Y Cyfarfod Llawn
Plenary
14/05/2024Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da. Cyn i ni gymryd yr eitem gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma, a gaf i hysbysu Aelodau, wrth gwrs, taw 25 mlynedd i ddoe y cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Cynulliad yn Siambr Tŷ Hywel? A, dros nos, fe ddaeth y newydd bod un o'r Aelodau a etholwyd i'r Cynulliad hynny wedi ein gadael ni. Roedd Owen John Thomas yn Aelod Plaid Cymru dros Ganol De Cymru. Mi ddaeth yn llais ac acen gref Caerdydd yn nhrafodaethau'r Cynulliad cyntaf hynny. Gwnaeth gyfraniad arbennig drwy ei oes i dwf addysg Gymraeg yn y brifddinas, ac mi oedd yn un o sylfaenwyr clwb enwog Ifor Bach yn y brifddinas. Mae'n cydymdeimladau ni oll fel Senedd, dwi'n siŵr, gyda theulu Owen John Thomas a'i gyfeillion oll.
Yr eitem nesaf, felly—yr un gyntaf—fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sam Rowlands.
1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth gofal iechyd yng ngogledd Cymru? OQ61115
Diolch. Nid yw gofal iechyd yn gyffredinol yn y gogledd lle y byddwn i, nac yn wir y staff sy'n darparu'r gwasanaethau hynny, eisiau iddo fod. Yn rhan o ddwysau'r mesurau arbennig, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i wella mynediad at yr iechyd a gofal diogel a phrydlon y mae pobl y gogledd yn eu haeddu.
Wel, diolch am eich ymateb, Prif Weinidog. A, Llywydd, bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol y cyhoeddwyd rhybudd du dim ond yr wythnos diwethaf ym mwrdd iechyd y gogledd gan nad oedd ysbytai yn gallu ymdopi â lefelau galw gŵyl y banc, ac, yn anffodus, mae hwn yn digwydd yn llawer rhy aml i'r trigolion yr wyf i'n eu cynrychioli yn y gogledd. A byddwch hefyd yn ymwybodol, wrth gwrs, ychydig cyn etholiad diwethaf y Senedd, eich bod chi'n teimlo ei bod hi'n briodol tynnu'r bwrdd iechyd hwnnw allan o fesurau arbennig, ac, yna, yn anochel, yn gyflym iawn ar ôl etholiadau'r Senedd, aeth y bwrdd iechyd yn syth yn ôl i fesurau arbennig.
Nawr, mae pethau mor wael ag y buon nhw erioed i'r trigolion yr wyf i'n eu cynrychioli yn y gogledd, a rhannais yn y Siambr hon yr wythnos diwethaf enghraifft un o'm trigolion sydd, yn anffodus, yn angheuol sâl â chanser, y bu'n rhaid iddo aros mwy na 24 awr mewn adran damweiniau ac achosion brys. Felly, Prif Weinidog, oherwydd rheoleidd-dra'r digwyddiadau hyn, ac oherwydd difrifoldeb y problemau y mae fy nhrigolion yn eu dioddef, oni fyddech chi'n meddwl mai nawr yw'r amser ar gyfer adolygiad annibynnol o'r bwrdd iechyd, fel y gall y bobl yr wyf i'n eu cynrychioli gael y gofal iechyd y maen nhw'n ei haeddu?
Diolch am y cwestiwn. Cyn i mi ymdrin â sylwedd y pwyntiau, mae pwynt ehangach yr wyf i eisiau ei wneud, yr wyf i'n gobeithio y bydd cefnogaeth iddo ar draws y Siambr, oherwydd ychydig dros wythnos yn ôl y nodwyd achos o'r frech goch yn dilyn rhywun a aeth i Maelor Wrecsam. Nid oedd yr unigolyn 24 oed penodol hwnnw wedi cael ei frechu; roedd yn ymweld a daeth o Loegr i ddod i'r ysbyty mewn gwirionedd. Ceir pwynt ehangach yma—ac rwy'n credu fy mod i wneud gwneud hwn mewn ymateb i Peter Fox yn flaenorol—am frechiad y frech goch. Mae'n fater difrifol i bobl ar draws pob ochr yn y Siambr hon a thu hwnt annog oedolion sydd heb eu brechu, neu nad ydyn nhw wedi'u brechu'n ddigonol, yn ogystal â phlant, i gael eu brechu, oherwydd mae problem wirioneddol gyda graddfa achosion o'r frech goch ledled y wlad, ac mae'n dangos, er bod gennym ni sefyllfa well o ran brechu na Lloegr, nad ydym ni'n ddiogel rhag yr heriau sy'n bodoli.
O ran eich cwestiynau am, yn benodol, gofal heb ei drefnu a brys, mae hwn yn faes lle'r ydym ni'n gwybod bod gwelliant pellach yn ofynnol. Ni allaf wneud sylwadau ar arosiadau unigol, ond rwy'n cydnabod, fel yn wir y mae'r Ysgrifennydd Cabinet, bod gormod o bobl sydd â phrofiad o aros yn rhy hir mewn adran achosion brys, neu, yn wir, profiad na fyddem ni'n ei ddymuno i'n hanwyliaid ein hunain hefyd. Dyna pam mae amrywiaeth o gamau gwella sy'n cael eu cymryd. Mae rhai adnoddau ychwanegol ar gael. Felly, ceir £2 filiwn ar gyfer y bwrdd iechyd yn y flwyddyn ariannol yr ydym ni newydd ei chychwyn, ac, yn wir, ym mis Ionawr, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet arian ar gyfer Cymru gyfan, a chafodd Betsi Cadwaladr y gyfran fwyaf o hwnnw. Mae cryn dipyn o waith yn cael ei wneud ar geisio gwneud yn siŵr bod pobl yn cyrraedd y pwynt mwyaf priodol ar gyfer eu gofal—felly, er enghraifft, y gwasanaeth brys yr un diwrnod a grëwyd ers i Eluned Morgan ddod yn Ysgrifennydd Cabinet a'r gwaith ychwanegol o gyflwyno gofal sylfaenol brys sydd wedi digwydd ar draws y gogledd. Mae'r rheini'n filoedd o bobl sy'n cael eu gweld mewn modd mwy prydlon gan mai dyna'r peth iawn i'w wneud iddyn nhw.
Yr hyn sydd gennym ni mewn gwirionedd yw'r heriau deublyg o fod angen trawsnewid ein system tra ar yr un pryd gweld galw'n cynyddu. Rwy'n credu, ym mis Chwefror eleni, o'i gymharu â blwyddyn ynghynt, y bu cynnydd o 24 y cant i alw yn dod i mewn drwy ein hadrannau brys, ac mae honno'n don ychwanegol enfawr o alw y mae angen i ni allu ei gweld ac ymdopi â hi. Yr hyn sy'n gwneud hynny'n llawer anoddach yw nad ydym ni'n gallu cael pobl allan o'r ysbyty pan fyddan nhw'n feddygol barod i gael eu rhyddhau. A bydd yr Aelod yn gwybod, fel cyn-arweinydd awdurdod lleol, mai gwaith ar y cyd yw hwn rhwng maes iechyd a llywodraeth leol, i wneud yn siŵr y gall y bobl hynny adael pan nad yr ysbyty yw'r lle iawn ar gyfer eu gofal mwyach. Yn y gogledd, mae mwy na 300 o bobl yn rheolaidd sy'n feddygol barod i gael eu rhyddhau ond nad ydyn nhw'n gallu gadael. I roi cyd-destun i hynny, mae hynny tua dwy ran o dair o'r holl welyau yn Ysbyty Glan Clwyd. Nawr, mae er budd pob un ohonom ni i weithio gyda'n gilydd oherwydd, i'r unigolyn hwnnw sydd yn y lle anghywir, nid yw'n brofiad gwych iddo mewn gwirionedd, mae wedyn yn agored i risgiau ychwanegol o ddatgomisiynu, a bydd yr Aelod yn gwybod hyn o'i amser ei hun pan oedd ganddo swydd go iawn cyn gwleidyddiaeth, a meddwl mewn gwirionedd am yr angen i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu cael eu hunain o gwmpas yn iawn. Felly, mae hon yn her gyffredin i ddau sector mwyaf y sector cyhoeddus, ac, yn hollbwysig, i'r unigolion hynny hefyd. Dyna'r problemau sy'n ein hwynebu, a dyna'r hyn yr ydym ni'n mynd i barhau i ganolbwyntio arno gyda'n sylw, ynghyd â phartneriaid a rhanddeiliaid.
Un o'r problemau amlwg yn y ddarpariaeth gofal iechyd gennym ni yn y gogledd ydy'r rhestrau aros hirfaith. Cymerwch gleifion syndromau Ehlers-Danlos, er enghraifft. Dros y ffin yn Lloegr, mae cleifion yno yn cael eu cyfeirio yn syth at arbenigwyr, ond mae cleifion Ehlers-Danlos yng ngogledd Cymru yn gorfod gwneud cais am ariannu claf unigol, sydd, yn amlach na pheidio, yn cael ei wrthod, sydd felly, yn ei dro, yn golygu eu bod nhw’n mynd heb y gofal angenrheidiol ar gyfer cyflwr difrifol. Ydych chi, Brif Weinidog, yn credu ei bod hi'n iawn bod cleifion Ehlers-Danlos yn gorfod dioddef fel hyn yn y gogledd, ac a wnewch chi ymrwymo i sicrhau bod cleifion gogledd Cymru—a Chymru gyfan, yn wir—yn cael eu cyfeirio'n syth, heb orfod oedi a gwneud ceisiadau am ariannu unigol?
Nid wyf i'n ymwybodol o'r mater unigol y mae'r Aelod yn ei godi. Os gwnaiff ef ysgrifennu ataf i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, byddwn yn hapus i edrych i mewn i hynny i weld a oes newid ar draws y system gyfan y gallem ni ei wneud. A dweud y gwir, o ran mynediad at feddyginiaeth newydd, rydym ni'n gwneud yn well yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o'r DU mewn gwirionedd. Mae'r gronfa triniaethau newydd, yr oeddwn i'n falch iawn i ni ei chyflwyno ar ddechrau tymor diwethaf y Senedd, wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran sicrhau bod triniaethau newydd ar gael yn brydlon ac yn gyson ledled Cymru. Os nad yw hynny'n wir yn yr ardal y mae'r Aelod yn cyfeirio ati, yna byddai gen i ddiddordeb mewn sut y gallwn ni edrych ar hynny i ddeall a oes camau gwella y gallwn ni eu cymryd nid yn unig ar gyfer y gogledd, ond ledled y wlad gyfan.
Mae llawer o bethau cadarnhaol yn digwydd hefyd yn y GIG—mae llawer o bobl yn cael eu gweld, ac rwy'n croesawu buddsoddiad yn y gogledd, gyda'r uned orthopedig newydd yn cael ei hadeiladu, canolfannau llesiant, buddsoddiad mewn darpariaeth gymunedol, ac oriau estynedig i unedau mân anafiadau, sy'n gwneud gwahaniaeth. Rwyf i hefyd yn croesawu'r ysgol feddygol newydd ar gyfer gogledd Cymru, a'r ganolfan hyfforddiant meddygol newydd ar gyfer nyrsys, parafeddygon a gweithwyr proffesiynol eraill perthynol i iechyd yn Wrecsam. Ac mae llwybrau hyfforddi ar gyfer dysgwyr gofal iechyd cymdeithasol yng Ngholeg Llandrillo, sy'n gadarnhaol iawn. Mae recriwtio a chadw yn bwysig iawn. Nid wyf i eisiau parhau i fychanu'r GIG. Fodd bynnag, rwy'n poeni am gadw staff. Rwyf i wedi clywed bod dermatolegydd wedi gadael yn ddiweddar i weithio yn y sector preifat, rhywbeth nad ydym ni eisiau iddo ddigwydd. Mae Betsi yn cyflogi 19,000 o bobl, ac mae'n bwysig iawn i'r economi leol hefyd, fel cyflogwr. Felly, er mwyn gwella cyfraddau cadw, mae angen i ni edrych ar amodau gwaith—byddai cynnig hyblygrwydd, drwy lai o oriau, efallai, a rhannu swyddi, yn ffordd dda ymlaen, os yw'n bosibl. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno, trwy fuddsoddi mewn pobl, y gallwn ni dyfu ein gweithlu gofal iechyd a'n heconomi leol? Diolch.
Diolch am y cwestiwn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig myfyrio, fel y mae'r Aelod yn ei wneud, er bod heriau o ran y ddarpariaeth o ofal iechyd yn y gogledd, yr ydym ni'n eu cydnabod—dyna pam mae fframwaith mesurau arbennig, a dyna pam mae Ysgrifennydd y Cabinet yn treulio llawer o'i hamser yn pori dros fanylion y gwelliannau sydd eu hangen o hyd—i'r rhan fwyaf o bobl, mae ganddyn nhw brofiad da o ofal iechyd mewn gwirionedd, ac mae hynny oherwydd y gwaith ardderchog y mae ein staff yn ei wneud, yr ymroddiad a'r sgìl sydd ganddyn nhw, a'r trawsnewidiad a'r gwelliant parhaus yr ydym ni'n ceisio eu gwneud.
Rwy'n falch bod yr Aelod wedi gwneud y pwynt ynglŷn â phwysigrwydd y bwrdd iechyd fel cyflogwr yn yr economi. Mae cyflogi bron i 20,000 o bobl yn cael effaith sylweddol mewn economïau lleol, ar draws yr ardal gyfan. Ac rwy'n credu bod hynny, felly, yn ymwneud â sut rydych chi'n cadw staff. Mae'n ymwneud â'r hyn yr ydym ni'n ei wneud i fuddsoddi yn y dyfodol—mae ein staff presennol eisiau gweld buddsoddiad yn y dyfodol, iddyn nhw aros. Rwy'n falch iawn o'r camau y mae'r Llywodraeth hon wedi eu cymryd i helpu i greu ysgol feddygol newydd. Rydym ni wedi gweithio gyda phartneriaid eraill i wneud hynny yn y gorffennol, mewn sgwrs gyda Phlaid Cymru ac eraill, ond rydym ni'n darparu cyllideb i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd. Ac yn yr hydref eleni, bydd y garfan gyntaf yn cael ei derbyn i ysgol feddygol Bangor, y myfyrwyr uniongyrchol cyntaf, ac, erbyn 2029, bydd wedi cyrraedd ei gapasiti llawn—meddygon wedi'u hyfforddi yng Nghymru, ar gyfer Cymru. Ac mae hynny'n bwysig i'n gweithlu meddygol a perthynol i iechyd presennol hefyd, i weld y buddsoddiad hwnnw'n digwydd.
Mae hynny'n mynd ochr yn ochr â'r pwynt y gwnaeth yr Aelod gloi arno, ynglŷn â chael dull hyblyg o ymdrin ag amodau. Wrth i'n gweithlu newid a hyfforddi, fel y mae ein disgwyliadau wedi eu gwneud—. Roedd yn arfer bod yn wir bod meddygon yn disgwyl gweithio oriau eithriadol o hir yn ystod eu hyfforddiant. Roedden nhw'n derbyn hynny yn rhan o'r hyn a oedd yn digwydd, ac eto, mewn gwirionedd, ni fyddai'r un ohonom ni'n dweud bellach, rwy'n credu, ei bod hi'n dderbyniol i feddygon weithio'r oriau rhyfeddol hynny. Ac mae meddygon yn bobl sydd eisiau bod â pherthnasoedd eraill hefyd. Felly, dull hyblyg, pan fo'n bosibl, i ddiwallu anghenion y claf a'r unigolyn yw'r hyn yr ydym ni eisiau i'n GIG ymgymryd ag ef a'i ddarparu'n raddol. Mae'n bwynt wedi'i wneud yn dda. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn gweld enghreifftiau da o hynny yn y gwasanaeth iechyd ar draws y gogledd a thu hwnt.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer y plant oedran ysgol gynradd sy'n gallu nofio? OQ61121
Diolch am y cwestiwn. Ar draws Llywodraeth Cymru, mae swyddogion yn gweithio'n agos gyda Nofio Cymru a Diogelwch Dŵr Cymru i godi proffil nofio o fewn y Cwricwlwm i Gymru ac i gynorthwyo dysgwyr ysgol gynradd gyda sgiliau nofio ac addysg diogelwch dŵr.
Prif Weinidog, efallai eich bod chi wedi gweld y data gan Nofio Cymru, sy'n dangos mai dim ond un o bob chwech neu 16 y cant o blant sy'n gallu nofio. Mae hwn yn fater difrifol iawn i'm hetholwyr, yn enwedig i fyny ym Mhen-twyn, lle mae gennym ni lyn defnyddiol y gall plant foddi ynddo, ond nid oes pwll nofio wedi bod ar gael iddyn nhw ers COVID. Dydyn ni byth wedi gweld yr awdurdod lleol yn comisiynu gwaith ailwampio'r pwll, a'r cynharaf y mae'n mynd i ailagor allai fod haf 2025. Yn y cyfamser, mae ysgolion yn gorfod talu symiau mawr iawn o arian—hyd at £4,000—er mwyn sicrhau bod plant yn cael eu hawl cwricwlwm i ddysgu sut i nofio. Felly, meddwl oeddwn i tybed beth ydych chi'n ei feddwl y gall y Llywodraeth ei wneud i gyflymu'r angen i sicrhau bod pob plentyn yn gallu nofio, yn enwedig yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, lle nad yw pobl yn cael eu cymryd ar wyliau, gan nad oes gan deuluoedd, yn syml, yr arian i fynd ar wyliau, ac, yn yr haf, maen nhw mewn perygl enfawr o ddŵr sydd ar gael i foddi ynddo.
Ceir pwynt difrifol y mae'r Aelod yn ei godi. I lawer o bobl, mae nofio yn weithgaredd hamdden neu'n weithgaredd ar gyfer ymarfer corff. Mae hefyd yn sgìl am oes. Felly, rwy'n falch iawn bod fy mab fy hun wedi manteisio ar y gwersi a ddarparwyd drwy ei ysgol. Mae'n gadarnhaol iawn gweld y sgìl am oes hwnnw y mae plant yn ei ddysgu'n gynnar. Ac rwy'n meddwl yn benodol am fy enghraifft fy hun. Dysgais i nofio fel oedolyn. Roeddwn i yn fy 30au pan ddysgais sut i nofio, ac roeddwn i'n poeni am y ffaith, pe bawn i mewn dŵr na allwn i sefyll ar fy nhraed ynddo, na allwn i symud dau neu dri metr i gael fy hun i ddiogelwch. Felly, dysgais sut i nofio yn hen bwll Sblot yng Nghaerdydd, sydd bellach wedi cael ei ailwampio. Ceir pwll newydd â llyfrgell a chanolfan o wasanaethau cyngor ychwanegol o gwmpas. Ac fy nealltwriaeth i yw mai dyna y mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu ei wneud gyda phwll Pen-twyn, lle maen nhw'n ymgysylltu â'r cyhoedd nawr ar y dyluniad ar gyfer nid yn unig pwll newydd, ond y gwasanaethau i fynd o'i gwmpas. Mae hynny'n rhan o'r ateb, ynghyd â'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud gydag ysgolion ledled y wlad, gan gynnwys yng Nghaerdydd, i wneud yn siŵr bod y canllawiau statudol ar gyfer y cwricwlwm newydd ynghylch gwneud yn siŵr y gall plant fod yn ddiogel o gwmpas dŵr yn cael eu mabwysiadu, ynghyd â'r cyllid yr ydym ni'n ei ddarparu i awdurdodau lleol i wneud yn siŵr bod gwersi nofio am ddim ar gael. Rwy'n credu bod tua chwech o bob 10 ysgol gynradd yng Nghaerdydd yn darparu gwersi nofio am ddim, a byddai gen i ddiddordeb mewn cael sgwrs gyda'r awdurdod lleol ynghylch ble mae'r ysgolion hynny a sut mae hynny'n cael ei gyflwyno i ddarparu'r cyfleoedd hynny yn raddol i grŵp ehangach o blant oedran cynradd. Mae hon yn wers allweddol am oes, a hoffwn weld plant eraill yn manteisio ar y cyfle hwnnw a pheidio gorfod dysgu fel oedolyn, fel y bu'n rhaid i mi.
Prif Weinidog, fel yr amlygodd Jenny Rathbone, mae'r hyfedredd isel ymhlith plant sy'n nofio yng Nghymru, rwy'n credu, yn beryglus o isel. Ac rydym ni'n gweld ac yn clywed yn y cyfryngau am bobl ifanc sy'n colli eu bywydau yn ddiangen gan nad ydyn nhw'n gallu nofio, neu nad ydyn nhw'n gwybod unrhyw dechnegau diogelwch pan fyddan nhw'n syrthio i mewn i ddŵr ac yna maen nhw'n mynd i drafferthion, ac yn anffodus maen nhw'n boddi. Felly, Prif Weinidog, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wneud nofio yn orfodol o fewn y cwricwlwm i wneud yn siŵr bod ein pobl ifanc yn cael eu haddysgu sut i nofio, ac i wneud yn siŵr nad oes yr un person ifanc yn marw yn ddiangen mewn dŵr oherwydd nad oes ganddo unrhyw dechnegau i roi'r gallu iddo achub ei fywyd ei hun?
Rwy'n credu bod dau beth ychydig yn wahanol yma. Y cyntaf, fel y dywedais i mewn ymateb i'r Aelod dros Ganol Caerdydd, yw bod gennym ni ganllawiau eglur yn y cwricwlwm cenedlaethol mewn gwirionedd ynghylch gwneud hyn ar gael. Yr her yw gwneud yn siŵr bod hynny'n cael ei fabwysiadu yn raddol—felly, rydym ni'n darparu arian i gefnogi hynny—ac yna bod â'r cyfleuster sydd ar gael i gymunedau cyfagos, oherwydd, yn ymarferol, os bydd angen i chi deithio cryn dipyn o amser—. Rwy'n credu mai amser mwy na phellter yw'r broblem, oherwydd gallwch symud pellter byr fel mae'r frân yn hedfan yn ein dinasoedd ond gall gymryd amser hir i deithio. Felly, mae ailddatblygu Pen-twyn yn bwysig iawn i'r rhan honno o etholaeth Jenny Rathbone. Mae'n un o'r cymunedau lleiaf breintiedig yn y brifddinas. Felly, mae'r mynediad ymarferol yn rhan o hynny.
Rwy'n credu bod yr ail bwynt yn bwynt y mae'r Aelod yn ei godi'n eithaf cywir, ac nid yw hwnnw'n ymwneud â mynediad at wersi nofio yn unig; mae'n ymwneud â diogelwch dŵr ac, yn benodol, deall pan nad yw'n ddiogel mynd i mewn i ddŵr, hyd yn oed os ydych chi'n nofiwr cymwys—mae hynny'n fater o'r hyn sydd o dan y dŵr yn ogystal â'r ffaith y gall mynd i mewn i ddŵr oer fod yn beryglus i bobl o bob oed. Felly, dyna'r pwynt nid yn unig am weithio gyda Nofio Cymru, ond hefyd Diogelwch Dŵr Cymru, i geisio addysgu ein plant a'n pobl ifanc i ddeall yr hyn y mae bod yn ddiogel o gwmpas dŵr yn ei olygu mewn gwirionedd, yn ogystal â'r llawenydd o ddysgu'r sgìl bywyd o allu nofio.
Prif Weinidog, rydych chi wedi cydnabod y prynhawn yma bwysigrwydd nofio a gwersi nofio ar gyfer pob oedran, ond byddwch yn ymwybodol bod nifer o byllau mewn cymunedau ledled Cymru wedi cau, naill ai oherwydd costau refeniw neu oherwydd eu cyflwr ffisegol. Mae hwn yn gwestiwn o fynediad mewn gwirionedd, rwy'n credu. Disgwylir i bwll nofio Pontardawe yng Nghastell-nedd Port Talbot gau ym mis Awst oherwydd bod ei oes wedi dod i ben ar ôl 50 mlynedd ac mae ei gyflwr wedi dirywio i'r graddau y byddai'n beryglus parhau i weithredu. Rwy'n falch y bydd cyngor Castell-nedd Port Talbot yn comisiynu astudiaeth ddichonoldeb i adeiladu pwll newydd—nid yw ailwampio yn opsiwn. A wnaiff y Prif Weinidog nodi pa gymorth ariannol presennol sydd ar gael i awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau hamdden yng Nghymru ddarparu pyllau nofio? Pa gyllid cyfalaf newydd ellir ei wneud ar gael i gynorthwyo adeiladu pyllau newydd sy'n amgylcheddol gynaliadwy, sy'n hanfodol ar gyfer iechyd a llesiant a diogelwch, fel y nodwyd gennych, cymunedau fel rhai Pontardawe a chwm Tawe a dyffryn Aman?
Rydym ni'n darparu cymorth cyfalaf drwy Chwaraeon Cymru i helpu gyda rhywfaint o hyn. Ein her, fodd bynnag, yw maint y cyfalaf sydd gennym ni ar gael i ni a maint yr her sy'n ein hwynebu. Oherwydd mae'r Aelod yn iawn: mae nifer o'r asedau y mae cymunedau wedi dod i arfer eu defnyddio yn cyrraedd diwedd eu hoes, ac felly mae angen meddwl am y buddsoddiad cyfalaf sydd ei angen a'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ynghylch cynaliadwyedd yr adeiladau hynny. Byddai'r adeiladau y byddem ni'n eu hadeiladu heddiw yn dra gwahanol i adeiladau 50 mlynedd yn ôl a sut maen nhw'n cael eu gwneud yn gyffredinol gynaliadwy. Wrth gwrs, mae llawer o arloesi yn digwydd ynghylch awdurdodau lleol—mae gan Rondda Cynon Taf, er enghraifft, byllau dŵr agored ar gael. Nid yw'n rhywbeth y byddwn i'n dewis ei wneud, ond mae eraill sydd eisiau ei wneud. Mae'n ymwneud â'r mynediad at y cyfle. Byddai'n rhaid i'n gwaith gydag awdurdodau lleol gael ei rwymo gan realiti eu cyllidebau. Mae pob Aelod yn yr ystafell hon yn gwybod nad oes gennym ni'r adnodd o ran refeniw neu gyfalaf yr hoffem ni feddu arno, felly bydd hyn yn gofyn am fuddsoddiad parhaus dros gyfnod hwy o amser, bydd yn gofyn am wahanol setliad ar yr hyn y gallwn ni ei gynhyrchu mewn termau cyfalaf i gynorthwyo llywodraeth leol a chymunedau gyda'r dyheadau y gwn sydd ganddyn nhw.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. A gaf i yn gyntaf uniaethu â'ch sylwadau agoriadol am Owen John Thomas a'i ymrwymiad i'r Senedd Cymru hon, ac yn amlwg i wasanaeth cyhoeddus drwy gydol ei oes? Rwy'n estyn cydymdeimlad y Ceidwadwyr i'w deulu ar yr adeg anodd iawn hon iddyn nhw hefyd.
Prif Weinidog, mae'r trigolion o amgylch y safle tirlenwi yn Withyhedge wir yn cael hunllef o sefyllfa wedi'i gwthio arnyn nhw. Mae'r arogleuon yn annioddefol i drigolion yn y rhan hon o orllewin Cymru. Maen nhw wedi cael dau rybudd iechyd cyhoeddus erbyn hyn, un ym mis Mawrth ac un mor ddiweddar â dydd Gwener, am y drewdod a'r effaith y gallai hwnnw ei chael ar iechyd y cyhoedd yn yr ardal. Nid yw'n afresymol gofyn y cwestiwn, fel y mae llawer o drigolion wedi ei wneud, ac fel y mae fy nghyd-Aelod dros yr etholaeth Paul Davies wedi ei wneud: pam maen nhw'n gorfod goddef y sefyllfa ofnadwy hon sy'n ymddangos fel pe bai'n para am byth? A allwch chi ateb y cwestiwn syml hwnnw, fel y gallan nhw fod yn hyderus y bydd camau yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r amgylchedd echrydus y maen nhw'n gorfod magu eu plant ynddo a'i fyw a'i anadlu bob dydd?
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod camau gwella yn cael eu cymryd i ddatrys y mater. Rwyf i wedi cael yr un sgyrsiau gydag Aelodau rhanbarthol yn fy ngrŵp fy hun ynglŷn â gwneud yn siŵr bod camau'n cael eu cymryd, yn wir, y materion y bydd Paul Davies wedi'u codi hefyd.
Felly, mae'r cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mawrth yr un fath ag a gyhoeddwyd yn ddiweddar ynglŷn â sut i gymryd mesurau tra nad yw'r mater wedi'i ddatrys o hyd. Fy nealltwriaeth i yw bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymryd camau i fonitro ac i wneud gwelliant yn ofynnol, a'r pwynt allweddol yma yw bod y gweithredwr yn bodloni'r gofynion hynny. Yn yr un modd, rwy'n deall eu bod nhw wedi gosod offer monitro y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedyn yn cymryd y darlleniadau ohono i weld a ydyn nhw'n cymryd y camau y mae'n ofynnol iddyn nhw eu cymryd mewn gwirionedd. Felly, dyna y byddwn i'n ei ddisgwyl gan unrhyw weithredwr. Mae'r gofynion rheoleiddio yno, ar waith, am yr union reswm hwn, a dyna pam mae angen i Cyfoeth Naturiol Cymru barhau i wneud yn siŵr bod camau'n cael eu cymryd a'u bod wedyn yn cyfathrebu â'r cyhoedd ynghylch a yw'r camau hynny wedi cael eu cymryd.
Rwy'n siŵr y byddwch chi eisiau ei roi ar y cofnod, Prif Weinidog, bod gennych chi achos o wrthdaro buddiannau, gan mai perchennog y safle tirlenwi hwn yw David Neal o Dauson Environmental Group. A dyna'r broblem yma. Mae'n iawn gosod gwasanaethau monitro yno, ond methwyd dau ddyddiad cau, fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol; mae heddiw yn ddyddiad cau arall, fel yr wyf i'n ei deall, a bennwyd i weld gwelliant yn yr ardal benodol honno.
Yn anffodus, rwyf i wedi siarad â phobl dros y 10 diwrnod diwethaf, a dywedodd un unigolyn, am 6.30 yn y bore, bod yr arogl mor gryf, ei fod ar ei bedwar yn taflu i fyny. Dyna oedd ei eiriau. A dydd Gwener diwethaf, roeddwn i'n siarad ag un o drigolion eraill yr ardal a ddywedodd ei fod wedi cael pobl ddim yn dod i mewn i'r gwaith, i weithio ar ei fferm, gan fod yr arogl mor erchyll yno. Nawr, mae'n iawn i chi ddweud bod mesurau monitro wedi cael eu rhoi ar waith, ond mae hyn wedi bod yn digwydd ers misoedd lawer bellach, ac mae'n edrych fel pe gallai barhau am fisoedd lawer eto. Nid yw hynny'n dderbyniol. A fyddech chi eisiau hynny ar garreg eich drws ym Mhenarth, oherwydd os nad yw'n ddigon da i chi, pam mae'n ddigon da i bobl y gorllewin orfod ei oddef?
Rwy'n credu bod nifer o wahanol bwyntiau sy'n cael eu gwneud yn y fan yna. Rwyf i wedi bod yn eglur ynghylch lle y gallaf ac na allaf weithredu a lle mae gwrthdaro buddiannau. Nid wyf i wedi cymryd unrhyw gamau yn yr achos hwn. Roeddwn i'n ymateb i gwestiwn yr Aelod am yr hyn sy'n digwydd trwy ei gwneud yn eglur iawn bod angen i Cyfoeth Naturiol Cymru, fel y rheoleiddiwr, gymryd y camau gofynnol. Nid wyf i'n ymwybodol bod yr un aelod o'r Llywodraeth wedi ceisio dylanwadu ar weithredoedd Cyfoeth Naturiol Cymru; mater iddyn nhw yw cymryd y camau gofynnol i sicrhau bod gwelliant yn cael ei gyflawni, a dyna safbwynt eglur iawn y Llywodraeth gyfan.
Ni fyddwn yn disgwyl i unrhyw gymuned oddef yr hyn sy'n digwydd. Dyna pam mae angen i gamau gael eu cymryd. Dyna pam mae angen i'r rheoleiddiwr eu harwain, i fod yn eglur ynghylch pryd y bydd gofynion yn cael eu bodloni a'r hyn a fydd yn digwydd, pa un a yw'r camau gofynnol hynny'n cael eu cymryd yn brydlon ai peidio. Dyna'r pwynt pwysig yma. Nid oes unrhyw symud i ffwrdd o welliant gofynnol, ac rwy'n disgwyl i'r rheoleiddiwr weithredu fel y dylai wneud yn yr achos hwn ac mewn unrhyw achos arall, waeth pwy yw'r gweithredwr.
Dim datganiad, Prif Weinidog. Byddai'n rhaid i unrhyw Aelod arall wneud y datganiad hwnnw. O ran y trydydd cwestiwn, yn eich ateb, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n gwneud y datganiad hwnnw, oherwydd mae hynny'n mynd at graidd yr hyn y mae llawer o bobl yn yr ardal yn ei ystyried fel dylanwad a gwneud yn siŵr nad yw pethau'n cael eu datrys cyn gynted â phosibl. Mae angen cau'r tip hwnnw. Mae wedi cael ei redeg yn wael iawn, ac mae trigolion yn cael eu heffeithio yn eu bywydau bob dydd. Nid yw hynny'n ddigon da. Ni fyddwn yn ei oddef ar garreg fy nrws i, ac yn sicr ni fyddwn yn ei oddef yn fy ardal etholiadol, a byddwn yn rhoi'r holl gefnogaeth bosibl y gallwn i drigolion geisio gwneud yn siŵr bod sylw'n cael ei roi i'r sefyllfa hon.
A wnewch chi anfon neges eglur y bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrin â hyn, yn gweithio gyda'r rheoleiddiwr a'r awdurdod lleol i wneud yn siŵr bod hyn yn cael ei ddirwyn i ben yn brydlon, ac na fydd trigolion yn teimlo fel pe baen nhw mewn rhyw fortecs amgylcheddol sy'n eu llusgo nhw i lawr ac yn gwneud eu bywydau yn ofnadwy? Rhowch yr ymrwymiad hwnnw ac anfonwch y neges honno os gwnewch chi heddiw, fel y gellir rhoi gobaith i'r trigolion.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig rhoi sylw i'r ddau bwynt. Y cyntaf yw, os wyf i'n destun gwrthdaro buddiannau, yna ni allaf ateb y cwestiwn. Ac, mewn gwirionedd, mae fy nghofnod i, sydd wedi cael ei ddiweddaru ac sydd ar gael, gan Dauson, mae honno'n eglur ac mae ar y cofnod cyhoeddus. Nid oes unrhyw ddiffyg eglurder na gonestrwydd ynglŷn â hynny.
Yr ail bwynt, ar ôl bod yn eglur ynglŷn â'r datganiad, yw nad wyf i'n credu ei fod yn fy atal rhag nodi mai safbwynt y Llywodraeth yw bod angen datrys y broblem yn briodol yn unol â gofynion y rheoleiddiwr, a chyn gynted â phosibl, wrth gwrs. Fel y dywedais i wrth ateb eich ail gwestiwn, ni fyddai'n dderbyniol mewn unrhyw gymuned yn y wlad i'r broblem beidio â chael ei datrys, boed hynny yn fy etholaeth i neu mewn rhan wahanol o'r wlad. Dyna pam rwy'n dweud eto bod angen i'r rheoleiddiwr, Cyfoeth Naturiol Cymru, weithredu i wneud yn siŵr bod gwelliant yn cael ei wneud a bod ganddyn nhw'r sicrwydd bod hynny wedi'i gwblhau. Dyna fy nisgwyliad eglur iawn.
Os yw'r rheoleiddiwr eisiau siarad â'r Llywodraeth, gall wrth gwrs siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, ond ni fyddai angen iddyn nhw ddod ataf i, a phe baen nhw, byddai'n rhaid i mi ddweud wrthyn nhw na allaf i gymryd unrhyw gamau yn y mater hwn. Ond gallaf nodi'r safbwynt cyffredinol o ran yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei ddisgwyl mewn unrhyw achos lle mae camau yn ofynnol gan Cyfoeth Naturiol Cymru neu unrhyw reoleiddiwr arall.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, ac rwyf innau'n ategu geiriau’r Llywydd wrth dalu teyrnged i Owen John Thomas, cymwynaswr ac ymgyrchydd mor frwd dros ei gymuned a dros y Gymraeg a Chymreictod yn y brifddinas. Ac wrth inni gydymdeimlo efo'i anwyliaid a'i deulu heddiw, rydyn ni'n cofio ei gyfraniad at Blaid Cymru ac at ddyfodol Cymru.
Mae yna ddywediad yn y Gymraeg, onid oes, 'gorau arf, arf dysg', ac mae o mor wir, onid ydy, fod codi safonau addysg yn gorfod bod yn un o brif arfau Cymru wrth drio dod â mwy o lewyrch i'n gwlad ni. Ond rydyn ni'n gweld yn y dyddiau diwethaf yma gymaint o'r min sydd wedi cael ei golli oddi ar allu'r sector addysg uwch i fod ar flaen y gad yn hynny o beth: Aberystwyth yn wynebu colli cymaint â 200 o swyddi wrth drio gwneud arbedion o £15 miliwn; is-ganghellor Caerdydd yn sôn am £35 miliwn o ddiffyg yn ei chyllideb eleni. Mae’n sefyllfa argyfyngus, a ni ydy'r unig genedl yn y Deyrnas Unedig sy’n mynd am yn ôl o ran cyfranogiad ein myfyrwyr ni yn ein sector addysg uwch. Mae cannoedd o swyddi dan fygythiad, ein heconomi o dan fygythiad. A all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael o ran ailflaenoriaethu adnoddau er mwyn gallu cynnig pecyn i ni gael ein prifysgolion ni drwy’r storm yma?
Hoffwn ddechrau drwy nodi cyfraniad Owen John Thomas—O.J., fel yr oeddwn i'n ei adnabod pan oeddwn i'n ymchwilydd ym mlwyddyn gyntaf y Cynulliad Cenedlaethol, fel yr oedd bryd hynny. Roedd bob amser yn garedig a chwrtais yn fy nghysylltiadau ag ef, ac rwy'n dymuno'n dda iddo ef a'i deulu.
O ran eich pwynt ar addysg uwch, rydym ni, wrth gwrs, wedi cymryd amrywiaeth o gamau yn y gyllideb ddiwethaf o ran cyllid, ac mae pwynt ar wahân ynglŷn â hynny rwy'n credu sydd y tu hwnt i gyllid, oherwydd nid wyf i'n credu bod cyfranogiad yn ymwneud â lefel ffioedd yn unig. Fodd bynnag, rydym ni wedi gwneud y penderfyniad anodd i ganiatáu i addysg uwch gynyddu ffioedd i geisio cynhyrchu incwm pellach i'r sector. Mae angen ystyried faint o adnoddau y gellir eu rhoi i addysg uwch, ynghyd â phob rhan arall o'n byd cyhoeddus.
Mae sefydliadau addysg uwch yn sefydliadau annibynnol, ond maen nhw'n derbyn arian o bwrs y wlad oherwydd effaith ehangach yr hyn y maen nhw'n ei ddarparu. Maen nhw hefyd, wrth gwrs, yn ymdopi â'r realiti eu bod nhw wedi colli talp sylweddol o incwm yn y ffordd y cafodd cyn-gronfeydd yr UE eu haddasu at wahanol ddibenion a'u canoli yn Llywodraeth y DU, a dyluniwyd addysg uwch allan o fynediad at y cronfeydd hynny yn fwriadol. Mae hynny wedi golygu, fel yr ydym ni wedi trafod o'r blaen, bod swyddi ymchwil o ansawdd uchel wedi cael eu colli i sefydliadau Cymru, ac mae hynny'n rhan o'r her ariannol y maen nhw'n yn ei hwynebu bellach.
Byddwch yn clywed yn ddiweddarach y prynhawn yma gan yr Ysgrifennydd addysg am flaenoriaethau ar gyfer addysg, a gwn fod cyfranogiad ôl-16 yn rhywbeth yr ydym ni'n awyddus i weld cynnydd pellach yn cael ei wneud yn ei gylch, ac mae hynny ym mhob math o gyfranogiad ôl-16, addysg uwch ac addysg bellach, yn ogystal â phobl sy'n mynd i fyd gwaith. Er mwyn cael hynny'n iawn, mae'n rhaid i ni edrych ymhellach i'r system ac yn gynharach. Mae'n fater o'r newid sy'n digwydd ar frig yr ysgol gynradd a hefyd beth yw dyheadau pobl ar gyfer y dyfodol, a pha un a ydym ni'n cael mwy o'n pobl ifanc i ymgymryd ag addysg ôl-16, gyda'r holl gyfleoedd y gall eu darparu iddyn nhw ac i'r wlad, yn wir.
Bydd ein cenhadaeth economaidd a'r cyfleoedd sydd gennym ni o ynni adnewyddadwy a'r economi newydd y gallwn ni ei chreu yn dibynnu ar y sgiliau y bydd eu hangen ar bobl, y bydd angen iddyn nhw eu caffael o addysg bellach ac uwch. Felly, rydym ni'n eglur ein bod ni eisiau gweld cyfraddau cyfranogiad yn cael eu gweddnewid ac yn cynyddu. Byddwch yn clywed mwy, nid yn unig heddiw, ond yn ystod y ddwy flynedd nesaf a thu hwnt am sut y byddwn ni'n ceisio gwneud hynny.
Rwy'n cytuno â llawer o'r disgrifiad hwnnw o'r sefyllfa, er y byddwn i'n disgwyl mwy o ymateb brys i'r argyfwng yr ydym ni'n ei wynebu. Mae un elfen y cyfeiriodd y Prif Weinidog ati, niferoedd gostyngol o fyfyrwyr rhyngwladol, yn sicr wedi cael effaith sylweddol ar gyllid prifysgolion, a daw bygythiad pellach o agwedd y Torïaid at fewnfudo. Ond er gwaethaf anwireddau sy'n cael eu hyrwyddo gan y dde Dorïaidd, daeth y Pwyllgor Cynghori ar Fudo i'r casgliad heddiw nad oes unrhyw dystiolaeth o gamddefnydd eang o lwybr fisa graddedigion y DU. Maen nhw'n credu y dylai'r hawl i fisa graddedigion sy'n caniatáu i fyfyrwyr rhyngwladol weithio am ddwy neu dair blynedd ar ôl graddio aros yn weithredol. Yn amlwg, croesawyd hynny gan y sector heddiw, gan y byddai diddymu'r fisa graddedigion yn drychineb ariannol i brifysgolion Cymru. Ond mae'r sector yn parhau i bryderu y bydd y Torïaid yn dewis elfennau o'r adroddiad i fodloni archwaeth eu hadain dde. A all y Prif Weinidog sicrhau'r Senedd y bydd yn mynnu sicrwydd gan arweinydd ei blaid y byddai unrhyw gamau gan y Torïaid i ddod â'r cynllun fisa graddedigion i ben yn cael eu gwrthdroi gan Lafur os yw'n ffurfio Llywodraeth, neu'n well byth, a all roi sicrwydd heddiw?
Hoffwn ddychwelyd i'r man cychwyn ar gamau i'w cymryd. Mae gan yr Ysgrifennydd addysg ddatganiad i'r Siambr hon yn ddiweddarach heddiw, ac rwy'n disgwyl y bydd nid yn unig sylwadau ond cwestiynau am gyfranogiad ôl-16, felly nid wyf i'n bwriadu difetha'r datganiad sydd ar fin cael ei gyflwyno y prynhawn yma. Rwy'n siŵr na fyddai'r Ysgrifennydd addysg yn diolch i mi pe bawn i'n ceisio gwneud hynny.
O ran eich pwynt ehangach, fodd bynnag, am fisâu graddedigion, rwy'n credu ei fod yn newyddion da bod tystiolaeth heddiw, tystiolaeth eglur, nad oes unrhyw ddarlun gwirioneddol o fisâu graddedig yn cael eu camddefnyddio. Hoffwn weld Llywodraeth y DU yn cymryd y dystiolaeth honno i ystyriaeth ac yn symud yn ôl o'r llwybr y mae wedi cychwyn arno. Mae hyn yn fater o'r darlun ariannol ar gyfer addysg uwch ledled y DU, nid yn unig yma yng Nghymru, ond hefyd y model sydd mewn gwirionedd yn tanseilio sut mae sefydliadau'n gallu rhedeg, i fantoli eu cyfrifon. Ond, yn fwy na hynny, rwy'n dychwelyd at fy mhrofiad fy hun fel cyn-fyfyriwr yn Aberystwyth—dyna lle, wrth gwrs, y cwrddais â'r Llywydd pan oeddwn i'n dal i fod yn aelod o gymuned addysg uwch Aberystwyth. Nid mater o'r arian yn unig yw hyn; es i i'r brifysgol gyda phobl o 80 o wahanol wledydd. Mae'n rhan o'r profiad dysgu, nid yr hyn sy'n digwydd mewn neuadd ddarlithio neu ystafell seminar yn unig. Mae cyfarfod a chyfarch a bod yn rhan o gymuned o fewn amgylchedd rhyngwladol yn rhan o'r profiad dysgu hwnnw na ddylem ni ei ildio. Felly, ydw, wrth gwrs, rwyf i eisiau gweld hynny'n parhau. Rwy'n disgwyl y byddwch chi'n gweld newyddion cadarnhaol am hyn a nifer o feysydd eraill ym maniffesto Llafur y DU yn y dyfodol. Rwy'n eglur iawn y dylai'r dystiolaeth nad oes unrhyw gamddefnydd arwain at newid i bolisi'r Llywodraeth. Ac yn olaf, o ran yr hyn y mae Esther McVey yn ei ddweud, mae hon yn enghraifft o le byddai synnwyr cyffredin go iawn yn arwain at newid i'w groesawu i bolisi'r Llywodraeth.
Felly, mae'n fater o groesi bysedd a gobeithio am y gorau. Diwedd y gân yw na allwn ni ganiatáu i ddyfodol addysg uwch yng Nghymru fod ar drugaredd San Steffan, boed hynny'n Llywodraeth Dorïaidd neu, feiddiaf ei ddweud, Llywodraeth Lafur â Natalie Elphicke yn cael croeso mor gynnes i'w rhengoedd. Rhybuddiodd yr Athro Paul Boyle, cadeirydd Prifysgolion Cymru, y Pwyllgor Materion Cymreig fis diwethaf
'bydd effaith unrhyw newidiadau i'r Llwybr Graddedigion yn cael ei chwyddo yng Nghymru, gan nad yw twf myfyrwyr rhyngwladol yng Nghymru wedi cyd-fynd â'r twf ar lefel y DU'.
Roedd ein diweddar gyd-Aelod Steffan Lewis bob amser yn barod i hyrwyddo Cymru i'r byd, a dywedodd yn ôl yn 2017 ei bod yn destun edifeirwch mawr bod polisïau'r San Steffan wedi niweidio ein henw da yma fel cyrchfan i fyfyrwyr rhyngwladol. Roedd yn myfyrio bryd hynny ar argymhellion gan grŵp hollbleidiol yn San Steffan y byddai manteision gwirioneddol o ddatganoli elfennau o bolisi mewnfudo. Rwy'n cytuno â Steffan y gallai datganoli fisâu myfyrwyr fod o fudd i brifysgolion Cymru a'n heconomi. Dyn a ŵyr bod angen hwb arnom ni nawr. Felly, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â Steffan a minnau, neu a fyddai'n well ganddo adael i'r Torïaid yn San Steffan benderfynu?
Rwy'n credu pryd bynnag y byddwch chi'n siarad am ddatganoli, bod angen i chi fod yn eglur am y canlyniadau ariannol. Rydym ni wedi cael profiad poenus o Lywodraethau Torïaidd yn datganoli cyfrifoldebau ac yn lleihau cyllidebau. Roedd y cynllun budd-dal treth gyngor yn enghraifft berffaith: datganoli gyda thoriad o 10 y cant i'r gyllideb a'r pwysau a roddodd hynny ar weddill ein gwasanaethau a'n gallu i gefnogi'r economi. Felly, mae gen i ddiddordeb bob amser mewn sgwrs ynglŷn â'r man gorau ar gyfer pwerau ac i wneud yn siŵr bod yr adnoddau gennym ni i allu arfer y pwerau hynny'n effeithiol.
Rwy'n credu mai'r pwynt ehangach yma yw y gallai ac y dylai fod cynnig cadarnhaol gan y DU ar gyfer addysg uwch ryngwladol, ond hefyd i fyfyrwyr cartref: yr amgylchedd dysgu y maen nhw'n mynd iddo, sut mae'n cael ei ariannu a'r cyfleoedd yn y byd gwaith ehangach y mae'n eu cynnig. Dyna sydd o ddiddordeb i mi, ac rwy'n falch iawn o'r gwaith yr wyf i wedi ei wneud, ac mae Gweinidogion eraill wedi ei wneud, i hyrwyddo Cymru yn y byd ehangach. Mae ein haddysg uwch a phellach yn rhan fawr o hyn. Pan oeddwn i yn India yn ddiweddar, roeddwn i ar drothwy cenhadaeth fasnach, ac roedd gennym ni un o'n colegau addysg bellach mwy yno. Mae'n dal i fod yn gynnig gwerth uchel, ac, a dweud y gwir, myfyrwyr o India yw'r grŵp mwyaf yn ôl cyfran o fyfyrwyr sy'n dod i addysg uwch a phellach yng Nghymru. Felly, mae'n dal i fod yn hanes o lwyddiant go iawn.
Rwy'n credu y gallwn ni gael Llywodraeth yn y DU nad yw'n ceisio pardduo ein henw da, sy'n cadw ei gair ac eisiau fod â gwahanol gyfres o berthnasoedd gyda'r byd ehangach a fydd o fudd i Gymru a Phrydain. Rydym ni eisoes yn gwneud hynny, ac rwy'n gweld y gwaith hwnnw fy hun. Rwy'n credu yn y dyfodol y gallwn ni berswadio pobl Cymru i bleidleisio dros hynny hefyd. Rwy'n credu y bydd dwy Lywodraeth Lafur yn cydweithio dros Gymru a Phrydain yn gwella bywyd yma ac yn rhoi'r arfau i ni wneud y gwaith a bod â phartneriaid gwirioneddol a dibynadwy yn Llywodraeth y DU. Byddaf yn falch o fynd allan a gwneud y ddadl honno i bobl Cymru yn ystod y misoedd nesaf pryd bynnag y daw'r etholiad hwnnw.
3. Beth yw polisi'r Llywodraeth ar bwerdai nwy newydd yn Arfon? OQ61090
Ni allaf wneud sylwadau ar unrhyw gais penodol. Fodd bynnag, nid yw ein polisi cyffredinol yn cefnogi adeiladu gweithfeydd pŵer tanwydd ffosil newydd gan eu bod yn ffynhonnell o allyriadau nwyon tŷ gwydr ychwanegol.
Mae yna bryder yn lleol y bydd cais yn cael ei gyflwyno ar gyfer gorsaf drydan yn cael ei bweru gan nwy mewn hen chwarel yng Nghaernarfon. Fel rydych chi'n ei ddweud, fedrwch chi ddim trafod cynlluniau unigol, ond mi fuaswn i'n hoffi gwybod beth yn union ydy safbwynt polisi'r Llywodraeth ar ddatblygiadau o'r math. Roedd safbwynt y cyn Brif Weinidog yn ddiamwys yn erbyn pan wnes i godi'r mater efo fo'n ddiweddar. Wrth ateb cwestiwn gen i ar lawr y Senedd, fe ddyfynodd y cyn Weinidog Newid Hinsawdd, a oedd yn dweud hyn:
'Lle bo galw ar Lywodraeth Cymru i benderfynu ar gynigion yn y dyfodol i adeiladu gorsafoedd cynhyrchu ynni...yng Nghymru, bwriad Gweinidogion Cymru yw cadw rhagdybiaeth gref yn erbyn gorsafoedd ynni tanwydd ffosil newydd...Bydd gan y rhagdybiaeth hon hefyd effaith ar annog penderfynwyr lleol i beidio â chydsynio i orsafoedd tanwydd ffosil newydd ar raddfa fach.'
Mi fyddwn i'n hoffi cael eich safbwynt chi yn glir ar y cofnod, i glywed eich bod chi'n parhau i arddel y safbwynt yna yr un mor ddiamwys ag oedd yr arweinyddiaeth o'ch blaen chi.
Y safbwynt agoriadol yw rhagdybiaeth yn erbyn datblygu gweithfeydd pŵer newydd tanwydd ffosil. Yr her, wrth gwrs, fydd bod yn rhaid i Weinidogion farnu popeth ar sail ei rinweddau. Nid wyf i eisiau cael fy nhynnu i mewn i'r cais unigol. Fodd bynnag, mae'n werth myfyrio bod 36 wythnos i wneud penderfyniad ar ddatblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol, a dyna pam na fyddaf yn cael fy nhynnu i'r ceisiadau unigol y tu hwnt i ailddatgan polisi'r Llywodraeth ar y mater hwn. Felly, mae'n dderbyniad byw o gais dilys a bydd angen i ni ddeall cyfanswm y cynigion i Weinidog wneud penderfyniad arnyn nhw wedyn. Julie James yw'r Gweinidog cynllunio, ond mae angen i ni ddeall na ddylai Gweinidogion Cymru fynd ar y cofnod a gwneud sylwadau mewn unrhyw ffordd y gellid ei ystyried fel gwneud sylwadau unigol ynghylch y cais. Ond rwy'n hapus i ailddatgan safbwynt polisi'r Llywodraeth.
Mae cynlluniau i greu gweithfeydd nwy yn Arfon wedi cyfeirio at yr angen i symud oddi wrth ddibyniaeth ar danwyddau ffosil i gynhyrchu ynni. Mae'r Asiantaeth Ynni Ryngwladol yn diffinio diogelwch ynni fel ffynonellau ynni di-dor sydd ar gael am bris fforddiadwy. Mae'r lefelau presennol o dechnoleg a seilwaith ynni yn gofyn am opsiwn wrth gefn ar gyfer ynni adnewyddadwy ysbeidiol, sy'n dal i fod yn ddibynnol ar danwyddau ffosil, nwy yn bennaf. Mae hyn yn debygol o barhau i fod yn wir am lawer o'r cyfnod pontio i ddyfodol carbon niwtral, a byddai'n dro gwael â'r cyhoedd esgus fel arall.
Deellir y byddai'r pwerdy nwy arfaethedig ar hen safle chwarel Seiont yng Nghaernarfon yn waith neilltuol neu'n waith adegau brig sy'n gweithredu ar sail fyrdymor. Byddai hyn yn darparu ymateb cyflym a galw cytbwys, yn enwedig pan fo allbynnau gwynt a solar yn isel. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau diogelwch ynni yn ystod y blynyddoedd o bontio i ddyfodol carbon niwtral er mwyn sicrhau y gall pobl gadw'n gynnes, ac wedi'u bwydo a'u hydradu heb ymyrraeth?
Fel y mae'r Aelod yn gwybod, ni allaf ac ni fyddaf yn gwneud sylwadau ar y cais unigol. Rwy'n cydnabod y ffaith ei fod wedi siarad amdano mewn cryn fanylder, ac ni wnaf i ymateb i ddim o hynny. Nwy yw'r brif dechnoleg adegau brig; defnyddir storio hydro a batri hefyd. Mae hynny'n ffaith ac yn realiti. Nid oes dim o hynny yn symud oddi wrth y sefyllfa yr wyf i wedi ei nodi bod rhagdybiaeth yn erbyn cynhyrchu wedi'i danio gan danwyddau ffosil newydd yng Nghymru. Mae'n rhaid ystyried pob cais ar sail ei rinweddau, sef yr union beth a fydd yn digwydd gydag unrhyw gais y mae'r Aelod wedi ei godi heddiw neu y gallai ei godi yn y dyfodol. Nid wyf i eisiau ymrwymo fy hun i unrhyw fath neu arwydd o gefnogaeth neu fel arall i'r cais y mae'r Aelod wedi sôn amdano mewn cryn fanylder.
4. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r rhesymau pam nad oes Gweinidog penodol ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd? OQ61109
Diolch am y cwestiwn. Rwyf i wedi penodi Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar, a dylwn nodi ei bod hi'n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yr wythnos hon. Mae portffolio Jayne Bryant hefyd yn cynnwys meysydd sy'n ymwneud â phlant, pobl ifanc a theuluoedd. Fodd bynnag, mae'r dyletswyddau a nodir ym Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn berthnasol i holl Weinidogion Cymru ac yn gyfrifoldeb i bob un ohonyn nhw.
Diolch am eich ymateb. Hoffwn innau hefyd gysylltu fy hun, ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ag estyn ein cydymdeimlad i deulu Owen John Thomas hefyd. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n eglur iawn bod penodiad Jayne Bryant i swydd Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar penodol yn gadarnhaol iawn. Ond nid yw'r un peth â bod â Gweinidog penodol dros fabanod, plant a phobl ifanc. Cefais fy nghalonogi o'ch clywed chi'n dweud bod y Llywodraeth yn ymroddedig i ddileu tlodi plant, ond rydym ni'n rhwystredig nad oes unrhyw Weinidog yn llwyr gyfrifol am oruchwylio'r nod hwn yn eich Llywodraeth. Nododd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, yn ei adroddiad 'Amser rhoi diwedd ar dlodi plant: sut y gall Cymru wneud yn well', bod diffyg cydlyniant strategol, arweinyddiaeth â phwyslais ac atebolrwydd eglur yn ein hymdrechion presennol yng Nghymru i fynd i'r afael â thlodi plant. Felly, gadewch i ni ddysgu gan wledydd eraill, efallai.
Os edrychwn ni ar Seland Newydd, Iwerddon a Norwy, mae gan bob un ohonyn nhw Weinidog penodol sy'n arwain strategaeth tlodi plant. Ac, yn hollbwysig, maen nhw'n perfformio'n well na Chymru o ran nifer y plant sy'n byw mewn tlodi: yn Iwerddon, 14 y cant; yn Seland Newydd, 12 y cant; ac yn Norwy, mae gennym ni 11 y cant. Ac mae hynny o'i gymharu â'r 29 y cant ofnadwy sydd gennym ni yma yng Nghymru. Rydym ni'n gwybod nad oes gan Gymru bwerau llwyr i ddileu tlodi plant, ond mae ganddi rai. Felly, hoffwn glywed gennych chi pam na allwn ni fod cystal â'r gwledydd eraill, a pham mae angen i ni ddioddef tlodi plant yng Nghymru ar lefel o 29 y cant. Diolch yn fawr iawn.
Diolch am y cwestiwn. Gyda pharch, nid wyf i'n cytuno y bydd dyluniad y Llywodraeth a theitlau Gweinidogion yn datrys hyn i gyd fel problem. Lesley Griffiths, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, yw'r Gweinidog arweiniol yn y Llywodraeth. Mae hwn yn faes lle mae angen i fwy nag un portffolio wneud cyfraniad at gael y math o effaith y byddai pawb, rwy'n credu, yn y Siambr hon eisiau ei chael.
Mae'n golygu trefnu'r amrywiaeth o wahanol gyfraniadau yr ydym ni'n eu gwneud mewn gwahanol bortffolios, o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud ar Dechrau'n Deg—hanes gwirioneddol o lwyddiant o'i gymharu â'r dadfuddsoddi mewn Sure Start sydd wedi digwydd ers 2010 yn Lloegr, hanes gwirioneddol o lwyddiant yng Nghymru â chanlyniadau cadarnhaol iawn—i'r grant datblygu disgyblion yr ydym ni'n ei ddarparu. Ceir y gwaith yr ydym ni wedi ei wneud, ac rwy'n falch ein bod ni wedi ei wneud, ar wneud prydau ysgol am ddim ar gael i bob plentyn yn yr ysgol gynradd, a'r cymorth ychwanegol yr ydym ni'n ei ddarparu i helpu pobl gyda gwisg ysgol ac eitemau ychwanegol o amgylch y diwrnod ysgol. Mae'r rhain yn fesurau ymarferol yr ydym ni'n eu cymryd o fewn ein pwerau.
Bydd yr Aelod yn gwybod nad yw pob un o'r ysgogiadau yn ein dwylo ni, ac rwy'n falch ei bod wedi cyfeirio at hynny. Bydd wedi gweld hyn yn bersonol yn ystod ei chyfnod yn San Steffan, pan barhaodd y Ceidwadwyr i wneud newidiadau i dreth a budd-daliadau yr oedden nhw'n gwybod yn iawn fyddai'n gwaethygu'r darlun o ran tlodi plant. Rwy'n falch ei bod hi ar ochr iawn y ddadl honno bryd hynny, a'i bod hi o hyd heddiw. Dyna pam y mae angen i'r ddau ohonom ni weld y camau y gallwn ni eu cymryd yma yng Nghymru, ochr yn ochr â gweinyddiaeth yn y DU yn y dyfodol sy'n barod i edrych eto ar ddewisiadau bwriadol a wnaeth fwy o'n plant yn dlawd—i dyfu i fyny mewn bywyd o dlodi; mwy o oedolion oedran gweithio mewn tlodi; mwy o blant ag oedolyn yn eu cartref sy'n byw mewn tlodi hefyd.
Mae ein dyfodol economaidd yn rhan o hyn, ynghyd â'r newidiadau yr wyf i'n credu eu bod nhw'n angenrheidiol ar gyfer treth a budd-daliadau. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r hyn yr wyf i'n ei obeithio fydd yn Llywodraeth y DU llawer mwy goleuedig, sydd ag ymrwymiad gwirioneddol i wneud cynnydd o ran tlodi plant, fel y gwnaethom ni yn ystod degawd cyntaf datganoli, pan wnaeth dwy Lywodraeth a oedd wedi ymrwymo i weithredu ar hyn gymryd camau gwirioneddol i godi cannoedd o filoedd o blant ledled y DU, a miloedd o blant yma yng Nghymru, allan o dlodi plant. Rwy'n credu y gallwn ni wneud hynny eto.
Mae'n gwestiwn diddorol y mae Jane Dodds yn ei godi heddiw. Ond gan nad oes gennym ni Weinidog dros fabanod a phobl ifanc, hoffwn wybod pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu rhieni babanod sydd wedi cael eu rhyddhau o unedau gofal arbennig i fabanod. Hoffwn hefyd gofnodi fy edmygedd a'm diolch am y gwaith anhygoel y mae meddygon a nyrsys yn ei wneud yn yr unedau hyn, fel y ganolfan gofal dwys newyddenedigol is-ranbarthol fodern yn Ysbyty Glan Clwyd yn fy etholaeth i.
Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn rhannu'r teimladau hyn, ac mae'n wych gweld y buddsoddiad hwnnw yn talu ar ei ganfed i'r gogledd. Ond hoffwn wybod sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhieni babanod newydd-anedig sydd wedi cael eu rhyddhau'n ddiweddar o uned gofal arbennig i fabanod. Mae bod yn fam ac yn dad yn ddigon anodd fel y mae, ond i famau a thadau babanod mwy agored i niwed, gall hwn fod yn brofiad arbennig o llethol. Diolch.
Wel, rwy'n croesawu cydnabyddiaeth yr Aelod o'r buddsoddiad a wnaeth Llywodraethau Llafur blaenorol Cymru wrth gyflawni uned SuRNICC, nid dim ond y seilwaith ffisegol, ond y bobl sydd eu hangen i staffio'r uned honno ac i'r ansawdd—. Mae'n gydnabyddiaeth i'w groesawu o'r pwynt yr oedd Carolyn Thomas yn ei wneud am y ffaith bod achosion rheolaidd o ofal o ansawdd uchel ar draws ein GIG, gan gynnwys yn y gogledd, wrth gwrs.
Daw'r gefnogaeth a ddarperir o'r hyn rydym yn gobeithio ei wneud gyda'n timau o fydwragedd ac, yn wir, y cymorth ychwanegol y gellir ei ddarparu trwy ein tîm nyrsio cymunedol hefyd. Rwy'n gwybod bod y gefnogaeth a gawsom gan yr ymwelydd iechyd yn bwysig iawn i ni, a phan fydd gennych angen ychwanegol yn y plentyn y byddwch yn dod ag ef adref, rydych chi'n disgwyl y bydd cymorth ychwanegol, sef yr hyn y mae'r gwasanaeth iechyd hwnnw'n bwriadu ei ddarparu. Dyna beth rydw i'n ei ddisgwyl ym mhob rhan o'r wlad.
Mae gan yr Aelod brofiad gwahanol, ac mae croeso iddo godi hynny gyda Gweinidogion ar draws maes yr adran iechyd, ond rwy'n gobeithio y bydd gan etholwyr y gogledd a phob rhan o'r wlad lefel o ofal ac arbenigedd gan y teulu bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd sy'n ceisio eu helpu gyda'r camau anoddaf ond hefyd y camau mwyaf cyffrous yn eich taith fel rhiant.
5. Pa effaith y mae'r Prif Weinidog yn disgwyl i Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ei chael o ran meithrin ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth a gwleidyddion? OQ61106
Bydd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn gwella gallu craffu'r Senedd yn sylweddol. Gosododd y cyhoedd eu hymddiriedaeth ym mhob Aelod wrth gael eu hethol, gan gynnwys y rhai sy'n dal swydd weinidogol, a'r rhai a fydd yn dwyn Gweinidogion i gyfrif hyd yn oed yn fwy effeithiol trwy graffu ar ddewisiadau polisi, deddfwriaeth a chynlluniau gwariant, gyda Senedd fwy ac addas i'r diben.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, nododd y Llywydd, ar ôl nodi 25 mlynedd o ddatganoli, mai Senedd y bobl oedd hon ac nid Senedd i wleidyddion. Yn wir, dywedodd hi nad Senedd Sam Kurtz oedd hi, ac rwy'n cytuno â hynny. [Chwerthin.] Nawr, mae llawer o bobl sydd wedi codi materion yn ymwneud â'r Bil hwn gyda mi wedi sôn nid yn unig, yn amlwg, am y cynnydd yn nifer y gwleidyddion, ond nifer o newidiadau y maen nhw'n teimlo sy'n cymryd, os mynnwch chi, y teimlad hwnnw i ffwrdd oddi wrth bobl Cymru ac yn ei gwneud hi'n llai tebyg i Senedd y bobl y dylai fod, p'un a yw'n newid i'r system bleidleisio, a yw'n gweithredu'r newidiadau heb refferendwm, neu, yn wir, y gwahanol welliannau na chawsant eu cefnogi gan y Llywodraeth i gyflwyno system adalw ar gyfer Aelodau lle mae etholwyr yn teimlo na ddylai eu mandad barhau. Nawr, rwy'n deall o'r hyn a ddywedodd y Cwnsler Cyffredinol yr wythnos diwethaf ei bod yn ymddangos bod rhywfaint o gefnogaeth drawsbleidiol i'r system adalw. A allwch chi sicrhau'r Senedd y bydd hynny ar waith cyn etholiadau nesaf y Senedd yn 2026?
Wel, y man cychwyn yw fy mod yn anghytuno â honiad yr Aelod y bydd y Bil yr ydym wedi'i basio i ddiwygio'r Senedd hon yn tynnu ein Senedd oddi ar y bobl. Rwy'n credu'n sicr y bydd pobl yn dal i weld Senedd sy'n gweithio iddyn nhw a gyda nhw. Mae'n ymwneud â'r gwaith a wnawn fel Aelodau etholedig i sicrhau bod pobl yn teimlo bod croeso iddyn nhw yn yr hyn a fydd yn digwydd. Ac os edrychwch chi o gwmpas yr oriel, rydych chi'n gweld llawer o bobl o rannau o Gymru sydd wedi dod yma i weld y trafodion hyn yn uniongyrchol eu hunain—yn union beth fyddech chi'n ei ddymuno. Ac, mewn gwirionedd, mae ein cydweithwyr yn San Steffan yn cael eu cadw ymhellach ar wahân i bobl yn y ffordd y mae'r Senedd honno'n gweithredu. Rydyn ni'n sefydliad llawer mwy agored, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni gynnal hynny yn y dyfodol wrth i ni ehangu a chyflawni'r mandad a ddaeth mewn sawl maniffesto o'r etholiad diwethaf.
O ran eich pwynt ehangach am adalw, bydd y Llywodraeth yn gweithio'n adeiladol gyda phob plaid ac, yn wir, y comisiwn safonau, ar y gwaith y maen nhw'n ei wneud, gan ystyried, wrth gwrs, y sylwadau a wnaed yng ngwelliannau Adam Price, ac rwy'n falch na symudodd i bleidlais, oherwydd rwyf am weithio gyda phobl, ynghylch y pwyntiau ar ddichell a gonestrwydd. Mae'n rhaid i'r rheini fod yn bethau sy'n cymryd i ystyriaeth y broses safonau, rwy'n credu. Mae'n ddigon posibl nad deddfwriaeth y Llywodraeth sy'n sicrhau newid, ond rydym wedi ymrwymo i weithio'n adeiladol gyda phob plaid i geisio datrys y mater hwn cyn etholiad nesaf y Senedd, felly mae ar waith fel bod pobl yn deall y mesurau a fyddai'n weithredol pe bai'r Aelodau'n disgyn yn sylweddol is na'r safonau ymddygiad y dylem ni i gyd eu disgwyl gan ein gilydd.
Mae ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth sy'n gostwng yn sylweddol yn broblem i Seneddau mewn sawl rhan o'r byd, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod nad ydym yn ddiogel o bell ffordd rhag y cwestiynau hynny o onestrwydd, hygrededd ac atebolrwydd yn y Siambr hon. Os yw'r Prif Weinidog yn derbyn hynny, yn fy marn i, onid y dasg frys yw nid yn unig cynnal, ond adfer ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth? Nid yw'n rhywbeth, siawns, y gallwn ni ei ohirio, neu, yn wir, ei ddirprwyo i Senedd yn y dyfodol. Mae'n rhaid i ni ddangos arweinyddiaeth a chymryd cyfrifoldeb am wneud pethau'n iawn yn y Senedd hon. Felly, y cwestiwn i'r Prif Weinidog yw hyn: a yw'n barod i ymrwymo i gyflwyno neu hwyluso deddfwriaeth i fynd i'r afael â'r prif newidiadau deddfwriaethol sydd eu hangen mewn perthynas ag adalw a dichell fwriadol, nid mewn Senedd yn y dyfodol, ond yn hon?
Rwy'n credu mai dyna ddywedais i, ac rwy'n hapus i'w ailddatgan: byddwn yn gweithio gyda phob plaid yn y lle hwn i geisio cael ateb ymarferol y gallwn ni ei ddefnyddio a'i weithredu. Rwy'n credu ei bod yn fwy tebygol, ar y mater hwn, y dylai fod yn Fil pwyllgor yn hytrach na Bil Llywodraeth, ond byddwn yn gweithio ochr yn ochr â phobl i geisio sicrhau bod hynny'n cael ei gyflawni, ei gyflawni'n briodol a'i gyflawni yn y Senedd hon a'i weithredu yn y Senedd nesaf. Rwyf eisiau hyn ar waith cyn i bobl fynd i bleidleisio, fel bod pawb yn deall y rheolau sydd ar waith a'r disgwyliadau mae'n rhaid i bobl eu bodloni. Pecyn yw hwn, rwy'n credu, a fydd yn cyd-fynd â diwygio'r Senedd. Felly, ydw, rwyf eisiau iddo gael ei wneud yn y Senedd hon, rwyf eisiau iddo gael ei wneud yn iawn, ac rwyf eisiau iddo gael ei wneud ar sail lle mae cefnogaeth drawsbleidiol wirioneddol i'r mesurau y credwn y byddwn yn eu rhoi ar waith. Ac rwy'n gobeithio, fel y dywedais i, cael cefnogaeth Aelodau o bob plaid i wneud hynny.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y defnydd o unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru? OQ61114
Diolch am y cwestiwn. Mae unedau cyfeirio disgyblion yn hanfodol i sicrhau bod pob plentyn yn cael yr addysg y mae ganddo hawl iddi gan y gallan nhw ddarparu mwy o ddysgu unigol a dull mwy penodol i gefnogi anghenion y plentyn neu'r person ifanc dan sylw.
Diolch. Dim ond yr wythnos diwethaf roeddem yn sôn am y nifer enfawr o absenoldebau ysgol yng Nghymru, sydd yn eithaf brawychus a dweud y gwir. Nawr, yn ôl adroddiad blynyddol diweddaraf Estyn, mae 22 o unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru yn darparu cefnogaeth i 969 o fyfyrwyr. Yn ystod blwyddyn academaidd 2022-23, manteisiodd 2,396 o ddisgyblion ar ryw fath o addysg heblaw am ddarpariaeth mewn ysgol. Y lleoliadau a ddefnyddir amlaf oedd unedau cyfeirio disgyblion, gyda bron i 50 y cant o'r holl gofrestriadau. Yn ôl Estyn, hefyd, ers y pandemig mae awdurdodau lleol wedi nodi cynnydd mewn cyfraddau cyfeirio. Fodd bynnag, yn Aberconwy, rydym wedi cyrraedd y pwynt nawr lle mae'r holl ddarpariaeth yn llawn. Rwy'n gwybod am ysgol lle nad yw'r awdurdod lleol yn gallu darparu unrhyw amseroedd aros; mae'n amhenodol os oes gennych blentyn sydd angen mynd i uned cyfeirio disgyblion. Mae'r pennaeth ei hun, nawr, yn ceisio edrych ar sefydlu ei uned cyfeirio disgyblion ei hun, a byddaf yn ysgrifennu at y Gweinidog addysg i gefnogi hyn. Prif Weinidog, mae angen creu mwy o gapasiti yn ein hunedau cyfeirio disgyblion ar frys, nid yn unig yn gwasanaethu Aberconwy, ond ledled Cymru. Sut y byddwch chi'n gweithio gydag ysgolion a'r awdurdodau lleol i sicrhau nad yw plant a phobl ifanc yn cael eu gadael yn teimlo eu bod wedi'u difreinio o system addysg Cymru, a sicrhau, pan fo angen uned cyfeirio disgyblion ar y plant hynny, i'w helpu i gael yr wybodaeth a'r dysgu sylfaenol sydd eu hangen arnyn nhw, y gallan nhw wneud hynny yng Nghymru? Diolch yn fawr.
Mae'r Aelod yn codi mater gwirioneddol ddifrifol, ac rwy'n cydnabod hynny. Rwy'n siŵr y bydd Aelodau yn eu rhanbarthau a'u hetholaethau yn cydnabod yr heriau ychwanegol y mae ein hysgolion yn eu hwynebu. Mae nifer sylweddol o heriau cymdeithasol rydych chi'n eu gweld mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Daw rhywfaint o hynny o'r pandemig, daw rhywfaint o hynny o ffynonellau eraill hefyd, ond rydych chi'n eu gweld ym mhob un o'n hysgolion. Mae'n her ychwanegol i staff mewn ysgolion ac, yn wir, i'r amgylchedd dysgu. Dyna pam, pan fydd yr Ysgrifennydd addysg yn nodi diwygiadau, y byddwch yn gweld pwyslais ar y pethau y mae angen i ni eu gwneud i helpu i wella canlyniadau i'n holl ddysgwyr a sut mae iechyd a llesiant yn sail i hynny i gyd.
Fodd bynnag, mae yna—. Rwy'n credu bod yr Aelod wedi sôn am bresenoldeb. Rydym yn gwneud rhywfaint o gynnydd ar bresenoldeb. Erbyn hyn rydym dros 90 y cant. Yr her, fodd bynnag, yw, mewn gwirionedd, i rai o'n dysgwyr, sy'n debygol o fod ein dysgwyr lleiaf breintiedig, nad ydym wedi gwneud yr un cynnydd o hyd. Mae mwy i'w wneud ar hyn, ac mae hyn yn waith y mae angen i'r Llywodraeth ei wneud ochr yn ochr ag awdurdodau lleol. Nid yw'n faes i chwifio ffon fawr; mae'n faes lle mae angen i ni weithio ochr yn ochr â nhw, oherwydd bydd pob awdurdod lleol yn deall y pwysau maen nhw'n eu hwynebu. Beth bynnag yw'r arweinyddiaeth wleidyddol, bydd gan aelodau ym mhob ward yr un heriau ac maen nhw eisiau gweld camau gweithredu'n cael eu cymryd. Felly, i'r plant a'r bobl ifanc hynny lle nad yw'r ysgol yn amgylchedd priodol iddyn nhw, gellir eu cefnogi'n briodol i gael y canlyniadau addysgol gorau posibl i sicrhau bod ganddyn nhw gyfrwng priodol ar gyfer bywyd y tu allan i'r ysgol. Felly, dyna'r gwaith y byddwn yn ei wneud ochr yn ochr â nhw.
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno gwasanaeth gofal cenedlaethol? OQ61089
Diolch am y cwestiwn. Mae nifer o feysydd gweithgaredd allweddol yng ngham 1 ein cynllun gweithredu cychwynnol eisoes wedi symud ymlaen yn gyflym drwy ein rhaglen 'Ailgydbwyso Gofal a Chymorth'. Mae hynny'n cynnwys sefydlu swyddfa genedlaethol ar gyfer gofal a chymorth. Mae gweithgareddau ymchwil ac, yn wir, y cwestiwn o ariannu gofal cymdeithasol yn y dyfodol wedi'u cynllunio i gychwyn. Ac, wrth gwrs, efallai y bydd gennym fwy o gyllid ar gael i ni yn y tymor agosach, yn dibynnu ar y cyllidebau sydd ar gael i'r sefydliad hwn.
Ac rydych chi yn llygad eich lle i ddweud mai'r cam cyntaf pwysig i'r gwasanaeth gofal cenedlaethol hwnnw i Gymru oedd lansio'r swyddfa gofal a chymorth genedlaethol newydd. Bydd y gwasanaeth pwysig hwnnw'n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi'r prif swyddog gofal cymdeithasol i ddarparu gwasanaeth gofal cenedlaethol Cymru. Ac o'r hyn rwy'n ei ddeall, bydd hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth weithredu'r fframwaith comisiynu cenedlaethol ar gyfer gofal a chymorth yng Nghymru. Prif Weinidog, a ydych yn cytuno ein bod yn cynnal y camau sydd ar y gweill i gyfeirio adnoddau lle mae eu hangen fwyaf er mwyn darparu canlyniadau a diwallu anghenion ein poblogaeth hŷn?
Diolch am y cwestiwn. Rwyf am ddechrau drwy gydnabod a thalu teyrnged i'r gwaith a wnaeth Julie Morgan pan oedd hi'n aelod o'r Llywodraeth ar fwrw ymlaen â'r maes diwygio a gwella hwn. Bydd Dawn Bowden nawr yn arwain ar y gwaith sydd angen ei wneud o hyd i ddarparu gwasanaeth gofal cenedlaethol, ac rwy'n credu y bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i oedolion hŷn, ond hefyd, ochr yn ochr â'r diwygiadau a fydd yn cael eu cymeradwyo, bydd mwy o hynny'n digwydd yr wythnos nesaf i blant a phobl ifanc a fydd hefyd yn defnyddio'r system gofal cymdeithasol. Rydym yn gwybod bod angen gwella a gweddnewid yn sylweddol y system sydd gennym ar hyn o bryd.
Rwy'n credu y bydd gwasanaeth gofal cenedlaethol sydd â safonau cenedlaethol— eglurder ynghylch y gofynion i ofalu am ein staff, eglurder ynghylch y gwasanaeth y gallai ac y dylai pobl ei ddisgwyl—yn gwneud gwahaniaeth sylweddol o ran gwneud gwell defnydd o arian ond hefyd gwell profiad a chanlyniadau gwell i bobl, ni waeth pa gam o'u bywyd y maen nhw ynddo. Hoffwn weld bod gweddnewidiad sylweddol, y newid yn yr adnoddau sydd eu hangen, yn parhau i ddigwydd. Rydym yn barod i wneud hynny.
Rwy'n credu bod hynny'n rheswm da arall dros fod eisiau newid yn y Llywodraeth ar lefel y DU. Byddem yn llawer gwell ein byd o allu ymgymryd â'r diwygiad hwn pe gallem ystyried y rhyngweithio â'r system dreth a budd-daliadau sy'n effeithio ar bobl o bob oed. Byddai bod â Llywodraeth y DU sydd yn barod i ddod gyda ni ar y daith weddnewid a diwygio hon, rwy'n credu, â dull fyddai'n para'n hirach o weithredu fel y gallem ni gymryd camau ac yn llawer cyflymach hefyd.
Yn olaf, cwestiwn 8, Luke Fletcher.
8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau ei gyfarfod â Tata ym Mumbai? OQ61118
Cefais gyfarfod pragmatig a gonest gyda phrif weithredwr a rheolwr-gyfarwyddwr a phrif swyddog ariannol Tata Steel ym Mumbai ddydd Gwener yr wythnos diwethaf. Byddaf yn gwneud datganiad llafar am yr ymweliad yn ddiweddarach heddiw.
Diolch am yr ateb.
Ac rwyf am ddatgan, Llywydd, fy mod yn aelod o fwrdd pontio Port Talbot cyn gofyn fy nghwestiwn oherwydd ei fod yn ymwneud â pheth o waith y bwrdd pontio hwnnw. Nawr, cyn ymweliad y Prif Weinidog â Mumbai, nid oedd y Llywodraeth a'r sector addysg bellach yn gwybod pwy yn union fyddai mewn perygl pe byddai Tata yn bwrw ymlaen â'u cynigion. Nawr, os yw'r bwrdd pontio i wneud ei waith yn iawn, mae angen yr holl wybodaeth arnom ar y bwrdd fel y gallwn wedyn gynllunio ar gyfer unrhyw ganlyniad posibl a allai ddod o unrhyw gyhoeddiad gan Tata. Felly, a yw'r sefyllfa honno wedi newid ac a yw Tata wedi rhoi'r wybodaeth honno i'r Llywodraeth, ac a fydd, wedyn, y Llywodraeth yn ei rhoi i'r bwrdd pontio er mwyn iddo allu gwneud ei waith?
Mae'n amlwg bod mwy i'w wneud. Roeddwn i'n glir iawn ynghylch yr angen i gael gwybodaeth am y gweithlu uniongyrchol ac, yn wir, contractwyr hefyd. Rwy'n gwybod y byddwn ni'n mynd trwy hyn yn fanylach yn nes ymlaen heddiw. Fodd bynnag, mae yna gwestiwn nid yn unig am wybodaeth ond am sut mae'r bwrdd pontio yn cael ei ffurfio ac ai dyma'r cyfrwng cywir i wneud y gwaith sydd ei angen i gefnogi gweithwyr a allai gael eu hunain yn ddi-waith. Ac fel y gwyddom, byddai'r cynlluniau amlinellol sydd yn gyhoeddus yn gweld colli swyddi sylweddol cyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Mae'n destun pryder gwirioneddol i Aelodau ar draws y Siambr, pryder gwirioneddol i mi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ac ynni a gyfarfu ag undebau llafur yr wythnos diwethaf. Ond llawer mwy felly—ac ni ddylem fyth anghofio hyn—mae'n fater o bryder gwirioneddol i filoedd o weithwyr a'u teuluoedd wrth i ni siarad heddiw.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Jane Hutt.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Yn nes ymlaen y prynhawn yma, bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar Tata Steel. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd, os gwelwch yn dda, er mwyn i ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddull Llywodraeth Cymru o ailgylchu? Byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei chynllun ailgylchu symlach yr wythnos diwethaf, a fydd yn galluogi awdurdodau lleol ac eraill i gymryd agwedd wahanol tuag at ailgylchu, sy'n galluogi i'r holl wastraff ailgylchadwy sych gael eu cymysgu. Nawr, mae hyn yn rhywbeth sy'n digwydd o hyd yn sir Ddinbych—rhan o fy etholaeth i—lle gall yr holl wastraff ailgylchadwy sych fynd i mewn i un bin. Mae'n syml iawn, mae'n hawdd i'r cyhoedd ei ddeall, ac mae'n atal yr holl finiau anniben a welwn y tu allan i gartrefi llawer o bobl, ar lawer o strydoedd, ac yn enwedig mewn ardaloedd lle mae gennych ddwysedd uchel o boblogaeth mewn fflatiau. Yn ogystal â hynny, maent yn ymestyn y cyfle i fusnesau ddilyn y llwybr hwnnw, fel y mae llawer o fusnesau eisoes yn ei wneud yng Nghymru. Nawr, roedd gan sir Ddinbych gyfraddau ailgylchu—gan ddefnyddio'r system honno—o 66 y cant yn y flwyddyn 2022-23. Mae hynny'n uwch na Gwynedd, Ynys Môn, Wrecsam, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Merthyr Tudful a llu o awdurdodau lleol eraill y mae'n ofynnol iddynt wahanu eu hailgylchu wrth ymyl y ffordd. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried ceisio symleiddio'r system ailgylchu ledled Cymru, fel y gall cartrefi a busnesau gymysgu eu gwastraff ailgylchadwy sych, gan ddal i gyflawni cyfraddau ailgylchu uchel iawn ledled y wlad, ond mewn ffordd llawer symlach iddynt allu ei defnyddio?
Diolch am y cwestiwn pwysig yna. Mae hwn yn gwestiwn lle rwy'n falch iawn o gydnabod—ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n gwneud, fel yr ydych wedi ei wneud, Darren—llwyddiant ysgubol Cymru, wrth gwrs, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, ond o ganlyniad i'r holl waith partneriaeth gyda'n hawdurdodau lleol, ac, yn wir, ein cymunedau a'n dinasyddion. Felly, rydym ar frig cynghrair y byd o ran cyfraddau ailgylchu. Ac, wrth gwrs, mae hynny wedi golygu bod awdurdodau lleol yn dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn cymryd camau gweithredu. Yn fy etholaeth i, nid ydym yn cymysgu'r gwastraff ailgylchadwy, ac mae'r cyfan yn gweithio'n dda iawn ac yn effeithiol iawn hefyd. Ond mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod ein bod ni wedi gwneud nid yn unig cynnydd gwych—rydyn ni wedi bod yn arweinwyr o ran ailgylchu yng Nghymru—ond hefyd, yn amlwg, mae eraill wedi dysgu gennym ni, a dyna lle gallwn ni ddysgu o unrhyw ddatblygiadau, ond rwy'n credu mai dysgu oddi wrthym ni yw'r ffordd mae wedi digwydd gydag ailgylchu.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Trefnydd, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu gyda mi yn sgil y cyhoeddiad gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fod ei rhaglen gwersi actio a cherddoriaeth ar gyfer plant a phobl ifanc yn debygol o ddod i ben oherwydd y sefyllfa gyllidol yn y coleg. Mae sôn yn y datganiad gan y coleg am gydweithio â Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru ar gynlluniau amgen, ond does dim manylion pellach o ran hynny.
Hoffwn ofyn, felly, am ddatganiad llafar neu ysgrifenedig gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol o ran y cyhoeddiad hwn, ac unrhyw drafodaethau mae hi wedi eu cael gyda'r coleg. Gyda chymaint o blant a phobl ifanc wedi'u heffeithio—nifer ohonyn nhw'n derbyn bwrsariaeth—mae hyn yn rhywbeth a allai gael effaith andwyol arnyn nhw a'u datblygiad fel cerddorion ac actorion i'r dyfodol.
Diolch yn fawr, Heledd Fychan, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r cyhoeddiad diweddar hwn a'r ymgynghoriad ar gynigion i roi terfyn ar rywfaint o'r ddarpariaeth gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru o ran gweithio gyda phobl ifanc, a allai effeithio ar ddarpariaeth dosbarthiadau cerdd dydd Sadwrn, a hefyd i gydnabod bod angen i ni edrych ar hyn yng nghyd-destun ein cynllun cenedlaethol ar gyfer addysg cerddoriaeth. Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi datgan ei fod yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddarparu cyfleoedd mewn cerddoriaeth i bobl ifanc ac i greu llwybrau i hyfforddiant proffesiynol, a bydd yn parhau i ddarparu nifer o feysydd gwaith prosiect, gan gynnwys gweithdai ymgolli ar benwythnosau mewn cerddoriaeth, preswylfa Cerddorfa Ieuenctid Agored a chyrsiau gwyliau.
Ond rwy'n credu, fel y dywedais i, ei fod hefyd yn cydnabod bod yn rhaid iddo gyd-fynd â'n cynllun cenedlaethol ar gyfer addysg cerddoriaeth, yn enwedig ar gyfer dysgwyr sydd eisiau symud ymlaen i chwarae offeryn. Ac mae'n sefydliad partner allweddol ar gyfer ein gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol, o ran model y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol, ac, wrth gwrs, pennaeth y coleg yw cadeirydd bwrdd cynghori'r gwasanaeth. Felly, yn amlwg, mae'n gorff ymreolaethol, annibynnol, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac mae'n gwneud ei benderfyniadau ei hun, ond, wrth gwrs, rydym wedyn yn gweithio gyda'n gilydd i weld ffyrdd y gallant ganolbwyntio ar y cysylltiadau hynny â'r cynllun cenedlaethol ar gyfer addysg gerddorol a'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol.
Trefnydd, rwy'n gofyn unwaith eto am ddatganiad brys, ond, y tro hwn, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ynghylch y sefyllfa barhaus ar safle tirlenwi Withyhedge. Nawr, clywais ymateb y Prif Weinidog i arweinydd yr wrthblaid yn gynharach, ac ni wnaeth ei atebion fy llenwi â hyder o gwbl. Nawr, brynhawn Gwener, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddatganiad, gan ddweud y gallai arogleuon ac allyriadau o'r safle fod yn niweidiol i iechyd pobl gan gynghori pobl i ofyn am gyngor meddygol, sy'n rhywbeth y mae fy etholwyr a minnau wedi ei amau ar hyd yr amser. Lle mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod hyd yn hyn? Mae problem wedi bod ar safle tirlenwi Withyhedge ers misoedd, a nawr mae'n edrych yn fwyfwy tebygol bod y gymuned wedi bod yn agored i allyriadau gwenwynig. Rwyf wedi sefyll i fyny yn y Siambr hon wythnos ar ôl wythnos i godi hyn ar ran fy etholwyr, ac ychydig iawn o gefnogaeth a gafwyd gan y Llywodraeth hon. Wel, digon yw digon. Ni all Ysgrifenyddion Cabinet Llywodraeth Cymru sefyll yn ôl a golchi eu dwylo o hyn. Rhaid cael datganiad brys yn amlinellu'n union beth y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i gefnogi'r gymuned ac atal y gweithredwr peryglus hwn rhag niweidio pobl hyd yn oed ymhellach.
Diolch yn fawr, Paul Davies. Rydych chi wedi codi'r mater hwn sawl gwaith yn y datganiad busnes, ac, yn wir, ymatebodd y Prif Weinidog yn llawn i arweinydd yr wrthblaid. Rydym yn cydnabod ymateb Iechyd Cyhoeddus Cymru a'i ddatganiad yr wythnos diwethaf, ac, yn bwysicaf oll, yn cydnabod y pryder ymhlith y gymuned leol a'r angen am y gweithredu cyflym hwnnw, oherwydd, ac fe'i disgrifiwyd yn fanwl, yr hyn y mae hynny'n ei olygu i'r gymuned honno a'r bobl sy'n byw wrth ei ymyl. Nawr, byddwch yn ymwybodol bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynyddu eu presenoldeb ar y safle; maen nhw'n parhau i ddiweddaru'r gymuned trwy eu gwefan wrth i weithgareddau fynd yn eu blaen. Cyflwynwyd hysbysiadau gorfodi i'r gweithredwr tirlenwi, sy'n gorfod gorchuddio yr holl wastraff agored a chwblhau gwaith peirianyddol tirlenwi i gynnwys a chasglu nwy tirlenwi. Dyna'r canlyniad pwysig yr ydym yn chwilio amdano. Ac os bydd y gweithredwr tirlenwi yn methu â chydymffurfio â dyddiad cau terfynol yr hysbysiad, bydd CNC yn cymryd camau gorfodi priodol, yn unol â'u polisi gorfodi ac erlyn. Felly, unwaith eto, gallaf sicrhau'r Aelod, a'r Siambr, fod CNC yn ymateb, fel blaenoriaeth, i ddatrys y mater, ac rydym yn annog trigolion, ac, yn wir, cynrychiolwyr etholedig, i barhau i adrodd am unrhyw achosion o arogleuon iddynt, oherwydd bod hynny, mewn gwirionedd, yn helpu i lywio effeithiolrwydd y camau i fynd i'r afael â'r mater hwn o weithgarwch ar y safle gan CNC.
Prynhawn da, Trefnydd. Hoffwn ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch cyflwr pryderus rhestrau aros deintyddiaeth ledled Cymru. Newyddion da gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys o ran plant sy'n aros am ddeintydd GIG: bu gwelliant sylweddol. Mae'r ffigurau bellach yn 84 o blant yn aros am ddeintydd GIG yn unig, ond mae'n rhaid i ni gofio bod hynny'n dal i fod yn 84 o blant. Ond mae nifer yr oedolion ym Mhowys sy'n aros am ddeintydd GIG yn 4,200, sy'n nifer syfrdanol. Un o'r problemau yw'r diffyg data canolog hwn a rhestr aros ganolog yng Nghymru. Pan godais y mater hwn yn gyntaf gyda'r Prif Weinidog, cyfaddefodd y bu oedi cyn cyflwyno'r rhestr aros gyfunol genedlaethol hon, ond heb ddarparu unrhyw amserlen. Felly, meddwl oeddwn i tybed a gawn ni syniad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynghylch pryd y byddai gennym restr aros ganolog ar gyfer deintyddion y GIG yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane Dodds, am eich cwestiwn pwysig iawn.
Mae hyn yn bwysig, ac mae'n ddefnyddiol eich bod wedi cydnabod bod camau wedi'u cymryd, ac rydym yn gweld gwasanaethau deintyddol ar gael i blant, gan leihau'r rhestrau aros hynny, a dyna lle rydym yn gwybod y bydd y flaenoriaeth o ran diwallu anghenion plant. Ond, wrth gwrs, mae yna oedolion hefyd. Mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn cael cysondeb ledled Cymru o ran datblygu gwasanaethau deintyddol. Felly, byddwch yn ymwybodol bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi comisiynu Iechyd a Gofal Digidol Cymru i ddatblygu datrysiad digidol Cymru gyfan, ac mae hyn yn ein harwain at y gobaith hwn o ran rhestrau aros canolog, datrysiad i Gymru gyfan, a bydd yn darparu un ffordd gyson i bobl sy'n dymuno cael mynediad at ofal deintyddol arferol gofrestru eu diddordeb. Roedd prototeip y system i fod i gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Gallaf gadarnhau bod y system nawr i fod i gael ei phrofi o ganol Gorffennaf gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, yn eich rhanbarth chi. Felly, bydd yn cael ei gyflwyno ledled Cymru, unwaith y bydd y prawf wedi'i gwblhau a gwersi a ddysgwyd o'r broses honno wedi'u gweithredu. Ond mae hwn yn gam cadarnhaol iawn ymlaen ac, wrth gwrs, bydd o fudd—. Mae'n cael ei brofi ym Mhowys, ond bydd o fudd i Gymru gyfan o ran mynediad at wasanaethau deintyddol.
Hoffwn gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch darn a gynhyrchwyd gan S4C ar Y Rhyl yn fy etholaeth i a ddarlledwyd yn ôl ym mis Ebrill. Roedd y darn o raglen deledu o'r enw Hansh, a'r bwriad oedd i wylwyr gael golwg ar, rwy'n dyfynnu, 'byd gwyllt stripwyr', diwedd y dyfyniad. Dechreuodd y darn gyda montage o vox pops wedi'u golygu'n ddetholus, a phobl yn defnyddio iaith anweddus i bardduo a thramwyo'r Rhyl. A dydw i ddim yn Mary Whitehouse o unrhyw fath ac nid wyf yn orlednais o bell ffordd, a does gen i ddim problem gyda phwnc y bennod; yn wir, mae pob diwydiant yn haeddu cynrychiolaeth. Ond rwy'n credu ei bod yn siomedig y byddai darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yn dewis portreadu fy etholaeth i fel lle gwael, gan ategu ystrydebau niweidiol am y dref yr ydym ni'n gweithio'n galed i'w newid. Rwy'n gwybod bod S4C yn gorff cyhoeddus annibynnol, wedi'i benodi gan Lywodraeth y DU, ond, fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus Cymraeg, dylem fod â rhywfaint o lais dros y cynnwys a'r modd y caiff ei redeg, yn enwedig pan fydd y cynnwys yn sarhau'r bobl y mae'n ceisio eu difyrru neu eu haddysgu. [Torri ar draws.] Felly, a allai'r Ysgrifennydd Cabinet amlinellu barn Llywodraeth Cymru ar y rhaglen benodol hon ar S4C, ac amlinellu pa sylwadau a wneir i'r sianel ynglŷn â'i chynnwys?
Wel, rwy'n credu ei fod wedi ei adleisio o amgylch y Siambr, ac, fel y dywedoch chi, mae S4C yn ddarlledwr cyhoeddus annibynnol. Rwy'n credu eich bod wedi mynegi eich barn, ac mae'n debyg eich bod wedi cyfleu eich barn i'r darlledwr cyhoeddus, ac rwy'n credu mai dyna'r llwybr priodol i'w gymryd.
Mae adeilad y Redhouse ym Merthyr Tudful wedi cael ei orfodi i gau ei ddrysau. Byddwn i'n gwerthfawrogi datganiad yn nodi pwysigrwydd cadw lleoliadau fel hyn ar agor. Mae'r adeilad yn hanfodol bwysig i breswylwyr. Neuadd y dref oedd hi, yn fwy diweddar mae wedi bod yn ganolfan gelfyddydol, ond mae hefyd yn dystiolaeth o orffennol yr ardal. Cafodd ei hadeiladu ar adeg pan oedd Merthyr yn ganolbwynt i ddiwydiant y byd, a'r ardal o'i blaen oedd lleoliad Gwrthryfel Merthyr. Siawns nad oes yna ymyrraeth y gall y Llywodraeth ei wneud yn y fan yma. Cymdeithas dai leol sy'n berchen ar y lleoliad, ond ymddiriedolaeth hamdden sy'n rhedeg y ganolfan gelfyddydau y mae'n ei chartrefu. Mae'n debyg bod oedi wrth drosglwyddo'r busnes oherwydd cwestiynau ynghylch hyfywedd ariannol. Y rheswm yr hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth yw bod rhywbeth tebyg wedi digwydd yn ddiweddar gyda chanolfan gymunedol Aberfan. Nawr, mae dyfodol y lleoliad hwnnw bellach yn edrych yn fwy diogel, yn rhannol, rwy'n credu, oherwydd dicter y cyhoedd. Ond mae pobl y cymoedd hyn yn dal i gael pethau wedi'u cymryd oddi arnyn nhw: eu gwasanaethau, eu hasedau, eu swyddi. Mae swyddi yn y Redhouse mewn perygl ar hyn o bryd. Felly, a all datganiad, os gwelwch yn dda, gydnabod pwysigrwydd cadw'r adeiladau hyn mewn defnydd ar gyfer y gymuned, fel nad ydynt yn troi'n greiriau, nad ydynt ond yn dyst i'r hyn yr oeddem ni'n arfer bod, ond eu bod yn cael eu diogelu ar gyfer ein dyfodol?
Diolch yn fawr am eich cwestiwn.
Adeiladau ein treftadaeth ni yw'r rhain, onid ydyn nhw? Ac yn wir, dydw i ddim yn siŵr am yr adeilad penodol hwnnw, ond rwy'n amau ei fod dros y blynyddoedd wedi elwa nid yn unig ar gyllid cyhoeddus drwy'r awdurdod lleol ac, yn wir, Llywodraeth Cymru, ond hefyd ar gyllid Ewropeaidd, yr oedd rhaglen enfawr ar ei chyfer ar gyfer adfywio a gwarchod ac adnewyddu'r adeiladau hyn. Ac, wrth gwrs, pan fyddant yn darparu'r gwasanaethau hynny a'r cyfleusterau hynny, fel y cyfleuster celfyddydau yr ydych yn ei ddisgrifio, dyna lle mae'n rhaid diogelu defnydd cymunedol a mynediad at y gwasanaethau hynny, os yw'n bosibl, ond rydym mewn cyfnod ariannol mor anodd o ran cyllid cyhoeddus. Ond, wrth gwrs, mae yna opsiynau trosglwyddo asedau cymunedol. Dydw i ddim yn gwybod faint y mae'r gymuned ac, yn wir, rheolwyr ac ymddiriedolwyr wedi cael gafael ar wasanaethau gan, er enghraifft, y cyngor lleol ar gyfer gwasanaethau gwirfoddol, ond rwy'n credu y byddai'n dda pe gallech chi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, fel y gellid archwilio pob llwybr ar ran y cyfleuster hwnnw yn eich etholaeth, yn eich rhanbarth.
Trefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, os gwelwch yn dda. Ar hyn o bryd mae Opera Cenedlaethol Cymru yng nghanol argyfwng sy'n bygwth ei ddyfodol fel ein sefydliad celfyddydol blaenllaw a'r unig gwmni opera llawn amser yma yng Nghymru. Opera Cenedlaethol Cymru yw'r em yng nghoron Cymru. Dyma'r cyflogwr celfyddydau mwyaf, a grëwyd yn y 1940au gan grŵp o feddygon, glowyr ac athrawon a oedd yn dymuno creu ensemble perfformio a fyddai'n gwireddu ein henw da fel gwlad y gân. Ar hyn o bryd mae Opera Cenedlaethol Cymru yn sefyll ar yr ymyl, ar ôl cael toriadau gan gynghorau celfyddydau Cymru a Lloegr sy'n cyfateb i 25 y cant o'i chyllideb flynyddol. Mae hyn yn amlwg yn gwbl anghynaladwy. Oni bai y gellir dod o hyd i ragor o gymorth ariannol, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn mynd i gael ei orfodi i wneud ei cherddorfa a'i chorws, calon y cwmni, yn rhan-amser. Mae'n lleihau ei lleoliadau teithiol ac mae eisoes wedi cynnig diswyddo gwirfoddol i weddill y cwmni. Bydd hyn yn arwain at golli sgiliau hanfodol ar draws y sefydliad. Heb fwy o gyllid yn y tymor byr, ni fydd Opera Cenedlaethol Cymru yn gallu parhau i ddarparu cynnig sylweddol o addysg opera ac ymgysylltu â rhaglenni lles, gan ddarparu buddion artistig, cymunedol, addysgol ac iechyd ar draws ein cymunedau ledled Cymru. Bydd ansawdd ac allbwn sefydliad celfyddydau blaenllaw Cymru yn cael eu gwanhau'n ddifrifol yn y DU a thu hwnt. Mae'n hanfodol bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn dod i'r Siambr gyda datganiad sy'n ein hysbysu o'i thrafodaethau diweddar gyda Llywodraeth y DU ac sydd hefyd yn lleddfu'r ofnau presennol ac yn sicrhau nad oes amheuaeth bellach ynghylch dyfodol hirdymor Opera Cenedlaethol Cymru. Diolch.
Diolch yn fawr, Laura Anne Jones. Codwyd hyn yn y datganiad busnes, yn sicr, yr wythnos diwethaf hefyd. Yn amlwg, codwyd cwestiynau a phryderon cyhoeddus proffil uchel am Opera Cenedlaethol Cymru, rhywbeth yr ydym yn ei drysori'n fawr iawn. Mae sectorau diwylliant a chwaraeon Cymru yn rhan annatod o'n cymdeithas a'n llesiant, ac maen nhw'n cyfoethogi ein cymunedau ac yn ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol. Rydym yn cydnabod, fel Llywodraeth Cymru, werth cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd sector y celfyddydau yng Nghymru, gan gynnwys opera. Ond, wrth gwrs, fel y gwyddoch chi, mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y celfyddydau yn cael ei sianelu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Gydag egwyddor ariannu hyd braich, roedd yr adolygiad buddsoddi, wrth gwrs, yn fater i Gyngor Celfyddydau Cymru. Nid ydym yn ymyrryd â phenderfyniadau ariannu Cyngor Celfyddydau Cymru. Felly, mae hynny wedi arwain at benderfyniadau anodd iawn o ran cyllid, ond rwy'n nodi bod opera yn derbyn 71 y cant o gyfanswm y gwariant ar y sector cerddoriaeth ar gyfer 2024-25. Ond, wrth gwrs, fel rydych chi wedi'i ddweud, ac fel y cydnabuwyd, mae'r toriad yn y gyllideb gan Gyngor Celfyddydau Lloegr wedi cael effaith andwyol hefyd, ac, wrth gwrs, mae hynny'n cael effaith o ran cyfleoedd teithiol i Opera Cenedlaethol Cymru. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth lle mae angen i ni ystyried yr hyn sy'n dod i'r amlwg. Wrth gwrs, mae'r Ysgrifennydd Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ymgysylltu â'i rôl, ac yn cydnabod bod hyn yn rhywbeth lle mae angen i ni edrych ar y sefyllfa wirioneddol enbyd yr ydym ynddi o ran cyllid—hyd at £700 miliwn yn llai yng Nghymru mewn termau real, yn ein cyllideb, o ganlyniad i doriadau Llywodraeth y DU sydd wedi golygu bod y penderfyniadau anodd iawn hyn wedi digwydd.
Ac yn olaf, Sam Rowlands.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Trefnydd, hoffwn alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn amlinellu camau i ymdrin â'r cynnydd diweddar mewn achosion o'r pas. Ar hyn o bryd, rydym yn profi blwyddyn frig ar gyfer yr haint, a rhai o'r cyfraddau uchaf yn achosi pryder mewn babanod o dan dri mis oed, sy'n grŵp arbennig o agored i niwed, ac yn anffodus mae pump o'r babanod hynny wedi marw o ganlyniad i'r haint hyd yma eleni. Dangosodd data diweddar a gyhoeddwyd gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU fod dros 1,300 o achosion wedi'u cadarnhau ym mis Mawrth yn unig, sy'n peri pryder mawr. Gwyddom fod rhai o'r achosion hyn yn gysylltiedig â llai o blant yn derbyn eu brechlynnau. Yn wir, dim ond 93 y cant o blant sydd wedi derbyn eu brechiadau 6-mewn-1 hyd yn hyn. Rwy'n credu y byddai'n bwysig i'r Senedd hon dderbyn diweddariad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar niferoedd y pas a sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i ostwng unrhyw gynnydd yn y niferoedd hynny a sicrhau bod mesurau ataliol ar waith er mwyn amddiffyn pobl, ac yn enwedig babanod, yma yng Nghymru.
Wel, diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn yna, oherwydd mae hynny'n bwysig iawn, fel dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, sef ein bod ni'n annog pobl i gael eu brechu. Ac mewn gwirionedd, rydych chi wedi gwneud hynny'n effeithiol iawn y prynhawn yma. Fe gyfeiriodd ef at yr achosion o'r frech goch ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a'r achos unigol hwnnw yn y gogledd, sy'n amlygu bod rhaid i ni feithrin ymwybyddiaeth a chynyddu'r niferoedd sy'n cael eu brechiadau. Ac, o ran y pas, nid oes unrhyw fanylion gennyf i ynglŷn â chyffredinrwydd nac ymddangosiad y pas o ran niferoedd yr achosion, ond yn sicr fe fyddaf i'n dwyn hynny i sylw'r Ysgrifennydd Cabinet. Ond, unwaith eto, diolch i chi am godi ymwybyddiaeth y prynhawn yma wrth godi'r cwestiwn hwn.
Diolch i'r Trefnydd.
Eitem 3 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifenydd y Cabinet dros Addysg: ein cenhadaeth genedlaethol—cyflawni blaenoriaethau addysg Cymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae hi'n fraint i mi gael fy ngwahodd gan y Prif Weinidog i fod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, swydd sy'n dod â chyfleoedd unigryw i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl ledled Cymru, yn enwedig bywydau plant a phobl ifanc. Rwy'n dweud yn eglur nad wyf i'n tanbrisio'r cyfrifoldebau dwys sy'n gysylltiedig â'r swydd hon, ac nid wyf i mewn unrhyw fodd yn hunanfodlon ynghylch maint yr her.
Rydym ni wedi cychwyn ar becyn sylweddol o ddiwygiadau i drawsnewid bywydau a chyfleoedd i bobl ifanc, ond, ar yr un pryd, mae'n rhaid i ni ddal ati i ganolbwyntio ar helpu dysgwyr a staff i oresgyn effaith y pandemig. Mae yna ragoriaeth i'w gael ym mhob rhan o'r system, ond rwy'n gwbl eglur ynglŷn â'r angen i ni anelu yn uwch. Yn benodol, mae angen i ni godi cyfraddau cyrhaeddiad a chau'r bwlch er mwyn y plant tlotaf yng Nghymru. Ac mae'r staff anhygoel yn ein hysgolion, colegau a phrifysgolion yn dymuno gweld cyfundrefn sy'n fwy cydgysylltiedig ac addas i'w helpu i wynebu heriau addysg i'r dyfodol.
Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau sy'n gwybod digon amdanaf i'n deall mai fy man cychwyn i bob amser fydd lles mwyaf ein dysgwyr, ac yn enwedig ein plant a'n pobl ifanc. Rwy'n bwriadu arwain system addysg sy'n eu rhoi nhw yn gyntaf. Pan dderbyniais i'r swydd hon, roedd y Prif Weinidog yn eglur am ei ddyhead i fod â system sy'n canolbwyntio ar sicrhau gwelliant parhaus o ran cyrhaeddiad addysgol er mwyn i bob dysgwr gyflawni ei botensial. Heddiw, fe hoffwn i nodi rhai o'r camau yr wyf i am eu cymryd i gyflawni'r her hon. Rwy'n gwybod na allwn ni wneud popeth dros nos, felly mae hi'n bwysig, a minnau'n Ysgrifennydd Cabinet, i mi fod yn eglur ynghylch y blaenoriaethau i'r dyfodol agos.
Fy nghenadwri gyntaf yw mai iechyd meddwl da yw'r sail y bydd ein system addysg yn cael ei hadeiladu arni. Yn fy swydd flaenorol yn Ddirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, roeddwn i'n falch o weithio gyda fy rhagflaenydd, Jeremy Miles, i gyflwyno'r dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl, y byddaf i'n parhau i'w hyrwyddo yn fy swydd newydd. Mae hi'n hanfodol mynd i'r afael â'r materion sy'n ein hwynebu o ran cyrhaeddiad a phresenoldeb. Fe fydd hynny'n parhau i fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Er fy mod i'n gwybod pa mor bwysig yw iechyd meddwl a llesiant da i ddysgwyr a staff, fe wn i hefyd na ellir ystyried unrhyw fater unigol yn gwbl ar wahân i'r lleill. Mae'n rhaid i ddiwygio a gwelliant gael ei anelu at greu system gyfan sy'n gweithio i bob dysgwr. Fy ngwaith i fydd gwneud i'r system gyfan weithio gyda'i gilydd.
Fe hoffwn i egluro fy mod i'n dal i fod yn gwbl ymrwymedig i gynnydd Cwricwlwm i Gymru. Rwyf i wedi gweld y gwaith rhagorol drosof fy hun sy'n digwydd eisoes yn ein hysgolion ni drwy anwesu'r cyfleoedd yn y cwricwlwm newydd. Ond, fe glywais i'n hyglyw iawn hefyd fod yr ysgolion yn awyddus i fod â rhagor o gefnogaeth ar gyfer sicrhau y bydd yr offer priodol gan bawb i wneud hyn yn iawn. Fe fyddaf i'n blaenoriaethu cymorth ar ddyluniad y cwricwlwm, y cynnydd a wneir ac asesiad ohono. Fe fyddaf i'n gweithio gydag athrawon i sicrhau bod y gefnogaeth gywir yn cyrraedd eu hystafelloedd dosbarth a bod yr wybodaeth, yr adnoddau a'r hyder ganddyn nhw i sicrhau y bydd pob dysgwr a phob cwr o Gymru yn teimlo budd o'r cwricwlwm.
Yr wythnos diwethaf, fe roddais i dystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wrth i mi gymryd rhan mewn dadl Pwyllgor Deisebau, ynglŷn â diwygio anghenion dysgu ychwanegol, edefyn hanfodol bwysig o waith ond sy'n gymhleth hefyd. Mae hi'n hanfodol ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i weithredu system o gymorth ADY sy'n darparu ar gyfer dysgwyr y gall rhieni a staff ysgol ei llywio hi. Fel soniais i'r wythnos diwethaf, mae canolbwyntio ar ddiwygio ADY wedi bod ymhlith y blaenoriaethau cyntaf sydd gennyf i. Rwyf i'n awyddus y bydd sylfeini deddfwriaethol cadarn ar waith, ac rwy'n awyddus i gryfhau gweithredu trwy wella cysondeb yr ymagwedd a gymerir.
Mae cydweithio, herio a gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i ysgogi gwelliant i'r dyfodol. Rwy'n awyddus i'r system gyfan weithio gyda'i gilydd i wella safonau a chyrhaeddiad, a bod yn uchelgeisiol er mwyn pob dysgwr unigol. Ochr yn ochr â gwelliannau cyffredinol o ran cyrhaeddiad, mae hi'n hanfodol ein bod yn cau'r bwlch cyrhaeddiad sy'n wynebu ein dysgwyr mwyaf difreintiedig. Ni wnaf i fyth â derbyn y dylai plant o gefndiroedd tlotach fodloni ar ganlyniadau gwaeth na'u cyfoedion neu ddysgwyr mewn mannau eraill. Rwyf i wedi ymrwymo i wella ein dealltwriaeth ni o'r bwlch cyrhaeddiad a nodi'r mannau gorau i anelu ymyraethau er mwyn cael y dylanwad mwyaf. Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i'r rhaglen partneriaeth gwella ysgolion, sy'n bwrw ymlaen â chanfyddiadau'r adolygiad strategol o bartneriaid addysg yng Nghymru. Rydym ni'n gweithio gyda'n partneriaid i gyd i gymryd y cam nesaf tuag at system o hunanwella, sy'n canolbwyntio ar wella canlyniadau dysgu yng Nghymru trwy ddull mwy cydweithredol a seiliedig ar bartneriaeth. I fod yn llwyddiannus, mae angen i ni gyflymu cynnydd mewn rhai meysydd allweddol: yn gyntaf, wrth gynnig dysgu proffesiynol cadarn sy'n cefnogi athrawon ac sy'n canolbwyntio ar wella ansawdd yr addysgu a'r dysgu; yn ail, wrth gryfhau arweinyddiaeth ysgolion i sicrhau bod pob ysgol yn sefydlu'r diwylliant priodol ar gyfer dysgwyr a staff; a sicrhau'r effaith fwyaf posibl drwy wneud y pethau sylfaenol yn iawn, gyda chanolbwynt parhaus ar wella llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol, gan gynnwys drwy'r cynllun mathemateg a rhifedd. Rwy'n disgwyl i bob rhan o'r system fod yn gweithio tuag at y nod cyffredin o wella cyrhaeddiad, yn arbennig felly yn y cymunedau mwyaf difreintiedig.
Wrth gwrs, ni ellir cyflawni unrhyw ddiwygiad na gwelliant yn ein hysgolion heb weithlu ysgol ymroddedig a thalentog. Rwyf i wedi ymrwymo i wrando a gweithio mewn partneriaeth â'r gweithlu, wrth i ni symud ymlaen gyda'r rhaglen hon o waith. Ni fydd y sgyrsiau rhyngom ni'n hawdd bob amser, ond fe wn fod ein nod yn un cyffredin: sef cyflawni'r canlyniadau gorau posibl i blant a phobl ifanc. Ac mae'r Gymraeg yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, ac fe fyddwn ni'n parhau i weithio yn agos gyda phartneriaid i sicrhau y bydd pob unigolyn ifanc yn dysgu medrau iaith Gymraeg sy'n ofynnol ar gyfer bywyd a gwaith.
Fe ddaeth yr ymgynghoriad ar ddiwygio'r flwyddyn ysgol i ben yn ddiweddar, gydag un o'r ymatebion mwyaf cynhwysfawr erioed i ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru. Mae hi'n bwysig fod yr ymatebion hyn yn cael eu hystyried yn llawn, ac fe fyddaf i'n diweddaru'r Senedd ar y camau nesaf maes o law.
Ond fe hoffwn i fod yn eglur bod addysg ôl-16 yn flaenoriaeth i mi hefyd, ac mae hi'n hanfodol ein bod ni'n codi cyfraddau cyfranogiad ar draws addysg bellach ac uwch, gan gynnwys addysg a hyfforddiant galwedigaethol. Bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd yn bartner hanfodol wrth gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer sector trydyddol sy'n fwy cysylltiedig a chydlynol, gydag addysg o ansawdd uchel ac ymchwil a fydd yn arwain y byd wrth hanfod ei waith. Rwyf i am ganolbwyntio ar wella llwybrau i addysg a hyfforddiant galwedigaethol, gan gynnwys sicrhau cydraddoldeb bri, creu llwybr eglur 14-19 i ddysgwyr a chynyddu cyfranogiad ym mhob maes.
Yn ogystal â hynny, rwy'n dymuno cydnabod y pwysau sydd ar ein colegau a'n prifysgolion ni ar hyn o bryd. Nid yw llawer o'r pwysau hyn yn unigryw i Gymru ac maen nhw'n golygu set ehangach o heriau. Rwy'n awyddus i ni weithio gyda'n gilydd, gan gynnwys gwrando ar leisiau myfyrwyr, wrth ymateb i'r heriau hyn. Fe ddywedwyd yn aml yn ystod y blynyddoedd diwethaf fod addysg yng Nghymru ar daith. Rwyf i'n ymrwymo i wneud fy ngorau glas bob amser i lywio addysg i'r cyfeiriad cywir a'n rhoi ni ar y trywydd iawn. Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad heddiw? Ond, rwy'n teimlo, yn anffodus, mai datganiad o fusnes fel arfer i system addysg sy'n galw allan am newid oedd hwnnw. Mae blaenoriaethau addysg Cymru yn amlwg: maen nhw'n dymuno sicrhau, pan fydd eu plant nhw'n mynd trwy ein system addysg ni, eu bod nhw'n cael addysg o'r radd flaenaf. Fe wyddom ni o'r gorau nad yw sgoriau PISA yn agos at fod mor uchel ag y dylen nhw fod, ac er ein bod ni'n clywed straeon am lwyddiant o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig gyda chyrhaeddiad addysgol, ar ôl 25 mlynedd o'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, rydym ni'n gorwedd ar waelod tablau'r gynghrair ym mhob pwnc, ac mae hi'n ymddangos mai dim ond gwaethygu y mae'r sefyllfa, Ysgrifennydd Cabinet.
Fe glywsom ni y byddai'r set ddiweddaraf o ddiwygiadau yn newid popeth: 'Nid oes angen i ni wneud dim ond rhoi amser i bethau ymwreiddio, ac fe welwn ni'r gwelliannau hynny.' Ond fe glywsom ni hynny dro ar ôl tro oddi wrth Weinidogion Llafur Cymru, ac mae hi'n ymddangos mai dim ond mynd i'r cyfeiriad anghywir y mae pethau. Er enghraifft, yn ôl yn 2009, fe ddywedodd y Gweinidog Addysg ar y pryd, Leighton Andrews, fod canlyniadau PISA ar gyfer y flwyddyn honno, ac rwy'n dyfynnu,
'yn rhybudd amserol i system addysg yng Nghymru a oedd wedi mynd yn hunanfodlon'.
Wel, ewch chi ymlaen 15 mlynedd ar ôl hynny, ac mae canlyniadau heddiw yn waeth fyth. Felly, os oedd y system yn hunanfodlon bryd hynny, beth ydyw hi heddiw?
Mae yna broblemau sylweddol gyda'r set ddiweddaraf o newidiadau a fabwysiadwyd gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth wedi penderfynu mabwysiadu dull ar sail sgiliau yn hytrach na dull ar sail gwybodaeth yn ein cwricwlwm ni, ac mae hi'n ymddangos bod Plaid Lafur y DU yn benderfynol o fynd ar yr un llwybr. Y broblem gyda hynny, fodd bynnag, yw, er bod y canolbwyntio ar ddull seiliedig ar wybodaeth wedi talu ar ei ganfed i ddisgyblion yn Lloegr, mae adroddiad nodedig y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ar addysg yng Nghymru yn ei gwneud hi'n amlwg, ac rwy'n dyfynnu,
'mae dirywiadau wedi bod ym mhob gwlad sydd wedi mabwysiadu cwricwlwm o'r fath ar sail sgiliau'.
Ac eto mae hi'n ymddangos mai dyna'r patrwm y mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o'i ddilyn ar gyfer ein plant ni. Dirprwy Lywydd, nid yw hynny'n ddigon da. Ond, wrth edrych eto ar yr adroddiad hwnnw gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, mae'n ei gwneud hi'n amlwg nad yw'r gwahaniaethau o ran canlyniadau addysgol yn deillio o arian nac o gyfraddau tlodi hyd yn oed. Y rheswm pam mae canlyniadau addysgol yn waeth yma yng Nghymru nag yn unman arall yn y DU yw, ac rwy'n dyfynnu,
'gwahaniaethau o ran polisi a dull'
Yn fyr, wrth i Lywodraeth Lafur Cymru botsian gyda'r system addysg, mae hynny'n arwain at ganlyniadau gwaeth i'n pobl ifanc ni, bron yn ddi-feth. Felly, sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet am sicrhau y bydd hi'n eithriad yn hytrach na rheol i Lywodraeth Lafur Cymru o ran ei methiant wrth gyflawni blaenoriaethau addysg Cymru?
Fe fyddai hi'n esgeulus i mi beidio â sôn am ddiwygio ADY yn y sector addysg. Fel roeddech chi'n dweud yn eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, fe aethoch chi i'r pwyllgor PPIA yr wythnos diwethaf i drafod hynny, yn ogystal ag i ymateb i ddadl y Pwyllgor Deisebau ar y pwnc, ac fe wnaethoch chi gyfaddef bod llawer i'w wneud eto o ran gwneud y diwygiadau hynny'n iawn, ac nad oedd sawl agwedd wedi gweithio fel y bwriadwyd hyd yn hyn. Ond yr hyn a oedd yn fy mhryderu i yn ystod yr ymddangosiad hwnnw yn y pwyllgor oedd bod llawer o sôn wedi bod am y ffaith na fyddai'r newidiadau yr oeddech chi'n teimlo'r angen iddyn nhw fod yn digwydd allu cael eu gwneud hyd nes y bydd y data cywir ar gael. Y broblem oedd nad oedd hi'n ymddangos bod y gwaith o nodi yn union pa ddata a fyddai'n angenrheidiol wedi dechrau eto, heb sôn am lunio ac yna asesu hynny, felly mae hynny'n awgrymu efallai nad proses gyflym fydd hon, ac fel gwyddoch chi, fe all chwe mis, blwyddyn, dwy flynedd, fod yn dragwyddoldeb ym mywyd plentyn ac fe all fod ag effaith ddofn ar gyfleoedd ei fywyd. Mae eich datganiad chi heddiw, a'ch ymateb chi i'r pwyllgor hwnnw, yn fy ngwneud i'n bryderus nad ydych chi'n ystyried yr angen i ddatrys y materion eglur o ran diwygio ADY gyda'r brys y mae'n ei haeddu mor amlwg.
Yn olaf, fe hoffwn i ddweud fy mod i o'r farn fod y datganiad hwn heddiw yn symbol o'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn fwy eang. Er i ni glywed geiriau teg am gyrhaeddiad addysgol, iechyd meddwl, ADY, y cwricwlwm, addysg ôl-16 ac ati, yr hyn na chlywsom ni amdano oedd unrhyw nod, amserlen, niferoedd, i farnu unrhyw un o'r geiriau teg yn unol â nhw. Sut y gellir disgwyl i ni gredu yng ngair yr Ysgrifennydd Cabinet newydd y bydd pethau yn gwella pan fo dysgwyr a staff addysgu ledled Cymru wedi clywed yr un peth yn union ers 25 mlynedd? Mae'r dystiolaeth yn awgrymu yn anffodus fod polisi addysg o dan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn mynd i'r cyfeiriad anghywir. Mae blaenoriaethau addysg Cymru yn eglur. Nid oes angen geiriau teg arnom ni; rydym ni'n awyddus i fod â chynllun, cynllun i wyrdroi'r difrod a gafodd eu gwneud i'n system addysg ni yng Nghymru gan Lywodraethau Llafur olynol yng Nghymru, felly pa bryd y gallwn ni ddisgwyl cael gweld un?
A gaf i ddiolch i Tom Giffard am ei sylwadau a'i gwestiynau, a dweud wrtho ef yn eglur iawn fy mod innau hefyd yn dymuno bod â system addysg o'r radd flaenaf yn yr union ffordd ag y mae pawb arall yng Nghymru? Rwyf innau'n rhiant, ac rwy'n gallu gweld pwysigrwydd cael addysg o ansawdd uchel, ac rydym ni'n dyheu am y gorau i'n plant a'n pobl ifanc i gyd.
Ni fues i'n hunanfodlon o ran y canlyniadau PISA mewn unrhyw ffordd. Fe ddywedais i eu bod nhw'n siomedig. Mae hi'n bwysig cydnabod bod ein canlyniadau PISA ni wedi bod yn gwella cyn y pandemig, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn hefyd, o ystyried eich bod chi'n rhoi cymaint o bwysau ar adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, i egluro nad oedd y bobl ifanc a gafodd eu profi yn y profion PISA hynny wedi bod trwy ein cwricwlwm newydd ni. Serch hynny, rwy'n cymryd yr hyn a fynegwyd yn adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid o ddifrif, hyd yn oed os nad wyf i'n cytuno â'i asesiad cyfan.
Mae hi'n ymddangos eich bod chi'n awgrymu y dylem ni ohirio ein diwygiadau i gyd. Rwyf i o'r farn fod hwnnw'n gynnig chwerthinllyd oherwydd mae'r Cwricwlwm i Gymru yn cael ei ddysgu erbyn hyn ym mhob un o'n hysgolion ni. Nid ydyw wedi cael ei gyflwyno yn llawn eto. Fe fues i'n eglur iawn yn yr hyn a ddywedais i wrth y pwyllgor yr wythnos diwethaf, a'r hyn yr wyf yn ei ddweud heddiw, fy mod i o'r farn fod gennym ni fwy o waith i'w wneud o ran cefnogi ysgolion sy'n ei chael hi'n fwy heriol gyda chyflwyniad y cwricwlwm newydd. Mae rhai ysgolion yn hedfan gydag ef, ond mae ysgolion eraill wedi dweud wrthyf i, 'Mae angen mwy o gefnogaeth gyda hwnnw.' Felly, rwyf i'n awyddus i ddarparu'r gefnogaeth honno.
Nid yw hi'n wir ein bod ni'n rhoi sgiliau yn uwch na chwricwlwm ar sail gwybodaeth. Mae hwnnw'n gamddehongliad o'r cwricwlwm. Mae ein cwricwlwm newydd ni'n canolbwyntio yn llwyr ar wybodaeth, ond, yn bwysig iawn, ar ddefnydd deallus o wybodaeth. Rydym ni'n dymuno i'n dysgwyr ni, nid yn unig fod yn meddu ar yr wybodaeth honno, ond eu bod yn gallu ei chymryd a'i defnyddio mewn gwahanol sefyllfaoedd yn eu bywydau.
O ran diwygio ADY, mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf i'n credu eich bod chi wedi gwrando ar yr hyn a ddywedais yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, er fy mod i'n falch eich bod chi wedi fy nghlywed i ac wedi dyfynnu'r hyn a ddywedais i'n ôl heddiw sef fy mhwynt i fod blwyddyn yn amser maith ym mywyd plentyn, oherwydd fe ddywedais hynny i bwysleisio'r cyflymder yr wyf i wedi ymrwymo iddo ar gyfer mynd i'r afael â'r broblem hon. Fe dynnais i sylw at yr heriau sydd gennym ni o ran data. Rwy'n gwybod o'r cyfnod y bûm i'n Weinidog iechyd fod data yn bwysig iawn i ysgogi polisi da. Rydym ni'n datblygu ffrwd waith i sicrhau bod y data i gyd sydd eu hangen arnom ni gennym ni. Ond ni ddywedais i ar unrhyw bryd na fyddem ni'n bwrw ymlaen â gwelliannau heb y data.
Esboniais wrth y pwyllgor fod gen i ddull ar ddau drywydd ar hyn o bryd. Mae hwnnw'n cynnwys darparu ADY yn fwy cyson ledled Cymru, gan weithio gydag awdurdodau lleol ac ysgolion, sydd eisoes yn gweithio yn galed iawn i gyflawni'r diwygiad cymhleth hwn. Ond fe nodais i hefyd fy mod i'n cydnabod, ar sail yr hyn yr oedd llywydd y tribiwnlys yn ei ddweud, fod gennym ni waith i'w wneud eto i sicrhau bod y gyfraith yn hawdd ei deall i'n partneriaid. Felly, fe eglurais i y byddwn i'n bwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw ar unwaith, i sicrhau ein bod ni'n gweld gwelliannau yn syth, gan ystyried rhywfaint o eglurhad cyfreithiol hefyd.
Ac yn gryno iawn o ran eich pwyntiau terfynol chi ar nodau. Mae datganiad heddiw yn ymwneud â blaenoriaethau. Rwyf i wedi bod yn eglur iawn fod codi cyrhaeddiad a safonau ysgolion yn flaenoriaeth i mi. Rydym ni'n gweithio ar gynllun a fydd ar y llinellau a ddisgrifiais, sy'n ymwneud â phethau fel dylunio cwricwlwm gwell, asesu, dilyniant a chanolbwyntio manwl ar lythrennedd a rhifedd. Ac i ategu hynny, rydym ni'n datblygu ecosystem wybodaeth gyfan a fydd yn dweud wrthym ni sut lwyddiant y mae ein hysgolion ni'n ei gael. Ac fe fydd hynny'n adeiladu ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud gyda'n hasesiadau personol eisoes. Nid wyf i wedi bod ond saith wythnos yn fy swydd; rwy'n credu ei bod hi ychydig bach yn gynnar i mi fod yn meddwl am nodau. Fy mlaenoriaeth i yw gwneud hyn yn iawn er mwyn y plant a'r bobl ifanc, nid ceisio ymhél ag is-benawdau hawdd.
Mae hi'n anodd iawn anghytuno â'ch datganiad chi heddiw. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod chi'n newydd i'ch swydd, ond rydych chi, yn flaenorol, wedi bod yn Gadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn y pumed Senedd ac rydych wedi bod yn rhan o'r Cabinet, felly rwy'n credu ei bod hi'n ddigon teg i ni ofyn am fwy o amserlenni ac ati. Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n ymrwymo heddiw i ddyddiad y byddwn ni'n gallu cael y lefel honno o fanylion oherwydd, yn amlwg, nid yw hon yn fenter wedi etholiad, nac yn newydd i Lywodraeth Cymru, ac mae hi'n hanfodol ein bod yn gweld cynnydd, oherwydd wedi'r cyfan yr hyn na wnes i, yn anffodus, oedd clywed yn eich datganiad chi am faint y brys sydd ei angen.
Dywedodd y Prif Weinidog, mewn ymateb i Rhun ap Iorwerth yn gynharach, nad oedd ef am ddifetha eich datganiad chi nac unrhyw gyhoeddiadau. Mae arna i ofn fy mod i wedi disgwyl mwy na hyn, ac rwy'n siŵr y byddai sefydliadau addysg uwch wedi bod yn disgwyl mwy na hyn, o ystyried yr hyn a welsom ni. Mae'r ffaith y gallai rhai prifysgolion gau, y ffaith nad yw rhai cyrsiau sy'n hanfodol o ran ein sgiliau yn cael eu cynnal, mae'r rhain yn gwestiynau taer ac fe hoffwn i weld gweithredu ar fyrder gennych chi. Nid yw geiriau teg na gwrando yn ddigonol ar hyn o bryd, mae arna i ofn.
Mae yna argyfwng o ran recriwtio a chadw staff. Roeddech chi'n sôn am ddysgu proffesiynol cadarn, ond yr hyn yr hoffwn ei wybod yw: sut ydym ni am ddenu athrawon, oherwydd fe wyddom ni na fanteisiwyd ar y bwrsariaethau hynny sydd wedi bod ar gael bob amser, bod yr arian hwnnw ar gael i ymateb i beth o'r pwysau ar y gyllideb? Felly, gyda 75 y cant o athrawon wedi ystyried gadael y proffesiwn yn ôl arolwg NASUWT yn 2022-23, a 78 y cant ohonyn nhw'n nodi nad ydyn nhw'n argymell gyrfa ym myd addysg i ffrindiau na theulu, sut ydym ni am drawsnewid y sefyllfa? Mae'r gweithlu yn hanfodol, ond eto rydym ni'n methu yn lân â recriwtio a chadw athrawon.
Mae trais, geiriol a chorfforol fel ei gilydd, yn cynyddu mewn ysgolion. Mae addysg a chymorth yn aml yn cael eu disgrifio fel loteri cod post, ac mae hyn yn arbennig o wir o ran addysg Cymru a chymorth anghenion dysgu ychwanegol. A phan edrychwn ni ar yr absenoldebau cynyddol mewn ysgolion, mae'r bwlch cyrhaeddiad yn ehangu, mae gostyngiad yn nifer y bobl ifanc 16 i 18 oed sy'n cyfranogi ym myd addysg a gostyngiad wedyn yn niferoedd y bobl ifanc sy'n byw yng Nghymru a fydd yn gwneud ceisiadau i brifysgolion, nid ydym ni mewn sefyllfa i allu aros dim yn rhagor.
O ran y cwricwlwm newydd, yr un peth a grybwyllwyd gennych chi wrth i chi roi tystiolaeth yr wythnos diwethaf oedd codi sgaffaldiau o amgylch ysgolion. Wel, rydych chi'n ymwybodol bod llawer o'r gefnogaeth wedi cael ei rhoi gan gonsortia rhanbarthol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond mae cynnig wedi bod i ddod â'r dull hwn i ben, yn dilyn yr adolygiad parhaus o wasanaethau gwella ysgolion. Fe hoffwn i wybod a ydych chi'n gallu cadarnhau heddiw beth yw dull gweithredu Llywodraeth Cymru wrth ymdrin â'r adolygiad, a pha sgaffaldiau fydd ar gael i ysgolion os bydd model y consortiwm yn diflannu. Ac yn benodol, pa wersi o ran y cwricwlwm newydd sy'n cael eu dysgu oddi wrth yr Alban, er mwyn i ni ddeall a yw'r diwygiadau hynny i'r cwricwlwm yr oeddem ni'n teimlo'n gyffrous amdanyn nhw yn cael eu cyflawni mewn gwirionedd, i fod â'r effaith honno ar gyfer ein disgyblion? Oherwydd rwy'n clywed gan rieni ac athrawon eu bod nhw'n dal yn ansicr, a'r hyn y gallai hynny ei olygu wedyn o ran yr effaith ar addysg. Ni ddylem ni ddefnyddio'r plant hynny mewn arbrawf. Mae angen i ni wneud pethau yn iawn ar y tro cyntaf. Ac fe wyddom ni fod athrawon yn gofyn am fwy o amser, mwy o hyfforddiant, ac eto rydym ni mewn sefyllfa lle nad yw ysgolion yn gallu recriwtio athrawon ar gyfer rhai o'r pynciau hyn, felly mae hwnnw'n achos pryder mawr.
Fe glywsoch chi, yn gynharach, Rhun ap Iorwerth yn gofyn o ran adolygiad y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo, a'i fod ef wedi darganfod heddiw nad oes tystiolaeth eang bod y fisa ôl-astudio yn cael ei gam-drin. Felly, a gaf i ofyn, felly, sut ydych chi am weithio gyda'r prifysgolion yn yr amgylchiadau heriol hyn?
Mae gen i nifer o gwestiynau, mae arna i ofn, Ysgrifennydd Cabinet, ac rwy'n credu mai un o'r pethau—. Os gwnewch chi roi caniatâd i mi, ar ôl meddwl am eich ymatebion chi i gyd heddiw, fe hoffwn i ysgrifennu atoch chi fel llefarydd addysg, ac efallai yn hytrach na cheisio ymdrin â phopeth heddiw, fe fyddwn i'n gwerthfawrogi cyfle i drafod rhai o'r pethau gyda chi y mae taer angen eu blaenoriaethu nhw, a sut y byddwn ni'n sicrhau nad gwrando yw unig ddiben hyn, ond y byddwn ni'n gweithredu mewn gwirionedd ar y materion hyn i gyd.
Diolch yn fawr iawn i chi, Heledd, ac wrth gwrs rwy'n cydnabod nad datganiad wedi etholiad yw hwn a fy mod i wedi cadeirio'r pwyllgor, a orffennodd dair blynedd yn ôl, ond roeddwn i o'r farn ei bod hi'n bwysig, wrth i mi ddod i'r swydd o'r newydd, fy mod i'n cael amser i bwyso a mesur yr hyn sy'n digwydd, a gwrando cymaint â phosibl ar athrawon, staff ysgol, plant a phobl ifanc ac eraill. Ond ystyr hyn hefyd yw gweithredu, yn hollol.
O ran amserlenni, rwy'n bwriadu nodi cynllun mwy manwl o ran gwella cyrhaeddiad a safonau mewn ysgolion yn ystod y tymor hwn, felly cyn yr haf, beth bynnag, rwy'n gobeithio, ac fe gewch chi fwy o wybodaeth ynglŷn â hynny.
Fe wnaethoch chi godi'r problemau o ran recriwtio a chadw gyda mi'n flaenorol, yr wythnos diwethaf mewn cwestiynau. Rwyf i'n cydnabod yr heriau. Rwy'n gobeithio y byddech chwithau'n cydnabod hefyd ein bod ni'n gweithio yn galed iawn yn y Llywodraeth i hyrwyddo addysgu fel gyrfa gyffrous a diddorol i weithio ynddi. Rwy'n credu y bydd y Cwricwlwm i Gymru o gymorth yn hynny o beth. Dyma addysgu a dysgu amgen, yn fy marn i, ac rwy'n credu y byddai hi'n apelio yn fawr at staff i fod â'r galluedd hwnnw, wrth weithio gyda'n cwricwlwm newydd. Ond, yn ogystal â hynny, rydym ni wedi buddsoddi arian yn y gwahanol fwrsariaethau sydd gennym. Mae hynny bob amser yn heriol pan fyddwn yn cael trafferthion gyda chyllid, ond rydym ni wedi dal ati i wneud hynny.
Dim ond gair bach i ddweud fy mod i'n ymwybodol iawn o'r pwysau sydd ar yr ysgolion, a bod ganddyn nhw ystod enfawr o broblemau cymdeithasol yn dod i mewn i'r ystafell ddosbarth, a bod heriau o ran ymddygiad. Fe wnaethoch chi gyfeirio at drais; fe wnes i gwrdd â'r cyngor partneriaeth ysgolion y bore yma ac fe gawsom ni drafodaeth dda iawn am ymddygiad. Fe fyddaf i'n gwneud ychydig mwy o waith gyda nhw ynglŷn â hynny i sicrhau ein bod ni'n rhoi pob cymorth angenrheidiol yn hynny o beth, nid yn unig trwy bethau fel ein pecyn cymorth ymddygiad newydd, ond wrth ystyried yn fwy cyffredinol yr hyn y gallwn ni ei wneud i sicrhau ein bod ni'n eu cefnogi nhw. Ac rydym ni wedi siarad o'r blaen am bethau fel cymorth addysg, sy'n darparu cefnogaeth i'w llesiant nhw.
O ran ADY, fe wnaethoch chi fy nghlywed i'n cydnabod yr wythnos diwethaf—rwy'n credu i mi fod yn ddi-flewyn-ar-dafod gyda'r pwyllgor—yr heriau yr ydym ni'n eu hwynebu, ac rydych chi wedi fy nghlywed i'n dweud wrth Tom heddiw fy mod i wedi ymrwymo yn wirioneddol i gyflymu'r gwaith hwnnw'n gyflym iawn a fy mod i'n hapus iawn i gyflwyno diweddariadau pellach. Mae swyddogion yn gweithio gyda mi ar gynllun ar hyn o bryd i ddatblygu'r ddau faes hynny o waith, ac fe fyddaf i'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf eto maes o law.
O ran y cwricwlwm newydd, fe wnes i siarad yn y pwyllgor am sgaffaldiau. Rwy'n bwriadu gwneud datganiad llafar i'r Senedd ym mis Gorffennaf, sef yr adroddiad blynyddol ar y cwricwlwm newydd, ac fe fyddaf i'n nodi mwy o fanylion bryd hynny. Ond yr hyn a eglurwyd i mi o'r sgyrsiau a gefais i ac mae swyddogion wedi bod yn eu cael nhw yw y byddai ysgolion yn hoffi dysgu proffesiynol sy'n fwy cenedlaethol ar gyfer dylunio'r cwricwlwm, gan adeiladu ar lwyddiant rhaglen cynllun treialu dylunio'r cwricwlwm. Felly, rydym ni'n mireinio hyn ac yn ehangu argaeledd dysgu proffesiynol o ansawdd uchel, a fydd ar gael o'r hydref. Fe hoffen nhw gael manylder mwy uniongyrchol o sut wedd sydd ar gynnydd i helpu ysgolion i ddeall disgwyliadau ar wahanol gyfnodau. Fe hoffen nhw fod â rhai enghreifftiau o gynnwys y cwricwlwm, pa bynciau a chyd-destun y gellid eu datblygu ar draws y cwricwlwm. Ystyr hyn yw dod â'r cwricwlwm yn fyw i ysgolion.
Rydym ni'n edrych ar dempledi i gefnogi'r ysgolion a chynllunio'r athrawon, ar gyfer cynllunio cwricwla ac asesu'r cynnydd y mae dysgwyr yn ei wneud fel ei gilydd, a chynnig cefnogaeth well i ysgolion wrth feithrin dealltwriaeth gyffredin o gynnydd y dysgwyr, ar gyfer codi safonau'r gwerthusiadau cynnydd ar draws ysgolion a chaniatáu cyfradd fwy cyson o her ar draws cwricwla'r ysgolion. Ond mae'n rhaid i mi fod yn eglur bod rhai ysgolion yn hedfan gyda'r cwricwlwm, ac nid ydym ni'n dymuno atal yr ysgolion sy'n gwneud yn wirioneddol dda iawn yn hynny o beth; ystyr hyn yw cefnogi'r rhai sydd ag angen ychydig o gymorth ychwanegol gyda'r hyn y maen nhw'n ei wneud.
Roeddech chi'n cyfeirio at adolygiad y Pwyllgor Cynghori ar Fudo: fe wnes i gyfarfod â'r Pwyllgor Cynghori ar Fudo ychydig wythnosau yn ôl i siarad am ei gynlluniau, ei adolygiad o lwybr graddedigion, yr oeddwn i mor bryderus yn ei gylch. Fe ddywedais i'n eglur iawn iddyn nhw y byddai cyfyngiadau pellach fel hyn yn niweidiol iawn i addysg uwch yng Nghymru. Rwy'n falch iawn eu bod nhw wedi argymell peidio â gwneud newidiadau pellach i hynny, ac fe fyddaf i'n cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i'w hannog i wrando ar yr adolygiad. Mae hwn yn bolisi arall y maen nhw wedi ei ddatblygu ar frys, ac nid yw honno'n ffordd dda o lunio polisi. Fe wn i o'r trafodaethau a gefais â'r prifysgolion pa mor bryderus ydyn nhw ynglŷn â'r gostyngiad yn nifer y myfyrwyr o dramor, felly mae taer angen i ni flaenoriaethu hynny.
A dim ond gair wrth gloi i ddweud fy mod i'n hapus iawn naill ai i chi ysgrifennu ataf i neu pe byddech chi'n dymuno eistedd i lawr i drafod i ganiatáu mwy o amser i wneud hynny. Rwy'n hapus iawn i wneud hynny.
Rwy'n croesawu'r datganiad a wnaethoch chi brynhawn heddiw yn fawr iawn, Gweinidog. Mae yna ddau gwestiwn yr hoffwn eu codi gyda chi'r prynhawn yma. Yn gyntaf i gyd, o ran anghenion dysgu ychwanegol. Rydych chi siŵr o fod yn cofio mai myfi oedd y Gweinidog a oedd yn gyfrifol am gyflwyno'r ddeddfwriaeth i ddiwygio anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru. Rwy'n credu bod tua phump neu chwe blynedd wedi mynd heibio ers i ni wynebu ein gilydd dros fwrdd y pwyllgor. Mae hi'n deg dweud fy mod i'n eithaf siomedig â'r ffordd y cafodd hyn ei gyflawni oddi ar hynny, ac fe fyddwn i'n gwerthfawrogi'r cyfle i drafod gyda chi, Gweinidog, pam mae hi wedi cymryd cyhyd i gyflawni rhai o'r pethau hyn yn briodol a sicrhau bod anghenion disgyblion a dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu diwallu yn y ffordd y mae'r ddeddfwriaeth yn ei rhagweld.
Mae'r ail fater yn ymwneud â Blaenau Gwent. Rydych chi'n ymwybodol fod penaethiaid o bob rhan o'r fwrdeistref ynghyd â siroedd eraill yng Nghymru wedi ysgrifennu at bob rhiant yn sôn am effaith cyni ar yr ysgolion a'r effaith y mae cyllidebau gostyngol yn ei chael ar allu'r ysgolion i gyflwyno'r cwricwlwm, a hefyd am gyfoeth y profiad addysgol i ddisgyblion yn y fwrdeistref ac mewn mannau eraill. Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe gallem ni gyfarfod i drafod sut y gall Llywodraeth Cymru weithio gyda'r awdurdodau lleol i sicrhau bod ein plant ni i gyd yn cael y profiad addysgol cyfoethog y mae gan bob un yr hawl i'w ddisgwyl a sut y gallwn ni sicrhau y bydd pob plentyn yn gallu ymgyrraedd â'i botensial yn ei gyfanrwydd.
A gaf i ddiolch i Alun Davies am ei gwestiynau? Yn wir, rwy'n cofio pan wnaethoch chi ddwyn y ddeddfwriaeth drwodd. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig inni gofio mai diwygiad cymhleth yw hwn, system o ddim hyd 25 sy'n darparu cynllun unedig ar gyfer plant a phobl ifanc, yn hytrach na'r system anghenion addysgol arbennig lle roedd gennym ni'r tair haen hynny o gefnogaeth. Am y rheswm hwnnw, fe wnaethom ni hyn o gam i gam, gan symud gwahanol grwpiau o ddysgwyr o AAA i'r system ADY newydd, ac rwyf i o'r farn mai dyna'r peth cymwys i'w wneud. Mae hi'n bwysig inni wneud pethau yn iawn, ac fel clywsoch chi fi'n dweud heddiw, mae yna rai heriau o ran gweithredu'r ddeddfwriaeth gyda chysondeb ac mae datrys hynny'n flaenoriaeth i mi.
O ran y materion y gwnaethoch chi eu codi am benaethiaid ym Mlaenau Gwent, yn amlwg, cyni yw achos hynny, fel roeddech chi'n gywir i'w nodi. Fe hoffwn i ddweud fy mod i wir yn cydnabod y pwysau sydd ar yr ysgolion a pha mor anodd yw hi ar hyn o bryd. Mae ein cyllideb ni yn Llywodraeth Cymru £700 miliwn yn llai yn ei werth na'r hyn ydoedd ar adeg yr adolygiad gwariant diwethaf. Roedd gennym ni rownd gyllideb anodd iawn pryd gwnaethpwyd y penderfyniad i flaenoriaethu iechyd a gofal cymdeithasol, ynghyd ag ysgolion trwy lywodraeth leol. Felly, fe wnaethom ni godi'r cyllid ar gyfer llywodraeth leol ar gyfer yr ysgolion. Yn ogystal â hynny, £379 miliwn oedd yr arian a roddwyd i mewn i grant addysg yr awdurdodau lleol, felly fe wnaethom ni ein gorau, hyd yn oed yn y sefyllfa ariannol anodd iawn yr ydym ni ynddi, i amddiffyn y cyllid hwnnw. Ond nid wyf i'n dymuno rhoi unrhyw argraff nad wyf i'n cydnabod pa mor heriol yw hi ar yr ysgolion, ac rydym ni'n parhau i weithio gyda'r ysgolion ac awdurdodau lleol. Wrth gwrs, maen nhw i gyd yn gweithio gyda'i gilydd hefyd trwy'r fforymau cyllideb. Ond rwy'n hapus iawn i gynnal trafodaeth arall gyda chi ynglŷn â hynny.
Mae tlodi plant yn bodoli ym mhob cwr o Gymru, ac mae'n peri niwed difrifol a chydol oes i ddyfodol ein cenedl. Fe wyddom ni fod tlodi ag effaith enfawr ar ddysgu. Mae plant mewn tlodi yn fwy tebygol o dangyflawni, a bod ar eu colled o ran gweithgareddau allgyrsiol a chael eu bwlio yn yr ysgol. Roedd hi'n siomedig na chlywsom ni unrhyw gyfeiriad at leihau costau'r diwrnod ysgol yn eich rhestr chi o flaenoriaethau, oherwydd, Ysgrifennydd Cabinet, mae yna newidiadau heb gost a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Er enghraifft, er bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau statudol ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion ar wisgoedd sy'n ymdrin â materion o ran fforddiadwyedd, yr unig ofyniad yw rhoi sylw i anghenion plant o gefndiroedd difreintiedig. Yn ôl Plant yng Nghymru, roedd 79 y cant o'r rhai a ymatebodd i'w harolwg diweddaraf yn dweud eu bod nhw'n dal i orfod gwisgo bathodyn ysgol neu logo, er gwaethaf y canllawiau—79 y cant—ac maen nhw'n dweud y byddai diddymu logos yn rhoi £75 ar gyfartaledd yn ôl yng nghyllidebau teuluoedd. Fe fyddai gwahardd diwrnodau heb wisg ysgol yn mynd i'r afael â bwlio ac absenoldebau sy'n gysylltiedig â thlodi. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, a wnewch chi ystyried gweithredu'r ddau gam syml hyn felly, a pha fesurau newydd pellach a ydych chi'n eu hystyried i liniaru effaith cost y diwrnod ysgol ar y bwlch cyrhaeddiad cynyddol? Diolch.
Diolch yn fawr iawn i chi, Sioned, am y pwyntiau pwysig iawn yna. Yn amlwg, ychydig iawn o amser a oedd gennyf i yn y datganiad, ac fe geisiais i ymdrin â chymaint â phosibl, ond rwy'n cydnabod pa mor hanfodol yw'r cysylltiadau hynny rhwng tlodi a phrofiadau plant yn yr ysgol, ac mae cost y diwrnod ysgol yn hynod bwysig. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cydnabod, drwy'r gwaith a wnaethoch chi gyda ninnau, bod darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd, a gyflwynwyd yn effeithiol iawn, yn rhoi arian yng nghyllidebau teuluoedd sydd dan bwysau. Mae'r grant hanfodion ysgol gennym ni, ac mae hwnnw ar wahân i'r holl ddulliau academaidd sydd gennym ni ar waith i geisio mynd i'r afael â'r bwlch hwnnw o ran cyrhaeddiad.
Diolch i chi am godi'r canllawiau o ran gwisg ysgol. Mae hwn yn fater yr wyf i'n teimlo yn gryf iawn amdano fel gwnes i erioed. Rwy'n gwybod bod Plant yng Nghymru yn gwneud gwaith pwysig iawn ar hyn a'u bod nhw'n gweithio gyda theuluoedd ynghylch effaith tlodi. Nid oeddwn i wedi gweld y ffigur yna am y bathodynnau; rwy'n credu bod hwnnw'n rhywbeth pwysig iawn. Rwyf i am fynd ar ôl hynny gyda Plant yng Nghymru ac ystyried unrhyw beth arall y gallwn ni ei wneud yn y cyswllt hwnnw. Rydych chi'n ymwybodol bod ysgolion wedi mynegi i ni eu bod nhw o'r farn fod gwisg yn bwysig, a'i bod yn ymwneud â pherthynas, sy'n gwbl ddealladwy. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pob ysgol yn meddwl o ddifrif am effaith y wisg ar gyllidebau aelwydydd. Ac os yw plant eraill unrhyw beth tebyg i fy mab i fy hun—. Roeddwn i'n cadw'r siop gwisgoedd ysgol mewn busnes, oherwydd roedd ef yn arfer colli rhywbeth bob wythnos bron—
Ond roeddech chi'n gallu fforddio pethau newydd yn eu lle nhw.
Oeddwn, yn sicr. Rwy'n cydnabod hynny. Yr hyn yr wyf i'n ei ddweud wrthych chi yw fy mod i'n cymryd y peth o ddifrif; rwyf i am fynd ag ef ac ystyried beth arall y gallem ni ei wneud. Yn amlwg, fe wnaeth fy rhagflaenydd i adolygu'r canllawiau, ond rwy'n deall eich pryderon chi ynghylch faint o weithredu sydd ar hynny. Yn bersonol, rwyf i o'r farn fod hyn yn bwysig iawn; nid wyf i'n dymuno i unrhyw blentyn deimlo effaith gwarthnod yn yr ystafell ddosbarth.
Llongyfarchiadau, Gweinidog. A minnau wedi bod yn Weinidog iechyd y cyhoedd, fe wn i eich bod chi'n ymwybodol o faint her gordewdra, ac mae'r strategaethau a ddefnyddiwyd gennych chi i godi'r niferoedd o deuluoedd a fydd â hawl i gael talebau bwyta'n iach yn golygu fy mod i'n gwbl hyderus y byddwch chi'n gadael eich ôl ar y portffolio hwn.
Rydych chi'n deall o'r gorau fod gordewdra yn her enfawr, yn enwedig y ffaith sobreiddiol fod chwech o bob 10 plentyn yn cyrraedd yr ysgol, yn bump oed, dros bwysau, a hanner y rhain yn ordew. O ran ein buddsoddiad pwysig mewn prydau ysgol am ddim cyffredinol, rwy'n credu bod y gyfradd sy'n eu cael nhw oddeutu 70 y cant. Pa sgyrsiau a fyddwch chi'n eu cael gyda phenaethiaid i geisio ymwreiddio yn y cwricwlwm y neges i blant dyfu, blasu a choginio'r bwyd a fydd yn eu helpu nhw i dyfu a ffynnu?
Ac yn ail, o ran yr ysgolion uwchradd, sut ydych chi am ymdrin â'r prinder difrifol iawn o fyfyrwyr mewn pynciau STEM a'r ffordd y mae ysgolion uwchradd yn gorfod cymhwyso cystadleuaeth trechaf treisied, gwannaf gwaedded wrth geisio cael athrawon mathemateg, gwyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg, pan fyddo hi, heb yr arbenigeddau hyn, yn amhosibl i'r plentyn gael yr hyn y mae ganddo hawl iddo? Mae'r mater hwn yn wirioneddol anfad ac yn un yr wyf i'n gobeithio y bydd gennych chi amser i feddwl am ddatrysiad iddo.
Diolch yn fawr iawn i chi, Jenny. Rwy'n gwybod eich bod chi'n frwdfrydig iawn am fynd i'r afael â gordewdra ac rwy'n credu bod llawer o gyfleoedd i mi gysylltu'r gwaith a wnes i yn fy swydd flaenorol gyda'r Gweinidog iechyd, sydd wedi ysgwyddo'r cyfrifoldeb am hynny erbyn hyn.
Mae'r ystadegau yr oeddech chi'n tynnu sylw atyn nhw'n rhai cignoeth iawn. Fel dywedais i, mae cyflwyno cyffredinol prydau ysgol am ddim wedi mynd yn dda iawn. Rwy'n credu bod y ffigurau ymhell dros 70 y cant erbyn hyn, ond fe fydd angen i mi wirio hynny. Rwy'n gwybod bod pob awdurdod lleol heblaw am dri wedi ei weithredu yn ei gyfanrwydd ac fe fydd y tri arall yn ei weithredu erbyn mis Medi, sy'n newyddion da iawn. Ond mae hwnnw'n fuddsoddiad enfawr ac mae'n rhaid i ni gael y gwerth gorau am ein harian o ran iechyd yn hyn o beth. Dyna un o'r rhesymau pam mai un o'r pethau y byddwn ni'n eu gwneud yw adolygu'r rheoliadau o ran bwyd iach i sicrhau y bydd plant a phobl ifanc yn cael pryd o fwyd iach ar yr un pryd. Felly, mae rhywfaint o waith i'w wneud eto ynglŷn â hyn, ac mae swyddogion yn gweithio ar hynny.
Fe wnaethoch chi eich pwynt ynglŷn â phynciau STEM yn dda iawn ac, fel gwyddoch chi, mae gennym ni brinder o athrawon STEM hefyd, sy'n amlwg yn fater hanfodol y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef. Ac mae'r bwrsariaethau y soniais i amdanyn nhw mewn ateb arall ar gael hefyd i bobl sy'n dewis astudio pynciau STEM. Felly, rydym ni'n gwneud y cyfan a allwn i geisio mynd i'r afael â'r prinderau hynny.
Diolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am nodi eich blaenoriaethau. Nawr, fe wyddom ni fod Cymru yn wynebu bwlch sgiliau sylweddol—mater a amlygwyd yn arolwg cyflogwyr 2022 Llywodraeth Cymru ei hunan, a mater sy'n gwaethygu gydag amser. Nawr, yr hyn yr oeddwn i'n ofidus amdano, yn rhan o'r datganiad hwnnw, yw nad oes unrhyw ddogfen yn nodi strategaeth addysg a sgiliau ôl-orfodol y Llywodraeth gyda manylder—rhywbeth a fyddai o fantais wirioneddol, nid yn unig i rai sy'n gadael addysg, ond i rai a fyddai'n ceisio trosglwyddo i sector arall o'r economi yn nes ymlaen yn eu bywydau hefyd. Felly, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu a allwn ni ddisgwyl cynllun sgiliau mwy eglur gan y Llywodraeth hon, a pha swyddogaeth fydd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg yn gyfochrog â chi yn nyluniad y cynllun hwnnw?
Diolch yn fawr iawn i chi, Luke, ac fe wn i eich bod chi'n frwdfrydig iawn ynglŷn â'r maes hwn. Rwy'n siŵr na fyddech chi wedi disgwyl i mi nodi'r manylion i gyd yn y datganiad. Rwyf i wedi bod yn eglur iawn mai un o'r materion yr wyf i'n pryderu fwyaf amdano yw ein cyfraddau cyfranogiad ôl-16, nad ydyn nhw'n cymharu yn dda iawn â gweddill y DU. Mae bod â pharch cyfartal, gan adeiladu sylfaen sgiliau yn hanfodol. Mae gweithio gyda chyflogwyr i sicrhau ein bod ni'n gallu cyfateb â'r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr yn hanfodol hefyd, ac fe fyddaf i'n gweithio yn agos iawn gyda Jeremy Miles yn hyn o beth. Yn amlwg, mae cyfran o'r gwaith hwn yn perthyn i'w bortffolio ef. Mae'r comisiwn newydd yn rhoi cyfle da iawn hefyd i fod â darlun mwy cydlynol o hyn, a sicrhau cydweithio gwirioneddol ar gyfer gwneud hyn yn iawn.
Felly, Ysgrifennydd Cabinet, ar ran Islwyn, a gaf i eich croesawu chi i'ch swydd yn gyntaf i gyd, a mynegi fy ngwerthfawrogiad i ar goedd am i chi ymweld ag Islwyn ar un o'ch ymweliadau cyntaf yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac am i chi agor eich clustiau wrth ystyried yr heriau a'r blaenoriaethau sylweddol sydd o'n blaenau ni hefyd? Roedd hi'n hyfryd eich croesawu chi i Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon ar ei hagoriad swyddogol yng Nghwmcarn—ysgol o oes Fictoria yr aeth fy mhlentyn i fy hunan iddi hi.
Ysgrifennydd Cabinet, mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd ynghylch buddsoddiad cyfalaf yn adeiladau ein hysgolion drwy brinder o fuddsoddiad cyfalaf i Gymru, gan drawsnewid, drwy ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, yr ysgol Gymraeg newydd, er enghraifft, yng Nghwmcarn, drwy'r rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, ac rwy'n croesawu'r cyfleusterau i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn fawr a gafodd eu cynnwys yng nghyhoeddiad Llywodraeth Cymru wythnos diwethaf o £20 miliwn arall i ysgolion ar gyfer gwella cyfleusterau dysgu ychwanegol.
Felly, wedi COVID, ac mewn cyfnod o'r hyn a elwir yn gyni, a wnewch chi amlinellu, fel yr Ysgrifennydd Cabinet, sut wnaiff y buddsoddiad hwn helpu i gyflawni eich blaenoriaethau cyffredinol chi o welliant parhaus o ran cyraeddiadau addysgol, a'ch blaenoriaethau penodol wrth gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol? Ac a wnewch chi roi sylwadau hefyd, os gallwch chi, yn y fan hon ar y cyhoeddiad disymwth y bydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn cau ei adran iau yn fuan iawn—y biblinell rhagoriaeth, sy'n enwog am ei thegwch a'i mynediad i bawb, a lle'r aeth myfyriwr i mi a oedd ag amhariad ar ei olwg a dod yn ei flaen yn ardderchog?
Diolch yn fawr iawn i chi, Rhianon. Roedd hi'n bleser mawr bod yn eich etholaeth chi ar gyfer agor yr ysgol hyfryd honno—gwych iawn gweld ffrwyth y buddsoddiad enfawr hwnnw. Ac rydym ni wedi buddsoddi ymhell dros £2 biliwn yn adeiladau ein hysgolion yng Nghymru, ac mae hynny'n cymharu yn ffafriol iawn â'r dewisiadau a wneir dros y ffin.
Fel y gwnaethoch chi dynnu sylw ato, fe gyhoeddais i £20 miliwn yn ychwanegol ar gyfer cyllid cyfalaf ADY yr wythnos diwethaf. Mater i awdurdodau lleol ac ysgolion fydd cynllunio gwariant mewn partneriaeth â ni. Pan es i i wneud y cyhoeddiad yn Ysgol Gymraeg Gwaun y Nant yn Y Barri, roeddwn i'n gallu gweld yr uned newydd yr oedden nhw wedi ei sefydlu yno. Fe fydd gan ysgolion anghenion amrywiol, mewn gwirionedd. Fe allai hynny fod am unedau neilltuol. Fe allai hynny fod am offer neu unrhyw beth arall. Felly, rwyf i o'r farn mai ymateb i anghenion lleol yw ystyr hyn i raddau helaeth iawn.
O ran cyhoeddiad Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a gaf i ddweud fy mod yn ddiolchgar iawn iddyn nhw am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi? Rwyf i wir yn cydnabod pa mor anodd yw'r pwysau ariannol sydd ar sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, ac yn cydnabod y gwaith pwysig iawn y maen nhw'n ei wneud. Rwy'n gwybod bod cynlluniau ganddyn nhw i sicrhau eu bod nhw'n gallu parhau â gwaith gwerthfawr iawn gyda phlant a phobl ifanc, ac rwyf i wedi gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â hynny. Fel gwyddoch chi, rydym wedi ymrwymo yn y Llywodraeth i sicrhau y bydd plant a phobl ifanc yn cael y cyfleoedd cerddorol hynny—ac rydych chi wedi bod yn hyrwyddo'r gwaith hwnnw'n fawr iawn—mae ein gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol gwerth £13 miliwn yn sicrhau y bydd pob plentyn yn cael cyfle i ganu offeryn cerdd, canu a chreu cerddoriaeth. Ac rwy'n wirioneddol ymrwymedig i sicrhau y bydd y gwaith hwnnw'n parhau.
Ac yn olaf, Adam Price.
Gwnaeth fy nghyd-Aelod Heledd Fychan sôn am drais corfforol a meddyliol a geiriol mewn ysgolion. Roedd angen i hynny fod yn flaenoriaeth, rwy'n credu, ymdrin â hynny, cyn y digwyddiad erchyll yn Ysgol Dyffryn Aman, ond mae hyd yn oed mwy o frys i wneud hynny nawr. Dyna pam y cefais i fy synnu, fy nigio a fy siomi a dweud y gwir, pan wnes i, ar ôl cael sgwrs â'r staff yn yr ysgol, alw am adolygiad cenedlaethol o ddiogelwch ysgolion, ac ymateb llefarydd Llywodraeth Cymru oedd nad oedd unrhyw gynlluniau ar gyfer adolygiad o'r fath. Mae'r staff, y myfyrwyr a rhieni Ysgol Dyffryn Aman—maen nhw'n disgwyl yr adolygiad hwnnw, maen nhw'n haeddu'r adolygiad hwnnw, ac mae hynny'n wir am gymunedau ysgolion ledled Cymru. Mae creithiau corfforol a meddyliol y digwyddiad hwnnw'n ddigon difrifol, ond gallai fod wedi bod yn llawer gwaeth, ac oni bai ein bod ni'n cynnal yr adolygiad cenedlaethol hwnnw, rwy'n ofni'r hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol. Fe ysgrifennais i at eich rhagflaenydd am bryderon yr oedd gan yr ysgol o ran polisïau yn y maes hwn cyn y digwyddiad, ac efallai yr hoffech chi edrych ar yr ohebiaeth honno ac, yn wir, gohebiaeth rhwng rhai o arweinwyr yr ysgol a'ch swyddogion chi, cyn gwneud penderfyniad terfynol. Ond rwy'n eich annog chi, Ysgrifennydd Cabinet, mae cymunedau ysgolion angen yr adolygiad cenedlaethol hwn o ddiogelwch ysgolion.
Diolch yn fawr iawn, Adam. A gaf i ddweud eto faint rwy'n canmol y ffordd y gwnaeth Ysgol Dyffryn Aman a'r awdurdod lleol a'r gwasanaethau brys lleol ymateb i'r sefyllfa hynod anodd honno? Rwyf wir yn cydnabod yr effaith y bydd hynny wedi'i chael ar bawb dan sylw, ac y bydd hynny'n effaith hirdymor, ac rwyf wedi bod yn glir iawn ein bod ni, fel Llywodraeth, yno i roi unrhyw gymorth sydd ei angen arnyn nhw. Maen nhw wedi rhoi pecyn cymorth cynhwysfawr iawn ar waith beth bynnag, ar gyfer cymuned yr ysgol, ond rwyf wedi bod yn glir, os oes angen mwy arnyn nhw, y byddwn ni'n darparu hynny ar eu cyfer.
Rwy'n credu fy mod i'n ymwybodol o'r hyn yr ydych chi'n sôn amdano, er nad wyf wedi gweld y llythyr yr ydych chi'n cyfeirio ato, oherwydd fe wnaeth rhywun yn yr ysgol godi rhai pryderon gyda mi yn ddiweddar, am rai agweddau ar bolisi ynghylch gwahardd. Felly, rwy'n edrych ar hynny. Ac rwyf hefyd wedi dweud y byddwn ni'n dysgu'r gwersi o'r hyn sydd wedi digwydd yno. Mae'n bwysig iawn bod—. Yn amlwg, mae hyn yn destun ymchwiliad troseddol nawr. Mae'n rhaid ei drin yn sensitif, ond nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd gwersi i'w dysgu ohono. A phan yr ydych chi'n sôn am adolygiad cenedlaethol o bolisi, roeddwn i gyda'n partneriaid undebau llafur a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y bore yma; maen nhw i gyd yn edrych ar eu polisïau ar gyfer digwyddiadau critigol, yn gwirio eu bod nhw'n gweithio, yn gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gyfredol. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n digwydd. Ac fe wnes i'r ymrwymiad y bore yma i'n partneriaid undebau llafur fy mod i'n cymryd y gwaith hwn o ddifrif, o ran y cymorth hwnnw yr ydym yn ei roi ar waith, i sicrhau bod ysgolion yn lleoedd diogel, cefnogol, i staff ysgolion ac i bobl ifanc.
Rydych chi'n gwybod eich hun, Adam, fod y materion sy'n ymwneud ag ymddygiad mewn ysgolion yn gymhleth iawn. Mae yna faterion cymdeithasol sy'n dod i mewn i'r ysgol, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydgysylltu pethau fel y gwaith rydyn ni'n ei wneud ar iechyd meddwl gyda'r gwaith hwnnw ar ymddygiad. Ond dim ond i'ch sicrhau chi, rwy'n cymryd hyn o ddifrif. Rydyn ni'n sicrhau bod pob maes yn diweddaru eu polisïau a'u bod yn cael eu hymarfer a phopeth. Felly, nid wyf i'n siŵr iawn sut mae hynny'n wahanol, mewn gwirionedd, i adolygiad cenedlaethol, os mai dyna'r ffordd yr ydych chi'n ei ddisgrifio, oherwydd mae'r gwaith hwnnw'n digwydd. Mae pawb wedi cymryd yr hyn sydd wedi digwydd o ddifrif. Ychydig ddyddiau wedi'r hyn a ddigwyddodd yn Ysgol Dyffryn Aman, cafodd ysgol ei rhoi dan glo ym Mlaenau Gwent hefyd, yn dilyn digwyddiad yno. Felly, wyddoch chi, mae hyn yn bennaf yn ein meddyliau i gyd, felly dim ond i roi'r sicrwydd hwnnw i chi.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Diolch yn fawr.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar ddyfodol ffermio yng Nghymru. Felly, Huw Irranca-Davies i wneud y datganiad yma.
Diolch, Llywydd. Fy ngweledigaeth yw dyfodol llwyddiannus i ffermio yng Nghymru, cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, gofalu am ein hamgylchedd ac atgyfnerthu ein cymunedau gwledig. Bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn cynorthwyo ffermwyr i gyflawni'r amcanion hyn. Fy mwriad yw dwyn pobl ynghyd, gwrando a gweithio mewn partneriaeth.
Rwyf wedi gweld drafft o'r dadansoddiad o dros 1,200 o ymatebion i'r ymgynghoriad, ac rwyf eisiau diolch i bawb a gymerodd yr amser i ymateb. Rwy'n disgwyl cyhoeddi'r dadansoddiad ac ymateb y Llywodraeth ym mis Mehefin, ond mae eisoes yn glir bod angen rhai newidiadau. Fel sydd wedi'i nodi'n flaenorol, rwy'n sefydlu bord gron weinidogol i ymgysylltu ar yr hyn y dylai'r newidiadau hynny fod. Bydd ffermwyr wrth wraidd y sgwrs hon, ochr yn ochr ag eraill sydd â diddordeb mewn cyflawni'r manteision y mae ffermio yn eu darparu. Bydd y ford gron yn gweithio'n gyflym i nodi meysydd yr ydym yn cytuno arnyn nhw ac yn canolbwyntio ar feysydd lle mae angen mwy o waith.
Wrth ymateb i Blaid Cymru, fel rhan o'r cytundeb cydweithio, yr undebau ffermio ac eraill, mae'r cynllun wedi'i gynllunio i gefnogi pob ffermwr yng Nghymru gyda thaliad sylfaenol blynyddol, yn gyfnewid am gamau gweithredu cyffredinol, gan ddisodli cynllun y taliad sylfaenol. Bydd y camau cyffredinol hyn yn rhoi llwyfan i ffermwyr wneud mwy drwy gamau gweithredu gwirfoddol dewisol a chydweithredol, a fydd yn helpu ffermwyr i wireddu buddion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol sy'n cyd-fynd â'n hamcanion rheoli tir cynaliadwy ac yn cefnogi ein hymrwymiadau cenedlaethol a rhyngwladol.
Rhaid i'r cynllun ffermio cynaliadwy fod yn hygyrch i bob ffermwr a darparu'r lefel gywir o gymorth i helpu gyda chadernid busnes. Dyma pam y byddwn ni'n cynnwys taliad ar gyfer y buddion ehangach y mae ffermio yn eu darparu, gan fynd y tu hwnt i incwm a gollwyd a chostau yr aed iddynt, i gydnabod gwerth cymdeithasol. Bydd y ford gron yn helpu i ddod o hyd i fethodoleg talu briodol, yn ystyried canlyniadau'r adolygiad o atafaelu carbon a'r asesiad economaidd wedi'i ddiweddaru yn seiliedig ar y cynllun diwygiedig. Bydd y cynllun yn cefnogi ffermwyr i weithio gyda'r gadwyn gyflenwi i fodloni gofynion newidiol defnyddwyr a chreu cyfleoedd newydd yn y farchnad. Bydd yn canolbwyntio ar gynhyrchu bwyd, ond yn manteisio ar y cyfleoedd o bren a rheoli tir yn gynaliadwy, fel cyllid gwyrdd ac atafaelu carbon, i gefnogi'r gwaith o warchod ein cymunedau, ein hiaith a'n diwylliant.
Bydd fy ymrwymiad i ymgysylltu, ac i roi amser i ffermwyr ystyried y canlyniadau i'w busnesau cyn penderfynu ymuno â'r cynllun, yn golygu y bydd angen newid i'r amserlen weithredu. Ni fyddwn yn cyflwyno'r cynllun nes ei fod yn barod. Byddwn ni'n cychwyn cyfnod paratoi ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy yn 2025 i ddangos y buddion sy'n gysylltiedig â'r camau cyffredinol arfaethedig trwy drosglwyddo gwybodaeth, gweithgarwch wedi'i dargedu a chymorth ariannol. Bydd hyn yn paratoi ffermwyr yn well ar gyfer ymuno â'r cynllun o ddechrau'r cyfnod pontio arfaethedig yn 2026. Bydd yna ymgysylltu â ffermwyr ar ymarfer cadarnhau data, er mwyn rhoi darlun cywir o'r cynefin a'r gorchudd coed ar draws pob fferm. O dan gynllun Cynefin Cymru 2024, gwelsom gynnydd yn yr ardal o dir cynefin sy'n cael ei reoli. Felly, gan adeiladu ar hyn, byddaf yn archwilio rhoi cyfle i fwy o ffermwyr gael gafael ar gymorth yn 2025, gan gynnwys cymorth i ffermwyr organig.
Bydd cynlluniau presennol, fel y cynlluniau grantiau bach, yn parhau i gefnogi newidiadau i'r seilwaith, ac rydyn ni'n gweithio ar gynllun adnoddau naturiol integredig newydd, gan adeiladu ar gydweithredu blaenorol ar raddfa tirwedd. I ddechrau, y nod yw cefnogi datblygu cynigion ar gyfer cyllid pellach. Byddwn ni'n canolbwyntio ar gynlluniau sy'n cyd-fynd â'r cynllun ffermio cynaliadwy ac y disgwylir iddynt roi cymorth yn y dyfodol fel camau dewisol a chydweithredol.
Rydyn ni'n bwriadu ymgymryd â gweithgarwch ar safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a hyrwyddo cyfleoedd o ran gorchudd coed ar ffermydd. Byddwn ni'n datblygu cynigion ar gyfer camau gweithredu dewisol a chydweithredol pellach, gyda'r nod o'u cyflwyno cyn gynted â phosibl. A thrwy Cyswllt Ffermio, byddwn ni'n gweithio ar drosglwyddo gwybodaeth, gan ganolbwyntio ar effeithlonrwydd a gweithgarwch ar ffermydd sy'n cyd-fynd â'r cynllun ffermio cynaliadwy. Er mwyn rhoi sicrwydd, fy mwriad yw i Gynllun y Taliad Sylfaenol fod ar gael yn 2025, gyda'r cyfnod pontio arfaethedig i'r cynllun ffermio cynaliadwy yn dechrau o 2026. Byddaf yn gwneud cyhoeddiadau am derfyn uchaf cynllun y taliad sylfaenol 2025 a manylion y cyfnod paratoi maes o law.
Mae cynnal safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid yn hanfodol i sector amaeth ffyniannus. Rwyf eisiau i Gymru gael ei chydnabod am ei safonau rhagorol o ran lles anifeiliaid a byddaf yn dweud mwy am fy nghynlluniau maes o law. Rwyf wedi clywed, wrth gwrs, yn uniongyrchol am yr effaith ddinistriol y mae TB yn ei chael ar ffermydd. Rydyn ni'n parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddileu TB yng Nghymru erbyn 2041. Mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol er mwyn cyrraedd ein nod cyffredin o Gymru ddi-TB. Fel rhan o'n cynllun cyflawni TB pum mlynedd, mae'r grŵp cynghori technegol yn ystyried lladd anifeiliaid sydd wedi adweithio i'r prawf TB ar ffermydd fel ei flaenoriaeth gyntaf. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar gynnydd yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Mae'r rheoliadau llygredd amaethyddol wedi'u cynllunio i ymdrin ag achosion o lygredd amaethyddol yng Nghymru. Rwyf wedi clywed pryderon ynghylch sut mae'r rheoliadau'n bwriadu cyflawni hyn. Rydym wedi dechrau'r adolygiad pedair blynedd o'r rheoliadau, ac rwyf eisiau nodi a oes angen newidiadau. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad ar gadeirydd annibynnol ar gyfer yr adolygiad hwnnw cyn bo hir.
Rwyf hefyd wedi clywed am yr effeithiau ar iechyd meddwl a lles ffermwyr a'u teuluoedd, a byddwn ni'n parhau i weithio gyda'r elusennau sy'n darparu cefnogaeth mor wych i'n ffermwyr.
Roedd gan y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru drosiant o'r fferm i'r fforc o fwy na £22 biliwn yn 2022. Fy ngweledigaeth i yw diwydiant bywiog sydd ag enw da byd-eang am ragoriaeth. Rydyn ni eisiau bod yn un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol yn y byd, a byddwn ni'n parhau i gefnogi busnesau bwyd a diod Cymru, gan gynnwys trwy Arloesi Bwyd Cymru a Blas Cymru.
Mae ein polisïau sy'n gysylltiedig â bwyd yn canolbwyntio ar gydweithio, gwaith partneriaeth a llesiant. Rwy'n bwriadu cyhoeddi 'Bwyd o Bwys: Cymru', sy'n amlinellu ein polisïau sy'n gysylltiedig â bwyd a sut maen nhw'n cefnogi cynhyrchwyr, gan gynnwys ffermwyr, a'r gadwyn gyflenwi i sicrhau bod mwy o gynnyrch o Gymru ar gael. Rwyf am weld Cymru ar flaen y gad mewn diwydiant amaethyddol ffyniannus ac arloesol, ac rwyf wedi ymrwymo i wrando a gweithio mewn partneriaeth i gyflawni hyn. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.
Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am eich datganiad y prynhawn yma, hefyd eich datganiad ysgrifenedig y bore yma, ac am siarad â mi cyn rhyddhau'r datganiadau hyn yn gynharach heddiw. A gaf fi ddweud ei bod yn galonogol gennych chi, Ysgrifennydd Cabinet, eich bod chi wedi ystyried y pryderon yr wyf wedi'u codi gyda chi ynghylch dyfodol cymorth ffermio yma yng Nghymru? Rwy'n credu ei bod yn gam cadarnhaol i ddangos eich bod chi'n gwrando ar y diwydiant, yr undebau a'r 12,500 o bobl hynny a ymatebodd i'r ymgynghoriad. Mae'r oedi o ran gweithredu'r cynllun ffermio cynaliadwy a'r ymrwymiad i symud cynllun y taliad sylfaenol ymlaen tan 2025, yn rhywbeth yr wyf i a'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw amdano, ac rydym yn falch iawn o weld bod hyn yn digwydd i roi'r sicrwydd hirdymor hwnnw i'n ffermwyr ledled Cymru.
Fodd bynnag, er mwyn i'r cynllun hwn fod yn wirioneddol lwyddiannus, mae'n hanfodol sicrhau bod amrywiaeth eang o leisiau yn cael eu clywed. Felly, mae gennyf rai cwestiynau allweddol ynghylch cydweithredu yn y dyfodol ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Mae gennyf ddiddordeb, Ysgrifennydd Cabinet, yn y modd y bydd y ford gron weinidogol yn cael ei strwythuro i warantu cydbwysedd a chynrychiolaeth gan bob sector ffermio a rhanddeiliaid perthnasol, gan gynnwys y rhai sydd â phryderon penodol am agweddau ar y cynllun ffermio cynaliadwy. A allwch chi hefyd roi gwybod i ni heddiw ar ba ddyddiad yr ydych chi'n bwriadu i'r ford gron hon ddechrau? Fe wnaethoch chi ddweud yr wythnos diwethaf y byddech chi'n gweithio drwy'r nos i sicrhau bod y pethau hyn yn cael eu gwneud ar gyflymder. Felly, byddai'n ddiddorol iawn gwybod pa amserlenni rydych chi wedi'u gosod ar sefydlu hyn.
A allwch chi roi rhywfaint o sicrwydd i'r diwydiant hefyd y bydd lleisiau pobl yn cael eu clywed pan fyddan nhw'n cymryd rhan yn y grwpiau hyn? Oherwydd rhywbeth a ddaeth i'r amlwg yn ystod y cyfnod cydlunio, oedd bod pobl yn cyfrannu at hyn, ond nid oedd neb yn gwrando arnyn nhw. Felly, hoffwn gael rhywfaint o sicrwydd gennych chi y bydd rhywun yn gwrando arnyn nhw.
Roedd y cyhoeddiad y gwnaethoch chi'r bore yma yn sôn am y cynllun ffermio cynaliadwy, gan gynnwys taliadau am werth cymdeithasol, ac mae hwn yn gysyniad diddorol iawn. Ond rwy'n credu bod angen eglurder ynghylch beth yw hynny mewn gwirionedd, oherwydd rwyf yn gobeithio bod hwn yn newid cadarnhaol gwirioneddol a bod y Llywodraeth yma, o'r diwedd, yn cydnabod bod ffermio yn ychwanegu gwerth cymdeithasol i Gymru o ran gwerth amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd hefyd i'n cymunedau.
Rydyn ni hefyd yn gwybod bod effaith y cynllun ffermio cynaliadwy cychwynnol yn ddinistriol i'n busnesau fferm, gyda 5,500 o swyddi'n cael eu colli ar draws y diwydiant. Felly, byddai diddordeb mawr gennyf i wybod—rwy'n gwybod bod Llyr Gruffydd wedi gofyn y cwestiwn hwn i chi hefyd—pryd ydyn ni'n mynd i weld asesiad effaith wedi'i ddiweddaru, oherwydd, os ydyn ni'n cael newidiadau i'r cynllun, yna yn amlwg, bydd angen asesiad effaith newydd arnon ni i weld beth mae unrhyw newidiadau yn mynd i'w wneud.
Fel y dywedais yn gynharach, rwyf i a fy ngrŵp yn croesawu ymestyn cynllun y taliad sylfaenol i mewn i 2025. Mae hyn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i'n busnesau fferm. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi dweud y byddwch chi'n gwneud cyhoeddiad maes o law, ond rwy'n credu y bydd pobl heddiw eisiau gwybod beth fydd y gyfradd honno o ran cynllun y taliad sylfaenol. A fydd yn parhau heb ei newid yn 2025, a pha gynlluniau ychwanegol, fel creu coetir, fydd hefyd yn cael eu cario ymlaen, wrth symud ymlaen i 2025?
Mae'r saib hwn yn rhoi'r cyfle hwnnw i ni edrych ar y cynigion hyn eto, ac mae angen i ni weld newidiadau sylweddol i'r cynllun ffermio cynaliadwy, oherwydd, yn ei ffurf bresennol, nid yw'n gweithio. Ond, os oes angen i ni ei gael i weithio, mae angen iddo weithio i bob ffermwr ledled Cymru, oherwydd mae gan y ffermwyr yr wyf yn siarad â nhw, ac rwy'n siŵr y ffermwyr yr ydych chi wedi bod yn siarad â nhw hefyd, Ysgrifennydd Cabinet, bryderon o hyd ynghylch plannu coed, ynghylch tir comin, ynghylch ffermwyr tenantiaid, ynghylch SoDdGAau a rhai o'r camau gweithredu cyffredinol, y mae rhai ffermwyr yn eu ystyried yn sarhaus ac yn or-fiwrocrataidd. Ac mae angen i ni gael mwy o fanylion gennych chi ynglŷn â sut yr ydych chi'n bwriadu i'r newidiadau hyn fwydo i mewn i'ch bord gron weinidogol i sicrhau y bydd y newidiadau hynny'n cael eu gweithredu gan y Llywodraeth fel y gall y diwydiant gefnogi a chyflawni'r cynllun hwn i chi.
Mae'r datganiad yn sôn am ystyried canlyniadau'r adolygiad atafaelu carbon ar gyfer llywio methodolegau talu. Yr hyn yr hoffwn ei wybod yw: a fydd yr adolygiad yn edrych y tu hwnt i atafaelu carbon o safbwynt coed ac ystyried pob math o wahanol laswellt a gwrychoedd hefyd, oherwydd nid yw hynny wedi cael ei ystyried o'r blaen, ac rwy'n credu bod angen i ni gael darn mawr o waith ynghylch atafaelu carbon o safbwynt glaswellt?
Roeddwn i'n mynd i siarad am les anifeiliaid, ond fe ddywedoch chi y byddwch chi'n sôn am hynny wrthyn ni maes o law. A hefyd rydych chi'n mynd i fod yn gwneud datganiad, gobeithio, ar TB. Rwy'n gobeithio y bydd yn cael ei wneud i'r Siambr hon, ac nid yn ysgrifenedig, oherwydd rwy'n credu ei bod yn rhoi cyfle i ni graffu ar unrhyw waith yr ydych chi'n ei wneud.
Ysgrifennydd Cabinet, dim ond tua 30 eiliad sydd gennyf ar ôl, ond, o fy safbwynt i, mae'r cyhoeddiad hwn heddiw yn un i'w groesawu. Mae wedi cael ei groesawu gan yr undebau, ac mae'r bobl rydw i wedi siarad â nhw ar y ffôn—fy ffrindiau a chydweithwyr sydd gennyf yn y diwydiant—yn ei groesawu hefyd. Ac rwy'n rhoi cynnig agored i chi, Ysgrifennydd Cabinet: rwy'n barod i weithio gyda chi mewn ffordd agored a phragmatig a chadarnhaol iawn i sicrhau y gallwn ni gael cynllun sy'n cyflawni ar gyfer ein ffermwyr. Ond, fel y dywedais yn gynharach, mae angen i ni weld newid sylfaenol os ydyn ni'n mynd i wneud iddo weithio. Oherwydd dyna'r hyn rydw i eisiau ei weld. Rwyf eisiau gweld cynllun sy'n gweithio, sy'n cyflawni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, sy'n cyflawni ar gyfer ein ffermwyr nawr ac yn sicrhau bod gennym ni economi wledig fywiog yng Nghymru, oherwydd bydd gwneud hynny'n sicrhau'r holl fuddion amgylcheddol, diwylliannol a bioamrywiaeth yr ydych chi eisiau'u gweld a hefyd y busnesau fferm ffyniannus rwy'n siŵr bod pawb o gwmpas y Siambr hon eisiau eu gweld hefyd. Diolch.
James, diolch yn fawr iawn, a diolch am eich sylwadau yn croesawu'r cyhoeddiad a gafodd ei wneud ar y ffordd ymlaen. A dim ond i ddweud, mae hi yn ffordd ymlaen. Fe ddefnyddiais i gyfatebiaeth rygbi yn gynharach mewn cyfweliad. Mae llawer o'r hyn yr ydyn ni'n ei wneud nawr yn paratoi ar gyfer cyflwyno cynllun lle mae llawer o gytundeb yn barod, mewn gwirionedd—y fframwaith, yr amcanion, nid yn unig o ran cynhyrchu bwyd, ond hefyd o ran gwerth cymdeithasol, gofynion amgylcheddol, gofynion newid hinsawdd—ond mae'n iawn gwneud rhywfaint mwy o waith ar y meysydd hynny sydd wedi'u nodi yn yr ymgynghoriad, sydd yn wir—. Nid ydyn ni wedi gweld y dadansoddiad terfynol, y dadansoddiad llawn o'r ymgynghoriad, ond rwyf wedi gweld rhai o'r canfyddiadau dros dro, ac mae'n eithaf clir ac amlwg lle mae'r meysydd hynny y mae angen i ni wneud ychydig mwy o waith arnyn nhw. Ond mae'n fwy o waith, a dyna lle mae'r ford gron weinidogol yn dod yn bwysig iawn. A'r ffordd mae honno'n gweithio, y rheswm ei bod yn ford gron weinidogol, yw y bydd llawer o waith y tu ôl i'r llenni, nid yn unig gyda ffermwyr a chyda'r undebau ffermio ac ati, ond hefyd gyda'r grwpiau amgylcheddol a bywyd gwyllt hefyd, i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael y manylion yn iawn fel y gallwn ni symud ymlaen wedyn ac rydyn ni'n bwrw ymlaen mewn ffordd y gall pob ffermwr fod yn rhan ohoni, oherwydd mae angen i ffermwyr deimlo eu bod am gamu i'r adwy a bod yn rhan o hyn, ond mae angen i ni hefyd ddarparu'r gofynion ehangach hynny.
Fe wnaethoch chi ymdrin â chymaint yn y fan yna, James, ond, i ddweud, yn fyr iawn, mai llawer o'r materion yr oeddech chi'n eu trafod yw'r union rai y mae'r ford gron weinidogol, a'r gwaith sy'n mynd oddi tani, wedi'u cynllunio i'w datblygu. Felly, nid wyf am ei rhagflaenu.
Felly, pan wnaethoch chi sôn am amserlenni, ni fydd yn rhaid i chi aros yn hir nes y byddwn ni'n gwneud cyhoeddiadau, ar yr aelodaeth, ond hefyd ar y ffordd y bydd y ford gron weinidogol honno'n mynd â'r holl waith hwn ymlaen, gan gynnwys, gyda llaw, y ffrydiau oddi tani. Mae dau neu dri maes yr ydyn ni eisiau eu cyflwyno oddi tani. Un o'r rheini, gyda llaw, yw atafaelu, ac mae'n ymwneud â choed a mwy. Oherwydd mae dadleuon wedi'u cyflwyno i ddweud bod ffyrdd eraill hefyd o atafaelu. Mae angen i ni brofi'r dadleuon hynny hefyd—nid dim ond eu derbyn; mae angen i ni eu profi nhw. Felly, rwy'n credu mai dyna'r gwaith sydd angen ei wneud.
Byddwn ni'n gwneud cyhoeddiad dilynol ar TB, fel y dywedwch chi.
Effaith economaidd: un o'r sgyrsiau yr ydyn ni wedi'i chael ag undebau'r ffermwyr yw ei bod hi'n iawn i Lywodraeth Cymru roi'r dadansoddiad economaidd yr oedd gennym ni o flaen y cyhoedd, ond roedd dwy flynedd dros ei amser mewn gwirionedd, ac roedd yn seiliedig ar iteriad blaenorol o gynigion. Nid oedd hyd yn oed yn seiliedig ar y rhai mwyaf diweddar. Fodd bynnag, mae angen i ni wneud dadansoddiad economaidd wedi'i ddiweddaru, ond mae angen i'r dadansoddiad economaidd gael ei wneud pan fyddwn ni'n gwybod manylion sut olwg fydd ar y cynllun hwnnw, ac nid cyn hynny. Oherwydd mae angen i ni ddweud wrth ffermwyr, 'Wel, dyma'r dadansoddiad economaidd, a dyma'r adnoddau yr ydyn ni'n mynd i'w harwain trwy'r trawsnewidiad hwn hefyd.' A gallai rhywfaint o hyn fod yn creu cyfleoedd newydd yn ein hardaloedd gwledig hefyd.
Felly, mae llawer o'r pethau y gwnaethoch chi eu trafod yn y fan yna yn bethau y bydd y ford gron weinidogol yn—. A dim ond un peth olaf, dim ond i egluro: nid saib yw hyn o gwbl. Mae yna waith i'w wneud nawr mewn gwirionedd, er mwyn i ni allu cyrraedd pwynt lle mae pawb yn derbyn manylion cyflwyno cynllun ffermio cynaliadwy a fydd yno, rwy'n credu, os cawn ni hyn yn gywir, i'r genhedlaeth sydd i ddod. Bydd yn ddeinamig, ond, os cawn ni hyn yn gywir, yn y saith, wyth mlynedd hyn ar ôl ymadael â'r UE, yna rydyn ni'n rhoi sicrwydd, nid yn unig o ran ffermio, ond o ran yr hyn yr ydyn ni'n ceisio'i wneud hefyd o ran rheoli tirwedd, ar newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth a phopeth arall, am flynyddoedd lawer i ddod. Ond diolch, James, am groesawu hyn.
Diolch yn fawr, Lywydd, ac a gaf i hefyd groesawu'r datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet y prynhawn yma? Rwy’n credu ei fod yn taro cywair pragmatig a synhwyrol, ac dwi’n diolch i chi am hynny. Mae’n ymateb yn bositif i nifer o alwadau Plaid Cymru. Dwi wedi codi nifer o’r pwyntiau yma yn y Siambr, ac dwi’n gwybod—ac dwi eisiau diolch i Cefin Campbell hefyd, fel yr Aelod dynodedig fel rhan o’r cytundeb cydweithio—fod nifer o’r materion yma wedi cael eu trafod yn helaeth, ac dwi’n diolch i Cefin am gael y maen i’r wal ar nifer ohonyn nhw.
Nawr, mae Plaid Cymru wedi bod yn daer ac yn gyson hefyd wrth alw am oedi o ran y gweithredu. Felly, yn amlwg, mae'n rhywbeth y gwnes i ei godi gyda'ch rhagflaenydd. Fe wthiodd hi nôl, gan ddweud na fyddai hi'n ei dderbyn. Rwy'n gwybod i ddechrau y gwnaethoch chi ddweud efallai y gallech chi fwrw ymlaen â rhai elfennau lle'r oedd cytundeb, ac y byddai angen mwy o waith ar rai eraill efallai. Wel, rwy'n credu mai dyma'r penderfyniad cywir, ac rwy'n croesawu'r oedi yr ydych chi wedi'i amlinellu heddiw.
Bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn cael effaith ar genedlaethau o ffermio, ac rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod, yn y bôn, bod yn rhaid i ni ei gael yn iawn a pheidio â'i wneud yn gyflym. Hyd yn oed os yw'n golygu blwyddyn arall o ansicrwydd, blwyddyn arall o oedi diangen, y byddai rhai yn ei ddweud, rwy'n credu y bydd y cyfnod hwnnw o 12 mis yn llai poenus nag efallai 12 mlynedd a mwy o wneud y dewisiadau anghywir. Felly, dyma'r penderfyniad cywir, ac rwy'n diolch i chi am fod yn barod i wneud y penderfyniad hwnnw.
Felly, mae'n gyfle, fel rwy'n ei ddweud, i gamu'n ôl a myfyrio—nid cymryd saib, oherwydd rydych chi'n dweud mai nid saib ydyw, felly fe wnaf i dderbyn hynny, os mai dyna yw'ch dymuniad. Ond mae'n gyfle i wneud newidiadau angenrheidiol ac i sicrhau, yn bendant, fwy o gefnogaeth gan y sector ffermio nag yr ydyn ni wedi'i gweld hyd yn hyn, ond hefyd i sicrhau bod gennym ni gynllun sy'n gynaliadwy oherwydd ei fod yn gweithio ar gyfer ffermio ac ar gyfer natur.
Rwy'n credu cymaint ag yr ydyn ni'n mireinio neu'n diwygio neu'n newid elfennau, rydyn ni hefyd, gobeithio, yn defnyddio'r broses hon i ddatblygu consensws, mwy o gonsensws, ynghylch y camau y mae angen i bob un ohonon, ni eu cymryd ar y cyd. Felly, rwy'n croesawu'r dull bord gron. Rwy'n credu, unwaith eto, bod dod â'r lleisiau hynny at ei gilydd yn bwysig. Mae'n allweddol bod y rhai sydd â phrofiad bywyd o ffermio yn eistedd o gwmpas y ford honno, oherwydd byddan nhw'n gallu dweud wrthyn ni beth sy'n gweithio ar lawr gwlad, ac rwy'n credu efallai bod hynny'n rhywbeth yr ydyn ni wedi'i golli rhywfaint yn y gorffennol.
Ond rwyf eisiau gofyn yn benodol i chi: a allwch chi gadarnhau felly nad ydych chi nawr yn bwriadu mynnu gorchudd coed o 10 y cant gan bawb sy'n cymryd rhan yn y cynllun? Yn amlwg, rydych chi'n ystyried amrywiaeth ehangach o ddewisiadau. Mae hynny'n swnio i mi fel tynnu'r penderfyniad i fynnu ar 10 y cant oddi ar y bwrdd. Efallai y bydd yn gweithio i rai, ond nawr ni fydd yn rhagofyniad ar gyfer bod yn rhan o'r cynllun. Efallai y gallwch chi gadarnhau hynny i ni.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at y camau cyffredinol yn eich datganiad. Ydych chi'n dal i edrych ar 17 o gamau gweithredu cyffredinol, oherwydd roedd yn darllen mwy fel rhestr ddymuniadau na disgwyliad ymarferol ar y sector, a bod yn onest? Wth i'r ford gron a'r grwpiau eraill hyn wneud eu gwaith, oes yna gyfaddef nawr bod angen i chi resymoli hynny rhywfaint efallai?
Fe wnaethoch chi sôn y byddwch chi'n datblygu cynigion ar gyfer camau dewisol a chydweithredol eraill gyda'r nod o gyflwyno'r rhain cyn gynted â phosibl—dyna'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud. A ydych chi, felly, yn dweud bod posibilrwydd nawr y gallai'r elfennau hynny, neu rannau o'r agweddau hynny ar y cynllun, gael eu cyflwyno ar yr un pryd â'r elfennau cyffredinol yn 2026? Oherwydd rwy'n gwybod y byddai llawer yn y sector, yn enwedig yn y sector amgylcheddol, yn pryderu mai dyna lle bydd llawer o'r gwaith codi trwm o ran cyflawni dros natur yn digwydd, ond trwy oedi'r cyffredinol, mae'n ddigon posibl ein bod ni'n gohirio'r agweddau cydweithredol a dewisol yn anfwriadol.
Mae dal angen i bobl wybod faint o arian yr ydyn ni'n siarad amdano. Gallwn ni ddylunio cynllun, gallwn ni siarad am egwyddorion, ond hyd nes y bydd pobl yn gwybod sut mae hynny'n effeithio'n ymarferol ar hyfywedd eu busnes ar lefel economaidd, ac, wrth gwrs, sut mae hynny'n effeithio ar ba mor uchelgeisiol y gallwn ni fod o ran natur a'r amgylchedd, yna mae'n anodd, on'd yw e? Rydyn ni'n ymbalfalu ychydig o ran gwybod a ydyn ni mewn ai peidio. Felly, nid yw'r oedi pellach hynny, mae'n debyg, yn golygu y gallwch chi fynegi'n fwy pendant pa fath o ffigurau yr ydyn ni'n sôn amdanyn nhw, ond byddai'n dda deall efallai a ydych chi'n teimlo y gallwch chi wneud mwy o ran hynny.
Mae'r ffocws cryfach ar y gwerth cymdeithasol i amaethyddiaeth yn rhywbeth rŷn ni fel plaid wedi bod yn galw amdano fe yn helaeth iawn. Dwi'n meddwl ei bod hi'n iawn ac yn deg fod yna gydnabyddiaeth ariannol i'r cyfraniad cymdeithasol, diwylliannol ac ieithyddol mae'r sector yn ei wneud. Nawr, mae beth mae hwnna'n edrych fel, wrth gwrs, yn mynd i fod yn destun trafodaeth, ond dwi eisiau rhoi ar record, gan ein bod ni fel plaid wedi sicrhau bod hwnna yn y Ddeddf amaeth, ein bod ni'n falch iawn gweld y pwyslais rŷch chi'n ei roi arno fe yn y cynllun.
Yn olaf, rydych chi'n cyfeirio at y grŵp cynghori technegol ar TB. Wrth gwrs, ystyried difa ar y fferm yw'r peth cyntaf. Mae nifer ohonom ni eisiau gweld newidiadau amgenach a mwy pellgyrhaeddol, ond mae hwnna yn flaenoriaeth. Rydych chi'n awgrymu y byddwch chi'n gwneud datganiad yn nes ymlaen yr wythnos yma. Allwch chi ddweud wrthym ni a fydd yna newid yn digwydd ar y ffrynt yna o fewn wythnosau, a ddim o fewn misoedd? Diolch.
Diolch yn fawr, Llyr. Rydych chi wedi codi llawer o faterion yn y fan yna eto, ond a gaf i ddiolch i chi am groesawu'r dull pragmatig a synhwyrol, fel y gwnaethoch chi ei ddisgrifio, o ran y ffordd ymlaen? Oherwydd mae'n rhaid i ni ddylunio cynllun sydd, pan fydd yn barod i fynd, yn dod â phawb gydag ef, ac sydd, gyda llaw, yn cynnwys yr holl bobl hynny allan yno sy'n cefnogi'r uchelgeisiau bywyd gwyllt ac amgylcheddol, gan gynnwys ymhlith y gymuned ffermio, yn ogystal â'r gymuned ffermio eu hunain sy'n mynd i fod mor ganolog i gyflawni hyn, a datblygu'r consensws y gwnaethoch chi ei grybwyll yw'r ffordd ymlaen.
I fynd ar ôl rhai o'r pethau y gwnaethoch chi ei ddweud yn y fan yna, o ran cyllid, rwy'n falch ein bod ni wedi cyhoeddi heddiw y byddwn ni'n bwrw ymlaen â chyllid cynllun y taliad sylfaenol ar hyn o bryd, i roi rhywfaint o sicrwydd wrth symud ymlaen. Nawr, wrth wneud hynny, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n gofyn i'r rhai yn y Siambr y tu ôl i mi fod yn gryf y tu ôl i mi, a gwneud sylwadau hefyd, oherwydd rydyn ni'n mynd i fod yn gofyn i Lywodraeth y DU ddarparu'r un lefel o gyllid o leiaf ag a gawson ni'r flwyddyn ariannol hon, ynghyd â chwyddiant, a mwy, os hoffen nhw ei roi e i ni, os gwelwch yn dda. Mae'r bil yn £339.6 miliwn, os gwelwch yn dda, ynghyd â chwyddiant, ac unrhyw beth arall y maen nhw eisiau'i ychwanegu. Rydyn ni'n gweithio—mae ein swyddogion yn gweithio'n fewnol, a chyda chydweithwyr mewn gweinyddiaethau eraill—i ddatblygu ein cais am gyllid. Rydyn ni'n gwybod, wrth gwrs, fod hynny'n dal i adael diffyg o ran yr hyn yr oedden ni wedi'i ragweld pan oedd yr holl ddadleuon gwych hynny'n mynd rhagddynt ynghylch gadael yr UE, ond mae gennym ni'r pecyn cyllido sydd gennym ni ac mae'n rhaid i ni weithio gydag ef. A chwarae teg i'r undebau ffermio hefyd, er bod gennych chi leisiau'n dweud, 'Wel, dewch o hyd iddo o rywle arall', y dadleuon hynny, maen nhw yn derbyn bod yn rhaid i ni wneud cais yn rhywle arall yma mewn gwirionedd, i gynorthwyo gyda hynny. Ond trwy gyhoeddi y bydd cynllun y taliad sylfaenol yn parhau ar gyfer 2025 nawr, rwy'n ceisio rhoi cymaint o sicrwydd ag y gallaf heb wybod y sefyllfa gyllidebol yn y dyfodol, ond mae'n ddatganiad clir o'n bwriad. Felly, byddaf yn ceisio gwneud cyhoeddiad ar fanylion eraill, fel y terfyn uchaf, maes o law, ond ni fydd yn rhaid aros yn rhy hir, gobeithio.
Yr agweddau eraill yr wyf eisiau cyffwrdd arnyn nhw—. Roeddech chi'n sôn am goed ac atafaelu carbon. Mae camau atafaelu carbon yn y cynllun yn enghraifft rwy'n credu sydd angen ac sy'n haeddu ystyriaeth bellach. Felly, rwyf wedi cadarnhau ein bod ni'n cynnull panel adolygu tystiolaeth atafaelu carbon, a fydd yn bwydo i fyny i'r ford gron weinidogol. Rwy'n disgwyl i'r grŵp o bartneriaid a fydd yn ymgymryd â'r gwaith hwn gyda ni ganolbwyntio ar y dystiolaeth sy'n gysylltiedig â chamau gweithredu i gefnogi atafaelu carbon ychwanegol, a maint y cyfle sydd gennym, o bosibl, yng Nghymru. Nawr, rwy'n mynd i aros am ganlyniadau'r gwaith hwnnw cyn gwneud unrhyw benderfyniadau, ac er y gallai fod ychydig yn rhwystredig, mae rheswm pam yr ydyn ni'n mynd i osod rhai o'r rhain ar lwybr i'w codi wedyn i'r ford gron weinidogol. Ond byddaf yn rhoi gwybod i'r Aelodau wrth iddo ddod o'n blaenau ni. Nid wyf eisiau achub y blaen arno.
Ond coed ar ffermydd, gadewch i ni fod yn hollol glir: mae ganddyn nhw nifer o fanteision ar wahân i atafaelu carbon. Mae hynny'n cynnwys, gyda llaw, rai nad ydyn nhw'n cael eu crybwyll yn aml, fel cysgod i dda byw, lleihau perygl llifogydd a gwella ansawdd dŵr. Mae llawer o resymau cadarnhaol pam y dylai ffermydd ystyried plannu coed, ac yn wir mae llawer yn gwneud hynny, ac mae llawer eisiau mynd ymhellach. Byddwn i hefyd yn dweud ein bod ni eisoes, a byddwn ni'n parhau i gynnig y grantiau ar gyfer creu coetiroedd drwy'r cynllun cynllunio creu coetiroedd a'r cynllun grant creu coetiroedd, oherwydd bydd y rhain yn parhau i fod ar gael, a byddwn ni'n mynd ati i'w hyrwyddo drwy'r cyfnod paratoi. Nid oes unrhyw reswm i unrhyw un sy'n ystyried plannu coed ar ei dir ohirio'r penderfyniad hwnnw os ydyn nhw eisiau bwrw ymlaen. Felly, dydyn ni ddim yn oedi popeth, dydyn ni ddim yn stopio popeth; rydyn ni eisiau bwrw ymlaen â hynny.
Fe wnaethoch chi sôn am lawer o bethau yn y fan yna. Mae cyflwyno'r dulliau cyffredinol, dewisol a chydweithredol yn raddol yn un diddorol iawn i'r ford gron weinidogol. Oherwydd mae yna, ac rwy'n cofio pan oedden ni yn y pwyllgor newid hinsawdd yn y sesiwn dystiolaeth honno, roedd safbwyntiau gwahanol yn cael eu cyflwyno. Un o'r pethau o fewn yr amlen ariannu y mae'n rhaid i ni ei wneud yn y cyfnod paratoi hwn yw penderfynu ble mae'r cymysgedd gorau posibl yma o'r rhannau cyffredinol hynny ohono ochr yn ochr â'r rhai eraill, a allai fynd â ni ymhellach o lawer o ran bioamrywiaeth, budd amgylcheddol, newid hinsawdd, lliniaru llifogydd ac ati. Ond bydd yn rhaid i ni ystyried yn ofalus iawn lle mae'r cydbwysedd cywir, oherwydd yn ddelfrydol, bydden ni eisiau llawer mwy o gyllid i wneud llawer mwy, ond dydy e ddim ar gael i ni, felly dyna lle bydd yn rhaid i'r ford gron weinidogol, a minnau yn y pen draw, wneud rhai penderfyniadau.
Ac mae'n werth dweud hefyd, Llywydd, nad wyf i'n credu y bydd hyn yn fêl i gyd. Bydd rhai pwyntiau lle bydd yn rhaid i mi fel yr Ysgrifennydd Cabinet gymeradwyo pethau a dweud, 'Dyma lle'r ydyn ni'n mynd a lle'r ydyn ni'n sefyll nawr', ond i fynd ar ôl y pwynt trosfwaol hwnnw y gwnaethoch chi ei wneud, byddwn ni'n gwneud hyn mewn modd agored, hawddgar, cydweithredol, gan weithio gyda'n gilydd. Pan fyddwn ni'n dod i bwyntiau anodd, dyna'r hyn yr wyf i'n cael fy nhalu amdano. Ond byddwn ni'n ei wneud yn seiliedig ar y dystiolaeth yr ydyn ni'n ei gweld a'r dadleuon sy'n cael eu cyflwyno, a dyna pam ei bod hi'n werth cymryd ychydig mwy o amser i gael hyn yn iawn. Ond diolch i chi, Llyr, am y pwyntiau eraill y gwnaethoch chi eu codi, bydd y ford gron weinidogol yn eu cyflwyno i'w trafod.
Diolch. Roeddwn i eisiau gofyn i chi am goed ac iechyd y pridd. Cynhaliwyd seminar WWF bythefnos yn ôl, nad oeddech chi'n gallu ei fynychu, yr oedd Llyr Huws Gruffydd yn ei gadeirio—dydw i ddim yn cofio gweld James Evans yno—ac rwy'n credu mai rhai o'r negeseuon pwysig a ddaeth o hynny—[Torri ar draws.] Rhai o'r negeseuon pwysig a ddaeth o hynny oedd y gwaith a wnaed gan Niels Corfield i ddangos, os ydych chi am wneud fferm wrthdywydd, fod angen i chi blannu coed, bod angen i chi ddelio â chywasgu pridd fel nad oes gennych ormodedd o ddŵr ffo, ac yn lle hynny mae gennych chi briddoedd iachach sy'n amsugno llawer mwy o'r dilywiau rydyn ni'n eu cael yn fwy rheolaidd. Hefyd, fe glywson ni gan ddau ffermwr oedd yn gwneud mwy o arian ar ôl lleihau faint o stoc oedd ganddyn nhw ar eu ffermydd, ac felly roedd ganddyn nhw lai o gostau o orfod prynu porthiant i'w hanifeiliaid, ac roedden nhw'n dibynnu mwy ar y glaswellt, a oedd o ansawdd gwell o ganlyniad i orfod delio â llai o stoc arno.
Tybed faint o sgwrsio rydych chi'n ei wneud gyda'r undebau ffermio i sicrhau bod pob ffermwr yn gwybod bod y rhain yn strategaethau y mae'n rhaid i ni i gyd eu gwneud, oherwydd rwy'n hollol hapus gydag oedi i'w gael yn iawn, ond ni fydd yr argyfwng hinsawdd yn aros. Felly, sut mae'r cyfnod paratoi hwn i ddangos manteision y camau cyffredinol hyn yn mynd i atal pobl rhag ymgymryd ag arferion ffermio anghynaliadwy, fel llygredd ffosffad o ffermio sy'n mynd i mewn i'n hafonydd a'n moroedd? A sut y bydd yn annog ffermwyr i fynd i'r afael â chywasgu pridd a gormodedd o ddŵr ffo, a hefyd, yn fwyaf difrifol, colli pridd? Oherwydd unwaith y bydd wedi mynd, bydd wedi mynd am byth. Dywedir wrthym mai dim ond 40 neu 60 o gynaeafau sydd ar ôl yn y pridd, ac felly mae angen hyn ar frys i sicrhau newid drwyddi draw.
Jenny, diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw. Wyddoch chi, mae gennyf i, fel chithau, ddiddordeb mawr mewn iechyd pridd, a'r ffordd y mae hynny'n sicrhau nifer o fanteision? Ac rydyn ni'n ei weld pan fydd yn mynd o'i le hefyd, pan nad oes gennych chi bridd, pan fydd gennych chi fwd yn unig, ac mae gennych chi gaeau lle mae'r dŵr ffo yn mynd â hynny i lawr i'r nentydd islaw. Bydd iechyd pridd, gallaf ddweud wrthych, yn rhan o'r trafodaethau a fydd yn mynd ymlaen nawr yn y cyfnod paratoi hwn.
Rwyf wedi dod bore yma o ymweld â fferm heb fod ymhell o'r fan hon—fferm Sealands, fferm deuluol. Peth o'r gwaith maen nhw'n ei wneud y maen nhw'n frwdfrydig iawn amdano fel teulu yw'r ffordd maen nhw eisoes yn gweithio—gan ragweld, mewn rhai ffyrdd, ble y dylen ni fod yn mynd—gyda nifer o gnydau amrywiol a system gylchdro, er mwyn darparu nid yn unig nitrogen a bwydo'r pridd a'i gyfoethogi, ac yn y blaen ac yn y blaen, ond ei wneud mewn ffordd wyddonol a deallus iawn, ac maen nhw wedi bod yn gwneud hyn ers rhai blynyddoedd. Mae hefyd yn lleihau eu costau ar y fferm oherwydd yr hyn maen nhw'n ei wneud yw defnyddio eu cnydau eu hunain i fwydo. Maen nhw'n ei ddefnyddio nid yn gyfan gwbl mewn system fferm gaeedig, ond maen nhw'n lleihau eu dibyniaeth ar ddod â dewisiadau amgen drud iawn o'r tu allan a dewisiadau amgen petrocemegol i mewn, neu orddosio eu fferm eu hunain. Mae'n eithaf gwyddonol, yr hyn maen nhw'n ei wneud. A'r hyn ddywedon nhw wrthyf i oedd nad yw hyn yn anarferol nawr ym maes ffermio; mae mwy a mwy o ffermydd yn gwneud hyn.
Felly, yr hyn y mae angen i ni ei wneud fel rhan o'r cynllun ffermio cynaliadwy a'r dull ehangach o ymdrin â ffermio cynaliadwy da yng Nghymru yw gwneud y dull hwnnw'n llawer mwy normal, oherwydd rydyn ni'n gwybod bod rhannau o Gymru neu ffermydd unigol lle nad yw hynny'n digwydd. Felly, sut ydyn ni wedyn yn eu codi ac yn eu hysbysu, yn eu helpu, yn eu mentora, yn eu haddysgu, yn rhoi'r cyngor cywir iddyn nhw, fel y gallan nhw wneud hynny hefyd?
Mae iechyd pridd yn mynd i fod yn hanfodol i'r ffordd rydyn ni'n symud ymlaen, ac yn anad dim oherwydd yr hyn rydych chi wedi'i ddweud: mae'n rhoi'r gwytnwch hefyd. Felly, yn hytrach na chael mwd sy'n cael ei olchi i ffwrdd, mae gennych chi bridd da sy'n dal y dŵr, sy'n dal y maetholion, ac sy'n llai costus i'w gynnal yn yr hirdymor. Ond yr hyn y bydd ffermwyr yn ei ddweud wrthyf yw bod angen y gefnogaeth arnyn nhw i wneud i hynny ddigwydd, nid yn unig o ran y cyngor, ond o ran y ffordd yr ydyn ni'n dylunio'r cynllun hefyd. Mae iechyd pridd yn allweddol, mae'n cael ei anghofio'n aml gan y gymdeithas sifil ehangach allan yna, ond mae'n hanfodol o ran y ffordd y byddwn ni'n bwrw ymlaen â ffermio da yng Nghymru.
Gweinidog, diolch am eich datganiad heddiw. Nid wyf i'n credu fy mod i wedi nodi hynny'n gynharach, ond a yw'r Llywodraeth yn dal i fwriadu dilyn yr ymarfer cadarnhau data yr haf hwn, ac os felly, allwch chi gadarnhau pryd y bydd hynny'n dechrau?
O ran plannu coed ar 10 y cant o dir, rwyf am sicrhau bod gen i'r ateb roddoch chi yn iawn yn fy meddwl fy hun. Rwy'n credu mai'r ateb oedd bod 10 y cant yn dal i fod yn rhan o'r cynllun arfaethedig, ond bod yna fwy o barodrwydd i newid a chyflwyno mwy o hyblygrwydd—felly, ydw i wedi cael hynny'n iawn—trwy eich bord gron weinidogol.
Ac o ran TB, mae'n glefyd dinistriol, mae'n cael effaith ddinistriol ar deuluoedd ffermio ac mae'n greulon i stoc ffermio ac i fywyd gwyllt hefyd. Nodaf yn eich datganiad heddiw eich bod chi'n sôn eto am ddileu TB yng Nghymru erbyn 2041. Felly, fy nghwestiwn i yw: a yw hynny'n ddigon uchelgeisiol? A ellir bod yn fwy uchelgeisiol drwy ddod â'r dyddiad hwnnw ymlaen?
Rydych chi hefyd yn sôn am eich cynllun cyflawni TB a'r grŵp cynghori technegol. Felly, fy nghwestiwn olaf o ran hynny yw: i ba raddau y bydd y grŵp cynghori technegol yn llywio eich penderfyniadau? Oherwydd, i mi, mae yna lawer o benderfyniadau na ddylent gael eu gwneud, o bosibl, gan y grŵp cynghori; penderfyniadau gwleidyddol ydyn nhw, fel y penderfyniad i ddifa bywyd gwyllt yr effeithir arno, yr wyf yn credu'n gryf bod angen iddo fod yn rhan o'r pecyn cyffredinol i ddileu TB. Ac mae'n ymddangos bod hynny'n fwy o benderfyniad gwleidyddol i chi, yn hytrach na'r grŵp cynghori technegol, a dyna pam rwy'n gofyn i ba raddau rydych chi'n cymryd eich penderfyniadau o'r grŵp cynghori.
Diolch yn fawr iawn, Russell. Yn gyntaf oll, o ran atafaelu carbon a 10 y cant o orchudd coed, rydym wedi sefydlu panel yn fwriadol i edrych ar hynny. Felly, yn hytrach na diystyru unrhyw beth, rydym eisiau ystyried yr opsiynau eraill hynny fel rhan o'r gwaith hwnnw y mae eraill wedi'i awgrymu y gallent fod yn ffyrdd da eraill o'i wneud. Rwy'n credu bod cryn dipyn o bobl yma o'r blaen wedi bod yn llofnodwyr i'r ymgyrch gwrychoedd ac ymylon, ac yn y blaen, ac yn y blaen, ond mae yna opsiynau eraill yn cael eu cyflwyno, gan gynnwys yr hyn y gallwn ni ei wneud, mewn gwirionedd, mewn pridd ac ar dir pori a reolir yn dda, sy'n eithaf diddorol. Felly, rwy'n credu mai dyma'r pethau sydd angen eu harchwilio yno. Felly, yn hytrach na chanolbwyntio ar 10 y cant o orchudd coed yn unig ar hyn o bryd, gadewch i ni roi'r rhyddid i'r ffrwd waith honno fynd i edrych ar y rhain, a mynd at wraidd y mater. Oherwydd efallai y bydd rhai ohonynt yn hyfyw ac eraill ddim, ond gadewch i ni fynd at wraidd y mater.
O ran yr ymarfer cadarnhau data, ydy, mae hyn yn allweddol iddo, wrth symud ymlaen. Un o'r manteision oedd gennym, er bod rhai pryderon na fyddai cynifer ag a wnaeth yn manteisio ar gynllun Cynefin Cymru, mewn gwirionedd, mae wedi bod yn braf iawn gweld yr ymateb i gynllun Cynefin Cymru, ac mae wedi helpu, hefyd, gyda rhywfaint o ddata yn dod ymlaen. Ond rydym yn gwybod bod ffermwyr yn dweud nad yw rhywfaint o hynny'n gywir, felly rhan o'r broses hon fydd mynd yn ôl at ffermwyr i ddweud, 'Dyma'r hyn sydd gennym, dyma'r hyn rydym wedi'i fapio, nawr allwch chi ein helpu ni i lenwi'r dotiau neu wrthddweud yr hyn sydd ar y data hwnnw yn y fan yna, y data hwnnw yn y fan yna?' ac yn y blaen. Mae hynny'n mynd i fod yn rhan annatod o hyn, oherwydd os gallwn ni gyrraedd y pwynt lle mae gennym ni ddata da, cywir, yna rydym mewn sefyllfa llawer gwell i helpu ffermwyr a dweud wrthyn nhw, 'Does dim rhaid i ni wneud hyn dro ar ôl tro; byddwn ni'n gwybod nawr erbyn diwedd y cyfnod paratoi hwn.'
O ran dileu TB erbyn 2041, rwy'n credu bod hynny'n uchelgeisiol iawn. Fe'i dywedir yn aml yn y Siambr hon, 'Edrychwch ar yr hyn sydd wedi digwydd yn Lloegr' ac yn y blaen, ond, mewn gwirionedd, mae'r taflwybr dros y 10 mlynedd diwethaf yr ydym wedi edrych arno yng Nghymru, a'r gostyngiad yn nifer yr achosion mewn buchesi, wedi bod yn arwyddocaol hefyd, felly rydyn ni'n gwneud rhai pethau'n iawn yma, ac yn aml dydyn ni ddim yn dweud ein bod ni'n gwneud rhai pethau'n iawn. Ac mae rhywfaint o hynny yn seiliedig ar y model partneriaeth llawer mwy hwn o weithio, o roi ymreolaeth i'r ffermwr, gweithio gyda milfeddygon ar y fferm ac yn y blaen, y mathau o bethau rydym yn eu gweld nawr. Mae rhan ohono'n mynd i gael ei llywio, mae'n rhaid i mi ddweud nawr, drwy, fel y dywedwch yn iawn, y grŵp cynghori TB, dan arweiniad Glyn Hewinson, sy'n cadeirio rhan o raglen Sêr Cymru, y ganolfan ragoriaeth TB yn Aberystwyth. Rwyf wedi cael rhai trafodaethau gydag ef yn barod; rwyf wedi ei gwneud yn glir, pan wyf wedi siarad o'r blaen, gan ddweud bod angen iddyn nhw nawr godi eu cyngor, wrth iddynt symud ymlaen, i fwrdd y rhaglen ar ddileu TB. Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n sylweddoli nad wyf wedi mynd i'r afael â'r mater ynghylch a allem fod yn fwy uchelgeisiol. Pe bawn i'n meddwl y gallem ni—. Ond dydw i ddim yn siŵr naill ochr i'r ffin neu beth bynnag—. Mae'n dasg eithaf uchelgeisiol. Os gallwn ni ei ddileu erbyn 2041, os gallwn ni wneud hynny'n gynnar, byddai hynny'n wych, ond gadewch i ni weld beth mae'r grŵp cynghori TB yn ei gyflwyno fel y ffordd ymlaen.
Y peth cyntaf maen nhw wedi bod yn edrych arno—ac rwy'n aros am y cyngor swyddogol i ddod i fyny—yw lladd ar y fferm, sydd wedi bod yn broblem fawr i lawer o ffermwyr, yn enwedig y mater emosiynol ac effaith sefyll o'r neilltu wrth i'w gwartheg gael eu lladd, gyda lloi ynddyn nhw, ar y fferm o'u blaenau. Rwy'n gobeithio cael y cyngor hwnnw yn fuan iawn. Ond ble fyddan nhw'n mynd o fanna yw ble fyddan nhw'n mynd o fanna. Mae ganddyn nhw'r arbenigedd, ac maent yn dda iawn—. Dydw i ddim am gamddefnyddio'r ymadrodd hwn nawr, ond mae yna bedigrî ffermio da iawn a chyrhaeddiad hir ymhlith y bobl ar y TAG hefyd, ond maen nhw'n ei godi, wedyn, i'r bwrdd partneriaeth, lle mae nifer sylweddol o gynrychiolwyr ffermio uniongyrchol, ac mae aelodau ex officio o'r undebau ffermio ar y bwrdd hwnnw hefyd. Felly, gadewch i ni weld beth maen nhw'n ei gyflwyno. Dydw i ddim yn mynd i'w cyfarwyddo na'u camgyfeirio neu beth bynnag. Gadewch i ni weld beth maen nhw'n ei gyflwyno, ond mae ganddyn nhw lawer o waith o'u blaenau.
Dwi am fynd ar ôl dau beth yn benodol, un ohonyn nhw’n dilyn cwestiwn yr wythnos diwethaf ddaru'r Ysgrifennydd Cabinet ofyn i fi ailofyn yr wythnos yma, felly gobeithio y byddwn ni mewn sefyllfa i gael ychydig yn fwy o wybodaeth, ac mae hynny ynghylch y BVD. Roedd yna waith da yn cael ei wneud efo cynllun gwaredu BVD yn flaenorol, ond, yn anffodus, fe gollwyd momentwm ar hynny wrth i'r rhaglen ddirwyn i ben. Mae angen deddfwriaeth er mwyn sicrhau bod profi yn digwydd a bod hyn yn cael ei ariannu yn llawn. Roeddem ni'n disgwyl cyhoeddiad cyn y Pasg, ond rydym ni'n dal i aros. Felly, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet osod allan yr amserlen ar gyfer unrhyw Fil i'r perwyl yma, a rhoi sicrhad y bydd y Bil, o'i fabwysiadu, yn cael ei gefnogi gyda'r arian cywir er mwyn sicrhau ei lwyddiant?
Yn olaf, i ddilyn trywydd cwestiynau Russell George, mae ffermwyr yn fy etholaeth i wedi gorfod difa gwartheg oherwydd y dicáu yn ystod yr wythnosau diwethaf yma. Mae'n brofiad newydd i ffermydd ym Meirionnydd. Mae'r ffermwyr yna yn gwrando y prynhawn yma er mwyn cael y sicrwydd eich bod chi, yr Ysgrifennydd Cabinet newydd, yn deall difrifoldeb y sefyllfa y maen nhw'n ei hwynebu ac eich bod chi'n barod i weithredu yn unol â'r gwyddoniaeth. Hynny ydy, ydych chi'n barod i fynd i'r afael â hwn drwy ddifa moch daear mewn modd wedi'i dargedu? Fedrwch chi roi sicrwydd eich bod chi'n deall yr her sydd yn wynebu'r ffermwyr yma, a'ch bod chi'n mynd i ymateb i'w hanghenion nhw? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Mabon. A gaf droi, yn gyntaf oll, at y mater BVD? Gallaf roi diweddariad pellach i chi i'r cwestiwn y gwnaethoch chi ei godi y diwrnod o'r blaen. Yn gyntaf oll, rydym yn deall ac yn gwerthfawrogi effaith ddifrifol iawn BVD yn llawn, nid yn unig ar safonau iechyd a lles anifeiliaid, ond hefyd effaith y clefyd ar gynhyrchu a'r costau economaidd difrifol hefyd i fusnesau fferm. Bydd dileu BVD yng Nghymru yn dod â manteision sylweddol i gynhyrchiant ac iechyd gwartheg, ond hefyd i les gwartheg, proffidioldeb ffermydd, a hefyd, gyda llaw, ôl troed carbon. Yr haf hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud Gorchymyn BVD Cymru; byddwn ni'n cyflwyno hynny i hwyluso dull a arweinir gan ddiwydiant o ddileu'r clefyd. Gallaf roi mwy o fanylion ar hynny yn ddiweddarach, Mabon, os yw hynny o gymorth, ond fe fyddwn ni'n cyflwyno hynny.
O ran BTB, rwyf wedi cwrdd â chymaint o ffermwyr nawr sydd wedi wynebu'r cythrwfl emosiynol—mae hynny'n ddweud cynnil—o orfod mynd drwy nid yn unig profion TB rheolaidd ac yn y blaen, ond hefyd y lladd, gan gynnwys lladd gwartheg ar y fferm. Mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd drwy hyn. Ond mae'r ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu yn glir iawn: gweithio ar y mathau o bethau rydyn ni wedi'u gwneud o fewn llwybr sir Benfro, gweithio mewn partneriaeth, defnyddio'r wyddoniaeth orau bosibl ac ati; archwilio'r defnydd, fel yr ydym wedi'i wneud, yn wir, o bethau fel brechu moch daear, a hefyd gefnogi'r symudiadau i gyflwyno, yn y pen draw, os gallwn ni wneud hynny, gyda'r prawf cywir i nodi ei fod yn gweithio, brechu gwartheg hefyd, yn anochel. Mae'n rhaid i hynny fod yn rhan o ddull gweithredu cyffredinol 2041.
Ond a gaf i ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth Russell? Mae'r ymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu yn glir iawn, iawn, ond rydym wedi sefydlu'r TAG gyda Glyn Hewinson am reswm da iawn, oherwydd mae yna arbenigedd yno a all gyflwyno eu syniadau ar ble rydym yn mynd nesaf yng Nghymru. Rwyf am ailadrodd un peth yma, oherwydd bydd pobl yn aml yn codi eu haeliau pan fyddaf yn dweud, 'Wel, rydym yn gwneud pethau da yng Nghymru', a byddwn i'n dweud wrth Aelodau, cysylltwch â mi ac fe wnaf eich cyfeirio at rai o'r pethau rydym yn eu gwneud ar lawr gwlad, lle mae ffermwyr sy'n ymwneud â rhai o'r prosiectau hyn yn cael eu darbwyllo mai rhai o'r pethau arloesol yr ydym yn eu gwneud yng Nghymru yw'r rhai cywir. Ond, i fod yn glir, o 2012, sef y flwyddyn cyn i'r polisi rheoli moch daear gael ei gyflwyno yn Lloegr, i 2023, ar y data cyhoeddedig diweddaraf, gostyngodd nifer yr achosion mewn buchesi yn Lloegr o 9.8 i 7.3; roedd yn ostyngiad o 26 y cant.
Yng Nghymru, dros yr un cyfnod, gostyngodd nifer yr achosion mewn buchesi o 10 i 6.8. Mae'n ostyngiad o 31.3 y cant. Rwy'n rhoi hynny ar gofnod—ffigurau Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yw'r rheini, gyda llaw—i ddweud ein bod ni'n gwneud pethau'n wahanol yng Nghymru, yn unol â'n rhaglen lywodraethu, ond rydyn ni llwyddo hefyd mewn sawl ffordd. Mae angen i'r grŵp cynghori ddweud, 'Wel, lle awn ni nesa?', 'Ble mae'r ffordd nesaf ymlaen?', a dyna'r ffordd iawn i'w wneud, rwy'n meddwl: i ddweud wrthyn nhw, 'Ewch ati i weithio gyda'r gymuned ffermio. Ewch ati i weithio gyda'r gwasanaeth milfeddygol a chydag eraill. Ewch ati i weithio gyda'r profiad eang hwnnw, mae'n rhaid i chi godi syniadau ar ble rydyn ni'n mynd nesaf.'
Rwyf hefyd yn adleisio'r croeso gan eraill yn yr ystafell i ailosod, fel y gwelaf i o, y cynllun ffermio cynaliadwy. Yn wir, mae hyn yn ymwneud â gweithio mewn partneriaeth â'n cymunedau ffermio a'n cymunedau gwledig hefyd. Bydd y cyfnod paratoi arfaethedig ar gyfer 2025 yn benodol yn hanfodol ar gyfer y ddeialog wirioneddol gadarn honno gyda ffermwyr a rhanddeiliaid eraill.
Dim ond tri chwestiwn sydd gen i, os yw hynny'n iawn. Mae'r cyntaf am yr 17 o gamau gweithredu cyffredinol. Rydych chi wedi egluro ychydig am y ffaith y byddan nhw'n rhan o grŵp rhanddeiliaid, gweithgor, ond a allwch chi gadarnhau, yn eich barn chi, a fydd yr 17 o gamau gweithredu cyffredinol yn dal i fod yn berthnasol i bob un fferm? Oherwydd mae hwnnw yn un o'r materion allweddol.
O ran y gorchudd coed o 10 y cant, rydych chi wedi sôn amdano o bosibl yn cynnwys gwrychoedd ac ati, a bod yn rhaid iddo fod yn seiliedig ar dystiolaeth, ond yn y dystiolaeth honno, a fyddwch chi'n gwrando ar ffermwyr hefyd, llawer ohonyn nhw â llawer iawn o dystiolaeth a gwybodaeth—ffermwyr fel Gary Jones yn Llangadog yn sir Gaerfyrddin, sydd â thystiolaeth wirioneddol gadarn?
A fy nhrydydd cwestiwn, sy'n un cyffredinol iawn, yw a allwch chi ddweud wrthym sut olwg sydd ar 'dda' ar ddiwedd 2025 i ddweud wrthych chi ei fod yn mynd yn ei flaen yn llawn i 2026. Diolch yn fawr iawn.
Mae hwnna'n gwestiwn olaf gwych yn y fan yna, Jane. Diolch. Rwy'n hoffi eich terminoleg yn y fan yna ar 'ailosod'. Mae llawer iawn o waith wedi ei wneud ar hyn yn barod—saith mlynedd o drafodaethau, ymgynghoriadau, sioeau teithiol, beth bynnag. Rydym ni wedi dod i le lle mae gennym ni lawer o gytuno—rwy'n dal i ddweud hyn; mae gennym ni yn wir—ar y fframwaith eang, yr amcanion lefel uchel, a llawer o fanylion y cynllun hefyd. Felly, mae 'ailosod' yn ffordd eithaf da o'i roi. Rwy'n credu bod y gyfatebiaeth honno o ddweud, 'Gadewch i ni gymryd ychydig mwy o amser i gael yr holl fanylion yn iawn' yn fy nghysylltu â sut olwg sydd ar 'dda' ar y diwedd un.
Gadewch imi gyffwrdd ar y 17 o gamau gweithredu cyffredinol. Un o'r pethau a oedd yn glir o'r hyn rwyf wedi ei ddarllen yn barod, yr allbwn rwyf wedi ei gael hyd yn hyn—nid yr allbwn llawn, ond yr allbwn rwyf wedi ei gael o'r ymgynghoriad—oedd bod llawer o ffermwyr wedi gweld cymhlethdod yn yr 17 o gamau. Maen nhw'n poeni y byddai hyn yn golygu mwy o fiwrocratiaeth. Doedd rhai ohonyn nhw ddim yn ddealladwy i'r ffermwyr chwaith. Roedden nhw'n gofyn, 'Beth mae hyn yn ei olygu?' Rwy'n credu bod gennym ni dasg, y grŵp gweinidogol yn y fan yma y bydd hyn yn cael ei godi ato, i edrych ar y rheini ac i weld, o'r rheini, ydyn nhw i gyd y rhai iawn, ond hefyd ydyn nhw'n rhai sydd angen eu hesbonio'n well, ydyn nhw'n rhai y mae angen i ni weithio gyda ffermwyr i ddweud, 'Wel, sut ydyn ni'n esbonio hyn yn well? Beth yw hyn i gyd?' ac yn y blaen. Felly, nid wyf yn dweud ein bod yn tynnu unrhyw ran o hyn allan, ond rwy'n credu bod yna waith i edrych arnyn nhw'n unigol a mynd drwodd a dweud, 'Wel, os yw hwn yn mynd i fod yn rhywbeth rydych chi'n ei gymryd i ffwrdd, y tu allan i ymgynghoriad, a dweud, "Dyma becyn cymorth i ffermwyr", yna sut ydych chi'n cyflwyno hynny'n well fel nad yw'n edrych mor gymhleth a biwrocrataidd ac yn y blaen?'
O ran y gorchudd coed, fyddwn ni'n gwrando ar ffermwyr? Byddwn, yn sicr. A dyna pam rydym wedi sefydlu'r grŵp atafaelu carbon hwn. Ond byddwn hefyd yn gwrando, gyda llaw, ar y syniadau hynny sy'n dod yn ogystal gan grwpiau bywyd gwyllt a grwpiau amgylcheddol ar ffyrdd eraill. Nid yw'n dod o un cyfeiriad yn unig. Mae rhai sgyrsiau diddorol yr wyf wedi'u cael dros y mis diwethaf ac yn flaenorol ar ffyrdd eraill y gallwn fwrw ymlaen ag atafaelu carbon ar dir ledled Cymru, sy'n cynnwys coed, ond a allai fynd mewn ardaloedd eraill hefyd. Ond, unwaith eto, rwy'n dod yn ôl at y pwynt bod yn rhaid i ni roi tystiolaeth yn sail i hyn. Ni all fod yn syniadau a dyheadau da yn unig. Mae'n rhaid i ni wybod y bydd y rhain yn effeithiol hefyd.
O ran sut olwg sydd ar 'dda' pan fyddwn ni'n cyrraedd diwedd y cyfnod paratoi, sut beth yw 'da' fydd, o ganlyniad i'r broses rydyn ni wedi mynd drwyddi, bod cytundeb da a chlymblaid o'r rhai sy'n barod i fwrw ymlaen â hyn. Dyna un agwedd ar sut mae 'da' yn edrych. Ac ail agwedd ar sut mae 'da' yn edrych yw ei fod yn cyflawni'r holl amcanion hynny yr ydym yn ceisio eu gwneud, felly rydym yn dod allan y pen arall gyda chynllun sydd, ie, yn dda ar gyfer y safonau uwch hynny o gynhyrchu bwyd, lles anifeiliaid, pridd, ansawdd dŵr, a'r holl fanteision cyhoeddus ehangach hynny, gan gynnwys mynd i'r afael â newid hinsawdd a hyrwyddo bioamrywiaeth hefyd. Dyna sut mae 'da' yn edrych, ond mae'n rhaid iddo hefyd fod yn rhywbeth rydyn ni wedi'i ddylunio gyda'n gilydd a bod pobl yn barod i fwrw ymlaen gyda'i gilydd hefyd.
Nid yw hynny'n golygu bod 'da' yn edrych fel petai pawb yn cytuno'n llwyr ar bob un mater. Nid yw hynny'n mynd i ddigwydd, gallaf eich sicrhau chi yn awr. Ond os ydym ni i gyd yn sefyll ar ddiwedd y broses hon ac yn dweud, 'Mae gennym gytundeb eang. Rydyn ni'n credu bod hyn yn mynd i fod nid yn unig yn dda, ond mae'n mynd i fod yn dda i Gymru'—. Oherwydd mae pobl eraill wedi dweud wrthyf i, 'Pam nad ydyn ni'n edrych ar gynlluniau eraill mewn mannau eraill?' Un o'r pethau y mae'r undebau ffermio ac eraill wedi'i ddweud yw, mewn gwirionedd, mai'r hyn sydd ei angen arnom yw rhywbeth sydd wedi'i deilwra i Gymru, y math o ffermio sydd gennym, y math o dirwedd sydd gennym, y math o amgylchedd sydd gennym. Dyna olwg fydd ar 'dda'.
Rydyn ni ymhell dros amser ar y datganiad hwn a'r amser y mae'r Llywodraeth wedi'i ddyrannu ar ei gyfer, felly os gallwn ni gael cwestiynau cryno, ac atebion cryno hefyd.
Rwy'n croesawu eich apwyntiad, Gweinidog. Rwy'n croesawu'n fawr y ffordd rydych chi wedi mynd ati ar unwaith. Mae'r cyhoeddiad a wnaethoch chi heddiw, rwy'n credu, yn dangos parodrwydd gwirioneddol i symud ymlaen, ond i wneud hynny drwy drafod â phobl y bydd yn effeithio arnynt. Rwy'n ofni mewn gwirionedd y byddwch chi'n treulio'r rhan fwyaf o'r blynyddoedd nesaf yn amddiffyn amaethyddiaeth Cymru rhag effaith Brexit. Rydym wedi gweld bod Llywodraeth y DU wedi bradychu ffermwyr Cymru gyda'u cytundebau masnach. Rydym hefyd yn gweld y ffordd y mae biwrocratiaeth a rhwystrau yn cael eu gosod i fasnach ar gyfer amaethyddiaeth Cymru. Felly, rwy'n gobeithio, yn y gwaith yr ydych yn bwrw ymlaen ag ef, Gweinidog, y byddwch yn sicrhau bod amddiffyn ffermwyr Cymru rhag effaith Brexit wrth wraidd hynny. Ond rwy'n gobeithio hefyd, Gweinidog, na fyddwch yn colli momentwm yn ystod y cyfnod nesaf, oherwydd eich bod wedi dangos parodrwydd i wrando, siarad, trafod, dadlau, i gael y sgwrs ledled Cymru gyfan am beth yw ein huchelgeisiau a'n gweledigaethau ar gyfer amaethyddiaeth. Ond mae angen momentwm arnom i gyflawni hynny. Mae angen i ni osod y targedau hynny, gosod yr amcanion hynny, ac yna symud ymlaen gyda'n gilydd i gyflawni hynny. Ac mae'r momentwm rydych chi wedi'i greu yn ystod yr wythnosau diwethaf yn mynd i fod yn hanfodol i fwrw ymlaen â'r polisi hwnnw yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Alun, diolch yn fawr iawn. Fe wnaf gymryd y ganmoliaeth honno, ac yn enwedig gan gyn-Weinidog amaethyddol ei hun, a'r amser y gwnes i wir fwynhau gweithio gyda chi pan oeddwn i'n Weinidog amgylchedd y DU ac fe eisteddon ni ar draws y bwrdd ym Mrwsel ac yn y blaen—weithiau rydyn ni mewn perygl o gofio’n ôl am y dyddiau hynny ychydig yn ormod. Gallaf glywed yr achwyn yn digwydd yn barod felly wnaf i ddim.
Mae eich pwynt ar lawer o fomentwm yn gwbl allweddol. Edrychwch, dim ond ers pedair wythnos, neu beth bynnag, yr ydw i wedi bod yn y swydd, rwy'n credu, ond dywedais i o'r cychwyn cyntaf y byddem ni'n gwrando, y byddem ni'n ymgysylltu, ac yna y byddem ni'n bwrw ati. Felly, peidiwch â gadael i unrhyw un fod o dan unrhyw gamsyniad bod hyn, fel y cyfeiriwyd ato weithiau heddiw ar gam, yn saib, oedi neu beth bynnag. Dydy e ddim. Mae'n rhan o'r broses wrth symud ymlaen, gyda ffermwyr, gyda'r sefydliadau bywyd gwyllt ac amgylcheddol, gyda chymdeithas ehangach Cymru, gyda grwpiau a sefydliadau gwledig sydd mor bryderus am gael hyn yn iawn. Nid oes unrhyw golli momentwm. Rydym wedi nodi amserlen y mae ei hangen er mwyn i ni symud ymlaen, ond mae cyfeiriad y teithio yn glir iawn, iawn, a byddwn ni'n bwrw ymlaen â hyn a byddwn ni'n ei wneud gyda'n gilydd, Alun. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad. A gaf i ddechrau drwy ddiolch i NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, Cymdeithas y Ffermwyr Tenant, cymdeithasau tir comin, y Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur, CLA Cymru, trefnwyr protest mart y Trallwng a'r brotest ym mart Caerfyrddin, a threfnwyr y brotest a ddigwyddodd ar risiau'r Senedd? Am dair blynedd, rwyf wedi bod yn bwrw ati gyda'ch rhagflaenydd, yn ceisio cael newidiadau i'r cynllun ffermio cynaliadwy, a dim ond pan ddeffrodd y sector a chydnabod bod y newidiadau mawr hyn yn dod, ac wedi gweld realiti'r hyn a ofynnwyd iddyn nhw gan y sioeau teithiol a oedd yn cael eu cynnal, y cymerodd Llywodraeth Cymru sylw o'r diwedd ac mae wedi cyflwyno oedi, sydd, yn fy marn i, yn gydnabyddiaeth bod Llywodraeth Cymru, hyd yn hyn, wedi bod yn methu'r nod pan fo'n dod i'r polisi cynllun ffermio cynaliadwy hwn.
Ond un peth yr wyf i eisiau cyffwrdd arno, yn gryno, o ran cynllun Cynefin Cymru yw cyflwyno hwnnw, yn llawn gwallau, fel y sonioch chi, lle nad oedd ffermwyr yn gallu uwchlwytho data cynefin eu fferm eu hunain i'r system, a oedd weithiau'n gorfod cael ei wneud gan Cyswllt Ffermio. Mae hynny'n fethiant yn elfen ddata polisi ffermio, y mae angen ei gywiro. Rwyf wedi ysgrifennu atoch o'r blaen am fapio tir hefyd, a'r apiau sydd ar gael ar hynny. A hefyd ynghylch gwyrddgalchu a choedwigo, am asiantaethau allanol yn prynu tir amaethyddol Cymru, i lwyr goedwigo ardal ar gyfer gwyrddgalchu, a gwrthbwyso eu cydwybod trwy beidio â newid eu model busnes ond plannu coed ar draws rhan fawr o dir amaethyddol. Rwy'n credu bod angen mynd i'r afael â hynny, oherwydd mae achosion penodol yn fy etholaeth i, o gwmpas Llanboidy, ac ardaloedd eraill hefyd. Sut y gellir mynd i'r afael â hynny drwy'r cynllun ffermio cynaliadwy?
Diolch yn fawr, Sam. Gwrandewch, byddwn i'n adleisio'r diolch i'r holl sefydliadau hynny a wnaeth gyflwyniadau i'r ymgynghoriad ond a gymerodd ran hefyd, gan gynnwys yn y cyfnod cyn y brotest. Ac rwyf wedi dweud o'r blaen, rwy'n credu, o ran Senedd Cymru, y dylai pobl sy'n protestio y tu allan gael eu croesawu. Mae'n rhan o'r ymgysylltiad gwleidyddol. Dylem ni mewn gwirionedd. Yna dylem ni wrando ar yr hyn sy'n cael ei ddweud. Nid ein bod yn cymryd popeth yn arwynebol, ond dylem wrando ac ymgysylltu. Mae hynny'n rhan o fod yn Senedd briodol, aeddfed.
O ran yr ymgynghoriad, a gaf i gofnodi fy niolch i Lesley Griffiths a'i swyddogion am yr holl waith maen nhw wedi'i wneud? Mae rhai ergydion trwm wedi eu hanelu atyn nhw, yn enwedig pan oedd y protestiadau'n digwydd ac yn y blaen, ond roedd dull dilys, ystyrlon o ymgysylltu. Roedd hefyd yn ymgynghoriad gwirioneddol. Rwy'n credu bod hynny'n cael ei adlewyrchu yn fy ngallu i ddod i mewn nawr, ar y pwynt amserol hwn, a dim ond myfyrio arno a meddwl, 'Iawn, wel, sut ydym ni'n bwrw ymlaen ag ef?' Roedd yn ymgynghoriad gwirioneddol. Ond mae'r pwyntiau rydych chi'n eu gwneud ar gynllun Cynefin Cymru a'r data a'r mapio wedi'u gwneud yn dda. Mae angen i ni gael hyn yn iawn wrth fwrw ymlaen, a bydd hynny o gymorth nid yn unig i'r cynllun ffermio cynaliadwy ei hun, ond mewn gwirionedd i reoli tir ehangach yng Nghymru wrth fwrw ymlaen am flynyddoedd lawer i ddod. Nid ydym wedi ei gael yn iawn. Mae cynllun Cynefin Cymru, yn rhyfedd, fel y soniais i yn gynharach—mae'r nifer sy'n manteisio arno wedi bod yn fwy na'r disgwyl, sy'n dda iawn. Ond yr hyn mae'n ei olygu nawr yw y gallwn ni ddefnyddio rhai o'r pethau sydd wedi eu cyflwyno i fynd yn ôl at ffermwyr a dweud, 'Iawn, beth sydd o'i le yma?', yn ogystal â'r mapio arall sydd gennym ni. Felly, mae yna waith i'w wneud ar hynny.
Ac yn olaf, eich pwynt ar wyrddgalchu—rydych chi mor iawn. Un o'r meysydd y mae gennym ddiddordeb ynddo, y tu hwnt i'r cynllun ffermio cynaliadwy, yw a allwn ni edrych ar gynllun go iawn gydag uniondeb, gyda gonestrwydd moesegol go iawn ynddo, a allai ysgogi arian sydd y tu hwnt i arian y trethdalwr i alluogi ffermwyr i wneud mwy, a gallai fod o fewn cynlluniau bioamrywiaeth, cynlluniau rheoli tirwedd, gallai fod ym maes plannu coed, ond nid ar dir cynhyrchiol, ie, ond, wrth gwrs, mae ffermwyr yn gwneud penderfyniadau masnachol hefyd, maen nhw. Ond mae'n rhaid i ni sicrhau bod yr hyn sy'n cael ei wneud yng Nghymru er budd y rheolwyr tir, tirfeddianwyr a'r cymunedau lleol hynny yng Nghymru. Dyna fe. Felly, mae angen i ni feddwl gyda'n gilydd am sut y gallwn ni gyflwyno rhywbeth sy'n gwneud hynny, oherwydd mae cwmpas. Rydym yn sôn am gynllun sy'n seiliedig ar, os mynnwch chi, arian cyhoeddus yn mynd i ddatblygu'r gefnogaeth a'r math o ffermio rydym am ei weld yn y dyfodol, a'r math o gynhyrchu bwyd a'r manteision ehangach. Y tu hwnt i hynny, mae'n ddigon posibl y bydd cwantwm o gyllid ar gael, pe byddem yn dylunio rhywbeth yn gywir, gallai hynny fod yn eithaf diddorol, a gallai fod mwy y gallem ni ei wneud. Efallai y bydd mwy y gallwn ni ei wneud mewn bioamrywiaeth a budd amgylcheddol ac ati, ac ati, ond cael hynny'n iawn, peidio â bod â gwyrddgalchu, peidio â'i werthu i gyrff allanol. Felly, mae yna ddarn o waith i'w wneud.
Diolch am y datganiad heddiw, Ysgrifennydd Cabinet. Yn ôl ar ddechrau mis Mawrth, fe wnes i annerch cyfarfod llawn o ffermwyr lleol ym Mhenderyn a oedd am rannu eu gobeithion a'u hofnau gyda mi ynghylch y cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig. Y neges gyffredinol ganddyn nhw oedd bod angen i Lywodraeth Cymru oedi a myfyrio er mwyn cael y cynllun newydd hwn yn iawn i ffermwyr ac yn iawn i Gymru. Rwyf eisoes wedi bod mewn cysylltiad â rhai ohonyn nhw y bore yma ac roedden nhw i gyd yn croesawu'r newyddion eich bod yn wir yn oedi ac yn myfyrio ar y cynllun hanfodol hwn.
Mae gen i ddau gwestiwn i chi heddiw. Yn gyntaf, sut ydych chi'n sicrhau bod eich bord gron gweinidogol yn cyfleu safbwyntiau o feysydd amrywiol ein cymunedau ffermio? Rwy'n meddwl, er enghraifft, am ffermwyr tir comin, ffermwyr tenant a ffermwyr nad ydynt mewn undeb hefyd. Ac, yn ail, nodaf eich cyfeiriad at ddatblygu cynigion ar gyfer camau dewisol a chydweithredol pellach. Nawr, byddai ffermwyr yr wyf i wedi siarad â nhw wir yn croesawu hyn. Ac fel rhan o'r gwaith hwn, Ysgrifennydd Cabinet, a fyddech chi'n ystyried rhai o'r dulliau a ddefnyddiwyd o dan gynlluniau blaenorol fel Tir Gofal a Glastir, y mae llawer o ffermwyr yn credu oedd yn gweithio'n dda iddyn nhw?
Diolch yn fawr, Vikki, a diolch am yr awgrymiadau hynny hefyd. Byddwn ni yn sicr yn ystyried, wrth fwrw ymlaen, sut y cawn y cydbwysedd hwnnw'n iawn gyda’r dewisol a’r cydweithredol, a lle gallwn ddysgu o gynlluniau blaenorol. A byddwn yn sicr yn sicrhau, yn aelodaeth y ford gron gweinidogol, wrth symud ymlaen, fod buddiannau'r rhai sy'n ffermwyr tenant ond hefyd y rhai sy'n ffermio tir comin—weithiau mae gorgyffwrdd gyda'r ddau hynny hefyd yn y fan yna, yn eich etholaeth eich hun, yn debyg i fy un i. Byddwn hefyd yn sicrhau bod cynrychiolaeth ar honno hefyd. Mae angen i ni sicrhau bod aelodaeth honno yn adlewyrchu'r gymuned ffermio a'i hamrywiaeth yn llawn, ond hefyd y grwpiau bywyd gwyllt ac amgylcheddol hynny hefyd, oherwydd rwy'n credu mai'r allwedd i ddal hyn at ei gilydd yw cael pawb yn yr un ystafell a dweud, 'Gadewch i ni weld ble rydym yn cytuno a gadewch i ni weld ble mae angen i ni wneud rhagor o waith', a dyna beth mae hyn i gyd amdano heddiw.
Yn olaf, Laura Anne Jones.
Diolch. Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Mae'n sicr yn galonogol, ac rwyf eisiau credu'r hyn rydych chi'n ei ddweud, ac rwy'n gobeithio'n fawr y gallaf pan ddaw mwy o fanylion i'r amlwg yn ystod y misoedd i ddod. Rydych chi wedi rhyddhau hyn heddiw ar Ddiwrnod Ffermwyr y Byd, felly rydw i eisiau ailadrodd pwysigrwydd y ffermwyr, a'i bod yn cymryd ymroddiad, angerdd a gwaith caled enfawr i fod yn ffermwr. Nid yn unig bod yn rhaid i chi fod yn feistr ar bob crefft, nid dim ond un, mae bod yn ffermwr yn rhywbeth sy'n cael ei danbrisio'n aml, oni bai eich bod chi'n ei weld yn uniongyrchol fel y gwnes i, yn tyfu i fyny a bod â thad yr oeddwn prin yn ei weld oni bai fy mod yn treulio amser ar y fferm fy hun.
Ond maent yn feistri; doeddwn i ddim yn gwerthfawrogi nes fy mod i'n hŷn yr amrywiaeth o sgiliau sydd ganddyn nhw, ac mae'r rheini'n cynnwys, wrth gwrs, cael y gorau o'r tir, gwarchod gwrychoedd, plannu coed. Nid yw'n ddim byd newydd. Mae gan ffermwyr y wybodaeth, yr arbenigedd, ac mae'n rhaid iddyn nhw bellach fod yn rhan annatod o gael y cynllun ffermio cynaliadwy yn iawn. Ac rwyf am ofyn am sicrwydd gennych chi heddiw, Gweinidog, y byddwch yn cynnwys ffermwyr ac y bydd rhywfaint o synnwyr cyffredin nawr, a realiti ynghlwm a phenderfyniadau sy'n cael eu gwneud, a phan ddaw i faterion trawsffiniol, y byddwch yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatrys y rheini, ac os edrychwn ni tuag at y nod tymor hirach, sy'n nod gwych o wella iechyd pridd, yna bydd y ffermwyr hynny'n cael cymhorthdal os byddan nhw'n colli arian o gael llai o gnydau neu rywbeth i wneud hynny, a all ddigwydd.
Felly, rwyf am ailadrodd pwysigrwydd cael y cynllun ffermio cynaliadwy hwn yn iawn ar gyfer y gymuned amaethyddol gyfan; yn economaidd, yn gymdeithasol, yn amgylcheddol mae mor bwysig. Diolch yn fawr, ac rwy'n croesawu eich datganiad heddiw. Mae gennym obeithion mawr ar eich cyfer, Gweinidog. Peidiwch â'n gadael ni i lawr. [Chwerthin.]
Iawn, dim pwysau. [Chwerthin.] Edrychwch, gallaf roi'r sicrwydd gwirioneddol hwnnw i chi mai dim ond heddiw y mae'r gwaith yn dechrau mewn rhai ffyrdd, oherwydd, nawr, dyma'r rhan weithredol o gyflawni cynllun ffermio cynaliadwy sydd nid yn unig yn gydlynol ac yn gynhwysfawr, ac sy'n gosod dull nawr ar gyfer cenhedlaeth, wrth fwrw ymlaen, ond sydd hefyd yn dod â phawb gyda ni. Mae gwaith i'w wneud o ran hynny.
Mae'n ddiddorol bod y Prif Weinidog bellach wedi ymuno â ni, ac rydych wedi cyffwrdd ar eich gwybodaeth a'ch cefndir o fewn ffermio. Mae'r Prif Weinidog ei hun hefyd wedi cyfeirio at ei gefndir hefyd. Mae gen i deulu ym maes ffermio ar ochr fy ngwraig hefyd, a mathau gwahanol iawn o ffermio, yn yr Eidal ac yng Nghymru, a chynhyrchu llaeth. Yn fy etholaeth i, yn debyg i Vikki—rydyn ni'n aml yn dweud, Vikki a minnau, rydyn ni'n efengylu am y ffaith pan edrychwch chi i fyny at y bryniau, mae tua phedair rhan o ddeg o'n hetholaethau yn ffermio mynydd yr ucheldir, llawer ohono'n dir comin, peth ohono yn denantiaid, ond ffermwyr aml-genhedlaeth hefyd. Yn dod oddi ar fferm Sealands y bore yma, yn gweld y gwaith maen nhw'n ei wneud, sydd bron yn edrych i'r dyfodol—maen nhw ar y blaen mewn sawl maes—rydych chi'n meddwl am yr holl waith da sy'n digwydd ac mae angen i ni wneud hynny, wedyn, yn gyffredin trwy'r ffordd rydyn ni'n dylunio'r cynllun hwn.
Yn olaf, ar eich sylw ar faterion trawsffiniol, rwyf wir eisiau—fyddech chi ddim yn synnu imi ddweud hyn fel cyn-seneddwr y DU. Rwyf eisiau sicrhau ein bod yn gweithio'n dda ar draws ffiniau ar ffermio, ond hefyd ar ystod o faterion yn ogystal. Ond rwyf am i hynny fod y ddwy ffordd, p'un a yw hynny'n ymwneud â chael ein mewnbwn ni gan Ysgrifenyddion Cabinet eraill ar gytundebau masnach a'r goblygiadau i'n ffermwyr, setliadau ariannol ynghylch y cwantwm o arian y byddwn yn ei gael yn mynd i ffermio a materion eraill hefyd, a hefyd sut y gallwn rannu arferion. Rwy'n credu bod pob un o'r rheini'n dadlau dros ddull da, pragmatig, aeddfed o weithio ar draws gwledydd mewn gwirionedd, gyda gwledydd datganoledig eraill yn ogystal â gyda Llywodraeth y DU. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Eitem 5 sydd nesaf, datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar ar wella iechyd meddwl yng Nghymru. Y Gweinidog, felly, Jayne Bryant.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn bod fy natganiad gweinidogol cyntaf yn ymwneud â gwella iechyd meddwl yng Nghymru wrth i ni nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Thema'r digwyddiad eleni yw 'Symud: symud mwy ar gyfer ein hiechyd meddwl'. Mae'r wythnos hon yn amlygu'r cysylltiad rhwng y manteision cadarnhaol y gall gweithgarwch corfforol ei gael ar ein hiechyd meddwl. Yn rhy aml, rydym ond yn siarad am yr effaith y gall ei chael ar ein hiechyd corfforol, ond gwyddom fod bod yn egnïol, symud, ym mha bynnag ffordd y gallwn, yn bwysig iawn i gefnogi ein hiechyd meddwl a'n llesiant.
Pan fyddwn yn siarad am weithgarwch corfforol, bydd llawer ohonom yn creu delweddau o godi pwysau mewn campfeydd, rhedeg marathonau neu chwaraeon tîm wedi'u trefnu. Ond er y gall fod yr holl bethau hynny, mae gweithgarwch corfforol hefyd yn ymwneud â gweithio gyda'ch corff eich hun i ymgorffori symudiad yn ein harferion beunyddiol. Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru yn argymell bod oedolion o oedran gweithio yn gwneud tua 150 munud o ymarfer corff cymedrol, neu 75 munud o ymarfer corff egnïol yr wythnos. Mae yna wahanol argymhellion ar gyfer grwpiau oedran eraill ac ar gyfer pobl anabl. Ond mae'r neges yn glir: beth bynnag y gallwch ei wneud, mae buddion yn cael eu cyflawni ar lefelau is neu uwch na'r canllawiau hynny. Mae gwneud rhywbeth bob dydd yn cael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd corfforol a meddyliol. Gallai fod yn ymwneud â defnyddio'r grisiau yn lle'r lifft, gwneud parkrun, mynd am dro yn eich cymuned leol neu wneud rhywfaint o ioga.
Mae ein strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' yn cydnabod y cysylltiad hwn rhwng symudiad corfforol a llesiant meddyliol ac yn ei gefnogi drwy ystod o ymyraethau. Mae ein cynllun hamdden egnïol 60 a mwy, gyda chefnogaeth £500,000 o gyllid Llywodraeth Cymru, yn helpu i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol, hyder, cryfder a chydbwysedd, yn ogystal â darparu cyfleoedd i gynyddu rhyngweithio a lleihau unigedd cymdeithasol, y gwyddom ei fod yn ffactor risg o ran gwaethygu iechyd meddwl a llesiant.
Rydym hefyd wedi buddsoddi er mwyn cefnogi Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac Ymddiriedolaeth Cynghrair Pêl-droed Lloegr i gyflwyno'r rhaglen Cefnogwyr Ffit i glybiau pêl-droed ledled Cymru. Gyda rhaglenni ar waith yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam, a phrosiectau yn Aberystwyth a'r Drenewydd ar y gweill, mae asesiadau cynnar yn dangos canlyniadau cadarnhaol. Nid dim ond cefnogi mwy o weithgarwch corfforol a cholli pwysau yw'r cynlluniau, ond hefyd gwelliannau mewn llesiant meddyliol. Edrychaf ymlaen at dderbyn y gwerthusiad llawnach maes o law.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ar ein strategaeth newydd ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, sy'n nodi ein gweledigaeth ar gyfer y 10 mlynedd nesaf. Nawr, rwyf am dalu teyrnged i'r gwaith enfawr y mae fy rhagflaenydd, Lynne Neagle, wedi'i wneud yn y portffolio hwn, yn enwedig wrth ddatblygu'r strategaethau iechyd meddwl ac atal hunanladdiad newydd a chyflwyno'r gwasanaeth '111 pwyso 2'. Mae'r strategaeth iechyd meddwl newydd yn canolbwyntio'n wirioneddol ar atal, i amddiffyn a gwella ein hiechyd meddwl a'n llesiant. Mae hyn yn cynnwys bod yn fwy egnïol yn gorfforol. Mae hefyd yn tynnu sylw at y cydgysylltiad rhwng yr ystod o bethau y gallwn eu gwneud i ddiogelu ein hiechyd meddwl. Er enghraifft, mae ymuno â grŵp cerdded lleol i fod yn fwy egnïol hefyd yn ein helpu i deimlo'n rhan o gymuned, i gysylltu â phobl ac ymgysylltu â natur. Mae cydgysylltiad o'r fath yn dangos bod yn rhaid i wella iechyd meddwl fod yn ddull trawslywodraethol i sicrhau bod gan bobl yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r cyfle i'w grymuso i weithredu. Rwyf wedi ymrwymo i barhau i ysgogi'r dull hwn ar draws Llywodraeth Cymru.
Blaenoriaeth arall i mi yw newid sut rydym yn siarad am ein hiechyd meddwl ac yn ei ddeall. Mae iechyd meddwl wedi dod yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio ystod eang o faterion ac amgylchiadau ac mae'n aml yn gysylltiedig â gwasanaethau'r GIG, ond nid oes angen cymorth iechyd meddwl arbenigol ar lawer o bobl, ac mae amrywiaeth o wasanaethau hawdd eu cyrchu lle gallwch gael cymorth ychwanegol, heb yr angen am atgyfeiriad gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Mae gan bob gwefan bwrdd iechyd ddolenni i adnoddau a all ddarparu cymorth a chefnogaeth.
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn gyfle da i ni fyfyrio ar yr hyn y gallwn ei wneud i newid y naratif ynghylch iechyd meddwl. Wrth gwrs, rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yn hygyrch i bawb sydd angen y cymorth hwn ac i leihau amseroedd aros. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol ein bod yn cymryd ymagwedd ataliol ac rydym yn gweithio ar draws gwasanaethau i gefnogi'r ystod eang o faterion a all effeithio ar ein hiechyd meddwl a'n llesiant. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth wella iechyd meddwl a llesiant. Mae symud mwy yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl hon ac annog eraill i wneud yr un peth yn lle da i ddechrau. Diolch.
Diolch yn fawr iawn am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog. Rwy'n eich croesawu i'ch swydd newydd. Rwy'n gobeithio eich bod yn mynd i'r afael â'r portffolio, oherwydd, yn sicr o safbwynt yr wrthblaid, mae wedi bod yn dipyn o her ymgymryd â rhai cyfrifoldebau newydd. Hoffwn ddiolch i fy rhagflaenydd hefyd, James Evans, am yr ymrwymiad a'r angerdd a rannodd ar y pwnc hwn a gobeithio o'm safbwynt i y gallaf wneud rhywfaint o gyfiawnder â'r pwnc. Diolch unwaith eto am eich datganiad y prynhawn yma.
Rydym yn siarad ar y mater hwn yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, felly mae'n bwysig, wrth fynd i'r afael â'r heriau mewn triniaeth iechyd meddwl yng Nghymru, ein bod hefyd yn cydnabod ein cyfrifoldeb i godi ymwybyddiaeth, dileu'r stigma cymdeithasol ynghylch iechyd meddwl gwael a chydnabod ei fod yn cyffwrdd â bywyd pawb, mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, gydag un o bob pedwar ohonom yn profi problem iechyd meddwl bob blwyddyn.
Mae heriau logistaidd yr hoffwn fynd i'r afael â nhw, ond hefyd meysydd y gall strategaethau iechyd meddwl fynd i'r afael â nhw'n well. O ran yr heriau logistaidd, mae amseroedd aros ar gyfer cymorth iechyd meddwl plant yn warthus. Dangosodd cais rhyddid gwybodaeth a gyflwynwyd gennym fod plant yng Nghymru yn aros bron i ddwy flynedd am driniaeth iechyd meddwl; mae aros am yr amser hwn yn golygu y bydd y problemau sydd gan y plant hyn yn dod yn fwy cymhleth a bydd yn anodd iawn mynd i'r afael â nhw os nad ymdrinnir â nhw mewn modd amserol. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, arhosodd rhywun am flwyddyn a deufis i gael ei weld am y tro cyntaf ac, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, fe arhosodd rhywun 59 wythnos am ei apwyntiad cyntaf. Ni ddylem fod yn swil ynghylch y ffaith y gall hyn fod y gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth weithiau, ac mae rhai o'r bobl ifanc hyn yn agored iawn i niwed. Mae Mind Cymru hefyd wedi disgrifio'r ffigurau hyn fel rhai pryderus iawn. Er, ar y cyfan, mae'r rhai ar lwybr cleifion sy'n aros mwy na phedair wythnos am eu hapwyntiaid gwasanaethau iechyd meddwl cyntaf i blant a phobl ifanc wedi bod yn lleihau, sy'n newyddion i'w groesawu, mae'r achosion gwarthus yn peri pryder. Ac nid yr allgleifion yn unig, mae apwyntiadau dilynol yn fater hanfodol sydd angen ei ddatrys.
Dylai fod rhywfaint o gydnabyddiaeth hefyd o rai grwpiau mewn cymdeithas sy'n fwy tueddol o wynebu heriau iechyd meddwl nag eraill, megis y rhai o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, yr henoed, yr ifanc, LHDTC+, niwroamrywiol a'r rhai sy'n byw mewn tlodi. Mae hunanladdiad yn effeithio'n anghymesur ar ddynion hefyd, gyda thri chwarter neu 75 y cant o'r holl hunanladdiadau yn rhai dynion.
Codwyd anawsterau iechyd meddwl llawer o ffermwyr ac aelodau o gymunedau gwledig gan fy nghyd-Aelod James Evans ac Aelodau eraill yn y Senedd o’r blaen hefyd. Felly, nid oes strategaeth un ateb sy'n addas i bawb. Rhaid i ofal gael ei deilwra weithiau i anghenion demograffeg penodol, ac mae hyn yn rhywbeth nad yw'r strategaeth iechyd meddwl yn ei wneud ar hyn o bryd.
Gwasanaethau iechyd meddwl plant sydd angen y sylw mwyaf, nid yn unig gyda'r amseroedd aros gwarthus a nodais, ond hefyd strategaeth Llywodraeth Cymru. Bu methiant i fynd i'r afael â'r canol coll bondigrybwyll, gyda nifer enfawr o blant yn y categori hwn nad ydynt yn bodloni'r trothwy ar gyfer diagnosis meddygol neu atgyfeiriad CAMHS, ond y mae rhagnodi cymdeithasol neu therapi cymunedol yn feddyginiaeth fwy priodol ar eu cyfer. Mae llawer o arbenigwyr iechyd meddwl hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith, pan ddarperir y driniaeth briodol ar gyfer plant yn y canol coll, y bydd yn aml yn atal y plant hyn rhag datblygu problemau mwy cymhleth a dod yn achos CAMHS. Hefyd, mae llawer o arbenigwyr yn tynnu sylw at sut y bydd triniaeth iechyd meddwl plant yn dod i ben yn 18 oed, gydag adnoddau'n cael eu tynnu'n ôl yn sydyn heb ystyried y ffaith eu bod yn dal i fod yn bersonau ifanc agored i niwed gydag ymennydd sy'n datblygu, ac angen cefnogaeth barhaus.
Mae methiannau dybryd hefyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a ymddiheurodd ar ôl i glaf ddianc o uned ddiogel ac a aeth ymlaen i ymosod yn angheuol ar ei dad yng nghartref y teulu—esgeulustod gyda chanlyniadau dinistriol. Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi canfod yn gyson a dweud bod cynlluniau gofal a thriniaeth o ansawdd gwael, nad ydynt yn cael eu cydgynhyrchu, ac nad ydynt yn cael eu cwblhau yn unol â deddfwriaeth sylfaenol.
Nid yw'r strategaeth iechyd meddwl newydd arfaethedig yn gwneud digon i nodi na manylu ar ba gamau y mae angen eu cymryd, ac mae angen i ni weld rhai syniadau newydd gan Lywodraeth Cymru. Rydyn ni'n clywed heddiw beth maen nhw'n mynd i'w wneud i wella amseroedd aros ar gyfer triniaeth iechyd meddwl plant, ond mae angen i ni glywed sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â'r canol coll—y nifer fawr o blant sydd, yn anffodus, wedi llithro drwy'r rhwyd.
Hoffem weld adolygiad annibynnol i holl farwolaethau trasig cleifion iechyd meddwl, a gweld y Gweinidog yn mynd i'r afael ag argymhellion adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Yng ngoleuni'r heriau presennol y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu gyda'r holl faterion hyn, credaf y byddai'n briodol clywed rhywfaint o edifeirwch ynghylch y toriad o 8.8 y cant i gyllideb iechyd meddwl Llywodraeth Cymru, a oedd yn benderfyniad ofnadwy ar yr adeg waethaf posibl. Edrychaf ymlaen at glywed eich ymateb. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Gareth. Diolch yn fawr iawn am eich geiriau caredig ar y dechrau, ac rwy'n eich croesawu i'ch swydd hefyd. Felly, mae'r ddau ohonom wedi dod i'r portffolio hwn, ac rwy'n siŵr y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd ar lawer o faterion yr wyf yn siŵr y gallwn eu cefnogi. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chi ar hyn, felly croeso i hyn. Rwy'n deall bod gennych lawer i fynd i'r afael ag ef, yn union fel fi, ar hyn, felly diolch am eich geiriau caredig. Hoffwn innau hefyd dalu teyrnged i'ch rhagflaenydd, James Evans, y gwn ei fod yn ymgyrchu'n gryf ar y mater hwn ac wedi gweithio'n galed iawn ar y portffolio hwnnw hefyd, ac rwy'n siŵr y byddwch yn gwneud cyfiawnder â hwnnw hefyd. Felly, diolch am sôn am James, gan ei fod yn rhoi cyfle i mi ddweud hynny.
Rydych chi wedi rhoi llawer o bwyntiau i mi eu hateb yn y cwestiwn cyntaf yna, ac rwy'n siŵr y down at y rheini. Y pwynt cyntaf a wnaethoch chi oedd ynghylch pobl ifanc. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni—. Ac unwaith eto, rwy'n sôn am Lynne Neagle a'r holl waith y mae hi wedi'i wneud yn y maes hwn yn y gorffennol ac rwy'n gwybod y bydd hi'n parhau i'w wneud yn ei rôl fel Ysgrifennydd Cabinet. Ond hoffwn ailadrodd bod diogelu iechyd meddwl pobl ifanc yn flaenoriaeth lwyr i ni fel Llywodraeth. Rhaid i ni beidio â cholli golwg ar hynny.
Yn sicr, fe wnaethoch chi grybwyll ychydig o bwyntiau ar amseroedd aros iechyd meddwl. Bydd y rhan fwyaf o bobl ifanc sy'n cael eu cyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl yn cael eu gweld o fewn pedair wythnos, ac mae gan bob bwrdd iechyd gynlluniau ar waith i leihau amseroedd aros. Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn amrywiaeth o gymorth i leihau'r angen am wasanaethau mwy arbenigol, fel mynediad ar-lein at iechyd meddwl a chymorth mewn ysgolion. Mae llawer i'w wneud, a gallaf eich sicrhau y byddaf yn cadw fy llygad ar hynny hefyd, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi ar hynny, fel gydag eraill.
Roeddech hefyd yn sôn am rai pwyntiau ynghylch y strategaeth ddrafft. Mae'n rhoi cyfle i mi sôn am y strategaeth ddrafft sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd. Daw'r ymgynghoriad i ben ar 11 Mehefin. Rwy'n gobeithio y gallwch annog cymaint o bobl â phosibl i gyfrannu at y strategaeth honno, oherwydd mae'n bwysig ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i symud ymlaen yn y maes hwnnw. Felly, unwaith eto, i'ch atgoffa mai 11 Mehefin yw dyddiad cau'r ymgynghoriad hwnnw, sef ar ein strategaeth iechyd meddwl a llesiant ddrafft. Mae yna hefyd strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio ddrafft newydd, sydd hefyd yn destun ymgynghoriad ar yr un pryd. Ein nod polisi o ymyrryd ac atal cynnar mewn gwirionedd yw helpu drwy ymyriad rhagofalus er mwyn atal y rhai sydd ag angen sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl rhag gorfod cael achos arbenigol, gan wella, ar yr un pryd, fynediad at ofal arbenigol pan fo angen hynny'n glinigol. Rydym wedi cynnwys pwyslais ar anghenion penodol y rhai sydd â salwch iechyd meddwl difrifol a pharhaus o fewn y strategaeth iechyd meddwl a llesiant ddrafft hefyd. Ond mae hwn yn faes pwysig iawn y mae'n rhaid i ni ei gael yn iawn.
Roeddech chi hefyd yn sôn am grwpiau penodol, ac roeddwn i eisiau dweud ychydig am ffermio, y gwnaethoch chi ei grybwyll. Rydym newydd glywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet hefyd. Un o'r digwyddiadau y bûm yn ffodus i fynd iddo fy hun ychydig wythnosau yn ôl oedd digwyddiad a gynhaliwyd yma yn y Senedd, ac yno cafwyd cyflwyniad diddorol iawn gan grŵp ym Mhowys, Mamwlad, ac roedd yn dda iawn clywed am y gwaith maen nhw wedi bod yn ei wneud, gan geisio gweithio gyda ffermwyr a'r gymuned ffermio yn yr ardal honno. Mae'n brosiect ar y cyd rhwng Gofal a Thrwsio ym Mhowys ac Age Cymru Powys, a byddwn yn eich annog i edrych ar hynny hefyd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn dewis yr ardaloedd hynny lle mae rhywfaint o waith da iawn, ac rwy'n siŵr y byddaf yn dysgu mwy am y manteision cadarnhaol hynny. Rwyf hefyd wedi siarad â ffermwyr yn fy nghymuned fy hun, yn fy rhinwedd personol fel Aelod o'r Senedd, mewn ardal lle nad ydych chi—mae'n ardal drefol—yn aml yn meddwl am ffermwyr yn arbennig, a allent fod yn teimlo'n ynysig. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn cofio'r grwpiau hynny, ac mae'n bwysig ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i godi ymwybyddiaeth o fewn y diwydiant ffermio o bwysigrwydd gofalu am iechyd meddwl a chorfforol.
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma. Hoffwn i gychwyn drwy ei llongyfarch hi ar ei phenodiad i'r rôl yma, a dwi'n edrych ymlaen i gydweithio efo hi ar fater sydd mor bwysig.
Cyn mynd ar ôl meysydd neu faterion polisi penodol, mae'n werth tynnu sylw at un mater a ddylai fod yn sail i bob un arall wrth ymdrin â materion iechyd meddwl ehangach: mae angen i bob strategaeth a menter polisi newydd gael eu hategu gan set ddata iechyd meddwl gadarn. Mae Mind Cymru wedi argymell datblygu set effeithiol a thryloyw o ddangosyddion cenedlaethol, yn allbwn a chanlyniad, ar iechyd meddwl, i arwain buddsoddiad a blaenoriaethu. Mae hyn hefyd yn wir wrth sicrhau mwy o dryloywder ynghylch sut mae'r buddsoddiad a wneir gan Lywodraeth Cymru, neu fyrddau iechyd a sefydliadau sector cyhoeddus eraill, yn cael yr effaith fwyaf posibl. Felly, a all y Gweinidog egluro pa gamau y bydd hi'n eu cymryd i sicrhau gwell setiau data a chasglu data?
Bob tro rydym wedi cael datganiad neu ddadl yn y Siambr hon ar iechyd meddwl, rwyf wedi gwneud pwynt o annog y Llywodraeth i ganolbwyntio ar iechyd meddwl amenedigol. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith bod y Gweinidog yn Weinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar, a sut mae'r Prif Weinidog yn rhoi pwyslais mawr ar bwysigrwydd 1,000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn yn ystod ei ymgyrch arweinyddiaeth. Ond dyma lle mae'r rhethreg honno yn cael ei phrofi erbyn hyn. Mae'r 1,000 diwrnod cyntaf hwnnw o fywyd babi yn dechrau gyda bod â mam iach ac, yn anffodus, yn llawer rhy aml, mae mamau newydd yn cael eu gadael i ofalu amdanyn nhw eu hunain a dioddef yn dawel. Mae rhieni newydd a darpar rieni mewn perygl anghymesur o brofi iechyd meddwl gwael, ac yr effeithir ar hyd at un o bob pum mam yn y DU, ac mae un o bob 10 tad hefyd yn profi problemau iechyd meddwl yn ystod y cyfnod amenedigol. Os na chânt eu trin, gall problemau iechyd meddwl amenedigol gael effaith ddinistriol ar iechyd meddwl a chorfforol mamau, partneriaid a babanod. Er y bu cynnydd cadarnhaol o ran sefydlu gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol yng Nghymru, mae bylchau pryderus yn parhau, ac nid oes yr un o'r saith gwasanaeth iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru ar hyn o bryd yn cwrdd â'r 100 y cant o safonau cenedlaethol Canolfan Coleg ar gyfer Gwella Ansawdd math 1. Mae'r adroddiad MBRRACE-UK diweddaraf ar yr ymchwiliad cyfrinachol i farwolaethau mamau yn y DU ac Iwerddon wedi dangos bod 40 y cant o farwolaethau mamau yn y flwyddyn ôl-enedigol gyntaf oherwydd salwch meddwl, a bod hunanladdiad yn parhau i fod yn brif achos marwolaeth uniongyrchol mamau yn y flwyddyn ôl-enedigol gyntaf. Felly, sut y bydd strategaeth iechyd meddwl newydd i Gymru yn ymdrin yn benodol â mater iechyd meddwl amenedigol?
Wrth edrych nesaf ar gymunedau gwledig, y gwnaethoch chi gyffwrdd â nhw'n gynharach, efallai y byddaf hefyd yn awgrymu'r angen am ddull penodol wedi'i deilwra o fynd i'r afael ag iechyd meddwl gwael yn ein cymunedau gwledig. Canfu arolwg yn 2023 gan y Sefydliad Diogelwch Fferm fod 94 y cant o ffermwyr dan 40 yn credu mai problemau iechyd meddwl difrifol yw'r prif heriau sy'n wynebu'r sector. Yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru, gwaith papur ac iechyd anifeiliaid oedd prif achosion straen i ffermwyr. Felly, a fydd strategaeth iechyd meddwl newydd yn ceisio ymdrin ag achosion a chanlyniadau iechyd meddwl gwael mewn ardaloedd gwledig, a sut y bydd y Gweinidog yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, ac aelodau eraill o'r Cabinet yn wir, i gyflawni hyn?
Cyfeiriodd y Gweinidog at y cynllun hamdden egnïol 60 a mwy, a pha mor falch yw'r Llywodraeth o'r cynllun. A all hi gadarnhau nad yw'r gyllideb ar gyfer y cynllun hwn wedi newid dros y flwyddyn ddiwethaf, ac y bydd y gyllideb honno'n cael ei chynnal wrth symud ymlaen?
Yn olaf, er mwyn crybwyll y rhan fwyaf o'r datganiad a wnaed heddiw, nodaf fod y datganiad yn rhoi cyfrifoldeb mawr ar unigolion i ofalu am eu hiechyd trwy wneud ymarfer corff. Daw hyn yn dilyn datganiadau rheolaidd yr Ysgrifennydd Cabinet yn galw ar bobl i gymryd cyfrifoldeb personol. Fodd bynnag, gwyddom fod iechyd meddwl pobl yn gysylltiedig â phrofiadau eu plentyndod a'u hamgylchiadau economaidd, fel tlodi ac amddifadedd, felly onid yw'r Gweinidog yn cytuno y dylai'r Llywodraeth hon wneud mwy i fynd i'r afael â thlodi, trais domestig a ffactorau allweddol eraill a fyddai'n helpu yn ein huchelgais i wella iechyd meddwl pobl, yn hytrach na rhoi'r bai ar unigolion? Diolch.
Diolch, Mabon, yn fawr iawn hefyd. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chi yn y briff hwn, felly diolch am eich croeso hefyd. Diolch yn fawr.
O ran eich pwyntiau ynghylch data a'r rhaglen iechyd meddwl, rydym wedi darparu £2.2 miliwn i sefydlu rhaglen iechyd meddwl strategol o fewn Gweithrediaeth GIG Cymru, a fydd yn sbarduno gwelliannau o ran ansawdd, diogelwch a pherfformiad gwasanaethau, a lleihau amrywiaeth mewn gwasanaethau. O fewn y strategaeth, rydym yn glir, er mwyn darparu gwasanaethau effeithiol ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, mae angen i ni ysgogi gwelliannau o fewn ein cynllunio gofal a thriniaeth, a bydd hwn yn ganolbwynt allweddol i'r rhaglen strategol ar gyfer iechyd meddwl.
Sonioch chi am y 1,000 diwrnod cyntaf a phwysigrwydd hynny, a diolch am godi hynny a hefyd y mater pwysig o ran iechyd meddwl amenedigol. Rwy'n gwybod bod gennych ddiddordeb brwd yn hynny, ac rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn cydnabod y gwaith sydd wedi mynd rhagddo ar iechyd meddwl amenedigol arbenigol a'r cynnydd a wnaed ar hynny. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wella gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol. Mae hwn yn faes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu o fewn y cynllun cyflawni 'Gyda'n Gilydd dros Iechyd Meddwl'. Ers 2015, rydym wedi buddsoddi mewn iechyd meddwl amenedigol arbenigol. Erbyn hyn mae gwasanaethau ym mhob ardal bwrdd iechyd ac mae dros £3 miliwn o gyllid gwella gwasanaethau iechyd meddwl yn cefnogi'r gwasanaethau hyn yn flynyddol. Mae byrddau iechyd hefyd yn gweithio tuag at fodloni safonau ansawdd perthnasol Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, ac rydym wedi sicrhau bod cyllid gwella gwasanaethau ar gael er mwyn cefnogi hynny. Mae'r arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer iechyd meddwl amenedigol yw arwain rhaglen waith y rhwydwaith cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys datblygu llwybr gofal cwbl integredig a chefnogi byrddau iechyd i weithio tuag at fodloni safonau ansawdd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Felly, mae gwaith yn digwydd yn y maes hwnnw a byddwn yn parhau i wneud hynny.
Ar y pwynt a wnaethoch ynghylch y cynllun hamdden egnïol 60 a mwy, mae hyrwyddo gweithgarwch corfforol ymhlith pobl hŷn yn cael ei hwyluso drwy'r cynllun hwnnw. Mae ein cynllun cyflawni 'Pwysau Iach: Cymru Iach' yn ymrwymo i'r cynllun drwy fuddsoddiad o £500,000 y flwyddyn, ac rydym hefyd yn darparu'r cyllid rhaglen drawsnewid hwnnw o dros £500,000 ar draws 2022-23, 2023-24 i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ar gyfer y rhaglen Cefnogwyr Ffit, yr wyf eisoes wedi'i chrybwyll. Felly, mae llawer o waith yn digwydd yn y maes hwn, ond byddwn yn parhau i wneud hynny.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad ac rwy'n falch iawn o'ch croesawu i'ch rôl. Hoffwn ddechrau gyda presgripsiynu cymdeithasol, sydd, yn fy marn i, â rôl bwysig iawn i'w chwarae wrth wella iechyd meddwl, ac un sy'n cyd-fynd yn arbennig â thema eleni 'movement in mind'. Rwyf wedi gweld manteision hyn dro ar ôl tro drwy waith ardderchog Anturiaethau Organig Cwm Cynon yn Abercynon, a gwn y byddai Jan a'i thîm yn falch iawn o'ch croesawu, Gweinidog, pe byddech chi fyth eisiau ymweld. Felly, ar gyfer fy nghwestiwn cyntaf hoffwn ofyn: yng nghyd-destun y fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio nid yn unig i gynyddu cyfleoedd ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol, ond hefyd ymwybyddiaeth o fanteision presgripsiynu cymdeithasol?
Yn ail, cefais y fraint o ymuno ag Iechyd Meddwl New Horizons yn Aberdâr y bore yma ar gyfer eu digwyddiad i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Roedd yn ddathliad o bwysigrwydd iechyd meddwl cadarnhaol, ond hefyd yn gydnabyddiaeth o'r rôl bwysig y mae elusennau a sefydliadau eraill ar lawr gwlad yn ei chwarae wrth gefnogi pobl yn y gymuned. Felly, sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi ac ymgysylltu â grwpiau lleol fel y rheini orau, fel y gallan nhw helpu'r bobl sy'n byw o'u cwmpas yn eu tro? Diolch.
Diolch am y cwestiwn yna, Vikki, ac rwy'n gwerthfawrogi eich sylwadau caredig ar y dechrau. Diolch yn fawr. Rydych chi'n hollol iawn: mae presgripsiynu cymdeithasol yn bwysig iawn. Mae wedi'i blethu i wead yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran grymuso pobl a chymunedau. Mae'n allweddol mewn gwirionedd. Rwy'n hapus iawn i ymweld ag unrhyw le y credwch a fyddai'n ddefnyddiol iawn i mi ddysgu ohono a'i weld, felly edrychaf ymlaen at wneud hynny gyda chi.
Rydym yn glir o fewn y strategaeth hon ar y rôl gwbl hanfodol y bydd y trydydd sector yn ei chwarae wrth ei weithredu. Rydym wedi datblygu'r strategaeth gyda'r ddealltwriaeth y bydd angen bod yn ymwybodol o osod blaenoriaethau, sicrhau'r defnydd gorau o adnoddau presennol a chyfle i fod yn glir am yr hyn y gallwn ei gyflawni'n realistig. A dim ond trwy weithio gyda'n gilydd y gallwn wneud hynny, a chydweithio â'r trydydd sector. Felly, maen nhw'n bartner pwysig ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n eu hannog i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad sy'n digwydd, sy'n dod i ben ar 11 Mehefin, oherwydd mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cael cymaint o leisiau â phosib drwy'r ymgynghoriad hwnnw. Diolch yn fawr.
Gweinidog, hoffwn hefyd eich croesawu i'ch lle ac, allan o'r holl benodiadau gweinidogol, hwn oedd yr un yr oeddwn yn edrych ymlaen ato mewn gwirionedd gyda'r holl waith a wnaethoch chi a minnau gyda'n gilydd ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Rwy'n gwybod am eich ymrwymiad i wella iechyd meddwl pobl ifanc ledled Cymru. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda chi ar ddatblygu fy Mil safonau gofal iechyd meddwl (Cymru), ac rwy'n edrych ymlaen at ymgysylltu'n gadarnhaol a rhagweithiol â Llywodraeth Cymru arno, ac edrychaf ymlaen at ddilyn y gwaith hwnnw gyda chi.
Mae fy nghwestiwn i, Gweinidog, yn ymwneud â rhestrau aros. Rydym yn gweld nifer y bobl sy'n aros am apwyntiad cyntaf ar gyfer y gwasanaeth iechyd meddwl plant a'r glasoed yn cynyddu—rwy'n credu mai Cwm Taf Morgannwg yw'r bwrdd iechyd gwaethaf ledled Cymru—ond mae'n peri i rywun ofyn: pa mor hir mae pobl ifanc yng Nghymru yn aros am eu hapwyntiad dilynol? Ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth nad yw Llywodraeth Cymru yn ei ddal yn nhermau data ar hyn o bryd, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylai Llywodraeth Cymru edrych arno, oherwydd gallwn sicrhau eu hapwyntiad cyntaf, ond os nad ydyn nhw'n cael yr apwyntiad dilynol, byddant mewn gwirionedd yn dal yn yr un sefyllfa ag yr oedden nhw ynddi pan ddaethant i mewn i'r system. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed eich barn ar hynny ac a yw hynny'n rhywbeth y byddech chi'n awyddus i edrych arno fel y Gweinidog iechyd meddwl newydd.
Diolch yn fawr, James, ac rwy'n gwybod mai maes yw hwn, fel y dywedais i, y mae gennych ddiddordeb mawr ynddo ac rydych wedi gweithio arno dros y blynyddoedd diwethaf, yn arbennig. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi ar y gwaith rydych yn ei wneud ar y Bil. Edrychwn ymlaen at weld mwy o fanylion am y cynigion, a gwn eich bod wedi fy ngwahodd i ford gron. Felly, rwy'n edrych ymlaen at ddod i'r ford gron honno maes o law.
Yn sicr, rwyf wedi clywed eich sylwadau yn flaenorol ar CAMHS a'ch pryderon ynghylch yr ail apwyntiad hwnnw, yr apwyntiad dilynol. Rydym yn darparu £13.6 miliwn eleni i gefnogi ysgolion i weithredu'r dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant. Bydd hyn yn galluogi ysgolion i ehangu a gwella cwnsela ysgolion, darparu ymyraethau llesiant cyffredinol a phenodol, a hyfforddi staff ysgolion ar lesiant. Bydd hefyd yn galluogi cymorth parhaus i fyrddau iechyd, i ddarparu addysg CAMHS ar draws Cymru, gydag ymarferwyr iechyd meddwl penodol ar gael mewn ysgolion, gan ddarparu ymgynghoriadau, cyswllt, cyngor a hyfforddiant. Felly, wyddoch chi, mae yna bethau rydyn ni'n edrych arnyn nhw, ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda chi ar hyn.
Gaf i ofyn, os gwelwch yn dda, Weinidog, pa effaith ydych chi'n gweld mae'r toriadau wedi'u cael ar yr hyn rydych chi'n gallu ei gynnig? Rydych chi'n sôn am bwysigrwydd y trydydd sector, ond mae o ar ei liniau, a nifer o'r gwasanaethau yma'n methu â chael eu cynnal, er yn chwarae rôl hanfodol o ran gwella iechyd meddwl. Dwi wedi cael briff gan Chwaraeon ColegauCymru ynglŷn â'r arian hollbwysig mae'r sector yn ei gael ar y funud, ond fel y byddwch chi'n gwybod, mae'r cynnydd yn y nifer o bobl ifanc sydd angen cefnogaeth wedi bod yn aruthrol, ac mae yna ansicrwydd o ran parhad yr arian hwnnw.
Hefyd o ran y cynllun 60-plws, dwi'n meddwl ichi ddweud yn eich ymateb i Mabon ap Gwynfor mai £0.5 miliwn sydd ar gael—toriad o'r £1 miliwn oedd ar gael yn flaenorol. Dwi'n gwybod, yn fy rhanbarth i, fod rhai o'r gweithgareddau hynny wedi gorfod dod i ben. Felly, beth fyddwn i'n hoffi ei wybod ydy—. Rhai o'r pethau rydych chi'n eu henwi, dwi'n gwybod yn barod fod y rhain wedi'u torri, felly sut ydym ni am gynnal y lefel o gefnogaeth a chynyddu?
Ac yn arbennig, os caf i, os gwelwch yn dda, Dirprwy Lywydd, jest gofyn pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r Senedd Ieuenctid a'r hyn gwnaethon nhw yn eu hadroddiad 'Meddyliau Iau o Bwys'. Dwy flynedd yn ddiweddarach, does dim ymateb ffurfiol wedi bod; mae'n hollbwysig bod hwnna'n dod. Pryd y cân nhw eu hymateb?
Diolch yn fawr, Heledd, a diolch yn fawr iawn am eich cwestiynau. Yn amlwg, rydym mewn cyfnod ariannol anodd iawn, ac mae'r cyfyngiadau cyllidebol difrifol y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu yn real iawn, a gwn fod y pwysau hwnnw'n cael ei roi wedyn ar sefydliadau eraill, ac fe wnaethoch chi sôn am bwysigrwydd y trydydd sector, fel yr wyf wedi sôn. Wyddoch chi, rydyn ni wedi gweld y straen ar y sector penodol hwnnw. Rydym yn ymwybodol o hynny ac rwy'n sylweddoli bod honno'n broblem wirioneddol.
Oherwydd y pwysau cyllidebol, rydym wedi lleihau cyllid a ddelir yn ganolog o tua £6 miliwn, ynghyd â pheidio â chadw'r £15 miliwn arfaethedig sydd i'w gynnwys mewn cronfeydd canolog ar gyfer iechyd meddwl, er mwyn sicrhau bod y rhan fwyaf o gyllid yn cyrraedd y gwasanaethau rheng flaen hynny. Er bod y sefyllfa ariannol yn parhau i fod yn heriol, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed. Rydym wedi buddsoddi'n sylweddol mewn cymorth mynediad agored ar lefel genedlaethol. Mae hyn yn rhoi mynediad hawdd i gymorth iechyd meddwl i bawb, heb fod angen atgyfeiriad gan weithiwr iechyd proffesiynol. Y nod yw lleihau'r pwysau ar wasanaethau iechyd meddwl mwy arbenigol.
A'ch pwynt ynghylch cyllid Chwaraeon Cymru a'r mater ynghylch hynny, byddaf yn gweithio gyda Gweinidogion ac Ysgrifenyddion eraill yn y Cabinet ar faterion o'r fath, oherwydd mae'n bwysig ei fod ar draws y Llywodraeth hefyd. Felly, gallaf eich sicrhau y byddaf yn gweithio gyda Gweinidogion ac Ysgrifenyddion eraill yn y Cabinet ar rai o'r pwyntiau hynny rydych chi wedi'u codi.
Y pwynt ynghylch Senedd Ieuenctid Cymru, yn fy rôl flaenorol, roeddwn yn bresennol yn y ddwy sesiwn yma yn y Siambr, gyda'r Senedd Ieuenctid, a chlywais y lleisiau'n uchel iawn, ac maent wedi bod yn gyson dros nifer o flynyddoedd ar y materion y maent wedi'u codi. Rwy'n newydd i'r swydd hon o ran lle rydyn ni gyda hynny, felly byddaf yn edrych i mewn i hynny ac yn ymateb hefyd.
Ac yn olaf, Laura Anne Jones.
Diolch. Gweinidog, rwyf innau hefyd eisiau eich croesawu i'ch portffolio, a byddaf yn gwylio gyda diddordeb yr hyn a wnewch ag ef, gan ystyried yr wybodaeth sydd gennych chi. Fel cyn-gadeirydd gwych y pwyllgor plant a phobl ifanc, byddwch yn gwybod ein bod wedi cael gwybod bod arian, mae'n debyg, i fynd i'r afael ag iechyd meddwl mewn ysgolion, ond nid yw ysgolion yr wyf wedi ymweld â nhw ledled Cymru wedi gweld yr arian hwn. Nid yn unig hynny, ni fu dull cenedlaethol o helpu ein plant a'n pobl ifanc, tra bu cynnydd enfawr mewn problemau iechyd. Dim strategaeth genedlaethol, dim arweiniad, mae gan bob ysgol ddull gwahanol—rhai yn dda, rhai yn bryderus o wael. Mae un ysgol yn fy rhanbarth fy hun, yn y ddinas y mae'r ddau ohonom yn ei chynrychioli, wedi gofyn am gymorth mudiad trydydd parti, Mind Cymru, i fod yno am un diwrnod yr wythnos yn wreiddiol. Ond oherwydd y galw mawr yn yr ysgol honno—a byddai llawer o ysgolion ar dân i gael hyn—maen nhw wedi cynyddu'r ddarpariaeth honno i bum diwrnod yr wythnos.
Gweinidog, pryd y byddwn yn gweld rhywfaint o help, rhywfaint o arweiniad a dull cyson ar draws Cymru o fynd i'r afael â heriau iechyd meddwl yn ein hysgolion, a beth yw eich barn ar ddefnyddio sefydliadau trydydd parti? A wnewch chi gymryd camau pendant i rannu'r arfer gorau sy'n digwydd ledled Cymru, a sut y byddwch chi'n gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i gyflawni hyn? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Laura. Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr eich geiriau cynnes o groeso, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi mewn maes yr wyf yn gwybod eich bod yn teimlo'n angerddol iawn amdano. Fel y dywedais i, mae diogelu iechyd meddwl pobl ifanc yn flaenoriaeth i ni, mae'n parhau i fod yn flaenoriaeth i ni. Rydym yn darparu £13.6 miliwn eleni i gefnogi ysgolion i weithredu'r dull ysgol gyfan hwnnw. Bydd hyn yn galluogi ysgolion i ehangu a gwella'r gwasanaethau hynny megis cwnsela mewn ysgolion, i ddarparu ymyraethau llesiant cyffredinol ac wedi'i dargedu, ac i hyfforddi staff. Felly, mae gwaith yn mynd rhagddo. Fe ddywedoch chi fod yna rai enghreifftiau da iawn hefyd, ac edrychaf ymlaen at ddysgu am rai o'r enghreifftiau hynny a'u gweld yn ymarferol. Byddaf hefyd yn gweithio'n agos iawn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Rwy'n gwybod eich bod yn ymwybodol o'i hymrwymiad yn y maes hwn hefyd. Felly, gallaf eich sicrhau ein bod ni eisoes wedi edrych ar sut y gallwn weithio'n agos gyda'n gilydd, a byddwn yn parhau i wneud hynny.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 6 yw datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: ein gweledigaeth ar gyfer gofal maeth yng Nghymru. Galwaf ar y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a phrynhawn da. Rwy'n croesawu'n fawr y cyfle i wneud fy natganiad cyntaf fel Gweinidog Gofal Cymdeithasol am ein gweledigaeth ar gyfer gofal maeth yng Nghymru. Wrth i ni ddechrau Pythefnos Gofal Maeth, mae hwn yn gyfle gwirioneddol i ddathlu'r cynnydd rydym yn ei wneud i wella gwasanaethau maethu ac i dynnu sylw at y gwaith pwysig y mae gofalwyr maeth yn ei wneud i roi cartref cariadus i blant a phobl ifanc.
Mae dros 7,000 o blant yng ngofal awdurdodau lleol yng Nghymru, ac mae llawer wedi profi cam-drin ac esgeulustod. Mae'r plant hyn ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac maen nhw'n haeddu'r dyfodol gorau posibl. Ein polisi yw ceisio cadw teuluoedd gyda'i gilydd pryd bynnag y gallwn ni, ond weithiau nid yw'n bosibl i blant aros gyda'u teuluoedd, felly mae gofal maeth yn ffordd o gynnig cartref diogel a meithringar i blant a phobl ifanc pan na all eu teuluoedd genedigol wneud hynny.
Ein gweledigaeth yw i bob plentyn mewn gofal maeth yng Nghymru gael bywyd sefydlog, bod â pherthynas ddibynadwy ag eraill, teimlo eu bod yn cael gofal, ac elwa ar ofal maeth o ansawdd uchel cyhyd ag y bydd ei angen arnyn nhw, gan ganiatáu iddyn nhw bontio'n llwyddiannus i fod yn oedolyn ac yn annibynnol.
Yn yr amser byr rwyf wedi bod yn Weinidog Gofal Cymdeithasol, mae'r hyn rwyf wedi'i ddysgu am y gwaith sydd wedi'i wneud i wella'r sector maethu wedi gwneud argraff wych arnaf, ac rwyf am dalu teyrnged i ymroddiad ac ymrwymiad fy rhagflaenydd, Julie Morgan, sydd wedi gwneud llawer i hyrwyddo a gwella maethu. Gwnaed y gwaith hwn yn wyneb pwysau ar gyllid y sector cyhoeddus a'r argyfwng costau byw, sydd wedi cael effaith mor enfawr ar deuluoedd ledled Cymru.
Dirprwy Lywydd, wrth wraidd y gwelliannau hyn fu Maethu Cymru. Lansiwyd Maethu Cymru ym mis Gorffennaf 2021, ac mae'n rhwydwaith cenedlaethol cydweithredol o'r 22 tîm maethu awdurdodau lleol ledled Cymru. Ei brif nod yw gwella gallu gwasanaethau maethu awdurdodau lleol i recriwtio a chadw gofalwyr maeth er mwyn inni allu ailgydbwyso darpariaeth gwasanaethau, mynd i'r afael â gofynion, ac yn y pen draw, gwella ansawdd y dewis o leoliad i blant.
Ond mae hefyd yn cynnig cymaint mwy. Mae Maethu Cymru yn rhoi cyfle i sicrhau bod gwasanaethau maethu awdurdodau lleol yng Nghymru yn parhau i ddatblygu ac addasu i wella canlyniadau i blant. Mae cefnogi Maethu Cymru yn un o'n hymrwymiadau allweddol yn y rhaglen lywodraethu, ac rydym wedi darparu £3.7 miliwn tuag at ei ddatblygiad. Mae'r cyllid hwn wedi cefnogi amrywiaeth o fentrau newydd i godi proffil ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o faethu, a gwella'r cynnig i'n gofalwyr maeth presennol.
Rydym yn gwybod bod angen i ni recriwtio mwy o ofalwyr maeth yn barhaus, yn enwedig os yw plant am gael gofal yn y lle iawn, gan y bobl iawn, sydd â'r sgiliau iawn i ddiwallu eu hanghenion. Mae Maethu Cymru yn allweddol i hyn ac mae'n gweithio tuag at y targed uchelgeisiol o recriwtio 800 o deuluoedd maeth ychwanegol erbyn 2026.
I helpu i godi ymwybyddiaeth o ofal maeth ac annog pobl i ystyried maethu, mae wedi cynnal sawl ymgyrch, ac mae pob un ohonynt yn cynrychioli llais plant a phobl ifanc mewn gofal. Mae ein hymdrechion yn cael effaith gadarnhaol. Mae'r ymwybyddiaeth o frand Maethu Cymru wedi cynyddu'n sylweddol, ac mae awdurdodau lleol yn derbyn mwy o ymholiadau gan ofalwyr maeth posib.
Ond mae cadw gofalwyr maeth yr un mor bwysig, ac rydym wedi cyfeirio buddsoddiad sylweddol tuag at hyn. Mae cynnig cefnogaeth gyson i'n gofalwyr maeth yn allweddol i gadw eu harbenigedd. Mae Maethu Cymru wedi lansio'r ymrwymiad cenedlaethol, sef pecyn o hyfforddiant, cefnogaeth a gwobrau y cytunwyd arnynt gan bob un o'n gofalwyr maeth yng Nghymru. Ac rwy'n gwybod bod ein hawdurdodau lleol yn parhau i weithio'n galed i sicrhau bod y cydrannau a amlinellir yn yr ymrwymiad hwn yn cael eu cyflawni'n gyson.
Mewn ymateb i adborth gan ofalwyr maeth, rydym hefyd wedi datblygu fframwaith dysgu a datblygu, sy'n cynnig dull cyson ledled Cymru. Ac rwy'n falch bod gofalwyr maeth yn gallu manteisio ar y cyfleoedd hyn sy'n diwallu eu hanghenion proffesiynol a phersonol, ochr yn ochr â'u cefnogi i ddarparu gofal o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc.
Wrth wraidd ein polisi cadw y mae'r angen i drin gofalwyr maeth fel aelodau cyfartal a gwerthfawr o'r tîm o amgylch y plentyn. Rydym yn parhau i ariannu'r rhaglen llesiant maeth, a ddarperir gan y Rhwydwaith Maethu ac sy'n hyrwyddo cydraddoldeb statws drwy ddod â'r holl rwydweithiau proffesiynol sy'n ymwneud â chefnogi plant sy'n derbyn gofal, gan gynnwys gofalwyr maeth, at ei gilydd.
Mae incwm yn aml yn ystyriaeth bwysig i deuluoedd sy'n ystyried neu sy'n parhau i faethu, ac rwy'n credu y dylai'r rhai sy'n gofalu am ein plant fod ag adnoddau digonol i dalu costau'r plant yn eu gofal. Rydym wrthi'n ymgymryd â darn cynhwysfawr o waith i nodi costau cyflwyno dull newydd o ymdrin â lwfansau maethu sy'n canolbwyntio ar wir gostau gofalu am blentyn.
Rwy'n deall ac yn cydnabod pa mor uchelgeisiol fu ein rhaglen waith, ac mae'r cynnydd rydym wedi'i wneud hyd yma wedi bod yn sylweddol. Diolch i egni ac ymrwymiad staff ymroddedig o bob rhan o'n rhanbarthau maethu, ein partneriaid yn y trydydd sector a'n gofalwyr maeth y bu modd i ni gyflawni cymaint.
Fodd bynnag, mae mwy y gallwn ac y dylem ni fod yn ei wneud i sicrhau bod ein gwasanaethau maethu yng Nghymru mor effeithiol ac effeithlon ag y gallant fod. Rydym wedi gweld dechrau trawsnewidiad mewn gofal maeth, ac rwyf wedi ymrwymo i barhau i adolygu ein polisïau a'n harferion yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod ein teuluoedd maeth a'n gwasanaethau maethu yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i sicrhau'r canlyniadau gorau i'r plant yn eu gofal.
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at barhau â'n taith i ddatblygu dull effeithiol a chydgysylltiedig ledled Cymru o drawsnewid ein gwasanaethau gofal maeth, ac yn y pen draw greu dyfodol gwell i'n plant yma yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n eich croesawu i'ch rôl newydd, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi. Rwy'n falch iawn o helpu i dynnu sylw at Bythefnos Gofal Maeth a dathlu rôl gofalwyr maeth yng Nghymru. Mae gofalwyr maeth yn trawsnewid bywydau plant a phobl ifanc sydd, heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain, yn mynd i'r system ofal. Mae'n iawn ein bod wedi diolch yn ddiffuant i bawb sy'n ymwneud â maethu.
Yn anffodus, yn ystod y degawd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd o dros draean yn nifer y plant sy'n derbyn gofal. Ac eto, ar yr un pryd, rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y gofalwyr maeth. Er fy mod yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i recriwtio 800 o deuluoedd maeth ychwanegol erbyn 2026, mae angen gweithredu nawr. Yn ôl y Rhwydwaith Maethu, mae angen tua 400 yn fwy o deuluoedd maethu arnom heddiw er mwyn darparu gofal i blant a phobl ifanc ledled Cymru.
Mae gennym broblem hefyd gyda'r trosiant uchel mewn timau gwaith gofal cymdeithasol plant. Dim ond hanner yr holl ofalwyr maeth sydd wedi cael yr un gweithiwr cymdeithasol goruchwylio dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae rhai teuluoedd yn cael pedwar neu fwy, sy'n syfrdanol. Mae'r diffyg dilyniant hwn yn cael effaith fawr iawn ar y plentyn a'r teulu maeth. Mae'n rhaid i ni sicrhau nid yn unig bod gennym ddigon o ofalwyr maeth, ond hefyd gweithlu gofal cymdeithasol digonol i'w cefnogi. Gweinidog, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod Cymru'n recriwtio digon o weithwyr cymdeithasol i gyflawni'r llwythi achosion? Yn ôl Gofal Cymdeithasol Cymru, gwyddom fod 42 y cant o'r holl weithwyr cymdeithasol gwasanaethau plant yn gweithio'n bennaf ar gyfer asiantaeth. Pa asesiad ydych chi wedi'i wneud o'r effaith y mae darparu staff asiantaeth yn ei chael ar gyllidebau gwasanaethau plant ledled Cymru?
Rwy'n croesawu eich ymrwymiad i gadw gofalwyr maeth. Un o'r prif bethau y mae teuluoedd maeth yn gofyn amdano yw cydnabyddiaeth swyddogol. Mae'r Rhwydwaith Maethu wedi galw ers tro am gofrestr genedlaethol o ofalwyr maeth, a fyddai'n gwella eu statws, yn y sector ac yn llygad y cyhoedd. Gweinidog, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf am safbwynt Llywodraeth Cymru ar gofrestr o'r fath? A wnewch chi gefnogi ei gyflwyno ar frys? Rwyf hefyd yn croesawu'r ymrwymiad i edrych ar y lwfansau maethu. Gweinidog, a allwch chi gadarnhau a ydych yn edrych ar y cyfraddau cytûn a awgrymwyd gan Pro Bono Economics a'r Rhwydwaith Maethu ai peidio? A allwch chi hefyd gadarnhau a yw lwfansau i'w cysoni ledled Cymru neu eu gadael i'r adrannau gwasanaethau plant unigol?
Yn olaf, Gweinidog, rydym wedi treialu dau gynllun yn llwyddiannus sy'n defnyddio gofalwyr maeth i gefnogi teuluoedd i gadw eu plant gartref gyda nhw yn ddiogel. Mae'r rhaglen atal ar ffiniau gofal hon wedi bod yn llwyddiannus wrth gadw plant allan o ofal. Mae gwasanaethau plant dan bwysau aruthrol, ac rydym wedi gweld oedi mawr mewn asesiadau adran 47 mewn rhai rhannau o'r wlad. Gallai'r rhaglen Cam i Fyny Cam i Lawr helpu i leddfu rhywfaint o'r pwysau hwnnw. Gweinidog, a oes gennych unrhyw gynlluniau i gyflwyno'r rhaglen hon ledled Cymru? Diolch eto am eich datganiad, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i wella gwasanaethau maethu yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Altaf, am y sylwadau yna, a'r nifer o bwyntiau pwysig iawn rydych chi wedi'u gwneud. A gaf i ddechrau drwy ymuno â chi i ddiolch i'r holl ofalwyr maeth hynny sy'n darparu'r gwasanaeth amhrisiadwy hwnnw, fel y dywedwch chi, i rai o'r plant mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas?
Mae'n bryder i bob un ohonom, onid yw, i weld nifer y plant mewn gofal yng Nghymru. Fesul pen o'r boblogaeth o blant, mae gennym fwy o blant mewn gofal yng Nghymru nag mewn unrhyw ran arall o'r DU. Nid wyf yn credu am un eiliad bod hynny oherwydd bod plant Cymru yn wahanol i weddill y DU. Ond mae'n rhaid i ni fod ag agwedd wahanol iawn at y ffordd yr ydym yn gofalu am y plant hynny sydd ar ffiniau gofal ac sy'n dod i ofal. A dyna pam mae'r ymgyrchoedd recriwtio rydyn ni wedi bod yn eu cynnal o amgylch gofalwyr maeth mor bwysig. Bu nifer sylweddol o'r ymgyrchoedd recriwtio hynny, ac rydym yn gweld rhai canlyniadau o hynny, fel y dywedais i yn fy natganiad. Rydym yn gweld nifer cynyddol yn mynegi diddordeb i ddod i ofal maeth, ond mae angen i ni drosi'r nifer hwnnw sy'n mynegi diddordeb yn bobl sy'n dod ymlaen ac yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw.
Ond yr un mor bwysig i hynny yw cadw'r gofalwyr maeth hynny yn y system. Ac rwy'n dweud bod hynny'n bwysig oherwydd bod gennym raglen trawsnewid gwasanaethau plant yng Nghymru, sy'n cynnwys llawer o ddiwygio radical ynghylch y ffordd yr ydym yn ymdrin â gwasanaethau plant hyd at, ac yn cynnwys plant sy'n derbyn gofal. A rhan o'r rhaglen drawsnewid honno yw ein bod yn ceisio cadw cymaint o'r plant hynny allan o ofal preswyl ag y gallwn. Er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid i ni wneud nifer o bethau, un yr ydych eisoes wedi cyffwrdd arno, sef cadw plant gartref. Sef gweithio gyda theuluoedd a gofalwyr i alluogi'r plant hynny i aros yn ddiogel yn y teuluoedd y cawsant eu geni iddynt neu y maen nhw'n byw gyda nhw. Os gallwn ni wneud hynny, yna mae'n amlwg bod hynny'n tynnu'r pwysau oddi ar y gwasanaeth preswyl i blant, ac rydyn ni'n gwybod bod hynny'n broblem fawr i ni o ran nifer y lleoedd sydd ar gael. Mae angen i ni gadw plant yn eu cymunedau eu hunain, ac rydym yn gwybod bod hynny'n gallu bod yn broblem. Mae cymaint o blant, pan fyddan nhw'n mynd i ofal, yn cael eu rhoi mewn gofal preswyl sy'n bell o ble maen nhw'n byw, y tu allan i'r sir; weithiau hyd yn oed yn Lloegr. Felly, mae'n rhaid i ni edrych ar hynny i gyd o fewn y rhaglen trawsnewid gwasanaethau plant sydd gennym.
Rydyn ni yng nghamau cynnar y rhaglen honno, ond gall fod yn drawsnewidiol os yw'n gweithio. Ac mae hynny i gyd yn arwain at wahanol ddarnau o ddeddfwriaeth yr ydym yn mynd i'w cyflwyno. Byddaf yn cyflwyno'r Bil gofal cymdeithasol yr wythnos nesaf, a fydd yn symud tuag at ddileu elw mewn gwasanaethau plant. Credwn fod hynny'n hynod bwysig, oherwydd credwn y dylid ailfuddsoddi unrhyw incwm ac unrhyw ffioedd sy'n gysylltiedig â gofal plant yng ngofal y plant a pheidio â'i roi fel difidendau i gyfranddalwyr. Ac mae gen i ofn ein bod ni'n gweld gormod o gwmnïau rhagfantoli ac yn y blaen yn symud i'r maes hynny ar hyn o bryd, gan weld y sector gofal plant fel lle i wneud arian cyflym.
Felly, mae'r gofrestr genedlaethol, Altaf, y sonioch chi amdani, yn bwysig iawn. Mae'n rhywbeth y mae'r sector wedi galw amdano ers amser maith, ac rwyf eisiau cadarnhau fy mod wedi ymrwymo i ystyried cyflwyno cofrestr genedlaethol. Mae angen i ni weithio gyda'r sector ar hynny a chymryd yr holl safbwyntiau hynny i ystyriaeth. Rydym wedi cael trafodaethau cychwynnol gyda'r rhwydwaith maethu ynghylch hynny. Mae'n rhaid i ni ei wneud mewn ymgynghoriad â'r sector, oherwydd nid yw'n syml. Mae'n eithaf cymhleth, ond mae'n rhywbeth y mae angen ei wneud mewn modd amserol a rheoledig, gan sicrhau y bydd adnoddau priodol ar gael. Ond rwyf wedi ymrwymo'n gryf i weithio tuag at hynny.
Diolch am y datganiad, Weinidog. Rwy'n falch o nodi hefyd, ar ran Plaid Cymru, bwysigrwydd Pythefnos Gofal Maeth ac, wrth gwrs, gwerth amhrisiadwy gofalwyr maeth. Mae Plaid Cymru hefyd yn falch o'r cynnydd sydd wedi'i wneud trwy'r cytundeb cydweithio, cynnydd roedd mawr ei angen i gymryd camau tuag at waredu ar elw mewn gofal. Ac mae'n bwysig bod lleisiau plant a phobl ifanc wrth galon yr hyn sy'n digwydd i wella'r gofal maen nhw'n ei dderbyn yng Nghymru.
Mae bron yn flwyddyn yn union ers i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gyhoeddi adroddiad ar ddiwygio radical o fewn y sector gofal. Roeddwn i'n aelod o'r pwyllgor ar y pryd, ac fe glywon ni yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc am eu profiadau o ofal—nifer yn teimlo'n gryf iawn fod rhai gofalwyr maeth wedi eu cymell yn ormodol gan elw. A mynegwyd hyn yn glir gan aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, Rosemary Squires, un o fy etholwyr i o Abertawe, a bwysleisiodd, yn ei geiriau syml ond grymus hi:
'Pobl ŷm ni, nid elw.'
Fe ddywedoch chi yn eich datganiad, Weinidog, fod y plant yma yn ein gofal fel rhieni corfforaethol ymhlith aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas, eu bod nhw, yn eich geiriau chi, yn haeddu'r dyfodol gorau posib. Felly, o gofio y gwnaeth y pwyllgor waith manwl ar yr hyn a fyddai'n gwella eu profiad o fod mewn gofal mewn modd gwirioneddol radical, ac o ystyried y gwnaeth y Llywodraeth wrthod pob argymhelliad o ran y diwygiadau radical hynny roeddwn i am eu gweld, namyn un, a ydych chi'n hyderus bod y gwaith sy'n cael ei gyflawni yn ddigonol i gwrdd â'r her a osodwyd gan y bobl ifanc a lywiodd waith y pwyllgor? Fedrwch chi roi gwybod i ni sut mae'r adroddiad hwnnw wedi llywio eich gweledigaeth chi o ran maethu yn benodol?
Fe wnaeth Altaf Hussain godi'r mater o'r gofrestr, a gwnaethoch chi ddweud bod y gwaith ar hynny yn gorfod mynd rhagddo. Wel, fel rhan o ymateb y Llywodraeth i adroddiad y pwyllgor, fe gytunodd y Llywodraeth i ddatblygu cofrestr genedlaethol achos byddai'n rhywbeth a fyddai'n codi statws a chydnabyddiaeth ar eu cyfer, yn gwella diogelu plant a chynnig darlun gwell o'r ddarpariaeth a'r gefnogaeth sydd ar gael ar draws Cymru. Mae'n flwyddyn ers inni gael yr ymrwymiad yna, felly allwn ni gael diweddariad ar yn union beth sy'n digwydd, achos roedd yn swnio fel bod dim lot wedi digwydd o ran hynny? Ac o ran y cynlluniau sydd ar droed gwnaethoch chi restru heddiw a'r buddsoddiad yna sydd wedi'i wneud, sut bydd cynnydd yn cael ei fesur a sut y byddwch chi'n gwerthuso effeithiolrwydd y cynlluniau yma?
Roedd eich rhagflaenydd, Julie Morgan, yn frwd iawn dros y siarter rhianta corfforaethol. Oes modd i chi roi enghreifftiau inni o sut y mae’r siarter wedi gwella’r gwasanaethau y mae plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn eu derbyn gan gyrff cyhoeddus? Ac o gofio ei bod hi’n siarter wirfoddol, oes yna gysondeb nawr ar draws Cymru?
Fe wnaethoch chi hefyd sôn fanna am y targed yma sydd gan Faethu Cymru o recriwtio 800 o deuluoedd maeth erbyn 2026. Mae’r Rhwydwaith Maethu yn dweud bod Cymru 400 o leiaf yn brin o ofalwyr maeth ar hyn o bryd. Felly, mi wnaethoch chi ddweud bod yna gynnydd yn hyn o beth, ond wnaethon ni ddim cael lot o eglurder o ran faint o gynnydd. Felly, o ystyried bod Maethu Cymru wedi bod wrthi nawr ers rhai blynyddoedd, oes modd ichi roi syniad inni o ba mor agos ydyn ni at gyrraedd y nod yna o 800?
Fe sonioch chi hefyd am y broses yma sy’n mynd rhagddi o ran edrych ar ffocws newydd ar gyfer lwfansau maethu, gan y dylai’r rhai sy’n gofalu dderbyn cyllid digonol i ddarparu’r gofal gorau posib. Wel, eto, fe glywon ni’r union eiriau hyn gan eich rhagflaenydd ddwy flynedd yn ôl mewn ymateb i gwestiwn gan Heledd Fychan, felly pa waith sydd wedi cael ei wneud eisoes ar hyn? Liciwn i wybod ychydig bach mwy o fanylion, os gwelwch yn dda. A hefyd, pryd fydd y gwaith, ydych chi’n meddwl, yn cael ei gwblhau?
Ac yn olaf, hoffwn i wybod sut yr ydych yn sicrhau bod barn plant a phobl ifanc sydd mewn gofal yn cael ei glywed o ran datblygiad ac effeithioldeb y cynlluniau newydd yma. A yw maint eu huchelgais nhw yn y cynlluniau yma yn cwrdd â dyheadau’r bobl ifanc, a’n dyletswydd ni fel rhieni corfforaethol i sicrhau i’r bobl ifanc yma y tegwch a’r dyfodol gwell y maen nhw’n ei haeddu? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Sioned, am y pwyntiau a'r cwestiynau pwysig iawn yna ac a gaf i ddweud pa mor werthfawrogol ydw i o'r gwaith rydyn ni wedi'i wneud gyda Phlaid Cymru i gyflawni'r ymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu o ran y rhaglen trawsnewid gwasanaethau plant? Oherwydd bydd hynny'n drawsnewidiol, yn fy marn i, pan fyddwn ni'n gallu cyflawni'r holl bolisïau sydd wedi'u cynnwys ynddo. Nid yw'r pethau hyn yn digwydd dros nos ac rwy'n gwybod eich bod yn deall hynny. Mae'r rhain yn rhaglenni tymor hir gyda nod penodol. O ran dileu elw o ofal preswyl plant, rydym yn sôn am raglen 10 mlynedd i symud o ble'r ydym ni nawr i ble rydym eisiau bod. Rydym yn gwybod y bydd hynny'n cymryd peth amser o ran y pontio o ble'r ydym ni nawr i ddileu elw o'r sector. Yr holl sefydliadau hynny sydd yn y sector er elw, rydym am i gynifer o'r rheini drosglwyddo i'r trydydd sector neu i'r model nid-er-elw. Efallai y bydd rhai ohonyn nhw'n barod i wneud hynny, ni fydd nifer ohonyn nhw. Rydym yn gweithio ar y sail na fydd nifer ohonyn nhw, ac felly, mae'n rhaid i ni fod â dewisiadau amgen ar waith, ac fel y dywedais i yn fy ymateb i Altaf Hussain, bydd gofalwyr maeth yn allweddol ac yn hanfodol yn hynny, wrth ddarparu'r math o ofal y byddem eisiau ei weld sy'n eu cadw allan o wasanaethau preswyl.
Rwy'n gwybod bod fy rhagflaenydd, Julie Morgan, yn ddiolchgar iawn i'r pwyllgor plant a phobl ifanc, fel yr ydw i, o ran y gwaith a wnaed. Ac rwyf wedi cael sgyrsiau gyda Jayne Bryant, Cadeirydd blaenorol y pwyllgor hwnnw, felly rydym wedi gallu dal i fyny ar nifer o ddarnau o waith a wnaethoch chi ar ddiwygio radical, ac roedd y dystiolaeth o'r ymchwiliad hwnnw'n hynod bwysig, ac nid wyf am i neb feddwl nad ydym wedi cymryd unrhyw sylw o'r hyn a ddywedodd y plant hynny yn y pwyllgor hwnnw yn gyhoeddus, oherwydd roedd yn dystiolaeth bwysig iawn, iawn i ni. A'r ffaith na dderbynion ni'r holl argymhellion—fe wnaethom ni mewn gwirionedd dderbyn yn rhannol neu'n gyfan gwbl tua 20 o'r argymhellion—[Torri ar draws.] Ie, er yr hyn na wnaethom ni ei dderbyn oedd bod angen gwneud llawer o hynny trwy ddeddfwriaeth. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud mai'r hyn yr oeddem yn edrych arno yn y dystiolaeth a gafodd y pwyllgor oedd bod ein rhaglen, y rhaglen radical honno yr ydym yn ceisio trawsnewid gwasanaethau plant ynddi, ac y mae Plaid Cymru wedi bod yn rhan fawr ohoni—mae llawer o'r meysydd gwaith hynny yr ydym yn eu gwneud yno yn cael eu llywio gan y dystiolaeth a roddodd y bobl ifanc hynny i'r pwyllgor hwnnw. Nid yw'r ffaith nad yw o reidrwydd mewn deddfwriaeth yn golygu nad yw'n cael ei ddefnyddio ac nad yw'n mynd i fod yn rhan o'n gwaith.
Rydych chi wedi gofyn yn benodol am y gofrestr faethu genedlaethol, ac fe wnes i ymateb yn gryno i Altaf, ac fel y dywedais i, byddaf yn ailadrodd yr hyn a ddywedais bryd hynny. Rydym yn gwybod, ac rydym yn ymwybodol, bod rhanddeiliaid wedi bod yn gofyn am hyn ers peth amser, ac er bod llawer o fanteision i gyflwyno cofrestr genedlaethol, mae'n rhaid i ni gymryd barn gytbwys o ran p'un a ydym yn mabwysiadu hynny ai peidio. Fel y dywedais i, er fy mod wedi ymrwymo i ystyried cyflwyno cofrestr o'r fath, mae'n rhaid i ni weithio gyda'r sector a chymryd yr holl safbwyntiau hynny i ystyriaeth wrth benderfynu ai dyna'r ffordd iawn ymlaen ai peidio. Rydym mewn trafodaethau gyda'r Rhwydwaith Maethu ynghylch hynny, ac rydym yn cynnal ymarfer cwmpasu i ganfod sut olwg allai fod ar gofrestr genedlaethol mewn gwirionedd, a oes unrhyw ofynion deddfwriaethol ynghlwm wrth hynny a beth allai ymarferoldeb gweithredol hynny fod. Felly, byddwn yn parhau i lawr y ffordd honno, mae'n rhywbeth rwy'n awyddus i barhau i edrych arno, a byddwn yn adrodd yn ôl maes o law.
Y peth arall—mae'n ddrwg gen i, Altaf, fe wnaethoch chi ei godi a wnes i ddim ei ateb yn benodol, ond mi wnaf i ei ateb ar gyfer Sioned yn lle hynny—yw ynghylch cefnogaeth ariannol i ofalwyr maeth. Mae'n bwysig dweud, onid yw, bod gofalwyr maeth yn dod i ofal maeth am y rhesymau cywir. Dydyn nhw ddim yn dod i mewn iddo am yr arian, ond pan ddônt i mewn iddo, mae'n rhaid i ni sicrhau eu bod yn cael eu talu'n iawn am yr hyn maen nhw'n ei wneud a bod lefel y lwfans maen nhw'n ei gael yn gymesur â'r math o blentyn maen nhw'n gofalu amdano. Mae gwahaniaeth o ran faint mae plentyn yn ei gostio. Rydych chi'n gwybod os ydych chi wedi cael plant eich hun—mae fy rhai i yn oedolion bellach ac maen nhw'n costio mwy i mi nag oedden nhw pan oedden nhw'n fabanod. Dyma sut y mae hi. Felly, mae'n rhaid i ni ystyried hyn i gyd.
Mae'r taliadau ar gyfer gofalwyr maeth, fel y gwyddoch chi, yn amrywiol, ledled Cymru. Felly, er bod gennym yr isafswm lwfans cenedlaethol, sydd yr un peth ym mhob awdurdod lleol, rydym yn gweld gwahaniaethau ym mhob awdurdod lleol. Mae rhai awdurdodau lleol yn cyflwyno buddion ychwanegol i fynd ochr yn ochr â'r isafswm lwfans cenedlaethol, felly rydym yn gweld rhai awdurdodau sy'n lleihau'r dreth gyngor, sy'n rhoi mynediad am ddim i wasanaethau hamdden, sy'n darparu parcio ceir am ddim. Maen nhw'n rhoi lwfansau pen-blwydd a lwfansau Nadolig ac yn y blaen. Ond nid yw'n gyson ar draws y 22 o awdurdodau lleol, ac mae hynny'n rhan o'r gwaith yr ydym yn edrych arno. Fe wnaethom ni gomisiynu adroddiad i edrych ar hynny, fe wnaethom hefyd ofyn i Maethu Cymru ymgymryd â darn cynhwysfawr o waith i nodi costau cyflwyno dull newydd o ymdrin â lwfansau maethu, ac ar hyn o bryd rydym wrthi'n dadansoddi'r adroddiadau hynny. Dydy hynny ddim yn mynd i ddod heb gost, a does dim pwynt i mi sefyll yma a dweud y gallwn ni sicrhau cynnydd enfawr yn y lwfansau hynny, ond rydyn ni eisiau eu gwneud nhw'n fwy cyfartal—[Torri ar draws.]—ac rydyn ni eisiau—. Ydyn, rydyn ni wir eisiau sicrhau bod lwfans teg a bod lwfans cyfiawn a'i fod yn gyson ar draws y 22 o awdurdodau. Felly, mae hwnnw'n ddarn o waith sy'n mynd rhagddo.
Rwy'n ceisio meddwl beth arall y gofynnoch chi i mi. Mesurau—sut fydden ni'n mesur hynny. Felly, fel rhan o'r trefniadau monitro grant safonol, mae gennym gyfarfodydd rheolaidd gyda Maethu Cymru ac aelodau o'i fwrdd llywodraethu i drafod perfformiad a metrigau. Mae Maethu Cymru hefyd yn aelod o'r grŵp cyflawni trawsnewid, sydd wedi'i sefydlu i arwain ac ysgogi ein rhaglen drawsnewid. Mae'r grŵp hwnnw wedi sefydlu dwy ffrwd waith i edrych ar fetrigau data i ysgogi a monitro cynnydd, yn ogystal ag ymyrraeth gynnar ac atal er mwyn sicrhau darpariaeth gydgysylltiedig ac effeithiol. Ond, yn y pen draw, yr hyn fyddwn i'n ei ddweud yw y byddwn ni'n gwybod bod ein rhaglen wedi'i chyflwyno'n llwyddiannus os gwelwn lai o blant mewn gofal, rydyn ni'n gweld llai o blant yn cael eu rhoi mewn gofal ymhell i ffwrdd o'u cartrefi neu y tu allan i'r sir ac rydyn ni'n gweld bod gennym fwy o ofalwyr maeth yn dod i mewn i'n rhwydweithiau fel y gall plant gael bywyd mwy derbyniol mewn gofal, os hoffech chi, mewn lleoliad teuluol. Felly, dyna sut yr hoffwn weld popeth yn digwydd, ac rwy'n credu mai dyna'r cyfan yr oeddech chi'n ei ofyn. Rwy'n credu fy mod i wedi ymdrin â phopeth, beth bynnag, ond diolch, Sioned.
Diolch yn fawr i'r Gweinidog am wneud y datganiad pwysig iawn hwn heddiw yn ystod Pythefnos Gofal Maethu. Hoffwn hefyd ddechrau drwy gofnodi fy niolch i'r holl ofalwyr maeth, y gall eu heffaith ar blant fod yn drawsnewidiol.
Felly, byddaf yn cyffwrdd â chwpl o faterion yn gryno iawn. Un o'r materion mawr y mae pobl ifanc â phrofiad o ofal wedi'i ddweud wrthyf, yn ystod y cysylltiadau lawer yr wyf wedi'u cael gyda nhw, am ofal maeth yw eu bod yn codi'r mater o beidio â bod â digon o hyblygrwydd yn eu bywyd o ddydd i ddydd. Maen nhw'n codi'r mater o beidio gallu aros i ffwrdd dros nos heb gael caniatâd gan y gweithiwr cymdeithasol, nad ydw i'n credu sy'n angenrheidiol mewn gwirionedd, ond mae ganddyn nhw'r canfyddiad hwn o hyd a dyna sydd wedi digwydd, a'r gallu i fynd i glybiau ar ôl ysgol a mynd allan am de. Meddwl oeddwn i tybed a oedd unrhyw beth y gallech feddwl amdano a fyddai'n helpu i wneud hynny'n fwy hyblyg. Dyna oedd un o'r materion a gododd y bobl ifanc. Y mater arall oedd pwysigrwydd cael eu rhoi gyda chwiorydd a brodyr a pha mor hanfodol oedd hynny ac, unwaith eto, mae hynny'n bwysig iawn i'r bobl ifanc. Roedd hwn yn un o'u materion pwysig, mawr. Ac yna, yn olaf—rwy'n credu i Altaf Hussain godi hyn—y rhaglen Cam i Fyny Cam i Lawr, a dreialwyd yn sir Benfro. Rwy'n gwybod mai uchelgais Llywodraeth Cymru yw cadw plant gartref a meddwl oeddwn i tybed a oes gennych unrhyw fesur o ba mor llwyddiannus oedd honno ac a ydych chi'n mynd i allu ei hymestyn.
A gaf i ddiolch i chi, Julie, am y cwestiynau yna? Ac unwaith eto, diolch yn fawr iawn am y gwaith rydych chi eisoes wedi'i wneud yn y maes hwn; rwy'n teimlo fy mod i'n dod i mewn ar gefn rhywun sy'n gwneud fy swydd yn llawer haws, oherwydd popeth a wnaethoch chi yn y cyfnod cyn i mi gael fy mhenodi'n Weinidog. Felly, diolch yn fawr am hynny.
Y peth cyntaf y byddwn i'n ei ddweud yw, y bore yma, mewn gwirionedd, roeddwn i ym mord gron y rhwydwaith maethu cenedlaethol ac, o gael y cyfle hwnnw i eistedd i lawr a siarad yn uniongyrchol â gofalwyr maeth, dydw i ddim yn credu bod unrhyw beth a all gymryd lle hynny. Gallwch gael sesiynau briffio gan swyddogion a gallwch siarad â phobl, ond mewn gwirionedd yn eistedd o gwmpas bwrdd yn yr un ystafell, gyda phobl sy'n rhoi eu profiad bywyd i chi o'r math o bethau y mae'n rhaid iddyn nhw ymdopi â nhw—. Roedd yn ddiddorol bod rhywun wedi codi'r union bwynt hwnnw y bore yma mewn gwirionedd—. Os gallwch chi gredu hyn, roedd ganddo blentyn yn ei ofal a oedd angen apwyntiad deintyddol brys ac fe aeth i'r ysbyty, ond, oherwydd nad ef oedd rhiant na gwarcheidwad cyfreithiol y plentyn, ni allai'r ysbyty gyflawni'r driniaeth. Nawr, cafodd ei ddatrys, ond roedd yn oedi diangen pan oedd angen rhywfaint o driniaeth ar y plentyn hwn, oherwydd nid oedd gan y gofalwr maeth yr awdurdod hwnnw. Felly, mae'r holl bethau hyn ynghylch yr awdurdod dirprwyedig hwnnw, onid oes, a gwneud yn siŵr bod awdurdodau lleol, mewn gwirionedd, yn ymwybodol o bwysigrwydd lleihau'r fiwrocratiaeth ddiangen ynghylch hynny. Rydym yn gwybod bod gennym ddeddfwriaeth a chanllawiau ategol sy'n sicrhau bod gofalwyr maeth wedi'u hawdurdodi i wneud y mathau hynny o benderfyniadau bob dydd am eu plentyn maeth, lle bynnag y bo'n bosibl. Yn allweddol i hyn yw bod gweithwyr cymdeithasol yn cysylltu'n agosach â'r rhieni maeth, ac unwaith eto, clywais straeon y bore yma lle nad yw hynny bob amser yn gweithio'n effeithiol iawn.
Rydyn ni wrthi'n cyflwyno fframwaith cenedlaethol y byddwch chi'n gyfarwydd ag ef ac mae'n rhaid i hwnnw—os nad yw'n gwneud dim byd arall, mae'n rhaid iddo fod—am gael cysondeb o ran dull ar draws pob un o'r 22 o awdurdodau, yn debyg iawn, yn fy ymateb i Sioned Williams, ynghylch y lwfansau i'r gofalwyr maeth. Mae angen i'r ffordd y mae'r gwasanaethau cymdeithasol yn rhyngweithio â gofalwyr maeth a'r cymorth y maen nhw'n ei roi fod yn gyson hefyd. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n ddarn allweddol arall o waith y mae angen i ni sicrhau ein bod yn ei ddatblygu, ac yn cyflawni'r mathau o ganlyniadau rydych chi'n sôn amdanyn nhw, yn enwedig pan fydden ni'n sôn am—. Wyddoch chi, plant yw plant ac mae angen iddyn nhw chwarae gyda phlant eraill a ddylen nhw ddim cael pethau fel yna yn rhwystr yn y ffordd, i'w hatal rhag gwneud hynny, mynd a rhyngweithio gyda ffrindiau ac ati.
Fe wnaethoch chi sôn am y cynllun peilot Cam i Fyny Cam i Lawr—ac mae'n ddrwg gen i, Altaf, fe wnaethoch chi godi hyn hefyd—ond, unwaith eto, fel rhan o'n rhaglen trawsnewid gwasanaethau plant, rydym o'r farn, ni waeth ble mae plant yn byw, ein bod ni eisiau eu cefnogi i aros gyda'u teuluoedd, pan fo hynny'n bosibl, gyda llai o blant a phobl ifanc yn mynd i ofal. Felly, gwnaethom weithio ochr yn ochr â'r Rhwydwaith Maethu a'n sector statudol, fel y dywedwch chi, i lansio'r cynllun treialu hwn yn sir Benfro i gefnogi teuluoedd agored i niwed. Mae'r cynllun treialu hwnnw'n cynnig dull arloesol iawn o gefnogi teuluoedd sydd ar ffiniau gofal trwy ddarparu cymorth teuluol arbenigol, gan bobl sydd wedi cael llawer iawn o hyfforddiant, i ofalwyr maeth, a all ddarparu cefnogaeth gyfyngedig o ran amser ac ataliol i'r teuluoedd hynny sydd mewn angen, gan eu helpu i aros gyda'i gilydd.
Nawr, rwy'n deall bod y cynllun treialu yn mynd yn dda iawn, ond dim ond ym mis Tachwedd y llynedd y cafodd ei lansio. Felly, mae'n dal yn ei ddyddiau cynnar ac mae'n rhy fuan i fod wedi gwneud unrhyw werthusiad sylweddol eto. Fodd bynnag, rwy'n bwriadu ymweld â Gogledd Iwerddon yn fuan i ddysgu mwy am lwyddiant y rhaglen yn y fan honno, gan ein bod yn ystyried ei chyflwyno ledled Cymru yn y dyfodol. Felly, gobeithio, y byddaf mewn sefyllfa i ddod yn ôl i'r Senedd ac adrodd ar y cynnydd ar y gwaith o gyflwyno'r cynnig hwnnw yn y dyfodol agos.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Yn olaf, Jane Dodds.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch yn fawr iawn am eich datganiad ar y mater pwysig hwn, ac fe hoffwn i hefyd ddiolch ar goedd i'r holl ofalwyr maeth. Maen nhw'n wych. Rydw i, yn bersonol, wedi bod yn gyfrifol am leoli plant gyda gofalwyr maeth ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos. Maen nhw'n derbyn plant nad ydyn nhw'n aml yn gwybod fawr ddim amdanyn nhw. Mae'r rhain, yn anffodus, yn blant bregus sy'n dioddef trawma, yr ydym ni'n eu gadael gyda nhw, ac maen nhw'n gwneud gwaith anhygoel.
Rwy'n falch o glywed bod gennych chi'r rhaglen Cam i Fyny Cam i Lawr mewn golwg, oherwydd bydd hynny'n drawsnewidiol i gadw plant gartref, ond i sicrhau bod ein gofalwyr maeth yn teimlo'n rhan o fywyd plentyn. Ar ôl eu derbyn nhw pan oedden nhw ar eu mwyaf bregus, mae mor werthfawr wedyn gweld, gobeithio, eu bod yn dychwelyd adref, a bod yn rhan o hynny.
Fe hoffwn i ofyn y cwestiwn penodol hwn i chi. O ystyried popeth rydym ni wedi'i ddweud am ofalwyr maeth, mae angen eu talu. Mae angen cyflog arnyn nhw. Ni ddylai fod yn rhaid iddyn nhw beidio â chael eu talu pan nad oes ganddyn nhw blant gyda nhw, sef y sefyllfa bresennol. Mae'n annerbyniol. Ni fyddem yn derbyn nad yw pobl, pan fyddan nhw ar wyliau, yn cael eu talu. Felly, hoffwn i chi, yn eich ystyriaeth—nid wyf yn disgwyl ateb nawr, oherwydd rwy'n gwybod bod amser wedi cario'r dydd arnom ni—i edrych ar gynlluniau gofalwyr maeth cyflogedig. Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane Dodds, am hynny. O ran y cwestiwn penodol yna, rwy'n sicr yn hapus i edrych ar hynny. Rydym ni'n edrych ar yr holl broses o dalu gofalwyr maeth. Rydym ni'n edrych ar gysoni'r sefyllfa rhwng gofalwyr maeth ffurfiol a gofalwyr sy'n berthnasau oherwydd fe wyddom ni fod gwahaniaethau rhwng y rheini hefyd. Wn i ddim a oes gennym ni ddarn penodol o waith ar ofalwyr maeth cyflogedig eto, ond byddaf yn sicr yn cyfleu'r farn honno ac yn trafod hynny gyda swyddogion ac yn cysylltu â chi ac yn rhoi gwybod i chi. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan y Prif Weinidog ar Tata Steel. Vaughan Gething, felly, i wneud y datganiad.
Diolch, Llywydd. Fel y gŵyr yr Aelodau, teithiais i Mumbai ddydd Iau 9 Mai i gwrdd â rheolwr gyfarwyddwr a phrif swyddog ariannol Tata Steel. Yn y pen draw, nhw fydd yn penderfynu dyfodol cyfleusterau Tata yng Nghymru.
Buom yn trafod arwyddocâd y sector dur i Gymru a gweddill y DU, ynghyd â'i gyfraniad hanfodol at dwf economaidd a'n diogelwch ar y cyd. Yn ystod sgyrsiau helaeth, pwysleisiais yn gryf yr angen i osgoi diswyddiadau gorfodol ar draws safleoedd Cymru a phwysigrwydd cynnal eu gweithgarwch sy'n diwallu cwsmeriaid. Fe hoffwn i sicrhau bod lefelau cynhyrchu yn cael eu cynnal yn llawn, gyda dyfodol tymor hwy yn Nhrostre, Shotton, Llanwern a Chaerffili.
Gan y gallai etholiad cyffredinol yn y DU fod ar ein gwarthaf mor fuan â'r haf hwn, ailadroddais alwad Llywodraeth Cymru ar i'r cwmni beidio â gwneud dewisiadau na ellir eu gwrthdroi cyn etholiad a allai newid dyfodol y diwydiant yn sylweddol. Rydym ni wedi dadlau'n gyson ac yn falch o du Llywodraeth Cymru bod Cymru'n haeddu'r fargen orau ar gyfer dur, nid y fargen rataf.
Mae'n siomedig bod yr ymgynghoriad ffurfiol bellach wedi dod i ben, ac, o ganlyniad, mae'n rhaid i ni gynllunio ar y sail y bydd ffwrnais chwyth 5 yn cau ym mis Mehefin, ac i baratoi ar gyfer ffwrnais chwyth 4 yn cau erbyn diwedd mis Medi. Mae trafodaethau ar faterion ehangach sy'n effeithio ar y gweithlu gyda'r undebau llafur dur yn parhau.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg a minnau yn trafod y mater hwn mewn manylder gyda chydweithwyr undebau llafur. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn trefnu ymweliad â Llanwern i drafod yn fanylach sut y gallwn ni gefnogi blaenoriaethau'r gweithlu orau wrth i'r trafodaethau barhau. Yn ogystal ag annog dull sy'n osgoi diswyddiadau gorfodol, mae'n bwysig bod gweithwyr sy'n aros gyda'r cwmni yn cael eu gwobrwyo â'r cyflog sy'n cydnabod eu sgiliau, eu dawn a'u hymroddiad. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â'r bwrdd pontio. Byddwn yn pwyso am weithredu cyflym gan bartneriaid dros y misoedd nesaf.
Er mwyn canolbwyntio ein mesurau cymorth, mae angen gwybodaeth fanwl arnom ni am y rhai y mae cynlluniau pontio yn effeithio arnyn nhw er mwyn sicrhau y gellir darparu cymorth yn gyflym i weithwyr a chyflenwyr. Mae'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru yn sylweddol ac yn ymestyn y tu hwnt i gymunedau dur yn uniongyrchol. Mae'r cwmni bellach wedi cytuno i rannu'r wybodaeth hon, ac edrychaf ymlaen at weld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda nhw a'n partneriaid ehangach ar y manylion hollbwysig hyn a fydd yn effeithio ar fywydau miloedd o weithwyr a busnesau.
Yn ystod ein trafodaethau, amlygais hefyd yr anawsterau o ymdrin yn effeithiol â Llywodraeth bresennol y DU a phwysleisio unwaith eto nad ydym ni'n gwybod amodau'r grant o £500 miliwn gan Lywodraeth y DU. Mae hon yn sefyllfa annerbyniol i unrhyw Lywodraeth Cymru fod ynddi. Rwy'n dal yn synnu bod Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth y DU wedi gwrthod cyfarfod â mi ar unrhyw adeg yn fy nghyfnod fel Gweinidog yr economi, ac yn fwy diweddar wedi methu â chymryd rhan yn y broses drosglwyddo.
Rwy'n cydnabod effaith fawr y trawsnewid arfaethedig hwn os bydd Tata yn gweithredu eu cynllun a nodwyd yn gyhoeddus. Bydd yn effeithio ar gymunedau a phobl ledled Cymru. Dyna pam rydym ni wedi annog y busnes i feddwl eto. Os ydyn nhw'n benderfynol o weithredu cyn etholiad cyffredinol, yna mae'n rhaid iddyn nhw sicrhau y caiff lefelau cynhyrchu cyfredol eu cynnal o ran yr holl weithgarwch darparu cwsmeriaid. Croesewir bod y cwmni, yn ystod ein sgyrsiau, yn nodi bod ganddyn nhw ac y bydd ganddyn nhw ddigon o gronfeydd wrth gefn o goil a slabiau wedi eu poeth-rolio i warantu bod eu holl weithgarwch darparu cwsmeriaid yn parhau ar lefelau heddiw. Bydd hynny'n hynod bwysig i'r gweithlu yn Nhrostre, Shotton, Llanwern a Chaerffili.
Rwyf hefyd wedi gofyn am eglurder ynghylch cynlluniau Tata ar gyfer adeiladu ffwrnais bwa trydan, gan gynnwys, wrth gwrs, pwysigrwydd defnyddio cwmnïau o Gymru gymaint â phosibl, gan gefnogi swyddi lleol, i adeiladu a datblygu'r broses. Byddwn yn gweithio gyda busnesau i archwilio sut y gall Llywodraeth Cymru annog y gwaith brys sydd ei angen i wneud y mwyaf o'r buddsoddiad a'r gyflogaeth bosibl y gallai hyn ei gynnig i gymunedau dur a Chymru gyfan.
Mae'n ffaith bod pryder cymunedol o hyd na chaiff y ffwrnais bwa trydan ei hadeiladu. Dywedais yn glir wrth Tata fod eglurder ar y broses gynllunio, felly, yn bwysig. Soniais am bryderon ynghylch ansawdd y dur a gynhyrchir gan ffwrnais bwa trydan a thrafodais yr angen i sicrhau y gall cwsmeriaid ddibynnu ar ddur a gynhyrchir trwy'r broses hon. Rwy'n deall y bydd prosiectau ymchwil, datblygu ac arloesi ar waith i sicrhau y gellir cefnogi'r holl weithgarwch presennol, a byddwn, wrth gwrs, yn monitro cynnydd ar y mater hwn yn ofalus iawn.
Buom yn trafod meysydd pwysig o ddiddordeb cyffredin, gan gynnwys cyfleoedd buddsoddi ym Mhort Talbot a'r cyffiniau a chydweithio â phrifysgolion Cymru, yn enwedig Abertawe, ar bob maes o gynhyrchu dur gwyrdd. Mae hyn yn cynnwys prosesu sgrap ac adeiladu, ymhlith blaenoriaethau eraill. Llwyddais i dynnu sylw at y cyfle buddsoddi a swyddi sylweddol a gynrychiolir gan y Ganolfan Ragoriaeth Rheilffyrdd Byd-eang yn Onllwyn, ac rwy'n falch o gadarnhau bod y cwmni wedi cytuno i ystyried memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda GCRE. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru ac uwch swyddogion gweithredol Tata yn cyfarfod yn Onllwyn heddiw i drafod y memorandwm hwn. Rwy'n gobeithio y gall y gwaith hwn arwain at gyfleoedd cyflogaeth o safon i weithwyr a fydd yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y cyfnod pontio.
Y mater olaf a godais oedd fy mhryder ynghylch cyllid ar gyfer y Sefydliad Dur a Metelau yn Abertawe, sydd mor hanfodol o ran canfod ffyrdd arloesol o gefnogi cynhyrchu dur gwyrdd. Rwy'n falch o gadarnhau bod y cwmni wedi cytuno i ystyried ariannu nifer sylweddol o swyddi. Bydd fy swyddogion yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn dros yr wythnosau nesaf, wrth gwrs, ynghyd ag ysgrifennydd yr economi ac ynni, sef y Gweinidog arweiniol yn y Llywodraeth o ran ein gwaith gyda Tata.
Llywydd, barn y Llywodraeth hon o hyd yw bod modd atal y canlyniad yr ydym ni'n ei wynebu a'r golled y mae'n ei chynrychioli, ac y gellir ei atal. Ers blynyddoedd lawer, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r achos dros strategaeth ddiwydiannol lawn yn y DU sy'n gwobrwyo ein hasedau sofran ac yn cysylltu buddsoddiad busnes â thwf hirdymor y tu hwnt i Lundain a'r de-ddwyrain. Dyma'r newid sylfaenol sydd ei angen i gyflawni potensial ein diwydiant dur, a'r hyn y dylem ni i gyd ei ddisgwyl gan ba lywodraeth bynnag sydd gan y DU—lefel o uchelgais a chefnogaeth ymarferol y mae ein gweithwyr dur yn ei haeddu ac y credaf sydd ar ein gwlad eu hangen.
Dur yw'r edau a fydd yn rhedeg trwy economi heddiw ac yfory. Gofynnwyd i Lywodraeth y DU a oes ganddi'r uchelgais i wneud Cymru a'r DU yn ganolbwynt i'r dyfodol mwy gwyrdd hwnnw. Hyd yn hyn, mae'n amhosib disgrifio'r ateb fel unrhyw beth heblaw 'na'. Mae gweithwyr dawnus o Gymru yn cynhyrchu dur Cymreig o ansawdd uchel, ac mae eu gwaith yn dda ar gyfer twf ac yn dda ar gyfer diogelwch. Maen nhw'n haeddu cefnogaeth Llywodraeth uchelgeisiol gyda'r arfau i'w cefnogi. Diolch yn fawr, Llywydd.
Prif Weinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma. Os oes ar unrhyw un eisiau ceisio deall difrifoldeb y sefyllfa, bydd pennawd y BBC y bore yma ynghylch y 2,000 o swyddi a gollir gan effeithio ar gymunedau Aberafan a'r cyffiniau, nid dim ond y gweithwyr dur, ond hefyd yr isgontractwyr, y cyfleusterau cymunedol sy'n dibynnu, yn amlwg, ar gyflogwr mor fawr, yn drawsnewidiad enfawr, niweidiol, byddwn i'n ei awgrymu, yn y tymor byr. Rwyf wedi rhoi ar y cofnod safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig y byddem ni wedi hoffi gweld o leiaf un o'r ffwrneisi chwyth hynny'n aros ar agor nes bod y ffwrneisi bwa wedi dod i fodolaeth ac yn cynhyrchu'n broffidiol.
Rwy'n anghytuno â'ch pwynt chi nad oes gan Lywodraeth y DU uchelgais o ran dur. Drwy gynnig £500 miliwn a gweithio gyda Tata Steel, mae hynny'n sicrhau y bydd Cymru'n aros ar flaen y gad o ran cynhyrchu dur yma yng Nghymru. Ond dyw hynny ddim yn tanbrisio canlyniadau tymor byr difrifol iawn cyhoeddiad Tata yn ôl ym mis Medi. Rwy'n credu i mi eich clywed yn dweud, Prif Weinidog, eich bod yn edifar nad yw'r Ysgrifennydd busnes erioed wedi ymweld â'r ffatri. Roedd hi yno ym mis Medi gyda'r Ysgrifennydd Gwladol pan, yn anffodus, y cyhoeddwyd y newyddion siomedig am gau'r ffwrneisi chwyth, a hefyd yn tynnu sylw at y newyddion am y £500 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU, ynghyd â'r £100 miliwn sydd wedi'i gynnig ar gyfer y bwrdd pontio. Byddai'n werth ceisio deall—rydych chi'n porthi'n helaeth am yr etholiad cyffredinol sy'n dod yn ystod y misoedd nesaf—os ydych chi wedi cael trafodaethau gyda'r fainc flaen yn San Steffan o'ch plaid eich hun, ac a ydych chi wedi gofyn am sicrwydd gan y fainc flaen honno? Dyw'r sicrwydd hynny yn amlwg ddim yn ddigon cryf i argyhoeddi'r cwmni i oedi mewn gwirionedd ac yn y pen draw aros, pe bai newid llywodraeth, a dwi'n gobeithio na fydd yna—gobeithio mai'r Ceidwadwyr fydd yn ennill yr etholiad cyffredinol hwnnw. Ond, yn amlwg, fe aethoch chi i Mumbai gyda chyfres o gynigion. A nodwyd y cynigion hynny fel cynigion Keir Starmer, y byddai'n eu mabwysiadu pe bai'n Brif Weinidog? Pam nad oedd Tata Steel yn teimlo'n ddigon hyderus i ddweud, 'Iawn, fe rown ni goel ar eich gair, Prif Weinidog Cymru. Mae dewis arall yma', yn hytrach na bwrw ymlaen â'r hyn sydd ar y bwrdd—£500 miliwn o arian Llywodraeth y DU, gyda dwy ffwrnais fwa, diogelu swyddi a sicrhau y bydd Cymru ar flaen y gad o ran cynhyrchu dur?
Clywais chi hefyd, mewn ymateb i Aelod Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru yn gynharach y prynhawn yma, yn holi am strwythur y bwrdd pontio. Dyma'r tro cyntaf i mi eich clywed yn codi pryderon am y bwrdd pontio a'r ffordd y cafodd ei strwythuro. Roeddech chi'n is-gadeirydd y bwrdd hwnnw, rwy'n credu, pan oeddech chi'n Weinidog dros yr economi. Credaf mai'r Gweinidog newydd yw is-gadeirydd presennol y bwrdd. Rwy'n ei chael hi'n anodd gweld pam, os oedd gennych chi swyddogaeth mor flaenllaw wrth sefydlu'r bwrdd pontio hwnnw, eich bod chi bellach yn bwrw amheuaeth ar ei allu i gyflawni ar gyfer y gweithwyr a fydd, yn anffodus, yn colli eu swyddi ym Mhort Talbot, ac, yn amlwg, yn gwneud y defnydd gorau o'r arian hwnnw y mae Llywodraeth y DU wedi'i gynnig.
Fe hoffwn i hefyd geisio deall o'ch datganiad y prynhawn yma pa fath o ddata rydych chi'n ceisio ei sicrhau gan Tata Steel i geisio deall am y gweithwyr a gyflogir yn uniongyrchol y mae'r cyhoeddiad hwn yn effeithio arnyn nhw, yn amlwg, ond, yr un mor bwysig, yr isgontractwyr, sydd yn ôl pob tebyg yn cyfateb i'r un nifer â'r rhai sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol, sydd yn anffodus yn mynd i golli eu bywoliaeth. Felly, a allwn i geisio deall—? Rwy'n eich cefnogi chi a'r Llywodraeth yn eich ymdrechion i geisio cael gafael ar y data hwn i deilwra'r gefnogaeth y gall y Llywodraeth o bosibl ei chynnig ac, yn enwedig ar hyn o bryd, rwy'n credu fy mod i'n gywir wrth ddweud, nid oes arian wedi'i ddyrannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi dibenion ailhyfforddi; daw'r holl ailhyfforddi hwnnw o arian y bwrdd pontio a glustnodwyd gan Lywodraeth y DU.
Fe wnaethoch chi dynnu sylw at Y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd a'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth rydych chi'n gobeithio y gellid ei saernïo rhwng Tata Steel a'r ganolfan ragoriaeth fyd-eang. A allech chi sôn ychydig mwy ynghylch pa fuddion diriaethol yr hoffech chi eu gweld yn dod o'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwnnw? Rwy'n gobeithio y caiff ei roi ar waith yn gyflym a bod manteision uniongyrchol i'r ddwy gymuned leol a allai elwa'n uniongyrchol o fuddsoddiad uniongyrchol gan Tata os ydynt yn mynd i roi arian i'r ganolfan ragoriaeth fyd-eang honno.
A hefyd, rydych chi'n siarad am y sefydliad dur a'r cynigion rydych chi'n eu rhoi gerbron cynrychiolwyr Tata y gwnaethoch chi gwrdd â nhw ym Mumbai ynglŷn â buddsoddi yn y sefydliad. A allech chi ymhelaethu ychydig yn fwy ar beth yn union oedd eich cynigion a beth maen nhw'n ystyried sicrhau y bydd ar gael i'r sefydliad, fel y gallwn ni gael y cyfle gorau posibl i gadarnhau safle de Cymru fel un sydd ar flaen y gad o ran gwneud dur gwyrdd? Rwy'n deall bod trafodaeth wleidyddol yma, ond, yn yr un modd, bydd y buddsoddiad hwnnw yn y safle ym Mhort Talbot. Bydd sicrwydd o ran gwneud dur, yn y dyfodol, ac yn anffodus, yn y tymor byr, bydd yn heriol iawn, ond bydd yn dibynnu ar gydweithio i sicrhau y newidir i'r ffwrneisi bwa mor esmwyth ac mor amserol â phosibl i sicrhau'r gallu gwneud dur hwnnw yma yn ne Cymru.
Edrychwch, byddaf yn ceisio ymateb yn adeiladol i ystod o'r pwyntiau a wnaed. Yr her sy'n ein hwynebu yw un lle rydym ni'n gwneud y gorau o'r undod yn y Siambr hon, gan helpu i'n rhoi ni mewn sefyllfa gryfach. Mewn sgwrs gyda Llywodraeth y DU ac, yn wir, gyda'r cwmni, dyna lle cafodd ei groesawu mewn gwirionedd—pleidleisiodd y Ceidwadwyr o blaid y cynnig pan, i fod yn deg, Paul Davies oedd llefarydd yr economi ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, o blaid cynnig ynglŷn â bod eisiau gweld ffwrnais chwyth yn cael ei chadw ar y safle. Mae llawer o ddadleuon da dros hynny, effaith economaidd uniongyrchol y colledion swyddi a allai fod yn anferthol yn ogystal â'n buddiannau sofran a pham nad wyf yn credu mai dyma'r peth iawn i unrhyw Lywodraeth y DU o unrhyw liw dderbyn dyfodol lle gallem ni fod yr unig wlad G7 na all wneud dur sylfaenol. Yna rydym yn dibynnu ar economïau cystadleuwyr i ddarparu'r dur hwnnw sydd ei angen arnom ni o hyd, ac, hyd y gellir rhagweld, mae hynny'n debygol o fod yn wir. Mae hynny'n golygu bod y gwerth economaidd yn cael ei gynhyrchu yn rhywle arall, yn ogystal â natur y perthnasoedd sy'n cyd-fynd â hynny. Felly, roedd croeso i'r ffaith bod y Ceidwadwyr Cymreig yn cytuno gyda phob plaid arall yn y fan yma mai dyna'r peth iawn i'w wneud.
Mae arnom ni eisiau ymgysylltu'n adeiladol â'r bwrdd pontio. Yr her yw, er bod y bwrdd pontio yn cael nifer o bartneriaid i'r ystafell, mae rhai o'r pwyntiau a wneir yma ac yn syth ar ôl cyfarfodydd pontio'r bwrdd yn ein tynnu oddi wrth ein meysydd ymgysylltu mwyaf adeiladol a chadarnhaol. Bydd angen bwrdd arnom ni a all weithredu'n gyflym a chydnabod nad yw'r bwrdd yno i reoli pawb arall. Ac rwyf wedi gwneud y pwynt hwn o'r blaen, pan fo achosion o ddiweithdra sylweddol, fod Llywodraeth Cymru, ein swyddogion ar draws ystod o dimau, wedi gweithio mewn ffordd wirioneddol ystwyth a rhagweithiol gyda chydweithwyr yn y Ganolfan Byd Gwaith. Felly, ni fu gwahaniaeth rhwng y ddwy Lywodraeth wahanol, ac rydym ni bob amser wedi gweithio gyda phwy bynnag sy'n arwain yr awdurdod lleol hwnnw. A bu hynny'n gryfder gwirioneddol. Dyna'n union sydd angen i ni ei weld yn digwydd yma, ond mae graddfa'r her hyd yn oed yn fwy. Os nad yw'r bwrdd pontio yn ddigon ystwyth i wneud hynny, yna mewn gwirionedd ni fyddwn yn gweld y gefnogaeth y dylid ei rhoi yn y modd y gellid ac y dylid gwneud hynny. Mae'r arian y mae Llywodraeth y DU wedi'i roi ar y bwrdd i'w groesawu, ond os ydym yn mynd i weld y senario waethaf posibl, yna rwy'n ofni na fydd yn ddigon, ac nid yw'r amserlen a ragwelir yn mynd i ymdrin â'r hyn sydd ei angen arnom ni.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi nodi, yn sawl un o'n hardaloedd, y dulliau y gallwn ni eu defnyddio: y newidiadau a wnaed eisoes i'r trothwy ar gyfer cymorth o gyfrifon dysgu personol—mae wedi cael ei newid yn benodol i ystyried gweithlu Tata; y ffaith bod gennym ni arian ReAct sydd wedi cael ei ail-weithio; y ffaith bod yna arian Cymunedau am Waith; y ffaith ein bod yn parhau i gefnogi'r fframwaith prentisiaethau. Ac un o'n cwestiynau allweddol yw sicrhau bod gan brentisiaethau'r sicrwydd cyhoeddus y gellir gorffen y prentisiaethau. Mae'r rhain yn bethau ymarferol, wedi'u hategu gan adnoddau gwirioneddol gan Lywodraeth Cymru, ar adeg pan fo pawb yn gwybod bod ein hadnoddau dan bwysau arbennig, ar ôl 14 mlynedd o'n cyllideb yn cael ei lleihau mewn termau real, a dyna'r gwirionedd na ellir ei wadu. Ac eto, rydym yn barod i wneud popeth y gallwn ni ac y dylem ni ei wneud, o fewn y cyllidebau sydd ar gael, i gefnogi'r gweithlu hwnnw. Ac mi fyddai hi yn beth da petai gan Lywodraeth Cymru gefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig i sefyll dros y gweithlu hwn yn hytrach na cheisio dod o hyd i ffordd o ymosod ar Lywodraeth Cymru a'n hawydd i weld y gweithwyr hynny yn cael y dyfodol gweddus y maen nhw'n ei haeddu.
Rwy'n ofni nad wyf yn rhannu ei farn mai dim ond cyfnod pontio tymor byr yw hwn. Ac os yw Andrew R.T. Davies yn anghytuno, dylai fynd i siarad â phobl o Shotton, dylai fynd i siarad â phobl sy'n cofio Glyn Ebwy yn dref ddur a beth ddigwyddodd pan ddigwyddodd y trawsnewid hwnnw. Mae'r holl heriau hynny'n dangos bod hon yn her tymor hwy, nid digwyddiad tymor byr yn unig. Gallai nifer o weithwyr medrus ddod o hyd i waith ar unwaith. Yr her fydd a all hynny fod ar yr un gyfradd ac a fyddant yn gallu aros yn eu cymunedau er mwyn i'r gwaith hwnnw ddigwydd. Yr her nesaf yw'r grŵp ehangach yna o weithwyr, a dyna pam mae Ysgrifennydd yr economi a minnau wedi bod yn glir iawn ynghylch yr angen i gael gafael ar y wybodaeth am y gweithlu presennol cyn gynted â phosibl, ond, yn hollbwysig, gweithlu'r contractwyr. Ac rwyf ychydig yn rhwystredig am y ffaith nad oes gennym ni fynediad at yr wybodaeth honno, hyd yn oed nawr. Mae yna gontractwyr sy'n gwneud dewisiadau nawr am eu gweithlu presennol. Mae Tata yn gwybod pwy yw eu contractwyr ac fe allen nhw rannu'r wybodaeth honno gyda ni. Nid ydym ni erioed wedi datgelu gwybodaeth gyfrinachol a ddarparwyd i ni, ac rydym ni bob amser wedi llwyddo i weithio mewn ffordd adeiladol iawn. Fe allem ni ac fe ac fe ddylem ni allu gweithio gyda'r awdurdodau lleol—lluosog—sy'n cael eu heffeithio fwyaf uniongyrchol, gyda'r contractwyr hynny, gyda'r Ganolfan Byd Gwaith, a chyda'r cwmni, i helpu'r gweithwyr hynny sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol nawr. Nid ydym yn gallu gwneud hynny oherwydd nad yw'r wybodaeth wedi'i darparu i ni. Rwyf wedi cael y sicrwydd y caiff ei ddarparu o fewn dyddiau, a bydd hynny'n ein galluogi i geisio gwneud y peth iawn i weithwyr nawr yn ogystal â'r rhai a fydd yn cael eu heffeithio, o bosibl, yn y dyfodol.
Yna bydd gennym her lawer ehangach am yr effaith ar weithlu ehangach—y bobl hynny sy'n dibynnu ar y gwariant sylweddol. Dyna pam nad y gweithlu uniongyrchol yn unig, ond, o bosibl, 7,000 i 9,000 o swyddi ychwanegol sy'n cael eu heffeithio gan y newid yr ydym ni'n sôn amdano. Ac os bydd Tata yn bwrw ymlaen â'u cynlluniau presennol, mae angen i ni fod yn glir y bydd y diswyddiadau mwyaf yn digwydd ar ôl i'r ail ffwrnais chwyth gau, a gallai'r swyddi hynny gael eu colli yn y cyfnod cyn diwedd y flwyddyn galendr. Felly, mis Hydref, Tachwedd a Rhagfyr yw'r tri mis gyda'r colledion swyddi mwyaf, yn y cyfnod cyn y Nadolig a'r flwyddyn newydd. Rwy'n credu bod hon yn sefyllfa y dylem ni ei hosgoi, os yw hynny'n bosibl. Dyna pam rwy'n parhau i gyflwyno'r achos dros gyfnod pontio hirach a dadlau'r achos dros aros am etholiad cyffredinol sy'n anorfod. Ac fe wnes i siarad â Keir Starmer cyn hedfan yno, ac rydym ni'n glir iawn mai safbwynt Llafur y DU yw bod y £0.5 biliwn sydd ar y bwrdd nawr yn cael ei ychwanegu at £2.5 biliwn mewn cronfa trawsnewid dur gwyrdd. Buddsoddiad ychwanegol sylweddol sydd ar gael i'r cyfalaf, a maniffesto hefyd y credaf y bydd angen buddsoddi yn nyfodol gwneud dur; mae angen mwy o ddur, nid llai, arnom ni yn y dyfodol.
Y gwir amdani, serch hynny, yw fy mod yn credu bod y cwmni'n dewis bod eisiau gweithredu eu cynllun cyn etholiad cyffredinol. Ac nid ydyn nhw'n mynd i gefnu'n gyhoeddus ar hynny. Gan nad oes etholiad cyffredinol, nid ydynt ar fin dweud yn gyhoeddus y byddant wrth gwrs yn newid eu meddwl. Fodd bynnag, mae'n bwysig ein bod yn parhau i gyflwyno'r achos. Os nad ydym yn barod i frwydro dros y swyddi hyn a thros y sector, pwy sy'n mynd i wneud hynny, oherwydd nid dyna'r neges rydym ni'n ei chael gan Weinidogion y DU ar hyn o bryd? Mae arna i eisiau gweld y newid hwnnw, ac mae arna i eisiau yr effaith fwyaf gan bobl ar draws y Siambr hon i geisio sicrhau'r canlyniad gorau i weithwyr Cymru ac, rwy'n credu, y canlyniad gorau i'r DU wrth gadw'r ased sofran allweddol hwn.
Yn wir, roeddwn i'n lled-obeithiol y byddech chi'n dychwelyd gyda rhywbeth sylweddol, Prif Weinidog. Ac rwy'n dweud 'sylweddol' oherwydd, i fod yn deg, rydych chi wedi tynnu sylw at rai pethau yn eich datganiad. Hynny yw, y posibilrwydd y byddai Tata yn ariannu rhai ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe, ond oedd hynny i ystyried cyllid; nid oedd yn cyflawni unrhyw beth mewn gwirionedd, onid oedd? Gadewch i ni fod yn onest yn y fan yma, roedd yr amser i fynd i India wedi hen basio.
Clywsom sibrydion am y posibilrwydd o gau'r ffwrneisi chwyth a cholli swyddi ym Mhort Talbot y llynedd. Lle oedd y brys bryd hynny? Roedd penaethiaid Tata yn y DU bythefnos yn ôl. Pam na wnaethoch chi gyfarfod â nhw bryd hynny? Wnaethoch chi ofyn am gyfarfod? Hyd y gwelaf i nawr, fe aethoch chi i'r India heb unrhyw ofynion, heb unrhyw argoel gan Tata y byddai unrhyw beth yn newid o ganlyniad i'ch ymweliad, felly beth oedd y diben? Os rhywbeth, yn seiliedig ar eich datganiad, rydych chi wedi gwastraffu amser, i fod yn hollol onest. Yr hyn sy'n digwydd ym Mhort Talbot erbyn hyn yw methiant polisi enfawr ar lefel Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru dros sawl blwyddyn, os nad degawdau. Wedi'r cyfan, rydym ni wedi bod yn y sefyllfa hon o'r blaen, yn do? Cwmni rhyngwladol yn dal y ddwy Lywodraeth yn wystlon, yn chwilio am arian y Llywodraeth. I Tata, mae wedi bod yn ddigwyddiad lled-reolaidd.
Fy ddywedoch chi yn eich datganiad y dylai Tata aros tan ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf. Caiff hynny ei ailadrodd dro ar ôl tro. Wel, bydd adeg yr etholiad yn rhy hwyr. Fe ddywedoch chi eich hun: cau ffwrnais chwyth 5 erbyn mis Mehefin, 4 ym mis Medi. Mae angen gweithredu nawr. A beth yw cynnig Llafur yn union? £3 biliwn ar gyfer dur, nid yn unig i Bort Talbot, ond i'r DU gyfan. Efallai y gallai'r Prif Weinidog egluro'r £2.5 biliwn neu'r £2.6 biliwn a grybwyllodd wrth arweinydd yr wrthblaid ar hyn o bryd, oherwydd y tro diwethaf i mi wirio, nid dyna oedd polisi Llafur. Roeddem ni'n ddigon cyflym i feirniadu'r swm a gynigiwyd gan Lywodraeth y DU. Hynny yw, o grafu wyneb y £3 biliwn a byddwch yn sylweddoli'n gyflym nad yw'n llawer gwell, pe baem ni'n rhannu hynny ymhlith holl safleoedd dur y DU. Felly, £3 biliwn i'r DU gyfan, tra, ar y cyfandir, maen nhw yn buddsoddi dros £2.6 biliwn mewn safleoedd unigol.
Nawr, gadewch i ni fod yn glir: unwaith y bydd y ffwrneisi chwyth wedi'u diffodd, dyna ni, ni allwch chi eu tanio nhw eto; dydyn nhw ddim fel y cyfrifiaduron sydd gennym ni o'n blaenau yma. Ni fydd Tata yn aros am yr hyn a allai fod yr un lefel o gymorth ariannol, ac ni fyddan nhw chwaith yn aros am etholiad nad oes neb yn gwybod pryd y bydd yn digwydd mewn gwirionedd. Byddaf yn ailadrodd yr hyn a ddywedais yr wythnos diwethaf: mae pob plaid yn y Siambr hon wedi dweud y dylai'r ffwrneisi chwyth aros ar agor; ailadroddwyd hynny gan arweinydd yr wrthblaid, bod angen cyfnod pontio gwirioneddol, felly beth ydym ni'n mynd i'w wneud?
Mae tri dewis, hyd y gwelaf i, sydd ar y bwrdd, yn union fel yr wythnos diwethaf: gwladoli, cadw neu ddirywiad wedi ei reoli. Gyda llaw, byddwn yn croesawu dewisiadau eraill os oes rhai i'w hystyried. Dyna pam y cyflwynais gynnig heb ddyddiad trafod; Gadewch i ni drafod y dewisiadau hyn, a gadewch i ni ddod i benderfyniad, oherwydd hyd yn hyn, y cyfan rydw i wedi'i glywed gan y ddwy Lywodraeth yw derbyn yn llywaeth y golled sydd ar ddod o hyd at 10,000 o swyddi yn fy rhanbarth, ac nid yw hynny'n dderbyniol. Dim ymladd, dim awydd, dim angerdd, dim ond ofn troi'r drol. Yn y cyfamser, nid yw Tata yn troi'r drol, maen nhw'n ei chwalu hi.
Nid wyf yn derbyn bron popeth y mae'r Aelod wedi'i ddweud, ac rwy'n gwarafun dull ac ysbryd ei ddadl. Mae'r Llywodraeth hon wedi brwydro dros y sector dur dros nifer o flynyddoedd. Ers i'r cynigion gael eu gwneud, rydym ni wedi gweithio ochr yn ochr ag undebau llafur a'u cynrychiolwyr, nid yn unig ar lefel genedlaethol, ond hefyd y cynrychiolwyr yn y gweithle. Mae'r gweithwyr dur eu hunain yn arbenigwyr gwirioneddol ar sut i redeg y safle. Pe byddech yn siarad â grŵp o weithwyr dur a'u cynrychiolwyr, nid wyf yn credu y byddent yn dweud nad yw'r Llywodraeth hon wedi ymladd drostyn nhw ac nad yw'n parhau i frwydro drostyn nhw; Nid wyf yn credu y canfyddech eu bod yn credu bod yr amser i fynd i'r India wedi hen basio.
Rydym ni wedi bod yn gweithio gydag undebau llafur dur i ddeall natur y trafodaethau y maen nhw'n eu cael a phryd y gallai ymyrraeth weinidogol wneud gwahaniaeth. Ac, mewn gwirionedd, pan oedd arweinyddiaeth Tata yma am ddeuddydd, roedden nhw mewn trafodaethau gyda'r undebau llafur dur; dyna beth roedden nhw'n ei wneud. Ac mae angen i ni ddeall beth sy'n digwydd yn y trafodaethau hynny, sut rydym ni'n defnyddio ein dylanwad. Dyna pam y cafodd Ysgrifennydd yr economi ac ynni sgwrs gyda'r undebau llafur dur yr wythnos diwethaf, i ddeall hyd a lled pethau. Dyna pam roedd yn rhaid i ni wneud dewisiadau ar unwaith ynghylch a ddylid mynd i Mumbai ai peidio. Rwy'n credu y byddai, ac y dylai a bod rheidrwydd ar unrhyw Brif Weinidog yma yng Nghymru o unrhyw blaid, i fod wedi mynd i Mumbai yn yr amserlen a wneuthum. Dyma oedd y peth iawn i'w wneud, ac rwy'n falch fy mod i wedi gwneud hynny, ac yn fwy balch o ddal ati i gyflwyno'r achos ac ymladd dros y buddsoddiad y credaf a allai wneud gwahaniaeth.
Rwy'n gwrthod y ffordd iddo gategoreiddio buddsoddiad mewn sectorau allweddol o'r economi fel abwyd i ddiwydiant preifat. Ni fydd y math yna o iaith wrth fodd y gweithlu sy'n gweithio yno. Gallech ddweud yr un peth am lawer o'n cyflogwyr mawr eraill. Fyddech chi ddim yn siarad am y buddsoddiad mewn sgiliau yn Airbus fel abwyd i'r cwmni aros yma. Mae'n rhan o'r berthynas aeddfed y mae angen i ni ei chael ynghylch sut rydym ni'n tyfu ein heconomi a sicrhau gwaith a buddsoddiad yma ar gyfer y cymunedau y mae'n fraint i ni eu cynrychioli.
O ran dyfodol y ffwrnais bwa trydan, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn cydnabod bod ffwrneisi bwa trydan yn rhan o'r dyfodol. Bydd mwy o gynhyrchu gyda'r ffwrneisi hyn, ac rwy'n credu mai dyna'r peth iawn i'w weld yn digwydd. Fel Llywodraeth, mae'n rhaid i ni bob amser allu a pharatoi i wneud mwy nag un peth ar yr un pryd. Mae hynny'n golygu dadlau'r achos dros y dyfodol mae arnom ni ei eisiau, a pharatoi ar gyfer y dyfodol a allai ddod i'n rhan. Ni fyddai unrhyw un yn maddau i ni pe na baem ni'n gwneud paratoadau i Tata weithredu'r cynllun y maen nhw'n sôn amdano yn gyhoeddus. Dyna'n union beth rydym ni'n ei wneud. Nid derbyn yw hynny y bydd hynny'n digwydd yn ddiofyn, a'n bod derbyn hynny neu'n plygu i'r drefn. Mae ein brwydr yn un wirioneddol ar gyfer y dyfodol, a byddwn yn gobeithio, o fewn a thu allan i'r Siambr, y gallwn ni gael ymateb mor gydgysylltiedig â phosibl i sicrhau'r effaith fwyaf posibl y gall y Senedd hon a'r Llywodraeth hon ei chael ar gyfer dyfodol y credaf y mae ein gweithwyr dur yn ei haeddu.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad, ond nid am ei ddatganiad yn unig? Mae'r bobl rwy'n siarad â nhw ym Mhort Talbot—fy nghymdogion, ffrindiau, cydweithwyr—yn ddiolchgar i chi fynd allan i Mumbai a dangos arweinyddiaeth oherwydd, hyd yma, nid ydym ni wedi gweld hynny gan Lywodraeth y DU. Felly, diolch yn fawr iawn am hynny ac yn fawr iawn am ddadlau'n gryf dros gadw gwneud dur cynradd yma yng Nghymru, ac yn benodol ym Mhort Talbot, oherwydd ymddengys bod hynny'n rhywbeth y mae Llywodraeth y DU wedi colli golwg arno.
Rwyf wedi clywed rhai sylwadau y prynhawn yma, ond gadewch imi fod yn glir: mae pobl ym Mhort Talbot, gweithwyr dur Port Talbot, yn croesawu eich gweithredoedd a gweithredoedd y Llywodraeth hon. Maen nhw'n siomedig ym methiannau Llywodraeth y DU, ac maen nhw'n ddig wrth Tata eu hunain am wneud y penderfyniad i gau'r ffwrneisi chwyth hynny heb gyfiawnhad. Nid agenda werdd yw hon; penderfyniad ariannol gan Tata yw hwn. A gaf i fod yn glir ynglŷn â hynny? Maen nhw'n edrych ar ochr arianol y peth, nid ar ochr gymunedol y peth, ddim yn edrych ar ochr y bobl. Ac mae'n bwysig atgoffa pobl o hynny.
Rydym ni i gyd yn gwybod effaith ddinistriol hyn ar y gweithlu—mae'r ffigwr o 2,800 wedi ei grybwyll. Gadewch i ni ei gwneud hi'n glir: fel y dywedodd rhywun, mae tua 9,000 gyda'r gadwyn gyflenwi a'r contractwyr. Mae rhai contractwyr eisoes yn diswyddo pobl nawr, cyn i'r ffwrneisi chwyth gau hyd yn oed. Mae hynny'n bwysig. Ond, i'r Llywodraeth hon, gadewch i ni feddwl yn ôl am yr hyn y gallwn ni fod yn ei wneud. Diolch i chi am y cyfrif dysgu personol, oherwydd rwy'n gwybod fy mod i wedi gwthio'r agenda o ran y cyfrif dysgu personol, a sicrhau bod gweithwyr Tata a chontractwyr yn gallu cael hynny nawr a chael gafael ar y cyllid hwnnw, oherwydd mae'n ymwneud â hyfforddi a datblygu lle gallwn ni eu helpu i fynd i rywle arall. Y siom yw bod pobl eisoes yn gadael nawr. Maen nhw nawr yn gweithio yn Lloegr. Rydym ni'n colli'r economi honno nawr. Mae hyn yn niweidiol iawn i'n heconomi leol.
Nawr, dim ond ychydig o gwestiynau cyflym, oherwydd rwy'n gwybod bod fy amser ar ben. Y bwrdd pontio, roeddech chi'n sôn am hynny. A wnewch chi sicrhau bod y Trysorlys yn rhyddhau'r £80 miliwn hwnnw? Oherwydd hyd yn hyn nid yw'n mynd i unman. Rydym ni wedi cael gwybod am gyfraniad Tata o £20 miliwn, ac maen nhw eisoes wedi dweud ble y byddant yn ei wario, sut y byddant yn ei wario, a sut y byddant yn ei reoli. Nid wyf wedi clywed hynny gan Lywodraeth y DU eto, felly mae angen ymrwymiad yn y bwrdd pontio nesaf, oherwydd rwy'n eistedd arno, fel y mae rhywun arall yn y Siambr hon yn ei wneud, a rhywun arall yn y Siambr hon. Mae angen yr ymrwymiad hwnnw arnom ni y byddan nhw yn ei wario, nid dim ond siarad amdano, a'i wario'n gyflym, oherwydd mae'r gweithlu'n mynd o fewn mis o amser, ac fel rydych chi wedi dweud, ym mis Medi, y rhan fwyaf ohono. Dydyn ni ddim eisiau bod yn dal i siarad ym mis Medi, gan ddweud, 'O, lle byddwn ni'n gwario hyn?' Mae arnom ni eisiau ymrwymiadau nawr. Felly, a allwch chi sicrhau y rhoddir yr ymrwymiad hwnnw?
Ac, yn ail, a wnewch chi sicrhau bod Tata yn cyflwyno'r cais cynllunio ar gyfer y ffwrnais bwa trydan? Oherwydd, fel y dywedwch, mae yna weithwyr yn y gwaith dur nad ydyn nhw'n credu y daw'r ffwrnais bwa trydan. Mae angen i ni weld cyflwyno cais cynllunio, fel y gallwn ni fod yn hyderus y byddant yn darparu'r ffwrnais bwa trydan mewn gwirionedd.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwy'n cytuno'n llwyr â David Rees: ni ddylem ni fod yr unig wlad G7 sy'n ildio ein gallu i wneud dur sylfaenol. Mae hynny'n fater sofran i Lywodraeth y DU. Ac roedd bargen ar y bwrdd a oedd ar gael dair blynedd yn ôl, a byddai wedi bod yn well bargen ar y pryd, gyda chyfres well o ganlyniadau ac, mewn gwirionedd, rwy'n credu y byddai gennym ni fwy o weithwyr yn dal mewn gwaith gyda dyfodol gwahanol, ac fe allem ni fod wedi cymryd cam ymlaen o ran cael mwy o gynhyrchu mewn ffwrnais bwa trydan ochr yn ochr â dyfodol mwy diogel ar gyfer cynhyrchu mewn ffwrnais chwyth hefyd.
Fy mhryder gyda hynny oedd—. Rwy'n cydnabod y pwynt y mae'r Aelod wedi'i wneud am y dicter yn y gymuned sy'n real, ac nid yn unig o fewn y gweithlu ond ar lefel ehangach, ac fe wn i fod hynny wedi'i gyfeirio at Lywodraeth y DU a'r cwmni. Nid wyf erioed wedi colli golwg ar y bobl yn uniongyrchol yng nghanol hyn i gyd: y gweithlu yn Tata, y contractwyr sy'n gwybod eu bod yn dibynnu ar y busnes yn parhau, a phobl yn y gymuned ehangach sy'n gwybod, os byddwch yn cymryd llawer o weithwyr â chyflog da o'r economi honno, y bydd yn cael effaith ar bob un ohonyn nhw. Soniais yn gynharach am realiti gwahanol drefi gwneud dur a'r dyfodol y gadawyd nhw gydag o. Does arnaf i ddim eisiau gweld hynny ar gyfer Port Talbot nac yn wir ar gyfer gweddill y gwaith yn Llanwern, ac fe hoffwn i weld dyfodol iach i Trostre a Shotton gyda'r gweithrediadau sydd ganddyn nhw, a dyna pam ei bod hi mor bwysig gwneud y pwynt ynglŷn â darparu'r slab a'r coil ar gyfer eu dyfodol.
Ond o ran eich sylw ynglŷn â chontractwyr, rwy'n credu fy mod in glir iawn bod angen yr wybodaeth arnom ni am hynny, ac mae pobl yn cael eu diswyddo nawr. Dyna pam mae'r wybodaeth mor bwysig ac felly amser yn hanfodol. Rwyf hefyd eisiau bod yn glir ynghylch pecynnau hyfforddi yn y dyfodol a sut y gallent edrych. Bydd gan rai gweithwyr sgiliau yn y busnes nad ydynt wedi'u hachredu, felly ni allant fynd i gael swydd gyda chyflogwr gwahanol os nad oes ganddyn nhw'r achrediad ar gyfer hyn. Bydd yr hyfforddiant yn bwysig iawn er mwyn galluogi pobl i symud ymlaen, ac unwaith eto, gallai a dylai rhywfaint o hynny fod yn waith da sydd ar gael.
Nid oes gennym ni gynllun eto ar gyfer yr £80 miliwn, ac rwyf wedi gweld bod Tata wedi nodi sut maen nhw am wario eu £20 miliwn maen nhw wedi'i roi ar y bwrdd. Mae'n rhan o'r rheswm pam y dywedais yr hyn a ddywedais o'r blaen, am yr ystwythder a chyflymder y bwrdd pontio yn gallu gwneud dewisiadau. Bydd angen rhai o'r dewisiadau hynny yn y dyfodol agosach ac ar gyflymder na fydd yn aros am gyfarfod misol. Bydd angen i ni gael rhywbeth sy'n dylunio ac yn dwyn ynghyd y gwahanol randdeiliaid sydd â phwerau a chyfrifoldeb gwneud penderfyniadau, er mwyn deall sut gaiff yr adnodd hwnnw'n ei ddefnyddio—nid bwriadu ei ddefnyddio, ond y caiff ei ddefnyddio mewn gwirionedd—ac mae angen i'r bwrdd pontio gydnabod na all wneud hynny i gyd drwy'r patrwm presennol o gyfarfodydd. Mae hynny'n bwynt ymarferol nad yw'n wleidyddol ddadleuol, rwy'n credu. Mae arnoch chi naill ai eisiau i'r arian gael ei ddefnyddio'n dda, ochr yn ochr â'r adnodd sydd gennym ni a phartneriaid eraill, neu does arnoch chi ddim eisiau hynny, ac rwy'n credu mai'r peth anghywir fyddai ceisio cadw at batrwm sy'n gyfleus os ydych chi'n mynd i'r cyfarfod, ddim yn gyfleus os ydych chi am weld y canlyniadau cywir i'r gweithlu.
Ac rwy'n derbyn sylw'r Aelod ynghylch cais cynllunio ar gyfer ffwrnais bwa trydan. Hyd yn oed ar ffurf amlinellol, byddai'n arwydd defnyddiol i'r gymuned ehangach yr adeiledir y ffwrnais bwa trydan, oherwydd os daw cynhyrchu gyda ffwrnais chwyth i ben, bydd bwlch o sawl blwyddyn cyn y gallwch chi gynhyrchu gyda ffwrnais bwa trydan, ac os ydych chi'n mewnforio dur i'w rolio, bydd pryderon bob amser ynghylch p'un ai, a dweud y gwir, a ystyrir y cynhyrchiad ehangach. Po gynharaf yr anfonir y neges gadarn honno, y gorau.
Dywed y Prif Weinidog na chollodd olwg erioed ar y gweithlu ym Mhort Talbot ac rwy'n falch o glywed hynny, ond gadewch i ni atgoffa'n hunain o'i record. Mae Llywodraeth y DU wedi cynnig £80 miliwn ar gyfer y bwrdd pontio hwnnw i gefnogi gweithwyr. Mae Tata eu hunain wedi rhoi £20 miliwn. Nid yw ef a'i Lywodraeth, Llywydd, wedi rhoi dim—dim dimai goch i gefnogi gweithwyr drwy'r bwrdd pontio hwnnw. Dyna ei record o ran cefnogi gweithwyr dur ym Mhort Talbot. Nawr, ei unig ateb—. Mae wedi mynd i Mumbai, a dweud y gwir nid yw'n swnio fel ei fod wedi sicrhau unrhyw beth o'r cyfarfod hwnnw. Mae wedi bod ar y daith honno. Felly, ymddengys mai'r unig beth y gall gyfeirio ato fel ateb posibl yw etholiad cyffredinol, a'r £3 biliwn hwn, sy'n iawn, ond gofynnwyd i'r Prif Weinidog ddwywaith yn awr gadarnhau cyfran y £3 biliwn hwnnw a fyddai'n cael ei wario'n benodol ym Mhort Talbot, oherwydd os na all wneud hynny'n glir i ni yn y Senedd, yn sicr ni wnaeth hynny'n glir ym Mumbai i Tata. Felly, a allwch chi gadarnhau union gyfran y £3 biliwn hwnnw a glustnodwyd ar gyfer Port Talbot?
Wel, rwy'n credu y bydd naws y cyfraniad hwnnw'n dân ar groen teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd cysgu'r nos a deall a oes pobl ar eu hochr yn y frwydr am eu dyfodol. Rwy'n credu y dylai'r Aelod bob hyn a hyn ystyried nid yn unig a oes clipiau diddorol ar gyfer cyfryngau cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig, ond eich cyfrifoldebau ehangach mewn gwirionedd. Dydw i ddim yn meddwl eich bod chi'n dod yn agos at y rheini.
Nid yw'n wir o gwbl dweud nad yw Llywodraeth Cymru wedi cefnogi Tata yn ariannol, er nad ydym ni'n barod i fuddsoddi yn nyfodol y gweithlu os collir yn wir y swyddi y rhagwelir eu colli. Rwyf wedi sôn amdano fwy nag unwaith: cyfrifon dysgu personol, rhaglen ReAct, Cymunedau am Waith, yr hyn rydym ni'n ei wneud gyda phrentisiaethau. Mae yna ystod eang o fesurau yr ydym ni'n barod i'w gweithredu i gefnogi'r gweithlu hwnnw, fel yr ydym ni wedi'i wneud ym mhob achos o ddiweithdra sylweddol arall a'r ffordd yr ydym ni wedi gweithio'n fwriadol gyda'n rheolwyr lleol a'r Ganolfan Byd Gwaith i wneud hynny, ac yn wir awdurdodau lleol o unrhyw arweinyddiaeth wleidyddol.
Rwy'n credu o ran y galw yr amlinellais i rannu'r gronfa trawsnewid dur gwyrdd gwerth £3 biliwn—mae hynny'n £2.5 biliwn, ynghyd â'r £0.5 biliwn sydd ar y bwrdd ac nad yw wedi ei wario hyd yn hyn—ni fydd unrhyw un yn y sector yn credu'n ddifrifol y gallech chi neu y dylech chi geisio dosrannu hynny nawr heb y sgwrs y mae angen i chi ei chael gyda'r busnes ynglŷn â sut y gallen nhw ddefnyddio peth o'r arian hwnnw ar gyfer Trawsnewidiad dur gwyrdd. Os yw'r Aelod am wneud cyfraniad difrifol, caiff ymateb difrifol. Rwy'n credu bod ei arddull anterliwtiol yn adlewyrchu'n wael iawn arno, ac mae'r gweithlu a'r cymunedau yr effeithir arnyn nhw yn uniongyrchol yn cydnabod ac yn deall hynny i'r dim. Dylai feddwl eto.
Rwy'n siomedig o glywed nad yw'r Prif Weinidog wedi dychwelyd gydag unrhyw newyddion da diriaethol i weithwyr a thrigolion Port Talbot, a gwn y bydd llawer o'r bobl rwy'n eu cynrychioli yn hynod ddigalon. Mae gweithwyr eisoes yn cael eu gorfodi i adael eu cymunedau, ac weithiau eu teuluoedd, oherwydd ansicrwydd y misoedd diwethaf a chynlluniau torri swyddi trychinebus Tata. Yn sgil dinistr economaidd, caiff bywyd cymunedol ei ddistrywio. Mae cynghorydd sir Plaid Cymru dros Aberafan, Andrew Dacey, yn is-gadeirydd clwb rygbi nerthol Aberafan Quins, y mae gan fwy na hanner ei dîm swyddi naill ai yn y gwaith dur neu'n gysylltiedig ag ef. Yn ogystal â'i ofnau, yn amlwg, ar gyfer dyfodol y clwb, ei hyfywedd a'i nawdd, mae'r Cynghorydd Dacey wedi sôn mai siom yw'r prif emosiwn a deimlir a'r ffaith bod ei aelodau'n teimlo mor isel, ni allant hyd yn oed siarad am yr hyn sy'n digwydd. Felly, beth fydd yn cael ei wneud i fynd i'r afael â'r agwedd hon, yn benodol, y gost economaidd, gymdeithasol a diwylliannol y bydd unrhyw un a fagwyd mewn cymuned lofaol yn hynod gyfarwydd â hi? Oherwydd mae colli swyddi nid yn unig yn effeithio ar y gweithlu, ond yr holl gwmnïau sy'n dibynnu arnyn nhw, a'r holl bobl hyn sy'n rhan o'r sefydliadau, clybiau a chymdeithasau sy'n gwneud Port Talbot a'r cymunedau cyfagos yr hyn ydyw. Felly, sut fyddwch chi'n sicrhau y caiff pawb y mae hyn yn effeithio arnynt eu hystyried a'u cefnogi dros y misoedd nesaf, a sut fyddan nhw'n rhan o unrhyw gynlluniau cefnogaeth sydd gan y Llywodraeth? Sut allwn ni amddiffyn ffabrig cymdeithasol hanfodol bwysig Port Talbot?
Dyma un o'r prif ysgogwyr yng ngweithred y Llywodraeth hon o ran deall nad darlun economaidd yn unig yw hwn. Nid dim ond adleoliad tymor byr ydyw. Os collir y swyddi ar y raddfa a'r cyflymder sy'n cael ei gynnig, gwyddom, yn anffodus, o rannau eraill o Gymru, trefi dur eraill, cymunedau eraill, y bydd effaith hirhoedlog i hynny. Dyna'n union yr ydym ni wedi bod yn ceisio ei osgoi, yr effaith gymdeithasol honno rwy'n clywed gan bawb, pan fyddaf wedi bod i'r dref, pan fyddaf wedi cwrdd â chynghorwyr lleol. Ac, wrth gwrs, nid yw David Rees byth yn colli cyfle i siarad am hyn, na chwaith cynrychiolwyr eraill yr ardal yn wir, ac ni fyddwn yn disgwyl i bobl beidio â gwneud hynny.
Nid yr effaith economaidd a chymdeithasol yn unig yw fy mhryder i, ond am y ffaith bod gennych chi gynllun, ac os yw pobl yn credu bod y bwrdd pontio gyda £100 miliwn yn mynd i ddatrys hyn i gyd, nid wyf yn credu bod hynny'n bodloni graddfa'r her mewn gwirionedd. Nid wyf yn credu bod hynny'n ymwneud yn onest â'r cyhoedd. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn glir y bydd hyn yn gofyn am gymorth ac ymyrraeth gan y Llywodraeth i ddarparu'r hyfforddiant, y sgiliau a'r cyfleoedd i'r gweithlu bontio, a chyflymder y pontio. Roedd yn un o'r pwyntiau y cês i sgwrs reolaidd gyda'r cyn-Brif Weinidog amdano—nid yn unig a fydd yna golledion, ond mae'r amser y mae'n digwydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr, oherwydd bydd llawer o bobl yn gadael yr ardal. Gall pobl fynd i rannau eraill o'r byd, fel y dywedodd David Rees, ac os ydyn nhw wedi mynd allwch chi ddim gwarantu y dôn nhw yn ôl. Mae hefyd yn golygu bod y gefnogaeth y gallwch ei threfnu yn y tymor byrrach mewn gwirionedd yn llawer anoddach i'w rheoli i roi'r math o obaith y bydd ei angen ar bobl, yn ogystal â'r profiad ymarferol, go iawn.
Hoffwn grybwyll un o'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod, sef y pwynt ehangach am lesiant, am sut mae pobl yn teimlo, eu bod yn teimlo eu bod yn gallu siarad amdano. Mae'n bwysig iawn ein bod yn dod o hyd i ffyrdd i bobl siarad. Yn aml, mae mannau cyffredin lle mae pobl wedi arfer siarad â'i gilydd am bopeth ac mae unrhyw beth yn ffordd ddefnyddiol i hynny ddigwydd. Rwyf bob amser wedi bod yn poeni am yr effaith bosibl ar iechyd meddwl. Mae yna lawer o dystiolaeth bod achosion diweithdra mawr yn arwain at heriau gwirioneddol iawn ym maes iechyd meddwl a lles, gyda chanlyniadau anodd iawn. Felly, dyna pam, yn ystod ein hamser—ac fe wn i fod Jeremy Miles yn parhau i ddadlau'r achos hwn—mae angen ymgysylltu â'r bwrdd iechyd ynghylch hynny. Ond i wneud hynny, bydd angen i ni ddeall yn fwy eglur y cynlluniau, y cynigion a'r effaith ar gontractwyr, oherwydd byddai'r bobl hynny fel arall yn cael eu colli, a byddwn ond yn eu gweld os ydynt yn cymryd rhan yn ein gwasanaethau, yn hytrach nag ymgysylltu'n rhagweithiol â nhw.
Felly, nid mater o golli swyddi yn unig yw hwn; mae'n llawer mwy na hynny. Fe hoffwn i weld dyfodol i Bort Talbot sy'n un balch, sy'n adeiladu ar y gwaddol sydd ganddyn nhw, yn hytrach na dweud, 'Rydym ni wedi gwneud ein rhan', ac ar ddiwedd y flwyddyn, nid ydym ni yno mwyach. Dyna, rwy'n ofni, yw'r hyn a allai ddigwydd os mai dim ond proses y bwrdd pontio sydd gennym ni i weithio drwyddo, gyda swm cyfyngedig o arian a'r amserlen y mae Tata yn ei disgrifio ar hyn o bryd i gyflawni'r holl ddiswyddiadau sylweddol hynny.
Prif Weinidog, rwy'n gwybod eich bod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd Llanwern i'r economi ranbarthol, y bobl a gyflogir yn uniongyrchol yn y ffatri, y contractwyr, y cyflenwyr a'r gwariant yn yr economi leol. Yr oedran cyfartalog yn Llanwern erbyn hyn yw, rwy'n credu, y tridegau cynnar, wrth gwrs, mae nifer o brentisiaid yno. Felly, mae'n hawdd deall pam y mae llawer iawn o bryder yn lleol am ddyfodol y gwaith, o ystyried y colledion swyddi a ragwelir a ddaw yn y dyfodol. Mae wedi'i integreiddio â Phort Talbot, fel y gwyddoch chi, wrth gwrs, Prif Weinidog. Rwy'n credu bod hynny'n creu llawer o bryder ynghylch gwaith y bwrdd pontio, dim ond i sicrhau bod Llanwern yn cael ei ystyried yn llawn, wedi'i ystyried yn briodol yng ngwaith y bwrdd hwnnw a'r penderfyniadau a wneir.
Roedd yn dda eich clywed yn siarad am fonitro ymchwil a datblygu o ran ansawdd y dur y byddai ffwrnais arc trydan yn ei gynhyrchu, oherwydd, yn amlwg, mae agwedd fodurol cynhyrchu yn Llanwern yn gysylltiedig yn gryf ag ansawdd y dur hwnnw. Ac mae'n dda iawn clywed y byddwch chi'n ymweld â Llanwern yn fuan, hefyd. Ond tybed a allech roi rhywfaint o sicrwydd ynghylch gwaith y bwrdd pontio, yn benodol o ran y problemau sydd gan Lanwern.
Rwy'n hapus iawn i roi'r sicrwydd i'r Aelod ein bod yn parhau i gymryd diddordeb nid yn unig ym Mhort Talbot, ond ym mhob un o'r busnesau eilaidd, a Llanwern yn arbennig, oherwydd yn y cynigion y mae Tata wedi'u cyhoeddi, maent yn disgwyl y bydd swyddi uniongyrchol yn cael eu colli yn Llanwern o fewn dwy i dair blynedd. Mewn gwirionedd, mae'r busnes yn Llanwern, yn enwedig ei ymgysylltiad â'r sector ceir, yn uchel ei barch ac mae'n faes lle, os edrychwch ar anghenion economi'r DU yn y dyfodol a'r ffordd y bydd cerbydau'n newid, bydd angen y cerbydau hynny arnom o hyd a bydd angen dur arnom o hyd ynddynt hefyd. Felly, rwy'n credu bod achos i'w wneud a oedd yn rhan o'r drafodaeth ynghylch sut olwg fydd ar fuddsoddiad yn y dyfodol ym mhob un o'r busnesau eilaidd hynny. A dyna pam ei bod mor bwysig gwneud y cais a chael yr ymrwymiad i ddarparu coiliau a slabiau ar gyfer busnesau eilaidd. Os ydych chi'n aros am arc trydan a'ch bod o bosibl yn aros am ddwy neu dair blynedd, neu fwy na thair blynedd o bosibl, mewn gwirionedd, o ble mae'r cyflenwad hwnnw'n dod i'r gweithrediadau eilaidd a'r cannoedd o swyddi ar bob un o'r safleoedd hynny sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol, yn ogystal â'r holl rai anuniongyrchol?
Ac yna hefyd, beth ydych chi'n ei wneud—a dyna pam mae'r pwynt am ymchwil yn bwysig—wrth gynhyrchu'r math cywir o ddur? Dyna pam rwy'n credu hefyd nad y DU ddylai fod yr unig wlad o'r G7 na all wneud dur sylfaenol. Rydych chi'n dibynnu ar rannau eraill o'r byd, o bosibl ar gwmnïau dur eraill o safbwynt Tata, oherwydd os bydd mecanwaith ffin garbon yn dod i mewn ar ryw adeg yn 2027, ni fydd ganddyn nhw'r opsiwn o fewnforio o India, bydd yn rhaid i hwnnw i gyd ddod o'r Iseldiroedd, ac a fydd ganddyn nhw'r gallu i wneud hynny? Mae honno'n her ymarferol rwy'n credu y mae angen gweithio drwyddi fel bod gwir hyder na fydd y busnesau hynny'n cael eu symud i ffwrdd. Oherwydd bod parch mawr i ansawdd yr hyn sy'n dod o Shotton, Caerffili, Trostre a Llanwern. Mae'r cwmni'n cydnabod hynny ac, yn hollbwysig, mae eu cwsmeriaid yn gwneud hefyd.
Mae yna bwynt olaf rwy'n credu sy'n werth ei wneud. Eich pwynt chi ynghylch y bobl sydd â chyfrifoldebau. Rwy'n credu bod llawer o bobl yn credu bod y gweithlu dur yn weithlu sy'n heneiddio, ond mewn gwirionedd nid yw hynny wedi bod yn wir ers amser maith. Felly, os gwneir y newidiadau hyn, gallai llawer o bobl sydd â chyfrifoldebau a rhwymedigaethau ariannol parhaus a real golli eu swyddi. Os ydych yn eich tridegau, mae'n gwbl bosibl bod gennych dŷ, gyda rhent neu gyda morgais, gyda phlant, gyda biliau eraill i'w talu, ac os byddwch yn colli'r gyflogaeth honno, pa mor hir y gall pecyn diswyddo sicrhau eich bod yn dal i allu cyflawni'r cyfrifoldebau hynny? Mae'r dadleoli, yn gymdeithasol ac yn economaidd, yn wirioneddol arwyddocaol. A dyna hefyd pam ein bod wedi dadlau'r achos yn gyson yn y bwrdd pontio i sicrhau bod yna lwybr i gyngor ariannol priodol gan ffynhonnell sydd ag enw da os yw pobl yn cael eu diswyddo. Oherwydd ein bod wedi gweld yn y gorffennol, pan fydd pobl yn cael taliadau diswyddo mawr, nid yw hyn yn creu'r ymddygiad gorau ymhlith pobl sy'n gweld hynny fel cyfle i wneud arian mewn modd diegwyddor. Felly, rydym yn parhau i wneud yr achos hwnnw. Dyna pam, mewn achosion eraill, mae'r cwmni wedi talu mewn gwirionedd am gyngor ariannol gan ffynhonnell ag enw da. Mae'n sgwrs barhaus y mae'n rhaid i ni allu ei chael. Ac unwaith eto, ailadroddaf, mae angen i ni allu cyflwyno'r prif achos dros y canlyniad gorau posibl ac yna bob cam arall o amgylch hynny, os na chawn y canlyniad yr ydym yn ei ddymuno, yna rhaid ceisio sicrhau bod gennym y canlyniad gorau posibl i'r bobl y mae'n fraint i ni eu cynrychioli.
Gellir osgoi'r golled drychinebus hon o swyddi, fel y dywedoch chi, Prif Weinidog. Mae gennym ni yn y Senedd hon y pŵer i gyflwyno deddfwriaeth frys a fyddai'n ein galluogi i osod gorchymyn prynu gorfodol ar ffwrnais chwyth 4 a'r pen trwm sy'n gysylltiedig â hi, a fyddai'n caniatáu i ni atal datgomisiynu'r ffwrnais chwyth honno. Byddai'n caniatáu i ni adeiladu pont i'r newid yn y Llywodraeth a pholisi diwydiannol newydd ym mis Hydref a mis Tachwedd, a fyddai'n caniatáu i'r pontio teg gael ei weithredu bryd hynny. Faint fyddai'n costio? Wel, mae gennym ni'r ffigurau. Faint fyddai'n costio i gynnal ffwrnais chwyth segur? Pan wnaeth ThyssenKrupp hynny yn Duisburg, roedd yn costio tua £500,000 y mis. Pan wnaeth US Steel yr un peth yn Fairfield, Alabama yn 2015, fe gostiodd tua'r un peth. Pan wnaeth Tata hynny—fe wnaethant wneud ffwrnais chwyth yn segur ym Mhort Talbot rhwng 2009 a 2013—roedd yn costio tua'r un swm. Felly, dau fis, £2 filiwn. Oni fyddai hwnnw y buddsoddiad gorau a wnaeth Llywodraeth Cymru erioed ar ran gweithwyr Cymru ac economi Cymru?
Rwy'n parchu'r ffaith bod yr Aelod eisiau meddwl am syniadau ac atebion, ond mae'n rhaid i ni feddwl a allwn eu gweithredu ac a fyddant yn cyflawni'r hyn y mae ei eisiau mewn gwirionedd. Nid wyf yn credu y byddai'r bil terfynol fel y mae'n ei awgrymu. Mae'n rhaid i ni wedyn gael trafodaeth ynghylch beth sy'n digwydd nawr gyda'r hyn sy'n digwydd, beth ddaw nesaf ac, pe baem yn ceisio ymyrryd, a fyddai'r gweithrediad hwnnw'n parhau o gwbl. Nid wyf yn argyhoeddedig mai dyma'r llwybr i'w gymryd i atal y colledion swyddi trychinebus a fyddai fel arall yn digwydd. Rwy'n gwybod bod yr Aelod yn llawn ewyllys da wrth wneud yr awgrym hwnnw.
Mae'n gwneud pwynt pwysig, serch hynny, sef bod dull y datgomisiynu yn bwysig. Gallwch ddatgomisiynu'r ffwrnais mewn ffordd a fyddai’n golygu na ellid byth ei hailgychwyn, byddai'n cael ei difrodi yn y broses ddatgomisiynu, neu fe allech chi ei wneud yn y fath fodd fel y byddai'n bosibl, er y byddai golygu costau i ailgychwyn, i sicrhau mewn gwirionedd bod ffwrnais chwyth yno ar ôl i unrhyw newidiadau gael eu gwneud. Fodd bynnag, mae hynny'n gofyn am ddealltwriaeth o'r buddsoddiad mewn cyfalaf ac mewn cymorth gweithredol er mwyn i hynny ddigwydd, ac yn wir y farchnad ar gyfer dur yn y DU ac yn ehangach hefyd.
Felly, mae yna bethau ymarferol i ni barhau i siarad amdanyn nhw. Rwyf wedi ymrwymo, fel yr wyf yn gwybod yn wir fod Ysgrifennydd yr economi hefyd, i gael unrhyw sgwrs synhwyrol, unrhyw sgwrs realistig, ynghylch yr hyn y gallwn ei wneud i geisio cynnal y dyfodol y mae ein gweithwyr yn ei haeddu, ochr yn ochr â'r ffaith bod angen i ni baratoi ar gyfer yr hyn a fyddai'n digwydd pe bai cynlluniau Tata yn mynd ymlaen o fewn yr amserlen y maent yn nodi eu bod eisiau gweithredu. Ac wrth gwrs, o fewn hynny, mae sawl elfen yn dod i'r amlwg ar yr un pryd. Nid cyngor o anobaith yw hwn, mae'n gyngor llawn gonestrwydd ynghylch yr arweinyddiaeth sydd ei hangen arnom, y dyfodol y gallem ei gael, a'r cyfrifoldebau sydd gennym yn y Llywodraeth i baratoi ar gyfer mwy nag un canlyniad.
Prif Weinidog, fel cynrychiolydd cymuned ddur sydd wedi gweld effaith ddinistriol colli swyddi yn y sector hwn, a gaf i ddiolch i chi unwaith eto am eich holl waith, ac Ysgrifennydd yr economi am ei waith, wrth gefnogi'r diwydiant yng Nghymru? Mae'r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn gwbl groes i ymrwymiad Llywodraeth y DU wrth iddynt anwybyddu gweithwyr dur Cymru yn gyfan gwbl a chefnu ar ddiwydiant dur Cymru.
Prif Weinidog, fe wnaethoch chi gyfeirio'n briodol yn eich datganiad at bwysigrwydd cynnal gweithrediadau eilaidd yn y diwydiant dur, gan gynnwys gwaith dur Shotton. A gaf i ofyn i chi a fyddwch chi'n parhau i frwydro dros y gweithrediadau eilaidd yng ngwaith dur Shotton gyda chynrychiolwyr yn y lle hwn a chydweithwyr yn ein hundebau llafur ni yn y safleoedd hynny ar gyfer cynhyrchu dur sylfaenol yng Nghymru, sy'n hanfodol i unrhyw wlad yn y G7?
Diolch yn fawr, a diolch unwaith eto am gyflwyno'r achos dros ddyfodol Shotton. Rwy'n gwybod bod yr Aelod yn gwneud hynny'n gyson. Mae'n gyflogwr pwysig yn yr ardal. Pe na bai'r swyddi hynny'n ddiogel, yna mewn gwirionedd nid problem i Shotton yn unig fyddai hynny, ond mewn gwirionedd i'r ardal ehangach a'r ecosystem a'r swyddi sy'n dibynnu arno o'i gwmpas. Mae dau beth, rwy'n credu. Y cyntaf yw faint o ddur arc trydan y gall Shotton ei ddefnyddio yn y dyfodol, oherwydd gallai rhai o'i weithrediadau ddefnyddio arc trydan, ac mae gan rai cwsmeriaid ddiddordeb yn ôl troed carbon y dur sydd ganddynt. Mae amrywiaeth o gynnyrch dur, ond ar hyn o bryd dim ond trwy broses sylfaenol y mae'n bosibl, a gallwn naill ai gael y dur hwnnw wedi'i wneud yng Nghymru ar gyfer y DU, neu y gellir gwneud dur mewn mannau eraill a gallwn ei fewnforio. Nawr, os aiff Tata ymlaen â'u cynlluniau, bydd angen i ni sicrhau bod y dur sylfaenol hwnnw'n cael ei fewnforio mewn niferoedd sylweddol. Mae hwnnw'n weithrediad logistaidd sylweddol iawn. Mae'n rhaid i chi feddwl am y capasiti i gael y dur hwnnw i mewn i'r wlad, ac yna ei symud o gwmpas yn ôl y gofyn. Felly, bydd her sylweddol, o ran cludo, nid yn unig cael pethau i'r dociau, ond yna ei symud o gwmpas ein rhwydwaith. Dyma'r holl bethau ymarferol y bydd angen i Tata allu eu cyflawni i sicrhau bod yr arwyddion y maent wedi'u gwneud, y bydd busnesau eilaidd yn cael eu cyflenwi, yn ymarferol. Ond, fel y dywedais i, nid wyf yn cilio rhag y ffaith fy mod eisiau gweld dull gwahanol, ac rwyf eisiau gweld realiti gwahanol, oherwydd rwy'n ystyried y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn rheolaidd ynghylch yr hyn sy'n digwydd gyda diswyddiadau sylweddol ar raddfa fawr heb gynllun ar gyfer y dyfodol, a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i gymunedau yn y tymor hwy, nid y penawdau ar hyn o bryd yn unig.
Defnyddiwyd y geiriau 'dinistriol' a 'thrychinebus', ac mae'n anodd dod o hyd i ansoddeiriau eithaf sy'n disgrifio'r effaith y bydd hyn yn ei chael. Bydd hyn yn gwneud Cymru'n dlotach. Mae hyn yn mynd i wneud economi de Cymru yn dlotach yn sylweddol am genedlaethau i ddod. Nid wyf yn credu y dylem danbrisio maint effaith hyn ar ein heconomi a'n cymdeithas. Ac rwy'n croesawu pob cyfle y mae'r Prif Weinidog wedi'i ddefnyddio i siarad â rheolwyr Tata, er mwyn ceisio eu perswadio i newid eu penderfyniad, ond hefyd i sicrhau bod gennym rai gwarantau o'r hyn sydd ar ôl. Rwy'n credu, o'r hyn rwy'n ei ddeall gan Tata dros nifer o flynyddoedd, eu bod wedi bod yn ceisio cael sgwrs adeiladol gyda Llywodraeth y DU. Nid oes gennym ni y pŵer i ddod â'r math o fuddsoddiadau sydd eu hangen ar gyfer dyfodol cynaliadwy ar gyfer dur. A all ddweud wrthym a wnaeth drafod, yn y sgyrsiau hyn gyda'r prif weithredwyr, faint o ymdrechion yr oeddent wedi'u gwneud i ymgysylltu â Llywodraeth y DU mewn sgwrs ddifrifol, a beth oedd yr ymateb?
Ac o ran sefyllfa Trostre yn Llanelli, roeddwn yn falch o glywed eich bod wedi cael gwybod bod digon o gronfeydd wrth gefn o goiliau rholio poeth a slabiau i warantu lefelau cynhyrchu eu gweithrediadau eilaidd. Fel y gwyddom, ar gyfer Tata rydym yn defnyddio'r gair 'eilaidd'; yn ei hanfod mae'n golygu bod cysylltiad rhwng yr holl weithfeydd ledled Cymru, ac mae tynged un yn dibynnu ar y lleill. Oherwydd mae'r arwyddion yr wyf yn eu cael gan y gweithlu yn Llanelli yn llawer mwy brawychus nag y mae'r sicrwydd hwnnw'n ei awgrymu. Maent yn dweud wrthyf nad oes digon o stociau o gynhwysion allweddol tunplat, bod y cynnydd o ran sicrhau mwy ar ei hôl hi, y gallai Tata wneud penderfyniadau i flaenoriaethu Trostre ar gyfer stocio deunydd yn lle gweithrediadau eraill yn Ewrop ac nad ydynt wedi gwneud hynny, ac nid y cyflenwad tymor byr yn unig, ond beth am y cyflenwad tymor canolig a thymor hir pan fyddant yn dibynnu ar gyflenwyr trydydd parti, ac ar gyfer ansawdd? A drafododd cadw'r ail ffwrnais chwyth ar agor yn ddigon hir i sicrhau bod digon o stoc, a pha fanylion y gall nawr eu holi amdanyn nhw i gyflawni'r ymrwymiad eang hwnnw y maen nhw wedi'i roi iddo?
Diolch am y cwestiynau. Mae'r Aelod yn gwneud pwynt yr wyf yn cytuno'n llwyr ag ef ac sydd wedi bod yn sail i'n dull o ymdrin â'r mater hwn ar hyd y ffordd, os bydd cynigion Tata yn mynd yn eu blaenau, bydd yn cael effaith genedlaethol sylweddol. Nid problem i gymunedau dur yn unig yw hyn. Mae'r ôl troed mor arwyddocaol mewn gweithgarwch economaidd a byddai'n arwain at ganlyniadau hirdymor. Rwyf wedi cael nifer o drafodaethau, gan gynnwys ym Mumbai, am ymgysylltiad Llywodraeth y DU. Nid yw'r cwmni'n rhoi rhestr o'r holl gyfarfodydd a gawsant, ac ni fyddech yn disgwyl iddynt o reidrwydd i ddweud eu barn gwbl ddi-flewyn-ar-dafod ar lefel yr ymgysylltiad y maent wedi'i gael. Ond rwy'n ymwybodol, o'r adeg y dechreuais y swydd fel Gweinidog yr economi, fod yna gynnig ar y bwrdd, a oedd yn y bôn yn barod i'w weithredu, a fyddai wedi gweld cyd-fuddsoddi yng nghyfleusterau'r dyfodol ym Mhort Talbot, ac na fyddai wedi cael y canlyniadau yr ydym yn eu trafod nawr. Efallai y byddwch yn cofio Kwasi Kwarteng am ei ymddangosiad diweddarach mewn bywyd cyhoeddus, ond, mewn gwirionedd, ar y pryd, roedd yn dadlau y dylai'r DU fod yn wlad sy'n gwneud dur, ac mai'r her mewn gwirionedd oedd deiliaid 10 ac 11 Downing Street yn cytuno ar yr hyn y dylai'r dull hwnnw fod. Pe byddem wedi llwyddo i sicrhau cytundeb bryd hynny, byddem mewn sefyllfa wahanol heddiw, byddai gweithwyr mewn sefyllfa wahanol heddiw, byddai ymrwymiad y cwmni i'r dyfodol wedi cael ei selio bryd hynny, a chredaf y byddai gan bobl lawer mwy o sicrwydd ynghylch eu dyfodol.
O ran metelau, y math a'r stoc, mae'r Aelod yn hollol gywir. Felly, y gwaith tunplat yn Nhrostre—mae pob tun Heinz ledled y wlad a llawer mwy yn dod o'r gwaith hwnnw. Mae ganddo sgôr ansawdd uchel iawn, mae'n wirioneddol ddibynadwy, yn uchel ei barch o ran yr hyn y mae'n ei wneud. Yr her, serch hynny, yw faint o fetel sydd ei angen arnynt, o ble mae'n dod, a fyddant yn dibynnu ar gystadleuwyr, ac os ydych chi'n cynhyrchu dur sylfaenol o safle yn yr Iseldiroedd, a fydd hynny'n dod i waith Trostre neu a fydd yn mynd i'r gwaith tunplat sydd drws nesaf i'r ffwrnais chwyth yn yr Iseldiroedd? A faint o ddur all ddod i mewn o rannau eraill o fusnes Tata cyn gwelir mecanwaith addasu ffin garbon a allai ddod i rym 2027? Felly, mae graddfa'r hyn sydd ei angen yn wirioneddol sylweddol ac ni ddylid ei gymryd yn ganiataol.
Fe gefais i ymrwymiad y byddai'r busnesau'n cael eu llwytho'n llawn. Nawr, rwyf eisiau gweld yr ymrwymiad hwnnw'n cael ei gadw. Os na fydd, ni fydd her o beidio â rhoi ymrwymiad i mi yn unig. Mewn termau real, beth fydd hynny'n ei olygu o ran y berthynas rhwng y cwmni a'i weithlu, a'i allu i ofalu am weithwyr—. Yn India, mae gan Tata enw da. Fodd bynnag, bydd hyn, y digwyddiad hwn, yn herio hynny'n sylfaenol o fewn cymunedau gwneud dur ledled ein gwlad.
Yn olaf, Rhianon Passmore.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rwy'n croesawu eich datganiad a'ch dymuniad clir i weld y DU yn parhau i fod yn genedl gwneud dur sylfaenol. Ni allwn fod yr unig genedl G7 heb y capasiti hwn, sy'n cael ei gorfodi i ddibynnu ar wladwriaethau cystadleuol am ddur, sy'n cryfhau'r Deyrnas Unedig neu beidio. Felly, er bod y beirniaid yn achwyn o'r cyrion, rhaid i Brif Weinidog Cymru, fel rydych chi wedi'i wneud, roi pob gewyn ar waith i refru a rhuo yn erbyn yr hyn sy'n cael ei ganiatáu i ddatblygu o flaen ein llygaid.
A heddiw mae'r byd yn cofio, yn amserol, y bardd mawr o Gymru, Dylan Thomas, ar Ddydd Dylan Thomas. Prif Weinidog, rhaid i ni i gyd yn Senedd Cymru ddweud ac ymuno gyda'n gilydd,
'Paid â mynd i'r nos heb ofyn pam',
ond
'ysa, yn dy henaint, am droi’n gas / wrth y drefn a fyn ddifodi’r fflam',
hynny yw, fflam diwydiannau dur Cymru a'r DU, cyn iddo ddiffodd am byth. Mae disgwyl i ddwy fil wyth cant o swyddi medrus ddiflannu, gan effeithio ar 10,000 o bobl yn anuniongyrchol.
Felly, Prif Weinidog, pa mor barod oedd cynrychiolwyr Tata i dderbyn eich galwad iddynt oedi ac aros nes bod cyfansoddiad gwleidyddol Llywodraeth y DU yn hysbys yn dilyn yr etholiad cyffredinol sydd i ddod? Beth mae eich Llywodraeth yn bwriadu ei wneud ar y cyd â Keir Starmer, arweinydd gwrthblaid Ei Fawrhydi, i wneud i Tata newid cyfeiriad ac i ddiogelu gallu Prydain i wneud dur, i ddiogelu'r swyddi medrus hynny sy'n talu'n dda i gymaint yn fy etholaeth i ac ar draws Cymru?
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Man cychwyn hyn yw a ddylai'r DU fod yr unig genedl G7 na all wneud ei dur sylfaenol ei hun. Rwy'n credu y byddai hynny'n ddewis strategol gwael i'r DU a bydd ganddo ganlyniadau gwirioneddol i weithwyr Cymru heddiw ac yn y dyfodol agos.
Nawr, rydym wedi galw dro ar ôl tro, gan gynnwys pan oedd Mark Drakeford yn Brif Weinidog, na fydd unrhyw ddewisiadau diwrthdro yn cael eu gwneud cyn etholiad cyffredinol nad yw'n bell i ffwrdd. Dyna'r alwad glir gan Keir Starmer hefyd. Ein her, serch hynny—. Fy mhryder i yw bod y cwmni wedi penderfynu eu bod am wneud y dewisiadau hynny cyn bod Llywodraeth Lafur yn ei lle, ac mae honno'n her sylweddol iawn i ni. Os gwneir y dewis diwrthdro hwnnw, byddwn yn dioddef y canlyniadau.
Nawr, mae yna bethau ymarferol y byddai angen eu gwneud cyn i ail ffwrnais chwyth stopio gweithredu mwyach, a byddai'r pwynt rydw i wedi'i wneud i Adam Price ynghylch y modd y mae honno'n cael ei datgomisiynu o bwys hefyd. Byddwn yn parhau i wneud yr achos ymarferol iawn bod Llywodraeth wahanol y credaf y gellid ac y dylid ei hethol yn y misoedd nesaf a fyddai â barn hollol wahanol ar yr hyn y mae'n barod i fuddsoddi ynddo a pham—partneriaeth wahanol iawn gyda disgwyliadau clir am sut mae'r cwmni'n ymddwyn hefyd. Rwy'n dal i feddwl bod hwnnw'n achos sy'n werth ei wneud ac ymladd drosto. Yn sicr, dyna fyddaf i'n ei wneud fel Prif Weinidog. Rwy'n gwybod bod Gweinidog yr Economi yr un mor ymrwymedig i wneud yr achos hwnnw, ac ar yr un pryd yn barod i baratoi ar gyfer Tata yn gweithredu eu cynllun cyn bod newid yn Llywodraeth y DU. Rwy'n credu na fyddai'r DU yn difaru pe na bai dewisiadau diwrthdro, o na fyddai yna bartneriaid yn Llywodraeth y DU sy'n rhannu ein huchelgais a'n dealltwriaeth o'r hyn sydd yn y fantol.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf fydd y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol, a'r Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg sy'n gwneud y cynnig yma. Jeremy Miles.
Cynnig NDM8579 Jeremy Miles
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwy'n gwneud y cynnig ynghylch Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a'r ffordd y caiff y darpariaethau hynny sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd eu hystyried.
Drwy'r Bil hwn, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ceisio diweddaru a symleiddio fframwaith diogelu data'r Deyrnas Unedig, gyda'r nod o leihau beichiau ar sefydliadau, gan gynnal, ar yr un pryd, safonau diogelu data uchel. Er bod mwyafrif helaeth o'r Bil hwn wedi ei gadw yn ôl, mae sawl darpariaeth o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, fel sydd wedi ei nodi ym mhedwar memorandwm y Bil. Hoffwn i ddiolch i'r pwyllgorau am ystyried y memoranda hynny sydd wedi eu gosod.
Llywydd, er fy mod yn croesawu'r Bil yn gyffredinol, mae'n siomedig ein bod mewn sefyllfa lle mae Llywodraeth y DU yn ceisio caniatâd gan y Senedd i Fil sy'n methu ag adlewyrchu cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd ac egwyddorion datganoli. Mae hyn yn arbennig o siomedig o ystyried y cytundeb a rennir yn fras ar yr angen am gydsyniad y Senedd. Dangosir y methiannau hyn yn glir yn y dull y mae Llywodraeth y DU wedi'i fabwysiadu mewn cysylltiad â'r darpariaethau cofrestr asedau tanddaearol cenedlaethol newydd, a gyflwynwyd i'r Bil fis Tachwedd diwethaf.
Fel y maent wedi'u drafftio ar hyn o bryd, bydd y darpariaethau hyn yn tynnu pwerau deddfu presennol o dan adran 79 o'r Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 oddi wrth Weinidogion Cymru, gan eu trosglwyddo i Weinidogion y DU. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cytuno bod dileu swyddogaeth weithredol ddatganoledig gan Weinidogion Cymru heb gytundeb, a heb hyd yn oed ymgynghori ymlaen llaw, yn gwbl annerbyniol.
Mae trafodaethau helaeth ar lefel weinidogol a swyddogol wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU ers cyflwyno'r Bil, gan ganolbwyntio ar oblygiadau datganoledig nifer o ddarpariaethau o fewn y Bil. Daeth y trafodaethau hyn i ben gyda'r cynnig gan Lywodraeth y DU o becyn o welliannau wedi'u targedu y byddent yn barod i'w gwneud, pe bai Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn ddigonol i argymell caniatâd i'r Bil yn y Senedd.
Fodd bynnag, roedd y gwelliannau arfaethedig yn cynrychioli diffyg symud sylweddol ar ran Llywodraeth y DU y tu hwnt i'r cynnig o nifer o ddarpariaethau ymgynghori, gyda Llywodraeth y DU yn parhau i gymryd pwerau mewn meysydd datganoledig heb hyd yn oed rôl gydsynio i Weinidogion Cymru. Rydym wedi dadlau ers tro yn erbyn awgrym Llywodraeth y DU i ddefnyddio darpariaethau ymgynghori fel math o ddiogelwch cyfansoddiadol yn lle mecanweithiau cydsynio rhwymol. Dyma safbwynt Llywodraeth Cymru a'r Senedd yn gyson mewn cysylltiad â Biliau'r DU—safbwynt, gyda llaw, y mae Llywodraeth y DU yn ymwybodol iawn ohoni. O'r herwydd, nid yw Gweinidogion o'r farn bod y gwelliannau arfaethedig yn ddigonol ac felly nid ydym yn argymell cydsyniad y Senedd i'r Bil hwn, fel y nodir yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol a osodwyd ar 16 Ebrill. At hynny, mae'r dull a fabwysiadodd Llywodraeth y DU i gyflwyno'r gwelliannau arfaethedig hyn fel pecyn terfynol ar yr amod bod yn rhaid i ni gytuno i bob un ohonynt, neu fel arall ni fyddai'r un ohonynt yn cael eu cyflwyno, yn gwbl groes i egwyddor confensiwn Sewel na ddylai Senedd y DU ddeddfu ar faterion datganoledig heb gydsyniad y Senedd.
Rydym o'r farn y dylid gwneud gwelliannau i'r Bil hwn sy'n parchu cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, sy'n parchu swyddogaethau gweithredol Gweinidogion Cymru, ac sy'n adlewyrchu'r setliad datganoli presennol. Rydym hefyd wedi bod yn gwbl glir gyda Llywodraeth y DU y dylid gwneud gwelliannau i'r darpariaethau cofrestr asedau tanddaearol cenedlaethol newydd i sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cadw eu pwerau deddfu presennol.
Er nad yw dull presennol Llywodraeth y DU yn gyson ag egwyddorion datganoli, mae amser o hyd i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â'n pryderon er mwyn i ni gael datrysiad boddhaol a fyddai wedyn yn ein galluogi i argymell cydsyniad y Senedd i'r Bil. Pe bai hyn yn digwydd, byddai angen i'r Senedd ystyried gwelliannau pellach i'r Bil. Fodd bynnag, Llywydd, hyd nes y daw'r amser hwnnw, rwy'n argymell i'r Aelodau nad ydynt yn cefnogi'r cynnig.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad nawr—Sarah Murphy.
Diolch, Llywydd. Yn ystod tair o'r pedair wythnos diwethaf, rwyf wedi siarad yn y Siambr hon fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn ystod dadleuon cydsyniad deddfwriaethol, dyna ichi i ba raddau y mae Biliau yn Senedd y DU yn gwneud darpariaeth mewn meysydd datganoledig. Mae fy mhwyllgor wedi adrodd deirgwaith ar y memoranda cydsyniad deddfwriaethol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol. Gosodwyd ein trydydd adroddiad, ar femorandwm Rhif 4, brynhawn ddoe, gan mai dim ond ychydig dros bythefnos yn ôl y gosodwyd y memorandwm ei hun. Bydd fy sylwadau y prynhawn yma yn canolbwyntio ar dri mater allweddol, a byddaf yn cyfeirio Aelodau ac eraill at ein hadroddiadau am ein barn a'n hargymhellion manwl.
Felly, mae sawl darpariaeth yn y Bil yn rhoi pwerau deddfu eang i'r Ysgrifennydd Gwladol yn unig, pwerau y gellir eu harfer mewn meysydd datganoledig. Mae eraill hefyd yn rhoi pwerau dirprwyedig cyfatebol i'r Trysorlys. Felly, yn ein hadroddiad diweddaraf, rydym wedi datgan ein cytundeb gyda'r Ysgrifennydd Cabinet bod dirprwyo o'r fath yn amhriodol. Er enghraifft, mae cymalau 86 ac 88 yn rhoi pwerau deddfu eang amrywiol i'r Ysgrifennydd Gwladol a'r Trysorlys mewn cysylltiad â data cwsmeriaid a data busnes. Gallai rheoliadau o'r fath ddal amrywiaeth eang o fusnesau, a bod â'r potensial i effeithio ar feysydd datganoledig, heb unrhyw rôl i Weinidogion Cymru. Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am rannu gyda ni y llythyrau a gyfnewidiwyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r DU. Yn un o'r llythyrau, mae'r Gweinidog Gwladol yn ei gwneud yn glir bod Llywodraeth y DU yn bwriadu i'r Bil alluogi defnydd gwell o ddata ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn hynod o arwyddocaol. Rhestrwyd data iechyd a gofal cymdeithasol yn y llythyr hwn, a dim ond ddoe y daeth ein pwyllgor yn ymwybodol ohono.
Mae gennym bryderon cryf am amhriodoldeb cyfansoddiadol y darpariaethau yn y Bil ar gyfer cofrestr asedau tanddaearol genedlaethol. Trwy'r darpariaethau hyn, trosglwyddir pwerau a ddirprwywyd ar hyn o bryd i Weinidogion Cymru o dan adran 79 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 i'r Ysgrifennydd Gwladol, heb unrhyw gyfiawnhad rhesymol. Mae hyn yn golygu dileu swyddogaeth weithredol ddatganoledig. Felly, fel pwyllgor, rydym yn cefnogi barn yr Ysgrifennydd Cabinet fod hwn yn gwrthdroi datganoli'n amhriodol. Yn ogystal, bydd y darpariaethau hyn yn y Bil ar gyfer cofrestr asedau tanddaearol genedlaethol yn arwain at ddirymu deddfwriaeth a gymeradwywyd gan y Senedd ar ffurf Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofnodion) (Cymru) 2005. Unwaith eto, mae hyn yn anaddas.
Gan symud ymlaen at y darpariaethau yn y Bil sy'n ymwneud â gwasanaethau dilysu digidol, ar y pwynt hwn, rydym yn anghytuno â safbwynt Llywodraeth Cymru o ran y gofyniad am gydsyniad deddfwriaethol mewn cysylltiad â'r darpariaethau hyn. Ond mae hyn oherwydd, er bod Llywodraeth Cymru wedi mynnu o'r dechrau bod angen caniatâd ar gyfer y darpariaethau hyn, ym mis Chwefror, ysgrifennodd Llywodraeth y DU at Lywodraeth Cymru yn nodi bod ei nodyn cyfarwyddyd datganoli ei hun yn cynghori y dylid ceisio cydsyniad pan fo darpariaethau yn un o'i Biliau yn rhoi neu yn gorfodi swyddogaethau a gedwir yn ôl ar awdurdod datganoledig yng Nghymru. Mae hyn er gwaethaf barn gyffredinol Llywodraeth y DU bod y swyddogaethau hyn yn rhai a gedwir yn ôl a'i chydnabyddiaeth ei hun nad yw Rheolau Sefydlog y Senedd yn ymdrin â sefyllfaoedd lle rhoddir swyddogaethau a gedwir yn ôl ar awdurdodau datganoledig Cymru. Fodd bynnag, nid yw nodyn cyfarwyddyd datganoli Llywodraeth y DU yn ystyriaeth berthnasol at ddiben y profion yn Rheolau Sefydlog y Senedd. Gosodir Memorandwm Rhif 4 gerbron y Senedd o dan Reol Sefydlog 29, ac mae'n ddryslyd i gyfeirio at feini prawf nad ydynt yn berthnasol i broses cydsyniad deddfwriaethol y Senedd. Pan ofynnom i Lywodraeth Cymru am ei barn ar y gwahanol feini prawf a dulliau o gydsyniad deddfwriaethol y mae'n ymddangos eu bod yn cael eu cymhwyso gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Rheolau Sefydlog y Senedd, dywedwyd wrthym fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gonfensiwn Sewel, ac, er bod y datganiad hwnnw i'w groesawu, nid yw'n rhoi'r esboniad yr oeddem yn gobeithio amdano. Mae'r meini prawf yn dal i fod yn anhryloyw.
Yn olaf, mae rhai pryderon bod y Bil yn peri risg i benderfyniad digonolrwydd data cyfredol y DU. Dyma'r llwybr lle mae'r DU a'r Undeb Ewropeaidd yn rhannu data. Byddai ei golli yn arwain at oblygiadau penodol i fasnach Cymru a'r economi. Ym memorandwm Rhif 4, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn datgan y gallai'r Bil sbarduno adolygiad o statws digonolrwydd data'r DU gan y Comisiwn Ewropeaidd, a bod ganddo'r potensial i arwain at her gyfreithiol yn Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd. Fel y pwyllgor sy'n gyfrifol am rwymedigaethau rhyngwladol, mae'r safbwyntiau hyn yn amlwg ac yn peri pryder, felly rydym wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet a allai o bosibl ddarparu mwy o fanylion, os gwelwch yn dda.
Yn ein hadroddiad diweddaraf, a osodwyd ddoe, gwnaethom hefyd ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru o'r farn y dylai'r Bil gael goblygiadau ar gyfer trefniadau rhyngwladol eraill, fel pont ddata'r DU-yr Unol Daleithiau, a sefydlwyd yn 2023. Ac yn olaf, hoffwn nodi bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cynnig mwy o fanylion yn ei sylwadau agoriadol, a hefyd diolch i chi am eich gohebiaeth fanwl gyda'r pwyllgor drwyddi draw. Diolch.
Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, Delyth Jewell.
Diolch, Llywydd. Llywydd, mae fy mhwyllgor wedi adrodd ar y tri memorandwm cyntaf ar gyfer y Bil hwn. Mae'n destun gofid bod yn rhaid i mi adrodd bod amser wedi bod yn ein herbyn ac nad oeddem mewn sefyllfa i ystyried y pedwerydd memorandwm ar gyfer Bil y DU sydd â goblygiadau difrifol a phellgyrhaeddol i Gymru. Yn ystod ein gwaith craffu ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon, bydd yr Aelodau'n cofio bod tri o bwyllgorau'r Senedd hon, gan gynnwys fy un i, yn pwysleisio'r angen am ddigon o amser i graffu ar Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, yn enwedig y rhai sydd â goblygiadau difrifol. Nawr, o ystyried yr amser cyfyngedig a oedd ar gael, roeddem yn disgwyl i Lywodraeth Cymru fabwysiadu dull tryloyw a manwl o ymdrin â memoranda i'n cynorthwyo yn ein gwaith. Rydym eisoes wedi clywed bod ein pwyllgorau, ddoe, yn dal i dderbyn gwybodaeth newydd gan Lywodraeth Cymru. Er ein bod yn croesawu'r ymdrech hon i rannu gwybodaeth, mae'r sefyllfa hon yn enghraifft o gyfyngiadau'r broses gydsynio. Mae'r ffaith ein bod yn derbyn gwybodaeth ar ddiwrnod dyddiad cau'r adroddiad a diwrnod cyn y ddadl heddiw yn sicr yn annymunol i bob un ohonom.
Nawr, o'r dechrau, mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio bod y Bil hwn yn peri risg i benderfyniad digonolrwydd data'r DU ar gyfer yr UE. Mae'r statws hanfodol hwn, a sicrhawyd yn ystod Brexit, yn sicrhau llif data am ddim rhwng y DU a'r UE tan fis Mehefin 2025. Nawr, er y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi darparu asesiad manylach ar y cyfrifiad hwn, fel pwyllgor, rydym serch hynny yn cymryd unrhyw bryderon a godwyd am gysylltiadau rhwng y DU a'r UE o ddifrif. Mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn credu y gallai'r Bil effeithio'n andwyol ar ddigonolrwydd data'r DU ac, yn ehangach, ar gysylltiadau rhwng yr UE a'r DU a Chymru, yn rhywbeth a ddylai fod o bwys i bob un ohonom.
Llywydd, mae fy mhwyllgor yn flaenllaw yng ngwaith y Senedd wrth ddod o hyd i bwyntiau pwysig ein perthynas ar ôl Brexit â'r UE. Nawr, rydym wir yn croesawu cynnwys dadansoddiadau o'r cytundeb masnach a chydweithredu ar gyfer y Bil hwn, ymrwymiad a sicrhawyd gan adroddiad blynyddol cysylltiadau rhyngwladol ein pwyllgor, ac sydd wedi dwyn ffrwyth ar gyfer y Bil hwn. Ddiwedd mis Mawrth, nododd y Comisiwn Ewropeaidd bedwar darn o ddeddfwriaeth y DU a allai effeithio ar weithrediad y cytundeb masnach a chydweithredu. Mae'r Bil hwn yn un ohonynt, ochr yn ochr â Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 a Deddf Diogelwch Rwanda (Lloches a Mewnfudo) 2024. Nawr, pe bai'r canlyniad a ddisgrifiwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet ym memorandwm Rhif 4 yn cael ei wireddu—pe bai'n cael ei wireddu—gallai'r Bil hwn arwain at gamau gorfodi gan Lys Cyfiawnder yr UE. Byddai hynny'n anochel yn cynrychioli rhwystr difrifol yn y berthynas rhwng y DU a'r UE.
Yn ystod ein hymchwiliad Cymru-Iwerddon, dywedodd ein ffrindiau a'n cymdogion yn Iwerddon wrthym fod cydweithredu yn anochel; mae cydweithredu yn rhinwedd a byddai ei gymryd yn ganiataol yn rhywbeth peryglus iawn. Llywydd, mae ein ffiniau mandyllog yn mynnu cydweithrediad, cyfres o ddewisiadau i adeiladu ac i feithrin cysylltiadau cadarnhaol. Fel y dywedodd R.F. Kuang:
'Nid yw hanes yn dapestri a wnaed ymlaen llaw y mae'n rhaid i ni ddioddef, byd caeedig heb unrhyw allanfa. Gallwn ei ffurfio. Gallwn ei wneud. Mae ond angen inni ddewis ei wneud.'
Buom yn trafod y Bil hwn yn y pwyllgor, ond cefais fy rhybuddio yn gryf ynghylch ychwanegu'r gofrestr asedau tanddaearol genedlaethol ato, ac, mae'n debyg, cafodd ei hychwanegu ar y funud olaf un, felly roeddwn ychydig yn bryderus ynghylch pam y cafodd ei hychwanegu ar y funud olaf. Rwyf wedi ysgrifennu, ond nid wyf wedi cael ymateb gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
Mae ein seilwaith tanddaearol yn hynod gymhleth. Mae'n gymysgedd o bibellau a cheblau, ac fe'i rheolir gan dimau gwaith stryd awdurdodau lleol, felly, os oes angen gwneud unrhyw waith cynnal a chadw, mae angen ymgynghori â nhw. Rwy'n gwybod, o fod yn aelod cabinet blaenorol dros briffyrdd, pa mor bwysig ydyw a pha mor bwysig yw cadw'r hawl honno i gymryd rhan mewn penderfyniadau cynllunio ynghylch yr hyn sydd o dan ddaear ein ffyrdd. Felly, rwy'n poeni'n fawr am hyn, y byddai hyn yn mynd at yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer cyflwyno a gwneud penderfyniadau pan, mewn gwirionedd, y dylai fod ar lefel leol iawn, y gofrestr asedau tanddaearol. Ac rwy'n gwybod bod ei angen arnom, ond mae angen i ni fod yn rhan o bob rhan o'r broses benderfynu, felly byddwn yn eich annog i bleidleisio yn erbyn hyn. Diolch.
Yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb.
Diolch, Llywydd, a diolch i'r rheini sydd wedi cyfrannu i'r ddadl, yn cynnwys ar ran y pwyllgorau maen nhw'n eu cadeirio.
Yn y cyfraniadau, mae'r Aelodau wedi gofyn am eglurder a mewnwelediad ar ddau neu dri maes arall, felly rwy'n gobeithio y bydd yn cynorthwyo'r Aelodau i wybod mai ein barn ni yw bod nifer o ddarpariaethau yn y Bil, mewn cysylltiad â digonolrwydd data, yn cael eu hystyried yn heriol ac yn meddu ar botensial o adolygiad gan y comisiwn, neu her gyfreithiol yn Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'r rhain yn cynnwys darpariaethau y gwelir eu bod yn gwanhau annibyniaeth y Comisiynydd Gwybodaeth ac yn tanseilio hawliau unigol. At y pwynt yr oedd Sarah Murphy yn ei wneud yn ei chyfraniad, mae'r Bil yn diwygio'r diffiniad statudol o ddata personol, ac mae perygl y bydd ystod ehangach o ddata iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei gynnwys yng nghwmpas cytundebau masnach rydd. Rydym yn ymwybodol, fel y gŵyr yr Aelodau yn gyffredinol, fod gan y cyhoedd bryderon ynghylch defnyddio eu data iechyd ar gyfer unrhyw beth heblaw darparu gofal, a gallai cynnwys y data hwn o fewn cwmpas cytundebau masnach rydd danseilio ymddiriedaeth y cyhoedd. Wrth gwrs, mae'n hanfodol bod y DU yn cadw ei digonolrwydd data, ac rwy'n siomedig fod Llywodraeth y DU yn gwrthod yn barhaus i rannu copi o'i hasesiad risg ar hyn gyda ni, a byddaf yn adolygu canfyddiad ymchwiliad Pwyllgor Materion Ewropeaidd Tŷ'r Arglwyddi ar ddigonolrwydd data, sydd ar y gweill ar hyn o bryd.
Gofynnodd Delyth Jewell am lefel y manylion mewn Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol, ac rwy'n derbyn bod tensiwn clir rhwng y cyfnod o bythefnos y mae'r Rheol Sefydlog yn ei ddarparu ar gyfer darparu Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol a'r gallu i ddarparu gwybodaeth fanwl. Credaf fod hyn yn nodwedd o'r ffaith bod y broses y mae'n rhaid i ni ymateb iddi yn un nad yw'n ystyried amserlen y Senedd ei hun ac sy'n canolbwyntio'n fawr ar weithgareddau yn Senedd y DU. Roedd yr enghraifft a roddodd Carolyn Thomas yn berthnasol iawn i hyn, mewn cysylltiaid â darpariaethau'r gofrestr asedau tanddaearol. Ni wnaeth Llywodraeth y DU ein gwneud yn ymwybodol o'r newidiadau arfaethedig i bwerau Gweinidogion Cymru tan y diwrnod cyn i'r gwelliannau gael eu cyflwyno yn y Senedd, sydd, rwy'n siŵr y bydd Aelodau'n cytuno, yn hynod siomedig.
Yn olaf, ar y pwynt a wnaeth Delyth Jewell mewn cysylltiad â'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu a'r asesiad y mae ei phwyllgor wedi'i gynnal, yn fy marn i, mae'r newidiadau i fframwaith diogelu data'r DU a gynigiwyd yn y Bil, fel y'i drafftiwyd, yn annhebygol o effeithio ar gydymffurfiad y DU â'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu oherwydd bod y darpariaethau diogelu data ar y cyfan yn eang ac yn rhai lefel uchel. Fodd bynnag, rydym yn pryderu y gallai'r Bil nodi dechrau ymwahanu'r DU oddi wrth y drefn diogelu data sydd ar waith ar hyn o bryd ledled yr UE ac, mae'n afraid dweud byddai gan hyn y potensial i danseilio darpariaethau diogelu data yn y Cytundeb Masnach a Chydweithredu ar draws ystod o feysydd polisi a'r golled bosibl o ddigonolrwydd data o ganlyniad. Felly, Llywydd, i gloi, o ganlyniad i'r pryderon cyfansoddiadol ynghylch y Bil, gofynnaf i Aelodau'r Senedd beidio â chydsynio i'r Bil hwn. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe fyddwn ni yn gohirio'r bleidlais tan nawr. Ac os nad oes yna dri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, awn ni'n syth i'r bleidlais y prynhawn yma.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Yr unig bleidlais y prynhawn yma yw ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol rŷn ni newydd ei glywed, ac felly dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jeremy Miles. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Eitem 8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol: O blaid: 14, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
A dyna ni; dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am heddiw.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:14.