Y Cyfarfod Llawn

Plenary

21/02/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma, a'r cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd sydd gyntaf y prynhawn yma. Mae cwestiwn 1 [OQ60703] wedi'i dynnu yn ôl. Cwestiwn 2 fydd gyntaf, felly. Sioned Williams.

Trafnidiaeth Gyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru

2. Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru? OQ60682

Diolch am y cwestiwn. 

Mae cyflawni ein gweledigaeth ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus sy’n ddiogel, yn fforddiadwy ac yn hawdd ei defnyddio ledled Cymru yn flaenoriaeth i ni o hyd. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu lefelau uchel o gymorthdaliadau cyhoeddus i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus.

Diolch, Weinidog. Mewn adroddiad a drafodwyd y bore yma gan gyd-bwyllgor corfforedig de-orllewin Cymru ynghylch eu cynllun trafnidiaeth rhanbarthol, dywedasant nad yw’r rhwydwaith trafnidiaeth presennol yn gwasanaethu pobl y rhanbarth yn ddigonol, a bod hyn yn cyfrannu at ganlyniadau gwael, gan gynnwys cyfyngu ar fynediad at gyflogaeth, afiechyd, effeithiau amgylcheddol negyddol ac allgáu cymdeithasol, ac yn nes ymlaen, mae'n dweud bod gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau yn darparu cysylltiadau allweddol rhwng prif ardaloedd poblogaeth, ond mai ychydig o fuddsoddiad a wnaed ynddynt yn y gorffennol diweddar. Ac ar adeg, wrth gwrs, pan fydd economi’r rhanbarth yn cael ei heffeithio’n fawr gan y bygythiad i swyddi yn Tata Steel, bydd system drafnidiaeth annigonol yn gwaethygu’r heriau economaidd ac yn dyfnhau anghydraddoldebau cymdeithasol.

Cafwyd rhywfaint o newyddion da yn ddiweddar wrth i'r weinyddiaeth glymblaid yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot lwyddo i ailgyflwyno nifer o lwybrau bysiau a dorrwyd yn gynharach yn y flwyddyn—rhai yr oeddwn wedi cyfeirio atynt yn faenorol yn y Siambr—ac mae’r gwaith parhaus ar fetro bae Abertawe a gorllewin Cymru wedi arwain at nifer o argymhellion ymarferol. Fodd bynnag, er na ellir gwadu'r dystiolaeth o gynnydd ar fetro de Cymru wrth deithio drwy gymunedau cyfagos y Cymoedd, ni wnaed unrhyw gynnydd gweledol tebyg i lawer o’r cymunedau rwy'n eu cynrychioli. Felly, a all y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd metro bae Abertawe ac amserlenni ar gyfer pryd y gall trigolion ddisgwyl gweld gwelliannau? Diolch.

Diolch, a chan fy mod innau hefyd yn cynrychioli ardal yn y de-orllewin, rwy'n cytuno ynghylch pwysigrwydd metro de Cymru. Rydym bob amser wedi dweud y bydd yn rhaid inni gyflwyno'r metros yn eu trefn, ac rydym yn dechrau gyda metro de-ddwyrain Cymru, ac mae’r gwaith yn mynd rhagddo ar un y gogledd, ac i raddau arafach, ar un y de. Ac mae hyn yn digwydd ochr yn ochr â’r cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol y gofynnir iddynt gael eu datblygu gan y cydbwyllgorau corfforedig. Rydym bellach wedi addasu'r timau datblygu a oedd gennym ar gyfer y metro, gan gynnwys yr un yn y de-orllewin, i fod yn dimau trafnidiaeth rhanbarthol i weithio gyda’r awdurdodau lleol. Felly, mae Trafnidiaeth Cymru yn darparu’r arbenigedd a’r capasiti i awdurdodau lleol sy’n aml yn cael trafferth gyda hynny er mwyn datblygu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol a chynlluniau datblygu rhanbarthol aml-ddull priodol sy’n cyd-fynd â thargedau newid dulliau teithio 'Llwybr Newydd' a’r cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth.

Felly, mae’r gwaith hwnnw’n mynd rhagddo. Maent wedi nodi nifer o gynlluniau yn y de-orllewin. Rwy'n falch fod y gwaith hefyd yn mynd rhagddo ar hyb trafnidiaeth newydd i Gastell-nedd, a fydd yn creu canolfan drafnidiaeth integredig gerllaw gorsaf reilffordd Castell-nedd, sy'n golygu adleoli'r orsaf fysiau bresennol, gan y gwyddom fod integreiddio rhwng y ddau ddull teithio, a'i gwneud yn hawdd gwneud hynny, yn rhan wirioneddol bwysig o berswadio pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Felly, edrychaf ymlaen at weld y cyd-bwyllgor corfforedig yn gweithredu ar y dadansoddiad hwnnw ac yn llunio cyfres o gynlluniau y byddwn wedyn yn ystyried eu hariannu fel rhan o’r cylch cyllido nesaf.

Weinidog, mae llawer o gymunedau ar draws fy rhanbarth wedi eu hynysu am eu bod wedi colli cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig yn fy mhentref i, Pen-y-fai, lle nad oes gwasanaeth bws i Ben-y-bont ar Ogwr na Phorthcawl. Er gwaethaf ymdrechion y cyngor cymuned, mae ein pentref yn parhau i fod heb gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus nac unrhyw lwybrau teithio llesol. Cerbydau preifat yw’r unig opsiwn i drigolion o hyd, ac nid yw'r opsiwn hwnnw gan bawb, yn enwedig ein poblogaeth oedrannus. Weinidog, beth fydd eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod pobl sy’n byw y tu allan i drefi a dinasoedd yn cael mynediad cyfartal at drafnidiaeth gyhoeddus?

Wel, credaf fod Altaf Hussain yn crynhoi'n berffaith beth yw canlyniadau dadreoleiddio’r diwydiant bysiau yn y 1980au, lle nad yw llwybrau’n cael eu cynnig ar sail angen cymdeithasol, ond yn seiliedig ar ble gall cwmnïau preifat wneud elw, a chredaf fod y model preifateiddiedig hwnnw'n amlwg wedi methu, gan nad yw’r hyn yr addawodd ei gyflawni, sef dewis ychwanegol i deithwyr, wedi digwydd, ac mae Altaf Hussian yn rhoi enghraifft dda iawn o ble mae pobl wedi'u gadael heb unrhyw ddewis o gwbl. Ac rwyf am i bobl gael dewis go iawn. Ar hyn o bryd, yn y pentref y mae'n byw ynddo, mae'n swnio fel pe na bai unrhyw ddewis gennych oni bai fod gennych gar, ac mae'n amlwg nad yw hynny'n iawn. Nid ydym am orfodi pobl i wneud dewisiadau; rydym am roi opsiynau go iawn a dewisiadau amgen go iawn i bobl.

Yn yr wythnosau nesaf, byddaf yn cyhoeddi papur ar drafnidiaeth gynaliadwy mewn ardaloedd gwledig, gan y gallwn edrych ar ddigonedd o enghreifftiau rhyngwladol o ardaloedd llawer teneuach eu poblogaeth na Chymru, lle mae ganddynt gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da. Ac mae hwnnw'n ddewis y gall llywodraethau ei wneud; nid yw'n anochel fod ardaloedd gwledig yn gwbl ddibynnol ar geir. Mae amrywiaeth o bethau y gellir eu gwneud, a dyna y gobeithiaf y bydd y cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol yn caniatáu inni ei wneud. Wrth gwrs, bydd hynny'n dibynnu ar gyllid yn y dyfodol, ac mae angen inni wario mwy o arian ar drafnidiaeth gyhoeddus, sef un o'r rhesymau pam y gwnaethom gomisiynu'r adolygiad ffyrdd, a wrthwynebwyd mor groch gan ei feinciau ef. Ond os ydym am i bobl gael mwy o ddewis, rydym yn cydnabod bod yn rhaid inni fuddsoddi yn y dewisiadau hynny, yn hytrach na buddsoddi yn y gyfres ddiddiwedd o gynlluniau ffyrdd yn unig, gan mai dyna ble fydd y ddibyniaeth ar geir y mae'n ei disgrifio yn parhau.

13:35

Weinidog, trefnais gyfarfod cyhoeddus tair awr o hyd yn ddiweddar, gyda Trafnidiaeth Cymru a Network Rail, a fynychwyd gan dros 60 o bobl o bob rhan o Ogwr a’r cyffiniau, a nododd eu pryderon yn gwrtais ond yn glir—gan mai pobl felly ydym ni—am y gwasanaeth ar reilffordd Maesteg-Caerdydd a'n gobeithion am welliannau. Yn y cyfamser, mae cerbydau rheilffyrdd newydd wedi dechrau cael eu cyflwyno'n raddol yr wythnos hon, sy’n wych ac i'w groesawu, ond rydym yn parhau i gael problemau gyda phrydlondeb a chanslo gwasanaethau, felly edrychwn ymlaen at gael cyfarfod arall gyda Trafnidiaeth Cymru a Network Rail cyn bo hir. Hefyd, fodd bynnag, fe godwyd y galw hirhoedlog am wasanaeth bob hanner awr, y bûm yn dadlau o'i blaid ers cyn imi ddod i’r Senedd. Weinidog, rydych chi a’ch rhagflaenwyr wedi cyfarfod â mi ac arweinydd y cyngor, Huw David, i drafod hyn o'r blaen. Er clod iddynt, ac o ganlyniad i’r cyfarfodydd hynny, gwn fod Trafnidiaeth Cymru a Network Rail wedi llunio cynigion ar gyfer gwasanaeth bob hanner awr. Ond y maen tramgwydd bob amser yw cyllid, sy'n gysylltiedig â digideiddio'r signalau yn Nhondu, fel y gallwn gael gwared ar y blwch signal Fictoraidd a'r ffaith bod angen trosglwyddo allwedd o law i law, a gwelliannau eraill yn Nhondu. Ac mae angen i’r cyllid hwnnw ddod gan Network Rail UK. Felly, Weinidog, sut y gallwch ein helpu i fwrw ymlaen â’r trafodaethau hynny ar lefel y DU, yn ogystal ag ar lefel Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, fel y gallwn gael y buddsoddiad y bu ei angen ers degawdau yn hyn, a fydd wedyn yn ein galluogi i fwrw ymlaen â gwasanaeth bob hanner awr?

Diolch am eich cwestiwn. Mae'n llygad ei le—mae wedi dadlau'n gyson ynghylch pwysigrwydd y cynllun, ac rwyf wedi gallu cyfarfod ag ef ar un neu ddau achlysur i'w drafod. Credaf mai'r broblem sylfaenol yma, ac rydym wedi gweld hyn mewn rhannau eraill o Gymru, yw ein bod yn rhan o ardal fuddsoddi o'r enw'r 'rhanbarth gorllewinol' o fewn Network Rail. Felly, rydym ni, ynghyd â Llundain a Penzance, oll yn cystadlu am yr un pot o arian, ac mae’r dadansoddiad economaidd y mae’r Adran Drafnidiaeth yn ei ddefnyddio i gyfiawnhau cynlluniau rheilffyrdd—math o ddadansoddiad cost a budd—bob amser yn mynd i ffafrio cynlluniau yn yr ardaloedd mwyaf poblog. Felly, pan fo cynllun i Faesteg yn cystadlu yn erbyn cynllun yn nyffryn Tafwys, o ystyried dwysedd poblogaeth ac economi’r gwahanol ardaloedd hynny, mae bob amser yn mynd i fod tuag at waelod y rhestr, a dyna sydd wedi digwydd dro ar ôl tro.

Nawr, nodaf fod Gweinidog Trafnidiaeth y DU yn Lloegr yn cyhoeddi ei Fil rheilffyrdd newydd, i sefydlu’r gwaith o greu corff newydd Great British Railways, sy'n feddwl arweiniol ei hun ar lefel y DU, ac rydym yn cytuno bod hynny'n synhwyrol. Ond yn hytrach na throsglwyddo swyddogaethau presennol yr Ysgrifennydd Gwladol i'r corff hwnnw, rydym am weld diwygio. Yn y pen draw, hoffem weld pwerau a chyllid rheilffyrdd yn cael eu datganoli'n llawn, fel yr argymhellodd comisiwn McAllister-Williams. Ond fel mesur interim, rydym am i Gymru gael yr hyn sydd gan yr Alban, sef ei rhanbarth ei hun o fewn Network Rail, fel y gallwn nodi'r blaenoriaethau ar gyfer ble caiff buddsoddiad ei wneud. Mae rheilffordd Glynebwy yn enghraifft wych o reilffordd nad oedd yn bodloni meini prawf yr Adran Drafnidiaeth yn 2008 pan gafodd ei hadeiladu. Fe wnaethom ei hadeiladu gan ddefnyddio cyllid datganoledig. Roedd y galw'n llawer uwch na'r disgwyl, ac rydym bellach wedi gallu gwella'r gwasanaeth hwnnw ymhellach. Nawr, ni fyddai hynny’n digwydd o dan system draddodiadol Network Rail, ac mae arnaf ofn fod Maesteg wedi dioddef tynged debyg. Felly, mae angen is-adran ar wahân ar gyfer Cymru yn Network Rail, gyda chyllid ac ymreolaeth i Gymru wneud ein dewisiadau ein hunain ynglŷn â ble i fuddsoddi. Ac yna hefyd, wrth gwrs, mae arnom angen y cyllid ychwanegol ar gyfer rheilffyrdd, sy'n faes nad yw wedi'i ddatganoli, gan nad yw Cymru wedi'i gwasanaethu'n ddigonol ers degawdau.

Ar y pwynt penodol y mae’n ei wneud, byddwn yn fwy na pharod i gynnull cyfarfod gyda Network Rail, arweinydd cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Huw David, ac yntau i gyflwyno’r achos eto i Network Rail er mwyn iddynt allu deall amgylchiadau Maesteg a pha mor bwysig fyddai gwasanaeth bob hanner awr.

Dwi wedi cytuno i gais gan y Dirprwy Weinidog i grwpio cwestiynau 3 a 5. Cwestiwn 3, felly—Llyr Gruffydd.

Llwybrau Bysiau yn y Gogledd

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth llwybrau bysiau yng ngogledd Cymru? OQ60698

5. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar wasanaethau bysus yng nghymunedau gogledd Cymru? OQ60701

Lywydd, deallaf eich bod wedi caniatáu i gwestiynau 3 a 5 gael eu grwpio. Rydym yn gweithio’n gyflym i drawsnewid ansawdd bysiau lleol i wasanaethu cymunedau ledled Cymru. Cyn y Bil bysiau y gobeithiwn ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni, rydym yn parhau i ddarparu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol a Trafnidiaeth Cymru ar gyfer gwella gwasanaethau presennol ar draws y rhanbarth.

13:40

Wel, diolch i chi. Ac wrth i chi ystyried y gwaith yna o wella gwasanaethau, fe wnaf i eich atgoffa chi fod yna flwyddyn erbyn hyn ers i'r gwasanaeth bws T19 rhwng Blaenau Ffestiniog a Llandudno gael ei golli. Mi oedd e, wrth gwrs, yn gwasanaethu cymunedau reit ar hyd dyffryn Conwy, o Flaenau Ffestiniog i Ddolwyddelan, Betws-y-coed, Llanrwst, a lawr y dyffryn i'r arfordir. Nawr, pan gollwyd y gwasanaeth, fe ddywedwyd wrth drigolion lleol i ddefnyddio'r trên lleol, sydd ddim, wrth gwrs, yn rhedeg hanner mor aml ac sydd wedi bod yn anwadal iawn yn y blynyddoedd diwethaf oherwydd bod stormydd wedi golchi llwybr y trên i ffwrdd.

Nawr, rŷn ni mewn sefyllfa lle mae yna henoed a thrigolion bregus yn ei chael hi'n anodd bellach heb y bws i gael mynediad i wasanaethau, megis mynd lawr i Gonwy neu Landudno i weld eu meddyg, neu i'r ysbyty, neu i gael mynediad at wasanaethau eraill. Ac i nodi blwyddyn ers colli'r gwasanaeth, mi wnaeth tri chynghorydd Plaid Cymru—y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn o Flaenau Ffestiniog, Liz Roberts o ward Betws-y-coed, a Nia Clwyd Owen o Lanrwst—gerdded y 30 milltir, gerdded y llwybr y byddai'r bws wedi bod yn ei ddilyn tan flwyddyn yn ôl. Nawr, mae'r ffaith bod hynny'n digwydd flwyddyn gyfan ar ôl colli'r gwasanaeth, i fi, yn adlewyrchu gymaint o golled oedd cau y llwybr yna. Felly, a gaf i ofyn i chi, Ddirprwy Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda'r awdurdodau lleol perthnasol a gyda darparwyr posib i geisio adfer y gwasanaeth yna, oherwydd does dim amheuaeth bod mawr, mawr ei angen e yn nyffryn Conwy?

Diolch. Wel, rwy’n cytuno nad yw’r rhwydwaith bysiau presennol cystal ag yr hoffem iddo fod. Credaf ein bod wedi sôn droeon yn y Siambr hon am y pwysau sy'n wynebu'r diwydiant bysiau o ganlyniad i lai o ddefnyddwyr a chostau cynyddol a phrinder gyrwyr, yn ogystal â'r gwasanaeth tameidiog wedi'i fasnacheiddio y soniais amdano mewn perthynas â'r cwestiwn yn gynharach. Fel rhan o’n cytundeb â Phlaid Cymru, rydym wedi nodi £46 miliwn ychwanegol ar ben y cymhorthdal presennol o oddeutu £200 miliwn eleni er mwyn cefnogi gwasanaethau bysiau. Ac mae hynny'n cynnwys gwasanaeth TrawsCymru, sy'n darparu gwasanaeth rhagorol i'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu, gyda bysiau modern a phrisiau is a chysylltedd tocynnau.

Felly, lle mae’r gwasanaethau yno, mae’r gwasanaethau’n dda, ond mae yna fannau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu. Ac rydym am weithio gyda'r consortia rhanbarthol, gan fod darparu bysiau sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol yn parhau i fod yn gyfrifoldeb cyfreithiol i awdurdodau lleol, ac mae ganddynt allu eu hunain i godi arian a darparu'r gwasanaethau hynny eu hunain. Mae ganddynt y pŵer hwnnw, ac mae ganddynt y ddyletswydd gyfreithiol honno. Felly, mae angen inni gydweithio â nhw i weld beth y gallwn ei wneud gyda'n gilydd i ddarparu ar gyfer pobl y rhanbarth. Rydym wedi creu’r hyn rydym yn eu galw’n 'sgrymiau bysiau rhanbarthol' i ddod ag awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru ynghyd i gynllunio, cyn masnachfreinio, lle byddai rhwydweithiau bysiau'n mynd yn ddelfrydol. Mae cyllid yn gyfyngiad, ac ar hyn o bryd, gan fod nifer y defnyddwyr yn dal i fod yn isel, nid yw’r rhain yn fasnachol hyfyw, a dim ond gyda chefnogaeth y cyhoedd y gallant redeg mewn llawer o achosion, ac mae'r cymorth y gallwn ei roi yn gyfyngedig. Ond rwy'n fwy na pharod i edrych gyda'r sgrym ranbarthol ar gyfer gogledd Cymru i ddeall pa ddarpariaeth y gellir ei gwneud ar gyfer y pentrefi hynny, ac rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod gyda'r manylion.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i'r Dirprwy Weinidog am yr ateb mae e newydd ei roi i Llyr. Dwi'n mynd i fynd ar hyd yr un trywydd oherwydd, fel dywedodd Llyr, mae'r T19 wedi profi i fod yn andros o bwysig i gymuned Blaenau Ffestiniog dwi'n ei chynrychioli, ac, yn wir, i ddyffryn Conwy ac eraill. Roeddwn i'n darllen yn ddiweddar adroddiad gan Age Cymru, a oedd yn rhybuddio bod pobl oedrannus yn enwedig yn mynd i fod yn dioddef mwy o unigrwydd yn sgil llwybrau bysys yn cau a phobl yn methu cael mynediad at wasanaethau. Dyna rŷn ni wedi'i weld ym Mlaenau Ffestiniog—pobl hŷn yn methu mynd i fyny i Landudno. Ond yn ogystal â'r bobl hŷn, rŷn ni wedi gweld pobl ifanc yn methu mynd i'r ysgol yn Llanrwst ac, felly, yn gorfod defnyddio ceir, sydd, fel bydd y Dirprwy Weinidog yn parchu, dwi'n siŵr, ddim yn llesol i'r amgylchedd. 

Dwi'n falch clywed bod y Dirprwy Weinidog yn dweud y bydd y Llywodraeth yn edrych i roi mwy o bres i awdurdodau lleol er mwyn cael gwell darpariaeth bysys, a bod gyda chi'r peth sgrym yma roeddech chi'n cyfeirio ato rŵan. Ond, fel dywedodd Llyr, mae yna flwyddyn gyfan a rhagor wedi mynd ers i'r T19 gau. Dwi'n cael ar ddeall, pan oedd y gwasanaeth yna, oedd yn X19, wedi troi i fod yn wasanaeth T TrawsCymru, ei fod o fod i dderbyn mwy o bres; doedd o ddim wedi. Dwi hefyd wedi cael ar ddeall, flwyddyn a rhagor yn ôl, fod cwmni Alpine wedi cynnig cydweithio â'r awdurdodau a'r Llywodraeth er mwyn ffeindio datrysiad, ond does yna ddim cydweithio wedi bod. Felly, mae'n siom bod yna flwyddyn wedi mynd heibio—

13:45

—mi ddof at y cwestiwn nawr, diolch, Llywydd—a bod yna ddim byd wedi digwydd. Felly, eisiau ymrwymiad ydw i eich bod chi nid yn unig yn barod i fynd at y sgrym yma roeddech chi'n sôn amdano, ond i gydweithio â darparwyr lleol er mwyn ffeindio datrysiad amgen i'r angen ar gyfer Blaenau Ffestiniog a dyffryn Conwy. 

Wel, yn wir, rwy'n atgoffa'r Aelod o’r hyn a ddywedais wrth ei gyd-Aelod. Mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb cyfreithiol i ddarparu gwasanaethau bws sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol. Felly, yn hytrach na disgwyl i Lywodraeth Cymru yn unig fynd i’r afael â’r problemau yn ei ardal, mae angen iddo droi hefyd at ei awdurdodau lleol ei hun.

Nawr, mae pob un ohonom yn wynebu’r un pwysau ariannol, ac nid oes dim o hyn yn hawdd, ac mae pob un ohonom yn wynebu diffygion y system breifateiddiedig. Rydym wedi cyflwyno’r gwasanaeth bws T22 newydd yn ddiweddar, sy’n cysylltu Blaenau Ffestiniog â Chaernarfon, a gwasanaethau hyblyg newydd yn ardaloedd Dolgellau a Machynlleth, ac maent wedi cael eu croesawu'n fawr. Mae Trafnidiaeth Cymru, wrth gynllunio, wedi bod yn edrych ar greu rhwydweithiau rhanbarthol cryf sy’n gwella amseroedd teithio ac yn cysylltu â chyfnewidfeydd allweddol. Felly, fel y dywedaf, lle mae’r gwasanaethau ar waith, mae’r adborth gan gwsmeriaid a theithwyr yn gadarnhaol iawn. Ond mae bylchau, ac yn aml, mae hynny'n digwydd am fod y defnydd yn yr ardaloedd hynny’n isel iawn, ac mae’r cymhorthdal sydd ei angen yn un nad yw gennym i'w roi ar hyn o bryd, ac mae’r rhain yn sgyrsiau rydym wedi’u cael gyda Phlaid Cymru, fel rhan o gytundeb y gyllideb. Rydych yn gwybod yn iawn am y sefyllfa sy'n ein hwynebu. Mae ein cronfeydd yn gyfyngedig, ac rydym wedi cytuno ar flaenoriaethau ar y cyd ar gyfer y cronfeydd hynny, ac fe wnaethom gytuno i edrych ar gyllid bysiau, ac yn wir, fe wnaethom ddod o hyd i £46 miliwn ychwanegol. Nid yw hwnnw’n mynd mor bell ag y byddai pob un ohonom am iddo fynd, a chredaf mai dyna pam fod angen inni weithio gydag awdurdodau lleol i weld pa adnoddau eraill y gellid eu defnyddio i wella’r rhwydwaith.

Ac wrth inni symud tuag at fasnachfreinio, byddwn yn cyhoeddi cynllun yn yr ychydig wythnosau nesaf i nodi'r camau manwl nesaf tuag at fasnachfreinio. Gobeithiwn y bydd modd inni gael rhwydweithiau bysiau mwy cynhwysfawr, ond bydd hynny, unwaith eto, bob amser yn dibynnu ar y cyllid. Rydym o'r farn fod masnachfreinio yn system fwy effeithlon ynddi'i hun. Felly, bydd mwy o arian yn mynd i wasanaethau, yn hytrach nag elw, ond bydd cyfyngiadau bob amser. A’r peth gorau y gall pob un ohonom ei wneud i wella gwasanaethau bysiau yw annog pobl i ddefnyddio’r rhai sy’n bodoli, gan fod hynny wedyn yn creu’r achos dros fuddsoddiad pellach.

Wel, wrth eich holi yma fis diwethaf, dyfynnais Bysiau Arriva Cymru, y dywedodd eu pennaeth masnachol ar gyfer gogledd-orllewin Lloegr a Chymru wrthyf, a dyfynnaf:

'Fel y trafodwyd yn Wrecsam, nid yw Arriva eisiau newid gwasanaethau, ond mae'n rhaid iddynt oherwydd 20 mya…oherwydd 20 mya, mae'r bysiau'n cymryd mwy o amser i weithredu ledled gogledd Cymru, felly bu'n rhaid inni wneud newidiadau sydd wedi arwain at dorri llwybrau, lleihau amlder ac adnoddau ychwanegol i ymdopi â'r amseroedd teithio newydd sydd eu hangen.'

Mewn ymateb, fe ddywedoch chi wrthyf eich bod yn awyddus iawn i ymgysylltu â nhw. Roeddent yn dweud wrthyf hefyd, gyda Deddf Gwasanaethau Bysiau 2017 a masnachfreinio bysiau yn Lloegr, fod Manceinion wedi gorfod gwario £75 miliwn i £100 miliwn i lansio hyn yno, a bod Manceinion hefyd wedi gorfod cyflwyno praesept bysiau'r dreth gyngor, ac roeddent yn gofyn sut roedd Llywodraeth Cymru yn mynd i ariannu masnachfreinio bysiau yng Nghymru, pan nad oes ganddynt ddigon o arian i ariannu'r rhwydwaith presennol, lle 'mae angen i'r bobl wybod'. Felly, pa ymgysylltu a wnaethoch gyda Bysiau Arriva Cymru ers y mis diwethaf? A sut ydych chi'n mynd i ariannu cost ychwanegol masnachfreinio bysiau yng Nghymru?

Iawn, felly, a ddeallaf o gwestiwn yr Aelod nad yw o blaid masnachfreinio, oherwydd bod hynny'n galw am fuddsoddi? Nid ydym yn cyflwyno'r un system â Manceinion; rydym yn cyflwyno system wahanol, a fydd yn seiliedig ar fasnachfreinio rhanbarthol, a bydd yn digwydd o dan system un meddwl arweiniol, a bydd gan Trafnidiaeth Cymru a’r consortia rhanbarthol rôl allweddol wrth gynllunio hynny.

Nawr, bûm yn siarad â’r timau yn Trafnidiaeth Cymru, sydd wedi bod yn gweithio gydag Arriva, i ddeall union natur y sgyrsiau a gawsom gyda nhw ynglŷn â chynlluniau cyflwyno 20 mya. Ni chredaf ei bod yn deg nac yn gywir i Arriva feio'r newidiadau i'r amserlen ar y terfyn 20 mya. Mae cwmnïau eraill wedi llwyddo i gynllunio hynny heb ganlyniadau mor andwyol. Ond mae ardaloedd lle mae'r llwybrau'n teithio ar hyd ffyrdd y gellir dadlau y gellid eu troi'n ôl i 30 mya. Nawr, mae gennym awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru nad ydynt wedi defnyddio’r disgresiwn sydd ganddynt o dan y canllawiau presennol i gyflwyno eithriadau, a chredaf mai mater iddynt hwy yw esbonio pam. Yn hytrach na bod Arriva'n beio'r polisi, credaf y gellid bod wedi cynllunio ei weithrediad lleol yn yr ardaloedd hynny yn well gydag Arriva. Mae hyn yn rhan o’r adolygiad sy’n mynd rhagddo ac y gwnaethom gyhoeddi adroddiad interim ohono heddiw, ac mae hwnnw’n dweud bod angen ichi edrych ar lwybrau bysiau fel rhan o fersiwn estynedig o’r canllawiau newydd, i atgoffa’r awdurdodau lleol o’r disgresiwn sydd ganddynt.

Ni chredaf mai’r ateb cywir bob amser yw troi llwybrau a ffyrdd a strydoedd lle mae pobl a thraffig yn cymysgu yn ôl i 30 mya pan fydd y cerbydau trymaf yn gallu teithio’n gyflym ar hyd-ddynt. Nid dyna’r ateb cywir bob amser. Gallwn gael gwell llif i amserlenni bysiau drwy fesurau blaenoriaeth i fysiau, ac mae hynny'n golygu gwneud rhai penderfyniadau anodd yr wyf yn amau'n fawr y byddai'r Aelod anrhydeddus—o, o ble y daeth hynny—yn eu cefnogi. Felly, mae'n hawdd rhefru am yr angen i newid, ond mae'n rhaid ichi hefyd wneud y pethau angenrheidiol ar lawr gwlad i ganiatáu i'r newid hwnnw ddigwydd. Mae rhoi mesurau blaenoriaeth i fysiau yn allweddol ar gyfer gwneud bysiau’n fwy dibynadwy, a fydd yn caniatáu ar gyfer mwy o deithwyr a mwy o lwybrau. Credaf fod cwestiwn am rai o’r llwybrau manwl sydd gan Arriva a pha un a oes angen newid y canllawiau ar rai o’r llwybrau hynny ai peidio, ond fel y dywedais wrtho y tro diwethaf, fe wnaeth cwmnïau bysiau eraill ragweld y newidiadau a oedd ar y ffordd a newid eu hamserlenni ymlaen llaw. Ac o ystyried y gwahanol bwysau sydd ar y gwasanaeth bysiau, nid yw beio’r cyfan ar y terfyn 20 mya yn iawn, a chredaf ei fod yn anniffuant, a hoffwn atgoffa’r Aelod, oni bai am Lywodraeth Cymru, na fyddai Arriva mewn busnes. Felly, ni chredaf ei bod yn feirniadaeth deg. Credaf fod llawer mwy y tu ôl i hyn. Mae rhywfaint o'u pryder yn deg, ynglŷn â'r ffordd nad yw'r gwasanaethau bysiau wedi'u cynllunio o amgylch yr eithriadau, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen i'r awdurdodau lleol a ninnau edrych arno. Diolch.

13:50

Mae mynediad at wasanaethau bws yn hanfodol i bobl yn Nyffryn Clwyd i fynd o A i B a chefnogi'r economi leol. Rhywbeth sydd wedi amharu’n ddifrifol ar hynny yn fy etholaeth i yw polisi 20 mya diofyn Llywodraeth Cymru, gan fod Bysiau Arriva Cymru—[Torri ar draws.]. Yn ddiweddar, mae Bysiau Arriva Cymru, mae'n rhaid imi ailadrodd, wedi cael gwared ar arosfannau ar lwybr yr X51, gan gynnwys ger siop ffatri Tweedmill, gan ei bod yn cymryd gormod o amser, yn y bôn, i fynd o’r Rhyl i Ddinbych a'r ffordd arall o dan y terfyn 20 mya, gan mai dim ond 0.6 y cant—ie, unwaith eto, rwy'n ailadrodd, 0.6 y cant—o ffyrdd yn y sir sydd wedi'u heithrio rhag y polisi llym hwn. Felly, pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith economaidd a logistaidd y polisi 20 mya diofyn ar bobl a busnesau yn fy etholaeth, a pha waith a thrafodaethau sy'n mynd rhagddynt gennych gyda’r cyrff perthnasol i ddiogelu gwasanaethau bysiau i bobl yn sir Ddinbych y mae eich anwybodaeth ar y mater hwn wedi gwneud tro gwael iawn â nhw?

Wel, Lywydd, fe wneuthum lithro’n gynharach i beth o iaith od San Steffan—nid wyf yn gwybod o ble y daeth hynny—felly gadewch imi ddefnyddio ymadrodd yn iaith San Steffan yn fwy bwriadol wrth ateb Gareth Davies: cyfeiriaf yr Aelod at yr ateb a roddais eiliad yn ôl.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Janet Finch-Saunders.

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddatgan buddiant oherwydd bod fy llety, y telir amdano gan Gomisiwn y Senedd, yn un o'r eiddo y mae'r mater cladin tân yn effeithio arnynt.

Nawr, mae bron i flwyddyn ers i ddatblygwyr mawr yng Nghymru gytuno i'r cytundeb cyfreithiol rwymol sy'n eu hymrwymo i wneud gwaith diogelwch tân ar adeiladau canolig ac uchel iawn ledled y wlad. Fis Tachwedd diwethaf, Weinidog, fe roesoch wybod i Senedd Cymru fod 34 o adeiladau â gwaith cyweirio ar y gweill, ac amcangyfrifir y bydd gwaith ar 34 o adeiladau eraill yn dechrau eleni. Dywed preswylwyr wrthyf mai dim ond un adeilad sydd wedi'i gwblhau o ganlyniad i'r contract. Felly, nid yw'n syndod fod Cladiators Cymru yn gresynu'r ffaith eich bod yn dal i geisio penderfynu sut i adrodd ar y diffyg cynnydd ar 70 a mwy o safleoedd. O gofio'r broses fonitro chwarterol, a wnewch chi nodi faint o brosiectau cyweirio sydd wedi'u cwblhau o ganlyniad i'r cytundeb datblygwyr?

Yn sicr, Janet. Unwaith eto, credaf fod gennych broblem fach yno gyda rhai o'r ystadegau a ddyfynnwch. Mae gennym lwybr cyweirio ar gyfer pob adeilad sydd â phroblem tân yng Nghymru—gwahanol iawn i’r hyn sy'n digwydd dros y ffin—ac nid yw’r llwybrau hynny at waith cyweirio'n ei gwneud yn ofynnol i lesddeiliaid unigol neu grwpiau o lesddeiliaid gychwyn achos cyfreithiol er mwyn cael eu hawliau, gan mai barn Llywodraeth Cymru, bob amser, yw na ddylent orfod gwneud hynny, ac rydym wedi ymyrryd ar eu rhan, yn gwbl briodol.

Felly, yn dibynnu ar y math o adeilad yr ydych yn byw ynddo, mae pedwar math yr ydym yn edrych arnynt. Felly, gyda thai cymdeithasol, rydym yn y broses o'u cyweirio. Mae'r rhan fwyaf ohonynt eisoes wedi'u cyweirio, neu mae'r gwaith ar y gweill. Ar gyfer adeiladau datblygwyr mawr, mae gennym nifer fawr ohonynt yn cael eu cyweirio ar hyn o bryd. Mae rhai ohonynt yn dal i fod ar y cam arolygu ac arolygu ymwthiol, ac rydym wedi cael rhywfaint o drafferth, mae'n wir, gyda rhai o'r asiantau rheoli, gyda chael mynediad at yr eiddo hynny, ac rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd gyda'r asiantau rheoli hynny. Nid yw'r wybodaeth gennyf wrth law, ond rwy'n fwy na pharod i rannu gyda chi, ac os ydych wedi cofrestru ar gyfer y cylchlythyr misol, fe fyddwch yn gwybod beth bynnag—nid wyf yn cofio faint yn union o'r rheini sydd yn y broses honno. Nid wyf am geisio dyfalu, ond mae gennym nifer sy'n dal i fod yn y broses honno, ond mae'n nifer bach—yn sicr, mae'n llai na 10. Yna, mae gennym ddau lwybr arall at waith cyweirio. Mae gennym yr adeiladau amddifad, lle, unwaith eto, mae gennym adeiladau nad oes datblygwr mawr yn gysylltiedig â hwy, neu a adeiladwyd fwy na 30 mlynedd yn ôl, felly nid yw'n bosibl i'r datblygwyr wneud y gwaith cyweirio hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru yn talu'n llawn am y rheini, ac rydym yn y broses o gyweirio nifer ohonynt, ac mae rhai ohonynt yn dal i fynd drwy’r broses o gael y deiliad, yr asiantiaid rheoli, a’r rhydd-ddeiliaid i gytuno i'r arolygon ymwthiol sy'n angenrheidiol i ddechrau'r gwaith, ond mae nifer fawr ohonynt hefyd yn cael eu cyweirio. Ac yna, mae'r pedwerydd categori, sef adeiladau a adeiladwyd gan ddatblygwyr llai. Nid yw pob un o'r datblygwyr llai yn ddatblygwyr bach—maent yn enwau y byddech yn eu hadnabod—ond efallai mai dim ond un adeilad y maent wedi'i wneud yng Nghymru. Ac mae rhai ohonynt yn ddatblygwyr bach a chanolig, sy'n cyflenwi swyddi ac arbenigedd adeiladu hanfodol yn eu hardal leol, ac rydym am fod yn sicr iawn nad ydym yn eu gwthio i ddwylo'r gweinyddwyr o ganlyniad i fod yn awyddus iddynt gyweirio'r adeiladau, felly rydym yn negodi cyfran deg gyda nhw o’r swm o arian y bydd yn ei gymryd i wneud y gwaith cyweirio, ar un adeilad yn aml iawn, a bydd Llywodraeth Cymru yn talu'r gwahaniaeth drwy gyllid grant neu fenthyciadau adenilladwy, yn dibynnu ar amgylchiadau'r cwmni.

Felly, byddwn yn dweud bod gennym lwybr at waith cyweirio ar gyfer pob un o'r adeiladau hynny. Nid yw'n bosibl clicio fy mysedd a chyweirio pob un ohonynt ar unwaith, oherwydd yn syml iawn, nid oes gennym y cadwyni cyflenwi na'r gweithlu adeiladu i wneud hynny. Ond gallwn ddweud wrthych, ar gyfer pob adeilad unigol, ble yn union y mae arni yn y rhaglen honno, a beth sy'n digwydd. Pe byddech yn cofrestru ar gyfer y newyddlen fisol, byddech yn gwybod hynny, ond rwy’n fwy na pharod i anfon y manylion atoch, neu’n wir, Lywydd, rwy’n fwy na pharod i roi’r manylion hynny yn y llyfrgell os hoffai pob Aelod eu gweld.

13:55

Diolch am eich ateb cynhwysfawr. Sylwais, unwaith eto, ar y pwyslais ar y tai cymdeithasol, ond nid oedd llawer o bobl sydd wedi mynd allan i brynu eiddo yn ymwybodol o'r broblem cladin tân. Yn wir, a minnau wedi cyfeirio at fy eiddo fy hun lle rwy'n aros yma yng Nghaerdydd, dim ond pan ddechreuodd staff patrôl hyfforddedig ddod draw yn rheolaidd y gofynnais, 'Pam ydych chi yma?', a dywedasant, 'Mae hwn yn un o'r—'. Felly, nid oeddem ni fel tenantiaid, neu'n wir, bobl sy'n prynu'r fflatiau hyn, yn gwybod bod ganddynt y problemau hyn, felly rwy'n bryderus iawn. Fel y saif pethau, mae'r trigolion yn dal yn gaeth i'r adeiladau anniogel hyn.

Ychydig llai na dwy flynedd ers cyhoeddi manylion y cynllun cymorth i lesddeiliaid, dim ond un lesddeiliad yr wyf yn ymwybodol ohonynt sydd wedi cwblhau’r broses werthu. Nawr, yn ôl yr elusen lesddeiliaid, cymerodd 18 mis hir a llafurus i’r lesddeiliad dan sylw werthu ei chartref i gymdeithas dai yng Nghymru. Oes, mae ambell werthiant arall ar y gweill, ond o'm rhan i, ymddengys bod y cynllun hwn braidd yn gostus, ac nid yw'n arwain at y canlyniadau y dylai. Pa gamau rydych chi'n eu cymryd i wneud y cynllun cymorth i lesddeiliaid yn fwy deniadol i breswylwyr?

Mae hwnnw'n bwynt da iawn mewn gwirionedd, gan inni ddechrau gyda set eithaf cyfyngol o feini prawf ar gyfer hynny oherwydd, a dweud y gwir, nid oedd gennym unrhyw syniad faint o bobl a allai fod yn awyddus i fanteisio ar y cynllun. Ac mewn gwirionedd, bob tri i chwe mis o'r cynllun hwnnw, Janet, rydym wedi diwygio'r meini prawf i'w ehangu. Felly, mae'n gynllun llawer mwy eang nag ar y dechrau, ac rydym wedi ysgrifennu'n ôl at bawb a ymgeisiodd yn y gyfran gyntaf ac a fu'n aflwyddiannus oherwydd y meini prawf gwreiddiol, llym iawn i ddweud, 'Gwnewch gais eto gan ein bod wedi llacio'r meini prawf.' Felly, er enghraifft, pan ddechreuom, roeddem yn dweud na allai pobl a oedd wedi prynu'r fflat fel eiddo buddsoddi, gyda'u pot ymddeol efallai, gael mynediad at y cynllun, ond rydym wedi ei lacio, a gallant gael mynediad ato bellach. Felly, mae mwy o bobl yn gymwys. Ond nid wyf yn anghytuno ei fod yn gyfyngol iawn i gychwyn. Rydym hefyd wedi dechrau edrych i weld a allwn brynu'r fflatiau'n gyfan gwbl drwy landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, nid oherwydd bod y tenantiaid mewn caledi unigol, sef yr hyn y bwriadwyd y cynllun ar ei gyfer yn wreiddiol—a byddwch chi a minnau wedi cael llawer o lythyrau torcalonnus gan bobl a’u prynodd fel cartrefi cychwynnol ac sydd bellach wedi cael plant ac ni allant werthu ac yn y blaen, felly roeddem am helpu pobl yn yr amgylchiadau hynny—ond mewn gwirionedd, nid oes unrhyw beth i'n hatal rhag prynu’r eiddo lle mae angen llety ar landlord cymdeithasol cofrestredig yn yr ardal honno ac mae’n gallu eu caffael, ac mae gennym gynllun caffael ar gyfer pob landlord cymdeithasol ledled Cymru, a all brynu eiddo â thenantiaid, os yw hynny’n briodol, a’u cymryd drosodd, ac mae hynny’n wir am fflatiau a thai ledled Cymru. Felly, mae hynny ar gael hefyd.

Rwy’n falch iawn o ddweud bod canllawiau Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ar gael yng Nghymru bellach hefyd, felly dylai wneud y broses o werthu’n fasnachol yn llawer iawn haws. Felly, rydym yn gobeithio ei weld—. Dim ond am y mis a hanner diwethaf y mae wedi bod ar gael, felly rydym yn mawr obeithio, y gwanwyn nesaf—. Mae'r farchnad eiddo bob amser yn brysur yn y gwanwyn, felly, rydym yn gobeithio y bydd y canllawiau Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig yn ei gwneud yn llawer iawn haws i bobl werthu, gan y bydd hynny'n caniatáu i fwy o fenthycwyr fenthyca ar y tai, a dyna fu'r broblem; rydym wedi cael benthycwyr morgeisi sydd wedi bod yn amharod i fenthyca ar yr eiddo. Felly, rydym yn mawr obeithio y bydd hynny'n ei gwneud yn haws, ac rwyf wedi cael—. Mae fy swyddogion, yn sicr, wedi cael llawer o gyfarfodydd; rwyf wedi cael un cyfarfod gyda benthycwyr i geisio deall sut i ryddhau'r farchnad fenthyca, felly mae gennym werthiannau masnachol hefyd. Felly, rwy’n derbyn yn llwyr ei bod yn anos ei wneud ar y dechrau. Rydym wedi llacio'r cynllun gryn dipyn. Gall pobl gael mynediad ato, unwaith eto, drwy’r un newyddlen, ac rwy'n mawr obeithio gweld y gwerthiannau hynny’n cyflymu nawr gan ein bod wedi llacio’r meini prawf.

14:00

Diolch, Weinidog. Wrth gwrs, mynegwyd pryderon wrthyf nad oes unrhyw ddatblygwr wedi defnyddio'r cynllun benthyciadau diogelwch adeiladau gwerth £20 miliwn. A yw hynny'n eich poeni? A phan feddyliwch fod dros chwe blynedd bellach ers trychineb Grenfell, mae'n warthus nad yw rhai datblygwyr sy'n gallu fforddio cyweirio adeiladau preifat yn ymgysylltu fel y dylent wneud. Nawr, wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU wedi dweud—Michael Gove, mae'r Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS wedi nodi—, lle ceir ymarfer gwael gan ddatblygwyr ar hyn, na fyddant yn gallu adeiladu eto. A ydych chi'n rhannu'r syniadau hynny? A fyddech chi'n mynd mor bell â hynny, pe byddech chi'n gweld bod datblygwyr wedi cefnu ar eu cyfrifoldebau, gan adael blociau o fflatiau yn llawn o drigolion mewn sefyllfa druenus? A wnewch chi fod yn llym a mynd ar drywydd camau deddfwriaethol i wahardd datblygwyr sydd heb gwblhau gwaith cyweirio diogelwch adeiladau? Ac fel y nododd Ripped Off By Redrow yn gynharach y mis hwn, mae cyferbyniad syfrdanol rhwng cyflymder datblygiad tai newydd Redrow a chwsmeriaid sy'n dioddef ers amser hir ac angen gwaith cyweirio. Pam y gallant symud yn gyflym iawn wrth adeiladu cartrefi newydd, ond na allant symud yr un mor gyflym i gyflawni eu rhwymedigaethau blaenorol a gwneud y cartrefi hyn yn ddiogel? Diolch. 

Felly, Janet, rwy'n deall rhwystredigaeth pobl sy'n gallu gweld cartrefi newydd yn cael eu codi gan yr un cwmni a adeiladodd y bloc y maent ynddo sydd â'r problemau, ond yn amlwg mae setiau sgiliau ac anawsterau cyweirio bloc o 11 llawr sydd â phobl yn byw ynddo yn hollol wahanol i adeiladu adeilad newydd; mae'n set hollol wahanol o broblemau. Rwy'n gwybod nad yw pobl eisiau clywed hynny, ond mae'n wir.

Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â chi y dylai unrhyw ddatblygwr nad yw wedi camu ymlaen a chofrestru ar gyfer y cytundeb, llofnodi'r contractau cyfreithiol rwymol a chyflawni ei rwymedigaethau o dan y contract, gael ei atal rhag gwneud hynny. Yma yng Nghymru, yn ffodus, mae pob cwmni adeiladu mawr sydd ag adeilad neu set o adeiladau yng Nghymru wedi llofnodi'r cytundeb a'r contractau cyfreithiol rwymol, ac rydym yn y broses honno. Mae'n rhwystredig o araf cael yr arolygon ymwthiol wedi'u gwneud; rydym wedi cael pob math o broblemau gyda hynny. Rydym wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol. Er enghraifft, yn aml mae angen gorchmynion cau ffyrdd arnoch i gael y sgaffaldiau—wyddoch chi, mae llawer o bethau eraill yn digwydd. Rydym wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau y gallwn gyflawni'r gwaith hwnnw lle mae'r adeiladau hynny.

Dylwn ddweud, Lywydd, gan fod Janet Finch-Saunders wedi dweud ei bod hi'n byw mewn adeilad yr effeithiwyd arno pan fydd hi yma yng Nghaerdydd yn ystod yr wythnos, mae hynny'n wir amdanaf innau hefyd. Ac mae gan lawer o'r adeiladau y broblem honno, felly rydym yn parhau i ddweud wrth bobl am gofrestru ar gyfer y cylchlythyr, rydym yn parhau i ysgrifennu at yr asiantau rheoli a thrwy Rhentu Doeth Cymru, drwy'r landlordiaid, i sicrhau ein bod yn cyrraedd cymaint o denantiaid â phosibl. Ac fel rwy'n dweud bob tro, os gallwch chi annog unrhyw un sy'n cael ei effeithio i gofrestru ar gyfer y cylchlythyr a bod mewn cysylltiad â'r tîm yn unigol, maent yn hapus iawn i gael sgyrsiau unigol gyda thenantiaid; mae llawer o bobl wedi manteisio ar hynny. Ac rwyf wedi cyfarfod â nifer fawr iawn o grwpiau tenantiaid. Mae gennym gyfarfod rhanddeiliaid tenantiaid—rwy'n cyfarfod â nhw'n aml iawn. Rwyf wedi cyfarfod â'r grŵp Cladiators; rwyf wedi cyfarfod â grwpiau adeiladu unigol ac yn y blaen. Felly, rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau ei fod yn mynd mor gyflym â phosibl.

Ond fe ddywedaf mai fy mhrif awydd yw ei weld yn cael ei wneud yn iawn y tro hwn, a'r tro hwn, pan gaiff ei gyweirio, gall y bobl hynny fod yn hollol sicr eu bod, y tro hwn, yn byw mewn adeilad sydd wedi cael ei gyweirio'n iawn ac y gallant fynd yn ôl i fyw eu bywyd arferol.

14:05

Diolch yn fawr iawn. Er gwaethaf y pwysau digynsail ar y sector digartrefedd, gyda'r data diweddaraf yn dangos bod 11,317 o unigolion mewn llety dros dro, mae cyflogau yn y sector digartrefedd a chymorth tai wedi cael eu gwthio i lawr i lefelau annerbyniol, ac mae gweithwyr rheng flaen yn cael eu gwthio i fyw mewn tlodi. Mae tystiolaeth yn dangos bod 41 y cant o weithwyr yn cael llai na'r isafswm cyflog newydd, ac mae dwy ran o dair yn cael llai na'r cyflog byw gwirioneddol newydd. Mae hyn wedi golygu bod llawer yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd, gyda 56 y cant yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau, a 12 y cant yn teimlo mewn mwy o berygl o ddigartrefedd eu hunain. Rwy'n siŵr fod y Gweinidog yn deall bod hyn yn tanlinellu maint y broblem, pan fo'r gweithwyr sy'n ymateb i ddigartrefedd yn ei wynebu eu hunain.

Mae'n amlwg y bydd y diffyg cynnydd i'r grant cymorth tai yn y gyllideb ddrafft yn gwneud hyn yn waeth, a bod cefnogaeth i weithwyr yn druenus o annigonol o ganlyniad. Yng ngoleuni'r trafferthion amlwg sy'n wynebu gweithwyr yn y sector, a yw'r Gweinidog yn credu ei bod yn deg fod gweithwyr gofal wedi cael eu cefnogi â chynnydd cyflog byw gwirioneddol, ond nad yw gweithwyr cymorth digartrefedd rheng flaen yn cael hynny?

Ie, diolch am godi'r mater pwysig hwn, Mabon. Fel y dywedais lawer gwaith, pe byddwn i mewn unrhyw fodd wedi gallu codi'r grant cymorth tai, fe fyddwn wedi gwneud hynny. Rydym yn dal i gael sgyrsiau'n fewnol i weld a ellir gwneud unrhyw beth rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol, ond fel y gwyddoch yn iawn, bu'n rhaid inni flaenoriaethu nifer o bethau. Felly, i fod yn glir iawn, fe wnaethom gynnal y grant cymorth tai ar £166.8 miliwn, sef lefel 2023-24. Gwn fod ei adael yn arian gwastad yn achosi problemau; nid wyf yn ceisio dianc rhag y ffaith mai hynny sy'n achosi'r problemau hyn. Ond roedd hi'n anodd iawn ei gadw'n wastad o ystyried maint y broblem sydd gennym ar draws y Llywodraeth. Felly, oherwydd ein bod wedi diogelu'r gwasanaeth hwnnw, bu'n rhaid inni dorri gwasanaethau eraill, a byddai'n dda iawn gan bawb ohonom pe na bai hynny wedi digwydd. Rwy'n dal i geisio gweld a allwn wneud rhywbeth. Nid yw hwnnw'n addewid mewn unrhyw ffordd, i fod yn glir, ond rydym yn dal i geisio gweld a allwn ei wneud.

Mae yna bethau eraill y gallwn eu gwneud hefyd. Felly, rydym wedi rhoi cyllid refeniw ychwanegol o dros £2 filiwn i'r gyllideb cymorth ac atal digartrefedd. Byddwn yn cynyddu'r cyllidebau cyfalaf i gyflymu'r rhaglen adeiladu tai cymdeithasol, oherwydd, wrth gwrs, mae'r cyflenwad yn rhan fawr o'r broblem hon hefyd. Byddwn yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol. Felly, yn amlwg, mae'n rhaid i bobl gael yr isafswm cyflog cenedlaethol. Felly, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau y gall hynny ddigwydd. Ond hoffwn yn fawr iawn eu gweld yn talu'r cyflog byw gwirioneddol. Hoffem yn fawr iawn pe bai hynny'n digwydd. Mae'r rhain yn weithwyr yr oeddwn yn hynod falch ohonynt yn ystod y pandemig, fel y dylai pawb yng Nghymru fod yn falch ohonynt, oherwydd eu bod wedi cyflawni camp ryfeddol, i gael pawb i mewn ac yn ddiogel mewn cyfnod byr iawn. Maent yn bobl ryfeddol. Maent yn sicr yn haeddu cael y cyflog byw gwirioneddol a chael eu talu'n iawn.

Felly, rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol fel consortia ac fel rhan o'r rhaglen ddigartrefedd gyffredinol i sicrhau y gallwn wneud yr hyn a allwn. Ond wyddoch chi, o ystyried bod y gyllideb gyffredinol £1.3 biliwn yn llai mewn termau real, mae'r rhain wedi bod yn benderfyniadau ofnadwy i'w gwneud. Nid wyf yn ceisio ei esgusodi mewn unrhyw ffordd, ond roedd yn ymdrech go fawr i'w gadw'n arian gwastad. Os gallwn gynyddu'r arian hwnnw, byddwn yn gwneud hynny. A thrwy weithio gyda Phlaid Cymru, os gallwn ddod o hyd i ryw ffordd o wneud hynny yn y cytundeb cydweithio, byddwn yn fwy na pharod i gael y trafodaethau hynny.

Diolch am yr ymateb. Ydy, mae'n arian gwastad eleni, ond mae'n dal i fod ddegau o filiynau yn llai na'r hyn ydoedd 20 mlynedd yn ôl. Ac a gaf i eich atgoffa bod y Llywodraeth wedi addo talu cyflog teg iddynt. Ddoe, yn ei ymateb i gwestiwn gan Rhun ap Iorwerth, gwadodd y Prif Weinidog fod hwn yn addewid a wnaeth. Ac eto yn ei faniffesto ei hun ar gyfer yr arweinyddiaeth yn 2018, nododd yn glir, ac rwy'n dyfynnu, y byddai'n:

'Bwrw ymlaen â'r Comisiwn Gwaith Teg a'r camau sydd angen inni eu cymryd i sicrhau bod Cymru yn genedl waith teg – a thalu'r cyflog byw gwirioneddol ym mhob cwmni sy'n cael arian cyhoeddus fel cam cyntaf',

sy'n cynnwys gweithwyr digartrefedd a chymorth tai, mae'n siŵr.

Ymrwymodd maniffesto a rhaglen lywodraethu'r Blaid Lafur i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal, ond yn ystod y pandemig y soniodd y Gweinidog amdano, cafodd gweithwyr digartrefedd a chymorth tai eu cynnwys yn y diffiniad o weithwyr gofal at ddibenion grŵp blaenoriaeth brechu 2, mynediad at gyfarpar diogelu personol, cynllun gwella tâl salwch statudol a phethau eraill. Roedd Llywodraeth Cymru yn hapus i ddefnyddio'r diffiniad hwn wrth anfon gweithwyr cymorth digartrefedd a chymorth tai rheng flaen i mewn i bandemig. Felly, a yw'r Gweinidog yn derbyn bod hwn yn addewid a wnaed gan y Prif Weinidog, ac y dylai'r Llywodraeth anrhydeddu'r addewidion a wnaethant a chynyddu'r grant cymorth tai fel bod gweithwyr yn cael y cyflog byw gwirioneddol fan lleiaf am y gwaith cymhleth ac anodd, gwaith sy'n achub bywydau, y maent yn ei wneud? 

14:10

Felly, Mabon, fel y dywedais wrthych eisoes, rwy'n derbyn yn llwyr fod y gweithwyr hyn yn hollbwysig yn yr ymateb i'r pandemig, ac maent yn weithwyr rheng flaen medrus iawn sy'n haeddu cael eu talu'n briodol. Ac fel y dywedais hefyd, rwyf eisoes wedi cyfarfod â chyfarwyddwr Cymorth Cymru; cyfarfûm â hi ym mis Ionawr i drafod rhai o'r pwyntiau rydych chi'n eu codi ac fe amlygodd y risgiau i'r sector, risgiau yr ydym yn ymwybodol iawn ohonynt. Felly, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol i weld beth y gellir ei wneud gyda'r contractau, ac mae tri cham i hyn, oherwydd mae yna gontractau'n bodoli eisoes y bydd angen eu haddasu, ac mae proses gaffael newydd. Nid gweithwyr sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol yw'r rhain, at ei gilydd. Dyna yw ambell un ohonynt—lleiafrif bach iawn ohonynt—ond mae'r rhan fwyaf ohonynt yn weithlu dan gontract. Felly, mae ychydig yn fwy cymhleth na thalu gweithlu a gyflogir yn uniongyrchol. Nid yw hynny'n esgus; rwy'n dweud hynny fel ffaith, mewn gwirionedd. 

Felly, byddwn yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol i weld beth y gallwn ei wneud, oherwydd heb y gweithwyr hyn bydd gennym lawer o—. Mae'r rhaglen atal digartrefedd yn hanfodol oherwydd mae gennym 1,000 o bobl y mis o hyd ledled Cymru yn ddigartref. Mae cadw pobl yn eu cartrefi, a phan fyddwn wedi eu hailgartrefu, sicrhau eu bod yn aros yn y cartrefi hynny a bod ganddynt y sgíl a'r gefnogaeth angenrheidiol, yn hanfodol i'r rhaglen. Felly, nid wyf yn dadlau gyda chi yn ei gylch. 

Ond gwirionedd y mater yw bod dod o hyd i'r arian i'w wneud yn anodd tu hwnt. Felly, rwy'n dal i fod yn y broses o geisio dod o hyd i arian ychwanegol. Ni allaf addo hynny ar hyn o bryd, ond rydym yn edrych yn galed iawn i weld a allwn ddod o hyd iddo, ac rwy'n hapus iawn i weithio gyda chi i weld a ellid dod o hyd i'r arian hwnnw. 

Gwasanaethau Bysiau yn y De-ddwyrain

4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau bysiau yn ne-ddwyrain Cymru? OQ60710

Diolch. Rydym yn gweithio’n gyflym i gyflwyno'r Bil bysiau newydd i Gymru yn nes ymlaen yn y flwyddyn i drawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu ledled Cymru, ac rwy'n gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i ddatblygu cynllun rhwydwaith bysiau newydd ar gyfer de-ddwyrain Cymru.

Diolch am yr ateb yna. 

Yn ddiweddar, cafodd fy swyddfa wybod bod y cysylltiad bws uniongyrchol rhwng y Coed Duon ac Ysbyty'r Faenor wedi'i ddiddymu ar ôl i'ch cyllid Llywodraeth ddod i ben. Mae hyn yn newyddion siomedig, a adleisir ar draws y pleidiau, nid yn unig i bobl ardal y Coed Duon ond hefyd yn Nhrecelyn, Crymlyn, Llanhiledd, Hafodyrynys, Pont-y-pŵl a Griffithstown, gan fod y bws yn stopio yn y cymunedau hyn ar y ffordd. Ar wahân i fod yn ergyd fawr o ran hygyrchedd yr ysbyty, mae hefyd yn ergyd fawr i'n hymdrechion i leddfu'r argyfwng hinsawdd. I lawer o bobl rwy'n eu cynrychioli yn fy rhanbarth, y gwir amdani yw mai car preifat yw'r unig opsiwn ymarferol ar gyfer mynd i ac o Ysbyty'r Faenor. I fy etholwyr sydd heb gar, a allant obeithio am well na dau neu fwy o fysiau y mae'n rhaid iddynt eu dal os ydynt am gyrraedd Ysbyty'r Faenor yn y dyfodol? Ac a allwch chi hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae unrhyw werthusiad o gynlluniau peilot yng Nghasnewydd neu rywle arall yn y de-ddwyrain wedi'i wneud o'ch cynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus?   

Diolch. Wel, mae enghraifft Ysbyty'r Faenor yn un ddiddorol iawn ac yn astudiaeth achos o fath, rwy'n credu, o'r hyn sydd o'i le ar ein system bresennol a'r hyn y mae angen i'n system newydd ei wneud yn wahanol. Nawr, penderfynodd y sector masnachol nad oeddent yn credu bod galw am fynd i Ysbyty'r Faenor o'r cymunedau yn y Coed Duon ond hefyd ym Mlaenau Gwent, ac felly ni wnaethant ddarparu unrhyw wasanaethau pan agorodd yr ysbyty. Ceir gwasanaeth o Ysbyty'r Faenor i Gwmbrân ac i Gasnewydd, lle mae cysylltiadau ar gael, ond nid gwasanaethau bws uniongyrchol. 

Er mwyn defnyddio ein pwerau ymyrraeth, rhaid mai'r prawf cyntaf yw: a yw'r sector masnachol wedi ceisio a methu? Felly, yn yr achos hwn, roedd wedi gwneud hynny. Yr ail yw: a yw'r awdurdod lleol o dan ei ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu llwybrau sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol wedi ceisio a methu? Ac yn yr achos hwn, nid oedd unrhyw awydd gan yr awdurdodau lleol i ymyrryd a darparu eu cefnogaeth eu hunain i wasanaeth bws, felly aethom ati wedyn i ddefnyddio ein pwerau ymyrryd, na ellir ond ei gyfiawnhau mewn amgylchiadau cyfyng o dan y fframwaith cyfreithiol cymhleth iawn y mae preifateiddio bysiau yn ei nodi. Felly, fe wnaethom ariannu treial chwe mis, a ddangosodd fod y galw'n isel iawn, fel y dywedodd y gweithredwr masnachol yn y lle cyntaf mewn gwirionedd. Cafodd tua 10 o deithwyr y dydd eu gollwng yn Ysbyty'r Faenor ar y llwybr o'r Coed Duon. Nawr, efallai ei fod angen mwy na chwe mis er mwyn iddo sefydlu ac i bobl wybod amdano. Oherwydd nad oedd gwasanaethau bws pan agorodd yr ysbyty gyntaf, efallai fod pobl wedi dod i arfer â gyrru, a bod patrymau ymddygiad gwahanol wedi'u sefydlu. Mae'n debyg na fyddwn ni'n gwybod. Ar ôl ystyried, rwy'n credu y dylem fod wedi ei dendro am fwy o amser na chwe mis, ond mae cyllid bob amser yn dynn iawn.

Rwy'n credu mai'r peth allweddol nawr yw dysgu'r wers wrth inni lunio'r mapiau ar gyfer masnachfreinio, a'n bod yn nodi bod llwybrau at wasanaethau cyhoeddus allweddol yn angenrheidiol yn gymdeithasol, ac yn cael eu cynnwys yn y contractau y mae Trafnidiaeth Cymru yn eu dyfarnu i'r sawl sy'n dal y fasnachfraint. Felly, rwyf wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru edrych yn benodol ar yr achos hwn, yr enghraifft hon, a chadw hynny mewn cof wrth iddynt lunio eu rhwydweithiau ar gyfer pan fydd masnachfreinio'n digwydd. 

14:15

Rwy'n cytuno'n llwyr gyda Peredur, fod angen gwell trafnidiaeth gyhoeddus i Ysbyty'r Faenor, ac mae'n fater a godais sawl gwaith yma yn y Siambr.

Ddirprwy Weinidog, yr allwedd i wella gwasanaethau bysiau yw annog mwy o bobl yn ôl arnynt yn y lle cyntaf. Dro ar ôl tro, rwyf wedi gofyn ac wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cap ar bris tocynnau, yn enwedig ar ôl gweld pa mor llwyddiannus y bu dros y ffin. Yn Lloegr, mae nifer y teithiau bws wedi cynyddu 19.3 y cant yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023, ac eto mae fy ngalwadau wedi disgyn ar glustiau byddar gyda'r Llywodraeth yn mynnu nad oes digon o arian. Ac mae'n ymddangos nad oes digon o arian i alluogi pobl ifanc i deithio am ddim ar fysiau, sy'n rhywbeth yr wyf wedi ei gefnogi, ac y byddaf yn ei gefnogi, ac y credaf y byddai'n sicr yn dod â llawer o fanteision i'r diwydiant. Felly, Ddirprwy Weinidog, rwyf wedi gwrando ar lawer o'r atebion rydych wedi'u rhoi i nifer o fy nghyd-Aelodau yma heddiw, a gwn eich bod wrth eich bodd yn rhoi'r bai ar Margaret Thatcher am bob gofid dan haul, ond rydych chi wedi bod wrth y llyw ers 25 mlynedd yma yng Nghymru. Nid oes unrhyw un arall y gallwch eu beio heblaw chi eich hun ar hyn. Felly, os ydych yn amharod i wario arian i gymell teithio ar fysiau, sut yn union y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i hybu teithio ar fysiau?

Wel, rydym yn bodoli o fewn y fframwaith deddfwriaethol sydd wedi'i osod yn San Steffan, felly mae hynny'n ffaith, ac rydym yn bodoli o fewn system ariannu sydd wedi'i llunio yn San Steffan—mae hynny hefyd yn ffaith. Ac mae'r ffordd y mae fformiwla Barnett yn gweithio ar hyn o bryd ac yn cael ei dehongli gan y Trysorlys a'r Adran Drafnidiaeth yn golygu na chawsom gyfran o'r arian a roddwyd tuag at fysiau i gael pris tocynnau £2 yn Lloegr. Byddwn wedi bod wrth fy modd yn gwneud yr un peth, ac rwyf wedi dweud yn y Siambr hon lawer gwaith y byddem wedi bod eisiau gostwng prisiau tocynnau i dâl cyffredinol o £1, a chael cytundeb y Cabinet i hynny. Hyd nes i Liz Truss chwalu'r economi, roedd gobaith bach y gallem fod wedi gwneud hynny, ond nid yw'r arian ar gael i'w wneud nawr wrth inni wynebu bwlch o £1.2 biliwn yn ein cyllid y flwyddyn ariannol hon. Felly, dyma'r ffeithiau y mae'n rhaid imi weithio gyda nhw, ac wrth gwrs rwy'n awyddus iawn i gynyddu nifer y bobl sy'n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Dyna sydd yn y targedau a osodais yn 'Llwybr Newydd', dyna sy'n gyson â'n targedau newid hinsawdd. Rydym yn mynd i'r afael â rhywfaint o hynny drwy'r ffordd y cynlluniwn y system fysiau, ond mae angen inni gael yr arian i allu ei wneud hefyd.

Yn ei ymateb i Peredur Owen Griffiths, dywedodd y Dirprwy Weinidog mai 11 o deithwyr y dydd ar gyfartaledd oedd ar y bws i Ysbyty'r Faenor. Mae Stagecoach wedi dweud wrthyf ei fod yn 36 o deithwyr y dydd mewn gwirionedd, nad yw, unwaith eto, yn ei wneud yn hyfyw, ond rwy'n dal i feddwl bod angen inni gael adolygiad o'r cynllun peilot hwnnw. Fy ngweledigaeth oedd y byddai'n dod yn rhan o raglen estynedig a fyddai'n ymestyn yn nes ymlaen i gynnwys fy etholaeth i, a hefyd i lwybrau nad oedd wedi'u cynnwys ar hyn o bryd, ac roedd yn siomedig yn rhannol, rwy'n tybio, nad oedd effaith chwyddiant, ond hefyd effaith yr adolygiad o'r gwasanaeth, wedi caniatáu iddo barhau.

Mae etholwyr wedi cysylltu â mi hefyd i ddweud eu bod yn poeni am newidiadau i drafnidiaeth i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, a hefyd problemau yng nghwm Aber, Bedwas, Tretomas a Machen, ac o Fargoed hefyd. Felly, ddydd Gwener 1 Mawrth, byddaf yn cynnal cymhorthfa i ddefnyddwyr bysiau yn Neuadd y Gweithwyr Bedwas yng Nghaerffili. Hoffwn drosglwyddo'r wybodaeth ohoni i'r Gweinidog. Ddydd Gwener yma hefyd rwy'n cyfarfod gyda Stagecoach, cyn y gymhorthfa. Pa wybodaeth y gall y Gweinidog ei rhoi i mi cyn fy nghyfarfod gyda Stagecoach, a fy nghyfarfod gyda'r trigolion ar 1 Mawrth, i roi sicrwydd iddynt fod y problemau presennol gyda'r gwasanaethau bysiau yn rhai dros dro, a'n bod yn mynd i weld newid yn y dyfodol?

14:20

Diolch. Rwy'n hapus i wirio'r ffigurau a ddyfynnodd, oherwydd maent yn wahanol i'r rhai y mae Stagecoach wedi eu darparu i mi. Ond y pwynt yw, p'un a yw'n 10 neu 30, roedd y niferoedd yn fach. Serch hynny, mae'n angenrheidiol yn gymdeithasol ac rydym am gefnogi gwasanaethau bysiau sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol ac fel y soniais, mae angen inni gael y system a'r cyllid i'n galluogi i wneud hynny. Rwy'n credu ein bod i gyd yn cytuno ar draws y Siambr hon ynglŷn â phwysigrwydd gwasanaeth bws da. 

Rwy'n awyddus iawn i gael yr adborth gan Hefin David o'r gymhorthfa fysiau y mae'n ei chynnal yn ei etholaeth, ac rwy'n ei ganmol am wneud hynny. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gwrando, nid yn unig ar deithwyr presennol, ond y rhai yr ydym am eu hannog i ddefnyddio'r bysiau, a bydd yr adborth hwnnw'n ddefnyddiol iawn i mi wedyn i'w drosglwyddo i Trafnidiaeth Cymru wrth iddynt lunio'r system wedi'i masnachfreinio.

Rwy'n credu mai'r neges i'w rhoi i etholwyr yw bod angen i fwy o bobl ddefnyddio bysiau, i'w gwneud yn fwy hyfyw ac i leihau faint o gymhorthdal sydd ei angen, ac mae angen inni fwydo'r wybodaeth allweddol ynghylch y mannau y mae pobl eisiau cysylltiad â nhw i mewn i'r system y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei llunio ar gyfer masnachfreinio. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn defnyddio data o ffonau symudol, felly rydym yn gwybod ble mae pobl yn teithio ar hyn o bryd, a bydd honno'n set ddata allweddol a ddefnyddir i lunio'r rhwydweithiau, ond mae angen i hynny hefyd fod yn seiliedig ar adborth dinasyddion yn ogystal. Felly, rwy'n awyddus iawn i fynd ar drywydd hyn gyda Hefin David i ddeall yr adborth a ddaw gan ei etholwyr.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n ymddiheuro, Lywydd, ond nid wyf yn barod.

Iawn, rydych chi wedi prynu digon o amser nawr i ddarllen eich cwestiwn.

Diogelwch ar y Rhwydwaith Cefnffyrdd

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch priffyrdd ar y rhwydwaith cefnffyrdd? OQ60690

Diolch yn fawr iawn, ac nid oeddwn erioed wedi meddwl y byddwn yn gweld y dydd y gwelwn Darren Millar yn gwrido. [Chwerthin.]

Lywydd, rydym o ddifrif ynghylch diogelwch y cyhoedd sy'n teithio ac mae gennym raglen o welliannau wedi'i thargedu i fynd i'r afael â mannau lle ceir llawer o wrthdrawiadau anafiadau personol ar y rhwydwaith ffyrdd strategol.

Diolch am eich ymateb. Mae'r A494 yn felltith ym mywydau rhai pobl, yn enwedig ym mhentref Llanferres yn sir Ddinbych. Mae'n bentref lle mae'r terfyn cyflymder ar hyd yr A494 yn 40 mya. A dyma bentref a welodd nifer fawr o ddamweiniau bron â digwydd; mae llawer o bobl yn teimlo bod y terfyn cyflymder yn rhy uchel. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud diogelwch ar y ffyrdd yn flaenoriaeth. Rydych chi wedi bod yn gostwng cyfyngiadau cyflymder ar ffyrdd lleol, ond nid ydym wedi gweld llawer o ostyngiadau i derfynau cyflymder ar y rhwydwaith cefnffyrdd. Dyma ardal lle mae angen gostwng y cyflymder i 30 mya, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i edrych ar y cyflymder priodol yn y pentref hwnnw, a gweithredu cyn gynted â phosibl. A allwch chi fy sicrhau y byddwch chi'n rhoi cyfarwyddyd i'ch swyddogion wneud hynny?

Wel, rwy'n cytuno'n llwyr y dylem edrych ar aneddiadau mewn ardaloedd gwledig neu ar hyd y rhwydwaith cefnffyrdd yn union yn yr un ffordd ag y gwnawn ar y rhwydwaith ffyrdd lleol, lle mae gennym 20 mya diofyn fel y gwyddoch pan fodlonir yr amodau ar gyfer hynny. Nid wyf yn siŵr pam ei fod yn cefnogi cyflymder o 30 mya mewn ardal adeiledig, nid 20 mya, fel gyda gweddill y system.

Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig i'r Aelodau neithiwr, yn nodi canlyniadau interim monitro'r 20 mya, a chanlyniadau interim yr adolygiad y gwnaethom ofyn am ei gynnal i'r ffordd y caiff ei weithredu. Un o gasgliadau'r adolygiad interim hwnnw yw y dylid cynnal adolygiad pellach nawr o derfynau cyflymder, yn y math o amgylchiadau y mae Darren Millar wedi'u nodi, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n rhan o'u hadroddiad terfynol. Lle mae gennym bentrefi, lle ceir ysgolion, lle ceir siopau, lle ceir tai, lle ceir canolfannau cymunedol, rwy'n credu y dylid edrych ar yr un meini prawf sydd gennym ar gyfer cymunedau ar ffyrdd lleol ar gefnffyrdd hefyd, fel y gallwn gael cyfyngiadau cyflymder mwy diogel ac arafach mewn ardaloedd lle mae pobl a thraffig yn cymysgu.

Llifogydd yn Sir y Fflint

7. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn ei ddarparu i amddiffyn cymunedau yn Sir y Fflint rhag llifogydd? OQ60696

Diolch am y cwestiwn, Jack Sargeant. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'n hawdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru fel yr awdurdodau rheoli perygl llifogydd arweiniol. Rydym yn annog yr awdurdodau rheoli perygl i gyflwyno cynlluniau arfaethedig am gyllid o dan ein rhaglen rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, a byddaf yn cyhoeddi rhaglen y flwyddyn nesaf ym mis Mawrth.

14:25

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog, ac am yr ymateb a roesoch imi mewn gohebiaeth ysgrifenedig ychydig wythnosau yn ôl ar y mater hwn, ac edrychaf ymlaen at eich datganiad ar y rhaglen rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. 

Ar sawl achlysur codais y problemau llifogydd yn lleol yn sir y Fflint ac rwy'n credu fy mod wedi gwneud fy safbwynt yn eithaf clir o'r blaen, Weinidog, fod angen i'r gwaith a nodwyd eisoes ddigwydd yn sir y Fflint cyn gynted â phosibl, ynghyd ag unrhyw waith ychwanegol i nodi mesurau pellach i ddiogelu cymunedau. A gaf i ofyn i chi, wrth i chi ystyried y rhaglen waith, i sicrhau bod y ffaith bod ardaloedd fel Mancot, Sandycroft a Brychdyn wedi dioddef llifogydd fwy nag unwaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn cael ei ystyried wrth lunio'r rhaglen fuddsoddi eleni?

Diolch yn fawr am hynny, Jack. Ac rwy'n gwybod yn iawn pa mor ddinistriol y gall effeithiau llifogydd fod ar gartrefi a bywoliaeth pobl, ac ar fywydau ac ar blant. Rwyf wedi cyfarfod â nifer sydd wedi dioddef trawma mawr yn eu sgil, felly hoffwn gydymdeimlo unwaith eto ag unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd diweddar yn ystod y gaeaf hwn. Ac rwy'n gwybod bod storm Babet wedi effeithio'n fawr ar eich etholwyr yn ôl ym mis Hydref, ac rwy'n cydymdeimlo'n fawr. 

Rydym wedi bod yn gweithio gyda'r holl awdurdodau rheoli perygl ac rwy'n ymwybodol fod Cyngor Sir y Fflint wedi cyflwyno nifer o geisiadau am gyllid yn y rownd ganlynol. Rwy'n ofni na allaf roi unrhyw sicrwydd heddiw ynghylch pa gynlluniau fydd yn derbyn cyllid ar yr adeg hon, ond rwy'n hapus iawn i gadarnhau bod effeithiau'r llifogydd diweddar yn cael eu hystyried yn drylwyr pan fyddwn yn blaenoriaethu buddsoddiad drwy'r rhaglen llifogydd. A byddaf yn cyhoeddi'r rhaglen ar 19 Mawrth. 

Ynni Niwclear

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y sector ynni niwclear yng Nghymru? OQ60707

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn, Ken. Mae ynni niwclear yn dod o fewn portffolio Gweinidog yr Economi yn llwyr, Lywydd, ond fe wnaf fy ngorau i ateb y cwestiwn beth bynnag.

Mae'n debyg fod yna dri chyhoeddiad diweddar sy'n helpu i lunio polisi a darpariaeth niwclear hyd at 2050 ledled y DU a Chymru. Bydd Great British Nuclear yn allweddol i gyflawni prosiectau ar sawl safle, ond mae ei sefydlu yn effeithio ar ddyfodol Cwmni Egino, yn ogystal ag ar y potensial ar gyfer prosiectau yn Nhrawsfynydd ac Wylfa.

Diolch yn fawr am eich ateb, Weinidog. Mae'r sector niwclear ledled Cymru'n gryf iawn wrth gwrs ac yn enwedig yn y gogledd lle mae'n rhan o'r bwa niwclear bywiog, ac mae gennym lawer o fuddsoddwyr yn y rhanbarth. Ac mae yna siarad o'r newydd am adweithydd niwclear newydd posibl yn Wylfa. A allwch chi ein sicrhau bod Llywodraeth Cymru wedi asesu anghenion buddsoddwyr presennol a darpar fuddsoddwyr yn y sector fel rhan o ymgyrch ynni glân, fel ein bod yn gallu rhoi cymorth sy'n cyd-fynd â beth bynnag a allai fod ar gael gan lywodraeth leol a Llywodraeth y DU?

Diolch yn fawr iawn am hynny, Ken. Rwy'n deall o drafodaethau gyda datblygwyr ac aelodau fforwm niwclear Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf fod y gofyniad allweddol ar gyfer buddsoddwyr presennol a darpar fuddsoddwyr yn ymwneud â'r angen am bobl fedrus a safleoedd addas. Ac yn y sector niwclear yn enwedig, mae buddsoddwyr hefyd yn awyddus i sicrhau sefydlogrwydd a chysondeb ym mholisi'r Llywodraeth er mwyn ennyn hyder a gwytnwch y farchnad. 

Rydym yn falch iawn fod penderfyniad Westinghouse i leoli ei swyddogaeth datgomisiynu yn y DU yn M-SParc ar Ynys Môn, yn ogystal â'r buddsoddiad Boccard y cyfeiriwyd ato ar Lannau Dyfrdwy, wedi codi o asesiad gan y ddau gwmni o argaeledd personél medrus a safleoedd addas yn lleol, amgylchedd cefnogol Llywodraeth Cymru a'r cyfleoedd prosiect posibl yn y dyfodol yng ngogledd Cymru. Rwy'n credu bod hon yn enghraifft dda iawn, unwaith eto, o dîm Cymru'n dod at ei gilydd i arddangos y sgiliau a'r lleoliad da iawn, a safbwynt polisi Llywodraeth sefydlog ar hyn, yn wahanol i'r hyn a welsom dros y ffin. 

Cyhoeddir adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar 'Ynni niwclear ac economi Cymru' heddiw a bydd yr argymhellion a gynhwysir ynddo yn cael eu hystyried yn ofalus wrth inni edrych i weld sut ddyfodol a allai fod i Cwmni Egino yn enwedig, o ystyried canlyniad yr adroddiad hwnnw. 

Gwyrddu Ardaloedd Trefol

9. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith ei pholisïau ar gyfer gwyrddu ardaloedd trefol? OQ60705

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw, John Griffiths. Mae gan Lywodraeth Cymru amrywiaeth o fentrau i wella mannau gwyrdd trefol, fel Coetiroedd Bach a'r grant cymorth rhandiroedd. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gwerthuso darpariaeth. Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur er enghraifft wedi comisiynu adolygiad i werthuso effeithiau cymdeithasol y rhaglen rhwng 2020 a 2025.

Diolch am hynny, Weinidog. Mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn byw mewn ardaloedd trefol a chredaf fod gwyrddu'r amgylchedd trefol hwnnw—yr amgylchedd sydd ar garreg eu drws—yn bwysig iawn i ansawdd eu bywydau, a hefyd yn bwysig iawn ar gyfer ennyn cefnogaeth i bolisïau amgylcheddol Llywodraeth Cymru a'r ymdrechion i fynd i'r afael â newid hinsawdd a datblygu'r math o newid ymddygiadol y mae angen i ni ei weld.

Yn fy etholaeth i, Weinidog, mae gennym Gwyrddu Maendy fel sefydliad sydd wedi manteisio ar y cyllid sydd ar gael i greu ardaloedd gwyrdd hygyrch, gan droi mannau a oedd wedi eu hesgeuluso ac yn ddolur llygad yn amwynderau nawr i bobl leol sy'n hygyrch ac yn cael eu mwynhau'n fawr. Mae'n sicr yn dibynnu ar frwdfrydedd ein gwirfoddolwyr a'u hymrwymiad a'r amser y maent yn barod i'w roi. Felly, a fyddech chi'n cytuno â mi, Weinidog, fod angen inni weld mwy o'r gweithgarwch a'r cynnydd hwn yng Nghymru, ac a fydd Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn parhau i ddarparu'r cyllid i wneud hynny'n bosibl?

14:30

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n cytuno'n llwyr—mae'n hyfryd iawn gweld cymunedau lleol yn cymryd rhan yn y gwaith o wyrddu eu mannau trefol. Ac yn wir, mewn trefi marchnad ledled Cymru, rydym hefyd yn gweld amgylcheddau lled-drefol yn cael yr un driniaeth.

Rhwng 2023 a 2025, bydd Casnewydd yn cael £61,000 o dan y grant cymorth rhandiroedd, ac rwy'n deall eu bod yn bwriadu dod â 14 llain sydd wedi tyfu'n wyllt ar Ffordd Cae Perllan a Market Garden yn ôl i ddefnydd. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd hynny'n golygu bod llawer mwy o bobl yn cael cyfle i dyfu eu llysiau a'u blodau eu hunain ac yn y blaen. Hefyd, mae'n hyfryd iawn gweld lleiniau sydd wedi tyfu'n wyllt yn cael eu defnyddio unwaith eto. Yn ddiweddar, roeddwn gyda Jayne Bryant mewn rhan ychydig yn wahanol o Gasnewydd ac roeddem yn edrych ar gynllun ar hyd glan yr afon yno, ac mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld beth y gellir ei wneud. Mae gan ganol Casnewydd gynlluniau gwyrddu hyfryd iawn hefyd. Felly, mae'n amlwg ei fod o ddiddordeb mawr i bobl dwyrain a gorllewin Casnewydd, sy'n hyfryd i'w weld. 

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi gwobrau'r Faner Werdd hefyd. Rydym yn rhoi achrediad i barciau a mannau agored sy'n hygyrch i'r cyhoedd i hyrwyddo safonau rheoli da ac arferion gorau. Mae 280 o safleoedd wedi'u gwobrwyo ledled Cymru, gan gynnwys saith yng Nghasnewydd, ac mae dau ohonynt yn safleoedd sydd newydd eu gwobrwyo. Mae pwll Llyswyry ac ardal gymunedol pwll pentref Trefesgob hefyd newydd dderbyn gwobrau'r Faner Werdd. Felly, rwy'n credu, John, ei bod yn deg dweud bod Casnewydd yn enghraifft wych iawn o'r hyn y gellir ei wneud pan fo cymunedau'n cofleidio'u hamgylchedd naturiol o ddifrif, ac effaith polisi o'r fath ar iechyd meddwl a newid hinsawdd a bioamrywiaeth. Rwy'n credu y dylid canmol pobl Casnewydd am gofleidio'r cynlluniau hyn.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg sydd nesaf. Mae cwestiwn 1 [OQ60709] wedi ei dynnu yn ôl. 

Gofal Plant drwy Gyfrwng y Gymraeg

2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch argaeledd darpariaeth gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg? OQ60711

Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r aelod dynodedig o Blaid Cymru am ein hymrwymiad yn ein cynllun gweithredu 'Cymraeg 2050' i ehangu'r ddarpariaeth feithrin drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid i gynyddu argaeledd darpariaeth gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg.

Diolch, Weinidog. Yr hydref diwethaf, fe wnaethoch chi ymuno â mi i groesawu agor meithrinfa Wibli Wobli, y feithrinfa gofal dydd Gymraeg gyntaf yng Nghasnewydd. Yn drasig, llosgodd adeilad y feithrinfa yn Nhŷ-du mewn tân fis diwethaf. Mae sylfaenydd y feithrinfa, Natasha Baker, a'i thîm, wedi bod yn gweithio'n andros o galed ers hynny, a'r wythnos hon agorwyd lleoliad dros dro yn Ysgol Gynradd Parc Tredegar. Rwy'n hyderus iawn y bydd Wibli Wobli yn goresgyn yr anffawd, ond mae eu profiad wedi tynnu sylw at y diffyg darpariaeth gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg yn fy etholaeth. 

Weinidog, rydym i gyd eisiau cyrraedd carreg filltir 'Cymraeg 2050'. Mae manteision dysgu Cymraeg yn ifanc yn cael eu cydnabod yn eang, yn enwedig i blant nad yw eu rhieni'n siarad yr iaith gartref. Beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi lleoliadau Cymraeg, yn enwedig mewn cymunedau Saesneg eu hiaith?

Mae'r Aelod yn iawn i ddweud fy mod yn falch iawn o groesawu sefydlu Wibli Wobli y llynedd, fel y dywedodd, ac roeddwn yn arbennig o drist o glywed am y tân dinistriol a ddigwyddodd yn gynharach eleni. Rwy'n falch o glywed yr hyn y mae hi wedi'i ddweud heddiw am y camau y mae'r feithrinfa wedi'u cymryd i ailsefydlu, ac rwy'n dymuno'r gorau iddynt gyda'r gwaith hynod bwysig hwnnw. 

O ran cwestiwn yr Aelod, rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'r Mudiad Meithrin ac awdurdodau lleol i gynyddu argaeledd darpariaeth gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg drwy fuddsoddi yn y gweithlu ac mewn adeiladu lleoliadau newydd ledled Cymru. Ers 2022, rydym wedi darparu cyllid ychwanegol o tua £3.7 miliwn i'n partneriaid gofal plant, CWLWM, i ddarparu hyfforddiant Cymraeg ychwanegol a phwrpasol, gan gynnwys mwy o hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n cynnig cefnogaeth bwrpasol i leoliadau cyfrwng Cymraeg, ac i leoliadau cyfrwng Saesneg sydd am gynyddu eu defnydd o'r Gymraeg. Mae hyn yn ychwanegol at y rhaglen gyfalaf gwerth £70 miliwn a ddarparwyd gennym i sicrhau ein bod yn cryfhau ac yn cefnogi'r sector gofal plant yng Nghymru, a hynny, i adlewyrchu'r pwynt a wnaeth yr Aelod nawr, gyda phwyslais arbennig ar gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ym mhob cymuned yng Nghymru.

14:35

Nid yw tref Penfro yn fy etholaeth fel arfer yn cael ei hystyried yn dref Gymraeg, ond mae ysgol gynradd Gymraeg newydd yn cael ei hadeiladu yn yr ardal, a bydd yn sicr yn helpu i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg, sydd i'w groesawu. Fodd bynnag, a gaf fi ofyn pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru'n ei roi i sicrhau bod plant cyn oed ysgol, a fydd yn y pen draw yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg, yn gallu profi'r Gymraeg hyd yn oed os nad ydynt yn dod o deulu iaith Gymraeg? 

Diolch i Sam Kurtz am y cwestiwn. Mae'r pwynt y mae e'n ei wneud yn bwynt pwysig. Dyna'n union yw pwrpas y gyllideb rŷn ni'n ei darparu i Mudiad Meithrin, ond hefyd i CWLWM, fel eu bod nhw'n gallu darparu'r hyfforddiant angenrheidiol i'r gweithlu, fel ein bod ni'n sicrhau nid yn unig bod lleoliadau'n gallu agor ond eu bod nhw'n gallu cael eu staffio gan bobl sy'n gymwys i wneud hynny. Ers dechrau'r flwyddyn hon, mae tua 15 y cant o leoliadau gofal plant yn cael eu diffinio fel rhai sy'n cael eu darparu trwy gyfrwng y Gymraeg, a thua 11 y cant yn dweud eu bod yn defnyddio'r ddwy iaith yn eu lleoliadau. Felly, mae hynny'n rhywbeth sydd i'w ddathlu. Mae hefyd 21 y cant o'r gweithlu yn y sector yn dweud eu bod nhw'n siarad Cymraeg yn hyderus, a thua 20 y cant pellach na hynny yn dweud eu bod nhw'n gallu siarad rhywfaint o Gymraeg. Felly, mae'r darlun hwnnw'n cynyddu hefyd.

Cefnogi Dysgwyr

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi dysgwyr yn Nwyrain De Cymru? OQ60693

Rydym yn parhau i ddarparu cymorth i ddysgwyr yn Nwyrain De Cymru, gan gynnwys £8 miliwn o gyllid tuag at anghenion dysgu ychwanegol, gwerth £12.2 miliwn o gyllid drwy ein rhaglen prydau ysgol am ddim i bawb, a gwerth £43 miliwn o gyllid ar gyfer prosiectau addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog. Daeth yr ymgynghoriad ar gyfer y newidiadau arfaethedig i'r flwyddyn ysgol i ben yr wythnos diwethaf, ac fel llawer o Aelodau eraill yn y Siambr rwy'n siŵr, mae fy mewnflwch wedi bod yn llawn o negeseuon gan etholwyr yn mynegi eu pryderon ynghylch y mater hwn. Yn gyntaf, bydd y newidiadau a argymhellir yn rhwystro'r gwaith o recriwtio athrawon Cymraeg, sydd eisoes ar ei hôl hi o gymharu â lle dylai fod, gan y byddent yn colli amser gwyliau gwerthfawr yn paratoi ar gyfer tymor newydd, ac nid oes rhaid i athrawon dros y ffin ymdrin â hynny. Bydd y newidiadau hefyd yn cynyddu costau i rieni, gan y bydd yn rhaid iddynt dalu am wres ac adloniant dan do ychwanegol, gan y bydd eu plant adref am fwy o amser, gyda mwy o wyliau dros y misoedd oerach. Bydd hyn yn sicr yn cael effaith ganlyniadol, a byddwn hefyd yn gweld gostyngiad yn y manteision hanfodol i addysg awyr agored. Ochr yn ochr â hyn, Weinidog, bydd yn rhaid i'n hathrawon ymladd yn galetach am wyliau blynyddol mawr ei angen, yn ystod cyfnod gwyliau byrrach yn yr haf, tra bod yr holl newidiadau arfaethedig yn ergyd drychinebus i'r economi a'r sectorau gwledig, gyda cholled o £1 filiwn i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru o'r effaith uniongyrchol ar y Sioe Frenhinol, a gwyliau'r haf sy'n sail i'n diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Felly, Weinidog, gan y bydd y newidiadau arfaethedig hyn yn y flwyddyn ysgol yn sicr o gael effaith negyddol ar bron pob rhan o gymdeithas, a wnewch chi'r peth iawn a chael gwared ar y cynlluniau wrth symud ymlaen? Diolch.

Nid wyf yn cydnabod disgrifiad braidd yn llwm yr Aelod o'r diwygiadau arfaethedig fel y'u disgrifir yn yr ymgynghoriad. Rwy'n siarad ag athrawon drwy'r amser, ac maent yn dweud wrthyf mai un o'u prif bryderon yw hyd tymor yr hydref, ac mae'n heriol dros ben i'r staff a'r disgyblion. Mae athrawon hefyd yn dweud wrthyf drwy'r amser fod y ffaith bod gwyliau'r Pasg yn newid yn ei gwneud hi'n llawer anos cynllunio ar gyfer eu cwricwlwm a chynllunio eu gwersi. Felly, mae nifer o fanteision i athrawon o'r cynigion a nodir yn y ddogfen ymgynghorol. Fel y bydd hi'n gwybod, mae'r cymhelliant y tu ôl i'r ymgynghoriad yn ymwneud â sicrhau bod y dysgwyr sy'n lleiaf abl i sicrhau bod eu dysgu'n cael ei gynnal dros yr haf—[Torri ar draws.]

Diolch, Lywydd. Un datblygiad pwysig iawn i ddysgwyr yn ne-ddwyrain Cymru, Weinidog, yw adleoli campws Coleg Gwent Casnewydd i ganol y ddinas. Bydd hyn yn sicrhau bod dysgu'n cael ei arddangos i'r gymuned ehangach yng Nghasnewydd, ac rwy'n credu y bydd yn arwain at lwybrau cynnydd da iawn—at addysg uwch hefyd yn wir, gyda champws Prifysgol De Cymru Casnewydd ar garreg y drws. Rwy'n gwybod eich bod yn croesawu ac yn cefnogi'r datblygiad pwysig hwn, Weinidog. Felly, a wnewch chi ategu fy awydd i'w weld yn mynd rhagddo mewn modd mor amserol â phosibl? Rwy'n credu ein bod i gyd yn awyddus iawn i weld y cyfleuster newydd pwysig hwnnw'n cael ei ddatblygu a'i agor.

14:40

Rwy'n credu ei fod yn gynnig cyffrous. Fel y bydd John Griffiths yn gwybod o'n trafodaethau blaenorol ynghylch hyn, rwy'n frwdfrydig iawn am y peth, ac rwy'n mawr obeithio y bydd ein swyddogion, ynghyd â swyddogion y coleg a'r awdurdod lleol, yn gallu gwneud cynnydd i wireddu'r uchelgeisiau y mae'r cynllun yn eu disgrifio. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn o safbwynt gwelededd dysgu, fel y dywed, ond hefyd o ran lleoliad y prosiect, sydd, rwy'n credu, yn symbolaidd ynddo'i hun. 

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones. 

Diolch, Lywydd. A fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi a'r ddirprwyaeth drawsbleidiol gyntaf sydd newydd ddychwelyd o Ynysoedd Falkland y gallai cryfhau'r berthynas rhwng Cymru ac Ynysoedd Falkland—y porth i Antarctica—roi cyfle unigryw i ddysgwyr Cymru ac y gallai fod yn ffordd wych o alluogi ein dysgwyr yng Nghymru i gael gwell dealltwriaeth o'r hyn sy'n digwydd i'n hamgylchedd yn fyd-eang?

Fel Llywodraeth sy'n rhoi'r amgylchedd ar frig eich rhestr o flaenoriaethau, a fyddai'r Gweinidog yn barod i gael trafodaethau gyda Llywodraeth Ynysoedd Falkland a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu, efallai, prosiect amgylcheddol a fyddai'n cyd-fynd â'n cwricwlwm newydd, sy'n cysylltu ysgolion yn Stanley, eu bywyd gwyllt, a'u hagosrwydd at Antarctica, i ehangu gorwelion ein dysgwyr yng Nghymru ac i ddyfnhau eu dealltwriaeth o'r byd, gyda hyd yn oed y posibilrwydd o rannu'r Gymraeg o ystyried y nifer fawr o Gymry y gwnaethom eu cyfarfod ar yr ynys? Diolch. 

Diolch i Laura Anne Jones am y cwestiwn diddorol hwnnw. Rwy'n gwybod o fy nhrafodaethau gyda fy nghyd-Aelod Alun Davies fod y daith i Ynysoedd Falkland yn ddiddorol iawn, ac roedd y cyfleoedd amgylcheddol, rwy'n credu, yn glir, fel rwy'n deall. Rwy'n credu bod yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud yn ddiddorol iawn mewn gwirionedd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i'n pobl ifanc gael dealltwriaeth glir o'r byd naturiol o'u cwmpas, yr argyfwng hinsawdd, yr argyfwng natur, a sut y gallwn gyfrannu at y gwaith o fynd i'r afael â hynny. Fe fydd hefyd yn gwybod bod hon yn Llywodraeth sy'n hyrwyddo cysylltiadau rhyngwladol rhwng ysgolion, yn enwedig, yn fwyaf diweddar, drwy ein rhaglen Taith, sydd wedi galluogi llawer o ysgolion yng Nghymru i feithrin perthynas ag ysgolion mewn mannau eraill. Mae rhai o'r rheini wedi golygu teithiau cyfnewid yn y cnawd, a llawer mwy ohonynt wedi golygu ymgysylltu ar-lein, o bell, ac rwy'n credu y byddai'n ddiddorol archwilio'r posibilrwydd y mae'r Aelod wedi'i godi heddiw. 

Diolch, Weinidog, rwy'n gwerthfawrogi'r sylwadau hynny. Ers dros flwyddyn bellach, rwyf wedi mynegi fy mhryderon wrthych ynglŷn â thangyflawniad addysgol ymysg bechgyn gwyn dosbarth gweithiol yng Nghymru. Felly, Weinidog, a allwch chi ddychmygu fy syndod pan glywais eich sylwadau yn ddiweddar yn addo y byddai Llywodraeth Cymru o dan eich arweinyddiaeth yn gwneud mwy i helpu bechgyn gwyn dosbarth gweithiol i ffynnu a chyflawni eu potensial llawn? Gwych. Mae'n hen bryd. Bechgyn gwyn dosbarth gweithiol yw'r rhai mwyaf tebygol o fethu pasio TGAU Saesneg neu fathemateg, a nhw yw'r rhai lleiaf tebygol o fynd i brifysgol, gyda'u niferoedd wedi gostwng 10 y cant dros y 10 mlynedd diwethaf.

Rydych chi nawr yn addo cau'r bwlch addysgol ar eu cyfer yn eich addewidion maniffesto, ond eto rydych wedi methu gwneud hynny yn ystod eich cyfnod fel Gweinidog addysg. Mae'r diffyg ffocws ar y grŵp hwn o ddynion, gennych chi a Llywodraeth Lafur Cymru, wedi arwain at ganlyniadau negyddol iawn iddynt. Ni allwn ac ni ddylem daflu cenhedlaeth o ddynion gwyn dosbarth gweithiol i fin hanes. Weinidog, rydym yn gweld yr addewidion newydd hyn gennych, ac eto rydych wedi bod yn gyfrifol am addysg ers bron i bedair blynedd. Nid ydych wedi darparu unrhyw ffocws nac unrhyw gynllun i fynd i'r afael â'r anfantais sy'n wynebu bechgyn dosbarth gweithiol. Weinidog, pam eich bod wedi eistedd ar eich dwylo drwy'r holl amser hwn, a pham ei bod wedi cymryd ymgyrch arweinyddiaeth i fynd i'r afael â chenhedlaeth goll o fechgyn dosbarth gweithiol yng Nghymru?

Rwy'n cymeradwyo'r Aelod am ei diwydrwydd wrth ddilyn fy ymgyrch arweinyddiaeth. Pe bai'n dangos cymaint o ddiwydrwydd wrth edrych ar yr hyn y mae'r Llywodraeth wedi bod yn ei wneud yn y maes polisi hwn ers imi ddod yn Weinidog, rwy'n credu y byddai hynny hyd yn oed yn well.

Fe fydd hi'n cofio—ac rwy'n siŵr y bydd wedi darllen—yr araith a roddais i Sefydliad Bevan tua dwy flynedd yn ôl, a oedd yn nodi cynllun, ac rydym wedi bod yn dilyn y cynllun hwnnw ers hynny. Mae iddo nifer o elfennau. Mae'n sôn am bwysigrwydd ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned, am ennyn diddordeb rhieni yn nysgu eu plant. Ymwelais ag ysgol yn etholaeth John Griffiths yn ddiweddar a oedd yn gwneud yn dda iawn yn y ffordd honno drwy ddysgu rhieni i goginio a dod â nhw i mewn i'r ysgol a chryfhau'r berthynas â chymuned yr ysgol. 

Fe fydd hi'n gwybod hefyd am y gwaith a wnawn ar ddarparu cwricwlwm sy'n cyffroi ein holl ddysgwyr ac sy'n ei gwneud hi'n bosibl i bob un ohonynt gyflawni eu potensial. Fe fydd hi'n gwybod, rwy'n credu, am y buddsoddiad a wnaethom mewn addysg gychwynnol i athrawon i sicrhau bod athrawon yn deall y strategaethau sydd fwyaf tebygol o lwyddo, a'r dysgu proffesiynol rydym wedi'i gomisiynu i'w cefnogi ar eu taith ddysgu proffesiynol yn dilyn hynny. 

Fe fydd hi'n gwybod, rwy'n credu, am yr ymgysylltiad a gawsom gyda'r Sefydliad Gwaddol Addysgol, gan gynnwys, yn ddiweddar, ffurfio partneriaeth â nhw fel y byddant yn ein helpu gyda mentrau arbennig o lwyddiannus mewn ysgolion. Ac rwy'n gwybod y bydd wedi dilyn hynt y rhaglen pencampwyr cyrhaeddiad, a dreialwyd gennym yn llwyddiannus, gan baru ysgolion sydd wedi dangos llwyddiant arbennig yn y maes gyda'r ysgolion sydd wedi'i chael yn fwyaf heriol. Rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn yn gallu parhau â'r cynllun peilot hwnnw y flwyddyn nesaf. 

Rwy'n gwybod ei bod hi'n hoff iawn o ganlyniadau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, ac mae hi'n barod iawn i'w dyfynnu pan fyddant yn cefnogi ei hachos, ond rwy'n gwybod, o'i hastudiaeth fanwl ohonynt, y bydd wedi sylweddoli bod Cymru wedi bod yn cau'r bwlch cyrhaeddiad hwnnw mewn gwirionedd. Nid wyf yn hawlio unrhyw glod am hynny. Digwyddodd yn llawer cynt ar ôl imi ddod yn Weinidog. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig cadw llygad ar y dystiolaeth, yn ogystal â chadw llygad ar y wleidyddiaeth. 

14:45

Ac eto, mae'r niferoedd yn parhau i ostwng, onid ydynt, Weinidog, o'u cymharu â gweddill y DU? Ac mae'r bechgyn gwyn dosbarth gweithiol hynny yng Nghymru yn parhau i fod dan anfantais enfawr o gymharu â'u cyfoedion.

Weinidog, unwaith eto, rydych wedi methu mynd i'r afael â methiannau eich cyfnod yn y swydd yn eich ymateb. Ymddengys bod hynny wedi dod yn thema i'n trafodaethau dros y blynyddoedd diwethaf. Ers i chi ddod yn Weinidog addysg yn 2021, rydych chi wedi torri cyllidebau addysg hyd at yr asgwrn, flwyddyn ar ôl blwyddyn—gostyngiadau yn nhermau arian parod, eleni, o hyd at £56 miliwn. Rydych wedi methu mynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio a chadw athrawon yng Nghymru. Mae cynnydd amlwg wedi bod mewn ymddygiad gwael a thrais yn ein hystafelloedd dosbarth yng Nghymru, gyda dros 5,000 o ddigwyddiadau yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ac mae'r ffigur hwnnw'n cynyddu. Absenoliaeth—mae'n dal i godi. Cludiant i'r ysgol—nid yw'n ddigonol o hyd. Nid oes cynllun cenedlaethol i fynd i'r afael ag iechyd meddwl yn ein hysgolion nac i rannu arferion gorau. Mae safonau addysg ar eu lefel isaf erioed, gyda Chymru ar waelod safleoedd PISA, ymhell y tu ôl i'n cymheiriaid yn y DU, gyda Chymru'n gostwng i'w lefelau isaf erioed mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth, islaw cyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd hyd yn oed, tra bod sgoriau Lloegr yn dal i berfformio'n well na sgoriau gorau Cymru ers i ni ymuno yn 2006. Ac fe allwn i barhau, ond yn syml iawn, Weinidog, rydych chi wedi gwneud cam â chenhedlaeth o ddysgwyr ledled Cymru, yn enwedig y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae ysgolion wedi bod yn ymbil ers blynyddoedd am fwy o arian ar gyfer staff, ar gyfer hyfforddiant, ar gyfer adnoddau. Nid yw'n gyflawniad i fod yn falch ohono. Yn amlwg, nid yw addysg yn flaenoriaeth i chi, Weinidog, na'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Weinidog, ar y cyflawniad hwn yn unig, a ydych chi wir yn credu eich bod chi'n gymwys i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru?

Wel, diolch i'r Aelod am hyd a lled ei chwestiynau. Cyffyrddodd â phob agwedd ar bolisi addysg, bron. Yn anffodus, nid oedd llawer o'i chyfraniad yn seiliedig ar ffeithiau mewn unrhyw fodd. Hoffwn pe bai'n talu mwy o sylw i ganlyniadau go iawn ein system addysg a'r gwaith caled anhygoel y mae ein hathrawon ac arweinwyr ein hysgolion yn ei wneud bob dydd, a hynny dan amgylchiadau heriol iawn yn aml, i sicrhau eu bod yn rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob unigolyn ifanc yng Nghymru. A hoffwn alw arni i roi mwy o gefnogaeth iddynt yn y gwaith gwych y maent yn ei wneud.  

Diolch, Llywydd. Wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd UCAS eu data diweddaraf, sy’n dangos lleihad yn nifer y ceisiadau gan bobl yng Nghymru am le mewn prifysgol. Cymru hefyd sydd â'r gyfradd ymgeisio isaf o unrhyw un o wledydd y Deyrnas Unedig. Nid yn unig hynny, mae’r data hefyd yn dangos lleihad yn y nifer sy’n ymgeisio am lefydd ar gyrsiau lle mae dirfawr angen mwy o bobl arnom gyda’r sgiliau hynny, megis meddygaeth a deintyddiaeth, lle mae yna leihad o 7 y cant,  a chyrsiau bydwreigiaeth, lle mae lleihad o 12 y cant, sy’n 400 cais, o gymharu â 750 cais yn 2021. Beth yw eich ymateb chi i’r data yma? A beth ydych chi’n gwneud i sicrhau ein bod ni’n denu mwy o fyfyrwyr ar gyrsiau sy’n gyfan gwbl hanfodol o ran llenwi swyddi angenrheidiol yma yng Nghymru?

Wel, mae'r Aelod yn gofyn cwestiwn teg. Fe wnes i gael cyfarfod gydag UCAS ddoe, fel mae'n digwydd, i gael y drafodaeth benodol hon ar beth mwy gallwn ni wneud i sicrhau bod mynediad i addysg uwch yn hafal i bawb. Fel mae'r Aelod yn gwybod, mae gyda ni waith eisoes ar y gweill i wneud hynny. Mae'r gwaith rydyn ni'n gwneud ar y cyd gyda Phlaid Cymru o ran cynllun Seren yn cyfrannu rhywfaint at hynny, ond hefyd y ffaith ein bod ni'n darparu'r gefnogaeth ariannol fwyaf o unrhyw ran o'r Deyrnas Gyfunol o ran costau byw i fyfyrwyr. Rŷn ni'n gwybod mai hynny sydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i'r penderfyniad a ydych chi'n mynd i astudio mewn prifysgol. Ond hefyd, fel bydd yr Aelod, dwi'n credu, yn gwybod, ers y llynedd, rŷn ni wedi newid y rheoliadau yma yng Nghymru i sicrhau bod statws cymhwysedd myfyriwr am brydau bwyd am ddim yn gallu cael ei rannu'n gyfrinachol gyda phrifysgol er mwyn sicrhau bod y darlun cyflawn o gyflawniad yr unigolyn yn cael ei gymryd i mewn i ystyriaeth. Felly, mae gwaith ar y gweill yn barod, ac mae hi'n iawn i ddweud bod angen sicrhau ein bod ni'n mynd i'r afael â hyn. Mae'r darlun ychydig yn fwy cymhleth na'r hyn y mae hi'n disgrifio. Mae hyn yn ffactor mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig hefyd.

O ran y darlun meddygol, mae hi'n gwybod ein bod ni wedi cynnal bwrsari'r gwasanaeth iechyd y flwyddyn yma eto. Mae hynny'n gwneud gwahaniaeth. Mae'r darlun o ran recriwtio i astudio ar gyfer nyrsio a rhai o'r swyddogaethau eraill y mae'r Aelod wedi sôn amdanynt heddiw, yn anffodus, yn rhywbeth sydd yn gyffredin ar draws y Deyrnas Gyfunol. Felly, mae angen gweithio ar y cyd i sicrhau ein bod ni'n denu mwy i'r gwaith pwysig hwn.

Diolch, Weinidog. Dwi'n siwr eich bod chi'n deall mai munud sydd gen i i ofyn cwestiwn i chi, felly mae trio cael y data i gyd yn anodd yn y munud hwnnw. Ond, mae un elfen arall o'r data yn dangos bod nifer y dynion sy'n ymgeisio wedi gostwng 2 y cant, tra bod nifer y menywod sy'n gwneud cais mewn prifysgol wedi gostwng ddwywaith gymaint, 4 y cant, a hefyd fod yna leihad yn nifer y rhai sydd â chyfrifoldebau gofal—wedi disgyn—ac rydyn ni'n gwybod nad oes gan rai prifysgolion bethau fel crèche ac ati i'w cynnig erbyn hyn.

Mae bylchau sylweddol rhwng y rhywiau ar draws rhai o bynciau allweddol STEM hefyd, lle mae menywod yn aml yn cael eu tangynrychioli, fel y gwyddorau milfeddygol, mathemategol, biolegol a chwaraeon. Fodd bynnag, yng nghyllideb ddrafft ddiweddaraf Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi gweld cyllid sy'n helpu i annog myfyrwyr i astudio rhai o'r pynciau hyn yn cael ei dorri, yn arbennig o ran ôl-radd. O ystyried y pwysigrwydd rydych chi wedi'i roi ar gydraddoldeb wrth ymgeisio i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru, sut ydych chi'n bwriadu unioni'r gwahaniaethau sy'n cael eu hamlygu mewn addysg, fel y rhai dwi wedi'u crybwyll, heb y cyllid angenrheidiol?

14:50

Jyst i fod yn eglur am un peth, nid 'yn cynnwys' cyrsiau ôl-raddedig ond 'yn unig' mewn cyrsiau ôl-raddedig y mae'r toriad hwnnw wedi digwydd, a'r rheswm anffodus am hynny yw'r pwysau ar ein cyllideb ni. Felly, mae popeth rŷn ni'n gwybod o ran pryd rydych chi'n gwario'r arian ar lwybr addysg unigolyn a pha impact rydych chi'n gallu ei gael yn pwyntio tuag at wario a buddsoddi cyn gynted ag y gallwch chi—felly, yn y blynyddoedd cynnar a'r blynyddoedd ysgol. Mi oedd rhaid imi wneud dewis, yn sgil y pwysau sydd ar gyllideb Llywodraeth Cymru, i dorri hynny ac i sicrhau mai benthyciadau nid grantiau sydd ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig nawr er mwyn inni allu gwarchod mynediad at raddau cyntaf a, hefyd, sicrhau buddsoddiad yn ein hysgolion ni. Does dim un Gweinidog eisiau gwneud y penderfyniad hwnnw, ond rwy'n sicr, o fewn yr ystod o benderfyniadau oedd ar gael, mai dyna'r fersiwn fwyaf blaengar o'r ffordd y gallem ni fuddsoddi'r arian oedd ar gael. 

Ysgol Ddeintyddol ym Mhrifysgol Bangor

4. Pa drafodaethau mae’r Gweinidog yn eu cael efo’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â sefydlu ysgol ddeintyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor? OQ60677

Dwi’n trafod amryw o faterion gyda’r Gweinidog iechyd, gan gynnwys deintyddiaeth. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn gyfrifol am ddatblygu cynllun deintyddiaeth ar gyfer y gweithlu, a bydd yn parhau i asesu’r cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael, gan gynnwys p’un a oes angen ysgol ddeintyddiaeth ychwanegol.

Mae'n wych gweld yr ysgol feddygol ym Mhrifysgol Bangor yn mynd o nerth i nerth, efo'r myfyrwyr cyntaf i wneud eu holl gwrs ym Mangor yn cychwyn fis Medi nesaf. Mae'r brifysgol yn rhan hollbwysig o wead economaidd a chymdeithasol y gogledd-orllewin, a does yna ddim dwywaith fod sefydlu ysgol feddygol yn dyrchafu statws y brifysgol ymhellach. O siarad efo'r staff academaidd yno, sefydlu ysgol ddeintyddiaeth ydy'r cam naturiol nesaf ar y daith i wneud Bangor yn ganolfan ragoriaeth astudiaethau iechyd. Mi fyddai hyfforddi deintyddion yn yr ardal hefyd yn helpu i wella'r gwasanaeth deintyddol ac yn denu mwy o ddeintyddion i'r ardal, ac rydyn ni newydd fod yn trafod pa mor brin ydy deintyddion yng Nghymru. A wnewch chi, felly, barhau efo'r trafodaethau cychwynnol ynghylch sefydlu ysgol ddeintyddol ym Mangor a bwrw ati'n egnïol i wneud yr achos dros hynny?

Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn. Mae Prifysgol Bangor, wrth gwrs, yn darparu addysg o ran gofal deintyddol yn ehangach na deintyddion ar hyn o bryd, ac yn gwneud hynny'n llwyddiannus iawn, ac fel yr oedd hi'n ei ddweud, rŷn ni gyd yn edrych ymlaen at weld y cohort cyntaf o fyfyrwyr yn cychwyn yn yr ysgol feddygol o fis Medi ymlaen. Mae datblygiadau cyffrous eraill, wrth gwrs, yng ngogledd Cymru, o ran yr academi ddeintyddol sydd o dan awenau'r bwrdd iechyd lleol. Felly, mae datblygiad arloesol yn digwydd eisoes yn y rhanbarth. Rwy'n gweld budd i ysgol ddeintyddol yng Nghymru—un newydd. Allaf i ddim rhoi unrhyw ymrwymiad i'r Aelod am amseru na lleoliad yr ysgol honno, ond, yn sicr, byddai hynny'n ddatblygiad cadarnhaol maes o law.

Rwy'n ddiolchgar i Siân Gwenllian am godi'r mater pwysig hwn yma y prynhawn yma, gan nad yw'n or-ddweud i ddweud bod argyfwng deintyddiaeth yng ngogledd Cymru yn enwedig. Yn wir, yn Ynys Môn yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae practis lleol yno wedi dweud wrth ei 10,000 o gleifion deintyddol y GIG fod yr holl archwiliadau rheolaidd yn cael eu hatal am y tro, ac mae hynny'n rhoi syniad i chi o raddfa'r broblem yno. Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi fod hyfforddiant yn ffordd allweddol o ddod o hyd i ateb i'r broblem ddeintyddiaeth ar hyn o bryd? Rwy'n sicr yn croesawu'r sylwadau a wnaethoch nawr, yn nodi eich cefnogaeth i ysgol ddeintyddol rywle yng ngogledd Cymru, ac yn sicr, byddai Bangor yn gwneud llawer o synnwyr, gyda'r gwaith presennol gyda'r ysgol feddygol yno. Felly, hoffwn wybod, Weinidog, pa waith y gallech fod yn ystyried ei wneud i sicrhau y byddai athrawon, cyfleusterau a buddsoddiad o safon yn cael eu denu at gynnig fel hwn, fel y gallwn gael strategaeth hirdymor ar gyfer deintyddiaeth yng ngogledd Cymru.

14:55

Wel, rwy'n awyddus i beidio â chrwydro i gyfrifoldebau portffolio'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ond yn amlwg, mae'r angen i hyfforddi mwy o ddeintyddion a gweithwyr proffesiynol gofal deintyddol yn rhywbeth yr ydym yn edrych arno'n agos iawn ar hyn o bryd. Rydym eisoes wedi buddsoddi ym Mhrifysgol Bangor a datblygu cyfadran Cymru gyfan o weithwyr proffesiynol gofal deintyddol, ac mae'r garfan gyntaf o 12 myfyriwr bellach yn eu hail flwyddyn astudio, fel y gŵyr Sam Rowlands. I fod yn glir, ni wneuthum unrhyw ymrwymiad, ychwaith, mewn perthynas ag amseru na lleoliad yr ysgol ddeintyddol, mae arnaf ofn, ond rwy'n credu y byddai ysgol ddeintyddol newydd, ar ryw adeg, yn ddatblygiad buddiol. Rwy'n canmol y gwaith sy'n digwydd yn yr academi. Rwy'n credu bod hwnnw'n gyfle cyffrous iawn ar gyfer hyfforddiant ac ymarfer hefyd.

Diolch i Siân am godi hyn.

Ni fyddwch yn synnu clywed fy mod am adleisio galwadau Sam a Siân i edrych ar sut y gallwn ddatblygu lleoedd hyfforddi deintyddion yng ngogledd Cymru. Un o'r agweddau yr hoffwn inni feddwl amdani yw'r iaith Gymraeg a'r ffaith bod angen i ni fod yn arweinwyr, yn enwedig yng ngogledd Cymru, wrth ddatblygu'r ffordd yr ydym yn hyfforddi ein harbenigwyr, yn enwedig ein deintyddion, yn y Gymraeg. Mae'r potensial o gael lleoedd hyfforddi ym Mangor yn cynnig hynny. Gwyddom fod dadansoddiad o weithlu deintyddol Cymru yn 2012 wedi canfod bod 58 y cant o raddedigion deintyddol Cymru a wnaeth eu hyfforddiant sylfaenol yng Nghymru wedi ymuno â'r gweithlu lleol. Felly, rydym yn gwybod bod cydberthynas uniongyrchol rhwng lle maent yn hyfforddi a lle maent yn aros. Ac i ni yma yng Nghymru, ac yn y gogledd yn enwedig lle mae gennym nifer uchel o siaradwyr Cymraeg, yn enwedig pobl hŷn sydd ond yn siarad Cymraeg, mae'n teimlo'n bwysig ein bod yn symud yr agenda honno yn ei blaen cyn gynted â phosibl. Felly, hoffwn adleisio'r galwadau hynny ond hefyd hoffwn glywed eich syniadau chi ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod ein cyrsiau'n gweithio tuag at gael pobl i siarad Cymraeg a darparu triniaethau yn y Gymraeg hefyd. Diolch yn fawr iawn.

Wel, mae gallu ymarfer fel deintydd neu fel clinigydd o unrhyw fath drwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig iawn o safbwynt y proffesiwn, ond hefyd, yn bwysicaf oll, o safbwynt yr unigolyn sy'n derbyn gofal, sydd â pherffaith hawl i wneud pa bynnag ddewis y maent yn dymuno ei wneud o ran yr iaith y byddai'n well ganddynt dderbyn gofal ynddi. Gwyddom mai dyna'r rheswm y tu ôl i'r strategaeth 'Mwy na geiriau' sydd gan y gwasanaeth iechyd yn ehangach yn y maes hwn. Felly, rwy'n cydnabod ac yn cytuno'n llwyr â hynny. Ac mae'r gwaith y mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ei wneud er mwyn sicrhau bod opsiynau ar gael i bobl astudio meddygaeth a deintyddiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn gwbl wych ac yn ddatblygiad cadarnhaol iawn. Rwyf hefyd yn cytuno â'r pwynt a wnaeth yr Aelod ynglŷn â sicrhau bod mwy o leoedd hyfforddi ar gael a bod mwy o leoedd ar gael mewn prifysgolion. Rydym wedi gwneud hynny ym maes meddygaeth wrth gwrs ac ym maes deintyddiaeth dros y blynyddoedd diwethaf, gyda'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud mewn golwg, ein bod yn gobeithio, drwy wneud hynny, y gallwn gadw pobl i ymarfer yma yng Nghymru, a lle bynnag y bo'n bosibl, i wneud hynny, fel y mae'n dweud, drwy gyfrwng y Gymraeg.

TAAU a Chyflogwyr

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cynnwys cyflogwyr wrth ddatblygu TAAU? OQ60675

Ymgynghorodd Cymwysterau Cymru ar eu cynigion llawn yng ngwanwyn 2023, a derbyniwyd ymatebion gan ystod o wahanol sefydliadau gan gynnwys cyflogwyr, ond hefyd gweithwyr addysg proffesiynol, rhieni a gofalwyr. Byddaf yn cyhoeddi ein hymgynghoriad ar ddysgu 14-16 yn fuan iawn ac rydym hefyd wedi ymgysylltu'n agos â grwpiau cyflogwyr wrth ddatblygu hwnnw.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae'n hanfodol fod cyflogwyr yn ymwneud yn agos â'r gwaith o ddatblygu a gweithredu'r cymwysterau newydd cyffrous hyn. Nawr, mae datblygu'r TAAU newydd yng Nghymru yn gam mawr ymlaen er mwyn sicrhau bod llwybrau dysgu technegol, galwedigaethol a phroffesiynol yn cael yr un statws â TGAU, gan ganiatáu i fyfyrwyr, o dan y cymwysterau newydd hyn a'r cwricwlwm newydd, lywio'r llwybrau dysgu a gyrfa cywir ar eu cyfer nhw, gan gynnwys, mae'n rhaid i mi ddweud, dewis a dethol o opsiynau yn y llwybrau TAAU a TGAU. A yw'n credu, fel fi, fod parch cydradd i'r TAAU a'r TGAU yn nod dymunol ynddo'i hun, gan y bydd yn rhoi hyder i ddysgwyr wneud y gorau o'u sgiliau a'u doniau eu hunain drwy ddewis eu llwybr eu hunain, sy'n fwyaf addas i'w breuddwydion a'u dyheadau eu hunain, ac un canlyniad pendant i hynny fydd gweld cyflawniadau dysgwyr mewn TAAU a TGAU yn cael amlygrwydd cyfartal, ac yn achos dathlu cyfartal yn seremonïau gwobrwyo ysgolion a cholegau ar hyd a lled Cymru?

15:00

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn mae Huw Irranca-Davies wedi'i ddweud. Rydym yn siarad llawer, onid ydym, am barch cydradd rhwng cymwysterau galwedigaethol ac academaidd? Rwy'n credu bod cael chwaer frandiau, os mynnwch, TGAU a TAAU yn rhan o sut y gellir cyfathrebu hynny, yr ymdeimlad eu bod yn gyfartal, fel y maent. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, ac rwy'n cytuno ag ef, byddwn yn gobeithio gweld pobl yn dewis a dethol, fel y mae'n dweud. Gyda'r ystod newydd o gymwysterau TGAU mewn meysydd newydd sy'n teimlo'n fwy cymhwysol, efallai, na rhai o'r cymwysterau TGAU traddodiadol, credaf fod cyfle cyffrous iawn i ddysgwr gael portffolio o gymwysterau sy'n wirioneddol adlewyrchu'r hyn sy'n rhoi pleser arbennig iddynt, a'u llwybr gyrfa yn y dyfodol efallai. Mewn gwirionedd, roedd cyflogwyr yn dweud wrthym fod y llu o gymwysterau galwedigaethol y mae TAAU wedi'u cynllunio i fod yn fersiwn symlach ohonynt weithiau'n ddryslyd i gyflogwyr, dim ond oherwydd eu hehangder yn fwy na dim. Felly, mae cael cynnig ag iddo fwy o ffocws ac ymdeimlad o gydraddoldeb clir yn wirioneddol bwysig.

Diolch am yr ymateb i Huw Irranca-Davies, Weinidog. Rwyf innau hefyd yn frwd fy nghefnogaeth i gyflwyno'r TAAU. Rwy'n credu eu bod yn gyfle i sicrhau parch cydradd â chymwysterau academaidd. Ond wrth gwrs, y peth pwysig yw y bydd llawer o bobl nid yn unig yn byw a gweithio yng Nghymru ar ôl iddynt adael sefydliad addysg—bydd rhai ohonynt am fynd ymlaen i astudio cymwysterau galwedigaethol ymhellach yn Lloegr, yr Alban neu rannau eraill o'r DU, ac yn wir, i mewn i fyd gwaith yn y llefydd hynny hefyd. Felly, pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda chyflogwyr i sicrhau bod pobl ledled y Deyrnas Unedig yn ymwybodol o werth y cymwysterau newydd hyn, pan gânt eu cyflwyno, ac nad ydynt yn rhywbeth y mae cyflogwyr Cymru yn unig yn ei gydnabod?

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig, ac mae'n bwysig pan fydd diwygiadau'n digwydd yng Nghymru a hefyd pan fydd diwygiadau'n digwydd yn Lloegr, fel yn achos y lefelau T yn fwyaf diweddar, fod natur benodol cymwysterau galwedigaethol, a TGAU yn y cyd-destun hwn hefyd, yn cael ei chydnabod a'u bod yn gludadwy yn yr ystyr honno; mae'n bwysig tu hwnt. Felly, rwy'n gwybod bod Cymwysterau Cymru, fel y rheoleiddiwr cymwysterau, yn ymgysylltu'n drylwyr a rheolaidd iawn â'r rheoleiddwyr arholiadau eraill ledled y DU i sicrhau bod pobl yn deall, ym mhob rhan o'r DU, fod y cymwysterau'n gydradd ac yn gludadwy. Ond yn y gwaith cynllunio a'r gwaith a wnaethom fel Llywodraeth ynghylch y cynnig 14-16 yn ehangach, yn ogystal ag ymgysylltu â chyflogwyr, rydym wedi ymgysylltu â sefydliadau cyflogwyr ledled y DU, megis Ffederasiwn y Busnesau Bach neu Gydffederasiwn Diwydiant Prydain, sy'n gallu sicrhau bod cynulleidfa ehangach ar gyfer y syniad yng Nghymru, ac yn Lloegr hefyd, rwy'n credu.

Yr Eisteddfod Genedlaethol

6. Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i sicrhau gwaddol o ran y Gymraeg yn sgil yr Eisteddfod yn dod i'r ardal eleni? OQ60683

Rŷn ni’n cydweithio’n agos â’r Eisteddfod Genedlaethol a’r cyngor wrth iddyn nhw barhau i gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf eleni. Mae’r Eisteddfod, wrth gwrs, yn llawer mwy na gŵyl; mae’n brosiect tair blynedd sy’n sicrhau gwaddol ieithyddol, diwylliannol ac economaidd hollbwysig hwnnw. Mae’n fraint gallu cefnogi prosiect sy’n gwireddu hynny.

Diolch, Weinidog. Fel dŷch chi'n gallu dychmygu, dwi'n siŵr, mae yna gynnwrf aruthrol yn yr ardal fod yr Eisteddfod yn dod, a dwi'n gobeithio y bydd pawb yma yn dod i Bontypridd ym mis Awst eleni. Does yna ddim Eisteddfod Genedlaethol wedi bod am ddegawdau yn yr ardal, a nifer erioed wedi profi beth ydy Eisteddfod, felly mae hi'n dalcen caled o ran ceisio argyhoeddi pobl o bwysigrwydd Eisteddfod a'r gwaddol amlwg hwnnw dŷn ni'n gyfarwydd efo fo mewn ardaloedd eraill.

Un o'r prif bryderon ydy ei bod hi'n digwydd ym mharc Ynysangharad, sy'n barc gwych yng nghanol tref Pontypridd, ond sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan filoedd o bobl yn ddyddiol, yn arbennig yn ystod y gwyliau haf. Mae yna nifer o bethau negyddol yn cael eu dweud am yr Eisteddfod ar y funud oherwydd bod y parc am fod ar gau am, o bosib, nifer o wythnosau oherwydd yr Eisteddfod yn dod. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda’r Eisteddfod mewn blynyddoedd yn y gorffennol i sicrhau mynediad am ddim i drigolion lleol neu gael prisiau rhatach. Oes yna unrhyw gynlluniau eleni er mwyn sicrhau bod y gwaddol hwnnw mewn ardal sy’n allweddol o ran twf y Gymraeg yn cael ei wireddu?

15:05

Wel, mae brwdfrydedd lleol yn uchel iawn am yr ŵyl. Rŷn ni’n gwybod am y gwaith sy’n digwydd i sicrhau bod cymunedau lleol yn deall beth yw’r cynnig sydd ar gael gyda’r Eisteddfod. Felly, mae taith Maes B yn cael ei chynnal yn yr ysgolion dros y misoedd nesaf. Bydd pob disgybl blwyddyn 6 a 7 ymhob ysgol yn cael y cyfle i fwynhau sioe am yr Eisteddfod yn rhad ac am ddim, a chynnal gweithdai Merched yn Gwneud Miwsig i annog merched 16 i 25 i ymddiddori mwy mewn cerddoriaeth Gymraeg. Mae gwobrau busnes lleol, ac mae gwaith yn digwydd gyda Interlink er mwyn cynyddu gwirfoddoli. Felly, mewn amryw o ffyrdd, mae’r Eisteddfod eisoes yn cael dylanwad ac yn ymestyn i’r cymunedau cyfagos yn barod, ac mae hynny’n beth positif iawn, ac wrth wneud hynny, yn y pen draw, rŷn ni’n sicrhau’r gwaddol hollbwysig hwnnw.

O ran Eisteddfod fforddiadwy, Eisteddfod am ddim, dwi’n credu y gwnaeth yr Aelod sôn, fel y mae hi’n gwybod, mae cyllideb Llywodraeth Cymru o dan bwysau sylweddol iawn. Dwi wedi siarad yn barod gyda phrif weithredwr yr Eisteddfod am sefyllfa’r Eisteddfod ym Mhontypridd, ac mae swyddogion wedi gofyn i’r Eisteddfod a’i phartneriaid am opsiynau posib i ni eu hystyried. Gallaf i ddim ymrwymo i unrhyw beth ar hyn o bryd, ond mae’r trafodaethau hynny yn digwydd yn barod.

Addysg Blynyddoedd Cynnar

7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith ei pholisïau ar addysg blynyddoedd cynnar? OQ60704

Rydym yn ymgysylltu'n rheolaidd ag addysgwyr blynyddoedd cynnar, darparwyr gofal plant a'n partneriaid, gan gynnwys Estyn, awdurdodau lleol, a sefydliadau ymbarél fel Mudiad Meithrin, i ddeall ein llwyddiannau a'n heriau yn y blynyddoedd cynnar yn y ffordd orau, ac i barhau i ymateb i anghenion y sector.

Diolch am hynny, Weinidog. Rwy'n credu ei bod yn amlwg o ddigonedd o dystiolaeth pa mor bwysig yw'r blynyddoedd cynnar, a gwn ei fod yn un o flaenoriaethau trawsbynciol Llywodraeth Cymru, ac rwy'n credu y dylid diffinio dim i saith oed fel y blynyddoedd cynnar hynny. Ac rydym yn gwybod o fewn hynny fod y tair blynedd gyntaf yn arbennig o bwysig, o ystyried y twf niwrolegol cyflym yn ystod yr oedrannau hynny. Mae'n amlwg, onid yw, Weinidog, fel y dywedais, gyda digonedd o dystiolaeth, fod buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar yn creu manteision gydol oes. Mae'n fuddsoddiad sy'n creu manteision hirdymor mewn gwirionedd. O ystyried hynny, a allech chi roi blas i ni o farn Llywodraeth Cymru a'ch barn chi, Weinidog, ynglŷn â'r modd yr adeiladwn ar y buddsoddiad a wnaethom eisoes i flaenoriaethu'r blynyddoedd hyn sydd mor hollbwysig?

Rwy'n cytuno â'r hyn y mae John Griffiths yn ei ddweud am bwysigrwydd darpariaeth y blynyddoedd cynnar iawn i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob un o'n pobl ifanc. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw dull cydgysylltiedig o weithredu ar chwarae plentyndod cynnar, ac ar ddysgu a gofalu, y math o ddull yr ydym yn ei gefnogi fel Llywodraeth ac y gobeithiaf y byddwn yn parhau i'w gefnogi. Dyna'r ffordd orau, rwy'n credu, o gefnogi meithrin, dysgu, datblygiad pob plentyn dim i bum mlwydd oed yng Nghymru.

Rwy'n falch iawn ein bod wedi ehangu darpariaeth Dechrau'n Deg, ac rydym yn sicr ar y trywydd iawn i sicrhau ein bod yn darparu mynediad i 9,500 o blant eraill dwyflwydd oed. Ac rwy'n credu bod hynny'n wych, ac rwy'n credu bod gallu gwneud hynny y tu allan i'r cyfyngiadau daearyddol, sydd wedi bod yno am resymau amlwg hyd yma, yn gadarnhaol iawn. Ac eleni a'r flwyddyn nesaf rydym yn buddsoddi £46 miliwn yn yr ehangu, ac fe wyddom fod y cynnig y mae Dechrau'n Deg yn ei ddarparu ar ffurf y pecyn cymorth ychwanegol hwnnw, yn seiliedig ar dystiolaeth dda iawn ac yn effeithiol iawn wrth gefnogi plant ifanc a'u rhieni.

Ar y llaw arall, mae gennym gynnig gofal plant sydd, fel y gwyddoch, yn darparu hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y Llywodraeth. Ac rwy'n credu mai'r allwedd yw cryfhau nawr ac adeiladu ar ddarpariaeth addysg gynnar gyffredinol a sicrhau ein bod yn canolbwyntio, ar y dechrau o leiaf, ar ehangu'r cynnig i'n plant dwyflwydd oed, ac adeiladu ar hynny.

Cyllidebau Addysg

8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ynghylch y toriadau addysg a gynigiwyd gan ei gabinet? OQ60686

Mae'n hanfodol fod sianeli cyfathrebu yn weithredol, yn enwedig mewn cyfnod heriol yn ariannol. Rwy'n ymgysylltu'n agos â llywodraeth leol ar faterion cyllidebol ac yn cyfarfod ag arweinwyr drwy'r is-grŵp cyllid a grwpiau eraill, fel y bo'n briodol. Byddaf hefyd yn ymweld ag ysgolion i wrando'n uniongyrchol ar brofiadau ariannu penaethiaid. 

15:10

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch. O ganlyniad i setliad gwael iawn Llywodraeth Cymru i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, maent bellach yn eistedd mewn twll gwerth £25 miliwn ac yn bwriadu codi'r dreth gyngor gymaint ag 11 y cant, o bosibl. Dyna oedd yr uchaf ar 9.9 y cant y llynedd. Nawr, fe fyddwch yn ymwybodol fod nifer o benaethiaid wedi ysgrifennu i ofyn am ein cefnogaeth—sut y gallwn ganiatáu i'r toriadau addysg hyn ddigwydd. Nawr, roedd stori gan un o fy etholwyr yn sefyll allan i mi, a dywedodd fod merch 16 oed wedi ceisio cyflawni hunanladdiad oherwydd ei hiechyd meddwl ofnadwy. Mae'n esbonio, oni bai am y gwasanaeth bugeiliol a ddarparwyd gan yr ysgol, na fyddai wedi gallu dal ati am lawer hirach. Siaradais â'r pennaeth y bore yma a dywedodd nawr, gyda'r cwricwlwm ychwanegol, gyda'r holl bethau eraill sy'n cael eu cyflwyno, rheoliadau a lle rydych chi'n rhoi beichiau ar eu hysgwyddau, eu bod yn rhedeg yn brin o arian yn gyflym. Bydd y toriadau hyn yn peryglu'r gwasanaethau hanfodol hyn. Beth ydych chi'n mynd i'w wneud i fynd i'r afael â'r toriadau hyn gyda'ch Cabinet eich hun a sicrhau bod setliad ariannu gwell yn dod i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy? Diolch.

Diolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn. Rydym wedi blaenoriaethu diogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen craidd, gan gynnwys ysgolion, drwy ddiogelu'r cynnydd dangosol a ddynodwyd gennym ar gyfer llywodraeth leol, sef 3.1 y cant yn gyffredinol. Fe fydd hi'n gwybod, yn fwyaf arbennig yn achos Conwy a nifer fach o awdurdodau lleol, fod y Llywodraeth wedi darparu cyllid ychwanegol—£1.3 miliwn yn achos Conwy—i sicrhau na fydd yr un awdurdod yn cael llai na chynnydd o 2 y cant, a thrwy hynny'n cyflwyno cyllid gwaelodol effeithiol eleni, o ystyried effaith y dyraniad a'r fformiwla a fyddai wedi golygu fel arall fod y lefel o 2 y cant wedi'i thorri. 

Bydd setliad terfynol 2024-25 yn cael ei gyhoeddi ar 27 Chwefror, a bydd yn cynnwys cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU, sydd wedi arwain at ddyraniad canlyniadol o tua £25 miliwn i Gymru. Mae hwn yn cael ei ddyrannu i lywodraeth leol yn llawn, gyda rhan o'r cyllid yn cael ei ddefnyddio i adfer grant y gweithlu gofal cymdeithasol a'r gweddill yn cael ei ddyrannu i'r grant cynnal refeniw fel rhan o'r setliad, a fydd wedyn yn galluogi cynghorau i gynnal y pwysau hwn ym maes gofal cymdeithasol ac mewn addysg. 

Rwyf am ei hatgoffa, er hynny, hyd yn oed ar adegau pan fo Llywodraeth Cymru wedi diogelu cyllidebau awdurdodau lleol yn gyfan gwbl, fod Conwy o dan y weinyddiaeth Geidwadol flaenorol wedi torri dros 3 y cant oddi ar gyllidebau ysgolion. Ac os nad yw'n fy nghredu i, gall ofyn i'w chyd-Aelod y tu ôl iddi, a oedd yn arweinydd ar yr adeg y digwyddodd hynny. 

Cefnogi Dysgwyr Ôl-16 sydd ag Anableddau Dysgu

9. Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi dysgwyr ôl-16 sydd ag anableddau dysgu yng Ngorllewin De Cymru? OQ60679

Mae’r system anghenion dysgu ychwanegol yn cefnogi dysgwyr i fyny at 25 oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yng Ngorllewin De Cymru. Yng nghyllideb ddrafft y flwyddyn nesaf, dwi wedi diogelu ein buddsoddiad sylweddol yn narpariaeth ADY ôl-16 gydag £19.8 miliwn i golegau addysg bellach ac £13.8 miliwn i leoliadau arbenigol ôl-16.

Diolch, Weinidog. Ysgrifennais atoch yn ddiweddar, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anabledd dysgu, ac yn y llythyr fe godais nifer o faterion y credai'r grŵp fod angen mynd i'r afael â nhw er mwyn sicrhau nad yw pobl ifanc ag anabledd dysgu dan anfantais annheg wrth geisio cael mynediad at addysg ôl-16, sydd, wrth gwrs, yn gallu cael effaith sylweddol ar eu hiechyd meddwl a'u lles, yn ogystal â'u haddysg a'u rhagolygon gyrfa. Ac yn eich ymateb, fel y gwnaethoch chi nawr, fe ddywedoch chi eich bod wedi diogelu cyllid ar gyfer darpariaeth ADY ôl-16 a lleoliadau arbenigol yn y gyllideb ddrafft. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch ariannu lleoliadau i bobl ifanc sydd angen y mynediad hwnnw at ddarpariaeth arbenigol, ond bydd hyn yn newid fel rhan o'r system ADY, gyda chyfrifoldeb a chyllid yn cael eu trosglwyddo i awdurdodau lleol. Felly, a allwch chi gadarnhau pryd y bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi trefniadau ar gyfer y ffordd y bydd cyllid ar gyfer dysgwyr a allai fod angen y lleoliadau hynny mewn colegau arbenigol yn cael ei ddiogelu pan fydd y cyllid wedi'i ddatganoli'n llawn i awdurdodau lleol, er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yn gallu cael mynediad at y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ei hangen arnynt yn unol â'u cyfoedion llai anabl? Diolch. 

Yn sicr. Dyma yw'r flwyddyn gyntaf y bydd y diwygiadau ADY newydd yn cael eu cyflwyno ar ôl 16 wrth gwrs, felly dyma ddechrau'r broses honno o eleni ymlaen. Felly, ar un ystyr, mae'n ddyddiau cynnar ar weithredu'r gyfundrefn ADY ôl-16, ond mae'r arweinydd gweithredu cenedlaethol wedi bod yn gweithio'n agos gyda cholegau—swydd sy'n cael ei chynnal o fewn ColegauCymru—ac rwy'n credu, ar lawr gwlad, fod hynny wedi golygu bod colegau wedi gallu addasu'n eithaf cyflym i'w cyfrifoldebau newydd ac maent wedi gallu ailstrwythuro eu trefniadau lle bu'n rhaid, hyfforddi staff a datblygu gwell darpariaeth ddysgu ychwanegol, ac yn bwysig, maent wedi gweithio ar y prosesau pontio a fydd yn sicrhau bod y lefel gywir o gymorth yno i bobl ifanc wrth iddynt symud o ysgol i goleg.

Mae hi'n iawn i ddweud y bydd y cyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i gynghorau mewn perthynas â'r cyllid ar gyfer cefnogi'r bobl ifanc hyn. Byddwn yn parhau i ddiogelu ac ariannu lleoliadau ôl-16 arbenigol ar gyfer y bobl ifanc nad ydynt eto wedi symud i'r system ADY, ac rydym wedi rhoi trefniadau a chanllawiau interim ar waith i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau ar leoliadau i'r rhai sy'n symud i'r system ADY o 2023 tan 2024-25. Y disgwyl yw y bydd cyllid llawn yn cael ei drosglwyddo i awdurdodau lleol erbyn diwedd blwyddyn ysgol 2024-25, ac rydym ar hyn o bryd yn trafod gydag awdurdodau lleol sut i weithredu hyn yn y ffordd orau, a phan ddaw'r trafodaethau hynny i ben, byddaf yn gallu darparu rhagor o wybodaeth.

15:15

Ie. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n siŵr fod y Gweinidog yn anfwriadol wedi dweud rhywbeth eiliad yn ôl nad oedd yn gywir wrth gyfeirio ataf i—y toriad o 3 y cant i ysgolion yng Nghonwy o'r blaen—fel arweinydd y cyngor. Digwyddodd hynny dan arweiniad Gareth Jones, cyn-Aelod Plaid Cymru o'r Cynulliad hwn fel yr oedd ar y pryd. Felly, rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn hoffi cywiro hynny.

Diolch am nodi hynny, Sam. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ystyried hynny'n ofalus iawn ac mae'n ddigon posibl y daw yn ôl atom ar hynny, ond mae wedi'i gofnodi.

3. Cwestiynau Amserol
4. Datganiadau 90 Eiliad

Felly, symudwn ymlaen at eitem 4, datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad gyntaf gan Peter Fox.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Eleni, rydym yn coffáu pum mlynedd ar hugain ers agor Hosbis Plant Tŷ Hafan, sy'n cefnogi plant sy'n ddifrifol wael a'u teuluoedd ar draws de a gorllewin Cymru. Nid yn unig eu bod wedi gofalu am 1,051 o blant ers agor eu drysau, gan ddarparu seibiant, therapi ac eiriolaeth, erbyn hyn mae ganddynt 17 o siopau ledled Cymru, gyda chyfanswm o 517 o wirfoddolwyr ar draws eu gwasanaeth. Mae angen gwaith Tŷ Hafan nawr yn fwy nag erioed gan fod nifer y plant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd yng Nghymru wedi cynyddu 25 y cant yn ystod y degawd diwethaf. Heddiw, yma yng Nghymru, mae 3,655 o blant yn dioddef o gyflwr sy'n cyfyngu ar fywyd, gydag oedran cyfartalog atgyfeiriad i Tŷ Hafan yn ddim ond blwydd oed. O hyn, mae'n amlwg y bydd gwaith Tŷ Hafan yn parhau i fod yn bwysicach fyth yn ein cymdeithas, a rhaid parhau'r cyllid i'w redeg. Fel Aelodau'r Senedd, ein cyfrifoldeb ni hefyd yw sicrhau ein bod yn hyrwyddo eu gwaith i gyrraedd plant yn ein cymunedau ein hunain.

I gloi, ni ellir gorbwysleisio maint eu gwaith dros blant a theuluoedd, ac rwy'n teimlo'n freintiedig yn coffáu eu pen-blwydd yn bump ar hugain oed yma yn y Senedd heddiw.

Rydym yn ffodus iawn heddiw i fyw mewn cymdeithas gynhwysol a charedig. Mae pobl o bob cefndir a gallu yn cymryd rhan yn y gymdeithas o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, er bod y newid hwn yn gadarnhaol, mae mwy y gallwn ei wneud. Yn anffodus, mae stigma o hyd yn gysylltiedig â rhai sydd ag anableddau ac anghenion addysgol arbennig. Gyda dros 63,000 o blant yn ein hysgolion yng Nghymru ag anghenion addysgol arbennig, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i agor cyfleoedd iddynt ac annog y parch y maent yn ei haeddu.

Dyma pam y mae etholwr i mi, Sylvia Harper, ac un arall o fy etholwyr, Holly Morgan, 15 oed, wedi creu cyfres o lyfrau gyda'r nod o greu ymwybyddiaeth ac i geisio creu gwell dealltwriaeth rhwng plant ag anghenion arbennig a'r rhai heb anghenion arbennig. Fel yr eglura Sylvia:

'Ar ôl sylwi ar y bwlio a'r plagio y mae fy nau or-ŵyr wedi gorfod ei ddioddef dros y blynyddoedd diwethaf, sylweddolais ei fod yn deillio o gamddealltwriaeth.'

Mae'r gyfres o lyfrau'n ymdrin â phynciau fel byddardod, dallineb, awtistiaeth ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd. Maent yn lliwgar, yn llachar ac yn fywiog ac mae ganddynt gydbwysedd o destun a lluniau i gynorthwyo dealltwriaeth o'r straeon hyn. Rwy'n credu y dylai'r llyfrau hyn fod ym mhob meithrinfa ac ysgol ledled Cymru, a dyma yw eu huchelgais yn wir. Mae angen help arnynt i gyflawni hyn, felly hoffwn ofyn i'r Aelodau edrych ar y llyfrau hyn yn eich etholaethau eich hun. Gwelaf botensial yma am stori Gymreig wych—un ag iddi ddechreuadau bach a fydd yn meithrin rhinweddau parch, cydnabyddiaeth a chyfrifoldeb ymhellach. Diolch.

15:20
5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, 'Ymchwiliad i lywodraethiant y DU a’r UE'

Eitem 5 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, 'Ymchwiliad i lywodraethiant y DU a'r UE'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Huw Irranca-Davies.

Cynnig NDM8488 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad sef 'Ymchwiliad i lywodraethiant y DU a’r UE', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Tachwedd 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae perthynas y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd yn dal i fod o bwys mawr i ddinasyddion Cymru, ac yn parhau i effeithio ar sawl agwedd ar ein bywydau bob dydd. 

Ers i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd bedair blynedd yn ôl, mae strwythurau newydd a chymhleth wedi dod i'r amlwg o dan y cytundeb ymadael a'r cytundeb masnach a chydweithredu, o ran llywodraethu'r berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd.

Y Senedd a Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am roi agweddau mawr o'r cytundebau hyn ar waith, gan eu bod yn trawstorri meysydd polisi neu feysydd diddordeb datganoledig sylweddol.

Mae datblygu'r strwythurau newydd a'u rhoi ar waith wedi golygu negodi ac addasu'n barhaus, wrth i'r ddwy ochr fynd i'r afael â hyd a lled y newidiadau yn ein perthynas. Nid syndod, felly, yw fod llawer o'r ffocws wedi bod ar yr hyn sydd wedi'i gynnwys yn y berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd, a'r cytundebau sy'n ei llywodraethu, yn hytrach na'r modd y caiff ei rheoli a phwy all ddweud eu dweud o ran y penderfyniadau a wneir.

Ceisiodd ein hymchwiliad ystyried a mynd i'r afael â materion eithaf sylfaenol cynrychiolaeth ac ymgysylltu a gwneud penderfyniadau, ac awgrymu sut y gellid gwneud gwelliannau. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a roddodd amser i gyfrannu drwy ddarparu tystiolaeth am eu safbwyntiau a'u profiadau, gan gynnwys yn ystod ymweliad â Brwsel ym mis Medi y llynedd. 

Clywsom yn glir gan dystion yn y DU ac yn yr UE fod llofnodi fframwaith Windsor, y saib yn y trafodaethau a ddaeth yn sgil etholiadau ar y ddwy ochr, a'r adolygiad sydd ar y ffordd o weithrediad y cytundeb masnach a chydweithredu, wedi creu cyfle prin i fyfyrio ar yr hyn y mae Cymru a'r DU ei eisiau o'i pherthynas â'r UE yn y dyfodol. Teimlwn y dylem fanteisio ar y cyfle hwn i ystyried sut mae'r berthynas wedi gweithio hyd yma ac i gymryd camau cadarnhaol ac adeiladol i wella ei rheolaeth yn y dyfodol.

Er ei bod yn cytuno ag ysbryd ein hadroddiad, dim ond pump o'r 20 argymhelliad a gyfeiriwyd tuag ati y mae Llywodraeth Cymru wedi'u derbyn yn llawn. Mae hynny braidd yn siomedig o ystyried yr hyn y credwn ei fod yn gyfle sydd gennym, ond rwy'n dal i fod yn obeithiol y bydd canlyniadau cadarnhaol yn deillio o'r argymhellion a wnaethom.  

Dywedodd tystion wrthym fod rôl Llywodraethau datganoledig mewn penderfyniadau ynghylch y DU a'r UE wedi lleihau ar ôl Brexit. Mae hyn yn groes i'r pŵer sylweddol sydd gan strwythurau llywodraethiant y cytundebau, sy'n caniatáu i benderfyniadau gael eu gwneud a allai gyfyngu ar y defnydd o bwerau datganoledig gan Weinidogion Cymru a'r Senedd. Felly, daethom i'r casgliad fod achos cymhellol a chadarnhaol dros ddychwelyd at sefyllfa lle'r ymgynghorir â Llywodraethau datganoledig yn briodol ar feysydd o fewn eu cyfrifoldeb. Bydd gwell dealltwriaeth o faterion datganoledig ar bob lefel yn darparu gwybodaeth ymarferol bwysig, profiad a thystiolaeth i Lywodraeth y DU, gan gynnwys ar rwystrau posibl i weithredu, yn ogystal ag osgoi costau ac oedi diangen.

Mae gan bob un o bedair Llywodraeth y DU eu harbenigedd a'u profiad eu hunain y gallant eu cynnig i'r bwrdd. Yn wir, cyn i'r DU adael yr UE, roedd hi'n arfer cyffredin i'r Llywodraethau datganoledig gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu safbwynt y DU ar gynigion yr UE. Ni ddylid tanbrisio gwerth yr arbenigedd cyfunol hwn. Gallai darparu ymgysylltiad a mewnbwn mwy ystyrlon i'r Llywodraethau datganoledig gynhyrchu syniadau ac atebion a fyddai'n fuddiol i'r DU gyfan.

Yn aml mae galwadau am fwy o rôl i ddeddfwrfeydd datganoledig a Llywodraethau yn y strwythurau newydd wedi arwain at honiadau y bydd dull o'r fath rywsut yn tanseilio safbwynt y DU, neu fod anhawster y penderfyniadau sydd angen eu gwneud yn golygu bod angen canoli mwy ac un llais, ond mae hyn yn methu'r achos adeiladol sydd i'w wneud dros amrywiaeth o leisiau ar y ddwy ochr. Mae gwahaniaethau mewn daearyddiaeth, hanesion, economïau a diwylliannau yn golygu bod y cenhedloedd a'r rhanbarthau ac ardaloedd o'r DU a'r UE wedi datblygu eu gwybodaeth eu hunain a'u hatebion eu hunain. Felly, mae tystiolaeth gref i gefnogi'r angen am rôl well i Lywodraethau datganoledig yn y strwythurau llywodraethiant.

Efallai fod y berthynas rynglywodraethol a chytundeb ar y berthynas rhwng y DU a'r UE wedi dirywio ar ôl Brexit, ond gellid eu gwella'n hawdd, felly mae ein hadroddiad yn nodi cyfres o argymhellion ar sut y gellid cynnwys mwy o leisiau yn y dyfodol, gan ddatblygu'r berthynas rhwng y DU a'r UE. Gellir cyflawni tri cham ar unwaith. Yn gyntaf, adolygiad brys gan Lywodraethau'r DU o egwyddorion a thelerau ymgysylltiad y Llywodraethau datganoledig â'r berthynas rhwng y DU a'r UE, a mabwysiadu memorandwm cyd-ddealltwriaeth newydd ar yr union fater hwn. Yn ail, dylid galw cyfarfodydd y Grŵp Rhyngweinidogol ar Gysylltiadau rhwng y DU a'r UE ymhell cyn cyfarfodydd allweddol y DU a'r UE i alluogi ymgynghori ac ymgysylltu priodol â'r Llywodraethau datganoledig. Ac yn ogystal, dylid rhoi cyfle i'r Llywodraethau datganoledig awgrymu eitemau agenda i'w trafod rhwng y DU a'r UE. Rydym yn credu bod hwnnw'n ddull aeddfed o weithio. Ac yn drydydd, mae'r pwyllgor yn cefnogi galwad Llywodraeth Cymru iddo gael rôl lawnach yn strwythurau llywodraethiant y cytundeb masnach a chydweithredu, ac i gael statws sylwedydd mewn cyfarfodydd llywodraethiant o dan y cytundeb ymadael pan drafodir materion sy'n ymwneud â Chymru, megis porthladdoedd a materion eraill.

Mae Prif Weinidog Cymru wedi derbyn mewn egwyddor ein hargymhellion ar gyfer gwelliannau i'r strwythurau rhynglywodraethol, ond mae'n dweud nad yw'n disgwyl gweld cynnydd arnynt gyda Llywodraeth bresennol y DU. Fodd bynnag, rydym yn dal i fod yn argyhoeddedig fod llawer i'w ennill o hyd o fabwysiadu ymagwedd gadarnhaol a rhagweithiol tuag at berswadio eraill o'r manteision a ddaw yn sgil newidiadau o'r fath. Felly, rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn uchelgeisiol dros y 12 mis nesaf wrth geisio'r gwelliannau a awgrymwn, gan fanteisio ar y cyfle prin a gyflwynwyd i ni nawr. 

Nododd rhanddeiliaid yng Nghymru ac ym Mrwsel nad oeddent yn gwybod beth yw blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y berthynas rhwng y DU a'r UE ac yn ystod cyfnod o adnoddau cyfyngedig, ei bod hyd yn oed yn bwysicach iddynt allu gwneud hyn i ganolbwyntio eu hymdrechion eu hunain i gefnogi cyflawniad blaenoriaethau Cymru. Felly, os yw Cymru am wneud y mwyaf o'r cyfle y mae'r 12 mis nesaf yn ei roi i ni, mae'n hanfodol dod o hyd i fecanwaith i fynegi blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru yn glir mewn ffordd agored a thryloyw iawn. Mae awydd clir iddynt wneud hynny gan randdeiliaid y gwnaethom siarad â nhw. Byddai hyn yn galluogi pob corff a phob sefydliad i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i gyflawni canlyniadau cadarnhaol a diriaethol i gymunedau ledled Cymru.

Roeddem yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru fynegi'r blaenoriaethau hyn yn glir, naill ai mewn strategaeth benodol neu mewn strategaeth ryngwladol newydd, a hefyd y dylai Llywodraeth Cymru ddechrau ymgynghori â chymdeithas sifil a rhanddeiliaid yng Nghymru ar y blaenoriaethau hyn a'i gweledigaeth ar unwaith. A chyda llaw, mae hyn yn adleisio galwadau tebyg a wnaed gan bwyllgor diwylliant y Senedd hefyd wrth gwrs. 

Nawr, mae'r Prif Weinidog wedi dweud nad oes angen strategaeth benodol ar gyfer yr UE, ond bydd diweddariad ysgafn o'r strategaeth ryngwladol cyn diwedd tymor y Senedd hon yn gwneud dimensiwn Ewropeaidd y strategaeth yn fwy eglur. Mae'n wir, fel y dywed y Prif Weinidog, nad oes llawer yn debygol o ddigwydd o ran y berthynas rhwng y DU a'r UE yn ystod y 12 mis nesaf. Rydym yn deall hynny. Fodd bynnag, dyna'n union pam y dylid gwneud gwaith nawr i ddatblygu'r blaenoriaethau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, fel bod Cymru yn y sefyllfa orau bosibl i nodi ei safbwyntiau pan fydd busnes yn dychwelyd i normal. Rydym yn gobeithio y bydd adnewyddu'r strategaeth ryngwladol yn digwydd yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach yn nhymor y Senedd hon.

Hoffwn gyffwrdd ag un agwedd arall ar ein hadroddiad cyn tynnu fy sylwadau agoriadol i ben. Mae tystiolaeth a gasglodd y pwyllgor yng Nghymru ac ym Mrwsel yn dangos gwerth cyngor ac ymgysylltiad cymdeithas sifil wrth reoli'r berthynas rhwng y DU a'r UE. Busnesau a sefydliadau ar lawr gwlad sy'n teimlo effaith rhwystrau ymarferol yn gyntaf, ac yn aml, nhw sydd â'r rhan fwyaf o'r atebion.

Felly, byddai Llywodraeth Cymru a'r Senedd yn gwneud anghymwynas â Chymru os nad ydynt yn ymgysylltu'n well â'r grwpiau hyn ar y mater. Ar hyn o bryd, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yw'r unig lais penodol o Gymru ar y grŵp cymdeithas sifil a sefydlwyd o dan y cytundeb masnach a chydweithredu. Yr unig reswm y mae'n gallu ei fynychu yw oherwydd cyllid grant a allai ddod i ben eleni, ac ni all hyn fod yn sefyllfa gynaliadwy yn y tymor hir. Felly, fe wnaethom argymell y dylai Llywodraeth Cymru ail-gyfansoddi grŵp cynghori Ewropeaidd sy'n addas ar gyfer yr amgylchiadau presennol i lywio ei gwaith Ewropeaidd, a dylai alw ar Lywodraeth y DU i ddarparu cyllid i sefydliadau'r DU sy'n cymryd rhan yn strwythurau cymdeithas sifil y DU a'r UE ac yn absenoldeb cyllid o'r fath, dylai ystyried rhoi cefnogaeth ei hun.

Sylwaf, Dirprwy Lywydd, fod y Prif Weinidog yn dweud na fydd yn rhoi blaenoriaeth i ddwyn mater y grŵp cynghori newydd yn ei flaen, gan mai mater i’w olynydd ei ystyried yw hynny. Byddwn yn sicr yn parhau i eirioli’n gryf dros gynnull y grŵp hwn, a dŷn ni'n edrych ymlaen at godi’r materion hyn gyda’i olynydd ar yr adeg briodol.

Rydym yn croesawu’r ymateb gan y Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd, sy’n nodi bod swyddogion Comisiwn y Senedd yn hapus i archwilio ein hargymhellion ar gefnogi ymgysylltiad cymdeithas sifil pellach â’r pwyllgor, Cadeiryddion pwyllgorau perthnasol eraill ac Aelodau’r Senedd sydd â rolau perthnasol. Ein gobaith yw y bydd hyn yn cynnig cyfle i wneud yn siŵr bod y lleisiau pwysig hyn yn cael eu clywed. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.

15:30

Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am roi trosolwg trylwyr iawn o’r hyn a nodir yn ein hadroddiad. Mae'n debyg ei fod wedi dweud llawer o'r hyn yr oeddwn innau am ei ddweud, felly bydd yn rhaid imi fyrfyfyrio rywfaint. Hoffwn ddiolch hefyd i holl staff y pwyllgor a helpodd i ddwyn hyn ynghyd, oherwydd hebddynt, ni fyddem yn gallu gwneud gwaith o'r fath, a hefyd y bobl y cyfarfuom â nhw yn ystod ein sesiynau casglu tystiolaeth, gan fod siarad â’r arbenigwyr hynny a phobl allan yno sy'n gwybod am beth maent yn sôn bob amser yn dda iawn i bobl fel fi, nad ydym, efallai, yn arbenigwyr ym maes llywodraethiant yr UE neu negodiadau.

Ond fel yr amlinellodd Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, mae ein perthynas â’r UE yn y dyfodol yn parhau i fod yn un o’r cysylltiadau rhyngwladol pwysicaf sydd gennym. Wedi inni adael yr UE bedair blynedd yn ôl, nid yw’r broses i gyrraedd lle rydym arni wedi bod yn un esmwyth iawn—mae wedi bod braidd yn anwastad ac yn anodd weithiau—ond credaf ein bod mewn lle llawer mwy sefydlog. Ac fel pwyllgor, nid ein rôl ni yw gwneud sylwadau ar sut olwg a ddylai fod ar y negodi, ond ein rôl ni yw edrych ar ffyrdd diriaethol o sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed yn yr UE ac yn Llywodraeth y DU, ac yn enwedig gyda’r adolygiad sydd ar ffordd o’r cytundeb masnach a chydweithredu, mae angen inni sicrhau bod Llywodraeth Cymru a’r Senedd hon yn cael cymaint o gyfle â phosibl i gyfrannu at hynny.

Mae’r trefniadau llywodraethiant yn elfen allweddol ar gyfer sicrhau bod gan Gymru lais. Dywedir wrthym y gallai Comisiwn yr UE a Llywodraeth y DU wneud penderfyniadau unochrog a allai newid y cytundeb ymadael a’r cytundeb masnach a chydweithredu heb unrhyw oruchwyliaeth seneddol ddatganoledig. Nid yw hynny'n iawn, a dyna sydd angen i ni ei sicrhau drwy'r hyn rydym wedi'i wneud drwy argymhellion, y gobeithiwn y bydd y Llywodraeth yn bwrw ymlaen â nhw, y gallwn gael dweud ein dweud mewn rhai o'r negodiadau hyn er mwyn sicrhau, gyda rhai o'r meysydd y mae gan yr UE nawr a Llywodraeth y DU bŵer drosom yma, fod gennym fwy o fewnbwn yn hynny o beth er mwyn sicrhau ei fod er budd gorau Cymru.

Dyna pam ei bod yn hollbwysig inni fonitro'n agos iawn y newidiadau—mae hynny yn ein hadroddiad—i gyfraith yr UE a allai effeithio ar fusnesau yma yng Nghymru a ledled y DU, gan fod angen inni sicrhau nad oes unrhyw un o’n busnesau yma yn cael eu heffeithio’n andwyol gan newidiadau i gyfraith yr UE. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn chwarae rhan allweddol yn Ewrop er mwyn sicrhau nad oes unrhyw beth yn newid er anfantais i ni yma.

Dywedwyd drwy gydol yr ymchwiliad, a chan bobl y cyfarfuom â nhw, fod newidiadau gwleidyddol mwy diweddar yn San Steffan wedi caniatáu cyfnod mwy sefydlog rhwng y DU a’r UE. Pan oeddem ym Mrwsel, roedd yn dweud y cyfan fod pawb y gwnaethom gyfarfod â nhw wedi dweud nad yw wedi bod yn hawdd ers inni bleidleisio i adael, ond ymddengys bellach fod parodrwydd a ffocws gan y ddwy ochr—gan Lywodraeth y DU a'r Comisiwn Ewropeaidd—i wneud i'r cytundeb hwn weithio, er lles y ddwy ochr. Fel pwyllgor, roedd pob un ohonom yn teimlo bod y berthynas sefydlog newydd yn rhoi cyfle inni ailedrych ar y strwythurau llywodraethiant, a sut y gallwn chwarae rhan fwy gweithredol o fewn y strwythurau presennol, fel y gwn fod y Cadeirydd a fy nghyd-Aelod, Alun Davies, ac Aelodau eraill, yn ei wneud.

Gwnaeth y pwyllgor nifer o argymhellion i’r Llywodraeth, a hoffwn ganolbwyntio ar rai ohonynt. Mae argymhelliad 3 yn nodi ein safbwynt ein bod yn credu y dylid rhoi statws llawn i Lywodraeth Cymru ar y cyngor partneriaeth, ac y dylai barhau i gael statws sylwedydd yn yr holl gyfarfodydd perthnasol. Credwn fod hyn yn bwysig iawn, gan ein bod yn awyddus i sicrhau bod llais y Llywodraeth ddatganoledig yma yng Nghymru yn cael ei glywed—ac nid ni yma yng Nghymru yn unig, ond y gweinyddiaethau datganoledig yn yr Alban, ac yng Ngogledd Iwerddon hefyd—i sicrhau eich bod yn cael cyfle i gymryd rhan mewn unrhyw benderfyniadau a wneir er mwyn sicrhau nad ydym yn cael ein hanghofio.

Mae argymhelliad 5 yn galw am femorandwm cyd-ddealltwriaeth newydd ar gyfer y Grŵp Rhyngweinidogol ar Gysylltiadau’r DU a’r UE, fel ei bod yn amlwg pa lefel o ymgysylltiad sydd gan y gweinyddiaethau datganoledig, gan fod y model presennol yn ad hoc iawn. O'r hyn y cawn ein harwain i gredu, weithiau mae Gweinidogion yn cael eu cynnwys, weithiau nid ydynt yn cael eu cynnwys mewn pethau, ac ni chredaf fod honno'n ffordd briodol o weithredu cytundeb neu gytundeb masnach.

Mae argymhelliad 11 yn gofyn am gyfranogiad uniongyrchol Llywodraeth Cymru yn rhwydweithiau’r UE. Credaf fod bod yn rhan o rai o’r rhwydweithiau hyn yn hanfodol i Gymru os ydym am lwyddo fel cenedl hefyd, i sicrhau ein bod yn rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau. Soniodd Alun Davies am rywbeth pan oedd yn Ynysoedd Falkland, am bont fyw—rwy'n siŵr y bydd yn sôn am hynny eto—ynglŷn â'r modd y byddwn yn siarad rhwng sefydliadau. Mae’n gadarnhaol iawn fod y DU wedi ailymuno â rhwydwaith Horizon hefyd, fel y gallwn rannu gwybodaeth yno. A byddwn yn annog llunwyr polisi mewn mannau eraill i edrych ar sefydliadau eraill yr UE y gallwn ymuno â nhw, gan y credaf mai dyna'r ffordd orau o ddysgu a meithrin arbenigedd. Ni allwn ailddyfeisio'r olwyn yma, ond os gallwn ddysgu o rywle arall, mae hynny hefyd yn bwysig iawn.

Mae argymhelliad 14 hefyd yn sôn am dryloywder, a’r angen i Lywodraeth Cymru fod yn fwy agored gyda’r Senedd ynglŷn â’r cyfarfodydd a gânt pan fyddant yn sôn am y berthynas rhwng y DU a’r UE. Ac rwy'n credu y byddai’n ein helpu ni yma fel Senedd, a’r holl bwyllgorau perthnasol, i wybod mwy am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud a’r weledigaeth sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gweithio o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Gwn nad yw’r ddau ymgeisydd yn y ras am yr arweinyddiaeth yma, ond fel y dywedodd y Cadeirydd, byddai’n ddiddorol iawn gwybod, pan fydd gennym Brif Weinidog newydd yma, beth yw ei weledigaeth a beth yw eu gweledigaeth ar gyfer y berthynas yn y dyfodol.

Ond fel y mae nifer o argymhellion yn galw amdano hefyd, mater i Aelodau o'r Senedd yw ymgysylltu’n weithredol o fewn yr UE a’i strwythurau. Fel y dywedais o'r blaen, efallai ein bod wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd—a gallaf weld fy mod yn profi amynedd y Dirprwy Lywydd yma gyda'r amser—efallai ein bod wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond nid ydym wedi gadael Ewrop. Ac os yw llais Cymru i gael ei glywed, rwy'n credu bod angen inni gael cymaint o gyfle i fynd i Frwsel, i fynd i wledydd Ewrop, i ddadlau'r achos dros Gymru, i ddweud sut y gallwn helpu i lunio rhai o bolisïau’r dyfodol o fewn yr UE. Ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth, nid i'r Llywodraeth efallai, ond i'r Comisiwn yma, i edrych ar sut y gallwn fynd ati'n weithredol i wneud hynny.

Ac yn olaf—rwy'n dirwyn i ben, Ddirprwy Lywydd; dyma fy mhwynt olaf—mae'n debyg mai hwn fydd yr adroddiad olaf gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y byddaf yn gwneud sylwadau arno, wel, efallai, ond cawn weld. Felly, hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i’r holl glercod, y tîm ymchwil, a’r tîm cyfreithiol yn y Senedd am eu holl gymorth a chefnogaeth pan oeddwn yn aelod o’r pwyllgor. Edrychaf ymlaen at glywed ymateb y Llywodraeth, a’r holl Aelodau eraill a fydd yn ymateb i’r adroddiad hwn.

15:35

I gadarnhau, gallwch wneud sylwadau ar unrhyw adroddiad yn y Siambr fel Aelod o’r Senedd. Adam Price.

Gan fod y Cadeirydd wedi gwneud gwaith mor gampus yn gosod gorolwg cynhwysfawr i ni o gynnwys yr adroddiad, dwi ond yn mynd i ganolbwyntio ar dri neu bedwar o'r 23 o argymhellion yn yr adroddiad.

Mi oedd argymhelliad 2 yn gofyn i Lywodraeth Cymru nodi sut y maen nhw'n monitro datblygiadau polisi a deddfwriaethol yr Undeb Ewropeaidd ers i ni adael. Ac mi roedd hi ychydig bach yn siomedig, mae'n rhaid i fi ddweud, i ddarllen ymateb y Llywodraeth, yn dweud, gan nad yw'r Deyrnas Unedig yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd mwyach, nad yw'r Llywodraeth yn monitro datblygiadau polisi a datblygiadau deddfwriaethol yn yr Undeb Ewropeaidd fel mater o drefn. Mae'n syndod i mi oherwydd, fel roeddwn i bob amser yn pwysleisio, wrth gwrs, a nifer ohonom ni yn y lle yma, dyma yw'r farchnad fwyaf pwysig i Gymru. Felly, mae e'n dal yn arwyddocaol iawn, os ydyn ni eisiau cael mynediad i'r farchnad yna, i wybod beth sy'n digwydd o ran rheoleiddio.

Mi oeddem ni hefyd, y rhai ohonom ni oedd yn gwrthwynebu gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn pwyntio mas y perygl bod safonau amgylcheddol a safonau o ran gwarchod cwsmeriaid, ac yn y blaen, yn mynd i ostwng o adael. Wel, un ffordd o sicrhau bod hynny ddim yn digwydd—gymaint ag y medrwn i o fewn y cyfyngiadau sydd arnom ni—ydy cael golwg ar beth mae'r Undeb Ewropeaidd yn ei wneud o'r newydd, fel petai.

Ac, wrth gwrs, yn adran 11 y Ddeddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 y gwnaethon ni ei phasio yn y lle yma, mi oedd yna gymal a fyddai wedi golygu bod gan Weinidogion Cymru y pŵer i alinio rheoliadau wedi'u datganoli i Gymru o hyd o'r newydd, ar ôl gadael. Yn anffodus, gwnaethon ni ddileu'r Ddeddf honno, ond yn yr Alban, wrth gwrs, maen nhw wedi'i chadw hi, ac yn adran 1 eu Deddf parhad nhw, mae ganddyn nhw'r pŵer i barhau i alinio rheoliadau yn yr Alban gyda rheoliadau o'r newydd yn yr Undeb Ewropeaidd. Ac oherwydd hynny, mae'r pwyllgor sydd yn lled gyfatebol i'n pwyllgor ni yn Senedd yr Alban wedi creu trackerEU law tracker—sydd yn cael ei gydlynu gan Queen's University Belfast, sydd yn cynhyrchu adroddiadau rheolaidd. Mae'r un cyntaf newydd gael ei gyhoeddi ym mis Medi ac mae e'n gosod mas yn glir iawn yr holl gyfreithiau newydd sydd wedi'u pasio gan yr Undeb Ewropeaidd. Wel, pam nag ŷn ni jest yn defnyddio'r wybodaeth hynny? Mae'n dangos, er enghraifft, y llynedd, dim ond—. Mae'r niferoedd yn gymharol isel, a dweud y gwir. Dim ond dau gyfarwyddeb—directive—newydd oedd wedi cael eu pasio y llynedd yn yr Undeb Ewropeaidd. Felly, dyw e ddim yn nifer rhy eang. Mi oedd yna lot o newidiadau technegol, ond o ran y prif newidiadau, mae modd eu tracio nhw. Pam nag ŷn ni yn manteisio ar y cyfleon i adeiladu ar y gwaith sydd yn yr Alban?

Jest yn fyr iawn, o ran argymhelliad 11 ynglŷn â Chymru yn cymryd rhan mewn rhwydweithiau Ewropeaidd er mwyn gwneud yn iawn am yr hyn dŷn ni wedi'i golli o ran dylanwad ac yn y blaen, mae'r Llywodraeth, wrth gwrs, yn nodi yn ei hymateb fod Llywodraeth Cymru yn aelod o rwydweithiau fel Cynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol ac yn y blaen, ond mae yna rwydweithiau pwysig y gallen ni fod yn aelodau ohonyn nhw dŷn ni ddim ar hyn o bryd. Y prif un ar gyfer rhanbarthau, neu genhedloedd di-wladwriaeth, ydy'r Assembly of European Regions. Pam nad yw Cymru yn aelodau o hwnna? Mae yna gyfle i'r Senedd hon. Mae'r Conference of European Regional Legislative Assemblies, yn cynrychioli seneddau rhanbarthol, yn ystyried gwahodd rhanbarthau sydd y tu fas i'r Undeb Ewropeaidd i fod yn associate members o CALRE ac yn y blaen. So, mae yna gyfleoedd i ni. Beth am i ni archwilio'r posibiliadau hynny?

A hefyd, gan gytuno gyda sylwadau fy nghyn-gyd-Aelod, mae'n bwysig hefyd bod Aelodau'r Senedd yn cael eu hannog i fynd i Frwsel. Yn ymateb y Llywydd i'r adroddiad, mi oedd e'n syndod ac yn siom i ddarllen mai dim ond un Aelod o'r Senedd sydd wedi ymweld â Brwsel yn ystod y Senedd hon. Mae'n rhaid i ni gefnogi ac annog cymaint o Aelodau'r Senedd, mewn gwahanol ddulliau, i fynd yno er mwyn sicrhau bod Cymru'n dal ar yr agenda.

15:40

Rwy’n ddiolchgar i’r Cadeirydd ac aelodau’r pwyllgor am y ffordd y maent wedi disgrifio’r adroddiad a’i gasgliadau. Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad, fel y mae eraill wedi’i wneud, drwy ddiolch i’r ysgrifenyddiaeth a’r tystion a’n helpodd i ysgrifennu a pharatoi a chyhoeddi’r adroddiad hwn. Fel sydd newydd ei ddweud, mae’r adroddiad hwn, mewn sawl ffordd, yn mynd at wraidd ein llywodraethiant a’r ffordd y cawn ein llywodraethu yng Nghymru heddiw. Rydym wedi dod i gasgliadau ar nifer o wahanol elfennau a themâu y credaf y dylai'r Senedd hon roi ystyriaeth iddynt yn eu cyfanrwydd.

Y thema gyntaf yw'r newid mewn grym. Mae pob un ohonom yn cofio’r sloganau 'Adfer rheolaeth' yn 2016. Ond y gwir amdani yw bod rheolaeth wedi symud o ddemocratiaeth seneddol i ddictad gweithredol, ac nid yw hynny’n iawn. Mae gan y Senedd hon lai o oruchwyliaeth dros y materion sydd dan sylw yn y berthynas rhwng yr UE a’r DU nag a oedd ganddi cyn i’r DU adael yr UE. Nid yw hynny'n iawn. Yn hytrach, mae gennym we gymhleth o strwythurau newydd, ac wrth gwrs, po fwyaf cymhleth yw strwythur, y lleiaf atebol ydyw, yr anoddaf yw hi iddo fod yn dryloyw. A'r hyn y mae hynny'n ei olygu yw bod llai o gyfle i ni, fel Aelodau, ddarparu trosolwg seneddol o'r strwythurau hynny a'r penderfyniadau a wneir gan aelodau'r strwythurau hynny. Felly, rydym wedi gweld llywodraethiant ein perthynas â’r UE, a oedd yn arfer digwydd yn heulwen agored y ddadl ddemocrataidd, yn symud i gysgodion y gwasanaeth sifil a phenderfyniadau a wneir rhwng Gweinidogion y Llywodraeth. Mae’r ddemocratiaeth a addawyd i ni wedi diflannu, ac mae hynny’n rhywbeth y mae angen inni fynd i'r afael ag ef fel Senedd.

Mae’r diffyg tryloywder hwnnw’n amlwg yn y trefniadau newydd drwyddi draw. Mae ein gallu i ddeall pa benderfyniadau sy'n cael eu trafod hyd yn oed yn gyfyngedig, heb sôn am fod â gallu wedyn i ddylanwadu ar y penderfyniadau hynny a rhoi ffurf iddynt. Fel rhan o’r UE, fel aelod llawn o’r UE, roedd ein pobl yn y cyfarfodydd, nid yn y coridorau'n unig; roeddent yn y cyfarfodydd yn gwneud penderfyniadau. Heddiw, prin y gallwn gael gafael ar bàs i fynd i mewn i'r adeilad. Nid yw ein gallu i ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n cael effaith alldiriogaethol wirioneddol ar bobl yng Nghymru heddiw wedi’i leihau, mae wedi’i ddileu. Ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni ei gydnabod. Ond rydym hefyd wedi gweld pŵer yn cael ei drosglwyddo. Rydym wedi gweld cymhwysedd ar nifer o faterion gwahanol yn symud o’r fan hon i San Steffan, ac nid yw hynny wedi digwydd drwy ddadl ddemocrataidd na thrwy benderfyniad, mae wedi digwydd drwy ddileu hawliau’r lle hwn i ddeddfu mewn ffordd y mae pobl Cymru yn dymuno'i gweld ac wedi'i cheisio drwy refferendwm. Mae hynny’n rhywbeth sydd wedi digwydd heb fawr o graffu, ac mae hynny’n rhywbeth arall y mae angen inni fynd i'r afael ag ef.

O edrych ar yr adroddiad a’r potensial i’r lle hwn a Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen â’r materion hyn, credaf yn gyntaf oll mai un peth y dylem ei wneud yw talu teyrnged i waith Derek Vaughan. Mae penodi Derek Vaughan fel cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ym Mrwsel yn rhywbeth sydd wedi talu ar ei ganfed droeon. Mae Derek yn adnabyddus yn y sefydliadau ac mewn gwahanol rannau o’r Undeb Ewropeaidd, ac mae’n gwneud gwaith gwych yn sicrhau bod Cymru’n cael ei chynrychioli yng nghanol Brwsel. Ond mae angen inni fynd ymhellach na hyn.

Rwy'n cytuno'n gryf â’r pwyntiau a wnaed gan Adam Price yn ei gyfraniad, a hefyd y pwyntiau a wnaed gan James Evans yn ei gyfraniad yntau, o ran y ffordd y mae angen inni edrych ar sut rydym yn llunio penderfyniadau ac yn deall penderfyniadau, ac mae hynny’n golygu mwy o fuddsoddiad. Edrychaf ymlaen at ymateb y Cwnsler Cyffredinol ar ran y Llywodraeth, ond sylwais fod y Llywodraeth yn llawer mwy awyddus i dderbyn argymhellion lle roedd ganddynt ddylanwad cyfyngedig, yn hytrach nag argymhellion a fyddai wedi golygu camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n gobeithio y gwelwn fwy o weithredu gan Lywodraeth Cymru a mwy o weithredu rhagweithiol gan Lywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn buddsoddi i ddeall dynameg y broses o wneud penderfyniadau o fewn sefydliadau’r UE.

Ond hefyd, mae pethau y mae angen i ni eu gwneud yma. Mae angen inni edrych yn ofalus ar ryngseneddoliaeth. Mae angen inni edrych yn ofalus ar sut rydym yn gweithio gyda seneddau a seneddwyr eraill, yn y Deyrnas Unedig ac ar draws yr Undeb Ewropeaidd. Mae cyfleoedd inni greu mathau newydd o atebolrwydd, mathau newydd o oruchwyliaeth, mathau newydd o dryloywder, er mwyn sicrhau bod y bobl yr ydym yn eu cynrychioli a’u barn yn cael eu cynrychioli pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud. Felly, mae cyfleoedd yma i ni hefyd.

Fe wnaf orffen ar y pwynt hwn, Ddirprwy Lywydd. Mae gan Gomisiwn y Senedd hon gyfrifoldeb absoliwt i sicrhau bod Aelodau’n gallu treulio amser yn gweithio ym Mrwsel a bod pwyllgorau’n ymweld â Brwsel, ond mae angen inni sicrhau hefyd fod gennym agenda ar gyfer y gwaith hwnnw. Amlinellodd Cadeirydd y pwyllgor, wrth gyflwyno’r adroddiad, yr amser sydd ar gael i ni, ac mae gennym gyfleoedd. Gydag etholiadau Ewropeaidd yn cael eu cynnal ym mis Mehefin eleni, etholiad cyffredinol y DU yn cael ei gynnal yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a newid posibl yn Llywodraeth y DU, mae gennym gyfle nawr i newid ein hymagwedd ac i newid y ffordd yr ymgysylltwn â'n sefydliadau Ewropeaidd. Mae'r adolygiad o'r cytundeb masnach a chydweithredu y flwyddyn nesaf yn gyfle inni wneud hynny. Mae'n gyfle na allwn fforddio ei wastraffu.

15:50

Buaswn i'n hoffi rhoi fy niolch i i Gadeirydd y pwyllgor yma ac i aelodau'r pwyllgor am y gwaith hollbwysig yma maen nhw wedi'i wneud gyda'r adroddiad hwn.

Pan ddeuthum i’r Senedd gyntaf yn 2019, Ddirprwy Lywydd, roedd Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a minnau'n eistedd gyda’n gilydd, ochr yn ochr ag Aelodau eraill, ar y pwyllgor materion allanol, ac fe wnaethom edrych bryd hynny ar y byd ôl-Brexit, a oedd yn llawn ansicrwydd a phethau anhysbys, a phum mlynedd yn ddiweddarach, mae'r ddau ohonom yn cadeirio pwyllgorau sy'n craffu ar y realiti nad oeddem yn gwybod amdano ac na allem fod wedi gwybod amdano bryd hynny. Yn gyntaf, cawsom y cytundeb ymadael ac yna'r cytundeb masnach a chydweithredu. Sefydlodd y ddau dros 30 o fforymau newydd i’r DU a’r UE drafod eu perthynas, ac nid oedd y naill na’r llall yn darparu ar gyfer cynrychioli Cymru.

Ers 2021, mae’r pwyllgor a gadeiriaf wedi gwneud nifer o sylwadau sy’n ategu ac yn cryfhau canfyddiadau'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Rydym yn cytuno bod statws sylwedydd i gynrychiolwyr datganoledig yn y cynulliad partneriaeth seneddol yn anfoddhaol, ac rydym wedi adleisio ei alwad am eu cyfranogiad llawn. Mae ein pwyllgor wedi cefnogi ceisiadau Llywodraeth Cymru i fynychu cyfarfodydd cyd-bwyllgorau lle caiff materion sydd o bwys i Gymru eu trafod, fel y mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi'i wneud. Mae Llywodraeth Cymru y tu allan i’r cyfarfodydd hyn o hyd, yn methu cynrychioli Cymru mewn materion allweddol sy'n ymwneud ag ynys Iwerddon, gan gynnwys protocol Gogledd Iwerddon a fframwaith Windsor.

Ddirprwy Lywydd, fel y pwyllgor sy'n gyfrifol am gysylltiadau rhyngwladol, mae perthynas Cymru ag Iwerddon, ein cymydog rhyngwladol agosaf, yn un sy'n agos iawn at ein calonnau, yn enwedig ers ein hymchwiliad i'r berthynas rhwng y ddwy wlad. Rydym hefyd wedi galw am strategaeth benodol ar gyfer yr UE gan Lywodraeth Cymru, ac i’r UE gael statws 'perthynas flaenoriaethol' yn ei strategaeth ryngwladol. Yn gynnar yn y chweched Senedd, fe wnaethom leisio pryderon fod heriau a wynebir gan randdeiliaid wrth ymgysylltu yn y berthynas rhwng yr UE a'r DU wedi arwain at lai o gynrychiolaeth mewn perthynas â buddiannau Cymru, ac y gallai hynny leihau ymhellach yn y dyfodol. Am y rheswm hwnnw, credaf fod ymateb Comisiwn y Senedd i adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i ymgysylltu â sefydliadau cymdeithas sifil a’i gynnig i weithio gyda chadeiryddion pwyllgorau i’w groesawu’n fawr.

Yn gynharach y mis hwn, dechreuodd ein pwyllgor ein hymchwiliad newydd i ddiwylliant a’r berthynas newydd â’r UE. Mae cymhlethdodau’r cytundeb masnach a chydweithredu yn y byd ôl-Brexit eisoes wedi dod i'r amlwg, hyd yn oed yn y cyfnod cynnar hwn. Credaf y bydd llawer o'r gwaith sydd wedi'i drafod y prynhawn yma, a wnaed gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, yn cyfoethogi ein dealltwriaeth o'r fframweithiau sy'n sail i hyn oll.

Wrth gloi, hoffwn ddiolch unwaith eto i’r pwyllgor am y gwaith hynod arwyddocaol hwn, a chofnodi cefnogaeth ein pwyllgor unwaith eto i’r hyn a wnânt. Rwy’n fwy argyhoeddedig nag erioed o’r angen am lais i Gymru yn y berthynas rhwng y DU a’r UE.

Hoffwn i hefyd ategu fy niolch i'r pwyllgor am yr adroddiad pwysig yma, ac i'r Prif Weinidog am ei ymateb. Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod y pwyllgor a Llywodraeth Cymru yn cymryd safbwyntiau gwahanol iawn wrth ymdrin â'r materion. Er i'r pwyllgor ddangos bod cynrychiolaeth llywodraethau datganoledig ar lwyfan ryngwladol wedi gwaethygu ers Brexit, nid yw'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru eisiau cynhyrfu'r dyfroedd gan eu bod nhw'n cymryd yn ganiataol y bydd gan y Llywodraeth San Steffan nesaf berthynas well pan fo'n dod i faterion rhynglywodraethol. Gall hynny ymddangos yn rhesymol ar un llaw, oherwydd mae'r berthynas rhynglywodraethol rhwng Parc Cathays a Whitehall wedi cyrraedd man isel iawn yn ystod y blynyddoedd diweddaraf. Mae hynny hefyd yn wir, wrth gwrs, am y berthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd. Ond ni ddylid seilio perthynas ar ba blaid wleidyddol sydd mewn grym. Nid dyna'r ffordd i osod seiliau i berthynas rynglywodraethol iach. Newid mae Llywodraethau. Newid mae personau. Dyna yw natur bywyd; dyna yw natur gwleidyddiaeth. Mae angen gosod seiliau sy'n gynaliadwy yn y tymor hir, pwy bynnag sydd mewn grym, sy'n sicrhau bod llais Cymru, fel rhan o'r amrywiaeth o leisiau, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, yn cael eu clywed.

Ddirprwy Lywydd, os caf, hoffwn wneud dau bwynt arall. Mae argymhelliad 21 yn dweud y dylai Llywodraeth y DU sicrhau cymorth ariannol priodol i sefydliadau Cymru gymryd rhan yng ngrŵp cynghori domestig a fforwm cymdeithas sifil y DU. Fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, mae llais sefydliadau Cymru mor bwysig ar lefel Ewropeaidd. Yn anffodus, yn ei ymateb, dywedodd y Prif Weinidog fod Llywodraeth y DU eisoes wedi cadarnhau nad ydynt yn fodlon darparu cyllid o’r fath. Mae hyn, Ddirprwy Lywydd, yn anghyfartaledd pŵer amlwg, gan y bydd yn golygu bod sefydliadau Cymru yn cael eu torri allan o sgyrsiau pwysig, a bydd hyn yn effeithio ar ein cynrychiolaeth ar y lefel ryngwladol.

Yn ail, hoffwn adleisio sylwadau Alun Davies ynghylch rôl Derek Vaughan fel cynrychiolydd Llywodraeth Cymru yn Ewrop. Fe wnaeth y Prif Weinidog gydnabod, yn ei ymateb, fod cael cynrychiolydd yn Ewrop wedi bod o fudd mawr i Gymru. Mae wedi caniatáu i Weinidogion Cymru gael pàs i mewn i Senedd Ewrop. Mae wedi gwneud cyfarfodydd yn bosibl gyda’r Comisiwn Ewropeaidd, ac mae wedi gwella ein gwelededd ledled yr Undeb Ewropeaidd. Yn amlwg, roedd y lefel hon o ymgysylltiad yn hollbwysig yn ystod Brexit, ond mae'n sicr ei bod hyd yn oed yn bwysicach nawr ein bod wedi gadael. Wedi’r cyfan, yr Undeb Ewropeaidd yw ein partner allforio mwyaf o bell ffordd. Gwelaf fod y contract ar gyfer y rôl hon yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn, ac nid oes unrhyw sôn am ei hymestyn. Fel y dywedodd James Evans, nid ydym wedi gadael Ewrop. Dyma fy nghwestiwn, yn syml iawn: o ystyried y diffyg democrataidd y mae Alun Davies wedi sôn yn angerddol amdano, o gofio nad oes gennym bellach Aelodau Cymreig o Senedd Ewrop, a bod rôl y cynrychiolydd yn dod i ben yn ôl pob golwg, pwy fydd yn siarad ar ran Cymru yn yr Undeb Ewropeaidd? Diolch yn fawr.

15:55

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar i’r pwyllgor am yr adroddiad pwysig, trwyadl a manwl hwn, ac i’r Aelodau sydd wedi siarad. Byddaf yn ymateb i’r amryfal bwyntiau yn y man.

Gadewch imi ddechrau drwy ddweud pa mor falch ydw i fod y pwyllgor yn cydnabod y cytundeb masnach a chydweithredu fel y sylfaen hollbwysig ar gyfer y berthynas economaidd hanfodol sydd gan Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig gyda'r Undeb Ewropeaidd o hyd. Er bod y cytundeb hwnnw'n ddewis amgen gwael i sicrhau’r buddion economaidd a'r effeithlonrwydd a gawsom fel aelod o'r Undeb Ewropeaidd, dyma'r unig ddewis sydd gennym, ac mae'n rhaid i ni sicrhau ei fod yn gweithio cystal â phosibl. Fe welwch o ymateb Llywodraeth Cymru ein bod yn cytuno â llawer o'r hyn sydd yn yr adroddiad a'r ffocws defnyddiol y mae’n ei roi.

Gadewch imi sôn yn gyntaf am y cyd-destun ehangach. Mae’r adroddiad yn amlygu nad yw’r gwaith ar berthynas newydd rhwng y DU a’r UE wedi'i gwblhau. O'n rhan ni, yng Nghymru, mae angen inni barhau i ddiogelu ein safonau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol, a cheisio gwelliannau hefyd i'r status quo lle gallwn. Mae'n rhaid inni wneud hyn yn rhannol drwy ein perthynas ein hunain â Llywodraeth y DU. Mae'r cytundeb masnach a chydweithredu wedi datblygu'n barhaus ers iddo gael ei lunio o dan amgylchiadau anodd ychydig dros dair blynedd yn ôl. Mae cysylltiadau rhwng Llywodraeth y DU â’r UE yn sicr wedi gwella gyda chytuno fframwaith Windsor flwyddyn yn ôl. Rwyf am achub ar y cyfle unwaith eto i groesawu adferiad gweithrediaeth weithredol yng Ngogledd Iwerddon. Hyderwn y gellir gwneud i hyn oll weithio heb ansefydlogi’r cytundeb masnach a chydweithredu na fframwaith Windsor.

Os caf droi at yr adroddiad ei hun a chanolbwyntio ar bedair perthynas sydd gan Lywodraeth Cymru, yn gyntaf gyda'r Senedd, yna gyda Llywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig eraill, gyda rhanddeiliaid a chymdeithas sifil, a hefyd gyda'r UE. Yn gyntaf, ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â'r Senedd. Wel, wrth gwrs, rydym yn awyddus i weithio gyda'r Senedd i wneud y mwyaf o fuddiannau Cymru yn y berthynas sy'n esblygu rhwng y DU a'r UE. Ac rydym yn cefnogi darparu'r wybodaeth gywiraf a mwyaf diweddar ar weithrediad y cytundeb masnach a chydweithredu. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, nid yw system y DU yn ddigon effeithlon i ganiatáu i hynny ddigwydd. Mae angen inni hefyd gydnabod y gall cyfarfodydd gynnwys trafodaethau sensitif lle nad yw tryloywder llawn bob amser yn bosibl.

Mae ein perthynas â Llywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig eraill yn allweddol i sicrhau bod buddiannau Cymru'n cael eu hadlewyrchu yn y cytundeb masnach a chydweithredu. Gadewch imi fod yn onest heb fod yn rhy feirniadol o Lywodraeth y DU: cafodd negodiadau'r cytundeb masnach a chydweithredu eu rhuthro, yn ogystal â'i weithrediad cychwynnol, ac nid oedd digon o amser i ddatblygu systemau da i'w gefnogi. Nid oedd yn glir ar y pryd fod gan Lywodraeth y DU ar y pryd ddiddordeb mewn ymgysylltu â Llywodraethau datganoledig i wneud i'r system weithio gyda setliadau datganoli. Rwy'n falch ein bod bellach mewn cyfnod mwy adeiladol, er bod angen parhau i wneud gwelliannau.

O ran fy nhrydedd thema, ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â rhanddeiliaid a chymdeithas sifil, hoffwn egluro ein bod wedi ymrwymo i wneud hyn mor llawn ac mor ddifrifol â phosibl, o fewn yr holl gyfyngiadau sydd gennym. Yn anffodus, nid yw Llywodraeth y DU wedi rhoi ymgysylltiad rhanddeiliaid wrth wraidd ei dull o weithredu'r cytundeb masnach a chydweithredu. Byddwn yn pwyso ar Lywodraeth y DU i wneud mwy, ac mae'r adroddiad yn offeryn defnyddiol iawn i ni wneud hynny ac mae'n ddadansoddiad defnyddiol iawn. Ar y cyfan, rwy'n falch iawn fod mewnbwn effeithiol o Gymru i grŵp cynghori domestig y DU.

Yn olaf, wrth edrych ar berthynas Cymru â'r UE, mae'n ddiwylliannol amlwg ac yn fater o ffaith daearyddol fod Cymru'n parhau i fod yn genedl Ewropeaidd. Mae cyfuno hynny â'n cyd-ddibyniaeth economaidd barhaus yn golygu bod yn rhaid i ni barhau i geisio bod wedi ein halinio'n agos ac yn ddiplomataidd gysylltiedig â'r UE a'i Lywodraethau rhanbarthol a chenedlaethol cyfansoddol.

Os caf orffen drwy ailadrodd yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog eisoes. Byddem yn falch iawn o weld newidiadau cadarnhaol yng ngweithrediad y cytundeb masnach a chydweithredu, a'r berthynas ehangach rhwng y DU a'r UE. Ond i fod yn hollol onest, yn realistig ni fydd hynny'n gallu digwydd yn barhaol tan ar ôl etholiadau'r UE a'r DU dros y flwyddyn i ddod. Mae'r rhain yn darparu cyfleoedd gwirioneddol ar y ddwy ochr ar gyfer ymgysylltiad mwy newydd ac ysbryd mwy cadarnhaol wrth edrych tua'r dyfodol, a byddwn yn gwneud popeth a allwn i hwyluso a chefnogi hynny.

Os caf wneud sylwadau ar rai o'r pwyntiau a wnaed, oherwydd mae hon yn ddadl barhaus ac mae llawer o gyfleoedd, ac mae'r adroddiad hwn yn gyfraniad defnyddiol a phwysig iawn i hynny. Hoffwn ddweud fy mod yn croesawu'r pwynt a wnaed y dylem gael statws llawn yng nghyngor partneriaeth Pwyllgor y Rhanbarthau. Pan oeddwn yn cynrychioli Cymru ar Bwyllgor y Rhanbarthau, fe wneuthum wthio a gwthio, pan oeddem yn gwybod ein bod ni'n gadael yr UE, i sicrhau y byddai hynny'n digwydd. Fodd bynnag, cafodd hynny ei rwystro gan Lywodraeth y DU. Nid oeddent eisiau i ni gael y llais hwnnw a chawsom ein hatal rhag gwneud hynny. 

Ar y pwyntiau eraill, fe wnaeth Alun rai pwyntiau pwysig iawn, rwy'n credu, ar y newid mewn grym, ac mae hynny'n glir iawn o'r adroddiad yn rhai o'r cyfeiriadau a wneir yn yr adroddiad. Nodais sylwadau Dr Elin Royles, a ddyfynnwyd yn yr adroddiad yn dweud bod gadael yr UE wedi lleihau gallu Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU a'r UE, ac mae hynny'n glir iawn. Mae'r statws is-genedlaethol a oedd gennym bellach wedi mynd, ond mae angen statws amgen arnom er mwyn atgyfodi'r rôl benodol honno. Ni fydd hynny'n digwydd gyda'r Llywodraeth bresennol. 

Gwnaeth Adam Price rai pwyntiau pwysig ar fonitro. Rwy'n eithaf cyfarwydd ac rwyf wedi cael trafodaethau gyda chi am y sefyllfa gyda'r monitro sy'n digwydd yn yr Alban. Wrth gwrs, mae yna fonitro'n digwydd o ran y portffolios penodol iawn o fewn Llywodraeth Cymru sy'n berthnasol ac sy'n arsylwi ac yn cadw llygad ar yr hyn sy'n digwydd yn Ewrop, a'r perthnasedd yno. Ond dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf—ac rwy'n credu y byddai pawb yn cydnabod—mae yna lawer iawn o bwysau mewn perthynas â monitro'r hyn a oedd yn digwydd hyd yn oed ar lefel Llywodraeth y DU o ran yr agweddau a oedd yn effeithio ar Gymru. Ac rwy'n gwybod, hyd yn oed o ochr yr Alban, fod tswnami o ddata a gwybodaeth am ddigwyddiadau sy'n digwydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd, sydd wrth gwrs yn broses barhaus dros nifer o flynyddoedd, ac felly mae'r gallu i dynnu o hynny yr hyn sy'n berthnasol a sut i ddefnyddio'r wybodaeth honno ac yna ei throsi'n ddeddfwriaeth neu gamau amgen yn rhywbeth sydd wedi peri cryn anhawster.

Un pwynt a wnaed sydd, unwaith eto, yn bwysig iawn yn fy marn i, yw'r cysylltiadau â'r holl grwpiau amrywiol ac yn y blaen sy'n bodoli o fewn yr Undeb Ewropeaidd, ac rydym yn aelodau o rai ohonynt, ond wrth gwrs mae'r rheini'n bethau yr ydym eisiau gwneud y mwyaf ohonynt.

A gaf i ddweud, mewn perthynas ag ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad, fod nifer benodol o argymhellion wedi cael eu derbyn yn llawn, ond roedd llawer ohonynt mewn egwyddor, ac rwy'n credu mai'r rheswm am hynny yw oherwydd bod cymaint ohono'n waith sydd ar y gweill, ac mae cymaint o ffactorau eraill wedi bod ar lefel y DU a'r UE sydd wedi cael effaith? Ond mae hwn yn waith sydd ar y gweill, ac ar yr holl bwyntiau a grybwyllwyd, rwy'n siŵr mai ychydig iawn o anghytundeb a gafwyd ynghylch y trywydd yr ydym yn awyddus i'w ddilyn.

Felly, i gloi, hoffwn ddiolch i'r Aelodau sydd wedi dangos diddordeb yn yr adroddiad a'n hymateb. Mae'r adroddiad yn gyfraniad pwysig. Mae'n rhaid inni adeiladu a chynnal presenoldeb effeithiol, hunaniaeth gyda'r Undeb Ewropeaidd, ac mae'n rhaid inni symud ymlaen i'r cyfeiriad hwnnw, gyda newidiadau, gobeithio, mewn Llywodraeth newydd. Os bydd hynny'n digwydd, bydd cyfleoedd mawr i adfer rhai o'r pwyntiau statws a grybwyllwyd gennym. Bydd gennym ymgysylltiad mwy adeiladol hefyd. Diolch yn fawr.

16:05

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ddadl dda iawn y prynhawn yma, ac am sylwadau clo'r Cwnsler Cyffredinol hefyd? Yr hyn y gwnaethom geisio ei wneud yn yr adroddiad hwn—. A chyda llaw, nid ydym ar ein pen ein hunain yn cyflwyno adroddiadau i'r maes hwn; mae gennym bwyllgorau yn Senedd y DU a Senedd yr Alban sydd wedi cynhyrchu gwaith yn y maes hwn, fel y mae Senedd Ewrop, Pwyllgor y Rhanbarthau, a Phwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop a sefydliadau cymdeithas sifil eraill wedi'i wneud hefyd. Mae hwn yn bwnc llosg, ac rwy'n credu ein bod yn dychwelyd at gynsail ein hadroddiad, sef bod gennym un adeg, yn y flwyddyn i ddod mae'n debyg, pan allwn edrych ar y gwersi a ddysgwyd gennym dros y pedair blynedd diwethaf, fel y disgrifiodd y Cwnsler Cyffredinol, tswnami o wybodaeth, a gorlwyth mewn gwirionedd o wybodaeth a pholisi ac yn y blaen sydd wedi digwydd, a newidiadau, ond cyfle nawr i ailddechrau a dweud, 'Wel, sut y gallwn ni sicrhau bod llais Cymru a lleisiau'r Alban a Gogledd Iwerddon yn cael eu clywed go iawn?' Ac mae yna elfen o weithio gyda'n gilydd hefyd.

Hoffwn droi at un neu ddau o'r pwyntiau hynny mewn eiliad, ond bwriad ein hadroddiad heddiw yw dweud bod gennym gyfle i hyrwyddo'r ddadl hon y mae angen inni ei chael, a gadewch imi gyffwrdd, felly, wrth ddweud hynny, ar rai o'r pwyntiau hyn. Yn gyntaf oll, James, rwy'n ymddiheuro am ddwyn rhywfaint o'ch cynnwys yn fy sylwadau agoriadol yno, ond unwaith eto, fe wnaethoch chi dynnu sylw, fel y gwnaeth eraill, at y cyfle sydd gennym dros y 12 mis nesaf, ac fe wnaethoch bwysleisio pwysigrwydd ymgysylltu â sefydliadau'r UE, fel y gwnaeth Adam, y tu hwnt i sefydliadau sefydledig yr UE i mewn i'r rhwydwaith ehangach o gyrff a sefydliadau Ewropeaidd hefyd. Rwy'n credu bod angen inni feddwl yn greadigol ynglŷn â sut y gallwn chwyddo llais Cymru drwy feddwl ychydig yn fwy dychmygus. Fe wnaethoch chi siarad hefyd, fel y gwnaeth eraill—ac mae pwynt pwysig yma ar gyfer y ddadl y prynhawn yma—am ein rôl ni fel Aelodau unigol o'r Senedd, nid yn unig i fynd allan i Frwsel, ond wrth ymgysylltu â llu o rwydweithiau sydd gennym i chwyddo llais Cymru, a sicrhau ei fod yn cael ei glywed fel seneddwyr. Ac ni ddylem fod yn swil wrth wneud hynny. Rydym weithiau'n rhy swil ac yn poeni'n ormodol am yr ymgysylltiad allanol hwnnw. Mae hon yn Senedd i bobl Cymru. Mae angen inni sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed yn rhyngwladol, gan gynnwys yn ein marchnad agosaf a mwyaf hefyd. A hoffwn ddweud bod croeso bob amser i chi gyfrannu at unrhyw adroddiad neu unrhyw ddadl y mae'r pwyllgor hwn yn ei wneud, ac roeddem yn gwerthfawrogi eich gwasanaeth arno hefyd.

Yn briodol iawn, cyffyrddodd Adam â phwysigrwydd sganio'r gorwel, a chredaf fod y ddadl y prynhawn yma, gan gynnwys cyfraniad Delyth hefyd, wedi dangos y cyfoeth o brofiad a'r mewnwelediad sy'n rhan o hyn, gan gynnwys yn ein pwyllgor ein hunain. Mae hwn yn fater pwysig, ac roeddem yn arfer gwneud hynny, mewn gwirionedd. Roeddem yn arfer sganio'r gorwel. Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ymateb drwy ddweud, 'Wel, rydym yn wynebu tswnami', yn ei eiriau ef, ar hyn o bryd. Wel, nawr yw'r amser, mewn gwirionedd, i edrych ar bwy arall yn yr ynysoedd hyn sy'n ei wneud yn dda, ac a allwn ni ymgysylltu â nhw? Ac rwy'n credu bod rhywbeth yno, Gwnsler Cyffredinol, ynglŷn â sut y gallwn gydweithio â chenhedloedd datganoledig eraill i weld beth sy'n dod o sefydliadau'r UE y gallwn naill ai alinio ag ef, neu, fel arall, ei ragweld ac ymateb yn rhagweithiol iddo. Fe wnaethoch chi hefyd adleisio'r galwadau, 'Ewch i Frwsel—ewch i Frwsel.' Gwrandewch, mae'r neges honno'n gwbl glir yn ein hadroddiad. Rydym wedi bod yn glir iawn am hyn. Mae seneddwyr yr Alban yn ei wneud yn eithriadol o dda. Maent wrth eu bodd yn bomio'r Undeb Ewropeaidd a'r sefydliadau â chariad, ac maent yn ei wneud am reswm da iawn hefyd. Felly, mae'n alwad glir, mae'n rhaid imi ddweud.

Alun, ni allaf ailadrodd eich troeadau ymadrodd, ond nodais un neu ddau ohonynt: 'heulwen agored y ddadl ddemocrataidd', a'r perygl o symud o graffu seneddol ac yn y blaen i ddictad gweithredol. Mae'n ymadrodd gwych. [Torri ar draws.] Mae fy amser eisoes wedi dirwyn i ben. Ond roedd tryloywder—[Torri ar draws.] A oes gennyf amser? Mae'n ddrwg gennyf, mae fy amser wedi dod i ben—mae'n ddrwg gennyf, James. Roedd tryloywder yn bwynt allweddol i ni, a dywedwyd wrthym, Ddirprwy Lywydd, fod y strwythurau newydd sydd wedi dod i'r amlwg yr un mor dryloyw â blwch du ar hyn o bryd: mae agendâu yn aml yn denau iawn ac yn ymddangos ar wahanol adegau ymlaen llaw. Felly, mae angen inni weithio ar hynny. Mae hwn yn waith sydd ar y gweill. Ni allaf grybwyll yr holl gyfraniadau, mae arnaf ofn.

Delyth, rwy'n croesawu eich cefnogaeth i rôl lawnach yn y Cynulliad Partneriaeth Seneddol, rôl lawnach i Lywodraeth Cymru ar faterion y cytundeb masnach a chydweithredu, gan adleisio rhai o'n hadroddiadau o'ch rôl fel Cadeirydd y pwyllgor. A nododd Rhys ab Owen hefyd pa mor bwysig yw ymgysylltiad cymdeithas sifil, a dywedodd Rhys pa mor bwysig yw sicrhau bod ganddo'r adnoddau cywir. Ac fe wnaeth y Cwnsler Cyffredinol y pwynt hwnnw. Mae angen i Lywodraeth y DU gamu i'r adwy, ond os na wnânt hynny, mae angen inni ddod o hyd i ffordd arall iddynt ymgysylltu'n briodol. A siaradodd nifer o bobl am berson rydych chi'n ei adnabod yn dda, Ddirprwy Lywydd, Derek Vaughan, a sôn am yr hyn sydd gan y dyfodol i'w gynnig mewn sefyllfa UE ôl-Derek Vaughan. Wel, mae angen inni feddwl am hynny, ac mae'r pwyllgor hwn wedi meddwl am hynny. Oherwydd nid yw'n ymwneud â'r unigolyn fel y cyfryw, ond y rôl, a'r hyn y mae'n ei wneud yno, y rhwydweithio ac yn y blaen.

Felly, yn olaf, Gwnsler Cyffredinol, rydym yn gwybod mai gwaith ar y gweill yw hwn, ond byddem yn dweud wrthych, gadewch inni beidio â gwastraffu'r 12 mis sydd i ddod. Gadewch inni ddefnyddio rhai o'r syniadau sydd wedi cael eu cynhyrchu yn y ddadl heddiw, a chan bwyllgorau a seneddwyr eraill, a gweld a allwn ni feddwl am syniadau y gallwn eu defnyddio, yn dilyn etholiadau seneddol yr UE, yr etholiad cyffredinol, pan fydd rhywun arall yn eistedd yn sedd y Prif Weinidog, i chwyddo llais Cymru, oherwydd rydym wedi gwneud y meddwl eisoes. Diolch i holl aelodau'r pwyllgor. Diolch i'r tîm pwyllgor ardderchog sydd gennym y tu ôl i ni hefyd, ac i'r holl dystion unwaith eto. A diolch am eich amynedd, Ddirprwy Lywydd.

16:10

Rydych chi wedi fy nal ar ddiwrnod da. [Chwerthin.]

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Eitem 6 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Galwaf ar Gareth Davies i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8489 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod gwaith ac ymroddiad staff gweithgar ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

2. Yn nodi:

a) bod 27 Chwefror 2024 yn nodi blwyddyn ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi yn ôl mewn mesurau arbennig;

b) bod y bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig yn flaenorol rhwng 8 Mehefin 2015 a 24 Tachwedd 2020, lai na 6 mis cyn etholiadau'r Senedd yn 2021; ac

c) bod y bwrdd iechyd wedi treulio mwy o amser mewn mesurau arbennig nag unrhyw sefydliad GIG arall yn hanes y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

3. Yn gresynu nad yw cleifion a staff wedi gweld y gwelliannau gofynnol eto ers i'r bwrdd gael ei roi mewn mesurau arbennig.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gwrando ar bryderon gweithwyr proffesiynol gofal iechyd pan godir pryderon am ansawdd gwasanaethau; a

b) sicrhau bod cleifion yng Ngogledd Cymru yn cael y gofal iechyd amserol, o ansawdd uchel y maent yn ei haeddu.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n falch o gael agor y ddadl hon heddiw, er fy mod yn difaru'r ffaith bod rhaid i ni wneud hynny.

Ar ôl gweithio i'r GIG ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am 11 mlynedd, rwy'n falch o'r gwaith a wnaed yn ystod fy amser gyda'r bwrdd, ac rwyf o ddifrif eisiau'r gorau i Betsi, yn bennaf er lles cleifion. Rwyf hefyd eisiau diolch i staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am eu gwaith caled a'u hymroddiad wrth wynebu pwysau cynyddol, ac rwyf wedi clywed etholwyr, mor ddiweddar â'r wythnos hon, yn canmol staff clinigol yn Ysbyty Glan Clwyd. Ond rwyf hefyd yn aml yn clywed pryderon yn cael eu codi am reolaeth y bwrdd iechyd a'i strwythur rheoli pendrwm. Hoffwn yn wir pe bawn i'n sefyll yma y prynhawn yma yn canmol llwyddiannau a gwelliannau'r bwrdd iechyd, ond yn anffodus, flwyddyn ers i'r bwrdd iechyd gael ei wneud yn destun mesurau arbennig, nid yw'r gwelliannau priodol wedi'u gwneud. Mewn gwirionedd, nid ydym yn agos at weld y gwelliannau y dylem fod yn eu gweld ar ôl blwyddyn o fod yn destun mesurau arbennig. Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am hyn. Roedd swydd y prif weithredwr yn wag am bron i flwyddyn yn Betsi, ond nid ydym wedi gweld yr arweinyddiaeth angenrheidiol gan Lywodraeth Cymru ychwaith. A caniatewch imi amlinellu rhai o'r methiannau hyn.

Mae'r bwrdd iechyd wedi treulio mwy o amser yn destun mesurau arbennig nag unrhyw sefydliad GIG arall yn hanes ein gwasanaeth iechyd, felly, yn amlwg, mae angen ail-werthuso atebion Llywodraeth Cymru i'r llu o broblemau yn y bwrdd iechyd, oherwydd fel y gwelsom nid yw'r dull presennol wedi gweithio. Yn 2019 newidiodd y bwrdd iechyd ei fodel gofal ar gyfer gwasanaethau fasgwlaidd, gan arwain at Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru yn datgan yn 2022 fod angen gwelliant sylweddol ar wasanaethau fasgwlaidd. Mae pethau wedi dechrau gwella, ond mae gwasanaethau fasgwlaidd yn is na'r safon o hyd, rhywbeth y cyfeiriodd yr uwch grwner John Gittins ato yn anuniongyrchol yn dilyn cwestau i bedair marwolaeth cleifion fasgwlaidd ym mwrdd iechyd Betsi. 

Mae perfformiad Betsi mewn perthynas ag iechyd meddwl a llesiant yn ofnadwy a dyn a ŵyr sut y gallwn ddisgwyl gwelliannau pan fo'r gyllideb iechyd meddwl wedi'i thorri 8.8 y cant. Ym mis Tachwedd 2023, roedd ychydig o dan 175,000 o gleifion yn aros i ddechrau triniaeth yn Betsi, gyda miloedd o'r cleifion hyn ar lwybr canser. Dyna'r ail ffigur gwaethaf yng Nghymru. Mae data diweddar yn datgelu bod Cymru gyfan ymhlith y gwaethaf o ran goroesi canser. Mae disgwyliad oes yng Nghymru wedi bod yn gostwng ers 2012, ac mae'r rhain yn ystadegau gwirioneddol dorcalonnus.

Mae problemau parhaus hefyd gyda recriwtio a chadw staff yn y gweithle. Betsi Cadwaladr sydd â'r amseroedd aros gwaethaf—ac rydym yn gwybod bod amseroedd aros yn broblem barhaus yng Nghymru—ac mae data o fis Rhagfyr 2023 yn dangos mai dim ond 83 y cant o gleifion a welwyd o fewn y targed amser aros o 12 awr, sydd dros 10 y cant y tu ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. 

Gallwn sefyll yma hyd dragwyddoldeb yn rhestru problemau a methiannau enbyd y bwrdd iechyd ac rwy'n siŵr y byddwn yn clywed mwy gan fy nghyd-Aelodau yn ddiweddarach yn y ddadl hon. Ond beth fyddem ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn ei wneud i ddatrys y problemau hyn? Yn gyntaf, byddem yn gwario'r codiad Barnett llawn y mae Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn ar gyfer iechyd a byddem yn ei wario ar iechyd—rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru ei gyflawni drwy gael gwared ar y prosiectau porthi balchder sydd wedi'u hamseru'n wael fel y gwariant arfaethedig o £120 miliwn ar fwy o wleidyddion a'r polisi 20mya cyffredinol. Byddem yn gwario'r arian hwn ar feddygon a nyrsys yn lle hynny. Dylem wrando ar bryderon gweithwyr proffesiynol gofal iechyd i sicrhau bod cleifion yng ngogledd Cymru yn cael y gofal iechyd o ansawdd uchel y maent yn ei haeddu ac y maent yn talu amdano, ac yn cael eu trin mewn modd amserol.

Rydym yn cefnogi galwadau am ymchwiliad annibynnol i weithrediad y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru ac i ddeddfu cynllun gweithlu sy'n cynnwys ad-daliad ffioedd dysgu i weithwyr gofal iechyd i ddatrys y problemau recriwtio a chadw. 

I gloi, Ddirprwy Lywydd, mae angen i Lywodraeth Cymru ddechrau gwrando ar gleifion a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd ynghylch ansawdd y gwasanaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Fe fyddwch yn clywed sut mae'r bwrdd iechyd yn methu yn erbyn y rhan fwyaf o fetrigau. Mae'r ffigurau—rwy'n siŵr eich bod yn gyfarwydd â llawer ohonynt—yn ddigon i droi eich gwallt yn wyn. Mae'r bwrdd wedi bod i mewn ac allan o fesurau arbennig ers 2015, ac i nodi blwyddyn ers y tro diweddaraf iddo gael ei osod mewn mesurau arbennig, mae angen cydnabod bod angen newid meddylfryd yn sylweddol, ac yn bwysicaf oll, mae angen gweithredu. 

Edrychaf ymlaen at glywed y cyfraniadau gan yr Aelodau eraill yn y ddadl hon. Diolch. 

16:15

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. 

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu popeth ar ôl 2(a) a rhoi yn ei le:

bod rhaid i unrhyw benderfyniad i uwchgyfeirio neu isgyfeirio sefydliad GIG fod yn seiliedig ar ystyriaeth briodol o ystod helaeth o ffactorau a thystiolaeth ffeithiol;

Yn nodi ymhellach:

a) y gwnaeth adolygiad dilynol Archwilio Cymru o effeithiolrwydd y Bwrdd gydnabod gwelliant o ran sefydlogrwydd y Bwrdd a dod i’r casgliad nad yw’r camweithrediad yn y Bwrdd a ddisgrifiwyd yn ei adroddiad blaenorol i’w weld mwyach; a

b) bod perfformiad ar gyfer gofal a gynlluniwyd wedi gwella ers mis Chwefror 2023, gydag 1.5 pwynt canran o welliant yn erbyn y targed 26 wythnos, 15.5 y cant o ostyngiad yn nifer y bobl sy’n aros dros 52 wythnos am apwyntiad claf allanol cyntaf a’r nifer lleiaf o bobl yn aros cyfanswm o dros 104 wythnos ers mis Awst 2021.

Yn cydnabod:

a) bod Llywodraeth Cymru yn sylweddoli bod heriau sylweddol yn dal i fod; a

b) bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi’r bwrdd iechyd a’i ddwyn i gyfrif i sicrhau ei fod yn gwrando ar bryderon gweithwyr gofal iechyd proffesiynol pan godir pryderon ynghylch ansawdd gwasanaethau ac yn darparu’r gofal iechyd amserol, o ansawdd uchel y mae cleifion yng Ngogledd Cymru yn ei haeddu.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol. 

Galwaf ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. 

Gwelliant 2—Heledd Fychan

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

cyhoeddi proses ddad-ddwysáu glir, gan gynnwys egluro pwy sy'n cyfrannu at y broses ddad-ddwysáu a phwy fyddai'n gwneud y penderfyniad terfynol, tra hefyd yn darparu esboniad o'r penderfyniad;

Gwelliant 3—Heledd Fychan

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu penodiad Dyfed Edwards fel Cadeirydd newydd y Bwrdd Iechyd ac yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ddarparu amserlen glir ar gyfer penodi cyflenwad llawn o gyfarwyddwyr gweithredol ac aelodau annibynnol.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A dwi eisiau cychwyn yn union yn yr un lle â lle mae'r cynnig yn cychwyn, wrth gwrs, drwy gydnabod y gwaith a'r ymroddiad gan holl staff y bwrdd iechyd—nid dim ond y rhai yn y rheng flaen, os caf i ddweud, ond y rhai sy'n darparu gwasanaethau cefnogol hefyd—oherwydd dwi wedi dweud sawl tro maen nhw'n mynd y tu hwnt i'r filltir ychwanegol yna yn aml iawn ac yn gwneud hynny er gwaethaf yr holl broblemau, wrth gwrs, a'r holl fethiannau, yn enwedig ar lefel reolaethol, fel rŷn ni wedi gweld yn y gorffennol.

Ac mae yn anodd credu bod blwyddyn wedi mynd ers i'r bwrdd ffeindio'i hun yn ôl mewn mesurau arbennig, a hynny, wrth gwrs, am yr eilwaith ar ôl treulio bron i bum mlynedd mewn mesurau arbennig i fyny at 2020.

Bryd hynny, wrth gwrs, roedd yna gwestiwn am faint o effaith gafodd y mesurau arbennig mewn gwirionedd. Oherwydd mi gymerodd y sefyllfa yn rhy hir o lawer i adfer ei hunan, gyda'r bwrdd yn dal i fynd o un creisis i'r llall, gyda'r penderfyniad hefyd yn y pen draw i dynnu'r bwrdd allan o fesurau arbennig dim ond chwe mis cyn etholiad yn codi pob math o amheuon ynglŷn â'r cymhelliad i wneud hynny. 

Ond y cwestiwn nawr, wrth gwrs, yw: beth sy'n wahanol y tro yma? Ydy'r sefyllfa yn wahanol y tro hwn? Dwi eisoes wedi rhoi ar y record fy mod i'n teimlo bod yr awyrgylch wedi newid rhywfaint, ac mae hynny, wrth gwrs, yn ei hunan yn beth cadarnhaol. Mae llawer o hynny o ganlyniad i waith aelodau newydd yr uwch dîm reoli, yn bennaf y cadeirydd newydd, Dyfed Edwards, a'r prif weithredwr newydd, Carol Shillabeer. Mae adroddiad dilynol yr archwilydd cyffredinol yn nodi bod, a dwi'n dyfynnu, 'sefyllfa fwy sefydlog' a pherthnasoedd gwaith ymhlith uwch arweinwyr 'yn fwy cadarnhaol' ar y cyfan nawr o'i gymharu â'r trosiant yn aelodaeth y bwrdd a ddarganfuwyd gan yr adroddiad cychwynnol yna yn gynnar yn 2023, a bod y diolch am hynny oherwydd yr amgylchedd mwy cadarnhaol sydd bellach yn amlwg o fewn y bwrdd.

Dwi wedi bod yn dyst i hynny fy hun. Dwi wedi cyfeirio yn y gorffennol at un enghraifft, y cyfarfod cyhoeddus gwnes i ei drefnu ym Metws-y-Coed gyda Llais er mwyn trio mynd i'r afael â'r ffaith bod y meddygon teulu yn fanna yn rhoi'r feddygfa i fyny. Mi ddaeth y cadeirydd i gyfarfod cyhoeddus gyda 200 o drigolion lleol, mi ddaeth y prif weithredwr ac mi ddaeth pennaeth yr adran berthnasol. Fyddai hynny ddim wedi digwydd, o reidrwydd, yn y gorffennol, ac roedd yr engagement uniongyrchol yna i wynebu'r cyhoedd, fod yn dryloyw a bod yn barod i fod yn atebol yn chwa o awyr iach, yn fy nheimlad i. Felly, mae'r arwyddion cynnar yn bositif, ond, wrth gwrs, mi gymerith hi amser i'r diwylliant newydd yna dreiddio lawr, rwy'n teimlo, drwy holl haenau'r bwrdd iechyd. 

Mi oedd y Gweinidog yn cyfeirio ddoe at rai gwelliannau o ddydd i ddydd hefyd, fod nifer y cleifion sy'n aros dros dair blynedd am driniaeth wedi gostwng a nifer y bobl sy'n aros dros wyth wythnos am apwyntiad diagnostig wedi gostwng hefyd.

Ac er ein bod yn gweld y ffigurau hyn yn gostwng, wrth gwrs, mae'n debyg fod y ffaith bod y setiau data hyn yn bodoli yn y lle cyntaf yn annerbyniol, onid yw, oherwydd maent yn golygu bod cleifion yn dal i aros dros dair blynedd am driniaeth a dros wyth wythnos am apwyntiad diagnostig, ac maent yn amseroedd aros sylweddol na ddylai unrhyw berson orfod eu dioddef.

Nawr, er mwyn gweld y gwelliannau angenrheidiol ym mherfformiad y bwrdd iechyd, pwysleisiodd yr archwilydd cyffredinol yr angen am apwyntiadau pellach i sicrhau bod y bwrdd yn gweithio ar gapasiti llawn cyn gynted â phosibl. Mae wedi bod yn 12 mis; mae yna rannau hanfodol o'r strwythur sefydliadol nad ydynt yn eu lle o hyd. Dywedodd y Gweinidog wrthym ddoe, er tegwch, ei bod yn aros am argymhellion ar y pedwar aelod annibynnol olaf, a fydd yn cael eu cyhoeddi'n fuan iawn, rwy'n credu. Efallai y gallech ddweud wrthym beth mae hynny'n ei olygu wrth ichi ymateb i'r ddadl. Mae hynny'n cyfateb i ganfyddiadau adroddiad yr archwilydd cyffredinol, wrth gwrs, ond yr hyn yr hoffwn ei ofyn yw: gan fod penodi aelodau'r bwrdd mor bwysig i weithrediad effeithiol y bwrdd iechyd, mae'n rhwystredig, onid ydyw, ac yn siomedig, mae'n rhaid imi ddweud, ei bod wedi cymryd dros 12 mis i hynny ddigwydd, oherwydd, drwy beidio â phenodi'r aelodau hynny, yna, yn amlwg, yn sylfaenol mae'r daith honno tuag at welliant wedi'i dal yn ôl i raddau mwy nag y byddai llawer ohonom wedi'i ddymuno.

Mae pob un ohonom yng Nghymru, wrth gwrs, yn rhannu'r un nod o sicrhau bod Betsi mewn sefyllfa lle gellir ei dynnu allan o fesurau arbennig, ond mae'n rhaid ei wneud pan fydd yn barod i hynny ddigwydd, ac fe wnaeth y Gweinidog, er tegwch, gydnabod hynny yn y datganiad ddoe. Rwy'n credu eich bod wedi dweud y byddant yn dod allan o fesurau arbennig pan fyddant yn barod i ddod allan o fesurau arbennig, nid cyn hynny. Nid wyf yn siŵr a yw hynny'n rhyw fath o awgrym eich bod yn derbyn efallai, eich bod wedi sylweddoli o'r diwedd, eu bod wedi'u tynnu allan o fesurau arbennig ychydig yn gynamserol y tro diwethaf. Ond wrth gwrs, nid yw hynny'n rheswm i unrhyw un eistedd yn ôl a thynnu eu troed oddi ar y sbardun ychwaith, felly mae'n siomedig, mae'n debyg, ei bod wedi cymryd blwyddyn gyfan i benodi bwrdd llawn. Rwy'n deall y gallai fod rhesymau am hynny, ond does bosibl nad yw 12 mis yn fwy na digon o amser i gael trefn ar hynny.

Yn yr un modd, ddoe, ac rwyf am orffen gyda hyn, dywedodd y Gweinidog fod yna gyfres o amodau cynaliadwyedd y mae'n rhaid i'r bwrdd eu cyrraedd cyn ystyried isgyfeirio; byddai'r rhain yn cynnwys gweledigaeth strategol a newid diwylliant. Ond dywedodd hefyd, yn ystod y misoedd nesaf, y byddai'n ategu'r amodau hyn â meini prawf isgyfeirio. Felly, rydym wedi bod yn destun mesurau arbennig ers blwyddyn bellach ac nid oes meini prawf allweddol ar waith. Nawr, rwy'n gwybod eich bod yn ôl pob tebyg yn aros i'r bwrdd newydd fod yn ei le er mwyn iddynt gael perchnogaeth ar hynny, ond unwaith eto, rwy'n credu bod 12 mis—blwyddyn gyfan—inni allu mynegi sut beth yw hynny yn annerbyniol, ac mae'r pwynt hwnnw'n cael ei wneud, gobeithio, yn y gwelliant arall a wnawn. Diolch.

16:20

Rwy'n falch o allu cymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw, oherwydd, fel y clywsom, mae bron i flwyddyn ers i fwrdd iechyd gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gael ei osod yn ei fersiwn ddiweddaraf o fesurau arbennig. Mae'n bwysig cofio mai dim ond y fersiwn ddiweddaraf o stori go druenus yw hon. Dechreuodd y fersiwn ddiweddaraf—yr union ddyddiad—ar 27 Chwefror 2023, ond rydym yn edrych, ers haf 2015, ar sefyllfa debyg yn ffurfiol ymhell cyn hynny o ran yr hyn yr oedd Aelodau'r lle hwn yn ei godi gyda Gweinidogion. Ac fel y mae Gareth Davies eisoes wedi'i amlinellu, mae hwn yn fwrdd iechyd sydd wedi treulio mwy o amser mewn mesurau arbennig nag unrhyw sefydliad GIG arall yn hanes y gwasanaeth iechyd gwladol. Fel Cymro balch, mae hynny'n codi cywilydd arnaf, mewn gwirionedd, fod gennym y cyflawniad truenus hwnnw yng Nghymru o fod â bwrdd iechyd sydd wedi treulio mwy o amser mewn mesurau arbennig nag unrhyw fwrdd iechyd yn hanes y GIG.

Amlygir y bennod ddiweddaraf yn y stori druenus hon drwy adroddiad Archwilio Cymru unwaith eto, sydd â rhai pethau cadarnhaol ynddo. Mae'n dangos lefel o gynnydd y mae'n rhaid ei gydnabod, ond mae'n dal i sôn am heriau sylfaenol y mae'r bwrdd iechyd yn eu hwynebu. Mae cyfeiriadau yno o hyd at benodiadau o parhaol, bwrdd cydlynol ac unedig a materion personél parhaus. Mae hyn, i mi, yn tynnu sylw at rai problemau sylweddol o hyd o fewn y strwythur rheoli nad ydynt wedi'u datrys yn llawn. Nawr, gwn y bydd y Gweinidog eisiau tynnu sylw at y cynnydd—ac rwy'n deall hynny, Weinidog—pan fyddwch chi'n siarad ymhen ychydig, ond credaf y dylech chi hefyd geisio cydnabod nad yw'r canlyniadau yn agos at ble y dylent fod. Yr un sy'n fy nharo fwyaf ar hyn o bryd yw ein hadrannau damweiniau ac achosion brys, lle nad oes ond 83 y cant o gleifion yn cael eu gweld o fewn y targed amser aros o 12 awr. Mae hynny'n golygu bod bron 20 y cant o bobl yn gorfod aros mwy na 12 awr yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys. Nid yw honno'n sefyllfa y mae unrhyw un ohonom eisiau bod ynddi ac ni ddylai ein trigolion dderbyn hynny ychwaith.

Nawr, mae pwynt 1 o'n cynnig heddiw yn cydnabod gwaith ac ymroddiad staff gweithgar y bwrdd iechyd, a hynny'n briodol, a gadewch inni gofnodi hynny, oherwydd mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i dynnu sylw at eu gwaith caled. Ond yn anffodus, maent yn gweithio mewn amgylchedd sy'n eu llyffetheirio, ac mae hyn, i mi, oherwydd y strwythur sydd wedi bod ar waith ers llawer gormod o amser yn nhrefniadau rheoli'r bwrdd iechyd. Ond hefyd mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru a Gweinidogion Llywodraeth Cymru fod yn atebol hefyd. Nawr, deallaf fod Gweinidogion yn y gorffennol wedi tynnu sylw at gyfrifoldeb ar lefel y bwrdd iechyd neu reolwyr mewn byrddau iechyd, sy'n gwbl gywir; mae cyfrifoldeb yno. Ond yn y pen draw, i ni fel seneddwyr, mae'r atebolrwydd yma yn y lle hwn. Fel gwaith a ddirprwywyd i Gymru, mae'r atebolrwydd yma gyda Gweinidogion yn Llywodraeth Cymru. A dyma'r Llywodraeth Cymru, fel y nododd Llyr Gruffydd eiliad yn ôl, a dynnodd Betsi allan o fesurau arbennig ychydig cyn yr etholiad diwethaf a'u gwneud yn destun mesurau arbennig unwaith eto yn eithaf buan wedyn—camgymeriad amlwg. Ac mae Gareth Davies eisoes wedi tynnu sylw at yr hyn y byddem yn ei wneud fel Ceidwadwyr, sef ei ariannu'n briodol gyda'r swm llawn o gyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael gan Lywodraeth y DU, gan drethdalwyr.

Tanariannu Llafur sy'n achosi i bobl ddioddef yng ngogledd Cymru. Ddwy flynedd yn ôl, gosododd Llywodraeth Cymru darged na ddylai unrhyw un aros wyth wythnos neu fwy am brawf diagnostig, sy'n darged gwych ac mae'n bwysig iawn, ond ym mis Tachwedd y llynedd, roedd cymaint â 40 y cant o arosiadau yn hwy na'r targed wyth wythnos—47,000 o bobl yn aros yn hwy na'r targed sydd yn ei le. Y pwynt fan hyn yw nad wyf yn credu bod Llywodraeth Cymru yn deall—y profiadau y mae fy nhrigolion yn eu hwynebu, o un dydd i'r llall, yng ngogledd Cymru. Rwy'n credu mai rhywbeth arall sy'n amlygu'r broblem yw'r ddadl arweinyddiaeth ddiweddar a gynhaliwyd yn yr Wyddgrug rhwng Mr Gething a Mr Miles, wrth iddynt geisio denu cefnogaeth o blith ffyddloniaid Llafur yn yr Wyddgrug. Yn y ddadl honno, ni chafwyd unrhyw gwestiwn am y GIG. Yn ôl yr hyn a ddeallaf mewn gwirionedd, cafodd cwestiynau eu hidlo ac nid oedd unrhyw gwestiwn yn y ddadl honno yn ymwneud â'r GIG. Felly, o ran deall y broblem a deall yr hyn y mae trigolion gogledd Cymru yn ei wynebu, rwy'n credu bod peidio â chynnwys unrhyw gwestiwn am y GIG yn rhywbeth y dylai'r Blaid Lafur fyfyrio arno yma yng Nghymru.

Gyda'r crynodeb hwnnw mewn golwg, Ddirprwy Lywydd, hoffwn annog pob Aelod i gefnogi'r Ceidwadwyr Cymreig, a fyddai'n gwneud y peth iawn i bobl yng ngogledd Cymru.

16:25

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i allu siarad yn y ddadl bwysig hon. Lywydd, hoffwn ddechrau drwy adleisio galwadau cyd-Aelodau ar draws y Siambr i ddiolch i'r rhai sy'n mynd i mewn ddydd ar ôl dydd, ac yn mynd y tu hwnt i'r galw ddydd ar ôl dydd i gefnogi trigolion yn Alun a Glannau Dyfrdwy ac ar draws gogledd Cymru.

Fel y mae llawer o Aelodau eisoes wedi dweud y prynhawn yma, mae gwaith achos iechyd yn gyfran sylweddol o'm llwyth gwaith fy hun fel Aelod o'r Senedd dros Alun a Glannau Dyfrdwy, ac mae'r cyfrifoldeb am ddarparu'r gwasanaethau y mae fy nhrigolion yn dibynnu arnynt ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Fel y dywedais yn natganiad y Gweinidog ddoe, er bod y rhan fwyaf o drigolion yn edrych ar ddarpariaeth iechyd drwy lens pa un a allant gael apwyntiad meddyg teulu neu beidio, pa mor hir y maent hwy a'u hanwyliaid yn aros am driniaeth a mynediad at bethau fel gofal deintyddol, mae llawer hefyd yn ymwybodol iawn o berfformiad y bwrdd iechyd. Rwy'n siŵr na fyddai'r Gweinidog eisiau imi ddweud hyn mewn unrhyw ffordd arall na rhoi siwgr ar y bilsen, ond mae yna rwystredigaeth go iawn ynghylch methiannau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y gorffennol, boed mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl, mynediad at feddygon teulu, amseroedd aros neu, fel y nodwyd mewn adroddiadau blaenorol, Lywydd, camweithrediad y bwrdd iechyd. Rydym i gyd yn gwybod, mae'r Gweinidog yn gwybod hefyd, nad yw wedi bod yn ddigon da. Dyma'r rhesymau pam fod y bwrdd iechyd wedi i mewn ac allan ac i mewn i fesurau arbennig wedyn, ac mae'n amlwg fod y problemau'n ddwfn. 

Rwy'n croesawu adroddiad yr archwilydd cyffredinol sy'n dweud bod cynnydd wedi'i wneud, ond pan fyddaf yn siarad â thrigolion a gweithwyr gofal iechyd yng ngogledd Cymru, maent yn dal yn glir fod yn rhaid gwneud llawer mwy o gynnydd a bod yn rhaid ei wneud yn gyson ac yn gyflym. Mae angen cynllun clir arnom ar gyfer hynny, mae angen cynllun fel y gallwn wneud y bwrdd iechyd yn atebol, ac mae hynny'n dechrau gyda sicrhau bod y bobl iawn mewn swyddi ar lefel y bwrdd fel y gallant 'sefydlogi'r llong', fel y dywedodd y Gweinidog ddoe. Rwy'n falch fod y swyddi ar y bwrdd yn cael eu llenwi. Dylai'r pethau hyn fod wedi digwydd beth amser yn ôl, ond rwy'n gobeithio nawr ein bod wedi troi'r gornel ar hynny o'r diwedd.

Lywydd, mae mwy na 20,000 o bobl yn gweithio i'r bwrdd iechyd, ac mae cannoedd o filoedd o bobl yn dibynnu arno. Maent yn nodi cynnydd yn ôl sut y gallant gael mynediad at wasanaethau, ac ni ddylem golli golwg ar hyn. Yr hyn yr ydym yn sôn amdano yma heddiw yw sicrhau ein bod yn ysgogi gwelliant o ran mynediad a chanlyniadau. Dyna mae fy nhrigolion yn Alun a Glannau Dyfrdwy yn ei ddisgwyl ac yn ei haeddu; dyna rwyf innau'n ei ddisgwyl hefyd. Mewn ymateb i'r datganiad ddoe, a'm cyfraniad i'r ymateb ddoe, pan ofynnais i'r Gweinidog a oedd fy mlaenoriaethau i a blaenoriaethau fy nhrigolion yr un fath â blaenoriaethau'r Gweinidog a Llywodraeth Cymru, roeddwn yn arbennig o falch o glywed eu bod. Diolch yn fawr.

16:30

Wel, fe wyddom fwy fyth ers ddoe fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dal i wynebu problemau enfawr. Fel y nododd fy nghyd-Aelod Darren Millar, roedd adroddiad newydd, a gyhoeddwyd ddoe ddiwethaf gan y pwyllgor ansawdd, diogelwch a phrofiad, yn nodi risgiau enfawr i ddiogelwch cleifion: silindrau ocsigen heb eu cysylltu'n gywir, gan olygu nad oedd cleifion yn cael ocsigen; ôl-groniadau difrifol mewn wroleg, a llwybrau cleifion heb eu gweithredu oherwydd lefelau staffio enbyd; a 1,133 o lythyrau a nodwyd yn ystod chwiliad fel rhai wedi'u harddweud gan glinigwyr ond heb eu hanfon eto, gyda'r hynaf ohonynt yn dwyn y dyddiad 13 Mehefin 2023. Roedd rhai o'r llythyrau hynny wedi'u bwriadu ar ein cyfer ni, yn dilyn cwynion gan etholwyr a godwyd gennym ac na chawsom unrhyw ymatebion iddynt. Yn fwyaf brawychus, wrth chwilio'r swyddfa, nodwyd bod 100 a mwy o adroddiadau radioleg, atgyfeiriadau mewnol ac adroddiadau histoleg, tua 300 gyda'i gilydd, wedi cael eu nodi fel rhai heb eu hadolygu na'u gweithredu. Nid yw hyn yn dderbyniol o gwbl.

Ni ellir gwadu bod gwasanaethau cyhoeddus allweddol wedi gwaethygu dros y blynyddoedd diwethaf dan arweiniad y Prif Weinidog, Mark Drakeford, gydag amseroedd aros yn y fath anhrefn. Ar hyn o bryd, mae pedair gwaith cymaint o drigolion Cymru yn aros mwy na blwyddyn am driniaeth o'i gymharu â'r rhai yn Lloegr, a chynnydd syfrdanol o 40 y cant yn nifer y cleifion yng Nghymru sydd bellach yn ceisio triniaeth mewn ysbytai yn Lloegr. Mae lefel yr hyder mor isel erbyn hyn yn ein bwrdd iechyd. Gallwch weld pam pan fo cleifion yng Nghymru yn aros chwe wythnos yn hwy ar gyfartaledd i gael llawdriniaethau, ac eto mae gennyf etholwyr a oedd yn aros dwy flynedd cyn COVID, sy'n dal i aros am lawdriniaethau nawr. Mae hyn yn dangos i mi pa mor araf y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymateb i'r argyfwng ym mwrdd iechyd Betsi.

Yn benodol, caf fy atgoffa o Ysbyty Bryn y Neuadd yn Llanfairfechan, lle, ym mis Chwefror, y gwneuthum feirniadu methiant Llywodraeth Cymru i drafod ac ymdrin â'r ôl-groniad gwerth £27.7 miliwn o waith atgyweirio, gyda 70 y cant o lefel y llawr a ddefnyddir wedi ei gofnodi'n anaddas yn ymarferol. Dyma ysbyty sy'n trin rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, gyda llawer ohonynt ag anghenion iechyd cymhleth. Rwyf wedi gofyn am gael ymweld â'r lle sawl gwaith dros y 12 mis diwethaf, heb lwyddiant. Felly, gallaf fynd i ymweld ag unrhyw ysbyty unrhyw bryd, ond rwyf wedi gofyn sawl gwaith am gael ymweld â Bryn y Neuadd.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cymaint o adroddiadau erchyll a gwarthus. Cynhaliwyd deg adolygiad, gyda phob un yn tynnu sylw at y problemau sylweddol y clywn amdanynt eto y prynhawn yma. Mae'n anhygoel faint mae'r adolygiadau hyn yn ei gostio i'r trethdalwr, a hoffwn pe gallech gadarnhau heddiw, Weinidog, faint o arian trethdalwyr sydd eisoes wedi'i wario ar y mesurau arbennig dros y 12 mis diwethaf.

Er gwaethaf yr holl ymchwilio ac arolygu, ymddengys nad yw Llywodraeth Cymru yn agosach at ddeall y problemau ehangach. Y mwyaf difrifol yn fy marn i yw adroddiad Ernst & Young. Datgelodd yr ymchwiliad fod y tîm cyllid wedi cofnodi gwybodaeth anghywir yn fwriadol yn y cyfrifon, gan briodoli gwariant ar gam i un flwyddyn ariannol, yn hytrach nag adlewyrchu'r dosbarthiad yn gywir dros nifer o flynyddoedd. Mae fy etholwyr yn dal i ofyn, Weinidog: beth sy'n digwydd am hynny? Beth sy'n digwydd am y sgandal ynghylch y £122 miliwn?

Nid yw'n adeg dda i fwrdd iechyd Betsi o hyd, ond rwy'n ailadrodd fy mod yn ddiolchgar nawr am y gwaith sy'n cael ei wneud gan Carol Shillabeer, y prif weithredwr, Dyfed Edwards, a thîm, ar ryw adeg i ddod, gobeithio, tîm sy'n gweithio'n dda, gyda chynllun da.

Cawn ein gadael â rhestrau aros hwy nag erioed a'r canlyniadau dilynol i gyfraddau goroesi. Mae'r disgwyliad oes yng Nghymru wedi bod yn gostwng ers 2012, gyda Chymru y trydydd isaf yn y DU. Gwnaethom alwadau yn ôl ym mis Ionawr i uned mân anafiadau Llandudno gael rhywfaint o'r £2.7 miliwn a ryddhawyd. Rwy'n cydymdeimlo'n fawr â Darren Millar, Gareth Davies, Sam Rowlands, ein holl Aelodau yng ngogledd Cymru sy'n codi'r materion hyn, gydag addewidion o unedau mân anafiadau eraill ac adrannau brys mewn mannau eraill. Mae'r ysbytai llai hyn yn wirioneddol hanfodol wrth ymladd y pwysau sy'n wynebu ein byrddau iechyd.

Rydym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn awyddus i fynd i'r afael â'r problemau sylfaenol sydd ar waith yma. Mae angen gweithredu ar frys i gwblhau penodiadau parhaol i'r bwrdd er mwyn sicrhau capasiti llawn. Mae angen arweinyddiaeth gref arnom. Mae problemau llywodraethu wedi parhau yn y bwrdd ers 2012. Mae angen prawf cymhellol arnom fod y Llywodraeth—a chi fel y Gweinidog—wedi dysgu'r gwersi angenrheidiol sy'n dangos ein bod yn cefnu ar batrwm o gamweithrediad wedi'i normaleiddio—

16:35

—a safonau sy'n gostwng. Digon yw digon. Mae Cymru, a fy etholwyr, ac etholwyr ar draws gogledd Cymru, yn haeddu gwell. 

Fel y soniais ddoe, Betsi Cadwaladr ydy fy mwrdd iechyd i, sydd â'r cyfrifoldeb arswydus o ofalu am fy anwyliaid—fy ngwraig, fy mhlant a’m teulu estynedig—yn ystod eu horiau mwyaf anghenus. Felly, mi fyddaf i'n fythol ddiolchgar i’r bydwragedd gwyrthiol a ddaeth â fy mhlant i i’r byd yn Ysbyty Maelor Wrecsam, a’r nyrsys a roddodd ofal tyner i Nain a Taid yn ystod eu dyddiau olaf, heb sôn am Dr Thomas a Dr. Liddell, sydd yno ar ein cyfer ni fel teulu bob tro. Felly, pan fydd pethau yn mynd o'i le, nid y cleifion yn unig sydd yn dioddef, ond mae’r gweithlu rhagorol yn dioddef hefyd.

Pan grëwyd y bwrdd iechyd yma 15 mlynedd yn ôl, roedd yn amlwg y byddai yna broblemau cychwynnol wrth i dri bwrdd iechyd uno a chreu un. Ond er bod yna 15 mlynedd wedi mynd, mae’r rhwygiadau yna yn parhau i fodoli, ac mae hyn yn rhan greiddiol o fethiant y bwrdd a methiant y Llywodraeth i adnabod y gwendidau a mynd i’r afael â’r gwendidau oedd yno o’r cychwyn cyntaf un.

Yn gyntaf, ofnaf nad yw’r Llywodraeth yn rhoi digon o bwyslais ar ganlyniadau iechyd, gyda llawer gormod o bwyslais yn cael ei roi ar ddatrysiadau tymor byr, heb fod yna ddigon o sylw yn cael ei roi i ddatblygu strategaeth hirdymor. Yn ail, mae'n amlwg hefyd bod ymyrraeth gynnar yn brin iawn yma, sydd wedi normaleiddio a chaniatáu i wasanaethau iechyd fethu. Mae’r ddarpariaeth iechyd meddwl yn enghraifft berffaith o hyn.

Ac yn drydydd, mae’r Llywodraeth wedi methu â chyflwyno gweledigaeth i ni o sut dylai gwasanaeth iechyd fod yn y gogledd. Nid yw'r Llywodraeth hyd yn oed wedi esbonio beth mae llwyddiant yn edrych fel yng nghyd-destun y bwrdd. Ystyriwch, mae dros flwyddyn bellach ers i’r bwrdd gael ei roi yn ôl i mewn i fesurau arbennig a dim ond rŵan mae’r Gweinidog yn dechrau meddwl am greu fframwaith ar gyfer isgyfeirio.

Dyma ddywedodd y Gweinidog yn ei hymateb i fi ddoe:

'[rwy'n] mynd i ategu'r amodau cynaliadwyedd hynny gydag amodau dad-ddwysáu clir yn ystod y misoedd nesaf'.

Mewn difri calon, ystyriwch am eiliad beth mae hyn yn ei ddweud wrthym ni. Mae hi dros flwyddyn ers i’r bwrdd gael ei roi mewn i fesurau arbennig a dim ond rŵan mae’r Gweinidog yn meddwl am ddechrau gosod amodau isgyfeirio ar gyfer y bwrdd. Does dim syndod fod y bwrdd yn methu. Mae’n teimlo weithiau fel ei fod yn cael ei osod i fyny er mwyn methu. Sut mae'n bosib i’r bwrdd fynd ati gyda brys i fynd i’r afael â’r problemau os nad oes ganddyn nhw'r fframwaith clir yna gyda’r cerrig milltir angenrheidiol mewn lle er mwyn dod allan o fesurau arbennig ac adeiladu tuag at ddyfodol mwy llewyrchus?

Yn hytrach na cheisio mân reoli pob dim mae’r bwrdd yn ei wneud o ddydd i ddydd a llesteirio gallu'r bwrdd i fod yn arloesol ac yn hyblyg, dylai’r Gweinidog geisio datblygu dealltwriaeth o anghenion iechyd a lles y rhanbarth a chydweithio efo'r bwrdd newydd deinamig i greu cynllun strategaeth hirdymor gyda cherrig milltir clir ar hyd y daith i fesur llwyddiant a thwf. Heb hyn, yna dwi'n ofni mai rhygnu ymlaen o un argyfwng i'r llall y byddwn ni, gyda staff yn colli hyder a chleifion yn parhau i ddioddef.

Daw hyn â ni yn olaf i edrych ar y newid angenrheidiol mewn diwylliant, a hynny'n newid o’r brig, sef y Llywodraeth. Yn hytrach na’r agwedd o ddiymadferthwch dysgedig sydd wedi ymdreiddio drwy holl waith y Llywodraeth ac yn ei dro wedi llygru’r bwrdd iechyd, mae'n rhaid gweld newid yn yr agwedd yma i un sydd yn anelu am y gorau ac yn dangos hyder yn ein gallu ni yma i ddarparu'r gofal gorau posib yn unol â’r angen yn y rhanbarth, a hynny mewn amgylchedd unigryw gogledd Cymru. Diolch.

16:40

Wel, gadewch imi ddechrau drwy ddiolch i staff adrannau awdioleg, lleferydd ac iaith a sgrinio fasgwlaidd y bwrdd iechyd am y gwasanaeth rhagorol y maent wedi'i roi i mi yn bersonol dros y misoedd diwethaf. Fodd bynnag, nid yw fy mhrofiad personol gyda rhai o'r adrannau wedi bod cystal. Rwyf hefyd yn nodi ymateb gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ynghylch etholwr, a oedd yn cynnwys fod ymchwiliad wedi dod i'r casgliad fod yr holl ambiwlansys brys a oedd ar ddyletswydd yn ystod y cylch galwadau 999 yn rhoi sylw i gleifion eraill yn y gymuned neu wedi gorfod oedi yn ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn aros i drosglwyddo cleifion o ambiwlansys brys i staff ysbytai.

Yn anffodus, mae Gweinidogion Llafur wedi diystyru a dirmygu ein rhybuddion yn seiliedig ar dystiolaeth am y bwrdd iechyd hwn dros nifer fawr o flynyddoedd. Ar bob achlysur, fe wnaethant osgoi cyfrifoldeb drwy ein cyhuddo o ddifrïo ein GIG a'r staff yng Nghymru, pan oeddem yn hytrach yn codi llais oherwydd bod staff, cleifion a theuluoedd wedi gofyn i ni wneud hynny. 

Wrth sôn am adroddiad Archwilio Cymru yr wythnos diwethaf ar gamau dilynol ar effeithiolrwydd bwrdd gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, dywedodd yr archwilydd cyffredinol

'Mae'n galonogol gweld nad yw'r camweithrediad o fewn uwch arweinyddiaeth y bwrdd iechyd a ddisgrifiwyd gennym y llynedd bellach yn bresennol.'

Er gwaethaf hyn, dywedodd wrthyf wedyn fod yr adroddiad yn mynd ymlaen i ddweud yn hollol glir fod heriau sylfaenol yn parhau. Mae'r rhain yn cynnwys yr angen i adeiladu tîm gweithredol gyda'r gallu a'r profiad i fynd i'r afael â'r heriau gweithredol sylweddol y mae'r bwrdd iechyd yn eu hwynebu o hyd, a'r angen i gryfhau'r ffordd y mae swyddogion gweithredol yn rhoi sicrwydd i'r bwrdd a'i bwyllgorau. Dywedodd ei bod yn bwysig pwysleisio hefyd fod ei adroddiad yn canolbwyntio ar effeithiolrwydd y bwrdd yn unig ac nid effeithiolrwydd y sefydliad ehangach nac yn wir ar feysydd gwasanaeth penodol, fel iechyd meddwl neu wroleg. Pwysleisiodd Archwilio Cymru yn ogystal fod angen gweithredu pellach mewn nifer o feysydd o hyd.  

Mae'r problemau craidd bob amser o fewn y weithrediaeth. Roedd y llythyr a anfonais at y bwrdd iechyd ym mis Mawrth 2022, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, yn cynnwys y ffaith ein bod yn siomedig ynghylch diffyg perchnogaeth y weithrediaeth ar broblemau'r bwrdd iechyd a'i chyfrifoldeb amdanynt. A chan gyfeirio at adroddiadau amrywiol, gan gynnwys adroddiadau Holden, Ockenden, HASCAS a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, dywedasom ein bod hefyd yn pryderu am bresenoldeb parhaus swyddogion gweithredol a rheolwyr yn y bwrdd iechyd a gafodd eu beirniadu yng nghasgliadau'r adroddiadau hyn ac ynghylch eu gallu i gyflawni'r newid mewnol sydd ei angen. Ni chawsom ymateb i'r pryderon hyn.

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar 3 Mai 2023, cawsom dystiolaeth hefyd gan John Gallanders a John Cunliffe yn dilyn eu hymddiswyddiad gorfodol fel aelodau anweithredol annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gan y Gweinidog ar 27 Chwefror 2023. Clywsom fod yr ymddiswyddo gorfodol wedi dilyn ymdrechion gan aelodau annibynnol y bwrdd iechyd i ddwyn y prif weithredwr a'r uwch dîm rheoli i gyfrif drwy her a chraffu pwrpasol pan nad oeddent yn barod i oddef perfformiad gwael mwyach ac amharodrwydd rhai aelodau gweithredol o'r bwrdd i gael eu dwyn i gyfrif.

Felly, mae'r cwestiynau canolog am y swyddogaeth hon o fewn y bwrdd iechyd yn parhau heb eu hateb. A yw'r aelodau gweithredol hynny y cyfeirir atynt yn dal yn eu swyddi neu'n dal i allu dylanwadu fel arall ar lywodraethiant a/neu reoli timau staff? Os ydynt, ai dyma'r un cydweithwyr y cyfeirir atynt yn y datganiad a gefais ar ran y cyn-aelodau annibynnol o'r bwrdd iechyd yn dilyn eu hymddiswyddiad gorfodol, datganiad a rannais â'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, lle nodai fod rhai swyddogion gweithredol gyda bwriadau da wedi cael eu pardduo a'u tanseilio gan ymddygiad eu cydweithwyr, i'r fath raddau fel bod y tîm ei hun wedi dod yn gamweithredol ac yn aneffeithiol fel grŵp? Os mai'r rheini ydynt, ai dyma'r un aelodau gweithredol sy'n gyfrifol am rwystro atebolrwydd, claddu adroddiadau a bwlio chwythwyr chwiban dros fwy na degawd? 

Mae swyddogaeth, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd yn galw am dryloywder ac atebolrwydd, ac mae angen ffeithiau cadarn arnom am hyn yn unol â hynny. Nid mater hanesyddol yn unig yw hyn. Ddydd Iau diwethaf, ysgrifennwyd ataf ynghylch y sefyllfa yn y gwasanaethau wroleg. Roedd yn cynnwys, 'Nid yw'n syndod fod y weithrediaeth berthnasol wedi gohirio adolygiad y coleg brenhinol nawr ers dros 12 mis'. Fe wnaethant chwiliad o'r swyddfa a dod o hyd i broblemau enfawr: y dylai cleifion fod wedi bod yn cael triniaeth, ond nad yw'r adroddiadau a'r llythyrau wedi cael eu prosesu. Roedd yr aelodau annibynnol a gafodd eu diswyddo yn gwybod am y sefyllfa; edrychwch ar gofnodion 12 mis yn ôl, pan oedd swyddogion gweithredol yn gwneud esgusodion i'w cadw'n dawel. Dyna graidd y broblem. Diolch yn fawr.

16:45

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle i ymateb i'r ddadl hon y prynhawn yma ac i barhau â'r drafodaeth ynghylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Ddoe, nodais rai o'r gwelliannau a wnaed dros y 12 mis diwethaf, a heddiw byddaf yn tynnu sylw at nifer o newidiadau i'r gwasanaeth a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar bobl gogledd Cymru. Ond rwyf am adleisio'r sylwadau a wnaed gan siaradwyr eraill ynghylch ymrwymiad ac ymroddiad y mwy na 20,000 o staff sy'n gweithio yn y bwrdd iechyd. Maent yn rhan annatod o daith wella'r bwrdd iechyd.

Er ei bod yn wir fod y bwrdd iechyd wedi bod mewn statws uwchgyfeirio ers nifer o flynyddoedd, credaf y byddai pawb yn y Siambr yn cytuno mai fy mhenderfyniad i uwchgyfeirio'r bwrdd i fesurau arbennig bron i flwyddyn yn ôl oedd y penderfyniad cywir. Fel y dywedais ddoe, nid oes gennyf unrhyw fwriad o isgyfeirio'r bwrdd iechyd i lefel 4, sef 'ymyrraeth wedi'i thargedu', hyd nes fy mod yn hollol siŵr fod y problemau difrifol a phethau sy'n ysgogi perfformiad, llywodraethiant, arweinyddiaeth a diwylliant gwael yn cael eu datrys.

Fel y gwneuthum eich atgoffa ddoe, nodais gyfres o amodau cynaliadwyedd y llynedd y bydd angen eu bodloni cyn y gellir ystyried unrhyw isgyfeirio. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nodi bod llawer iawn o waith wedi'i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf. Y peth allweddol yr oeddem am ei nodi, yn erbyn set glir iawn o dargedau mesuradwy, oedd bod y bwrdd wedi sefydlogi. Felly, nid yw'n fater o fod heb fframwaith i weithio ohono; rydym wedi cael fframwaith sydd wedi'i fonitro'n arbennig o agos y buom yn gweithio oddi tano dros y flwyddyn ddiwethaf, a dim ond nawr y ceir sefydlogrwydd inni allu symud ymlaen i'r nesaf. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n annheg iawn nodi bod yna awgrym nad ydym wedi ei gyrraedd tan nawr; mae'n ddull pwrpasol iawn.

Rwy'n credu bod yna arwyddion go iawn fod y bwrdd iechyd yn dechrau newid er gwell. Fel y nododd pobl, mae adroddiad dilynol Archwilio Cymru ar effeithiolrwydd y bwrdd yn dangos bod y bwrdd iechyd yn symud i'r cyfeiriad cywir, gyda mwy o sefydlogrwydd a gwell perthynas weithio. Mae'n ddiddorol gweld bod Llais, sefydliad sydd bob amser wedi bod yn barod i feirniadu'r bwrdd iechyd yn y gorffennol, hefyd wedi cydnabod bod pethau wedi newid. Rwy'n sylweddoli er hynny fod ffordd bell i fynd cyn y gallwn adfer hyder llawer o bobl yng ngogledd Cymru yn eu gwasanaeth iechyd. Ond mae miloedd ar filoedd ar filoedd o bobl bob wythnos sy'n cael gwasanaeth rhagorol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu llawer o newidiadau o fewn y bwrdd iechyd, gyda chymorth a chyngor yn cael eu darparu gan gynghorwyr annibynnol arbenigol. Bu newid mewn arweinyddiaeth a dull o weithredu gyda phrif weithredwr newydd. Do, fe gymerodd amser i gael prif weithredwr parhaol yn y swydd, ond mewn gwirionedd roedd y prif weithredwr dros dro yn ei swydd y diwrnod canlynol pan wnaethom gyhoeddi mesurau arbennig. Mae gennym gadeirydd, is-gadeirydd, aelodau annibynnol newydd ar y bwrdd. Maent i gyd wedi ymrwymo i wella ffyrdd o weithio, trin cyllid a gwella ansawdd y gofal a ddarperir, a phrofiadau cleifion a'u teuluoedd.

Gwn fod llawer ohonoch yn awyddus i weld newidiadau i'r tîm gweithredol, ac mae'r rhain yn digwydd. Bydd y cyfarwyddwr llywodraethiant corfforaethol yn dechrau ym mis Ebrill a bydd recriwtio i swyddi cyfarwyddwr y gweithlu a datblygu sefydliadol, prif swyddog gweithredu a chyfarwyddwr therapïau yn dechrau yn yr wythnosau nesaf. Ond mae yna bobl eraill sydd eisoes wedi eu penodi i swyddi ac sy'n trawsnewid y sefydliad. Mae angen i bawb ohonom gefnogi'r bwrdd iechyd. Mae angen inni ddechrau siarad am y pethau da sy'n cael eu cyflawni i godi ysbryd y staff yn y gwasanaeth a hyder y cyhoedd, ac wrth gwrs mae angen inni hefyd ganolbwyntio ar welliannau yn y pethau sy'n peri pryder.

Mae nifer o ffyrdd newydd o weithio yn eu lle, gan gynnwys estyniad i uned gofal ôl-anesthesia yn Ysbyty Maelor Wrecsam ar gyfer pobl sydd angen gofal arbenigol ar ôl llawdriniaeth. Mae uned cymorth anadlol wyth gwely wedi'i hagor yn Ysbyty Glan Clwyd i gefnogi pobl â phroblemau anadlu sydd angen arsylw rheolaidd ond nad oes angen gofal dibyniaeth uchel arnynt. Roedd hi'n anhygoel gweld sut oedd honno'n gweithio ar ymweliad diweddar. Mae llawdriniaeth laser arloesol yn cael ei defnyddio i dynnu cerrig arennau, ac mae'r tîm orthopedig yn Ysbyty Gwynedd wedi cyflawni dros 100 o lawdriniaethau i osod pengliniau newydd gan ddefnyddio technoleg robotig. Roeddwn yn falch o glywed hefyd fod meddygon dan hyfforddiant wedi nodi mai adran frys Ysbyty Gwynedd yw'r lle gorau i hyfforddi yn y Deyrnas Unedig gyfan.

Ysbyty Maelor Wrecsam yw'r cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio triniaeth laser newydd arloesol i gael gwared ar diwmorau'r bledren neu rannau amheus, ac mae hyn yn mynd i wella canlyniadau a phrofiad pobl. Mae canolfan adfer strôc newydd wedi agor yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno i sicrhau bod cleifion yn cael y cyfle gorau i wella'n dda ar ôl cael strôc. Mae dull peilot syth-i-brawf wedi'i gyflwyno fel bod cleifion yn cael prawf mpMRI yn gynt ar ôl cael eu hatgyfeirio am ddiagnosteg lle'r amheuir canser. Gellir gweld pobl yn gyflymach, a chael sgan MRI tua 18 diwrnod ar ôl atgyfeiriad gan feddyg teulu.

Roedd penderfyniad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i isgyfeirio gwasanaethau fasgwlaidd o fod yn wasanaeth sydd angen gwelliant sylweddol fis Mehefin diwethaf yn galonogol, ac rwy'n falch o glywed bod fy nghyd-Aelod Mark wedi cael gwasanaeth da yn yr adran fasgwlaidd honno. Roedd yr asesiad sicrwydd dilynol gan weithrediaeth y GIG hefyd yn nodi bod y gwasanaeth yn gwneud y gwelliannau gofynnol, ac edrychaf ymlaen at ganlyniad adolygiad pellach o nodiadau achos, sydd i fod i gyflwyno adroddiad ym mis Mawrth.

Y llynedd, roedd amseroedd aros ar gyfer orthopedeg ar draws Betsi Cadwaladr yn sylweddol, gyda 2,472 o gleifion yn aros dros 104 wythnos. Mae amseroedd aros ar gyfer llwybrau orthopedig wedi gwella, gyda 1,100 o lwybrau cleifion bellach yn aros dros 104 wythnos. Mae ffordd bell i fynd o hyd, ond mae'n welliant o 52 y cant ers iddynt gael eu rhoi mewn mesurau arbennig ym mis Chwefror. Mae gwaith wedi dechrau ar yr hyb orthopedig newydd yn Llandudno, ac mae disgwyl i hwnnw weithredu ar gapasiti llawn yn gynnar yn 2025. Y nod yw darparu 1,900 o driniaethau orthopedig y flwyddyn.

Mae arweinyddiaeth a rheolaeth y gwasanaeth iechyd meddwl, gan gynnwys gwasanaethau plant a'r glasoed, yn parhau i fod yn fregus, ond byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed lle cafodd Gareth y syniad fod y gwasanaeth wedi ei dorri 8 y cant. Fe wnaethom glustnodi'r gyllideb iechyd meddwl yn y gyllideb, ac fe wnaeth fy nghyd-Aelod, Lynne Neagle, sicrhau nad oedd hwnnw'n cael ei ddileu. Wrth gwrs, rydym yn gwybod bod mwy i'w wneud yno, ond cafwyd nifer o arolygiadau AGIC cadarnhaol dros y 12 mis diwethaf, gan awgrymu bod y gwasanaeth yn sefydlogi. Mae perfformiad yn erbyn y gwahanol fesurau—

16:55

Os nad oes ots gennych, fe wnaf orffen y rhan ar iechyd meddwl. Mae perfformiad yn erbyn y gwahanol fesurau ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl oedolion a phlant a'r glasoed wedi gwella yn gyffredinol, er bod rhai heriau'n parhau wrth gwrs. Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad.

Diolch. Er fy mod yn derbyn eich bod yn dweud bod cyllid ar gyfer iechyd meddwl wedi'i glustnodi, onid ydych yn derbyn bod y bwrdd iechyd, a byrddau iechyd eraill o ran hynny, yn gwario llawer mwy ar wasanaethau iechyd meddwl na'r hyn sydd wedi'i glustnodi? Felly, fe allech chi gael sefyllfa o hyd lle mae'r cyllid wedi ei dorri o'r man lle'r oedd y llynedd, oherwydd mai dim ond sylfaen i fynd ohoni yw'r arian sydd wedi'i glustnodi.

Cafwyd cynnydd o £25 miliwn yn yr arian sydd wedi'i glustnodi er gwaethaf ein sefyllfa ariannol enbyd, felly rwy'n credu ei bod yn werth nodi ein bod wedi ymrwymo'n llwyr i hyn. Mae'n un o'r blaenoriaethau rwyf bob amser yn eu gosod ar gyfer y byrddau iechyd: ein bod yn gwbl benderfynol o sicrhau bod iechyd meddwl yn cael yr un sylw ag iechyd corfforol. Mae gennym bellach wasanaeth '111 pwyso 2', sy'n trawsnewid y ffordd y mae pobl yn rhyngweithio. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn dad-feddygoli ein dull o ymdrin ag iechyd meddwl. Ni allaf gofio pwy siaradodd yn gynharach am yr angen i ymyrryd yn gynnar mewn perthynas ag iechyd meddwl, ond dyna'r union ddull o weithredu y mae fy nghyd-Aelod Lynne Neagle yn ei hyrwyddo'n gadarn iawn. Roeddech chi yma ar gyfer y ddadl ddoe mewn perthynas ag iechyd meddwl; fe fyddwch yn gwybod mai dyna'n union lle rydym yn mynd.

Dwi'n gwybod faint o amser mae pobl wedi gorfod aros am apwyntiadau, gofal a thriniaeth yn y flwyddyn ddiwethaf, a dwi'n gwybod bod hynny wedi bod yn rhwystredig, ond mae yna resymau i fod yn obeithiol. Rhaid inni bob amser gofio bod miloedd o bobl ar draws y gogledd yn cael gofal iechyd, cymorth a thriniaeth o ansawdd uchel bob wythnos, ac mae'r diolch am hynny achos ymroddiad ac arbenigedd staff y bwrdd iechyd.

Ar gyfer cleifion sy'n aros am ofal wedi'i gynllunio, mae nifer y bobl sy'n aros 52 wythnos am apwyntiad claf allanol cyntaf wedi gostwng 15.4 y cant, ac mae nifer y bobl sy'n aros 104 wythnos am driniaeth wedi gostwng 24.9 y cant ers mis Chwefror 2023. Mae nifer y cleifion sy'n aros mwy nag wyth wythnos am brawf diagnostig wedi gostwng yn sylweddol, gyda 5,943 o bobl yn aros ym mis Tachwedd 2023, o gymharu gyda 10,000 ym mis Mai 2023.

Mae gofal argyfwng, wrth gwrs, yn parhau yn her, a does dim syndod wrth inni weld faint o bobl sydd yn dod mewn i'r emergency department. Mae pobl yn dal i aros am rhy hir i gael eu gweld. Mae'r perfformiad yn erbyn y targed pedair awr yn gyson yn is na’r lefel y byddem ni'n ei disgwyl. Er bod gwelliant wedi bod o ran lleihau oedi o bedair awr wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlans, mae angen cryn welliant o hyd.

Diolch yn fawr. Mae yna gymaint o bethau, dwi'n meddwl, wedi gwella yn ystod y flwyddyn. Mae'r sefydlogrwydd yna o ran y bwrdd nawr, ond beth sydd angen nawr yw gwellhad sydd yn barhaol. Dwi yn meddwl bod y newid diwylliant sydd wedi dod o dop y sefydliad yn golygu bod pethau ar y trywydd cywir. Mae ffordd bell i fynd, ond, yn sicr, fel Llywodraeth, rŷn ni'n cadw golwg, ac rŷn ni yna i helpu’r bwrdd iechyd. Yn y pen draw, mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd wneud y gwaith yna ei hun. Diolch yn fawr.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n credu ei bod wedi bod yn ddadl dda y prynhawn yma, gan siarad am yr heriau sydd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a chydnabod gwaith caled iawn staff rheng flaen y GIG a phrofiadau cadarnhaol llawer o gleifion. Rydych chi'n hollol gywir, Weinidog; mae llawer o bobl yn cael profiadau cadarnhaol. Rwy'n meddwl mai'r broblem gyda bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yw ei fod yn anghyson. Mae'n anghyson o un ysbyty i'r llall. Mae'n anghyson o un adran i'r llall. Ac o ganlyniad i hynny, mae gennym lu o broblemau y mae'r bwrdd iechyd yn dal i ymgodymu â nhw, bron i 10 mlynedd ers iddo gael ei roi mewn mesurau arbennig am y tro cyntaf—naw mlynedd o leiaf.

Ac mae'n rhaid inni eich dwyn chi i gyfrif. Rwy'n gwybod eich bod yn hoffi trosglwyddo'r bai i'r bwrdd iechyd a'u beio nhw am bethau sy'n mynd o'i le, ac chymryd y clod am y pethau sy'n mynd yn iawn. Dyna natur Llywodraeth Cymru, mae arnaf ofn. Ond y gwir amdani yw bod angen mwy o dryloywder arnom. Mae ein hetholwyr yn dweud wrthym am eu profiadau, ac nid ydynt yn cyd-fynd â'r argraff gadarnhaol iawn rydych chi'n ei rhoi o welliant yn y bwrdd iechyd. Yn anffodus, mae llawer o bobl yn dal i aros dros dair blynedd am driniaeth, ac fel y nodais ddoe, dywedodd y bwrdd iechyd wrthym yr wythnos hon eu bod o'r diwedd wedi dileu arosiadau chwe blynedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn y bwrdd iechyd. Nawr, ni allaf ddirnad sut y gall hynny fod wedi cael ei adael i ddatblygu, ond os na welwn yr wybodaeth i allu eich herio, ac os nad ydych chi'n gweld yr wybodaeth am amseroedd aros o chwe blynedd, pum mlynedd, pedair blynedd, sut ar y ddaear yr awn i'r afael â'r heriau yn y bwrdd iechyd hwnnw? Oherwydd rhaid ichi wybod beth rydych chi'n ymdrin ag ef er mwyn ichi allu canolbwyntio sylw ac adnoddau ar fynd i'r afael ag ef, ac rwy'n ofni nad oes unrhyw dryloywder. 

Dywedodd y bwrdd iechyd wrthym wrth gwrs, fel y dywedais wrthych ddoe, fod 10 adolygiad wedi'u cwblhau, 10 adroddiad wedi'u derbyn, 10 swp o argymhellion wedi'u gwneud, a'u bod yn gweithio i'w gweithredu. Nid oes unrhyw un o'r adolygiadau hynny wedi'u rhyddhau i'r cyhoedd, na'u rhannu gydag Aelodau'r Senedd hon. Rydym am eu dwyn i gyfrif am weithredu'r rheini. Rwy'n hyderus eu bod wedi cael eu darparu i Lywodraeth Cymru, ac rwy'n credu y dylech chi gyhoeddi'r rheini a dweud y gwir. O ystyried ei fod mewn mesurau arbennig, dylech gyfarwyddo'r bwrdd i gyhoeddi'r adolygiadau hynny er mwyn i ni eu gweld.

Ac mae gennym y straeon arswyd ofnadwy hyn yn dod i'r amlwg o hyd fel y broblem weinyddu ocsigen y cyfeiriodd Janet Finch-Saunders ati, a'r llythyrau wroleg a'r sganiau a oedd wedi mynd ar goll. Gwyddom fod o leiaf 62 o'r 100 a mwy o sganiau yn annormal. Nid wyf yn gwybod a yw hynny wedi achosi niwed i gleifion o ganlyniad i oedi cyn iddynt gael mynediad at driniaeth a gofal, ond yn amlwg mae hynny'n bryder, ac i mi, mae'r ffaith bod hynny wedi cael ei adael i ddatblygu am gyfnod o dros 12 mis, tra bod y bwrdd mewn mesurau arbennig, yn awgrymu i mi fod mesurau arbennig yn rwtsh ac nad ydynt yn gweithio mewn gwirionedd, ac nad ydych yn cael y ffocws sydd ei angen ar y bwrdd iechyd er mwyn sicrhau bod ei swyddogaethau gweinyddol yn gweithio.

Yr hyn na allaf ei ddeall yw pam fod yr wybodaeth gan Aelodau'r Senedd sy'n dod at y bwrdd iechyd gyda chwynion—. Rydym yn gwybod am y rhannau o'n bag post a'r rhannau o'r gwasanaethau yng ngogledd Cymru y cawn gwynion amdanynt, a gallaf ddweud wrthych, nid ydym yn cael unrhyw gwynion, fel y dywedodd Mark Isherwood, am y gwasanaethau awdioleg, oherwydd maent yn rhagorol, ond rydym yn cael llawer o gwynion am wasanaethau iechyd meddwl, rydym yn cael llawer o gwynion am wasanaethau wroleg, rydym yn cael llawer o gwynion am yr amseroedd aros rhy hir y mae'n rhaid i bobl eu dioddef er mwyn cael eu profion, eu triniaeth a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Byddwn wedi gobeithio y byddai'r arolygiaeth gofal iechyd a Llywodraeth Cymru yn wir yn gofyn i ni helpu i'ch cyfeirio i'r cyfeiriad cywir fel y gallwch ymchwilio i'r pryderon sydd yno, a dyna pam na allaf ddeall pam ei bod wedi cymryd cyhyd iddynt sylweddoli bod problem yn yr adran wroleg, oherwydd rwyf wedi bod yn ysgrifennu atynt ers blynyddoedd am yr adran honno.

O ran iechyd meddwl, rydym yn dal i aros i'r adolygiad o adolygiadau gael ei gyhoeddi. Roedd i fod i gael ei gwblhau erbyn diwedd y llynedd; rwy'n dal i fod heb ei weld. Mae mis Mawrth yn nesáu. Fe ddywedoch chi wrthym eich bod yn mynd i wneud pethau'n gyflym er mwyn gwella'r sefyllfa yno. Yn sicr nid yw'n teimlo fel pe bai pethau wedi bod yn symud yn gyflym, mae arnaf ofn. Rydym hefyd yn gwybod bod adolygiad wroleg wedi'i gomisiynu gan aelodau blaenorol y bwrdd. Mae hwnnw ar silff yn rhywle, yn ôl pob tebyg—nid ydym wedi ei weld. Felly, mae'n ymddangos i mi mai'r unig dro y gwelwn adolygiad yw os oes ganddo newyddion da i'w ddweud wrthym, nid os oes ynddo fanylion erchyll i'w rhannu gyda ni, ac mae angen inni weld y ddau oherwydd mae angen inni gael y cydbwysedd. Dyna pam rwy'n dweud bod angen Llywodraeth fwy tryloyw arnom. Rydym eisiau eich helpu i wneud y gwaith yr ydych am ei wneud a'r gwaith yr ydym eisiau i chi ei wneud, sef gwella'r bwrdd iechyd. [Torri ar draws.] Rwy'n hapus i dderbyn yr ymyriad.

17:00

Diolch. Wel, rwy'n gwybod bod 10 adolygiad, fel y dywedwch, wedi'u comisiynu. Mae pedwar ohonynt wedi cael eu cyhoeddi mewn gwirionedd, felly mater i chi yw mynd i edrych ar y rheini, oherwydd maent allan yno ac maent wedi cael eu cyhoeddi, a bydd y lleill yn cael eu cyhoeddi ar ôl iddynt gyflwyno adroddiad, pan fydd y pwyllgor wedi penderfynu. Felly, nid oes diffyg tryloywder yma, ond os ydynt wedi cael eu cyhoeddi, nid ydym yn mynd i'w rhoi yn eich dwylo—gallwch fynd i chwilio amdanynt. Maent allan yno, maent yn barod. Mae yna dryloywder.

17:05

Wrth gwrs, dylem dreulio oriau yn chwilio drwy wefan y bwrdd iechyd, yn chwilio am yr adolygiadau hyn er mwyn dod o hyd iddynt, fel y gallwn edrych arnynt. A hoffwn ddweud hyn: un feirniadaeth flaenorol o'r bwrdd iechyd, mewn gwirionedd, oedd na allwch weld y coed gan brennau ym mhapurau'r bwrdd, felly nid oes gennyf syniad sut rydych chi'n disgwyl i ni gael amser i fynd i chwilio drwy'r rhyngrwyd i geisio dod o hyd i adroddiadau. A gadewch imi ddweud wrthych, rwy'n disgwyl i chi fel Llywodraeth gyhoeddi'r pethau hyn a thynnu sylw pawb atynt. Dyna rydym yn ei ddisgwyl gan ein Gweinidogion. Rydym eisiau atebolrwydd tryloyw. [Torri ar draws.] Rydym eisiau atebolrwydd a thryloywder. 

Rydym eisiau atebolrwydd a thryloywder. Nawr, rydych chi wedi siarad hefyd am yr heriau sydd gan y bwrdd iechyd mewn sawl maes. Rwyf wedi siarad am wroleg, rwyf wedi siarad am wasanaethau iechyd meddwl. Un arall, wrth gwrs, yw'r adran frys—rhai o'r adrannau brys sy'n perfformio waethaf yn y Deyrnas Unedig gyfan, mae arnaf ofn, yn enwedig yng Glan Clwyd a Maelor Wrecsam. Nid yw'n rhywbeth y dylem fod yn falch ohono; mae'n rhaid inni eu gwella. Un o'r atebion, 10 mlynedd yn ôl, y dywedodd y Llywodraeth hon ei bod yn mynd i'w weithredu er mwyn gwella'r sefyllfa honno oedd datblygu uned mân anafiadau newydd ac ysbyty cymunedol newydd yn y Rhyl. Ble rydym arni? Rydym yn dal i ddisgwyl. Ac rydych chi'n dal i daflu'r bai yn ôl at y bwrdd iechyd, gan ddweud, 'Rydym yn aros i'r bwrdd iechyd wneud hyn.' Dylech fod yn mynd ar eu holau. Dylech fod yn gwasgu arnynt i gyflwyno cynllun y credwch y gallwch fuddsoddi ynddo. Os ydych chi'n addo uned mân anafiadau newydd i'r cyhoedd, i dynnu pwysau oddi ar yr adran frys i lawr y ffordd, mae arnaf ofn y dylech gyflawni. Dylech roi eich arian ar eich gair a bwrw ymlaen i gyflawni'r pethau hyn. Nid ydym wedi gweld hynny ers 10 mlynedd.

Ac nid yw gogledd Cymru wedi bod yn cael ei chyfran deg o fuddsoddiad cyfalaf ychwaith, Weinidog, o'i gymharu â byrddau iechyd eraill ar draws y wlad. Rydym wedi cael ein gadael ymhell ar ôl. Rhan o hynny yw bod bron pob cynllun y ceisiodd y tîm gweithredol ei gyflwyno, i wella'r sefyllfa a gwella perfformiad, wedi'i daro'n ôl dan y trefniadau uwchgyfeirio blaenorol. Felly, dyna pam rwy'n cytuno bod angen mwy o ryddid i arloesi ymhlith y tîm gweithredol a'r bwrdd iechyd, er mwyn mynd i'r afael â'r heriau sy'n eu hwynebu, gan mai atebion lleol fydd yn cyflawni'r gwelliannau sydd angen inni eu gweld.

Felly, rwy'n gofyn i chi, Weinidog, gadewch inni fod yn fwy tryloyw, gadewch inni weld y da a'r drwg. Fe wnaethoch chi ddarllen rhestr hir o bethau gwych oedd yn digwydd yn y bwrdd iechyd, ac rwy'n eu canmol. Rwyf am ddathlu'r pethau hynny hefyd. Ond mae yna restr hir o bethau gwael iawn, profiadau gwael iawn y mae ein cleifion yng ngogledd Cymru yn gorfod ymgodymu â nhw, na ddylent fod wedi gorfod eu goddef cyhyd. Mae angen inni ddadwleidyddoli'r penderfyniadau ynglŷn â phryd i wneud pethau'n destun mesurau arbennig a phryd i'w tynnu allan o fesurau arbennig. Nid chi ddylai wneud y penderfyniadau hynny, dylai fod proses annibynnol ar gyfer cyrraedd y penderfyniadau hynny. A dim ond wedyn, pan fyddwn yn dechrau gweld y gwelliannau ym mhrofiadau cleifion yng ngogledd Cymru, y cawn hyder fod y bwrdd iechyd hwn wedi troi'r gornel ac yn dilyn trywydd newydd i lwyddiant.

Y cwestiwn yw: a ddylid deryn y cynnig heb ei ddiwygio? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi wedi clywed gwrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl Plaid Cymru: Ymchwiliad COVID penodol i Gymru

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar.

Eitem 7 sydd nesaf: dadl Plaid Cymru ar ymchwiliad COVID penodol i Gymru. Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8483 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bydd Modiwl 2B o Ymchwiliad Covid y DU yn clywed tystiolaeth yng Nghymru rhwng 27 Chwefror a 14 Mawrth 2024.

2. Yn credu:

a) bod Modiwl 2B o ymchwiliad Covid y DU: ‘Gwneud penderfyniadau gwleidyddol a gweinyddol craidd yng Nghymru’ yn annigonol i alluogi Llywodraeth Cymru ac asiantaethau eraill i ddysgu gwersi o’r ymateb i’r pandemig yng Nghymru;

b) nad yw'r rhestr cyfranogwyr craidd ar gyfer gwrandawiadau Ymchwiliad Covid y DU yn cynnwys yr ystod lawn o sefydliadau perthnasol Cymreig;

c) ni all Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru asesu'r ystod lawn o faterion sy'n gysylltiedig â'r modd roedd Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r pandemig;

d) bod methiant i sefydlu ymchwiliad Covid penodol i Gymru yn tanseilio datganoli;

e) bod ymchwiliad Covid penodol i Gymru yn hawl sylfaenol i bawb a gollodd anwyliaid oherwydd Covid.

3. Yn cydnabod pwysigrwydd Ymchwiliad Covid y DU wrth nodi sut y dylanwadodd penderfyniadau gan Lywodraeth y DU ar ymateb Covid yng Nghymru.

4. Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru, yn wahanol i Lywodraeth yr Alban, wedi sefydlu ymchwiliad penodol i Gymru i archwilio’n llawn weithredoedd a phenderfyniadau Llywodraeth Cymru cyn, yn ystod ac ar ôl y pandemig.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu ymchwiliad Covid Cymru dan arweiniad barnwr.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Boed eich bod yn blentyn ysgol a orfodwyd i addasu i ddulliau dysgu newydd ac anghyfarwydd, yn berchennog busnes y bu'n rhaid iddo lywio drwy ddirgryniadau digynsail yn ein heconomi, yn weithiwr a osodwyd ar gynlluniau ffyrlo, yn rhywun y dioddefodd ei iechyd meddwl yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau symud a'r hunanynysu, yn ddioddefwr effeithiau gwanychol COVID hir, neu'n bwysicaf oll, yn galaru am un o'r 12,500 o unigolion a fu farw yng Nghymru o ganlyniad i'r clefyd hwn, fe wnaeth pandemig y coronafeirws gyffwrdd â bywydau pob un ohonom. Mae wedi trawsnewid ein cymdeithas yn ddi-droi'n-ôl, a bydd ei waddol gyda ni am flynyddoedd i ddod.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol y bydd gwrandawiadau cyhoeddus modiwl 2B ymchwiliad COVID y DU yn cael eu cynnal yma yng Nghaerdydd o ddiwedd y mis hwn, pan fydd y penderfyniadau gwleidyddol a wnaed gan Llywodraeth hon yn cael eu craffu. Ond er ein bod yn croesawu'r ffocws newydd ar faterion penodol i Gymru, mae wedi bod yn amlwg ers peth amser nad yw cwmpas ymchwiliad y DU yn ddigonol i gynnwys pob elfen o'r ffordd y cafodd y pandemig ei drin yng Nghymru. Dim ond ymchwiliad llawn i Gymru sy'n gallu cyflawni hyn, ac mae rheidrwydd democrataidd a moesol ar Lywodraeth Cymru i wrando ar yr alwad yn y cynnig heddiw.

Pan siaradwn am gyfyngiadau ymchwiliad y DU, nid ydym yn ceisio bychanu ei waith. Yn hytrach, rydym yn adlewyrchu'r realiti ymarferol na fydd ymchwiliad cyfyngedig o'r math hwn sy'n ymdrin â phedair gwlad wahanol a ymdriniodd â'r pandemig yn eu ffordd eu hunain byth yn gallu dadansoddi pob mater yn llawn, rhywbeth y mae Heather Hallett, cadeirydd ymchwiliad y DU, wedi ei gydnabod yn barod o'r cychwyn cyntaf. Ac o safbwynt Cymru, caiff hyn ei danlinellu gan y ffaith mai dim ond un prynhawn, o'r cannoedd o oriau o wrandawiadau cyhoeddus sydd eisoes wedi digwydd, a neilltuwyd hyd yma i dystiolaeth swyddogion a Gweinidogion Llywodraeth Cymru. 

Mae hefyd yn werth ystyried yr ystod eang o sefydliadau yng Nghymru a fyddai'n sicr â mewnwelediad gwerthfawr i'r modd yr ymdriniwyd â'r pandemig, ond sydd serch hynny wedi cael eu hamddifadu o statws cyd-gyfranogwyr yn ymchwiliad y DU, yn bennaf oherwydd cyfyngiadau cynhenid cwmpas ymchwiliad y DU mewn perthynas â materion penodol i Gymru. Mae'r ymateb i'r sylwadau a wnaed gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro am statws cyd-gyfranogwyr, a soniai na fyddai'r bwrdd iechyd yn cael y lefel o ffocws y credent yn wreiddiol y byddent yn ei chael, yn dangos y pwynt hwn yn berffaith.

Fe wnaeth Llywodraeth yr Alban gydnabod y perygl yn gynnar wrth gwrs y byddai ymchwiliad y DU yn anwybyddu materion datganoledig, ac felly rhoddodd fuddiannau'r cyhoedd yn gadarn o flaen eu rhai eu hunain drwy sefydlu ymchwiliad COVID-19 yr Alban. Dyma beth yw atebolrwydd priodol a llywodraethu cyfrifol. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati'n hwyr yn y dydd i fynd i'r afael â phryderon ynghylch bylchau yn ymchwiliad y DU drwy greu'r pwyllgor dibenion arbennig, ac rydym yn aros i glywed ei ganfyddiadau gyda diddordeb mawr. Ond o ran ei natur, rôl adweithiol yn unig y gall y pwyllgor ei chwarae mewn perthynas â chwrs ymchwiliad y DU, yn hytrach na dadansoddi dimensiwn Cymreig y pandemig mewn modd rhagweithiol. Gall fod yn flynyddoedd lawer cyn i ddyfarniad rhannol hyd yn oed o sut y cafodd pethau eu trin yng Nghymru ddechrau dod i'r amlwg, ac erbyn hynny bydd rhai, os nad pob un, o'r prif wneuthurwyr penderfyniadau wedi gadael y byd gwleidyddol. 

Dywedais ar ddechrau fy nghyfraniad fod achos democrataidd a moesol dros sefydlu ymchwiliad Cymreig llawn. Mae'r cyntaf yn ymwneud yn sylfaenol ag uniondeb y setliad datganoli. Trwy gydol y pandemig, mynnodd Llywodraeth Cymru ei hawl i wneud pethau'n wahanol ac roeddent yn iawn i wneud hynny. Trwy ddefnyddio'r pwerau datganoledig sydd ar gael iddynt, fe wnaethant fabwysiadu dull neilltuol ar sail tystiolaeth o weithredu mesurau diogelwch cyhoeddus, wedi'u teilwra i nodweddion penodol poblogaeth Cymru. Roedd hyn, wrth gwrs, yn gwrthgyferbynnu'n sylweddol â thrybestod, anghysondeb a byrbwylltra trychinebus gweinyddiaeth Boris Johnson, ac fe ddaeth â pheth canmoliaeth i Brif Weinidog Cymru.

Ond byddai'n gwbl anonest esgus na wnaed camgymeriadau mawr yma yng Nghymru. Daw'r oedi cyn profi preswylwyr cartrefi gofal i'r meddwl yn syth, ac mae'r Cymry'n haeddu esboniadau gonest ac agored ynglŷn â'r amgylchiadau a arweiniodd at y camgymeriadau hyn. Felly, mae'n gwbl ragrithiol mynnu ymwahanu o bolisi'r DU i ddilyn dull wedi'i deilwra ar gyfer Cymru ar y naill law, gan osgoi craffu wedi'i deilwra ar ganlyniadau'r gweithredoedd hynny ar y llaw arall. Ar ben hynny, mae'n gwneud anghymwynas sylweddol ag achos datganoli trwy greu'r argraff na all y Senedd hon ddwyn ei hun i gyfrif am y deddfau sy'n cael eu pasio yma.

Os ydym am i ddatganoli yng Nghymru ddod i oed chwarter canrif ers ei dechreuadau cynnar, mae'n sicr fod galluogi hunanymholiad a hunanwerthuso'r penderfyniadau a wneir yn ein Senedd genedlaethol yn rhagofyniad. Ond hyd yn oed os nad yw'r achos democrataidd dros ymchwiliad llawn yn taro deuddeg gyda'r holl Aelodau yma heddiw, mae'n rhaid ichi gydnabod yr achos moesol cryf dros wrando ar leisiau'r rhai a ddioddefodd fwyaf yn ystod y pandemig.

Ar y pwynt hwn, hoffwn dalu teyrnged i ymgyrchu diflino'r grŵp COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru. Bydd unrhyw un sydd wedi gweld eu gwaith manwl a fforensig yn gwybod nad oes fawr o leisiau eraill yn fwy cymwys i roi barn am rinweddau ymchwiliad y DU. Ac maent wedi bod yn glir na all roi'r atebion iddynt, na'r clo y maent wedi bod yn ei geisio ers sawl blwyddyn. Mae'n hen bryd cywiro'r anghyfiawnder hwn. Ein cyfrifoldeb i bobl Cymru, ac yn enwedig y rhai a gollodd anwyliaid, yw ystyried gwaddol y pandemig yn agored ac yn onest drwy ymchwiliad annibynnol llawn yng Nghymru. Dyna pam fy mod yn annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn.

17:15

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Russell George i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. 

Gwelliant 1—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod bod y Senedd, oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod sefydlu ymchwiliad Covid yng Nghymru, wedi sefydlu pwyllgor arbennig i geisio cael atebion i deuluoedd a ffrindiau'r rhai a fu farw yn ystod y pandemig.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar.

Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, a dweud a nodi, fel Ceidwadwyr Cymreig, y byddwn yn cefnogi'r cynnig. Hoffwn adleisio sylwadau Mabon ap Gwynfor hefyd am grŵp COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru, oherwydd maent wedi gweithio'n ddiflino, ar gost a thraul i'w hunain, yn eu cyfraniadau tuag at ymchwiliad COVID y DU, ac maent wedi ymgyrchu drwyddi draw i sefydlu ymchwiliad COVID penodol i Gymru. Hoffwn gofnodi fy niolch iddynt, nid yn unig am eu gwaith fel y nodais, ond hefyd am eu gwaith gydag Aelodau'r Senedd hon drwy eu cefnogaeth i ni.

Nawr, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw am ymchwiliad COVID annibynnol i Gymru ers blynyddoedd wrth gwrs. Roedd y Prif Weinidog ac aelodau eraill o'r Llywodraeth yn aml yn dweud yn ystod y pandemig, 'Rydym yn gwneud pethau'n wahanol yng Nghymru', ac roedd hawl gan y Llywodraeth i wneud hynny. Dyna hawl y Llywodraeth etholedig, gwneud yr hyn yr ystyriant ei fod er lles pobl Cymru. Ond dylent hefyd dderbyn craffu ar y llwybr gwahanol a'r trywydd a ddilynwyd ganddynt.

Roedd datganoli'n ymwneud â dod â phenderfyniadau'n agosach at bobl Cymru, felly mae gwrthod ymchwiliad COVID penodol i Gymru yn tanseilio datganoli yn y pen draw. Mae datganoli wedi golygu bod amryw o Lywodraethau dros y 25 mlynedd diwethaf, dan Lafur neu arweiniad Llafur, wedi bod yn gyfrifol am GIG Cymru—am 25 mlynedd—ac o ganlyniad, wedi bod yn gyfrifol am barodrwydd ar gyfer y pandemig hefyd. Mae'r Llywodraeth, wrth gwrs, wedi gwrthod ymchwiliad penodol i Gymru dro ar ôl tro, gan ddweud eu bod yn credu bod ymchwiliad y DU yn ddigonol, er bod Llywodraeth yr Alban wedi penderfynu cyflwyno ymchwiliad COVID penodol yn yr Alban sy'n cydweithredu gydag ymchwiliad COVID y DU.

Nawr, mynnodd Prif Weinidog Cymru y byddai ymchwiliad y DU yn ddigonol. Dyna a ddywedodd. Dywedodd y Prif Weinidog y byddai ymchwiliad y DU yn ddigonol, er gwaethaf cyfaddefiad y Farwnes Hallett ei hun nad oes digon o amser i edrych ar bob mater a gwerthuso'r sefyllfa yng Nghymru yn llawn. Mae hyn yn cysylltu'n uniongyrchol â 2(c) yn y cynnig heddiw.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Nawr, fe wnaed camgymeriadau gan Lywodraeth Cymru. Fe wnaed camgymeriadau gan Lywodraeth y DU ar gyfer Lloegr. Fe wnaed camgymeriadau yn yr Alban. Fe wnaed penderfyniadau cywir yng Nghymru, Lloegr a'r Alban hefyd. Ond dyna bwynt ymchwiliad cyhoeddus—dysgu ble y gwnaed camgymeriadau a bod yn ymwybodol hefyd a gallu rhannu arfer da pan fydd yn digwydd. Mae'r prif gwnsler i ymchwiliad cyhoeddus y DU, Hugo Keith CB, wedi dweud bod methiannau sylweddol o hyd mewn perthynas â pharodrwydd Llywodraeth Cymru ar gyfer y pandemig, gan nodi diffyg gwytnwch o ran cynllunio a phrinder adnoddau a methiant i ddiweddaru polisïau. Nawr, mae'r Prif Weinidog wedi cyfaddef nad oedd Llywodraeth Cymru mor barod ag y dylent fod. Mae Gweinidogion y Llywodraeth yn hoffi dweud, onid ydynt, 'Rydym yn hoffi gwneud pethau'n wahanol yng Nghymru', ac mae hynny wrth gwrs yn wir nawr hefyd yn y ffordd y mae'r Llywodraeth yn osgoi craffu, ac maent yn osgoi craffu drwy beidio â chytuno i ymchwiliad cyhoeddus.

Nawr, fel Ceidwadwyr Cymreig, dim ond un gwelliant i'r cynnig a wnaethom heddiw, sef i gydnabod, oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn gwrthod sefydlu ymchwiliad COVID i Gymru, fod y Senedd wedi sefydlu pwyllgor arbennig i geisio cael atebion i deuluoedd a ffrindiau'r rhai a fu farw yn ystod y pandemig. Ond fy marn i a'r Ceidwadwyr Cymreig o hyd yw mai'r ffordd orau o gael yr atebion y mae'r teuluoedd sy'n galaru a phobl Cymru yn eu haeddu yw drwy ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i Gymru dan arweiniad barnwr. Diolch, Lywydd.

17:20

Mae'r Senedd wedi sefydlu pwyllgor diben arbennig yr wyf yn aelod ohono fel dewis arall yn lle ymchwiliad COVID penodol i Gymru. Mae ein hatebion mewn gwleidyddiaeth yn aml yn dod ar ffurf cyfaddawd anrhydeddus, ond yn ymarferol, ac fel y mae wedi'i gyfansoddi ar hyn o bryd, bydd y pwyllgor hwn yn ei chael hi'n anodd cael yr effaith y mae angen iddo ei chael. Rwy'n talu teyrnged i'r gwaith a wnaed gan glercod y pwyllgor, sy'n rhagorol, ac ni ddylid dehongli fy sylwadau mewn unrhyw ffordd fel beirniadaeth o fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor. Ar hyn o bryd rydym yn archwilio ffyrdd y gallwn gryfhau ein prosesau ac felly'r cynnyrch terfynol, ond hyd yn oed gyda'r newidiadau hyn, bydd y pwyllgor yn parhau i fod yn ddewis amgen gwael yn lle'r hyn sydd ei angen mewn gwirionedd. 

Nawr, mae gan graffu seneddol rôl hanfodol bwysig. Fel seneddwyr, rydym yn ei hyrwyddo, a hynny'n briodol. Ond mae'r pwyllgor hwn mewn perygl o'i ddibrisio'n anfwriadol, oherwydd cawsom dasg heb yr offer i'w chyflawni. Beth yw cyfyngiadau ymchwiliad seneddol yn hytrach nag ymchwiliad cyhoeddus? Wel, yn gyntaf, mae yna gyfyngiad o ran adnoddau. Nid oes gennym y timau o gyfreithwyr ac ymchwilwyr yn mynd drwy'r cannoedd o filoedd o ddarnau unigol o dystiolaeth y byddai ymchwiliad cyhoeddus yn gallu eu cyfarwyddo. Yr ail broblem yw nad yw'r pwerau sydd gennym i orfodi tystion i ymddangos ac i fynnu dogfennau wedi'u nodi mor glir â'r rhai a geir ar gyfer ymchwiliad. Cawn weld eto a fydd ein pwyllgor yn cael mynediad dirwystr i'r holl dystiolaeth Gymreig a gyflwynwyd i ymchwiliad y DU. A fydd Llywodraeth Cymru eisiau i wleidyddion o bleidiau eraill ddarllen y cofnod cyflawn o negeseuon testun a WhatsApp, ac efallai na fydd gan rai ohonynt unrhyw beth i'w wneud â'r pandemig? Mae gan gyfranogwyr craidd i ymchwiliad y DU fynediad o'r fath ac o'r herwydd, nhw yw'r bobl fwyaf gwybodus yng Nghymru erbyn hyn—llawer mwy gwybodus na'r rhan fwyaf ohonom ni. 

Yn weithdrefnol, ni roddir tystiolaeth i'n pwyllgor dan lw. Wedi'i wasgu i mewn i fore yma neu brynhawn acw, amser cyfyngedig a gawn i archwilio materion yn fanwl gyda thystion, gyda'r Aelodau'n cael ychydig funudau yr un yn unig ar gyfer eu maes holi penodedig. Cymharwch a chyferbynnwch hynny â chwestiynau a ofynnir gan gwnsleriaid, yn cynnwys dadansoddiad hirfaith fforensig o gofnodion dogfennol neu dystiolaeth tystion eraill. Rwy'n ofni mai'r hyn a gawn yn y pen draw fydd proses a chynnyrch terfynol na fydd yn ennyn hyder y cyhoedd mewn unrhyw fodd. Byddai hynny'n drychineb i enw da'r sefydliad hwn, a byddai'n anghymwynas enfawr â'r bobl yr ydym i fod i'w cynrychioli. Rydym mewn lle amhosibl. Dro ar ôl tro mae'r Llywodraeth wedi gwrthod sefydlu ymchwiliad cyhoeddus, ac mae hynny'n ein gadael gydag ymchwiliad pwyllgor sydd, fel y mae ei feirniaid mwyaf angerddol yn ei ddweud, yn anaddas i'r diben ar hyn o bryd.

Ond nid yw'r ffaith bod y Llywodraeth yn gwrthod sefydlu ymchwiliad cyhoeddus o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005 yn golygu na allwn ni weithredu fel Senedd. Mae gennym bŵer ein hunain i sefydlu comisiwn ymchwiliad seneddol. Dyna y penderfynodd Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi ei wneud ar y cyd yn 2012, yn dilyn yr argyfwng ariannol, wrth sefydlu'r Comisiwn Seneddol ar Safonau Bancio. Sefydlwyd y comisiwn hwnnw nid gan y Llywodraeth, ond gan y Senedd. Aeth y tu hwnt i ymchwiliad pwyllgor dethol traddodiadol gan fod ganddo aelodau o'r comisiwn nad oeddent yn wleidyddion, roedd ganddo lawer mwy o adnoddau ar gael iddo, defnyddiai'r pwerau seneddol i anfon am bapurau a phersonau mewn ffordd fwy systematig, a galluogai gwnsleriaid i ofyn cwestiynau ochr yn ochr ag aelodau'r comisiwn. 

Felly, fy nghynnig, fy awgrym, os bydd y cynnig hwn heno yn methu eto oherwydd bod y Llywodraeth yn parhau i wrthod ymchwiliad cyhoeddus, yw bod grŵp, efallai o uwch Aelodau meinciau cefn, o bob ochr i'r Senedd, yn llunio cynnig ar gyfer comisiwn ymchwilio seneddol sy'n mynd y tu hwnt i delerau a chyfyngiadau cul y pwyllgor presennol. Nid wyf yn gwybod a allai cynnig o'r fath ddenu mwyafrif yn y Senedd hon, ond dyna'r isafswm sy'n angenrheidiol i ennyn hyder y bobl a gynrychiolir gennym.

17:25

Fel aelod o Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru byddech yn disgwyl i mi amddiffyn ein pwyllgor, ond ni allaf wneud hynny. Ac mae'r pwyllgor diben arbennig fel defnyddio plastr i drin clwyf gwael. Nid yw'n gwneud iawn mewn unrhyw ffordd am y ffaith bod angen ymchwiliad cyhoeddus annibynnol dan arweiniad barnwr i'r modd yr ymdriniodd Llywodraeth Cymru â phandemig COVID-19. 

Nid oes unrhyw ffordd y gall ein pwyllgor gymryd lle gwaith yr ymchwiliad cyhoeddus penodedig. Mae hyd yn oed ein tasg o nodi'r bylchau a adawyd gan ymchwiliad COVID-19 y DU yn gamp bron yn amhosibl. Nawr, nid wyf yn deall beth yw ystyr 'bwlch'. Bwlch rhwng beth? Fel arfer mae gennych chi rywbeth fel bwlch rhwng dau gar, bwlch tân, bwlch rhwng dau dŷ, ond yma nid oes gennyf unrhyw beth o gwbl, felly rhaid holi a yw'r derminoleg yn gywir. 

Nid oes gennym fynediad at y swm helaeth o wybodaeth a ddarperir i gyfranogwyr craidd yr ymchwiliad COVID. Ni chawn wysio tystion, ni allwn hyd yn oed fynnu bod y Prif Weinidog neu'r cyn Weinidog iechyd yn dod o'n blaenau i esbonio eu gweithredoedd, neu eu diffyg gweithredoedd. Y cyfan y gallwn ei wneud yw aros i ymchwiliad COVID-19 y DU adrodd a cheisio canfod beth y maent wedi methu ei gynnwys. Sut, nid wyf yn gwybod. Ac fe fyddant yn methu cynnwys pethau.

Yr wythnos nesaf bydd tîm yr ymchwiliad yn gadael Llundain am westy rhad ar gyrion Caerdydd i gynnal gwrandawiadau cyhoeddus ar y camau gweithredu a'r penderfyniadau a wnaed yng Nghymru mewn perthynas â'r pandemig. Dros gyfnod o dair wythnos yn unig, byddant yn ceisio hidlo blynyddoedd o gynlluniau cyn pandemig ac archwilio'n fanwl bob penderfyniad a wnaed ynglŷn â COVID, y niferoedd o achosion ac achub bywydau yng Nghymru. 

Nid yw'n bosibl deall pynciau mor bwysig mewn cyfnod mor fyr, ond dyna beth y mae ymchwiliad y DU yn bwriadu ei wneud. Rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr wedi dadlau ers tro ynghylch yr angen am ymchwiliad cyhoeddus penodol yng Nghymru. Dyma'r unig ffordd y bydd pobl Cymru'n cael atebion. Dyma'r unig ffordd y gallwn fod yn sicr fod Cymru'n barod i ymdrin â chlefyd X, y pandemig nesaf. Mae'r arbenigwyr i gyd yn cytuno nad yw'n achos o os, ond yn hytrach o pryd y bydd y pandemig nesaf yn taro, ac os nad ydym wedi dysgu gwersi COVID, sut y gallwn ni fod yn sicr ein bod wedi gwneud y paratoadau cywir?

Yn anffodus, mae gan ein Llywodraeth fwy o ddiddordeb mewn osgoi craffu na sicrhau y gall ein gwlad ymdopi â phandemigau yn y dyfodol. Gwnaed penderfyniadau yng Nghymru a gafodd effaith uniongyrchol ar lwybr y clefyd yng Nghymru, ac mae gan y cyhoedd yng Nghymru hawl i fynnu archwiliad manwl o'r penderfyniadau hynny. Nid yw hynny'n rhywbeth a all ddigwydd fel is-fodiwl o ymchwiliad ehangach yn y DU, ac ni all un o bwyllgorau arbennig y Senedd ei wneud, ni waeth pa mor dda yw'r bwriad.

Mae'r Alban wedi cydnabod hyn ac yn cynnal eu hymchwiliad eu hunain ochr yn ochr â'r un ar gyfer y DU. Pam na allwn ni? Beth ydych chi'n ei ofni, Brif Weinidog? Mae Cymru'n haeddu atebion. Rydym yn mynnu ymchwiliad cyhoeddus annibynnol dan arweiniad barnwr, ac rwy'n annog fy nghyd-Aelodau i gefnogi'r cynnig. Diolch yn fawr iawn.

Wrth gwrs, mae angen ymchwiliad COVID ledled y DU. Ac wrth gwrs, mae angen i Gymru gymryd rhan. Ond fel rydym wedi ei ddweud yn gyson i gefnogi teuluoedd mewn profedigaeth yn sgil COVID, mae angen ymchwiliad COVID penodol i Gymru hefyd, yn union fel sy'n digwydd yn yr Alban. Pam? Cafodd penderfyniadau a effeithiodd ar bobl sy'n byw yng Nghymru eu gwneud yng Nghymru gan Weinidogion Llywodraeth Cymru. Roeddent mewn sefyllfa ddiflas, yn gorfod gwneud penderfyniadau arwyddocaol yn gyflym ac mewn amgylchiadau a oedd yn newid yn barhaus. Roedd rhai penderfyniadau'n rhai cywir, rhai yn anghywir, ac mae'n hanfodol fod gwersi'n cael eu dysgu fel ein bod yn fwy parod fel gwlad pan fydd y pandemig nesaf yn cyrraedd i amddiffyn a chefnogi cymaint o'n dinasyddion â phosibl. Yn fy marn i, mae osgoi craffu nid yn unig yn anghyfrifol ond yn sarhaus i bawb a gollodd anwyliaid yn ystod y pandemig, neu y newidiwyd eu bywydau ganddo. Nid yw'r amser a ddyrennir i Gymru i graffu ar ddwy flynedd o benderfyniadau yn ddigon.

Fel llefarydd Plaid Cymru dros addysg, hoffwn ganolbwyntio'n benodol ar yr effaith a gafodd y pandemig ar blant a phobl ifanc, a pham mae angen ymchwiliad arnom a fydd yn cwmpasu addysg. Mae'n annhebygol y bydd goblygiadau cau ysgolion, tarfu ar ddysgu, diffyg addysgu wyneb yn wyneb a chyfyngiadau ar ryngweithio cymdeithasol yn cael eu deall yn llawn am flynyddoedd lawer. Ond heb amheuaeth, yn ystod cyfnod mor arwyddocaol i ddatblygiad personol, wynebodd cenhedlaeth gyfan yng Nghymru galedi, o ddisgyblion oed cynradd i fyfyrwyr prifysgol, ac yn anochel byddant yn cario'r profiad hwnnw gyda nhw drwy gydol eu bywydau yn y dyfodol.

Daeth hyn yn amlwg yn ystod blwyddyn gyntaf y pandemig, pan ganfu adroddiad gan Gomisiynydd Plant Cymru fod 54 y cant o bobl ifanc rhwng 12 a 18 oed yn poeni ynglŷn â chael eu gadael ar ôl gyda'u dysgu, ac roedd 52 y cant yn poeni sut y byddai'r pandemig yn effeithio ar ganlyniadau eu harholiadau. Ers hynny, cafwyd nifer o astudiaethau'n dangos effaith barhaus y pandemig ar les pobl ifanc. Mae adroddiad gan y rhwydwaith ymchwil iechyd ysgolion ym Mhrifysgol Caerdydd wedi canfod bod bron i chwarter y dysgwyr mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru wedi nodi bod ganddynt lefelau uchel iawn o symptomau iechyd meddwl yn y blynyddoedd yn dilyn COVID-19, ac mae hyn wedi cael ei waethygu gan y ffaith bod amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn sylweddol hirach i blant Cymru o'i gymharu ag oedolion, gan fod y Llywodraeth yn gyson wedi methu cyrraedd ei tharged o ddarparu atgyfeiriadau i o leiaf 80 y cant o blant a phobl ifanc o fewn 28 diwrnod.

Nid yw'n syndod, felly, fod adroddiad 'Llesiant Cymru' ar gyfer 2023 wedi datgelu tuedd ar i lawr ym moddhad bywyd pobl ifanc 11 i 16 oed rhwng 2017-18 a 2021-22. Yn y cyfamser, canfu arolwg aelodau diweddar Plant yng Nghymru ar effaith a gwaddol COVID-19 fod 70 y cant o'i aelodau, sy'n cynnwys Barnardo's Cymru, Mudiad Meithrin a Blynyddoedd Cynnar Cymru, wedi cofnodi heriau i'w gwaith yn cefnogi plant oherwydd ôl-effeithiau'r pandemig. Gwyddom fod anghydraddoldebau cymdeithasol wedi bod yn thema gyson yn y cyd-destun hwn, gydag absenoldeb yn sgil-gynnyrch hir-barhaol yn sgil y pandemig ac yn anghymesur o amlwg ymhlith y grwpiau cymdeithasol mwyaf difreintiedig.

Mae Llywodraeth Cymru yn aml yn gyflym i nodi effaith COVID wrth esbonio ei chyflawniad mewn materion fel cyrhaeddiad addysgol, fel y gwelsom yn ddiweddar gyda datganiad y Gweinidog addysg ar ganlyniadau PISA siomedig Cymru. Rwy'n llwyr dderbyn natur hynod aflonyddgar y pandemig yn hyn o beth, ac y byddai unrhyw lywodraeth wedi cael trafferth rheoli'r canlyniadau parhaus, ond rhagrith amlwg yw i'r Llywodraeth hon briodoli cymaint o'i methiannau i effaith COVID ond i wrthod ymchwiliad i amgylchiadau penodol rheoli'r pandemig yma yng Nghymru.

Mae arnom ddyletswydd i'n pobl ifanc i sicrhau bod eu profiadau o'r pandemig yn cael gwrandawiad teg, a dyna pam y credaf yn gryf fod y modd y mae'r Llywodraeth hon yn gwrthod sefydlu ymchwiliad i Gymru yn esgeuluso'i dyletswydd iddynt. Ni ddylem fyth ofni craffu. Ni ddylem fyth ofni cyfaddef, fel gwleidyddion, pan fyddwn yn cael pethau'n anghywir; mae'n anochel mewn pandemig. Mae osgoi craffu yn anghyfrifol. Mae angen inni ddysgu gwersi a'u cymhwyso, ac rwy'n cefnogi'r teuluoedd sydd mewn profedigaeth yn sgil COVID yn llwyr, ac rwy'n drist drostynt fod yn rhaid iddynt ymladd dros gyfiawnder a gallu cael y straeon hyn wedi'u clywed, a'r gwersi wedi'u dysgu.

17:30

Mae ein cymdeithas yn dal i ddod i delerau â phopeth a gollwyd yn ystod pandemig COVID. Rydym i gyd yn addasu, mewn gwahanol ffyrdd; bydd yr addasu hwnnw'n parhau am flynyddoedd, rwy'n siŵr. Byddai'n well gan gymaint o bobl anghofio, yn ddealladwy, byddai'n well gennym symud ymlaen—rhoi'r gorau i siarad amdano. Ond onid ydych chi'n gweld? Mae hynny'n bradychu'r cof am y rhai a gollwyd, y bobl a oedd mor annwyl, yr holl rai rydym yn dal i alaru drostynt, y rhai anlwcus, y rhai yr oedd eu systemau imiwnedd dan fygythiad, y rhai yr oedd eu diogelwch, eu hawl i fyw, dan fygythiad. Gadewch inni beidio ag anghofio'r dideimladrwydd didaro gyda sefydlu'r ymadrodd 'cyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes', fel pe bai hynny'n gosod rhai marwolaethau ar wahân, fel pe baent yn cael eu cyfrif yn wahanol. Ond roeddent i gyd yn cyfrif cymaint â'i gilydd. Bywydau cyfan, cymhleth a blêr a byw a gwir, boed wedi'u cloi mewn cartrefi gofal neu y tu ôl i'w pedair wal eu hunain, roeddent yn bwysig ac werth cymaint â'i gilydd. Pan ganiatawyd i'r ymadrodd hwnnw ennill tir yn y fath ffordd, cymerwyd rhywbeth oddi arnom ninnau hefyd. Mae cymaint o gwestiynau'n parhau i fod heb eu hateb.

Yng ngwanwyn 2020, fe geisiais ac fe fethais ddeall pam fod oedi cyn cydnabod y ffaith y gellid trosglwyddo COVID yn asymptomatig; pam na chafodd preswylwyr cartrefi gofal eu profi am COVID wrth adael yr ysbyty. Siaradais â rheolwyr cartrefi gofal a oedd yn credu bod rhai o'u preswylwyr wedi marw o ganlyniad i'r polisi hwnnw. Ni ddylai mynnu atebion am y penderfyniadau hynny fod yn ddadleuol. Fel y nifer brawychus o uchel o bobl, collais innau hefyd rywun annwyl a oedd yn byw mewn cartref gofal. Bu farw cymaint o bobl ar eu pen eu hunain ac mae yna ymdeimlad o hyd fod y gwirioneddau anghyfforddus am eu marwolaethau wedi cael eu sgubo dan ryw garped. I'r teuluoedd mewn profedigaeth, mae'n hunllef nad ydynt erioed wedi deffro ohoni oherwydd y cwestiynau sy'n parhau heb eu hateb: pam y cafodd y newidiadau yn ymwneud â phrofi eu gohirio yng Nghymru, gan adael cymaint o bobl yn agored i niwed; pam y tynnwyd ffotograffau ar wardiau ac mewn corffdai, ac yna eu cyhoeddi, ffotograffau o'u perthnasau'n marw; ac efallai, yn fwyaf pwysig nawr, pam fod cymorth profedigaeth i'r teuluoedd sy'n galaru yn parhau i fod mor anghyson ledled Cymru, pan nad yw'r trawma y maent yn ei ddioddef yn dangos unrhyw arwydd o wella.

Mae bygythiad pandemigau yn y dyfodol yn cynyddu gyda'n hinsawdd newidiol. Mae'n rhaid i adeiladu gwytnwch a pharodrwydd ar gyfer ein dyfodol ddechrau o ddifrif nawr, a byddai sefydlu ymchwiliad Cymreig yn helpu i osod y sylfeini hynny er mwyn ein dyfodol. Oherwydd, Lywydd, nid mater o daflu bai yw hyn—pwy fyddai'n elwa o hynny? Roedd yna bethau a gawsom yn iawn yn ystod y pandemig, a phethau eraill a wnaethom yn anghywir. Os ydym am ddysgu o'r pethau a wnaethom yn anghywir, dylid cydnabod y camgymeriadau hynny i sicrhau eu bod yn werth rhywbeth. Nid yw'n fater o dalu'r pwyth yn ôl, na sgorio unrhyw bwyntiau; fe wnaeth pawb golli, nid oes unrhyw sgôr arall. Ond rywsut, yng nghanol y siartiau a'r pwyntiau canran, yr ystadegau llym, mae'n rhaid inni ddod o hyd i ateb sy'n caniatáu inni edrych yn ôl ar y blynyddoedd hynny, nid yn unig drwy wyddoniaeth, ond cysur hefyd, parodrwydd i ddod at ein gilydd eto, oherwydd mae gennym gymaint i ddod i delerau ag ef o hyd: y dewisiadau a wnaed, nid yn unig yn genedlaethol, ond yn bersonol; y pethau y gwnaethom eu methu, y gwnaethom eu colli.

Lywydd, edrychais i weld beth yw'r diffiniad o 'ddoethineb' cyn y ddadl hon. Un o'r diffiniadau yw

'corff o wybodaeth a phrofiad sy'n datblygu o fewn cymdeithas neu gyfnod penodol'.

Mae yna ddyfnder o ddoethineb y gallem barhau i'w gaffael—sy'n rhaid inni ei gaffael—o flynyddoedd y pandemig. Y profiadau a wnaeth ein clymu gyda'n gilydd a'n cadw i gyd ar wahân ar yr un pryd. Dwyster y trychineb y gwnaethom ei dioddef. Y gost yr ydym i gyd yn dal i'w chyfrif. Ni ddylem fod yn ceisio dial na gweld bai, dylem fod yn ceisio doethineb, wedi'i ganfod drwy dristwch a phoen ac yn fwy hanfodol oherwydd hynny. Cyd-ddealltwriaeth. Ymgodymu â'r hyn a ddigwyddodd. Cymryd stoc. Cyfrif y gallwn gytuno arno. Cofnod a fyddai'n cyfrif mwy na chyfanswm yr holl ystadegau hynny. Cofnod o'r hyn a ddigwyddodd sy'n rhoi lle i bob stori. Nid cyhuddiad, ond cydbwysedd, wedi'i ysgrifennu gyda doethineb ac yn gyson â gwersi o'n gorffennol.

17:35

Roedd yna adeg pan oeddem yn cyfeirio at y pandemig fel y gwastatäwr mawr, digwyddiad trychinebus a fyddai'n mynd y tu hwnt i rwystrau cymdeithasol ac yn effeithio ar bob un ohonom yn gyfartal—os gall y Prif Weinidog ddal COVID, gallwn i gyd ddal COVID. Ond mae profiad y pedair blynedd diwethaf ers yr achosion cyntaf wedi dangos yn glir mai camsyniad yw hwn, ac yn hytrach, mae effaith y pandemig wedi ymwreiddio a gwaethygu anghydraddoldebau dwfn a chroestoriadol yn ein cymdeithas, yn enwedig ar hyd llinellau dosbarth, hil, rhywedd ac anabledd. 

Mae'r effaith anghyfartal yn amlwg yn syth pan fo cyfraddau marwolaethau yng Nghymru yn cael eu hasesu yn ôl lefelau amddifadedd. Yn syml, mae hyn yn golygu bod y risg o farw o COVID dros 80 y cant yn uwch ar aelwydydd tlotach, o'i gymharu â'r rhai mwyaf cefnog. Roedd yr anghysondeb hwn hyd yn oed yn fwy amlwg ar anterth y pandemig. Felly, na, nid oedd yn wastatäwr o gwbl. Fe wyddom fod tlodi yn eich gwneud yn sâl, fod tlodi'n lladd, ac roedd y pandemig yn dangos hyn yn llythrennol iawn a hynny ar raddfa erchyll.

Un mesur yn unig o gyfraniad y pandemig at ehangu anghydraddoldebau cymdeithasol yw cyfraddau marwolaeth. Roedd effaith y pandemig ar ganlyniadau iechyd meddwl, er enghraifft, yn anghymesur o uchel ymhlith pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig, a oedd 55 y cant yn fwy tebygol o nodi broblemau'n gysylltiedig â thrallod meddwl o gymharu ag unigolion gwyn yn ystod ton gyntaf y pandemig. Daw patrwm tebyg i'r amlwg mewn perthynas â lefelau incwm. Er bod yr enillwyr incwm uchaf yng Nghymru wedi profi dirywiad o 6.5 y cant yn eu hiechyd meddwl yn ystod COVID, y ffigur cyfartalog ar gyfer y rhai yn y cwintel incwm isaf oedd 39 y cant.

Roedd pobl ar incwm isel neu bobl a oedd eisoes yn debygol o fod yn byw o fewn y trothwy tlodi, neu'n agos iddo, saith gwaith yn fwy tebygol o fod yn gweithio mewn sector a gafodd ei gau'n llwyr yn ystod y pandemig, ac am nad oedd oddeutu 10 y cant o weithlu Cymru, a oedd yn fwy tebygol o fod yn fenywod neu'n bobl anabl, yn ennill digon i fod yn gymwys i gael tâl salwch statudol, roedd y posibilrwydd o orfod hunanynysu i'r enillwyr hynny yn golygu dewis erchyll rhwng rhoi eu hiechyd mewn perygl neu beryglu eu gallu i dalu biliau. Mae'n werth cofio hefyd fod yr argyfwng costau byw presennol, sy'n cael yr effaith fwyaf ar sectorau mwyaf difreintiedig ein cymdeithas, yn rhannol yn sgil-gynnyrch yr aflonyddwch economaidd a'r anhrefn a achoswyd gan y pandemig.

Fel y cyfryw, byddai sefydlu ymchwiliad llawn i Gymru nid yn unig yn taflu goleuni ar gamau blaenorol gan y Llywodraeth, gallai hefyd ddarparu llwyfan ar gyfer sgwrs gyhoeddus hanfodol ar effaith barhaus a chyrydol anghydraddoldebau yn ein cymdeithas ac ar y gwahanol grwpiau yn ein cymdeithas, y mae llawer ohonynt yn dioddef anfantais groestoriadol. Er nad oes gennym ddata penodol i Gymru ar y mater hwn, mae'n amlwg fod y pandemig wedi creu risg anghymesur i iechyd pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig. Er enghraifft, roedd dynion du 2.2 gwaith yn fwy tebygol o farw o COVID na dynion gwyn. Roedd menywod du un a hanner gwaith yn fwy tebygol o farw o COVID na menywod gwyn.

Ac fel mae'r adroddiad 'Drws ar Glo' wedi'i ddangos mor bwerus i ni, roedd 68 y cant o'r marwolaethau COVID-19 ymhlith pobl anabl yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn dangos sut y cyfrannodd ffactorau cymdeithasol, gan gynnwys gwahaniaethu, tai gwael, tlodi, statws cyflogaeth, sefydliadu, diffyg cyfarpar diogelu personol, gwasanaethau gwael a bylchog, gwybodaeth gyhoeddus anhygyrch a dryslyd ac amgylchiadau personol yn sylweddol at y ffigur hwn. Galwodd yr adroddiad ar Lywodraeth Cymru i sefydlu ymchwiliad cenedlaethol i ffactorau a effeithiodd ar farwolaethau gwahanol grwpiau yn ystod y pandemig, gan gynnwys pobl anabl, yn ogystal â galw ar Lywodraeth y DU i lansio ymchwiliad ehangach ar draws y pedair gwlad. Ni châi ei weld fel naill ai/neu, ac nid yw'n naill ai/neu. Galwodd yr adroddiad am ymchwiliad yng Nghymru, nid yn unig i adolygu tystiolaeth ac argymhellion yr adroddiad ac eraill tebyg iddo, ond hefyd i allu datblygu datrysiadau a chamau y gellir eu gorfodi'n gyfreithiol, oherwydd roedd yr hyn a ddigwyddodd yn gywilyddus, ac ni ddylid caniatáu iddo ddigwydd eto.

Felly, sut y gallwn ni sicrhau hynny? Wel, drwy sicrhau bod y Llywodraeth yn gwneud popeth yn ei gallu i ddysgu'r gwersi anodd hynny—fel y dywedodd Delyth Jewell, yr hyn a wnaed yn iawn, yr hyn a wnaed yn anghywir—oherwydd mae dyletswydd ar y Llywodraeth i wneud hynny, dyletswydd i'r rhai a gollodd eu bywydau, dyletswydd i'r rhai a gollodd eu hanwyliaid. Roedd cymaint o sôn am ailadeiladu'n well. Mae'r lefelau anghydraddoldeb croestoriadol a welwn yng Nghymru yn mynnu ein bod yn ceisio gwneud hynny, ond heb ymchwiliad cynhwysfawr i Gymru, nid oes gennym yr wybodaeth lawn sydd ei hangen arnom i allu gwneud hynny.

17:45

Y Cwnsler Cyffredinol nawr i gyfrannu i'r ddadl—Mick Antoniw.

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi dangos ymrwymiad clir wrth y broses o graffu a dysgu gwersi o bandemig COVID-19. Pan fydd gwrandawiadau ymchwiliad COVID-19 y Deyrnas Unedig yn dod i Gymru yr wythnos nesaf ar gyfer modiwl 2B, mae’n naturiol y bydd mwy o ffocws ar y camau gweithredu a’r penderfyniadau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru. Bydd hwn yn gyfnod heriol eto i bawb a gollodd rywun annwyl neu a gafodd eu heffeithio fel arall gan y pandemig. Llywydd, dwi eisiau cymryd y cyfle yma i estyn fy nghydymdeimlad i bawb sy'n dal i alaru am golli perthynas neu ffrind.

Lywydd, er y bydd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal yng Nghymru am yr ychydig wythnosau nesaf, mae'n bwysig nad ydym yn ystyried y gwrandawiadau hyn fel yr unig droeon y bydd digwyddiadau yng Nghymru yn cael eu harchwilio'n agos yn ystod yr ymchwiliad hwn. Mae'n anghywir tybio mai'r wybodaeth a welwyd ac a glywyd yn ystod y cyfnod hwn yw'r unig ddeunydd am Gymru y bydd y cadeirydd yn ei ystyried. Mae'r cadeirydd wedi bod yn glir iawn yn y gwrandawiadau presennol ar gyfer modiwl 2 y bydd yn ystyried yr ystod lawn o ddeunydd a ddarperir, gan gynnwys yr holl ddatganiadau ysgrifenedig a thystiolaeth ddogfennol, cyn dod i unrhyw gasgliadau. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno miloedd lawer o ddogfennau a dros 70 o ddatganiadau ar gyfer modiwl 2B yn unig. Rydym wedi gwneud a byddwn yn parhau i wneud cyfraniadau i'r dystiolaeth a gesglir ar gyfer holl waith yr ymchwiliad ym mhob un o'r modiwlau.

Rwyf am droi nawr at fater statws cyfranogwr craidd. Mater i gadeirydd yr ymchwiliad yw penderfynu, yn seiliedig ar set benodol iawn o feini prawf, sydd wedi'i chyhoeddi, pwy ddylai fod yn gyfranogwr craidd. Nid yw cael statws cyfranogwr craidd neu beidio yn effeithio ar allu'r cadeirydd i ofyn am wybodaeth ysgrifenedig, neu glywed tystiolaeth gan unrhyw unigolyn neu sefydliad. Mae'r cadeirydd wedi gofyn am dystiolaeth gan y rheini yng Nghymru nad ydynt yn gyfranogwyr craidd ym modiwl 2B, ac fel y gwelsom yn ystod y modiwl cyntaf, gallwn ddisgwyl i ddeunydd gael ei gyflwyno gan unigolion neu sefydliadau o bob rhan o Gymru, ymhell y tu hwnt i'r rhai sydd ar y rhestr cyfranogwyr craidd.

Mae'r ymchwiliad hefyd wedi bod yn rhagweithiol wrth ystyried barn teuluoedd mewn profedigaeth a'r cyhoedd o'r cychwyn cyntaf. Cynhaliodd ymgynghoriad cyhoeddus dros bedair wythnos i drafod ei gylch gorchwyl a chyfarfu â mwy na 150 o deuluoedd mewn profedigaeth o bob rhan o'r DU a chynrychiolwyr o sawl sector. Cymru oedd man cychwyn y cadeirydd yn ystod y broses hon. Mae'r ymchwiliad wedi sefydlu prosiect Every Story Matters i gasglu profiad personol pobl, ac wrth deithio ar hyd a lled y DU y llynedd, ymwelodd yr ymchwiliad â Wrecsam a Rhuthun ym mis Tachwedd.

Lywydd, mae ymchwiliad COVID-19 y DU yn ymchwiliad i Gymru, lawn cymaint ag y mae'n ymchwiliad i Loegr neu unrhyw wlad arall yn y DU. Fel Llywodraeth, rydym yn glir mai cymryd rhan mewn ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan yw'r dull cywir a'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau craffu llawn a phriodol ar weithredoedd a phrofiadau yma yng Nghymru yn ystod y pandemig mewn ffordd a fydd yn ein galluogi i ddysgu gwersi pwysig ar gyfer y dyfodol.

Nid wyf yn credu ein bod yn dadlau yn erbyn cymryd rhan yn ymchwiliad y DU mewn unrhyw ffordd; wrth gwrs y dylem wneud hynny. Yr hyn yr ydym yn dadlau drosto yw cydraddoldeb. Pam y credwch fod yr Alban yn gwneud hyn? A yw'n ddibwynt eu bod yn ei wneud? A ydych chi'n meddwl eu bod yn gwastraffu eu hamser neu a ydych chi'n gweld bod gwerth yn yr hyn a wnânt yn yr Alban? Rydym yn galw am gydraddoldeb, dyna i gyd. Oherwydd nid yw'n bosibl iddynt edrych ar yr holl faterion sy'n codi drwy'r ymchwiliad hwn ar gyfer y DU gyfan, oherwydd maent yn edrych ar benderfyniadau'r DU, yn bennaf. Mae teuluoedd mewn profedigaeth eisiau sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Nid yw'r ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan yn cynnig yr un cyfle yn yr un ffordd ag sy'n digwydd yn yr Alban.

Rwyf wedi bod yn dilyn hynt ymchwiliad yr Alban hyd at fis Hydref 2022, pan ymddiswyddodd y cadeirydd a'r pedwar cwnsler o ymchwiliad yr Alban. Yn amlwg, mater i Lywodraeth yr Alban yw darparu esboniad ynghylch eu hymchwiliad a'u blaenoriaethau. Nid wyf wedi fy argyhoeddi y bydd yn ychwanegu unrhyw beth sylweddol y tu hwnt i'r hyn a gaiff ei gasglu o ymchwiliad y DU. Mae gan yr ymchwiliad allu, pwerau a grym i oruchwylio natur gydgysylltiedig y penderfyniadau a wnaed ar draws y pedair gwlad. Cymerodd Llywodraeth Cymru ran weithredol wrth lunio'r cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad y DU, gan gynnwys mewnbwn gan deuluoedd mewn profedigaeth yng Nghymru, i nodi'r hyn y byddem yn disgwyl ei weld i sicrhau bod Cymru'n cael ei chynnwys yn llawn.

Rydym yn dal i fod ar gam cymharol gynnar yn yr ymchwiliad. Rydym hanner ffordd drwy'r gwrandawiadau yn yr ail fodiwl, ac mae'r ymchwiliad yn paratoi i gyhoeddi ei adroddiad mewn perthynas â'r modiwl cyntaf yn fuan. Ond cyn cynnal unrhyw wrandawiad ym modiwl 2B, mae'r cynnig hwn yn datgan yn gynamserol na fydd yn ddigon da. Mae ffocws rhai yn y Siambr hon, nid ar yr hyn y gall, ac y bydd Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 y Senedd yn ei wneud, ond unwaith eto ar yr hyn na fydd yn ei wneud cyn iddo hyd yn oed gael cyfle i ddechrau ar ei waith. Rwy'n credu bod yn rhaid inni osgoi rhagdybiaethau cynamserol, ac mae'n rhaid inni ganiatáu i'r ymchwiliad a'r pwyllgor gwblhau eu gwaith maes o law. Ni fydd y Llywodraeth yn cytuno i'r cynnig hwn nac yn cefnogi gwelliannau iddo, ac rwy'n annog yr Aelodau eraill i wneud yr un peth. Diolch. [Torri ar draws.]

17:50

Ydy, mae wedi gorffen. Mae'r ffeil yn cau. 

Mabon ap Gwynfor nawr i ymateb i'r ddadl. 

Gallech roi cynnig arall arni, Mr Isherwood. [Chwerthin.]

Diolch. Mi wnaf i wahodd Mark i gyfrannu os ydy o eisiau gwneud cyfraniad.

Diolch yn fawr iawn i bawb am gyfrannu at y ddadl yma. Mae wedi bod yn ddadl bwerus iawn, a dwi'n argyhoeddedig bod yr achos wedi cael ei roi am yr angen am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol Cymreig. Fel y dywedodd un o'r cyfranwyr—dwi'n meddwl mai Delyth ddywedodd hyn—nid pwrpas ein cynnig ni yma, nid pwrpas sefydlu ymchwiliad annibynnol, ydy pwyntio bys a chanfod bai. A dyna'r broblem efo gwleidyddiaeth, onid e, yn enwedig y wleidyddiaeth rydyn ni'n ei harfer fan hyn yng Nghymru, neu yn y Deyrnas Gyfunol, sef yr ofn yma i gydnabod bod bai ar rywun neu fod camgymeriadau wedi cael eu gwneud a'r ofn o sut mae hwnna'n mynd i effeithio o bosib yn wleidyddol ar bobl. Ond rydyn ni i gyd, bob un ohonon ni yma, rhai oedd wedi eu hethol a rhai oedd heb eu hethol, wedi chwarae rhan yn y broses yna o greu penderfyniadau, ac mae angen inni i gyd ddysgu'r gwersi yna wrth symud ymlaen. Dwi felly yn siomedig clywed y Cwnsler Cyffredinol yn dweud ei fod yn gwbl hyderus fod yr ymchwiliad Prydeinig yn mynd i edrych ar yr hyn ddigwyddodd yng Nghymru yn ei gyfanrwydd ac mi fydd o felly yn ddigonol. Mae'n berffaith amlwg na fydd yn ddigon. [Torri ar draws.] Mi wnaf i ildio.

A ydych chi'n rhannu fy mhryder fod COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru a'u bargyfreithwyr, wrth siarad yn y Senedd, wedi gwrthddweud yn uniongyrchol yr hyn y mae'r Cwnsler Cyffredinol newydd ei ddweud ac rydych chi newydd ei ail-ddyfynnu ganddo?

Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Mae hyd yn oed cadeirydd ymchwiliad y DU, fel sydd wedi ei ddatgan sawl gwaith yn y ddadl heddiw, wedi dweud yn glir nad yw ymchwiliad y DU yn ddigonol ac nad yw'n gallu ymdrin â phopeth ac nad yw'n gallu edrych ar y manylion yng Nghymru. 

Fel y dywedais, mae'n ymwneud â mwy na thaflu bai; fe ddigwyddodd rhai pethau da yng Nghymru. Rwy'n meddwl yn benodol am Geredigion a'r hyn a wnaeth Cyngor Sir Ceredigion. Rwy'n cofio darllen penawdau mewn papurau newydd ar draws y DU yn nodi'r pethau da a wnaed yng Ngheredigion—gwersi da y gallwn eu dysgu, yn ogystal â rhai o'r camgymeriadau a gafodd eu gwneud. A'r gwir amdani yw—ac ni allaf gofio pa Aelod a wnaeth y pwynt hwn; efallai mai Altaf a'i gwnaeth—fe fydd hyn yn digwydd eto. Rydym yn gwybod ein bod yn wynebu pandemig arall—efallai'n fuan, efallai nad yn ein hoes ni, ond fe fyddwn yn wynebu pandemig arall. Ac os ydym am ei wynebu'n hyderus, mae angen inni ddysgu'r gwersi o'r hyn a wnaethom yma yng Nghymru. 

Rydym yn meddwl am y ffaith ein bod ni, yng Nghymru, wedi caniatáu i bobl ddychwelyd i'w cartrefi gofal. Ai dyna'r penderfyniad cywir? O edrych yn ôl, mae'n debyg nad dyna oedd y penderfyniad cywir, ond heb ymchwiliad llawn ni fyddwn yn gwybod yn iawn. Rwy'n meddwl am fy mab, y bu'n rhaid iddo fynychu'r ysgol drwy Zoom. A oedd ffordd arall o wneud hynny, o addysgu ein plant yn ystod cyfnod o bandemig, yn ystod cyfyngiadau symud? Nid ydym yn gwybod ar hyn o bryd. Y cyfyngiadau symud eu hunain—a oedd hyd y cyfyngiadau symud yn briodol, a ellid bod wedi eu gwneud mewn ffordd arall? 

Mewn rhannau o Gymru, gwn fod y Llywodraeth wedi cyflwyno cyfyngiadau symud lleol. Ai dyna'r penderfyniad cywir ar y pryd? A ddylem fod wedi lledaenu hynny fwy ai peidio? Mae angen dysgu'r gwersi hyn. Fe wyddom inni gael Ymarfer Cygnus yma yng Nghymru yn ôl yn 2015; pa wersi a ddysgwyd o Cygnus ac a gawsant eu rhoi ar waith? A yw'r gwersi hynny wedi eu dysgu wrth symud ymlaen? Er enghraifft, yng Nghymru ar hyn o bryd, gwyddom nad yw ysbytai'n sicrhau bod staff yn gwisgo masgiau FFP2 a FFP3. Mae'r rheini'n wersi y dylid bod wedi'u dysgu yn sicr, ond nid ar hyn o bryd, yn amlwg, felly beth yw'r sefyllfa o ran dysgu arferion gorau ac arferion gwael o'r profiadau hynny?

Rwy'n credu bod Adam wedi gwneud cyfraniad pwysig iawn am y syniad o ddatblygu a sefydlu comisiwn seneddol, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen i bob un ohonom ei ystyried ac y dylai'r Llywodraeth edrych arno gyda diddordeb. Mae'n sicr yn opsiwn i ni gael rhywbeth, ochr yn ochr ag ymchwiliad, a fydd yn edrych ar yr holl wersi a ddysgwyd o'r profiadau COVID sydd gennym.

Ac yn olaf, rwy'n credu bod y Cwnsler Cyffredinol wedi dweud rhywbeth pwysig yn gynharach, fe wnaethoch chi ddweud y bydd yn brofiad anodd i bawb, ac fe wnaethoch chi gydymdeimlo. Rwy'n credu bod angen i bawb ohonom feddwl am yr iaith a ddefnyddiwn. Dros y dyddiau diwethaf, clywais aelodau o'r Llywodraeth yn dweud eu bod yn edrych ymlaen at roi tystiolaeth i'r ymchwiliad COVID yng Nghaerdydd. Nid yw teuluoedd mewn profedigaeth yn edrych ymlaen. Mae hyn yn ail-gymell y boen i'r teuluoedd hynny. Byddwn yn annog pobl i ystyried yr iaith y maent yn ei defnyddio yn ofalus. Nid yw'n rhywbeth i edrych ymlaen ato; mae'n rheidrwydd, mae'n rhywbeth y mae'n rhaid iddynt ei wneud a gwneud hynny gydag urddas a chyda doethineb. Felly, gobeithio y gwnewch chi ystyried y geiriau a ddefnyddiwch fel aelodau'r Llywodraeth pan fyddwch chi'n siarad â'r camerâu ar y mater hwn.

Felly, mae'r achos wedi'i wneud. Mae'n gwbl glir ein bod angen ymchwiliad annibynnol yma yng Nghymru. Mae dwy ochr y Siambr, o ran y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru, wedi dweud yn glir ein bod yn cefnogi hyn, a byddwn yn annog aelodau eraill o'r Blaid Lafur yn ogystal i gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron heddiw. Diolch yn fawr iawn.

17:55

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Oes, mae yna wrthwynebiad, felly, fe wnawn ni atal y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oes nad oes yna dri Aelod sy'n gofyn i fi ganu'r gloch, mi wnawn ni symud yn syth i'r pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Dwi'n galw am bleidlais yn gyntaf ar y cynnig heb ei ddiwygio yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 37 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 16, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Pleidlais ar welliant 1 sydd nesaf. Os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-dethol. Pleidlais ar welliant 1, felly, yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, ac felly byddaf yn defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Felly, mae'r gwelliant yn cwympo, gyda 27 pleidlais o blaid a 28 pleidlais yn erbyn.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 27, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 sydd nesaf. Mae gwelliant 2 yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, ac felly dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Mae'r gwelliant yn cael ei drechu, gyda 27 pleidlais o blaid a 28 pleidlais yn erbyn.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 27, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

18:00

Gwelliant 3 sydd nesaf, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Fe fyddaf i'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant, felly mae'r gwelliant yn cwympo, gyda 27 o blaid a 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 3 a phob gwelliant wedi ei wrthod, a'r cynnig, ac felly does dim byd wedi cael ei dderbyn o dan yr eitem yna.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 27, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Eitem 7 fydd y pleidleisiau nesaf. Dadl Plaid Cymru oedd hon ar ymchwiliad COVID penodol i Gymru. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y cynnig, ac felly canlyniad y bleidlais yna yw bod 27 o blaid, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Mae'r cynnig heb ei ddiwygio wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Ymchwiliad COVID penodol i Gymru. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig

Y bleidlais nesaf fydd ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal 38 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod a'r cynnig wedi ei wrthod, a does dim byd wedi ei dderbyn o dan eitem 7.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Ymchwiliad COVID penodol i Gymru. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 16, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

9. Dadl Fer: Pwysigrwydd llais Cymru yn yr ymgyrch dros heddwch—Dathlu canmlwyddiant cyflwyno deiseb heddwch menywod Cymru i'r Arlywydd Coolidge a rôl Cymru wrth godi llais dros heddwch heddiw

Ond nid dyna'r diwedd ar ein busnes ni y prynhawn yma. Fe fydd yna ddadl fer i'w chyflwyno gan Sioned Williams. I'r rhai ohonoch chi sy'n gadael—

—os gallai'r rhai ohonoch sy'n gadael wneud hynny'n dawel. Sioned Williams i gyflwyno ei dadl.

Felly, Sioned Williams i gyflwyno'r ddadl.

Diolch yn fawr, Llywydd. Union ganrif yn ôl i'r mis hwn, ym mis Chwefror 1924, glaniodd bedair Cymraes yn Efrog Newydd, gan ddal tusw o gennin pedr, cofeb rwymedig yn cynnwys apêl am heddwch, a deiseb wedi'i llofnodi gan 390,296 o fenywod Cymru. Eu nod oedd eu cyflwyno i ferched Unol Daleithiau America, gan ofyn iddynt ddefnyddio eu dylanwad i annog Llywodraeth yr Unol Daleithiau i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd fel modd o osgoi gwrthdaro yn y dyfodol, ac erchyllterau'r rhyfel byd yr oeddent newydd ei brofi.

Nod fy nadl heddiw yw nodi canmlwyddiant yr ymgyrch ryfeddol hon a gofyn beth yw ei harwyddocâd i Gymru heddiw. Ganrif yn ddiweddarach, mae prosiect Hawlio Heddwch yn archwilio'r cwestiwn hwn, yn ogystal â sicrhau bod y stori ryfeddol hon yn cael ei chofio am genedlaethau i ddod. Hoffwn ddiolch i Ffion Fielding, rheolwr prosiect Hawlio Heddwch, am ei chymorth wrth baratoi'r ddadl, a byddaf yn rhoi amser i Carolyn Thomas, Jane Dodds, Mabon ap Gwynfor a Heledd Fychan i gyfrannu hefyd.

Union ganrif yn ôl i heddiw, 21 Chwefror 1924, roedd gan Annie Hughes Griffiths, Mary Ellis, Gladys Thomas ac Elined Pryce apwyntiad arbennig iawn gyda'r Arlywydd Calvin Coolidge yn y Tŷ Gwyn yn Washington DC. Fe ddangoson nhw yr apêl iddo, y ddogfen fawreddog wedi'i hysgrifennu'n hyfryd ac wedi'i rhwymo mewn lledr Moroco. Hoffwn ddyfynnu y paragraff olaf, sydd mor rymus, yn y cyfieithiad Cymraeg gwreiddiol ohono a wnaed adeg yr apêl, fel ei bod yn gallu cael ei darllen yn iaith pob aelwyd yng Nghymru.

'Mae'r dyfodol yn llawn gobaith os y gwnawn ni, ferched y genhedlaeth hon, ein rhan. I ni y rhoddwyd cyfle ac y mae y cyfle yn gyfrifoldeb.  Galwyd arnom i roddi o'n hanwyliaid ac ni feiddiwn eu bradychu hwy trwy wrthod gorffen y gwaith a ddechreuasant.  "Heb ddig at ungwr," yn ol geiriau anfarwol yr Arlywydd Lincoln, "gan garu pawb, yn gadarn yn y gwirionedd, fel y rhoddo Dduw i ni weld y gwirionedd," apeliwn atoch, Ferched Unol Daleithiau’r America, yn eich amser da eich hunain, ac ar hyd y llwybrau a fo oreu gennych, i'n cynorthwyo yn ein hymdrech i drosglwyddo i'r oesau a ddêl fyd di-ryfel yn dreftadaeth dragywydd.'

Roedd y ddeiseb, yn ei chist dderw, eisoes wedi'i chyflwyno i ferched America mewn derbyniad mawreddog yn y Biltmore Hotel, Efrog Newydd, ychydig ddyddiau ynghynt. Fodd bynnag, yn eu cyfarfod gyda'r Arlywydd Coolidge, fe lwyddodd y pedair Cymraes gael addewid ganddo y byddai'r llofnodion yn cael eu cadw yn amgueddfa'r Smithsonian am byth, a rhoddwyd copi o'r apêl iddo.

Nod yr ymgyrch oedd ysbrydoli a dylanwadu ar Lywodraeth yr Unol Daleithiau i chwarae ei rhan yn Llys Parhaol Cyfiawnder Rhyngwladol fel y gellid datrys gwrthdaro rhyngwladol drwy'r gyfraith yn hytrach na thrwy drais. Doedd yr apêl ddim yn un i lywodraethau, ond i fenywod cyffredin America i ddefnyddio eu dylanwad, i berswadio eu Llywodraeth i ymuno â'r ymgais gynnar hon i wneud deddfau rhyngwladol yn fodd o sicrhau heddwch. Ac er i'r ymgyrch ddenu llawer iawn o sylw yn y wasg ar y pryd, roedd yr ymgyrch hon fwy neu lai wedi mynd yn angof. Ac yn y Smithsonian, arhosodd y ddeiseb yn ei chist, tan 2023.

Beth, felly, yw hanes partneriaeth ac ymgyrch Hawlio Heddwch a ddaeth â'r ddeiseb yma, y crair yma, a'r apêl yn ôl i'n sylw? Dechreuodd y gwaith a arweiniodd at y prosiect sawl blwyddyn yn ôl gyda darganfod y gofeb hardd yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd, pencadlys elusen Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Ond nid tan i brosiect treftadaeth heddwch blaenorol, Cymru dros Heddwch, gael cyllid i ddechrau archwilio'r straeon hyn, gyda chymorth gwirfoddolwyr, y dechreuwyd deall effaith lawn y ddeiseb. Roedd deiseb heddwch merched Cymru yn un o sawl ymgyrch a lansiwyd gan Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru, oedd yn rhyw fath o glwb cefnogwyr ar gyfer egwyddorion Cynghrair y Cenhedloedd. Erbyn y 1920au, byddai Undeb cynghrair y genedl Gymreig yn dod yn un o sefydliadau aelodaeth mwyaf Cymru, gyda dros 1,000 o ganghennau cymunedol lleol a 61,000 o aelodau yn ymgyrchu'n frwd ar faterion rhyngwladol y dydd. Ac ar adeg pan nad oedd gan fwyafrif menywod Cymru yr hawl i bleidleisio, roedd y ddeiseb heddwch yn un o’r ychydig iawn o gyfleoedd gafodd menywod cyffredin i leisio'u barn. Rhwng Mai 1923 ac Ionawr 1924, roedd 400 o drefnwyr deisebu ledled Cymru, yn dod o bob cefndir, yn siaradwyr Cymraeg ac yn ddi-Gymraeg, o bob enwad, o bob lliw gwleidyddol. Mae hanesion am drefnwyr yn cerdded milltiroedd dim ond i gyrraedd at un ffermdy. Casglwyd 390,296 o lofnodion, sef tua 30 y cant, un mewn chwech, o boblogaeth menywod Cymru ar y pryd.

Yn y blynyddoedd wedi ailddarganfod y gofeb, tyfodd y diddordeb yn yr hanes. Dechreuodd grŵp o ferched, o'r enw Heddwch Nain-Mamgu, ymgyrch i gofio'r hanes, i ddod o hyd i'r ddeiseb, gyda'r nod o ddefnyddio hi fel modd o ymgysylltu pobl heddiw â materion yn ymwneud â heddwch a gwrthdaro. Y grŵp hwn a gysylltodd â'n sefydliadau cenedlaethol—y llyfrgell genedlaethol, Amgueddfa Cymru—a diolch i’r momentwm a grëwyd ganddynt, a'u penderfyniad llwyr, y cychwynnodd y prosiect. Dros y blynyddoedd nesaf, dan gydlyniad Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ac Academi Heddwch Cymru, drwy gysylltiadau yn Washington, drwy waith ymchwil aelodau Archif Menywod Cymru, a phenderfyniad unigolion, rhoddwyd yr hanes at ei gilydd. Tipyn o orchest.

Y datblygiad mawr oedd sicrhau cytundeb gan amgueddfa’r Smithsonian nid yn unig i gefnogi digideiddio’r enwau, ond hefyd i gynnig rhoi'r ddeiseb gyfan yn ôl i Gymru ar gyfer astudiaeth bellach dan ofal y llyfrgell genedlaethol. A chroesawyd y gist dderw a'i chynnwys mor arbennig yn ôl i Gymru ym mis Ebrill y llynedd.  

Ar hyn o bryd, mae staff y llyfrgell genedlaethol yn gweithio eu ffordd drwy 33 o flychau o ddeisebau, i'w gwarchod, eu sganio, eu catalogio, tagio eu lleoliadau, ac yn gyffredinol mynd i'r afael â dogfen a fyddai, yn ôl y sôn ar y pryd, yn ymestyn i 7 milltir o hyd, o un pen i'r llall.

Mae cannoedd o wirfoddolwyr wedi'u recriwtio i helpu i drawsgrifio'r holl enwau i gronfa ddata chwiliadwy a fydd yn darparu adnodd mor werthfawr ac unigryw i ymchwilwyr y dyfodol, ac i ni ddinasyddion Cymru heddiw. Ac yn eu plith mae un llofnod arbennig. Doeddwn i ddim yn disgwyl canfod unrhyw un oedd yn perthyn i fi ar y ddeiseb.

Roedd fy mhedair hen fam-gu yn wragedd i lowyr yn Rhymni a Fochriw, heb fedru cael addysg tu hwnt i'w ysgol gynradd, yn brwydro bob dydd i gadw'r blaidd wrth y drws. Sut byddai gan y menywod hyn amser i ystyried materion mawr y dydd fel pwysigrwydd heddwch rhyngwladol? Ond rôn i'n anghywir. Dyna enw fy hen fam-gu: Bessie Evans, Price Street, Rhymni, mam-gu fy nhad, Philip, mam fy mam-gu Nansi—yr unig fam-gu ces i'r fraint o adnabod ac a oedd yn ddylanwad enfawr arnaf i o ran hanfod fy ngwleidyddiaeth. Bu hi farw yn 1944 yn 69 oed, a dwi'n gwybod tipyn amdani. Roedd hi'n cymryd golch mewn i ennill bach mwy o arian i'r teulu o bump. Roedd hi'n fenyw fawr, gref, fel fi, yn gadarn ei chredoau, yn aelod ffyddlon o gapel Methodistaidd Ebenezer Twyn-Carno, Rhymni, ac roedd gweld ei henw hi ynghyd ag enwau ei dwy ferch hynaf, bopa Miriam a bopa Elizabeth, chwiorydd fy mam-gu, yn wefr ac, yn amlwg, yn emosiynol.

Roedd hefyd yn neges bwysig a chlir o'r gorffennol: llais fy nghynfamau yn galw arnaf i drwy'r degawdau ac yn ateb fy nghwestiwn. Roedden nhw wedi llofnodi'r ddeiseb yma am eu bod nhw'n deall i'r dim mai pobl gyffredin, dlawd, fel nhw oedd yn talu pris uchel rhyfel, am eu bod nhw'n deall i'r dim bwysigrwydd cymdeithas, cydweithredu, a, thrwy eu ffydd Gristnogol, anghydffurfiol, fod rhaid gweithredu, bod angen i Gymru godi ei llais fel cenedl ar lwyfan y byd.

Mae hanes rhyfeddol a balch y ddeiseb yn anfon neges atom yng Nghymru heddiw am bwysigrwydd gweithredu, am bwysigrwydd cymryd safiad, ac am draddodiad hir a balch Cymru, a merched Cymru yn benodol, o godi llais ar faterion rhyngwladol. Gallwn feddwl am rôl Cymru wrth ymgyrchu dros ddiddymu caethwasanaeth, a menywod fel Jessie Donaldson o Abertawe, a deithiodd i Cincinatti i sefydlu tŷ diogel i gaethweision oedd ar ffo, a'r chwiorydd Sarah a Blanche Hilditch a groesawodd Frederick Douglass i Wrecsam.

Roeddwn ar orymdaith heddwch yn Abertawe yn ddiweddar yn galw am gadoediad ar unwaith yn Gaza. Cydgerddais gyda menywod a fu yng Nghomin Greenham, a chyd-aelodau o CND. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar drais yn erbyn menywod a phlant, rwyf wedi ysgrifennu at ein dwy Llywodraeth yn pwysleisio'r ffaith taw menywod a phlant sydd wedi dioddef yn bennaf yn sgil ymosodiadau Israel ar Gaza, a'u hannog i alw'n glir ac yn gyhoeddus am gadoediad am byth. Felly, o gofio hanes y ddeiseb hon, pam nad yw Llywodraeth Cymru'n teimlo y gallai wneud hynny? Roedd hi'n siarad yn huawdl iawn am y sefyllfa yn Wcráin ddoe. Clywais ddau Aelod yn datgan eu barn yn glir, felly pam y tawelwch am ryfel Gaza? Ni ddylem ymdrin â’r ddeiseb hon fel darn o hanes yn unig, heb archwilio ei harwyddocâd a'i hysbrydoliaeth heddiw. Y rheswm y mae geiriau'r apêl yn atseinio gymaint yw eu bod nhw'r un mor bwysig heddiw ag yr oeddent ganrif yn ôl. Os ŷn ni'n galw ein hunain yn genedl noddfa, pam ddim cenedl heddwch?

Mae modd, wrth gwrs, gweld y ddeiseb fel methiant. Ni ymunodd America â Chynghrair y Cenhedloedd, a bu rhyfel byd arall, ac mae rhyfeloedd yn parhau, ond y ffaith yw bod awydd cymaint o'n cynfamau ni, yn deisyfu heddwch, yn mynnu gweithredu yn enw heddwch, yn eithriadol o rymus ynddo ei hun ac yn neges glir i'n Llywodraeth ni heddiw.

Felly, sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu sicrhau na fydd y ddeiseb fyth yn mynd yn angof eto, a, thu hwnt i'r digwyddiadau a phrosiectau gwych a fydd yn digwydd eleni i nodi'r canmlwyddiant, sut bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod ei heffaith a'i neges yn parhau'n ddylanwad arnom a chenedlaethau'r dyfodol wedi i'r dathliadau ddod i ben ym mis Hydref?

Dylai Cymru fod yn falch o'i threftadaeth a'r rôl y mae wedi'i chwarae wrth arwain y gwaith o geisio heddwch rhyngwladol, a chefnogi'r strwythurau i geisio sicrhau hynny. Sut ydym ni'n sicrhau bod y traddodiad balch a phwysig hwn yn parhau hyd heddiw?

Mewn erthygl yn The Guardian, mae Dr Rowan Williams yn tynnu cymhariaeth rhwng yr hyn y mae'r ddeiseb yn dweud am sut roedd pobl Cymru yn fodlon cymryd cyfrifoldeb dros a chael hyder yn eu gallu i newid pethau, a gwaith y comisiwn ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Dywed:

'Mae’n hen bryd buddsoddi’n fwy dychmygus mewn rhwydweithiau cydgynghorol lleol ac mewn addysg ddinesig barhaus—yn y gobaith o feithrin yr hyder a ysbrydolodd Annie a’i chymheiriaid, yr hyder fod yr hyn a ddywedent ac a wnaent yn gallu newid pethau, ac y gellir dwyn y rheini sydd mewn grym i gyfrif gan gyhoedd gwybodus, beirniadol a gobeithiol.'

A yw'r Llywodraeth yn fodlon derbyn ei argymhelliad, ac os yw, sut gall hynny gael ei wireddu? Sut bydd llwyddiant yn edrych?  

18:15

Diolch i Sioned Williams am ddod â’r ddadl fer bwysig hon i’r Senedd, ar adeg pan fo lleisiau dros heddwch yn ein cymunedau a’n sefydliadau gwleidyddol yn bwysicach nag erioed. Mae gan Gymru hanes balch o fod yn genedl heddwch. Rydym yn genedl noddfa. Mae deiseb heddwch menywod Cymru yn enghraifft wych o’r traddodiad Cymreig hynod, oesol hwnnw, a mwynheais ddarllen yr arddangosfa yn yr Eisteddfod am yr hanes y llynedd, yn dathlu 100 mlynedd.

Heddiw, rydym yn byw mewn byd mwy anwadal nag erioed, gyda datblygiadau technolegol yn caniatáu i lawer o weithredoedd rhyfel gael eu cyflawni fel pe baent yn fawr mwy nag efelychiad rhithwir, ond gyda chanlyniadau yr un mor angheuol â gwrthdaro arfog traddodiadol. Mae’r byd anwadal hwnnw’n galw am lais byd-eang dros heddwch, sy'n cynnwys y Senedd hon, a dyna pam fod ein pleidlais ddiweddar dros gadoediad ar unwaith yn Gaza mor bwysig, ac wrth symud ymlaen, dyna pam fod yn rhaid inni barhau i gofio ysbryd menywod Cymru a siarad heddiw o blaid heddwch ac atebion heddychlon.

Diolch yn fawr iawn, a diolch i Sioned hefyd.

Comin Greenham, y neiniau yn yr Ariannin, y menywod yn Iran—mae'r rhain oll yn lleoedd ac yn adegau lle mae menywod wedi chwarae rhan arwyddocaol wrth sicrhau heddwch hirbarhaol. Ac os edrychwn ar ymchwil, mae'n dangos y gall menywod newid y darlun o ryfel ledled y byd. Dangosodd astudiaeth o 40 o brosesau heddwch mewn 35 o wledydd dros y tri degawd diwethaf y deuir i gytundeb bron bob amser pan oedd grwpiau menywod yn gallu dylanwadu’n effeithiol ar y broses heddwch. Pan nad oedd menywod yn rhan o'r broses, roedd y gyfradd a ddeuai i gytundeb yn llawer iawn is. Nid oes angen imi ddweud bod menywod yn chwarae rhan mor bwysig wrth sicrhau heddwch, a dyna mae'n rhaid inni ei ddathlu, yn ogystal â'r menywod gwych hyn a adawodd Gymru.

Diolch yn fawr iawn i chi i gyd.

Diolch am y ddadl yma, achos dwi'n cofio nôl yn 2007, ddaru i fi gyflwyno darlith yng Nghaernarfon ynghylch heddwch a hanes heddwch, ac mae gan Gymru hanes balch iawn mewn heddwch. Ac yn gwneud yr ymchwil, roeddwn i'n darllen am Evan Rees, ysgrifennydd cyntaf y Gymdeithas Heddwch, nôl yn 1816; darllen am yr apostol heddwch o Dregaron, Henry Richard—dyn mawr, wrth gwrs, ar y pryd; a George M.Ll. Davies, cymeriad mawr arall. Ond yn gwbl nodweddiadol o unrhyw lyfrau hanes, dynion oedden nhw i gyd, ac roedd y menywod ar goll o'n hanes ni, tan, wrth gwrs, i rywun feddwl am chwiorydd Greenham, mam yn eu plith, oedd wedi sefyll fyny dros heddwch byd-eang, a nawr hyn, sydd wedi dod i'r golwg, yr hyn roeddet ti, Sioned, yn sôn amdano, sef y chwiorydd yma oedd wedi sicrhau bod y ddeiseb yma mor llwyddiannus, gan fynd â hi i America a rhoi'r achos heddwch ymlaen.

Felly, mae gan draddodiad heddwch hanes balch fan hyn yng Nghymru, a heddiw rŷn ni'n gweld pobl fel Awel Irene, Mererid Hopwood, Jill Evans, Bethan Siân Jones, ac yn y blaen, yn gwthio'r agenda ymlaen, a'r academi heddwch wedi cael ei chreu oherwydd y gwaith gan y chwiorydd hynny. Felly, mae'r traddodiad yna'n parhau. Dwi mor falch ohono fo, a dyna pam fod yn rhaid i ni fan hyn yn Senedd genedlaethol Cymru barhau i sefyll fyny dros heddwch byd-eang, a gwneud yn siŵr bod ein Llywodraeth ni hefyd yn gwneud yr un peth a sicrhau bod Cymru yn sefyll lan dros drueiniaid Gaza ac Wcráin, fel mae'r Llywodraeth wedi gwneud heddiw. Diolch yn fawr i ti, Sioned.

Diolch, Sioned, am ddod â hyn ger ein bron. Mae o mor bwysig ein bod ni'n diolch i bawb sydd wedi bod ynghlwm efo'r prosiect yma. Ond hefyd mae'n ein hatgoffa ni pa mor bwysig ydy ein casgliadau cenedlaethol ni, a'r sgiliau sydd o fewn y llyfrgell genedlaethol ac ati, sy'n caniatáu i'r prosiect yma ddigwydd. Dŷn ni wedi clywed bygythiadau oherwydd y toriadau sydd i'r llyfrgell genedlaethol. Mae'n rhaid inni ddiogelu'n treftadaeth, oherwydd mae'r cysylltiad pwerus rhyngot ti yn bersonol a'r ddeiseb yna—meddylia fod pawb, pob merch ifanc yng Nghymru sydd efo perthynas, yn cael canfod hynny, a beth fyddai hynny'n golygu o ran democratiaeth, yr ymdeimlad yma fod gan bawb rym a llais, beth bynnag fo'u rôl nhw. Mae'n neges bwerus. Mae'n rhaid inni warchod ein treftadaeth ni oherwydd beth mae'n golygu ar gyfer rŵan, ac yn y cyd-destun rhyngwladol, mae'n allweddol bwysig ein bod ni'n deall nad Cymru fach mohonom ni—Cymru fawr lle mae llais pawb yn cyfrif, a dyna rym y ddeiseb yma i'n hysgogi ni bod yn rhaid inni godi llais rŵan hefyd. 

18:20

Y Prif Weinidog nawr i ymateb i'r ddadl. Mark Drakeford. 

Llywydd, diolch yn fawr, a diolch i Sioned Williams a phob un sydd wedi cyfrannu at ddadl bwysig ac ysbrydoledig hefyd. 

Lywydd, rwy'n edrych ar ffotograff o'r pedair menyw a aeth â'r ddeiseb heddwch draw i America. Mae uwchben yr erthygl gan Dr Rowan Williams y cyfeiriodd Sioned Williams ati. Dyna nhw, y pedair ohonynt. Maent yn anhygoel. Maent yn edrych yn benderfynol. A phan welais y ffotograff gyntaf, roeddwn yn gwybod ei fod yn fy atgoffa o rywbeth, a sylweddolais mai'r rheswm am hynny oedd fy mod yn edrych arnynt bob wythnos ar draws y bwrdd yng Nghabinet Llywodraeth Cymru. Ac efallai fod hynny'n rhannol am fod disgynyddion uniongyrchol i'r bobl hynny. Dil, hen fodryb Eluned Morgan, oedd trefnydd y ddeiseb yn sir Benfro, ac fel y dywedodd Sioned Williams hefyd, bydd llawer iawn o deuluoedd heddiw yn darganfod, gyda’r adnodd gwych newydd hwn, fod ganddynt gysylltiad â gweithredoedd y criw anhygoel hwnnw o fenywod 100 mlynedd yn ôl.

Fel y clywsoch, cyflwynwyd y ddeiseb heddwch i’r Arlywydd Calvin Coolidge, 'silent Cal', fel y'i gelwid am ei fod yn gŵr cynnil ei eiriau, un o’r 16 o Arlywyddion America o dras Cymreig. Ac un o’r dogfennau mwyaf trawiadol a welais yn yr archif yn Aberystwyth nawr yw hanes y menywod am y cyfarfod yn y Swyddfa Hirgron yn y Tŷ Gwyn, lle mae’r Arlywydd Coolidge yn eu hatgoffa o’i hanes Cymreig a’i linach Gymreig ei hun.

Wrth gwrs, Lywydd, pan aeth dynion a menywod o Gymru i America yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roeddent yn weriniaethwyr. Roeddent yn weriniaethwyr am eu bod yn perthyn i blaid ddiwygio Lincoln, a ddiddymodd gaethwasiaeth. Erbyn cyrraedd 1923, roedd Calvin Coolidge ei hun yn weriniaethwr mwy traddodiadol mewn termau economaidd, ond roedd yn dal i fod yn gefnogwr cryf i'r bleidlais i fenywod ac yn selog iawn ei gefnogaeth i gydraddoldeb hiliol. Ei Lywodraeth ef a roddodd Ddeddf Ddinasyddiaeth yr Indiaid 1924 ar y llyfr statud yn America, y Ddeddf gyntaf i warantu dinasyddiaeth yr Unol Daleithiau i Americanwyr Brodorol.

Roedd yn ŵr cynnil ei eiriau, fel y dywedais. Galwodd gynhadledd i'r wasg i gyhoeddi na fyddai'n sefyll eto i'w ethol yn Arlywydd. Pan oedd y wasg wedi ymgynnull, cafodd y drws ei gloi, a rhoddodd ddarn o bapur i bob un ohonynt, a'u gwahodd i'w agor. Fe wnaethant droi'r papur drosodd, ac arno, roedd yn dweud, 'Nid wyf yn dewis cynnig am yr Arlywyddiaeth.' Pan ofynnwyd iddo a oedd ganddo unrhyw beth pellach yr hoffai ei ychwanegu, dywedodd, yn syml iawn, 'Nac oes', a dyna ddiwedd y gynhadledd i'r wasg. Felly, rwy'n credu bod gwersi da i’w dysgu, hyd yn oed ar ôl yr holl flynyddoedd.

Nawr, roedd y ddeiseb heddwch, wrth gwrs, yn adwaith i gyflafan y rhyfel byd cyntaf, adwaith a oedd yn ddwys iawn ledled Ewrop. Roedd yr Urdd, y clywsom amdani eisoes heno—ac fe ddywedaf fwy amdani yn y man—ei hun yn un o lu o fudiadau ieuenctid a sefydlwyd yng nghysgod y gyflafan. Ac yma yng Nghymru, wrth gwrs, roedd yn fudiad di-iwnifform—fe gofiwch am y mudiadau ieuenctid mawr cyn y rhyfel, y Sgowtiaid, Brigâd y Bechgyn, y Geidiaid; roedd pob un ohonynt yn fudiadau iwnifform—ac roedd yn fudiad a oedd yn agored i ddynion a menywod ifanc. Roedd yn rhan o'r mudiad heddwch byd-eang gwych hwnnw.

Yr un tarddiad sydd i’r ddeiseb heddwch, ond mae gan y mudiad heddwch yng Nghymru, fel y clywsom, wreiddiau llawer dyfnach. Yn yr erthygl gan Rowan Williams, mae’n ein hatgoffa mai gŵr cyntaf Annie Hughes Griffiths oedd Tom Ellis, yr AS Rhyddfrydol y ceir cerflun ohono yn y Bala o hyd, y gobaith coll mawr hwnnw o fudiad Cymru Fydd, mudiad a oedd yn rhagflaenydd i ddatganoli ac i’r Senedd heddiw. Cyn Tom Ellis, ac yn gyfoeswr iddo yn wir, oedd y brodor o Dregaron, Henry Richard, yr apostol heddwch, gŵr a fu’n ysgrifennydd i’r Gymdeithas Heddwch ym mlwyddyn y chwyldroadau Ewropeaidd yn 1848, ac a ddaeth yn Aelod Seneddol dros Ferthyr Tudful.

Roedd y 1920au cynnar yn gyfnod o newid aruthrol. Yma yng Nghymru, ym 1921, yn is-etholiad Caerffili, etholwyd yr AS cyntaf a fu’n wrthwynebydd cydwybodol yn ystod y rhyfel byd cyntaf. Mae'n anhygoel meddwl, onid yw, am Morgan Jones, a dreuliodd y rhyfel byd cyntaf yn y carchar yn Wormwood Scrubs, a chwta dair blynedd yn ddiweddarach, fe'i hetholwyd yn AS Llafur dros Gaerffili, ac ar sail y dyhead hwnnw am heddwch. Mae bywgraffiad gwych ohono gan ei olynydd, Wayne David, os nad yw fy nghyd-Aelodau wedi cael cyfle i'w ddarllen. Roedd hynny ym 1921. Ym 1922, sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru. Ym 1923, y ddeiseb heddwch, ac ym 1924, ei chyhoeddi yn y Tŷ Gwyn, a chyhoeddi un o'r pamffledi cyntaf a luniwyd gan gyngor cenedlaethol Cymru o Gynghrair y Cenhedloedd. Mae’r pamffled hwnnw’n deyrnged i fywyd Henry Richard, ac fe’i cynhyrchwyd gan y cyngor hwnnw, dan gadeiryddiaeth David Davies Llandinam, yr Arglwydd Davies, a ariannodd y deml heddwch, y clywsom amdani heno hefyd. Mae'r deisebwyr a'r ddeiseb yn rhan o'r dreftadaeth gyfoethog iawn honno o ymwneud y Cymry mewn mudiadau heddwch.

Ond credaf y dylem oedi am eiliad, gan fod mwy nag un edefyn yn hanes Cymru hefyd. Yn union fel yr aeth menywod o Abertawe i Cincinnati i fod yn rhan o lwybr rhyddid caethweision yn America, dilynwyd diwedd y rhyfel byd cyntaf yng Nghymru gan derfysgoedd hil yng Nghasnewydd ac yng Nghaerdydd. Rhyfel a ddechreuodd, fel y dywed Aled Eirug yn ei lyfr, The Opposition to the Great War in Wales 1914-1918, drwy ddangos pa mor gyflym y cafodd traddodiad heddychlon anghydffurfiaeth Gymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg ei wyrdroi yn y brwdfrydedd cychwynnol hwnnw dros y rhyfel mawr. Ym 1914, ni chynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol oherwydd y dathliadau wrth i'r Deyrnas Unedig ymuno â'r rhyfel mawr. Nod dydd Gŵyl Dewi y flwyddyn honno oedd codi arian ar gyfer ymdrech y rhyfel. Ym 1916, penodwyd yr unig Gymro erioed i ddod yn Brif Weinidog y DU, David Lloyd George, a chafodd ei benodi er mwyn arwain Cymru a’r Deyrnas Unedig drwy’r rhyfel. Fel y dywedaf, daeth y rhyfel i ben fel y dechreuodd—dechreuodd gydag Ivor Novello, brodor o Heol y Bont-faen yn fy etholaeth i, yr oedd ei eiriau a’i gân, 'Keep the Home-Fires Burning', yn hynod boblogaidd yn nyddiau cynnar y rhyfel.

'They were summoned from the hillside, / They were called in from the glen, / And the country found them ready / At the stirring call for men'.

Oes, mae gan Gymru hanes balch o ymwneud â mudiadau heddwch, ond mae mwy nag un edefyn yn hanes Cymru, ac nid ydym yn gwneud cyfiawnder â'n hanes os ydym yn anwybyddu'r ffaith, mewn sawl man ac ar sawl achlysur, fod brwdfrydedd dros ryfela hefyd wedi bod yn rhan o'n hanes.

Lywydd, i ddychwelyd at y brif stori, fel y dywedodd Mabon ap Gwynfor, os nad ydych chi'n ofalus, pan ddechreuwch sôn am y cyfnod hwn yn ein hanes, rydych chi'n tueddu i siarad am ddynion yn unig, fel y gwnes i hyd yma. Ac eto, hanes menywod oedd hwn, menywod allan yn casglu llofnodion ar gyfer y ddeiseb heddwch honno. Felly, hoffwn sôn am dair menyw o blith nifer o rai eraill y gellid bod wedi sôn amdanynt, i nodi’r cyfraniad ehangach hwnnw.

Agorwyd y Deml Heddwch ym 1938, felly lai na dwy flynedd cyn dechrau'r Ail Ryfel Byd. Fe'i hagorwyd gan Mrs Minnie James o Ddowlais, menyw a gollodd ei thri mab yn y rhyfel rhwng 1914 a 1918. Dywedodd hyn ar risiau'r Deml Heddwch:

'Yn enw menywod Cymru mae'n fraint gennyf agor yr adeilad. Rwy'n ei gyflwyno er cof am y dynion dewr o bob gwlad a roddodd eu bywydau yn y rhyfel a oedd i fod i roi diwedd ar ryfeloedd.'

Wel, fel y dywedodd Mabon, ni wnaeth hynny o gwbl, fel y gwelwyd yn fuan iawn wedyn, ond nid oedd hynny'n golygu nad oedd ymdrechion y deisebwyr ac ymdrechion Minnie James a'r rhai a safai wrth ei hochr ar y grisiau y diwrnod hwnnw yn rhai pwysig ac arwyddocaol.

Mae'r AS benywaidd cyntaf sydd â chysylltiadau Cymreig yn aml yn cael ei hanwybyddu yn ein hanes ein hunain. Rydym yn anghofio bod Edith Picton-Turbervill, a oedd yn Aelod Seneddol dros y Wrekin ychydig dros y ffin yn y Llywodraeth Lafur fer honno rhwng 1929 a 1931 yn dod yn wreiddiol o Briordy Ewenni ym Mro Morgannwg. Roedd hi'n dod o deulu aristocrataidd, ond roedd hi'n sosialydd ac roedd hi'n swffragét a threuliodd ei chyfnod byr yn Nhŷ'r Cyffredin i raddau helaeth yn mynd ar drywydd materion menywod. Mae'n debyg mai hi yw'r fenyw gyntaf o Gymru erioed i gael darn o ddeddfwriaeth ar y llyfr statud, pan aeth ati i hyrwyddo a pherswadio Tŷ'r Cyffredin i basio Bil Dedfryd o Farwolaeth (Mamau Beichiog), a lwyddodd i ddiddymu'r gosb eithaf i fenywod beichiog yn y Deyrnas Unedig.

Ac am eiliad—oherwydd, fel y dywedodd Sioned, gall hon fod yn daith emosiynol pan feddyliwn am y bywydau hyn a'r hyn a wnaethant a'r hyn yr oeddent yn ei olygu—rwy'n mynd i ddweud rhywbeth, am eiliad, am Mrs Morgan. Fe ddeuthum i Gaerdydd ym 1979, ac yn gynnar iawn yn y 1990au, penderfynodd grŵp hynaws o ynadon fod angen help ar blentyn 12 oed o'r enw John Morgan, a daeth yr help annhebygol iawn a gafodd drwy fy ymddangosiad i, yn fy ugeiniau cynnar. Bob wythnos, byddwn yn esgyn y lloriau niferus yn y bloc o fflatiau ar ystad Hollybush yn yr Eglwys Newydd, oherwydd roedd John yn byw gyda'i nain, Mrs Morgan, a oedd mor hen â'r ganrif, ac yn ei 80au cynnar, roedd hi wedi dod i ofalu am ei hŵyr. Ac nid wyf yn meddwl imi fod yn llawer o help i John, ond rwy'n gobeithio fy mod wedi rhoi ychydig bach o help i Mrs Morgan, pe bai ond am fy mod i'n gynulleidfa i'r straeon yr oedd hi bob amser yn awyddus i'w hadrodd. A phan oeddwn i'n eistedd yn ei hystafell fyw, roedd yna ddau beth roedd hi angen eu dweud wrthyf bob amser. Y cyntaf oedd ei hatgasedd dwfn a pharhaus tuag at y Prif Weinidog Margaret Thatcher. Roeddwn i'n ystyried Mrs Thatcher yn atgas, ond roedd atgasedd Mrs Morgan yn ddyfnach na fy un i bob tro. A'r ail stori roedd hi am ei hadrodd oedd sut y byddai hi, fel merch 16 oed, ym 1916, yn mynd ar dram yng Nghaerdydd ac yn teithio i lawr i'r bae i weithio mewn ffatri arfau fel rhan o ymdrech y rhyfel. Roedd Mrs Morgan yn swffragét a oedd wedi mynd ar orymdeithiau yng Nghaerdydd, ac roedd hi'n sosialydd hefyd. Roedd hi'n bendant yn un o'r bobl hynny rydych chi'n eu dychmygu'n arwyddo'r ddeiseb heddwch, ac ymhell i mewn i'n bywydau ni, roedd y bobl hynny'n dal i ymladd dros yr achosion blaengar yr oedd y deisebwyr eu hunain wedi ymgynnull i'w hyrwyddo yn ôl yn y 1920au.

I ble mae hyn oll yn ein harwain ni heddiw, Lywydd? Wel, mae'n ein harwain at Gymru sydd, yn fy marn i, yn parhau i fod yn ymroddedig i achos heddwch, cenedl noddfa, ein deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol, ein buddsoddiad yn yr Academi Heddwch, gyda'i darlith heddwch flynyddol, y buddsoddiad a wnawn yn rhaglen Taith i alluogi pobl ifanc o Gymru i gyfarfod â phobl ifanc o rannau eraill o'r byd, ac i groesawu pobl ifanc o rannau eraill o'r byd yma i Gymru. A gwaith parhaus yr Urdd wrth gwrs. Nawr, roeddwn i'n ddigon ffodus i fynd gyda'r Urdd i Ganolfan Heddwch Nobel yn 2022 i ddathlu'r 100fed neges heddwch, neges heddwch ac ewyllys da gan bobl ifanc Cymru i bobl ifanc y byd. Cyrhaeddodd y neges honno 10 miliwn o bobl eraill ledled y byd. Eleni, wrth gwrs, bwriad yr Urdd yw i'r ddeiseb heddwch fod yn destun y neges flynyddol yn 2024.

Lywydd, roeddwn i eisiau gorffen gyda dwy stori gyferbyniol, y ddwy o'r ychydig fisoedd diwethaf. Yn ystod yr hydref y llynedd, euthum i Lyn-nedd. Euthum i wasanaeth, gwasanaeth a oedd, fel y dywedai'r daflen, yn un i gofio a chydnabod y cywilydd a'r anghyfiawnder a ddioddefodd y Preifat William Jones yn ystod y rhyfel byd cyntaf. Roedd yn un o recriwtiaid Kitchener i'r fyddin, yn aelod o nawfed fataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, a chyrhaeddodd yn ôl i Gastell-nedd ar daith na allai neb ei deall ac na allai roi cyfrif amdani. Roedd wedi dianc o'r rhyfel. Cafodd ei arestio gan Gymry. Cafodd ei drosglwyddo i'r awdurdodau. Cafodd—mae'n rhaid imi feddwl am y gair cywir—cafodd ei ddienyddio fel enciliwr yn y rhyfel byd cyntaf. Roedd yn 17 mlwydd oed, a fwy na 100 mlynedd yn ddiweddarach, a diolch i waith gwych yr hanesydd lleol a'r ymgyrchydd Robert King, rhoddwyd ei enw ar y gofeb yno yng Nglyn-nedd gyda'r holl rai eraill o'r pentref hwnnw a gollodd eu bywydau yn y rhyfel byd cyntaf. Dyna ei goffadwriaeth.

Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, gosodwyd plac glas yn Aberystwyth, plac glas i goffáu gwaith y deisebwyr a'r holl bobl yr oeddent wedi eu cymell ledled Cymru i roi eu henwau ar y ddeiseb honno, ochr arall i hanes Cymru, ochr arall i'n perthynas â rhyfela a heddwch. Mewn mis neu ddau, dyna'r gwaethaf a'r gorau o'n hanes. Rwy'n siŵr mai uchelgais y rhan fwyaf o Aelodau'r Senedd yw y byddem, yn ein hamser ni, a phan gawn y cyfle hwnnw, yn hoffi bod ar ochr orau ein hanes. Dyna pam mae'r ddadl fer hon wedi bod mor werthfawr y prynhawn yma. Lywydd, diolch yn fawr.

18:35

Diolch yn fawr i'r Prif Weinidog, a diolch i bawb am gyfrannu i'r ddadl arbennig yna. Nos da i chi i gyd.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:39.