Y Cyfarfod Llawn

Plenary

12/03/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da, a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Llyr Gruffydd.

Trafnidiaeth Gyhoeddus

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cenedlaethol? OQ60832

Diolch i Llyr Gruffydd. Llywydd, bydd buddsoddiad sylweddol, diwygio polisïau a phasio deddfwriaeth newydd radical yn helpu i wella'r rhwydwaith. Mae pa mor gynaliadwy fydd e yn y tymor hir yn dibynnu ar gynyddu nifer y teithwyr yn ôl i lefelau cyn y pandemig a thu hwnt.

Diolch am yr ateb. Gan fod bysiau yn cyfrif am tua tri chwarter yr holl ddefnydd o drafnidiaeth cyhoeddus yng Nghymru, mae'n drist gweld bod tua 10 y cant o lwybrau bysiau Cymru wedi cael eu lleihau neu eu canslo'n llwyr yn ystod yr haf diwethaf oherwydd y pwysau ariannu, a hynny yn ôl Cydffederasiwn Trafnidiaeth Gyhoeddus. Maen nhw hefyd yn amcangyfrif y bydd rhwng 15 y cant a 25 y cant bellach o holl lwybrau bysiau Cymru mewn perygl naill ai o gael eu torri neu o newidiadau sylweddol dros y flwyddyn i ddod. Nawr, mae rhywun yn deall y tensiwn, ac mae e wedi cael ei godi yn y Siambr fan hyn o'r blaen, rhwng ariannu rheilffyrdd ac ariannu bysiau, ac rŷn ni'n ymwybodol o'r £235 miliwn o gyllid sydd wedi cael ei roi'n ychwanegol i Drafnidiaeth Cymru tuag at reilffyrdd. Ond o gofio, fel roeddwn i'n dweud, fod tri chwarter yr holl deithiau trafnidiaeth cyhoeddus yng Nghymru ar fws, ydych chi'n credu bod eich Llywodraeth chi wedi cael y balans ariannu yna rhwng ariannu trenau ac ariannu bysiau yn gywir?

Wel, mae'r cwestiwn yn un pwysig, Llywydd. Fel y bydd pobl yn gwybod, y broblem yw ei bod hi bron â bod yn amhosibl tynnu arian mas o'r rheilffyrdd achos mae costau yna o hyd. So, rydyn ni'n ariannu'r rheilffyrdd, wrth gwrs, achos rydyn ni eisiau cynyddu'r posibiliadau i bobl deithio o'r gogledd i lawr i'r de, ac mae pethau wedi gwella dros y misoedd diwethaf. Rydyn ni yn ariannu'r bysiau yma yng Nghymru. Rydyn ni wedi rhoi mwy o arian mas o boced y cyhoedd i helpu'r bysiau i gadw i fynd yng Nghymru nag erioed. Y broblem yw bod nifer y bobl sy'n teithio ar y rheilffyrdd yn ôl nawr i ble roedd e cyn y pandemig. Wel, dyw hynny ddim yn wir o gwbl am fysiau. Nawr, rydyn ni yn buddsoddi lot o arian yn y gogledd yn y bysiau, i helpu i roi mwy o wasanaethau yn eu lle, ac i roi help i bobl sy'n teithio i gael hwnna'n fforddiadwy, ond y sialens fwyaf ym maes bysiau yw cynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio’r bysiau. Bydd hwn yn rhoi mwy o arian ym mhocedi'r bobl sy'n rhedeg y bysiau, ac, yn y ffordd yna, gallwn ni gario ymlaen i roi gwasanaethau i bobl sy'n dibynnu ar y bysiau. Ac rydyn ni'n gwybod, fel roedd Llyr Gruffydd yn dweud, fod mwy o bobl yn defnyddio bysiau yng Nghymru nag sy'n mynd ar y trên.

Prif Weinidog, fe wnaf i ganolbwyntio ar y rheilffyrdd am eiliad—mater sy'n effeithio, wrth gwrs, ar fy nhrigolion yn y gogledd. Dangosodd ffigurau diweddar a ddatgelwyd gan raglen Y Byd ar Bedwar ar S4C fod darparwr rheilffyrdd Llywodraeth Lafur Cymru, Trafnidiaeth Cymru, wedi bod â dros filiwn o funudau o oedi y llynedd yn unig. Hefyd, mae dros 83,000 o gwynion ffurfiol am y gwasanaeth wedi eu gwneud ers 2020 gan gwsmeriaid anhapus ar hyd a lled Cymru. A yw hyn yn rhywbeth yr ydych chi'n gyfforddus ag ef?

Wel, Llywydd, gadewch i ni ddadbacio'r ffigur hwnnw am eiliad, oherwydd mae tua hanner y miliwn o funudau hynny yn cael eu hachosi gan Network Rail, nid gan Trafnidiaeth Cymru o gwbl. Maen nhw'n cael eu hachosi gan Network Rail yn canslo gwasanaethau, yn gwneud gwaith ar y funud olaf. Ddoe, cyhoeddodd Network Rail y bydd yn cau'r rheilffordd rhwng Amwythig a Birmingham, ac y bydd yn aros ar gau tan 25 Mawrth. Bydd hynny'n effeithio ar etholwyr Sam Rowlands, gan y bydd trenau i Aberystwyth, i Bwllheli, i Gaergybi i gyd yn cael eu heffeithio. Ac mae'n siŵr y bydd rhyw newyddiadurwr yn rhywle yn adio'r munudau ac yn dweud, 'Onid yw hynna'n ofnadwy?', fel pe bai Trafnidiaeth Cymru yn gyfrifol am hynny. Ond ni fydd hynny'n wir am yr un o'r munudau hynny; gweithredoedd Network Rail sydd heb ei ddatganoli fydd yn gyfrifol. Dyna pam mae'r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd yn ymchwilio i berfformiad gwael Network Rail yma yng Nghymru. Felly, pan fyddwch chi'n edrych o dan foned y ffigurau hynny, ymhell o'r hyn yr oedd yr Aelod yn ceisio ei ddweud bod hyn i gyd yn rhyw fethiant gan y gwasanaeth trafnidiaeth yma yng Nghymru, y gwir amdani yw mai hanner ohono—ac isafswm yw hynny, byddwn i'n dweud—mai hanner ohono yw effaith penderfyniadau a wnaed gan y gwasanaeth Network Rail sydd heb ei ddatganoli.

13:35

Prif Weinidog, dathlais fy mhen-blwydd yn 60 oed fis diwethaf, byddwch yn falch o glywed. Felly, rwyf i bellach yn berchennog balch ar bàs bws, yr wyf i wedi bod yn mwynhau ei ddefnyddio bob tro y gallaf ddod o hyd i fws, ac mae wedi bod yn wych gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn y ffordd y cynlluniwyd y cerdyn i'n galluogi ni i gyd i wneud, y rhai ohonom sydd wedi goroesi 60 mlynedd ar y blaned. Ond roeddwn i'n meddwl, Prif Weinidog—. Roeddwn i'n cael y sgwrs hon gyda fy merch yn ei hugeiniau a'm mab yn ei arddegau, ac oni fyddai'n wych pe gallem ni ddod o hyd i ffordd o alluogi pobl ifanc i ddefnyddio pàs bws hefyd, i alluogi pobl ifanc i ddatblygu'r arfer hwnnw o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, i ddefnyddio bws ac i ddefnyddio'r trenau, lle bynnag y bo'n briodol, fel y gallwn ni sicrhau bod pobl ifanc yn y wlad hon heddiw yn cael yr un cyfle i ddal bysiau ac i fwynhau defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus?

Wel, Llywydd, diolch i Alun Davies am hynna. Mae rhai ohonom ni'n meddwl yn hoffus am ein pen-blwyddi yn chwe deg—[Chwerthin.]—a'r cyfleoedd rydym wedi'u cael am fwy o amser nag y mae ef wedi'i gael i ddefnyddio'r pàs bws. Edrychwch, roedd y pàs bws yn benderfyniad arwyddocaol gan y Cynulliad, fel yr oedd bryd hynny, yn ei dymor cyntaf un, ac mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr ym mywydau pobl hŷn ac anabl yng Nghymru. Rwy'n cofio'n dda iawn darllen y llythyrau a gyrhaeddodd swyddfa'r Prif Weinidog ar y pryd gan bobl a fyddai'n esbonio sut roedden nhw bellach yn gallu gwneud pob math o bethau a oedd, tan hynny, wedi bod y tu hwnt i'w modd i wneud hynny. Ac roedden nhw'n bethau syml, Llywydd, ond am wahaniaeth a wnaethon nhw ym mywydau'r bobl hynny: cyfle i fynd i ymweld â'ch chwaer a oedd yn byw ychydig ymhellach i lawr y cwm, cyfle i fynd i weld rhywbeth a oedd o bwys i chi ond nad oeddech chi wedi gallu bod yno ers blynyddoedd lawer. Felly, mae'r pàs bws i bobl 60 oed a hŷn ac i bobl anabl wedi bod yn rhan sylfaenol o'r hyn y mae datganoli wedi'i gyflawni yma yng Nghymru. Ond byddai'n wych, fel y dywed Alun Davies, i allu buddsoddi mwy i greu defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus y dyfodol, ac rydym ni'n gwneud hynny eisoes. Rydym ni eisoes yn darparu teithiau am bris gostyngol i bobl ifanc ar fysiau, ac yn enwedig gwasanaethau newydd i bobl ifanc iawn ar drenau. Pe bai'r setliad ar gyfer Llywodraeth Cymru wedi parhau i gyd-fynd â'r twf yn yr economi yn ei chyfanrwydd, byddai gennym ni arian ar gael i ni wneud yn union hynny ac i wneud y penderfyniadau buddsoddi hynny yn y dyfodol. Ac rwy'n edrych ymlaen at gyfnod yn y pum mlynedd nesaf o ddatganoli pan ddaw'r cyfleoedd hynny ein ffordd ni eto. 

Cynhyrchu Dur

2. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu unrhyw gynlluniau posibl sydd gan Lywodraeth Cymru i ddal gafael ar gynhyrchu dur yng Nghymru? OQ60828

Llywydd, diolch i Adam Price am hynna. Mae cynhyrchu dur domestig o bwysigrwydd strategol i Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae cynlluniau arbenigol, a ddatblygwyd ac a gyflwynwyd gan yr undebau llafur dur, yn darparu cynllun credadwy ac uniongyrchol i gadw cynhyrchu dur yng Nghymru.

Rydym yn agosáu at ddiwedd y cyfnod ymgynghori ffurfiol o 45 diwrnod, onid ydym ni, Prif Weinidog? Nawr, os bydd Tata yn gwrthod cynlluniau'r undebau ac yn bwrw ymlaen â'u cynigion i gau'r ddwy ffwrnais chwyth dros y misoedd nesaf, rydym ni'n gwybod na fydd Llywodraeth y DU yn gwneud dim mewn ymateb i achub cynhyrchu dur. Y cwestiwn yw beth allwn ni ei wneud yma yng Nghymru. A allai'r Prif Weinidog ddweud a fu ystyriaeth neu drafodaeth gan swyddogion neu Weinidogion ar ddefnyddio pwerau Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth frys i osod gorchymyn cadw i bob pwrpas, os mynnwch, trwy brynu'r ffwrneisi chwyth eu hunain yn orfodol, er mwyn cynnal eu cyfanrwydd ffisegol ac atal eu dymchwel neu eu diraddiad, a'u cynnal, fel y gallan nhw, dros yr ychydig fisoedd nesaf, wrth i ni ddisgwyl, gobeithio, am newid i bolisi diwydiannol yn Llywodraeth y DU, ddarparu'r sylfaen ar gyfer dyfodol cynaliadwy ar gyfer cynhyrchu dur yng Nghymru ac, yn wir, i weddill y DU?

13:40

Diolch i Adam Price am hynna, Llywydd. Darllenais ei gyfraniad at y ddadl a arweiniodd at basio penderfyniad unfrydol yma ar lawr y Senedd. Gwn fod ei gyfraniad wedi'i olygu o ddifrif fel cyfraniad cadarnhaol at y ddadl, ond a gaf i ddweud wrtho fy mod i'n credu mai dyma'r adeg anghywir i fod yn trafod hynny? Nid wyf i eisiau i ni ddweud unrhyw beth sy'n tanseilio'r ddadl y mae'r undebau llafur yn ei gwneud, nid ar gyfer rhyw gynllun wrth gefn, nid ar gyfer rhywbeth os na fydd pethau'n mynd y ffordd yr hoffai'r undebau llafur ei gweld. Rwyf i eisiau i ni weld y Llywodraeth hon yn rhoi ein holl egni a'n hymrwymiad y tu ôl i'r cynllun y mae'r undebau llafur wedi ei ddatblygu—cynllun credadwy, i ddyfynnu Tata Steel. Ar hyn o bryd, rwy'n credu os dechreuwn ni siarad am yr hyn y byddwn ni'n ei wneud os bydd cynllun yn methu, mewn gwirionedd rydym ni'n mynd i ddraenio rhywfaint o egni a rhywfaint o botensial allan o'r ymdrechion y mae ein cydweithwyr yn yr undebau llafur—yn sicr gyda chefnogaeth y Llywodraeth hon a chyda'r gefnogaeth ar draws y Siambr—yn eu gwneud heddiw yn eu trafodaethau gyda'r cwmni. Rwyf i eisiau i ni ganolbwyntio ar hynny. Dyna oedd pwyslais y drafodaeth a gynhaliodd Eluned Morgan pan oedd hi ym Mumbai gyda'r cwmni. Bydd Gweinidog yr economi yn cyfarfod â phrif weithredwr Tata Steel eto yfory yma yng Nghymru. Byddwn yn canolbwyntio, Llywydd, nid ar yr hyn sy'n digwydd os bydd y cynllun yn methu, ond ar wneud popeth o fewn ein gallu i wneud i'r cynllun hwnnw lwyddo. A chyda'r posibilrwydd o Lywodraeth Lafur o bosibl ar y gorwel, â lefel hollol newydd o uchelgais a chefnogaeth i'r diwydiant hwnnw, rwy'n credu bod gan y cynllun hwnnw siawns go iawn o lwyddo. Cefnogi'r cynllun hwnnw yw'r hyn yr ydym ni'n ei wneud heddiw ac y byddwn yn parhau i'w wneud dros yr wythnosau i ddod.

Mae'n ddiddorol clywed y Prif Weinidog ac yn enwedig Plaid Cymru yn dweud nad yw Llywodraeth y DU wedi gwneud dim ym Mhort Talbot, ond mewn gwirionedd, yr hyn y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud yw sicrhau dyfodol y diwydiant dur yn ne Cymru gyda phecyn cymorth gwerth £500 miliwn i helpu Tata wrth iddo bontio i ddyfodol gwyrddach, ond hefyd sicrhau'r gronfa bontio honno gwerth £100 miliwn i helpu gweithwyr a fydd yn cael eu heffeithio ym Mhort Talbot gan y newidiadau. Hyd yma, nid yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r un geiniog yn y naill gronfa na'r llall. Nid yw wedi rhoi'r un geiniog i gynorthwyo unrhyw weithiwr ym Mhort Talbot o gwbl. Mae'n warth. Pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud hynny, ac a fyddan nhw'n gwneud hynny nawr?

Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn anghywir bron o'r dechrau i'r diwedd yn yr hyn a ddywedodd. Nid wyf i erioed wedi dweud nad oedd Llywodraeth y DU wedi gwneud dim. Roeddwn i'n falch iawn o gael sgwrs gyda Changhellor y Trysorlys, Jeremy Hunt, yn y cyfnod cyn y cyhoeddiad, a chroesawais y cyhoeddiad ar y pryd. Felly, nid ydym erioed wedi methu â chydnabod y ffaith bod £500 miliwn yn ymrwymiad mawr i ddyfodol y diwydiant dur. Yn anffodus, nid yw'n ddigon i sicrhau trosglwyddiad cyfiawn i'r dyfodol hwnnw. Dyna lle mae ein trafodaethau wedi bod, ar greu llwybr at y dyfodol arc trydan hwnnw sy'n cynnig gobaith i bobl sy'n gweithio yn y diwydiant hwnnw heddiw y bydd eu dyfodol yn cael ei sicrhau yn y broses honno. Bydd angen Llywodraeth Lafur i wneud hynny. Yr hyn sy'n ein hwynebu yn y Llywodraeth bresennol yw Prif Weinidog na wnaiff dderbyn galwad ffôn ar y diwrnod pan fo 3,000 o swyddi yn cael eu colli, ac Ysgrifennydd Gwladol nad yw erioed wedi ymweld â Phort Talbot unwaith. Allwch chi ddychmygu hynny? Ysgrifennydd Gwladol sy'n gyfrifol am ddyfodol diwydiant dur y DU nad yw unwaith ym mhob un o'r misoedd hynny wedi bod yn barod i ddod i Gymru i drafod dyfodol y gwaith. A, Llywydd, i fod yn glir, mae'r Aelod yn hollol anghywir am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y diwydiant hwnnw. Rydyn ni, dros ddegawd—. Nid wyf i'n credu bod prin flwyddyn yn y 10 mlynedd diwethaf pan nad yw Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi ochr yn ochr â Tata yn natblygiad sgiliau'r gweithlu hwnnw, yn agwedd ymchwil a datblygu Tata Steel, ac mewn gwelliannau amgylcheddol yn y gwaith ym Mhort Talbot. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, rydym ni wedi bod yno, ac nid yw hynny'n mynd i newid.

Fel cyn-weithiwr dur, yr unig un yn y Senedd o bosibl, rwy'n gefnogwr cryf o barhad cynhyrchu dur a chynhyrchu haearn yng Nghymru. Mae gan ffwrneisi arc trydan y gwendidau canlynol: yn gyntaf, maen nhw'n ddibynnol ar ddigon o ddur ailgylchadwy o ansawdd; yn ail, maen nhw'n ddibynnol ar brisiau trydan isel; a gellir cynhyrchu mathau cyfyngedig o ddur. A wnaiff y Prif Weinidog sylwadau pellach i Tata a Llywodraeth San Steffan ynghylch parhad cynhyrchu haearn a dur ym Mhort Talbot, gan mai dyna'r unig ffordd y bydd ganddo ddyfodol hirdymor?

13:45

Wel, Llywydd, mae Mike Hedges yn llygad ei le: mae'r posibiliadau arc trydan ar gyfer Port Talbot yn wirioneddol ac yn bwysig, ond dydyn nhw ddim yn ddigonol. Dyna pam mae cadw'r ail ffwrnais chwyth honno i fynd yn ystod y blynyddoedd nesaf mor bwysig, nid yn unig i'r gweithwyr, nid yn unig i'r dref, ond i'r Deyrnas Unedig gyfan. Oherwydd, os na wnawn ni hynny, bydd y Deyrnas Unedig gyfan yn colli'r cyfle i gynhyrchu dur crai, gan ein gadael yn agored mewn ffordd y byddech chi wedi meddwl yn sicr y byddai Llywodraeth y DU wedi dysgu ei gwers ar hyn. Edrychwch ar effaith y rhyfel yn Wcráin ar gadwyni cyflenwi, ar bethau yr oedd pobl yn meddwl y gallen nhw ddibynnu arnyn nhw a bellach yn canfod na allan nhw o gwbl. I roi ein hunain yn ymwybodol ac yn fwriadol yn yr un sefyllfa honno o ran rhywbeth mor sylfaenol â chynhyrchu dur, rhywbeth sydd ei angen arnoch chi ar gyfer cerbydau trydan, sydd ei angen arnoch chi ar gyfer ynni gwynt arnofiol ar y môr, na all economi aeddfed wneud hebddo—. Dyna pam mae'n bwysig cadw'r ail ffwrnais chwyth honno i fynd ac, yn y cyfamser, bydd technolegau yn parhau i aeddfedu. Efallai y bydd pethau na all ffwrneisi arc trydan eu gwneud heddiw yn bosibl ac efallai y bydd ffyrdd eraill o gynhyrchu'r cynhyrchion dur hynny yn y dyfodol. Yr hyn na allwn ei fforddio—na all y Deyrnas Unedig ei fforddio—yw diwedd sydyn i gynhyrchu dur o'r math hwnnw heddiw ac yna bwlch yn agor cyn i ni allu disodli'r gallu hwnnw yn y dyfodol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, fe wnes i eich herio ar wahanol sylwadau a thystiolaeth a wnaed i'r ymchwiliad COVID. Nid oeddech chi'n fodlon ateb y cwestiynau hynny, ac rwy'n derbyn y pwynt a wnaethoch, bod gennych chi barch a sylw dyledus tuag at yr ymchwiliad COVID. Ond dyma ni ar lawr Senedd Cymru. Dros y penwythnos, gwrandawais ar raglen radio ar Times Radio. Roeddech chi'n ddigon hapus i draethu ar y rhaglen honno am yr ymchwiliad COVID a'ch perthynas â Llywodraeth y DU. Pam mae gwahaniaeth yn eich gallu i siarad am ymateb COVID Llywodraeth Cymru gyda'r cyfryngau, ond nad ydych chi'n barod i siarad ar lawr Senedd Cymru pan fyddwch chi'n cael eich herio ar y dystiolaeth sydd yn y parth cyhoeddus?

Wel, Llywydd, roedd fy atebion i'r newyddiadurwr a wnaeth fy nghyfweld i wedi'u llunio'n ofalus iawn i wneud yn siŵr fy mod i'n dweud dim ond pethau yr wyf i wedi eu dweud dro ar ôl tro eisoes yma ar lawr y Senedd ac mewn mannau eraill. Ni ddywedais unrhyw beth yn y cyfweliad hwnnw nad yw eisoes a llawer, lawer gwaith drosodd yn y parth cyhoeddus. Mae byd o wahaniaeth rhwng ailadrodd yr hyn a ddywedwyd eisoes a chael cais i ragflaenu archwiliad y byddaf i'n ddarostyngedig iddo yfory, o dan lw, o flaen ymchwiliad statudol a barnwr y Llys Apêl. Yn syml, nid oes modd cymharu'r pethau hynny.

Does neb yn gofyn i chi ragflaenu'r cwestiynau, pan fydd y cwestiynau yn cael eu gofyn i chi, Prif Weinidog, ac roedd y cwestiynau a ofynnwyd gan y newyddiadurwr yn eang iawn; roedd yn ymwneud â'r berthynas yr oedd gennych chi fel Llywodraeth Cymru gyda Llywodraeth y DU. Ac roeddech chi'n gwbl barod i gymryd rhan yn y drafodaeth honno. Yr hyn yr wyf i wedi ei glywed dros yr wythnos ddiwethaf o'r ymchwiliad COVID, sydd yn y parth cyhoeddus, yw faint o Weinidogion Llywodraeth Cymru, fel y clywsom ni ddoe, sy'n defnyddio dyfeisiau wedi'u darparu gan y Senedd yn eu gohebiaethau. Nawr, yr hyn yr hoffwn i geisio ei ddeall—. Felly, nid yw'n rhagflaenu ymatebion y gallech chi eu rhoi yfory, ond dyma'r protocol y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu yn unol ag ef o ran cadw gwybodaeth, o gofio bod Gweinidogion, fel Gweinidog yr economi, wedi tynnu sylw at y ffaith ei fod yn destun embaras bod data wedi cael ei golli oherwydd bod adran TG y Senedd wedi colli'r data hwnnw pan oedd yn uwchraddio ei ffôn—ac rydych chi wedi cyfeirio at y ffaith eich bod chi wedi defnyddio eich dyfais gan y Senedd i gael sgyrsiau ar WhatsApp—sut mae'r protocolau y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio yn unol â nhw i gadw gwybodaeth yn cyrraedd dyfeisiau a ddarperir gan y Senedd. Siawns nad oes anghysondeb yno, ac, os nad yw'n cael ei ddal gan y protocolau y mae Llywodraeth Cymru yn eu dilyn, sut ar y ddaear all pobl fod yn hyderus bod gwybodaeth bwysig yn cael ei chynnwys ac yn cael ei chadw yn barod ar gyfer disgrifiadau a thystiolaeth yn yr ymchwiliad COVID neu ymchwiliadau eraill a allai fod angen yr wybodaeth honno?

13:50

Wel, Llywydd, mae protocolau yn bodoli ar gyfer y ffordd y mae Gweinidogion yn defnyddio dyfeisiau electronig, pa un a yw'r rheini'n ddyfeisiau Llywodraeth Cymru neu'r dyfeisiau a ddarperir i bob un ohonom ni o ganlyniad i'n haelodaeth o'r Senedd. Mae'r protocolau hynny i'w canfod ymhlith y dros 35,000 o ddogfennau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u datgelu i'r ymchwiliad, a bydd yr ymchwiliad ei hun yn datgelu'r dogfennau hynny y mae'n credu sy'n berthnasol i'r parth cyhoeddus.

Rwy'n amharod iawn i gael fy nhynnu i'r hyn y mae'r ymchwiliad wedi ei drafod, Llywydd, am yr holl resymau a ddisgrifiais yr wythnos diwethaf. Rwy'n credu y byddwn i ar dir digon diogel i ddweud hyn—bod y mater hwn o sut mae gohebiaeth electronig yn cael ei defnyddio wedi bod yn un o themâu'r ymchwiliad ym mhob man y mae wedi ymweld ag ef. Fe'i trafodwyd yn drwyadl gyda Gweinidogion y DU, roedd yn ganolbwynt i'r ymchwiliad yn yr Alban, ac mae wedi cael ei drafod yng Nghymru. Nid oes gen i unrhyw amheuaeth y bydd yr ymchwiliad ei hun yn meddwl am argymhellion y gallai eu gwneud ar gyfer y dyfodol os oes unrhyw brotocolau newydd y mae angen eu datblygu.

Dywedwyd wrthym ni'n gyson bod Llywodraeth Cymru yn cael ei harwain gan y wyddoniaeth. Fel Aelodau'r gwrthbleidiau, rydym ni'n cael ein harwain gan y dystiolaeth o ran ceisio deall sut y gwnaeth Llywodraeth Cymru, sut y gwnaeth cynghorwyr arbennig, sut y gwnaeth y gweision sifil a phenderfynwyr eraill y penderfyniadau a effeithiodd ar fywydau pawb yn y wlad hon, a phenderfyniadau allweddol a arweiniodd naill ai at sefyllfaoedd bywyd a marwolaeth i lawer o bobl—dyna ddifrifoldeb a maint y penderfyniadau a oedd yn cael eu gwneud. Ac rwy'n gwybod, Prif Weinidog, eich bod chi'n teimlo'r baich hwnnw, yn union fel yr oedd pob penderfynwr arall yn ei deimlo hefyd. Felly, nid wyf i'n ceisio bychanu lefel y disgwyliad a oedd ar eich ysgwyddau chi, ac yn wir penderfynwyr eraill ledled y Deyrnas Unedig. Ond mae'n ddyletswydd arnom ni i geisio deall sut y gwnaed y penderfyniadau hynny a sut y cawson nhw eu gweithredu.

Yr wythnos diwethaf, dywedodd eich uwch gynghorydd arbennig, wrth gael ei chroesholi gan gadeirydd yr ymchwiliad ei hun, y Farwnes Hallett, ei bod wedi camddefnyddio ei ffôn personol ar gyfer gohebiaeth o fewn y Llywodraeth. Dyna oedd ei geiriau hi; fe wnaeth hi gyfaddef hynny. Felly, o dan god y gwasanaeth sifil sy'n llywodraethu'r berthynas rhwng uwch weision sifil a chynghorwyr arbennig hefyd, o ystyried y cyfaddefiad hwnnw, pa gamau ydych chi'n eu cymryd fel Prif Weinidog i roi'r broses ddisgyblu ar waith fel y byddai'n cael ei defnyddio ar unrhyw fân swyddog neu swyddog iau pe bai datgeliad o'r fath wedi digwydd? Neu a ydych chi'n barod i beidio â gweithredu a chaniatáu i gamweithred o'r fath gael ei hanwybyddu?

Wel, Llywydd, gadewch i mi ymateb yn gyntaf i'r pwynt a wnaeth arweinydd yr wrthblaid. Cyffyrddodd y pandemig fywydau pawb a oedd yn byw yng Nghymru, a chollodd llawer o deuluoedd anwyliaid, ac mae'r ymchwiliad yno i daflu goleuni ar y ffordd y gwnaed penderfyniadau yma yng Nghymru. Rwy'n falch dros ben ei fod wedi treulio'r amser y mae wedi ei dreulio yma yng Nghymru a'i fod wedi gallu gofyn y cwestiynau y mae wedi eu gofyn. Nid dyna fydd cyfanswm y dystiolaeth, fel y dywedodd arweinydd yr wrthblaid, sydd ar gael i bobl yng Nghymru. Yn ogystal â'r holl ddogfennau sydd wedi cael eu cyflwyno i'r ymchwiliad, y mwy na 100 o ddatganiadau sydd wedi cael eu cyflwyno iddo mewn ymateb i geisiadau rheol 9, bydd yr holl wybodaeth honno sydd eisoes yno ar gofnod: mwy na 250 o gynadleddau i'r wasg lle ymddangosodd Gweinidogion gan ateb cwestiynau gan newyddiadurwyr o ba bynnag ddisgrifiad—ni wnaethom ni atal mynediad yr un waith i gynhadledd i'r wasg i unrhyw newyddiadurwr a ofynnodd i fod yn bresennol—y degau ar ddegau o ddatganiadau, dadleuon, cwestiynau sydd wedi cael eu hateb ar lawr y Senedd hon; y sesiynau y cafodd ef a'i ragflaenydd fel arweinydd yr wrthblaid—. Ac roeddwn i bob amser yn ddiolchgar iawn i'r ddau ohonoch chi am ddod bob wythnos i allu clywed yn uniongyrchol gan y prif swyddog meddygol, y prif swyddog gwyddonol, prif weithredwr y GIG yma yng Nghymru, fel y byddai gennych chi fynediad at yr wybodaeth orau a oedd ar gael i ni fel Llywodraeth Cymru. Mae'r cofnod o'r dystiolaeth sydd ar gael yn anferthol, ac rwyf i eisiau gwneud yn siŵr bod gan unrhyw un sydd â chwestiynau i'w gofyn am yr hyn a ddigwyddodd yn y dyddiau anodd iawn hynny y gallu i archwilio'r cofnod hwnnw.

O ran pwynt olaf yr Aelod, Llywydd, nid wyf i'n gyfrifol am god y gwasanaeth sifil; rwy'n gyfrifol am y cod gweinidogol. Gweision sifil yw cynghorwyr arbennig, a chyfrifoldeb yr Ysgrifennydd Parhaol yw arfer awdurdod o ran y materion hynny, nid fy nghyfrifoldeb i.

13:55

A chyn i mi symud ymlaen, ar gyfer y cofnod, fi sy'n gyfrifol am staff Comisiwn y Senedd, ac rwy'n siŵr nad oedd arweinydd yr wrthblaid yn ceisio awgrymu unrhyw feirniadaeth o staff TGCh y Senedd, wrth iddo holi'r Prif Weinidog, o ran unrhyw ddata a gollwyd gan yr adran TGCh. Mae diweddariadau meddalwedd yn gymhleth iawn ac yn arwain at oblygiadau i'n holl ddyfeisiau, ac yn gwbl sicr nid oherwydd adran TGCh y Senedd y collwyd y data. Felly, unrhyw feirniadaeth o staff yr adran honno, rwy'n siŵr na wnaethoch chi awgrymu hynny.

Arweinydd Plaid Cymru nawr, Rhun ap Iorwerth.

Diolch, Llywydd. Roedd llawer o bobl yn anghrediniol y byddai'r Prif Weinidog yn gwrthod ateb cwestiynau yma yn y Senedd yr wythnos diwethaf am bandemig COVID, tra'n barod i ateb cwestiynau yn y cyfweliad Times Radio hwnnw ychydig ddiwrnodau yn ddiweddarach. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud wrthym ni heddiw ei fod, yn y cyfweliad hwnnw, wedi gallu rhoi atebion a luniwyd yn ofalus iawn i'r newyddiadurwr. Rwy'n siŵr nad yw'n awgrymu y bu cytundeb ymlaen llaw ynghylch pa gwestiynau yn union y byddai'r newyddiadurwr yn eu gofyn iddo. Fel cyn-newyddiadurwr darlledu fy hun, rwy'n siŵr nad dyna sut y byddai'n digwydd. A gwn ei fod yn berffaith abl i lunio atebion yn ofalus yma yn y Senedd hefyd. Ond a wnaiff y Prif Weinidog gyfaddef nawr y bydd ei fethiant i ateb y cwestiynau hynny yr wythnos diwethaf, tra'n barod i roi'r cyfweliad radio, yn cael ei ystyried fel ymgais i osgoi craffu seneddol?

Na, Llywydd, rwy'n gwrthod hynny'n llwyr. Mae'n gyhuddiad disynnwyr, a dylai arweinydd Plaid Cymru wybod yn well na'i wneud. Oherwydd rwy'n ateb cwestiynau ar lawr y Senedd hon bob wythnos. Byddaf yma yr wythnos nesaf, fel y dywedodd y Llywydd, yn ateb cwestiynau ar ôl i mi roi fy nhystiolaeth. Byddaf yn ateb cwestiynau yr wythnos nesaf gerbron y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog. Byddaf yn ateb cwestiynau ar yr amser iawn. Pan ddywedais i yma yr wythnos diwethaf, ac, fel y dywedais i heddiw, pan fyddaf yn ateb cwestiynau mewn cyfweliad â newyddiadurwr—. Ac, wrth gwrs, ar hynny, o leiaf, roedd arweinydd Plaid Cymru yn iawn: doedd gen i ddim syniad pa gwestiynau fyddai'n cael eu gofyn i mi. Ond, pan ofynnwyd cwestiwn i mi a allai effeithio ar fy nhystiolaeth gerbron yr ymchwiliad, roeddwn i'n ofalus i wneud yn siŵr nad oeddwn i'n dweud dim nad oedd eisoes ar gael ar y cofnod cyhoeddus. A dyna'r parch y byddaf yn ei ddangos i'r ymchwiliad.

Ac, wrth gwrs, mae'r Prif Weinidog yn berffaith abl i lunio'r atebion hynny yn union yr un ffordd yma yn y Senedd, ac i osgoi'r hyn y gallai eu hystyried fel y peryglon o ragfarnu ei dystiolaeth i'r ymchwiliad COVID yfory. Rwy'n ailadrodd yr hyn a ddywedais yr wythnos diwethaf: ein cyfrifoldeb ni yw craffu, cyfrifoldeb y Prif Weinidog yw agor ei hun i graffu—fel, wrth gwrs, y mae'n ei wneud ar sawl achlysur—ond ni sy'n cael dewis pryd rydym ni'n gofyn y cwestiynau yr ydym ni eisiau eu gofyn. Nawr, rwy'n mawr obeithio y bydd y Prif Weinidog nesaf yn agor ei hun i graffu hefyd. Fe wnaeth y ceffyl blaen ar gyfer y swydd honno, y Gweinidog iechyd yn ystod y pandemig, wrth gwrs, roi tystiolaeth i'r ymchwiliad ddoe. Gadewch i ni edrych ar yr hyn a ddarganfuwyd gennym ni o'r sesiwn honno: paratoad annigonol ar gyfer y pandemig anghywir; colli negeseuon WhatsApp; cyfarpar diogelu personol nad oedd yn addas i'r diben; modelu cyfyngiadau symud a wnaed yn rhy hwyr; y penderfyniad anghywir am gêm rygbi'r chwe gwlad. Mae'r holl gyfaddefiadau hyn yn arwain at fwy o gwestiynau nag atebion, ond prin y ceir unrhyw amser i'w gofyn, wrth gwrs. Roedd rhai anawsterau technegol ddoe, ond dywedodd cadeirydd yr ymchwiliad fod yn rhaid cwblhau tystiolaeth Vaughan Gething yr un diwrnod o hyd—dim ond enghraifft ymarferol o pam mae angen ymchwiliad COVID penodol i Gymru, ond, wrth gwrs, gwrthododd y Prif Weinidog roi'r ymchwiliad hwnnw i ni. Felly, a wnaiff ef ddweud wrthym ni yma yn y Senedd heddiw pa agwedd ar dystiolaeth Vaughan Gething sy'n peri'r pryder mwyaf iddo?

14:00

Wel, na wnaf, wrth gwrs, Llywydd, gan fod cwestiwn yr Aelod yn enghraifft dda o pam nad yw'r math hwnnw o gwestiwn yn cael ei ofyn i mi yn briodol cyn i mi ateb cwestiynau gerbron yr ymchwiliad. Mae'n dweud wrthyf i, 'Wrth gwrs y gallwn i lunio ateb gofalus i'w gwestiwn', a phe bai wedi gofyn cwestiwn i mi na wnaeth fy nhynnu i'n syth i mewn i'r dystiolaeth sy'n cael ei darparu—tystiolaeth ar lw, tystiolaeth i ymchwiliad statudol—. Mae'n gwbl anghywir, Llywydd, ac roedd y cwestiwn hwnnw yn enghraifft dda iawn o ba mor anghywir y gallwch chi fod wrth geisio ailchwarae ar lawr y Senedd ymchwiliad sydd wedi cael ei sefydlu yn benodol er mwyn gallu archwilio, yn yr achos hwn, gweithredoedd Llywodraeth Cymru. Mae'n anghywir i ofyn i mi ac ni wnaf i gael fy nhynnu i mewn i'r sgwrs honno.

Yn amlwg, mae'n destun edifeirwch na all y Prif Weinidog wahaniaethu rhwng craffu seneddol a'r cwestiynau y bydd ymchwiliad COVID ei hun yn eu gofyn iddo yn briodol. Mae'r cyfweliad Times Radio y cyfeiriais ato yn gynharach wedi bod yn ddadlennol mewn cyd-destunau heblaw COVID yn unig. Wrth siarad am arweinydd Llafur y DU, Keir Starmer, dywedodd y Prif Weinidog, 'Os byddaf angen siarad ag ef unrhyw bryd, rwy'n anfon neges destun ac o fewn awr rydym ni ar y ffôn, yn siarad.' Felly, ddydd Sul, pan wrthododd y darpar Ganghellor Llafur, Rachel Reeves, ddiystyru toriadau gwariant mewn rhai meysydd, a wnaeth y Prif Weinidog anfon neges destun at Keir Starmer wedyn i nodi pa mor drychinebus fyddai hynny i Gymru? Os felly, pa mor gyflym wnaeth ef ymateb a beth ddywedodd ef?

Wel, Llywydd, y rheswm y gallaf i fod yn hyderus, os byddaf yn gofyn am sgwrs gyda Keir Starmer, y byddaf yn ei chael yw na fyddwn i byth yn gwastraffu'r cyfleoedd hynny trwy wneud y math o beth y mae arweinydd Plaid Cymru newydd ei awgrymu. Rwy'n gwybod, os wyf i eisiau cael sgwrs iawn am faterion sydd o bwys i Gymru, yna mae'n rhaid i mi ddefnyddio'r cyfleoedd hynny at y dibenion hynny. Mae ei gwestiwn, y bwriedir iddo awgrymu y byddai galwad gen i ar y mater hwnnw rywsut yn ganlyniadol, mor bell o realiti sut mae'n rhaid i bleidiau fod mewn llywodraeth, yn hytrach nag yn y busnes o garfanau pwyso ac—wel, fe wnaf i stopio yn y fan yna. [Torri ar draws.] Wel, pleidiau sy'n gweithredu ar sail bod yn garfanau pwyso, yn hytrach na bod yn bleidiau difrifol o lywodraeth. Mae gen i ofn mai'r cwbl y mae ei gwestiwn yn ei wneud yw datgelu'r gagendor sy'n dal i fodoli.

Datblygu Gwledig

3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu gwledig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ60821

Diolch i Cefin Campbell am y cwestiwn, Llywydd. Fe gafodd yr holl arian oedd ar gael drwy raglen datblygu gwledig Cymru yr Undeb Ewropeaidd 2014-20, sef £846 miliwn, ei fuddsoddi'n llwyddiannus yng Nghymru. Mae'r cyrhaeddiad hwn yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi datblygu gwledig.

Diolch, Brif Weinidog. Efallai eich bod chi'n cofio mai'r cwestiwn cyntaf ofynnais i chi yn y Siambr hon, yn ôl yn 2021, oedd: a oes angen creu strategaeth adfywio gwledig a hefyd strategaeth i fynd i'r afael â'r problemau unigryw sy'n wynebu cefn gwlad Cymru? Yn y bôn, yr ateb ges i oedd, 'Nac oes', achos, meddech chi, does yna ddim unrhyw faterion economaidd a chymdeithasol sydd yn unigryw wledig, a'u bod nhw'n ddim gwahanol i'r problemau sydd yn wynebu ardaloedd trefol.

Nawr, ers hynny, mae tystiolaeth y Sefydliad Bevan yn dangos taw cymunedau gwledig sydd wedi cael eu taro waethaf yn ystod yr argyfwng costau byw. Mae aelwydydd off-grid yn wynebu tlodi tanwydd. Mae trafnidiaeth gyhoeddus wledig yn crebachu. Mae problemau parhaus ynglŷn â phrinder gofal plant, band eang anaddas, diffyg swyddi o ansawdd, ac yn y blaen ac yn y blaen. Felly, o ystyried eich bod, fel Llywodraeth, wedi bod yn gwrthod mynd i'r afael â hyn, dwi wedi gwneud gwaith fy hun ar dlodi gwledig, ac mi fyddaf yn lansio strategaeth ddrafft yr wythnos ar ôl nesaf. Felly, gaf i ofyn ichi unwaith eto, Brif Weinidog, o bosibl am y tro olaf: a ydych chi'n cytuno â fi ei bod hi'n amser inni ddatblygu strategaeth adfywio ar gyfer Cymru wledig? 

Diolch yn fawr i Cefin Campbell. Dwi yn cofio'r cwestiwn gwreiddiol ar ôl yr etholiad yn 2021. Mae lot o'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud yn bwysig ac yn berthnasol. Wrth gwrs y mae rhai pethau yng nghefn gwlad yn wahanol i'r hyn sy'n wynebu pobl sy'n byw yng Nglan yr Afon yng ngorllewin Caerdydd. Gallaf i wneud nifer o bwyntiau am gynllun i ymateb i broblemau'r bobl sy'n byw ar ystâd yn Nhrelái, er enghraifft, sy'n hollol wahanol i broblemau'r bobl sy'n byw yng nghefn gwlad, ond y pwynt yw: a ydy'r pethau strategol yn wahanol? Wrth gwrs bod y pwyntiau sy'n berthnasol i gefn gwlad yn wahanol fel yna, ond ydy'r strategaeth yn wahanol? I fi, y peth pwysig yw cael strategaeth ar gyfer yr economi i Gymru i gyd. Mae hwnna'n mynd i godi pobl sy'n byw yng nghefn gwlad a phobl sy'n byw mewn dinasoedd a phobl sy'n byw yn y Cymoedd hefyd. Ac mae lot yn well i fi i dreial meddwl am Gymru i gyd mewn ffordd strategol ac, ar yr un amser, i greu atebion sy'n ymateb i'r pethau sydd yn wahanol mewn nifer o gyd-destunau yng Nghymru.

14:05

Prif Weinidog, rwyf i bob amser yn credu bod datblygu gwledig yn dechrau gyda thwf gwledig, a lluniodd fy nghyd-Aelod Sam Kurtz a'r grŵp trawsbleidiol ar dwf gwledig eu hadroddiad yr wythnos diwethaf ar dwf yn yr economi wledig, y mae'n dangos prop hyfryd ar ei gyfer yn y fan yna. Roedd ganddo nifer o argymhellion, ac un oedd sefydlu bwrdd datblygu yng nghefn gwlad Cymru i helpu i hwyluso twf gwledig, pennu strategaeth glir ar gyfer Cymru wledig a gosod targedau seilwaith ar sut y gallwn ni wella Cymru wledig. Mae llawer o etholwyr yr wyf i'n siarad â nhw ynglŷn â phan oedd gennym ni'r hen fwrdd datblygu gwledig yn dweud ei fod yn dda iawn ac y gwrandawyd ar lawer o'r pryderon yr oedd gan fusnesau ac y gweithredwyd arnyn nhw. Felly, un o'r prif argymhellion yn yr adroddiad oedd ailsefydlu hwnnw, felly mae gen i ddiddordeb, Prif Weinidog, fel un o'ch camau ymadawol fel Prif Weinidog Cymru efallai, pa un a yw hyn yn rhywbeth yr hoffech chi ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru.

Llywydd, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r grŵp trawsbleidiol, a Sam Kurtz yn ei arwain, am yr adroddiad. Rwyf wedi cael cyfle i'w ddarllen. Mae'n werth ei ddarllen a bydd yn ddeunydd pwysig iawn i Brif Weinidog newydd a'r tîm o Weinidogion y bydd yn ei arwain. Fel mewn unrhyw adroddiad, roedd rhannau ohono yr oeddwn i'n cytuno â nhw ac roedd rhannau ohono nad oeddwn i'n cytuno â nhw. Mae'n mynd i fod yn adroddiad sy'n haeddu'r math hwnnw o drafodaeth ac ystyriaeth. Roeddwn i'n meddwl bod ganddo bethau pwysig iawn i'w dweud, er enghraifft, am ddatblygu sgiliau yn yr economi wledig. Roeddwn i'n meddwl bod ganddo rai pethau diddorol i'w dweud am fforymau ar y cyd, lle gallwn ni ddod at ein gilydd i wneud yn siŵr y gellir dod â'r amrywiaeth o safbwyntiau ar sut i wneud yn well yn y dyfodol at ei gilydd. Doeddwn i ddim yn cytuno â rhai o'r pethau yr oedd yn eu dweud am reolau cynllunio. Doeddwn i ddim yn cytuno â rhai o'r pethau yr oedd yn eu dweud am dwristiaeth wledig, er fy mod i'n cytuno â phethau eraill yr oedd yn eu dweud am y mater hwnnw.

Yr hyn y mae'n debyg nad wyf i'n cael fy nenu ato, Llywydd—ond ni fydd yn fater i mi—yw'r syniad o fynd yn ôl at rywbeth a oedd yno o'r blaen. Yn union fel y mae James Evans wedi cyfarfod â phobl sy'n dweud wrtho pa mor dda oedd hi yn hen ddyddiau'r bwrdd datblygu gwledig, rwy'n gallu cofio, yma ar lawr y Cynulliad, pobl yn bod yn gwbl feirniadol o'r bwrdd hwnnw ar yr adeg pan oedd yn weithredol. Felly, nid wyf i'n credu mai dyma'r trywydd gorau i feddwl y gallwch chi ail-greu, o dan amodau heddiw, rhywbeth a oedd yn berthnasol yn ei amser. Mae'r syniad o fforwm sy'n gallu dod â phobl at ei gilydd yn wahanol ac rwy'n credu mai dyna lle byddai'r ddadl ar yr adroddiad yn fwyaf buddiol.

Rwy'n aml yn rhwystredig, fel Llywydd, o fethu â gallu ymateb ar bwynt polisi penodol sy'n cael ei drafod ar lawr y Senedd. Fel rhywun a oedd yn arfer gweithio i fwrdd datblygu cefn gwlad Cymru yn y 1990au, rwy'n arbennig o rhwystredig ar hyn o bryd, ond fe wnawn ni ei gadael hi yn y fan yna, i'w barhau. 

Cwestiwn 4, John Griffiths.

Newid Hinsawdd yn Nwyrain Casnewydd

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â newid hinsawdd yn Nwyrain Casnewydd? OQ60848

A gaf i ddiolch i John Griffiths, Llywydd? Mae'n rhaid i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd fod yn ymdrech ar y cyd. Rwy'n cymeradwyo Cyngor Dinas Casnewydd am ei waith ar y cyd â Llywodraeth Cymru i gefnogi datgarboneiddio, gan arwain drwy esiampl i ddarparu cerbydau dim allyriadau a seilwaith gwefru cerbydau trydan yn etholaeth yr Aelod.

14:10

Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rydym ni'n gwybod bod Cymru yn arwain y byd o ran cyfraddau ailgylchu trefol, ac rwy'n falch iawn eich bod chi wedi cydnabod rôl Cyngor Dinas Casnewydd, ac rwy'n credu bod yr un peth yn wir am Gyngor Sir Fynwy yn fy ardal i, o ran y gwaith y maen nhw wedi ei wneud a'r cyfraniad y maen nhw wedi ei wneud.

O dan ddatganoli, Prif Weinidog, rydym ni wedi gweld cyfraddau ailgylchu trefol yn cynyddu o lai na 5 y cant i bron i 66 y cant erbyn hyn, i wneud Cymru yn arweinydd byd pendant. Mae hwnnw'n llwyddiant enfawr i'r Cynulliad, y Senedd bellach, yr wyf i'n credu y dylid ei gydnabod yn eang yn y Siambr hon a thu hwnt, Prif Weinidog. Ond, fel erioed, y cwestiwn yw sut rydym ni'n adeiladu ar y llwyddiant hwnnw. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi, rwy'n credu, tua £1 biliwn mewn ailgylchu trefol ers dyfodiad datganoli, ond a allech chi ddweud wrthym ni heddiw, Prif Weinidog, sut y byddwn ni'n adeiladu ar hynny, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw i gynyddu cyfraddau ailgylchu hyd yn oed ymhellach, gan weithio gyda'n partneriaid a'n rhanddeiliaid allweddol?

Diolch i John Griffiths am hynna. Mae'n iawn i ddathlu llwyddiannau awdurdodau lleol Cymru. Mae pum awdurdod lleol yng Nghymru eisoes yn bodloni neu'n rhagori ar y targed statudol newydd o ailgylchu o leiaf 70 y cant. Mae hynny'n cynnwys sir Fynwy, ac rwy'n siŵr bod hynny o ganlyniad i ymdrechion y weinyddiaeth bresennol, ond heb os, bydd yn tynnu ar hanes hirach o waith llwyddiannus yn y maes hwnnw. Llywydd, gadewch i mi roi un ffigur rhyfeddol arall, rwy'n credu, i chi o lwyddiant Cymru yn y maes hwn. Yn 2012-13, cafwyd gwared ar 42 y cant o wastraff yng Nghymru drwy safleoedd tirlenwi—42 y cant. Yn 2022-23, 10 mlynedd yn ddiweddarach, 1.6 y cant oedd y ffigur hwnnw. Mae hynny'n gwbl ryfeddol, onid yw, y ffordd yr ydym ni nid yn unig wedi llwyddo i gynyddu cyfraddau ailgylchu, ond rydym ni wedi osgoi'r canlyniadau gwaethaf o wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi.

Nawr, mae John Griffiths yn gofyn sut y byddwn ni'n gwneud mwy, Llywydd. Ym mis Ebrill eleni, byddwn ni'n cymryd cam pwysig iawn ymlaen. Rwy'n canmol gwaith y Gweinidog Newid Hinsawdd yn y maes hwn. Sylwais, yr wythnos diwethaf ar lawr y Senedd, fod Aelodau Ceidwadol yn gofyn i ni arafu'r hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud, ond ni fyddwn ni'n gwneud hynny, oherwydd, yn yr un modd ag y mae dinasyddion Cymru wedi gwneud ymdrechion enfawr, felly hefyd nawr y mae angen i fusnesau Cymru chwarae eu rhan yn yr ymdrech ailgylchu honno hefyd. Bydd y rheoliadau ailgylchu yn y gweithle yn ei gwneud yn ofynnol i bob gweithle busnes, cyhoeddus a thrydydd sector wahanu deunyddiau allweddol y gellir eu hailgylchu, yn union fel y mae bron pawb yn y Siambr hon fwy na thebyg yn ei wneud bob wythnos yn eu cartrefi eu hunain. Bydd hynny'n cynyddu ailgylchu, bydd yn lleihau ymhellach fyth faint o wastraff sy'n cael ei anfon i'w losgi ac i safleoedd tirlenwi. Bydd yn gwella ansawdd a maint deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn rhan o'r economi gylchol honno yr ydym ni'n ceisio ei sicrhau yma yng Nghymru. Trwy wneud hynny, byddwn ni'n dod o hyd i ffordd, yn gyflymach fyth, i'r dyfodol yr ydym ni eisiau ei greu yma yng Nghymru.

Prif Weinidog, ddoe, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ddatganiad ysgrifenedig am drafnidiaeth wledig. Ynddo, dywedodd

'mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus, teithiau cerdded a beicio yn cyfrif am 45% o deithiau erbyn 2040'

i helpu i gyrraedd targedau allyriadau carbon. Nawr, i lawer ledled Cymru, Prif Weinidog, nid yw hyn yn bosibl gyda rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus annibynadwy. Edrychwch ar yr ystadegau brawychus diweddaraf am Trafnidiaeth Cymru sy'n eiddo i'r blaid Lafur. Fe wnaeth Trafnidiaeth Cymru gasglu gwerth mwy nag 1 filiwn o funudau o oediadau yn 2023, a dyna'r record waethaf hyd yn hyn—[Torri ar draws.]

Mae hyn er bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi swm syfrdanol o £1 biliwn o arian trethdalwyr i'r sefydliad. Felly, Prif Weinidog, mae'n rhaid i mi ofyn: pa mor falch ydych chi o Trafnidiaeth Cymru a faint y mae wedi bod yn perfformio o dan eich goruchwyliaeth, ac a ydych chi'n cytuno ei bod yn mynd i fod yn eithriadol o anodd cael pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pan mai dyma'r realiti ar lawr gwlad?

Wel, Llywydd, mae rhybudd ofnadwy yng nghwestiwn yr Aelod am ddarllen ar lafar gwestiwn y mae rhywun wedi ei ysgrifennu ar eich cyfer ymlaen llaw, a, hyd y gallaf ei ddweud, ei ofyn yn y cwestiwn anghywir hefyd, oherwydd cwestiwn 1 oedd y cwestiwn a oedd yn ymdrin â thrafnidiaeth gyhoeddus yma. Ac fe wnes i ymdrin bryd hynny â'r pwynt annilys am yr 1 filiwn o funudau y gwnaeth yr Aelod ei ailadrodd wedyn yn ei chwestiwn.

Mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fod yn gwbl uchelgeisiol, Llywydd, am y ffordd y bydd yn rhaid i bob un ohonom ni, nid yn unig o ran ailgylchu, nid yn unig yn y ffordd y bydd yn rhaid i adeiladau newid, fod yn barod i newid y ffordd yr ydym ni'n teithio os ydym ni'n mynd i wneud y cyfraniad y mae angen i Gymru ei wneud i gyrraedd ein targedau newid hinsawdd. Nid oes unrhyw ran o'n bywydau a fydd yn cael ei gadael heb ei chyffwrdd gan yr ymdrech ar y cyd y mae'n rhaid ei gwneud os ydym ni'n mynd i drosglwyddo'r blaned i'r rhai sy'n dod ar ein holau mewn cyflwr addas ar gyfer eu dyfodol. Dyna pam nad ydym ni'n sefyll yn ôl o'n huchelgeisiau ar gyfer teithio llesol; dyna pam nad ydym ni'n sefyll yn ôl o'n huchelgeisiau i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu cerdded, beicio, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Efallai heddiw y bydd Llywodraeth y DU yn cefnu ymhellach fyth ar ei chymwysterau gwyrdd trwy gychwyn cenhedlaeth newydd o orsafoedd pŵer nwy heb unrhyw gynlluniau—dim cynlluniau o gwbl—ar gyfer dal carbon ynddyn nhw; mae'r Llywodraeth hon wedi cymryd ein cyfrifoldebau o ddifrif erioed.

14:15
Gwella Addysg

5. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud tuag at wella addysg dros y chwe blynedd diwethaf? OQ60825

Yn ystod y chwe blynedd diwethaf rydym wedi diwygio yn sylfaenol gwasanaethau ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol, wedi datblygu a gweithredu Cwricwlwm newydd i Gymru, ac wedi creu y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd. Bydd y rhain, a datblygiadau eraill, yn parhau i wella addysg yng Nghymru am flynyddoedd lawer i ddod.

Prif Weinidog, ers i chi ddechrau yn y swydd, gellir crynhoi addysg yng Nghymru gydag un gair: methiant. Ers i chi ddod yn Brif Weinidog, mae eich Llywodraeth wedi torri cyllidebau addysg i'r asgwrn flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn termau arian parod—£56 miliwn oedd yr un mwyaf diweddar. Mae'r Llywodraeth wedi methu â mynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio a chadw athrawon yng Nghymru—ac mae'n argyfwng, yn enwedig y Llywodraeth hon yn methu â denu athrawon i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn pynciau craidd. Mae cynnydd amlwg wedi bod mewn ymddygiad gwael a thrais—5,000 o ddigwyddiadau yn y pum mlynedd diwethaf. Fe wnes i ymweld ag ysgol gynradd ddoe a oedd yn frawychus. Doeddwn i ddim yn disgwyl iddyn nhw ddod ataf gyda phroblem go iawn gyda thrais ac ymddygiad gwael yn eu hysgol.

Mae absenoldebau yn dal i godi, nid yw trafnidiaeth ysgol yn ddigonol o hyd, mae safonau addysg ar ei lefel isaf erioed, mae Cymru ar waelod safleoedd PISA, ymhell y tu ôl i'w chymheiriaid yn y DU—gallwn fynd ymlaen ac ymlaen, Prif Weinidog. Yn syml, mae eich Llywodraeth wedi methu cenhedlaeth o ddysgwyr ledled Cymru, yn enwedig y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, y canlyniad oedd fy mod i'n dyst i athrawon yn eu dagrau wrth i mi deithio o gwmpas Cymru i ymweld ag ysgolion. Prif Weinidog, hoffwn wybod hyn: pam nad ydych wedi blaenoriaethu addysg? Pam nad ydych chi wedi blaenoriaethu pob plentyn yn y wlad hon i gael yr addysg orau y maen nhw'n ei haeddu? Yn hytrach, rydych chi'n blaenoriaethu mwy o arian i fwy o wleidyddion dros athrawon a chefnogaeth i'n hysgolion.

Yn nhraddodiad mawr y Ceidwadwyr yma, does gan yr Aelod ddim gair da i'w ddweud dros unrhyw aelod o staff nac unrhyw blentyn yma yng Nghymru. Mae hi wedi gofyn i mi am y chwe blynedd diwethaf. Gadewch imi roi chwe enghraifft dda iddi o sut mae'r Llywodraeth hon yn mynd ati i fuddsoddi mewn addysg.

Y cyntaf yw'r cynnig gofal plant, llwyddiant rhyfeddol y buddsoddiad Dechrau'n Deg yr ydym wedi'i wneud fel rhan o'n cytundeb cydweithio, gyda dros 120 y cant wedi'i gyflawni yng ngham 1, a 9,500 o blant ychwanegol i gymryd rhan yn yr addysg blynyddoedd cynnar iawn honno trwy gam 2. Am gyferbyniad i'r cynllun yn Lloegr, sy'n dadfeilio o flaen llygaid pobl wrth i'r Llywodraeth fethu â chynhyrchu'r lleoedd hynny. Yma yng Nghymru, mae 9,500 o leoedd—nid cynllun, ond yn digwydd mewn gwirionedd yng Nghymru.

Gadewch imi roi'r ail reswm iddi er mwy iddi fod ychydig yn fwy siriol nag y llwyddodd yn gynharach: prydau ysgol am ddim i'n plant—wedi'i wrthwynebu, wrth gwrs, gan ei phlaid hi. Mae tua 150,000 o ddisgyblion ychwanegol yn elwa ar y polisi hwnnw, a 17 miliwn o brydau bwyd am ddim ychwanegol yn cael eu darparu i blant yn ein hysgolion.

Ceisiodd feirniadu addysg Gymraeg ymhlith ei hymosodiad ar addysg. Addysg cyfrwng Cymraeg yw llwyddiant mawr y 25 mlynedd diwethaf, ac mae'r Llywodraeth hon wedi bod ar y daith honno bob cam o'r ffordd. A nawr mae gennym ein gwasanaeth trochi hwyr, enghraifft ragorol arall, gyda diddordeb ynddo o bob cwr o'r byd, o sut y gallwch helpu pobl ifanc yn nes ymlaen yn eu gyrfa addysg i ennill gallu yn y Gymraeg fel y gallant gwblhau eu haddysg yn y ffordd honno.

Mae'r rhaglen Seren; mae 53 y cant o'r holl bobl ifanc sy'n cymryd rhan ynddi yn mynd ymlaen i brifysgolion Grŵp Russell. Mae gennym fyfyrwyr Safon Uwch sy'n perfformio'n rhagorol ac sy'n perfformio'n well na'u cymheiriaid yn Lloegr flwyddyn ar ôl blwyddyn. A bydd y nifer cynyddol hwnnw o bobl ifanc o Gymru yn mynd ymlaen i astudio mewn addysg uwch, gyda'r twf cyflymaf oll yn dod o'r bobl ifanc hynny sy'n byw mewn cymunedau difreintiedig. Dyna gofnod addysg yng Nghymru, dyna gyflawniad ein pobl ifanc, dyna pam mae staff ein hysgolion yn cael eu gwerthfawrogi ac yn haeddu cael eu gwerthfawrogi.

Llywydd, efallai y byddaf yn gorffen gyda'r pwynt hwn: rwy'n gweld yn yr arolwg barn diweddaraf, o bobl ifanc 18 i 24 oed yng Nghymru, fod 93 y cant yn bwriadu pleidleisio dros bleidiau heblaw'r Blaid Geidwadol. Mae hynny'n awgrymu i mi fod rhywbeth yn mynd yn iawn yn ein gwasanaeth addysg.

14:20

Er mwyn dangos yr holl bwyntiau rydych chi wedi'u gwneud, Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, aeth Huw Irranca-Davies, AS Ogwr, a fi i ymweld â Sony, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac fe gawsom ni eistedd yn un o'u gweithdai cynaliadwyedd addysgol gydag Ysgol Gyfun Porthcawl. Wir i chi, cawsom ni ein syfrdanu gan ba mor frwdfrydig, arloesol a huawdl yr oedden nhw. Roedden nhw'n ysu i sefyll ar eu traed ac egluro eu hatebion gwyddonol wrthym ar gyfer mynd i'r afael â newid hinsawdd. Roedd llawer ohono yr hyn rydych chi wedi ein dysgu ni bob amser—y gwynt, dŵr, tonnau. Ond nid yn unig hynny; dywedodd llawer ohonyn nhw eu bod nhw eisiau astudio i fod yn beirianwyr a'u bod eisiau gwybod mwy am brentisiaethau a rhaglenni graddedigion Sony. Felly, Prif Weinidog, sut allwn ni barhau, am y chwe blynedd nesaf, 10 mlynedd, i feithrin yr angerdd, y mwynhad, y diben a'r chwilfrydedd sydd gan fyfyrwyr—nawr a thrwy ddysgu gydol oes? Diolch.

Diolch yn fawr iawn i Sarah Murphy. Am gyfraniad gwahanol. Mae'n braf dathlu'r bobl ifanc sydd gennym ni yma yng Nghymru, gyda'u holl egni, eu huchelgais, eu dymuniad i wneud cyfraniad i ddyfodol ein cenedl. Diolch iddi am dynnu sylw at bwysigrwydd astudiaethau peirianneg ym mywydau'r bobl ifanc hynny. Gadewch imi ganmol y gwaith y mae Sarah ei hun a chyd-Aelodau eraill yn y Siambr hon wedi'i wneud, yn enwedig i gefnogi menywod mewn pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yma yng Nghymru. Os ydym ni'n mynd i manteisio ar y brwdfrydedd hwnnw, ymrwymiad ein pobl ifanc, mae'n rhaid iddo fod ein holl bobl ifanc. Mae angen i'r hanner hwnnw o'r boblogaeth a fydd ein dyfodol wybod bod y pynciau STEM a'r gyrfaoedd sy'n llifo ohonyn nhw ar gael yn gyfartal iddyn nhw a bod modelau rôl anhygoel iddyn nhw yma yng Nghymru y gallan nhw edrych atynt, er mwyn helpu i lywio eu dyfodol eu hunain.

Cymorth Pontio i Bobl Ifanc sy'n Agored i Niwed

6. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i wella gwasanaethau cymorth pontio i bobl ifanc sy'n agored i niwed? OQ60840

Bydd deddfwriaeth yn nhymor y Senedd hon yn ymestyn hawl i gynghorydd personol i bob person ifanc â phrofiad o ofal nes ei fod yn 25 oed. Bydd y safonau cenedlaethol cyntaf erioed ar gyfer ymarfer gwaith cymdeithasol gofal plant yn cynnwys safonau penodol ar gyfer pontio, y gall cynghorwyr helpu i'w sicrhau.

Diolch am yr ymateb.

Mae'n dda clywed pa gynnydd sydd wedi ei wneud. Mae llawer o feysydd y gallem ni edrych arnynt o ran gwasanaethau pontio i blentyn sy'n symud i fod yn oedolyn: iechyd meddwl, plant ag anableddau yn symud i fyd oedolion o fod yn anabl. Mae gennym wasanaethau anorecsia ac anhwylder bwyta hefyd, lle gwyddom fod anawsterau wrth symud o fod yn blentyn i fod yn oedolyn. Ond rwyf eisiau canolbwyntio ar un maes penodol, sef digartrefedd. Fe wnaethoch chi gyffwrdd yn y fan yna ar bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Mae pryder bod y cynigion presennol gan Lywodraeth Cymru yn y Papur Gwyn ynghylch tai a digartrefedd mewn gwirionedd yn ei gwneud yn ofynnol i berson ifanc â phrofiad o ofal nodi ei hun fel rywun sydd wedi â phrofiad o ofal cyn y byddai ganddo hawl i lety. Mae'n debyg mai'r broblem, mewn gwirionedd, yw, os bu gwaith amlasiantaethol da, ni ddylai fod unrhyw faich ar y person ifanc hwnnw i orfod gwneud hyn yn hysbys. Felly, tybed a allem ailedrych ar y siarter rhianta corfforaethol i sicrhau bod eglurder yno nad oes yn rhaid i berson â phrofiad o ofal nodi ei hun felly er mwyn bod â hawl i lety. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.

Diolch yn fawr i Jane Dodds am y cwestiynau ychwanegol.

Mae'r Papur Gwyn wedi cau ei gyfnod ymgynghori, mae'r ymatebion iddo yn cael eu dadansoddi, ac rwy'n siŵr y bydd y pwyntiau y mae Jane Dodds wedi'u gwneud ar lawr y Senedd y prynhawn yma yn cael eu hystyried yn hynny. Mae fy narlleniad i o'r Papur Gwyn ychydig yn wahanol i'w un hi, oherwydd fy nealltwriaeth i o'r Papur Gwyn yw nad yw'n rhoi rhwymedigaeth ar y person ifanc; mae'n ofynnol i awdurdodau tai sicrhau eu bod yn darparu'r gwasanaethau ychwanegol hynny i rywun o'r system ofal. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt y mae Jane Dodds wedi'i wneud, Llywydd, na ddylai'r cyfrifoldeb am hynny fod gyda'r person ifanc ei hun. Mater i'r awdurdod tai yw gwneud yr ymholiadau hynny, yn enwedig os yw'r person ifanc yn hysbys i'r system yn barod a bod yr awdurdod lleol yn rhiant i'r plentyn. Nid mater i'r plentyn yw gwneud hynny'n hysbys; yr awdurdod ei hun fydd yn gwneud hynny. Rwy'n credu mai dyna lle mae'r Papur Gwyn yn awgrymu y dylai'r cyfrifoldeb fod. Dydyn ni yn sicr ddim eisiau i berson ifanc orfod ail-fyw'r profiadau anodd a thrawmatig y maen nhw wedi'u profi er mwyn gallu agor y drws i'r gwasanaethau y mae eu hangen arnyn nhw. Mater i awdurdodau cyhoeddus yw ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw drostyn nhw eu hunain, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn pwysleisio'r pwynt hwnnw wrth i ni weithio ein ffordd drwy'r ymatebion i'r ymgynghoriad.

14:25
Diwygio Bysiau

7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio bysiau? OQ60822

Diolch yn fawr i Hefin David am y cwestiwn. Mae cyhoeddi'r map ffordd ar gyfer diwygio bysiau y mis yma yn garreg filltir enfawr yn ein rhaglen, sy'n fwy uchelgeisiol nag unrhyw un arall ar draws y Deyrnas Unedig. Y pen draw fydd deddfwriaeth i sicrhau bod bysiau yn diwallu anghenion cymunedau lleol, yn hytrach na gofynion masnachol gweithredwyr bysiau.

Diolch, Prif Weinidog. Ychydig cyn i mi ddod at fy nghwestiwn atodol hoffwn groesawu Kaia, Reggie a Nia o flwyddyn 10 Ysgol Uwchradd Bedwas, sy'n ysgrifennu fy araith ar gyfer fy nadl fer ar 'A ddylid gwahardd ffonau symudol mewn ysgolion?' Maen nhw yn yr oriel heddiw.

Wrth siarad am Fedwas, roeddwn i ym Medwas wythnos i ddydd Gwener diwethaf, lle y gwnaethom ni gynnal gymhorthfa bysiau gyda Trafnidiaeth Cymru, Stagecoach, arweinydd y cyngor a Wayne David AS. Daeth dros 30 o drigolion i ofyn cwestiynau. Un o'r pethau a oedd yn glir, ac mae'n dod yn ôl i gwestiwn cyntaf Llyr, oedd nad oedd pobl yn llwyr werthfawrogi faint o gymhorthdal cyhoeddus sy'n mynd i wasanaethau bysiau. Mae pobl sy'n mynd i'w gwaith yn dibynnu ar gymhorthdal cyhoeddus, ac mae'n rhaid bod ffordd well o'i wneud. Fel yr amlinellodd yn ei ymateb i mi, mae ffordd well yn y Bil bysiau. Ond yr hyn yr hoffem ni ei weld a'r hyn yr hoffai trigolion ei weld yw gwell cysylltedd rhwng gwasanaethau trenau a bysiau, gan gynnwys un tocyn, a hefyd cysylltiadau rhwng gwasanaethau trenau a gwasanaethau bysiau. Nid ydym yno ar hyn o bryd. Sut fydd y Bil bysiau yn ein galluogi i gyflawni hynny, a sut y gallaf adrodd yn ôl i'r bobl hynny a ddaeth i fy nghymhorthfa bysiau mewn termau cadarnhaol?

Yn gyntaf oll, rwy'n adleisio croeso Hefin David i'r bobl sydd yn yr oriel gyhoeddus. Llywydd, un o'r pethau rwy'n ei hoffi fwyaf am y Senedd yw'r ffaith ein bod ni ar ein ffordd i mewn i'r Siambr yn mynd drwy'r Neuadd i fyny'r grisiau a bod pobl o unrhyw ran o Gymru yn gallu cael sgyrsiau gyda ni. Wrth i mi wneud fy ffordd yma heddiw, cwrddais â grŵp o blant ysgol o Ystradgynlais a oedd wrthi'n cyrraedd yr adeilad er mwyn dod i wylio cwestiynau'r Prif Weinidog ac i weld agweddau eraill ar ein gwaith yma ar ran y gwahanol etholaethau yng Nghymru. Croeso iddyn nhw hefyd.

Y pwynt y mae Hefin David yn ei wneud am gysylltedd a sicrhau ein bod yn dod â gwasanaethau bysiau a trenau at ei gilydd yw pam mae Trafnidiaeth Cymru bellach yn cael eu cynnwys yn fwy arwyddocaol yn ein cynlluniau ar gyfer diwygio bysiau nag yr oedd pan drafodwyd hyn yn gyntaf ar lawr y Senedd yn y tymor blaenorol. Oherwydd drwy asiantaeth Trafnidiaeth Cymru, byddwn yn gallu dod â gwasanaethau trenau a bysiau at ei gilydd, i gynllunio ar gyfer teithiau lle gall pobl symud o un math o drafnidiaeth gyhoeddus i'r llall yn y ffordd yr awgrymodd Hefin David.

Mae'r Bil bysiau yn ymrwymiad mawr gan Lywodraeth Cymru. Bydd yn cywiro arbrawf aflwyddiannus dros 40 mlynedd, lle mae dadreoleiddio a phreifateiddio wedi gwneud gwasanaethau bysiau yn dameidiog, wedi methu â rhoi adenillion ar y buddsoddiad y mae'r cyhoedd yn ei wneud, ac rydyn ni'n mynd i gywiro hynny yma yng Nghymru.

14:30
Anghydraddoldebau Cymdeithasol ac Economaidd

8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn culhau anghydraddoldebau cymdeithasol ac economaidd? OQ60804

Llywydd, mae ein holl ymyraethau wedi'u cynllunio i wella statws economaidd-gymdeithasol pobl ledled Cymru. Mae asesiadau effaith integredig yn cynnwys elfen dyletswydd economaidd-gymdeithasol, sy'n helpu i lywio penderfyniadau gweinidogol. Mae ein hymyraethau yn cael adolygiadau rheolaidd, sydd wedyn yn nodi'r newidiadau y mae eu hangen.

Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Nawr, yn ddealladwy ac yn briodol, yn aml rydym yn canolbwyntio'n benodol yng Nghymru ar fater tlodi, naill ai ar lefel unigol neu ar lefel gymunedol, ac yn anad dim, mae'n rhaid i mi ddweud, pan fyddwn ni'n wynebu argyfwng costau byw, sydd wedi'i wneud yn llawer gwaeth gan gamreoli'r economi gan y Ceidwadwyr ac, yn aml, cyfundrefn fudd-daliadau cosbol. Rwyf wedi dweud o'r blaen bod ein hymdrechion i fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru fel nofio yn erbyn llanw Llywodraeth Geidwadol yn y DU. Po gynted ag y bydd gennym ddatganoli lles yn weinyddol a Llywodraeth Lafur flaengar y DU i weithio gyda hi, gorau oll. Ond mae angen i ni yng Nghymru hefyd wneud popeth o fewn ein gallu i gydraddoli, drwy ddarparu cyfleoedd gydol oes, waeth beth fo'r lwc ar adeg genedigaeth, fel bod pawb yn cael cyfle i wella eu sefyllfa, eu un nhw eu hunain a'u teuluoedd, a thrwy wneud hynny, gwella un eu cymunedau hefyd. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn culhau'r anghydraddoldebau hynny, yn dymchwel y rhwystrau sy'n wynebu pobl oherwydd hil, rhyw, neu ddosbarth, a chymaint mwy, fel bod pawb yng Nghymru yn cael ymgais deg ar gyfleoedd bywyd, ac weithiau mwy nag un ymgais os oes ei angen arnyn nhw?

Llywydd, a gaf i ddiolch i Huw Irranca-Davies am hynny? Crynhodd gymaint o'r hyn sy'n ysgogi'r Llywodraeth hon a'r Blaid Lafur y mae ef a minnau yn perthyn iddi. Oherwydd ein huchelgais o fod mewn gwleidyddiaeth yw sicrhau bod y fargen anwastad iawn y mae pobl yn cael ei chynnig ar adeg genedigaeth yn cael ei chywiro gan y camau gweithredu y mae Llywodraeth yn gweithredu gyda'i gilydd, ar ran y gymuned, yn gallu ei wneud. Dyna pam, pan atebais i gwestiwn Laura Anne Jones, roeddwn i eisiau tynnu sylw at y ffaith mai pobl ifanc o'r cymunedau mwyaf difreintiedig sydd wedi gwneud y cynnydd mwyaf mewn addysg yng Nghymru. Dyna pam ein bod mor ddifrifol am fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yma yng Nghymru. Dyna pam y byddwn yn creu 20,000 o gartrefi newydd ar gyfer rhent cymdeithasol. Y rheswm am hyn yw ein bod am roi ein bys ar y glorian ar ran y bobl y nododd Huw Irranca-Davies yn ei gwestiwn. Rydym yn byw mewn gwlad sydd wedi dod yn fwy a mwy anghyfartal. Yn 1976 Prydain oedd y wlad fwyaf cyfartal yn Ewrop gyfan. Heddiw, rydym o gryn bellter, ac yn cyflymu, ymhlith y rhai mwyaf anghyfartal. Ac mae hynny'n effeithio ar siawns yr holl bobl hynny y cyfeiriodd Huw Irranca-Davies atynt.

Beth all y Llywodraeth hon ei wneud? Wel, fel y dywedais i, rydym yn rhoi ein bys ar y glorian honno, rydym yn ei roi bob amser ar ran y bobl hynny sydd angen help y Llywodraeth fwyaf, ac yn gwybod, yma yng Nghymru, y bydd ganddyn nhw Lywodraeth sy'n benderfynol o ddefnyddio'r ymdrech gyfunol y gallwn ei gwneud i roi'r cyfleoedd hynny sydd eu hangen arnynt nawr ac a fydd eu hangen eto yn y dyfodol.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf. Y Trefnydd i wneud y datganiad hynny—Lesley Griffiths.

Member
Lesley Griffiths 14:33:33
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon. Nodir y busnes drafft am y tair wythnos nesaf ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

A gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, Trefnydd? Mae'r cyntaf mewn perthynas â'r cod presenoldeb ysgol, ac rwy'n deall nad yw wedi'i ddiweddaru nawr ers dros ddegawd. Mae'r cod hwnnw, wrth gwrs, yn penderfynu beth yw absenoldeb awdurdodedig, neu beth nad yw, yn ein system addysg ledled Cymru, ac, yn anffodus, nid yw'n ymddangos ei fod yn ystyried plant ag iechyd meddwl gwael yn ddigonol. Mae gen i etholwr ar hyn o bryd sydd wedi bod mewn cysylltiad ynglŷn â'i fab, sydd â phroblemau gyda gorbryder. Er gwaethaf y ffaith bod llythyr meddyg teulu yn cadarnhau y gall pryder yn aml fod yn rheswm pam na all y person ifanc hwn fynychu'r ysgol, ystyrir ei fod heb awdurdod o ran absenoldebau o'r ysgol, ac mae bellach yn wynebu dirwyon gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, sy'n ymddangos i mi yn gwbl amhriodol. Felly, rwy'n credu bod problem ynghylch y cod a sut mae'n cael ei ddehongli mewn rhai rhannau o Gymru, a byddwn yn croesawu rhywfaint o eglurder ar hynny.

Yn ail, a gaf i alw am ddatganiad mewn perthynas ag atal adroddiadau marwolaethau yng Nghymru yn y dyfodol, ac a yw Cymru'n dysgu o'r rhain mewn gwirionedd? Cefais fy syfrdanu'n llwyr o gael gwybod, y llynedd, bod tua 21 y cant o'r holl achosion o atal marwolaethau yn y dyfodol a gyhoeddwyd gan grwneriaid—a gyhoeddwyd ledled Cymru a Lloegr gyfan—mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae hwn yn ystadegyn rhyfeddol. A chawsom adroddiad atal marwolaethau eraill yn y dyfodol a gyhoeddwyd yn y gogledd yr wythnos diwethaf, mewn perthynas â'm hetholwr Jennifer Trigger. Ym mis Ionawr 2020 dioddefodd strôc acíwt, ac oherwydd camddealltwriaeth a achoswyd gan y system rybuddio yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ni roddwyd y driniaeth sy'n ddibynnol ar amser a ragnodwyd tan 11 awr ar ôl y dylai fod wedi cael ei roi. Yn anffodus, bu farw, ac o ganlyniad i achos y crwner i'r mater penodol hwnnw, cyhoeddwyd adroddiad atal marwolaethau yn y dyfodol.

Nawr, yn amlwg, mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein GIG yn dysgu pryd mae materion fel hyn yn digwydd a phryd y cyhoeddir adroddiadau o'r math hwn mewn gwirionedd. Ni allaf dderbyn ei bod yn briodol bod 21 y cant o'r holl adroddiadau hynny sydd wedi'u cyhoeddi wedi bod mewn perthynas ag un bwrdd iechyd unigol, a dyna'r bwrdd iechyd sy'n gwasanaethu fy etholwyr i a'ch un chi, yn wir, hefyd, Trefnydd. Felly, a gawn ni ddatganiad am ba gamau sy'n cael eu cymryd, o gofio bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig? A beth sy'n mynd i gael ei wneud i sicrhau bod yna ddysgu ar draws y GIG ehangach? Diolch.

14:35

Diolch. Wel, rwy'n sicr yn cytuno â chi bod yn rhaid dysgu gwersi, yn hollol, ac mae'n ddrwg iawn gennyf glywed am farwolaeth eich etholwr. Byddaf yn sicr yn gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno datganiad ysgrifenedig mewn ymateb i'ch cais.

O ran y cod presenoldeb ysgol, yn amlwg, rhoddir arweiniad i bob awdurdod lleol. Rydych yn sôn am achos penodol iawn, a byddwn yn awgrymu eich bod yn ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg ac Addysg.

Trefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch y sefyllfa a gododd yn eithaf sydyn ddoe yn Hirwaun, ynghylch concrit awtoclafedig wedi'i atgyfnerthu yn effeithio ar 40 eiddo Trivallis, ynghyd â phedwar eiddo preifat. Fel y byddwch yn ymwybodol iawn, fel y sefyllfa ledled Cymru, mae straen enfawr o ran ceisio dod o hyd i lety amgen. Mae bron i 5,000 o aelwydydd wedi'u cofrestru gyda HomefinderRCT ar hyn o bryd. Felly, mae ceisio dod o hyd i lety arall yn her enfawr. Felly, a gaf i ofyn pa gefnogaeth sy'n cael ei darparu? Ac ymhellach, a yw'n bosibl y gallai cymdeithasau tai eraill hefyd ddod o hyd i ragor o eiddo sy'n cael eu heffeithio? Hoffwn wybod pa ohebiaeth sydd wedi bod gyda chymdeithasau tai a pha sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi, oherwydd, yn amlwg, mae hon yn sefyllfa hynod bryderus, nid yn unig yn Hirwaun, ond rwy'n credu bod ganddi oblygiadau i rannau eraill o Gymru hefyd.

Diolch. Wel, cysylltwyd â swyddogion y Gweinidog brynhawn ddoe gan brif weithredwr cymdeithas dai Trivallis, ac mae'r Gweinidog yn sicr wedi croesawu'r camau cyflym a gymerwyd ganddynt i sicrhau diogelwch eu preswylwyr, ac rydym yn sicr yn anfon cydymdeimlad at bawb yr effeithir arnynt. Fel y dywedwch chi, mae'n amlwg bod hwn yn gyfnod pryderus iawn iddyn nhw. Bydd swyddogion y Gweinidog Newid Hinsawdd yn parhau i weithio'n agos gyda Trivallis a phartneriaid wrth i'r sefyllfa ddatblygu. Mae'r broblem gydag RAAC yn yr eiddo hyn wedi'i nodi oherwydd y gwaith arolygu sydd wedi'i gomisiynu i sicrhau bod gennym ddarlun cyflawn o RAAC ar draws ein holl stoc o dai cymdeithasol. 

Rwy'n gofyn am ddau ddatganiad. Mae'r cyntaf ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran hyrwyddo'r cyflog byw gwirioneddol. Mae llawer gormod o bobl yng Nghymru yn gweithio ar gontractau ecsbloetiol heb dalu'r cyflog byw gwirioneddol a pheidio â rhoi digon o oriau sy'n cael eu gwarantu bob wythnos. Beth mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i sicrhau bod y rhai sy'n cael eu talu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru naill ai drwy gontractwr neu drwy sefydliadau sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, fel byrddau iechyd, yn talu'r cyflog byw gwirioneddol? 

Mae'r ail ddatganiad rwy'n gofyn amdano ar ba gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cynhyrchiant yn economi Cymru. Er y byddai cynnydd mewn cynhyrchiant athrawon yn golygu dosbarthiadau mwy, nad wyf yn credu ein bod ni ei eisiau, mae enillion cynhyrchiant ar gael mewn meysydd eraill. Pa gamau sy'n cael eu cymryd i wella cynhyrchiant yn ein hysbytai? 

Diolch. Wel, rydym yn glir iawn bod talu'r cyflog byw gwirioneddol o fudd i gyflogwyr yn ogystal â gweithwyr, ac mae adroddiad cynhwysfawr gan Brifysgol Caerdydd wedi dangos bod 94 y cant o gyflogwyr achrededig cyflog byw gwirioneddol yn dweud eu bod wedi elwa o'u hachrediad. Rwy'n credu o safbwynt busnes ac economaidd, mae talu'r cyflog byw gwirioneddol yn cynnig sawl budd sy'n cyfrannu at gynhyrchiant a lles cyffredinol, ac mae talu'r cyflog byw gwirioneddol, fe wyddom ni, yn rhoi hwb i gymhelliant, ymrwymiad, ymgysylltiad staff ac, wrth gwrs, mae'n lleihau straen y gallai gweithwyr ei gael ynghylch cael dau ben llinyn ynghyd. Rwy'n credu ei fod hefyd yn effeithio ar recriwtio, yn fawr iawn, ac wrth gwrs cadw staff. Mae'n lleihau'r gost o fod â'r newid staff parhaus hwnnw mewn gweithlu. Mae ymchwil gan y Living Wage Foundation yn dangos sut y gall lefelau cynhyrchiant godi o ganlyniad, gan arwain at well perfformiad cyffredinol.

14:40

Trefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad brys gan y Gweinidog Iechyd ynghylch y gwasanaeth datblygu hunaniaeth rhywedd. Ni wnaf ailadrodd yr adolygiad cost o'r materion sy'n ymwneud â disodli gwasanaethau Tavistock, gan gynnwys yr oedi anorfod i wasanaethau rhanbarthol. Yr hyn sy'n fy mhryderu i yw gollyngiadau WPATH. Ychydig ddyddiau yn ôl, gwnaeth llawer iawn o ffeiliau a ollyngwyd gan y World Professional Association for Transgender Health, neu WPATH yn fyr, fwrw amheuaeth ddifrifol ar yr honiadau bod y canllawiau y mae'r sefydliad yn eu darparu yn seiliedig ar dystiolaeth a'u bod yn ddiogel. Mae dogfen a ddatgelwyd yn dangos clinigwyr yn trafod rhoi triniaeth na ellir ei gwrthdroi i gleifion sy'n annhebygol iawn o allu rhoi caniatâd gwybodus, gan gynnwys yr ifanc iawn a'r rhai ag anhwylderau iechyd meddwl difrifol. Mae rhai o sgyrsiau'r ddogfen yn awgrymu bod y clinigwyr yn ansicr o effeithiau tymor hir y triniaethau maen nhw'n eu darparu. Awgrymodd y ddogfen fod rhai aelodau o WPATH yn diystyru pryderon am ganlyniadau hirdymor i gleifion, er eu bod yn ymwybodol o sgîl-effeithiau gwanychol hormonau a thriniaethau eraill. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod canllawiau WPATH yn sail i'n GIDS, neu wasanaeth datblygu hunaniaeth rhywedd, yng Nghymru. Mae safonau gofal WPATH fersiwn 7 yn cael eu hargymell gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru fel DPP ar gyfer meddygon teulu yng Nghymru. DPP yw datblygiad personol parhaus. Felly, rwy'n galw am ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â phryderon ac i sicrhau'r cyhoedd bod gwasanaethau hunaniaeth rhywedd yn ddiogel ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Diolch yn fawr.

Diolch. Mae'n fater i bob bwrdd iechyd o ran pa wasanaethau y maen nhw'n eu darparu ar gyfer eu poblogaeth leol, ac, wrth gwrs, ni fyddai Llywodraeth Cymru yn gwneud sylw ar ddogfen a ollyngwyd.

Hoffwn ailadrodd cais a wnaed yn gynharach. A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ar farwolaethau y gellir eu hatal yn y gwasanaeth iechyd, fel yr adroddwyd yn adroddiadau adran 28 y crwneriaid? Maen nhw yno, wrth gwrs, fel adroddiadau i helpu i atal marwolaethau yn y dyfodol, ac mae'n amlwg bod angen gweithredu ar frys arnyn nhw gan fyrddau iechyd, ond, er gwaethaf y ddyletswydd statudol honno, mae tueddiadau pryderus yn y gogledd. Nawr, fe wnaf roi rhywfaint o ystadegau i chi. Yn 2021-22 roedd Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am 41% o'r holl adroddiadau crwner am farwolaeth y gellid bod wedi'u hatal yng Nghymru. Flwyddyn yn ddiweddarach, 2021-22, roedd hynny wedi cynyddu i 50%. Nawr, yn ystod y naw mis diwethaf, mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am 80 y cant o'r holl adroddiadau marwolaethau hyn y gellid bod wedi eu hatal yng Nghymru. Mae hynny'n 21 allan o gyfanswm o 25. Mae hynny, i mi, yn tynnu sylw at broblem barhaus ddifrifol iawn yn y gogledd, ac mae angen i ni glywed fel Senedd gan y Gweinidog iechyd, gan weithio gyda Betsi Cadwaladr, beth yw'r cynllun i sicrhau bod y bwrdd iechyd yn ymateb yn briodol i'r hyn sy'n duedd bryderus iawn, mae'n rhaid i mi ddweud.

Fel y dywedais i yn fy ateb i Darren Millar, byddaf yn gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno datganiad. 

A gaf i gyfeirio Aelodau at fy natganiad buddiannau ar y cofnod? Gweinidog, byddwch yn ymwybodol bod gweithwyr yn yr Asiantaeth Electroneg a Chydrannau Amddiffyn yn fy etholaeth i wedi bod ar streic nawr ers chwe mis. Nid yw pobl sy'n gweithio eisiau bod ar streic. Mae'r gweithwyr hyn yn falch o'u swyddi medrus iawn ac maen nhw eisiau dychwelyd i'r gwaith. Er mwyn i hyn ddigwydd, mae angen penderfyniad y gall pawb ei gefnogi, neu'r cyflogwr i fynd yn ôl o gwmpas y bwrdd a gwrando ar bobl sy'n gweithio. Yn rhwystredig, Gweinidog, nid yw'r penderfyniad hwn wedi ei ganfod eto rhwng y cyflogwr a'r gweithwyr. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y gall Llywodraeth Cymru annog cyflogwyr i ymgysylltu â gweithwyr ac undebau llafur mewn ffordd ystyrlon? Diolch.

Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n hollol iawn, does neb eisiau bod ar streic, ac mae'n bwysig iawn bod y cyflogwr yn yr achos hwn, y Weinyddiaeth Amddiffyn, yn dod o gwmpas y bwrdd gyda'r gweithlu. Rwy'n credu bod y mwyafrif yn ôl pob tebyg yn cael eu cynrychioli gan Unite, ac rydych chi'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn eiriolwr dros bartneriaeth gymdeithasol.

14:45

Hoffwn ofyn am ddatganiad gennych am astudiaeth hyfywedd arglawdd Tan Lan yn Nyffryn Conwy. Byddwch yn cofio y bu'r toriad diweddaraf yn ystod Storm Ciara ym mis Chwefror 2020. Nawr, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu cerdded i ffwrdd o arglawdd Tan Lan, sy'n diogelu sawl eiddo, safle carafanau ac amryw o ffermydd eraill. Nawr, er bod CNC wedi dyfynnu £150,000 ar gyfer gwaith atgyweirio, mae ffermwyr lleol wedi gwneud hyn am £15,000 mewn gwirionedd. Nawr, bedair blynedd yn ddiweddarach, mae CNC yn dal i wrthod digolledi'r ffermwyr, a chynhaliais gyfarfod yn ddiweddar gyda thrigolion, ffermwyr a thirfeddianwyr, ac maen nhw'n gandryll. Rydyn ni wir yn ei chael hi'n anodd, felly hoffwn gael datganiad ar allu CNC—pu'n ag ydyn nhw, mewn gwirionedd, yn gallu gwneud hynny—dim ond cerdded i ffwrdd o gynllun amddiffyn rhag llifogydd naturiol a dweud wrth breswylwyr, 'O hyn ymlaen, bydd yn rhaid i chi ysgwyddo'r gost am hyn.' Diolch.

Nid wyf yn ymwybodol o'r sefyllfa y cyfeiriwyd ati. Efallai y byddai'n well ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd yn uniongyrchol. 

Trefnydd, yr wythnos diwethaf, cafodd trigolion Aberfan wybod bod eu canolfan gymunedol yn wynebu cau. Fel y gwyddoch chi, mae'r adeilad hwnnw'n fwy na brics a morter. Fe'i hadeiladwyd gan y gymuned wedi'r trychineb yn 1966 a hawliodd fywydau 116 o'i phlant a 28 o oedolion. Cadwyd y llyfr coffa ar gyfer y meirw yn y ganolfan wedi i gapel Bethania gau. Mae'n lle sy'n dyst i wytnwch cymuned galarus, ac fe gafodd y newyddion y gallai gau ei drysau ei dderbyn â dicter a dryswch. Nawr, 24 awr yn ddiweddarach, roedd yn ymddangos mai dim ond bod yr ymddiriedolaeth oedd yn berchen ar y ganolfan oedd yn camu i ffwrdd. Roedd awgrym hyd yn oed bod yr arwyddion a gafodd eu codi yn cyhoeddi ei fod ar fin cau yn ffug, ac roedd rhai penawdau di-chwaeth yn dweud bod trigolion wedi cael eu twyllo. Mae'r gymuned hon yn dal i alaru am ei phlant coll. Ni waeth faint o flynyddoedd a allai fod wedi mynd heibio, nid dyna'r gair cywir i'w ddefnyddio. Nawr, rwy'n siŵr, Trefnydd, y byddwch yn cytuno nad yw hyn yn ffordd o drin Aberfan. Rwy'n sylweddoli nad yw penderfyniadau lleol fel hyn yn rhywbeth y gall y Llywodraeth gymryd rhan ynddo, ond gwn y byddai trigolion yn gwerthfawrogi datganiad a glywir yn y Senedd am bwysigrwydd y ganolfan gymunedol honno a sut y mae'n sefyll nid yn unig fel tyst i orffennol y cwm hwnnw, ond hefyd fel conglfaen i ddyfodol y gymuned honno. Byddai unrhyw ddatganiad y gallai'r Llywodraeth ei wneud yn gysur.

Diolch yn fawr iawn, ac rwy'n sicr yn rhannu eich pryder. Rwy'n cofio, pan oeddwn i'n Weinidog gyda chyfrifoldeb am adfywio, mynd i ymweld ag Aberfan i siarad am yr hyn y gallem ni ei wneud—rwy'n credu ei fod yn agosáu at hanner canmlwyddiant, os cofiaf yn iawn—ac i weld pa gymorth y gallem ni ei roi. Ac efallai y byddai'n ddoeth i'r ymddiriedolaeth—nid wyf yn ymwybodol o'r sefyllfa rydych chi'n ei disgrifio—ysgrifennu at y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am adfywio i weld a oes unrhyw beth arall y gallem ni gynorthwyo ag ef.

Gweinidog, a gaffi ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y gallu i gael y cyffur Fampyra, a elwir hefyd yn Fampridine. Mae Fampyra yn gyffur a ddefnyddir gan gleifion MS i wella ansawdd eu bywyd, ac fe'i cymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru fel triniaeth a ariennir gan y GIG yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2019. Yn wir, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gymeradwyo'r defnydd arferol o'r cyffur. Mae'n siomedig felly, rhyw bedair blynedd yn ddiweddarach, nad yw'r cyffur hwn ar gael i gleifion yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Cwrddais ag etholwr ddydd Gwener sydd wedi bod yn aros i'r bwrdd iechyd roi'r trefniadau ar waith i gynnig y cyffur hwn, a allai gael effaith sylweddol ar ei bywyd bob dydd. Rwy'n deall bod y bwrdd iechyd wedi mynd yn ôl at Lywodraeth Cymru i gymeradwyo buddsoddiad ychwanegol i sicrhau y gellir cyflwyno'r cyffur, ond, ar hyn o bryd, mae'n dal yn aneglur pryd y bydd gan gleifion ardal y bwrdd iechyd fynediad at y feddyginiaeth hon a allai wella bywyd. Felly, byddai datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael ei werthfawrogi'n fawr ar hyn.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n ymwybodol bod achos busnes dros ddefnyddio'r cyffur hwn wedi ei gyflwyno i'r bwrdd gweithredol fis diwethaf, a'r nod yw dechrau asesiadau cleifion o fewn y ddau fis nesaf—felly, erbyn mis nesaf.

Hoffwn ofyn am ddatganiad, Gweinidog busnes, os gwelwch yn dda, gan y Dirprwy Weinidog chwaraeon. Yn ystod y diwrnod neu ddau diwethaf, mae arweinydd Llafur y DU, Syr Keir Starmer, wedi cyhoeddi ei fod yn cefnogi gwaharddiad ar ddynion biolegol yn cystadlu yn erbyn menywod mewn chwaraeon. Mae hyn, wrth gwrs, yn gwneud synnwyr llwyr i'r rhai ohonom sy'n credu mewn tegwch, diogelwch a chydraddoldeb, ond eto, dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r Llywodraeth hon wedi bod yn amharod iawn i sefyll dros degwch a diogelwch mewn chwaraeon merched, gan ddewis yn hytrach gwthio anwireddau biolegol ac ideoleg rhywedd, a defnyddio hawliau, chwaraeon a gofodau menywod fel oen aberthol. Nawr mae arweinydd eich Plaid Lafur wedi dweud hyn, hoffwn i'r Dirprwy Weinidog ddod i'r Siambr i egluro safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch a yw nhw hefyd bellach yn credu y dylid amddiffyn chwaraeon menywod Cymru rhag dynion biolegol ac, yng ngeiriau Keir Starmer, bod angen i synnwyr cyffredin drechu o ran diogelwch a chywirdeb mewn chwaraeon. Diolch.

14:50

Wel, nid yw Keir Starmer yn gynrychiolydd yma, a byddwch wedi clywed Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth ar y pwnc hwn o'r blaen. Does dim byd wedi newid.

Trefnydd, hoffwn gael datganiad llafar wedi'i ddiweddaru, os gwelwch yn dda, ar ddiagnosis awtistiaeth. Gwneir atgyfeiriadau at wasanaethau asesu a diagnostig trwy sawl llwybr. Ar gyfer plant cyn oed ysgol, gellir ei wneud trwy'r gwasanaeth iechyd, neu, i blant sy'n mynychu'r ysgol, fe'i gwneir trwy'r llwybr asesu oedran ysgol. Felly, byddai'n dda gweld datganiad gyda chyfraniad gan y ddau Weinidog. Nawr, mae gen i nifer o achosion o blant yn aros amseroedd hir am ddiagnosis. Un enghraifft yw bachgen a ddechreuodd ar y daith ddwy flynedd yn ôl pan oedd yn saith oed, ac mae wedi cael gwybod bod o leiaf dwy flynedd arall i aros, ac, oherwydd ei anghenion am ddiagnosis drwy gyfrwng y Gymraeg, mae'r aros yn debygol o fod yn llawer hirach. Mae bachgen arall hefyd wedi bod ar y rhestr aros ers dwy flynedd ac mae wedi cael gwybod bod o leiaf 36 mis o aros eto. Bydd y plant hyn yn mynd trwy dri chyfnod allweddol o addysg cyn cael y diagnosis hanfodol. Nid yw hyn yn ddigon da. Felly, hoffwn gael y wybodaeth ddiweddaraf, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog Addysg neu Iechyd ar ba gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r rhestr aros ofnadwy hon.

Diolch yn fawr iawn, ac rwy'n credu eich bod wedi codi pwynt pwysig iawn. Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhywfaint o waith sylweddol, yn fy marn i, mewn cyllid a hefyd cyflwyno deddfwriaeth a ffyrdd eraill o helpu i leihau'r rhestr aros. Nid wyf yn siŵr a fyddai y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol neu'r Gweinidog Addysg, ond byddaf yn sicr yn gofyn i'r naill neu'r llall ohonyn nhw ddiweddaru Aelodau'r Senedd.

Trefnydd, rwy'n ôl eto yr wythnos hon yn gofyn am ddatganiad brys arall ar y cynllun ailgylchu yn y gweithle sy'n cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru. Rwyf wedi cyfarfod â busnesau a gweithredwyr gwastraff di-ri ledled Cymru sy'n dweud wrthyf fod y cynllun yn ei ffurf bresennol yn anymarferol a bydd yn achosi i lawer o fusnesau bach gau oherwydd nad yw'r cynllun yn ymarferol, nid oes ganddyn nhw le ar gyfer y biniau, ac nid oes ganddyn nhw yr arian ychwanegol yn eu banc i dalu am gostau'r holl finiau ychwanegol. Mae angen datganiad brys arnom ar hyn cyn iddo gael ei weithredu ar 6 Ebrill oherwydd nid ydym am weld canlyniad anfwriadol y cynllun hwn yn dwyn ffrwyth heb fod diwydrwydd dyladwy priodol ar waith. Felly, hoffwn gael y datganiad brys hwnnw. Os nad yw'r Llywodraeth yn fodlon cyflwyno'r datganiad hwnnw, bydd yn rhaid i mi ddefnyddio dulliau seneddol eraill i gael y Gweinidog i'r Siambr hon, oherwydd nid wyf am weld unrhyw fusnesau yn cau yn ddiangen oherwydd nad yw'r cynllun wedi cael ei ystyried gan y Llywodraeth.

Fyddwn ni ddim yn meddwl nad ydyw wedi cael ei ystyried yn iawn—

Pam na wnewch chi fynd i siarad â nhw, Mike, fel y ffermwyr rydych chi'n galw arnyn nhw?

Mae'r Trefnydd yn ymateb i'r cais gan yr Aelod. Y Trefnydd.

Rwy'n sicr ddim yn meddwl nad yw wedi cael ei ystyried yn iawn. Mae'r Gweinidog wedi gwneud cryn dipyn o waith gyda rhanddeiliaid cyn i hyn gael ei gyflwyno, ac ni fydd amser am ddatganiad arall cyn y dyddiad yr ydych wedi'i awgrymu.

Gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd mewn perthynas â’r sgandal gwaed wedi’i heintio? Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar waed wedi’i heintio, dwi'n werthfawrogol o fod wedi gallu cydweithio efo’r Llywodraeth yn gwthio am weithredu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Dwi'n ymwybodol ac yn gwerthfawrogi bod y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol wedi ysgrifennu at y Tâl-feistr Cyffredinol rai wythnosau’n ôl yn gofyn am gyflymu’r broses o sefydlu corff ar gyfer talu iawndal i ddioddefwyr, ond mae yna bryderon wedi codi unwaith eto yr wythnos yma fod y Llywodraeth yn trio cicio'r can i lawr i ffordd. Mi ddywedodd Arweinydd Tŷ’r Cyffredin yr wythnos diwethaf fod yna gyfarfodydd yn cael eu trefnu rŵan er mwyn casglu rhagor o dystiolaeth. Y gwir amdani, wrth gwrs, ydy bod yna waith ymgynghori dwys wedi digwydd dros amser maith er mwyn cyrraedd at y pwynt yma. Mae rhyw 80 o ddioddefwyr wedi colli eu bywydau ers i'r argymhellion ar dalu iawndal gael eu gwneud. Mae mwy yn colli eu bywydau bob wythnos, ac mae'n rhaid gweld gweithredu ar frys. Felly, buaswn i'n gwerthfawrogi datganiad gan y Gweinidog yn amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i weithredu ymhellach rŵan, yn cydweithio efo ni fel grŵp trawsbleidiol i wthio ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud yn siŵr bod yr arian yma’n cael ei dalu.

14:55

Diolch i chi. Rwy'n ymwybodol fod y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU. Nid wyf i'n ymwybodol iddi gael ymateb hyd yn hyn, ond rwy'n gwybod ei bod hi'n awyddus iawn i weithio gyda'r grŵp trawsbleidiol, ac rwy'n siŵr, pan gaiff hi wybodaeth bellach, y bydd hi'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi.

3. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar Fil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol). Y Gweinidog, felly, i wneud y datganiad—Jane Hutt.

Diolch, Llywydd. Mae'r Senedd wedi cael ei thrawsnewid dros y chwarter canrif ddiwethaf. Fe ddaeth yn Senedd yng ngwir ystyr y gair, gan fynd yn gyfrifol am bwerau deddfu sylfaenol a phwerau dros drethiant, ymhlith cyfrifoldebau newydd eraill. Senedd effeithiol yw conglfaen democratiaeth ffyniannus. Yn Senedd i'r genedl, mae gan y Senedd swyddogaeth allweddol yn cynrychioli pobl Cymru, yn llunio deddfwriaeth, yn craffu ar Lywodraeth Cymru, a thrafod y materion sy'n bwysig i bobl ledled Cymru. O ystyried y cyfrifoldebau a gafodd y Senedd dros amser, mae hi'n bwysicach nag erioed fod y Senedd yn Senedd effeithiol sy'n cynrychioli'r bobl y mae hi'n eu gwasanaethu. Un elfen sy'n cyfyngu gallu'r Senedd i gynrychioli pobl Cymru yn effeithiol yw nad yw hi'n adlewyrchu cyfansoddiad poblogaeth Cymru o ran y rhywiau. Mae hyn yn cyfyngu ar allu'r Senedd i fanteisio ar yr ystod o brofiadau bywyd sy'n bresennol yn y gymdeithas, ac mae'n gwanio honiad y Senedd ei bod yn cynrychioli'r boblogaeth gyfan. Roedd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd yn nodi bod hwn yn faes i'w ddiwygio. Roedd yn cydnabod mai menywod sy'n llunio'r mwyafrif sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y Senedd hon, ac fe argymhellwyd yn ei adroddiad y dylai'r Senedd gael ei hethol gyda chwotâu rhywedd statudol integredig. Cafodd adroddiad y pwyllgor diben arbennig ei gymeradwyo gan y Senedd hon, ac fe ymrwymodd y Llywodraeth i gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon. Ddoe, fe wnes i roi Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) gerbron y Senedd. Dyma'r ail Fil mewn pecyn o ddiwygiadau a'i ddiben yw gwneud y Senedd yn ddeddfwrfa fwy effeithiol sy'n gallu gwasanaethu pobl Cymru yn well. Mae'n mynd un cam ymhellach ar daith ddiwygio'r Senedd ac yn ategu Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) a gyflwynwyd gan y Cwnsler Cyffredinol, sydd yn nhrafodion Cyfnod 3 erbyn hyn.

Llywydd, gan mai myfi yw'r Aelod sy'n gyfrifol, rwy'n cydnabod ac yn parchu eich penderfyniad chi o ran cymhwysedd. Fe wyddoch chi, ar sail yr holl wybodaeth sydd ar gael i mi, fy mod o'r farn fod y Bil yng ngwmpas cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Gyda'r fath wahaniaeth o ran safbwyntiau, rwy'n credu mai dim ond y corff lle dechreuodd y Bil hwn a all benderfynu yn derfynol ynghylch a ddylai'r Bil fynd rhagddo: sef y Senedd ei hunan. Yr unig ffordd o gyflawni hyn yw cyflwyno'r Bil hwn ac iddo fynd ymlaen i graffu Cyfnod 1. Ac yna fe fydd pwyllgor y Senedd yn gallu dod i farn ar fater cymhwysedd. Fe fydd barn y pwyllgor yn rhan ganolog o'n hystyriaeth ni o'r camau nesaf ynglŷn â'r Bil.

Llywydd, diben y Bil hwn yw cryfhau'r Senedd drwy geisio sicrhau ei fod yn adlewyrchu cyfansoddiad y boblogaeth y mae'n ei gwasanaethu, yn enwedig o ran cynrychiolaeth menywod. Yn 2003, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ethol menywod i hanner cyfanswm seddau ei Senedd. Nid yw'r canlyniad hwnnw wedi cael ei ailadrodd yn etholiadau'r Senedd yn yr 20 mlynedd sydd wedi mynd heibio ers hynny. Heddiw, menywod yw 51 y cant o boblogaeth Cymru ond dim ond 43 y cant o'r seddau yn Senedd Cymru sydd ganddyn nhw. Mae menywod yn cael eu tangynrychioli o hyd yn y Senedd, ac felly y maen nhw wedi bod ers blynyddoedd lawer. Mae tystiolaeth o bob rhan o'r byd yn dangos y gall cynyddu nifer y deddfwyr benywaidd arwain at ddeddfwrfa fwy effeithiol ac, felly, mae hynny ag effeithiau cadarnhaol ar gyfreithlondeb y ddeddfwrfa ac ar ddemocratiaeth yn ehangach.

Nid unig ystyr cynyddu cynrychiolaeth menywod yw gwella'r gynrychiolaeth ar gyfer menywod; ei ystyr yw gwella cynrychiolaeth pawb. Mae'r dystiolaeth yn dangos mai un o'r prif rwystrau i ethol menywod yw'r ffaith nad yw rhai pleidiau gwleidyddol wedi cyflwyno ymgeiswyr benywaidd mewn niferoedd sy'n ddigonol. Mae'r duedd hon yn berthnasol yng Nghymru hefyd. Yn etholiad diweddaraf y Senedd, yn 2021, llai na thraean o'r 470 o ymgeiswyr a gyflwynwyd gan bleidiau gwleidyddol yng Nghymru oedd yn fenywod—31 y cant yn unig. Nod y Bil hwn yw unioni'r anghydbwysedd hwn er mwyn i Seneddau'r dyfodol fod yn fwy effeithiol. Mae cwotâu rhywedd ar gyfer etholiadau yn gyffredin ledled y byd ac maen nhw'n cael eu defnyddio mewn mwy na 130 o wledydd erbyn hyn. Mae tystiolaeth o wledydd fel Sbaen, Gwlad Belg ac Iwerddon yn dangos bod cwotâu rhywedd yn gallu bod yn ffordd effeithiol o gynyddu nifer y menywod sy'n cael eu hethol i seneddau. Cynyddodd nifer y menywod yn seneddau 11 gwlad yr UE a wnaeth ddefnyddio cwotâu rhywedd hyd at bron i deirgwaith yn gynt nag yng ngwledydd yr UE nad oedd â chwotâu.

Llywydd, mae'r Bil hwn yn cyflwyno gofynion a gynlluniwyd i sicrhau'r cyfle gorau posibl o gyflwyno Senedd sy'n adlewyrchu bras gyfansoddiad Cymru o ran rhywedd. Bydd y Bil yn ei gwneud hi'n ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyflwyno mwy nag un ymgeisydd mewn etholaeth i sicrhau y bydd menywod yn llunio o leiaf hanner y rhestr. Mae'r Bil yn cyflwyno gofynion hefyd sy'n ymwneud â lleoli menywod ar restrau plaid, ar gyfer sicrhau cyfran gyfrannol o safleoedd rhestr fwy enilladwy i fenywod. Bydd angen i bleidiau roi menyw ar frig o leiaf hanner eu rhestrau ymgeiswyr etholaeth ledled Cymru. Bydd yn rhaid i ymgeisydd ar restr nad yw'n fenyw gael ei ddilyn gan fenyw. Bydd cyflwyno trothwy o 50 y cant o leiaf i fenywod yn arwain at gynnydd yn y menywod sy'n ymgeiswyr yn etholiadau'r Senedd, ac mae'r cam ychwanegol o gyflwyno meini prawf lleoliad yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd cyfran uwch o ymgeiswyr a gaiff eu hethol yn fenywod.

I sicrhau y gellir gweithredu'r gofynion rhestr ymgeiswyr yn effeithiol, mae'r Bil yn darparu system orfodi a gaiff ei rhoi ar waith drwy is-ddeddfwriaeth, ac fe fydd swydd newydd y swyddog cydymffurfio enwebiadau cenedlaethol yn cael ei chreu i gefnogi'r gorfodi, ochr yn ochr â'r swyddogion canlyniadau etholaethau.

Llywydd, o adroddiad y panel arbenigol, 'Senedd sy'n gweithio i Gymru', hyd at adroddiad y pwyllgor diben arbennig a'r argymhellion ynddo a gefnogwyd gan fwyafrif yn y Senedd hon, canlyniad y ddeddfwriaeth hon fyddai Senedd sy'n gallu tynnu oddi ar ystod ehangach o brofiadau bywyd, Senedd fwy cynrychioliadol a fydd mewn sefyllfa well i ymgysylltu â'r cymunedau amrywiol yr ydym ni'n eu cynrychioli, ac, yn hollbwysig, Senedd fwy effeithiol a fydd yn hwyluso craffu a gwneud penderfyniadau sy'n fwy effeithiol o ganlyniad i hynny.

Mae'r Bil hwn, ynghyd â Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), yn bwrw ymlaen â'r rhan fwyaf o argymhellion y pwyllgor diben arbennig. Yn ogystal â hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fwrw ymlaen ag argymhellion y pwyllgor diben arbennig sy'n ymwneud â gwybodaeth ynglŷn ag amrywiaeth ymgeiswyr y Senedd a strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant. Fe fyddwn ni'n ceisio cyhoeddi canllawiau i annog y pleidiau gwleidyddol, sef amddiffynwyr pwysig cynrychiolaeth wleidyddol, i gyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer etholiadau Cymru. Fe fydd y gwaith yn ategu ein gwaith yn fwy eang i greu Cymru fwy cyfartal, fwy cynhwysol—gwaith a arddangosir yn y 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', y cynllun gweithredu LHDTC+, a'r tasglu hawliau pobl anabl.

Llywydd, mae'r Bil hwn yn ymwneud â chyflwyno Senedd fwy effeithiol, ac rwy'n obeithiol y bydd y diwygiadau yn y Bil hwn yn rhoi'r hyder i fenywod amrywiol Cymru, ar draws y sbectrwm gwleidyddol, gynnig eu henwau i sefyll yn llwyddiannus fel ymgeiswyr yn etholiadau'r Senedd ac, yn eu tro, yn caboli gwaith y Senedd hon. Mae gan fenywod gymaint i'w gynnig a allai fod o fudd i bawb yng Nghymru.

Fe hoffwn i ddiolch i'r holl randdeiliaid sydd wedi gweithio gyda ni ar y daith hon i gyflwyno deddfwriaeth arloesol yr ydym ni'n ffyddiog y bydd hi'n gwneud gwahaniaeth parhaol i'r Senedd hon a phobl Cymru. Rwy'n falch o fod yn cyflwyno Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) ychydig ddyddiau ar ôl Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau a phwyllgorau'r Senedd i sicrhau hynt y Bil i'r llyfr statud. Diolch yn fawr.

15:00

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y copi ymlaen llaw o ddatganiad heddiw ac, yn wir, am y briffio a gynhaliodd ar fy nghyfer i, gyda'i swyddogion, ar ddiwedd yr wythnos diwethaf?

Mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n bryderus iawn ynglŷn â'r ffaith fod y Bil hwn yn cael ei drafod yn y Senedd heddiw, a'r rheswm am y pryder hwnnw yw oherwydd, fel gŵyr pawb ohonom ni yn y Senedd hon, mae'r Llywydd wedi ysgrifennu at bob Aelod o'r Senedd i ddweud, yn ei barn hi, a'r farn yn y cyngor cyfreithiol a dderbyniodd hi, sy'n gyson â'r cyngor a roddwyd i'r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd, yr oeddwn i'n Aelod ohono, nid yw'r darn arbennig hwn o ddeddfwriaeth o fewn cymhwysedd y Senedd. Ac rwyf i o'r farn—ac rwy'n credu y bydd pobl Cymru o'r farn—mai peth rhyfeddol yw bod y Senedd hon yn defnyddio amser, egni ac adnoddau wrth ganolbwyntio ar ddarn o ddeddfwriaeth nad yw'r cymhwysedd ganddi i allu ei chyflawni, yn hytrach na chanolbwyntio ar bryderon bob dydd pobl Cymru, fel y GIG, cyfundrefn ein hysgolion, ein heconomi, ein system drafnidiaeth ac ati. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n ofidus ac, yn amlwg, er bod yr hawl gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno darn o ddeddfwriaeth fel hon, rwy'n disgwyl y dylai hynny fod yn destun craffu manwl, trwy broses craffu'r Senedd, gyda'r broses bwyllgora sydd gennym. Er hynny, fel gwyddoch chi, Gweinidog, y Llywodraeth, gyda chefnogaeth Plaid Cymru—nid wyf i'n gwybod pam—sydd wedi penderfynu y byddai cyfnod craffu byrrach yn briodol ar gyfer y Bil hwn, gyda chyfnod craffu byrrach nag arfer. Fe fyddwch chi'n torri ar gyfle'r pwyllgor i ymgymryd â'i waith pwysig ar y Bil hwn, er gwaethaf yr amheuaeth enfawr ynghylch cymhwysedd y Senedd hon i allu deddfu yn y maes. A chanlyniad hynny fydd, yn lle bod â 12 wythnos i'r pwyllgor allu ystyried Cyfnod 1 cyn adrodd, dim ond naw wythnos a fydd ganddo. Mae hynny'n golygu llai o amser i ymgysylltu â rhanddeiliaid, llai o amser i ymgysylltu â'r cyhoedd, ynglŷn â Bil sy'n bwysig iawn yn fy marn i. Yn ogystal â hynny, fe fydd yna lai o amser nag arfer i gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 a Chyfnod 3. Ac felly, fore heddiw, cyflwynwyd cyfle amgen ar gyfer yr amserlen i'r Bil hwn yn y Pwyllgor Busnes, ond unwaith eto, fe gafodd hynny ei wrthod gan eich plaid chi. Fe fyddwn i'n ddiolchgar i gael esboniad eglur ynghylch pam rydych chi o'r farn fod hynny'n briodol, o ystyried maint y Bil hwn a'i bwysigrwydd i'r Senedd hon. Mae hi'n eironig, onid yw hi, y gwrthodwyd y cyfle i ni graffu ar becyn o ddiwygiadau, diwygiadau i'r Senedd, y gobeithir y bydd yn gwella'r broses graffu yn y lle hwn—collwyd y cyfle i wneud cyfiawnder â'r broses graffu honno.

Nawr, os caf droi at y pwyntiau yr ydym ni'n cytuno â'r Llywodraeth ynglŷn â nhw, rydym ni'n cytuno â'r Llywodraeth ynglŷn â'r angen i bob plaid wleidyddol yng Nghymru wneud mwy i fynd i'r afael â'r diffyg amrywiaeth yn y Senedd hon ac, yn wir, ymhlith ein hymgeiswyr sy'n cael eu cyflwyno i'w hethol i'r Senedd hon. Nid oes unrhyw gwestiwn ynglŷn â hynny. Nid yw fy mhlaid i, yn arbennig, wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran taro'r cydbwysedd rhwng y rhywiau cywir. Rydym ni wedi bod yn llwyddiannus iawn ynglŷn ag agweddau  eraill ar amrywiaeth ac, yn amlwg, roeddem ni'n falch iawn o groesawu'r fenyw gyntaf o liw i'r Senedd hon ar ein meinciau ni. Yn wir, rydym ni wedi gwneud yn bur dda heb y math o wahaniaethu cadarnhaol sy'n cael ei argymell gan y Blaid Lafur. Rwy'n gallu gweld y Prif Weinidog yn edrych ar ein meinciau ni nawr.

15:05

Ie, rwy'n gallu gweld eich bod chi'n chwilio am fenyw. Rwyf i'n chwilio am agweddau eraill ar amrywiaeth sydd ar goll o'ch meinciau chi, Prif Weinidog, ac rwy'n siŵr y byddech chi'n derbyn bod angen i chi wneud yn well ynglŷn â'r rhai o grwpiau lleiafrifoedd ethnig a dangynrychiolir yn y Senedd hon, a grwpiau oedran a dangynrychiolir, pobl anabl a dangynrychiolir, grwpiau ffydd arbennig a dangynrychiolir yn y Senedd hon—mae pob math o agweddau ar amrywiaeth sy'n cael eu tangynrychioli yn y Senedd hon y carai fy mhlaid a minnau wneud yn well yn hynny o beth.

Yr hyn yr ydym ni'n anghytuno ag ef yw canolbwyntio mwy a blaenoriaethu rhywedd yn hytrach na'r agweddau eraill hyn i gyd sydd ar amrywiaeth, ac yn sicr nid ydym ni'n cytuno y dylai unrhyw ofynion statudol neu gwotâu fod o ran amrywiaeth. Rydym ni o'r farn y dylai pobl gael eu hethol i'r Senedd hon ac y dylen nhw fod yn ymgeiswyr i'w hethol i'r Senedd hon ar sail teilyngdod—ac rwy'n gallu clywed pobl yn ailadrodd y geiriau hynny—ar sail teilyngdod, nid oherwydd lliw eu croen, nid oherwydd y ffaith eu bod nhw'n hunanddiffinio yn ddyn neu'n fenyw, nid oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol neu unrhyw beth arall, ond am fod pobl yn dymuno eu hethol nhw. Ac rydym ni'n credu y dylai unrhyw un fod â chyfle i gael ei ethol. Felly, dyna pam y byddwn ni'n gwrthwynebu'r Bil hwn a'r amser yr wyf i'n credu y bydd yn cael ei wastraffu yn y Senedd hon, am ei fod yn fater a gedwir yn ôl gan Senedd y DU.

O ran diben y Bil, mae hi'n gwbl amlwg mai ar gyfer hyrwyddo'r cyfleoedd i fenywod y mae'n bodoli. Mae'n gorwedd yn amlwg yn adran cydraddoldeb y gyfraith, a gedwir yn ôl gan Senedd y DU, ac nid yw'n cyflawni'r addewid a wnaeth cyn-arweinydd Plaid Cymru a'r Prif Weinidog wrth ddweud yn glir iawn eu bod nhw am gyflwyno am-yn-eilio gorfodol ar restrau. Nid oes rheidrwydd gorfodol i am-yn-eilio ar y rhestrau penodol hyn yn unol â'r Bil gerbron i ni heddiw, oherwydd, fel gwyddoch chi, Gweinidog, mae'r Bil yn darparu ar gyfer rhestrau sy'n cynnwys menywod yn unig ond nid ar gyfer rhestrau sy'n cynnwys dynion yn unig. Nid cydraddoldeb mo hynny. Nid oes angen am-yn-eilio mewn ffordd benodol. Yr unig beth y mae'n ei atal yw cael enwau dau ddyn yn dilyn ei gilydd ar restr. Dyna'r unig beth y mae'n ei atal. Nid yw'n cyflwyno unrhyw fath o am-yn-eilio, sy'n groes i'r egwyddor a nododd y Prif Weinidog yn y datganiad ar y cyd ag arweinydd Plaid Cymru yn ôl ym mis Mai 2022, ac, yn wir, y llynedd, pan oedd y Prif Weinidog yn awyddus i weld cynnydd ynglŷn â phwnc diwygio'r Senedd yn ei gyfanrwydd. Nid yw'r Bil hyd yn oed yn diffinio'r hyn yw menyw mewn gwirionedd, ac rwy'n dymuno gofyn i chi, Gweinidog—efallai y gwnewch chi ddweud wrthym ni beth yw menyw, oherwydd, hyd y gwelaf i, mae'n caniatáu i bobl hunanddiffinio yn fenyw neu beidio ar eu hystyriaeth eu hunain. Nid oes unrhyw gosb ar wyneb y Bil i'r rhai sy'n honni eu bod yn fenywod ac mae hi'n amlwg nad ydyn nhw ddim, er enghraifft, sy'n ymddangos yn rhywbeth anarferol hefyd.

Felly, mae hyn yn gyfystyr â hunanddiffinio drwy'r drws cefn. Nid yw'r cymhwysedd gennym ni i allu cyflawni. Rydych chi wedi byrhau'r broses graffu, er eich bod chi'n dweud eich bod chi'n ceisio gwella prosesau craffu'r Senedd. Nid oes unrhyw ofyniad yma am—ac rwy'n credu y dylem ni fod â gofyniad yma, gyda llaw—. Nid oes gofyniad statudol ar gyfer strategaethau amrywiaeth i bleidiau gwleidyddol. Fe fyddwn i'n croesawu hynny. Rwy'n credu bod hynny'n beth da, cadarnhaol y gallech chi fod wedi ei gynnwys yn y Bil, ond ni wnaethoch chi drafferthu gwneud hynny, er gwaethaf y ffaith bod hwnnw hefyd yn argymhelliad oddi wrth y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd. Felly, annibendod llwyr yw hwn. Nid wyf i'n credu y dylai weld golau ddydd. Fe fyddwn i'n holi beth oedd rhesymeg Llywodraeth Cymru wrth ei ddodi gerbron.

Ac un cwestiwn olaf os caf i—a diolch i chi am roi'r cyfle i mi graffu ar hwn, Llywydd—ac mae hwnnw ar bwnc costau. Rwyf i wedi edrych drwy'r memorandwm esboniadol ac mae'n awgrymu mai ychydig iawn o gostau fydd yn gysylltiedig â hyn, ond fe wyddom ni i gyd yn na fydd hynny'n wir, oherwydd fe fydd yna heriau cyfreithiol sylweddol pe byddai'r Bil hwn yn symud yn ei flaen, nid yn lleiaf, yn ôl pob tebyg, yn y Goruchaf Lys, ac fe wyddom ni pa mor ddrud yw'r achosion hynny. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym ni a oes yna amcangyfrif o'r costau, a ydych wedi gwneud unrhyw ddarpariaeth yn Llywodraeth Cymru ar gyfer y mathau hynny o gostau? Ac a wnewch chi ddweud wrthym ni hefyd beth yw costau cyflwyno hwn heddiw hyd yma, o ran costau cyngor cyfreithiol a gwaith arall a wnaeth Llywodraeth Cymru ynghylch y cymhwysedd deddfwriaethol? Oherwydd pan wyf i'n edrych yn y memorandwm esboniadol, mae'n awgrymog iawn. Nid oes unrhyw wybodaeth am gymhwysedd deddfwriaethol heblaw am un frawddeg—brawddeg unigol—ar ddalen hollol wag fel arall. Ac o gofio mai hwnnw yw'r marc cwestiwn mwyaf ym meddwl pobl ynglŷn â'r Bil hwn, fe fyddech chi wedi credu y byddai ychydig mwy o wybodaeth yn cael ei rhoi na dim ond un frawddeg yn dweud bod hyn, yn eich barn chi, o fewn cymhwysedd.

15:10

Diolch yn fawr, Darren Millar. Wel, rwy'n falch iawn eich bod chi'n dweud bod hwn yn Fil pwysig iawn, oherwydd y mae ef. Mae'n ddarn arloesol o ddeddfwriaeth. A ddoe, wrth i mi gyhoeddi'r Bil hwn, fe ddaeth llawer o groeso iddo o bob cwr o Gymru, ac rwy'n credu mai dyma un o'r pethau diddorol, nad wyf i'n siŵr a ydych chi'n cydnabod cymaint o ymgysylltiad sydd wedi bod. Rwy'n troi at Gadeirydd y pwyllgor diben arbennig nawr, ond cyn hynny at Dawn Bowden, a'r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd. Yn ôl ym mis Ebrill 2022, roedd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, sy'n cynrychioli sefydliadau ar draws Cymru gyfan, o Ferched y Wawr hyd at sefydliadau menywod a grwpiau Cymorth i Fenywod, yr awdurdodau lleol, Cyngres Undebau Llafur Cymru, i gyd yn dweud eu bod nhw'n croesawu'r datganiad ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ynglŷn â chwotâu wedi'u rhwymo mewn cyfraith i'w cyflwyno ar gyfer etholiadau'r Senedd.

Ac rwy'n credu ei bod yn wych o beth eich bod chi wedi gwneud y pwyntiau hynny ynglŷn â'r angen am fwy o Aelodau'r Senedd sy'n fenywod ac o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae angen mwy o fenywod du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig arnom ni—mae pob plaid yn cydnabod hynny; rydym ninnau'n cydnabod bod—menywod LHDTC+, menywod anabl, menywod â nodweddion gwarchodedig eraill, a hefyd, fel dywedodd RhCM Cymru wrth groesawu'r Bil ddoe, ymgyrch 5050Amrywiol. Nawr, gadewch i ni gydnabod bod honno'n ymgyrch ar y cyd, nid yn unig gyda RhCM Cymru, ond gyda'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol, Cyngor Hil Cymru, EYST—y tîm cymorth ieuenctid ethnig—sy'n galw am gydbwysedd rhwng y rhywiau ymhlith Aelodau etholedig ar lefel genedlaethol a lleol.

Felly, rydym ni yma yn trafod Bil a gafodd ei gymeradwyo, ac yn wir o ran y dystiolaeth a ddarparwyd ers nifer o flynyddoedd, o ran ein cydnabyddiaeth o'r angen am ddiwygio'r Senedd. Oherwydd mae hyn yn dychwelyd at y ffaith—. Ac mae yna fenywod yn y Senedd hon yma—mwy mewn nifer, fe fyddwn i'n dweud, ar yr ochr yma i'r Senedd na draw fan acw, ond rydym ni'n cydnabod bod rhaid i ni fynd i'r afael â materion eraill hefyd o ran amrywiaeth. Ond mae mwy o fenywod yn y Senedd yn adlewyrchu cyfansoddiad rhywedd Cymru yn llawer gwell: sy'n beth da i wleidyddiaeth, da i gynrychiolaeth, a da ar gyfer llunio polisïau. A dyna'r hyn sy'n dod drwodd o ran cydnabyddiaeth i bwysigrwydd y Bil hwn heddiw.

Fe wnes i sylwadau am y materion o ran cymhwysedd, a chyda pob parch, yn fy natganiad llafar heddiw, Llywydd. Ond rydym ni'n bwrw ymlaen ag ewyllys y Senedd, sy'n cymeradwyo argymhellion y pwyllgor diben arbennig, ac rwyf i wedi gwneud y datganiad hwnnw. Fe ddywedais i, yn fy marn i, y byddai darpariaethau'r Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Ac rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n edrych ar ddiben y Bil. Fe wnaethoch chi sylwadau ar ddiben y Bil, Darren. Diben y Bil yw sefydlu Senedd fwy effeithiol ac, oherwydd hynny, mae'r Bil o fewn cymhwysedd y Senedd. Ac rwy'n credu bod y pwynt hwnnw ynglŷn â'r diben yn hanfodol yn hyn o beth. Oherwydd, os edrychwch chi ar y prawf a bennwyd yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, ac rwy'n dyfynnu:

'Penderfynir a yw darpariaeth Deddf Senedd Cymru yn ymwneud â mater a gedwir yn ôl trwy gyfeirio at ddiben y ddarpariaeth, gan ystyried (ymysg pethau eraill) ei heffaith yn yr holl amgylchiadau.' 

Dyna'r prawf. Dyna yw'r prawf am gymhwysedd. Diben y Bil hwn yw sefydlu Senedd fwy effeithiol. Siawns y gallwn ni gytuno ar y nod hwnnw, i sicrhau Senedd fwy effeithiol?

Rwyf i am wneud sylwadau ar y pwynt am yr amserlen, oherwydd mae'n bwysig, o ran adroddiad y pwyllgor diben arbennig, 'Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru', roedd yn nodi amserlen uchelgeisiol i weithredu diwygio'r Senedd mewn da bryd ar gyfer ein hetholiadau nesaf i'r Senedd yn 2026. Ac fe esboniodd  y Trefnydd—ac rwy'n gwybod hyn—yn ei llythyr hi at y Pwyllgor Busnes, fel rydych chi'n ymwybodol, wrth gwrs, Darren, bod yr amserlen a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru yn sylfaenol ar gyfer cynnal llwybr at weithredu'r mesurau mewn da bryd ar gyfer etholiadau'r Senedd 2026. Felly, rydym ni'n gweithio i sicrhau y bydd y mesurau ar waith cyn yr etholiad hwnnw.

Ac mae hyn yn rhan o becyn diwygio'r Senedd, ynghyd â Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Yr wythnos diwethaf, roeddem ni'n trafod hynny, fe wnaethom ni dywys hynny drwodd, ac mae'r pwynt pwysig hwnnw sef fod hyn yn rhan o'r pecyn hwnnw o ddiwygiadau i'r Senedd. Byddai oedi hynt y Bil am fis hyd yn oed—. Ac mae hyn yn bwysig i'r rhanddeiliaid i gyd ac, yn wir, i'r pwyllgor, yn amlwg, pwyllgor diwygio'r Senedd, allu craffu ar y Bil. Fe fyddai oedi hynt y Bil am fis hyd yn oed yn arwain at oblygiadau ar gyfer y gwaith gweithredu hwnnw, i weinyddwyr etholiadol a phleidiau gwleidyddol fod ag amser i baratoi ar gyfer yr etholiad ar ôl i'r ddeddfwriaeth berthnasol gael ei llunio. Rwy'n credu bod hyn yn dychwelyd at y ffaith mai taith yw hon yr ydym ni wedi bod arni—taith ar raddfa fawr—sydd wedi cynnwys y rhanddeiliaid hynny i gyd yr wyf i wedi cyfeirio atyn nhw. Mae'n ymwneud â'r gymdeithas ddinesig; mae'n ymwneud a'r cyfle sydd gennym ni i gyflawni'r ddeddfwrfa honno i Gymru a fydd yn fwy cynrychioliadol ac effeithiol, ac rwy'n credu ein bod ni wedi ein hymrwymo i gyflawni hynny.

Fe hoffwn i godi rhai o'ch pwyntiau mwy technegol—rwy'n siŵr y byddwn ni'n trafod hyn ym mhwyllgor diwygio'r Senedd. Nid yw'r rheolau yn y Bil hwn yn atal dull am-yn-eilio. Bydd rhestr sy'n mynd am yn ail rhwng ymgeiswyr sy'n fenywod ac ymgeiswyr nad ydyn nhw'n fenywod yn cydymffurfio yn gyfan gwbl â'r rheolau fertigol, cyhyd â bod o leiaf hanner yr ymgeiswyr yn fenywod. A thrwy fynnu bod menyw yn dilyn unrhyw ymgeisydd nad ydyw'n fenyw ar restr, mae'r rheolau yn sicrhau y bydd menywod, o leiaf, yn cael eu rhoi ym mhob man arall ar restr. Ond pe byddai rhestr yn rhoi menyw yn union syth ar ôl menyw arall, fe fyddai'r rhestr honno yn cydymffurfio. Nawr, fe fyddwn ni'n edrych ar y materion hyn i gyd wrth i ni symud ymlaen at y gwaith craffu.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i chi godi'r materion hyn am amrywiaeth, a'r ffyrdd y gallwn ni fwrw ymlaen â hyn, oherwydd mae hyn yn ymwneud—. Fe edrychodd y pwyllgor diben arbennig ar hyn yn ofalus iawn—ac fe fyddwn ni'n clywed oddi wrth Gadeirydd y pwyllgor hwnnw. Roedden nhw'n edrych, ar sail drawsbleidiol—ac rwy'n credu eich bod chi'n rhan o rai o'r trafodaethau hynny—ar gwotâu amrywiaeth, i'w gweithredu rywbryd yn y dyfodol. Ond, yn y cyfamser, mae'r camau y gallwn ni eu cymryd, ochr yn ochr â chwotâu rhywedd, yn fy marn i, yn bwysig.

Fe wyddoch chi fy mod i wedi dweud yn fy natganiad llafar ein bod ni'n annog y pleidiau gwleidyddol i gyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer etholiadau Cymru. Felly, rwy'n cymryd, o'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud, Darren, y byddwch chi—y bydd y Ceidwadwyr Cymreig—yn cyhoeddi eich strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant. Fe wn i y bydd pob un o'r sefydliadau—y Gymdeithas Diwygio Etholiadol a RhCM Cymru—eisiau annog, yn awyddus i gefnogi hyn. Maen nhw wedi bod yn gweithio gyda phleidiau gwleidyddol ar draws y Siambr. Fe fydd angen i ni wneud hynny, o ran y paratoadau, i sicrhau y bydd tryloywder gennym ni o ran gwybodaeth ynglŷn ag amrywiaeth ar gyfer ymgeiswyr i'r Senedd. Mae hynny'n parhau, ac rydym ni'n archwilio sut y gallwn ni annog a chefnogi'r pleidiau gwleidyddol i wneud rhagor yn y maes hwn.

Nawr, rwy'n credu mai'r peth pwysicaf yw mai menywod yw'r mwyafrif sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y Senedd hon—yn sicr, fe fyddai'n rhaid i mi ddweud, yn grŵp y Ceidwadwyr Cymreig—felly, ein canolbwynt ni am y tro—[Torri ar draws.] Felly, ein canolbwynt ni am y tro yw'r cwotâu rhywedd. Mae atgofion melys iawn gennyf i, mewn gwirionedd, o siarad â nhw—[Torri ar draws.]

15:20

Fe hoffwn i glywed y Gweinidog nawr, os gallwch chi ddistewi ychydig bach.

Fe wnaf orffen gyda'r pwynt hwn, gan fy mod i am ganolbwyntio ar rywbeth pwysig iawn—[Torri ar draws.]

Diolch yn fawr, Llywydd. Dyma pam mae angen Senedd â chydbwysedd rhwng y rhywiau arnom ni.

Diolch i chi. Ystyriwch yr iaith a ddefnyddiwch chi, hyd yn oed pan na fydd y meicroffon yn codi'r sain. Y Gweinidog i fynd yn ei blaen, os gwelwch chi'n dda.

Roeddwn i am ddweud fy mod i'n gweld eisiau'r ymgysylltiad deallus a gefais i â rhai o'ch cyn-Aelodau. Rwy'n falch iawn fod Aelodau benywaidd y Ceidwadwyr Cymreig wedi dod i'n cyfarfodydd cawcws y menywod, ac, mewn gwirionedd, eich cyn-Aelod—cyd-Aelod yn y Ceidwadwyr Cymreig. Rwy'n gallu cofio Suzy Davies, sydd â rhan rwy'n credu, fel ymddiriedolwr RhCM Cymru, yn siarad ac ymgysylltu yn wirioneddol â ni. Mae cawcws y merched, yn fy marn i, yn bwysig iawn.

Dim ond pythefnos yn ôl, roeddwn i yn Iwerddon yn clywed am effaith fuddiol cwotâu rhywedd—fel dywedais i, mewn 130 o wledydd ledled y byd. Rwy'n falch eich bod chi'n deall bod hwn yn Fil pwysig, a'ch bod chi'n cytuno â'r Llywodraeth ynglŷn â'r angen am fwy o amrywiaeth. Fe fydd y Bil hwn yn ein helpu ni i symud at fwy o amrywiaeth, ond fe fydd yn symud at gynrychiolaeth—o ran cynrychiolaeth rhywedd—er mwyn y bobl yng Nghymru sydd â'r gynrychiolaeth leiaf yn y Siambr hon. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y gwaith craffu hwn a'r ymgysylltu a gawn ni ond, os gwelwch chi'n dda, gwrandewch ar y bobl y tu allan i'r Siambr hon hefyd, sydd wedi estyn cymorth i'n dwyn ni ar y daith hon. Diolch yn fawr.

Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw. Hir yw pob ymaros, a dwi’n falch o weld y Bil pwysig yma yn dechrau ar ei daith drwy’r Senedd heddiw. Mae’n amserol ein bod yn trafod y Bil yn dilyn cwblhau Cyfnod 2 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn llwyddiannus wythnos diwethaf, gan fod darpariaethau’r ddau Fil yn ategu ei gilydd ac yn rhan greiddiol o’r pecyn cytunedig ar gyfer diwygio’r Senedd sydd wedi’i gytuno gan ddwy ran o dair o Aelodau'r Senedd yma, a hefyd, wrth gwrs, wedi’i gytuno gan strwythurau democrataidd Plaid Cymru a’r Blaid Lafur.

Fel agweddau eraill ar y pecyn, dydy o ddim yn cyflawni ein holl ddyheadau ar unwaith, wrth gwrs, ond a ydy’r Gweinidog yn cytuno mai’r peth pwysig yn achos y Bil yma, fel y Bil cyntaf, yw cael y diwygiadau ar waith erbyn 2026? Roeddwn yn falch o glywed ymrwymiad y Llywodraeth, felly, i weithio efo Aelodau i sicrhau bod y Bil yn cyrraedd y llyfr statud, ac mi rwyf innau yn edrych ymlaen at ddechrau ar y gwaith craffu yfory yn y Pwyllgor Biliau Diwygio, pan ddaw’r Gweinidog a’i swyddogion ger ein bron, gan nad oes amser i’w wastraffu.

Y nod canolog sy’n gyrru popeth yw creu Senedd fwy effeithiol ar ran ac ar gyfer pobl Cymru. Agwedd arall, felly, ar ehangu cynrychiolaeth ac effeithiolrwydd y Senedd yw hyn, yn union yn yr un modd ag ehangu nifer yr Aelodau a chyflwyno system etholiadol lle etholir pob Aelod yn llwyr drwy gynrychiolaeth gyfrannol. Fe fydd hyn yn gwneud y Senedd yn fwy cynrychioladol o’r bobl a’r genedl y mae’n anelu i’w cynrychioli ac yn gwneud y sefydliad yn fwy effeithiol.

Mae Senedd lle mae merched, sy’n fwyafrif o boblogaeth Cymru yn ôl cyfrifiad 2021, yn parhau’n lleiafrif yn effeithio’n andwyol ar allu’r Senedd i weithredu’n effeithiol ac ar ei gallu i adlewyrchu’n gyflawn y wlad y mae’n ceisio ei chynrychioli. Does bosibl y byddai’n llesteirio cyflawniad y nod canolog sy’n sail i ddiwygio’r Senedd, sef i greu sefydliad mwy pwrpasol a grymus i gario allan ewyllys ddemocrataidd pobl Cymru, os ydym yn ailgreu ar raddfa fwy eang, mewn Senedd o 96 Aelod, y methiant sydd wedi bod i greu Senedd sy’n adlewyrchu’r boblogaeth honno ym mhob Senedd o 60 Aelod, heblaw am y cyfnod 2003 i 2007.

Mae’n glir, fel dywedodd y Gweinidog, fod gennym ni broblem ddifrifol lle mai dim ond 31 y cant o ymgeiswyr yn etholiad Senedd 2021 oedd yn ferched. Rydym ni wedi clywed bod deddfwrfeydd sydd fwy neu lai yn gytbwys o ran rhywedd, yn ogystal ag adlewyrchu a chynrychioli’r boblogaeth yn well, yn fwy effeithiol o ran ystod eu harbenigeddau polisi, o ran integriti mewn bywyd cyhoeddus ac o ran datblygu arddulliau arweinyddol gwahanol. Mae'n glir hefyd fod mecanwaith o’r math yma yn codi’r bar i bawb ac yn gwella safon ein gwleidyddiaeth i bawb. Democratiaeth sy'n elwa. Mae’n amlwg, os am warantu bod y Senedd newydd yn driw i’r addewid, y bydd angen i’r pleidiau gwleidyddol i gyd chwarae rhan yn hynny, ac mae’r Bil yma yn darparu mecanwaith statudol clir ac ymarferol er mwyn ceisio sicrhau hynny.

Rydym ni eisoes wedi clywed lot o sŵn o du’r Ceidwadwyr—ac mi glywn ni mwy, dwi'n siŵr—am yr hyn nad ydy'r Bil yn ei wneud. Ond, beth am ganolbwyntio ar yr hyn mae'r Bil yn ei wneud? Mae'n cyflwyno mecanwaith bragmataidd fydd yn gweithredu o fewn y cyfundrefnau seneddol, etholiadol a democrataidd sy’n gyfarwydd i ni, ac mae’r Bil cyntaf yn eu datblygu ymhellach, y system o restrau rhanbarthol, y broses o enwebu i fod yn ymgeisydd, ac yn y blaen.

Yn ogystal â bod y genedl gyntaf ym Mhrydain i gael gwared ar y drefn hen ffasiwn cyntaf i’r felin ar lefel genedlaethol, a'i chyfnewid am system gynrychiolaeth gyfrannol, Cymru fydd y wlad gyntaf ym Mhrydain hefyd i gyflwyno cwotâu rhywedd ar lefel seneddol. Mae hyn yn ddatblygiad radical ac arloesol gyda’n Senedd ni yn arwain, ac yn arwydd o’r wlad annibynnol, uchelgeisiol yr ydym yn gweithio tuag at ei chreu, lle bydd Aelodau yn ein deddfwrfa genedlaethol yn adlewyrchu’r boblogaeth.

A man cychwyn yn unig yw hyn, wrth gwrs. Ac i’r rheini sydd ddim eto’n rhannu ein huchelgais o ran dyfodol cyfansoddiadol Cymru, mae hyn yn arwydd o’n difrifoldeb i greu Senedd go iawn, aeddfed ac effeithiol, lle rydym yn gallu bod yn aeddfed hefyd am farn wahanol ar fater cymhwysedd, sydd ddim mewn unrhyw ffordd—fel mae llythyr y Llywydd ei hun i’r Pwyllgor Biliau Diwygio yn cydnabod—yn atal y Senedd rhag gwneud popeth yn ei gallu i roi’r Bil yma ar y llyfrau statud, mewn lle erbyn 2026, a dyna fyddwn ni’n gweithio’n adeiladol i geisio ei gyflawni. Nid er ein mwyn ni y mae hyn, y rhai ohonom ni sydd yma rŵan, ond er mwyn pobl Cymru a'u Senedd nhw.

15:25

Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Mae hwn yn brynhawn cyffrous; mae hwn yn brynhawn pwysig iawn i ni yn ein Senedd. Mae'r rhestr ymgeiswyr etholiadol yn rhan o'r pecyn hwnnw o ddiwygiadau, fel roeddech chi'n dweud, i gyflawni ein hymrwymiad i lunio Senedd sy'n ddeddfwrfa fwy effeithiol ar gyfer ac ar ran pobl Cymru. Rwy'n gweld hynny'n eglur iawn yn ysbryd llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ein pobl ifanc a'r hyn y maen nhw'n ei ragweld a fydd yn gyfleoedd i gyfranogi a dilyn ymlaen ar y gwaith a wnaethom ni. Ac, wrth gwrs, mae'r gwaith wedi ei wneud—mae cymaint o'r gwaith wedi ei wneud. Ac rwy'n credu mai dyma'r pwynt, mai'r craffu y mae angen iddo ddigwydd nawr yw craffu ar y Bil, ond mae'r dystiolaeth sydd gennym ni sydd wedi arwain, drwy'r pwyllgor diben arbennig, at y Bil hwn, yn eang iawn. Rwyf i am sôn ychydig bach am hynny.

Pleidleisiodd mwyafrif o Aelodau'r Senedd o blaid hyn ym mis Gorffennaf 2022. Fe wnaethon ni bleidleisio am hyn, y pecyn cyfan o ddiwygiadau i'r Senedd. Fe wnaethon ni bleidleisio yma yn y Senedd hon ac roedd hynny'n adlewyrchu'r ymrwymiad arbennig hwnnw yn y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Roeddwn i'n Aelod, ac nid wyf i'n gallu cofio faint ohonom ni, y dynion a'r menywod sydd yma heddiw, gyda'i gilydd, oedd yn rhan o 2003, yr ail un—. Fe wn i Elin Jones, y Llywydd, fod yno oherwydd ein bod ni'n un o'r pedwar sydd ar ôl o ddosbarth 1999. Ond, yn 2003, roedd hi'n rhyfeddol bod gennym ni 50 y cant yn fenywod. Ar draws y byd, roedd pobl yn gofyn, 'Ym mha le y mae'r wlad hon, Cymru? Sut wnaethoch chi gyrraedd 50 y cant? Sut wnaethoch chi lwyddo i wneud hynny?' Wel, os edrychwch chi ar y ffigurau, fe wnaethom ni lwyddo yn bennaf oherwydd bod rhai pleidiau gwleidyddol wedi cymryd camau cadarnhaol. Yn wir, mae'r Blaid Lafur wedi cymryd camau cadarnhaol o'r diwrnod cyntaf yn ôl ym 1998, 1999 trwy ein system gefeillio. Mae mwy ohonom ni'r menywod wedi bod na dynion, onid ydym ni, yn ein grŵp Llafur ni? Yn effeithiol iawn. Ac yn wir, yn y Cabinet hefyd. Mae'n ymwneud â gweithredu cadarnhaol sy'n troi yn ddeddfwriaeth sy'n golygu y gall pawb elwa ar hynny, mewn gwirionedd.

Fe hoffwn i ddweud, o ran y ffyrdd yr ydym ni'n awyddus i fwrw ymlaen â hyn a'r diben—. Y pwynt hanfodol yw'r diben o ran cymhwysedd. Fe ddangosir bod deddfwrfa sydd â mwy o gydbwysedd rhwng y rhywiau yn atgyfnerthu ei dilysrwydd hi—mae hynny'n hanfodol—ein dilysrwydd ni wrth gynrychioli pobl Cymru. Fe all cynnydd yn nifer aelodau benywaidd, yn ôl y dystiolaeth, adfywio democratiaeth, a sicrhau bod diddordeb mewn gwleidyddiaeth ymhlith pleidleiswyr benywaidd yn cynyddu hefyd, pan fyddwch chi â mwy o ymgeiswyr benywaidd.

Roeddwn i yn Iwerddon rai wythnosau yn ôl. Pan wnaethon nhw ddechrau cyflwyno cwotâu, o sylfaen isel iawn yn Iwerddon, mewn gwirionedd, roedd ganddyn nhw 90 y cant yn fwy o ymgeiswyr benywaidd yn yr etholiad, ac yna fe etholwyd dros 40 y cant eto. Fe gwrddais i â rhai menywod busnes, menywod o'r byd academaidd—nid menywod gwleidyddol—mewn digwyddiad ar Ddydd Gŵyl Dewi. Roedden nhw'n ymdrechu, drwy fusnes, masnach, y sector cyhoeddus, y trydydd sector, i gyflawni er mwyn pobl y Weriniaeth, ar ran pobl Iwerddon, ond yn arbennig ar gyfer rhoi buddiannau menywod yn flaenllaw. Ac roedden nhw'n dweud, 'Mae angen i ni fod â menywod yn y Dáil, mae angen i ni fod â'r gynrychiolaeth honno'. Mae tystiolaeth o Iwerddon, Ewrop ac ar draws y byd yn dangos y gall cwotâu rhywedd fod yn effeithiol o ran tynnu mwy o fenywod i wleidyddiaeth, fel dywedais i.

Rwy'n ddiolchgar am eich pwyntiau chi. Rydym ni am symud ymlaen wedyn o ran y gwaith craffu. A gaf i ddweud hefyd bod hyn yn ymwneud â bod yn esiampl? Mae gennym ni bobl ifanc yma yn y Siambr—nid wyf i'n siŵr faint ohonyn nhw sydd yma gyda ni. Ac roedd gennym ni lawer o fenywod yma'r wythnos diwethaf, yn holi'r Cwnsler Cyffredinol am y ffordd ofnadwy y cafodd menywod y 1950au eu trin, ynghylch colli eu pensiynau. Fe ofynnodd Delyth Jewell gwestiwn i'r Cwnsler Cyffredinol. Roedd y Siambr yn llawn menywod o'r 1950au a'r 1960au sydd ar eu colled o ran eu pensiwn—mae pob cenhedlaeth o fenywod â diddordeb yn y pwynt hwn. A pha mor falch yr oedden nhw o glywed y Cwnsler Cyffredinol yn siarad ar eu rhan nhw. Rwyf i wedi cael yr adborth i'r perwyl hwnnw oddi wrth etholwyr, ac rwy'n gobeithio, ar draws y Siambr, eich bod chwithau wedi cael hynny hefyd. Ond chwedl Hillary Clinton, 'You can't be it if you can't see it'.' Mae angen menywod arnom ni mewn swyddi arweinyddiaeth er mwyn y menywod a'r merched yng Nghymru. Menywod sydd newydd eu hethol—ac fe gawn ni lawer mwy ohonyn nhw o ganlyniad i hyn—yn gallu gweithredu fel catalyddion i gael menywod eraill i sefyll mewn etholiad.

15:30

Diolch yn fawr, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn am seneddau sy'n cynrychioli eu cymunedau yn briodol ar gyfer gwneud penderfyniadau sy'n well, yn fwy deallus na'r rhai nad ydyn nhw'n gwneud felly. Ac felly, yn un o'n deddfwyr Cymreig gwreiddiol, fe hoffwn i ddechrau drwy ofyn beth yw eich myfyrdodau personol chi ar sut mae bod â chyfradd gymharol uchel o Aelodau Cynulliad benywaidd ac Aelodau'r Senedd wedi helpu'r Senedd hon i fod yn fwy effeithiol o ran gwneud penderfyniadau.

Yn ail, rwy'n nodi eich sylwadau ynghylch y profiad yn Iwerddon, a'ch sylwadau wrth ymateb i'r Aelod blaenorol, ers etholiad cwota rhywedd cyntaf y wlad yn 2016, bod nifer yr ymgeiswyr benywaidd sy'n ymgeisio yno wedi cynyddu 90 y cant, tra bod nifer y menywod a etholwyd wedi cynyddu 44 y cant. Serch hynny, o edrych ar yr enghraifft honno o Senedd Iwerddon ei hun, mae'r dynion yn fwy niferus na'r menywod yn ôl cymhareb o tua 3.5:1. Felly, fe fyddwn yn ddiolchgar pe byddech chi'n ymhelaethu ar sut, os caiff cynigion Llywodraeth Cymru eu dwyn ymlaen, y bydd mecanweithiau yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau nad yw cwotâu yn ddiwedd ar y mater, ac y bydd newid gwirioneddol yn cael ei gyflawni.

Diolch yn fawr, Vikki Howells. Rwyf i'n petruso braidd bob amser wrth fyfyrio ar brofiad personol, ond roeddwn i'n gweithio, cyn i mi ddod i'r Senedd hon, mewn awdurdod lleol—ac, mae'n rhaid i mi ddweud, mewn grŵp Llafur—lle nad oedd llawer iawn o fenywod. Mae llawer ohonoch chi wedi cael y profiad hwnnw, pan fyddai'r cyfarfodydd yn aml yn cael eu hagor gyda'r arweinydd a'r cadeirydd yn ddweud, 'Noswaith dda, bois'. Dyna sut fyd oedd hwnnw, ddegawdau lawer yn ôl yma yng Nghymru. Oherwydd yn sicr nid oeddem ni'n cael ein cydnabod fel menywod mewn gwirionedd. Ni lwyddais i erioed i fynd ymhellach na bod yn is-gadeirydd pwyllgor ar lefel lywodraeth leol. Felly, dyna pam, pan wnaethom ni gyflwyno ein hymgyrch 'Ie dros Gymru', yr oedd llawer ohonoch chi'n rhan o honno, roedd gennym ni ymgyrch dros gynrychiolaeth deg o fenywod, yr oedd Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a menywod Llafur yn rhan ohoni.

Mae'n rhaid i mi roi teyrnged i'r ddiweddar Val Feld, a oedd yn un o Aelodau etholedig cyntaf y Senedd hon ac a fu farw yn drist iawn—mae'r plac porffor yma er cof amdani—a sut y llwyddodd hi i gynnwys yr ymrwymiad yn ein deddfwriaeth ni i Lywodraeth Cymru hyrwyddo cyfle cyfartal. Ond, ar un ystyr, rydym ni wedi byw drwy gyfnod eithriadol i fod â Senedd sydd wedi gweld menywod mewn swyddi o rym ar draws y Senedd. Fel dywedais i, nid dim ond yn y Llywodraeth; yn Gadeiryddion pwyllgorau, y Llywydd—Y Fonesig Rosemary Butler cyn y Gwir Anrhydeddus Elin Jones. Rydym ni wedi bod â menywod yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau ac yn arweinydd ein grŵp ni, Vikki. Mae pob menyw yn y Siambr hon a thros y blynyddoedd wedi bod â rhan bwysig yn lluniad y ddemocratiaeth hon i Gymru'r ydym ni mor falch ohoni.

Ond rwy'n credu, hefyd, o ran yr hyn y mae hynny'n ei olygu, bod digon o dystiolaeth, ac rwy'n gobeithio y bydd y pwyllgor yn ystyried hyn. Mae menywod mewn gwleidyddiaeth, ac mae hyn yn deillio o dystiolaeth eang, yn blaenoriaethu gwahanol faterion polisi a deddfwriaethol, yn blaenoriaethu mathau arbennig o waith, e.e. gwaith etholaethol, a hyrwyddo ffyrdd penodol o weithio, ac ysgogi safon uwch o ymgeiswyr yn gyffredinol, creu esiamplau mewn swyddi o arweinyddiaeth wleidyddol, gan gynyddu cynrychiolaeth lleiafrifoedd, a hefyd, yn ddiddorol—tystiolaeth fyd-eang yw hon—yn cyfyngu ar lygredigaeth a gweithgarwch anfoesegol. Dyma'r lle yr ydym ni wedi ei gyrraedd—[Torri ar draws.] Fe allwch chi edrych ar y dystiolaeth, ac rwy'n siŵr y bydd y pwyllgor yn gwneud felly. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i Gymru ac mae'n gyfle i'r bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli. 

15:35

Diolch am y datganiad, Weinidog, ac am amlinellu mor glir mai nod y Bil hwn yw gwella'r ffordd mae'r lle hwn yn cynrychioli Cymru. Achos mae'n rhaid i ni ofyn y cwestiwn pam ein bod yn diwygio'r Senedd, os nad i wella'r modd y mae yn medru creu a chraffu ar bolisi sydd wedi ei anelu at wella bywydau pobl Cymru, achos heb newid amrywiaeth y rhai sy'n cael eu hanfon yma, i eistedd yn y Siambr yma i wneud hynny, ni fydd hynny'n digwydd. Mae'r cam pwysig hwn tuag at wella natur cynrychiolaeth ein cymunedau, cyfoethogi profiadau bywyd gwneuthurwyr polisi, yn un i'w groesawu, i'w gofleidio a'i gefnogi i'r eithaf. Weinidog, ŷch chi'n cytuno fod diwygio'r Senedd heb ddiwygio'r ffordd mae'n medru cynrychioli ein cymunedau drwy'r Bil hwn yn gam gwag, ac y bydd oedi pellach neu ddiffyg gweithredu yn peryglu nid yn unig y broses ddiwygio a'r nod o greu deddfwrfa fwy effeithiol i wasanaethu holl ddinasyddion Cymru, ond hefyd enw da y Senedd yn rhyngwladol? 

Diolch yn fawr, Sioned Williams. Rwyf i wedi dweud bod honno'n rhan bwysig iawn o'r pecyn i ddiwygio'r Senedd, ac nid oes unrhyw amheuaeth mai pecyn ydyw. Mae'n rhan hanfodol o'r pecyn hwnnw o ddiwygiadau i gyflawni'r ymrwymiad i'w gwneud yn ddeddfwrfa fwy effeithiol ar gyfer ac ar ran pobl Cymru. Rwy'n credu mai dyna pam mae hi mor bwysig unwaith eto i fyfyrio ar yr hyn a gaiff ei ddweud gan eraill am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud heddiw. Roedd ysgrifennydd cyffredinol TUC Cymru, Shavanah Taj, yn croesawu Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) heddiw:

'Yr un uchelgais sydd gennym ni â Llywodraeth Cymru o ran bod â Senedd fwy amrywiol, ac fe wyddom ni fod llawer o Aelodau'r Senedd a sefydliadau eraill yr un mor ymrwymedig i hyn hefyd. 

'Dylai gwleidyddiaeth—yn union fel pob agwedd arall ar fywyd cyhoeddus—adlewyrchu'r cymunedau a wasanaethir. Rydym ni'n falch fod gweithredwyr yn yr undebau llafur wedi mynd yn eu blaenau i ymgymryd â swyddogaethau blaenllaw mewn gwleidyddiaeth ac agweddau eraill ar gymdeithas sifil.'

'Bydd y ddeddfwriaeth hon yn sicrhau bod mesurau ar waith i wrthsefyll effeithiau niweidiol anghydraddoldebau strwythurol'—

Roeddem ni'n sôn am hyn yn gynharach heddiw—

'hiliaeth a mathau eraill o wahaniaethu... Gobeithiwn y bydd yn ennill cefnogaeth drawsbleidiol ac yn arwain at Senedd fwy cynrychioliadol sy'n deilwng o'n cenedl ni.'

Roedd cwestiwn cymhwysedd y Senedd gyda'r mater hwn bob amser yn debygol o gael ei herio. Am y bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn troi ei sylw at y Bil hwn, yn Gadeirydd iddo, rwyf i am ymatal rhag rhoi unrhyw sylwadau ar y mater hwn nawr, er y dylwn nodi, yn fy swydd flaenorol yn Gadeirydd y pwyllgor diben arbennig, roeddwn i'n dweud y gallai'r mater hwn gael ei herio ac y gallai'r dadleuon ar y naill ochr a'r llall fod yn gwrthbwyso ei gilydd i raddau helaeth iawn. Rwy'n nodi, ar wahân i fater cymhwysedd yn y Senedd hon yn y fan a'r lle nawr, fod deddfwriaeth o'r fath hon yn gyffredin iawn yn rhyngwladol ac fe'i defnyddiwyd i sicrhau bod y gynrychiolaeth mewn Seneddau eraill yn fwy adlewyrchol o'r boblogaeth ehangach trwy gyfrwng dyluniad a bwriad deddfwriaethol, ac nid yn ddamweiniol. Yn rhyngwladol, fe fu yna lawer o ymdrechion llwyddiannus i wrthdroi rhagfarnau hanesyddol a chymdeithasol gyda detholiad amrywiol o ymgeiswyr mewn seddau y gellid eu hennill. Nid ydym ni ar ein pennau ein hunain yng Nghymru, ac rydym ni ymhell o fod y rhai cyntaf i geisio sicrhau Senedd fwy cynrychioliadol drwy ddulliau deddfwriaethol a mynd yn fwy effeithiol oherwydd hynny. Rwy'n nodi bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo hefyd i fwrw ymlaen ag argymhellion y pwyllgor diben arbennig sy'n ymwneud â strategaethau gwybodaeth ynglŷn ag amrywiaeth a chynhwysiant amrywiaeth yr ymgeiswyr i'r Senedd. Felly, a gaf i ofyn, sut ydych chi am ymgysylltu â'r pleidiau gwleidyddol yng Nghymru i ddatblygu'r canllawiau hynny, ar gyfer hybu arfer gorau a thryloywder wrth hyrwyddo a dethol amrywiaeth ehangach o ymgeiswyr ar draws pob plaid wleidyddol? Ac yn olaf, Llywydd, nid y ffordd flaengar yw'r ffordd rwyddaf bob amser, ond honno yw'r ffordd gywir, felly pob lwc i chi gyda'ch bwriad ynglŷn â'r ddeddfwriaeth hon, Gweinidog.

15:40

Diolch yn fawr, Huw Irranca-Davies, a diolch am eich arweinyddiaeth. Roedd eich cadeirio o'r pwyllgor diben arbennig yn gyfraniad mor bwysig yn eich gyrfa wleidyddol—gobeithio y gwelwch chi hynny—ac yn eich bywyd chi hefyd. Roedd yn gyfraniad mor bwysig. Yn wir, pawb sydd wedi chwarae rhan hyd yn hyn—Dawn Bowden gynt yn cadeirio pwyllgor diwygio'r Senedd.

Fel y dywedwch chi, mae tystiolaeth o bob cwr o'r byd. Rwyf wedi sôn am y 130 o wledydd, ac mae gan dros hanner y systemau etholiadol ryw fath o gwota rhywedd mewn gwirionedd, felly pam na all Cymru fod y cyntaf yn y Deyrnas Unedig i symud ymlaen ar hyd y ffordd hon? Nid af yn ôl dros y materion yr ydym yn teimlo a fydd yn bwysig o ran y ffordd ymlaen, ond credaf ei bod yn bwysig ein bod yn gweld bod y rhain yn ffyrdd o weithio na ddylai, fel y dywedwch chi, fod ar ddamwain. Mae hyn yn ymwneud â dyluniad a bwriad deddfwriaethol. Dyna pam y mae hon yn broses briodol, sef cyflwyno'r Bil heddiw—llawer o graffu, llawer o ddatblygiad, llawer o drafod.

Fel y gwyddoch chi, mae'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol wedi bod yn gweithio gyda phleidiau gwleidyddol dros y blynyddoedd diwethaf, er nad yw pob un ohonyn nhw wedi ymgysylltu'n llawn, efallai. Roedden nhw'n sicr yn gweithio pan oeddech chi'n cadeirio eich pwyllgor, ac maen nhw'n barod i weithio gyda phleidiau gwleidyddol o ran gweithredu'r ddeddfwriaeth benodol rydyn ni'n ei thrafod heddiw o ran cwotâu rhywedd. Cwrddais â Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru yr wythnos diwethaf; maen nhw'n awyddus, fel y mae'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol, i weithio gyda phleidiau gwleidyddol ar y canllawiau hyn ar gyfer amrywiaeth a chynhwysiant. Rwy'n ddiolchgar iawn, Darren Millar, ein bod wedi cael cytundeb ein bod yn mynd i weithio ar hyn. Rwy'n gobeithio, gan fod yr holl arweinwyr yma heddiw, fod hynny'n ymrwymiad i'r strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant hynny, yr oeddech chi, wrth gwrs, yn edrych arnynt yn ofalus.

Does dim llawer o brofiad eto ar draws y byd o ran mynd i'r afael â'r materion hynny. Yr hyn rydyn ni'n ei wneud gyda'n cwotâu rhywedd yw system ymgeisio, nid system wrth gefn. Mae hwn yn benderfyniad pwysig sydd wedi ei wneud o ganlyniad i'ch tystiolaeth. Rydym bellach yn symud ymlaen gyda dyluniad a bwriad deddfwriaethol. 

Diolch, Llywydd. Mae cael cynrychiolaeth deg a chydradd i bawb yn fuddugoliaeth i bawb. Dyna hanfod yr hyn, Weinidog, rydych chi'n trio cyflawni gyda'r Mesur yma. Fel dyn, fel dynion, rydyn ni'n elwa fel dinasyddion, fel cyd-Aelodau'r Senedd, o glywed a gwrando ar leisiau menywod yn y lle yma. Oherwydd os nad ydy hynny'n wir, rydyn ni'n colli'r holl gyfoeth yna, y persbectif ar brofiadau bywyd sydd yn allweddol i'n galluogi ni fel Senedd i wneud ein priod waith, sef i gynrychioli pobl Cymru yn eu holl amrywiaeth. Ac yn sicr, yn eu holl amrywiaeth, y 21 y cant o'n pobl ni sydd ag anableddau. Mae'n rhaid inni edrych ar hynny hefyd. Ond mae hwn yn gam sylfaenol allweddol pwysig ymlaen. Ac wrth inni gyflawni y cam yma, gallwn ni wedyn fynd ymlaen i ddefnyddio'r un mecanweithiau ar gyfer yr holl agweddau o amrywiaeth rydym ni eisiau eu gweld yn cynrychioli pawb yn y lle yma.

Diolch yn fawr, Adam Price. Diolch yn fawr am eich pwyntiau pwysig iawn. Symudwn ni i gyd ymlaen. 

15:45
4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Rhaglen Cartrefi Clyd

Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y rhaglen Cartrefi Clyd. Ac felly y Gweinidog, Julie James, i wneud y datganiad. 

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch, Llywydd. Mae'r Senedd hon wedi mynegi llawer iawn o ddiddordeb yn y rhaglen Cartrefi Clyd newydd. Rwy'n falch o gadarnhau y bydd yn mynd yn fyw ar 1 Ebrill gyda gwasanaethau cyngor ac atgyfeirio yn cael eu darparu gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni a gwasanaethau gosod a ddarperir gan Nwy Prydain i wella adeiledd cartrefi ledled Cymru, a bydd gwasanaethau sicrwydd yn cael eu darparu gan Pennington Choices.

Bydd y rhaglen newydd yn cael ei lansio mewn tirwedd gymhleth a heriol. Mae'r argyfwng costau byw yn parhau i gael effaith andwyol ar safonau byw ledled Cymru. Ar ôl gweld y flwyddyn boethaf fyd-eang a gofnodwyd erioed yn 2023 ac un o'r gaeafau gwlypaf a gofnodwyd erioed yng Nghymru, mae'r argyfwng hinsawdd yn symud o'r dyfodol anochel i realiti presennol anosgoadwy.

Mae llawer o'n cartrefi ymhlith yr hynaf a'r lleiaf effeithlon o ran ynni yn Ewrop. Mae hyn yn golygu eu bod yn cymryd ynni drutach i gadw'n gynnes yn y gaeaf, gan gynyddu ein hallyriadau carbon. Mae'n golygu, er y bydd cyhoeddiad diweddar Ofgem ar y gostyngiad yn y cap pris yn dod â rhyddhad i'w groesawu i rai aelwydydd, mae llawer yng Nghymru yn parhau i gael trafferth gyda chostau ynni cynyddol ac yn cael eu gwthio i dlodi tanwydd.

Yn 2021 roedd cartrefi Cymru yn cyfrif am oddeutu 10 y cant o'r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru. Yr haf diwethaf, nodais mewn datganiad polisi sut y bydd y rhaglen Cartrefi Clyd newydd yn parhau i weithredu fel prif fecanwaith Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, ac ar yr un pryd yn chwarae ei rhan wrth gyflawni Cymru sero net erbyn 2050. Bydd yn mabwysiadu dull gweithredu adeiledd, y gwaethaf a charbon isel yn gyntaf i wella effeithlonrwydd ynni hirdymor yr aelwydydd incwm isel lleiaf effeithlon yn thermol yng Nghymru. Bydd ein dull gweithredu deublyg yn darparu gwasanaeth cyngor cynhwysfawr ar ynni i bawb yng Nghymru ac yn gwella cartrefi'r tlodion tanwydd yn ffisegol.

Mae'n adeiladu ar etifeddiaeth gref ac yn ategu ein gwaith presennol yn y sector tai cymdeithasol, lle rydym eisoes wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol o ran gwella effeithlonrwydd thermol cartrefi yng Nghymru. Hyd at ddiwedd mis Mawrth 2023, buddsoddwyd mwy na £440 miliwn i wella effeithlonrwydd ynni cartref trwy'r rhaglen Cartrefi Clyd, gan helpu mwy na 77,000 o aelwydydd incwm is yn y sectorau perchen-feddianwyr a rhentu preifat i leihau eu hallyriadau a'u biliau. Rydym yn disgwyl i ffigurau eleni gadarnhau bod dros 200,000 o bobl wedi elwa ar gyngor ar effeithlonrwydd ynni drwy'r rhaglen Cartrefi Clyd ers ei lansio yn 2011. Yn y sector tai cymdeithasol, mae tua £260 miliwn wedi'i ymrwymo drwy'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio dros dymor y llywodraeth hon.

Bydd ein buddsoddiad parhaus yn y rhaglenni Cartrefi Clyd ac ôl-osod er mwyn optimeiddio, neu ORP, yn sbarduno gwelliannau pellach ar gyfer y cartrefi lleiaf effeithlon o ran ynni yng Nghymru. Mae sianelu buddsoddiad ORP trwy landlordiaid cymdeithasol yn cefnogi dull profi a dysgu o ddatgarboneiddio cartrefi Cymru yn effeithiol ac yn effeithlon.

Dirprwy Lywydd, ddoe fe osodais y rheoliadau i alluogi'r rhaglen Cartrefi Clyd newydd, a fydd nid yn unig yn ymateb i'r argyfwng costau byw presennol ac yn mynd i'r afael ag allyriadau gan y sectorau perchen-feddianwyr a rhentu preifat, ond a fydd yn hyrwyddo deunyddiau cynaliadwy o Gymru, yn cefnogi sgiliau a swyddi Cymru ac yn dysgu o wersi'r gorffennol.

Mae Llywodraeth Cymru yn arwain drwy esiampl o ran arddangos cyfnod pontio teg, y daeth ein hymgynghoriad arno i ben ddoe. Gyda dyraniad cyllideb o £30 miliwn y flwyddyn nesaf, rydym yn cefnogi'r rhai sy'n agored i niwed mewn cymdeithas ac yn newid cartrefi i wres glân y dyfodol yn hytrach na chynnal tanwydd ffosil ein gorffennol. Bydd ein dull gweithredu yn ysgogi sgiliau ac yn datblygu'r gadwyn gyflenwi, ac yn dangos ein harweinyddiaeth gref ar y materion pwysig hyn.

Dirprwy Lywydd, hoffwn dynnu sylw at rai o'r nodweddion a'r newidiadau allweddol yn y cynllun newydd. Bydd deiliaid tai sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd yn derbyn pecyn cymorth sydd wedi'i deilwra yn benodol ar gyfer eu hanghenion a'u cartref. Bydd technolegau carbon isel yn cael eu blaenoriaethu lle mae'n gwneud synnwyr i wneud hynny. Y mesurau a ffefrir yw pympiau gwres a/neu baneli solar a batris storio trydan lle bo hynny'n bosibl, gan wneud aelwydydd yn fwy cydnerth yn wyneb prisiau ynni cynyddol yn y dyfodol gan leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Er mwyn sicrhau ein bod yn targedu'r lleiaf cefnog, mae trothwy incwm isel yn cael ei gyflwyno, yn hytrach na dibyniaeth ar fudd-daliadau prawf modd yn unig. Mae aelwyd sydd ag incwm sy'n is na 60 y cant o'r cyfartaledd canolrifol yn cael ei hystyried yn aelwyd incwm is ar gyfer y cynllun hwn ac ni fyddwn yn cyfrif unrhyw daliadau neu fudd-daliadau sy'n gysylltiedig ag anabledd fel incwm.

Rydym hefyd yn mynd i fabwysiadu dull gweithredu mwy cydgysylltiedig gyda chynlluniau cydategol i sicrhau'r buddion mwyaf posibl i ddinasyddion Cymru. Bydd gan ein gwasanaeth cynghori rôl bwysig o ran deall amgylchiadau pob unigolyn a'u cefnogi i gael mynediad i'r cynllun mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion. Rydym hefyd yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i annog awdurdodau lleol i gynyddu rhwymedigaeth y cwmni ynni, cynllun ECO Flex, yng Nghymru. Bydd hyn yn sicrhau mynediad eang i'r cynllun ar gyfer aelwydydd ledled Cymru a bod deiliaid tai yng Nghymru yn cael eu cyfran deg o'r arian hwn o San Steffan.

Mae'r rhaglen newydd hon yn rhan o'n gwaith i ddatblygu dull mwy cydlynol ar draws pob deiliadaeth a lefel incwm i ysgogi datgarboneiddio. Rhaid i'r degawd hwn fod yn ddegawd o weithredu ar yr hinsawdd. Rydym eisoes wedi cyhoeddi ein hymgynghoriad ar y strategaeth wres, sy'n nodi'r weledigaeth a'r meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu. Mae safon ansawdd tai Cymru 2023 yn fentrus ac yn flaengar wrth osod targedau uchelgeisiol i fynd i'r afael â datgarboneiddio yn y stoc tai cymdeithasol. Mae hefyd yn gwneud gwahaniaeth i ansawdd cyffredinol bywydau pobl drwy sicrhau y gellir gwresogi eu cartrefi mewn modd fforddiadwy. Bydd yr hyn a ddysgwn o uwchraddio ein 230,000 o gartrefi cymdeithasol yn ysgogi sut rydym yn mynd i'r afael â datgarboneiddio 1.2 miliwn o gartrefi preifat Cymru a lleihau biliau i ddeiliaid tai ar draws pob sector.

Dirprwy Lywydd, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi dyfodol tecach, gwyrddach i bawb. Ond mae gan Lywodraeth y DU rôl i'w chwarae, ac rydym wedi galw arnynt dro ar ôl tro i wneud y newidiadau gofynnol. Rydym wedi gofyn, er enghraifft, am dariff cymdeithasol ar gyfer ynni, rydym wedi gofyn iddynt fynd i'r afael ag anghyfiawnderau taliadau sefydlog a mesuryddion rhagdalu, ac, wrth gwrs, rydym wedi gofyn iddynt gefnogi uchelgeisiau Cymru ar gyfer grid ynni wedi'i drawsnewid. Yng ngoleuni hynny, rwy'n falch heddiw o fyfyrio ar gyflawniadau'r Llywodraeth hon wrth inni edrych tuag at ddyfodol glanach, mwy disglair. Diolch.

15:50

Fel y dywedoch chi, mae gan Gymru rai o'r stociau tai hynaf a lleiaf effeithlon yn thermol o'i chymharu â'r DU ac Ewrop. Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod 614,000 neu 45 y cant o aelwydydd yng Nghymru mewn tlodi tanwydd ac yn dweud mai'r rhaglen Cartrefi Clyd yw ei phrif fecanwaith i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, sy'n fater cyfiawnder cymdeithasol yn bennaf. Bydd y cynllun newydd yn cael ei arwain gan alw ac yn cynorthwyo'r rhai sydd leiaf abl i dalu. Fodd bynnag, er gwaethaf sicrwydd, ni weithredodd Llywodraeth Cymru y rhaglen cyn gaeaf 2023. Mewn gwirionedd, er bod strategaeth tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru yn nodi y byddent yn ymgynghori ar drefniadau diwygiedig ar gyfer cyflwyno mesurau ar gyfer mynd i'r afael â thlodi tanwydd y tu hwnt i fis Mawrth 2023 rhwng mis Mehefin a mis Rhagfyr 2021, ni lansiwyd yr ymgynghoriad tan fis Rhagfyr 2021. Mae'r strategaeth hefyd yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei hymateb ac yn gweithredu ei chanfyddiadau i ddechrau ym mis Ebrill 2023, ond ni wnaeth hyd yn oed ymateb tan fis Mehefin 2023. Nawr ein bod o'r diwedd yn lansio'r cynllun, a wnaiff y Gweinidog ddweud pam y bu cymaint o oedi cyn cyrraedd y pwynt hwn?

Nawr rydym yn gwybod pa gyrff fydd yn darparu'r rhaglen, pwy fydd yn cynnal y gwaith monitro a gwerthuso a fydd yn allweddol i gyflawni unrhyw raglen?

Yr wythnos diwethaf yng nghynhadledd tlodi tanwydd Cymru National Energy Action Cymru, galwodd cyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru am ymgyrch ymwybyddiaeth ar gyfer y rhaglen Cartrefi Clyd newydd. Rydym eisoes yn gwybod nad yw'r nifer sy'n manteisio ar rai grantiau a chynlluniau Llywodraeth Cymru mor uchel ag y gallai fod, felly pa gynlluniau sydd gennych ar gyfer ymgyrch ymwybyddiaeth? Sut byddai'n edrych yn ymarferol a sut y byddwch chi'n targedu'r grwpiau sydd fwyaf mewn angen, lle, er enghraifft, adroddodd adroddiad diweddar y comisiynydd pobl hŷn, 'Mynediad wedi'i wrthod' fod hawliau pobl hŷn i gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau yn cael eu tanseilio gan ddewisiadau amgen all-lein o ansawdd gwael neu wedi'u diddymu?

Mae Gofal a Thrwsio wedi datgan eu bod yn ddiolchgar am y newidiadau a'r diweddariadau a fydd yn cael eu gwneud i'r rhaglen Cartrefi Clyd, gan gynnwys cymhwysedd yn seiliedig ar incwm isel, yn hytrach na budd-daliadau prawf modd. Fodd bynnag, maen nhw'n pryderu na fydd cartrefi sydd mewn cyflwr gwael yn elwa ar y rhaglen, gan nad yw'n ymddangos bod gwaith galluogi yn cael ei gynnwys yn y cynllun, ac felly ni fydd llawer o gartrefi yn elwa ar y gwaith sydd ar gael drwy'r rhaglen newydd nes yr ymdrinnir â'r dadfeiliad. Mae hyn yn golygu y bydd perchnogion tai hŷn, yn enwedig ar incwm isel, yn parhau i fyw mewn cartrefi sy'n aneffeithlon o ran ynni, yn oer ac yn ddrytach i'w gwresogi, gyda goblygiadau sylweddol i'w hiechyd a'u llesiant. Sut fyddwch chi'n cywiro hyn fel bod y rhaglen newydd yn cyrraedd cymaint o bobl mewn angen â phosibl?

Mae lefel trothwy'r gyllideb fesul eiddo yn dal i fod ac y bydd hi'n ystyriaeth bwysig iawn. Bydd hyn yn effeithio ar faint a dyfnder y gefnogaeth a ddarperir i bob cartref. Rydych yn datgan y bydd cymhwysedd yn seiliedig ar drothwy incwm isel yn hytrach na dibyniaeth ar fudd-daliadau prawf modd yn unig. Felly, a fydd lefel y trothwy incwm isel yn ystyried gwahaniaethau ym maint a chyfansoddiad aelwydydd? A fydd ar ôl tynnu costau tai a sut y bydd yn cael ei ddyrannu i bob eiddo?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd gan y rhaglen gyllideb o £35 miliwn yn 2024-25, yr un fath â'r flwyddyn flaenorol. Roedd y ddogfen dendro a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y rhaglen newydd yn amlinellu y byddai disgwyl i gyflenwr ymgymryd â gwaith ar 11,500 eiddo dros saith mlynedd, sy'n cyfateb i ychydig dros 1,600 eiddo bob blwyddyn. Yn seiliedig ar y ffigurau hyn, byddai'n cymryd dros 130 o flynyddoedd i wella effeithlonrwydd ynni hyd at 217,700 o aelwydydd incwm is yr amcangyfrifir eu bod mewn tlodi tanwydd yng Nghymru ar hyn o bryd, a degawdau lawer hyd yn oed gyda gwasanaethau cyngor ac atgyfeirio'r rhaglen. Sut, felly, ydych chi'n ymateb i ddatganiad NEA Cymru y bydd angen i gyllid y rhaglen, yn y blynyddoedd i ddod, gynyddu'n sylweddol a, dyfynaf, fod yn rhaid i ni wario i arbed, gan flaenoriaethu buddsoddiad hirdymor i wneud cartrefi sy'n dlawd o ran tanwydd yn lleoedd llawer cynhesach, gwyrddach ac iachach i fyw ynddynt, gyda biliau ynni sy'n isel yn barhaol?

Ychydig a wyddys am ran 2 o'r rhaglen Cartrefi Clyd ar hyn o bryd y tu hwnt i'r ffaith y bydd yn ddull integredig ar draws pob deiliadaeth a lefel incwm i ysgogi datgarboneiddio. Felly, pa fanylion y gall y Gweinidog ei rannu gyda ni ynghylch rhan 2 nawr?

Yn olaf, rwyf wedi galw o'r blaen ar Lywodraeth Cymru i osod targedau interim yn eu cynllun i fynd i'r afael â thlodi tanwydd 2021-25, nad yw'n bodloni rhwymedigaethau statudol Llywodraeth Cymru eto i nodi amcanion interim i'w cyflawni a thargedu dyddiadau ar gyfer eu cyflawni. Dywed Cyngor ar Bopeth Cymru y bydd targedau interim yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn atebol am gynnydd, felly beth yw eich cynlluniau i gyflwyno'r targedau hyn nawr? Diolch.

15:55

Diolch yn fawr, Mark. Felly, fe drof at y mater cyntaf. Dywedais yn fy natganiad fod gennym dair cyfran yn y rhaglen newydd, felly dim ond i ailadrodd, mae gennym wasanaethau cyngor ac atgyfeirio a ddarperir gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, felly dyna sut y bydd pobl yn cael clywed am gyngor ac atgyfeirio i'r rhaglen lle bo hynny'n briodol. Mae gennym hefyd gyfres gyfan o raglenni cynghori y mae fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn eu rhedeg, lle bydd pawb yn cael eu galluogi i atgyfeirio pobl i'r rhaglen Cartrefi Clyd, ac, yn wir, y gwasanaeth cynghori ar ynni, felly os nad ydych yn gymwys ar gyfer y rhaglen ei hun, byddwch yn dal i gael y gwasanaethau cynghori ar ynni. Yna, fel y dywedais i, bydd gwasanaethau gosod yn cael eu darparu gan Nwy Prydain, ar ôl mynd drwy'r broses gaffael gystadleuol, ac yna byddai'r gwasanaethau sicrwydd y gofynnoch chi amdanyn nhw yn cael eu darparu gan Pennington Choices. Felly, rydyn ni wedi gwneud ychydig bach o ddysgu o'r rhaglenni blaenorol wrth ddeall nad yw un ateb ar gyfer yr holl beth yn gweithio mewn gwirionedd, felly rydyn ni wedi eu rhannu'n gyfrannau yn eithaf bwriadol i allu cyflawni hynny. Felly, byddwn yn cael adborth gan Pennington Choices wrth i'r rhaglen gael ei chyflwyno. Felly, rwy'n credu bod honno'n well sefyllfa nag yr oeddem ynddi yn y rhaglen flaenorol.

O ran faint o arian, yn amlwg, nid wyf yn mynd i ailadrodd heddiw y sefyllfa y mae cyllideb Llywodraeth Cymru ynddi, ond rydym wedi gwneud yn eithriadol o dda, rwy'n credu, i ddiogelu rhai o'r cyllidebau hyn. Rydyn ni hefyd yn gwneud—. Nid 'un ateb sy'n addas i bawb' yw hyn, felly dim ond o ran y sylwadau a wnaethoch am adeiledd y cartref, yr holl bwynt yw y byddech chi'n cael arolwg o'r cartref a'i anghenion, ac yna rydyn ni'n gwneud yn siŵr ein bod ni'n ôl-osod yn unol â hynny—does dim pwynt rhoi pwmp gwres ffynhonnell aer i mewn i dŷ sy'n gollwng fel rhidyll; ni fyddai'n cael unrhyw effaith. Felly, byddwn yn edrych ar fesurau insiwleiddio ac ati—beth arall sydd ei angen yn y cartref.

Un o'r pethau nad yw yn fy natganiad i, i fod yn deg, ond rwyf wedi'i ddweud sawl gwaith ar lawr y Senedd, yw ein bod wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i edrych ar effeithlonrwydd ynni yn eu hardaloedd, ac yn enwedig ar gyfer strydoedd a chymdogaethau penodol. Ac rwyf wedi dweud sawl gwaith, a byddaf yn ei ailadrodd nawr: pe byddech yn cael, er enghraifft, teras o gartrefi lle mae 80 y cant o'r bobl yn bodloni'r trothwy 60 y cant o incwm canolrifol ond nid y gweddill, byddem yn dal i ystyried cynllun a fyddai'n uwchraddio'r stryd honno i gyd, oherwydd weithiau mae cynllun cymdogaeth yn gwneud mwy o synnwyr o ran yr hyn y gellir ei osod mewn termau effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio nag ymdrin ag aelwydydd unigol. Felly, roeddwn i'n awyddus iawn i wneud yn siŵr—. Ac yn y sgwrs a gawsom yn y Cabinet am hyn, a arweiniwyd gan fy nghyd-Weinidog Jane Hutt a minnau, cawsom drafodaeth hir am y ddeuoliaeth, os dyna'r gair cywir, rhwng mynd allan i gymaint o bobl â phosibl gydag un mesur unigol, sef yr hyn yr oedd yr hen gynllun yn ei wneud, a gwneud yn siŵr ein bod yn ôl-osod llai o dai yn iawn—mae hynny'n wir—ond mewn ffordd a oedd yn llawer mwy cydnerth er mwyn diogelu at y dyfodol. Dyna yr ydym am wneud.

Ac yna ynghylch datgarboneiddio: rydyn ni wedi dweud, yn y bôn, os oes gennych foeler nwy wedi'i osod a'i bod hi'n bosib atgyweirio hwnnw i roi bywyd hirach iddo a'i wneud yn fwy effeithlon, byddai hynny'n rhan o'r peth a allai ddigwydd o dan y cynllun, ond pan nad yw'r boeler yn hyfyw yn economaidd, yna ni fyddai'n cael ei ddisodli gan ffynhonnell wresogi tanwydd ffosil.

Felly, rwy'n credu ein bod wedi edrych yn ofalus iawn ar ystod o bethau yma sy'n ein galluogi i gyrraedd lle da ar y daith hon, ac mae'n daith, rydych chi'n hollol iawn. Rydym hefyd, wrth gwrs, wedi bod yn cyflwyno rhai o'r rhaglenni ôl-osod gorau posibl yn y sector cartrefi cymdeithasol, a gwn fod yr Aelodau'n gyfarwydd iawn â nhw, lle rydym wedi treialu technoleg sy'n gweithio ar fathau penodol o dai, gan geisio dysgu'r gwersi y mae Siân Gwenllian ac eraill wedi'u codi yn y Siambr ynghylch y ffaith, fel rydych chi'n gwybod, y bu inswleiddio waliau ceudod yn berffaith wych ar gyfer cannoedd lawer o gartrefi, ond, yn achos rhai cartrefi, achosodd broblemau go iawn. Felly, rydym wedi ceisio dysgu'r wers o beidio â chael dull un ateb sy'n addas i bawb.

Ac yna, y peth olaf fyddwn i'n ei ddweud, Mark, yw nad yw pob un o'r ysgogiadau yn ein dwylo ni, wrth gwrs. Mae angen grid ynni gwell arnom, mae angen grid ynni wedi'i ddatgarboneiddio sy'n cyflenwi ynni mewn ffordd lawer mwy cyfartal ac mewn gwirionedd mae angen datgarboneiddio ei ffynonellau. Ac i beidio ceisio gwneud gormod o bwynt gwleidyddol yn ei gylch, rwy'n drist iawn yn sgil y cyhoeddiadau gan Lywodraeth y DU am adeiladu mwy o orsafoedd pŵer llosgi nwy, o ystyried cyflwr yr hinsawdd. Wyddoch chi, dim ond—. hynny yw, i fod yn gwbl onest, mae'n eich rhoi chi mewn sefyllfa lle—. Rwy'n ysgwyd fy mhen gydag anghrediniaeth, mewn gwirionedd, fod unrhyw Lywodraeth yn credu mai dyna'r ffordd ymlaen ar gyfer grid ynni sy'n rhoi naill ai diogelwch neu sicrwydd inni neu wrthsefyll hinsawdd. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr i mi o gwbl.

16:00

Mae'n hynod bryderus bod y Llywodraeth wedi methu â gweithredu'r rhaglen Cartrefi Clyd cyn diwedd mis Tachwedd er gwaethaf yr addewidion a rhoddwyd bryd hwnnw, gan adael nifer o aelwydydd bregus yn yr oerfel yn ystod cyfnod o oerfel cyn y gaeaf. Dwi wedi nodi'r ystadegau brawychus yma nifer o weithiau o'r blaen, ond mae bron i 300 o bobl yn marw yng Nghymru oherwydd oerfel bob blwyddyn. Mae hyn yn frawychus. Yn wir, mae tua 30 y cant o farwolaethau ychwanegol y gaeaf yn gysylltiedig â byw mewn eiddo oer. Yn syml, mae tai oer yn lladd, ac mae'r rhai hynny sy'n gorfod byw mewn tai oer yn gorfod dioddef ac ymdopi gyda'r oerfel hwnnw.

Mae ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod tymheredd oer yn y cartref yn gysylltiedig â chanlyniadau iechyd gwaeth, ac mae byw mewn tymheredd o dan 18 gradd Celsius yn arwain at effeithiau niweidiol i iechyd pobl ac yn gysylltiedig â thrafferthion y galon a'r ysgyfaint, anhwylderau cysgu a pherfformiadau corfforol ac iechyd gwael yn gyffredinol. Ac mae'r effaith ar bobl hŷn yn arbennig o wael. Mae tri chwarter o farwolaethau ychwanegol yn perthyn i'r garfan o bobl dros 75 oed.

Cymru sydd efo'r stoc hynaf a leiaf ynni effeithiol o dai yn y Deyrnas Gyfunol ac ymhlith yr hynaf yn Ewrop. Yn wir, fy etholaeth i yn Nwyfor Meirionnydd sydd efo'r stoc hynaf ac ymhlith y lleiaf ynni effeithiol yng Nghymru gyfan.

Felly, er bod y gefnogaeth a gynigir gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn achubiaeth i'w groesawu, mae'r sefyllfa bresennol yn gwbl anghynaladwy. Datgelodd adroddiad gan Gofal a Thrwsio Cymru fod 96 y cant o aelwydydd sy'n defnyddio gwasanaeth cyngor ynni Gofal a Thrwsio yn cael eu nodi fel rhai sy'n byw mewn tlodi tanwydd. Er bod cynnydd wedi bod ym mhensiwn y wladwriaeth yn unol â chwyddiant, mae dinasyddion hŷn yn dal i wynebu costau cyfleustodau uwch. Mae hyn yn rhoi straen ychwanegol ar aelwydydd sydd eisoes yn agored i niwed, gan godi pryderon am gynyddu dyledion a'r frwydr i fforddio pethau angenrheidiol. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog: pa drafodaethau y mae'r Llywodraeth wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i wella'r nifer sy'n manteisio ar y budd-daliadau y mae'r bobl hyn yn eu haeddu ac i gael mynediad atynt?

Mae'n siomedig, er gwaethaf cronfeydd a ddyrannwyd, bod Llywodraeth Cymru wedi gohirio gweithredu, gan adael y rhai sydd mewn tlodi tanwydd difrifol, yn enwedig y rhai yn y cartrefi lleiaf effeithlon o ran ynni, heb gymorth. Gwnaethom ni ym Mhlaid Cymru annog Llywodraeth Cymru yn ôl ym mis Tachwedd i weithredu'r rhaglen Cartrefi Clyd yn gyflym i gynorthwyo aelwydydd incwm isel i wella eu heffeithlonrwydd ynni ar gyfer y gaeaf. Pwysleisiwyd y brys hwn hefyd gan grŵp arbenigol Cymru ar yr argyfwng costau byw, gan bwysleisio pwysigrwydd lansio'r cynllun yn brydlon. Fodd bynnag, gwrthododd y Llywodraeth y galwadau hyn, gan arwain at ystadegau pryderus. Aeth 31 y cant o bobl heb wres yn eu cartrefi yn ystod y tri mis cyn Ionawr 2024, a gwelodd Cyngor ar Bopeth y nifer uchaf erioed o bobl yn ceisio talebau tanwydd. Yn ogystal, mynegodd bron i chwarter y plant yng Nghymru bryderon am fod yn oer. Felly, a all y Gweinidog roi sicrwydd i ni heddiw na fydd unrhyw oedi pellach ac na fyddwn yn gweld unrhyw oedi pellach cyn y gaeaf nesaf?

A hwn, wrth gwrs, yw'r cyd-destun pan oedd pobl yn wynebu oedi yn y rhaglen eleni: mae cartrefi oer ac aneffeithlon yn lladd, a byddant wedi lladd dros y gaeaf diwethaf, a rhaid i'r rhaglen Cartrefi Clyd wneud mwy na'i rhagflaenwyr i sicrhau bod gwelliannau'n cael eu gwneud i stoc dai Cymru i'w gwneud yn rhatach ac yn fwy effeithlon i'w gwresogi, wrth sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi. Mae angen rhaglen wedi'i thargedu'n ddigonol wedi'i thargedu ar sail ardal sy'n mynd i'r afael â materion cartrefi oer.

Er ei bod yn gadarnhaol bod y rhaglen bellach yn cael ei chyflwyno i gefnogi'r rhai mewn tlodi tanwydd, rydym yn credu y dylid bod wedi cymryd y camau hyn yn llawer cynt, yn hytrach nag aros tan ar ôl gaeaf heriol arall. Felly, gadewch i ni fod yn glir, serch hynny: mae tlodi tanwydd yn fater amlochrog. Gallwn ei leihau drwy wella'r stoc dai sy'n bodoli trwy osod technolegau carbon isel, ôl-osod, ac mae angen i ni gynyddu maint a chyflymder darparu tai cymdeithasol carbon isel. Wedi'r cyfan, yr argyfwng tai ehangach sydd wedi rhoi pwysau enfawr ar aelwydydd, gan gynnwys y rhai ar incwm isel, sydd, yn amlach na pheidio, yn gorfod talu premiwm tlodi am eu hynni wrth wynebu rhenti cynyddol, sy'n eu gorfodi i ddewis rhwng gwresogi, bwyta a chadw to uwch eu pennau. Felly, a all y Gweinidog gadarnhau y bydd pob cartref sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd yn cael y cymorth sydd ei angen heb rwystrau profion pellach neu weithdrefnau apelio? Diolch yn fawr iawn.

16:05

Diolch yn fawr, Mabon. Dydw i ddim yn anghytuno o gwbl â'ch dadansoddiad o'r hyn sy'n digwydd os ydych chi'n byw mewn cartref oer—yn amlwg dyna pam rydyn ni'n rhoi'r rhaglen ar waith—ac nid wyf ychwaith yn anghytuno â'ch dadansoddiad mai llawer o'n cartrefi ni yw'r gwaethaf. Mewn gwirionedd, dywedais i hynny yn fy natganiad. Rwyf eisiau dweud, serch hynny, ar y pwynt hwnnw, yn fy natganiad gwreiddiol ei fod yn dweud 'Mae cartrefi Cymru'; 'mae llawer o gartrefi Cymru', yn fwriadol, oherwydd mewn gwirionedd un o'r pethau yr ydym wedi'i wneud, ac rydym wedi ei wneud fel rhan o'r cytundeb cydweithio, fel y gwyddoch chi, yw ein bod wedi mynnu bod cartrefi newydd yn y sector cymdeithasol yn gwbl garbon isel, ond mewn gwirionedd hyd yn oed yn y sector preifat rydym wedi newid Rhan L y rheoliadau adeiladu i gynyddu lefel yr inswleiddio ac i gynyddu lefel yr effeithlonrwydd gwres, ac, mewn gwirionedd, oeri effeithlon, fel mae'n digwydd, fel bod cartrefi newydd yng Nghymru yn llawer, llawer mwy effeithlon nag y bydden nhw wedi bod fel arall—mesur a wrthwynebwyd yn llwyr gan bawb ar y meinciau gyferbyn, oherwydd mae'n debyg mai cost yw popeth nes eich bod mewn dadl fel hon. Felly, mae'n ymwneud â chael y cydbwysedd yn iawn fel nad ydym yn storio—rwy'n cytuno'n llwyr â chi—nad ydym yn adeiladu ar hyn o bryd, yn fy ymadrodd enwog fy hun, slymiau'r dyfodol, ac nad ydym yn rhoi hunllef ôl-osod i Lywodraeth y dyfodol ymhen 10 mlynedd yr un fath ag sydd gennym ar hyn o bryd, oherwydd y safonau yr adeiladwyd y cartrefi hynny iddynt—er gall hynny fod wedi digwydd cannoedd o flynyddoedd yn ôl, mewn rhai achosion. Felly, rwy'n derbyn hynny i gyd.

Dim ond i ddweud nad yw'n wir dweud nad oedd rhaglen yn rhedeg dros y gaeaf diwethaf, dim ond i fod yn glir. Roedd gennym Nyth yn rhedeg, felly mewn gwirionedd roedd nifer o aelwydydd yn elwa yn sgil y rhaglen Nyth. Amcangyfrifwyd bod gwelliannau i'r aelwydydd hynny wedi golygu gostyngiad o £420 yn eu biliau blynyddol unwaith yr oedd y gwelliannau hynny wedi'u cyflwyno. Ond os ydych chi'n meddwl am y costau ynni a chynnydd costau ynni dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae pobl yn wynebu miloedd o bunnau o gostau, ac nid oeddem mewn sefyllfa i allu lliniaru hyn. Felly, un o'r galwadau mawr sydd gennym i Lywodraeth y DU, a dywedais i hyn yn fy ateb i Mark Isherwood, ac mewn gwirionedd mae hyd yn oed y Llywodraeth wedi dweud hynny heddiw mewn datganiad, a welais, yw y byddai diwygio'r farchnad ynni yn welliant enfawr, oherwydd mewn gwirionedd byddai gallu cael cyflenwadau ynni fforddiadwy, cyflenwadau trydan, mewn grid wedi'i ddatgarboneiddio sy'n effeithlon ac yn effeithiol, yn gwneud llawer mwy o wahaniaeth yn eich etholaeth, er enghraifft, nag unrhyw beth arall y gallwn ei wneud. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig cadw golwg ar yr elfennau macro hefyd.

Wedi dweud hynny, byddwn wedi hoffi gallu cyflwyno'r rhaglen hon yn gyflymach. Byddai'n cymryd llawer mwy o amser na sydd ei angen i fynd drwy'r holl rwystrau caffael yr ydym wedi'u cael yn ystod y misoedd diwethaf, ond beth bynnag mae yma nawr. Bydd yn dechrau ar 1 Ebrill. Ni fydd unrhyw oedi pellach. Yna bydd yn cael ei chyflwyno a bydd wedi ymwreiddio'n dda cyn y gaeaf nesaf. Rydym wedi bod yn eithaf lwcus dros y gaeaf hwn, oherwydd mae wedi bod yn un o'r rhai cynhesaf a gofnodwyd. Rwy'n gyndyn iawn o ddweud hynny, achos dydi hynny ddim oherwydd lwc; mae'n fesur o'r newid hinsawdd yr ydym yn ei wynebu. Mae pob blwyddyn olynol dros y pum mlynedd diwethaf wedi bod yn gynhesach na'r un flaenorol, a hon hefyd fu'r un wlypaf, felly rydym wedi cael cyfres gyfan o faterion eraill i'w hystyried.

O ran cymhwyster, rydym eisiau gwneud hynny mor effeithlon â phosibl. Dyna pam y mae gwasanaethau cynghori yn rhan o'r broses caffael. Maen nhw yna'n fwriadol i helpu pobl drwy hyn. Nid ydym eisiau i bobl benderfynu peidio â manteisio am unrhyw reswm. Mae fy nghyd-Weinidog Jane Hutt a minnau wedi bod yn gweithio gyda'r asiantaethau cynghori i sicrhau nad oes drws anghywir ar gyfer hyn, bod pawb yn cael eu hatgyfeirio iddo. Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda chynghorau ers cryn amser bellach i sicrhau bod pobl sy'n gymwys i gael ad-daliadau'r dreth gyngor yn cael eu hatgyfeirio'n awtomatig i'r rhaglen, gan eu bod yn debygol iawn o fod yr un garfan o bobl, ond rwy'n hapus iawn i dderbyn unrhyw awgrymiadau gan Aelodau o'r Senedd am unrhyw beth arall y gallwn ei wneud i sicrhau bod pobl yn cael eu hatgyfeirio'n effeithlon i'r rhaglen. Gwyddom ei bod yn anodd cael gafael ar bobl, yn enwedig yn y grwpiau oedran hŷn, sy'n eithaf balch ac efallai heb dderbyn cymorth o'r blaen, ac mae angen help arnoch i'w cael nhw i ddeall bod hyn yn hawl a bydd o fudd mawr i'w bywydau.

Y peth olaf roeddwn i eisiau ei ddweud ynghylch hyn hefyd yw—. Cyflwynom ni'r strategaeth wres—alla i ddim cofio'n iawn, ychydig cyn y Nadolig, rwy'n credu oedd hi, cyflwynwyd ar gyfer ymgynghoriad. Felly, mae hon yn rhan o strategaeth drosfwaol, fel y dywedais i mewn ateb i Mark Isherwood. Felly, rydym yn gwneud cyfres gyfan o bethau eraill yma ynghylch effeithlonrwydd ynni ar gyfer deiliadaethau eraill hefyd.

Ac yna, ar y sector preifat, y sector rhentu tymor hir yn benodol, rydym wedi bod yn ceisio gweithio gyda Llywodraeth y DU a ddywedodd ar hap eu bod yn mynd i gyflwyno trothwy tystysgrif E perfformiad ynni arno, os cofiwch, ac yna tynnu hwnnw i ffwrdd eto. Oherwydd yr hyn sydd ei angen arnom yw mecanwaith i ganiatáu i landlordiaid sector preifat ddatgarboneiddio eu cartrefi a'u gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni, heb gynyddu rhenti fel eu bod yn anfforddiadwy. Felly, rydym wedi bod yn gwthio cynllun prydlesu Cymru ar gyfer hyn, lle, os byddwch yn rhoi eich cartref i ni am bum mlynedd o leiaf, ond mae 10 mlynedd yn well, 15 mlynedd yn ddelfrydol, byddem mewn gwirionedd yn eich cynorthwyo i ddod â'r cartref i'r safon uchaf tra byddwch yn derbyn y lwfans tai lleol fel rhent drwy'r cyfnod hwnnw i gyd. Mae hynny'n profi'n fwy a mwy deniadol i landlordiaid y sector preifat, ac rydym wedi bod yn targedu'r rheini mewn ardaloedd yng nghanol dinas sydd â thai mawr iawn sydd â theuluoedd o sawl cenhedlaeth yn byw ynddynt. Felly, yn fy etholaeth i, er enghraifft, mae nifer o gartrefi'r sector rhentu preifat yn gartrefi mawr â sawl cenhedlaeth, a fyddai'n eithaf drud i'w hôl-osod heb y math hwn o gynllun.

Felly, rydym wedi bod yn ceisio ei gyflwyno gymaint â phosibl, os gallaf ddweud hynny wrthych chi, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gwneud llawer o ymarferion dysgu gwersi ar gyfer hyn fel nad ydym yn ailadrodd rhai o broblemau'r cynllun a gawsom gydag Arbed, er enghraifft, y bydd Aelodau'n gyfarwydd â nhw.

16:10

Mae llawer i'w ganmol yn eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n falch iawn o weld na fydd drws anghywir, fel rydych chi newydd ei ddweud, ein bod ni'n mynd i ddefnyddio deunyddiau o Gymru pryd maen nhw ar gael, ac rydyn ni'n mynd i ganolbwyntio ar y gwaethaf yn gyntaf.

Mae angen i ni, fel y dywedwch chi, gael awdurdodau lleol ar ein hochr ni. Roeddwn yn isel fy ysbryd o glywed swyddog sy'n gyfrifol am adeiladau ein hysgolion yn dweud bod teils solar yn dechnoleg heb ei phrofi, sydd, mae arnaf ofn, yn dangos nad ydynt yn mynd allan llawer i siarad â'r diwydiant.

Rwyf hefyd yn cymeradwyo eich caffaeliad tair rhan, oherwydd rwy'n credu y bydd hynny'n rhoi ffordd lawer gwell inni brofi ansawdd y cyngor, ansawdd y gosodiad, a hefyd y sicrwydd sydd i'w ddarparu gan yr asiantaeth arall hon.

Roeddwn i eisiau gofyn am eich darparwr dewisol, Nwy Prydain, oherwydd, yn amlwg, mae'r enw'n dangos eu bod yn gwybod mwy am danwydd ffosil. Sut y gwnaeth Llywodraeth Cymru fodloni ei hun bod gan Nwy Cymru y capasiti a'r gallu i osod yr ystod lawn o atebion ynni adnewyddadwy carbon isel i ddiwallu anghenion penodol aelwydydd unigol sy'n dlawd o ran tanwydd, oherwydd rwy'n cytuno'n llwyr fod hyn yn gwbl hanfodol i wneud pobl yn llawer llai agored i gynnydd a chynnydd mewn prisiau ynni yn seiliedig ar nwy?

Mae hynny'n ddiddorol, iawn? Felly, dim ond i fod yn glir, roedd y caffael yn benodol iawn ynglŷn â gosod y dechnoleg gywir yn y cartref cywir, ac roedd yn rhaid i chi fod â'r capasiti i osod y dechnoleg gywir yn y cartref cywir, roedd yn rhaid i chi ddeall a dangos eich dealltwriaeth o'r canlyniadau technoleg, os mynnwch chi, sydd gennym. Mae gennym ddigon—. Os ydych chi am gyfeirio swyddog yr awdurdod lleol ataf, Jenny, gallaf ei gyfeirio at ddigon o dystiolaeth ynghylch y pwynt am baneli solar. Ond nid yw pob cartref yn iawn ar gyfer paneli solar, yn enwedig os oes angen technoleg batri arnoch, ac mae'n dibynnu ble rydych chi yn y byd ac ati. Bydd yn gweithio i ryw raddau yn y rhan fwyaf o gartrefi, ond nid dyma'r peth mwyaf effeithlon i rai cartrefi. Byddai rhai cartrefi yn llawer gwell eu byd gyda phympiau gwres ffynhonnell aer neu wres o'r ddaear, er enghraifft, neu well effeithlonrwydd mewn nifer o feysydd eraill. A hyd yn oed gyda phaneli solar, wrth gwrs, mae rhai ohonyn nhw'n gwresogi dŵr ac mae rhai ohonyn nhw'n ffynonellau batri ac ati. Felly, gallaf eich sicrhau bod asesiad egnïol wedi'i wneud o'r gallu i gymhwyso'r dechnoleg gywir ar yr adeg gywir. A dweud y gwir, mewn gwirionedd, mae cwmnïau fel Nwy Prydain, sydd hefyd yn cyflenwi trydan—mae'r enw'n gamarweiniol, dylwn i ddweud, o ran y pwynt hwnnw—wrth gwrs hefyd yr angen i ôl-osod eu gweithlu medrus eu hunain oherwydd bydd llai a llai o alw am osodwyr nwy, a mwy a mwy o alw am bobl sy'n gallu gosod pethau eraill. Felly, mae hyn hefyd yn ein cynorthwyo i ailsgilio gweithlu sy'n bodoli eisoes yng Nghymru. Felly, rwy'n eithaf bodlon â hynny, ac fe gynhaliwyd asesiad egnïol o hynny i gyd, a dyna'n rhannol pam y mae wedi cymryd cymaint o amser i gyrraedd lle rydym ni.

Ond rwy'n falch iawn ein bod wedi rhannu'r contract yn y ffordd a wnaethom, yn anad dim oherwydd ein bod eisiau i bobl allu cael cyngor diduedd ar yr hyn oedd yn addas, nid gan y bobl sy'n ei osod, fel nad oes unrhyw dybiaeth o ragfarn ar gyfer math penodol o dechnoleg, er enghraifft. Felly, rwy'n falch iawn o hynny ac rwy'n credu y byddwn yn gweld newid sylweddol yn y ffordd yr ydym yn gwneud hynny. Mae'r rhaglen newydd hon hefyd yn caniatáu mwy nag un ymweliad. Felly, gyda'r hen raglen Nyth, os oeddech chi wedi cael cyfle i brofi Nyth, yna dyna ni, nid oeddech chi'n gallu ôl-osod eto, os hoffech chi, felly rydyn ni wedi goresgyn hynny ar gyfer y rhaglen hon hefyd, ac yna rwy'n fwy arbennig o falch o'r dull cymdogaeth sydd gennym mewn rhai ardaloedd.

16:15

Diolch, Dirprwy Lywydd. Wel, wedi oedi hynod rwystredig a hynod niweidiol i'r 45 y cant o aelwydydd Cymru sydd mewn tlodi tanwydd, dyma ni gadarnhad y bydd y cynllun Cartrefi Clyd, o'r diwedd, yn weithredol, ac mae hynny, wrth gwrs, i'w groesawu. Dyma brif fecanwaith y Llywodraeth i daclo tlodi tanwydd. Nod cynllun Llywodraeth Cymru, 'Trechu tlodi tanwydd 2021 i 2035', yw sicrhau bod nifer yr aelwydydd sy'n byw mewn tlodi tanwydd yn gostwng i 5 y cant, ond mae'r ffigurau'n dangos ein bod ni'n bell iawn o gyrraedd y nod.

Mae gennych chi rwymedigaeth statudol i osod targedau interim yn y cynllun, ond er gwaethaf y galwadau niferus gan Blaid Cymru, pwyllgorau'r Senedd a Chynghrair Tlodi Tanwydd Cymru, ni osodwyd unrhyw darged interim. Weinidog, maen nhw'n hanfodol er mwyn adolygu effeithiolrwydd y strategaeth a mapio'r cynnydd hanfodol yna tuag at darged 2035. Felly, unwaith eto, Weinidog, a wnewch chi weithredu ar hyn, a chefnogi'r angen amlwg i osod targedau interim yn y cynllun trechu tlodi tanwydd, achos heb y cerrig milltir hyn, rŷn ni'n annhebygol o sbarduno'r camau parhaus sydd eu hangen i fynd i'r afael â'n hargyfwng tlodi tanwydd?

Diolch, Sioned. Dydw i ddim eisiau dweud 'na' i hynny, oherwydd rydw i'n deall yn union o ble yr ydych chi'n dod, ond rydw i ychydig yn amwys ynglŷn â thargedau interim ar yr adeg hon yn y rhaglen, os ydw i'n onest. Felly, yr hyn yr hoffen ni ei weld yn fawr iawn yw blwyddyn weithredu gyntaf y rhaglen cyn i ni wir allu gweld—. Does gen i, er enghraifft, ddim syniad o gwbl faint o'r cartrefi a fydd yn elwa fyddai â boeler nwy wedi'i uwchraddio, sy'n fwy effeithlon ac y byddai modd ei atgyweirio ynddyn nhw neu faint fyddai angen proses ailosod fwy sylfaenol. Rwyf i eisoes wedi cyfeirio at sgwrs a gawsom yn y Cabinet am y cydbwysedd anodd rhwng cyrraedd cynifer o bobl â phosibl gydag ymyrraeth fach a gwneud cartrefi'n fwy cydnerth yn y tymor hwy. Felly, dydw i ddim yn gwybod yn iawn sut y byddwn i'n gosod y targedau interim; dydw i ddim yn gwybod yn iawn beth rydyn ni'n edrych arno. Felly, mae'n debyg y gallen ni feddwl am bethau a oedd yn ddangosol, ond dydw i ddim yn siŵr a fydden nhw'n arbennig o addysgiadol o ran sut mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno.

Felly, byddwn i'n dweud mai'r peth gorau i'w wneud—ac rwy'n hapus iawn i addo hyn, a gallai hynny fod i Weinidog olynol, o ystyried lle'r ydyn ni arni yng nghylch y Llywodraeth—ond rwy'n hapus iawn i edrych ar hynny eto ar ôl blwyddyn o'r rhaglen ac yna byddai gennym ni gronfa ddata lawer gwell ar gyfer yr hyn yr ydyn ni'n edrych arno mewn gwirionedd. Mae gennym ni hefyd y landlordiaid cymdeithasol yn gwneud arolwg tair blynedd o'r stoc dai, a fydd yn rhoi gwell syniad i ni ar ochr y stoc gymdeithasol, ac mae gennym ni hefyd yr arolygon effeithlonrwydd ynni yn cael eu cyflwyno ar draws awdurdodau lleol. Felly, bydd gennym ni ddata llawer gwell wedyn i allu gosod targedau campus, fel y'u gelwir, felly rhai sy'n llawer mwy tebygol o fod yn gyraeddadwy ac yn ymestynnol, oherwydd ar hyn o bryd byddai ychydig ar hap. Felly, dydw i ddim eisiau dweud 'na' i'r hyn yr ydych chi'n ei ofyn i mi, ond ar yr un pryd, dydw i ddim eisiau dweud 'wrth gwrs', oherwydd dydw i ddim mewn sefyllfa eto i allu gwneud hynny, ond rwy'n credu, o fewn cyfnod byr, y byddwn ni mewn sefyllfa i wneud hynny, ac yna byddwn i'n hapus iawn i wneud hynny.

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Eitem 5 yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Hannah Blythyn.

Diolch. Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i ddathlu llwyddiant menywod a merched ym mhob man, diwrnod i gofio am yr holl fenywod sydd wedi creu argraff arnom ni a'n hysbrydoli ni. Yn bwysig iawn, mae hefyd yn gyfle i dynnu sylw at yr heriau sy'n dal i wynebu menywod a merched.

Y thema eleni yw 'Ysbrydoli cynhwysiant', ac ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ei hun roeddwn i'n falch o allu cymryd rhan mewn digwyddiad caffi Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, a oedd yn canolbwyntio ar hyn ac ar thema'r Cenhedloedd Unedig eleni, 'Buddsoddi mewn menywod: cyflymu cynnydd'.

Nid oes rhaid dweud bod buddsoddi mewn menywod yn cyflymu cynnydd a phan fydd menywod yn elwa, rydyn ni i gyd yn elwa. Yn y Siambr hon, rydyn ni wedi ymrwymo i anelu at gynhwysiant a'i ysbrydoli, ac mae ein record ar gynrychiolaeth menywod yn y Senedd yn un y gallwn ni fod yn falch ohoni. Mae nid yn unig yn newid wyneb ein gwleidyddiaeth, ond ffocws ein gwleidyddiaeth hefyd; mae'n dda ar gyfer llunio polisïau a gall arwain at wneud penderfyniadau gwell.

Ond gallwn ni ddim llaesu dwylo a rhaid i ni barhau i ddarparu llwyfan i fenywod symud ymlaen mewn bywyd gwleidyddol. Dyna un o'r rhesymau pam mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r rhaglen Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, sy'n anelu at gynyddu amrywiaeth cynrychiolaeth mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru, gyda phobl yn ennill rolau fel aelodau bwrdd, ymddiriedolwyr, llywodraethwyr ysgol, a bod yn llwyddiannus mewn etholiadau lleol.

Yn anffodus, rydyn ni'n dal i glywed y gri anochel ynghylch pam mae angen Diwrnod Rhyngwladol y Menywod arnom ni a pham rydyn ni'n ei nodi. Gadewch i ni fod yn glir: tra bod trais yn erbyn menywod a merched, diwylliannau gwenwynig, rhywiaeth, casineb at fenywod ac anghydbwysedd pŵer yn parhau i fod yn ddigwyddiad beunyddiol sy'n rhy gyffredin o lawer, mae angen parhau i ymgyrchu a herio. Gall hyn newid ac mae'n rhaid iddo newid. Nid oes lle i ymddygiad o'r fath mewn unrhyw ran o gymdeithas, ac mae gan bob un ohonon ni gyfrifoldeb i chwarae ein rhan ac i roi trefn ar ein tŷ ein hunain hefyd. Mae camu ymlaen a chodi llais yn gwneud gwahaniaeth.

Hoffwn i ddiolch i Johanna Robinson, y cynghorydd cenedlaethol dros drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, am rannu ei stori yn ddiweddar. Bydd dewrder Johanna yn helpu ac yn annog eraill i gamu ymlaen eu hunain, i gael cymorth ac i ddod â chyflawnwyr o flaen eu gwell. Felly, rydyn ni'n talu teyrnged i'r holl fenywod sy'n codi eu llais ac sy'n sôn am y gamdriniaeth maen nhw wedi'i hwynebu ac wedi bod yn dyst iddi, a ph'un a ydyn nhw'n sylweddoli hynny ai peidio, bydd y menywod hyn yn creu llwybr ar gyfer dyfodol gwell i fenywod a merched ym mhobman.

Mae ysbrydoli cynhwysiant yn ein plant yn ein helpu ni i gael pethau'n iawn o'r dechrau. Mae ein ffocws ar berthnasoedd iach, cydraddoldeb a chynwysoldeb wrth wraidd ein haddysg cydberthynas a rhywioldeb i bob dysgwr. Mae diogelwch ar-lein yn fater cymhleth sy'n datblygu'n barhaus, ac mae addysgu pobl ifanc ar sut i ymgysylltu'n ddiogel â'r cyfryngau cymdeithasol yn fater trawsgwricwlaidd. Dirprwy Lywydd, ymwelais i ag Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn ddiweddar i weld y gwaith maen nhw'n ei wneud ar urddas mislif. Cefais i fy ysbrydoli'n fawr gan y disgyblion a'u parodrwydd i siarad yn agored am y mislif. Maen nhw wir yn ymgorffori'r thema eleni ac yn dangos bod ein gwaith ar urddas mislif yn cael effaith, fel cynyddu'r nifer sy'n mynd i'r ysgol ac yn cymryd rhan mewn chwaraeon.

Ochr yn ochr â hyn, rydyn ni'n parhau i gefnogi merched a menywod ifanc i fynd i mewn i wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Ym mis Tachwedd, enillodd Anna Petrusenko, o Goleg Gŵyr, wobr myfyriwr y flwyddyn Cynllun Addysg Peirianneg Cymru, ac rwy'n siŵr y bydd Anna yn mynd ymlaen i gael gyrfa STEM lwyddiannus yma yng Nghymru.

Rydyn ni hefyd yn ysbrydoli cynhwysiant yn y gweithle drwy gefnogi gofal plant a gwaith teg. Mae darpariaeth gofal plant hyblyg, fforddiadwy yn ganolog i gefnogi rhieni, i wella incwm drwy waith neu drwy fanteisio ar addysg a hyfforddiant. Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud Cymru'n genedl gwaith teg, un sy'n sicrhau bod menywod ac, yn wir, pob gweithiwr, yn cael cyfle cyfartal i fanteisio ar waith teg, aros mewn gwaith a gwneud cynnydd yn y gwaith.

Rydyn ni'n parhau i hyrwyddo'r manteision y gall gweithlu cyfartal, amrywiol a chynhwysol eu cynnig i unigolion a busnesau. Mae'r fenter gymdeithasol Elite Clothing Solutions, sydd wedi'i lleoli yng Nglynebwy, yn rhoi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar waith drwy roi cyfleoedd i alluogi cyflogaeth gynhwysol i bobl anabl a difreintiedig, gweithwyr hŷn, pobl ifanc a rhieni unigol. Arweiniodd eu hymdrechion nhw at ennill gwobr amrywiaeth a chynhwysiant Gwobrau Busnes Cymru y llynedd.

Mae menywod ar draws Cymru yn gwneud eu marc fel arweinwyr. Y llynedd, Natasha Hirst oedd llywydd anabl cyntaf Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr. Mae Natasha yn adnabyddus i lawer ohonon ni yn y Siambr ac mae hi hefyd yn gadeirydd Celfyddydau Anabledd Cymru, aelod o dasglu hawliau anabledd Llywodraeth Cymru, ac, wrth gwrs, yn ymgyrchydd ymroddedig undebau llafur a chydraddoldeb.

Yng ngwobrau Cymdeithas Cyflawniad Menywod o Leiafrifoedd Ethnig yng Nghymru, derbyniodd dau aelod o staff Llywodraeth Cymru wobrau am arweinyddiaeth—Nashima Begum ac Ayanna Mathurine—y bu'r ddwy ohonyn nhw'n gweithio ar 'Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', ac mae cymaint mwy y gallen ni sôn amdanyn nhw, ond yn anffodus nid oes gennym ni'r amser heddiw.

Ym maes gofal iechyd, mae newidiadau'n digwydd sy'n meithrin cynhwysiant. Rydyn ni wedi cyflogi bydwraig i arwain ar faterion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o fewn polisi mamolaeth a newyddenedigol, sy'n helpu i ddileu rhai o'r anghyfartaleddau y mae menywod du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn eu hwynebu drwy'r cyfnod amenedigol. Ond, fel bob amser, mae mwy i'w wneud.

Dirprwy Lywydd, roedd menywod yn hanfodol i sylfeini datganoli a nhw yw asgwrn cefn ein heconomi. Pan fydd gan fenywod waith boddhaol ac urddasol, mae ein cymunedau, ein heconomi a'n gwlad yn elwa. Yn ystod yr amser cinio hwn, roeddwn i'n falch o gefnogi digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod TUC Cymru, 'Dathlu menywod yn ein mudiad undebau llafur', a oedd yn cydnabod y rôl y mae undebau llafur yn ei chwarae wrth rymuso menywod, mewn gweithleoedd ac yng Nghymru.

Mae'n fwy na chanrif ers Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918, dros hanner canrif ers i fenywod Ford Dagenham gymryd y camau gweithredu diwydiannol a arweiniodd at Ddeddf Cyflog Cyfartal 1970, a chwarter canrif ers i ddatganoli wawrio. Rydyn ni yma i raddau helaeth oherwydd y menywod a baratôdd y ffordd o'n blaenau ni, ac eto mae tipyn o ffordd i fynd. 

Fodd bynnag, nid ydyn ni yma i wireddu'r targed niferoedd, ond oherwydd bod gennym ni gyfraniad enfawr i'w wneud i'n gweithleoedd, ein cymunedau a'n gwlad. Pan fo lleisiau menywod yn ganolog i wleidyddiaeth ddatganoledig, mae ein democratiaeth yn well oherwydd hynny, felly gadewch i ni i gyd ymrwymo i barhau i chwarae ein rhan i ysbrydoli cynhwysiant ym mhob rhan o fywyd.

16:25

Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad heddiw. Fel y gwnaethoch chi nodi, ddydd Gwener 8 Mawrth, yr wythnos diwethaf, oedd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024, diwrnod lle yr ydyn ni'n talu teyrnged i fenywod o bob cwr o'r byd sy'n llysgenhadon dros ein hawliau ni ac yn esiamplau da ar gyfer y genhedlaeth nesaf, yn ogystal â'r rhai sydd drwy gydol hanes wedi brwydro i ni gael yr hawliau hyn. Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ein hatgoffa nid yn unig ein bod ni wedi dod yn bell, ond hefyd fod llawer eto i'w wneud i sicrhau bod menywod o bob oed, pob cefndir, pob hil, pob crefydd, yn cael cyfle cyfartal ac yn cael eu trin yn gyfartal ym mhob senario y gallwn ei hwynebu. 

Rwy'n gwybod, yn gynharach eleni, bod Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ei hun wedi cyhoeddi adroddiad yn cyfeirio at drais ar sail rhywedd fel 'epidemig', ac fe wnaethon nhw ystyried y gwir creulon nad yw rhywiaeth a chasineb at fenywod yn ddigwyddiadau ynysig yn unig, ond eu bod yn broblemau systematig a rheolaidd sydd wedi'u gwreiddio'n ddwfn o fewn strwythur y gymdeithas ei hun. Ac yn siomedig, mae hyn yn cael ei gefnogi gan amcangyfrifon a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd sy'n nodi, yn fyd-eang, bod tua un o bob tair menyw ledled y byd wedi dioddef trais corfforol a/neu rywiol yn ystod eu hoes. Mae hynny'n cyfateb i 30 y cant o fenywod ar draws y byd.

Mae'r ystadegyn brawychus a ffiaidd hwn hefyd yn cyd-fynd ag ymchwil yn yr arolwg troseddau ar gyfer Cymru a Lloegr, a amcangyfrifodd, yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020, fod 1.6 miliwn o fenywod rhwng 16 a 74 oed wedi profi cam-drin domestig. Mae hynny'n gyfystyr â 7 y cant o boblogaeth fenywaidd y DU, ac mae 5 y cant arall wedi profi stelcio, ac nid cam-drin corfforol yn unig yw hwn, ond cam-drin emosiynol hefyd. Mae'n cael effaith ddinistriol a pharhaol ar ddioddefwyr am weddill eu hoes, ac mae'n rhaid i ni barhau ar y cyd i wneud popeth o fewn ein gallu i leihau'r ffigurau hyn, fel bod menywod a merched yn teimlo'n ddiogel ar ein strydoedd ni yma yng Nghymru, yn eu cartrefi a hefyd yn eu gweithleoedd. Felly, gyda hyn mewn golwg, Dirprwy Weinidog, pa waith sydd wedi'i wneud ers rhyddhau canfyddiadau'r adroddiad i frwydro yn erbyn trais ar sail rhywedd ac i helpu i leihau'r rhywiaeth systematig sydd wedi'i hymgorffori yn ein cymdeithas? 

Hoffwn i hefyd achub ar y cyfle hwn i ddiolch i chi, Dirprwy Weinidog, a hefyd i'r Gweinidog, a thalu teyrnged i'r gwaith yr ydych chi wedi'i wneud, yn ymgyrchu ar ran menywod sy'n ddioddefwyr trais domestig ac am gefnogi cyfle cyfartal i fenywod a merched o gyfnodau cynnar ysgolion yr holl ffordd i'w bywydau fel oedolion. Yr wythnos diwethaf, fe wnes i gwrdd â llawer o'r merched ifanc hyn, ochr yn ochr â'r ddwy ohonoch chi hefyd, o ysgolion ledled y de-ddwyrain yn ein dathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ein hunain yn Senedd Cymru. Roeddwn i'n eistedd ar fwrdd gyda grŵp o ferched ifanc o Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, a gymerodd ran mewn trafodaeth wych ar chwalu rhwystrau a stigma ynghylch merched yn mynd i rolau arweinyddiaeth, gan gynnwys y diwydiant gwleidyddol.

Roedd y merched ifanc hyn, 'y genhedlaeth nesaf', fel yr wyf i'n eu galw nhw, yn ysbrydoliaeth, ac rwy'n gobeithio eu bod wedi gadael, fel y gwnes i, yn teimlo wedi'u hysbrydoli ac yn gwybod eu bod yn gallu gwneud a chyflawni unrhyw beth y maen nhw'n rhoi eu bryd arno. Felly, ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024, rwy'n gobeithio y gwnawn ni, gyda'n gilydd, nid yn unig grymuso'r genhedlaeth nesaf i wneud beth bynnag y maen nhw'n ei ddymuno a'u helpu nhw i godi ymwybyddiaeth a diogelu menywod o bob oed a chefndir yn erbyn trais a cham-drin domestig, ond rwy'n gobeithio y gwnawn ni i gyd barhau i addysgu—addysgu ein tadau, ein brodyr a'n meibion, fel bod y genhedlaeth nesaf o ddynion yn tyfu i fyny mewn byd lle mae menywod yn cael eu hystyried yn gyfartal o'r cychwyn ac, yn lle ceisio gwrthdroi'r casineb systematig at fenywod sydd eisoes wedi'i ymgorffori yn ein cymdeithas, y byddwn ni'n hyrwyddo ac yn dathlu'r ffaith bod gwaith menywod yng nghenedlaethau'r gorffennol wedi golygu nad oes rhaid i'n chwiorydd, merched, mamau a ffrindiau bod ag ofn am eu diogelwch dim ond oherwydd eu bod yn fenywod. 

Felly, yn olaf, Dirprwy Weinidog, beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i addysgu pob disgybl fel bod y genhedlaeth nesaf, o'r dechrau un, yn deall pwysigrwydd cyfle cyfartal a bod gwahaniaethu o unrhyw fath yn mynd i fod yn annerbyniol? Diolch.  

Diolch. A gaf i ddiolch i Natasha Asghar ac mewn gwirionedd diolch i chi am bopeth rwy'n gwybod yr ydych chi'n ei wneud fel esiampl i fenywod ifanc mewn cymunedau ledled Cymru hefyd? Rwy'n credu os gwnaf i ateb yn gyntaf ynghylch y gwaith ynghylch—. Fe wnaethoch chi sôn am y cysylltiad, yn anffodus, rhwng casineb at fenywod a rhywiaeth ac yna cyflawnwyr trais yn erbyn menywod hefyd. Rydyn ni'n gwybod bod y math hwnnw o ymddygiad ac aflonyddu rhywiol yn rhan o'r diwylliant aflonyddu ehangach hwnnw o drais yn erbyn menywod. Rydych chi'n iawn y byddwn ni ond yn mynd i'r afael ag achos sylfaenol yr ymddygiadau hynny os byddwn yn mynd i'r afael â rhywiaeth a chasineb at fenywod ym mhob rhan o gymdeithas, gan gynnwys y gweithle. Rwy'n credu, i ni fel Llywodraeth, ei fod yn ymwneud â defnyddio'r ysgogiadau sydd gennym i wneud gwahaniaeth, ac i gyflawni rhywfaint o newid ystyrlon.

Mae ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael ei chyflawni mewn gwirionedd drwy ddull glasbrint, felly mae'n dwyn ynghyd yr holl bartneriaid hynny ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat ac arbenigol yng Nghymru, gan gydnabod nad tasg i un asiantaeth nac un sefydliad yw hon. Byddwn ni ond yn cyflawni'r newid hwnnw, oherwydd mae'n newid diwylliannol enfawr hefyd, gyda'r gweithredu ar y cyd hwnnw. Ac fel y dywedoch chi, ac fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, mae'n dechrau ar y dechrau, onid ydyw? Mae'n dechrau yn yr ysgol. Mae gan ein haddysg perthnasoedd a rhywioldeb gynhwysol newydd rôl i'w chwarae yn hynny, a hefyd y cwricwlwm cynhwysol ynghylch dinasyddiaeth weithredol a'r ystod eang o adnoddau sydd yno i gefnogi dysgwyr ynghylch diogelwch ar-lein. Mae'n amlwg bod hon yn sefyllfa sy'n esblygu hefyd.

I orffen fy ateb i chi ar bwynt cadarnhaol, rydych chi'n iawn bod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn amser i fyfyrio ar yr hanes, a'r menywod a ddaeth o'n blaenau ac a baratôdd y ffordd, ond hefyd i geisio symud ymlaen a chefnogi'r genhedlaeth nesaf. Roedd hi'n dda iawn bod yn nigwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gyda chi, gyda Jane Hutt, ac rwy'n credu bod Sioned Williams yno wrth y ford gron hefyd, a gwrando. Gweithiodd yn dda iawn i mi, oherwydd roedd gen i rywun a oedd yn cymryd rhan yn y rhaglen Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, sydd mewn gwirionedd yn fentorai i un o swyddogion Llywodraeth Cymru. Rwy'n credu eu bod nhw wedi bod mewn digwyddiad yr oedd Heledd Fychan a finnau'n siarad amdano, ac wedyn fe ddaethon nhw i mewn am y diwrnod. Ond mewn gwirionedd, roedd yn dda iawn, bod â rhywun a oedd yn rhan o'r rhaglen honno yn rhan o'r drafodaeth honno gyda'r menywod ifanc hynny—rwy'n credu fy mod i gyda rhywun o Ysgol Uwchradd Fitzalan, yn sôn am y pethau roedden nhw eisiau eu gweld, a'r rhwystrau. Rwy'n credu eu bod nhw wedi mynd i ffwrdd wedi penderfynu eu bod nhw'n mynd i gynnal eu digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eu hunain yn eu hysgol y flwyddyn nesaf. Maen nhw'n mynd i efelychu'r panel yr oedden nhw wedi'i weld yno, oherwydd eu bod nhw wedi ei fwynhau a'i werthfawrogi cymaint.

16:30

Mae'n braf eich clywed chi'n sôn am Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, fy hen ysgol i. Mae'n wych meddwl bod yna genhedlaeth newydd o fenywod ifanc cryf yn arwain y gad yn fanna. 

Rwy'n siŵr bod llawer ohonon ni wedi treulio Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn siarad am yr angen am gydraddoldeb rhywiol, yn dathlu cyflawniadau menywod, yn diolch i'n chwiorydd sydd wedi ein hysbrydoli ni neu sydd wedi ein cefnogi ni. Roeddwn i'n falch o drafod, fel y gwnaethoch chi sôn, â merched ifanc o Ysgol Plasmawr a ddaeth i'r Senedd, y materion yr oedden nhw'n pryderu amdanyn nhw fel menywod ifanc yng Nghymru—y bwlch cyflog annerbyniol rhwng y rhywiau, y ffaith na allan nhw gael gafael ar y cyfarpar chwaraeon cywir gan ei fod wedi'i gynllunio ar gyfer dynion, y ffaith nad yw ein timau merched cenedlaethol yn cael yr un parch â'r dynion yn eu barn nhw. Roedden nhw hefyd yn teimlo nad oedd cyflawniadau menywod yn dal i fod mor hysbys â rhai dynion, a gwnaethpwyd sylw bod arweinwyr y tair plaid wleidyddol fwyaf yng Nghymru, gan gynnwys fy un i, yn ddynion.

Mae'n wych gweld y datganiad hwn i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn cael ei wneud ar y diwrnod hanesyddol hwn ar gyfer gwleidyddiaeth Cymru—yr un diwrnod â chyflwyno Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol), a fydd yn cyflwyno cwotâu rhywedd i sicrhau bod menywod yn cael eu cynrychioli'n well yn y Senedd hon. Gallwn ni sicrhau bod menywod yn cael eu cynrychioli a bod y polisïau yr ydyn ni'n eu gwneud yn lleihau anghydraddoldeb trwy drawsnewid y systemau y mae cynifer o'r anghyfiawnderau y mae menywod yn eu hwynebu yn deillio ohonyn nhw. Mae Plaid Cymru eisiau gweld Cymru deg yn seiliedig ar ganlyniadau cyfartal, nid cyfle cyfartal yn unig.

Fodd bynnag, mae gennym ni, fel cenedl, dipyn o ffordd i fynd o hyd tuag at genedl sy'n gyfartal o ran rhywedd ac sy'n rhydd o ragfarn, stereoteipiau a gwahaniaethu, ac mae'n rhaid bod yna her gyson yn ein diwylliant a'n hymarfer, yn ein sefydliadau a'n gwasanaethau. Mae angen i'r diwygiadau fod yn ystyrlon, mae angen i'r gweithredu fod yn radical, mae angen i'r newidiadau fod yn amlwg. Er mwyn sicrhau Cymru sy'n wirioneddol gyfartal o ran rhywedd, mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar y menywod mwyaf ymylol yn gyntaf—y menywod mewn cymdeithas sy'n wynebu'r rhwystrau mwyaf a'r rhai mwyaf difreintiedig—ac effaith gyfansawdd y croestoriad rhwng anghydraddoldeb rhwng y rhywiau ac anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol eraill, sy'n amlwg ym mhob adroddiad yr ydyn ni'n ei ddarllen. Mae astudiaeth ar ôl astudiaeth yn dweud wrthyn ni fod menywod yng Nghymru yn wynebu mwy o risg o dlodi a bod yr argyfwng costau byw yn cael effaith anghymesur ar fenywod, yn enwedig y rheini o gefndir lleiafrifoedd ethnig a menywod anabl.

Er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn briodol, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo'n llawn i weithredu cyllidebu ar sail rhyw, fel sy'n cael ei awgrymu yn yr adolygiad cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Rydyn ni'n croesawu'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma, ond mae'n parhau i fod yn rhy araf, a rhaid iddo gael ei weithredu er mwyn sicrhau nad yw polisïau yn cael effaith anghymesur ar fenywod. Hoffwn i gael yr wybodaeth ddiweddaraf, felly, ar y materion hyn, os gwelwch yn dda, Dirprwy Weinidog, ac ymrwymiad bod yn rhaid, nid yn unig nodi effaith polisïau, ond gweithredu ar hynny hefyd. Yn ein gwaith craffu, clywodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol gyfaddefiad gan y Llywodraeth y byddai llawer o'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn cael effaith anghymesur ar fenywod, ond cawson nhw eu gwneud beth bynnag. Felly, a ydych chi'n cytuno, Gweinidog, na ellir caniatáu i hyn barhau os yw'r Llywodraeth wedi ymrwymo yn wirioneddol i gydraddoldeb rhywiol?

Rhaid i ni hefyd wneud mwy i fynd i'r afael â'r casineb at fenywod a'r trais yn erbyn menywod yr ydyn ni'n eu gweld o fewn gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yng ngoleuni'r ymchwiliad a ganfu fod diwylliant rhywiaethol a chasineb at fenywod yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a'r adroddiad diweddar i'r ffordd yr ymdriniodd yr Heddlu Metropolitanaidd ag achos Sarah Everard. A ydych chi'n cytuno na ddylen ni byth ganiatáu i unrhyw aelodau o wasanaethau cyhoeddus gadw eu swyddi er gwaethaf honiadau eu bod wedi aflonyddu ar fenywod a'u cam-drin yn rhywiol, neu eu bod wedi goruchwylio'r diwylliant hwn, neu ganiatáu iddyn nhw ymddeol neu symud i swyddi eraill wrth wneud hynny?

Mae llawer o fenywod wedi mynegi atgasedd ac anobaith llwyr wrth weld gwleidyddion nad ydyn nhw'n barod i alw am gadoediad ar unwaith yn Gaza yn dathlu cynnydd hawliau menywod yng Nghymru a'r DU yr wythnos diwethaf, tra amcangyfrifir bod 9,000 o fenywod wedi cael eu lladd gan luoedd Israel yn Gaza. Wrth i ni ddiolch i'n mamau a meddwl amdanyn nhw y dydd Sul hwn, amcangyfrifir bod 37 o famau wedi cael eu lladd yn Gaza. Mae tua 60,000 o fenywod beichiog yn dioddef o ddadhydradu a diffyg maeth yno, ac nid oes unrhyw urddas mislif yn Gaza, dim mynediad i doiledau, padiau na dŵr glân. Fel yr amlygais yn fy nadl ddiweddar ar rôl Cymru wrth alw am heddwch byd-eang, dan arweiniad menywod Cymru, fel y rhai a wnaeth, ganrif yn ôl, ddweud y gwir wrth y rhai mewn grym gyda'u deiseb heddwch i'r UD—fy hen fam-gu, menyw a oedd yn byw mewn tlodi, yn eu plith—mae gan y Llywodraeth lawer i'w wneud o ran ein rôl yn rhyngwladol wrth hyrwyddo hawliau menywod a merched. Ni all y drafodaeth ar hawliau menywod fod ar wahân i ffaith y trais milwrol yn Gaza. Rwyf i yn y lle hwn oherwydd bod fy hawliau fel menyw wedi'u hennill drwy ddycnwch mawr. Mae'n ddyletswydd arnaf fel menyw yn y lle hwn i godi fy llais yn erbyn y trais hwnnw. Rhaid i ni wneud mwy i gefnogi ein chwiorydd yn Gaza, a defnyddio'n llais fel cenedl i gondemnio'r rhyfel erchyll hwn. A ydych chi'n barod, Gweinidog, i ychwanegu llais Llywodraeth Cymru at y galwadau rhyngwladol am gadoediad ar unwaith a diwedd i ddioddefaint torfol menywod a merched Palestinaidd? 

16:35

Diolch i Sioned Williams am ei chyfraniad. Rwy'n gwybod bod llawer gennym ni'n gyffredin bob amser, hyd yn oed os mai dim ond y pethau sy'n ein gwneud ni yr un mor ddig ac yn benderfynol o gyflawni newid ydyn nhw. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli mai Ysgol Gyfun Cwm Rhymni oedd eich hen ysgol. Ac rwy'n credu mai ysgol Delyth Jewell oedd hi hefyd. [Torri ar draws.] Roedd hynny'n amseru perffaith, Delyth. Mae llawer o'r gwaith rydych chi'n dod ar ei draws, fel gwleidyddion, ac fel aelodau Llywodraeth, yn anhygoel o heriol—mae'n fuddiol, ond yn heriol—ac mae'n rhaid i chi barhau i ysgogi'r newid hwnnw, yn wyneb adfyd, a'r herio sy'n dod yn ôl, nid yw bob tro yn ymwneud â chraffu, ond mae'n debycach i, 'Nid ydyn ni eisiau newid'. Ond mae mynd ar yr ymweliadau ysgol hynny wir yn ein hatgoffa ni pam ein bod ni'n gwneud hyn. A dim ond i weld y menywod ifanc hynny, pa mor huawdl a hyderus yr oedden nhw, a pha mor rymus yr oedden nhw'n ei deimlo drwy allu gwneud—. Cafodd ei arwain gan eu lleisiau. Roedden nhw wedi dweud yr hyn yr oedd ei angen arnyn nhw, ac roedden nhw wedi llywio sut olwg oedd ar y gefnogaeth honno yn eu hysgol, ac yna roedden nhw'n awyddus iawn i rannu hynny gydag ysgolion eraill, o ran yr hyn yr oedden nhw'n ei wneud yn yr ardal, a'i gymryd oddi yno hefyd. Roedd wir yn ymweliad ysbrydoledig. 

Ar ochr arall hynny, gwyddom fod cyni a chostau byw yn taro'r rhai lleiaf abl i ysgwyddo'r baich fwyaf. Gwnaethoch chi siarad am gyllidebu ar sail rhywedd, ac rydyn ni wedi cynnal cynlluniau peilot cyllidebu ar sail rhywedd i lunio dealltwriaeth o sut mae modd gwreiddio'r gwaith hwnnw a'i ehangu. Mae'r gwaith hwnnw'n parhau i ennill gwell dealltwriaeth o'r gyllideb ar sail rhywedd honno a sut y gall hynny ddod yn norm, yn hytrach na'r eithriad. Rydyn ni'n gwneud hynny gyda chysylltiadau ag amrywiaeth o gydweithwyr mewnol ac allanol sydd â diddordeb yn y gwaith hwn. I mi, nid yw'r cam nesaf o ran hynny yn ymwneud â chyllidebu ar sail rhywedd yn unig, mae'n ymwneud â gweld pethau drwy lens rhywedd, onid ydyw? Oherwydd mae rhai penderfyniadau a rhai polisïau yn effeithio ar fenywod yn fwy na dynion—nid wyf i'n golygu dim ond mewn ffordd negyddol, ond, mewn gwirionedd, gallwch chi wneud penderfyniadau mewn ffordd benodol sy'n gwella canlyniadau menywod. Rwy'n credu bod gwaith ar gael yn y dyfodol, i weithio gyda'r pwyllgor, ac ar draws y Llywodraeth, o ran sut yr ydyn ni'n rhoi'r strwythurau hynny ar waith ymhellach i sicrhau ein bod ni'n gweld pethau yn y ffordd honno.

Un o'r pethau y byddwn i'n ei ddweud, ac un o'r rhesymau pam yr ydych chi'n gweld pethau yn y ffordd honno—ac mae'n mynd yn ôl i sut y gwnaethoch chi ddechrau—yw bod cael mwy o fenywod yn gwneud y penderfyniadau hynny, mewn gwirionedd, nid yn unig yn y Siambr hon, nid yn unig yn y Llywodraeth, ond o fewn y gwasanaeth sifil, o fewn y gwahanol sefydliadau hynny sy'n dod at ei gilydd drwy ein trefniadau partneriaeth gymdeithasol—. A dweud y gwir, dyna pam yr ydyn ni'n dweud bod pobl yn arbenigwyr yn ôl profiad—gweithwyr mewn partneriaeth gymdeithasol, ond menywod, yn enwedig hefyd. Felly, rwy'n credu bod mwy y gallwn ni ei wneud a gwersi y gallwn ni eu dysgu ar hynny. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod gennym ni rôl i'w chwarae o ran nid yn unig—. Gwnaeth pobl frwydro'n galed i ni fod yma, ac yn bendant nid ydyn ni'n cymryd hynny'n ganiataol, a byddwn ni'n brwydro'n galed dros eraill, p'un ai ydy hynny'n rhai o'r pethau erchyll yr ydyn ni'n eu gweld yn Gaza ar hyn o bryd, ond hefyd gartref yma o ran sicrhau bod gan y genhedlaeth nesaf ddyfodol gwell na ni. 

16:40

Dirprwy Weinidog, diolch am eich datganiad. Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yw'r achlysur blynyddol hwnnw i nodi a dathlu cyflawniadau menywod a merched ym mhobman ledled y byd, ac mae'n ein galluogi ni i ganolbwyntio a chydnabod bod llawer o fenywod a merched, nawr yn fwy nag erioed, yn dioddef yn anghymesur mewn mathau o wrthdaro byd-eang, o ryfel, o ddadleoli ac o drais rhywiol.

Ond yr hyn sy'n digwydd bob dydd sy'n cyfrif hefyd, ac mae gormod o fenywod a merched yn y byd heddiw nad oes ganddyn nhw fynediad at hawliau dynol sylfaenol nac addysg, ac mae'n iawn ein bod ni'n dod at ein gilydd a dweud y dylen ni i gyd fod yn gweithio tuag at gynrychiolaeth gyfartal i fenywod ar draws ein holl Seneddau, cyflog cyfartal ac absenoldeb rhieni, a hefyd dod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben. Rwyf hefyd yn croesawu'r ddeddfwriaeth cwota rhywedd arfaethedig sydd i'w disgwyl yn y lle hwn.

Roedd yn anrhydedd i mi gynrychioli'r Senedd, ynghyd â fy nghydweithiwr Janet Finch-Saunders, yr wythnos diwethaf yn negfed gynhadledd Seneddwragedd y Gymanwlad Ynysoedd Prydain a Rhanbarth y Canoldir, o'r enw 'Menywod cydnerth: mowldio merched yn fenywod cryf', ac fel is-gadeirydd pwyllgor llywio Seneddwragedd y Gymanwlad, i dderbyn y cynllun datblygu cyffredin ar gyfer y rhanbarth hwn. Roedd yn gyfle i seneddwyr benywaidd ledled rhanbarth y Gymanwlad drafod y datblygiadau a'r heriau yr ydyn ni'n eu rhannu, sy'n wynebu menywod a merched yn ein gwledydd a'n deddfwrfeydd priodol. Mae'n iawn bod cyflog cyfartal, absenoldeb rhieni cyfartal, cynrychiolaeth gyfartal a dod â thrais yn erbyn menywod i ben yn cael eu gyhoeddi'n uchel ac yn glir.

Dirprwy Weinidog, yn eich datganiad chi, rydych chi'n tynnu sylw at y ffaith bod menywod yn hanfodol i sylfeini datganoli ac yn asgwrn cefn ein heconomi. Felly, beth ydych chi'n teimlo yw'r heriau mwyaf i fenywod a merched yn y tymor byr, canolig a hir dymor yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain, ac a ydych chi'n cytuno â mi bod yn rhaid i newid barhau ar frys?

Rwy'n falch bod Rhianon Passmore wedi cyrraedd cwestiwn uniongyrchol a syml iawn ar y diwedd am yr atebion tymor byr, canolig a thymor hir. [Chwerthin.] Ond gallaf i ddweud yn bendant fy mod i'n cytuno'n llwyr â chi bod angen i ni symud ymlaen yn gyflym. Fel y dywedais i, ni allwn ni laesu dwylo. Dylen ni ddefnyddio Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn briodol i fyfyrio ar y cynnydd sydd wedi'i gyflawni ac i fyfyrio ar bobl sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr, ond gan hefyd gydnabod bod heriau yn y tymor byr o ran pethau fel costau byw, ac yn y tymor hwy, o ran dod â thrais yn erbyn menywod i ben a sicrhau, yn y tymor hirach, y dylen ni fod yn ymgyrchu fel nad oes angen i ni wneud pethau fel yr ydyn ni'n eu  gwneud nawr. Rwy'n cofio pan oeddwn i'n iau, roedden ni arfer ymgyrchu dros ymgyrchoedd cydraddoldeb, a dylai'ch nod yn y pen draw fod i ymgyrchu tan nad nad ydych chi'n bodoli; mae'n ymwneud â bod dim angen amdanoch chi mwyach. Felly, rwy'n credu ei fod yn fater o beidio â rhoi'r gorau iddi, i ddal ati a gwybod ein bod ni wedi goresgyn cymaint o'r blaen, hyd yn oed ar y dyddiau tywyllaf, a gallwn ni oresgyn cymaint eto.

Rydw i am ddechrau drwy fynegi solidariaeth â'r frwydr ryngwladol am gydraddoldeb rhywedd. Rwy'n gadarn o'r farn bod cyfrifoldeb ar ddynion i fod yn gynghreiriaid yn yr achos. Yn wir, fel tad cariadus i ddwy o'r merched bach gorau welais i erioed, mae hawl ganddyn nhw i gael yr un cyfleoedd mewn bywyd â'r ddau frawd sydd ganddyn nhw. Ond, wrth gwrs, mae anghydraddoldeb rhywedd yn arbennig o glir yn y maes iechyd, lle mae canlyniadau iechyd yn parhau i ddylanwadu'n drwm ar anghydraddoldebau yn seiliedig ar rywedd. Y mis yma rydyn ni'n cydnabod Mis Endometriosis, ac mae'r cyflwr yma â thystiolaeth glir yn dangos bod merched yn cael eu gadael i lawr gan y system. Yn wir, mae COVID wedi dangos i ni fod anghydraddoldeb wedi bod rhwng dynion a menywod pan fo'n dod i gyflwr COVID a'r pandemig.  

Mae iechyd meddwl amenedigol yn faes arall lle mae'n amlwg bod angen sefydlu strwythurau cymorth mwy effeithiol, yn enwedig gan nad yw'r un o'r saith gwasanaeth iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru yn bodloni safonau math 1 cenedlaethol Canolfan Gwella Ansawdd y Coleg yn llawn. Felly, fy nghwestiwn i yw hyn: wrth i ni gydnabod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae'n siomedig nad ydyn ni hyd yma wedi gweld fawr ddim cynnydd ar gynllun iechyd menywod. Pa gamau y mae'r Dirprwy Weinidog yn eu cymryd i weithio gyda'r Gweinidog iechyd i sicrhau y bydd cynllun iechyd menywod yn dod i'r amlwg cyn gynted â phosibl?

Diolch, Mabon ap Gwynfor. A gaf i groesawu eich ymrwymiad fel cynghreiriad ac eiriolwr, gyda nodyn atgoffa, mewn gwirionedd, fod cyfrifoldeb arnom ni i gyd, nid dim ond menywod, hefyd? Gallaf i fyfyrio yn ôl ar dyfu i fyny gyda fy nhad fy hun, a wnaeth fy annog i drwy ddweud, 'Galli di wneud unrhyw beth rwyt ti eisiau ei wneud'. Rwy'n ei gofio'n dweud wrthyf i nad oedd y fath beth â theganau bechgyn a theganau merched. Rwy'n credu bod hynny'n rhannol oherwydd ei fod eisiau chwarae gyda cheir a Lego gyda fi ac roedd yn well gen i hynny beth bynnag. Ond, ie, y pethau bach y gallwch chi eu gwneud, onid ydyw, yn ystod plentyndod, sy'n cael effaith fawr hefyd.

Ond gan droi at y pwynt mwy sylweddol y gwnaethoch chi, mae ymdrin â'r anghydraddoldebau presennol yn y ffordd y mae menywod yn cael gafael ar ofal iechyd yng Nghymru, a'u profiad ohono, yn hanfodol os ydyn ni'n mynd i gyrraedd lle mae angen i ni fod—y Gymru gyfartal honno o ran rhywedd. Rwy'n gwybod ddydd Gwener bod fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig i Aelodau'r Senedd gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud i wella gofal iechyd menywod a merched yng Nghymru, gan gynnwys datblygu cynllun iechyd menywod gan GIG Cymru. Ond rwy'n cydnabod yn llwyr yr angen i ddatblygu hynny a'r ymrwymiad i gydweithio i wneud i hynny ddigwydd. Ac mae hynny'n mynd o gyfle i fanteisio ar wasanaethau ond hefyd y ffordd y mae pobl yn ymdrin â chi efallai pan fyddwch chi'n cael y gwasanaethau hynny hefyd, a'r iaith sy'n cael ei defnyddio a'r ffordd y mae pobl yn cael eu cefnogi hefyd. Felly, mae pecyn cyfan o waith, ond, fel y dywedais i, mae gwaith wedi'i wneud, ond yn amlwg mae llawer mwy i'w wneud i ddatblygu hynny hefyd.

16:45

Diolch, Dirprwy Lywydd. A diolch i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad heddiw. Rwy'n cofio dysgu am y swffragetiaid yn yr ysgol gynradd a meddwl pa mor ddewr a chryf y mae'n rhaid bod y menywod hynny wedi bod i ymladd dros yr hyn yr oedden nhw'n credu ynddo. Mae ond yn iawn ein bod ni'n cael diwrnod i ddathlu popeth y maen nhw wedi'i gyflawni a'r hyn y mae menywod ledled y byd yn parhau i'w gyflawni. Bydd pob un ohonom wedi cael ein hysbrydoli gan fenyw yn ein bywydau, p'un ai'n aelod o'r teulu, yn ffrind, yn aelod o'r gymuned neu'n rhywun enwog. Mae menywod yn effeithio ar ein bywydau bob dydd. Yng Nghymru, yn amlach na pheidio, menywod yw ein gofalwyr pan fyddwn ni'n mynd yn sâl, nhw yw ein haddysgwyr sy'n ein paratoi ni ar gyfer ein gyrfaoedd yn y dyfodol, a nhw yw ein cefnogwyr ledled elusennau pan fydd angen help llaw arnon ni.

Rwy'n siŵr y bydd cydweithwyr o bob rhan o'r Siambr yn gyffrous i wybod y bydd Amanda Blanc, prif weithredwr anhygoel Aviva, yn y Senedd nos yfory, fel rhan o ddathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Cafodd Amanda ei geni a'i magu yn Nhreherbert yn y Rhondda, aeth hi i Ysgol Gyfun Treorci ac ers hynny mae hi wedi cael ei phenodi'n Fonesig am wasanaethau i fusnes, sero net a chydraddoldeb rhywiol. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ymuno â mi i ddathlu cyflawniadau menywod ar draws ein cymunedau, ein harwyr bob dydd, yn ogystal â menywod fel Amanda Blanc y byd hwn, pob un â'i rhan ei hun i'w chwarae a'i chyfraniad i'w wneud? Hoffwn i hefyd dalu teyrnged i fenyw anhygoel a wnaeth fy ysbrydolodd i: fy mam fy hun. Nid yw hi gyda ni erbyn hyn, ond mae hi dal i fy ysbrydoli i bob dydd.

Diolch, Buffy, am y cyfraniad teimladwy hwnnw. Rwy'n siŵr bod eich mam yn falch iawn ohonoch chi hefyd. Ac rydych chi'n gywir fy mod i, yn ymuno â chi'n llwyr i ddathlu cyflawniadau menywod ledled ein cymunedau—yr arwyr bob dydd, fel y dywedwch chi. Mae gennym ni fenywod ysbrydoledig o'n cwmpas ni ac efallai na fyddan nhw bob amser yn cyrraedd y penawdau, ond maen nhw'n sicr yn achubiaeth yn ein cymunedau ledled y wlad. Felly, ydw, rwy'n cytuno â chi'n llwyr o ran eu dathlu nhw a'r rolau y maen nhw'n eu chwarae. Gwnaethoch chi sôn am ddysgu am y swffragetiaid yn yr ysgol gynradd ac fe wnaeth hynny wneud i mi feddwl am y rhan y mae diwylliant poblogaidd yn ei chwarae hefyd wrth addysgu am yr hanes pwysig iawn hwnnw na ddylen ni fyth ei gymryd yn ganiataol a'r menywod hynny a frwydrodd dros yr hyn yr ydyn ni'n ei hystyried yn hawl mor syml ac uniongyrchol y dyddiau hyn, ond roedd hi mor anodd iddyn nhw. Y peth sydd wedi fy nharo i, rwy'n cofio, unwaith—amser cyfaddef—fy hoff ffilm i, wrth dyfu i fyny, oedd Mary Poppins, ac rydw i'n cofio, mae gennyf i hi yn fy mhen nawr, cân Sister Suffragette o ffilm Mary Poppins, ond rwy'n Gymraes  tôn-fyddar, felly nid ydw i'n mynd i ddechrau canu, ond roedd y llinell rhywbeth fel:

'milwyr mewn peisiau / A chrwsadwyr eofn dros bleidleisiau i ferched'.

Ac nid wyf i eisiau sarhau'r cynghreiriaid gwrywaidd, ond maen nhw'n mynd ymlaen i ddweud:

'Er ein bod ni’n caru dynion yn unigol / Rydym yn cytuno fel grŵp eu bod nhw braidd yn dwp'.

Ond rwy'n credu, yn y ffordd yna, rwy'n sylwi bod—. Wyddoch chi, yn ddiweddar iawn, marwolaeth Glynis Johns yr ydoedd, onid oedd, a oedd yn chwarae Mrs Banks yn ffilm wreiddiol Mary Poppins. Mae ond yn dangos y rôl a gafodd ei chwarae, oherwydd cafodd hynny ei seirio ar fy nghof pan oeddwn i'n blentyn, ond wedyn hefyd, wrth i mi fynd yn hŷn a gweithio yn y mudiad undebau llafur, gan ei weld trwy lens wahanol—. Yng ngala glowyr Durham, roedd drama un fenyw, a oedd yn cynnwys persbectif dosbarth gweithiol y gogledd ar fudiad y swffragetiaid, a oedd yn agoriad llygad mewn gwirionedd, ond mae'n rhoi'r darlun cyfannol hwnnw i chi o'n hanes a'r menywod na fydden ni efallai wedi clywed amdanyn nhw o'r blaen, ond mae angen i ni barhau i ddathlu a disgleirio sbotolau arno, fel ein bod ni'n parhau i ddatblygu eu hetifeddiaeth.

16:50
6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol

Eitem 6: datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol—y gronfa integreiddio rhanbarthol. A galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y cynnydd cadarnhaol sy'n cael ei wneud yma yng Nghymru i ddod â'r systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn agosach at ei gilydd ac i adlewyrchu ein huchelgais i gynyddu maint a chyflymder y newid wrth i ni symud ymlaen. Mae integreiddio wedi bod yn flaenoriaeth hirdymor i'r Llywodraeth hon, ac fe'i hamlygwyd ymhellach yn ein cytundeb cydweithio yn 2021 gyda'n cyd-Aelodau yn Plaid Cymru. Ac er ei bod wedi cymryd amser, mae'n amlwg bod ein taith tuag at integreiddio ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn mynd rhagddi'n dda.

Mae llawer mwy o waith i'w wneud o hyd, ond rwy'n falch o'r camau yr ydym wedi'u cymryd, sydd wedi'u gwreiddio mewn partneriaeth ac mewn cydweithredu, ac sydd wedi bod yn sensitif ac yn ymatebol i amodau lleol. Wrth gwrs, mae'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn i raddau helaeth oherwydd y lefel uchel o gydweithredu rhwng ein sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, a dylid rhoi clod i bawb sydd wedi arwain a chefnogi'r daith i'r pwynt hwn.

Yma yng Nghymru mae gennym rai amodau unigryw sydd wedi ein galluogi i wneud cynnydd, gan gynnwys deddfwriaeth a pholisi allweddol yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac yn 'Cymru Iachach', adnoddau pwrpasol yn y gronfa integreiddio rhanbarthol gwerth £146 miliwn a'r gronfa gyfalaf integreiddio ac ailgydbwyso gwerth £70 miliwn, a sector iechyd a gofal cymdeithasol ymroddedig sy'n mynd ati i feithrin perthnasoedd gwaith cadarnhaol ac i helpu pobl i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw.

Erbyn hyn, mae ein saith bwrdd partneriaeth rhanbarthol, a sefydlwyd o dan y Ddeddf, yn nodwedd allweddol o'r dirwedd iechyd a gofal cymdeithasol, ac fe'u cydnabyddir fel y gofod lle mae partneriaid yn dod ynghyd i greu dealltwriaeth a chynllunio ein gwasanaethau iechyd a gofal ar y cyd yn y gymuned. Teimlwyd manteision y trefniadau partneriaeth hyn yn glir yn ystod COVID-19 ac mewn ymatebion dilynol yn y gaeaf. Mae byrddau partneriaeth rhanbarthol hefyd yn cryfhau'r rôl y mae'r trydydd sector yn ei chwarae yn ein systemau iechyd a gofal, gan sicrhau eu bod yn cael eu galluogi i gymryd rhan weithredol yn ein trefniadau partneriaeth a hyrwyddo buddsoddiad ynddyn nhw. Dim ond yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi buddsoddi dros £24.5 miliwn o'r gronfa integreiddio rhanbarthol yn uniongyrchol mewn gwasanaethau a ddarperir gan y trydydd sector.

Mae rhaglen y gronfa integreiddio rhanbarthol, sy'n adeiladu chwe model cenedlaethol o ofal integredig, yn parhau i fod yn ffordd allweddol o ddysgu am yr hyn sy'n gweithio i bobl wrth eu helpu i gynnal iechyd a lles da ac i fyw'n dda gartref neu mor agos i gartref â phosibl. Rwy'n falch o allu rhannu rhai enghreifftiau rhagorol o arferion da sy'n cael eu datblygu drwy'r gronfa integreiddio rhanbarthol.

Mae 30 y cant o'r gronfa integreiddio rhanbarthol, £34 miliwn, yn ariannu prosiectau sy'n canolbwyntio ar waith atal a chydlyniant cymunedol. Yng Ngwent mae eu rhaglen Cymunedau Cysylltiedig yn darparu cymorth cymunedol trwy eu timau gwybodaeth, cyngor a chymorth a chysylltwyr cymunedol. Yn ystod 2022-23, gwnaeth y prosiect hwn gynorthwyo 25,276 o bobl, boed hynny drwy gymorth cynnar neu gymorth dwysach wedi'i dargedu. Ymatebodd eu gwasanaeth ymateb i gwympiadau i 902 o ddigwyddiadau, gyda 681 o bobl yn cael cymorth i aros gartref gyda chymorth lleol gan, yn hanfodol, osgoi achosion pellach o alw allan a derbyn i'r ysbyty. Mae Powys hefyd yn gweithredu rhaglen o gymorth asedau cymunedol ledled y rhanbarth.

Mae 20 y cant, dros £24 miliwn, o'r gronfa integreiddio rhanbarthol yn darparu gofal cymhleth i bobl yn nes at adref. Mae prosiect gofal mewn argyfwng a gofal canolraddol yn y cartref Caerdydd a'r Fro yn enghraifft wych o ba mor bwysig y gall cyfleusterau cam i lawr fod wrth gynorthwyo adferiad parhaus. Dywedodd 95 y cant o'r bobl a gefnogwyd fod eu problemau symudedd a'u lefelau gorbryder wedi gwella a'u bod yn cymryd mwy o ran yn eu cymunedau.

Mae Gorllewin Morgannwg yn rhoi sylw sylweddol i hyrwyddo iechyd a lles emosiynol da i ofalwyr di-dâl trwy gwnsela a chymorth lles yn y gymuned, gyda 1,486 o ofalwyr di-dâl yn cael seibiant byr y llynedd.

Tra yn ddiweddar yn y gogledd, mwynheais ymweld â GISDA yng Nghaernarfon, sy'n cynnal hyb canolog a bywiog i gefnogi pobl ifanc ag anghenion iechyd a lles emosiynol, yn ogystal â dau hyb arall ar draws Gwynedd. Yma, darperir amrywiaeth o weithgareddau i bobl ifanc i gefnogi eu hanghenion, o sesiynau celf a chrefft i weithdai ar reoli dyled, materion tai a strategaethau ymdopi. Yn bwysig, mae'r hyb yn amlygu pwysigrwydd un pwynt mynediad at gymorth.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, fel Gweinidogion iechyd a gofal cymdeithasol, rydym wedi rhoi sylw amlwg i lwybrau oedi gofal, ac mae ymdrech sylweddol wedi'i fuddsoddi i ddatblygu system a set ddata a rennir sy'n cofnodi'n fwy cywir ble mae'r oedi yn y system a pham ei fod yn digwydd. Mae hyn yn ei dro wedi galluogi partneriaid darparu i dargedu eu hymdrechion yn fwy manwl wrth fynd i'r afael â rhwystrau yn y system. Ers mis Chwefror 2023, rydym wedi cyflwyno'r modelau asesydd dibynadwy ledled Cymru, ac rydym wedi gweld cynnydd o 76 y cant mewn capasiti aseswyr dibynadwy yn ein hysbytai, sydd wedi cynorthwyo gyda'n gostyngiad o 23 y cant mewn oedi oherwydd asesiadau. Erbyn hyn, mae'r gwaith pwysig hwn yn cael ei adrodd i'r pwyllgor gweithredu gofal traws-sector y mae Gweinidogion wedi'i sefydlu ac yn cael ei oruchwylio ganddo.

Enghraifft dda o brosiect a ariennir gan y gronfa integreiddio rhanbarthol, sydd wedi helpu i wella'r llif allan o'r ysbyty yw'r prosiect rhyddhau o'r ysbyty yng Nghwm Taf Morgannwg. Yma, maen nhw wedi cymryd agwedd fwy rhagweithiol tuag at ryddhau cleifion o'r ysbyty, gan nodi'r bobl hynny sy'n wynebu'r risg fwyaf o aros mewn gofal eilaidd, sydd wrth gwrs yn cael effaith andwyol ar eu gallu i ddychwelyd i fyw'n annibynnol, oherwydd digyflyru. Yn y rhanbarth, cefnogwyd 88 o bobl i symud yn ôl adref y llynedd a chafodd 635 o bobl eu cefnogi i fyw'n annibynnol, gan osgoi aildderbyn diangen. 

Rydym hefyd yn sianelu cronfeydd cyfalaf drwy ein byrddau partneriaeth rhanbarthol i gefnogi integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned. Mae ein cronfa gyfalaf integreiddio ac ailgydbwyso gwerth £70 miliwn yn buddsoddi'n uniongyrchol yn natblygiad hybiau iechyd a gofal cymdeithasol integredig a all roi mwy o help i bobl gael gafael ar yr wybodaeth, y cyngor, y gofal a'r cymorth y gallai fod eu hangen arnyn nhw yn eu cymuned eu hunain. Hyd yma, mae 20 o brosiectau wedi derbyn cyllid gwerth cyfanswm o £65 miliwn o dan y cynllun, gan gynnwys datblygiad 19 Hills yng Nghasnewydd, y disgwylir iddo gael ei gwblhau ddechrau 2025, a chanolfan iechyd a lles Sunnyside ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy'n enghraifft wych o gydweithrediad partneriaeth rhwng y bwrdd iechyd a Linc Cymru. Yn ddiweddar, fe ymwelais i â'r safle ar gyfer Cartref Preswyl Croes Atti yn y Fflint, lle mae gwaith daear eisoes wedi dechrau a lle dangoswyd delwedd i mi o'r hyn fydd yn adnodd ardderchog i bobl hŷn a'r rhai sy'n byw gyda dementia. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae'r holl hybiau'n datblygu. 

Mae fy swyddogion wrthi'n sefydlu grŵp arweinyddiaeth traws-sector a fydd yn mynd â'r gwaith pwysig hwn ymlaen i'r cam nesaf, gan alinio ystod eang o raglenni a gweithgareddau presennol, fel y gronfa integreiddio rhanbarthol, y rhaglen gofal sylfaenol strategol a'r rhaglen chwe nod ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng, i'r agenda hon. Ac er ein bod yn bwriadu adeiladu system integredig ar gyfer pob poblogaeth, yn y cam nesaf hwn, byddwn yn canolbwyntio'n benodol ar sicrhau ein bod yn adeiladu system sy'n gweddu i anghenion penodol pobl hŷn sydd ag anghenion cymhleth ac eiddilwch. Rwyf yn teimlo'n hyderus bod gennym y sylfeini cryf ar gyfer cyflymu ein taith tuag at adeiladu system gofal cymunedol integredig i bobl Cymru.

16:55

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog. Yr amseroedd aros damweiniau ac achosion brys, wrth gwrs, yw'r broblem fwyaf sy'n falltod ar y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru, ac mae hyn yn rhywbeth rwy'n rhy gyfarwydd ag ef, gan fod Ysbyty Glan Clwyd yn fy etholaeth i. Felly, mae dod â'r GIG a gofal cymdeithasol yn agosach at ei gilydd yn allweddol i sicrhau bod cleifion yn gallu mynd adref yn gyflymach, a fydd yn ei dro yn rhyddhau amser ac adnoddau i glinigwyr weld mwy o bobl yn gyflymach wrth ddrws ffrynt yr ysbyty. Dyna pam mae byrddau partneriaeth rhanbarthol yn gyfrifol am wario bron i £150 miliwn ar brosiectau arloesol sy'n pontio'r bwlch rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae hwn yn nod yr wyf yn ei gefnogi. Ond mae'n ddyletswydd arnaf i godi pryderon ynglŷn â llwyddiant y gronfa hyd yma. Rydym yn clywed gan bobl ar lawr gwlad eu bod o dan bwysau i drawsnewid gwasanaethau tra'n mynd i'r afael â phrinder staffio ac ansefydlogrwydd ariannol. Mae Coleg Brenhinol y Meddygon wedi dweud bod byrddau partneriaeth rhanbarthol yn cael eu hunain yn ymateb i broblemau gyda mwy a mwy o'u cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cynllunio ar gyfer y gaeaf.

Byddai gennyf ddiddordeb hefyd i wybod sut mae penderfyniadau yn cael eu gwneud o ran dyrannu'r gronfa integreiddio rhanbarthol, gyda byrddau partneriaeth rhanbarthol, fel y llynedd, yn ymrwymo 60 y cant o'u cronfa integreiddio rhanbarthol i fodelau gofal sy'n darparu mwy o gapasiti yn y gymuned. Yn amlwg, modelau gofal sy'n darparu hyn yw'r flaenoriaeth, ond nid wyf yn credu ein bod yn gweld y gwelliannau yn y maes hwn y dylem fod yn eu gweld, o gofio bod dwy flynedd ers i ni lansio'r gronfa.

Amlygodd adroddiad diweddaraf Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fod methiannau mewn gofal cymdeithasol yn dal i achosi tagfeydd mewn ysbytai, sy'n golygu bod cleifion sy'n addas i gael eu rhyddhau yn dal i fod yn defnyddio gwelyau gwerthfawr mewn wardiau ysbytai. Rydym hefyd yn gwybod bod amseroedd aros damweiniau ac achosion brys yn dal i gynyddu, yn anffodus, yn enwedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae rhestrau aros dwy flynedd yn dal i fod dros 24,000 yng Nghymru; nid yw hyn yn cefnogi honiadau bod integreiddio agosach rhwng y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol wedi bod yn llwyddiannus. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi pe gallai'r Dirprwy Weinidog amlinellu'r rheswm dros y cynnydd araf o ran creu mwy o gapasiti yn y gymuned, o ystyried lefel y cyllid. Byddwn hefyd yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog amlinellu pa mor llwyddiannus fu'r gronfa integreiddio rhanbarthol o ran gofal ataliol a chydlyniant cymunedol.

Mae adroddiad 'Llesiant Cymru: 2023' Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Medi y llynedd, yn dangos na fu unrhyw newid sylweddol yn y rhan fwyaf o ymddygiadau ffordd o fyw rhwng 2021 a 2022, a 2022 a 2023, lle gwelwyd gostyngiad hefyd mewn disgwyliad oes ar gyfer y cyfnod diweddaraf sydd ar gael. Byddwn i'n dadlau bod hyn yn dangos y dylid rhoi mwy o sylw i ofal ataliol a hyrwyddo ffyrdd iach o fyw. Mae hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddo, ond mae'r data'n dangos ein bod ni'n symud am yn ôl yn hyn o beth.

Hoffwn hefyd ailadrodd, fel y dywedais i y llynedd, os yw'r gronfa integreiddio rhanbarthol yn llwyddiannus, mae hyn yn negyddu'r angen am wasanaeth gofal cenedlaethol. Os yw'r gronfa integreiddio rhanbarthol wedi llwyddo, erbyn 2027, i integreiddio'r gwasanaeth iechyd gyda gofal cymdeithasol, byddai hyn yn golygu bod gwasanaeth gofal cenedlaethol yn dyblygu ymdrechion ac yn gwastraffu arian trethdalwyr. Hoffwn hefyd gwestiynu'r ffaith bod disgwyl i'r cynllun ddod i ben ym mis Mawrth 2027, a chadarnhaodd y Dirprwy Weinidog ym mis Rhagfyr y bydd y broses weithredu tri cham y cytunwyd arni'n ddiweddar yn rhychwantu cyfnod o 10 mlynedd, a fyddai'n golygu mai dim ond ar gam 2 y bydd y broses weithredu pan fydd y cynllun cronfa weithredu ranbarthol yn dod i ben, a does dim disgwyl i gam 3, gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru, ddechrau tan 2029. Felly, pa gamau fydd yn cael eu cymryd yn y cyfnod trosiannol o ran ansawdd a maint y mathau o raglenni y sefydlwyd y gronfa integreiddio rhanbarthol i'w hariannu?

Ac, wrth gloi, Dirprwy Lywydd, hoffwn i'r Dirprwy Weinidog amlinellu sut mae'r gronfa integreiddio rhanbarthol yn cael ei defnyddio i dargedu gofal ataliol, ac i ba raddau y mae'r cyfnod pontio wedi'i gwblhau, ac, os yw wedi bod yn llwyddiannus, pam mae Llywodraeth Cymru yn dal i gefnogi creu'r gwasanaeth gofal cenedlaethol? Diolch.

17:00

Wel, diolch i Gareth Davies am y cwestiynau a'r sylwadau hynny. Mae'r cynnydd tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol, fel y dywedodd, yn broses 10 mlynedd, ac, yn sicr, mae'r gronfa integreiddio rhanbarthol yn chwarae rhan bwysig am ran sylweddol o'r amser hwnnw a byddwn yn ystyried a oes angen ei hadnewyddu ai peidio. Ond, o ran y gwasanaeth gofal cenedlaethol, rydym, wrth gwrs, yn gweithio tuag at integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, ond mae gwasanaeth gofal cenedlaethol yn rhywbeth a fydd yn gofyn am safonau tebyg ledled Cymru. Mae ymhell y tu hwnt i fecanwaith ar gyfer datblygu prosiectau unigol yn y ffordd y mae'r gronfa integreiddio rhanbarthol wedi gwneud; mae'n gysyniad, wyddoch chi, o gael safonau cyfartal ledled Cymru gyfan i sicrhau bod pawb yn ennill o leiaf y cyflog byw gwirioneddol, sy'n un cam rydyn ni eisoes wedi'i wneud tuag at y gwasanaeth gofal cenedlaethol, ac mae'n ymgais i sicrhau, pa bynnag gam rydych chi arno yn eich bywyd, eich bod chi'n gallu cael yr help sydd ei angen arnoch chi. Felly, dydw i ddim yn gweld y gronfa integreiddio rhanbarthol fel rhywbeth yn lle hynny. Cafodd y gronfa integreiddio rhanbarthol ei chyflwyno drwy'r byrddau partneriaeth rhanbarthol fel rhan o'r ddeddfwriaeth sydd gennym yn y Senedd hon, ac mae'r gwasanaeth gofal cenedlaethol yn newid llawer hirach a mwy sylfaenol. Felly, dydw i ddim yn ystyried eu bod yn groes i'w gilydd o gwbl, ond rydym wedi ymrwymo tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol ac rydym wedi gwneud cynnydd tuag ato. Bydd gennym swyddfa genedlaethol, a fydd yn agor o fewn Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Bydd gennym fframwaith cenedlaethol, lle byddwn yn edrych ar delerau ac amodau, oherwydd, yn amlwg, gydag 80 y cant o ofal cymdeithasol yn cael ei ddarparu drwy'r sector preifat, mae'n eithaf anodd cael safonau a fydd yn gyfartal ledled y sector, ac felly dyna rydyn ni'n gweld gwasanaeth gofal cenedlaethol yn ei wneud. Ond rwy'n credu bod yr Aelod yn llygad ei le wrth siarad am atal a bod atal yn gwbl hanfodol, a dyna pam rydyn ni'n gweithio'n galed iawn i geisio atal pobl rhag dod i'r ysbyty.

Fe soniodd am y materion ynghylch oedi wrth ryddhau cleifion, a dyna un o'n blaenoriaethau allweddol, ac rydym wedi gwneud llawer o waith ar hyn. Oherwydd bod peth o'r oedi wedi bod yn gysylltiedig â chael pobl yno i allu gwneud asesiadau, fel asesiadau gwaith cymdeithasol neu asesiadau eraill, rydym wedi sicrhau nawr bod gennym ni fodel asesydd dibynadwy, sy'n golygu nad oes rhaid i chi fod yn weithiwr cymdeithasol, er enghraifft, i wneud asesiad. Gallwch chi ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen a gallwch chi wneud asesiad. Mae hynny wedi cael effaith fawr ar leihau'r amseroedd aros a'r oedi oherwydd nad oes rhywun yno i asesu'r bobl dan sylw.

Felly, rydym yn sicr yn mynd i'r afael â'r oedi, ac mae gennym ffordd lawer gwell o gasglu data hefyd, sydd eto'n sicrhau bod gennym ddata cywir iawn, fel ein bod ni'n gwybod yn union pam mae unigolion yn wynebu oedi: beth yw'r rheswm? Gweithiwr cymdeithasol? Y feddyginiaeth sy'n cael ei darparu? Ffisiotherapi? A sicrhaodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod £8.4 miliwn ychwanegol wedi cael ei roi i ofal lliniarol, er enghraifft—sydd, unwaith eto, rydym eisiau cadw pobl gartref pan fydd angen gofal lliniarol arnyn nhw, sicrhau nad oes angen iddyn nhw fynd i'r ysbyty, gan fod llawer o bobl yn yr ysbyty—a hefyd arian ar gyfer ailalluogi. Felly, dyma'r mathau o bethau y mae'n rhaid i ni eu rhoi yn y gymuned. Felly, ailadroddaf fy mod yn teimlo ein bod ni'n gwneud sylfaen dda iawn nawr ar gyfer symud ymlaen. Rydym wedi gweld rhywfaint o gynnydd. Mae llawer i'w wneud o hyd, ond rydym wedi ymrwymo'n llwyr i wneud hynny.

17:05

Wel, fel y gwyddom ni, mae gan Gymru boblogaeth oedrannus. Erbyn 2031, bydd bron i dreian o boblogaeth Cymru dros 60 a 12 y cant dros 75 mlwydd oed, felly mae'r angen i alinio gwasanaethau iechyd yn well gyda gofal cymdeithasol yn amlwg yn un o'r heriau polisi creiddiol sydd yn ein hwynebu dros y degawdau nesaf.

Dwi'n falch fod Plaid Cymru wedi llwyddo i sicrhau datblygu rhaglen waith hirdymor er mwyn sefydlu gwasanaeth gofal integredig llawn ar gyfer Cymru fydd am ddim, gan olygu nad ydy pobl yn cael eu cosbi am fod yn dlawd. Mae hon yn uchelgais a fydd yn dwyn ffrwyth lawr y lôn. Yn y cyfamser, serch hynny, mae'n hanfodol bod y seiliau cywir yn cael eu gosod, ac felly dwi'n croesawu'r diweddariad yma gan y Dirprwy Weinidog ar y camau sydd wedi cael eu cymryd i ddatblygu'r rhaglen gronfa integreiddio rhanbarthol. Un o'i brif amcanion ydy gwella darpariaeth ac effeithlonrwydd gofal yn y gymuned, sydd wrth gwrs yn rhan allweddol o'r agenda ataliol. Ond, fel rydym wedi ei nodi sawl gwaith erbyn hyn yn y dadleuon ar y gyllideb, mae'n anodd gweld sut mae'n bosib sgwario'r uchelgais gyda realiti y ffaith bod mwy a mwy o adnoddau ariannol y Llywodraeth yn cael eu tynnu oddi ar y rhaglenni ataliol er mwyn cynnal y gwasanaethau rheng flaen. Nid ffenomenon newydd mo hyn. Fe wnaeth adroddiad Wanless ei wneud yn glir nôl yn 2003 fod angen arallgyfeirio gofal a thriniaeth ysbytai i fod wedi'u canoli yn fwy ar ofal yn y gymuned. Ond, er hyn, dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae'r ariannu ar gyfer gofal sylfaenol wedi aros yn llonydd, sydd wrth gwrs yn golygu cwymp mewn termau go iawn.

Rwy'n gwerthfawrogi bod y gronfa integreiddio rhanbarthol wedi'i gosod hyd at fis Mawrth 2027, ond mae'n rhaid gweld ei heffeithiolrwydd yng nghyd-destun ehangach trefniadau gwariant Llywodraeth Cymru ar ofal sylfaenol ac ataliol. Byddwn yn ddiolchgar, felly, pe gallai'r Dirprwy Weinidog esbonio sut y bydd y gyllideb ar gyfer 2024-25 yn effeithio ar nodau cyffredinol y gronfa integreiddio rhanbarthol ym maes gofal yn y gymuned.

Mater arall y mae'r gronfa integreiddio rhanbarthol yn canolbwyntio arno yn briodol yw cefnogi gofalwyr di-dâl, sydd, yn ôl data diweddaraf y cyfrifiad, yn cyfrif am oddeutu un o bob 10 o boblogaeth gyfan Cymru. Rydym yn ymwybodol iawn o'u rôl hanfodol yn y sector iechyd, gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn amcangyfrif bod y gwaith a wneir ganddynt yn werth £8.1 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn. Ond, o ran yr hyn sy'n dod yn thema gylchol ar draws y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, nid yw gwerth yr hyn y maen nhw'n ei roi yn y system yn gyson â'r hyn y maen nhw'n ei gael allan ohoni, a'r eironi trasig yn yr achos hwn yw bod yr union bobl sy'n gwneud cymaint dros iechyd a lles ein cymunedau eu hunain yn dioddef. Mae adroddiad diweddar gan Networked Data Lab Wales wedi canfod bod gan ofalwyr di-dâl ganlyniadau iechyd meddwl a chorfforol gwaeth na'r rhai nad ydynt yn ofalwyr, a bod hyn, yn rhannol, o ganlyniad i fethiant i dargedu mecanweithiau cymorth perthnasol yn ddigonol. Mae hyn yn ategu gwaith dadansoddi a wnaed gan Gofalwyr Cymru tua diwedd y llynedd, a ddangosodd fod mwy na chwarter o ofalwyr di-dâl o'r farn bod eu hiechyd meddwl yn 'wael' neu'n 'wael iawn', a bod hanner wedi profi dirywiad yn eu hiechyd corfforol o ganlyniad i'w cyfrifoldebau gofalu.

Nodaf, yn 2021-22, fod disgwyl i fyrddau partneriaeth rhanbarthol neilltuo o leiaf 5 y cant o'r hyn a ddyrannwyd iddynt o'r gronfa integreiddio rhanbarthol i gefnogi gofalwyr di-dâl. Felly, a all y Dirprwy Weinidog gadarnhau a yw hyn yn parhau i fod yn rhwymedigaeth ar gyfer byrddau partneriaeth rhanbarthol? Ac os felly, pam nad yw'r cyllid hwn yn cael yr effaith a ddymunir o ran darparu'r cymorth sydd ei angen ar ofalwyr di-dâl? Sut mae'r Llywodraeth yn mynd i sicrhau, felly, nad yw gofalwyr di-dâl yn parhau i gael eu siomi gan y system y mae'n nhw'n cyfrannu cymaint tuag ati? Diolch.

17:10

Diolch a diolch yn fawr iawn, Mabon ap Gwynfor, am eich cefnogaeth i'n strategaeth hirdymor ac am y gwaith yr ydym wedi gallu ei wneud gyda Phlaid Cymru er mwyn sefydlu'r grŵp arbenigol a sicrhau y byddwn yn symud tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol dros 10 mlynedd, yr ydym yn cydweithio'n agos arno.

O ran sut yr ydym yn cefnogi, drwy'r gyllideb, i gefnogi gofal yn y gymuned, wel, fel y gŵyr Mabon ap Gwynfor, rydym wedi llwyddo i gynyddu cyllid llywodraeth leol 3 y cant. Byddem yn hoffi pe gallai fod yn fwy, ond mae'n cael ei gynnal a'i gynyddu 3 y cant. Rydym hefyd yn falch ein bod wedi gallu adfer grant y gweithlu gofal cymdeithasol o £10 miliwn, yr oeddem yn ofni y byddai'n rhaid i ni ei dorri. Ond mae hwnnw'n cael ei adfer nawr. Ac mae £24 miliwn ychwanegol, rwy'n credu, wedi cael ei ychwanegu at y grant cynnal refeniw er mwyn cefnogi gofal cymdeithasol yn y gymuned.

Felly, rydym yn ymwybodol iawn mai gwaith atal a gwaith yn y gymuned y mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ein hadnoddau arnyn nhw, ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef am bwysigrwydd hanfodol gofalwyr di-dâl a'r llawer iawn o waith maen nhw'n ei wneud i ofalu am eu hanwyliaid, llawer ohonyn nhw o oedran ifanc iawn, sy'n bwynt pwysig iawn, rwy'n credu, am y gofalwyr ifanc. Ac fe ddywedodd oddeutu un o bob 10.

Gallaf gadarnhau bod 5 y cant o'r gronfa integreiddio rhanbarthol yn dal i fod yno i weithio gyda gofalwyr di-dâl, a gallaf gadarnhau hefyd fod £1 filiwn bob blwyddyn yn mynd i'r byrddau iechyd i sicrhau bod y symudiad rhwng yr ysbyty a'r cartref, pan fo gofalwr di-dâl dan sylw, yn cael sylw arbennig.

Rwy'n ymwybodol hefyd o'r adroddiad y mae'n cyfeirio ato a'r ffaith bod portreadau tywyll iawn yn aml o'r straen y mae gofalwyr di-dâl yn ei brofi, a dyna pam roeddem yn teimlo'n gryf iawn bod yn rhaid gwneud rhywbeth er mwyn eu cefnogi trwy seibiannau byr, oherwydd dyna un o'r pethau yr oeddem ni eu heisiau. Felly, mae gennym ni £9 miliwn dros gyfnod o dair blynedd i ddarparu seibiannau byr i ofalwyr. Mae rhai o'r seibiannau byr a ddarparwyd wedi creu argraff fawr arnaf. Felly, rwy'n credu bod gofalwyr di-dâl sy'n elwa'n fawr o'r hyn rydym yn ei wneud, ond mae llawer iawn mwy i'w wneud oherwydd maen nhw'n gwneud cymaint o waith yn y gymuned.

Cyn i mi fynd at y cwestiwn olaf, Dirprwy Weinidog, dim ond i roi gwybod i chi, mae anhap technegol bach, oherwydd rydych chi'n gorchuddio'ch meicroffon gyda'ch papur, felly rydyn ni'n eich clywed chi drwy'r meicroffonau ochr ac efallai ddim mor glir.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw i weld sut mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo, ac rwy'n nodi bod dwy enghraifft rydych chi'n cyfeirio atyn nhw yn eich datganiad yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Un ohonyn nhw, ac rwyf wedi ei gweld gyda fy llygaid fy hun, yw'r prosiect rhyddhau o'r ysbyty yng Nghwm Taf Morgannwg, ac nid dim ond yr 88 o bobl a gafodd gymorth i symud yn ôl adref y llynedd, ond y mwy na 600 o bobl nad oedd angen iddyn nhw gael eu haildderbyn oherwydd y gefnogaeth a roddwyd iddyn nhw i aros yn eu cartrefi a byw'n annibynnol. Ond hefyd mae'r gwaith sy'n cael ei wneud ar ganolfan iechyd a lles Sunnyside ym Mhen-y-bont ar Ogwr drwy gyllid cyfalaf y bwrdd partneriaeth rhanbarthol.

Ond fy nghwestiwn i chi yw hyn: rydym yn dal i wybod, yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr o ôl troed Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, fod gennym broblem sylweddol o hyd o ran gallu rhyddhau pobl o Ysbyty Tywysoges Cymru fel y gallan nhw fynd yn ôl adref neu fyw'n annibynnol, a hefyd ganiatáu'r llif drwy'r ysbyty wedyn. Felly, a ydych chi'n gweld y byrddau partneriaeth rhanbarthol fel ffordd o sianelu mwy o gyllid mewn gwirionedd i brosiectau a all ryddhau'r llif drwy'r ysbyty a galluogi pobl i fyw'n dda am fwy o amser gartref?

17:15

Ydw, diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn yna. Mae galluogi'r llif drwy ysbytai yn un o'r materion allweddol y mae'n rhaid i'r byrddau partneriaeth rhanbarthol fynd i'r afael â nhw, ac mae'n un o'u nodau er mwyn gwneud hynny. Ond, rwy'n credu, yn amlwg, bod y llif trwy ysbytai yn cael ei gynnal gan resymau penodol, a gyda'r data sydd gennym nawr, gallwn nodi yn union beth yw'r rheswm dros oedi yn achos pob person, ac mae'n amrywio o fis i fis. Weithiau mae'n ddiffyg asesiadau gwaith cymdeithasol; weithiau mae'n ddiffyg oherwydd rheswm mwy meddygol; gall meddyginiaethau achosi oedi i bobl wrth iddynt gael eu rhyddhau, a gall ffisiotherapi achosi oedi. Felly, rydym bellach mewn sefyllfa lle gallwn weld beth sy'n digwydd. Ac fel y dywedais i yn fy ymateb yn gynharach, mae datblygiad y model asesydd dibynadwy, sydd ledled Cymru, ac mae gan Ben-y-bont ar Ogwr aseswyr dibynadwy, pryd nad oes rhaid i chi fod yn weithiwr cymdeithasol i wneud un o'r asesiadau hyn; gallwch wneud asesiad rhagarweiniol a all alluogi rhywun i fynd adref, a gallwch roi mwy o ymdrech i mewn pan fyddant adref mewn gwirionedd. Felly, mae hynny'n digwydd, felly dylai hynny olygu y bydd y rhestr yn dod i lawr. Ond mae'n broses hir, ac rydyn ni wedi cael rhai—. Mae pethau wedi gwella ychydig, byddwn i'n dweud, ond rydyn ni ar y trywydd iawn, ac rwy'n credu bod gennym ni sylfeini cadarnach nawr.

7. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd

Eitem 7 heddiw yw'r datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar ail gartrefi a fforddiadwyedd. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch heddiw o roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau i fynd i'r afael â'r niferoedd mawr o ail gartrefi a llety gosod tymor byr mewn llawer o gymunedau a hefyd gwaith cynllun treialu Dwyfor. Mae'r gwaith hwn yn bwrw ymlaen â'n hymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu ac yn y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru.

Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran dod â chyfres gynhwysfawr o fesurau ategol ynghyd. Mae'r rhain yn rhoi mwy o drosoledd wrth reoli niferoedd ail gartrefi a llety gosod tymor byr yn y dyfodol. Er enghraifft, ers mis Ebrill 2023, mae awdurdodau lleol wedi gallu cyflwyno premiymau treth gyngor dewisol uwch ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor. Yn wir, o fis Ebrill eleni, bydd 18 yn cyflwyno premiymau ar un neu'r ddau fath o eiddo, ac o fis Ebrill 2025, mae pob awdurdod lleol heblaw dau wedi nodi y byddant yn defnyddio'r premiymau.

Mae nifer o awdurdodau lleol hefyd wedi nodi y byddant yn cynyddu'r ganran a godir o flwyddyn i flwyddyn, dros gyfnod o dair blynedd, yn enwedig ar gyfer eiddo gwag tymor hir. Byddai hyn yn dod â nhw ochr yn ochr â Chyngor Gwynedd i gyflwyno premiymau uwchlaw'r terfyn uchaf blaenorol o 100 y cant.

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi annog cynghorau sy'n gwneud cais am bremiymau i gyhoeddi gwybodaeth am faint o refeniw ychwanegol sydd wedi ei godi drwy'r premiymau a sut y cafodd ei ddefnyddio. Mae cael yr wybodaeth hon yn bwysig: mae'n sicrhau ein bod yn gwybod sut mae polisïau lleol yn gweithio, yn ogystal â gwella tryloywder lleol. Byddwn yn parhau i annog gwell cyfathrebu yn y maes hwn. Yn seiliedig ar yr wybodaeth y mae awdurdodau lleol wedi'i chyhoeddi hyd yma ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23, gwyddom fod dros £17 miliwn o refeniw ychwanegol wedi'i godi i'w fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys mynd i'r afael â digartrefedd a gwella'r cyflenwad o dai cymdeithasol.

Y llynedd, cyhoeddais gynllun grant cartrefi gwag gwerth £50 miliwn, gan alluogi meddiannu 2,000 o gartrefi gwag hirdymor unwaith eto. Mae Llywodraeth Cymru wedi diogelu'r gyllideb o £25 miliwn ar gyfer 2024-25, ac wedi gohirio £19 miliwn o gyllideb 2023-24 hyd at 2025-26 i fanteisio i'r eithaf ar effaith y cynllun. Unwaith eto, ynghyd â'r premiymau treth gyngor, mae hyn yn rhan o ddull pendant a chydlynol o ddod ag eiddo yn ôl i gyflwr addas fel y gellir ei ddefnyddio eto fel cartref.

Rydym yn ymwybodol iawn o'r her o ran dod o hyd i eiddo fforddiadwy, ond hefyd yr her o allu fforddio aros ynddo. Fel rhan o'r cytundeb cydweithio, gwnaethom ystyried bylchau yn y farchnad forgeisi a'n cefnogaeth bresennol ar gyfer perchenogaeth cartrefi. Fe wnaeth hyn ein helpu i sefydlu pryd y gallai morgeisi lleol fod yn rhan o'r pecyn llywodraethol presennol ac i ystyried unrhyw gymorth priodol pellach. Blaenoriaeth uniongyrchol oedd ystyried bwlch yn y farchnad i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd fforddio taliadau morgais ac mewn perygl difrifol o golli eu cartref oherwydd yr argyfwng costau byw. Dirprwy Lywydd, o ganlyniad, fe wnaethom ddatblygu Cymorth i Aros Cymru, a lansiwyd ym mis Tachwedd 2023, gyda hyd at £40 miliwn ar gael dros ddwy flynedd. Rydym yn parhau i adolygu'r cymorth pellach y gellir ei ddarparu'n lleol, a dyrannwyd £20 miliwn o gyfalaf trafodiadau ariannol yn y gyllideb derfynol at y diben hwn.

Yn ehangach, rydym yn parhau i ymchwilio i weld a allai newidiadau i'r cyfraddau preswyl uwch o dreth trafodiadau tir helpu i roi mantais i'r bobl sy'n prynu cartrefi i'w meddiannu'n barhaol. Byddwn yn parhau i ymgysylltu ag awdurdodau lleol i archwilio sut y gellid cymhwyso cyfraddau TTT uwch ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau yn eu hardaloedd lleol yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys mynd i'r afael â'r gwahanol ystyriaethau polisi, tystiolaeth a chyfreithiol.

Cafodd cynlluniau i gyflwyno cynllun cofrestru a thrwyddedu statudol ar gyfer pob llety ymwelwyr yng Nghymru eu nodi gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth ar 9 Ionawr, a disgwylir i ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno i'r Senedd cyn diwedd eleni. Bwriad y cynllun cofrestru a thrwyddedu yw cyflwyno cofrestr o lety ymwelwyr ac i'w gwneud yn ofynnol i ddarparwyr ddangos cydymffurfiaeth â gofynion diogelwch ac ansawdd. Yn unol ag ymrwymiad y cytundeb cydweithio, rydym yn bwriadu canolbwyntio ein hymdrechion trwyddedu i ddechrau ar lety gosod tymor byr, y gellid eu defnyddio fel llety preswyl fel arall. Mae hyn yn cydnabod yr anghyfartaledd presennol mewn rheoleiddio rhwng y sector rhentu preifat a llety gwyliau tymor byr.

Rydym hefyd wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran cefnogi ein cymunedau Cymraeg. Sefydlodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg y Comisiwn Cymunedau Cymraeg annibynnol yn 2022, gyda'r nod o wneud argymhellion i gryfhau cymunedau Cymraeg. Crynhodd papur sefyllfa'r comisiwn, a gyhoeddwyd fis Mehefin diwethaf, ei ganfyddiadau cychwynnol. Mae'r comisiwn yn parhau i ystyried ystod o feysydd polisi, gan gynnwys tai, yr economi, cynllunio, datblygu cymunedol ac addysg. Mae'r rhain, wrth gwrs, yn gydgysylltiedig ac yn hanfodol wrth gefnogi dyfodol ein cymunedau Cymraeg, ac mae disgwyl cyhoeddi adroddiad terfynol, gan gynnwys argymhellion, ym mis Awst.

Mae'r ganran uchaf o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg yn y gogledd-orllewin. Mae cynllun treialu Dwyfor yn gweithio i ddod ag ymdrechion amrywiaeth o bleidiau ynghyd yn y rhan hon o'r gogledd-orllewin sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i Gyngor Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri, cymdeithasau tai Grŵp Cynefin ac Adra, ac i gymunedau lleol am eu gwaith yn y cynllun treialu. Mae ystyriaethau Cyngor Gwynedd o'r pwerau cynllunio erthygl 4 a amlinellais yn fy niweddariad ym mis Ionawr 2023 yn bwysig yn y cynllun treialu ac yn y cyd-destun cenedlaethol. Bydd y gwaith hwn yn helpu pob rhan o Gymru i ddeall yn well y goblygiadau a'r prosesau sy'n gysylltiedig â datblygu'r gwaith arloesol hwn.

Yr haf diwethaf, bu'r cyngor yn hyrwyddo ac ymgynghori'n eang ar ei gyfarwyddyd arfaethedig, gyda gwybodaeth yn cael ei hanfon i bob eiddo preswyl o fewn ardal awdurdod cynllunio Gwynedd. Derbyniodd dros 4,000 o ymatebion, ac rwy'n deall bod y rhain bellach wedi'u dadansoddi. Bydd Cyngor Gwynedd yn datblygu adroddiad ymgynghori, a fydd yn mynd drwy'r camau angenrheidiol cyn i'r cyngor benderfynu a ddylid gweithredu'r cyfarwyddyd. Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i rannu dysgu parhaus drwy gydol y broses hon, ac o fis Mai eleni, bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri hefyd yn ymgynghori ar gyflwyno cyfarwyddyd erthygl 4 yn ei ardal.

Mae'r gwaith aml-bartner llwyddiannus ar y cynnig cymorth prynu a dreialwyd hefyd yn parhau. Mae Grŵp Cynefin, Cyngor Gwynedd a staff y cynllun treialu wedi cymryd camau breision ers i'r rhaglen ddod yn weithredol yn Nwyfor ym mis Medi 2022. Rwy'n falch o nodi y bu 20 achos o gymeradwyo ar draws Dwyfor erbyn hyn ac mae 13 o deuluoedd bellach wedi cwblhau, sy'n golygu bod perchentyaeth wedi dod yn realiti iddynt. I roi hynny yn ei gyd-destun, Dirprwy Lywydd, mae hynny'n 13 mewn ardal a welodd un achos o gwblhau dros y pum mlynedd flaenorol. Mae rhywfaint o hynny oherwydd yr hyblygrwydd ychwanegol yr ydym wedi'i gynnwys yn y cynnig yn ardal y cynllun treialu, ac rydym hefyd yn manteisio ar y cyfle i ystyried y dysgu o hyn ac a ellir ei ddefnyddio mewn cynlluniau eraill.

Mae'r cynllun treialu yn cefnogi capasiti tai dan arweiniad y gymuned a'u dyheadau, gan weithio gyda grwpiau presennol yn ogystal ag annog rhai newydd i ffurfio. Mae saith grŵp bellach yn symud ymlaen gyda'u prosiectau tai eu hunain. Mae hyn yn cyd-fynd â'n nod o ddod â mwy o eiddo, yn enwedig eiddo gwag, i berchnogaeth gyffredin ar lefel leol, gyda'r bwriad o gynyddu eiddo rhent tymor hir.

Rwyf hefyd wedi ymrwymo i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf am werthusiad annibynnol y cynllun treialu. Bydd y gwaith hwn yn helpu i ddatblygu sylfaen dystiolaeth ddibynadwy o ran yr hyn sy'n gweithio, gan adeiladu tystiolaeth yng nghyd-destun Cymru. Ar hyn o bryd mae'r ymchwilwyr yn ymgymryd â gwaith cwmpasu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Maen nhw eisoes wedi adolygu dogfennau polisi allweddol, wedi cwblhau adolygiad data trylwyr, ac maent bellach yn trafod â deiliaid data ynghylch sut y gellir ei ddefnyddio i fesur canlyniadau allweddol y cynllun treialu.

Bydd y data hwn yn helpu i fesur canlyniadau sy'n gysylltiedig â defnyddiau eiddo, yn ogystal â chostau rhent, perfformiad ynni, trafodiadau tir, twristiaeth a'r Gymraeg. Bydd yr ymchwil yn cofleidio'r ystod o fewnbynnau, allbynnau, canlyniadau ac effaith cysylltiedig. Mae cymhwysiad rhyngweithiol ar-lein yn cael ei ddatblygu i ganiatáu i ddefnyddwyr arsylwi effaith a datblygu dysgu ar draws gwahanol agweddau ar y cynllun treialu. Yn ehangach, bydd y gwerthusiad yn parhau i ymgysylltu â chymunedau'r cynllun treialu, gan gynnwys pobl ifanc ac eraill sy'n chwilio am dai fforddiadwy, ochr yn ochr ag amrywiaeth o randdeiliaid.

Dirprwy Lywydd, fel erioed, mae llawer iawn yn digwydd yn y maes polisi eang a thrawsbynciol hwn. Mae'r gwaith yn dwyn ynghyd set radical o fesurau, heb ei hail yng nghyd-destun y DU, a bydd adroddiad cynnydd pellach yn dilyn ymhen chwe mis. Diolch. 

17:25

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Roedd yn eithaf cynhwysfawr, mewn gwirionedd. Fe wnaf ddatgan buddiant oherwydd fy eiddo fy hun. Fel y dywedodd Cartrefi Cymunedol Cymru, ni fu adeiladu cartrefi newydd erioed yn anoddach. Mae'r digartrefedd sydd bellach i'w weld yng Nghymru yn embaras cenedlaethol. Mae cael gafael ar gartrefi fforddiadwy yn broblem fawr i lawer. Fodd bynnag, nid targedu llety gwyliau tymor byr a pherchnogion ail gartrefi yw'r ateb i bob problem rydych chi'n ei ddisgrifio, oherwydd p'un a ydych yn ei hoffi ai peidio, maen nhw'n cyfrannu tuag at ein heconomi leol.

Fe wnaethoch chi roi gwybod i'r Pwyllgor Cyllid y gallwch chi gael tua phedwar tŷ i bob £1 miliwn. Mae hynny'n llawer iawn o arian. Ac rydych hefyd yn datgan yn eich datganiad bod £17 miliwn wedi dod i mewn o ganlyniad i'r premiymau treth gyngor ar gyfer digartrefedd a chartrefi rhent cymdeithasol newydd, felly mae fy natganiad yn mynd i ofyn ychydig o gwestiynau, Gweinidog. Fe fyddwn yn ddiolchgar iawn pe baech yn gallu ateb y rhain heddiw. Felly, faint o gartrefi rhent cymdeithasol newydd sydd wedi'u hadeiladu gyda'r £17 miliwn sydd wedi dod i mewn?

Nawr, rydych chi hefyd yn dweud bod £250,000 i—. Na, mae'n ffaith bod tŷ bellach yn costio—. Roedd £179,000 yn arfer cael ei ystyried yn gartref fforddiadwy; mae wedi codi hyd at £250,000. Rwy'n credu bod hynny'n anfforddiadwy i lawer yn fy etholaeth i. A fyddech chi'n ystyried lleihau costau gweinyddu i ddatblygwyr drwy ryddhau tir sy'n eiddo cyhoeddus i'w ddatblygu, yn enwedig yn y sector rhentu cymdeithasol? Dyna lle mae gwendid yn fy etholaeth fy hun ac ar draws Cymru. Does dim prinder pobl yn dod i mewn ac eisiau adeiladu cartrefi, ond mae'r rhan fwyaf o gartrefi rwy'n eu gweld ar werth, Gweinidog, mewn ardaloedd bychain newydd ar gyfer ystadau ac ati yn £395,000 a mwy. Nid dyna lle mae angen i ni fod. Mae angen i ni gael y bobl hyn allan o lety dros dro. Mae angen i ni eu cael allan o ystafelloedd gwestai. Maen nhw angen cartref, to uwch eu pennau eu hunain. Felly, a fyddech chi'n ystyried lleihau rhai costau gweinyddu, gan edrych ar y system gynllunio er mwyn ei symleiddio, fel y gallwn ni gael y tai rhent cymdeithasol hyn?

Mae gennym 22,634 o gartrefi gwag. Nawr, er gwaethaf y trywydd hwn—. Ac rydych chi'n iawn, fe wnaethoch chi roi £50 miliwn i mewn i'r cynllun grantiau cartrefi gwag. Rwy'n deall bod hwnnw bellach yn £25 miliwn, ar adeg pan fo angen i nifer o'r cartrefi gwag hynny ddychwelyd yn ôl i'r stoc, fel y gallant ddod yn gartrefi cymdeithasol ar rent. Eglurder o ran sut y bydd gohirio £19 miliwn o gyllideb 2023-24 tan 2025-26 yn sicrhau effaith fwyaf posibl y cynllun—hoffwn gael rhywfaint o eglurder ar hynny.

Casglu data, rydym wedi codi yn y pwyllgor, rydym wedi ei godi yma, Gweinidog. Casglu data, mae gwir angen i ni wybod nawr faint o gartrefi rhent cymdeithasol sydd gennym, faint o gartrefi rhent sector preifat sydd gennym, faint o ail gartrefi, faint o bobl—. Mae angen y data hwn arnom. Nawr, rwyf wedi codi hyn yn y gorffennol, pam na all Rhentu Doeth Cymru fod yn fwy rhagweithiol ac yn asiant ar gyfer y casglu data hwn. A ydych chi'n bwrw ymlaen â hynny? Roeddech chi'n sôn eich bod yn adolygu gwaith Rhentu Doeth Cymru. Sut mae'r adolygiad hwnnw'n datblygu?

Pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i annog awdurdodau lleol i ddefnyddio gorchmynion rheoli eiddo gwag? Ac os nad yw hynny'n gweithio, yna tynhau'r rheolau i gael gwared ar y pla o gartrefi gwag hirdymor trwy ddefnyddio pwerau prynu gorfodol efallai. Mae gen i nifer o gartrefi gwag yn Aberconwy lle mae'r profiant yn hunllef. Gall gymryd hyd at ddwy flynedd i gyflawni profiant. Ydych chi'n gweithio gyda Llywodraeth y DU i geisio symleiddio'r broses brofiant i atal oedi?

Cwestiwn arall: a fydd yna ergyd ariannol i brosiect Dwyfor yn y flwyddyn ariannol nesaf? Rydych chi wedi cynnal cynllun treialu ar gyfer ail gartrefi a hyfforddiant gwrth-hiliaeth Rhentu Doeth Cymru i landlordiaid, ond a fydd hynny'n gyson?

Rwyf am droi at ymgynghoriad erthygl 4. Ymatebais yn uniongyrchol i Wynedd, gan wrthwynebu'n ffurfiol, er enghraifft, y byddai adran 1A yn arwain at breswylydd sy'n byw yn ei gartref o fewn ardal Gwynedd yr effeithir arni gan y cyfarwyddyd, yn gorfod gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer creu gosodiad tymor byr o fewn rhan o'i eiddo y mae'n byw ynddo fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa. Rydyn ni i gyd yn gwybod, ar draws Cymru, bod pobl wedi mynd i mewn i faes llety gwyliau ac ati. Mae angen edrych eto ar y farchnad gyfan, Gweinidog. Nid yw mor syml ag y mae eich datganiad yn awgrymu. Felly, rwyf eisiau gwybod sut rydych chi'n bwriadu ymdrin â'r mathau hyn o broblemau. Mae'r dymuniad i gynhyrchu incwm ychwanegol i'w ganmol, ac nid yw'n syndod wrth ystyried ffeithiau brawychus, er enghraifft y ffaith fod trigolion Arfon yn ennill £3,500 yn llai y flwyddyn na chyflog cyfartalog y DU. Mae hyn yn ganlyniad arall eto, mae gen i ofn, o 25 mlynedd o Lafur Cymru yn cael ei gynnal gan Blaid Cymru.  

17:30

Nid targedu perchnogion ail gartrefi yw'r ateb i bob problem. Rwy'n credu bod angen i ni edrych arno—. Nid yw'n air rwy'n hoffi ei ddefnyddio, ond mae angen i ni edrych arno yn fwy holistaidd. Pe gallech ateb y cwestiynau penodol yna, byddwn yn ddiolchgar iawn. Diolch. 

Diolch yn fawr, Janet. Mae honna'n rhestr eithaf hir o bethau, ac rwy'n credu eich bod wedi drysu ychydig o ran rhai o'r termau roeddech chi'n eu defnyddio. Nid ar gyfer adeiladu tai fforddiadwy yn unig y mae'r £17 miliwn a godwyd; mae'n £17 miliwn sy'n mynd i goffrau'r cyngor, a gellir ei ddefnyddio ar gyfer ystod o wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys cyflenwi cartrefi lleol. Yma yng Nghymru, nid yw 'cartrefi fforddiadwy' yn golygu'r un peth ag y mae yn Lloegr, a phe byddech chi'n gweld yr ystadegau yn Lloegr, byddech chi'n cael tipyn o sioc. Mae nifer y cartrefi cymdeithasol i'w rhentu yn Lloegr wedi gostwng yn gyflym. Mewn gwirionedd, mae yna golled net o gartrefi cymdeithasol i'w rhentu yn Lloegr dros y 15 mlynedd diwethaf, ond mewn gwirionedd mae cynnydd enfawr yma yng Nghymru. Mae'r term 'fforddiadwy' wrth gwrs yn golygu 80 y cant o rent y farchnad. Dyw e ddim yn fforddiadwy i bron neb, felly dydyn ni ddim yn defnyddio'r term yna—rydyn ni'n defnyddio 'cartrefi cymdeithasol i'w rhentu', a dyna yw'r 20,000 yr ydym yn ei hadeiladu. Felly, i fod yn glir iawn, mae'r rhain yn ddau beth hollol wahanol.

Mae cynllun treialu Dwyfor wedi bod yn llwyddiannus iawn am nifer o resymau, yn anad dim yr hyn yr ydym yn ceisio'i wneud yw sefydlu cymuned gynaliadwy sydd â chyfres o dai defnydd cymysg ynddi. Er mwyn cael cymuned gynaliadwy, mae angen amrywiaeth o bethau arnoch chi, ond yr hyn sydd ei angen fwyaf arnoch chi yw i bobl leol â swyddi lleol allu byw'n lleol. Allwn ni ddim cael diwydiant twristiaeth ffyniannus os nad oes neb i weithio ynddo, neu fod rhaid iddyn nhw i gyd deithio 100 milltir i gyrraedd eu swydd oherwydd bod popeth wedi cael ei brynu gan berchnogion ail gartrefi. Nid yw perchnogion yr ail gartrefi eu hunain eisiau dod i bentref hardd sydd mewn gwirionedd yn dref anghyfannedd heb siopau na thafarndai na dim byd arall, oherwydd nad yw'n gynaliadwy, gan nad oes neb yn byw yno mewn gwirionedd.

I fod yn glir iawn, yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yw sicrhau bod ein cymunedau yn gymunedau cynaliadwy, da, defnydd cymysg, lle mae cymysgedd o lety i dwristiaid, cymysgedd da o lety preswyl lleol, ac mae hynny ar draws pob deiliadaeth—cartrefi cymdeithasol i'w gosod, tai cydweithredol, ecwiti a rennir, perchen-feddiannaeth, ac ati. Mae honno'n gymuned gynaliadwy, ac mewn cymuned fel honno byddai gennych amwynderau lleol fel ysgolion a meddygfeydd a siopau a thafarndai lleol, ac ati, byddai ganddi sylfaen cwsmeriaid trwy gydol y flwyddyn ac yn gallu bod yn gynaliadwy, ond gwyddom cyn gynted ag y bydd cymuned yn dechrau colli'r gymysgedd gynaliadwy honno, mae'n marw.

Yn fy etholaeth i mae gennym grynodiad o fyfyrwyr mewn ardal, 'studentification' fel yr ydym yn ei alw, reit drwy'r canol, a chanlyniad hynny yw nad oes yr un o'r siopau na'r tafarndai wedi gallu goroesi. Pan fydd y myfyrwyr yn mynd adref ym mis Mehefin a ddim yn dod yn ôl tan fis Hydref, maen nhw i gyd wedi cau. Nid dyna beth mae'r myfyrwyr ei eisiau, nid dyna mae'r bobl leol ei eisiau, ac felly yr hyn rydyn ni eisiau ei wneud yw peidio â digalonni a siomi'r myfyrwyr, sy'n dod â bywiogrwydd ac arian—yn union fel mae'r twristiaid yn ei wneud mewn sawl rhan o Gymru, ac yn wir yn Abertawe. Yr hyn yr ydym eisiau ei wneud yw eu lledaenu mewn ffordd sy'n golygu nad ydyn nhw'n lladd y gymuned sef yr union reswm maen nhw yno yn y lle cyntaf, ac felly rydyn ni'n gwybod hynny.

Yr hyn y mae'r cynllun treialu hwn yn ei wneud yw dangos i ni beth mae'r gwahanol ymyraethau yn y farchnad yn ei wneud, ac maen nhw'n llwyddiannus iawn. Mae'n ddrwg gen i na allwch chi weld hynny, Janet, oherwydd mae hon yn stori newyddion dda iawn. Gyda'r ewyllys gorau yn y byd, weithiau dylech chi dderbyn bod rhywbeth wedi gweithio. Mae hyn yn gweithio mewn gwirionedd. Mae hyn yn golygu bod pobl sy'n ddigon ffodus i allu fforddio mwy nag un cartref yn gorfod talu ychydig yn fwy—mewn rhai achosion, y tro cyntaf iddyn nhw dalu unrhyw beth. Nid oes gennyf unrhyw broblem gyda hynny o gwbl. Os ydych chi'n ddigon ffodus i fod yn berchen ar fwy nag un tŷ, yna dylech allu talu ychydig yn fwy. Mae hefyd yn golygu bod mwy o stoc dai i bobl leol sydd angen gweithio a byw'n lleol, i weithio yn y diwydiannau twristiaeth sy'n dod â'r bobl hynny yno yn y lle cyntaf. Mae hwn yn gylch rhinweddol, ac nid yn un dieflig, ac felly rwy'n ofni nad wyf yn derbyn cynsail eich dadl. 

Ar y pwynt profiant, ni allwn gytuno mwy, ond rwy'n ofni nad yw Llywodraeth y DU wedi rhoi adnoddau digonol i bron pob rhan o'r Llywodraeth sy'n ymdrin â phrofiant. Mae'r system cyfiawnder sifil, y system brofiant ei hun, y Llys Gwarchod a phopeth arall yn brin iawn o adnoddau, ac, wrth gwrs, felly, mae profiant yn cymryd llawer hirach, ac mae hynny'n rhan o'r broblem sydd gennym gyda'r cartrefi gwag. Rydym wedi rhoi eithriadau, er enghraifft, ar gyfer y cynnydd o 100 y cant ar y dreth gyngor ar gyfer profiant; fe ddechreuon ni am chwe mis ac erbyn hyn rydyn ni hyd at flwyddyn. Ond, rwy'n cytuno, mae profiant weithiau'n cymryd dwy flynedd, felly efallai y bydd angen i ni edrych ar rai o'r eithriadau hynny. A dyna pam y mae hi mor anodd dweud beth yn union yw cartref gwag. Gall, yn wir, fod teulu wedi etifeddu cartref rhwng tri neu bedwar o frodyr a chwiorydd, ac ni allant wneud unrhyw beth ag ef nes eu bod wedi dod drwy'r system honno. Felly, mae'n rhaid i ni ystyried yr eithriadau hynny, ac rydym yn awyddus iawn i wneud hynny'n lleol. Felly, rwy'n credu bod hon yn stori lwyddiant o'r mwyaf.

O ran cyfarwyddyd erthygl 4, rydym yn awyddus iawn bod awdurdodau lleol yn gallu ystyried yr amgylchiadau lleol, a dyna pam y mae wedi'i wneud yn y ffordd y mae wedi'i wneud. Rydym yn deall nawr bod Gwynedd ac Eryri yn edrych i weld sut mae hynny'n edrych yn lleol. Rwy'n deall—er nad oes gen i ddim byd o'm blaen i ar hyn o bryd—bod nifer o awdurdodau eraill yn y gorllewin yn gwneud hynny. Rwy'n deall bod Ceredigion ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Sir Benfro hefyd yn dangos diddordeb yn y cynllun treialu, er enghraifft, ac am resymau amlwg, oherwydd gall hyn fod yn un o'r ysgogiadau sy'n ein galluogi i gael y gymuned gynaliadwy dda hon.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:35

Diolch i'r Gweinidog am y diweddariad yma ar fater sydd o bwys cenedlaethol i ni. Gwn fod rhaid wedi dweud mai mater lleol ydy ail dai, ond maen nhw'n anghywir. Mae cymunedau yn cael eu boneddigeiddio mewn amryfal ffyrdd, ac ail dŷ ydy'r enghraifft amlycaf o hyn. Felly, mae'n dda gweld y Llywodraeth wedi dod i gytundeb efo ni ym Mhlaid Cymru er mwyn canfod datrysiad i'r boneddigeiddio yma. 

Dwi am gymryd y cyfle, os caf i, i ddiolch yn benodol i Siân Gwenllian, a'r tîm sydd wedi ei chynorthwyo, wrth gydweithio gyda chi, Weinidog, er mwyn dod â'r mesurau yma i rym. Oherwydd mae nifer o'n cymunedau wedi cael eu diberfeddu yn sgil y niferoedd o ail dai sydd wedi gwthio prisiau eiddo i fyny, a datod y gwead cymdeithasol yn nifer o'n cymunedau wrth i deuluoedd symud allan o gymunedau eu magwraeth. Mae yna dystiolaeth fod y cynllun yn gweithio ac yn dwyn ffrwyth.

Os caf i fod mor hy â diweddaru'r Gweinidog yn ei ffigurau. Soniodd y Gweinidog am ffigurau 2022-23, ond, yng Nghyngor Gwynedd, yn y flwyddyn 2023-24, mae'r cyngor yno wedi gallu codi £9 miliwn drwy'r premiwm, gyda £6 miliwn wedi cael ei neilltuo i gronfa er mwyn gweithredu'r cynllun gweithredu tai, sydd yn anelu i ddarparu tai ar gyfer pobl ifainc yn ein cymunedau, a £3 miliwn ar gyfer cynllun cyllideb digartrefedd. Ond mae yna ambell gwestiwn sydd angen eu gofyn, a phwyntiau sydd angen ystyriaeth bellach, ac mi wnaf i eu codi nhw rŵan.

Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod disgwyl i nifer yr ail dai ddisgyn o 2,240, neu 9.3 y cant, lawr o 24,000 i 21,000, yn y flwyddyn ariannol nesaf. Mae hyn yn gwymp sylweddol, ac efallai'n dangos bod y rhaglen yn llwyddo ymhellach yn ei hamcanion. Ond dydy o ddim yn brawf terfynol o'r llwyddiant. Felly, all y Gweinidog ymhelaethu ar ba gynlluniau sydd yna er mwyn cynnal asesiad cynhwysfawr o'r camau sydd wedi cael eu cymryd, a'u llwyddiant?

Soniodd y Gweinidog am erthygl 4 a sut mae Cyngor Gwynedd yn mynd ymlaen â'r rhaglen honno. Wrth gwrs, mae Parc Cenedlaethol Eryri am gychwyn ar y broses, ac mae sôn am gyngor Ceredigion, ac efallai sir Benfro hefyd. Mae'r Llywodraeth wedi bod yn hael iawn yn eu cefnogaeth efo Cyngor Gwynedd wrth wthio hyn ymlaen. Tybed ydy'r Gweinidog yn gallu dweud wrthym ni a oes yna unrhyw gymorth yn mynd i fod ar gael ar gyfer awdurdodau eraill fydd yn dymuno gwthio ymlaen efo cyflwyno erthygl 4.

Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o argymhellion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wrth hyrwyddo Deddf eiddo, sydd yn cynnwys yr hawl i dŷ addas i bwrpas, perchnogaeth gymunedol a'r angen i ddarparu tai yn unol ag anghenion. Felly, pa ystyriaeth mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i'r cynigion polisi yma, a phryd y byddwn ni'n debygol o weld rhai o'r elfennau yma'n cael eu hymgorffori i mewn i fframwaith polisi'r Llywodraeth?

Yn olaf, er bod ymdrechion i hyrwyddo tai fforddiadwy yn ganmoladwy, mae'n hanfodol cydnabod yr angen i ehangu stoc tai cymdeithasol Cymru yn sylweddol. Nid yw targed Llywodraeth Cymru i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd yn ystod ei thymor presennol yn ddigonol o bell ffordd, ac nid yw'r Llywodraeth yn mynd i gyrraedd y targed gyda'r gyfradd bresennol o gynnydd. Rhaid cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy ar gyfer aelwydydd incwm canolig ac isel yn sylweddol i'w rhentu ac i'w prynu, trwy adeiladu tai newydd a rhoi mwy o bwyslais ar gaffael tai o'r stoc bresennol. Mae'n rhaid gwneud hyn yn unol â'r angen lleol, ac mae angen data cywir arnom a chynnydd yn y gweithlu adeiladu. Felly, a all y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i hwyluso'r gwaith o gyflawni'r targed cyflawni tai cymdeithasol a sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod stoc tai Cymru yfory yn fforddiadwy, yn hygyrch ac yn adlewyrchu angen lleol? Diolch yn fawr iawn.

17:40

Diolch, Mabon. Mae llawer yr wyf yn cytuno â chi yna. Mae'n dda clywed yr ystadegau diweddaraf; rydyn ni'n disgwyl i'n rhai ni gael eu dilysu, ond rwyf wedi eu cael nhw yn anecdotaidd—ai hwnnw yw'r gair cywir—felly mae'n edrych fel ei fod yn teithio i'r cyfeiriad cywir. Rwy'n credu bod y gostyngiad o 9 y cant mewn ail gartrefi yn siarad drosto'i hun. Fel y gwyddoch chi, rhan o'r gwerthusiad yw sicrhau bod effaith gronnol yr hyn rydyn ni'n ei wneud yn ein harwain i'r cyfeiriad cywir. Un o anawsterau'r gwerthusiad—rydyn ni'n gweithio drwyddo a dywedais yn fy natganiad sut roedd hynny'n cael ei wneud—oedd ceisio nodi effaith yr ymyraethau amrywiol a gweld beth yw'r effaith gronnol. Un o'r materion ynghylch cyfarwyddyd erthygl 4, er enghraifft, yw beth yw'r effaith gronnol ar ben y mesurau eraill fel y TTT ac ati. Felly, mae hynny'n bendant yn ddarn o waith y mae angen edrych drwyddo, ac mae'n rhan o'r hyn yr ydym yn ei weld fel y cyflymydd yng nghynnydd canran y dreth gyngor, er enghraifft. Felly, rydym yn edrych yn ofalus i weld beth sy'n digwydd wrth i chi gyflymu'r cynnydd hwnnw.

Mae yna ganlyniadau anfwriadol i rai o'r pethau hyn, felly dyna un o'r pethau y mae angen i ni fod yn ofalus iawn yn ei gylch. Dywedais pan wnaethom gyflwyno'r rhaglen cyflymydd cynnydd y dreth gyngor am y tro cyntaf—ac ailadroddodd Rebecca Evans hi pan gyflwynodd hi—bod nifer fawr iawn o'r ail gartrefi yn y gogledd-orllewin yn eiddo i bobl sy'n byw yng Nghaerdydd ac Abertawe, ac maen nhw'n mynd yno'n aml ac yn gwario llawer o arian yno. Yr hyn nad ydym eisiau ei wneud yw gyrru'r bobl hynny allan a rhoi pobl sy'n llawer pellach i ffwrdd yn eu lle, nad ydynt byth yn mynd yno, a dim ond eiddo gwag ydyw. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn bod y graddnodiad yn iawn fel eich bod chi'n cael y twristiaid sy'n gwario arian ac nid y rhai sydd dim ond yn dal yr eiddo fel buddsoddiad a dod efallai, unwaith bob tair blynedd neu rywbeth. Felly, mae'n raddnodiad gofalus a gwn fod Cyngor Gwynedd wedi bod yn edrych yn ofalus iawn ar beth yw'r gymysgedd.

Ac yna, fel y dywedais i mewn ymateb i Janet—ac rwy'n gwybod eich bod chi'n cytuno ac mae Siân a minnau wedi cael llawer o sgyrsiau am hyn—mae hyn yn ymwneud â cheisio ailgynllunio cymuned gynaliadwy sydd wedi cael ei gyrru i ffwrdd gan farchnad fuddsoddi ddilyffethair mewn eiddo, oherwydd bod gan y DU farchnad eiddo gamweithredol iawn; rydym yn ystyried ein cartrefi fel buddsoddiadau, sy'n wallgof, mewn gwirionedd. Mae'n ysgogi set o ymddygiadau nad ydynt yn ffafriol i economïau cynaliadwy.

Dylwn ddweud nawr, Llywydd, fy mod yn teimlo y dylwn ddatgan rhywfaint o fuddiant fy hun, oherwydd er nad wyf yn byw mewn cymuned Gymraeg, yn anffodus, mae'r gymuned yr wyf yn byw ynddi hefyd yn fan prydferth yng Nghymru—rwy'n ffodus iawn i fyw yno. Ni fydd fy mhlant byth yn byw yn y pentref lle cawson nhw eu magu. Mae'r tai yno yn gwerthu am filiynau o bunnau a bydd yn dod yn dref anghyfannedd yn gyflym iawn. Pan symudais i yno, prynais dŷ segur am y nesaf peth i ddim—bydd e'n hyfryd pan fydd wedi'i orffen, fel mae fy mam wastad yn dweud—ac roedd y rhan fwyaf o'r tai yno yn 'shabby chic', os hoffech chi, ac roedd ganddyn nhw bobl leol yn byw ynddyn nhw, ac ati. Ac yn araf iawn, iawn dros y 30 mlynedd yr ydym wedi byw yn y pentref hwnnw, mae wedi newid o fod yn bentref lle roedd pawb yn byw yno i ychydig iawn ohonom yn byw yno, a gallwch weld hynny'n digwydd. Dyna'r hyn y mae angen i ni ei wrthsefyll. Mae'n wych bod gennym rai pobl yn dod sy'n dwristiaid. Mae fy ffrindiau i'n byw drws nesaf ac maen nhw'n dod yn aml. Ond nid yw'n beth da ychwaith na fydd yr un o blant y pentref yn byw yn y pentref hwnnw, a dyna sy'n cael ei ailadrodd mewn pentref ar ôl pentref ar ôl pentref o gwmpas Cymru. Ac mae hyd yn oed yn waeth mewn cymunedau Cymraeg, am yr holl resymau rydyn ni'n gwybod amdanyn nhw.

Rwy'n credu, fel Llywodraeth ac fel set o bleidiau, ein bod wedi bod yn benderfynol o sicrhau bod ein cymunedau'n gadarn i wrthsefyll hyn. Rydym yn ffodus ein bod yn byw mewn lle mor hardd y mae cymaint o bobl eisiau ymweld ag ef. Rydym yn ffodus bod gennym ddiwydiant twristiaeth ffyniannus, ond ni fydd yn ffynnu os na all y bobl sy'n gweithio ynddo fyw yn lleol a chael bywydau boddhaol. Felly, mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o wneud y cymunedau hyn yn gynaliadwy yn y dyfodol a ffynnu ar gyfer pobl leol, a dyna beth rydyn ni'n ceisio'i wneud, onid e'?

Felly, mae yna ychydig o bethau eraill rydw i eisiau eu dweud. Mae ehangu cartrefi cymdeithasol yn un da. Felly, y cam nesaf o ehangu cartrefi cymdeithasol yr ydym yn edrych arno yw—rydym newydd newid y ffordd yr ydym yn asesu'r angen am dai lleol ar gyfer awdurdodau lleol, ac mae hynny'n ymwreiddio ar draws Cymru. Bydd hynny'n creu canlyniadau gwell yn lleol unwaith y bydd pobl wedi dod i arfer â'r fethodoleg, ac yna gallwn dargedu safleoedd penodol mewn gwahanol awdurdodau lleol ar gyfer hynny.

Rwy'n awyddus iawn i ddatblygu llyfr patrwm o dai cymdeithasol fel bod safle ar ôl iddo gael ei ddyrannu ar gyfer tai yn y cynllun datblygu lleol a'i fod wedi mynd drwy'r broses gyfan, os ydych chi'n barod i adeiladu set o batrymau ar safle penodol, yn y bôn mae gennych ganiatâd cynllunio, felly i ffwrdd â chi. Dyna lle rydyn ni'n ceisio mynd gydag ef fel y gallwn adeiladu grwpiau bychain o dai cymdeithasol yn y pentrefi rydyn ni'n sôn amdanyn nhw, lle gall pobl leol sydd wedi tyfu i fyny yno ond na fyddant byth yn cael mynediad i dai gael eu troed yn y drws. Mae angen i rai o'r rheini fod yn rhai lle rhennir ecwiti, am resymau amlwg, ac yna mae angen cyfres o dai cydweithredol a thai eraill. Mae llawer mwy o bethau y gallwn eu gwneud, ond mae hwn yn ddechrau gwych.

17:45

Rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr. Rwy'n falch iawn o weld bod awdurdodau lleol, ers 2023, wedi gallu cyflwyno premiymau'r dreth gyngor dewisol uwch ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor. Dwi newydd ddarganfod ei fod yn cael ei efelychu yn Lloegr erbyn hyn. Felly, rwy'n credu ei bod yn ddigon posibl y bydd yn rhaid i bobl newid yr hyn y maen nhw wedi'i ddweud hyd yn hyn.

Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r heriau o ran dod o hyd i eiddo fforddiadwy. Am y 12 mis diwethaf, rwyf wedi bod yn chwilio am dŷ ar Ynys Môn ar gyfer fy merch, lle rwy'n gwybod bod cyflogau yn isel, canfûm yn fuan fod prisiau tai yn sylweddol uwch nag yn Abertawe. Yn ogystal ag ail gartrefi, rydym ni, yn anffodus, wedi gweld twf Airbnb, a dyna'r broblem fawr mewn gwirionedd y bydd yn rhaid mynd i'r afael â hi, byddwn i'n awgrymu, gan ddeddfwriaeth. Mae Airbnb wedi chwyddo prisiau tai, wrth dynnu eiddo allan o'r farchnad rentu, colled i'r rhai sy'n chwilio am eiddo. Mae'n creu enillion i landlordiaid, sy'n gallu codi mwy am wythnos nag y byddai'r rhent am fis. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen i ni fynd i'r afael â thwf Airbnb ochr yn ochr ag eiddo gwag ac ail gartrefi, a beth am edrych ar gapeli ac eglwysi gwag a'u haddasu ar gyfer eu defnyddio fel cartrefi? Mae Darren Millar yn nodio.

Diolch yn fawr iawn, Mike. Felly, dim ond i fynd i'r afael â'r un olaf yna yn gyntaf, ac rwy'n gwybod am eich diddordeb hirdymor mewn addasu llawer o'r hen gapeli ac eglwysi yng Nghymru er mwyn eu defnyddio mewn ffordd fuddiol, rydym wedi dechrau sgwrs gyda Cadw am batrymau unwaith eto ar gyfer yr hyn y gellir ei wneud ar gyfer adeiladau amrywiol. Mae'n ffordd dda iawn o gadw'r dreftadaeth, fel y gwyddoch chi, ac rwy'n gwybod eich bod wedi gweithio'n galed iawn ar hyn, yn ogystal â darparu cartrefi mawr eu hangen, ond yn aml, os na ellir trosi'r eglwys neu'r capel felly, mae'n mynd yn adfeiliedig yn gyflym iawn ac rydych chi'n colli'r dreftadaeth hefyd. Felly, rwy'n credu bod pawb ar eu hennill yn bendant.

Ar Airbnb, allwn i ddim cytuno mwy. Un o'r pethau rydyn ni'n mynd i'w wneud gyda'n cynllun trwyddedu a chofrestru statudol, sy'n rhan o'r cytundeb cydweithredu, wrth gwrs, yw sicrhau tegwch. Ar hyn o bryd, os ydych chi'n rhedeg Airbnb—dydw i ddim yn dweud bod pawb yn gwneud hyn, mae llawer ohonyn nhw'n gyfrifol iawn—does dim rhaid i chi gael unrhyw yswiriant nac unrhyw brofion trydanol neu unrhyw beth o gwbl, mewn gwirionedd. Efallai na wnaed dim i'r tŷ ers oesoedd. Dyw hynny ddim yn iawn, mae'n ymddangos i mi. Os ydych chi'n cynnig eiddo ar gyfer llety i dwristiaid, yna dylai hwnnw fod yn ddiogel ac yn addas i bobl fyw ynddo. Ond dylai'r sefyllfa fod yn deg o ran sefydliad gwely a brecwast neu westy lleol, cwmnïau teuluol, sefydledig sydd yn gorfod mynd drwy'r felin o ran rheoliadau ac sydd dan anfantais fawr yn y farchnad honno.

Felly, fel y dywedais i yn fy natganiad, un o'r pethau cyntaf yr ydym am edrych arno yw cynllun trwyddedu a chofrestru ar gyfer eiddo y gellid ei ddefnyddio fel llety preswyl hirdymor, ond sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gyfer Airbnb neu lety i dwristiaid, i'w godi i'r un safon. Dyna'r cyfan rydyn ni'n ei ddweud. Felly, dylech orfod cael yr un yswiriant, yr un profion trydanol, yr un larymau carbon monocsid, yr un peth, chi'n gwybod—fel y byddai pobl yn ei ddisgwyl mewn gwirionedd ac y byddai'n rhaid i chi eu cael pe byddech chi'n rhedeg sefydliad gwely a brecwast lleol, er enghraifft, neu westy. Dylech orfod cael asesiad risg diogelwch tân—dylech orfod cael y ddogfennau y mae pobl yn disgwyl eu cael pan fyddan nhw'n mynd ar wyliau er mwyn bod yn ddiogel.

Dylech, rwy'n credu, fod yn ymwybodol o'ch rhwymedigaethau, a dylech orfod cofrestru yn yr un ffordd ag y gwnewch gyda Rhentu Doeth Cymru. Mae hynny wedi bod yn llwyddiannus iawn, dydw i ddim yn gweld pam na allwn ni wneud rhywbeth tebyg iawn. Efallai nad yw'n union yr un fath, ond yn debyg iawn. Rwyf hefyd eisiau annog pobl yn ôl i'r sector rhentu hirdymor gyda hwn. Felly, os oes rhaid i chi fynd drwy'r felin honno, efallai y byddwch chi'n meddwl, 'Wel, mewn gwirionedd, wyddoch chi beth? Byddai'n well imi gael incwm drwy gydol y flwyddyn, na chael cynnydd yn fy incwm yn yr haf ac yna hwnnw'n mynd yn ôl i lawr eto.' Felly, mae hyn yn ymwneud â rhoi'r platfform polisi ar waith i ysgogi'r mathau o ymddygiadau yr ydym eisiau i bobl eu cael. Felly, unwaith eto, os ydych chi'n ddigon ffodus i gael ail gartref, yna efallai y byddwch chi'n ystyried ei ddefnyddio ar gyfer y llety tymor hir hwnnw ar gyfer person ifanc neu deulu lleol, yn hytrach na'r sector twristiaeth. Wrth gwrs, nid pob un ohonyn nhw; rydyn ni eisiau i'r twristiaid ddod, ond rydyn ni hefyd eisiau'r gweithwyr sy'n cadw twristiaeth yn fywiog. Felly, dyna nod y cynllun trwyddedu statudol, ac unwaith eto, rwyf wedi cael trafodaeth gyda fy nghyd-Aelod ym Mhlaid Cymru yn aml iawn ynglŷn â gwneud hynny.

Mae Airbnb eu hunain yn gefnogol iawn i fflatiau; maen nhw eisiau i'r eiddo gael ei reoli a'i gynnal a'i gadw'n dda. Ac rwyf eisiau pwysleisio, yn union yr un fath â landlordiaid tymor hir, bod y mwyafrif helaeth o bobl sy'n ei wneud yn gwneud y peth iawn, ond y pwynt yw nid oes rhaid iddyn nhw wneud hynny. Felly, rwy'n cytuno â Mike Hedges bod angen i ni wneud hynny.

Mae'n braf gweld y pethau hyn yn cael eu hefelychu yn Lloegr. Rydym ni wedi gweld llawer o ddiddordeb ymhlith ardaloedd y parciau cenedlaethol yn Lloegr: Cernyw, ardal y Llynnoedd ac ati. Rydych chi'n gweld yr arwyddion cyntaf eu bod yn efelychu Cymru mewn gwirionedd. Felly, fel y dreth bagiau plastig, rwy'n credu y byddwn yn gweld cyfrifwr y dreth gyngor yn cynyddu hefyd.

17:50

Diolch yn fawr, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Rwyf eisiau ymdrin â phwynt y dechreuodd Mabon ap Gwynfor roi sylw iddo, sydd ynghylch adeiladu tai a mwy o eiddo yn cael eu hadeiladu yn ein cymunedau, ac rydych chi'n hollol iawn, lle mae cymunedau lle mae plant yn cael eu magu yn y pentref hwnnw ond ddim yn gallu prynu eiddo yno, mae hynny'n broblem. Ond un o'r ffyrdd gorau o ddatrys y broblem honno yw gweld mwy o dai yn cael eu hadeiladu sy'n briodol ac yn fforddiadwy i'r gymuned honno. A chlywsom Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ddiweddar yn dweud yr un math o beth, bod angen i ni weld mwy o gartrefi yn cael eu hadeiladu i ateb y galw.

Un o'r pethau sy'n fy nharo i yw'r haenau lluosog sydd gennym o ran golwg strategol ar dai yng Nghymru. Mae gennym 'Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040' ar lefel Cymru, mae gennym rôl cyd-bwyllgorau corfforedig a chynllunio strategol yn y dyfodol ar lefel ranbarthol, ac, wrth gwrs, mae gennym CDLl ar lefel awdurdod lleol, ac nid yw'r rhain o reidrwydd bob amser yn alinio â'i gilydd, o ran dyddiadau ac amserlenni, ond hefyd o ran galw neu sut maen nhw'n gweld y galw am fathau o dai, p'un a yw'n dai fforddiadwy neu fathau eraill o dai. Felly, tybed beth yw eich myfyrdodau ynghylch y gwahanol haenau hynny o gynllunio strategol a goruchwylio tai yng Nghymru, ac a allai fod yn werth alinio'r rheini'n agosach, yn enwedig o ran amserlenni a'r gofyn, oherwydd, er enghraifft, yn y gogledd, ni fydd y chwe CDLl sy'n dangos lefel yr angen tai fforddiadwy yn cyd-fynd â'r farn ranbarthol na fydd wedyn yn cyd-fynd â barn Cymru gyfan. Rwy'n credu o bosib fod problem weithiau o ran bod yn glir iawn ynghylch beth yw'r cynllun i Gymru. Diolch.

Felly, Sam, rwy'n cymryd y pwynt rydych chi'n ei wneud, a phe byddem wedi dechrau gyda dalen wag o bapur, ni fyddem wedi dechrau lle roeddem ni, felly byddem wedi rhoi, yn amlwg, y cynllun cenedlaethol yn gyntaf, yna'r cynllun rhanbarthol, yna'r CDLl yn cymeradwyo yn olaf, ond mewn gwirionedd, roeddem ben i waered, felly rydyn ni'n chwarae dal i fyny i raddau â system sy'n cael ei harwain gan gynllun. Ond unwaith y bydd y system gyfan dan arweiniad cynllun yn ei lle, bydd gennych y synergedd hwnnw; dyna'r holl bwynt. Ac un o'r rhwystredigaethau i ni, os mynnwch chi, yw siarad ag awdurdodau lleol—ac roeddwn i'n arfer cael y sgwrs hon gyda chi pan oeddech chi mewn rôl flaenorol, ac felly roeddwn i—fe fyddem yn hoffi gweld yr awdurdodau lleol hynny'n dod at ei gilydd i wneud y cynllun strategol rhanbarthol, fel bod datblygwyr y sector preifat pan fyddan nhw'n dod ymlaen, yn deall beth oedd gofynion seilwaith y maes strategol hwnnw, a bydden nhw'n gallu ystyried hynny fel rhan o fforddiadwyedd eu datblygiad mewn ffordd sy'n fwy tryloyw nag ydyw ar hyn o bryd. Felly, dyna'r pwynt, mewn gwirionedd. Mae'r hyn rydych chi newydd ei amlinellu yn debyg i'r pwynt, ond rydyn ni ychydig ben i waered nes bydd gennym y cynlluniau lefel strategol ar waith.

Ac yna rydyn ni wedi bod yn glir iawn gydag awdurdodau lleol, unwaith bydd y lefel strategol—. Felly, mae gennym 'Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040' fel y trosolwg strategol. Unwaith y bydd y cynllun rhanbarthol strategol yn ei le—a byddai'r chwe awdurdod lleol hynny'n rhan o wneud hynny, wrth gwrs—yna beth fyddai gennych chi oddi tano yw CDLl cryno; ni fyddai angen i chi fynd trwy'r holl beth, oherwydd byddai llawer o'r seilwaith a'r cynllunio ar gyfer gwasanaethau mawr, ysbytai ac ysgolion ac ati, yn rhan o'r cynllun strategol hwnnw, ac yna bydd y datblygwr sy'n dod ymlaen yn gallu gweld beth fyddai ei gyfraniad tebygol i'r mathau hynny o ofynion seilwaith, Mae hynny'n cyflymu'r system. Ac yna, fel y dywedais i wrth ateb Mabon, rwy'n credu, rydw i wedyn yn awyddus iawn, unwaith y bydd gennym ni'r dyraniad tai yn iawn trwy'r llwybr asesu tai marchnad leol, sy'n llawer mwy penodol i'r ardal leol nag yr arferai fod pan oeddech chi'n arweinydd cyngor—rydyn ni wedi newid hynny ychydig dros y tair blynedd diwethaf—bod gennym ni, os dymunwch, ardaloedd sydd wedi'u cymeradwyo ymlaen llaw. Felly, unwaith y bydd wedi mynd drwy'r CDLl fel safle tai ac mae ar gael ar gyfer tai, ac rydym wedi bod yn llawer llymach gydag awdurdodau lleol ynghylch yr hyn sy'n cael ei gyflwyno fel tai, er enghraifft a oes modd rhoi tai yno, gan ein bod wedi cael rhai enghreifftiau dybryd o glogwyni, a nodwyd ar gyfer tai—. Felly, rydym wedi gweithio gyda phob awdurdod lleol yn ei dro i sicrhau y gall yr hyn a gyflwynir fel safle tai gael tai arno mewn gwirionedd. Ac yna, os ydych chi'n barod i'w ddatblygu yn unol â'r cynllun, yna byddech chi, i bob pwrpas, wedi cael caniatâd cynllunio, cyn belled â'ch bod chi'n glynu wrth rai o'r cynlluniau hynny.

Ni fydd rhai o'r adeiladwyr sy'n codi nifer o dai eisiau gwneud hynny oherwydd eu bod yn hoffi dwysedd uwch ar eu plotiau ac ati, ond pan ydych yn barod i roi'r seilwaith gwyrdd ar waith ac yna gwasgaru'r tai cymdeithasol yma ac acw, yna byddai gennych chi lwybr carlam at hynny. Rwy'n awyddus iawn, iawn i wneud hynny. Ac yna rydyn ni eisoes wedi galluogi'r awdurdodau lleol—fel y dylwn fod wedi ei ddweud mewn ymateb i Mabon, mewn gwirionedd—rydyn ni eisoes wedi galluogi awdurdodau lleol a'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i brynu oddi ar y cynllun. Oherwydd ffyniant y farchnad dai, ni ddefnyddiwyd hynny lawer dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond mewn gwirionedd rydym bellach yn gweld gostyngiad ac rydym wedi gweld cynnydd cyflym mewn prynu oddi ar y cynllun ar gyfer tai cymdeithasol. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn helpu ein hadeiladwyr mentrau bach a chanolig yn enwedig wrth eu rhwystro rhag mynd i'r pant hwnnw, oherwydd gallant eu gwerthu o gynlluniau o hyd. Felly, rwy'n credu, unwaith y bydd gennym y cynlluniau strategol hynny ar waith, ac rydym ryw dair neu bedair blynedd i ffwrdd o hynny, byddwn yn gweld gwell trwybwn o lawer yn y ffordd rydych chi'n ei amlinellu. 

17:55
8. Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024

Eitem 8 sydd nesaf. Y Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024 yw'r eitem yma. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog i wneud y cynnig—Julie Morgan. 

Cynnig NDM8510 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Dwi'n cynnig y cynnig. 

Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn darparu'r fframwaith statudol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae rheoliadau sy'n diffinio gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig fel gwasanaeth newydd a reoleiddir eisoes wedi'u pasio a daethant i rym ddiwedd mis Rhagfyr. Mae'r rheoliadau sydd ger eich bron heddiw, Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024 yn arfer pwerau o fewn y Ddeddf i roi gofynion ar ddarparwyr ac unigolion cyfrifol gwasanaethau rheoleiddiedig. Maen nhw'n cwblhau'r fframwaith rheoleiddio. 

Mae'r rheoliadau hyn yn canolbwyntio ar ansawdd a diogelwch gwasanaethau a llesiant a chanlyniadau'r unigolyn. Byddant yn cael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc sy'n aros yn y gwasanaeth ac ar ansawdd cyffredinol y ddarpariaeth gwasanaeth. Bydd y rheoliadau'n cyfrannu at sefydlu dull mwy cyson o oruchwylio a rheoleiddio'r gwasanaethau sy'n gofalu am blant agored i niwed. Rwy'n cymeradwyo'r rheoliadau i'r Aelodau. 

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i gyfrannu—Huw Irranca-Davies. 

Diolch, Llywydd. Gwnaethom ystyried y rheoliadau drafft hyn ar 4 Mawrth, ac wedi hynny buom yn ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i'n pwyntiau adrodd yn ein cyfarfod brynhawn ddoe.

Bydd y rheoliadau hyn yn disodli, fel y dywedodd y Gweinidog, y safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer ysgolion arbennig preswyl a wneir o dan adran 23(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000, ac yn gosod y safonau ansawdd ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Fel y dywedodd y Gweinidog, maen nhw'n cwblhau'r platfform rheoleiddio.

Mae ein hadroddiad yn cynnwys naw pwynt adrodd technegol, ac mae dau ohonyn nhw'n tynnu sylw at ddrafftio diffygiol posibl, un sy'n tynnu sylw at anghysondebau yn y testunau Cymraeg a Saesneg, a chwech sy'n codi materion lle rydym ni o'r farn bod angen esboniad pellach ar ffurf neu ystyr darpariaeth. Bydd fy sylwadau y prynhawn yma yn canolbwyntio ar ddim ond pedwar o'r pwyntiau adrodd. Fodd bynnag, dim ond i atgoffa pawb bod yr adroddiad llawn ac ymateb y Llywodraeth ar gael o'r agenda heddiw.

Mae ein pwynt adrodd technegol cyntaf yn nodi bod y term 'gofal a chymorth' yn cael ei ddefnyddio drwy gydol y rheoliadau. Rhoddir ystyron penodol i 'gofal', 'cymorth' a 'gofal a chymorth' gan adran 4 o Ddeddf 2016, ond nid yw'r rheoliadau'n rhoi ystyr benodol i'r term. Mae Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn berthnasol i'r rheoliadau hyn, felly nid yr un ystyr sydd i'r termau a ddiffinnir yn Neddf 2016 ag yn y rheoliadau. Felly, fe wnaethom ni ofyn am eglurder ynghylch a fwriedir i'r term 'gofal a chymorth' gael yr un ystyr ag yn Neddf 2016, ac os felly, pam nad yw hyn wedi'i nodi yn y rheoliadau.

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym ni y bydd yn sicrhau bod y rheoliadau'n cael eu diwygio cyn mynd i'r afael â'r mater hwn, ac y bydd y diffiniad yn cyfeirio at y diffiniadau presennol sydd wedi'u cynnwys yn Neddf 2016. Felly, achubaf ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Gweinidog am nodi yn yr ymateb i'n hadroddiad y newidiadau penodol y bydd y Llywodraeth yn eu gwneud i'r rheoliadau cyn eu cyflwyno, a hoffwn dynnu sylw Aelodau at hyn yn yr un modd.

Mae ein trydydd pwynt adrodd yn tynnu sylw at ddrafftio diffygiol posibl, ac mae'n nodi bod rheoliad 1(3) yn diffinio tystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd fel y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraffau 2 a 3 o Atodlen 1. Mae'r geiriau 'y dystysgrif' yn dynodi un dystysgrif, ond mae paragraffau 2 a 3 yn cyfeirio at wahanol dystysgrifau. Yn ein barn ni, nid yw'n glir a yw'r ddwy dystysgrif yn dod o dan y diffiniad. Felly, mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud, er bod y diffiniad yn cyfeirio at ddwy dystysgrif, ei bod yn ystyried nad yw hyn yn debygol o fod yn broblem yn ymarferol gan y bydd yn glir pa fath o dystysgrif y dylid gwneud cais amdani. Roedd ymateb y Llywodraeth yn cydnabod y gallai newid i'r geiriad fod o gymorth i'r darllenydd, ond nid yw'r Llywodraeth yn credu bod angen gwelliant ar frys. Serch hynny, mae'r Llywodraeth wedi cytuno i adolygu'r rheoliadau cyn gynted â phosibl, gyda'r bwriad o wneud gwelliannau. Felly, efallai y gallai'r Gweinidog, wrth gloi, roi awgrym i'r Senedd pryd y gallai cyfle o'r fath godi.

Mae ein seithfed pwynt adrodd yn nodi bod rheoliad 79(3)(b) yn darparu ar gyfer addasiad i adran 21(2) o Ddeddf 2016. Yn ein barn ni, nid yw geiriad rhagarweiniol yr addasiad yn rheoliad 79(3)(b) yn gwneud llawer o synnwyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein pwynt adrodd ac wedi cadarnhau y bydd y rheoliadau'n cael eu diwygio cyn eu cyflwyno.

Ac yn olaf, yn ein hwythfed pwynt adrodd, rydym yn tynnu sylw at anghysondeb yn rheoliad 82(a) yn y testunau Cymraeg a Saesneg. Roedd y cyfieithiad Saesneg ar gyfer 'y rheoliadau maethu' yn y testun Cymraeg yn cyfeirio'n anghywir at 'y rheoliadau mabwysiadu'. Unwaith eto, mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein pwynt adrodd ac wedi cadarnhau y bydd y rheoliadau'n cael eu diwygio cyn eu cyflwyno.

Felly, unwaith eto, diolchwn i'r Gweinidog am y ffordd y mae hi a'i swyddogion wedi ymateb i'n hadroddiadau. Diolch yn fawr iawn.

18:00

Does gyda fi ddim rhagor o siaradwyr, felly y Dirprwy Gweinidog i ymateb.

Diolch. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith yn craffu ar y rheoliadau hyn. Cynigiodd y pwyllgor sawl gwelliant technegol ac rwy'n falch fy mod wedi derbyn y rhan fwyaf o'u hawgrymiadau. Yn y pwynt cyntaf a wnaeth y Cadeirydd, derbyniodd ymateb y Llywodraeth. Yn yr ail un, gofynnodd pryd y byddai hyn yn cael ei adolygu, a hoffwn gadarnhau y bydd hyn ar y cyfle cyntaf. Ac rwy'n credu, ar eitemau 3 a 4, bod ein hymatebion yn dderbyniol i'r pwyllgor. Felly, diolch unwaith eto i'r pwyllgor am yr ymatebion hynny.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does dim gwrthwynebiad, felly mae'r cynnig ar yr eitem yna wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024

Eitem 9 sydd nesaf, Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024. Y Gweinidog Newid Hinsawdd sy'n gwneud y cynnig hwn—Julie James.

Cynnig NDM8511 Lesley Griffiths.

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Gofynnir i'r Senedd gymeradwyo'r rheoliadau hyn sy'n ymwneud â'r dreth gwarediadau tirlenwi. Mae gan y rheoliadau drafft ddau amcan: yn gyntaf, cynyddu'r cyfraddau gwaredu safonol, is ac anawdurdodedig ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi fel eu bod yn berthnasol i warediadau trethadwy a wneir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024; ac, yn ail, diwygio gwall drafftio yn Neddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 mewn perthynas â'r cosbau am dalu treth gwarediadau tirlenwi yn hwyr a godir ar waredu heb awdurdod. Mae'r cynnydd arfaethedig i'r cyfraddau yn unol â'r gyllideb derfynol ar gyfer 2024-25 a gymeradwywyd gan y Senedd ar 5 Mawrth. Bydd y cyfraddau safonol ac is ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi yn cynyddu yn unol â chwyddiant y mynegai prisiau manwerthu yn unol  rhagamcan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Mae'r dull hwn yn sicrhau bod y gyfradd yn parhau'n gyson â threth tirlenwi Llywodraeth y DU ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, gan ddarparu'r sefydlogrwydd a'r sicrwydd i fusnesau yn unol â'n hegwyddorion treth. Mae pennu cyfraddau treth sy'n gyson â threth tirlenwi'r DU yn golygu y bydd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i elwa ar refeniw treth gan sicrhau bod y risg o symud gwastraff dros y ffin yn cael ei leihau.

Bydd diwygio'r gwall drafftio yn caniatáu i Awdurdod Cyllid Cymru godi cosb am dalu'n hwyr y dreth a godir yn unol â hysbysiadau codi tâl a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ystyried y rheoliadau hyn, a gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau. Diolch.

18:05

Diolch, Llywydd, a diolch, Gweinidog, hefyd. Gwnaethom ystyried y rheoliadau drafft hyn ar 4 Mawrth. Dyma achub ar y cyfle i ddiolch i'r Gweinidog am ymateb y Llywodraeth.

Mae ein hadroddiad yn cynnwys 2 bwynt adrodd ar rinweddau, a dim ond un ohonyn nhw oedd angen ymateb gan y Llywodraeth. Mae ein pwynt adrodd cyntaf yn nodi bod adran 25 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 yn nodi bod yn rhaid i Awdurdod Cyllid Cymru dalu symiau a gesglir wrth arfer ei swyddogaethau i gronfa gyfunol Cymru. Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn gyfrifol am gasglu a rheoli treth gwarediadau tirlenwi, ac mae'r rheoliadau hyn yn nodi'r tair cyfradd o Dreth Tirlenwi yng Nghymru.

Fodd bynnag, mae ein hail bwynt adrodd yn eithaf hir a manwl, a byddwn yn cyfeirio'r Aelodau at ein hadroddiad am y manylion llawn. Ond, yn gryno, mae rheoliad 5 o'r rheoliadau hyn yn cywiro'r cyfeiriad at adran 48 neu 49 o Ddeddf 2017 yn eitem 10 o dabl A1 yn adran 122 o Ddeddf 2016—Rwy'n gobeithio nad yw'r Aelodau'n syrffedu arnaf gyda hyn—fel ei fod yn hytrach yn cyfeirio at hysbysiadau codi tâl a gyhoeddwyd o dan adran 49 neu 50 o Ddeddf 2017. Fe wnaethom ni ofyn i Lywodraeth Cymru gadarnhau a yw wedi nodi unrhyw ddarpariaethau eraill yn Neddf 2017 a allai fod angen eu diwygio, ac a yw Awdurdod Cyllid Cymru wedi cyflwyno unrhyw gosbau taliadau hwyr i drethdalwyr mewn cysylltiad â hysbysiadau a gyhoeddwyd o dan adran 50 o Ddeddf 2017. Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw wedi nodi unrhyw ddarpariaethau eraill yn Neddf 2017 sydd angen eu diwygio o ganlyniad i fewnosod adran 25 yn ystod trafodion Cyfnod 3 ar y Bil, fel ag yr oedd cyn ei gwneud yn ddeddf ac iddi ddod yn Ddeddf 2017. Felly, rydym ni'n ddiolchgar iawn am yr eglurder hwnnw. Rydym ni'n credu ei bod hi'n bwysig bod hynny ar gofnod. A dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym ni hefyd nad yw Awdurdod Cyllid Cymru wedi cyhoeddi unrhyw hysbysiadau eto o dan adran 50 o Ddeddf 2017 ac na fydd yn gwneud hynny cyn i'r diwygiad hwn i Ddeddf 2016 ddod i rym. Felly, ni chyflwynwyd ac ni chyflwynir unrhyw gosbau talu hwyr mewn cysylltiad â hysbysiadau a gyflwynwyd o dan adran 50 o Ddeddf 2017 cyn y diwygiad hwn. Ac unwaith eto, rydym ni'n ddiolchgar am yr ymateb hwnnw ac mae'n bwysig cael yr eglurder hwnnw ar gofnod hefyd.

Fe wnaethom ni hefyd ofyn nifer o gwestiynau ategol i'r Llywodraeth ynghylch taliadau cosb y gallai Awdurdod Cyllid Cymru fod wedi eu codi ar gam pe bai wedi defnyddio'r pŵer yn adran 122(3) o Ddeddf 2016 cyn cyflwyno'r cywiriad a gynigiwyd yn y rheoliadau hyn. Ond, unwaith eto, diolch, Gweinidog, am eich ymgysylltiad â hyn a'ch ymateb i'r pwyllgor.

Does gen i ddim siaradwyr pellach, felly os ydy'r Gweinidog eisiau ymateb—. Na, nid oes angen ymateb pellach.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Seilwaith (Cymru)

Cynnig o dan eitem 10 sydd nesaf, i amrywio'r drefn o ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Seilwaith (Cymru). Y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig yma'n ffurfiol.

Cynnig NDM8506 Lesley Griffiths

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau o’r Bil Seilwaith (Cymru) a’r atodlenni iddo yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:

a) Adrannau 1-61;

b) Atodlen 1;

c) Adrannau 62 - 91;

d) Atodlen 2;

e) Adrannau 92 - 143;

f) Atodlen 3;

g) Adrannau 144 - 146;

h) Enw hir.

Cynigiwyd y cynnig.

Rwy'n cynnig y cynnig.

Ydy, mae e wedi'i symud yn ffurfiol. Does neb yn moyn siarad ar y cynnig. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? Unrhyw wrthwynebiadau? Nac oes, felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Eitem 11 a 12 sydd nesaf, ac, yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig yma yn cael eu hystyried a'u grwpio ar gyfer eu trafod ond bydd y pleidleisiau ar wahân.

11. & 12. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel)—cynnig 1, a Chynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel)—cynnig 2

Y ddau gynnig, felly, yw'r cynnig ar y cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel). Mae'r ddau gynnig ar y cynnig cydsyniad yna. Felly, does yna dim gwrthwynebiad i'w trafod nhw gyda'i gilydd. Dwi'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud y cynigion, felly—Mick Antoniw.

Cynnig NDM8512 Mick Antoniw

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaeth yn y ‌Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel), sef cymal 2, trin cyrff asesu cydymffurfiaeth etc., i’r graddau y mae'n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynnig NDM8513 Mick Antoniw

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel), sef cymal 3 sy'n ymwneud â chaffael cyhoeddus, a chymal 4 sy'n ymwneud â dynodiadau tarddiad a dynodiadau daearyddol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynigion. Mae'r cynigion yn gysylltiedig â'r Bil CPTPP, sydd ei angen er mwyn gweithredu cytundeb partneriaeth cynhwysfawr a blaengar y Môr Tawel fel bod y Deyrnas Unedig yn cydymffurfio pan ddaw'r cytundeb i rym. Rydym wedi cyflwyno cynigion er mwyn sicrhau y gall y Senedd archwilio'r materion sydd ynghlwm wrth y Bil a dod i benderfyniad ynghylch y cydsyniad. Bydd yr Aelodau yn gweld yn y memorandwm ein bod yn argymell cydsyniad rhannol a bod rhesymau cyfreithiol cyfansoddiadol da dros hyn.

Mae hon yn sefyllfa gymhleth lle mae Llywodraeth y DU wedi ymdrechu i fynd i'r afael â phryderon ynghylch defnyddio pwerau cydredol ar gyfer un cymal o'r Bil, ond, yn sylfaenol, nid yw'n cytuno â Llywodraeth Cymru ynghylch pa ddarpariaethau eraill y Bil sydd o fewn cymhwysedd datganoledig. Mae Llywodraeth y DU yn credu mai cymal 3 yn unig, agweddau'r Bil ar gaffael y Llywodraeth, sydd angen cydsyniad y Senedd. Fodd bynnag, barn Llywodraeth Cymru yw bod cymal 2, cyrff asesu triniaeth a chydymffurfiaeth, a chymal 4, enwau tarddiad a dynodiadau daearyddol, hefyd yn gofyn am gynnig cydsyniad deddfwriaethol.

Mae cymal 2 yn ymwneud â gweithdrefnau asesu cydymffurfio, sy'n rhoi sicrwydd bod cynhyrchion yn bodloni'r gofynion rheoleiddio angenrheidiol. Yn aml, mae angen i'r gwiriadau hyn gael eu cynnal gan sefydliadau trydydd parti o'r enw 'cyrff asesu cydymffurfio'. Mae partneriaeth gynhwysfawr a blaengar y Môr Tawel yn mynnu nad yw cyrff asesu cydymffurfio a sefydlwyd yn nhiriogaethau'r partïon y bartneriaeth yn cael eu trin yn llai ffafriol na chyrff asesu cydymffurfio yn y wlad gartref neu mewn un o diriogaethau eraill y bartneriaeth. Mae gwahaniaeth barn rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch a yw'r cymal yn gweithredu mewn meysydd datganoledig ai peidio. Rwy'n pryderu y gellid defnyddio cymal 2 i ddiwygio'r ddarpariaeth ddatganoledig. Nid yw'r ffaith nad oes darpariaeth ddatganoledig o'r math hwnnw ar hyn o bryd yn newid y ffaith y gellir defnyddio'r cymal i ddiwygio'r ddarpariaeth ddatganoledig a wneir mewn is-ddeddfwriaeth yn y dyfodol.

Mae cwmpas pŵer cymal 2 yn gul. Dim ond i weithredu erthygl 8.6 o gytundeb partneriaeth gynhwysfawr a blaengar y Môr Tawel y gellir ei ddefnyddio, a dim ond wedyn i ddiwygio rhai mathau o is-ddeddfwriaeth. Ond mae egwyddor yn y fantol, sef yr egwyddor mai lle sefydliadau datganoledig yw gweithredu rhwymedigaethau rhyngwladol mewn meysydd datganoledig ac nid Llywodraeth y DU, ac yn sicr nid drwy gyfrwng pwerau sy'n caniatáu i Lywodraeth y DU weithredu'n unochrog mewn meysydd datganoledig. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyson glir na all argymell cymal 2, gan fod cynnwys pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol ddeddfu mewn meysydd datganoledig yn tanseilio'r setliad datganoli.

Mynegodd Gweinidog yr Economi bryderon ynghylch cymal 2 mewn cyfarfod dwyochrog â Gweinidog Buddsoddi y DU, yr Arglwydd Johnson o Lainston, ym mis Rhagfyr, a chynnig awgrymiadau i wella a allai fod wedi ei arwain o bosibl i argymell bod y Senedd yn cydsynio i'r cymal hwn. Er y bu ymgysylltiad cadarnhaol rhwng swyddogion, rydym ni wedi bod yn aflwyddiannus yn perswadio Llywodraeth y DU i ddiwygio'r cymal fel y mae wedi'i ysgrifennu ar hyn o bryd, ac mae'n honni bod cymal 2 o fewn cymhwysedd a gedwir yn ôl. Mae Llywodraeth Cymru yn anghytuno â dadansoddiad Llywodraeth y DU o ran sut mae'r cymal hwn yn rhan o'r setliad datganoli.

Rwy'n cydnabod bod hwn yn faes cymhleth, ac mae'n destun gofid nad achubwyd ar y cyfle i wneud mân newidiadau drafftio a fyddai wedi cyflawni nod Llywodraeth y DU mewn ffordd sy'n parchu datganoli. Pe byddai newidiadau o'r fath wedi'u gwneud, byddwn yn argymell cydsynio i'r cymal hwn heddiw. Mae Llywodraeth y DU yn ymwybodol o'r materion y mae pwerau cydredol wedi'u creu i Lywodraeth Cymru, felly ni fydd penderfyniad i atal cydsyniad i gymal sy'n rhoi pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol weithredu'n unochrog mewn meysydd datganoledig yn syndod, ac mae'n gyson â'n safbwynt yn ystod y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd).

Fodd bynnag, mae'r modd y mae cymal 3 wedi ei ddrafftio, o ran sut mae'r Llywodraeth yn caffael, yn dangos bod gwersi wedi'u dysgu o'r Bil TANZ blaenorol, ac, fel yr wyf yn deall mae Llywodraeth y DU wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gytuno ar ddull gwahanol o ddrafftio ar gyfer y Bil hwn, rydym yn falch o allu argymell cydsynio i gymal 3. Ar y cyfan, mae Llywodraeth Cymru yn fodlon â'r newidiadau is-ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â chymal 3 oherwydd eu bod yn cael eu hystyried yn ddiwygiadau technegol angenrheidiol i'r rheolau caffael cyhoeddus datganoledig fel y maen nhw'n berthnasol yng Nghymru, yn ogystal â'r diwygiadau cyfatebol i'r rheolau yng ngweddill y DU. Ar ben hynny, caiff y newidiadau i reoliadau caffael eu manylu ar wyneb y Bil, heb unrhyw bwerau newydd yn cael eu creu na'u rhoi, ac, er y byddai'n well gennym bwerau cyfatebol, dyma'r dewis gorau nesaf ar gyfer bwrw ymlaen â'r newidiadau technegol, eglur hyn i ddeddfwriaeth caffael eilaidd. Mae swyddogion wedi bod yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU drwy gydol y trafodaethau ym maes caffael, lle darparwyd cyfleoedd i drafod meysydd o bwys. Felly, rwy'n argymell bod Aelodau'n cydsynio i gymal 3.

Mae cymal 4 yn cwmpasu dynodiadau daearyddol ac enwau tarddiad. Ar hyn o bryd mae 19 o'r rhain, gan gynnwys cig oen Cymru, halen môr Ynys Môn a chwisgi Cymreig brag sengl. Nid yw Llywodraeth y DU wedi gofyn i'r Senedd gydsynio i gymal 4, gan honni eu bod yn eiddo deallusol ac wedi'u cadw'n ôl i'r DU. Mae hwn yn faes cymhleth o'r gyfraith, lle mae dynodiadau daearyddol wedi'u cydblethu â'r farchnad amaethyddol gyffredin, sydd wedi'i datganoli, ac eiddo deallusol, a gedwir yn ôl. Mae'r dadleuon yn gytbwys iawn, ond, fel y dywedom ni yn ein memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, mae memorandwm cydsynio yn briodol oherwydd bod cymal 4 yn effeithio ar feysydd datganoledig bwyd-amaeth, labelu bwyd a mewnforio/allforion bwyd. O ystyried bod cymal 4 yn gweithredu'r rhwymedigaethau mewn maes polisi cul a lle nad oes gwahaniaeth polisi rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, rwy'n argymell cydsynio i gymal 4.

Felly, byddaf yn cyflwyno dau gynnig ar wahân ar gyfer y Bil hwn. Mae cynnig 1 yn ymwneud â chymalau 3 a 4, ac rwy'n argymell bod yr Aelodau'n cefnogi'r cynnig hwn. Mae cynnig 2 yn ymwneud â chymal 2, ac rwy'n argymell i'r Aelodau wrthod cydsynio iddo.

Er y bu trafodaethau ar gymal 3 y Bil yn gadarnhaol yn bennaf, dim ond drafft o'r Bil llawn a gafodd swyddogion ar 24 Hydref, 15 diwrnod cyn cyflwyno'r Bil yn San Steffan, a dim ond amser cyfyngedig a ganiataodd hyn i ddadansoddi'r goblygiadau datganoledig a fawr ddim cyfle i ymgysylltu'n llawn â Llywodraeth y DU cyn cyflwyno'r Bil  Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi mwy o amser yn y dyfodol ar gyfer ymgysylltu'n llawnach â llywodraethau datganoledig wrth ddatblygu Biliau Masnach y DU. Bydd hyn yn sicrhau bod buddiannau datganoledig yn cael eu harchwilio'n llawn, ac y gall swyddogion weithio gyda'i gilydd i sicrhau safbwyntiau sy'n dderbyniol i'r ddwy ochr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud hi'n glir y byddwn ni bob amser yn cadw at rwymedigaethau mewn cytundebau rhyngwladol y mae'r DU yn rhan ohonyn nhw, ac ni fyddwn yn ceisio tarfu neu rwystro gweithredu cytundeb rhyngwladol y mae'r DU wedi ymrwymo iddo. Mae ein hargymhelliad i gydsynio i'r Bil hwn yn rhannol yn dangos ein bod ni, Lywodraeth Cymru, yn deg ac yn barod i gefnogi darpariaethau gyda Deddfau'r DU sy'n parchu'r setliad datganoli, gan gydnabod y cydweithrediad fu wrth ddrafftio cymal 3, ond gan barhau i'w gwneud hi'n glir na fyddwn yn derbyn pwerau i Lywodraeth y DU weithredu'n unochrog mewn meysydd datganoledig. Mae'r bleidlais hon yn ymwneud yn unig â chymalau yr wyf newydd eu crybwyll, ac ni fwriedir iddi gwmpasu trafodaethau ehangach ynghylch y DU yn dod yn rhan o bartneriaeth gynhwysfawr a blaengar y Môr Tawel. Nodwyd barn Llywodraeth Cymru ar y DU yn dod yn rhan o hyn yn ein hadroddiad safbwynt, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2023. Diolch, Llywydd.

18:15

Diolch, Llywydd. Gweinidog, diolch yn fawr iawn am eich ymateb llawn a manwl yma heddiw, ond hefyd yn adroddiad Llywodraeth Cymru hefyd. Mae'n wirioneddol ddefnyddiol, mewn difrif. Fel y gwyddoch chi, fe wnaethom ni gyflwyno ein hadroddiad ar femoranda Llywodraeth Cymru mewn perthynas â thraws-bartneriaeth gynhwysfawr a blaengar y Môr Tawel—y TCPTPP—ar 22 Chwefror. Ceisiaf beidio â dweud hynny eto yn ystod y cyfnod hwn. Yn ein hadroddiad—. Rwy'n credu bod yna un 'T' neu P' yn ormod yno mae'n debyg, ond beth bynnag.

Yn ein hadroddiad, cytunwyd gydag asesiad Llywodraeth Cymru bod cymalau 2, 3 a 4 o'r Bil yn wir yn gofyn am gydsyniad y Senedd. Ac fel y mae'r Gweinidog wedi nodi unwaith eto heddiw, fe wnaethom ni hefyd nodi ei farn nad yw'r pŵer yng nghymal 2 y Bil yn adlewyrchu'r setliad datganoli yn iawn, gan ei fod yn bŵer a roddir i'r Ysgrifennydd Gwladol yn unig.

Fe wnaethom ni argymell y dylai'r Gweinidog roi rhagor o wybodaeth i'r Senedd am safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chymal 2 y Bil, ac i nodi sut y byddai'n dymuno i'r cymal gael ei ddiwygio, yr ydym ni wedi'i glywed yn fanwl iawn heddiw. Argymhellwyd hefyd y dylai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU o ran y cymal hwn, ac yn wir, rydym ni wedi clywed rhywfaint o fanylion cynhwysfawr a diddorol iawn am hynny heddiw.

Felly, diolchwn i'r Gweinidog am ymateb i'n hadroddiad yr wythnos diwethaf i ddarparu rhagor o wybodaeth cyn y ddadl heddiw, a'r wybodaeth ychwanegol a glywsom ni heddiw. Nawr, dywedodd y Gweinidog wrthym ni, wrth ateb a chyn y ddadl hon, y byddai Llywodraeth Cymru yn dymuno gweld cymal 2 yn cael ei ddiwygio, fel bod y pŵer oddi mewn iddo yn cael ei roi i Weinidogion Cymru mewn perthynas â gweithredu erthygl 8.6 o bartneriaeth gynhwysfawr a blaengar y Môr Tawel—rwy'n credu imi ei gael yn iawn y tro yma—cytundeb mewn meysydd datganoledig. Dywedodd wrthym ni hefyd y byddai Llywodraeth Cymru yn dymuno i gwmpas y pŵer gael ei gyfyngu i ddiwygio is-ddeddfwriaeth sy'n bodoli ar y pryd y daw cymal 2 i rym. A rhoddodd y Gweinidog ddiweddariad hefyd ar yr ymgysylltiad â Llywodraeth y DU, yr ydym ni wedi clywed mwy amdano heddiw, ac, yn wir, cyn heddiw, dywedodd wrthym ni y bu'r ymgysylltiad rhwng swyddogion yn gadarnhaol ac yn ddefnyddiol yn bennaf, ond yn anffodus mae Llywodraeth y DU yn parhau i ystyried cymal 2 fel un a gedwir yn ôl ac felly nid oedd yn fodlon gwneud unrhyw welliannau. Felly, er bod rhywfaint o ymgysylltiad swyddogol cynhyrchiol ar hyn, nid yw wedi arwain at ganlyniad cynhyrchiol o ran yr hyn y gofynnai Llywodraeth Cymru amdano, ond diolchwn ichi am fanylu heddiw.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn ar ran y pwyllgor i ddiolch i'r Gweinidog am adroddiad safbwynt Llywodraeth Cymru ar oblygiadau aelodaeth y DU o bartneriaeth gynhwysfawr a blaengar y Môr Tawel i Gymru. Cynorthwyodd yr adroddiad hwn ein gwaith o graffu ar y memoranda a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r Bil. Mae ein hadroddiad wedi croesawu ei fanylion cynhwysfawr, yn enwedig gan ei fod yn ymwneud â gweithredu rhwymedigaethau rhyngwladol yn y cyd-destun datganoledig hwn. Rydym ni hefyd yn rhannu cred Llywodraeth Cymru, fel y nodir yn ei hadroddiad, bod ganddi hi a'r Senedd—a'r Senedd—swyddogaeth hanfodol wrth weithredu unrhyw newidiadau deddfwriaethol sydd eu hangen mewn meysydd datganoledig o ganlyniad i gytundebau masnach rydd newydd y DU. Croesawodd ein hadroddiad hefyd gyfeiriad Llywodraeth Cymru at ei dibyniaeth ar adran 62 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i gyflwyno sylwadau am unrhyw fater sy'n effeithio ar Gymru fel y mae'n ymwneud â rhwymedigaethau rhyngwladol. Mae hyn yn hanfodol bwysig ac o ddiddordeb i'r Senedd. Oherwydd defnyddioldeb adroddiad Llywodraeth Cymru, argymhellwyd y dylai efelychu ac adeiladu ar y dull hwn ar gyfer cytundebau masnach rydd rhyngwladol y cytunwyd arnynt gan Lywodraeth y DU.

Felly, rydym yn croesawu ymateb y Gweinidog yn fawr, lle mae wedi sicrhau'r pwyllgor y gall ddisgwyl dull tebyg gyda thrafodaethau'r DU yn y dyfodol, pan fydd y wlad, neu'r gwledydd, o arwyddocâd digonol i Gymru. Diolch yn fawr iawn.

18:20

Hoffwn ailadrodd bod Plaid Cymru yn parhau i wrthwynebu'r defnydd o Gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol fel mater o egwyddor. Mae'r defnydd cynyddol o gynigion cydsyniad deddfwriaethol gan Lywodraeth y DU dros y blynyddoedd diwethaf yn arwydd o'u diystyrwch tuag at y gweinyddiaethau datganoledig, yn ogystal â'u hagenda canoli niweidiol. Amlygodd y Cwnsler Cyffredinol yn ei gyfraniad sut y gallai hyn ddigwydd gyda chymal 2. Ac mae cyflwyno'r Bil yn hwyr yn destun pryder hefyd, o ystyried ei oblygiadau i Gymru ac yna'r diffyg amser ar gyfer craffu ehangach gan y Senedd hon.

Nawr, mae gan Blaid Cymru nifer o bryderon ynghylch sut mae partneriaeth y Môr Tawel yn tanseilio nifer o egwyddorion ac amcanion sydd gennym ni yma yng Nghymru. Un o'n nodau llesiant yw Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang a phan fyddwn yn darparu buddsoddiad cyhoeddus, rydym yn gwneud hynny yn unol â'r contract economaidd, er mwyn sicrhau bod agweddau cymdeithasol ac amgylcheddol yn cael eu blaenoriaethu. Fodd bynnag, gwyddom y byddwn ni, gyda'r cytundeb masnach hwn, yn gweld allyriadau nwyon tŷ gwydr yn cynyddu. Er enghraifft, bydd y cytundeb hwn yn dileu tariffau ar fewnforion olew palmwydd, a fydd yn arwain at ganlyniadau dinistriol o ran datgoedwigo a bioamrywiaeth yn fyd-eang. Mae'r bartneriaeth hefyd yn cynnwys nifer o wledydd sydd ag enw gwael am hawliau dynol, ac mae gan y cytundeb ddarpariaethau truenus ar hawliau llafur, y tynnwyd sylw at y ddau ohonyn nhw gan y Llywodraeth fel pryder, ac yn sicr dylai hyn fod yn ffactor wrth benderfynu a ydym yn cydsynio i gynigion cydsyniad deddfwriaethol o'r fath ai peidio.

Nawr, addawodd Llywodraeth y DU hefyd i gynnal safonau bwyd, amgylchedd a lles anifeiliaid ar gyfer cynnyrch domestig, ond nid oes unrhyw ofynion o'r fath ar fewnforion gydag aelod-wledydd partneriaeth, sy'n golygu bod cynhyrchion yn cael eu gwneud i safon is, er enghraifft, trwy ddefnyddio plaladdwyr neu gemegau sydd wedi'u gwahardd yn y DU ac sydd efallai yn brosesau rhatach a allai gael mynediad i farchnad y DU. Byddai hyn wedyn, yn ei dro, yn gosod ffermwyr Cymru dan anfantais wrth geisio cystadlu'n rhyngwladol a gartref gyda gwledydd eraill o bartneriaeth y Môr Tawel. Byddai hefyd yn gosod ein busnesau allforio domestig dan anfantais. Felly, a yw Llywodraeth Cymru yn cytuno y bydd y cytundeb hwn yn rhoi ffermwyr Cymru a busnesau eraill Cymru dan anfantais gystadleuol? Oherwydd dyma realiti'r sefyllfa: fe wnaeth y Ceidwadwyr yn San Steffan ein rhwygo allan o'r Undeb Ewropeaidd heb unrhyw gynllun nag ystyriaeth o'r hyn fyddai'n digwydd wedyn. Fe fethon nhw â negodi cytundebau masnach newydd digonol ac maen nhw wedi twyllo Cymru o gronfeydd newydd yr UE a addawyd—nid ceiniog yn llai, dywedwyd wrthym ni. Mae partneriaeth y Môr Tawel yn gyfnewidiad gwael am berthnasoedd masnachu blaenorol yr UE, a ddangosir yn glir gan yr ymchwil gan Brifysgol Loughborough sy'n awgrymu mai'r enillion tybiedig i'r DU yw 0.08 y cant o gynnyrch mewnwladol gros, dim ond pumed ran o amcangyfrif y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol o'r hyn y mae Brexit wedi'i gostio i economi'r DU hyd yma. Felly, o ystyried y pryderon niferus a godwyd gyda'r cytundeb, a yw'r Cwnsler Cyffredinol yn credu bod effeithiau negyddol posibl y cytundeb hwn yn gorbwyso'r manteision cyfyngedig i Gymru?

Ac felly, er fy mod yn derbyn y rhesymeg a roddwyd gan y Cwnsler Cyffredinol, mewn sefyllfaoedd fel hyn hefyd, lle mae goblygiadau o ran rhwymedigaethau rhyngwladol i Gymru, sut ydym ni wedyn yn sicrhau bod mewnbwn Cymru yn cael ei gydnabod a hyd yn oed yn cael gwrandawiad? 

18:25

Os caf i ddiolch i'r Aelodau am yr ymatebion a gawsom, yn enwedig gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Ac, wrth gwrs, yr hyn y mae'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn yn ei wneud yw nodi anghysondeb yr hyn sy'n digwydd pan fydd anghytuno ynghylch y dehongliad, ond, wrth gwrs, y safbwynt yr ydym ni wedi'i fabwysiadu yma yw, er ein bod wedi anghytuno â'r dadansoddiad, yn sicr mewn perthynas â chymal 4, p'un a yw'n ymwneud â mater datganoledig ai peidio, rydym ni serch hynny wedi cydsynio oherwydd ein bod yn ystyried ei fod yn gwneud synnwyr i wneud hynny mewn gwirionedd.

A gaf i ddweud o ran y sylwadau a wnaed o ran defnyddio cynigion cydsyniad deddfwriaethol, nid yw hyn yn ddewis o ddefnyddio cynnig cydsyniad deddfwriaethol, oherwydd mae honno'n broses sy'n dechrau ar unwaith ar yr adeg y cyflwynir deddfwriaeth Llywodraeth y DU a allai gael effaith mewn meysydd datganoledig? Felly, nid oes gennym ni unrhyw ddewis ond y ffordd benodol honno.

Ond, o ran y pwynt olaf, wel, does dim amheuaeth bod ein sefyllfa fasnachu a'r sefyllfa ar gyfer amaethyddiaeth Cymru yn llawer mwy diogel ac yn llawer gwell pan oeddem ni'n rhan o'r farchnad sengl. Nid ydym ni awr ac rydym ni'n wynebu oblygiadau hynny. Yr hyn yr ydym ni wedi'i wneud gyda'r cydsyniad deddfwriaethol hwn yw cydsynio i'r meysydd hynny sy'n gwneud synnwyr i wneud hynny o fewn y terfynau sydd arnom ni o ran cytundebau rhyngwladol a'r Bil hwn. 

Felly, yn y bôn, dim ond i ailadrodd, gofynnaf i'r Aelodau gydsynio i gynnig 1, sef cymal 3 sy'n ymwneud â chaffael cyhoeddus a chymal 4 sy'n ymwneud â dynodiadau daearyddol ac enwau tarddiad. Fodd bynnag, ni allwn ni gefnogi cymal 2, sy'n ymwneud â thrin cyrff sy'n asesu cydymffurfiaeth, gan eu bod yn fygythiad i'n hegwyddorion cyfansoddiadol a'n setliad datganoli, a nodir y manylion yn cynnig Rhif 2, a gofynnaf i'r Aelodau wrthod cydsynio i'r agweddau hyn o'r Bil.  

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 11 yn gyntaf? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar y cynnig yna. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Y cwestiwn nesaf felly yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 12? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu i'r cynnig yna? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

13. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw)

Eitem 13 sydd nesaf felly fel eitem: cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) yw'r cynnig yma. Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru i wneud y cynnig—Lesley Griffiths. 

Cynnig NDM8509 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Lesley Griffiths 18:28:52
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Diolch am y cyfle i egluro'r cefndir i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw). Yn 2020, cytunais i ymgynghoriad ar y cyd â Llywodraeth y DU ar welliannau i les anifeiliaid yn ystod trafnidiaeth. Yn gynwysedig roedd cynnig i ddod ag allforio da byw perthnasol i ben, gan gynnwys ceffylau i'w lladd a'u pesgi, lle nad oedd eithriad. Cyflwynwyd y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir), Bil Llywodraeth y DU, ym mis Mai 2022. Addawodd gyflawni diwygiadau pwysig i les anifeiliaid, gan gynnwys gwaharddiad ar allforio anifeiliaid byw i'w ladd. Gwnaed cryn dipyn o waith ar y Bil, ac roeddwn yn hynod siomedig pan fethodd. Fodd bynnag, rwyf wedi croesawu Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â gwaharddiad ar allforio anifeiliaid byw i'w lladd fel Bil mesur unigol.

Rydym yn rhannu'r farn y dylid cludo anifeiliaid dim ond pan fo angen, a dylid lleihau hyd y daith. Mae allforio anifeiliaid i'w lladd neu eu pesgi yn ddiangen oherwydd gallent gael eu lladd neu eu pesgi yn y wlad gartref. Bydd y Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) yn gwahardd allforio da byw perthnasol, gan gynnwys ceffylau i'w lladd ac ar gyfer pesgi i'w lladd wedi hynny, gan ddechrau ym Mhrydain Fawr neu drwy dramwyo trwy Brydain Fawr i du allan i ynysoedd Prydain. Bydd y gwaharddiad yn berthnasol i wartheg a buchod eraill, fel bual a byfflo, defaid, geifr, moch neu faedd gwyllt, ceffylau ac anifeiliaid eraill o deulu'r ceffyl, fel merlod, asynnod a mulod. Ni fydd y gwaharddiad yn berthnasol i symud da byw a cheffylau ym Mhrydain Fawr, ac ni fydd yn berthnasol i allforion at ddibenion eraill, er enghraifft, allforion at ddibenion bridio, cystadlu, rasio a gwyddonol.

Mae'r Bil yn rhoi'r awdurdod cenedlaethol priodol—yr Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion yr Alban neu Weinidogion Cymru—i wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer gorfodi'r gwaharddiad ar allforio anifeiliaid i'w lladd. Gall Gweinidogion Cymru ddefnyddio'r pŵer hwn i wneud rheoliadau sy'n berthnasol i Gymru mewn meysydd cymhwysedd deddfwriaethol. Mae'r Bil yn creu pŵer cydredol plws newydd, ar yr amod y gall yr Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau gorfodi mewn meysydd cymhwysedd datganoledig yn unig gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.

Mae lles anifeiliaid yn faes polisi datganoledig. Fodd bynnag, mae yna adegau pan fo manteision clir i gydweithio â Llywodraeth y DU i wella lles anifeiliaid a sicrhau bod y gyfraith yn cael ei gweithredu'n gyson. Mae'r Bil yn nodi fframwaith cyfreithiol newydd sy'n gwahardd allforio da byw a cheffylau perthnasol yn fyw er mwyn eu lladd neu eu pesgi i'w lladd. Mae'r materion hyn o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Mae angen cydsynio i'r Bil cyfan, ac eithrio ar gyfer y darpariaethau sy'n berthnasol i Loegr neu'r Alban yn unig. Mae wedi datblygu'n gyflym, ac nid yw wedi'i ddiwygio ers ei gyflwyno ym mis Rhagfyr 2023. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r Bil pwysig hwn wrth iddo agosáu at ei gamau terfynol.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hadroddiadau ar y Memorandwm ar y Bil. Rwyf wedi nodi casgliadau ac argymhellion y ddau bwyllgor ac rwy'n croesawu argymhelliad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i'r Senedd gydsynio i'r Bil. Diolch.  

18:30

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwyf wedi treulio'r prynhawn yn canmol Gweinidogion, a, Gweinidog, pan fyddaf yn gwneud rhai o'm sylwadau, nid yw'n ymwneud â chi'n bersonol, ond byddwch yn gyfarwydd â'n ffordd o weithredu yn gyffredinol, yn enwedig o ran pethau fel pwerau cydredol, ond yn enwedig pan fydd pwerau cydredol yn cael eu pasio i Weinidogion y DU i arfer eu barn o ran cymwyseddau datganoledig.

Ond a gaf i fanteisio ar y cyfle hwn, Llywydd, i ddiolch i aelodau fy mhwyllgor a'r tîm clercio am y gwaith ar hyn a'r offerynnau eraill yr ydym ni wedi'u trafod y prynhawn yma? Fe wnaethom ni gyflwyno ein hadroddiad ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn ar gyfer y Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) yr wythnos diwethaf, gerbron y Senedd. Hoffwn ddiolch hefyd i RSPCA Cymru, a rannodd eu barn ar y Bil hefyd.

Gadewch imi ddechrau drwy gadarnhau bod y pwyllgor o'r farn bod darpariaethau'r Bil fel y nodir yn y memorandwm yn dod o fewn diben o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, fel y disgrifir yn Rheol Sefydlog 29, ac felly yn wir yn gofyn am gydsyniad y Senedd, fel y dywedodd y Gweinidog y prynhawn yma hefyd.

Mae ail bwyslais ein hadroddiad yn canolbwyntio ar y pwerau dirprwyedig yn y Bil a chreu swyddogaethau cydredol. Felly, fel y mae'r Gweinidog eisoes wedi'i ddweud, mae'r Bil, yng nghymalau 2 a 7, yn creu pwerau newydd i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau. Mae'r Bil hefyd yn creu swyddogaethau cydredol newydd, ac mae hwn yn faes lle mae pwyllgorau'r Senedd a Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryderon blaenorol. Fodd bynnag, trwy gymal 6, caiff effaith negyddol creu swyddogaeth gydredol ei lliniaru drwy ddatgymhwyso'r cyfyngiadau perthnasol yn Atodlen 7B i Ddeddf 2006 mewn perthynas â swyddogaethau cydredol a fyddai wedi bod yn berthnasol fel arall. Nawr, mae hyn i'w groesawu.

Ond nid oes angen i mi atgoffa neb mai diben y ddadl a'r bleidlais heddiw yw egluro penderfyniad y Senedd ynghylch a yw'n cydsynio i Senedd y DU wneud darpariaeth ddeddfwriaethol mewn maes datganoledig. Felly, i fod yn glir, rydym yn penderfynu a ydym ni, fel Aelodau o'r Senedd a etholwyd yn ddemocrataidd, yn fodlon i seneddwyr gwahanol mewn lle gwahanol i ddeddfu ar bwnc y mae gan y Senedd hon gyfrifoldeb drosto.

Felly, mae fy mhwyllgor, ac yn wir ein rhagflaenydd yn y pumed Senedd, wedi lleisio pryderon ynghylch y dull a fabwysiadwyd gan Lywodraethau olynol Cymru i ddeddfu, yn enwedig ym maes lles anifeiliaid—cyfrifoldeb datganoledig. Ym mis Hydref 2021, bu inni gyflwyno gerbron y Senedd ein pumed adroddiad yn y chweched Senedd hon ar femorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Bil perthnasol sy'n pasio drwy Senedd y DU. Roedd yr adroddiad hwnnw ar Ymrwymiad Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir). Ddwy flynedd a hanner yn ddiweddarach, yr adroddiad hwn yw ein chweched adroddiad ar hugain yn y chweched Senedd ar femorandwm cydsyniad deddfwriaethol, ac rydym yn glynu wrth y sylwadau a wnaethom ni ym mis Hydref 2021 bod y Gweinidog, drwy fwrw ymlaen fel hyn, yn mabwysiadu, dull llai na delfrydol, wrth ddibynnu ar Lywodraeth y DU i ddeddfu mewn maes polisi blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

Yn wir, Gweinidog, rydych chi wedi nodi peryglon hyn y prynhawn yma, oherwydd Llywodraeth y DU, pe bai'n methu, neu pe bydden nhw'n dewis peidio â bwrw ymlaen ag ef, wel, byddai hynny'n colli'r cyfle i ddeddfu mewn maes lle rydych chi eisiau deddfwriaeth. Felly, rydym ni yn credu y byddai'n bosibl ac, yn wir, yn llawer mwy ffafriol i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth i'r Senedd ochr yn ochr â Bil ar gyfer Lloegr yn pasio drwy Senedd y DU, pe bai'r bwriad i adeiladu'r fframweithiau deddfwriaethol ledled Cymru a Lloegr yn yr un modd. Gellid gwneud hynny mewn trafodaeth, wrth negodi, dau Fil yn pasio drwy'r ddwy senedd ar yr un pryd.

Byddai gan y dull hwn lawer o fanteision. Yn gyntaf oll, byddai Aelodau o'r Senedd a etholwyd yn ddemocrataidd yn gallu cyflawni eu swyddogaethau'n llawn fel deddfwyr yng Nghymru; byddai rhanddeiliaid yng Nghymru yn gallu cyfrannu eu barn i ymgynghoriadau pwyllgorau'r Senedd, pe bai sylwadau, sy'n golygu y byddai Aelodau'r Senedd yn atebol i'r rhanddeiliaid hynny; byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb i argymhellion pwyllgorau'r Senedd, gan olygu y bydden nhw'n atebol i'r Senedd; a byddai'r Senedd yn gallu—ac nid yw hwn yn fater dibwys chwaith—pasio deddfwriaeth ddwyieithog yn y maes hwn. Ac ar bwnc deddfwriaeth ddwyieithog, tynnwyd ein sylw at y ffaith bod y rheolau presennol ar gludo anifeiliaid yn cael eu gweithredu drwy ddeddfwriaeth ddatganoledig, ddwyieithog. Felly, mae hyn yn ei gwneud hi'n llai eglur pam fo Llywodraeth Cymru bellach yn dilyn llwybr a fydd yn arwain at ddeddfwriaeth unieithog.

Yn olaf, Llywydd, mae Biliau blaenorol sy'n gysylltiedig â lles anifeiliaid wedi methu, fel y soniais, yn ystod eu taith drwy Senedd y DU, oherwydd bod y sesiynau seneddol yn dod i ben. Gydag etholiad cyffredinol y DU yn debygol o gael ei alw rywbryd eleni, nid yw'n glir eto pam rydym ni'n mentro gyda'r ddeddfwriaeth hon, o gofio nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw reolaeth dros hynt y Bil drwy Senedd y DU, neu, yn wir, dros alw'r etholiad hwnnw. Felly, gyda hynny o eiriau a sylwadau, ar ran ein pwyllgor, diolch yn fawr iawn am eich ystyriaeth.

18:35

Mae lles anifeiliaid yn ystod cludo, wrth gwrs, yn fater o'r pwys mwyaf, a dylid cyflwyno unrhyw fesurau i wella eu diogelwch a'u lles, wrth gwrs, mewn ffordd ofalus a chytbwys. Nawr, credaf ei bod hi'n anffodus na wnaed mwy i gyd-ddylunio'r cynigion yn y Bil gyda'r sector, ac amlygodd y Gweinidog hyn, ond rwy'n teimlo ei bod hi'n rhyfedd, yn fy marn i, ei fod yn canolbwyntio'n llwyr ar allforio da byw i'w lladd, gan gynnwys pesgi anifeiliaid i'w lladd wedyn, ond yna eto ni fydd yn berthnasol i allforion at ddibenion eraill, a'r Gweinidog yn rhestru bridio, cystadleuaeth, dibenion gwyddonol, ac ati. Felly, mae anghysondeb clir yn y fan yna, yn fy marn i.

Ac, wrth gwrs, cafwyd cynnig arall a gyflwynwyd. Mewn gwirionedd, cynigiodd y sector ffermio y dewis o gynllun sicrwydd allforio byw, er mwyn sicrhau bod ein safonau lles uchel yn parhau ar draws ffiniau. Byddai hynny wedi bod yn fantais o ddiogelu da byw yn ystod cludiant at wahanol ddibenion, gan gynnwys cludo i'w lladd a'u magu ymhellach. Byddai hefyd wedi rhoi sicrwydd ar gyfer pob agwedd ar y broses, o'r fferm, neu'r ganolfan gasglu, bob cam i'r man lladd.

Rwy'n rhannu rhwystredigaeth y Gweinidog bod y ddeddfwriaeth hon yn disodli cynnig cynharach y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir), oherwydd roedd hwnnw, wrth gwrs, yn ddarn llawer ehangach o ddeddfwriaeth, a oedd yn cynnwys darpariaethau eraill, megis deddfu i gryfhau pwerau i fynd i'r afael ag ymosodiadau cŵn ar dda byw, sy'n bryder allweddol sydd gennym ni. Mae'n destun gofid bod y cyfle hwnnw'n cael ei golli yn y ddeddfwriaeth hon a bod rhaid mynd ar drywydd hynny drwy ddulliau eraill.

Er bod gennym ni lawer o bryderon am y Bil arfaethedig, mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn parhau i fod yn gadarn yn ein safiad yn erbyn cefnogi cynigion cydsyniad deddfwriaethol sy'n cwtogi ar bwerau datganoledig yma yng Nghymru, ac ni allwn fod wedi ei fynegi'n well na wnaeth Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad sef bod hwn yn ddull llai na delfrydol. Mae gwir angen i ni gadw pwerau yng Nghymru ac yma yn y Senedd hon, a pheidio â'u hildio i Senedd arall. Felly, ar y sail honno, bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn.

18:40
Member
Lesley Griffiths 18:40:19
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Llywydd. Hoffwn i ddiolch i Huw Irranca-Davies a Llyr Huws Gruffydd am eu cyfraniadau i'r ddadl. Cododd Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad bryderon yr wyf yn eu cydnabod yn llwyr. Rwyf yn credu bod y Bil wedi symud ymlaen yn gyflym iawn—gall ddigwydd weithiau pan fydd Llywodraethau eisiau iddo gael ei wneud yn gyflym—ac rwyf yn credu ac yn gobeithio y bydd yn sicr yn cael ei basio cyn i etholiad cyffredinol gael ei alw. Mewn ymateb i Llyr Huws Gruffydd, rydym wedi cydweithio â Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a chydag ystod eang o randdeiliaid a byddwn yn parhau i wneud hynny. Felly, er gwaethaf sylwadau'r ddau Aelod, rwy'n dal i fod o'r farn y dylem ddarparu cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn, ac felly gofynnaf i Aelodau'r Senedd gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

14. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod—Bil ar gyfer mwy o ddiogelwch ar drafnidiaeth gyhoeddus

Eitem 14 sydd nesaf, y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod yw hwn, a Bil ar gyfer mwy o ddiogelwch ar drafnidiaeth gyhoeddus yw'r pwnc. Delyth Jewell sy'n gwneud y cynnig.

Cynnig NDM8460 Delyth Jewell

Cefnogwyd gan Jane Dodds, Sioned Williams

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gyfer mwy o ddiogelwch ar drafnidiaeth gyhoeddus.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) cyflwyno systemau ar gyfer monitro, adrodd ac uwchraddio goleuadau yn rheolaidd ar gyfer yr holl wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys ar fwrdd cerbydau, mewn arosfannau a gorsafoedd, ac ar strydoedd yn union o amgylch gorsafoedd trên a safleoedd bysiau mawr;

b) adolygu hyfforddiant a gynigir ar hyn o bryd ym maes diogelwch i'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant trafnidiaeth, o'u rhan eu hunain ac eraill;

c) gwella gweithdrefnau adrodd presennol a datblygu systemau mwy cyson a thryloyw ar gyfer adrodd a chofnodi achosion o gam-drin sy'n effeithio ar bobl sy'n agored i niwed ar drafnidiaeth gyhoeddus; a

d) asesu'r angen am ddyletswydd statudol ar gwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus i sicrhau bod teithwyr yn cyrraedd pen eu taith, neu fan diogel, ar ôl iddi dywyllu.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Mae'r cynnig deddfwriaethol hwn yn ymwneud yn sylfaenol â diogelwch, yn ymwneud â gwneud ein gorsafoedd trenau a'n harosfannau bysiau yn fwy diogel, yn fwy hygyrch, a'i gwneud hi'n haws i bobl fynd i'r mannau hynny ac oddi yno. Rydym i gyd eisiau i drafnidiaeth gyhoeddus fod yn fwy apelgar, ond, i lawer o grwpiau o bobl, nid yw'r penderfyniad bob amser yn ymwneud â hwylustod, ond diogelwch. A fyddaf yn gallu cyrraedd yr orsaf yn ddiogel? A fyddaf yn teimlo'n ddiogel pan fyddaf wedi cyrraedd yno? Beth fydd yn digwydd pan fyddaf ar y bws neu'r trên? Beth os bydd rhywbeth yn mynd o'i le? Rwy'n cynnig Bil i helpu i fynd i'r afael â'r materion hyn. Bil a fyddai'n cyflwyno systemau mwy integredig ar gyfer monitro ac uwchraddio goleuadau stryd ar gyfer gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, nid yn unig mewn arosfannau a gorsafoedd mawr, ond ar y strydoedd yn union o'u hamgylch. Byddai'n darparu ar gyfer adolygu'r hyfforddiant a gynigir i bobl sy'n gweithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ynghylch diogelwch personol, er mwyn diogelu eu hunain a'u teithwyr. Byddai'n symleiddio'r prosesau ar gyfer rhoi gwybod am gamdriniaeth ac, yn hanfodol, byddai'n asesu'r angen ar gyfer gosod dyletswydd statudol ar gwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus i warantu y dylai teithwyr gyrraedd eu cyrchfan neu fan diogel ar ôl iddi dywyllu. 

Ddylwn i ddweud ar y pwynt hwn nad yw hyn yn ymwneud â goleuadau stryd yn unig; nid yw'n ymwneud yn unig â'i gwneud hi'n haws i bobl sy'n gallu gweld. Mae llawer o ffyrdd y gall ein cymdeithas wneud pobl yn agored i niwed. Ar ôl i'r cynnig hwn gael ei gyflwyno gyntaf, cysylltodd Guide Dogs Cymru â mi a buom yn siarad am sut y gellid gwella'r cynnig hwn i helpu pobl sy'n rhannol ddall neu sydd wedi colli eu golwg. Cyhoeddiadau sain mewn gorsafoedd ac yn ystod teithiau, arwyddion hygyrch, dynodwyr llwybrau cyffyrddol, mynediad heb risiau a mannau cymorth mewn gorsafoedd mawr. Rwy'n cefnogi'r holl awgrymiadau hynny ac fe wnes i ddiwygio fy nghynnig, fe roddais ef i mewn ar gyfer dadl Aelodau, a'r cynnig hwn gafodd ei ddewis gyntaf. Yn anffodus, mae'n golygu mai'r geiriad gwreiddiol sydd wedi'i gyflwyno. Felly, a gaf i gofnodi fy niolch i Guide Dogs Cymru a fy ngobaith yw, os caiff y cynnig hwn ei basio, y gellid ystyried y darpariaethau ychwanegol hynny hefyd?

Mae'r Bil hwn yn ymwneud â democrateiddio ein mannau cyhoeddus, gan sicrhau nad yw'r mannau hynny sydd i fod i bob un ohonom allan o gyrraedd pobl oherwydd bod cymdeithas yn eu gwneud yn fwy agored i niwed. Ac mae'n ymwneud â chymdeithas. Does dim byd ynghylch bod yn fenyw neu fod yn anabl neu fod yn hoyw neu fod ag unrhyw nodwedd arall sy'n ein gosod ar wahân yn gynhenid fel bod yn agored i niwed. Gweithredoedd pobl eraill sy'n ein gwneud yn fwy agored i niwed. Neu, yn achos pobl anabl, mae'n ymwneud â'r dewisiadau rydym yn eu gwneud fel cymdeithas ynghylch sut mae ein mannau yn cael eu cynllunio a sut y bydd ein gwasanaethau'n cael eu rhedeg. Maen nhw'n tybio y bydd pobl yn gallu symud o gwmpas yn gorfforol. Yn yr un modd, penderfyniadau hefyd yw pa mor wael y mae ein trefi a'n pentrefi wedi'u goleuo ar ôl iddi dywyllu. Does dim byd yn anochel am y peth; mae'n ddewis yr ydym wedi'i wneud ynglŷn â'r hyn rydym yn ei flaenoriaethu.

Y ddarpariaeth olaf sy'n cael sylw yn y cynnig, rwy'n siŵr mai honno fydd y fwyaf heriol, ond byddwn yn annog y Llywodraeth i beidio â'i hosgoi oherwydd hynny. Rwy'n gofyn i'r Llywodraeth asesu'r angen am ddyletswydd neu rwymedigaeth statudol ar gwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus i sicrhau bod eu teithwyr yn cyrraedd adref neu fan diogel ar ôl iddi dywyllu. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym wedi'i drafod yn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith. Rydym yn ymwybodol bod y gofynion a roddir ar gwmnïau yn gynhenid mewn dyletswydd o'r fath. Byddwn i'n awgrymu, efallai, fel rhan o'r asesiad hwn, y gallai'r Llywodraeth ddod i'r casgliad y byddai'n fwy ymarferol cael y ddyletswydd hon ar gyfer y teithwyr mwyaf agored i niwed yn unig. Bydd, bydd yna gwestiynau ynglŷn â sut mae hynny'n cael ei ddiffinio, p'un a allai rhywun esgus ei fod yn agored i niwed, ond siawns ei fod yn well amddiffyn rhywun nad yw'n agored i niwed trwy gamgymeriad na chefnu ar unrhyw un sydd ei wir angen. Mae'r Bil hwn yn galw am asesiad o'r syniad hwnnw. Rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn fodlon gwneud hynny.

Fe ddywedodd etholwr wrthyf i ychydig flynyddoedd yn ôl ei bod wedi cyrraedd gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd ar ôl ei pharti Nadolig i ddal y trên olaf dim ond i gael gwybod bod y trên olaf wedi gadael, gan eu bod wedi newid yr amser. Ac er bod posteri wedi eu gosod yng Nghanol Caerdydd am wythnosau cyn hysbysebu'r newid hwnnw, doedd yr un ohonyn nhw yng ngorsaf Stryd y Frenhines Caerdydd nac yng ngorsaf gartref fy etholwr. Cafodd ei gadael a gwrthododd staff yr orsaf ei helpu; fe ddywedon nhw nad eu problem nhw oedd hi. Gwnaeth ei stori hi ddim gorffen mewn hunllef. Ond dyna fydd tynged pobl eraill. Byddai'r Bil hwn yn ceisio atal yr hunllefau hynny rhag digwydd.

Pan roddodd Trafnidiaeth Cymru dystiolaeth i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ym mis Tachwedd, fe ofynnais i James Price a fydden nhw'n edrych eto ar eu prosesau ar gyfer penderfynu pa wasanaethau i'w canslo neu gwtogi. Fe ofynnais a oedden nhw'n dilyn meini prawf gwahanol yn ystod misoedd y gaeaf oherwydd oriau ychwanegol o dywyllwch. Dydyn nhw ddim, ond fe ddywedodd y bydden nhw'n mynd i'r afael â'r her honno. Gallai Trafnidiaeth Cymru weld y broblem. Does bosibl bod pob un ohonom yn gallu ei gweld. Ac mae'r syniad hwn o ddyletswydd o sicrhau bod teithwyr yn cyrraedd adref neu fan diogel yn estyniad o hynny. Efallai y gellid ei gynnwys fel gofyniad yn y cynllun masnachfreinio bysiau. Efallai y gallai fod yn rhan o gytundeb rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Rwy'n gwybod ei fod yn syniad radical, ond siawns nad yw'r broblem hon yn mynnu radicaliaeth, oherwydd, unwaith eto, does dim byd cynhenid ynghylch rhai grwpiau sy'n eu gwneud yn fwy agored i niwed; ein cymdeithas ni a'r ffordd y mae wedi'i chynllunio sy'n gyfrifol am hynny. Byddai gwneud y newid hwn yn helpu i ddechrau mynd i'r afael â hynny. Diolch.

18:45

Hoffwn i ddiolch i Delyth Jewell am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol hynod bwysig hwn gan Aelod ynghylch mwy o ddiogelwch ar drafnidiaeth gyhoeddus. Heb amheuaeth, mae diogelwch y cyhoedd sy'n defnyddio ein gwasanaethau trafnidiaeth wedi bod yn bryder mawr i mi a llawer o fy nghyd-Aelodau yn y Siambr, hefyd—un y cysylltir â mi yn rheolaidd yn ei gylch hefyd.

Nodaf fod pwyntiau (a), (b) ac (c) eich cynnig, Delyth, yn canolbwyntio mwy ar wella gwasanaethau sy'n bodoli eisoes trwy uwchraddio goleuadau, gwella hyfforddiant i staff ac adolygu'r gweithdrefnau cyfredol sydd ar waith ar gyfer unrhyw faterion yr adroddir amdanynt. Rwy'n cefnogi'r pwyntiau hyn yn llwyr. Rwy'n siŵr, ar draws y Siambr, y bydd yr Aelodau'n cytuno y dylai trafnidiaeth gyhoeddus fod yn ddibynadwy, dylai fod yn effeithlon ac y dylai, yn bwysicaf oll, fod yn ddiogel.

Nodaf hefyd y byddai pwynt (d) eich cynnig yn ceisio asesu'r angen am ddyletswydd statudol ar gwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus i warantu bod teithwyr yn cyrraedd pen eu taith neu fan diogel ar ôl iddi dywyllu. Er fy mod hefyd yn cefnogi'r pwynt hwn, rwy'n ymwybodol y bydd hyn yn gofyn i lu o wahanol gwmnïau teithio, bach a mawr, weithredu systemau a fydd yn eu galluogi i gymryd cyfrifoldeb am leoliad teithwyr sy'n teithio gyda nhw. Rwyf yn hollol o blaid radicaliaeth, fel y dywedsoch chi, ond wrth siarad ar y pwyntiau rwyf newydd eu crybwyll, mae ganddo'r potensial i fod yn eithaf anodd ei weithredu o ran y darlun ehangach. Mewn theori, rwy'n cefnogi'r syniad yn llwyr, fel y mae fy nghyd-Aelodau. Fodd bynnag, hoffwn gael rhai manylion ac esboniad pellach o'r broses weithredu a'r costau ar y pwynt hwn, wrth symud ymlaen.

A fyddech chi'n anelu at weithredu dyletswyddau statudol ar gwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus dros ddiogelwch teithwyr hyd nes eu bod yn gadael cyfleuster eu cyrchfannau terfynol, fel gorsaf drenau, neu yn yr achos hwn, a fyddai'r cyfrifoldeb yn dod i ben pan fydd y teithiwr yn dod oddi ar y trên ei hun? A sut fyddech chi'n ceisio cyflwyno technoleg newydd, er enghraifft, i olrhain lleoliad teithiwr nes iddo adael y cyfleuster? Ond, dim ond i ailadrodd, mae nod trosfwaol y cynnig deddfwriaethol hwn i'w groesawu. Rwy'n hapus iawn i weithio gyda chi ar hyn, wrth symud ymlaen, a hoffwn i ddymuno'r gorau i chi gydag ef. Diolch.

Gall nifer o grwpiau o bobl elwa o'r cynnig yma, fel y clywsom ni gan Delyth Jewell, ond, fel menyw, gallaf i, yn sicr, dystio i'r angen am y fath yma o Fil. Mae ymchwil rhyngwladol yn dangos bod mynediad menywod a merched i opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus ddiogel wedi ei gyfyngu, yn sgil y perygl o gael eu haflonyddu a dioddef trais ar sail rhywedd. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod hyn yn digwydd mewn trefi bach a mawr, mewn ardaloedd dinesig a gwledig, mewn ardaloedd cefnog a difreintiedig. Ac, wrth gwrs, mae nodweddion gwarchodedig croestoriadol eraill o ran rhywioldeb, hil ac ethnigrwydd lleiafrifol, ac anabledd, yn dwysáu'r perygl hwn.

Cludiant cyhoeddus yw’r bedwaredd sefyllfa gyhoeddus fwyaf cyffredin ar gyfer digwyddiadau o aflonyddu rhywiol. Yng Nghymru, mae 12 y cant o fenywod yn dweud eu bod yn teimlo’n anniogel iawn yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ac nid yw hynny’n wir ymhlith dynion. Mae dwywaith gymaint o ferched â dynion yn dweud nad ydyn nhw’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd bod ganddynt ofn am eu diogelwch.

Gofynnodd Transport Focus i dros 1,200 o fenywod a oeddynt yn osgoi rhai ffyrdd o deithio oherwydd bod arnynt ofn am eu diogelwch, a dywedodd 36 y cant eu bod yn osgoi defnyddio’r bws. Does dim dwywaith felly bod angen gweithredu i atal hyn rhag cyfyngu ar hawliau menywod i gael addysg, cyflogaeth a gwasanaethau, yn ogystal ag amharu, wrth gwrs, ar eu hiechyd a’u lles. Ac mae'r cynnig sydd ger ein bron yn cyflwyno awgrymiadau synhwyrol ac ymarferol i ddechrau ar y gwaith hanfodol hwn.

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi ymchwilio'n ddiweddar i atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd, gan dynnu sylw at yr hyn sy'n gweithio i atal trais ar sail rhywedd cyn iddo ddigwydd. Yr hyn oedd yn amlwg oedd bod angen llawer mwy o waith i gynllunio a gweithredu mesurau fyddai'n cyflawni hynny, ond bod yna hefyd dystiolaeth yn dangos bod dull holistaidd, cymdeithas gyfan, o ran polisïau yn un sy'n cynnig gobaith gwirioneddol i fynd i'r afael â'r lefelau annerbyniol ac endemig o drais ac aflonyddu ar sail rhywedd sy'n bla ar ein cenedl.

Byddai gweithredu yr hyn y mae Delyth Jewell yn ei gynnig ar gyfer deddfu yn y maes hwn yn gam pwysig ymlaen o ran y gwaith ataliol hwn, nid yn unig i deithwyr ond hefyd i staff. Achos mae ymchwil diweddar gan yr RMT wedi dangos bod 40 y cant o fenywod sy'n gweithio ar drafnidiaeth gyhoeddus wedi cael eu haflonyddu yn rhywiol—40 y cant—a dros 80 y cant yn dweud bod y broblem hon yn cynyddu.

Byddai'r cynnig hwn hefyd yn fodd o gynyddu nifer y bobl sydd yn gwneud y newid angenrheidiol yma o'r car i ddulliau gwyrddach o deithio. Byddai'n galluogi mwy o fenywod i wneud y dewis hwnnw drwy leddfu y pryder hollol ddealladwy sydd ganddynt am eu diogelwch ar drafnidiaeth gyhoeddus ar hyn o bryd. Gyda gwasanaethau trên yn aml yn cael eu canslo neu eu gohirio, fel clywon ni yn yr enghraifft yna gan Delyth, a bysiau weithiau ddim yn troi lan yn sgil prinder gyrwyr, gan roi teithwyr mewn sefyllfa bryderus ac argyfyngus ar brydiau o ran methu cyrraedd adre neu ben eu taith cyn iddi nosi, mae'n anodd gwneud yr achos dros beidio â dewis y car dros y bws neu'r trên os yw'r opsiwn yna gyda chi.

Mae'n ddyletswydd ar y Llywodraeth i fynd i'r afael â'r lefelau cwbl annerbyniol o drais ar sail rhywedd. Mae'n ddyletswydd ar y Llywodraeth i sicrhau bod gan bawb fynediad cydradd i drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'n ddyletswydd ar y Llywodraeth hefyd i alluogi Cymru i liniaru ar newid hinsawdd drwy dorri allyriadau. Byddai'r Bil hwn yn fodd o helpu y Llywodraeth i wneud y tri pheth hollbwysig yma. Rwy'n falch iawn o fod wedi cefnogi'r cynnig ac rwy'n annog Aelodau ar draws y Siambr i wneud hynny. 

18:50

Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd nawr i gyfrannu. Lee Waters.

Diolch, Llywydd, a diolch i Delyth Jewell am ddod â'r mater hwn i'r Senedd heddiw. Mae hyn yn hanfodol bwysig ac nid yw'n rhywbeth yr ydym yn ei drafod ddigon yn y Siambr hon, ond mae'n fater sy'n codi'n gyson pan fyddwn ni'n siarad â grwpiau difreintiedig, a menywod yn arbennig. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n wynebu'r sefyllfa yn uniongyrchol.

Dydw i ddim yn argyhoeddedig mai deddfwriaeth yw'r ffordd gywir o ddelio â hyn, ond delio ag ef sydd raid. Hoffwn i weithio gyda Delyth Jewell, neu efallai y gallaf ymrwymo fy olynydd i wneud hynny, sy'n hael ohonof, i weithio trwy agweddau ymarferol hyn i weld pa opsiynau y gallwn ni eu nodi. Os bydd hynny'n methu, yna, wrth gwrs, bydd yr achos dros ddeddfwriaeth yn cryfhau. Ac mae gennym ddeddfwriaeth sydd ar ddod ar gyfer bysiau, o leiaf, a allai fod yn gyfrwng ar gyfer hynny, os na allwn wneud cynnydd yn y ffyrdd yr wyf yn credu sy'n debygol o fod yn fwy effeithiol. Felly, pe bai'n cymryd y cynnig hwnnw yn yr ysbryd y'i bwriadwyd, rwy'n credu bod gwaith pwysig y gallwn ni geisio ei wneud gyda'n gilydd yma ar hyn. Oherwydd mae angen i drafnidiaeth gyhoeddus fod y dewis amlwg i'r rhan fwyaf o bobl ei wneud ar gyfer y rhan fwyaf o deithiau, ond ni fydd hynny'n digwydd oni bai bod trafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei hystyried yn groesawgar, yn hygyrch, yn ddibynadwy ac yn ddeniadol.

Yn amlwg, mae pa mor ddiogel yw person ac, yr un mor bwysig, efallai hyd yn oed yn bwysicach, pa mor ddiogel y mae person yn teimlo, yn hanfodol bwysig. Gall un profiad gwael, fel y gwyddom, wneud i chi beidio eisiau defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu, yn wir, ffyrdd llesol o deithio am amser hir, ac efallai am byth. Ac fel y dywedodd Delyth, mae hyn yn ymwneud â llawer o grwpiau o bobl, a does dim byd cynhenid am unrhyw grŵp sy'n agored i niwed sy'n eu gwneud yn agored i niwed; y ffordd y mae cymdeithas yn ymateb iddyn nhw yw'r broblem. Ond, heb os, mae elfen o rywedd i'r ddadl hon. Cefais fy atgoffa o sylw enwog Margaret Atwood sef bod dynion yn ofni y bydd menywod yn chwerthin ar eu pennau, ond bod menywod yn ofni y bydd dynion yn eu lladd, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sobreiddiol i ddynion yn arbennig ei ddeall, oherwydd yn aml dydy hynny ddim yn rhywbeth y mae dynion yn ei ddeall yn reddfol. Ac fe wnaeth Sioned Williams, rwy'n credu, ddyfynnu'r ffigyrau pwerus iawn hynny bod dwywaith cymaint o fenywod â dynion yn dweud nad ydyn nhw'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd eu bod yn ofni am eu diogelwch. Felly, mae hyn yn hanfodol bwysig, ac nid yw'n rhywbeth yr ydym yn siarad amdano ddigon. Felly, beth am i ni wneud mwy o hynny, a gadewch i ni eistedd i lawr a gweithio drwy'r manylion i weld beth allwn ni ei wneud yn ymarferol.

Mae llawer yr ydym yn ei wneud eisoes, yn amlwg, a bydd y trawsnewidiad yr ydym yn ei wneud o reilffyrdd craidd y Cymoedd yn benodol yn gweld gwelliant mawr mewn seilwaith, goleuadau, teledu cylch cyfyng, pwyntiau cymorth i deithwyr, gwell presenoldeb diogelwch ar y gwasanaethau hynny. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig; yn wir, rydym yn darparu cyllid o £0.5 miliwn y flwyddyn iddynt i ddarparu swyddogion a swyddogion cymorth cymunedol ar y rhwydwaith, ac rydym yn gweithio'n agos gyda nhw fel rhan o'r ganolfan reoli newydd sy'n cael ei hadeiladu yn Ffynnon Taf i uno'r gwasanaethau ar draws y metro. Ac, wrth gwrs, mae gan y trenau newydd rydyn ni'n eu cyflwyno deledu cylch cyfyng gwell hefyd. Rydym wedi ymrwymo i gael dau aelod o staff ar fwrdd trenau, a bydd angen ystyried anghenion teithwyr hefyd wrth fynd ati i ddylunio ein system fysiau newydd.

Rwy'n credu ein bod ni'n gwneud llawer. Mae mwy y mae angen i ni ei wneud, ond mae yna—fel y crybwyllwyd yn y ddadl—gyfyngiadau, oherwydd nid ni sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r gorsafoedd rheilffordd yng Nghymru; cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyn nhw. Does ganddon ni ddim llais o ran y ffordd y mae gwasanaethau sy'n cael eu rhedeg gan Great Western, Avanti, neu CrossCountry yn cael eu gweithredu yng Nghymru, ac wrth gwrs, mae plismona wedi'i gadw'n ôl yn llwyr. Felly, rwy'n credu bod yna gyfyngiadau o ran yr hyn a allai ei gyflawni trwy ddeddfwriaeth, ond yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn na allwn ei wneud, gadewch i ni ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ni ei wneud, a gadewch i ni geisio gweithio gyda'n gilydd ar ffordd ymarferol ymlaen i wneud hynny. Ar hyn o bryd, dydw i ddim yn argyhoeddedig mai deddfwriaeth yw'r ateb cywir. Ond y broblem yw'r un iawn sydd wedi'i nodi, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni wneud rhywfaint o gynnydd ar hynny.

18:55

Diolch, Llywydd, a diolch i bawb sydd wedi siarad yn y ddadl fer yma. 

Diolch, Natasha. Diolch yn fawr iawn am y gefnogaeth i nifer o'r pwyntiau yn y cynnig. Rydych chi wedi tynnu sylw at rai o'r heriau sy'n ymwneud â rhoi'r ddarpariaeth hon ar waith. Rwy'n cytuno bod heriau, a dyna pam rwy'n gobeithio'n fawr y gallai fod asesiad o sut y gellid gwneud hynny. O ran eich pwynt am dechnolegau newydd wrth helpu i olrhain, rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt diddorol iawn, a'r manylion ynghylch sut y gallai hyn gynnwys mwy o warantau o ran darparu bysiau yn lle trenau, efallai; gallai weithio mewn llawer o ffyrdd gwahanol. Ond rwy'n croesawu eich sylwadau a'ch cefnogaeth i egwyddor hyn. Diolch yn fawr iawn.

Atgoffodd Sioned ni o’r ffaith mai trafnidiaeth gyhoeddus ydy'r pedwerydd lle mwyaf tebygol i rai fathau o drais ddigwydd, a dyna'r perygl hefyd, fel roedd Sioned yn gosod mas, cymaint o bobl sy’n osgoi defnyddio bysys neu'r trên, y siwrneiau sydd byth yn digwydd. Fel roedd hi'n dweud, mae dyletswydd, dwi'n meddwl, ar y Llywodraeth, ond mae dyletswydd ar y gymdeithas, a dyna un o'r pethau dwi'n ceisio mynd i'r afael ag e gyda'r proposal yma.

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am eich sylwadau yn y fan yna. Mae croeso mawr iddyn nhw, a byddwn i'n ddiolchgar iawn i dderbyn y cynnig hwn o gydweithio ar y mater hwn; byddwn i'n sicr yn awyddus i wneud hynny. Mae angen i drafnidiaeth gyhoeddus fod yn hygyrch, mae angen iddi fod yn ddibynadwy ac yn ddiogel, ac, fel y nodoch chi, y gwahaniaeth hanfodol hwnnw—. Na, dydy e ddim yn wahaniaeth rhwng bod yn ddiogel a theimlo'n ddiogel; mae yna gysylltiad agos rhwng y ddau. Roedd y dyfyniad hwnnw gan Margaret Atwood a ddyfynnwyd gennych chi yn ei roi yn llawer mwy huawdl, rwy'n credu, nag y gallwn i. Fel yr oedd Sioned wedi nodi hefyd, pan nad yw rhywun yn teimlo'n ddiogel, mae'r holl gyfleoedd nad yw'r person hwnnw yn gallu manteisio arnyn nhw oherwydd bod un peth drwg wedi digwydd, neu fod un peth drwg wedi bron â digwydd weithiau, teimlo fel eich bod chi'n cael eich dilyn a'r effaith mae hynny'n ei chael o ran cyfyngu ar fywyd person. Os yw rhywun yn byw gydag anabledd a'i fod wedi cael eu stopio oherwydd bod yr arhosfan bysiau wedi newid, ac nad oedd wedi cael gwybod, ac nad yw'n gallu cyrraedd yr arhosfan bysiau, yr effaith y mae'n ei chael ar hyder rhywun, a sut mae'n teimlo o ran cael ei groesawu a bod yn rhan o gymdeithas. Rwy'n credu mai dyna sydd mor dorcalonnus. Ond rwy'n croesawu'n fawr yr hyn a ddywedoch chi, Gweinidog, a byddwn i'n ddiolchgar iawn i weithio gyda'r Llywodraeth ar hyn, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth drawsbleidiol i'r egwyddorion.

Gwnaf jest orffen, Llywydd, trwy ddweud, neithiwr, cyfwelwyd â menyw anabl ar S4C ar Y Byd ar Bedwar, ac fe wnaeth hi ddweud bod diffyg hygyrchedd trafnidiaeth cyhoeddus yn gwneud iddi hi gwestiynu ei lle hi mewn cymdeithas fel person anabl. Pwrpas y Bil hwn fyddai ailddatgan ei lle hi, a lle pob person sy’n cael ei wneud yn fregus gan ein penderfyniadau cynllunio, gan ein penderfyniadau am ein gwagleoedd cyhoeddus ni—ailddatgan nad ar ymylon cymdeithas mae hi, ond yn ei chanol, yn ei chalon. Ac rwy’n gobeithio’n fawr y gall newid o’r fath ddigwydd yn fuan. Diolch.

19:00

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig yma? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i hynny, felly fe wnawn ni ohirio tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, fe awn ni at y bleidlais gyntaf—

A gaf fi godi pwynt o drefn, os gwelwch yn dda? Neu ganu'r gloch—dyna'r peth gorau. Mae gennym ni broblem gyda'r—

Ie, os oes gennych chi broblem, canu'r gloch yw'r ffordd arferol o ddatrys y broblem honno. [Chwerthin.]  

Fe wnawn ni ganu'r gloch, felly, a chynnal y bleidlais mewn pum munud. Jest tsieco—

oes yna dri pherson sy'n cytuno â Jane Hutt? Oes, mae yna. Iawn, fe wnawn ni ganu'r gloch.

Canwyd y gloch i alw'r Aelodau i’r Siambr. 

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 19:01.

19:05

Ailymgynullodd y Senedd am 19:07, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

15. Cyfnod Pleidleisio

[Anghlywadwy.]—eitem 11, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel), cynnig 1. Felly, dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig hynny, cynnig 1, a gyflwynwyd yn enw Mick Antoniw. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 34, neb yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo. 

Eitem 11. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel)—cynnig 1: O blaid: 34, Yn erbyn: 11, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel), cynnig 2, sydd nesaf. A dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yma, a gyflwynwyd yn enw Mick Antoniw. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 31 yn erbyn. Mae'r cynnig yna ar gynnig 2 wedi ei wrthod. 

Eitem 12. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel)—cynnig 2: O blaid: 14, Yn erbyn: 31, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Eitem 13 yw'r bleidlais nesaf. Y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) yw'r cynnig yma. Pleidlais, felly, ar y cynnig yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, naw yn erbyn. Mae'r cynnig yna wedi ei gydsynio. 

Eitem 13. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw): O blaid: 36, Yn erbyn: 9, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Felly, y bleidlais nesaf yw eitem 14. Y ddadl ar gynnig deddfwriaethol Aelod unigol yw hwn—y Bil ar gyfer mwy o ddiogelwch ar drafnidiaeth gyhoeddus. A dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig gan Delyth Jewell. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 32, 13 yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo.

19:10

Eitem 14. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod—Bil ar gyfer mwy o ddiogelwch ar drafnidiaeth gyhoeddus: O blaid: 32, Yn erbyn: 0, Ymatal: 13

Derbyniwyd y cynnig

Dyna ddiwedd ar ein gwaith ni ac ar ein pleidleisiau ni y prynhawn yma. Nos da.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:10.