Y Cyfarfod Llawn

Plenary

05/06/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg

Prynhawn da. Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Siân Gwenllian.

Cwmnïau Parcio Preifat

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ofynion ar gwmnïau parcio preifat ynghylch defnydd o’r Gymraeg? OQ61198

Member
Jeremy Miles 13:30:21
Cabinet Secretary for Economy, Energy and Welsh Language

Nid yw cwmnïau sy’n rhedeg meysydd parcio preifat yn dod o dan unrhyw ddyletswyddau cyfreithiol o ran defnyddio’r Gymraeg.

Mae Elysteg Llwyd Thomas a Toni Schiavone wedi eu dwyn o flaen y llys fel rhan o ymgyrch ar draws Cymru i gael cwmnïau parcio preifat i barchu'r Gymraeg. Fe wnaethoch chi benderfynu peidio â bwrw ymlaen i ddefnyddio pwerau a fyddai wedi gosod dyletswyddau ar feysydd parcio preifat, ac rydych chi wedi gwrthod gorchymyn swyddfa Comisiynydd y Gymraeg. Fe wnaethoch chi ddweud ar y pryd eich bod chi yn hytrach yn mynd i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Prydain er mwyn cynnwys canllawiau ynghylch defnyddio'r Gymraeg mewn meysydd parcio yn y cod ymarfer parcio Prydeinig. Ond mae yna gadarnhad wedi dod nad oes gan Lywodraeth Prydain—y Llywodraeth bresennol yn sicr—unrhyw fwriad i gynnwys gofynion am y Gymraeg yn y cod ymarfer parcio. Gaf i ofyn a wnaethoch chi, fel Gweinidog, ymateb i'r ymgynghoriad ar y cod, a beth rŵan fydd eich cam chi, eich cam nesaf, er mwyn sicrhau defnydd o'r Gymraeg gan gwmnïau meysydd parcio preifat?

Diolch i Siân Gwenllian am gwestiwn pwysig. Fel mae hi'n gwybod, mae cytundeb wedi bod rhyngom ni, fel Llywodraeth, a Phlaid Cymru ar raglen o ddiwygiadau o ran y safonau, sydd yn rhaglen gynhwysfawr, ac, er bod y cytundeb wedi dod i ben, ein bwriad ni, wrth gwrs, yw parhau i wireddu'r ymrwymiadau hynny—maen nhw'n ymestyn y safonau yn sylweddol iawn o le maen nhw heddiw—ond dyw deddfu mewn perthynas â meysydd parcio ddim yn rhan o rhaglen waith cyfnod y Senedd hon. Rŷn ni'n ystyried pa sectorau y dylem eu blaenoriaethu ar ôl cyfnod y Senedd hon ac rŷn ni'n gweithio gyda swyddfa’r comisiynydd yn hynny o beth i sicrhau ein bod ni'n cael cyngor wrthyn nhw hefyd.

Os byddwn ni'n penderfynu blaenoriaethu ymestyn y safonau i gwmnïau parcio preifat—fel mae'r Aelod yn gwybod, mae llawer o’r rheini sy’n darparu meysydd parcio cyhoeddus eisoes yn dod o dan y safonau—os byddwn ni'n penderfynu blaenoriaethu ymestyn ar gyfer y sector preifat yn hynny o beth, bydd angen diwygio Mesur y Gymraeg.

Jest ar y pwynt wnaeth yr Aelod o ran yr ohebiaeth a gefais i gyda’r cyn-gomisiynydd ryw flwyddyn a hanner yn ôl erbyn hyn, roedd rheswm penodol pam na ddefnyddion ni'r pwerau yr oedd y comisiynydd yn argymell inni wneud—roedden nhw'n rhesymau technegol yn rhannol; doedden nhw ddim yn gweithio yn y ffordd y byddem ni'n dymuno iddyn nhw wneud er mwyn diwallu'r angen. Felly, bydd angen deddfu er mwyn ymestyn y goblygiadau.

O ran yr ymgynghoriad, does dim ymgynghoriad wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn hyn o beth, felly byddwn ni'n ystyried hyn fel rhan o raglen waith ymhellach. Fe wnaf i jest dweud, o gadw llygad ar yr hyn a ddywedwyd yn y llys yn achos Toni Schiavone yn benodol, rwy'n cytuno gyda sylwadau’r barnwr ei fod e wedi cyflwyno achos egwyddorol ac onest, a gwelsom ni'r cwmni’n gwario miloedd ar gostau cyfreithiol yn hytrach na’r degau o bunnoedd y byddai wedi costio i gyfieithu'r ddogfen. Felly, mae neges ehangach i bobl yn hynny o beth, rwy'n gobeithio.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae defnydd o'r Gymraeg gan gwmnïau preifat wedi'i drafod yn y Siambr hon yn ddiweddar iawn, ac yn briodol felly. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn rhannu ein siom gyda'r ffordd y mae HSBC wedi cael gwared ar eu llinell ffôn Cymraeg, a sut y cafodd OVO Energy wared ar filiau Cymraeg. Mae rhai pobl yn dewis defnyddio'r Gymraeg ar adegau gwahanol mewn sefyllfaoedd gwahanol, ond dwi'n credu y dylech chi bob amser gael dewis. O ystyried datblygiad AI a chyfieithu amser real, a yw Llywodraeth Cymru yn ystyried hwn fel ateb posibl i'r materion yr ydym wedi eu gweld?

Rwy'n cytuno gyda'r Aelod. Roeddwn i'n siomedig iawn, fel rŷn ni wedi trafod eisoes yn y Siambr, i glywed am benderfyniadau HSBC ac OVO yn benodol i roi'r gorau i wasanaethau yn y Gymraeg. Rwyf wedi sôn am ein safbwynt ni o ran beth y gallwn ni ei wneud fel Llywodraeth yn hynny o beth. Ond o ran rôl technoleg, rwy'n credu bod AI, a ffyrdd eraill o dechnoleg, yn cynnig datrysiad y bydden i'n gobeithio fyddai'n ddatrysiad llawer haws, efallai, nag y mae'r cwmnïau yma'n rhagweld, a fyddai'n galluogi pobl i gael gwasanaeth dwyieithog, neu wasanaeth yn yr iaith y maen nhw'n dymuno'i chael. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i weithio, fel rŷn ni eisoes, gyda rhai o'r cwmnïau yma, gyda rhai o'n prifysgolion ni, sy'n gwneud gwaith arloesol yn y maes hwn, i sicrhau bod y dechnoleg honno ar gael yn y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg, a bod hynny'n darparu cyfleoedd wedyn i gwmnïau masnachol ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg.

13:35
Safonau'r Iaith Gymraeg

2. Pa fwriad sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i ehangu safonau'r iaith Gymraeg i sectorau eraill? OQ61209

Rwy’n ymrwymedig i ddod â mwy o gyrff o dan y drefn safonau. Fel y soniais i'n fras jest nawr, y flaenoriaeth ar gyfer y cyfnod sy’n weddill o’r Senedd hon yw paratoi rheoliadau safonau ar gyfer cyrff cyhoeddus sydd y tu allan i’r gyfundrefn ar hyn o bryd, ac wedyn cymdeithasau tai a darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus.

Rŷch chi eisoes y prynhawn yma wedi sôn eich bod chi'n siomedig ynglŷn â phenderfyniad HSBC i ddod i ben â'u gwasanaeth llinell gymorth Gymraeg. Nawr, ar y pryd, roedden nhw'n derbyn 22 galwad y dydd i'r llinell Gymraeg yna. Ers symud i fodel ble mae pobl yn cael gofyn am alwad yn ôl, maen nhw ond wedi derbyn 17 cais mewn cyfnod o dri mis. Felly, mae'n amlwg nad yw'r gyfundrefn newydd yna'n gweithio, ac mae'n amlwg nad yw y sector bancio, ar y cyfan, yn cwrdd ag anghenion siaradwyr Cymraeg, nac, yn wir, yn darparu gwasanaethau sylfaenol yn ein hiaith ni ein hunain. Nawr, gaf i ofyn, felly—? Rŷch chi eisoes wedi dweud nad ydych chi'n hapus â hynny, ac rŷch chi'n derbyn ei fod e'n annerbyniol. Y cwestiwn yw, felly: beth rŷch chi'n gwneud am y peth? Mi allech chi ddod â banciau o dan safonau'r iaith Gymraeg, felly pam na wnewch chi hynny?

Wel, fe wnaethom ni gytuno rhaglen er mwyn ymestyn y safonau gyda Phlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio. Mae hynny'n golygu bod y ddwy blaid yn blaenoriaethu'r hyn roeddwn i'n credu oedd yn cael yr impact mwyaf, ac wedyn yn sicrhau ein bod ni'n delifro hynny. Dyna rŷn ni wedi gwneud, ac rwy'n ymrwymo i barhau i wneud hynny dros weddill tymor y Senedd hon, er gwaetha'r ffaith bod y cytundeb, wrth gwrs, wedi dod i ben. Mae hynny'n fater o ewyllys da. Ond, rwy'n credu mai beth mae'r drafodaeth hon yn dangos i ni yw nad jest cyrff cyhoeddus sy'n diwallu anghenion bob dydd pobl. Felly, mae gyda ni bwerau eisoes o dan y Ddeddf i ymestyn ar gyfer rhai elfennau o'r sector preifat, ond bydd angen diwygio pellach er mwyn ymestyn i gyffwrdd â'r holl rŷn ni wedi eu trafod heddiw. Rwy'n credu bod achos i edrych ar hyn, ond, yn anffodus, ar gyfer y Senedd nesaf y bydd hynny, yn ymarferol.

Wrth gwrs, Weinidog, byddwn yn awgrymu mai rhan bwysig o safonau’r Gymraeg yw nid yn unig gwasanaethu pobl a chefnogi pobl sy’n siarad Cymraeg ar hyn o bryd, ond annog mwy o bobl i siarad Cymraeg yn rheolaidd hefyd. Fel y saif pethau, nid yw'n edrych yn debyg y bydd targed 'Cymraeg 2050' o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn cael ei gyflawni, sy'n amlwg yn achos pryder. Dangosodd canlyniadau cyfrifiad 2021 y ganran isaf erioed o siaradwyr Cymraeg i gael eu cofnodi mewn cyfrifiad. Felly, ar sail hynny, tybed pa asesiad rydych wedi'i wneud o'r rôl y gall safonau'r Gymraeg ei chwarae i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i helpu i gyflawni'r nod o filiwn o siaradwyr erbyn 2050?

Fydden i ddim yn cytuno bod y nod sydd gyda ni yn un na allwn ni ei gyrraedd. Mi fydd e'n sicr yn heriol, ac rŷn ni i gyd yn gyfarwydd â hynny. Ac rŷn ni wedi trafod yn y Siambr hon sawl gwaith erbyn hyn yr her o ran casglu data sy'n caniatáu i ni gael taflwybr a fydd yn sicrhau ein bod ni ar y trac er mwyn cyrraedd y nod hwnnw. Ac mae cwestiynau'n codi ynglŷn â'r data a sut mae hynny'n gyson ag arolygon eraill sy'n dangos darlun llawer mwy positif o ble rŷn ni o ran y Gymraeg. Byddwn i'n dweud bod gan y safonau rôl. Fy marn bersonol i yw nad hynny yw'r prif ffordd o sicrhau bod gyda ni fwy o siaradwyr, mwy o bobl yn dysgu'r Gymraeg. Sicrhau ein bod ni'n dysgu'r Gymraeg i bobl a bod cyfleoedd iddyn nhw ei defnyddio mewn pob mathau o ffyrdd yw'r ffordd debycaf, yn fy marn i, o gyrraedd y nod honno. Ond rwy'n sicr yn cydnabod bod galluogi pobl i gael mynediad at wasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn rhan bwysig o normaleiddio defnydd o'r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd. Felly, mae ganddi rôl bwysig i'w chwarae.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr fod pob un ohonom am i Gymru gael economi gref a ffyniannus. Mae economi ffyniannus yn golygu mwy o bobl â swyddi, gan eu galluogi i gynnal eu hunain a'u teuluoedd. Mae hefyd yn sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hariannu’n briodol. Er mwyn i'n heconomi dyfu, mae arnom angen mwy o bobl mewn gwaith. Mae cyflogaeth yn rhoi sefydlogrwydd ac yn galluogi unigolion i gynllunio ar gyfer eu dyfodol. Yn anffodus, mae record Llafur yma yng Nghymru yn druenus. Ar hyn o bryd, mae ein cyfradd anweithgarwch economaidd yn 28 y cant. Nid yw mwy na chwarter ein poblogaeth yn gyflogedig nac yn chwilio am waith. Dyma’r gyfradd uchaf ymhlith y pedair gwlad, ac mae’n gwbl annerbyniol. Felly, er imi gychwyn drwy ddweud fy mod yn siŵr fod pob un ohonom am i Gymru gael economi gref a ffyniannus, pam fod Llywodraethau Llafur olynol wedi bod yn fodlon â lefelau mor uchel o anweithgarwch economaidd?

13:40

Wel, nid wyf yn derbyn bod Llywodraethau Llafur olynol wedi bod yn fodlon â hynny, ac fel y gŵyr, o ystyried ei sylw manwl i'r ystadegau, y patrwm a welwyd dros gyfnod datganoli oedd gostyngiad mewn anweithgarwch economaidd, a chau'r bwlch rhwng Cymru a rhannau eraill o’r DU. Fe fydd hefyd yn gwybod bod nifer o’r rhaglenni rydym ni yng Nghymru wedi’u defnyddio i gefnogi cyflogadwyedd dros y blynyddoedd, gyda’r math o lwyddiant rwyf newydd sôn amdano, wedi cael eu hariannu gan arian yr Undeb Ewropeaidd, rhywbeth yr oedd ei blaid yn fodlon inni beidio â'i gael yn y dyfodol. Felly, bydd hynny’n rhwystr sylweddol i ni wrth fynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd, ac mae hynny’n rhywbeth rydym am ei wneud. Rydym yn awyddus i sicrhau bod potensial pob unigolyn yng Nghymru i weithio yn cael ei wireddu. Dyna pam ein bod yn ei ystyried mor bwysig. Credaf mai ffigurau diweddar y Swyddfa Ystadegau Gwladol yw’r ffigurau y cyfeiria atynt, ac fe fydd yn gwybod o drafodaethau blaenorol yn y Siambr hon fod gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ei hun bryderon ynghylch dibynadwyedd y data a gasglwyd ar wahân i ffynonellau data eraill. Felly, mae’n ddarlun mwy cymhleth. Rwy'n derbyn ei bwynt sylfaenol. Nid wyf yn derbyn nad oes gennym record dda o gau’r bwlch.

Wel, rydym yn sôn am ystadegau. Y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2023 oedd 9.4 y cant—cynnydd o 1.5 pwynt canran. Mae sicrhau bod pobl yn cael gwaith yn hanfodol bwysig, ond mae’r math o waith a wnânt yr un mor allweddol. Credaf yn gryf y dylem fod yn anelu at economi sy’n galw am weithlu medrus ac addysgedig, ac un sy’n rhoi cyfle i bawb. Fodd bynnag, Ysgrifennydd y Cabinet, beth mae’r record yn ei ddangos ar ôl 25 mlynedd o reolaeth Lafur? Gweithwyr Cymru sydd â'r pecyn cyflog lleiaf ymhlith pedair gwlad y DU. Felly, mae'r Llywodraeth Lafur hon nid yn unig yn fodlon â'r lefelau uchaf o anweithgarwch economaidd, Lywydd, mae hi hefyd yn barod i gadw gweithlu Cymru yn dlotach. Pam?

Wel, mae hynny braidd yn haerllug gan rywun sy’n cynrychioli plaid a welsom yn dinistrio economi’r DU o dan eu goruchwyliaeth fel rhan o Lywodraeth y DU. Yr hyn sydd ei angen arnom yng Nghymru—yr hyn sydd ei angen ar bob rhan o’r DU, mewn gwirionedd—yw Llywodraeth Lafur yn San Steffan sy’n barod i fuddsoddi yn yr economi ledled y DU, a bydd ganddynt bartner ynom ni yma yng Nghymru i wneud hynny. A dweud y gwir, mae'r darlun mewn perthynas â chyflogaeth ieuenctid yn fwy cadarnhaol nag y mae'r Aelod yn ei ddisgrifio. Bydd yn gwybod am y llwyddiant a gawsom drwy'r warant i bobl ifanc, a byddai ei blaid ef wedi gwneud yn dda i efelychu rhaglen o'r fath ledled y DU.

Wel, fe glywsom yn gwbl glir gan arweinydd y Blaid Lafur ddoe y bydd trethi’n codi o dan Lywodraeth Lafur. Ac mae’n amlwg fod mynd i’r afael â lefelau cyflogaeth ac ansawdd swyddi yn hanfodol ar gyfer twf economaidd Cymru. Fodd bynnag, er ein bod wedi cael chwarter canrif o Lywodraethau Llafur, mae Cymru yn dal i wynebu’r gyfradd uchaf o anweithgarwch economaidd a’r cyfraddau cyflog isaf ymhlith pedair gwlad y DU. Yn ogystal, mae gennym y gyfradd oroesi isaf i fusnesau ymhlith pob un o wledydd y DU, problem sy'n cael ei dwysáu gan benderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant i 40 y cant, gan effeithio ar fusnesau ledled Cymru. Rydym ni y Ceidwadwyr Cymreig yn gweld dyfodol cyffrous i’n heconomi, a fydd yn arwain at ffyniant ledled Cymru, drwy fentrau fel parth buddsoddi Caerdydd a Chasnewydd a pharth buddsoddi Wrecsam a sir y Fflint, y porthladd rhydd Celtaidd a phorthladd rhydd Ynys Môn, a’r cyfle trawsnewidiol a ddaw gyda'r môr Celtaidd drwy ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, a phrosiectau ynni eraill, megis ynni niwclear newydd yn Wylfa a Thrawsfynydd. Ac eto, ymddengys bod Llafur yn dal Cymru yn ôl. Felly, o ystyried y problemau parhaus hyn ynghylch anweithgarwch economaidd, y cyfraddau cyflog isaf a'r cyfraddau goroesi isaf i fusnesau, pa gamau pendant y byddwch yn eu cymryd, fel Gweinidog yr economi, i wella economi Cymru?

Mae gennym y lefelau uchaf erioed o chwyddiant, y lefelau llog uchaf erioed, a'r lefelau uchaf erioed o fusnesau'n mynd i'r wal ledled y DU o dan oruchwyliaeth Llywodraeth Geidwadol sydd wedi esgeuluso economi’r DU, a chredaf y byddai mwy o rym i ddadleuon yr Aelod pe baent yn glynu wrth y ffeithiau. Nid yw'n wir o gwbl fod Keir Starmer wedi dweud y bydd y baich treth yn cynyddu. Y rheswm pam na fydd hynny’n digwydd yw am fod aelwydydd o dan y Ceidwadwyr yn wynebu’r lefelau treth uchaf ers degawdau. Dyna’r record y bydd pobl Cymru yn pleidleisio arni ymhen pum wythnos.

13:45

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ymateb i ddadl y Llywodraeth ddoe ar ddur a mynegi fy siom fod gwelliannau Plaid Cymru i’r cynnig wedi eu gwrthod. Ni chredaf y gall y Llywodraeth, na’r Torïaid o ran hynny, honni gydag unrhyw hygrededd eu bod yn dymuno gwneud rhywbeth ynglŷn â hyn os nad ydynt hyd yn oed yn fodlon ymrwymo i archwilio'r opsiynau eraill a gynigiwyd. Mae’r hyn y mae Plaid Cymru wedi’i awgrymu yn rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yn hawdd. Ac fel y gwnaeth Adam Price ein hatgoffa neithiwr, y Senedd yw’r cyfan sydd ar ôl o ganlyniad i’r etholiad cyffredinol. Y lle hwn yw'r amddiffynfa olaf. Ac er fy mod yn gwerthfawrogi ei gydnabyddiaeth mai Plaid Cymru sydd wedi bod yn cynnig yr atebion hyn, ei Lywodraeth ef sydd â'r adnoddau i wneud y gwaith a darparu atebion i weld a yw'r atebion posibl hyn yn ymarferol. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gydnabod hynny o leiaf?

Nid wyf yn dymuno bod yn anghwrtais—rwy’n deall grym rhethregol dadl yr Aelod, ond credaf ei bod yn bwysig iawn, wrth ymdrin â’r sefyllfa sy’n datblygu yn Tata, ein bod yn ymdrin â’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad a’r hyn y dywed y gweithlu wrthym sy'n realistig yn eu barn nhw. Nid yw’r dadleuon a wnaed yn y ddadl ddoe ynghylch diogelwch cynllunio i un ased mewn cyfleuster dur integredig—wedi’i gymryd i feddiant corff nad oedd ganddo weithlu i’w gynnal, gellid tybio, ymhlith heriau eraill—yn teimlo i mi fel ateb ymarferol i'r her a wynebir gan y gweithlu yn Tata. Felly, dyna pam ein bod wedi bod yn dweud—. Gwyddom fod cynllun gwahanol i'w gael, a gwn fod ei blaid ef, fel ninnau, yn cefnogi’r cynllun amgen hwnnw. Y ddadl yr oeddwn yn ei gwneud ddoe yw bod gennym y posibilrwydd nawr o lywodraeth newydd gydag ymrwymiad gwirioneddol, wedi’i hategu gan gyllid, i weledigaeth wahanol ar gyfer dur. Ymddengys i mi mai dyna’r ddadl y mae angen inni barhau i’w datblygu, gan fod y dirwedd ar fin newid.

Fel roeddwn yn ei ddweud ar ddiwedd fy araith ddoe, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i strategaeth ddiwydiannol a fydd yn cynyddu’r galw am ddur ledled y DU, buddsoddiad yn y sector ynni adnewyddadwy, a fydd yn creu galw pellach, buddsoddiad yn y grid, ac ymrwymiad penodol, yn hollbwysig, i gynhyrchu dur. Ymddengys i mi mai dyna'r dirwedd well ar gyfer dadlau dros set wahanol o benderfyniadau gan Tata.

Mae'n rhaid imi ddweud, cefais fy synnu ddoe gan sylw Ysgrifennydd y Cabinet pan ddywedodd nad yw'r atebion yr wyf i ac Adam Price wedi'u hyrwyddo wedi'u gwreiddio mewn realiti. Mae wedi ailadrodd hynny yma nawr. Ond y realiti fel y'i gwelaf yw bod y cau ar fin digwydd, mae Tata yn gwrthod newid eu trywydd, a hyd yn oed yn ystyried cyflymu'r broses o bosibl mewn ymateb i weithwyr yn sefyll dros eu hawliau, ac mae mwy a mwy o alw am berchnogaeth gyhoeddus gan bob rhan o gymdeithas—gan gynnwys y Gynghrair Cymunedau Diwydiannol. Hynny yw, os yw'r hyn a ddywedir ynglŷn â gwasanaeth sifil y DU yn ystyried gwladoli yn opsiwn posibl yn wir, yna byddai hynny'n arwyddocaol. Nawr, gadewch inni ystyried yr ateb sydd wedi'i wreiddio mewn realiti yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet: aros am Lywodraeth Lafur y DU. Ai dyna mae’r Llywodraeth wedi bancio popeth arno? Oherwydd mae honno'n strategaeth beryglus. Ac yn y realiti rwyf newydd ei disgrifio, nid yw hynny'n argoeli'n dda ar gyfer y strategaeth honno.

Gŵyr yr Aelod yn iawn nad wyf yn cwestiynu unrhyw benderfyniad i gymryd y mathau o gamau y mae’n eu hargymell yn ei gwestiynau, fel y gwnaeth ddoe, gyda grym neu ewyllys da—nid yw'r penderfyniadau hynny yn benderfyniadau y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud oherwydd maint y buddsoddiad sydd ei angen i wireddu hynny fel canlyniad. Dyna’r realiti o ran cydbwysedd pŵer a chyllid rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. O ystyried y gwnaed ymrwymiad ar gyfer cyllid ychwanegol sylweddol yn uniongyrchol i gynhyrchiant dur, yr hyn a wnawn ni yw dadlau dros archwilio model gwahanol yn erbyn y cefndir hwnnw. Mae’n gwneud y pwynt ynglŷn â dull gweithredu gwahanol ar ran Llywodraeth y DU. Mater i Lywodraeth y DU fyddai hynny. Mae ganddi’r pwerau i wneud hynny, nid yw’r pwerau hynny gennym ni yng Nghymru.

Rwyf wedi derbyn o'r cychwyn fod Llywodraeth Cymru yn gyfyngedig o ran yr hyn y gall ei wneud, ond nid yw hynny'n eich atal rhag galw ar Lywodraeth y DU i wneud y penderfyniadau hyn ynglŷn â gwladoli, neu hyd yn oed cadwraeth. Nawr, mae'r Llywodraeth wedi bod yn gyndyn i wneud hynny hyd yn hyn. Ymddengys ei bod yn dal yn y sefyllfa honno. Yr hyn sy'n peri pryder mawr yw'r diffyg manylion ynghylch sut mae'r fargen £3 biliwn a gyflwynwyd gan Lafur—sut y caiff ei defnyddio mewn gwirionedd. Mae'r diffyg manylion—. Gyda phob parch, fe wnaethom alw am fanylion—a gellir dweud yr un peth am y polisi hwn. Ymddengys nad oes unrhyw un yn gallu rhoi atebion manwl i'r hyn y mae'n ei olygu. A chyda Tata yn bygwth cyflymu'r amserlen ar gyfer cau, mae'r manylion yn hollbwysig. Pa drafodaethau a gafwyd gyda Llywodraeth Lafur newydd bosibl yn y DU ynghylch y fargen honno? Rwy’n gofyn cwestiynau tebyg i'r rhai a ofynnwyd i ni. Sut y bydd yn gweithio'n ymarferol? Pa warantau sydd ar waith? Sut y byddai unrhyw fuddsoddiad sy'n arwain at linell gynhyrchu newydd, er enghraifft, yn gweithio, ac a fyddai'n ymarferol. Fe fyddaf yn onest, rwyf eisiau credu y bydd newid Llywodraeth yn arwain at bontio teg ac at ddiogelu ein diwydiant dur, ond hyd yn hyn, fe ofynnir i mi, fel llawer o rai eraill, gynnig fy ffydd yn ddall.

13:50

Wel, credaf y byddai’n ddefnyddiol pe bai'r Aelod yn cydnabod y ffaith bod lefel yr ymrwymiad y mae Llywodraeth Lafur newydd yn ei haddo yn newid sylweddol o’r hyn sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd. [Torri ar draws.] Ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am wneud hynny a'i ailadrodd eto yma heddiw. Mae’r cyllid—ac mae trafodaethau wedi bod, yn amlwg—ynghylch sut y caiff ei ddefnyddio yn fater y bydd angen gweithio arno ar y cyd â chwmnïau cynhyrchu dur yn y DU, ond nid yw hynny’n rhywbeth y gall gwrthblaid ei wneud. Y pwynt rwy'n ei wneud i chi, a chredaf fy mod wedi gwneud y pwynt yn y drafodaeth hon, os caf ddweud, yw bod hynny'n newid sylweddol o’r dirwedd bresennol, ac felly fod angen edrych eto ar benderfyniadau sy’n cael eu gwneud heddiw yng nghyd-destun yr hyn a fyddai’n Llywodraeth y DU lawer mwy cefnogol, un sydd wedi ymrwymo go iawn i gynhyrchu dur, ond hefyd i greu’r galw yn yr economi am gynhyrchu mwy o ddur.

Busnesau Canol Trefi Gorllewin De Cymru

3. Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi busnesau canol trefi Gorllewin De Cymru? OQ61196

Diolch. Rydym yn darparu £125 miliwn o gyllid dros dair blynedd i awdurdodau lleol Cymru drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi. Mae ein datganiad sefyllfa ar ganol trefi, a gyhoeddwyd y llynedd, yn nodi’r heriau sy’n wynebu trefi Cymru a chyfres o gamau gweithredu cydgysylltiedig, traws-bolisi i fynd i’r afael â’r heriau hynny.

Diolch. Cyfarfûm yn ddiweddar â’r Ffederasiwn Busnesau Bach i drafod yr heriau presennol sy’n wynebu canol trefi yn fy rhanbarth. Mae cau banciau a siopau angor fel Marks and Spencer yng Nghastell-nedd yn ddiweddar, ar ôl bron i ganrif, wedi peri cryn bryder i fusnesau a thrigolion. Cynhaliais arolwg yn ddiweddar ar sut y gellir cefnogi canol tref Castell-nedd i ffynnu, a rhannodd bron i 400 o bobl eu barn â mi, er i'r rhan fwyaf ddweud, yn anffodus, fod ganddynt farn negyddol ynglŷn â'r dref ar hyn o bryd. Ysgrifennodd bron bob un restrau hir o’r pethau y maent yn eu hoffi ac yn eu caru am Gastell-nedd, o’r farchnad hanesyddol i’r camlesi i’r amrywiaeth o siopau annibynnol i lefydd fel Gerddi Victoria a chae rygbi’r Gnoll, wrth gwrs. Nid yw ein trefi'n brin o dalent a brwdfrydedd, ond mae angen cymorth arnynt.

Mae ardrethi busnes wedi codi yr un pryd ag y mae costau eraill yn cynyddu, ac mae gan bobl lai o arian yn eu pocedi i’w wario. Mae pethau fel yr hyn a fydd yn digwydd ym Mhort Talbot yn mynd i gael effaith ddifrifol ar faint o arian y bydd gan bobl Castell-nedd yn eu pocedi i'w wario. Felly, beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i weithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol, busnesau a thrigolion i wireddu potensial canol ein trefi a chefnogi’r busnesau hollbwysig yng nghanol y dref?

Diolch am eich cwestiwn, Sioned Williams, a hefyd am gynnal yr arolwg gyda thrigolion Castell-nedd a'i rhannu gyda ni. Ynglŷn â chau Marks and Spencer, rwyf am ddweud hefyd ei bod bob amser yn siomedig pan fyddwn yn colli un o'r manwerthwyr mawr hyn yng nghanol tref. Mae'n ymwneud â mwy na'r effaith ariannol yn unig, neu hyd yn oed y cyfleoedd manwerthu, ond teimlaf fod diffyg hyder yn taro'r gymuned yn sgil hynny. Maent yn teimlo’r effaith honno'n ddwfn iawn, ac mae hwn yn gyfnod hynod heriol i’r sector manwerthu a chanol trefi, fel y gwyddom. Mae materion cymhleth, oherwydd fel y dywedoch chi, mae llawer o leoliadau ar gyfer ystod o wasanaethau, mentrau economaidd, cyflogaeth a chymuned oll yn rhan o hyn, ac mae arnom angen hyn, yn ei dro, er mwyn inni allu cynyddu nifer yr ymwelwyr â’r siopau.

Rydym wedi buddsoddi’n sylweddol mewn adfywio trefi, gan gynnwys ein buddsoddiad presennol o £125 miliwn mewn grantiau a benthyciadau drwy raglen Trawsnewid Trefi, y soniais amdani. Gwn, er enghraifft, yng Nghastell-nedd, fod yr awdurdod lleol wedi cael bron i £29 miliwn, a bod hynny wedi mynd tuag at y ganolfan hamdden, y llyfrgell, y caffi a'r unedau manwerthu. Ceir hefyd y weledigaeth strategol a rennir ar gyfer y sector manwerthu, sydd wedi'i datblygu mewn partneriaeth gymdeithasol â'r fforwm manwerthu, ac rwyf wedi cyfarfod â nhw—yr undebau llafur a chyrff cynrychiadol y sector manwerthu.

Mae'n rhaid i fuddsoddiad drwy Trawsnewid Trefi gael ei ategu gan waith creu lleoedd o'r radd flaenaf. Credaf mai dyma lle mae’n ymwneud â'r hyn roeddech chi'n ei ddweud, a pham fod yr arolwg mor hollbwysig. Mae'n rhaid i greu lleoedd fod yn ganolog, a rhaid iddo fod yn fwy nag ymarfer ticio blychau, a rhaid iddo fod yn fwy na siop siarad. Credaf mai fel hyn y mae hi ym mhob man. Mae’n rhaid i’r gymuned ddod at ei gilydd a dweud beth maent am ei weld, ond hefyd, a dweud y gwir, mae'n ymwneud hefyd â’r gymuned yn derbyn y ffaith bod yn rhaid iddynt wedyn fynd i ganol eu trefi a gwario eu harian yno.

Felly, byddwn yn croesawu sgwrs bellach am hyn, oherwydd yn amlwg, byddai'n dda clywed eich barn ar y buddsoddiad yng Nghastell-nedd, a gweld sut mae'n mynd ac yn datblygu, ac yn cael ei groesawu gan y gymuned, ond hefyd, a dweud y gwir, i gael golwg well ar rai o'r ymatebion i'r arolwg, sy'n swnio'n wych ac yn gadarnhaol ac yn obeithiol, a dyna sut rydym am i bawb deimlo am ganol eu tref.

13:55

Mae'n braf eich gweld fel Gweinidog. Weinidog, roedd canol ein trefi yn arfer bod yn asgwrn cefn i’n cymunedau, ond maent wedi cael eu dinistrio gan benderfyniadau cynllunio gwael a chystadleuaeth gan ddatblygiadau mawr ar gyrion y dref gyda pharcio am ddim. Mae angen inni annog mwy o bobl i siopa’n lleol a chefnogi manwerthwyr annibynnol rhagorol. I wneud hynny, mae angen inni ailgyflwyno parcio am ddim mewn lleoedd fel Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl, yn ogystal â sicrhau chwarae teg o ran rhenti ac ardrethi. Weinidog, pa drafodaethau rydych chi wedi’u cael gyda chydweithwyr mewn llywodraeth leol am y camau y gallant eu cymryd i adfywio canol ein trefi a denu mwy o fanwerthwyr annibynnol i’r mannau hyn a fu unwaith yn ganolfannau cymunedol?

Diolch yn fawr iawn i’r Aelod am ei gwestiwn. Yn amlwg, mae gennym rai o'r ardaloedd y gwnaethoch chi sôn amdanynt yn gyffredin, yn fy etholaeth innau hefyd, felly rwyf am ddweud hynny. Ond fel y dywedoch chi, rwy'n credu bod hyn yn ymwneud â sicrhau ein bod yn ymgysylltu â’r awdurdodau lleol sydd wedi cael y buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru i weld sut mae’n cael ei wario, a hefyd i sicrhau ei fod yn cyflawni’r amcanion y mae’r gymuned gyfan yn dymuno eu gweld. Dywedaf, serch hynny, fy mod yn gwybod bod llawer iawn o awdurdodau lleol yn defnyddio’u harian i ddarparu parcio am ddim yng nghanol trefi, ac mae hyn yn aml yn dod gan y masnachwyr eu hunain sy’n gofyn am hynny, a chredaf fod hynny’n fuddiol iawn.

Credaf hefyd ei bod yn anodd iddynt ar hyn o bryd gyda’r cyllidebau sydd ganddynt, ond credaf fod llawer o bobl yn ystyried hynny'n rhywbeth cadarnhaol. A hefyd, mae canol llawer o drefi ar hyn o bryd—ac mae hyn yn ymwneud â nifer o bortffolios eraill—yn rhan o gynlluniau adfywio gwirioneddol ystyrlon. Mae'n ymwneud â'r hyn a ddywedais wrth Sioned Williams. Fel y gwyddom, mae’n wirioneddol bwysig felly fod y cymunedau a’r masnachwyr oll yn cael dweud eu barn yn hynny o beth. Nid wyf am i bobl deimlo fel pe bai pethau'n cael eu gwneud iddynt; mae'n rhaid inni ddod â phawb gyda ni. Ac mae cymaint o bethau ynghlwm wrth wneud canol tref yn fendigedig ac yn rhagorol, a chredaf fod llawer o'r nodau llesiant a osodwyd gennym hefyd fel Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at hynny, a hoffwn weld hyn oll yn dwyn ffrwyth gyda chanol ein trefi.

Fe sonioch chi am ardrethi busnes. Mae hyn yn rhywbeth sy'n codi. Mewn ymateb i'ch cwestiwn am gyfarfod ag awdurdodau lleol, nid wyf wedi cael cyfle i gyfarfod â nhw fel grŵp eto, ond byddaf yn gwneud hynny, ac mae hyn yn rhywbeth y gwn y byddant yn ei drafod ymhellach gyda mi. Byddwn bob amser yn ymdrechu i wneud popeth a allwn i gefnogi canol ein trefi a’n sector manwerthu. Diolch.

Ystadegau'r Farchnad Lafur

4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ystadegau diweddaraf y farchnad lafur ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fis Mai? OQ61202

Gan edrych ar draws yr ystod o ystadegau diweddaraf y farchnad lafur, mae’r ffynonellau data yn dangos sefyllfa gymysg, ond yn gyffredinol, mae Cymru a’r DU yn parhau i ddilyn tueddiadau tebyg gyda rhai arwyddion o dueddiadau sydd wedi bod yn gwella’n ddiweddar o ran gweithwyr cyflogedig yn arafu.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn yr ystadegau hynny, nodwyd bod 28 y cant o Gymru yn economaidd anweithgar. Nawr, mae hwnnw'n ffigwr enfawr ac yn nifer enfawr o bobl heb fod yn gweithio. Ysgrifennydd y Cabinet, nid oes gennyf ddiddordeb mewn cael gêm o ping-pong gwleidyddol gyda chi heddiw, oherwydd y tu ôl i unrhyw un o'r ffigurau hynny, mae pobl go iawn â phrofiadau go iawn y mae angen inni eu cael yn ôl mewn gwaith cyn gynted â phosibl. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi amlinellu heddiw beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl yn ôl i waith, pa raglenni sydd gennych i'w cael yn ôl i waith, oherwydd ar hyn o bryd, nid yw'n ymddangos bod y rhaglenni sydd gennych yn gweithio? Hoffwn wybod beth yw eich gweledigaeth ar gyfer gwella’r ffigurau hyn.

Wel, mewn gwirionedd, fel y soniais yn fy ateb i Sam Kurtz yn gynharach, credaf fod yr Aelod yn llygad ei le yn ei roi yn y termau hyn. Dyma unigolion nad yw eu bywydau mor gyflawn ag y gallent fod efallai o ran cyflogaeth oherwydd anweithgarwch economaidd, sef y pwynt a wneuthum i Sam Kurtz yn gynharach. Mae'n bwysig iawn ein bod yn cefnogi pob unigolyn i ffynnu yn y gwaith ac i gael mynediad at waith sy'n addas ar gyfer eu hanghenion a'u dyheadau.

Y pwynt roeddwn yn ei wneud yn gynharach iddo hefyd oedd yr effaith sylweddol ar raglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru a achoswyd yn sgil colli cyllid yr Undeb Ewropeaidd. Nid chwarae gemau gwleidyddol yw hynny, mae'n ffaith. Yn syml, dyna'r realiti ar lawr gwlad. Ond mae rhaglenni pwysig yr ydym yn eu defnyddio i gefnogi pobl yn ôl i waith, boed yn ReAct+, Cymunedau am Waith a Mwy i'r rheini sydd wedi bod yn ddi-waith hiraf ac sydd efallai’n wynebu heriau parhaus o ran dod o hyd i waith, ond hefyd, yn bwysig, gweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau, er enghraifft. Rydym yn aml yn gweld gwaith yn ymwneud â chymorth y Ganolfan Byd Gwaith yn rhan o'r cymysgedd, gydag Ailgychwyn yn rhan o'r cymysgedd hwn hefyd, a gwyddom mai cyfres o ymyriadau sy'n gweithio'n fwyaf effeithiol.

Credaf ei bod yn bwysig sicrhau, serch hynny, ein bod yn parhau i edrych ar ein rhaglenni cyflogadwyedd, ac rwy’n cynnal rhaglen adolygu ar hyn o bryd i weld sut y gellir eu haddasu yng ngoleuni amodau economaidd newidiol, i sicrhau eu bod yn parhau i gefnogi unigolion. Felly, byddaf yn dweud mwy am hynny yn nes ymlaen eleni, ac rwy'n gobeithio y cawn gyfle bryd hynny i gael dadl ehangach am hynny.

14:00
Bil Addysg Gymraeg

5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Bil addysg Gymraeg? OQ61189

Mae’r gwaith i orffen paratoi Bil y Gymraeg ac addysg, a’r dogfennau ategol, yn parhau. Rwy'n mawr obeithio gallaf i gyflwyno’r Bil cyn toriad yr haf.

Diolch yn fawr, Weinidog. Dwi'n falch iawn o glywed hynny. Ac rŷn ni wedi clywed yn barod y prynhawn yma am y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn gallu cytuno bod y Bil yma yn gam hanfodol tuag at gyrraedd y nod hwnnw, i sicrhau bod addysg Gymraeg a'r iaith Gymraeg ar gael i holl blant Cymru. Roeddwn i'n falch hefyd o glywed eich ymrwymiad i Siân Gwenllian bod polisi'r iaith Gymraeg a nodir yn y cytundeb cydweithredu yn parhau. Roedd y cytundeb hwnnw yn addewid i bobl Cymru y byddem ni'n gweithio i sicrhau bod y Gymraeg ar gael i bawb ac yn perthyn i bawb.

Serch hynny, unwaith eto eleni rŷn ni wedi clywed am nifer o drafferthion gyda rhieni i sicrhau addysg Gymraeg i'w plant, a diffyg cynllunio gan awdurdodau lleol. Beth mae'r Weinidog a'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod awdurdodau lleol yn sicrhau bod addysg Gymraeg yn hygyrch i holl blant Cymru? Diolch yn fawr.

Diolch i Rhys ab Owen am hynny. Ac a gaf i sôn fy mod i'n ddiolchgar iawn am y gwaith rŷn ni wedi'i wneud ar y cyd gyda Phlaid Cymru, gyda Cefin Campbell yn benodol, ar ddatblygu'r Bil? A'n bwriad ni yw parhau gyda'r gwaith rŷn ni wedi'i wneud a ffeindio ffyrdd o gadw mewn cysylltiad ynglŷn â sut y gallem ni fynd yn ein blaenau gyda hynny mewn ffordd gydweithredol, o ran y Bil a'r Ddeddf, yn y pen draw.

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig o ran cynllunio ar gyfer llefydd cyfrwng Cymraeg. Mae'r Bil, wrth gwrs, yn delio mewn ffordd ehangach nag addysg cyfrwng Cymraeg yn unig. Rŷn ni wedi gweld, rwy'n credu, cynnydd o ran yr uchelgais yng nghynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, a hefyd sicrhau, trwy'r newidiadau a'r diwygiadau rŷn ni wedi eu gwneud i'r grantiau sy'n mynd i'n hysgolion ni ac i'r consortia yn hanesyddol—. Rŷn ni'n cyfuno'r rheini er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gallu cael eu defnyddio mewn ffyrdd mwy hyblyg er mwyn lliniaru ar rai o'r heriau yma mae'r awdurdodau yn eu profi o ran cynllunio. Ond mae'r Aelod yn iawn i ddweud bod angen sicrhau ein bod ni yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg i unrhyw blentyn sydd eisiau cael yr addysg honno, a bod hynny yn hygyrch ym mhob rhan o Gymru.

Ynni Adnewyddadwy

6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddatblygiadau ynni adnewyddadwy yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ61197

Mae Canolbarth a Gorllewin Cymru yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o geisio cyflawni ein targedau ynghylch ynni adnewyddadwy; cafodd 18 MW eu comisiynu yn 2022. Caiff y rhan fwyaf o hyn ei gyflawni drwy osodiadau bach a lleol. Bydd ein trefniadau cydweithio yn sicrhau ein bod ni'n cyflawni’r manteision mwyaf posib i gymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru. 

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Byddwch chi'n ymwybodol iawn o'r teimladau cryf iawn sydd yn y rhanbarth dwi'n ei gynrychioli am brosiectau ynni adnewyddadwy, ac yn arbennig ynni gwynt. Nant Mithil ym Maesyfed, Bryn Cadwgan yn sir Gaerfyrddin, Waun Maenllwyd yng Ngheredigion, ac Esgair Galed ym Maldwyn—enwau hyfryd ar gymdogaethau gwledig. Ond mae pob un o'r cynlluniau hyn, a rhai eraill dwi ddim wedi'u henwi, yn cael eu perchnogi gan ddatblygwyr o du fas i Gymru. Nawr, mae Plaid Cymru wrth gwrs yn gefnogol iawn i brosiectau ynni adnewyddadwy er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd, ond dyw'r angen dybryd am fwy o ynni gwyrdd ddim yn golygu y dylem ni dderbyn y green rush presennol yn ddi-amod. Nawr, fel rŷch chi'n gwybod, yr hyn sy'n pryderu pobl—ac mae'n rhan o'n hanes ni fel cenedl—yw bod elw o'n hadnoddau naturiol ni wedi llifo mas o Gymru i bocedi cwmnïau cyfalafol sy'n cyfrannu fawr ddim at economi Cymru. Felly, gan ystyried hyn i gyd, gaf i ofyn i chi beth yw'ch gweledigaeth chi er mwyn sicrhau bod cymunedau ledled Cymru'n medru sicrhau elw a budd go iawn o'r potensial enfawr sydd gyda ni yn y maes egni adnewyddadwy?

14:05

Mae'r pwynt mae'r Aelod yn ei wneud yn bwynt pwysig, ac mae resonance i'r peth, yntefe, o ran cyfraniad Cymru i anghenion ynni'r byd, ac mae'r pwynt mae'n ei wneud bod yr elw a'r budd yn aml iawn yn cael eu profi tu allan i Gymru. Felly, rwy'n credu bod y pwynt sylfaenol hwnnw'n un tra phwysig. Mae gyda ni dargedau sydd—. Rŷn ni wedi'u newid nhw i fod yn fwy uchelgeisiol er mwyn sicrhau bod elfen o berchnogaeth leol o ran datblygiadau o ran ynni adnewyddadwy, a dwi hefyd yn derbyn y pwynt bod llwyddo i wneud i hynny weithio'n rhan bwysig o'r ffordd dŷn ni'n gallu gwneud yr achos i gymunedau dros dderbyn buddsoddiadau, os hoffwch chi, yn y sector yn eu lleoliadau nhw. Mae hynny'n rhan bwysig o'r darlun hwnnw.

Mae gyda ni gwaith; mae gwaith ar y gweill gydag Ynni Cymru, wrth gwrs, ond hefyd dwi'n credu bod angen inni edrych yn fwy uchelgeisiol eto ar sut y gallwn ni sicrhau nid jest budd ariannol i'r gymuned ond elfen o berchnogaeth fel bod stake yn llythrennol gan y cymunedau yn y datblygiadau hynny. Dyna, rwy'n credu, yw'r nod economaidd, ond mae hefyd yn rhywbeth sydd yn mynd i fod yn caniatáu inni allu ehangu'r sector yn fwy ymarferol hefyd.

Cyn imi alw ar John Griffiths i ofyn cwestiwn 7, mae angen imi atgoffa’r Aelodau, os oes gennych gwestiwn a gyflwynwyd neu gwestiwn atodol rydych eisiau ei ofyn, fod angen ichi fod yn y Siambr drwy gydol y sesiwn gwestiynau i wrando ar atebion y gweinidogion ac unrhyw gwestiynau a ofynnwyd ymlaen llaw. Mae sawl un yn euog o hyn yn y Siambr heddiw, felly rwyf am alw ar bawb am heddiw, ond nid wyf yn disgwyl i hyn ddigwydd eto o heddiw ymlaen. Felly, cwestiwn 7—John Griffiths.

Dyfodol Diwydiant Dur Cymru

7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gydag undebau llafur a Tata Steel ynghylch dyfodol diwydiant dur Cymru? OQ61204

Rydym yn parhau i ymgysylltu’n agos â’r undebau llafur a’r cwmni i wneud popeth yn ein gallu i leihau colledion swyddi a sicrhau dyfodol cynaliadwy i gynhyrchu dur yng Nghymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, ni fyddai cynlluniau presennol Tata a Llywodraeth bresennol y DU yn gweld y DU a Chymru yn cadw ei diwydiant dur strategol, sydd mor bwysig, fel y gwyddom, ar gyfer cymaint o agweddau eraill ar ddiogelwch ac iechyd economaidd yng Nghymru a thu hwnt. Gwyddom ei bod yn bosibl y bydd gennym Lywodraeth newydd yn y DU ymhen tua phedair wythnos—Llywodraeth Lafur y DU—gyda £3 biliwn ar y bwrdd ar gyfer dur yn y DU. Gallai hynny fod yn drawsnewidiol o ran y darlun y mae Tata yn edrych arno mewn perthynas â’r hyn sy'n bosibl a'r cymorth sydd ar gael ar gyfer dur. Felly, sut ydych chi fel Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn Llywodraeth Cymru yn edrych ar y posibiliadau a gyflwynir gan hyn o beth o ran eich trafodaethau gyda Tata, o ystyried hefyd fod yr undebau llafur wedi cymryd camau diwydiannol a'i bod yn gwbl amlwg eu bod yn benderfynol, a bod cymunedau lleol yn benderfynol o wneud popeth yn eu gallu i wrthsefyll y cynlluniau presennol?

Mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn, ac rwy'n teimlo'n gryf mai un o'r rhesymau pam fod yr undebau mor ymrwymedig i'r camau gweithredu yw oherwydd bod ganddynt gynllun amgen sy'n gredadwy ac sydd wedi'i ddatblygu gan arbenigwyr ym maes cynhyrchu dur. Byddem wedi hoffi gweld Tata yn mabwysiadu’r cynlluniau hynny yr oedd pawb, gan gynnwys Tata, rwy’n credu, yn derbyn eu bod yn gynlluniau credadwy. Rwy’n credu, fel roedd John Griffiths yn ei ddweud, fod y gobaith o gael Llywodraeth newydd, Llywodraeth Lafur, gobeithio, sydd wedi ymrwymo i £3 biliwn—. Clywaf Aelodau’n dweud nad yw hwnnw’n ymrwymiad; mae’n ymrwymiad, a bydd yn newid y cyd-destun yn sylfaenol, rwy’n credu, mewn perthynas â’r penderfyniadau sydd wedi’u gwneud, a bydd hynny’n galluogi penderfyniadau i arwain at bontio tecach i sector dur cynaliadwy yn y dyfodol, a gwn ei fod yn teimlo’n angerddol iawn ynglŷn â hynny, ac yn osgoi’r colledion swyddi ar y raddfa yr ydym yn ei hystyried ar hyn o bryd. Felly, byddwn ni fel Llywodraeth yn parhau i annog Tata Steel ar bob cyfle i osgoi gwneud penderfyniadau na ellir eu gwrthdroi yng nghyd-destun tirlun sy’n newid yn gyflym.

14:10

Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn aml yn clywed y Llywodraeth Lafur hon yn dweud pa mor falch yw hi fod gwreiddiau eich plaid yn ddwfn yn y gymuned Gymreig ei hun, gyda gweithwyr dur yn ganolog iddi, ochr yn ochr â'ch perthynas agos ag undebau llafur, gyda'r ddau ffactor wedi'u cysylltu'n annatod. Ac eto, er gwaethaf sylfaen hynod ddwfn y blaid, a'r berthynas waith agos gyda'r undebau, rywsut nid oes gennych unrhyw beth i'w gynnig i Tata Steel, na'r gweithwyr dur ledled Cymru, ar ffurf cefnogaeth gadarn. Rwy'n siŵr eich bod wedi clywed hyn eisoes, ond rwyf am atgoffa pawb—roedd Llywodraeth Geidwadol y DU wedi rhoi £100 miliwn ar y bwrdd tuag at greu bwrdd pontio ac oddeutu £500 miliwn tuag at y ffwrnais arc drydan ei hun, gan sicrhau miloedd o swyddi a sicrhau bod dur yn parhau i gael ei wneud yng Nghymru yn y dyfodol.

Maent bob amser yn dweud y dylech chi wylio sut mae pobl yn ymddwyn pan fo amseroedd yn anodd. Wel, rydym i gyd wedi gweld nad yw Llywodraeth Lafur Cymru yn cefnogi'r gymuned ddur mewn gwirionedd, gan gynnwys y rhai yn fy rhanbarth i yn ne-ddwyrain Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi'n honni eich bod yn eu cefnogi, ac eto nid yw'r Llywodraeth Lafur hon wedi cynnig un geiniog o gefnogaeth yn ystod eu cyfnod o angen. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, sut ydych chi'n bwriadu cefnogi'r cymunedau dur os nad ydych chi'n cynnig unrhyw gymorth ariannol, oherwydd y cyfan a welsom hyd yma, ers ffurfio'r Llywodraeth hon, yw trafodaethau yn Mumbai heb fawr ddim i'w ddangos amdanynt?

Pe bai'r Aelod wedi cymryd rhan yn y ddadl ddoe ar y mater hwn, byddai wedi fy nghlywed yn cywiro'r cofnod, ac rwy'n teimlo bod angen imi wneud hynny eto, mae arnaf ofn. Nid yw Llywodraeth y DU wedi rhoi £100 miliwn ar y bwrdd. Nid yw Llywodraeth y DU yn dweud hynny hyd yn oed. Mewn gwirionedd, maent wedi rhoi £80 miliwn ar y bwrdd, ac os oes gan unrhyw Aelod ddiddordeb mewn gwybod faint o hwnnw sydd wedi cael ei wario, yr ateb yw 'dim ceiniog'. Cymerais y cyfle ddoe hefyd i esbonio—. Mae hi'n ysgwyd ei phen; rwy'n cywiro'r cofnod ar ei rhan.

O ran yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddo, soniais ddoe wrth Sam Kurtz, mewn ymateb i gwestiynau tebyg ganddo, fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo ei rhaglenni cyflogadwyedd a sgiliau, wedi addasu ei rhaglenni cyfrifon dysgu personol. Mae'n debyg fod y rhaglen gyntaf yn werth tua £25 miliwn, mae'n debyg, ledled Cymru, a'r ail tua £21 miliwn ledled Cymru, ac mae'r arian hwnnw eisoes yn cael ei wario. Felly, nid wyf yn credu bod gan unrhyw un ddiddordeb mewn chwarae gemau gwleidyddol pan fo 9,000 a mwy o swyddi yn y fantol, a hoffwn annog yr Aelod gyferbyn i wrthsefyll y demtasiwn i sgorio pwyntiau gwleidyddol. Mae dadl i'w chael—[Torri ar draws.] Mae dadl i'w chael, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig, ac yn fater o barch, fod y ddadl honno'n seiliedig ar ffeithiau.

Mae cwestiwn 8 [OQ61200] wedi'i dynnu yn ôl. Cwestiwn 9, Adam Price.

Costau Llinellau Trawsyrru

9. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y grŵp annibynnol sy'n asesu costau cymharol llinellau trawsyrru 132 cilofolt o dan y ddaear ac uwchben? OQ61206

Mae’r grŵp cynghori annibynnol ar gyfer grid trydan y dyfodol i Gymru wrthi'n cael ei gynnull ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys diffinio'r aelodaeth a chefnogi'r aelodau i gymeradwyo cynllun gwaith y grŵp. Wrth i weithgareddau allweddol gael eu cwblhau, caiff gwybodaeth bellach am y grŵp ei chyhoeddi.

Gobeithio y gall yr Ysgrifennydd Cabinet ddweud wrthym ni ychydig bach mwy ynglŷn â phryd y byddwn ni'n gallu cael mwy o wybodaeth. Y rheswm dwi'n gofyn, wrth gwrs, yw oherwydd diddordeb etholaethol, o ran datblygiadau arfaethedig yn nyffryn Teifi a dyffryn Tywi, ac mae'r ffaith bod y Llywodraeth wedi cynnull y grŵp yma wedi cael ei groesawu. Dwi'n credu ei fod e’n gyfle i ddiweddaru dealltwriaeth y Llywodraeth o ran yr arloesedd sydd wedi bod, yn arbennig o ran aredig ceblau ac yn y blaen. Ond ydy canlyniadau’r grŵp yma’n mynd i fod ar gael mewn pryd, er enghraifft—mewn da bryd—ar gyfer dylanwadu ar benderfyniadau a fydd yn effeithio ar y datblygiadau dwi wedi eu crybwyll? A hefyd ydyn ni'n gallu gweld mwy o wybodaeth ynglŷn â’r cylch gorchwyl a'r aelodaeth i sicrhau bod ymddiriedaeth gan y cyhoedd bod y canlyniadau yma yn mynd i fod yn wrthrychol ac yn mynd i ddylanwadu mewn ffordd adeiladol ar benderfyniadau’r Llywodraeth?

Fy mwriad i yw cyhoeddi, cyn toriad yr haf, aelodaeth y grŵp a rhoi diweddariad o ran y cylch gwaith, cylch—. Esgusodwch fi. Work programme. [Torri ar draws.] Cynllun gwaith, diolch yn fawr. Yn rhannol oherwydd bod y grŵp yn annibynnol, felly, y grŵp ei hun fydd yn penodi’r rhaglen waith, a bydden ni i gyd, rwy'n credu, yn cymeradwyo’r math yna o approach. Felly, y bwriad yw gwneud datganiad cyn toriad yr haf, yn sicr, ar hynny, yn cynnwys aelodaeth y grŵp. Ac o ran yr allbwn a chynnyrch y drafodaeth, byddwn i'n gobeithio cael cyngor wrthyn nhw erbyn diwedd y flwyddyn, dechrau'r flwyddyn newydd, fel bod gennym ni set o egwyddorion wedyn, ar gyfer sicrhau bod yr hyn rŷn ni'n ei gefnogi yn y dyfodol yn gyson â'r egwyddorion hynny. Felly, dyna'r braslun o ran yr amserlen, ond byddaf i'n gobeithio, ac yn sicr yn bwriadu, rhoi diweddariad cyn diwedd y tymor.

14:15
2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Y cwestiynau nesaf fydd i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mark Isherwood, i'w ateb gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar. Mark Isherwood.

Gwasanaethau Iechyd Meddwl

1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro safon gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru? OQ61183

Fel rhan o'r broses o uwchgyfeirio i fesurau arbennig, cytunwyd ar raglen waith gynhwysfawr i sicrhau bod y bwrdd iechyd yn gallu gwneud y gwelliannau parhaus sydd eu hangen gan ei wasanaethau iechyd meddwl. Mae’r bwrdd iechyd yn canolbwyntio’n fawr ar gyflawni hyn.

Dilyswyd a datgelwyd cam-drin sefydliadol yn uned iechyd meddwl Hergest a ward dementia Tawel Fan mewn adroddiadau olynol. Mae teuluoedd Tawel Fan wedi dweud bod yr ysgrifennydd iechyd ar y pryd, y Prif Weinidog bellach, Vaughan Gething, wedi dweud wrthynt ym mis Hydref 2018 nad oedd yr hyn roeddent wedi’i weld yn gam-drin sefydliadol, a'i fod wedi cerdded allan pan holwyd cwestiynau iddo. Wrth siarad yma ym mis Tachwedd 2018, dywedodd Vaughan Gething ei fod yn fodlon fod y cynlluniau roedd y bwrdd iechyd wedi’u rhoi ar waith i weithredu argymhellion yr adroddiad yn gynhwysfawr ac yn gadarn.

Mae adroddiad newydd gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion, sy’n edrych ar argymhellion mewn pedwar adroddiad blaenorol, bellach wedi canfod bod llai na hanner y rhain wedi’u gweithredu’n llawn. Ymhellach, mae'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth bellach wedi tynnu nyrs staff seiciatrig oddi ar y gofrestr oherwydd bod ei hymddygiad camdriniol wedi achosi niwed i gleifion a thystion bregus ar ward Tawel Fan. Felly, a fydd Llywodraeth Cymru yn dangos atebolrwydd ac yn ymddiheuro i'r teuluoedd nawr, o ystyried bod hyn wedi datgelu'r un diwylliant o guddio, beio dioddefwyr, a bwlio chwythwyr chwiban ag a welwyd gyda Swyddfa'r Post a’r sgandal gwaed heintiedig?

Diolch am y cwestiwn hwnnw, Mark. Fel rhan o'r ymyrraeth mesurau arbennig, comisiynodd Llywodraeth Cymru Goleg Brenhinol y Seiciatryddion i gynnal adolygiad i asesu i ba raddau y mae argymhellion o'r adolygiadau iechyd meddwl blaenorol wedi'u cyflawni. Mae'r adroddiad wedi'i rannu gyda theuluoedd ac fe'i trafodwyd yng nghyfarfod y bwrdd ddydd Iau diwethaf, mewn gwirionedd, ar 30 Mai. Mae'n dangos nad yw'r cynnydd yn erbyn nifer o'r argymhellion wedi cael ei gynnal. Mae hyn yn siomedig iawn, a byddwn yn gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau eu bod yn cymryd ac yn gwreiddio'r camau priodol. Byddaf yn cyfarfod ag is-gadeirydd y bwrdd iechyd ac arweinwyr gweithredol iechyd meddwl ar sail chwarterol i drafod camau gweithredu mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl a pha gymorth a fyddai o fudd i gyflawni gwelliannau. A byddaf yn sicr yn trafod yr hyn sydd wedi'i wneud ac yn edrych yn fanylach ar yr hyn sydd angen ei wneud.

Edrychwch, dro ar ôl tro, mae Gweinidogion wedi codi yn y Siambr hon a dweud wrthym fod pethau'n cael eu datrys. Comisiynwyd adroddiad ar ôl adroddiad, fel y clywsom, fe wnaed argymhellion, ac rydym i gyd wedi cael ein harwain i gredu y byddai pethau'n newid. Nawr, mae'r adroddiad damniol diweddaraf hwn i'r bwrdd iechyd, yn datgelu nad yw'r mwyafrif o argymhellion mewn adroddiadau olynol i sgandalau iechyd meddwl yn y gogledd wedi cael eu gweithredu. A ydych chi fel Llywodraeth felly wedi cael eich camarwain—neu efallai wedi cael eich twyllo, byddai rhai yn dweud—gan rywun? Ac os ydych chi, mae hynny ynddo'i hun yn sgandal arall i'w hychwanegu at restr hir iawn o sgandalau, rhaid imi ddweud. Nawr, o ystyried yr holl fethiannau hyn, onid yw'n bryd rhoi cynnig ar dacteg wahanol? Oni ddylech sefydlu pwyllgor goruchwylio annibynnol nawr, sy'n cynnwys Llais—llais y claf—teuluoedd yr effeithir arnynt, y trydydd sector ac eraill, i weithio gyda'r bwrdd iechyd i wneud yn siŵr fod yr argymhellion hyn yn cael eu cyflawni, unwaith ac am byth?

Diolch, Llyr. Mae'r bwrdd iechyd wedi dweud y bydd yn cymryd cyfnod o amser a myfyrio i ystyried canfyddiadau'r adroddiad a barn teuluoedd ac eraill, gan gynnwys Llais, fel y sonioch chi, cyn llunio ei ymateb ffurfiol. Hoffwn ddweud, mae Gweithrediaeth GIG Cymru yn cyfarfod â'r holl fyrddau iechyd bob mis i fonitro perfformiad fel rhan o gyfarfodydd gwella, ansawdd, perfformiad a chyflawni. O ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gallaf gadarnhau eu bod yn parhau i wella perfformiad gyda cherrig milltir ychwanegol yn cael eu gosod i gefnogi'r bwrdd iechyd i gynnal cynnydd. Byddwn yn datblygu datganiadau ansawdd iechyd meddwl a fydd yn cefnogi byrddau iechyd i ddarparu gwasanaethau sy'n gyson ledled Cymru. Ac fel y dywedais mewn ymateb i Mark, gallaf eich sicrhau y byddaf yn cyfarfod ag is-gadeirydd y bwrdd iechyd yn fuan, ynghyd ag arweinwyr iechyd meddwl, ar sail chwarterol hefyd, ers imi ddod i'r swydd yn ddiweddar, a byddaf yn gwneud hynny a byddaf yn parhau i wneud hynny.

14:20
Iechyd y Cyhoedd ym Mhreseli Sir Benfro

2. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd y cyhoedd ym Mhreseli Sir Benfro? OQ61182

Mae'r ddogfen 'Cymru Iachach' yn nodi ein gweledigaeth a’n blaenoriaethau, sef system iechyd a gofal cymdeithasol gyfun gyda gwasanaethau di-dor, sy’n canolbwyntio ar atal a gofal yn y gymuned, a mynd i’r ysbyty dim ond pan fydd angen.

Ysgrifennydd y Cabinet, un o flaenoriaethau iechyd cyhoeddus Llywodraeth Cymru yw diogelu iechyd pobl, ac eto mae'r gymuned o amgylch safle tirlenwi Withyhedge yn fy etholaeth yn parhau i ddioddef o ddrewdod ffiaidd ac allyriadau a all fod yn wenwynig. Mae preswylwyr yn parhau i brofi symptomau iechyd difrifol, fel amrannau poenus a chwyddedig, cur pen a chyfog. Mae'r rhain yn bobl go iawn, yn dioddef yn ein cymunedau o dan oruchwyliaeth eich Llywodraeth, a digon yw digon. Pa gamau y byddwch chi nawr yn eu cymryd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i ddiogelu ein hetholwyr a sicrhau nad ydynt yn parhau i ddioddef oherwydd gweithredoedd gwarthus gweithredwr safle tirlenwi Withyhedge?

Diolch yn fawr. Wel, rwy'n amlwg wedi bod yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa, ac yfory, mae gennyf gyfarfod, ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, i geisio sicrwydd a chael y wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy'n cael eu cymryd mewn perthynas â safle tirlenwi Withyhedge. Wrth gwrs, mae safle tirlenwi Withyhedge yn cael ei reoli gan drwydded amgylcheddol, sy'n cynnwys amodau y mae'n rhaid i'r gweithredwr gydymffurfio â nhw i atal niwed i'r amgylchedd neu iechyd pobl. Cyfoeth Naturiol Cymru, fel y rheoleiddiwr gwastraff yng Nghymru, sy'n gyfrifol am reoleiddio'r safle a sicrhau cydymffurfiaeth ag amodau'r drwydded. Nid oes gan Iechyd Cyhoeddus Cymru unrhyw gyfrifoldebau rheoleiddiol na phwerau'n gysylltiedig â rheoli'r safle na gorfodi, ond maent wedi mabwysiadu ymagwedd ragofalus mewn ymateb i'r mater hwn. 

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau gan lefarwyr y pleidiau nesaf. Llefarydd y Ceidwadwyr, Altaf Hussain.

Weinidog, yr wythnos hon cefais y pleser o ymweld â Llais yn eu pencadlys yn Abercynon, ac yn ystod sgyrsiau am eu gwaith ymgysylltu cymunedol gwych, daeth yn amlwg nad yw llawer o aelodau'r cyhoedd yn ymwybodol o rôl Llais fel llais y cyhoedd mewn perthynas â gofal cymdeithasol. Pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i hyrwyddo'r ffaith bod Llais yn gorff annibynnol a sefydlwyd i roi llais i bobl Cymru ynghylch eu gwasanaethau gofal cymdeithasol, ac nid ynghylch rhyngweithiadau'r GIG yn unig?

Diolch am eich cwestiwn, Altaf. Rydych chi'n llygad eich lle, mae rôl Llais bellach wedi ymestyn i gynnwys gofal cymdeithasol. Wrth gwrs, rydym yn eu cydnabod yn eu hymgnawdoliad blaenorol fel cynghorau iechyd cymunedol, a phan gawsant eu sefydlu o dan y ddeddfwriaeth ddiweddar i ddod yn Llais, fe wnaethant gymryd cyfrifoldeb dros lais y claf a'r cleient mewn gofal cymdeithasol. Ac un o'u prif amcanion pan gawsant eu sefydlu oedd hyrwyddo'r rôl honno fel llais y cleient, ymdrin â chwynion a gweithredu fel eiriolwyr a chynghorwyr arbenigol i bobl mewn gofal cymdeithasol. Felly, mae cylch gwaith Llais yn cwmpasu ymgysylltiad a chynrychiolaeth ar draws gofal cymdeithasol. 

Rwy'n credu ei bod yn briodol dweud y dylem fod yn gwneud mwy i hyrwyddo gwaith Llais mewn gofal cymdeithasol, oherwydd yn flaenorol nid oedd llais i bobl mewn gofal cymdeithasol, ac rwy'n credu mai'r hyn a welsom oedd cwynion uniongyrchol i'r awdurdod lleol. Ac mae Llais wedi gallu bod yn eiriolwr a chyfryngwr rhwng yr awdurdod lleol a'r cleient. Felly, rwy'n hapus i basio'r neges honno ymlaen, Altaf, a gweld a oes mwy y gallwn ei wneud o safbwynt Llywodraeth Cymru i hyrwyddo rôl Llais, ond mae hwnnw'n sicr yn rhywbeth y mae angen i ni siarad â Llais yn ei gylch, a sicrhau eu bod nhw'n gwneud hynny hefyd.

14:25

Diolch yn fawr, Weinidog. Wrth gwrs, un o'r cwynion mwyaf yn ymwneud â phrofiad pobl o ofal cymdeithasol yn ystod y cyfnod diweddar oedd y ffordd y cefnwyd bron â bod yn gyfan gwbl ar y sector yn ystod y pandemig. Mae'n debyg na fyddwn byth yn gwybod gwir nifer y bobl a fu farw'n ddiangen yn ein cartrefi gofal yn ystod COVID-19. Mae'r ffaith bod modiwl 6 o ymchwiliad COVID y DU wedi'i ohirio, a'n bod yn annhebygol o gael yr adroddiad yn ystod tymor y Senedd hon, yn peri pryder mawr. Rhaid inni wneud mwy na gobeithio na chawn bandemig arall na salwch tymhorol difrifol cyn inni roi'r gwersi a ddysgwyd o COVID ar waith. Weinidog, pa gamau rydych chi'n eu cymryd yn y cyfamser i sicrhau bod gan bob cartref gofal fesurau atal a rheoli heintiau cadarn ar waith, yn ogystal â sicrhau bod pob aelod o staff yn cael hyfforddiant atal a rheoli heintiau a chyfarpar diogelu personol digonol?

Diolch am y cwestiwn pwysig hwnnw, Altaf, ac wrth gwrs, fel y dywedwch, ni fyddwn yn gweld canlyniad yr ymchwiliad COVID am gryn dipyn o amser eto, nac yn gweld a fydd unrhyw argymhellion penodol ynghylch hynny, ond yr hyn y gallaf eich sicrhau yw bod mesurau rheoli heintiau cadarn ar waith. Mae pob un o'n cartrefi gofal yn destun arolygiadau annibynnol gan Arolygiaeth Gofal Cymru ac nid ydym wedi cael unrhyw adroddiadau am unrhyw bryderon cyfredol ynghylch cartrefi gofal sydd wedi bod yn destun arolygiadau ers COVID-19, felly nid wyf yn credu bod gennym unrhyw reswm dros ymyrryd nac achos pryder difrifol ar hyn o bryd o ran y ffordd y mae ein cartrefi gofal yn gweithredu. Ond rwy'n cyfarfod bob mis â phrif arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru, a byddaf yn sicr yn codi hyn gyda hi pan fyddaf yn cyfarfod â hi fis nesaf, i sicrhau nad oes unrhyw faterion y mae angen i mi fod yn ymwybodol ohonynt.

Rwy'n ddiolchgar i chi, Weinidog. Fodd bynnag, credaf fod angen strategaeth genedlaethol a set unffurf o safonau ar gyfer atal a rheoli heintiau yn y sector gofal. A ydych chi'n cytuno na allwn ganiatáu dull tameidiog o ymdrin â hyn, ac ni waeth pa awdurdod lleol y mae'r cartref gofal ynddo, neu pa fwrdd partneriaeth rhanbarthol sy'n arwain, a ydych chi'n cytuno bod angen safon gofal cenedlaethol? A wnewch chi ymrwymo heddiw felly i weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, a'r sector, ynghyd â minnau a grwpiau cleifion, i sefydlu dull cyffredinol o ymdrin ag atal a rheoli heintiau mewn cartrefi gofal a gofyniad i hyfforddi'r holl staff mewn gweithdrefnau atal a rheoli heintiau cyn gynted â phosibl?

Unwaith eto, diolch am y pwynt pwysig hwnnw, Altaf, ac wrth gwrs rydym yn rhychwantu ystod eang o faterion ym maes gofal cymdeithasol i reoleiddio a safoni arferion ar draws gwasanaethau cymdeithasol, ac mae hynny'n cynnwys ein cartrefi gofal a chomisiynu gwasanaethau mewn cartrefi gofal, a byddwn yn cyhoeddi fframwaith cenedlaethol ar hynny erbyn diwedd y flwyddyn. Rwy'n hapus i ystyried y pwyntiau y gwnaethoch eu codi a gweld a allwn eu hymgorffori yn y fframwaith cenedlaethol, ac a ellir safoni'r gwaith yr ydym eisoes yn ei wneud yn y maes hwnnw yn y ffordd a nodwyd gennych, oherwydd mae'n gwbl amlwg i mi mai'r ffordd orau o sicrhau canlyniadau rheolaidd yw rhoi ymarfer rheolaidd ar waith ar draws gofal cymdeithasol ac ar draws y gwasanaethau cymdeithasol. Fel y dywedais, dyna'n union y mae ein fframwaith cenedlaethol wedi ceisio ei wneud, a byddaf yn bendant yn sicrhau ein bod yn edrych ar hynny mewn perthynas â hyfforddiant atal a rheoli heintiau hefyd.

Diolch. Llywydd, roeddwn i'n falch iawn gweld negeseuon Trydar yr Ysgrifennydd Cabinet yn ddiweddar yn dangos ei bod hi wedi ymweld â thref hanesyddol Harlech. Dydy hynny ddim yn syndod, gan fod Harlech yn dref odidog sydd â llawer iawn i’w gynnig i ymwelwyr. Ond beth oedd yn syndod oedd gweld yr Ysgrifennydd Cabinet yn dal placard ymgyrchu yn galw am foderneiddio'r gwasanaeth iechyd. Llafur sydd wedi bod yn rhedeg y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ers 25 mlynedd, ond mae’n ymddangos bod y ffaith yna wedi cael ei cholli ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd. Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet gytuno â fi bythefnos yn ôl, wrth holi am adroddiad Langstaff, fod bod yn agored, tryloyw ac onest yn egwyddorion pwysig. Felly, wrth ystyried hyn, ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn derbyn bod yr hyn oedd yn cael ei awgrymu wrth ddal y placard yna i fyny, sef nad ydy cyflwr y gwasanaeth iechyd yn gyfrifoldeb iddi hi, yn gamarweiniol, ac a wnaiff hi ymddiheuro am hynny? Ac yn olaf, ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno mai ei chyfrifoldeb hi a Llywodraeth Cymru ydy moderneiddio ein gwasanaeth iechyd?

14:30

Dwi ddim yn mynd i ymddiheuro am fod eisiau moderneiddio’r gwasanaeth iechyd. Dwi yn moderneiddio'r gwasanaeth iechyd ond dwi eisiau mynd ymhellach, a phe byddai yna Lywodraeth Lafur yn San Steffan, byddai yna gyfle inni fynd hyd yn oed ymhellach. Felly, dwi ddim yn mynd i ymddiheuro am hynny. Rŷn ni wedi buddsoddi lot eisoes mewn datblygiadau digidol yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ond fe allem ni fynd lot ymhellach pe byddai gyda ni Lywodraeth sydd yn cymryd y gwasanaeth iechyd o ddifrif yn San Steffan.

Diolch am yr ateb hwnnw. Dros y misoedd diwethaf, mae canlyniadau diffyg parodrwydd Gweinidogion iechyd olynol i gymryd cyfrifoldeb am y problemau systemig yn ein gwasanaeth iechyd, fel y gwelsom eisoes heddiw, wedi bod yn glir iawn. Yr wythnos diwethaf, gwelsom y canlyniadau hynny yng nghasgliadau damniol adroddiad Coleg Brenhinol y Seiciatryddion i wasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a ganfu fod argymhellion o adroddiadau blaenorol, sy'n dyddio'n ôl cyn belled â 2014, yn parhau heb eu gweithredu ar draul bywydau cleifion.

Gwelwn y canlyniadau hyn hefyd yn y problemau systemig yng ngwasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, lle datgelodd arolygiad dirybudd pellach yn ddiweddar gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru nad yw argymhellion sy'n deillio o adolygiad mamolaeth cenedlaethol 2020 wedi'u rhoi ar waith. Roedd 22 o gamau gweithredu yn dal i fod heb gael sylw, yn ogystal â phryderon eraill a godwyd gan arolygwyr. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi bod dan fesurau monitro estynedig ar gyfer gwasanaethau mamolaeth ers mis Rhagfyr 2023. Mae'r ffaith bod AGIC yn mynd i mewn ac yn dal i ddod o hyd i broblemau diogelwch mawr i gleifion yn peri pryder mawr.

Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno bod yr hanes hwn o argymhellion heb eu gweithredu, camau gweithredu heb eu rhoi ar waith a phryderon diogelwch parhaus i gleifion yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn methu cyflawni ei chyfrifoldeb dros ddarparu gwasanaethau iechyd diogel ac effeithiol?

Rwy'n credu bod fy nghyd-Aelod, Jayne Bryant, newydd roi ateb cynhwysfawr i'r cwestiynau'n ymwneud â'r ymchwiliadau yng ngogledd Cymru—ymchwiliadau, gadewch inni beidio ag anghofio, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, felly ein cyfrifoldeb ni yw gwneud yn siŵr ein bod yn gwybod beth sy'n digwydd yno. Rydym wedi gwneud hynny, ac rwy'n credu bod y cwestiwn hwnnw wedi'i ateb yn gynhwysfawr iawn.

Mewn perthynas â gwasanaethau mamolaeth ym Mae Abertawe, roedd yna broblemau'n ymwneud yn benodol â recriwtio. Rwy'n falch o ddweud bod ymgyrch recriwtio enfawr wedi bod a bydd niferoedd ychwanegol sylweddol yn dechrau mewn bydwreigiaeth o fis Medi ymlaen. Felly, mae'n edrych yn debyg fod y mater penodol hwnnw—sef y mater pwysicaf yr oedd angen iddynt ei ddatrys—yn cael ei ddatrys. Rwy'n gwybod bod y bwrdd iechyd yn cyfarfod yr wythnos hon gyda fy swyddogion i sicrhau cynnydd mewn perthynas â phroblemau mamolaeth ym Mae Abertawe.

Mae nifer o deuluoedd wedi cysylltu â mi ac eraill ar y meinciau hyn i ddweud bod methiannau allweddol i ddarparu gofal mamolaeth diogel ym Mae Abertawe wedi effeithio ar eu bywydau. Mae'r teuluoedd hyn wedi ei gwneud hi'n boenus o glir eu bod wedi cael cam, gan gynnwys gan eich rhagflaenydd yn y rôl, y Prif Weinidog presennol. Fel Gweinidog iechyd rhwng 2016 a 2021, goruchwyliodd dros gamau i ychwanegu pedair risg allweddol mewn perthynas â mamolaeth at gofrestr risg y bwrdd iechyd, ac roeddent yn dal i fod yno adeg adroddiad damniol AGIC yn 2023. Yn 2019-20, byddai'r Gweinidog iechyd wedi cael 33 o hysbysiadau yn ymwneud â digwyddiadau difrifol yn gysylltiedig â genedigaethau ym Mae Abertawe. Methwyd yr holl faneri coch, yr holl gyfleoedd i ymyrryd.

Mae'r teuluoedd hefyd wedi ei gwneud yn glir nad oes ganddynt hyder yn y broses adolygu gyfredol a hynny am reswm da yn fy marn i. Gellid dehongli e-byst gan gadeirydd yr adolygiad, a gafwyd o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, fel rhai sy'n awgrymu awydd i gyfyngu ar gyfranogiad teuluoedd ynddo. Hyd yn hyn, nid oes digon o sensitifrwydd yn y broses, ac mae pryderon wedi'u codi hefyd am gylch gorchwyl yr adolygiad. Mae'r pryderon hyn yn cynnwys na ddatblygwyd y cylch gorchwyl mewn ymgynghoriad â'r teuluoedd, nad ydynt yn adlewyrchu'r effaith benodol ar gleifion du a lleiafrifol ethnig, ac nad oes unrhyw ran gan gleifion i'w chwarae yn y panel goruchwylio. Mae'r teuluoedd hyn wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus llawn ac rwy'n adleisio eu galwad. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo i gynnal ymchwiliad o'r fath?

14:35

Nid yw'r trothwy ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus yn isel, ond yn amlwg, byddwn bob amser yn cadw'r materion hyn dan ystyriaeth. Cyfarfu Llywodraeth Cymru â'r bwrdd iechyd ar 3 Mehefin ar gyfer y cyfarfod monitro estynedig mewn perthynas â gwasanaethau mamolaeth a newydd-anedig. Ac yn y cyfarfod hwnnw, fel y dywedaf, cawsom sicrwydd fod yna 17 o fyfyrwyr bydwreigiaeth newydd, ond hefyd, y bydd yna gyfarwyddwr bydwreigiaeth newydd, a fydd yn dechrau y mis hwn. Mae arweinyddiaeth yn gwbl hanfodol mewn unrhyw adran, ac felly rwy'n credu bod hwnnw'n benodiad allweddol. Mae'r bwrdd iechyd hefyd wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ailagor y ganolfan geni gartref a gwasanaethau cymunedol. Yn dilyn adolygiad porth llwyddiannus, mae'r bwrdd iechyd mewn trafodaethau gyda'r undebau ynghylch ambell i fater, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn cael ei ddatrys. Bydd penderfyniad a wneir gan y bwrdd yn eu galluogi wedyn i ailddechrau'r gwasanaethau hyn o fis Awst ymlaen.FootnoteLink

Staffio yn y GIG

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gan y GIG ddigon o staff i fodloni gofynion gwasanaethau? OQ61193

Er gwaethaf yr hinsawdd ariannol, rydym yn parhau i fuddsoddi yng nghynaladwyedd ein gweithlu GIG, gan gynnal y lefelau sylweddol o gyllid ar gyfer hyfforddi gweithlu newydd yn 2024-25. Rydym hefyd yn darparu rhaglenni sy'n cael eu rhedeg yn genedlaethol i gefnogi recriwtio rhyngwladol moesegol i gau'r bwlch swyddi gwag a buddsoddi mewn cynlluniau cadw staff.

Ysgrifennydd y Cabinet, nid wyf am ailadrodd y problemau y mae pobl yn eu cael yn ceisio gweld meddyg teulu neu ddeintydd. Rydym i gyd yn gwybod am yr effaith y mae diffyg cynllunio gweithlu strategol yn ei chael ar fynediad at ofal. Fodd bynnag, rwyf am ganolbwyntio ar yr effaith y mae prinder staff yn ei chael ar allu'r GIG i ymateb i argyfyngau. Yr wythnos diwethaf, rhybuddiodd Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru y bydd oedi cyn trosglwyddo, sydd, fel y nodoch chi eich hun, yn deillio'n rhannol o brinder staff gofal cymdeithasol, yn effeithio ar allu'r gwasanaeth i ymateb i ddigwyddiadau mawr, gan gynnwys ymosodiadau gan derfysgwyr. Beth bynnag yw'r broblem gyda'n GIG, gallem bob amser ddibynnu arno mewn argyfwng cenedlaethol, ond nawr, nid yw hynny hyd yn oed yn sicr. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i ddileu oedi cyn trosglwyddo a chaniatáu i griwiau ambiwlans ymateb i ddigwyddiadau mawr?

Diolch yn fawr. Fe fyddwch yn gwybod bod gennym fwy o bobl yn gweithio yn GIG Cymru nag erioed o'r blaen—110,000 o weithwyr. Mae hynny 12 y cant yn fwy na thair blynedd yn ôl. Ac o ran staff meddygol a deintyddol, mae gennym 12 y cant yn fwy ohonynt. Dyna 892 yn fwy na thair blynedd yn ôl. Felly, mae'r niferoedd yn cynyddu, ond mae'r galw hefyd yn cynyddu. A dyna'r broblem go iawn yma: fod y galw'n parhau i godi. Ac fe fyddwch yn gwybod, fel clinigydd eich hun, gyda phoblogaeth sy'n heneiddio, fod y galw'n debygol o barhau i gynyddu. Mae yna bob amser derfyn ar y gyllideb, ac rydym i gyd yn ymwybodol fod 65 y cant o'r arian a wariwn ar y GIG yn cael ei wario'n uniongyrchol ar staff.

Ar y gwasanaeth ambiwlans, mae gennym 13 y cant yn fwy o bobl nag a oedd gennym dair blynedd yn ôl, felly niferoedd ychwanegol sylweddol. Rydych chi'n hollol iawn, ar oedi cyn trosglwyddo, fod yna broblem wirioneddol, ac mae'n broblem yr ydym yn gweithio arni'n gyson. Mae'n ymwneud â'r berthynas, ynglŷn â ble mae'r cyfrifoldebau o fewn y byrddau iechyd hynny, pwy sydd angen symud pobl ymlaen, ond hefyd llywodraeth leol. Mae'r deialogau cyson hynny, y sgwrs gyson a gawn gyda nhw, gallu gweld yn iawn ble mae'r broblem, beth yw'r rhwystr, a chyfrifoldeb pwy yw'r rhwystr, yn gwbl hanfodol. Rydym wedi gwneud llawer iawn o waith ar hynny. Mae gennym bethau fel aseswyr dibynadwy nawr, felly nid oes raid i chi aros i rywun o'r cyngor ddod i wirio—mae gan awdurdodau lleol hyder mewn pobl eraill i wneud rhywfaint o'r gwaith hwnnw i symud pethau ymlaen. Mae gennym ffordd bell i fynd. Y broblem allweddol, unwaith eto, yw sut ydych chi'n recriwtio digon o weithwyr gofal. Rydym yn talu'r cyflog byw go iawn, yn wahanol i lefydd yn Lloegr; nid oedd hwnnw'n fuddsoddiad bach. Ond mae'n dal yn anodd iawn recriwtio pobl i'r rolau hynny, a dyna lle mae'r her go iawn.

O ran ymosodiad gan derfysgwyr, rydych chi'n hollol gywir, mae yna asesiad ar hyn o bryd o beth oedd yr argymhellion o ganlyniad i ymosodiad. Felly, mae hynny'n cael ei asesu ar hyn o bryd, ac yn amlwg, rwyf am aros i gael cyngor o ganlyniad i hynny.

14:40
Rhestrau Aros y GIG

4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau nifer y cleifion sydd ar restrau aros yng Nghanol De Cymru? OQ61190

Rydyn ni’n benderfynol o leihau amseroedd aros hir ar draws Cymru. Mae’r nifer sy’n aros dwy flynedd wedi lleihau bob mis ers cyhoeddi ein cynllun adfer ar gyfer gofal wedi’i gynllunio. Ym mis Mawrth 2024, roedd y nifer oedd yn aros dwy flynedd 71 y cant yn llai na mis Mawrth 2022, y lefel isaf ers mis Gorffennaf 2021.

Diolch, Weinidog. Mae'n braf i glywed bod y rhestrau aros dros ddwy flynedd yn lleihau. Ond mae'r ffigurau ddiwedd mis diwethaf gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn dangos yr her sy'n wynebu y gwasanaeth iechyd—bron i 600,000 ar restrau aros, 18 y cant ar y llwybr strategol am dros flwyddyn, a hynny i'w gymharu â 4 y cant yn Lloegr. 

Mae'r rhestrau aros am driniaethau canser yn brawychu unigolion a'u teuluoedd. Mae etholwyr wedi cysylltu gyda fi yn poeni am eu bywydau ac am fywydau eu perthnasau. Mae 40 y cant o gleifion yng Nghymru yn aros mwy na 62 diwrnod i ddechrau triniaeth ar ôl i ganser gael ei amau yn gyntaf. Mae hwn yn gyfnod sy'n creu poendod mawr i bobl. Ac fel rŷch chi'n gwybod, Weinidog, tu ôl i bob ystadegyn moel, mae unigolion, ac mae eu teuluoedd. Beth mae'r Gweinidog, felly, yn ei wneud i ymateb i'r diffyg cynnydd yn y targed o 75 y cant o gleifion canser yn dechrau eu triniaeth o fewn 62 diwrnod? Diolch yn fawr. 

Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl, yn gyntaf i gyd, bod angen dweud, ar gyfartaledd, bod pobl yng Nghymru yn aros 22 wythnos i gael triniaeth. Dyna'r cyfartaledd, ond rydych chi'n eithaf reit, pan fo'n dod i ganser, mae'n rhaid i ni symud yn gyflymach, a dyna pam dwi'n meddwl nad yw'r sefyllfa ar hyn o bryd yn dderbyniol. Mae un o'r problemau sydd gyda ni yn y maes diagnosteg. Mae'n rhaid i chi gofio, o ran diagnosteg, bod lot o feysydd gwahanol yn defnyddio diagnostic capacity, nid jest canser. Mae'r nifer o bobl sydd wedi eu hanfon i gael prawf diagnostig—pobl sydd ar suspected cancer path—wedi cynyddu 50 y cant dros y tair blynedd diwethaf, ac, felly, mae nhw yn bwrw bottleneck, ac mae hwnna'n rhan o'n problem ni. A dyna pam mae gyda ni gynllun diagnostig. Rŷn ni yn buddsoddi mewn diagnostic capacity ar hyn o bryd, a dwi yn gobeithio y bydd hwnna yn gwneud gwahaniaeth ac yn golygu bod mwy o gleifion yn cael eu gweld yn gyflymach. 

Ysgrifennydd y Cabinet, lansiodd yr hyb diagnostig a thriniaeth yn Llantrisant, a ddatblygwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gan gydweithio â byrddau iechyd Aneurin Bevan a Chaerdydd a'r Fro, y cyntaf o'i wasanaethau ym mis Ebrill eleni, ac mae eisoes wedi gwneud cynnydd mewn perthynas â rhestrau aros drwy roi dros 200 o gleifion ar y trywydd cyflym drwy ei sganwyr MRI. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno bod gan yr hyb hwn botensial sylweddol i leihau rhestrau aros ymhellach wrth i'w wasanaethau ddatblygu, ac a allwch chi ailddatgan eich ymrwymiad i gefnogi'r model newydd arloesol hwn?

Diolch yn fawr iawn, Vikki. Onid yw'n hollol wir, yn syth ar ôl y cwestiwn canser, ein bod yn dod yn syth at gwestiwn diagnostig? Dyna lle mae'r tagfeydd, fel y dywedaf, ac mae hon yn enghraifft ohonom yn buddsoddi yn y gallu diagnostig. Yr hyn sydd gennym yno ar hyn o bryd yw gwasanaeth diagnostig symudol. Rwy'n credu bod hynny'n dda wrth i ni fwrw ymlaen, ond rydym yn edrych ar ddatblygu system ddiagnostig ranbarthol gynhwysfawr iawn sy'n cwmpasu tri bwrdd iechyd yn Llantrisant. Dyna lle rydym ni'n anelu. Mae'r adborth cychwynnol gan y bobl sy'n defnyddio'r system ddiagnostig symudol wedi bod yn gadarnhaol iawn, yn enwedig ynghylch mynediad da at y safle a'r sganiwr, ond fel y dywedais, yr hyn y ceisiwn ei wneud yw datblygu capasiti rhanbarthol a'i gynyddu. Felly, dyma'r cam cyntaf mewn cynllun llawer mwy cynhwysfawr. 

Strategaethau Ymateb i Alwadau am Ambiwlans

6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am strategaethau ymateb i alwadau yn Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru? OQ61187

14:45

Caiff pob galwad i wasanaeth ambiwlans Cymru ei blaenoriaethu yn seiliedig ar ddifrifoldeb clinigol cymharol y symptomau fel y'u disgrifir gan y sawl sy'n ffonio, er mwyn sicrhau bod y rhai sydd â'r angen clinigol mwyaf yn cael eu blaenoriaethu i gael yr ymateb gorau posibl i sicrhau'r gobaith mwyaf o ganlyniad cadarnhaol.

Diolch. Yn ddiweddar, cyfarfûm â merch i etholwr, ei thad, a fu farw yn aros am ambiwlans yn 2022. Yn dilyn hynny, fe wnaeth y ferch gŵyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghylch y ffordd y cafodd yr alwad ei thrin. Canfu'r ombwdsmon fod yr alwad 999 wreiddiol wedi'i chategoreiddio'n gywir fel oren 1, ond fe wnaethant hefyd ganfod na ddilynwyd y gweithdrefnau cywir ar gyfer yr alwad les a gallai hyn fod wedi newid categori yr alwad wreiddiol a derbyniodd y rhan honno o'r gŵyn. Cafodd ei thad ataliad ar y galon 20 munud ar ôl yr alwad les ac mae ei ferch yn credu bod arwyddion hanfodol o ddirywiad wedi eu methu. Mae hi'n teimlo'n gryf y dylai'r alwad fod wedi cael ei thrin yn fwy difrifol a'i chyflawni gan staff cymwys priodol. Mae merch fy etholwr hefyd yn credu y dylai galwadau oren 1, sy'n cynnwys cyflyrau sydd ag amseroedd ymateb therapiwtig, gael targed amser ymateb, a gallai cael y driniaeth feddygol briodol o fewn yr amserau hyn olygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth. Mae hi'n awyddus iawn i sicrhau, gyda'r mathau hyn o alwadau, fod yw'r alwad les yn cael ei deall yn llawn o ran yr hyn y mae'n ei golygu i'r bobl sy'n derbyn y gofal. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ofyn i ymddiriedolaeth gwasanaethau ambiwlans Cymru adolygu'r ffordd y mae'n blaenoriaethu galwadau oren 1 a galwadau lles, i sicrhau bod galwadau lles yn cael eu gwneud yn briodol a sicrhau na allai digwyddiad o'r fath ddigwydd eto?

Diolch yn fawr iawn, ac mae'n ddrwg iawn gennyf glywed am yr enghraifft honno, Hefin. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi anfon fy nghydymdeimlad at y teulu. Yn amlwg, ni allaf wneud sylw ar achos unigol, ond rwy'n credu bod egwyddor yr alwad les yn rhywbeth y byddaf yn ymchwilio iddo a darganfod yn union sut mae hynny'n cyd-fynd â'r blaenoriaethu sydd eisoes yn digwydd.

Hoffwn ddiolch i Hefin David am ofyn y cwestiwn pwysig hwn, a hoffwn innau hefyd gydymdeimlo'n ddiffuant â'ch etholwr yn eu colled.

Ysgrifennydd y Cabinet, cafodd etholwr i mi drawiad ar y galon gartref yn ddiweddar a phan ffoniodd ei wraig am ambiwlans, dywedwyd wrthi fod rhaid aros tair i bump awr. O ganlyniad, ac yn dilyn sgwrs â thriniwr galwadau 999, gyrrodd ei wraig ef i ysbyty'r Faenor, ac ar ôl cael ataliad ar y galon yn ysbyty'r Faenor, trosglwyddwyd fy etholwr wedyn i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd lle cliriwyd rhwystr rhydwelïol a gosodwyd dau stent. Diolch byth, mae fy etholwr yn gwneud yn dda yn dilyn ei episod feddygol ac mae ganddo lawer o ganmoliaeth i staff y GIG a helpodd i'w drin. Nawr, ar ôl iddo gysylltu â mi am help, roeddwn i'n meddwl tybed pam y byddai triniwr galwadau ambiwlans, fel yr eglurodd fy etholwr, yn cyfeirio cleifion yr amheuir eu bod yn dioddef trawiad ar y galon i'r Faenor pan nad oes arbenigwyr cardiaidd yn yr ysbyty hwnnw mewn gwirionedd? Ers hynny deallais mai dim ond rhwng 9 a.m. a 5 p.m. y caiff labordy cathetreiddio yn ysbyty'r Faenor ei ariannu, o ddydd Llun i ddydd Gwener, a boreau Sadwrn. Felly a wnewch chi ymrwymo i ystyried darparu cyllid ychwanegol i ehangu oriau agor y labordy?

Mewn ymateb i lythyr ar y mater hwn, Ysgrifennydd y Cabinet, eglurodd eich swyddfa fod byrddau iechyd wedi datblygu cynlluniau gwella gwasanaethau ambiwlansys, felly a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi yn ogystal ag Aelodau eraill yma yn y Siambr am lwyddiant y cynlluniau hyn hyd yma ac amlinellu unrhyw gamau ychwanegol y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i wella canlyniadau i gleifion? Diolch.

Diolch yn fawr. Rwy'n ofni eich bod chi'n hollol iawn, mae amser aros hirach ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys. Mae'r cyfan wedi'i gategoreiddio yn ôl materion meddygol a thechnegol iawn. Mae amser ymateb cyfartalog ar gyfer galwad goch tua 15 munud, ond yn amlwg, roedd hwn mewn categori gwahanol. Fe edrychaf i weld pam y cafodd rhywun ei anfon i'r lle anghywir. Rwy'n credu bod hon yn broblem eithaf sylfaenol. Nid yw hynny'n swnio'n iawn i mi. Felly, yn amlwg, mae angen hyfforddiant mewn perthynas â hynny os yw hynny'n digwydd. Fe edrychaf ar hynny. Yr hyn na allaf ymrwymo iddo, yn amlwg, yw ymestyn oriau labordy. Mae hynny i gyd yn golygu cyllid ychwanegol enfawr, cyllid nad ydym yn meddu arno ar hyn o bryd. Yn syml, nid oes gennym yr arian ychwanegol. Mae unrhyw beth sy'n galw am fwy o adnoddau mewn maes penodol yn anodd iawn i ni ar hyn o bryd. Ond yn sicr fe edrychaf i weld pam y cawsant eu hanfon i'r lle anghywir.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, dywedodd Robert Holcombe, pennaeth cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan—

14:50

Mae angen ichi ofyn y cwestiwn ar y papur trefn yn gyntaf, os gwelwch yn dda.

Collais y rhan gyntaf. Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n ymddiheuro.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan? OQ61208

Mae pob sefydliad GIG yn cyflwyno ei gynllun ariannol yn rhan o broses y cynllun tymor canolig integredig. Yna cynhelir monitro misol ffurfiol gan fy swyddogion drwy gydol y flwyddyn, gyda chefnogaeth ychwanegol gan weithrediaeth y GIG. Cefnogir hyn ymhellach drwy gyfarfodydd rheolaidd rhwng fy swyddogion ac uwch staff cyllid o'r bwrdd iechyd.

Diolch. Ac fe ailadroddaf, Ysgrifennydd y Cabinet, fod Robert Holcombe, pennaeth cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, wedi dweud wrth brif gyfarfod y bwrdd fod ganddo senario waethaf o ddiffyg o £60 miliwn a senario orau o ddiffyg o £48.9 miliwn. Yna aeth ymlaen i fanylu ar adroddiad mis un y bwrdd o ychydig o dan £5 miliwn, sy'n cyfateb i'r sefyllfa waethaf bosibl. Ysgrifennydd y Cabinet, bydd cyflwr ariannol bwrdd iechyd Gwent, gyda'i holl waddol diwydiannol a'i ddemograffeg poblogaeth acíwt, yn peri pryder i fy etholwyr yn Islwyn. Un agwedd a amlygwyd gan y bwrdd iechyd yw nifer y cleifion sy'n gaeth mewn gwelyau ysbyty am nad oes cynlluniau gofal ar waith iddynt ddychwelyd adref. Mae hwn yn fater endemig hirsefydlog ledled y DU, a achosir gan ddiffyg ffocws y DU ar ofal cymdeithasol, ond ar draws Gwent, roedd 289 o gleifion ddiwedd mis Ebrill, gan gostio mwy na £1 filiwn y mis a thua £15 miliwn dros y flwyddyn. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gwybod bod hyn yn ffocws cryf i Lywodraeth Cymru, ond pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd nawr i leddfu problem ddybryd oedi cyn trosglwyddo gofal? Pa welliannau brys i ofal cymdeithasol y gellir eu cyflawni nawr mewn cyd-destun datganoledig i leddfu'r pwysau ar ysbytai, ac a wnaiff hi ymrwymo i archwilio model gofal adsefydlu canolraddol Sgandinafaidd nawr?

Diolch yn fawr iawn. Rydych chi'n llygad eich lle o ran lle mae'r broblem. Yn sicr, mae oedi cyn trosglwyddo gofal yn rhywbeth rwy'n ei ystyried yn gyson, fel y mae i Dawn fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am ofal cymdeithasol. Felly, rydym yn cydweithio llawer ar hynny, ac rydym hefyd yn siarad â'r Gweinidog sy'n gyfrifol am lywodraeth leol. Nid oedi cyn rhyddhau cleifion o'r ysbyty yw'r unig ffactor sy'n effeithio ar fynediad at wasanaethau, ond mae'n sicr yn un o'r materion allweddol. Asesiadau gofal cymdeithasol yw un o'r rhesymau mwyaf am oedi cyn i gleifion adael ysbytai. Mae gennym gronfa ddata gynhwysfawr iawn nawr sy'n dweud wrthym yn union pam mae pobl yn yr ysbyty, pam eu bod yn dal i fod yno, pwy sy'n ymdrin â nhw, pwy sy'n gyfrifol am hynny, fel y gallwn ddwyn pobl i gyfrif am hynny.

Y gwir amdani yw ein bod wedi gweld gostyngiad sylweddol yn y ffigurau hyn dros y flwyddyn ddiwethaf, ond mae'n rhaid inni fynd ymhellach. Felly, yr hyn sydd ei angen arnom yw dull o weithredu ar y cyd ar hyn, ac rydych chi'n gwybod bod llywodraeth leol hefyd yn teimlo'r wasgfa, yn ogystal â'r GIG, ond mae'n bwysig, rwy'n credu, nad ydym yn tynnu ein llygad oddi ar y broblem hon. Gallaf eich sicrhau bod hyn ymhlith ein pedair prif flaenoriaeth, ac yn sicr nid yw perfformiad gofal brys ac argyfwng yn ysbyty'r Faenor lle dylai fod. Mae rhywfaint o hynny'n deillio o oedi wrth drosglwyddo gofal.

Ar y model canolraddol, nid wyf yn gwybod beth yw'r model Sgandinafaidd, ond gallaf eich sicrhau bod gennym lawer iawn o enghreifftiau o ofal canolraddol. Mae gennym gronfa gwerth £144 miliwn y gellir ond ei defnyddio os yw'r byrddau iechyd yn cydweithredu ac yn gweithio nid yn unig gydag awdurdodau lleol, ond y trydydd sector hefyd. Felly, rydym yn sicr yn y gofod hwnnw eisoes.

Cwestiwn gwych gan fy nghyd-Aelod ar draws y llawr, a dweud y gwir—rwy'n falch eich bod wedi gofyn hynny. Hoffwn ofyn cwestiwn mwy cyffredinol i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, os yw hynny'n iawn. Yn amlwg, ni allwn gael dull un maint i bawb o fonitro a chynorthwyo byrddau iechyd. Hoffwn ofyn i chi: sut ydych chi a Llywodraeth Cymru yn cydnabod anghenion penodol byrddau iechyd unigol sy'n aml yn amrywio ac yn wahanol iawn i'w gilydd?

Rydym yn monitro pob bwrdd iechyd drwy'r amser. Felly, mae gennym dîm o arbenigwyr, mae gennym weithrediaeth y GIG, ac rydym yn gwneud hynny'n rheolaidd. Rydym yn meincnodi, rydym yn gwneud cymariaethau ar ystod eang o feysydd. Rwy'n cael cyfarfodydd misol gyda chadeiryddion y byrddau iechyd bellach i'w dwyn i gyfrif am ystod eang o bethau, lle gallant weld sut maent yn perfformio mewn perthynas â'r lleill ledled Cymru. Nid dim ond fi sy'n gwneud hynny, wrth gwrs; mae prif weithredwr y GIG yng Nghymru yn gwneud yr un peth gyda phrif weithredwyr y byrddau iechyd eu hunain. Ac yna, mae swyddogion yn gwneud hynny ar lefel weithredol hefyd. Felly, mae llawer o fonitro'n digwydd ac rydym yn gweld rhywfaint o symud. Mae angen inni weld ychydig o foderneiddio, a dweud y gwir, mewn rhai amgylchiadau. Mae angen i bobl ddilyn y llwybrau clinigol gorau posibl a pheidio â chadw at yr un hen ffordd â'r arfer o wneud pethau; mae pethau'n symud ymlaen mewn meddygaeth ac mae angen iddynt symud gyda'r amseroedd. Felly, mae'n golygu monitro a sicrhau bod hynny'n digwydd. A'r hyn sy'n amlwg yw ein bod ni'n gweld amrywio go iawn ar draws Cymru, ac nid yw hynny'n dderbyniol. Nid yw'n dderbyniol i'r cleifion ac ni ddylai fod yn fater o god post, yn ôl ble rydych chi'n byw, a dyna pam mae cyfrifoldeb arnom ni, yn y canol, i sicrhau bod pob un o'r byrddau iechyd hynny'n perfformio hyd eithaf eu gallu.

14:55
Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r GIG yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ61194

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i wella mynediad at wasanaethau iechyd a gofal diogel ac amserol. Mae hyn yn cynnwys £2.74 miliwn ychwanegol i gefnogi gwelliannau mewn gofal brys ac argyfwng eleni.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Ym mis Ionawr 2022, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda amserlen ar gyfer adeiladu ysbyty newydd gorllewin Cymru. Roedd yn awgrymu amserlen o saith mlynedd o nodi'r safle terfynol i agor yr ysbyty, gyda'r nod o agor ar ddiwedd 2029. Yn dilyn cwestiwn ysgrifenedig i chi a chwestiynau a ofynnwyd i'r bwrdd iechyd gan bapur newydd The Pembrokeshire Herald, daeth yn amlwg nad oes dyddiad pendant yn bodoli ar gyfer gwneud penderfyniad terfynol ar leoliad yr ysbyty, heb sôn am unrhyw arwydd diwygiedig o ba bryd y bydd yr ysbyty'n agor, os o gwbl. Mae bwyell wedi hongian dros ddyfodol ysbytai Glangwili a Llwynhelyg ers dros 17 mlynedd bellach, gan arwain at ansicrwydd i staff a chleifion fel ei gilydd. Felly, rhowch rywfaint o eglurder: beth ar y ddaear sy'n digwydd?

Fe wnaf, ond gadewch imi eich atgoffa mai'r Ceidwadwyr a ataliodd y cynnig i godi ysbyty newydd yng ngorllewin Cymru sawl blwyddyn yn ôl. A phe bai wedi ei wireddu bryd hynny a phe na baech chi wedi arwain ymgyrch—chi, y Torïaid, wedi arwain ymgyrch yn erbyn ysbyty gorllewin Cymru—fe fyddai'n weithredol bellach. Mae'n rhaid i'r Ceidwadwyr gymryd eu cyfran o gyfrifoldeb am y ffaith nad oes ysbyty gorllewin Cymru'n bodoli eisoes. Ni fu bwyell yn hongian dros Lwynhelyg na Glangwili erioed. A gadewch imi fod yn hollol glir—[Torri ar draws.] Gadewch imi fod yn glir fod y Blaid Geidwadol yn rhannol gyfrifol am y ffaith nad oes ysbyty gorllewin Cymru yn bodoli eisoes.

Tariff Cyffuriau

9. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ynghylch y tariff cyffuriau yng Nghymru? OQ61212

Mae Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi’r tariff cyffuriau bob mis. Mae'n berthnasol i Gymru a Lloegr. Mae'n nodi faint o dâl sydd i’w roi i fferyllfeydd am foddion presgripsiwn a gwasanaethau o dan y gwasanaeth iechyd. Mae gwerth yr ad-daliadau’n cael ei adolygu a’i ddiweddaru’n rheolaidd.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ymateb yna. Fel mae hi wedi esbonio, mae'r tariff yma ar y cyffuriau yn un Cymru a Lloegr, ond, yn ôl fy nealltwriaeth i, mae'n cael ei osod yn ôl cyfartaledd y gwerthiant a ddaw o gwmnïau fferyllfa sy'n cynrychioli'r sector. Ond, does dim un o'r cwmnïau yma'n rhai sydd yng Nghymru; maen nhw'n gwmnïau mawr yn Lloegr. Felly, dydy o ddim yn adlewyrchu’r defnydd na'r gwerthiant yng Nghymru, a chanlyniad hynny ydy bod fferyllfeydd Cymru yn colli allan. Pa drafodaethau ydych chi, felly, wedi'u cael gyda'r awdurdod Prydeinig er mwyn cael tariff sydd yn adlewyrchu Cymru, neu hyd yn oed i ddatganoli hyn i Gymru?

Felly, mae'n annhebygol y bydd prisiau cyflenwyr a chyfanwerthwyr am feddyginiaethau yn amrywio rhwng Cymru a Lloegr, felly nid yw fferyllfeydd Cymru dan anfantais. Mae fferyllfeydd yng Nghymru yn gwneud tua £55 miliwn bob blwyddyn o elw argadwedig o bryniannau. Felly, er y gallant golli cyfle i brynu cynhyrchion penodol weithiau, yn gyffredinol mae mwy o achlysuron pan nad ydynt yn gwneud hynny. Ac rwy'n credu ei bod yn werth pwysleisio, rhwng 2017 a 2025, fod cyllid wedi cynyddu £21 miliwn, o £144 miliwn i £165 miliwn. Os edrychwch chi ar y cyllid fesul fferyllfa, mae'n sylweddol fwy yng Nghymru nag ydyw yn Lloegr: £317,000 ar gyfartaledd, o'i gymharu â £240,000 ar gyfartaledd.

15:00

Dyw Julie Morgan ddim yn y Siambr i ofyn cwestiwn 10 [OQ61186]. Cwestiwn 11 yn olaf, felly, Luke Fletcher.

Y Gwasanaethau Tân ac Achub

11. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio ynghylch cynnydd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â pholisi iechyd o fewn y gwasanaethau tân ac achub? OQ61211

Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau penodol gydag Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch polisi iechyd y gwasanaeth tân ac achub. Fodd bynnag, rwy'n gwbl ymwybodol o'i hymrwymiad i fynd i'r afael â risgiau i iechyd a diogelwch diffoddwyr tân drwy'r fforwm partneriaeth gymdeithasol ar gyfer gwasanaethau tân ac achub.

Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, rwy'n siŵr eich bod hefyd yn ymwybodol o'r ymchwil a wnaed gan Brifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn ac Undeb y Brigadau Tân i iechyd diffoddwyr tân yn y gweithle. Fel y soniais o'r blaen, mae achosion o ganser ymhlith diffoddwyr tân rhwng 35 a 39 oed 323 y cant yn uwch nag yn y boblogaeth gyffredinol. Mae hwnnw'n ffigur syfrdanol, felly, beth fydd hi'n ei gymryd i gael y Llywodraeth i weithredu rhaglen fonitro ataliol, fan lleiaf, ar gyfer diffoddwyr tân? Mae diffoddwyr tân yn marw nawr—dyna realiti'r canserau y maent yn eu cael yn y gweithle. Mae angen inni gyrraedd yr un lefel â gweddill Ewrop, fan lleiaf, o ran sicrhau ein bod yn monitro iechyd diffoddwyr tân fel y gallwn fynd i'r afael â'r mater hwn.

Diolch yn fawr. Ystyriodd ein fforwm partneriaeth gymdeithasol ar gyfer gwasanaethau tân ac achub astudiaethau Prifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn, gan arwain at argymhelliad ar gyfer gweithredu yn 2023. Mae'r awdurdodau tân ac achub yng Nghymru yn cymryd camau cadarnhaol sylweddol i weithredu argymhellion Undeb y Brigadau Tân, ac mae Undeb y Brigadau Tân a chyrff eraill sy'n cynrychioli diffoddwyr tân wedi'u cymeradwyo. Nawr, gwn fod y Prif Weinidog wedi nodi yn y Cyfarfod Llawn ar 23 Ebrill y byddwn yn parhau i fonitro'r argymhellion ar gyfer sgrinio canser galwedigaethol gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio yn parhau i drafod hyn drwy'r fforwm partneriaeth gymdeithasol ar gyfer gwasanaethau tân ac achub.

3. Cwestiynau Amserol

Y cwestiwn amserol sydd nesaf, i'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol ac i'w ofyn gan Sioned Williams. 

Carchar Parc EF

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am y digwyddiadau diweddar yng ngharchar Ei Fawrhydi y Parc? TQ1102

Mae gweithredu CEF y Parc wedi'i gadw'n ôl i Lywodraeth y DU. Rwy'n bryderus iawn am y digwyddiadau diweddar ac wedi gofyn am gyfarfodydd rheolaidd gyda'r uwch dimau arweinyddiaeth perthnasol.

Diolch. Mae'r sefyllfa drasig ac annerbyniol y caniatawyd iddi ddatblygu yn CEF y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn sgandal lwyr. Ddydd Mercher diwethaf, bu farw carcharor 38 oed yn y carchar, gan ddod â nifer y marwolaethau yn y carchar i 10 mewn ychydig dros dri mis. Mae naw carcharor arall wedi marw ers 27 Chwefror, gan gynnwys pedwar y credir eu bod yn gysylltiedig â chyffuriau, tra bod un aelod o staff y carchar wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â delio cyffuriau yno. Ddydd Gwener diwethaf, roedd tua 20 o garcharorion yn rhan o derfysg yn ôl y sôn; bu'n rhaid i dri charcharor gael eu rhuthro i'r ysbyty yn dilyn yr aflonyddwch. Ac er bod rhedeg carchardai yn gyfrifoldeb Llywodraeth San Steffan, dinasyddion Cymreig yw'r rhain, teuluoedd Cymreig, sy'n talu pris ofnadwy am y ffaith nad yw iechyd a diogelwch carcharorion wedi cael eu sicrhau.

Mae carchar y Parc yn cael ei redeg gan y cawr ym maes diogelwch preifat G4S a dyma'r unig garchar a weithredir yn breifat yng Nghymru. Neithiwr, fe ymddiswyddodd y cyfarwyddwr a oedd yn gyfrifol am redeg y carchar, Heather Whitehead. Pan gododd Plaid Cymru y mater hwn gyda chi ynghanol mis Mai, fe ddywedoch chi fod Llywodraeth Cymru

'yn cysylltu â Llywodraeth y DU a phartneriaid eraill i sicrhau bod camau'n cael eu cymryd yn dilyn y marwolaethau.'

Felly, pa gamau sydd wedi'u cymryd, Ysgrifennydd y Cabinet? Fe ddywedoch eich bod wedi cyfarfod â'r Gweinidog Gwladol dros Garchardai, Parôl a'r Gwasanaeth Prawf, ac wedi ysgrifennu atynt, felly, a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â sut aeth y trafodaethau hynny? A wnaethoch chi bwyso am gael dychwelyd carchar y Parc i reolaeth gyhoeddus? A ydych chi'n cefnogi galwadau a wnaed gan Blaid Cymru na ddylai cwmnïau preifat fod yn rhedeg carchardai yng Nghymru a bod y model preifat wedi methu'n llwyr yn y Parc? 

Mae Plaid Cymru yn credu pe bai gan Gymru ei system gyfiawnder ei hun, y gallem ganolbwyntio'n fwyaf effeithiol ar fynd i'r afael ag achosion sylfaenol troseddu ac aildroseddu, a phwysleisio atal yn hytrach na pharhau cylch o drais diddiwedd. A ydych chi'n cytuno y byddai rheolaeth ddatganoledig ar wasanaethau ym mhob carchar yng Nghymru yn caniatáu i bolisïau iechyd a chymdeithasol Llywodraeth Cymru gyd-fynd â chyfiawnder yn well? Yn eich ateb, pan godasom y mater hwn gyda chi fis diwethaf, ac mae cymaint wedi digwydd ers hynny, fe ddywedoch chi eich bod yn cefnogi datganoli cyfiawnder i Gymru. Felly, heddiw a wnewch chi addo cyflwyno'r achos hwnnw i Keir Starmer, os yw'n mynd i arwain Llywodraeth newydd y DU ym mis Gorffennaf?

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

15:05

Diolch. Wel, byddaf yn sicr yn cyflwyno'r achos hwnnw, fel y dywedwch, i Lywodraeth Lafur y DU gobeithio, ond byddaf yn gwneud hynny i Lywodraeth o ba liw bynnag, oherwydd credaf yn bendant fod safbwynt Llywodraeth Cymru yn glir iawn: rydym yn credu y dylai cyfiawnder a phlismona yng Nghymru gael ei redeg gan bobl Cymru er budd Cymru. Rwy'n cytuno â llawer iawn o'r hyn a ddywedoch chi. Rwy'n pryderu'n fawr fod cymaint o ddigwyddiadau yng ngharchar y Parc dros gyfnod byr, ac mae'n fy nychryn. Fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol i chi, rwyf wedi gofyn am gyfarfodydd rheolaidd gydag amrywiaeth o bobl mewn perthynas â'r carchar. Cyfarfûm â'r Gweinidog carchardai unwaith; rwyf wedi gofyn am gyfarfod gydag ef eto. Rwy'n deall ein bod yng nghanol cyfnod etholiad, ond rwy'n pryderu cymaint fel y byddwn yn awyddus iawn i gyfarfod ag ef eto. Rwyf newydd gyfarfod â chyfarwyddwr gweithredol Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yng Nghymru eto heddiw i ofyn am sicrwydd. Ni chafodd yr hysbysiad i'r wasg a gyhoeddwyd ar gyfer G4S ddoe am y cyfarwyddwr ei rannu gyda mi. Nid wyf yn credu iddo gael ei rannu gyda fy swyddogion, ond yn sicr ni chafodd ei rannu gyda mi cyn i hynny ddigwydd. Rwyf wedi gofyn i'r cynllun gweithredu y mae G4S wedi'i gyflwyno, yn dilyn eu hysbysiad gwella, i gael ei rannu gyda mi ar frys. Nid wyf yn credu y dylai elw fod yn rhan o redeg carchardai yn unrhyw le yn y DU.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r digwyddiadau diweddar yn CEF y Parc wedi bod yn destun pryder mawr ac rwy'n croesawu ymddiswyddiad cyfarwyddwr y carchar. Wrth inni aros am ganlyniad y cwestau i'r marwolaethau trasig yn y carchar, mae'n rhaid inni sicrhau bod poblogaeth bresennol y carchar a'u teuluoedd yn cael eu cefnogi'n llawn. Mae'r cyfrifoldeb am garchardai yn parhau i fod yn fater i Lywodraeth y DU, ond Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y gwasanaethau iechyd a ddarperir i'r ystad carchardai yng Nghymru. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau a gawsoch chi gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch y camau a gymerwyd i gynorthwyo iechyd meddwl y carcharorion, a'u teuluoedd, sydd wedi cael eu heffeithio gan ddigwyddiadau diweddar?

Wel, fel y dywedaf, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw gweithredu'r carchar, ac mae'n hanfodol nad yw'r staff a'r carcharorion yn cael eu heffeithio eto yn y ffordd y maent wedi cael eu heffeithio. Rwy'n sicr yn meddwl am y staff a'r carcharorion. Roedd fy nghyfarfod diwethaf gyda dirprwy gyfarwyddwyr CEF y Parc yn gyfarfod ar y cyd gyda fy nghyd-Aelod, Jayne Bryant, y Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar, i drafod hynny. Felly, o safbwynt iechyd, fel y dywedwch, Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am wasanaethau iechyd yn y carchar, ac roedd y cyfarfod a gynhaliais gyda Jayne Bryant a minnau, ynghyd â swyddogion o Wasanaeth Carchardai a Phrawf EF, a hefyd y dirprwy gyfarwyddwr, fel y dywedaf, yng ngharchar y Parc yn un defnyddiol iawn, ac yn amlwg, bydd y sgyrsiau hynny'n parhau. Rwyf wedi bod yn y swydd ers tua 10 neu 11 wythnos, a bob wythnos, mae'n ymddangos i mi fod rhywbeth sy'n fy mhryderu, ac mae gwir angen i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â hyn.

Nid yw delio cyffuriau a defnydd anghyfreithlon o gyffuriau yn gyfyngedig i garchar y Parc, ond heb os, mae'n cael ei waethygu gan y gorlenwi dybryd yn y rhan fwyaf o'n carchardai, yn ogystal â phrinder staff. Felly, mae pobl yn treulio gormod o amser dan glo yn eu celloedd, yn hytrach na chymryd rhan mewn gweithgareddau i'w hadsefydlu. O ystyried niferoedd y bobl fregus mewn carchardai—pobl â phroblemau iechyd meddwl ac anawsterau dysgu—pa sgyrsiau y gallech fod wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, o gofio bod y gwasanaethau sy'n cael eu darparu i helpu pobl gyda'u caethiwed i gyffuriau a'u hanawsterau iechyd meddwl yn cael eu rhedeg gan GIG Cymru? Roeddwn yn meddwl tybed a yw hyn yn rhywbeth y gallech ei ddwyn i sylw Will Styles, sydd wedi'i benodi'n llywodraethwr yn ddiweddar, i sicrhau bod y staff yn gallu cyrraedd yr holl garcharorion bregus, yn ogystal â gweithio'n ddiogel a pheidio â bod yn agored i drais eu hunain? 

Diolch. Byddaf yn sicr yn ceisio cyfarfod gyda Will Styles, sef, fel y dywedwch, yn gyfarwyddwr newydd CEF y Parc. Soniais yn fy ateb i Altaf Hussain fy mod wedi cael cyfarfod ar y cyd â'r Gweinidog iechyd meddwl oherwydd roeddwn yn meddwl ei bod yn bwysig iawn fod y ddwy ohonom yn mynegi ein pryder ynghylch digwyddiadau diweddar. Nid wyf am ddyfalu mewn perthynas â'r deg carcharor sydd wedi marw. Yn amlwg, mater i'r ombwdsmon yw hynny bellach. Ond mae'n amlwg fod yna fater y credaf ei fod wedi cael sylw gan y staff yn CEF y Parc. Mae'n bwysig iawn fod y gwaith hwnnw'n parhau, ac yn sicr, byddaf yn parhau i gael trafodaethau gyda'r Gweinidog.

15:10

Wrth gwrs, mae popeth sydd wedi digwydd yn y Parc nawr wedi achosi pryder difrifol i nifer o bobl. Mae G4S yn profi nad ydynt yn gallu rhedeg y carchar, yn union fel y gwnaethant brofi nad oeddent yn gallu rhedeg Birmingham, ac yn union fel Birmingham, dylid ei ddychwelyd i ddwylo'r gwasanaeth carchardai, ac allan o ddwylo preifat.

Roeddech yn sôn eich bod wedi cael cyfarfodydd gyda phartneriaid. A allwch ddweud wrthym beth a drafodwyd yn y cyfarfodydd hynny a beth y gofynnoch chi iddynt ei wneud? Ac yn olaf, rwyf am bwysleisio hefyd y cymorth sy'n cael ei roi i'r carcharorion, i'r staff yn y carchar, ond hefyd i'r teuluoedd, oherwydd rhwng popeth sydd wedi digwydd nawr, mae'n siŵr fod hyn yn cael effaith ddifrifol ar eu hiechyd meddwl.

Yn hollol. Soniais fy mod wedi cael cyfarfodydd gyda'r uwch dîm arweinyddiaeth, felly, yn amlwg, y swyddogion yn y gwasanaeth prawf, cynrychiolwyr Cymru, a chyfarfûm â'r dirprwy gyfarwyddwyr—gwnes hynny ar un achlysur—o garchar y Parc. Ac fe wnaethom drafod y pwynt a wnaethoch ynghylch yr effaith ar deuluoedd—wel, cymaint o bobl, cymunedau a theuluoedd. Maent yn gwneud gwaith, ond mae angen i'r gwaith hwnnw barhau ar frys. Ond fel y dywedais, mater i Lywodraeth y DU yw rhedeg y carchar yn weithredol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fy mod yn cyfarfod eto â'r Gweinidog prawf, plismona a charchardai. Rwy'n sylweddoli ein bod yng nghanol cyfnod etholiad, ond ni ellir tynnu llygad neb oddi ar y bêl mewn perthynas â hyn, oherwydd fel y dywedais, mae amlder y problemau sy'n destun pryder i mi yn frawychus.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 4 heddiw yw'r datganiadau 90 eiliad, ac yn gyntaf, Peter Fox.

Fe wnes i eich dychryn, Peter.

Do. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Heddiw, hoffwn dalu teyrnged i'r arwr rygbi'r gynghrair Rob Burrow CBE, dyn anhygoel a fu farw yn gynharach yr wythnos hon yn 41 oed. Roedd yn ddyn anhunanol a roddodd flynyddoedd olaf ei fywyd i godi ymwybyddiaeth o glefyd niwronau motor, cyflwr creulon a dinistriol a gymerodd ei fywyd. Cafodd Rob Burrow ddiagnosis yn 2019, ddwy flynedd yn unig ar ôl iddo ymddeol o'i yrfa 17 mlynedd yn chwarae gyda'r Rhinos a Phrydain.

Er y bydd ei gyflawniadau anhygoel mewn chwaraeon yn cael sylw am amser maith, hoffwn ddiolch iddo a thalu teyrnged i'w ysgogiad a'i benderfyniad wrth eirioli dros bobl â chlefyd niwronau motor a'r gwaith o chwilio am iachâd. Roedd yn ysbrydoliaeth i bob un ohonom, ac yn sicr i'r nifer fawr o bobl sy'n dioddef o glefyd niwronau motor, lawer ohonynt ar draws Cymru. Yn dilyn ei ddiagnosis, bu Rob Burrow yn rhan o'r ymdrech i godi'r swm rhyfeddol o £15 miliwn mewn pum mlynedd yn unig tuag at fynd i'r afael â'r cyflwr.

Y dyn hwn a wnaeth fyw bywyd i'r eithaf gydag angerdd, ysgogiad a dewrder anfesuradwy—rwyf am orffen gyda neges bwerus gan y dyn ei hun:

'Fy neges olaf i chi yw beth bynnag fydd eich brwydr bersonol, byddwch yn ddewr a'i hwynebu. Mae pob diwrnod yn werthfawr. Peidiwch â gwastraffu eiliad.'

Geiriau doeth a phwerus gan ddyn ysbrydoledig a chryf. Rydym yn diolch iddo am bopeth a wnaeth. Mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda'i deulu.

Wyth deg mlynedd yn ôl, ar 6 Mehefin 1944, yn ystod D-day, digwyddodd yr ymosodiad mwyaf o'r môr a welwyd erioed mewn hanes milwrol. Chwaraeodd milwyr o Gymru ran hanfodol yn y gwaith o ryddhau Ewrop rhag gormes y Natsïaid. Glaniodd dros 150,000 o filwyr, gan gynnwys milwyr dirifedi o Gymru, ar draethau Normandi mewn ymgyrchoedd o'r enw Utah, Omaha, Gold, Juno a Sword. Roedd y milwyr dewr hyn yn wynebu safleoedd Almaenig cadarn iawn, ac yn drychinebus, cafodd dros 10,000 o filwyr y Cynghreiriaid eu lladd ar D-Day yn unig.

Roedd dewrder milwyr Cymru ar draethau Normandi, fel 2il Fataliwn y Cyffinwyr Cymreig, yn gwbl ryfeddol. Daeth Cymru ei hun yn faes hyfforddi i'r Cynghreiriaid. Roedd lleoliadau fel y Mwmbwls yn safle ymarfer i filwyr yr Unol Daleithiau, gan efelychu popeth o ddadlwytho llongau wrth i'r gelyn saethu atynt, trin anafusion ac ymdrin â charcharorion. Cafodd ysbytai ffug eu hadeiladu hyd yn oed, fel yr un ger Caerfyrddin, ar safle Ysbyty Cyffredinol Glangwili heddiw. Roedd ymroddiad Cymru i ymdrech y rhyfel yn ddwfn. Mae'r ysbryd a'r aberth diwyro ar y traethau ac yn y ffatrïoedd a gyflenwodd yr ymosodiad yn dyst i'w rôl hanfodol yn sicrhau buddugoliaeth ar D-Day a rhyddhau Ewrop yn y pen draw, a'r rhyddid yr ydym i gyd yn ei fwynhau heddiw. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

15:15
5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Gwaith craffu blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru: 2023'

Eitem 5 yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Gwaith craffu blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru: 2023', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Llyr Gruffydd. 

Cynnig NDM8592 Llyr Gruffydd

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Gwaith craffu blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru: 2023', a osodwyd ar 16 Ebrill 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser gen i allu cyfrannu at y ddadl yma heddiw ar adroddiad blynyddol y pwyllgor ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru. Mae ein hadroddiad ni, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Ebrill, yn edrych yn ôl ar waith y comisiwn yn 2022-23 ac yn ystyried cynnydd tuag at ei raglen waith ehangach. Nawr, mae hefyd yn ystyried, wrth gwrs, dyfodol y comisiwn yng nghyd-destun ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adolygu statws, cylch gwaith ac amcanion y corff. Rŷn ni wedi gwneud naw argymhelliad fel pwyllgor. Mae tri ohonyn nhw yn argymhellion i'r comisiwn, sydd wedi ymateb yn gadarnhaol i bob un, ac mae chwech o'r argymhellion i Lywodraeth Cymru. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn pedwar o'r rheini yn llawn ac wedi derbyn dau arall mewn egwyddor.

2022-23 oedd yr ail flwyddyn yn nhymor tair blynedd y comisiwn. Pan gafodd cylch gwaith newydd y comisiwn ei osod yn 2022, ei dasg oedd ymchwilio a gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar bolisi ynni adnewyddadwy ar gyfer y dyfodol. Fe wnaeth y comisiwn ddechrau gweithio ar ynni adnewyddadwy yn gynnar yn 2022, ac fe gyhoeddodd ei adroddiad i Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2023. Ac roedd hi'n galonogol gweld bod nifer o argymhellion y comisiwn yn cyd-fynd, a dweud y gwir, â'r rhai yr oedd y pwyllgor eisoes wedi'u gwneud yn ein hadroddiadau ni ar bolisïau ynni adnewyddadwy a rheoli morol.

Nawr, ar adeg ysgrifennu ein hadroddiad ar waith y comisiwn, roedd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ynni adnewyddadwy gan y comisiwn yn hwyr, ar ôl cael ei addo erbyn diwedd mis Ionawr. Fe wnaethom ni argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i ymateb i’r comisiwn, ac o’r diwedd fe gafodd ymateb hwyr ei gyhoeddi y mis diwethaf. Er bod y pwyllgor heb gael cyfle i fynd ati ar y cyd i drafod ymateb Llywodraeth Cymru, dwi yn gobeithio na fydd ots gan aelodau'r pwyllgor fy mod i efallai yn manteisio ar y cyfle, os caf i, i wneud rhai sylwadau cyffredinol sy'n berthnasol i'n rôl ni o graffu ar y comisiwn.  

Fel pwyllgor, rŷn ni’n awyddus i ddeall effaith gwaith y comisiwn, gan edrych ar sut y mae'n dylanwadu ar syniadau a phenderfyniadau Llywodraeth Cymru. Y ffordd amlwg o wneud hyn, wrth gwrs, yw drwy ystyried faint o argymhellion y comisiwn y mae Llywodraeth Cymru wedi’u mabwysiadu ac yna eu gweithredu. Ysgrifennydd y Cabinet, mae cylch gorchwyl y comisiwn yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i, a dwi'n dyfynnu, nodi'n glir a yw'n derbyn neu'n gwrthod argymhellion y comisiwn. Mae arnaf ofn eich bod wedi methu â chyflawni'r ymrwymiad hwnnw yn yr ymateb i adroddiad y comisiwn ar ynni adnewyddadwy. A dweud y gwir, mae'n anodd gweld o'r ymateb pa rai o'r argymhellion y byddai Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â nhw, os yn wir y byddan nhw yn bwrw ymlaen ag unrhyw un ohonyn nhw o gwbl. Hoffwn i felly ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a’i chyd-aelodau o’r cabinet, a dweud y gwir, feddwl am hyn wrth ymateb i adroddiadau’r comisiwn yn y dyfodol. 

Ar y cyfan, mae’r ymateb yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn eu cymryd i gyflymu’r broses o ddefnyddio ynni adnewyddadwy. Does dim synnwyr ynghylch a fydd argymhellion y comisiwn yn helpu i gyflawni newid, na sut y bydd yn gwneud hynny. Mae hynny yn gwneud i ni wedyn gwestiynu pa effaith mae adroddiad y comisiwn wedi'i chael, te, neu a yw wedi cael unrhyw effaith o gwbl. Wrth gwrs, rwy'n siŵr y bydd gan y comisiwn ei farn ei hun am hyn hefyd, ac rwy’n gwybod y bydd y pwyllgor yn awyddus i archwilio'r safbwyntiau hynny yn ystod ein sesiwn graffu nesaf ni gyda'r comisiynwyr. 

Cyn symud ymlaen, mae'n werth sôn bod yr ad-drefnu diweddar ar bortffolios y cabinet yn golygu, wrth gwrs, er bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gyfrifol am y comisiwn, ei chyd-aelodau hi yn y cabinet fydd yn gyfrifol am ymateb i wahanol argymhellion sy’n cael eu gwneud gan y comisiwn ar faterion penodol i bolisi fel ynni adnewyddadwy, llifogydd, gwrthsefyll newid hinsawdd ac yn y blaen. Ac efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet wrth ymateb ddweud ychydig eiriau wrthym ni ynglŷn â sut y bydd hi’n gweithio gyda’ch cyd-aelodau o’r cabinet i sicrhau bod gwaith y comisiwn yn cael blaenoriaeth briodol. 

Gan droi at y mater ehangach o'r hyn sy’n dod nesaf i'r comisiwn, mae'r comisiwn yn cyflawni swyddogaeth bwysig, wrth gwrs, gan roi persbectif allanol i Lywodraeth Cymru ar anghenion seilwaith Cymru. Mae'r comisiwn presennol yn cynnwys arbenigwyr sy'n dangos ymroddiad i’w gwaith, ac angerdd am y gwaith hwnnw hefyd. Fodd bynnag, mae'r comisiwn yn fach o ran maint, ac mae ei adnoddau yn gyfyngedig, yn enwedig o'i gymharu, efallai, â chyrff â swyddogaethau tebyg, fel Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol y Deyrnas Unedig.

Fe sefydlwyd y comisiwn bron i chwe blynedd yn ôl, felly, yn enwedig wrth edrych ar y cyfnod mwy diweddar yma, bydden ni'n gallu dadlau ei fod e mewn cyfnod eginol yn dal i fod. Wedi dweud hynny, mae'r pwyllgor yn credu bod hwn yn amser da i bwyso a mesur ac ystyried a yw'n cyflawni disgwyliadau. Dwi eisiau dweud yn glir nid beirniadaeth o'r comisiynwyr yw hyn; yn hytrach, mae’n fater o sicrhau bydd y model presennol yn galluogi'r comisiwn i gyflawni ei botensial llawn dros y blynyddoedd sydd i ddod.

Mae argymhelliad 1 yn ein hadroddiad ni wedi gwneud yr hyn efallai yr oeddem ni'n bwriadu iddo fe ei wneud, sef rhoi hergwd bach i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei hymrwymiad i gynnal adolygiad cynhwysfawr o’r comisiwn cyn diwedd y flwyddyn hon. Ac rŷn ni'n falch o glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet fod gwaith cwmpasu ar gyfer yr adolygiad yna wedi dechrau. Hoffwn i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet rannu'r cylch gorchwyl, yr amserlen, ac, yn wir, unrhyw fanylion pellach am y broses adolygu yna, gyda'r pwyllgor cyn gynted ag y byddan nhw ar gael. 

Mae’r argymhellion eraill yn yr adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried materion amrywiol yn yr adolygiad, wrth gwrs. Yn gyntaf, mae cyfnod penodi comisiynwyr. Tair blynedd yw’r cyfnod ar hyn o bryd, sydd yn fyr o ystyried rôl a chylch gorchwyl y comisiwn ac o'i gymharu hefyd, wrth gwrs, â rhai aelodau eraill sy’n cael eu penodi’n gyhoeddus, fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, er enghraifft. Yn ail, yw'r amserlen i Lywodraeth Cymru ymateb i adroddiadau'r comisiwn. Mae'r amserlen bresennol o chwe i 12 mis, yn ein barn ni, yn ormodol. Rŷn ni wedi argymell amserlen ar gyfer ymateb rhwng chwe wythnos a thri mis, yn unol, wrth gwrs, â'r amserlen ar gyfer adroddiadau gan bwyllgorau'r Senedd a gan, gyda llaw, Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru.

Yn olaf, rŷn ni wedi argymell, fel rhan o’r adolygiad, y dylai Llywodraeth Cymru ystyried a yw o werth gofyn i'r comisiwn gynnal asesiad seilwaith cenedlaethol sy’n debyg i'r asesiadau pum mlynedd y mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol y Deyrnas Unedig yn eu cynnal. O ystyried y cyfyngiadau, wrth gwrs, y mae'r comisiwn presennol yn gweithredu ynddyn nhw, mi fyddai’n afresymol disgwyl iddo wneud hyn, ond, wrth i'r comisiwn esblygu, mae'n sicr yn rhywbeth rŷn ni fel pwyllgor yn credu y gallai fod yn ymarfer gwerth chweil.

Dwi'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno i ystyried yr holl faterion dwi i wedi cyfeirio atyn nhw fel rhan o'r adolygiad. Hoffwn i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet adrodd yn ôl i’r pwyllgor ar ganlyniad yr adolygiad, wrth gwrs, cyn gynted ag y bydd hynny ar gael. Dwi’n gweld dadl heddiw fel ymarfer gwrando, efallai, o ryw fath, a fydd yn helpu i lywio gwaith craffu’r pwyllgor ar y comisiwn yn y dyfodol. Ond, heb amheuaeth, mi fydd hefyd yn rhoi rhywbeth i Ysgrifennydd y Cabinet gnoi cil yn ei gylch wrth fwrw ymlaen â'r adolygiad, a dwi'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau gan yr holl Aelodau. Diolch.

15:20

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch hefyd i’r tîm pwyllgor a’n Cadeirydd am eu gwaith gyda hyn. Hoffwn ddechrau trwy gydnabod y gwaith pwysig, wrth gwrs, mae’r comisiwn isadeiledd wedi’i wneud yng Nghymru. Wrth asesu’r anghenion isadeiledd o safbwynt amgylcheddol ac economaidd, mae’n waith fydd o fudd i’n cenedl am flynyddoedd i ddod, ac mae eu ffocws nhw ar ynni adnewyddol a gwytnwch ein gwlad yn erbyn llifogydd mor eithriadol o bwysig, ac mae hynny'n bwysig ar gyfer, ie, ymateb i’r argyfwng hinsawdd, ond hefyd ar gyfer ein dyfodol ni.

Rhaid, wrth gwrs, cydnabod yr anesmwythder sydd wedi codi o ran cysylltiad comisiynydd gydag asiantaeth materion cyhoeddus sydd yn cyfrif ymysg eu cleientiaid datblygwyr ynni adnewyddol. Mae tryloywder yn hollbwysig er mwyn cadw ymddiriedaeth cyhoeddus, ac rydyn ni fel pwyllgor wedi galw am fesurau i reoli unrhyw wrthdaro buddiannau tu mewn i’r comisiwn. Nawr, rhaid i’r comisiwn, wrth gwrs, fod yn cael ei weld hefyd yn hollol annibynnol. Mae hwnna'n rhywbeth mae Dr David Clubb wedi’i ddweud, a dŷn ni'n gwybod bod hwnna yn rhywbeth mai'r comisiwn yn ymwybodol iawn ohono fe.

Hoffwn bwysleisio bod Plaid Cymru wedi chwarae rôl bwysig wrth mynnu bod NICW yn cael ei sefydlu. Cytunwyd i’r sefydliad trwy negodi cyllidol. Nawr, mae rhai problemau wedi bod gyda sut neu ym mha ffyrdd y mae e wedi’i sefydlu, trwy roi cap ar yr adnoddau a’r annibyniaeth sydd ar gael i'r sefydliad. Saif hwn mewn cyferbyniad llwyr â’r comisiwn isadeiledd yn Denmarc, sy’n cael ymddiriedaeth trawsbleidiol ac sy’n cael cymaint o ddylanwad ar bolisi. Nid unrhyw adlewyrchiad ydy hwn ar aelodau NICW na'r cadeirydd; maen nhw'n gwneud gwaith eithriadol o bwysig dan amgylchiadau anodd. Erys y broblem gyda'r ffaith bod diffyg adnoddau ar gael a diffyg pwerau. 

Nawr, yr hyn a ragwelodd Plaid Cymru fyddai corff a fyddai'n ganolbwynt ar gyfer ymgysylltu ledled y wlad, gan sicrhau bod dadleuon ar benderfyniadau dadleuol yn digwydd yn gynnar yn y broses. Byddai hefyd yn sicrhau sefydlogrwydd hirdymor y tu hwnt i gylchoedd etholiadol, ar draws gwahanol Lywodraethau.

Nawr, nid yw'n gyfrinach fod Plaid Cymru bob amser wedi hyrwyddo achos datganoli. Credwn y byddai datganoli pwerau dros seilwaith a'n hadnoddau naturiol i Gymru'n llawn yn caniatáu i benderfyniadau gael eu gwneud yn llawer mwy lleol ac effeithiol. Felly, rydym yn falch fod y comisiwn wedi cefnogi ein galwadau am ddatganoli Ystad y Goron yn llawn, ac y dylai fod yn nod i'r corff ailfuddsoddi pob cronfa yng Nghymru er budd hirdymor pobl Cymru mewn cronfa gyfoeth sofran. Byddai hynny'n ein galluogi i fynd i'r afael â heriau a chyfleoedd unigryw Cymru a sicrhau bod datblygiad ein seilwaith wedi'i deilwra i'n hanghenion penodol, gan elwa ar fanteision ariannol ein hadnoddau naturiol ein hunain ar yr un pryd wrth gwrs.

Nawr, rwy'n cydnabod bod yna waith, yn sicr, i'w wneud, ac, fel mae'r Cadeirydd wedi dweud yn barod, efallai ei fod e'n dal yn rhy gynnar i ni ddweud popeth byddwn ni ei eisiau. Dwi'n siŵr bydd ein pwyllgor ni'n cadw ymlaen i edrych ar fel mae NICW yn gweithio. Mae gen i fy ngobeithion y bydd mwy o adnoddau'n gallu bod ar gael, yn sicr, er mwyn galluogi NICW i wneud cymaint mwy o waith byth.

Felly, rydym yn croesawu adroddiad 2023 a gwaith y comisiwn. Rydym yn galw am dryloywder, am reoli gwrthdaro buddiannau cadarn a datganoli pwerau ymhellach, ac rydym yn ailddatgan ein hymrwymiad i fuddsoddi mewn seilwaith a gweithio tuag at ddyfodol cynaliadwy i Gymru. Diolch yn fawr iawn.

15:25

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Julie James.

Member
Julie James 15:27:15
Cabinet Secretary for Housing, Local Government and Planning

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn am y cyfle i ymateb ar ran Llywodraeth Cymru i'r ddadl hon heddiw i dynnu sylw at waith pwysig Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru. Hoffwn ddiolch yn fawr i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith am eu hadroddiad ar y comisiwn a'u gwaith craffu parhaus ar y prosiectau y mae'n eu cyflawni. Mae'r comisiwn, fel y dywedodd y ddau siaradwr, wedi sefydlu ei hun yn gadarn fel llais awdurdodol yn y sector sy'n cael ei barchu ac y mae rhanddeiliaid yn mynd ati'n weithredol i geisio ei farn, ac rwy'n credu bod hyn yn arwydd o aeddfedrwydd i'r sefydliad ac rydym yn gweld gwahaniaeth gwirioneddol yn sgil ei waith. 

Mae adroddiad blynyddol diweddaraf y comisiwn yn tynnu sylw at yr amrywiaeth o weithgareddau y mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru wedi'i chyflawni yn ei flwyddyn lawn gyntaf o waith, ac maent i'w llongyfarch ar ehangder y materion y mae'r tîm cymharol fach hwn wedi ymdrin â nhw. Arweiniodd blwyddyn gyntaf y comisiwn at adroddiad manwl ar ynni adnewyddadwy, a gyhoeddwyd y llynedd. Roedd hwn yn ymdrin ag amrywiaeth o agweddau'n ymwneud â strategaeth ynni, y grid, cynllunio, buddion cymunedol ac Ystad y Goron. Ddirprwy Lywydd, roeddwn yn disgwyl i'r argymhellion fod yn feiddgar, yn arloesol ac i helpu Cymru i symud ymlaen tuag at gyrraedd ein targedau ynni adnewyddadwy a thargedau lleihau carbon ehangach, ac rwy'n credu ei bod yn deg dweud eu bod yn sicr wedi gwireddu'r disgwyliad hwnnw. 

Yn ein hymateb, er na allem gytuno â'r holl awgrymiadau a gyflwynwyd, a'r rheini'n awgrymiadau radical weithiau, maent yn helpu i roi siâp i'n rhaglenni gwaith yn y dyfodol yn y maes hwn. Mae fy nghyd-Aelod—. Fel y nododd Cadeirydd y pwyllgor, mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg bellach yn gyfrifol am ynni adnewyddadwy yn Llywodraeth Cymru, a bydd yn cyfarfod â Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru i drafod sut y gallwn integreiddio eu hargymhellion yn ein rhaglenni gwaith yn y dyfodol. Mae hefyd yn destun trafod yn y cyfarfodydd rheolaidd rhyngddo ef a minnau fel rhan o'n gwaith parhaus.

Rwy'n falch iawn o ddweud bod gwaith y comisiwn seilwaith ar lifogydd hefyd yn dod i derfyn. Cam ymchwil y prosiect yw edrych ar leihau'r risg o lifogydd erbyn 2050, ac mae hwnnw bellach wedi'i gwblhau. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig a minnau'n edrych ymlaen at gael yr adroddiad gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru tuag at ddiwedd y flwyddyn hon, ac rydym yn disgwyl y bydd eu hargymhellion yn gwneud inni gnoi cil ar ffyrdd newydd o feddwl am ein hymateb i reoli llifogydd—

A gaf i—? Mae'n ddrwg gennyf, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae ychydig o sŵn yn y Siambr ac ni all y Cadeirydd glywed yr hyn rydych chi'n ei ddweud, felly, a wnewch chi ailadrodd y frawddeg ddiwethaf efallai, ac a all Aelodau yn y Siambr sicrhau eu bod yn dawel fel y gellir clywed yr ymateb?

Gallaf. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn yn dweud bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig a minnau'n edrych ymlaen at gael yr adroddiad gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ar lifogydd tuag at ddiwedd y flwyddyn hon, ac rydym yn disgwyl y bydd eu hargymhellion yn gwneud inni gnoi cil ar ffyrdd newydd o feddwl am ein hymateb i reoli llifogydd ledled Cymru. Ac er bod yr adroddiadau arwyddocaol hynny'n bwysig iawn, ac y byddant yn ein cynorthwyo i fapio ffyrdd ymlaen ar faterion polisi mawr, rwy'n credu mai un o gryfderau mawr Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yw creu dadl a thrafodaeth ar faterion cymhleth iawn. Er enghraifft, ddiwedd y llynedd, ar y cyd â'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol, cynhaliodd y comisiwn ddigwyddiad ar y Bil Seilwaith (Cymru), a arweiniodd at drafodaethau sylweddol ar gynnwys y ddeddfwriaeth ddrafft. Yn ei dro, fe wnaeth hyn helpu i lywio tystiolaeth i'r pwyllgor ar gyfer eu gwaith craffu ar y Bil.

Ac enghraifft arall o'r ffyrdd newydd y mae'r comisiwn seilwaith yn creu dadl yw trwy'r cyfryngau cymdeithasol yn gysylltiedig â blogiau i ysgogi'r meddwl y maent yn eu gwneud. Mae nifer cynyddol o'r rhain yn ymddangos ar wefan y comisiwn, a byddwn yn annog yr Aelodau i ddarllen yr erthyglau hyn sy'n ysgogi'r meddwl. Ac unwaith eto, rwy'n credu bod hyn yn brawf go iawn nad yw'r comisiwn seilwaith yn ofni gofyn cwestiynau anodd a hyrwyddo trafodaeth a dadl weithredol.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n falch iawn o ddweud nad yng Nghaerdydd yn unig y mae'r comisiwn yn cyfarfod, mae wedi bod i fyny yng nghanolbarth a gorllewin Cymru hefyd i edrych ar seilwaith ein porthladdoedd a'n heconomi wledig, gan siarad â rhanddeiliaid lleol a chael barn amrywiol ar y materion hyn. Mae gwir angen y cyfraniadau defnyddiol hyn arnom i dorri drwy'r holl gymhlethdod ac i ganiatáu argymhellion ac awgrymiadau synhwyrol a phragmataidd i Lywodraeth Cymru ar rai o'r materion amgylcheddol anoddaf sy'n effeithio arnom heddiw.

Mae adroddiad y pwyllgor a'r ddadl heddiw wedi bod o gymorth wrth asesu cynnydd y comisiwn newydd hyd yma. Mae argymhellion y pwyllgor yn cyfeirio'n aml at adolygiad Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, sydd i'w gynnal eleni, ac yn wir, mae'r cadeirydd newydd ofyn i mi'n benodol amdano, felly rwy'n falch o allu dweud bod fy swyddogion yn gweithio gyda gwasanaeth archwilio mewnol Llywodraeth Cymru i gynnal yr adolygiad hwnnw, a fydd wedi ei gwblhau erbyn diwedd 2024.

Bydd yr adolygiad yn cynnwys asesiad o gadernid trefniadau'r Llywodraeth, gwerthusiad o ystyriaethau mewnol a wneir gan y comisiynwyr, ymgysylltiad allanol â rhanddeiliaid ac ymarfer meincnodi ar draws sefydliadau tebyg. Bydd yr adolygiad hefyd yn edrych ar gylch gwaith, ffurf a swyddogaeth Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, a bydd yn gymesur o ran maint i faint y comisiwn, gan geisio amrywiaeth o safbwyntiau cyn gwneud sylwadau. Bydd y comisiwn, wrth gwrs, yn cymryd rhan lawn trwy gydol y broses hon. Ac rwyf am fod yn eglur iawn wrth ddweud y bydd hynny, wrth gwrs, yn cynnwys tymor y swydd i'r comisiynwyr, fel y soniodd y ddau Aelod a gyfrannodd.

Pan dderbyniodd y comisiwn seilwaith ei gylch gwaith newydd yn 2022, roedd yn cynnwys rhoi gorwel 80 mlynedd iddo, ymgorffori'r argyfyngau hinsawdd a natur o fewn ystyriaethau seilwaith a gwneud nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn egwyddor ysgogol i'r gwaith. Roeddem am iddo fod yn feiddgar, i fynd â'r ddadl yn rhan o feddwl arloesol a chreadigol, a gofyn cwestiynau lletchwith i'r Llywodraeth a rhanddeiliaid eraill. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud, Ddirprwy Lywydd, fod y comisiwn wedi cofleidio'r cylch gwaith hwn gyda brwdfrydedd. Maent wedi mynd ar ei drywydd yn egnïol ac yn arloesol yn eu syniadau. Ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r pwyllgor yn ei rôl o graffu ar waith y comisiwn ac yn rhoi croeso cynnes i adroddiad y pwyllgor y buom yn ei drafod yma heddiw. Diolch. 

15:30

Wel, diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi ddim yn siŵr a ydw i'n siomedig mai dim ond un Aelod sydd wedi cyfrannu at y ddadl yma, ond efallai gallwn ni gymryd hwnna fel pleidlais o hyder yn y comisiwn, yn hytrach efallai na diffyg diddordeb.

Diolch i Delyth am amlygu tryloywder. Mae hwnna'n rhywbeth y gwnaethon ni fel pwyllgor roi gryn bwysau arno fe, oherwydd mi gawsom ni sicrwydd gan y cadeirydd fod yna brosesau yn eu lle, ond mae hwnna'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni'n barhaus ei warchod, neu fod yn warchodol ohono fe.

Mi edrychwn ymlaen fel pwyllgor at weld canlyniad yr adolygiad o waith a rôl y comisiwn, yn enwedig yr elfen lywodraethiant, a’r engagement allanol yr oedd y Gweinidog, neu'r Ysgrifennydd, yn sôn amdano fe. Dwi yn meddwl bod yna efallai le i wella yn fanna. Dwi'n meddwl bod hwnna'n rhywbeth y mae'r comisiwn ei hun yn ei gydnabod a byddem yn awyddus iawn i ddeall sut, yn symud ymlaen, y mae hynny am gael ei gryfhau.

Mi soniodd y Gweinidog dipyn am sut y mae gwaith y comisiwn yn sbarduno trafodaeth. Y cwestiwn, wrth gwrs, rŷn ni fel pwyllgor yn ei ofyn yw: sut y mae gwaith ac argymhellion y comisiwn yn arwain at newid ym mholisi’r Llywodraeth? Mae hynny’n rhywbeth y byddwn ni'n parhau i gadw golwg barcud arno fe. Diolch.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, does yna ddim gwrthwynebiad, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Prif Weinidog

Eitem 6 yw'r eitem nesaf. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig yw hon ar hyder yn y Prif Weinidog, a dwi'n galw ar Andrew R.T. Davies i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8593 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod pryder gwirioneddol y cyhoedd fod y Prif Weinidog wedi derbyn rhodd o £200,000 ar gyfer ei ymgyrch i arwain y Blaid Lafur gan gwmni sy'n eiddo i unigolyn sydd â dwy euogfarn droseddol amgylcheddol, ac yn gresynu at y diffyg crebwyll a ddangoswyd gan y Prif Weinidog wrth dderbyn y rhodd hon, a'i fethiant i'w ad-dalu.

2. Yn gresynu at gyhoeddiad negeseuon gweinidogion Llywodraeth Cymru lle mae'r Prif Weinidog yn datgan ei fwriad i ddileu negeseuon a allai fod wedi bod o gymorth yn ddiweddarach i'r ymchwiliad COVID yn ei drafodaethau ynghylch y penderfyniadau a wnaed adeg y pandemig COVID, er i'r Prif Weinidog ddweud wrth ymchwiliad COVID y DU nad oedd wedi dileu unrhyw negeseuon.

3. Yn nodi diswyddiad y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol gan y Prif Weinidog o'i Lywodraeth, yn gresynu nad yw'r Prif Weinidog yn fodlon cyhoeddi ei dystiolaeth ategol ar gyfer y diswyddiad, ac yn nodi bod y cyn-Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei herbyn yn gryf.

4. Am y rhesymau uchod, yn datgan nad oes ganddi hyder yn y Prif Weinidog.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig ar y papur trefn yn enw Darren Millar, ynghylch y bleidlais o hyder yn y Prif Weinidog. A hoffwn nodi nad yw'r ddadl hon yn ymwneud â Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd; nid yw'n ymwneud â grŵp Llafur, nid yw'n ymwneud â'r Blaid Lafur; mae'n ymwneud â'r hyn y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud yn ystod ei gyfnod fel Prif Weinidog ac yn yr ymgyrch a arweiniodd at ei enwebiad a'r bleidlais i ddod yn Brif Weinidog. Mae'n ymwneud â chrebwyll, mae'n ymwneud â thryloywder, ac mae'n ymwneud â gonestrwydd—y tri chafeat allweddol hynny yr ydym wedi'u trafod a dadlau yn eu cylch dro ar ôl tro yn y Siambr hon yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac wedi ceisio atebion i'r cwestiynau y mae etholwyr yn eu gofyn i ni.

Y pwynt cyntaf ynghylch crebwyll yw’r penderfyniad a wnaeth y Prif Weinidog i dderbyn y rhodd mwyaf erioed o £200,000 i’w ymgyrch arweinyddiaeth gan unigolyn a chwmni sydd â dwy euogfarn amgylcheddol yn eu herbyn, ac sydd, fel y clywsom ddydd Llun, yn destun ymchwiliad troseddol ar hyn o bryd. A yw hynny'n dangos crebwyll, derbyn rhodd o'r fath gan rywun â hanes o'r fath? Mae rhai ar feinciau Llafur wedi nodi na fyddent wedi derbyn yr arian hwnnw. Mae rhai y tu allan i'r Siambr hon, yn y mudiad Llafur, sydd wedi nodi na fyddent wedi derbyn yr arian hwnnw. Crebwyll y Prif Weinidog wrth dderbyn yr arian hwnnw sydd wedi achosi i bobl bryderu ynglŷn â'r ffordd y mae’r Prif Weinidog wedi gweithredu. Ac yng nghyfrifon Dauson, y cwmni a wnaeth y rhodd, mae'n werth nodi eu bod yn datgan, ynghylch cyfleoedd yn y dyfodol:

'Felly, mae'r cyfleoedd allanol a grëwyd i Grŵp Dauson lwyddo yn parhau i fod wedi'u hysgogi yn bennaf gan ddeddfwriaeth'.

Mae’r arena ddeddfwriaethol y mae’r cwmni hwn yn gweithredu ynddi yn cael ei llywodraethu’n bennaf gan Lywodraeth Cymru yn unig, gan ei fod ym maes rheoli gwastraff amgylcheddol a rheoli amgylcheddol yn fwy cyffredinol. Mae hwnnw’n ddatganiad o’r cyfrifon a gyflwynwyd i Dŷ’r Cwmnïau gan y cwmni, eu bod yn gweld bod y cyfleoedd am dwf wedi'u llywodraethu gan yr amgylchedd deddfwriaethol y maent yn gweithredu oddi tano.

Mae cod y gweinidogion hefyd yn nodi, yn 1.3:

'Ni ddylai'r Gweinidogion dderbyn unrhyw rodd neu letygarwch a allai godi amheuon am ddoethineb eu barn neu a allai eu rhoi o dan rwymedigaeth amhriodol neu a allai, yn rhesymol, roi’r argraff honno'.

Mae’n mynd rhagddo, ym mharagraff 5.1, yn y cod gweinidogol, i ddatgan{

'Rhaid i'r Gweinidogion sicrhau na fydd gwrthdaro, nac y gellid yn rhesymol gael yr argraff bod gwrthdaro, rhwng eu dyletswyddau cyhoeddus a'u buddiannau preifat—yn ariannol neu fel arall. Cyfrifoldeb personol pob un Gweinidog yw penderfynu a oes angen gweithredu a pha gamau y mae angen eu cymryd er mwyn osgoi gwrthdaro neu argraff o wrthdaro, gan ystyried cyngor a gafwyd gan yr Ysgrifennydd Parhaol.'

Dyna sy’n llywodraethu yng nghod y gweinidogion.

Hefyd, mae yna ganfyddiad eto o’r cwmni hwn a wnaeth y rhodd o £200,000 yn cael benthyciad o £400,000 gan Fanc Datblygu Cymru. Banc pan fetho popeth arall yw Banc Datblygu Cymru. Mae'n rhaid eich bod wedi mynd drwy'r holl gyfleoedd masnachol eraill cyn ichi ofyn am fenthyciad gan y banc hwnnw. Felly, mewn cyfnod byr—sawl mis—cafodd y cwmni hwnnw fenthyciad o £400,000 yr oedd Gweinidog yr economi yn atebol amdano fel y Gweinidog a oedd yn gyfrifol am Fanc Datblygu Cymru. Ac eto, yn yr un flwyddyn, gwnaethant gyfraniad o £200,000 i'w ymgyrch arweinyddiaeth. Byddai'r rhan fwyaf o bobl resymol yn cwestiynu beth oedd yn cael ei sicrhau gan y rhodd o £200,000 i'r ymgyrch arweinyddiaeth. Byddai unrhyw unigolyn rhesymol yn ffurfio'r farn honno, ac rwy'n awgrymu i'r Senedd heddiw nad yw’r Prif Weinidog wedi gallu rhoi atebion boddhaol i hynny.

Yna, symudwn at dryloywder. Clywsom drwy’r wasg, ym mis Awst 2020, fod llawer o negeseuon iMessage mewn grŵp negeseua gweinidogol, fod llawer o sgwrsio ar y grŵp negeseua gweinidogol hwnnw, ac ar ddiwedd y grŵp negeseua hwnnw, fod neges gan y Prif Weinidog, a oedd yn Weinidog iechyd ar y pryd, yn dweud y gellir cael gafael ar y negeseuon o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, ac y byddai, o'r herwydd, yn dileu’r negeseuon hynny. Mae hynny’n dangos ei feddylfryd ar y pryd, ei fod yn ceisio osgoi'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Mae hefyd yn diystyru'r cyngor a roddwyd gan brif swyddog moeseg Llywodraeth Cymru yn 2019 y dylai unrhyw gyfathrebu electronig gael ei nodi a’i gadw er mwyn cyfeirio ato yn y dyfodol, pe bai unrhyw ymholiadau’n galw am y wybodaeth honno.

Nawr, gwyddom fod yr ymchwiliad COVID wedi gofyn am lawer o negeseuon gan Lywodraethau ledled y Deyrnas Unedig, nid yn unig Llywodraeth Cymru, ond Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, a dyma enghraifft, yng ngeiriau’r Prif Weinidog ei hun, o ddileu negeseuon gan y gellid cael gafael arnynt o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Nid fy ngeiriau i; geiriau'r Prif Weinidog. Dyna'r pwynt ynghylch tryloywder.

Y pwynt olaf yw’r pwynt ynghylch gonestrwydd—gonestrwydd ynglŷn â phwy sy’n dweud y gwir o ran y Prif Weinidog yn diswyddo ei Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol rai wythnosau'n ôl. Nawr, ni allwch gael pethau'n cael eu datgelu'n answyddogol mewn Llywodraeth; mae gennych gyfrifoldeb cyfunol. Ni allwch gael pethau'n cael eu datgelu'n answyddogol o blaid wleidyddol. Os yw’r dystiolaeth yn ddigon cryf, rwy'n derbyn bod yn rhaid i rywun adael y sefydliad hwnnw neu adael y Llywodraeth honno. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Nid wyf yn dadlau y gallwch barhau i fod yn rhan o Lywodraeth os ydych chi'n datgelu gwybodaeth yn answyddogol ohoni. Ond mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn mynnu na ddatgelodd hi'r wybodaeth honno. Dyna ei sylw cyhoeddus, ac mae’n cloi’r sylw cyhoeddus hwnnw drwy ddweud mai uniondeb yw popeth mewn bywyd cyhoeddus a bod ei huniondeb hi'n gyfan.

Felly, beth ydym i'w gredu yma? Mae gennym un Gweinidog yn dweud na ddatgelodd unrhyw beth a bod ei huniondeb yn gyfan; mae gennym y Prif Weinidog yn dweud bod ganddo dystiolaeth i ddangos ei bod wedi datgelu'r wybodaeth. Cyhoeddwch y dystiolaeth honno, Brif Weinidog. Clywais gadeirydd y grŵp Llafur ar Radio Wales y bore yma, yn dweud ei bod wedi gweld y dystiolaeth a’i bod wedi’i bodloni ar ôl gweld y dystiolaeth honno. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn synnu at hynny. Gallaf ddeall pam y byddai’r Prif Weinidog yn rhannu’r dystiolaeth â chyd-Aelodau o'r Cabinet, oherwydd eu cyfrifoldeb cyfunol, ond mae clywed bod Aelod o feinciau cefn Llafur wedi gweld y wybodaeth honno, ac eto nid yw pobl Cymru na chyd-Aelodau eraill o'r Senedd hon wedi gallu gweld y dystiolaeth honno, i gadarnhau'r gwirionedd, yn dangos diffyg parch enfawr yn fy marn i.

Nid gimig mo hyn. Mae'n gynnig a wneir yn amser y gwrthbleidiau, ac efallai nad yw'n rhwymol, ond bydd yn anfon neges arwyddocaol ar dryloywder, gonestrwydd a chrebwyll y Prif Weinidog ers iddo ddechrau yn ei swydd.

15:40

Nid gimig mo hynny. Soniwyd am hyn cyn yr etholiad cyffredinol, a chlywais yr hyn a ddywedodd yr Aelod dros Ddwyrain Abertawe. Un peth a welsom ar y negeseuon iMessage hynny oedd y sylwadau dirmygus a wnaed am yr Aelod dros Ddwyrain Abertawe, a defnyddio’r algorithm i ethol yr Aelod dros Ddwyrain Abertawe. Rwy'n synnu ei fod yn siarad yn y fath gywair yma heddiw. [Torri ar draws.]

Rwyf wedi nodi'r pwyntiau gerbron y Senedd heddiw. Mater i fy nghyd-Aelodau fydd penderfynu sut y dymunant bleidleisio. Ond mae a wnelo â chrebwyll, tryloywder a gonestrwydd. Dyna’r tri phwynt ger ein bron. Nid ymgyrchu etholiad cyffredinol mohono. Nid yw’n bleidlais o hyder yn y Llywodraeth. Nid yw’n bleidlais o hyder yn y grŵp Llafur na’r Blaid Lafur. Mae a wnelo â’r hyn y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud a’r penderfyniadau y mae wedi’u gwneud. Ac rwy'n gobeithio y gallwn ennill hyder y Senedd a chefnogaeth fwyafrifol i'r cynnig hwn, ac y bydd y cynnig o ddiffyg hyder yn llwyddo, ac rwy'n annog yr Aelodau i’w gefnogi.

Mewn 25 mlynedd o ddatganoli, rydyn ni wedi bod yn gymharol ffodus mai ychydig iawn o sgandalau ariannol sydd wedi heintio gwleidyddiaeth y Senedd. Rydyn ni'n ffodus bod gwrthbleidiau wedi gallu craffu, anghytuno, ie, cydweithio, wrth gwrs, ond hefyd wedi gallu cynnig atebion amgen i Lywodraeth y dydd heb orfod gofyn ond un waith o'r blaen a ydy arweinwyr y Llywodraethau hynny, ydy'r Prif Weinidogion, drwy eu gweithredoedd nhw, yn haeddiannol o ymddiriedaeth y Senedd.

Mae heddiw, felly, yn ddiwrnod difrifol iawn yn hanes y Senedd, am ein bod ni o'r farn bod y Prif Weinidog wedi colli nid yn unig ein hyder ni, ond yn bwysicach o lawer, hyder y bobl mae'n atebol iddyn nhw: dinasyddion Cymru.

Nid oes unrhyw un yma y tu hwnt i waradwydd. Rwyf wedi rhoi llawer o feddwl i'r cyd-destun rwy'n siarad ynddo gerbron y Senedd heddiw. Beth yw'r safonau a ddefnyddiwn i fesur ein harweinwyr gwleidyddol? Gallem ystyried saith egwyddor bywyd cyhoeddus Nolan. Gadewch inni edrych ar y cyntaf, anhunanoldeb. Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus weithredu er budd y cyhoedd yn unig. A oedd penderfyniad y Prif Weinidog i dderbyn rhodd o £200,000 i'w ymgyrch gan rywun a gafwyd yn euog o lygru yn un a wnaed er budd y cyhoedd?

Gadewch inni edrych ar ail egwyddor Nolan, uniondeb. A chofiwch, ar y cyntaf, mae’r Prif Weinidog yn gwadu gwneud unrhyw beth o’i le. Yr ail egwyddor yw:

'Ni ddylai deiliaid swyddi cyhoeddus eu rhoi eu hunain o dan unrhyw rwymedigaeth i bobl neu sefydliadau a allai geisio dylanwadu'n amhriodol arnynt wrth iddynt wneud eu gwaith.'

Unwaith eto, rwy'n ailadrodd honiad y Prif Weinidog na ddigwyddodd unrhyw beth amhriodol. Ond os ceir canfyddiad fod yr arian wedi'i dderbyn, mae hynny ynddo’i hun yn tanseilio uniondeb swydd y Prif Weinidog. Ac wrth gwrs, mae canllaw arall ar sut y gallwn ddwyn ein harweinwyr i gyfrif, cod y gweinidogion, yn nodi’n glir mai:

'Cyfrifoldeb personol pob un Gweinidog yw penderfynu a oes angen gweithredu a pha gamau y mae angen eu cymryd er mwyn osgoi gwrthdaro neu argraff o wrthdaro, gan ystyried cyngor a gafwyd gan yr Ysgrifennydd Parhaol.'

Nid yw amddiffyniad y Prif Weinidog na thorrwyd unrhyw reolau yn amddiffyniad os yw'r cyhuddiad yn ymwneud â chanfyddiad. Nesaf, atebolrwydd:

'Mae deiliaid swyddi cyhoeddus yn atebol i’r cyhoedd am eu penderfyniadau ac am yr hyn y maent yn ei wneud a rhaid iddynt ganiatáu i eraill graffu arnynt yn y modd sydd ei angen er mwyn sicrhau hynny.'

Nid oes angen imi atgoffa’r Senedd hon fod y Prif Weinidog wedi cwestiynu gweithredoedd Aelodau’r gwrthbleidiau a newyddiadurwyr yn gyson wrth iddynt geisio ei ddwyn i gyfrif. Yn yr un modd, mae’r egwyddor o fod yn agored wedi’i thanseilio gan y Prif Weinidog dros yr wythnosau diwethaf. Mae’n datgan:

'Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus weithredu a gwneud penderfyniadau mewn modd agored a thryloyw. Ni ddylai gwybodaeth gael ei chadw rhag y cyhoedd oni bai bod rhesymau clir a chyfreithlon dros wneud hynny.'

Yn yr achos hwn, mae'n rhaid inni ofyn pam y gwnaeth y Prif Weinidog ddileu ei negeseuon WhatsApp a dewis peidio â rhoi gwybod i ymchwiliad COVID y DU, a pham fod y Prif Weinidog mor gyndyn o gyhoeddi manylion yr ymchwiliad i'r achos o ddatgelu gwybodaeth yn answyddogol a arweiniodd at ddiswyddo Hannah Blythyn. Ac yn hollbwysig, wrth gwrs, mae gennym egwyddor arweinyddiaeth. At ei gilydd, ni chredaf fod diffyg crebwyll ac edifeirwch y Prif Weinidog, ynghyd â'i amharodrwydd i ymateb wrth wynebu dicter o bob ochr i’r Siambr a’r cyhoedd yng Nghymru, yn dangos y set sgiliau ofynnol ar gyfer deiliad swydd y Prif Weinidog.

Fel y dywedais, mae heddiw'n ddiwrnod difrifol yma yn y Senedd mewn sawl ffordd. Nid yw hyn yn ymwneud â gwleidyddiaeth bleidiol lwythol, mae a wnelo ag enw da’r Llywodraeth, ac yn bwysicach fyth, yr unigolyn yn y swydd uchaf yn y Llywodraeth honno, y mae disgwyl iddynt, yn gywir ddigon, osod esiampl ar gyfer y Llywodraeth honno. Mae'n rhaid inni fod yn wahanol i San Steffan, nid yn unig mewn geiriau, ond mewn gweithredoedd hefyd, ac yn hynny o beth, mae’r bleidlais heddiw yn nwylo’r Blaid Lafur. Heddiw, rydym ni ar y meinciau hyn yn credu’n gryf ein bod yn gweithredu er budd pobl Cymru. Nid oes unrhyw amheuaeth gennyf eu bod, fel ninnau, wedi colli hyder yn ein Prif Weinidog.

15:45

Mewn 29 diwrnod, bydd pobl Cymru a’r DU yn cael pleidleisio mewn etholiad cyffredinol—yr etholiad cyffredinol pwysicaf ers 1997, gellid dadlau, cyfle i gael gwared ar Lywodraeth Dorïaidd drychinebus o'r wlad hon. Mae’n Llywodraeth sydd wedi bod yn gyfrifol am ddirywiad mewn safonau byw am y tro cyntaf ers yr ail ryfel byd, Llywodraeth sydd wedi chwalu’r economi gyda mini-gyllideb drychinebus Liz Truss, a arweiniodd at gost morgeisi a rhenti’n codi’n aruthrol, Llywodraeth sydd, hyd yn oed cyn COVID, wedi bod yn gyfrifol am gwymp mewn disgwyliad oes am y tro cyntaf ers yr ail ryfel byd, Llywodraeth sydd wedi torri cannoedd o filiynau o bunnoedd mewn termau real o gyllid Llywodraethau Llafur olynol yma yng Nghymru, gan osod rhwystr ar ein gallu i ddarparu’r gwasanaethau cyhoeddus y mae ein cenedl yn dibynnu arnynt. Gyda’r Blaid Dorïaidd yn gwneud yn wael iawn mewn arolygon barn ac yn wynebu’r posibilrwydd o gael ei dileu oddi ar y map etholiadol yng Nghymru ar 4 Gorffennaf, fel a ddigwyddodd ym 1997, nid yw’n syndod y byddant yn gwneud unrhyw beth, unrhyw beth o gwbl, i geisio tynnu'r sylw oddi ar eu record eu hunain o fethiant enbyd, methiant sy'n effeithio'n uniongyrchol ar fywydau a chyfleoedd bywyd pob unigolyn yma yng Nghymru.

Ac felly, down at y cynnig hwn ger ein bron heddiw. Gwleidyddiaeth ar ei gwaethaf. Gimig Torïaidd sinigaidd i dynnu'r sylw oddi ar drafferthion Rishi Sunak a'i gyfeillion hynod gyfoethog. Vaughan Gething yw arweinydd Llafur Cymru, ac fe'i hetholwyd yn ddemocrataidd. Llafur Cymru yw plaid y Llywodraeth, a etholwyd yn ddemocrataidd, ac yn yr 11 wythnos ers dod yn Brif Weinidog, mae Llywodraeth flaengar Vaughan Gething wedi bod yn gweithio’n galed, yn gwrando ar bobl Cymru ac yn cyflawni ar eu rhan: yn gwrando ar ffermwyr am y cynllun ffermio cynaliadwy ac yn cymryd amser i oedi i sicrhau bod y cynllun yn addas; yn gwrando ar ddefnyddwyr ffyrdd a cherddwyr mewn perthynas â'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya, yn gweithio gyda nhw a chydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y canllawiau’n addas i’r diben ac y gellir mynd i’r afael ag unrhyw anawsterau; yn gwrando ar ddisgyblion, rhieni ac athrawon mewn perthynas â'r newidiadau arfaethedig i’r flwyddyn ysgol, yn gwrando ar ganlyniadau’r ymgynghoriad ac yn oedi i roi'r amser sydd ei angen ar ein hysgolion i roi'r llu o newidiadau yr ydym eisoes wedi gofyn iddynt eu gwneud ar waith; yn gwrando ar feddygon ymgynghorol ac yn gwneud pob ymdrech i geisio dod i gytundeb er mwyn osgoi streiciau pellach yn y GIG.

Lywydd, rwyf bob amser wedi bod yn falch o fod yn Aelod o'r Senedd hon, rwyf bob amser wedi bod yn falch o fod yn Aelod o'r grŵp Llafur hwn, ac am y saith mlynedd diwethaf, rwyf wedi bod yn falch o gadeirio grŵp Llafur y Senedd. Ond nid wyf erioed wedi bod yn fwy balch o gyfeiriad teithio polisïau Llywodraeth Lafur Cymru nag ar hyn o bryd. Credaf y byddai’n drychineb pe bai’r gimig hwn o gynnig Torïaidd, nad yw’n rhwymol, yn cael ei ddefnyddio i wyrdroi democratiaeth ac atal ein harweinydd, a etholwyd yn ddemocrataidd gan aelodau’r blaid ac undebau llafur cysylltiedig, a Llywodraeth Lafur Cymru, a etholwyd yn ddemocrataidd gan ddinasyddion Cymru, rhag cyflawni addewidion ein maniffesto. Pan fyddaf yn curo ar ddrysau yng Nghwm Cynon ac yn siarad â phobl yno, fel y gwnaf bob penwythnos, ac yn gynyddol, bellach, ar nosweithiau'r wythnos hefyd, mae'r materion y maent am sôn amdanynt yn glir: yr argyfwng costau byw; Llywodraeth Dorïaidd sydd wedi newynu ein gwasanaethau cyhoeddus ac wedi dod â’r wlad i’w gliniau; eu gobeithion am Lywodraeth Lafur yn y DU, dan arweiniad Keir Starmer, a all gydweithio â Llywodraeth Lafur Cymru i wella safonau byw ac adfywio ein gwasanaethau cyhoeddus. Ac felly, byddaf i, ynghyd â fy nghyd-Aelodau Llafur yng Nghymru, yn pleidleisio yn erbyn y cynnig Torïaidd sinigaidd a disylwedd hwn heddiw, sydd, yn anffodus, yn cael ei gynorthwyo a’i gefnogi gan Blaid Cymru, wrth inni barhau â’n hymrwymiad i sicrhau Cymru gryfach, decach, wyrddach, gryfach a mwy llewyrchus.

15:50

Mae hon yn foment ddigynsail yn hanes datganoli yng Nghymru. Gadewch inni beidio ag anghofio pam fod y ddadl hon yn cael ei chynnal yma heddiw: derbyniodd y Prif Weinidog rodd o £200,000 ar gyfer ei ymgyrch arweinyddiaeth gan gwmni sy’n eiddo i rywun â dwy euogfarn droseddol amgylcheddol yn eu herbyn; rhannodd y Prif Weinidog yn breifat ei fod yn bwriadu dileu negeseuon o’i gyfnod fel Gweinidog iechyd yn ystod pandemig, cyn dweud wrth ymchwiliad COVID y DU na ddileodd unrhyw negeseuon; a diswyddodd y Prif Weinidog Weinidog o’i Lywodraeth, ond mae’n gwrthod cyhoeddi unrhyw dystiolaeth i gefnogi ei diswyddiad er gwaethaf protestiadau a gwadiadau’r Gweinidog.

Mae'r ddadl hon heddiw yn ymwneud â mwy na gwahaniaeth barn wleidyddol. I mi, mae'n ymwneud â thri pheth sy’n hollbwysig i’r rôl sydd gennym yn y Siambr hon, yn enwedig rôl y Prif Weinidog, sef uniondeb, cyfrifoldeb ac atebolrwydd. Uniondeb yw ymlyniad at egwyddorion moesol a moesegol, y safon uchel y disgwylir i bob un ohonom gadw ati, ac fe’i heglurir ymhellach gan egwyddorion Nolan, y soniodd Rhun ap Iorwerth amdanynt yn gynharach, fel bod yn rhaid i ddeiliaid swyddi cyhoeddus osgoi bod o dan unrhyw rwymedigaeth i bobl neu sefydliadau a allai geisio, yn amhriodol, ddylanwadu arnynt yn eu gwaith. Ac mewn swyddi cyhoeddus, nid yn unig ein bod yn glynu'n agos at reol a llythyren yr hyn a ddisgwylir—mae disgwyl inni ddwyn ein hunain a'n gilydd i safon uwch o ganfyddiad a chrebwyll. Y patrwm hwn o ganfyddiad a chrebwyll a ddangoswyd gan y Prif Weinidog sy'n peri pryder mawr, ac mae'n amlwg yn rhywbeth sy'n peri pryder i lawer iawn o bobl ledled Cymru.

Mae'r mater wedi'i waethygu, oherwydd ers i’r cynnig hwn gael ei gyflwyno gyntaf, mae ymchwiliad gan BBC Wales wedi datgelu bod y cwmni a wnaeth y rhodd yn gysylltiedig ag ymchwiliad troseddol ar y pryd. Er yr ymchwiliad troseddol hwnnw, barnwyd ei bod yn dderbyniol derbyn symiau sylweddol o arian. Yn yr un modd, mae dileu negeseuon WhatsApp a'r cyhuddiad posibl o gamarwain ymchwiliad cyhoeddus yn peri cryn bryder, a dweud y lleiaf. Mae Covid-19 Bereaved Families Cymru yn grŵp sydd wedi cael eu siomi'n arw gan hyn. Mewn datganiad, roeddent yn dweud:

'Sut y gallwn fod ag unrhyw hyder nawr y cawn ddarganfod beth a ddigwyddodd i'n hanwyliaid? Mae’n ergyd dorcalonnus i deuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth yn sgil Covid yng Nghymru’.

Wedi’r cyfan, pobl sy’n dioddef a phobl sy’n ddioddefwyr yw’r rhai rydym yma i’w cynrychioli, y rhai rydym yn ceisio gwneud ein gorau drostynt. Nid yw'n dderbyniol cael eich gweld yn eu camarwain nhw a'r wlad ar fater o arwyddocâd cenedlaethol.

Dyma lle deuaf at fy ail bwynt ynghylch cyfrifoldeb, gan fod y ffaith bod y negeseuon hynny wedi’u datgelu wedi caniatáu i’r cyhoedd weld nad oedd geiriau’r Prif Weinidog yn cyd-fynd â'i weithredoedd, a’i ymateb i’r datgeliad hwnnw oedd diswyddo Gweinidog sydd wedi gwadu ei bod wedi gwneud unrhyw beth o'i le, ac eto, ni chyhoeddwyd unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r penderfyniad. Gallai ddechrau peintio darlun o rywun nad ydynt yn fodlon cymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd gwleidyddol eu hunain ond sy'n beio eraill yn lle hynny. Ac yn y lle hwn, rydym yn aml yn clywed yr ymadrodd, 'Rydym yn gwneud pethau'n wahanol yma yng Nghymru.' Rwyf i'n bersonol yn gobeithio bod hyn yn wir, gan yr hoffwn weld math o arweinyddiaeth sy’n llawn uniondeb, sy'n cymryd cyfrifoldeb am ei gweithredoedd, ac sy’n atebol amdanynt wedyn.

Dechreuais gyda diffiniad o uniondeb yn fy nghyfraniad. Rwyf am gloi gyda diffiniad o atebolrwydd, sef cydnabod a derbyn cyfrifoldeb am weithredoedd a phenderfyniadau. Mae’n amlwg i mi fod camau wedi’u cymryd a phenderfyniadau wedi’u gwneud nad ydynt yn ddim byd i fod yn falch ohonynt, ac mae pobl Cymru yn haeddu gwell. Gobeithio y bydd yr Aelodau heddiw'n cefnogi safonau uwch na’r hyn a glywsom yma heddiw mewn swyddi cyhoeddus, ac yn cefnogi’r cynnig hwn o ddiffyg hyder.

15:55

Credaf fod uniondeb, parch, crebwyll ac amseru yn bopeth. A beth rydych chi wedi'i wneud heddiw? Roedd fy nhad yn rhan o laniad D-day. Cyn hynny, bu'n garcharor rhyfel am bedair blynedd. Yr hyn rydych chi wedi'i wneud heddiw yw dod â'r ffocws yma. Rydych chi wedi atal pobl fel fi rhag cael eu cynrychioli gan y Prif Weinidog i lawr yn Portsmouth. Treuliais y bore yma yn gwylio'r cyn-filwyr hynny. Pe bai fy nhad wedi goroesi a byw'n ddigon hir, byddai wedi bod yn un ohonynt. Gallaf ddweud wrthych nawr beth fyddai meddwl o'ch gweithredoedd. Byddai wedi meddwl eu bod yn gwbl amharchus i bob cyn-filwr, i holl bersonél y lluoedd arfog yr ydych chi'n honni ar y meinciau hynny dro ar ôl tro eich bod yn malio amdanynt. Wel, nid ydych. Rydych chi wedi dewis y diwrnod hwn. Gallech fod wedi dewis unrhyw ddiwrnod arall. Ni fu prinder cyfleoedd i chi wneud y stỳnt hon a wnewch heddiw, ond fe ddewisoch chi'r diwrnod hwn.

Yr hyn a ddywedaf wrthych yw hyn: ni fyddaf byth yn maddau i chi am wneud yr hyn a wnaethoch heddiw o bob diwrnod. Dylai fod cywilydd arnoch am atal Cymru rhag cael ei chynrychioli gan eu Prif Weinidog yn Portsmouth. Dyna sydd angen i chi—[Torri ar draws.] Nid wyf yn derbyn ymyriad. Cawsoch ddigon o amser i feddwl am yr hyn roeddech chi'n ei wneud pan oeddech chi'n ei wneud, pam oeddech chi'n ei wneud, ac ar bwy y gallai effeithio. Gŵyr pawb yn y Siambr hon, gan fy mod wedi sôn sawl tro, fod fy nhad yn y rhyfel. Gŵyr pawb fod tadau pobl eraill yn Siambr hon hefyd wedi ymladd yn y rhyfel. Dylai'r Prif Weinidog o leiaf fod wedi cael y cyfle. Pam nad yw wedi cael y cyfle hwnnw? Gan i chi ei amddifadu ohono. Fe wnaethoch chi ei amddifadu o'r cyfle, ac fe wnaethoch chi amddifadu pobl Cymru rhag rhoi eu dymuniadau gorau yn Portsmouth heddiw. Mae fy merch yn byw heb fod ymhell oddi yno, a gallaf ddweud wrthych, os ydych chi'n credu mai dim ond yma yng Nghymru y mae hyn i'w deimlo, rydych chi'n anghywir. Mae'r wlad gyfan yn edrych arnom heddiw, ac maent yn gwybod bod eich gweithredoedd chi—eich gweithredoedd chi—gan wybod pa ddiwrnod oedd hi, wedi atal hynny rhag digwydd. Ni chewch faddeuant am hynny.

16:00

Heledd Fychan. [Torri ar draws.] Rwyf wedi bod yn oddefgar iawn o aelodau yn yr oriel gyhoeddus yn cymeradwyo cyfraniadau. Os gallwn ganiatáu i'r drafodaeth ddemocrataidd yn y Siambr hon barhau heb gymeradwyaeth. Rydych chi wedi cael eich dau gyfle, mae hynny'n wych, ac rwy'n ddiolchgar eich bod wedi dod yma y prynhawn yma, ond os gallwn ganiatáu i'r ddadl barhau nawr heb unrhyw gymeradwyaeth bellach, os gwelwch yn dda. Heledd Fychan.

Diolch, Llywydd. Mae rhai gwleidyddion yn hoffi ymosod ar bobl o bleidiau eraill ar unrhyw achlysur ac yn gweld gwleidyddiaeth fel gêm. Dydw i ddim. Ers cael fy ethol i’r Senedd hon, dwi wedi ceisio bod yn deg ac adeiladol bob tro—herio pan fo angen, cwestiynu'n galed pan fo angen, ond hefyd cefnogi a chydweithio gydag Aelodau o bleidiau eraill lle mae cytundeb rhyngom. Dyna pam fod well gen i’r Senedd hon nag un San Steffan a’r math o ddemocratiaeth sydd gennym yng Nghymru. Nid ar chwarae bach, felly, dwi’n sefyll ar fy nhraed heddiw i ddatgan nad oes gen i hyder yn ein Prif Weinidog, a fy mod i'n credu, er mwyn enw da y Senedd hon, na all y Prif Weinidog barhau yn y swydd bwysig hon—swydd bwysicaf ein cenedl.

Dim ots pa mor aml y dywedith y Prif Weinidog nad yw pobl yn malio dim am darddiad y £200,000 na chwaith faint a wariwyd ar ei ymgyrch, dydy hynny jest ddim yn wir. Gofynnwch y cwestiwn i bobl yn fy rhanbarth—ym marchnad Pontypridd, ar strydoedd yn y Rhondda, Cwm Cynon, Bro Morgannwg ac yn ein prifddinas—ac mae’r ateb yn glir: ni ddylai’r Prif Weinidog fod wedi derbyn yr arian ac ni ddylai chwaith fod wedi gwario gymaint.

Dywed y Prif Weinidog dro ar ôl tro na wnaeth dorri unrhyw reolau. Ond, yn sicr, fe dorrwyd ysbryd rheolau gwariant ymgyrch arweinyddol eich plaid eich hun drwy ddefnyddio loophole yn y rheolau, gan nad oedd gwariant ar staff yn cael ei gynnwys yn yr uchafswm. Plygu'r rheolau, neu ffeindio ffordd o'u hamgylch, a hynny heb falio dim. Ac wedyn, wrth gwrs, mae yna gwestiynau ynglŷn â gwrthdaro buddiannau posibl y rhodd dan sylw a pham fod y Prif Weinidog yn credu ei fod yn briodol ac yn iawn derbyn arian gan gwmni oedd yn cael ei redeg gan rywun sydd wedi ei ganfod yn euog o dorri’r gyfraith am lygru amgylcheddol, a’i fod yn gwybod hynny.

Yn sicr, Brif Weinidog, pan ydych chi'n parhau i amddiffyn y penderfyniad i dderbyn yr arian, rhaid eich bod yn deall pam fod pobl yn cwestiynu eich crebwyll a'ch ymagwedd ddi-hid tuag at roddion. Naill ai ni ddigwyddodd diwydrwydd dyladwy neu nid oedd ots gennych o ble y daeth yr arian. Ennill oedd popeth ac nid oedd unrhyw beth arall yn bwysig. Ac er ein bod wedi arfer gweld hyn yn digwydd yn San Steffan, nid yw'n iawn ac nid dyna sut rydym am i wleidyddiaeth gael ei wneud yma yng Nghymru. Mewn gwirionedd, mae hyd yn oed eich meistri yn Llundain yn deall pa mor faeddedig yw'r arian, fel sy'n amlwg o'r ffaith nad ydynt eisiau'r £31,600 a oedd dros ben. Plaid wleidyddol nad yw eisiau arian yn ystod ymgyrch etholiad cyffredinol—rhyfeddol.

Nid oedd angen inni gyrraedd y pwynt hwn o bleidlais o ddiffyg hyder, ac rwy'n drist ei bod hi wedi dod i hyn. Pan ddaeth y rhodd gan Dauson i'r amlwg yn ystod yr ymgyrch arweinyddiaeth a phan gafwyd gwrthwynebiad cyhoeddus, gan gynnwys gan aelodau Llafur, gallai fod wedi cael ei dalu'n ôl cyn cael ei wario. Gallai'r Prif Weinidog fod wedi cydnabod ei fod wedi gwneud camgymeriad. Rydym i gyd yn ddynol, mae camgymeriadau'n digwydd, a byddai ymddiheuriad ar y pryd, yn ogystal â thalu'r rhodd yn ôl, wedi golygu y gallai fod wedi treulio ei wythnosau cyntaf fel Prif Weinidog yn cyflawni ar ran pobl Cymru. Mae digon o gyfle wedi bod ers hynny hefyd i'r Prif Weinidog gyfaddef ei fod yn deall pam fod pobl yn ddig a thalu'r arian yn ôl, ond na, mae wedi mynd yn fwyfwy penderfynol, wedi diystyru pryderon, a chaniatáu i'r naratif redeg i ffwrdd oddi wrtho.

Felly, Brif Weinidog, a ydych chi'n barod heddiw i roi'r gorau i wneud esgusodion dros dderbyn y rhodd ac am wario cymaint i ddod yn Brif Weinidog? Mae'n rhaid eich bod chi'n gwybod yn y bôn fod hyn yn anghywir, a rhaid eich bod chi'n difaru derbyn yr arian. Nid yw'n rhy hwyr i roi'r gorau i guddio y tu ôl i'r rheolau a'r bylchau ynddynt; nid yw'n rhy hwyr i ymddiheuro. Hyn, ynghyd â'r llithriadau difrifol eraill yn eich dyletswyddau yn sgil dileu negeseuon allweddol rhwng Gweinidogion yn ystod y pandemig COVID a'r cwestiynau parhaus ynghylch diswyddo'r cyn Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, sydd wedi arwain at y foment hon a'r bleidlais hon. Rwy'n gresynu'n ddiffuant ei bod hi wedi dod i hyn, ac rwy'n gobeithio heddiw fod y Prif Weinidog yn deall pam nad oes gennym ddewis ond cefnogi'r bleidlais hon o ddiffyg hyder ynddo.

16:05

Roeddwn yn falch o beidio â chefnogi'r bleidlais o ddiffyg hyder yn Lee Waters pan oedd yn Ddirprwy Weinidog trafnidiaeth. Roeddwn yn falch o bleidleisio yn erbyn pleidlais o ddiffyg hyder yn ein Gweinidog iechyd, Eluned Morgan, sydd wedi gwneud gwaith anhygoel yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Ac rwy'n falch heddiw o gefnogi Vaughan Gething yn erbyn y cynnig sinigaidd hwn sydd wedi'i gyflwyno.

Hoffwn nodi rhai o'r cwestiynau y bûm yn eu gofyn i mi fy hun am y Prif Weinidog a'r ffordd y mae wedi cael ei drin dros y misoedd diwethaf. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n gwrando ar fy araith ac yn meddwl yn ofalus am oblygiadau'r hyn y gofynnir i ni ei ystyried heddiw. Ymhell cyn i etholiad arweinyddiaeth Cymru gychwyn, roedd yr union bobl sy'n ei gondemnio ef heddiw yn ymosod arno ar gyfryngau cymdeithasol, sy'n fy arwain at fy nghwestiwn cyntaf. A yw Vaughan Gething yn cael ei farnu, fel y mae'r cyfryngau cymdeithasol yn awgrymu, fel person trahaus a dig, lle byddai ei ragflaenwyr wrth arddangos yr un emosiynau yn cael eu hystyried yn bobl ymroddedig ac angerddol? Rwy'n credu ei fod. A yw'n cael ei farnu yn ôl safonau a fyddai'n cael eu cymhwyso'n llai llym i'w gyfoeswyr? Rwy'n credu ei fod. A yw'n cael ei ymlid yn ddi-baid gan ran fach o'r cyfryngau sydd ag agenda glir iawn? Rwy'n credu ei fod. Dylwn ychwanegu, yn yr oes sydd ohoni, gyda chyfryngau cymdeithasol y gorllewin gwyllt, fod y BBC, ITV a WalesOnline, ymhlith eraill, yn parhau i fod yn ffynonellau newyddion dibynadwy sy'n cynnig hawl i ymateb, hyd yn oed pan fyddwch yn anghytuno â'u dadansoddiad o ddigwyddiadau diweddar. Ond mae yna rai eraill. A phan ddown i anghytundeb, rydym yn dadlau bod gan arweinwyr pleidiau eraill werthoedd yr ydym yn anghytuno â nhw a pholisïau yr ydym eisiau eu herio. Rydym yn eu beirniadu'n hallt, ac eto rydym yn derbyn y byddant yn cael eu barnu gan yr etholwyr yn y pen draw. Nid yw hynny'n wir am ein Prif Weinidog newydd. Gofynnir i ni ystyried ein hyder ynddo yn y Siambr hon er gwaethaf y ffaith nad yw wedi torri unrhyw reolau a chyn y gellir bwrw pleidlais gyhoeddus. Yn wahanol i'w ragflaenwyr, gwrthodir cyfle iddo brofi ei allu i gyflawni ein huchelgeisiau cyfunol, i gael ei syniadau wedi'u profi ac i gael ei ddadleuon wedi'u harchwilio. Gofynnir i bob gwleidydd arall sy'n sefyll i'w amddiffyn ffurfio eu barn oddrychol eu hunain ar ddewis a wnaeth yn y gorffennol. Mae hynny'n gwbl ddealladwy, ond ni ddylai eu hatebion benderfynu ar ei ddyfodol fel arweinydd yn ein hetholiad nesaf. Mae ganddo ddyletswydd i gael ei herio, ond gyda hynny, mae ganddo hawl i gael ei ystyried yn ôl ei gyflawniad fel Prif Weinidog, ac erbyn 2026, credaf y bydd hwnnw'n gyflawniad o fynd i'r afael â thlodi a chostau byw, ochr yn ochr â Llywodraeth Lafur newydd yn y DU.

Ac mae gennyf i fel arsylwr hawl i ofyn a yw ei ethnigrwydd yn dylanwadu ar gymhellion rhai sydd y tu allan i'r Siambr hon sy'n ceisio ei dorri. Ni allwn anwybyddu'r cwestiwn hwnnw ac ni allwn ddiystyru profiad bywyd y bobl ddu, Asiaidd a'r lleiafrifol ethnig sy'n teimlo bod hynny'n wir.

Mae yna deimlad cryf yn y Senedd hon nawr nad wyf prin wedi ei weld o'r blaen; cymaint yw ffyrnigrwydd y rhai sy'n ymlid Vaughan Gething fel fy mod yn credu ein bod yn colli pob rheswm. Ac os collir pob rheswm, bydd y Llywodraeth yn colli pob rheswm hefyd, a'r Senedd ei hun o bosibl. Efallai nad y bleidlais heddiw, os caiff ei hennill gan y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru, fydd y weithred derfynol: gallai honno ddod nesaf gyda phleidlais o hyder yng Ngweinidogion Cymru, Llywodraeth a arweinir yn gyfunol gan arweinydd du cyntaf unrhyw genedl yn Ewrop, ac os bydd y Llywodraeth honno'n chwalu, gallai'r Senedd hon chwalu hefyd. Efallai ein bod yn anelu tuag at etholiad cynnar yn y Senedd, gyda phob gobaith o ddiwygio wedi'i golli, ac i beth? I gael gwared ar arweinydd nad ydym erioed wedi rhoi cyfle iddo. Efallai y bydd y cynnig hwn yn ceisio ei niweidio heddiw, ond wrth ei gefnogi, rydym yn niweidio ein hunain a'r ddemocratiaeth yr honnwn ei bod mor bwysig i ni.

16:10

Mae'n hynod siomedig, ac a dweud y gwir, mae'n drist ein bod yn y sefyllfa o orfod cyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma. Ond y gwir amdani yw bod diffyg tryloywder enfawr dros y penderfyniadau a wnaed gan y Prif Weinidog, ac mae ei farn wedi'i gwestiynu'n briodol, nid yn unig gan wleidyddion yr wrthblaid, ond gan ein hetholwyr ein hunain. Mae catalog o fethiannau wedi bod gan y Prif Weinidog o ran tryloywder ynghylch y rhoddion tuag at ei ymgyrch arweinyddiaeth, y bwriad i ddileu negeseuon mewn perthynas â phandemig COVID, a sut y diswyddodd Weinidog o'i Lywodraeth. Pe byddem wedi gweld ychydig mwy o ostyngeiddrwydd ac ychydig mwy o dryloywder gan y Prif Weinidog, efallai na fyddai'n wynebu pleidlais o ddiffyg hyder yma heddiw.

Rwy'n sefyll heddiw ar ran y bobl sy'n byw gydag effaith y diffyg tryloywder ac effaith y diffyg crebwyll hwnnw bob dydd. Fe fyddwch eisoes yn ymwybodol o sgandal safle tirlenwi Withyhedge yn fy etholaeth i, a'r cwmni sy'n gyfrifol am y safle hwnnw, sydd â chysylltiad uniongyrchol â'r Prif Weinidog. Mae'r safle hwnnw'n allyrru allyriadau a allai fod yn wenwynig a drewdod erchyll sy'n effeithio'n ddwfn ar fywydau llawer o bobl yn y gymuned honno. Mae hon yn sefyllfa sydd wedi bod yn mynd rhagddi ers y llynedd, ac mae'n ymddangos nad oes pen draw iddi. Mae fy etholwyr yn ddig iawn ac yn rhwystredig iawn, ac mae hynny'n ddealladwy. Mae'r bobl sy'n byw yn y gymuned honno yn profi problemau iechyd o ganlyniad i ymddygiad y gweithredwr hwn, ac er gwaethaf ymdrechion i fynd ar drywydd yr awdurdodau perthnasol i weithredu, ychydig sydd wedi'i wneud i ddiogelu'r bobl sy'n byw yn yr ardal honno.

Lywydd, roeddwn eisiau rhoi eiliad i ddarllen rhai o'r sylwadau cyhoeddus a wnaed gan drigolion lleol ynghylch y modd y mae'r gweithredwr hwn yn effeithio ar eu bywydau. Dywedodd un preswylydd, 'A yw llygaid unrhyw un arall mor boenus y peth cyntaf yn y bore fel ei bod yn anodd eu hagor?' A dywedodd un arall, 'Mae fy amrannau'n chwyddo, ac maent yn cymryd dyddiau i wella.' A dywedodd un arall eu bod wedi deffro gyda chur pen, teimlad o gyfog a'u bod yn ei chael hi'n anodd agor eu llygaid, a oedd yn teimlo'n ddolurus a grutiog.

Nawr, bydd llawer ohonoch yn gofyn, 'Beth sydd gan hynny i'w wneud â'r Prif Weinidog?' Wel, rwy'n dweud, 'Popeth.' Mae'r Prif Weinidog wedi derbyn swm enfawr o arian gan y gweithredwr hwn, gweithredwr a gafwyd yn euog o sawl trosedd amgylcheddol yn y gorffennol ac sydd bellach yn wynebu ymchwiliad troseddol arall oherwydd y camau ar safle tirlenwi Withyhedge. Mae hyn, felly, yn cwestiynu crebwyll y Prif Weinidog yn derbyn rhodd enfawr gan y cwmni hwn yn y lle cyntaf. Mae'r diffyg camau gweithredu i ymdrin â'r gweithredwr yn dweud cyfrolau, ac mae llawer o fy etholwyr yn credu bod y gweithredwr wedi osgoi cosb am ei ymddygiad oherwydd ei berthynas â'r Prif Weinidog. Mae yna bobl—[Torri ar draws.]  Mae yna bobl sy'n credu bod y rhodd o £200,000 wedi prynu dylanwad i'r cwmni hwn allu gwneud beth bynnag y dymuna heb gael ei ddwyn i gyfrif.

Nawr, efallai nad yw'r Prif Weinidog wedi torri unrhyw reolau, ond mae'n sicr y gall weld nad yw hyn yn edrych yn dda. Pe bai wedi caniatáu ymchwiliad annibynnol i'r rhodd hon yn y lle cyntaf, neu fel y dywedodd Aelodau ar draws y Siambr, pe bai wedi gwneud y peth iawn a rhoi'r arian yn ôl, ni fyddem yn cael y ddadl hon. Mae'n fater o dryloywder ac yn fater o grebwyll, ac fel gwleidyddion, mae'n rhaid i bob un ohonom fod yn atebol am ein penderfyniadau. Rwyf i, yn fwy na'r rhan fwyaf, yn gwybod o brofiad personol sut beth yw cael eich dwyn i gyfrif am eich gweithredoedd. Pan ymchwiliodd y comisiynydd safonau i honiadau yn fy erbyn yn ystod y pandemig, hoffwn feddwl fy mod wedi gwneud y peth iawn yn llygaid fy mhlaid a fy ngwlad. Fe roddais y gorau i fod yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y lle hwn am mai dyna'r peth iawn i'w wneud, er nad oeddwn wedi torri unrhyw gyfraith na rheol—[Torri ar draws.] Dyna oedd y peth iawn i'w wneud—

Gadewch i'r Aelod barhau. Mae'n dweud rhywbeth pwysig iawn. Peidiwch â'i heclo.

Diolch, Lywydd. Er nad oeddwn wedi torri unrhyw gyfraith na rheol, dyna oedd y peth iawn i'w wneud, oherwydd mae'n ymwneud â chrebwyll ac mae'n ymwneud â chymryd cyfrifoldeb. Nid oes unrhyw wleidydd uwchlaw atebolrwydd, ac fe'n hetholir i sefyll dros ein hetholwyr a sicrhau bod ein gweithredoedd a'n penderfyniadau yn agored ac yn dryloyw.

Bellach, mae gennym Brif Weinidog sy'n gwrthod rhannu gwybodaeth werthfawr gyda'r cyhoedd, sydd wedi derbyn arian gan fusnes y caniatawyd iddo wneud bywydau cymaint o bobl yn ddiflas ac nad yw'n darparu tryloywder ynghylch ei benderfyniadau. Nid yw'n iawn ac ni allwn ganiatáu i hyn barhau. Mae hyder y cyhoedd mewn gwleidyddion eisoes yn isel ac mae'n rhaid inni newid hynny. Mae'n rhaid i bawb ohonom ymdrechu i fod yr arweinwyr gorau y gallwn fod ar gyfer pobl Cymru, ac mae hynny'n golygu gwneud penderfyniadau anodd a chael ein dal yn atebol am ein gweithredoedd. Lywydd, fe wnes i'r peth iawn. Nawr, mae'n rhaid i'r Prif Weinidog wneud y peth iawn hefyd.

16:15

Rwy'n sefyll yma, mewn gwirionedd, yn drist ac yn anfodlon. Nid oedd hwn yn benderfyniad hawdd i mi. Mae dau beth sy'n wahanol i mi o gymharu â'r gwrthbleidiau. Nid wyf erioed wedi pleidleisio mewn pleidlais o ddiffyg hyder yma yn y Senedd. Nid wyf yn ystyried hon yn stỳnt wleidyddol; nid wyf yn ei ystyried yn gimig o gwbl. Yn ail, pleidleisiais i'ch cadarnhau chi fel Prif Weinidog ar 20 Mawrth. Roeddwn i'n teimlo ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cefnogi'r broses ddemocrataidd. Yn wir, fe wnes i eich llongyfarch ac roeddwn wrth fy modd, am y tro cyntaf, fod gan dair gwlad y DU ar y pryd Brif Weinidog neu arweinydd o gefndir du, Asiaidd neu leiafrifol ethnig. Mae'r negeseuon testun hynny, os ydych chi eisiau eu darllen, bellach yn gyhoeddus—heb fy nghaniatâd i, rhaid imi ddweud—ond rwy'n falch o ddweud fy mod wedi trosglwyddo'r negeseuon hynny oherwydd roeddent yn bwysig i mi. Felly, rwy'n cymryd y sefyllfa hon o ddifrif.

Pam ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt hwn? Wel, pan fo unrhyw un mewn gwleidyddiaeth yn derbyn rhodd o £200,000 gan unrhyw unigolyn, heb sôn am yr unigolyn hwn, mae gan bleidleiswyr o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol hawl i ofyn ar ochr pwy ydych chi, oherwydd nid oes llawer o amser ers inni weld mai slogan etholiad cyffredinol Llafur oedd, 'Er lles pawb, nid yr ychydig prin.' Cyflog cyfartalog Cymro cyffredin yw £24,000 ar ôl treth ond gyda'r math hwn o weithredu, mae'n hawdd gweld pam fod y Cymro cyffredin yn cwestiynu pam y derbyniodd eich ymgyrch arweinyddiaeth rodd a fyddai'n cymryd mwy nag wyth mlynedd i'r bobl hynny ei hennill. Yn anffodus, mae eich methiant i weld pam y byddai rhywun sydd newydd brynu tŷ tair ystafell wely gwerth £180,000 yn Llanfair-ym-Muallt, neu rywun sy'n ennill cyflog cyfartalog yn Aberhonddu, yn meddwl eich bod chi allan o gysylltiad drwy dderbyn y rhodd hon, yn glir. Ac mae hyn, i bob un ohonom, yn rhan enfawr o'r broblem, a dyna pam fy mod yn sefyll yma yn dweud fy mod wedi colli hyder ynoch. Ar 1 Mai, gofynnais i chi yn y Siambr hon ad-dalu'r £200,000. Dywedais ei fod yn syml; byddai'r cyfan drosodd, gallem symud ymlaen. Ni ddigwyddodd hynny, ac i mi, mae gweithredoedd yn dweud mwy na geiriau. Pan fo ymddiriedaeth mewn gwleidyddion ar ei lefel isaf erioed, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn dangos ein bod yn cynrychioli ein pobl yma yng Nghymru. Rydym eisiau gwneud Cymru'n lle gwell i bawb. Rheolau yw rheolau ac rydym wedi eich clywed chi'n dweud hynny'n aml, nad ydych wedi torri unrhyw reolau. Ond gwneud y peth iawn yw gwneud y peth iawn. Diolch yn fawr iawn.

Rwy'n mynd i ddechrau fy nghyfraniad heddiw drwy ddweud rhywbeth a allai ddychryn llawer ohonoch chi yma yn y Siambr hon heddiw. Gan roi gwleidyddiaeth bleidiol o'r neilltu, Brif Weinidog, gallaf ddweud yn onest fy mod i'n wirioneddol hapus eich gweld yn ymgymryd â'r rôl hon ac yn dod yn arweinydd du cyntaf unrhyw wlad yn Ewrop. Roedd yn gam arloesol ac fe gawsoch gyfle gwirioneddol yma i wneud eich marc fel Prif Weinidog cyntaf Cymru o leiafrif ethnig. Fel person o liw—ac rwy'n gallu siarad o brofiad yma—yn anffodus, hyd yn oed yn 2024, mae pobl o leiafrifoedd ethnig, yn enwedig gwleidyddion, yn aml yn cael eu hystyried yn wahanol. Rydym ni'n cael ein hystyried mewn ffordd wahanol, ac yn amlach na pheidio, mae mwy o bwysau arnom ni na'n cyfoedion i fod yn onest, i fod y gorau ac i gynnal ein huniondeb bob amser a phrofi ein hunain yn deilwng o'n swyddi, bob dydd, nid ar ddiwrnod etholiad yn unig.

Wedi dweud hynny, ni allaf bwysleisio pa mor siomedig rwyf i fod y cyfle euraidd a roddwyd i chi wedi cael ei wastraffu'n llwyr, ac mae'r awgrym eich bod yn cael y lefel hon o graffu oherwydd lliw eich croen yn sarhaus a dweud y gwir. Nid yn unig y mae'r cylch parhaus o sgandalau wedi maeddu enw da swyddfa'r Prif Weinidog a Senedd Cymru gyfan, ond yn anffodus, mae wedi erydu ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd mewn gwleidyddion yn gyffredinol.

Lywydd, mae'r Prif Weinidog wedi mynd o sgandal i sgandal, a ddechreuodd gyda derbyn rhodd amheus, fel y mae llawer wedi'i grybwyll heddiw, o £200,000 gan David Neal a gafwyd yn euog o lygru i ariannu ei ymgyrch arweinyddiaeth. Nid yn unig fod y Prif Weinidog wedi dangos diffyg crebwyll ofnadwy wrth dderbyn yr arian hwn, ond mae'n amlwg hyd yn oed nawr nad yw'n edifar o gwbl o hyd ac mae wedi gwrthod dychwelyd y rhodd. Fel pe na bai hynny'n ddigon drwg, datgelwyd wedyn fod un o gwmnïau eraill Mr Neal hefyd wedi cael benthyciad o £400,000 gan Fanc Datblygu Cymru, sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru yn gyfan gwbl ac sy'n cael ei oruchwylio gan Weinidog yr economi. Mae'n werth cofio, ym mis Chwefror 2023, ar adeg y benthyciad, mai Vaughan Gething, yn wir, oedd Gweinidog yr economi. 

Ers hynny rydym wedi dysgu bod y cwmni'n gysylltiedig ag ymchwiliad troseddol ar yr un pryd ag y trosglwyddodd y rhodd o £200,000 y mae pawb yn sôn amdani heddiw. Mae'r holl beth yn drewi, ac er bod y Prif Weinidog wedi dweud yn y gorffennol nad yw'r cyhoedd yn poeni am y saga, gallaf ddweud yn sicr, ar ôl mewnlif o e-byst, galwadau a negeseuon gan etholwyr ledled de-ddwyrain Cymru, nad yw hyn yn wir, ac mae'n bwnc sy'n cael ei godi dro ar ôl tro.

Ychydig wythnosau wedyn, cafwyd sgandal arall, y tro hwn yn ymwneud â dileu negeseuon testun yn ystod y pandemig. Roedd Prif Weinidog Cymru eisoes wedi dweud na wnaeth ddileu negeseuon yn ymwneud â phenderfyniadau a wnaed ynghylch y pandemig COVID. Dadleuodd fod negeseuon wedi cael eu dileu o'i ffôn gan adran TGCh y Senedd, ond daeth tystiolaeth i'r amlwg yn ddiweddarach a brofodd fod Vaughan Gething, a oedd yn Weinidog iechyd ar y pryd, wedi dileu'r negeseuon ei hun mewn gwirionedd. Ychydig ddyddiau ar ôl y datgeliad hwn, cafodd Hannah Blythyn ei diswyddo fel Gweinidog partneriaeth gymdeithasol oherwydd bod y Prif Weinidog yn honni mai hi oedd yn gyfrifol am ryddhau'r negeseuon, rhywbeth y mae'n ei wadu'n bendant; mynnodd nad oedd hi erioed wedi rhyddhau unrhyw beth. Felly, dyma ddwy stori hollol wahanol, a dim ond un sy'n gallu bod yn gywir. Brif Weinidog, fe'ch anogwyd ar sawl achlysur i gyhoeddi'r holl dystiolaeth i gefnogi eich penderfyniad i ddiswyddo Hannah. Rydych chi wedi cael digon o amser a chyfle i egluro'r sefyllfa drwy ryddhau'r dystiolaeth, ac rwy'n credu bod eich amharodrwydd i wneud hynny wedi achosi penbleth i bawb yma. Mae'r ffordd yr aethpwyd i'r afael â hyn wedi bod yn erchyll ac yn hynod annheg.

A dweud y gwir, rwy'n ofni beth fydd y sgandal nesaf, ac rwy'n poeni po hiraf y bydd y Prif Weinidog presennol yn parhau yn y swydd, y mwyaf o niwed y byddwn yn ei wneud i ddemocratiaeth Cymru. Mae'r straeon hyn i gyd wedi tynnu sylw oddi ar y materion mawr y dylem fod yn canolbwyntio arnynt yma yn Senedd Cymru. Mae ein hetholwyr, ein hetholwyr i gyd, eisiau ein gweld ni'n mynd i'r afael â phethau fel rhestrau aros hir y GIG, ein system addysg sy'n methu ac ailadeiladu ein heconomi. Ond yn anffodus, nid oedd gennym unrhyw ddewis ond galw'r bleidlais hon o ddiffyg hyder heddiw.

Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn osgoi craffu ar bob cyfle posibl. Fe'i gwelsom gyda'n llygaid ein hunain yn amharchu'r Senedd gyfan drwy fethu mynychu dadl bwysig ar y mater, ac yna'n cyrraedd ar y funud olaf ar gyfer dadl arall. Pan gafodd ei herio mewn perthynas â'r mater gan ddarlledwr uchel ei pharch yn y BBC, fe wnaeth ei chyhuddo o beidio â bod yn newyddiadurwr difrifol. Brif Weinidog, mae'n amlwg fod y tŷ cardiau o'ch cwmpas yn cwympo. Mae pobl Cymru yn haeddu gwell na hyn gan eu Prif Weinidog, a gobeithio y gwnewch chi'r peth iawn heddiw, y peth anrhydeddus. Diolch.

16:20

Rwy'n credu bod y rhan fwyaf ohonoch yn ymwybodol na chefnogais Vaughan yn yr etholiad arweinyddiaeth—darllenwch Nation.Cymru. Efallai ei bod yn ffaith lai adnabyddus na wnes i ei gefnogi yn yr etholiad arweinyddiaeth blaenorol. Mae'n debyg mai dim ond rhai o fy ffrindiau sy'n gwybod nad wyf erioed wedi pleidleisio drosto mewn unrhyw un o etholiadau mewnol y Blaid Lafur. Nid wyf yn gefnogwr naturiol i Vaughan Gething. Yn yr etholiad arweinyddiaeth yng Nghymru, fe gefnogais Jeremy Miles, ond dim ond ar ôl i Eluned Morgan a Hannah Blythyn wrthod fy nghais i sefyll. Mae Vaughan ar y rhestr o bobl nad wyf hyd yn oed yn gofyn iddynt fy nghefnogi os ydw i'n sefyll etholiad i fod yn Gadeirydd pwyllgor.

Y gwir amdani yw bod Vaughan wedi ennill etholiad arweinyddiaeth y Blaid Lafur a'r bleidlais i fod yn Brif Weinidog. Mae gennym ni'r system etholiadol roeddwn i ei heisiau yn y Blaid Lafur: un aelod, un bleidlais. Roeddwn ar yr ochr a gollodd, ond byddai'n wrthnysig i mi wrthwynebu'r enillydd. Mae'r system 'un aelod, un bleidlais' bellach wedi ymwreiddio yn etholiadau Llafur Cymru, yn hytrach na'r system flaenorol o un aelod, sawl pleidlais, gan gynnwys pleidleisiau arbennig ar gyfer Aelodau'r Senedd ac Aelodau Seneddol, a wnaeth atal fy nghyfaill Julie Morgan rhag dod yn ddirprwy arweinydd y Blaid Lafur er iddi ennill mwyafrif helaeth y pleidleisiau. Pan gurodd Carolyn Harris Julie Morgan, fe wnes i bleidleisio sawl gwaith—yn gyfreithiol, o fewn y rheolau. Roedd dod â'r gallu i bleidleisio sawl gwaith i ben yn gam cadarnhaol iawn, ac nid oes troi'n ôl i'r hen system. Nid oes unrhyw honiad o rigio'r bleidlais, dim honiad o gasglu pleidleisiau pleidleiswyr absennol, dim honiad o aelodau nad ydynt yn bodoli a dim honiad o wrthod pleidlais i aelodau. Ac yn wahanol i Blaid Cymru a'r Ceidwadwyr, cawsom etholiad arweinyddiaeth ar gyfer arweinydd Llafur Cymru, nid seremoni goroni.

Ar nodyn personol, roeddwn i'n drist o weld Adam Price, nad yw'n ffrind i mi ond mae'n rhywun y mae gennyf barch mawr tuag ato, yn colli ei le fel arweinydd Plaid Cymru ac yn cael ei ddisodli gan yr arweinydd mwyaf asgell dde a fu gan Blaid Cymru yn y Senedd, mae'n debyg.

16:25

Nid yw'n hurt. O blaid arfau niwclear—. A oes angen parhau?

Beth fydd yn digwydd nesaf? [Torri ar draws.] Beth fydd yn digwydd nesaf? Hyd y gwelaf i, nid oes unrhyw beth yn y rheolau i atal y ddadl rhag digwydd bob wythnos tan 2026. Fel y mae'r cyhoedd ar fin darganfod, nid yw dadleuon dydd Mercher yn rhwymol ar y Llywodraeth. Hoffwn atgoffa Andrew Davies a Rhun—[Torri ar draws.] Hoffwn atgoffa Andrew Davies a Rhun ap Iorwerth, ychydig wythnosau'n ôl, cafodd y ddau ohonoch eich trechu gan Vaughan Gething am swydd y Prif Weinidog—a ydych chi'n cofio hynny? Pleidlais glir o blaid Vaughan Gething. Os yw'r Senedd yn pleidleisio i gael gwared â'r Prif Weinidog, fy newis personol i fyddai etholiad Seneddol newydd. Gadewch i'r etholwyr benderfynu. Oherwydd efallai na fydd nifer ohonoch yn dychwelyd, yn ôl y ffiniau presennol. Yr unig enillydd mewn dadleuon fel hyn yw Plaid Diddymu Cynulliad Cymru. Fe wnaethant ei gymeradwyo, maent yn ethol Prif Weinidog ac yna maent yn pleidleisio i gael ei wared ychydig wythnosau'n ddiweddarach.

Mae pryderon wedi eu mynegi am y gefnogaeth ariannol a gafodd Vaughan Gething—pob un yn gyfreithiol, pob un wedi'i datgan, gwybodaeth wedi'i rhoi am bob un i bawb yr oedd yn rhaid rhoi gwybodaeth iddynt amdanynt. Mae'r ffaith nad yw'r gwrthbleidiau'n hoffi'r person a gyfrannodd y rhodd yn wybyddus iawn.

A gaf i droi at y negeseuon testun, oherwydd chwaraeais ran fawr yn hynny? Roedd yn ymwneud â defnyddio graddau asesu athrawon, yn hytrach na defnyddio'r algorithm—. Yn ffodus, daethom i'r penderfyniad cywir, er gwaethaf y ffaith bod y Cabinet wedi treulio llawer o amser yn ei gyrraedd, ac rwy'n siomedig iawn am hynny. Roedd Vaughan yn fy amddiffyn i. A ydych chi eisiau clywed y gwir? Roedd Jeremy Miles eisiau defnyddio algorithm a chael fy ngwared fel Aelod o'r Senedd dros Ddwyrain Abertawe—dyna gafodd ei ddileu. Nid oes ganddo unrhyw beth i'w wneud ag ymchwiliad COVID, cafodd ei ddileu i amddiffyn unigolion, gan fy nghynnwys i. Nid oes ots gennyf i. Dyna beth ddigwyddodd, ac rwy'n barod i ddadlau fy achos, ond roedd yn ymgais i fy amddiffyn, ac rwy'n parchu hynny'n fawr ac yn ei hoffi.

A gaf i roi dyfyniad am roddwr Ceidwadol, oherwydd mae'n taflu ychydig o oleuni ar bethau? 

'Gallaf gael mynediad drwy'r Grŵp Arweinwyr. Fel arfer mae'n cynnwys uwch weinidogion a 15 neu 20 o bobl. Weithiau, wyneb yn wyneb. Weithiau, ar Zoom. Y digwyddiad diwethaf i mi ei fynychu oedd cinio gyda Michael Gove ym mis Gorffennaf. Roedd pawb a oedd yn bresennol yn gyfranwyr.'

'I fod yn aelod o'r Grŵp Arweinwyr, mae'n rhaid eich bod wedi cyfrannu £50,000 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

'Mae dau neu dri chinio yr wythnos yn cael eu trefnu, ac mae tua dwsin o gyfranwyr yn cael gwahoddiad iddynt.

'Nid yw grwpiau yn tueddu i fod yn fwy na hyn, er mwyn sicrhau bod pawb sy'n mynychu'n cael cyfle i deimlo'n rhan o rywbeth nad yw'n amhersonol.

'Mae rhai cyfranwyr yn fynychwyr rheolaidd iawn, nid yw cyfranwyr eraill yn mynychu unrhyw ddigwyddiad.

'A yw hyn yn gyfystyr â phrynu mynediad a dylanwad?'

Gofynnaf i bobl ddod i gasgliad ar hynny. Rwy'n credu bod y rhan fwyaf ohonom yn credu ei fod, ac mae'r syniad hwn o gael grŵp arweinwyr lle mae pobl yn talu cannoedd o filoedd o bunnoedd yn flynyddol, nid digwyddiad untro mewn etholiad, yn sylfaenol anghywir. Rwy'n credu bod gwir angen inni lanhau'r system rhoddion. Mae angen inni hefyd lanhau ein hafonydd. Fel rhywun sydd wedi cwyno am lygredd afon Gwy ac afon Wysg, ynghyd ag afon Tawe, rwy'n siŵr na fydd y Ceidwadwyr yn derbyn unrhyw arian gan unrhyw un sy'n llygru'r rheini.

I ymateb yn fyr i Mike, rwy'n siŵr y byddai arweinydd presennol Plaid Cymru yn croesawu dadl wyneb yn wyneb gydag arweinydd Prydeinig y Blaid Lafur i weld pwy yw'r arweinydd mwyaf asgell chwith.

Yr wythnos diwethaf, tra bod y Siambr hon yn dawel, roedd y theatr drws nesaf yn adleisio geiriau un o ffigurau mwyaf eiconig y Blaid Lafur yn y ddrama foesoldeb epig honno ar gyfer y cyfnod modern, Nye. Dywedodd y dyn a oedd yn chwarae'r brif ran, Michael Sheen, am Aneurin Bevan fod ganddo uniondeb haearnaidd ac angerdd cynddeiriog. Yn anffodus, nid wyf yn credu y gallwch ddweud hynny am arweinyddiaeth y Llywodraeth hon ar hyn o bryd. Fel y clywsom ddoe, mae'r Llywodraeth yn mynd ati'n systematig i ddileu'r elfennau mwy radical o'i rhaglen ei hun, o ddiwygio'r flwyddyn ysgol i ddiwygio'r dreth gyngor. Felly, pe bai unrhyw un yn meddwl am eiliad y gellid cyfiawnhau rhai o fethiannau'r Prif Weinidog oherwydd bod y nod yn cyfiawnhau'r modd, rwy'n eich herio i ddisgrifio'r nod hwnnw, oherwydd mae hon yn Llywodraeth sydd, mewn cyfnod o ychydig fisoedd, wedi mynd yn arwynebol a diamcan, heb unrhyw ymdeimlad mwy o bwrpas na goroesiad gwleidyddol y Prif Weinidog ei hun.

A gadewch inni droi at fater uniondeb. Diolch byth nad yw'r cwestiwn o arian brwnt, sy'n cythruddo'r rhan fwyaf o ddemocratiaethau gorllewinol, wedi bod yn llawer o broblem i ni yng Nghymru. Nid yw miliwnyddion Cymreig wedi ymddiddori mewn gwleidyddiaeth ac nid yw gwleidyddiaeth Cymru wedi ymddiddori mewn miliwnyddion. Mae'r Prif Weinidog wedi dod â'r amgylchiad hapus hwnnw i ben. I ddyfynnu Bevan ei hun,

'Gyrrodd Crist y cyfnewidwyr arian allan o'r deml, ond rydych chi'n ysgrifennu eu gweithredoedd ar frethyn yr allor.'

Yn wir, gallem ddweud bod y Prif Weinidog wedi ei bwytho i union wead y sedd y mae'n ei meddiannu.

Adroddir bod ymchwiliad cyhoeddus i farwolaethau dros 10,000 o ddinasyddion Cymru yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i fethiant y Prif Weinidog i'w hysbysu am negeseuon a gafodd eu dileu, a nawr mae'r un diffyg gonestrwydd yn cael ei ymestyn i ni. Gofynnais i'r Prif Weinidog 10 diwrnod yn ôl a gynhaliwyd ymchwiliad i ddatgeliad answyddogol honedig am y grŵp sgwrsio gan y cyn-Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Nid wyf wedi cael ateb eto. Gofynnais i gyfarwyddwr priodoldeb a moeseg Llywodraeth Cymru a oedd ef yn gwybod. Ei ateb: 'Nid wyf yn gwybod.' Nawr, mae'n amlwg fod distawrwydd y Llywodraeth yn codi cwestiynau difrifol iawn ynglŷn ag a gynhaliwyd ymchwiliad o'r fath, ac yn codi'r posibilrwydd nad oedd yr achos yn erbyn y cyn-Weinidog yn fforensig nac yn ffurfiol, a'i bod wedi cael ei diswyddo heb ymchwiliad cymwys a hynny heb ddilyn y drefn briodol.

Rwyf wedi gofyn i'r Prif Weinidog a oedd adroddiad ysgrifenedig ar unrhyw doriad honedig o'r cod gweinidogol gan y Gweinidog. Unwaith eto, ni chefais unrhyw ateb. Rwyf wedi gofyn i gyfarwyddwr priodoldeb a moeseg y Llywodraeth a oedd yn ymwybodol o unrhyw adroddiad o'r fath. Dywedodd nad oedd. Roedd yn cerdded ym mryniau Sbaen ar y pryd. Roedd ar ei wyliau hefyd pan gynhaliwyd ymchwiliad cod gweinidogol i'r Prif Weinidog presennol, ond y tro hwnnw gofynnwyd iddo ddarparu cyngor, a adlewyrchwyd mewn adroddiad ysgrifenedig. Ni ddangoswyd cwrteisi o'r fath i Hannah Blythyn.

Nawr, efallai bod hyn yn arwydd o'r annhosturi newydd y soniodd Syr Keir Starmer amdano mewn ffordd mor ddisglair yn ddiweddar mewn cyfweliad â The Daily Telegraph. Mae'n rhaid i wrthryfelwyr ym model newydd y Blaid Lafur dalu pris trwm. Ond gadewch inni gofio i Bevan ei hun gael ei ddiarddel o'r Blaid Lafur a'i wahardd o'r Blaid Lafur Seneddol sawl gwaith, ac mewn ymateb i Joyce Watson, un o'r adegau hynny mewn gwirionedd oedd pan gyflwynodd bleidlais o ddiffyg hyder yn Llywodraeth Winston Churchill yr oedd y Blaid Lafur yn rhan ohoni ym mis Gorffennaf 1942, a phan gafodd ei feirniadu am amseriad y cynnig o ddiffyg hyder, dywedodd mai'r union reswm yr oeddem yn brwydro yn erbyn y Natsïaid oedd er mwyn ichi allu dwyn arweinwyr i gyfrif hyd yn oed yn ystod rhyfel.

Rydym yn cofio Bevan. Rydym yn cofio Bevan, nid y peiriannau—[Torri ar draws.] Na. Nid y peiriannau dienaid, sych a'i condemniodd. Ac fe gofiwn Rhodri Morgan yn well nag Alun Michael, oherwydd 24 mlynedd yn ôl cyflwynwyd pleidlais o ddiffyg hyder—yr unig dro arall y mae hynny wedi digwydd i arweinydd y Llywodraeth yn hanes datganoli—ac fe gafodd ei basio. Ymddiswyddodd Alun Michael ar unwaith, er clod iddo, a llifodd llawer o'r hyn a gyflawnwyd gennym gyda'n gilydd dros y chwarter canrif diwethaf o'r eiliad honno. Mae'n rhaid inni ddilyn y cynsail hwnnw os na all y Prif Weinidog sicrhau cefnogaeth y mwyafrif mwyach, oherwydd mae honno'n egwyddor sylfaenol o ddemocratiaeth seneddol ym mhobman. Torrodd y Cynulliad bryd hynny, cyfarfu'r Cabinet a chyflwynwyd enwebiad o blaid Rhodri Morgan fel Prif Weinidog dros dro union awr a dau funud yn ddiweddarach. Nid annhosturi oedd hynny, ond roedd yn dangos penderfyniad, a dyna sydd ei angen arnom nawr.

16:30

Diolch, Lywydd. Rwy'n gresynu bod y Ceidwadwyr wedi cyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Nid wyf yn gresynu oherwydd fy mod yn credu fy mod uwchlaw beirniadaeth. Nid wyf yn gresynu oherwydd fy mod yn meddwl fy mod wedi gwneud camgymeriadau ac y byddaf yn parhau i wneud camgymeriadau. Rwy'n ddynol, rwy'n ffaeledig. Nid wyf hyd yn oed yn gresynu oherwydd y materion y mae'n eu codi, oherwydd nid oes gennyf unrhyw beth i'w guddio. Rwy'n gresynu at y cynnig oherwydd ei fod wedi ei lunio i gwestiynu fy uniondeb.

Fel cynifer ohonoch yn y Siambr hon, rwyf wedi rhoi fy mywyd fel oedolyn i wasanaeth cyhoeddus ac i Gymru. Hyd yn oed yng nghanol ymgyrch etholiadol, mae'n brifo'n ddwfn pan fo rhywun yn cwestiynu fy mwriadau. Mewn cyfnod o dros ddegawd fel Gweinidog, nid wyf erioed wedi gwneud penderfyniad er budd personol neu ariannol—erioed. Nid wyf yn amau'r didwylledd y tu ôl i rai o'r cwestiynau y mae'r cynnig yn cyffwrdd â nhe heddiw, hyd yn oed os yw'r cynnig yn amlwg wedi cael ei lunio at ddiben arall. Rwy'n gobeithio y bydd y bobl yn y Siambr hon a thu hwnt yn rhoi eiliad i fyfyrio ar fy nidwylledd wrth imi barhau i ateb y cwestiynau hyn. Ni fyddaf yn osgoi craffu a her. Rwyf wedi myfyrio ar roddion, ac fel y gŵyr yr Aelodau, rwyf wedi cynnal adolygiad i sut y caiff hynny ei drin yn y dyfodol yn fy mhlaid i, ac rwyf wedi gofyn i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad trawsbleidiol edrych ar reolau'r Senedd i bob un ohonom.

Wrth gwrs, ni allwn ôl-osod rheolau newydd i hen ymgyrchoedd pan nad ydym yn hoffi'r canlyniad. Nid dyna sut mae democratiaeth yn gweithio, ond rwy'n cymryd yr hyn y mae pobl wedi'i ddweud wrthyf y tu hwnt i ddadleuon y Siambr hon o ddifrif. Mae'r gefnogaeth a gefais yn ystod yr wythnosau diwethaf gan gyd-aelodau yn y Blaid Lafur ledled Cymru a'r DU wedi bod yn syfrdanol, ac rwy'n ddiolchgar am eu hysbryd hael anhygoel a'u hundod. Yn fwy na hynny, hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am eu cefnogaeth yn bersonol, ar-lein ac mewn amryw o ffyrdd. Diolch o galon i chi. Rwyf hefyd eisiau cydnabod, fel fi, fod cymaint o bobl o liw wedi cael eu henllibio a'u difenwi oherwydd eu bod wedi codi pryderon ynghylch y modd y mae rhai o'r dadleuon hyn wedi cael eu trin. Dylai ein profiad bywyd fod o bwys a dylai gael ei barchu. Mae gennym ffordd bell i fynd o hyd.

Mae gennym ni ffordd bell i fynd. 

Mae parau'n rhan arferol o sut mae'r Senedd hon a llawer o rai eraill yn gweithio. Mae'n cadw'r cydbwysedd democrataidd a benderfynir gan yr etholwyr. Mae Llafur Cymru bob amser wedi paru gyda phleidiau eraill yn ystod absenoldeb oherwydd salwch. Fe wnaethom hynny am dri mis gydag arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Mae'r gwrthodiad i wneud hynny heddiw pan fo dau o'n Haelodau'n sâl yn adlewyrchu'n wael ar y gwrthbleidiau. Mae hwn i fod yn gynnig sy'n ymwneud â hyder, ond fe wyddom nad yw hynny'n wir. Mae'r amseru yn dweud popeth sydd angen i chi ei wybod.

Pe bai Andrew R.T. Davies a'i gyd-Aelodau yn wirioneddol bryderus am roddion gwleidyddol, byddent wedi dweud rhywbeth ar amser gwahanol. Byddent wedi sefyll ar adeg pan oedd yn cyfrif mewn gwirionedd. Byddent wedi gwrthod y miliynau o bunnoedd a roddwyd i'w plaid gan ddyn a ymffrostiodd yn y ffaith ei fod eisiau saethu AS benywaidd ddu, neu'r miliynau a roddwyd i'w plaid gan ddyn a wasanaethai fel Gweinidog mewn unbennaeth dramor.

Pe bai gan y blaid honno bryderon gwirioneddol ynglŷn â sut y gwnaed penderfyniadau a chamau gweithredu a gymerwyd yn ystod y pandemig, byddent wedi codi llais ar adeg pan oedd yn cyfrif. Byddent wedi gadael y blaid a oedd yn cael partïon yn Stryd Downing tra bo'r wlad ar ei gliniau; byddent wedi gadael yn hytrach nag amddiffyn Prif Weinidog a gafodd hysbysiad cosb benodedig troseddol.

Pe bai gan y blaid honno bryder gwirioneddol am uniondeb datganoli a democratiaeth yng Nghymru, dylent edrych ar eu meinciau eu hunain cyn taflu'r garreg gyntaf—cyn mynnu bod unrhyw un arall yn cyrraedd safonau nad oes ganddynt unrhyw fwriad o'u cyrraedd eu hunain. Gallant siarad am hyder nes eu bod yn ddu las, i gyd-fynd â'u rhosod glas. Os ydynt eisiau cynnig o ddiffyg hyder go iawn, cyflwynwch un yn briodol yn unol â'r Rheolau Sefydlog.

Fe ddywedaf wrthynt am yr hyn y mae gennyf hyder ynddo. Mae gennyf hyder yng Nghymru ac yn ein cenhedlaeth iau. Mae gennyf hyder yn ein hymgyrch i newid ein gwlad. Mae gennyf hyder fod gennym ddyddiau mwy disglair o'n blaenau, ac mae'r math o wleidyddiaeth boblyddol sy'n cael ei hyrwyddo ddydd ar ôl dydd gan y Torïaid, rwy'n gobeithio, ar fin cael ergyd farwol yn y blwch pleidleisio.

Rwy'n gwybod y bydd rhai'n ceisio ail-fframio'r hyder hwn fel haerllugrwydd. Yn sicr, nid yw yr un peth. Ac os daeth y gair hwnnw i'ch pennau, rwy'n eich herio i ofyn pam. Gallaf ymddiheuro am lawer o bethau, ond ni fyddaf byth yn cilio rhag agwedd gadarnhaol tuag at wleidyddiaeth, ein gwlad a'n Llywodraeth. Rwyf eisiau i ni fod yn Gymru hyderus.

Wrth Blaid Cymru, dywedaf hyn: rydym wedi gweithio gyda'n gilydd yn y gorffennol. Rwyf wedi cynnig cyfeillgarwch, camau gweithredu ymarferol a chydweithrediad i chi. Rwy'n parhau i wneud hynny. Rydych chi eich hun yn adnabod rhagrith y Torïaid. Rydych chi'n dweud eich bod chi eisiau gweld diwedd ar y Torïaid yng Nghymru, ond eto rydych chi'n dod yma heddiw fraich ym mraich â nhw. Nid oes unrhyw beth blaengar ynglŷn ag ymuno ag arweinydd y Torïaid mewn cynghrair wrth-Lafur. Mae'n wrthwyneb i'r cydweithio a wnaethom. Wrth gwrs, mater i chi yw egluro wrth eich pleidleiswyr, aelodau a chefnogwyr posibl, pam y byddech chi nawr, o bob amser, yn ochri â phlaid sy'n gwneud gelynion o bobl agored i niwed, plaid a chwalodd ein heconomi a phlaid sy'n trin Cymru fel ôl-ystyriaeth.

Gwlad dros blaid. Byddaf yn parhau i roi Cymru'n gyntaf; yn gyntaf yn fy meddwl, fy ngweithredoedd a fy uchelgais, wrth imi wasanaethu ac arwain fy ngwlad. Diolch yn fawr.

16:40

Diolch, Lywydd. Ac rwy'n synnu at ymateb y Prif Weinidog. Ni chlywais unrhyw ymddiheuriad. Mae'n awgrymu y byddai'r Prif Weinidog yn derbyn rhodd debyg unwaith eto, pe bai un yn cael ei chynnig yn y dyfodol, o dan yr un amgylchiadau ag y derbyniodd y rhodd gyntaf gan Mr Neal.

Fel y dywedodd arweinydd yr wrthblaid yn ei araith agoriadol, nid yw'r ddadl hon heddiw yn ymwneud ag unrhyw beth ar wahân i chi, Brif Weinidog: eich crebwyll, y diffyg tryloywder a welsom, a chwestiynau ynglŷn â'ch uniondeb a'ch gonestrwydd. Ein dyletswydd ni fel gwrthblaid yw adlewyrchu teimladau'r wlad a theimladau pobl yn y Siambr hon, ar bob ochr, gan gynnwys eich un chi, sydd â phryderon am y crebwyll a ddangoswyd gennych.

Mae derbyn cannoedd o filoedd o bunnoedd—cyfraniad mwy nag erioed, fel y dywedodd Andrew R.T. Davies—i unigolyn mewn ymgyrch arweinyddiaeth, yng Nghymru, heb sicrhau diwydrwydd dyladwy priodol, yn rhyfeddol, a dweud y gwir. Yn hollol syfrdanol. A phan ystyriwn y ffaith ein bod, hyd yn oed yn gynharach yr wythnos hon, wedi clywed awgrym eich bod wedi ymdrechu i atal eraill rhag rhyddhau gwybodaeth am gwestiynau a oedd yn codi, a chwestiynau a oedd yn cael eu gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'n ymddangos bod mwy yn dod i'r amlwg bob dydd am eich crebwyll, a dyna yw hanfod y ddadl hon.

Nid yw'n ymwneud â'ch Llywodraeth, nid yw'n ymwneud â'r Blaid Lafur, ac nid yw'n ymwneud ag etholiad cyffredinol. Mae'n ymwneud â'ch crebwyll chi, Brif Weinidog, ac mae arnaf ofn, heb ymddiheuriad—heb ymddiheuriad heddiw—rwy'n ei chael hi'n rhyfeddol ein bod ni'n eistedd yma, yn gwrando arnoch chi'n dweud unrhyw beth heblaw 'sori', oherwydd, a dweud y gwir, dyna'r gair cyntaf y dylech fod wedi'i ynganu. Ond ni wnaethoch. Ac rydych chi wedi gwneud cam â chi eich hun ac wedi gwneud cam â'ch plaid ac wedi gwneud cam â'r Senedd hon, oherwydd rwy'n ofni bod hyn yn adlewyrchu ar y Senedd ac mae'n adlewyrchu ar ein democratiaeth. Oherwydd pan na all Prif Weinidog Cymru, cenedl rwy'n falch o fyw ynddi, a Senedd rwy'n falch o'i gwasanaethu, ymddiheuro i bobl Cymru am ddiffyg crebwyll, a myfyrio, rwy'n credu bod yna broblem ddifrifol.

Rydych chi wedi ceisio tynnu sylw a siarad am bob math o bethau eraill yn hytrach na'ch crebwyll eich hun. Rydych chi wedi gwrthod derbyn atebolrwydd am yr ymddygiad a ddangosoch chi wrth dderbyn y rhodd honno, rydych chi'n sgrafangu i oroesi a dweud y gwir, drwy ddiystyru'r bleidlais hon fel pe bai'n golygu dim. Rwy'n dweud wrthych, Brif Weinidog, y dylid parchu pob pleidlais yn y Senedd hon, ac mae hynny'n cynnwys y bleidlais a fydd yn digwydd heddiw, pleidlais y disgwylir i chi ei cholli, os yw adroddiadau'r cyfryngau'n wir. Ac rwy'n credu ei bod yn rhyfeddol y byddech chi'n diystyru hynny ac yn dweud ei bod hi'n amhriodol gwrando ar hynny, oherwydd, unwaith eto, mae'n dangos diffyg crebwyll. Diffyg crebwyll.

Ac yna buom yn siarad am y tryloywder mewn perthynas â diswyddo'r Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn. Gallech roi diwedd ar y mater drwy gyhoeddi'r dystiolaeth. Gallech roi diwedd ar y mater, yn ddiamheuaeth, drwy gyhoeddi'r dystiolaeth i ddangos eich uniondeb yn y penderfyniad a wnaethoch. Rydych chi wedi dewis peidio â gwneud hynny. [Torri ar draws.] Nid wyf am dderbyn ymyriad, os yw hynny'n iawn. Gallech roi diwedd ar y mater drwy gyhoeddi'r dystiolaeth honno. Gofynnaf i chi: pam na wnewch chi gyhoeddi'r dystiolaeth honno? Pam na wnewch chi ei gwneud yn gyhoeddus? Gallech dawelu unrhyw amheuon am eich uniondeb yn hawdd drwy gyhoeddi'r wybodaeth honno. Rydych chi wedi dewis peidio â gwneud hynny.

Mae'n ymddangos eich bod chi wedi camarwain yr ymchwiliad COVID. Fe wnaethoch chi awgrymu mai adran TGCh y Senedd oedd wedi dileu negeseuon ar eich ffôn er mai'r gwirionedd oedd mai chi wnaeth ddileu negeseuon ar eich ffôn ac annog eraill i wneud yr un peth—[Torri ar draws.]

16:45

Nid wyf yn derbyn unrhyw ymyriad; rwyf wedi gwneud hynny'n glir. 

Mae cwestiynau i'w gofyn am eich crebwyll. Mae cwestiynau i'w gofyn am eich gonestrwydd. Ac mae cwestiynau i'w gofyn ynglŷn ag a ydych chi'n bod yn onest gyda'ch plaid eich hun, gyda phobl Cymru a'r Senedd hon. Ac mae arnaf ofn, oherwydd hynny, y byddwn yn pleidleisio o blaid y cynnig hwn, sy'n cydnabod pryderon pobl Cymru.

Rydych chi'n dweud nad yw'r mater hwn yn cael ei drafod ar garreg y drws ledled Cymru. Rydym yng nghanol etholiad cyffredinol; mae miloedd o sgyrsiau'n digwydd bob dydd gyda chefnogwyr Llafur, cefnogwyr y Blaid Geidwadol, cefnogwyr Plaid Cymru, cefnogwyr y Democratiaid Rhyddfrydol ar draws y wlad, a gallaf ddweud wrthych fod hwn yn fater y mae pobl yn ei godi'n aml ar garreg y drws—nid oherwydd bod gwleidyddion yn eu holi yn ei gylch, ond oherwydd eu bod nhw'n gofyn cwestiynau am eich crebwyll a'ch uniondeb. Felly, mae gennym ddyletswydd yn y Senedd hon i sicrhau bod y safbwyntiau hynny'n cael eu hadlewyrchu. A gallaf ddweud hyn: os nad oes gan bobl Cymru hyder ynoch chi, yna nid oes gennym ninnau ychwaith.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly bydd y bleidlais yn cael ei chynnal ar ôl y ddadl nesaf, yn ystod y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl Plaid Cymru: Cyllid HS2

Y ddadl nesaf, felly, o dan eitem 7, yw dadl Plaid Cymru ar gyllid ar gyfer HS2. Dwi'n galw ar Delyth Jewell i wneud y cynnig yma. 

Cynnig NDM8594 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar lywodraeth nesaf y DU i ddyfarnu cyfran deg o arian HS2 i Gymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Nid dadl am reilffordd yn unig yw hon; mae'n ymwneud â sut mae San Steffan yn diystyru anghenion a llais Cymru. Mae HS2 yn rheilffordd mewn gwlad arall yr ydym er hynny yn ei hariannu, rheilffordd nad yw'n croesi ein ffin ond sy'n costio biliynau i ni i'w rhedeg, felly rydym yn colli arian drwy wario ar rywbeth sy'n ein gwneud ni hyd yn oed yn dlotach. Dro ar ôl tro yn y Senedd hon, rydym wedi cytuno bod y sefyllfa'n anghyfiawn, na ellir ei chyfiawnhau, ac eto nid oes unrhyw beth yn newid. Ac ar ben hynny; nid yw San Steffan yn cymryd arni ei bod hi'n sylwi hyd yn oed.

Pe bai rhywle arall—yn nwyrain Ewrop neu Dde America, dyweder—rhywle pell i ffwrdd, lle byddai cenedl yn cael ei hamddifadu o arian ar gyfer ei seilwaith ei hun ond yn gorfod talu tuag at gyfoethogi ei chenedl gyfagos, byddai'n cael ei ystyried yn hurt. Byddai datganiadau barn yn cael eu hysgrifennu mewn papurau newydd, yn arswydo at dwyll mor amlwg, ac eto o dan drwynau'r papurau newydd safonol, prin y cawn ein crybwyll. Nid yw sylwebwyr yn ystyried Cymru'n genedl sy'n deilwng o'u sylw. Fel yr ysgrifennodd un o newyddiadurwyr The Guardian rai blynyddoedd yn ôl, 'Anghofiwch am Gymru, nid yw'n bwysig.'

Wel, Lywydd, mae'n bwysig iawn i ni. Mae'n fater o bwys fod ein rheilffyrdd angen eu trwsio, fod ein hunig reilffyrdd trydanol yno i gael teithwyr i Loegr yn gyflymach, y gallai'r biliynau y cawsom ein hamddifadu ohono ar gyfer HS2 fod wedi cael ei ddefnyddio i gysylltu ein cymunedau ein hunain, mae'n bwysig i ni nad yw'r Blaid Lafur na'r Torïaid wedi addo unioni hyn os byddant yn ennill grym yn San Steffan. Mae Cymru ar ei phen ei hun ymhlith cenhedloedd yr ynysoedd hyn wrth iddi dalu tuag at reilffordd nad yw'n croesi ei thir. Ni allai'r ffars o'i alw'n brosiect Cymru a Lloegr fod yn fwy amlwg. Ond dyna'r agwedd: anghofiwch am Gymru, nid yw'n bwysig iddynt.

Dro ar ôl tro, a phleidlais ar ôl pleidlais, mae'r Senedd hon wedi siarad ag un llais ac wedi dweud wrth San Steffan am ad-dalu'r arian sy'n ddyledus i ni o'r prosiect hwn, i'w ailddosbarthu ar sail realiti nid anwiredd. Ond nid yw'r cynigion hynny'n bwysig iddynt. Mae Mr Sunak a Mr Starmer yn barod iawn i anwybyddu Cymru—islaw sylw un a thu hwnt i ddiddordeb y llall, gan ein cymryd ni'n ganiataol neu ein hystyried yn ffyliaid. Dyna'r cyfan sy'n digwydd o dan system bydredig San Steffan i Gymru. Maent yn gwybod bod yr arian hwn yn ddyledus i ni, ond dywedir wrthym nad yw'n flaenoriaeth, nad yw Cymru'n flaenoriaeth. Anghofiwch Gymru, nid yw'n bwysig—dyna maent yn ei feddwl ohonom.

Ond rydym wedi cael digon o'u difaterwch, o'u cael yn dweud wrthym am aros a gweld beth a gawn—'efallai' bob amser i Gymru, y lleiaf o'u pryderon bob amser, yn cael ein gwthio i'r cefn bob amser, a bob amser yn gorfod 'aros ein tro'. Nid ydym am fodloni ar aros, aros am fuddsoddiad sy'n ddyledus i ni. Rydym wedi aros ac aros yn ofer am degwch gan San Steffan. Maent yn adeiladu rheilffyrdd sy'n ein gwneud yn dlotach, ac yn codi tâl arnom am y fraint o fod yn dlawd.

Anghofiwch obeithio am y gorau gan San Steffan. Nid yw gwneud yr hyn sy'n iawn yn bwysig iddynt. Rydym wedi bod yma o'r blaen yng Nghymru, gyda'r llwybr hwn sy'n arwain i unman. Yn lle aros am degwch, mae'n bryd i ni fynnu'r hyn sy'n ddyledus i ni. Gadewch i ni anfon neges atynt yn Whitehall fod y biliynau hyn yn bwysig i Gymru a'u bod yn fater y mae'n rhaid iddynt fynd i'r afael ag ef.

16:50

A gaf i ddiolch i Blaid Cymru am ddod â'r ddadl hon gerbron y Siambr y prynhawn yma? Gadewch imi ddechrau drwy fod yn hollol glir. Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen ac rwyf am ei ddweud eto heddiw: mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ers tro ar Lywodraeth San Steffan i sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran o gyllid canlyniadol HS2. Rwyf wedi cael llawer o sgyrsiau gyda fy nghymheiriaid trafnidiaeth yn San Steffan ar y mater hwn ar sawl achlysur, a gwn fod rhai o fy nghymheiriaid, yn Aelodau Seneddol ac Aelodau o'r Senedd, wedi gwneud yr un peth yn union. Byddwn yn parhau i ddadlau'r achos, ac rydym wedi cefnogi cynigion blaenorol i ailddosbarthu'r prosiect rheilffyrdd fel prosiect Lloegr yn unig.

Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, nad ydym eisiau i'r arian ychwanegol hwn fynd yn syth i gyfrif banc Llywodraeth Cymru, gan ein bod i gyd yn gwybod pa mor ddi-hid ydynt ynghylch gwario arian trethdalwyr. Yn lle hynny, credwn y dylid rhoi'r arian yn uniongyrchol i Network Rail, sydd mewn sefyllfa well i fuddsoddi'n ddoeth yn ein seilwaith trafnidiaeth, ac rwy'n hyderus na fyddant yn gwastraffu'r arian ar brosiectau porthi balchder. Er ein bod ni'n credu bod HS2—

Ond Network Rail sy'n gyfrifol am y seilwaith rheilffyrdd, felly—

I raddau, ond fel y gwyddoch, Carolyn, oherwydd rwy'n gwybod eich bod yn angerddol iawn am drafnidiaeth, mae gan lawer o'r rheilffyrdd gysylltiadau rhwng Network Rail a Trafnidiaeth Cymru, a dyna lle bydd yr arian yn mynd.

Er ein bod yn credu y dylid ailddosbarthu HS2 ac y dylai Cymru weld arian ychwanegol o ganlyniad, ni ellir gwadu bod ein gwlad yn elwa o benderfyniad Llywodraeth Geidwadol y DU i gael gwared ar y llwybr Birmingham i Fanceinion yn y cynllun rheilffordd. O ganlyniad, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai'n buddsoddi £1 biliwn i drydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru, a fydd yn rhoi rhannau o'r wlad o fewn awr i Fanceinion. Byddai hefyd yn arwain at deithiau mwy dibynadwy a phrydlon ar y llwybr rhwng Crewe, Warrington, Caer, Llandudno a Chaergybi. Mae hyn yn newyddion gwirioneddol dda i Gymru, Lywydd.

Dim rhagor, os gwelwch yn dda, fe hoffwn barhau. Dro ar ôl tro, mae arweinydd Llafur Keir Starmer wedi gwrthod ymrwymo i roi arian ychwanegol i Gymru am HS2 pe bai ef—a dyma syniad gwirioneddol frawychus—yn dod yn Brif Weinidog yn yr wythnosau nesaf. Gobeithio na fydd byth yn cael ei fachau ar allweddi 10 Stryd Downing, ond os caiff, mae wedi dweud yn glir na fydd unrhyw arian ar gael i Gymru. Felly, byddwn yn awyddus i wybod pa drafodaethau y mae Gweinidogion Llafur yma wedi'u cael gyda Keir Starmer a'i dîm yn Llundain, a beth oedd eu hymateb hyd yma. Ac mewn gwirionedd, a yw'r Prif Weinidog wedi codi'r mater hwn yn uniongyrchol gydag ef ar ôl eu cyfarfod yr wythnos diwethaf? Efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth daflu ychydig o oleuni ar y mathau o drafodaethau y mae'r Llywodraeth wedi'u cael gyda Keir Starmer pan fydd yn ymateb i'r ddadl hon ychydig yn nes ymlaen.

Lywydd, er y gallai fod rhywfaint o anghysondeb ynghylch y modd yr hoffem weld yr arian yn cael ei weinyddu, mae'n deg dweud ein bod i gyd yn gytûn y dylai Cymru gael cyllid ychwanegol ar gyfer HS2. Ni waeth beth sy'n digwydd ar 4 Gorffennaf, rhaid i bob un ohonom barhau i bwyso i sicrhau ei fod yn digwydd a bod y cyhoedd yng Nghymru yn cael yr hyn sy'n ddyledus iddynt. I'r perwyl hwnnw, byddwn yn cefnogi'r cynnig y prynhawn yma. Diolch.

16:55

Buaswn i'n licio dechrau yn yr ysbryd o ymhyfrydu yn y ffaith bod yna rai pynciau yn y Senedd yma lle mae gennym ni fwy yn gyffredin ar draws pleidiau na sydd yn ein gwahanu ni. Mae hi'n fater o falchder gwirioneddol ein bod ni fel Senedd wedi datgan efo un llais, ychydig dros flwyddyn yn ôl, y dylid ailddynodi cynllun HS2 yn brosiect Lloegr yn unig. Does yna ddim posib celu y ffaith bod yna anghyfiawnder cwbl sylfaenol yn y ffaith bod trethdalwyr Cymru i bob pwrpas yn talu am reilffordd yn Lloegr sydd nid yn unig ddim yn dod â budd i Gymru ond sydd, yn ôl astudiaethau, yn niweidiol i economi Cymru. Ond â ninnau wedi adnabod yr anghyfiawnder hwnnw a chytuno arno fo, dydy'r cwestiwn, 'Beth nesaf?' dal ddim wedi cael ei ateb.

Pan wnaethom drafod HS2 fis Ebrill diwethaf, dywedodd y dirprwy Weinidog newid hinsawdd ar y pryd, Lee Waters, ei bod yn sgandal nad oedd Cymru'n cael ei chyfran deg o gyllid canlyniadol. Ond gellid dadlau mai'r sgandal fwyaf yw'r ffaith nad ydym, hyd yn oed mewn ymgyrch etholiad cyffredinol—sydd yn draddodiadol yn amser lle ceir addewidion a rhoddion mawr—wedi clywed unrhyw beth gan y Ceidwadwyr na'r Blaid Lafur ar unioni camwedd HS2. Byddwn i'n dadlau bod ymrwymo i symiau canlyniadol HS2 yn un o'r profion litmws mwyaf amlwg ar gyfer unrhyw ddarpar Lywodraeth y DU o ran bod o ddifrif ynglŷn â thegwch i Gymru, oherwydd nid oes unrhyw beth yn deg am gyflwr presennol ein rheilffyrdd. Cafodd y rheilffordd rhwng Glasgow a Llundain ei thrydaneiddio hanner canrif yn ôl, ac eto mae prif reilffordd gogledd Cymru yn dal i aros i gael ei thrydaneiddio, ac nid yw prif reilffordd de Cymru ond wedi cael ei thrydaneiddio cyn belled â Chaerdydd.

Mae Cymru'n gartref i tua 12 y cant o seilwaith rheilffyrdd y DU. Rydym yn cael 2 y cant o fuddsoddiad rheilffyrdd y DU. Eto'i gyd, roedd gwasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru yn gyfrifol am fwy na 1 filiwn o funudau o oedi yn 2023. Nawr, mae £4 biliwn yn amcangyfrifiad da o'r gyfran deg o'r prosiect hwn a ddylai fod yn dod i Gymru—prosiect na fydd yn gweld yr un filltir o drac yn cael ei adeiladu yma. Beth bynnag yw'r union ffigur, gellid ei ddefnyddio i drawsnewid ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus: bysiau, ac rydym yn gwybod faint y maent hwy wedi'i ddioddef; rheilffyrdd; gwella cysylltiadau ffyrdd rhwng y gogledd a'r de, y dwyrain a'r gorllewin. Gallai hynny wneud cymaint i ddechrau gwneud iawn am ddegawdau o danariannu cronig gan Lywodraethau Torïaidd a Llafur olynol y DU.

Yn ôl ym mis Hydref, honnodd Ysgrifennydd Gwladol yr wrthblaid Lafur yn Llywodraeth y DU, Jo Stevens, na allai Llafur ymrwymo nawr i gyllid HS2 i Gymru, gan ddweud y byddai'n rhaid i Lywodraeth Lafur yn y DU ystyried beth yw'r anghenion i Gymru o ran trafnidiaeth ar ôl buddugoliaeth etholiadol, ac nad ydynt wedi gweld y llyfrau. Wrth gwrs, yr wythnos hon, llwyddodd Keir Starmer i wneud addewid cadarn i adnewyddu Trident, unwaith eto heb weld y llyfrau, felly pam na allai wneud hynny i unioni'r anghyfiawnder hwn? Dyna pam mae'r cynnig sydd o'n blaenau heddiw mor bwysig. Mae'n ffordd i'r Senedd allu anfon neges glir ac unedig at Lywodraeth nesaf y DU, ac mae'r Llywodraeth honno bron â bod yn sicr o fod yn Llywodraeth Lafur, ni waeth sut mae Cymru'n pleidleisio, a dyna pam fod pleidlais i Blaid Cymru yn yr etholiad hwn mor hynod o werthfawr. Ond y neges yn y bleidlais hon heddiw yw bod Cymru'n haeddu'r tegwch hwnnw a'r cyllid sydd ei angen arnom i adeiladu cysylltedd a rhwydwaith rheilffyrdd sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Rwy'n annog yr holl Aelodau sy'n rhannu'r farn honno i gefnogi'r cynnig heddiw.

Mae HS2 wedi bod yn drychineb llwyr gan Lywodraeth y DU: mae wedi diffeithio cefn gwlad, dinistrio cartrefi, a chostio biliynau i'r trethdalwr. Cyfarfûm â rhywun sydd bellach yn byw yn sir y Fflint y prynwyd ei gartref yn orfodol. Roedd mor flin gyda'r cynllun a'r dinistr a achosodd, ynghyd â'r costau enfawr hefyd.

Yn 2011, cafwyd rhagamcan y byddai'r costau'n £32 biliwn, ond erbyn 2020, y rhagamcan oedd y byddent yn £106 biliwn, ac rwy'n credu y bydd y cam cyntaf o Lundain i Birmingham bellach yn costio £66 biliwn. Mae'n eliffant gwyn hynod o ddrud, ac mae'n tynnu sylw oddi wrth realiti'r buddsoddiad mawr ei angen yn y seilwaith rheilffyrdd Fictoraidd ledled y DU, ac yn enwedig yng Nghymru. Ac mae'r seilwaith rheilffyrdd yn bennaf dan reolaeth Llywodraeth y DU drwy Network Rail. Bydd HS2 nawr yn arbed ychydig funudau'n unig i fynd o Birmingham i Lundain—dyna'r cyfan, ar ôl yr holl fuddsoddiad. Ac mae'r penderfyniad i labelu HS2 yn brosiect Cymru a Lloegr yn hurt. Mewn gwirionedd, gallai gael effaith economaidd negyddol o hyd at £200 miliwn ar Gymru, a chredaf ei fod yn gam sinigaidd i dwyllo Cymru rhag cael buddsoddiad mawr ei angen drwy symiau canlyniadol. 

Cafodd tri chais seilwaith rheilffyrdd eu cyflwyno i Lywodraeth y DU am gyllid ffyniant bro, ac fe gafodd y tri eu gwrthod, ac roedd y blaenoriaethau hyn yn sir y Fflint yn cynnwys gorsaf Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy i greu miloedd o swyddi a chludo nwyddau oddi ar y rheilffordd yn Hanson Cement yn Padeswood. Hefyd, cafodd prosiect porth Wrecsam ei wrthod deirgwaith. Roeddent yn geisiadau cynhwysfawr a chafodd llawer o amser ei dreulio a llawer o arian ei wario arnynt. Yr adborth oedd, er bod y prosiectau'n dda, roedd y cyllid ffyniant bro a oedd ar gael yn y DU yn gyfyngedig. Ond wedyn, eleni, rhoddwyd mwy o gyllid ffyniant bro i Canary Wharf yn Llundain nag a roddwyd i Gymru gyfan gyda'i gilydd, ac nid wyf yn deall y diffyg tegwch i Gymru o gwbl. 

Mae 14 blynedd o danfuddsoddi ar drywydd cyni wedi arwain at doriadau mewn termau real ar gyfer cynnal a chadw rheilffyrdd, a fydd yn arwain at ostyngiad difrifol mewn tasgau cynnal a chadw wedi'u trefnu, sy'n peri gofid pellach. Er mwyn gwneud rheilffyrdd yn ddiogel, mae angen y buddsoddiad hwnnw arnom. Bydd Network Rail yn torri 1,850 o swyddi cynnal a chadw fel rhan o'r rhaglen i foderneiddio gwaith cynnal a chadw, ac mae angen i ni bryderu am hynny. Daw hyn ar adeg pan ddylem fod yn buddsoddi mewn atal llifogydd, gan fod yr achosion o dywydd garw'n dwysáu. Ac rwy'n fwyfwy pryderus am hyfywedd prif reilffordd gogledd Cymru yn y dyfodol, wrth i'r bygythiad o dywydd newidiol a newid hinsawdd hofran uwch ein pennau. Rwy'n gwybod ein bod wedi cael llanw uchel pan fu bron i'r llanw ddod dros y rheilffordd yn ddiweddar. 

Rwyf eisiau gweld Llywodraeth newydd yn y DU sy'n deall pwysigrwydd tryloywder ac sy'n gallu rhoi diwedd ar adrannau yn San Steffan yn dod o hyd i arian i lawr cefn y soffa fel nad oes rhaid iddynt drosglwyddo'r cyllid canlyniadol i Gymru. Mae arnom angen Llywodraeth Lafur yn y DU sy'n parchu pwysigrwydd datganoli ac sy'n barod i gydweithio â Llywodraeth Lafur Cymru i sicrhau newid cadarnhaol i Gymru, wrth symud ymlaen, gyda gwir dryloywder. Ac fe fydd hyn yn gwbl groes i'r Torïaid, sydd wedi ceisio osgoi a thanseilio Llywodraeth Cymru a'r Senedd ar bob cyfle posibl. Diolch. 

17:00

Diolch am y cyfle i gyfrannu at y ddadl. Dwi am ganolbwyntio ar sut y gallai mwy o fuddsoddiad drawsnewid y ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus mewn cymunedau gwledig, fel yr ardaloedd dwi’n eu cynrychioli yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru—cymunedau sy’n dioddef oherwydd trafnidiaeth gyhoeddus wael. 

Pan fyddaf yn mynd mas i gwrdd ag etholwyr ar draws y rhanbarth—a dwi wedi gwneud tipyn o hynny dros yr wythnosau diwethaf—un o'r materion sy'n effeithio fwyaf arnyn nhw, ac maen nhw'n dweud hyn wrthyf i ar stepen y drws, yw diffyg trafnidiaeth gyhoeddus. Ac mae hyn yn arbennig yn effeithio ar bobl ifanc a phensiynwyr. Mae absenoldeb opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus ymhlith y materion pennaf y maen nhw'n poeni amdanynt.

I ormod o gymunedau gwledig, mae'r syniad o gyswllt rheilffordd cyfleus yn ddim byd mwy na breuddwyd gwrach. Ac yn aml iawn, dyma’r un cymunedau sy’n wynebu colli eu gwasanaethau bws hefyd.

Mae diffyg mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn un o achosion tlodi gwledig ac allgáu cymdeithasol. Mae'n ei gwneud yn anoddach gwneud busnes, ac yn anoddach i bobl gael mynediad at addysg, hyfforddiant a gwasanaethau hanfodol eraill fel meddygon, deintyddion a fferyllfeydd. Lle mae gwasanaethau rheilffyrdd yn bodoli yng nghefn gwlad Cymru, yn aml cânt eu heffeithio gan oedi a chanslo gwasanaethau. Mae gan reilffordd Calon Cymru yr anrhydedd amheus o fod â’r cyfraddau gwaethaf o fodlonrwydd cwsmeriaid yn y DU gyfan. Ac yn ddiweddar, rydym wedi gweld toriadau i wasanaethau ar y rheilffordd hon a rheilffordd y Cambrian.

Ond nid oes yn rhaid i bethau fod fel hyn. Gallai’r cyllid canlyniadol sy'n briodol ddyledus i Gymru oherwydd HS2 helpu i drawsnewid y ddarpariaeth reilffyrdd. Drwy fuddsoddi yn ein rheilffyrdd, gallem wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ein gwasanaethau, gan ddarparu cysylltiadau cyflymach, amlach a mwy dibynadwy ar draws y rhanbarth. A gallai agor llwybr ar gyfer ailgysylltu gogledd a de Cymru drwy'r rheilffyrdd, gan gau’r bwlch a adawyd yn sgil toriadau Beeching i'n seilwaith trafnidiaeth cenedlaethol. Byddai gwella cysylltedd yn y gogledd a’r gorllewin yn cefnogi busnesau ac yn eu helpu i oresgyn rhwystrau allweddol i fuddsoddiad, ac mae buddsoddi yn ein trafnidiaeth gyhoeddus, wrth gwrs, yn hollbwysig yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Yn syml iawn, nid oes unrhyw ffordd o wneud y newid sydd ei angen i ddulliau teithio os yw trafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i fod mor annibynadwy ac anghyfleus—a hynny lle mae'n bodoli o gwbl.

Mae’n fater o anghyfiawnder dybryd nad yw Cymru yn derbyn yr hyn sydd yn ddyledus iddi o'r buddsoddiad yn HS2. A pham—pam—fel rŷn ni wedi clywed yn barod yn y Siambr, nad yw 'r Blaid Lafur o dan Starmer wedi ymrwymo i ddarparu’r cyllid hwn? Mae pob un ohonon ni—rŷn ni wedi clywed yn barod yn y Siambr hon—yn llythrennol, pob un ohonom ni, wedi galw am hyn i ddigwydd sawl gwaith. Mae yna gytundeb rhwng pob plaid a thu hwnt y dylai hyn ddigwydd. Mae hyd yn oed yr Ysgrifennydd Gwladol cysgodol—eto fel rŷn ni wedi ei glywed—Jo Stevens, wedi dweud yn gyhoeddus, fod hyn yn anghyfiawn, a'i fod yn amddifadu Cymru o fudd economaidd gwerth £150 o filiynau y flwyddyn. Pam nad yw hi yn gorfodi Starmer i roi'r arian dyledus yma i Gymru fel addewid maniffesto?

Mae pobl yng Nghymru yn haeddu gwasanaethau trên effeithlon, dibynadwy a chynaliadwy, sy’n eu cysylltu â’i gilydd. Maen nhw’n haeddu buddsoddiad yn eu heconomi leol sy’n creu swyddi ac yn lleihau tlodi. Ond yn hollbwysig, maen nhw’n haeddu’r arian sydd yn ddyledus iddyn nhw, sef tua £4 biliwn i £5 biliwn—biliwn—o arian HS2. Rŷn ni ym Mhlaid Cymru yn mynnu cyllid teg i Gymru, ac mae’n hen bryd i’r ddwy blaid yn San Steffan ymrwymo i gyflawni hyn, pwy bynnag fydd yn ennill yr etholiad cyffredinol.

17:05

Rwyf innau hefyd yn fwy na pharod i gefnogi’r cynnig hwn. Byddai adeiladu rheilffordd HS2 wedi cysylltu Llundain a Birmingham; ni fyddai wedi dod yn agos at Gymru, ac ni fyddai o unrhyw fudd i deithwyr rheilffyrdd Cymru. Hyd at y flwyddyn nesaf, bydd Cymru wedi colli oddeutu £350 miliwn o ganlyniad i ddosbarthu HS2 yn anghywir fel prosiect Cymru a Lloegr, ac mae’r swm hwnnw’n debygol o gynyddu’n sylweddol mewn blynyddoedd i ddod hefyd. Ac yng Nghymru, mae gennym signalau o Oes Fictoria o hyd ar rai o’n llwybrau allweddol, a ddylai fod yn flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi. Dim ond 2 y cant o’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru o dan reolaeth Llywodraeth y DU sydd wedi'i drydaneiddio, o gymharu â 40 y cant o’r rheilffyrdd yn Lloegr. Mae Cymru’n haeddu gwell, ac mae'n haeddu ei darn o gacen drydaneiddio’r DU.

Pe bai Cymru’n cael ei chyfran deg o gyllid gan Lywodraeth Dorïaidd y DU, byddai’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i’n gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a’r penderfyniadau ariannol anodd iawn y mae’n rhaid i ni eu gwneud. Y gwir amdani yw bod y system gyllido bresennol yn ddiffygiol. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi nodi cynigion yn 'Diwygio ein Hundeb' ar gyfer dull newydd o ariannu yn y DU sy'n seiliedig ar egwyddorion, dull sydd wedi'i ymgorffori mewn cytundeb cyllidol newydd a oruchwylir ac a weithredir gan gorff sy'n annibynnol ar Lywodraeth y DU.

Mae ar Gymru angen strwythur ariannu sy’n deg, sy’n seiliedig ar angen, ac sy’n cyflawni ar gyfer pobl mewn gwahanol rannau o’r Deyrnas Unedig. Ond er gwaethaf y diffyg cyllid rheilffyrdd a ddaw o San Steffan, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi buddsoddi £800 miliwn mewn fflyd newydd o drenau newydd sy’n golygu bod teithwyr ledled Cymru bellach yn dechrau elwa o fanteision capasiti uwch, gwell hygyrchedd a mwy o foethusrwydd, gyda chynlluniau hefyd i ehangu yn y dyfodol. Mae canlyniadau gwaith uwchraddio gwerth £1 biliwn gan Lywodraeth Lafur Cymru ar linell graidd y Cymoedd i’w gweld bellach, gyda threnau trydan newydd sbon yn dod i wasanaeth eleni. Mae’r buddsoddiad yn dangos yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud lle mae ganddi bwerau a chyllid. Mae’n gwbl briodol mai uchelgais Llywodraeth Lafur Cymru yw datganoli rheilffyrdd yn llawn yng Nghymru, a rhoi diwedd ar y ddarpariaeth ddarniog a orfodwyd arnom. [Torri ar draws.] Iawn.

Rwy'n ddiolchgar iawn. Mae’r metro’n cael ei ariannu ar y cyd â Llywodraeth y DU. A wnewch chi gydnabod y pwynt hwnnw? Oherwydd mae'n digwydd drwy'r fargen ddinesig, ac rwy'n credu bod bron i 50 y cant o'r arian yn dod gan Lywodraeth y DU.

Ydy, ond ni allwn anwybyddu'r record druenus o ran y gwaith trydaneiddio rheilffyrdd nad yw wedi digwydd yng Nghymru, ac ni allwn wadu'r diffyg gwariant ar reilffyrdd yng Nghymru, ac mae'n rhaid inni edrych ar hyn gydag eglurder.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi buddsoddi £160 miliwn pellach i uwchraddio’r rheilffordd sy’n rhedeg drwy gymunedau Islwyn. Dyma gyfrifoldeb buddsoddi i Lywodraeth y DU. Ail-agorwyd rheilffordd Glynebwy, sy’n rhedeg am oddeutu 13 milltir, yn 2008, ar ôl bod yn segur ers 40 mlynedd, ac mae’n drueni fod gan Gymru well seilwaith trafnidiaeth yn ystod Oes Fictoria nag sydd gennym heddiw. Mae Llywodraeth Lafur Cymru a’n hawdurdodau lleol yng Nghymru wedi bod yn buddsoddi, yn buddsoddi’n wirioneddol, yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru, er na chafwyd y nesaf peth i ddim o arian seilwaith ac arian cyfatebol gan y DU. Mae’n haeddu—rydym ni'n haeddu—cyllid teg a gwariant teg ar y rheilffyrdd yng Nghymru nawr.

17:10

Hanes HS2 yng Nghymru yw un o’r anghyfiawnderau ariannol mwyaf, o blith nifer, a welsom ers amser maith gan San Steffan. Ni fydd yr un filltir o drac yn dod yn agos at Gymru, heb sôn am fynd drwyddi, ac eto, mae trethdalwyr yn y wlad hon yn gorfod talu amdani. Y rheswm am hyn yw bod y Llywodraeth Dorïaidd wedi'i ddosbarthu fel prosiect Cymru a Lloegr. Mae hyn yn cadarnhau eu bod nid yn unig yn anghymwys o ran yr economi, ond hefyd yn anghymwys o ran daearyddiaeth.

Mewn cyferbyniad, bydd Gogledd Iwerddon a’r Alban yn cael arian ychwanegol sy’n ddyledus iddynt o ganlyniad i brosiect ar gyfer Lloegr yn unig. Mae’r Trysorlys yn gwybod yn well nag amddifadu’r Alban neu Ogledd Iwerddon o arian sy'n briodol ddyledus iddynt. A yw Llywodraeth San Steffan wedi dod i’r casgliad na fydd Llywodraeth Lafur Cymru yn gwneud gormod o stŵr am hyn? Yn ôl eu hamcangyfrif eu hunain, mae’r Llywodraeth hon yn awgrymu y dylem gael oddeutu £5 biliwn yn seiliedig ar boblogaeth y wlad pe bai’r prosiect yn cael ei newid i fod yn brosiect Lloegr yn unig. Byddem yn cael yr arian ychwanegol hwnnw drwy fformiwla hynafol Barnett, sy’n cyfrifo faint o gyllid y mae’r gweinyddiaethau datganoledig yn ei gael gan y Trysorlys i’w wario ar feysydd datganoledig.

Nawr, efallai yr hoffai Natasha fyfyrio ychydig mwy ar oblygiadau rhoi’r arian yn uniongyrchol i Network Rail. Byddai’n erydu’r setliad datganoli a’r prosesau democrataidd yn y lle hwn.

Mae’r Llywodraeth Dorïaidd yn honni'n gwbl hurt fod HS2 yn brosiect sydd o fudd i’r ddwy wlad, ac yn dweud bod Cymru wedi elwa’n uniongyrchol o unrhyw gynnydd yng nghyllideb yr Adran Drafnidiaeth sydd wedi’i ysgogi gan HS2. Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Cyllid y Senedd yn ystod y pythefnos diwethaf, yn ein hymchwiliad presennol i gysylltiadau cyllidol rhynglywodraethol, datganodd yr arbenigwr cyfansoddiadol uchel ei barch Paul Silk fod y cyfiawnhad fod HS2 o fudd i Gymru 'braidd yn denau'. Nid yw’n iawn fod Llywodraeth y DU yn gallu gwneud y penderfyniadau anghyfiawn hyn yn fympwyol. Nid yw'n rhywbeth sydd wedi digwydd unwaith, maent wedi gwneud hyn ddwywaith. Mae rheilffordd Pwerdy Gogledd Lloegr yn rhaglen reilffordd fawr arfaethedig a fydd yn sicrhau gwelliannau mawr i gysylltedd gogledd Lloegr. Yn wreiddiol, y bwriad oedd adeiladu rheilffordd newydd i gysylltu ardaloedd fel Manceinion a Leeds, ond mae'r prosiect wedi'i leihau ers hynny. Bydd yn dal i gynnwys gwelliannau sylweddol i reilffyrdd yng ngogledd Lloegr, gan gynnwys Lerpwl, Manceinion, Leeds, Bradford ac Efrog. Mae rheilffordd Pwerdy Gogledd Lloegr, fel HS2, hefyd wedi’i ddosbarthu gan Lywodraeth y DU fel prosiect Cymru a Lloegr, er ei fod wedi'i leoli yn gyfan gwbl yn Lloegr. Mae hyn yn golygu y bydd Cymru ar ei cholled eto, o werth mwy na £1 biliwn o gyllid ar gyfer trafnidiaeth y tro hwn. Dylai cymudwyr yng Nghymru gofio hynny yn y blwch pleidleisio ym mis Gorffennaf, ond hefyd yn 2026 yn etholiadau nesaf y Senedd, gan ei bod yn ymddangos bod arweinydd Llafur Keir Starmer wedi rhoi sêl bendith ar y penderfyniadau anghyfiawn hyn drwy wrthod ymrwymo i’w gwrthdroi pe bai'n cael ei ethol yn Brif Weinidog, ond wrth gwrs, efallai y cawn ymrwymiad maniffesto hwyr gan Ysgrifennydd y Cabinet ar ei ran heno. Diolch.

Yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid nawr i gyfrannu i'r ddadl. Rebecca Evans.

Member
Rebecca Evans 17:14:43
Cabinet Secretary for Finance, Constitution and Cabinet Office

Diolch. Felly, mae ffeithiau'r mater hwn yn syml iawn. Rheilffordd rhwng Llundain a Birmingham yw HS2, ac ni fydd modfedd o drac yn cael ei adeiladu ar bridd Cymru. Nid yw o fudd i Gymru, a dylid ei ailddosbarthu fel prosiect Lloegr yn unig.

Hyd at ddiwedd 2024-25, bydd Cymru wedi colli oddeutu £350 miliwn o ganlyniad i ddosbarthu HS2 yn anghywir fel prosiect Cymru a Lloegr. Mae’r swm hwnnw’n debygol o gynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd i ddod. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn pwyso am gymharedd â HS2 yn y dyfodol ac am y cyllid a fyddai wedi dod i Gymru hyd yma, pe bai’r cymharedd hwnnw wedi bod ar waith yn y gorffennol. Wrth edrych ymlaen, bydd gwerth cymharedd yn dibynnu ar gynlluniau gwariant Llywodraeth y DU ar drafnidiaeth yn y dyfodol, ond byddai’n debygol o ddarparu adnoddau ychwanegol sylweddol i Lywodraeth Cymru, a gallai hyn fod rhwng £60 miliwn a £70 miliwn y flwyddyn. Hefyd, dylai Llywodraeth y DU gynnal adolygiad ehangach o gymharedd gyda’r Adran Drafnidiaeth i sicrhau mwy o wrthrychedd mewn penderfyniadau ariannu ac i fynd i’r afael ag effaith dosbarthu prosiectau rheilffyrdd yn y dyfodol.

Pe bai Cymru’n cael ei chyfran deg o gyllid gan Lywodraeth y DU, byddai’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i’n gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a gallai leddfu rhai o’r dewisiadau anodd y mae'n rhaid i ni eu gwneud. Nid yn unig fod ein setliad eleni'n werth hyd at £700 miliwn yn llai mewn termau real na'r disgwyl ar adeg yr adolygiad o wariant yn 2021, ond mae hefyd £3 biliwn yn is na phe bai wedi tyfu yn unol â chynnyrch domestig gros ers 2010. Mae ein cyllideb gyfalaf gyffredinol eleni'n werth hyd at 8 y cant yn llai mewn termau real na’r disgwyl ar adeg yr adolygiad o wariant yn 2021.

Rydym hefyd yn wynebu cyfyngiadau cadarn ar ein gallu i fenthyca a chario arian ymlaen neu dynnu arian i lawr o’n cronfeydd wrth gefn ein hunain, ac eto mae ein strategaeth buddsoddi yn seilwaith Cymru yn nodi cyfres o brosiectau y gallem fuddsoddi ynddynt i roi hwb i economi Cymru pe bai gennym y dulliau a'r adnoddau. Y gwir amdani yw bod y system gyllido bresennol yn ddiffygiol. Rydym wedi nodi cynigion yn 'Diwygio ein Hundeb' ar gyfer dull newydd o ariannu yn y DU sy'n seiliedig ar egwyddorion ac sydd wedi'i ymgorffori mewn cytundeb cyllidol newydd a oruchwylir ac a weithredir gan gorff sy'n annibynnol ar Lywodraeth y DU. A byddai hyn yn galluogi dyraniad gwariant cyhoeddus sy'n fwy rhesymegol a thryloyw ar draws y DU ac yn sicrhau bod penderfyniadau ynglŷn ag a yw rhaglen yn gymaradwy ai peidio yn cael eu gwneud ar sail wrthrychol. Mae arnom angen strwythur ariannu sy'n deg, sy'n seiliedig ar angen ac sy'n cyflawni ar gyfer pobl mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig.

Mae’r Llywodraeth Geidwadol wedi methu cefnogi blaenoriaethau yng Nghymru. Mae Llywodraeth y DU yn cyfarwyddo dirywiad a reolir yn seilwaith rheilffyrdd Cymru y mae’n gyfrifol amdano. Bydd eu cynlluniau ar gyfer Network Rail yng Nghymru ar gyfer y pum mlynedd nesaf yn arwain at ostyngiad yn yr arian parod sydd gan Network Rail i ofalu am seilwaith hanfodol. Y canlyniad fydd llai o ddibynadwyedd asedau a mwy o broblemau seilwaith, gan achosi oedi i wasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod eistedd yn ôl a gwylio’r argyfwng hwn yn datblygu. Rydym wedi ymyrryd gyda buddsoddiad o £800 miliwn mewn fflyd newydd o drenau, sy’n golygu bod teithwyr ledled Cymru bellach yn elwa o fanteision capasiti uwch, gwell hygyrchedd a moethusrwydd. Ond mae costau cyfle i hyn, ac mae wedi golygu penderfyniadau anodd mewn mannau eraill yn ein cyllideb.

Yr her sy’n wynebu Llywodraeth nesaf y DU yw bod yr un bresennol wedi camreoli’r economi yn llwyr dros y 14 mlynedd diwethaf, gan roi mwy na degawd o gyni i ni, mini-gyllideb fyrbwyll, argyfwng costau byw a'r lefelau chwyddiant uchaf erioed. Er gwaethaf y sefyllfa heriol o ran cyllid cyhoeddus, mae pobl yng Nghymru yn deall y byddai cael dwy Lywodraeth Lafur sydd wedi ymrwymo i gydweithio ar gyfer dyfodol Cymru yn beth da, a gallem wneud cynnydd gwirioneddol yn y maes hwn a chymaint o feysydd eraill. Yng Nghymru, lle rydym yn gyfrifol am linell graidd y Cymoedd, rydym eisoes wedi dangos y trawsnewidiad y gallwn ei gyflawni. Mae canlyniadau ein gwaith uwchraddio gwerth £1 biliwn ar linell graidd y Cymoedd bellach i'w gweld, gyda threnau trydan newydd sbon yn dod i wasanaeth eleni. Mae’r newid i'r amserlen yr wythnos hon yn gam sylweddol tuag at y gwasanaeth ‘cyrraedd a theithio’ y bydd y metro yn ei gynnig, gan ddarparu teithiau amlach i deithwyr, gwella cysylltedd a chreu cyfleoedd. Mae ein buddsoddiad yn dangos yr hyn y gallwn ei gyflawni lle mae gennym bwerau a chyllid. Mae’n parhau i fod yn uchelgais gan Lywodraeth Cymru i ddatganoli rheilffyrdd Cymru'n llawn er mwyn ein galluogi i ddarparu system drafnidiaeth gwbl integredig ac effeithlon sy’n diwallu anghenion teithwyr a chludwyr nwyddau yng Nghymru.

Lywydd, mae Cymru’n haeddu cael ei thrin yn deg ac yn barchus gan Lywodraeth y DU, a dylai fod gan Lywodraeth Cymru y pwerau cyllidol a’r adnoddau sydd eu hangen arnom i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru lewyrchus, werdd ac iach. Diolch.

17:20

Diolch, Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl bwysig hon.

Natasha, diolch am nodi eto eich cefnogaeth i ailddosbarthu HS2. Y pwynt y mae Natasha yn ei wneud ynglŷn â Network Rail, sy'n codi’r pwynt, wrth gwrs, ynglŷn â pham fod angen datganoli’r pwerau dros y seilwaith trafnidiaeth i Gymru, neu fel arall, byddwn yn brin o arian ac yn brin o draciau am byth. Diolch am eich cyfraniad.

Ie wir, Rhun, dyma un pwnc sydd yn ein huno fel Senedd. Am bwerus a sarhaus, felly, y mae hi fod San Steffan, a phleidiau San Steffan, yn ein hanwybyddu—cymaint yn ddyfnach mae'r sarhad.

Credaf fod ymrwymo i gyllid canlyniadol yn sgil HS2 yn brawf litmws yn wir i Mr Sunak a Mr Starmer, prawf y maent yn ei fethu. Maent yn ein hanwybyddu naill ai am nad oes ots ganddynt neu am nad ydynt yn trafferthu sylwi arnom. Mae Mr Starmer, yn wir, wedi ymrwymo i wariant ar Trident. Beth am roi'r biliynau sy'n ddyledus i ni?

Nawr, nododd Carolyn y symiau syfrdanol o arian sy'n cael eu gwario ar HS2. Rwy'n croesawu—rwy'n croesawu'n fawr—y ffaith bod rhannau o Loegr yn cael y buddsoddiad hwnnw ac y bydd dinasyddion yn Lloegr yn elwa o hynny. Rwy’n ei groesawu iddynt, ond mae esgus bod y prosiect hwn o fudd i Gymru yn gwyrdroi realiti moesoldeb a mapiau.

Soniodd Cefin am yr effaith ar drigolion Cymru o safon wael ein trafnidiaeth gyhoeddus—y gwasanaethau hynny byddent yn elwa cymaint o fuddsoddiad biliynau o arian HS2. Fel yr oedd Cefin yn sôn, cwestiwn o degwch cymdeithasol ydy hwn. Mae ein tlodi ni fel gwlad yn benderfyniad sy'n cael ei wneud yn San Steffan, a, ie, cwestiwn o hawliau ydy hynny hefyd, rwy'n cytuno. Pam nad oes gennym ni yng Nghymru yr hawl am wasanaethau gwell?

Nawr, mynegodd Rhianon ei chefnogaeth hefyd i ailddatgan realiti, bron, drwy nodi na fydd HS2 yn dod i mewn i Gymru. Ni ddylai fod yn werth nodi bod Aelod ar ôl Aelod wedi bod yn ailddatgan gwirioneddau amlwg daearyddiaeth, ond mae San Steffan yn benderfynol o anwybyddu hynny, yn ôl pob golwg. Nid ydym yn bwysig iddynt. Nawr, rwy'n cytuno â Rhianon ynglŷn â'r cyllid. Ni allaf ddeall pam na all arweinydd Llafur y DU weld hyn hefyd.

Soniodd Peredur am yr anghyfiawnder ariannol sydd wrth wraidd y sgandal hon. Fel y nododd Peredur, bydd yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael y cyllid hwn. Pam ar y ddaear y dylai Cymru fod yn llai pwysig? A chyda Pwerdy Gogledd Lloegr, gyda phob un o'r prosiectau eraill hyn, bydd yr anghyfiawnderau hyn yn parhau hyd nes y bydd gan Gymru bwerau dros ein seilwaith trafnidiaeth ein hunain.

Nawr, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r ffeithiau'n glir. Unwaith eto, maent yn glir i bob un ohonom, ond mae San Steffan yn gweld y mater drwy lens arall lle nad yw Cymru'n bwysig. Nawr, rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi dadlau o blaid ailddosbarthu, ac ydy, mae ein system ariannu yn ddiffygiol. Am feirniadaeth ddamniol o'n setliad datganoli fod San Steffan yn gallu penderfynu yn ôl ei mympwy ei hun a yw am ufuddhau i'r hyn sy'n iawn—beth sy'n realiti—ai peidio.

Nawr, dylai’r hyn y mae’r Senedd hon yn ei ddweud fod o bwys i San Steffan, gan fod a wnelo rheilffordd â mwy na thraciau a threnau; mae a wnelo â phennu cyfeiriad ar gyfer y dyfodol. Nid cwestiwn damcaniaethol sydd eto i'w ateb yw hwn, na rhywbeth ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Mae'n gwestiwn o gywiro anghyfiawnder sydd wedi digwydd, camgymeriad sydd eisoes wedi'i wneud, tric sydd eisoes wedi'i chwarae. Nawr yw ein cyfle i ddweud wrth Lywodraeth nesaf San Steffan, beth bynnag fo’i lliw, nad yw Cymru am aros mwyach. Dim mwy o 'y tro nesaf efallai' i Gymru; dim mwy o ddweud wrthym am aros ein tro, tro nad yw byth yn dod. Mae’r biliynau hyn yn ddyledus i Gymru, mae eu hangen yn daer i helpu ein cymunedau ac rydym ni, yn y Senedd hon, yn mynnu ein bod yn eu cael.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does yna ddim gwrthwynebiad. Ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Cyfnod Pleidleisio

Sydd yn golygu ein bod ni'n dod i'r cyfnod pleidleisio, ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, yna mi symudaf yn syth i'r bleidlais.

Mae'r unig bleidlais y prynhawn yma ar gynnig y Ceidwadwyr Cymreig ar hyder yn y Prif Weinidog. Dwi'n galw, felly, am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, neb yn ymatal, 27 yn erbyn.

Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

17:25

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y Prif Weinidog: O blaid: 29, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mater i’r Prif Weinidog nawr yw myfyrio ar y farn y mae’r Senedd newydd ei mynegi a’r cynnig sydd wedi'i dderbyn. Mae cynigion hyder yn wleidyddol, ydynt, ond maent hefyd yn hynod bersonol, ac er y bydd gan bleidlais o’r natur hon ganlyniadau, beth bynnag y bônt, gofynnaf i bob un ohonom drin ein gilydd â pharch a charedigrwydd nawr—mae pobl Cymru yn disgwyl hynny gan eu Senedd.

Felly, dyna ddiwedd ar y pleidleisio.

9. Dadl Fer: Gofal anghymalog: Mynd i'r afael ag iechyd y cymalau ac esgyrn yng Nghymru

Symudwn ymlaen nawr at ddadl fer. Efallai bod rhai o'r Aelodau'n gadael; gofynnaf iddynt wneud hynny’n dawel tra bo Altaf Hussain yn paratoi i gyflwyno ei ddadl fer. Fe wnawn ni ganiatáu i Aelodau adael yn gyntaf, er mwyn ichi gael eich clywed mewn distawrwydd.

Diolch. Ychydig dros 20 mlynedd yn ôl, cyhoeddais bapur ymchwil, 'Evaluation of one-year mortality rates in elderly patients with proximal femoral fractures'. Yn ystod fy ngyrfa fel llawfeddyg orthopedig ymgynghorol, roeddwn yn gweld cynnydd pryderus yn nifer yr henoed a oedd yn marw o ganlyniad i dorri asgwrn y glun. Pan gynhaliais yr ymchwil, canfûm fod oedi cyn rhoi llawdriniaeth o fewn 48 awr i dorri asgwrn yn arwain at ddyblu'r gyfradd farwolaethau, ni waeth beth fo'u hoedran; roedd unigolyn 65 oed yr un mor debygol o farw ag unigolyn eiddil 95 oed. Dyma un o’r ffactorau a’m harweiniodd i’r Senedd, gan gyfnewid y sgalpel am ddarllenfa. Ni waeth pa mor llwyddiannus y byddai'r llawdriniaeth, ffactorau allanol yn gohirio'r driniaeth oedd yn cael yr effaith fwyaf ar ganlyniad y llawdriniaeth. Yn y blynyddoedd ers hynny, mae cyfraddau marwolaethau wedi aros yn ystyfnig o uchel. Mae un o bob tri oedolyn 50 oed a hŷn yn marw o fewn 12 mis i dorri asgwrn eu clun. Mae gan oedolion hŷn bump i wyth gwaith yn fwy o risg o farw yn y tri mis cyntaf ar ôl torri asgwrn eu clun, o gymharu â’r rheini sydd heb dorri asgwrn eu clun. Mae'r risg gynyddol hon o farwolaeth yn parhau am bron i 10 mlynedd.

Nid torri asgwrn y glun yw'r unig beth y mae'n rhaid inni boeni yn ei gylch. Bu cynnydd brawychus mewn ystod gyfan o anhwylderau cyhyrysgerbydol. Dyma achos mwyaf cyffredin poen hirdymor difrifol ac anabledd corfforol, ac mae'n effeithio ar gannoedd o filiynau o bobl ledled y byd. Anhwylderau cyffredin fel osteoarthritis ac osteoporosis yw'r prif gyflyrau cronig ymhlith yr henoed, gan effeithio ar bron i 50 y cant o bobl 65 oed a hŷn. Mae 40 y cant o bobl dros 70 oed yn dioddef o osteoarthritis y pen-glin, ac mae gan 25 y cant o bawb dros 60 oed boen sylweddol a/neu anabledd oherwydd osteoarthritis. Mae gan 80 y cant o gleifion ag osteoarthritis rywfaint o gyfyngiad ar eu symudiad, ac ni all 25 y cant gyflawni eu prif weithgareddau dydd i ddydd.

Gan ddefnyddio blynyddoedd bywyd a addaswyd yn ôl anabledd, osteoarthritis yw'r pedwerydd achos mwyaf a ragwelir yn fwyaf aml o broblemau ledled y byd ymhlith menywod, a'r wythfed ymhlith dynion. Mae toresgyrn breuder wedi dyblu yn y degawd diwethaf. Bydd 40 y cant o'r holl fenywod dros 50 oed yn dioddef toriadau osteoporotig. Mae osteoporosis yn achosi i esgyrn fynd yn wan a brau—mor frau fel y gall cwymp neu hyd yn oed straen ysgafn, fel plygu drosodd neu beswch, achosi toriad. Ac yn aml, rydych chi'n baglu, rydych chi'n torri asgwrn, yna rydych chi'n ceisio rhoi pwysau ar y goes, ni allwch roi pwysau arni, ac rydych chi'n cwympo. Felly, mae'r toriad yn digwydd gyntaf, yna rydych chi'n cwympo.

17:30

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Mae toresgyrn sy'n gysylltiedig ag osteoporosis yn digwydd yn y glun, yr arddwrn neu'r asgwrn cefn gan amlaf. Mae asgwrn yn feinwe byw sy'n dadelfennu ac aildyfu'n gyson. Mae osteoporosis yn digwydd pan nad yw'r broses o greu asgwrn newydd yn cadw i fyny â cholli hen asgwrn. Mae osteoporosis yn effeithio ar ddynion a menywod o bob hil, ond menywod gwyn ac Asiaidd, yn enwedig menywod hŷn sydd wedi bod drwy'r menopos, sy'n wynebu'r risg fwyaf.

A dyna'r darlun nawr, ac eto yn ôl yr ystadegau a'r rhagolygon diweddaraf, rhagwelir y bydd nifer y rhai dros 65 oed yng Nghymru yn codi tua 45 y cant yn y ddau ddegawd nesaf. Felly, oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth radical o wahanol, byddwn yn gweld cynnydd dramatig mewn marwolaethau diangen ac anableddau y gellir eu hosgoi, heb sôn am y straen y byddwn yn ei rhoi ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Ymddengys na allwn fynd i'r afael ag amseroedd aros er bod y gyllideb iechyd a gofal wedi dyblu dros y chwarter canrif ddiwethaf. Yr amser aros canolrifol cyfartalog am lawdriniaeth ar y glun yng Nghymru oedd 452 diwrnod. Abertawe oedd â'r amser aros hiraf ar gyfer gosod clun newydd gydag amser aros o 668 diwrnod ar gyfartaledd. Roedd 96,500 o gleifion yn aros am lawdriniaeth trawma ac orthopedig ar draws Cymru, gyda bron i hanner yn aros yn hwy na naw mis. Roedd gan nifer o awdurdodau lleol amser aros o dros 379 diwrnod ar gyfartaledd i gael eu derbyn i'r ysbyty.

Mae hyn yn golygu bod angen inni ddyblu ein hymdrechion ar atal cwympiadau. Wedi'r cyfan, mae atal yn well na gwella. Dyma ffocws y ddadl fer hon. Rwyf eisiau i bob un ohonom feddwl sut y gallwn ddiogelu ein cymalau a diogelu iechyd ein hesgyrn, fel y gallwn atal cwympiadau yn ddiweddarach mewn bywyd. Wrth gwrs, i'r rhai ohonom sydd eisoes wedi cyrraedd adeg hwyrach mewn bywyd, mae cynnal iechyd y cymalau ac esgyrn yr un mor bwysig. Os ydym yn anffodus ac yn cwympo, mae gennym gyfle llawer gwell os oes gennym esgyrn cryf a chymalau iach. A gallwn roi camau syml ar waith i ofalu am ein cymalau a'n hesgyrn: gwneud newidiadau syml i ddeiet, gwneud ymarferion corff syml, a bod yn ymwybodol o'n hamgylchedd i atal cwympiadau.

Mae angen strategaeth iechyd menywod arnom hefyd sy'n mynd i'r afael â'r effaith y mae'r menopos yn ei chael ar iechyd esgyrn. Mae'n ffaith bod menywod yn colli dwysedd esgyrn yn dilyn menopos, ond gyda thriniaeth ataliol, sydd weithiau mor syml â chymryd tabled fitamin D, gallwn sicrhau nad yw'r menywod hynny'n mynd ymlaen i ddatblygu osteoporosis.

Mae nifer fawr o ymyriadau y gallwn eu cymryd i leihau ein risg o glefyd y cymalau, toriadau a'r marwolaethau cynamserol sy'n deillio o hynny, gyda rhai ohonynt yn costio fawr ddim ac eraill yn rhad ac am ddim hyd yn oed. Gallwn roi'r gorau i ysmygu a rhoi'r gorau i yfed gormod o alcohol. Mae ymchwil yn dangos y gall ysmygu ac yfed gormod o alcohol yn rheolaidd arwain at golli dwysedd esgyrn a chynyddu'r risg o dorri asgwrn. Os ydych wedi ysmygu neu yfed llawer o alcohol yn y gorffennol, efallai bod eich esgyrn wedi gwanhau dros amser. Mae'n bwysig iawn eich bod chi'n cael digon o galsiwm a fitamin D ac ymarfer corff rheolaidd i gadw eich esgyrn mor iach â phosibl.

Gall newidiadau deietegol sicrhau ein bod yn cael digon o galsiwm a fitamin D. Bwyta bwydydd sy'n llawn calsiwm yw'r ffordd orau o gael calsiwm i mewn i'ch corff. Argymhellir bod oedolion yn cael 700mg o galsiwm bob dydd. Mae ychwanegu bwydydd sy'n llawn calsiwm at brydau bwyd neu fyrbrydau yn bwysig. Mae bwydydd sy'n llawn calsiwm yn cynnwys llaeth, caws, iogwrt, cynhyrchion soia gyda chalsiwm ychwanegol, llysiau gwyrdd deiliog a ffrwythau sych.

Mae fitamin D yn helpu ein hesgyrn i amsugno calsiwm. Os nad ydych chi'n cael digon, nid yw'ch corff yn amsugno'r calsiwm sydd ei angen ar gyfer esgyrn cryfach. Prif ffynhonnell fitamin D yw golau haul ar ein crwyn. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael digon yn yr haf drwy dreulio cyfnodau byr o amser yn yr haul heb eli haul. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn methu cael digon o fitamin D o olau'r haul yn y gaeaf, ac mae'n anodd cael digon o fitamin D o fwyd yn unig. Dylech siarad â'ch meddyg teulu i weld a fyddent yn argymell cymryd atchwanegiad fitamin D yn ddyddiol.

Y cam pwysig arall y gallwn ei gymryd yw ymarfer corff yn rheolaidd. Ymarferion sy'n cynnal pwysau sydd orau ar gyfer eich esgyrn. Mae'r ymarferion hyn yn cynnwys codi ar eich traed a symud eich traed a'ch coesau, er enghraifft, cerdded yn gyflym, dawnsio a rhedeg. Gall gwneud eich cyhyrau'n gryfach ddiogelu eich esgyrn a gwella eich cydbwysedd. Nid oes raid i ymarferion sy'n cryfhau'r cyhyrau olygu codi pwysau mewn campfa. Mae yna ymarferion syml y gallwch eu gwneud yn eich cartref eich hun, gan ddefnyddio eitemau o amgylch y tŷ, fel tuniau bwyd neu boteli o ddŵr.

Os gallwn wneud y pethau syml hyn, gallwn leihau ein risg o boen cymalau a thoriadau. Maent yn ymyriadau syml a all ein helpu i fod yn iachach yn hwyrach mewn bywyd, ond gallant hefyd leihau'r straen ar ein hadrannau GIG a gwasanaethau cymdeithasol. Diolch yn fawr.

17:35

A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl, Eluned Morgan.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelod dros Orllewin De Cymru am gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw ar y pwnc pwysig o fynd i'r afael ag iechyd cymalau ac esgyrn yng Nghymru. Mae bob amser yn frawychus ymateb i Altaf Hussain, y clinigydd anhygoel hwn, ond dyma'i faes arbenigol, felly mae'n arbennig o frawychus heno, ond rwy'n siŵr y bydd yn falch o glywed fy mod wedi mynychu ac wedi siarad yn yr ail gynhadledd genedlaethol ar iechyd esgyrn yng Nghymru ddiwedd mis Ebrill.

Roedd ein strategaeth hirdymor ar gyfer iechyd a gofal, 'Cymru Iachach', yn pwysleisio pwysigrwydd llesiant, atal ac ymyrraeth gynnar i sicrhau bod ein systemau iechyd a gofal yn fwy effeithiol, teg a chynaliadwy. Mae'n tynnu sylw at yr angen i reoli cyflyrau hirdymor a chronig yn well, a rhoi hyder a gallu i bobl reoli a chymryd mwy o reolaeth dros eu hiechyd eu hunain. Mae'n canolbwyntio ar yr angen i alluogi ac annog iechyd a llesiant da drwy gydol ein bywyd, gan ystyried a rhagweld iechyd a llesiant gwael. 

Ond er gwaethaf yr agenda ataliol hon a'r ffocws penodol ar wella iechyd esgyrn, mae pobl yn dal i brofi cwympiadau a thoresgyrn. Nawr, mae'r data'n dweud wrthym y bydd un o bob dwy fenyw ac un o bob pum dyn dros 50 oed yn torri asgwrn yn ystod eu hoes. Dychmygwch, mae hynny'n golygu eich hanner. Wel, nid ydych i gyd dros 50 oed. [Chwerthin.] Ond mae'n llawer ohonoch. Gadewch inni ddweud y bydd llawer ohonoch yn torri asgwrn ar ryw adeg. A'r ffaith amdani yw, mae bron i filiwn o bobl yng Nghymru yn dioddef o gyflwr cyhyrysgerbydol; dyna oddeutu traean o'r boblogaeth. Nawr, gyda phoblogaeth sy'n heneiddio, a'r ffactor risg ychwanegol fod yna fwy o bobl yn byw gyda chyflyrau cronig, rwy'n credu ei fod yn nifer anhygoel o uchel.

Er mor gyffredin yw rhai o'r cyflyrau hyn, a pha mor aml y mae cwympiadau a thoresgyrn yn digwydd, ac er gwaethaf yr effaith ar fywydau pobl, y gwir amdani yw nad yw iechyd cymalau ac esgyrn bob amser yn cael y sylw y mae cyflyrau iechyd mawr eraill yn ei gael. Rwyf wedi ei wneud yn flaenoriaeth oherwydd yr effaith y mae'n ei chael ar fywyd unigolyn a'i annibyniaeth, a'r effaith a'r gost i'r gwasanaeth iechyd—nid yn unig y gwasanaeth iechyd, fel y nododd Altaf, ond y gwasanaethau cymdeithasol—a'r gymuned ehangach. 

Felly, mae'r dystiolaeth yn dangos bod gwasanaethau cyswllt toresgyrn yn arwain at fanteision clir i unigolion yn y tymor hir, a dangoswyd eu bod yn glinigol effeithiol a chosteffeithiol. Dyna pam y gwnes ymrwymiad y llynedd i sicrhau darpariaeth gwasanaeth cyswllt toresgyrn 100 y cant yng Nghymru erbyn mis Medi 2024, a fyddai'n arwain y wlad, ac rydym ar ein ffordd i gyflawni hynny. Ni fyddai llawer o'r cynnydd hwn wedi bod yn bosibl heb arweinyddiaeth glinigol ardderchog Dr Inder Singh. Mae'n gweithio'n agos gydag aelodau o'r gwasanaeth cyswllt toresgyrn, y grŵp sicrhau ansawdd, ac arweinwyr clinigol penodedig y byrddau iechyd. Ac rwyf wedi sicrhau bod £1 filiwn ar gael yn benodol ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Rydym yn parhau i ariannu cyfranogiad yn y rhaglen archwilio cwympiadau a thorasgwrn breuder, sydd ag enw da yn rhyngwladol, ac sy'n darparu ystod o ddata i'n helpu i fesur yr hyn sy'n gweithio a lle mae angen inni ganolbwyntio er mwyn gwella gwasanaethau iechyd esgyrn. Yn dilyn cyhoeddi ein cynllun adfer cenedlaethol ar gyfer gofal a gynlluniwyd yn 2022, rydym hefyd wedi gweld gwelliannau sylweddol o ran lleihau arosiadau hir mewn orthopedeg. Gallwch ddychmygu, rwyf wedi bod yn pwyso arnynt, ledled y wlad, mewn perthynas â llawdriniaeth orthopedig ac rwyf wedi bod yn ceisio lleihau'r rhestrau aros hiraf hynny, ac maent yn lleihau'n ddramatig iawn. Mae arosiadau cleifion allanol o fwy na 52 wythnos wedi gostwng 71 y cant ers mis Ebrill 2022, ac mae arosiadau dwy flynedd am driniaeth wedi gostwng 72 y cant.

Mae yna lot mwy gyda ni i'w wneud i leihau amseroedd aros hir, ond mae'r gostyngiadau yma'n dangos y sylw rŷn ni a'r gwasanaeth iechyd wedi'i roi i orthopedig. Gyda phartneriaid, mae gan bob bwrdd iechyd gynllun gweithredu lleol, ac mae'r rhain yn dilyn arferion da clinigol o'r dull Gwneud Pethau'n Iawn y Tro Cyntaf, GIRFT, ac adolygiad lleol o'r dull yna. Mae cymorth cyn ac ar ôl triniaeth hefyd wedi bod yn bwysig, ac mae'n polisi cenedlaethol yn cefnogi pobl ar lwybr orthopedig, yn enwedig i reoli symptomau. Mae e hefyd yn eu helpu i gryfhau cyn triniaeth.

Yn ogystal, mae'r polisi cenedlaethol 3A, aros yn rhagweithiol, wedi'i ddatblygu ar y cyd â Chymru Versus Arthritis. Mae'n rhoi sylw i anghenion pobl ar lwybr cyhyrysgerbydol, neu MSK, sydd efallai angen mwy o gymorth wrth aros. Mae hyn yn canolbwyntio'n benodol ar ofal eilaidd, ond mae atal yn y lle cyntaf yn bwysicach fyth. Mae angen gwneud yn siŵr bod pobl yn gwybod am y cyflyrau yma a'r cymorth sydd ar gael, drwy ofal sylfaenol ac yn y gymuned, ac rŷn ni'n lwcus iawn bod y trydydd sector yn ein cefnogi ni yn hyn o beth.

Dwi'n falch bod corff newydd gweithrediaeth y gwasanaeth iechyd hefyd wedi cydnabod pwysigrwydd ac effaith y cyflyrau yma. Mae wedi rhoi blaenoriaeth i rwydwaith clinigol strategol MSK a sefydlu rhwydweithiau gweithredu clinigol ar iechyd esgyrn ac orthopedig o fewn y rhwydwaith yma. Bydd y grwpiau yma'n dod â gweithwyr iechyd, y cyhoedd, gofal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol at ei gilydd gyda'r trydydd sector a chymunedau.

Llynedd, gwnaethon ni gyhoeddi'r datganiad ansawdd ar gyfer MSK. Rŷn ni wrthi nawr yn creu datganiad ansawdd ar gyfer iechyd esgyrn. Mae'r dogfennau yma'n nodi ein gweledigaeth ar gyfer gwell gofal iechyd MSK ac esgyrn drwy gydol bywydau pobl ac ar draws Cymru, a byddan nhw'n ein helpu ni i integreiddio gwasanaethau iechyd, darparu gofal wedi'i gysylltu, a gwneud gwahaniaeth i ansawdd y gofal ar gyfer cyflyrau cymalau ac esgyrn.

So, diolch eto ichi am godi'r pwnc yma, ac am y cyfle i dynnu sylw at y camau rŷn ni'n eu cymryd i wella iechyd cymalau ac esgyrn yng Nghymru.

17:40

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:43.