Y Cyfarfod Llawn

Plenary

20/03/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair. 

Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8

Prynhawn da a chroeso, bawb, i Gyfarfod Llawn heddiw. Yr eitem gyntaf o fusnes heddiw yw enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8. A oes unrhyw enwebiadau ar gyfer penodi Prif Weinidog?

Fel cadeirydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, rwy'n enwebu Andrew R.T. Davies.

Dirprwy Lywydd, enwebaf, I nominate, Rhun ap Iorwerth.

Neb arall? [Chwerthin.]

Gan fod tri enwebiad, byddaf yn cynnal pleidlais trwy alw cofrestr ac yn gwahodd pob Aelod sydd yn bresennol i bleidleisio dros ymgeisydd. Byddaf yn galw pob Aelod sy'n bresennol yn nhrefn yr wyddor. Dywedwch enw'r ymgeisydd yr ydych yn ei gefnogi'n glir pan gewch chi eich galw, neu dywedwch yn glir eich bod yn dymuno ymatal. Yn unol â Rheol Sefydlog 8.2, ni chaniateir i'r Llywydd nac i finnau bleidleisio.

Iawn, gadewch inni ddechrau. Mick Antoniw.

Rwy'n credu imi fethu Mark Drakeford, oni wneuthum? Na. O, fe'i cefais, do.

Byddwn y nawr yn aros i'r Clerc gadarnhau canlyniad y bleidlais.

Gallech ofyn, ond ni chewch—[Chwerthin.]—nid oni bai fod y ffigurau—.

Trefn. Dyma ganlyniad y bleidlais a gynhaliwyd drwy alw'r gofrestr. Rwyf felly'n datgan bod Vaughan Gething wedi cael ei enwebu i'w benodi'n Brif Weinidog Cymru. Yn unol ag adran—

Pedwar deg saith. A yw hynny—? Iawn, o'r gorau. Dim ond gwirio. Yn unol ag adran 47(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, byddaf nawr yn argymell penodiad Vaughan Gething yn Brif Weinidog i’w Fawrhydi. Rwy’n gwahodd Vaughan Gething i annerch y Senedd. [Cymeradwyaeth.]

13:35

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Aelodau sydd wedi cefnogi fy enwebiad heddiw.

Diolch o galon i'm cyd-Aelodau sydd wedi cefnogi fy enwebiad heddiw. Rwy’n arbennig o ddiolchgar i’m rhagflaenydd, Mark Drakeford, am ei enwebiad, ac am y gefnogaeth y mae wedi’i chynnig i mi nid yn unig yn y dyddiau diwethaf, ond dros y blynyddoedd lawer yr ydym wedi gweithio mor agos gyda’n gilydd. Ni chredaf y byddai unrhyw un ohonom byth yn dymuno byw drwy ddyddiau tywyll y pandemig eto. Ond fel cyd-Aelodau eraill yma, roeddwn yn hynod ddiolchgar i gael Mark fel ein Prif Weinidog drwy’r cyfnod hwnnw. Bydd hanes, yn gywir ddigon, yn cofio Mark am yr arweinyddiaeth dosturiol, golegol a moesegol a ddisgleiriodd drwy’r dyddiau tywyll hynny i’n cenedl. Dywedir nad oes unrhyw waddol mor gyfoethog â gonestrwydd. Nodweddir cyfnod Mark yn arweinydd gan y geiriau hynny. Roedd cyfraniad ddoe yn nodi hynny’n glir ar y cofnod unwaith eto. Felly, a gaf i ddiolch yn fawr unwaith eto heddiw, Mark, am bopeth rydych wedi'i wneud dros Gymru? [Cymeradwyaeth.]

Nawr, yng nghyfraniad cyntaf Mark yn dilyn ei enwebiad yn Brif Weinidog, soniodd sut, ar ddiwrnodau anodd, y byddai Rhodri Morgan yn dweud y geiriau, 'Tin hat on', eiliadau cyn mynd i ateb y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Roedd hyn ym mis Rhagfyr 2018, ac rwy'n cofio Mark yn gofyn i’w deulu, a oedd yn gwylio, wneud yn siŵr y byddai Siôn Corn yn dod â helmed dun iddo y flwyddyn honno. Felly, i fy mherthnasau i sy'n gwylio heddiw, byddai'n well gennyf beidio ag aros tan y Nadolig; byddai rhywbryd yn ystod y tair wythnos nesaf yn wych.

Ond Ddirprwy Lywydd, wrth inni edrych yn ôl ar y straeon hynny am y bobl sydd wedi llywio datganoli yn ei chwarter canrif cyntaf, mae'n nodedig fod niferoedd cynyddol o bobl yma yng Nghymru bellach nad ydynt erioed wedi gweld amser hebddo. Yn fy ieuenctid afradlon braidd, treuliais rywfaint o amser yn ymgyrchu ar ran mudiad Ie dros Gymru, a helpodd i sicrhau'r refferendwm a wnaeth ddyddiau fel heddiw'n bosibl. I nifer cynyddol o Aelodau yn y Siambr hon, mae datganoli—atebion Cymreig i broblemau a chyfleoedd Cymreig—wedi bod yn nodwedd gyson o’n bywydau fel oedolion. Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gwthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl gyda datganoli. Fe wnaethom hynny, er enghraifft, i gadw Cymru’n ddiogel. Ond yn yr un cyfnod, rydym wedi gweld gelyniaeth ddigynsail tuag at ddatganoli democrataidd yng Nghymru gan Lywodraeth y DU sy’n benderfynol o danseilio, rhwystro a diystyru Llywodraeth Cymru a’r Senedd hon. Yn ogystal â gadael Cymru â llai o lais dros lai o arian, mae’n hynod gyrydol, yn wastraffus ac yn annemocrataidd.

Fel Prif Weinidog, edrychaf ymlaen at sefyll dros Gymru a datganoli yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod, ond rwy’n edrych ymlaen at y cyfle i gydweithio dros Gymru gyda Llywodraeth DU newydd sy’n buddsoddi mewn partneriaeth ac yn nyfodol Cymru. Rwy'n edrych ymlaen oherwydd, fel cymaint o Aelodau a ffrindiau yma heddiw, rwyf am i Gymru ffynnu yn yr heulwen y gall gobaith a chyfiawnder cymdeithasol eu cynnig i bob un ohonom, ni waeth beth fo'n cefndir, sut rydym yn edrych na phwy rydym yn eu caru.

Mae Cymru yn haeddu mwy nag ysbeidiau heulog.

O ysbeidiau heulog, lle mae'n aml yn anodd bod yn obeithiol, gallwn groesawu optimistiaeth o’r newydd ac uchelgais newydd ar gyfer Cymru decach, wedi’i hadeiladu gan bob un ohonom.

Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi sôn yn ystod y dyddiau diwethaf fy mod yn benderfynol o gynnig clust i wrando a chyfeillgarwch i unrhyw un yn y Senedd hon, a thu hwnt, lle rydym yn rhannu uchelgais ar gyfer dyfodol ein gwlad. Er mwyn diwallu anghenion pobl Cymru, mae angen ymrwymiad cyfunol i wrando. Yn wyneb grymoedd newydd ymrannol, mae adfer ymddiriedaeth ac adennill urddas yn y ffordd y siaradwn â’n gilydd yn bwysicach nag erioed. Mae'r rheini sy'n ceisio lledaenu poblyddiaeth annymunol yn dyheu am Gymru ranedig. Credaf mai ein tasg ni yw atal buddugoliaeth ymraniad a chasineb, drwy adeiladu pontydd, drwy wrando, drwy ail-greu ymddiriedaeth rhwng pobl a phŵer. Dyma gynhwysion gwleidyddiaeth fwy caredig a mwy effeithiol—un lle rydym yn goresgyn yr ymdrechion diflino i wneud i’n cenedl gynnes droi’n oer.

Fel Prif Weinidog, byddaf yn dod â Llywodraeth ynghyd sy’n dadlau'r achos cadarnhaol yn gyson dros wleidyddiaeth flaengar, i atgoffa pobl mai dim ond drwy ddod at ein gilydd y gallwn gyflawni ar gyfer y lliaws. Felly, rwy'n dewis gwneud safiad dros bositifrwydd, i beidio byth â megino'r fflamau sy’n niweidiol i bobl ac sy'n niweidio ein henw da yn y byd, i sefyll o blaid set o syniadau a datblygiadau polisi arloesol sydd wedi’u gwreiddio yng ngwerthoedd Cymru, i sefyll o blaid arweinyddiaeth sy'n seiliedig nid ar chwerwder, dicter neu'r ymdrech ofer i ail-greu gorffennol na fu erioed, ond arweinyddiaeth sy'n seiliedig ar obaith, i hyrwyddo'r achos dros hawliau dynol, dros undod, a thros ymrwymiad i chwarae rhan ryngwladol ar y cyd wrth fynd i'r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu.

Ddirprwy Lywydd, ni allaf adael i'r enwebiad hwn fynd heibio heb ddweud rhywbeth am ei arwyddocâd hanesyddol. Fi, wedi’r cyfan, yw arweinydd etholedig cyntaf fy mhlaid, ac yn wir, fy ngwlad, gydag ‘ap’ yn eu henw. [Chwerthin.] Wrth gwrs, rydym wedi pleidleisio heddiw hefyd i sicrhau mai Cymru yw’r genedl gyntaf yn unrhyw le yn Ewrop i gael ei harwain gan unigolyn du. Rwy'n credu ei fod yn destun balchder i'r Gymru fodern, ond mae hefyd yn gyfrifoldeb dwys i mi, ac un nad wyf yn ei gymryd yn ysgafn. Ond heddiw, gallwn ddisgwyl hefyd i batrwm torcalonnus o gyfarwydd ddod i’r amlwg, gyda chamdriniaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, ystrydebau hiliol wedi’u cuddio ag iaith gwrtais, pobl yn cwestiynu fy nghymhellion, a byddant, fe fyddant yn dal i gwestiynu neu wadu fy nghenedligrwydd, tra bydd eraill yn cwestiynu pam fy mod yn chwarae'r cerdyn hil. Wrth y bobl hynny, dywedaf unwaith eto: mae'n hawdd iawn peidio â malio am hunaniaeth pan nad yw eich un chi erioed wedi'i chwestiynu nac wedi eich dal yn ôl. Credaf y bydd Cymru heddiw ac yn y dyfodol yn eiddo i’r holl bobl weddus hynny sy’n cydnabod y dylai ein Senedd a’n Llywodraeth edrych fel ein gwlad, pobl sy’n cydnabod bod ein gobaith a’n huchelgais ar gyfer y dyfodol yn dibynnu ar ryddhau talent pob un ohonom, Cymru sy’n cydnabod y gallwn ddathlu ein gwahaniaethau ac ymfalchïo yn yr holl bethau sy’n ein dwyn ynghyd ac yn ein gwneud yr hyn ydym. Dyna’r Gymru rwyf am ei harwain, Cymru sy’n llawn gobaith, uchelgais ac undod. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch, bawb. [Cymeradwyaeth.]

13:45

Vaughan, a gaf i ddymuno’n dda i chi yn eich rôl newydd fel Prif Weinidog y Senedd hon a Chymru. Pob lwc. Ond er eglurder, hoffwn gofnodi'r pleidleisiau. Bwriwyd 51 pleidlais: 27 o blaid Vaughan Gething, 13 o blaid Andrew R.T. Davies, ac 11 o blaid Rhun ap Iorwerth, gyda neb yn ymatal. Diolch.

1. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf yw cwestiynau amserol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jane Dodds. 

Marwolaeth Kaylea Titford

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr Adolygiad Ymarfer Plant i farwolaeth Kaylea Titford? TQ1029

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Bu farw Kaylea, yn drist iawn, mewn amgylchiadau trasig ychydig ar ôl ei phen-blwydd yn un ar bymtheg oed, a chafwyd ei rhieni’n euog o’i dynladdiad, ac maent bellach yn y carchar. Bydd yr adolygiad ymarfer plant yn ein helpu i ddysgu beth arall y gallwn ei wneud i wella arferion diogelu amlasiantaethol i amddiffyn plant a phobl ifanc.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog.

Diolch yn fawr am yr ymateb. 

Rwy'n gwybod pa mor ymroddedig ydych chi i blant a phobl ifanc, ac i’w diogelwch. Hoffwn ddweud ychydig eiriau am Kaylea, gan ei bod yn aml mor anodd cofio yn yr amgylchiadau hyn fod yma blentyn sydd wedi marw. Roedd Kaylea yn 16. Fe'i disgrifiwyd fel unigolyn bendigedig, hwyliog, penderfynol a phengaled—ac rwy'n hoffi hyn—ni fyddai'n derbyn cyngor dietegol pan fyddai'n cael ei gyflwyno mewn ffordd nawddoglyd. Credaf y gall pob un ohonom uniaethu â hynny, oni allwn? Fodd bynnag, yn anffodus, bu farw Kaylea, yn 16 oed, yn 22 stôn, a disgrifiwyd yr amodau y bu farw ynddynt, pan ddaethpwyd o hyd iddi, fel rhai a fyddai'n anaddas i anifail. Mae'n rhaid inni beidio byth ag anghofio mai’r bobl a oedd yn gyfrifol am hyn, fel y dywedwch, yn gywir ddigon, Weinidog, oedd ei rhieni.

Fodd bynnag, mae dwy elfen yma yr hoffwn eu codi. Mae’r cyntaf yn un yr wyf wedi’i chodi o’r blaen, sy’n ymwneud â gwaith amlasiantaethol, a wnaeth gam â Kaylea, ac a wnaeth gam â phlentyn arall a fu farw yng Nghymru, Logan Mwangi. Mae gwaith amlasiantaethol yn rhywbeth sydd mor bwysig, ac eto, am na wnaeth yr asiantaethau gyfathrebu'n dda, fe wnaethant golli golwg arni, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn dysgu o'r diffyg ffocws amlasiantaethol hwn. Ond mae'r ail elfen yn ymwneud â'r adolygiad ymarfer plant, ac mae hwn yn fater systemig. Mae'n ymwneud â llywodraethu. Pwy sy'n gyfrifol am fonitro'r camau gweithredu yn dilyn adolygiadau ymarfer plant? Gwyddom fod proses newydd yn cael ei datblygu o’r enw adolygiad diogelu unedig sengl, a ddylai fod yn dechrau fis nesaf, mis Ebrill 2024, ond nid oes unrhyw fanylion ar gael ar gyfer hynny.

Nawr, os ydym am gadw plant a phobl ifanc ledled Cymru yn ddiogel, mae’n rhaid inni gael proses sy’n sicrhau y ceir cyfrifoldeb nid yn unig am ddysgu o’r camau hynny a dwyn pobl i gyfrif amdanynt, ond sydd hefyd yn sicrhau ein bod yn eu rhoi ar waith yn llawn er mwyn sicrhau nad yw pobl fel Kaylea yn marw yn yr amgylchiadau hyn eto. Felly, hoffwn ofyn i chi, Weinidog: sut rydych chi a’r Llywodraeth yn mynd i sicrhau bod gennym weithio amlasiantaethol gwell, a bod gennym system sy’n diwallu anghenion y plant a’r bobl ifanc hyn sy’n agored iawn i niwed? Diolch yn fawr iawn.

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

13:50

Diolch, Jane. Rwy'n credu bod pob un ohonom yn cofio ein bod yn sôn am drasiedi heddiw, lle bu farw menyw ifanc ychydig ddyddiau yn unig ar ôl ei phen-blwydd yn un ar bymtheg oed. Credaf ei bod yn bwysig iawn inni barchu, yn ein dadleuon heddiw, y ffaith bod bywyd unigryw wedi’i golli a bod yn rhaid inni gynnal ein trafodaeth yma mewn modd sensitif.

Fel rydych wedi’i ddweud, Jane, mae rhieni Kaylea wedi’u cael yn euog o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol, ac maent yn bwrw dedfrydau hir o garchar. Nhw sy'n gyfrifol am ei marwolaeth. Credaf ei bod yn bwysig i’r Senedd glywed am yr hyn a ddywedodd y barnwr wrth roi'r ddedfryd yn yr achos hwn. Dywedodd:

'Roedd cymorth ar gael. Roedd yno ar eu cyfer. Roedd wedi'i roi o'r blaen.... Roedd y methiant i gael unrhyw gymorth o gwbl, hyd yn oed gan feddyg teulu Kaylea, yn arbennig o arwyddocaol yn y misoedd allweddol cyn marwolaeth Kaylea yn ystod y cyfyngiadau symud.'

Gwyddom fod pandemig COVID-19 wedi gwaethygu ei hynysigrwydd a bod hyn wedi lleihau’r cyfleoedd i sicrhau bod cymorth ar gael i’r teulu, ond ni chredaf ei bod yn glir faint o’r cymorth hwn, os o gwbl, a fyddai wedi cael ei dderbyn.

Rydych yn nodi, yn gywir ddigon, pa mor bwysig yw gwaith amlasiantaethol, ac mae’r hyn a ddysgwyd o’r adolygiadau yn cael ei rannu ar hyn o bryd drwy sawl llwybr, cyfarfodydd byrddau diogelu rhanbarthol, sy’n cynnwys rhanddeiliaid allweddol, gwefannau byrddau a sesiynau briffio, ac fe'i defnyddir i lywio hyfforddiant amlasiantaethol ar draws y rhanbarth. Ers marwolaeth dorcalonnus y plentyn arall y cyfeirioch chi ato, mae cynnydd wedi’i wneud ar y gwaith hwnnw.

Mae gennym ein rhaglen waith gyfredol i ddatblygu adolygiad diogelu unedig sengl, gan gynnwys datblygu storfa o adolygiadau ymarfer plant, a fydd hefyd yn cynnwys adolygiadau ymarfer oedolion ac adolygiadau diogelu eraill. Bydd hyn yn cryfhau ymhellach ein gallu, yn genedlaethol, i ddysgu gan a mynd i’r afael ag argymhellion a wneir mewn adolygiadau diogelu fel rhan o welliant parhaus ymarfer amlasiantaethol.

Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw dysgu o bob set unigryw o amgylchiadau, gwella gwaith rhyngasiantaethol a chyfnewid gwybodaeth, ac mae'n rhaid inni wella sylfaen sgiliau a sgiliau gwneud penderfyniadau’r rheini ar y rheng flaen. Credaf fod hynny’n gwbl hanfodol, a dyna pam fod gennym fframwaith ymarfer a gyflwynwyd gennym fel rhan o’n gwaith o drawsnewidiad gwasanaethau plant. Credaf y bydd yr holl bethau a wnawn yn yr agenda drawsnewid honno'n helpu i fynd i’r afael â’r materion hyn.

Ond yn y bôn, hoffwn ddweud fy mod yn cydymdeimlo'n llwyr â'i theulu, a bod angen inni ymdrin â hyn mewn modd sensitif iawn.

Hoffwn gofnodi fy nhristwch ynghylch y digwyddiad hwn. Rwy’n ymwybodol nad dyma’r tro cyntaf i hyn gael ei godi yn y Senedd. A minnau'n gyfrifol am bortffolio gwasanaethau cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig, rwyf wedi gweld drosof fy hun nad dyma'r unig achos a welsom yng Nghymru. Rydym wedi gweld achos Kaylea Titford, yr ydym yn sôn amdano nawr, ond hefyd achos Logan Mwangi, yr ydym hefyd wedi'i drafod gryn dipyn yn Siambr y Senedd hon.

Gyda Kaylea Titford, Logan Mwangi, mae thema'n datblygu yma, onid oes, Ddirprwy Weinidog? Rwyf wedi galw ers tro, ac mae fy mhlaid wedi galw am adolygiad Cymru gyfan o wasanaethau plant, ar draws y 22 awdurdod lleol, i ystyried pob un o’r materion y soniwn amdanynt heddiw, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn llithro drwy’r rhwyd yma yng Nghymru a’n bod yn rhoi’r holl gyfleoedd i’r awdurdodau lleol gael y cyfle i fynd i’r afael â’r pryderon hyn ac atal unrhyw achosion posibl rhag codi yng Nghymru yn y dyfodol.

Nawr, yn amlwg, rydym newydd ethol Prif Weinidog newydd Cymru. Nid wyf yn siŵr a fyddwch yn dal yn eich rôl yn y dyfodol, neu a fydd yn olynydd posibl, ond a wnewch chi ymrwymo yn eich rôl nawr neu rôl eich olynydd posibl i gynnal adolygiad Cymru gyfan o wasanaethau plant? Oherwydd credaf mai Cymru yw’r unig eithriad yn y sefyllfa hon. Mae Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr wedi comisiynu adolygiadau cenedlaethol o’u gwasanaethau plant, felly pam y dylai Cymru fod yr unig eithriad yn y sefyllfa hon? Gallwn sôn am fyrddau polisi, gallwn sôn am fframweithiau a’r holl fesurau diogelu sydd ar waith ar hyn o bryd, ond beth sydd o’i le ar gael adolygiad cenedlaethol, yn unol â’r hyn y mae’r Alban a Lloegr wedi’i wneud yn barod? Rwy'n edrych ar yr achosion hyn, ac maent yn drasig, a gwyddom fod y bobl sy'n gyfrifol am yr esgeulustod o flaen eu gwell, ond beth sydd o’i le ar gael adolygiad Cymru gyfan er mwyn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn llithro drwy’r rhwyd yng Nghymru, ac y gallwn wneud ein gorau glas i atal unrhyw achosion rhag datblygu yn y dyfodol, fel yr achos hwn ac achos Logan Mwangi a welsom ym Mhen-y-bont ar Ogwr? Diolch.

13:55

Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad, Gareth, ac am eich cydymdeimlad yn y sefyllfa ofnadwy hon. Hoffwn nodi, Gareth, fod llawer o’r materion yn yr achos hwn yn ymwneud ag iechyd, gan fy mod yn siŵr eich bod yn ymwybodol fod gan Kaylea broblemau iechyd penodol, ac ni fyddai adolygiad o wasanaethau plant ledled Cymru yn mynd i'r afael yn ddigonol â'r materion y buom yn sôn amdanynt. Mewn gwirionedd, rydym yn gwneud cynnydd sylweddol ar y materion iechyd a godwyd mewn perthynas â’r achos hwn ers i Kaylea farw, o ran rheoli pwysau, a hefyd yn ein rhaglen trawsnewid.

Felly, rydym wedi cynnal sawl adolygiad, a phan soniais am farwolaeth drasig Logan, rhestrais y nifer helaeth o adolygiadau a gawsom yng Nghymru i edrych ar y materion hyn. Ym mis Hydref 2022, fe wnaethom ofyn i Arolygiaeth Gofal Cymru arwain adolygiad cyflym amlasiantaethol o benderfyniadau mewn perthynas ag amddiffyn plant, a nododd yr adroddiad hwn feysydd o arferion da a meysydd lle gellir dysgu, ac mae hynny wedi’i ystyried fel rhan o'n hagenda trawsnewid. Felly, rydym yn sicr yn barod i gynnal adolygiadau, ac rydym wedi cynnal llawer o adolygiadau, ond mae ein hymrwymiad i fynd i'r afael â'r materion hyn yn hollbwysig. A chredaf ei bod hefyd yn bwysig nodi ein bod yn rhagweld cynnydd, yn 2024, yn nifer yr adolygiadau ymarfer plant a gyhoeddir, gan fod gwybodaeth gan fyrddau diogelu rhanbarthol yn cadarnhau bod hyn yn gysylltiedig â’r ffaith bod adolygiadau ymarfer plant wedi’u gohirio ac wedi eu hatal rhwng 2020 a 2022 oherwydd y pandemig. Ac roedd y pwysau ar wasanaethau amlasiantaethol yn ystod y pandemig yn golygu na chynhaliwyd yr adolygiadau ymarfer plant hyn, ac nad ydynt wedi'u cyhoeddi. Felly, rydym yn rhagweld y bydd mwy o'r rheini'n ymddangos nawr. Ond fel y dywedais o'r blaen, credaf fod yn rhaid inni ymdrin â phob un yn unigol, ac ystyried yr hyn a ddysgir o'r adolygiadau hynny a gweithio i greu system lle mae'r digwyddiadau hyn yn llai tebygol o ddigwydd.

Roedd Kaylea yn anabl. Roedd ganddi spina bifida ac roedd hi'n defnyddio cadair olwyn—y problemau iechyd hynny y sonioch chi amdanynt. Dywedodd adroddiad yr adolygiad ymarfer plant o'i marwolaeth drasig na wnaed asesiad o’r tebygolrwydd y gallai ddioddef niwed sylweddol yn ystod y pandemig, a dyfynnaf:

'roedd y dystiolaeth o'r ffordd y bu farw yn ein galluogi i ddod i'r casgliad fod effeithiau gyfrannol cwarantîn estynedig…yn niferus a chymhleth, gan waethygu ei bregusrwydd a lleihau'r seilwaith cefnogol yr oedd hi'n dibynnu arno.'

Mae’r achos ofnadwy hwn yn amlygu'n glir sut y cafodd hawliau pobl anabl eu hesgeuluso a’u gwadu yn ystod y pandemig, a daeth hyn i’r amlwg yn gryf iawn yn nhystiolaeth sefydliadau pobl anabl i ymchwiliad COVID y DU yn ystod ei sesiynau yng Nghymru dros yr wythnosau diwethaf. Felly, a yw’r Llywodraeth yn cydnabod ei chyfrifoldeb am y dioddefaint a ddigwyddodd o ganlyniad i’r ffordd yr aeth ati'n fwriadol i atal hawliau pobl anabl? Sut y gall ddangos bod gwersi wedi’u dysgu ar gyfer y dyfodol? A pha sicrwydd y gall y Llywodraeth ei roi i ni yng ngoleuni’r cyfyngiadau ariannol ar y gyllideb eleni fod gan wasanaethau cymdeithasol ddigon o adnoddau i sicrhau bod ein holl ddinasyddion yn cael y gofal a’r amddiffyniad priodol? Diolch.

Diolch am eich sylwadau, Sioned. Yn sicr, rwy'n credu ein bod yn derbyn bod pobl anabl wedi dioddef yn ystod y pandemig, ac mae hawliau pobl anabl yn amlwg yn fater yr ydym yn bryderus iawn yn ei gylch ac yn awyddus i fynd i'r afael ag ef. Wrth ddarllen drwy’r adroddiad, rwy'n credu bod rhai ffyrdd y gwnaed ymdrechion mawr, cyn y gyfres drasig hon o amgylchiadau, i Kaylea fyw bywyd llawn iawn, ac rwy’n siŵr eich bod wedi darllen am y cyswllt a wnaed gyda hi yn barhaus yn ystod y pandemig gan yr ysgol. Ond nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â'r ffaith ei bod wedi'i hynysu yno, nad oedd wedi gallu mynychu hyb—. Felly, credaf fod pobl yn y gymdogaeth wedi sylwi nad oedd hi o gwmpas, ond oherwydd COVID, nid oeddent yn disgwyl iddi fod o gwmpas. Felly, credaf fod yr amgylchiadau wedi golygu nad oedd yr amgylchiadau ofnadwy a oedd yn digwydd yn hysbys i bobl ac na sylwyd arnynt.

Ond o ran mynd i'r afael â'r materion a godwch, sy'n faterion iechyd, a'r ffaith ei bod yn dioddef o spina bifida, lle mae yna broblem heb os sy'n ymwneud â phwysau, ac mae'n bwysig iawn fod pwysau'n cael ei reoli a'i fonitro, yn 2021, fe wnaethom gyhoeddi llwybr rheoli pwysau Cymru gyfan ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd. Egwyddorion sylfaenol y llwybr yw ei fod yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn gymesur ag angen. Mae'r llwybr hwn yn rhoi cyfle i greu tîm amlddisgyblaethol ym maes iechyd a fyddai'n asesu ac yn adolygu anghenion yn rheolaidd mewn perthynas â rheoli pwysau. Rwy'n credu ei bod yn bwysig gwneud y pwynt ein bod wedi gwneud cynnydd o ran rheoli pwysau ers marwolaeth ofnadwy Kaylea, ac mae hynny mor bwysig.

Hefyd, cafodd llawer o apwyntiadau eu colli ym mywyd Kaylea, ac mae ymateb y gwasanaeth iechyd i apwyntiadau a gollwyd yn achos Kaylea yn cael sylw yng nghynllun gweithredu gwasanaeth diogelu cenedlaethol y GIG. Credaf fod yn rhaid inni wneud popeth a allwn i leihau'r risgiau i blant ac i blant anabl a'u hamddiffyn rhag niwed. Ond yn anffodus, ni allwn ddileu'r risgiau'n llwyr, ac yn anffodus, ni allwn atal lladd plant yn gyfan gwbl, ond mae'n rhaid inni wneud ein gorau glas. Credaf ei bod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â phlant anabl a'r hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yn eu cylch.

14:00

Diolch i'r Dirprwy Weinidog.

Fe symudwn ni ymlaen nawr i'r cwestiwn amserol nesaf, sydd i'w ofyn gan David Rees. Oherwydd bod yr amser yn brin, byddaf yn galw un Aelod o bob grŵp. David Rees.

Tata Steel

2. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Tata yn dilyn y cyhoeddiad i gau'r ffyrnau golosg ym Mhort Talbot? TQ1034

Diolch am y cwestiwn.

Yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Llun, trafodais y mater gyda phrif weithredwr Tata Steel UK ar yr un diwrnod. Mae hwn yn amlwg yn newyddion hynod siomedig. Fodd bynnag, mae’r cwmni a'r undebau llafur wedi codi’r pryderon ynghylch diogelwch gweithredol y ffyrnau golosg yn rheolaidd gyda ni. Yn amlwg, rhaid rhoi blaenoriaeth i faterion diogelwch gweithredol i weithwyr.

A gaf i ddiolch i'r darpar Brif Weinidog am yr ateb hwnnw? Rwy’n gyrru adref o'r lle hwn bob nos; rwy'n pasio'r ffyrnau golosg. Bydd yn drueni peidio â’u gweld yn gweithio mwyach. I mi, mae'n drueni na fyddaf yn gweld hynny mwyach, ond i'r gweithwyr yn y ffyrnau golosg a'r gweithwyr ar ben trwm y gwaith, bydd pryder enfawr am eu dyfodol, bydd eu teuluoedd yn poeni, a bydd y gymuned ehangach yn poeni, oherwydd beth fydd sgil-effaith yr holl gau? Mae hyn yn digwydd pan nad yw’r broses ymgynghori statudol wedi’i chwblhau eto, pan nad yw negodiadau’r undebau llafur â Tata eu hunain wedi'u cwblhau mewn perthynas â’r hyn y gallant ei wneud i gefnogi adleoli gweithwyr, neu efallai’r rhai a allai wynebu diweithdra. Felly, mae llawer yn y fantol o hyd oherwydd nid oes penderfyniadau wedi eu gwneud, ac mae pryderon yn mynd i gynyddu a bydd gennym bryderon difrifol am y dyfodol.

Felly, er fy mod yn croesawu’r ateb a roddodd y Prif Weinidog ar y pryd ddoe ynghylch y cyllid ychwanegol i gefnogi gweithwyr i hyfforddi, ailsgilio ac ennill y cymwysterau hynny er mwyn iddynt allu symud ymlaen at gyfleoedd newydd, mae llawer i’w wneud o hyd i lawer iawn o weithwyr sy'n dal i gael eu cyflogi gan Tata. Felly, pa gynlluniau y llwyddoch chi i’w paratoi i gefnogi gweithwyr i mewn i gyflogaeth newydd, gan edrych ar fecanweithiau i rannu cyllid neu arian cyfatebol ar gyfer cyfleoedd swyddi efallai mewn busnesau ar draws y rhanbarth? Pa gyfleoedd a nodwyd gennych ar gyfer denu cyfleoedd swyddi newydd i’r rhanbarth, fel y gall y rheini a allai gael eu diswyddo gan Tata—mae hynny’n cynnwys y contractwyr a’r gweithlu cyflenwi; byddant hwy’n cael eu heffeithio yr un mor ddrwg—fel y gallant ddod o hyd i waith yn gyflymach? Oherwydd mae'r penderfyniad hwn wedi cyflymu cyhoeddiad 19 Ionawr. Roedd y pen trwm i fod i gau'n rhannol ddiwedd mis Mehefin ac yn gyfan gwbl erbyn diwedd y flwyddyn hon. Mae misoedd nes hynny ac rydym yn gweld ffyrnau golosg yn cau  heddiw, mewn gwirionedd, ac roedd ffwrnais chwyth 5 yn dibynnu ar fewnforio golosg, os gallant ei gaffael mewn gwirionedd, ac yna mae'n bosibl y bydd ffwrnais chwyth 4 yn dod i lawr ddiwedd mis Hydref. Felly, mae’n bwysig ein bod yn gweithredu nawr i roi sicrwydd i’r gweithwyr, y teuluoedd, y cymunedau y maent yn byw ynddynt, y byddwn yn gofalu amdanynt yn y dyfodol.

14:05

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwy’n credu bod yna ddwy ran wahanol i hyn: effaith uniongyrchol cau’r ffwrn olosg, a’r her ehangach ynghylch y cynlluniau sydd gan Tata ar gyfer y dyfodol a chanlyniadau posibl y rheini, ac rwy’n deall pam y bydd pobl yn bryderus ynghylch y ddau beth.

Felly, yn y sgyrsiau a gawsom gyda Tata, maent wedi bod yn glir y bydd y gweithlu presennol o amgylch y ffyrnau golosg yn cael eu cyflogi'n fuddiol am beth amser i ddod. Mae’r her yn ymwneud â’r ymgynghoriad sy’n dal i fynd rhagddo, ac sydd heb ei gwblhau, ynglŷn â pha mor hirdymor fydd hynny, pa fath o adleoli sydd i'w gael. Mae mater cau'r ffyrnau golosg yn ddiogel yn codi hefyd. Nid yw'n rhywbeth lle gallwch chi bwyso botwm a'i gau'n ddiogel; mae’n her beirianyddol eithaf cymhleth i ddatgomisiynu’n ddiogel, ac mae yna her mewn perthynas â’r gwaith ehangach hwnnw. Felly, mewn gwirionedd, rydym wedi bod yn glir yn ein sgyrsiau â'r undebau llafur a'r cwmni fod digon o olosg ar gael i gynnal y ffwrneisi chwyth yn unol â’r cynllun presennol sydd gan Tata, fel nad yw'n peryglu ffwrnais chwyth 4 a'i gallu i weithredu tan yr hydref. Bydd angen iddynt gaffael mwy o olosg nawr. Felly, dylai hynny fod o gymorth.

Mae’r ail ran ynghylch yr hyn a all ddigwydd nawr yn gymhleth, oherwydd mae yna set anorffenedig o drafodaethau yn mynd rhagddynt. Felly, rydym yn edrych, wrth gwrs, ar yr economi ehangach a beth yw'r cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd i’r gweithlu uniongyrchol ac i gontractwyr, ac o bosibl, i’r grŵp o weithwyr yr effeithir arnynt yn anuniongyrchol. Mae hynny’n ymwneud â chyflogaeth sy’n bodoli o fewn y farchnad ehangach yn ogystal â’r potensial ar gyfer swyddi newydd.

Rhan o’r rheswm pam ein bod wedi sôn am amseriad unrhyw newidiadau yw bod y cyfle i gyflwyno cyflogaeth newydd ar lefel gymesur, gan gofio’r cyflogau y mae gweithwyr Tata a chontractwyr yn eu cael, yn rhan o’n pryder ynghylch cyflymder unrhyw newid. Ar gyfer y set benodol hon o weithwyr—ac mae’n bosibl y bydd cannoedd o swyddi’n cael eu heffeithio fel rhan o’r ymgynghoriad—mae honno’n her haws i’w rheoli. Mae gwaith gweddus ar gael i nifer o weithwyr. Ond mae’n ymwneud mewn gwirionedd â pha un a all yr ailsgilio a'r ailhyfforddi ddigwydd. Rwy'n hyderus y gallwn ddarparu cymorth o fewn ein cyllideb bresennol i hynny ddigwydd a gallwn gydlynu hynny gyda'r Ganolfan Byd Gwaith os oes angen, os oes pobl yn gadael y gweithlu, ac yn wir, gyda'r awdurdod lleol hefyd.

Mae’r her fwy yn parhau mewn perthynas â’r set ehangach o drafodaethau sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd, os oes pobl sy’n dymuno gadael ar delerau gwirfoddol, beth y gallai’r telerau hynny fod, a chanlyniad terfynol y trafodaethau sy’n mynd rhagddynt. Ni fyddwn yn gwybod hynny yn yr wythnos neu ddwy nesaf. Felly nid yw hyn yn mynd i fod yn rhywbeth a fydd yn cael ei ddatrys  yn ystod y 45 diwrnod cyntaf; fe fydd yn cymryd mwy o amser na hynny. Felly, ni allaf roi golwg bendant i’r Aelod ar gyflogaeth yn y dyfodol, ni allaf roi golwg bendant i’r Aelod ar y sefyllfa bresennol, oherwydd nid oes yr un o’r sgyrsiau hynny wedi'u cwblhau. Os yw’r grŵp hwn o weithwyr yn wynebu diweithdra, gallaf roi sicrwydd i'r Aelod fod cymorth ar gael gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid, ac ymrwymiad parhaus gan y Llywodraeth rwy'n disgwyl ei harwain i sicrhau ein bod yn parhau i ddadlau dros y pontio gorau posibl, ar gyfer gweithwyr, yr economi ehangach, ac yn wir, ein huchelgeisiau hinsawdd ein hunain.

Weinidog, er bod y newyddion hwn yn ergyd enfawr i’r gweithlu, eu teuluoedd, a’u cymunedau cyfan, nid yw’n annisgwyl. Rwy’n cofio cyfarfod â chyfarwyddwyr Tata pan gefais fy ethol gyntaf yn 2015, a buont yn trafod materion yn ymwneud ag oes y safle ac yn sôn am yr angen am fuddsoddi. Ers hynny, beth mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i weithio gyda Tata a Llywodraeth y DU i sicrhau hirhoedledd cynhyrchiant dur ym Mhort Talbot?

Ers i mi ddod i fy swydd bresennol fel Gweinidog yr Economi, mae deialog reolaidd wedi bod gydag undebau llafur, gyda’r cwmni, ac yn wir, gyda Llywodraeth y DU cyn belled ag y bu hynny’n bosibl. Un o’r pethau sy’n peri rhwystredigaeth wirioneddol i mi—a dylai fod yn peri rhwystredigaeth i'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd—yw’r ffaith nad oes sgwrs fwy ymgysylltiedig wedi bod  â Gweinidogion olynol y DU. Byddem mewn sefyllfa lawer gwell, hyd yn oed gyda’r gwahaniaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, pe bai mwy o ddeialog rheolaidd a pharodrwydd i siarad yn fwy agored. Mewn gwirionedd, mae'r bwrdd pontio yn greadigaeth i reoli dirywiad y mae'r Senedd hon wedi dweud nad yw eisiau ei weld yn digwydd, yn y ffordd y mae wedi'i amlinellu a'i gynnig ar hyn o bryd ac fel rhan o'r negodi sy'n digwydd.

Rwy'n credu y byddem i gyd mewn lle gwell pe gallem fod wedi cael sgyrsiau dibynadwy yn gynt. Ac mae'n werth nodi nad yw Llywodraeth Cymru erioed wedi torri addewid mewn perthynas â thrafodaethau sy’n fasnachol sensitif. Byddem wedi bod mewn lle gwell i ddeall yr ysgogiadau sydd ar gael i Lywodraeth y DU ac i ni, ond hefyd i ddeall a ydym yn rhannu’r un uchelgais yn y pen draw, oherwydd rwy’n credu bod dyfodol iach i gynhyrchiant dur yn y DU. Bydd ffwrneisi arc trydan yn rhan o hynny, ond mewn gwirionedd mae’r galluogrwydd i wneud dur sylfaenol o bwysigrwydd sofran hanfodol i’r DU, ac mae’r cynllun presennol yn peryglu hynny. Ac rwy’n ei chael hi'n anodd credu bod yna Aelodau Ceidwadol yn y Siambr hon, ac yn wir, ymhellach i ffwrdd, sy’n fodlon cymryd y risg honno mewn perthynas â’n galluogrwydd sofran yn y dyfodol a’r potensial ar gyfer ffyniant gwyrdd yn y dyfodol. Gydag ailgynhyrchu'r ffordd y mae ein heconomi’n gweithio o'r newydd, bydd yn dal i fod angen dur i'w gyflawni. Gallwn naill ai wneud y dur hwnnw yma yng Nghymru, neu gallwn ei fewnforio o rywle arall gyda’r holl swyddi a’r budd economaidd i gyd-fynd â hynny.

14:10

Ar gyfer y cofnod, hoffwn ddatgan fy mod yn aelod o un o is-grwpiau bwrdd pontio Port Talbot. Mae hwn, wrth gwrs, yn newyddion trychinebus, ac mae'r teimlad o bryder, fel sydd eisoes wedi'i nodi gan Dai Rees, yn y gymuned a'r gweithlu yn amlwg. Ac rwy'n deall yn llwyr pam nad yw'r Gweinidog yn gallu rhoi atebion manwl ynghylch ble rydym yn mynd o'r fan hon, ond nid yw hynny'n helpu'r pryder sy'n cael ei deimlo ymhlith y gweithlu a'r gymuned ehangach. 

Nawr, wrth gwrs, rydym yn croesawu'r wybodaeth a gawsom ddoe am fuddsoddiad pellach mewn pecynnau cymorth ac ailhyfforddi. Fodd bynnag, nid wyf wedi gweld llawer o fanylion ar hynny. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi rhywfaint o fanylion am hynny yn fawr, oherwydd nid oes gennyf unrhyw amheuaeth ein bod ni fel Senedd wedi ymrwymo i'n cenhadaeth i achub diwydiant dur Cymru, ond yr hyn y mae angen i ni ei wneud nawr, wrth gwrs, yw sicrhau bod gwybodaeth am ba gymorth sydd ar gael yn cyrraedd y gweithlu a'r gymuned ehangach. A hefyd beth mae hyn yn ei olygu nid yn unig i'r gweithlu a gyflogir yn uniongyrchol, ond hefyd i rai o'r contractwyr sy'n dibynnu ar Tata Steel o ran sicrwydd swyddi? Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Gweinidog fod diogelwch yn hollbwysig, ond mae sicrwydd mewn perthynas â bywoliaeth hefyd yn bwysig. 

Rwy'n credu efallai fod yna ddau neu dri phwynt. Y cyntaf yw y bydd yna fwy o fanylion a datganiad ysgrifenedig ar y cymorth ychwanegol. Mae'r amgylchiadau mwy penodol ynghylch y grŵp unigol hwn o weithwyr yn dal i ddibynnu ar y trafodaethau a'r negodi sydd eto i'w gwblhau rhwng y cwmni a'r undebau llafur cydnabyddedig. Ac mae angen i ni fod yn gefnogol a galluogi hynny, gan ei gwneud yn glir ein bod yn disgwyl—fel rwyf wedi'i wneud yn gyson—ymgynghoriad gwirioneddol ystyrlon sy'n edrych yn gyntaf ar gyfleoedd i gadw'r gweithlu, yn hytrach na chwilio am gyfleoedd i leihau a chrebachu'r gweithlu. Felly, mae ymgynghoriad ystyrlon, a'r ffordd y mae'r cwmni'n ymgysylltu yn bwysig, a byddai'n helpu pe bai mwy o Aelodau ar draws y Siambr yn ei gwneud yn glir mai dyna yw'r disgwyl yn gyffredinol, ac nid disgwyliad y Llywodraeth yn unig. 

Credaf fod yr ail bwynt ynghylch y dyfodol ehangach yn un sy'n dod yn ôl at y sgwrs ehangach sydd eto i'w chwblhau. Fe allwn ac fe fyddwn yn darparu mwy o adnoddau i gefnogi gweithwyr gyda'r pontio a fydd yn digwydd os oes dadleoli yn eu gwaith, ond rwy'n dal i gredu na allwn gael gwared ar orbryder tra bo'r ymgynghoriad yn dal i fynd rhagddo, tra nad oes eglurder am y dyfodol. Ond rwy'n dal i feddwl bod gobaith gwirioneddol a realistig ar gyfer y dyfodol, ac mae'n bwysig peidio â cholli golwg ar hynny. Felly, yng nghyfarfod nesaf y bwrdd pontio yr wythnos nesaf, rwy'n disgwyl y bydd diweddariad ar yr hyn sydd wedi digwydd ar y mater hwn, ond hefyd mewn perthynas â'r darlun ehangach.

Ac rwyf wedi dweud yn glir ym mhob un o fy nghyfarfodydd gydag arweinwyr Tata, ac nid dim ond cyfarfod â'r—. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â phrif weithredwr Tata Steel UK, a'r wythnos cynt, cyfarfûm â phrif weithredwr Tata Steel UK a phrif weithredwr Tata Global o Mumbai. Roeddwn yn glir iawn ynghylch yr angen i sicrhau bod yna ddyfodol i'r gweithlu, fod addewidion yn cael eu cadw i brentisiaid, ac yn yr un modd fod cydnabyddiaeth o gyfrifoldeb Tata i gontractwyr. I rai o'r contractwyr hynny, mae eu busnes yn ddibynnol ar Tata—nid ffracsiwn o'u busnes, ond rhan fawr iawn ohono. Efallai fod rhai ohonynt yn gyflenwyr sengl hyd yn oed. Ac mae Tata yn gwybod pwy yw'r contractwyr hynny, maent yn deall beth yw'r busnesau hynny. Mae'n rhan o'r pwynt a wneuthum yn y bwrdd pontio blaenorol ynghylch deall pwy ydynt a rhannu'r wybodaeth honno yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, fel bod y busnesau'n gwybod am yr effaith bosibl, ond hefyd fel bod Llywodraeth Cymru, y Ganolfan Byd Gwaith, ac yn wir, yr awdurdodau lleol yn gwybod pwy yw'r busnesau hynny, lle maent wedi'u lleoli a pha gymorth a chefnogaeth bosibl sydd ar gael. Gallai darganfod pwy ydynt yn rhy hwyr beryglu busnes, gallai beryglu hyfywedd y busnesau hynny a chael effaith sylweddol ar yr hyn y gallant ei wneud. Felly, dyna'r sgwrs rydym yn ei chael, fel y byddech chi'n disgwyl i ni ei wneud.

Fy mhryder i yw nad ydym yn cael sgwrs resymol—rwyf eisiau mwy o wybodaeth cyn gynted â phosibl—mae'n dal i ymwneud â'r dewisiadau sydd i'w gwneud dros y misoedd nesaf, ac yn fwyaf arbennig, a allwn gynnal un ffwrnais chwyth sy'n parhau'n weithredol hyd at yr hydref eleni, a'r dyfodol mwy hirdymor y mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i frwydro drosto ac i ddadlau'r achos drosto, gyda buddsoddiad newydd sydd ond yn bosibl gyda newid ar lefel y DU.

14:15

Diolch, Lywydd dros dro. Mae'r newyddion o Bort Talbot yn hynod siomedig i Bort Talbot ac i gymunedau dur ledled Cymru, a hoffwn ddweud wrth yr Aelod sy'n cynrychioli'r ardal: mae Shotton yn sefyll gyda'r gweithlu ym Mhort Talbot a'u teuluoedd. Fel y mae'r Prif Weinidog wedi'i ddweud o'r blaen, mae'r gallu i gynhyrchu dur crai yn rhywbeth sy'n hanfodol bwysig i economi Cymru, ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn addewid Llafur y DU o £3 biliwn i adfywio diwydiant dur y DU. Tybed a yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy mhryderon fod y cyhoeddiad hwn cyn unrhyw etholiad cyffredinol yn tanseilio Llywodraeth Lafur newydd a'u gallu i fuddsoddi yn y diwydiant pwysig hwn. A wnewch chi ddefnyddio eich swydd fel Prif Weinidog i annog Tata Steel i oedi'r cynlluniau hyn ac i aros am ganlyniad yr etholiad cyffredinol mawr ei angen hwnnw? Diolch.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig ail-wneud yr achos dros ddyfodol gwahanol, a bod yn glir iawn am safbwynt y Llywodraeth hon—mewn gwirionedd, y safbwynt a gymerodd y Senedd gyfan hon yn y ddadl a gawsom ychydig wythnosau yn ôl. Rwy'n ailddatgan safbwynt Llywodraeth Cymru yn gyson: nid ydym eisiau i ddewisiadau na ellir eu gwrthdroi gael eu gwneud, ac rydym eisiau gweld ffwrnais chwyth a fydd yn dal i weithredu drwy'r etholiad cyffredinol, pryd bynnag y daw. A dyna yw ein safbwynt ni o hyd.

Mae'r her bob amser yn ymwneud â'r hyn sy'n digwydd yn y negodiadau, yr hyn sy'n digwydd gyda'r busnes ei hun, ac yn wir, y gofynion sydd ar Tata i aildrefnu ac ailweithio'r archebion sydd ganddynt. Oherwydd maent yn gwybod, os byddant yn colli cwsmeriaid, bydd y cwsmeriaid hynny'n mynd i rywle arall ac ni fyddant yn dychwelyd. Mae hynny'n bwysig i'r busnes, ac wrth gwrs, mae'n hanfodol i'r gweithlu hefyd. Felly, mae yna rywbeth yma am yr amser pontio sydd ar gael, ac mae hynny er budd y busnes ei hun, ond mae hefyd yn ymwneud â dadlau'r achos dros fuddsoddiad ychwanegol sylweddol. Ac mewn gwirionedd, mae ein cyd-Aelodau Llafur y DU wedi bod yn glir y byddai Llywodraeth Lafur newydd yn y DU yn sicrhau bod y £3 biliwn ar gael dros bum mlynedd, nid 10. Felly, ceir arwydd mwy a chliriach mewn gwirionedd y bydd y buddsoddiad hwnnw'n cael ei wneud yn gynt.

Ac fel y dywedais, bydd yna uchelgeisiau ar gyfer dyfodol y DU a Chymru a fydd angen mwy o ddur, nid llai. Rwy'n glir iawn, fel y mae'r Llywodraeth gyfan yn wir, ein bod eisiau i'r dur hwnnw gael ei wneud yma yng Nghymru cyn belled ag y bo modd; rydym eisiau'r swyddi sy'n dod gyda hynny ac rydym eisiau'r cyfleoedd sy'n dod gyda'r seilwaith economaidd ehangach hwnnw. A phan fyddwn yn siarad am ffyniant gwyrdd, rydym yn glir iawn fod dur yn rhan ohono. Nid dur sydd wedi'i gynhyrchu i wahanol safonau mewn rhannau eraill o'r byd a'i fewnforio i Gymru i gael ei rolio a'i gyflwyno; dyna fyddai'r dyfodol economaidd gwaethaf, ac rwy'n glir iawn na fyddwn byth yn dadlau dros y llwybr hwnnw.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 2 ar ein hagenda, sef cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Ac mae'r cwestiwn cyntaf yn cael ei ofyn gan Ken Skates.

Y Rhwydwaith Trafnidiaeth

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith newid hinsawdd ar y rhwydwaith trafnidiaeth? OQ60856

Gwnaf, rwy'n credu ein bod eisoes yn gweld effeithiau tywydd eithafol a newid hinsawdd ar ein holl rwydweithiau trafnidiaeth ac mae'n hanfodol ein bod yn cymryd camau ar frys i baratoi ar gyfer y peryglon cynyddol, gan adeiladu ar beth o'r gwaith da sydd eisoes ar y gweill.

Diolch yn fawr, Weinidog. Ac yn y gorffennol, nid oeddem ond yn gorfod mynd i'r afael â dail ar y rheilffyrdd ac eira ysgafn ar y ffyrdd, ond y dyddiau hyn, rydym yn gweld stormydd parhaus a thrwm, a glaw trwm yn effeithio arnynt. Fel rhywun sy'n derbyn ac yn deall yr argyfwng hinsawdd yn llawer mwy na'r rhan fwyaf, a fyddech chi'n cytuno bod angen inni ddiogelu ein seilwaith ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys seilwaith trafnidiaeth, ar gyfer yr heriau y byddwn yn eu hwynebu yn y blynyddoedd i ddod?

Diolch. Yn sicr. Mae diogelu ar gyfer y dyfodol yn hanfodol. Mae'n rhaid inni addasu i'r newid hinsawdd rydym yn ei wynebu nawr oherwydd y carbon sydd eisoes wedi cael ei allyrru, yn ogystal â lliniaru allyriadau yn y dyfodol i sicrhau nad yw'n gwaethygu. Ac i'r perwyl hwnnw, cefais fy nghalonogi'n fawr ddoe gan y ffaith bod Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi ei gynlluniau diwygiedig ar gyfer ffordd osgoi Llanharan, a wrthodwyd gan y panel adolygu ffyrdd, ond gan weithio'n adeiladol iawn gyda Trafnidiaeth Cymru, maent wedi ail-lunio'r cynllun, gan haneru ei garbon corfforedig, ac osgoi colli unrhyw goetir hynafol, haneru ei niwed i gynefinoedd, a chynhyrchu cynllun gyda hanner yr ôl troed carbon sy'n costio llai i'w adeiladu a'i gynnal. Felly, mae hynny'n dangos, yn hytrach na gwahardd adeiladu ffyrdd, ein bod yn lansio pennod newydd o adeiladu ffyrdd, lle rydym yn arwain y ffordd, ac edrychaf ymlaen at weld awdurdodau lleol eraill yn dilyn esiampl Rhondda Cynon Taf.

Ac wrth gwrs, mae'r rheilffyrdd dan straen sylweddol hefyd, ac mae'r gost o fynd i'r afael â'n rheilffyrdd, gyda nifer fawr ohonynt ar yr arfordir fel y gwyddom, yn mynd i fod yn enfawr yn y blynyddoedd i ddod. Rwy'n credu bod y ffordd y cynlluniwn ein huchelgais ar gyfer datganoli rheilffyrdd yn llawn i'r Senedd a Llywodraeth Cymru yn rhywbeth i feddwl yn galed amdano, oherwydd oni bai ein bod yn ofalus byddwn yn mabwysiadu rhwymedigaeth cynnal a chadw ac addasu enfawr. Felly, bydd hwn yn fater pellgyrhaeddol yn y blynyddoedd i ddod, a bydd yn costio mwy a mwy o arian i ni, a dyna pam, unwaith eto, fod yr adolygiad ffyrdd yn bwysig: er mwyn darparu mwy o arian ar gyfer gwaith cynnal a chadw ac addasu.

14:20

O ganlyniad i'r newidiadau hinsawdd a'r tywydd garw, rydym wedi gweld yn nyffryn Conwy, yn y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2023, fod 178 o drenau wedi cael eu canslo. O'r rheini, cafodd 36 eu canslo o ganlyniad i brinder unedau, tra bod y 142 arall wedi cael eu canslo o ganlyniad i lifogydd. Mae cefnffordd yr A470 yn Nyffryn Conwy yn aml yn gorfod cau o ganlyniad i law trwm. Roedd hynny'n arfer digwydd pan oeddem yn cael llifogydd difrifol; nawr, gall glawiadau trwm, mynych achosi problemau go iawn ar y ffordd honno. Mae'r darn rhwng Tal-y-cafn a Llanrwst yn aml ar gau oherwydd llifogydd a dŵr yn gorlifo. Yn wir, yn ystod y 24 awr ddiwethaf, mae'r ffordd wedi'i chau'n llwyr ym Maenan, felly ni all pobl fynd i ddyffryn Conwy na Llanrwst, er enghraifft, o ganlyniad i law trwm a llifogydd ar y ffordd.

Rwyf wedi siarad o'r blaen am yr angen i ni wella diogelwch a gwytnwch seilwaith trafnidiaeth yn nyffryn Conwy, ond rydym yn dal i obeithio gweld hynny'n digwydd. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i drigolion Aberconwy y bydd Trafnidiaeth Cymru ac Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yn gweithio gydag adran amgylchedd, ffyrdd a chyfleusterau'r awdurdod lleol i wella gwytnwch y rheilffordd a'r A470 yn nyffryn Conwy? Diolch.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Diolch. Wel, mae'r Aelod yn tynnu sylw yn briodol at yr ystod o effeithiau rydym eisoes yn eu gweld o ganlyniad i newid hinsawdd a achosir gan bobl, a dyna pam ein bod yn gweithredu i fynd i'r afael ag ef. A hoffwn ddweud eto fy mod yn croesawu'r gefnogaeth ar feinciau'r Ceidwadwyr i gyrraedd ein targedau sero net ac i symud yn gyflymach, ond mae'n rhaid iddynt gefnogi'r prosiectau sy'n llifo o hynny wedyn i fynd i'r afael â gwraidd y broblem. A hyd yn hyn, bob tro y cyflwynwyd camau gennym i fynd i'r afael â newid hinsawdd, maent wedi eu gwrthwynebu. Mae'r ddau beth hyn yn gwrthgyferbynnu'n uniongyrchol â'i gilydd. Felly, mae'n iawn iddi fod yn bryderus a gofidus ynghylch effaith tywydd mwy anrhagweladwy ar ein cymunedau. Y llynedd oedd y flwyddyn boethaf erioed, ac ni fydd hyn ond yn gwaethygu, ond mae'n rhaid inni danio'r ewyllys i fynd i'r afael â hyn gyda'n gilydd, yn hytrach na dim ond mopio'r broblem wedi iddi ddigwydd. Yn ddiweddarach eleni, byddwn yn cyhoeddi strategaeth genedlaethol newydd ar gyfer gwrthsefyll newid hinsawdd, ac rydym yn edrych ar geisiadau i'r gronfa ffyrdd cydnerth ar hyn o bryd, a bydd hwn yn fater cynyddol bwysig yn y dyfodol.

Rwy'n gweld mwyfwy o dirlithriadau, ymsuddiant, cerrig a chreigiau'n ymddangos ar ffyrdd a thyllau yn y ffyrdd yn tyfu. Rwy'n poeni'n fawr am gydnerthedd y rhwydwaith lleol. Yn y gorffennol, roedd yna gyllid grant ar gyfer ffyrdd a gynhelir yn lleol, ac mae wedi dod i ben, ac rwy'n gwybod am un awdurdod nad oes ganddo unrhyw gyllid ar ôl yn y flwyddyn ariannol hon i lenwi tyllau yn y ffyrdd, felly mae'n rhaid iddynt aros tan fis Ebrill cyn y gallant barhau. Mae'n ofnadwy.

Rwy'n gwybod bod pwysau cyllidol yn cystadlu am adnoddau cyfalaf, ar gyfer ysgolion, ar gyfer tai. Fel arfer, priffyrdd sydd ar waelod y rhestr i gael eu hariannu. Felly, hoffwn ofyn i chi, Ddirprwy Weinidog: a ydych chi'n credu bod angen i ni gael terfyn sylfaenol, fel y gallwn barhau i gynnal ein ffyrdd? A hefyd, a ydych chi'n cytuno bod angen i dirfeddianwyr hefyd gymryd cyfrifoldeb am eu ffosydd a'u draeniau i sicrhau nad ydynt yn gorlifo ar y priffyrdd yn y dyfodol?

Mae yna bwysau ar bob rhwydwaith trafnidiaeth—ffyrdd, rheilffyrdd a theithio llesol—ac fel y dywedais, bydd y sefyllfa'n dwysáu. Mae gennym gyllid ar gyfer y gronfa ffyrdd cydnerth, ac rwy'n credu y bydd hon yn rhan gynyddol bwysig o'r ffordd yr awn i'r afael â newid hinsawdd. Fel y dywedais, dros amser, drwy ailgyfeirio cyllid o ffyrdd newydd nad ydym yn eu cynnal, mae angen inni wario mwy ar gynnal a chadw'r ffyrdd sydd gennym ac addasu'r seilwaith i ymdopi. Enghraifft dda o hynny yn ddiweddar yw pont newydd Dyfi, i'r gogledd o Fachynlleth, lle cafodd cynllun y draphont ei wneud yn hwy o ganlyniad i'r asesiad o lifogydd. Felly, mae hynny bellach yn rhan allweddol o'n meddylfryd wrth i ni lunio cynlluniau newydd. Ond mae hi'n iawn, mae yna ystod o gyfrifoldebau ar gyfer hyn, ac nid yw cynnal a chadw erioed wedi bod yn fater deniadol iawn, fel y noda, ac mae angen i bob un ohonom ddeall bod angen cyfeirio mwy o arian tuag at hynny.

14:25
Cymru yn dod yn Garbon Niwtral

2. Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau ei bod yn cyflawni ei hymrwymiad i Gymru ddod yn garbon niwtral? OQ60878

Diolch. Mae gan Gymru darged i gyrraedd sero net erbyn 2050. Mae sero net yn fwy uchelgeisiol na charbon niwtral. Cefnogir ein targed gan dargedau dros dro a chyllidebau carbon y mae'n rhaid i Lywodraethau'r dyfodol gydymffurfio â nhw. Cyhoeddwyd y cynllun ar gyfer y gyllideb garbon bresennol, 'Cymru Sero Net', yn 2021.

Diolch yn fawr am yr ateb yna, Weinidog.

Yng ngoleuni'r ddadl Cyfnod 3 a gawsom ddoe, a hefyd deiseb a drafodwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Deisebau ddydd Llun, hoffwn glywed eich barn ar y cydbwysedd rhwng datblygiadau solar ar raddfa fawr a safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Pa amddiffyniadau sydd yn y Bil newydd nawr, fel y'i diwygiwyd ddoe? Ac wrth siarad â'r deisebwyr yn erbyn y datblygiad ar wastadeddau Gwent, codwyd dau fater arall gyda Chadeirydd y pwyllgor, Jack Sargeant, a minnau. A allwch chi gadarnhau pryd y byddwch chi'n cyhoeddi'r canllawiau ar bennod 6 o bolisi cynllunio newydd Cymru? A pha bryd y byddwch chi'n cyhoeddi'r astudiaeth fonitro ar ôl adeiladu sydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn barod i gael ei chyhoeddi?

Mae hwnnw'n gwestiwn ardderchog, ac mae angen sicrhau cydbwysedd bob amser, onid oes, rhwng gwarchod tirweddau dynodedig o bob math, boed yn SoDdGA neu mae gennym nifer o ddynodiadau eraill hefyd wrth gwrs, a sicrhau'r ynni adnewyddadwy yr ydym ei eisiau a'r seilwaith yr ydym ei eisiau yng Nghymru. Rwy'n credu bod yn rhaid inni sicrhau'r cydbwysedd hwnnw mewn ffordd ddoeth iawn. Felly, yn ddiweddar iawn, fel Senedd, rydym wedi cryfhau'r offeryn statudol sy'n llywodraethu tirweddau dynodedig, a thrwy hynny wedi cryfhau'r amddiffyniad i dirweddau dynodedig yn erbyn unrhyw ddatblygiadau o gwbl.

Un o'r pethau a ddywedais yn ystod y ddadl honno oedd fy mod yn credu, pe byddech yn gofyn i Mr a Mrs Jones yn rhywle yng Nghymru a allech chi balmantu dros rywbeth mewn tirwedd ddynodedig, y byddent yn synnu clywed y gallech chi wneud hynny mewn gwirionedd. Felly, rydym wedi cryfhau hynny fel Senedd. Cafodd ei dderbyn yn unfryd. Rwy'n falch iawn o ddweud hynny. Ac mae'n ymwneud â cheisio dod o hyd i'r cydbwysedd cywir rhwng yr hyn a ganiateir a'r hyn nas caniateir mewn tirwedd ddynodedig.

Mae ffermydd solar yn fater cymhleth, oherwydd yn gyffredinol ystyrir nad yw ffermydd solar yn barhaol oherwydd eu bod yn para llai na 50 mlynedd, fel arfer. Rwy'n credu bod 50 mlynedd yn eithaf parhaol; yn sicr bydd yn para'n hwy nag y gwnaf i. Felly, wyddoch chi, mae hynny'n eithaf parhaol yn fy marn i. Ond gallwch lunio fferm solar, ac rwyf wedi gweld sawl enghraifft o hyn o gwmpas Cymru, fel ei bod gryn dipyn yn uwch na lefel y ddaear, fel bod ganddi baneli sy'n troi, gyda choed neu dirweddau gwarchodedig eraill o'i hamgylch—nid coed o reidrwydd, ond mawndir neu beth bynnag—a bod ganddi ddôl llawn rhywogaethau oddi tani, er enghraifft. Felly, mae'n anodd ateb eich cwestiwn yn benodol iawn, oherwydd mae'n dibynnu ar y math o fferm solar y siaradwn amdani, y strwythur sydd yno ac yn y blaen.

Ni allaf wneud sylwadau ar geisiadau cynllunio unigol am resymau amlwg, ond rydym wedi bod yn annog y diwydiant ffermydd solar yn arbennig i lunio eu ffermydd solar mewn ffordd sy'n golygu, os ydynt ar dir—mae ar doeau adeiladau yn ardderchog hefyd—ond os ydynt ar dir, nad yw'r tir hwnnw wedi'i niwtraleiddio mewn unrhyw ffordd, a'i fod yn gallu cynnal pethau eraill. A gall hynny fod yn unrhyw beth o bori i ddolydd llawn blodau, fel y gwelais. Rwyf wedi gweld pob math o bethau oddi tanynt. Fodd bynnag, rydych chi'n dal i weld ffermydd solar sydd mor agos at y ddaear nes eu bod wedi lladd y tir oddi tano fwy neu lai. Mae'n debyg nad dyna'r gair cywir, ond maent wedi'i gwneud yn llawer anos iddo gynhyrchu unrhyw beth o gwbl. Rydym wedi bod yn annog pobl i wrthod cynlluniau o'r fath, ac mae hynny eisoes wedi'i nodi yn 'Polisi Cynllunio Cymru'.

Rydym yn parhau i adolygu pob polisi cynllunio, ac yn fwyaf arbennig, rydym yn ceisio eu hadolygu ar gyfer technolegau sy'n dod i'r amlwg. Nid wyf yn arbenigwr ar hyn, ond yn ôl yr hyn a ddeallaf, mewn perthynas â chynllun paneli solar, mae'n llawer haws gwneud iddynt ogwyddo tuag at yr haul drwy'r amser, er enghraifft, ac felly nid yw'r tir oddi tanynt yn cael ei gysgodi'n barhaol ac yn y blaen. Felly, ni allaf ateb eich cwestiwn am dirweddau dynodedig penodol, ond gallaf ddweud tri pheth wrthych: rydym wedi cryfhau'r canllawiau, rydym yn gweithio gyda gweithredwyr ffermydd solar i geisio sicrhau'r cynllun gorau, ac mae gan 'Polisi Cynllunio Cymru' nifer fawr o'r pethau hynny eisoes, er ein bod yn ei adolygu'n barhaus drwy'r amser.

14:30

Sut mae adeiladu mwy o orsafoedd pŵer nwy, fel yr awgrymwyd gan y Ceidwadwyr yn San Steffan, yn mynd i'n helpu tuag at gyrraedd y targed carbon niwtral? Rydym yn gweld newid hinsawdd yn effeithio ar ein tywydd yn barhaus. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod morlyn llanw Abertawe yn bwysig iawn ac a wnaiff y Gweinidog barhau i bwyso am adeiladu morlyn llanw Abertawe wrth inni weld bod nwy yn mynd yn fwyfwy costus gydag amser?

Yn amlwg, Mike, rwy'n cytuno'n llwyr â chi nad yw adeiladu gorsafoedd pŵer nwy yn cyfrannu at unrhyw beth o gwbl heblaw mwy o newid hinsawdd a mwy o gynhesu. Yn eithaf brawychus, rydym newydd weld, flwyddyn ar ôl blwyddyn, fod pob blwyddyn yn boethach na'r flwyddyn flaenorol. Dyma'r flwyddyn boethaf erioed. Y llynedd oedd y flwyddyn boethaf erioed; cyn hynny, y flwyddyn cynt oedd y boethaf a gofnodwyd. Rydym hefyd newydd gael y mis Chwefror gwlypaf a gofnodwyd. Mae'r pethau hyn yn digwydd i ni—maent yn digwydd i ni wrth i ni siarad. Rydym wedi gweld sychder yng Nghymru—pwy fyddai wedi meddwl y byddem yn gweld sychder yng Nghymru? Mae'r pethau hyn yn real; maent yn wirioneddol real. Ac felly, wrth gwrs, yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw rhoi'r gorau i ddefnyddio tanwydd ffosil.

Mae'n rhaid i ni wneud pethau gweithredol i helpu'r argyfwng hinsawdd. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Lee Waters, un peth yw i feinciau'r Ceidwadwyr ddweud wrthym eu bod yn cytuno â hyn, ond maent bob amser yn gwrthwynebu popeth y ceisiwn ei wneud yn ei gylch. Mae'n rhaid i chi, yn y pen draw, roi eich arian ar eich gair. Ni ddylem fod yn adeiladu mwy o orsafoedd pŵer nwy o gwbl. Yn hytrach, dylem fod yn manteisio ar ynni'r llanw. Rydym yn byw ar ynys sydd wedi'i hamgylchynu gan y moroedd mwyaf eithriadol—gallant bweru Ewrop gyfan. Wrth gwrs y dylem fod yn gwneud hynny.

Roeddwn falch iawn o fod yn y gynhadledd ynni morol yn Abertawe ddydd Mercher diwethaf, ac roeddwn yn gallu cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi cyflawni ei hymrwymiad rhaglen lywodraethu i gynnal her y morlyn llanw. Cronfa grant o £750,000 yw'r her, i leihau neu ddileu rhwystrau i ddatblygiad y morlyn llanw. Roedd gennym set gref o geisiadau, a chefais y fraint wirioneddol o gyhoeddi enillwyr y ceisiadau hynny. Bellach mae gennym dri phrosiect yn mynd rhagddynt ledled Cymru i weld sut y gallwn gyflymu datblygiad morlyn llanw, nid yn unig yn Abertawe, rhywbeth yr hoffwn ei weld yn fawr iawn, ond ym mhob ardal arall yng Nghymru a fyddai'n addas ar gyfer datblygu morlyn llanw.

Weinidog, rydym i gyd eisiau Cymru lanach a gwyrddach. Rwy'n credu ei bod yn anonest dweud unrhyw beth arall, ond fel y mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod, mae'n rhaid i chi ddod â'r cyhoedd gyda chi ar y daith honno a sicrhau nad yw'n eu cosbi'n ariannol. Felly, ar hynny, Weinidog, a fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau synnwyr cyffredin, fel Llywodraeth y DU, i sicrhau nad yw pobl Cymru'n cael eu cosbi'n ariannol ar y daith hon tuag at sero net?

Nid wyf yn credu bod Llywodraeth Geidwadol wedi gwneud unrhyw benderfyniadau y gallwn eu hargymell i'r cyhoedd yng Nghymru ar unrhyw fath o ateb carbon niwtral, felly'r ateb i hynny yw 'na'.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, ac yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Natasha Asghar.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Ddirprwy Weinidog, a gaf i achub ar y cyfle hwn i ddweud diolch am fagu dewrder o'r diwedd i siarad â rhai o'r protestwyr gwrth-20 mya cyffredinol yn Senedd Cymru yr wythnos diwethaf? Clywais gan y mynychwyr fod y cyfarfod yn sicr yn ddiddorol a'i fod yn llawn tensiwn ar brydiau hefyd, gyda chi mae'n tebyg yn galw rhai o'r grŵp, ac rwy'n dyfynnu, yn 'blentynaidd'. A ydych chi'n credu'n onest, Ddirprwy Weinidog, mai dyma'r ffordd y dylai gwleidyddion siarad â'r bobl y cawsom ein hethol i'w gwasanaethu?

Fel gwleidydd nawddoglyd, fe wnaethoch chi ddweud wrth y grŵp hefyd, mae'n debyg, fod angen y cynllun 20 mya i, ac rwy'n dyfynnu er budd pawb, 'ailaddysgu gyrwyr Cymru'. Mae hwnnw'n sylw eithaf syfrdanol, Ddirprwy Weinidog. Ond efallai mai rhan fwyaf diddorol y cyfarfod oedd pan ddywedoch chi y byddai'r polisi 20 mya yn cael ei newid os na fydd nifer y marwolaethau'n lleihau. Felly, Ddirprwy Weinidog, er yr hoffwn yn fawr weld y polisi hwn yn cael ei ddileu unwaith ac am byth, o ystyried eich bod ar fin gadael y rôl, sut y gallwch chi fwrw ymlaen a gwneud ymrwymiadau fel hyn, neu a oedd yn fater o ddweud wrth bobl beth roeddent eisiau ei glywed er mwyn gadael y cyfarfod yn gyflymach?

Wel, Ddirprwy Lywydd, yn sicr ni fyddaf yn gweld colli hyn. Rwyf wedi bod yn ystyried lefel y craffu yn ystod fy nghyfnod fel Gweinidog wrth imi baratoi i ddychwelyd i'r meinciau cefn, ac mae'n rhaid imi ddweud bod y craffu gan y Ceidwadwyr wedi bod yn wael iawn. Rwy'n credu bod nifer o feysydd lle gallem gael ein profi a'n herio'n briodol, ac rwy'n croesawu her. Yn hytrach, clywn refru rheolaidd, wedi'i gynllunio ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, nad yw'n cyflawni unrhyw graffu, ac yn llawn o sarhad a sylwadau personol difrïol, sydd islaw'r Siambr hon yn fy marn i. Ond rwyf wedi rhoi'r gorau i ddisgwyl gwell.

Ar ei chyfrif rhannol iawn o sgwrs breifat a gefais gyda'r deisebwyr a threfnydd y brotest ddiweddaraf, roedd yn sgwrs hanner awr neu fwy adeiladol a chalonogol iawn mewn gwirionedd. O ran dweud eu bod yn blentynnaidd, ar un pwynt, pan oedd un ohonynt yn torri ar fy nhraws yn barhaus, rwy'n credu imi ddweud, 'Roedd hynny'n blentynnaidd, a dylem gael sgwrs aeddfed', ac fe gawsom un. Felly, mae hi'n dyfynnu'n ddetholus ac yn anghywir o sgwrs breifat.

Fel y dywedais yn gyhoeddus, rydym yn monitro'r broses o gyflwyno'r polisi hwn. Rydym yn dilyn y dystiolaeth. Mae'r dystiolaeth wedi bod yn glir y bydd hyn yn gostwng cyflymder, yn lleihau nifer y gwrthdrawiadau, yn achub bywydau, ac yn gwella cymdogaethau lleol. Ac mae canlyniadau'r chwe mis cyntaf yn cadarnhau hynny: mae cyflymder wedi gostwng, mae nifer y bobl sy'n teithio o fewn y trothwy cyflymder gorfodol dros 90 y cant. Felly, rwy'n falch iawn o sut mae'n mynd. Mae'r arolygon barn hefyd yn dangos bod agweddau'n dechrau newid, fel y rhagwelwyd y byddent pan ddechreuasom ar y llwybr hwn. Mae hwn yn faes datblygu polisi anodd, ac unwaith eto, yn ôl at y cwestiwn cynharach, o ran penderfyniadau i fynd i'r afael â newid hinsawdd, mae angen i chi ddangos arweinyddiaeth eofn. Ac unwaith eto, mae'r Ceidwadwyr yn sarhau pob ymgais i wneud hynny.

Rwy'n falch o'r hyn a wnawn. Rwy'n falch iawn o fy nghyflawniad fel Gweinidog. Rwy'n falch iawn fod aelodau o fy swyddfa breifat a fy nhîm cynghorwyr arbennig yn y Siambr y prynhawn yma, tîm sydd wedi fy nghefnogi dros y tair blynedd diwethaf. Rwy'n credu ein bod wedi bod yn barod i fynd i'r afael â rhai o'r materion anodd, fel y mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn dweud wrthym fod yn rhaid i ni ei wneud—ac fe gefnogodd y Ceidwadwyr honno hefyd. Amser a ddengys. Bydd angen mân newidiadau, bydd angen ei addasu, bydd angen ei fireinio, a dyna'n bendant a wnawn drwy'r adolygiad. Rwy'n hyderus, ymhen amser, y byddwn yn gweld mai dyma'r peth iawn i'w wneud, ac unwaith eto, fe welir ei bod hi ar yr ochr anghywir i hanes.

14:35

Ddirprwy Weinidog, mae'n debyg mai dyma'r tro olaf y byddwch chi a minnau'n mynd benben yn y Siambr hon ar bynciau trafnidiaeth. Gyda phob parch, rwy'n gwerthfawrogi popeth a ddywedoch chi. Ond ni allwch wadu ac ni allwch anwybyddu bod ychydig o dan 0.5 miliwn o bobl wedi llofnodi deiseb yn galw am ddiddymu eich polisi hurt.

Rydych chi wedi bod yn y rôl hon ers mis Mai 2021, ac wedi gwneud eich marc yn yr amser hwnnw—am y rhesymau anghywir, byddwn i'n dadlau, ac rwy'n siŵr na fyddwch chi'n hoffi imi ddweud hyn. Felly, cyn i chi neidio i mewn i'ch car sy'n cael ei yrru gan chauffeur am un tro olaf, ar yr hyn rydych chi newydd ei ddweud, a ydych chi o ddifrif yn wirioneddol falch o'ch cyflawniad ym maes trafnidiaeth yng Nghymru? Oherwydd, yn onest, byddwn i'n dweud bod y cyhoedd yn meddwl i'r gwrthwyneb.

Nid wyf yn siŵr iawn beth yw'r cwestiwn yn y fan honno. Ar y rhan fwyaf o ddyddiau rwy'n teithio ar fy meic i'r gwaith. Ond fel mae'n digwydd, rwy'n mynd adref mewn car heno, am fod gennyf lun mawr i'w gario gyda fi—gobeithio bod hynny wedi'i ganiatáu. Mae'r pwynt yn aros: ydy, wrth gwrs bod y polisi hwn yn ddadleuol. Yn bendant, mae yna lawer o bobl sy'n ei wrthwynebu, ac fe wnaethant lofnodi deiseb, a oedd yn frith o gamgymeriadau, yn seiliedig i raddau helaeth ar y gamwybodaeth y mae hi a'i phlaid wedi'i lledaenu, ac yn dal i'w lledaenu, a'r celwyddau am ein polisïau. Rwy'n gweld eto yr wythnos diwethaf ei bod yn dweud ein bod wedi gwahardd adeiladu ffyrdd yng Nghymru, pan fo'n amlwg nad yw hynny'n ffeithiol wir. Ac eto, ddoe, fe wnaethom ddangos sut byddwn yn mabwysiadu cynlluniau ffyrdd i'w gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol. Nid ydym yn atal cynlluniau ffyrdd. Hoffwn pe bai hi'n atal y celwydd. Hoffwn pe bai'n ystyried y cyfraniad y mae'n ei wneud tuag at anelu casineb tuag at wleidyddion pan fo'n cyfrannu at ddiwylliant gwenwynig o iaith a chamwybodaeth. Rwy'n credu bod hynny'n warthus. [Torri ar draws.] Mae'r—

Ddirprwy Weinidog, rwy'n credu bod angen i'r iaith fod yn ofalus iawn yn y cyfraniadau—[Torri ar draws.]—ar bob ochr, rwy'n cytuno. Ond nid wyf yn credu bod yr Aelod yn annog casineb o gwbl, ac rwy'n credu y dylid tynnu hynny'n ôl.

Wel, rwy'n ofni bod hwnnw'n bwynt hynod ddadleuol. Yn fy marn i, mae cywair a natur—[Torri ar draws.] Mae cywair a natur y cyfraniadau yn cyfrannu at wneud y ddadl hon yn bersonol, sydd wedyn yn tanio ymgyrchoedd ar-lein, sy'n cael eu tanio gan y gamwybodaeth y mae Natasha Asghar yn parhau i'w rhoi allan, ac sydd â chanlyniadau i bob un ohonom, Ddirprwy Lywydd. Mae arnaf ofn na wnaf ei dynnu'n ôl oherwydd rwyf wedi wynebu canlyniad uniongyrchol hynny. Mae hwn yn bolisi dadleuol, a dros amser, rwy'n credu y profir ei fod yn gywir.

14:40

Fe wnawn drafod y pwynt ymhellach. Mae gennych un cwestiwn olaf, Natasha. 

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Ddirprwy Weinidog, rwyf am fod yn onest gyda chi, rwy'n ffieiddio at eich sylw yn y fan honno. Mae'r ffaith eich bod wedi fy meio i am gasineb—a ydych chi o ddifrif? Ond gadewch inni fynd yn ôl at y cwestiynau, oherwydd, yn y pen draw, dyna beth rydym yma i'w wneud. Rwyf am fynd ar daith i lawr lôn atgofion ac edrych ar eich cyflawniad yma yng Nghymru yn eich amser fel Dirprwy Weinidog. 

Gadewch inni ddechrau gyda Rhif 1. Rydych chi wedi gosod terfynau cyflymder 20 mya cyffredinol ledled y wlad er gwaethaf—[Torri ar draws.] Gyda phob parch, Weinidog, ac rwy'n mynd i'ch atgoffa chi eto, adroddwyd am hyn wrth y comisiynydd safonau, a ddywedodd yn ei adroddiad mewn gwirionedd fod angen i unrhyw un sydd â phroblem gyda'r gair 'cyffredinol' ei oddef. Unwaith ac am byth—nid oes unrhyw gasineb ynghlwm wrth hynny—goddefwch ef. [Torri ar draws.]  

A gaf i atgoffa'r Aelodau, os gwelwch yn dda, ar bob ochr, y dylent sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu cadw ar lefel resymol, a bod cyfraniadau'n parchu pawb arall?

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae eich polisi yn sicrhau ergyd o £9 biliwn i'n heconomi, yn arafu pobl ac yn costio £33 miliwn i'w weithredu.

Yn ail, rydych chi'n cyflwyno taliadau tagfeydd, sy'n mynd i fod yn hofran uwchben pobl, gan wasgu hyd yn oed mwy o arian allan o bobl ar adeg pan fyddant eisoes yn gorfod tynhau eu gwregysau. 

Yn drydydd, mae gwahardd adeiladu ffyrdd yng Nghymru, ni waeth beth mae eich cyd-Aelodau yn ei ddweud, yn amddifadu cymunedau o seilwaith mawr ei angen ac yn gwneud Cymru'n lle llai deniadol i wneud busnes. Mae hynny'n ffaith. Rydych hefyd wedi bwrw ymlaen i wneud lle i £3 miliwn o gyllid i'ch cyn-gyflogwr, Sustrans, dros y tair blynedd diwethaf ar adeg pan honnir bod cyllidebau'n dynnach nag erioed. [Torri ar draws.] Mae'n wir. Mae cyllid hanfodol wedi ei dorri i'n sector bysiau, gan arwain at doriadau sylweddol i wasanaethau a newidiadau, gan adael pobl o bob cwr o Gymru wedi'u hynysu. Rydym hefyd wedi gweld symiau anweddus o arian trethdalwyr yn cael ei bwmpio i mewn i Trafnidiaeth Cymru, sy'n dal i fethu darparu gwasanaeth dibynadwy ac effeithiol. A hefyd, Ddirprwy Lywydd, cafodd swm parhaus—miliynau o bunnoedd eto—ei wario'n syth o'r pwrs cyhoeddus i gynnal Maes Awyr Caerdydd. 

Ddirprwy Weinidog, dim ond rhai o'r eitemau ar frig y mynydd iâ yw'r rhain; mae'r rhestr o gamau gweigion yn parhau. Felly, yng ngoleuni'r hyn a ddywedais nawr, a ydych chi am adolygu eich atebion blaenorol? Oherwydd dyma gyflawniad i fod â chywilydd ohono ac yn ddim byd o gwbl i fod yn falch ohono.

Rwy'n credu bod ailadrodd camwybodaeth, gwybodaeth ffug a chelwyddau'n barhaus yn ein Siambr ddemocrataidd yn druenus, ac mae hynny'n rhywbeth i fod â chywilydd ohono. Nid yw hwn yn bolisi cyffredinol. Nid ydym wedi gwahardd adeiladu ffyrdd. Nid ydym yn taflu arian tuag at Trafnidiaeth Cymru. Rydym yn ariannu uwchraddio am y tro cyntaf ers oes Fictoria yn y rhan fwyaf poblog o Gymru i greu gwasanaeth 'cyrraedd a theithio' a gefnogwyd gan ei phlaid hi. Nid wyf wedi rhoi arian i fy nghyflogwr blaenorol. Bydd y cofnod yn dangos bod yr elusen yn derbyn arian gan bob Llywodraeth o bob lliw ar draws y DU. Câi gyllid cyn i mi ymuno â nhw, ac nid wyf wedi gweithio iddynt ers 10 mlynedd. Ac mae'r cyllid y mae'n cyfeirio ato yn ariannu gwaith mewn ysgolion. Yr awgrym, sydd unwaith eto wedi cael ei adleisio gan y trolwyr ar-lein, yw fy mod yn cael budd personol o hyn. Mae'r mathau hyn o sylwadau, a'r gamwybodaeth y mae'n parhau i'w lledaenu, yn cyfrannu at ddiwylliant o gasineb ac yn cael eu cyfeirio at boblogaethau unigol. Mae angen iddi ysgwyddo cyfrifoldeb am ganlyniadau'r geiriau a'r iaith y mae'n ei defnyddio a'r ffordd y mae'n siarad yn y Siambr hon yn gyson mewn ffordd annymunol a phersonol iawn.

Fel y dywedais, ni fyddaf yn gweld colli'r dadleuon hyn, ond nid ydynt yn ychwanegu at hybu ein democratiaeth ac nid ydynt yn fy nwyn i gyfrif. Mae llawer y gallech fod wedi'i ddweud heddiw am y ffordd y gwnaethom gyflwyno'r terfyn cyflymder 20 mya a fyddai'n feirniadaeth deg. Mae llawer y gallwch ei ddweud am y ffordd y mae costau'r prosiect metro yn cynyddu. Mae llawer y gallwch ei ddweud am y cymhorthdal i Faes Awyr Caerdydd. Mae digon o bethau lle mae dadl onest i'w chael a chyflawniad i'w graffu'n briodol, a dyna yw gwaith y Senedd hon. Nid yw'r Aelod erioed wedi cyflawni unrhyw graffu difrifol. Y cyfan y mae'n ei wneud yw codi ar ei thraed a difrïo. 

Cyn imi symud ymlaen, a gaf i dynnu sylw at y pwynt—? Rwy'n credu bod yr hyn a ddywedodd y Dirprwy Weinidog yn bwysig. Cyfrifoldeb pob un ohonom yw sicrhau bod ein cywair a'n hiaith yn parchu pawb, nid yn unig yn y Siambr hon, ond y tu allan i'r Siambr hon hefyd, fel nad yw ein hymddygiad yn cael ei ddefnyddio fel modd i eraill ymosod ar gynrychiolwyr, boed hynny yn y Siambr hon, neu hyd yn oed yn siambrau cynghorau a mannau eraill. Mae gan bawb ohonom gyfrifoldeb pwysig yn ein cyfraniadau. Ar gyfer y cofnod, rwyf am nodi ac adolygu'r hyn a ddywedwyd y prynhawn yma ac fe ddeuaf yn ôl at bawb sy'n gysylltiedig â'r mater.

Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.  

14:45

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, hoffwn ddweud eto cymaint o bleser yw hi wedi bod i'ch cysgodi yn y rôl hon. Rwy'n gobeithio y bydd yn parhau. Yn ystod eich cyfnod yn y swydd hyd yma, mae'r Senedd hon wedi datgan argyfyngau hinsawdd a natur. Nawr, rwy'n falch mai cynigion Plaid Cymru oedd y rhain, ond maent yn perthyn i'n Senedd. Rwy'n gwybod pa mor ddwfn yw eich dealltwriaeth o'r angen i fynd i'r afael â'r argyfyngau hyn gyda'n gilydd. Felly, a ydych chi'n meddwl ein bod yn cael y cydbwysedd yn iawn? Gyda'r Bil Seilwaith (Cymru) yn pasio'n fuan yn erbyn cefndir o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr sy'n cael eu cynnig neu sy'n mynd rhagddynt ar safleoedd ledled Cymru, fel ffermydd solar ar safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, rydym yn dechrau ar gyfnod mwyfwy peryglus. A ydych chi'n teimlo'n hyderus fod Llywodraeth Cymru wedi cael y cydbwysedd hwn yn iawn, a sut y gall y Cabinet newydd sicrhau bod y cydbwysedd yn cael ei daro a'i ddiogelu?

Mae'n gwestiwn ardderchog, Delyth, ac mae wedi bod yn bleser mawr gweithio gyda chi dros y blynyddoedd hyn hefyd, oherwydd rydym wedi anghytuno'n rymus ond hefyd rydym wedi dod o hyd i lawer i fod yn unedig yn ei gylch, a dyna fel y dylai fod.

Rwy'n credu ei fod yn gydbwysedd anodd iawn i'w daro. Rydym wedi ymdrechu'n galed i gael y cydbwysedd yn iawn. Rydym eisiau'r buddsoddiad, y swyddi a'r ynni adnewyddadwy sy'n dod gyda'r diwydiannau y siaradwn amdanynt, ac a dweud y gwir, mae gennym gyfle unigryw i fod ar y blaen mewn diwydiant byd-eang o ran gwynt arnofiol yma, sydd, o ystyried y sgwrs am Tata yn gynharach, yn gwneud i chi sylweddoli'r angen am y buddsoddiad hwnnw. Ond wrth gwrs, tra byddwn yn gwneud hynny, mae gennym rwymedigaeth absoliwt i sicrhau bod y diwydiant newydd hwnnw'n cael ei weithredu mewn ffordd sy'n amgylcheddol gynaliadwy, nad yw'n gwneud niwed ac sy'n dod â daioni i'n byd. Nid oes diben defnyddio gwynt arnofiol os mai'r hyn a wna yw niweidio gwely'r môr Celtaidd, er enghraifft. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn ynglŷn â hynny.

Rydym wedi datblygu cyfres o bethau sy'n ymwneud â chasglu data, gan weithio gydag Ystad y Goron, ar y ffordd y mae'r contractau wedi'u gweithredu, ar y ffordd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithio fel rhan o'i adolygiad o drwyddedu morol, er enghraifft, ar sut y cawn y data, fel y gallwn dreialu gweithredu, a phe bai'r data hwnnw'n dangos bod rhywbeth wedi'i osod yn anghywir, fod modd ei symud mewn gwirionedd. Rwy'n awyddus iawn i wneud hynny oherwydd, fel arall, byddai'n rhaid i ni aros nes bod gennym 10 mlynedd o ddata a byddem yn colli'r ras fyd-eang. Ond rwyf hefyd yn awyddus iawn i sicrhau bod y trysorau sydd gennym yn yr amgylchedd morol o'n cwmpas yn cael eu diogelu yn y ffordd honno, ac rydym wedi gweithio'n galed i wneud hynny. Bydd llawer mwy i'w wneud, wrth i'r data hwnnw ddod ar gael, i sicrhau bod gennym amddiffyniadau ar waith. Ond rwy'n credu ein bod wedi gosod ein hunain ar y trywydd iawn ar gyfer hynny, ac rwy'n credu bod y Bil seilwaith yn dystiolaeth wirioneddol ein bod yn rhoi ein harian ar ein gair.

Diolch am hwnna, Weinidog. 

Rwy'n hyrwyddwr rhywogaethau balch ar ran y gardwenynen feinlas, sydd â'i chynefin ar wastadeddau Gwent, a dim ond un o'r rhywogaethau sydd mewn perygl o ddiflannu yw honno. Mae un o bob chwech o'n rhywogaethau yn wynebu'r bygythiad hwn. Bellach, fel y gwyddoch, mae Cymru yn un o'r gwledydd lle mae natur wedi dirywio fwyaf ar y blaned, ac mae ein hamgylchedd dan fygythiad cynyddol yn sgil gweithgarwch dynol, a phethau fel llygredd, newid hinsawdd, ecsbloetio adnoddau. Maent yn rhoi pwysau enfawr ar ein byd naturiol gwerthfawr sy'n wynebu perygl. Nawr, nid yw pwerau gorfodi yn ddigon cadarn i ymdrin â graddfa a maint y troseddau amgylcheddol ledled Cymru. Mae cwmnïau preifat wedi bod yn dympio slwtsh gwenwynig anghyfreithlon ar safleoedd gwarchodedig, mae cwmnïau dŵr wedi rhyddhau carthion yn anghyfreithlon i gyrsiau dŵr Cymru, heb gymaint â slap ar yr arddwrn, os ydych chi am siarad amdano yn y termau hynny. Mae'r sefyllfa'n enbyd. Rwy'n gwybod eich bod yn poeni'n arw am hyn, Weinidog. Nawr, rwy'n gobeithio y bydd y Bil sydd ar ffordd ar lywodraethiant amgylcheddol yn mynd i'r afael â'r sefyllfa. Ond a allwch chi nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod canlyniadau effeithiol ar waith i'r rhai sy'n diystyru deddfwriaeth amgylcheddol yng Nghymru a bod yr unigolion hyn yn cael eu dwyn gerbron llys? Ac a yw hynny'n rhywbeth yr hoffech ei weld fel rhan o'ch gwaddol hyd yma yn y rôl hon?  

Unwaith eto, cwestiwn ardderchog, Delyth, ac mae cryn dipyn o wahanol bethau anodd yn codi. Felly, y cynigion llywodraethiant amgylcheddol a gaiff eu cyflwyno gan y Llywodraeth—. Rwyf wedi mynd â'r Bil drafft yn bell, felly rwy'n eithaf sicr y bydd yn cyrraedd ar ei ffurf bresennol. Rydym yn ymgynghori ar hyn o bryd. Yr arwyddion cychwynnol o'r ymgynghoriad hwnnw—nid yw'n gyflawn o bell ffordd—yw ei fod wedi ei gyflwyno'n dda, fod y bobl sydd wedi gweithio gyda ni yn meddwl ein bod wedi gwneud gwaith da ar adlewyrchu eu pryderon, ac yn y blaen. Felly, rwy'n eithaf sicr y bydd gennym rywbeth sy'n edrych yn debyg iawn i'r hyn sydd gennym. Wrth gwrs, bydd rhai elfennau gwahanol o'r ymgynghoriad yno. Mae hwnnw wedi'i anelu at awdurdodau cyhoeddus, nid awdurdodau preifat. Rwy'n gobeithio y bydd yn cynnwys y cwmnïau dŵr hefyd. Byddem yn gofyn iddynt gael eu cynnwys yn wirfoddol beth bynnag. Mae ychydig o broblem gyda'u dynodiad, ond rwy'n siŵr y gallwn oresgyn hynny.

Rwy'n siŵr mai un o'r pethau y dadleuir yn eu cylch yn y Senedd pan fydd y Bil hwnnw'n mynd drwodd yw beth y dylai'r cosbau fod i awdurdodau cyhoeddus nad ydynt yn gwneud yr hyn y dylent ei wneud. Mae'n hysbys nad wyf yn cefnogi dirwyo pobl. Mae yna ddarpariaeth yn y ddeddfwriaeth ailgylchu, er enghraifft, i ddirwyo cynghorau nad ydynt yn cyrraedd eu targedau ailgylchu. Fy marn i erioed, a barn bersonol yw hi, yw bod mynd ag arian oddi wrth awdurdodau cyhoeddus i geisio gwneud iddynt wneud mwy yn sicr o fethu, gan mai'r cyfan a wnewch yw eu hamddifadu o'r adnoddau angenrheidiol i fuddsoddi. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni edrych ar hynny'n ofalus. Ond mae'n rhaid inni hefyd ddwyn adnoddau dynol yr awdurdod hwnnw i gyfrif, os mynnwch, a sicrhau eu bod yn gwneud y peth iawn. Felly, rwy'n gobeithio, y bydd y Bil yn cydbwyso hynny. Byddai'n rhaid i'r awdurdod ymateb i'r awdurdod goruchwylio mewn ffordd briodol a byddai'n rhaid iddo wella'i ffyrdd a rhoi trefn ar bethau. Felly, byddwn i'n dilyn y llwybr hwnnw.

Gyda chwmnïau preifat, mae hynny'n fwy cymhleth. Weithiau, dirwy yw'r hyn y dylid ei orfodi oherwydd eich bod yn mynd ag elw. Fodd bynnag, mae problem o hyd ynglŷn â buddsoddi i beidio â pharhau'r llygredd. Felly, bydd yna enghreifftiau—gallaf feddwl am enghreifftiau go iawn—lle rydym wedi cael camgysylltiadau carthffosydd yn mynd i mewn i afonydd, er enghraifft. Mewn gwirionedd, yr hyn sydd ei angen yw buddsoddiad i'w hailgysylltu yn y ffordd briodol. Felly, er fy mod yn credu na ddylai unrhyw un elwa o fod wedi ei wneud yn anghywir, rwyf hefyd yn credu y dylent allu cael yr adnodd angenrheidiol i'w gywiro. Nid wyf ychwaith yn credu mewn gwthio pobl allan o fusnes fel bod pobl yn colli eu swyddi.

Felly, fel bob amser, mae'n ymwneud â chydbwysedd, onid yw? Mae'n ymwneud â tharo'r cydbwysedd rhwng gorfodi, enwi a chodi cywilydd, ac unioni, a sicrhau nad yw pobl yn elwa ohono, sy'n bwysig iawn hefyd yn fy marn i.

14:50
Ynni Adnewyddadwy

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiwydiant ynni adnewyddadwy Cymru? OQ60886

Diolch yn fawr, Luke. Rydym yn benderfynol o fanteisio ar y cyfleoedd o'r pontio i system ynni adnewyddadwy. Rydym yn gweithio gyda diwydiant a'r gadwyn gyflenwi i greu buddion economaidd parhaus, gan gadw cyfoeth a gwerth yng Nghymru. Rydym hefyd yn arwain y ffordd drwy ein datblygwr sector cyhoeddus Trydan Gwyrdd Cymru.

Diolch am yr ateb, Weinidog.

Wrth gwrs, gwyddom fod Llywodraeth Cymru yn weithgar iawn yn y sector hwn, ond roeddwn i eisiau gofyn yn benodol am rôl y Llywodraeth a chyllid y sector cyhoeddus wrth ddadrisgio prosiectau ynni adnewyddadwy. Un peth a oedd yn amlwg iawn i mi yng nghynhadledd Ynni Morol Cymru, y soniodd y Gweinidog amdani ynghynt, oedd yr ymdeimlad o angen i Gymru gael strategaeth gydlynol yn y maes hwn. Felly, er enghraifft, cafwyd trafodaethau ynghylch cronni asedau a sefydlu asedau pwrpasol i gefnogi technolegau newydd a'r rôl bosibl i Lywodraeth yma. Felly, byddai croeso mawr i syniadau gan y Gweinidog ar y pwynt hwnnw.

Rwy'n cytuno. Fe wneuthum fwynhau eu cynhadledd yn fawr. Rwyf wedi siarad ynddi sawl gwaith. Un o'r cwestiynau mawr, nid yn unig i ynni adnewyddadwy, ond i fioamrywiaeth a'r argyfyngau natur a hinsawdd, yw sut y gallwn ddenu arian sector preifat go iawn, sydd ar gael yn rhwydd ledled y byd, mewn ffordd nad yw'n gwyrddgalchu. Felly, rwy'n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn gwneud mwy na mynd ag arian oddi ar gwmnïau sy'n barod i barhau i lygru'r byd cyn belled â'u bod yn gallu rhoi rhywfaint o arian i ni a gwneud rhywbeth ag ef. Ond mae'n rhaid i ni hefyd ddenu cyllid preifat priodol i mewn a fydd yn caniatáu inni wneud yr holl bethau yr ydym am eu gwneud yn y ffordd yr ydym yn awyddus i'w gwneud. Nid oes unrhyw ffordd y gall y Llywodraeth wneud hynny gyda'i hadnoddau ei hun, hyd yn oed ar lefel y DU. Felly, mae angen i ni gael cyllid sector preifat. Mae angen i ni ei gael mewn ffordd sy'n gynaliadwy, yn ddealladwy ac yn dryloyw. Felly, mae gennym bobl sy'n gweithio ar hynny.

Rwy'n aelod balch iawn o Beyond Oil and Gas Alliance. Roedd fy nghyd-Aelod, Lee Waters, yn falch iawn o'i llofnodi ar ein rhan tra oeddem i fyny yn Glasgow yn y COP. Rydym yn cydweithio ag ystod eang o—enw ofnadwy—lywodraethau isranbarthol, cenedlaethol a dinesig. Enw ofnadwy, ond rydych chi'n deall y pwynt. Rwy'n casáu'r enw; rydym wedi bod yn ceisio meddwl am un gwell. Os ydych chi'n ei ddweud yn Almaeneg, ICLEI ydyw; mae'n llawer gwell. Felly, rydym yn cydweithredu â nhw, ac un o'r pethau y maent yn gweithio arno ar hyn o bryd ac yr ydym ni wrthi'n gweithio gyda nhw yw prosiect gyda Banc y Byd a nifer o fanciau ffederal ledled y byd i weld sut y gallwn gael didwylledd a thryloywder i gyfalaf sector preifat fel y gallwn ei ddenu i mewn mewn mewn ffordd sy'n gynaliadwy ac yn dryloyw, ond sydd hefyd yn gwneud y prosiectau yr ydym yn awyddus i'w gwneud yn ariannol hyfyw am y tro cyntaf.

Mae gennym gyfleoedd ynni adnewyddadwy gwych yng ngogledd Cymru a phrosiectau ar y gweill i'n helpu i gyrraedd ein nod sero net. Mae gennym bedwar datblygwr tyrbin yn gweithio ar brosiect Morlais a phrosiect ynni llanw Ynys Môn. Dyfarnwyd y contractau hyn gan arwerthiant ynni adnewyddadwy Contractau ar gyfer Gwahaniaeth Llywodraeth y DU, sy'n rhoi hyder i fuddsoddwyr fuddsoddi mewn cynhyrchiant trydan carbon niwtral, sy'n golygu y gallwn gyrraedd sero net yn gyflymach nag y byddai'r marchnadoedd yn ei ganiatáu fel arall.

Mewn rhanbarthau eraill yn y DU, cafwyd buddsoddiad mewn ffynonellau eraill o ynni adnewyddadwy, fel ynni geothermol yng Nghernyw. Mae gan y buddsoddiad hwn botensial i ddenu dros £50 miliwn o fuddsoddiad i ogledd Cymru ac mae ganddo gyfleoedd gwaith lleol sylweddol. Ar sail ddomestig lai o faint hefyd, mae gennym gwmnïau ynni adnewyddadwy gwych yng ngogledd Cymru, megis Carbon Zero Renewables, wedi'u lleoli yn Llanelwy yn fy etholaeth i, sy'n gosod ac yn cynnal a chadw paneli solar wedi'u gosod yng nghartrefi pobl i sicrhau eu bod yn parhau i weithio ar eu lefel fwyaf effeithlon. Felly, a all y Gweinidog amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar arallgyfeirio marchnad ynni adnewyddadwy Cymru yn ehangach fel nad ydym yn rhoi ein hwyau i gyd yn y fasged wynt a solar?

14:55

Gyda phleser. Cefais ymweliad gwych gyda fy nghyd-Aelod Siân Gwenllian â phrosiect trydan dŵr yn eich ardal chi, rwy'n credu, Siân, enghraifft wych iawn o gymuned a oedd wedi dod at ei gilydd i harneisio grym y rhaeadr yno. Yn anffodus, nid oedd gennyf amser i gerdded yr holl ffordd i'r pen uchaf, ond rwy'n bwriadu dychwelyd dros yr haf i wneud hynny. Roedd yn gymuned a oedd wedi dod at ein gilydd eu hunain ond a oedd bellach yn gallu cael help gan Ynni Cymru, a dyna pam roedd Siân a minnau yno, oherwydd drwy ein gwaith gydag Ynni Cymru, drwy'r cytundeb cydweithio, rydym yn annog cymunedau ledled Cymru i ddod ynghyd i fanteisio ar beth bynnag yw'r ynni adnewyddadwy a fyddai'n gweddu i'w cymuned, ac mae hynny'n cynnwys ystod eang o bethau, mewn gwirionedd.

Yn ddiweddar iawn fe ymwelais â chymuned y Dirprwy Lywydd yn Sgiwen ar ôl llifogydd ofnadwy o hen bwll glo, ond mae hynny wedi golygu mewn gwirionedd fod gennym brosiect ar ynni geothermol yn deillio o hen weithfeydd yr ydym yn gweithio arno gyda'r Awdurdod Glo. Roedd honno'n gymuned a wynebodd gryn drawma yn sgil y llifogydd hynny, ac ni fyddaf yn anghofio'r marciau melyn ar y wal, ymhell uwch fy mhen, a nodai uchder y llifogydd. Ond roedd y dŵr yn gynnes, felly mae wedi bod yn ddiddorol iawn edrych ar sut y gallwn fanteisio ar yr hyn sy'n dreftadaeth ddiwydiannol a all, ac roedd yn sgwrs rhwng y Prif Weinidog—y Prif Weinidog blaenorol; mae'n od dweud hynny, onid yw?—yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe, am fwyngloddiau metel. Gall y pethau hyn fod yn beryglus i iechyd pobl—rwy'n credu mai Aelod o'ch meinciau chi a ofynnodd y cwestiwn—ond maent yn gyfleoedd hefyd, ac mae llawer ohonynt yn llawn o ddŵr cynnes, ac rydym yn bendant yn edrych ar hynny.

Rwyf newydd drafod morlynnoedd llanw gyda fy nghyd-Aelod Mike Hedges. Rwy'n dod o Abertawe; nid yw'n gyfrinach y byddem yn hoffi morlyn llanw yn ein hardal, ac wrth gwrs, mae gennym nifer o rai eraill, nad wyf am sôn amdanynt nawr, ond mae gennym nifer fawr o rai eraill. Rwy'n falch iawn o broject Menter Môn yn y Fenai, y gwnaeth y Prif Weinidog a minnau, Gweinidog yr Economi ar y pryd, y Prif Weinidog bellach, Vaughan Gething, a nifer o rai eraill ymweld ag ef yr haf diwethaf i weld yr ynni anhygoel sy'n dod i mewn o'r ffrwd lanw yno.

Ar yr AR6, roedd yn fwy llwyddiannus, rydych chi'n iawn, ac roeddwn wrth fy modd yn gweld hwnnw, ond rydym yn annog Llywodraeth y DU i roi mwy o gyfran o'r rownd nesaf o gyllid Contractau ar gyfer Gwahaniaeth i brosiectau nad ydynt yn rhai gwynt mewn gwirionedd fel y gallwn gael gwell cyllid i rai o'r prosiectau morol yn enwedig sydd gennym ledled Cymru, gan gynnwys prosiectau ffrwd lanw yn y Fenai ac yn Swnt Dewi, i lawr yn ardal Paul Davies, er mwyn iddynt allu gweithredu ar raddfa fwy.

Rhaglen Buddsoddi i Atal Llifogydd

4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen buddsoddi i atal llifogydd Llywodraeth Cymru? OQ60860

Diolch yn fawr, Jack. Ddoe, cyhoeddais ein rhaglen rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol 2024-25, drwy ddatganiad ysgrifenedig yn anffodus, oherwydd y pwysau ar amser y Senedd ddoe. Rwy'n falch iawn ein bod yn cynnal ein lefel uchaf erioed o gyllid eleni, sef £75 miliwn. Mae hyn yn cyfateb i'r dyraniad y llynedd fel y gwariant blynyddol uchaf erioed ar reoli perygl llifogydd yng Nghymru hyd yma.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Fel y gŵyr y Gweinidog, rwyf wedi bod yn codi buddsoddiad i raglenni atal llifogydd yn Sandycroft a Brychdyn yn eithaf di-baid yn y Senedd dros beth amser bellach, ac roeddwn yn falch o weld y datganiad ysgrifenedig a chyhoeddi arian, gan gynnwys darparu £800,000 i Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud gwaith cyfalaf yn Sandycroft, a £60,000 arall ar gyfer cynlluniau cydnerthedd llifogydd yn Sandycroft, Brychdyn a Bretton. Weinidog, a gaf i ddiolch i chi ar ran y cymunedau hyn? Cafodd y cymunedau hynny a bywoliaeth pobl eu difetha gan lifogydd yn ddiweddar, ac mae croeso mawr i'r arian, ond mae'n bwysig cyflawni'r gwaith cyn gynted â phosibl nawr, a tybed a wnewch chi ddefnyddio'ch swydd yn Llywodraeth Cymru i sicrhau bod hyn yn digwydd. Diolch yn fawr.

15:00

Diolch, Jack. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn tystio i ddyfalbarhad eich ymholiadau ar hynny. Rwy'n hoff iawn o ddyfalbarhad—mae'n un o'r nodweddion y credaf fy mod yn meddu arni fy hun, felly roeddwn yn falch iawn o weld hynny. Rwy'n falch iawn fod y cyhoeddiad wedi'i groesawu, ac mae'n dangos ein hymrwymiad parhaus i'r gwaith hwn ledled Cymru. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r awdurdodau rheoli risg, yr awdurdodau lleol, i sicrhau bod y cynlluniau’n cael eu cyflawni mor gyflym ac mor effeithlon â phosibl. Bydd cynlluniau busnes wedi’u cyflwyno, ac rwy’n bendant y gallwn barhau i wneud yn siŵr ein bod yn sicrhau bod y cynlluniau hynny’n cael eu cyflawni yn unol â’r rhaglen. Mae gan ogledd Cymru hanes rhagorol o gyflawni cynlluniau yn unol â'r gyllideb a'r rhaglen, felly rwy'n siŵr y bydd hynny'n parhau.

Cynlluniau Ynni Adnewyddadwy

5. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i sicrhau cyfranogiad cymunedol mewn cynlluniau ynni adnewyddadwy? OQ60882

Diolch am eich cwestiwn, Jane. Mae perchnogaeth leol a chynnwys cymunedau yn rhan hollbwysig o'n polisi ynni. Rydym eisoes wedi cyflawni 97 y cant o'n targed i sicrhau bod 1 GW o ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol erbyn 2030. Mae ein buddsoddiad mewn cynlluniau ynni ardal leol yn rhoi cyfle pellach i gymunedau gymryd rhan yn y cynlluniau hynny.

Diolch yn fawr iawn am yr ymateb.

Rydych wedi ateb rhan o fy nghwestiwn wrth gyfeirio at y cynllun y buoch yn ymweld ag ef gyda Siân Gwenllian, ond un o’r heriau allweddol, pan fyddwn yn pontio i ynni gwyrdd, yw sicrhau bod y manteision yn cael eu teimlo gan gymunedau lleol, oherwydd yn rhy aml, mae'r elw'n mynd o brosiectau ynni adnewyddadwy mawr ac nid ydynt yn aros yn yr ardal leol. Ceir dulliau gwahanol o ddarparu buddion diriaethol i gymunedau, er enghraifft, mae gan Octopus Energy eu 'Fan Club' ynni, hynny yw, clwb ffaniau—os na allwch fy ngweld—sy’n caniatáu biliau ynni gostyngol i’r rhai yr effeithir arnynt gan eu tyrbinau gwynt, a phan fydd y gwynt yn chwythu, maent yn cael arian oddi ar eu biliau. Felly, tybed beth yw eich barn am y cwmnïau mawr hynny sy'n dod i ardaloedd—sut y byddech chi'n teimlo ynglŷn â'r syniad eu bod yn cynnig gostyngiadau i gymunedau ar eu biliau ynni, am gyfnod hir o amser, er mwyn galluogi cymunedau i elwa'n wirioneddol. Diolch yn fawr iawn.

Diolch, Jane. Byddwn wrth fy modd yn gwneud hynny, ond nid yw yn y rheolau, yn anffodus. Mae gan Octopus esemptiad penodol o'r rheolau. Rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ers peth amser i sicrhau y gallwn ddiwygio’r farchnad ynni er mwyn ein galluogi i wneud hynny. Mae problem wirioneddol gyda'r ffaith bod ynni adnewyddadwy yn gysylltiedig â phris ymylol nwy, a dyna pam fod y biliau ynni mor uchel. Nid oes angen i'r farchnad ynni weithio yn y ffordd honno, ond dyna'r ffordd y mae'n gweithio ar hyn o bryd.

Felly, rydym yn gwneud cyfuniad o bethau, ac a dweud y gwir, mae'n rhaid imi dalu teyrnged i Adam Price, sydd wedi ymdrechu'n galed iawn i gynnwys hyn yn y Bil seilwaith, am resymau rwy'n eu deall yn llwyr, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi, pa bynnag het y byddaf yn ei gwisgo, i sicrhau y gallwn wneud hynny yn y ffordd gywir o ran polisi. Ond yr hyn rydym am ei wneud yw sicrhau bod pobl yn berchen ar ran o bob gorsaf sy'n cynhyrchu ynni adnewyddadwy, ni waeth beth ydyw, ni waeth pa fath o ynni adnewyddadwy ydyw, nid ynni gwynt yn unig—fod pobl yn berchen ar ran ohoni. Oherwydd os ydynt yn berchen ar ran ohoni, gallant fwynhau rhywfaint o'r elw ohoni ar ffurf ynni rhatach. Os nad ydynt yn berchen ar ran ohoni, yna rydych wedi eich cyfyngu i fuddion cymunedol. Gall buddion cymunedol fod yn anhygoel, gallant wneud pob math o bethau adfywiol yn eich ardal, ond ni allant roi ynni rhatach i chi. Ond rydym wedi gallu cytuno â’r diwydiant ynni adnewyddadwy mai’r hyn y gallent ei wneud yw ôl-osod y tai, fel y byddent yn fwy effeithlon ac effeithiol. Felly, mae hynny'n rhywbeth rydym wrthi'n mynd ar ei drywydd ar hyn o bryd, yn ogystal â'r hyn a elwir yn safon aur buddion cymunedol y buom yn gweithio arni ers tro. Yn y cyfamser, rydym wedi bod yn gweithio, drwy'r cytundeb cydweithio, ar ehangu ynni cymunedol cymaint ag y gallwn ledled Cymru, gan mai dim ond drwy fod yn berchen arno y gallwch sicrhau nad yw'r elw i gyd yn cael ei ecsbloetio.

Digartrefedd Ymhlith Pobl Ifanc

6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc? OQ60874

Diolch, Jayne. Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â phob math o ddigartrefedd ac rydym yn buddsoddi bron i £220 miliwn mewn gwasanaethau cymorth ac atal digartrefedd y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn cynnwys dros £7 miliwn wedi'i dargedu'n benodol at nodi digartrefedd ymysg pobl ifanc yn gynnar a chymorth i helpu pobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau bywyd sydd eu hangen arnynt i fyw'n annibynnol.

Diolch, Weinidog. Mae pobl ifanc niwrowahanol, pobl sy'n awtistig, dyslecsig, dyspracsig ac sydd â mathau eraill o niwrowahaniaeth, mewn perygl arbennig o ddod yn ddigartref. Mae ymchwil wedi dangos, pan fydd pobl ifanc niwrowahanol yn dod yn ddigartref, fod cael mynediad at wasanaethau yn eu rhoi dan fwy o anfantais. Cyfarfûm yn ddiweddar ag End Youth Homelessness Cymru i drafod eu hadroddiad newydd 'Impossible to Navigate’, sy’n canolbwyntio ar ddigartrefedd ymysg pobl ifanc drwy lens niwroamrywiaeth. Bydd yr adroddiad yn cael ei lansio yma yn y Senedd ar 17 Ebrill. Bydd cyfle i siarad â rhai o’r ymchwilwyr cymheiriaid, ac rwy’n annog pob un o fy nghyd-Aelodau i fynychu. Mae cynnwys pobl ifanc niwrowahanol fel ymchwilwyr cymheiriaid yn y prosiect ymchwil o'r cychwyn cyntaf yn rhoi hygrededd gwirioneddol i'w ganfyddiadau. Weinidog, beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gynyddu hygyrchedd ac annog cydgynhyrchu gwasanaethau digartrefedd ymysg ieuenctid ledled Cymru?

15:05

Diolch, Jayne. Rwy'n ymwybodol iawn o adroddiad 'Impossible to Navigate', ac yn croesawu ei ganfyddiadau'n fawr. Rydym wedi ariannu End Youth Homelessness Cymru, mewn gwirionedd—£83,155 yn 2023-24. Roedd rhan o’r cyllid hwnnw ar gyfer cynnal y grwpiau ffocws ieuenctid a oedd yn caniatáu i’r bobl ifanc gyfrannu at yr ymchwil. Credaf fod cael profiad bywyd o'r system yn gwbl ganolog i'n polisi, nid profiad bywyd o ddigartrefedd yn unig—ac nid wyf yn dweud 'yn unig' mewn unrhyw ffordd ddifrïol—ond profiad o'r system ei hun. Ac rydym wedi gwneud llawer o waith drwy ein panel cynghori, a oedd yn cynnwys nifer fawr o bobl â phrofiad bywyd, nid yn unig y profiad o fod yn ddigartref ond y profiad o ryngweithio â'r fiwrocratiaeth, os mynnwch, yn eich ymdrech i ddod allan o'r sefyllfa honno.

Rwy'n credu y bydd y Bil newydd y bydd y Llywodraeth yn ei gyflwyno ar roi diwedd ar ddigartrefedd yn mynd i’r afael â llawer o hyn drwy wreiddio’r rhannau o hynny sy'n ymwneud â chydgynhyrchu a phrofiad bywyd ym mholisi parhaus y Llywodraeth. A chredaf hefyd y bydd y dull 'dim drws anghywir'—y mae fy nghyd-Aelod Lynne Neagle wedi'i hyrwyddo ar gyfer iechyd meddwl, ond sy'n berthnasol i bob gwasanaeth cyhoeddus, wrth gwrs—yn helpu hefyd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Bil newydd, pan fydd yn mynd drwy’r Senedd, yn golygu na all unrhyw awdurdod cyhoeddus yng Nghymru ryddhau unrhyw un i ddigartrefedd, a bydd hynny’n golygu y bydd yn rhaid iddynt eirioli ar eu rhan i’w helpu drwy’r system. Felly, rydym yn credu y byddai hynny o gymorth mawr, am fod y bobl ifanc wedi dweud hynny wrthym, ond bydd mwy y gallwn ei wneud, ac edrychaf ymlaen at wneud hynny.

Rhwymedigaethau Amgylcheddol

7. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau ei bod yn cyflawni ei rhwymedigaethau amgylcheddol i bobl Sir Benfro? OQ60851

Diolch, Paul. Mae diogelu ein hamgylchedd yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth. Rydym wedi rhoi pwerau llym i'r rheoleiddiwr amgylcheddol, Cyfoeth Naturiol Cymru, i gymryd camau i reoleiddio a gorfodi rheolaethau amgylcheddol mewn achosion o lygru, ac mae asesydd interim diogelu'r amgylchedd Cymru yn goruchwylio gweithrediad cyfraith amgylcheddol yng Nghymru.

Diolch am eich ymateb. Nawr, fe fyddwch yn ymwybodol o'r pryderon amgylcheddol ac iechyd cyhoeddus difrifol mewn perthynas â safle tirlenwi Withyhedge yn fy etholaeth, lle mae trigolion yn dal i gael eu gorfodi i fyw gydag arogleuon erchyll o'r safle hwnnw. Nid oes gan drigolion unrhyw hyder ychwaith yn y camau a gymerwyd i fonitro ansawdd aer yn yr ardal wedi iddi ddod yn amlwg fod un o weithwyr Dauson Environmental Group, yr un grŵp sy’n berchen ar y cwmni sy’n gweithredu safle Withyhedge, yn gwneud y gwaith monitro, ac mae hynny’n peri cryn bryder i mi.

Nawr, rwy'n siŵr y gallwch ddeall pryderon trigolion, yn enwedig o ystyried bod gan y cwmni hwn, fel y gŵyr pob un ohonom, gysylltiad uniongyrchol â'r Prif Weinidog newydd. Felly, Weinidog, os byddwch yn parhau yn eich rôl bresennol, a fyddech yn fodlon cyfarfod â thrigolion i wrando ar eu pryderon, a rhoi sicrwydd fod Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei rhwymedigaethau amgylcheddol i’r gymuned? A pha gamau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i ddatrys y mater hwn i drigolion unwaith ac am byth?

Diolch, Paul. Rwy'n ymwybodol iawn o'r mater, fel y gwyddoch, a chawsom drafodaeth fer amdano yn ddiweddar iawn. Fy nealltwriaeth i yw bod hysbysiad gorfodi ar y safle a bod angen cydymffurfio â hwnnw erbyn 6 Ebrill. Mae nifer o fesurau yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau nad dyddiad yn unig mo hwnnw—ei bod yn bosibl cydymffurfio, os mynnwch, erbyn 6 Ebrill—ac os na cheir cydymffurfiaeth, y bydd canlyniadau difrifol i hynny. Ond rwy'n deall pryderon y trigolion yn llwyr. Mae'n ardal nad wyf yn byw ynddi fel rydych chi, ond rwy'n ymweld â hi'n aml iawn, fel y gwyddoch, ac nid yw'n rhywbeth y dylem fod yn ei oddef.

Felly, rwy'n falch fod y camau gorfodi wedi'u cymryd. Byddwn yn sicrhau bod yr hysbysiad yn cael ei orfodi’n llym. Nid oes unrhyw syniad gennyf pwy sy'n mynd i fod yn sefyll lle rwy'n sefyll pan fyddwn yn cyfarfod nesaf, ond rwy'n gwbl sicr y byddai pwy bynnag ydynt yn fwy na pharod i gyfarfod â'r trigolion, ac i sicrhau bod CNC wedi gwneud popeth o fewn eu pwerau i weithredu'r camau gorfodi hynny.

Wrth gwrs, byddwn yn cyflwyno Bil diogelu'r amgylchedd a'r targed bioamrywiaeth—nid dyna fydd ei deitl yn y pen draw, rwy'n siŵr, ond rydych chi'n gwybod pa Fil rwy'n ei feddwl. Ac rwy’n awyddus iawn, felly, fod y Bil hwnnw'n sicrhau ei fod yn rhoi rhwymedigaethau ychwanegol ar awdurdodau lleol ac awdurdodau parciau cenedlaethol yn yr achos hwn i sicrhau eu bod yn cydweithio er mwyn sicrhau nad ydym yn gweld y math o broblemau amgylcheddol a welsom ar y safle tirlenwi hwnnw. Ac nid oes ei angen. Rwyf wedi ymweld â safleoedd tirlenwi drwy yrfa hir ym maes gwastraff cyn imi ddod i'r Senedd. Rwyf wedi gweithio yn y rhan honno o—. Roeddwn yn gyfreithiwr llywodraethiant amgylcheddol am amser maith, ac nid oes angen i safle tirlenwi fod yn ddrewllyd nac yn anodd. Dylent gael eu rheoli'n dda, dylai fod pibellau yno a dylent fod wedi eu capio'n briodol. Felly, nid wyf yn credu bod unrhyw esgus dros hyn, ac rwy’n siŵr y bydd yr hysbysiad yn cael ei orfodi'n llym, ac rwy’n mawr obeithio hynny er lles y trigolion yn yr ardal hyfryd honno.

15:10
Llamhidyddion Harbwr

8. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fonitro a gwarchod llamhidyddion rhag bygythiadau fel mynd ynghlwm mewn rhwydi pysgota, llygredd cemegol a sŵn, hela, traffig cychod, a diffyg bwyd? OQ60865

Diolch, Janet. Cwestiwn pwysig iawn. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi ystod o gamau ar waith i sicrhau bod llamhidyddion yn cael eu diogelu rhag bygythiadau. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad i gyflawni’r fenter lleihau sgilddalfa i leihau achosion o fynd ynghlwm mewn rhwydi pysgota, y cynlluniau rheoli pysgodfeydd i ddarparu pysgodfeydd cynaliadwy sy’n darparu bwyd, a rheolaeth gadarn ar ein rhywogaethau mudol mewn ardaloedd cadwraeth arbennig.

Diolch, Weinidog. Rwy’n falch iawn, gan mai fi yw hyrwyddwr llamhidyddion Cymru. Mae tri safle oddi ar arfordir Cymru a de-orllewin Lloegr wedi’u nodi fel ardaloedd pwysig ar gyfer y mamaliaid morol hyn. Mae ganddynt arwynebedd cyfunol o 16,477 km, gan amrywio mewn dyfnder o'r dyfroedd bas ar hyd yr arfordir i oddeutu 100m. Mae’r prif fygythiadau i’r llamhidyddion hyn yn cynnwys cael eu dal fel sgilddalfa mewn offer pysgota, ac maent hefyd yn sensitif i lygredd ac aflonyddwch. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymgynghori ar ardaloedd cadwraeth arbennig posibl ar eu cyfer. A allech chi egluro pa gynnydd sy’n cael ei wneud gyda CNC nid yn unig i’w diogelu, ond i sicrhau y cesglir data y gellir ei ddefnyddio wedyn i fonitro a fydd y camau a gymerwyd yn effeithiol yn y tymor hir? Diolch.

Diolch, Janet. Fel y gwn eich bod yn gwybod, ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno cynllun cenedlaethol am ddim i bysgotwyr gael gwared ar ac ailgylchu offer pysgota sydd wedi cyrraedd diwedd ei oes mewn nifer o safleoedd ledled y wlad, ac rydym wedi casglu dros 10 tunnell ohono hyd yma. Os ystyriwch beth mae hynny'n ei gynnwys, mae'n llawer iawn o bethau. Felly, mae'n lleihau'r perygl y byddant yn cael eu gadael yn y môr, lle gall creaduriaid fynd yn sownd ynddo—nid yn unig llamhidyddion, mae'n rhaid imi ddweud, ond pob bywyd mudol arall yn y môr, sef bron y cyfan ohono, wrth gwrs.

Hoffem gael rheolaeth effeithiol ar ein rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig i sicrhau eu bod mewn cyflwr ffafriol, a bod yr egwyddorion sy’n llywio’r gwaith o ddatblygu hynny’n cael eu cyflawni drwy gynllun grant rheoli'r ardaloedd morol gwarchodedig. Rydym wedi cael golwg ar y codau ymddygiad morol y sonioch chi amdanynt a chyflwyno ap crwydro Cymru, a fydd yn caniatáu i bobl ddweud wrthym ble maent.

Rydych yn llygad eich lle, Janet, wrth ddweud nad oes gennym yr holl ddata sydd ei angen arnom er mwyn gallu gwneud hyn, ac felly mae gennym brosiect data ar y gweill. Dywedodd yr 'Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol' diweddaraf fod cyflwr llamhidyddion yn ansicr oherwydd diffyg data. Felly, hoffwn annog pobl, Ddirprwy Lywydd, os ydynt allan yn yr awyr agored dros y Pasg, i lawrlwytho'r ap, ac os ydych yn gweld pethau o'r fath—a bydd pob un ohonom, rwy'n siŵr, wedi clywed bod morfilod cefngrwm wedi'u gweld yn ddiweddar oddi ar arfordir sir Benfro, rhywbeth yr oeddwn yn falch iawn o'i glywed, yn bersonol—gallwch eu cofnodi ar yr ap, ac felly gallwn olrhain eu symudiadau. Mae'n eithaf anodd eu holrhain mewn gwirionedd. Efallai ei fod yn edrych yn hawdd, ond mae'n eithaf anodd eu holrhain, ac mae hynny'n gymorth mawr. Rydym yn annog dull gwyddoniaeth dinasyddion o wneud hynny, ac mae gennym hefyd—. Mae gennym brosiectau penodol ar gyfer trefnu'r data hwnnw ar ffurf y gellir ei defnyddio.

Cawsom ddigwyddiad trist iawn lle daethpwyd o hyd i lamhidydd gyda'i ben wedi'i dorri i ffwrdd ar arfordir Ynys Môn ym mis Chwefror eleni. Gwyddom bellach ei bod yn debygol i'w ben gael ei dorri i ffwrdd ar ôl iddo farw, ond hoffem wneud yn siŵr na cheir digwyddiadau o'r fath ar ein traethau hyfryd. [Torri ar draws.] Roedd rhywun wedi mynd â'r pen, yn anffodus, felly nid oedd modd inni edrych arno. Felly, un o’r rhesymau rwyf am annog pobl i ddefnyddio’r ap yw ein bod am i bobl ddweud wrthym am ddigwyddiadau o’r fath, fel y gallwn sicrhau ein bod yn gallu gofalu amdanynt. Os oes mamaliaid morol mawr o’r fath yn tirio, mae’n bwysig iawn inni ddeall beth sydd wedi digwydd a chynnal post-mortem, felly hoffwn annog pobl i beidio ag ymyrryd ag anifail, ond i roi gwybod amdano os dônt o hyd i un.

Felly, diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, ac rwy'n siŵr y byddwn yn parhau, Janet, i weithio gyda'n gilydd ar ein pryder cyffredin am y math hwnnw o fywyd morol.

3. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Eitem 3 yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Ken Skates.

Ysgol Feddygol Gogledd Cymru

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd o ran creu ysgol feddygol yng Ngogledd Cymru? OQ60855

15:15

Mae ysgol feddygol gogledd Cymru yn dod yn ei blaen yn dda, gyda myfyrwyr i fod i ddechrau ar eu hastudiaethau ym mis Medi. Mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn fodlon â’r cynnydd yn dilyn eu hymweliad sicrhau ansawdd cam 5 ym mis Gorffennaf y llynedd, gan ganiatáu i’r ysgol fwrw ymlaen â'r broses o recriwtio myfyrwyr, a ddigwyddodd fis Rhagfyr diwethaf ac ym mis Ionawr eleni.

Weinidog, a gaf i gofnodi fy niolch am yr holl waith a wnaethoch wrth fynd i'r afael â hyn? Bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ogledd Cymru a’r wlad gyfan. A fyddech yn cytuno mai dyma'n benodol yw'r hyn sydd angen i ni ei wneud er mwyn diogelu GIG Cymru at y dyfodol?

Diolch yn fawr, Ken. Rwyf wrth fy modd ynglŷn â hyn, ac mae gweld pobl bellach yn cael eu recriwtio'n uniongyrchol i'r ysgol feddygol yn y gogledd yn wirioneddol galonogol. Bydd y derbyniad uniongyrchol yn dechrau yn yr hydref, a bydd yn cynyddu i gyrraedd ei gapasiti llawn—felly, erbyn 2029, bydd 140 o fyfyrwyr y flwyddyn. O’r rheini sydd wedi’u recriwtio i ysgol Caerdydd ond sydd wedi cael eu lleoli yn y gogledd wedyn, fe wyddom fod oddeutu 50 y cant ohonynt nid yn unig wedi aros yng ngogledd Cymru, wedi aros yng Nghymru, ond wedi aros ym mwrdd Betsi. Dyna’r union fath o ganlyniad roeddem yn chwilio amdano, felly rwy’n siŵr y bydd Siân Gwenllian yn falch iawn o glywed hynny hefyd.

Diolch yn fawr, ac efallai eich bod chi'n mynd i ddyfalu beth sydd gen i i'w ddweud ar y pwnc yma. Mae'r ffaith bod gyda ni ysgol feddygol ym Mangor, fydd yn derbyn ei myfyrwyr cyntaf ym mis Medi, i'w groesawu'n fawr iawn, ac mae'n rhaid inni ddiolch i bawb fu'n gwneud yr achos dros hyfforddi doctoriaid yn y gogledd. Mi wnes i fy hun godi'r angen am ysgol feddygol 14 o weithiau ar lawr y Senedd yma, ac, yn 2017, dwi'n cofio'r darpar Brif Weinidog, tra roedd o'n Weinidog iechyd, yn dweud nad oedd achos am ysgol feddygol ym Mangor. Ond, dyna ni, mae dyfalbarhad wedi talu ei ffordd, ac mae yna wers i ni i gyd yn hynny, dwi'n siŵr.

Dwi bellach yn gwneud yr achos dros ddatblygu Bangor yn ganolfan o ragoriaeth o ran hyfforddiant meddygol, ac mi glywch chi fwy am hyn hefyd—byddai'n dyfalbarhau efo hynny hefyd. Mae yna ysgol fferylliaeth ar y gweill ym Mangor, ond a gaf i ofyn i chi, onid y cam naturiol nesaf, o ran hyfforddi yn y gogledd, ydy sefydlu ysgol ddeintyddiaeth ym Mangor, a hynny ar fyrder?

Diolch yn fawr. Wrth gwrs, bydd yn rhaid inni weld sut mae pethau'n datblygu yn y gogledd, ond a gaf i ddiolch i Siân Gwenllian, yn arbennig am ei brwdfrydedd hi dros hwn? Roedd hi, wrth gwrs, yn rhan o faniffesto'r Blaid Lafur hefyd, ac yn rhan o raglen y llywodraeth, ond mae'n dda ein bod ni wedi gallu cydweithredu ar y pwnc pwysig yma.

Un o'r pethau dwi wedi bod yn gwthio arno'n ddiweddar yw gofyn—a dwi'n gwybod bod diddordeb gyda Siân Gwenllian yn y pwnc yma hefyd—sut maen nhw'n dysgu am iechyd menywod yn y cwricwlwm. A dwi'n falch o glywed, yn y cwricwlwm yng Nghaerdydd, fod gwaith yn cael ei wneud—ac, wrth gwrs, ar hyn o bryd, maen nhw'n dilyn cwricwlwm Caerdydd—i sicrhau ein bod ni'n gweld newid yn y ffordd mae meddygon yn ymdrin â menywod. Felly, dwi'n meddwl bod hyn yn gam pwysig ymlaen, ac fe gawn ni weld beth arall fydd yn datblygu yn y dyfodol.

Wrth gwrs, mae hyfforddi a datblygu pobl yn y gogledd yn wych, i gadw pobl yn y rhanbarth, ac yn wir, yn hyfforddi i lefel uchel. Hoffwn ofyn yn benodol ynghylch hyfforddi a datblygu pobl a staff sydd eisoes yn gweithio yn y GIG. Bu cynnydd yn y blynyddoedd diwethaf o ran hyfforddi gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i lefelau nyrsio, ond pa waith penodol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda byrddau iechyd, megis Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i hyfforddi pobl mewn proffesiynau eraill, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd efallai, therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion, fel y gallwn barhau i chwalu'r nenfwd gwydr ac y gall pobl yn y GIG ddatblygu eu gyrfaoedd os ydynt yn dymuno gwneud hynny?

Diolch yn fawr iawn, Gareth. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw fy mod wedi cyhoeddi ar 14 Chwefror y bydd y buddsoddiad mewn addysg a hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cael ei gadw ar £281 miliwn, nad yw’n swm bach o arian, ac wrth gwrs, mae’r rhan fwyaf ohono’n cael ei wario ar bobl sydd eisoes yn gweithio yn y GIG i'w huwchsgilio, i'w hyfforddi.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru, wrth gwrs, yn cael eu mandad, i bob pwrpas, gan y byrddau iechyd eu hunain. Felly, maent yn penderfynu—mae'r byrddau iechyd yn penderfynu—'Iawn, beth sydd ei angen arnom?' Maent yn nodi hynny wrth AaGIC, ac yna maent hwy'n comisiynu ar sail yr hyn y mae'r byrddau iechyd yn dweud eu bod am ei weld. Rwy’n falch iawn o weld bod hynny wedi digwydd, ac wrth gwrs, yr hyn sydd wedi digwydd, sy'n galonogol iawn yn fy marn i, yw ein bod wedi llwyddo i gynnal lefel y llynedd ar gyfer eleni, er gwaethaf yr holl bwysau ariannol sydd arnom.

15:20
Cefnogi Teuluoedd â Phlant Anabl

2. Sut mae GIG Cymru yn cefnogi teuluoedd â phlant anabl? OQ60853

GIG Cymru sydd â chyfrifoldeb gweithredol am ddarparu’r gwasanaethau hanfodol sy’n cefnogi teuluoedd â phlant anabl a’u hanghenion gofal iechyd. Darperir y gwasanaethau hyn gan ystod o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac maent wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion iechyd cymhleth plant a phobl ifanc.

Fis Tachwedd diwethaf, cyhoeddodd yr Athro Luke Clements a Dr Ana Laura Aiello o Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Leeds adroddiad ymchwil ar fynychder ac effaith honiadau o salwch wedi'i ffugio neu ei achosi gan eraill, neu FII, a fu'n ystyried mynychder ac effaith cyhuddiadau o greu neu orliwio anawsterau eu plentyn, math eithafol o feio rhiant neu ofalwr, ar deuluoedd yn Lloegr, yr Alban a Chymru. Cyn hynny, bu'r Athro Clements yn gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd am 15 mlynedd.

Dengys yr ymchwil fod honiadau anghywir o FII o leiaf yr un mor gyffredin yng Nghymru ag y maent yn Lloegr a'r Alban. Tynnodd sylw hefyd at yr effaith ddinistriol y gall honiad o FII ei chael ar y teulu cyfan, gan gynnwys y plant yr honnir bod angen eu hamddiffyn, a bod hyn wedi bod yn bryder arbennig i rieni awtistig a phlant awtistig, gyda mamau plant awtistig 100 gwaith yn fwy tebygol o fod yn destun ymchwiliad FII gan y gwasanaethau plant.

Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gwasanaethau plant awdurdodau lleol, ysgolion ac ymarferwyr y GIG ledled Cymru yn deall negeseuon yr adroddiad hwn, pan fo mamau awtistig plant niwrowahanol yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn parhau i gysylltu â mi i ddweud eu bod wedi bod, ac yn parhau i fod, yn destun honiadau o FII ac yn cael eu bygwth ag achosion diogelu?

Diolch yn fawr iawn. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Aelod anfon copi o’r adroddiad hwnnw ataf fel y gallaf edrych arno’n fanwl. Credaf mai’r hyn y mae’n rhaid i ni ei ystyried o ran plant, bob amser, yw sut rydym yn rhoi eu diogelwch a’u cydraddoldeb yn gyntaf, ac mae'n rhaid inni edrych ar hynny drwy lygaid y plentyn. Felly, dyna ein dull cyffredinol o weithredu yn Llywodraeth Cymru, ond fe wnaf ofyn i fy swyddogion edrych ar yr adroddiad hwnnw er mwyn gweld a oes unrhyw beth ynddo y gallwn fynd ar ei drywydd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, ac yn gyntaf llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Gareth Davies. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn pe gallai’r Gweinidog sôn am y newyddion syfrdanol ei bod yn cymryd 10 mlynedd i fenywod sy’n dioddef o endometriosis gael diagnosis. Yn anffodus, mae'r amser y mae'n ei gymryd i gael diagnosis wedi cynyddu flwyddyn ers dechrau’r pandemig. Mae’r cyflwr, am ba bynnag reswm, yn aml yn cael ei fethu, gyda gweithwyr meddygol proffesiynol yn dweud wrth fenywod yng Nghymru eu bod yn gwneud ffws am ddim byd, neu mai dim ond poen mislif yr oeddent yn ei brofi, ond rwy’n siŵr fod y Gweinidog yn gwybod bod endometriosis yn gyflwr poenus iawn sy'n cyfyngu'n ddifrifol ar ansawdd bywyd. Ni ddylai pobl orfod byw gyda'r cyflwr heb ei drin am amser mor hir â hyn. Penododd y Gweinidog nyrsys endometriosis arbenigol i bob bwrdd iechyd yng Nghymru yn 2022, ac eto mae’r problemau gyda chamddiagnosis wedi gwaethygu. Felly, a allai’r Gweinidog amlinellu’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nad oes achosion o endometriosis yn cael eu methu neu eu camddiagnosio gan glinigwyr yn GIG Cymru fel nad yw menywod yn gorfod aros degawd cyn iddynt gael y driniaeth briodol?

Gwych. Wel, diolch yn fawr iawn, Gareth. Mae hyn yn rhywbeth rwyf wedi canolbwyntio cryn dipyn arno yn ystod fy nghyfnod fel Gweinidog iechyd. Nid oedd yn gyflwr yr oeddwn yn ofnadwy o ymwybodol ohono o'r blaen, ond rwy'n ymwybodol iawn ohono bellach. Mae un o bob 10 o fenywod yn dioddef o’r cyflwr poenus iawn hwn, ac mae’n warthus ei bod yn cymryd cymaint o amser i gael diagnosis ohono. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw fy mod wedi bod yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd ar ôl iddynt gael diagnosis a pha mor gyflym y cânt eu trin. Yn amlwg, mae rhestrau aros ar gyfer gwahanol bethau, ond nid yw'r rhestr aros, ar ôl cael diagnosis, yn hwy nag ar gyfer cyflyrau eraill, felly y diagnosis yw'r broblem. Mewn gwirionedd, mae'n eithaf anodd gwneud diagnosis heb driniaeth fewnwthiol iawn. Felly, mae cwestiynau'n codi ynglŷn â hyn, ac un o'r pwyntiau a wneuthum i Siân Gwenllian yn gynharach yw bod gennym ddatganiad ansawdd ar gyfer menywod bellach, sy'n edrych ar sut rydym yn gwella ansawdd y gofal i fenywod yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Rydym wedi penodi arweinydd clinigol i ysgogi newid yn y maes, fel bod mwy o ymwybyddiaeth, fel bod gwell hyfforddiant i bobl, yn enwedig meddygon teulu, i wybod beth yw'r pethau sy'n codi, beth i gadw llygad amdanynt. Ond y peth allweddol yw y dylem wneud hynny wrth iddynt ddechrau hyfforddi i fod yn feddygon, a dyna pam fy mod wedi bod yn gofyn yn benodol ynglŷn ag a ydym yn hyfforddi pobl i ganfod y problemau sy'n gysylltiedig ag endometriosis.

15:25

Rwy’n derbyn yr uchelgais hwnnw, Weinidog, ond erys y ffaith bod cleifion yn dal i aros am 10 mlynedd, felly credaf ei bod yn mynd i gymryd mwy na geiriau cynnes yn unig i fynd i’r afael â’r problemau ehangach hynny. Ond yn anffodus, y methiant o ran diagnosis endometriosis yw’r llanast diweddaraf ar restr hir o fethiannau Llywodraeth Cymru yn fwy cyffredinol ym maes iechyd. Efallai’n wir mai dyma’r cyfle olaf i’ch holi, Weinidog, tra byddwch yn dal yn gyfrifol am y portffolio iechyd, felly hoffwn pe gallech wneud asesiad o’ch llwyddiant yn y rôl. Mae blwyddyn wedi bod ers i’r Gweinidog oroesi pleidlais o ddiffyg hyder o drwch blewyn oherwydd ei chamreolaeth o fethiannau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru, bwrdd iechyd a gafodd ei dynnu allan o fesurau arbennig am resymau'n ymwneud â chyfleustra gwleidyddol ac a roddwyd yn ôl mewn mesurau arbennig gan y Llywodraeth Lafur hon ar ôl yr etholiad. Ond ble'r ydym arni heddiw? A beth fydd gwaddol y Farwnes Morgan o Drelái yn rôl y Gweinidog iechyd?

Gwaddol y Gweinidog fydd iddi lywyddu dros wasanaeth iechyd lle mae pob un bwrdd iechyd yn destun rhyw fath o fonitro uwch neu fesurau arbennig, targedau damweiniau ac achosion brys na chafodd eu cyrraedd, targedau aros canser na chafodd eu cyrraedd, targedau i ddileu arosiadau o ddwy flynedd na chafodd eu cyrraedd ddwywaith. Felly, a all y Gweinidog ddweud wrthyf, pan fydd yn edrych yn ôl dros ei chyfnod yn y portffolio—a heb wneud unrhyw esgus os yn bosibl—a yw'n cytuno â mi fod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru mewn cyflwr llawer gwaeth heddiw na phan ddaethoch i'ch rôl?

Wel, nid wyf yn gwybod pwy fuoch chi'n siarad â nhw, ond byddwn yn synnu'n fawr pe bai Vaughan Gething wedi bod yn siarad gyda chi cyn unrhyw un arall yn y grŵp Llafur, felly efallai eich bod yn gwybod rhywbeth nad wyf yn ei wybod—bydd yn rhaid inni weld beth sy'n digwydd.

Gadewch imi ddweud wrthych, mewn gwirionedd, fy mod yn credu bod llawer iawn o newid wedi bod yn ystod fy nghyfnod yn y rôl hon. I ddechrau, y gostyngiad yn y rhestrau aros: mae’r amseroedd aros hiraf wedi gostwng am 22 mis yn olynol. Mae gennym ganlyniadau gwell mewn adrannau achosion brys o gymharu â Lloegr, ac mae hynny wedi bod yn wir am 14 o'r 17 mis diwethaf. Ac mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyfiawnhau ein safbwynt, y gwnaethoch gymaint o ffws yn ei gylch o'r blaen, fel y gwnaeth Plaid Cymru, ynglŷn â’r ffaith ein bod yn cyfrif yn wahanol. Na, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyfiawnhau ein safbwynt, ac yn amlwg, rydym yn dal i aros am ymddiheuriad gennych chi a'r BBC mewn perthynas â hynny. Rydym wedi gweld gostyngiad enfawr mewn costau asiantaeth—£55 miliwn. Rydym wedi gweld newid ym mwrdd Betsi, yn amlwg, o sefyllfa anodd iawn i newid y credaf fod pawb ar lawr gwlad wedi’i gydnabod. Rydych chi hyd yn oed, Gareth, wedi cydnabod bod newid wedi digwydd ym mwrdd Betsi, a hynny er gwell. Yn amlwg, mae llawer o ffordd i fynd, ond rwy'n credu bod sefydlogi bwrdd a oedd mewn anawsterau aruthrol yn un o’r cyflawniadau mwyaf mewn gwirionedd.

Wel, nid wyf yn credu y byddwn yn dechrau hawlio llwyddiannau mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Er fy mod wedi cydnabod newidiadau yn y gorffennol, credaf fod llawer o ffordd i fynd o hyd, a chredaf mai wrth ei flas y mae profi pwdin, Weinidog—yn enwedig o ystyried bod y problemau'n dal i fodoli ar ôl degawd o addewidion ffug a geiriau cynnes. Felly, bydd pobl gogledd Cymru yn ei gredu pan fyddant yn ei weld, yn anffodus.

Felly, gan symud ymlaen o hynny, mae amseroedd aros yn adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Treforys yn Abertawe wedi bod mor ddrwg yr wythnos hon fel bod pobl wedi bod yn cerdded allan ar ôl aros am fwy na naw awr i gael eu gweld. Mae’r rhestrau aros dwy flynedd wedi’u dileu yn Lloegr, ac eto ceir dros 24,000 o achosion yng Nghymru o hyd, dros 1,300 o achosion o oedi cyn rhyddhau cleifion meddygol iach o'r ysbyty ym mis Rhagfyr y llynedd, mae dros 3,000 o blant wedi bod ar restr aros y GIG am fwy na blwyddyn, gyda 1,000 o'r rhain wedi aros mwy na dwy flynedd. Nid yw’r targedau o 75 y cant i gleifion canser ddechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod erioed wedi’u cyflawni, yn anffodus. A dyma’r gwaddol y bydd y Gweinidog yn ei adael. Ac am bob £1 a werir ar iechyd yn Lloegr, mae Llywodraeth Cymru yn cael £1.20 i’w wario ar iechyd, ac eto, mae’r arian hwn wedi’i roi tuag at gynlluniau porthi balchder nad oes unrhyw un yng Nghymru wedi gofyn amdanynt.

15:30

Yn sicr. Felly, yn olaf, a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi y byddai'n llawer gwell i'r £120 miliwn sy'n cael ei wario ar ddiwygio'r Senedd, yr £20 miliwn sy'n cael ei wario ar y cynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol, a'r £36 miliwn sy'n cael ei wario ar gyflwyno'r 20 mya gael ei roi tuag at ein GIG, sydd ar ei liniau ar ôl 25 mlynedd o'ch Llywodraeth Lafur yng Nghymru?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu bod problemau wedi bod, yn amlwg, mewn perthynas ag oedi wrth drosglwyddo gofal, sef y peth sydd fel arfer yn arwain at dagfeydd mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Dyna pam rwy'n falch iawn mai un o'r pethau y bûm yn ei annog yn gryf yw gweithio'n agos iawn gyda swyddogion llywodraeth leol i sicrhau ein bod, drwy'r pwyllgor gweithredu gofal, wedi gallu darparu 647 o welyau cymunedol, neu gyfwerth, er enghraifft, y gaeaf diwethaf i atal yr angen i bobl gael eu derbyn i'r ysbyty a'u helpu i adael yr ysbyty yn gyflymach. Rydym wedi gweld gostyngiad o 23 y cant mewn oedi cyn cael asesiad; rydym wedi gweld cynnydd o 76 y cant yng nghapasiti aseswyr dibynadwy, sy'n golygu bod y broblem benodol honno wedi gwella. Rydym wedi gweld cynnydd yng nghapasiti gofal nyrsio cymunedol dros y penwythnos, sy'n amlwg yn helpu gyda'r llif ar benwythnosau, ac rydym wedi buddsoddi arian i gynyddu nifer y bobl y gellir diwallu eu hanghenion gofal cymhleth gartref.

Fe y dywedaf, mae'r rhestr aros ddwy flynedd wedi dod i lawr ers 21 mis yn olynol a chawn weld beth sy'n digwydd yn ddiweddarach yr wythnos hon, ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych—. Ac mae'n drueni na allwch ddathlu'r gwaith anhygoel sy'n cael ei wneud gan y mwy na 105,000 o bobl sy'n gweithio i'r GIG heddiw, mwy nag erioed o'r blaen. Mwy o feddygon, mwy o nyrsys, mwy o weithwyr proffesiynol perthynol i ofal iechyd, 2 filiwn o gysylltiadau bob mis mewn poblogaeth o 3.1 miliwn o bobl; rwy'n credu bod hynny'n rheswm i ddathlu.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Wel, mae rôl fferyllfeydd wrth ddarparu gofal iechyd wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Ond mae fferyllfeydd, fel pob rhan arall o’r sector, wedi gweld cynnydd sylweddol yn eu costau, gyda chwyddiant yn effeithio yn arbennig o wael arnynt hwythau. Mae'r gallu i gynyddu'r pres maen nhw'n ei gael i mewn yn anodd iawn. Yr unig beth y maen nhw'n gallu ei reoli mewn gwirionedd ydy cyflogau, ac os nad ydyn nhw'n gweld cynnydd yn y pres maen nhw'n ei gael yn dod i mewn, yna mae’n debyg y byddwn ni'n gweld oriau llai efo'r gweithlu a rhai fferyllfeydd yn cau. Ac rydyn ni'n barod wedi gweld 100 o fferyllfeydd yn cau dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae Fferylliaeth Gymunedol Cymru wedi cael gwahoddiad yn y gorffennol i drafod y setliad ariannol, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn enwedig, ond hyd yma, dydyn nhw ddim wedi derbyn gwahoddiad i fod yn rhan o drafodaethau y setliad yr haf yma. Felly, a gawn ni sicrwydd y prynhawn yma, fel un o’ch gweithredoedd olaf, o bosibl, fel Gweinidog, y byddwch chi'n sicrhau bod Fferylliaeth Gymunedol Cymru yn rhan o’r broses yna i benderfynu ar y setliad dros yr haf?

Diolch yn fawr. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych, ac nid wyf yn siŵr a allaf wasgu cyfarfod gyda nhw i mewn y prynhawn yma, yw ein bod wedi gwneud gwaith sylweddol gyda'r gwasanaeth fferylliaeth gymunedol. Rydym yn talu cryn dipyn yn fwy nag a wnânt yn Lloegr am eu gwaith, ac maent yn gwneud gwaith anhygoel. Yr hyn sydd gennym nawr yw tua 400,000 o apwyntiadau wedi'u rhyddhau o ganlyniad i bobl yn ymweld â'u fferyllfeydd, ac wrth gwrs, mae gennym bellach un o bob pedair fferyllfa hefyd yn gallu darparu gwasanaeth presgripsiynu. Gallant drin ystod o anhwylderau—tua 27 o anhwylderau yng Nghymru, o'i gymharu â thua saith yn Lloegr. Felly, mae'r pwysau'n cael ei dynnu oddi ar y meddygon teulu. Ond wrth gwrs, mae diwedd y flwyddyn ariannol ar y gorwel, ac yn amlwg bydd angen i ni siarad â nhw y flwyddyn nesaf, ond rydych chi'n gwybod pa mor gyfyngedig yw ein sefyllfa ariannol.

Diolch am yr ateb hynny. Gan, mae'n debyg, mai'r rhain fydd y set olaf o gwestiynau y bydd y Gweinidog yn eu derbyn yn ei rôl bresennol o leiaf, dwi am dalu teyrnged iddi am ei gwasanaeth dros y tair blynedd diwethaf. Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn ac yn un o'r mwyaf heriol yn hanes y gwasanaeth iechyd. Er ein bod ni wedi anghytuno ar wahanol faterion, does gen i ddim amheuaeth ynghylch didwylledd y Gweinidog, a'i diffuantrwydd, wrth drafod y materion yma gyda fi. Ac er ein bod yn gwahaniaethu yn wleidyddol, rwy'n gwbl grediniol ein bod ni'n dau'n unedig yn y gred y dylai'r NHS barhau yn wasanaeth am ddim i bobl Cymru.

Does gen i yn bersonol ddim diddordeb mewn bod yn bersonol—mi gaf i ddigon o gyfle i graffu record y Llywodraeth yn ystod yr wythnosau nesaf efo'r Gweinidog newydd, o bosib. Felly, wrth edrych yn ôl dros y tair blynedd diwethaf, ac yn ysbryd trafodaeth wleidyddol adeiladol, beth fyddai eich cyngor chi, Weinidog, i'ch olynydd, er mwyn sicrhau bod darpariaeth a chymeriad sylfaenol yr NHS yn cael eu gwarchod a'u hatgyfnerthu ar gyfer y dyfodol?

15:35

Diolch yn fawr, Mabon. A gaf i ddiolch i chi hefyd am y ffordd rŷn ni wedi gallu cydweithredu mewn ffordd eithaf constructive, dwi'n meddwl, a'r un peth i Russell George, sydd ddim yn ei le fe heddiw? Dwi yn meddwl bod y berthynas wedi bod yn un sy'n adeiladol.

Wn i ddim—mae pawb i'w weld yn credu bod fy nyddiau fel Gweinidog iechyd ar ben. Mae'n amlwg eich bod chi'n gwybod mwy na fi. [Chwerthin.] Os yw'n wir na fyddaf yn parhau yn y swydd hon, rwy'n credu fy mod wedi dysgu llawer o bethau ac wedi cael llawer o gyngor tra bûm yn y rôl. Mae'n swydd anodd tu hwnt. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cymryd diwrnod i ffwrdd bob wythnos—ac ni lwyddwch i gael mwy na diwrnod i ffwrdd yr wythnos, gallaf eich sicrhau. Rwy'n credu mai'r rhan fwyaf trawiadol o'r GIG yw ei weithlu. Maent yn cyflawni o ddydd i ddydd ar ran y cyhoedd yng Nghymru: mae 2 filiwn o gysylltiadau y mis mewn poblogaeth o 3.1 miliwn yn rhyfeddol.

Mae'r GIG yn gweithio orau mewn cyfnod o argyfwng, a gwnaed hynny'n glir yn ystod y pandemig, ond rwy'n credu bod angen i ni wneud mwy o waith mewn perthynas â gwella perfformiad, ansawdd, diogelwch a rhagoriaeth. Byddwn bob amser yn gorfod ymateb i sefyllfaoedd wrth iddynt godi yn y GIG, bydd yna bob amser broblemau uniongyrchol y mae'n rhaid i ni eu datrys, ond oni bai ein bod yn symud i'r agenda atal, bydd y GIG yn anghynaladwy ac ni fydd yno ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rwy'n credu bod angen i'r cyhoedd gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu hiechyd eu hunain. Nawr, mae honno'n sgwrs anodd iawn i'w chael, ac mae'n sgwrs sensitif iawn, ac yn amlwg, mae gan y wladwriaeth rôl i'w chwarae i'w gwneud hi'n haws i bobl wneud penderfyniadau iechyd da yn eu bywydau. Rwy'n credu bod canolbwyntio ar ychydig o feysydd allweddol sydd angen sylw gwirioneddol hefyd yn rhywbeth y teimlwn ei fod yn ddefnyddiol iawn: oedi wrth drosglwyddo gofal; deintyddiaeth; trawsnewidiad digidol; torri'r rhestrau aros hiraf. A fy argymhelliad olaf yw: beth bynnag a wnewch, peidiwch ag edrych ar y cyfryngau cymdeithasol. [Chwerthin.]

Cefnogi Practisau Meddyg Teulu

3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gefnogi practisau meddyg teulu yn Alun a Glannau Dyfrdwy? OQ60866

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £20 miliwn eleni i gefnogi ymarfer cyffredinol ledled Cymru—y lefel uchaf o fuddsoddiad ers blynyddoedd lawer. Rydym yn parhau i weithio'n rhagweithiol gyda'r proffesiwn meddygon teulu i sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau meddygon teulu yn y dyfodol.

Diolch, Weinidog. Yn ddiweddar, cyfarfûm â meddygfa leol i drafod darpariaeth gwasanaethau parhaus i drigolion Alun a Glannau Dyfrdwy. Dywedwyd wrthyf fod y practis, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, wedi wynebu galwadau afresymol a gormodol gan eu landlord. Mae gennyf bryderon gwirioneddol am yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar allu'r feddygfa i ddarparu ar gyfer cleifion. A gaf i ofyn, Weinidog, pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i ddiogelu gwasanaethau meddygon teulu rhag yr hyn y byddai llawer, gan fy nghynnwys i, yn ei ystyried yn orelwa bwriadol gan landlordiaid? Diolch.

Diolch yn fawr, Jack. Mae meddygon teulu yn gontractwyr annibynnol, a bydd gan lawer gytundebau rhent gyda landlordiaid preifat. Gall byrddau iechyd ad-dalu costau eu hadeiladau i bractisau, fel y nodir yng nghyfarwyddyd y GIG. Mae gwasanaethau ystadau arbenigol yn rhoi cyngor prisio i fyrddau iechyd, ac maent yn cynnal asesiadau rhent bob tair blynedd mewn perthynas â'r holl safleoedd gwasanaethau meddygol cyffredinol sy'n eiddo i berchen-feddianwyr a lesddaliadau, o dan ofynion cyfarwyddiadau 2015. Felly, nid wyf yn credu ei bod yn briodol i Lywodraeth Cymru ymwneud yn uniongyrchol â phenderfyniadau neu arferion unigol, ond yn amlwg, os nad ydynt wedi cael asesiad gan y gwasanaethau ystadau arbenigol, mae angen iddynt eu galw i mewn. 

15:40

Rwyf am godi'r un mater, mewn gwirionedd, oherwydd fe gyfarfûm innau hefyd â'r un meddyg teulu. Buom yn yr un cyfarfod yr wythnos diwethaf. Ac o'i gymharu â'r hyn roeddent yn ei dalu ychydig flynyddoedd yn ôl, y gwir amdani yw ei fod bellach wedi cynyddu bum gwaith, a'r rheswm am hynny yw ei fod yn gwmni preifat ac wedi cael ei adeiladu drwy'r fenter cyllid preifat wrth gwrs. Nawr, mae'r cwmnïau hyn yn gwneud arian ar gorn y GIG mewn gwirionedd, oherwydd nid yw'r arian hwnnw—cannoedd o filoedd o bunnoedd y flwyddyn—yn mynd i GIG Cymru, nid yw'n mynd i'r bwrdd iechyd lleol, mae'n mynd i bocedi cwmni preifat o dan yr hyn a oedd, wrth gwrs, yn fenter cyllid preifat Llafur Newydd. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i ni na fydd unrhyw adeiladau cyfalaf newydd yn destun unrhyw fath o sefyllfa debyg, lle caniateir i bob pwrpas i'r sector preifat eu blingo yn y dyfodol?

Wel, rydym yn cael ein herio'n fawr mewn perthynas â chyfalaf, o ran iechyd. Rwy'n gobeithio bod y Gweinidog cyllid yn gwrando. Ond o ran cyllido, yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod gennym arian wedi'i glustnodi'n benodol i ddatblygu hybiau mewn cymunedau. Ac nid yw'n swm dibwys o arian, ac rydym yn ceisio meithrin y berthynas nid yn unig gyda byrddau iechyd, ond eu rhoi gydag asedau cymunedol eraill, fel eu bod yn dod yn hybiau cymunedol lle mae'r GIG a'r meddygon teulu wedi'u lleoli. Felly, dyna'r model rydym yn edrych arno yn y dyfodol, ac mae'n dull sy'n eiddo i'r wladwriaeth yn gyfan gwbl. 

Plant sydd â Salwch Cronig ac Angheuol

4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi plant sydd â salwch cronig ac angheuol? OQ60858

Mae Llywodraeth Cymru yn cryfhau trefniadau arweinyddiaeth a chymorth cenedlaethol ar gyfer gofal GIG plant a phobl ifanc drwy sefydlu rhwydwaith clinigol cenedlaethol newydd a phenodi arweinydd clinigol cenedlaethol o fewn gweithrediaeth y GIG.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Yn ddiweddar, ymwelais â'r ganolfan parlys yr ymennydd yng Nghaerdydd gyda Julie Morgan, yn rhinwedd ei swydd fel Aelod y Senedd dros Ogledd Caerdydd, ac mae'r ganolfan yn cael ei rhedeg gan Parlys yr Ymennydd Cymru, sy'n darparu cymaint o gefnogaeth a chymorth i blant a theuluoedd. Fel y gwyddoch yn barod, mae hefyd yn Fis Ymwybyddiaeth Parlys yr Ymennydd, ac mae'n gyfle i bob un ohonom gofio ei fod yn effeithio ar oddeutu 1,800 o blant a 6,000 o oedolion ledled Cymru gyfan. Ond fel y mae, Weinidog, mae ganddynt eu prosiect Dechrau Gwell, Dyfodol Gwell, sy'n ymwneud ag ymyrraeth gynnar, ac er eu bod yn codi llawer o arian drwy roddion a gweithgareddau codi arian a manwerthu, mae hyn yn gynyddol anghynaladwy. Euthum i siop Tŷ Hafan ym Mhorthcawl yn ddiweddar—staff angerddol yn codi arian i ddarparu gofal lliniarol cyfannol i blant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd. Unwaith eto, mae mwy o blant angen y gwasanaethau hynny nawr ac angen eu cefnogaeth, ac mae cyllid yn dod yn bryder. Felly, o ystyried y ddau ymweliad, Weinidog, a wnewch chi egluro pa gyllid sy'n cael ei ddyrannu ar hyn o bryd ar gyfer plant â salwch cronig ac angheuol yng Nghymru? Ac a allwch ddweud mwy wrthym am yr hyn y bwriadwn ei wneud yn y dyfodol? Diolch. 

Wel, diolch yn fawr iawn. Rwyf innau hefyd wedi ymweld â'r ganolfan ardderchog honno, ac mae'r awyrgylch yno'n fendigedig. Roedd hi'n hyfryd cyfarfod â rhai o'r plant a'r rhieni sy'n cael cefnogaeth yno. Ac a gaf i dalu teyrnged arbennig i rai o'r gwirfoddolwyr sy'n gweithio yno? Mae'n lle gwych i fynd. Ond roeddent yn glir iawn gyda mi ar fy ymweliad, gryn dipyn o amser yn ôl bellach, eu bod yn wynebu sefyllfa ariannol heriol iawn, fel y mae pawb ohonom. Ac wrth gwrs, fel elusen, maent yn ddibynnol ar bobl yn rhoi eu harian, a phan fo'n argyfwng costau byw mae hynny'n anoddach iddynt. Felly, rydym yn deall y gefnogaeth anhygoel a faint o wahaniaeth y mae hyn yn ei wneud i deuluoedd.

Rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn parhau i gefnogi plant gyda'r cyflyrau gydol oes hyn, ond gan fynd y tu hwnt i hynny hefyd, a sicrhau, er enghraifft, fod plant â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn cael eu cefnogi. Mae gennym bethau fel rhaglen Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf. Mae'r holl bethau hyn yno i gefnogi plant ac yn amlwg, mae gennym y strategaeth tlodi plant newydd nawr, sy'n hanfodol hefyd. Mae'n bwysig inni gydnabod bod yna blant sy'n cael eu herio'n fawr gyda'r afiechydon anodd hyn mewn bywyd sy'n cyfyngu'n wirioneddol ar y ffordd y gallant ryngweithio â chymdeithas, ac mae'n rhaid inni fod yno ar eu cyfer. 

Weinidog, rwyf wedi rhoi llawdriniaeth i lawer o gleifion parlys yr ymennydd ac rwy'n ddiolchgar i Sarah am godi hyn. Er nad yw parlys yr ymennydd yn gyflwr angheuol, mae'n gyflwr cronig, gyda dros 6,000 o bobl yn byw gydag ef yng Nghymru. Mae Parlys yr Ymennydd Cymru yn cefnogi plant ledled Cymru gyda'u gwasanaeth ymyrraeth gynnar gritigol, Dechrau Gwell, Dyfodol Gwell, sy'n gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd i sefydlu cysylltiadau niwrolegol sydd ond yn bosibl yn ystod dwy flynedd gyntaf eu bywydau. Gall ymyrraeth gynnar arbenigol wneud gwahaniaeth i allu plentyn i ddysgu cerdded a siarad, er enghraifft. Yn anffodus, oherwydd costau cynyddol, mae eu gwasanaeth sydd wedi'i ganmol yn rhyngwladol mewn perygl. Maent yn galw ar Lywodraeth Cymru i helpu i ddiogelu eu gwasanaeth arbenigol am y tair blynedd nesaf, i roi amser iddynt ddatblygu mathau newydd o gyllid cynaliadwy ymhellach. Maent yn gofyn—

15:45

Iawn, fe wnaf ei ofyn. Maent yn gofyn am ddim ond 0.005 y cant o'r gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol flynyddol gyfredol. Weinidog, rydym yn sôn am swm cymharol bitw o gyllid, ond mae'r canlyniadau y mae'n eu darparu yn anfesuradwy. A wnewch chi gefnogi'r cais ariannu hwnnw?

Diolch yn fawr. Fe'i gwnaed yn glir iawn i mi ar fy ymweliad fod ymyrraeth gynnar yn allweddol iawn i allu ceisio gwneud rhywbeth am effeithiau mwyaf niweidiol parlys yr ymennydd. Felly, diolch am fy atgoffa o hynny. Rydych chi'n iawn; os gallwn ymyrryd, fe ddylem wneud hynny, os gallwn. Mae'n wasanaeth arbenigol. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod yn rhaid i ble mae'r arian yn mynd o fewn y bwrdd iechyd fod yn benderfyniad clinigol i'r bwrdd iechyd ei hun. Ni allaf ymyrryd fel y Gweinidog iechyd a phenderfynu, o fewn yr holl alwadau sydd arnynt a'u gofynion am ofal iechyd, lle mae hwnnw'n mynd yn benodol. Oherwydd efallai nad oes gennym arbenigwyr mewn meysydd eraill, neu fod gennym arbenigwyr mewn rhai meysydd. Mae'n rhaid inni feddwl beth sydd orau i'r cleifion, ond mae'n rhaid i mi ddilyn arweiniad y bwrdd iechyd ar hynny.

Anghenion Iechyd Pobl Anabl

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod anghenion iechyd pobl anabl yn cael eu cefnogi? OQ60852

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’r holl ddarparwyr iechyd i gyflawni ei rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’n craffu ar gynlluniau cydraddoldeb strategol ac adroddiadau cydraddoldeb blynyddol sefydliadau’r NHS er mwyn mesur perfformiad a sicrhau bod anghenion iechyd pobl anabl yn cael eu diwallu’n gyson.

Diolch, Weinidog. Clywsom dystiolaeth hynod bwerus yn ystod sesiynau ymchwiliad COVID y DU yng Nghaerdydd gan sefydliadau pobl anabl ynghylch y marwolaethau torfol a'r dioddefaint gwirioneddol a brofwyd gan bobl anabl yng Nghymru yn ystod y pandemig. Fe wnaethant ddweud wrth yr ymchwiliad, er bod Llywodraeth Cymru'n ymwybodol o'r risgiau, ei bod wedi methu cynllunio'n iawn ar gyfer yr argyfwng, gan arwain at

'fethiant gwasanaethau iechyd, gofal a byw'n annibynnol, ac atal hawliau pobl anabl'.

Fe wnaethant dynnu sylw at lythyr a anfonwyd gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Tachwedd 2020, lle cyfaddefodd y Gweinidog eu bod wedi

'pasio Deddf sy'n neilltuo hawliau mwyaf sylfaenol pobl anabl fel pethau y gellir eu diffodd pan fo'n fwy cyfleus i wneud hynny.'

Hefyd, wrth gwrs, amlygodd yr ystadegau yn yr adroddiad 'Drws ar Glo' fod 68 y cant o'r rhai a fu farw yng Nghymru o COVID-19 yn bobl anabl. Mewn ymateb i adroddiad 'Drws ar Glo', mae'r Llywodraeth wedi sefydlu tasglu hawliau anabledd gyda'r nod o lunio cynllun gweithredu hawliau anabledd, ond mae'r cynllun yn dal i fod heb ei gyhoeddi. Felly, Weinidog, pryd y gall pobl anabl ddisgwyl gweld gweithredu trawslywodraethol go iawn, newid go iawn, a fyddai'n golygu na fyddent yn wynebu'r un anghydraddoldebau iechyd ag gwnaethant eu dioddef yn ystod y pandemig eto? Pa sicrwydd y gallwch ei roi iddynt y bydd eu hiechyd yn cael ei ddiogelu'n well wrth i chi gynllunio ar gyfer pandemigau yn y dyfodol?

Diolch yn fawr. Roeddwn yn drist iawn o glywed y dystiolaeth a roddwyd. Un o'r pethau cyntaf i mi ei wneud pan ddeuthum yn  Weinidog iechyd oedd darllen yr adroddiad 'Drws ar Glo', ac roedd yn ddeunydd darllen sobreiddiol iawn. Mae'n rhaid i mi eich sicrhau bod y Llywodraeth Lafur o ddifrif ynghylch hawliau pobl anabl, a hoffwn ganmol y gwaith anhygoel y mae fy nghyd-Aelod Jane Hutt wedi'i wneud yn y maes. Mae'r fforwm cydraddoldeb anabledd yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn i drafod materion allweddol y mae'r aelodau'n eu nodi. Rwy'n credu bod y cyfarfod diweddaraf wedi'i gynnal ar 7 Mawrth, ac roedd hwnnw'n canolbwyntio ar faterion costau byw.

Un o'r pethau sydd wedi newid ers y pandemig yw bod gennym safonau ansawdd iechyd a gofal erbyn hyn. Fe'u cyflwynwyd ar 1 Ebrill, ac fel rhan o'r ddyletswydd ansawdd, ceir gofyniad am wasanaethau teg. Mae'n rhywbeth y gwn ein bod o ddifrif yn ei gylch. Gwn fod gan y tri ohonom fel Gweinidogion y datganiad ansawdd hwnnw ar ein wal, i'n tywys ni, oherwydd pan fyddwn yn gwneud unrhyw benderfyniadau, mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldeb fel Gweinidogion i ofynion y ddyletswydd ansawdd honno. Mae'r tasglu hawliau anabledd yn gweithio i benderfynu ar gamau ychwanegol sydd eu hangen i gefnogi hawliau pobl anabl yn y ffordd orau, ac rwy'n gwybod—mae fy nghyd-Aelod wedi fy sicrhau—fod y gwaith ar y cynllun gweithredu hawliau anabledd eisoes ar y gweill.

15:50

A gaf i ddiolch i Sioned Williams am gyflwyno'r cwestiwn hwn ar anghenion iechyd pobl anabl a sut y cânt eu cefnogi yng Nghymru? Daeth unigolyn anabl i un o fy nghymorthfeydd cymunedol yn ddiweddar, ac mae eu hanabledd yn golygu eu bod mewn cadair olwyn ac yn gorfod ymweld ag ysbyty'n rheolaidd. Yn amlwg, pan fydd pobl yn dioddef gydag anabledd, maent yn dioddef gyda mwy na'r anhwylder penodol hwnnw yn unig; maent hefyd yn dioddef problemau eraill yn aml. Clywais fod yr unigolyn dan sylw wedi taro ar angen iechyd meddwl yn y GIG, ac roeddent yn dweud eu bod wedi ei chael hi'n anodd ac yn rhwystredig iawn i gael eu trin o ddifrif fel person anabl, oherwydd yr anallu weithiau i weithwyr proffesiynol allu gwahanu'r angen anabledd oddi wrth eu hangen iechyd meddwl. Felly, tybed pa waith rydych chi a'r Dirprwy Weinidog yn ei wneud i sicrhau bod anghenion iechyd meddwl pobl anabl hefyd yn cael eu hystyried.

Yn amlwg, mae trafodaeth yn mynd rhagddi ar hyn o bryd ar ddatblygu'r rhaglen iechyd meddwl newydd, ac yn sicr fe ymdrinnir â'r mathau o ystyriaethau yr ydych chi'n sôn amdanynt mewn ymateb i hynny. Felly, nid yw'n rhywbeth yr ydym wedi'i anghofio. Mae'n rhywbeth sy'n cael sylw canolog wrth adnewyddu ein cynllun strategol mewn perthynas ag iechyd meddwl.

Ysbyty Athrofaol y Faenor

6. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi i'r corff anghywir gael ei ryddhau i deulu mewn profedigaeth o gorffdy ysbyty yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, Cwmbrân? OQ60885

Mae’r rhain yn achosion rili gofidus, ac rŷn ni’n cydymdeimlo’n fawr â’r teuluoedd sydd dan sylw. Mae’r bwrdd iechyd eisoes wedi cymryd camau i ddelio â’r mater hwn a cheisio atal digwyddiadau yn y dyfodol. Rŷn ni’n dal mewn cysylltiad agos gyda'r bwrdd ynglŷn â'i ymchwiliad a’i gamau gweithredu.

Diolch am hwnna, Weinidog. Rwy'n gwerthfawrogi'r hyn dŷch chi wedi ei ddweud.

Fel y dywedoch chi, roedd hwn yn ddigwyddiad gofidus iawn. Rwy'n falch eich bod wedi sôn am y gefnogaeth sy'n parhau i'r teuluoedd, oherwydd ni allaf ond dychmygu'r gofid a'r trawma y mae'n rhaid bod hyn wedi'i achosi iddynt. A allech chi roi unrhyw fanylion pellach, os gwelwch yn dda, ar unrhyw gamau rydych chi wedi'u cymryd i gefnogi'r bwrdd iechyd gyda'u hymchwiliad, nid yn unig ynghylch yr hyn a ddigwyddodd ond pa wersi y gellid eu dysgu fel na fydd hyn yn digwydd yn y dyfodol i unrhyw deuluoedd eraill?

Mae llawer o bobl rwy'n eu hadnabod yn teimlo bod angen adrodd yn gyhoeddus ar yr hyn a aeth o'i le, nid i bwyntio bys, oherwydd ni allaf ddychmygu y gallent fod wedi gwneud rhywbeth fel hyn yn fwriadol, ond er mwyn canfod a allai digwyddiadau eraill fod wedi digwydd. Oherwydd os bydd dau ddigwyddiad yn digwydd, beth sydd i ddweud efallai nad yw wedi digwydd fwy na hynny? A ydych chi fel Llywodraeth yn credu y dylid cynnal ymchwiliad cyhoeddus i'r digwyddiadau hyn? Beth fyddai'r ffordd fwyaf priodol o geisio sicrhau bod y rhain yn ddau ddigwyddiad ar eu pen eu hunain ac nad ydynt yn rhan o batrwm mwy anffodus na ellir ei ailadrodd eto ar unrhyw gyfrif?

Mae'n ddrwg iawn gennyf am y gofid ofnadwy sydd wedi ei achosi i'r teuluoedd hyn. Rwy'n credu ei bod hi'n werth tanlinellu bod y rhain yn gamgymeriadau anfynych iawn, ac yn amlwg, rydym wedi rhoi'r bwrdd iechyd o dan lawer o bwysau i sicrhau eu bod yn ymateb yn y ffordd briodol. Mae hyn yn ychwanegol at yr achos a gofnodwyd ym mis Tachwedd. Digwyddodd ychydig cyn yr achos cyntaf a gofnodwyd, ond credir ei fod wedi digwydd yn yr un modd. Mae'r bwrdd iechyd eisoes wedi cymryd camau i fynd i'r afael â hyn i sicrhau na fyddwn yn gweld hyn yn digwydd eto, ac maent eisoes wedi cynnal archwiliad i gadarnhau pwy yw'r holl gyrff a gedwir ganddo. Rwy'n gwybod bod y bwrdd iechyd mewn cysylltiad â'r teuluoedd dan sylw, ac rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â'r bwrdd iechyd ynghylch ei ymchwiliadau a'i weithredoedd.

15:55

Hoffwn ddiolch i Delyth am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn. Weinidog, fel y dywedais ddoe, mae hyn yn rhywbeth y ceisiais ei ddwyn i'ch sylw dro ar ôl tro, ac yn anghredadwy—ac mae'n rhaid i mi ailadrodd y geiriau—nid dyma'r tro cyntaf i ddigwyddiad gwirioneddol ofidus fel hwn ddigwydd yn y Faenor. Mae fy nghydymdeimlad diffuant iawn gyda'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan hyn. Weinidog, pan ddaeth y digwyddiad cyntaf i'r amlwg ychydig cyn y Nadolig, dywedodd y bwrdd iechyd wrthym eu bod

'yn hyderus mai camgymeriad dynol mewn achos unigol yw hyn'.

Weinidog, yn anffodus, mae'n amlwg nad yw'n achos unigol. Rwyf wedi dwyn hyn i sylw'r bwrdd iechyd yn uniongyrchol a phrif weithredwr y bwrdd iechyd, ond mae'n hanfodol ein bod yn gweld Llywodraeth Cymru yn gweithredu ac mae'n rhaid i ni ei weld nawr. Sut y gallwn ni ddisgwyl i drigolion gael ffydd a hyder yn ein byrddau iechyd pan fo digwyddiadau gofidus fel hyn yn digwydd nid unwaith ond ddwywaith? Weinidog, mae angen ymchwiliad annibynnol arnom i fynd at wraidd y digwyddiadau dinistriol hyn. I'r perwyl hwnnw, Weinidog, a wnewch chi lansio ymchwiliad i'r mater os gwelwch yn dda?

Wel, yn amlwg, mae'r bwrdd iechyd yn cynnal ei archwiliad ei hun a'i ymchwiliad ei hun. Rwy'n gwybod bod y bwrdd iechyd wedi bod mewn cysylltiad â'r Awdurdod Meinweoedd Dynol ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ynghylch y digwyddiadau hyn, ac mae fy swyddogion a gweithrediaeth y GIG yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â'r bwrdd iechyd.

Gofal Deintyddol y GIG

7. Sut mae Llywodraeth Cymru wedi gwella mynediad at ofal deintyddol y GIG i oedolion a phlant? OQ60870

Ers mis Ebrill 2022, cynigiwyd cyfle i bractisau weithio o dan amrywiad i'w contract uned o weithgarwch deintyddol sy'n eu galluogi i ganolbwyntio ar atal a risg a thriniaeth sy'n seiliedig ar angen. Mae'r capasiti a ryddhawyd gan y newid hwn wedi caniatáu i 184,592 o gleifion newydd sy'n oedolion a 116,894 o gleifion newydd sy'n blant gael mynediad at ofal deintyddol y GIG .

Diolch yn fawr iawn am yr ymateb.

Hoffwn ddiolch i chi am eich gwaith ar ddeintyddiaeth. Yn wahanol i'r Ceidwadwyr, rwy'n teimlo eich bod yn sicr wedi cefnogi'r galwadau am olwg ehangach ar ddeintyddiaeth; er enghraifft, rydych chi wedi helpu gydag ariannu deintydd yn Llandrindod. Weithiau ystyrir Canolbarth a Gorllewin Cymru yn anialwch deintyddol, ond mae'r deintydd dan sylw yn sicr wedi helpu, ac mae mwy i'w wneud, yn amlwg.

Rwy'n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i ddiwygiadau sydd â'r nod o wella hygyrchedd, ond mae'n parhau i fod yn araf iawn. Yn fy sir fy hun ym Mhowys, mae data Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn dangos, er gwaethaf gostyngiad graddol, fod 4,361 o oedolion yn dal i aros am ddeintydd GIG, a 274 o blant. Mae un peth da i'w adrodd am Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, sef bod ganddo linell gymorth ddeintyddol, sy'n gadarnhaol iawn. A allwch amlinellu'r syniadau sydd gennych am linell gymorth ddeintyddol genedlaethol er mwyn helpu pobl sy'n aros am ddeintydd GIG i gysylltu â lleoedd gwag posibl? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn, Jane, a diolch am fy nghadw ar flaenau fy nhraed ar y mater hwn. Gallaf bob amser fod yn sicr fod hwn yn fater y byddwch yn gofyn cwestiynau yn ei gylch. Mae'n gwneud gwahaniaeth, a hoffwn ddiolch i chi am hynny. Nid wyf yn credu bod 300,000 o apwyntiadau deintyddol newydd yn y GIG yn ansylweddol, ond fel y dywedwch, mae bwlch mynediad i'r rhai sydd eisiau deintyddiaeth y GIG. Nid yw'n hawdd pan fo cymaint o ddeintyddion y GIG wedi symud i'r sector preifat, ac mae honno'n her i ni. Dyna pam fy mod wedi gofyn i'r tîm deintyddol lunio cynllun 10 mlynedd ar gyfer sut olwg sydd ar hyn nawr, sut olwg a fydd arno yn y dyfodol. Rhan o'r her, wrth gwrs, yw sut rydym yn ariannu hynny, a dyna un o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu nawr.

Rwy'n gwybod bod pryderon wedi bod yn y gorffennol yn enwedig ynglŷn â chael deintyddion yn yr ardal rydych chi a minnau'n ei chynrychioli. Rydych chi'n llygad eich lle am Bowys; roedd yn eithaf da gallu cefnogi'r deintydd newydd yno. Rwy'n falch iawn o weld bod Prifysgol Aberystwyth yn datblygu cynnig i hyfforddi pobl mewn deintyddiaeth yn y rhan honno o'r byd, lle mae yna her go iawn. Ac roedd hynny'n rhywbeth a drafodais gyda chadeirydd newydd Hywel Dda y bore yma, er efallai fod rhannau eraill o'r wlad â diddordeb yn hynny hefyd.

Y mater arall y bûm ar ei drywydd yn ddiweddar yw fy mod yn bryderus iawn am y niferoedd isel o fyfyrwyr sy'n hanu o Gymru sy'n cofrestru yn yr unig ysgol ddeintyddol yng Nghymru, ym Mhrifysgol Caerdydd—niferoedd isel iawn. Cefais gyfarfod gyda nhw yr wythnos diwethaf i geisio eu cael i'r un lle ag y mae'r ysgol feddygol yng Nghaerdydd wedi cyrraedd. Nid yw'n digwydd heb ymdrech, ond maent wedi rhoi rhywfaint o sicrwydd i ni ar hynny, felly rwy'n gobeithio y byddant yn glynu wrth yr ymrwymiad a wnaethant i mi yr wythnos diwethaf, sef i weld cynnydd yn y tair blynedd nesaf fel y bydd y niferoedd yn cyrraedd tua 40 y cant o'r cymeriant, a fyddai'n gynnydd enfawr. Oherwydd rydym angen myfyrwyr sy'n hanu o Gymru; maent yn fwy tebygol o gadw eu lle yng Nghymru ac o allu gwasanaethu ein cyhoedd.

16:00
Hyfforddiant Arbenigedd Meddygol

8. Sut mae'r Gweinidog yn mynd i'r afael â'r gystadleuaeth gynyddol am hyfforddiant arbenigedd meddygol yng Nghymru, o ystyried y nifer gyfyngedig o swyddi hyfforddi a'r nifer gynyddol o feddygon sy'n graddio? OQ60862

Er gwaethaf y sefyllfa ariannol anodd, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi a bydd yn parhau i fuddsoddi yn y gweithlu sydd ei angen i gefnogi ein system iechyd yng Nghymru, a buddsoddwyd £281.98 miliwn yn 2023-24, a oedd yn cynnwys £7.14 miliwn yn ychwanegol ar gyfer lleoedd hyfforddiant meddygol. Rydym yn mynd i gynnal y lefel hon ar gyfer 2024-25.

Diolch. Felly, mae’r prinder swyddi arbenigol ar gyfer ein meddygon yn peri inni golli gweithwyr proffesiynol gwerthfawr ac ymroddedig i fyrddau iechyd eraill ledled y DU, ac yn waeth byth, i leoedd tramor, fel America ac Awstralia. Mae mwy o feddygon yn graddio yng Nghymru. Yn 2003, roedd 184 o feddygon graddedig yng Nghymru, gan godi i 382 yn 2013, a 410 yn 2023. Fodd bynnag, ymddengys mai nifer cyfyngedig iawn o leoedd sydd ar gael i hyfforddi yn yr arbenigeddau mwyaf hanfodol, megis anestheteg, cardioleg, llawfeddygaeth graidd a llawfeddygaeth gyffredinol, meddygaeth frys, ymarfer cyffredinol a phediatreg. Bydd bron i bob un o’r dros 400 o feddygon sy’n graddio bellach yn ceisio am swyddi yn yr arbenigeddau craidd hyn, sydd gyda'i gilydd ond yn cynnig 264 o leoedd. Yn wir, o’r rheini, dim ond un swydd na chafodd ei llenwi y llynedd. Felly, o ystyried hyn, ynghyd ag atyniad cynyddol Cymru ymhlith meddygon a’r prinder arbenigeddau craidd, beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i gydweithio â rhanddeiliaid allanol, fel Cymdeithas yr Anesthetyddion, i gynyddu ein capasiti hyfforddiant arbenigol?

Diolch yn fawr iawn. Wel, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y lleoedd hyfforddiant meddygol yng Nghymru, gan gynnwys swyddi hyfforddiant arbenigol. Rydym wedi darparu cyllid ar gyfer 55 o fyfyrwyr meddygol ychwanegol y flwyddyn, yn ogystal â chreu'r lleoedd ychwanegol a ddarperir gan raglen gogledd Cymru. Fel y dywedais yn gynharach, mae ysgol feddygol newydd gogledd Cymru yn mynd i ddechrau eu derbyniad uniongyrchol yn yr hydref, ac rydym yn mynd i weld 140 o fyfyrwyr erbyn 2029. Mae hynny’n cael ei ddarparu ochr yn ochr â chynnydd mewn lleoedd hyfforddiant arbenigol. Felly, rydym wedi gweld cynnydd o 3.4 y cant yn 2023-24, ac mewn lleoedd hyfforddiant sylfaen, cynnydd o 15 y cant yn 2023-24, i sicrhau aliniad ar draws y llwybrau hyfforddiant meddygol. Felly, gallaf roi sicrwydd i chi ein bod yn alinio'r cyfan.

Nyrsys Canser y Fron Metastatig

9. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch nifer y nyrsys canser y fron metastatig yng Ngogledd Cymru? OQ60880

Diolch yn fawr, Carolyn. A chyn imi ateb eich cwestiwn, hoffwn dalu teyrnged unwaith eto i'r ymgyrchydd anhygoel Tassia Haines, a fu farw yr wythnos diwethaf. Gwn i'r Dirprwy Lywydd roi teyrnged gynnes iawn iddi yr wythnos diwethaf. Roedd yn ymgyrchydd heb ei hail—ei gallu i berswadio, ei hegni, ei phenderfynoldeb i wneud gwahaniaeth pan oedd yn ymwybodol o'r bywyd anodd a oedd yn ei hwynebu, ond roedd yn gwbl benderfynol o wneud gwahaniaeth i fenywod eraill a oedd yn dioddef fel hithau. Ac mae'n gadael gwaddol gwirioneddol anhygoel ar ei hôl, a hoffwn dalu teyrnged iddi ac anfon fy nymuniadau cynhesaf at ei theulu.

Rwy’n deall y materion sy’n gysylltiedig â chanser metastatig y fron yn glir iawn; rwyf wedi siarad am fy mhrofiad teuluol personol fy hun gyda chanser metastatig y fron. Trafodais y mater gyda chadeirydd y bwrdd iechyd yn ystod ei adolygiad diwethaf. Gwn ei fod wedi bod yn un o brif flaenoriaethau'r GIG o ran cynllunio ac rydym yn buddsoddi miliynau o bunnoedd mewn gwasanaethau canser. Mewn perthynas â’r sefyllfa ym mwrdd Betsi, rwy'n gwybod bod y bwrdd yn edrych—.Rwy'n credu bod ganddynt dri swyddog nyrsio canser metastatig ar un adeg; rwy'n deall bod un ohonynt wedi gadael ac maent wrthi'n cynnal adolygiad o’r sefyllfa mewn perthynas â hynny.

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

16:05

Diolch am eich ateb, Weinidog. A hoffwn innau adleisio fy nghydymdeimlad â theulu Tassia Haines ar yr adeg drist hon.

Mae grŵp o gleifion sy'n cael eu trin yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cysylltu â mi. Fel y dywedoch chi, maent yn pryderu ynglŷn â darpariaeth nyrsys yn yr ysbyty, ac mae’r bwrdd iechyd wedi nodi bod swydd nyrs canser metastatig y fron wedi bod yn wag ers yr haf a bod y rôl yn cael ei hadolygu nawr oherwydd cyfyngiadau ariannol. Felly, sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda byrddau iechyd i sicrhau tegwch o ran darparu gwasanaethau megis nyrsys canser arbenigol o fewn byrddau iechyd ledled Cymru?

Diolch yn fawr iawn, Carolyn, a diolch am bopeth a wnewch ar ran eich etholwyr yn y gogledd. Fel y dywedwch, ar hyn o bryd, mae gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr dair swydd nyrs arbenigol sy’n cefnogi cleifion â chanser metastatig y fron neu ganser y colon a’r rhefr. Mae un o'r tair swydd yn wag ar hyn o bryd. Ac er bod y bwrdd iechyd yn rhoi ystyriaeth ofalus i'w dyfodol, nid oes penderfyniad wedi'i wneud eto.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 4, sef datganiadau 90 eiliad. Jayne Bryant.

Ddoe, cynhaliodd Sefydliad y Merched Maerun a’r Rhanbarth yn fy etholaeth barti pen-blwydd i ddathlu eu canmlwyddiant, carreg filltir aruthrol. Roedd bywyd i fenywod yng Nghymru yn wahanol iawn pan sefydlwyd y grŵp hwn ym 1924. Mae Sefydliad y Merched wedi esblygu wrth i’n gwlad newid yn gymdeithasol, yn wleidyddol ac yn economaidd dros y degawdau. Mae llawer o fenywod lleol wedi elwa o'r cyfeillgarwch, y gefnogaeth a'r cyfleoedd dysgu amrywiol a gynigir drwy Sefydliad y Merched. Dros y 100 mlynedd diwethaf, mae Sefydliad y Merched Maerun wedi gwneud cyfraniad mor gadarnhaol i’r gymuned leol a’r gymdeithas ehangach, ac roedd yn briodol fod yr arian a godwyd yn ystod y raffl neithiwr wedi’i roi i City Hospice. Mae’r awydd hwn i gefnogi pobl leol bob amser yn amlwg pryd bynnag y byddaf yn ymweld â Maerun a grwpiau Sefydliad y Merched eraill ar draws Casnewydd.

Edrychaf ymlaen yn fawr at groesawu aelodau Sefydliad y Merched Maerun i’r Senedd fis nesaf fel rhan o’u dathliadau, a hoffwn gofnodi fy llongyfarchiadau heddiw i'r ysgrifennydd presennol, Kate Tunnicliffe, a phawb arall sydd wedi rhoi eu hamser i'r gangen hon o Sefydliad y Merched ers 1924. Mae eu hymrwymiad wedi sicrhau bod edefyn pwysig ym mywyd y gymuned leol wedi parhau.

Fel y clywsom yn gynharach, y mis hwn yw Mis Ymwybyddiaeth Parlys yr Ymennydd y DU, pan fydd sefydliadau ledled y DU yn dod ynghyd i godi ymwybyddiaeth o barlys yr ymennydd, yr anabledd mwyaf cyffredin ymhlith plant ledled y byd, fel y clywsom, gyda dros 6,000 o bobl yn byw gyda pharlys yr ymennydd yng Nghymru a baban a fydd yn dioddef o barlys yr ymennydd yn cael ei eni bob pum niwrnod yng Nghymru.

Mae'r cyflwr hwn yn effeithio ar ystum a symudiad y corff o ganlyniad i niwed i'r ymennydd. Gall hefyd effeithio ar deimlad, canfyddiad, gwybyddiaeth, cyfathrebu a bwyta ac yfed. Mae’n gwneud gweithgareddau y mae’r rhan fwyaf ohonom yn eu cymryd yn ganiataol fel cerdded, siarad, gwisgo a sgiliau echddygol manwl yn anodd iawn. Heddiw, fel rhai o'm cyd-Aelodau, cefais y pleser o fynychu digwyddiad amser cinio Parlys yr Ymennydd Cymru. Maent yn ganolfan ragoriaeth genedlaethol sy'n darparu therapi i blant â pharlys yr ymennydd yng Nghymru. Mae eu tîm arbenigol o therapyddion yn gweithio gyda’i gilydd i gynnig sgiliau trawsddisgyblaethol fel bod pob plentyn yn elwa o’u harbenigedd cyfunol, yn ogystal â chynnig gwasanaeth cymorth i deuluoedd. Yn y digwyddiad, clywsom gan rai o’r teuluoedd y maent yn eu helpu a sut mae Parlys yr Ymennydd Cymru wedi cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau.

Ar hyn o bryd, nid yw'r elusen yn derbyn unrhyw arian gan Lywodraeth Cymru na’r GIG i ariannu eu rhaglen ymyrraeth gynnar ar gyfer babanod, sydd ar hyn o bryd yn cael ei hariannu 100 y cant drwy weithgareddau codi arian a manwerthu. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gynaliadwy yn wyneb y galw am wasanaethau a chostau cynyddol. Fel y dywedant, ac rwyf am gloi gyda’r datganiad hwn ganddynt: 'Rydym yn teimlo ei bod ond yn deg fod Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at wasanaeth hanfodol, yn uniongyrchol neu drwy ei chyllid i GIG Cymru, y byddai GIG Cymru ac adrannau gwasanaethau cymdeithasol yn mynd i gostau sylweddol uwch ac y byddai mwy o anghydraddoldeb iechyd i bobl anabl yng Nghymru hebddo.'

16:10

Mae gardd goffa lofaol Senghennydd, sy’n coffau’r glowyr a fu farw yn nhrychineb erchyll 1913, wedi’i chydnabod yn ffurfiol fel Cofeb Genedlaethol Trychinebau Glofaol Cymru. Mae’r ardd goffa a agorwyd yn 2013 ar safle glofa’r Universal bellach yn gofeb nid yn unig i’r 439 o lowyr a'r un achubwr a fu farw ar y diwrnod ofnadwy hwnnw, ond i’r holl fywydau dirifedi a gollwyd mewn trychinebau glofaol ledled Cymru.

Hoffwn dalu teyrnged i Grŵp Treftadaeth Cwm Aber am eu hymrwymiad i’r ardd goffa a’r holl waith caled gan wirfoddolwyr i’w chynnal. A Lywydd dros dro, gwn fod ymgyrch ar y gweill i sicrhau arddangosfa barhaol mewn amgueddfa leol ar gyfer carn merlen y pwll, Kildare, a dorrwyd i ffwrdd yn dilyn ffrwydrad Senghennydd. Pe bai’n dod yn ôl i’r dyffryn, wrth gwrs, byddai’n symbol ingol i'n hatgoffa bod bywyd dyn a bachgen yn werth llai na bywyd ceffyl. Mae gobaith lleol y bydd awdurdodau cyhoeddus yn edrych yn ffafriol ar y cais hwn, ond heddiw, gadewch i ni fel Senedd longyfarch pawb sydd wedi gweithio i sicrhau'r gydnabyddiaeth hon i ardd goffa Senghennydd, er anrhydedd i’r miloedd o lowyr a fu farw mewn trychinebau glofaol ledled ein cenedl, a chyda phenderfynoldeb angerddol i gadw cof a diwylliant y cymunedau hyn yn rhywbeth y gall pob un ohonom ei drysori. Diolch.

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Casgliadau cenedlaethol

Symudwn ni ymlaen nawr i eitem 5, sef dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar gasgliadau cenedlaethol, a dwi'n galw ar Heledd Fychan i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8505 Heledd Fychan, Delyth Jewell, Jane Dodds, Tom Giffard, Mabon ap Gwynfor, Sioned Williams

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod: 

a) casgliadau cenedlaethol Cymru, sydd o dan ofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru, yn berchen i bawb yng Nghymru;

b) angen diogelu'r casgliadau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, tra hefyd yn parhau i gael eu defnyddio i ysbrydoli ac ysgogi pobl o bob oed; ac

c) mynediad am ddim i’n hamgueddfeydd cenedlaethol wedi bod yn llwyddiant diamheuol ers cyflwyno’r polisi yn 2001, a bod y polisi hwn yn un y dylid ei warchod.

2. Yn nodi:

a) rhybuddion gan y sefydliadau bod toriadau cyllidol refeniw a chyfalaf yn peryglu’r casgliadau cenedlaethol, oherwydd gofodau a storfeydd anaddas a hefyd lleihad yn nifer y staff arbenigol sydd bellach wedi eu cyflogi i ofalu amdanynt;

b) y pryderon y bydd toriadau pellach yn gwaethygu’r sefyllfa; ac

c) cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ar gyfer ein casgliadau cenedlaethol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) comisiynu panel o arbenigwyr i sefydlu beth yw’r perygl i’r casgliadau, a gweithio gyda’r sefydliadau a Llywodraeth Cymru i roi ar waith gynllun i’w diogelu;

b) gweithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru, a’r undebau sy’n cynrychioli’r staff yn y sefydliadau hyn, i sicrhau eu hyfywedd i’r dyfodol; ac

c) gweithio gydag Amgueddfa Cymru i barhau gyda’r polisi mynediad am ddim i’n hamgueddfeydd cenedlaethol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro, a diolch hefyd i Sioned Williams, Mabon ap Gwynfor, Delyth Jewell, Jane Dodds a Tom Giffard am gydgyflwyno'r cynnig sydd ger ein bron heddiw.

Mi ddylwn i fod yn glir fod nifer o'r sylwadau byddaf yn eu gwneud yn ystod y ddadl yn berthnasol i'r sector celfyddydol a diwylliannol yn ei gyfanrwydd, a mawr obeithiaf y bydd cyfle am ddadl arall yn y dyfodol i dynnu sylw at effaith y toriadau ar nifer o feysydd pwysig eraill diwylliannol.

Mae dadl heddiw ynglŷn â rhywbeth sydd yn berchen i ni gyd, sef casgliadau cenedlaethol Cymru. Ac i fod yn glir, nid ni fel Senedd yw'r perchnogion, ond yn hytrach pawb sy'n byw yma yng Nghymru, pawb sydd wedi byw yma yng Nghymru, ynghyd â phawb fydd yn byw yma, sydd heb eto gael eu geni.

Mae yna filiynau o wrthrychau yn ffurfio'r casgliadau cenedlaethol, gyda phob un yn rhan o'n stori ni fel cenedl, yn cyfleu y llon a'r lleddf; penodau balch yn ein hanes a rhai sy'n destun cywilydd; rhai sy'n meithrin balchder ac yn ganolog i'n hunaniaeth, ac eraill sy'n ein hysgogi i wneud pethau'n wahanol yn ein presennol. Mae yna rywbeth at ddant pawb hefyd, o gelf i gerddoriaeth, o wyddoniaeth i blacardiau gwleidyddol Black Lives Matter, heb sôn am ddeinosoriaid, barddoniaeth, ffilmiau, dyddiaduron, adeiladau—mae'r ystod yn anhygoel.

Ac mi ydyn ni hefyd yn lwcus o ran y gweithlu sy'n gweithio gyda'r casgliadau hyn yn Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r comisiwn brenhinol, heb sôn am o fewn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd eraill ledled y wlad. Nid yn unig maen nhw'n diogelu'r casgliadau, ond maen nhw hefyd yn dod â nhw'n fyw i bobl o bob oed, drwy waith ymgysylltu sydd yn cael ei weld fel arfer gorau ar lwyfan y byd. Maen nhw hefyd yn gwneud gwaith ymchwil pwysig dros ben, gan ddefnyddio'r casgliadau hanes natur i ddeall y newidiadau yn yr hinsawdd, a hyd yn oed ddarganfod rhywogaethau newydd.

Ond er gwaethaf y gydnabyddiaeth ryngwladol y mae ein sefydliadau diwylliannol cenedlaethol wedi’i chael am eu gwaith ledled y byd, wrth ddefnyddio’r casgliadau cenedlaethol i ysbrydoli cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol, ac i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, yn anffodus, nid yw'n ymddangos bod ein Llywodraeth ein hunain yn deall. A'r cwestiwn y mae pawb yn y sector yn ei ofyn yw, 'Pam?'

Ystyriwch, er enghraifft, Andrew Green, cyn brif lyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a ysgrifennodd erthygl wych ar ei flog ym mis Ionawr eleni o dan y teitl 'Why is the Welsh Government at war with culture?' Amlinellodd yn graff iawn nid yn unig yr heriau ariannu diweddar, ond hefyd y rhai hanesyddol dros ddegawd a mwy a sut rydym wedi cyrraedd yr argyfwng hwn. Roedd ei eiriau'n blwmp ac yn blaen, a daeth i'r casgliad hwn:

'Dylai unrhyw un sy’n gweithio yn y sector diwylliannol yng Nghymru, y mae’r celfyddydau yn cyfoethogi eu bywydau, neu sy’n poeni am eu buddion cymdeithasol, economaidd ac iechyd, fod yn bryderus iawn ynghylch llywodraeth nad yw ei haelodau'n gallu deall pwysigrwydd hanfodol cynnal a gwella cymorth y wladwriaeth i gyrff ac unigolion diwylliannol—yn enwedig ar adeg o galedi ac anhawster economaidd. Dylent ailfeddwl am eu blaenoriaethau cyllidebol cyn ei bod yn rhy hwyr.'

Ac nid ef yw'r unig un. Yn ddiweddar, rhannodd Pedr ap Llwyd, a ymddeolodd o’i rôl fel prif lyfrgellydd ddydd Gwener diwethaf, ei sylwadau gyda mi a wnaethai i Lywodraeth Cymru a bwrdd ymddiriedolwyr y Llyfrgell Genedlaethol cyn iddo adael, ac roeddent yr un mor ddeifiol:

'Mae fy mhrofiadau yn fy nghyfnod fel prif weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi datgelu bwlch yn yr ewyllys gwleidyddol sydd ei angen i sefydlu a chynnal amgylchedd cefnogol er mwyn diogelu ein hanes a'n hetifeddiaeth ddiwylliannol.'

Gadewch imi ailadrodd yr ymadrodd allweddol hwnnw:

'bwlch yn yr ewyllys gwleidyddol.'

Aw.

Nawr, efallai y bydd y Dirprwy Weinidog yn cofio fy mod, yn ystod un o’n dadleuon cyntaf yn nhymor y Senedd hon, yn ôl ym mis Mehefin 2021, wedi gofyn sut roedd hi'n bwriadu sicrhau rôl fwy canolog i’r celfyddydau a diwylliant yn Llywodraeth y chweched Senedd, o gymharu â'r bedwaredd Senedd a'r bumed Senedd, a mynd i’r afael â’r tanfuddsoddi a welwyd ers dros ddegawd. Dyma'r ateb a gefais:

'rhan allweddol o fy ngwaith yw gweithio gyda Gweinidog yr Economi i sicrhau bod y sector diwylliannol yn cael ei ariannu'n ddigonol a'i fod yn rhan o elfennau allweddol yr adferiad economaidd yng Nghymru, a byddant yn chwarae rhan allweddol yn hynny o beth.'

Wel, yn amlwg, nid yw hyn wedi digwydd, ac rydym bellach mewn sefyllfa lle mae pob un o'r sefydliadau sy'n gofalu am ein casgliadau cenedlaethol ar ein rhan yn dweud wrthym nad ydynt yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i allu parhau i wneud hyn. Dyfynnwyd prif weithredwr presennol Amgueddfa Cymru, Jane Richardson, yn dweud:

'Dylem ddeall pa mor sylweddol fydd effeithiau hirdymor y toriadau hyn ar Amgueddfa Cymru a’r sector diwylliant ehangach yng Nghymru.'

Dangoswyd lluniau i ni o gasgliadau amhrisiadwy wrth ymyl bwcedi a oedd yn gorlifo â dŵr. Rydym wedi cael ein rhybuddio am offer trydanol wedi dyddio a storfeydd annigonol. Mewn gwirionedd, mae’r sefyllfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd mor ddifrifol fel bod y problemau seilwaith yn golygu eu bod yn ofni y gallent fethu arolwg mecanyddol, trydanol a phlymio, a fyddai’n golygu cau’r amgueddfa, naill ai’n rhannol neu’n llwyr, am gyfnod amhenodol o amser. Mae’r pwyllgor diwylliant a llawer ohonom yn y Siambr wedi gofyn pam nad yw Llywodraeth Cymru yn ymateb. Mae'r distawrwydd wedi bod yn fyddarol.

Felly, y cynnig heddiw, mewn sawl ffordd, yw'r gobaith olaf i geisio cymell y Dirprwy Weinidog a’r Llywodraeth i weithredu a rhoi’r sicrwydd y mae’r Senedd hon yn ei geisio ynghylch diogelwch y casgliadau cenedlaethol, o ran yr adeiladau eu hunain lle cânt eu storio ac o ran y staff sydd eu hangen i ofalu amdanynt a dod â nhw'n fyw. Ac os na all y Dirprwy Weinidog roi’r sicrwydd hwnnw heddiw, a wnewch chi gefnogi’r cynnig a gweithio gyda’r sefydliadau a phanel annibynnol o arbenigwyr i sefydlu beth yw’r risg a rhoi cynllun ar waith i’w diogelu a sicrhau cynaliadwyedd ariannol y sefydliadau? Nid oes amser i'w wastraffu.

Mae rhaglenni diswyddo ar waith ym mhob sefydliad ar hyn o bryd, sy'n golygu bod sgiliau hanfodol eisoes yn cael eu colli, heb unrhyw amser i roi cynlluniau olyniaeth ar waith. Yn ogystal â cholli sgiliau curadurol a chadwraeth, bydd capasiti hefyd yn cael ei golli o rolau allweddol gyda'r cyhoedd a thu ôl i’r llenni, gan gynnwys glanhawyr, staff diogelwch, cynorthwywyr orielau, siopau a chaffis, yn ogystal â thimau addysg, i enwi dim ond rhai. Bydd hyn nid yn unig yn effeithio ar brofiad yr ymwelydd a'r oriau agor, ond hefyd ar y gallu i gasglu. Ac yn waeth na dim, mae Llywodraeth Cymru yn helpu i ariannu’r diswyddiadau hyn.

Ceir ôl-groniad cynnal a chadw o ddegau o filiynau o bunnoedd, sy’n golygu bod yr adeiladau lle caiff y casgliadau eu cadw mewn perygl o niweidio’r hyn y dylent fod yn ei warchod. Gwelsom yr hyn a ddigwyddodd ym Mrasil, pan anwybyddodd Llywodraethau rybuddion gan guraduron a pharhau i danariannu’r amgueddfa genedlaethol yno: tân trychinebus, ond un y gellir bod wedi'i osgoi, lle collwyd 92.5 y cant o gasgliadau’r genedl. Sut y byddem ni'n teimlo, a beth fyddai’r effaith, pe bai’r un peth yn digwydd yma?

A cyn cloi fy agoriad i'r ddadl hon, hoffwn hefyd fynegi fy mhryder am yr awgrym gan y Dirprwy Weinidog y dylai'r polisi mynediad am ddim i'n hamgueddfeydd cenedlaethol ddod i ben. A gaf i erfyn arnoch chi i edrych ar y dystiolaeth, a deall pa mor niweidiol fyddai hyn? Ers ei gyflwyno nôl yn 2001, mae'r polisi yma wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gan ehangu mynediad i bobl na fyddai wedi ymgysylltu â'r casgliadau cenedlaethol fel arall, eu casgliadau nhw. Byddai ailgyflwyno tâl hefyd yn cael effaith ar faint o arian mae Amgueddfa Cymru yn gallu ei godi neu ei ddenu o ffynonellau eraill. Nid dyma'r datrysiad.

Mae ein diwylliant a’n treftadaeth yn bwysig. Nid pethau braf i'w cael pan fo amseroedd yn dda mohonynt; maent yn rhan hanfodol o’n cenedl. Edrychaf ymlaen at y ddadl heddiw a chlywed y cyfraniadau, ond rwyf hefyd yn gobeithio y gallwn ddod o hyd i atebion i helpu’r sectorau hanfodol hyn nid yn unig i oroesi ac agor eu drysau, ond i ffynnu, ar ein cyfer ni, ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

16:20

A gaf fi ddiolch i Heledd Fychan am gyflwyno’r ddadl hon heddiw, ac yn arbennig am ei hymrwymiad i gyflwyno’r ddadl hon mewn ffordd drawsbleidiol, a chydweithio ar rywfaint o’r geiriad a’r iaith, y gwn y gall fod yn anodd weithiau, ac rwy’n derbyn fy mod wedi bod braidd yn anodd, ond fe lwyddasom i ddod o hyd i ffurf o eiriau roedd pob un ohonom yn cytuno arnynt? Ond er bod Heledd a minnau’n anghytuno ar lawer, credaf fod ei hymrwymiad i’r sector diwylliannol a’r sector celfyddydol yn ddigwestiwn, felly diolch yn fawr iawn am gyflwyno’r ddadl hon heddiw, Heledd.

Rwy'n credu bod Heledd wedi egluro'n glir fod hon yn amlwg yn ddadl heddiw sy’n ymwneud â’n casgliadau cenedlaethol, ond mae rhywbeth i’w ddweud hefyd am y sector diwylliannol ehangach, gan y gwyddom, am fod pobl yn y sector eu hunain wedi dweud, eu bod yn teimlo bod y sector diwylliannol a threftadaeth yng Nghymru mewn argyfwng, a beth mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ei wneud am yr argyfwng hwnnw? Wel, mae cyllideb cyngor y celfyddydau wedi’i thorri, gwelwyd toriad yng nghyllideb Amgueddfa Cymru, gwelwyd toriad yng nghyllideb y llyfrgell genedlaethol, gwelwyd toriad yn y gyllideb ar gyfer chwaraeon a diwylliant lleol, toriad i Cymru Greadigol, toriad i gyllideb Cadw ac yn y blaen, ac ar ben hynny, rydym wedi gweld yr wythnos hon fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi cynnig strategaeth ddiwylliannol hirddisgwyliedig ac wedi'i glastwreiddio, dair blynedd i mewn i’r tymor, y gwyddom bellach y bydd yn destun ymgynghoriad wyth wythnos.

Gwyddom fod Amgueddfa Cymru yn dileu swyddi, am eu bod wedi cael eu gorfodi i ddod o hyd i’r £4.5 miliwn y cyfeiriodd Heledd Fychan ato, yn sgil y pwysau ariannol enfawr a’r penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Lafur Cymru. Gwyddom fod toriad anghymesur wedi'i wneud i'r sector diwylliannol a’r celfyddydau yma yng Nghymru o ran yr arbedion cyffredinol a wnaed ar draws y maes cyllideb, felly hoffwn i’r Dirprwy Weinidog egluro, yn ei hymateb, os yn bosibl, pam yn union mai'r sector hwn, yn ôl pob golwg, sydd wedi dwyn baich y toriadau hyn, ac a fu'n hyrwyddwr ar ran y sector o gwmpas bwrdd y Cabinet, fel y clywsom o'r blaen. Mae arnaf ofn dweud hyn, oherwydd ar lefel bersonol, mae gennyf lawer o barch at y Dirprwy Weinidog, ond yn anffodus, rydym wedi gweld, blaenoriaeth yn cael ei rhoi i gyfleoedd am ffotograffau a theithiau tramor ar draul anghenion sector sydd mor amlwg angen cymorth. Rydym wedi gweld tueddiad i guddio y tu ôl i’r egwyddor hyd braich, weithiau, er mwyn osgoi cyfrifoldeb am y penderfyniadau a wneir, nid gan y sefydliadau hynny, ond o amgylch bwrdd y Cabinet.

Felly, yr hyn sydd ei angen arnom yn y dyfodol yw llwyfan cryf er mwyn dyrchafu ein brand diwylliannol a chefnogi’r sefydliadau sy’n gweithio mor galed i warchod, cadw a hyrwyddo diwylliant Cymru a threftadaeth Cymru. Mae’r pryderon difrifol a godwyd dros y misoedd diwethaf gan y sector wedi amlygu’r heriau enbyd sy’n ei wynebu. Rydym wedi clywed llawer o enghreifftiau eisoes gan Heledd Fychan am ddifrifoldeb gwirioneddol y sefyllfa a wynebir gan y sector bellach, ac mae angen inni wneud llawer iawn mwy i ddiogelu'r pethau sydd mor annwyl i ni fel cenedl, gan fod diwylliant yn rhywbeth anghyffwrdd; mae o bwys i bob un ohonom. Heb ein diwylliant, heb ein treftadaeth, pwy ydym ni fel cenedl? Dyna pam y gobeithiaf y bydd Llywodraeth Lafur Cymru a’r Dirprwy Weinidog, ac unrhyw un arall sy’n ymgymryd â’r rôl ar ei hôl, yn gwrando ar y ddadl hon o ddifrif, yn gwrando ar y bobl sydd wedi codi eu llais ac wedi dweud y dylai Llywodraeth Cymru fod yn cymryd y sector o ddifrif, oherwydd pan fydd ein casgliadau cenedlaethol wedi diflannu, pan fydd ein diwylliant cenedlaethol, ein treftadaeth genedlaethol wedi diflannu, beth yw Cymru? Diolch.

16:25

Mae cenedl heb gof yn genedl heb stori, ac mae cenedl heb stori yn genedl heb ddyfodol. Dyna'r gwirionedd athronyddol sylfaenol sydd yn sylfaen i'r cynnig heddiw. Mae ein casgliadau a'n harchifau cenedlaethol yn adrodd y stori honno, yn arddangos ac yn ffurfio ein hunaniaeth a'n dealltwriaeth o'n hunaniaeth. Yn ei gyfrol enwog, Archive Fever, dywed yr athronydd Jacques Derrida nad yw diwylliannau sy'n marw yn gadael unrhyw archif, achos cyfrinach fwyaf yr archif yw nad yw'n rhwybeth statig.

'Mae'r archif yn plygu'r gorffennol yn amser gwahanol i lawer o waith y dyfodol—mae'n awgrymu dyfodol i'r gorffennol.'

Ein harchif yw dyfodol ein gorffennol. Mae'r argyfwng sy'n wynebu ein casgliadau cenedlaethol, dan ofal Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, felly yn argyfwng dirfodol nid yn unig i'r sefydliadau hynny eu hunan, ond hefyd i ddyfodol ein diwylliant ac i hanfod ein cenedl.

Yn ddiweddar fe gyflwynais ddadl yn y Siambr hon yn amlinellu hanes rhyfeddol deiseb heddwch menywod Cymru. Roedd yr hanes mwy neu lai yn angof am ganrif, ond, diolch i'r gwaith sy'n digwydd dan ofal y llyfrgell genedlaethol, mae adnodd mor werthfawr, mor unigryw i ymchwilwyr y dyfodol ac i ni, ddinasyddion Cymru heddiw ac yfory, nawr yn cael ei ddiogelu. Datgelais yn y ddadl honno, dan deimlad, fod llofnod fy hen famgu ymhlith y cannoedd o filoedd sydd ar y ddeiseb. Ac yn wir, neithiwr, yn y dathliad i nodi diwedd cyfnod Mark Drakeford fel Prif Weinidog Cymru, y rhodd a chyflwynwyd iddo oedd y wybodaeth bod llofnod ei famgu e wedi ei ganfod ar y ddeiseb hefyd—rhodd mor brin. Ac yn ei sgil, roedd y Prif Weinidog, fel fi, yn medru teimlo'r wefr o ddeall y cysylltiad uniongyrchol yna rhwng ein presennol a'n gorffennol, a holl arwyddocâd ein cynfamau yn codi llais Cymru dros heddwch.

Prin wythnos neu ddwy wedi i fi gael cymorth i baratoi at y ddadl honno gan ymchwilydd o Amgueddfa Cymru, a gafodd hyd i enw fy hen famgu, fe ges i'r newyddion torcalonnus a chywilyddus ganddi ei bod hi wedi colli ei swydd yn sgil y toriadau ariannol i'w sector, wedi 24 mlynedd o wasanaeth. Ac nid hi yw'r unig un yn ei hadran, dywedodd. Mae colli swyddi fel hyn yn golygu colli'r arbenigedd, y gallu i gadw, y gallu i ddeall ac i ddehongli a rhannu ein casgliadau cenedlaethol. Sut bydd modd inni sicrhau bod ein casgliadau, a'u heffaith a'u neges a ddarluniwyd mor rymus gan ddeiseb heddwch menywod Cymru, yn parhau'n ddylanwad arnom a chenedlaethau'r dyfodol os na fydd gennym y staff arbenigol i wneud y gwaith yma? Ac mae ein hamgueddfeydd a'n llyfrgell genedlaethol yn gymaint yn fwy na storfeydd, wrth gwrs. Maen nhw'n chwarae rhan gwbl weithredol yng ngwead ein cymunedau a datblygiad ein cymdeithas.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, oedd amgueddfa noddfa gyntaf y DU, ac rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun sut mae’r amgueddfa’n ymgorffori profiad y rheini sy’n ceisio noddfa yn eu gweithgarwch ac yn sicrhau bod y lleisiau hynny’n cael eu clywed. Mae’r amgueddfa o ddifrif yn crisialu sut mae ein hamgueddfa genedlaethol yn ymgysylltu â cheiswyr noddfa, yn eu croesawu ac yn eu trysori fel ein dinasyddion newydd, dinasyddion sy’n cyfoethogi eu gwaith a’u cenhadaeth, ac felly, ein cymunedau ein hunain.

Hoffwn orffen drwy sôn am bwysigrwydd cynnal mynediad am ddim i'n hamgueddfeydd cenedlaethol. Bues i mewn cyfarfod yr wythnos diwethaf gyda'r prif mudiadau ac elusennau yng Nghymru sy'n ymladd dros fuddiannau plant a phobl ifanc. Fe danlinellwyd yn gryf eu pryderon am effaith codi tâl am fynediad i'n hamgueddfeydd ar blant a'u teuluoedd. Mae ymweliad ag amgueddfa yn un o'r ychydig iawn o weithgareddau sydd ar gael i deuluoedd a phlant sy'n cael hi'n anodd cael deuben llinyn ynghyd, yn enwedig pan nad yw'r haul yn gwenu ac mae mynd i'r parc neu am dro yn amhosib. Ac mae cost cynyddol gweithgareddau ac effaith colli mas ar y gweithgareddau hynny wedi'i nodi mewn sawl adroddiad diweddar, gan gynnwys arolwg gan Sefydliad Bevan, oedd yn awgrymu bod cyfran sylweddol o blant yn cael eu cau mas o weithgareddau sy'n hanfodol ar gyfer datblygiad addysgol a chymdeithasol, ac mae yna bryder bod lles plant yn cael ei effeithio'n ddybryd gan hyn.

Nod y strategaeth tlodi plant newydd yw ceisio sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc, ni waeth beth fo'u hamgylchiadau ariannol, yn cael yr un cyfleoedd, yn gallu manteisio ar yr un gwasanaethau ac yn gallu arfer eu hawliau yn yr un ffordd â'u cyfoedion. Mae pum amcan a phum blaenoriaeth y strategaeth honno yn alinio yn llwyr â'r hyn y mae ein hamgueddfeydd yn eu cynnig drwy fynediad am ddim. Sut felly mae tynnu'r modd y mae ein hamgueddfeydd yn darparu cymaint ac yn cyfoethogi gymaint ar brofiadau bywyd plant yn gydnaws â'r strategaeth hollbwysig hon sydd dim ond newydd ei chyhoeddi?

Mae'r rhybudd yn glir. Os na gefnogwn y galwadau yn y cynnig ger ein bron, bydd y pris i ddyfodol ein cenedl yn un na allwn ni fforddio ei dalu. Hoffwn gloi gyda dyfyniad arall gan Derrida sy'n crisialu pam dwi'n credu hynny:

'nid cwestiwn ynghylch y gorffennol yw'r cwestiwn ynghylch yr archif... Mae'n gwestiwn ynghylch y dyfodol, cwestiwn y dyfodol ei hun, cwestiwn ynghylch ymateb, addewid a chyfrifoldeb ar gyfer yfory.'

16:30

Diolch yn fawr, Heledd, am gyflwyno'r ddadl hon.

Byddaf yn pleidleisio dros y cynnig hwn heddiw. Ar y pwyntiau yn y cynnig, mae'n wir fod casgliadau cenedlaethol Cymru, sydd dan ofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru, yn perthyn i bawb yng Nghymru, nid dim ond i'r rhai ohonom sydd yn y Senedd neu'r rhai sy'n gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol neu Amgueddfa Cymru. Mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod y casgliadau'n cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan  barhau i gael eu defnyddio i ysbrydoli ac ysgogi pobl o bob oed.

A gaf i awgrymu ein bod ni'n mynd â nhw allan i'n cymunedau yn amlach? Nid yw'n fater o amgueddfa genedlaethol neu amgueddfa genedlaethol Caerdydd; yr un peth ydyw, Cymru. Ond mae'n wir mewn gwirionedd. Mae'n rhywbeth i bob un ohonom, ac yn llawer rhy aml rydych chi'n dod ar draws pobl sy'n gweithio yn rhai o'r lleoedd hyn sy'n credu mai rhywbeth iddynt hwy ydyw, neu bobl fel nhw efallai neu'r bobl sy'n byw wrth eu hymyl. Mae'n rhywbeth i bob un ohonom ac mae'n rhywbeth i'r bobl dosbarth gweithiol yn fy etholaeth sy'n byw ar ystadau'r cyngor. Mae ganddynt yr un hawl i weld y pethau hyn â'r bobl sy'n byw yn Llysfaen yn etholaeth Julie Morgan. 

Rwy'n cefnogi mynediad am ddim i'n hamgueddfeydd cenedlaethol, sydd wedi bod yn llwyddiant diamheuol ers i'r Blaid Lafur gyflwyno'r polisi yn 2001—diolch, Rhodri—a dylid diogelu'r polisi hwn. Rwy'n ymweld yn rheolaidd ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, yn aml am gyfnodau byr iawn pan fydd gennyf fwlch rhwng digwyddiadau rwy'n eu mynychu yn Abertawe. Ni fyddaf yn gwneud hynny os bydd yn rhaid i mi dalu. Nid wyf am dalu i fynd i amgueddfa am 10, 15 munud, ond gallaf ddefnyddio'r 10 neu 15 munud pan nad oes gennyf unrhyw beth arall i'w wneud i ymweld ag amgueddfa'r glannau yn Abertawe. Ac a gaf i ddweud amgueddfa mor wych yw honno, ac annog pawb sydd heb fod yno i ymweld â hi?

Mae'n bwysig nad yw toriadau refeniw a chyfalaf yn peryglu'r casgliad cenedlaethol am nad oes mannau a storfeydd addas, a gostyngiad yn nifer y staff arbenigol sy'n cael eu cyflogi i ofalu amdanynt. Rwy'n cefnogi comisiynu panel o arbenigwyr i sefydlu beth yw'r perygl i'r casgliadau, a gweithio gyda'r sefydliadau a Llywodraeth Cymru i weithredu cynllun i'w diogelu.

Rwy'n cefnogi'r alwad y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru a'r undebau sy'n cynrychioli staff yn y sefydliadau i sicrhau eu hyfywedd ar gyfer y dyfodol. Rydym i gyd eisiau iddynt fod yn hyfyw ar gyfer y dyfodol. Rydym i gyd eisiau iddynt allu cael eu gweld gan bobl yn y dyfodol, ac nid oes yr un ohonom eisiau cael ein cofio fel y bobl a wnaeth adael i'r dogfennau pwysig hynny neu'r casgliadau pwysig hynny gael eu difrodi heb fod modd o'u hatgyweirio am nad oeddem yn malio. Nid oes neb eisiau bod yn gyfrifol am hynny.

Ond rydym bellach yn cyrraedd y rhan anodd. Rydym i gyd yma'n dda iawn am wario arian. Mae'n rhaid bod ein Prif Weinidog blaenorol wedi teimlo'n rhwystredig iawn oherwydd, bob tro y byddem yn cael dadl, roedd pobl yn dod o hyd i ffyrdd o wario mwy o arian. Mae gwario arian yn hawdd. O ble y dowch o hyd iddo? Rwy'n aml yn gwneud awgrymiadau. Mae llawer ohonynt yn dod o'r rhestr na ellir ei chyffwrdd, ac mae gennym restr hir o bethau na ellir eu cyffwrdd—dyna pam mae gennym hyn heddiw—fel trenau, lle dywedwyd wrth y Pwyllgor Cyllid fod cymhorthdal o rhwng £14 a £15 y daith am bob taith a wneir gan deithwyr. Taliadau sylfaenol i ffermwyr—rwy'n eu crybwyll yn aml. Mae 381 busnes fferm yn cael rhwng £50,000 a £100,000 y flwyddyn. Mae 60 o fusnesau'n cael dros £100,000 y flwyddyn. Rwy'n cefnogi polisi Undeb Amaethwyr Cymru o gapio taliadau sylfaenol i ffermwyr. Mae pam mae busnesau'n cael dros £100,000 y flwyddyn y tu hwnt i mi, ac ni all fod yr hyn y bwriadwn ei wneud. 

Mae'n hawdd gofyn am fwy o arian, ond mae angen inni edrych ar ffyrdd o arbed arian mewn meysydd eraill, ond efallai y bydd angen inni edrych ar ffyrdd o arbed arian o fewn yr amgueddfeydd ac o fewn y llyfrgell. Rwy'n credu bod yna elfennau aneffeithlon ym mhob sefydliad a welais erioed, ac rwy'n credu bod angen inni gael gwared ar yr elfennau aneffeithlon hynny. Mae angen inni ddiogelu'r hyn y credwn ei fod yn rhan bwysig iawn o'n diwylliant a'n treftadaeth, ond mae angen inni sylweddoli hefyd na allwn barhau i wario mwy o arian ar bopeth, oherwydd bydd yr arian hwnnw'n dod i ben yn gyflym iawn. Felly, gadewch inni ddod o hyd i lefydd lle gallwn arbed arian, a gadewch inni flaenoriaethu pethau, oherwydd os yw popeth yn flaenoriaeth, nid oes unrhyw beth yn flaenoriaeth.

16:35

'Cawsom genedl o genhedlaeth / i genhedlaeth, ac anadlu / ein hanes ni ein hunain.'

Dyna, chwedl Gerallt, ydy’n hetifeddiaeth. Y darn nid yn unig o dir sy’n dyst ein bod wedi mynnu byw, ond y darnau o drysorau sydd gennym sy’n adrodd hynt a helynt y frwydr.

Ac mae hyn am chwedlau, am straeon. Ffynonellau ein ffyniant, catalogau ein colled. Trysorau ein cenedl ydy ein casgliadau cenedlaethol. Nhw sy’n adrodd straeon ein hanes, ac mi ddylai’r perygl sy’n eu hwynebu beri gofid inni oll, achos helaethdra'r hyn sydd yn y fantol.

Mae'r pwyllgor diwylliant wedi clywed o lygad y ffynnon gan y llyfrgell genedlaethol ac Amgueddfa Cymru, pa mor bryderus yw eu staff ynglŷn â'r hyn a allai ddigwydd i'r casgliadau pe bai dŵr glaw yn mynd i mewn i'r adeiladau. Dywedwyd wrthym fod staff Amgueddfa Cymru yn aml yn mynd i mewn yn y nos i dynnu gwaith celf oddi ar y waliau, i osod bwcedi i ddal y dŵr glaw sy'n dod i mewn drwy'r nenfwd. Ni ddylai hyn ddigwydd.

Ddirprwy Lywydd dros dro, mae wedi codi eisoes, ac rwy'n siŵr ein bod i gyd wedi cael ein dychryn rai blynyddoedd yn ôl pan aeth Amgueddfa Genedlaethol Brasil ar dân—eu straeon i gyd wedi diflannu. Gallai trychineb mor ddinistriol ddigwydd mor hawdd. Mae ein trysorau gwerthfawr mewn sefyllfa mor simsan. A phan fyddent wedi mynd, byddent wedi'u colli am byth, fel pe na bai'r straeon hynny erioed wedi bodoli.

Mae chwedlau'n dal i gael eu hadrodd am golli llyfrgell fawr Alexandria, lle câi cyfoeth yr hen fyd ei gadw mewn gwybodaeth, mewn cof, mewn print. Yn 48 CC llosgodd y llyfrgell yn llwch, a chawsom ein hamddifadu o'r trysorau hynny. Ie, cawsom ni ein hamddifadu. Daeth cynnydd a chroniclau i stop. Yn Arcadia gan Tom Stoppard, mae un o'r cymeriadau yn cael ei llethu gan ofid pan glyw am raddfa'r golled honno, ac mae'n dweud, 'Yr holl lyfrau, Septimus. Yr holl lyfrau. Sut y gallwn gysgu yn sgil y galar?'

A fyddem eisiau i genedlaethau Cymru yn y dyfodol ddioddef y golled honno? Dylai hynny darfu ar fwy na chwsg. Mae hanesion ein gorffennol herfeiddiol yn y fantol.

Yr hen ogledd. Parhad yr iaith.

Gwreiddiau ein chwedlau a'n cân.

Achos cawsom drysorau i’w cadw. Ffenestri ar y byd o’n cwmpas. Ac mae hawl gan genedlaethau sydd yn dal i ddod i wybod o le y daethant, lle bu dechrau eu stori, achos heb ddechreuad, heb darddiad, sut yn y byd i gyd byddent yn ffeindio’u ffordd nhw, a’u hanian?

Nid cyfres o ddyddiadau nodedig neu enwau dynion enwog ydy swm a sylwedd ein hanes ni. Pobl, yn ddynion ac yn fenywod, yn bobl oedrannus ac yn blant, a'u bywydau a'u perthynas a'i gilydd, gyda'u holl broblemau, eu holl ffaeleddau, dyna ydy ein hanes. O'r bobl hynny a ddaeth yma ddegau o filoedd o flynyddoedd yn ôl i'r rhai hynny sydd yn cyrraedd Cymru heddiw, mae ein hanes a'n treftadaeth yn dapestri lliwgar o sut mae pobl wedi mynnu cadw ein gwlad, mor amherffaith ag ydyw, yn fyw.

Y casgliadau cenedlaethol a'n hamgueddfeydd ydy cof ein cenedl—y cof yma o'n hanes sydd wedi rhoi i ni ein gwerthoedd cyffredin. Yn wir, dyma ydy sylfaen yr hyn yr ydyn ni'n ei adeiladu yma, ein cyw democratiaeth, sydd yn adlewyrchu'r gwersi caled a ddysgodd ein cyndeidiau, ac sydd yn ein galluogi ni i weithio tuag at greu Cymru well i'n plant a'n disgynyddion. 

Heb y rhain, yna pwy ydyn ni? Beth ydyn ni? Yn sicr, nid cenedl, ac mae'n bur debyg nad Cymru, oblegid y cof hanesyddol hwnnw a gynhaliodd yr ymwybyddiaeth o genedl dros gyfnod hir pan oedd rhai yn ceisio ein gorfodi i'w anghofio a difa ein cenedl. Oherwydd y cam cyntaf i ddifa cenedl ydy difa ei chof.

Mae'r trysorau cenedlaethol yma, felly, yn greiddiol er mwyn adeiladu ar y sylfaen a'n galluogi i greu Cymru well. Allwn ni ddim â chael lles i genedlaethau'r dyfodol heb ein bod ni'n dangos parch i genedlaethau ein gorffennol, a dysgu'r gwersi caled y bu'n rhaid iddyn nhw eu dioddef er mwyn i ni gael buddiannau heddiw. Dyma pam fy mod i'n cefnogi cynnig rhagorol Heledd Fychan heddiw, a dyna pam fy mod i'n annog pawb i'w gefnogi.

16:40

Dwi'n galw nawr ar Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl bwysig hon y prynhawn yma? Fel y nodwyd yn huawdl mewn cyfraniadau, mae ein casgliadau cenedlaethol yn rhan annatod o'n treftadaeth, ac wrth gwrs, mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau eu bod yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Hoffwn ddechrau drwy sicrhau'r Senedd hon fy mod yn gwbl ymwybodol o'r heriau y mae Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn eu hwynebu wrth gynnal adeiladau sy'n heneiddio—heriau sy'n cael eu rhannu gan sefydliadau ledled y DU. Ac i fod yn glir, bob tro y derbyniais geisiadau am arian cyfalaf ychwanegol gan Amgueddfa Cymru neu'r llyfrgell genedlaethol, rwyf wedi ymateb.

Yn hytrach na'r distawrwydd byddarol a awgrymwyd gan Heledd Fychan, rwyf hefyd wedi ateb cwestiynau ar y mater hwn ar lawr y Senedd yn y gorffennol, wrth graffu ar y gyllideb, mewn atebion i gwestiynau ysgrifenedig, ac mewn cyfarfodydd a gohebiaeth gydag Aelodau a'r pwyllgor diwylliant. Yn wir, roeddwn ar fin cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar yr union fater hwn pan gefais wybod bod y ddadl hon wedi'i chyflwyno ar gyfer heddiw, ac felly cafodd fy natganiad ysgrifenedig ei dynnu'n ôl. [Torri ar draws.] Oherwydd roeddech chi wedi gofyn am ddatganiad ysgrifenedig, ac roeddwn ar fin ei gyhoeddi, ond roedd y ddadl hon yn cael blaenoriaeth dros hynny.  

Ac mae'r ffaith bod Tom Giffard yn awgrymu bod gennyf fwy o ddiddordeb mewn teithiau tramor a thynnu lluniau yn dangos nad ydych yn deall rôl Gweinidog yn cefnogi ein sefydliadau, Tom. Mae gweld beth maent yn ei wneud a sut maent yn defnyddio'r arian a ddarparwn iddynt, ac i lywio ein cyllid yn y dyfodol, yn bwysig iawn, ac mae gwir angen ichi ddeall mai dyna yw rôl Gweinidog.

Y flwyddyn ariannol hon, mae Amgueddfa Cymru wedi derbyn £5 miliwn ac mae'r llyfrgell genedlaethol wedi derbyn £2 filiwn o gyllid cyfalaf drwy gymorth grant gan Lywodraeth Cymru, a bydd hwnnw'n cael ei gynnal yn y flwyddyn ariannol nesaf i fynd i'r afael â'r prosiectau cynnal a chadw mwyaf dybryd. Yn ogystal, mae Amgueddfa Cymru yn derbyn £2 filiwn eleni i fynd i'r afael â materion cynnal a chadw hirdymor, ac i helpu i ddatblygu ailddatblygiad Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, ynghyd â £1.25 miliwn dros dair blynedd mewn cyllid datgarboneiddio. Mae'r llyfrgell genedlaethol hefyd yn derbyn £250,000 ychwanegol ar gyfer gwaith cynnal a chadw blaenoriaethol y flwyddyn ariannol hon, a £920,000 dros y tair blynedd nesaf ar gyfer gwaith datgarboneiddio—

—a £1.5 miliwn dros ddwy flynedd i ddatblygu'r storfa gasgliadau newydd. Iawn, Mabon.

Rydych chi wedi rhestru nifer o ffigurau yno dros gyfnod o amser. A yw'n ddigon?

Mae'n debyg nad ydyw, ac fe ddeuaf at hynny mewn munud.

Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, wrth gwrs, derbyniodd y llyfrgell £0.5 miliwn, £500,000, gennym ar gyfer system dân newydd i sicrhau diogelwch ei chasgliadau. Ac er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, a gaf i ddweud ar gyfer y cofnod fy mod wedi ymrwymo'n llwyr i wella gofal am ein casgliadau cenedlaethol a mynediad atynt i bobl ledled Cymru? Ac rwy'n nodi bod y cynnig yn galw am sefydlu panel o arbenigwyr, er enghraifft, i edrych ar y peryglon sy'n wynebu ein casgliadau cenedlaethol, ond yr hyn y dylwn ei ddweud yw fy mod, y llynedd, wedi comisiynu adolygiad annibynnol o reolaeth y casgliadau yn ein sefydliadau diwylliannol cenedlaethol, ac amgueddfeydd lleol ac annibynnol, a disgwylir iddo gyflwyno ei adroddiad y mis hwn. Mae'n ystyried rheolaeth y casgliadau digidol a ffisegol, ac yn nodi blaenoriaethau brys ac opsiynau mwy hirdymor a allai ddiogelu casgliadau ar gyfer y dyfodol.

A ydych chi'n credu y byddai wedi bod yn well pe bai'r panel hwnnw wedi cyflwyno'i adroddiad cyn gosod y gyllideb?

I fod yn deg, Sioned, mae'r panel yn gwneud ei waith ac nid yw wedi'i gwblhau. Bydd yn llywio penderfyniadau cyllidebol yn y dyfodol, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth am hynny, ond roedd yn gwneud gwaith nad oedd wedi'i gwblhau, felly ni fyddai wedi bod yn briodol ar yr adeg honno. Ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw y bydd pwy bynnag sy'n gyfrifol am y portffolio hwn yn y Llywodraeth newydd yn ystyried canfyddiadau'r adroddiad hwnnw o ddifrif, a diau y byddant yn adrodd yn ôl i'r Senedd maes o law. 

Ac a gaf i sôn ychydig am ddigidoleiddio, sydd hefyd yn bwysig wrth wneud y casgliadau cenedlaethol yn fwy hygyrch i bobl yng Nghymru a thu hwnt? Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi tua £1.3 miliwn dros dair blynedd mewn prosiectau digidol, gan gynnwys cefnogi archif ddarlledu Cymru yn y llyfrgell genedlaethol a digideiddio'r casgliad cenedlaethol o ffotograffau o'r awyr yn y comisiwn brenhinol. Yn ogystal, erbyn mis Ebrill 2025, bydd Celf ar y Cyd yn cynnwys casgliad celf cenedlaethol wedi'i ddigideiddio'n llawn a bydd yn hygyrch i unrhyw un, yn unrhyw le ar unrhyw adeg.

Rwyf hefyd yn cytuno â'r Aelodau sydd wedi gwneud y pwynt ynglŷn â phwysigrwydd arbenigedd staff yn y sefydliadau hyn. Maent yn allweddol i sicrhau bod ein casgliadau cenedlaethol yn ddiogel ac yn hygyrch, ac wrth gwrs, byddant yn rhan o'r ystyriaethau ar gyfer y cyrff hyd braich yn eu penderfyniadau staffio wrth symud ymlaen. I gydnabod hyn, cytunais yn ddiweddar ag Aelod dynodedig Plaid Cymru fod yn rhaid i'n ffocws uniongyrchol a thymor byr fod ar gefnogi swyddi, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddi am y gwaith a wnaethom gyda'n gilydd ar hyn dros y misoedd diwethaf.

Mae cyllid y cytundeb cydweithio eisoes wedi'i ddefnyddio at y diben hwn, ac yn ogystal, rydym wedi cytuno bod cyllid a ddyrennir i gyflawni'r strategaeth ddiwylliant yn y flwyddyn ariannol nesaf yn cael ei haddasu at ddibenion gwahanol i liniaru effaith colli swyddi, gan gynnwys yn Amgueddfa Cymru a'r llyfrgell genedlaethol. Ers cyhoeddi'r gyllideb ddrafft, rwyf wedi gallu cadarnhau cyllid ychwanegol ar gyfer y comisiwn brenhinol a Cadw.

Ond gadewch inni fod yn glir; wrth baratoi cyllideb 2024-25, roedd yn rhaid i Weinidogion wneud y penderfyniadau mwyaf anodd a phoenus ers dechrau datganoli. Mae hyn wedi cael ei ailadrodd sawl gwaith ar lawr y Senedd hon, ac rydym wedi esbonio'r angen i ni leihau cyllidebau mewn meysydd i'n galluogi i ariannu'r GIG a gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen yn llawn—bwlch cyllido gwerth £1.2 biliwn o ganlyniad i 14 mlynedd o gyni ac yn sgil camreoli'r economi gan Lywodraeth Dorïaidd y DU.

Ond rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, o'r cynlluniau diswyddo sydd ar y gweill mewn cyrff diwylliant hyd braich a'r ansicrwydd a all ddod yn sgil sefyllfaoedd o'r fath. Mae ein hymrwymiad i bartneriaeth gymdeithasol yn hanfodol ar adegau fel hyn, ac mae'r sefydliadau'n gweithio'n agos gyda'u hundebau llafur yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn i gefnogi ein sefydliadau diwylliannol cenedlaethol. Rwyf wedi dod o hyd i gyllid ychwanegol yn y gyllideb eleni i dalu am y cynlluniau diswyddo presennol hynny.

Rwy'n derbyn yn llwyr fod diogelu'r casgliadau cenedlaethol yn fater parhaus, a dyna pam mae fy swyddogion a minnau mewn trafodaethau rheolaidd gyda'n sefydliadau cenedlaethol ynglŷn â sut y gallwn eu helpu i ymateb i'r heriau sy'n eu hwynebu. Cyfarfûm â phrif weithredwyr a chadeiryddion Amgueddfa Cymru a'r llyfrgell genedlaethol yr wythnos diwethaf, a gwnaethant fy sicrhau bod y casgliadau cenedlaethol yn ddiogel ar hyn o bryd.

Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn credu bod cyn brif weithredwr y llyfrgell genedlaethol braidd yn anniffuant, gan na chododd y pryderon yr ydych chi wedi'u codi gyda mi heddiw, Heledd. Roeddwn yn cyfarfod gydag ef yn rheolaidd. Mae wedi cael digon o gyfle i rannu'r pryderon hynny gyda mi, ac mewn gwirionedd, mae bob amser wedi bod yn hynod ddiolchgar ac wedi canmol y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i'r llyfrgell genedlaethol.

16:45

Na, rwy'n credu eich bod wedi cael eich cyfle, Heledd. Rwyf am geisio cwblhau fy araith nawr. Heb os, mae angen buddsoddiad sylweddol i fynd i'r afael â materion cynnal a chadw yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ac ni allaf gredu eich bod yn meddwl ein bod heb wneud dim byd ynglŷn â hyn. Mae ein cymheiriaid yn Amgueddfa Cymru yn gweithio gyda ni i ddatblygu cynllun i'n helpu i nodi'r cymorth ariannol sydd ei angen ac sydd ar gael dros y pum mlynedd nesaf, felly rwy'n credu bod hynny'n ateb pwynt arall yn y cynnig.

Fodd bynnag, o ystyried pwysigrwydd y casgliad a maint posibl y gwaith sydd ei angen, efallai y bydd angen mynd i'r afael â hyn drwy gydweithredu ar draws y Llywodraeth, yn hytrach nag un adran. Roedd hwnnw'n fater a godwyd wrth graffu ar y gyllideb yn y pwyllgor diwylliant. Mae'n fater yr wyf wedi ei ystyried ac mae'n fater y bydd Llywodraeth newydd Cymru yn ei ystyried, gobeithio.

Ddirprwy Weinidog, mae'n bryd ichi ddirwyn i ben nawr.

Mae gennyf un neu ddau o bwyntiau eraill, Gadeirydd, ac wedyn fe fyddaf wedi gorffen.

Er mwyn sicrhau eu sefydlogrwydd ariannol, mae ein sefydliadau cenedlaethol yn gorfod archwilio'r holl opsiynau codi arian a chynhyrchu incwm sydd ar gael iddynt. O ystyried y pwysau ar gyllid cyhoeddus, mae'n hanfodol eu bod yn gwneud y mwyaf o'u potensial eu hunain i gynhyrchu refeniw. Mae'n rhaid i mi ddweud eto, Heledd, nad wyf erioed wedi dweud fy mod eisiau i Amgueddfa Cymru godi tâl mynediad, ond rwy'n cydnabod, mewn argyfwng, fod yn rhaid archwilio pob ffordd o gynhyrchu incwm sydd ar gael iddynt. Mae'r gwaith archwiliadol hwnnw yn y camau cynnar, a byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng sicrhau sefydlogrwydd ariannol a pharhau i wneud y casgliadau cenedlaethol sydd yng ngofal Amgueddfa Cymru yn hygyrch i bawb. Mae hwnnw'n fater sy'n llinell goch i mi. Mae ein casgliadau cenedlaethol yn perthyn i bob un ohonom, a byddwn yn parhau i chwarae ein rhan i sicrhau eu bod yn ddiogel ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Diolch yn fawr.

16:50

Dwi nawr yn galw ar Heledd Fychan i ymateb i'r ddadl.

Diolch yn fawr iawn. Nid wyf yn gwybod lle i ddechrau gyda fy ymateb, oherwydd teimlwn efallai fod hwnnw'n ymateb gor-amddiffynnol. Ddirprwy Weinidog, roeddech yn sôn eich bod ar fin cyhoeddi datganiad ysgrifenedig; rwyf wedi bod yn gofyn am y datganiad ysgrifenedig hwnnw—. A dweud y gwir, rwyf wedi bod yn gofyn am ddatganiad llafar yn y Senedd ers misoedd. Gofynnais ym mis Mehefin 2021 i chi ystyried y mater hwn o ddifrif. Prin ein bod wedi cael unrhyw ddatganiadau llafar am ddiwylliant dros y tair blynedd diwethaf. Rwyf wedi gorfod cyflwyno'r ddadl hon er mwyn i ni allu cael y dadleuon hyn. Mae'r distawrwydd wedi bod yn fyddarol, mae'n rhaid i mi fod yn onest, oherwydd rwyf wedi gofyn am sicrwydd ac nid wyf wedi'i gael o hyd. Rydych wedi rhestru'r cyllid, ac eto mae'r argyfwng yn parhau. Siaradodd Sioned Williams yn huawdl am effaith wirioneddol colli'r arbenigwyr allweddol hynny nawr. Mae Llywodraeth Cymru yn helpu i ariannu'r diswyddiadau hynny. Nid yw'r heriau hyn wedi codi dros nos; mae degawd a mwy wedi bod—

Ond cyn hynny, lle'r oedd y ffocws ar ein sefydliadau diwylliannol? Nid yw'r angen i atgyweirio'r hen adeiladau hyn wedi codi'n sydyn.

Mae'n rhaid i ni ystyried Llywodraethau eraill hefyd. Rydym yn deall bod y setliad ariannol hwn wedi bod yn anodd—wrth gwrs ei fod. Ond mae'r un peth yn wir mewn gwledydd eraill hefyd, ac yn hytrach na thorri cyllid i ddiwylliant a threftadaeth, mae Llywodraethau yn yr Alban ac Iwerddon yn buddsoddi llawer mwy yn y celfyddydau a diwylliant, gyda Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, Shona Robinson, yn datgan ym mis Rhagfyr 2023, wrth gyflwyno cyllideb yr Alban ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf:

'Mae ein nod ar gyfer cyfleoedd yn ymwneud â mwy na chyfleoedd economaidd; mae hefyd yn ymwneud â'r cyfleoedd i unigolion a sefydliadau wireddu eu potensial. Mae hynny'n arbennig o wir am ddiwylliant ein cenedl.'

Hyd yn oed heddiw, efallai eich bod wedi gweld y newyddion fod Taoiseach Iwerddon, wrth ymddiswyddo o'i swydd, wedi sôn am rai o'r pethau y mae'n falch o'u cyflawni. Dywedodd:

'Rwy'n hapus, yn ystod fy nghyfnod fel Taoiseach, ein bod wedi gallu anrhydeddu fy ymrwymiadau i ddyblu gwariant ar y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon. Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol nawr a bydd yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol, gan feithrin a chynorthwyo artistiaid a ffigyrau chwaraeon y dyfodol.'

Mae yna—

A wnewch chi dderbyn ymyriad ar y pwynt hwnnw, Heledd?

Ni wnaethoch chi dderbyn ymyriad pan oeddech chi'n siarad, felly, na wnaf. Rwy'n credu bod angen inni ystyried o ddifrif y niwed anfesuradwy sy'n cael ei wneud i'n sefydliadau. Ond nid yw'n rhy hwyr i'r Llywodraeth hon weithredu. Fe sonioch chi am y strategaeth ddiwylliannol, ac ydym, rydym wedi bod yn falch o allu gweithio gyda chi, ond beth fydd yn digwydd pan nad oes cyllid i gefnogi'r strategaeth honno? Mae'r ffaith bod hyd yn oed defnyddio'r cyllid hwnnw'n annigonol—

A allwch chi ddweud wrthym o ble y daw'r arian, Heledd?

Mae'n ymwneud â dewisiadau. Oherwydd hefyd, nid wyf yn credu—

A fyddech chi'n mynd â'r arian oddi wrth y GIG, Heledd?

Mae diwylliant yn rhan o bortffolio'r economi. Byddech wedi meddwl, gan eich bod yn gyfrifol am y portffolio hwnnw, y byddech wedi gallu gwireddu ei botensial economaidd—i ddeall, am bob punt sy'n cael ei gwario, faint rydych chi'n ei gael yn ôl. Ond nid yw hynny wedi bod yn digwydd. Felly, rydych chi mewn gwirionedd yn cwtogi—

Na, nid yw'n fater o ddewis rhwng y GIG neu ddiwylliant. Nid dewisiadau yw'r rhain. Mae fel yr holiaduron sy'n gofyn, 'A ydych chi eisiau i'ch biniau gael eu gwagio, neu a hoffech chi amgueddfa?' Nid dewisiadau yw'r rhain. Dylem fod yn blaenoriaethu cyfoeth ein diwylliant a'n treftadaeth ac yn gwireddu—. Oherwydd, mewn gwirionedd, mae gennym Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol yma yng Nghymru. Mae'n golygu peidio â gweithredu mewn seilos, peidio â gwneud i bortffolios gystadlu â'i gilydd, ond gweithio ar draws y Llywodraeth i sicrhau—[Torri ar draws.] Nid ydych wedi rhannu o ran gwneud yn siŵr ein bod—

Trefn. Fel y dywedais, nid trafodaeth yw hon, ond dadl. Os yw'r Dirprwy Weinidog eisiau ceisio ymyrryd, gall wneud hynny, ond os yw'r Aelod—[Torri ar draws.] Trefn. Os nad yw'r Aelod eisiau derbyn ymyriad, nid oes rhaid i'r Aelod dderbyn ymyriad. 

16:55

Byddai wedi bod yn braf pe byddech wedi siarad cymaint am ddiwylliant dros y tair blynedd diwethaf. Rydym wedi gofyn dro ar ôl tro i chi wneud datganiadau llafar ac ateb cwestiynau, ac eto nid ydych wedi gwneud hynny. Felly, rwyf am gael y cyfle hwn i orffen y ddadl a gofyn i Lywodraeth Cymru fod o ddifrif ynglŷn â diwylliant, i wrando ar y dadleuon a gyflwynwyd gennym a deall yr holl bwyntiau a godwyd.

Fe wnaeth Mike Hedges a Mabon ein hatgoffa'n briodol nad yw'n ymwneud â'r trysorau, ond yn hytrach, â phobl. Yn y casgliadau cenedlaethol, mae dau o'r pethau yr wyf wedi bod yn fwyaf balch o ganfod eu bod wedi bod yn y casgliadau llafar: llais fy hen dad-cu a llais fy hen fam-gu, un o ochr fy mam, un o ochr fy nhad. Efallai y byddwch chi'n meddwl tybed beth oedd fy hen fam-gu yn ei drafod. Wel, roedd hi'n trafod sut roedd ei mam yn arfer paratoi afu a winwns. Roeddent yn mynd am y straeon cyffredin, y traddodiadau llafar. Felly, mae'n ymwneud â mwy na'r trysorau sydd mor annwyl i ni; mae'r archif honno'n golygu rhywbeth i bob un ohonom ac mae'n ein cysylltu â'r gorffennol. Byddwn yn colli'r holl bethau hyn wrth golli'r arbenigedd.

Felly, rwy'n erfyn ar y Llywodraeth: gwrandewch os gwelwch yn dda. Nid wyf yn ceisio sgorio pwyntiau gwleidyddol, rwy'n gofyn i chi ystyried beth sy'n digwydd, sut y gallwn fuddsoddi'n briodol yn ein diwylliant a'n sefydliadau cenedlaethol a sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn elwa ohonynt. Maent yn gwneud gwaith anhygoel—anhygoel, rhyfeddol, sy'n newid bywydau. Gwelais hynny o weithio gyda chydweithwyr, y prosiectau anhygoel. Ond maent yn gallu gwneud cymaint mwy, a'n heconomi fydd yn elwa, a phob un ohonom. Felly, gwrandewch os gwelwch yn dda, Ddirprwy Weinidog, tra byddwch chi'n dal yn y rôl hon, ac ymgysylltwch o ddifrif â'r materion hyn. Rwy'n malio am gasgliadau ein cenedl oherwydd maent yn perthyn i bob un ohonom, a chenedlaethau'r dyfodol. Nid wyf yn ceisio sgorio pwyntiau gwleidyddol, rwy'n gofyn i'r Llywodraeth wrando.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl ar ddeiseb P-06-1367, 'Dylid ariannu gwaith i symud creigiau chwarel ac adfer tywod a grwynau i Draeth y Gogledd, Llandudno'

Fe symudwn ni nawr at eitem 6 ar ein hagenda, sef dadl ar ddeiseb P-06-1367, 'Dylid ariannu gwaith i symud creigiau chwarel ac adfer tywod a grwynau i Draeth y Gogledd, Llandudno'. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Jack Sargeant.

Cynnig NDM8525 Jack Sargeant

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb P-06-1367, 'Dylid ariannu gwaith i symud creigiau chwarel ac adfer tywod a grwynau i Draeth y Gogledd Llandudno’, a gasglodd 12,228 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd dros dro. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl bwysig hon.

Yn aml, pan fyddwn yn trafod deiseb leol boblogaidd, rwy'n teimlo'r angen fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau i egluro lle neu beth rydym yn sôn amdano. Ond bydd Traeth y Gogledd yn Llandudno yn gyfarwydd i bob un ohonom. Y pier, y Grand Hotel, yr olwyn fawr, a'r Gogarth yn fframio'r cyfan. Mae'r ddeiseb, a gasglodd 10,752 o e-lofnodion a 1,476 llofnod arall ar bapur, i roi cyfanswm o 12,228 lofnodion, yn galw am adfer y traeth yn Nhraeth y Gogledd Llandudno. Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan y Cynghorydd Ian Turner. Mae'n dwyn y teitl 'Dylid ariannu gwaith i symud creigiau chwarel ac adfer tywod a grwynau i Draeth y Gogledd Llandudno'. Mae'n dweud:     

'Yn 2014, gollyngodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 50,000 mwy o dunelli o greigiau chwarel anarferol o fawr a heb eu profi ar Lannau’r Gogledd. Cafodd y traeth ei ddinistrio gan hyn. Mae bron yn amhosibl i lawer ei gyrraedd, ac yn beryglus os yw pobl yn ceisio. Mae’n falltod ar y dirwedd, ac yn niweidiol i’n prif economi, sef twristiaeth.'

Cefais y pleser o ymweld â'r traeth gyda fy rhagflaenydd fel Cadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Senedd, yr Aelod lleol o'r Senedd, Janet Finch-Saunders, y prif ddeisebydd ac ymgyrchwyr lleol eraill. Roeddent yn awyddus i bwysleisio'r uchelgeisiau sydd ganddynt i dyfu'r ardal fel cyrchfan i dwristiaid dros yr 20 mlynedd nesaf.

Yn ei gohebiaeth gyda'r pwyllgor, mae'r Gweinidog wedi bod yn glir iawn. Ei blaenoriaeth yw diogelwch pobl sy'n byw yno a mynd i'r afael â'r perygl o lifogydd. Yn ei gohebiaeth â'r pwyllgor, mae'r Gweinidog wedi datgan bod y grwynau a osodwyd cyn 1996 yn 'aneffeithiol wrth gynnal lefelau'r traeth', a gosodwyd cefnen o goblau i ddiogelu'r ardal rhag llifogydd. Yn 2014, ychwanegwyd coblau ychwanegol i gymryd lle'r rhai a gollwyd dros y 14 mlynedd yn y cyfamser. Cyhoeddodd y Gweinidog hefyd fod gosod traeth tywodlyd 600m ar Draeth y Gogledd wedi cael ei ystyried, ond canfu'r achos busnes y byddai mewnforio'r tywod,

'yn llawer mwy costus nag opsiynau peirianyddol eraill ac ni fyddai'n darparu unrhyw fuddion ychwanegol o ran amddiffyn y gymuned rhag llifogydd.'

Ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn anghytuno â rhai sy'n dweud bod twristiaeth yn dioddef oherwydd hyn, ac rwy'n siŵr y byddwn yn clywed y ddwy ochr yn ystod y ddadl hon heddiw. Yr hyn sy'n glir yw bod y bobl leol yn teimlo'n angerddol iawn am Draeth y Gogledd, a bydd y ddadl hon yn rhoi cyfle i ni glywed eu straeon ar lawr eu Senedd. Byddwn hefyd yn clywed am eu dymuniadau ar gyfer yr ardal. Ac ochr yn ochr â hynny, byddwn hefyd yn clywed am yr heriau peirianyddol ac ariannol o gadw tywod mewn ardal arfordirol sy'n profi pob math o dywydd ac amodau morol.

Lywydd, drwy ein trafodaeth y prynhawn yma, rwy'n gobeithio y gallwn sefydlu dealltwriaeth gliriach yn y Senedd ac yn y gymuned leol o'r hyn a allai fod yn bosibl, ond hefyd beth fyddai cost hynny nawr ac yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau yr Aelodau o'r Senedd, a chyfraniad y Gweinidog Newid Hinsawdd yn wir. Diolch.

17:00

Wrth godi, hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd, Jack Sargeant AS, ac Aelodau'r Pwyllgor Deisebau, a chynnwys Rhys ab Owen AS a Joel James AS am godi llais ar hyn, gan ei helpu i ddod i'r Cyfarfod Llawn. Rwy'n teimlo'n angerddol iawn am y mater hwn. Yn wir, ym 1986-87, fy niweddar dad oedd maer Llandudno, ac ym 1993-95, fy niweddar fam oedd maer Llandudno, ac yn 2004-5, fi oedd maer Llandudno, i gyd ar adeg pan oedd gennym draeth tywodlyd yn Llandudno. Rhaid imi ddiolch yn fawr iawn hefyd i'r Cynghorydd Ian Turner, sydd wedi bod yn wael iawn, mae'n rhaid imi ddweud. Ond ei benderfynoldeb a'i angerdd ef dros ei gymuned sydd wedi gwneud y ddeiseb hon yn bosibl yn y lle cyntaf. Hoffwn ddiolch i bawb a'i llofnododd, y rhai a'i cefnogodd, yn yr holl ddyddiau hir hynny y safodd ef ym mhob tywydd ar bromenâd Llandudno i gael cymaint o lofnodion. Mae hyn yn dangos grym y Pwyllgor Deisebau ac mae hefyd yn tanlinellu craidd democrataidd ein Senedd, lle mae pobl Cymru yn arwain ein barn.

Nawr, fel y crybwyllwyd, yn 2014 cafodd 50,000 tunnell o gerrig chwarel budr—nid graean bras, fel y'i disgrifiwyd yn yr wybodaeth dechnegol, ac nid coblau; cerrig chwarel budr oeddent—cerrig enfawr, wedi eu gadael heb rybudd nac ymgynghoriad; nid oedd cynghorwyr y dref hyd yn oed yn gwybod. Dechreuodd lorïau gyrraedd ar ddydd Gwener y Groglith. Llwyddwyd i'w cael i ryw fath o'i ddal yn ôl am ychydig ddyddiau, ond roedd hyn yn sioc fawr i breswylwyr, yr ymwelwyr, a pherchnogion—dwsinau o lorïau'n dod i arllwys y cerrig enfawr hyn. Nid oedd unrhyw dryloywder, dim atebolrwydd na chyfrifoldeb. Felly, bellach mae gennym draeth hyll, peryglus ac anhygyrch.

Yn y cynlluniau gwaith amddiffyn yr arfordir yn ddiweddar, o'r opsiynau a ddewiswyd—a dywedaf 'opsiynau', oherwydd roedd yna opsiwn, ac mae'r Gweinidog yn ymwybodol o hyn. Cafodd ei saernïo, ei gynllunio, a gallai fod wedi wedi ei gyflwyno, ac roedd yn cynnwys gwaith amddiffynfeydd môr i ddiogelu'r dref wych hon. Nid oes unrhyw un eisiau gweld y dref hon o dan ddŵr ac felly rydym am ei gweld yn cael ei gwarchod gan gynllun ar gyfer y 100, 200 mlynedd nesaf. Ond roedd yna opsiwn a fyddai'n golygu bod tywod yn cael ei adfer. Roedd y fforwm arfordirol eisiau hynny. Roedd y cynghorwyr yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy eisiau opsiwn i weld y tywod yn cael ei adfer. Fodd bynnag, unwaith eto, teimlai Llandudno ei fod yn fater o'r opsiwn rhataf o adeiladu wal a'r potensial o ychwanegu mwy o gerrig mawr, ac mae hynny, Weinidog, Aelodau, Gadeirydd, Ddirprwy Lywydd, yn annerbyniol. Bydd yn ychwanegu halen at y briw a bydd yn tanseilio Llandudno fel brenhines y cyrchfannau Cymreig. Roedd y grwynau a'r tywod a gâi ei gynnal ganddynt yn torri llif y llanw ar hyd llwybr llanw'r traeth. Maent wedi diogelu Traeth y Gogledd rhag grym llanw môr Iwerddon. Mae gan Landudno fanc Constable—banc tywod mawr a hir iawn sydd wedi gwarchod Llandudno ers blynyddoedd. Ond mae angen help arnom o hyd, o ystyried y newidiadau hinsawdd a'r cynnydd yn lefel y môr. 

Nawr, rydym i gyd yn gwybod hefyd mai twristiaeth yw prif sbardun economaidd Llandudno. Dyma sylfaen yr economi leol ac mae'n cefnogi popeth o westai a llety gwyliau i fwytai a chaffis, ond mae'n rhaid i ni amddiffyn, cynnal a meithrin y fasnach dwristiaeth bwysig hon. Nawr, mae'r achos busnes amlinellol a gynhyrchwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ei hun yn egluro bod yn rhaid i Landudno ddal ati i addasu ac arloesi er mwyn parhau i fod yn lleoliad twristiaeth blaenllaw i bobl yn y DU. Yn rhy aml, mae perchnogion gwestai'n dweud wrthyf fod ymwelwyr sy'n aros, yn enwedig plant, wedi syrthio ar y creigiau hyn, gan achosi anaf. Mae'r traeth yn gwbl anhygyrch nawr—ardal y cerrig mawr—i blant, yr henoed a phobl anabl. Ar ben hynny, yn esthetig, mae'n ddolur llygad llwyr. Rwy'n gwybod, Weinidog—ac rwy'n deall eich cyllideb a phopeth a'ch bod chi wedi dweud wrthyf dro ar ôl tro nad yw tywod yn opsiwn, ond yr hyn rwy'n gofyn amdano heddiw yw rhyw gydnabyddiaeth o arwyddocâd a gwerth adfer y tywod i'r traeth, pa mor bwysig yw hynny, nid yn unig i mi ond i bobl Aberconwy a'r rhai sy'n dewis ymweld.

Wrth sôn am fewnforio tywod, pan fyddant wedi gwneud Llandrillo-yn-Rhos a'r traeth tywodlyd hardd a geir ym Mae Colwyn nawr, sy'n dywod i gyd, mae'r tywod hwnnw wedi cael ei gario i mewn ar gychod o ymhellach oddi ar yr arfordir. Felly, nid ydym yn sôn am fewnforio tywod, fel y cyfryw. Rwy'n sylweddoli nawr fod gennym Brif Weinidog newydd, a Chabinet newydd yn y dyfodol mae'n siŵr. Hoffwn ofyn a all eich tîm amddiffyn yr arfordir weithio gyda'r adran dwristiaeth a chynnig ateb sy'n gweithio i Landudno sy'n ei gwarchod fel prosiect amddiffyn môr addas a phriodol ond hefyd un sy'n adfer tywod. Diolch yn fawr.

17:05

Dwi'n falch iawn i gael y cyfle i gyfrannu at y drafodaeth bwysig yma achos, wrth gwrs, dymuniad pawb yw gweld traeth o dywod, ontefe, ar Draeth y Gogledd yn Llandudno. Allwch chi ddim cymharu traeth cerrig gyda thraeth tywod. Dyw'r ddelwedd eiconig yna o bromenâd Llandudno heb draeth aur—dyw e ddim yn teimlo'n iawn, dyw e ddim yn edrych yn iawn heb y sweep yna o dywod melyn ar ei hyd e. Felly, yn hynny o beth, dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn cytuno ynglŷn â'r hyn y byddem ni'n hoffi ei weld, a does gen i ddim amheuon bod y deisebwyr yn teimlo yr un peth. Ond, wrth gwrs, mae gwahaniaeth rhwng beth rŷn ni eisiau ei weld yn ddelfrydol a beth, efallai, sy'n ymarferol bosib ar hyn o bryd yn wahanol iawn i'w gilydd, yn anffodus.

Nawr, mae'n rhaid inni gofio pam y rhoddwyd y cerrig yna—rŷn ni wedi clywed—yn 2014. Roedd stormydd dros y gaeaf blaenorol hwnnw wedi achosi llifogydd dros y promenâd ac roedd yn rhaid mynd ati i amddiffyn nid yn unig integrity y prom, wrth gwrs, ond amddiffyn y dref ei hun, y cartrefi a'r busnesau rhag llifogydd pellach. Ac mi fydd y cynllun presennol yn amddiffyn nid yn unig seilwaith hanfodol ond dros 5,000 o fusnesau a chartrefi lleol. A dyna'r flaenoriaeth gyntaf, wrth gwrs, i bob un ohonon ni. A dwi ddim yn cwestiynu bod unrhyw un yn amau hynny.

Ac mae'r argyfwng hinsawdd, wrth gwrs, rŷn ni'n byw ynddo ar y funud yn amlygu'r angen brys ar gyfer gwneud mwy i amddiffyn rhag llifogydd. Yn Llandudno, mae yna amcangyfrif y bydd lefel y môr yn codi rhwng 750mm a 1,200mm o fewn y 100 mlynedd nesaf. Hynny yw, rhywle o gwmpas 1m yn uwch pan fo'n dod i lefel y môr. Felly, er mwyn amddiffyn y 5,000 yna o fusnesau a chartrefi sydd o dan fygythiad, mae'n rhaid sicrhau bod projectau fel hyn yn cael eu gwireddu. 

Nawr, mae'r ddogfennaeth dwi wedi ei gweld yn ymwneud â'r cynllun yn dweud yn glir, tra bod y cynllun presennol yn costio rhyw £6.7 miliwn, mi fyddai cynllun sy'n adfer y traeth tywod yn costio £24 miliwn. [Torri ar draws]. Wel, ocê, £9.9 miliwn, ond mae e fwy na dwywaith yn fwy o safbwynt y gost. A byddai hynny, wrth gwrs, ddim yn dod ag unrhyw fudd ychwanegol o ran amddiffyn rhag llifogydd o'i gymharu â'r cynllun presennol, achos mae'r cynllun presennol yn gwneud ei waith. 

Mae yna hefyd ofid amgylcheddol am gael gwared ar gynllun sydd yn llwyddiannus yn cyflawni'r hyn y rhoddwyd e yn ei le i'w wneud. Ond i fi, y bottom line yw, fel bob amser, y ddadl ariannol, ontefe? Byddai angen miliynau lawer yn ychwanegol i dalu am gynllun ar gyfer amddiffyn y miloedd o fusnesau a chartrefi yna sydd dan fygythiad a chael traeth o dywod. A gan fod, wrth gwrs, yr hinsawdd economaidd, dywedwn ni, ddim yn ein gadael ni mewn sefyllfa lle mae yna bres ar gyfer nifer o wasanaethau sylfaenol, heb sôn am bethau fel hyn, mae hwnna'n proposition heriol iawn, onid yw e, i unrhyw un o unrhyw blaid, o unrhyw liw, boed yn wrthblaid neu yn y Llywodraeth. Ond—ac mae hwn yn 'ond' pwysig—dyw hynny ddim i ddweud na ellid gwneud rhywbeth yn y dyfodol. A dwi'n deall y ddadl, fel roeddwn i'n ei ddweud ar y cychwyn o ran estheteg y traeth, o ran y cyfraniad pwysig y byddai hynny'n gwneud o safbwynt hamdden yn lleol, o safbwynt twristiaeth yn lleol. A gyda hyn i gyd mewn golwg, prif fyrdwn, neu brif neges fy nghyfraniad i i'r ddadl yma heddiw yw erfyn ar y Gweinidog, os a phan fydd yr hinsawdd ariannol yn gwella, y bydd hi a Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i weithio gyda'r cyngor i wneud adfer y traeth tywod ar Draeth y Gogledd yn Llandudno yn flaenoriaeth, oherwydd hynny fyddai'n gwireddi'r hyn rŷn ni gyd eisiau ei weld.

17:10

Rwyf innau o blaid tywod ar y traeth hefyd—a'r cyngor hefyd—ac yn galw ar Lywodraeth y DU, sydd bellach â'r dulliau i wneud hyn ar ôl Brexit. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwario'r lefelau uchaf erioed ar amddiffynfeydd meini i helpu i atal cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd ac erydu arfordirol ar hyd arfordir gogledd Cymru, ond nid oes gan Lywodraeth ddatganoledig Cymru na chyngor Conwy, yn yr amseroedd hyn, yn dilyn degawd o gyni Torïaidd a phwysau chwyddiant enfawr, arian dros ben pan fo meysydd hanfodol addysg, iechyd, trafnidiaeth gyhoeddus a thai dan straen. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud y gorau o arian Ewropeaidd o dan gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop ym Mae Colwyn er mwyn talu am amddiffynfeydd môr, adfer tywod a'r holl werth ychwanegol arall ar gyfer twristiaeth. Felly, arian Ewropeaidd a ddefnyddiwyd ar gyfer hynny—ar gyfer yr economi ac ar gyfer y manteision llesiant. Cyn Brexit, roedd Cymru yn fuddiolwr net enfawr i'r math hwn o gyllid. Roedd yn helpu twristiaeth, roedd yn helpu cymunedau, roedd yn rhoi gwerth ychwanegol. Ac rwy'n cofio'r adegau gwych pan oedd potiau o arian yr UE yn helpu i adeiladu darpariaeth addysg a darpariaeth gymunedol, a gwelliannau cymunedol i briffyrdd.

Nid oes gan Lywodraeth Cymru gyllid bellach ar gyfer cynlluniau cenedlaethol fel hyn. Mae'n colli bron i £1 biliwn o gyllid yr UE, ac nid yw cyllid cyfalaf wedi cynyddu, ac mae ei angen i wella ysbytai a chyfleusterau addysg. Dywedwyd wrthyf fod amddiffynfeydd meini yn hanfodol i atal Llandudno rhag llifogydd, a bod gwestai'n methu cael yswiriant hebddynt; nid wyf yn gwybod pa mor wir yw hynny, ond dyna a ddywedwyd wrthyf.

Pe bai tywod yn cael ei gyflwyno i Draeth y Gogledd Llandudno, byddai'n cael ei gymryd gan y llanw eto. Mae'r môr yn dod at ben uchaf y traeth a byddai'n cael ei olchi yn ôl allan, felly byddai angen cyllid parhaus ar gyfer ei newid a chynnal a chadw, sy'n bryder, a byddai'n cael effaith amgylcheddol. Mae gan Landudno bier hyfryd a phromenâd llydan, sy'n wych ar gyfer cerdded ar hyd-ddo ac i rai bach allu mynd ar eu beiciau'n ddiogel, yn wahanol i Landrillo-yn-Rhos. A byddai'n wych cael rhywfaint o offer chwarae yno i'w wella ymhellach, i edrych ar yr hyn sydd yno. Yr her barhaus i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yw esbonio i'r gymuned leol y risg wirioneddol y mae perygl llifogydd arfordirol yn ei chreu i'r gymuned, pam mae'r banc coblau yno a pham ei fod mor bwysig.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi gwneud cais am arian o'r gronfa ffyniant gyffredin i gomisiynu adroddiad ar werth economaidd gosod tywod yn lle cyfran o'r banc coblau. Gellid rhoi traeth tywod ar ran o Draeth y Gogledd cyn belled â'i fod wedi ei fodelu, ei gynllunio a'i ariannu'n gywir ar gyfer adeiladu, fel y crybwyllwyd yn gynharach. Fodd bynnag, byddai baich refeniw parhaus sylweddol, nad yw'n bodoli ar hyn o bryd, i'r cyngor, ac mae hynny'n bryder. Oherwydd ein bod mewn argyfwng costau byw, mae cynghorau mewn perygl o fethdaliad—Conwy yn enwedig. Mae iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar eu gliniau ac maent yn poeni'n fawr am y cyllid ychwanegol ar gyfer refeniw. Maent yn poeni'n fawr am gadw'r arian ar gyfer Venue Cymru hyd yn oed ar hyn o bryd. Felly, yr holl ddewisiadau hyn. Ceir awgrym y gellid defnyddio treth twristiaeth tuag at ariannu'r traeth, ond gallai gymryd llawer iawn o flynyddoedd i gronni digon i'w ariannu.

Felly, mae'n drueni nad oes gennym fynediad at gyllid Ewropeaidd mwyach, arian a gâi ei ddefnyddio ar gyfer llawer o fanteision yn ymwneud â thwristiaeth, lles cymunedau a gwerth ychwanegol. Oherwydd toriadau mewn termau real i gyllid gwasanaethau cyhoeddus gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru, diffyg cyllid newydd gan yr UE, mae'n anodd gweld lle gallai'r cyngor neu Lywodraeth Cymru ddod o hyd i gyllid ar gyfer gwerth ychwanegol oni bai bod Llywodraeth y DU yn camu i mewn, gan mai nhw sydd â'r arian.

Nid yw'n ymwneud—. Felly, pan fydd pobl yn mynd i bleidleisio, hoffwn feddwl—. Mae angen iddynt edrych ar bwy sy'n mynd i roi arian yn ôl i mewn i wasanaethau cyhoeddus pan fyddant yn mynd i'r blwch pleidleisio. Mae angen i bobl ystyried hyn bob tro yr ânt i bleidleisio. Diolch.

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon ar ddeiseb. Yr haf diwethaf, fel Gweinidog gwrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig dros dwristiaeth, ymwelais â Thraeth y Gogledd Llandudno gyda'r Aelod etholaeth dros Aberconwy, Janet Finch-Saunders. Cefais fy ngwahodd gan Janet ar yr ymweliad hwnnw oherwydd ei fod yn fater mor enfawr i'r gymuned y mae'n ei chynrychioli, ac roedd yn broblem yn y dref sy'n em yng nghoron gogledd Cymru, ac yn amlwg yn cael effaith ar y cynnig twristiaeth yno. Roedd yr hyn a welais yn amlwg iawn o'r eiliad y cyrhaeddais. Roedd gennych un rhan glir iawn, traeth tywodlyd y Llandudno a welwch ar gerdyn post—hardd, prysur, llawn o deuluoedd yn cael amser bendigedig a busnesau'n mwynhau llwyddiant. Ar yr ochr arall, fe welech lan y môr creigiog, a oedd yn llawer tawelach, bron yn hollol wag. Roedd fel pe bai yno ddwy dref—dau dymor gwahanol o'r flwyddyn ychydig lathenni oddi wrth ei gilydd. Ac mae'r pethau hyn yn bwysig.

Rydym wedi clywed y gwahaniaeth yr oedd busnesau lleol yn ei deimlo o golli'r traeth tywodlyd traddodiadol ar eu gallu i fasnachu a gwneud y gorau o'r tymor twristiaeth yn yr haf, ac mae'r ystadegau'n ategu hynny hefyd. Mae Llandudno, fel un o brif gyrchfannau twristiaeth Cymru, wedi gweld cyflogaeth twristiaeth yn y dref—. Heddiw, mae yn y lle'r oedd ynddo tua 2008, gyda gostyngiad amlwg yn 2014, pan benderfynodd y cyngor roi'r 50,000 tunnell o gerrig mawr ar y traeth. Dyma'r rhesymau pam nad yw'n syndod i mi fod y ddeiseb hon wedi cyrraedd nifer y llofnodion sydd eu hangen i sbarduno dadl yma yn y Senedd.

Yn eithaf aml, mae'r materion hyn sydd o bwys mawr i gymunedau lleol yn ei chael hi'n anodd cyrraedd trothwyon a fwriadwyd ar gyfer materion o ddiddordeb cenedlaethol, ac efallai fod hyn yn rhywbeth y gallai'r Pwyllgor Deisebau fod eisiau edrych arno yn y dyfodol, i weld a oes unrhyw ffyrdd o oresgyn problem lle mae'r diddordeb lleol yn enfawr ond y gall y budd cenedlaethol fod ychydig yn fwy cyfyngedig, ac i weld a ellir cyfrif llofnodion mewn ffordd fwy hyblyg neu ddeinamig, a tybed a allai hwnnw fod yn waith y gellid mynd ar ei drywydd yn y dyfodol, Gadeirydd.

Ond roedd y ffaith bod y ddeiseb hon nid yn unig wedi cyrraedd a mynd heibio i'r trothwy llofnodion o 10,000 yn galw am ymdrech enfawr ar ran y bobl a aeth ati i gasglu'r llofnodion hynny. Wrth gyfarfod â'r dyn a oedd yn ymwneud fwyaf â'r ymdrechion hynny, daeth yn amlwg pam. Roedd Ian Turner yn rhywun y cefais fy nghyflwyno iddo gan Janet Finch-Saunders ar y diwrnod hwnnw mewn stondin ar lan y môr yn Llandudno gydag iPads, lluniau o'r traeth a dogfennau gwybodaeth. Roedd Ian yn siop un stop ar gyfer popeth roedd angen i chi ei wybod am y mater. Ac roedd hi'n brysur iawn, onid oedd, Janet? Yn yr amser byr y bûm yno, daeth cannoedd o bobl, rwy'n credu, i sgwrsio gydag Ian, gan ddangos diddordeb yn y mater, darllen dogfennau, edrych ar y lluniau, ac yn y pen draw i lofnodi'r ddeiseb. Dywedodd wrthyf ei fod wedi treulio bron iawn drwy'r dydd bob dydd ers misoedd yn y stondin, ac roedd wedi bod yn faich enfawr arno'n bersonol.

Felly, rwyf am dalu teyrnged i Ian heddiw, oherwydd, er y gallem dreulio tua awr yn trafod y deisebau hyn yma yn y Senedd, yr hyn nad ydym yn ei weld yw'r miloedd o oriau ac aberth bersonol enfawr y mae arwyr di-glod a phobl gyffredin ledled y wlad wych hon yn eu gwneud bob dydd i wneud iddynt ddigwydd. Hebddynt, ni fyddai democratiaeth Cymru yn gweithredu a byddai ein Senedd yn wannach o'r herwydd. Felly, i Ian, ac i lawer o wirfoddolwyr eraill sy'n rhoi eu hamser, eu hymdrech, eu hegni, i leisio eu barn ar y materion sy'n bwysig iddynt hwy a'u cymuned, diolch.

17:15

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle heddiw i gefnogi fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Aberconwy, a phawb a gafodd eu cymell ddigon i lofnodi'r ddeiseb hon, ac wrth gwrs y Pwyllgor Deisebau am ddod â hyn i'r Senedd heddiw. Rwy'n credu ei fod yn fater pwysig iawn. Mae angen inni wrando ar bobl leol pan gânt eu cymell ddigon i lofnodi'r deisebau hyn, fel y dywedodd yr Aelod nawr.

Rwy'n mynd i gadw fy nghyfraniad yn fyr oherwydd, yn amlwg, nid wyf yn Aelod lleol, ond roeddwn eisiau trafod hyn fel Aelod o Senedd Cymru. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i ymweld â Llandudno lawer tro gyda Janet ar sawl achlysur. Cefais innau fy hebrwng i lawr i'r traeth a siaradais gydag Ian a llawer o'r deisebwyr fy hun, ac ymwelais â busnesau, ac fe allech chi deimlo'r ymchwydd o gefnogaeth i ddod â thywod yn ôl i Draeth y Gogledd Llandudno.

Yn ogystal ag ymweld ag ysgolion a mwynhau'r cyfan sydd gan Landudno i'w gynnig, ymgyrchais yn yr etholaeth hefyd, a'r cyfan a glywais, dro ar ôl tro ar garreg y drws, oedd awydd ac angen pobl i weld adfer tywod i'r traeth. Mae'n rhywbeth sy'n ysgogi pobl gryn dipyn yn eich ardal chi, felly mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gwrando arnynt. Fel y dywedodd Janet eisoes, twristiaeth yw prif sbardun economaidd Llandudno. Mae'n ganolog i'r economi leol. Nid oes ond angen i chi edrych ar y gwestai trawiadol ar hyd y draethlin hardd, ac mae'r holl westai'n swatio rhwng y mynyddoedd a'r môr. Gwrandewch arnynt a'u lleisiau. Maent eisiau'r tywod yn ôl i roi hwb nid yn unig i'w busnesau, ond i'r economi leol honno. Felly, pa bynnag arian rydych chi'n dadlau y bydd yn ei gostio, fe welwch hwnnw'n talu ar ei ganfed. Fel mam i blant ifanc, pe bai tywod ar y traeth hwnnw, byddai'n llawer mwy deniadol i fynd i ymweld â Llandudno; er fy mod yn hoff iawn o'r lle eisoes, byddai'n fwy deniadol i deuluoedd sy'n dod o bell ac agos, yn enwedig o Loegr i Gymru.

Gellir dadlau mai Llandudno yw'r em yng nghoron arfordir gogledd Cymru.

17:20

Ac rwy'n annog pawb heddiw i gefnogi Llandudno, ein brenhines, a'r holl ddeisebwyr heddiw hefyd. Ac mae gwir angen gwrando arnynt ac nid canolbwyntio'n unig ar yr agwedd ariannol, fel y dywedodd Heledd Fychan yn y ddadl ddiwethaf. Mae'n rhaid i ni weld ac edrych ar y darlun ehangach. Diolch.

Dwi nawr yn galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.

Diolch, Lywydd dros dro. Cafodd grwynau pren eu gosod am y tro cyntaf ar Draeth y Gogledd Llandudno ym 1938. Fe'u gosodwyd i reoli lefelau traeth newidiol, a oedd yn cynyddu'r perygl o lifogydd i'r dref. Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ym 1996, cafodd y grwynau pren eu tynnu am nad oeddent yn effeithiol. Yna, gosodwyd banc graean yn lle'r grwynau i amddiffyn wal gynnal risiog y promenâd. Mae'r graean yn gweithio drwy chwalu egni'r tonnau yn ystod stormydd. Mae'n lleihau difrod i'r promenâd a'r perygl o lifogydd a achosir gan y môr yn torri drosodd. Heb y banc graean byddai cannoedd o adeiladau yn Llandudno mewn perygl mawr o lifogydd.

Yn 2013 a 2014, effeithiwyd ar Gymru gan stormydd arfordirol sylweddol. Rwy'n siŵr y gall llawer o'r Aelodau yma gofio tonnau enfawr a achosodd ddifrod helaeth i bromenâd Aberystwyth, er enghraifft. Cafodd llawer o drigolion Ffordd Garford yn y Rhyl eu llethu gan lifogydd a achoswyd gan y môr yn torri drosodd, gan achosi i bobl orfod gadael tua 140 o gartrefi, a dyna pam ein bod wedi cwblhau cynllun lliniaru llifogydd Dwyrain y Rhyl yn ddiweddar, a ariannwyd drwy ein rhaglen rheoli risg arfordirol. Costiodd y cynllun £20 miliwn, a bydd o fudd i 1,650 eiddo dros ei oes. Effeithiodd y stormydd gaeaf yr ydym i gyd yn eu cofio yn 2013 a 2014 ar Draeth y Gogledd Llandudno hefyd. Amddiffynnodd y banc graean y dref, ond cafodd llawer o'r deunydd graean ei olchi ymaith, gan adael y promenâd mewn perygl o ddifrod a'r môr yn torri drosodd. Collwyd deunydd yn sydyn ar ben blynyddoedd o erydu a oedd wedi gwanychu'r amddiffyniad graean a osodwyd yn y 1990au.

Yn dilyn stormydd 2013 a 2014, yn ddigon priodol, gweithredodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gyflym i ailgyflenwi'r deunydd a gollwyd. Mae'n ddrwg gennyf, Janet, ond ni wnaethant ddympio clogfeini ar y traeth.

Ac roedd yn agored ac yn dryloyw. Bydd chwiliad Google syml yn dangos i chi'r cofnod cyhoeddus eu bod wedi cyfnewid tebyg am debyg. Fe wnaeth y cyngor weithredu'n berffaith briodol. Fe wnaethant gyfnewid tebyg am debyg. Roedd y deunydd a ddefnyddiwyd yn 2014 yr un fanyleb gynllunio â'r graean a oedd wedi bod yno ers 1996. Roedd yn dod o'r un chwareli hyd yn oed, ac mae hynny wedi ei gofnodi'n gyhoeddus; gallwch edrych amdano'n hawdd. Roedd yr un fath â'r deunydd a oedd wedi gwarchod Llandudno yn ystod stormydd y gaeaf yr ydym i gyd yn eu cofio ac wedi atal y llifogydd helaeth hynny. A'r risg o lifogydd arfordirol yw'r rheswm pam, yn 2016—. Dylwn ddweud hefyd fy mod yn credu y dylid canmol y cyngor yn fawr am weithredu'n gyflym, ac nid wyf yn credu bod dweud ei fod wedi dympio cerrig mawr ar y traeth yn hynod o ddefnyddiol.

Dylech fod wedi bod yno pan oedd y lorïau yno, yn dympio.

Mae o ble y daeth y graean yn fater a gofnodwyd yn gyhoeddus, a'r hyn ydyw. Gallwch edrych ar wefan y cyngor ei hun. Rwy'n credu bod y cyngor wedi gweithredu'n eithriadol o briodol ar y pryd.

Y risg o lifogydd arfordirol yw'r rheswm pam y cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddechrau'r rhaglen rheoli risg arfordirol yn 2016. Rhaglen fuddsoddi arloesol newydd gwerth miliynau o bunnoedd yw'r rhaglen rheoli risg arfordirol. Pan fydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau, bydd y rhaglen rheoli risg arfordirol wedi ariannu 15 cynllun ledled Cymru, gwerth £288 miliwn ac o fudd i dros 15,000 o adeiladau. Roedd y rhaglen rheoli risg arfordirol yn gyfle unigryw i'n hawdurdodau arforol wella cydnerthedd eu cymunedau arfordirol, gan gadw pobl yn ddiogel am genedlaethau i ddod.

Mae'r rhaglen rheoli risg arfordirol bellach yn dirwyn i ben gyda'r tri chynllun terfynol ar fin cael cyllid cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Yn wir, rwy'n gwybod nawr eu bod wedi'u hariannu, oherwydd cyflwynais y rhaglen ddoe fel datganiad ysgrifenedig, y soniodd Jack Sargeant amdano yn gynharach yn ystod y cwestiynau. Un o'r tri chynllun sy'n weddill yw Llandudno. Nododd achos busnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy opsiwn costeffeithiol sy'n gweithio gyda'r banc graean presennol. Mae'n darparu gwerth gwych am arian. Am bob £1 a werir ar y cynllun, bydd yn darparu £11 mewn manteision llifogydd. Dyma'r opsiwn y mae'r cyngor—y cyngor—wedi ei ddewis ar gyfer gwneud gwaith cynllunio manwl arno a'r bwriad yw adeiladu eleni. Nododd yr achos busnes opsiwn amgen hefyd, a fyddai wedi golygu cael gwared ar rywfaint o raean i osod darn 600m o draeth tywodlyd. Mae'r opsiwn amgen hwnnw 14 gwaith yn ddrytach na'r dewis a ffafrir gan yr awdurdod lleol, ac nid oes ganddo unrhyw—

17:25

Na na. Nid oes unrhyw bwynt o drefn. Os hoffech wneud ymyriad ar y Gweinidog, mae croeso i chi wneud hynny.

Os ydych chi eisiau ymyrryd, fe gewch chi ymyrryd, iawn.

Mae'r ffigurau a roddwyd i mi gan bennaeth y gronfa cadernid economaidd ychydig yn llai na £10 miliwn ar gyfer y cynllun presennol, ac mae'n £19 miliwn wedi'i gyhoeddi yn y cynllun. Felly, nid yw hynny'n 14 gwaith yn fwy. Mae'n ddwbl.

Lywydd dros dro, rwy'n hapus i ddarparu'r ffigurau rwy'n eu dyfynnu yma, fel llythyr at yr Aelod, y mae hi'n fwy na hapus i—. Wel, fe'i rhoddaf fy hun yn y Llyfrgell; rwy'n hapus iawn i wneud hynny.FootnoteLink

Y pwynt yn ei gylch yw nad yw'r cynllun wedi rhagweld budd ychwanegol o ran rheoli perygl llifogydd ac arfordirol. Felly, mae'r arian llifogydd yr ydym yn sôn amdano yn cael ei ddefnyddio i amddiffyn pobl rhag llifogydd. Nid yw ar gyfer gwella cyfleusterau twristiaeth nac unrhyw beth arall. Byddai gwario mwy o arian ar un lleoliad, i wella gwerth amwynder, o'r rhaglen lifogydd yn golygu ein bod wedi dargyfeirio cyllid i ffwrdd o gymunedau eraill sydd angen amddiffynfeydd rhag llifogydd, felly byddai hynny'n golygu y byddai cymunedau eraill yn cael llifogydd er mwyn darparu gwerth amwynder yn Llandudno.

Mae'n rhaid i mi ddweud, mae'r pwynt twristaidd yma yn un diddorol. Rwy'n gyfarwydd iawn â Llandudno. Rydym yn mynd yno bob blwyddyn ac wedi bod yn gwneud hynny ers blynyddoedd. Rwyf wedi nofio oddi ar yr arfordir sawl gwaith. Rwyf wrth fy modd efo nofio dŵr oer, ac mae'n braf iawn gwneud hynny yno. Euthum i'r brifysgol yn Brighton hefyd, sydd â thraeth graean enwog. Mae pobl yn dwli arno. Nid wyf yn credu bod unrhyw fudd i'w gael o'i ddifrïo. Mae'n draeth hyfryd; mae'r promenâd yn ogoneddus. Mae'n lle hyfryd i fynd am dro; mae'n lle braf i nofio. Ond y pwynt yma mewn gwirionedd yw mai rhaglen amddiffyn rhag llifogydd yw hon, ac mae'n bwysig ein bod yn amddiffyn pobl rhag llifogydd gyda hi. Nid yw'r gwerth amwynder yn rhywbeth y gall rhaglen amddiffyn rhag llifogydd gosteffeithiol ei ystyried. Wrth gwrs, gallwch gael—

Rhaid i'r Gweinidog ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda.

Yn sicr. Rwyf am gydnabod y gall traeth tywodlyd amddiffyn yr arfordir yn gosteffeithiol. Mae'r rhaglen ddiweddar yn Llandrillo-yn-Rhos wedi dangos hynny. Ond y gwahaniaeth, fel y nododd Carolyn, yw bod y cynllun ail-lenwi traethau yn Llandrillo-yn-Rhos yn cael ei weld fel y gwerth gorau am arian ac yn darparu amddiffynfa rhag llifogydd. 

Hoffwn wneud un pwynt ychwanegol yn gyflym.

Mae grwynau pren, yn bwysicach, wedi'u hadeiladu o bren caled trofannol; mae'n rhaid iddynt fod, am mai dyna'r unig bren sy'n goroesi'r amgylchedd morol llym. Byddai angen eu hailosod bob 20 mlynedd, a byddai angen i chi dorri mwy o goed trofannol i lawr ar ochr arall y byd er mwyn eu mewnforio yma i roi'r grwynau i mewn i gynnal y tywod am ddim ond 20 mlynedd. Ni allaf feddwl bod honno'n ffordd gynaliadwy o weithredu rhaglen rheoli llifogydd. Felly, er fy mod yn diolch yn fawr i'r deisebwyr am gyflwyno'r ddeiseb hon, rwy'n credu, o dan yr amgylchiadau, mai'r cynllun sy'n cael ei gyflwyno gan y cyngor yw'r gorau. Diolch.

Dwi nawr yn galw ar Jack Sargeant i ymateb i'r ddadl. 

Diolch, Lywydd dros dro. Fe geisiaf fynd drwyddi cyn gynted ag y gallaf, Lywydd. Cawsom ein hatgoffa gan Janet yn ei hagoriad am ei diweddar dad a'i diweddar fam a gadeiriodd—fel rwy'n credu ichi heclo—Napoli'r gogledd, Janet, ac rydym yn eu cofio'n annwyl, a'r dadleuon a gawsoch yn y gorffennol gyda'r Gweinidog, ac atgofion melys y Gweinidog am fynd fwy neu lai bob blwyddyn, rwy'n credu, i Landudno, yn sicr yn ystod y tymor cynadledda. Ond unwaith eto, nododd y Gweinidog, fel y gwnaeth drwy gydol y broses hon o waith y pwyllgor, bwysigrwydd amddiffyn pobl a busnesau rhag llifogydd. Fe gyfeirioch chi at y dinistr llifogydd a achoswyd yn 2013, 2014, ac efallai fy mod yn anghywir, Lywydd, ond rwy'n credu efallai fod hynny ar yr adeg pan oedd fy nhad yn rôl y Gweinidog cyfoeth naturiol beth amser yn ôl nawr. 

Lywydd, roedd Llyr Gruffydd yn cytuno y byddai pawb yn hoffi traeth euraidd, tywodlyd, ond unwaith eto roedd yn cydnabod y diogelwch y mae'r cynllun presennol yn ei gynnig i 5,000 o fusnesau, rwy'n credu ichi ddweud, Llyr, ac unwaith eto, yr amodau ariannol i gael y lefel honno o ddiogelwch, beth fyddai hynny'n ei olygu, ac rwy'n credu bod hynny wedi cael sylw yn esboniad y Gweinidog i'r ddadl heddiw. 

Soniodd Carolyn Thomas am gyllid Ewropeaidd a sut mae hwnnw wedi'i ddefnyddio mewn mannau eraill, a chawsom ein hatgoffa nad yw bellach ar gael oherwydd Brexit, ond fe ofynnodd gwestiwn i gymunedau lleol, sef sut y gallwn wella'r promenâd a'r pier y mae pawb ohonom yn eu caru yn y Siambr hon, ac rwy'n credu eich bod wedi gofyn cwestiwn ynghylch offer chwarae, ac rwy'n siŵr y bydd gan Aelodau farn ar hynny. 

Lywydd, siaradodd Tom Giffard, a Laura Anne Jones hefyd, am eu hymweliad diweddar, ac roeddwn i'n arbennig o falch o fynd hefyd, Janet. Pan gymerais y rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, roeddwn yn awyddus i weld pob rhan o'n gwlad brydferth, ac roeddwn wrth fy modd yn derbyn y cynnig i gyfarfod â thrigolion lleol.

Dywedodd Tom, wrth ymateb, am drothwy'r llofnodion. Yr hyn a ddywedaf wrth Tom yw bod y gwaith hwnnw wedi'i wneud yn y Senedd, a daethom i'r farn mai'r trothwy ar gyfer llofnodion oedd y trothwy cywir i ddiwallu anghenion y Senedd hon. Ond rydym yn trin pob un ddeiseb, ni waeth faint o lofnodion, gyda'r difrifoldeb y mae'n ei haeddu. A phan fyddant yn cyrraedd 10,000, gwelsom nad yw pob deiseb yn cael eu trafod—maent yn cael eu hystyried gan y pwyllgor i gael eu trafod. Ac rydym wedi gweld deisebau gyda llawer llai o lofnodion yn cyrraedd llawr y Senedd hon, a llwybrau eraill y mae'r pwyllgor am eu dilyn. Ond hoffwn ddweud wrtho fy mod yn credu na fydd y gwaith ar adolygu hynny yn rhywbeth ar gyfer fy nghadeiryddiaeth i neu fy mhwyllgor i, ar phwyllgor yn y dyfodol mewn Senedd yn y dyfodol fydd yn gwneud hynny.

Ond i orffen, Lywydd, os caf ddweud mae Llandudno a'r ardal o amgylch y pier wedi bod yn atgof plentyndod i bob un ohonom yng ngogledd Cymru, ac rwy'n gwybod y bydd y ddadl heddiw wedi cymell peth hiraeth, ac rwy'n gobeithio y bydd yn rhoi rhywbeth inni gnoi cil arno o ran sut fydd pethau yn y dyfodol. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau lleol yn parhau i godi'r materion hyn ar lawr eu Senedd.

Ond yn olaf, Lywydd, a gaf i anfon fy nymuniadau gorau i'r holl ymgyrchwyr lleol a llofnodwyr y ddeiseb hon am eu hymdrechion, ond yn arbennig i'r Cynghorydd Ian Turner, sydd wedi bod yn sâl yn ystod y misoedd diwethaf, a dweud bod y pwyllgor hwn a'r Senedd, os caf, yn anfon ein dymuniadau gorau iddo ef a'i deulu, ac rwy'n dymuno gwellhad cyflym a llawn iddo? Diolch yn fawr.

17:30

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl Plaid Cymru: Fformiwla Barnett

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Lesley Griffiths.

Fe symudwn ni nawr i eitem 7, sef dadl Plaid Cymru ar fformiwla Barnett, a dwi'n galw ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8524 Heledd Fychan

Yn cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y consensws trawsbleidiol yn y Senedd ynghylch yr angen i ddiwygio model cyllido Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddod â'r fformiwla Barnett annheg i ben ac i ariannu Cymru yn ôl angen a nid ar sail poblogaeth.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Cadeirydd. Mae sail ein dadl ni heddiw yn un syml iawn, sef y dylai Cymru gael ei hariannu yn deg gan San Steffan, a dwi'n meddwl bod y ffaith ein bod ni'n gorfod dadlau hyn yn y lle cyntaf yn dweud cyfrolau am ein statws ni o fewn yr undeb anghyfartal yma.

Mi ddylai tegwch, wrth gwrs, fod yn rhywbeth cwbl sylfaenol mewn unrhyw berthynas gyfansoddiadol, ond y gwir amdani ydy ein bod ni wedi gorfod brwydro, a'n bod ni yn dal i orfod brwydro, dim ond er mwyn trio gwneud yn siŵr bod ein dadl ni yn cael ei chlywed gan y rheini mewn grym yn Whitehall. Felly, does yna ddim byd newydd yn hyn, er ei bod hi'n glir bod agwedd elyniaethus y Llywodraeth Geidwadol bresennol at ddatganoli, heb os, wedi gwaethygu pethau yn y blynyddoedd diwethaf.

Rydym ni'n gofyn am ddileu fformiwla Barnett. Mae'n amlwg ers cymaint o amser ei bod hi'n fformiwla sydd ddim yn ateb gofynion Cymru. Mae'n wir ers ei sefydlu, mewn difrif; chafodd hi ddim ei chynllunio efo Cymru mewn golwg. Mae hyd yn oed pensaer y fformiwla ei hun, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys ar y pryd, Joel Barnett, wedi dweud mai mesur dros dro yn unig i helpu efo materion cyllidol yn yr Alban, yn y cyfnod cyn refferendwm datganoli 1979, oedd y fformiwla yma. A heblaw am un neu ddau o fân addasiadau, mae'r fformiwla wedi parhau i fod yn sylfaen i fframwaith y Trysorlys ar gyfer cyllido Cymru ers hynny, ac wedi pontio, wrth gwrs, y cyfnod cyn ac ar ôl datganoli.

Y canlyniad ydy bod anghenion Cymru, a ddylai fod yn ffactor sylfaenol yn y ffordd mae ein hadnoddau fel undeb yn cael eu dyrannu, erioed wedi cael eu hadlewyrchu yn llawn o fewn y trefniadau cyllido presennol—ffaith a gafodd ei chydnabod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ei hun ar ôl cyhoeddi adroddiad comisiwn Holtham yn 2010. A phan ydym ni'n ystyried yr holl ddigwyddiadau cythryblus sydd wedi bod yn y 14 mlynedd ers adroddiad Holtham—llymder y Ceidwadwyr dros gymaint o flynyddoedd, wrth gwrs, a'r effaith mae hynny wedi ei chael ar ein gwasanaethau cyhoeddus ni; pandemig unwaith mewn canrif; yr argyfwng costau byw dwfn yma rydym ni'n byw ynddo fo rŵan—mae wedi dod yn fwy a mwy amlwg dros y blynyddoedd fod fformiwla Barnett wedi hen ddyddio. Felly, datrysiad gwan, byr dymor o'r ugeinfed ganrif, yn seiliedig ar anghenion gwlad arall, rŵan yn gorfod gwrthsefyll heriau dwys yr unfed ganrif ar hugain yng Nghymru. Dyna'r fargen wael sydd gennym ni ar hyn o bryd.

Ac, wrth gwrs, mae diffygion fformiwla Barnett ei hun wedi bod yn gonglfaen wedyn i batrwm ehangach o annhegwch ac anghyfiawnder mae Cymru wedi ei wynebu dros y blynyddoedd diwethaf. Y ffaith bod asedau Ystâd y Goron yn dal ddim wedi eu datganoli yn golygu mai'r Trysorlys a'r teulu brenhinol hefyd sy'n elwa o'n hadnoddau naturiol ni, yn hytrach na'i fod o'n cael ei ailfuddsoddi'n uniongyrchol yn ein cymunedau lleol. Y ffaith bod San Steffan yn gwrthod talu ei chyfran deg tuag at adnewyddu safleoedd tomenni glo, fel rydym ni wedi ei drafod eto'r wythnos yma, sy'n creithio gymaint o'n tirwedd ni ac yn bygwth gymaint o gymunedau. Y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn gorfod talu'r bil am gael gwared ar RAAC o adeiladau cyhoeddus a gafodd eu hadeiladu ymhell cyn datganoli. A'r enghraifft fwyaf amlwg, fwyaf sarhaus, mae'n siŵr, ohonyn nhw i gyd: y dal yn ôl o bron i £4 biliwn mewn arian canlyniadol i Gymru o brosiect HS2, er gwaethaf y ffaith nad oes yna ac na fydd yna yr un fodfedd o drac yn cael ei osod yma yng Nghymru.

Mae'r thema gyffredin yma o anghyfiawnder sy'n llifo drwy bob un o'r achosion yna, a mwy, i gyd yn deillio yn sylfaenol o'r methiant i fod â threfniadau cyllido cyfoes a phriodol yn eu lle, a fformiwla Barnett yn greiddiol i hynny. Felly, mae'r achos yn glir i ddiwygio fformiwla Barnett, ac mae yna gonsensws trawsbleidiol i edrych ar y tirlun cyfan o ran cyllido Cymru, ond consensws trawsbleidiol yn fan hyn ydy hynny. Aelodau Plaid Cymru ydy'r unig rai sydd yn gwneud yr achos dros ddiwygio yn San Steffan. O ystyried, fel dwi'n dweud, ei record ar danseilio datganoli ei hun yn y blynyddoedd diwethaf—[Torri ar draws.] Ie. 

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

17:35

Roeddwn am ofyn beth y gallai eich chwaer blaid yn yr Alban, Plaid Genedlaethol yr Alban, fod wedi’i ddweud wrthych ynglŷn â hyn, lle byddai’r Alban ar ei cholled yn hyn. Ddegawd yn ôl, addawodd arweinwyr Llafur, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar lefel genedlaethol ei gwarchod. Ac rwy'n cytuno â chi: mae wedi hen ddyddio.

Diolch am y sylwadau yna. Oes, wrth gwrs, mae yna agweddau gwahanol yng ngwahanol ardaloedd o'r ynysoedd yma. Mi wnaf i gyfeirio at hynny wrth i ni edrych ar welliant y Llywodraeth mewn ychydig funudau, os caf i.

Roeddwn i ar fin dweud o ystyried record y Ceidwadwyr ar danseilio datganoli ei hun yn y blynyddoedd diwethaf, dydy hi ddim yn syndod bod Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig wedi rhoi rhwystr ar ôl rhwystr o flaen unrhyw ymdrechion i ddiwygio. Ond mae'r ffaith bod Llafur hefyd ar lefel y Deyrnas Unedig yn gwrthod addo newid, o ystyried y tebygrwydd y byddan nhw mewn grym cyn diwedd y flwyddyn yma, yn destun rhwystredigaeth mawr. Mae tawelwch Keir Starmer ar fformiwla Barnett a chyllido teg i Gymru yn fyddarol, a'r argraff glir dwi'n ei chael o hynny—a chymaint o etholwyr Cymru—ydy ei fod o am gymryd pleidleisiau Cymru yn ganiataol.

A dyna pam ei bod hi'n ddyletswydd arnom ni i alw allan apathi llwyr y ddwy blaid fawr yn San Steffan, felly gadewch i ni frwydro yn erbyn hynny a chodi ein llais efo'n gilydd heddiw yma fel Senedd. Cefnogwch y cynnig yma gan Blaid Cymru heddiw. Cefnogwch o fel y mae o heb y gwelliant. A dyma i chi pam allwn ni ddim cefnogi yr un o'r ddau welliant.

Mae gwelliant y Ceidwadwyr yn ailadrodd yr obsesiwn yma sydd ganddyn nhw efo disgrifiad hollol anghywir o sut mae arian yn cael ei ddyrannu gan y Trysorlys. Dydy'r disgrifiad yma o Barnett yn rhoi £1.20 i Gymru am bob £1 sy'n cael ei wario ar iechyd ac addysg yn Lloegr, ac ati, jest ddim yn disgrifio sut mae'r system yn gweithio. Oes, mae yna gwestiynau, wrth gwrs, am y penderfyniadau mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud o ran blaenoriaethu gwariant, ond mae yna wastad angen cymharu tebyg efo tebyg, a gallwch chi ddim gwneud yn y ffordd mae'r Ceidwadwyr yn trio ei wneud yn simplistig. Gallwn ni ddim anghofio a diystyru y gydberthynas sydd yna rhwng gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol yn Lloegr, a sut mae hynny yn effeithio ar yr arian sy'n dod i Gymru. Dwi'n deall pam bod y Ceidwadwyr yn gwneud hyn. Mae o'n chwarae gwleidyddiaeth ac yn creu rhaniadau ac yn codi amheuon am ddatganoli, ond fyddaf i ddim yn disgyn am hynny, a dwi'n annog pobl Cymru i beidio â gwneud. Oes, mae yna amrywiaeth mewn faint o arian sydd yn mynd i ranbarthau Lloegr, i Gymru, i'r Alban a Gogledd Iwerddon, a Llundain sy'n cael y mwyaf y pen yn reit aml, wrth gwrs. Ond mae yna gymaint o ffactorau sydd yn gyfrifol am hynny, yn cynnwys gwahanol anghenion, ond y gwir amdani ydy bod y fformiwla ddim yn rhoi adlewyrchiad o anghenion go iawn.

Ac o ran gwelliant y Llywodraeth, allwn ni ddim ei gefnogi, ac ymatal ydy ein bwriad ni ar hwn, achos dwi ddim yn siŵr iawn beth maen nhw'n ei feddwl wrth ddweud bod angen cytundeb pedair gwlad. Wrth gwrs bod angen ffeindio systemau cyllidol sydd yn gweithio i bob rhan o’r Deyrnas Unedig, yn cynnwys rhanbarthau Lloegr, ond ydy’r Llywodraeth mewn difrif yn awgrymu—ac yn fan hyn dwi’n cyfeirio at yr ymyriad gan Mark Isherwood—oes yna awgrym y dylid bod yna feto i un rhan o’r Deyrnas Unedig, neu ranbarth Lloegr, oherwydd nad ydyn nhw’n hapus efo’r hyn sy’n cael ei gynnig? Y gwir ydy ein bod ni angen datrysiad bespoke sydd yn ymateb i anghenion Cymru, ac allwn ni ddim gweld sefyllfa lle byddai’r Llywodraeth yn penderfynu mynd am un opsiwn cyllidol oherwydd bod hynny yn gyfleus yn wleidyddol iddyn nhw. Gadewch i ni edrych ar ein hanghenion ni.

Felly, mae angen mynnu bargen deg, a pha ffordd well i’r Prif Weinidog newydd ddangos ei barodrwydd i sefyll dros Gymru o’r cychwyn na drwy ddweud wrth ei benaethiaid o yn San Steffan fod glynu at y sefyllfa bresennol yn anghynaliadwy ac yn anghyfiawn? Dwi eisiau clywed Prif Weinidog Llafur Cymru yn rhoi Cymru yn gyntaf a pheidio derbyn 'na' fel ateb gan Keir Starmer, ac mae 'na' wedi cael ei dderbyn fel ateb yn llawer rhy hawdd gan Lywodraeth Llafur Cymru, mae gen i ofn.

Ar draws y Siambr, mi wnawn ni anghytuno ar le dylai unrhyw gyllid newydd gael ei wario, dwi’n siŵr o hynny. Dyna adlewyrchu ein gwahaniaethau ni o ran ein blaenoriaethau fel pleidiau, a’n gweledigaeth ni, ond siawns y gallwn ni gytuno ar y tir cyffredin yna, y dylai Cymru gael yr adnoddau angenrheidiol i wireddu ei photensial, ac i gyflawni’r lefelau ffyniant y mae pobl yn eu haeddu, ac er mwyn gallu tynnu plant allan o dlodi, ac er mwyn adeiladu’r math o gymdeithas yr ydyn ni’n dyheu amdani. Felly, rydyn ni’n annog Aelodau i gefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw er mwyn anfon neges glir i San Steffan, efo’n gilydd, fod y statws cwo bellach ddim yn gynaliadwy.

17:40

Dwi wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, a galwaf ar Peter Fox i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 1—Darren Millar

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi'r model cyllido presennol sy'n gweld Cymru'n cael £1.20 am bob £1 sy'n cael ei wario ar iechyd ac addysg yn Lloegr, gyda dim ond £1.05 yn cyrraedd GIG Cymru ac ystafelloedd dosbarth.

Yn nodi'r bron i £1 biliwn mewn buddsoddiad ychwanegol yng Nghymru gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a chyllid ffyniant bro.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant yn enw Darren Millar.

Byddai’n esgeulus imi beidio â myfyrio’n fyr ar y lefel uchaf erioed o gyllid y mae Cymru wedi’i chael diolch i Lywodraeth Geidwadol y DU, a thrwy fformiwla Barnett, er y byddem bob amser yn hoffi mwy. Mae’n rhaid nodi bod Cymru’n parhau i dderbyn y lefel uchaf erioed o gyllid, gyda’r grant bloc mwyaf yn hanes datganoli, ac mae hyn, fel y gwyddom, wedi’i ategu gan werth oddeutu £2.5 biliwn o gyllid ffyniant bro. Nawr, gan fyfyrio’n sydyn ar y gronfa ffyniant bro, mae Llywodraeth y DU wedi darparu llawer mwy na'r isafswm o 5 y cant a glustnodwyd ganddi’n wreiddiol i Gymru ar ddechrau’r gronfa, gyda Chymru bellach yn cael dros 9 y cant ar draws y tair rownd, sef cyfanswm o £440 miliwn dros 28 o brosiectau. Mae Llywodraeth y DU yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a chymunedau lleol i sicrhau buddsoddiad er mwyn gwneud yn siŵr fod blaenoriaethau pobl leol yn cael eu hariannu, a dylid croesawu hyn.

Wedi dweud hyn oll, rydym ni fel Senedd wedi cytuno bod angen mwy o hyblygrwydd ar Lywodraeth Cymru—Llywodraeth Cymru o unrhyw liw—ar gyfer rheoli cronfeydd wrth gefn a’i phwerau benthyca, rhywbeth y pleidleisiodd y Ceidwadwyr Cymreig drosto yma yn ddiweddar. Ac rwy'n cytuno bod angen adolygiad pellach ar y fframwaith cyllidol, a adolygwyd ddiwethaf yn 2016, ac felly mae angen ailfeddwl sut y caiff fformiwla Barnett ei chyfrifo, ac rwy'n cytuno ymhellach fod gan Gymru heriau unigryw y mae’n rhaid eu hystyried.

Dylem gydnabod bod adolygiad Holtham a’i argymhellion, y cytunwyd arnynt gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, wedi cymryd camau i sicrhau bod setliad Cymru yn decach drwy ffactor sy'n seiliedig ar anghenion. Mae hyn yn sicrhau bod gan Gymru gyllid gwaelodol sy’n gwneud yn siŵr na fydd setliad Cymru byth yn gostwng o dan 115 y cant o’r arian sy’n cael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus yn Lloegr. Ond fe wyddom ar hyn o bryd nad yw'r cyllid gwaelodol hwnnw wedi gorfod cael ei sbarduno, gan fod y setliad presennol yn darparu 120 y cant, sef £1.20 am bob £1 a werir yn Lloegr. Fodd bynnag, nid wyf yn dadlau o blaid cael gwared ar fformiwla Barnett, gan y teimlaf y byddai gwneud hynny'n afrealistig yng nghyd-destun y DU. Ond teimlaf y dylai'r fformiwla fod wedi'i halinio'n well ag anghenion penodol Cymru, ac o'r herwydd, y dylid ymgorffori ffactorau pellach sy'n seiliedig ar anghenion mewn unrhyw fframwaith cyllidol diwygiedig a fformiwla ddilynol. Mae'n werth nodi bod y lefel bresennol o gyllid ar £1.20 yn sicrhau—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.

17:45

Diolch am dderbyn yr ymyriad. A ydych yn derbyn y pwynt a wneuthum, serch hynny? Os meddyliwch am gyllid y pen yn ei hanfod, Llundain, yn amlach na pheidio, sy'n cael mwy o gyllid y pen o’r boblogaeth mewn gwirionedd, a dyna pam nad yw’n helpu’r ddadl. Nid yw'n rhoi darlun gonest o ble rydym arni pan fyddwch yn sôn am £1.20 yn erbyn £1 yn Lloegr.

Ond mae'n ffaith, serch hynny, Rhun. Mae’r setliad presennol yn darparu £1.20 am bob £1, ac mae hynny’n ffaith. Dewis i'r Llywodraeth yw ble i'w wario. Gwyddom eu bod, hyd yma, wedi gwario llawer llai na hynny ers blynyddoedd lawer ar y gwasanaethau penodol hynny, ac o ganlyniad, rydym yn wynebu canlyniadau hynny.

Mae'n werth nodi bod y lefel bresennol o £1.20, sy'n uwch na lefel Holtham, yn darparu oddeutu £900 miliwn y flwyddyn yn fwy na phe bai argymhelliad Holtham wedi'i sbarduno a'i fod ar £1.15. Ond mae'n rhaid inni gofio bod y Prif Weinidog, pan gytunodd ar y diweddariad i'r fframwaith cyllidol, wedi'i groesawu fel ffordd gadarnhaol ymlaen i Gymru pan gafodd ei lofnodi yn ôl yn 2016.

I fod yn glir, am bob £1 a werir ar iechyd ac addysg yn Lloegr, mae Cymru'n cael £1.20—mae hynny'n ffaith. Nid yw'n gelwydd, nid yw'n ystumio'r gwir, neu unrhyw beth felly, dim ond ffaith. Yn anffodus, gwyddom nad oes unrhyw beth yn agos at £1.20 wedi'i wario, fel rwyf newydd ei ddweud. A dweud y gwir, cyn COVID, roedd oddeutu £1.05—dywedodd yr archwilydd cyffredinol mai dyna faint oedd yn cael ei wario ar y meysydd hyn, a bod y 15c arall wedi’i dynnu i ffwrdd a’i wario mewn meysydd blaenoriaeth eraill, a dyna asgwrn ein cynnen. [Torri ar draws.] Os gwelwch yn dda.

Diolch am dderbyn yr ymyriad. Y maes blaenoriaeth arall y caiff ei wario arno yw'r gwasanaethau cymdeithasol, ac mae gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd yn gyfnewidiadwy.

Yn sicr, Mike, rwy’n cytuno’n llwyr. Rwy'n credu y dylai gwasanaethau cymdeithasol fod yn cael llawer mwy o arian. Gallai rhai ddadlau, o'r £450 miliwn sydd wedi'i ddarparu ar gyfer iechyd y tro hwn, efallai y dylai £350 miliwn fod wedi mynd tuag at iechyd a £100 miliwn at wasanaethau cymdeithasol, gan eu bod oll yn rhan o'r un darlun. Fodd bynnag, fy haeriad yw y canolbwyntiwyd ar lawer o feysydd blaenoriaeth eraill, gan symud oddi wrth y blaenoriaethau allweddol hynny, ac mewn gwirionedd, symudwyd oddi wrth flaenoriaethau allweddol fel yr economi, gan achosi pwysau aruthrol mewn mannau eraill. Ni allwch ddadwneud hynny dros nos; mae'n cymryd amser hir i'w ddadwneud. Ond y ffaith amdani yw bod dewisiadau wedi'u gwneud, ac yn fy marn i, fe wnaed y dewisiadau anghywir.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n dirwyn i ben. Ni allwn ddianc rhag y ffaith ein bod yn cael £1.20, ac nid ydym wedi bod yn gwario'n agos at hynny, ac o ganlyniad, mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn ei chael hi'n aruthrol o anodd. Diolch.

Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i gynnig yn ffurfiol welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.

Gwelliant 2—Lesley Griffiths

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno, yn lle fformiwla Barnett sydd wedi dyddio, system newydd sy’n seiliedig ar anghenion cymharol ac sydd wedi’i chymeradwyo gan y pedair gwlad, o fewn cytundeb cyllidol newydd a gaiff ei oruchwylio a’i weithredu gan gorff sy’n annibynnol ar Lywodraeth y DU.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Ie, cynnig yn ffurfiol.

Mae profiadau’r ychydig fisoedd diwethaf wedi dangos yn glir fod cyllid cyhoeddus Cymru ar drywydd cwbl anghynaliadwy. Mae hefyd y tu hwnt i unrhyw amheuaeth fod cyfyngiadau fformiwla Barnett yn rhwystr mawr rhag cywiro ein cyfeiriad teithio ar frys yn hyn o beth. Mae cyflwr cyllideb Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod yn dangos yn gwbl eglur pa mor wael y cawn ein gwasanaethu.

Ni chafodd y model ariannu rydym yn ddarostyngedig iddo erioed mo'i gynllunio ar ein cyfer ni, ac ystyrid ei fod wedi hen ddyddio ddegawdau yn ôl. Nid ydym yn dadlau nad oes llawer o fai ar Lywodraeth Cymru am gamreoli’r adnoddau sydd ar gael iddi, ac mae hyn wedi bod yn arbennig o amlwg o safbwynt iechyd a thrafnidiaeth dros y blynyddoedd diwethaf. Ond byddai hyd yn oed y Llywodraethau mwyaf darbodus yn ariannol yn ei chael hi'n anodd dygymod â'r ffaith bod cyllideb Llywodraeth Cymru yn werth oddeutu £900 miliwn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod gyntaf yn ystod yr adolygiad o wariant diweddaraf, ac mae hynny wedi bod yn rhywbeth y buom yn trafod cryn dipyn arno yn y lle hwn dros y misoedd diweddaf.

Yn ychwanegol at hynny, nid oes gan Weinidogion Cymru unrhyw fodd o ddadlau neu negodi'r canlyniad amlwg niweidiol hwn. Yn debyg iawn i gymaint o agweddau ar ein statws yn yr undeb anghyfartal hwn, mae annhegwch Barnett yn rhywbeth y dywedir wrthym am ei oddef. Rwy'n siŵr y bydd y rheini sydd am amddiffyn y status quo yn ceisio tynnu sylw at amgylchiadau eithriadol y pandemig, y rhyfel yn Wcráin a'r prisiau ynni uchel yn y cyd-destun hwn. Heb os, byddant yn honni bod y fformiwla'n sicrhau rhywfaint o barhad a didueddrwydd yn y modd y caiff cyllid ei ddyrannu ar draws gwledydd y DU.

Ar wahân i'r ffaith mai gwariant cyfredol a chyfalaf cyfun y pen yng Nghymru yw’r isaf ond un o holl wledydd y DU a'i fod yn gwbl anaddas ar gyfer anghenion ein cymdeithas, yr erydiad sylweddol yn ein grym gwario dros y 12 mis diwethaf yw’r mynegiant mwyaf dramatig o'r ffordd y mae fformiwla Barnett yn gwneud cam â ni. Yn wir, mae effaith gwasgfa fformiwla Barnett yn golygu bod enillion sy'n lleihau yn rhan annatod o’r fformiwla, a bydd hynny'n dod yn fwy amlwg dros amser, ni waeth sut mae anghenion cymdeithasol yn esblygu. Er enghraifft, mor gynnar â 2010, amcangyfrifodd comisiwn Holtham fod y bwlch gwariant y pen ar weithrediadau Barnett eisoes wedi haneru'n fras rhwng Cymru a Lloegr ers dechrau datganoli.

Mae fformiwla Barnett, felly, yn amlygu paradocs mawr ein setliad datganoli. Wrth i ystod a chymhlethdod ein pwerau ehangu’n raddol yn unol â dymuniadau democrataidd pobl Cymru, mae’r gallu i ddefnyddio’r pwerau hyn, mewn sawl ffordd, wedi crebachu. Yn y cyfamser, mae unrhyw sbarion ychwanegol sy'n cael eu taflu i ni oddi ar fwrdd San Steffan yn ysbeidiol, yn anghyson, ac yn aml, yn gadael amser annigonol ar gyfer dull mwy strategol o gynllunio'r gyllideb. Mae’n fodel ariannu a fyddai’n anaddas ar gyfer y gweithrediadau mwyaf sylfaenol ac elfennol, heb sôn am Senedd genedlaethol sy’n cynrychioli dros 3 miliwn o bobl.

Mae angen inni ystyried hefyd pa mor annigonol yw fformiwla Barnett ar gyfer mynd i’r afael â chyflwr ansicr cyllid llywodraeth leol. Ar ôl 14 mlynedd o gyni niweidiol dan law'r Torïaid, mae cynghorau ledled y DU bellach yn wynebu'r bygythiad o fethdaliad. Mae arolwg diweddar gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol yn nodi bod bron i un o bob pump awdurdod lleol yn credu ei bod yn debygol neu’n debygol iawn y bydd angen iddynt gyhoeddi hysbysiad adran 114 yn y 24 mis nesaf oherwydd pwysau ariannol. Hyd yn hyn, diolch byth, rydym eto i gyrraedd y pwynt hwn yng Nghymru, ond cafodd maint y broblem ei danlinellu’n glir yn yr adroddiad diweddar gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y DU, a ddatgelodd fod y 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn wynebu dyled gyfunol o £5.6 biliwn. Bydd yn rhaid iddynt hefyd ymdopi â bwlch cyllidol o £354 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf, a allai godi i £750 miliwn erbyn 2027-28.

Byddai dadlau bod fformiwla Barnett ar ei ffurf bresennol yn ddigon i unioni’r sefyllfa enbyd hon yn ffuglen ariannol y byddai Jeremy Hunt ei hun yn falch ohoni. Felly, yn hytrach na chondemnio ein hawdurdodau lleol a’n cyllid cyhoeddus i ddyfodol hynod ansicr, gallwn bennu trywydd ar gyfer senario fwy cynaliadwy drwy gefnogi’r cynnig hwn. Diolch yn fawr.

17:50

Egwyddor fformiwla Barnett yw y bydd unrhyw gynnydd neu ostyngiad mewn gwariant yn Lloegr yn arwain yn awtomatig at gynnydd neu ostyngiad cymesur mewn adnoddau ar gyfer y Llywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Fe'i cyflwynwyd ym 1978 fel mesur dros dro, ond mae dros dro wedi dod yn barhaol.

Mae dau bwynt pwysig mewn perthynas â'r fformiwla. Gall Llywodraeth y DU wneud newidiadau i grant bloc gweinyddiaeth ddatganoledig heb ddefnyddio'r fformiwla. Fe'i gelwir yn 'osgoi’r fformiwla', ac mae enghreifftiau'n cynnwys y cyllid ar gyfer bargeinion dinesig yng Nghymru a'r Alban. Ond mewn gwirionedd, yr enillydd mawr fu Gogledd Iwerddon. Cawsant £1 biliwn yn gyfnewid am gefnogaeth y Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd i'r Torïaid yn San Steffan; cawsant gwpl o gannoedd o filiynau o bunnoedd arall yn gynharach eleni i wneud iawn am y ffaith eu bod yn ffurfio llywodraeth eto; ac mae o leiaf dau achos arall, yr ysgrifennais amdanynt yn y gorffennol, lle maent wedi cael arian am ddim byd. Mae'n isafswm, ac os ydynt am roi £1 biliwn neu £300 miliwn neu £400 miliwn i Ogledd Iwerddon, gallant wneud hynny, ond mae'n golygu nad ydynt yn credu bod fformiwla Barnett yn gweithio. Os yw'n gweithio i bawb, byddai'n gweithio i Ogledd Iwerddon hefyd.

Mewn egwyddor, dros amser, fe ddylai’r fformiwla arwain at gydgyfeirio gwariant cyhoeddus y pen ar draws pedair gwlad y DU. Pe caiff ei rhoi ar waith yn llym, byddai newidiadau arian parod mewn gwariant y pen yn gyfartal, a'r hyn a nodwyd gan Peredur ychydig eiliadau yn ôl yw y gwnaed cynnydd tuag at gydgyfeirio, a byddai hynny, yn yr 20 mlynedd nesaf, wedi arwain at gydgyfeirio llawn. Fodd bynnag, mae gan Gymru sylfaen uwch o wariant cyhoeddus y pen; felly, mae swm cyfartal y pen o arian ychwanegol yn cynrychioli cynnydd canrannol llai ar gyfer y weinyddiaeth ddatganoledig.

Mae cyllid gwaelodol Barnett yn gweithio drwy luosi cynyddrannau cyllid positif i Gymru nid yn unig â’r ffactor cymharedd a'r gyfran o’r boblogaeth, ond â chynnydd canrannol pellach. Ni fwriedir i’r fformiwla weithio am yn ôl, gyda chynyddrannau cyllid negyddol, gan y byddai hynny, yn syml iawn, yn ehangu’r bwlch tanariannu. Roedd yn fargen aruthrol, a chredaf fod angen inni ddiolch i Carwyn Jones pan oedd yn Brif Weinidog am negodi'r fargen honno, gan ei bod yn atal amddifadu Cymru o symiau sylweddol o arian. Mae cyllid gwaelodol Barnett yn haen ychwanegol i'n hamddiffyn. Os ydych yn meddwl y dylai fod yn uwch, mae hynny'n destun dadl, ond mae cael y cyllid gwaelodol hwnnw wedi cael effaith aruthrol.

Pam fod yr Alban yn gwneud yn well na Chymru o dan y fformiwla? Dau reswm. Dechreuodd o sylfaen uwch y pen pan gafodd ei chyflwyno fel mesur dros dro. Mae’r fformiwla'n arwain at gyllid uwch y pen yn y gwledydd datganoledig nag yn Lloegr, a’r rheswm am hyn yw bod y fformiwla wedi defnyddio cyllidebau datganoledig y flwyddyn flaenorol, a dechreuodd y gwledydd datganoledig o sylfaen uwch o wariant cyhoeddus y pen. Wrth gwrs, o ran yr Alban, os ydych yn dweud 'tlodi ac amddifadedd’, ychydig iawn o leoedd yn Ewrop sy’n cymharu â dwyrain Glasgow. Os ydych yn dweud 'teneurwydd poblogaeth', nid oes gennym unman yng Nghymru sy'n cymharu ag ucheldiroedd yr Alban. Felly, wrth ichi gymhwyso’r pethau hyn, mae’r Alban yn tueddu i wneud yn dda iawn.

Rhwng 1998 a chanol y 2000au, tyfodd poblogaeth yr Alban yn araf iawn, ac mewn rhai blynyddoedd, ni thyfodd o gwbl, roedd yn negyddol. Er bod hynny'n ddrwg i'ch gwlad ac yn ddrwg ar gyfer cyfanswm yr arian a gewch, mae'n dda iawn ar gyfer faint o arian a gewch y pen. Mae canrannau cymharedd yn mesur i ba raddau y caiff gwasanaethau un o adrannau Llywodraeth y DU eu datganoli. Mae’n rhoi cap ar y graddau y mae gwariant gan un o adrannau Llywodraeth y DU yn cyfateb i wasanaethau a ddarperir gan weinyddiaethau datganoledig. Mae canrannau cymharedd yn amrywio o 0 y cant ar gyfer pethau fel amddiffyn i 100 y cant ar gyfer pethau fel iechyd. Credaf fod honno’n sefyllfa ddefnyddiol i edrych arni—sut mae rhai'n well nag eraill. Mae cyfran y boblogaeth yn cyfrifo cyfrannau cymharol y poblogaethau, a Lloegr yn unig sydd o bwys i Lywodraeth y DU yn y rhan fwyaf o achosion, felly defnyddir y gyfran o boblogaeth Lloegr. Gwneir cyfrifiad ar gyfer pob un o adrannau'r DU, ac ychwanegir y swm a gyrhaeddir at grant bloc y weinyddiaeth ddatganoledig.

Beth yw'r dewis arall yn lle fformiwla Barnett? Sut olwg sydd ar Gymru ôl-Barnett? Byddai Cymru’n cael ei derbyniadau treth, ei chyfran Barnett o’r benthyca cenedlaethol a’i harian o Ystad y Goron. Byddai’n talu ei chyfran o’r boblogaeth ar wariant Llywodraeth San Steffan ac yn cadw’r gweddill. Byddai hyn yn waeth i Gymru, ond dyma sut olwg sydd ar annibyniaeth. Neu byddai fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Fel y dangosodd y fformiwla llywodraeth leol, gall cyfrifo fformiwla ar sail anghenion fod yn ddadleuol. Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am system newydd sy’n seiliedig ar anghenion cymharol o fewn fframwaith cyllidol cynhwysfawr a chyson ar gyfer holl Lywodraethau’r DU. Mae’r drafodaeth sydd ei hangen arnom yn ymwneud â sut i gael fframwaith sy'n seiliedig ar anghenion i weithio. Mae rhai ffigurau'n haws, megis teneurwydd poblogaeth, niferoedd y bobl dros 80 oed a nifer y plant ysgol yn ôl grŵp oedran. Y ffigurau mwy anodd yw tlodi ac amddifadedd cymharol, lle byddai’n rhaid defnyddio procsis. Byddai'n rhaid i unrhyw newid sy'n ymwneud ag angen gynnwys rhanbarthau Lloegr hefyd. Yr hyn sydd ei angen arnom yw modelu cyfrifiadurol o'r fformiwla i ganfod pa un sydd orau ar gyfer Cymru a gweddill y DU. Dylai Llywodraeth Cymru ofyn i’r Trysorlys wneud y gwaith hwn, neu gomisiynu prifysgol i’w wneud ei hun.

17:55

Pan fo hi'n dod at wneud yr achos dros ariannu Cymru yn unol â'n hanghenion, mae o'n werth adlewyrchu ar beth, mewn gwirionedd, ydy'r anghenion yma. Dangosodd y cyfrifiad diwethaf mai Cymru ydy'r genedl gyda'r cyfartaledd oedran hynaf yn y Deyrnas Gyfunol, ac mae'n boblogaeth sydd yn debygol o fynd yn hŷn dros y blynyddoedd sydd i ddod. Yn wir, erbyn 2031, bydd bron i draean o'r boblogaeth dros 60 mlwydd oed a thua 12 y cant dros 75 mlwydd oed. Rydyn ni wedi trafod goblygiadau'r tueddiadau yma o ran effaith hyn ar ein gwasanaeth iechyd a gofal nifer o weithiau. Ond mae'n rhaid inni hefyd ystyried hyn yng nghyd-destun gallu ein cymdeithas i ymdopi â'r gofynion ychwanegol yma.

Wrth ystyried bod y cyfrifiad diweddaraf yn dangos bod poblogaeth Cymru wedi cynyddu o 1.4 y cant yn unig yn y degawd rhwng 2011 a 2021—y cynnydd lleiaf ymhlith holl genhedloedd y Deyrnas Gyfunol—ynghyd â'r ffaith bod cyfraddau ffrwythlondeb Cymru'n gyson o dan y trothwy amnewid o 2.1 genedigaeth am y 50 mlynedd diwethaf, mae hyn oll yn pwyntio at weithlu fydd yn crebachu, a fydd, yn ei dro, yn lleihau'r sylfaen drethiannol yma. Mae'n amlwg fod y drefn ariannu bresennol, felly, yn gwbl anghynaladwy ac mae'n rhaid i rywbeth newid. A'r gwir ydy fod pethau am fynd yn waeth.

Wrth gwrs, dydy'r heriau yma ddim yn unigryw i Gymru, yn enwedig yn y byd gorllewinol. Mae'n rhaid inni ond edrych ar Siapan a De Corea i weld effaith amgylchiadau demograffeg tebyg. Ond mae gan y gwledydd hynny y gallu i newid eu polisïau ariannol er mwyn addasu i'r problemau hyn. Yma, mi ydyn ni'n ddibynnol ar bot cyfyng o bres sydd yn crebachu mewn termau go iawn ac yn seiliedig ar fformiwla fethedig sydd ddim yn adlewyrchu ein hanghenion. Dyna pam mae'r agwedd llywaeth yma a ddaw o du'r Llywodraeth o aros i weld beth ddaw allan o Lywodraeth Keir Starmer mor hynod o rwystredig.

Mae yna un peth yn nodweddu Llywodraeth Lafur ers dechrau datganoli, sef mañana. Pan o'n i'n byw yng Ngaiana, gwlad yn Ne America, y term fydden nhw'n defnyddio yng Ngaiana oedd 'soon come'. 'Mañana' ydy'r term dwi'n meddwl sydd agosaf ato, sef Llywodraeth sydd yn aros am yfory drwy'r amser, sydd ddim yn teimlo eu bod nhw ag unrhyw reolaeth dros bethau ac yn aros i weld beth ddaw, a Llywodraeth mañana sydd gennym ni fan hyn.

Hwyrach, mewn gwirionedd, nad ydy hynna'n wir am bob un sydd yn y Cabinet, a dwi'n mynd i fynd ar tangent bach fan hyn. Dwi'n cyfeirio'n benodol at ddau wleidydd sydd yn y Llywodraeth sydd yn gorffen heddiw yma, sef Julie James a Lee Waters. Dwi ishio talu teyrnged iddyn nhw am fod yn wleidyddion sydd wedi dangos uchelgais ac arweinyddiaeth yn ystod eu tymor nhw, ac fe gawn ni weld pa ran fydd ganddyn nhw i chwarae yn y Llywodraeth. Ond mae'n anodd iddyn nhw, gyda llaw, gyfiawnhau eu huchelgeisiau nhw oherwydd bod yna ddiffyg cyllideb fan hyn er mwyn cyflawni'r uchelgeisiau hynny, a hynny'n dod yn uniongyrchol yn sgil y ffaith nad oes gennym ni reolaeth, nad oes gennym ni setliad teg.

A dyma pam nad yw'r dull amser a ddengys a fabwysiadwyd gan Weinidogion Cymru, o ran bwriadau Llywodraeth Keir Starmer, yn ddigon da. Rydym angen ymrwymiadau cadarn i newid nawr, yn hytrach na'r hunanfodlonrwydd trahaus a'r ymagwedd 'busnes fel arfer' llugoer sydd wedi nodweddu pob elfen ar agwedd Starmer tuag at Gymru hyd yma.

Gadewch inni droi at fater arall sy'n berthnasol iawn i'r ddadl hon, sef y cyfraddau uchel o salwch hirdymor yng ngweithlu Cymru. Fel y gwyddom i gyd, mae anweithgarwch economaidd wedi bod yn thema barhaus yn economi Cymru ers dechrau datganoli, ac mae'n deg dweud bod Llywodraethau olynol yng Nghymru wedi cael trafferth mynd i'r afael â'r broblem. Mae data diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod y gyfradd anweithgarwch yng Nghymru yn 26.2 y cant, yr ail uchaf o holl wledydd a rhanbarthau'r DU, a rhesymau sy'n gysylltiedig ag iechyd yw cyfran sylweddol o'r ffigur hwn.

Felly, unwaith eto, rydym yn wynebu'r canlyniadau amlwg yn sgil y ffaith nad yw ein hadnoddau'n cyd-fynd ag anghenion pobl Cymru, ac yn yr achos penodol hwn rydym wedi ein dal mewn cylch dieflig oherwydd y berthynas rhwng anweithgarwch economaidd a chynhyrchiant isel, sydd, yn ei dro, wedi bod yn gymaint o rwystr rhag gweld economi Gymreig yn datblygu a all sicrhau gwelliant go iawn i safonau byw a llesiant. Y gwir amdani yw ei bod yn ddrutach darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol i gymunedau hŷn, mwy gwledig a thlawd. Nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Felly, rwy'n credu'n gryf y dylid ystyried disodli fformiwla Barnett fel buddsoddiad hanfodol yn iechyd ein cenedl yn y dyfodol, a dyna pam rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio o blaid y cynnig hwn heddiw.

18:00

Wel, rŷn ni wedi siarad lot am degwch heddiw, ac wedi clywed sut mae methiannau fformiwla Barnett yn adlewyrchiad o’r diffyg tegwch sy’n treiddio drwy ein cymdeithas ac yn cyfrannu ato. Wrth gwrs, canlyniadau'r annhegwch sylfaenol hwn yn y byd go iawn sydd wrth wraidd yr agenda cyfiawnder cymdeithasol ac yn tanlinellu i ba raddau y mae blaenoriaethau gwleidyddol San Steffan yn rhy aml yn methu cwrdd ag anghenion pobl Cymru. Sut, felly, mae'r annhegwch cymdeithasol yma yn mynegi ei hunan yn ein cymdeithas, ym mywydau pob dydd ein pobl?

Wel, dyw e ddim yn deg bod banciau bwyd yn angenrheidiol mewn economi ddatblygedig, ond dyna’r realiti i filoedd o bobl ar draws ein cenedl, gyda defnydd o fanciau bwyd wedi cynyddu 37 y cant dros y blynyddoedd diwethaf. Dyw e ddim yn deg bod aelwydydd yn gorfod dioddef oerfel a thamprwydd, diffyg dŵr twym a diffyg modd o goginio pryd twym yn ystod misoedd oer y gaeaf, ond dyna’r realiti ar gyfer tua 196,000 o aelwydydd ledled Cymru sydd ar hyn o bryd yn cael eu dynodi fel rhai mewn tlodi tanwydd. Dyw e ddim deg i blentyn gael ei eni i fywyd o dlodi, ond dyna’r realiti sy’n wynebu 28 y cant o blant Cymru ar hyn o bryd, a dyw e ddim yn deg i aelwydydd sydd â’r lleiaf o adnoddau y tu cefn iddyn nhw i ddioddef y canlyniadau iechyd gwaethaf, ond dyna’r realiti ar draws cymaint o faterion iechyd, gan gynnwys COVID hir, darpariaeth iechyd meddwl a chyflyrau fel diabetes, gordewdra a chlefydau anadlol cronig. Dyw e ddim yn deg nad yw unigolion bregus yn derbyn y gofal sydd ei angen arnynt gan gymdeithas, ond dyna’r realiti sy’n wynebu gymaint o bobl anabl ac oedrannus yng Nghymru ar hyn o bryd wrth i wasanaethau cymdeithasol hanfodol gael eu torri i’r asgwrn. A dyw e ddim yn deg bod eich tebygolrwydd o lwyddo mewn bywyd yn cael ei effeithio'n andwyol gan eich cefndir ethnig, eich rhywedd neu'ch rhywioldeb a chroestoriadedd yr holl nodweddion hyn, ond dyna’r realiti mewn cymaint o agweddau o’n cymdeithas lle mae anghydraddoldebau strwythurol yn parhau i fod yn llawer rhy gyffredin a niweidiol.

A gadewch i ni fod yn hollol glir, nid yw'r rhain yn sgil-gynhyrchion na sgil-effeithiau anochel i ddiffyg adnoddau digonol. Yn hytrach, maent yn feirniadaeth ddamniol o flaenoriaethau gwyrdroëdig ac anghyfiawn ein system wleidyddol, a'r undeb annheg, anghytbwys yr ydym yn rhan ohono, yn anffodus. Unwaith eto, mae sawl ffordd o ddangos hyn, ond cefais fy nharo'n arbennig gan ddadansoddiad diweddar a ddangosodd fod y pedwar banc masnachol mwyaf yn y DU wedi cofnodi elw o £44 biliwn y llynedd, a oedd yn rhannol o ganlyniad i gyfraddau llog uchel ar gronfeydd wrth gefn a gyhoeddwyd gan Fanc Lloegr fel rhan o'i strategaeth i leihau chwyddiant. Roedd y ffaith bod enillion Banc Lloegr ar ei phryniannau bond ei hun yn is na'r cyfraddau llog hyn yn golygu bod angen i Drysorlys y DU wneud iawn am y diffyg, sy'n golygu i bob pwrpas fod trethdalwyr wedi ariannu'r ffawdelw enfawr hwn i fanciau preifat. Felly, nid oes unrhyw sail o gwbl i'r esgus a glywn yn rhy aml gan wleidyddion Llafur a Cheidwadol fod rhoi'r arfau i Gymru fynd i'r afael â'i anghydraddoldebau cymdeithasol dwfn rywsut yn anfforddiadwy.

Nid wyf am esgus y bydd cyfnewid fformiwla Barnett am fodel sy'n seiliedig ar anghenion yn ateb i bob dim, ond mae'n sicr yn gam i'r cyfeiriad cywir, ac mae angen inni fod yn onest gyda'r pleidleiswyr na fydd y trefniadau presennol ond yn ein cadw ni'n sefyll yn llonydd ar lwybr tuag at gymdeithas decach a mwy cyfartal lle bydd gan bawb gyfle i ffynnu. Rhethreg wag ac anonest yw dicter moesol tuag at yr annhegwch cymdeithasol y mae'n ei achosi os na cheir dewrder gwleidyddol i weithredu i newid. Mae'r Cymry'n haeddu gwell gan y rhai sydd â chymaint o ddylanwad ar ansawdd eu bywydau ac ar y gobaith y gallant ei deimlo am y dyfodol, ac mae angen i bleidiau blaengar y prifysgolion roi eu harian ar eu gair.

18:05

Diolch yn fawr iawn a diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig a diddorol hon y prynhawn yma. Mae'n amlwg nad yw model ariannu presennol y DU yn gweithio i Gymru. Lai na mis yn ôl, pleidleisiodd y Senedd hon yn unfrydol o blaid gweld Llywodraeth y DU yn rhoi mwy o hyblygrwydd cyllidol i Lywodraeth Cymru i gyflawni gwell canlyniadau i bobl yng Nghymru, ac roeddwn yn meddwl bod honno'n foment bwysig iawn lle daethom ynghyd gyda chytundeb trawsbleidiol i ddangos ein bod i gyd yn teimlo'n gryf iawn ac yn unedig ar y mater hwn, ac roeddwn yn meddwl bod hynny'n dangos aeddfedrwydd a phragmatiaeth wleidyddol go iawn, ac mae nodi'r meysydd o dir cyffredin y gallwn weithio arnynt gyda'n gilydd yn bwysig iawn yn fy marn i, a byddai'n dda os gallwn wneud mwy o hynny ym maes cyllid.

Mae llawer o wahanol safbwyntiau wedi'u codi yn y ddadl y prynhawn yma, ac er nad wyf yn cytuno â phob un ohonynt, gallaf ddweud—[Torri ar draws.]—un eiliad—yn bendant fod yna damaid bach o dir cyffredin y gallem geisio gweithio arno ymhellach gyda'n gilydd. Mabon.

Diolch am dderbyn yr ymyriad. Roeddech chi'n sôn eich bod chi'n croesawu'r ffaith ein bod ni, fel Senedd, yn unedig wrth alw am y newid hwnnw. Ers hynny, beth rydych chi fel Llywodraeth wedi'i wneud i alw ar Lywodraeth y DU i newid y polisi, ac yn fwy na hynny, a ydych chi wedi llwyddo i ddylanwadu ar Keir Starmer i addo newid fformiwla Barnett pan ddaw Llywodraeth Lafur i rym?

Hoffwn atgoffa cyd-Aelodau mai'r Ceidwadwyr sydd mewn grym, ac felly gyda'r Ceidwadwyr y bûm yn trafod hyn. Felly, rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn nodi'r cytundeb trawsbleidiol a gawsom, ond hefyd, yng nghyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid yr wythnos diwethaf, adroddais wrth Brif Ysgrifennydd y Trysorlys unwaith eto fod gennym gytundeb trawsbleidiol mewn perthynas â'r mater pwysig hwnnw. Felly, hoffwn ei gwneud yn glir fy mod wedi rhannu'r neges honno am ein cytundeb trawsbleidiol gyda Llywodraeth y DU. Ac os gallwn ddod o hyd i feysydd pellach—a chredaf fod lle i hynny—gallwn wneud hynny.

Ac mae'r cynnig heddiw yn cydnabod nad yw'r hyblygrwydd yn ddigonol, a bod angen diwygio'r model ariannu hwnnw yn ei gyfanrwydd hefyd. Mae fformiwla Barnett wedi gweld rhai diwygiadau pwysig yn y ffordd y caiff ei chymhwyso yng Nghymru, ac yn ddiddorol, yn fwyaf diweddar yng Ngogledd Iwerddon. Ac fe aethant i'r afael â gwasgfa Barnett, a fyddai fel arall yn tueddu i wthio cyllid cymharol y pen tuag at y lefel yn Lloegr. Heb y diwygiadau hynny, ni fyddai cydgyfeirio o'r fath yn ystyried angen a byddai'n arwain at lefelau anghynaladwy o gyllid datganoledig yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae'r system ariannu ar gyfer Llywodraethau datganoledig yn parhau i fod yn un a nodweddir gan atebion cyflym ac anghysondeb, ac nid yw'n cynnig unrhyw ymdeimlad o sefydlogrwydd na sicrwydd ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus. Yn wir, fel y nododd Mike Hedges, nid oedd bwriad i fformiwla Barnett fod yn ddim mwy na mesur dros dro.

Felly, mae'n wir fod Llywodraeth Cymru yn derbyn tua £1.20 am bob £1 a werir yn Lloegr ar raglenni cyfatebol. Mae rhesymau da pam y dylai hynny ddigwydd, i adlewyrchu ein heriau demograffig, economaidd ac iechyd mwy, ac wrth gwrs, ein poblogaethau hŷn a mwy gwledig. Felly, yn syml, mae'n cydnabod bod angen lefelau cyllido uwch arnom i ddarparu'r un lefel o wasanaethau cyhoeddus oherwydd bod ein demograffeg a'n natur wledig ac ati yn golygu ei bod yn costio mwy i wneud yr un peth. 

Felly, mae gan Gymru batrwm anheddu gwasgaredig. Mae tua 33 y cant o'n poblogaeth yn byw mewn ardaloedd gwledig, o gymharu â dim ond 18 y cant yn Lloegr. Ac fel y clywsom, mae gennym boblogaeth hŷn na Lloegr, a rhagwelir y bydd ein carfan o'r boblogaeth sydd rhwng 16 a 64 oed yn cynyddu'n arafach yng Nghymru nag yn Lloegr dros y degawd nesaf. Mae angen lefelau uwch o wariant ar seilwaith economaidd a chymdeithasol i wneud Cymru'n lle mwy deniadol ar gyfer buddsoddiadau busnes a chreu gwaith. Mae ystadegau diweddaraf Trysorlys EF yn dangos bod gwariant adnabyddadwy y pen yng Nghymru 11 y cant yn uwch na chyfartaledd y DU yn 2022-23. Roedd gwariant ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol 15 y cant yn uwch nag yn Lloegr ac yn uwch nag yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac roedd gwariant y pen ar addysg 8 y cant yn uwch na chyfartaledd y DU. Ond wrth gwrs, dylid bod yn ofalus wrth wneud cymariaethau. 

Yn ogystal â fformiwla gyllido sydd wedi dyddio, mae cynlluniau ffyniant bro Llywodraeth y DU yn gwneud cam â'n pobl, ein busnesau a'n cymunedau yma yng Nghymru. Nid yn unig ein bod wedi colli bron i £1.3 biliwn o gyllid yn lle cronfeydd yr UE mewn termau real, mae cronfeydd codi'r gwastad, fel y'u gelwir, wedi dioddef oedi ar ran Llywodraeth y DU, cynllunio gwael a therfynau amser afrealistig ar gyfer gwariant, ac mae hyn yn creu pwysau sylweddol ar awdurdodau lleol, gyda dyblygu darpariaeth, gwerth gwael am arian a gwneud i randdeiliaid deimlo dryswch neu wedi'u heithrio'n llwyr. Cafodd yr anhrefn ei nodi gan lawer o sefydliadau annibynnol, a grwpiau trawsbleidiol yn wir, yn cynnwys Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y DU yr wythnos diwethaf, lle dywedodd y cadeirydd fod lefelau oedi Llywodraeth y DU yn 'hollol syfrdanol', gan ychwanegu bod Llywodraeth y DU yn ei chael hi'n anodd cael arian drwy'r drws a'i bod wedi newid y rheolau ar gyfer cyllido yng nghanol y broses, gan wastraffu amser ac arian a rhwystro tryloywder. Er mwyn cyflawni'r canlyniadau y mae Cymru'n eu haeddu, mae'n hanfodol ein bod yn cael arian yn lle'r cronfeydd hyn yn llawn a'u bod yn cael eu dychwelyd i Lywodraeth Cymru a'r Senedd hon, yn unol â'n setliad datganoli.

Fel y nodir yn 'Diwygio ein Hundeb: Cydlywodraethu yn y DU', mae'n rhaid i Lywodraeth y DU gyflwyno system newydd sy'n seiliedig ar egwyddor ar gyfer ariannu'r DU a rhwydweithiau cyllidol yn lle fformiwla Barnett sydd wedi dyddio, gan ystyried angen cymharol. A dylai'r pedair gwlad gytuno ar y dull hwnnw a'i osod mewn cytundeb cyllidol newydd a gaiff ei oruchwylio a'i weithredu, yn bwysig, gan gorff a fyddai'n annibynnol ar Lywodraeth y DU. A dyna sy'n llywio ein gwelliant heddiw. Ond fel y nododd Mike Hedges, byddai ymgymryd â'r gwaith hwnnw i greu'r system newydd honno'n gymhleth iawn, ond nid wyf yn credu ei fod y tu hwnt i allu pobl i greu system decach nad yw'n rhoi un rhan o'r Deyrnas Unedig dan anfantais. Felly, byddai hynny'n decach ond byddai hefyd yn fwy effeithlon ac effeithiol, a byddai'n helpu i leihau'r gwyrdroadau a'r aneffeithlonrwydd sy'n deillio o'r system bresennol. Byddai'n galluogi i wariant cyhoeddus gael ei ddyrannu mewn ffordd fwy rhesymegol a thryloyw ledled y DU, a byddai'n meithrin perthynas fwy cydweithredol ac adeiladol rhwng Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi pobl, busnesau a chymunedau Cymru, ond mae'r problemau sy'n gysylltiedig â'r model ariannu presennol yn creu heriau diangen. Felly, rwy'n obeithiol y gallwn gytuno heddiw fod cael system yn lle fformiwla Barnett yn y ffordd a ddisgrifir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' er budd gorau ein cenedl a gall llais cyfunol y Senedd hon anfon neges glir at Lywodraeth y DU y byddai hyn yn dda i Gymru.

18:15

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.

Diolch i'r Gweinidog a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Nid wyf yn credu bod angen i mi ailadrodd y dadleuon a glywsom—rydym wedi clywed achosion cryf iawn yn cael eu gwneud heddiw ynglŷn â pham mae angen i ni ailedrych yn sylfaenol ar y strwythur ariannu cyfan a'r berthynas gyllido rhwng Llywodraeth y DU a Chymru. Rwyf am ganolbwyntio ar yr hyn sy'n ein huno wrth gloi'r ddadl hon. Rwy'n gwybod yn well na disgwyl i'r Ceidwadwyr droi eu cefnau ar eu mantra fod arian yn gorlifo yng Nghymru diolch i garedigrwydd Llywodraeth y DU, ond rwyf am wneud proffwydoliaeth wallgof yma y byddant yn newid eu meddyliau ar ôl yr etholiad nesaf, boed unrhyw newid yn y mecanweithiau cyllido ai peidio, neu'n wir yn y lefelau cyllido eu hunain.

Rwyf hefyd yn proffwydo y bydd Llafur yn newid yn raddol i feddwl nad yw'r lefelau truenus o wariant sydd gennym ar hyn o bryd mor ddrwg â hynny pan fydd gennym Brif Weinidog Llafur a Changhellor Llafur yn y DU, fel y disgwyliwn eu gweld cyn diwedd eleni. Ond mae'r farn bleidiol ynghylch gwariant i Gymru, a'r ffaith ei bod yn bosibl cymryd safbwynt pleidiol anwadal ynglŷn ag a yw lefelau gwariant yn ddigonol, a yw systemau'n gweithio, yn dweud popeth sydd angen i ni ei wybod: mae'n bryd edrych eto ar sut mae Cymru'n cael ei hariannu ac ar y rheolau ynghylch gwariant cyhoeddus, benthyca, defnyddio cronfeydd wrth gefn, holl faes yr hyblygrwydd cyllidol a geisiwn, ac adolygu Barnett wrth gwrs. Felly, rwy'n falch fod gennym gonsensws a bydd y Senedd yn siarad eto heddiw wrth alw am yr adolygiad hwnnw.

Y cwestiwn a ofynnodd Mabon i'r Gweinidog, serch hynny: 'Beth sydd wedi'i wneud ers inni fynegi'r farn hon ddiwethaf?' Rydym wedi siarad am gonsensws heddiw ac mae hwn yn gonsensws rhwng fy mhlaid i a'ch plaid chi yn y Llywodraeth. Rwy'n ymddiheuro i'r meinciau Ceidwadol, nid ydych chi'n rhan o hyn, ond mae'r Gweinidog cyllid a minnau'n edrych ymlaen yn fawr at weld newid Llywodraeth a chael gwared ar y Ceidwadwyr. Ond yr hyn a welaf hefyd yw diffyg ymrwymiad gan y Llywodraeth Lafur sydd ar y ffordd i wneud gwahaniaeth i'r sefyllfa gyllido sy'n ein hwynebu, ac mae hynny'n dweud wrthyf fod angen i ni sicrhau bod Plaid Cymru fel gwrthblaid yn San Steffan mor gryf ag y gall fod i bwyso ar bwy bynnag a fydd yn Rhif 11 a Rhif 10 Stryd Downing.

A gofynnaf i'r Gweinidog—. Ydych, rydych chi wedi ysgrifennu at Lywodraeth bresennol y DU, ond mae honno ar ei ffordd allan. Rwyf eisiau i chi ddangos eich cyhyrau i'r Llywodraeth sydd ar y ffordd y mae gennych gymaint o hyder ynddi. A gofynnaf i ddarpar Brif Weinidog Cymru, sy'n eistedd drws nesaf ond un i chi, ddangos ei gyhyrau ef a pheidio â derbyn 'na' fel ateb, fel y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn barod i'w wneud yn llawer rhy aml, mae arnaf ofn. Felly, os na chawn ein clywed yn San Steffan, wel, bydd hynny unwaith eto'n dweud popeth sydd angen i ni ei wybod am le Cymru yn yr undeb anghyfartal hwn. Cefnogwch y cynnig hwn heddiw os gwelwch yn dda.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

A daw hynny â ni i'r cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Bydd y bleidlais gyntaf ar eitem 5, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21. A galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. O blaid 27, saith yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

18:20

Eitem 5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)—Casgliadau cenedlaethol: O blaid: 27, Yn erbyn: 16, Ymatal: 7

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 7, dadl Plaid Cymru. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru—Fformiwla Barnett. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru—Fformiwla Barnett. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 13, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, roedd 11 yn ymatal; yn erbyn, 13. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru—Fformiwla Barnett. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 26, Yn erbyn: 13, Ymatal: 11

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8524 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y consensws trawsbleidiol yn y Senedd ynghylch yr angen i ddiwygio model cyllido Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno, yn lle fformiwla Barnett sydd wedi dyddio, system newydd sy’n seiliedig ar anghenion cymharol ac sydd wedi’i chymeradwyo gan y pedair gwlad, o fewn cytundeb cyllidol newydd a gaiff ei oruchwylio a’i weithredu gan gorff sy’n annibynnol ar Lywodraeth y DU.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru—Fformiwla Barnett. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 37, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

A chyn ein bod yn gadael, rydym wedi cael cadarnhad bod y palas wedi derbyn enwebiad Vaughan Gething fel Prif Weinidog. [Cymeradwyaeth.]

9. Dadl Fer: Cynllun cenedlaethol ar gyfer cydnerthedd rhag llifogydd

Symudwn at y dadleuon byrion yn awr, a bydd y ddadl fer gyntaf yn cael ei chyflwyno gan Carolyn Thomas ar bwnc o'i dewis. Os oes Aelodau'n gadael, gwnewch hynny'n dawel. Carolyn, ewch amdani.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi rhoi munud o fy amser i Heledd, Mike, Llyr a Mabon.

18:25

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Gyda glawiadau amlach a thryach, mae angen cynllun cenedlaethol ar gyfer adeiladu cydnerthedd rhag llifogydd. Gall llifogydd ddigwydd yn gyflym iawn, weithiau dros nos. Y tro cyntaf i fy nghartref gael ei effeithio, cefais fy neffro'n gynnar yn y bore gan gymydog a oedd eisiau fy rhybuddio bod ein cwningen anwes wedi boddi, fel y gallem ei thynnu o'r cwt cyn i'n plant ddeffro. Cefais sioc o weld afon o ddŵr yn llifo oddi ar y briffordd i lawr ein dreif, i mewn i'r garej, a dŵr yn llifo i lawr y grisiau yn yr ardd, lle roedd y grym wedi chwalu wal frics i ailymuno â'r nant yng nghefn ein gardd, ac roedd yn ofnadwy i'r plant ac i bob un ohonom. A digwyddodd hyn i gyd oherwydd bod ceuffos wedi blocio ar dir preifat ymhellach i fyny'r ffordd, a gellid bod wedi ei atal.

Digwyddodd eto yn ystod storm Babet, oherwydd unwaith eto ni chafodd ei glirio. Mae cymydog wedi bod allan o'i heiddo ers tua pum mis bellach, gan aros mewn gwesty dros y Nadolig, heb unman i goginio nac unman i olchi llestri. Mae ei merch yn nyrs sydd hefyd wedi'i chael hi'n anodd, ac mae'n ysu am gael ei chartref yn ôl. Ymwelodd swyddogion draenio'r cyngor â pherchennog y tir i bwysleisio mai ef sy'n gyfrifol am gadw'r draeniau'n glir ar ei dir. Dywedodd fod angen i'r cyngor glirio'r nant yn uwch i fyny, gan ei bod yn cario gweddillion i'r geuffos gan ei blocio, ond mae'n ymddangos mai ef sy'n berchen ar y tir hwnnw hefyd. Roedd preswylydd cyfagos wedi rhagdybio mai mater i'r awdurdod afonydd—nid wyf yn gwybod pwy ydynt y dyddiau hyn—oedd clirio'r cwrs dŵr. Mae cymaint o ddryswch a chymaint o wadu cyfrifoldeb. Pan fo ardaloedd eraill yn dioddef llifogydd yn Sandycroft a Brychdyn, mae'r trigolion wedi gofyn, 'Pwy sy'n gyfrifol? Lle mae'r broblem?', fel y gallant fod yn wyliadwrus a gwybod pwy i gysylltu â nhw. Yn aml, mae angen i gwmnïau yswiriant wybod y gellid ei atal yn y dyfodol cyn y byddant yn talu y dyddiau hyn, ac mae trafodaethau ar y gweill eto am gofrestr asedau tanddaearol genedlaethol i fapio perchnogaeth ar bibellau a cheblau. Gallem wneud gyda chynllun tebyg i fapio pwy sy'n berchen ar ddraeniau, ffosydd, ceuffosydd, a chyrsiau dŵr bach, gan ddechrau gyda'r ardaloedd yr effeithir arnynt fwyaf gan lifogydd. Ac rwy'n credu y byddai hwnnw'n gynllun da iawn i gynghorau fwrw ymlaen ag ef gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae cynghorau wedi gofyn am gymorth i hyrwyddo cyfrifoldeb perchnogion tir o dan gyfraith glannau afon, a gellid gwneud hyn gyda gwefan bwrpasol, taflenni y gellid eu postio drwy ddrysau perchnogion tir, gyda chynghorau, Cyfoeth Naturiol Cymru ac undebau ffermio a chyrff cynrychioliadol eraill yn gweithio gyda'i gilydd. Dylem fod yn grymuso cymunedau i fod yn rhagweithiol, i archwilio i weld a oes problem ac i wybod pwy i gysylltu â nhw. Maent yn ceisio ffonio'r cyngor, ond nid ydynt yn gallu mynd drwodd, ac mae bob amser yn rhy hwyr. Mae cymunedau rwy'n eu cynrychioli wedi gofyn ynglŷn â hyn sawl gwaith.

Fel y dywedais, pan fo llifogydd yn digwydd, mae'n digwydd mor gyflym, mae'n aml yn rhy hwyr i weithredu. Yr ymateb yw ffonio'r cyngor am fagiau tywod, y gwasanaeth tân neu'r heddlu. Efallai y bydd bagiau tywod yn helpu, ond yn aml mae'n rhy hwyr, ac nid oes rhaid i gynghorau eu darparu. Mae llawer ohonynt wedi rhoi'r gorau i wneud am allant eu fforddio. Ac nid ydynt yn cadw'n dda. Yn achos llawer ohonynt, mae'n rhaid eu rhoi at ei gilydd yn ôl y galw. Os yw'r gwasanaeth tân yn dod allan, nid oes ganddynt unman i bwmpio'r dŵr. Mae'n ail-lenwi eto yn y pen draw.

Os gallai trigolion sy'n dueddol o ddioddef llifogydd gael cymorth gyda mesurau ataliol i ddod yn fwy cydnerth, gyda llifddorau, capiau brics aer, plygiau—. Unwaith eto, gellid eu cyfeirio at wybodaeth ar-lein, taflen, a rhywfaint o gyllid grant efallai i'r rhai sydd ei angen. Byddai'n ddefnyddiol cynnwys gwybodaeth am gasglu dŵr hefyd, fel casgenni dŵr, a fyddai'n ddefnyddiol iawn, fel y mae'r Gweinidog yn ei ddweud yn aml, ac arwynebau athraidd mewn gerddi ac ar ddreifiau, fel y mae Joyce Watson yn aml yn sôn.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod cyllid sylweddol o £34 miliwn wedi'i gyhoeddi ddoe ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd, sy'n newyddion cadarnhaol dros ben, a bydd hynny nawr yn galluogi nifer fawr o brosiectau atal llifogydd allweddol i gael eu datblygu i'r cam nesaf, a bydd hefyd yn cefnogi cynllunio cydnerthedd, gwelliannau a mentrau uchelgeisiol ledled Cymru. Ac rwy'n credu y bydd hefyd yn helpu i ddenu talent newydd i'r maes arbenigol hwn, sydd mor bwysig ac sydd wedi bod yn broblem.

Mae'n bwysig ein bod yn cynnal y momentwm nawr gyda'r rhaglenni pwysig hyn, a bod partneriaid yn gweithio gyda'i gilydd, fel sydd wedi bod yn digwydd yn ddiweddar. Mae llifogydd yn effeithio ar ein rhwydwaith trafnidiaeth hefyd yn ogystal ag eiddo. Mae ein rhwydwaith rheilffyrdd yn fregus iawn, fel y mae'r rhwydwaith priffyrdd a strwythurau fel pontydd. Rwyf wedi gweld nifer o dirlithriadau, ymsuddiant, pontydd yn diflannu, heb sôn am y tyllau yn y ffyrdd, ac mae angen cyllid arnom ar gyfer rhwydweithiau a gynhelir yn lleol. Yn y gorffennol, roedd yna arian cyfalaf wedi'i glustnodi, ond gyda chymaint o bwysau ar brosiectau cyfalaf ar gyfer tai ac addysg, mae'r arian hwn yn dynn iawn, ond mae angen i ni atal difrod cyn iddo ddod yn anghynaladwy. Byddai ychydig o waith atal ar ein priffyrdd nawr yn atal problem sylweddol yn nes ymlaen. Hefyd, mae angen i berchnogion tir beidio â draenio i'r priffyrdd, gan ei fod yn golchi'r arwyneb i ffwrdd. Pe bai caeau'n cael eu haredig ar draws, yn hytrach nag i lawr at y priffyrdd, byddai'n gwneud gwahaniaeth enfawr. Rwy'n deall y bydd mesurau fel y rhain yn cael eu cynnwys yng nghynllun ffermio cynaliadwy Llywodraeth Cymru. A phe bai ffosydd a cheuffosydd yn cael eu clirio, byddai'n atal ceunentydd rhag datblygu ar ochr y ffyrdd a golchi'r arwyneb ymaith. Lle ceir cae, gwrych, ffos, yna ymyl y ffordd, un o'r pethau a gamddeellir amlaf yw mai cyfrifoldeb y cyngor yw'r ffos honno, ond cyfrifoldeb perchennog y tir ydyw mewn gwirionedd. Ar un adeg, roedd y ffosydd yn cael eu clirio'n rheolaidd ac mae angen darparu cyngor a chyfarwyddyd clir ynglŷn â sut y dylid eu cynnal a'u cadw unwaith eto.

Byddwn yn dioddef llifogydd mwy sylweddol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a chynghorau yn ceisio defnyddio arian ac adnoddau prin iawn i reoli llifogydd. Mae perchnogion tir nad ydynt yn cynnal ffosydd yn peri rhwystredigaeth. Gall fod yn broblem i ardaloedd gwledig, ond mae dŵr ffo oddi ar dir hefyd yn effeithio ar ardaloedd trefol. Mae gan gynghorau ddeddfwriaeth i orfodi perchnogion tir preifat, ond nid oes ganddynt fyddin o beirianwyr priffyrdd i allu cyflawni'r un agwedd honno ar reoli llifogydd; nid oes digon ohonynt i fynd i guro ar ddrysau. Maent yn gofyn i berchnogion tir gymryd cyfrifoldeb a bod yn fwy rhagweithiol. Roeddwn yn bryderus o glywed Charles DeWinton o'r Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad yn ymateb i fy nghyfweliad ar ITV yn ddiweddar drwy ddweud bod biwrocratiaeth a chydsyniadau draenio tir yn atal perchnogion tir rhag gwneud mwy ac mai awdurdodau cyhoeddus statudol, fel Cyfoeth Naturiol Cymru a chynghorau, sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o ddraeniau. Rwy'n pryderu bod llefarydd sy'n gwneud sylwadau fel hynny yn ychwanegu mwy o ddryswch ac yn gwadu cyfrifoldeb. 

Felly, i gloi, pe bai pawb yn gwybod beth yw eu cyfrifoldebau, boed yn berchnogion tir neu'n berchnogion tai, o dan gynllun cenedlaethol cydnerthedd rhag llifogydd, rwy'n credu y gallai helpu i ddiogelu cymunedau ar draws Cymru rhag dinistr llifogydd. Diolch.

18:30

Diolch, Carolyn, am ddod â'r ddadl hon heddiw.

Rwy'n falch iawn o gyfrannu'n fyr. Bydd y Gweinidog yn gwybod bod hwn yn fater rwy'n teimlo'n angerddol yn ei gylch hefyd. Rwy'n meddwl eich bod chi'n iawn: mae'n broblem genedlaethol; nid dim ond i'r cymunedau sydd mewn perygl. A byddwn hefyd yn croesawu unrhyw ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i fforwm llifogydd cenedlaethol i Gymru, oherwydd credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn grymuso cymunedau sy'n wynebu'r risg hon ac yn eu cefnogi. Oherwydd rydych chi'n iawn, mae'n hollol drawmatig a po fwyaf y gallwn ei wneud—. Oherwydd bydd yn amhosibl achub pob cartref a busnes. Felly, mae angen sgwrs genedlaethol, ond hefyd y strwythur i gefnogi cymunedau, oherwydd ni all pawb eirioli drostynt eu hunain. Felly, rwy'n credu ei bod yn werth cael strwythur cynllun cenedlaethol, a fforwm llifogydd cenedlaethol i Gymru hefyd, byddwn yn dadlau.

Diolch am roi munud i mi, Carolyn. Gwyddom fod dŵr yn chwyddo wrth iddo boethi, gan gynyddu cyfaint y dŵr. Gwyddom ein bod yn gweld llifogydd a stormydd yn digwydd yn amlach ac yn fwy garw nag a welsom o'r blaen. Mae'n rhaid i'r dŵr fynd i rywle. Yn Abertawe, mae gennym lyn artiffisial sydd wedi'i greu wrth ymyl afon Tawe. Mae'n rhoi rhywle i'r dŵr fynd lle nad yw'n gwneud unrhyw ddifrod, lle mae'r afon yn torri ei glannau, ond mae i fod i dorri ei glannau yn y fan honno. Fel rwy'n dweud, mae'n rhaid i'r dŵr fynd i rywle; os na roddwn le iddo fynd, fe gawn lifogydd, oherwydd mae'n mynd i ddod o hyd i rywle i fynd. Y camau eraill a all leihau llifogydd yw: plannu coed a llwyni, fel y gall y coed a'r llwyni amsugno'r dŵr cyn i lifogydd ddigwydd, i fyny'r afon yn ddelfrydol; rhoi troadau mewn afonydd, sy'n arafu llif dŵr sy'n dod i lawr yr afon ac yn atal y momentwm rhag cronni; ac yn olaf, sicrhau bod ceuffosydd yn glir.

Yn fyr, roeddwn am rannu rhywbeth a ddywedwyd wrthyf pan ymwelais â ffermwyr yn nyffryn Conwy yr wythnos diwethaf. Euthum i edrych ar y gwaith y mae ffermwyr lleol wedi bod yn ei wneud yno ar drwsio arglawdd Tan Lan, gan newid graddiant y cob i atal difrod mwy difrifol wedi ambell ddigwyddiad yn y blynyddoedd diwethaf. Beth bynnag, yn ystod fy ymweliad, fe wnaethant egluro wrthyf sut nad yw'r trefniadau ardal draenio mewnol y maent yn rhan ohonynt yn gweithio bellach mewn ffordd y teimlant eu bod yn addas at y diben. Roedd ganddynt bethau beirniadol i'w dweud am rôl Cyfoeth Naturiol Cymru yn hynny o beth. Mae'n codi cwestiynau difrifol, rwy'n credu, ynglŷn â'r trefniadau cymharol newydd ar gyfer yr ardaloedd draenio ac mae'n amlwg fod yna gwestiynau sydd angen eu hateb.

Nawr, nid yw dyffryn Conwy yn unigryw yn hynny o beth. Gwn fod pryderon gan yr Aelod dros Ddwyfor Meirionnydd am drefniadau yn ei ardal ef, a gwn fod pryderon ar Ynys Môn hefyd. Rwy'n credu bod pwyllgor yr economi yn y Senedd bellach wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, at CNC a'r undebau ffermio i geisio sefydlu rhywfaint o dystiolaeth i edrych ar hyn. Rwy'n arbennig o awyddus i'r pwyllgor newid hinsawdd edrych ar hyn hefyd. Mae ffermwyr yn talu i mewn i'r pot, ond nid ydynt yn teimlo eu bod yn cael digon yn ôl, ac mae'n hurt meddwl, yng nghyd-destun dyffryn Conwy, nad yw arglawdd Tan Lan yn cael ei ystyried yn rhan o gyd-destun yr ardal ddraenio, er mai dyma'r darn unigol mwyaf arwyddocaol a dylanwadol o seilwaith o ran llifogydd a rheoli dŵr. Felly, roeddwn eisiau tynnu sylw at hynny fel rhywbeth sy'n peri pryder i mi a rhywbeth y gobeithiaf y gellir mynd ar ei drywydd drwy wahanol bwyllgorau yn y Senedd.

18:35

Dwi'n ddiolchgar i Carolyn am ddod â'r ddadl yma gerbron, oherwydd mae cael cynllun o'r fath yn bwysig, yn enwedig os edrychwch chi ar fy etholaeth i. Dŷn ni i gyd yn ymwybodol o hanes Fairbourne, er enghraifft; dŷn ni'n gwybod am Borthmadog a Phwllheli. Ond dwi eisiau mynd ar ôl yr un trywydd â Llyr a meddwl am y rhanbarthau draenio mewnol yma sydd wedi bod yn dipyn o gur pen i fi yn Nwyfor Meirionydd, a bod mwy ohonyn nhw yn y rhanbarth efo fi nag yn unrhyw ran arall o Gymru. Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru bolisi sydd wedi cael ei osod, yn ôl a ddeallaf, o du'r Llywodraeth yma i beidio â glanhau gwaelod neu wely afonydd, ac felly'r hyn sydd yn digwydd yw maen nhw'n siltio i fyny, maen nhw'n casglu, ac mae'r rhanbarthau draenio mewnol yma sydd yn dir da ond isel iawn yn llifo. Am rannau mawr o'r flwyddyn, mae'r tiroedd yma'n mynd ar goll i'r ffermwyr, maen nhw'n methu tyfu cnwd, maen nhw'n methu rhoi eu stoc allan. Ac mae hyn yn bolisi penodol sydd yn cael ei alluogi gan y Llywodraeth ac sydd yn ein handwyo ni mewn rhannau mawr o Ddwyfor Meirionydd ac ar draws Cymru.

Felly, wrth i'r Gweinidog ymateb, mi fuaswn i'n ddiolchgar iawn clywed beth ydy ei meddyliau hi am y rhanbarthau draenio mewnol yma ac a oes yna ffordd i ymgynnull rhyw gyfarfod o randdeiliaid er mwyn gweld a oes yna ffordd i weithredu'r peth yn well, achos dydy'r drefn bresennol ddim yn gweithio. Mae gan ffermwyr dreth ychwanegol maen nhw'n gorfod ei thalu er mwyn trio gweithredu trefn sydd yn eu methu nhw ar hyn o bryd. Diolch.

Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i ymateb i'r ddadl. Julie James.

Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro, a diolch i chi, Carolyn, am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon a nodi sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd. Fel y soniodd llawer o bobl, mae gan Lywodraeth Cymru strategaeth genedlaethol i reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Fe'i cyhoeddwyd ar ddiwedd 2020 ac mae'n nodi ein dull cynhwysfawr a'n mesurau hirdymor o leihau perygl llifogydd ledled Cymru. Mae'r strategaeth yn pwyso ar yr hyn a ddysgwyd o stormydd dinistriol 2020, a effeithiodd yn drasig ar lawer o gymunedau yng Nghymru, ac sy'n sail i'r ymrwymiadau yn ein rhaglen lywodraethu a'r cytundeb cydweithio.

Mae'r strategaeth genedlaethol yn cefnogi gwell cydnerthedd ac yn annog cydweithio i leihau risg drwy ddarparu cyfeiriad strategol drwy amcanion a mesurau clir. Mae'n canolbwyntio ar gyflawni gwelliannau, galluogi gwell cyfathrebu, darparu atebion naturiol a dulliau rheoli ar raddfa dalgylch. Ar wahân i hynny, rydym hefyd yn ariannu Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol i gyflawni gweithgareddau ymwybyddiaeth o lifogydd a chydnerthedd drwy gydol y flwyddyn. Maent yn cynnig cymorth ar beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd. Mae CNC yn gwneud gwaith allgymorth cymunedol ac yn cefnogi datblygiad cynlluniau llifogydd cymunedol lleol i gynyddu cydnerthedd ac addasiadau mewn cymunedau sydd â risg uchel o lifogydd.

Ar y pwynt hwnnw, felly, Heledd, mae gennyf ddiddordeb mawr yn y syniad o fforwm llifogydd cenedlaethol o ryw fath. Mae gennym sawl—. Mae gennym bwyllgor technegol eisoes yn gweithio yn y maes; nid wyf yn credu mai dyna a olygwch. Yr hyn a olygwch yw fforwm ar gyfer cymunedau yr effeithir arnynt. Felly, rwy'n credu bod gwaith i'w wneud, a deuaf at hynny yn fy araith. Mae'n debyg y bydd yn rhaid i mi grynhoi hyn, oherwydd maent wedi rhoi araith 400 tudalen i mi yma. [Chwerthin.] Felly, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn edrych ar sut y gall y pwyllgor technegol, pwyllgorau awdurdodau rheoli risg, y comisiwn seilwaith cenedlaethol, sy'n gwneud gwaith o ganlyniad i'r cytundeb cydweithio, ddod at ei gilydd i argymell sut y gallai fforwm dinasyddion weithio ar y cyd â nhw, oherwydd credaf fod angen ichi sicrhau ei fod yn plethu gyda'i gilydd ac nad fforwm i ddweud pa mor anhapus ydych chi yn unig ydyw. Rydych chi am i bobl gael dweud eu barn, onid ydych, ynglŷn â sut mae'r cynlluniau hynny'n cael eu llunio? Felly, rwy'n credu bod gwaith i'w wneud i gael y jig-so hwnnw i weithio. Felly, roeddwn am ddweud hynny.

Ac yna, y ffordd y gweithiwn ar lifogydd—soniodd Carolyn am hyn hefyd—mae problem go iawn gyda'r ffordd y mae perchnogion glannau afon neu rai nad ydynt yn berchnogion neu bobl nad ydynt yn gwybod os ydynt yn berchnogion a'r awdurdodau rheoli risg, sef yr awdurdodau lleol wrth wisgo'u het llifogydd, yn gweithio gyda'i gilydd. Rydym wedi edrych ar waith i geisio mapio hynny, ond mae'n anodd iawn ei wneud. Felly, ar gyfer dalgylchoedd ardaloedd cadwraeth arbennig o leiaf, nad ydynt yn cynnwys y dalgylchoedd i gyd o bell ffordd, i fod yn glir, ond ar gyfer yr ardaloedd cadwraeth arbennig yn unig, rydym ar hyn o bryd yn treialu gwaith adfer ar y Teifi o'r tarddiad i Draeth Poppit, yr euthum draw i'r hacathon yn Aberystwyth ar ei gyfer, a oedd yn wych a dweud y gwir, gyda llawer o bobl ymroddedig i gyd yn herio'i gilydd ac yn cydweithio i weld beth y gellir ei wneud i edrych ar y Teifi i gyd, ac edrych ar bob un perchennog tir a defnyddiwr ar hyd ei glannau, yr holl ffordd i Draeth Poppit—rwy'n dwli ar Draeth Poppit, dyna pam rwy'n ei ailadrodd—ac i wneud yn siŵr y gallwn adfer yr afon honno'n iawn, fel ei bod mewn cyflwr cadwraeth da, ond mewn ffordd sy'n ein galluogi i wneud y gwaith ar raddfa fwy ledled Cymru. Gofynnodd yr archwiliad dwfn bioamrywiaeth i ni wneud hynny hefyd, ond roeddent am edrych ar fegadalgylch Bannau Brycheiniog, ac mae hwnnw, a dweud y gwir, yn dalp rhy fawr i allu ei wneud yn y ffordd honno, felly mae'r Teifi wedi ei dewis yn benodol, oherwydd, er ei bod yn ardal eithaf mawr, yn amlwg, mae ar raddfa sy'n bosibl ei gwneud, ac rwy'n credu y byddwn yn gwneud gwaith am broblemau perchnogion y glannau ar ei hyd, er nad oes cymaint â hynny o ardaloedd adeiledig, ac mae'n fwy o broblem yn y mannau hynny. Felly, roeddwn eisiau nodi'r hyn rydym yn ceisio'i wneud.

A'r pwynt am y strategaeth genedlaethol yw ein bod yn ceisio gwneud nifer o bethau ar yr un pryd. Felly, fel y dywedodd Mabon, rydym yn ceisio cynyddu ymwybyddiaeth o gymunedau fel Fairhaven ac ati o'r hyn y gellir ei wneud mewn cymunedau. Felly, hoffwn ailbwysleisio—rwy'n dweud hyn drwy'r amser—nid yw Llywodraeth Cymru wedi dweud na fyddwn ni'n amddiffyn unrhyw gymuned. Felly, nid ydym wedi dweud na wnawn hynny. Ond mae'n amlwg—rwy'n credu i chi ddweud, Heledd—na fyddwn yn gallu amddiffyn pob cymuned yn y pen draw, felly mae angen i ni gael strategaethau, onid oes, ar gyfer cymunedau na ellir eu hamddiffyn yn ôl pob tebyg. Ond roeddwn eisiau dweud hynny, oherwydd rydych chi'n clywed drwy'r amser, 'Wel, rydych chi wedi dweud na wnewch chi,' ac nid yw hynny'n wir, ond mae'n rhaid i ni gael strategaethau ar gyfer hynny, ac mae'n bwysig iawn lle mae pobl yn byw yn y cymunedau hynny, ond mae yna ddarnau eraill o dreftadaeth ddiwylliannol sydd dan fygythiad gan y môr. Mae'n hysbys fy mod yn hoff iawn o arfordir sir Benfro, fel y gŵyr y Dirprwy Lywydd dros dro, ac yn enwedig traeth Porth Mawr ac Abereiddi, lle rwyf wedi ymweld ag ef bob blwyddyn o fy oes, sy'n flynyddoedd lawer bellach. Ac mae'r Stryd, fel y'i gelwir, y rhes o dai chwarelwyr sydd yno, yn mynd i mewn i'r môr. Oherwydd fe wnaethant dynnu'r amddiffynfeydd môr, ac mae'n draeth storm nawr. Felly, gallwch weld bod y darn hwnnw o dreftadaeth ddiwylliannol yn mynd i ddiflannu. Ac yn y Porth Mawr, mae'r eglwys sydd ar yr ochr yno wedi ei datgloddio, mae wedi cael ei datgloddio oherwydd bod pobl a gafodd eu claddu ym mynwent yr eglwys wedi dechrau dod i'r golwg, ac mae'n ddiddorol iawn, os nad ydych chi'n gyfarwydd â hi. Ond mae'n ddarn o dreftadaeth ddiwylliannol y credaf y byddem i gyd wedi hoffi ei ddiogelu, ond nid yw'n mynd i fod yn ymarferol i'w wneud.

Felly, mae'n rhaid i ni gael atebion synhwyrol ar gyfer diogelu cymunedau lle mae pobl yn byw a chymunedau treftadaeth rhag y môr, neu ddod i delerau â sut y gwnawn gefnu arnynt mewn ffordd nad yw'n ddinistriol, mae'n ddefnyddiol gwneud hynny. Ac roedd yna brosiect gwych iawn rhyngom ni ac Iwerddon—ac rwy'n credu efallai fod y Dirprwy Lywydd dros dro yn rhan ohono hefyd—a'r enw CHERISH. Nid wyf yn gwybod a ydych chi wedi dod ar ei draws. Ac maent wedi gwneud cryn dipyn o waith ar hyn, ynglŷn â sut i'w wneud, oherwydd mae'n broblem gyffredin ar draws y byd.

Felly, i gloi, rwy'n credu ei fod yn fater pwysig iawn. Mae llawer mwy i'w ddysgu. Rydym wedi cael adroddiad yr Asesiad Seilwaith Cenedlaethol, rydym wedi cael adroddiad yr Athro Elwen Evans CB a nododd Heledd ac a fu'n ddefnyddiol iawn. Nid ydym wedi ymateb yn ffurfiol i'r rheini eto, felly pwy bynnag sy'n sefyll yn fy lle ymhen ychydig wythnosau fydd yn gyfrifol am gael yr ymateb hwnnw at ei gilydd. Ac wrth wneud hynny—dyma'r strategaeth genedlaethol nesaf ar gyfer cydnerthedd newid hinsawdd, a dweud y gwir, sydd i fod i gael ei chyhoeddi fis Hydref—fe fydd angen i ni gael golwg ar y fforymau hynny er mwyn sicrhau bod ein cymunedau'n cymryd rhan briodol yn y gwaith a wnawn, oherwydd gwnaed argraff fawr arnaf gan y cyfarfod a gefais gyda chi, Heledd, a nifer o ASau eraill am y bobl gyda'r fflachlifau a beth y gallwn ei wneud am y peth. Mae angen i ni roi'r holl offer i bobl, fel rydych chi'n gywir i'w ddweud, i allu gwneud eu hunain mor ddiogel â phosibl, a hefyd iddynt allu cynllunio ar gyfer y dyfodol, beth bynnag yw'r dyfodol, ac efallai na fyddant yn gallu aros lle maent, ond mae'n rhaid iddynt gael dyfodol y gallant gynllunio ar ei gyfer. Felly, rwy'n credu mai dyna lle daw. Bydd yn dod yn y strategaeth cydnerthedd newid hinsawdd nesaf, ac mae gennym ychydig o ffordd i fynd cyn hynny fel y gallwn roi holl ddarnau'r jig-so at ei gilydd. Diolch.

18:40
10. Dadl Fer: Achub bywydau a diogelu ein cymunedau—Yr achos dros ganolfannau atal gorddos

Rwy'n mynd i symud ymlaen nawr at yr ail ddadl fer, a Peredur Owen Griffiths ar achub bywydau a diogelu ein cymunedau—yr achos dros ganolfannau atal gorddos. Galwaf ar Peredur i siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis.

18:45

Diolch yn fawr, Lywydd dros dro. Yn ôl unrhyw fesur y dymunwch edrych arno bron, mae'r rhyfel yn erbyn cyffuriau wedi methu. Mae wedi methu yn ôl nifer uchel y marwolaethau cyffuriau; mae wedi methu pan edrychwch ar sut mae cyffuriau wedi dod yn ffactor sylweddol wrth ystyried poblogaeth y carchardai; ac mae wedi methu pan edrychwch ar y gafael sydd ganddo ar lawer o'n cymunedau.

Rydym yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth San Steffan, sydd dros 50 mlwydd oed, sef Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971, sy'n ffafrio'r ffon yn hytrach na'r moron wrth ymdrin â defnyddio cyffuriau. Rwy'n ffafrio polisi cyffuriau sy'n dosturiol ac sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Nid wyf wedi gwneud unrhyw gyfrinach o hynny ers fy ethol i'n Senedd. Ond beth bynnag yw eich barn am ddeddfwriaeth neu ddad-gategoreiddio, rwy'n gobeithio y gallwn i gyd gytuno yn ein Senedd y dylai achub bywydau fod yn flaenoriaeth. Fel y dywedodd un cyn-heddwas yn ystod cyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol ar ddefnyddio sylweddau a chaethiwed a gadeirir gennyf, 'Nid yw achub bywydau yn golygu nad ydym yn ddigon llym ar gyffuriau.'

Ni fyddai cynnal y status quo—y status quo hanner canrif—yn gwneud dim i fynd i'r afael â'r nifer cywilyddus o farwolaethau cyffuriau a welwn yng Nghymru flwyddyn ar ôl blwyddyn. Er i'r gyfradd ostwng ychydig yng Nghymru y llynedd, mae wedi codi dros 50 y cant dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae ffigurau marwolaethau cyffuriau yng Nghymru yn parhau i fod yn uwch na'r gyfradd farwolaethau yn Lloegr. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, roedd opiadau'n gysylltiedig â bron i hanner y marwolaethau o'r fath.

Tynnwyd sylw at nifer erchyll y marwolaethau yn ystod grŵp trawsbleidiol ar ddefnyddio sylweddau a chaethiwed, lle cafwyd arddangosfa weledol o flodau wedi'u casglu gan yr elusen Transform, i gynrychioli pob marwolaeth cyffuriau yn y DU dros y flwyddyn flaenorol. Roedd edrych ar yr arddangosfa enfawr o flodau a gasglwyd y diwrnod hwnnw yn bwerus ac yn ofidus. Y tu ôl i bob un o'r ystadegau hynny mae bywyd a gollwyd yn rhy fuan, heb sôn am deulu a chylch o ffrindiau sy'n galaru—y marwolaethau yw'r agweddau mwyaf brawychus ar y ffordd aflwyddiannus rydym yn ymdrin â chaethiwed cyffuriau yng Nghymru a Lloegr, ond ceir llawer o agweddau eraill.

Un o'r rhain yw'r sbwriel sy'n cael ei adael ar ôl gan chwistrellwyr ar y stryd sy'n creu perygl iechyd sylweddol i'r cyhoedd. Rwy'n gwybod am un ardal yng Nghaerdydd lle caiff heroin ei chwistrellu'n agored a nodwyddau wedi'u taflu o fewn tafliad carreg i ysgol gynradd. Nid yw hynny'n iawn. Nid yw'n iawn i'r rhai sy'n cymryd cyffuriau ac nid yw'n iawn fod y bobl yn y gymuned honno'n gorfod dioddef hynny.

Un ateb i'r mater, sydd wedi'i fabwysiadu'n llwyddiannus iawn yn rhyngwladol, yw sefydlu canolfannau atal gorddos. Yng ngeiriau elusen cyffuriau Transform, mae'r canolfannau hyn yn fannau diogel hylan, lle gall pobl gymryd cyffuriau'n ddiogel o dan oruchwyliaeth staff hyfforddedig. Ceir offer hylan at eu defnydd a gall staff ymateb ar unwaith i orddos. Gallant hefyd ddarparu porth i fyrdd o wasanaethau a allai arwain at y defnyddwyr cyffuriau'n rhoi'r gorau i'r arfer neu ddod yn iachach fan lleiaf, a chael eu cefnogi'n well ac yn fwy tebygol felly o aros yn fyw.

Mae hwn yn bolisi nad yw mor radical ag y byddai rhai am i chi ei gredu. Fe'i mabwysiadwyd gan 14 gwlad, ac fe geir bron i 200 o ganolfannau atal gorddos i gyd. Ymhlith y gwledydd hyn mae'r Unol Daleithiau, Ffrainc, Portiwgal, Wcráin, Norwy, Gwlad Belg, Sbaen, Canada ac Awstralia. Os gallant hwy wneud hynny, pam na allwn ni? Y rheswm pam mae'r rhain wedi dod yn boblogaidd yw oherwydd bod llu o resymau da gan y gwledydd hyn dros sefydlu canolfannau atal gorddos. Canfu adolygiad cyflym o dystiolaeth ar ganolfannau atal gorddos eu bod

'yn lleihau niwed, yn achub bywydau, ac yn hyrwyddo lles gyda mynediad gwirfoddol at wasanaethau cymdeithasol iechyd, lles a thrin cyffuriau.'

Maent hefyd yn lleihau'r risg o drosglwyddo clefydau a gludir yn y gwaed drwy gynnig gwasanaethau profi, offer hylan, opsiynau gwaredu diogel a chyngor arbenigol. Mae'r risg o orddos yn cael ei atal hefyd drwy strategaethau lleihau risg ac amgylcheddau tawelu, ac os oes angen, ymyrraeth gyflym drwy naloxone lle mae gorddos yn digwydd. Mae naloxone yn achub bywydau, ac rwy'n falch o weld bod heddluoedd wedi croesawu cynlluniau i swyddogion ei gario yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Canfuwyd bod canolfannau atal gorddos hefyd yn helpu aelodau o gymdeithas sydd ar y cyrion a allai ei chael hi'n anodd cael mynediad at wasanaethau oherwydd profiadau negyddol amrywiol. Mae'r elusen cyffuriau Kaleidoscope, y gweithiaf yn agos gyda hi yn y grŵp trawsbleidiol, eisiau sefydlu prosiect peilot yn y maes. Mewn penderfyniad dewr a blaengar nodweddiadol gan yr elusen, maent wedi addo agor gwasanaeth lleihau rhagor ar niwed. Rwyf am ei gwneud yn glir nad canolfan atal gorddos yw hon, ond mae tebygrwydd rhwng y gwaith a wnaed a manteision prosiect o'r fath.

Un o nodau'r prosiect yw targedu ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy ddarparu lle amgen i chwistrellu cyffuriau i'r rhai sy'n ddigartref ar y stryd neu'n chwistrellu mewn mannau cyhoeddus. Rhan allweddol o'r cynllun hwn yw gweithio ar y cyd â'r gymuned i leihau sbwriel cyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Elfen hanfodol arall yw lleihau'r stigma y mae defnyddwyr cyffuriau yn ei wynebu oherwydd eu defnydd o gyffuriau a darparu mynediad at driniaeth ar gyfer grŵp o bobl sy'n wrthwynebus i driniaeth. Bydd y prosiect yn adeiladu ar gyfnewidfeydd nodwyddau a chwistrellwyr sy'n bodoli eisoes, a phan fydd y prosiect peilot wedi dangos y canlyniadau cadarnhaol disgwyliedig, mae wedi cynllunio i gyflwyno gwasanaethau o'r fath ledled Cymru, lle mae cyfnewidfeydd nodwyddau addas eisoes yn bodoli. Ni ddisgwylir iddo fod yn wasanaeth costus, gan y bydd yn ategu'r ddarpariaeth bresennol.

Yr hyn sy'n allweddol yw bod y broses o gyflwyno'n digwydd yn gyflym, gan fod gweithwyr rheng flaen mewn gwasanaethau triniaeth yn gynyddol yn gweld cyflenwadau heroin llawer mwy peryglus yn cael eu hachosi gan ychwanegiadau newydd, fel y nitazenes, sy'n opioidau synthetig cryf iawn. Clywsom ar y newyddion heddiw fod Llywodraeth y DU wedi bod yn araf i ymateb i ledaeniad y cyffuriau newydd hyn, felly yn bendant mae angen cadw llygad ar hyn. Ni allwn oedi. Oherwydd os gwnawn hynny, bydd mwy o bobl yn marw. 

Rwy'n deall bod Kaleidoscope yn gweithio gyda Heddlu De Cymru ar y prosiect peilot a bod memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn cael ei lunio i ganiatáu i hyn ddigwydd, yn ddiweddarach yr haf hwn, gobeithio. Mae sefydliadau eraill, fel partneriaethau diogelwch cymunedol ac awdurdodau lleol yn rhan ohono, ond hyd yma, nid wyf yn credu bod unrhyw ymgysylltiad wedi bod â Llywodraeth Cymru ar y mater hwn. Hoffwn weld hynny'n newid, Ddirprwy Weinidog, oni bai y gallwch fy nghywiro ar hynny yn eich ymateb.

Fel y dywedais yn gynharach, y tu ôl i unrhyw farwolaeth cyffuriau, mae yna brofedigaeth deuluol drawmatig. Yn un o sesiynau'r grŵp trawsbleidiol a gynhaliwyd gennym, clywsom gan Pat, y cafwyd hyd i'w mab Kevin yn anymwybodol mewn toiled cyhoeddus dan glo yng nghanol tref Caerfyrddin ym mis Rhagfyr 2017. Ar ôl chwistrellu cyffuriau, dioddefodd ataliad ar y galon a gwaedlif ar yr ymennydd. Gwnaeth ei deulu y penderfyniad torcalonnus i ddiffodd ei beiriant cynnal bywyd. Nid oedd ond yn 32 oed. Dywedodd Pat ei hun y byddai ei mab a sawl un o'i ffrindiau yn fyw heddiw pe bai ganddynt rywle diogel i fynd iddo i chwistrellu cyffuriau. Mae'n bryd i ni wrando ar bobl fel Pat, cymryd sylw o lwyddiannau rhyngwladol a dysgu gwersi yn sgil 50 mlynedd o bolisi cyffuriau aflwyddiannus yn y DU.

Efallai na fydd canolfannau atal gorddos neu brosiectau peilot fel un Kaleidoscope yn ateb hollgynhwysol ar gyfer mynd i'r afael â chaethiwed cyffuriau, ond maent yn gam i'r cyfeiriad cywir i achub bywydau a diogelu ein cymunedau. Yn y trafodaethau niferus a gawsom, Ddirprwy Weinidog, gwn eich bod yn teimlo'n angerddol ynglŷn â lleihau niwed; dyma ffordd o wneud i hynny ddigwydd. Diolch yn fawr.

18:50

Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i ymateb i'r ddadl. Lynne Neagle.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd dros dro. A gaf i ddiolch i Peredur am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ac am y pwyntiau y mae wedi'u gwneud? A hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch iddo am y gwaith parhaus y mae wedi'i wneud gyda'r grŵp trawsbleidiol. Fel y gŵyr yr Aelod, mae ein polisi cyffuriau yng Nghymru wedi'i wreiddio mewn dull o weithredu sy'n lleihau niwed, sy'n cydnabod bod camddefnyddio sylweddau yn broblem iechyd cyhoeddus, yn hytrach nag un sy'n ymwneud â chyfiawnder troseddol yn unig. Byddwn yn cynyddu ein buddsoddiad yn ein hagenda camddefnyddio sylweddau i ychydig dros £67 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf. Rydym nid yn unig wedi diogelu'r gyllideb hon, ond er mai dyma'r gyllideb fwyaf heriol y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru ei gosod erioed, rydym unwaith eto wedi sicrhau cynnydd o bron i £3 miliwn o gyllid i'n gwasanaethau camddefnyddio sylweddau rheng flaen.

Rwy'n glir, serch hynny, fod angen mwy na buddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau. Mae angen i ni weld arloesi a newid i oresgyn yr heriau newydd hyn, gan arwain at ganlyniadau gwell. Un o'r meysydd lle rydym wedi gweld arloesedd a newid yw'r ffordd y cefnogwn y rhai sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth. Fe wnaethom gyflwyno Buvidal, sydd bellach o fudd i dros 1,700 o bobl yng Nghymru. Yn ddiweddar, llwyddais i ymweld â'r gwasanaeth cymorth seicolegol Buvidal yng Nghaerdydd. Clywais sut mae Buvidal wedi bod o fudd i unigolion a sut mae cyflwyno cymorth seicolegol cofleidiol yn helpu i fynd i'r afael â'u trawma. Clywais hefyd gan ddefnyddwyr gwasanaethau sut mae'r hyblygrwydd a'r amser a roddir iddynt yn gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael gofal a chefnogaeth am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer. Mae llawer o ddefnyddwyr gwasanaeth hirdymor bellach yn cael teithiau llwyddiannus i adferiad ar ôl degawdau o gamddefnyddio opioidau, gyda niferoedd sylweddol yn gorffen eu triniaeth yn rhydd o sylweddau. O ystyried y dystiolaeth gynnar sylweddol o ganlyniadau gwell, rwyf wedi dewis parhau i fuddsoddi £3 miliwn eto eleni yn y driniaeth hon, ac rydym hefyd wedi comisiynu gwerthusiad annibynnol. Yn ogystal â hyn, rydym bellach yn buddsoddi £4.5 miliwn mewn gwasanaethau pwrpasol i gefnogi'r rhai sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth, gan ddarparu timau allgymorth ac amlasiantaethol, gan gynnwys iechyd meddwl, i gymell grwpiau anodd eu cyrraedd i gael triniaeth, yn enwedig pobl sy'n ddigartref neu mewn llety dros dro.

Mae pob marwolaeth sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn drychineb. Yn 2022, roedd yna 205 o farwolaethau yn sgil camddefnyddio cyffuriau. Roedd nifer y marwolaethau yn 2022 bump yn llai nag yn 2021. A heddiw, mae'r Aelod wedi cyflwyno achos dros ganolfannau atal gorddos, y gwn ei fod yn faes y mae'r grŵp trawsbleidiol wedi derbyn sylwadau yn ei gylch. Ond fel y bydd yr Aelod yn gwybod, ar hyn o bryd ni allem fwrw ymlaen â gwaith ar ganolfannau atal gorddos fel Llywodraeth oni bai bod newid yn y gyfraith. Mater i Lywodraeth y DU yw hwn, gan fod canolfannau atal gorddos yn rhyngweithio â chyfraith droseddol gyfredol sy'n ymwneud â chamddefnyddio cyffuriau. Byddai cyfleusterau o'r fath yn wynebu achosion troseddol am bethau fel meddiant ar gyffuriau a reolir. Rwy'n ymwybodol fod y Swyddfa Gartref wedi dweud o'r blaen nad ydynt yn bwriadu adolygu'r ddeddfwriaeth i ganiatáu i ganolfannau atal gorddos gael eu sefydlu yn y DU. Rwy'n ildio i'r Aelod.

18:55

A ydych chi'n meddwl, felly—? Rydych chi wedi clywed ein dadleuon dros ddatganoli cyfiawnder troseddol am yr union reswm hwn. A ydych chi'n gweld, felly, na fydd y dull tameidiog, a awgrymwyd gan Gordon Brown ac sy'n ymddangos fel pe bai'n cael ei fabwysiadu gan Keir Starmer, yn ateb y broblem hon, ac onid ydych chi'n gresynu at hynny?

Wel, fe wyddoch beth yw ein safbwynt ni ar hyn, Sioned, a'r sgyrsiau sydd wedi digwydd gyda Phlaid Lafur y DU. Yn amlwg, bydd trafodaethau pellach ynglŷn â hyn wrth symud ymlaen, ond mae'n rhaid i mi weithredu gyda'r gyfraith fel y mae ar hyn o bryd, a dyna yw fy ffocws. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod yr adolygiad annibynnol o gyffuriau, a gynhaliwyd gan y Fonesig Carol Black yn 2019, yn benodol wedi eithrio ystyriaethau o newidiadau i'r fframwaith deddfwriaethol presennol, ac nid yw'r Swyddfa Gartref wedi rhoi unrhyw arwydd ei bod yn bwriadu ailystyried y safbwynt a nodwyd yn flaenorol ar ganolfannau atal gorddos.

Fodd bynnag, rwy'n ymwybodol fod Llywodraeth yr Alban yn bwriadu agor y ganolfan atal gorddos gyntaf yn y DU. Mynychais gyfarfod gweinidogol Llywodraeth y DU ym mis Tachwedd, lle rhoddwyd cyflwyniad ar sut mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo. Mae fy swyddogion mewn cysylltiad agos â swyddogion Llywodraeth yr Alban ar hyn, ac mae'n faes y byddwn yn ei wylio'n ofalus i weld beth sy'n digwydd.

Soniodd Peredur am y prosiect yng Nghaerdydd ac os caf roi'r diweddaraf ar hynny o'r wybodaeth a roddwyd i mi. Deallaf fod cyfarfod wedi'i gynnal ar y mater ar 20 Rhagfyr y llynedd. Cafodd hwnnw ei gydlynu gan gadeirydd y bwrdd cynllunio ardal yng Nghaerdydd a'r Fro, a mynychwyd ef gan gynrychiolwyr y cyngor a Heddlu De Cymru. Yn y cyfarfod, amlinellodd prif weithredwr Kaleidoscope gynlluniau ar gyfer peilot chwistrellu diogel yng nghanolfan Huggard yng Nghaerdydd. Rwyf wedi cael gwybod bod y drafodaeth wedi canolbwyntio ar nifer fach o unigolion risg uchel a oedd yn bodloni meini prawf y cytunwyd arnynt, ac y byddent yn cael mynediad at raglen nodwydd a chwistrell canolfan Huggard.

Cyfarfu fy swyddogion wedyn â chadeirydd newydd y bwrdd cynllunio ardal ym mis Ionawr i drafod hyn ac fe wnaethant ofyn am gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau. Yn dilyn y cyfarfod hwn, nid yw fy swyddogion wedi derbyn unrhyw ddiweddariadau. Mae fy swyddogion wedi siarad â Heddlu De Cymru hefyd, ac ni fu unrhyw gais am drafodaeth ffurfiol ar femorandwm cyd-ddealltwriaeth a fyddai'n datgan na fyddai'r prosiect yn flaenoriaeth plismona ac na fyddai erlyn gweithwyr a defnyddwyr o fudd i'r cyhoedd. Heb y cytundeb hwnnw, oherwydd goblygiadau cyfreithiol o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971, ein dealltwriaeth yw na fyddai'n cael ei ganiatáu. Hefyd, o ystyried y diddordeb a'r craffu y byddai sefydlu prosiect o'r fath yn ei ddenu, byddai angen ei sefydlu'n gadarn, gyda chefnogaeth ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys y gymuned leol. Ond rwy'n hapus iawn i ddarparu diweddariadau pellach i'r Aelod os daw'r bobl sy'n rhan o brosiect Caerdydd i gysylltiad pellach â fy swyddogion.

Er bod ffocws y ddadl hon ar ganolfannau atal gorddos, rwy'n credu y dylem gydnabod ein bod yn gwneud ystod o waith i gefnogi'r rhai sydd ei angen fwyaf ac i leihau nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n byrddau cynllunio ardal camddefnyddio sylweddau, sefydliadau'r trydydd sector, ac unigolion, i sicrhau bod popeth posibl yn cael ei wneud i ddarparu cefnogaeth a thriniaeth yn gyflym, ac i gyrraedd y rhai nad ydynt mewn cysylltiad â gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ar hyn o bryd.

Un maes rwy'n arbennig o bryderus yn ei gylch ar hyn o bryd yw un y cyfeiriodd yr Aelod ato, sef y defnydd cynyddol o opioidau synthetig ar lefel y DU. Rydym yn ymwybodol o fygythiad gwirioneddol y rhain, a'r risg uwch o farwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau. Mae monitro bygythiadau sy'n dod i'r amlwg, ac yna sicrhau bod unigolion a sefydliadau'n ymwybodol ohonynt, yn rhan allweddol o'n hagenda camddefnyddio sylweddau yng Nghymru, ac yn rhan annatod o'n dull o fynd i'r afael â'r mater. Rydym yn ffodus iawn o gael rhaglen brosiect cyffuriau newydd ac adnabod sylweddau newydd (WEDINOS) yma yng Nghymru, rhaglen sydd wedi bod yn weithredol ers dros 10 mlynedd. Mae'n rhan hanfodol o'n dull o weithredu er mwyn lleihau niwed. Mae'n darparu data amser real a gwybodaeth lleihau niwed am sylweddau newydd a sylweddau sy'n dod i'r amlwg sy'n cylchredeg ledled Cymru a'r DU. Yn dilyn cynnydd yn nifer yr achosion o opioidau synthetig o'r enw nitazenes drwy WEDINOS, rydym wedi sicrhau bod ardaloedd yn cael rhybuddion ac mae'r rhain wedi'u cefnogi gan wybodaeth lleihau niwed. Hefyd, mae byrddau cynllunio ardal wedi datblygu ystod o wybodaeth sy'n canolbwyntio ar leihau risgiau, adnabod arwyddion gorddos ac ymateb yn unol â hynny. Mae ardaloedd yn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei lledaenu'n eang ac yn defnyddio cymheiriaid i sicrhau bod y rhai nad ydynt yn cael triniaeth yn cael negeseuon allweddol. 

Enghraifft nodedig o lwyddiant yw'r ffordd rydym yn parhau i ddosbarthu naloxone. Rydym wedi parhau i roi arian fel Llywodraeth i gefnogi ein rhaglen naloxone genedlaethol, ac mae hyn yn bwysicach nag erioed o ystyried y cynnydd mewn opioidau synthetig a'r dystiolaeth eu bod yn llawer mwy grymus na'r heroin arferol a fyddai'n cael ei brynu ar y stryd. Ers dechrau darparu naloxone, mae dros 41,000 o becynnau wedi'u dosbarthu, ac mae dros 3,000 ohonynt wedi'u defnyddio i wrthdroi gorddos. Ni yw'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno dosbarthu naloxone rhwng cymheiriaid yn llawn, sy'n rhywbeth rwy'n falch iawn ohono, a hoffwn gydnabod y gwaith caled a'r ymdrech gan gymheiriaid i ymgysylltu â'r rhai na fyddent fel arall yn dod i gysylltiad â gwasanaethau ac felly heb gael cyfle i gario naloxone. Ynghyd â darparu naloxone, darperir mentrau lleihau niwed eraill a chyngor hanfodol gan y cymheiriaid, a byddwn yn parhau i weithio gyda nhw ac i gyflawni prosiectau lleihau niwed pellach ledled Cymru. 

Yn ogystal â hyn, mae'n wych gweld bod gan bob ardal heddlu yng Nghymru swyddogion sy'n cario naloxone trwynol erbyn hyn. Mae cyfanswm o 810 o becynnau naloxone wedi cael eu darparu i swyddogion yr heddlu, ac mae swyddogion wedi defnyddio naloxone 89 o weithiau. Yn y bôn, mae 89 o fywydau wedi'u hachub. Hefyd, mae gan ein llinell gymorth genedlaethol, DAN 24/7, dudalen 'clicio a dosbarthu' naloxone ar gyfer Cymru gyfan. Bwriad y gwasanaeth yw creu platfform syml a hawdd ei ddefnyddio sy'n caniatáu i ddefnyddwyr gwefan gwblhau hyfforddiant naloxone ac archebu pecyn achub bywyd iddynt eu hunain a fydd yn cael ei anfon atynt drwy'r post.

Rydym hefyd yn gweithio'n agos gydag arweinwyr lleihau niwed a chydlynwyr adolygu achosion ledled Cymru i sicrhau adolygiad o farwolaethau o wenwyn cyffuriau mewn amser real. Mae'r adolygiadau hyn yn hwyluso trafodaethau amlasiantaethol ynghylch defnydd blaenorol unigolion o gyffuriau a'u cyswllt â gwasanaethau. Mae cael yr adolygiadau hyn mewn amser real yn caniatáu i unrhyw wybodaeth lleihau niwed allweddol gael ei lledaenu'n eang i leihau niwed pellach i eraill. Mae hefyd yn galluogi ardaloedd i werthuso ymarfer cyfredol ac yn caniatáu i'n byrddau cynllunio ardal ddiwygio ymarfer lle bo angen.

Rwyf hefyd wedi ymrwymo i wella'r broses o rannu data rhwng asiantaethau lle ceir digwyddiadau nad ydynt yn angheuol, gan fod hyn yn ymwneud ag achub bywydau hefyd. Rwy'n gwybod y gall fod yn fater cymhleth, ac mae wedi bod yn eitem reolaidd fel rhan o'n bwrdd gweithredu cenedlaethol ar gyfer atal gwenwyn cyffuriau. Rydym yn gwneud cynnydd cadarn yn y maes. Mae'r bwrdd cenedlaethol wedi bod yn allweddol mewn sawl maes sy'n gysylltiedig â'n dull lleihau niwed, ac mae wedi llwyddo i sbarduno mentrau allweddol gyda phartneriaid, fel naloxone i'w ddefnyddio gartref, opioidau synthetig a phwysigrwydd rhannu data.

19:05

Mae gennym etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu yn dod ym mis Mai. Gan ragdybio eich bod yn mynd i fod yn y Llywodraeth ar ôl yr wythnos hon, a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu newydd pan gânt eu hethol i hyrwyddo'r gwaith y buoch yn ei wneud ar hyn a cheisio gweithio ar draws y problemau cyfreithiol a allai fod yn sgil hynny o ran San Steffan ac yma, a cheisio gweithio ar y syniadau arloesol ynglŷn â sut i roi pethau ar waith i allu rhoi cynnig ar bethau newydd yma a chynnal profion i weld beth sy'n gweithio?  

Diolch. Rwy'n hapus iawn i ymrwymo i weithio gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu. Mae gennym ddull partneriaeth cryf iawn yng Nghymru. Mae gennym fwrdd plismona a phartneriaeth ar gyfer Cymru, y mae'r comisiynwyr yn aelodau ohono ynghyd â chynrychiolwyr yr heddlu a Gweinidogion trawslywodraethol. Mae'r heddlu wedi bod yn hynod gefnogol i gyflwyno naloxone trwynol. Rwy'n gwybod o'r cyfarfod diwethaf a fynychais eu bod mor bryderus â minnau ynglŷn â nitazenes yn taro'r strydoedd yng Nghymru. Felly, rwy'n hapus iawn i roi'r ymrwymiad y byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd i edrych ar yr holl opsiynau i atal marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau. Ond yn amlwg, mae'n rhaid i ni weithredu o fewn y gyfraith hefyd, fel y byddwch yn deall, rwy'n siŵr.

Rwyf am orffen drwy ddweud fy mod yn croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hon, gan fod hwn yn faes rwy'n angerddol iawn yn ei gylch. Er nad oes gennym yr holl bwerau deddfwriaethol, rydym yn gwneud llawer i hyrwyddo ymateb unigryw Cymreig i gamddefnyddio sylweddau ac i wneud gwahaniaeth. Rwy'n gobeithio fy mod wedi gallu dangos rhai o'r meysydd lle'r ydym yn parhau i weithio i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau, ac rwy'n hapus iawn i gael trafodaethau pellach gyda'r Aelod ar feysydd a ddaeth yn amlwg drwy waith y grŵp trawsbleidiol, gan fod hon yn dirwedd sy'n newid yn barhaus ac mae'n rhaid i ni addasu wrth i'r dirwedd honno newid. Diolch.  

Daeth y cyfarfod i ben am 19:09.