Y Cyfarfod Llawn

Plenary

27/02/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Gareth Davies. 

Amseroedd Aros yn Ysbyty Glan Clwyd

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros cleifion yn Ysbyty Glan Clwyd? OQ60734

Diolch i Gareth Davies, Llywydd, am y cwestiwn yna. Nid yw'r amseroedd aros i rai cleifion yn Ysbyty Glan Clwyd lle mae angen iddyn nhw fod, yn enwedig yn yr adran achosion brys. Bydd buddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a phwyslais o'r newydd gan y bwrdd newydd yn helpu staff rheng flaen i sicrhau gwelliant.

Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, Prif Weinidog. Mae'n addawol gweld, er gwaethaf eich ymateb, bod amseroedd aros wedi dechrau symud i'r cyfeiriad cywir yn araf mewn rhai ffyrdd yn ystod y ddau fis diwethaf, yn enwedig yn erbyn targedau canser. Ond mae gwelliant yn araf iawn mewn adrannau achosion brys, lle mae amseroedd aros yn broblem ddifrifol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ysbyty Glan Clwyd yw'r adran damweiniau ac achosion brys sy'n perfformio waethaf o ran amseroedd aros yng Nghymru, ac mae yn y bwrdd iechyd sy'n perfformio waethaf. Mae chwe deg wyth y cant o gleifion damweiniau ac achosion brys yng Nghymru yn cael eu gweld o fewn pedair awr, ond, yn Ysbyty Glan Clwyd, dim ond 45 y cant o gleifion sy'n cael eu rhyddhau, eu trosglwyddo neu eu derbyn o fewn pedair awr. Mae cleifion sy'n aros mwy na 12 awr wedi cynyddu 10 y cant ers mis Ionawr y llynedd. Yn syml, ni ddylai trigolion y gogledd orfod goddef hyn. Y mis hwn, cyrhaeddodd claf, Mr Taylor, Ysbyty Glan Clwyd gyda phoenau yn ei frest ac, yn dilyn brysbennu, cafodd ei adael mewn coridor am chwe awr mewn cadair olwyn. Gan nodi bod y staff yn ardderchog, roedden nhw wedi'u gorlwytho ac fe'i gadawyd yn ei ddagrau, yn anffodus. Ni allwn ganiatáu i amser aros o'r hyd hwn ddod yn norm newydd, Prif Weinidog. Felly, a allwch chi amlinellu pa fap ffordd sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith i ostwng amseroedd aros yn Ysbyty Glan Clwyd fel nad oes yn rhaid i bobl ddioddef yr un peth â'r gŵr bonheddig, Mr Taylor, y bu'n rhaid iddo aros chwe awr mewn coridor? Diolch.

Wel, diolch i Gareth Davies, Llywydd, am y gydnabyddiaeth a wnaeth ar ddechrau ei gwestiwn am y meysydd hynny sydd wedi gwella yng Nglan Clwyd. Ond rwy'n cytuno ag ef nad yw'r perfformiad yn yr adran achosion brys wedi bod yn foddhaol, a bod pethau pellach y mae'n rhaid eu gwneud i wneud yn siŵr bod y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddarparu ar gyfer gofal brys yn yr ysbyty yn talu ar ei ganfed yn y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu i gleifion.

Rwy'n credu fy mod i'n cofio bod yn yr ysbyty gyda chydweithiwr yr Aelod, Darren Millar, bron i 10 mlynedd yn ôl bellach, pan oedd buddsoddiad sylweddol iawn wedi cael ei wneud i ailfodelu'r adran achosion brys. Cawsom daith o'i chwmpas. Esboniwyd i ni sut y byddai hyn yn gwneud gwahaniaeth i lif drwy'r adran ac yn y blaen, ac mae yna fuddsoddiad pellach y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu. Cafodd y Gweinidog gyfarfod ar 22 Chwefror gyda'r bwrdd iechyd, a chydag awdurdodau lleol, i ofyn iddyn nhw beth arall y gellir ei wneud i symud pobl allan o'r ysbyty nad oes angen iddyn nhw fod yno, er mwyn gwella llif drwy'r adran. Nawr, er bod llawer o waith ychwanegol y mae angen ei wneud, mae pethau sydd wedi digwydd eisoes sy'n gwneud gwahaniaeth—mae 1,200 o gleifion y mis, ar gyfartaledd, bellach yn cael gwasanaeth drwy'r canolfannau gofal sylfaenol brys yn y gogledd. Ac, yn Ysbyty Glan Clwyd ei hun, mae'r gwasanaeth gofal brys yr un diwrnod yn gweld cannoedd ar gannoedd o gleifion bob mis, y rhan fwyaf ohonyn nhw—y newyddion da yw—nad oes angen eu derbyn ymhellach i'r ysbyty. Felly, mae gwasanaethau sy'n cefnogi'r adran achosion brys honno. Rwy'n disgwyl i'r bwrdd newydd ganolbwyntio ar sut y gellir sicrhau gwelliant i brofiad cleifion.

Trawsnewid Llinell Treherbert

2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed fel rhan o drawsnewid llinell Treherbert? OQ60736

Wel, diolch i Buffy Williams am dynnu sylw at y newyddion da iawn bod Trafnidiaeth Cymru wedi ailagor rheilffordd Treherbert yr wythnos hon. Mae'r buddsoddiad wedi symud y rheilffordd o fod yn rhan Fictoraidd, o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg o'n seilwaith i'r unfed ganrif ar hugain, gan ddangos yr hyn y gall buddsoddiad o £1 biliwn yn rheilffyrdd craidd y Cymoedd ei gyflawni lle mae cyfrifoldeb am y rhwydwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli.

Yn wahanol i Rishi Sunak yn cymryd clod am brif reilffordd wedi'i thrydaneiddio gogledd Cymru, gyda chefnogaeth £1 biliwn nad oes neb wedi ei weld, mae trawsnewid rheilffordd Treherbert yn Rhondda yn gwneud cynnydd gwirioneddol gyda chefnogaeth ariannol go iawn. Mae trydaneiddio, seilwaith, uwchraddio gorsafoedd a deuoli'r rheilffordd mewn rhannau dros y naw mis diwethaf yn golygu y gall trigolion ddefnyddio trenau unwaith eto tra bod cam olaf y gwaith yn cael ei wneud. Cyn bo hir, bydd gennym ni drenau gwyrddach, mwy dibynadwy yn teithio i Gaerdydd ac yn ôl bedair gwaith yr awr, gan agor mwy o gyfleoedd ar gyfer addysg, cyflogaeth ac, wrth gwrs, achlysuron cymdeithasol. Ond rwyf i eisiau i holl drigolion Rhondda elwa, ac mae hynny'n cynnwys Rhondda Fach. Felly, yn dilyn fy nghyfarfodydd cynharach gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, a wnaiff y Prif Weinidog ddod â TrC, Stagecoach, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Llywodraeth Cymru ynghyd i drafod ailgyflwyno bysiau trên i drigolion yn Rhondda Fach? Ac a wnaiff ef ymuno â mi i ddiolch i drigolion Rhondda am eu hamynedd tra bod gwaith wedi cael ei wneud dros y naw mis diwethaf?

13:35

Diolch i Buffy Williams am y pwyntiau pellach hynny, Llywydd. Gwelais fod Prif Weinidog y DU wedi honni bod y Llywodraeth Geidwadol wedi trydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru; roeddwn i ar y rheilffordd ddeuddydd cyn hynny, ac yn sicr nid oedd wedi digwydd bryd hynny. Ac yn union y math hwnnw o honiad a arweiniodd i Syr Robert Chote, sef yr unigolyn sy'n gyfrifol am safonau mewn ystadegau a honiadau gan y Llywodraeth, ysgrifennu eto yr wythnos diwethaf, i feirniadu Llywodraeth y DU am wneud honiadau gwyllt ymhell cyn y ffeithiau. Mae rheilffordd Treherbert wir wedi digwydd. Mae'n enghraifft o le mae buddsoddi wedi gwneud gwahaniaeth, yn hytrach nag addewid gwag nad oes neb o gwbl yn credu fydd byth yn dwyn ffrwyth.

Hoffwn ychwanegu fy llais at yr hyn a ddywedodd yr Aelod, fodd bynnag, o ran diolch i bobl yn y Rhondda ac ar hyd y rheilffordd honno am yr amynedd y maen nhw wedi ei ddangos. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyflawni'r gwelliannau yn unol â'r amserlen a nodwyd ganddyn nhw, ond mae wedi bod yn gamp enfawr o beirianneg, ac mae'r Aelod ei hun, rwy'n gwybod, wedi bod yn gynorthwyol iawn o ran gwneud yn siŵr bod gwasanaethau cyfnewid wedi cael eu rhoi ar waith mewn ffordd sy'n wirioneddol ymarferol i'r boblogaeth leol honno. Bydd y rheilffordd yn gwneud gwahaniaeth enfawr yn y metro unfed ganrif ar hugain hwnnw yr ydym ni'n ei greu yma. Rwy'n falch iawn y bydd Trafnidiaeth Cymru yn parhau i gynnig teithiau hanner pris ar reilffordd Treherbert, trwy gerdyn rheilffordd y Rhondda. Ac, fel y dywedodd Buffy Williams, Llywydd, y cam nesaf yw trenau newydd, a dyna fu hanes Trafnidiaeth Cymru ers hydref y llynedd. Roedd anawsterau gwirioneddol ar ddechrau'r hydref, pan nad oedd trenau a ddisgwyliwyd wedi cyrraedd ac nad oedden nhw'n weithredol. Ond mae'r hanes ers hynny wedi bod o drenau newydd ar reilffyrdd ym mhob rhan o Gymru, gyda mwy i'w ddilyn—byddan nhw ar y rheilffordd Treherbert yna—a byddan nhw'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, nid yn unig i bobl yn y Rhondda Fawr, ond drwy hwb trafnidiaeth newydd y Porth, yn y ffordd y dywedodd Buffy Williams, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl sy'n byw ar hyd y Rhondda Fach hefyd.

Prif Weinidog, nid oes amheuaeth bod uwchraddio rheilffordd Treherbert, er ei fod yn gwella cysylltedd i drigolion yn sylweddol, wedi dod, serch hynny, ar draul enfawr i'r cymunedau sy'n byw yno. Yn anffodus, mae busnesau ar hyd y rheilffordd wedi gweld cwymp enfawr mewn masnach, ac mae trigolion sydd wedi colli eu swyddi oherwydd yr aflonyddwch wedi cysylltu â mi hyd yn oed. Ac er bod y rheilffordd ar agor bellach, mae gennym ni—[Torri ar draws.]

Allaf i ddim clywed Joel James nawr, ac rwy'n amau na all y Prif Weinidog chwaith. Felly, os gallwn ni glywed Joel James mewn rhywfaint o ddistawrwydd.

Diolch, Llywydd. Mae'n haerllug iawn torri ar draws, mae'n rhaid i mi gyfaddef.

Er bod y rheilffordd ar agor bellach, mae'n rhaid i ni gofio nad yw'r gwaith wedi'i gwblhau o hyd, gan fod trydaneiddio parhaus a gwaith seilwaith mawr y mae angen ei wneud yng ngorsaf Ynyswen. Prif Weinidog, rwy'n ymwybodol, er mwyn gwneud iawn am yr aflonyddwch aruthrol a achoswyd, bod Trafnidiaeth Cymru, fel yr ydych chi wedi ei amlygu, wedi cynnig gostyngiad pitw o 50 y cant oddi ar brisiau tocynnau trên am dri mis yn unig, yr wyf i a llawer o drigolion yn teimlo sydd braidd yn gybyddlyd o ystyried yr effaith y mae'r uwchraddio hwn wedi ei chael ar gymunedau dros y flwyddyn ddiwethaf. Gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi y dylai Trafnidiaeth Cymru gyflwyno cynllun iawndal mwy sylweddol sydd nid yn unig yn para mwy na 12 wythnos, ond sy'n adlewyrchu yn llawnach yr effaith ar fywydau trigolion a busnesau y mae'r gwaith wedi ei hachosi? Diolch.

Mae'n ffaith anochel, os ydych chi'n buddsoddi ar y raddfa hon a'ch bod chi'n creu trawsnewidiad i seilwaith rheilffyrdd, ei fod yn cael effaith ar fywydau'r cymunedau lleol hynny. Ond bydd y manteision i'r cymunedau lleol hynny yn cael eu teimlo am ddegawdau a degawdau i ddod. Nawr, rwy'n ymwybodol o'r ffaith bod effeithio ar fywydau pobl leol yn haeddu rhywfaint o iawndal gan y gweithredwr trenau. Yn fy etholaeth i, ym mhentref Radur, bu tarfu enfawr yn rhan o drydaneiddio'r rheilffordd, ond mae'r cyngor cymuned lleol a sefydliadau cymunedol lleol wedi gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru, gan gydnabod yr hyn y bydd y buddsoddiad hwn yn ei wneud yn y dyfodol a gweld rhai camau gwneud iawn yn y byrdymor. Felly, rwy'n canmol Trafnidiaeth Cymru am y dull y mae wedi ei fabwysiadu, ac yna mater i fuddiannau cymunedol lleol yw trafod gyda Trafnidiaeth Cymru lle ceir pethau y gellir eu gwneud i gydnabod y tarfu y bydd y buddsoddiad hwnnw wedi ei greu.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, diolch am eich llythyr y bore yma mewn perthynas â fy nghais eich bod yn edrych i mewn i'r rhoddion y mae Gweinidog yr economi wedi eu derbyn—£200,000. Nid yw rhai pleidiau gwleidyddol yng Nghymru yn cynnal eu holl weithrediad ar hynny. Ond hoffwn gael gwybod gennych chi, os yn bosibl, Prif Weinidog, oherwydd fe wnaethoch chi nodi nad oeddech chi'n mynd i lansio ymchwiliad, a wnaethoch chi ddefnyddio'r meincnodau arferol i brofi eich penderfyniad yn eu herbyn, o gofio, yn amlwg, bod cystadleuaeth arweinyddiaeth ar y gweill ar hyn o bryd, ac yr awgrymwyd gan eraill eich bod chi'n amharod i gymryd rhan mewn cyflafareddu ar unrhyw faterion a allai fod yn berthnasol i ganlyniad y gystadleuaeth arweinyddiaeth honno. Ac, yng ngoleuni'r wybodaeth ychwanegol sydd wedi dod i'r amlwg, ddoe, am ddatblygiadau eraill y mae gan berchennog y busnes hwn fuddiant ynddyn nhw, a wnewch chi ailagor eich ystyriaeth, os na wnaethoch chi ddefnyddio'r meincnodau hynny i wneud y penderfyniad terfynol hwnnw ynglŷn â pheidio â lansio ymchwiliad, i'r rhodd sylweddol hon y mae Gweinidog yr economi wedi ei derbyn?

Wel, Llywydd, hoffwn ei gwneud yn eglur i'r Aelodau fy mod i wedi dilyn y gweithdrefnau ymchwilio cwbl arferol. Nid wyf i'n dweud wrth yr Aelod nad wyf i'n cynnal ymchwiliad. Gofynnais am ymchwiliad a dywedodd yr ymchwiliad wrthyf nad oedd ddiffyg cydymffurfiad â'r cod gweinidogol. Felly, bu ymchwiliad a rhoddwyd yr ateb i mi mewn termau diamwys. Eto, ar gyfer y cofnod, gadewch i mi ei gwneud yn gwbl eglur i bobl nad ydyn nhw'n gwybod dim am yr hyn sydd wedi digwydd, nid wyf i wedi derbyn yr un neges gan unrhyw un am yr ymchwiliad hwnnw. Does neb wedi gofyn i mi ei gyflymu, does neb wedi gofyn i mi ei osgoi. Nid wyf i wedi cael yr un darn o ohebiaeth. Fe wnes i ymdrin ag ef fel y byddwn i wedi ymdrin ag unrhyw lythyr arall y byddwn i wedi ei dderbyn o dan y cod. Os oes unrhyw un eisiau i unrhyw faterion pellach gael eu hymchwilio, dylai ysgrifennu ataf, dylai nodi'r hyn y mae'n credu sydd angen ei ymchwilio a bydd yn cael ei wneud yn gwbl unol â'r rheolau.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, o ran yr heriau y mae'n amlwg bod y cynllun ffermio cynaliadwy yn eu hachosi i'r gymuned ffermio a'r sylwadau yr ydych chi wedi eu rhoi i'r her honno, rydych chi wedi tynnu sylw at sut na ddylai ffermwyr fod mewn sefyllfa i benderfynu sut mae'r arian hwnnw yn cael ei wario. Nid wyf i erioed wedi clywed ffermwr yn dweud nad yw'n disgwyl i amodau fod ynghlwm i'r cynllun ffermio cynaliadwy newydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei lunio, ac mae'n bwysig, yn amlwg, bod ganddyn nhw'r gallu i ddylanwadu ar ganlyniad yr ymgynghoriad, y mae llawer o ffermwyr yn ei wneud ac y mae'r Gweinidog wedi tynnu sylw ato. Ond a ydych chi'n difaru ceisio nodi yn eich sylwadau bod ffermwyr yn ddig at y ffaith bod yn rhaid iddyn nhw wneud cais o dan reolau penodol ar gyfer y cynllun hwn yn y dyfodol, oherwydd, fel y dywedais i, fel yr wyf i'n ei deall hi a'r ffermwyr yr wyf i wedi siarad â nhw, maen nhw eisiau gweithio mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, maen nhw eisiau datblygu cynllun sy'n gadarnhaol ar gyfer amaethyddiaeth ac yn gadarnhaol ar gyfer yr amgylchedd, ac roedd y dyfyniad a roesoch yr wythnos diwethaf yn anghywir?

Wel, Llywydd, rwy'n credu bod heddiw yn ddiwrnod ar gyfer cymodi ledled Cymru, ac mae'n ddiwrnod i ostwng tymheredd y ddadl sydd wedi cael ei chynnal ynghylch dyfodol ffermio. Ac nid wyf i'n mynd i ddilyn arweinydd yr wrthblaid i ddull cyhuddol a neilltuo bai o ymdrin â'r drafodaeth. Roeddwn i'n falch dros ben ddoe o gyfarfod, gyda fy nghyd-Weinidog Lesley Griffiths, â phump aelod o'r gymuned ffermio. Roeddwn i'n meddwl eu bod nhw wedi rhoi cyfrif eithriadol o dda o'u hunain yn y cyfarfod a gawsom ni—adeiladol yn eu cynigion, wedi ymgysylltu â dyfodol eu diwydiant. Dyna'r math o sgwrs yr ydym ni eisiau ei gweld yma yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth wedi bod mewn sgwrs saith mlynedd. Bydd yr ymgynghoriad presennol yn dod i ben ar 7 Mawrth; ni fydd y sgwrs yn dod i ben bryd hynny gan y byddwn ni eisiau parhau i ymgysylltu'n agos â'r rhai sydd wedi cyfrannu at yr ymgynghoriad i ddod o hyd, gyda'n gilydd, i ddyfodol llwyddiannus ar gyfer ffermio a chefn gwlad Cymru.

13:45

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi, Prif Weinidog, bod angen tynnu'r gwres allan o'r drafodaeth ar hyn o bryd, ond mae'n ffaith bod y sylw a wnaethoch chi yr wythnos diwethaf—nid cyfrifoldeb ffermwyr yw penderfynu sut mae cymorthdaliadau yn cael eu gwario—roedd hwnnw wir yn ceisio gwthio ffermwyr i'r ymyl trwy ddweud eu bod nhw'n cymryd—[Torri ar draws.] Rwy'n gallu clywed y Dirprwy Weinidog trafnidiaeth yn ceisio ymyrryd. Os hoffech chi sefyll ar eich traed, Dirprwy Weinidog, oherwydd mae gennym ni ddadl— 

Na, rydych chi ar eich traed, Andrew R.T. Davies. A allwch chi ddod at eich cwestiwn ac a gawn ni ei glywed mewn ychydig o dawelwch o bob mainc, os gwelwch yn dda?

Rydym ni'n sôn am ostwng y gwres, ond fe wnaeth yr Aelod dros Flaenau Gwent yr wythnos diwethaf, ddydd Sul, alw ffermwyr mewn llun yn 'cranks'. Does bosib nad dyna'r iaith y dylid ei defnyddio ar Twitter. 

A allwch chi gadarnhau, Prif Weinidog, bod y Llywodraeth—

Fe wnaf i gymryd y—. A gaf i ofyn am seibiant bach? Fe wnaf i gymryd pwyntiau o drefn, os oes rhai, ar ddiwedd y cwestiynau. Andrew R.T. Davies, os gallwch chi barhau â'ch cwestiwn.  

 phleser. A allwch chi gadarnhau i mi, Prif Weinidog, o'r cyfarfod a gynhaliwyd gennych chi ddoe a'r cyfarfod a gefais i ac Aelodau eraill y Senedd hon gyda'r ffermwyr hynny o'r gorllewin, y bydd yr ymgysylltiad cadarnhaol hwnnw yn parhau i ail-lunio'r cynllun ffermio cynaliadwy fel bod gennym ni gynllun sy'n dod i'r amlwg ar ôl yr ymgynghoriad sy'n dweud, er tegwch i'r Gweinidog materion gwledig, heddiw, yn ei sylwadau yn y papur, bod ffermio a chynhyrchu bwyd yn elfen hanfodol a phwysig o'r cynllun hwnnw, a bydd diogeledd bwyd yn elfen a fydd â phwysau sylweddol yn y ffordd mae'r cynllun yn dod i'r amlwg?

Wel, Llywydd, cynhyrchu bwyd cynaliadwy fu amcan cyntaf y cynllun ffermio cynaliadwy yng Nghymru erioed—mae hynny wedi cael ei ailadrodd dro ar ôl tro gan y Gweinidog—ochr yn ochr â'r nwyddau cyhoeddus eraill y bydd buddsoddiad cyhoeddus yn eu rhyddhau yn y gymuned ffermio honno. Bydd y drafodaeth a gafwyd ers saith mlynedd—ac roedd y cyfarfod ddoe yn rhan o'r drafodaeth—yn parhau, wrth gwrs, oherwydd pan fydd gennych chi ymgynghoriad, mae'n anochel y byddwch chi, fel sydd wedi bod yn wir erioed, eisiau mynd ar drywydd y pwyntiau sy'n cael eu gwneud, edrych ar awgrymiadau amgen y gellid eu rhyddhau yn rhan o'r ymgynghoriad hwnnw, a gall ffermwyr, y bobl y gwnaethom ni gyfarfod â nhw ddoe ac eraill sydd o'r un meddylfryd, fod yn sicr y bydd Llywodraeth Cymru eisiau i'r drafodaeth honno barhau. 

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Y neges rydyn ni wedi ei chlywed yn gynyddol gan gefn gwlad Cymru dros y dyddiau a'r wythnosau diwethaf a'r neges cawn ni ei chlywed yn glir iawn yma ym Mae Caerdydd yfory ydy mai digon ydy digon, a dwi yn cytuno efo hynny. Roeddwn i'n cyfarfod cynrychiolwyr ffermwyr eto ddoe. Mae eu gofynion nhw a'r undebau a channoedd a miloedd o unigolion eraill yn fy nghymuned i a chymunedau ar draws Cymru yn rhai rhesymol iawn. Maen nhw'n wynebu her ar ôl her, haen ar ôl haen o heriau, newidiadau, gofynion arnyn nhw sy'n bygwth pa mor hyfyw ydy ffermydd. Maen nhw eisiau gwireddu amcanion amgylcheddol, ond mae'n rhaid i hynny ddigwydd mewn ffordd sy'n gweithio efo amaeth, nid yn ei erbyn o.

Rŵan, yn syml iawn, mae'r fferm deuluol Gymreig angen i Lywodraeth Cymru fod yn bencampwyr drostyn nhw, i fod yn gefn iddyn nhw, ac, ar hyn o bryd, nid fel yna mae hi'n teimlo i bobl. Rŵan, ydy'r Prif Weinidog yn cytuno efo fi ein bod ni ar groesffordd mewn difrif o ran y sector amaeth a chefn gwlad yng Nghymru ac mae rŵan ydy'r foment, rŵan ydy'r amser, am newid cyfeiriad? Achos mae gwrando yn un peth—mae'r Llywodraeth yn dweud yn gyson eu bod nhw'n gwrando—ond mae angen gweithredu rŵan.

Wel, Llywydd, dwi'n cydnabod y ffaith, wrth gwrs, fod lot o bethau yn newid yn y maes amaethyddiaeth, ac mae hwnna'n anodd i bobl ac mae pobl yn teimlo ei bod hi'n anodd i ffeindio ffordd i ddelio â phopeth maen nhw'n ei wynebu. Dyna pam roeddem ni wedi siarad â phobl ddoe, a dyna pam mae'r Gweinidog wedi dweud nifer o bethau heddiw, ar ôl y sgwrs yna, i gydnabod popeth roedd yn cael ei godi yn y cyfarfod. 

Llywydd, mae'r Gweinidog wedi gwneud nifer o bwyntiau heddiw mewn ymateb i'r rhai a godwyd gyda ni. Mae'r Gweinidog wedi cyhoeddi llythyrau heddiw i benodi aelodau o'r grŵp cynghori ar TB, ac mae wedi dweud wrth aelodau'r grŵp hwnnw mai'r peth cyntaf un y byddwn ni'n gofyn iddyn nhw ei wneud fydd cyflwyno cynigion newydd i ddelio â lladd gwartheg sydd wedi dal TB ar y fferm. Roedd hwnnw'n bwynt pwysig iawn a godwyd gan bobl sydd wedi dioddef hynny yn uniongyrchol eu hunain, ac rydym ni wedi gwneud cam sylweddol ymlaen yn hynny o beth heddiw.

Cawsom sgwrs ddoe am lygredd amaethyddol. Roedd yn rhaid i mi ei gwneud yn eglur i'r bobl y gwnaethom ni eu cyfarfod mai llygredd amaethyddol yw'r cyfrannwr unigol mwyaf at gyflwr pump o'r chwe afon sydd wedi'u heffeithio fwyaf yng Nghymru, ac ni allwn ni anwybyddu hynny. Ond rydym ni wedi addo adolygiad o reoliadau llygredd amaethyddol. Mae'r Gweinidog wedi ymrwymo heddiw i benodi cadeirydd annibynnol i arwain yr adolygiad hwnnw, a bydd gwaith paratoi hynny yn dechrau nawr. Felly, mae adolygiad i'w gynnal ac rydym ni'n gwybod y bydd ffermwyr eisiau cyfrannu at hwnnw.

Cyn belled ag y mae'r cynllun ffermio cynaliadwy ei hun yn y cwestiwn, trafodwyd ddoe gyda'r ffermwyr hynny a ddaeth i Barc Cathays syniadau ynghylch sut y gallwn ni symleiddio rhywfaint o'r data y bydd gofyn iddyn nhw eu darparu, sut y gallwn ni wneud y data hynny yn fwy gwerthfawr iddyn nhw, fel y gallan nhw wneud elw o'r data y maen nhw'n eu darparu. Cawsom sgwrs am sut y gallwn ddod o hyd i ffyrdd eraill o ddal carbon ar ffermydd. Ceir cyfres o syniadau ymarferol ac adeiladol iawn y byddwn ni'n mynd ar eu trywydd. Byddwn yn gwneud hynny mewn deialog, a dyna'r ffordd y byddwn ni'n dod o hyd i ffordd ymlaen gyda'n gilydd.

13:50

Dwi’n ddiolchgar am yr ymateb yna ac, yn sicr, mi fyddwn ni yn croesawu adolygiad buan o NVZs, fel rydyn ni wedi bod yn galw amdano fo, ac yn croesawu'r newid o ran TB, rhywbeth sydd yn dod ddiwrnod cyn ein dadl ni yma yn y Senedd. Ond rydyn ni'n chwilio am rywbeth mwy sylfaenol, dwi'n meddwl, yn agwedd Llywodraeth Cymru.

Dwi eisiau troi sylw'r Prif Weinidog at Ddeddf Amaeth (Cymru) 2023 gafodd ei phasio, wrth gwrs, yn unfrydol gennym ni fel y Senedd yma y llynedd. Mae'r Ddeddf honno yn ymrwymo'r Llywodraeth i wneud llesiant yr iaith ac economi cefn gwlad Cymru yn ystyriaethau canolog yng nghyd-destun unrhyw raglenni ariannu. A fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno efo fi y gallai unrhyw gynlluniau sy'n rhagweld colli miloedd o swyddi amaeth o gefn gwlad yn cael effaith negyddol pellgyrhaeddol ar gymunedau a'r iaith Gymraeg fod yn mynd yn groes i ofynion y Ddeddf amaeth honno?

Wel, roedd y Ddeddf wedi cael ei phasio ar lawr y Cynulliad yn unfrydol. Roedd pob plaid yma ar y llawr wedi cefnogi’r Bil, ac mae hynny'n wir. Wrth gwrs, roedd y Llywodraeth, mewn partneriaeth gyda Phlaid Cymru, yn gyfrifol am y Bil yn y cam cyntaf. Wrth gwrs rŷn ni tu ôl i bopeth sydd yn y Bil. Ac un o'r pethau eraill roedd y Gweinidog yn ei ddweud wrth y grŵp o ffermwyr roedden ni'n cwrdd â nhw ddoe oedd, 'Wrth gwrs rŷn ni'n mynd i greu analysis economaidd o'r cynllun ar ôl yr ymgynghoriad.' Pan fydd y manylion terfynol yn dod mas o'r ymgynghoriad, bydd yn rhaid inni ailedrych ar effaith y cynllun ym mywydau bobl yng nghefn gwlad. So, mae popeth mae arweinydd Plaid Cymru yn ei ofyn amdano rŷn ni wedi ei ddweud yn barod, ac rŷn ni'n hollol hapus i ailddweud pethau fel yna heddiw i roi hyder i bobl yng nghefn gwlad bydd eu llais nhw yn cael ei wrando arno ac yn mynd i gael effaith ymarferol yn y cynllun sydd gyda ni ar gyfer y dyfodol.

Fy nadl i yn fan hyn ydy bod yna gwestiwn o gyfreithlondeb, ac mi fyddwn ni yn annog Llywodraeth Cymru i fynnu cyngor cyfreithiol, fel rydym ni wedi ei wneud fel plaid, ar p'un ai ydy polisïau presennol yn mynd yn groes i ofynion y Ddeddf amaeth.

Llywydd, mae wedi dod i'r amlwg, yn ystod y dyddiau diwethaf, bod cyd-Aelod o'r Cabinet y Prif Weinidog, sy'n ymgeisydd i'w olynu, wedi derbyn rhodd chwe ffigur gan gwmni sy'n ceisio cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru i adeiladu fferm solar. Nid yw hynny'n edrych yn dda a dweud y lleiaf. Nawr, mae'r Prif Weinidog yn dweud ei fod yn fodlon na fu unrhyw ddiffyg cydymffurfiad â'r cod gweinidogol, ond beth yn ei farn ef yw'r ffordd o fesur a ddangosodd ei gyd-Weinidog grebwyll da yma, ac a fyddai dychwelyd y rhodd yn ddechrau da?

13:55

Wel, mater i'r etholwyr fyddai hynny yn yr etholiad ar gyfer olynydd fel arweinydd Plaid Lafur Cymru. Mae miloedd ar filoedd o bobl yn gallu cymryd rhan yn y ddadl honno. Byddan nhw wedi clywed y ddadl; byddan nhw'n gwneud eu penderfyniadau. Dyna'r ffordd orau o ddatrys y mater hwn. 

Yr Economi Wledig yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r economi wledig yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ60730

Llywydd, rydyn ni'n darparu amrywiaeth o gynlluniau sy'n helpu ffermwyr i wella effeithlonrwydd, i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, ac i arallgyfeirio. Yn ogystal, mae ffermwyr yn derbyn £238 miliwn drwy'r cynllun taliad sylfaenol, yr ydym ni wedi ei gynnal yng nghyllideb y flwyddyn nesaf er gwaethaf pwysau difrifol sydd wedi gwneud llawer o doriadau i wasanaethau eraill yn angenrheidiol.

Diolch, Prif Weinidog. A gaf i ddiolch i chi a'r Gweinidog materion gwledig am gymryd yr amser i gyfarfod â threfnwyr cyfarfod mart Caerfyrddin ddoe? Roedd yn bleser gallu ymuno ag Andrew R.T. Davies i gyfarfod â nhw hefyd, yn dilyn y cyfarfod gyda chi.

Nawr, mae ffermio yn sail i'r economi wledig, ac eto rwyf i wedi synhwyro'r rhwystredigaeth a'r dicter cynyddol yng nghefn gwlad Cymru ers cryn amser. Ar ormod o achlysuron, rwyf i wedi gweithredu fel arwyddbost i ffermwyr mewn trallod, ond nid ffermwyr yn unig—teuluoedd yr wyf i'n eu hystyried yn ffrindiau. Oherwydd y tymheredd cynyddol hwn, gofynnais i'r Gweinidog materion gwledig oedi'r ymgynghoriad i dynnu'r gwres allan o'r sefyllfa. Rwy'n credu, pe bai rhywun wedi gwrando ar y cais hwnnw, yna efallai na fyddem ni wedi bod yn gweld y protestiadau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer grisiau'r Senedd yfory.

Rwy'n cytuno â chi, Prif Weinidog, yn eich ateb i Andrew R.T. Davies: mae'n bryd gostwng y tymheredd yn y ddadl hon, ac nid wyf i eisiau i ffermwyr brotestio, ac rwy'n gwybod nad yw ffermwyr yn sicr eisiau protestio. A gaf i gondemnio pob ac unrhyw sarhad yr ydych chi, cyd-Aelodau o'r Cabinet, neu unrhyw Aelod o'r Siambr hon wedi ei dderbyn wrth wneud ei swydd, ac unrhyw aelodau o'r cyhoedd hefyd, y bu'n rhaid i lawer ohonyn nhw, yn anffodus, ymdrin â bygythiadau i'w bywydau? Ond fy nghwestiwn i, Prif Weinidog, yw, ac mewn ymateb i'ch ateb i Andrew R.T. Davies, a ydych chi wedi cael amser i fyfyrio, ac, os felly, beth fyddech chi'n ystyried y byddai eich Llywodraeth wedi ei wneud yn wahanol er mwyn lleddfu tensiynau gyda ffermwyr, o ystyried y tymheredd presennol? Diolch, Llywydd.

Wel, Llywydd, rwyf i wedi clywed y galwadau am saib yn yr ymgynghoriad. Nid wyf i'n credu bod hwnnw'n gam synhwyrol, oherwydd dim ond diwrnodau sydd ar ôl o'r ymgynghoriad, ac fel y bydd cyd-Aelodau o gwmpas y Siambr yn gwybod, mae llawer iawn o sefydliadau yn bwriadu gwneud eu cyfraniad at ymgynghoriad yn y diwrnodau olaf. Erbyn ddoe, o leiaf, nid oedd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi gwneud ei gyfraniad at yr ymgynghoriad, felly rwy'n credu mai'r ffordd drefnus o weithredu yw caniatáu i'r ymgynghoriad ddod i ben yn y ffordd a fwriadwyd i wneud yn siŵr bod pawb a oedd yn bwriadu lleisio eu barn drwyddo yn cael y cyfle hwnnw i wneud hynny, ac yna byddwn yn cymryd yr amser sydd ei angen i ystyried pob un o'r ymatebion hynny, i chwilio am y syniadau adeiladol niferus hynny ynghylch sut y gellir gwella'r cynllun a sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i greu'r dyfodol llwyddiannus hwnnw i ffermio yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos drwy'r gyllideb derfynol a gyhoeddwyd yn gynharach heddiw ein hymrwymiad i'r cynllun taliad sylfaenol hwnnw. Mae hwnnw'n benderfyniad gwirioneddol fawr mewn cyfnod pan fo'n rhaid cymryd £1.3 biliwn allan o bopeth arall yr ydym ni'n ei wneud. Rydym ni eisiau i'r arian hwnnw gael ei fuddsoddi mewn ffordd sy'n darparu'r dyfodol llwyddiannus hwnnw i ffermio ac yn sicrhau bod y sector yn gwneud ei gyfraniad at yr her fwyaf sy'n wynebu unrhyw un ohonom ni yng Nghymru, ac yn enwedig y rhai sy'n gwneud eu bywoliaeth ar y tir, sef effaith newid hinsawdd, a thrwy weithio gyda'n gilydd, bydd ffordd, rwy'n teimlo'n hyderus, i gyflawni hynny.

Anghydraddoldebau Iechyd

4. Pa ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu blaenoriaethu i leihau effaith anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru? OQ60723

Llywydd, mae anghydraddoldebau iechyd yn deillio o anghydraddoldebau ehangach ac sy'n ehangu ledled y Deyrnas Unedig. Mae camau yng Nghymru yn cynnwys gwella ansawdd aer, cael mynediad at gyflogaeth, lleihau cyfraddau smygu a mynd i'r afael â gordewdra.

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n gwybod bod cymryd camau i leihau effaith y ddeddf gofal gwrthgyfartal wedi bod yn flaenoriaeth bersonol i chi yn ystod eich gyrfa wleidyddol. Fe wnes i gyfarfod yn ddiweddar â rhai o'r ymarferwyr a'r gweithwyr proffesiynol sy'n rhan o'r cynllun Deep End Wales a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Gyda'r prosiect wedi bod yn rhedeg ers ychydig dros 12 mis bellach, pa ganfyddiadau allweddol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u tynnu o gam cychwynnol y prosiect, a sut mae'r rhain yn cael eu hymwreiddio o fewn polisi llywodraethol ehangach?

14:00

Wel, Llywydd, diolch i Vikki Howells am hynny. Mae'n iawn, bod ymdrin â'r ddeddf gofal gwrthgyfartal wedi bod yn ddiddordeb brwd Llywodraethau Llafur olynol yma yn y Senedd, o'r cychwyn cyntaf. Roedd llawer ohonom ni yma yn ffrindiau â Julian Tudor Hart, a fathodd yr ymadrodd hwnnw mor bell yn ôl â 1971. Mae gen i gof byw o fod gyda Julian yn yr ymgyrchoedd hynny i sefydlu'r Senedd hon, y rhoddodd gymaint o ffydd ynddi, y byddai'n caniatáu i ni wneud mwy o gynnydd o ran y problemau yr oedd wedi eu nodi. Ac mae hanes ein hymdrech i fynd i'r afael â'r ddeddf gofal gwrthgyfartal wedi bod yno o'r cychwyn: y gwaith a wnaeth fy nghyd-Weinidog Jane Hutt gyda'r Athro Peter Townsend, arbenigwr blaenllaw'r byd ar sut y gallech fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd; gwaith Dr Brian Gibbons, Gweinidog iechyd yma, ac olynydd Julian Tudor Hart yng Nglyncorrwg—sy'n enwog ym maes iechyd y cyhoedd, yn enwog yn hanes iechyd y cyhoedd, y practis hwnnw yno.

Felly, y fersiynau diweddaraf, y pethau sy'n digwydd yn etholaeth yr Aelod ei hun, prosiect Deep End Wales, y prosiect yr ydym ni'n ei ariannu ynghyd â Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, i helpu i ddatblygu atebion gofal sylfaenol i'r anghydraddoldebau dwfn hynny. 'Beth ydym ni wedi ei ddysgu?', meddai'r Aelod. Wel, rwy'n credu mai'r peth cyntaf yr ydym ni'n ei ddysgu yw mai'r cwbl yw anghydraddoldebau iechyd yw cynnyrch syml o anghydraddoldebau ehangach. Nid ydyn nhw'n bodoli ar wahân; cynnyrch yr holl bethau eraill sy'n llunio bywydau pobl yn y ffordd annheg honno ydyn nhw. Ac yna, os ydych chi'n mynd i fynd i'r afael â nhw drwy'r gwasanaeth iechyd, mae'n rhaid iddo fod yn wasanaeth iechyd ac nid gwasanaeth salwch. Mae'n rhaid iddo fod yn wasanaeth sy'n helpu pobl i wneud y pethau yn eu bywydau eu hunain a fydd yn gwneud gwahaniaeth i'w rhagolygon iechyd hirdymor eu hunain.

A hynny, dim ond i roi yr un enghraifft honno y dechreuais â hi, Llywydd, y llwyddiant yr ydym ni wedi ei gael yma yng Nghymru o ran lleihau pa mor gyffredin yw smygu. Yn 2010, nododd 23 y cant o boblogaeth Cymru eu bod nhw'n smygu. Heddiw, mae hynny'n 13 y cant—gostyngiad o 10 y cant dros y degawd hwnnw. A cheir cymunedau yn y Cymoedd lle mae'r ffigur hwnnw hyd yn oed yn is: felly, ym Mlaenau Gwent, mae'n 12 y cant; yng Nghaerffili, mae'n 11 y cant. Mae'r rheini yn enillion enfawr o ran mynd i'r afael â'r ddeddf gofal gwrthgyfartal honno y cyfeiriodd Vikki Howells ati.

Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Mae cleifion canser yng Nghymru, wrth gwrs, yn wynebu anghydraddoldebau iechyd annerbyniol. Rwy'n gwybod, o'r gwaith y mae'r grŵp trawsbleidiol ar ganser wedi ei wneud, ei fod yn argymell mynd i'r afael â ffactorau risg, fel smygu, fel rydych chi wedi cyfeirio ato nawr, a gordewdra hefyd, a byddai cyflwyno sgrinio ysgyfaint hefyd yn helpu o ran dal canser a'i gwneud yn haws cael triniaeth yn gyflymach fyth. Nawr, ar yr un pryd ag yr adroddodd y grŵp trawsbleidiol, sylwais y dywedodd Cancer Research UK hefyd:

'Gallwn lwyddo yn ein cenhadaeth o drechu canser dim ond os bydd pawb sy'n cael eu heffeithio gan y clefyd yn cael yr un cyfleoedd.'

Nawr, rydym ni wedi gweld rhai ystadegau yn ddiweddar mai prin fod gennych chi siawns hanner a hanner o gael triniaeth canser mewn pryd yng Nghymru. Felly, tybed pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o ran mynd i'r afael â rhai o'r argymhellion gan y grŵp trawsbleidiol ar ganser, a hefyd, yn ehangach, o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldebau canser yn gyffredinol ledled Cymru.

Wel, Llywydd, y peth cyntaf i'w ddweud yw, yn y flwyddyn galendr ddiwethaf, 2023, cafodd y nifer fwyaf o bobl erioed eu cyfeirio am driniaeth canser yng Nghymru. A'r hyn yr ydym ni wedi ei ddysgu, onid yw, yw bod yn rhaid i chi gael pobl i mewn i'r system yn gynnar er mwyn gallu nodi'r bobl hynny sydd angen triniaeth. O bob 100 o bobl sy'n cael eu cyfeirio at y system ganser, bydd 95 ohonyn nhw yn darganfod nad oedd ganddyn nhw ganser, ac mae hynny'n wych, onid ydyw? Ond, er mwyn dal y 5 y cant yn gynnar, mae angen i chi gael ceg y twndis mor llydan ag y gall fod, a chyfeiriwyd mwy o bobl i'r system y llynedd nag erioed o'r blaen, ac mae hynny'n golygu bod gofal sylfaenol wir yn gwneud ei waith. Ac yna, y llynedd, dechreuodd mwy o bobl nag erioed driniaeth bendant ar gyfer canser yma yng Nghymru nag mewn unrhyw flwyddyn arall yn holl hanes y gwasanaeth iechyd gwladol.

Nawr, wrth gwrs, pan fydd gennych chi fwy fyth o bobl yn dod i mewn, er bod gennych chi fwy o bobl yn dechrau, gall y ganran edrych yn wahanol, ond mae'r rhifau yn dweud wrthych chi fod y system yng Nghymru yn dal mwy o bobl ar ddechrau'r daith ganser ac yn trin mwy o bobl sydd angen cychwyn ar y daith. A oes mwy i'w wneud? Wel, mae mwy i'w wneud bob amser, ac mae sgrinio'r ysgyfaint yn mynd i fod yn rhan bwysig o ddyfodol gwasanaethau canser yma yng Nghymru. Rydym ni wedi ymrwymo i'w wneud. Mae pethau eisoes yn digwydd i'n helpu ni i ddod o hyd i lwybr at hynny. Rydym ni'n gwybod bod dioddefwyr canser yr ysgyfaint ymhlith y lleiaf tebygol o gael canlyniadau da, ond wedi dweud hynny, Llywydd, mae cyfraddau goroesi am flwyddyn a chyfraddau goroesi pum mlynedd yng Nghymru wedi gwella dros y 10 mlynedd diwethaf.

Felly, rwy'n credu bod yr Aelod wedi gwneud cyfres o bwyntiau pwysig iawn, ac mae arwyddocâd y daith o'n blaenau yn real. Ond bydd yn cael ei hadeiladu ar sylfeini cadarn iawn o lwyddiant.

14:05

Prynhawn da, Prif Weinidog. Dim ond i ddychwelyd at Julian Tudor Hart, a dreuliodd ddegawdau o'i fywyd yng nghymunedau difreintiedig de Cymru ac a welodd lefel y tlodi drosto'i hun. Roeddwn i wir eisiau meddwl am dlodi plant yn arbennig yma yng Nghymru, sydd wedi aros yn ystyfnig o uchel ar oddeutu 28 y cant. Fel y byddwch yn gwybod, cwblhaodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol adroddiad yn galw am derfyn ar dlodi plant. Dim ond i atgoffa ein hunain o rai o'r ystadegau yn hwnnw: mae'r gyfradd marwolaethau plant yng Nghymru 70 y cant yn uwch ar gyfer plant yn y grwpiau mwyaf difreintiedig na'r plant lleiaf difreintiedig. Ac mae plant sy'n byw mewn tlodi bedair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu problem iechyd meddwl erbyn eu bod yn 11 oed. Felly, rydym ni'n gwybod yn eglur iawn ac fe'i gwnaed yn gyfredol am y cysylltiadau rhwng tlodi plant ac anghydraddoldeb iechyd yn ein poblogaeth plant. 

Rwy'n cael fy nghalonogi o weld y strategaeth tlodi plant yn cael ei datblygu, a gobeithio y bydd rhai targedau yn honno, y gwn fod llawer ohonom ni wedi galw amdanyn nhw. Ac roeddwn i'n meddwl tybed a allai Llywodraeth Cymru ystyried targed sy'n edrych ar anghydraddoldeb iechyd a thlodi, a sut y gallwn ni gysylltu'r ddau gyda'i gilydd a gwneud yn siŵr bod gennym ni dargedau eglur i fynd i'r afael â hynny. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.

Llywydd, mae Jane Dodds yn gwneud pwyntiau pwysig, gan atseinio rhai o'r pethau a ddywedwyd yn gynharach. Mae anghydraddoldeb iechyd plant wedi'i wreiddio yn yr anghydraddoldeb ehangach y mae plant yn ei wynebu o ddechrau eu bywydau, ac maen nhw'n ei weld mewn llawer iawn o agweddau ar eu bywydau. Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo, wrth gwrs, i fynd i'r afael ag effaith y ffactorau hynny ym mywydau'r plant hynny sy'n byw yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Gadewch i mi wneud yr un pwynt hwn. Rydych chi'n gwybod pa mor ddadleuol y mae polisi Llywodraeth Cymru o 20 mya wedi bod mewn rhai mannau, ac eto rydym ni'n gwybod bod plant o gymunedau difreintiedig yn fwy tebygol o ddioddef mewn damweiniau na phlant mewn unrhyw ran arall o'r boblogaeth. Mae'r gair 'damwain' yn gamarweiniol gan ei fod yn awgrymu, rywsut, bod y pethau hyn yn digwydd ar hap. Dydyn nhw ddim. Mae plant yn ein cymunedau lleiaf cefnog yn fwy tebygol o ddioddef mewn damwain, gan gynnwys damweiniau ar eu strydoedd yn ymwneud â cherbydau modur, a bydd effaith ein polisi, a fydd yn achub bywydau pobl, yn cael effaith fwy ar fywydau plant tlawd nag unrhyw ran arall o'r boblogaeth.

Difrïo a Thrais yn Erbyn Staff mewn Ysgolion

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ysgolion sy'n wynebu achosion cynyddol o ddifrïo a thrais yn erbyn staff? OQ60725

Llywydd, mae dyletswydd ar awdurdodau lleol ac ysgolion i sicrhau bod ysgolion yn amgylchedd diogel i bawb. Gan gydnabod yr effaith y gall ymddygiad gwael ei chael ar lesiant staff, rydym ni'n parhau i ariannu gwasanaeth llesiant Education Support. Mae'r gwasanaeth hwnnw yn darparu cyngor a chymorth am ddim i ysgolion ledled Cymru.

Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Ceir heriau amrywiol ym myd addysg sydd wedi cael eu chwyddo a'u dwysáu o ganlyniad i bandemig COVID, ac un yw'r cynnydd sydyn i gam-drin athrawon a chynorthwywyr addysgu. Mae ymosodiadau wedi dod yn fwy aml, gan gynnwys mewn ysgolion cynradd. A ydych chi'n cytuno bod yn rhaid i ni barchu ein hathrawon a pheidio â goddef trais na chamdriniaeth yn eu herbyn?

14:10

Rwy'n cysylltu fy hun llwyr â'r hyn y mae Ken Skates newydd ei ddweud, Llywydd. Nid oes unrhyw oddefgarwch o gwbl gan y Llywodraeth hon o gam-drin gweision cyhoeddus sy'n cyflawni'r gwasanaeth y maen nhw'n ei ddarparu i'r gymuned, ac mae hynny yn sicr yn wir am athrawon ac eraill yn yr ystafell ddosbarth. Ond nid yw condemnio ar ei ben ei hun byth yn ddigon, onid yw? Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw edrych ar achosion yr anawsterau hynny ac mae'n rhaid i ni roi cymorth i'r rhai sy'n eu hwynebu yn y swyddi y maen nhw'n eu gwneud, a dyna'r gwaith y mae'r Gweinidog addysg wedi dechrau arno. Mae pecyn cymorth ar gyfer uwch arweinwyr yn y gwasanaeth addysg yn cael ei baratoi i'w helpu i ddod o hyd i ffyrdd o ddad-ddwysáu'r anawsterau hynny, i geisio dod o hyd i ffordd o reoli'r tensiynau sy'n codi ym mywydau plant, sy'n gorlifo i'r ystafell ddosbarth, i ddod o hyd i ffordd o reoli'r pethau hynny trwy gydnabod achosion sylfaenol y rhain a dod o hyd i ffyrdd effeithiol o helpu.

Mae hwn yn gyfnod cythryblus, Llywydd, onid yw, mewn cynifer o agweddau ar fywyd cyhoeddus? Rydym ni'n gweld gorlif hynny yn ein gwasanaeth addysg o ran presenoldeb ac o ran ymddygiad. Dull Llywodraeth Cymru fydd ceisio cynorthwyo'r rhai y mae'n rhaid iddyn nhw ymateb iddo bob dydd, ond ei wneud mewn ffordd sy'n cydnabod bod achosion sydd wrth wraidd y ffrwydradau unigol hynny o ymddygiad annerbyniol, a'n nod ddylai fod ceisio dod o hyd i ffyrdd o unioni'r pethau hynny a rhoi'r bobl ifanc hynny ar drywydd i ddyfodol llwyddiannus iddyn nhw eu hunain.

Prif Weinidog, yn gyntaf, a gaf i ddweud fy mod i'n falch iawn o glywed Aelod Llafur yn cydnabod bod hon yn broblem real iawn, ac mae hi, a chi eich hun, Prif Weinidog, gan ei bod hi'n broblem enfawr drwy ein hysgolion? Y llynedd, datgelodd fy staff a minnau y bu 5,000 o ddigwyddiadau o drais mewn ystafelloedd dosbarth dros y pum mlynedd diwethaf, ond dim ond crib y rhewfryn yw hyn, gan nad oes Cymru unrhyw safon adrodd, sy'n amlwg yn golygu bod miloedd o ddigwyddiadau heb gael eu hadrodd. Rwyf i wedi holi'r Gweinidog addysg yn gyson ar y mater hwn, gan ofyn am weithredu ar unwaith, ac unwaith eto mae wedi methu â gweithredu tan yn ddiweddar.

Prif Weinidog, rwyf i wedi llunio cynllun pum pwynt i helpu i ddatrys y broblem. Un, cynnal uwchgynhadledd genedlaethol ar drais ac ymddygiad gwael yn yr ystafell ddosbarth. Dau, cyhoeddi canllawiau newydd i athrawon ac arweinwyr ysgolion, gan gynnwys safon adrodd a gofyniad i adrodd, gan gynnwys gwell data. Diwygio'r drefn wahardd, fel bod disgyblion sy'n cael eu gwahardd yn mynd ymlaen i dderbyn y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, fel yr ydych newydd gyfeirio ato. A sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer ymyriadau ystyrlon i gynorthwyo dioddefwyr yn ogystal â chyflawnwyr trais, a chreu llinell gymorth genedlaethol i gynorthwyo athrawon a staff a fyddai fel arall yn ofni adrodd achosion o drais.

Prif Weinidog, rydym ni wedi gweld athrawon unwaith eto yn streicio ar y mater yn fy rhanbarth i a ledled Cymru, felly pryd y mae'r Llywodraeth hon wir yn mynd i gael gafael ar y mater hwn, efallai drwy fabwysiadu fy nghynllun pum pwynt? Oherwydd mae trais ac ymddygiad gwael yn gwaethygu, ac mae'n broblem nad yw'n diflannu.

Llywydd, rwy'n cytuno â'r peth olaf un a ddywedodd yr Aelod. Nid yw'n broblem sy'n cyd-fynd â sloganau fel 'cael gafael arno'. Edrychwch ar draws ein holl wasanaethau cyhoeddus. Edrychwch ar yr hyn y mae'r heddlu'n ei ddweud wrthym ni am y lefelau trais y maen nhw'n eu hwynebu yn eu swyddi. Edrychwch ar yr hyn y mae staff y GIG yn ei ddweud wrthym ni mewn gofal sylfaenol ac mewn adrannau achosion brys am ymosodiadau corfforol arnyn nhw wrth iddyn nhw fynd ati i geisio helpu pobl gyda'r cyflyrau meddygol y maen nhw'n eu hwynebu. Edrychwch ar yr hyn y mae gweithwyr siopau yn ei ddweud wrthym ni am y cam-drin y maen nhw'n ei wynebu wrth law cwsmeriaid sy'n dod i mewn i brynu nwyddau. Mae'r hyn yr ydym ni'n ei weld yn digwydd yn ein hysgolion yn ddifrifol, heb os, ond nid yw wedi'i ynysu i'r ystafell ddosbarth. 

Rwyf i wedi gweld cynllun pum pwynt yr Aelod ac roeddwn i'n meddwl bod rhai syniadau synhwyrol ynddo, ac rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog wedi ei weld hefyd, ac mae rhai o'r pwyntiau hynny eisoes wedi'u hadlewyrchu yn y camau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd. Mae hon yn broblem nad yw'n diflannu. Mae angen i ni ddod o hyd i ffordd o fynd i'r afael â hi lle'r ydym ni'n harneisio ymdrechion pob un ohonom ni sy'n dymuno gweld gwelliant, a pheidio â'i ystyried rywsut yn gystadleuaeth rhwng cynllun un blaid a chynllun plaid arall. Mae'r Gweinidog eisoes wedi dangos ei barodrwydd i weithio gydag eraill ar yr agenda hon, ac rwy'n siŵr y bydd yn awyddus iawn i wneud hynny pan ddaw'r cyfleoedd hynny yn y dyfodol.

14:15
Gorsafoedd Nwy yn Arfon

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau i greu gorsafoedd nwy yn Arfon? OQ60727

Diolch am y cwestiwn. Bydd unrhyw gais cynllunio ar gyfer gorsaf ynni sy'n rhedeg ar nwy yn Arfon yn cael ei ystyried yn erbyn ein polisïau ynni a chynllunio. Byddwn ni hefyd yn ystyried elfennau hanfodol datblygu cynaliadwy, fel y maen nhw wedi eu nodi yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae llawer yn Arfon yn pryderu'n fawr am gais cynllunio sydd ar y gweill a fyddai'n golygu adeiladu gorsaf drydan wedi'i phweru gan nwy yng Nghaernarfon. Llywodraeth Cymru fydd angen penderfynu ar hynny, ac roeddwn i'n meddwl, felly, ei bod hi'n gwrtais imi dynnu eich sylw at y gwrthwynebiad mawr sydd wedi ei ddatgan eisoes yn lleol. Y bwriad ydy adeiladu gorsaf nwy ar safle hen chwarel yn y dref, safle sydd wedi bod yn cael ei ddefnyddio fel gwaith brics yn y gorffennol, ac, yn fwy diweddar, gan y contractwyr fu'n adeiladu'r ffordd newydd yn Arfon.

Does dim angen imi sôn am yr angen i symud i ffwrdd o'r ddibyniaeth ar danwydd ffosil ar gyfer ynni—mae'r ddadl honno'n hollol hysbys. Mae pryder penodol am orsaf nwy mewn hen chwarel, mewn crochan caeedig sydd efo ysbyty, cyfleusterau hamdden a channoedd o gartrefi ar ei ymylon, yn yr union le y byddai nwyon gwenwynig yn cael eu gollwng. Pa asesiad, felly, mae'r Llywodraeth wedi'i wneud ynghylch a ydy cynlluniau i adeiladu gorsaf nwy ar y safle yma, neu mewn unrhyw fan arall yn Arfon, neu, yn wir, unrhyw fan yng Nghymru, yn gydnaws â Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol?

Diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y pwyntiau pwysig ychwanegol yna. Dwi wedi darllen yn barod y pryderon sydd gan bobl yn ei hetholaeth hi am bethau mae pobl eraill eisiau bwrw ymlaen i'w gwneud. Rwy'n gwybod y bydd Siân Gwenllian yn deall nad oes modd i fi drafod manylion unrhyw gais cynllunio oherwydd rôl bosibl Gweinidogion yn y broses honno. Beth gallaf ei wneud yw ail-ddweud y prynhawn yma y polisïau sydd gyda ni fel Llywodraeth Cymru—polisïau clir ar y materion hyn. Nodwyd y rhain gan y Gweinidog Newid Hinsawdd y llynedd. Rwy'n hapus i ailadrodd beth ddywedodd hi mewn llythyr roedd hi wedi'i anfon at bobl yn y maes.

Dyma gyd-destun y polisi y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflwyno o ran y materion hynny y mae Siân Gwenllian wedi tynnu sylw atyn nhw. Dyma'r hyn a ddywedodd y Gweinidog: 'Lle bo galw ar Lywodraeth Cymru i benderfynu ar gynigion yn y dyfodol i adeiladu gorsafoedd cynhyrchu ynni heb eu gostegu yng Nghymru, bwriad Gweinidogion Cymru yw cadw rhagdybiaeth gryf yn erbyn gorsafoedd ynni tanwydd ffosil newydd, na chwaith i roi dewisiadau eraill a allai eu hunain fod yn ffynhonnell allyriadau nwyon tŷ gwydr yn lle'n fflyd bresennol o beiriannau. Bydd gan y rhagdybiaeth hon hefyd effaith ar annog penderfynwyr lleol i beidio â chydsynio i orsafoedd tanwydd ffosil newydd ar raddfa fach.

Ynni Adnewyddadwy yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau ynni adnewyddadwy Llywodraeth Cymru ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru? OQ60757

Bodloni ein hanghenion ynni yn llawn gan ddefnyddio dulliau sy'n cael eu hadnewyddu yn naturiol yw ein prif flaenoriaeth. Rydyn ni am gyflawni hyn cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl. Drwy wneud hyn, byddwn ni'n cynyddu'r potensial sydd gan y dulliau ynni hyn o gadw cyfoeth a gwerth yn y canolbarth a'r gorllewin.

Diolch yn fawr iawn ichi am yr ateb. Fe fyddwch chi'n ymwybodol iawn, er mwyn gwireddu'r potensial o ddatblygu ynni adnewyddadwy, y bydd angen datblygu'r grid cenedlaethol, sy'n parhau'n gwbl annigonol yng Nghymru wledig. Yn Sir Gâr a Cheredigion mae yna bryder ar hyn o bryd mewn sawl cymuned am y cynlluniau i godi rhwydwaith o beilonau o Ddyffryn Teifi i Ddyffryn Tywi, yn dilyn y cynlluniau blaenorol i redeg peilonau ar hyd Dyffryn Tywi i dde Powys. Dwi'n gwybod na allwch chi ddim gwneud sylw ar unrhyw geisiadau penodol, ond rŷn ni'n gwybod yn barod mai polisi'r Llywodraeth yw i danddaearu gwifrau lle mae hynny'n bosib. Mae hyn yn arfer da mewn gwledydd megis yr Almaen, Denmarc ac yn y blaen, lle mae cable ploughing yn bosibl, sef medru claddu dros gilometr o wifrau y dydd, sy'n llawer llai niweidiol i'r amgylchedd ac yn fwy cost-effeithiol o ran trosglwyddo trydan. Felly, a gaf fi ofyn i chi, Brif Weinidog, a oes modd gwneud y cable ploughing yma yn broses default yn hytrach nag yn opsiwn mewn ardaloedd o harddwch arbennig, neu hyd yn oed ar draws Cymru gyfan?

14:20

Diolch yn fawr i Cefin Campbell am y cwestiynau. Gallaf i gytuno gyda beth ddywedodd e i ddechrau. Mae creu llwybr at y dyfodol ble bydd y grid yn gallu gwneud y gwaith rŷn ni eisiau i'r grid ei wneud yn hollbwysig i ni yma yng Nghymru yng nghyd-destun ynni cynaliadwy. Rŷn ni wedi gwneud lot o waith fel Llywodraeth i helpu hynny, ond mae lot o waith i'w wneud. Bydd rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fod yn rhan o hynny. Fel y dywedodd Cefin Campbell, mae polisi gyda ni yn barod. Dwi wedi darllen beth ddywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd wrth yr Aelod ar 8 Chwefror 2023. Dywedodd Julie James yn glir:

'Y polisi yw y dylid gosod ceblau trawsyrru trydan o dan y ddaear lle bo modd, nid yn unig mewn tirweddau dynodedig, ond lle bo modd.'

Dwi wedi darllen hefyd beth sydd wedi mynd ymlaen mewn rhai gwledydd eraill i greu ffyrdd newydd o gael pethau dan y ddaear. Dwi'n gwybod bod y Gweinidog yn ymwybodol o hynny hefyd, ac mae hi'n ystyried a oes posibiliadau newydd gyda ni i roi y polisi sydd gyda ni ar waith.

Dyfodol Cynaliadwy i'r Sector Cerddoriaeth

8. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r sector cerddoriaeth? OQ60760

Mae Cymru Greadigol yn canolbwyntio ar y sector cerddoriaeth fasnachol, gan gefnogi seilwaith, o leoliadau llawr gwlad hyd at gymorth i artistiaid. Maen nhw'n gweithio gydag eraill i gytuno ar flaenoriaethau blynyddol, ochr yn ochr â sefydliadau fel Cyngor Celfyddydau Cymru a chyrff y diwydiant cerddoriaeth ledled y DU i ddatblygu mentrau ar y cyd.

Diolch am yr ateb hwnnw, Prif Weinidog. Lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad yw anadl einioes llawer o gymunedau ledled Cymru. Yn wir, cafodd adroddiad diwydiannau creadigol y pwyllgor diwylliant ei drafod yma ar lawr y Senedd ychydig wythnosau yn ôl. Wrth ymateb i'r ddadl honno, dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon wrth y Senedd, ac rwy'n dyfynnu:

'Rydym yn falch nad oes un lleoliad cerddoriaeth yng Nghymru wedi ei golli, yn wahanol i rannau eraill o'r DU.'

Daeth y sylw hwnnw wythnos yn unig ar ôl i'r Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth gyflwyno ei hadroddiad blynyddol, a ddywedodd fod 10 lleoliad wedi cau ar draws Cymru. Ond mae'r Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth yn fwy pryderus hyd yn oed am ddyfodol y diwydiant, ac yn arbennig yr effaith ddifrifol y bydd y toriadau i ryddhad ardrethi busnes a gafodd eu cyhoeddi yn ddiweddar yn ei chael ar y sector. Dywedon nhw wrthyf i fod elw gros y sector cyfan yn £119,000 yn 2023, ond y tyb yw bod y toriad rhyddhad ardrethi arfaethedig ynddo'i hun wedi costio £127,000 iddyn nhw, gan eu roi £8,000 yn y coch dros nos. Maen nhw'n credu bod cynifer ag 16 o leoliadau cerddoriaeth eraill yng Nghymru yn debygol o gau o ganlyniad uniongyrchol i benderfyniad Llywodraeth Cymru—yn sicr nid y sero y gwnaeth y Dirprwy Weinidog honni'n hunanfodlon. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i adolygu'r effaith y bydd y penderfyniad hwn yn ei chael ar ddyfodol lleoliadau cerddoriaeth ledled Cymru? Oherwydd unwaith y byddan nhw wedi mynd, byddan nhw wedi mynd am byth. 

Yn gyntaf oll, fel erioed, mae'r materion hyn yn troi ar ddiffiniadau. Yn adroddiad yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth a honnodd fod gostyngiad mewn lleoliadau cerddoriaeth yng Nghymru, roedd un y gwnaethon nhw ei nodi'n dafarn, un arall yn wely a brecwast gyda karaoke, ac un arall yn far chwaraeon. Oedd, roedd cerddoriaeth wedi digwydd yn y lleoliadau hynny, ond mae p'un ai ydych chi'n eu cyfrif nhw fel lleoliadau cerddoriaeth yn bennaf, mae hynny'n fater gwahanol iawn, a dyna oedd y Gweinidog yn ei adlewyrchu yn ei hateb. A dweud y gwir, mae 16 o leoliadau newydd wedi agor yng Nghymru yn ddiweddar, yn ystod y 12 mis diwethaf, gan ehangu eu harlwy cerddoriaeth fyw neu gynyddu eu gallu.

Gadewch i mi fod yn glir gyda'r Aelod: nid yw hyn yn doriad i ryddhad busnes. Mae'r rhain yn lleoliadau nad oedd yn cael unrhyw ryddhad o gwbl cyn COVID oni bai eu bod yn bodloni'r amodau ym mhrif gynllun rhyddhad ardrethi busnes. Cafodd cynllun arbennig ei gyflwyno yn ystod COVID, cynllun cyfnod penodol. Mae wedi cael ei ymestyn am flwyddyn arall, sy'n golygu y bydd y lleoliadau hynny yng Nghymru yn cael rhyddhad ardrethi na fydden nhw wedi'i gael mewn amgylchiadau eraill.

Ni allwn ni weithredu ar yr un lefel â'r llynedd, oherwydd yr holl bethau eraill y mae Aelodau ar draws y Siambr hon wedi gofyn i Lywodraeth Cymru eu diogelu. Felly, rydyn ni wedi diogelu'r diwydiannau hyn. Mae'r cynllun cyfnod penodol yn parhau, ac o ganlyniad, gallwn ni weld bod pethau cadarnhaol yn digwydd yn y diwydiant hwnnw, yn ogystal â'r heriau anochel.  

14:25
Gwasanaethau Anhwylderau Bwyta

9. Pa waith mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i wella gwasanaethau anhwylderau bwyta? OQ60737

Rydyn ni wedi darparu cyllid i fyrddau iechyd barhau i wella ac ehangu gwasanaethau anhwylderau bwyta. Rydyn ni hefyd wedi nodi adnoddau pwrpasol yn weithrediaeth newydd y GIG i ganolbwyntio ar iechyd meddwl. Mae hynny'n cynnwys arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer anhwylderau bwyta i ysgogi gwelliannau eraill.

Diolch yn fawr iawn. Yr wythnos hon yw dechrau Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta—amser i bob un ohonon ni ar draws y Siambr hon ddod at ein gilydd a siarad am y gwaith sy'n cael ei wneud, ond hefyd y gwaith sydd ar ôl i'w wneud i'r rhai sy'n cael eu heffeithio arnyn nhw ledled Cymru. Rwy'n falch o weld y datganiad a gafodd ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru a'n Dirprwy Weinidog Lynne Neagle ddydd Llun ynghylch y gwaith sydd wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a'u cynlluniau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno'r cynllun ymyrraeth gynnar gyflym ar gyfer cyfnod cyntaf anhwylderau bwyta, sydd wedi'i dargedu at bobl ifanc 16 i 25 oed, y demograffig lle mae anhwylderau bwyta yn fwyaf cyffredin.

Mae'r wythnos hon hefyd yn bwysig i mi, nid yn unig oherwydd ei bod yn nodi blwyddyn ers diwygio'r grŵp trawsbleidiol ar anhwylderau bwyta, gyda'r elusen anhwylderau bwyta Beat wych yn gwasanaethu fel ysgrifenyddiaeth, ond hefyd gan ei fod yn fy atgoffa o'r araith y gwnes i ei rhoi yn y Siambr hon bron i ddwy flynedd yn ôl ynghylch fy mhrofiad i fy hun gydag anhwylder bwyta. Yn ystod yr araith honno, galwais i am uned anhwylder bwyta preswyl i Gymru, yng Nghymru, ac i bobl Cymru, ymhlith pethau eraill. Byddai uned o'r fath yn golygu na fyddai pobl ledled Cymru yn cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd i fanteisio ar y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw. Felly, Prif Weinidog, a fyddech chi'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ba drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch uned anhwylderau bwyta preswyl yng Nghymru yn y dyfodol?

Diolch i Sarah Murphy am hynny. Rwy'n cofio'r cyfraniad y gwnaeth hi yn y Siambr pan oedd hi'n Aelod newydd iawn o'r Senedd. Roedd yn gyfraniad pwerus bryd hynny, ac rwy'n diolch iddi am godi'r materion hyn eto y prynhawn yma.

Yn y cyfamser—o ran y ddwy flynedd sydd wedi mynd heibio ers iddi wneud yr araith gyntaf honno—mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi gwella mynediad at welyau anhwylderau bwyta penodol i oedolion yma yng Nghymru. Mae'r gallu ychwanegol yn golygu bod wyth gwely preswyl ar gael yng Nghymru heddiw, gyda'r potensial i gomisiynu cefnogaeth i hyd at 15 o bobl eraill os oes angen hynny. Canlyniad hynny yw bod y mwyafrif helaeth o bobl sydd angen gofal arbenigol fel cleifion mewnol erbyn hyn yn derbyn y gofal hwnnw yma yng Nghymru.

Mae dadl i'w chael—mae'n digwydd o fewn y gymuned glinigol hefyd—o ran a yw'r model gwasgaredig hwnnw yn well mewn gwlad fel Cymru, lle bo un ganolfan breswyl bob amser yn codi materion hygyrchedd, o ystyried natur topograffi Cymru. Ond mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn bwriadu cyhoeddi ei strategaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol yn fuan iawn, yn ystod yr wythnosau nesaf, a bydd hynny'n helpu i ddatrys y ddadl—nid y ddadl ynghylch a oes angen darpariaeth breswyl arnon ni, yn y modd y mae Sarah Murphy wedi dadlau, ond y ffordd orau y gall honno gael ei darparu effeithiol, o ystyried natur daearyddiaeth a materion hygyrchedd Cymru. 

14:30

Diolch i'r Prif Weinidog. Yn ystod y cwestiynau, galwodd llawer o'r Aelodau am liniaru'r ddadl ffermio heddiw ac yfory, ac rwy'n cytuno. Nid cranks yw ffermwyr, ac nid wyf i chwaith wedi clywed unrhyw Aelod yn eu galw nhw'n hynny. Yn ei drydariad ddydd Sul—ac rwyf wedi ei adolygu ar fy ffôn—ni alwodd Alun Davies ffermwyr yn 'cranks', ond, yn fy marn i, fe alwodd y grŵp cynllwyn hinsawdd ym mhenawd The Observer yn 'cranks'. Nawr, rwyf i eisiau i bob un ohonon ni fod yn ofalus iawn gyda geiriau a chyhuddiadau yn ystod y 24 awr nesaf a thu hwnt, ac rwy'n gofyn hynny gan y rhai ohonoch chi sy'n ysgrifennu'r trydariadau, yn ogystal â'r rhai ohonoch sy'n eu dehongli. 

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Rŷn ni yn symud ymlaen yn awr i'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd, Lesley Griffiths, i wneud y datganiad hynny.

Member
Lesley Griffiths 14:30:47
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Llywydd. Mae nifer o newidiadau i'r agenda heddiw. Mae cynnig i atal y Rheolau Sefydlog wedi'i ychwanegu at yr agenda, er mwyn galluogi'r ddadl ar hyblygrwydd y gyllideb a gweithrediad fframwaith ariannu'r DU i fwrw ymlaen ar sail cynnig diwygiedig a gyflwynwyd ddoe. Bydd y ddadl hon, a'r ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor) yn digwydd yn syth ar ôl y datganiad busnes. 

Yn olaf, mae'r datganiadau ar greu cenhedlaeth ddi-fwg ac ymdrin â fepio ymhlith pobl ifanc ac ail gartrefi a fforddiadwyedd wedi cael eu gohirio. Mae'r busnes drafft am y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. 

Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ar y newidiadau arfaethedig i'r flwyddyn ysgol, os gwelwch yn dda? Rydym yn gwybod bod rhieni, athrawon, undebau addysg, gweithredwyr twristiaeth, a hyd yn oed Sioe Frenhinol Cymru yn gwrthwynebu'r newidiadau arfaethedig i'r flwyddyn ysgol gan Lywodraeth Cymru. Ond i ychwanegu at y gwrthwynebiad hwn, mae arweinwyr cymunedau ffydd wedi cysylltu â mi yn ddiweddar gyda phryderon ynghylch cynlluniau i gael gwared ar wyliau'r Pasg. Fel y gwyddoch chi—ac mae pob Aelod yn y Siambr hon, gobeithio, yn ymwybodol—Y Pasg yw'r ŵyl ganolog yn y ffydd Gristnogol. Felly, mae awgrymu nad oes ganddo lawer neu ddim arwyddocâd i ysgolion neu bobl ifanc, neu gymdeithas ledled Cymru, yn annerbyniol. Nawr, rwy'n gwerthfawrogi bod Dydd Gwener y Groglith a Dydd Llun y Pasg yn dal i gael eu diogelu yn y flwyddyn ysgol, oherwydd mae'r rhain yn wyliau cyhoeddus, ond mae cyfnod ehangach y Pasg hefyd yn gyfnod arwyddocaol iawn i lawer o bobl yng Nghymru sy'n cadw'r ffydd Gristnogol.

Nawr, rydyn ni wedi clywed llawer o drafodaeth yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, yn gwbl briodol felly, am broblemau gyda gwrthsemitiaeth ac Islamoffobia, ac rwy'n credu bod llawer o bobl yn ystyried y penderfyniad hwn gan Lywodraeth Cymru i fynd ar drywydd trafodaeth ar y mater hwn yn wrth-Gristnogol. Felly, a gawn ni ddatganiad, cyn gynted â phosibl, er mwyn cael trafodaeth ehangach ar y mater hwn, oherwydd mae'n fater o bryder i ddegau o filoedd o bobl sy'n dilyn y ffydd Gristnogol? 

Wel, fel y mae'r Aelod yn gwybod, mae'r ymgynghoriad ar gau erbyn hyn. Nid wyf i wedi gweld yr ymatebion i'r ymgynghoriad hyd yn hyn, ond byddwn i'n dychmygu ei fod yn ddarlun llawer mwy cymysg na'r un y mae'r Aelod yn ei bortreadu. Wrth gwrs bydd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn gwneud datganiad pan fydd yr ymatebion hynny i'r ymgynghoriad wedi cael eu hasesu. 

Trefnydd, byddwch chi'n ymwybodol bod protestwyr o'n sefydliadau diwylliannol y tu allan i'r Senedd heddiw, yn amlwg yn gwrthwynebu'r toriadau sy'n cael eu cynnig. Un o'r pethau maen nhw wedi tynnu sylw ato, wrth gwrs, oedd y risgiau i'r casgliadau cenedlaethol, oherwydd cyflwr yr adeiladau, ond hefyd o golli arbenigedd. Rwy'n gwybod fy mod i wedi codi hyn sawl gwaith gyda chi, gan ofyn am ddatganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth ar y mater hwn. Nid wyf i wedi cael y sicrwydd hwnnw eto, o ran y casgliadau cenedlaethol, a tybed, a gawn ni'r datganiad hwnnw, oherwydd mae pob un ohonon ni'n bryderus? Nhw yw casgliadau cenedlaethol y genedl—nid y sefydliadau cenedlaethol hynny sy'n berchen arnyn nhw—ac mae'n ddyletswydd arnon ni i sicrhau eu bod yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Diolch. Roeddwn i'n ymwybodol o'r brotest y tu allan i'r Senedd heddiw, ac rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog hefyd, ac mae hi wedi bod yn cael sgyrsiau â rhanddeiliaid ynghylch y mater yr ydych chi wedi'i godi. Yn sicr, gwnaf ofyn iddi gyflwyno datganiad ysgrifenedig. 

Trefnydd, wrth i ni fwrw ymlaen â chynlluniau i gyrraedd ein targedau sero-net, mae'n bwysig ein bod ni'n rhoi cymaint o wybodaeth a manylion â phosibl i'r rhai a fydd yn gyfrifol am eu gweithredu a'u darparu, fel y gallan nhw gynllunio'n iawn a recriwtio'r bobl angenrheidiol sydd eu hangen i'w cyflawni. Gyda hyn mewn golwg, a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ar yr amserlenni sydd ganddyn nhw ar gyfer gweithredu cynllun adfer morwellt, ac ar y rhaglen ariannu y maen nhw'n bwriadu ei darparu i helpu i gyflwyno'r cynllun hwn, fel yr ymrwymwyd iddo yn y rhaglen lywodraethu a'r ymarfer plymio dwfn bioamrywiaeth?

Fel y gwyddoch chi, mae'r DU wedi colli tua 92 y cant o'i dolydd morwellt, ac mae Llywodraeth Cymru yn gwybod yn iawn sut y gall adfer morwellt ledled Cymru gael effaith aruthrol, nid yn unig ar leihau erydiad arfordirol, ond ar wella amrywiaeth y môr a storio carbon. Trefnydd, mae gan Gymru rai o wyddonwyr morwellt mwyaf blaenllaw'r byd, a thrwy waith sefydliadau fel Prosiect Morwellt a WWF Cymru, mae nifer fawr o wirfoddolwyr ymroddedig sy'n barod i helpu i gasglu a phlannu morwellt. Fodd bynnag, rwy'n teimlo eu bod wedi cael eu gadael ar dir neb, a byddai unrhyw eglurder gan Lywodraeth Cymru, o ran datganiad, i'w groesawu'n fawr. Diolch.

14:35

Diolch. Rwy'n credu bod yr Aelod yn codi pwynt pwysig iawn. Nid yw mor bell yn ôl â hynny pan ddaeth ysgol i lawr o fy etholaeth i, a ddaethon nhw a rhoi deiseb i'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch adfer morwellt, a ches i fy synnu braidd o glywed pa mor hir y mae'n ei gymryd i'w adfer. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn ei ystyried yn gyffredinol, yn dilyn yr archwiliad dwfn bioamrywiaeth.

Trefnydd, bydd mis nesaf yn Fis Gweithredu ar Endometriosis. Yr wythnos diwethaf cefais i'r pleser o gwrdd â'r ymgyrchydd Georgia Jefferies, sy'n byw ar Lannau Dyfrdwy, ac sy'n ymgyrchu dros well gwasanaethau i fenywod ag endometriosis. Nododd Georgia yn ddigon gwir, yr angen am nyrsys endometriosis hyfforddedig arbenigol ledled Cymru, ac i'r holl wasanaethau fod ar gael yn rhwydd i'r cleifion hynny. Rwy'n amlwg yn awyddus i'r gwelliannau hynny gael eu gwneud, a fy nghyd-Aelodau ar y Pwyllgor Deisebau hefyd, rwy'n siŵr, ar ôl y gwaith yr ydyn ni wedi'i wneud ar hyn. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am wasanaethau endometriosis yn ystod y mis ymwybyddiaeth ym mis Mawrth? Diolch.

Diolch. Mae'n dda iawn eich bod chi wedi tynnu sylw at y ffaith mai mis nesaf fydd mis codi ymwybyddiaeth ynghylch endometriosis. Yn amlwg, mater i bob bwrdd iechyd unigol yw sicrhau eu bod yn darparu gwasanaethau i fenywod sy'n dioddef o endometriosis.

Hoffwn i gael datganiad brys, os gwelwch yn dda, yn ymwneud â Ffos-y-fran ym Merthyr. Dywedodd y cwmni sy'n gyfrifol am y safle y bydden nhw'n rhoi'r gorau i gloddio am lo fis Tachwedd diwethaf, ar ôl cloddio'n anghyfreithlon am fwy na blwyddyn. Nawr, rydw i wedi cael gwybod bod cloddio am lo yn dal i ddigwydd mor ddiweddar â'r wythnos diwethaf, ond y bore yma fe ges i wybod bod y safle'n dawel—does dim wagenni trenau. Nawr, a yw hwn yn seibiant dros dro neu'n ddiwedd parhaol ar y sarhad? Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi hysbysiad stop ar unwaith o ran symud unrhyw lo o'r safle, neu yn wir, ar werthu unrhyw lo pellach o Ffos-y-fran.

Ac yn olaf, rwyf i wedi codi pryderon ar sawl achlysur yn y Senedd ynglŷn â'r hyn sy'n mynd i ddigwydd ar ôl i'r cwmni adael. Dim ond £15 miliwn sydd wedi'i neilltuo mewn cyfrif y byddai modd ei ddefnyddio ar gyfer gwaith adfer, ac mae hynny'n llawer is na'r hyn y bydd ei angen. Rwy'n deall y bydd yr awdurdod lleol yn ystyried cais o'r newydd ar gyfer y prosiect adfer hwnnw. Rwy'n erfyn ar y Llywodraeth i alw i mewn unrhyw gais a fydd yn gwneud llai na'r hyn a gafodd ei addo i drigolion Merthyr Tudful yn 2007, a phle yw hwn, Gweinidog. Mae'r sefyllfa hon yn rhygnu ymlaen fis ar ôl mis, ac mae ymgyrchwyr a thrigolion angen sicrwydd y bydd rhywun yn gwneud yr hyn sy'n iawn yma o'r diwedd. Felly, os gwelwch yn dda, a all datganiad fynd i'r afael â hyn, ac a gaf i gyfarfod brys gyda'r Llywodraeth i drafod y sefyllfa?

Wel, os ydych chi eisiau cyfarfod, rwy'n awgrymu eich bod chi'n ysgrifennu'n uniongyrchol at y Gweinidog Newid Hinsawdd, y mae hyn yn rhan o'i phortffolio, ac unwaith eto, efallai yn ysgrifennu at yr awdurdod lleol ynghylch y cyfnod tawel y gwnaethoch chi gyfeirio ato. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog hefyd mewn trafodaethau gyda'r awdurdod lleol, er mwyn sicrhau bod gwaith adfer priodol yn digwydd.

Rwy'n galw am ddatganiad llafar gan Lywodraeth Cymru ar anhwylderau bwyta. Fel y gwnaethon ni glywed ar ddiwedd cwestiynau'r Prif Weinidog, 26 Chwefror i 3 Mawrth yw Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta 2024. Eleni mae'n canolbwyntio ar anhwylder osgoi/cyfyngu bwyd, neu ARFID, cyflwr wedi'i nodweddu gan yr unigolyn yn osgoi bwydydd penodol, neu fathau o fwyd, yn cyfyngu ar faint o fwyd sy'n cael ei fwyta yn gyffredinol, neu'r ddau.

Cymerais i ran yn y ddadl ar anhwylderau bwyta yma yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta 2022. Yn y ddadl honno, roedd galwadau ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi model gwasanaeth neu fframwaith, gydag amserlenni, ar gyfer gwireddu gweledigaeth adolygiad gwasanaeth anhwylderau bwyta 2018, fel y gall pawb y mae hyn yn effeithio arnyn nhw gael gafael ar gymorth effeithiol yn gyflym. Amlygais i adroddiad Beat a oedd newydd ei gyhoeddi ar y pryd, a oedd wedi darganfod bod cynnydd o ran ymyrraeth gynnar, triniaeth ar sail tystiolaeth a chefnogaeth i deuluoedd yn amrywio'n eang ledled Cymru. Mae'n siomedig felly, ddwy flynedd ers y ddadl honno, nad oes gennym ni fodel na fframwaith o'r fath o hyd ar gyfer Cymru. Mae trin anhwylderau bwyta yn hanfodol er mwyn sicrhau bod cleifion yn gwella'n llawn ac yn barhaus ac yn atal yr angen i gleifion gael triniaeth fel cleifion mewnol. Ac felly, mae'n bryder hefyd, ddwy flynedd ers y ddadl, nad oes gennym ni gynllun cenedlaethol gydag amserlenni i wella gwasanaethau anhwylderau bwyta lleol o hyd. Rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru—datganiad llafar—ar hyn yn unol â hynny. 

14:40

Diolch. Wel, rydyn ni'n parhau i fuddsoddi yn ein gwasanaethau anhwylderau bwyta, ac mae tîm newydd ac arweinydd clinigol ar gyfer anhwylderau bwyta yn helpu i sicrhau bod newidiadau cadarnhaol iawn yn cael eu hysgogi at ofal anhwylderau bwyta, gan ganolbwyntio i raddau helaeth ar ymyrraeth gynnar, ac rydyn ni'n parhau i roi cyllid ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau cymorth mynediad hawdd, gan gynnwys llinell gymorth Beat. 

Rwy'n cael fy ysbrydoli gan Darren Millar i wneud cyfraniad, oherwydd nid oeddwn i wir wedi bwriadu gwneud cyfraniad ar y datganiad busnes. Ond rwyf i eisiau rhoi barn arall, oherwydd rwy'n gwybod bod Darren Millar yn Gristion ymroddedig, yr wyf i'n ei barchu'n llwyr, ond rwyf i eisiau rhannu barn arall ynghylch a ddylai tymhorau a gwyliau ysgol osgoi neu ddiystyru dathlu'r Pasg. Fel llywodraethwr mewn ysgol yr Eglwys yng Nghymru, rwy'n ymwybodol ei bod hi'n well gan lawer o ysgolion Cristnogol fod digwyddiadau crefyddol yn cael eu dathlu ar y cyd yn eu hysgol, cyn belled ag y bo modd, ac mae llawer yn cadw eu disgyblion, yn fwriadol, tan y diwrnod cyn y gwyliau cyhoeddus, pan fydd dyletswydd arnyn nhw i'w rhyddhau. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i ni gael dull mwy cynnil o ddathlu digwyddiadau crefyddol a diwylliannol pwysig, gan gynnwys, er enghraifft, dathliadau Dewi Sant ddydd Gwener. Felly, rwy'n credu na ddylen ni fod yn llunio'r flwyddyn ysgol o amgylch un dathliad crefyddol penodol. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni edrych ar y materion llawer ehangach, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog addysg yn cadw hyn mewn cof ac yn ei ystyried. 

Diolch. Wel, mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn ei le a bydd wedi clywed eich cyfraniad, ac, fel y dywedais i, pan fydd ymatebion yr ymgynghoriad—. Nid wyf i'n ymwybodol faint sydd wedi bod, er enghraifft, ond fel arfer mae'n broses fawr i fynd drwy'r holl ymatebion i sicrhau bod barn pawb yn cael ei hystyried, a bydd y Gweinidog wedyn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. 

Trefnydd, hoffwn i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ynghylch cyllid ar gyfer gwasanaeth clefyd metabolig etifeddol Cymru gyfan, gan gynnwys SWAN, y tîm syndromau heb enw, o fewn hwnnw. Mae'n ymddangos bod rhywfaint o ansicrwydd ynghylch a fyddan nhw'n cael eu hariannu yn y dyfodol, sy'n golygu eu bod ar hyn o bryd yn amharod i ddechrau unrhyw lwybrau triniaeth ar gyfer y rhai y mae hyn yn effeithio arnyn nhw. Ac mae gennyf i etholwr â phlentyn y mae syndrom niwroseiciatrig aciwt pediatrig—PANS—ac anhwylderau niwroseiciatrig awtoimiwn pediatrig sy'n gysylltiedig â heintiau streptococaidd—PANDAS—yn effeithio arno ac mae'r ansicrwydd hwn yn straen enfawr arnyn nhw yn y cyfnod anodd hwn. Yn fy marn i, mae angen i dîm SWAN fod yn glir ynghylch dyfodol cyllid Llywodraeth Cymru i allu parhau â'u gwaith gwych ac atgyfeirio unigolion ar gyfer triniaeth ddatblygu. Felly, byddai datganiad neu ymateb ar y mater hwn gan y Gweinidog iechyd i'w groesawu'n fawr. Diolch.

Diolch. Wel, fel y dywedais i, mater i fyrddau iechyd yw sicrhau bod unrhyw glefyd neu salwch—bod gwasanaethau'n cael eu darparu o fewn y bwrdd iechyd neu, os oes ganddyn nhw drefniant, y gallai claf fynd at fwrdd iechyd arall, ac mae hynny'n cynnwys y clefyd yr ydych chi'n cyfeirio ato. 

A gaf i ofyn am ddatganiad am adeiladu tai cyngor newydd? Rwy'n credu ym mhwysigrwydd adeiladu tai cyngor i ateb y galw difrifol sydd gennym ni am dai. A all y datganiad gynnwys y rhai sydd eisoes wedi'u hadeiladu neu'n cael eu hadeiladu, a'r nifer sydd wedi'u cynllunio ar gyfer 2024-25 a 2025-26, a chefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer adeiladu tai cyngor newydd? 

Rwy'n gofyn am ail ddatganiad ar gyfalaf trafodiadau ariannol. Hoffwn i fod hyn yn cynnwys faint y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael, faint sydd wedi'i wario, faint sydd wedi cael ei dalu'n ôl i'r Trysorlys, faint sydd wedi'i ailgylchu i brosiectau newydd a gwerthusiad o lwyddiant y prosiectau hynny y mae'r arian wedi'i wario arnyn nhw. 

Wel, o ran eich ail gais ynghylch cyfalaf trafodiadau ariannol, rydych chi'n gofyn am rai pwyntiau penodol iawn. Rwy'n credu y byddai'n well ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol gyda'r cwestiynau hynny. O ran adeiladu tai cyngor newydd, byddwch chi'n gwybod bod gan Lywodraeth Cymru darged uchelgeisiol iawn am dai cymdeithasol. Nid ydyn ni'n ymddiheuro am y targed uchelgeisiol hwnnw. Ym mhedair blynedd gyntaf tymor y Senedd hon, rydyn ni, erbyn hyn, wedi dyrannu £1.2 biliwn i dai cymdeithasol ac rydyn ni wedi rhoi cyfle i awdurdodau lleol fanteisio ar y grant tai cymdeithasol, ac mae hynny'n cefnogi eu huchelgeisiau hefyd i ddarparu mwy o dai fforddiadwy yng Nghymru.

Diolch. Trefnydd, hefyd, hoffwn i hefyd ailadrodd galwadau am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg am y newidiadau arfaethedig i wyliau ysgol. Mae blaenoriaethu'r cynlluniau hyn gan y Llywodraeth, a dweud y gwir, yn sarhad ar bawb, gan ystyried y myrdd o faterion mwy dybryd sy'n wynebu addysg yng Nghymru. Mae undebau addysg yn erbyn newid, mae undebau ffermio yn erbyn newid, a gweithredwyr twristiaeth, grwpiau ffydd. Felly, rwy'n credu ei bod ond yn iawn i'r Gweinidog addysg ddod i'r Siambr i ymdrin â'r pryderon hyn, yr adlach ddifrifol hon, trwy ollwng y cynlluniau chwerthinllyd hyn ar adeg pan fo addysg yng Nghymru mewn argyfwng. A nawr bod yr ymgynghoriad ar gau, a gaf i ailadrodd galwadau am ddatganiad cyn gynted â phosibl yn y Siambr hon? Diolch.

14:45

Nid oes gennyf i ddim i'w ychwanegu at fy atebion i'r ddau Aelod arall a ofynnodd yr un cwestiwn i mi'n gynharach.

3. Dadl: Hyblygrwydd cyllidebol a gweithredu fframwaith ariannu'r DU
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

Felly, mae angen cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu'r ddadl ar hyblygrwydd cyllidebol a gweithredu fframwaith ariannu'r Deyrnas Unedig. Dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig yn ffurfiol.

Cynnig NNDM8498 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a 12.22(i) dros dro er mwyn caniatáu i NNDM8497 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mawrth 27 Chwefror 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Rwy'n cynnig yn ffurfiol. 

Mae'r cynnig wedi ei wneud yn ffurfiol. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu atal y Rheolau Sefydlog? Nac oes, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

4. Dadl: Hyblygrwydd cyllidebol a gweithredu fframwaith ariannu'r DU

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2, 3, 4 a 5, yn enw Heledd Fychan.

Mae hynny'n caniatáu i ni fedru cynnal y ddadl yma ar hyblygrwydd cyllidebol a gweithredu fframwaith ariannu'r Deyrnas Gyfunol. Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, felly, i wneud y cynnig—Rebecca Evans. 

Cynnig NNDM8497 Lesley Griffiths, Darren Millar, Jane Dodds, Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod ysgogiadau cyllidol Llywodraeth Cymru yn gyfyngedig.

2. Yn credu nad yw'r hyblygrwydd cyllidebol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn ddigonol.

3. Yn nodi yr angen am fwy o ragweladwyedd a sicrwydd o drefniadau cyllido Llywodraeth Cymru i gefnogi ei gwaith cynllunio cyllideb a gwaith cynllunio sefydliadau partner.

4. Yn cydnabod bod Cronfa Wrth Gefn Llywodraeth Cymru a'i therfynau benthyca yr un fath â phan gawsant eu gosod yn 2016.

5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o hyblygrwydd cyllidol i Lywodraeth Cymru, er budd rheoli cyllideb yn effeithiol, gan gynnwys, ar unwaith:

a) mynd i'r afael ag effaith chwyddiant ar derfynau benthyca a’r gronfa wrth gefn ers 2016;

b) gwneud terfynau'r gronfa wrth gefn gyffredinol a benthyca yn destun adolygiad blynyddol; ac

c) diddymu terfynau tynnu i lawr y gronfa wrth gefn.

Cynigiwyd y cynnig.

Heddiw, rwy'n falch ein bod ni wedi gallu dod i gytundeb ar draws y Senedd ar gyfer cyflwyno cynnig ar y cyd sy'n galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o hyblygrwydd cyllidol i Lywodraeth Cymru ar gyfer rheoli cyllideb yn effeithiol a sicrhau canlyniadau gwell i bobl Cymru. Rydym ni'n byw mewn cyfnod anarferol, gydag effeithiau ymadael â'r UE, pandemig COVID-19, yr argyfwng costau byw a chwyddiant uchel parhaus ac mae hwnnw wedi achosi heriau digynsail i'n gwasanaethau cyhoeddus, ein heconomi a'n cymunedau. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gyflym ac yn bendant i'r heriau hyn, ond rydym ni wedi wynebu cyfyngiadau ac ansicrwydd sylweddol o ran rheoli ein cyllideb oherwydd prinder yr ysgogiadau cyllidol digonol ar gael i ni.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Nid yw trefniadau ariannol presennol y DU yn cynnig y rhagweladwyedd a'r sicrwydd o ran cyllid sy'n angenrheidiol i'n cefnogi wrth gynllunio cyllidebau a rhai ein sefydliadau partner, gan gynnwys yr awdurdodau lleol. Mae hyn yn cynnwys amseriadau cyhoeddiadau Llywodraeth y DU, sy'n gwrthod cydnabod yr effaith ar ein cyllidebau na'r craffu a ddarperir gan y Senedd. Yn wahanol i Lywodraeth y DU, nid ydym ni'n gallu benthyca ar gyfer ariannu'r gwariant o ddydd i ddydd. Rydym ni'n dibynnu ar symiau canlyniadol Barnett sy'n deillio o benderfyniadau Llywodraeth y DU, a ddaw yn aml heb fawr ddim rhybudd neu ddim o gwbl. Rydym ni'n aml yn gweld newidiadau sylweddol i'n cyllideb ni'n hwyr yn y flwyddyn ariannol, pryd mae'n rhaid defnyddio dyraniadau cyllid yn gyflym neu dderbyn toriadau. Rydym ni'n wynebu cyfyngiadau mawr hefyd ar ein gallu i gario arian ymlaen neu ei dynnu o'n cronfeydd wrth gefn, sy'n amharu ar ein gallu i gynllunio ac ymateb i amgylchiadau newidiol.

I ddarlunio'r pwyntiau hyn, mae hi'n werth i mi nodi'r profiad a gawsom ni'r flwyddyn hon i'r Senedd. Gyda'r arwyddion oddi wrth Lywodraeth y DU yn gwneud i ni ddisgwyl ychydig iawn o gyllid ychwanegol, fe wnaethom ni flaenoriaethu ein cyllidebau ni'n sylweddol yn haf y llynedd. Fe gawsom ein gorfodi i wneud penderfyniadau annymunol gydag effeithiau gwirioneddol ar wasanaethau cyhoeddus a swyddi, y gwyddom ni nawr y gellid bod wedi eu hosgoi nhw. Cadarnhawyd ein ffigurau terfynol ar gyfer yr amcangyfrifon atodol ar 7 Chwefror, sydd eisoes yn annerbyniol o hwyr, wythnosau yn unig cyn diwedd y flwyddyn ariannol, ddim ond i gael gwybod wedyn fod y rhain yn cynnwys gwallau hanfodol, ac wedi hynny fe roddwyd ffigurau newydd i ni ar 13 Chwefror.

Nid bychan yw maint y cyllid ychwanegol, er bod croeso iddo. Yn swm o £231 miliwn, mae'n cynrychioli tua dwy ran o dair o'r cyfan sydd gennym ni wrth gefn. Oni bai fy mod i eisoes wedi cynllunio ar gyfer gwneud y gorau o'n gallu i dynnu o gronfeydd wrth gefn y flwyddyn hon, fe fyddai'r cyfyngiadau ar ein cronfa wrth gefn—nid ydym ni'n gallu dal ond £350 miliwn i gyd gyda'i gilydd—wedi golygu y byddem ni'n ildio rhywfaint o'r cyllid ychwanegol hwn, y mae gan Gymru hawl iddo, yn ôl i Drysorlys EF. O ystyried yr amser cyfyngedig i ddefnyddio'r cyllid hwn, a chydnabod bod Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi rhoi rhywfaint o hyblygrwydd i gario cyfran fechan o'r cyllid hwn yn ei flaen, fe gaiff £185 miliwn ei gario drosodd i'r flwyddyn nesaf yng nghronfa Cymru.

Mae rhywbeth sylfaenol o'i le ar drefniadau ariannu'r DU i'r sefyllfa hon allu digwydd. Mae'r heriau hyn yn amlygu'r angen am welliannau er mwyn sicrhau bod strwythurau cyllidol y Deyrnas Unedig yn gweithio yn effeithiol ac yn cefnogi llywodraethau datganoledig i weinyddu adnoddau yn effeithlon ac yn effeithiol ar gyfer sicrhau gwerth am arian y cyhoedd. I osgoi sefyllfaoedd o'r fath yn y dyfodol, fe ddylem ni geisio sefydlu egwyddor y gellir rheoli cyllid a gadarnhawyd wedi digwyddiad cyllidol yr hydref yn y DU dros flynyddoedd ariannol, yn ogystal ag unrhyw arian a ganiateir yn unol â threfniadau'r cronfeydd wrth gefn. Fe fyddai hyn yn sicrhau bod y cyllid a roddir yn hwyr yn y flwyddyn ariannol yn cael ei ddefnyddio yn effeithiol ac fe fyddai hyn, yn ei hanfod, yn ffurfioli'r trefniadau dros dro sydd gennym ni gyda Thrysorlys EF ar hyn o bryd.

Yn ogystal â hynny, rydym ni'n ceisio datblygu proses hefyd a fyddai'n galluogi Llywodraeth Cymru i drawsnewid cyfalaf yn adnoddau yn yr un modd ag y mae adrannau Whitehall yn gallu gwneud ond gan barchu swyddogaeth y Senedd o ran craffu. Mae cynnig heddiw yn nodi dau hyblygrwydd penodol y dylid eu hestyn i Lywodraeth Cymru ar unwaith. Y cyntaf yw adolygiad blynyddol o'n benthyca a therfynau ein cronfa wrth gefn fel eu bod yn cael eu mynegrifo yn ôl chwyddiant ar gyfer adlewyrchu'r twf yn ein cyllideb ac unrhyw gynnydd yn y cyfnewidioldeb a'r risg a wynebwn. Pennwyd y terfynau hyn yn 2016 ac nid ydyn nhw wedi cael eu diweddaru fyth oddi ar hynny, er gwaethaf y newidiadau sylweddol yn ein tirwedd ariannol ni. Mae hyn yn golygu, yn 2024-25, y bydd terfynau o ran tynnu o'r gronfa wrth gefn a benthyca yn werth 23 y cant—bron i chwarter—yn llai mewn termau real na phan gawson nhw eu cyflwyno yn 2018-19. Mae hyn yn lleihau ein gallu i ymateb i unrhyw bwysau a ddaw i'r golwg.

Yr ail hyblygrwydd yw diddymiad parhaol y terfyn ar allu i dynnu o'r cronfeydd wrth gefn, sy'n ein cyfyngu i allu cael gafael ar ddim ond £125 miliwn o adnoddau a £50 miliwn o gyfalaf o'n cronfeydd wrth gefn mewn unrhyw flwyddyn unigol. Ar hyn o bryd, fe allwn ni adlewyrchu hyblygrwydd ychwanegol mewn amgylchiadau eithriadol. Fe gytunodd cyn-Brif Ysgrifennydd y Trysorlys i ildio'r terfyn ar ein gallu i fynd i'n cronfa wrth gefn ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, ond mesur dros dro yw hwnnw. Mae'r terfyn hwn yn ein hatal ni rhag cael gafael ar ein cynilion ein hunain pan fo eu hangen nhw fwyaf arnom ni ac yn mynd yn groes i'r egwyddor o reoli cyllideb yn effeithiol. Fe fyddai diddymu'r terfyn hwn yn rhoi mwy o reolaeth i ni dros amseru a chyflymder ein gwariant ac yn ein galluogi i lyfnhau'r brigau a'r pantiau yn ein cyllideb. Rhai bychain a rhesymol yw'r newidiadau hyn ac maen nhw wedi cael eu cymeradwyo gan arbenigwyr a rhanddeiliaid blaenllaw, gan gynnwys y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol, y Sefydliad Materion Cymreig a'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Rydym ni wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i roi'r ddau hyblygrwydd ychwanegol hyn i ni. Fe'u rhoddwyd i Lywodraeth yr Alban ym mis Awst y llynedd, ac fe ddylen nhw fod yr un mor gymwys yma yng Nghymru. Mae'r cynnydd y cytunwyd arno'n ddiweddar i derfyn benthyca cyfalaf blynyddol Gogledd Iwerddon yn llawer mwy hael nag yn y fan hon hefyd. Ac eto, mae ein setliad cyfalaf cyffredinol yma yng Nghymru yn 2024-25 o werth hyd at 9 y cant yn llai mewn termau real na'r hyn a ddisgwylid ar adeg yr adolygiad o wariant yn 2021. Ystyr yr hyblygrwydd hwn yw sicrhau bod yr offer a'r ymreolaeth gennym ni i ddefnyddio'r arian sydd ar gael i ni yn y ffordd orau bosibl yn unol ag anghenion a blaenoriaethau'r bobl yr ydym ni'n eu gwasanaethu nhw. Mae dull cyfiawn o weithredu yn hanfodol rhag bod unrhyw ran o'r DU o dan anfantais o'i chymharu â'r lleill.

Nid cynnig mo hwn sy'n gofyn am fwy o arian oddi wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig; ei ystyr yw cydnabod yr heriau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu oherwydd y cyfyngiadau ar yr ysgogiadau cyllidol sydd ar gael i ni, ac mae'n ymwneud â darparu'r offer sydd ei angen arnom ni i gynnig mwy o ragweladwyedd a sicrwydd i gefnogi ein cynllunio ar gyfer ein cyllidebau ni a'n partneriaid ni. Ystyr hyn yw rhoi tegwch i bobl Cymru, sy'n haeddu'r gwasanaethau cyhoeddus a'r cymorth gorau posibl yn y cyfnod anodd hwn. Nid mater gwleidyddol mohono; ond mater o ymarferoldeb, ac fe hoffwn i ddiolch i Aelodau'r Senedd o bob plaid am eu cefnogaeth gyda'r mater hwn, ac rwy'n gobeithio y bydd ein llais unedig yn hyrwyddo ei achos gyda Llywodraeth y DU ar gyfer rhoi'r hyblygrwydd cyllidol sydd ei angen ar Gymru. Diolch i chi.

14:50

Rwyf wedi dethol y pum gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Adam Price i gynnig gwelliannau 1, 2, 3, 4 a 5, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 4 ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn gresynu bod diffyg cyllid teg a hyblygrwydd cyllidol San Steffan wedi arwain at biliynau o arian sy'n ddyledus o ariannu HS2 a'r anallu i fuddsoddi mewn cynhyrchu ynni lleol gan ddefnyddio cronfeydd Ystâd y Goron.

Gwelliant 2—Heledd Fychan

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:

disodli Fformiwla Barnett er mwyn unioni'r annhegwch ar draws setliad cyllidol a chyllid cyfredol Cymru gyda system newydd sy’n symud oddi wrth ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus ad-hoc a thuag at fframwaith sy’n darparu cyllid cyson, tryloyw a theg i Gymru;

Gwelliant 3—Heledd Fychan

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:

cynyddu terfynau benthyca cyfalaf;

Gwelliant 4—Heledd Fychan

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru a'r Senedd i archwilio ar y cyd ffyrdd newydd o ddadansoddi hyblygrwydd a fframweithiau cyllidol Llywodraeth Cymru, a'u heffeithiau ar Gymru, er enghraifft drwy sefydlu Swyddfa Gyllideb Seneddol.

Gwelliant 5—Heledd Fychan 

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol am bwerau i osod bandiau treth incwm penodol i Gymru.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2, 3, 4 a 5.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n symud y gwelliannau yn enw Heledd Fychan.

Cyfeiriodd y Gweinidog at y consensws gwleidyddol ac, yn sicr, rydym ninnau'n adleisio llawer o'r sylwadau a wnaeth hi ac sy'n cael eu hamlygu yn y cynnig craidd, ond rwyf i o'r farn ei bod hi'n ddigalon iawn na fu unrhyw ymgais, hyd yn hwyr iawn yn y broses, i'n cynnwys ni yn y trafodaethau i lunio'r cynnig, ac, yn wir, na chafodd ein hawgrymiadau ni ar gyfer gwelliannau mo'u derbyn, a dyna pam maen nhw'n cael eu cyflwyno fel diwygiadau i'r testun hwn, oherwydd fe fyddem ni wedi hoffi i'r consensws hwnnw fod wedi ymestyn lawer ymhellach. Mae ein diwygiadau ni'n rhoi ystyriaeth newydd i dirwedd gyfarwydd o feysydd o anghyfiawnder ariannol mawr o ran y sefyllfa bresennol ynglŷn â gweithrediad fformiwla Barnett, yr hoffem eu gweld yn cael eu diwygio. Fe hoffem ni weld y terfynau benthyca cyfalaf hynny, ac, yn wir, terfynau benthyca yn gyffredinol yn cael eu diwygio fwyfwy fyth, ac fe hoffem ni weld mwy o hyblygrwydd yn ein gallu ni i bennu bandiau treth incwm.

Mae cytundeb cyllidol yr Alban, wrth gwrs, wedi ei ddiwygio erbyn hyn, neu fe fydd y diwygiad hwnnw ar waith o'r flwyddyn nesaf ymlaen, ac fe gafodd y diwygiad ei gwblhau'r llynedd. Ymhlith pethau eraill, er enghraifft, roedd yn mynegrifo â chwyddiant eu terfyn benthyca ar gyfer adnoddau. Fe wnaeth yr un peth ar gyfer eu terfyn benthyca cyfalaf, a diddymodd eu terfynau o ran tynnu arian wrth gefn ac roedd yn mynegrifo ei derfyn wrth gefn yn gyffredinol. Mae'r rhain yn bethau y cyfeiriodd y Gweinidog at lawer ohonyn nhw nawr, ac eisoes, yn wir, rwy'n credu i'r Gweinidog ddweud bod llawer o'r diwygiadau a gyflawnodd Llywodraeth yr Alban drwy eu cytundeb diwygiedig, yr hoffai Llywodraeth Cymru eu gweld yn cael eu gweithredu yn achos Cymru.

Nawr, roedd cytundeb cyllidol yr Alban yn cynnwys darpariaethau penodol ynghylch mecanwaith adolygu, neu amseriadau adolygu, yn hytrach, ynddo, ac roedd yn mynegi yn benodol y byddai adolygiad yn dilyn etholiadau San Steffan a Senedd yr Alban, yn y drefn honno, yn 2020 a 2021. A dyna'r hyn a ddigwyddodd, a arweiniodd at gwblhau'r adolygiad y llynedd. Nid oedd gan gytundeb cyllidol Cymru ddyddiad penodol o ran y trefniadau hynny ar gyfer adolygu. Yr hyn yr oedd yn ei ddweud oedd y byddai'r cytundeb yn destun adolygiad cyfnodol ac y byddai'r adolygiad cyntaf yn digwydd cyn diwedd cyfnod trosiannol y cyllid grant bloc. Fy nealltwriaeth i o'r cyfnod trosiannol y cyllid grant bloc—ond fe fyddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog daflu rhywfaint o oleuni ar y mater braidd yn dywyll hwn—yw y bydd cyfnod trosiannol pan, pe byddai gwariant y pen yng Nghymru dros ben y terfyn isaf o 115 y cant, byddai swm canlyniadol Barnett gwahanol yn cael ei gymhwyso sef 105 y cant. Rwy'n edrych ar y Gweinidog i roi rhywfaint o anogaeth i mi yma, ond fy nealltwriaeth i yw, hyd nes y daw hynny i ben, nes ein bod ni felly ar gyfradd lai na 115 y cant ac nad yw cyllid canlyniadol trosiannol Barnett yn berthnasol, rydym ni yn y cyfnod trosiannol o hyd, sy'n golygu nad yw'r ddarpariaeth ar gyfer adolygu cyfnodol yn dechrau bod yn gymwys. Fy nealltwriaeth i yw, yn hyn o beth, eich bod chi wedi asesu, yn ôl pob tebyg, ar gyfer y cyfnod adolygu gwariant newydd hwn, pa un a ydym yn ni'n dal i fod yn y cyfnod cyllido trosiannol hwnnw. Felly, ni fyddwn ni'n cael adolygiad cyfnodol am lawer o flynyddoedd i ddod, ond mae gan y cytundeb ddarpariaeth ynddo ar gyfer cais gan Lywodraeth Cymru am adolygiad, ac felly fy nghwestiwn i, yn syml, i'r Gweinidog yw a ydym ni wedi gofyn am yr adolygiad hwnnw, oherwydd mae popeth a ddywedodd hi a phopeth sydd yn y cynnig hwn yn awgrymu i ni fod yr angen yn daer am yr adolygiad hwn, ac mae angen hwnnw arnom ni cyn gynted ag y bo modd.

Yn olaf, fe geir gwelliant sy'n cyfeirio at greu swyddfa gyllideb seneddol. Mae gan y rhan fwyaf o Seneddau'r byd rywbeth fel sefydliad cyllidol annibynnol—swyddfa gyllideb seneddol, sy'n caniatáu i senedd wneud ei gwaith o ran dal y Llywodraeth i gyfrif ynglŷn â materion cyllidol. Mae Iwerddon newydd greu un bum mlynedd yn ôl ac mae gan honno staff o tua 14. Mae hynny'n rhoi ymdeimlad i chi o, Bwyllgor Cyllid, tua thair a hanner o swyddi llawn amser mae'n debyg, ac efallai pump neu chwech i gyd. Rwy'n credu bod angen swyddfa gyllideb seneddol, yn sefydliad, ar gyfer dod â ni at safonau arfer gorau ledled y byd, ac fe fyddem ni'n gwerthfawrogi cefnogaeth drawsbleidiol ar y sail honno.

14:55

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddweud ychydig o eiriau fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, gan fod y ddadl yma yn ymwneud â nifer o bwyntiau sydd o ddiddordeb i ni, sydd, gobeithio, yn adlewyrchu consensws barn eang ynghylch y materion hyn, fel sydd i'w weld yn y cynnig trawsbleidiol sydd gerbron heddiw. Yn ystod fy amser i fel Cadeirydd, mae’r pwyllgor wedi gwneud sawl argymhelliad yn ymwneud â’r materion y mae'r cynnig yn eu hamlinellu, naill ai’n uniongyrchol i’r Trysorlys neu at ddibenion cefnogi’r Gweinidog yn ei thrafodaethau â’r Trysorlys.

Mae ein pryderon yn gysylltiedig â'r meysydd canlynol yn fras. Yn gyntaf, mae hi'n ymddangos bod diffyg dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth gyffredinol yn y Trysorlys ynglŷn â materion sy'n effeithio ar sefydliadau datganoledig. Fe ellir gweld hyn yn y ffaith na roddir fawr o ystyriaeth i brosesau cyllidebol datganoledig gan Lywodraeth y DU wrth bennu dyddiadau digwyddiadau'r flwyddyn. Yn benodol, mae'r pwyllgor yn credu y gallai'r Trysorlys wneud mwy i sicrhau bod dyddiadau ei ddatganiadau yn yr hydref a'r gwanwyn yn rhoi ystyriaeth i brosesau cyllidebol datganoledig. Dyna pam y gwnaethom gynnwys argymhelliad i'r perwyl hwn yn ein hadroddiad diweddar ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2024-25, ac rydym ni wedi ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys er mwyn mynegi barn o'r fath.

Yn ail, fel cafodd hynny ei grybwyll eisoes, mae'r diffyg tryloywder a hyblygrwydd yn y ffordd y mae'r Trysorlys yn ymdrin â phenderfyniadau ariannu sy'n ymwneud â materion datganoledig yn peri pryder. Mae'r pwyllgor wedi galw ers tro am welliannau yn y ffordd y caiff gwybodaeth ei rhannu a'i chyfleu rhwng llywodraethau ynghylch cyfrifiadau cyllidol. Yn fwyaf diweddar, fe wnaethom ni argymell bod y Gweinidog yn dal ati i bwyso ar y Trysorlys ynglŷn ag ymgysylltu ar gam mwy cynnar ac yn fwy effeithiol â Llywodraeth Cymru ynghylch cyhoeddiadau cyllid sylweddol, gyda'r nod o gynnig rhagor o eglurder ynglŷn â sefyllfa ariannu Llywodraeth Cymru yn gynharach yn ystod y flwyddyn. Fe fydd y Gweinidog yn rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor ddydd Iau'r wythnos hon ar yr ail gyllideb atodol, ac fe fyddwn ni'n falch o gael gwybod a yw'r materion hyn yn parhau.

Yn drydydd, rydym ni'n cefnogi'r safbwyntiau a fynegwyd yn y cynnig hwn i bwyso ar Lywodraeth y DU am yr hyblygrwydd mwyaf posibl yn y fframwaith cyllidol, gan ganiatáu disgresiwn i Lywodraeth Cymru wrth reoli ei chyllidebau ac ymdrin â'r pwysau mawr sydd arni. Mae hyn yn cynnwys cael gwared ar derfyn blynyddol ar y swm y gellir ei dynnu o gronfeydd wrth gefn Cymru a chynyddu maint y ddau derfyn benthyca ac o'r gronfa wrth gefn sydd gan Gymru yn unol â chwyddiant, yn y man lleiaf. Mae'r rhain yn gamau cymharol syml i'w cymryd ond fe fydden nhw'n gwneud byd o wahaniaeth i'r ysgogiadau cyllidol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru.

Ac yn olaf, hoffwn grybwyll y diffyg ymgysylltu rhwng adrannau Whitehall a’r Senedd ar faterion cyllidebol a’r effaith mae hyn yn ei gael yng nghyd-destun atebolrwydd. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym wedi’i weld â’n llygaid ein hunain ers dechrau’r chweched Senedd.

Er gwaethaf sawl ymdrech, mae cyfres o Brif Ysgrifenyddion y Trysorlys wedi gwrthod gwahoddiadau’r pwyllgor i gyfarfod â ni naill ai’n ffurfiol neu’n anffurfiol. Er ein bod yn gresynu at y sefyllfa hon, rydym yn gobeithio y bydd y deiliad swydd newydd yn fwy agored i’n ceisiadau. Nid yw’r materion hyn wedi’u cyfyngu i’r Senedd yn unig; fel y gŵyr yr Aelodau eisoes, mae fy mhwyllgor i, ynghyd â phwyllgorau cyfatebol yn Senedd yr Alban—ac rŵan, gobeithio, efo Senedd Gogledd Iwerddon—wedi sefydlu fforwm ryngseneddol y pwyllgorau cyllid, gyda’r nod o godi llais ar y cyd ar y materion hyn sydd o bryder inni i gyd. Fel pwyllgor, rydym hefyd wedi cytuno i fwrw golwg fanylach ar yr agweddau hyn; dyna pam rydyn ni yn cynnal ymchwiliad i gysylltiadau rhynglywodraethol cyllidol. Rydym yn gobeithio cyhoeddi adroddiad erbyn dechrau tymor yr hydref, ac rwy’n edrych ymlaen at rannu ein canlyniadau a’n hargymhellion gyda Aelodau yn y Siambr hon yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Dirprwy Lywydd, os caf i ddweud ychydig eiriau fel llefarydd i Blaid Cymru ar gyllid a llywodraeth leol, ar sail y materion y gwnaethom ni eu rhestru, rwy'n arbennig o galonogol ynglŷn â'r ffaith fod yna gydnabyddiaeth drawsbleidiol heddiw nad yw'r fframwaith cyllidol presennol sydd gan Gymru yn addas i'r diben. Os ydym ni'n awyddus i weld datganoli yn aeddfedu ac yn gwireddu ei botensial, mae'n rhaid i ni uno â'n gilydd i fynnu bargen well a thecach i Gymru, ac rwy'n mawr obeithio y bydd arweinwyr y DU yn y ddwy blaid fawr yn gwrando yn astud ar yr hyn y mae eu cynrychiolwyr yma yn y Senedd yn ei ddweud wrthyn nhw'n uchel ac yn hyglyw. Am y rheswm hwn fe fyddwn ni'n cefnogi'r prif gynnig sydd gerbron heddiw, ond, yn unol â'n gweledigaeth ar gyfer Cymru fwy uchelgeisiol a ffyniannus, rydym ni o'r farn y gallwn ni, ac y dylem ni, fynd ymhellach, ac fe adlewyrchir hynny yn ein gwelliannau ni, fel gwnaeth Adam Price eu hamlinellu.

Diolch i chi am gyflwyno'r ddadl hon a'r cynnig hwn heddiw, Gweinidog. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi ar y materion hyn dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Diolch.

15:00

Rwy'n croesawu datganiad agoriadol y Gweinidog a'r dull cydweithredol hwn ac, yn amlwg, fe fyddwn ni'n cefnogi'r cynnig. Fe hoffwn i ddechrau drwy gydnabod y terfynau sydd ar yr ysgogiadau cyllidol sydd gan Lywodraeth Cymru a bod yr hyblygrwydd cyllidebol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn annigonol. Er mwyn i Lywodraeth Cymru weithredu polisïau cyllidol yn effeithiol, mae angen mwy o hyblygrwydd—ffaith y gallwn ni i gyd gytuno arni hi.

Mae hi'n bwysig i Lywodraeth Cymru fod â rhagor o ragweladwyedd a sicrwydd ynghylch ei threfniadau gwario a chyllido ar gyfer cefnogi ei chynlluniau cyllidebol. Fel gŵyr pawb ohonom, rhoddwyd terfynau ar dynnu o'r gronfa wrth gefn ac ar fenthyca Llywodraeth Cymru, fel clywsom ni, yn 2016 ac nid ydyn nhw wedi newid dim. Yn amlwg, mae'r rhagolygon economaidd byd-eang wedi newid yn sylweddol ers hynny ac, er gwaethaf y symiau uchaf erioed o gyllid oddi wrth Lywodraeth Geidwadol y DU, nid oes hyblygrwydd i gyllidebau Llywodraeth Cymru. Rwy'n credu ei bod hi'n ddiogel i ni ddweud bod angen adolygiad blynyddol ar y system i sicrhau bod y pwerau i fenthyca gan unrhyw Lywodraeth i Gymru a fyddai'n adlewyrchu'r amgylchedd economaidd.

Mae angen diwygio'r system bresennol. Mae angen mwy o hyblygrwydd cyllidol ar y Llywodraeth yng Nghymru i reoli'r gyllideb yn effeithiol, a diddymu'r terfynau ar yr hyn a ellir ei dynnu o'r gronfa wrth gefn sy'n bodoli ar hyn o bryd. Mae hi'n ymddangos yn rhyfedd hefyd fod gan yr awdurdodau lleol fwy o hyblygrwydd o ran benthyca a'u cronfeydd wrth gefn nag sydd gan Lywodraeth Cymru—ffaith yr wyf i'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn edrych arni ac yn ei diwygio. Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am lawer mwy o bwerau, fe wyddom ni, a llawer mwy o bobl, nag unrhyw awdurdod lleol unigol, ac felly fe ddylai hi fod â'r hyblygrwydd mwy eang hwnnw.

Er fy mod i'n anghytuno â llawer o gyfeiriadau polisi cyllidol y Blaid Lafur a Phlaid Cymru a'r symiau enfawr o arian sy'n cael eu gwastraffu ar hoff brosiectau amrywiol, mae hwn yn fater sy'n mynd y tu hwnt i bleidiau gwleidyddol ac fe ddylai Llywodraeth Cymru fod â rhagor o hyblygrwydd cyllidol, ni waeth pwy yw'r blaid sy'n digwydd bod mewn grym. Diolch, Dirprwy Lywydd.

15:05

Mae Llywodraeth Cymru yn galw am fynegrifo benthyca a therfynau Llywodraeth Cymru wrth dynnu o gronfeydd wrth gefn yn gyffredinol. O ran defnyddio cronfeydd wrth gefn ac ychwanegu unrhyw danwariant at gronfeydd wrth gefn, a gaf i ddilyn yr un llwybr â'r hyn a ddywedodd Peter Fox? Nid oes rheswm cyllidol dros gyfyngu ar y symudiad i mewn ac allan o gronfeydd wrth gefn Cymru; mae'r arian wedi ei roi i Lywodraeth Cymru eisoes. O safbwynt y Trysorlys, ni ddylai hi fod o unrhyw wahaniaeth o gwbl os caiff hwnnw ei wario neu ei gadw, gan ei fod eisoes wedi cael ei roi i Lywodraeth Cymru. Fe all pob cyngor yng Nghymru, gan gynnwys cynghorau cymunedol, symud arian i mewn ac allan o gronfeydd wrth gefn heb unrhyw ymyrraeth o'r tu allan. Ni all Llywodraeth Cymru wneud hynny. A yw hyn yn gwneud synnwyr i unrhyw un? Oherwydd, yn sicr, nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl i mi. Pam ddylai rhoi arian ychwanegol mewn cronfeydd fod yn beth drwg? Pam mae tynnu arian o gronfeydd wrth gefn yn beth drwg? Dyna'r ffordd y mae pobl—. Wrth droi yn ôl at farn y Ceidwadwyr i ryw raddau, dyna'r ffordd y mae pobl yn rhedeg eu cyllidebau eu hunain, drwy roi arian yn eu cynilion a thynnu arian o'u cynilion. O ran rheolaeth gyllidebol yn y dyfodol, peth da yw rhoi mwy o arian tuag at gronfeydd wrth gefn. Rwy'n gobeithio y gall rhywun o blith y Ceidwadwyr esbonio pam mae'n rhaid rheoli symudiad i mewn ac allan o gronfeydd wrth gefn.

O ran y terfynau benthyca, unwaith eto, nid yw hynny'n gwneud synnwyr i mi. Fe all y Llywodraeth ddefnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol—ffordd gostus iawn o dalu am wariant cyfalaf—i dalu am brosiectau cyfalaf. Yn flaenorol, caniatawyd y fenter cyllid preifat, a oedd, unwaith eto, yn ffordd gostus iawn o ariannu prosiectau cyfalaf. Y model buddsoddi cydfuddiannol yw'r fenter cyllid preifat heb wasanaethau porthorol.

Fe all cynghorau fenthyca yn ddoeth, sy'n golygu, cyn belled â bod y swyddog adran 151 yn cymeradwyo hynny, y gallan nhw fenthyca. Yng Nghymru, nid oes pentwr o ddyled wedi ei greu drwy hapchwarae ar y farchnad dai fel digwyddodd yn Lloegr. Mae gan gyfanswm o 192 o awdurdodau lleol yn Lloegr—rwy'n ailadrodd hynny: 192 o awdurdodau lleol yn Lloegr—ddyledion sy'n fwy na dwywaith eu gallu i wario. Mae gan 45 o awdurdodau lleol gymarebau dyled sy'n fwy nag 11 gwaith eu gallu i wario. Felly, mae angen rheolaeth. Fe ddylai'r hyn a wnaeth awdurdodau lleol yn Lloegr fod wedi cael ei reoli oherwydd eu bod nhw wedi eu rhoi eu hunain mewn sefyllfa ariannol ddifrifol iawn, ac, fel gwelsom ni yn Lloegr, mae nifer ohonyn nhw, i bob pwrpas, wedi mynd yn fethdalwyr.

Er y byddai Llywodraeth Cymru yn gofyn am ei fynegrifo yn golygu rhywfaint o gynnydd ac yn lleihau'r swm o fenthyca yn ôl y model buddsoddi cydfuddiannol drud iawn y mae'r Llywodraeth yn ei ddefnyddio, fe geir ffordd arall o reoli gwariant cyfalaf sydd rhywle rhwng hapchwarae awdurdodau lleol yn Lloegr a'r cyfyngder sydd ar Lywodraeth Cymru. Rwy'n awgrymu y byddai angen cymeradwyaeth y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol neu sefydliad tebyg ar unrhyw wariant uwchben y cap presennol. Gellid benthyca mewn ffordd gyfrifol wedyn.

Fe ddylai'r rheolau hyn fod yn berthnasol i'r Alban a Gogledd Iwerddon hefyd. Mae angen i ni fod â setliad datganoli sy'n gyson. Rwy'n credu bod hynny'n un peth y mae gwir angen i bawb ohonom ni gytuno arno, sef ei bod yn rhaid cael rhyw gyfradd o gysondeb rhwng Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a dinasoedd mawr Lloegr hefyd, sydd â phoblogaethau mwy na phoblogaeth Cymru yn y rhan fwyaf ohonyn nhw.

Rwy'n drist am fod Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar benderfyniadau Llywodraeth y DU ynglŷn ag amseru, ac yn cefnogi'r angen am fwy o ragweladwyedd a sicrwydd o ran trefniadau cyllido Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi ei gwaith wrth gynllunio cyllidebau, craffu gan y Pwyllgor Cyllid, sydd, ynghyd â'r Cadeirydd cyllid, yn bwysig iawn, ac wrth roi sicrwydd i sefydliadau partner, nid yn unig yr awdurdodau lleol ond sefydliadau'r trydydd sector hefyd. Yn aml iawn, mae gan Lywodraeth San Steffan arian ychwanegol ar gyfer ysbytai, ond maen nhw'n dweud nad oes unrhyw arian canlyniadol i Gymru oherwydd y ffordd y caiff Cymru ei hariannu. Rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â'r Alban a Gogledd Iwerddon, gytuno ar fecanwaith apelio, o'r tu allan i'r Trysorlys, ynghylch arian ychwanegol sydd i'w dalu neu beidio i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Os yw'r Trysorlys yn farnwr ac yn rheithgor hefyd, ni fyddwch chi fyth yn ennill.

Dim ond gair i'ch atgoffa chi'n gyflym fod fformiwla Barnett yn nodi'r isafswm y gellir ei roi i Gymru, ac, fel gwelsom ni sawl gwaith yng Ngogledd Iwerddon, gan gynnwys yn ddiweddar iawn, fe ellir darparu arian ychwanegol dros ben fformiwla Barnett pe byddai Llywodraeth San Steffan yn dymuno gwneud hynny. Ni ddylai'r penderfyniadau mympwyol ynglŷn â'r hyn a ystyrir yn brosiectau i Gymru ac i Loegr, fel rheilffordd HS2, nad yw hi'n dod dros y ffin i Gymru ond sy'n cael ei thrin fel prosiect i Gymru ac i Loegr, fod yn digwydd, a phe byddai gweithdrefn ar gyfer apelio gennym ni, ni fyddai hynny'n digwydd. Ni fyddai unrhyw unigolyn rhesymol yn gweld HS2 yn brosiect i Gymru ac i Loegr. Prosiect i Loegr yw hwn. Yn wir, pe bawn i'n byw yn Leeds, fe fyddwn i'n dweud mai prosiect o Birmingham i Lundain yw hwn, ac nid prosiect i ogledd Lloegr chwaith. Felly, mae hi'n bwysig fod y pethau hyn yn cael eu trin.

Mae angen ffordd o apelio ynglŷn â phenderfyniadau fel hyn i gorff sydd o'r tu allan i'r Trysorlys hefyd. Nid ydych chi'n gallu rhoi'r penderfyniad i'r Trysorlys: 'O, nid ydych chi'n hoffi ein penderfyniad—wel, apeliwch'—'Diolch i chi am eich apêl; rydym ni wedi penderfynu mai ein penderfyniad ni yw'r penderfyniad yr hoffem ni ei wneud.' Mae honno'n ffordd ryfedd iawn ac amhriodol o weithredu.

Ac yn olaf, nid oes gennym ni amser heddiw, ond rwy'n credu bod gwir angen dadl arnom ar fformiwla Barnett yma a'r hyn a ddaw yn lle fformiwla Barnett, oherwydd nid wyf i'n argyhoeddedig y bydd unrhyw beth a ddaw i mewn ar ôl fformiwla Barnett yn well o reidrwydd.

15:10

Fel y dengys testun y cynnig trawsbleidiol hwn, nid yw Cymru mewn sefyllfa i ddelio'n effeithiol â'r heriau rŷn ni'n eu hwynebu—heriau sy'n ddigynsail yn hanes datganoli etholedig. Fel dangosodd Adam Price yn ei gyfraniad e, rhy aml o lawer, ni yw'r gwlad anghofiedig yn San Steffan, a does dim y pwerau a'r hyblygrwydd gennym i reoli ein cyllid.

Y llynedd, gofynnodd Llywodraeth Cymru am ganiatâd San Steffan i allu troi at y cyllid cyfalaf ar gyfer rhedeg y gwasanaeth iechyd. Nid felly y dylai hi fod o gwbl. Mae hynny'n aneffeithiol, yn atodi haenau ychwanegol o fiwrocratiaeth, ac yn cyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru i ymateb i ddigwyddiadau. Mae Mike Hedges yn gyson iawn. Yn rheolaidd, mae ef yn codi'r sefyllfa chwerthinllyd hon lle gall awdurdodau lleol a chynghorau cymuned dynnu arian o'u cronfeydd wrth gefn mewn modd nad yw Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud felly. Rwy'n falch o glywed Peter Fox yn cytuno heddiw fod y sefyllfa hon yn un hurt. Nid yw hi'n gwneud unrhyw synnwyr, mae hi'n aneffeithlon, ac yn arddangos diffyg parch tuag at Lywodraeth Cymru, ac, yn wir, at ein Senedd ni.

Yn wahanol i'r rhwystrau sydd yn ffordd Lywodraeth Cymru o ran mynd i'w chronfeydd wrth gefn, sylwch chi ar y cyflymder, heb unrhyw oedi o gwbl, pan wnaeth y Trysorlys wneud penderfyniad i adfachu'r £155 miliwn o'r cronfeydd a oedd heb eu gwario yn ystod y pandemig. Nid wyf i wedi gallu canfod i ble'r aeth y £155 miliwn hynny, ond yr hyn sy'n amlwg yw nad oedd gan y Senedd hon unrhyw lais o gwbl yn y mater. Unwaith eto, fe welwn ni'r rheolau hyn yn effeithio yn anghymesur ar Gymru. Mae gan yr Alban reolau tebyg iawn o ran cronfeydd heb eu gwario, ond mae'r swm y gallan nhw ei gario drosodd yn llawer uwch na'r hyn sydd gennym ni yma yng Nghymru. Yn wahanol i ni, nid oedd hi'n rhaid i'r Alban dalu'r un geiniog yn ôl i'r Trysorlys o'u cronfeydd pandemig nhw a oedd heb eu gwario. Roedd comisiwn Holtham yn argymell ein bod ni'n derbyn ffactor ar sail anghenion o 115 y cant ar gyfer ein fersiwn ni o fformiwla Barnett. Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod hyn, gan nad ydym ni wedi cyrraedd grant bloc cymharol y pen o 115 y cant. O 2021, ein cyllid y pen ni yw 120 y cant, a dyna pam mae hi mor rhyfedd ac nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr bod ein ffactor ni ar sail anghenion wedi aros ar 105 y cant ers 2018. Mae angen newid y gwerthoedd hyn, neu fe fydd Cymru yn dal i gael cyfran o gyllid sy'n annheg.

Gwelwn fan hyn yn glir yr heriau rŷn ni'n eu hwynebu fel cenedl. I ddechrau, mae sicrhau cyllid digonol yn profi yn amhosib. Fel dywedodd Mike Hedges yn hollol glir, mae angen dirwyn fformiwla Barnett i ben. Ac yna mae gan y Trysorlys yr hawl i gymryd unrhyw gyllid yn ôl, yn unol â'i ddymuniad.

Er mwyn sicrhau tegwch i'n pobl a'n gwlad, mae’n rhaid dileu'r cyfyngiadau ar ddefnyddio ein cyllid cyfalaf. Mae'n rhaid diwygio fformiwla Barnett sydd well past its use-by date, ac mae'n rhaid sicrhau bod modd i ni yng Nghymru ddatblygu polisïau cyllidol sy'n hyblyg ac sy'n gallu ymateb yn effeithiol i ddigwyddiadau. Diolch yn fawr.

15:15

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl hon. Rwy'n ddiolchgar i Blaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig am gofleidio'r achos hwn hefyd. Rwy'n credu bod cytundeb wedi bodoli ar wahanol adegau dros y blynyddoedd diwethaf ar wahanol elfennau o'r materion hyn, ond dyma'r tro cyntaf i mi gofio'r tair plaid a gynrychiolir yma'n cytuno ar safbwynt cyffredin. Wrth groesawu'r cytundeb hwn, rwyf i am ofyn hefyd i Peter Fox fynd ychydig ymhellach ar drywydd y cytundeb hwnnw a rhoi ystyriaeth ychydig yn fwy radical efallai i'r mathau o heriau sy'n wynebu Cymru.

Un o'r pethau sy'n codi dro ar ôl tro, ac sydd wedi codi drwy gydol fy amser i yn y lle hwn, yw'r calendr cyllidol. Trwy'r amser hwnnw i gyd, ni waeth pwy sydd wedi bod yn y Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig, yr hyn a welsom ni yw penderfyniadau yn cael eu gwneud gan y Trysorlys i siwtio'r Trysorlys. A'r hyn na welsom ni yw penderfyniadau yn cael eu gwneud gan y Trysorlys sy'n berthnasol i bob rhan o'r Deyrnas Unedig. Ac mae angen i ni gytuno â'r Trysorlys y bydd calendr cyllidol ar gyfer pob rhan o'r Deyrnas Unedig, a bod y calendr cyllidol yn un y gall pob Llywodraeth fod â chyfranogiad ynddo ac y byddan nhw'n cytuno i gadw ato.

Ond fe welsom ni newidiadau sylweddol yn y ffordd y mae'r Trysorlys yn rheoli cyllid y Deyrnas Unedig hefyd. A dyma graidd fy nadl heddiw. Rwy'n credu, pe byddem ni'n cynnal y ddadl hon yn Nhŷ'r Cyffredin y DU, fe fyddech chi'n canfod Gweinidogion sydd wedi gweithio mewn gwahanol adrannau gwladol yn Whitehall yn cytuno â'n dadansoddiad ni o ymddygiad y Trysorlys. Nid wyf i'n credu bod y Trysorlys yn targedu Cymru na'r Alban na Gogledd Iwerddon yn neilltuol. Rwy'n credu bod y Trysorlys yn fwli yn Llundain hefyd, ac rwy'n credu bod y rhan fwyaf o bobl yn cydnabod hynny. Rwy'n credu bod angen i ni edrych yn ofalus iawn ar sut mae strwythurau ariannol y Deyrnas Unedig yn gweithredu mewn gwirionedd ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan, ac nid yn unig ar gyfer y gweision sifil sy'n digwydd bod yn gweithio yn y Trysorlys heddiw.

Mae cytundeb Gogledd Iwerddon, a gyhoeddwyd fis diwethaf, rwy'n credu, yn dangos y gellir cael ffordd ymlaen, oherwydd wedi ymguddio yn y papur gorchymyn 'Diogelu'r Undeb' yr oedd ymrwymiad i newid sail cyllid ar gyfer Gogledd Iwerddon. Heb unrhyw drafodaeth, unrhyw ddadl, fe fyddwn ni'n symud at fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Nawr, fe fyddai hi dda iawn gennyf i wybod a yw'r Gweinidog wedi clywed unrhyw beth ynglŷn â'r hyn y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd neu a yw'r Trysorlys wedi gwneud unrhyw ddatganiad i'r perwyl hwnnw. Pe byddai hi'n gallu ateb hynny wrth ymateb i'r ddadl, fe fyddwn i'n ddiolchgar. Ond mae'r ffaith y gall y Trysorlys wneud penderfyniad o'r fath hwnnw, penderfyniad mor sylfaenol, heb unrhyw ddadl na thrafodaeth, yn dangos bod gormod o bŵer ganddo. Dyna'r hyn y mae hynny'n ei ddangos. Ac y gellir defnyddio'r pŵer hwnnw mewn ffordd fympwyol.

Mae gennym gytundeb o ran cysylltiadau rhynglywodraethol sy'n sefydlu strwythurau i ddatrys anghydfodau rhwng Llywodraethau'r Deyrnas Unedig, ac, fel disgrifiodd Mike Hedges yn huawdl iawn, nid yw hwnnw'n gweithio. Oherwydd pan fydd yr anghytundebau hyn yn codi, ac fe allwn ni ddefnyddio HS2 yn enghraifft sydd yn ein meddyliau heddiw—. Pan oedd gennym Lywodraeth Lafur, fe ddigwyddodd yr un peth yn union gyda'r Gemau Olympaidd, felly gadewch i ni beidio â chymryd arnom mai mater y Ceidwadwyr yn unig yw hwn. Mae hwn yn fater o lywodraethu'r Deyrnas Unedig; mae'n mynd y tu hwnt i'r pleidiau gwleidyddol.

Mae hi'n amhosibl cynnal dadl a thrafodaeth ac anghytuno â'r Trysorlys os yw'r Trysorlys yn farnwr ac yn rheithgor, ac yn syml, nid yw hynny'n gweithio, ac nid yw'n gweithio i neb ohonom ni. Felly, mae angen i ni fod ag elfen annibynnol yn rheolaeth y strwythurau hyn, a'r hyn sy'n fy nharo i sydd yn enghraifft ddiddorol, ac mae'n anodd iawn cymryd strwythur allan o wlad arall a'i dodi i lawr yn ein gwlad ein hunain, ond mae'r Comisiwn Grantiau'r Gymanwlad yn Awstralia wedi gweithredu yn annibynnol ar y Llywodraeth ers 90 o flynyddoedd. Fe gafodd ei newid ac mae wedi bod trwy sawl diwygiad yn ystod y cyfnod hwnnw, ond yr hyn y mae'n ei wneud, yn ei hanfod, wrth gwrs, yw ailddosbarthu'r dreth nwyddau yn Awstralia ac ar draws Awstralia. Ond yr hyn sy'n bwysig yw ei annibyniaeth.

Nawr, fe sefydlodd y Llywodraeth Geidwadol, pan oedd George Osborne yn Ganghellor, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ac rwy'n croesawu hynny, oherwydd yr hyn y mae honno'n ei darparu yw goruchwyliaeth annibynnol a her annibynnol i'r Trysorlys, a'r hyn y dylem ni fod yn ei ystyried yn fy marn i yw corff annibynnol yn y DU sy'n gorff i'r DU yn yr ystyr ei fod yn cynrychioli buddiannau Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond heb fod yn rhan o Lywodraeth y DU, a fyddai'n sicrhau bod pob rhan o'r DU yn cael ei thrin yn deg, bod fformiwla ariannu gennym ni a gafodd ei chytuno arni gan bob rhan o'r Deyrnas Unedig, bod gennym ni fframwaith a strwythur ariannol y cytunwyd arno gan bob rhan o'r Deyrnas Unedig, a bod y fframwaith a'r strwythur ariannol hwnnw yn cael eu darparu drwy gyfrwng cyngor diduedd a goruchwyliaeth annibynnol. Pan fyddwn ni'n cyrraedd y sefyllfa honno, fe fydd gennym ni strwythur ariannol a fydd, gyda gobaith, yn annog cydraddoldeb ledled y Deyrnas Unedig.

Rwyf i am orffen ar y pwynt hwn, Dirprwy Lywydd: pe byddai'r Trysorlys wedi bod yn hynod lwyddiannus dros y degawdau o ran meithrin Teyrnas Unedig lle mae tegwch a chydraddoldeb yn rhan o fywydau pawb, yna ni fyddai gennym ni le i gwyno, ond y gwir amdani yw mai'r Deyrnas Unedig yw'r wlad leiaf cyfartal yn Ewrop. Ni allwn adael i'r system a achosodd yr anghydraddoldebau barhau; mae angen newid. Mae hwn yn ddechrau da, ond mae angen newid radical a sylfaenol arnom ni.

15:20

Rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr iawn ac yn diolch i'r Gweinidog am ei rhoi gerbron y Senedd heddiw. Fel gŵyr y Gweinidog, fel gwnaeth Llywodraeth Cymru, rwyf i wedi galw ers cryn amser am roi mwy o bwerau benthyca i Gymru, gan gynnwys mynediad llawn at fenthyca darbodus heb unrhyw gapiau mympwyol. O ran adfer yr argyfwng tai, llunio gwasanaeth iechyd sy'n addas ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio, buddsoddi mewn trafnidiaeth o'r radd flaenaf, neu, ar raddfa fyd-eang, ar gyfer mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, mae Cymru yn wynebu heriau cynyddol, ond mae Cymru bron yn unigryw o ran ei hanallu i gwrdd â'r newidiadau hyn oherwydd y cyfyngiadau difrifol a roddir ar allu ein cenedl i fenthyca neu fuddsoddi.

Mae'r rhan fwyaf o lywodraethau cenedlaethol yn gallu cael mynediad at amrywiad o fenthyca darbodus, ond yma yng Nghymru fe gawsom ni ein cyfyngu i ddim ond £1 biliwn fesul tymor Seneddol, a chymaint yw maint y broblem fel bod Llywodraeth Cymru wedi cael ei gorfodi i droi at fodelau buddsoddi cydfuddiannol, fel dywedodd Mike yn gynharach, yn niffyg dim arall, gan ddibynnu ar gwmnïau preifat a ysgogir gan elw i adeiladu ysgolion, ffyrdd neu ysbytai, am nad ydym ni'n cael benthyg yr arian ein hunain. Mae hi'n gwbl eglur nad yw'r setliad ariannol hwn yn addas i Gymru, ond mae'n siwtio'r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan i'r dim, fel y dangoswyd hynny mewn ffordd mor ddirdynnol yn ystod y pandemig, pryd y sianelodd Llywodraeth y DU gannoedd o filiynau o bunnoedd o arian trethdalwyr i gyfrifon banc cwmnïau preifat fel Serco. Yn hytrach na hynny, fe ddewisodd Llywodraeth Cymru fuddsoddi yn ein hawdurdodau lleol ni i gynnal profion ac olrhain, gyda chanlyniadau llawer gwell a rhoi llawer mwy o werth am arian.

Mae cyfyngu ar bwerau benthyca Cymru yn sicrhau dibyniaeth hirdymor ar economeg neoryddfrydol. Mae hyn yn atal Cymru rhag benthyca ar gyfer buddsoddi yn llwyddiannus mewn gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith sy'n eiddo i'r wladwriaeth. Wrth wneud hynny, mae hyn yn atal y posibilrwydd y gallai Cymru ddangos bod ffordd amgen i'w chael, ac fel yn ystod y pandemig, nid yw hi'n siwtio Llywodraeth San Steffan i gael ei chymharu â Llywodraeth flaengar a thrugarog yng Nghymru. Mae'r gair 'buddsoddiad' yn cael ei grybwyll yn briodol yn y cynnig sydd gerbron heddiw. Yn sylfaenol, dadl yw hon ynglŷn â buddsoddi yn ein cenedl ni a'i dyfodol hi. Mae benthyca ar gyfer prosiectau seilwaith hirdymor ym maes iechyd, addysg, trafnidiaeth gyhoeddus a thai yn golygu llunio'r conglfeini ar gyfer cymdeithas fwy ffyniannus. Mae unigolyn yn y gogledd sydd â mynediad at gyfleusterau addysg o'r radd flaenaf, sy'n gallu dibynnu ar wasanaeth iechyd rhagweithiol sy'n seiliedig ar ataliaeth yn fwy nag ar wella cyflyrau, ac sy'n gallu dod adref o'r gwaith i dŷ cyngor a gafodd ei inswleiddio yn ofalus ac sy'n fforddiadwy yn un o drigolion Cymru a fydd ag oes hwy, ac a fydd yn iachach a hapusach. Oherwydd hyn mae buddsoddiadau mewn iechyd, addysg, trafnidiaeth gyhoeddus a thai yn aml yn gweithio fel lluosyddion economaidd, gan ddychwelyd mwy o arian i'r trethdalwr yn yr hirdymor nag y gwnaethon nhw eu costio ar y cychwyn. Nid yn unig bod hwnnw'n bolisi da, ond mae'n gwneud synnwyr yn economaidd hefyd.

Wrth gwrs, ar ôl 14 mlynedd o wleidyddiaeth yn San Steffan sydd wedi gorfodi cyni ar bobl Cymru, ar ôl 14 mlynedd o gyllidebau sydd wedi crebachu mewn termau real, ac ar ôl mwy na 14 mlynedd o gyfyngu ar allu ein cenedl ni i fenthyca, fe all ymddangos mai holl ystyr llywodraethu yw ymdrin â'r presennol, ond fe ddylai llywodraethu fod yn ymwneud â'r dyfodol, lawn cymaint â'r presennol. Ystyr llywodraethu'n briodol yw sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu byw mewn gwlad lawer gwell, fwy llewyrchus a chadarn na'r un yr ydym ni'n byw ynddi hi heddiw. Yma yng Nghymru, rydym ni'n deall hynny; rydym ni'n cydnabod ein dyletswydd i gyflawni'r gorchwyl hwnnw o adael gwlad well ar ein holau sy'n well na'r un y gwnaethom ni ei hetifeddu, a dyna pam, hyd yn oed gyda'r newid mawr yr ydym ni'n gobeithio sydd ar ddigwydd o ran y Llywodraeth yn San Steffan, y mae'n rhaid i ni ddal ati i alw am hyn. Oherwydd, yn gynrychiolwyr etholedig i bobl Cymru, fe ddylem ni fod â'r pwerau cyflawn i ymateb i'r her o lunio cenedl y mae ein cymdeithas yn ei haeddu. Diolch.

15:25

Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl. Rebecca Evans.

Diolch yn fawr iawn. Diolch i'm cyd-Aelodau i gyd am eu cyfraniadau nhw i'r ddadl y prynhawn yma. Ac, fel roedd Alun Davies yn nodi, fe all amseru digwyddiadau cyllidol a chyhoeddiadau gwariant Llywodraeth y DU fod â dylanwadau mawr ar y broses ddemocrataidd yma yng Nghymru. Fore heddiw, fe gyhoeddais i gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25, cyn y bleidlais a gaiff ei chynnal gennym ni yn y Senedd ddydd Mawrth nesaf, ond o fewn un diwrnod i'r bleidlais honno ar gynlluniau trethu a gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25, bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ei chyllideb hi, sy'n golygu y bydd ein setliad ni'n debygol o fod yn newid eto ac fe fydd angen diweddaru ein cyllideb ni. Ac mae hynny'n amlygu maint yr ansicrwydd gwirioneddol sy'n ein hwynebu ni yma yng Nghymru a dibyniaeth ein cyllidebau ni ar y penderfyniadau hynny sy'n cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU.

Fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am ei gefnogaeth barhaus gyda chodi'r mater penodol hwn gyda Llywodraeth y DU hefyd. Ac fe hoffwn i ddiolch i Blaid Cymru am y gwelliannau y maen nhw wedi eu cyflwyno i gynnig heddiw. Yn sicr, mae yna lawer o bethau y byddem ni yn Llywodraeth Cymru yn cytuno â nhw, er enghraifft, rydym ni'n cytuno bod achos cryf dros gynyddu ein terfynau benthyca cyfalaf yn sylweddol, ac rydym ni'n cytuno bod cyllid sylweddol yn ddyledus i Gymru o ganlyniad i ddosbarthiad anghywir HS2. Rydym ni'n cytuno hefyd y dylid disodli fformiwla Barnett. Mewn gwirionedd, fe wnaethom ni nodi cynigion yn 'Diwygio ein Hundeb' ar gyfer dull newydd ar sail egwyddorion cyllido a rhwydweithiau cyllidol y DU, yn cael eu hymgorffori mewn cytundeb cyllidol newydd, i'w oruchwylio a'i weithredu gan gorff sy'n annibynnol ar Lywodraeth y DU, ac y byddai fformiwla Barnett yn cael ei disodli gan system newydd ar sail anghenion cymharol. Mae'r dull o ymdrin â Gogledd Iwerddon a'r system sy'n seiliedig ar yr anghenion yn y fan honno'n ystyried gwaith Holtham, sydd wedi llywio ein sefyllfa yma yng Nghymru. Felly, mae hi'n galonogol eu bod nhw'n derbyn dilysrwydd hynny o leiaf, ond, yn sicr, nid yw hynny'n dod yn agos at gyflawni'r hyn y byddem ni'n ei ddychmygu o ran cyfundrefn sydd ar sail anghenion cymharol. Serch hynny, nod y ddadl heddiw, wrth gwrs, yw bod yn gytûn a chyhoeddi'r genadwri gyffredin honno i Lywodraeth y DU, sef bod Cymru yn haeddiannol o'r newidiadau rhesymol a syml hyn i'r trefniadau cyllidol presennol ac fe fyddai hynny ag effaith gadarnhaol sylweddol ar ein gallu ni i gynllunio a chyllidebu yn fwy effeithiol.

Cafodd y cynnig ei gyflwyno ar y cyd, ac rwy'n gwybod, yn yr ysbryd hwnnw, na fyddai hi'n deg i ni bleidleisio o blaid gwelliannau iddo. Rwy'n gwybod y gallem i gyd fod wedi llunio cynigion amrywiol, gyda chamau neu gymalau amrywiol neu gamau gwahanol i'r dyfodol. Yn sicr, fe wn i y byddem ni'n cefnogi gwelliant, fel yr un a ddisgrifiodd Mike Hedges, o ran cyfundrefn apelio neu gyflafareddu i'r dyfodol, a'r syniad ynglŷn â benthyca darbodus y soniodd Carolyn Thomas amdano hefyd. Ond rwy'n credu bod y ffaith bod cyfran o dir cyffredin gennym ni yn hyn o beth yn eithaf pwysig; mae hynny'n rhywbeth y dylem ni ei groesawu, a phan fyddwn ni'n gallu cytuno a gweithio gyda'n gilydd, rwy'n awyddus iawn i ni allu gwneud hynny. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau am eu cefnogaeth i'r cynnig ac rwy'n credu y gall sicrhau cytundeb ar y mater pwysig hwn wella ein siawns ni o hyrwyddo'r achos gyda Llywodraeth y DU. Diolch i chi.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi wedi clywed gwrthwynebiad, felly gohiriaf y pleidleisiau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

5. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor)

Eitem 5 heddiw yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor), a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Rebecca Evans.

Cynnig NDM8490 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn ‌y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Rwy'n cynnig y cynnig. Rwy'n ddiolchgar am waith y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y mater hwn, ac am yr adroddiad a gyhoeddwyd. Rwy'n falch fod y pwyllgor wedi cytuno â'r safbwynt a nodwyd gan y Llywodraeth yn ei memorandwm cydsyniad deddfwriaethol.

Mae nifer o bryderon gennyf i ynghylch goblygiadau Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor), yn gyntaf, am ei fod yn newid cymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru trwy eu hatal nhw rhag gwneud eu dyfarniadau a'u penderfyniadau caffael eu hunain yn seiliedig ar ymddygiad gwladwriaethau tramor, ac, yn ail, oherwydd natur anrhagweladwy pwerau Harri'r VIII, sy'n rhoi'r gallu i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau yn y dyfodol a allai fod â goblygiadau difrifol i Gymru a deddfwriaeth a gaiff ei phasio gan y Senedd hon yn y dyfodol. Yn drydydd, mae'r Bil yn tresmasu ar erthygl 10 y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, sy'n dynodi'r hawl i ryddid mynegiant.

Nid ydym ni'n gallu cydsynio i Fil sy'n ceisio atal ein cyrff cyhoeddus a'n sefydliadau democrataidd rhag mynegi barn gyfreithlon ar faterion tramor. Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu'r hyn sydd yn ei hanfod yn orchymyn i gau ceg, na ellir ei ystyried ond fel rhywbeth a fyddai'n niweidiol i ddemocratiaeth. Ar ben hynny, rwyf i o'r farn fod y Bil yn gwbl ddiangen, oherwydd mae amddiffyniadau gennym ni sydd eisoes ar waith yng nghytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar gaffael y Llywodraeth, ac fe'u hymgorfforir yn rheoliadau cytundebau cyhoeddus 2015, sy'n gofyn am driniaeth deg a chyfartal o gynigwyr o dramor lle bod cytundeb masnach perthnasol yn ddilys.

Fe all y DU osod sancsiynau ar fasnach eisoes heb unrhyw angen am y ddeddfwriaeth hon—er enghraifft, y sancsiynau a osodwyd ar Rwsia wrth iddi fynd i ryfel yn erbyn Wcráin. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i mi fynd i'r afael hefyd â'r rheswm pam mae Llywodraeth y DU wedi teimlo'r angen am y Bil hwn i wahardd cyrff cyhoeddus rhag cynnal boicotiau, dihatru a gosod eu sancsiynau eu hunain ar wledydd tramor. Fe hoffwn i fod yn eglur fod Llywodraeth Cymru, wrth wrthod y Bil hwn, yn gwneud hynny'n gyfan gwbl oherwydd am nad ydym ni'n cytuno â'r effaith sylweddol y byddai'n ei gael ar ryddid cyrff cyhoeddus a sefydliadau democrataidd ledled Cymru gyfan—rhyddid i benderfynu peidio â phrynu gan, neu gaffael oddi wrth, neu fuddsoddi mewn, sefydliadau sy'n ymhél â cham-drin hawliau dynol, cam-drin hawliau gweithwyr, dinistrio ein planed, neu unrhyw weithredoedd niweidiol ac anghyfreithlon eraill.

Mae'n rhaid i ni gofio ein bod ni yma heddiw hefyd i drafod yr hyn y mae'r Bil hwn yn ei olygu i ddatganoli, yn benodol o ran cymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru. Rwy'n galw ar holl Aelodau'r Senedd hon i wrthod eu cydsyniad i'r tresmasiad hwn ar gyfrifoldebau'r Senedd hon a swyddogaethau Gweinidogion Cymru o ran unrhyw feysydd cyfrifoldeb a ddatganolwyd. Nid yw Gweinidogion y DU yn atebol yn ddemocrataidd am y rhyddid y mae ein cyrff cyhoeddus ni'n ei fwynhau ar hyn o bryd, nac am eu dylanwad economaidd a gwleidyddol nhw. Ni allwn ni, ac ni ddylem ni gydsynio i hyn, oherwydd fe fyddai llawer o'n gwasanaethau cyhoeddus datganoledig a'n sefydliadau democrataidd yn cael eu cynnwys yn y Bil hwn. Rwy'n galw ar holl Aelodau'r Senedd i atal eu cydsyniad, ac rwy'n galw ar Lywodraeth y DU i roi sylw i'r ddadl hon a'r teimladau cryf a fynegwyd, a gweithredu yn unol â hynny. 

15:30

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe hoffwn i ddiolch i'm cyd-Aelodau ar y pwyllgor am eu hystyriaeth ynglŷn â'r mater hwn, a hefyd i'n clercod a'n cynghorwyr arbenigol a diwyd iawn.

Fe wnaethom ni gyflwyno ein hadroddiad ni ynglŷn â hyn, ym memorandwm Llywodraeth Cymru o ran Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor), ar 22 Tachwedd 2023. Fel gwnaeth y Gweinidog ei amlinellu unwaith eto heddiw, bwriad y Bil yw atal cyrff cyhoeddus, wrth wneud penderfyniadau ynghylch caffael a buddsoddiadau, rhag ystyried gwlad neu diriogaeth y tarddiad nac ystyriaethau tiriogaethol eraill mewn ffordd sy'n arddangos collfarn wleidyddol neu foesol ar wladwriaeth dramor.

Fe ddaethom ni at dri chasgliad yn ein hadroddiad, ac mae'r Gweinidog wedi crybwyll rhai ohonyn nhw eisoes. Yn gyntaf, roeddem ni'n cytuno ag asesiad Llywodraeth Cymru sef fod yr holl gymalau ac Atodlenni a restrir yn y memorandwm yn gynwysedig yng nghymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, fel disgrifir hynny yn Rheol Sefydlog 29, ac felly mae angen cydsyniad y Senedd arnyn nhw.

Mae ein hail gasgliad a'n trydydd yn mynegi pryderon o ran pa mor gydnaws yw'r Bil â'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, ac â chyfraith ryngwladol, ac maen nhw'n tynnu sylw at y goblygiadau cyfansoddiadol posibl hynny i'r Senedd. Mae'r Gweinidog wedi codi'r mater bod cwestiynau o hyd ynghylch cydnawsedd y Bil â hawliau'r confensiwn a chyfraith ryngwladol. Yn y memorandwm, fe gyfeiriodd hi at feirniadaeth eang o'r Bil hwn ymhlith y gymuned gyfreithiol ac academaidd, o ran y ffordd y cafodd ei ddrafftio a sut y bwriedir iddo fod ar waith yn ymarferol. Er na wnaeth y Gweinidog ymhelaethu ar yr wybodaeth hon sydd yn y memorandwm yn benodol, yn y pwyllgor, rydym ni'n ymwybodol o bryderon a ddaeth i sylw pwyllgorau eraill cyffelyb ledled y DU, gan gynnwys pwyllgor Bil cyhoeddus Tŷ'r Cyffredin, gan y sefydliadau rhyngwladol hynny ac ymarferwyr cyfraith gyhoeddus sy'n cefnogi pryderon y Gweinidog. Felly, yn y pwyllgor, mae'r un pryderon gennym ninnau â'r Gweinidog ynghylch cydnawsedd y Bil hwn â hawliau'r confensiwn ac â chyfraith ryngwladol.

Dirprwy Lywydd, fel gwyddoch chi, mae'r setliad datganoli yn ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol a hawliau'r confensiwn. Mae cod gweinidogol Llywodraeth Cymru yn rhoi dyletswyddau penodol hefyd ar Weinidogion Cymru i gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfraith a chytundebau rhyngwladol. Yng ngoleuni'r pryder cyffredinol ynghylch cydnawsedd y Bil â hawliau'r confensiwn ac â chyfraith ryngwladol fel hyn, roedd ein hadroddiad ni'n ailadrodd y safbwynt y gwnaethom ei fynegi o ran Biliau blaenorol sy'n ddarostyngedig i'r broses cydsynio deddfwriaethol hon, sef y gallai penderfyniad gan y Senedd i gydsynio â'r Bil hwn arwain at dorri cyfraith ryngwladol ac fe fyddai hynny'n golygu bod y Senedd yn gweithio mewn ffordd anghydnaws â rhwymedigaethau rhyngwladol. Fel gwnaethom ni ei amlygu o'r blaen, ni fyddai hyn yn cyd-fynd ag ysbryd y setliad datganoli. Diolch yn fawr iawn.

15:35

Mae'r Bil gweithgarwch economaidd cyrff cyhoeddus, sy'n rhwymo cyrff cyhoeddus i gydymffurfio â rhagolwg polisi tramor Llywodraeth y DU ac sy'n gosod cyfyngiadau cyfreithiol ar y gallu i wneud buddsoddiadau moesegol dramor yn sarhad ar yr hawl ddemocrataidd sylfaenol i ryddid barn. Ochr yn ochr â'r Bil Trefn Gyhoeddus newydd, sy'n gosod rhwystrau anghymesur ar yr hawl i brotestio heddychlon, mae hyn yn nodweddu symudiad afreolaidd pryderus y Blaid Dorïaidd tuag at awdurdodyddiaeth dros y blynyddoedd diwethaf. Fel y soniodd cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Peter Hain, pe bai'r pwerau hyn ar gael i Lywodraeth y DU a oedd mewn grym yn ôl yn yr 1980au, byddai sefydliadau cyhoeddus wedi cael eu gwahardd rhag protestio yn erbyn Llywodraethau apartheid De Affrica, a oedd, wrth gwrs, yn cael eu cefnogi gan weinyddiaeth Thatcher. Ar ben hynny, mae'r ffaith mai'r cymhelliant dros gyflwyno'r Bil hwn yw atal gweithgareddau ymgyrch Boycott, Divestment and Sanctions yn gosod cynsail peryglus i blygu'r gyfraith i gyd-fynd ag agenda ideolegol benodol.

Mae hefyd yn enghraifft glir arall eto o'r diwylliant canslo gan y Torïaid ar waith. Yn hytrach na chanolbwyntio ar glirio'r llanast enfawr y maen nhw wedi'i wneud yn y Llywodraeth, maen nhw'n ceisio cau lawr pob beirniadaeth ar eu hanes affwysol, yn ddomestig a thramor. Mae'n hanfodol, felly, ein bod ni, yma yng Nghymru, yn sefyll dros yr hawl i ryddid barn, ac yn gwrthwynebu'r ddeddfwriaeth Ddraconaidd hon nad yw'n gofyn am gydsyniad democrataidd y Cymry. Ni waeth beth yw ymgais Llywodraeth y DU i atal trafodaeth gyhoeddus ar y mater hwn, byddwn yn parhau â'n cydsafiad â phoblogaeth ddiniwed Gaza, sy'n cael eu hanafu'n ddyddiol gan weithredoedd gweinyddiaeth dde eithafol Netanyahu. Wrth gwrs, rydym hefyd yn estyn ein cydymdeimlad i bob grŵp ledled y byd sy'n wynebu anghyfiawnder, gwahaniaethu ac erledigaeth ar hyn o bryd. Diolch yn fawr.

Diolch gyd-Aelodau am siarad yn y ddadl hon, ac yn arbennig i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am ei waith diwyd ar y mater penodol hwn. Cefais gyfle i gyfarfod â Gweinidog perthnasol Llywodraeth y DU i nodi nad ydym yn derbyn y dylid newid cymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â phenderfyniadau caffael a buddsoddi. Nid yw'n glir beth oedd Llywodraeth y DU hyd yn oed yn bwriadu ei wneud drwy geisio gwneud y cyfyngiadau hynny.

Mae'r cyfyngiadau penodol ar ryddid i lefaru yn bryder mawr. Mae'n anodd gweld sut y gallai Llywodraeth y DU feddwl bod hyn yn beth da—nid yn unig i gyrff cyhoeddus, ond hefyd i'r unigolion a fyddai'n cael eu canfod yn gyfrifol yn bersonol am unrhyw doriadau. Mae hyn hefyd yn creu amheuaeth a yw'r Bil yn cydymffurfio â chyfraith ryngwladol. Mae'n ymyrryd â'r hawliau dynol hynny, ac mae gan Lywodraeth Cymru ac Aelodau'r Siambr hon gyfrifoldeb i amddiffyn a gwarchod yr hawliau hyn. Mae'r setliad datganoli yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol a'r hawliau sydd wedi'u cynnwys yn y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Hefyd, fel y clywsom, mae cod gweinidogol Llywodraeth Cymru ei hun yn gosod dyletswyddau penodol ar Weinidogion Cymru i gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfraith a chytundeb rhyngwladol.

Mae ein partneriaid yn y mudiad undebau llafur hefyd yn gwrthwynebu'r Bil yn gryf iawn, ac mae pryderon penodol ynghylch effaith y Bil ar rwymedigaethau cyfraith ryngwladol a fynegir gan Gyngres yr Undebau Llafur. Mae Unsain hefyd yn gwrthwynebu'r Bil, gan gredu ei fod yn ddiangen, gan danseilio caffael moesegol a gosod cyfyngiadau enfawr ar ryddid mynegiant. Rydym yn rhannu'r pryderon hynny, a rhai undebau eraill sydd wedi mynegi barn ar hyn hefyd.

Mae ein hawdurdodau contractio yn canolbwyntio'n briodol iawn ar faterion lleol a thrigolion lleol. Fodd bynnag, dylem gofio hefyd fod gan faterion sy'n digwydd dramor ôl-effeithiau i ni yma yng Nghymru hefyd. Mae'r rhyddid i ddewis sut a ble mae awdurdod contractio cyhoeddus yng Nghymru yn ymwneud â chaffael yn gadarnhaol, ac yn sicrhau ein bod yn gyfrifol yn fyd-eang, sy'n nod allweddol a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

I gloi, ni allwn gydsynio i'r Bil hwn. Mae'n annoeth, heb unrhyw dystiolaeth o'i angenrheidrwydd. Mae'n fygythiad i ryddid mynegiant a gallu cyrff cyhoeddus a sefydliadau democrataidd i wario, buddsoddi a masnachu'n foesegol, yn unol â chyfraith ryngwladol a hawliau dynol. Gofynnaf i'r Aelodau wrthod cydsynio i'r Bil.  

15:40

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Eitem 6 sydd nesaf.

Mae'n ymddangos nad yw'r Gweinidog yma ar hyn o bryd, felly bydd yn rhaid i mi ohirio'r sesiwn am bum munud i sicrhau bod y Gweinidog yn y Siambr i roi ei ddatganiad.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:40.

Ailymgynullodd y Senedd am 15:44, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

6. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Datganiad Polisi ar Brentisiaethau

Eitem 6 yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi: datganiad polisi ar brentisiaethau. Galwaf ar y Gweinidog, Vaughan Gething. 

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r byd gwaith yn newid. Hyd yn oed yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae'r amgylchedd economaidd a chymdeithasol wedi newid yn sylweddol. Dros y ddau ddegawd nesaf, bydd newid pellach a bydd angen i gymwyseddau craidd ystod eang o swyddi fod yn fwy uniongyrchol berthnasol i ofynion economi carbon isel. Mae'r rhan fwyaf o'r gweithlu yn 2050 eisoes mewn gwaith. Ein tasg yw helpu i fuddsoddi yn eu sgiliau i sicrhau eu bod yn cyd-fynd ag anghenion economi'r dyfodol. Byddwn yn buddsoddi i ddarparu cyfleoedd i bobl adeiladu gyrfa drwy gydol eu bywyd, yn enwedig pobl ifanc a gefnogir gan ein gwarant i bobl ifanc. Mae angen i ni sicrhau bod ein system yn addas ar gyfer y dyfodol, yn gallu ysgogi adferiad a thwf a chefnogi cymunedau.

Dirprwy Lywydd, yn ein datganiad polisi ar brentisiaethau, rydym wedi datblygu fframwaith strategol ar gyfer dyfodol y rhaglen brentisiaethau. Mae pwyslais ar fynd i'r afael â'r heriau y mae unigolion a chyflogwyr yn eu hwynebu oherwydd effaith y pandemig, yr argyfwng costau byw a'r newidiadau economaidd. Mae'r newidiadau economaidd hynny, wrth gwrs, yn cynnwys y DU yn mynd i ddirwasgiad yn ddiweddar, ond hefyd mae cyfleoedd mwy newydd i'r economi eto i ddod. Byddwn yn gweithio'n agos gyda'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i gyflawni yn erbyn y datganiad hwn, gan sicrhau ein bod yn sicrhau'r cyfleoedd gorau i bobl Cymru.

Mae'r datganiad yn nodi tri amcan a chamau gweithredu cysylltiedig, y mae pob un ohonynt yn cyd-fynd â'n cenhadaeth economaidd wedi'i hadnewyddu ac yn cefnogi ein cynllun cyflogadwyedd a sgiliau. Gwyddom fod gweithredu trawslywodraethol ar draws ystod o feysydd polisi yn hanfodol i sicrhau ein bod yn cryfhau ein heconomi mewn ffordd sy'n adeiladu ar egwyddorion llesiant ac sy'n gwneud Cymru'n lle gwych i fyw a gweithio.

O dan yr amcan cyntaf, rydym am gryfhau'r cynnig prentisiaeth mewn sectorau sy'n bwysig yn strategol, fel trafnidiaeth, iechyd a thai, fel y gallwn adeiladu cydnerthedd ar gyfer yr amgylchedd economaidd sy'n newid. Yn gynyddol, mae angen cymysgedd gwahanol o sgiliau a chymwysterau. Wrth i gyflogwyr addasu eu busnesau i gwrdd â chyfleoedd digideiddio, deallusrwydd artiffisial a chynaliadwyedd, mae angen i'n fframweithiau prentisiaethau a'n llwybrau newid hefyd.

Gyda'n gilydd gallwn weithio tuag at ein nodau hinsawdd a sbarduno twf sero net ar gyfer sectorau gan gynnwys gweithgynhyrchu, digidol, trafnidiaeth, ynni a'r economi gylchol. Mae cyfleoedd i gydgysylltu systemau addysg a hyfforddiant hyd yn oed yn fwy, lle gall prentisiaethau weithio ochr yn ochr â rhaglenni sgiliau ac addysg eraill i ddarparu gwell mynediad a chynnydd. Bydd angen i ddarparwyr addysg bellach, addysg uwch a hyfforddiant annibynnol hefyd archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithredu i gefnogi cynnydd fertigol ar draws prentisiaethau.

O dan ein hail amcan, ein nod yw llenwi bylchau sgiliau a hybu cynhyrchiant. Bydd newidiadau mewn technoleg a'r gallu i awtomeiddio rhai tasgau gwaith yn golygu bod angen cynyddol am ailhyfforddi ac uwchsgilio'r gweithlu. Bydd awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial yn effeithio ar bob galwedigaeth. Mae'r galw am ailsgilio yn debygol o fod yn gymhleth ac yn effeithio ar bob lefel sgiliau. Er mwyn cwrdd â'r heriau hyn, mae angen i ni barhau i alinio ein model cyflawni ag anghenion economaidd. Mae hynny'n cynnwys hwyluso cydweithio rhwng darparwyr a chael gwared ar ddyblygu a chystadleuaeth wastraffus. Er enghraifft, rydym eisoes yn cydlynu ein rhaglenni sgiliau i gyflawni ein cynllun gweithredu sgiliau sero net, gan ateb galw'r diwydiant a sicrhau gwell canlyniadau prentisiaethau. Mae rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi ei hehangu i ddarparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer y sectorau addysg bellach a phrentisiaeth. Bydd y coleg yn parhau i nodi sectorau lle dylid datblygu fframweithiau newydd neu gapasiti ychwanegol ar gyfer prentisiaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.

Nod y trydydd amcan yw mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd. Mae hyn yn ymwneud â gwella canlyniadau'r farchnad lafur ar gyfer grwpiau o bobl dan anfantais. Rydym eisiau i bobl o bob cefndir ffynnu a thyfu drwy gael mynediad at gyfleoedd da o ran cyflogaeth neu addysg. Mae hyn yn golygu arfogi'r bobl hynny â sgiliau a chael gwared ar rwystrau rhag mynediad at gyfleoedd cyflogaeth. Byddwn yn gweithio i gynyddu amrywiaeth mewn prentisiaethau a hyrwyddo symudedd cymdeithasol fel buddsoddiad mewn llwyddiant economaidd a thwf cynaliadwy parhaol.

Mae'r farchnad lafur yn rhy aml yn methu â darparu cyfleoedd hygyrch i weithwyr anabl, ac yn eithrio pobl o gyflogaeth a'r buddion a ddaw yn ei sgil i unigolion a'r gymdeithas ehangach, yn ogystal â gwaethygu effaith yr argyfwng costau byw. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn cynllun cymhelliant i annog cyflogwyr i recriwtio pobl anabl, yn ogystal â chefnogi ehangu'r rhaglen rhannu prentisiaethau er mwyn cefnogi pobl ag anableddau dysgu cymhleth, er enghraifft. Mae'r amcan hwn yn cefnogi'r gwaith o gyflawni'r cynllun cyflogadwyedd a sgiliau, sy'n blaenoriaethu adnoddau i'r rhai sydd bellaf o'r farchnad lafur.

Yn olaf, mae rownd cyllideb 2024-25 wedi cyflwyno'r dewisiadau cyllideb mwyaf poenus i Gymru yng nghyfnod datganoli. Ar y cyfan, mae ein cyllideb werth £1.3 biliwn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod yn 2021. Mae'r golled honno o bŵer gwario yn fwy na'r gyllideb gyfan ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg y llynedd. Mae'n swm syfrdanol i orfod gwneud iawn amdano. Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi nodi effaith niweidiol y ffordd gwbl annerbyniol y caiff newidiadau i gynlluniau gwariant Llywodraeth y DU eu rhannu â llywodraethau datganoledig ar yr unfed awr ar ddeg. Yn ymarferol, mae'n golygu bod gan genhedloedd datganoledig lai o sicrwydd o'u cymharu ag adrannau Whitehall. Ni ddylid gorfodi'r Senedd hon, na phartneriaid ledled Cymru, i ddioddef lefel o ansicrwydd y gellir ei hatal yn llwyr ac na ellir ei chyfiawnhau o gwbl. Yn anffodus, dyna realiti anochel ymddygiad presennol Trysorlys y DU.

Wrth baratoi'r gyllideb derfynol, rydym wedi dangos ein hymrwymiad i wneud pobl ifanc a'u sgiliau yn brif flaenoriaeth mewn cyfnod anodd. Dyna pam y gwnaethom greu gwarant i bobl ifanc yn 2021, a dyma'r rheswm pam yr ymrwymais i ddefnyddio unrhyw gynnydd i'm cyllideb i gefnogi'r prentisiaethau o safon yr ydym yn falch o'u hariannu. Rwy'n falch iawn o gadarnhau heddiw y byddaf yn adfer £5.25 miliwn i'r gyllideb brentisiaethau, gan ddefnyddio arian ychwanegol i wrthdroi'r gostyngiad arfaethedig a mynd â'n buddsoddiad mewn prentisiaethau i dros £143 miliwn y flwyddyn.

Fodd bynnag, mae colli cyn-gyllid Ewropeaidd yn golygu y bydd effaith o hyd ar faint y contract prentisiaeth o'i gymharu â'r flwyddyn bresennol yr ydym ynddi. Gwneir hyn hyd yn oed yn waeth gan benderfyniad Llywodraeth y DU i atal awdurdodau lleol rhag defnyddio'r gronfa ffyniant gyffredin yn benodol i gefnogi rhaglenni ledled Cymru fel prentisiaethau, yn union fel y rhybuddiais pan oedd y gronfa ffyniant gyffredin yn cael ei dylunio. Bydd fy swyddogion yn parhau â'u gwaith agos gyda'r rhwydwaith i gynllunio darpariaeth i wneud y defnydd gorau o'r arian sydd ar gael i ni.

Mae'r penderfyniad hwn yn cydnabod pwysigrwydd prentisiaethau i'n nodau hirdymor o atal, cefnogi ymdrechion i fynd i'r afael â thlodi, canlyniadau ehangach gwell yn y tymor hir, a chefnogi twf economaidd. Mae'n dangos y flaenoriaeth yr ydym yn ei rhoi i bobl sy'n gweithio a'u sgiliau er mwyn adeiladu dyfodol economaidd cryfach, tecach a gwyrddach. Dyna pam mae cyllid ychwanegol wedi'i neilltuo i brentisiaethau yr eiliad y mae cyllidebau wedi gwneud hynny'n bosibl, a bydd y Llywodraeth hon yn parhau i flaenoriaethu'r buddsoddiad hwn yn wyneb ein pwysau ariannol mawr.

Rwy'n hapus iawn i ateb cwestiynau gan yr Aelodau, Dirprwy Lywydd. 

15:50

Nawr, dair wythnos yn ôl, addawodd y Gweinidog lawer o bositifrwydd yn y datganiad heddiw, ond mewn gwirionedd mae'r datganiad hwn yn syth allan o ysgol dewiniaid delwedd Alastair Campbell. Wrth gwrs, rwy'n falch bod cyllid pellach ar gael i'r sector, ond y gwir amdani yw y bydd y sector yn dal i dderbyn toriad sylweddol i'w gyllideb. Yn wir, yn hytrach na thoriad o £17.5 miliwn, mae'r sector bellach yn wynebu toriad o £12.25 miliwn, ac mae'n mynd ymlaen i ddweud yn ei ddatganiad y bydd effaith o hyd ar faint y contract. Prin fod hynny'n gadarnhaol, ynte? A chyn i'r Gweinidog ofyn i mi lle y byddwn yn dod o hyd i'r cyllid ychwanegol hwn, fe ddywedaf wrtho: rhowch fynediad uniongyrchol i lyfrau ei adran, ac fe wnaf ddod o hyd i'r cyllid y mae'n chwilio amdano. Nawr, mae'n hanfodol y gellir darparu prentisiaethau yn gynaliadwy dros y blynyddoedd nesaf, ac mae'n amlwg na fydd y cyllid hwn hyd yn oed yn darparu ateb tymor byr. Ac felly efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym sut y gellir disgwyl i ddarparwyr gyflawni eu rhaglenni dros y tymor canolig a'r tymor hwy.

Fel y gŵyr yr Aelodau, mae prinder llafur a sgiliau yn parhau i ddal twf economaidd yn ôl yng Nghymru, ac fel y dywed datganiad heddiw, mae angen i'r system fod yn addas ar gyfer y dyfodol a gallu ysgogi adferiad a thwf yn ogystal â chefnogi cymunedau. Rwy'n pryderu bod datganiad polisi'r Gweinidog ar brentisiaethau—y tri phwynt bwled—yn ddiystyr os nad oes gan y sector ddigon o gyllid drwy'r tymor canolig a'r tymor hwy.

O ran amcanion polisi, pwynt bwled cyntaf y Gweinidog yw cryfhau'r cynnig prentisiaeth mewn sectorau strategol bwysig, fel trafnidiaeth, iechyd a thai. Rwy'n cytuno bod angen cefnogi sectorau strategol bwysig yn well, ac rwyf wedi galw ers tro ar i'r Gweinidog wneud mwy i hyrwyddo gwerth prentisiaethau mewn meysydd fel ynni adnewyddadwy, lle bydd cyfleoedd sylweddol yn dod i ni. Mae datganiad polisi'r Gweinidog yn dweud wrthym y bydd y Llywodraeth yn diffinio sgiliau sy'n berthnasol i'r farchnad lafur ar gyfer y trawsnewidiad gwyrdd. Efallai y gall ddweud wrthym sut mae'r gwaith hwnnw'n digwydd, a sut y bwriedir ymgorffori'r diffiniad hwnnw mewn fframweithiau prentisiaethau. Mae'r datganiad polisi yn cyfeirio at rôl partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn y maes hwn, ac efallai y gall y Gweinidog ddweud mwy wrthym am y rôl y byddant yn ei chwarae wrth ddarparu deallusrwydd a sbarduno newid ar lefel ranbarthol, fel bod y ddarpariaeth yn cyd-fynd yn well ag ardaloedd twf economaidd.

Nawr, mae'r datganiad heddiw yn nodi, o dan yr ail amcan, mai nod Llywodraeth Cymru yw llenwi bylchau sgiliau a hybu cynhyrchiant. Wrth gwrs, mae angen gwell cydweithio rhwng y sectorau addysg bellach ac addysg uwch, a mwy o waith i atgyfnerthu prentisiaethau gradd trwy ehangu i sectorau newydd. Yn y gwerthusiad y llynedd o'r rhaglen prentisiaethau gradd, dywedodd dwy ran o dair o gyflogwyr fod cymryd rhan yn y rhaglen yn cynyddu cyfraddau cynhyrchiant ymhlith prentisiaid gradd, ac yn ddealladwy bu galwadau am gynnydd yn yr ystod o brentisiaethau gradd sydd ar gael, ac ehangu lefel y prentisiaethau gradd. Ac felly rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog ddweud a yw hyn yn rhywbeth sy'n debygol o ddigwydd, ac os felly, pa gamau newydd y gallwn ddisgwyl eu gweld mewn cysylltiad â phrentisiaethau gradd yn ystod y blynyddoedd nesaf? Efallai y gall hefyd ddweud wrthym sut mae Llywodraeth Cymru yn hwyluso mwy o gydweithio rhwng y sectorau addysg bellach ac addysg uwch hefyd.

Nawr, nod y trydydd amcan a'r olaf yw mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd. Mae cenhadaeth economaidd Llywodraeth Cymru eisoes yn dweud y bydd y Llywodraeth yn targedu adnoddau lle mae eu hangen fwyaf, gyda chymorth i'r rhai sydd bellaf o'r farchnad lafur. Ac yn yr achos hwnnw, prentisiaethau yn union ble dylai Llywodraeth Cymru fod yn buddsoddi ei hadnoddau. Yn chwarter 4, 2022-23, gwyddom fod tua 64 y cant o'r holl raglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd yn ddysgwyr benywaidd, ac mae nifer y dysgwyr sy'n dechrau prentisiaeth gydag anabledd a/neu anhawster dysgu yn cynyddu. Felly mae dyletswydd economaidd-gymdeithasol enfawr ar y Llywodraeth i sicrhau nad yw'r dysgwyr hyn yn cael eu gadael ar ôl. Nawr, mae'r datganiad heddiw yn dweud ychydig mwy wrthym am y gwaith hwnnw, ond byddai gennyf ddiddordeb mewn dysgu rhagor am sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prentisiaethau yn benodol ymhlith grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Dirprwy Lywydd, wrth gwrs, mae'r Gweinidog unwaith eto wedi treulio peth amser yn siarad am reolaeth ariannol Llywodraeth y DU, sy'n rhyfeddol o ystyried hanes Llywodraeth Cymru o wastraffu arian trethdalwyr dros y 25 mlynedd diwethaf. Mae cyllidebau wrth gwrs yn dynn, ond os yw Llywodraeth Cymru am flaenoriaethu hyn, yna gallai fod wedi gwneud hynny, ac yn hytrach na beio San Steffan, dylai'r Gweinidog fod yn cymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am hynny.

Felly, wrth gloi, Dirprwy Lywydd, mae'r datganiad heddiw yn ymgais siomedig i bapuro dros y craciau, ac edrychaf ymlaen at drafod tri amcan pwynt bwled y Gweinidog gyda darparwyr prentisiaethau a chlywed eu barn ar waith Llywodraeth Cymru yn y maes hwn dros y misoedd nesaf.

15:55

Diolch i'r Aelod am ei sylwadau a'i gwestiynau. O ran yr amlen gyllideb sydd gennym, mae'n realiti na ellir ei wadu: mae gennym £1.3 biliwn yn llai yn ein cyllideb safonol o ran pŵer gwario mewn termau real, sy'n fwy na chyllideb gyfan bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg y llynedd. Nawr, mae hynny'n ffaith, nid barn, ac mae'n iawn i'r Aelod Ceidwadol honni nad oes gan hyn unrhyw beth i'w wneud â'i blaid, tra bod ein cyllidebau wedi gostwng mewn termau real, ac yna mynnu ar y diwedd, fel y gwnaeth, fod mwy o arian i'w gael yn y maes hwn a bron bob un arall. Os ydych chi'n cofio'r ddadl ddrafft ar y gyllideb a gawsom—[Torri ar draws.]

Arhoswch am eiliad Gweinidog. O'r ddwy ochr, hoffwn glywed ymateb y Gweinidog i'r cwestiynau a godwyd gan lefarydd y Ceidwadwyr. 

Os cofiwch chi'r ddadl ddrafft ar y gyllideb a gawsom, roedd bron pob siaradwr Ceidwadol yn mynnu gwariant ychwanegol ym mhob maes ar draws llinell gyllideb Llywodraeth Cymru: yn y trydydd sector, mewn amgueddfeydd, mewn prentisiaethau, ym maes iechyd, mewn addysg a llywodraeth leol. Ac fel y gŵyr yr Aelod—ac rwy'n gwybod y gall Paul Davies wneud rhifyddeg sylfaenol—os ydych chi'n cynyddu'r gwariant yn yr holl feysydd hynny, does gennych chi ddim cyllideb gytbwys. Mae'r syniad bod £1.3 biliwn o wastraff ac aneffeithlonrwydd y gellid eu gwasgu allan yn rhywbeth y mae'r Aelod yn gwybod yn dda iawn nad yw'n wir. A phan fo'r Aelod yn dweud, mewn gwirionedd, y dylem allu gwneud iawn am yr arian sydd wedi'i golli o ran cyllid yr UE, sydd wedi ei ddwyn oddi wrthym gan ei gyfeillion Torïaidd yn Whitehall, rwy'n credu y dylai fynd i gael gair gyda Chadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, oherwydd byddai'n dweud wrth Paul Davies fod heriau gwirioneddol mewn gwirionedd o ran colli'r arian hwnnw a'r ailgynllunio rhaglenni yn fwriadol i eithrio rhaglenni fel prentisiaethau o'r ffordd y mae'r arian hwnnw wedi'i gynllunio. Gallaf anfon â phleser yr adroddiad y mae'r Cadeirydd wedi'i ysgrifennu a'i gyflwyno yn y Siambr hon ato, os byddai'n well ganddo. Roedd ei gyfraniad yn fethiant eithaf digalon unwaith eto i sefyll dros Gymru a hanfodion sut y dylai ein cyllideb edrych, yn hytrach na mynnu bod yr holl broblemau a grëwyd gan reolaeth y Ceidwadwyr ar gyllid cyhoeddus yn cwympo ar ysgwyddau'r Llywodraeth hon.

Rwy'n falch iawn o ddweud ein bod yn falch o hyrwyddo prentisiaethau a byddwn yn parhau i wneud hynny ym mhob maes, gan gynnwys pan ddaw i bŵer adnewyddadwy. Ac mewn gwirionedd, mae gan y sir y mae'r Aelod ar hyn o bryd yn ei chynrychioli, o leiaf ran ohoni, ddyfodol disglair yn hyn o beth, fel y mae'r Aelod wedi nodi'n rheolaidd yn y Siambr hon. Rwyf wedi mwynhau mynd i weld pobl yn sir Benfro, yn y coleg a thu hwnt; rwy'n edrych ymlaen at fwy. Os cawn y dewisiadau buddsoddi cywir a wneir mewn porthladdoedd, gallwn ddatgloi hyd yn oed mwy o fuddsoddiad yn y sector hwnnw a llawer mwy—dylai hynny fod yn rhywbeth na ddylai fod yn rhy anodd i gytuno arno. Yn wir, cwrddais â mwy o brentisiaid heddiw pan ymwelais â William Hare yn etholaeth Islwyn, ac roeddwn yn falch iawn o'u cyfarfod, ochr yn ochr â'u stiward GMB, i ddeall sut mae'r busnes hwnnw'n gweithio gyda'r undeb a'r coleg lleol i ddod â mwy o brentisiaid i mewn, a'i daith i dyfu ei gwmni—mwy o enghreifftiau y mae arnom eu hangen ac, mewn gwirionedd, enghraifft dda o gyflogwr sydd eisoes yn bodloni ac yn rhagori ar yr her 5 y cant o ran sicrhau bod adnewyddu cyson o'u nifer newydd o brentisiaid.

Edrychaf ymlaen at bartneriaethau sgiliau rhanbarthol yn edrych eto ar yr hyn y mae angen iddynt ei wneud, i ymgysylltu â busnesau ac, yn wir, darparwyr, i ddeall anghenion presennol eu heconomi leol a rhanbarthol, a sut rydym yn sicrhau bod hynny'n cyd-fynd â'r hyn rydym yn ei wneud, nid yn unig gyda'r rhanbarthau, ond hefyd yn genedlaethol. Bydd mwy o waith i'w wneud i sicrhau bod ein cymysgedd presennol o'r holl ddeallusrwydd a gwybodaeth yn diwallu'r hyn y mae busnesau yn dweud wrthym eu bod eu hangen. Rwy'n credu bod mwy o waith y gallwn ei wneud—ac mae'r datganiad yn nodi hyn—rhwng partneriaethau sgiliau ac eraill. Mae rhywfaint o'r wybodaeth honno'n lleol iawn; mae peth ohoni, rwy'n credu, yn dod nôl i'r darlun cenedlaethol hefyd.

Byddwn yn parhau i wneud cynnydd ar brentisiaethau gradd. Gwelaf fod Dr David yn y Siambr gyda ni. Mae'n ddigon posib y bydd yn sôn am hyn, os bydd yn cael y cyfle, ond rydym eisoes wedi dechrau'r brentisiaeth gradd rheilffyrdd; mae ar waith. Ac rwyf wedi cyfarfod ag aelodau Unite yn General Electric ac Airbus, er enghraifft, lle, oherwydd eu bod yn dechrau trwy brentisiaeth yn y gweithle, yn aml maent yn cael cymwysterau lefel gradd o ganlyniad uniongyrchol i fuddsoddiad nid yn unig gan y Llywodraeth hon, ond gan y cyflogwr ei hun, wrth gydnabod y gwerth y maent yn ei gael o ran cael gweithlu mwy cynhyrchiol a busnes mwy proffidiol.

Ac rydym yn bwriadu gwneud dewisiadau bwriadol i barhau i ehangu amrywiaeth ein gweithlu prentisiaethau. Rwy'n falch fod yr Aelod wedi codi hyn yn ei gyfraniad. Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd, ond mae llawer mwy i'w wneud. Unwaith eto, lle'r oeddwn i'n ymweld heddiw, gweld rhywfaint o'r weldio yn digwydd—roedd yn ddiddorol, nid yn unig gweld y golau, ond deall y gwaith sydd wedi ei wneud yno ar gyfer HS2 ac, yn wir, gwaith sydd wedi ei wneud ar gyfer Hinkley hefyd—mewn gwirionedd roedd llond llaw o fenywod yn y gweithlu. Nid yw'r gwaith ei hun yn rhywbeth nad yw'n addas i weithwyr benywaidd. Mae yna her iddyn nhw gael y gweithlu sydd ei angen arnyn nhw, ac maen nhw'n cydnabod hynny fel busnes. Rwy'n falch mai dim ond un enghraifft ydyn nhw o fusnesau sydd eisiau ymgysylltu ag ysgolion a cholegau lleol, gyda dynion a menywod, ac mewn gwirionedd i sicrhau bod ganddynt yr ystod ehangaf bosibl o weithwyr yn dod i mewn i'w busnesau.

Ond rydym wedi gwneud dewisiadau bwriadol, er enghraifft, fel y nodais i yn y datganiad, ar gymhellion i bobl anabl ymgymryd â phrentisiaethau, i sicrhau bod y llwybr prentisiaeth yn llwybr go iawn drwyddo, a gall dysgu seiliedig ar waith ddarparu cyfleoedd go iawn ar gyfer gyrfa werth chweil sy'n cydnabod cryfderau'r bobl hynny. Ac fe wnaf ddod yn ôl at y pwynt hwn o gydnabod y cryfderau sydd gan bobl, oherwydd, ym maes anabledd ehangach, gan gynnwys anableddau dysgu, mae pobl yn aml yn gweld y gwahaniaeth a'r hyn na all y person hwnnw ei wneud o bosibl o'i gymharu ag eraill, yn hytrach na gweld beth y gallant ei wneud. Ac mewn nifer o feysydd lle mae cyfleoedd i ailsgilio a dysgu, mae pobl, er enghraifft, ar draws y sbectrwm awtistig, yn gallu gwneud pethau na all llawer o bobl eraill ei gwneud, ac mae'n gryfder go iawn ac yn bŵer ac yn bositif. Mewn seiber, ac ystod eang o feysydd digidol, maen nhw'n chwilio am bobl i fynd i'r meysydd hynny yn fwriadol oherwydd eu bod yn cydnabod bod ganddyn nhw werth gwirioneddol i'r cwmni hwnnw a lle maen nhw eisiau mynd o ran twf. Ac mewn gwirionedd, bydd hynny'n beth trawsnewidiol iawn i'r person hwnnw, cael gwaith da iawn lle mae pwy ydyn nhw'n cael ei gydnabod fel rhywbeth cadarnhaol go iawn, ac mae pobl eisiau iddyn nhw gerdded drwy'r drws, dod i mewn ac ymuno â rhan o dîm a helpu i'w wneud yn llwyddiannus. Rwy'n credu bod y dull gweithredu rydym yn ei fabwysiadu yn fwriadol yn ymwneud â gwneud hynny yn union: cydnabod ble mae pobl, i helpu i adeiladu ar y cryfderau sydd ganddyn nhw, er mwyn caniatáu iddyn nhw fod y person y gallent ac y dylent fod. Bydd hyn yn helpu ein heconomi a'r wlad ehangach. Rwy'n falch o'r dull rydym yn ei fabwysiadu. Mae'r datganiad hwn yn nodi beth arall y byddwn yn ei wneud ynghylch hynny, ac edrychaf ymlaen at gefnogaeth yr holl Aelodau wrth wneud hynny.

16:00

Dechreuaf gyda'r newyddion mawr: rwy'n croesawu gwrthdroi toriadau; mae'n gam i'r cyfeiriad cywir. Ond, er ei fod yn gam i'r cyfeiriad cywir, does dim gwadu bod dyfodol prentisiaethau yn dal i fod mewn lle ansicr, ac ni ddylem golli golwg ar hynny.

Un peth sydd wedi bod yn glir yn ystod y broses gyllidebol hon oedd y diffyg cyfathrebu clir rhwng y Llywodraeth a'r sector a'r pryder mawr a achoswyd gan hyn. Mae hyn yn mynd yn ôl i 2022. Ar ddechrau 2022, ymrwymodd y Llywodraeth i ddarparu cyllid i gymryd lle cyllid Ewropeaidd o gronfeydd wrth gefn. Beth ddigwyddodd yno? Cyn y gyllideb hon, dywedwyd wrth y sector am ddisgwyl toriad o 3 y cant, yna roedd yn doriad o 24 y cant, a nawr y gwrthdroad hwn—er ei fod i'w groesawu, nid yw'r ansicrwydd wedi bod yn dda i'r sector a'i gynllunio tymor hir.

Nawr, yr hyn rwy'n awyddus i'w weld yw gwaith ar draws y Llywodraeth a'r Senedd, y cyfeiriodd y Gweinidog ato, wrth gwrs, yn ei ddatganiad, i fod yn deg, ynghyd â'r sector, wrth gwrs, i fapio ein dull a'n strategaeth ar gyfer prentisiaethau. Beth fyddwn ni'n ei wneud â llwybrau prentisiaethau? Sut byddwn ni'n ymdrin â'r ardoll? Lle ydyn ni'n mynd ar ôl cronfeydd strwythurol? Yn y bôn, beth fydd y flaenoriaeth ar gyfer y gyllideb brentisiaethau wrth symud ymlaen?

Wrth gwrs, rydych wedi nodi eich tri amcan. Does dim byd i anghytuno ag o ran eu hegwyddorion, ond dyna beth ydyn nhw ar hyn o bryd, wedi'u hategu â llawer o iaith rheolwyr, os ydyn ni'n mynd i fod yn onest—dim camau clir. Yr hyn roedden ni eisiau ac angen ei weld yma oedd rhywfaint o gig ar yr esgyrn.

Nawr, comisiynodd y Llywodraeth adroddiad gan Hefin David, a dywedaf fod hwn yn edrych fel ychydig o ailwampiad o'i waith ef, ond roedd gan adroddiad Hefin gamau clir wedi'u nodi, llawer o bethau cadarnhaol ac adeiladol—mae adran 4 o arwyddocâd, rwy'n credu, mewn gwirionedd, i'r ddadl hon. Er enghraifft, y llwybr at brentisiaethau gradd: sut ydym ni'n strwythuro hwnnw? Sut ydyn ni'n edrych ar y prentisiaethau uwch hynny ac yn datblygu'r rheiny? Sut ydym ni'n ehangu'r cynnig? Wrth gwrs, fe wnaethom sôn am y ganolfan ragoriaeth ar gyfer rheilffyrdd, ond mae angen i ni ehangu ymhellach ar ein cynnig. Felly beth, mewn gwirionedd, sy'n digwydd gydag adroddiad Hefin nawr?

Dirprwy Lywydd, mae angen i ni gael hyn yn iawn. Gadewch i ni gofio na ellir gwrthdroi colli lleoedd prentisiaeth, a fydd yn dal i ddigwydd, wrth gwrs, yn y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd yn cymryd blynyddoedd i'w adfer. Felly, mae gwir angen i ni sicrhau'r perfformiad gorau o hyn ymlaen, felly byddwn yn croesawu rhagor o fanylion gan y Gweinidog am ble rydyn ni'n mynd o'r fan hon.

16:05

Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau. Fel erioed, rwy'n credu nad yw mor gadarnhaol ag y byddwn i ynghylch y dyfodol. Ac rwy'n credu fod hyn yn ddiangen hefyd. Mae dyfodol cadarnhaol i brentisiaethau yma yng Nghymru. Rydym yn buddsoddi £143 miliwn o gyllideb Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol yn y rhaglen brentisiaethau. Mae'n golygu y byddwn yn symud o 10,000 o bobl ychwanegol yn dechrau y flwyddyn nesaf i tua 13,000 o rai ychwanegol yn dechrau. Byddwn yn dal i ddisgwyl—. Dros gyfnod y Senedd hon, yn hytrach. Deng mil o rai ychwanegol yn dechrau cyn y £5.25 miliwn, hyd at 113,000 o rai ychwanegol yn dechrau dros y tymor cyfan. Mae hynny'n gynnydd o 13 y cant o'i gymharu â thymor y Senedd ddiwethaf. Go brin fod hynny'n cyfeirio at Lywodraeth nad yw'n buddsoddi yn nyfodol prentisiaethau; i'r gwrthwyneb yn union. 

Wrth gwrs, rydym eisiau gwneud mwy. A phe bai gennym fwy o adnoddau a'r sicrwydd ynghylch yr adnoddau y mae'r Aelod yn eu mynnu gennyf i—pe bai gennym y sicrwydd hwnnw—gallem wneud mwy, wrth gwrs. Y ffordd orau o wneud hynny, wrth gwrs, yw sicrhau bod yna gynrychiolwyr Llafur yn 10 ac 11 Downing Street i roi'r sicrwydd a maint a graddfa'r adnodd yr ydym ei eisiau, i gyflawni'r addewid i weld cyn-gronfeydd yr UE yn dychwelyd, pryd cymerwyd y rheolaeth yn ôl gan Weinidogion Torïaidd yn Whitehall. Rwyf eisiau gweld yr addewid a sicrhawyd gennyf i yn cael ei chyflawni a'r pwerau hynny'n dychwelyd yma i Gymru er mwyn i'r Llywodraeth hon eu harfer, ac i'r Senedd hon graffu ar y dewisiadau a wnawn wedyn.

Ac o ran y cyfleoedd rydyn ni wedi'u nodi, rwy'n falch iawn o weld dylanwad Hefin David yn cael ei gydnabod yn yr adroddiad hwn yn yr ail gyfraniad. Mae'n ymwneud â'r ffaith, pan fyddwch chi'n gofyn i rywun wneud darn o waith i roi her, beirniadaeth a chyfle i chi, yna mae i fod i gael dylanwad ar yr hyn rydych chi'n ei wneud, ac nid eistedd ar silff yn unig. Felly, mewn gwirionedd, mae'n gadarnhaol ein bod wedi gofyn am y gwaith a nawr gallwch ei weld yn dod drwy'r datganiad. A'n her yw—. Yn y datganiad, yr hyn yr ydym yn ei wneud yw ein bod yn nodi ein hamcanion lefel uchel ar gyfer y cyflawniad hwnnw, fel y gall y comisiwn fynd ymlaen â'r gwaith yr ydym wedi'i osod iddo, a'r ffaith bod y Senedd hon wedi pasio'r Bil i greu'r comisiwn, i sicrhau bod hynny'n cael ei gyflawni mewn gwirionedd. Mae angen i'r holl randdeiliaid weithio o gwmpas y datganiad hwn i sicrhau ei fod yn real. Dyna'r darparwyr, y busnesau a'r bobl yr ydym eisiau eu helpu i ailsgilio yn y dyfodol hefyd.

Ac mae amrywiaeth o bobl wedi bod yn rhan o'r sgwrs am y datganiad hwn, sy'n croesawu'r ffaith ein bod wedi gwneud y cynnydd hwn heddiw. Ac felly, y rhanddeiliaid busnes hynny, y darparwyr—maen nhw'n cydnabod pam rydyn ni'n gwneud hyn ac rydw i'n meddwl, wrth i ni fynd drwodd, gan edrych ar ein cyfleoedd sero net a'r ystod o gyfleoedd sgiliau sydd gennym, fe welwch brentisiaethau sydd wedi'u dylunio ac yn addas i'r diben. Dyna'n union yw'r datganiad polisi: mae'n ddatganiad polisi gyda blaenoriaethau, a byddwch yn gweld y ddarpariaeth sy'n dod ochr yn ochr ag ef. Nid oedd heddiw byth yn mynd i fod yn fater o gael cynllun cyflawni penodol ar draws ystod o sectorau unigol, ond bydd yr arian y gallwn ei roi yn ôl i'r gyllideb brentisiaeth yn gwneud gwahaniaeth. Bydd hyn yn golygu y bydd mwy yn dechrau y flwyddyn nesaf. Bydd yn dal i fod yn rhan o'r hyn a wnawn i gyfrannu at y dyfodol. Rwy'n dal i fod yn argyhoeddedig bod prentisiaethau a dysgu ehangach yn y gweithle yn hanfodol i'n dyfodol economaidd, wrth sicrhau bod gennym y sgiliau cywir i ddiwallu anghenion yr economi sy'n cael ei chreu o'n cwmpas ni a gennym ni hefyd.

Gwn fod Hefin David yn cael ei grybwyll yn aml heddiw, ond roeddwn i yn ei etholaeth yn gynharach heddiw. Dewisais fynd ar ddiwrnod pan na allai fod yno, ond dyna ni; wnawn ni ddim mynd yn rhy ddwfn i mewn i hynny. [Chwerthin.] Roedd yn ymwneud â busnes sydd â lefel uchel o ymchwil a datblygu ynddo, ac maen nhw'n gobeithio symud o fod yn fusnes ymchwil a datblygu i botensial i weithgynhyrchu. Rwy'n credu bod hynny'n gyffrous iawn, oherwydd mae hwnnw'n fusnes a ddechreuodd gyda chymorth grant gan Lywodraeth Cymru yn 2010—felly, cyn i mi gael fy ethol—ac rydych chi nawr yn gweld, dros fwy na degawd, ei fod yn fusnes sydd bellach yn barod i symud i wahanol feysydd, gyda mwy o gefnogaeth gan y Llywodraeth hon, ac, yn wir, rhai grantiau y mae wedi'u hennill gan Lywodraeth y DU.

Ond dyma'r amgylchedd yr ydym yn gobeithio ei greu, lle mae prentisiaethau'n rhan o'r hyn yr oedd y cwmni hwnnw ei angen i fynd i le mae angen iddo fynd, ac, wrth iddo barhau i gynyddu nifer ei gyflogeion yn y dyfodol, bydd mwy o brentisiaethau yno, nid llai. Maent yn deall y cyfeiriad yr ydym yn ceisio ei gymryd, ac rwy'n credu ei bod unwaith eto yn enghraifft dda iawn o ble mae gan brentisiaethau werth gwirioneddol mewn busnesau cynhyrchiol yn y dyfodol yr ydym yn bwriadu eu creu yma yng Nghymru, ac nid prynu o rannau eraill o'r byd yn unig.

16:10

Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am y datganiad heddiw? Fel y gwyddoch chi, rwy'n angerddol am y cyfleoedd prentisiaeth yng Nghymru oherwydd y cyfleoedd prentisiaeth a gefais i pan wnes i fwrw fy mhrentisiaeth rai blynyddoedd yn ôl. Mae busnesau yn y gogledd-ddwyrain yn dibynnu ar raglenni prentisiaeth o safon yn parhau i dyfu ac i barhau i chwarae'r rôl hanfodol y maent yn ei chwarae o ran adeiladu mwy o gartrefi, ôl-osod cartrefi presennol, a chyflawni sero net mewn ystod o sectorau yng Nghymru.

A gaf i ofyn i'r Gweinidog pa sicrwydd y gall ei roi i gwmnïau fel M.A. Cooper Projects Ltd, busnes contractio trydanol a mecanyddol yng Nglannau Dyfrdwy, y byddaf yn ymweld ag ef yn ystod yr wythnosau nesaf? Yn yr ohebiaeth a gefais ganddyn nhw, mae'n amlwg i mi eu bod eisiau gweld bod cefnogaeth i'w prentisiaid presennol a'r dyfodol ar waith a bod y rhagolygon hirdymor ar gyfer gyrfa i filoedd o bobl ifanc yn cael eu diogelu ledled Cymru. Diolch.

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Nid oeddwn i wedi gwerthfawrogi bod yr Aelod wedi bod yn brentis mewn bywyd blaenorol; rwyf wedi dysgu rhywbeth. [Chwerthin.] Ond mae'n bwysig, ac rwy'n credu ei fod yn rhan o'r amrywiaeth a gawn yn y Senedd, gyda phrofiadau gwahanol. Roedd gen i fywyd gwaith penodol cyn dod yma, ac rwy'n credu ei fod yn gryfder gwirioneddol bod gennych chi rywun sydd wedi'i bwrw prentisiaeth ac sydd wedi bod yn beiriannydd mewn bywyd go iawn cyn dod yma. Mae'r math hwn o ymdeimlad gwahanol o bersbectif i'w groesawu'n fawr ac yn bwysig.

Pan fyddwch chi'n ymweld â'ch busnes etholaeth yng Nglannau Dyfrdwy, rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud bod y datganiad hwn yn nodi bod prentisiaid yn rhan allweddol o'r dyfodol o ran tyfu'r economi mewn bron pob sector. P'un a ydych chi'n adeiladwr trydanol neu fecanyddol, neu p'un a ydym ni, yn wir, yn y sector adeiladu, y gwn eich bod yn cymryd diddordeb dwfn ynddo hefyd, byddwn dim ond yn cyrraedd yno i gael y canlyniadau yr ydym eu heisiau o ran ansawdd y cynhyrchion yr ydym eu heisiau, ansawdd yr adeiladu yr ydym ei eisiau, ac mewn gwirionedd y swyddi yr ydym eisiau i bobl eu cael yma, os wnawn ni barhau i fuddsoddi yn y gweithlu. Mae hynny'n bartneriaeth rhwng y Llywodraeth a'r hyn yr ydym yn barod i'w wneud, rhwng darparwyr sy'n cyflawni, ac, wrth gwrs, busnes eu hunain, y mae angen iddynt barhau i fuddsoddi yn eu gweithlu. Yn gyffredinol, mae angen i fusnesau wneud mwy i fuddsoddi yn nyfodol eu gweithlu. Mae'r cyllid hwn yn ymwneud â datgloi rhywfaint o hynny a gweld y manteision tymor hwy o ran gwella sgiliau eich gweithlu, ac mae bron bob amser yn arwain at fusnes mwy cynhyrchiol a phroffidiol.

Ac mewn gwirionedd dyna'r peth iawn i'w wneud i weithwyr hefyd, i gael mwy o ddiogelwch yn eu gweithle, i sicrhau nad yw gwaith yn diflannu i ran arall o'r byd. Byddwn ni dim ond yn gallu gwneud hynny drwy gystadlu ar sgiliau, yn hytrach nag ar ostwng cyflogau hefyd. Felly, rwy'n dymuno'n dda i'r Aelod ar ei ymweliad, ac mae'n siŵr y byddwn yn parhau i siarad am yr hyn y gall y dyfodol ei gynnig.

Gweinidog, diolch am eich datganiad. Er, yn amlwg, rwy'n croesawu'r ffaith eich bod nawr wedi ailfeddwl, ac, wrth gwrs, rydym yn falch o weld bod rhai o'r toriadau wedi cael eu gwrthdroi, ar y cyfan, Gweinidog, sut bynnag rydych chi'n ei wisgo—ac rydych chi'n ceisio ei wisgo'n dda iawn—rydych chi wedi torri eich ymrwymiad maniffesto, ac mae'r toriad cyllid prentisiaethau yn dal i ddigwydd. Mae hyn wedi arwain yn naturiol at brotestio yn y sector addysg, a bydd dim ond yn niweidio rhagolygon pobl Cymru yn y dyfodol.

Mae gwella sgiliau i fod wrth wraidd strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru, ac rydych newydd ailadrodd y dadleuon pam y mae'n hanfodol gwneud hynny. Ac eto, o ganlyniad i'r toriad hwn o ran cyllid, rhagwelir y bydd gan y sector filoedd yn llai o brentisiaethau yn dechrau'r flwyddyn nesaf, hyd yn oed gyda'r cyhoeddiad heddiw. Mae'r toriadau creulon hyn ar ben y £17.5 miliwn sydd eisoes wedi'i dorri o brentisiaethau gan y Llywodraeth Lafur hon, i gyd tra bod Lloegr yn ehangu ei chynnig, ymhell o'n blaenau o ran amrywiaeth a dewis, gan addasu i'r byd modern a'i ofyniadau newydd. Mae gweddill y DU wedi dod o hyd i'r arian, maen nhw wedi blaenoriaethu prentisiaethau, a gyda mwy o arian yn mynd i brentisiaethau dros y ffin a gweddill y DU, ac maen nhw'n blaenoriaethu hynny yn fwy nag yma, sut ydyn ni'n mynd i ddenu mwy o bobl i Gymru a chadw pobl yng Nghymru, pan, yn amlwg, ni yw'r berthynas dlawd yn y DU o ran prentisiaethau? A ydych yn hapus iawn, Gweinidog, gyda chynnig prentisiaeth Cymru o dan eich goruchwyliaeth gan dorri ymrwymiad maniffesto eich Llywodraeth?

16:15

Wel, diolch am y sylw. Rwy'n falch bod yr Aelod yn meddwl fy mod wedi gwisgo'n dda. Ond mewn gwirionedd, o ran yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud yn y maes hwn, mae'n amlwg ein bod wedi gweld toriadau i gyllid prentisiaethau yma yng Nghymru o ganlyniad uniongyrchol i'r dewisiadau a wneir gan y Llywodraeth y mae'n ei chefnogi. Pan gyflwynwyd yr ardoll prentisiaethau, cafwyd toriad o £8 miliwn i £9 miliwn yn y cyllid oedd ar gael i Gymru i ariannu prentisiaethau. A phan edrychwch chi ar—[Torri ar draws.]

Rhaid i'r Aelod ganiatáu i'r Gweinidog ymateb i'r cwestiynau y mae hi wedi'u gofyn iddo heb geisio gofyn cwestiynau eraill iddo.

Pan edrychwch ar gyllid cymharol, mewn gwirionedd, rydym yn dal i wneud yn llawer gwell na Lloegr dros y ffin. Rwy'n ddryslyd ynghylch sut y gall yr Aelod feddwl bod du yn wyn ar y mater hwn. Y gwir yw nad yw cymryd arian allan yn yr ardoll brentisiaethau a'i ail-roi yn ôl i gwmnïau yn Lloegr, fel y gwnânt, yn gyfystyr â mwy o arian yn cael ei wario ar brentisiaethau yn Lloegr. Mae ein hanes o ran nifer y prentisiaid sydd gennym, o ran y cyfraddau cwblhau a'r gwerth yn dal yn sylweddol ac yn wrthrychol yn well nag ar draws y ffin, ac nid oes ots faint o siarad dwbl y mae'r Aelod yn ei gynnig.

Rwy'n cytuno, serch hynny, ei bod bob amser yn anodd pan fydd addewidion maniffesto yn cael eu torri. Rwy'n cytuno â hi, mae toriadau llym yn y gyllideb: £1.3 biliwn o doriadau i'r gyllideb y mae'r Senedd hon bellach yn gorfod ymgodymu â nhw wrth basio cyllideb. [Torri ar draws.] Mae ymhell dros £1 biliwn o doriadau o gronfeydd blaenorol yr UE wedi'u cadw yn Lloegr er mwyn i Whitehall benderfynu, yn hytrach nag arian y gellid ac y dylai fod wedi'i wario yma. Ac os ydych chi'n meddwl eto am addewidion maniffesto sydd wedi'u torri, bu dau faniffesto Ceidwadol olynol a oedd yn addo y byddai darparu ceiniog am bob un geiniog a oedd yn dod allan o'r Undeb Ewropeaidd i ni yma yng Nghymru a phob rhan arall o'r DU a oedd wedi cael mynediad at y cronfeydd hynny o'r blaen. [Torri ar draws.] Yn syml, nid yw'n wir fod yr addewid maniffesto hwnnw hyd yn oed wedi dod yn agos at gael ei gadw. Felly, pan fydd yr Aelod yn siarad am addewidion maniffesto nad ydynt yn cael eu cadw, pan fydd hi'n sôn am doriadau difrifol yn y gyllideb, pan fo hi eisiau gweld pwy sy'n gyfrifol am y rheini, y cyfan sydd angen iddi ei wneud yw buddsoddi mewn drych a bydd hi'n gweld pwy yn union sy'n gyfrifol.

Byddwn i'n dweud, ar yr ardoll prentisiaethau, yr hyn sydd yma yw treth Llywodraeth y DU ar fusnesau yng Nghymru nad yw'n dychwelyd i fusnesau yng Nghymru yn yr un ffordd ag y mae'n dychwelyd yn Lloegr. Mae hon yn ffaith ddiamheuol.

Y peth arall y byddwn yn ei ddweud yw fy mod yn ddiolchgar iawn i lefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher, a'r Gweinidog am grybwyll fy adroddiad. Byddwn i'n llawer rhy ddiymhongar i wneud hynny fy hun, ond nawr eu bod nhw wedi—[Chwerthin.] Ond nawr eu bod nhw wedi—[Chwerthin.] Sylwais yn yr adroddiad ei fod yn dweud mai'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil fydd y corff allweddol a fydd yn cynnig cyfle i gysylltu rhwng systemau addysg a hyfforddiant, lle gall prentisiaethau gydweithio â rhaglenni addysg eraill i ddarparu mynediad llyfn. Hynny yw, roedd hynny'n rhoi sail allweddol ar gyfer yr hyn roeddwn i'n ei awgrymu yn fy adroddiad ac rwy'n falch o'i weld yn cael ei ailadrodd, ond, fel y dywed Luke Fletcher, sut ydyn ni'n mynd i wneud hynny?

Un o'r pethau a amlygais yn fy adroddiad oedd gwaith Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot ac Ysgol Uwchradd Llanidloes, sydd, er bod gan Ysgol Uwchradd Llanidloes chweched dosbarth, yn dal i weithio'n effeithiol iawn gyda'i gilydd i sicrhau'r broses honno hyd at addysg bellach, lle mae disgyblion eisiau gwneud hynny. Felly, mae rhai enghreifftiau da iawn o arfer gorau yng Nghymru. A allwn ni weld rhai rhaglenni treialu sy'n cymhwyso'r arfer da hwnnw mewn mannau eraill yng Nghymru, fel yn fy etholaeth i yng Nghaerffili? Rwy'n credu bod rhai cyfleoedd gwirioneddol i ehangu'r arfer da hwnnw ledled Cymru.

Diolch am y ddau bwynt mawr. I ddechrau, mae'n fater o ffaith, nid barn, bod yr ardoll brentisiaethau yn dreth y DU ar brentisiaethau; mae'n tynnu arian allan o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, lle nad yw'r arian yn gallu mynd yn ôl ac mae'n bwriadu ailddosbarthu hwnnw. Mae'n sgâm nad yw'n darparu arian ychwanegol mewn gwirionedd i brentisiaethau o gwbl, ac nid oes gennym fynediad iddo yn iawn yng Nghymru, ychwaith.

O ran eich pwynt ynghylch y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil a'r perthnasoedd ymarferol y mae angen iddynt eu cael, ac yna, mewn gwirionedd, y perthnasoedd i adeiladu ar yr arfer da sydd eisoes yn bodoli, rwy'n cytuno ag ef. I fod yn deg, mae'n rhywbeth na fydd ef yn synnu o glywed bod y Gweinidog addysg a minnau yn cytuno'n fras arno, ynglŷn â sut rydym yn edrych ar yr hyn sydd eisoes yn gweithio, oherwydd mae rhywfaint o hynny yn ymwneud ag ehangder y rhaglen sydd ar gael i bobl ôl-16, os oes chweched dosbarth wedi'i sefydlu ai peidio, deall sut rydych chi'n dal i gael mynediad at y gefnogaeth a'r arweiniad cywir. Beth yw'r peth iawn i'r myfyriwr hwnnw? Beth y mae'n gallu ei wneud a beth yw ei ragolygon gorau ar gyfer gwneud dewisiadau sy'n cyd-fynd â'r hyn y mae eisiau ei wneud a'r hyn y mae'n gallu ei wneud, mewn ffordd gadarnhaol iawn?

Mae yna enghreifftiau ar draws Caerdydd, lle mae system gymysg, hefyd, er enghraifft. Felly, mae gan rai ysgolion chweched dosbarth, rhai ddim. Mae'r ymgysylltiad â'r coleg AB lleol yn bwysig iawn i sicrhau eu bod yn cael ehangder y cyfle sy'n bodoli. Mae rhywfaint o hynny hefyd cyn 16, oherwydd, i rai pobl, gallai cwricwlwm ehangach y gallai coleg addysg bellach ei gyflwyno fod y peth iawn i'w wneud iddyn nhw hefyd.

Felly, rwy'n awyddus i fwrw ymlaen ag un o negeseuon canolog o'i adroddiad, sef sut rydych chi'n sicrhau bod y dysgwr wrth wraidd y dewisiadau, a bod y system, cyn belled ag y bo modd, yn gweithio i alluogi'r person hwnnw wneud ei ddewisiadau. Rhaid i hynny olygu meddwl am sut mae addysg bellach, yn ogystal â'r chweched dosbarth, yn rhan o'r hyn a allai ddigwydd. Felly, mae gen i ddiddordeb mewn edrych nid yn unig ar yr hyn sydd eisoes yn gweithio, ond i geisio'n raddol gyflwyno hynny mewn gwahanol rannau o'r wlad, oherwydd rwy'n credu y byddai hynny'n dda i'r unigolyn, byddai'n dda i'w cymuned ac, mewn gwirionedd, yn dda i'r wlad hefyd, os ydym eisiau gweld gweithwyr gwirioneddol gynhyrchiol yn gwneud dewisiadau, sy'n gallu gwneud eu dewisiadau eu hunain trwy fywyd ac, yn wir, yn ennill bywoliaeth dda.

16:20

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu datganiad y Llywodraeth heddiw, ac, yn wir, y datganiad polisi prentisiaethau sy'n cyd-fynd ag ef hefyd. Fel fy nghyd-Aelod, Luke Fletcher, gan ein bod yn cyd-gadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar brentisiaethau a sefydlwyd yn ddiweddar, rwy'n croesawu'r gwaith o adfer £5.2 miliwn i'r gyllideb brentisiaethau, gan fynd â hi nawr i £143 miliwn y flwyddyn nesaf. Bydd hi'n dal yn hynod o dynn, heb unrhyw amheuaeth o gwbl, ond mae'n adferiad i'w groesawu o ran y cyllid hwnnw.

Ond a gaf i droi at ran o'r datganiad polisi go iawn, lle mae'n dweud:

Mae COVID-19 a'r argyfwng costau byw wedi effeithio ar gyfraddau llwyddiant y rhaglen lle y cafwyd gostyngiad yn nifer y bobl sy'n ei chwblhau'?

Daw hyn ar gefn, mewn gwirionedd, dadansoddiad gan Lywodraeth Cymru ddiwedd yr hydref diwethaf, rwy'n credu, a edrychodd ar ganlyniadau prentisiaethau yn ôl enillion, a ddywedodd fod dysgwyr a enillodd lai yn llai tebygol o gwblhau eu prentisiaethau yn llwyddiannus; roedd y gostyngiad mwyaf yn y gyfradd lwyddo ar gyfer y rhai a enillodd lai na £15,000; a bod gan brentisiaid cyflog isel sy'n byw mewn cymdogaethau difreintiedig gyfraddau llwyddiant is na phrentisiaid cyflog isel sy'n byw mewn cymdogaethau llai difreintiedig. Sut ydyn ni'n datrys hyn? Ac ar ran Luke, fi ac aelodau eraill y grŵp trawsbleidiol, a fyddech chi'n dod i'r grŵp trawsbleidiol hwnnw ac yn trafod y datganiad polisi a sut y gallwn gydweithio i adeiladu'r dyfodol uchelgeisiol hwnnw ar gyfer prentisiaethau y mae'r Gweinidog wedi'i nodi?

Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod bod y £5.25 miliwn dim ond yn bosibl ers i ni gyhoeddi'r gyllideb ddrafft, ac rwy'n falch iawn ein bod yn gallu adfer yr arian hwnnw, ond mae her gyffredinol, oherwydd y dibyn mewn cronfeydd Ewropeaidd. Nid wyf erioed wedi ceisio seboni ynghylch hynny ac esgus nad yw hynny'n digwydd, ond mae'n dal i ymwneud â'r hyn a wnawn i gynnal y system ehangach sydd gennym o ran darparwyr a'r ehangder o ddewis yr wyf yn credu yr oedd Hefin David yn cyfeirio ato hefyd, ond hefyd sut rydyn ni'n sicrhau bod eu canlyniadau a'u cyfraddau cwblhau—. Rydyn ni wedi bod yn hynod falch o'r hyn rydyn ni wedi'i wneud.

Mae'r pandemig wedi rhoi heriau penodol i ni, ond y mae wedi amlygu'r realiti y byddai'r cyfraddau cwblhau, hyd yn oed yn y gorffennol, yn amrywio yn ôl grŵp economaidd-gymdeithasol. Mae'n ymwneud â'r gefnogaeth y gallwn ei darparu'n ymarferol. Felly, nid yw hynny'n ymwneud â theithio a chynhaliaeth yn unig, mewn gwirionedd mae'n ymwneud â faint y gall pobl ei ennill, ac mae hynny'n sgwrs gyda'r darparwyr am yr hyn y gallant ei wneud i chwarae eu rhan. I rai prentisiaid, wrth gwrs, dim ond am ddiwrnod yr wythnos y gallant fod yn y coleg, felly efallai nad y rhan coleg yw'r rhan fwyaf o'u cwrs, felly mae'n ymwneud â'r hyn a wnawn gyda'r busnesau eu hunain a'r gydnabyddiaeth po fwyaf y gallant ei wneud i gynnal y person hwnnw, y mwyaf tebygol y byddant o gael rhywun a fydd yn aros tan ddiwedd y cwrs, i gwblhau a pheidio â gweld o bosibl hanner prentisiaeth nad yw wedi'i chwblhau wedyn.

Felly, rwy'n optimistaidd ynghylch y sgwrs a gawn gyda nifer o fusnesau, ond mewn gwirionedd, yn sylfaenol, mae'n ymwneud â sut y gallwn gefnogi busnesau i wneud mwy i gefnogi eu dysgwyr. Oherwydd fel y bydd yr Aelod yn gwybod o chwilio'n drylwyr drwy linellau'r gyllideb, nid oes llawer o fraster ar ôl. Mewn gwirionedd, rydym yn dal i orfod gwneud dewisiadau ofnadwy mewn rhannau eraill o'r gyllideb i sicrhau bod yna gyllideb sy'n cydbwyso, ac mae hynny'n anghyfforddus iawn. Felly, mae'n ei gwneud yn bwysicach fyth fod ein rhanddeiliaid yn deall y bydd yr hyn y gallant ei wneud yn gwneud gwahaniaeth i'r canlyniad y maent ei eisiau hefyd, sef gweithlu â chymwysterau a sgiliau uchel iawn a fydd yn deyrngar i'r busnes hwnnw.

O ran y cynnig caredig iawn i fynychu'r grŵp trawsbleidiol—

Yn wir. Efallai y byddaf yn gallu sicrhau presenoldeb aelod gwahanol o'r Llywodraeth yn dibynnu ar yr amgylchiadau yn ystod yr wythnosau nesaf. Ond byddaf yn hapus iawn i sicrhau ein bod yn parhau i ymgysylltu'n briodol â'r grŵp trawsbleidiol, oherwydd credaf fod sgwrs fwy gwybodus am brentisiaethau ar gyfer y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yma yn y Senedd yn beth da mewn gwirionedd, yn ogystal â'r ymgysylltu â chymuned lawer ehangach o fusnesau hefyd.

16:25
7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Creu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i'r afael â fepio ymhlith pobl ifanc
8. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Mis Hanes LHDTC+

Felly, eitem 8 sydd nesaf, datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar Fis Hanes LGBTQ+, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Hannah Blythyn.

Mae Mis Hanes LGBTQ+ yn gyfle i weld faint rydyn ni wedi symud ymlaen yn y frwydr dros hawliau pobl LGBTQ+ a dathlu eu bywydau.

Rydyn ni yma heddiw yn siarad yn agored am hawliau LHDTC+ oherwydd yr holl bobl a ddaeth o'n blaenau ni a'r arloeswyr sydd wedi paratoi'r ffordd fel rhan o'n hanes diweddar iawn. Ychydig fisoedd yn ôl, fe wnaethom nodi ugeinfed pen-blwydd diddymu adran 28. Hyd at 2003, roedd cyhoeddi deunydd ac addysgu am gyfunrywioldeb yn anghyfreithlon. Mae gwaddol parhaol hyn yn dal yn amrwd i lawer, a'i effeithiau i'w teimlo heddiw.

Mae dechrau mis Mawrth yn nodi deugain mlynedd ers streic y glowyr, moment ddiffiniol yn ein hanes cyfunol yma yng Nghymru ac un a oedd wedi gwleidyddoli llawer ohonom. Daeth â dwy gymuned a oedd wedi'u polareiddio yn wleidyddol ynghyd mewn achos cyffredin mewn cymuned lofaol yng Nghymru, wrth i'r mudiad Lesbiaid a Hoywon yn Cefnogi'r Glowyr—LGSM—gynnal ralïau a chodi arian i gefnogi glowyr yn Onllwyn yn nyffryn Dulais.

Yn fwy diweddar, rydym wedi dathlu cerrig milltir fel yr ymgyrch lwyddiannus dros gydraddoldeb priodas—rhywbeth yr wyf yn falch o fod wedi chwarae rhan bersonol fach ynddi yn ogystal ag oed cydsynio cyfartal, diwedd ar wahaniaethu mewn nwyddau a gwasanaethau, a chydnabod rhywedd yn y gyfraith. Fodd bynnag, mae llawer mwy i'w wneud o hyd. Nid yw cynnydd byth yn anochel, ac mae'n rhaid i ni barhau i weithio i wneud y newid yr ydym eisiau ei weld a'i gyflawni.

Flwyddyn yn ôl, cyflwynais ein 'Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru' i'r Senedd. Mae'r cynllun hwn yn parhau i fod yn ddatganiad grymus o'n penderfyniad i sicrhau'r Gymru gynhwysol a chyfartal yr ydym i gyd eisiau ei gweld. Ond gwyddom nad yw geiriau heb weithredu yn ddigon, ac ers i ni lansio'r cynllun gweithredu, rydym wedi parhau i fwrw ymlaen â chynnydd.

Rydym yn gwybod gwerth digwyddiadau Pride a'r gwahaniaeth y gallant ei wneud i gymunedau LHDTC+, felly rydym wedi ehangu ein cronfa Pride ar lawr gwlad i gefnogi digwyddiadau Pride ledled Cymru, fel y gall mwy o gymunedau ddod at ei gilydd. Rydym wedi cynnig cefnogaeth i lawer o ddigwyddiadau Pride ledled y wlad, gan gynnwys Pride in the Port yng Nghasnewydd, Pride Abertawe, Balchder Gogledd Cymru, Glitter Pride gan Glitter Cymru, Pride y Fenni, Pride y Gelli, Pride Bae Colwyn, Pride y Bont-faen, a mwy.

Hefyd, roedd Llywodraeth Cymru wedi cefnogi Mas ar y Maes yn yr Eisteddfod ym mis Awst y llynedd, lle ymunais â’r Aelod dynodedig i lansio Camp Cymru ac, fel dysgwr, rhoddais i araith cwbl Gymraeg am y tro cyntaf.

Gan weithio gyda Phlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio, rydym hefyd wedi cymryd camau tuag at ein hymrwymiad i weld diwedd ar arferion trosi. Rydym yn ehangu gwasanaethau cymorth i oroeswyr arferion trosi ledled Cymru ac mae gweithgor o arbenigwyr wedi rhoi cyngor ac arbenigedd i ni i lywio ein hymdrechion i fwrw'r arferion hyn i ebargofiant. Rydym ar fin cwblhau ein hymchwil i brofiadau goroeswyr arferion trosi yng Nghymru, a ddechreuodd ym mis Mai 2023, ochr yn ochr ag ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o'r arferion niweidiol hyn. Ac mae ein gwaith hefyd yn parhau i ymgorffori cynhwysiant mewn addysg, o'n cwricwlwm cynhwysol ac addysg cydberthynas a rhywioldeb, i'r gwaith rydym yn ei wneud ar ganllawiau trawsryweddol i ysgolion, a fydd yn cael eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad dros yr ychydig fisoedd nesaf.

Ym mis Mehefin 2023, gwnaethom gyhoeddi ein harolwg tracio cynllun gweithredu arloesol LHDTC+, fel y gall pawb weld sut rydym yn symud ymlaen gyda'n cynllun uchelgeisiol ac eang. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth am wasanaethau arbenigol i gefnogi cymunedau LHDTC+ Cymru. Ac er ein bod yn parhau i ddal ein hunain yn atebol, rydym yn falch o'r gydnabyddiaeth y mae ein gwaith i gefnogi cydraddoldeb LHDTC+ wedi'i gael. Ym mis Ebrill y llynedd, fe wnaeth arbenigwr annibynnol y Cenhedloedd Unedig ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd gydnabod 'Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru' yn eu datganiad diwedd cenhadaeth fel

'enghraifft o arfer da wrth lunio polisi hawliau dynol.'

Ac ym mis Tachwedd 2023, cyflwynwyd gwobr Prif Swyddog Gweithredol Traws yn y Ddinas i Lywodraeth Cymru am gyflawniadau rhagorol wrth gefnogi cymunedau traws ac anneuaidd.

Wrth i ni symud ymlaen i roi'r camau gweithredu yn ein cynllun gweithredu LHDTC+ ar waith, rydym yn parhau i fod yn glir ein bod, yma yng Nghymru, yn sefyll am undod dros raniad, cynhwysiant yn hytrach nag allgáu, a gobaith nid casineb. Mae Llywodraeth Cymru yn sefyll ynghyd â'n cymuned LHDTC+ yng Nghymru ac oddi mewn iddi. Rydym yn ailymrwymo ein hunain i gefnogi pobl draws ac anneuaidd ac mae ein safbwynt yn parhau i fod yn glir: rydym yn credu bod dynion traws yn ddynion, mae menywod traws yn fenywod ac mae hunaniaethau anneuaidd yn ddilys.

Dirprwy Lywydd, yn rhy aml, gwelwn ymdrechion i rannu'n fwriadol, ceisio dileu hunaniaethau LHDTC+, normaleiddio gwahaniaethu a sbarduno casineb yn ein herbyn. Yn anffodus, mae'r naratif niweidiol hwn yn parhau i fod yn dreiddiol o fewn trafodaethau cyhoeddus ac ar y cyfryngau. Ni ddylid gosod hawliau un grŵp yn erbyn hawliau pobl eraill ac nid oes lle i hierarchaeth casineb. Dyna pam rydyn ni'n glir bod rhaid i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu Cymru fwy cyfartal gynnwys pawb—Cymru lle mae pawb yn cael ei werthfawrogi, diogelwch pawb yn cael ei warchod ac mae pawb yn rhydd i fyw fel nhw eu hunain.

Mae gan bob un ohonom y cyfle a'r gallu i newid hanes, i greu dyfodol tecach, heb adael unrhyw un ar ôl. Rwy'n ddiolchgar i gymunedau LHDTC+ yng Nghymru sydd wedi rhannu eu hamser a'u profiadau bywyd gyda ni yn hael. Rwy'n gwybod nad yw hynny bob amser yn hawdd, a gwn y gall newid gymryd amser weithiau, ond ni fyddai ein gwaith a'r ffordd ymlaen yn bosibl heb y cyfraniadau hynny.

Felly, y Mis Hanes LHDTC+ hwn a bob mis, gadewch i ni anrhydeddu gwaddol y rhai a fu'n byw drwyddo a'r rhai y mae eu bywydau wedi'u torri'n rhy fyr o lawer trwy barhau i weithio gyda'n gilydd i greu'r Gymru yr ydym eisiau ei gweld a dod y genedl fwyaf cyfeillgar i LHTDC + yn Ewrop. Diolch.

16:30

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Wrth i Fis Hanes LHDT+ ddirwyn i ben, hoffwn ddiolch i Schools OUT am sefydlu'r dathliad hwn o amrywiaeth a chreu cyfle pwrpasol i rannu'r hanes cyfoethog ac amrywiol hwn o gymunedau LHDT fel y gallai pawb ddysgu am y cyfraniadau y mae'r gymuned yn eu gwneud i gymdeithas. Rwy'n defnyddio'r term 'cymuned LHDT' i barchu dymuniadau'r un a greodd Mis Hanes LHDT+, a ddewisodd beidio ag ychwanegu C gyfer 'cwiar' gan fod rhai cymunedau'n dal i'w gysylltu ag adeg pan ddefnyddiwyd 'cwiar' mewn ffordd negyddol.

Rydym yn dathlu Mis Hanes LHDT+ ym mis Chwefror i nodi'r diddymiad hwn o adran 28. Roeddwn i'n falch pan wnaeth David Cameron ymddiheuro am adran 28. Ni ddylai'r darn o ddeddfwriaeth atgas hon fod wedi cael ei chyflwyno gan fy mhlaid i erioed. Ond yn yr 20 mlynedd ers ei diddymu, mae'r Ceidwadwyr wedi cymryd camau breision wrth amddiffyn hawliau'r gymuned LHDTC+. Llywodraeth Geidwadol a weithredodd y Ddeddf briodas gyfartal, fe wnaethom ddileu'r gwaharddiad ar roi gwaed i ddynion hoyw a deurywiol, ac, ar ben hynny, buom yn ymgyrchu dros bardwn brenhinol i Alan Turing am ei euogfarn am gyfunrywioldeb ac fe wnaethom gyflawni hyn.

Nid yw bod yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsrywiol yn drosedd. Nid yw'n rhywbeth i fod â chywilydd ohono, ac nid yw'n rheswm i bobl eich cam-drin yn gorfforol neu ar lafar chwaith. Nid oes lle i homoffobia a thrawsffobia yn ein gwlad. Gallwn fod yn falch iawn o'r ffaith fod Prydain yn arweinydd byd-eang o ran cydraddoldeb LHDT, ond mae gennym lawer mwy i'w wneud o hyd. Dirprwy Weinidog, rwy'n croesawu'r gefnogaeth rydych chi'n ei rhoi i ddigwyddiadau Pride ledled Cymru, yn enwedig Pride Abertawe. Rwy'n gobeithio gweld llawer mwy o ddigwyddiadau ar draws fy rhanbarth ac ar draws y wlad.

Rwy'n nodi'r gwaith parhaus gyda Phlaid Cymru i ddod ag arferion trosi i ben yng Nghymru. Dirprwy Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynghylch y camau y gallwn eu cymryd i wahardd therapi trosi, ar yr un pryd, ganiatáu i'r gwaith pwysig iawn a wneir gan y Gwasanaeth Datblygu Hunaniaeth Rhywedd fynd rhagddo? O ran y gwasanaeth datblygu hunaniaeth rhywedd, mae problemau parhaus o ran sicrhau rhywbeth yn lle'r gwasanaethau yn Tavistock yn dilyn adolygiad Cass. Efallai, Dirprwy Weinidog, y gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd.

Rwyf hefyd yn nodi eich datganiad eich bod yn gobeithio ymgynghori ar y canllawiau trawsryweddol i ysgolion o fewn y misoedd nesaf. Yn ddiweddar, rhyddhaodd yr Adran Addysg yn Lloegr eu canllawiau diwygiedig. Dirprwy Weinidog, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ynglŷn â'u canllawiau, ac a yw'r canllawiau hynny wedi cael unrhyw ddylanwad ar gynigion eich Llywodraeth?

Yn olaf, Dirprwy Weinidog, diolch eto am eich datganiad, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i sicrhau bod Cymru yn dod y genedl fwyaf cyfeillgar i LHDTC+ yn y byd. Byddaf yn parhau i ymladd dros hawliau pawb i fod yr hyn y maent eisiau bod, i garu pwy y maent eisiau ei garu. Diolch yn fawr.

16:35

A gaf fi ddiolch i Altaf Hussain am y cyfraniad ystyriol yna i'r datganiad hwn heddiw yma yn y Senedd? Rwyf eisiau dechrau drwy ddiolch i chi am yr hyn a ddywedoch chi o ran diddymu adran 28 ac na ddylai fod wedi digwydd erioed. Nid yw bob amser yn hawdd, fel gwleidyddion, i gydnabod pan nad yw pethau wedi cael eu gwneud yn y ffordd iawn, ac rwy'n credu bod y ffaith eich bod yn gwneud hynny heddiw i'w groesawu'n fawr. Diolch yn fawr iawn am roi hynny ar y cofnod heddiw. A hefyd, diolch i chi am bopeth rydych chi'n ei wneud i geisio gweithio gyda ni yn y lle hwn i ddatblygu cydraddoldeb LHDTC+.

Fel y dywedwch yn gywir, mae Mis Hanes LHDT+ yn gyfle i gydnabod a dathlu hanes sydd, ers llawer rhy hir, wedi'i guddio. Ni allwch danbrisio hynny i bobl ifanc, na phobl o bob oed, yng Nghymru heddiw nad ydynt efallai wedi gwybod am bobl a chwaraeodd ran yn ein cymunedau ac yn ein gwlad dros y blynyddoedd. Mae cael y cyfle i ddysgu mwy am hynny ac i weld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu'n ôl hefyd yn hynod o bwysig. Rwy'n credu mai dyna pam mae'r gwaith rydym yn ei wneud o ran cefnogi Pride llawr gwlad mewn cymunedau ledled y wlad yn wirioneddol bwysig. Rwyf wedi dweud o'r blaen yn y lle hwn, dros y blynyddoedd, fy mod wedi mynychu mwy o ddigwyddiadau Pride nag yr wyf eisiau eu cofio. Gallen nhw fod y prif rai yn Llundain, Manceinion neu Gaerdydd—hyd yn oed Doncaster lle mynychais ddigwyddiad Pride unwaith—ond y rhai rwy'n credu sy'n gwneud y gwahaniaeth sylweddol yw'r rhai llai hynny, fel yn y gymuned yr wyf yn ei chynrychioli bellach, lle cefais fy magu, sy'n creu man diogel nid yn unig i'r gymuned LHDTC+ ddod at ei gilydd, ond mewn gwirionedd yn annog ac yn hyrwyddo cydlyniant cymunedol hefyd.

Os ydw i byth eisiau sicrwydd ynghylch rhywfaint o'r gwaith y maen nhw'n ei wneud, roeddwn i'r llynedd ar ymweliad ysgol i edrych ar yr hyn roedden nhw'n ei wneud gyda'u pobl ifanc i greu'r lle cynhwysol hwnnw iddyn nhw yn yr ysgol lle maen nhw'n teimlo'n ddiogel ac yn cael cefnogaeth, ac rwy'n cofio gofyn i un o'r bobl ifanc yno, "Pa un peth ydych chi'n meddwl sy'n gwneud gwahaniaeth mawr ar hyn o bryd, neu a fyddech chi eisiau i mi ddweud wrth fy nghydweithwyr sy'n bwysig i chi ac yr hoffech ei weld yn y dyfodol?" Ac fe soniodd un ohonyn nhw, mewn gwirionedd, am bwysigrwydd y digwyddiadau Pride bach, lleol, a gefnogwyd, oherwydd iddyn nhw, roedd cael y gofod hwnnw a gweld hynny yn ymarferol yn rhoi'r dewrder a'r hyder iddyn nhw gael sgwrs gyda'u teulu am sut roedden nhw'n teimlo ynghylch pwy ydyn nhw hefyd. Felly, rwy'n falch iawn ei fod yn rhywbeth y gallwn barhau i'w gefnogi fel Llywodraeth wrth i ni symud ymlaen, a hoffwn weld y digwyddiadau hynny'n esblygu a'u lledaenu ledled y wlad.

Diolch am y datganiad, Ddirprwy Weinidog.

Mae Plaid Cymru yn falch o'r gwaith sydd wedi'i wneud drwy'r cytundeb cydweithio a'r cynllun gweithredu LHDTC+ wrth ymdrechu i sicrhau bod holl aelodau cymuned LHDTC+ Cymru yn cael eu cefnogi a'u cyfraniad i'r genedl hon yn cael ei ddathlu wrth i ni sefyll gyda'n gilydd yn erbyn rhagfarn a gwahaniaethu.

Rhaid inni fod yn unedig wrth sefyll dros obaith ac yn erbyn casineb.

Rwy'n falch o allu dweud y bydd fy nhref enedigol, Pontardawe, yn cael ei Pride cyntaf erioed ym mis Mehefin, ac edrychaf ymlaen at gymryd rhan yn hwnnw. Thema Mis Hanes LHDTC+ eleni yw 'O dan y cwmpas', ac yn ogystal â thalu teyrnged i waith staff LHDTC+ ar draws y GIG, mae hefyd yn tynnu sylw at anghydraddoldebau iechyd y gymuned LHDTC+. Ein nod ar y cyd yw i Gymru, fel y dywedoch chi, fod y genedl fwyaf cyfeillgar i LHDTC+ yn Ewrop. Un o'r pwyntiau gweithredu o fewn y cynllun gweithredu LHDTC+ yw ceisio datganoli pwerau mewn cysylltiad â chydnabod rhywedd a sicrhau ein bod yn cefnogi ymgeiswyr am dystysgrif cydnabod rhywedd yng Nghymru. Nid ydym wedi gweld llawer o gynnydd ar hyn, ond yr hyn a welsom, yn rhy aml o lawer, yw defnyddio bywydau pobl drawsryweddol fel pêl-droed gwleidyddol a gwadu eu hawliau, a Llywodraeth San Steffan sy'n benderfynol o ymhelaethu naratifau atgas sy'n ymwneud â rhyfeloedd diwylliant sy'n meithrin ac yn annog rhagfarn.

Nid oes angen i ni edrych yn rhy bell i ffwrdd o'n glannau i weld beth y gellir ei gyflawni, ac mewn cyfnod cymharol fyr. Rwy'n siŵr bod y cannoedd o Gymry a deithiodd i Ddulyn i wylio'r rygbi y penwythnos diwethaf wedi cael amser gwych er gwaethaf y canlyniad. Rydw i wedi bod yn darllen am daith hir Iwerddon tuag at sicrhau hawliau LHDTC+ ers i gyfunrywioldeb gael ei ddad-droseddoli yno 30 mlynedd yn ôl. Dywedodd tua 79% o bobl Iwerddon eu bod yn ystyried eu hardal leol fel lle da i bobl LHDTC+, ac yn ôl arolygon barn a gynhaliwyd y llynedd, ac astudiaeth Ipsos, mae tua 80 y cant o ddinasyddion Iwerddon yn cefnogi amddiffyniadau gwahaniaethu ar gyfer pobl draws. Fel y gwyddoch chi, mae Iwerddon wedi sicrhau y gall pobl draws ddatgan eu rhywedd eu hunain o dan eu Deddf Cydnabod Rhywedd 2015. Nid oes angen diagnosis meddygol nac adroddiadau meddyg. Mae Ruadhán Ó Críodáin yn ddyn traws sy'n byw yn Nulyn. Mewn erthygl gan Patrick Kelleher yn Pink News, disgrifiodd Ruadhán y ffordd yr oedd yn gallu cael tystysgrif cydnabod rhywedd mewn proses mor syml a thosturiol, o'i chymharu â'r broses 'nawddoglyd greulon ac annheg' ar gyfer cael tystysgrif cydnabod rhywedd yn y DU. Dywedodd:

'Pam dylai panel o ddieithriaid benderfynu a ydych yn haeddu tystysgrif cydnabod rhywedd ai peidio? Pam gwneud i rywun fynd trwy ddwy flynedd o drawsnewid cymdeithasol cyn bod yn gymwys? Pam mae angen diagnosis o ddysfforia rhywedd neu brawf o lawdriniaeth? Pobl drawsrywiol yw'r awdurdodau yn ein rhywedd ein hunain. Rydym yn gwybod pwy ydym ni. Mae trawsnewid eisoes yn ddigon anodd heb ychwanegu rhwystrau pellach. Ac yn allweddol, dydy bod yn drawsrywiol ddim yn salwch.'

Fel y mae'r erthygl yn nodi, mae hunanddiffinio wedi bod yn realiti tawel, bob dydd i bobl draws yn Iwerddon am fwy nag wyth mlynedd. Fel mae Ruadhán yn ei ddweud, 'nid yw'r awyr wedi cwympo'. Felly, a ydych chi'n teimlo eich bod wedi'ch ysbrydoli gan y cynnydd a wnaed yn Iwerddon, Dirprwy Weinidog, ac a allai Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud i ddatganoli'r pwerau mewn cysylltiad â chydnabod rhywedd i Gymru, fel yr amlinellir yn y cynllun gweithredu? Pa sicrwydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael gan gydweithwyr Llafur yn San Steffan na fyddai Llywodraeth dan arweiniad Llafur yn San Steffan yn dilyn camau'r Llywodraeth Dorïaidd ac yn rhwystro ymdrechion gan genhedloedd datganoledig i sicrhau tosturi a chydraddoldeb i'w dinasyddion traws mewn cysylltiad â chydnabod rhywedd? Diolch.

16:40

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch, Sioned Williams am y cyfraniad angerddol yna. Nid wyf yn gwybod a ydych chi wedi gwisgo'r gwyrdd oherwydd roeddech chi'n sôn am Iwerddon a Dulyn. Nid wyf wedi darllen yr erthygl yr ydych yn cyfeirio ati, ond byddaf yn sicr yn mynd i edrych arni. O ran y llinell y dywedoch, nad yw'r awyr wedi cwympo, mae yna enghreifftiau ledled y byd lle mae hunanddiffinio wedi'i ddwyn i mewn ac mae'r byd wedi parhau, ac mewn gwirionedd mae'r hyn y mae wedi'i wneud yn gwneud gwahaniaeth enfawr, enfawr i fywydau'r gymuned draws a phobl draws, sy'n wynebu gormod o rwystrau o lawer a llawer gormod o wahaniaethu. Gall bywyd fod yn anodd fel y mae, heb osod y rhwystrau ychwanegol hynny o flaen pobl.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau'n gwbl ymrwymedig i geisio datganoli pwerau o ran y Ddeddf cydnabod rhywedd, i gefnogi cymunedau traws. Mae'n safbwynt ni o ran hunanddiffinio yn parhau hefyd, ac rydym wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â hynny drwy ein partneriaeth drwy'r cytundeb cydweithio. Rydw i'n falch hefyd o'r gwaith rydyn ni wedi'i wneud, ac roeddwn i'n falch o ymuno, fel y dywedais i yn fy natganiad, â'r Aelod dynodedig yn y digwyddiad Mas ar y Maes nôl ym mis Awst, hyd yn oed os oeddwn i wedi dychryn ar ôl rhoi fy araith lawn gyntaf yn Gymraeg, cael fy ngwthio o flaen Radio Cymru i wneud cyfweliad. Ond rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth Siân Gwenllian ac am gamu i mewn ar ôl i mi wneud fy nghyfraniad cyntaf—daeth i mewn gydag ychydig mwy o'r manylion, nad yw fy ngeirfa i’n ddigon eang eto i'w cyfleu. Mae hyn hefyd yn enghraifft o bartneriaeth yn gweithio go iawn. Ond o ddifrif, rwy'n credu ei fod yn dangos y gwaith y gallwn ei wneud gyda'n gilydd a'r gwaith y gallwn ei wneud fel Llywodraeth i estyn allan a chefnogi cymunedau ledled Cymru, gan adeiladu ar waith Pride llawr gwlad, ond y gwaith ehangach hefyd.

O ystyried eich bod wedi sôn am y Pride cyntaf ym Mhontardawe yn digwydd eleni, rwy'n credu y gallwn fanteisio ar y cyfle hwn i grybwyll hefyd, ar 22 Mehefin eleni, y bydd y Fflint yn cael ei Pride cyntaf erioed. Dyna lle es i i'r ysgol ac mae'n cael ei arwain gan ddirprwy faer Y Fflint, y Cynghorydd Melly Buckley, a fydd yn faer y dref pan fydd Pride yn digwydd, ac mewn gwirionedd maer cyntaf y Fflint i ddod allan hefyd. Felly, rwy'n edrych ymlaen at wneud rhywbeth na feddyliais erioed y byddwn i wedi'i wneud pan oeddwn yn yr ysgol yn y Fflint—yn gorymdeithio ac yn cymryd rhan yn y digwyddiad Pride cyntaf erioed hwnnw.

Hoffwn ddilyn y sylwadau hynny drwy ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am y gwaith y mae wedi'i wneud gyda fy etholwr Sean Donovan, dyn traws ifanc sydd â stori i'w hadrodd ac a fydd yn parhau i adrodd ei stori am ei brofiadau. Roedd croeso mawr i'r gefnogaeth a roddwyd gan y Gweinidog, gan gynnwys cyfarfod â ni yn Nhŷ Hywel, ac efallai y byddaf yn codi mwy o fanylion am hynny yn nes ymlaen. Ond rwyf hefyd am godi'r gwaith y mae undebau llafur wedi'i wneud i gefnogi pobl LHDTC+, yn enwedig Unsain. Mae'r ddau ohonom yn aelodau o Unsain, siaradodd y ddau ohonom yn eu cynhadledd Cyswllt Llafur ychydig wythnosau yn ôl, ac rydym yn cydnabod eu bod bellach yn lansio Blwyddyn y Gweithiwr LHDTC+ Unsain Cymru, ac rwy'n credu y dylem groesawu hynny. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog beth yw ei chynlluniau i ddathlu'r lansiad penodol hwnnw.

16:45

Diolch. Diolch i Hefin David, a dweud y gwir, nid yn unig am y gwaith yr ydych chi'n ei wneud yn gadeirydd grŵp Unsain, ond o ran y gwaith yr ydych chi wedi ei wneud gyda Sean i'w gefnogi. Ac rwy'n cytuno â chi bod Sean wir yn ysbrydoliaeth, ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu cyfarfod, ac rwy'n ymrwymo'n llwyr i barhau i weithio gyda chi a gwneud gwaith dilynol ar hynny yn y dyfodol hefyd.

Ond ar y pwynt ehangach yr ydych chi'n ei wneud am y swyddogaeth sydd gan yr undebau llafur o ran hyrwyddo cydraddoldeb, yn yr un digwyddiad hwnnw, a dweud y gwir, lle digwyddais daro arnoch chi wrth basio wrth i chi orffen eich rhan i ac i minnau ddechrau fy rhan i—. Mewn oes pan fo'n aml yn gallu teimlo, yn anffodus, bod hawliau LHDTC+ o dan ymosodiad arbennig ac mewn perygl o gael eu cwtogi, rwy'n credu y byddai wir yn rhaid i mi gydnabod gwaith mudiad yr undebau llafur o ran hyrwyddo'r cydraddoldeb hwnnw i bobl LHDTC+, nid yn unig yn y gweithle, boed hynny drwy eu cynrychiolwyr neu bwyllgorau cydraddoldeb neu'r ymgyrchoedd y maen nhw'n eu cynnal, ond yn ehangach yng Nghymru hefyd mewn gwirionedd. Un o'r pethau a ddywedais pan oeddwn i gyda'r aelodau Unsain yw, a dweud y gwir, ei fod i gyd yn rhan o'r un frwydr, onid yw—yr un frwydr honno dros gyfiawnder cymdeithasol yn y gweithle ond dros y cydraddoldeb ehangach hwnnw yng Nghymru hefyd. Ac rydym ni'n cyflawni hynny dim ond pan fyddwn ni'n cydweithio ac yn dod at ein gilydd nid yn unig i amddiffyn cydraddoldeb a hawliau ond yn gweithio i'w hymestyn hefyd.

Felly, fe wnaethoch chi sôn am Flwyddyn y Gweithiwr LHDTC+ Unsain, sydd, a dweud y gwir, wedi cael ei lansio heddiw yng Nghymru gan Unsain Cymru rwy'n credu, ac rwy'n gobeithio, yn dibynnu ar ba amser y byddwn ni'n llwyddo i bleidleisio heno, y byddaf i'n cael cyfle i ymuno â nhw ar gyfer rhan o hynny, ond rwy'n sicr iawn, a dweud y gwir, yn bwriadu gweithio gydag Unsain ac undebau eraill a sefydliadau eraill ar sut y gallwn ni greu'r gweithleoedd mwy cynhwysol hynny yn rhan o'n huchelgais i fod y genedl fwyaf ystyriol honno o bobl LHDTC+ yn Ewrop.

9. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd
10. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Ymateb Llywodraeth Cymru i Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru

Felly, eitem 10 sydd nesaf. Hwn yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar ymateb Llywodraeth Cymru i gomisiwn trafnidiaeth y gogledd. Dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei ddatganiad—Lee Waters.

Diolch, Llywydd. Gofynnais i'r Arglwydd Terry Burns gadeirio'r comisiwn hwn ar drafnidiaeth yn y gogledd i ddod â'r un manwl gywirdeb a her a ddangosodd yn ei astudiaeth o drafnidiaeth yn ne-ddwyrain Cymru, a diolchaf iddo ef a'i gomisiynwyr am eu gwaith trylwyr iawn ac am eu hadroddiad manwl gywir. Diolch iddyn nhw, mae gennym ni bellach ddadansoddiad cynhwysfawr o'r system drafnidiaeth yng ngogledd ein gwlad, ac mae gennym ni 60 o argymhellion i'w gwella.

Mae gwreiddiau'r comisiwn yn deillio o argymhelliad a gyflwynwyd gan yr Arglwydd Peter Hendy yn ei adolygiad o gysylltedd undebau ar gyfer Llywodraeth y DU ar gyfer astudiaeth aml-ddull o drafnidiaeth yn y gogledd. Fe wnaethom ni dderbyn yr argymhelliad hwnnw, ac rwy'n gobeithio nawr y gwnaiff Llywodraeth y DU ymuno â ni i dderbyn argymhellion y comisiwn annibynnol hwn a chydweithio â ni a'r awdurdodau lleol drwy'r cyd-bwyllgor corfforedig i ddatblygu a darparu cyfres o gynlluniau.

Man cychwyn yr adroddiad yw bod angen i ni leihau allyriadau carbon o drafnidiaeth os ydym ni'n mynd i gyrraedd ein targedau cyfreithiol sero net cyffredinol. Mae trafnidiaeth yn gyfrifol am 17 y cant o allyriadau carbon yng Nghymru, a hyd yn oed gyda mwy o bobl yn defnyddio cerbydau trydan, mae lleihau allyriadau yn dal i ofyn am newidiadau i'r ffordd yr ydym ni'n teithio. Mae'r dadansoddiad gan y comisiwn yn dangos sut y gellir gwneud hyn. Er bod y ddadl sy'n gyfarwydd i wleidyddion a grwpiau busnes yn canolbwyntio ar lwybrau o bellteroedd hirach a theithiau car, mae'r dadansoddiad annibynnol gan y comisiwn yn dangos bod mwyafrif y teithiau a wneir yn y rhanbarth yn fyr o ran hyd ac i'r un ardal neu i ardal gyfagos. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwneud teithiau byr, lleol, ac mae'r rhain yn deithiau sy'n addas ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio, pan fyddwn ni'n cyflwyno dewisiadau amgen diogel a deniadol.

Llywydd, mae hwn yn adroddiad ardderchog, ac er ei fod yn edrych yn fanwl ar y gogledd, mae ei ddadansoddiad a'i gasgliadau yn berthnasol ledled Cymru gyfan, a byddwn yn ei gymeradwyo yn arbennig i Aelodau sy'n cynrychioli'r de-orllewin a'r canolbarth. Nid oes angen mwy o gomisiynau arnom ni. Yn hytrach, dylem edrych nawr ar yr adroddiad hwn wrth i gynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol gael eu datblygu ledled Cymru.

Mae'n gwneud nifer o argymhellion ar welliannau i reilffyrdd, gan gynnwys gwasanaethau amlach ac amseroedd teithio llai ar lein y Gororau ac, yn wir, trydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru. Wrth gwrs, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am welliannau, ond mae'r argymhellion yn gwbl gyson â'n blaenoriaethau ein hunain, yr ydym ni'n ceisio eu cytuno gyda bwrdd rheilffyrdd Cymru ar y cyd Llywodraethau Cymru a'r DU, sydd wedi bod yn ddatblygiad adeiladol. Rydym ni wedi ymgyrchu ers tro dros drydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru, ac rydym ni'n croesawu Llywodraeth y DU yn cyhoeddi cyllid, ond gwnaeth Llywodraeth y DU y penderfyniad hwn yn unochrog, ac mae'r comisiwn yn ei gwneud yn eglur y byddai cynlluniau eraill yn y gogledd yn sicrhau manteision yn gynt. Mae hyn yn cynnwys mynd i'r afael â chyfyngiadau seilwaith i alluogi pum trên yr awr, gan gynnwys un gwasanaeth cyflym, i weithredu arno. Os oes biliynau o bunnoedd ar gael i Gymru, yna Cymru ddylai benderfynu ar y ffordd orau o'u gwario.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud buddsoddiad o £800 miliwn mewn cerbydau newydd ar gyfer holl rwydwaith Cymru a'r gororau, sydd eisoes yn gwella profiad pobl sy'n teithio ar y trên yn y gogledd. Wrth i fwy o'r trenau newydd hyn gael eu cyflwyno, bydd TrC yn gallu rhedeg trenau hirach, gan ddarparu taith fwy cyfforddus i gwsmeriaid, yn ogystal â chyfoeth o nodweddion modern a hygyrch. Rydym ni wedi ailgyflwyno gwasanaethau uniongyrchol i Lerpwl, wedi cyflwyno teithiau amlach ar lein y Gororau gan ddefnyddio trenau newydd, ac wedi gwneud y gwasanaeth yn fwy dibynadwy. Ond, yn amlwg, mae mwy i'w wneud ac mae llawer iawn o botensial sydd heb ei wireddu ar y rhwydwaith rheilffyrdd presennol yn y gogledd, ac mae angen buddsoddiad priodol gan Lywodraeth y DU sy'n gyfrifol am seilwaith rheilffyrdd o dan ein setliad datganoli.

O ran bysiau, rwy'n cytuno â'r comisiwn nad yw'r rhwydwaith bysiau wedi'i ddadreoleiddio yn gweithio'n dda yn y rhanbarth, ac rwy'n croesawu eu cefnogaeth i'n cynlluniau diwygio bysiau, gan gynnwys deddfwriaeth yr ydym ni'n gobeithio ei chyflwyno ym mis Medi. Rydym ni'n cynnig model newydd ar gyfer gwasanaethau bysiau yng Nghymru, a fydd yn caniatáu i ni weithio gydag awdurdodau lleol i ddylunio'r rhwydweithiau bysiau sydd eu hangen ar eu cymunedau, a sefydlu contractau i'w cyflawni. Ac rydym ni eisoes yn gweld enghreifftiau da iawn o gydweithio rhwng TrC ac awdurdodau lleol, fel Ynys Môn a Gwynedd, sy'n arwain y ffordd ar gyfer ein cynlluniau diwygio bysiau ehangach ledled Cymru.

Mae gan yr adroddiad bethau pwysig i'w dweud hefyd am deithio llesol. Mae ei ddadansoddiad yn dangos bod y niferoedd sy'n cerdded ac yn beicio yn isel ar hyn o bryd a bod teithio llesol yn aml yn cael ei weld, ac rwy'n dyfynnu,

'yn anneniadol, nid yw'n gyfleus, ac mae’n cael ei ystyried yn anniogel.'

Ond, meddai, mae'r potensial ar gyfer newid yn sylweddol, a chadarnhaodd y byddai ein cynigion presennol ar gyfer ymestyn y rhwydwaith teithio llesol yn y gogledd yn creu dros 1,100 cilomedr o lwybrau i bobl eu defnyddio. Ond er mwyn gwireddu hyn, mae'n rhaid i ni ystyried teithio llesol fel dull teithio gystal ag eraill a chryfhau ein gallu i gyflwyno seilwaith beicio a cherdded, ac mae hwnnw'n bwynt allweddol. Mae diffyg capasiti a gallu ymhlith yr awdurdodau cyflawni ar hyn o bryd. Nawr, rydym ni wedi dechrau gwella hyn trwy gryfhau'r arbenigedd teithio llesol yn Trafnidiaeth Cymru a'i wneud ar gael i awdurdodau lleol i'w hannog i newid dulliau teithio yn eu hardaloedd. Ac rwy'n croesawu'r argymhelliad yn yr adroddiad i uned teithio llesol gael ei sefydlu yn y gogledd i weithio gyda chynghorau, y cyd-bwyllgor corfforedig a'r asiantaeth cefnffyrdd.

Nawr, mae hyn yn wir ar gyfer cynlluniau fel Llanbedr, yr ydym ni'n bwrw ymlaen ag ef ar sail aml-ddull mewn partneriaeth â llywodraeth leol. Ac ymwelais â Llanbedr yn ddiweddar gan gyfarfod ag ymgyrchwyr lleol a'r awdurdod lleol i drafod y camau nesaf. Ac rydym ni wedi nodi yr hoffem ni weithio gyda nhw ar opsiwn yn hytrach na'r ffordd osgoi o amgylch y pentref a wrthodwyd gan yr adolygiad ffyrdd, a chyflwyno ffordd arall o fynd i'r afael â'r broblem. Ac rwy'n falch o ddweud ein bod ni'n dechrau gwneud rhywfaint o gynnydd. A llwyddais i'w cyfeirio nhw at y cynnydd rhagorol y mae Rhondda Cynon Taf wedi ei wneud o ran dysgu o'r adolygiad ffyrdd, yn ei her o ail-lunio ei gynllun yn Llanharan ger Pen-y-bont ar Ogwr, ac i baru cyngor Rhondda Cynon Taf gyda Gwynedd, i geisio rhoi'r gwersi hynny ar waith yn ymarferol yn Llanbedr.

Nawr, fis Chwefror diwethaf, gofynnais hefyd i'r comisiwn ddatblygu argymhellion penodol ar wella gwytnwch cysylltiadau ar draws y afon Menai. Mae gwaith y comisiwn, am y tro cyntaf, wedi rhoi dadansoddiad cadarn i ni o batrymau teithio i Ynys Môn ac oddi yno, a chyfres o ddewisiadau o sut y gallwn ni gael mwy ar gyfer pob dull teithio o'r seilwaith presennol. Mae eu gwaith yn fanwl ac yn ymarferol ar y mater hwn, ac yn benodol, maen nhw'n gwneud 16 o argymhellion yr ydym ni'n eu cefnogi ac yn bwriadu gweithredu i'w cyflawni, yn gyntaf trwy gaffael gwaith dichonoldeb manwl ar y chwe argymhelliad cyntaf y mae'r comisiwn wedi eu nodi fel blaenoriaeth. Dyma'r un dull â fabwysiadwyd gennym ni gydag adroddiad Burns yn y de-ddwyrain, gan nodi enillion cyflym.

Bydd argymhellion y comisiwn yn cyfrannu at gynllun trafnidiaeth rhanbarthol gogledd Cymru sy'n cael ei ddatblygu gan ei gyd-bwyllgor corfforedig, a'i gefnogi gan Trafnidiaeth Cymru, i greu un cynllun cydgysylltiedig ar gyfer buddsoddi mewn trafnidiaeth sy'n gweithio i bob rhan o ogledd Cymru, gan gynnwys cymunedau trefol, gwledig ac arfordirol ac, wrth gwrs, cysylltedd trawsffiniol. Eto, gan ddysgu o'n profiad yn y de-ddwyrain, lle mae uned a grŵp cyflawni Burns wedi bod yn hanfodol i fwrw ymlaen â'r argymhellion yn y de-ddwyrain, hoffem wneud yr un peth yn y gogledd.

Rwy'n falch y bydd Ashley Rogers, prif swyddog gweithredol cyngor busnes gogledd Cymru, a John Parkin, athro emeritws peirianneg trafnidiaeth ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, yn gwasanaethu fel cadeirydd ac is-gadeirydd, yn y drefn honno, ar grŵp cyflawni rhanbarthol yng ngogledd Cymru. Roedd y ddau yn aelodau allweddol o gomisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am gynnig eu profiad a'u gwybodaeth i wneud yn siŵr bod y syniadau yn yr adroddiad yn cael eu cyflwyno ar lawr gwlad, ac ein bod ni'n creu cyfres o gynlluniau ar gyfer buddsoddi, oherwydd nid geiriau sydd eu hangen arnom ni, ond gweithredu, a dyna'r cam nesaf nawr. Bydd hyn yn gweithio ochr yn ochr, yn amlwg, â'r awdurdodau lleol, y cyd-bwyllgor corfforedig a'r asiantaethau eraill.

Felly, nid nod ynddo'i hun yw gwaith y comisiwn; yr hyn y maen nhw'n ei ddarparu i ni yw dadansoddiad o'r heriau trafnidiaeth allweddol—ac mae'n hanfodol cael y dadansoddiad hwnnw—ac yna cyfres o gynlluniau aml-ddull a all leddfu'r heriau hynny. Fel yr wyf i'n siŵr y bydd y Siambr hon wedi sylwi, nid yw newid trafnidiaeth yn hawdd ac nid yw bob amser yn boblogaidd. Unwaith y bydd y gyfres hon o brosiectau ar waith, mae'n anochel y bydd angen gwneud dewisiadau anodd, a rhan o fynd i'r afael â'r heriau hynny yw mwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU yn y rheilffyrdd, ond ni allwn fod yn ddall i'r pwysau ariannol eraill yr ydym ni i gyd yn eu hwynebu. Ac rydym ni ni'n wynebu'r setliad cyllideb llymaf y mae Cymru erioed wedi ei gweld.

Yn ogystal â bod yn ddrud, yn gymhleth ac yn araf i newid, nid yw'r system drafnidiaeth yr ydym ni'n ymdrin â hi yn ymwneud â mecaneg yn unig, mae'n ymwneud ag emosiynau, gwerthoedd a hunaniaeth. Mae'n rhaid i ni gydnabod y bydd hyn gymaint am newid diwylliant ag unrhyw beth arall. Nid wyf i'n tanbrisio newid pa mor fawr yw hwn, na pha mor anodd yw'r newid. Ond mae'r dystiolaeth yn eglur: gwnewch hi'n hawdd i bobl a bydd pobl yn gwneud gwahanol ddewisiadau. Mae'n rhaid osgoi niweidiau enfawr cynhesu byd-eang, oes, ond mae hefyd yn hanfodol i helpu i wella bywydau ein teuluoedd a'n cymdogion yn y dyfodol uniongyrchol. Diolch.

16:55

Dirprwy Weinidog, diolch am ddatganiad y prynhawn yma. Nid yw'n gyfrinach bod angen gwelliannau brys i'n rhwydwaith trafnidiaeth ar ôl mwy na dau ddegawd o esgeulustod a chamreolaeth gan y Blaid Lafur yma ym Mae Caerdydd. Nawr, dro ar ôl tro, mae Gweinidogion yn y lle hwn yn anghofio am ogledd Cymru, ac mae'n hen bryd i hynny newid. Rwyf i wir yn croesawu rhai o argymhellion y comisiwn, yn enwedig o ran rheilffyrdd a bysiau, ond mae gen i hefyd lawer o amheuon am rai eraill.

Dirprwy Weinidog, rydym ni'n aml yn clywed am ba mor brin o arian yw'r Llywodraeth hon, a dim ond yr wythnos diwethaf fe wnaethoch chi ddweud wrthyf i nad oedd digon i gymell teithio ar fysiau. O ystyried eich sylwadau, ac yng ngoleuni diffyg arian honedig y Llywodraeth hon, pa mor hyderus allwn ni fod y bydd unrhyw un o'r argymhellion hyn yn cael eu cyflawni mewn gwirionedd? Yn adroddiad terfynol y comisiwn, mae'n dweud mai ceir fydd y brif ffordd o deithio o hyd, ac y bydd, ac rwy'n dyfynnu,

'gan geir trydan rôl barhaus i'w chwarae.'

O gofio bod gan y Dirprwy Weinidog gasineb dwfn tuag at fodurwyr, fel y gwelir drwy'r agenda gwrth-yrwyr, ni allaf ddychmygu y bu'r sylwadau hynny yn boblogaidd iawn. Dim ond yn ddiweddar, dywedodd y Dirprwy Weinidog bod Llywodraeth Cymru eisiau lleihau'r galw am geir preifat, gan gynnwys cerbydau trydan. Rwyf i, a'r comisiwn yn amlwg, yn credu y gall cerbydau trydan chwarae rhan ganolog o ran lleihau allyriadau. Felly, a wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r gorau i wrando ar ei gyfeillion, y lobïwyr mewn dillad Lycra, a dechrau cydnabod pwysigrwydd cerbydau trydan drwy fuddsoddi mwy mewn pwyntiau gwefru?

Unwaith eto, rydym ni'n clywed am fasnachfreinio bysiau fel ffon hud bosibl i ddatrys ein holl broblemau, ond unwaith eto diwedd y gân yw'r geiniog. Ddim yn rhy bell yn ôl, fe wnaethoch chi ddweud wrth y Senedd y byddai diwygio bysiau, ac rwy'n dyfynnu, yn 'dibynnu ar y cyllid sydd ar gael.' Diwedd y dyfyniad. Ac fe wnaethoch chi ddweud hefyd fod Llywodraeth Cymru yn ei chael hi'n anodd cyflawni ei huchelgeisiau trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd toriadau i'r gyllideb. Felly, eto, rwy'n gofyn: sut fydd hyn yn cael ei gyflawni a phryd fydd Llywodraeth Cymru yn dechrau tynhau ei gwregys? Mae'n dal i fod yn ddirgelwch i mi, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n gallu egluro heddiw.

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd Trafnidiaeth Cymru yn goruchwylio masnachfreinio ein gwasanaethau bysiau. O gofio methiannau parhaus Trafnidiaeth Cymru gyda'n trenau, a yw'r Dirprwy Weinidog yn hyderus mewn gwirionedd eu bod nhw'n mynd i allu cyflawni'r dasg? A gadewch i ni gofio bod Llywodraeth Geidwadol y DU unwaith eto yn camu i'r adwy ac yn cyflawni dros ogledd Cymru drwy fuddsoddi £1 biliwn i drydaneiddio'r brif reilffordd. Dirprwy Weinidog, rydych chi'n dweud, os oes biliynau o bunnoedd i Gymru, yna Cymru ddylai benderfynu sut y cânt eu gwario; pan roddir cyllid hollbwysig i chi y ffaith syml yw nad ydych chi'n ei wario. Edrychwch ar y £155.5 miliwn a anfonwyd yn ôl i San Steffan oherwydd camreolaeth ariannol Llywodraeth Cymru. O gofio hanes y Llywodraeth hon, sut allwn ni fod ag unrhyw ffydd y gallai'r Llywodraeth hon wario'r arian hwn yn ddoeth?

Ni allwn i anghytuno ag argymhelliad y comisiwn o sicrhau bod y capasiti ar wasanaethau rheilffyrdd yn cael ei gynyddu yn ystod yr oriau brig a bod dyraniad fflyd y rheilffyrdd yn cael ei wella. Un argymhelliad a ddaliodd fy llygad yn arbennig oedd cyflwyno rhwydwaith o fysiau arfordirol, gyda rhwng dau a phedwar gwasanaeth yn rhedeg bob awr, yn ymestyn i'r nosweithiau, i gysylltu aneddiadau mawr, safleoedd cyflogaeth a chyfnewidfeydd trafnidiaeth. Mae hyn yn hanfodol o'm safbwynt i. Mae angen i ni sicrhau bod bysiau yn cyrraedd ein cymunedau ac yn darparu gwasanaeth o'r radd flaenaf, effeithiol a dibynadwy i drigolion. A all y Dirprwy Weinidog amlinellu sut y mae'n rhagweld gwneud hyn yn realiti?

Fel rhywun sy'n hyrwyddo gwaith amhrisiadwy'r sector cludo nwyddau ar y ffyrdd yn gyson, rwy'n wirioneddol falch o weld y sôn yn yr adroddiad o ddatblygu rhwydwaith o gyfleusterau ar ochr y ffordd ar gyfer cerbydau nwyddau trwm. Yn flaenorol, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth trafnidiaeth ffordd a chludo nwyddau benodol sy'n cynnwys canolfannau llesiant diogel i yrwyr. A yw Llywodraeth Cymru wedi dechrau gweithio ar hyn? Dyna'r cwestiwn yr hoffwn i ei ofyn. Rwy'n credu y byddai'n ategu argymhellion y comisiwn. Ac rwyf i hefyd yn croesawu'r argymhellion ar seilwaith tapio i mewn ac allan, a thocynnau cwbl integredig. Mewn cyferbyniad llwyr â safbwynt Llywodraeth Cymru, roeddwn i hefyd wrth fy modd o weld y comisiwn yn mynnu nad oedd dadl dros gyflwyno tâl am ddefnyddio'r ffyrdd, ac ni allwn gytuno mwy a bod yn onest. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddiystyru codi tâl am ddefnyddio'r ffyrdd nid yn unig yng ngogledd Cymru, ond ar draws wlad gyfan, fel y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw amdano yn gyson?

Mae rhai rhannau o adroddiad terfynol y comisiwn y tu allan i gylch gwaith Llywodraeth Cymru, ac edrychaf ymlaen at drafod y rhain yn fwy manwl gyda Llywodraeth y DU maes o law. Felly, Dirprwy Weinidog, pryd fydd y trafodaethau hyn yn cael eu cynnal gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, Mark Harper, yr Aelod Seneddol, neu swyddogion yr Adran Drafnidiaeth yn wir, o ran yr adroddiad terfynol hwn?

Fel y dywedais, mae rhai argymhellion yma yr wyf i'n eu cefnogi ac mae rhai nad wyf i wedi fy hargyhoeddi yn eu cylch o hyd. Mae'n rhaid croesawu unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i wella cysylltedd trafnidiaeth yn yn gogledd gyda breichiau agored, ond, fel erioed, amser a ddengys. Diolch, Llywydd.

17:00

Diolch am y cyfraniad yna, ac am groesawu elfennau o'r argymhellion. Rwy'n credu y gellir bwrw ymlaen â hyn ar sail drawsbleidiol. Nid wyf i'n credu bod unrhyw beth arbennig o ddadleuol yma. Mae'r rhain i gyd yn awgrymiadau synhwyrol, ymarferol ar gyfer gwella dewis i bobl fel y gallan nhw ddewis teithio mewn gwahanol ffyrdd, a gwneud eu bywydau yn haws a gwella economi gogledd ein gwlad.

Nid yw'r gogledd yn cael ei anghofio o gwbl, ac rydym ni wedi comisiynu'r darn manwl hwn o waith ac yn mynd i weithredu arno nawr. Mae llawer o'r themâu yma, fel y dywedais, yn berthnasol i ardaloedd eraill, ac mae gan y gogledd, wrth gwrs, ei ddaearyddiaeth benodol ei hun, nid leiaf yr elfen drawsffiniol hefyd, ac mae rhan o'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar hynny. Felly, rwy'n credu bod llawer o bethau cydsyniol synhwyrol iawn y gallwn ni weithredu arnyn nhw, ac rwy'n cytuno â hi—mae gan geir trydan ran sylweddol i'w chwarae. Yn wir, ymhell o gasáu'r modurwr, rwyf i yn fodurwr fy hun, ac rwy'n gyrru car trydan, yn ogystal â beic trydan. Felly mae ei chymeriadu yn blentynnaidd ac wnaf i ddim rhoi sylw iddo ef. Mae ceir trydan yn hollbwysig. Fodd bynnag, maen nhw'n angenrheidiol ond ddim yn ddigonol. Ni fydd gwneud dim mwy na newid ein fflyd bresennol i fflyd drydan yn mynd i'r afael â'r toriadau i allyriadau carbon y mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn dweud bod yn rhaid i ni eu cyflawni os ydym ni'n mynd i gyrraedd y targedau y mae'n dweud ei bod wedi ymrwymo iddyn nhw. Byddai gen i ddiddordeb a oes ganddi ffyrdd eraill o gyrraedd y targedau hynny o ran trafnidiaeth, ond nid wyf i'n ymwybodol bod unrhyw arbenigwr trafnidiaeth wedi cyflwyno rhai, ac mae hi wedi profi dro ar ôl tro nad yw hi'n hynny.

O ran methiant parhaus, honedig, Trafnidiaeth Cymru, unwaith eto rwy'n credu bod hwnnw'n honiad gwbl anwir. Mae'r cynnydd o ran cyflwyno cerbydau newydd sbon ar gyfer 95 y cant o deithwyr yng Nghymru yn siarad drostyn nhw eu hunain. Mae trawsnewid y rheilffordd Fictoraidd yng Nghymoedd y de-ddwyrain yn fetro modern yn digwydd o flaen ein llygaid, ac maen nhw wedi gwneud hynny o ddim ac maen nhw bellach yn datblygu eu harbenigedd ar fysiau. Cefais gyfarfod eto ddoe â phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru ac arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Rydym n'n cyfarfod bob chwe wythnos i wneud yn siŵr bod gennym ni berthynas gref a chlos, gan weithio ar ymarferoldeb cyflawni'r cynlluniau hyn, ac mae'r cynlluniau ar gyfer masnachfreinio bysiau, ar gyfer gweithredu hynny, yn mynd yn eu blaenau â llwyddiant mawr. Byddwn yn cyhoeddi, yn ystod yr wythnosau nesaf, y cynlluniau, y cynlluniau manwl, ar gyfer sut rydym ni'n mynd ati i fasnachfreinio, ac rwy'n gobeithio y bydd cefnogaeth drawsbleidiol i'r rheini; ni welaf unrhyw reswm pam na ddylai fod.

O ran y strategaeth cludo nwyddau, gallaf gadarnhau ein bod ni'n sicr yn gweithio ar hynny. Rwyf i wedi cynnal rhai trafodaethau bord gron gyda chludwyr a chwmnïau cludo nwyddau fy hun, ac rwyf i hefyd yn croesawu elfennau'r adroddiad a fydd yn cyfrannu at hynny. Gallaf gadarnhau iddi, i gloi, nad oes gennym ni unrhyw gynlluniau i godi tâl am ddefnyddio ffyrdd. Mae'n amlwg yn rhan o becyn o fesurau yn y tymor hwy. Maen nhw'n ddefnyddiol i'w cael, i fanteisio arnyn nhw, fel y maen nhw yn Llundain, fel y maen nhw mewn mannau eraill, ond dydyn nhw ddim yn rhan o'n cynlluniau presennol, ac mae hynny, rwy'n gobeithio, mor eglur ag y gall fod.

17:05

Rwy'n falch ein bod ni'n trafod yr adroddiad Burns diweddaraf ar drafnidiaeth yng Nghymru. Rwy'n gobeithio cyn hir bydd cyfle i drafod ei adroddiad ar drafnidiaeth yn ne ein gwlad hefyd. Ond dwi yn croesawu nifer o bethau sydd yn yr adroddiad yma. 

Mae'r adroddiad ar Gymru ogleddol yn adleisio nifer o'r galwadau rŷn ni fel plaid wedi bod yn eu gwneud. Y cwestiwn nawr, wrth gwrs, yw sut bydd yr ymateb i hyn. Os oes gan y Llywodraeth unrhyw obaith o ddwyn perswâd ar bobl i ddefnyddio dulliau gwahanol i'r car er mwyn teithio, rhaid gwella'r systemau trafnidiaeth yn y gogledd. Felly, mae hyn yn ddatblygiad i'w groesawu, dwi'n meddwl.

Clywsom ddoe y bydd Llywodraeth San Steffan yn arallgyfeirio'r arian a glustnodwyd ar gyfer HS2 i ardaloedd canolbarth a gogledd Lloegr, ond soniodd Rishi Sunak ddim gair am y £4 biliwn sy'n ddyledus i Gymru fel canlyniad i'r darnau o HS2 sydd heb eu canslo. Am siom, Llywydd, ond dim un oedd yn annisgwyl, dwi'n siŵr y byddech chi'n cytuno, Weinidog. Eu slogan nhw yn Llandudno oedd 'get Wales moving', ond geiriau gwag ydyn nhw heb fuddsoddiad yn ein hisadeiledd.

Rŷn ni'n croesawu'r gydnabyddiaeth yn yr adroddiad o'r gwaith sy’n mynd rhagddo ym mharc cenedlaethol Eryri, ond rwy'n poeni, er hyn, fod rhannau o'r adroddiad yn orddibynnol ar dwristiaeth, yn lle ffocysu ar drigolion sy'n byw yn yr ardaloedd. Mae 'tourist' yn cael ei grybwyll 17 o weithiau, 'tourists' tair gwaith, 'tourism' 10 waith. Does dim son am 'commuter', dim ond 10 gwaith mae sôn am 'resident', 'commuting' chwe gwaith, a 'commute' dau o weithiau.

Yn 2019, cyflogwyd dros 80,000 o bobl yn y gogledd yng ngwasanaethau cyhoeddus, ac 80,000 arall yn adwerthu, yn lletygarwch, y diwydiant hamdden, a dros 40,000 yn y diwydiant cynhyrchu. Mae angen ffocws ar wella'u bywydau gwaith nhw, eu gallu i gyrraedd y gwaith, ac felly buaswn i'n gofyn beth fyddai'r Llywodraeth yn ei ddweud o ran cysoni'r ddau beth yna.

Wrth gwrs, bydd yn rhaid i rai pobl yn sicr yn yr ardaloedd yn y gogledd ddefnyddio car. Amcangyfrifa'r Federation of Small Businesses fod 95 y cant o SMEs yn ardaloedd gwledig Cymru yn ddibynnol ar geir. Rhaid gwneud pethau'n haws iddyn nhw symud tuag at geir trydan, fel sydd wedi cael ei grybwyll yn barod. Buaswn i'n hoffi cael mwy o wybodaeth am sut bydd y Llywodraeth yn ymateb i'r her bwysig yna. Pa waith byddech chi'n ei wneud i wella'r isadeiledd siarsio ac i weithio gyda'r grid cenedlaethol i sicrhau hynny? Ond rwy'n cydnabod bod hyn wedi cael ei grybwyll yn barod.

Hoffwn i godi fy mhryderon eto am yr ariannu ar gyfer y diwydiant bysus. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol nad ydy'r siwrne T19 o Flaenau Ffestiniog i Gyffordd Llandudno bellach yn rhedeg. Mae cymunedau cyfan yng Ngwynedd a Chonwy ar eu colled fel canlyniad. Hoffwn i longyfarch y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn am ei waith yn tynnu sylw at hyn. Fe wnaeth ef gerdded yr holl ffordd yn gynharach yn y mis i ddangos pa mor ddifrifol fydd y sgil-effeithiau. Ond dim ond un esiampl ydy hynny, wrth gwrs; mae yna esiamplau fel hyn dros y gogledd a dros Gymru, yn wir. Hoffwn i ofyn beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud yn fwy nid yn unig i ddatblygu model ariannu cynaliadwy ar gyfer y diwydiant, ond sut bydd y Llywodraeth yn ymateb i'r pryderon sy'n cael eu mynegi yn yr adroddiad am ariannu'r franchise model. Mae hynny'n her, dwi'n meddwl, fydd yn rhaid gweithio arni hi. Buaswn i'n hoffi clywed mwy am hynny. 

Mae e'n dal, dwi'n meddwl, i beri gofid i nifer o bobl fod cyn lleied o arian ar gael ar gyfer y diwydiant bysus ar adeg pan fo cannoedd o filiynau yn cael eu buddsoddi yn TfW. Felly, o ran cysoni'r ddau beth, buaswn i'n hoffi clywed ychydig yn fwy. Ond rŷn ni’n croesawu’r ffocws a’r argymhellion ar Fflecsi Bwcabus a thrafnidiaeth gymunedol yn fwy cyffredinol, wrth gwrs. 

Nawr, Llywydd, yn olaf, achos dwi'n gwybod bod amser yn prysur redeg allan, hoffwn i godi fy mhryder am fynediad saff a chyfartal at drafnidiaeth gyhoeddus. Sut bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod trafnidiaeth yn ateb anghenion pawb, gan gynnwys pobl anabl? Sut byddwch chi’n gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau hyn, i wneud yn siŵr nad yw pobl fregus yn cael eu gadael ar ôl, yn drosiadol ond hefyd yn llythrennol, os ydyn ni'n siarad am wasanaethau sy'n cael eu canslo a newidiadau munud olaf i amserlenni?

Felly, dwi'n gwybod bod nifer o gwestiynau yn y fan yna, ond mae nifer o bethau yn yr adroddiad yma dwi wir yn croesawu. Diolch yn fawr. 

17:10

Diolch, a diolch yn fawr iawn am y sylwadau a'r ffordd adeiladol y gwnaethoch chi nhw, gan danlinellu, rwy'n credu, y ffaith bod llawer iawn yn gyffredin yma rhyngom ni ar yr agenda hon. Fe wnaf i geisio rhoi sylw i rai o'r sylwadau y gwnaethoch chi eu codi.

O ran HS2, rydych chi'n gywir. Roedd hi'n druenus iawn, er gwaethaf yr holl dystiolaeth, bod Prif Weinidog y DU wedi mynnu eto yr wythnos ddiwethaf hon y byddai gogledd Cymru yn cael budd o uwchraddio rheilffyrdd yn Lloegr, nad ydyn nhw'n mynd i unman yn agos at ogledd Cymru bellach. Mae'n amlwg yn ddadl hurt i'w gwneud, ond maen nhw'n ei gwneud beth bynnag. Mae bob amser yn siomedig hefyd mai'r cwbl y mae ein Hysgrifennydd Gwladol Cymru, fel y'i gelwir, yn ei wneud yw amddiffyn hyn heb wneud unrhyw ymdrech i gydnabod ei bod hi'n amlwg nad yw hyn yn iawn, ac mae angen mynd i'r afael â hynny. Ac eto, fel y dywedais, nid yw'r syniad bod cyhoeddiad o drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru yn gwneud iawn am hyn rywsut, yn gwrthsefyll craffu, gan nad oes unrhyw waith datblygu yn sail i'r cyhoeddiad hwn. Nid yw'n ddim mwy nag ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus mewn cyfnod cyn etholiad, ac mae'n rhaid eu bod nhw'n meddwl ein bod ni'n dwp, oherwydd maen nhw wedi addo trydaneiddio prif reilffordd de Cymru i ni yn y gorffennol ac ni ddigwyddodd hynny erioed. O leiaf roedd gwaith yn sail i hynny. Nid oes unrhyw waith yn sail i hyn hyd yn oed. Felly, nid oes gennym ni unrhyw syniad beth fyddai'r gyllideb na sut, yn wir, y byddai'n cael ei gweithredu. Felly, nid yw hynny'n haeddu sylw difrifol ac mae'n druenus iawn eto clywed Aelodau'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwneud dim mwy nag ailadrodd y llinell hon o'r swyddfa ganolog, nad oes unrhyw sylwedd iddi.

O ran eich pwynt ar Eryri, nid wyf i'n credu y dylid gwneud gormod o'r pwyslais ar dwristiaid, oherwydd yn amlwg mae angen rhoi dewis arall i dwristiaid yn hytrach na defnyddio'r car i fynd i'r parc cenedlaethol, ac mae'r cynllun Sherpa wedi bod yn hynod effeithiol a llwyddiannus a'n gobaith yw adeiladu ar hynny. Ond diben yr argymhellion yn adroddiad Burns, ac yn wir ein cynllun masnachfreinio bysiau, yw ar gyfer teithiau bob dydd, drwy gydol y flwyddyn, ac nid i ymwelwyr yn unig, ond i ganiatáu i bobl gyfnewid eu teithiau car arferol am ddewisiadau eraill os mai dyna maen nhw'n dewis ei wneud, gan roi dewis gwirioneddol iddyn nhw fel y gallan nhw wneud hynny. Ac mae rhwydwaith TrawsCymru yn rhan bwysig o hynny. Eto, rydym ni wedi gweld, lle mae hwnnw wedi cael ei gyflwyno yn llwyddiannus, cynnydd i nifer y teithwyr, rydym ni wedi gallu gostwng prisiau, ac mae'n argoeli i fod yn fodel llwyddiannus iawn.

Rwy'n credu bod y ffordd y cyflwynwyd rhai o'r newidiadau gan Trafnidiaeth Cymru yn ddiweddar wedi bod yn wael o ran diffyg ymgynghori, ac mae honno'n sgwrs yr wyf i wedi ei chael gyda'r prif weithredwr, ac maen nhw wedi cydnabod bod angen iddyn nhw wneud yn well yn hynny o beth. Ond mae ei egwyddor, sy'n golygu coridorau cyflym, yn hytrach na galw ym mhob pentref, a galw mewn gorsafoedd allweddol, nid pob gorsaf, yn rhoi dewis arall gwirioneddol i bobl ar gyfer y teithiau hynny ar fws yn hytrach na mewn car. Ac yna, yn amlwg, mae angen ategu hynny gyda gwasanaethau Fflecsi sy'n ymateb i'r galw sydd wedyn yn cyfrannu at y dull prif goridor, asgwrn cefn hwnnw.

Ac mae hynny, eto, yn rhywbeth yr ydym ni'n gobeithio ei weld yn cael ei ddatblygu o dan y cynllun masnachfreinio, a dyna'r gwaith y mae Gwynedd ac Ynys Môn wedi ei wneud yn llwyddiannus gyda ni i roi syniad o sut beth yw rhwydwaith craidd, pa ddarnau fyddai angen iddyn nhw ymateb i'r galw a pha ddarnau fyddai angen iddyn nhw fod yn wasanaethau wedi'u hamserlennu. Ac os edrychwch chi yn atodiad adroddiad Burns, ar y gwaith ar groesfan afon Menai, mae gwaith manwl yno sy'n dangos yn union sut y gallai rhwydwaith bysiau da weithio i dynnu rhai o'r teithiau hynny oddi ar y ffordd.

Felly, rwy'n credu bod yr egwyddor a'r dull bellach wedi'i sefydlu, mae'r gwaith yn digwydd drwy Trafnidiaeth Cymru gyda'r cyd-bwyllgorau corfforedig, ac rwy'n credu mai mater yw hi bellach o fynd â hynny drwy'r broses. Masnachfreinio fydd y newid mwyaf radical i'r diwydiant bysiau yn unrhyw le yn y DU. Mae'n mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn y mae Manceinion yn ei wneud, ac mae'n ddiwygiad sylfaenol i'r ffordd yr ydym ni'n dylunio ein gwasanaethau bysiau. Mae'n gyffrous, ond mae'n bwysig ein bod ni'n ei wneud mewn camau. Mae cymaint a allai fynd o'i le os byddwn ni'n ei wneud ar frys, gan ein bod ni'n newid popeth fwy neu lai. Felly, bydd yn cymryd sawl blwyddyn, a byddwch yn gweld y map llwybrau y byddwn ni'n ei gyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf, gyda llinell amser. Ond bydd yn broses cam wrth gam, ac mae'r gwaith hwnnw eisoes ar y gweill, ac rwy'n credu y bydd hynny'n ein cael ni i le llawer gwell erbyn diwedd y broses.

Mae ceir, wrth gwrs, yn hanfodol. Does neb eisiau cael gwared ar geir. Mae ceir yn eithriadol o gyfleus a hyblyg. Ond ar gyfer llawer o deithiau, nid oes angen car arnoch chi, neu ail gar, os oes dewis arall da ar gael, ac ni all llawer o bobl, yn wir, fforddio hynny. Bydd teithiau y mae trafnidiaeth gyhoeddus yn gwbl anymarferol ar eu cyfer bob amser. Nid oes unrhyw un yn gwadu hynny, a dyna pam mae angen rhwydwaith ffyrdd wedi ei gynnal yn dda arnom ni, yn ogystal â seilwaith gwefru, fel y gwnaethoch chi sôn. Mae gennym ni gynlluniau sy'n canolbwyntio ar ardaloedd lle mae'n debygol y bydd methiant yn y farchnad. Mae ardaloedd gwledig yn amlwg ar frig y rhestr yn hynny o beth, lle mae cwmnïau masnachol yn annhebygol o fod eisiau rhoi buddsoddiad yn gyntaf. Felly, dyna lle dylid blaenoriaethu cymhorthdal cyhoeddus, gan ganiatáu i'r sector preifat wneud yr hyn y mae'n ei wneud orau, o ran lle mae elw i'w wneud mewn ardaloedd mwy trefol.

Yn olaf, o ran y ddadl dros fynediad diogel a chyfartal, mae hynny'n gwbl gywir, ac mae gennym ni banel cryf iawn o bobl anabl yn gweithio gyda ni, y mae Jane Hutt wedi helpu i'w gynnull. Mae'n gweithio gyda hi a chyda TrC, sy'n darparu her wirioneddol ac adeiladol i ni o ran dylunio ein system drafnidiaeth. Eto, wrth i ni newid i fflyd newydd o fysiau, y fantais yw y gallwch chi wneud yn siŵr eu bod nhw'n fodern ac yn hygyrch i bawb.

Felly, rwy'n credu bod llawer yn digwydd, ac rwy'n credu, fel y dywedais, ar sail drawsbleidiol, fod yr adroddiad hwn gan Burns, ar gyfer yr holl awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru, yn darparu cyfres ymarferol o gynlluniau bellach y gallwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd i'w datblygu. Dyna pam roeddwn i mor awyddus i sicrhau bod yr hyn sydd wedi digwydd yn y de-ddwyrain gyda Burns yn ddigwydd yn y gogledd bellach. A chydag amser, gallwn ni i gyd gyflawni hynny gyda'n gilydd.

17:15

Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad hwn y prynhawn yma. Gweinidog, mae trigolion Alun a Glannau Dyfrdwy yn gweld y problemau a achosir gan dagfeydd ar Aston Hill bob dydd. Mae'r tagfeydd yn golygu amseroedd teithio hirach ac ansawdd aer gwaeth. Cefnogais y llwybr coch oherwydd byddai'n gwella ansawdd aer y trigolion hyn, fel yr oeddwn yn ei ddeall. Os nad yw'r llwybr hwn yn mynd rhagddo, mae'n rhaid cynnig dewisiadau eraill ymarferol i bobl.

Rwy'n croesawu i'r Gweinidog, yn ei ddatganiad agoriadol, ddweud nad geiriau yn unig yw'r rhain, ond gweithredu. I mi, mae'r weithred yn ymwneud â buddsoddi, ac yn ymwneud â buddsoddi yn y dewisiadau amgen hynny yn y gogledd-ddwyrain. O ystyried cyhoeddi'r comisiwn trafnidiaeth a'r datganiad heddiw, a allwch chi nodi sut rydych chi'n rhagweld y buddsoddir yn y gogledd-ddwyrain, a sut y gallaf ddiweddaru fy nhrigolion yn hynny o beth?

Diolch. Ydw, rwy'n credu bod yr adroddiad hwn yn ddilyniant pwysig i'r adolygiad ffyrdd a wnaeth y casgliad hwnnw ar y llwybr coch, oherwydd mae'n nodi sut beth fydd dewis arall ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ymarferol, a'r camau pendant y mae angen i ni eu cymryd i gyrraedd yno. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yn edrych ar yr argymhellion manwl ar gyfer ei ran o'r gogledd-ddwyrain ac yn gweld, pe cai'r rhain i gyd eu gweithredu, y bydden nhw'n creu dewis arall hyfyw i bobl.

Rwy'n cydnabod ei bwyntiau ar Aston Hill. Mae'n ymwybodol bod y dystiolaeth yn glir iawn: allwch chi ddim adeiladu eich ffordd allan o dagfeydd. Rydym ni bob amser wedi cydnabod y bydd elfennau o'r hen lwybr coch a fydd angen ymyrraeth ar ffurf ffordd i'w datrys, ac mae Aston Hill yn debygol o fod yn un o'r rheini. Mae gwaith yn parhau o ran dylunio a datblygu hynny. Yn amlwg, nid oedd gennym ni'r arian i adeiladu'r llwybr coch, ni waeth a oeddem yn meddwl ei fod yn syniad da ai peidio, ac yn syml, nid oes cannoedd o filiynau o bunnoedd yn aros i gael eu gwario ar gynlluniau amgen. Felly, mae angen i ni ddatblygu hynny, ochr yn ochr â dewisiadau amgen, trwy gynllun trafnidiaeth rhanbarthol cydlynol, a gweithredu hynny.

Hefyd, un o'r prif argymhellion yw'r orsaf newydd yng Nglannau Dyfrdwy ar gyfer yr ystad ddiwydiannol. Mae costau ynghlwm â hynny, ac, unwaith eto, mae hynny'n beth arall lle mae angen i ni gael buddsoddiad rheilffordd ar gyfer yr holl filoedd o bobl hynny sy'n gweithio bob dydd yng Nglannau Dyfrdwy—lle nad oes gennych chi ddewis ar hyn o bryd ond mynd mewn car—i roi dewis arall go iawn iddyn nhw. Rwy'n credu bod llawer o enghreifftiau fel hynny drwy'r adroddiad hwn a all roi gobaith i bobl nad rhoi terfyn ar bethau ydym ni, rydym yn darparu dewisiadau amgen.

Diolch yn fawr, Dirprwy Weinidog, am y datganiad y prynhawn yma. Wrth i chi ymateb i un o fy nghyd-Aelodau yn gynharach, roeddwn yn falch bod yr adroddiad yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau teithio rhwng gogledd Cymru a Lloegr, ac y bydd y cysylltiadau trafnidiaeth gwell, ac rwy'n dyfynnu

'yn dod â mwy o gyfleoedd gwaith o fewn cyrraedd pobl, i'r rhai yng ngogledd Cymru ac yng ngogledd-orllewin Lloegr'.

Ac fel y bydd cyd-Aelodau ar draws y Siambr yn gwybod, mae'n bwysig iawn i bobl yng ngogledd Cymru gael y cysylltiadau cryf hynny â'n ffrindiau yn Lloegr, a fydd yn cryfhau'r sylfaen economaidd a'r rhagolygon swyddi ar gyfer y ddwy ardal.

I'r perwyl hwn, mae cynnwys Llywodraeth y DU, wrth gwrs, yn bwysig iawn. Mae'n rhaid i mi ddweud, roeddwn i ychydig yn siomedig efallai yn y ffordd yr oeddech chi'n cyfeirio atyn nhw yn eich sylwadau cynharach, ond braf oedd gweld bod yr adroddiad yn cydnabod pwysigrwydd y parth buddsoddi newydd ar gyfer Wrecsam a sir y Fflint hefyd, sydd, rwy'n credu, yn fenter i'w chroesawu'n fawr. Mae'r adroddiad yn dweud

'Bydd parth buddsoddi o fudd i bobl yng ngogledd Cymru o ran buddion cyflogaeth, sgiliau a hyfforddiant drwy helpu i gyflawni
rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol sy’n gweithredu’n dda.'

Felly, Dirprwy Weinidog, a allwch chi ehangu ar sut y bydd Llywodraeth Cymru yn manteisio ar fuddion y parth buddsoddi ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth arfaethedig drwy'r sgiliau a'r hyfforddiant newydd a gaiff pobl? Diolch.

17:20

Diolch. Fel y gwyddoch chi, un o argymhellion yr adolygiad ffyrdd oedd edrych ar Wrecsam a'i farnu yn erbyn ein polisi cynllunio 'Cymru'r Dyfodol' a strategaeth drafnidiaeth Cymru, ac rydym yn ceisio gwneud y gwaith gyda'r awdurdod lleol yn y fan yna. Nid yw'r ffaith eu bod wedi dewis dileu eu cynllun datblygu lleol eu hunain yn helpu, oherwydd mae angen i ni ystyried cludiant a chynllunio gyda'i gilydd ar yr un pryd, oherwydd eu bod mor annatod i'w gilydd. Felly, rydym yn awyddus i barhau i weithio gyda nhw wrth iddyn nhw ddatblygu'r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol yn rhan o gyd-bwyllgor corfforedig gogledd Cymru, ac i wneud hynny, fel y dywedaf, ochr yn ochr â'i gynlluniau tai, felly rydym yn sicrhau nad yw datblygiadau yn creu pwysau tagfeydd ychwanegol mewn un lle, sydd wedyn yn creu tagfeydd pellach i weddill yr ardal.

Rhan o'r adolygiad ffyrdd hefyd oedd edrych ar safleoedd sydd wedi eu nodi fel rhai ar gyfer datblygu economaidd yn bennaf—ac roedd nifer o'r rheini—ac nid i, ar un ystyr, greu ffyrdd osgoi yn llechwraidd, trwy greu datblygiad y tu allan i'r dref heb unrhyw feddwl sut y byddai pobl yn cyrraedd yno heblaw mewn car. Ac rydym ni nawr yn gweithio drwy—. Rydym ni wedi sefydlu grŵp, dan arweiniad y Cynghorydd Llinos Medi, arweinydd cyngor Ynys Môn, a'r Cynghorydd Anthony Hunt, arweinydd Torfaen, i edrych, o safbwynt datblygu economaidd, ar sut y gallwn ni sicrhau ein bod yn hwyluso prosiectau datblygu economaidd a datblygiad, ond yn ei wneud mewn ffordd nad yw'n ychwanegu at ein problem tagfeydd ac, yn wir, yn helpu gyda'n hagenda newid moddol. Cwrddais â'r grŵp hwnnw, wythnos diwethaf, rwy'n credu, ac maen nhw'n gwneud cynnydd da.

Fel y dywedais i, mae'n rhaid, nawr, i'r cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol hynny fod yn allweddol. Mater i'r gogledd yw penderfynu ar ei flaenoriaethau. Rwy'n gwybod bod galwadau wedi bod arnom ni i ddatganoli cyllidebau a thrafnidiaeth yn gyfan gwbl i'r gogledd a dyna'r cyfle i'r cyd-bwyllgor corfforedig brofi ei werth, i fwrw ymlaen â'r cynlluniau hyn, yn seiliedig ar hyn, gobeithio, adroddiad Burns, y gyfres hon o gynlluniau, a fydd yn fodd i barth buddsoddi Wrecsam asio â thref Wrecsam a lle mae angen i'r bobl sy'n byw yno gyrraedd, a'u cysylltu â thrafnidiaeth gyhoeddus, fel nad oes rhaid iddyn nhw gael car. Bydd ar bobl bob amser eisiau car, bydd angen i bobl gael car, ond ni ddylem ni orfodi pobl i ddim ond bod â char fel dewis hyfyw, sef rhywbeth yr ydym ni'n ei wneud, yn rhy aml. Ac mae'r adroddiad hwn yn ymwneud â darparu dewisiadau amgen ymarferol.

Diolch i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad ac i'r comisiwn am eu gwaith nhw. Dwi am ganolbwyntio fy ychydig gwestiynau ar Ynys Môn a chroesiad y Fenai. Mae'r Dirprwy Weinidog, wrth gwrs, yn gwybod am fy rhwystredigaeth i am y penderfyniad gafodd ei wneud i ganslo'r cynlluniau am y croesiad newydd, neu ddeuoli croesiad Britannia. Dwi'n dal yn grediniol mai dyna fydd y buddsoddiad angenrheidiol yn y pen draw er mwyn sicrhau gwytnwch yn yr hir dymor. Mae pont y Borth yn 200 oed ymhen dwy flynedd. Mi fydd angen cryfhau, dwi'n meddwl, y croesiad ar gyfer y dyfodol. Oes posib y gall y Gweinidog gadarnhau ei fod o leiaf yn barod i gadw'r cynllun hwnnw yn fyw, fel y gall olynydd iddo edrych arno fo yn ffres yn y dyfodol, o bosib?

Dwi yn hapus i weld cyfres o argymhellion yn cael eu derbyn—y chwe argymhelliad cyntaf a wnaed gan y comisiwn. Mi fyddwn i'n gwerthfawrogi, serch hynny, amserlen ynglŷn â'u gweithredu nhw. Mae rhai ohonyn nhw'n bethau a oedd wedi cael eu crybwyll pan gaewyd pont y Borth, fel mesurau dros dro, a gwnaethpwyd dim byd amdanyn nhw bryd hynny. Cwestiwn arall ynglŷn ag amserlen. Mae yna fwy na dim ond y chwe argymhelliad yna, argymhellion pwysig iawn ynglŷn ag edrych ar sut fyddai'r system tair lôn yn gweithio, ac edrych ar gyflwyno system teithio llesol—mi fyddai hynny wedi bod yn fantais fawr o gael y trydydd croesiad, wrth gwrs. Pa bryd y gallwn ni ddisgwyl i'r Llywodraeth gymryd y cam i o leiaf ddechrau ar y gwaith o ystyried y rheini? Neu rydyn ni'n sôn am gynlluniau fydd yn cael eu gwthio flynyddoedd i mewn i'r dyfodol, dwi'n ofni.

17:25

Diolch. Yn anffodus, wnes i ddim dod â'r atodiad gyda mi, ond mae'r atodiad yn nodi'n eithaf manwl y camau nesaf a'r cynlluniau, ac mae llinellau amser ar gyfer rhai ohonyn nhw, gan gynnwys rhoi mesurau i liniaru'r gwynt i leihau sawl gwaith y caiff y bont ei chau ac i edrych, yn benodol, ar yr opsiwn tair lôn honno. Felly, rwy'n credu bod popeth yno. Rwy'n credu ei fod yn ddarn trylwyr iawn o waith sy'n rhoi rhywbeth diriaethol i ni weithio gydag ef, a byddwn yn hapus i anfon llythyr at yr Aelod i nodi rhai dyddiadau lle gallwn ni. Ond mae llawer o hyn nawr yn ymwneud â'r cydweithio gyda'r asiantaeth gefnffyrdd, yr awdurdod lleol, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â hynny.

O ran y drydedd groesfan, rwy'n credu bod yr adroddiad yn rhoi peth eglurder iddo, oherwydd mae'n dweud yn y dyfodol na fyddai'n diystyru'r angen am drydedd groesfan os, yn wir, bod yna ddatblygiad niwclear ar yr ynys. Ond byddai angen cadw costau hynny mewn cof fel rhan o'r cyflenwad pŵer, y cysylltydd grid cenedlaethol, yn ogystal â chost adeiladu'r orsaf. Os, yn y dyfodol, y daw hynny'n ymyrraeth y gellir ei chyfiawnhau, nid oes gwrthwynebiad ideolegol na dogmatig i drydedd groesfan. Fel y mae pethau, nid oedd y ddwy astudiaeth yr ydym ni nawr wedi'u comisiynu, yr adolygiad ffyrdd a chomisiwn Burns, wedi canfod achos digon cryf i gyfiawnhau cyllid o tua £400 miliwn ar gyfer croesfan pan fyddai modd gwneud mwy yn y tymor byr i'r tymor canolig i wella gwytnwch y croesfannau presennol. Ond os bydd y ffeithiau'n newid, i ddefnyddio ymadrodd enwog Maynard Keynes, rydym yn newid ein meddwl, ac os yw'r darlun hwnnw'n newid ar Ynys Môn, yna bydd angen i ni edrych ar hynny a chwilio am gyllid ar ei gyfer. Ond rwy'n credu mai'r hyn y mae angen i ni ganolbwyntio arno ar hyn o bryd yw sut y gallwn ni wneud y defnydd mwyaf o'r hyn sydd gennym ni.

Roeddech chi'n sôn yn gynharach eich bod yn ystyried sefydlu uned teithio llesol yn y gogledd hefyd. Felly, a ydych chi'n bwriadu ehangu Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 o gerdded a beicio yn unig i gynnwys trafnidiaeth bysiau hefyd? Pan wnes i gwrdd  â chomisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru, cytunwyd nad oes llawer o ardaloedd ar gyfer llwybrau beicio dynodedig ac y byddai'n rhaid i lawer o bobl ddefnyddio'r seilwaith priffyrdd presennol ar draws y gogledd. Rwy'n gwybod bod cynghorau yn y gogledd yn bryderus iawn am wytnwch y rhwydwaith priffyrdd lleol, ond hefyd yn pryderu am seilwaith y rheilffyrdd yng y gogledd hefyd. Felly, pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i newid hinsawdd a'r gwytnwch ar gyfer y dyfodol? Ni allwn weld hynny yn adroddiad y comisiwn, yno.

O ran cyflawni, hefyd, fe ddywedoch chi ei bod hi'n bryd cyflawni nawr, sy'n bwysig iawn. Felly, a fydd grŵp rhanbarthol gogledd Cymru yn gorff cyflawni, gan weithio gyda chyd-bwyllgorau corfforedig? Nid yw cyd-bwyllgorau corfforedig wedi cael eu ffurfio'n iawn eto, felly dim ond eisiau gwybod am hynny ydw i.

Ac yna, yr arian. Mae masnachfreinio yn mynd i fod yn ddrud i fysiau, ac rwy'n cytuno mai dyma'r ffordd briodol i fynd o'i chwmpas hi, ond clywsom y cyhoeddiad am drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru. Rwy'n gwybod nad oes cyllid datblygu a bod Network Rail yn ceisio ei ddatblygu'n fewnol, felly does dim cyllid i'w gefnogi ac ni chafwyd cyllid datblygu ychwaith ar gyfer y parth buddsoddi ar gyfer sir y Fflint a Wrecsam. Felly, mae'n teimlo i mi fel pe bai'n ddim byd ond geiriau, does dim cyllid i'w gefnogi, ac eto mae'r porthladd rhydd wedi cael £200,000 o gyllid datblygu, y gallan nhw ei ddefnyddio. Felly, dim ond eich barn chi ar hynny, os gwelwch yn dda, hefyd—eich sylwadau ar hynny. Diolch.

Unwaith eto, fel y dywedais i, rydym ni'n cefnogi trydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, bu hynny yn ein cynlluniau ers amser maith, ond mae yna bethau y gellir eu gwneud yn llawer cynt a fydd yn cael llawer mwy o effaith sydd â chynlluniau iddyn nhw, sydd â chefnogaeth iddyn nhw, yr ydym ni'n credu sy'n fwy o flaenoriaeth. Yn anffodus, yn seiliedig ar yr hyn rwyf wedi'i weld o safbwynt yr Adran Drafnidiaeth ar brif reilffordd y gogledd, y ffaith nad oedd Network Rail hyd yn oed yn gwybod amdano, nad oes gwaith datblygu, bod ceisiadau rhyddid gwybodaeth wedi cadarnhau nad oes unrhyw gostau iddo, mae arnaf ofn mai rhethreg wag cyn etholiad ydyw, yr wyf yn gresynu yn ei gylch, oherwydd dyma'r math o beth sy'n magu sinigiaeth am wleidyddiaeth, pan fo pobl yn gwneud addewidion a does ganddyn nhw ddim bwriad o'u cyflawni. Rwy'n ofni mai dyna'n union sy'n debygol o ddigwydd gyda'r trydaneiddio honedig i linell y gogledd. Fe gofiwch eu bod wedi addo trydaneiddio prif reilffordd de Cymru i ni a thorri'r addewid hwnnw hefyd, felly mae rheswm i fod yn sinigaidd, yn anffodus.

O ran eich sylw am yr uned teithio llesol, wel, teithio llesol yw hynny'n union, mae'n golygu cerdded a beicio, ac olwynio, felly nid yw'n ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus, ond mae'n amlwg bod angen i'r ddau ategu ei gilydd. Holl ddiben y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol yw eu bod yn asio, a chyfrifoldeb y cyd-bwyllgor corfforedig yw cyflawni hynny. Rydym ni wedi egluro wrthyn nhw ein bod ni'n ail-greu Trafnidiaeth Cymru i'r hyn rwy'n ei alw'n Trafnidiaeth Cymru 2. Rhoddais araith i staff Trafnidiaeth Cymru yn ddiweddar, i'r bobl â gwir ddiddordeb, sydd wirioneddol eisiau deall glo mân hyn, ond mae'r cyfan wedi'i nodi yno o ran beth mae hynny'n ei olygu i Trafnidiaeth Cymru. Ond yn y bôn, mae'n golygu ei bod yn asiantaeth darparu trafnidiaeth modd-agnostig, lle mae'n edrych ar anghenion pobl a sut i helpu pobl symud o A i B, a darparu'r modd o deithio o gwmpas hynny. Felly, efallai y byddai'n well iddyn nhw yn y car, efallai ei fod yn well iddyn nhw deithio mewn modd arall. Dydyn nhw ddim yn dechrau gyda rhagdybiaeth mai'r ateb yw rheilffordd neu mai'r ateb yw bws neu mai'r ateb yw teithio llesol.

Rwy'n credu bod honno'n agenda gyffrous iawn, ac maen nhw'n sicr yn ei chofleidio. Felly, byddant yno i helpu cyd-bwyllgorau corfforedig. Does arnaf i ddim eisiau i gyd-bwyllgorau corfforedig gymryd ein harian a'i wario ar ymgynghorwyr drud i gynhyrchu erwau o bapur sy'n golygu ychydig iawn. Rydym ni wedi dweud wrthyn nhw'n glir iawn bod Trafnidiaeth Cymru yno iddyn nhw ei ddefnyddio. Dyma eu hymgynghorydd mewnol. Maen nhw yno i helpu, dydyn nhw ddim yno i geisio cymryd yr awenau; maen nhw yno i roi'r cymhwysedd a'r gallu a'r dadansoddiad a'r data iddyn nhw adeiladu'r cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol hynny ynghyd â nhw. Bydd y strwythur yr ydym ni'n ei greu o amgylch y gwasanaeth bws yn un driphlyg, fel y gwyddoch chi, gydag awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru yn eistedd fel partneriaid cyfartal yn arwain y meddwl hwnnw.

Mae eich sylw am wytnwch rheilffyrdd rhag bygythiad newid hinsawdd yn un pwysig iawn, iawn, ac rwy'n falch ichi wneud y sylw. Rydych chi'n iawn nad yw'n rhywbeth y mae'r adroddiad yn canolbwyntio arno. Mae llawer o'n seilwaith rheilffyrdd, yn enwedig yn y gogledd, yn eithriadol o agored i dywydd gwyllt, llifogydd a lefelau'r môr yn codi. Mae Network Rail eu hunain wedi gwneud cryn dipyn o waith ar addasu ac edrych ar ble mae'r rheilffordd yn arbennig o agored i niwed. Mae'n hynod fregus, ac mae'n mynd i gostio llawer iawn o arian yn ystod yr 20 i 30 mlynedd nesaf i ymdrin â hynny. Dyna reswm arall pam rwy'n credu y dylem ni fod ychydig yn ofalus ynghylch datganoli rheilffyrdd heb yr arian, oherwydd os nad ydym ni'n ofalus, byddwn yn ymgymryd ag atebolrwydd drud iawn heb unrhyw arian i'w gywiro. Felly, mae hynny'n fygythiad mawr i ni ledled Cymru, ac yn y gogledd yn benodol, ac mae hi'n hollol briodol tynnu sylw ato. Rwy'n gobeithio fy mod i wedi ateb y cwestiynau.

17:30

Gweinidog, rydych chi'n gwybod, yn cynrychioli Aberconwy, fy mod i wedi sôn yn aml yma wrthych chi am faterion ynghylch yr A470, ac mae gennym ni rai troadau ac anawsterau peryglus rhwng Glan Conwy, Maenan a Llanrwst. Ysgrifennais i atoch chi ym mis Ebrill, ac fe wnaethoch chi ysgrifennu'n yn ôl ataf yn datgan y bydd rhan yr A470 rhwng Glan Conwy a Betws-y-coed yn dod o dan y comisiwn hwn. Wrth geisio mwy o wybodaeth, ysgrifennais at Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru, a ymatebodd yn dweud wrthyf nad yw'r comisiwn yn ystyried cynlluniau ffyrdd penodol ar draws y rhanbarth fel rheol. Rwy'n deall o ddarllen yr adroddiad nawr na fu unrhyw gyfeiriad gwirioneddol at yr A470. Felly, a wnewch chi edrych ar hynny eto, os gwelwch yn dda? Mae'r adroddiad yn nodi, 'Rydym ni’n cydnabod mai'r car preifat fydd y prif ffordd mae llawer o bobl yn gwneud llawer o deithiau'. Nid oes argymhelliad mewn perthynas â gwella'r A470, felly a wnewch chi egluro pa waith fydd yn cael ei wneud i wella'r darnau peryglus niferus yr wyf wedi dwyn i'ch sylw ar sawl achlysur?

Rwyf wedi bod yn falch iawn o weld argymhelliad y dylid cynyddu amlder gwasanaethau a gwella capasiti trenau ar reilffordd Dyffryn Conwy. Rwyf wedi gofyn am hynny sawl gwaith, felly a allwch chi roi mwy o fanylion i mi ynghylch hynny? Ac yn olaf, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ran ganolog rheilffordd Dyffryn Conwy wrth ddod â thwristiaid i'r ardal hon. Unwaith eto, rwyf wedi ymgyrchu ers tro am daith o Flaenau Ffestiniog i Faes Awyr Manceinion, a phob math o bosibiliadau eraill. Felly, sut ydych chi'n mynd i hyrwyddo'r geiriau a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn i weld mwy o ymwelwyr ag Eryri yn defnyddio llinell Dyffryn Conwy? Diolch.

Diolch. Mae'r adroddiad yn dweud yn eithaf manwl beth yw ei awgrymiadau ar gyfer llinell Dyffryn Conwy a'i integreiddio â gwasanaeth bws Sherpa, a bu gwelliant sylweddol yn hynny o beth. Ymwelais i ddim mor bell yn ôl a'i weld drosof fy hun. Mae'n drawiadol iawn ac yn amlwg yn werthfawr iawn yn lleol, a bu hynny yn gam gwirioneddol ymlaen. Rwy'n credu ei fod yn fodel i feysydd eraill ei ddilyn, felly rwy'n credu bod angen mwy o hynny arnom ni. Mater i'r cyd-bwyllgor corfforedig, trwy eu cynllun trafnidiaeth rhanbarthol, yw cyflawni hynny wedyn, ac felly hefyd gwelliannau'r A470. Felly, rwy'n credu mai dyna'r ateb i'r cwestiwn yna. Mae hyn yn ymwneud â chyfres o argymhellion; eu cyflwyno yw'r cam nesaf. Bydd yn rhaid i'r cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol sefydlu rhestr o gynlluniau blaenoriaeth, a fydd wedyn yn gwneud cais am gyllid, a byddwn yn gwneud hynny mewn cydweithrediad agos â nhw drwy Trafnidiaeth Cymru. Dyna'r cam nesaf yn sicr.

O ran troadau peryglus ar yr A470, roedd yr adolygiad ffyrdd ac adolygiad Lugg, a gyhoeddwyd gennym ni ar gyfer cynnal a chadw, yn glir iawn mai'r ffordd yr awn ni ati yw, lle mae materion diogelwch ffyrdd ar y rhwydwaith cefnffyrdd, y dylem ni yn gyntaf fod yn edrych ar newidiadau bach a lleihau terfynau cyflymder, yn hytrach nag uwchraddio mawr ar y seilwaith, sy'n ddrud, sy'n garbon ddwys ac sy'n gwneud fawr mwy na chynyddu capasiti ffyrdd. Rwy'n hapus i barhau â'n gohebiaeth—mae'n rhywbeth y byddaf yn hiraethu amdano pan ddaw fy nghyfnod yn y swyddogaeth hon i ben—ond mae'r ffordd gyffredinol y byddwn yn mynd ati yn edrych ar fesurau eraill yn gyntaf, yn hytrach na dim ond cael y lorïau concrit allan.

17:35

Diolch, Llywydd. A gaf i ddweud fy mod i'n croesawu llawer o'r hyn sydd yn yr adroddiad gan y comisiwn? Mae gen i rai pryderon nad yw'n adlewyrchu'r realiti ar lawr gwlad o ran rhai o'r ffyrdd y mae ein system drafnidiaeth yn gweithio yn y gogledd, ond serch hynny, mae gwaith da wedi'i wneud arno.

Un o'r materion nad ydw i'n credu yr ymchwiliwyd iddo'n ddigonol oedd cyfle i gael mwy o newid dulliau teithio ar hyd arfordir y gogledd drwy drosglwyddo mwy o ddefnyddwyr ceir i'r rhwydwaith rheilffyrdd drwy gyflwyno cyfle i ddefnyddio cardiau teithio rhatach ar reilffordd y gogledd ar adegau tawel. Mae'n rhywbeth yr wyf wedi'i awgrymu yn y Siambr hon ar sawl achlysur. Rydyn ni'n gwybod bod yna adegau o'r dydd pan fo digon o gapasiti ar reilffordd y gogledd. Gallai hynny symud pobl o'u ceir i reilffordd y gogledd os ydyn nhw eisiau teithio o lefydd fel Caer i Fangor, neu ble bynnag maen nhw eisiau cyrraedd. Rwy'n credu bod hwn yn gyfle a gollwyd. Tybed, Gweinidog, a yw hyn yn rhywbeth y byddwch chi'n gofyn i'ch swyddogion ystyried ei ddichonoldeb, oherwydd rwy'n credu ei fod yn gyfle enfawr y dylem fanteisio arno.

Rwy'n cytuno. Ni ddylai consesiwn fod ar gyfer pobl hŷn yn unig; dylai hyn fod ar gael i bawb, i annog, fel y dywedwch chi, llenwi trenau gwag â theithwyr. Yn fy araith i TrC yn nodi eu camau nesaf, gofynnais iddyn nhw edrych ar fodel gwahanol ar gyfer prisio rheilffyrdd, oherwydd bod gennym fodel economaidd wirioneddol broblemus ar gyfer rheilffyrdd. Mewn gwledydd eraill, derbynnir bod cost y rheilffordd yn cael ei hysgwyddo gan y trethdalwr, ac yn ein gwlad ni mae gennym fodel lle rydym yn tybio y bydd teithwyr yn talu am gyfraniad mawr o gost teithio ar drenau. O ganlyniad, mae gennym docynnau trên drud iawn, sydd yn aml yn ei gwneud yn anfforddiadwy i deuluoedd, ac yn aml mae'n rhatach teithio mewn car nag ydyw i sawl person deithio ar y trên. Mae hynny'n amlwg yn mynd yn groes i'r amcanion sydd gennym ar newid dulliau teithio.

Mae llawer o hynny'n cael ei ysgogi gan y ddeddfwriaeth preifateiddio rheilffyrdd a'r ffordd yr ydym yn trin prisiau tocynnau a reoleiddir a phrisiau tocynnau na chaiff eu rheoleiddio; mae'n wledd go iawn i bobl sydd â diddordeb mawr yn hyn. Ond mae angen i ni ddod o hyd i ffordd o ddatrys hynny. Felly, yr hyn rydw i wedi gofyn i TrC ei wneud yw edrych ar ddull Ryanair neu ddull Megabus o brisio. Mae'n ymddangos bod aelodau o fy nheulu i yn eithaf hapus i deithio ar adegau anghymdeithasol er mwyn teithio am bris rhad ar y Megabus, a byddai pobl yn barod i wneud yr un peth. Pam mae'r trên 06:30 yn wag pan allwn ni fod yn cynnig tocynnau am swm bach iawn o arian i gael pobl ar y rheilffyrdd hynny? Mae'n swnio'n haws nag ydyw yn ymarferol i'w wneud, oherwydd bod y diwydiant rheilffyrdd mor gymhleth, ond mae hynny'n rhywbeth y mae TrC yn mynd ati i edrych arno ac yn modelu i weld a allwn ni gael teithio rhad iawn ar y gwasanaethau llai poblogaidd ai peidio.

Ond, wrth gwrs, mae hyn i gyd yn dibynnu ar gyllid, onid ydyw, a faint o arian rydyn ni'n barod i'w roi i drafnidiaeth gyhoeddus a'r cydbwysedd rhwng y rheilffyrdd a'r bws. Oherwydd gallwn ni ddarparu llawer mwy o werth o fysiau nag y gallwn o'r trenau o ran nifer y teithwyr a'r ardaloedd hynny nad ydynt wedi'u cysylltu gan reilffordd. Mae honno'n ddadl barhaus y mae angen i ni ei chael ynglŷn â sut rydyn ni'n gwneud y pethau hynny. A dyna beth yw addewid pecyn diwygio bysiau TrC, rwy'n credu: caniatáu i ni, am y tro cyntaf, gynllunio'n strategol sut y gall bysiau a rheilffyrdd integreiddio'n iawn. Oherwydd ar hyn o bryd rydyn ni i bob pwrpas yn sybsideiddio rheilffordd i redeg ochr yn ochr â gwasanaeth bws. Maen nhw'n cystadlu yn erbyn ei gilydd tra bod rhannau eraill o ardal heb wasanaeth o gwbl. Yr hyn y byddwn ni'n gallu ei wneud gyda masnachfreinio bysiau ar waith yw symud i ffwrdd o hynny a dweud, 'Byddwn ni'n gwasanaethu'r llwybr hwnnw ar y rheilffordd, a byddwn yn gwasanaethu'r llwybr hwnnw ar fws, ac ni fyddwn yn eu cael yn cystadlu'. Trwy hynny, gallwn ni fod â system drafnidiaeth integredig wirioneddol gydgysylltiedig.

Felly, mae llawer o fanylion i'w cael yn iawn, ac mae gan y consortia rôl allweddol i'w chwarae wrth gymhwyso hynny yn eu hardal leol, ac mae gan TrC rôl allweddol i'w chwarae wrth roi'r wybodaeth a'r arbenigedd iddyn nhw i gysylltu hynny â'i gilydd. Bydd y ddeddfwriaeth rwy'n gobeithio y byddwn yn ei phasio yn ddiweddarach eleni yn darparu fframwaith cyfreithiol i wneud i hynny ddigwydd. Rwy'n credu bod yna newid enfawr sydd wedi bod yn digwydd mewn trafnidiaeth o dan y bonet, os nad oes ots gennych chi i mi ddefnyddio'r ymadrodd, dros y tair i bedair blynedd diwethaf. Bydd yn cymryd amser i ddangos ei hun a gweithio drwyddo. Ond ar fysiau, rheilffyrdd, teithio llesol a ffyrdd, mae'r Llywodraeth hon wedi rhoi diwygiadau radical a phellgyrhaeddol ar waith, a fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol yn y blynyddoedd i ddod.

17:40
11. Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol—Rheoliadau Deddf Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2024

Eitem 11 sydd nesaf, memorandwm cydysyniad offeryn statudol ar Reoliadau Deddf Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2024. Y Dirprwy Weinidog, unwaith eto, i wneud y cynnig yma. Lee Waters.

Cynnig NDM8491 Julie James

Cynnig bod Senedd Cymru yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Rheoliadau Deddf Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol a Amrywiol) 2024 yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Ionawr 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Fi eto. Diolch am y cyfle hwn i egluro cefndir Rheoliadau Deddf Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2024. Mae gen i ofn nad ydw i'n gwybod beth yw hynny yn Gymraeg. Y memorandwm a osodwyd gerbron y Senedd—

Wnes i ddim cadw'r wybodaeth, mae gen i ofn, ond fe af yn ôl i edrych ar y cofnod a'i ddysgu fel fy mod yn ei gofio.

Mae'r memorandwm a osodwyd gerbron y Senedd ar 19 Ionawr, ynghyd â'r datganiad ysgrifenedig ar yr un diwrnod, yn crynhoi darpariaethau'r rheoliadau ac yn nodi'r newidiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol y ceisir caniatâd ar eu cyfer. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei waith yn craffu ar y memorandwm cydsyniad offeryn statudol a'i adroddiad a gyhoeddwyd ar 20 Chwefror. Croesawodd y pwyllgor fwriad Llywodraeth Cymru i ofyn am gytundeb y Senedd i gynnwys y ddarpariaeth berthnasol yn Rheoliadau Deddf Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2024, ac maen nhw'n fodlon â'r memorandwm. Rwyf wedi gosod y cynnig yn unol â'r gofynion o dan Reol Sefydlog 30A. Rwy'n ystyried y rheoliadau yn offeryn statudol perthnasol oherwydd eu bod yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd nad yw'n ddarpariaeth ddeilliadol, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol, atodol nac arbedion sy'n ymwneud â materion nad ydynt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Diolch yn fawr iawn.

Efallai fod aelodau yn cofio'r dadleuon a gawsom yn ystod Deddf Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) 2023. Nod y Ddeddf oedd gwella rheoleiddio darparwyr tai cymdeithasol cofrestredig yn Lloegr ac felly'n cael eu rheoleiddio gan y rheoleiddiwr tai cymdeithasol ar gyfer Lloegr. Roedd angen caniatâd y Senedd a rhoddwyd caniatâd. Fy marn i yw y bydd gweithrediad priodol y Ddeddf honno, fel y'i cefnogir gan yr offeryn hwn, yn cael effaith gadarnhaol ar y cyfan ar brofiadau tenantiaid y tua 500 uned o dai cymdeithasol yng Nghymru sy'n eiddo i ddarparwyr cofrestredig neu'n cael eu rheoli gan ddarparwyr cofrestredig sy'n ddarostyngedig i'r drefn reoleiddio ar gyfer tai cymdeithasol yn Lloegr. Mae'r offeryn statudol bellach yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol arall o ganlyniad i'r newidiadau hynny. Rwy'n credu ei bod yn synhwyrol ac yn addas i'r gwelliannau hyn gael eu gwneud er mwyn i Ddeddf 2023 gael eu gweithredu. Mae'r newidiadau yn dechnegol yn unig, ac nid oes unrhyw newid mewn polisi. Felly, mae'n briodol ymdrin â'r darpariaethau hyn yn yr offeryn hwn. Ar y sail hon y rhoddir y cynnig cydsyniad offeryn statudol o'ch blaen i'w gymeradwyo, ac rwy'n cynnig y cynnig.

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, hefyd.

Gwnaethom osod ein hadroddiad ar femorandwm Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Rheoliadau Deddf Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2024 ar 20 Chwefror. Diolch i fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor ac i'n tîm clercio, fel bob amser. Fel y dywedodd y Gweinidog, mae'r rheoliadau hyn yn gwneud newidiadau cymharol fach i wahanol ddarnau o ddeddfwriaeth, sef Deddf Tai ac Adfywio 2008. Mae angen y diwygiadau i adlewyrchu newidiadau a wnaed gan Ddeddf Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) 2023, sy'n gwneud darpariaethau i wella rheoleiddio landlordiaid tai cymdeithasol.

Fel pwyllgor, rydyn ni'n fodlon â'r memorandwm ac asesiad Llywodraeth Cymru bod y diwygiadau i Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 yn berthnasol i ddarparwyr cofrestredig yn Lloegr sy'n berchen ar neu'n rheoli stoc tai cymdeithasol yng Nghymru—a dyna beth rydym yn edrych arno—mae'r rheoliadau'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd hon.

Rydym hefyd yn nodi barn Llywodraeth Cymru ei bod yn briodol i'r rheoliadau wneud y darpariaethau hyn, gan y byddan nhw'n cael effaith gadarnhaol ar y cyfan ar brofiadau tenantiaid yr unedau o dai cymdeithasol yng Nghymru sy'n eiddo i ddarparwyr cofrestredig neu'n cael eu rheoli gan ddarparwyr cofrestredig sy'n ddarostyngedig i'r drefn reoleiddio ar gyfer tai cymdeithasol yn Lloegr. Mae'n bwysig iawn ein bod yn nodi mai dyna yw canolbwynt hyn.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddatgan ein bod yn ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am gyflwyno'r cynnig i geisio cytundeb y Senedd i gynnwys darpariaeth berthnasol yn y rheoliad. Mae'r weithred honno ynddi'i hun i'w chroesawu'n fawr. Llywydd, byddwch yn ymwybodol ein bod wedi galw ar Lywodraeth Cymru o'r blaen i gyflwyno cynigion i ofyn am gydsyniad y Senedd hon ar gyfer defnyddio is-ddeddfwriaeth y DU i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd datganoledig, fel mater o egwyddor. Mater i'r Senedd hon yw pa gasgliad y mae'n dod iddo, ond o leiaf mae gennym gyfle i'w drafod mewn gwirionedd. Felly, mae cyflwyno a phasio cynnig o'r fath yn bwysig, gan mai dyma'r unig ffordd y gellir ceisio caniatâd y Senedd a'i roi mewn perthynas â darpariaeth berthnasol mewn offeryn statudol.

Felly, Gweinidog, a gawn ni groesawu cyflwyno'r cynnig hwn mewn perthynas â'r rheoliadau hyn, a hefyd ein gobaith y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyflwyno cynigion mewn perthynas â darpariaethau sy'n amodol ar femoranda cydsyniad offeryn statudol yn y dyfodol? Mae'n enghraifft dda iawn, ac mae'n dod ag ef yma i ni ei drafod. Diolch yn fawr.

17:45

Iawn. Does dim siaradwyr eraill gennym ni ar y ddadl hon os ydych chi eisiau cloi, Gweinidog.

Diolch, a diolch i Huw Irranca-Davies am ei sylwadau, ac rwy'n cytuno bod hyn o bwys cyfansoddiadol, ond hefyd, o ran gwella bywydau bob dydd pobl yng Nghymru, mae hwn yn gam arwyddocaol. Cynnig technegol yn unig yw hwn, ac nid oes unrhyw newid mewn polisi, fel y soniais i, a'r pwrpas yw gweithredu mesur sydd wedi derbyn cydsyniad y Senedd yn flaenorol, ac rwy'n gobeithio y bydd y Senedd yn cytuno i'w basio heddiw. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does yna ddim gwrthwynebiad, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

12. Cyfnod Pleidleisio

Rŷn ni nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, awn ni'n syth at y pleidleisiau. Heddiw, mae'r pleidleisiau hynny ar y ddadl ar hyblygrwydd cyllidebol a gweithredu fframwaith ariannu'r Deyrnas Gyfunol, ac mae'r bleidlais gyntaf ar welliant 1. Felly, dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

Eitem 4. Dadl: Hyblygrwydd cyllidebol a gweithredu Fframwaith Ariannu'r DU. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 13, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 fydd nesaf. Agor y bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. O blaid 12, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae'r bleidlais yna wedi ei cholli.

17:50

Eitem 4. Dadl: Hyblygrwydd cyllidebol a gweithredu Fframwaith Ariannu'r DU. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 12, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 3 wedi ei wrthod.

Eitem 4. Dadl: Hyblygrwydd cyllidebol a gweithredu Fframwaith Ariannu'r DU. Gwelliant 3, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 12, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 4 sydd nesaf. Mae gwelliant 4 yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 4 wedi ei wrthod.

Eitem 4. Dadl: Hyblygrwydd cyllidebol a gweithredu Fframwaith Ariannu'r DU. Gwelliant 4, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 12, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 5 sydd nesaf, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 12, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant yna wedi ei wrthod.

Eitem 4. Dadl: Hyblygrwydd cyllidebol a gweithredu Fframwaith Ariannu'r DU. Gwelliant 5, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 12, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Dwi'n galw yn olaf, felly, am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 51, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn. 

Eitem 4. Dadl: Hyblygrwydd cyllidebol a gweithredu Fframwaith Ariannu'r DU. Cynnig: O blaid: 51, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Dyna ddiwedd ar y pleidleisio, a dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am heddiw.

Fe wnawn ni gymryd y bleidlais nawr, felly, ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor). Rwy'n galw ar bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Mae'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yna wedi ei wrthod. Diolch i chi am eich amynedd. Ymddiheuriadau wrthyf i am orffen yn rhy gynnar. Prynhawn da. 

17:55

Eitem 5. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor): O blaid: 14, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 17:57.