Y Cyfarfod Llawn
Plenary
28/02/2024Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Y cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol sydd gyntaf, ac mae'r cwestiwn gyntaf gan Altaf Hussein.
1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag awdurdodau lleol ynghylch rôl caffael wrth gefnogi cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy yng Nghymru? OQ60726
Rydym yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr ym maes caffael ac arlwyo mewn awdurdodau lleol, ynghyd â chyflenwyr a chynhyrchwyr, i ymgorffori dulliau gweithredu'r economi sylfaenol mewn gweithgarwch caffael bwyd i gynyddu’r cyflenwad o fwyd cynaliadwy, lleol ac i wneud y mwyaf o gyfleoedd i fusnesau Cymru gynyddu eu cyfran o’r £85 miliwn o wariant blynyddol ar fwyd.
Diolch, Weinidog. Mae ffermwyr Cymru eisoes yn cynhyrchu’r bwyd mwyaf cynaliadwy, ac mae'n rhaid gwneud mwy i’w cefnogi. Heb ffermwyr Cymru, nid oes gennym fwyd. Nid yw polisïau ffermio cynaliadwy annoeth yn gwneud fawr ddim i ddiogelu byd natur na mynd i’r afael â newid hinsawdd—yn syml iawn, maent yn llesteirio bywoliaeth ffermwyr, ac o ganlyniad, maent yn llesteirio cynhyrchiant bwyd cynaliadwy. Gall cynnyrch o Gymru fod yn ddrytach weithiau o safbwynt ariannol pur, ond pan fyddwch yn ystyried costau ychwanegol mewnforio bwyd o ran yr hinsawdd, nid oes unrhyw gystadleuaeth. Weinidog, a ydych chi'n cytuno bod yn rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod yr holl gaffael cyhoeddus yng Nghymru yn ffafrio cynnyrch Cymreig, ac er mwyn gwneud hynny, fod yn rhaid inni sicrhau dyfodol ffermio yng Nghymru drwy roi’r gorau i’r cynllun ffermio cynaliadwy fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd? Diolch.
Wel, Lywydd, nid wyf yn mynd i ddechrau trafod polisi, fel y mae’r Aelod yn fy ngwahodd i’w wneud, ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud ar y pwynt hwnnw yw y dylai wneud ei sylwadau—a gwn y bydd yn gwneud hynny—drwy'r broses ymgynghori ffurfiol, sy’n mynd rhagddi ar hyn o bryd.
Ond rwy'n awyddus iawn i drafod y pwynt pwysig ynglŷn â sut i gynyddu faint o fwyd o Gymru sy'n cael ei gaffael fel rhan o'n dull gweithredu drwy'r sector cyhoeddus. Ac mae pethau hynod gyffrous yn digwydd ar hyn o bryd. Felly, un enghraifft fyddai'r gwaith sydd ar y gweill gydag awdurdodau lleol i dreialu offeryn lluosydd lleol, a'i nod yw mesur yr enillion i'r economi o ymgorffori gwerth cymdeithasol mewn prosesau caffael bwyd. Ac mae'n defnyddio model lens newydd sy'n canolbwyntio ar agweddau lleol, economaidd, maethol a chymdeithasol mewn gweithgarwch caffael bwyd a datblygu mynegai bwyd Cymreig i sefydlu lle mae'r gwerth yn cael ei ychwanegu at fwyd Cymreig. Felly, mae hynny'n cael ei arwain gan, a'i ddatblygu mewn partneriaeth â llywodraeth leol.
Ond ochr yn ochr â hynny, mae ein swyddogion economi sylfaenol, gydag awdurdodau lleol, wedi cydgynhyrchu canllawiau caffael bwyd newydd, sef 'Pŵer Prynu'r Plât Cyhoeddus: Canllaw Cyfreithiol i fewnosod cynaliadwyedd wrth Gaffael Bwyd i greu Cymru Iachach, Fwy Cyfoethog'. A gallwch weld y canllawiau hynny ar yr adnodd caffael bwyd ar-lein, 'Prynu Bwyd Addas i'r Dyfodol'. Ac mae defnydd o'r adnodd hwnnw bellach yn ofyniad gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'n hamodau grant ar gyfer prydau ysgol am ddim i bawb mewn ysgolion cynradd. Felly, credaf ein bod yn gwneud newidiadau newydd arloesol a chyffrous yn y maes hwn.
2. Pa gamau y mae'r Gweinidog wedi'u cymryd i ddiogelu cyllideb 2024-25 Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol yn erbyn ansicrwydd cyllidol ac economaidd? OQ60749
Ar ôl cyrraedd diwedd cyfnod adolygu gwariant tair blynedd, nid oes gennym bellach unrhyw gyllidebau wedi’u dyrannu y tu hwnt i 2024-25, felly mae'n anochel fod hyn yn cynyddu ansicrwydd. Ddoe, cynhaliwyd dadl gennym am yr angen am fwy o hyblygrwydd i ddiogelu cyllideb Cymru at y dyfodol, ac roeddwn yn falch o weld y gefnogaeth gref i fesurau o’r fath ar draws y Siambr.
Diolch, Weinidog. Y llynedd, ni roddwyd cyfrif yng nghyllideb Llywodraeth Cymru am bwysau chwyddiant yr oeddem wedi gwybod amdano ers tro. Arweiniodd hyn at fyrddau iechyd yn wynebu diffygion o gannoedd o filiynau o bunnoedd a chyllideb yn ystod y flwyddyn a oedd yn gwbl adweithiol. Er y gwn nad oes unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud am bwysau chwyddiant a digwyddiadau byd-eang, gall ddiogelu cyllidebau at y dyfodol i liniaru’r niwed, yn enwedig yn erbyn ffactorau y gwyddom amdanynt. A allwch roi sicrwydd i mi felly, Weinidog, na fyddwn mewn sefyllfa debyg eleni, lle mae Llywodraeth Cymru yn gorfod cyflwyno cyllideb annisgwyl arall yn ystod y flwyddyn i ddiwygio diffygion ei chyllideb flaenorol?
Credaf fod rhai pethau y mae angen imi eu hateb yno, a’r cyntaf yw nad oedd unrhyw beth yn adweithiol amdano, yn yr ystyr ein bod wedi dechrau gwneud y gwaith hwnnw yn ystod yr haf y llynedd. Felly, mewn gwirionedd, roeddem yn mynd i'r afael â'r pwysau ar y gyllideb o ganlyniad i chwyddiant yn gymharol gynnar yn y flwyddyn ariannol. Fe gofiwch, bryd hynny, fod gennym bwysau o £900 miliwn ar y gyllideb, a gwnaethom benderfyniadau anodd iawn ar draws y Llywodraeth er mwyn gallu diogelu'r GIG ac ymdopi â’r pwysau hwnnw o £900 miliwn. Ond ar ddiwedd y flwyddyn ariannol—13 Chwefror—rhoddodd Llywodraeth y DU ein ffigurau i ni drwy'r amcangyfrifon atodol, ac ychwanegodd hynny £231 miliwn o refeniw at ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Felly, yn amlwg, roedd hynny'n broblemus, yn yr ystyr na fu'n rhaid i ni wneud rhai o'r penderfyniadau anodd hynny yn y pen draw. Ac wrth gwrs, byddai adrannau Llywodraeth y DU wedi gwybod beth oedd eu cyllidebau ers misoedd bellach, tra bo hyn yn dod ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Ac oni bai fy mod eisoes wedi cynllunio i ddefnyddio'r swm mwyaf posibl o arian o’r gronfa wrth gefn, yn unol â chytundeb Prif Ysgrifennydd y Trysorlys y gallem ddefnyddio’r holl arian o'r gronfa wrth gefn eleni, byddai wedi bod yn amhosibl inni reoli’r sefyllfa honno ar ddiwedd y flwyddyn. Felly, credaf fod rhan o hyn yn berthnasol i'r ddadl a gawsom ar hyblygrwydd ariannol ddoe.
Ond o ran edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf, rydym wedi ailraddnodi ein hasesiad bellach yn dilyn yr amcangyfrifon atodol, ac rydym yn deall bod ein cyllideb bellach yn werth £1.2 biliwn yn llai y flwyddyn nesaf. Ond wrth gwrs, rydym wedi cynnwys hynny yn ffactor yn ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac wedi cynnal yr ymarfer hwnnw, fel y gallem ddiogelu llywodraeth leol, a rhoi £450 miliwn yn ychwanegol i'r GIG hefyd. Mae’n golygu, unwaith eto, fod rhai penderfyniadau anodd wedi’u gwneud, ond yn sicr, fe’n galluogodd, ar ddechrau’r flwyddyn ariannol, i ystyried effaith chwyddiant, fel y'i deallwn.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Sam Rowlands.
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae’r data diweddaraf sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, ar gyfer 2020-21, yn dangos bod awdurdodau lleol yng Nghymru yn berchen ar oddeutu 1,000 o fân-ddaliadau ac yn eu gosod ar brydles i ffermwyr tenant. Mae hynny’n cwmpasu oddeutu 1 y cant o dir yma yng Nghymru. Mae oddeutu 886 o denantiaid ar fân-ddaliadau cynghorau, ac mae gan nifer o denantiaid fwy nag un fferm. Mae cyfanswm y refeniw y mae cynghorau’n ei wneud o’r mân-ddaliadau hynny dros £4 miliwn ledled Cymru—sy'n sylweddol iawn nid yn unig i’r ardaloedd gwledig hynny, ond i’r cynghorau hynny hefyd.
Fe fyddwch yn gwybod bod y cynllun ffermio cynaliadwy yn achosi cryn bryder ymhlith ffermwyr a’n cymunedau gwledig, fel y mae’r protestiadau y tu allan i’r Senedd yma heddiw yn ei ddangos. Felly, o ystyried hyn, Weinidog, pa asesiad a wnaethoch o’r cynllun ffermio cynaliadwy mewn perthynas â ffermydd sy’n eiddo i gynghorau a’r tenantiaid sy’n eu rhedeg?
Rwy’n edmygu ymdrechion yr Aelod i gyflwyno cwestiwn sy'n ymwneud â’r cynllun ffermio cynaliadwy i’r cwestiynau cyllid a llywodraeth leol y prynhawn yma, ond hoffwn atgoffa fy nghyd-Aelodau fod fy nghyfrifoldebau mewn perthynas â llywodraeth leol yn ymwneud â chyfrifoldebau democrataidd, ariannol, cyfansoddiadol a strwythurol llywodraeth leol, a chredaf y byddai'n well iddo ofyn y cwestiwn hwnnw i’r Gweinidog materion gwledig, y gwn y bydd yn ateb cwestiynau nesaf y prynhawn yma. Ond gwn ei bod wedi cymryd rhan yn y trafodaethau i archwilio’r ffordd gywir ymlaen i ffermwyr tenant yn arbennig, o gofio eu perthynas benodol â landlordiaid, ac unrhyw heriau y gallent eu hwynebu gyda chynllun yn y dyfodol.
Wel, diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwy'n siomedig braidd, efallai, nad ydych yn fodlon ymateb yn llawn i'r cwestiwn. Rwy’n derbyn cylch gwaith eich portffolio, ond rwy’n tybio bod meysydd yn eich portffolio a allai roi rhagor o sylw i’r cwestiwn.
Felly, gyda hynny mewn golwg, bydd y rheoliadau y buom yn sôn amdanynt gyda’r cynllun ffermio cynaliadwy yn gwneud mynediad i ffermwyr ifanc yn y diwydiant hyd yn oed yn fwy anodd, ac yn enwedig ffermydd sy’n eiddo i gynghorau. Ac fel y Gweinidog llywodraeth leol a chyllid, fe fyddwch yn gwybod bod ffermydd sy’n eiddo i gynghorau yn un o’r ffyrdd y gall ffermwyr ifanc ddechrau ennill profiad mawr ei angen. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yr oedd data ar gael ar ei chyfer, dechreuodd oddeutu 21 o newydd-ddyfodiaid ar y sail honno, ac yn sicr, y ffermwyr ifanc hyn fydd angen y profiad hwnnw i fwydo ein cenedl yn y dyfodol. Felly, yn rhinwedd eich swydd fel Gweinidog llywodraeth leol, sut ydych chi'n disgwyl i gynghorau fynd i’r afael ag effaith negyddol y cynllun ffermio cynaliadwy, ac yn enwedig yr effaith ar ffermwyr ifanc ar ffermydd sy’n eiddo i gynghorau?
Rwy'n dymuno bod o gymaint â phosibl o gymorth i gyd-Aelodau yn fy atebion, ond fel y nodais, mae fy nghyfrifoldebau mewn perthynas â llywodraeth leol yn rhai cyfansoddiadol, strwythurol, democrataidd ac ariannol. Ond rwy’n awyddus iawn i gydnabod pwysigrwydd ffermydd sy’n cael eu rhedeg gan gynghorau i gefnogi pobl i mewn i fyd amaeth yn y lle cyntaf, ac yn cydnabod y rôl bwysig y gallant ei chwarae. Ond serch hynny, mae hyn yn rhan o bortffolio Gweinidog gwahanol, a fyddai mewn gwell sefyllfa, rwy’n credu, i roi’r lefel o fanylder sydd ei hangen arnoch.
Diolch, Weinidog. Edrychaf ymlaen, efallai, at ymateb pellach yn y dyfodol, er, fel y dywedwch, mae cyfrifoldeb ariannol, yn enwedig, ac efallai fod cyfleoedd strwythurol hyd yn oed o fewn y ffordd y mae rhywfaint o hyn wedi'i sefydlu hefyd, sy'n rhywbeth rwy'n siŵr y byddai gennych ddiddordeb mewn edrych arno.
Felly, cwestiwn symlach efallai, sy'n sicr yn rhan o'ch portffolio chi ac rwy'n siŵr nad oes dadl yn ei gylch, yw'r setliad terfynol i lywodraeth leol a gyhoeddwyd gennych ddoe. Hoffwn glywed gennych chi, Weinidog, beth yw'r gofid mwyaf a allai fod gennych o ganlyniad i'r gyllideb a gynhyrchwyd gennych ddoe.
Credaf mai’r hyn sy'n peri'r gofid mwyaf am y gyllideb a gyhoeddais ddoe oedd y swm o gyllid sydd ar gael i ni ei ddyrannu. Gwyddom fod pwysau ar yr holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru o hyd—yn y GIG, mewn llywodraeth leol—er gwaethaf y setliad gorau posibl y gallasom ei gynnig iddynt. Byddai’n well gennym weld Llywodraeth y DU sy’n buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, a fydd wedyn yn rhoi arian ychwanegol i ni ei ddyrannu. Wrth gwrs, mae ganddynt amser o hyd. Mae gennym ddatganiad y gwanwyn gan Lywodraeth y DU ar 6 Mawrth. Mae hynny ddiwrnod ar ôl i ni bleidleisio ar ein cyllideb derfynol, ond mae’n rhoi cyfle i Lywodraeth y DU ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ac yna gall Llywodraeth Cymru adlewyrchu hynny mewn cyllideb atodol ym mis Mehefin. Ni fyddwn yn disgwyl i benderfyniadau aros tan fis Mehefin. Rwy'n credu y gallai Llywodraeth Cymru wneud rhai penderfyniadau cynnar ar gymorth i wasanaethau cyhoeddus, os caiff y cyllid ychwanegol hwnnw ei ddarparu ar 6 Mawrth.
Llefarydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Lywydd. Mae'r gyllideb sydd ar y ffordd gan Lywodraeth y DU yn addo mwy fyth o galedi i weithwyr cyffredin yng Nghymru. Ar ôl canlyniadau trychinebus Trussonomics, a adawodd dwll du enfawr yng nghyllid cyhoeddus y DU, mae ton newydd o gyni Torïaidd bellach yn bygwth gwasgfa boenus arall ar safonau byw. Ni allwn anghofio bod safonau byw eisoes wedi dirywio i raddau digynsail dros y degawd a hanner diwethaf o reolaeth Dorïaidd. Un o’r prif fesurau a ragwelir yw toriad i gyfradd sylfaenol treth incwm. Ond fel y mae Sefydliad Resolution wedi’i nodi, yn gywir ddigon, gan fod trothwy'r lwfans personol i fod i aros wedi ei rewi tan 2028 ar y cynharaf, bydd pobl sy’n ennill llai na £38,000 y flwyddyn yn wynebu colled net yn eu henillion gros. Mewn geiriau eraill, mae’r Torïaid, yn ôl yr arfer, yn cynllunio rhoddion i’r cyfoethog, a disgwylir i’r bobl ar y cyflogau isaf ysgwyddo’r gost. Yn y cyfamser, mae gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i gael eu hamddifadu o gyllid.
Wrth gwrs, yng Nghymru, mae gennym bŵer cyfyngedig at ein defnydd i liniaru'r effeithiau gwaethaf, a gwn fod y Llywodraeth wedi bod yn asesu eu hopsiynau mewn perthynas â chyfraddau treth incwm Cymreig yn y gyllideb bresennol. Ond nid oes gennym allu i newid trothwy'r lwfans personol, yn wahanol i’r Alban. Rydym hefyd yn edrych yn fanwl ar y trothwyon treth incwm, a osodir gan Lywodraeth y DU heb unrhyw fewnbwn gan Weinidogion Cymru. Rydym wedi dadlau ers tro fod anallu’r Senedd i osod ei bandiau treth ei hun yn rhwystr sylfaenol i ddefnydd blaengar o'r ysgogiadau ariannol sydd ar gael iddi, a bydd effaith llusgiad cyllidol ar rewi trothwy’r lwfans personol yn cyfyngu ar eu heffeithiolrwydd hyd yn oed ymhellach. A ydych yn cytuno bod methiant Llywodraeth y DU i uwchraddio trothwy'r lwfans personol yn unol â chwyddiant yn gwaethygu anghydraddoldebau incwm yma yng Nghymru ac yn tanlinellu’r achos o blaid mwy o bwerau cyllidol i'r Senedd?
Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn. Credaf fod llawer o ddyfalu ar hyn o bryd ynghylch yr hyn y gallai Llywodraeth y DU ei wneud ar 6 Mawrth. Fel y gŵyr fy nghyd-Aelodau, nid ydym wedi cael—roeddwn yn mynd i ddweud 'fawr ddim', ond 'dim' ydyw mewn gwirionedd—unrhyw wybodaeth ymlaen llaw gan Lywodraeth y DU ynglŷn â'u cynlluniau. Ac mewn gwirionedd, nid ydynt yn ymgysylltu â ni hyd yn oed yn y meysydd lle ceir effaith uniongyrchol a materol ar ein cyllideb. Felly, os meddyliwch am newidiadau i dreth dir y dreth stamp yn Lloegr er enghraifft, mae hynny’n cael effaith ganlyniadol uniongyrchol ar ein cyllideb, ac eto, nid ydym hyd yn oed yn cael y sgyrsiau hynny gyda nhw. Felly, mae hynny'n rhywbeth y gobeithiaf y byddai'n cael ei wella yn y dyfodol. Mae'n rhywbeth rydym wedi ceisio bod yn agored yn ei gylch. Felly, pan fyddwn yn penderfynu gwneud newidiadau i’n treth trafodiadau tir, rydym yn cael sgyrsiau â’r Trysorlys ac yn rhannu gwybodaeth ag eraill, er mwyn sefydlu’r berthynas honno o ymddiriedaeth, ond mae’n rhaid iddo ddigwydd y ddwy ffordd, yn fy marn i.
O ran pennu’r cyfraddau a’r bandiau a defnyddio dull gweithredu gwahanol, rydym yn edrych yn ofalus ar y sefyllfa yn yr Alban i weld sut olwg a allai fod ar y newidiadau i ni yma yng Nghymru. Ni chredaf y dylem ymrwymo i wneud rhywbeth gwahanol er mwyn gwneud hynny'n unig. Credaf y byddai cael system debyg i'r Alban yn creu risg ychwanegol i ni yng Nghymru, y credaf y byddai'n rhaid inni ei hystyried hefyd, ond byddai hefyd yn rhoi dewisiadau gwahanol i ni. Felly, mae cyfraddau treth incwm Cymreig yn dal yn gymharol newydd i ni, maent yn dal i ymwreiddio, ac rydym yn dal i weld eu manteision o ran y cysoniadau, sydd wedi bod yn gadarnhaol ers inni gael cyfraddau treth incwm Cymreig, ond yn sicr, mae’n rhywbeth y mae angen inni ei archwilio ar gyfer y dyfodol. Ni chredaf ein bod wedi cyrraedd pwynt lle gallwn wneud penderfyniad ynglŷn ag a fyddai cael y pwerau gwahanol hynny'n well i ni yma yng Nghymru ai peidio.
Diolch yn fawr am yr ateb yna. Ar ôl y drafodaeth gawsom ni ddoe, mae'n galonogol i weld bod y Senedd yn cefnogi edrych ar bethau gwahanol.
Mater brawychus arall sydd wedi’i godi gan ddadansoddiad Sefydliad Resolution yw maint y gostyngiadau y bydd angen eu gwneud i gyllidebau portffolios polisi nad ydynt wedi’u clustnodi o ganlyniad i doriadau treth arfaethedig Llywodraeth y DU. Unwaith eto, o ystyried anghysondebau’r setliadau datganoli ar draws gwledydd y DU, bydd Cymru’n cael ei heffeithio’n anghymesur yn hyn o beth. Er enghraifft, mae’r sefydliad wedi amcangyfrif y gallai cyllideb cyfiawnder Llywodraeth y DU wynebu toriad o bron i 20 y cant, y dylid ei ystyried yng nghyd-destun ehangach y tanariannu cyson mewn gwasanaethau cyfreithiol a phlismona ers 2010. Fel y buom yn ei drafod yr wythnos diwethaf yn y ddadl ar setliad yr heddlu, mae mesurau cyni'r Torïaid yn system gyfiawnder Cymru a Lloegr hefyd wedi rhoi baich cynyddol ar gyllidebau Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Mae hyn er gwaethaf y ffaith nad oes gennym gyfrifoldeb polisi dros gyfiawnder a phlismona yng Nghymru ar hyn o bryd.
A ydych chi'n cytuno, felly, fod sefyllfa annatganoledig cyfiawnder yng Nghymru wedi golygu ein bod wedi bod yn gwbl agored i'r niwed a achoswyd gan gyni Torïaidd yn y maes hwn? Ac a ydych chi'n cytuno â Phlaid Cymru, oni bai fod Llywodraeth Lafur yn y dyfodol yn ymrwymo i wrthdroi’r toriadau hyn sydd wedi digwydd dros y degawd a hanner diwethaf yn sylweddol, y bydd methiant i ddatganoli cyfiawnder yn parhau i wneud cam â phobl Cymru?
Rwy’n sicr yn credu ichi wneud rhai pwyntiau diddorol yn eich cyfraniad mewn perthynas ag effeithiau’r meysydd hynny lle nad ydym yn cael cyllid canlyniadol ac yn y blaen. Ond credaf mai’r pryder ehangach sydd gennyf mewn perthynas â’r gyllideb sydd ar y ffordd, o’r hyn a glywn, ac yn y cyfryngau ac ati, yw ei bod yn ymddangos nad oes unrhyw hygrededd o gwbl i'r hyn y bydd Llywodraeth y DU yn ei gynllunio dros y blynyddoedd i ddod. Mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid ei hun wedi dweud, os bydd y Canghellor yn penderfynu torri trethi, oni all nodi sut yn union y bydd yn talu am y toriadau treth hynny, fe fydd yn brin o hygrededd, ac ni fydd yn gallu dweud bod unrhyw dryloywder. Felly, dyna ein pryderon.
Ar hyn o bryd, rwy'n credu bod arolygon yn dweud wrthym y byddai'n well gan bobl weld buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus nawr yn hytrach na thoriadau treth. Ymddengys mai dyna’r flaenoriaeth, ac mae honno’n flaenoriaeth y credaf y byddem yn ei rhannu, o gofio’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus. Rwy'n credu y bydd y gostyngiadau y byddai angen eu gwneud i wasanaethau cyhoeddus, pe bai Llywodraeth y DU yn dilyn y cynlluniau y deallwn y gallent eu dilyn, wel, bydd y toriadau hynny’n aruthrol, a bydd hynny’n cael effaith arnom ni yma yng Nghymru. Yn wir, byddai'n ddychweliad at gyni dwfn. Ni weithiodd y tro cyntaf, ac yn sicr, ni fydd yn gweithio eto ar ôl i wytnwch cymaint o sefydliadau gael ei brofi i'r fath raddau o ganlyniad i gyni. Felly, ydw, rwy’n rhannu llawer o’r pryderon a nodwyd gennych.
3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda llywodraeth leol i ddatblygu eu hymgysylltiad â chymunedau lleol a'u grymuso? OQ60755
Cyhoeddais ganllawiau ar ymgysylltu’n effeithiol â’r cyhoedd ar gyfer awdurdodau lleol ym mis Mehefin y llynedd. Fe'i cynhyrchwyd yn dilyn cydweithio agos ag awdurdodau lleol.
Weinidog, gwyddom nad yw datganoli i Gymru yn stopio yn y Senedd a chydag Aelodau’r Senedd, ac mae gan ein hawdurdodau lleol ran hanfodol i’w chwarae wrth arfer eu mandad democrataidd lleol eu hunain. Unwaith eto, nid yw treiddiad y grym hwnnw'n stopio gydag awdurdodau lleol, mae'n rhaid iddo gyrraedd ein cymunedau. Credaf ei bod yn gwbl hanfodol fod awdurdodau lleol yn gweithio o’r gwaelod i fyny yn y ffordd honno, Weinidog, ac rwy’n siŵr y byddech yn cytuno.
Gwyddom fod cryn dipyn o ymarfer gwahanol yn ein hawdurdodau lleol, gyda rhywfaint ohono'n adlewyrchu amgylchiadau lleol, ond hefyd, mae llawer yn gyffredin o ran angen cymunedol a llais ein cymunedau. Felly, Weinidog, tybed beth arall y gallech ei wneud, efallai yn eich rôl fel cadeirydd y cyngor partneriaeth, i sicrhau ein bod yn nodi arferion da yn ein hawdurdodau lleol yng Nghymru yn glir, ac yn sicrhau bod hynny’n llywio’r gwaith ar lawr gwlad ym mhob un o’n cynghorau lleol.
Rwy’n ddiolchgar am eich cwestiwn. Gwnaeth Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 gyfranogiad y cyhoedd—wel, fe wnaeth gyfranogiad y cyhoedd yn rhan hollbwysig, os mynnwch, o ran ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gael y strategaethau hynny i annog a galluogi cyfranogiad y cyhoedd, a hefyd y gofynion i gynghorau gael cynllun deisebau hefyd. Credaf fod y ddau beth hynny’n bwysig i sicrhau gwell cyfranogiad y cyhoedd mewn democratiaeth leol, a gwell cyfleoedd felly i lywodraeth leol allu gwrando ar farn eu cymunedau.
Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn rhannu arferion gorau. Felly, yr wythnos diwethaf, gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, cynhaliais ddigwyddiad diwrnod o hyd ar gyfer byrddau gwasanaethau cyhoeddus, a oedd yn cynnwys llawer o gynrychiolwyr llywodraeth leol, ac roedd hynny’n ymwneud â rhannu arferion da, dysgu oddi wrth ein gilydd, a chredaf y bydd llawer o bobl wedi dysgu llawer gan gymheiriaid ledled Cymru y diwrnod hwnnw y gallant ei ddefnyddio yn eu hymarfer eu hunain. Felly, credaf fod creu’r cyfleoedd hynny i rannu yn wirioneddol bwysig hefyd.
Weinidog, mae trigolion Forge Mews yng Nghasnewydd wedi’u hynysu oddi wrth weddill y ddinas heb unrhyw fynediad i gerbydau ers i hen bont Basaleg gau fwy na dwy flynedd yn ôl. Yn dilyn archwiliadau diogelwch, ystyriwyd bod y bont yn anniogel ac nad oedd modd ei hatgyweirio, gyda swyddogion yn credu y byddai'n rhaid adeiladu pont newydd.
Mae hon yn sefyllfa ofnadwy, ac mae wedi bod yn mynd rhagddi ers llawer gormod o amser, gan fod gan drigolion bryderon difrifol ynglŷn â gallu gwasanaethau brys i gael mynediad i’r safle. Nid yn unig hynny, mae'r trigolion yn gorfod cludo eu siopa mewn trolïau o’u ceir sydd wedi’u parcio gryn bellter o’u cartrefi. Nid yw hynny'n swnio fel grymuso cymunedau lleol i mi, Weinidog.
Rwyf wedi lobïo Cyngor Dinas Casnewydd i ddod â’r saga druenus hon i ben ar unwaith, a dywedwyd wrthyf fod y cyngor wedi cyflwyno cais am gyllid i Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith. Yn y pen draw, mae’r pŵer i roi diwedd ar yr hunllef i drigolion yn nwylo’r Llywodraeth hon. I gynifer o drigolion, mae'n hollbwysig fod Llywodraeth Cymru yn rhoi'r golau gwyrdd i'r cais am gyllid, fel y gall y gwaith ddechrau. Mae angen gweithredu ar frys, Weinidog, felly a wnaiff y Llywodraeth hon ymrwymo i ddarparu’r cyllid sydd ei angen a gweithio ar y cyd â Chyngor Dinas Casnewydd i rymuso’r gymuned hon unwaith eto? Diolch.
Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn. Rwy’n cymryd mai’r cynllun ariannu y cyfeiria'r Aelod ato yw’r un sy’n rhan o gyfrifoldebau’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog. Felly, rwy'n sicr yn fwy na pharod, ar ôl y Cyfarfod Llawn heddiw, i sicrhau eu bod yn cael gwybod am eich pryderon penodol a'r ohebiaeth a gawsoch gyda nhw a hefyd gyda'r cyngor.
Mae cwestiwn 4 [OQ60738] wedi'i dynnu'n ôl. Cwestiwn 5 sydd nesaf—Heledd Fychan.
5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip ynghylch sicrhau digon o gyllid i awdurdodau lleol er mwyn datblygu llwybrau lleol dim hawl i gyllid cyhoeddus? OQ60751
Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gweithio gydag awdurdodau lleol i gefnogi pobl sy’n wynebu diymgeledd, gan gynnwys pobl heb hawl i gyllid cyhoeddus. Yn 2024-25, bydd awdurdodau lleol yn cael £5.7 biliwn o gyllid drwy’r setliad llywodraeth leol, a bydd hwn yn eu helpu i gyflawni eu cyfrifoldebau statudol i ddarparu gwybodaeth i rai mewn angen.
Diolch, Weinidog. Mi gyhoeddwyd adroddiad diweddar gan Sefydliad Bevan yn amlinellu rhai o'r heriau difrifol sydd yn effeithio ar bobl sy'n byw yng Nghymru, ond sydd â dim mynediad at arian cyhoeddus. Mae nifer o fyfyrwyr a theuluoedd yn fy ardal i yn y sefyllfa hon, a dwi wedi clywed storïau torcalonnus drwy'r banciau bwyd lleol, megis teuluoedd yn talu £1,200 yr wythnos mewn rhent, plant gyda swigod ar eu traed am fod eu hesgidiau yn llawn tyllau, a phrifathrawon yn adrodd gofidion am lefelau maeth a bwyd rhai o'n disgyblion.
Fel dywed yr adroddiad, mae'n hen bryd i awdurdodau lleol sefydlu'r llwybrau dim mynediad at arian cyhoeddus ar frys, a dydy hyn ddim yn digwydd yn unman yng Nghymru eto, er gwaethaf canllawiau Llywodraeth Cymru yn eu cyfarwyddo i wneud hyn yn 2022. Felly, fy nghwestiwn oedd: ydych chi wedi cael trafodaethau gyda'r Gweinidog perthnasol i sicrhau nad y cyllid ydy'r rhwystr i hwn, er mwyn i ni ddeall pam bod hyn ddim yn cael ei weithredu? Felly, eisiau gwybod ydw i a ydych chi wedi cael trafodaethau, neu, os ddim, a wnewch chi gael y trafodaethau yna i ddeall yr heriau a sut rydym ni'n gallu sicrhau bod y cyllid yn cyrraedd y bobl hyn.
Nid oes unrhyw un wedi awgrymu i mi mai cyllid yw'r broblem yn yr achos hwn. Rwy’n ymwybodol o adroddiad Sefydliad Bevan, a gwn y bydd swyddogion y Gweinidog yn edrych ar ba gamau y gellir eu cymryd i helpu rhai heb hawl i gyllid cyhoeddus yng Nghymru, a chredaf eich bod wedi nodi rhai o'r amgylchiadau ofnadwy y mae pobl ynddynt. Gwn ein bod eisoes yn cymryd camau yn erbyn llawer o’r argymhellion yn yr adroddiad, ond byddwn hefyd, wrth gwrs, yn deall a oes angen inni gymryd camau pellach i ymateb i’r pwyntiau sydd wedi’u codi yn yr adroddiad ai peidio.
Bydd adolygiad o’r canllawiau dim hawl i gael arian cyhoeddus yn cael ei gynnal eleni hefyd, a bydd hwnnw’n ystyried newidiadau mewn polisïau mewnfudo a chyfraith achosion, er mwyn helpu i gryfhau ein dealltwriaeth ni a dealltwriaeth awdurdodau lleol o’u rhwymedigaethau o dan Ddeddf 2014. Ond rwy’n fwy na pharod i gael sgyrsiau pellach gyda’r Gweinidog, er mwyn sicrhau nad cyllid yw’r broblem allweddol yn yr amgylchiadau hyn.
Weinidog, mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol yn helpu i gefnogi pobl ar lwybrau allan o ddiymgeledd, ac fel y gwyddoch, mae hyn yn arbennig o bwysig i bobl heb hawl i gyllid cyhoeddus, fel yr amlinellodd fy nghyd-Aelod, Heledd. Mae etholwyr sy’n gwirfoddoli gyda banciau bwyd wedi cysylltu â mi i nodi eu pryderon fod nifer cynyddol o fyfyrwyr tramor a’u teuluoedd angen cymorth i fwydo eu hunain, am eu bod wedi gweld nad yw’r adnoddau a oedd ar gael iddynt bellach yn ymestyn mor bell, ac maent yn wynebu heriau ariannol sylweddol erbyn hyn. Maent hefyd yn pryderu nad oes gan awdurdodau lleol yng Nghymru ymateb cydlynol nac effeithiol ar gyfer pobl heb hawl i gyllid cyhoeddus, sy’n golygu bod pobl y mae taer angen cymorth arnynt yn wynebu loteri cod post i bennu a fyddant yn cael cymorth. Weinidog, pa gamau a gymerir gennych i wella cysondeb y dull o weithredu ymhlith awdurdodau lleol yng Nghymru wrth ymdrin â phobl heb hawl i gyllid cyhoeddus? Diolch.
Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cwestiynau, a gwn fod y Gweinidog addysg hefyd yn arbennig o ymwybodol o’r mater mewn perthynas â myfyrwyr rhyngwladol a allai fod yn amharod i geisio cymorth ariannol gan brifysgolion, megis cronfeydd caledi, oherwydd y cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â'u fisâu a'r amod fod yn rhaid iddynt allu cynnal eu hunain. Byddem yn annog myfyrwyr yn yr amgylchiadau hynny i drafod gyda’u prifysgolion i weld a oes cymorth ar gael iddynt. Rydym yn darparu cyllid i brifysgolion yng Nghymru ar gyfer caledi ariannol ac i gefnogi myfyrwyr gyda’u hiechyd meddwl, felly byddwn yn annog myfyrwyr yn yr amgylchiadau anodd hyn i godi hynny. Ond gwn fod hyn yn rhywbeth y mae’r Gweinidog addysg yn arbennig o ymwybodol ohono, yn ogystal â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.
Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Beth—? O, mae'n dweud Jenny Rathbone.
Rydych chi'n llygad eich lle, Janet Finch-Saunders, ac rwy'n gwbl anghywir, ac rwy'n ymddiheuro. Cwestiwn Jenny Rathbone yw Rhif 6, ac fe alwaf arnoch am gwestiwn atodol, Janet. Mae'n ddrwg gennyf.
Diolch.
6. Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar weithio gyda llywodraeth leol i ddileu biwrocratiaeth feichus neu ddiangen? OQ60746
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol ar weithio gyda llywodraeth leol i nodi meysydd lle ceir biwrocratiaeth ddiangen ac i ddatblygu ffyrdd o'i lleihau. Mae’r gyllideb a gyhoeddais ddoe yn adlewyrchu’r cynnydd a wnaed ar ddadneilltuo a chydgrynhoi grantiau.
Mae hynny’n newyddion i’w groesawu, Weinidog. Mae 10 mlynedd wedi bod ers i gomisiwn Williams rybuddio bod angen newid radical er mwyn i wasanaethau cyhoeddus oroesi ar ffurf hyfyw a chynaliadwy. Ac yn nogfen strategaeth y gyllideb y flwyddyn nesaf, rydych yn cyfeirio’n amlwg at wella aneffeithlonrwydd a dileu gwastraff. Mae Archwilio Cymru yn cynghori bod angen i awdurdodau lleol ganolbwyntio ar sut maent yn mynd i ymateb i bwysau yn y dyfodol a llenwi bylchau ariannu a ragwelir. O ystyried bod cyni yn debygol o barhau ymhell i mewn i dymor y Llywodraeth nesaf, ar ôl 10 mlynedd o Lywodraethau olynol sy'n economaidd anllythrennog, beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynnwys awdurdodau lleol yn y gwaith gwirioneddol bwysig o fuddsoddi i arbed a lleihau gwariant diangen?
Wel, credaf fod gwaith Archwilio Cymru a hefyd gwaith Dadansoddi Cyllid Cymru wedi bod yn wirioneddol bwysig i helpu awdurdodau lleol i ddeall y pwysau presennol, ond wedyn hefyd i gael y darlun gorau posibl o lefel y pwysau y maent yn debygol o'i wynebu yn y flwyddyn i ddod. Mae buddsoddi i arbed yn gwbl allweddol i hynny, ac mae gennym amrywiaeth o ffyrdd lle rydym yn cefnogi awdurdodau lleol i wneud hynny.
Un maes arbennig o bwysig, wrth gwrs, yw atal pobl ifanc rhag dod yn rhan o'r system ofal. Mae gennym ystod eang o waith yn mynd rhagddo yn y maes hwnnw, ond fel rhan o'n gwaith drwy'r gronfa buddsoddi i arbed, rydym wedi gogwyddo'r gronfa honno bron yn gyfan gwbl tuag at gefnogi sefydliadau—yn enwedig awdurdodau lleol, ond drwy'r trydydd sector hefyd—i atal pobl ifanc rhag dod yn rhan o'r system ofal, ond wedyn hefyd i gefnogi'r bobl ifanc sydd mewn gofal i sicrhau eu bod yn cael y cyfleoedd gorau posibl wrth symud ymlaen. Credaf fod hynny'n sicr yn ddull buddsoddi i arbed, yn yr un modd ag incwm sylfaenol cyffredinol, gan fod y rhain yn rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru, a pho fwyaf y gallwn fuddsoddi ynddynt ar yr adeg gynnar hon yn eu bywydau, y gorau fydd y canlyniadau iddynt, rwy'n credu, ond wedyn, gan feddwl am yr agwedd fuddsoddi i arbed honno hefyd, os mynnwch.
Mae gennym hefyd waith da yn mynd rhagddo drwy’r byrddau partneriaeth rhanbarthol a’r gronfa integreiddio rhanbarthol. Mae buddsoddiad o £146 miliwn yn y gronfa honno’n gweithio i adeiladu capasiti cymunedol, gan helpu pobl i gael mynediad at wybodaeth, cyngor a chymorth yn lleol yn eu cymuned eu hunain, a helpu pobl a theuluoedd ag anghenion mwy cymhleth i gael y cymorth hwnnw sydd ei angen arnynt yn nes at adref.
Ac yna, ar gyfalaf, mae gennym waith ein panel strategaeth hinsawdd, ac yn dilyn ei argymhellion, rydym wedi cyflwyno grant gwres carbon isel i awdurdodau lleol. Bob blwyddyn rhwng 2023-24 a 2025-26, bydd £20 miliwn ar gael ar gyfer gwaith cyfalaf, ac mae hynny’n ymwneud ag ôl-osod datrysiadau gwres carbon isel mewn adeiladau annomestig sy’n eiddo i awdurdodau lleol—argymhelliad buddsoddi i arbed unwaith eto—i leihau costau a gostwng allyriadau carbon yn y tymor hir.
Gwyddom fod gwariant llywodraeth leol wedi gostwng oddeutu 7 y cant ers 2013-14. Dros y 10 mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld tri chynllun ad-drefnu awdurdod lleol costus a oedd yn anghynaliadwy ac ni fwriwyd ymlaen â'r un ohonynt. Ac wrth gwrs, mae gennym y cyd-bwyllgorau corfforedig bellach. Flynyddoedd yn ôl, yn hytrach nag ad-drefnu llywodraeth leol ar raddfa fawr, awgrymwyd y gellid gwneud llawer o arbedion drwy gael adran gyflogres ar gyfer gogledd Cymru, a gwneud pethau ar raddfa fwy gan gadw awdurdodau lleol yn agos at y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. A oes unrhyw gamau wedi'u cymryd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweithio mwy mewn partneriaeth ag awdurdodau cyfagos, ac efallai ar sail ranbarthol, neu onid yw hynny wedi datblygu o gwbl? Diolch.
Rwy'n credu bod yna rai enghreifftiau da iawn o awdurdodau lleol yn caffael ac yn comisiynu gwasanaethau ar y cyd. Mae hynny'n digwydd ledled Cymru, o bethau fel gwasanaethau cymdeithasol i gasglu gwastraff ac yn y blaen. Felly, mae yna enghreifftiau da iawn o hynny. Rwy'n credu mai un o'r pethau cadarnhaol yw bod hynny'n digwydd yn eithaf organig—felly, mae llywodraeth leol yn cydnabod y pwysau sy'n eu hwynebu ac yn chwilio am gyfleoedd i gydweithio gyda'u hawdurdodau cyfagos ac awdurdodau eraill hefyd. Felly, mae gwaith da yn mynd rhagddo yn bendant, ond yn amlwg mae llawer mwy o gyfle i wneud gwelliannau yn hynny o beth hefyd.
Mae'r cyd-bwyllgorau corfforedig yn bwysig iawn o ran trafnidiaeth strategol, cynllunio a datblygu'r economïau rhanbarthol. Maent yn gymharol newydd, ond maent bellach yn dechrau ymgyfuno o gwmpas yr agendâu pwysig hynny a gweithio gyda'i gilydd. Wrth gwrs, mae'r ddeddfwriaeth sydd gennym yn golygu y gall awdurdodau, os ydynt yn dewis, geisio uno ag awdurdodau cyfagos os ydynt yn credu y byddai hynny'n fuddiol iddynt, ac wrth gwrs, byddai swyddogion yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth a chyngor ynglŷn â hynny, os yw'n rhywbeth y mae awdurdodau'n credu y byddai'n fuddiol.
Mae cwestiwn 7 [OQ60735] wedi ei dynnu'n ôl.
8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod llywodraethau lleol yn blaenoriaethu gwasanaethau statudol yng Ngorllewin De Cymru? OQ60731
Ar gyfer 2024-25, mae'r Llywodraeth yn darparu cyllid refeniw heb ei neilltuo o dros £5.72 biliwn a thros £1 biliwn mewn cyllid grant penodol i gefnogi awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau statudol ac anstatudol. Mater i awdurdodau lleol yw penderfynu ar eu cyllideb a'u blaenoriaethau gwasanaeth.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae cyngor Llafur Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyhoeddi cynlluniau i dorri eu cyllideb addysg. Yn ôl eu strategaeth ariannol tymor canolig, bydd y gyllideb yn cael ei lleihau 3 y cant y flwyddyn nesaf fel rhan o gyfanswm dros dro o 7 y cant. Wrth edrych ar risgiau'r polisi hwn, maent wedi nodi 19 o effeithiau posibl o ganlyniad i'r penderfyniad. Maent yn amrywio o ddiswyddiadau posibl a cholli staff i gynnydd mewn gwaharddiadau disgyblion. Nid yw'r un o'r effeithiau posibl yn gadarnhaol mewn unrhyw ffordd, ac maent yn golygu dyfodol tywyllach i addysg ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ar adeg pan fo pobl ifanc Cymru yn dioddef y canlyniadau addysg gwaethaf yn y Deyrnas Unedig gyfan, bydd y penderfyniad hwn yn gwaethygu pethau i ddysgwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae'n hanfodol fod y rhai yn ein system addysg yn cael y cyfleoedd gorau posibl a'r canlyniadau gorau posibl. Ond bydd hynny'n amhosibl os bydd toriad cyngor Llafur Pen-y-bont ar Ogwr i wariant addysg yn mynd rhagddo. A gaf i ofyn, felly, pa drafodaethau rydych chi'n eu cael gyda'r Gweinidog addysg ynghylch sicrhau bod awdurdodau lleol yn diogelu gwariant ar addysg yn eu cyllidebau fel y gallwn wrthdroi trywydd trychinebus canlyniadau PISA Cymru o dan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru?
Rwyf am ei gwneud yn glir nad yw'r dewisiadau anodd hyn yn unigryw i gyngor Pen-y-bont ar Ogwr. Mae pob awdurdod lleol yn wynebu dewisiadau anodd o ganlyniad i'r sefyllfa rydym yn ei hwynebu yng Nghymru o fethu cael digon o arian i wneud yr holl bethau yr hoffem eu gwneud. Rwy'n credu bod yr enghraifft a roddwch yn un dda yn yr ystyr nad oes unrhyw gynghorydd yn mynd i fyd gwleidyddiaeth oherwydd eu bod eisiau gwneud y mathau hyn o benderfyniadau anodd mewn meysydd lle mae'n rhaid iddynt wneud toriadau i wasanaethau. Rwy'n credu mai'r peth gorau y gallwn ei wneud yw parhau i lobïo am ganlyniad da gan Lywodraeth y DU ar 6 Mawrth o ran buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, a byddem yn croesawu unrhyw gymorth y gall yr Aelod ei roi i ni yn hynny o beth.
9. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â sicrhau digon o gyllid i lywodraeth leol er mwyn cefnogi'r broses o bontio i sero net? OQ60754
Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch cefnogi llywodraeth leol i bontio i sero net. Mae hon yn her ar y cyd ar draws Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.
Diolch am eich ymateb.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddarparu rhaglen gefnogaeth datgarboneiddio sy'n helpu awdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau gweithredu ar yr hinsawdd. Eto i gyd, mae llawer o gynlluniau gweithredu ar yr hinsawdd heb fod yn ddigonol ar hyn o bryd. Dangosodd ymarfer cerdyn sgorio 2021 Climate Emergency UK fod cynlluniau gweithredu ar yr hinsawdd yn awdurdodau lleol Cymru wedi cael sgôr gyfartalog o 31 y cant yn unig, ymhell islaw cyfartaledd cenedlaethol y DU o 50 y cant. Un mater allweddol yw cydlynu dull gweithredu ymhlith awdurdodau lleol. Gallai'r ymgyrch Race to Zero ddarparu'r fframwaith coll hwn. Gyda dull cydweithredol a safonau a gydnabyddir yn rhyngwladol, mae'n anelu at gryfhau partneriaethau, egluro cyfrifoldebau ac adeiladu cefnogaeth y cyhoedd i dorri allyriadau yn gyflym ac yn deg. Gyda chefnogaeth y Gweinidog Newid Hinsawdd a chefnogaeth hanner y 22 awdurdod yng Nghymru ar hyn o bryd, gallai cyfranogiad eang gydgysylltu ymdrechion hinsawdd. Felly, tybed a fyddech chi'n ymrwymo i weithio gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Race to Zero Cymru i weithredu fframwaith o'r fath a chryfhau cynlluniau gweithredu ar yr hinsawdd ein holl awdurdodau lleol. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Gwn fod y Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cael cyfle yng nghyngor partneriaeth Cymru, a gadeirir gennyf i, i siarad am fodel Race to Zero ac annog awdurdodau lleol i archwilio hynny os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny. Rydym yn gwybod bod rhai awdurdodau yn defnyddio modelau gwahanol, ac maent yn gwneud cynnydd gyda'r modelau hynny. Rwy'n credu mai un o'r pethau sydd wedi ein gwneud yn amharod i nodi model yw'r ffaith y gallai hynny o bosibl wthio awdurdodau oddi ar drywydd y gwaith da y maent yn ei wneud, a symud eu ffocws oddi ar y cynnydd sy'n cael ei wneud. Ond gwn fod y Gweinidog Newid Hinsawdd wedi bod yn hyrwyddo'r model Race to Zero yn arbennig o gryf ymhlith awdurdodau lleol. Fel y dywedwch, mae llawer yn ei ddefnyddio, ond ceir modelau eraill y credwn y gallent fod yn effeithiol hefyd.
10. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch goblygiadau ariannol y polisi terfyn cyflymder 20 mya? OQ60733
Mae'r manteision o fuddsoddi yn y terfyn cyflymder 20 mya yn glir. Am gost untro amcangyfrifedig o tua £32 miliwn, rydym yn rhagweld arbedion atal anafiadau o hyd at £92 miliwn bob blwyddyn, ynghyd â manteision iechyd ychwanegol i bobl sy'n cerdded a beicio mwy.
Diolch yn fawr, Weinidog. Fel y byddwch chi a phawb arall yma yn ymwybodol, rwy'n siŵr, mae cyflwyno'r terfyn cyflymder o 20 mya wedi costio £32.5 miliwn i drethdalwyr Cymru. Mae hyn yn digwydd ar adeg—fel rydym yn parhau i weld, ac fel y cawn ein hatgoffa—pan oedd, a phan fo cyllidebau'n dal i fod yn hynod o dynn. Felly, roeddwn i'n meddwl y gallem edrych ar ble arall y gallai'r arian hwn fod wedi mynd mewn perthynas â'r cyhoedd yng Nghymru, pe bai wedi'i fuddsoddi mewn mannau eraill.
Weinidog, cyfartaledd cyflog meddyg teulu yng Nghymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24 yw £89,993.50 yn ôl Cymdeithas Feddygol Prydain. Felly, gallai £32.5 miliwn fod wedi talu am 361 o feddygon teulu amser llawn ychwanegol am flwyddyn—ystadegyn sylweddol, yn enwedig wrth ystyried bod adroddiad 'Achubwch ein Meddygfeydd' ar gyfer 2023 wedi nodi mai dim ond 2,324 o feddygon teulu oedd yng Nghymru, gyda dim ond 1,445 yn gweithio amser llawn. Mae hefyd yn bwysig ystyried mai 25 yw'r nifer a argymhellir o gleifion i bob meddyg teulu bob dydd. Felly, byddai'r 361 meddyg teulu ychwanegol ledled Cymru wedi gallu gweld 1.9 miliwn o gleifion ychwanegol mewn blwyddyn yn unig. Rwy'n siŵr y byddai'r cynnydd sylweddol hwn wedi lleihau'r 9,000 o gleifion sydd ar restrau aros i weld meddyg teulu yng Nghymru ym mis Tachwedd 2023. Dyma'n union rydym ni, fel Ceidwadwyr Cymreig ar y meinciau hyn, yn ei olygu pan ddywedwn y byddem yn buddsoddi yn ein GIG yng Nghymru yn hytrach na pholisi 20 mya cyffredinol eich Llywodraeth.
Felly, Weinidog, gyda hyn oll mewn golwg, a ydych chi'n sefyll wrth eich dyraniad cyllidebol o £32.5 miliwn ar y polisi hwn, sydd hyd yma wedi gostwng cyflymderau 4 mya ar gyfartaledd?
O ganlyniad i'r polisi, bydd meddygon yn gweld rhwng 1,200 a 2,000 yn llai o bobl bob blwyddyn, oherwydd dyna faint o bobl sy'n osgoi anafiadau o ganlyniad i wrthdrawiadau. Rydym yn gwybod y bydd y budd i'r GIG yn £92 miliwn y flwyddyn. Gall pob un ohonom chwarae'r gêm o ystyried beth y gallai £32 miliwn ei brynu i'r GIG, er enghraifft, ond byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod faint y gallem fod wedi'i gael pe byddem yn edrych, er enghraifft, ar y cyfarpar diogelu personol diwerth a brynodd Llywodraeth y DU yn ystod y pandemig. Beth allai hynny fod wedi'i wneud i'r GIG yma yng Nghymru ac mewn mannau eraill? Yn gyffredinol, bydd y polisi 20 mya yn golygu budd o hyd at £92 miliwn i'r GIG bob blwyddyn.
11. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar lefelau treth gyngor yng Nghymru? OQ60719
Mae gan bob awdurdod lleol ryddid i osod ei dreth gyngor ei hun ac mae'n atebol i'r etholwyr lleol am y penderfyniad y maent yn ei wneud.
Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol o gynlluniau Cyngor Sir Penfro i gynyddu'r dreth gyngor rywle rhwng 16 y cant a 21 y cant, cam sydd wedi'i wneud yn bosibl gan y Llywodraeth hon yng Nghymru. Bydd hyn yn cael effaith enfawr ar drigolion lleol, sydd eisoes yn cael llai a llai o wasanaethau gan yr awdurdod lleol. Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sefyll dros dalwyr y dreth gyngor yn sir Benfro a sicrhau bod rhywfaint o degwch yn y system? Pa neges ydych chi'n ei hanfon at gynghorwyr Llafur, sy'n un o'r pleidiau sy'n argymell y codiadau treth hyn—y cynnydd canrannol uchaf a welwyd erioed i'r dreth gyngor yma yng Nghymru?
Rwy'n credu mai un o'r heriau sy'n wynebu awdurdodau lleol yw pan fyddwch wedi cael cyfnodau estynedig o gynnydd isel iawn yn y dreth gyngor. Mae'n rhaid i rywbeth roi yn y pen draw. Rwy'n credu ein bod ni'n gweld hynny mewn rhai ardaloedd. Ond wrth gwrs, mater i lywodraeth leol yw hwn. Rwyf wedi ysgrifennu at lywodraeth leol yn nodi manylion y setliad terfynol ac rwyf wedi dweud wrthynt nad yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio ei phwerau i gapio'r dreth gyngor, oherwydd mater i lywodraeth leol yw hwnnw'n llwyr. Hoffem fod mewn sefyllfa i ddarparu mwy o gyllid i lywodraeth leol ledled Cymru ac rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio datganiad y gwanwyn ar 6 Mawrth i ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ac yna gallwn ystyried y ffordd orau o flaenoriaethu yma yng Nghymru.
Yn olaf, cwestiwn 12, Alun Davies.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Lywydd, a'r Gweinidog, am fy nghadw ar flaenau fy nhraed y prynhawn yma.
12. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol Fformiwla Barnett? OQ60747
Yn ddiweddar, ysgrifennais at y Canghellor, gan ailadrodd yr angen am ddull sy'n seiliedig ar egwyddorion mewn perthynas â fframwaith ariannol y DU, fel y nodir yn 'Diwygio ein Hundeb', sy'n cynnwys newid fformiwla Barnett. Rwy'n parhau i godi heriau uniongyrchol y trefniadau cyllidol presennol mewn cyfarfodydd rheolaidd gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw, ac rwy'n ddiolchgar hefyd am y ffordd y daeth â phob ochr i'r Siambr ynghyd ddoe mewn dadl ar y fframwaith ariannol. Yn y bôn, wrth gwrs, mae Barnett yn parhau i fod yn fformiwla sy'n seiliedig ar boblogaeth, ac nid yw hynny'n diwallu anghenion Cymru. Nid yw erioed wedi gwneud hynny. Mewn gwirionedd, nid oedd i fod i wneud hynny, ac ni fydd byth yn gwneud hynny.
Rydym wedi gweld newidiadau, wrth gwrs. Ers llofnodi'r cytundeb yng Ngogledd Iwerddon, ac rwy'n siŵr ein bod i gyd yn croesawu hynny, rydym wedi gweld Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn derbyn ei bod yn bosibl dod o hyd i ffyrdd gwahanol o ariannu gwahanol rannau'r Deyrnas Unedig, a gwneud hynny'n deg. Wrth i ni edrych tuag at newid Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig yn y misoedd nesaf, a fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi mai'r hyn y mae angen inni ei wneud yw ceisio sicrhau undod ar draws gwahanol rannau'r DU i sicrhau bod gennym fformiwla ariannu newydd sy'n seiliedig ar anghenion ac sydd â'r amcan o ddileu anghydraddoldeb wrth ei wraidd, nid yn unig yng Nghymru, ond yn yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon hefyd?
Byddwn yn sicr yn cefnogi'r alwad honno, a hefyd, i adleisio pwynt pwysig a wnaeth Mike Hedges ddoe, dylid sicrhau cymrodeddu annibynnol ar gyfer hynny, a phroses apelio wedi'i nodi'n glir, er mwyn sicrhau'r tegwch yr ydym am ei weld wedi'i wreiddio yn y dyfodol. Mae'n ddiddorol fod Llywodraeth y DU wedi gweithredu felly ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae'n defnyddio rhywfaint o'r gwaith a lywiodd ein dull yma yng Nghymru, o ran y gwaith a wnaeth Holtham. Felly, mae'n gam, yn yr ystyr eu bod yn cydnabod bod dull o'r fath yn ddilys mewn gwirionedd.
Un o'r peryglon, rwy'n credu, o ran y cytundeb gyda Gogledd Iwerddon, ar wahân i'r ffaith mai dyma'r trydydd cytundeb y maent wedi'i wneud y tu hwnt i'r fframwaith ariannu sydd gennym yn y DU mewn perthynas â Gogledd Iwerddon, yw mai rhan o'r gofyniad y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud yw bod yn rhaid i Ogledd Iwerddon godi swm penodol yn lleol. Felly, yn y bôn, mae Llywodraeth y DU yn dweud wrth Ogledd Iwerddon sut y dylai ddefnyddio ei phwerau codi trethi. Rwy'n credu bod hynny'n peri pryder gwirioneddol i ni, oherwydd mae sut y mae Llywodraethau'n mynd ati i godi arian yn fater i'r Llywodraeth, mewn ymgynghoriad, ac yn rhywbeth i'w gadarnhau gan y Senedd. Felly, rwy'n credu bod honno'n elfen newydd o'r sgwrs hon sy'n peri pryder.
Diolch yn fawr i'r Gweinidog.
Y cwestiynau nesaf, felly, fydd y cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jenny Rathbone.
1. Pa ganran o'r ffrwythau a llysiau sy'n cael eu bwyta yng Nghymru sy'n cael eu tyfu yng Nghymru? OQ60745
Mae ffrwythau a llysiau'n cael eu masnachu ledled y DU mewn system fwyd gyffredin. Nid yw cymharu faint sy'n cael ei fwyta a'i gynhyrchu'n lleol yn ystyrlon am nad yw'n rhoi cyfrif am y modd y caiff cynhyrchion eu cynhyrchu, eu masnachu na'u bwyta. Fodd bynnag, yr amcangyfrif gorau yw bod tua 6 y cant i 7 y cant o'r ffrwythau a'r llysiau sy'n cael eu bwyta yng Nghymru wedi eu cynhyrchu yma.
Felly, 6 y cant i 7 y cant? Iawn. Diolch. Wel, darllenais yn ddiweddar fod traciwr ansicrwydd bwyd diweddaraf y Food Foundation yn datgelu bod 15 y cant o aelwydydd yn profi ansicrwydd bwyd. Dyna un o bob chwech neu saith o gartrefi. Dywedodd dros eu hanner eu bod yn torri'n ôl ar brynu ffrwythau, ac roedd bron i hanner yn prynu llai o lysiau. Felly, mae camosodiad difrifol rhwng y deiet iach a chytbwys sydd ei angen arnynt, a'r hyn sydd ar gael yn lleol am bris y gallant ei fforddio. Felly, faint o grantiau neu fenthyciadau garddwriaeth sydd wedi'u darparu yn ystod y 12 mis diwethaf, a beth yw canlyniadau'r gwaith o gynyddu'r hyn rydych chi'n tybio ar hyn o bryd ei fod rhwng 6 y cant a 7 y cant o ffrwythau a llysiau a gynhyrchir yn lleol?
Diolch. Wel, mae gennym ddau gynllun mawr i gefnogi garddwriaeth dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae contractau gwerth dros £50,000 eisoes wedi'u dyfarnu. Mae'r dyddiad cau wedi bod ac wedi mynd; rwy'n credu bod y dyddiad cau ar 12 Ionawr. Felly, mae'r datganiadau o ddiddordeb hynny'n cael eu harfarnu gan swyddogion ar hyn o bryd, ac rwy'n credu eu bod yn werth tua £129,000 arall. Soniais am y ddwy rownd. Felly, fe wnaethom agor un rownd yn ôl ym mis Rhagfyr 2022, ac roedd y dyddiad cau ar 17 Mawrth 2023. Roedd y rownd honno'n werth £37,000 o gontractau. Rwyf newydd gyfeirio at y rownd ddiweddaraf hefyd.
Rwy'n credu y byddwch chi'n ymwybodol iawn, Jenny Rathbone, oherwydd rydych chi wedi fy holi lawer gwaith ar hyn, fy mod i eisiau gwneud popeth yn fy ngallu i gefnogi'r sector yma yng Nghymru, er mwyn sicrhau ein bod yn cynhyrchu mwy o lysiau a ffrwythau wrth symud ymlaen. Rwy'n credu'n gryf ein bod wedi cefnogi'r diwydiant bwyd-amaeth yn gadarn, fel y gwyddoch, ond rydym wedi darparu cymorth penodol i dyfwyr ffrwythau a llysiau, yn enwedig drwy Cyswllt Ffermio, gyda rhaglen arddwriaethol benodol yno, yn ogystal â thrwy gynlluniau grant cyfalaf garddwriaethol eraill.
Dros yr 20 i 30 mlynedd ddiwethaf, mae cynnydd wedi bod yn y mynediad drwy gydol y flwyddyn at ffrwythau a llysiau ffres heb fod yn eu tymor, gan arwain at gadwyni cyflenwi hwy a mwy cymhleth. Caiff 93 y cant o'r o'r llysiau ffres a gaiff eu bwyta yn y wlad hon eu cyflenwi drwy gynhyrchiant domestig ac Ewropeaidd, tra bod y cyflenwad ffrwythau wedi'i wasgaru'n ehangach ledled yr UE, Affrica, America a'r DU. Fodd bynnag, y DU sy'n cynhyrchu dros 50 y cant o'r llysiau sy'n cael eu bwyta yn y wlad hon, ond dim ond 16 y cant o ffrwythau. Gallai ffermwyr Cymru wneud cyfraniad amhrisiadwy i'r sector garddwriaethol, ond nid ydym yn gwybod pa effaith y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn ei chael. Yn ôl adroddiad 'Effeithiau economaidd posibl y Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Canlyniadau Modelu Gweithredoedd Sylfaenol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy Cam 4', nid yw'r modelu
'yn cynnwys mathau arbenigol o ffermydd (e.e. moch, dofednod, garddwriaeth) nac ychwaith nifer fawr o ffermydd bach iawn.'
A wnewch chi egluro pam nad yw effaith y cynllun ffermio cynaliadwy ar y sector garddwriaethol yng Nghymru wedi cael ei modelu? Diolch.
Yr asesiad economaidd y mae Janet Finch-Saunders yn cyfeirio ato—cyhoeddwyd y gwaith hwnnw ochr yn ochr â'r ymgynghoriad ffermio cynaliadwy presennol. Roedd yn waith pwysig iawn, a helpodd i lywio'r ymgynghoriad, ond hoffwn ailadrodd nad yw'n asesiad o'r ymgynghoriad presennol. Yn amlwg, bydd gwaith arall yn cael ei wneud, i'w gyhoeddi ochr yn ochr â'r cynllun terfynol, pan fyddwn yn gofyn i ffermwyr a ydynt eisiau bod yn rhan o'r cynllun. Rwy'n credu bod y penderfyniad a wnaed i gyhoeddi'r wybodaeth ochr yn ochr â'r ymgynghoriad yn bwysig iawn i nodi unrhyw risgiau posibl yn y cynllun. Felly, bydd gwaith arall yn cael ei wneud a bydd hwnnw'n cael ei gynnwys.
2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gymunedau ffermio a gwledig Sir Ddinbych? OQ60720
Rydym wedi cyhoeddi asesiad economaidd sy'n waith pwysig a helpodd i lywio ein hymgynghoriad fel y gellid mynd i'r afael ag unrhyw broblemau. Nid yw'n asesiad o'r ymgynghoriad presennol. Roedd yr asesiad economaidd a gyhoeddwyd yn cynnwys canlyniadau amcangyfrifedig ar gyfer ffermydd amser llawn yng ngogledd-ddwyrain Cymru, gan gynnwys sir Ddinbych.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n ymwybodol eich bod wedi ceisio tawelu pryderon ffermwyr dros y penwythnos drwy ddweud y bydd newidiadau'n cael eu gwneud, ond rwy'n ofni y bydd angen rhywbeth llawer mwy sylweddol na hyn i dawelu meddyliau ffermwyr. Mae Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru wedi gwneud yr union bwynt hwn, ac rwy'n siŵr y gallwch chi weld cryfder y teimladau o'r protestiadau y tu allan i'r Senedd hon heddiw.
Mae modelu ar effeithiau posibl y cynllun yn rhagweld gostyngiad o 10.8 y cant yn nifer y da byw yng Nghymru, colli 5,500 o swyddi a cholli mwy na £125 miliwn o allbwn economaidd y sector amaethyddol. Mae'r modelau felly'n rhagweld ergyd fawr i'r diwydiant amaethyddol. Nid yw ffermwyr yn credu y bydd y cynllun arfaethedig hwn yn cyflawni ei nodau amgylcheddol arfaethedig ychwaith, a chânt eu gwneud ar gost enfawr i'r sector amaethyddol. Mae cymunedau gwledig wedi'u hadeiladu ar gysylltiadau teuluol bregus a rhyng-gysylltiedig sy'n dibynnu ar sylfaen o ddoethineb a thraddodiad. Pan fydd y cymunedau hyn wedi'u dinistrio, ni ellir eu hailadeiladu. Mae ffermwyr yn fy etholaeth yn ofni'n fawr, ar wahân i effaith yr ergyd i gynhyrchiant bwyd ar yr economi, fod hunaniaeth a thraddodiad balch ffermio yng Nghymru mewn perygl.
Yr wythnos diwethaf, dyfynnodd y Gweinidog Dylan Thomas, ac rwy'n argymell y dylai'r Gweinidog ddarllen a myfyrio ar y gerdd Fern Hill gan Dylan Thomas, sy'n crynhoi'r traddodiad ffermio gwerthfawr hwnnw'n hyfryd, a faint y mae'n ei olygu i Gymru. Hoffwn pe gallai'r Gweinidog ystyried y modelu ofnadwy ar gyfer y polisi hwn, ac amlinellu pa newidiadau pellach y mae'n bwriadu eu gwneud i'r polisi ffermio cynaliadwy i fynd i'r afael â phryderon cymunedau gwledig sir Ddinbych. Diolch.
Diolch. Wel, nid dros y penwythnos yn unig y dywedais y byddai newidiadau, rwyf wedi dweud ers y dechrau—mae hwn yn ymgynghoriad ystyrlon iawn. Ac ni allaf ateb rhan olaf eich cwestiwn am na allaf achub y blaen ar yr ymgynghoriad. Nid wyf yn gwybod pa ymatebion a geir i'r ymgynghoriad. Pe bawn i'n ceisio achub y blaen ar yr ymgynghoriad nawr, byddwn yn wynebu llys barn, oherwydd ni allwch wneud hynny, fel Gweinidog, ni allwch achub y blaen ar unrhyw ymgynghoriad—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf?
Pam—[Anghlywadwy.]
Gan bwyll. Rydych chi wedi gofyn eich cwestiwn, Gareth Davies. Gadewch i'r Gweinidog ymateb, os gwelwch yn dda.
Yr hyn y bydd angen i ni ei wneud yw sicrhau bod pob ymateb i'r ymgynghoriad yn cael ei ddarllen, ac rwyf wedi ymrwymo i hynny. Pob darn o wybodaeth—. Felly, ar hyn o bryd, rwy'n cael llawer o negeseuon e-bost yn cynnwys barn ffermwyr ac maent yn gofyn, 'A all hyn fod yn rhan o'r ymgynghoriad?', ac rwyf wedi dweud y gall. Os nad yw pobl eisiau ei roi'n ffurfiol—byddai'n well gennyf pe byddent yn ei roi'n ffurfiol—ond byddwn yn bwydo pob darn o dystiolaeth neu awgrym a gawn i mewn. Fe fyddwch yn ymwybodol iawn o'r cyfarfodydd teithiol a gawsom a bydd yr holl wybodaeth honno'n mynd i mewn.
Rwy'n credu mai un o'r pethau y gwnaethoch gyfeirio ato oedd y dadansoddiad economaidd, ac fel y dywedais mewn ateb cynharach i Janet Finch-Saunders, cafodd hwnnw ei wneud ar y dechrau wrth i'r ymgynghoriad gael ei gyhoeddi. Bydd yna ddadansoddiad economaidd pellach. Un o'r pethau y credaf i ni ei gasglu o'r dadansoddiad economaidd hwnnw yw bod angen i ni edrych ar werth cymdeithasol ein sector amaethyddol. Nawr, mae'r gwaith hwnnw'n gymhleth iawn, ond rwy'n credu ei fod yn waith pwysig iawn i'w wneud.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Rwy'n siŵr y bydd yn ddiwrnod go brysur i chi heddiw, fel y bydd i mi. Gan nodi'r datganiad y gwnaethoch chi a'r Prif Weinidog ei ryddhau ddoe, rwyf wedi darllen drwyddo ac mae'n ei egluro yn dilyn y cyfarfod a gawsoch gyda threfnwyr y brotest neu'r cyfarfod ym mart Caerfyrddin, a diolch i chi am roi amser i gyfarfod â nhw. Y tri phwynt y maent yn sôn amdanynt yw twbercwlosis buchol, parthau perygl nitradau a'r cynllun ffermio cynaliadwy. Ar y rhan ar TB buchol yn y datganiad a ryddhawyd gennych, rydych chi'n dweud:
'Rydym yn ymrwymo i ymchwilio i drywyddau eraill yn lle difa gwartheg ar y fferm.'
Diolch. Diolch yn fawr iawn, oherwydd rydym wedi bod yn gofyn am hyn ers amser maith. Rwyf wedi gofyn ynglŷn â lladd heffrod a gwartheg cyflo, ac yn fwy cyffredinol, mae hwn yn gam cadarnhaol iawn ymlaen. Ond gan symud ymlaen, fe wnaethoch chi ddweud:
'Rydym yn penodi heddiw Grŵp Cynghori Technegol TB Gwartheg'.
A gaf i ofyn pwy a benodwyd gennych i'r grŵp hwnnw hyd yma?
Os caf ddweud, cyhoeddwyd y datganiad gennyf i a'r Prif Weinidog ddoe yn dilyn y cyfarfod y cyfeirioch chi ato gyda'r trefnwyr, ond hefyd yn dilyn adborth gan ddau lywydd NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru yr wythnos diwethaf, ochr yn ochr â'r holl adborth arall a gefais gan fy swyddogion fy hun o gyfarfodydd teithiol Llywodraeth Cymru.
Mewn perthynas â difa ar y fferm o ganlyniad i TB, fe fyddwch yn ymwybodol iawn fy mod wedi cyhoeddi y byddwn yn sefydlu grŵp cynghori technegol, fe ddywedais pwy fyddai'n ei gadeirio, mai Glyn Hewinson fyddai'n ei gadeirio, a bod angen i ni chwilio am aelodau i fod yn rhan o'r grŵp hwnnw. Ddoe, ysgrifennais at y bobl i ofyn iddynt a fyddent yn barod. Nid wyf mewn sefyllfa ar hyn o bryd i ddweud pwy yw'r aelodau, oherwydd rwy'n aros iddynt ymateb i'r llythyr. Rydym yn ceisio gwneud hyn cyn gynted â phosibl. Nid oeddwn yn meddwl y byddwn yn gallu ei wneud cyn yr wythnos nesaf, ond er mwyn ceisio gostegu'r sefyllfa rywfaint, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, ac i fod yn gadarnhaol a dangos ein bod ni'n gwrando, fe wnaethom hynny ddoe, ond yn anffodus, ni allaf roi'r enwau i chi. Ond byddaf yn hapus iawn i wneud hynny cyn gynted ag y gallaf.
Diolch, Weinidog, rwy'n gwerthfawrogi hynny. Roedd y grŵp cynghori technegol TB y sonioch chi amdano yn ddatganiad a wnaed yn ôl ym mis Gorffennaf 2022—rydym bellach ym mis Chwefror 2024. Byddai rhai yn ei chael ychydig yn sinigaidd eich bod, ddiwrnod cyn i brotest gael ei chynnal, wedi anfon y gwahoddiadau hyn i bobl ymuno—dim cyfweliad. Anfonwyd un neges e-bost atynt, ac rwyf wedi'i gweld, yn dweud eu bod wedi cael eu derbyn ychydig cyn 8 p.m. neithiwr. Y noson cyn i brotest gael ei chynnal. Rwy'n credu y gellir ystyried hynny ychydig yn sinigaidd.
Gan symud ymlaen at Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021—fe wyddoch fy mod i a phawb arall yn hoff o'u galw'n barthau perygl nitradau; nid ydych yn hoffi'r ffaith ein bod yn eu galw'n barthau perygl nitradau—rwyf eisiau tynnu eich sylw at y paragraff sy'n dechrau:
'Rydym yn neilltuo £20m yn ychwanegol o arian i helpu ffermwyr i gydymffurfio â’r gofynion'.
A gaf i ofyn yng nghyllideb pa grant y mae'r arian hwnnw?
Mae rhywfaint o'r arian hwnnw eisoes wedi cael ei wario. Rwy'n credu ei fod tua £3.4 miliwn, os cofiaf yn iawn. Fe fydd yn y cynllun buddsoddi gwledig.
Diolch. Gofynnais y cwestiwn hwnnw, oherwydd cyhoeddwyd yr arian hwnnw gyntaf yn ôl ym mis Hydref 2022, felly mae yna thema'n dod i'r amlwg yma, onid oes, fod rhywbeth yn cael ei gyhoeddi gan y Llywodraeth hon mewn perthynas ag amaethyddiaeth, ond eto mae'n cymryd protest fawr a theimladau cryfion ymhlith y cymunedau gwledig a ffermio i bethau gael eu gwneud mewn gwirionedd. Felly, nid yw'r rhain yn bethau newydd. Mae'r cyhoeddiad hwn yn ailgyhoeddi pethau sydd wedi cael eu cyhoeddi o'r blaen. Unwaith eto, rwy'n credu ei bod braidd yn sinigaidd i feddwl y byddai hynny'n dad-ddwysáu'r sefyllfa ac yn gostwng y tymheredd, sef yr hyn rwyf eisiau ei wneud.
Nawr, roedd pwynt olaf y datganiad yn ymwneud â'r cynllun ffermio cynaliadwy. Fe wnaethoch chi sôn, ac fe ddarllenaf y paragraff:
'Byddwn yn croesawu’r ymatebion i’r ymgynghoriad.'
Tic. Ydw, rwyf eisiau i bob ffermwr allu ymateb i'r ymgynghoriad hwn yn llawn ac rwyf eisiau i'w hymatebion gael eu hystyried.
'Bydd pob ymateb i'r ymgynghoriad a ddaw i law,'
rwy'n dyfynnu,
'gan gynnwys yr holl faterion gafodd eu codi a'u trafod yn y 10 cyfarfod teithiol yn ystod y cyfnod ymgynghori, yn cael eu dadansoddi a'u hystyried yn briodol.'
Nawr, mae hynny'n gwrth-ddweud yn uniongyrchol yr hyn a ysgrifennoch chi ataf mewn cwestiwn ysgrifenedig pan ofynnais:
'A wnaiff y Gweinidog nodi sut mae'r adborth o sioeau teithiol Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn cael ei gasglu?'
'Nid yw'r cyfarfodydd teithiol,'
dywedwch,
'yn ymarfer casglu gwybodaeth ffurfiol'.
Rydych yn gwrth-ddweud yno wrth ddweud nad ydynt yn ymarfer casglu gwybodaeth ffurfiol, pan fo'r datganiad yn dweud y bydd
'y 10 cyfarfod teithiol yn ystod y cyfnod ymgynghori'
yn cael eu trafod.
Nawr, dyma'r gwrth-ddweud a welaf yma: fod yn rhaid cael rhywbeth mor eithafol â ffermwyr yn dod i lawr i Gaerdydd, i ffermwyr ddod allan ar y ffyrdd. A soniais am hyn ddoe yn fy nghwestiynau i'r Prif Weinidog: nid wyf yn cymeradwyo dim o'r camau bygythiol a welwyd gan rai unigolion yn y ddadl hon; rwy'n credu bod y ddadl wedi poethi gormod mewn rhai cylchoedd. Ond a ydych chi'n deall cryfder y teimladau, pan fo Sefydliad DPJ wedi gweld cynnydd o 72 y cant mewn atgyfeiriadau ym mis Chwefror 2024, cynnydd o 62 y cant mewn atgyfeiriadau yn ystod y tri mis diwethaf, a chynnydd o 28 y cant yn y chwe mis diwethaf? A ydych chi'n llwyr sylweddoli a deall sut mae gweithredu'r polisïau gan y Llywodraeth hon wedi arwain yn uniongyrchol at gynnydd yn yr atgyfeiriadau at elusen iechyd meddwl y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati wedyn i'w chefnogi? Byddwn yn dweud—
Rwy'n credu bod angen ichi ddod at gwestiwn nawr. Rwyf wedi bod yn hael iawn.
Diolch yn fawr iawn. Byddwn i'n dweud bod hynny'n sinigaidd ac yn rhagrithiol, fod Llywodraeth yn barod i beri'r boen hon i ffermwyr—
Bydd yn rhaid ichi ddod at eich cwestiwn, Samuel Kurtz, rydych chi'n gwybod hynny.
—gan ddal i ddilyn polisïau fel hyn. Diolch am eich amynedd, Lywydd.
Nid oedd unrhyw beth yn y datganiad yn dweud ei fod yn arian newydd. Nid oedd yn dweud hynny. Ni ddywedais erioed ei fod yn arian newydd. Yn y datganiad, roedd yr £20 miliwn—[Torri ar draws.] Cyfeiriwyd ato, dyna i gyd; nid oedd yn dweud ei fod yn arian ychwanegol, nid oedd yn dweud ei fod yn arian newydd. Roeddwn yn dryloyw iawn ynglŷn â hynny. Ni ddywedais yr un o'r pethau hynny, felly rwy'n credu bod awgrymu hynny'n annheg.
Soniais nad oeddem wedi bwriadu gwneud y grŵp cynghori technegol TB tan yr wythnos nesaf. Gofynnais i'r prif swyddog milfeddygol, adran benodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru, ei gyflwyno cyn gynted â phosibl. Os gallai fod wedi bod yr wythnos diwethaf, mae'n debyg na fyddech wedi dweud unrhyw beth yn ei gylch, ond y ffaith mai ddoe—. Gallwn fod wedi ei adael, ond nid oeddwn eisiau ei adael; roeddwn eisiau ei wneud cyn gynted â phosibl, oherwydd, fel y gwyddom, mae hwnnw'n bwynt sy'n achosi llawer o ofid.
Ac fe wyddoch hefyd fod gennym gynllun peilot ar geisio edrych ar yr hyn y gallem ei wneud i helpu yn y maes hwn, ac ni wnaeth llawer fanteisio arno. Felly, yr hyn y buom yn ei wneud yw paratoi—. Mae'r prif swyddog milfeddygol yn ei galw'n ffeil: mae gennym bentwr o wybodaeth y byddwn yn ei rhoi i'r grŵp. Byddant yn edrych arno. Cyn gynted ag y caiff ei sefydlu, bydd y grŵp yn edrych ar yr wybodaeth honno i gyflwyno cyngor i'r Gweinidog cyn gynted â phosibl.
Rwyf newydd grybwyll, yn fy ateb cynharach i chi, fod—. Rydych chi'n defnyddio'r gair 'ffurfiol' mewn ffordd nad wyf i'n ei wneud efallai. Rwyf wedi cael yr holl adborth hwnnw. Rwyf wedi cael yr holl adborth gan NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru; fe fydd yna fwy. Rwyf hyd yn oed wedi cael ffermwyr unigol yn anfon paragraff ataf, at fy nghyfeiriad e-bost fel Aelod o'r Senedd gan fwyaf, oherwydd dyna'r un sydd ar gael. Nid wyf yn mynd yn ôl a dweud, 'Nid dyma fy e-bost fel Gweinidog'—rwy'n ei gymryd ac yn ei drosglwyddo i swyddogion, oherwydd rwy'n credu'n gryf ei bod hi'n bwysig ein bod yn edrych ar bob darn o wybodaeth.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Weinidog, rydych chi wedi bod yn atgoffa llawer o bobl yn rhai o'r cyfweliadau a wnaethoch yr wythnos hon eich bod wedi bod yn trafod y cynllun sy'n cymryd lle'r polisi amaethyddol cyffredin ers saith mlynedd erbyn hyn. Ond dyma ni, 12 mis i ffwrdd o'r adeg pan fydd i fod i gael ei weithredu, ac mae'n teimlo'n bellach i ffwrdd nag erioed o fod yn gynllun sy'n mynd i weithio i ffermwyr ac sy'n mynd i weithio i'r amgylchedd hefyd. Ac rwy'n credu bod y llu o bobl ar risiau'r Senedd heddiw yn dyst i hynny.
Nawr, rydym ni fel plaid wedi bod yn dweud wrthych ers amser maith nad yw'r cynnig ar gyfer 10 y cant o orchudd coed yn gweithio. Mae'r undebau ffermio wedi bod yn dweud hyn wrthych ers dwy flynedd. Rydych chi wedi cael ymgynghoriadau blaenorol sydd wedi anfon neges glir atoch ar y mater hwnnw, rwy'n credu, a chafwyd neges glir gan undebau ffermio yn y Sioe Frenhinol y llynedd, ond eto, dyma ni, gyda'r iteriad diweddaraf o'r ymgynghoriad hwn, ac mae'r cynnig ar gyfer 10 y cant o orchudd coed yn dal yno. Felly, a ydych chi o ddifrif yn beio pobl am feddwl nad ydych chi'n gwrando?
Wel, rwy'n gobeithio ein bod wedi dangos ein bod yn gwrando, os edrychwch yn ôl ar y ddau ymgynghoriad blaenorol, y ddau gyfnod o gydgynllunio dwys a gawsom gyda 1,600 o ffermwyr unigol a'r ymgynghoriad terfynol nawr. Rydych chi'n dewis un pwynt yn unig, ac yn amlwg un cynnig o fewn y cynllun yw hwn. Ac rydych chi'n gwybod o drafodaethau a gawsom nad wyf am achub y blaen a bod popeth yn cael ei ystyried. Ac rwyf am ddweud nad oes unrhyw gynigion yn y cynllun na fydd yn cael eu hystyried, nid oes unrhyw beth yn gwbl derfynol, ac mae'r 10 y cant o goed yn un ohonynt.
Yn amlwg, mae'n rhaid inni wrando ar lawer o bobl, onid oes? Mae'n rhaid inni wrando ar ein ffermwyr, mae'n rhaid inni wrando ar ein sefydliadau amgylcheddol anllywodraethol, mae'n rhaid inni wrando ar lawer o leisiau ynglŷn â'r cynllun i wneud yn siŵr ei fod yn gwneud yr hyn rydym angen i'r sector amaethyddol a rhannau eraill o'r sector ei wneud. Rwy'n annog pobl i fynegi eu barn. Rwy'n gwybod bod y 10 y cant o goed yn anodd iawn, ond ymgynghoriad ydyw, a dyna mae ymgynghoriadau yn ei wneud: maent yn cael safbwyntiau pobl arno. Ac nid wyf yn disgwyl gweld llawer iawn o newid ym marn pobl ar y 10 y cant o goed, ond yr hyn rwy'n gobeithio ei weld yw datrysiadau ac atebion i'r cwestiynau ynglŷn â sut y gwnawn sicrhau ein bod yn cyflawni ein rhwymedigaethau newid hinsawdd, a choed yn rhan o hynny, yn amlwg. Fe fyddech chi'n cytuno â hynny, rwy'n siŵr; mae eich uchelgais ar gyfer sero net yn fwy uchelgeisiol na'n un ni. Felly, lle rydych chi'n plannu'r hectarau o goed sydd eu hangen? Ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi y gall ein ffermwyr ein helpu.
Wel, gall ffermwyr helpu heb amheuaeth, ond nid yw gorfodi pobl i wneud rhywbeth sy'n tanseilio eu busnes eu hunain a'u cyfranogiad eu hunain yn y cynllun yn mynd i weithio. Mae'n rhaid ichi ddod â'r ffermwyr hyn gyda chi ar y daith hon; mae mor syml â hynny.
Nawr, fe allech chi ddangos eich bod chi'n gwrando—dangos yn glir eich bod chi'n gwrando—heb beryglu'r broses ymgynghori. Gallwch barhau â'r broses ymgynghori, ond gallech ddweud wrthym, yma heddiw, nawr, gallech wneud datganiad, pan fydd yr ymgynghoriad yn cau, y byddwch yn oedi'r broses er mwyn adolygu'r cynigion. Gallech roi lle ac amser i chi'ch hun ac unrhyw olynwyr posibl, a darpar Brif Weinidog nesaf yn sicr, ar gyfer myfyrio a phwyso a mesur. Rydych chi bob amser wedi dweud y bydd yn her enfawr i gael hyn ar waith erbyn 2025. A dweud y gwir, rwy'n credu nawr, o ran lle'r ydym arni, o ran dod â phobl gyda chi, ni allaf weld hynny'n digwydd. Mae hwn yn gyfle i chi ddweud, 'Iawn, mae hyn yn ymwneud â'i gael yn iawn.' Ac os ydych chi o ddifrif ynglŷn â'i gael yn iawn, dylech ddweud wrth bobl nawr, 'Fe wnawn ei weithredu yn 2026, fe wnawn oedi, fe wnawn bwyso a mesur, ac fe edrychwn ar yr opsiynau o'r fan honno'—. Oherwydd mae'n rhaid iddo fod yn iawn: mae'n rhaid iddo fod yn iawn i ffermwyr, mae'n rhaid iddo fod yn iawn i'r amgylchedd, mae'n rhaid iddo fod yn iawn ar gyfer yr hinsawdd. Oherwydd, heb ffermwyr i gymryd rhan yn y cynllun, ni fydd gennych neb i gyflawni'r canlyniadau y mae llawer ohonom yn eu rhannu. Ac wrth gwrs, yn yr amgylchiadau hynny, mae pawb ar eu colled.
Hoffwn egluro: nid ydym yn gorfodi unrhyw un i wneud unrhyw beth. Credaf fod hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Ac rydych chi'n hollol iawn, mae'n rhaid i'r cynllun fod yn iawn. Rwyf wedi gwneud hynny'n hollol glir. Mae angen iddo fod yn iawn i bob ffermwr ymhob rhan o Gymru. Ac rwy'n credu bod swyddogion yn gweithio'n galed iawn, maent wedi gweithio'n galed iawn drwy'r holl ymgynghoriadau, i sicrhau hynny.
Mae gan yr ymgynghoriad wyth diwrnod i fynd. Felly, ar 7 Mawrth, fe ddaw'r ymgynghoriad i ben. Bydd llawer iawn o wybodaeth i swyddogion edrych arni. Fel y nodoch, bydd gennym Brif Weinidog newydd, Llywodraeth newydd, yn dod i mewn tua 20, 21 Mawrth. Yn amlwg, bydd yn rhaid—. Pan fyddwch chi'n dweud—. Nid wyf yn hollol siŵr beth a olygwch wrth 'oedi', ond yn amlwg, bydd yna stop ar yr wybodaeth sy'n dod i mewn, ac yna bydd yn rhaid edrych ar y wybodaeth honno'n ofalus iawn.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn rydych chi'n ei ddweud, os nad oes gennym nifer dda yn ymuno â'r cynllun—. Nawr, gadewch inni gofio, nid yw pob ffermwr yn rhan o gynllun y taliad sylfaenol. Gofynnir i mi yn aml, 'Faint o bobl ydych chi am iddynt fod yn y cynllun hwn?', a'r hyn a ddywedais wrth swyddogion yw, 'Mae gennym 16,000 yng nghynllun y taliad sylfaenol; hoffwn weld o leiaf hynny, ond mwy gobeithio.' Rwyf eisiau i bob ffermwr, os ydynt yn teimlo felly, os ydynt yn edrych ar y cynllun ac yn meddwl, 'Mae hyn yn dda i fy musnes fferm', byddwn eisiau iddynt fod yn rhan o'r cynllun hwnnw. Ond fel y dywedwch, mae gennym lawer o leisiau y mae'n rhaid inni wrando arnynt. Mae yna lawer o bobl y mae'n rhaid i'r cynllun hwn weithio gyda nhw. Nid yw pawb yn gallu cael popeth y maent ei eisiau. Pan fyddwch chi'n gwneud polisi, mae'n rhaid ichi sicrhau bod popeth yn cael ei gynnwys yn hynny.
3. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei chynlluniau i adolygu rheoliadau microsglodynnu anifeiliaid anwes yng Nghymru? OQ60728
Mae swyddogion yn gweithio mewn partneriaeth â chymheiriaid mewn Llywodraethau eraill i ystyried newidiadau yn y dyfodol ynghylch cronfeydd data microsglodynnu ar gyfer cathod a chŵn, gan gynnwys hygyrchedd ac un pwynt mynediad. Mae ein cynllun lles anifeiliaid yn ymrwymo i ystyried ymestyn microsglodynnu gorfodol i gynnwys cathod erbyn 2026.
Diolch am yr ateb, Weinidog. Mae'r RSPCA, Cats Protection ac eraill yn awyddus i weld microsglodynnu gorfodol ar gyfer cathod yng Nghymru, gan y byddai'n cynyddu'n sylweddol y gobaith y bydd anifeiliaid anwes yn cael eu dychwelyd at eu perchnogion pe byddent yn cael eu colli neu eu dwyn. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn amharod i fynd ar drywydd hyn, gan fod 21 o gronfeydd data awdurdodedig yn y DU, sy'n ei gwneud hi'n anodd iawn olrhain rhai microsglodion, ac sy'n golygu nad yw'r rheoliadau cyfredol sy'n berthnasol i gŵn yn addas i'r diben. Felly, rwy'n falch o weld eich bod yn edrych arno yn y dyfodol. Ac rwy'n gobeithio y byddai deddfwriaeth yn rhoi cronfa ddata microsglodion gyffredinol yn ei lle, wedi'i rheoli gan sefydliad nid-er-elw canolog, i wneud microsglodynnu gorfodol yn bosibl ac yn hawdd ei wneud. A fyddai'n bosibl i Lywodraeth Cymru ystyried hefyd a allai gwirfoddolwyr lles anifeiliaid ennill cymhwyster sy'n caniatáu iddynt gael mynediad at y gronfa ddata, i gefnogi dychwelyd anifeiliaid coll hefyd? A fyddai hynny'n ystyriaeth ar gyfer y dyfodol?
Diolch. Byddai'n rhaid i unrhyw newidiadau a gawn yn y dyfodol i'r ddeddfwriaeth fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn wrth gwrs. Felly, mae'n debyg mai dyna'r math o gwestiwn y gallem ofyn amdano. Soniais yn fy ateb gwreiddiol i chi, Carolyn, fod fy swyddogion yn gweithio'n agos iawn gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn enwedig, oherwydd mae hyn yn rhywbeth y maent hwy'n edrych arno wrth gwrs. Dylwn ddweud bod microsglodynnu ar gael ar gyfer pob ci a chath. Nid yw'n orfodol i gathod, ond rwy'n credu bod i bob perchennog cyfrifol gael eu hanifeiliaid anwes wedi'u microsglodynnu yn arfer da iawn. Yn Lloegr, fel y dywedaf, mae hyn yn rhywbeth y maent yn ei gyflwyno. Bydd yn rhaid i unrhyw gath dros 20 wythnos yn Lloegr gael ei microsglodynnu erbyn 10 Mehefin eleni.
Wel, mewn gwirionedd, yng Nghymru, mae 156,800 neu 28 y cant o gathod sy'n eiddo i rywun yn dal heb gael eu microsglodynnu, ffigur sydd, yn ôl ymchwil Cats Protection, wedi aros yn ei unfan dros y blynyddoedd diwethaf. Nid yw microsglodynnu cathod yn orfodol yng Nghymru ar hyn o bryd, fel y nodwch, yn wahanol i Loegr, lle bydd angen i gathod, o 10 Mehefin 2024, gael eu microsglodynnu a'u cofrestru ar gronfa ddata erbyn iddynt gyrraedd 20 wythnos oed. Mae cynllun lles anifeiliaid Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-26 yn dweud:
'Mewn partneriaeth â Llywodraethau’r DU a’r Alban, rydym wedi comisiynu ymchwil ar effeithiolrwydd y rheoliadau presennol ar ficrosglodynnu cŵn. Bydd yr ymchwil yn ystyried hefyd y manteision posibl o’i gwneud yn orfodol microsglodynnu cathod a chathod bach.'
Mae un o'r pwyntiau gweithredu yn y cynllun hwn yn nodi y byddai Llywodraeth Cymru yn
'ystyried hefyd y manteision posibl o’i gwneud yn orfodol microsglodynnu cathod a chathod bach'
a hefyd:
'Ystyried, gan ddibynnu ar ganlyniad y gwaith ymchwil a’r ymgynghoriad, reoliadau newydd ar ficrosglodynnu cathod a chŵn yng Nghymru.'
Felly, o gofio ei bod hi'n 2024 bellach, beth oedd casgliadau'r ymchwil a'r ymgynghoriad? Sut mae hynny'n siapio polisi Llywodraeth Cymru? A pha gynlluniau ac amserlenni, os o gwbl, sydd gennych chi ar gyfer cyflwyno a monitro microsglodynnu gorfodol?
Ar y pwynt ynglŷn ag amserlen, fe fydd o fewn amserlen y cynllun lles anifeiliaid, felly cyn 2026 wrth gwrs. Rwy'n credu ei bod yn annhebygol y bydd yn digwydd eleni. Nid wyf yn credu y bydd yn digwydd yn 2024 a'r flwyddyn hon yn y cynllun lles anifeiliaid. Ond roeddech chi'n cyfeirio at Loegr, ac fe wnaeth DEFRA ymgynghori, a digwyddodd hynny ar sail Lloegr yn unig. Ond ymrwymodd DEFRA i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, yn enwedig mewn perthynas â materion y gronfa ddata, oherwydd, yn amlwg, byddai unrhyw faterion yn ymwneud â chronfa ddata a gyflwynir ganddynt yn cael effaith ar Gymru a'r Alban. Felly, soniais fod ein swyddogion yn gweithio'n agos iawn ar hynny, ac rydym ar hyn o bryd yn aros am ganlyniadau'r ymgynghoriad a arweiniwyd gan DEFRA. Ond rwy'n credu mai dyna'r amserlen orau y gallaf ei rhoi i chi yn ôl pob tebyg. Fe fydd yn digwydd cyn 2026, ond nid wyf yn credu y bydd yn digwydd eleni.
4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr effaith y disgwylir y bydd cyflwyno'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ei chael ar ffermwyr yng ngogledd Cymru? OQ60724
Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig wedi'i gynllunio i gefnogi pob ffermwr yng Nghymru trwy daliad sylfaenol cyffredinol, yn seiliedig ar gwblhau cyfres o weithredoedd cyffredinol, sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd. Bydd y gweithredoedd hyn yn gyfarwydd i ffermwyr yng ngogledd Cymru, boed yn ffermwyr cig eidion, cynnyrch llaeth, cnydau âr, ucheldir, iseldir, dwys neu lai dwys.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Ac fel y clywsom eisoes heddiw, ac fel y gwelsom heddiw, y tu allan i'r lle hwn, mae miloedd o ffermwyr wedi bod yn sefyll dros eu cymunedau, eu ffermydd a'u ffordd o fyw. Maent yn gweld y cynigion presennol yn y cynllun ffermio cynaliadwy fel ymosodiad ar gefn gwlad Cymru a'r bobl sy'n trin ac yn amaethu ein tir, ac mae'n amlwg pam. Fel y clywsom eisoes yn y lle hwn heddiw, mae eich asesiad effaith eich hun yn amcangyfrif y bydd 5,500 o swyddi yng nghefn gwlad Cymru yn cael eu colli o ganlyniad, ergyd o £200 miliwn i'r economi, gyda thua 11 y cant yn llai o dda byw yng Nghymru. Ac mae'r niferoedd hyn yn frawychus a dylent roi llawer i gnoi cil arno, a gwn fod hynny'n rhywbeth rydych chi'n ystyried ei wneud. Ond nid ffermwyr eu hunain yn unig sy'n debygol o ddioddef, ond y rhai yn y gadwyn gyflenwi hefyd, a thrwy niweidio incwm ffermydd bydd niwed i'r gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth a bywoliaeth yr holl bobl sy'n dibynnu arni. Felly, Weinidog, tybed pa ystyriaeth rydych chi'n ei rhoi a'r hyn rydych chi'n bwriadu ei wneud nid yn unig i ddiogelu'r gadwyn gyflenwi, ond i'w helpu i ffynnu?
Diolch. Wel, nid yw'r cynigion presennol yn ymosodiad o unrhyw fath yn y ffordd y gwnaethoch chi ei nodi. Mae'n ymgynghoriad, ac rwy'n ailadrodd: byddwn yn edrych ar bob darn o wybodaeth a ddaw i mewn. Rydych chi'n cyfeirio at yr effaith economaidd mewn ffordd sy'n—. Ceisiais egluro beth ydoedd, ac roedd yn hollol groes i'r hyn a ddywedoch chi, yn anffodus. A'r hyn y gwnaeth ein helpu i wneud oedd edrych ar y materion y gallai fod yn amlwg yn y cynllun ffermio cynaliadwy fod angen i ni eu hosgoi. Er enghraifft, un o'r pethau a wnaeth yr asesiad effaith economaidd yn fy marn i oedd dangos i ni'r effaith y gallai ei chael ar allbynnau amaethyddol, felly mae angen inni edrych ar hynny i sicrhau bod y cynllun terfynol yn adlewyrchu'r wybodaeth a gyflwynwyd yn y ffordd honno.
Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn am y gadwyn gyflenwi, ac roedd yn dda cyfarfod ag un o'r pum ffermwr y cyfeiriodd Sam Kurtz atynt, y cyfarfu'r Prif Weinidog a minnau ag ef ddydd Llun. Roedd yn cynrychioli ei hun, ond fe weithiai yn y gadwyn gyflenwi, ac roedd yn dda iawn clywed ei bryderon am yr effaith y gallai ei chael. Ond fel y dywedais, nid oes dim wedi cael ei benderfynu, nid ydym yn achub y blaen ar unrhyw beth, ac yn amlwg, byddwn yn gweithio i sicrhau cynllun ffermio cynaliadwy y bydd pob ffermwr yng Nghymru am fod yn rhan ohono.
Mae'r ffaith bod yna gymaint o ffermwyr ac eraill o gefn gwlad y gogledd wedi dod yma i Fae Caerdydd heddiw yn arwydd o gryfder y teimladau sydd yna a'r pryderon ynglŷn â'r cynllun fel ag y mae o. Mae sôn am golli miloedd y swyddi, wrth gwrs, yn codi braw ar draws nid yn unig y sector, ond cefn gwlad yn ei gyfanrwydd. Mae'r Gweinidog yn Weinidog dros faterion gwledig, nid dim ond amaeth. Ydy hi'n cytuno efo fi, pan fyddwn ni'n meddwl am impact colli cymaint â hyn o swyddi ar draws y gogledd, fod hynny'n gorfod cymryd i ystyriaeth yr impact ar yr economi, ar yr iaith, ar faint o blant sydd mewn ysgolion, ar y gallu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus fel bysys hyfyw ar draws cefn gwlad, a bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried hynny wrth feddwl am y camau nesaf i wneud hwn yn gynllun sydd yn gallu cael ei weithredu yn ymarferol?
Ydw, yn bendant. Rwy'n credu mai dyna'r pwynt roeddwn i'n ceisio ei wneud. Nid gwrando ar un llais yn unig; rhaid ichi wrando ar lawer o leisiau, a rhaid ichi feddwl am yr effaith ar draws ystod eang o bethau. Fel y dywedoch chi, fi yw'r Gweinidog materion gwledig; nid Gweinidog amaeth yn unig wyf i, felly mae'n bwysig iawn eich bod chi'n edrych yn gyfannol ar hynny, oherwydd rydym eisiau'r cynllun gorau posibl, ac rydym eisiau'r cynllun gorau posibl nid yn unig i'n ffermwyr, ond i bob rhan o'n cymunedau gwledig. Rwyf bob amser wedi dweud fy mod yn gwybod pan fydd cynllun y taliad sylfaenol yn mynd i ffermwr, nad ydynt yn cadw'r arian hwnnw iddynt eu hunain. Mae'r arian hwnnw'n mynd i mewn i'r gymuned wledig—maent yn cyflogi contractwyr i'w helpu ar adegau gwahanol a phrysur o'r flwyddyn, er enghraifft, ac mae'n mynd i'w siopau lleol, mae'n mynd i'r lleoliadau lleol y maent yn eu mynychu. Mae'n mynd ar draws y gymuned wledig. Un o'r pethau gyda'r Ddeddf amaethyddiaeth, y gwyddoch iddi gael ei phasio'n unfrydol yn y Siambr hon, os edrychwch chi ar y pedwar amcan rheoli tir cynaliadwy, roedd y pedwerydd amcan—ac roedd hyn mewn partneriaeth gyda Cefin Campbell yn enwedig, a roddodd gymaint o gymorth i ni mewn perthynas â'r pedwerydd amcan hwnnw, trwy'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru—yn ymwneud ag iaith a diwylliant ein gwlad.
5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o bwysigrwydd ffermio llaeth adfywiol i ddyfodol ffermio cynaliadwy yng Nghymru? OQ60752
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i wella perfformiad ariannol ac amgylcheddol o fewn y diwydiant llaeth yng Nghymru i adeiladu busnesau cynaliadwy a gwydn. Mae egwyddorion ffermio adfywiol yn cyd-fynd ag amcanion rheoli tir cynaliadwy sy'n sail i gymorth ffermio a rheoli tir yn y dyfodol.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Weithiau, mae pobl yn edrych ar ffermio llaeth ac yn tybio mai dim ond un cyfeiriad sydd iddo: mae'n ymwneud â chyfuno unedau, buchesi mwy mewn beudai yn hytrach nag allan ar y borfa, creu mwy o slyri, ac yn y blaen. Ond mewn gwirionedd, mae mwy a mwy o bobl bellach yn troi at ddulliau ffermio llaeth adfywiol, gan gynnwys yma yng Nghymru o fewn tafliad carreg ac mae gan ogledd Cymru enghreifftiau gwych hefyd, rhaid imi ddweud. Maent yn economaidd gynaliadwy ac yn well i'r amgylchedd, i ansawdd afonydd, i ansawdd y pridd, a phopeth arall. Mae peth o'r gwaith hwn yn cael ei yrru, yn bellweledol mae'n rhaid imi ddweud, gan rai o'r dosbarthwyr llaeth hefyd. Felly, tybed, Weinidog, a allwn ni wneud mwy gyda'r manwerthwyr a'r cyfanwerthwyr llaeth a'r dosbarthwyr i geisio cymell ffermio llaeth adfywiol a dangos nad oes rhaid iddo fod yn un cyfeiriad teithio—colli swyddi, colli unedau fferm—ond y gallwn edrych ar fersiwn modern o ffordd lawer mwy traddodiadol o feddwl am ffermio cymysg?
Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt da iawn, ac yn sicr, siaradais â ffermwr sy'n ffermio'n adfywiol. Roedd yn arfer ffermio'n organig ac mae bellach wedi newid i ffermio adfywiol. Rwy'n credu bod tipyn o newid wedi bod tuag at ffermio adfywiol o ffermio organig oherwydd eu bod yn gallu gweld y budd i fusnes y fferm. Rwy'n sicr yn credu y gallwn wneud mwy i weithio gyda'r manwerthwyr ac edrych ar hyn. Nid wyf wedi cael unrhyw un o'r cynhyrchwyr llaeth yn cysylltu â mi, ond fe ofynnaf i fy swyddogion gael y drafodaeth honno efallai. Diolch.
Wrth gwrs, ceir marchnad fyd-eang gynyddol ar gyfer cynnyrch llaeth oherwydd y boblogaeth gynyddol, felly rwy'n credu bod cyfle gwirioneddol yma yng Nghymru ar gyfer llaeth maethlon sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd, ond o dan y cynigion presennol ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy, mae modelu Llywodraeth Cymru sy'n gysylltiedig â hynny'n dangos i ni y gallem weld 45,000 yn llai o wartheg llaeth yng Nghymru. Felly, rwy'n ceisio cysoni hyn: mae cyfle yma inni gael mwy o laeth maethlon ac iach yma yng Nghymru, a chyflenwi nid yn unig Cymru, ond y byd, ond o dan gynigion presennol y cynllun ffermio cynaliadwy, nid yw hwnnw'n mynd i wneud hynny; bydd hwnnw'n cael yr effaith groes i hynny. Felly, sut mae cysoni hynny?
Wel, fel y dywedais sawl gwaith y prynhawn yma, nid yw'r dadansoddiad economaidd hwnnw'n rhan o'r ymgynghoriad cyfredol sydd ar y gweill. Fe fydd yna ddadansoddiad economaidd newydd.
6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch rasio milgwn yng Nghymru? OQ60721
Diolch. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau nad yw lles milgwn rasio yng Nghymru yn cael ei beryglu. Ar 8 Rhagfyr, lansiais ein hymgynghoriad ar reoleiddio lles anifeiliaid, sy'n cynnwys adran ar rasio milgwn yn gofyn am dystiolaeth i lywio ein safbwynt ar ddeddfwriaeth.
Diolch am eich ateb. Weinidog, fel Cadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Senedd, roeddwn yn falch o'r adroddiad a gynhyrchwyd gennym ar rasio milgwn yng Nghymru, a hoffwn ddiolch i'r deisebydd arweiniol, Hope Rescue, a gychwynnodd y ddeiseb a'r ymchwiliad dilynol ar ran y pwyllgor. Roedd mwyafrif o aelodau'r pwyllgor yn cefnogi gwaharddiad graddol ar rasio milgwn, ac roedd y pwyllgor yn falch o weld yr ymgynghoriad yn cynnwys y cwestiwn ynghylch rasio milgwn, ac felly roeddem yn falch o weld eich ymrwymiad i'r pwyllgor yno, Weinidog. Gyda'r ymgynghoriad yn dod i ben ddydd Gwener, a allwch chi amlinellu beth yw'r camau nesaf a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r ymgynghoriad?
Diolch. Wel, fel y noda Jack Sargeant, mae'r ymgynghoriad yn dod i ben ddydd Gwener ac fel y gallwch ddychmygu, rydym yn cael nifer sylweddol o ymatebion yn ystod yr wythnos olaf hon, sy'n aml yn digwydd mewn ymgynghoriadau. Rwy'n siŵr y gwelwn yr un peth gyda'r cynllun ffermio cynaliadwy sy'n dod i ben yr wythnos nesaf. Yn amlwg, fe wnaeth y ddeiseb y cyfeiriwch ati ddenu dros 35,000 o lofnodion. Rwy'n credu ei fod yn faes diddordeb penodol, ac yn dilyn yr adroddiad a gyflwynwyd gan eich pwyllgor, roedd hwnnw'n galw am waharddiad ar rasio milgwn, ac mae'r adroddiad wedi cael ei ystyried. Mae gennym ymateb y Llywodraeth, sydd wedi'i gyhoeddi nawr wrth gwrs ac sydd ar gael i'r cyhoedd, ac rwyf wedi ymrwymo i gynnwys y cwestiwn ar waharddiad graddol. Felly, pan fydd yr holl ymatebion wedi dod i law, unwaith eto, fe fydd yna gyfnod pan gaiff pob ymateb ei ddarllen a gallwn weld beth yw'r ymatebion.
Weinidog, dros y penwythnos, fe wnaeth yr unig drac rasio cŵn yng Nghymru fwrw ymlaen â ras ar gwrs dwrlawn iawn. Yn ystod y ras 14:42 ddydd Sul, tarodd ci yn erbyn wal y cwrs, a chael ei anafu'n ddifrifol. Er i'r ras gael ei chanslo yn y pen draw, cofnododd trac y Cwm, yr ystyrir eu bod ar y brig o ran safonau lles Bwrdd Milgwn Prydain, na chafodd ras mo'i chynnal. Ni chafwyd unrhyw sôn am yr anifail a anafwyd—cafodd Ranches Bandit friwiau a chleisiau i'w wyneb. Mae rhwymiadau ar goes ôl dde y ci, ac nid yw'n gallu rhoi ei bwysau arni'n iawn. Nid oes peiriant pelydr-x ar drac y Cwm. Dim ond cymorth cyntaf sylfaenol iawn y bydd y milfeddyg yno wedi gallu ei roi, a chan mai ychydig iawn o ddarpariaeth filfeddygol frys a geir yn y rhanbarth, mae'n debygol y byddai'n rhaid i'r ci ddychwelyd at ei hyfforddwyr ar gyfer unrhyw lawdriniaeth. Weinidog, a ydych chi'n cytuno bod hyn yn gwbl annerbyniol, ac a wnewch chi ystyried gwaharddiad llwyr ar unwaith nawr ar rasio milgwn yng Nghymru? Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Rwy'n credu bod yr hyn rydych chi newydd ei ddweud wrth y Siambr yn peri gofid mawr. Fel y gŵyr yr Aelod, rwyf wedi cyfarfod â pherchnogion stadiwm y Cwm o'r blaen. Rwyf wedi cyfarfod â chynrychiolwyr Bwrdd Milgwn Prydain, rwyf wedi cyfarfod â sefydliadau lles i drafod y materion lles a'r cynlluniau ar gyfer safle'r Cwm. Rwy'n gwybod bod swyddogion iechyd anifeiliaid wedi cynnal cyfres o arolygiadau mewn rasys. Nid wyf yn ymwybodol fod unrhyw un wedi cael ei gynnal eleni. Mae arbenigwr milfeddygol yn gweithio gyda swyddogion bob amser, a byddaf yn gofyn i swyddogion siarad â'r awdurdod lleol i weld a oes unrhyw arolygiadau eraill wedi'u cynllunio. Ac fel y dywedais yn fy ateb i Jack Sargeant, mae'r ymgynghoriad yn dod i ben yr wythnos nesaf, ac yn amlwg, pan fydd yr ymatebion i gyd wedi'u hystyried, byddwn yn gallu cyflwyno cynigion.
Prynhawn da, Weinidog. Rwy'n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth drawsbleidiol i waharddiad ar rasio milgwn. Roeddwn eisiau gofyn cwestiwn i chi am y broses ymgynghori. Deallaf eich bod chi, neu eich swyddogion, wedi cael cais i ymweld â thrac rasio'r Cwm gan Fwrdd Milgwn Prydain yn rhan o'r broses ymgynghori. Rwy'n deall bod hynny wedi digwydd. Nid wyf yn siŵr a allwch chi gadarnhau hynny heddiw. Ond roeddwn i eisiau gofyn am eich sicrwydd, os oedd hynny'n wir, y byddech chi hefyd yn ystyried, neu y byddai eich swyddogion yn ystyried, ymweld â Hillcrest hefyd, sef y cartref sy'n achub milgwn sydd i bob pwrpas wedi'u gadael yno o'r traciau rasio. Roeddem yn ddigon ffodus i gael ein hail filgi llwyd, Wanda, o Hillcrest, sy'n sefydliad gwych, ond mae'n ei chael hi'n anodd. Y diwrnod yr aethom â Wanda adref, roedd rhestr aros o filgwn eraill yn barod i gymryd ei lle yn y cynelau. Felly, tybed a allech chi ddweud wrthym a ydych chi wedi cael cais i ymweld â thrac rasio'r Cwm, ac os ydych, a fyddech chi'n ystyried ymweld â Hillcrest hefyd er mwyn sicrhau cydbwysedd a chael persbectif arall ar y byd rasio milgwn? Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Ac rwy'n ymwybodol wrth gwrs fod Wanda wedi cael cartref gwych gyda chi, ac rwy'n gwybod ei bod yn eich cadw'n brysur iawn. Rwyf wedi cael cais i fynd i stadiwm y Cwm. Nid wyf wedi cael cyfle i wneud hynny; mae fy swyddogion wedi gwneud hynny, fel y dywedwch. Ac os hoffech ein gwahodd i Hillcrest, fe fyddwn i a fy swyddogion yn hapus iawn i ystyried hynny.
7. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Llywodraeth wedi'u cael gyda'r sector amaethyddol ynghylch y cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig? OQ60741
Mae fy swyddogion a minnau mewn cysylltiad rheolaidd â ffermwyr, yr undebau ffermio a rhanddeiliaid amaethyddol ehangach ynglŷn â phob agwedd ar ddatblygu'r cynllun ffermio cynaliadwy.
Weinidog, rydych chi'n dweud eich bod chi wedi siarad yn hir gyda'r sector; mae'r brotest y tu allan yn dweud fel arall wrth gwrs. Felly, mae hyn yn golygu un o ddau beth: rydych chi naill ai wedi methu gwrando wrth gyfarfod â ffermwyr ac undebau i lunio'r cynigion presennol hyn, neu rydych chi wedi gwrando ac yn fwriadol yn anwybyddu ple ffermwyr ac yn benderfynol o gosbi eu bywoliaeth yn lle hynny. Y naill ffordd neu'r llall, mae'n amlwg nad yw'r cynigion presennol yn addas i'r diben a'u bod ond yn arwain at fwy o ddicter, gofid a phryder i'n ffermwyr, y dibynnwn gymaint arnynt ac sydd mor hanfodol bwysig, yn ogystal â chenedlaethau'r dyfodol, y mae llawer ohonynt yn y brotest nawr, gan mai eu dyfodol nhw, eu bywoliaeth nhw yn y dyfodol fydd yn cael eu heffeithio'n negyddol gyda'r cynigion hyn.
Fel merch i ffermwr llaeth, gwn fod gan laeth a gynhyrchir yng Nghymru un o'r olion traed carbon lleiaf yn y byd. Mae'r modelu a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn awgrymu y byddai'r cynigion hyn yn gweld mwy na 45,000 yn llai o wartheg llaeth yng Nghymru. Byddai hyn yn peryglu bywoliaeth miloedd o bobl ar draws y gadwyn gyflenwi, a hefyd, drwy ddadstocio ein ffermydd, byddwn yn llai cynhyrchiol. I roi hyn yn ei gyd-destun, byddai'r cynigion hyn yn arwain at, ac yn golygu'r hyn sy'n cyfateb i fynd â dros 648 miliwn o beintiau o laeth oddi ar y silffoedd ledled y byd. Os byddwch yn bwrw ymlaen fel y cynlluniwyd a'ch bod yn cael gwared ar dir cynhyrchu bwyd, bydd hynny'n golygu bod yn rhaid inni fewnforio yn y dyfodol. Felly, Weinidog, fy nghwestiwn i chi yw: a ydych chi'n dweud y bydd unrhyw fewnforion yn y dyfodol o ganlyniad i'r cynigion hyn yn dod o ffermydd carbon niwtral ledled y byd ac yn cael eu cludo gan drafnidiaeth garbon niwtral? Os na, fe fyddwch yn symud y broblem i fannau eraill ac yn gwneud dim i helpu'r blaned, gan gosbi ffermwyr Cymru wrth i chi wneud hynny. Rydych chi'n dweud eich bod chi eisiau Cymru gynaliadwy, ond mae hyn yn mynd yn groes i gynaliadwyedd. Onid yw'n bryd oedi'r ymgynghoriad, Weinidog, a dechrau o'r dechrau?
Wel, nid ydym yn oedi'r ymgynghoriad, mae wyth diwrnod i fynd—felly, nid ydym yn oedi'r ymgynghoriad. Ac nid wyf eisiau cosbi neb, ac yn sicr nid ein ffermwyr.
Fe sonioch chi am genedlaethau'r dyfodol, ac rydych chi'n hollol iawn i sôn am genedlaethau'r dyfodol. Mae'n hanfodol fod y cynllun ffermio cynaliadwy yn cefnogi cynhyrchiant bwyd cynaliadwy. A beth yw'r bygythiad mwyaf i gynhyrchiant bwyd cynaliadwy? Yr argyfwng hinsawdd. Ac rydym yn gwybod y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn ffermio mewn patrwm tywydd llawer mwy amrywiol. Rydym wedi ei weld, onid ydym? Rydym wedi gweld eira ym mis Mai, rydym wedi gweld llifogydd pan na fyddem yn disgwyl hynny. Felly, mae'n rhaid inni sicrhau bod y cynllun ffermio cynaliadwy yn gweithio i bob ffermwr ym mhob rhan o Gymru. Ni fydd unrhyw oedi i'r cynllun. Fe fyddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn atebion cynharach i Llyr Huws Gruffydd am y broses a fydd yn digwydd nawr. Bydd angen gwneud gwaith helaeth, oherwydd rwy'n siŵr y cawn lawer iawn o ymatebion, ond rwy'n apelio ar bawb i gyflwyno eu safbwyntiau. Gallaf eich sicrhau bod defnyddio geiriau fel 'cosbi' yn hollol anghywir.
Roeddech chi'n gofyn i mi am yr ymgynghoriad helaeth. Wel, mae yna dros 24,000 o ffermwyr yng Nghymru, ac yn amlwg ni allaf siarad â phob un. Rwy'n ymweld â ffermydd yn rheolaidd. Rwy'n cyfarfod ag Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr, rwy'n cyfarfod ag Undeb Amaethwyr Cymru, rwy'n cyfarfod â'r Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad, rwy'n cyfarfod â ffermwyr unigol. Ac mae'n bwysig iawn clywed yr holl safbwyntiau hynny. Soniais mewn ateb cynharach—i Sam Kurtz, rwy'n credu—ei bod yn dda iawn clywed barn pum ffermwr unigol, yr wythnos hon, ar ystod eang iawn o agweddau ar ffermio, ac mae'n bwysig iawn fod y sgwrs honno'n parhau, ac fe fydd yn parhau.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau amserol. Mae cwestiwn amserol heddiw, i'w ateb gan y Gweinidog addysg, gan Adam Price.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg bellach yng Nghampws Rhydaman Coleg Sir Gâr yn y dyfodol? TQ1000
Mae Coleg Sir Gâr wedi ymgymryd ag adolygiad o'i ystad addysgol i sicrhau eu bod nhw'n ateb galw'r dysgwyr. Fel rhan o hwnnw, maen nhw wedi penderfynu gwneud buddsoddiad sylweddol yng nghampws Pibwrlwyd, gyda gwasanaethau yn symud fanna o Rydaman.
Bydd e'n ergyd ofnadwy i Rydaman a'r ardal gyfan i weld cau'r coleg yn Rhydaman. Does dim rhaid i fi ddweud wrthych chi hynny, wrth gwrs, Weinidog, oherwydd ein bod ni'n cyd-gynrychioli dyffryn Aman. Mae'r coleg wedi bod yno ers 1927. Doedd y Torïaid—. Pan wnaethon nhw gau'r pwll glo lleol, fydden nhw ddim wedi meiddio cau'r coleg addysg bellach hefyd, a dwi'n gresynu bod Llywodraeth Lafur yn cefnogi'r bwriad yma. Mae gennych chi'r opsiwn. Mae yna gais gennych chi i wneud penderfyniad terfynol ynglŷn â'r cynlluniau rŷch chi wedi cyfeirio atyn nhw. A wnewch chi'n glir i'r coleg na fyddwch chi'n cefnogi'r cynllun yn ei ffurf bresennol oni bai bod yna commitment clir i barhau i ddarparu addysg bellach yn uniongyrchol yn Rhydaman, ac ychwanegu at y cynlluniau drwy fuddsoddi yn yr adeiladu sydd yno yn y campws?
Wel, fel bydd yr Aelod yn gwybod, mae'n debyg, mae'r rhaglen amlinellol strategol wedi bod ar y gweill ers 2017, a'r achos amlinellol strategol ers 2023. Does dim unrhyw benderfyniad wedi'i wneud yn derfynol ar ariannu. Bydd hynny'n ddibynnol ar achos busnes terfynol. Ond penderfyniad yw e i'r coleg i benderfynu ar eu trefniadau nhw o ran campws. Mae'r cynlluniau sydd ganddyn nhw yn golygu buddsoddiad sylweddol yng nghampws Pibwrlwyd, sydd hefyd yn cynnwys adnoddau hamdden a llesiant ychwanegol sylweddol, i ddarparu'n well ar gyfer anghenion dysgwyr ar draws eu coleg yn gyffredinol. Mae ymrwymiadau wedi cael eu rhoi gan y coleg ynglŷn â thrafnidiaeth a threfniadau eraill yn addas ar gyfer y dysgwyr yn Rhydaman.
Diolch am eich datganiad, Weinidog, ond mae’n rhaid imi gytuno ag Adam Price ar hyn. Rwy’n teimlo, unwaith eto, ein bod yn gweld effeithiau cyllideb addysg sydd wedi’i thorri i’r asgwrn heb ddim ar ôl i’w dorri, a’r canlyniad tebygol, yn y pen draw, fydd gorfod cau rhai campysau. Mae gwleidyddion lleol a chynghorwyr yn yr ardal hon eisoes wedi mynegi pryder am yr hyn y bydd yn ei olygu i ddysgwyr yn Rhydaman a’r cyffiniau. Fel y dywedodd Adam, mae’r campws yn dyddio’n ôl bron i 100 mlynedd i 1927, ac mae’n canolbwyntio ar bethau allweddol yr ydym am eu cyflawni ac a fyddai’n fuddiol i’r ardaloedd: iechyd, gofal cymdeithasol, gofal plant a chrefftau’r diwydiant adeiladu. Weinidog, mae’n amlwg na fyddai’r penderfyniad yn iawn i’r ardal, ac mae wedi ennyn ymateb cryf gan y gymuned. Felly, fel y dywed Adam, a wnewch chi ei ailystyried?
Wel, nid yw’n benderfyniad i Lywodraeth Cymru. Mae’n benderfyniad a wnaed gan dîm arwain a llywodraethwyr Coleg Sir Gâr, sydd wedi cytuno mai ad-drefnu'r ystad bresennol ac adleoli’r ddarpariaeth i gampws Pibwrlwyd yw’r ffordd orau o ddiwallu anghenion eu dysgwyr. Nid yw hyn yn fater o ddewisiadau cyllidebol; mae'n fater o fuddsoddi yn ystad y coleg.
Mae’r cyfleusterau ar gampws Rhydaman, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mewn cyflwr gwael ar y cyfan ac yn gostus i’w cynnal a’u cadw, ac mae’r safle hefyd yn agored i lifogydd ac felly mae’n cyfyngu ar y potensial ar gyfer datblygu ar y safle penodol hwnnw yn y dyfodol. Yn y pen draw mae'r rhain yn gwestiynau strategol i'r coleg ei hun. Maent yn ceisio cymorth ariannol gan y Llywodraeth, a byddwn yn dilyn y weithdrefn a’r broses a ddilynwn mewn perthynas ag unrhyw gais am gymorth o dan raglen cymunedau dysgu cynaliadwy.
Gaf i rannu yr un pryder ag Adam Price ynglŷn â dyfodol campws Rhydaman? Fel rhywun sydd yn dod o'r ardal, mae'r campws yma, 'yr hen tech' fel roedd e’n cael ei alw, wedi cyfrannu yn helaeth iawn ers bron i ganrif, fel rŷn ni wedi clywed, i ddatblygiad sgiliau ac addysg gydol oes nifer fawr o fyfyrwyr a dysgwyr hŷn yn yr ardal ers blynyddoedd lawer. Ac felly mae'n ergyd i ardal sydd yn dal i ddioddef yn economaidd ac yn gymdeithasol ers cau’r pyllau glo yn ôl yn yr 1980au. Mae tref Rhydaman yn stryglo i adfywio, er cymaint y mae'r cyngor sir yn ceisio ei wneud i adfywio'r dref. Mae gweld hyn yn digwydd yn ergyd arall eto i ddyfodol dyffryn Aman.
Beth rŷn ni'n ei weld fan hyn, er ein bod ni'n croesawu'r datblygiad newydd yng nghampws Pibwrlwyd, rŷn ni'n gweld myfyrwyr yn gorfod teithio ymhellach o'u cartrefi, ac mewn ardal lle nad yw’r drafnidiaeth gyhoeddus yn ddigonol. Felly, rŷn ni'n gofyn iddyn nhw fynd i Gaerfyrddin neu Lanelli neu Gorseinon neu i Gastell-nedd—dyw'r trafnidiaeth gyhoeddus yna ddim ar gael iddyn nhw. Felly, mae hynny'n gwestiwn mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef.
Mae'r effaith economaidd ar y dref yn mynd i fod yn enfawr pan ŷch chi’n tynnu’r campus oddi yna, yr holl fyfyrwyr sydd yn mynd yna, y staff ac yn y blaen, yn mynd amser cinio i gael eu bwyd ac ati.
Dwi'n derbyn bod hyn yn gynnig gan y coleg, a chithau yn ei gefnogi fe, ond oes modd ymrwymo ein bod ni'n yn cydweithio, eich bod chi yn cydweithio, ein bod ni fel Aelodau etholedig lleol yn cydweithio gyda'r coleg, i weld a oes yna ddyfodol gwahanol i'w gael, mewn ffordd greadigol, i sicrhau bod addysg gydol oes a sgiliau addysg barhaus yn parhau yn ardal Rhydaman? Achos ar ddiwedd y dydd, chi fel Llywodraeth sydd â’r penderfyniad terfynol fan hyn drwy’r bartneriaeth addysg Gymreig. Felly, byddwn i'n gofyn i chi ystyried effaith hyn ar gymaint o wahanol agweddau, a gweithio gyda ni i gyd i sicrhau bod yna bresenoldeb addysg bellach yn parhau yn Rhydaman.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Jest er mwyn eglurdeb, pwrpas y cynllun buddsoddi yw sicrhau’r adnoddau gorau er mwyn sicrhau’r addysg gorau i ddysgwyr, ac felly dyna sydd wrth wraidd yr holl gynllun ariannu rŷn ni'n ei wneud fel Llywodraeth. Mae cynnig wedi dod i law ers amser, fel bydd yr Aelod yn gwybod, i fuddsoddi mewn datblygiad i wella adnoddau’r coleg yn gyfan gwbl, gyda ffocws ar Bibwr-lwyd, ond bwriad y cynllun yw sicrhau’r addysg a'r cyfleusterau gorau. Ond, wrth gwrs, dwi wastad yn hapus i gydweithio gyda'r coleg, fel rŷn ni'n wneud yn rheolaidd, a gydag unrhyw un arall er mwyn sicrhau bod y cynlluniau’n gymwys.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 4 yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad cyntaf gan Samuel Kurtz.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyn Dydd Gŵyl Dewi ddydd Gwener, cefais y pleser o ymweld â grŵp Ail Sgowtiaid Penfro i wobrwyo un o’u Cybiaid, Levi Byrne, sy’n wyth oed, â chopi wedi’i fframio o’i dyluniad o fathodyn Dydd Gŵyl Dewi. Y bathodyn oedd y cais buddugol mewn cystadleuaeth i ddylunio bathodyn blanced Dydd Gŵyl Dewi, y gall Cybiaid a Sgowtiaid o bob rhan o'r DU ei ennill, a chafwyd dros 200 o geisiadau. Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â Levi ac aelodau eraill o'r Sgowtiaid i drafod fy rôl yn y Senedd a phwysigrwydd democratiaeth a Llywodraeth.
Mae mudiad y Sgowtiaid yn sefydliad ieuenctid rhyngwladol anhygoel, a ddechreuwyd gan Robert Baden-Powell ym 1908, sy'n darparu’r sgiliau sydd eu hangen i dros 14,000 o bobl ifanc pedair i 25 oed yng Nghymru ar gyfer yr ysgol, coleg, prifysgol, cyfweliadau swydd a sgiliau hanfodol gydol oes eraill. Dychmygaf nad fi yw'r unig un yn y Siambr hon sydd ag atgofion hapus o fod yn un o'r Cybiaid, am gyfnod byr yn unig yn fy achos i, a gallu cymryd rhan yn yr ystod hwyliog o weithgareddau a drefnwyd a'r gwersi bywyd a ddysgwyd.
Hoffwn ddiolch i Alex Pett ac aelodau Ail Sgowtiaid Penfro am roi croeso mor gynnes i mi, a hoffwn ddiolch i holl arweinwyr y grwpiau a gwirfoddolwyr ledled Cymru am y gwaith rhagorol ac ysbrydoledig a wnânt yn paratoi pobl ifanc ar gyfer bywyd fel oedolion. Mae mudiad y Sgowtiaid yn rhywbeth sy’n rhan o wead ein cenedl, ac o’m profiad i, mae’n teimlo fel pe bai mewn dwylo diogel iawn. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Ddydd Sadwrn diwethaf, dechreuodd Dan Simms o Gil-y-coed ar y gamp enfawr o gerdded o gastell Cil-y-coed yr holl ffordd i Amsterdam er cof am ei ddau ffrind agos a laddodd eu hunain, ac i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl dynion a phwysigrwydd codi eich llais pan fyddwch yn teimlo'n isel.
Roedd tri chwarter y bobl a laddodd eu hunain yn 2022 yn ddynion, ac yn drasig, mae cyfraddau hunanladdiad ymhlith dynion yn parhau i fod yn uchel. Bydd Dan yn cerdded marathon bob dydd am 15 diwrnod, gan deithio 600 km a chysgu o dan y sêr hyd nes iddo gyrraedd pen ei daith. Ar ôl colli dau ffrind, mae Dan yn codi arian ac ymwybyddiaeth o ba mor bwysig yw hi fod iechyd meddwl dynion yn cael ei flaenoriaethu.
Yn anffodus, mae stigma ynghlwm wrth iechyd meddwl dynion o hyd, ac mae llawer yn teimlo bod yn rhaid iddynt ddioddef yn dawel. Bydd yr arian a godir o daith gerdded Dan yn mynd tuag at elusennau sy’n cefnogi dynion gyda’u hiechyd meddwl, ac i roi gwybod i’r rhai o’u cwmpas nad oes yn rhaid iddynt wynebu’r heriau hyn ar eu pen eu hunain. Siarad yn agored ac yn onest am ein hiechyd meddwl, boed yn dda neu’n ddrwg, yw’r cam cyntaf y gall pob un ohonom ei gymryd i normaleiddio’r sgyrsiau hyn, ac mae Dan yn enghraifft wych o hyn ar waith. Rwy’n siŵr y bydd Aelodau’r Senedd yn ymuno â mi i ddymuno’n dda i Dan wrth iddo ymgymryd â’r her hon dros achos mor dda.
Hoffwn siarad â chi heddiw am fachgen bach hapus o'r enw Ivor sydd â syndrom Angelman. Anhwylder genetig yw hwn sy'n achosi anawsterau dysgu difrifol a phroblemau symud a chydbwysedd. Ni fydd y rhan fwyaf o bobl â syndrom Angelman byth yn siarad, ac ni fydd rhai byth yn cerdded. Mae angen gofal parhaus arnynt am weddill eu hoes. Mae oddeutu 0.5 miliwn o bobl ledled y byd yn byw gyda syndrom Angelman, gan gynnwys oddeutu 300 o bobl yma yng Nghymru. Yn ffodus, cafwyd cynnydd sylweddol mewn ymchwil feddygol ledled y byd gyda chenhadaeth i wella syndrom Angelman.
Fe wnaeth y dyn ifanc bach hyfryd hwn, sy’n bedair oed, Ivor, gerdded 1 km bob dydd am fis o gwmpas ei bentref yn sir Fynwy i godi ymwybyddiaeth o syndrom Angelman. Ysbrydolodd gannoedd o bobl i gerdded gydag ef a chododd filoedd o bunnoedd i FAST UK, elusen sy'n ymroddedig i ymchwil feddygol ar gyfer syndrom Angelman. Mae wedi cipio calonnau cymaint o bobl yn ei gymuned leol a thu hwnt.
Wrth siarad â mam Ivor am ei phrofiad, roedd am bwysleisio sut mae diagnosis cynnar a chymorth ar ôl diagnosis i'r unigolyn a'u teuluoedd yn hollbwysig, ond yn wirioneddol brin. Arhosodd teulu Ivor 12 mis am ganlyniad prawf gwaed a ddylai fod wedi cymryd chwe wythnos, gan arwain at fisoedd lawer o boen ac ansicrwydd diangen. Ychydig iawn o gymorth ymarferol a gafwyd yn dilyn y diagnosis. Cafodd mam Ivor ei chyfeirio'n llythrennol at wefan elusen a'i gadael i wneud popeth arall ei hun. Mae angen lefel sylfaenol o hyfforddiant anghenion dysgu ychwanegol a chyrsiau hyfforddi athrawon, ac mae angen i'r arian ddilyn y plentyn gydag anghenion penodol fel syndrom Angelman.
Diolch i bawb a ddaeth i’r digwyddiad galw heibio yr wythnos hon. Roeddent wrth eu boddau'n cyfarfod â chi. Gyda mwy o ymwybyddiaeth nawr, gobeithio y gallwn weld newid gwirioneddol i'r bobl hyn sy'n dioddef o syndrom Angelman. Diolch.
Diolch i'r tri Aelod.
Eitem 5 yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Cysylltiadau Rhyngwladol: Adroddiad Blynyddol 2022-23'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Delyth Jewell.
Cynnig NDM8495 Delyth Jewell
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ‘Cysylltiadau rhyngwladol: Adroddiad Blynyddol 2022-23’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Tachwedd 2023.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser cael agor y ddadl y prynhawn yma ar ran y pwyllgor. O beth sy'n wybodus i mi, dyma’r adroddiad cyntaf o’i fath o ran cysylltiadau rhyngwladol yn hanes y Senedd.
Wel, mae gwaith ein pwyllgor ni yn y maes yma'n cynnwys derbyn adroddiadau rheolaidd, craffu ar y gyllideb ddrafft, cynnal ymchwiliadau, a hefyd sesiwn graffu blynyddol gyda'r Prif Weinidog. Mae yna nifer o feysydd yr hoffwn i siarad amdanyn nhw y prynhawn yma.
Nawr, mae e'n drueni nad yw’r Prif Weinidog yma heddiw. Mi fyddai wedi bod yn gyfle iddo roi ei eiriau ei hun ar y record. Rwy'n eithaf siŵr y byddai hefyd wedi mwynhau gwrando ar y gwahanol gyfraniadau. Fodd bynnag, dŷn ni'n ddiolchgar iawn i’r Dirprwy Weinidog a fydd yn ymateb ar ran y Llywodraeth.
Yr wythnos diwethaf, holwyd y Prif Weinidog ynglŷn â'i bortffolio cysylltiadau rhyngwladol a’i bwysigrwydd iddo, a siaradodd am Ddewi Sant, a bwysleisiodd bwysigrwydd gwneud y pethau bychain yn dda. Mae honno’n gymhariaeth berthnasol ac amserol, ac efallai, yn egwyddor arweiniol i'r Llywodraeth. Yn y cyd-destun hwnnw, credaf y byddai’n deg disgrifio dymuniadau ein pwyllgor fel rhai sydd am sicrhau bod ôl troed y gwaith cysylltiadau rhyngwladol hwnnw yn fwy na chyfanswm ei rannau, yn fwy na’r holl bethau bach hanfodol hynny gyda’i gilydd, ac y dylid cael ethos, rhaglen a strategaeth arweiniol sydd nid yn unig yn sail i'r holl weithredoedd unigol hynny, ond yn cysylltu ac yn llywio eu pwrpas, gan ffurfio patrwm y gellir ei fapio ar amlinelliad o'r byd. Wedi’r cyfan, bydd perthnasedd Cymru i’r byd, a’n perthynas ag ef, yn tyfu’n fwy ac yn fwy arwyddocaol.
Mae meysydd wedi bod lle rydym wedi disgwyl mwy gan y Llywodraeth. Yn fwyaf nodedig, roeddem yn siomedig fod y Prif Weinidog wedi penderfynu peidio â mynychu'r sesiwn graffu ar y gyllideb ddrafft. Mae hynny wedi achosi rhai anawsterau i ni. Roedd y dystiolaeth ysgrifenedig a gawsom yn cynnwys gwallau, ac nid ydym wedi gallu ystyried y ffigurau gydag unrhyw hyder. Credaf fod rhwystredigaeth ein pwyllgor ynglŷn â hyn yn dyst i ba mor hanfodol bwysig yw’r materion hyn yn ein barn ni, pa mor allweddol yw cysylltiadau rhyngwladol i Gymru, a gwn fod y Prif Weinidog yn rhannu’r farn honno. Rydym wedi argymell, yn y dyfodol, y dylai’r Gweinidog sy'n gyfrifol am y portffolio hwn fynychu sesiynau craffu ar y gyllideb a chraffu ar y gyllideb ddrafft.
Gan droi at y strategaeth ryngwladol, nid yw Llywodraeth Cymru yn adrodd yn benodol ar y strategaeth honno, ond fel pwyllgor, rydym yn monitro cynnydd y gweithgarwch cysylltiadau rhyngwladol. Cawn ein cynorthwyo gan ein tîm gwych i wneud hyn, drwy ddefnyddio cyfuniad o adroddiadau gan swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru, datganiadau gweinidogol, sesiynau tystiolaeth, busnes y Senedd a'r cyfryngau cymdeithasol. Cyhoeddir llawer o ymrwymiadau diplomyddol ar y cyfryngau cymdeithasol—dyna'r byd yr ydym yn byw ynddo. Yn hynny o beth, rydym yn croesawu'r camau a gymerwyd gan y Llywodraeth i gynyddu a gwella'r wybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd.
Wrth i’r strategaeth agosáu at ei therfyn yn 2025, rydym hefyd wedi croesawu cynnig y Prif Weinidog i drafod adnewyddu’r strategaeth gyda ni, a hoffem hefyd weld y gwahoddiad hwnnw’n cael ei estyn i grŵp ehangach o randdeiliaid. Rydym hefyd wedi argymell y dylid cael diweddariad ar gynnydd y camau gweithredu tymor byr a thymor canolig a restrir yn y strategaeth. Mewn ymateb i’r argymhelliad hwnnw, derbyniodd y Prif Weinidog hynny, ac edrychwn ymlaen at gael y diweddariadau hyn maes o law.
Mae’r strategaeth ryngwladol hefyd yn nodi perthynas â gwledydd sy'n cael blaenoriaeth gan y Llywodraeth, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn yr UE. Mae’n amlwg i ni fod cysylltiadau rhwng y DU a’r UE yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth ac i randdeiliaid. Rydym wedi sylwi bod diffyg strategaeth benodol yn peri heriau i lywio a darparu craffu effeithiol ar y berthynas ôl-Brexit. Y bore yma, parhaodd ein pwyllgor â’n hymchwiliad i effeithiau Brexit ar y diwydiannau diwylliannol. Mae'n we ag iddi lawer o edefynnau; mae'n bwysig ein bod yn cael cymaint o eglurder â phosibl, fel nad ydym yn mynd yn sownd yn y we honno.
I adleisio’r cyfraniadau a wnaed yn ystod dadl y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yr wythnos diwethaf, mae angen inni sicrhau bod pedair gwlad gyfansoddol y DU yn cael eu cynrychioli mewn trafodaethau ar y berthynas rhwng y DU a’r UE ac yn cael eu cefnogi gan ymgysylltiad rheolaidd rhwng ein gwledydd a’r UE. Rydym yn pryderu bod yr anawsterau a wynebir gan randdeiliaid wrth geisio cymryd rhan mewn strwythurau DU-UE ar ôl Brexit wedi arwain at leihad yn y llais Cymreig sy’n cael ei glywed. Ddirprwy Lywydd, rydym yn genedl sy'n falch o gryfder ein lleisiau, yn unigol ac fel côr. Rydym yn pryderu y gallai’r llais hwn gael ei dawelu ymhellach wrth i amser fynd heibio. Dyna pam ein bod wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru lunio strategaeth benodol ar gyfer yr UE. Wrth wneud hynny, byddem yn adennill yr egwyddor a grybwyllais yn gynharach—strategaeth i arwain a llywio’r berthynas ôl-Brexit, er mor arw y gall y dyfroedd hynny fod.
Mae’n destun cryn rwystredigaeth nad yw’r Llywodraeth wedi dewis derbyn na gwrthod ein hargymhellion sy'n ymwneud â pherthynas Cymru â’r UE. Ymddengys bod patrwm yn datblygu gan y Llywodraeth o beidio ag ymrwymo i safbwynt ar faterion o’r fath, ac nid yw hynny bob amser yn ddefnyddiol. Fel rwyf eisoes wedi'i amlinellu, mae'r ymrwymiad i adnewyddu'r strategaeth ryngwladol, serch hynny, i'w groesawu. Mae’n hanfodol fod y diweddariad yn cynnwys yr UE fel perthynas sy'n cael blaenoriaeth. Wrth wneud hyn, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies yr wythnos diwethaf, gallem ddefnyddio’r flwyddyn nesaf i ddatblygu ein blaenoriaethau, i ymgysylltu â rhanddeiliaid ac i sicrhau bod Cymru yn y sefyllfa orau bosibl i nodi ei barn pan fydd busnes yn ôl i normal.
Fel rwyf eisoes wedi'i grybwyll, mae gan Lywodraeth Cymru nifer o gysylltiadau sy'n cael blaenoriaeth, gan gynnwys yr Almaen, Ffrainc, Iwerddon, yr Unol Daleithiau a Chanada, yn ogystal â sawl rhan arall o Ewrop. Mae gan nifer o'r lleoedd hyn gytundebau dwyochrog rhyngwladol gweithredol gyda Chymru. O ganlyniad i waith ein pwyllgor hyd yn hyn, mae'r rhain bellach wedi'u rhestru ar wefan bwrpasol gan Lywodraeth Cymru, ac rydym yn croesawu hynny'n fawr. Byddwn yn parhau i fonitro'r cysylltiadau hyn drwy weddill ein tymor.
Ddirprwy Lywydd, efallai nad yw cysylltiadau rhyngwladol yn fater datganoledig, ond mae'n bwysig. Mae cymaint o waith da yn mynd rhagddo yn y sector hwn o fewn a thu allan i’r Llywodraeth, cymaint o’r pethau bychain y byddai Dewi Sant wedi’u canmol. Yr her bob amser, a’r hyn yr ymdrechwn i’w sicrhau, yw y dylai’r gwaith hwnnw fod yn fwy na chyfanswm y camau unigol hynny. A lle mae gwaith da yn digwydd, dylid ei ddathlu. Fel pwyllgor, cawn ein synnu'n aml gan faint o’r gwaith cyffrous a gwerthfawr hwn nad yw’n cael ei nodi mewn adroddiadau rheolaidd, a dyna oedd un o’n canfyddiadau allweddol o’n hymchwiliad Cymru-Iwerddon. Bydd ein ffocws fel pwyllgor yn parhau gyda’r gwaith hwn, a gwn y byddwn yn ddyledus, fel bob amser, i randdeiliaid sy’n ymgysylltu â’n gwaith ac yn cyfoethogi ein dealltwriaeth.
Mae ein diolch iddyn nhw yn fawr.
Ar ddechrau tymor y Senedd hon, clywsom gan nifer o’r rhanddeiliaid hynny a oedd yn poeni y byddai colli Gweinidog penodol dros gysylltiadau rhyngwladol yn golygu y byddai’r pwnc yn colli amlygrwydd. Credaf ei bod yn deg dweud bod amlygrwydd y materion hyn wedi parhau, er bod pryderon o hyd, yn anochel efallai, ynghylch pa mor fanwl y gall y gwaith hwn fod heb Weinidog sy'n gwneud y gwaith hwn fel eu hunig flaenoriaeth. Rwy’n siŵr y bydd mater amlygrwydd yn erbyn ffocws yn parhau, ond gan mai hon fydd y ddadl olaf ar gysylltiadau rhyngwladol a gaiff ei chynnal yn y Senedd tra bydd ein Prif Weinidog presennol yn gyfrifol am y mater, hoffwn dalu teyrnged i’w bleser amlwg yn y materion hyn a’i angerdd dros Gymru’n rhyngwladol. Bydd yn rhaid annog pwy bynnag sydd â rheolaeth dros y maes gwaith hanfodol hwn nesaf i hyrwyddo ein cenedl a'i buddiannau. Ar adeg pan fo’r byd yn mynd yn llai, dim ond tyfu a wnaiff y rhan sydd gan ein cenedl ni i’w chwarae ar ei lwyfan.
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed barn eraill yn ein dadl y prynhawn yma.
Rwy’n ddiolchgar i Gadeirydd y pwyllgor am gyflwyno’r adroddiad hwn, a hefyd yn ddiolchgar i’r ysgrifenyddiaeth sydd wedi cefnogi’r pwyllgor gyda'i waith. Ar hyn o bryd, cyfrifoldeb y Prif Weinidog yw cysylltiadau rhyngwladol, ac mae bob amser yn anodd iawn, gan wybod bod y Prif Weinidog wedi nodi ei fwriad i ymddiswyddo, nad yw’r ddadl hon yn troi'n dipyn o ddadl ffarwél. Ond credaf y dylem ddiolch i’r Prif Weinidog am y gwaith y mae wedi’i wneud a'r modd y mae wedi cynrychioli Cymru ar y llwyfan rhyngwladol. Gwyddom ei fod ym Mrwsel heddiw mewn digwyddiad Dydd Gŵyl Dewi, a gwn hefyd fod ei ymrwymiad i sicrhau bod Cymru’n cael ei chynrychioli ym Mrwsel ac mewn mannau eraill wedi’i werthfawrogi’n fawr gan lawer.
Mae llawer o argymhellion y pwyllgor yn cyfeirio at faterion yn ymwneud â chraffu a strategaeth. O ran y modd yr awn i'r afael â'r ddadl y prynhawn yma, rwy'n credu ei fod yn fater o bwyso a mesur, os mynnwch, dysgu gwersi, efallai, ac yna edrych ymlaen. Oherwydd yr hyn a wyddom yw y bydd gennym Weinidog newydd yn gyfrifol am y materion hyn ymhen mis, a bydd gennym Brif Weinidog newydd a fydd yn gyfrifol am le Cymru ar y llwyfan rhyngwladol. Felly, credaf ei bod yn iawn ac yn briodol fod hwn yn gyfle, felly, i’r pwyllgor edrych yn ôl ar yr ychydig flynyddoedd diwethaf a gwneud rhai argymhellion thematig, efallai, yn hytrach na'r argymhellion unigol ar wahân.
I mi, mae tri maes allweddol. Yn gyntaf oll, ceir maes craffu. Mewn unrhyw ddemocratiaeth seneddol, mae Gweinidogion yn atebol i’r Senedd, a’r Senedd sy’n pennu’r dull o graffu, nid y Llywodraeth. Bydd y Llywodraeth yn ymddangos ger bron pwyllgorau, a bydd Gweinidogion yn ymddangos er mwyn rhoi tystiolaeth pan fydd y pwyllgorau yn gofyn iddynt wneud hynny. Mewn unrhyw ddemocratiaeth, mae’n dibynnu ar y berthynas honno, ac mae’n siomedig nad ydym wedi cael mynediad at y Prif Weinidog yn y ffordd y byddai’r pwyllgor wedi’i rhagweld, ac wedi'i disgwyl a dweud y gwir. Mae’n bwysig mewn unrhyw ddemocratiaeth ein bod yn gallu craffu ar y Weithrediaeth. Dim ond os yw’r Weithrediaeth yn barod i ymddangos ger bron pwyllgorau y gallwn graffu arni, a chredaf fod hwnnw’n bwynt gwirioneddol allweddol o’r adroddiad hwn.
Yr ail bwynt yw strategaeth. Ceir nifer o argymhellion sy'n cyfeirio at strategaeth yn yr adroddiad hwn. Rydym wedi edrych ar wahanol feysydd gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cyflawni yn y maes hwn. Mae edefyn cyffredin yn rhedeg drwy bob un o’r rheini, sef bod y Llywodraeth yn fwy parod i adrodd ar yr hyn y mae wedi’i wneud yn hytrach na dweud wrthym beth mae'n dymuno ei wneud, pam ei bod yn dymuno gwneud hynny, a’r hyn y mae’n ceisio’i gyflawni drwy wneud hynny. Ond dim ond drwy osod amcanion clir iawn a thargedau mesuradwy y gallwn graffu ar y Weithrediaeth a phenderfynu a yw wedi cyflawni ei hamcanion ai peidio. Heb strategaeth ar y dechrau, nid oes pwrpas i adroddiad ar y diwedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnu dro ar ôl tro—ac nid yn y maes hwn yn unig, ychwaith—rhag nodi ei hamcanion, nodi’r hyn y mae’n ceisio’i gyflawni, nodi sut mae’n disgwyl cyflawni ei hamcanion. Os oes rhywbeth yma rwyf wedi'i ddysgu, rwy'n credu bod angen inni sicrhau bod y Gweinidog nesaf, y Llywodraeth nesaf, yn nodi amcanion clir iawn ar gyfer eu gwaith.
I mi, mae'n rhaid i’r blaenoriaethau hynny gynnwys yr Undeb Ewropeaidd. Nid oes amheuaeth ynghylch ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gysylltiadau â’r UE, ac nid oes unrhyw gwestiwn ynghylch ymrwymiad personol y Prif Weinidog i hynny, ac mae’r gwaith y mae Derek Vaughan yn parhau i’w wneud yn sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd o’r radd flaenaf. Ond clywsom y bore yma yn y pwyllgor, fel yr amlinellodd y Cadeirydd, am rai o’r sefyllfaoedd echrydus sy’n wynebu sector y celfyddydau a diwylliant. Clywsom am effaith Brexit arnom ni. Siaradodd chwe thyst fwy nag unwaith, un ar ôl y llall, am yr effeithiau negyddol eang yn sgil Brexit a cholli cyfleoedd. Mae pobl yn dweud na allant ddod o hyd i waith, na allant ddod â phobl yma, fod y costau wedi cynyddu, fod y gwaith gweinyddol wedi cynyddu, fod rhyddid i symud wedi'i golli, fod gormod o fiwrocratiaeth, gormod o broblemau gyda thrwyddedau, gormod o broblemau gyda thrwyddedau ATA, ei bod hi'n cymryd gormod o amser, ac nad oes unrhyw gynnydd mewn gweithgarwch y tu allan i'r UE. Dywedai pawb yr un peth, ac ni allodd Tom Giffard druan, yr oeddwn yn teimlo trueni mawr drosto, rhaid dweud, wrth iddo geisio dod o hyd i unrhyw ymyl arian, ganfod unrhyw un o gwbl. Felly, mae angen inni ganolbwyntio ar yr Undeb Ewropeaidd.
Wrth ymateb i’r ddadl hon, rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog hefyd yn edrych ar y meysydd eraill y mae Llywodraeth Cymru wedi’u blaenoriaethu. Credaf fod y Gweinidog iechyd yn India ar hyn o bryd. Byddai’n ddefnyddiol inni ddeall beth yw amcanion y gwaith hwnnw, a’r hyn y mae’n ceisio’i gyflawni gyda'r ymweliad hwn.
Fe wnaf orffen gyda'r pwynt hwn, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n dod i’r Siambr hon yn aml iawn i sôn am Dredegar ym Mlaenau Gwent, ond mae yna Dredegar arall, wrth gwrs, yn Richmond, Virginia. Credaf ei bod yn bwysig, pan fyddwn yn edrych tuag at adeiladu cysylltiadau ar draws gwahanol wledydd, ein bod yn edrych—ac mae’r gwaith y mae Rhun ap Iorwerth wedi’i arwain ar y grŵp hollbleidiol rhyngwladol wedi ceisio gwneud hyn—tuag at ddod â phobl â chysylltiadau Cymreig at ei gilydd. Wrth ymateb i’r ddadl, rwy'n gobeithio—
Mae angen ichi ddirwyn i ben.
—y bydd y Dirprwy Weinidog hefyd yn fy annog yn fy ymdrechion i greu cysylltiadau rhwng Tredegar a Thredegar. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i'r pwyllgor am ei holl waith ar y mater yma. Dwi'n ddiolchgar am y siawns i gael siarad am gysylltiadau rhyngwladol heddiw. Dwi'n falch ein bod ni, drwy waith y pwyllgor yma, wedi gwneud ymdrech i leoli ein hunain yn y byd. Mae ein Senedd ni wedi'i chynllunio, onid ydy, i fod yn weledol dryloyw, fel bod pobl yn gallu edrych i mewn arnom ni, a gweld beth rydyn ni yn ei wneud yn fan hyn. Ond mae'r holl wydr yna hefyd yn fodd i ni edrych allan, ac nid dim ond edrych allan ar Gymru rydyn ni angen ei wneud, ond edrych allan ar y byd. I mi, mae hynny'n gwbl, gwbl allweddol.
Wythnos diwethaf, mi oeddwn i yn Iwerddon. Mae'r trafodaethau y cefais i yno efo rhanddeiliaid mewn masnach, y maes ynni a gwleidyddiaeth hefyd wedi dangos i fi eto yn glir y gallem ni ac y dylem ni fod yn gwneud llawer mwy i adeiladu ar ein perthynas ryngwladol agosaf a phwysicaf yn unol â chasgliadau ac argymhellion yr adroddiad yma, a gwaith blaenorol y pwyllgor ar gysylltiadau Iwerddon-Cymru. Un peth oedd yn sefyll allan i fi, gyda llaw, oedd lefel y diddordeb ym model trawsbleidiol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru fel ffordd o drafod cwestiynau gwleidyddol, economaidd a chyfansoddiadol cymhleth mewn modd gwybodus ac adeiladol a chynhwysol—rhywbeth arbennig o berthnasol, wrth gwrs, ar ynys Iwerddon. Ac mi allem ni ac mi ddylem ni, bob amser o fewn y gymuned ryngwladol, fod yn chwilio am ffyrdd o rannu arfer da, ac mae hynny, wrth reswm, yn gweithio y ddwy ffordd.
Wrth gwrs, mae perthynas Cymru ag Iwerddon yn rhan allweddol o'n perthynas ehangach ag Ewrop y mae'r adroddiad a drafodir gennym heddiw yn tynnu sylw arbennig ati. Yn wir, mae'r adroddiad yn galw am feddwl cliriach, mwy bwriadus, am berthynas Cymru â'r UE. Ar hyn o bryd nid oes gan Lywodraeth Cymru ddull strategol o weithredu ar y berthynas rhwng yr UE a'r DU ar ôl Brexit, gydag ailnegodi telerau'r berthynas hon erbyn 2025. Rwy'n credu bod angen mynd i'r afael â'r bwlch hwn ar frys.
Nawr, mae canfyddiadau'r adroddiad hwn yn adleisio ac yn adeiladu ar waith diweddar y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar lywodraethiant y DU a'r UE, a amlygodd ddiffyg dylanwad amlwg Cymru ar y fframweithiau sy'n llywodraethu'r berthynas rhwng yr UE a'r DU ar ôl Brexit. Ac rwy'n ddiamwys ynglŷn â hyn: pryd bynnag y gwneir penderfyniadau sy'n effeithio ar bobl Cymru, dylai'r rhai sy'n eu cynrychioli fod yn yr ystafell. Ac ar hyn o bryd, ar benderfyniadau allweddol, yn ôl cyfaddefiad Llywodraeth Cymru ei hun, nid yw hyn yn wir o safbwynt llywodraethiant yr UE a'r DU.
Nawr, mae Cymru wedi cael ei chloi allan o fforymau llywodraethiant allweddol. Nid ydym wedi chwarae unrhyw ran, er enghraifft, yn yr ailnegodi a arweiniodd at fframwaith Windsor, er gwaethaf ei oblygiadau i fasnach rhwng Iwerddon a Chymru—rhywbeth sy'n arbennig o berthnasol yn fy etholaeth i ar Ynys Môn. Ac yn blwmp ac yn blaen, mae hyn yn gwbl annerbyniol. A hoffwn ofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru, ac yn arbennig y ddau ymgeisydd i fod yn Brif Weinidog nesaf, yn bwriadu eu cymryd i fynd i'r afael â'r diffyg democrataidd amlwg hwn.
Nawr, rydym ni ym Mhlaid Cymru yn glir ac wedi bod ers amser maith, ynglŷn â'r hyn y credwn yw'r sefyllfa orau bosibl i Gymru yn ein perthynas ag Ewrop. Y dyfodol gorau i Gymru yn ein barn ni yw fel cenedl annibynnol o fewn yr UE, ond rydym hefyd yn benderfynol, wrth gwrs, i ymdrechu am y gorau i Gymru yma nawr, o dan yr amgylchiadau presennol. A dylid gwneud popeth sy'n bosibl i oresgyn yr heriau y mae Brexit wedi'u creu i'n heconomi ac i'n perthynas â'n cymdogion agosaf. I mi, golyga hyn fod y DU gyfan yn edrych ar ailymuno â'r farchnad sengl a'r undeb tollau. Rwy'n credu y dylem wneud yr achos hwnnw'n gryf—barn y gwyddom ei bod yn cael ei rhannu gan o leiaf un o'r ddau sydd yn y ras i fod yn Brif Weinidog nesaf. Ond fel pwynt olaf heddiw, hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd ymuno â mi i alw am hyn ac i amlinellu sut y gallem weithio gyda'n gilydd i gyflawni hynny.
Mae gan Gymru lawer i'w gynnig i'r byd: ein hiaith, diwylliant, chwaraeon, peirianneg a chymaint mwy. Mae gan Lywodraeth Cymru a'r Senedd rôl bwysig i'w chwarae yn hyrwyddo ein gwerthoedd, yn cryfhau cysylltiadau economaidd ac yn rhannu arfer polisi gorau. Mae gan lawer o wledydd ddiddordeb mawr yn ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r Gymraeg.
Mae'r cyfrifoldeb datganoledig sydd gennym dros feysydd fel ymchwil a chynaliadwyedd yn rhoi sail gref i weithio arni gyda phartneriaid ledled Ewrop i ddysgu o brofiadau ein gilydd, gan ganolbwyntio ar fynd i'r afael â'n bygythiad mwyaf, yr argyfwng hinsawdd.
Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn ei rhaglen lywodraethu i gynyddu presenoldeb Cymru yn Ewrop a chadw swyddfa ym Mrwsel. Mae'r presenoldeb hwnnw'n sicrhau bod yr Undeb Ewropeaidd yn parhau i fod yn bartner cryfaf i ni a bydd yn caniatáu inni weithio gyda'n gilydd ar y gwerthoedd a'r uchelgeisiau polisi a rannwn. Bydd hefyd yn galluogi Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau i fasnachu mor effeithlon â phosibl yn y dyfodol, sy'n bwysig iawn ar ôl Brexit.
Cefais fy siomi o ddarganfod sut mae Cymru'n aml yn cael ei gadael allan o sgyrsiau gan Lywodraeth y DU, a phan ymwelais â Ghana ar gyfer cynhadledd Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad, darganfûm fod yna ddwy haen yn bodoli.
Clywsom dystiolaeth y bore yma gan y sector creadigol na fu unrhyw enillion ers gadael yr UE, dim ond costau a biwrocratiaeth sydd wedi ein rhoi dan anfantais o gymharu â gwledydd eraill. Mae angen mwy o arweiniad a chysondeb, nid yn unig i'r rhai sy'n teithio, ond hefyd i'r rhai sy'n gweithio ym maes rheoli ffiniau.
Mae colli mynediad at gronfeydd hefyd wedi bod yn sylweddol. Mae Ewrop Greadigol newydd gael chwistrelliad enfawr o arian na allwn ei gyrchu mwyach, ond yn wahanol i Ewrop, nid yw Llywodraeth y DU yn cydnabod pwysigrwydd a gwerth y diwydiannau creadigol. Rwy'n cytuno â'r Prif Weinidog fod y ffordd y mae Llywodraeth bresennol y DU wedi ymdrin â Brexit wedi bod yn gwbl anfoddhaol a dweud y lleiaf, ac mae angen Llywodraeth Lafur newydd arnom yn San Steffan i ailadeiladu cydweithrediad ac ymddiriedaeth gyda'n partneriaid Ewropeaidd ar lefel y DU gyfan, yn enwedig o ran cysylltiadau economaidd a diwylliannol. Mae angen i Gymru barhau i rwydweithio i ddarparu cyfleoedd ar gyfer deialog a rhannu gwybodaeth. Maent yn cynnig llwyfan i godi proffil Cymru ac arddangos ein hymagweddau a'n gwerthoedd unigryw i gynulleidfa ryngwladol, gan gryfhau'r berthynas â'n rhanbarthau sy'n cael blaenoriaeth a'n cysylltiadau, y mae Cymru nid yn unig yn rhannu aelodaeth â nhw, ond hefyd wedi cyd-sefydlu nifer o rwydweithiau. Ac yn ogystal â hyrwyddo Cymru ar y llwyfan byd-eang, mae gennym ddyletswydd hefyd i wneud yr hyn a allwn i gefnogi'r gymuned ryngwladol, gan gynnwys y rhai sy'n wynebu erledigaeth.
Mae dwy flynedd wedi mynd heibio bellach ers goresgyniad Wcráin, ac rwy'n falch fod Cymru yn genedl noddfa sy'n cynnig lloches i'r rhai sydd ei hangen. Hoffwn ganmol Llywodraeth Cymru hefyd am greu Academi Heddwch Cymru, y sefydliad heddwch cyntaf sydd â'r nod o ymestyn traddodiad hirsefydlog Cymru o greu heddwch a hyrwyddo heddwch, drwy ddod â'r meddyliau academaidd a'r arbenigedd gorau ynghyd i adeiladu byd gwell trwy ddulliau heddychlon o ymdrin â heriau byd-eang.
Hoffwn ddiolch i glercod y pwyllgor am lunio'r adroddiad, ac i'r Cadeirydd am ei gyflwyno. Edrychaf ymlaen at barhau i fonitro cynnydd Llywodraeth Cymru tuag at yr argymhellion a gyflwynwyd, yn ogystal â chanolbwyntio ar weithrediad strategaeth ryngwladol y Llywodraeth. Diolch.
A gaf ategu'r diolch i'r pwyllgor am ei adroddiad? Ac roeddwn i heb sylweddoli, tan sylwadau agoriadol y Cadeirydd, mai dyma'r tro cyntaf i ni gael dadl ar y mater pwysig yma ar lawr ein Senedd. Byddwn i'n dweud bod yr ymwybyddiaeth ryngwladol am Gymru yn uwch nawr nag erioed o'r blaen. Dwi'n cofio teithio yn fy ugeiniau yn Ewrop a gorfod esbonio i bobl ble oedd Cymru. Doedd yr ymwybyddiaeth o Gymru ddim yn uchel iawn yn rhyngwladol. Ond mae hyn wedi newid yn llwyr. Gallwn deithio i bedwar ban byd, bellach, ac mae pobl yn gwybod am Gymru, hynny yn bennaf oherwydd llwyddiant ein timau chwaraeon, siŵr o fod.
Gan fod Alun Davies wedi rhoi plỳg i Tredegar, Virginia, a gaf i hefyd roi plỳg? Braf i fi oedd bod yn Cardiff, Maryland, ar ddiwedd mis Ionawr, a sgwrsio a chanu yn Gymraeg gyda phobl sydd erioed wedi byw yng Nghymru, ac roedd brwdfrydedd y bobl yna am Gymru, ac am ein hiaith a'n diwylliant, yn heintus iawn.
A gaf godi dau fater yn y ddadl hon, Dirprwy Lywydd? I ddechrau, un o'r dadleuon mwyaf grymus, yn fy marn i, o blaid diwygio'r Senedd yw y bydd yn gwella'r craffu ar y Llywodraeth. Dwi'n cytuno gydag argymhelliad y pwyllgor diwylliant, a sylwadau Alun Davies, am yr angen am dystiolaeth lafar o'u blaen. Rŷn ni'n aml yn clywed yn y lle hwn feirniadaeth deg, yn fy marn i, am Weinidogion San Steffan yn gwrthod cyfarfodydd gyda Gweinidogion Cymreig a chyda phwyllgorau'r Senedd. Dwi'n siŵr y gallwn ni gyd gytuno nad rhoi tystiolaeth drwy ddatganiadau ysgrifenedig yn unig yw'r ffordd orau i graffu. Yn aml, nid y cwestiynau a drefnwyd o flaen llaw sy'n sicrhau'r atebion gorau, ond y cwestiynau ychwanegol sy'n dilyn yn naturiol o sesiwn gwestiwn ac ateb. Gall peidio â gwneud hyn osod cynsail gwael i'n Senedd ni, a bod yn niweidiol i rôl craffu y lle hwn.
Yn olaf, rwy'n pryderu am ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 8, y bydd ei dull o adolygu'r cytundeb masnach a chydweithredu yn cael ei bennu gan ddatblygiadau gwleidyddol ehangach. Awgrymai hynny i mi mai'r hyn a olygent oedd eu bod am aros am ganlyniad ffafriol yn etholiad cyffredinol y DU. Yr awgrym clir yw eu bod yn aros am newid Llywodraeth yn San Steffan cyn gwneud penderfyniad. Ni ddylai Llywodraeth Cymru seilio ei safbwynt ar sut i wneud i'r trefniant masnach a chydweithredu weithio'n effeithiol ac ar sut i wella ymgysylltiad â Llywodraeth y DU ar bwy sy'n digwydd bod mewn grym yn San Steffan. Nid yw hyn yn gynaliadwy. Ni allwn seilio hyn ar y tymor hir. Ni ddylem ddibynnu ar Lywodraethau eraill i weithredu cyn i Gymru wneud.
Mae ein barn ar faterion rhyngwladol mor bwysig fel na ddylai fod yn ddibynnol ar farn pwy bynnag sy'n digwydd bod mewn grym yn San Steffan. Yn rhesymegol, byddai'r sefyllfa hon o aros i weld beth sy'n digwydd yn San Steffan yn golygu y bydd Cymru bob amser ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd eraill o ran ein presenoldeb rhyngwladol. Ni ddylai Llywodraeth Cymru aros am ganlyniadau etholiad cyffredinol yn y DU, ond yn hytrach, dylai weithredu'n rhagweithiol i sicrhau bod llais Cymru'n cael ei glywed yn glir ar y llwyfan rhyngwladol a bod gennym le wrth y bwrdd. Diolch yn fawr.
Mae llawer o bobl eisoes wedi sôn am bwysigrwydd hyrwyddo cysylltiadau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Cymru yn rhyngwladol, ac mae hynny'n hollol wir. A rhag ofn nad oes unrhyw un wedi sôn, a gaf i fod y cyntaf i longyfarch ym maes cysylltiadau rhyngwladol, Jess Fishlock a'n chwaraewyr eraill neithiwr ar eu buddugoliaeth yn y weriniaeth, gydag ymddiheuriadau i fy nghefndryd Gwyddelig? Ond mae'r hyn a wnawn yn y byd chwaraeon hefyd yn rhan o'n cysylltiadau rhyngwladol, rhaid imi ddweud—wrth ennill a cholli—wrth symud ymlaen. Mae'n bwysig. Ond Ddirprwy Lywydd, mae'n bleser mawr cael siarad ar hyn heddiw, ac mae'n dipyn o garreg filltir.
Os edrychwn yn ôl ar ble y dechreuom fel Cynulliad yr holl flynyddoedd yn ôl, ac mae yna un neu ddau o Aelodau a oedd yma bryd hynny, mae'n debyg y byddai'n anodd credu bryd hynny y byddem yn cael dadleuon llawn ar gysylltiadau rhyngwladol. Ond mae hon yn dipyn o garreg filltir, felly rwy'n llongyfarch Delyth a'r pwyllgor diwylliant a chysylltiadau rhyngwladol ar gynhyrchu'r adroddiad cysylltiadau rhyngwladol blynyddol cyntaf hwn a'r ddadl yma yn y Senedd. Mae'n dipyn o garreg filltir, ac mae'n debyg ei fod yn adlewyrchiad hefyd o ble rydym arni yn y dirwedd ôl-Brexit, ar ôl gadael yr UE. Mae'n rhaid imi ddweud hefyd ei fod yn ôl pob tebyg yn adlewyrchiad o aeddfedrwydd a pharodrwydd y Senedd hon nid yn unig i drafod y materion hyn, ond i sicrhau bod Llywodraeth Cymru a'r Senedd a'n holl gysylltiadau'n siarad yn uchel iawn dros Gymru.
Nawr, fel y nodwyd yn y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yr wythnos diwethaf ar lywodraethiant y DU a'r UE, mae ein dau bwyllgor yn cytuno ar nifer o faterion allweddol yn y maes hwn, ac mae'n dangos consensws trawsbleidiol sylweddol ar y materion hyn. Felly, er enghraifft, mae'r ddau bwyllgor yn cytuno bod angen i Lywodraeth Cymru nodi blaenoriaethau strategol clir ar gyfer ei pherthynas â'r UE yn y dyfodol ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yng Nghymru ar faterion Cymru a'r UE, ac mae hynny'n dda iawn i'w weld. Ac mae'r ddau bwyllgor yn cytuno bod yn rhaid cryfhau rôl Llywodraeth Cymru yn y broses o lywodraethu cytundebau rhwng y DU a'r UE.
A nodwn ymateb y Prif Weinidog mewn perthynas â'r adolygiad sydd ar y ffordd o'r cytundeb masnach a chydweithredu—cadarnhad fod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar sicrhau bod y cytundeb masnach a chydweithredu'n gweithio mor effeithiol â phosibl ac yn canolbwyntio ar gysylltiadau rhynglywodraethol ar faterion y DU a'r UE. Felly, mae llais cyson yma, o'r Senedd ac o Lywodraeth Cymru. A gaf i ddweud hefyd ein bod yn croesawu'n arbennig yr ymrwymiadau a sicrhawyd gan y pwyllgor diwylliant y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnwys ei dadansoddiad o'r cytundeb masnach a chydweithredu rhwng y DU a'r UE mewn memoranda cydsyniad deddfwriaethol perthnasol? Mae'r tryloywder hwn i'w groesawu'n fawr.
Ddirprwy Lywydd, mae'r ddau bwyllgor hefyd yn credu ym mhwysigrwydd cyswllt uniongyrchol rhwng Llywodraethau a deddfwrfeydd datganoledig a sefydliadau'r UE, a'r rhwydwaith Ewropeaidd ehangach hefyd, rhaid imi ddweud. Efallai ein bod wedi gadael yr UE, ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid inni weithio'n galetach fyth, ond rydym hefyd yn rhan o'r teulu ehangach o rwydweithiau Ewropeaidd, ac rwy'n credu bod hynny wedi bod yn rhan o'n trafodaeth am yr angen i estyn allan at sefydliadau'r UE, ond ymhell y tu hwnt i hynny hefyd—pwyntiau a wnaed gan Adam Price yn y ddadl yr wythnos diwethaf.
Os caf droi yn ogystal at rwymedigaethau rhyngwladol, sy'n rhan allweddol o'n setliad datganoli, mae Llywodraeth Cymru yn aml yn dweud wrth ein pwyllgor pa mor hanfodol yw rôl y Senedd mewn materion rhyngwladol, ac rydym yn cytuno wrth gwrs. Ond un o'r pethau y cyffyrddwyd arnynt heddiw yw'r manteision, ond hefyd yr heriau, o gael y Prif Weinidog yn arwain ac yn rhoi wyneb i gysylltiadau rhyngwladol. Mae yna fanteision neilltuol. Mae allan yno heddiw yn chwifio'r faner dros Gymru. Mae'r Dirprwy Weinidog sy'n eistedd yma wedi gwneud hynny hefyd. Ond o ran cael atebolrwydd, felly, ger bron pwyllgorau, mae wedi profi'n dipyn o her, a bydd angen i bwy bynnag sy'n eistedd yn y sedd honno yn y dyfodol feddwl am y modd y cawn atebolrwydd go iawn yma o fewn y Senedd ar sail fwy rheolaidd. Nid ei fod wedi bod yn anfodlon, o ran ein pwyllgor, ond mae wedi profi'n dipyn o her, yn rhannol oherwydd y llwyth gwaith sydd gan y Prif Weinidog.
Nawr, ein Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad sy'n gyfrifol am ystyried effeithiau cyfansoddiadol deddfwriaeth ar rwymedigaethau cyfreithiol rhyngwladol Cymru. Felly, rydym yn croesawu'r ffocws y mae pwyllgor Delyth wedi'i roi i hyn. Mae'r pwyllgor diwylliant yn ymdrin â chraffu ar ddeddfwriaeth o gyfeiriad gwahanol, ac mae'n craffu ar ei effaith ar gysylltiadau rhyngwladol. Ond mewn gwirionedd, rydym gyda'n gilydd ar hyn, rydym yn gynghreiriaid yn y dasg bwysig hon. Mewn llawer o ffyrdd, mae ein pwyllgorau'n bartneriaid, dwy ochr i'r un geiniog. Felly, hoffem ddiolch yn fawr i'r pwyllgor diwylliant am y gwaith pwysig hwn yn y maes ac edrychwn ymlaen at gyfleoedd i ymgysylltu ymhellach a chydweithredu rhwng y ddau bwyllgor ar y materion pwysig. Efallai'n wir ei fod yn rhywbeth y mae'r ddau bwyllgor am ei ailystyried pan fydd gennym Brif Weinidog newydd, ac rwy'n croesawu hyn fel carreg filltir yn y dadleuon heddiw.
Galwaf ar Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddweud ar y dechrau fy mod yn croesawu'r adroddiad blynyddol ac ymroddiad y pwyllgor i weithio ochr yn ochr â'r Llywodraeth i gefnogi ein huchelgeisiau rhyngwladol ac i weld proffil Cymru yn tyfu ar lwyfan y byd? Mae wedi bod yn dda iawn clywed yr holl gyfraniadau gan Aelodau heddiw. Rwy'n sicr yn falch fod y pwyllgor, ers ei sefydlu, wedi cyflwyno cyfres o argymhellion a chynigion sydd wedi gwella tryloywder a gweithdrefnau adrodd.
Mae'n debyg ei bod hi'n ddyletswydd arnaf ar y pwynt hwn i gydnabod y pwynt y mae nifer o Aelodau wedi'i wneud ynglŷn ag ymddangosiad neu ddiffyg ymddangosiad y Prif Weinidog mewn perthynas â rhoi tystiolaeth bersonol. Roedd y Prif Weinidog wedi ei gwneud hi'n glir—mae wedi bod yn glir a chyson iawn yn ei gyfathrebiadau â'r pwyllgor—nad yw'n gallu gwneud ymddangosiadau lluosog yn y pwyllgor oherwydd ei ymrwymiadau craffu ychwanegol fel Prif Weinidog drwy gydol y flwyddyn, ond y byddai'n ymrwymo i gymryd sesiwn graffu bersonol flynyddol ar ôl cyhoeddi'r adroddiad blynyddol. Rwy'n credu mai'r sesiynau craffu ychwanegol hynny mewn meysydd eraill yw'r ffactor sy'n cyfyngu, pwynt yr oedd Huw Irranca-Davies yn ei gydnabod, rwy'n credu, ond bydd unrhyw benderfyniadau ynghylch craffu yn y dyfodol yn fater i'r Prif Weinidog newydd wrth gwrs.
Mae swyddfa Llywodraeth Cymru ym Mrwsel a'n rhwydwaith o swyddfeydd ledled Ewrop, yn Ffrainc, yr Almaen ac Iwerddon, yn ganolog i gefnogi ein gweithgarwch masnach a buddsoddi, a chyflawni ein hymrwymiad i ymgysylltiad Ewropeaidd. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid yn Ewrop ar ein gwerthoedd cyffredin a'n huchelgeisiau polisi ac rydym yn cefnogi busnesau i fasnachu mor effeithlon â phosibl. Gydag ymadawiad y DU â'r UE yn arwain at rwystrau ychwanegol i fasnach, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn cael presenoldeb ledled Ewrop i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan buddsoddi ac i gefnogi busnesau sydd am fasnachu gyda'n partner mwyaf, a rhaid inni weithio'n galetach i barhau'n bresennol ac yn berthnasol i'n partneriaid Ewropeaidd. Er mwyn pwysleisio'r pwynt hwnnw, fel y cydnabuwyd eisoes, mae'r Prif Weinidog ym Mrwsel ar hyn o bryd i nodi Dydd Gŵyl Dewi, ac mae ei raglen yn cynnwys derbyniad i westeion VIP o sefydliadau UE, o lysgenadaethau a rhanbarthau Ewropeaidd, yn ogystal â chyfarfod â sefydliadau a phartneriaid allweddol ynghylch ynni adnewyddadwy, ymchwil ac arloesi.
Nawr, mae gan Lywodraeth Cymru nodau polisi a rennir gyda'r UE ar lawer o faterion a heriau allweddol fel cynaliadwyedd, yr amgylchedd, bioamrywiaeth, hinsawdd, arloesi, cydraddoldeb a materion cymdeithasol, ymhlith eraill, ond nid yw Llywodraeth Cymru yn cytuno bod angen strategaeth UE ar wahân ar hyn o bryd. Mae ein ffocws yn gadarn iawn ar gyflawni'r strategaeth ryngwladol, sy'n cynnwys ein perthynas ag Ewrop, ac mae cadw ein swyddfa ym Mrwsel a chreu cynrychiolydd penodedig ar gyfer yr UE yn cadarnhau ein hymrwymiad fod Cymru yn ystyried ein cysylltiadau ag Ewrop a'r Undeb Ewropeaidd yn werthfawr iawn. Dylai ffocws a sylfaen unrhyw ddatblygiad i'r berthynas â'r UE ymwneud ag ail-greu perthynas economaidd sy'n gweithio i'r ddwy ochr. Felly, byddwn yn dechrau'r gwaith ar adolygu ac adfywio'r strategaeth ryngwladol, a bydd ein perthynas ag Ewrop yn rhan o'r strategaeth honno.
Ond drwy ein gwaith yn swyddfa Brwsel, ein cynrychiolwyr Ewropeaidd, a'n perthynas â chenhedloedd a rhanbarthau Ewrop, rydym yn ailsefydlu ac yn atgyfnerthu ein cysylltiadau â sefydliadau'r UE a phartneriaid mewn ffordd sy'n adlewyrchu'r trefniadau newydd ar ôl Brexit. Rydym yn gweithio gydag ystod o rwydweithiau Ewropeaidd sy'n cwmpasu cyfoeth o feysydd, ac mae'r rhwydweithiau hyn yn codi proffil Cymru yn Ewrop, gan ddarparu dadansoddiad manwl i gynigion polisi'r UE, ac yn cefnogi adeiladu consortia ar gyfer cydweithredu rhyngranbarthol. Cafwyd ymgysylltiad sylweddol â rhanbarthau sy'n cael blaenoriaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rydym wedi negodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth newydd gyda Fflandrys, cyd-ddatganiad newydd â Baden-Württemberg, wedi ail-lofnodi ein memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Llydaw ac wedi arwyddo cytundeb cyfeillgarwch rhyngwladol gyda dinas Birmingham yn Alabama. A fis diwethaf roedd y Prif Weinidog yng Ngwlad Pwyl i arwyddo memorandwm cyd-ddealltwriaeth newydd gyda Silesia, gan ymestyn cyfeillgarwch a ddechreuodd fwy na dau ddegawd yn ôl.
Mae Cymru wedi croesawu sawl partner rhyngwladol y flwyddyn ariannol hon, gan gynnwys dirprwyaeth o'n rhanbarthau sy'n cael blaenoriaeth yn ystod Wythnos Dechnoleg Cymru. Ac roedd y dirprwyaethau'n cynnwys cynrychiolwyr o Silesia, Catalonia, Gwlad y Basg, Fflandrys, Ontario, Baden-Württemberg a Quebec. Ac mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i'r pwyllgor y bydd yn darparu adroddiadau misol priodol ar yr ymweliadau rhyngwladol sy'n digwydd.
Nawr mae hyn i gyd, wrth gwrs, yn digwydd yn erbyn cefndir o ymgysylltu ag Iwerddon, y cyfeiriwyd ato eisoes hefyd, ac a archwiliwyd yn fanwl gan y pwyllgor y llynedd. Ac yn 2023, wrth gwrs, fe wnaethom ddathlu ein perthynas â Ffrainc. Roedd hyn yn dilyn Cymru yng Nghanada yn 2022. Ac er ein bod yn dal i werthuso canlyniadau'r rheini, gallaf rannu ein bod wedi darparu mwy na 40 o ddigwyddiadau, gyda chymysgedd o ganlyniadau diplomyddol, masnachol, addysgol a diwylliannol. Gwelsom ymgysylltu â 400 o randdeiliaid allweddol Ffrengig ym Mharis, Lyon a Nantes, a ffurfiwyd partneriaethau newydd ar draws y cyfryngau, cerddoriaeth, diwylliant ac addysg.
Fe wnaethom ddefnyddio'r flwyddyn yn Ffrainc i hyrwyddo Cymru sy'n gyfrifol ac yn gynhwysol yn fyd-eang, gyda rhaglen sy'n canolbwyntio ar werthoedd Cymreig, yn cynnwys lleisiau ifanc, amrywiol, benywaidd a LGBTQ+, yr iaith Gymraeg, a chynnal ein hymrwymiad i sero net, gyda rhaglen helaeth ar ddatgarboneiddio ac ynni gwyrdd. Un o bileri canolog y flwyddyn Cymru yn Ffrainc, wrth gwrs, oedd Cwpan Rygbi'r Byd y dynion. Ac fe wnaethom ddefnyddio hynny i godi proffil Cymru a datblygu arbenigedd Cymreig mewn diplomyddiaeth chwaraeon.
Yn 2024 rydym yn dathlu Cymru yn India, ac edrychaf ymlaen at y cyfleoedd a fydd yn dod â'r Llywodraeth a rhanddeiliaid allanol i weithio gyda'i gilydd unwaith eto dros Gymru.
Fel yr arferai Prif Weinidog blaenorol atgoffa'r Siambr hon, ni allwch hyrwyddo Cymru o'r tu ôl i ddesg. Ac mae hyn yn parhau i fod yn wir. Y llynedd, ymwelodd Gweinidogion â Gwlad Belg, Ffrainc, yr Almaen, Iwerddon, Denmarc, Gwlad y Basg ac UDA. Bob blwyddyn mae Dydd Gŵyl Dewi yn rhoi cyfle inni fynd â Chymru i'r byd. Fel y soniwyd, mae'r Prif Weinidog ym Mrwsel eto, bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn Iwerddon, a bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn teithio i Mumbai a Kerala i lansio Cymru yn India a chymryd rhan mewn rhaglen ehangach o gyfarfodydd a digwyddiadau. Bydd y Gweinidog materion gwledig yn ymuno â llysgennad yr Unol Daleithiau yn llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Llundain yfory ar gyfer ei digwyddiad Dydd Gŵyl Dewi hi ac i ddathlu'r cysylltiadau cryf rhwng Cymru ac UDA.
Ond nid pan fyddwn yn teithio i wledydd eraill yn unig y bydd ymgysylltu rhyngwladol yn digwydd wrth gwrs. Mae cenedl sy'n edrych tuag allan hefyd yn genedl groesawgar ac yn 2023 fe wnaethom groesawu cynrychiolwyr rhyngwladol i Gymru o bob cwr o'r byd. Yn ddiweddar, ymwelodd llysgennad yr Almaen â Chymru i drafod ein cytundeb dwyochrog â Baden-Württemberg a'r berthynas ehangach. Ac mae'r Prif Weinidog hefyd wedi sicrhau ei fod wedi ymweld â llysgenhadon yn Llundain pryd bynnag y mae'r cyfle wedi codi.
Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid strategol, gan gynnwys sefydliadau celfyddydol a chwaraeon, comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, ein diaspora byd-eang a'r rhanbarthau a gwledydd sy'n cael blaenoriaeth i gefnogi cyflawniad ein strategaeth ryngwladol.
Mae'r strategaeth ryngwladol, fel y clywsom, yn weithredol tan 2025 ac eleni yw'r cyfle i adolygu'r gwaith sydd wedi'i gyflawni hyd yma ac i ystyried ein gwaith rhyngwladol yn y dyfodol. Ond mater i'r Prif Weinidog newydd yn sicr fydd yr adolygiad.
Mae angen i chi ddod i ben nawr, Weinidog.
Mae gennyf un neu ddau o bwyntiau eraill i'w gwneud, Gadeirydd.
Na, mae angen ichi ddod i ben nawr, Ddirprwy Weinidog.
O'r gorau. Mae proffil rhyngwladol Cymru yn parhau i gynyddu. Mae llwyddiant ein cenedl mewn chwaraeon a diwylliant, ein dull arloesol o weithredu polisi yn golygu bod ein galw am ymgysylltiad rhyngwladol yn uchel ac yn cynyddu. Ac er gwaethaf cyllidebau heriol byddwn yn defnyddio cyflawniadau'r pedair blynedd diwethaf i adeiladu ar gynyddu proffil Cymru yn y dyfodol. Diolch yn fawr.
A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Delyth Jewell, i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n meddwl bod y ffaith fod cymaint o Aelodau wedi bod eisiau cymryd rhan yn y ddadl hon yn destament i ba mor bwysig ydy'r pwnc.
Mynegodd Alun ei ddiolch ei hun i'r Prif Weinidog am angerdd y Prif Weinidog dros Gymru'n rhyngwladol. Disgrifiodd ein hadroddiad fel un sy'n 'pwyso a mesur', er iddo leisio ein siom, wrth gwrs, am y diffyg mynediad a gawsom i'r Prif Weinidog, nad oedd cymaint ag y byddem wedi'i hoffi efallai. Rwy'n credu y byddai ein pwyllgor i gyd yn cytuno bod yn rhaid i'r UE fod yn flaenoriaeth i'r Prif Weinidog nesaf. A'r pwynt am gael targedau mesuradwy—unwaith eto mae hynny'n rhywbeth y byddem i gyd yn ei gefnogi. Mae Alun yn sôn yn aml am Dredegar. Roedd yn hyfryd clywed am y Dredegar arall hefyd, ac edrychaf ymlaen at glywed llawer mwy am y ddwy Dredegar yn ystod y misoedd i ddod.
Soniodd Rhun am bwysigrwydd y faith ein bod ni'n lleoli ein hunain yn y byd. Soniodd am wydr a thryloywder. Fel mae'r gerdd ar wyneb canolfan y mileniwm yn ein hatgoffa, 'creu gwir fel gwydr' ydy'r sialens inni. Soniodd Rhun am Iwerddon—wel, dyna wlad sy'n agos at ein calonnau ni fel pwyllgor—a hefyd at yr angen i Gymru fod yn yr ystafell ar gyfer trafodaethau gyda'r Undeb Ewropeaidd. Mae yna deficit democrataidd yn dod o'r ffaith nad ydym ni yno. Dwi'n meddwl y byddem ni, fel pwyllgor, yn cytuno, o ran nifer o'r findings rydym ni wedi dod atyn nhw.
Nododd Carolyn fwy o rôl Cymru yn y byd, a'r hyn rydym yn ei gynnig i'r byd. Cyfeiriodd at ei phrofiad yn Ghana, sut y cawn ein gweld o'r tu allan ar adegau efallai. Soniodd Carolyn am beth o'r hyn a ddatgelwn yn ein hymchwiliad ynghylch Brexit a sefydliadau diwylliannol, rhywbeth y cyfeiriodd Alun ato hefyd. Mae Cymru wedi arwain y ffordd fel gwlad. Ôl troed byd-eang Cymru, yr heriau byd-eang a wynebwn gyda'n gilydd, fel newid hinsawdd, y rhyfeloedd aml a'r anawsterau niferus sy'n wynebu ein planed—yn hollbwysig, maent yn bethau lle mae'n rhaid i Gymru gael rhan ynddynt.
Soniodd Rhys am yr ymwybyddiaeth uchel sydd o Gymru yn rhyngwladol. Roedd yn dweud bod hyn yn rhannol, efallai, oherwydd chwaraeon, ond—dŷn ni'n mwynhau hyn hefyd—soniodd hefyd am y gymuned diaspora yn Maryland. Mae'n dda i glywed am fel dŷn ni, y Cymry, yn cael ein gweld, ac am fel mae Cymraeg yn cael ei siarad dros y byd i gyd. Mynegodd Rhys ei bryder am y cynsail gwael a all gael ei osod gan y ffaith nad ydyn ni wastad yn cael yr access gweinidogol yn y maes hwn sydd ei angen.
Diolch hefyd i Huw am siarad yn y ddadl hon. Rwy'n siŵr y byddem i gyd yn ymuno â chi i longyfarch Jess Fishlock a'r tîm. Diolch am eich geiriau caredig. Rwy'n credu bod hon yn garreg filltir i'n pwyllgor. Mae'n un bwysig, ac rydym yn awyddus iawn i weithio gyda'ch pwyllgor chi ar hyn. Rydym yn bwriadu i hwn fod y cyntaf o adroddiadau blynyddol ar waith cysylltiadau rhyngwladol. Rwy'n gobeithio y bydd yn golygu gwaddol o drafodaethau blynyddol ar hyn hefyd.
Rwy'n credu bod llawer iawn o dir cyffredin rhwng ein pwyllgorau, yn enwedig ar y berthynas rhwng y DU a'r UE, wrth gwrs. Roeddech yn cyfeirio at ein pwyllgor fel cynghreiriaid, ac rydym yn gynghreiriaid yn wir, ac rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn yn gallu edrych ar y materion hyn gyda'n gilydd. Yn fwyaf arbennig, fe wnaethoch chi nodi, rwy'n credu, Huw, y manteision a'r heriau o gael y Prif Weinidog fel y Gweinidog sydd â'r cyfrifoldeb hwn, ac efallai fod hynny'n rhywbeth y gallem edrych arno yn y dyfodol. Mae hyn yn rhywbeth a gododd yng nghyfraniad y Dirprwy Weinidog hefyd.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.
Rydym yn deall yr ymrwymiadau ar amser y Prif Weinidog wrth gwrs. Fel y dywedodd Huw, nid ydym yn credu bod gan hyn unrhyw beth i'w wneud â diffyg parodrwydd. Rwy'n credu ei fod yn ymwneud â her yr amlygrwydd a roddir—yr amlygrwydd ychwanegol a roddir—i gysylltiadau rhyngwladol drwy fod ym mhortffolio'r Prif Weinidog, yr amlygrwydd yn erbyn y ffocws. Mae honno'n ddeuoliaeth, ac rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y bydd angen i'n pwyllgor ni gadw llygad arno ochr yn ochr â'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
Mae'r gwaith sy'n digwydd ym Mrwsel i'w groesawu—popeth a nodwyd gan y Dirprwy Weinidog. Byddem yn dadlau y byddai strategaeth ar wahân o gymorth mawr i hynny. Ni fyddai ffordd well, yn ddiplomyddol, o anfon y neges honno i'r UE ein bod am ymgysylltu â nhw na chael y strategaeth honno.
Hoffwn groesawu cymaint o'r gwaith da, a'r gwaith hynod gyffrous, a nodwyd gan y Dirprwy Weinidog. Rwy'n credu bod hynny'n cadarnhau'r pwynt fod yna gymaint o'r pethau hanfodol hyn sy'n digwydd na chânt eu cofnodi yn y monitro rheolaidd, na'r hyn sy'n cael ei anfon atom. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y gellir mynd i'r afael â hynny, oherwydd rydym eisiau dathlu'r pethau da hefyd. Rydym am allu ymhyfrydu, a hyrwyddo, yr holl bethau gwych sy'n digwydd, yn ogystal â thynnu sylw at ble'r hoffem weld mwy.
Nawr, mewn ychydig wythnosau, bydd gennym Brif Weinidog newydd. Pwy bynnag fydd yn dod y Prif Weinidog nesaf, rydym ni fel pwyllgor am iddyn nhw sicrhau nad ydy cysylltiadau rhyngwladol yn cael eu neilltuo, eu rhoi ar gyrion Llywodraeth. Yn hytrach, bydd e'n gyfle euraidd i'r Cabinet newydd os yw cysylltiadau rhyngwladol ar flaen y gad. Rydym ni fel pwyllgor yn benderfynol o chwarae ein rhan ni i sicrhau bod y byd yn parhau i ddysgu am ein gwlad hanesyddol, hardd, unigryw a modern. A'n gobaith ni yw y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i wneud yr un fath, ac i adrodd stori y byddai Dewi Sant ei hun yn falch o'i chlywed.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.
Eitem 6 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig, y cynllun ffermio cynaliadwy, a dwi'n galw ar James Evans i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8496 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu y bydd cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig Llywodraeth Cymru yn arwain at amcangyfrif o:
a) 122,200 o ostyngiad yn nifer y da byw yng Nghymru;
b) 5,500 o swyddi yn cael eu colli ar ffermydd Cymru; ac
c) colled o £199 miliwn i'r economi wledig.
2. Yn cydnabod cryfder y teimladau yn y gymuned amaethyddol yn erbyn y cynllun ffermio cynaliadwy.
3. Yn nodi'r arolwg a gomisiynwyd gan y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad yng Nghymru sydd wedi canfod mai dim ond 3 y cant o ffermwyr yng Nghymru sy'n ymddiried yn Llywodraeth Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) dileu'r gofyniad i bob fferm gael 10 y cant o orchudd coed; a
b) dileu cynigion presennol y cynllun ffermio cynaliadwy ac ail-ymgysylltu â'r sector ffermio i ddatblygu cynllun newydd y mae'r gymuned ffermio yn ei gefnogi.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar.
Heddiw, rwy'n codi i agor y ddadl hon â chalon drom iawn, dan faich y dinistr posibl sy'n wynebu cefn gwlad Cymru. Mae cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig Llywodraeth Cymru, ar ei ffurf bresennol, yn bygwth gwead ein cymunedau. Mae'n bygwth ein ffermwyr, ein teuluoedd, ein ffrindiau a'r Gymru wledig gyfan. Mae ffigurau'r asesiad effaith a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ei hun yn paentio darlun llwm: 5,500 o swyddi'n cael eu colli, 122,000 o dda byw yn cael eu colli ac i goroni'r cyfan, colled syfrdanol o £199 miliwn i'r economi. Nid ystadegau'n unig yw'r ffigurau rwy'n eu dyfynnu, maent yn cynrychioli pobl go iawn, teuluoedd go iawn. Ac nid wyf yn siarad nonsens brawychus, fel y dywedodd ein Prif Weinidog wrthyf yr wythnos diwethaf. Dyma'r asesiad effaith a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ei hun. Mae ein ffermwyr yn bryderus am yr effeithiau hyn, o'n ffermwyr profiadol i lygaid disglair ein ffermwyr ifanc a busnesau cysylltiedig yn ehngach.
Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy ar ei ffurf bresennol yn taflu cysgod hir o ansicrwydd ac anymarferoldeb dros lawer o fusnesau fferm yng Nghymru. Wrth wraidd ein pryderon mae erydiad posibl holl sylfaen ein cymunedau gwledig. Mae'r dirywiad a ragwelir yn incwm ffermydd oherwydd llai o allbwn a chostau cydymffurfio cynyddol yn bygwth bywoliaeth teuluoedd dirifedi sydd wedi rhoi cenedlaethau i'r gwaith o stiwardio'r tir. Mae'r pryder economaidd hwn yn ymestyn ymhell y tu hwnt i giât y fferm. Byddai'r posibilrwydd o golli cymaint o swyddi ar draws y sector amaethyddol yn ei gyfanrwydd yn cael effaith ganlyniadol ar wead ein cymunedau, gan effeithio ar gadwyni cyflenwi amaethyddol, busnesau lleol ac economi Cymru'n gyffredinol.
Un elfen sy'n fy mhoeni i a fy ngrŵp yn fawr yng nghynnig presennol y cynllun ffermio cynaliadwy yw'r bygythiad posibl i ddiogeledd bwyd Cymru. Byddai'r gostyngiad a ragwelir yn nifer y da byw, yn enwedig defaid, yn effeithio ar ddiogeledd bwyd ein cenedl. Gallai'r dirywiad hwn, ynghyd â gostyngiad posibl mewn allbwn amaethyddol, arwain at ddibyniaeth gynyddol ar fewnforion bwyd, gan beryglu ansawdd a safonau amgylcheddol. Mae ein ffermwyr yng Nghymru yn cynhyrchu'r bwyd gorau yn y byd a dylid eu gwobrwyo'n briodol am wneud hynny.
Mae Gweinidogion yn nodi'n aml fod y cynllun ffermio cynaliadwy wedi bod ar y gweill ers saith mlynedd. Fodd bynnag, mae'r drafft terfynol hwn wedi bod yn sioc i lawer yn y sector, gan gynnwys yr undebau ffermio a'r ffermwyr a oedd yn rhan o'r grwpiau cydgynllunio. Mae'r targedau plannu coed a chynefinoedd yn anymarferol a gofynnwyd iddynt gael eu dileu, ac mae rhai o'r gweithredoedd cyffredinol yn sarhâd llwyr i ffermwyr. Bydd yn gorfodi llawer ohonynt i adael eu tir neu ddod yn ddibynnol ar fiwrocratiaid neu ymgynghorwyr—dyna rywbeth nad oes neb ohonom eisiau ei weld. Cafodd hyn ei ddangos gan y niferoedd digynsail sydd wedi mynychu'r digwyddiadau ymgynghori ledled Cymru. Mae'n dyst i gryfder y teimlad fod yr undebau ffermio yn cydweithio ar hyn, a chredaf fod y niferoedd sy'n dod i Fae Caerdydd heddiw yn apêl ar Lywodraeth Cymru i wrando ar eu pryderon a bod yn ffrind i gefn gwlad Cymru.
Rwy'n falch fod y Gweinidog a'r Prif Weinidog wedi cyfarfod â chynrychiolwyr ffermio a'r undebau. A ddoe, fe wnaethoch gyhoeddi datganiad ar y cyd yn amlinellu'r camau nesaf a chyhoeddiadau mewn meysydd lle mae Llywodraeth Cymru yn ystyried gwneud newidiadau mewn perthynas â TB, parthau perygl nitradau a'r cynllun ffermio cynaliadwy ei hun. Ac mae'r ymateb gan yr undebau ffermio wedi bod yn gadarnhaol. Ond nid yw geiriau cynnes ynddynt eu hunain yn mynd yn bell iawn, Weinidog, ac mae angen camau gweithredu gan y Llywodraeth hon i fynd i'r afael â'r diffygion yn y cynllun ffermio cynaliadwy a pholisïau penodol i roi sicrwydd i'r gymuned ffermio eich bod yn gwrando.
Nid yw ffermwyr yn erbyn newid. Dros y blynyddoedd maent wedi addasu i lawer o gynlluniau Llywodraeth Cymru, fel Tir Gofal, Glastir, cynlluniau creu coetiroedd a gwahanol fathau o gynlluniau cynefin sydd wedi'u cyflwyno gan y Llywodraeth. Mae'r cynlluniau hyn, yn y gorffennol, wedi darparu buddion cadwraeth ac wedi cyflawni gofynion Llywodraeth Cymru. Ni ellir cyflawni'r camau amgylcheddol yn y cynllun ffermio cynaliadwy heb gydweithrediad ein ffermwyr. Mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda ffermwyr i greu cynllun sy'n ymarferol, yn gyraeddadwy ac yn un a fydd yn sicrhau bod ein ffermwyr yn parhau i ffermio.
Un elfen sy'n bwysig iawn i mi ac i lawer o'r Aelodau yw iechyd meddwl ein ffermwyr. Mae elusennau iechyd meddwl gwledig wedi bod yn brysur gyda phobl sy'n pryderu'n ddifrifol am eu dyfodol, ac mae hynny'n cael effaith niweidiol ar eu hiechyd meddwl. Hoffwn ddweud wrth y ffermwyr hynny, os oes unrhyw ffermwyr yn gwrando, peidiwch â dioddef mewn tawelwch ar eich pen eich hunan gartref, gofynnwch am gymorth a chefnogaeth, oherwydd bydd y cymunedau gwledig ledled Cymru yn eich cefnogi.
Gadewch inni beidio â diystyru difrifoldeb y sefyllfa hon. Rydym yn sefyll wrth groesffordd. A yw'r Llywodraeth bresennol hon yng Nghymru am ddilyn llwybr a fydd yn arwain at golli swyddi a chaledi economaidd, neu a ydym, gyda'n gilydd, am ddod o hyd i ffordd ac ateb sy'n diogelu ein cymunedau gwledig, ein hamgylchedd, ac yn bwysicach, ein ffermwyr? Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i wrando ar alwadau'r ffermwyr y tu allan a ledled Cymru, a chymryd rhan mewn deialog agored, cydnabod eu pryderon a chydweithio i fireinio'r cynllun ffermio cynaliadwy. Oherwydd hoffwn ddweud wrth bawb yn y Siambr hon, nid yw dyfodol cynaliadwy yn rhywbeth sy'n dod ar draul cymunedau gwledig. Rydym angen dull cytbwys, un sy'n diogelu'r amgylchedd gan feithrin yr economi ar yr un pryd.
Gyda'n gilydd, gallwn adeiladu Cymru sy'n ffynnu, lle mae cyfrifoldeb amgylcheddol yn mynd law yn llaw â chymunedau ffermio bywiog. Rwy'n annog pob Aelod yn y Siambr heddiw i wneud y peth iawn i'n ffermwyr a'r Gymru wledig, cefnogi ein cynnig, a bod yn ffrind mawr ei angen i'n ffermwyr a chymunedau gwledig. Dyma ein cyfle—ein cyfle ni—i anfon neges glir at bobl cefn gwlad Cymru ein bod ar eich ochr chi, a'n bod ni yn y Siambr hon yn ffrind i chi.
Mae llawer o Aelodau wedi gofyn am gael siarad, ond, yn anffodus, ni fydd pawb yn cael eu galw o fewn yr amser.
Felly, gofynnaf i bawb sydd am gyfrannu heddiw i sicrhau eich bod yn cadw o fewn eich amser, fel y gallwn gynnwys cymaint â phosibl, os gwelwch yn dda.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn ei henw hi.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod cyfraniad allweddol ffermio ac amaethyddiaeth at dirlun cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Cymru.
2. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnal lefelau cynllun y taliad sylfaenol yn 2024 er mwyn hwyluso’r broses o drosglwyddo i’r cynllun ffermio cynaliadwy.
3. Yn croesawu’r ymgysylltu gyda ffermwyr a rhanddeiliaid sydd wedi arwain at newidiadau cadarnhaol i’r gwaith o lunio’r cynllun ffermio cynaliadwy ers cyhoeddi’r cynllun amlinellol yn 2022.
4. Yn cefnogi diwygiadau pellach i’r cynllun ffermio cynaliadwy mewn ymateb i adborth oddi wrth ffermwyr yn ystod yr ymgynghoriad diweddar.
5. Yn nodi mai’r bygythiad mwyaf i sector ffermio cynaliadwy a diogelwch bwyd yng Nghymru yw effaith y newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.
6. Yn cymeradwyo bwriad y cynllun ffermio cynaliadwy i wobrwyo ffermwyr Cymru sy’n cymryd camau i ymateb i’r her honno.
7. Yn gresynu at bolisi Llywodraeth y DU o waredu sicrwydd o ran cyllid i ffermydd a lleihau cyllidebau, gan wneud y broses bontio yn fwy heriol ymhob un o wledydd y DU, gan greu ansicrwydd i ffermwyr.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Dwi jest eisiau cychwyn fy nghyfraniad drwy wneud cymhariaeth y bydd nifer ohonoch chi wedi fy nghlywed i'n ei gwneud cyn nawr, ond dwi yn meddwl ei bod hi'n gymhariaeth deg, oherwydd 40 mlynedd yn ôl, roedd nifer ohonom ni fan hyn yn y Siambr, bron pob rhan o'r Siambr, efallai, yn sefyll ochr yn ochr â'r glowyr wrth iddyn nhw frwydro am eu bywoliaeth. Mae nifer ohonom ni nawr yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â gweithwyr dur Port Talbot yn eu brwydr nhw i sicrhau eu bywoliaethau a sicrhau y trosglwyddiad cyfiawn yna, y just transition yna, o'r hyn sydd ganddyn nhw nawr i ddyfodol mwy cynaliadwy. Dwi ddim yn gweld unrhyw wahaniaeth rhwng y safiadau clodwiw a dilys yna a wnaethpwyd a'r safiad mae nifer yn ei wneud heddiw o safbwynt cymunedau gwledig a'r diwydiant amaeth.
Mae'r asesiad economaidd rŷn ni newydd glywed amdano fe, wrth gwrs, yn un rŷn ni'n gwybod, onid ŷn ni? Rŷn ni wedi gweld y ffigurau: 5,550 o swyddi, £200 miliwn yn cael ei golli o'r economi wledig, ac, wrth gwrs, rŷn ni sawl gwaith wedi sôn fan hyn am sut y mae pob £1 sydd yn mynd i mewn i'r diwydiant amaeth yn cynhyrchu £9 o return on investment. Felly, os ŷn ni'n tynnu £200 miliwn allan, rŷn ni'n tynnu naw gwaith yn fwy na hynny mas o'r economi wledig.
Nawr, dwi'n gwybod bod y Gweinidog wedi dweud, er tegwch, ac mae'n rhaid cydnabod hyn, fod y modelu yna wedi digwydd ar fodel oedd ddim yr un yn union ag sydd ger ein bronnau ni nawr pan fo'n dod i'r ymgynghoriad. Ond, wrth gwrs, a bod yn onest, dyw e ddim wedi newid cymaint â hynny, ydyw e, o beth oedd ger ein bron ni yn flaenorol. Efallai ei fod e ddim yn 5,500, ond mi fydd e yn nifer o swyddi, a dyna'r gofid.
A dŷn ni ond yn sôn fanna am yr elfennau econmaidd. Rŷn ni'n gwybod am yr impact cymdeithasol byddai hynny’n ei gael ar gymunedau gwledig. Rŷn ni'n gwybod am yr impact byddai hynny'n ei gael ar ddiwylliant yng nghefn gwlad, ac ar yr iaith Gymraeg, wrth gwrs, gan gofio bod y sector yn un o gynheiliaid mwyaf yr iaith Gymraeg. Ac mi ddof i hefyd at yr elfen amgylcheddol, ond dyna i chi bileri. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yma yng Nghymru, a phetai yna asesiad yn portreadu darlun lled debyg unwaith eto, yna mae cwestiwn gen i a fyddai hynny yn cwrdd â goblygiadau statudol y Llywodraeth yma pan fo'n dod i Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol.
Hoffwn ymhelaethu rhywfaint ar yr agwedd amgylcheddol, oherwydd rydym wedi gweld rhyw fath o bolareiddio barn yn dod i'r amlwg, onid ydym—neu farn ganfyddedig, dylem ddweud efallai—ac yn amlwg, mae rhai pobl wedi defnyddio'r ddadl hon i hyrwyddo eu hagenda eu hunain. Ond hoffwn ddweud bod unrhyw un a fyddai'n disgrifio ffermwyr fel pobl sy'n amharod i newid, neu'n gwrthod cydnabod bod ganddynt ran fawr i'w chwarae yn helpu cymdeithas gyfan i gyflawni ei heriau a'i galwadau mewn perthynas â newid hinsawdd, wel, maent yn cyfeiliorni. Mae'r diwydiant yn gwbl ymrwymedig. Mewn gwirionedd, yn eironig, mae'r diwydiant wedi ymrwymo i sero net erbyn 2040, sy'n gynharach nag ymrwymiad Llywodraeth Cymru, gyda llaw. Felly, gadewch inni beidio â cheisio polareiddio'r drafodaeth a'i disgrifio fel rhywbeth nad ydyw o gwbl.
Ond mae'n rhaid i'r Llywodraeth ddod â phawb gyda nhw ar y daith hon. Os nad yw'r cynllun yn gweithio i'n ffermydd teuluol, pwy fydd yn cyflawni'r canlyniadau y mae pawb ohonom eisiau eu gweld yn cael eu cyflawni drwy gynllun? Bydd pawb ar eu colled yn yr amgylchiadau hynny. Dywedwyd wrthyf droeon gan y rhai a fynychodd y cyfarfodydd teithiol, wrth i'r swyddogion restru'r gweithredoedd cyffredinol, erbyn iddynt gyrraedd rhif saith neu wyth, roeddent eisoes wedi penderfynu nad oedd yn addas iddynt hwy, ac nid oeddent hanner ffordd drwy'r rhestr o weithredoedd cyffredinol hyd yn oed. Felly, rwy'n credu, ar lefel bragmatig, fod angen inni ailedrych ar nifer y gweithredoedd cyffredinol i'w wneud yn fwy ymarferol.
Rydym wedi crybwyll o'r blaen—ac fe wneuthum hynny yn fy nghwestiynau yn gynharach am y 10 y cant o orchudd coed—ei fod yn bolisi un ateb addas i bawb ar gyfer diwydiant sy'n unrhyw beth ond yr un peth i bawb. Gallai fod yn iseldir, gallai fod yn ucheldir, gallai fod y tir mwyaf cynhyrchiol, yn ardal lai ffafriol, gallai fod yn gynnyrch llaeth, gallai fod yn gig eidion, gallai fod yn gig oen, gallai fod yn gnydau âr, ac eto mae gofyn i bawb wneud yr un peth. Mae angen mwy o hyblygrwydd arnom. Mae coed yn rhan o'r ateb, yn bendant, ond nid coed yw'r unig ateb.
Ac rwy'n cydnabod bod y datganiad ddoe am gyfres ehangach o opsiynau yn rhywbeth i'w groesawu, ond wrth gwrs, mae'r undebau ffermio wedi bod yn cynnig hyn i chi. Cyfeiriodd NFU Cymru at gynllun ARCZero yng Ngogledd Iwerddon y llynedd. Fe wnaethant dynnu eich sylw at hwnnw: mantolenni carbon unigol manwl gywir ar gyfer y fferm gyfan, gan ddefnyddio coed, pridd, gwrychoedd a phethau eraill. Cawsom ein syfrdanu gan y cyflwyniad ar hynny mewn cynhadledd ddiweddar gan yr NFU. Cawsoch eich gwahodd i Ogledd Iwerddon, rwy'n credu. Fe wnaethoch chi ddewis peidio â mynd, felly rwy'n gobeithio y gwnewch chi ailedrych ar y cyfleoedd hynny.
Llyr, mae angen ichi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda.
Iawn. Felly, os nad yw ffermwyr yn cefnogi'r cynllun, y neges allweddol yw eich bod mewn perygl o greu cynllun na fydd neb yn ei gyflawni ac na fydd yn cyflawni ar gyfer neb yn y pen draw.
Byddai unrhyw un yn meddwl bod hon yn ddadl a oedd yn digwydd mewn gwactod yng Nghymru'n unig, ond mewn gwirionedd mae dadl yr un mor frwd wedi bod yn Lloegr, ac mae mwy o ffermwyr bellach yn ymuno â'r fersiwn Seisnig o gynllun ffermio cynaliadwy sydd ganddynt yno. Mae'n amlwg fod yn rhaid inni ddod â'r ffermwyr gyda ni ar y daith. Rwy'n cytuno'n llwyr fod angen pontio teg i ffermwyr Cymru, ond nid yw hynny'n golygu nad oes angen i ni newid, oherwydd ar hyn o bryd, nid oes cydbwysedd rhwng yr arian cyhoeddus a fuddsoddwn mewn ffermio a'r nwyddau cyhoeddus sydd eu hangen arnom.
Gadewch inni edrych ar gynhyrchiant cig yng Nghymru. Dim ond 5 y cant o'r cig coch a gynhyrchir yng Nghymru sy'n cael ei fwyta yng Nghymru; mae 95 y cant yn cael ei fwyta naill ai yn Lloegr neu ar dir mawr Ewrop, neu ran fach yn y dwyrain canol. Ac eto, ni allwn ddod o hyd i'r ffynonellau cig y mae arlwywyr yn ein hysgolion angen eu prynu er mwyn bwydo ein plant. Felly, mae yna ddiffyg alinio yn hynny o beth yn bendant, ac mae angen inni feddwl ble y dylem fod yn rhoi ein cymhorthdal. Byddai'n well gennyf weld cymhorthdal i fwydo ein plant â chig o Gymru na chymhorthdal i fwydo pobl mewn gwledydd eraill.
Rydym eisoes yn gwybod, o'r sgwrs a gefais yn gynharach gyda'r Gweinidog, mai dim ond 6 neu 7 y cant o'r ffrwythau a'r llysiau yr ydym yn eu bwyta yng Nghymru sy'n cael eu tyfu yng Nghymru. Felly, fy nghwestiwn i yw: beth yw pwynt cynllun ffermio cynaliadwy oni bai ein bod yn gallu bwydo ein poblogaeth ein hunain? Os na all pobl gael y cynhwysion ffres ar gyfer deiet cytbwys ac iach yn y gymuned lle maent yn byw, byddant yn dibynnu ar hen lysiau a bara difwynedig yn y pen draw.
Fis diwethaf, ymwelais â Threorci ar gyfer un o frecwastau elusennol gwych Undeb Amaethwyr Cymru i siarad â ffermwyr lleol am yr hyn y maent ei eisiau o'r cynllun ffermio cynaliadwy a sut y dylai edrych yn eu barn nhw. Roedd y siop fferm ragorol a phoblogaidd a gâi ei rhedeg gan ferch i ffermwr lleol yn llawn o gig cwbl wych o bob math a gynhyrchwyd yn lleol, ac a laddwyd yn lladd-dy Maesteg, ac mae'n llythrennol rownd y gornel o'r stryd fawr, felly gallai unrhyw un gerdded i mewn a'i brynu. Ac roedd dwsinau o deuluoedd yn mwynhau'r brecwast llawn Cymreig ardderchog fel trît ar y penwythnos. Felly, roedd yn lle gwych i fod.
Pan euthum gyda'r fenyw wych sy'n rhedeg y siop fferm i edrych ar beth arall roeddent yn ei werthu yn y siop ar wahân i gig, nid oedd unrhyw ffrwythau na llysiau lleol o gwbl. Yn flaenorol, roeddent wedi gallu ei gaffael o'r Bont-faen, neu fel arall, o Dreherbert, ond roedd y siopau hynny mor llwyddiannus yn eu marchnadoedd lleol eu hunain fel nad oedd ganddynt unrhyw stoc dros ben ar gael, ac felly nid oedd yn werth eu hamser i ddod â'u cynnyrch i Dreorci. Felly, mae'n amlwg fod angen inni gynhyrchu mwy o lysiau a ffrwythau yn Nhreorci. Byddai hynny'n cryfhau'r economi leol ac yn sicrhau bod gan y gymuned leol fynediad at ffrwythau a llysiau ffres.
Rwyf hefyd eisiau tynnu sylw at y ffaith bod y pobydd agosaf yn Nhalgarth, ac os ydych chi'n brin o arian, nid ydych chi'n mynd i fynd ar fws i brynu bara. Felly, mae pobl yn dibynnu ar y dorth hollbresennol, wedi'i difwyno gan gemegau wedi'u prosesu'n helaeth, sy'n sicr o wneud mwy o niwed nag o les. [Torri ar draws.] Nid yw hyn yn ddigon da i gymuned Treorci, sydd o faint rhesymol, nac i lawer o drefi a phentrefi eraill ledled Cymru.
Jenny, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
A wnewch chi dderbyn ymyriad byr? Rydych wedi gwneud llawer o bwyntiau dilys iawn, ond roeddwn i'n meddwl tybed sut y gallai cael gwared ar 20 y cant o dir cynhyrchiol helpu i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd gennych.
Yn lle'r 0.5 y cant o'r tir rydym yn ei ddyrannu ar gyfer ffrwythau a llysiau ar hyn o bryd, nid oes ond angen inni ddyrannu 2 y cant o dir i ffrwythau a llysiau er mwyn datrys ein hangen domestig. Felly, nid yw hynny'n broblem yn yr achos penodol hwnnw. Gwnaed y gwaith hwnnw gan Amber Wheeler fel rhan o waith ymchwil academaidd y gallwn ei hanfon atoch.
Mae'n rhaid inni fynd i'r afael â mater pwysig prinder cynhwysion lleol ar gyfer ein rhaglen prydau ysgol am ddim. Mae adrannau arlwyo awdurdodau lleol yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i gyflenwadau addas am brisiau y gallant eu fforddio. Mae hyn yn rhywbeth y mae angen i'r cynllun ffermio cynaliadwy newydd fynd i'r afael ag ef. Dylid defnyddio'r arian cyhoeddus hwn er budd y cyhoedd, yn bennaf ar gyfer bwydo poblogaeth Cymru, nid poblogaethau tir mawr Ewrop.
Heddiw, cefais y fraint o gyfarfod â Teresa Corção, eco-gogydd o Rio de Janeiro, sydd wedi helpu i ddatblygu rhwydwaith o dyfwyr lleol sy'n bwydo'r 50 miliwn o ddisgyblion ysgol ym Mrasil sy'n cael eu bwydo bob dydd o'r wythnos yn unol â'r gyfraith, gan ddefnyddio cynhwysion lleol—
Jenny, mae angen ichi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda.
—a bwyd maethlon, sydd hefyd yn diogelu eu diwylliant. Dyma'r math o beth y mae angen i ni ei wneud yng Nghymru, ac mae angen i ni barhau i gael y sgwrs ddifrifol honno gyda'n ffermwyr am yr hyn y gallant hwy ei wneud a'r hyn y gallwn ni ei wneud i wneud hyn gyda'n gilydd.
I'r rhai ohonom a aeth y tu allan heddiw a sefyll gyda'r ffermwyr a'r cymunedau gwledig, gwelsom gryfder eu rhwystredigaeth a'u dicter. Mae arnaf ofn nad yw cywair ac iaith Gweinidogion Llafur yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi gwneud unrhyw beth i ostwng tymheredd y ddadl bresennol. Cawsom ddatganiadau ysgubol gan y Prif Weinidog, fel, 'Pleidleisiodd ffermwyr yng Nghymru dros adael yr UE'. Am ddatganiad hurt i'w wneud—datganiad hurt. Mae'n fy ngwylltio pan glywaf y Prif Weinidog yn dweud hynny, oherwydd y cyfan y mae hynny'n ei wneud yw beio ffermwyr am bolisi diffygiol y Llywodraeth ei hun. Awgrymodd y Prif Weinidog wedyn fod ffermwyr eisiau cymhorthdal i ffermwyr er mwyn iddynt wneud beth bynnag yr hoffent ei wneud ag ef. Nid wyf erioed wedi clywed ffermwr na'r sector yn awgrymu hynny i mi; nid ydynt wedi gwneud hynny. Ni allaf gredu nad yw'r Prif Weinidog yn deall bod cymorthdaliadau’n bodoli er mwyn i'n gwlad reoli ein cyflenwad bwyd, fel sydd wedi digwydd yn y DU, Ewrop a ledled y byd ers degawdau. Nid yw'n bodoli er budd ffermwyr; mae cymhorthdal yn bodoli er budd y cyhoedd, er mwyn sicrhau bod gennym brisiau bwyd fforddiadwy yn ein siopau.
Ni ddylai cryfder y teimladau heddiw synnu'r Llywodraeth—y brotest fwyaf a welodd y Senedd hon erioed—oherwydd yr iaith y mae Gweinidogion Llafur wedi'i defnyddio. Os ydynt eisiau gostwng y tymheredd yn y ddadl hon, mae'n rhaid iddynt roi'r gorau i ddefnyddio'r iaith bryfoclyd y maent wedi bod yn ei defnyddio hyd yma. 'Dim ffermwyr, dim bwyd', dyna mae'r sloganau'n ei ddweud y tu allan. Gadewch inni ddadansoddi hynny: os nad oes gennym ffermwyr, neu os oes gennym lai o ffermwyr, down yn fwy dibynnol ar fewnforio bwyd o'r tu allan i Gymru ac o'r tu allan i'r DU. Felly, gadewch inni agor ein llygaid i'r perygl a ddaw yn sgil hynny. Oni welsom hynny yn ystod COVID? Roedd gennym silffoedd gwag mewn rhai pethau allweddol. Ffrwythau, llysiau, llaeth, cig; digwyddodd hyn yn ystod pandemig COVID. Rydym yn gwybod pa mor anwadal yw ein cadwyni cyflenwi. Mae gennym ryfel yn Wcráin, mewn un wlad yn y byd, a gallwn weld yr effaith y mae hynny'n ei chael ar ein cadwyn gyflenwi fyd-eang—o un wlad yn unig. Rydym yn hanner cysgu os na allwn warantu ein cyflenwad bwyd ein hunain ar gyfer ein gwlad ein hunain a sicrhau ein bod yn cael trefn ar gadwyni cyflenwi ein gwlad.
Ni ddylem synnu bod cymaint o rwystredigaeth, nid yn unig ymhlith ffermwyr, ond ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol hefyd. Dylem fod yn gwneud popeth yn ein gallu, oni ddylem, i sicrhau ein bod yn cynhyrchu cymaint o fwyd â phosibl yn lleol, yma yng Nghymru. Rwy'n gwybod bod gennym gefnogaeth i hynny. [Torri ar draws.] Rwy'n gwybod. Mae gennym gefnogaeth i hynny ar draws y Siambr, a dyna sydd angen inni ei wneud. Y peth arall sy'n gwneud imi deimlo'n rhwystredig, ac rwy'n credu ei fod yn gwneud i ffermwyr deimlo'n rhwystredig—
A wnewch chi ildio?
Gwnaf.
Mae'n ymwneud â'r ddeuoliaeth ryfedd sydd gennym. Rwy'n deall y dadleuon dros ddiogeledd bwyd, ond ar yr un pryd, mae fy ffermwyr mynydd yn allforio llawer o'u cig oen oherwydd bod y farchnad yn talu premiwm amdano ym Mrwsel, yn Ffrainc ac yn y dwyrain canol. Felly, nid wyf yn credu y gallwch ddadlau ein bod yn mynd i orfodi'r ffermwyr hynny i roi'r cynnyrch hwnnw ar ein silffoedd lleol—neu a ydych chi'n dadlau hynny, a'n bod yn edrych ar reoli prisiau?
Rwy'n credu, Huw, eich bod yn fwriadol yn ceisio camddeall y pwynt rwy'n ei wneud. Mae'n rhaid inni sicrhau bod y bwyd a gynhyrchwn yn cael ei fwyta'n lleol. Wrth gwrs y dylem. Ac wrth gwrs gallwn allforio y tu hwnt i Gymru hefyd; dyna'n union rydym eisiau ei wneud.
I droi at bwynt arall, mae'n gwneud imi deimlo'n rhwystredig pan fo Gweinidogion y Llywodraeth yn dweud eu bod yn gwrando—[Torri ar draws.]
A all pob Aelod ar bob un o'r meinciau sicrhau fy mod i'n gallu clywed y siaradwr a bod yr Aelodau eraill yn gallu clywed y siaradwr?
Nid yw'r ffaith bod Gweinidog yn dweud eu bod yn gwrando yn golygu eu bod yn gwrando. Oherwydd ni welsom hynny'n digwydd gyda pharthau perygl nitradau, ni welsom hynny'n digwydd gyda TB buchol ac nid ydym yn gweld hynny'n digwydd nawr gyda'r cynllun ffermio cynaliadwy. Rydym yn gwybod hynny oherwydd mae'r undebau a'r sector ffermio wedi bod yn dweud ei fod yn anymarferol ers sawl blwyddyn—fod agwedd gorchudd coed y cynllun ffermio cynaliadwy yn anymarferol. Ac eto, mae'n dal i ymddangos mewn ymgynghoriad a gyhoeddwyd ddeufis yn ôl. Mae arnaf ofn fod hynny'n dangos nad yw'r Llywodraeth yn gwrando o gwbl.
Mae ein cynnig heddiw yn amlygu cynigion 2022 wrth gwrs, a fyddai'n arwain at 5,500 o swyddi yn cael eu colli yng Nghymru, ac wrth gwrs, byddai goblygiadau llawer ehangach i'r economi ehangach. Ond mae'r rhwystredigaethau yn y gymuned ffermio yn mynd y tu hwnt i'r cynllun ffermio cynaliadwy hefyd. Mae ffermwyr yn teimlo eu bod wedi eu gwthio i'r pen mewn gwirionedd. Mae gennych chi reoliadau'r parthau perygl nitradau sy'n gorfodi ffermwyr i osod seilwaith pan nad oes mo'i angen am nad oes unrhyw broblemau amgylcheddol yn yr ardaloedd hynny, ac mae hynny'n eu gwneud yn amhroffidiol o gymharu â gweddill y DU a gweddill Ewrop. Mae gennym TB buchol—clefyd creulon mewn da byw ac mewn bywyd gwyllt hefyd—ac mae'n llethu ffermwyr wrth iddynt ddioddef nosweithiau digwsg wrth aros am eu canlyniadau TB. Felly, mae arnaf ofn fod yn rhaid inni wneud mwy ynghylch TB hefyd. Mae'n rhaid inni fod yn difa bywyd gwyllt heintiedig er mwyn sicrhau ein bod yn dileu TB buchol am byth.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, bydd gennym Brif Weinidog newydd o fewn yr wythnosau nesaf, a bydd gennym Weinidogion newydd yn y Llywodraeth. Mae cyfle nawr i'r Llywodraeth ddilyn trywydd gwahanol, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn gwneud hynny.
Bydd yn rhaid i unrhyw gynllun ffermio sicrhau bod cynhyrchiant bwyd yn ganolog, bydd yn rhaid iddo gefnogi rôl weithredol ar gyfer ein cymunedau Cymraeg eu hiaith, a bydd yn rhaid iddo hybu economïau gwledig ffyniannus. Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy fel y mae—ac rwy'n derbyn bod ymgynghoriad ar y gweill—yn or-gymhleth ac yn anymarferol i ffermwyr. Roeddwn innau hefyd mewn cyfarfod ffermio gyda 500 o bobl yn Aberhonddu, lle cyflwynwyd y 17 o weithredoedd cyffredinol i ni. Ac mae'n rhaid imi ddweud, erbyn gweithred gyffredinol 10, ar byllau dŵr parhaol a thymhorol, nid fi oedd yr unig un a oedd wedi drysu'n llwyr; roedd y ffermwyr a oedd yn eistedd wrth fy ymyl yn dal eu pennau yn eu dwylo.
Rhaid imi ddweud, dylai unrhyw un sydd eisiau cyfrannu at y ddadl hon adolygu'r cynllun ffermio cynaliadwy a'r 17 o weithredoedd sylfaenol, yn ogystal â'r 10 y cant o orchudd coed a 10 y cant o gynefin, a dywedwch wrthyf wedyn ei fod yn gynllun ymarferol ac nad yw'n gymhleth. Mae baich gweinyddol y cynllun ar ffermwyr yn aruthrol, fel y mae'r effaith gronnol ar iechyd meddwl ffermwyr a'u teuluoedd, sy'n ofni colli incwm yn drychinebus os ydynt yn methu gweithredu'r cynllun yn briodol. Credwch fi, gwelais hynny yn y cyfarfod yn Aberhonddu. Roedd yno ffermwyr yn siarad mewn tristwch a gofid, ac mae'n rhaid inni newid. Rwy'n falch o glywed bod yna opsiwn i'r Gweinidog a'r Prif Weinidog edrych ar newidiadau difrifol i'r cynllun. Ar ôl toriadau sylweddol i'r gyllideb materion gwledig, ni all Llywodraeth Cymru fforddio parhau i dramgwyddo ein cymunedau ffermio ymhellach—nid pan fo'u hymroddiad yn hanfodol ar gyfer cynhyrchu bwyd, cynaliadwyedd, a nodau adfer natur. Mae ffermwyr eisiau bod yn bartneriaid gweithredol wrth lunio cynllun teg y gallant ymddiried ynddo.
Fel y dywedaf, rwy'n cydnabod bod yr ymgynghoriad ar gyfer y cynllun yn parhau, ac rwy'n croesawu'r camau dros dro calonogol a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru hyd yma. Mae Cymru angen cynllun ffermio syml sy'n gweithio i'n holl ffermwyr, ein cynhyrchwyr bwyd a'n hamgylchedd naturiol. Felly, gadewch inni weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod gennym gynllun sydd â bwyd wrth ei wraidd ac sy'n dod â phobl gyda ni ar y daith tuag at sero net. Diolch yn fawr iawn.
I ddechrau, rwyf am gyfeirio'r Aelodau at fy nghofrestr buddiannau. Rydym wedi clywed, ac fe glywsom hynny ddoe, fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda ffermwyr ers saith mlynedd i gyrraedd y pwynt hwn. Fodd bynnag, mae'n amlwg o wrthwynebiad cyfiawn y gymuned ffermio a'r miloedd o bobl yma heddiw nad yw'r Llywodraeth yn deall y diwydiant yn iawn o hyd na sut y gall eu polisïau effeithio ar fywyd gwledig. Mae ffermwyr Cymru yn wynebu storm berffaith o bwysau—blynyddoedd o effeithiau dinistriol TB yn gwthio teuluoedd at ymyl y dibyn, a wnaed yn waeth gan ddiffyg gweithredu'r Llywodraeth hon i fynd i'r afael â'r broblem honno'n iawn. Ychwanegwch bwysau parthau perygl nitradau a rheoliadau dŵr at hyn, gyda'r newidiadau rheoli a'r fiwrocratiaeth a ddaw yn eu sgil, a gallwn weld felly pam mai cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig y Llywodraeth fydd yr hoelen olaf yn yr arch.
Mae sylwadau diweddar y Prif Weinidog—ac rydym wedi eu clywed yn barod—pan ddywedodd na all ffermwyr wneud beth bynnag yr hoffai ffermwyr ei wneud gyda'r cymorth i ffermwyr yn rhoi halen ar friwiau agored, fel pe bai ffermwyr hyd yma wedi bod yn ddi-hid rywsut gydag arian cyhoeddus. Gadewch inni fod yn glir: rhoddwyd cymorthdaliadau ar waith yn wreiddiol i sicrhau bod gennym fwyd fforddiadwy a sector bwyd cynaliadwy, ac mae hyn yn fwy perthnasol heddiw nag erioed o'r blaen. Heb gymorth i ffermwyr, byddai ffermwyr yn gorfod gadael y diwydiant a byddai'n golygu costau uwch i brynwyr. Mae'r ddogfen ymgynghori yn dweud yn ei theitl, 'Cadw ffermwyr i ffermio'. Rwy'n gwarantu na fydd yn gwneud hynny. Bydd yn gwneud y gwrthwyneb. Bydd yn gorfodi llawer o ffermydd teuluol bach i adael y diwydiant. Byddai'n lleihau cynhyrchiant bwyd. Byddai'n gwanhau ein heconomi. Byddai'n bygwth cadwyni cyflenwi lleol a diogeledd bwyd, a byddai'r effaith ar ein diwylliant Cymreig a'n hiaith yn ddwys. Byddai holl wead y bywyd gwledig Cymreig yn datod.
Dylai'r Llywodraeth fod yn ymwybodol y bydd miloedd o ffermwyr yn optio allan os na fydd gweithredoedd sylfaenol fel y 10 y cant o orchudd coed a 10 y cant o gynefin, y gweithredoedd pyllau dŵr parhaol a thymhorol hurt, a gofyn i ffermwyr ddysgu sut i ofalu am eu stoc, i enwi rhai yn unig, yn cael eu hailystyried yn llwyr. Mae arnaf ofn fod gweledigaeth ramantus, iwtopaidd, Darling Buds of May y Llywodraeth hon ar gyfer sut y dylai ffermio fod yng Nghymru yn afrealistig. Rwy'n ofni bod yna ormod o bobl yn rhy agos at hyn na fyddent yn gallu gwahaniaethu rhwng un pen i fuwch a'r llall, ac mae'n bryd gwrando ar y rhai sy'n gwybod.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Gweinidog bellach yn dweud y bydd yn rhaid i bethau newid o fewn y cynllun. Weinidog, rydych chi eisoes yn gwybod yn union beth rydych chi'n barod i ildio arno, felly pam na wnewch chi ddweud wrthym yma nawr a gadael i ffermwyr wybod, dangoswch eich bod yn gwrando. Mae gennych gyfle perffaith heddiw i dawelu meddyliau. Nid yw ffermwyr eisiau bod yn ddig. Maent ond eisiau ffermio. Anobaith llwyr sy'n eu sbarduno i weithredu. I'r rhan fwyaf, mae rhwystrau'r gweithredoedd sylfaenol yn rhy fawr. Mae'r pryder a'r pwysau y mae ffermwyr yn ei deimlo ar hyn o bryd yn enfawr, maent yn poeni am ddyfodol eu teuluoedd a'u busnesau. Mae'r cynigion yn cynnig mwy o gwestiynau nag o atebion. Er enghraifft, a fydd iawndal am ddibrisio tir o ansawdd uchel y gallai fod yn rhaid plannu coed arno? A fyddai angen caniatâd cynllunio i adeiladu pwll dŵr tymhorol neu drwyddedau i symud y baw y byddem yn ei gloddio ohonynt? Mae cannoedd o gwestiynau i'w hateb, yn ogystal ag eglurder ynghylch lefelau talu. A hoffwn annog y Llywodraeth, os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny, i ystyried sut mae cynllun cymhelliant ffermio cynaliadwy Lloegr yn gweithio, gyda dewislen o weithredoedd wedi'u costio a chymysgedd o opsiynau y gall ffermwyr edrych arnynt. Mae llawer yn gofyn, 'Pam y dylai ein ffermwyr a'u ffermydd gael eu defnyddio fel arfau i lywio agenda werdd y Llywodraeth?' Pam y dylai ein ffermwyr dalu'r pris pan fo'r rhan fwyaf o wledydd yn cefnogi eu ffermwyr, gan gydnabod pa mor bwysig yw bwyd? [Torri ar draws.] Rwyf bron â gorffen. Iawn, ewch amdani.
Roeddwn i'n mynd i ddweud bod gennym argyfwng hinsawdd ac argyfwng bioamrywiaeth. Mae'n rhaid inni gael deialog ac mae'n rhaid inni newid.
Felly pam ein bod ni'n defnyddio ffermwyr a ffermydd fel arfau i gyrraedd yr agenda honno?
Rhaid i bawb newid.
Na, na, na. Rydym eisoes wedi clywed—rydym eisoes wedi clywed—fod y rhan fwyaf o wledydd yn cefnogi eu ffermwyr i greu bwyd cynaliadwy. Dyna ddylai fod yn weithred gyntaf i chi—bwydo eich gwlad. Bwydo eich gwlad. Rydym eisoes wedi clywed am yr ystadegau dinistriol. Mae eich asesiad effaith eich hun yn awgrymu y bydd swyddi'n cael eu colli, gostyngiadau enfawr yn niferoedd da byw, nifer o ergydion enfawr i gwmnïau ffermio. [Torri ar draws.] Lee, mae'r cyfan yn anghywir gennych chi hefyd. Nid yw'r cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig yn addas i'r diben ac mae'n rhaid ei ail-weithio er lles ein heconomi wledig, ein diogeledd bwyd a'n diwylliant Cymreig. Rwy'n gobeithio y bydd heddiw'n caniatáu i bob un ohonom droi cornel bwysig a dod o hyd i ddyfodol gwirioneddol gynaliadwy i ffermio yng Nghymru.
Yn gyntaf oll, gadewch imi ddiolch i'r ffermwyr yn fy etholaeth am y gwaith y maent yn ei wneud yn cynhyrchu bwyd da, maethlon mewn ffyrdd sy'n dda i les anifeiliaid, gyda phori agored ar borfa laswellt ac yn dda i fywyd gwyllt a bioamrywiaeth, ac am ein gwasanaethau ecosystem, fel lliniaru llifogydd, diogelu ansawdd pridd a dŵr. Mae'r rhan fwyaf o fy ffermwyr ar ucheldiroedd a thir comin bryniau dwyrain Morgannwg, a'r rhai sy'n crwydro i lawr i borfeydd ar yr iseldir, yn bennaf ffermydd cymysg bach a chanolig eu maint, ffermydd âr, da byw a defaid, gyda gwrychoedd a gorchudd coed a digon o laswellt a dulliau cyfrifol o reoli slyri ac yn y blaen. Mae rhywfaint o'r cynnyrch yn cael ei allforio am brisiau premiwm, ond mae eu hymdrechion yn cynnal y gwerthiant defaid hanesyddol ym Melin Ifan Ddu yn ein hardal ni, y lladd-dy, Maddock's, ym Maesteg—sydd dros 130 mlwydd oed ei hun, yn hŷn na'r rhan fwyaf o ddatblygiadau'r dref—a'n cigyddion lleol. Mae gan y ffermydd hyn aelodau o'r teulu sy'n gweithio yn y gymuned leol fel athrawon, perchnogion caffis a gweision cyhoeddus a mwy, gan nad yw'r ffermydd hyn erioed wedi gwneud elw enfawr; ffermio ffordd o fyw yw hyn i ffermwyr actif a theuluoedd ffermio sy'n rhan annatod o'u cymunedau.
Ond byddwn yn dadlau bod angen inni wella a chefnogi'r da—ac mae arfer da i'w gael allan yno—ar draws Cymru ac ar draws pob sector, yn y dull ffermio cynaliadwy newydd hwn, a chael gwared ar yr arferion gwael, a welais hefyd, sy'n gallu niweidio ein pridd, niweidio ein hafonydd, gwaethygu allyriadau carbon, a niweidio bywyd gwyllt a bioamrywiaeth. Mae'n rhaid inni fod yn onest am hyn. Felly, pan fyddwn yn siarad am ffermio cynaliadwy, mae angen iddo fod yn gynaliadwy ym mhob ystyr o'r gair: busnesau cynhyrchu bwyd cynaliadwy ac yn gynaliadwy yn amgylcheddol hefyd. Nid ydynt yn annibynnol ar ei gilydd.
Gadewch imi fynd ar drywydd rhai o'r pryderon presennol, gan nodi, fel y mae'r Gweinidog wedi dweud dro ar ôl tro hyd at syrffed, fod hon yn sgwrs ystyrlon ar ddiwedd saith mlynedd o ymgysylltu, ac rwy'n annog ffermwyr a'r undebau ffermio i'w thrin felly, ac yn ddidwyll, a chyflwyno eich awgrymiadau a'ch diwygiadau i'r cynllun arfaethedig, ond gadewch i'r pryderon hynny fod yn seiliedig ar ddarlleniad cywir o'r cynigion ac nid ar ragdybiaeth neu gamwybodaeth, oherwydd mae yna lawer o hynny, ac mae'n bwydo'r pryderon.
Nawr, mae llawer o'r ffocws wedi bod ar goetiroedd. Rwyf wedi treulio oriau gyda ffermwyr, ac mae rhai ohonynt yn gwybod na fydd ganddynt unrhyw broblem gyda hyn, ond mae gan eraill bryderon gwirioneddol. Ar hyn o bryd mae gan fferm gyffredin yng Nghymru oddeutu 6 y cant i 7 y cant yn barod—ceir amrywiaeth eang o ffermydd, ond 6 y cant i 7 y cant eisoes. Y gofyniad yn yr ymgynghoriad yw bod gan ddaliadau yn eu cyfanrwydd 10 y cant a derbyn taliad am yr holl ardal goediog honno, ac eto rwyf wedi ei glywed yn cael ei ddweud—ac rydym wedi ei glywed yn cael ei ddweud eto heddiw—fod angen inni gael gwared ar 10 y cant o dir cynhyrchiol, neu hyd at 20 y cant hyd yn oed. Nid dyna fy narlleniad i o'r cynigion presennol, ond nodwch eich pryderon, pryderon dilys, ond darllenwch y manylion.
Nawr, cafwyd ffocws dealladwy, fel y crybwyllwyd eisoes, ar swyddi ffermio a gollir o dan wahanol senarios, neu a gaiff eu dadleoli, er fy mod yn nodi bod y Gweinidog heddiw wedi dweud eto fod angen diweddaru modelu i adlewyrchu'r cynigion presennol a rhai sy'n dod i'r amlwg yn fwy cywir, ac rwy'n croesawu hynny, oherwydd mae angen iddo fod yn gyfredol ac yn gywir. Fodd bynnag, nid yw'r status quo wedi'i fodelu. Mae'r status quo wedi arwain yn llechwraidd dros nifer o flynyddoedd at ddwysáu ffermio—yn enwedig ffermio llaeth, ond nid dim ond hynny; cyfuno ac uno ffermydd a cholli ffermydd teuluol bach a chanolig ar draws rhannau helaeth o Gymru—[Torri ar draws.]—mewn eiliad; llai o enillion i ffermwyr gynhyrchwyr, a mwy o enillion i fanwerthwyr a chyfranddalwyr; marchnad dir sydd wedi gwthio gwerth tir amaethyddol i fyny a chost y tir hwnnw i'w rentu neu ei brynu, ac mae wedi cynyddu'r rhwystrau i newydd-ddyfodiaid yn ogystal. Beth yw'r costau mewn swyddi a cholled i'r economi wledig o barhau fel hyn? Gallai ffermydd, swyddi ffermio a natur barhau i gael eu colli o dan status quo. Gadewch inni fodelu hynny hefyd. Fe wnaf ildio, Mabon.
Roeddech chi'n sôn yno am bwysigrwydd ffermydd bach a chanolig, y fferm deuluol yng Nghymru, a'r ffaith ein bod wedi gweld dwysáu. Os na fydd ffermwyr yn cefnogi'r cynllun hwn, os ydynt yn optio allan, yr hyn a welwn fydd mwy o ddwysáu oherwydd byddant am wneud iawn am y colledion. Felly, mae'n rhaid ichi gael cynllun y maent yn ei gefnogi. Ar hyn o bryd, nid yw'r ffermwyr yn ei gefnogi. Felly, a ydych chi'n cytuno bod angen inni weld newid er mwyn i ffermwyr gefnogi cynllun a fyddai'n gweithio iddynt?
Ydw. Rwy'n cytuno'n llwyr fod angen i ffermwyr gefnogi hyn. Mae angen inni ddod â ffermwyr gyda ni ar hyn ac ymgysylltu â ffermwyr. Ac mae'n rhaid imi ddweud, mae'r Gweinidog wedi bod yn ymdrechu'n galed i geisio dweud mai dyna'n union yw hyn: mae hwn yn ymgynghoriad dilys ac ystyrlon. Ac rwy'n ailadrodd hynny eto oherwydd rwyf wedi bod allan ar y ffermydd, yn debyg i'r Aelod gyferbyn mae'n siŵr, yn treulio oriau gyda fy ffermwyr yn mynd drwyddo. Pan ddowch at y manylion, mae rhai o'r pryderon yn ddilys ac mae rhai ohonynt heb fod yn ddilys. Felly, dyna hyd a lled yr hyn y mae angen inni ei wneud. Mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd.
Gyda llaw, mae yna rai sy'n gwadu realiti newid hinsawdd wrth gwrs, ac mae rhai o'r rheini, yn anffodus, yn amlwg o fewn y mudiad 'dim ffermwyr, dim bwyd'. Ni allwn anwybyddu hyn. Mae yna rai hefyd sy'n gwadu realiti'r argyfwng natur sy'n ein hwynebu. Nawr, nid yw fy sylwadau wedi eu cyfeirio at y rhai sy'n gwadu'n llwyr yr heriau sydd gennym ar y cyd, ond yn hytrach y ffermwyr a'r arweinwyr fferm sy'n cydnabod bod angen i amaethyddiaeth chwarae ei rhan, gyda sectorau eraill, i fynd i'r afael â'r allyriadau a'r heriau amgylcheddol ledled Cymru. Felly, rwy'n croesawu mewnbwn ffermwyr i'r ffordd y gwnawn hyn.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n derbyn gair ffermwyr ac undebau ffermwyr Cymru, a ailadroddwyd dros nifer o flynyddoedd a llawer o sgyrsiau, eu bod eisiau dyfodol cynaliadwy i ffermio, lle gall ffermwyr ffermio, cynhyrchu bwyd da i safonau da—
Mae angen i chi orffen nawr, Huw, os gwelwch yn dda. Rwyf wedi rhoi amser ychwanegol i chi.
—ac am enillion gweddus. Rwy'n ymddiheuro. A gaf i ddweud yn syml: gadewch inni ddefnyddio'r ymgynghoriad hwn i ystyried pryderon, ond gadewch inni beidio â dadlau bod y status quo yn gynaliadwy? Nid yw'n gynaliadwy. Mae'n rhaid inni symud ymlaen gyda'n gilydd.
Wyddoch chi, wrth gerdded i mewn y bore yma a gweld y torfeydd yn dechrau ymgynnull a phresenoldeb yr heddlu, meddyliais am un unigolyn, y diweddar Brynle Williams, a fu'n Aelod yma, ac a oedd yn ffermwr ei hun, a'n rhybuddiodd dros 20 mlynedd yn ôl ynglŷn â diogeledd bwyd. Rwy'n credu ei fod yn siarad amdano ar sail fyd-eang. Ychydig a wyddai bryd hynny y byddem yn cael y ddadl hon nawr, ac mai Llywodraeth Cymru sydd bellach yn bygwth yr union ddiogeledd bwyd hwnnw. A dyn a ddaeth â'r wlad i stop mewn gwirionedd, a heddiw rydym yn gweld ein ffermwyr yng Nghymru yn dod â Bae Caerdydd i stop, ac mae pawb ar y meinciau hyn yn cefnogi pob ffermwr, eu teulu, eu plant a fu yma heddiw. Roedd y negeseuon ar y tractorau'n glir: 'Ni allwch fwyta coed', 'Dim ffermwyr, dim bwyd' a 'Digon yw digon'. Mae'r data ar effaith cynllun ffermio cynaliadwy Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn glir: da byw i lawr 122,200, swyddi i lawr 5,500, yr economi wledig i lawr £199 miliwn, ond eto nid ydych yn gwrando. Nid yw'r addewid o adolygiad ar y pwynt hwn yn ddigon. Hyd yn oed yn y ddadl hon heddiw, mewn ymateb i'n galwad am ddileu'r gofyniad am 10 y cant o orchudd coed a diddymu'r cynllun ffermio cyfan, rydych chi wedi ymateb gyda'r ymagwedd 'dileu popeth' diog iawn.
Rwyf am dynnu sylw'n fyr at y rhesymau pam fod eich cynlluniau mor anghywir. Mae'r gweithredoedd cyffredinol a grybwyllodd Jane Dodds yn methu cydnabod bod cyflawni canlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol yn ddibynnol ar sicrhau bod busnesau fferm yn gynaliadwy yn economaidd. Nid oes unrhyw weithred gyffredinol sy'n cydnabod pwysigrwydd cynhyrchiant bwyd yn uniongyrchol. Bydd gweithred gyffredinol 2 yn arwain at fwy o faich biwrocrataidd, oherwydd bydd yn rhaid i ffermwyr gwblhau o leiaf chwe chwrs a phasio o leiaf chwe phrawf bob blwyddyn. Ac mae hynny'n sarhaus i'n ffermwyr. Mae gweithred gyffredinol 7 yn arwain at ficroreoli ffermydd gan Lywodraeth Cymru, i'r fath raddau fel eich bod yn pennu gofynion, megis uchder y borfa, canran o laswellt uchel, pridd, a phryd y mae'n rhaid tynnu da byw oddi ar dir. Yn y bôn, mae gweithred gyffredinol 8 yn gofyn i ffermwyr greu cynefin dros dro a gwella tir drwy adael i natur feddiannu rhai mannau. Mae gweithred gyffredinol 8 hefyd yn mynd i arwain at leihau cynhyrchiant fferm oherwydd eich dymuniad i ficroreoli'r hadau mewn gwyndynnydd cymysg. O ble'r ydych chi'n cael hyn i gyd? Nid oes gennyf unrhyw syniad. Bydd gweithred gyffredinol 10 yn arwain at ffermwyr yn dinistrio ardaloedd o dir amaethyddol o ansawdd da er mwyn creu pyllau dŵr parhaol a thymhorol. Gweithred 10 eto, sy'n microreoli i'r fath raddau fel eich bod yn nodi fel hyn:
'Cloddiwch ei waelod fel bod y dŵr hyd at 500mm (50cm) o ddyfnder yn y canol yn y gaeaf, gyda dyfnder cyfartalog o 250mm (25cm).'
Bydd gweithred gyffredinol 13 yn arwain at golli tir amaethyddol o ansawdd da i 10 y cant o orchudd coed. Welwch chi, rwyf wedi ymwneud â'r broses ers yr ymgynghoriad cyntaf, 'Brexit a'n tir', yn 2018. Chwe blynedd yn ddiweddarach ac mae'n syfrdanol eich bod yn dal i wthio polisi nad yw'n cydnabod pwysigrwydd cynhyrchiant amaethyddol. Rydych chi'n manteisio ar eich methiant mawr i sicrhau nad yw targed sero net 2050 Llywodraeth Cymru yn ystyried allyriadau nwyddau sy'n cael eu mewnforio o dramor. Nid ydych yn ystyried ôl troed carbon dim o hynny. Mewn ymdrech i gyflawni sero net erbyn 2050, rydych chi'n gwrthbwyso cynhyrchiant i genhedloedd eraill. Mae'n amlwg yn anghyfrifol—[Torri ar draws.] A ydych chi eisiau dweud—? A ydych chi eisiau codi a gofyn cwestiwn i mi? Dewch, gadewch inni ei gael. Gadewch inni ei gael.
Janet, parhewch â'ch cyfraniad, os gwelwch yn dda.
Diolch. Mae hynny'n amlwg yn anghyfrifol, o ystyried bod astudiaeth gan Brifysgol Bangor wedi canfod bod gan ddulliau ffermio defaid a chig eidion Cymru ymhlith yr allyriadau nwyon tŷ gwydr isaf o gymharu â systemau tebyg yn fyd-eang. Hoffwn ychwanegu mewn gwirionedd: nid yw rhai o'ch allyriadau chi ymhlith y gorau, Lee Waters. [Chwerthin.] Dylech fod yn cefnogi cynhyrchiant bwyd yng Nghymru. Rwy'n gofyn i chi, Weinidog, ac rwy'n gofyn i chi, Lywodraeth Cymru: gweithiwch gyda'n ffermwyr ac nid yn eu herbyn—
Janet, un eiliad. Mae angen i'r Aelodau sicrhau bod cyfraniadau'n cael eu clywed yn glir, ac mae Janet yn dod at ddiwedd ei chyfraniad, oherwydd mae angen inni fwrw ymlaen.
Diolch. Gweithiwch gyda'n ffermwyr, nid yn eu herbyn, i ddod o hyd i ffordd Gymreig ymlaen. Ac rwy'n cefnogi'r ffermwyr sy'n dweud eich bod wedi cynhyrfu'r ddraig, mae'r ddraig bellach yn effro. Ac rwy'n dweud wrthych nawr: byddwn yn ymladd pob brwydr gyda ffermwyr Cymru nes ein bod yn gweld rhywfaint o synnwyr cyffredin gan eich Llywodraeth i sicrhau bod ein ffermwyr yn cael eu cefnogi unwaith ac am byth. Diolch yn fawr.
Rydym yn prysur nesáu at ein terfyn amser, ac rwy'n bwriadu galw tri siaradwr arall cyn y Gweinidog. Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac eisiau siarad ydw i y prynhawn yma yn syml iawn am beth yn union mae'n cymunedau gwledig ni yn ei olygu i ni yng Nghymru, a hynny i danlinellu pwysigrwydd eu cefnogi nhw. A dwi ar y dechrau yma yn datgan budd fel Aelod dynodedig sy'n gwthio am newid i'r SFS, ac fel rhywun sydd ag aelodau o fy nheulu a teulu estynedig yn gweithio yn y sector amaeth.
Mewn gymaint o ffyrdd—gymaint o ffyrdd—mae busnesau amaeth a'r holl fusnesau eraill sy'n rhan o'r gadwyn gyflenwi wledig yn asgwrn cefn i'n heconomi yng nghefn gwlad, ond mae amaeth hefyd yn greiddiol i'n cymunedau gwledig ni, i wead y cymunedau hynny ym mhob cwr o’r wlad, a dyna pam dwi'n dweud dro ar ôl tro bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn bencampwr gwirioneddol dros amaeth a chefn gwlad Cymru.
I edrych ar yr elfen economaidd yn gyntaf, mae'r cynhwysion craidd rydym ni'n eu cynhyrchu yn gonglfaen i'r sector bwyd a diod, sy'n cyflogi yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gymaint â 239,000 o bobl. Mae amaeth a chadwyn gyflenwi'r diwydiant werth £8 biliwn, gyda ffermwyr yn gwario £1.4 biliwn yn flynyddol ar bopeth o borthiant i beiriannau a chontractwyr. Mae'r ffigur yma yn un rydym ni'n cyfeirio ato fo'n aml: am bob £1 o arian cyhoeddus sy'n cael ei fuddsoddi mewn amaeth, mae dros £9 yn cael ei greu o fewn yr economi Gymreig, ac mae'r cyhoedd yn gweld hyn.
Mi wnaeth NFU Cymru gomisiynu gwaith ymchwil gan YouGov ddiwedd y llynedd a oedd yn cadarnhau lefel gref iawn o gefnogaeth gyhoeddus—82 y cant o dros 1,000 gafodd eu holi yn dweud eu bod nhw'n gefnogol o weld Llywodraeth Cymru yn cynnig cefnogaeth ariannol i ffermwyr i gynhyrchu bwyd.
Felly, gallwn weld yr effaith eang, effaith economaidd eang amaethyddiaeth a'r gefnogaeth iddi—y swyddi uniongyrchol, cyflogaeth anuniongyrchol yn y gadwyn gyflenwi. Sut ydych chi'n mesur cyfraniad amaethyddiaeth a rheoli tir i'r diwydiant twristiaeth gwerth £2.8 biliwn yng Nghymru? Bydd ffermio yn bartner allweddol wrth gyflawni'r newidiadau sydd eu hangen arnom i ddiogelu'r amgylchedd a bioamrywiaeth, ond mae cyfraniad diwylliannol a chymunedol y sector amaethyddol yn rhywbeth arall na allwn fforddio ei ddiystyru. Mae perthynas glir rhwng y Gymraeg a'r sector amaethyddol yng nghefn gwlad Cymru. Mae cyfran y siaradwyr Cymraeg yn y boblogaeth oddeutu 20 y cant; ymhlith gweithwyr amaethyddol, mae oddeutu 40 y cant.
Mae dyfodol amaeth yn greiddiol i ddyfodol yr iaith Gymraeg, ac nid dim ond o ran niferoedd ffermwyr a'u teuluoedd sy'n siarad Cymraeg ond o ran y dylanwad maen nhw'n ei gael ar gymdeithas wledig ehangach. Pan ydw i'n edrych ar waith rhagorol y ffermwyr ifanc—Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru—yn cynnal bwrlwm y Gymraeg, dyna i chi fudiad. I fenthyg dyfyniad o heddiw a'r ymgyrch rydym ni'n tystio iddi: heb ffermwyr, heb ffermwyr ifanc, a heb ffermwyr ifanc, heb ddyfodol i'r sector. Ond eto, beth sydd gennym ni ydy cynllun SFS y mae'r Llywodraeth eu hunain yn rhagweld byddai'n creu chwalfa o ran swyddi ac o ran incwm yng nghefn gwlad.
Dyna pam mae'n rhaid i Lywodraeth, ar y foment yma mewn amser, yn wyneb galwadau cryf a chwbl resymol gan gefn gwlad Cymru drwyddi draw, ddangos y gallan nhw fod y pencampwyr sydd eu hangen ar y diwydiant. Ar SFS, un peth ydy gwrando, ond mae yn amser gweithredu.
Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad yn y ddadl heddiw. Ac mewn gwirionedd, wrth wrando ar y cyfraniadau, mae'n ymddangos bod consensws i fod eisiau dod o hyd i ffordd drwy hyn, ac rwy'n cymeradwyo'r Gweinidog, er tegwch. Efallai fod hynny'n swnio'n rhyfedd yn dod oddi ar y meinciau hyn, ond rwy'n cymeradwyo'r Gweinidog am weithio gyda'r undebau ffermio a'r gymuned ffermio dros y saith mlynedd diwethaf i geisio dod o hyd i ffordd ymlaen.
Ond mewn rhai ffyrdd, roedd y brotest allan yno'n arwydd o'r methiant i gyfleu'r cyfleoedd sydd ar gael i ddiwydiant amaeth Cymru a chymunedau ar hyd a lled Cymru—cymunedau gwledig sy'n dibynnu ar ffermwyr i fod yn asgwrn cefn i'r cymunedau hynny. A pheidiwch ag anghofio, heno bydd 800 miliwn o bobl yn mynd i'r gwely'n llwglyd ledled y byd. Bydd 800 miliwn o bobl—10 y cant o boblogaeth y byd—yn mynd i'r gwely heb bryd o fwyd yn eu stumogau. Ac mae'n rhaid inni gofio hefyd fod y byd amaethyddol bob amser wedi bod yn fyd o newid. Mae bob amser wedi croesawu newid. Gallaf gofio diwygiadau MacSharry yn y 1990au a diwygiadau Fischler wedyn ar ddechrau'r 2000au, pan wnaeth y newidiadau sylfaenol yn y polisi amaethyddol cyffredin osod y cywair ar gyfer yr 20, 30, 40 mlynedd nesaf, gyda neilltuo tir, ac yna, yn amlwg, daethpwyd â thaliadau hanesyddol i mewn bryd hynny hefyd.
Ac mae hwn yn gyfle i Lywodraeth Cymru osod cyfeiriad teithio sy'n rhoi diogeledd bwyd a'r amgylchedd wrth wraidd yr hyn rydym am ei wneud. Nid wyf yn gwadu realiti newid hinsawdd. Rwy'n credu'n angerddol fod yna argyfwng hinsawdd, ac mae angen inni fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd hwnnw. Ond mae angen inni hefyd gynnal diogeledd bwyd fel cyd-bartner wrth ddatblygu'r cydbwysedd sy'n sicrhau bod dyfodol i ffermwyr a'r gymuned wledig yn gyffredinol. Dyna'r pwyslais a ddaeth yn amlwg wrth siarad â ffermwyr allan yno heddiw. Nid ydynt yn teimlo bod y gobaith hwnnw yno. Nid ydynt yn teimlo bod cyfle yn y cynllun presennol i ddatblygu diwydiant ffermio a all ddarparu'r bwyd a'r enillion amgylcheddol sydd eu hangen arnom. A dyna beth sydd angen i bawb ohonom geisio rhoi ein pwysau y tu ôl iddo a'i ddatblygu.
Croesewir y cyhoeddiad diweddar gan y Prif Weinidog a'r Gweinidog materion gwledig am y newid hwnnw, ac mae'r ddeialog honno ddoe yn y datganiad a wnaed yn taflu pelydryn o olau drwy ddrws a oedd i'w weld fel pe bai wedi'i gau'n glep i lawer o bobl. Ond pan edrychwch ar ddadansoddiad economaidd o'r cynigion sydd o'n blaenau ar hyn o bryd, a yw'n syndod fod 2,500, 3,000 o ffermwyr wedi dod yma ar brynhawn gwlyb ym mis Chwefror heddiw? Colli 5,500 o swyddi—yn uniongyrchol, nid y swyddi cysylltiedig a gollir—colli 125,000 o wartheg, 800,000 o ddefaid, 370 miliwn litr o gwota llaeth ac ergyd economaidd o £200 miliwn i'r economi wledig: mae'r rhain yn niferoedd enfawr a fyddai'n codi ofn ar unrhyw un mewn unrhyw sector.
A phan siaradwch am y dadleuon ynghylch Brexit, y clywais eu trafod lawer tro, ac rwy'n siŵr y bydd cyfrannwr a ddaw ar fy ôl yn eu codi, edrychwch ar brisiau'r farchnad ar hyn o bryd. Cig oen, £3.30 a mwy y cilo pwysau byw. Mae hynny £1 y cilo yn fwy na'r hyn ydoedd yr adeg hon y llynedd, ac nid yw erioed wedi bod mor uchel o'r blaen. Pris cig eidion—pris cig eidion yn y dyfodol ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae contractau ar gael ar hyn o bryd ar gyfer £5.50 y cilo, pwysau marw. Nid yw hynny erioed wedi digwydd ar lawr y farchnad o'r blaen, cynnig y cyfle hwnnw i bobl, dweud y gallwch fuddsoddi yn yr hinsawdd iawn yn y dyfodol. Ac mae angen mwy o gynhyrchiant domestig. Rwy'n derbyn hynny. Rwy'n derbyn hynny'n llwyr. Yn anffodus, o dan y polisi amaethyddol cyffredin, aethom o 75 y cant o ddiogeledd bwyd yn y bwyd y gallwn ei gynhyrchu i lawr i 50 y cant o hunangynhaliaeth yn y bwydydd y gallwn eu cynhyrchu. Yn hollbwysig, rwy'n ychwanegu'r pwynt am 'fwydydd y gallwn eu cynhyrchu'.
Felly, nid oedd y polisi amaethyddol cyffredin yn llwyddiant mewn unrhyw ddull na modd. Mewn gwirionedd, fe wnaethom leihau ein gallu i gynhyrchu bwyd yn yr ynysoedd hyn a mewnforio mwy o fwydydd. Mae hwn yn gyfle euraidd i bolisi ddod gan Lywodraeth Cymru sy'n bywiogi cefn gwlad Cymru ac yn cyffwrdd ar yr agenda treftadaeth y mae Plaid Cymru wedi sôn amdani, ynghylch y Gymraeg a'r diwylliant hefyd. Ond i mi, mae'r dyfodol yn ymwneud â diogeledd bwyd mewn byd sy'n gynyddol gyfnewidiol, byd nad yw'n ddiogel, fel y gwelwn bob dydd ar ein setiau teledu. Mae'r cyfleoedd yno os unwn y tu ôl i gynllun sy'n cyflawni'r agenda diogeledd bwyd ac amgylcheddol honno wedi'i chyfuno, ac fel y nododd Huw Irranca, mae'r busnesau hanesyddol sy'n cyd-fodoli mewn llawer o'n cymunedau yn disgwyl i'r Senedd hon heddiw ddangos y gefnogaeth honno a'r undod hwnnw.
Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n myfyrio ar y cynnig sydd ger bron y Senedd heddiw ac yn pleidleisio arno, oherwydd rwy'n methu gweld, ar ôl gwrando ar y ddadl hon heddiw, sut mae unrhyw un yn anghytuno â'r hyn sydd ynddo. Mae angen saib, stop, yn y ddeialog ar hyn o bryd ynghylch y cynllun ffermio cynaliadwy, a rhoi ystyriaeth go iawn i'r pwyntiau sydd wedi'u codi, a chyflwyno cynllun newydd sy'n crynhoi'r pwyntiau hynny fel y gallwn symud ymlaen gydag agenda fwy cadarnhaol a blaengar. Ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n pleidleisio ar gynnig y Ceidwadwyr sydd o'n blaenau heno, ac yn y pen draw, y gallwn anfon y neges unedig honno a chynnig gobaith, nid anobaith, i'r ffermwyr a ddaeth yma heddiw, i'r ffermwyr a arhosodd gartref ac sydd wedi edrych ar yr hyn a wnawn yn ein gwaith yma ar eu rhan. Manteisiwch ar y cyfle, bachwch ar y dyfodol, oherwydd gall y dyfodol fod gyda ni ac fe allwn ei siapio.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Ddirprwy Lywydd. A gaf i groesawu cywair arweinydd yr wrthblaid yn ei eiriau y prynhawn yma? Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn mabwysiadu'r cywair hwnnw. Rwy'n croesawu'n fawr y ffordd yr agorodd James Evans y ddadl y prynhawn yma, oherwydd mae James a minnau'n gymdogion etholaethol. A bob hyn a hyn byddaf yn cerdded i fyny heibio Top House ar hyd hen dramffordd Bryn Oer i Ogof y Siartwyr ac i fyny at y darren ar Fynydd Llangynidr ac yn edrych draw at y Mynydd Du, Bannau Brycheiniog. Anaml y byddaf yn mynd mor bell â hynny a'u dringo, ond rwy'n edrych arnynt. A'r hyn a welwch, wrth gwrs, yw tirwedd ddiwydiannol. Mae'n dirwedd sydd wedi ei chreu gan ddyn, gan amaethyddiaeth. Mae hi bron mor ddiwydiannol â'r dirwedd y tu ôl i mi, wrth edrych i'r de tuag afon Ebwy Fach, afon Ebwy Fawr, cymoedd Sirhywi a gynrychiolir gennyf.
A phan fyddaf yn siarad â'r ffermwyr yn fy etholaeth, wyddoch chi gyda phwy rwy'n siarad? Rwy'n siarad â phobl sydd ag un o'r swyddi anoddaf yng Nghymru heddiw. Rwy'n siarad â phobl sydd allan bob awr ym mhob tywydd, yn gweithio'n galed i ddarparu'r bwyd sydd ei angen arnom i gyd. Wyddoch chi beth? Nid swydd neu alwedigaeth yn unig yw'r hyn rwy'n ei weld, ond cymuned. Ac rwy'n gweld rhywbeth sy'n symbol o'n gwlad. Pa ymwelydd rhyngwladol a fu yma erioed ac a adawodd heb gael cynnig cig oen neu gig eidion Cymreig neu delpyn o gaws Cymreig? Pa ymwelydd rhyngwladol nad yw'n cael clywed am yr hyn y mae Cymru'n ei gynhyrchu, y bwyd a gynhyrchwn, y bobl rydym ni a'r cymunedau yr ydym wedi ceisio eu creu ar y ddau benrhyn gorllewinol hyn ym Mhrydain?
Ac wrth wneud hynny rydym yn sôn am le amaethyddiaeth nid yn unig yn ein hanes ond yn ein diwylliant, yn ein presennol ac yn ein dyfodol. Oherwydd, pan edrychwn ar yr holl dirluniau hyn, edrychwn ar dirweddau sydd wedi eu creu a'u cynnal i raddau helaeth gan gymunedau ffermio Cymru. Ac yn hynny o beth, nid oes rhaniad yma rhwng y ffermwyr a gynrychiolir gennyf i a'r ffermwyr y mae James ac eraill yn eu cynrychioli. Ac rwy'n gwybod bod gwaith caled yn eu huno i gyd. A dyna pam y credaf fod angen inni ymwrthod â iaith rhaniadau a'r lleisiau croch, y bobl sy'n ceisio creu dwy, tair, pedair Cymru. I mi, un Gymru sydd wedi bod erioed. A chyda'n gilydd mae'n rhaid inni ddatrys problemau'r dyfodol. Ac fe allwn wneud hynny.
Wyddoch chi, mae yna broblemau enfawr yn wynebu amaethyddiaeth heddiw, ac rwy'n credu bod ffermwyr wedi cael cam. Rwy'n credu iddynt gael cam gan Brexit a greodd rwystrau enfawr i fasnach gyda'n marchnadoedd mwyaf. Gwelais Weinidogion y DU yn mynd i negodi gostyngiadau i gyllidebau'r polisi amaethyddol cyffredin—caent eu cefnogi gan y Democratiaid Rhyddfrydol ar y pryd. Ond fe'u gwelais yn mynd am frecwast, croissants a choffi, yn grŵp o'r un anian—'Sut y gallwn leihau taliadau ffermio?'—heb feddwl am y cymunedau y ceisiwn eu cynrychioli. Gwelais sut y cafodd pobl gam. A gadewch imi ddweud hyn—fe ddywedaf hyn yn hollol glir—tra bo ynof chwyth, ni fydd y Llywodraeth hon byth bythoedd yn gwneud i gefn gwlad Cymru yr hyn a wnaeth Llywodraeth Thatcher i gymoedd glofaol de Cymru. Ni wnawn hynny. Ni wnawn siomi'r bobl sydd wedi ein hanfon yma a'r bobl y ceisiwn eu cynrychioli. Byddwn bob amser yn ceisio creu un Gymru ac nid rhaniadau ar draws Cymru.
Felly, sut mae bwrw ymlaen â hyn? Mae llawer o'r hyn a glywais yn y ddadl y prynhawn yma wedi creu argraff fawr arnaf, ac mae'n amlwg—ac mae'r Gweinidog wedi amlinellu hyn—fod angen cael sgwrs. Ac mae angen cael sgwrs nid yn unig am gynaliadwyedd amaethyddiaeth—er bod yn rhaid cael sgwrs wedi'i gwreiddio yng nghynaliadwyedd amaethyddiaeth—ond hefyd cynaliadwyedd ein tir, cynaliadwyedd ein cymunedau, cynaliadwyedd ein diwylliant, cynaliadwyedd ein hiaith. A phan siaradaf gyda ffermwyr rwy'n gwrando arnynt ac rwy'n gallu clywed yr ansicrwydd, gallaf glywed y gorbryder, gallaf deimlo'r ofn yn eu lleisiau. A'r hyn sy'n rhaid inni ei wneud yw estyn allan a sicrhau eu bod yn teimlo y gallant drosglwyddo'r fferm honno ymlaen i genedlaethau'r dyfodol y soniwn amdanynt yn y lle hwn, a'n bod yn gwneud hynny gan wybod bod dyfodol i'r cymunedau hynny.
Fe wnaeth gwrando ar Adam Price yn siarad ychydig wythnosau yn ôl am Arfor a'r cysyniad o gydweithio fel cymuned argraff fawr arnaf. Ac rwy'n gobeithio, pan fydd y Gweinidog yn ystyried ac yn adolygu'r cynllun ffermio cynaliadwy, y bydd yn darparu cynllun nad yw'n ymwneud â ffermio cynaliadwy yn unig, ond sy'n ymwneud â chymunedau cynaliadwy. Cymunedau sy'n gallu byw ac anadlu. Cymunedau a fydd yn parhau i fod yn symbol o'n gwlad. Cymunedau a fydd yn parhau i allu cyflenwi'r bwyd sydd ei angen arnom. Ond cymunedau hefyd lle gall pobl fyw, lle gall pobl fforddio prynu cartref, lle gall pobl fuddsoddi yn y dyfodol. Cymunedau lle nad yw pobl yn ofni'r dyfodol. Ac rwy'n credu y gallwn wneud hynny gyda'n gilydd. Os yw'r Senedd hon a'r Llywodraeth hon yn mynd i olygu unrhyw beth—. Os na allwn sicrhau dyfodol cefn gwlad Cymru, nid ydym yn haeddu galw ein hunain yn Senedd nac yn Llywodraeth. Dyma brawf ar bob un ohonom, o ble bynnag y down, a phwy bynnag a gynrychiolwn. Ond rwy'n credu ei fod yn brawf y gallwn ei oresgyn gyda'n gilydd. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, Lesley Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n falch o allu ymateb i'r cynnig a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig. Pasiwyd Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 yn unfrydol gan y Senedd hon. Mae'r Ddeddf yn adlewyrchu ein hymrwymiad ar y cyd i sicrhau dyfodol cynaliadwy i ffermio yng Nghymru, fel cynhyrchwyr bwyd, fel rhan annatod o'n cymunedau, cefn gwlad a diwylliant. Nid wyf yn credu bod dull y Ceidwadwyr Cymreig o weithredu yn iawn i Gymru.
Lle mae'r Ceidwadwyr mewn grym yn Lloegr, nid oes unrhyw ddyletswydd ar Weinidogion i weithredu i warchod gwead cymunedau gwledig yn y ffordd y maent yn darparu cymorth i ffermwyr. Nid oes ymrwymiad i gyhoeddi'r holl ddadansoddiadau sy'n llywio'r dewisiadau a wnânt. Yn wir, mae ceisiadau i gyhoeddi eu tystiolaeth wedi cael eu gwrthod. Nid oes unrhyw ymgynghoriad ar y cynlluniau cymorth y gallant eu darparu, neu beidio â'u darparu. Maent wedi arwyddo cytundebau masnach sy'n gwneud ein ffermwyr yn agored i gystadleuaeth annheg, ac maent hyd yn oed wedi damcaniaethu'n ddi-hid a oes angen ffermwyr ar Brydain o gwbl. Mae'r Blaid Geidwadol yn anghywir ar bob cyfrif.
Yng Nghymru, mae dyletswydd ar Weinidogion i gynnal cymunedau gwledig, i gyhoeddi ein tystiolaeth i'w chraffu'n briodol, ac i ymgynghori cyn lansio polisïau newydd. Credwn fod bod yn agored a chydweithio—nad yw bob amser yn hawdd—yn sicrhau canlyniadau gwell yn y pen draw i bobl Cymru. Felly, rwy'n falch o gael cyfle eto i fynd i'r afael â chamddealltwriaeth ynghylch y modelu economaidd y cyfeirir ato yng nghynnig y Ceidwadwyr.
Nid yw'r gostyngiad mewn gweithgarwch economaidd a ddisgrifir yn y dadansoddiad yn rhagfynegiad o effaith y cynigion presennol. Yn hytrach, mae'n tynnu sylw at bwysau ariannol y mae'r cynigion presennol yn ceisio mynd i'r afael ag ef. Cyhoeddwyd y dadansoddiad cynnar hwn am ei fod yn darparu'r cyd-destun ar gyfer y cwestiwn pwysig ynghylch y ffordd orau o wobrwyo'n ariannol y gwerth cymdeithasol a ddarperir gan ffermio yng Nghymru.
Rydym yn cytuno bod y dadansoddiad yn dangos yr angen i wella'r taliadau gwerth cymdeithasol i ffermwyr yn y ffordd y nododd Rhun ap Iorwerth. Y cwestiwn yw beth yw'r ffordd orau o wneud hyn mewn modd sy'n deg i ffermwyr ac sy'n deg i'r cyhoedd y bydd y cynllun yn dibynnu ar eu buddsoddiad.
Nid y pwysau economaidd a fyddai'n codi o ganlyniad i weithredu'r cynllun yw'r hyn y mae'r dadansoddiad yn ei ddangos. Yn y byd go iawn, os nad yw'r cynllun o fudd ariannol i ffermwyr, byddent yn dewis peidio ag ymuno ag ef. Er mwyn gweld sut olwg sydd ar hyn mewn bywyd go iawn, nid oes ond angen edrych dros y ffin ar Loegr. Ni chawsant unrhyw ymgynghoriad ar eu cynlluniau. Nid ydynt wedi bod yn gwbl dryloyw gyda'u dadansoddiad. O ganlyniad, maent wedi methu annog ffermwyr i ymuno â'r dewis mympwyol o gynlluniau anghyflawn y maent wedi'u lansio.
Ac eto, mae'r Ceidwadwyr wedi torri taliadau i ffermwyr hyd at 55 y cant, ac maent yn tanwario ar y gyllideb cymorth i ffermwyr, gyda channoedd o filiynau o bunnoedd a ddylai fod wedi mynd i ffermwyr wedi mynd yn ôl i'r Trysorlys. Dychmygwch y dicter ar eich meinciau chi pe bawn i wedi anfon arian yn ôl at Lywodraeth y DU o fy nghyllideb amaethyddol.
Mewn gwirionedd, rydym i gyd yn gwybod bod y Ceidwadwyr wedi torri eu haddewid i roi cyllid llawn yn lle cyllid yr UE i ffermydd. Yng Nghymru, maent wedi tynnu bron i £0.25 biliwn—£0.25 biliwn—o'n cyllideb cymorth i ffermwyr. Dyna arian y dylid bod wedi'i fuddsoddi yn ein cymunedau gwledig. Meddyliwch sut y gallai hwnnw fod wedi cefnogi ein ffermwyr yn y blynyddoedd heriol a gawsom. Yn lle hynny, cafodd ei lyncu gan eich camreoli economaidd chi.
Ble'r oedd y Ceidwadwyr Cymreig pan oedd y penderfyniadau niweidiol hyn yn cael eu gwneud gan eich Llywodraeth? A oeddech chi'n galw ar eich cymheiriaid yn San Steffan i feddwl eto? Nac oeddech. Roeddech chi'n hollol dawel. Efallai heddiw y byddwch yn ddigon dewr i alw ar eich cymheiriaid i adfer cyllid llawn ar gyfer ffermwyr Cymru. Mae Russell George yn dweud:
'Dylem fod yn gwneud popeth a allwn',
ac rwy'n ei ddyfynnu. Felly, rwy'n awgrymu bod hynny'n un peth y gallwch chi a gweddill eich grŵp ei wneud.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud ei bod yn bwriadu rhoi blaenoriaeth i dorri trethi.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Diolch. Mae'r ddadl heddiw, a'r rhwystredigaeth y tu allan, yn ymwneud â'r cynllun ffermio cynaliadwy, TB a pharthau perygl nitradau. Ymwneud â hynny y mae'r ddadl heddiw. Rydych chi'n ceisio symud y cyfrifoldeb i ffwrdd o'ch cyfrifoldebau yma. Cadwch at yr hyn sy'n gyfrifoldeb i'r Senedd hon yma a'r penderfyniadau a wnaed gennych chi mewn perthynas â ffermio yng Nghymru.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud ei bod yn bwriadu blaenoriaethu toriadau treth ac y bydd yn torri meysydd heb eu diogelu yn y gyllideb, gan gynnwys cyllid fferm, er mwyn eu cyflawni. Dyna mae'r Ceidwadwyr yn ei gynnig i ffermwyr: addewidion gwag yn gyhoeddus, gan fynd ar drywydd polisïau economaidd yn breifat sy'n methu cydnabod gwerth ffermio yn y wlad hon. Nid wyf yn eu gweld yn ymladd pob brwydr—i ailadrodd geiriau gwag Janet Finch-Saunders.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu cynllun ffermio cynaliadwy sy'n ddeniadol i bob ffermwr ymuno ag ef—
—gyda thaliad i wobrwyo ffermwyr am y gwerth cymdeithasol y maent yn ei greu, fel rhan o gymunedau gwledig, yn ogystal â'r incwm y maent yn ei ennill yn gwerthu cynnyrch yn y farchnad. Wrth gwrs. Mae'n ddrwg gennyf.
Roeddwn yn croesawu'r cyfeiriad yn y datganiad ddoe at sicrhau cadernid economaidd ffermydd a hefyd osgoi gadael i'r cynllun newydd wneud ffermydd yn anhyfyw. A yw'r Gweinidog yn barod heddiw i ymrwymo i'r egwyddor y bydd cynigion diwygiedig, pan gânt eu cyflwyno a phan fyddwch yn eu modelu, yn cynnwys ymrwymiad na fydd gostyngiad i incwm busnesau fferm, o'i gymharu â'r cynllun presennol yn gyffredinol?
Un o'r pethau y mae angen inni edrych arno—. Rwy'n sylweddoli ei bod wedi bod yn rhwystredig iawn i ffermwyr beidio â chael modelu wedi'i wneud ar y taliadau y byddant yn eu cael am y cynllun ffermio cynaliadwy, a dyna'r pwynt, Russell George, rwy'n ceisio ei wneud am y toriadau yn y gyllideb y cyfeiriaf atynt. Un o'r pethau—ac rydym wedi gweithio gyda Phlaid Cymru ar hyn—ynghylch y taliadau sefydlogrwydd oedd gwneud yn siŵr, wrth iddynt nesáu at y cynllun ffermio cynaliadwy, y byddant yn cael y taliad sefydlogrwydd hwnnw. Bydd yn rhaid inni edrych—. Ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod beth yw ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae'n anhygoel o anodd gwneud addewidion pan nad ydych chi'n gwybod beth yw eich cyllideb.
Mae cynnig y Ceidwadwyr yn galw am gael gwared ar greu coetiroedd o'r cynllun ffermio cynaliadwy, a hoffwn roi sicrwydd ynghylch ein cynigion ac egluro pam y credaf y byddai dileu creu coetiroedd o'r cymorth i ffermwyr yn ddewis anghywir i Gymru. Mae ehangu sylweddol i greu coetiroedd yn elfen gynhenid o'r targedau lleihau carbon cyfreithiol rwymol y mae'r Senedd hon—unwaith eto'n unfrydol—wedi deddfu arnynt. Ar ben hynny, mae angen ehangu coetiroedd i addasu i effeithiau newid hinsawdd, er mwyn lliniaru effeithiau llifogydd, tanau a sychder.
Mynegwyd pryderon y gallai mynd ar drywydd newid ar raddfa fawr i ddefnydd tir yng Nghymru arwain at gynnydd cyflym yn y tymor byr na ellir ei gynnal neu sy'n hunandrechol hyd yn oed. Mae Llywodraeth Cymru yn rhannu'r pryderon hynny a dyna'n union pam ein bod yn cynnig ein bod yn canolbwyntio ein hymdrechion creu coetiroedd ar dalu ffermwyr i integreiddio coetiroedd o fewn ffermydd cynhyrchiol. I lawer o ffermwyr, nid yw hyn yn ddim byd newydd, ac maent wedi bod yn awyddus i bwysleisio i mi yr angen i gael modd o alluogi ffermwyr i fynd y tu hwnt i'r gofynion sylfaenol ar ddiwrnod 1 yn gyfnewid am daliadau uwch. I eraill, maent yn pryderu y byddai dehongliad anhyblyg o'r gofynion yn ei gwneud hi'n anodd iddynt ymuno â chynllun o gwbl. Felly, fel rhan o'r ymgynghoriad, rydym wedi nodi rhai o'r ffyrdd nad yw hwn yn ofyniad anhyblyg, sy'n eithrio cynhyrchu bwyd ac y gall ystyried y cyfyngiadau gwirioneddol sy'n bodoli ar rai ffermydd. Ac yn dilyn yr ymgynghoriad, byddwn yn sicr yn gwneud gwelliannau pellach.
Pe bai creu coetiroedd yn rhwystr artiffisial rhag ymuno â'r cynllun, byddai'r cyhoedd yn colli'r holl fuddion eraill y mae'r cynllun ffermio cynaliadwy yn eu sicrhau yn gyfnewid am eu buddsoddiad. Rydym wedi cyhoeddi tystiolaeth helaeth ynghylch cyfleoedd creu coetiroedd yng Nghymru, fel rhan o'n modelu amgylcheddol, a cheir enghreifftiau gwych o amaethgoedwigaeth ac arallgyfeirio i goedwriaeth gan ffermwyr ledled Cymru. Nid wyf am amddifadu ein ffermwyr o'r cyfle hwn, rwyf am weithio gyda nhw i ddeall y ffordd orau y gallwn ei wneud yn hygyrch mewn ffyrdd a all wella gwytnwch eu busnesau fferm, ac mae llawer o ffermwyr Cymru eisoes yn dangos sut y gellir gwneud hyn a byddwn yn mireinio ein polisi mewn ymateb i'r ymgynghoriad—[Torri ar draws.] Ni allaf dderbyn rhagor, mae'n ddrwg gennyf. Mae fy amser ar ben.
Na. Mae amser y Gweinidog eisoes ar ben ac rwyf wedi rhoi amser ychwanegol iddi.
Fel bod pob fferm yn gallu llwyddo i wella'r coetiroedd ar eu ffermydd.
Hoffwn ailadrodd fy ngalwadau ar bawb sydd â diddordeb yn nyfodol ffermio i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Wrth ddweud hynny, rwyf am gyfeirio at sylwadau Peter Fox fy mod eisoes yn gwybod beth fyddaf yn ei newid yn yr ymgynghoriad. Mae hynny'n rhagfarnllyd ac yn sinigaidd iawn. Nid wyf yn gwybod. Ac rwy'n ailadrodd y bydd pob llais yn cael ei glywed a bydd pob ymateb yn cael ei ystyried cyn gwneud penderfyniadau. Byddwn yn parhau i lansio system newydd o gymorth i ffermwyr pan fyddwn yn hyderus ei bod yn barod, pan fydd dadansoddiad terfynol wedi'i gwblhau a'i gyhoeddi, a phan fydd cyllidebau a chyfraddau talu wedi eu cadarnhau.
Felly, i gloi, mae'n amlwg iawn i'n ffermwyr yng Nghymru, os yw'r Ceidwadwyr Cymreig o ddifrif yn gweld gwerth ffermio yng Nghymru, dylent ymuno heddiw â Llywodraeth Lafur Cymru i alw ar Lywodraeth Geidwadol y DU i ymrwymo a chyhoeddi'r cyllidebau ar gyfer cymorth i ffermwyr, fel y gallwn roi'r sicrwydd y maent yn ei haeddu i ffermwyr Cymru. Diolch.
Galwaf ar Sam Kurtz i ymateb i'r ddadl.
Ar ôl rhyw 60 munud o'r hyn y credwn ei bod yn ddadl adeiladol, rhywbeth a amlygwyd gan Aelod o'r meinciau cefn Llafur hyd yn oed, rwy'n credu bod ymateb y Gweinidog wedi methu taro'r nodyn cywir y prynhawn yma. Nid wyf yn credu bod araith wedi'i pharatoi ymlaen llaw gydag un neu ddau o nodiadau ar rai o'r pwyntiau a wnaed ar y meinciau hyn yn mynd yn bell o gwbl i fodloni ofnau, dicter, rhwystredigaeth a phryderon ffermwyr Cymru. Rwy'n siomedig iawn mai dyna fydd ffermwyr wedi'i gael o'r ddadl hon oddi ar feinciau'r Llywodraeth heddiw.
Ond pam ein bod ni yma? Pam ein bod wedi cyrraedd mor bell pan fo cymaint o gydweithredu, a chytundeb cymodlon ar sut olwg a ddylai fod ar gymorth i ffermwyr yn y dyfodol, a pham ei bod wedi cymryd rhwng 3,500 a 4,000 o ffermwyr ar risiau'r Senedd i gael datganiad gan y Llywodraeth ar y polisi hwn? Mae ffermwyr yn teimlo nad ydynt wedi cael eu clywed. Mae ffermwyr yn teimlo eu bod wedi cyfrannu dro ar ôl tro at ymgynghoriad ar ôl ymgynghoriad, ond eto nid oes unrhyw beth yn newid. Mae ffermwyr yn teimlo bod Llywodraeth Cymru'n eu trin fel ffyliaid pan fydd yn cyflwyno cynigion, nid yn unig ar y cynllun ffermio cynaliadwy, ond ar ddileu TB ac ar barthau perygl nitradau, pan fo'r dystiolaeth o'r sector yn cael ei diystyru o blaid yr hyn a ddaw o swyddfeydd mewn mannau eraill.
Mae'n ddigalon ceisio mynegi'r rhwystredigaethau a deimlwn gan y ffermwyr y tu allan heddiw. Rwy'n gwybod bod ambell Aelod wedi cyrraedd y gangwe rhwng y fan hon a'r fan draw. Byddwn wedi hoffi pe baent wedi mynd allan i siarad â'r ffermwyr hynny. Roedd y ffermwyr y cyfarfuom â nhw mor heddychlon, mor gwrtais a llawn parch, a oedd ond eisiau gwneud eu pryderon yn hysbys drostynt eu hunain, ac nid yn unig drostynt eu hunain, ond dros eu plant a'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr yng Nghymru.
Tynnodd Alun Davies sylw at hyn: mae ffermio'n ymwneud â mwy na'r ffermwr yn unig, mae'n ymwneud â'r diwylliant, a'r gymuned. Mae'n rhaff achub, mae'n anadl einioes ein cymunedau gwledig. Os ydych chi'n cael gwared ar hynny, os ydych chi'n rhwygo'r asgwrn cefn o gefn gwlad Cymru, nid yw Cymru'n bodoli fel gwlad mwyach. Ni fyddai hon yn Llywodraeth i Gymru gyfan mwyach. Rwy'n falch o weld bod y ddau ddarpar Brif Weinidog yn eu seddi yma, oherwydd, bydd y ddau ohonoch, pwy bynnag a fydd yn llwyddiannus, yn etifeddu perthynas wirioneddol doredig rhwng cefn gwlad Cymru a'r Llywodraeth hon yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae gennych andros o waith ailadeiladu'r berthynas honno ar ôl yr hyn sydd wedi digwydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Un peth yr hoffwn ei nodi mewn perthynas â'r holl bwyntiau hyn yw cydnabod yr hyn y mae ffermwyr eisoes yn ei wneud, popeth y buom yn siarad amdano yma o ran cynhyrchu bwyd cynaliadwy a chynaliadwyedd ein cymunedau gwledig. Ni cheir cydnabyddiaeth i'r hyn y maent eisoes yn ei wneud, oherwydd dangosodd cais rhyddid gwybodaeth nad yw Llywodraeth Cymru yn cadw data ar faint o garbon sydd eisoes wedi ei atafaelu yn nhir amaethyddol Cymru. Sut y gallwn ni weithredu cynllun newydd os nad oes gennym ddata sylfaenol ar gyfer gweld gwelliannau? Mae hynny i mi yn esgeuluso'r ddyletswydd i gyflwyno cynllun sy'n gweithio i Gymru, sy'n gweithio i ffermwyr Cymru, sy'n gweithio i'n cymunedau gwledig ac sy'n gwella ein sector.
Mae'r sector amaethyddol bob amser wedi gweld newid. Pan oeddem yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd am oddeutu 40 mlynedd, fe aeth y polisi amaethyddol cyffredin i gyfeiriad penodol ar ôl yr ail ryfel byd. Rwy'n credu bod dadwneud 40 mlynedd o bolisi amaethyddol ag un ergyd heb fawr o ymgynghori ac un ymgynghoriad terfynol a fydd yn cau yn ystod y 10 diwrnod nesaf, i'w weithredu yn 2025, gyda thua 10 mis i fynd, yn gamgymeriad. Mabon.
Os gwnei di gymryd ymyrraeth, wyt ti'n cytuno gyda fi ac yn rhannu'r siom ein bod ni wedi clywed y Gweinidog yn sôn am goedwig, ac, wrth gwrs, mae hynna yn bryder i'r amaethwyr, rydym ni'n gwybod hynny, ond bod yna ddim cyfeiriad o gwbl yn ymateb y Gweinidog i'r 17 gweithred cyffredinol—universal action—yma, ac mae'r rheini, yn gymaint â'r goedwig, hefyd yn broblem anferthol i'r amaethwyr, a byddan nhw ddim yn gallu ymateb yn gadarnhaol? Mae'r 17 yna'n mynd i danseilio'r ffordd mae ffermwyr yn gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd. Wyt ti'n rhannu'r siom yna?
Ie, wrth gwrs. Dwi'n rhannu'r siom gyda Mabon, a beth sy'n fy siomi i hefyd—
Mae'n fy siomi hefyd fod y Gweinidog wedi cyfeirio at ein cynnig drwy ddweud ein bod am gael gwared ar greu coetiroedd. Wel, rwyf wedi ailddarllen y cynnig eto. Mae'n dweud ein bod am gael gwared ar y targed o 10 y cant ar greu coetiroedd. Mae ffermwyr yn credu o ddifrif fod lle i goed ar eu ffermydd, yn y lle iawn, am y rheswm cywir. Nid ydynt yn ei wrthwynebu, ac nid ydynt yn gwrthwynebu newid. Felly, cefais fy siomi gan y sylw hwnnw gan y Gweinidog, a oedd yn gamarweiniol ynghylch yr hyn y mae ein cynnig yn sefyll drosto heddiw.
Fe wnaethoch chi sôn am y gweithredoedd cyffredinol, y 17 gweithred gyffredinol. Roeddwn yn Arberth gyda chyfarfod teithiol NFU Cymru, ac unwaith eto rwy'n canmol gwaith yr undebau, gwaith diflino'r ddau undeb ffermio wrth ddadlau dros y diwydiant—nid eu haelodau'n unig, ond y diwydiant cyfan. Roeddwn yn y cyfarfod yn Arberth wrth iddynt fynd drwy bob un o'r 17 gweithred gyffredinol, a'r unig ffordd y gallwn ddisgrifio hwyliau'r ffermwyr oedd un o sioc lwyr, 'Sut ar y ddaear y cyrhaeddwyd y pwynt lle mai'r 17 o weithredoedd cyffredinol hyn yw'r agosaf at yr hyn y gallai'r polisi terfynol fod?'
Rwy'n galw ar y Senedd hon heno, nid i ddweud, 'Dyma lle'r ydym, felly byddwn yn gadael i'r ymgynghoriad barhau ac fe wneir newidiadau.' Rwy'n credu'n gryf erbyn hyn fod y cynllun ffermio cynaliadwy mor ddiffygiol yng ngolwg ffermwyr fel na all unrhyw gynllun fynd rhagddo os caiff ei alw'n gynllun ffermio cynaliadwy. Rwy'n credu'n wirioneddol na all y cynllun ffermio cynaliadwy fodoli mwyach beth bynnag ac ni waeth beth yw'r newidiadau a wneir iddo. Mae'n rhaid cyflwyno cynllun newydd, rhaid iddo fod yn gynllun a gyflwynir drwy gydgynllunio go iawn, oherwydd mae'r cydgynllunio yma'n dangos tystiolaeth unwaith eto na chaiff ffermwyr eu clywed, yn enwedig mewn perthynas â gorchudd coed. Rhaid iddo fod yn gydgynllunio go iawn; rhaid iddo fwrw ymlaen â'r cyngor a'r dystiolaeth wyddonol ar atafaelu carbon, ar gynhyrchiant, y defnydd o dechnoleg, gwyddoniaeth ac ymchwil.
Rheswm arall pam fy mod yn siomedig gyda'r Llywodraeth hon yw eu bod wedi dewis peidio â bwrw ymlaen â'r Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl), cyfle i wella cynhyrchiant a chynaliadwyedd. Fe wnaethant ddweud 'na'. Dyna enghraifft o'r ffordd y mae'r Llywodraeth hon yn trin cefn gwlad Cymru—Llywodraeth sy'n barod i orfodi'r Sioe Frenhinol i newid ei dyddiad o bosibl, un arall o'r mil o ergydion sy'n araf ladd cefn gwlad Cymru, sydd wedi gorfod goddef hyn i gyd—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rwy'n hapus iawn i dderbyn ymyriad gan Alun.
A ydych chi'n meddwl bod defnyddio rhethreg o'r fath yn helpu'r ddadl?
Rwy'n derbyn yr ymyriad, ac rwy'n deall o ble rydych chi'n dod. Ond pan fo'r Prif Weinidog wedi dweud y datganiadau a ddywedodd a chynyddu'r gagendor rhwng Llywodraeth Cymru a ffermwyr, rwy'n credu bod ffermwyr yn rhwystredig. Rwy'n gweld fy hun yn gyntaf ac yn bennaf fel mab i ffermwr ac fel gwleidydd yn ail, felly rwy'n rhannu rhwystredigaethau fy ffrindiau, fy nheulu a'r rhai rwy'n eu hystyried yn gymheiriaid yn y byd amaeth.
Felly, nid ydych yn gweld eich hun fel arweinydd.
Rwy'n gweld fy hun fel arweinydd, wrth gwrs. Rwy'n gweld fy hun fel—
Peidiwch â chynnal trafodaeth ar draws y meinciau, os gwelwch yn dda.
Rwy'n derbyn hynny, Weinidog. Yr hyn rwyf eisiau gorffen gydag ef yw'r ffaith bod yna ffordd well i'w chael. Mae'r gymuned a'r sector amaethyddol yn gweld ffordd well. Maent yn byw mewn ffordd well; maent eisiau newid a chroesawu. Popeth y sonioch chi amdano, Jenny Rathbone, mae ffermwyr yn dymuno hynny a mwy, ond mae'n rhaid ichi weithio gyda nhw, nid yn eu herbyn. Rhaid gwneud pethau o'r gwaelod i fyny, nid o'r brig i lawr, ac rwy'n credu'n wirioneddol fod gan Gymru gyfle mor dda fel cenedl fach ac ystwyth i gyflwyno polisi amaethyddol sy'n addas i ffermwyr Cymru, sy'n addas i'r Gymru wledig, ac sy'n addas i Gymru gyfan. Rwy'n annog pawb i bleidleisio gyda chynnig y Ceidwadwyr Cymreig heno.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.
Eitem 7 yw dadl Plaid Cymru ar TB buchol. Galwaf ar Llyr Gruffydd i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8494 Heledd Fychan
Yn cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi arolwg NFU Cymru ar TB mewn gwartheg yng Nghymru sy'n datgan:
a) bod 70 y cant o ffermwyr yn disgrifio dull Llywodraeth Cymru o ddileu TB fel un gwael iawn;
b) bod 85 y cant o ffermwyr yn dweud bod TB yn effeithio'n negyddol ar eu hiechyd meddwl, a bod 63 y cant o'r ffermwyr a holwyd yn beio bywyd gwyllt am drosglwyddo TB; ac
c) y gost ariannol gyfartalog amcangyfrifedig y flwyddyn i ffermydd a ddarparodd fanylion cost yw £25,677, gyda data ar draws yr holl ymatebwyr yn dangos dros 30 y cant yn amcangyfrif bod eu costau dros £10,000 a 13 y cant dros £50,000.
2. Yn gresynu at:
a) y baich ariannol ac iechyd meddwl aruthrol ar ffermwyr yng Nghymru a berir gan TB gwartheg; a
b) y diystyriaeth barhaus o farn arbenigol a thystiolaeth wyddonol gan Lywodraeth Cymru, ar draul gwartheg Cymru a lles ariannol a meddyliol ffermwyr Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cynnal gwerthusiad ac arfarniad hirdymor o reolaethau gwartheg cyfredol ar frys i bennu eu heffeithiolrwydd cymharol wrth atal a rheoli trosglwyddo clefydau;
b) gwneud newidiadau ar unwaith i'r polisi lladd ar y fferm;
c) sefydlu polisïau sy'n adlewyrchu bywyd gwyllt fel ffynhonnell haint ac sy'n caniatáu dulliau difa a rheoli priodol a gwyddonol dilys; a
d) trafod gydag NFU Cymru, UAC a chynrychiolwyr eraill o'r sector amaeth yng Nghymru i sefydlu ffordd newydd ymlaen wrth bennu polisi TB gwartheg Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn ichi, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n symud cynnig Plaid Cymru ar TB mewn gwartheg
Mae TB mewn gwartheg, fel ŷn ni’n gwybod, wedi taflu cysgod hir a thywyll dros y diwydiant amaeth a chymunedau gwledig ers blynyddoedd lawer erbyn hyn, yn bygwth bywoliaethau, yn herio hyfywedd ffermydd teuluol, ac yn iau ar iechyd meddwl unigolion a theuluoedd cyfan. Mae’r teimlad yna o fraw wrth gyfri lawr y dyddiau tan y prawf TB, a’r teimlad wedyn o arswyd wrth ichi aros am y canlyniadau, yn chwarae ar feddwl rhywun, onid yw e? Ac wedyn yr anobaith llwyr os ŷch chi’n clywed newyddion drwg. Mae gen i ffrindiau, mae gen i deulu, mae gen i gymdogion sydd wedi ac sydd yn byw yr uffern hwnnw, yr uffern sydd yn arwain at golli cwsg, at golli gobaith, ac yn aml iawn at golli meddwl.
Fel glywon ni gan y teulu yna o Gapel Isaf ar y rhaglen dorcalonnus yna o Ffermio ar S4C ychydig yn ôl, ‘Y cwbl ŷn ni’n gwneud nawr', meddai Wyn, ‘yw magu gwartheg i gael eu difa nhw ar y clos'. Pa mor drasig yw hynny? Ac un teulu, wrth gwrs, oedd rheini—un teulu o gannoedd lawer o deuluoedd sydd yn byw yr un uffern o wythnos i wythnos ac o fis i fis. Am wewyr. Am dorcalon. Ac am halen ar y briw pan fod y Llywodraeth yn gwrthod rhoi ar waith pob opsiwn posib i fynd i'r afael â'r cyflwr dinistriol yma.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Nid oes unrhyw amheuaeth fod y dicter a'r rhwystredigaeth yn y diwydiant ynghylch methiant Llywodraethau olynol dro ar ôl tro i weithredu strategaeth gynhwysfawr i ddileu TB yng Nghymru mor fawr nawr ag y bu erioed. Rwyf wedi eistedd yn y Siambr hon ers 13 mlynedd, a phob blwyddyn rwyf wedi gwrando ar wahanol Weinidogion yn cyflwyno eu datganiad blynyddol ar TB mewn gwartheg. Dros y blynyddoedd, do, fe gafwyd amrywiadau bach—i fyny, weithiau, ac i lawr ar adegau eraill, a dyna natur gylchol y pethau hyn. Ond yn y bôn, nid oes unrhyw beth wedi newid. O dan y polisi presennol, mae Cymru'n troi mewn cylchoedd. Ac rwy'n siŵr y gallai'r datganiad blynyddol eleni, i bob pwrpas, fod yr un datganiad â'r un a roddwyd 10 mlynedd yn ôl.
Ar ôl degawd o brofi yng Nghymru, nid ydym wedi ennill fawr ddim tir ar reoli'r clefyd. Yn chwarter 3 yn 2013, y gyfradd ym mhob 1,000 o wartheg a adweithiodd i'r prawf oedd 3.2 buwch. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, yn chwarter 3 y llynedd, y gyfradd a adweithiodd i'r prawf oedd 5 buwch ym mhob 1,000. Mae'n mynd yn waeth. Ar hyn o bryd, mae 16 y cant o'r holl fuchesi llaeth ledled Cymru dan gyfyngiadau symud oherwydd TB—16 y cant o'n buchesi llaeth. Clywsom ar y grisiau yn gynharach y prynhawn yma y tu allan i'r Senedd gan filfeddyg a ddywedodd fod cynnydd o 26 y cant wedi bod yn nifer y buchesi dan gyfyngiadau symud TB yn ardal risg uchel y gorllewin lle mae'n byw ac yn gweithio o gymharu â ffigurau'r flwyddyn flaenorol. Felly, nid yw'r clefyd yn diflannu, ac mae'r hunllef yn parhau.
Ddeng mlynedd yn ôl, câi tua 6,300 o wartheg adweithiol eu lladd bob blwyddyn yng Nghymru, ac yn y 12 mis diwethaf, cafodd bron i 10,000 o wartheg eu lladd. Ac mae'r Llywodraeth yn dweud wrthym fod pethau'n gwella. Wel, nid yw'n swnio fel cynnydd i mi. Mae canfyddiadau diweddar arolwg TB mewn gwartheg yng Nghymru yr NFU yn creu darlun gofidus, sy'n datgelu anfodlonrwydd eang ymhlith ffermwyr ynghylch dull y Llywodraeth o ddileu TB. Datgelodd yr arolwg fod 70 y cant o ffermwyr yn credu bod strategaeth y Llywodraeth yn wael iawn. Ac mae hynny'n arwydd o deimlad dwfn o ddadrithiad a rhwystredigaeth yn y gymuned ffermio.
O safbwynt ariannol, gall TB fod yn ddinistriol. Mae costau'n cynyddu onid ydynt? Oherwydd cyfyngiadau symud, mae angen porthiant ychwanegol arnoch, deunydd gorwedd ychwanegol, adeiladau ychwanegol efallai, gallech orfod talu costau llafur uwch i ymdopi â'r anifeiliaid ychwanegol hynny. Ceir cryn dipyn o waith papur ychwanegol. Mae mwy o wartheg ar y daliad yn rhoi pwysau ar seilwaith y fferm—mae capasiti storio slyri yn broblem fawr, wedi'i waethygu nawr gan ofynion parthau perygl nitradau. Mae colli gwartheg o ganlyniad i TB yn lleihau cynhyrchiant, felly mae'n lleihau incwm. Mae yna golli cynnyrch llaeth ar ffermydd llaeth, neu ostyngiad yn nifer y lloi sy'n cael eu geni ar unedau cig eidion. Ac fe allwn barhau. Gyda'i gilydd, mae'r gost flynyddol amcangyfrifedig fesul fferm yr effeithir arni dros £25,000. Gall hynny amrywio rhwng £10,000 a dros £50,000, ond y cyfartaledd yw cost flynyddol o £25,000 fesul fferm yr effeithir arni.
Ni ellir gorbwysleisio'r effaith ar iechyd meddwl, fel y crybwyllais yn gynharach. Cyfeiriodd 85 y cant o'r ffermwyr a arolygwyd at effeithiau negyddol ar eu lles seicolegol. Mae bygythiad parhaus o achosion, ynghyd â'r straen ariannol, yr ansicrwydd a ddaw yn ei sgil, yn creu awyrgylch hollbresennol o straen a phryder. Ac mae hynny nid yn unig yn peryglu iechyd a hapusrwydd unigolion ond teuluoedd cyfan. Yn wir, mae'n tanseilio gwytnwch cymunedau ffermio Cymru yn gyffredinol.
Er mwyn mynd i'r afael â TB buchol yn effeithiol, rhaid i Lywodraeth Cymru fabwysiadu dull cyfannol sy'n cydnabod, ac yn mynd i'r afael â natur amlweddog y broblem hon. Ac ydy, mae hynny'n golygu bod angen gweithredu ar frys i fynd i'r afael â TB mewn bywyd gwyllt. Rydym wedi gweld y canlyniadau yn Lloegr ar ôl pedair blynedd o ddifa yno—gostyngiad o 66 y cant yn y gyfradd achosion yn swydd Gaerloyw, gostyngiad o 37 y cant yng Ngwlad yr Haf. Mae'r gwrthgyferbyniad â Chymru yn sicr yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Llywodraeth ailwerthuso ei dull o weithredu.
Mae ein cynnig heddiw hefyd yn galw ar y Llywodraeth i wneud newidiadau ar unwaith i'w pholisi lladd ar y fferm. Rwy'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad hirddisgwyliedig gan y Gweinidog, er ein bod yn dal i aros am ganlyniad cadarn o ran mynd i'r afael â'r rheolau hynny a'u newid. Ond rydych chi ar y daith honno ac rwy'n falch o hynny. Mae'n helpu i ymdrin â chanlyniadau TB, ond wrth gwrs, nid yw'n mynd i'r afael â gwraidd y broblem. A dyna'r flaenoriaeth a ddylai fod gennym nawr.
Er mwyn helpu i wneud i hynny ddigwydd, mae angen polisïau sy'n cydnabod bywyd gwyllt fel ffynhonnell arwyddocaol i'r haint a bod y polisi yn hwyluso dulliau difa a rheoli a ddilyswyd yn wyddonol. Gadewch inni fod yn glir; nid wyf yn ystyried hynny'n ateb i bob dim. Nid dyna'r ateb, ond yn sicr mae'n rhaid iddo fod yn rhan o'r ateb. Rwy'n gwybod eich bod chi fel Llywodraeth wedi diystyru hynny; rydych wedi diystyru rheoli TB mewn bywyd gwyllt yn y gorffennol. Ond fel roedd un o'ch Gweinidogion eich hun yn dweud wrthym yma yn y Siambr ddoe, er mewn cyd-destun gwahanol, 'Pan fo'r wyddoniaeth yn newid', dywedwyd wrthym, 'fe newidiwn ein polisi'. Beth sy'n wahanol yma?
Felly, fy apêl i ac apêl Plaid Cymru i'r Llywodraeth yn ein dadl heddiw yw hyn: nid yw eich dull presennol yn gweithio. Mae'r dystiolaeth yn dangos y gall dull gwahanol wella pethau, felly mae'n bryd ichi newid eich polisi ac mae'n bryd ichi gefnogi cynnig Plaid Cymru. Diolch yn fawr.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig a dwi'n galw ar y Gweinidog i gynnig yn ffurfiol welliant 1.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cefnogi’r ymgysylltu sy’n parhau gyda’r undebau amaeth er mwyn datblygu dull o ddileu TB sy’n gadarn a hefyd yn addas i’w diben.
2. Yn croesawu:
a) y gefnogaeth sydd ar gael i ffermwyr sy’n dioddef effaith ddifrifol TB ar eu fferm, gan gynnwys cefnogaeth gan Cymorth TB a hefyd y cymorth gan Tir Dewi; Rhwydwaith y Gymuned Ffermio; FarmWell Cymru; Sefydliad DPJ; a
b) dull y Llywodraeth o lunio polisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth a chynnwys arbenigedd o’r radd flaenaf wrth ddatblygu polisi ar TB gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Twbercwlosis Buchol yng Nghymru ym Mhrifysgol Aberystwyth ac Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion y DU.
3. Yn cefnogi:
a) camau i werthuso’n barhaus bolisi Llywodraeth Cymru ar TB, ar sail yr adolygiad targed ar gyfer y garreg filltir gyntaf a fydd yn cael ei gynnal yn nes ymlaen yn 2024 a Bwrdd y Rhaglen TB Buchol;
b) camau i sicrhau bod adolygu’r polisi o ladd ar ffermydd yn flaenoriaeth i’r Grŵp Cynghori Technegol newydd ar TB Buchol; ac
c) cynnwys undebau ffermio ar Fwrdd newydd y Rhaglen TB.
4. Yn gwrthwynebu’r gwaith o ddifa ar raddfa eang foch daear, sy’n rhywogaeth gynhenid i Gymru, fel ffordd o reoli TB Buchol.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
A gaf i ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r cynnig hwn a chadarnhau y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi cynnig Plaid Cymru heb ei ddiwygio yma heddiw?
Mae TB yn un o'r afiechydon y clywsom amdanynt yn y Siambr, ac y siaradwyd amdano'n drwyadl ac yn fanwl, ond hyd nes eich bod chi'n ffermwr sydd wedi mynd trwy eich stori TB eich hun, mae'n anodd iawn ceisio portreadu beth mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd. Beth mae'n ei olygu pan fyddwch chi'n ffermwr llaeth yn godro gwartheg ddwywaith, deirgwaith y dydd, gan adnabod y gwartheg hynny wrth eu rhifau, wrth eu henwau, a gwybod pa un sy'n dod i mewn i'r parlwr yn gyntaf, pa fuwch sydd â'i natur a'i chymeriad ei hun, a gweld TB yn rhwygo drwy'r fuches honno, gan ddifa'r hyn sy'n annwyl i chi? Nid wyf yn credu bod yna deimlad sy'n debyg i hynny.
Clywsom Stuart Williams, un o etholwyr Paul Davies, ar risiau'r Senedd yn gynharach heddiw, ffermwr a gollodd ei wartheg Ayrshire—gwartheg Ayrshire pedigri, gwartheg Ayrshire a gâi eu harddangos mewn sioeau. Cefais y pleser o'i helpu i arddangos yr union wartheg hynny yn Sioe Frenhinol Cymru un flwyddyn. Wedi'u difa gan TB. Roedd ef ei hun yn agored am y frwydr iechyd meddwl a oedd i ddod iddo yn sgil hynny. Y larwm yn y bore, mynd allan i barlwr a oedd yn wag, siediau a oedd yn dawel. Oherwydd roedd TB wedi difa nid yn unig y fferm, ond ei fywoliaeth. Ffermio oedd yr hyn a oedd yn annwyl iddo, a ffermio'r gwartheg Ayrshire yr oedd ef a'i dad wedi treulio amser yn eu bridio.
Sut ydym ni'n caniatáu i ni'n hunain gyrraedd sefyllfa lle mae ffermwyr yn crefu am gymorth iechyd meddwl oherwydd clefyd y mae angen inni fynd i'r afael ag ef? Sut ydym ni'n caniatáu i ni'n hunain gael man dall o ran lles am nad ydym yn rhy hoff o'r ffordd o ddileu'r clefyd hwnnw? Ac rwy'n cytuno â Llyr, nid yw'n ateb i bob dim pan fyddwn yn sôn am ddileu TB mewn bywyd gwyllt, ond mae'n lleihau ac yn dileu cyfle arall i'r clefyd hwnnw fodoli mewn buchesi ac mewn bywyd gwyllt. Yr hyn sydd ei angen arnom yw dull cyfannol. Mae angen ichi allu dweud gyda sicrwydd, 'Rydym wedi gallu gweithio i gael gwared ar y clefyd gweddilliol yn ein buchesi ac rydym wedi gallu lleihau a dileu hynny yn y bywyd gwyllt o gwmpas y fferm'.
Nid wyf yn credu bod hynny'n rhywbeth dadleuol. Rwy'n credu bod y defnydd ym maniffesto Llafur o'r gair 'gwahardd' mewn perthynas â hyn yn eithaf dadleuol, oherwydd mae'n dangos nad penderfyniad gwyddonol yw hwn, mae'n benderfyniad gwleidyddol. Nid oes ewyllys gwleidyddol i fynd i'r afael â rhywbeth mor anodd, yn bennaf, i fod yn angharedig efallai, oherwydd na fydd yn effeithio ar etholaethau'r Aelodau Llafur gymaint ag y mae'n effeithio ar etholaethau gwledig. Dyna fi'n bod yn angharedig. Gobeithio bod hwn yn gyfle i agor y drws ac archwilio'r cyfleoedd a'r wyddoniaeth sy'n dilyn fel y gellir gwneud dileu TB yn realiti yma yng Nghymru.
Yn ystod y toriad diwethaf, postiais fideo pan oeddem yn cynnal profion TB gartref. Lywydd, nid wyf yn siŵr a oes rhaid imi ddatgan buddiant ar hynny, o ystyried y pwnc, ond derbyniwch hynny fel fy muddiant. Fe wneuthum fideo bach o'n prawf TB gartref. Ac ar ôl bod allan gyda fy nhad ar y fferm dros nifer o flynyddoedd, fe'm trawyd gan yr ofn yn ei lygaid pan fyddwch chi'n aros am y canlyniadau hynny. Pan gewch chi'r milfeddyg ar eich fferm 36 awr yn ddiweddarach, ar y dydd Iau hwnnw—. cânt eu chwistrellu ar y dydd Llun, eu profi ar y dydd Iau; pan fydd allan yno'n aros i'r milfeddyg ddweud wrtho eu bod yn glir, gallwch weld yr ofn yn ei lygaid. Gofynnais iddo pam, ac fe ddywedodd, 'O, nid mater o 'os' yw hi rhagor, ond mater o 'pryd''. Oherwydd dyna beth ydym; rydym yn ardal risg uchel y gorllewin. Mae'n fater o pryd y bydd TB yn cael gafael ar ein buches gartref. Ac mae hynny, i mi, yn torri fy nghalon, fod fy nhad, sydd wedi cyfrannu cymaint yn ei fywyd i amaethyddiaeth, yn gorfod byw dan gysgod hyn, ac nid yw'r clefyd ar ein fferm ni hyd yn oed. Mae gennym foch daear sy'n lân. Nid oes gennym y clefyd ar ein fferm, ac eto rydym yn dal i fyw o dan y cysgod y mae TB buchol yn ei greu i amaethyddiaeth yng Nghymru. Nid yw hynny'n deg ar ein ffermwyr. Nid yw'n deg ar y sector. Nid yw'n deg ar yr holl gadwyni cyflenwi ac nid yw'n deg ar yr elusennau iechyd meddwl sydd wedi gweld nifer eu hatgyfeiriadau'n saethu i fyny. Nid yw'n deg o gwbl. A dyna'r cyfan y mae ffermwyr yn ei ddweud am y polisi dileu TB buchol: 'Nid yw'n deg—nid yw'n deg fod yn rhaid imi fynd drwy hyn. Nid yw'n deg fod yn rhaid i fy nheulu weld hyn. Nid yw'n deg na allaf ffermio'n iawn yn y ffordd yr hoffwn ffermio gyda fy gwartheg oherwydd y clefyd hwn.' A dyna'r cyfan y credaf fod y cynnig hwn y mae Plaid Cymru wedi ei gyflwyno, ac a gefnogaf i ac a gefnogwn ni, fel y dywedais, yn gofyn amdano: tegwch—tegwch. Sut y gallwn gael ein rhoi ar y droed ôl i'r fath raddau gan y clefyd hwn, a mynd ati i ymosod ar glefydau eraill a'u dileu? Pam ein bod ni'n cymryd mor hir i drechu un clefyd ac yn fwy parod i fynd i'r afael â chlefydau eraill? Beth yw'r gwahaniaeth rhwng TB buchol a chlefydau eraill lle mae gennym y man dall hwnnw? Ac mae'n fan dall o ran lles anifeiliaid hefyd, oherwydd os nad ydych chi'n cael gwared ar y clefyd mewn bywyd gwyllt, maent hwy'n dioddef marwolaeth boenus hefyd. Os nad ydych chi'n cael gwared ar y clefyd mewn bywyd gwyllt, maent yn dioddef, ac mae gwartheg yn dioddef hefyd, ac mae ffermwyr yn dioddef. Felly, gadewch inni gael gwared ar y man dall hwnnw. Gadewch inni ganolbwyntio ar ddileu TB buchol yng Nghymru, a gadewch inni fynd i'r afael â rhywbeth nad yw Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael ag ef ers yn llawer rhy hir. Diolch, Lywydd.
Dwi eisiau canolbwyntio ar ddwy agwedd yn benodol prynhawn yma, sef y polisi o ddifa gwartheg ar glos y ffarm ac effaith TB ar iechyd meddwl ffermwyr. Ond cyn hynny, hoffwn i ategu un peth cwbl sylfaenol ddywedodd Llyr yn ei araith agoriadol. Mae tystiolaeth wyddonol yn dangos bod bywyd gwyllt—moch daear yn arbennig—yn lledu'r haint yma, ac er hynny mae'r Llywodraeth yn dewis anwybyddu'r gwirionedd hwn gan ganolbwyntio eu hymdrechion ar wartheg yn unig. Mae hyn fel mynd i frwydr gydag un fraich wedi clymu tu ôl i'ch cefn.
Ond i droi at ffocws fy nghyfraniad i heddiw, hoffwn i gyfeirio yn benodol, fel mae Llyr wedi gwneud yn barod, at brofiad teulu ffarm Castell Hywel yng Nghapel Isaac ger Llandeilo. Rŷn ni wedi sôn amdanyn nhw yn barod yn y Siambr hon, ac fe welodd nifer ohonon ni'r rhaglen erchyll yna ar raglen Ffermio wythnosau yn ôl. Mae'r fferm wedi bod dan gyfyngiadau TB ers 2020, ac ers hynny maen nhw wedi colli ryw 180 o wartheg. Ond beth oedd y rhaglen yn dangos oedd y ffaith ei fod e wedi gorfod difa 27 o'i wartheg o flaen llygaid ei hunan, ar y clos o flaen y tŷ lle mae e a'i deulu bach yn byw. Does dim amheuaeth gyda fi fod yr eitem honno wedi cyfrannu'n fawr at y teimladau dwfn welon ni ar stepiau'r Senedd yn gynharach y prynhawn yma.
Fel mae'n digwydd, Llywydd, fe ges i sgwrs gyda Wyn ac Enid ddau ddiwrnod yn ôl, i weld sut oedden nhw'n teimlo erbyn hyn. Doedd hi ddim yn sgwrs rwydd iawn. Mae Wyn o hyd o dan deimlad mawr ar ôl beth ddigwyddodd. Fel dywedodd e, 'Mae beth welais i'r diwrnod hwnnw yn aros yn fy meddwl i, bob awr o bob dydd.' Mae'n amlwg ei fod e wedi gadael effaith ac ôl mawr arno fe a'i deulu. Ond ydych chi'n gwybod beth? Ar ben popeth arall, fe gafodd e lythyr gan y Llywodraeth ar ôl cael post-mortem ar y gwartheg, yn dweud bod y rhan fwyaf ohonyn nhw yn inconclusive o ran TB, sy'n gofyn cwestiynau mawr am gywirdeb y profion sydd yn cael eu cynnal. Mae'n flin gyda fi, Weinidog, ond ddylai neb orfod dioddef beth mae y teulu Davies wedi gorfod mynd trwyddo.
Mae'r costau sy'n gysylltiedig â phrofion TB, cyfyngiadau symud gwartheg a cholledion posibl oherwydd lleihau stoc i gyd yn effeithio ar fusnesau fferm. Ond fel mae'r teulu Davies yn dangos, mae'r gost nid yn unig yn un economaidd, mae'n seicolegol ac emosiynol. Gall golli da byw oherwydd TB greu teimladau o alar, o euogrwydd ac o anobaith, ac mae difa gwartheg ar glos y ffarm yn gwbl dorcalonnus i ffermwyr sy'n gorfod bod yno, fel dywedodd Sam yn gynharach, i weld anifeiliaid maen nhw wedi eu magu o fod yn lloi bach i fod yn dda godro yn cael eu lladd o flaen eu llygaid, a rhai sydd ar fin geni lloi.
Mae effaith iechyd meddwl ein dull o reoli TB yn agwedd bryderus iawn ar yr argyfwng ehangach sy'n wynebu ffermwyr ar hyn o bryd. Nid busnes yn unig yw fferm—mae ffermio'n ffordd o fyw, ac mae'r bygythiad o golli popeth y maent wedi gweithio mor galed i'w adeiladu yn gallu cael effaith fawr ar iechyd meddwl ffermwyr. Fel y clywsom eisoes, mae data gan grwpiau iechyd meddwl, fel Sefydliad DPJ, sy'n gweithio mewn ardaloedd gwledig, yn dangos cynnydd o 70 y cant yn y defnydd o'u gwasanaethau dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda chynnydd o 27 y cant yn y mis diwethaf yn unig.
Rwyf am ddirwyn i ben drwy ddweud hyn, Weinidog. Mae gennym eiriau mewn polisïau a rheoliadau sy'n arwain at oblygiadau i fywoliaeth a llesiant pobl, ond nid yw canlyniadau anfwriadol y polisïau hyn wedi'u rhoi mewn geiriau. Mae TB yn enghraifft glasurol. Mae geiriau fel 'iselder', 'trawma', 'anobaith', 'torcalon' a hyd yn oed 'hunanladdiad' yn rhai nad ydym yn eu gweld yn agored. Er mwyn y gymuned ffermio, mae'n ddyletswydd arnom i unioni camweddau dinistriol y polisi presennol, gan ddefnyddio pob mesur sydd ar gael inni. Bydd methiant i wneud hynny yn faich ar gydwybod pob un ohonom yn y Siambr hon.
Roeddem bron yn rhydd o TB buchol gyda newidiadau yn y 1960au yn cyflwyno profion a chyfyngiadau ar symud gwartheg. Clwy'r traed a'r genau a roddodd stop ar fesurau profi a chaniatáu ailstocio gwartheg heintiedig. Profodd astudiaeth 10 mlynedd a gefnogwyd gan San Steffan na fyddai difa moch daear yn helpu ffermwyr na gwartheg, ond fe wnaethant fwrw ymlaen â hynny beth bynnag. Yn 2022, roedd 94.7 y cant o fuchesi gwartheg Cymru yn rhydd o TB buchol, a 95.6 y cant o fuchesi gwartheg Lloegr, a hyn gyda Chymru'n defnyddio trefn brofi fwy llym, gyda mwy o fesurau rheoli gorfodol a heb ddifa moch daear. Pe bai moch daear o ddifrif yn gyfrifol am ledaenu TB buchol, byddai Cymru'n gweld cyfradd achosion lawer uwch na Lloegr. Mae prosiect 'canfod moch daear marw' yng Nghymru yn casglu moch daear marw o ddamweiniau traffig ar y ffyrdd, gan chwilio am arwydd o ymyrraeth anghyfreithlon neu anafiadau sy'n gysylltiedig â thrapiau, gan brofi am TB buchol. Arweiniodd y prosiect hwn yn 2020 at ganfod 681 o foch daear a oedd yn addas i'w profi. Dim ond 50 a gafodd ganlyniad TB positif. Mae hyn yn awgrymu mai 7 y cant ar gyfartaledd o foch daear oedd â TB yng Nghymru gyfan, a dim ond 0.7 y cant yn yr ardaloedd TB isel. Fodd bynnag, nid yw hynny hyd yn oed yn golygu bod moch daear sydd wedi profi'n bositif yn heintus neu'n gallu trosglwyddo'r clefyd i wartheg. Edrychaf ymlaen at adroddiad nesaf y prosiect hwnnw.
Mae'r difa moch daear yn gyfreithiol a gymeradwywyd gan Lywodraeth San Steffan hefyd wedi cymell pobl i ladd moch daear yn anghyfreithlon. Er enghraifft, fe wnaeth un contractwr difa moch daear trwyddedig ladd 28 o foch daear yn anghyfreithlon y tu allan i'r cyfnod difa a storio'r cyrff mewn rhewgell er mwyn hawlio'r taliad pan ailagorodd y cyfnod difa. Mae Lloegr wedi gwario mwy na £70 miliwn y flwyddyn ar ddifa moch daear, arian y gellid bod wedi'i ddefnyddio i ddatblygu'r brechlyn ar gyfer gwartheg, a fyddai'n diogelu moch daear a ffermwyr, neu'n uniongyrchol i gefnogi newidiadau ar ffermydd. Mae gan Brydain un o'r tirweddau lle mae natur wedi teneuo fwyaf yn y byd. Yn ôl yr arolwg ar gyfanrwydd bioamrywiaeth, Prydain sydd yn y safle isaf o'r G7 ac mae ymhlith y 10 y cant isaf yn fyd-eang ar gyfer bioamrywiaeth. Ac mae gennym ni fel Senedd Cymru gynnig i gefnogi camau i'w ddinistrio ymhellach.
Dro ar ôl tro, mae'n ymddangos ein bod ni eisiau lladd bywyd gwyllt pwysig arall yng Nghymru yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn sydd o ddifrif yn gweithio i gael gwared ar TB buchol. Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd y Gweinidog yn cyflwyno grŵp cynghori technegol ar TB buchol. Diolch.
Dwi mor falch ein bod ni'n cael cyfle i drafod y mater yma heddiw. Dŷn ni wedi clywed a gweld, y tu allan a thu mewn i'r Senedd yma heddiw yma, yr holl rwystredigaethau sy'n cael eu teimlo o fewn y diwydiant amaeth a chefn gwlad ar hyn o bryd. Ac fel dŷn ni wedi trafod, mae yna sawl peth yn gyrru'r rhwystredigaeth yna, onid oes, un haen ar ben y llall. Ac, yn sicr, mae methiant Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â phroblemau sydd wedi effeithio'n andwyol ar amaethyddiaeth am flynyddoedd maith yn cynnwys y methiant mewn perthynas â TB.
Mae cael polisi cydlynol sy'n mynd i'r afael â TB wedi bod yn rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi galw amdano ers tro, ac rydym yn galw amdano eto heddiw. Ond er gwaethaf ein galwadau mynych, mae TB yn parhau i fod yn broblem sy'n dinistrio ffermydd a busnesau ffermio a ffermydd teuluol wythnos ar ôl wythnos, fis ar ôl mis, a'r unig gasgliad y gall y sector ffermio ddod iddo yw nad yw Llywodraeth Cymru, rywsut, yn deall maint ac effaith yr hyn rydym yn ymdrin ag ef yma.
Gyda llaw, os nad ydych wedi gweld y rhaglen Ffermio y mae dau o fy nghyd-Aelodau eisoes wedi cyfeirio ati, ewch ar BBC iPlayer a chwilio am Ffermio; y rhaglen a ddarlledwyd ar 22 Ionawr yw hi. Mae'n ddirdynnol iawn, stori Wyn ac Enid—stori am deulu ar eu fferm yn Llandeilo—ac mae'n dorcalonnus eu gwylio'n torri eu calonnau wrth golli eu buches, ac mae'r rhwystredigaeth mor amlwg. Darparodd Llywodraeth Cymru ddatganiad ar gyfer y rhaglen: 'Mae gweithio mewn partneriaeth â ffermwyr yn hanfodol er mwyn mynd i'r afael â TB'. Ond gallaf ddweud wrth Lywodraeth Cymru heddiw nad yw ffermwyr ledled Cymru yn teimlo fel pe bai Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda nhw ar y mater hwn. Mewn gwirionedd, os rhywbeth, maent yn teimlo fel pe bai polisïau Llywodraeth Cymru yn gweithio yn eu herbyn ac yn achosi oedi diangen wrth fynd i'r afael â'r dioddefaint sy'n cael ei achosi. Dyna pam mae Plaid Cymru wedi cyflwyno'r cynnig hwn heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru yn gyntaf i edrych ar unwaith ar wneud newidiadau i'r polisi difa ar y fferm. Rhaid bod stori Wyn ac Enid, stori a welir mewn cymaint o gymunedau ledled Cymru, yn dadlau'r achos dros hynny mewn ffordd mor gadarn â dim a welsom, ond rydym yn galw hefyd am sefydlu polisïau sy'n adlewyrchu bywyd gwyllt fel ffynhonnell i'r haint ac sy'n caniatáu ar gyfer dulliau difa a rheoli wedi'u dilysu'n briodol ac yn wyddonol.
Nawr, rwy'n cydnabod bod y Gweinidog wedi cymryd rhai camau cadarnhaol, camau bach, yn ei datganiad ddoe. Mae cyflymder symud i'r cyfeiriad cywir yn araf, ac mae diffyg gweithredu ystyrlon yn parhau, ac mae gennym allu i roi ateb ar waith, ymateb ar waith yma yng Nghymru.
A hoffwn sôn yn sydyn yma am bobl sy'n ceisio defnyddio'r ddadl ynghylch amaethyddiaeth ar hyn o bryd i ymosod ar ein sefydliad datganoledig, ein Senedd a datganoli ei hun: ni allwn ganiatáu i hynny ddigwydd. Rwy'n gwybod, ac rwy'n falch fod gennym gefnogaeth y Ceidwadwyr heddiw, ond mae maniffesto fforwm gwledig y Ceidwadwyr yn sôn am drosglwyddo pwerau dros fioamrywiaeth a TB yn ôl i San Steffan—nid yw'n help o gwbl, ar wahân i'r ffaith, nid wyf yn siŵr a ydych chi wedi gweld y polau piniwn yn ddiweddar, ond rydych chi'n trosglwyddo'r pwerau hynny'n ôl i Syr Keir Starmer. Ond o ddifrif, nid yw'n helpu, ac roeddwn mor falch o glywed Samuel Kurtz yn dweud, mewn perthynas â'r cynllun ffermio cynaliadwy, sut mae'n credu ein bod yn genedl sy'n ddigon ystwyth a bod gennym ddigon o benderfyniad i roi'r atebion cywir ar waith, ac mae'r un peth yn wir am TB yn fy marn i.
Felly, mae'r ateb yma yng Nghymru. Mae'r Gweinidog yn y sefyllfa freintiedig o allu arwain y gwaith o ddod o hyd i'r ateb hwnnw, ac rwy'n gobeithio ei bod yn cydnabod nad yw ymateb ei Llywodraeth wedi bod yn ddigon taer dros y blynyddoedd. Ond rwy'n cydnabod nad oes ateb perffaith a fydd yn datrys TB dros nos; byddem i gyd yn falch pe bai hynny'n wir. Ond rwy'n credu bod yn rhaid inni dderbyn bod angen rhoi cyfres ehangach o fesurau ar waith i ddechrau gwneud gwahaniaeth i les y stoc a'r ffermwr. Diolch.
Unwaith eto, diolch i chi, Blaid Cymru, am gyflwyno'r ddadl hon. Rwyf wedi clywed straeon go dorcalonnus gan ffermwyr yn fy etholaeth fy hun. Am yr eildro heddiw, fodd bynnag, mae gennym gynnig o blaid ffermio y mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ymateb iddo drwy ddatgan 'dileu popeth'.
Mae gwelliant Llafur Cymru yn honni bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar sail tystiolaeth. Dyna sut rydych chi'n mynd ati i wneud eich gwaith bob dydd—ar sail tystiolaeth. Ac eto rydym wedi profi ers amser nad yw hyn yn wir gyda'r siart profion TB buchol. Mae'n warthus fod Llafur Cymru yn gorfodi cyfyngiadau ar ffermydd yng Nghymru a fyddai'n rhydd yn Lloegr a'r Alban. Aelodau, cofiwch fod yr Alban yn rhydd o TB a bod Lloegr wedi gweld gostyngiad o 15 y cant, tra bod Cymru wedi cynyddu 2 y cant. Felly, mae hynny'n groes i'ch dadl chi, Carolyn. Gofynnwch i chi'ch hunain: pam, Weinidog, nad ydych chi wedi gallu darparu unrhyw dystiolaeth neu wyddoniaeth bendant eto i gefnogi eich penderfyniad i ddefnyddio siart fwy llym sy'n arwain at ddifa gwartheg heb fod angen, i ddarganfod, mewn post-mortem, nad oedd y gwartheg hynny wedi'u heintio? Rwy'n tybio na fyddai gennych dystiolaeth o'r fath, oherwydd, pe bai, a phe bawn i'n Weinidog y Llywodraeth, gydag Aelodau'r gwrthbleidiau yn gofyn i mi, 'Dangoswch y wyddoniaeth i ni, dangoswch y dystiolaeth i ni'—. Ac eto, nid ydych wedi gwneud hynny.
Er enghraifft, mae adolygiad Birch, dadansoddiad gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, yn awgrymu y gellir lleihau TB buchol mewn buchesi 56 y cant mewn ardaloedd lle bu pedair blynedd o ddifa moch daear. Yn 2018, argymhellodd adolygiad annibynnol Godfray fod mesurau rheoli bywyd gwyllt yn rhan bwysig o ddileu TB. A rhag ofn bod unrhyw amheuaeth, rwy'n dwli ar foch daear, ond nid wyf yn hoffi'r effaith y maent yn ei chael wrth ledaenu'r clefyd a'r effaith wedyn ar ein ffermwyr a'n da byw. Sut ydych chi'n cymharu gwerth un bywyd dros un arall? Nid wyf yn deall. Yn ddiweddar, ysgrifennodd Phil Latham, ffermwr llaeth yn swydd Gaer, cyn-aelod o bartneriaeth TB buchol Llywodraeth y DU, yn y Farmers Guardian:
'Hyd nes i ddifa moch daear ddechrau yn swydd Gaer, nid oedd unrhyw beth yn arafu'r cynnydd mewn TB buchol yn y sir. Nid oes unrhyw amheuaeth fod difa dan arweiniad ffermwyr...wedi bod yn llwyddiant ysgubol.'
Cefnogir hyn gan ddata sy'n dangos gostyngiad o 70 y cant yn nifer yr anifeiliaid a adweithiodd i'r prawf croen TB yn 2022, o gymharu â 2010 i 2013, lle'r aethpwyd i'r afael â'r clefyd mewn bywyd gwyllt. Ond mae gwleidyddion Llafur Cymru yn anwybyddu'r realiti hwn. Onid ydych chi'n sylweddoli pa mor erchyll yw dioddefaint mochyn daear sy'n marw o TB? Yr hyn sy'n fy synnu fwyaf yw eich bod yn fwy na pharod i ganiatáu i dda byw gael eu difa ar raddfa fawr, bron i 10,000 bob blwyddyn, ond nid un mochyn daear. A hoffwn ofyn: oni fyddai difa'n fwy caredig na chaniatáu iddynt ddioddef marwolaeth araf a phoenus gyda TB?
Mae RSPB Cymru wedi nodi bod miliynau wedi ei fuddsoddi mewn strategaeth o'r fath yn Lloegr, ond yr hyn sydd angen ei sylweddoli yma yw bod cost TB buchol i ffermwyr yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf wedi bod yn fwy na £50,000 i nifer o ddaliadau unigol. Ac fel y mae Plaid Cymru a phobl ar ein meinciau ni wedi'i nodi, mae yna gost fwy o ran iechyd meddwl. Mae'r achos dros newid mawr yn eich polisi TB diffygiol yn glir. Yn ôl eich ystadegau diweddaraf eich hun ledled Cymru, mae nifer yr achosion wedi cynyddu o gymharu â'r un adeg y llynedd. Mae mynychder mewn buchesi wedi cynyddu o gymharu â'r un adeg y llynedd. Mae nifer yr anifeiliaid a gafodd eu difa wedi cynyddu o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Fel y mae NFU Cymru wedi'i grynhoi, mae hyn yn golygu mwy o achosion newydd o TB, mwy o fuchesi yn byw dan gyfyngiadau TB, mwy o wartheg yn cael eu difa oherwydd y clefyd o gymharu â'r un adeg y llynedd. Methiant, methiant, methiant. Os nad ydych yn barod i weithredu ar yr ystadegau, gwrandewch ar ffermwyr Cymru.
Mae gan fy etholwr, Gareth Wyn Jones, fuches wedi'i heintio â TB nawr oherwydd un prawf amhendant. Heblaw am un llo—. Oherwydd cafodd hynny ei grybwyll—. A ydych chi'n cofio pan ddywedodd y Prif Weinidog, 'O, ffermwyr sy'n dod â gwartheg wedi'u heintio i mewn'? Fe wnaeth y datganiad hwnnw ynddo'i hun ladd ysbryd ffermwyr yng Nghymru. Felly, heblaw am un llo, nid yw wedi dod ag unrhyw wartheg i mewn. Ni fu unrhyw gyswllt agos â da byw cyfagos. Mae'n rhesymol credu y gallai bywyd gwyllt fod yn lledaenu'r clefyd hwn: dywedodd 88.9 y cant o'r ymatebwyr i arolwg NFU eu bod yn credu bod bywyd gwyllt fel moch daear a cheirw yn ddylanwad cryf iawn neu gryf mewn perthynas â throsglwyddo TB buchol. Ac rwy'n dwli ar geirw hefyd. Dywedodd 89 y cant—
Bydd yn rhaid i chi ddod â'ch cariad at anifeiliaid gwyllt i ben nawr.
Iawn. Mae'n rhaid i fantra gwrth-ffermwyr Llywodraeth Cymru ddod i ben, ac mae'n rhaid iddo ddod i ben heddiw. Rwy'n pleidleisio dros newid heddiw, felly byddaf yn cefnogi'r cynnig gwreiddiol. Rwyf am fod yn glir: mae'r ymrwymiad i edrych ar y polisi presennol mewn perthynas â difa ar y fferm yn gam i'r cyfeiriad cywir, ond mae angen cyflawni mwy o newid ar frys. Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Byddwn yn ei gefnogi'n llwyr fel Ceidwadwyr Cymreig. Mae ffermwyr wedi cael eu siomi ers blynyddoedd mewn perthynas ag ateb i TB buchol, gydag atebion sy'n rhoi plastr dros y broblem pan fo angen camau gweithredu dewr a beiddgar mewn gwirionedd. Mae'r ddadl heddiw yn un allweddol. Ein ffermwyr yw gwarcheidwaid ein hamgylchedd ac asgwrn cefn ein diogeledd bwyd yng Nghymru, fel y clywsom drwy gydol y prynhawn yma, ac mae TB buchol yn bryder enfawr i'n ffermwyr, fel y mae parthau perygl nitradau a chynigion y cynllun ffermio cynaliadwy: ac roedd yn emosiynol gweld y niferoedd uwch nag erioed yn protestio y tu allan i'n Senedd heddiw.
Mewn sawl ffordd, cynigion y cynllun ffermio cynaliadwy yw'r hoelen olaf yn yr arch. Mae'n un cyfarwyddyd cosbol yn rhy bell iddynt. Rwy'n cofio siarad yn angerddol dros ffermwyr yma yn y Senedd hon, Cynulliad Cymru ar y pryd, yn ôl yn 2003, 21 mlynedd yn ôl, ac a dweud y gwir, mae'n boenus gweld y diffyg cynnydd sydd wedi bod a'r diffyg cefnogaeth i'n ffermwyr. Y bore yma, cyn imi ddod yma, roeddwn wedi codi'n gynnar i gyfarfod ag un o'n ffermwyr yn sir Fynwy, Russell Morgan, un o'r ffermwyr llaeth mwyaf yn ein hardal. A disgrifiodd i mi yr effeithiau y mae'r rheolau TB presennol yn eu cael ar ei fferm laeth, a buom yn siarad am y ffermydd a'r teuluoedd ffermio y mae'r ddau ohonom yn eu hadnabod drwy ein teuluoedd sydd wedi'u dinistrio gan ddiffyg gweithredu go iawn gan y Llywodraeth hon ar TB buchol.
Mae'n anodd i deuluoedd y ffin weld dull mwy beiddgar a synhwyrol dros y ffin o ran y cynllun ffermio cynaliadwy, neu eu cynllun cymhelliant ffermio cynaliadwy, neu TB. Nawr, wrth gwrs, gyda 16 y cant o ffermydd llaeth dan gyfyngiadau symud, a chyda phopeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i'n diwydiant amaethyddol, dywedodd y ffermwr hwnnw wrthyf ei fod yn ystyried gwerthu ei fferm a symud i Loegr. 'Mae'n haws, Laura', meddai. Nawr, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod hynny'n hynod o ddigalon i'w glywed. Nid yw'n rhywbeth y byddai unrhyw un ohonom eisiau ei glywed, rwy'n siŵr. Fel y dywedais, mae'r materion a drafodwn heddiw yn agos at fy nghalon fel merch i ffermwr, ac mae agwedd Cymru tuag at y materion hyn, o'i gymharu â Lloegr, yn fy mrawychu.
Mae arolwg dadlennol gan NFU Cymru yn ddiweddar wedi dangos cymaint y mae TB buchol yn effeithio ar ein ffermwyr yng Nghymru ac yn niweidio eu busnesau. Mae'r arolwg o dros 500 o ffermwyr gwartheg ledled Cymru yn manylu ar lefel uchel y gofid, yr anobaith a'r golled economaidd i'r rhai sy'n profi colledion oherwydd TB buchol, yn ogystal â phryderon y rhai nad ydynt wedi cael TB ar eu fferm ond sy'n ofni y gallai ddigwydd, neu'r rhai sy'n aros iddo daro ei fferm unwaith eto am fod hynny'n anochel. Dywedodd NFU Cymru fod canfyddiadau'r arolwg yn amlygu diffyg hyder ymysg ffermwyr Cymru yn null Llywodraeth Cymru o ddileu TB yng Nghymru, ac nid yw'n syndod o ystyried—. Ac fe ddylai'r Llywodraeth hon fod â chywilydd o'i chyflawniad hyd yma. Dywedodd 85 y cant fod TB buchol wedi effeithio'n negyddol ar eu hiechyd meddwl eu hunain, neu ar iechyd meddwl rhywun yn eu teulu. Roeddwn yn emosiynol iawn wrth geisio nodi fy meddyliau ar gyfer y ddadl hon, a minnau'n gwybod am rai o'r bywydau sydd wedi cael eu dinistrio.
Dywedodd 89 y cant fod dull Llywodraeth Cymru o ddileu TB mewn gwartheg yn wael iawn. Mae'r ffigurau hyn yn feirniadaeth ddamniol o ddull Llywodraeth Cymru o weithredu a'r niwed y maent yn ei achosi i gefn gwlad Cymru. Heb sôn am—. Nid ydym wedi sôn am y baich ariannol y mae TB buchol yn ei roi ar ffermio yng Nghymru. Mae'n dorcalonnus gweld y gofid y mae teuluoedd fferm yng Nghymru yn ei brofi o ganlyniad i achosion o TB buchol a difa gwartheg, yn enwedig, ac fel y mae'r ffermwyr y tu allan yn y brotest yn ei ddweud ac fel y mae Sam Kurtz wedi'i grybwyll o'r blaen, nid yw gweld buwch gyflo'n cael ei difa o'ch blaen yn rhywbeth y dylai neb, nac unrhyw fuwch, orfod ei ddioddef.
Fel y gwelsom y tu allan yn gynharach, roedd y rhwystredigaeth llethol yn glir fod gwleidyddiaeth yn parhau i ddiystyru tystiolaeth wyddonol ar fynd i'r afael â'r clefyd ym mhoblogaeth bywyd gwyllt. Mae'n amlwg nad yw'r Llywodraeth Lafur hon o ddifrif ynghylch TB buchol, a phrofwyd hyn gan sylwadau diweddar gan aelod o'r meinciau gefn Llafur. Mae hyn wedi ei waethygu nawr gan y cynigion anystyriol a niweidiol a gyflwynwyd yn y cynllun ffermio cynaliadwy, gan achosi niwed anadferadwy i'n cymunedau ffermio. Ac fel y dywedwyd eisoes heddiw, ni all y Llywodraeth hon anwybyddu'r effaith ddifrifol y mae'r polisi TB presennol yn ei chael ar iechyd meddwl ffermwyr a chymunedau gwledig. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Rwyf newydd ddod o hyd i'r adroddiad y cyfeiriais ato—adroddiad o 2020 ydyw, ac mae'n dweud:
'Yn ei hymateb i adolygiad TB Godfray heddiw, mae'r Llywodraeth o'r diwedd wedi llunio strategaeth hirdymor i roi'r gorau i ddifa moch daear yn seiliedig ar fesurau rheoli gwartheg a brechu TB mewn moch daear a gwartheg.'
Mae'n cefnu ar ddifa. Dyna adroddiad gan Lywodraeth y DU.
Diolch am eich ymyriad.
Yng Nghymru, rydym wedi gweithredu mesurau rheoli mwy llym ar symudiadau gwartheg dros y blynyddoedd, ac eto mae'r ystadegau mewn rhai ardaloedd yng Nghymru yn gwaethygu. Maent yn gwaethygu. Os nad ydym yn rheoli ac yn dileu cronfa’r haint mewn anifeiliaid gwyllt, ni fydd unrhyw beth a wnawn i wartheg yn lleihau effaith TB. Canfu arolwg y llynedd fod 63 y cant o ffermwyr yn beio bywyd gwyllt am drosglwyddiad TB. Mae'r ffermwyr y siaradaf â nhw yn annog Llywodraeth Cymru i ailystyried ac ystyried camau wedi'u targedu i gael gwared ar fywyd gwyllt heintiedig, oherwydd ar hyn o bryd, er gwaethaf eu hymdrechion, mae ffermwyr yn teimlo nad oes goleuni ym mhen draw'r twnnel TB buchol, ac mae angen i hyn newid. Mae angen polisi dileu effeithiol sy'n rhoi diwedd ar y dioddefaint y mae TB buchol yn ei achosi i wartheg, i fywyd gwyllt ac i deuluoedd sy'n ffermio.
Yn Lloegr, maent yn mynd i'r afael â hyn. Nid yw'n berffaith, fel sydd wedi cael ei ddweud, ond maent yn mynd i'r afael â'r sefyllfa—mae'r ystadegau'n siarad drostynt eu hunain—tra bod ffermwyr Cymru yn dal i brofi colledion trwm, dinistriol flwyddyn ar ôl blwyddyn. Nid dyna'r ateb llawn, rwy'n gwybod, ond rwy'n galw ar y Llywodraeth Lafur hon i roi gwyddoniaeth o flaen ideoleg o'r diwedd a gwneud yr hyn sy'n iawn i'n ffermwyr, fel yr amlinellir ym mhwynt c yng nghynnig Plaid Cymru heddiw.
Rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth hon yn deffro ac yn sylweddoli beth sy'n digwydd cyn ei bod hi'n rhy hwyr i'n ffermwyr a'n cymunedau gwledig. Nid yw'r hyn a wnewch i reoli TB buchol yn gweithio. Mae Cymru angen camau gweithredu real a chyfannol ar TB, ac hynny ar unwaith. Gadewch inni weithio gyda'n gilydd a chael rheolaeth ar hyn o'r diwedd.
Y Gweinidog nawr i ymateb i'r ddadl hyd yn hyn.
Diolch, Lywydd, ac rwy'n falch o ymateb i'r cynnig a gyflwynwyd gan Blaid Cymru ar y mater pwysig hwn. Hoffwn ddechrau drwy ddweud fy mod yn cydymdeimlo â'r ffermwyr hynny, eu teuluoedd a'r staff sy'n dioddef effaith ddinistriol TB buchol ar eu ffermydd. Mae'n ymwneud â mwy na'r profiad dirdynnol o golli cymaint o dda byw i'r clefyd, mae hefyd yn ymwneud â'r ofn cyson y bydd yn digwydd eto, fel y dywedodd yr Aelodau. Mae rheoli'r clefyd fel bod llai o ffermydd yn dioddef yr effeithiau hyn yn galw am gamau gweithredu sydd ynddynt eu hunain yn anodd ac yn achosi straen i ffermwyr, ac mae'n galw am gydbwyso cyson a gofalus i sicrhau nad yw polisïau llym sy'n ceisio cyfyngu ar y clefyd mor gyfyngol fel na all ffermwyr redeg eu busnesau.
Rwy'n croesawu'r cyfraniadau gan yr Aelodau heddiw, ac rwy'n gwybod bod yna ddiddordeb cyffredin a diffuant ar draws y Senedd mewn cefnogi ein ffermwyr i ddileu'r clefyd creulon hwn o'r fuches Gymreig. Rydym i gyd yn cydnabod y pwysau iechyd meddwl y mae ffermwyr yn ei wynebu, ac mae gwelliant y Llywodraeth yn nodi'r ffynonellau cymorth rhagorol sydd ar gael yng Nghymru, a byddem yn annog pob ffermwr i edrych arnynt.
Hefyd, rwy'n nodi canfyddiadau arolwg TB yr NFU, ac rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i barhau i ymgysylltu â'n hundebau ffermio ac eraill. Rwyf wedi dweud droeon mai dim ond drwy weithio gyda'n gilydd y llwyddwn i ddileu TB, gyda'r Llywodraeth, ffermwyr, milfeddygon a'n cymunedau gwledig i gyd yn chwarae eu rhan. Mae'n rhaid i'n dull o fynd i'r afael â TB buchol ymateb i batrymau newidiol y clefyd a welwn a phrofiad byw y sector, sy'n dioddef ei effaith yn fwyaf uniongyrchol. Yn hynny o beth, mae'r Llywodraeth bob amser yn barod i ystyried tystiolaeth newydd, gwrando ar syniadau pobl, ac edrych ar wahanol ddulliau.
Fis Tachwedd diwethaf, rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y cynllun cyflawni pum mlynedd a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2023. Mae hwn yn nodi ein dull o ddileu TB, gan adeiladu ar y pecyn mesurau sydd eisoes ar waith i sicrhau bod Cymru'n rhydd o TB erbyn 2041. Yn y datganiad, eglurais y flaenoriaeth a roddais ar weithio mewn partneriaeth gydag ystod o gyrff diwydiant, gan gynnwys ein hundebau ffermio, a defnyddio arbenigedd o'r radd flaenaf, gan gynnwys y ganolfan ragoriaeth ar gyfer TB buchol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Y llynedd, cyhoeddais gynlluniau i greu grŵp cynghori technegol sefydlog i'w gwneud hi'n gyflymach ac yn haws inni gael mynediad at y cyngor gwyddonol angenrheidiol i lywio ein polisi. Ac mae'r grŵp—.
Rwy'n credu imi eich clywed yn dweud 'y llynedd' wrth sôn am y grŵp cynghori technegol. Credaf fod y datganiad wedi'i wneud yn 2022—a wyf i'n gywir?
Roeddwn yn credu iddo gael ei wneud ym mis Mawrth 2023, ond rwy'n fwy na pharod i wirio hynny.
Bydd y grŵp yn chwarae rhan hanfodol yn yr olwg ar garreg filltir gyntaf ein cynllun dileu TB 2023 yn nes ymlaen eleni, er enghraifft. Fel y gŵyr yr Aelodau, ddoe, fe anfonwyd cynigion penodi ar gyfer y grŵp cynghori technegol ar TB buchol, a chredaf imi ddweud wrth Sam Kurtz yn fy nghwestiynau y byddwn yn fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am yr aelodaeth ar ôl i bobl ymateb i mi.
Mewn ymateb i adborth gan ffermwyr a'r undebau ffermio, rwyf wedi pennu'r flaenoriaeth gyntaf i'r grŵp hwn adolygu'r polisi lladd ar y fferm. Mae'n bwysig, lle na ellir symud gwartheg, eu bod yn cael eu lladd yn gyflym er mwyn lleihau'r risg y bydd y clefyd yn lledaenu i ffermydd eraill. Fodd bynnag, hoffwn barhau i ymgysylltu â’r sector os oes ffyrdd y gellir gwneud hyn yn llai trawmatig i’r ffermwr, teulu’r ffermwr a staff y ffermwr dan sylw.
Mae prosiect TB sir Benfro—a diolch i Sam Kurtz yn arbennig am ei gymorth gyda’r prosiect hwn—bellach wedi’i sefydlu’n llwyddiannus ac mae’r gwaith wedi hen ddechrau. Mae hon yn enghraifft wych o fenter gydweithredol a arweinir gan y diwydiant i archwilio ffyrdd newydd i filfeddygon a ffermwyr wneud penderfyniadau gwybodus ar atal clefyd drwy ddiogelwch a mesurau rheoli ar lefel y fuches, gan ategu mesurau statudol presennol.
Rydym wedi cyfarfod â chynrychiolwyr y diwydiant drwy grŵp strategaeth lloi Prydain ac wedi cyflwyno newidiadau i helpu ceidwaid o dan gyfyngiadau TB i reoli gwartheg ifanc yn well allan o’u buchesi, gan gynnwys symud i safleoedd cymeradwy a thrwydded gyffredinol a fydd yn lleihau’r baich gweinyddol. Mae swyddogion hefyd wedi dechrau adolygiad eang o Cymorth TB, o'r gwaelod i fyny, er mwyn nodi model gwell ar gyfer darparu cymorth a all wneud gwahaniaeth.
Er bod y darlun o TB mewn gwartheg yng Nghymru yn newid yn barhaus, hoffwn bwysleisio bod y tueddiadau hirdymor pwysig yn dangos bod llai o fuchesi wedi'u heffeithio a llai o achosion newydd yn y buchesi ledled Cymru gyfan. Ond mae angen inni barhau i ganolbwyntio ar ddileu'r clefyd o bob fferm yng Nghymru. A gwelwyd rhywfaint o amrywiant rhanbarthol sy'n golygu bod yn rhaid inni fod yn wyliadwrus. Fodd bynnag, mae achosion newydd wedi gostwng 14 y cant yn y 12 mis hyd at fis Medi 2023 o gymharu â’r un cyfnod bum mlynedd yn ôl, ac mae nifer yr anifeiliaid a laddwyd er mwyn rheoli TB hefyd wedi gostwng bron 3 y cant. Rydym yn gweld tueddiadau addawol yn yr ardaloedd TB uchel lle mae nifer yr achosion newydd wedi gostwng bron 10 y cant o gymharu â’r un cyfnod bum mlynedd yn ôl. Mae mynd ati'n rhagweithiol i dargedu ardaloedd problemus a gweithio mewn partneriaeth yn gwneud gwahaniaeth.
Yn ystod y flwyddyn hon, byddwn yn dadansoddi ein targedau dileu chwe blynedd ac yn asesu’r cynnydd a wnaed, a bydd adroddiad yn cael ei ystyried wedyn gan y grŵp cynghori technegol a bwrdd y rhaglen. Rwy’n ymwybodol o alwadau am i'n strategaeth fabwysiadu’r dull difa bywyd gwyllt ar raddfa fawr lle'r amheuir eu bod yn cyfrannu at ledaeniad TB. Mae fy mhlaid yn glir: rydym wedi ymrwymo i ddileu TB yng Nghymru, ond nid ydym yn cytuno bod difa bywyd gwyllt brodorol ar raddfa fawr yn ymateb effeithiol na chymesur. Gwyddom fod llawer mwy i’w wneud o hyd i wella bioddiogelwch a mynd i’r afael â phrif ffynhonnell yr haint, sy’n parhau i ddigwydd o fuwch i fuwch yn y mwyafrif helaeth o achosion.
Cyfeiriodd Cefin Campbell at lythyrau a anfonir at ein ffermwyr, ac un o’r pethau y bûm yn awyddus iawn i edrych arnynt a’u newid yw geiriad y llythyrau hynny. Felly, byddwn yn falch iawn o gael sgwrs gyda chi ynghylch y llythyr y cyfeirioch chi ato, gan y credaf ei fod yn faes lle'r oedd angen inni wneud cynnydd cyflym iawn, ac roeddwn yn meddwl ein bod wedi gwneud hynny. Ond hoffwn siarad â'r Aelod os yw hynny'n iawn, i weld beth arall y gallwn ei wneud mewn perthynas â hynny.
Rwyf wedi amlinellu cyfres o ffyrdd y mae ein dull o fynd i'r afael â TB yn gwneud cynnydd cadarnhaol a ffyrdd y gall y rheini sydd â diddordeb siapio ein dull o weithredu wrth symud ymlaen. Mae ein nod o gael Cymru rydd o TB erbyn 2041 yn bosibl os daliwn ati i gydweithio—y Llywodraeth, ffermwyr, milfeddygon a chymunedau—i barhau i sicrhau gostyngiadau pellach yn y clefyd yn y blynyddoedd i ddod. Diolch.
Mabon ap Gwynfor nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a diolch i bob un sydd wedi cyfrannu at y drafodaeth a'r ddadl yma heno sydd, ar y cyfan, dwi'n meddwl, wedi bod yn un dda ac yn un adeiladol.
Y gwir ydi bod y diciâu yn cael effaith boenus a hirdymor ar unigolion, teuluoedd a chymunedau, heb sôn am yr anifeiliaid. Fel rydyn ni eisioes wedi clywed, mae'r colledion cyfartalog dros £25,000 y fferm o ganlyniad i'r diciâu. Pwy, mewn gwirionedd, all gynnal colledion o'r fath, yn enwedig ar adeg o argyfwng costau byw, gyda chostau mewnbwn wedi saethu i fyny a chwyddiant amaeth yn fwy nag unrhyw sector arall? Mewn sawl achos, mae mwy nag un genhedlaeth wedi buddsoddi mewn datblygu gyr arbenigol o wartheg, wedi rhoi oes o fagu a buddsoddi calon, enaid a chyfalaf i mewn i'w datblygu, dim ond i weld y cyfan yn cael ei ddinistrio o flaen eu llygaid.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Fe glywson ni Llyr ar y dechrau yn sôn am y disgrifiad yna o’r teimlad o fraw ac arswyd y mae ffermwyr yn ei gael wrth baratoi at y profion, a Sam yn sôn am y berthynas yna rhwng y ffarmwr a’r gyr, ac yn sôn am Stuart Williams o sir Benfro, a oedd yn siarad y tu allan i’r Senedd yma y prynhawn yma. Rwyf innau wedi gweld profiad ym Mhennal wrth i TB gyrraedd de Meirionnydd. Felly, mae’r profiad erchyll yna yn un byw ac yn un go iawn y mae pobl yn mynd drwyddo. Ystyriwch yr effaith affwysol ar iechyd meddwl y bobl yma a’u teuluoedd, a gadewch inni beidio ag anghofio am y milfeddygon sydd hefyd yn gorfod mynd drwy’r gwewyr ac yn dioddef straen iechyd meddwl anferthol eu hunain. Ar y pwynt yma, dwi’n meddwl bod angen inni gydnabod a diolch i elusennau’r DPJ Foundation, Tir Dewi, RABI a’r Samariaid am yr holl waith y maen nhw’n ei wneud yn y sector yn cynorthwyo ein cymunedau amaethyddol.
Mae angen gweld newid yn y polisi difa gwartheg ar y fferm, ac mae hynny’n ddiamheuaeth. Fe ddaru Llyr ar y dechrau sôn nad oes yna fawr ddim newid wedi bod dros 10 mlynedd, a soniodd Laura Anne Jones ei bod hithau wedi siarad fan hyn 21 mlynedd yn ôl ac wedi dweud rhywbeth tebyg iawn eleni. Felly, does yna ddim newid wedi bod yn y sector.
Wrth gwrs, roedd y datganiad a gafwyd ddoe gan y Gweinidog i’w groesawu, ac mae’n dweud tipyn, onid ydyw, ei bod yn cymryd rhaglen deledu ddirdynnol, yr un efo’r teulu Davies o Gastell Hywel yng Nghapel Isaac, ar Ffermio ar S4C rai wythnosau yn ôl, a chyflwyno dadl yn y Siambr, a rali fawr o flaen y Senedd, ei bod wedi cymryd hynny i gyd er mwyn cael datganiad gan y Llywodraeth. Ond, mae’r datganiad yna i’w groesawu. Mae hefyd yn gydnabyddiaeth gan y Llywodraeth fod yr hyn sydd wedi digwydd yn annigonol, ac felly fod angen cefnogaeth ar y cynnig heddiw oherwydd nad ydyn ni wedi gweld cychwyn ar y gwaith yna eto. Felly, ar sail hynny, gobeithio y gwelwn ni Aelodau o’r Llywodraeth a meinciau Llafur yn cefnogi’r cynnig.
Ond, rhag ofn nad ydy’r Aelodau sydd yn bresennol yn adnabod bywyd y buarth yn dda, ystyriwch fod cysgod y diciâu yn rhoi pwysau meddyliol ac economaidd sylweddol ar fferm. Os yw buwch yn methu prawf, yna mae’n rhaid iddi aros ar y fferm tan ei bod yn cael ei chlirio. Mae hyn yn gost sylweddol ychwanegol i’r fferm. Mae’n golygu bod mwy o wartheg ar y fferm na’r hyn yr oedd y ffermwr yn disgwyl ei gael. Mae angen mwy o borthiant i mewn. Mae angen mwy o ofal ar y gyr yna, heb sôn am fethu gwerthu'r stoc sydd ganddyn nhw er mwyn dod ag incwm i mewn, yn union fel ddaru Llyr esbonio ar ddechrau’r drafodaeth.
Darlun bach cryno yn unig ydy hwn, ond gobeithio ei fod yn rhoi darlun i’r Aelodau hynny sydd ddim yn adnabod buarth y fferm o ran yr hyn y mae ffermwyr yn gorfod mynd drwyddo. Mae’n rhaid, felly, datblygu polisi newydd er mwyn mynd i’r afael â TB, ac un sydd yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol. Fe ddaru Rhun alw ar y Llywodraeth i weithio efo’r sector er mwyn cael datrysiad newydd ar gyfer hyn, a gofyn i’r Llywodraeth edrych ar y wyddoniaeth. Roedd yn dda clywed y Gweinidog yn ymrwymo i gydweithio efo’r sector. Mae hynny’n dda i glywed. Mae geiriau cynnes yn dda, ond rŵan mae’n rhaid gweld gweithredu, nid geiriau cynnes yn unig.
Fe ddaru’r Llywodraeth yma, wrth gwrs, adeg COVID, sôn dro ar ôl tro am yr angen i ddilyn y wyddoniaeth pan fo’n dod i COVID. Mae’r un peth yn wir fan hyn, ac mae’r wyddoniaeth yn glir, fel ddaru Janet Finch-Saunders ddweud. Fe wnaeth Janet ein hatgoffa ni, yn yr Alban, eu bod nhw’n rhydd o TB. Gadewch inni ddilyn y wyddoniaeth. Gadewch inni ddilyn arfer da a’r dystiolaeth yna o beth sydd yn gweithio.
Does neb, wrth gwrs, eisiau gweld anifeiliaid yn cael eu lladd yn ddi-hid. Nid dyna ydy’r bwriad. Ond, fel y saif pethau, naill ai lladd rhai moch daear ydy’r ateb, neu ladd gyr o wartheg. Rydym ni wedi clywed yr ystadegau. Mae hyd at 10,000 o wartheg yn cael eu difa bob blwyddyn fan hyn. Felly, 10,000 o wartheg neu gymryd rhaglen ddifa moch daear ydy’r datrysiad tymor byr, tan fod rhywbeth arall yn dod i'r fei.
Fe ddaru Cefin sôn am y llythyr ddaru Wyn Davies, Castell Hywel, ei gael, yn dweud, yn ei gyr o, fod y dystiolaeth yn inconclusive. Felly, nid yn unig rydyn ni'n difa gwartheg, ond difa gwartheg sydd yn iach yn aml iawn hefyd. Mae hynna'n dorcalonnus i bob un yma, yn enwedig i'r teulu amaethyddol sy'n gorfod gweld a thystio i hynna. Ond, mae'r dystiolaeth yn glir fod moch daear yn lledaenu'r haint mewn ardaloedd ble mae'r haint yn bodoli. Nid fi sy'n dweud hynna, ac nid unrhyw berson trigger-happy sydd eisiau amharchu bywyd gwyllt sydd yn ei ddweud o, ond gwyddonwyr sydd yn arbenigo yn y diciâu sydd yn dweud hyn. Fel dywedodd Cefin, mae'r polisi ar hyn o bryd yn awgrymu ein bod ni'n trio ymladd TB efo un fraich tu ôl ein cefnau oherwydd bod y Llywodraeth yma'n gwrthod dilyn y dystiolaeth yma.
Dwi'n parchu'r hyn yr oedd Carolyn yn dweud ac yn pryderu am fywyd gwyllt, ond nid sôn am ladd yn afresymol ydyn ni fan hyn. Ac roeddwn ni'n flin i glywed y Gweinidog yn sôn am 'mass culling'. Mae hynna'n dilyn yr un math o eirfa ag yr ydyn ni wedi clywed o ran bolisi arall, wrth sôn am 'flanced'. Nid sôn am ddifa ar raddfa eang ydyn ni, ond difa wedi'i dargedu lle mae ei angen o er mwyn mynd i'r afael â'r drafferth.
Gadewch inni beidio ag anghofio hefyd fod bywyd gwyllt, fel rydyn ni wedi clywed eisoes, yn dioddef o'r diciâu. Fe ddaru Sam sôn am hynny amryw o weithiau yn ei gyfraniad. Mae bywyd gwyllt yn dioddef, yn dioddef yn affwysol hefyd, felly mae'n rhaid inni nid yn unig fynd i'r afael â'r diciâu mewn gwartheg, ond hefyd ymhlith bywyd gwyllt. Dwi'n gwybod ddaru Carolyn sôn bod natur yng Nghymru yn dioddef, ac, oherwydd hyn, rydyn ni'n gweld llai, er enghraifft, o ddraenogod yng Nghymru, oherwydd bod gennym ni fwy o foch daear mewn rhai ardaloedd. Mae hynna'n ganlyniad uniongyrchol o ddim byd yn mynd i'r afael â moch daear.
Felly, i orffen, wrth i'r Llywodraeth yma fethu â chymryd y camau angenrheidiol i fynd i'r afael â'r diciâu, rydyn ni wedi gweld y diciâu yn parhau i fod yn ystyfnig mewn ardaloedd o Gymru ac yn mynd i mewn i diroedd newydd. Felly, gadewch i'r Llywodraeth ddilyn y dystiolaeth. Gadewch i'r Llywodraeth sicrhau eu bod nhw'n gwneud pob dim o fewn eu gallu er mwyn mynd i'r afael â'r diciâu a sicrhau nad ydyn ni'n gweld y lladd yma sydd yn digwydd ar y buarth ar hyn o bryd, sydd yn achosi dioddefaint a phoen meddwl anferthol i'n ffermwyr ni. Felly, gadewch inni gefnogi'r cynnig fel mae'n sefyll. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.
Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 6, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y cynllun ffermio cynaliadwy. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, felly, fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y cynnig. O blaid 26, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y cynnig
Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yma'n gyfartal hefyd, felly, fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlias fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, o blaid 26, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Ond gan nad yw'r Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio, nac wedi derbyn y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig, caiff y cynnig felly ei wrthod.
Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 7, dadl Plaid Cymru. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio yn enw Heledd Fychan. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Unwaith eto, mae'r bleidlais yn gyfartal. Felly, fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio’n erbyn y cynnig. O blaid 26, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - TB Buchol. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y cynnig
Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, felly, fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. O blaid 26, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - TB Buchol. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Unwaith eto, gan nad yw'r Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio nac wedi derbyn y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig, caiff y cynnig felly ei wrthod. Daw hynny â'r pleidleisio i ben am heddiw.
Mae gennym fusnes o hyd, felly'r rheini sy’n gadael y Siambr, gwnewch hynny’n dawel, os gwelwch yn dda.
Galwaf yn awr ar Mark Isherwood i siarad ar bwnc ei ddadl fer.
Diolch. Rwyf wedi cytuno i roi munud i Mike Hedges siarad ar ôl fy nghyfraniad agoriadol yn y ddadl fer hon.
Mae bron i 10,000 o bobl yn cael diagnosis o lewcemia yn y DU bob blwyddyn, neu 27 o bobl bob dydd. Mae gan lewcemia gyfradd sylweddol uwch o ddiagnosis brys, mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ac fel arall, o gymharu â'r cyfartaledd cyffredinol ar gyfer canser: 37 y cant o gymharu ag 21 y cant. Mae cael diagnosis drwy leoliad brys wedi'i gysylltu â chyfraddau goroesi llai. Yn anffodus, mae bron i 5,000 o farwolaethau o ganlyniad i lewcemia bob blwyddyn yn y DU, gyda 250 o farwolaethau y flwyddyn yng Nghymru. Dangosodd data diweddaraf arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru mai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oedd y bwrdd iechyd â’r nifer uchaf o farwolaethau lewcemia yng Nghymru, gyda lewcemia yn achosi 311 o farwolaethau yn y pum mlynedd rhwng 2017 a 2021.
Mae’r her gyda diagnosis cynnar o lewcemia yn amlhaenog, ond gellir ei phriodoli'n rhannol i symptomau amhenodol lewcemia, gan gynnwys blinder parhaus, cleisio heb esboniad, a all hefyd fod yn arwydd o salwch mwy cyffredin a llai sinistr. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd i aelodau'r cyhoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol nodi achosion o lewcemia. Cyfrif gwaed llawn yw'r cyfan sydd ei angen i wneud diagnosis o lewcemia yn gynnar neu i'w ddiystyru. Mae hyn yn llawer rhatach na llawer o brofion diagnostig eraill a gallai hefyd ganfod llawer o gyflyrau eraill yn gynharach, gan helpu i achub bywydau.
Dyna pam fod elusen canser y gwaed Leukaemia Care wedi lansio ei hymgyrch Spot Leukaemia, mewn cydweithrediad â’r elusen ymchwil i lewcemia Leukaemia UK, sy’n ceisio cynyddu ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau lewcemia ymhlith y cyhoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ac i helpu i leihau nifer y bobl sy’n cael diagnosis brys, a allai helpu i wella'r canlyniadau i gleifion.
Mae'r ymgyrch yn amlygu nifer o ffyrdd o fynd i'r afael â'r her o gael diagnosis o lewcemia. Cynhaliodd Leukaemia Care a Leukaemia UK arolwg cleifion mawr i ddeall mwy am brofiad cleifion o gael y cyfrif gwaed llawn. Buont hefyd yn siarad â'u meddygon teulu cynghorol. Lansiwyd yr ymgyrch yn wreiddiol yn 2017, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o symptomau lewcemia, ac nid yn unig codi ymwybyddiaeth o’r arwyddion a’r symptomau, ond hefyd i geisio newid canfyddiad y cyhoedd o lewcemia a'r rhai y mae’n effeithio arnynt.
Er enghraifft, er mai canfyddiad y cyhoedd yw mai clefyd plant yw lewcemia, mae 64 y cant o’r bobl sy’n cael diagnosis o lewcemia dros 65 oed. Canfu arolwg barn YouGov diweddar Leukaemia Care, er bod 88 y cant o’r cyhoedd yn y DU yn gwybod bod lewcemia yn fath o ganser, ni allai pawb nodi'r symptomau, gyda 31 y cant yn methu enwi unrhyw symptom o gwbl. Yn ychwanegol at hynny, pan ofynnwyd iddynt a fyddent yn ymweld â’u meddyg teulu pe bai ganddynt unrhyw un o’r symptomau, dywedodd 28 y cant na fyddent yn gwneud hynny gan na fyddent am roi pwysau ychwanegol ar y GIG.
Mae taer angen mwy o ymwybyddiaeth o lewcemia, gyda 30 y cant o’r cyhoedd yn y DU yn dal i feddwl mai dim ond ar bobl dan 15 oed y mae lewcemia'n effeithio, a dim ond 4 y cant o’r cyhoedd yn ymwybodol fod lewcemia'n fwy amlwg ymhlith pobl rhwng 65 a 74 oed.
Gall fod yn anodd nodi achosion o lewcemia, gan fod yr arwyddion a'r symptomau'n gyffredin i afiechydon eraill nad ydynt yn gysylltiedig. Gallai gwybod beth i edrych amdano helpu pobl i benderfynu ymweld â'u meddyg teulu yn gynt. Y chwe symptom mwyaf cyffredin a brofir gan bob claf lewcemia cyn diagnosis yw blinder, diffyg anadl, twymyn neu chwysu yn y nos, cleisio neu waedu, poen yn yr esgyrn a'r cymalau a heintiau mynych.
Yn ogystal ag ymwybyddiaeth o symptomau, mae gan Leukaemia Care nifer o faterion yr hoffent dynnu sylw Llywodraeth Cymru atynt, gan gynnwys pwysau o ran capasiti meddygon teulu. Yn ôl canllawiau atgyfeirio NICE, dylai pawb sy’n ymgyflwyno â symptomau lewcemia gael cyfrif gwaed llawn brys 48 awr i wneud diagnosis cynnar o lewcemia neu ei ddiystyru. Fodd bynnag, canfu arolwg Leukaemia Care a Leukaemia UK mai dim ond traean o gleifion a ddywedodd eu bod wedi cael prawf gwaed yn syth ar ôl gweld meddyg teulu am eu symptomau, h.y. yn dilyn un apwyntiad yn unig. Yn ogystal, dywedodd bron i chwarter, 23.5 y cant, o ymatebwyr lewcemia acíwt ei bod wedi cymryd hyd at dri i bedwar mis i gael prawf gwaed ar ôl yr ymweliad cyntaf â meddyg teulu.
Yn ychwanegol at hynny, mae Leukaemia Care a Leukaemia UK yn aml yn clywed gan eu meddygon teulu cynghorol fod y pwysau y maent yn ei wynebu ar y system a’r capasiti yn eu hatal rhag cynnal cyfrif gwaed llawn bob tro y byddant yn gweld claf â’r symptomau yng nghanllawiau NICE, er eu bod yn ymwybodol y dylent wneud hynny. Mae Leukaemia Care yn argymell felly y dylai Llywodraeth Cymru hyrwyddo adnoddau addysg sydd ar gael ar bwnc lewcemia i feddygon teulu, i'w helpu i ddod yn fwy cyfarwydd â symptomau lewcemia, a mynd i’r afael â phwysau ar feddygon teulu a’r gweithlu gofal sylfaenol neu ddiagnostig, gan ddarparu buddsoddiad digonol yng nghyllideb y GIG ar gyfer hyn.
Maent yn mynd yn eu blaenau i dynnu sylw at bwysigrwydd defnyddio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yn y gymuned sydd â'r setiau sgiliau cywir i helpu i leddfu pwysau capasiti meddygon teulu. Yn arolwg diweddar Leukaemia Care a Leukaemia UK o gleifion lewcemia, gwelodd 39 y cant ohonynt weithiwr gofal iechyd proffesiynol nad oedd yn feddyg teulu am eu symptomau ar ryw adeg cyn y diagnosis. Mae'n bosibl fod hyn oherwydd anallu i gael apwyntiad meddyg teulu o fewn amser priodol neu am nad oedd y claf yn ymwybodol o ddifrifoldeb y symptomau. Mae treial yn mynd rhagddo yn Lloegr ar hyn o bryd lle gall fferyllwyr atgyfeirio cleifion yn uniongyrchol am brofion gwaed pan fyddant yn ymgyflwyno iddynt gyda'r symptomau. Mae hyn yn rhywbeth y mae'r ddwy elusen yn credu y dylid ei efelychu yng Nghymru.
Yn eu hadroddiad, 'Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach', mae Pwyllgor Fferyllol Cymru yn argymell y dylai fferyllwyr allu atgyfeirio cleifion yn uniongyrchol am brofion gwaed llawn oherwydd,
'Byddai hyn yn arbed amser i feddygon teulu ac yn rhoi mynediad cyflymach i ganlyniadau i gleifion, gan symleiddio’r holl broses.'
Mae'r cyhoedd yng Nghymru eisoes yn gwneud mwy o ddefnydd o fferyllwyr. Mae nifer y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth anhwylderau cyffredin, lle gall fferyllwyr gynghori cleifion ar fân anhwylderau cyffredin mewn ymgynghoriad byr, wedi cynyddu’n flynyddol ers ei lansio yn 2013. Mae ymgyrch Spot Leukaemia yn argymell felly y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod fferyllwyr yn cael hyfforddiant cyfatebol ar arwyddion a symptomau lewcemia, a'r gallu i atgyfeirio cleifion yn uniongyrchol am brofion gwaed.
Fel y crybwyllwyd eisoes, mae gan lewcemia gyfradd diagnosis brys cyfartalog sy'n sylweddol uwch na'r cyfartaledd cyffredinol ar gyfer canser. Yn anffodus, ni ellir rhannu lewcemia yn gamau fel llawer o ganserau eraill. Mae mesurau procsi, megis gwybod a yw claf yn cael diagnosis mewn lleoliad brys, gan gynnwys drwy adran ddamweiniau ac achosion brys, sy'n gysylltiedig â chyfraddau goroesi llai, yn hanfodol i fesur y cynnydd wrth wneud diagnosis o lewcemia yn gynharach.
Mae data ymgyflwyno brys yn cael ei gofnodi a’i gyhoeddi yn Lloegr, ac mae’r Alban ar hyn o bryd yn y broses o gynllunio i gyhoeddi diagnosis canser yn rheolaidd drwy ddata ymgyflwyno brys drwy Public Health Scotland—cam gweithredu a nodir yn eu strategaeth ganser 10 mlynedd. Fodd bynnag, nid yw Cymru’n cofnodi nac yn cyhoeddi data ar ymgyflwyno brys fel mater o drefn, nac yn casglu data fel mater o drefn ar y llwybr i ddiagnosis, megis drwy feddyg teulu, adran achosion brys neu brosesau sgrinio ar gyfer unrhyw fath o ganser, gan gynnwys lewcemia. Mae Leukaemia Care yn dweud bod GIG Cymru yn gweithio i ddatblygu’r data hwn, ond gan y bydd yn ddata rheoli heb ei ddilysu a ddefnyddir i reoli’r llwybr lle'r amheuir canser, mae'n dweud nad yw’n debygol o fod ar gael i’r cyhoedd.
Mae’r GIG yng Nghymru eisoes yn gallu olrhain ffynhonnell yr amheuaeth ar gyfer atgyfeiriadau lle'r amheuir canser, ac mae’n hanfodol fod Cymru'n casglu ac yn sicrhau bod mwy o ddata canser ar gael, gan gynnwys data ymgyflwyno brys ar gyfer lewcemia. Mae diagnosis cynharach yn hanfodol i achub a gwella bywydau pobl â lewcemia. Fe ddylai ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru gofnodi a chyhoeddi data ymgyflwyno brys ar gyfer lewcemia fel mater o drefn, a byddent yn esgeuluso eu dyletswydd pe na baent yn ymateb yn gadarnhaol i’r alwad hon.
Un o'r 10 egwyddor cynllunio cenedlaethol yng nghynllun 'Cymru Iachach' Llywodraeth Cymru yw atal ac ymyrraeth gynnar. Nid oes fawr o esgus felly i Lywodraeth Cymru beidio â gweithredu'r argymhellion a wnaed gan ymgyrch Spot Leukaemia, a helpu i atal lewcemia rhag dinistrio bywydau. Diolch yn fawr.
A gaf i ddiolch i Mark Isherwood am roi munud imi yn y ddadl hon? Rwy’n cefnogi ymgyrch Spot Leukaemia. Gyda chanser, fe wyddom fod diagnosis cynnar yn achub bywydau. Ar hyn o bryd, mae gan gleifion â lewcemia gyfradd sylweddol uwch o ddiagnosis brys na mathau eraill o ganser. Mae'r cyfraddau ymgyflwyno brys uchaf ar gyfer unrhyw fath o ganser yn digwydd gyda lewcemia lymffoblastig acíwt, sef 66 y cant o gleifion, gwahaniaeth enfawr o gymharu â'r gyfradd ymgyflwyno brys gyffredinol ar gyfer canser, sef 21 y cant. Felly, dim ond mewn argyfwng y caiff dwy ran o dair o bobl â lewcemia ddiagnosis.
Mae llawer o bobl heb fod yn ymwybodol o arwyddion a symptomau lewcemia hyd nes y cânt hwy neu rywun y maent yn eu hadnabod ddiagnosis. Mae hyn yn arwain at oedi cyn ymweld â meddyg teulu, a all ohirio diagnosis, gan waethygu'r canlyniad i gleifion. Yn aml iawn, oherwydd natur amhenodol y symptomau a'r ffaith bod lewcemia'n glefyd cymharol anghyffredin, caiff pobl eu camddiagnosio gan eu meddyg teulu, neu maent yn mynychu sawl gwaith cyn iddynt gael diagnosis. Rwy’n angerddol dros godi ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau lewcemia a hysbysu pobl fod lewcemia yn fwy amlwg ymhlith pobl rhwng 65 a 74 oed. Nid salwch plant mohono.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i ymateb i'r ddadl. Lynne Neagle.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i Mark Isherwood am gyflwyno’r ddadl fer hon ar lewcemia, math cymharol brin o ganser sy’n effeithio ar fôn-gelloedd y gwaed, o ystyried bod oddeutu 300 o bobl yng Nghymru yn cael diagnosis o’r cyflwr bob blwyddyn? Ac a gaf i ddiolch i Mike Hedges am ei gyfraniad hefyd? Mae’n bwysig ein bod yn cael amser i drafod sut yr awn i’r afael â chanserau penodol fel lewcemia fel rhan o’n dull gweithredu cyffredinol, o ystyried y ffocws cyhoeddus y tueddwn i’w weld ar ganserau solet megis canser yr ysgyfaint a’r fron. Gwn fod llawer o’n helusennau canser sy’n arbenigo ar y mathau hyn o ganser yn pryderu eu bod yn cael eu hanwybyddu, a hoffwn gynnig fy sicrwydd nad yw hyn yn wir. Rydym wedi ymrwymo i wella canlyniadau ar gyfer pob math o ganser.
Mae ein dull ehangach wedi'i nodi yn y datganiad ansawdd ar gyfer canser, sy'n cynnwys canserau'r gwaed. Ei nod yw dod â chlinigwyr ynghyd yng Nghymru ar gyfer pob prif fath o ganser i gydweithio ar sut i wella gwasanaethau. Gwnawn hyn drwy grŵp rhwydwaith canser gweithrediaeth y GIG ar gyfer canserau haematolegol. Mae'r grŵp wedi bod yn edrych ar beth arall y gellir ei wneud i roi'r cymorth cywir i bobl o fewn yr adnoddau sydd ar gael i fyrddau iechyd. Mae'r clinigwyr arbenigol yn y grŵp hwn yn datblygu'r llwybrau delfrydol cenedlaethol ar gyfer canser y gwaed, ac maent hefyd yn gyfranogwyr gweithredol mewn gwaith ymchwil ar ganser y gwaed ac yn gweithio ar lefel y DU i helpu i flaenoriaethu a llunio astudiaethau yn y maes hwn. Rydym yn cydnabod y gall anghenion pobl â chanser y gwaed a'r gwasanaethau sydd yno i bobl fod yn eithaf gwahanol i ganserau eraill. Yn fwyaf arbennig, gwelwn fod canserau'r gwaed fel lewcemia yn gallu effeithio'n anghymesur ar bobl iau ac yn galw am dimau arbenigol, a rheoli pethau fel ffrwythlondeb ac anghenion datblygiadol yn y dyfodol.
Gall llawer o bobl sydd â math cronig o lewcemia fod ar lwybr monitro gweithredol, oherwydd mae'r celloedd annormal yn tyfu mor araf fel na fydd angen triniaeth weithredol ar bobl am flynyddoedd lawer. Gall hyn effeithio ar bobl yn seicolegol. Hefyd, mae triniaethau safonol ar gyfer canserau eraill, fel radiotherapi a llawdriniaeth, yn chwarae llai o rôl mewn gofal lewcemia, a'r prif driniaethau yw therapïau cyffuriau wedi'u targedu, mathau o gemotherapi a therapïau bôn-gelloedd. Rydym hefyd wedi gweld datblygiad imiwnotherapïau datblygedig newydd fel therapi celloedd-T CAR, i rai cleifion nad ydynt yn ymateb i driniaeth arferol neu sy'n ailwaelu yn dilyn triniaeth. Mae hyn yn gwneud rôl y cyrff arfarnu meddyginiaethau, fel y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, neu grŵp strategaeth feddyginiaethau Cymru yn bwysig iawn wrth arwain mynediad at driniaethau effeithiol.
Yn bwysig, rydym wedi mandadu yng Nghymru fod arfarniadau technoleg yn cael eu gweithredu o fewn 60 diwrnod, er mwyn helpu i sicrhau mynediad cyflym a theg at driniaethau cyffuriau newydd. Fodd bynnag, fel y nododd Mark, fe wyddom fod hwn yn gyflwr anodd i'w ganfod yn y lle cyntaf. Efallai na fydd ffurfiau cronig y clefyd yn dangos unrhyw symptomau am flynyddoedd lawer, o ystyried pa mor araf y mae'r celloedd annormal yn tyfu. Yn aml, bydd pobl yn cael diagnosis fel rhan o'u triniaeth a'u harchwiliadau ar gyfer cyflyrau eraill, tra bod y ffurfiau mwy ymosodol ac acíwt o'r cyflwr yn arwain at symptomau sy'n ymddangos yn gyflym, a bydd pobl yn aml yn cael diagnosis mewn adrannau brys.
Mae'n bwysig ein bod yn helpu i godi proffil y cyflyrau hyn a'u symptomau, ac rwy'n gobeithio y bydd y ddadl hon yn cyfrannu at hynny. Fel gyda llawer o ganserau, gall fod yn anodd nodi rhai o'r symptomau cyffredin, fel blinder parhaus, heintiau aml a chleisiau heb esboniad—ac yn wir, yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd achos difrifol iddynt. Ond mae angen inni siarad mwy amdano fel bod pobl yn gwybod beth sy'n arferol iddynt hwy, a phan fydd rhywbeth yn newid, eu bod yn teimlo'n hyderus i ofyn am gyngor gan eu meddyg teulu.
Rwy'n gwybod bod pryderon ynglŷn â pha mor dda y gall ein meddygon teulu nodi rhai o'r symptomau hyn ac ystyried y posibilrwydd o ganser y gwaed. Er tegwch i'n meddygon teulu gwych, mae ganddynt waith anodd iawn yn asesu risg a gwahaniaethu rhwng achosion difrifol o salwch ac achosion nad ydynt yn ddifrifol. Gall fod yn aneglur yn seiliedig ar hanes y claf beth yw lefel eu risg, a gall cyflyrau eraill guddio symptomau. O ystyried y lefelau cydafiachedd yn ein poblogaeth, gallai hyn gael effaith ar ddiagnosis.
Yn ogystal â'r canllawiau clir a chyfarwydd iawn sydd ar gael gan NICE ar reoli atgyfeiriadau ar gyfer canserau'r gwaed fel lewcemia, rydym hefyd yn gweithio i gefnogi meddygon teulu gydag arweiniad a hyfforddiant ar atgyfeiriadau canser. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi cyflwyno rhaglen i gyfrifiadur pob meddyg teulu yng Nghymru o'r enw GatewayC, sy'n rhoi arweiniad a hyfforddiant ar ymchwilio i achosion posibl o ganser. Rydym hefyd wedi cyflwyno canolfannau diagnostig cyflym i'r boblogaeth gyfan yng Nghymru er mwyn rhoi opsiwn ychwanegol i'n meddygon teulu os ydynt yn amau canser.
Fel y dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ddiweddar yn y ddadl ar ganser yr oesoffagws, rydym am i bawb sydd wedi cael diagnosis o ganser a'u teuluoedd wybod mai canser yw un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Fe'i nodir yn ysgrifenedig yn fframwaith cynllunio'r GIG, ac rydym yn gweithio'n galed i wella amseroedd aros gwasanaethau canser a chanlyniadau cleifion wrth ymdrin â byrddau iechyd. Mae gwasanaethau canser dan bwysau aruthrol, a achoswyd gan gynnydd hirdymor yn y galw am archwiliadau canser a chymhlethdod cynyddol triniaethau, ond dylai pobl ddisgwyl cael eu gweld yn gyflym a'u trin yn gyflym.
Mae nifer y bobl sy'n cael eu hatgyfeirio at y llwybr lle'r amheuir canser wedi codi o gyfartaledd o 10,500 y mis yn 2020 i 16,000 y mis yn 2023, cynnydd o 53 y cant. Gwelwn y nifer uchaf erioed o bobl yn cael eu harchwilio a naill ai'n cael gwybod nad oes ganddynt ganser neu'n dechrau triniaeth. Rydym wedi gweld gwelliannau diweddar ym mherfformiad amseroedd aros cyffredinol canser ar 58 y cant, ac ar gyfer canserau haematolegol ar 68 y cant, a lewcemia acíwt ar 100 y cant. Ond nid yw hynny'n golygu nad oes unrhyw welliant pellach i'w wneud. Rwy'n gwybod bod y GIG yn gweithio'n eithriadol o galed gyda'r adnoddau sydd ar gael iddo i roi mynediad amserol i bobl at y diagnosis a'r driniaeth sydd eu hangen arnynt.
Rydym hefyd yn ystyried achos busnes o'r gwasanaeth rhanbarthol trawsblannu bôn-gelloedd a chell-T CAR yng Nghaerdydd i sicrhau bod gennym gapasiti ffisegol i ddarparu'r triniaethau hanfodol hyn ar gyfer y dyfodol. Yn y pen draw, mae'n ymwneud yn llwyr â chanlyniadau, ac rydym yn gweld cyfraddau marwolaeth isel iawn a chyfraddau uchel o bobl yn goroesi am bum mlynedd ar gyfer lewcemia yng Nghymru, ond nid ydym yn hunanfodlon ynglŷn â hyn, ac mae'n rhaid inni barhau i geisio gwella ansawdd y gofal a'r canlyniadau a gawn i bobl. Rhaid inni gydnabod pwysigrwydd mynediad at wasanaethau gofal lliniarol da hefyd, gan ein bod yn gwybod y gall y gofal hwnnw wneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd bywyd pobl sy'n wynebu salwch sy'n cyfyngu ar fywyd. Rydym hefyd yn hoffi tynnu sylw at y cymorth a'r wybodaeth ragorol sydd ar gael gan elusennau canser fel Blood Cancer UK, Leukaemia Care a Leukaemia UK.
Rwy'n gorffen drwy ddiolch i Mark am gyflwyno'r ddadl hon. Rwy'n hapus iawn i edrych ar yr awgrymiadau a wnaeth ef a Mike Hedges yn ystod y ddadl. Diolch.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:38.