gyda phartneriaid i wneud pethau fel gosod gwaelodlin ar gyfer eu hallyriadau carbon, datblygu cynlluniau lleihau carbon pwrpasol ar gyfer y busnes hwnnw. Rydym wedi cael dros 80 o ddatganiadau o ddiddordeb gan fusnesau bwyd a diod hyd yn hyn. A'r peth arall yw cydbwyso'r twf economaidd gyda lleihau carbon, a dyma'r ffordd y gallwn fod yn fwy clyfar o ran ein harloesedd a'n buddsoddiad. Gallwn ei wneud gyda'n gilydd ac, mewn gwirionedd, os ydym yn arloesi ar gadwyni cyflenwi cydnerth, yna rydym yn adeiladu cydnerthedd ynddynt rhag siociau yn y dyfodol a siociau prisiau trwy wneud hynny. Felly, mae yna ffyrdd y gallwn wneud hynny. Mae gennym hefyd gydweithrediad â'n canolfannau arloesi bwyd, gan wneud pethau fel ail-lunio ryseitiau a llawer mwy. Ond os wnewch chi anfon nodyn i mi ar yr un penodol yna, byddwn yn fwy na pharod i edrych ar sut y gallwn ni ei godi o'r lle y gwnaethoch ei adael a gweld a allwn ni ei wthio ymlaen.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Effeithir ar gynaliadwyedd bwyd gan bethau fel rhyfel a newid hinsawdd, ac rydym wedi gweld rhyfel yn creu mynediad annibynadwy at fewnforion allweddol o fwyd ond hefyd tanwydd. Felly, mae'n rhaid i ni atal ein dibyniaeth ar danwydd ffosil. Ond mae newid hinsawdd wedi cynhyrchu'r gaeaf gwlypaf a gofnodwyd, materion enfawr gyda phlâu gwlithod a malwod ledled ein gwlad yma yng Nghymru, ond hefyd cynaeafau lleol o ganlyniad, oherwydd na allech blannu dim—roedd hi'n rhy oer, roedd yn rhy wlyb. Yna i'r gwrthwyneb, y gwres eithafol, gyda chnydau Ewropeaidd aflwyddiannus o saladau a phethau tebyg.

Felly, dyma rai o'r heriau. Rhai o'r atebion a'r buddsoddiad, wrth gwrs, yw'r marchnadoedd bwyd a chynnyrch wythnosol lleol, ac rwy'n aml yn mynd i un yn Hwlffordd, er enghraifft. Ond i redeg ochr yn ochr â hynny, Gweinidog, a allwn ni geisio annog rhai o'r siopau manwerthu gwag i fod yn siopau dros dro, gydag agenda ddiffiniedig o'r hyn sy'n mynd i fod yno a phryd, ac ennyn pobl i ddod draw, fel eich bod yn adfywio canol eich tref, ond rydych chi hefyd yn rhoi llwybr i fanwerthwyr i weld a fyddent yn ystyried mynd â rhywbeth mwy cynaliadwy i'r gymuned honno a nhw eu hunain yn y dyfodol? A bwyd stryd—dydyn ni ddim yn gwneud bwyd stryd yn dda iawn, yn gyffredinol. Rydym yn gwneud yn dda iawn pan fyddwn yn gwneud bwyd stryd, ond nid ydym yn ei annog. Nid yw yn ein diwylliant ac eto rydym yn cynhyrchu peth o'r bwyd gorau, boed yn gig coch, yn llysiau neu'n ffrwythau.

16:50

Joyce, diolch yn fawr iawn, ac rwy'n ymwybodol ein bod yn cael rhai cyfraniadau yma sy'n fy helpu i ysgrifennu'r strategaeth bwyd cymunedol yn y fan a'r lle. [Chwerthin.] Mae yna'r mater yma ynglŷn â sut y gallwn ni sicrhau bod y bwyd da a maethlon hwnnw ar gael ar ein strydoedd mawr, a rhywbeth i'w wneud â sut rydym ni'n defnyddio'r mannau gwag hynny hefyd. Roedd hi'n ddiddorol iawn pan oeddwn i'n ymweld â pherthnasau yn yr Eidal, yn mynd ar hyd stryd gefn, ac roedd siop dros dro wedi dod i'r amlwg yn stryd gefn tref, ac roedd yn gymysgedd o fwyd oedd yn cael ei ailgylchu o rai o'r archfarchnadoedd, ond yn fwy na hynny, roedd ganddi hefyd fwyd o randiroeddd a bwyd gan dyfwr cymunedol hefyd, ac roedd yn cael ei werthu am ostyngiad sylweddol, yn fforddiadwy iawn—roedd llawer o bobl o bob cefndir economaidd-gymdeithasol gwahanol yn mynd i mewn i'r siop yna. Roeddwn i'n chwilfrydig; es i mewn i weld beth oedd yn digwydd. Ond hefyd mae gennym ni, yn agosach at adref, bobl fel Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo, y gwn i y buon nhw'n gwneud pethau lle maen nhw wedi buddsoddi mewn adeiladau gwag mewn cymunedau, a'u datblygu, nid dim ond fel canolfannau cymunedol, ond canolfannau bwyd hefyd—yn ddiddorol iawn. Rwy'n credu bod mwy yn rhan o hyn, ac rwy'n obeithiol y gellir cynnwys rhai o'r awgrymiadau a gyflwynir heddiw yn y strategaeth bwyd cymunedol honno. Felly, nid yw'n ymwneud yn unig â'r cynhyrchwyr mawr a'r cyflenwyr mawr ac ati; mae'n ymwneud â dwyn ynghyd y rhwydweithiau hynny o randiroedd, tyfwyr cymunedol, pobl yn y maes trydydd sector hwnnw sydd eisiau helpu hynny, a hefyd adfywio ein trefi a'n cymunedau. Ond yn fwy na dim, o ran yr agenda cynaliadwyedd, rhoi o flaen pobl, mewn lleoedd sy'n hygyrch iddyn nhw, ar y strydoedd lle maen nhw'n byw, bwyd da, fforddiadwy, maethlon.

Nawr, nid wyf yn credu bod yna un ateb hud sy'n gwneud hynny, ond mae yna lawer o gydymdrechu i wneud i hynny ddigwydd. Ac rwy'n credu ei fod yn cyd-fynd yn fawr iawn â rhai o'r syniadau blaengar mewn lleoedd yr ydym ni wedi'u gweld, yng Ngŵyl Fwyd y Fenni a mannau eraill ledled Cymru, ond hefyd y gwaith y mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn edrych arno hefyd, ac mae'n rhaid i mi ddweud, syniadau a gyflwynwyd yn Siambr y Senedd hon o'r blaen gan lawer o Aelodau. Felly, gadewch i ni weld lle rydym ni'n cyrraedd ar y strategaeth bwyd cymunedol, ond rwy'n casglu syniadau heddiw wrth i ni fynd ymlaen.

6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Buddsoddi yn addysg a hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol 2024-25

Eitem 6 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: buddsoddi mewn addysg a hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol—2024-25. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Eluned Morgan.

Diolch yn fawr. Diolch am y cyfle i wneud y datganiad pwysig hwn am fuddsoddi mewn addysg a hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Mae'r GIG yng Nghymru yn cysylltu â thua 2 filiwn o gysylltiadau y mis mewn poblogaeth o ychydig dros 3 miliwn o bobl. Mae'r mwyafrif helaeth o'r cyhoedd yn hapus iawn gyda'r gwasanaeth maen nhw'n ei dderbyn, ac mae hyn diolch i ymdrechion arwrol y 110,000 o weithwyr sy'n staffio ein GIG, yn ogystal â'r 80,000 sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Mae sicrhau bod y staff hyn yn fedrus iawn ac wedi'u hyfforddi'n dda yn hanfodol i'r llwyddiant hwn, ond mae'n rhaid i ni hefyd edrych i'r dyfodol i sicrhau bod gweithlu'r dyfodol yn gallu ymateb i newidiadau yn anghenion cleifion, yn enwedig wrth ystyried demograffeg newidiol Cymru, gyda phoblogaeth sy'n heneiddio gyda heriau iechyd lluosog.

Rydym yn benderfynol o sicrhau ein bod yn darparu gweithlu hynod fedrus, sydd wedi'u rymuso a'i ysbrydoli. Felly, mae buddsoddi yn y maes hwn yn hollbwysig. Felly, er gwaethaf y sefyllfa ariannol hynod heriol sy'n wynebu Llywodraeth Cymru, cytunais eleni i gynnal yr un faint o gyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25, ag yn 2023/24, sef ein buddsoddiad mwyaf erioed.

Mae'r £283 miliwn a fuddsoddwyd wrth hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn golygu y byddwn yn gweld cynnydd yn nifer y lleoedd hyfforddi o'i gymharu â nifer y lleoedd a lanwyd mewn gwirionedd yn y flwyddyn flaenorol. Mae'r buddsoddiad hwn yn golygu y gallwn ni hyfforddi hyd at 2,400 o nyrsys, 224 o fydwragedd a 127 o barafeddygon, gan ddarparu cyfanswm o dros 5,700 o leoedd hyfforddi mewn proffesiynau ac arbenigeddau amrywiol.

Drwy barhau i fuddsoddi yn narpariaeth addysg a hyfforddiant y GIG, rydym yn gobeithio annog unigolion i ystyried iechyd a gofal yng Nghymru fel gyrfaoedd gwerth chweil. Byddwn yn darparu cyfleoedd dysgu rhagorol i baratoi hyfforddeion ar gyfer y dyfodol. Rydym ni hefyd yn annog llwybrau hyfforddi a gyrfa arloesol a newydd, gan gynnwys llwybrau 'personol', gan gynnig dewisiadau gwahanol i unigolion yn hytrach na'r llwybrau dysgu traddodiadol, sy'n golygu y gall pobl hyfforddi yn eu cymunedau eu hunain, ac nad oes angen iddyn nhw fynd i goleg neu brifysgol.

Mae sicrhau dyfodol cynaliadwy i feddygaeth deulu mewn cymunedau ledled Cymru yn flaenoriaeth, ac rydym ni wedi cymryd camau i wneud gwasanaethau'n haws eu defnyddio ac i gymell recriwtio meddygon teulu. Mae ein hymgyrch farchnata 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' yn parhau i sicrhau cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n ymgeisio am leoedd hyfforddi meddygon teulu. Rydym ni hefyd wedi darparu cymhellion ariannol i ddenu pobl sydd eisiau hyfforddi i fod yn feddygon teulu i gynlluniau hyfforddi arbenigol yn y gogledd, y canolbarth a'r gorllewin—ardaloedd hanesyddol sy'n anodd recriwtio iddynt.

Ers cyflwyno'r cymhellion hyn, mae 307 o hyfforddeion wedi ymuno â'r cynllun. Mae mwy o staff rheng flaen GIG Cymru nag erioed o'r blaen. Mae nifer yr ymgynghorwyr, nyrsys a bydwragedd wedi cyrraedd y mwyaf erioed. Y GIG yw'r cyflogwr mwyaf yng Nghymru, sy'n cyflogi dros 110,000 o bobl. Rydym ni'n glir ei bod hi yr un mor bwysig cadw ein staff presennol ag yw hi i sicrhau ein bod yn recriwtio staff newydd. Mae hyn yn cael ei ategu drwy fuddsoddi mewn darparu datblygiad proffesiynol parhaus hanfodol—cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus—. Mae datblygiad proffesiynol parhaus yn hanfodol i gefnogi, datblygu a chynnal sgiliau ein gweithlu, gyda manteision clir ar gyfer lles y gweithlu, cadw staff ac ansawdd a diogelwch gofal.

Rwy'n cydnabod bod cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn dod yn fwyfwy pwysig, ac mae angen i ni sicrhau bod cyfleoedd gwaith a dysgu hyblyg ar gael. Mae'r newidiadau hyn yn gofyn am feddwl newydd ar lefelau strategol, rhanbarthol a lleol os ydym ni am wneud y mwyaf o'n hadnoddau a pharhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i gleifion. Dyma un o'r rhesymau pam y cyhoeddais fy mhenderfyniad yn flaenorol nid yn unig i gynnal bwrsariaeth GIG Cymru, ond hefyd i gael gwared ar y benthyciad cynhaliaeth cyfradd is. Mae hyn yn galluogi myfyrwyr  sy'n hanu o Gymru ac sy'n gymwys i gael bwrsariaeth y GIG sy'n dechrau neu'n parhau â'u hastudiaethau ym mlwyddyn academaidd 2024/25 i allu manteisio ar swm llawn y benthyciad cynhaliaeth.

Trwy ein rhaglen ymrwymiad llywodraethu i gadw cynllun bwrsariaethau GIG Cymru, rydym yn darparu pecyn o gymorth ariannol i fyfyrwyr gofal iechyd sy'n ymrwymo i weithio yn y sectorau iechyd neu ofal cymdeithasol yng Nghymru am hyd at ddwy flynedd ar ôl cymhwyso. Mae'r pecyn cymorth hwn yn cynnwys ffioedd dysgu ac elfen tuag at gostau byw.

Rwy'n ystyried cynnal ymarfer ymgynghori cyhoeddus yn ystod y 12 mis nesaf i archwilio'r ffordd orau a mwyaf priodol o barhau i gefnogi'r rhai sy'n dewis astudio rhaglenni gofal iechyd yng Nghymru. Fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, ein nod yw sicrhau bod system Cymru yn cynnig manteision tebyg i wledydd eraill, gan sicrhau bod Cymru'n parhau fel cyrchfan ddewisol i fyfyrwyr.

Llynedd fe wnes i gyhoeddi y byddwn ni'n ariannu hyd at 140 o lefydd i fyfyrwyr meddygol bob blwyddyn yn ysgol feddygol newydd gogledd Cymru, gan ddechrau derbyn myfyrwyr yn uniongyrchol o fis Medi eleni ymlaen. Bydd sefydlu ysgol feddygol yn y gogledd yn ein helpu i hyfforddi mwy o fyfyrwyr meddygol, a sicrhau bod cyfleon hyfforddi a darpariaeth o feddygon cymwysedig yn cael eu gwasgaru drwy Gymru. Rŷn ni'n disgwyl i niferoedd myfyrwyr gynyddu'n gyson a chyrraedd y nifer optimwm o 2029 ymlaen. Bydd yr ysgol newydd yn hwb i bobl y gogledd ac i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Gan nad yw'r heriau presennol o ran cyllid a'r gweithlu yn unigryw i Gymru, dwi'n sylweddoli nad yw addysg a hyfforddiant yn unig yn ddigon i gynnig datrysiad yn syth. Fydd y rhai sy'n dechrau ar eu hyfforddiant ym mis Medi ddim yn cymhwyso yn llawn am rai blynyddoedd. Dwi hefyd yn cydnabod yr heriau sylweddol sy'n wynebu ein gwasanaethau a'n gweithlu heddiw, felly, yn ogystal a chynnal y lefel sylweddol o gyllid ar gyfer hyfforddi gweithlu newydd yn 2024-25, gwnes i gadw £5 miliwn o fewn y gyllideb iechyd i'w defnyddio ar gyfer rhaglenni cenedlaethol i gefnogi recriwtio rhyngwladol moesol. Dyw hwn ddim yn gynllun newydd. Ers degawdau, mae'r NHS yng Nghymru wedi elwa o sgiliau ac ymroddiad gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi eu haddysgu'n rhyngwladol. Fel rhan o Cymru yn India, gwnes i arwyddo cytundeb ar 1 Mawrth gyda Llywodraeth Kerala i ddod â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cymwysedig o India i weithio yn yr NHS yng Nghymru. Bydd hyd at 250 o weithwyr iechyd proffesiynol yn cael ei recriwtio o dan y gytundeb newydd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Kerala. Mae hon yn berthynas uniongyrchol rhwng dwy Lywodraeth, gan weithio drwy asiantaeth Llywodraeth Kerala sydd ddim yn gwneud elw. Wrth gwrs, mae recriwtio moesol yn hollbwysig. Rhaid inni wneud yn siŵr nad ydyn ni yn cymryd staff hanfodol i ffwrdd o wledydd sy'n wynebu eu heriau eu hunain. Ond mae angen inni hefyd ddal ati i fuddsoddi er mwyn hyfforddi a chadw gweithlu domestig ein hunain. Nid bwled arian yw recriwtio rhyngwladol.

Yn olaf, er mwyn llunio gweithlu NHS Cymru at y dyfodol, mae angen meddwl am y gwaith sydd angen ei wneud a sut i'w wneud yn effeithiol ac effeithlon. Fe fyddwn ni'n parhau i wneud hyn ar y cyd â phartneriaid allweddol er mwyn darparu'r gweithlu mae'r gwasanaeth iechyd ei angen i ymateb i'r heriau sy'n ei wynebu ar hyn o bryd a hefyd yn y dyfodol. Diolch yn fawr. 

17:00

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch am y datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, a diolch hefyd i chi am sicrhau ei bod ar gael rhag blaen heddiw. Wrth gwrs, mae strategaeth hyfforddiant gofal iechyd effeithiol yn gwbl hanfodol ar gyfer llwyddiant y gwasanaeth iechyd a llesiant pobl ledled y wlad. Nid yn unig y mae cleifion yn elwa ar weithlu sydd wedi'i hyfforddi'n dda, ond bydd pobl yng Nghymru, yn enwedig pobl iau sy'n dilyn gyrfa mewn gofal iechyd, yn elwa hefyd.

Felly, Ysgrifennydd Cabinet, gadewch i mi ddechrau drwy ategu eich cydnabyddiaeth o ymdrechion anhygoel y bron i 200,000 o bobl hynny sy'n gweithio yn ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a hefyd i groesawu nifer o bwyntiau rydych chi wedi'u rhannu yn eich datganiad y prynhawn yma. Yn gyntaf, rwy'n falch eich bod wedi cydnabod yr angen i gymell recriwtio meddygon teulu. Mae'n dda gweld cynnydd yn y maes hwn. Byddwn yn awyddus i weld hyn yn parhau, oherwydd mae'r ddau ohonom ni'n gwybod pa mor bwysig yw cael gofal iechyd sylfaenol yn iawn, ac mae gan ein cymunedau gwledig rai heriau unigryw o ran recriwtio meddygon teulu yn yr ardaloedd hynny.

Rwy'n credu eich bod hefyd yn iawn i gydnabod y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a'r angen am drefniadau gweithio mwy hyblyg. Bydd pwyslais yn y maes hwn, yn fy marn i, yn mynd yn bell o ran gwella recriwtio a chadw. Fy mhryder i, efallai, yw sut mae'n cael ei gyflawni ar lawr gwlad, a sicrhau bod ein byrddau iechyd yn edrych ar ffyrdd newydd o sicrhau cydbwysedd hyblyg rhwng bywyd a gwaith i bobl ar lawr gwlad. A'r trydydd maes yr hoffwn ei groesawu o'ch datganiad yw'r cynnydd yn ysgol feddygol gogledd Cymru. Er nad yw'n enfawr o ran niferoedd crai, rwy'n credu ei fod yn fawr o ran ei fwriad ac o ran diogelu gwasanaethau yn y gogledd yn benodol at y dyfodol, yn enwedig am nad yw bwrdd Betsi Cadwaladr eto wedi cyrraedd y man lle mae arnom ni i gyd eisiau iddyn nhw fod fel bwrdd iechyd.

Fodd bynnag, rwy'n credu, yn anffodus, bod meysydd y mae angen eu hamlygu ar gyfer gwelliant parhaus, oherwydd rwy'n credu bod llawer o'r hyn a rannwyd y prynhawn yma, yn anffodus, yn rhy ychydig, yn rhy hwyr. Rydym ni'n gwybod bod Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi diwygio ei argymhellion ar gyfer faint o leoedd nyrsio dan hyfforddiant y dylid eu comisiynu ar gyfer y flwyddyn yr ydym ni ynddi nawr, ac roedd yr argymhelliad terfynol a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru 13 y cant yn is na'r hyn a gynlluniwyd yn wreiddiol, ac yn wir 11 y cant yn is na'r flwyddyn flaenorol. Nawr, mae'r rheini'n niferoedd eithaf brawychus, yn enwedig pan edrychwch chi ar gyflwr y GIG dan lywodraeth Lafur Caerdydd, gyda'r rhestrau aros uchaf erioed sydd, yn anffodus, yn rhoi Cymru ar waelod ein tabl cynghrair ledled y DU o ran gwasanaethau iechyd. Ac mae'n fater ehangach oherwydd y llynedd roedd y targed ychydig dros 2,700 o lefydd i'w llenwi, ond dim ond 2,260 o lefydd oedd wedi'u llenwi, felly rwy'n credu bod cwestiynau i'w gofyn yn y fan yna ynglŷn â pham na chafodd y lleoedd hynny eu llenwi'r llynedd. Efallai mai  i rywfaint o reolaeth wael gan y Llywodraeth y mae'r diolch bod y gweithwyr gofal iechyd gorau a disgleiriaf yng Nghymru a ledled y DU yn fwy amharod, mae'n debyg, i ymarfer eu proffesiwn yng Nghymru, sydd i mi yn drist iawn, oherwydd credaf mai Cymru yw'r lle gorau i fyw ac i weithio ac i fagu teulu. Felly, tybed, Ysgrifennydd Cabinet, sut y bydd y cynllun hwn a rhai yn y dyfodol yn sicrhau bod pob lle yn cael ei lenwi ac y bydd Llywodraeth Cymru yn fwy uchelgeisiol yn hytrach na chael gwared ar rai o'r lleoedd hyfforddi hynny y mae mawr eu hangen?

Yn ogystal, rwy'n ymwybodol bod adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a gyhoeddwyd yn gynharach eleni wedi gwneud nifer o argymhellion a fyddai'n mynd rhywfaint o'r ffordd i wella'r sut yr ydym ni'n ymdrin ag addysg a hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Er enghraifft, mae argymhelliad 6 o'u hadroddiad yn galw arnoch i gomisiynu darn o ymchwil i'r defnydd o offeryn cynllunio'r gweithlu o ran lefelau gofal yng Nghymru. Mae argymhelliad 10 o'r adroddiad hwnnw yn galw arnoch i ddefnyddio rhaglen staffio nyrsys Cymru gyfan i gomisiynu ymarfer i nodi offerynau eraill sydd ar gael o ran cynllunio'r gweithlu. Dim ond ychydig o enghreifftiau o'u hadroddiad yw hynny. Ond, fel mae'r argymhellion yn cyfeirio, bu nifer o gynlluniau yn y gorffennol. Maen nhw'n argymell rhai cynlluniau ac offer ychwanegol yn y dyfodol i helpu gwella'r sefyllfa ar gyfer hyfforddiant gofal iechyd yng Nghymru. Wrth gwrs, mae cynlluniau a strategaethau yn bethau da, ond yr hyn sydd angen i ni ei weld yw cyflawni a rheoli'r sefyllfa recriwtio a hyfforddi yma yng Nghymru. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, mae llawer o'r hyn rydych chi wedi'i rannu y prynhawn yma, er bod rhai pwyntiau da yno, fel y dywedais, credaf fod llawer ohono'n rhy ychydig, yn rhy hwyr. Felly, tybed: a ydych chi'n credu y gallwch chi reoli'r sefyllfa hon, gwyrdroi'r sefyllfa, a datrys y problemau sydd, yn anffodus, wedi plagio ein gwasanaeth iechyd yn llawer rhy hir? Diolch yn fawr iawn.

17:05

Diolch yn fawr iawn, Sam. Fel y gwyddoch chi, fe gawsom ni ein herio'n ariannol iawn yn y gyllideb eleni. Roedd hynny oherwydd—. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i fy nghyd-Ysgrifenyddion o amgylch bwrdd y Cabinet eu bod yn barod i gefnogi iechyd. Rydym ni wedi gweld cynnydd o 4 y cant yng nghyllideb y GIG yng Nghymru, a dim ond 1 y cant y mae hi wedi cynyddu yn Lloegr. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw, mewn gwirionedd, rydym ni'n cymell, fel y dywedwch chi, recriwtio meddygon teulu. Rwy'n credu bod hynny'n wych, ac mae wedi bod yn hynod lwyddiannus. Rydym yn rhoi £20,000, nad yw'n swm bach o arian, i annog meddygon teulu i hyfforddi yn y mannau hynny lle yr oeddem yn ei chael hi'n anodd recriwtio iddyn nhw o'r blaen, ac rwy'n falch iawn bod hynny wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol.

Rydych chi'n hollol iawn, Sam, mewn perthynas â chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Rydw i yn credu bod hynny'n ystyriaeth o bwys. Mae'n werth nodi mae'n siŵr, os edrychwch chi ar feddygon, er enghraifft, bod llawer mwy o fenywod yn hyfforddi i fod yn feddygon nawr na dynion. Ond hefyd mae dynion yn dewis peidio â gweithio'n llawn amser hefyd, felly mae'n rhaid i ni ystyried hynny, ac rwy'n credu ei bod hi'n werth nodi nad yw'n rhatach hyfforddi rhywun os ydyn nhw'n gweithio'n rhan amser. Felly, mae'r gost i'r trethdalwr yn fwy mewn gwirionedd; oherwydd eu bod nhw'n gweithio'n rhan amser, mae'n rhaid i ni gyflogi mwy ohonyn nhw. Felly, mae hynny'n her. Dyw e ddim yn her i Gymru yn unig—mae'n her ym mhobman—ond dyna'r gwir amdani. Mae'r byd wedi newid ers y dyddiau pan allech chi ffonio'ch meddyg teulu yng nghanol y nos a bydden nhw'n dod gyda'u bag bach yng nghanol y nos. Mae'r dyddiau hynny wedi mynd. Felly, mae gennym ni lawer o wahanol bethau ar waith.

Mae'r elfen o gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, serch hynny, rwy'n credu yn bwysig iawn, ac rwy'n falch iawn, yn y trafodaethau a gawsom ni, yn enwedig gyda'r undebau llafur iechyd, mewn perthynas â chynllun gweithredu'r gweithlu, mai un o'r pethau yr ymrwymon ni iddo oedd rhagdybiaeth o blaid rhoi hyblygrwydd pe bai rhywun yn gofyn amdano. Mae hynny eisoes wedi gwneud gwahaniaeth mawr. Mae gennym ni beth ffordd i fynd, ond dyna ddywedodd y bobl a ddewisodd weithio mewn asiantaeth wrthym ni o'r blaen, 'Mae gennym ni fwy o hyblygrwydd os ydym ni'n gweithio i asiantaeth.' Wel, dydy hynny ddim yn wir bellach—y rhagdybiaeth honno o blaid hyblygrwydd—ac rydyn ni wedi gweld gostyngiad enfawr yn y defnydd o asiantaethau yn barod. Rydym ni wedi arbed tua £64 miliwn yn unig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar asiantaethau.

Mae'n wych eich bod yn cefnogi agor yr ysgol feddygol newydd ym Mangor. Ond credaf dim ond i chi edrych—. Roeddech chi'n gofyn am leoedd nyrsio. Wel, wrth gwrs, fe gawson nhw wared ar y fwrsariaeth nyrsio yn Lloegr yn 2016. Roedd yn rhaid iddyn nhw ei hail-gyflwyno, oherwydd roedd yn gymaint o drychineb, ond wnaethon ni, wrth gwrs, erioed ei dileu yng Nghymru. Ond rydych chi'n gofyn: pa wahaniaeth mae'n ei wneud? Fe ddywedaf i wrthych chi pa wahaniaeth y mae'n ei wneud: y ffaith yw bod gennym ni 12 y cant yn fwy o staff meddygol a deintyddol yng Nghymru heddiw nag oedd gennym ni dair blynedd yn ôl, dyna 892 ohonyn nhw; nyrsys cofrestredig, 10 y cant yn fwy nag oedd gennym ni dair blynedd yn ôl, 2,246 yn fwy; ymgynghorwyr y GIG, 8 y cant yn fwy; staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol, 15 y cant; 13 y cant yn fwy o staff ambiwlans. Mae hyn i gyd, rwy'n credu, yn rhywbeth y dylid ei gydnabod a'i ddathlu.

A dim ond i'ch cywiro, dyw Cymru ddim ar waelod tabl y gynghrair o ran rhestrau aros. Rwy'n credu y byddai'n well i chi wirio hynny, ac felly hefyd y BBC.

17:10

Wel, fel dwi wedi sôn droeon yma yn y Siambr, dydy’r gwasanaeth iechyd yn ddim byd heb y llengoedd o staff ymroddedig sydd yn gweithio yno, ond, yn anffodus, mae problemau difrifol o ran cadw staff wedi bod yn amlwg ers sawl blwyddyn. Er enghraifft, mae Cymru yn parhau i ddioddef—beth bynnag mae’r Ysgrifennydd Cabinet newydd ei ddweud—diffyg nyrsys, gyda phrinder o tua 2,700 nyrs, tra bo lefelau meddygon teulu yn parhau i fod yn sylweddol is na chyfartaledd yr OECD, sef pam mae Plaid Cymru yn galw i gyflwyno 500 meddyg ychwanegol fel rhan o’n blaenoriaethau ni ar gyfer yr etholiad yma.

Mae’r sefyllfa’n arbennig o fregus yng nghyd-destun canser, lle mae record yr NHS yng Nghymru ar amseroedd aros wedi bod yn dirywio am gyfnod, gyda’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod bron i hanner cleifion Cymru yn methu dechrau eu triniaeth o fewn y 62 diwrnod gofynnol. O ran ein staff oncoleg, mi ydym ni 11 y cant o dan y nifer angenrheidiol, ac, oherwydd demograffeg y gweithlu penodol yma, amcangyfrifir y bydd y diffyg yma yn tyfu i 41 y cant dros y pedair blynedd nesaf. Mae buddsoddiad cryf mewn addysg a hyfforddiant yn y sector felly yn allweddol er mwyn sicrhau bod y gweithlu yn gynaliadwy yn unol â’r gofynion sydd ar ein gwasanaethau iechyd.

Dwi’n nodi’r ffaith bod y Llywodraeth wedi medru cynnal yr un lefel o wario ar yr elfen yma o’r cyllid iechyd, fel ddaru’r Ysgrifennydd Cabinet ei ddweud, ac mae hynny i’w groesawu, ond mae’n werth hefyd cofio taw dyma’r flwyddyn gyntaf lle nad ydy’r gwariant wedi cynyddu, ar ôl bron i ddegawd o gynnydd parhaol.

Wrth gwrs, dwi’n cydnabod yn llwyr y pwysau ariannol aruthrol sy’n parhau i wynebu’r Llywodraeth yma, a dyna pam mae galwad Plaid Cymru am gyllid teg i Gymru mor angenrheidiol, a pham mae agwedd arweinyddiaeth Llafur ar y mater yma, yr hyn welsom ni’n glir yng nghyfweliad Jo Stevens yr wythnos diwethaf, yn dangos diffyg dealltwriaeth llwyr ynghylch ein hanghenion iechyd fel cenedl. Nid slogan yn unig ydy tegwch ariannol i Gymru, ond yr allwedd i greu system iechyd sy’n medru mynd i’r afael â heriau’r unfed ganrif ar hugain, sy’n cynnwys poblogaeth sydd yn heneiddio ar raddfa gyflymach na gweddill y Deyrnas Gyfunol. Roedd o’n hynod siomedig felly clywed geiriau’r Prif Weinidog yn ystod y ddadl arweinwyr nos Wener yn honni ei fod wedi derbyn popeth y gofynnodd amdano, meddai, ym maniffesto Llafur, sy’n awgrymu’n glir na wnaeth o ofyn am degwch ariannol i Gymru oddi wrth Lywodraeth Lafur a fydd yn dod i rym yr wythnos nesaf.

A gaf fi ofyn felly i’r Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau a ydy newid fformiwla Barnett presennol gyda system ariannu sy’n seiliedig ar angen yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru? Ac os felly, pam na wnaeth y Prif Weinidog wneud achos cryfach am hyn er mwyn ei gael o wedi’i gynnwys ym maniffesto Llafur y Deyrnas Gyfunol?

Mae e hefyd yn wir i ddweud nad ydy Cymru o hyd yn gweld ffrwyth y buddsoddiad sy’n mynd mewn i’r sector iechyd o ran yr addysg a hyfforddiant; er enghraifft, yn ôl asesiad diweddaraf Audit Wales ar gyflwr y gweithlu NHS, dim ond 43 y cant o ddoctoriaid sy’n hyfforddi yng Nghymru sydd yn aros yma i weithio ar ôl graddio. Felly, pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth er mwyn sicrhau bod Cymru yn medru cadw mwy o’r myfyrwyr iechyd sydd yn astudio yma?

Ac i gloi, dwi wedi sôn yn aml am yr angen i’r Llywodraeth gytuno setliad teg gyda’r Coleg Nyrsio Brenhinol yn eu hanghydfod presennol. Yn amlwg, mae'r rhan helaeth o hyn yn ymwneud â thâl, ond mae materion yn ymwneud â chyfleon hyfforddiant mewnol hefyd wedi bod yn fater o bwys i nyrsys yng Nghymru ers sbel. Yn benodol, nid yw cyfleon CPD ar hyn o bryd yn rhan ffurfiol o gontractiau nyrsys, yn wahanol i gontractiau meddygon, sy'n golygu nad yw nyrsys yn cael yr un cyfleon o ran datblygiad personol o gymharu â'u cydweithwyr mewn meysydd iechyd eraill. Dwi yn croesawu bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cyfeirio at yr angen i wella CPD mewn sawl maes iechyd, ond ddaru hi ddim cyfeirio'n benodol, felly, at nyrsys. Felly, gaf i ofyn os oes yna fwriad gan y Llywodraeth i gynnwys hynny yn rhan o gytundebau newydd nyrsys Cymru yn y dyfodol? Diolch yn fawr iawn.

17:15

Diolch yn fawr, Mabon, ac mae'r ffaith ein bod ni wedi gwneud y newidiadau hynny o ran sicrhau bod pobl yn gallu bod yn fwy flexible yn eu gwaith, gobeithio, yn mynd i weld sifft yn y nifer sy'n gweithio fel agency mewn asiantaethau a byddan nhw'n gweithio'n uniongyrchol yn yr NHS. Mae hwnna eisoes yn digwydd ac fel roeddwn i'n dweud, mae £64 miliwn eisoes wedi cael ei arbed o ganlyniad i hynny. 

Roeddech chi'n gofyn ynglŷn â'r adroddiad ynglŷn â chanser a faint o bobl sy'n gweithio yn yr ardal yna. Mae'n wir fod yn dal gap i gael, ac yn amlwg mae hwnna yn ofid penodol. Wrth gwrs, mae hwnna'n rhannol achos ein bod ni wedi gweld cynnydd aruthrol yn y nifer o bobl sydd yn cael eu hanfon i gael arolwg canser—50 y cant o gynnydd yn ystod y tair blynedd diwethaf. Ond beth allaf i ei ddweud wrthych chi yw bod y Royal College of Radiologists wedi dweud bod yna gap mawr, 41 y cant, ac mae hwnna wedi dod i lawr i 28 y cant; felly, mae e wedi dod i lawr yn sylweddol. Maen nhw hefyd yn cydnabod bod Cymru wedi cael y—

—cynnydd cyfrannol mwyaf mewn oncolegwyr ar draws y pedair gwlad.

Felly, 12 y cant o gynnydd yng Nghymru, 3 y cant yn Lloegr. Mae cyfradd yr oncologists wedi cynyddu yn sylweddol, ac, wrth gwrs, mae lot mwy yn y pipeline, ond dyw'r rhain ddim yn bobl rydych chi'n gallu switsio ymlaen dros nos.

Jest o ran y blaenoriaethau, rydym ni wedi ei gwneud hi'n glir, ac mae wedi cael ei ddangos yn glir, fod hwn yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, fel roeddech chi'n gweld yn yr arian roeddem ni wedi ei roi yn ychwanegol i iechyd y llynedd. Mae'n wir bod yn rhaid i ni gadw pobl yn y gweithlu; mae hwnna'n hollbwysig. Un o'r ffyrdd o wneud hynny yw sicrhau, os ŷn ni'n gallu, ein bod ni'n cael mwy o bobl i hyfforddi yn y maes.

Roedd hi'n ddiwrnod arbennig ddydd Gwener diwethaf, roedd yna gynllun wedi cael ei drefnu gan bennaeth ysgol Glantaf oedd wedi dod â myfyrwyr o dde Cymru i gyd at ei gilydd, pobl oedd â diddordeb mewn gweithio fel meddygon neu ddeintyddion yn y dyfodol. Roedd yr ysgolion meddygol yna a'r ysgol ddeintyddol i sicrhau bod mwy o gyfle gan bobl o Gymru i gael lle ar y cyrsiau yng Nghymru.

Felly, rŷn ni wedi gweld cynnydd mawr o ran meddygaeth, rŷn ni'n awyddus nawr i weld y cynnydd yna'n digwydd o ran deintyddiaeth. Os ŷch chi'n hyfforddi pobl o Gymru, y siawns yw eu bod nhw'n fwy tebygol o aros yma, a dwi'n meddwl bod hwnna'n hollbwysig. Ond dwi'n awyddus iawn i wneud mwy o waith ynglŷn â sut allen ni gadw pobl sydd wedi cael eu hyfforddi yma neu gwneud yn siŵr, os ŷn ni'n talu amdano, beth ŷn ni'n cael yn ôl fel gwlad.

Rwy'n croesawu'r buddsoddiad yn y gogledd, ym Mhrifysgol Wrecsam, yr hyfforddiant sydd eisoes gan weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, nyrsys, parafeddygon, ffisiotherapyddion ac eraill. Mae gennym fwrsariaeth nyrsio, yn wahanol i Loegr, ac rydym hefyd yn talu'r cyflog byw i weithwyr gofal cymdeithasol. Mae gennym hefyd ysgol feddygol newydd ym Mangor, sydd i'w chroesawu, a llwybrau gofal cymdeithasol trwy Goleg Llandrillo, gan weithio gyda phartneriaid a chyflogwyr yn y sector, ac mae croeso mawr iddynt. Ysgrifennydd Cabinet, dyma Lywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn gweithredu a dod â phobl i'r gweithlu gofal iechyd, sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr.

Ond mae'n rhaid i ni gadw staff hefyd, ac rwy'n croesawu'r hyn rydych chi'n ei ddweud am yr hyblygrwydd hwn, oherwydd dyna a ddywedwyd wrthyf i hefyd, gan bobl yno. Roedden nhw'n dweud pe gallen nhw wneud nosweithiau parhaol neu ddiwrnodau parhaol, rhannu swydd, byddai hynny'n ddefnyddiol iawn. Felly, rwy'n croesawu hynny mewn gwirionedd. Ond, Ysgrifennydd Cabinet, pe bai gennych chi ddigon o gyllid a phe baem ni'n rhoi'r gorau i feirniadu'r GIG, hefyd, byddai hynny'n sicr o helpu gyda recriwtio. Rwy'n deall, ychydig cyn 2010, bod y cynnydd bob blwyddyn yn 5.4 y cant i'r GIG yn y DU. Yna, ar ôl 2010, roedd yn 0.5 y cant ac yna bu iddo rewi am bedair blynedd hyd at COVID, ac yna, ers COVID, mae'n rhaid i ni fuddsoddi mewn gwirionedd i gael pethau i fynd eto a lleihau'r rhestrau aros hynny. Felly, dyna fy nghwestiwn i chi: pe byddem ni wedi cael cyllid digonol a'i gael yn awr, a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i chi?

17:20

Diolch yn fawr iawn, a diolch, hefyd, am dynnu sylw at y ffaith nad ym Mangor yn unig yn y gogledd rydym ni'n hyfforddi pobl ar gyfer gofal iechyd; mae Wrecsam yn wir yn eithaf arwyddocaol, ac mae'n rhaid i ni fod yn hollol glir bod hyfforddi pobl yn y proffesiynau iechyd perthynol ac eraill yn gwbl hanfodol. Yr hyn sydd gennym ni ddiddordeb ynddo yn y GIG yw cael tîm. Mae'n rhaid iddo fod yn ddull tîm, nid ymwneud â dim ond meddygon a nyrsys; mae'n rhaid ei fod yn ymwneud â'r tîm ehangach.

Rwy'n cymeradwyo'n llwyr yr hyn rydych chi'n ei ddweud am hyblygrwydd, felly rwy'n falch iawn bod hynny'n digwydd. Byddai gennyf ddiddordeb clywed rhywfaint o adborth, os nad yw hynny'n digwydd. Felly, yn amlwg, bydd adegau pan fydd yn anodd iawn cynnig yr hyblygrwydd hwnnw, ond mae rhagdybiaeth o blaid hyblygrwydd. Dyna'r hyn yr ydym ni wedi gofyn i fyrddau iechyd ei ystyried nawr. Ond rydych chi'n hollol gywir. Ar ddiwedd y dydd, mae'n ymwneud ag ariannu—faint o arian ydych chi'n ei gyfrannu? Nid yw'n ymwneud ag ariannu yn unig, serch hynny, oherwydd, i fod yn onest, rwy'n canolbwyntio'n llwyr ar gael effeithlonrwydd llawer gwell i'r system hefyd; cael mwy am yr hyn rydym ni'n ei gyfrannu. Felly, rydym ni'n gwneud llawer iawn o waith ar gynhyrchiant ac effeithlonrwydd ac rwy'n credu bod angen i ni fynd ychydig ymhellach o ran hynny, hefyd.

Ond, rydych chi'n iawn, os edrychwch chi ar y swm rydym ni'n ei roi o'i gymharu â chyfartaledd yr UE—. Ac os cofiwch chi, o dan Tony Blair, meddai, 'Rwy'n mynd â'r wlad i fyny at gyfartaledd yr UE'—roedd Gordon Brown braidd yn ofidus, fe wnaeth ddwyn ei gyllideb, ydych chi'n cofio hynny? Fe ddefnyddiodd air mawr yno hefyd. Ond dyna'n union ddigwyddodd; daethom i fyny i gyfartaledd yr UE. Rydym ni bellach ymhell islaw cyfartaledd yr UE ac mae hynny'n gwneud gwahaniaeth. Os nad ydyn nhw'n gwario'r arian yn Lloegr, nid ydym ni'n cael swm canlyniadol yng Nghymru ac mae canlyniad i hynny, mae canlyniad, a'r canlyniad yw na allwn ni ddarparu'r math o ansawdd y gallan nhw ei ddarparu ar y cyfandir, dim ond oherwydd ein bod wedi gweld yr erydiad hwnnw dros 14 mlynedd o Lywodraeth Dorïaidd.

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad y prynhawn yma, Ysgrifennydd Cabinet. Fe hoffwn i ddechrau drwy ddweud pa mor bwysig yw sicrhau bod Cymru'n gwneud addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel yn hygyrch a fforddiadwy i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, ac mae'n rhaid i ni fod yn realistig na fyddwn ni'n hurio mwy o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ar gyfer ein GIG heb hyfforddiant a'r cyfleoedd addysgol sydd ar gael. Felly, mae'n siomedig iawn nad yw'r £283 miliwn a ddyrannwyd ar gyfer hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y llynedd wedi'i gynyddu eleni. Ac rwy'n siomedig bod Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi cael eu gorfodi i adolygu a lleihau eu lleoedd nyrsio i fyfyrwyr.

Mae'n bwysig cofio nad yw pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n fyfyriwr newydd adael yr ysgol; mae llawer wedi bod yn gweithio yn y GIG ers blynyddoedd, ond wedi dod wyneb yn wyneb a rhwystr pan fydd angen iddyn nhw ddychwelyd i addysg i symud ymlaen i gam nesaf eu gyrfa—nenfwd gwydr, yn nhermau lleygwr. I riant sy'n gweithio, efallai na fydd hyn yn bosibilrwydd. Byddai'n braf, felly, gweld Llywodraeth Cymru yn archwilio llwybrau hyfforddi eraill a fyddai'n caniatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol uwchsgilio heb ohirio eu bywydau proffesiynol am dair blynedd.

Yn y gogledd, mae angen i ni gynnig mwy o gyrsiau gofal iechyd arbenigol mewn prifysgolion lleol ac mae angen i ni gadw'r gweithwyr proffesiynol hynny yn y rhanbarth. Er mwyn astudio therapi lleferydd ac iaith, er enghraifft, mae Prifysgol Wrecsam yn cynnig 15 lle—y lleiaf yn y wlad—ac nid yw hyn yn ddigon i ddiwallu'r galw cynyddol am arbenigwyr yn y maes penodol hwnnw.

Yn ail, fe hoffwn i glywed mwy gan Lywodraeth Cymru ynghylch amser gwarchodedig ar gyfer dysgu, gan fy mod i'n clywed yn rheolaidd gan y rhai yn y GIG ei bod yn anodd cael amser gwarchodedig ar gyfer hyfforddiant, gyda gofynion a meddygfeydd prysur, ac ni fyddai angen buddsoddiad mawr gan Lywodraeth Cymru ar gyfer hyn, ond byddai'n talu ar ei ganfed a byddai'n haws ei gyflawni drwy brosesau rheoli a materion mewnol o fewn byrddau iechyd. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi ymateb i'r pwynt hwnnw hefyd. Diolch.

Diolch yn fawr. Wrth gwrs, Gareth, rydych chi'n un o'r bobl hynny a gafodd eu hyfforddi yn y GIG, wn i ddim a gawsoch chi eich hyfforddi yng Nghymru—

17:25

—ond mae hynny'n dda iawn, ac mae'n bwysig, rwy'n credu, ein bod ni'n parhau i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf. Ond, fel rydych chi'n dweud, mae cadw pobl yn y gweithlu yn bwysig hefyd. Yr hyn a wnaethom ni yw ein bod ni wedi cadw'r un faint o arian, ac rwy'n credu nad yw hynny'n ddibwys yng ngoleuni'r math o bwysau yr oeddem ni'n ei wynebu yn y gyllideb y llynedd. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw y bydd mwy o leoedd hyfforddi nyrsys ar gael yn 2024-25—2,400—nag a lanwyd y llynedd—2,213. Ac rydym ni'n gobeithio y bydd y fwrsariaeth nyrsys a'r ffaith ein bod ni wedi dileu'r uchafswm cymorth ychwanegol penodol a roddwn yn ein helpu i lenwi'r lleoedd hynny.

Rydych chi'n hollol iawn, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nad oes gennym ni ond un ffordd i bobl hyfforddi. Dyna pam rwy'n credu bod meithrin eich gweithwyr eich hun yn lleol yn gwneud llawer o synnwyr. Mae yna rai cyrsiau prentisiaeth gwych, mae yna raglenni gwych mewn llefydd fel Hywel Dda a Betsi, lle maen nhw'n gwneud hynny mewn gwirionedd. Ac, wrth gwrs, bydd pethau fel agor y cyfleuster nyrsio newydd, y gwn i fod y Llywydd yn gefnogol iawn iddo, yn Aberystwyth yn talu ar ei ganfed. Maen nhw ar fin cymhwyso, ac mae'r bobl hynny eisoes yn gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.

Ond, rydych chi'n hollol iawn, fe wn i fod yna awydd mawr am amser gwarchodedig ar gyfer dysgu. Gyda'r math o bwysau a welwn ni ar y system, fe allwch chi ddeall pam weithiau nad yw yn y cyflwr y gallai fod, ond mae'n sicr yn un o'r materion hynny y mae'r undebau llafur yn eu codi gyda ni yn aml iawn. 

Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n cefnogi teulu y mae gan eu mab, Elliot, sydd bellach yn chwech oed, nychdod cyhyrol Duchenne, cyflwr sy'n effeithio ar oddeutu 2,500 o bobl yng Nghymru, ac maen nhw'n rhan o gyfanswm o tua 170,000 o bobl yng Nghymru sydd â chlefyd prin. O gefnogi Elliot a'i deulu, a siarad ag arbenigwyr yn ehangach am glefydau prin, un o'r themâu cyffredin fu diffyg addysg berthnasol i weithwyr iechyd proffesiynol. Rwy'n ymwybodol bod gan rai prifysgolion, fel Caerdydd, wythnos addysgu clefydau prin ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd meddygol israddedig, a tybed a ellid addasu'r model hwnnw ar gyfer cyrsiau gofal iechyd israddedig eraill, megis nyrsio, bydwreigiaeth a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. Rwyf hefyd yn ymwybodol bod Parc Geneteg Cymru yn ymgorffori dealltwriaeth o glefydau prin yn eu rhaglen addysg byw gyda chyflyrau genetig. Mae hyn yn cynnwys cwnselwyr genetig a rhywun sydd â phrofiad bywyd o gyflwr prin neu enetig yn rhannu sut mae'r cyflwr yn effeithio arnyn nhw a'u teulu. A ydych chi'n cytuno y byddai codi ymwybyddiaeth drwy rannu profiad bywyd ac ymgorffori'r math hwn o addysgu ar draws y cwricwlwm yn arwain at fanteision enfawr i weithwyr iechyd proffesiynol, cleifion a'u teuluoedd? 

Diolch yn fawr iawn, John, a diolch hefyd am y gwaith rydych chi'n ei wneud gydag Elliot a'i deulu. Rydym ni'n canolbwyntio'n sylweddol ar glefydau prin ac, fel y gwyddoch chi, mae gennym ni raglen arbennig sy'n rhoi sylw gwirioneddol i hynny. Ond, rydych chi'n hollol iawn, mae angen i ni sicrhau nad dim ond nifer fach o bobl sy'n cadw golwg am y rhaglen honno ac sy'n arbenigwr yn y maes. Rwy'n credu bod cyfleoedd go iawn i ni wneud llawer mwy o ran dysgu ar-lein. Felly, mae ceisio annog mwy o bobl, a chynyddu, yn rhan o'r mater y mae gwir angen i ni fynd i'r afael ag ef yn y GIG, ac yn sicr byddaf yn ymchwilio i'r wythnos addysgu clefydau prin a gweld a oes unrhyw beth y gallwn ni ei ddysgu o hynny. Ond, rydych chi'n hollol iawn, rwy'n credu bod llawer y gall gweithwyr gofal iechyd ei ddysgu o wrando ar bobl sydd â phrofiad bywyd o'r clefyd hwnnw. Ac mae hynny'n beth pwysig i ni ei wneud. Mae'n bwysig bod Llais hefyd yn cymryd rhan yn hynny. Ond, cadwaf hynny mewn cof a gwelaf a oes rhywbeth arall y gallwn ni ei wneud gyda hyn mwn golwg. Diolch yn fawr.

Roeddwn i eisiau dim ond dal sylw ar yr hyn a ddywedoch chi yn gynharach ynghylch sut mae'n costio yr un peth i hyfforddi rhywun ar gyfer swydd ran-amser ag ar gyfer swydd amser llawn. Mae'n bwynt pwysig, ond mae hefyd yn bwysig nad yw'r gwaith rydym ni'n gofyn i bobl ei wneud mor drwm fel na all pobl ei wneud yn llawn amser mewn gwirionedd. A dyna pam nad yw llawer o feddygon teulu rwy'n eu hadnabod yn gweithio pum diwrnod yr wythnos, oherwydd mae'n ddi-baid, y galw ar feddygon teulu. Maen nhw mewn sefyllfa, ar ddiwedd y dydd, lle nad ydyn nhw wedi gwneud dim o'r gwaith papur sy'n rhan o'r dilyniant o weld rhywun.

Mae dau gwestiwn yn codi o hynny. Un yw pa mor dda yw meddygon teulu, er enghraifft, wrth wneud gwaith amlddisgyblaethol, fel mai'r nyrs diabetes sy'n gweld y person â diabetes—canlyniad llawer gwell yn y fan yna. Ond hefyd, a allech chi roi sylwadau ar y defnydd o gymdeithion meddygol, sy'n digwydd llawer yn Lloegr, lle mae cwmnïau preifat mawr yn gyfrifol am lawer o wasanaethau gofal sylfaenol? Yn y bôn, maen nhw'n twyllo pobl i feddwl bod y bobl hyn, sydd wedi'u lled-hyfforddi ac nad oes ganddyn nhw mewn difrif mo'r hyfforddiant na'r profiad i allu adnabod y cyflyrau difrifol iawn o'u cymharu â'r rhai beunyddiol—. Ydy hyn yn rhywbeth y mae meddygon teulu yn ei ystyried yng Nghymru, o gofio bod llawer o bobl sydd wedi hyfforddi i fod yn feddygon teulu yn Lloegr yn dweud nad ydyn nhw'n gallu cael swyddi? Neu a yw'n rhywbeth y byddwn ni'n ei wrthod?

17:30

Diolch yn fawr. Rydych chi'n hollol gywir, Jenny. Dim ond meddwl ydw i pa mor flinedig yw cael cyfarfod bob hanner awr, a gofynnir i'n meddygon teulu gael cyfarfod bob wyth munud. Fe allwch chi ddychmygu pa mor ddwys yw hynny, a pha mor anodd yw hynny. Felly, wrth gwrs, mae angen i ni ddeall hynny. Ond, mewn gwirionedd, mae llawer ohonyn nhw'n ymgymryd â gwahanol fathau o waith. Nid gwaith meddyg teulu yn unig maen nhw'n ei wneud. Efallai y byddant yn gwneud gwaith clwstwr neu waith arall. Felly, mewn gwirionedd, mae'n llawer mwy diddorol. Nid yw'n ymwneud â bod ar y rheng flaen drwy'r amser, a dydw i ddim yn meddwl bod hynny'n beth drwg. O ran gwaith papur, rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld trawsnewidiad mewn perthynas â hynny. Credaf fod yn rhaid i ni ddechrau defnyddio deallusrwydd artiffisial, fel nad oes rhaid iddyn nhw fod yn ysgrifennu popeth—fe allech chi recordio rhywbeth, mae modd ei drosi. Mae'r byd ar fin newid, ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn barod am y newid hwnnw.

Dydw i ddim yn mynd i ymddiheuro am y ffaith bod gennym ni dimau amlddisgyblaethol yng Nghymru. Mae'n beth da, ac mae hynny'n cynnwys cymdeithion meddygol. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod bod cymdeithion meddygol wedi bodoli ers tua 20 mlynedd yn y GIG. Yng Nghymru, mae tua 220 o gymdeithion meddygol yn gweithio mewn ysbytai ac ym maes meddygaeth teulu, ac fe alla i ddweud wrthych chi fy mod i wedi siarad â llawer o feddygon teulu na fydden nhw'n fodlon hepgor eu cymdeithion meddygol. Maen nhw'n gwneud yr union beth rydych chi'n sôn amdano, o ran y gwaith amlddisgyblaethol hwnnw. Efallai eu bod yn arbenigwyr mewn diabetes, er enghraifft. Efallai eu bod yn cymryd gwaed. Fe allan nhw wneud llawer o bethau sy'n tynnu'r baich oddi ar y meddygon teulu. Maen nhw bob amser yn cael eu rheoli gan feddygon teulu. Felly, mae'n bwysig ein bod yn gwneud yn siŵr ein bod yn glir iawn ynghylch beth yw eu swyddogaeth, ac yn gwybod na fyddan nhw'n disodli gwaith meddygon teulu. Ond nid wyf yn credu ei fod yn rhywbeth y dylem ni fod yn ei derfynu fel dewis yma yng Nghymru.

7. Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cyrff Cyhoeddus) (Diwygio) 2024

Eitem 7 sydd nesaf. Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cyrff Cyhoeddus) (Diwygio) 2024 yw'r rhain. Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol i wneud y cynnig—Lesley Griffiths.

Cynnig NDM8621 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cyrff Cyhoeddus) (Diwygio) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mai 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd, ac rwy'n cynnig y cynnig. Mae'r rheoliadau sydd ger eich bron heddiw yn ychwanegu wyth corff cyhoeddus arall a enwir at adran 6 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gan ddod â nifer y cyrff cyhoeddus sy'n dod o dan y ddyletswydd llesiant yn Rhan 2 o'r Ddeddf i 56. Bydd y newid hwn yn cynyddu cwmpas ac ehangder yr agenda datblygu cynaliadwy yng Nghymru, ac yn cryfhau'r ffyrdd cynaliadwy o weithio sy'n ganolog i sut mae ein gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn gweithio ac yn ymateb i heriau heddiw.

Ers 2016, mae tirwedd y sector cyhoeddus yng Nghymru wedi newid, ac mae'n briodol ein bod yn asesu a oes angen i gyrff cyhoeddus ychwanegol ddod o dan y ddyletswydd llesiant. Yn 2022, cynhaliwyd adolygiad o gyrff cyhoeddus, mewn ymateb i argymhelliad mewn adroddiad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y pumed Senedd, ac argymhelliad mewn adroddiad statudol o dan adran 15(4) o'r Ddeddf gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Aseswyd cyrff cyhoeddus yn unol â'r meini prawf a ddefnyddiwyd pan ddatblygwyd y Bil gyntaf yn 2014 i benderfynu ar y 44 corff cyhoeddus ar y pryd. Fel y nodir yn ein dogfennau ymgynghori, nid yw cyrff cyhoeddus penodol yn bodloni'r meini prawf, gan gynnwys cyrff cynghori, tribiwnlysoedd, cyrff arolygiaeth, sefydliadau addysg uwch a chorfforaethau addysg bellach. Ymgynghorwyd yn 2022 ynghylch hunaniaeth y cyrff cyhoeddus ychwanegol sydd i'w hychwanegu gan y rheoliadau hyn. Croesawodd y mwyafrif o'r ymatebwyr y cam fel un amserol, i greu mwy o gysondeb ar draws sector cyhoeddus Cymru. Rwy'n ddiolchgar i swyddogion o'r wyth corff cyhoeddus, Archwilio Cymru a swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol am eu cefnogaeth i ddatblygu'r rheoliadau hyn.

Un gofyniad a osodir ar y cyrff hyn o ganlyniad i gael eu rhestru o dan adran 6 fydd gosod amcanion llesiant. Mae'n rhaid gosod y rhain erbyn 31 Mawrth 2025 fel bod y gosodiad gwrthrychol yn unol â'r cylchoedd adrodd yn y dyfodol sy'n berthnasol i'r holl gyrff presennol. Yn ogystal, roedd y rheoliadau'n nodi'r amserlenni ar gyfer archwiliadau cychwynnol y cyrff cyhoeddus ychwanegol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, sef o leiaf unwaith dros gyfnod cychwynnol o chwe blynedd rhwng 2024 a 2030, a thrwy hynny gysoni'r cylchoedd archwilio ar gyfer y cyrff ychwanegol hyn a'r cyrff presennol. Os caiff y rheoliadau hyn eu cymeradwyo heddiw, byddant yn dod i rym ar 30 Mehefin. Diolch.

17:35

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.

Diolch, Llywydd. Ystyriodd Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft hyn ar 10 Mehefin, ac mae'r adroddiad ac ymateb Llywodraeth Cymru ar gael ar agenda heddiw. Fel y mae'r Ysgrifennydd Cabinet newydd ei amlinellu, mae'r rheoliadau hyn yn ychwanegu wyth person arall at y rhestr o gyrff cyhoeddus yn adran 6(1) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet felly'n arfer pŵer Harri'r VIII sydd ar gael i Weinidogion Cymru. Mae ein hadroddiad yn cynnwys saith pwynt adrodd technegol a dau bwynt rhinweddau. Gwneir pedwar o'n pwyntiau adrodd technegol oherwydd ein bod o'r farn fod y drafftio yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol. Mae'r tri phwynt adrodd technegol arall yn tynnu sylw at faterion lle ystyriwn fod angen esboniad pellach ar ffurf neu ystyr. Er enghraifft, mae ein pedwerydd pwynt adrodd technegol yn nodi, yn rheoliad 2(3), nad yw'n glir pam y cyfeirir at y paragraff newydd a fewnosodir ar ôl paragraff (d) o adran 6(1) o Ddeddf 2015 fel '(dd)', yn hytrach na '(da)'. Roeddem yn pryderu y gall y defnydd o '(dd)' greu disgwyliad bod paragraffau (da) i (dc) eisoes yn adran 6(1). Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod ein holl bwyntiau adrodd technegol. O ran y mater rwyf newydd ei grybwyll, mae Llywodraeth Cymru yn mynd i newid y cyfeiriad ym mharagraff 2(3) o 'baragraff (dd)' i 'baragraff (da)' cyn i'r offeryn gael ei lofnodi gan yr Ysgrifennydd Cabinet. Diolch.

Mae cwmpas y Ddeddf yn cael ei ymestyn i gynnwys yr wyth corff cyhoeddus pellach hyn ar adeg pan fo swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi colli staff oherwydd toriadau cyllid ac nid yw wedi derbyn unrhyw gyllid ychwanegol i gefnogi'r cyrff cyhoeddus ychwanegol, yr oedd wedi amcangyfrif eu bod yn costio £15,000 fesul corff cyhoeddus. Mae'r comisiynydd wedi cael ei orfodi i gyflwyno model cyflawni newydd i, fel y dywedodd wrth y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, wneud y gorau y gall i gefnogi'r cyrff cyhoeddus hyn gyda'r adnoddau sydd ganddo. Dywedir bod achos cryf dros adnoddau ychwanegol oherwydd ehangder a phwysigrwydd yr agenda hon, a amlinellwyd gennych chi yn eich datganiad. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, sut y byddwch yn sicrhau nad yw'r cyfrifoldebau newydd hyn yn tanseilio effeithiolrwydd gwaith y comisiynydd? A oes unrhyw gynlluniau, gyda rhywfaint o gyllid gwahanol efallai gan San Steffan ar gael i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol, i sicrhau bod y swyddfa honno yn cael adnoddau priodol? Rydym ni wedi clywed gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol blaenorol nad oedd ganddi ddigon o arian i wneud y swydd a roddwyd iddi. Nawr, gyda'r cyfrifoldebau ychwanegol hyn, mae'n destun pryder meddwl efallai nad ydym ni'n cefnogi'r swyddogaeth bwysicaf hon yn llawn. Diolch.

Fe hoffwn i ddiolch i Gadeirydd Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a Sioned Williams am eu cyfraniadau heddiw. Fe hoffwn i ddal sylw ar un neu ddau o'r pwyntiau. Fel y dywedodd y Cadeirydd, rwyf wedi ymateb ac fe wnaethom ni ystyried yr holl bwyntiau a godwyd yn ofalus. Rydym ni wedi derbyn un pwynt ac wedi gwneud y newid angenrheidiol. O ran pwynt Sioned Williams ynghylch comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, fel y dywedodd, mae'n amsugno'r gost i gefnogi'r wyth corff cyhoeddus ychwanegol, a derbyniodd ostyngiad o 5 y cant yn y gyllideb eleni, ond cadarnhaodd i ni y byddai'n gallu cefnogi'r wyth corff cyhoeddus ychwanegol o fewn ei gyllideb bresennol. Rwy'n ddiolchgar iawn iddo am gytuno ar hyn. Yr hyn yr ydym ni wedi'i wneud wrth ei gefnogi yw sicrhau bod swyddogion yn gweithio'n agos gydag ef, ond hefyd rydym ni wedi cynnull cyfres o sesiynau cyfnewid gwybodaeth. Byddant yn parhau yn y flwyddyn i ddod, i helpu i gefnogi'r cyrff cyhoeddus. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn am y ddau bwynt a godwyd. Fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, bydd cymeradwyo'r cynnig hwn yn creu llawer mwy o gysondeb ar draws y sector cyhoeddus, sydd wedi newid llawer ers cyflwyno'r Ddeddf—rwy'n credu y bydd hi'n 10 mlynedd y flwyddyn nesaf, ers cyflwyno'r Ddeddf—a bydd wir yn cynyddu cwmpas ac ehangder yr agenda datblygu cynaliadwy yma yng Nghymru. Rwy'n annog Aelodau i gymeradwyo'r rheoliadau drafft.

17:40

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)

Yr eitem nesaf fydd y cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru). Dwi'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud y cynnig hwn. 

Cynnig NDM8620 Jane Hutt

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:

a) Adrannau 1-59;

b) Atodlenni 1;

c) Adrannau 60-73;

d) Teitl hir.

Cynigiwyd y cynnig.

Mae'r cynnig wedi'i wneud. Does gyda fi ddim siaradwyr ar gyfer yr eitem yma, ac felly y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes gwrthwynebiadau? Nac oes, does neb yn gwrthwynebu. Felly, mae'r cynnig yna o dan eitem 8 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Mae hwnna'n dod â'n gwaith ni am y dydd heddiw i ben. Diolch yn fawr iawn ichi.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:41.