Y Cyfarfod Llawn

Plenary

24/01/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Prynhawn da a chroeso i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Samuel Kurtz.

Prosiectau Ynni Adnewyddadwy

1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch cymorth ariannol i gynghorau i hwyluso'r gwaith o gyflawni prosiectau adnewyddadwy yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ60565

Rwy’n cael trafodaethau rheolaidd gyda chyd-Weinidogion ar gyllideb Llywodraeth Cymru, ac rydym yn cynorthwyo awdurdodau lleol i gynyddu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy drwy gefnogi porthladdoedd rhydd, bargeinion twf, buddsoddi mewn cynlluniau ynni ardaloedd lleol, a darparu cyllid uniongyrchol drwy fentrau megis gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Yr wythnos diwethaf, croesawais fyfyrwyr o gwrs Destination Renewables Coleg Sir Benfro i’r Senedd i sgwrsio gyda nhw am eu cwrs a pha mor bwysig yw hi fod llywodraeth leol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr. Dangosodd yr ymweliad i bob un ohonom pa mor bwysig yw hi fod polisi a gwleidyddiaeth yn gweithio mewn synergedd gyda’r diwydiant i ddarparu cyfleoedd lleol i’n pobl ifanc mewn addysg a chyflogaeth. Er mwyn sicrhau bod y gadwyn gyflenwi ar waith, Weinidog, mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y cymorth angenrheidiol yno i awdurdodau lleol, sydd ar lawr gwlad ac sy’n gwireddu anghenion y gymuned leol yn llwyr fel y gallant, yn eu tro, gefnogi ein pobl ifanc, fel y rheini sy’n astudio ar gwrs Destination Renewables yng Ngholeg Sir Benfro, i gyflawni eu nodau addysgol a gyrfaol. Felly, Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru, drwoch chi a’r Gweinidog newid hinsawdd, yn cefnogi awdurdodau lleol i’w galluogi i ddarparu’r cyfleoedd hyn i’n pobl ifanc ac i sicrhau bod pob haen o lywodraeth—llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU—yn cydweithio i gyflawni’r prosiectau ynni adnewyddadwy strategol bwysig hyn?

Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn a’r gydnabyddiaeth rwy'n ei rhannu fod yn rhaid i bob haen o lywodraeth weithio gyda’i gilydd i wneud y gorau o’r cyfleoedd adnewyddadwy sydd gennym yma yng Nghymru. Credaf fod ynni gwynt arnofiol ar y môr yn un maes penodol a fyddai’n bwysig i’r Aelod, i’w etholwyr ac i’r bobl ifanc sy’n astudio cwrs Destination Renewables. Credaf fod y gwaith a wnawn gyda’r diwydiant, Ystad y Goron a Llywodraeth y DU i wneud ffermydd gwynt arnofiol ar y môr yn realiti yn wirioneddol bwysig, ac rydym yn gweithio’n galed iawn ar hynny, ac yn arbennig, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ein porthladdoedd yn y broses o sicrhau cyllid o gynllun buddsoddi £160 miliwn Llywodraeth y DU mewn gweithgynhyrchu ynni gwynt ar y môr. Ni fydd hynny’n ddigon ar gyfer yr hyn sydd ei angen ar y sector, ond fe fydd yn bwysig. Ond mae sir Benfro yn gwbl ganolog i’r cyfleoedd hyn ac mae gennym bedwar prosiect profi ac arddangos yn cael eu hadolygu gan Ystad y Goron yn y môr Celtaidd ar hyn o bryd. Ac yn ogystal â hynny, mae Blue Gem Wind wedi derbyn trwydded gwely'r môr gan Ystad y Goron i ddatblygu fferm wynt arnofiol ar y môr oddi ar arfordir sir Benfro hefyd. Felly, mae sir Benfro yn gwbl ganolog i'r cyfleoedd hyn ac mae'n wych gweld y bobl ifanc hynny'n cymryd rhan, ac wrth gwrs, rydym yn awyddus i weithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol i wireddu'r manteision hynny. Ac enghraifft arall o ble rydym yn gweithio ar y cyd mewn ffyrdd pwysig yw'r agenda porthladdoedd rhydd, a hefyd y parthau buddsoddi, y gwn y byddant o ddiddordeb hefyd.

Diwygio Ardrethi Busnes

2. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar waith Llywodraeth Cymru ynghylch diwygio ardrethi busnes? OQ60566

Rydym ar y trywydd iawn i gyflawni’r rhaglen o ddiwygiadau a bennais ar gyfer tymor y Senedd hon, gyda nifer o welliannau cychwynnol wedi'u gwneud i gyd-fynd ag ailbrisiad 2023. Mae Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) wedi’i gyflwyno i gyflawni’r ystod o gynigion penodol y gwnaethom ymgynghori arnynt yn 2022.

Diolch am yr ateb hynna, Weinidog.

Mae’r trafodaethau yr wyf i a chyd-aelodau o Blaid Cymru wedi'u cael gyda’r sector lletygarwch wedi bod yn agoriad llygad. Mae UK Hospitality Cymru wedi dweud wrthym y bydd busnes tafarn a bwyty cyffredin £6,800 y flwyddyn yn waeth ei fyd, a gwesty â gwerth ardrethol o £100,000 oddeutu £20,000 yn waeth ei fyd na busnesau tebyg yn Lloegr. Mae UK Hospitality Cymru wedi bod yn ymgyrchu am gymorth gyda diwygio ardrethi busnes ers dros 10 mlynedd. Mae'r strwythur ardrethi hynafol wedi aros yr un fath tra bo'r byd masnachol byd-eang a domestig o'i gwmpas wedi newid yn sylweddol. Nawr, nid oedd y rhyngrwyd yn bodoli pan grëwyd ardrethi annomestig, a bob blwyddyn, wrth i'r bwlch rhwng busnesau briciau a chliciau ymestyn, mae'r anghyfiawnder yn cynyddu. Rydym wedi clywed, wrth gwrs, am y diwygio hwnnw, ond pryd y gall busnesau yng Nghymru ddisgwyl gweld y diwygio hwnnw'n digwydd?

Wel, mae diwygio eisoes yn digwydd wrth gwrs, gan i'r ailbrisiad ddod i rym ym mis Mawrth 2023. Roeddem yn cydnabod bod hynny'n cynnwys rhai materion trosiannol i fusnesau, a dyna pam y rhoesom gynllun cymorth trosiannol pwysig iawn ar waith i helpu busnesau gyda'u biliau yn y cyswllt hwnnw. Ac wrth gwrs, byddwn yn mynd â'r ddeddfwriaeth drwy'r Senedd cyn bo hir. Mae bellach wedi’i gyflwyno, gan symud drwy’r cyfnod craffu. Ac mae hynny, mewn gwirionedd, yn golygu ailbrisiadau amlach, gan ymateb yn benodol i'r pryderon y mae'r sector wedi'u codi gyda ni, ond hefyd gwell llif gwybodaeth rhwng trethdalwyr ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio, gan adolygu'r pecyn presennol o ryddhadau ac esemptiadau, a chydnabod bod hynny wedi bod ar waith ers peth amser, ac wedi esblygu, ac mae'n bwysig gwirio ei fod yn dal yn addas at y diben ac yn targedu'r busnesau y mae angen inni eu targedu yn y ffordd gywir, yn ogystal â'r posibilrwydd o amrywio'r lluosydd. Fe fyddwch yn gwybod bod datganiad yr hydref yn Lloegr wedi cynnwys newidiadau i’r lluosydd. Fe wnaethom ninnau newidiadau, ond mewn gwirionedd, dim ond ffyrdd cyfyngedig sydd gennym o newid y lluosydd yma yng Nghymru. Bydd yr hyn y bydd y ddeddfwriaeth yn ei wneud yn caniatáu i ni ei newid, gan ystyried ffactorau eraill efallai, megis daearyddiaeth neu'r math o fusnes, er enghraifft, mewn ffordd na allwn ei wneud ar hyn o bryd. Byddwn hefyd yn gwella cywirdeb rhestrau ardrethu ac yn mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â thwyll ac osgoi talu drwy'r ddeddfwriaeth hefyd. Rwy'n credu ei bod yn ofidus fod Llywodraeth y DU, yn dilyn ymgynghoriad, wedi penderfynu peidio â chyflwyno treth gwerthu ar-lein. Roedd hwnnw’n syniad a gyflwynwyd gan randdeiliaid yng nghyd-destun diwygio ardrethi annomestig. Rwy'n credu bod y penderfyniad hwnnw'n ymwneud â'r pryderon ynghylch cynyddu cymhlethdod a'r risg o greu canlyniadau anfwriadol neu ganlyniadau ystumiedig ac annheg rhwng gwahanol fathau o fodelau busnes. Ond ni chredaf ei fod yn fater y gellir ei anwybyddu. Ni allwn ymdrin â threthi gwerthu ar-lein yng Nghymru gyda’r pwerau sydd gennym, ond rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y mae angen i Lywodraeth y DU roi sylw iddo eto mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.

13:35

Aberconwy, wrth gwrs, yw’r pot mêl ar gyfer twristiaeth yng Nghymru. Dim ond yr wythnos diwethaf, cafodd Betws-y-coed ei henwi yn gyrchfan orau'r DU ar gyfer gwyliau gartref. Mae twristiaeth yn hanfodol i economi Cymru, gan gyflogi 12 y cant o’n gweithlu, cyfrannu oddeutu £2.4 biliwn at ein cynnyrch domestig gros, a denu dros filiwn o deithwyr rhyngwladol bob blwyddyn. Mae'r potensial ar gyfer twristiaeth yng Nghymru yn sylweddol. Fodd bynnag, mae dan warchae gan Lafur Cymru a Phlaid Cymru, sy’n gwbl wrthwynebus i'n twristiaeth, ein lletygarwch, ac yn wir, ein busnesau. Bydd hyn yn cael effaith ddinistriol ar ein strydoedd mawr a’n niferoedd cyflogaeth. Byddai’r toriad o 35 y cant i ryddhad ardrethi busnes yn cosbi tafarndai a bwytai Cymru hyd at £7,000 yn fwy na busnesau cyfatebol yn Lloegr. Rydym wedi gweld y ffigurau bob wythnos—hyd yn oed yn y flwyddyn newydd hon—ar gyfer busnesau’n cau. Felly, o ystyried y drasiedi hon, a wnewch chi ailystyried y toriad hwn i’r cyllid ar gyfer ein busnesau? A wnewch chi geisio datblygu strategaeth gydlynol ar gyfer mynd i’r afael â’r cylch hunanddinistriol hwn i letygarwch a thwristiaeth yng Nghymru? Ac ar y pwynt a wnaethoch ynglŷn â daearyddiaeth, hoffwn sicrwydd gennych na fydd y rhan fwyaf o fusnesau yng Nghymru, ac yn enwedig y rheini mewn lleoliadau twristiaeth gwirioneddol dda, yn wynebu cynnydd mewn ardrethi o ganlyniad i'ch ailbrisiad. Diolch.

Daeth yr ailbrisiad i rym bron i flwyddyn yn ôl bellach, felly byddwn yn symud i mewn i'r ail flwyddyn. Bu cynnydd yn ardrethi rhai busnesau yng Nghymru, ond fe wnaethom ddarparu cymorth trosiannol i gefnogi’r busnesau hynny. A chredaf, mewn gwirionedd, i'r ailbrisiad gael ei groesawu gan fusnesau, gan eu bod yn cydnabod pwysigrwydd cael ffordd nad yw wedi dyddio o fesur y biliau y dylent fod yn eu talu. Ond mae’r ailbrisiadau aml hefyd wedi’u croesawu, ac roedd hynny’n rhywbeth y gwnaeth y busnesau eu hunain alw amdano. Mae arnaf ofn nad oes modd inni adolygu'r penderfyniad mewn perthynas â chymorth ardrethi busnes ar gyfer y flwyddyn nesaf. Byddwn yn dal i ddarparu oddeutu traean o £1 biliwn o ryddhad ardrethi i fusnesau ledled Cymru. A'r gwir amdani yw mai ychydig iawn o arian ychwanegol a ddarparwyd yn natganiad yr hydref i ddiwallu'r pwysau sy'n ein hwynebu, a phenderfynodd Llywodraeth Cymru, yn y pen draw, fod yn rhaid inni flaenoriaethu ein gwasanaethau cyhoeddus craidd rheng flaen. Gwelsoch y £450 miliwn ychwanegol i’r GIG yng Nghymru. Bydd y GIG yng Nghymru yn cael codiad o 4 y cant yn y gyllideb y flwyddyn nesaf, o gymharu â llai nag 1 y cant dros y ffin yn Lloegr, ac fe wnaethom ddiogelu gwasanaethau llywodraeth leol, fel y dywedasom y byddem yn ei wneud pan gynhaliwyd yr adolygiad o wariant. Felly, mae’r rheini wedi bod yn benderfyniadau anodd iawn, ond yn anffodus, dyna ble rydym arni oherwydd y diffyg cyllid sydd gennym i ddiwallu’r holl anghenion. Hoffwn ddweud hefyd fod y cyllid i fod i ddod i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, felly yr hyn a wnaethom mewn gwirionedd yw darparu 40 y cant yn ychwanegol o gymorth am flwyddyn arall, yn hytrach na thorri treth na ddylid byth ei hystyried yn rhywbeth parhaol, gan iddi gael ei chyflwyno mewn ymateb i sefyllfaoedd eithriadol yn ystod y pandemig, a sefyllfaoedd eithriadol wedyn drwy'r argyfwng costau byw hefyd.

13:40

Mae trethi eiddo yn amhoblogaidd iawn gyda'r cyfoethog a'r pwerus. Manteision treth eiddo yw ei bod yn anodd ei hosgoi yn gyfreithiol, tra nad yw pobl fel arfer yn cwyno am drethi lle mae'n hawdd lleihau'r taliadau, fel treth gorfforaeth a threth incwm. A yw’r Gweinidog yn cytuno bod yn rhaid i unrhyw ddiwygio ardrethi busnes fod yn gysylltiedig ag eiddo ac yn seiliedig ar drosiant busnesau? Ac wrth wrando ar Radio 4 y bore yma, clywais ein bod wedi gweld cynnydd mewn rhent o dros 20 y cant ar gyfer lleoliadau cerddoriaeth yng Nghymru a Lloegr. Rhenti sy'n cael effaith enfawr, ac os darparwch fwy o ryddhad ardrethi, y cyfan y mae hynny'n ei olygu yw bod y bobl sy'n berchen ar yr adeiladau hyn yn mynd i gael mwy o arian.

Rwy’n ddiolchgar iawn am eich sylwadau, ac mae’r dreth gyngor ac ardrethi annomestig—ein dwy dreth leol—yn seiliedig, wrth gwrs, ar ôl troed yr eiddo, ac fel y cyfryw, maent yn drethi sefydlog iawn, sydd o fantais i ni, ac fel y mae Mike Hedges yn cydnabod, maent yn drethi sydd wedyn yn anodd iawn eu hosgoi. Rydym yn cynnal rhaglen ddiwygio ar gyfer y dreth gyngor ac ardrethi annomestig, ond ochr yn ochr â hynny, rydym yn ystyried sut y gellid cyflwyno treth gwerth tir yn lle ardrethi annomestig, yn ôl pob tebyg, yn y lle cyntaf—yn fwy hirdymor—ond wrth inni wneud y gwaith cwmpasu, mae’n rhaid inni gydnabod bod yn rhaid i unrhyw system newydd fod yn sylweddol well na’r un sydd gennym ar hyn o bryd. Ond yn bendant, mae rhesymau da iawn dros ddefnyddio ardrethi annomestig a’r dreth gyngor fel trethi sefydlog iawn, a rhai na ellir eu hosgoi, fel y maent ar hyn o bryd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Peter Fox. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n mynd adeiladu ar rywfaint o'r hyn a ddywedodd Luke, ac mae Janet eisoes wedi gwneud sylwadau. Mae hwn yn fater mor bwysig i ni, ac mae pob un o’n mewnflychau yn dangos hynny ar hyn o bryd. Weinidog, rwy’n deall pa mor anodd yw hi wedi bod i Lywodraethau ledled y byd, wrth iddynt orfod gwneud penderfyniadau anodd iawn ynghylch cyllid, ond mae busnesau Cymru yn y sector lletygarwch yn enwedig, yn erfyn am fwy o gymorth. Rwy'n cael llythyr ar ôl llythyr gan bobl yn fy nghymuned sy'n wirioneddol bryderus, yn gwrthwynebu'r peth. Ac mae ffigurau'n dangos bod hyd at un dafarn yr wythnos yn cau. Mae dros 63 o dafarndai eisoes wedi cael eu gorfodi i gau. Ac mae hyn yn fwy na dwbl y gyfradd o dafarndai sy'n cau yn Lloegr, ac mae'n rhaid bod neges yno yn rhywle. Nid busnesau yn unig yw tafarndai, nage? Maent yn ganolbwynt cymdeithasol i gymunedau, yn enwedig cymunedau gwledig, lle mae unigrwydd yn arbennig o gyffredin. A chan gydnabod y pryderon gwirioneddol hynny, Weinidog—a gwn eich bod yn eu cydnabod—pa ystyriaeth ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i ddarparu mwy o gymorth ariannol, neu gymorth ychwanegol ym mha ffordd bynnag, i'r sector hynod bwysig hwn, i gydnabod y dirywiad rwyf newydd ei amlinellu?

Ar hyn o bryd, gyda'r cyllid sydd ar gael i ni, rydym yn darparu'r pecyn cymorth mwyaf hael y gallwn ei ddarparu. Ac nid wyf am beidio â chydnabod, wrth gwrs, y pwysau sydd ar fusnesau, fel y mae'r Aelod wedi'i ddisgrifio, ac fel rydym yn clywed o'n blychau post ein hunain, fel y mae'n ei ddisgrifio hefyd. Wedi dweud hynny, yng Nghymru, dim ond oddeutu 20 y cant o fusnesau mewn gwirionedd sy'n talu eu hawl ardrethi annomestig llawn. Mae cyfran fawr o’r busnesau hynny'n gymwys i gael rhyddhad, ac mewn gwirionedd, mae yna nifer fawr nad ydynt yn talu unrhyw ardrethi o gwbl beth bynnag. Felly, credaf fod y pecyn cymorth sydd gennym—bron i draean o £1 biliwn—yn sylweddol iawn. Mae yno, ac mae ar gael. Ond fel y dywedaf, rydym yn mynd drwy broses ddiwygio, gan edrych ar y pecyn o ryddhadau ac esemptiadau, i sicrhau ei fod wedi'i dargedu fel y byddem yn dymuno iddo fod. Ac rwy'n agored i gael trafodaethau gyda fy nghyd-Aelodau, ac wrth gwrs, gyda'r sector ynglŷn â hynny.

Diolch am hynny, Weinidog. Rwyf wedi gwneud rhywfaint o ymchwil, yn amlwg, fel y buaswn wedi'i wneud, i weld pa mor hael yw ein pecynnau. Ac er bod y gronfa rhyddhad dewisol ar gael i fusnesau llai, pan fyddwch yn edrych ac yn dadansoddi'r hyn sydd ar gael yn Lloegr a'r Alban, mae'n fwy hael yn y ddau le na'r hyn sydd gennym yma. Ac mae'n siomedig felly na fydd cymorth o 75 y cant i'r sector manwerthu, hamdden a lletygarwch yn parhau, gan fy mod yn gwybod cymaint o groeso a gafodd gan fusnesau yn Lloegr. Yn anffodus, o ganlyniad i beidio ag ymestyn hwnnw, gwyddom y bydd busnesau Cymru yn talu bron i 50 y cant yn fwy mewn ardrethi busnes nag yn Lloegr o ganlyniad i’r gwahaniaeth hwnnw. Ac fel y nododd Janet, golyga hynny y bydd tafarn leol gyffredin fwy na £6,500—bron i £7,000—yn waeth ei byd na busnes cyfatebol yn Lloegr, ac mae hyn yn ddinistriol, yn enwedig os ydynt ar y ffin. Felly, o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y swm llawn o gyllid canlyniadol Barnett yn sgil penderfyniad Llywodraeth Geidwadol y DU i ymestyn ardrethi busnes i gefnogi’r sector hamdden, manwerthu a lletygarwch yn Lloegr, pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi darparu’r un cymorth yma yng Nghymru? Ac a all y Gweinidog ddweud wrthyf at ble y cyfeiriwyd yr arian hwnnw yn lle hynny?

13:45

Fel y nodais yn fy ateb i gwestiwn blaenorol, mae Llywodraeth Cymru yn wynebu pwysau ar ein cyllideb o £1.3 biliwn, yn yr ystyr fod ein cyllideb yn werth cymaint â hynny’n llai na phan y’i gosodwyd gyntaf. Yr her yn hynny o beth, felly, yw nodi cyfres o flaenoriaethau, ac fe wnaethom nodi'r gwasanaeth iechyd gwladol a gwasanaethau llywodraeth leol fel ein prif feysydd blaenoriaeth ar gyfer cyllid ychwanegol. Felly, roedd y cyllid hwnnw, a gawsom o’r cyllid canlyniadol yn natganiad yr hydref, yn ychwanegol at y gwaith a wnaethom ar draws y Llywodraeth i ailflaenoriaethu cyllid. Felly, daw'r cyllid hwnnw yn ôl i'r canol, ac yna caiff ei ddyrannu. A’r dyraniadau allweddol y byddwch wedi’u gweld yn y gyllideb a gyflwynais cyn y Nadolig oedd y £400 miliwn ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru. Dyna fu ein maes allweddol o gyllid ychwanegol, a chredaf fod hynny'n adlewyrchu’r blaenoriaethau y mae pobl yn dweud wrthym amdanynt. Dywedant wrthym eu bod am inni fuddsoddi mwy yn y GIG, eu bod yn gwerthfawrogi eu gwasanaethau lleol. Nid yw hynny'n golygu nad ydym yn cydnabod y pwysau ar fusnesau, ond yn syml iawn, nid oes digon o arian i gydnabod yr holl bwysau sydd arnynt.

Rwy’n cydnabod bod hyn yn ymwneud â dewisiadau, a buaswn yn gobeithio y byddai’r Llywodraeth yn cydnabod gwir bwysigrwydd yr economi fel rhan sylfaenol o’r hyn y dylem fod yn ei flaenoriaethu. Oherwydd mae busnesau llewyrchus yn creu treth, treth sy'n ariannu busnesau lleol, ac nid yw'r diffyg dealltwriaeth hwn yn gwneud synnwyr i'r rhai ohonom sy'n deall sut mae'r system yn gweithio. Yn anffodus, bydd busnesau bach yma'n parhau i orfod ysgwyddo'r cyfraddau uchaf o ardrethi busnes ym Mhrydain. Gwn fod Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) yn rhoi gallu ichi ddefnyddio lluosydd hollt bellach—offeryn i’w groesawu—ond yn y gyllideb hon, gwn eich bod yn rhewi’r lluosydd fel y saif ar hyn o bryd, ar 53.5c, rwy’n credu. Weinidog, pryd y gwnewch chi ddechrau meddwl am ddefnyddio'r lluosydd sydd gennych gyda'r cyfle i leihau’r baich ar fusnesau bach, fel nad ydynt yn talu cymaint â busnesau mwy, ac i roi cyfle iddynt fod yn fwy cystadleuol, yn enwedig ar y gororau, gyda'u busnesau cyfatebol yn Lloegr?

Felly, byddai'r ddeddfwriaeth rydym newydd ei chyflwyno yn caniatáu inni ddefnyddio dull gweithredu gwahanol yn y dyfodol. Yng Nghymru, ar hyn o bryd, fel y saif pethau, dim ond yr un lluosydd sydd gennym mewn cyfraith, felly ni allwn ond gwneud newidiadau i’r lluosydd cyfan ar draws y sylfaen drethu gyfan o ran busnes. Felly, mae hynny'n cyfyngu ar ein cyfleoedd a'n hopsiynau, ond yr hyn y bydd y ddeddfwriaeth yn ei wneud yw caniatáu i Weinidogion yn y dyfodol gael cyfraddau gwahaniaethol o bosibl, yn seiliedig ar faint y busnes, neu'r math o fusnes neu leoliad y busnes. Bydd yn rhoi mwy o opsiynau i ni yn y dyfodol i allu targedu’r cymorth y gallwn ei ddarparu yn well o ran capio neu osod y lluosydd.

Eleni, wrth gwrs, rydym wedi gwneud y penderfyniad i gapio’r cynnydd i’r lluosydd ar 5 y cant, a hynny ar gost flynyddol gylchol o £18 miliwn i gyllideb Cymru. Mae hynny'n is na'r cynnydd o 6.7 y cant y byddem yn ei weld fel arall o chwyddiant diofyn y lluosydd yn unol â'r mynegai prisiau defnyddwyr. Felly, mae honno’n gost barhaus am byth, os mynnwch, i Lywodraeth Cymru, yn sgil gwneud hynny. Ac fe wnaethom ddefnyddio'r holl gyllid canlyniadol yn sgil y dewisiadau a wnaed mewn perthynas â'r lluosydd yn Lloegr i wneud hynny.

Ac yna, dylid cofio hefyd na allwch bob amser wneud cysylltiad rhwng yr hyn sy'n digwydd yn Lloegr â'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru, oherwydd bod y sylfaen drethu'n wahanol yma beth bynnag wrth gwrs. Mae busnesau bach yma'n talu cyfran uwch o lawer o gyfanswm y refeniw ardrethi yng Nghymru o gymharu â Lloegr—mwy na dwbl, a dweud y gwir. Felly, caiff cost rhyddhad ardrethi busnesau bach yma yng Nghymru ei hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru, a dyna yw oddeutu 10 y cant o gyfanswm y refeniw ardrethi, o gymharu â 4 y cant yn unig yn Lloegr. Felly, mae'r dewisiadau a wnawn yng Nghymru pan fyddwn yn cefnogi busnesau bach yn aml yn costio mwy i ni yng Nghymru, gan fod gennym gymaint yn fwy, neu gyfran gymaint yn fwy, o fusnesau bach yma.

13:50

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch eich bod wedi ein hatgoffa mai un o feysydd blaenoriaeth y Llywodraeth hon yw edrych ar wasanaethau lleol a llywodraeth leol. Fel y dywedais droeon yn y Siambr hon, mae cyllid llywodraeth leol yng Nghymru ar drywydd anghynaliadwy ar hyn o bryd, ac rwy'n croesawu'r cyfle i drafod hynny mewn mwy o fanylder yn y ddadl yn nes ymlaen.

Mae erydu grym gwario llywodraeth leol o ganlyniad i 14 mlynedd o gyni dan arweiniad y Torïaid, ynghyd â chanlyniadau parhaus y pandemig a’r argyfwng costau byw, yn golygu bod yn rhaid i gynghorau ledled Cymru wneud penderfyniadau anodd a phoenus iawn dros y misoedd nesaf ynglŷn â darparu gwasanaethau lleol a chyfraddau cysylltiedig y dreth gyngor. Rwy'n croesawu'r ffaith bod setliad llywodraeth leol dros dro Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 yn darparu cynnydd o 3.1 y cant ar gyfartaledd mewn cyllid canolog, ond mae’n werth cofio hefyd nad yw hyn yn creu cyllid gwaelodol naturiol cyffredinol, gyda chynghorau fel Gwynedd a Chonwy i gael codiad o 2 y cant o gymharu â 4.7 y cant ar gyfer Casnewydd. Yn amlwg, byddai hynny'n is i Gonwy a Gwynedd pe na bai'r cyllid gwaelodol ar waith.

Er fy mod yn derbyn yn llwyr y bydd anghenion cyllid pob ardal cyngor bob amser yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, mae’r ffaith bod rhai yn gorfod ymdopi â chodiad sy’n sylweddol is na’r cyfartaledd o 3.1 y cant yn peri pryder dealladwy. Ar ôl gwneud rhywfaint o gyfrifiadau bras yn seiliedig ar ddadansoddiad o'r setliad dros dro, amcangyfrifir bod cyfanswm cost ychwanegol o oddeutu £14.5 miliwn i ddarparu codiad o 3 y cant fan lleiaf i awdurdodau lleol. A allwch gadarnhau bod fy nghyfrifiadau’n gywir, ac a allech chi sôn hefyd am y rhesymau pam y gosodwyd y cyllid gwaelodol ar 2 y cant, ac nid yn uwch?

Felly, heb gyfrifiannell i wirio, mae’r hyn a ddywedwch yn swnio’n gywir, yn sicr, ond gallaf gadarnhau hynny y tu allan i’r Siambr. Ond yn syml iawn, rwy'n credu mai mater o'r hyn sy'n fforddiadwy yw hyn. Felly, pan welsom y ffigurau a gododd o’r cyfrifiadau mewn perthynas â phennu'r setliad llywodraeth leol ar gyfer pob awdurdod unigol, fe wnaethom edrych ar y ffigurau, ac roedd llai na 2 y cant yn gofyn gormod gan gynghorau o ran ailflaenoriaethu eu cyllidebau eu hunain ac ymdopi â'r pwysau hynny, ac nid oedd yn teimlo’n iawn. Gallech fod wedi dewis unrhyw ffigur. Fe wnaethom ddewis ffigur a oedd yn fforddiadwy i Lywodraeth Cymru, felly bu’n rhaid inni ddarparu cyllid ychwanegol y tu hwnt i’r grant cynnal refeniw ar gyfer hynny.

Nawr, mae ffyrdd eraill y gallem wneud hynny. Gallem frigdorri arian o’r grant cynnal refeniw ac ailddosbarthu’r cyllid hwnnw fel bod y cyllid gwaelodol yn uwch; mae hynny’n rhywbeth y gallai awdurdodau lleol ofyn i ni ei wneud, ond ni chredaf y byddai hwnnw’n gais poblogaidd ar adeg pan fydd pob awdurdod lleol yn ei chael hi’n anodd. Felly, mae hyn yn eithaf anarferol; credaf mai dyma’r tro cyntaf erioed inni wneud hyn, gosod cyllid gwaelodol i ddiogelu awdurdodau lleol ar adeg pan fo cyllidebau’n codi. Fel arfer, rydych yn gosod cyllid gwaelodol na fyddai unrhyw awdurdod yn disgyn oddi tano, ond mewn gwirionedd, roeddem yn credu mai 2 y cant yw’r swm lleiaf y gallem ei ddarparu i awdurdodau lleol. Mae'n ymwneud â fforddiadwyedd. Pe bai mwy o arian ar gael, yna yn amlwg, byddai llywodraeth leol yn flaenoriaeth. Ond credaf ein bod wedi mynd mor bell ag y gallwn yn yr achos hwn.

Gall pob ceiniog o arian ychwanegol y gellir ei arbed i awdurdodau lleol wneud gwahaniaeth enfawr i’w gallu i liniaru toriadau mewn gwasanaethau a lleihau codiadau yn y dreth gyngor cyn belled ag y bo modd. Er nad yw £14.5 miliwn yn swm ansylweddol o arian o bell ffordd, mae’n llawer llai nai'r £110 miliwn mewn cyllid ychwanegol a ddyrannwyd i Trafnidiaeth Cymru dros y flwyddyn ariannol sydd i ddod, yn ychwanegol at y £125 miliwn a gawsant ym mis Hydref fel rhan o'r ymarfer ailgyllidebu yn ystod y flwyddyn. Rwy'n siŵr y bydd arweinwyr cynghorau, sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi gyda'r adnoddau cyfyngedig iawn sydd ar gael iddynt, yn briodol eiddigeddus o'r swm helaeth o arian cyhoeddus sy'n cael ei wario ar gefnogi gweithredwyr trenau sydd yn gyson ymhlith y rhai sy'n perfformio waethaf yn y DU dros y blynyddoedd diwethaf.

Yn ogystal, mae’r cyferbyniad rhwng Trafnidiaeth Cymru a ScotRail, sydd hefyd yn fasnachfraint a reolir yn gyhoeddus, yn eithaf amlwg yn hyn o beth. Er eu bod wedi gorfod ymdopi ag ergyd gyfrannol uwch i nifer eu teithwyr ar y rheilffyrdd, mae Llywodraeth yr Alban, serch hynny, wedi gallu gwneud arbediad o 11 y cant ar ei gwariant ar ScotRail ar gyfer 2024-25, yn ogystal â chyflwyno cynllun peilot dileu tocynnau adegau prysur.

Ar adeg pan fo’n rhaid defnyddio pob ceiniog o arian cyhoeddus mor effeithiol â phosibl, mae achos clir dros roi ychydig yn rhagor i’n hawdurdodau lleol sydd o dan bwysau, hyd yn oed os yw hynny ar ffurf taliad untro, yn hytrach na thaflu cymaint o arian i mewn i dwll cyllidebol a grëwyd yn rhannol gan Lywodraeth Cymru. Wrth ailddyrannu rhywfaint o’r arian ychwanegol i Trafnidiaeth Cymru—

13:55

Iawn. A yw ailddyrannu rhywfaint o’r arian ychwanegol i Trafnidiaeth Cymru i gefnogi awdurdodau lleol yn rhywbeth y byddai Llywodraeth Cymru yn ei ystyried?

Y cyllid a ddarparwyd gennym i Trafnidiaeth Cymru yw’r hyn y deallwn drwy’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yw'r lleiafswm, mewn gwirionedd, sydd ei angen ar Trafnidiaeth Cymru er mwyn parhau i redeg y gwasanaeth rheilffyrdd wrth inni symud drwy’r rhaglen trawsnewid.

Credaf fod yr hyn a ddisgrifiwyd gennych—. Rwy'n croesawu syniadau lle mae cyd-Aelodau'n nodi meysydd lle hoffent weld cyllid ychwanegol, ac yna'n meddwl am feysydd yr hoffent symud y cyllid hwnnw oddi wrthynt. Credaf fod hynny’n ddefnyddiol iawn, felly, wrth gwrs, fe wnawn ystyried awgrymiadau'r holl gyd-Aelodau wrth inni symud tuag at y gyllideb derfynol.

Ond mewn gwirionedd, ni chredaf y byddai lleihau'r gyllideb a ddarparwyd gennym i Trafnidiaeth Cymru yn arwain at y mathau o ganlyniadau yr hoffem eu gweld. Hoffem gael gwasanaeth trenau sy'n gweithio ac y gall pobl ddibynnu arno; hoffem wella’r gwasanaeth, ac mae angen inni fuddsoddi er mwyn gwneud hynny. Felly, credaf fod y drafodaeth hon yn amlygu'n glir y dewisiadau anodd y mae'n rhaid i ni eu gwneud wrth osod y gyllideb eleni. A gwn fod trafodaeth o'r fath yn mynd rhagddi yn ein sesiynau pwyllgor hefyd. Ond wrth gwrs, rwy'n croesawu'r mathau hyn o awgrymiadau.

Llyfrgelloedd Cyhoeddus

3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi llyfrgelloedd cyhoeddus yn Nwyrain Casnewydd? OQ60577

Cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw darpariaeth llyfrgelloedd cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i allu datblygu gwasanaethau llyfrgell, gan gynnwys cymorth refeniw ar gyfer y gwasanaeth llyfrgell digidol cenedlaethol, a chronfa grant cyfalaf trawsnewid i wella adeiladau a chyfleusterau llyfrgelloedd. Mae llyfrgelloedd Casnewydd yn elwa ar y cymorth hwn.

Weinidog, gall llyfrgelloedd a redir gan y gymuned fod yn gatalydd ar gyfer datblygu cymunedol ehangach. Yn fy etholaeth i, Dwyrain Casnewydd, mae gennym lyfrgell Maendy, sy’n gweithredu mewn ardal amlddiwylliannol iawn, ac sydd wedi bod yn gatalydd ar gyfer llawer o ddatblygu cymunedol—caffi cymunedol, man perfformio, gwyrddu’r ardal leol, ymhlith mentrau eraill.

Fis nesaf, bydd llyfrgell Maendy yn cynnal lansiad llyfr ryseitiau newydd a ddarparwyd gan Gwyrddu Maendy, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri. Mae’r llyfr ryseitiau’n ddwyieithog, a bydd yn ddathliad o amlddiwylliannaeth a chymuned, ac yn cynnwys ryseitiau gan drigolion Maendy, y mae llawer ohonynt yn dod o wahanol wledydd ac sy'n byw yn yr ardal hynod amrywiol hon. Bydd yn cynnwys lluniau gan blant o Ysgol Gynradd Maendy ac artistiaid a ffotograffwyr lleol, hoff ryseitiau o wahanol ddiwylliannau, yn ogystal â straeon am fywydau trigolion Maendy.

Weinidog, a fyddech yn cytuno â mi fod hon yn gyfres bwysig a gwerth chweil o fentrau cymunedol? Ac a wnaiff Llywodraeth Cymru barhau i gefnogi llyfrgelloedd sy'n cael eu rhedeg gan y gymuned, fel llyfrgell Maendy yn Nwyrain Casnewydd, i fwrw ymlaen â'r mathau hyn o fentrau, yn enwedig gyda'r dimensiwn amlddiwylliannol hwnnw?

Ie, rwy’n wirioneddol ddiolchgar i John Griffiths am godi’r enghraifft honno yn y Siambr y prynhawn yma. Mae’r llyfr ryseitiau’n swnio’n fendigedig, a chredaf ei bod yn enghraifft wirioneddol o’r hyn y gall llyfrgelloedd ei wneud, sy’n ymwneud â llawer mwy na llyfrau, os mynnwch, gan eu bod yn rhoi cyfle i gymunedau ddod at ei gilydd, i rannu eu gwybodaeth a rhannu eu doniau ac ati. Felly, mae'n swnio fel enghraifft hollol wych.

A gwn fod llyfrgell Maendy yn llyfrgell a arweinir gan y gymuned. Nid yw’n rhan o’r gwasanaeth statudol a ddarperir gan Gasnewydd. A dweud y gwir, mae'n rhywbeth sy'n digwydd yn ychwanegol at y gwasanaethau hynny, sy'n eithaf cyffrous ynddo'i hun. Rhoddodd Llywodraeth Cymru £18,000 i lyfrgell Maendy fel rhan o raglen y grantiau costau byw i lyfrgelloedd ac amgueddfeydd annibynnol, ac rwy'n gobeithio bod hynny wedi bod o gymorth i’r llyfrgell wrth iddi barhau i wneud ei gwaith pwysig.

Weinidog, ni allaf gytuno mwy â chi na ellir gorbwysleisio pwysigrwydd llyfrgelloedd. Maent yn lleoliadau hanfodol i gynifer o fy etholwyr ar draws de-ddwyrain Cymru, ac mae effaith colli llyfrgelloedd yn fygythiad gwirioneddol i iechyd a lles ein cymunedau yn ôl Community Leisure UK.

Mae penaethiaid cynghorau yng Nghasnewydd yn llunio llu o fesurau mewn ymgais i gynhyrchu rhagor o arian, gan gynnwys gwasgu mwy o arian gan drigolion drwy godi'r dreth gyngor 8.5 y cant, sy'n syfrdanol. Nid yn unig hynny, ond mae'r awdurdod lleol yn ystyried cau dwy o lyfrgelloedd y ddinas, un ym Mhilgwenlli a'r llall yn Sain Silian, gyda'r posibilrwydd o werthu'r adeiladau hynny. Felly, mae trigolion Casnewydd yn cael eu gorfodi i dalu mwy o dreth gyngor, gyda llai o wasanaethau ar gael iddynt ar yr un pryd o ganlyniad. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i alw ar y cyngor i fynd drwy'r cynigion arbed costau'n fanwl eto, i sicrhau na fydd y trigolion ar eu colled, yn enwedig yn wyneb y newyddion mai cyngor Casnewydd fydd yn cael y cynnydd canrannol mwyaf i unrhyw gyngor yng Nghymru y flwyddyn nesaf?

14:00

Gwn y bydd cynghorau'n ystyried eu cynigion yn ofalus iawn wrth iddynt ymgynghori ag awdurdodau lleol ar eu cynlluniau ar gyfer eu cyllidebau, a hefyd sut maent yn ystyried y dreth gyngor, er enghraifft. Bydd cyngor Caerffili yn gwrando'n astud ar y sylwadau a wnaed gan eu cymunedau wrth iddynt fynd ati i wneud dewisiadau anodd. Ni waeth lle maent yn eistedd yn y tabl setliadau, bydd yn rhaid iddynt wneud dewisiadau anodd hefyd.

Yn bersonol, rwy'n cytuno â'r dwsinau o Aelodau Seneddol Ceidwadol a chyn-Weinidogion Ceidwadol sydd wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU, yn galw am gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol. Byddem yn gobeithio wedyn y byddai hynny'n golygu cyllid canlyniadol i ni yng Nghymru, fel y gallwn barhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Monitro Cyllidebau

5. Sut mae'r Gweinidog yn defnyddio data amser real wrth fonitro cyllidebau Llywodraeth Cymru? OQ60554

Mae Gweinidogion Cymru yn defnyddio ystod o dystiolaeth wrth fonitro cyllidebau, gyda'n system gyllid yn gweithredu ar sail amser real. Mae angen ystyried cadernid gwybodaeth hefyd. Nid yw amser real bob amser yn golygu mwy cywir. Efallai na fydd data amser real o sampl fach mor gynrychioliadol â data arall.

Un o'r pethau sy'n cael eu hailadrodd fwyaf yn y Siambr hon pan fyddwn yn siarad am y gyllideb, pan fyddaf i neu gyd-Aelodau o'm plaid yn trafod toriadau yw, 'Ble fyddwch chi'n gwneud toriadau yn lle hynny?' Fel y trafodwyd yn y Pwyllgor Cyllid, nid yw data monitro manwl ar gael i'r gwrthbleidiau, ac mae'n anonest gofyn i ni awgrymu toriadau amgen heb fynediad at gyllideb y Llywodraeth fesul llinell, a mynediad at y swyddogion sy'n helpu i ddadansoddi'r data hwnnw. 

Mae yna ddadl dros rannu mwy o wybodaeth â'r gwrthbleidiau fel y gallwn ni wneud gwaith craffu, a chynnig atebion posibl. Rwy'n gwybod bod awdurdodau lleol yn darparu diweddariadau monitro ariannol ar sail chwarterol, ac mae yna ddadl gref i  Lywodraeth Cymru wneud yr un peth, o leiaf. A fyddech chi'n barod i weithio tuag at sefydlu mecanwaith neu swyddfa gyllidebol yn y Senedd i rannu'r wybodaeth honno a chryfhau ein swyddogaeth graffu?

Buaswn yn dadlau bod Llywodraeth Cymru yn darparu swm anhygoel o ddata i'r Senedd. Mae gennym nifer o bwyntiau drwy gydol y flwyddyn lle rydym yn darparu'r wybodaeth fanwl honno. Mae gennym ein cyllideb ddrafft. Mae gennym y gyllideb derfynol. Ond wedyn, ochr yn ochr â hynny, mae gennym ein cyllideb atodol gyntaf a'n hail gyllideb atodol, lle mae'r wybodaeth fanwl iawn honno ar gael i gyd-Aelodau ar draws y Senedd. Felly, buaswn yn dadlau ein bod yn darparu llawer iawn o wybodaeth.

Fe wnaethom drafod yn y Pwyllgor Cyllid—a mater i'r Senedd fyddai hwn ac nid i Lywodraeth Cymru—ynghylch cefnogaeth bellach i ddadansoddi data, ac a fyddai'r Senedd eisiau archwilio hynny ymhellach. Ond fel rwy'n dweud, ac fel y dywedasom yn y pwyllgor, mater i'r Senedd yn hytrach na Llywodraeth Cymru fyddai hwnnw. Ond buaswn yn dweud ein bod yn darparu llawer iawn o wybodaeth. 

Wrth ofyn i gyd-Aelodau ystyried pa feysydd y byddent yn eu torri fel arall, iaith blaenoriaethau eang yw hynny mewn gwirionedd, a'r math o feysydd Llywodraeth y byddech eisiau eu gweld yn cael eu gwarchod. Felly, pan fyddwn yn siarad am wasanaethau cyhoeddus, rydym yn siarad am y GIG; rydym yn siarad am lywodraeth leol. Ond mae yna feysydd eraill hefyd, ac mae'n debyg nad oes angen y data manwl arnoch ar gyfer hynny, y tu hwnt i'r hyn a ddarparwn yn y cyllidebau atodol a'r gyllideb.

Buaswn yn dweud hefyd fod yn rhaid i ni fod yn ofalus ynghylch pa mor ddefnyddiol fyddai hynny. Yn y Pwyllgor Cyllid, buom yn siarad yn ogystal ynglŷn â sut mae'r gyllideb yn symud ac yn newid yn gyson. Felly, efallai na fydd y darlun a gewch un diwrnod yn adlewyrchu'r sefyllfa ymhen ychydig wythnosau. Felly, credaf fod yna ddadl hefyd dros adael i Lywodraeth Cymru fwrw iddi i reoli'r gyllideb yn ogystal â darparu gwybodaeth fanwl drwy'r cyllidebau atodol hynny a'r broses gyllidebol.  

Mae Peredur yn codi cwestiwn gwych y prynhawn yma. Mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu agwedd gytbwys at bolisi cyllidol, gan feddwl yn hirdymor ond gan ymateb yn briodol hefyd pan fo toriadau gwariant yn arwain at ganlyniadau mwy difrifol na'r disgwyl. Rydym wedi mynegi ein gwrthwynebiad ar y meinciau hyn i rai o'r toriadau gwariant a wnaed yng nghyllideb 2024-25, ac rydym wedi bod yn arbennig o feirniadol o'r toriadau i wasanaethau cymdeithasol, gan adael bwlch ariannu o £646 miliwn, a thoriadau i ryddhad ardrethi busnes. Mae pobl yng Nghymru yn gweld eu biliau treth yn codi, gyda'r awdurdodau lleol a arweinir gan Lafur yn cynyddu'r dreth gyngor 8.46 y cant ar gyfartaledd ledled Cymru, tra bo cefnogaeth yn cael ei thynnu oddi ar fusnesau bach, y rhan gynhyrchiol o'n heconomi, a gwasanaethau hanfodol eraill yn cael eu torri hefyd.

Rwy'n derbyn bod angen i Lywodraeth Cymru fabwysiadu cynlluniau economaidd hirdymor adferol ar ôl COVID-19. Er fy mod yn credu bod y rhain yn benderfyniadau cyllidebol anghywir, rwy'n credu bod dull adweithiol, lle mae Llywodraeth Cymru yn torri ac yn newid ei phenderfyniadau cyllidebol yn aml mewn ymateb i ddata amser real yn erbyn tueddiadau cyffredinol, yn gwneud pethau'n llawer gwaeth. Gyda hynny i gyd mewn golwg, os bydd rhai o'r toriadau hyn yn arwain at ganlyniadau niweidiol difrifol o fewn y chwe mis i flwyddyn nesaf, canlyniadau gwaeth na'r rhagolwg canlyniadau ar gyfer cynhyrchiant busnesau bach neu'r argyfwng gofal cymdeithasol, a wnaiff y Gweinidog ymateb yn briodol ac ailasesu cynlluniau gwariant y Llywodraeth hon?

14:05

Buaswn yn dweud na allwch chi gael pwysau o £1.3 biliwn ar y gyllideb a sicrhau na fydd unrhyw ganlyniadau o gwbl. Bydd y dewisiadau rydym wedi'u gwneud yn arwain at ganlyniadau, ond bu'n rhaid i ni wneud y dewisiadau hynny, oherwydd mae ein cyllideb yn werth cymaint llai o ganlyniad i chwyddiant. Rydym wedi blaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus. Rydym wedi blaenoriaethu'r GIG a llywodraeth leol, ac rwy'n credu y bydd pobl yn deall pam ein bod wedi gwneud hynny. O ran ailedrych ar benderfyniadau neu wneud penderfyniadau gwahanol, rwyf am ddweud, wrth i ni symud tuag at y gyllideb derfynol, ein bod yn ystyried yr hyn y mae ein cyd-Aelodau, drwy'r pwyllgorau craffu, yn ei gynnig, ac mae'n iawn ein bod yn gwneud hynny.

Buaswn yn dweud hefyd, wrth gwrs, y diwrnod ar ôl i ni bleidleisio ar ein cyllideb derfynol, bydd datganiad y gwanwyn Llywodraeth y DU yn cael ei gyhoeddi, felly, yn anochel, rwy'n credu y bydd rhai newidiadau wrth inni symud ymlaen i'r flwyddyn ariannol nesaf. Buaswn yn disgwyl i'r rheini gael eu cwblhau neu eu nodi, i ryw raddau o leiaf, yn y gyllideb atodol gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Nid ydym yn gwybod beth mae hynny'n ei olygu; gallem weld ein bod yn gorfod gwneud toriadau pellach ar ôl i ni bleidleisio ar ein cyllideb derfynol, os bydd ein cyllideb yn gostwng ym mis Mawrth. Ond yn yr un modd, gallai fod cyfleoedd am ddyraniadau pellach os oes gwelliant. Felly, yn anochel, nid hwn fydd y darlun terfynol ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Busnesau Bach

6. Sut mae'r Gweinidog yn monitro effaith polisïau yn y portffolio Cyllid a Llywodraeth Leol ar fusnesau bach? OQ60545

Rydym yn monitro effeithiau ein polisïau yn barhaus i sicrhau ein bod yn darparu'r cymorth mwyaf priodol o fewn y cyllid sydd gennym. Rydym yn ymgysylltu â rhanddeiliaid a phartneriaid, gan gynnwys busnesau bach, i gael mewnwelediad i effeithiolrwydd polisïau, ochr yn ochr ag unrhyw fonitro perthnasol ffurfiol.

Diolch. Wrth siarad yma 22 mis yn ôl, dyfynnais berchnogion busnesau llety gwyliau preswyl lleol cyfreithlon yng ngogledd Cymru, a ddywedodd y byddai rheoliadau Llywodraeth Cymru sy'n caniatáu i awdurdodau lleol godi premiwm treth gyngor o hyd at 300 y cant ar ail gartrefi yng Nghymru yn eu dinistrio. Gofynnais i chi pa asesiadau effaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal o'r canlyniadau ar gyfer busnesau llety gwyliau cyfreithlon sydd ag eiddo nad yw'n cael ei ddefnyddio fel ail gartrefi. Ers hynny rwyf wedi clywed gan etholwyr yng ngogledd Cymru, nid yn unig mewn perthynas â'r ffaith bod llawer o fusnesau o'r fath yn cau o ganlyniad, ond hefyd mewn perthynas â'r effaith negyddol y mae hyn yn ei chael ar amrywiaeth o fusnesau lleol eraill. Sut ydych chi'n monitro effaith hyn ar bobl? Yn ddiweddar, ysgrifennodd etholwr:

'Rwy'n byw ym Mhen Llŷn. Rwy'n berchennog llety gwyliau wedi'i ddodrefnu arall sy'n gorfod gwerthu. Ac mae fy nghartref yn mynd gydag ef. Fy llety gwyliau wedi'i ddodrefnu yw fy unig incwm. Ac mae llai o bobl yn archebu oherwydd polisïau Llywodraeth Cymru a'r teimladau gwrth-ymwelwyr sy'n cael eu sbarduno gan bolisïau Llywodraeth Cymru. Mae'n fy ngwneud yn sâl, yn ofnus, wedi fy llorio ac rwy'n wynebu mynd i ddyled. Rwy'n 61 ac rwy'n Gymro.'

Ar y pwynt penodol a wnaeth yr Aelod am y premiwm 300 y cant yr ydym wedi caniatáu i awdurdodau lleol ei godi ar ail gartrefi neu gartrefi gwag, sir Benfro a sir Fynwy yn unig sydd wedi mabwysiadu'r premiwm treth gyngor uchaf o 300 y cant ar gyfer eiddo, ac hynny ond pan fyddant wedi bod yn wag am fwy na phedair blynedd a thair blynedd yn y drefn honno. Mae hynny'n ymddangos fel ffordd resymol o weithredu os oes gennych eiddo gwag.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio sicrhau cydbwysedd o ran creu cymunedau cynaliadwy a chaniatáu i bobl gael mynediad at eiddo i fyw ynddynt yn y cymunedau hynny gan gefnogi sector twristiaeth bywiog a yr un pryd. Mae'r cydbwysedd hwnnw'n gydbwysedd anodd i'w daro o ran bod yn gynaliadwy. Wrth gwrs, mae yna opsiynau i bobl sydd ag ail eiddo, boed yn ail gartrefi neu'n llety gwyliau. Gallai'r opsiynau hynny gynnwys, er enghraifft, gosod yr eiddo hwnnw fel cartref llawnamser i rywun yn y gymuned leol. Felly, nid lle Llywodraeth Cymru yw gwneud sylwadau ar achosion unigol, ond wrth gwrs, mae yna opsiynau ar gael i bobl. Rydym yn ymdrechu i greu cymunedau cynaliadwy. Mae gennym gymunedau lle nad yw 40 y cant o'r eiddo ond yn cael eu meddiannu dros gyfran o'r flwyddyn. Ni fydd hynny'n creu cymuned gynaliadwy yn y tymor hir, felly mae'n rhaid i ni wneud y dewisiadau hyn i gefnogi'r cymunedau hynny.

14:10
Cyfrifoldeb Cyllidol mewn Llywodraeth Leol

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cyfrifoldeb cyllidol mewn llywodraeth leol? OQ60556

Mae yna fframwaith cynhwysfawr o sicrwydd ac atebolrwydd ar gyfer awdurdodau lleol wedi'i nodi mewn deddfwriaeth a chanllawiau. Mae craffu lleol yn rhan bwysig o hyn, ac mae Archwilio Cymru yn darparu proses sicrwydd gyson a gwerthfawr.

Diolch am hynny, Weinidog. Yn anffodus, nid yw'r gwersi'n cael eu dysgu. Diolch i waith Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus San Steffan a dadansoddiad gan y BBC, rydym yn gwybod am y lefelau anhygoel o ddyled a gronnwyd gan gynghorau ledled y DU. Yn anffodus, mae gan Gyngor Abertawe ddyled sydd bron yn ddwbl cyfartaledd y DU. Ar bron i £0.75 biliwn, mae'r ddyled yn cyfateb i £2,917 am bob person sy'n byw yn ninas a sir Abertawe. Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod y lefel hon o ddyled yn anghynaladwy, a chyda'r setliad llywodraeth leol arfaethedig presennol, mae'n debygol o dyfu. Rydym wedi gweld canlyniad terfynol hyn dros y ffin, lle mae cynghorau sy'n gyllidol anghyfrifol wedi cael eu gorfodi i gyhoeddi hysbysiadau adran 114, gan ddatgan methdaliad. A ydych yn cytuno nawr ei bod yn bryd cynnal adolygiad trylwyr o'r model ariannu ar gyfer llywodraeth leol?

Yr hyn rwy'n cytuno ag ef, fel y dywedais wrth Natasha Asghar, yw'r nifer fawr o ASau Ceidwadol a chyn-Weinidogion sydd wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn dweud bod angen mwy o adnoddau ar lywodraeth leol. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Nid ydym wedi gweld yr hysbysiadau adran 114 hyn yn cael eu cyhoeddi yng Nghymru. Mae gennym awdurdodau lleol sydd dan bwysau aruthrol, ond mae pob un o'r hysbysiadau adran 114 wedi'u cyhoeddi yn Lloegr, lle mae awdurdodau Lloegr wedi dioddef yn ddirfawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, oherwydd bod Llywodraeth y DU wedi cefnu ar lywodraeth leol yn llwyr. Nid ydym wedi cael yr un sefyllfa yma. Rydym yn cadw ein haddewid o gynnydd o 3.1 y cant yn y flwyddyn ariannol hon. Y llynedd, cafodd awdurdodau gynnydd o 7.3 y cant, a chynnydd o 9.4 y cant y flwyddyn flaenorol. Cyllid sylfaenol oedd y ddau gynnydd. Felly, rydym wedi gwneud popeth yn ein gallu i roi'r setliadau gorau posibl i awdurdodau lleol, ac rydym yn parhau i wneud hynny eto eleni. Fel y dywedais, mae'r hysbysiadau adran 114 yn olygfa gyfarwydd bellach dros y ffin yn Lloegr, ond nid ydym wedi eu cael yma yng Nghymru.

Dechrau'n Deg

8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch ariannu ehangu Dechrau'n Deg yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ60569

Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â chyd-Weinidogion ar ystod o faterion, gan gynnwys ymrwymiadau pwysig y rhaglen lywodraethu a'r cytundeb cydweithio. Dyma'r sefyllfa ariannol anoddaf y mae Cymru wedi'i hwynebu ers datganoli, ond rwy'n falch fod y cyllid ar gyfer ehangu Dechrau'n Deg yn 2024-25 wedi'i ddiogelu.

Diolch am yr ymateb.

Rydym i gyd eisiau gweld gofal plant da ledled Cymru, yn enwedig ar gyfer teuluoedd sy'n agored i niwed, sef yr hyn y mae Dechrau'n Deg yn ei ddarparu. O'i gymharu â gweddill y DU, deallaf mai Cymru sydd â'r gyfradd ariannu isaf fesul awr ar gyfer plant tair i bedair oed, sef tua £5 yr awr, ac er bod cyfradd gyfredol Dechrau'n Deg yn uwch na'r cynnig gofal plant cyffredinol, mae'r gymhareb staffio 1:4 gorfodol yn llawer mwy costus na'r gymhareb 1:8, ac mae hynny'n cynyddu costau i ddarparwyr. Rwy'n falch o'ch clywed yn dweud, ac yn falch o wybod, fod y cynnig yn cael ei ddiogelu ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ond mae darparwyr yn dweud wrthym eu bod yn ei chael hi'n anodd iawn darparu gofal plant o ansawdd uchel iawn. Felly, gyda'r pwysau ariannu hyn, tybed a allech chi amlinellu pa ddarpariaeth y mae'r Llywodraeth yn ei chynnig i sicrhau ariannu teg ar draws pob darparwr i weld cynnydd go iawn yn y mynediad at ofal plant a dewis rhieni. Diolch yn fawr iawn.

14:15

Diolch. Felly, yn ystod 2023-24 a 2024-25, byddwn yn buddsoddi £46 miliwn i ehangu gofal plant Dechrau'n Deg i gefnogi'r effeithiau cadarnhaol hirdymor ar fywydau'r plant hynny a'r teuluoedd yng Nghymru sy'n wynebu rhai o'r heriau mwyaf, ac mae'r ymrwymiad ariannu, fel y dywedaf, ar gyfer ehangu'r cynllun yn parhau heb ei newid. Dechreuodd y broses o ddarparu cam 2 ym mis Ebrill 2023, a bydd cam 2 yr ehangiad yn caniatáu i 9,500 yn fwy o blant dwy oed gael mynediad at ofal plant drwy Dechrau'n Deg pan fydd y cynnydd wedi'i weithredu'n llawn, gan gynnwys dros 4,500 yn fwy o blant yn 2023-24. Felly, mae gwaith yn mynd rhagddo'n gyflym i wella'r mynediad at y cynllun hwnnw.

Ar ariannu'r gyfradd fesul awr a'r gymhareb staffio, gwn fod y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol iawn o hynny, ac rwy'n deall bod yna ymrwymiad i gynnal adolygiadau rheolaidd o ariannu'r gyfradd fesul awr, ond efallai y siaradaf â'r Dirprwy Weinidog i gael mwy o wybodaeth am hynny.

A fy nghwestiwn yw: Weinidog, rwyf wedi bod mewn gohebiaeth â'r Gweinidog fy hun—y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol—ynghylch Dechrau'n Deg, ac yn enwedig mewn perthynas â chyllido plant dwy oed, fel rydych newydd ei amlinellu. Pan gefais ymateb gan y Gweinidog fis diwethaf, dywedodd y Gweinidog:

'Yn y pen draw, ein huchelgais yw sicrhau bod gwasanaethau gofal plant Dechrau'n Deg ar gael i bob plentyn 2 oed yng Nghymru ac, yn ddelfrydol, byddem yn hoffi mynd cam ymhellach a symud yn gyflymach wrth gyflwyno gwasanaethau.'

Felly, roeddwn yn falch o hynny, ond yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, os wyf wedi deall hyn yn iawn, Weinidog, mae'r cyllid ar gyfer plant dwy oed ar gael i bob plentyn yn Lloegr, lle bynnag y maent yn byw; yng Nghymru, nid yw ond ar gael yn yr ardaloedd Dechrau'n Deg. Felly, a gaf fi ofyn am eglurhad ynghylch pryd y bydd cyllid ar gael i sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno i bob ardal yng Nghymru, gan gynnwys ardaloedd gwledig, sy'n aml heb eu categoreiddio fel ardaloedd o amddifadedd?

Efallai y dylwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog ysgrifennu atoch eto gydag ychydig o eglurhad pellach ynghylch yr hyn a nododd yn ei llythyr atoch.FootnoteLink Rwy'n deall bod pethau'n symud ar gyflymder gwahanol yn Lloegr, oherwydd rwy'n gwybod bod problemau gyda'r sector ei hun a chapasiti'r sector i allu ymateb i'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn gofyn iddo ei wneud. Ond rwy'n ofni nad oes gennyf y manylion i allu darparu ateb manwl.

Ystyried Cydraddoldeb wrth Gyllido Awdurdodau Lleol

9. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 wrth ddyrannu'r grant cynnal refeniw ar gyfer awdurdodau lleol? OQ60570

Rydym yn ystyried effeithiau cydraddoldeb ein penderfyniadau gwario drwy ein hasesiad effaith integredig strategol. Mae awdurdodau lleol yn ddarostyngedig i'r un rhwymedigaethau i ddeall effaith eu penderfyniadau mewn perthynas â deddfwriaeth cydraddoldeb ac o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Diolch, Weinidog. Roeddwn eisiau cyffwrdd hefyd â'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, a gyflwynwyd fel mecanwaith allweddol wrth gynllunio adferiad Cymru o effeithiau COVID, sy'n ymddangos yn bell yn ôl i rai ohonom, ond nid yw hynny'n wir mewn gwirionedd, ac rwy'n credu bod ein cymunedau'n dal i deimlo effeithiau hynny. A phwrpas hynny oedd ein galluogi i symud tuag at ailadeiladu Cymru decach a mwy llewyrchus, ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus penodol wneud y penderfyniadau strategol hynny, penderfynu blaenoriaethau a gosod amcanion i ystyried pa mor deg yw eu penderfyniadau, gan gynnwys addysg, gwaith, safonau byw. Felly, wrth gwrs, rydym i gyd eisiau Cymru decach, ac roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf i ni o ran edrych ar bethau drwy'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol honno, a'r sgyrsiau rydych chi'n eu cael gyda chyrff cyhoeddus ac awdurdodau lleol er mwyn gwneud hyn.

Mae hyn yn rhan bwysig iawn o'n gwaith ar ddatblygu ein proses gyllidebol ac yn arbennig felly drwy gynllun gwella'r gyllideb a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft. Mae'n rhaglen dreigl bum mlynedd, felly bob blwyddyn rydym yn ei diweddaru i nodi'r camau newydd y byddwn yn eu cymryd. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod awdurdodau lleol, wrth gwrs, yn gwneud y gwaith hwn hefyd, ac rwy'n falch iawn o weld, wrth edrych ar ddull Pen-y-bont ar Ogwr o ymgynghori ar eu cynigion cyllidebol, mai eu prif flaenoriaeth, o ran yr egwyddorion y byddant yn eu defnyddio i ategu datblygiad eu cyllideb, yw diogelu'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Rwy'n credu bod hynny i'w groesawu'n fawr, ac rwyf eisiau gweld pob awdurdod lleol yn rhoi hynny ar frig eu rhestr flaenoriaethau a sicrhau bod hynny wrth wraidd eu penderfyniadau wrth iddynt osod eu cyllidebau, mewn amgylchiadau eithriadol o anodd.

14:20
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Y cwestiynau nesaf fydd y rhai i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan James Evans. 

Newydd-ddyfodiad Ifanc i'r Diwydiant Amaethyddol

1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth Llywodraeth Cymru i newydd-ddyfodiaid ifanc i'r diwydiant amaethyddol? OQ60540

Member
Lesley Griffiths 14:20:20
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi newydd-ddyfodiaid ifanc i'r diwydiant amaethyddol drwy raglenni fel Cyswllt Ffermio a Dechrau Ffermio. Bydd y cynllun ffermio cynaliadwy ar gael i bob math o ffermydd a bydd yn cefnogi ffermwyr ifanc i ddatblygu yn y diwydiant a sefydlu busnesau cynaliadwy.

Hoffwn ddiolch i chi am eich ateb, Weinidog. Mae dyfodol ein diwydiant amaethyddol yng Nghymru yn dibynnu ar Lywodraeth Cymru yn cael pethau'n iawn i'n cenhedlaeth nesaf o ffermwyr ifanc. Yn fy rôl fel yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, rwy'n cyfarfod â llawer o newydd-ddyfodiaid ifanc oherwydd fy nghysylltiad â'r diwydiant a hefyd y rhan a chwaraeais yn y mudiad ffermwyr ifanc. Fe wnaeth ffermwr ifanc o'r enw Scott anfon e-bost ataf yn hwyr nos Lun i fynegi pryderon, a gofynnodd i mi ofyn y cwestiwn hwn i chi'n uniongyrchol, felly dyma wneud. Dywedodd:

'A all y Gweinidog roi gobaith i mi fod yna unrhyw ddyfodol i mi a newydd-ddyfodiaid ifanc eraill ar draws y diwydiant amaethyddol yng Nghymru? Rwy'n ffermio gwartheg, ond ar hyn o bryd mae arnaf ofn eu ffermio oherwydd ofn TB. Mae fy nheulu'n poeni am y cyfraddau talu ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy a'r perygl o golli 20 y cant o'n fferm i goed a thargedau bioamrywiaeth gan y Llywodraeth. Mae'n ymddangos hefyd fod y Llywodraeth yn llawer rhy dawel ac amharod i'n cefnogi rhag y gamdriniaeth a gawn gan bersonoliaethau teledu rhag cynhyrfu'r lobi amgylcheddol.'

Felly, Weinidog, beth allwch chi ei ddweud wrthyf fi, a'r ffermwr ifanc hwnnw, i'w sicrhau bod dyfodol iddynt yma yng Nghymru i barhau i ffermio, oherwydd heb ein cenhedlaeth nesaf o ffermwyr ifanc, waeth i ni ddweud bod diwydiant amaethyddol Cymru ar gau i fusnes?

Yn sicr, rwy'n cytuno â'r pwynt olaf hwnnw, ac mae annog y genhedlaeth nesaf i fyd amaeth yn rhan bwysig iawn o gynnal diwydiant ffyniannus a deinamig. Rwyf wedi siarad â llawer o ffermwyr ifanc, fel y ffermwr y cyfeirioch chi ato, sy'n dweud wrthyf fod mynediad at dir yn rhwystr, fod mynediad at gyfalaf yn rhwystr, ac rydym wedi gweithio'n galed iawn dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'n debyg y byddwch chi'n cofio Dechrau Ffermio ar ffurf wahanol—Mentro oedd ei enw—ac rwy'n credu bod hwnnw wedi bod yn hynod o bositif wrth alluogi unigolion i gymryd rhan gyda phobl sydd ar ben arall y raddfa ac sydd eisiau sicrhau bod gennym ddiwydiant llewyrchus a deinamig. Felly, yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw, yn sicr, byddwn yn parhau i wneud popeth a allwn. Nid wyf yn tanbrisio pa mor ansicr ac ansefydlog y mae'r cyfnod hwn wedi bod i bob rhan o'n sector economaidd, ac wrth gwrs nid yw'r diwydiant amaethyddol yn wahanol.

Hyrwyddo Cynnyrch Lleol

2. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i hyrwyddo cynnyrch lleol Cymreig? OQ60549

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi busnesau bwyd a diod a'u cadwyni cyflenwi, gan gyflawni trosiant o £8.1 biliwn yn ein sector sylfaenol bwyd. Roedd Blas Cymru, digwyddiadau allweddol i brynwyr fel Sioe Frenhinol Cymru a'r rhaglenni datblygu masnach ac allforio yn allweddol wrth gyflawni'r llwyddiant hwn. Mae bwyd a diod o Gymru yn parhau i gael eu hyrwyddo'n lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac mae cyfathrebu amlgyfrwng yn cyflwyno Cymru fel cenedl fwyd.

Diolch, Weinidog, ac mae hynny'n wych i'w glywed, ond rwy'n credu y gallem wneud mwy. Nawr, mae'r DU ar hyn o bryd yn mewnforio tua 35 y cant o'r cig eidion a'r llysiau y mae'n eu bwyta, neu oddeutu 250,000 tunnell bob blwyddyn—2,700 tunnell o Uruguay, 14,800 o Wlad Pwyl, a 2,800 o Brasil. Felly, i mi, nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl ein bod yn mewnforio cig eidion i'w fwyta o ben arall y byd pan fo gennym 40,300 tunnell yn cael ei gynhyrchu'n lleol. Yn yr un modd, rydym yn mewnforio 600 tunnell o gig oen o Sbaen, 9,100 o Awstralia, a 31,000 o Seland Newydd. Mae hynny er gwaethaf y ffaith bod 48,700 tunnell yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru yn flynyddol. Ac rwy'n credu mai cig oen, porc a chig eidion Cymreig yw'r gorau yn y byd. 

Nawr, pan fyddwch chi'n mynd i fwyty, caffi neu dafarn nawr, y gwir amdani yw nad oes gennych chi unrhyw syniad a ydych chi'n bwyta cig Cymreig neu gig tramor, ac os yw'n gig tramor, mae ganddo ôl troed carbon uchel, ac mae ei ansawdd yn is na'n cig ni.  

Rwy'n gwneud. Rwyf wedi gofyn yn y gorffennol a fyddech chi'n ystyried cyflwyno cynllun lle mae busnesau lletygarwch sy'n gallu ac sydd eisiau gwerthu cynnyrch o Gymru yn gwneud hynny a'n bod yn dilyn system o fath 'sgoriau ar y drysau'. Byddai hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr ddewis pa sefydliad i fwyta ynddo ac a ydynt eisiau prynu—a thalu ychydig bach mwy os oes angen—cynnyrch Cymreig lleol blasus, neu a ydynt yn hapus i beidio â gwneud hynny. Ond byddai'r system 'sgoriau ar y drysau' yn effeithiol iawn yn hynny o beth. Diolch.

14:25

Diolch. Rwy'n credu y byddai'r cynllun rydych chi'n cyfeirio ato yn eithaf anodd i'w weinyddu, ond rwy'n awyddus i hyrwyddo ein bwyd a'n diod gwych o Gymru, fel y dywedwch, ac roeddech chi'n cyfeirio'n benodol at gig oen, cig eidion a phorc o Gymru, ac yn amlwg, rydym yn cefnogi Hybu Cig Cymru i sicrhau bod y neges am ein cig coch gwych yn cael ei lledaenu ledled y byd. Mae gennym lawer o ddigwyddiadau dramor: bydd digwyddiad Gulfood yn cael ei gynnal yn Dubai fis nesaf, mae gennym ddigwyddiad Anuga yn yr Almaen, mae gennym ddigwyddiad Salon International de l'Alimentation ym Mharis, ac mae gan Hybu Cig Cymru bresenoldeb yno bob amser yn hyrwyddo ein bwyd a'n diod gwych.

Mae'n rhaid imi ddweud, rydych chi'n ei weld yn amlach nawr mewn bwytai, eu bod yn awyddus i ddangos o ble y daw eu cynnyrch. Rwy'n credu y gallwn ofyn bob amser, fel defnyddwyr, ac fel pobl sy'n defnyddio bwytai a lleoliadau lletygarwch, i wneud yn siŵr eu bod yn deall bod pobl yn gofyn mwy o gwestiynau. Rwy'n sicr yn credu bod pobl yn gofyn mwy o gwestiynau ynglŷn ag o ble y daw eu bwyd a'u diod.

Mae rhai cynhyrchwyr wyau yn fy rhanbarth wedi cysylltu â mi oherwydd eu bod yn pryderu am yr effaith ar werthu wyau maes o dan fesurau gorfodol ar gyfer cadw adar dan do yn sgil ffliw adar; gwn eich bod wedi cyffwrdd â hyn yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf. Fe fyddwch yn gwybod y byddai'r newidiadau arfaethedig yn y ddeddfwriaeth yn Lloegr a'r Alban yn diddymu'r terfyn amser ar gyfer cadw ieir maes mewn cyfyngiadau gorfodol, ac mae'r newid hwnnw'n golygu y byddai wyau a gynhyrchir gan ieir sydd fel arfer yn ieir maes yn parhau i gael eu marchnata felly, hyd yn oed os ydynt wedi cael eu cadw dan do am fwy nag 16 wythnos, oherwydd mesurau gorfodol ar gyfer cadw adar dan do yn sgil ffliw adar wrth gwrs. Nawr, mae archfarchnadoedd wedi dweud wrth gynhyrchwyr yn fy rhanbarth i, mae'n debyg, os yw'r rheolau yng Nghymru yn wahanol ac os na allant barhau i ddisgrifio eu hwyau fel wyau maes, byddant yn colli eu contractau, a'u bywoliaeth gyda nhw. Felly, a wnewch chi ystyried mabwysiadu'r un dull â Lloegr a'r Alban i helpu i ddiogelu'r sector pe bai yna achosion sylweddol o ffliw adar?

Diolch. Wel, fel y dywedwch, pan fydd gorchymyn cadw adar dan do yn cael ei gyflwyno, gall ffermwyr farchnata wyau a gynhyrchir gan ieir sy'n cael eu cadw dan do fel ieir maes am 16 wythnos gyntaf y gorchymyn, ac rwy'n credu bod 16 wythnos yn gyfnod teg ar gyfer hynny. Rwy'n ymwybodol iawn fod yr Undeb Ewropeaidd wedi penderfynu dileu'r rhanddirymiad 16 wythnos hwnnw; yn amlwg, bydd hynny'n berthnasol i Ogledd Iwerddon. Felly, mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a Llywodraeth yr Alban wedi lansio ymgynghoriad ar y cyd, nad ydym yn cymryd rhan ynddo. Fodd bynnag, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld canlyniadau'r ymgynghoriad hwnnw oherwydd nid wyf yn credu bod yr un o'r ddwy Lywodraeth wedi gwneud digon o waith gyda defnyddwyr; mae'n ymwneud llawer mwy â busnes, os mynnwch, nag ystyried safbwyntiau defnyddwyr. Ond rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gadw llygad barcud ar yr ymgynghoriadau hynny—rwy'n credu ei fod yn cau o gwmpas 5 Mawrth; mae ychydig o amser i fynd eto—ond byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld hynny. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gallu cael polisïau gwahanol o fewn y DU. Rwy'n cydnabod yn llwyr y gallai fod yn fwy cymhleth, ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud y penderfyniadau hyn rhwng popeth, a dyna a wneuthum.

Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fy mod yn cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar gwrw a thafarndai yma yn y Senedd hon, ac yn rhinwedd y rôl honno, Weinidog, rwyf wedi ymweld â llawer o fragdai lleol ledled Cymru gydag Aelodau etholedig ac wedi gweld drosof fy hun pa mor bwysig ydynt i'n heconomi leol ac i'w cymunedau lleol nhw hefyd. Mae bragdai lleol fel Wrexham Lager yn eich etholaeth chi, Hafod Brewing yn yr Wyddgrug, Tiny Rebel yng Nghasnewydd—maent i gyd yn enwog ar draws y byd am fod yn gynnyrch Cymreig o ansawdd uchel. Cefais fy atgoffa o hyn mewn sgwrs gyda Gweinidogion o lysgenhadaeth Japan y prynhawn yma, lle rydym, yn y gorffennol, wedi defnyddio digwyddiadau rhyngwladol mawr i arddangos ein prosiectau Cymreig, fel Wrexham Lager, ac yn arbennig, pan wnaethom hynny yng Nghwpan Rygbi'r Byd, gyda rhywfaint o lwyddiant, yn Japan. Weinidog, a gaf fi ofyn i chi a wnewch chi ymrwymo i barhau i ddefnyddio digwyddiadau rhyngwladol, fel Cwpan Rygbi'r Byd a digwyddiadau eraill, i hyrwyddo bragwyr Cymreig?

Diolch. Ydw, rwy'n awyddus iawn i fanteisio ar bob cyfle a gawn i gefnogi pob rhan o ddiwydiant bwyd a diod Cymru, ond fel y dywedwch, rydych chi'n cyfeirio at gwrw Cymreig. Mae gennym glwstwr diodydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi, a byddaf yn lansio, yr wythnos nesaf rwy'n credu—strategaethau cwrw a gwirodydd Cymreig; unwaith eto, rhan arall o amrywiaeth wych o gynnyrch diod sydd gennym yma yng Nghymru. Bydd y strategaethau'n dangos sut mae'r sector yn bwriadu llywio'r diwydiant ochr yn ochr â gweledigaeth strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant bwyd a diod. Rwy'n credu bod digwyddiadau fel y nodwyd gennych yn Japan, pan gynhaliwyd cwpan y byd yn Japan—Cwpan Rygbi'r Byd—mae gan hwnnw ffocws gwirioneddol. Roedd gennych ffocws byd-eang enfawr na allwch ei brynu, fel Gweinidog â chyfrifoldeb am fwyd a diod. Ond rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig ein bod yn gwneud pethau'n nes at adref hefyd. Soniais mewn ymateb cynharach am Blas Cymru, ac roedd yn wych gweld nifer y cynhyrchwyr bwyd a diod newydd yno. Ac mewn gwirionedd, rwy'n credu bod gennym nifer fwy o gynnyrch newydd nag a welwyd erioed mewn digwyddiad Blas Cymru gan y cynhyrchwyr diodydd.

14:30

Wel, bydd y Gweinidog yn ymwybodol o fanteision cig hela. Rydym yn gwybod bod cig hela yn llawn protein, mae'n gynaliadwy, mae ei filltiroedd bwyd yn isel, boed yn ffesant neu'n garw neu'n gwningen neu unrhyw fath arall o gig hela, ac mae'r cyfan wedi'i gynhyrchu'n lleol iawn. Ond yn anffodus, ni allwn weld, neu nid ydym wedi gweld, cig hela ar fwydlenni mewn ysgolion ac ysbytai ac mewn mannau eraill. A ydych chi wedi ystyried sicrhau bod cig hela ar y fwydlen yn ein hysbytai ac yn ein hysgolion fel ein bod yn cefnogi cynhyrchwyr cig hela lleol ac yn sicrhau bod cig hela, gyda'i filltiroedd bwyd isel, yn cyfrannu at y deiet yma yng Nghymru?

Nid wyf wedi gwneud unrhyw beth penodol gyda gwasanaethau cyhoeddus ynglŷn â sicrhau bod cig hela ar y fwydlen. Buaswn yn dyfalu y gallai'r gost fod yn rhwystr, ond mae'n sicr yn rhywbeth y buaswn yn hapus iawn i siarad â Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn ei gylch i weld a yw'n rhywbeth sy'n cael ei ystyried.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Samuel Kurtz.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ergyd o £1 filiwn i un o brif ddigwyddiadau Cymru—dyna'r dadansoddiad damniol gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar gynnig Llywodraeth Cymru i newid y flwyddyn ysgol. Nawr, rydym i gyd yn gwybod mai Sioe Frenhinol Cymru yw uchafbwynt y calendr amaethyddol—digwyddiad amaethyddol mwyaf Ewrop, gyda 250,000 o bobl yn mwynhau'r sioe. Ac eto, byddai Llywodraeth Cymru, a'ch hoff ymgeisydd am y brif weinidogaeth, yn hapus iawn i'w gweld yn cael ei haberthu yn enw diwygio blwyddyn ysgol nad yw hyd yn oed yr athrawon eisiau ei weld.

Felly, o ystyried pwysigrwydd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Sioe Frenhinol Cymru, pa sgyrsiau rydych chi, fel Gweinidog, wedi'u cael gyda'r Gweinidog addysg ynghylch dileu'r cynigion hyn, ynghylch cefnogi Sioe Frenhinol Cymru a sicrhau bod y diwydiant amaethyddol yn cael ei ystyried mewn penderfyniadau a wneir gan y Llywodraeth hon?

Daeth y Llywydd (Elin Jones) i’r Gadair.

Wel, rwyf i a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyfarfod â swyddogion a phrif weithredwr Sioe Frenhinol Cymru. Nid wyf yn anghytuno â'r hyn rydych chi'n ei ddweud amdani fel pinacl ein calendr amaethyddol. Fe fyddwch yn ymwybodol, rwy'n siŵr, fod hyn yn destun ymgynghori ar hyn o bryd. Nid yw'r ymgynghoriad wedi dod i ben, ni wnaed unrhyw benderfyniadau a bydd y sgyrsiau hynny'n parhau.

Diolch, Weinidog. Mae'n siomedig fod hyn yn cael ei ystyried hyd yn oed, ac mae'r dyddiadur, y calendr, digwyddiad Sioe Frenhinol Cymru yn flynyddol—mae yno bob blwyddyn—ac mae'r ffaith bod hyn hyd yn oed wedi dod cyn belled yn dangos nad yw Llywodraeth Cymru yn rhoi fawr o ystyriaeth i gefn gwlad Cymru.

Ond os caf symud o siarad am ddarpar Brif Weinidog posibl at y Prif Weinidog presennol, fe achosodd yntau boen go iawn i'r gymuned amaethyddol yn 2022 wrth siarad â BBC Cymru, pan ddywedodd fod angen iddo gyfiawnhau i yrwyr tacsi Bangladeshaidd pam ei fod yn cefnogi ffermwyr. Mae'r cyfiawnhad hwnnw bellach wedi dod, diolch i arolwg annibynnol YouGov sy'n dangos bod 82 y cant o bobl yn o blaid gweld ffermio yng Nghymru yn cael ei gefnogi'n ariannol i gynhyrchu bwyd, gyda 72 y cant o'r farn fod cefnogi ffermwyr Cymru yn ddefnydd da o wariant cyhoeddus. Diolch byth, data caled i wrthsefyll sylwadau niweidiol a siomedig Mike Hedges ar gymorthdaliadau.

Mae'r undebau a minnau wedi croesawu cynnal y cynllun taliad sylfaenol ar £238 miliwn. Ond wrth edrych ar y gefnogaeth hon gan Lywodraeth Cymru, mae'n bwysig nodi'r cyd-destun, sef bod Llywodraeth Cymru wedi symud yr holl arian y gallent ei symud oddi wrth ffermwyr yng ngholofn 1 i golofn 2 cyn inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae hyn yn golygu fod yr £238 miliwn, a gedwir o fewn y gyllideb ddrafft drwy'r cynllun taliad sylfaenol mor isel ag y gallai fod wedi bod. Mae'n gwbl resymol felly, Weinidog, inni awgrymu na ddylid defnyddio'r ffigur hwn o £238 miliwn fel meincnod neu arian sylfaenol ar gyfer cymorth yn y dyfodol drwy'r cynllun ffermio cynaliadwy. Mewn gwirionedd, dylem ystyried defnyddio cyfanswm y polisi amaethyddol cyffredin sef £338 miliwn fel y ffigur isaf absoliwt. Felly, pa ffigurau rydych chi'n eu defnyddio fel swm sylfaenol wrth gyfrifo'r cymorth a fydd ar gael i ffermwyr o 2025 ymlaen?

14:35

Wel, fe wnaethoch chi ofyn y cwestiwn hwn i mi yr wythnos diwethaf yn y pwyllgor, a'r hyn a ddywedais wrthych, ac fe wnaf ailadrodd hynny er mwyn i'r holl Aelodau glywed, yw ein bod am ddiogelu'r £238 miliwn. Pan gyflwynais y ffigur ar gyfer cynllun taliad sylfaenol 2023 ym mis Rhagfyr 2022, fe wneuthum ei gynnal ar £238 miliwn, a dywedais fy mod am gario hwnnw ymlaen at 2024. Nid yw wedi bod yn hawdd, oherwydd y sefyllfa ariannol anodd, ond rydym wedi gallu gwneud hynny. Nid oedd arolwg barn YouGov yn fy synnu, ac roedd y ffordd y cafodd y cwestiynau eu gosod yn hynod o—wyddoch chi, ni wnaeth y data a gawsom ohono fy synnu, oherwydd wrth gwrs fod angen i bobl ddeall o ble y daw eu bwyd. Rwy'n dweud eto ei bod yn bwysig iawn ein bod yn egluro i'r cyhoedd lle mae eu harian yn mynd, a chyn gadael yr Undeb Ewropeaidd, nid wyf yn credu bod y cyhoedd yn deall lefel y cymhorthdal a gâi ein ffermwyr. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn inni fod yn agored a thryloyw, a dyna beth rwyf fi'n sicr wedi ymdrechu i'w wneud bob amser. Nid wyf erioed wedi dweud unrhyw beth heblaw na allaf weld amser, yn sicr yn ystod fy oes i, lle na fyddai angen inni gefnogi ein ffermwyr, a dyna'n union rwyf wedi'i wneud fel Gweinidog.

Diolch, Weinidog. Fe wnaethoch chi gyfeirio at yr ateb a roesoch yn y pwyllgor. Rhywbeth arall y soniais wrthych amdano oedd yr angen i lobïo Llywodraeth y DU ynghylch pa ffigur yr hoffech chi ei weld ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy. Nawr, ar y pwynt hwnnw yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, nid oeddech wedi cyflwyno unrhyw sylwadau unigol i'r Trysorlys ynghylch pa arian yr hoffech ei weld i gyflawni'r cynllun ffermio cynaliadwy. Felly, gobeithio bod y llythyr hwnnw ar y ffordd.

Roedd rhaglen nos Lun o Ffermio ar S4C yn dangos realiti creulon TB ar ffermydd Cymru unwaith eto. Roedd rhybudd i wylwyr ynghylch y golygfeydd erchyll o ladd gwartheg a gwartheg cyflo ar y fferm gan fod yr eitem mor ofidus. Mae fy nghalon yn torri dros Wyn ac Enid Davies, a thros bob ffermwr a'u teuluoedd sy'n dioddef dan gwmwl tywyll TB. Yn ogystal â'r gefnogaeth helaeth i'r teulu Davies ar y cyfryngau cymdeithasol, gwelwyd y dicter a'r rhwystredigaeth a deimlid ynghylch eu sefyllfa. Rwyf wedi galw ers tro—yn y Siambr hon a'r tu hwnt iddi—ar eich Llywodraeth i newid ei pholisi ynghylch lladd gwartheg cyflo a heffrod ar y fferm. Mae yna ffyrdd eraill derbyniol o wneud hyn nad yw eich Llywodraeth chi'n eu hystyried ar hyn o bryd. Roeddech chi'n sôn ddoe, ac rwy'n dyfynnu:

'Bydd grŵp cynghori technegol hefyd'

yn edrych ar y polisi hwn. Ac eto rydym wedi bod yn siarad am y grŵp hwn ers misoedd lawer heb fawr o gynnydd. Felly, nid yw hynny'n ddigon da i'r ffermwyr hyn a'u teuluoedd sy'n dioddef. Felly, os gwelwch yn dda, Weinidog, a allwch chi roi'r gorau i oedi penderfyniad a throsglwyddo cyfrifoldeb i grŵp nad yw wedi'i ffurfio eto, a defnyddio'r pwerau sydd gennych chi fel Gweinidog materion gwledig i newid y polisi ynghylch y ffordd y mae gwartheg cyflo a heffrod yn cael eu lladd ar y fferm? Rhowch ychydig o obaith i'r ffermwyr, os gwelwch yn dda.

Rwy'n deall yn llwyr y trallod y mae'r digwyddiad y cyfeirioch chi ato a welwyd ar Ffermio yn ei achosi i ffermwyr a'u teuluoedd—rwy'n llwyr ddeall hynny. Ac nid y grŵp cynghori technegol yn unig ydyw; er fy mod yn gofyn iddyn nhw ei ystyried eto, fe wnaethom edrych ar hyn cyn i chi ddod i'r Senedd. Fe wnaethom edrych ar hyn gyda'r sector amaethyddol, oherwydd rwy'n deall yn iawn pa mor erchyll yw gweld lladd ar y fferm. Ond yn anffodus, ni wnaethom lawer o gynnydd, a dyna pam rwy'n gofyn i'r grŵp cynghori technegol edrych ar hyn ar frys. Rydym hefyd yn gofyn am farn gan yr undebau ffermio—wrth gwrs, mae'r undebau ffermio wedi trafod hyn gyda mi—a chynrychiolwyr eraill y diwydiant, fel y gallant gyflwyno i'r grŵp cynghori technegol beth yn union y credant fod ei angen. Mewn rhai achosion, yn anffodus, ni ellir osgoi lladd ar y fferm os na ellir cludo gwartheg i ladd-dy, neu os nad ydynt yn addas i'w bwyta gan bobl. Fodd bynnag, rwy'n credu bod cael gwared ar wartheg sydd wedi'u heintio â TB o'r fferm cyn gynted â phosibl yn amlwg yn elfen allweddol o'n rhaglen dileu TB. Ac rwy'n mynd yn ôl at yr hyn a ddywedais am orfod gweithio mewn partneriaeth—pawb gyda'n gilydd, nid Llywodraeth yn unig—er mwyn sicrhau ein bod ni'n cael Cymru sy'n rhydd o TB.

Diolch, Lywydd. Weinidog, yn ôl ym mis Rhagfyr yn y pwyllgor craffu, gofynnais i chi ym mha ffordd y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn cydnabod y perygl o ostwng gwerth tir fferm yn sgil y gofyniad i blannu coed arno. Oherwydd, yn amlwg, mae gwahaniaeth sylweddol rhwng gwerth tir amaethyddol cynhyrchiol o ansawdd da a gwerth tir lle cafodd coed eu plannu. Ni allech ateb fy nghwestiwn bryd hynny. Rydych wedi cael ychydig o amser i feddwl amdano; tybed a allwch chi ei ateb heddiw. Ble yn y system newydd arfaethedig y caiff dibrisio neu golli gwerth tir fferm ei gydnabod?

14:40

Rydym yn edrych ar yr holl ddadansoddiad economaidd o'r cynllun ffermio cynaliadwy. Rydym wedi dechrau paratoi ar gyfer hynny. Rydym wedi cael llawer iawn o ymchwil wedi'i wneud. Ni fydd y dadansoddiad a wnaethom yn cael ei adlewyrchu yn y cynllun terfynol pan gaiff ei gyflwyno, mewn ychydig dros 12 mis bellach. Ond mae'r modelu a wnaethom yn mynd i ddarparu tystiolaeth i lywio'r modd y caiff y cynllun ei lunio, ac yn amlwg, mae'n rhaid inni ystyried pethau fel lleihau stoc, edrych ar dir, fel y dywedwch, edrych ar incwm busnes ffermydd, edrych ar allbwn amaethyddol, edrych ar ba lafur fferm fydd ei angen. Felly, mae hyn i gyd yn rhan o'r dadansoddiad economaidd. 

Ond nid o reidrwydd yn cael ei adlewyrchu yn y cynllun terfynol—ai dyna rydych chi'n ei ddweud? Oherwydd yn amlwg, os ydych chi am i bobl gofrestru ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy—ac mae'n rhywbeth rydym i gyd eisiau ei weld, o ran y canlyniadau i natur a'r hinsawdd a lles ehangach y cyhoedd—mae angen eu hannog i wneud hynny. Bydd methu cydnabod gostyngiad yng ngwerth tir yn gwneud i bobl droi eu cefnau ar y cynllun. Felly, rwy'n credu ei bod yn hanfodol eich bod chi fel Llywodraeth yn gallu ateb y cwestiwn hwnnw'n benodol pan ddaw'r amser i chi allu gwneud hynny.

A gallwn drafod a thrafod, fel y gwnawn, y cynnig ar gyfer gorchudd coed 10 y cant, sydd—. Bydd colli 10 y cant o'ch tir cynhyrchiol yn anochel yn cael effaith ar hyfywedd fferm. Edrychwn ar y rheoliadau parthau perygl nitradau—buddsoddiad cyfalaf enfawr sy'n ofynnol gan lawer o ffermydd, a rhywbeth y byddant yn ei chael hi'n anodd ei fforddio. Bydd yn rhaid i lawer ddad-stocio, a bydd hynny, unwaith eto, yn erydu hyfywedd eu fferm. Gall TB buchol gael effaith barlysol ar fusnesau fferm, ac wrth gwrs, gall arwain at ganlyniadau enfawr i iechyd meddwl, fel y gwelsom mor glir ar y rhaglen yr wythnos hon. 

Nawr, gallwn drafod polisïau unigol y Llywodraeth ar eu pen eu hunain, ond onid ydych yn derbyn bod effaith gronnol ar waith yma? Yn unigol, maent yn erydu'r diwydiant, ond gyda'i gilydd, gallent fod yn ergyd drom i fywoliaeth pobl. Felly, a gaf fi ofyn: pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o'r sefyllfa yn gyffredinol? Sut ydych chi'n asesu effaith gronnol eich holl bolisïau ar y diwydiant, sydd, yn ddealladwy ar hyn o bryd, yn teimlo dan warchae?

Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig—ac rwy'n meddwl eich bod chi wedi ei wneud yn y pwyllgor—am yr effaith gronnol. Ac os edrychwn ar effaith gronnol digwyddiadau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth—felly, os edrychwch ar adael yr Undeb Ewropeaidd, pandemig COVID, y rhyfel yn Wcráin, costau byw, popeth sydd wedi cael effaith gronnol ar ein holl economïau, ond fel y dywedwch, y sector amaethyddol hefyd. Ac yn amlwg, mae'n gyfnod o ansicrwydd ac ansefydlogrwydd mawr, a rhan o sicrhau bod y taliad sylfaenol yr un fath oedd ceisio rhoi ychydig o sefydlogrwydd i'n ffermwyr. 

Ond rwy'n derbyn ein bod, yn amlwg, yn gorfod cyflwyno polisïau newydd, yn enwedig mewn perthynas â'r cynllun ffermio cynaliadwy. Mae'n debyg eich bod yn ymwybodol fod fy swyddogion ar hyn o bryd allan yn cynnal sioeau teithiol gyda ffermwyr i sicrhau bod y cwestiynau sydd ganddynt yn cael eu hateb wyneb yn wyneb. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, ac rydym wedi gweld niferoedd mawr yn eu mynychu. Rwy'n meddwl ein bod wedi cael tri gweithdy—rwy'n meddwl mai heddiw yw'r pedwerydd—ac mae pob un ohonynt wedi gweld niferoedd mwy a mwy yn cofrestru, sy'n gadarnhaol iawn yn fy marn i, a dyna'n sicr yw'r adborth a gefais yn ôl. 

Felly, fel y dywedaf, rydym wedi cynnal yr asesiad modelu o amgylch y dadansoddiad economaidd, a oedd ar y broses cyn ymgynghori, os mynnwch. Bydd un arall ar y dadansoddiad a gawn yn dilyn yr ymatebion i'r ymgynghoriad, yn dilyn y sioeau teithiol, cyn llunio'r cynllun yn derfynol. Ac mae'n bwysig iawn ein bod yn ystyried yr holl wybodaeth honno. 

Fe wnaethoch chi gyfeirio at reoliadau llygredd amaethyddol, a gwn eich bod yn cytuno bod eu hangen yn fawr, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda'r sector. Ac unwaith eto, rwyf wedi bod yn ffodus iawn o allu diogelu arian, o fewn y toriadau a gefais i fy nghyllideb, i helpu ffermwyr, sydd, fel y dywedwch, yn gorfod gwneud gwaith sylweddol i sicrhau eu bod yn bodloni'r rheoliadau. Fodd bynnag, rwyf bob amser wedi dweud yn glir na fyddaf yn rhoi arian i bobl gyrraedd y lefel sylfaenol y dylent fod arni yn y lle cyntaf. Ond rydym yn edrych yn ofalus ar effaith gronnol y gwahanol bolisïau, oherwydd mae'n gyfnod o newid mawr i'n sector amaethyddol. 

Bridio Cŵn Anghyfreithlon

3. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag awdurdodau lleol ynghylch cynnal adolygiadau o fridio cŵn anghyfreithlon yn eu hardaloedd? OQ60552

Mae ein gallu i ymchwilio ac atal bridio anghyfreithlon wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad uniongyrchol i'r prosiect gorfodi ar gyfer awdurdodau lleol a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd gyda Trwyddedu Anifeiliaid Cymru i drafod cynnydd.

14:45

Diolch am hwnna. Wel, i ddechrau, buaswn yn hoffi llongyfarch cyngor Caerfyrddin am y gwaith maen nhw wedi ei wneud gyda hyn. Cyhoeddwyd adolygiad o fridio cŵn anghyfreithlon yn yr ardal gan gabinet y cyngor, a nhw, rwy'n deall, ydy'r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i wneud hyn, felly pob clod iddynt.  

Mae ymchwil gan RSPCA Cymru yn dangos mai cyngor Caerffili a gafodd y nifer uchaf ond dau o ymholiadau i fridio cŵn yn 2022, a bod cynghorau sir Gaerfyrddin a Chaerdydd wedi cael mwy na hynny. Nawr, er na wnaeth mwyafrif yr ymchwiliadau i'r ymholiadau hyn arwain at gamau pellach, arweiniodd chwech at gamau ffurfiol a chafwyd dau erlyniad hefyd. Caerffili yw'r unig awdurdod lleol i gael erlyniadau sy'n berthnasol i fridio cŵn yn anghyfreithlon yn 2022, ar wahân i sir Gaerfyrddin. Rwy'n eu canmol am y gwaith a wnaethant. Wrth gwrs, gwelwyd nifer o farwolaethau yn yr ardal yn y blynyddoedd diwethaf. Beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yn eich barn chi i annog cynghorau ledled Cymru i wneud mwy i fynd i'r afael â'r mater hwn, yn enwedig mewn perthynas â chynnal adolygiadau i fridio cŵn anghyfreithlon er mwyn atal y marwolaethau echrydus hyn rhag digwydd yn y lle cyntaf? Diolch. 

Diolch. Wel, rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn, ac fel y dywedais, rydym wedi cael prosiect gorfodi ar gyfer awdurdodau lleol, sydd, yn fy marn i, wedi arwain at rannu arferion gorau mewn ffordd nas gwelsom o'r blaen o bosibl. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod pob awdurdod lleol yn cael cyfle i gynnal yr arolygiadau mewn lleoliadau bridio cŵn. Ac rwy'n credu bod yr ymweliadau hynny, yn arbennig, wedi arwain at newid mawr yn y lleoliadau yr ymwelwyd â nhw. Arweiniodd y timau weithgarwch mewn porthladdoedd ledled Cymru, oherwydd rwy'n credu y bydd hynny'n help mawr gyda'n hawdurdodau lleol hefyd. Felly, rwy'n awyddus iawn i barhau â'r prosiect. Yn amlwg, rwy'n edrych ar beth arall y gallwn ei wneud. Roeddech chi'n sôn am y marwolaethau a welsom yng Nghaerffili. Fe fyddwch chi'n ymwybodol fy mod wedi cael uwchgynhadledd ar berchnogaeth gyfrifol ar gŵn. Rwy'n awyddus iawn i gael un arall y flwyddyn nesaf, oherwydd, er nad yw'r holl ysgogiadau ar gael at ein defnydd, mae'n bwysig iawn ein bod yn defnyddio'r rhai sydd gennym yng Nghymru.

Weinidog, mae bridio cŵn anghyfreithlon yn achos pryder mawr i lawer ledled Cymru ac mae'n parhau i fod yn fater lles anifeiliaid sy'n codi ei ben yn aml. Gellir gweld hyn yn nifer yr ymholiadau a wnaed i awdurdodau lleol am fridio cŵn yn anghyfreithlon, a gododd o 372 yn 2021 i 465 yn 2022. Gyda Chyngor Sir Caerfyrddin bellach yn lansio adolygiad i fridio cŵn anghyfreithlon, rwy'n mawr obeithio y bydd mwy o awdurdodau lleol yn dilyn eu hesiampl. Gobeithio y bydd rhoi cyfle i gynghorwyr fynd gyda swyddogion ar chwiliadau o safleoedd y tybir eu bod yn bridio cŵn yn anghyfreithlon yn rhoi gwell dealltwriaeth o'r broblem i bobl. Felly, Weinidog, yng ngoleuni penderfyniad Cyngor Sir Caerfyrddin, a wnewch chi annog awdurdodau lleol eraill, gan gynnwys pob un o'r rhai yn ne-ddwyrain Cymru, i ddilyn ôl eu traed? Ac a fydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod mwy o gyllid ar gael i awdurdodau lleol orfodi'r rheolau newydd ar gŵn crwydr bully XL Americanaidd, a rhai a adawyd? Diolch.

Wel, ar ran olaf eich cwestiwn, mae Llywodraeth y DU yn ariannu hynny. Nid oes rhaid i ni ariannu hynny; Llywodraeth y DU sy'n gwneud hynny. Mae Deddf Cŵn Peryglus 1991 yn fater a gadwyd yn ôl. Deddfwriaeth Llywodraeth y DU yw hi, felly nhw sy'n ariannu hynny. Ond rwy'n credu bod y pwynt a wnewch ynglŷn â sir Gaerfyrddin, y cyfeiriodd Delyth Jewell ato hefyd, yn bwysig iawn, a byddwn yn sicr yn gwneud popeth yn ein gallu i rannu arferion gorau ledled Cymru, fel y dywedaf. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cofio bod gan y cyhoedd rôl bwysig i'w chwarae yma. Os ydynt am brynu ci, mae'n bwysig iawn eu bod yn ymweld â'r lleoliad, eu bod yn edrych ar fam y ci, yn hytrach nag edrych ar-lein, er enghraifft, neu fannau eraill lle rydym yn gweld cynnydd mewn bridio cŵn anghyfreithlon, yn anffodus. 

Rwy'n pryderu  nid yn unig am fridio cŵn anghyfreithlon, ond hefyd am bob math o fridio cŵn ar ystadau mewn mannau sy'n anaddas ar gyfer bridio cŵn, sy'n achosi gormod o sŵn yn y gymdogaeth. Mae gennym gŵn hefyd nad ydynt yn fridiau anghyfreithlon o bosibl, ond sydd wedi'u hyfforddi'n wael ac sy'n achosi pryder mawr pan fyddant yn rhedeg yn wyllt mewn ardal. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hargymell i fynd i'r afael â'r broblem hon?

Diolch. Wel, rwy'n mynd yn ôl at yr hyn a ddywedais am yr arian a roesom i'r prosiect gorfodi i allu caniatáu i fwy o arolygwyr ymweld ag adeiladau, lle gallant asesu'r safle a gweld yn union ble mae bridio cŵn yn digwydd. Rydym wedi gweld gwelliannau mewn safleoedd bridio cŵn yn y ffordd y gwnaethoch chi nodi.

Rwy'n mynd i ymuno â phawb i groesawu ymchwiliad Cyngor Sir Caerfyrddin, ac fel y nodoch chi, Weinidog, mae'n rhaid i'r cyhoedd chwarae eu rhan. Mae'n anghredadwy fod pobl yn prynu cŵn ar-lein. Yn bersonol, rwy'n gweld hynny'n anhygoel, mae'n rhaid imi ddweud, ond maent yn gwneud hynny. Felly, rwy'n credu bod rhywbeth yma ynglŷn ag addysg ac efallai y gallai rhywfaint o'r addysg honno ddigwydd yn yr ysgol, oherwydd mae plant yn barod iawn i ddeall prynu pethau ar-lein ac yn barod iawn i fynd â'r negeseuon hynny yn ôl adref. Ac rwy'n credu efallai fod yna waith i ni ei wneud yn hynny o beth.

Ond mae yna waith arall hefyd gyda'r ffiniau ag Iwerddon a mewnforio cŵn bach yn anghyfreithlon. Dyn a ŵyr a ydynt wedi cael eu bridio'n anghyfreithlon ai peidio, ond yn sicr nid ydynt yn cael eu masnachu'n gyfreithlon. Felly, dyna'r ddau faes yr hoffwn weld cynnydd ynddynt.

14:50

Diolch. Cefais drafodaethau gyda'r Gweinidog addysg blaenorol i weld beth arall y gallem ei wneud mewn ysgolion. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn—plant yw'r ateb. Os meddyliwch am ailgylchu, rwy'n cofio mai fy mhlant, pan oeddent yn yr ysgol, a ddaeth adref a dweud wrthyf am ailgylchu mewn ffordd nad oeddwn wedi clywed amdani 25 mlynedd yn ôl. Felly, rwy'n credu eich bod chi'n iawn. Mae'n lle da iawn i allu dechrau cael y sgwrs honno am berchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid anwes—nid perchnogaeth ar gŵn yn unig.

Rydych chi'n iawn am bobl yn prynu cŵn ar-lein. Nid wyf yn deall pam na fyddai perchennog newydd eisiau ymchwilio i'r gwerthwr a sicrhau eu bod, wrth brynu ci bach, yn ei weld gyda'i fam. Rwy'n credu bod hwnnw'n waith ymchwil y dylai pawb ei wneud cyn prynu ci.

Mewn perthynas â'r porthladdoedd, dywedais yn fy ateb cynharach i Delyth Jewell fod tîm prosiect gorfodi awdurdodau lleol wedi arwain gweithgarwch mewn porthladdoedd ledled Cymru i sicrhau ein bod ni yno yn y blaen, er mwyn sicrhau y gallwn atal cymaint o smyglo cŵn bach anghyfreithlon ag y gallwn.

Cymorth Iechyd Meddwl i Ffermwyr

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i ffermwyr sy'n dioddef iechyd meddwl gwael? OQ60561

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi nifer o weithgareddau pwysig i gynorthwyo iechyd meddwl yn ein cymunedau gwledig. Mae'r rhain yn cynnwys FarmWell Cymru, hyb gwybodaeth ar wytnwch personol a busnes i ffermwyr a'u teuluoedd, lle rwyf wedi buddsoddi £45,000, a hefyd y grŵp cymorth ffermydd, sy'n dod ag elusennau ffermio yng Nghymru ynghyd.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Rwy'n gwybod eich bod yn angerddol iawn am yr agenda benodol hon, a bod strategaeth iechyd meddwl trawslywodraethol newydd yn cael ei ffurfio, dan arweiniad Lynne Neagle. Rwy'n credu ei bod yn bwysig fod unigrwydd ac ynysigrwydd pobl yn y sector amaeth yn nodwedd o'r strategaeth honno, ac a fyddech chi'n cytuno ei bod yn hanfodol bwysig fod y grwpiau a'r sefydliadau sy'n darparu cyfleoedd i gymdeithasu yn cael eu cynnal? Ac a fyddech chi'n gallu amlinellu peth o'r cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i ffermwyr, a'r sector amaeth gyfan, lle ceir llawer o iechyd meddwl gwael, a nifer fawr o hunanladdiadau hefyd, yn drasig iawn?

Diolch. Rwy'n gwbl ymwybodol fod ffermwyr yn wynebu llawer o rwystrau, gan gynnwys ansicrwydd, ynysigrwydd ac unigrwydd, ac mae hynny'n amlwg yn cael effaith niweidiol ar les meddyliol. Soniais am rywfaint o'r arian a roddais yn fy ateb gwreiddiol i chi. Rydym yn cefnogi nifer o weithgareddau pwysig i gynorthwyo iechyd meddwl yn ein cymunedau gwledig, ac un gweithgaredd o'r fath yw Grŵp Cymorth Ffermydd Cymru, sy'n dod â nifer o elusennau ffermio ynghyd o dan un ymbarél. Rwy'n ceisio cyfarfod â nhw mor aml ag y gallaf. Fe wneuthum eu cyfarfod yn y ffair aeaf ddiwethaf, ac yn ystod pandemig COVID byddwn yn cyfarfod â nhw bob mis, oherwydd gwelsom gynnydd enfawr yn nifer y galwadau i'r holl elusennau. Fel y dywedwch, rydym yn edrych ar strategaeth iechyd meddwl newydd ar draws Llywodraeth Cymru, ac mae fy swyddogion, ochr yn ochr â swyddogion y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl, yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod unrhyw strategaeth newydd yn sicr yn ymdrechu i gefnogi cymunedau gwledig a ffermio.

Rwy'n ddiolchgar i Ken Skates am godi'r mater pwysig hwn yma heddiw, ac fel y nodwyd gennych, Weinidog, mae sawl elusen dda yn gwneud gwaith gwych yn y maes hwn eisoes, ac rwy'n cyfeirio at y Sefydliad Diogelwch Fferm a Sefydliad DPJ, sydd â'r llinell gymorth gyfrinachol 24 awr hefyd wrth gwrs. Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i grwpiau fel hyn yn bwysig iawn. Pan fyddaf yn siarad â ffermwyr ac yn clywed am rai o'u pryderon iechyd meddwl, maent yn aml yn nodi bod penderfyniadau polisi Llywodraeth Cymru'n effeithio ar eu hiechyd meddwl. Un enghraifft yw eich polisi twbercwlosis buchol presennol, sydd wedi cael, ac sy'n dal i gael effaith frawychus ar les llawer o ffermwyr ledled Cymru. Felly, Weinidog, hoffwn wybod ychydig am—. Pan fyddwch chi'n gweithredu polisïau sy'n effeithio ar ffermwyr, pa asesiad effaith ydych chi'n ei wneud o iechyd meddwl ein ffermwyr wrth edrych ar y penderfyniadau polisi hyn?

Diolch. Wel, yr hyn rwyf am ei wneud yw achosi cyn lleied o straen â phosibl, ac rwy'n mynd yn ôl at yr hyn roeddwn i'n ei ddweud wrth Llyr Huws Gruffydd—mae'n bwysig iawn eich bod chi'n edrych ar yr effaith gronnol. Mae llawer o'r digwyddiadau y tu hwnt i fy rheolaeth neu y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru, ac mae wedi bod yn gyfnod o ansicrwydd mawr. Yn sicr ers y refferendwm yn ôl yn 2016, pan ddeuthum i'r swydd—pan wyf wedi bod yn ei wylio'n agosach—gwelais gytundebau masnach yn cael eu gwneud sydd wedi achosi mwy o straen, a gwelais effaith rhyfel Wcráin, sy'n amlwg wedi cael effaith ar gost bwyd, tanwydd, gwrtaith. Felly, pan fyddwch chi'n edrych ar bolisïau, mae'n bwysig iawn eich bod chi'n edrych ar yr effaith gronnol honno. Ond yn anffodus, mae rhai ohonynt y tu hwnt i'n rheolaeth ni.

14:55

Wrth sôn am unigrwydd, gyda llaw, mae'n werth pwyntio allan nad ydy o’n help fod tafarndai gwledig yn cau, y llefydd lle'r oedd nifer o ffermwyr yn mynd ac yn rhannu gofidiau, a bellach dyw’r canolfannau hynny ddim yno. Felly, mi fuasai fo’n dda o beth gweld mwy o gymorth yn mynd i fusnesau gwledig fel hynny.

Ta waeth, i bwynt fy nghwestiwn atodol, wrth gwrs, mae ffermio yn ffordd o fyw yma yng Nghymru, ond maen nhw hefyd yn fusnesau bach. Nid yn unig mae'n rhaid i'r ffermwr edrych ar ôl yr anifeiliaid a hefyd y tir, ond hefyd mae'n rhaid cael milfeddygon i ddod i mewn, mae'n rhaid cadw cyfrifon, mae'n rhaid cofrestru yr anifeiliaid yna, a'r holl bethau eraill—y gwaith papur sylweddol—sydd yn rhaid i ffermwyr ei wneud. A'r straen ychwanegol yna a’r rheoliadau newydd cyson yma sydd yn dod, o ran iechyd a diogelwch, o ran glendid ar y fferm, bob un ohonyn nhw, ar ei ben ei hun, yn gwbl rhesymol, ond yn eu cyfanrwydd yn rhoi pwysau aruthrol ar fusnes bach, sy'n golygu nad yw'r amser, yn aml iawn, neu’r adnoddau gan y ffermwyr i gyflawni'r cyfan ar ben eu hunain, gan roi pwysau meddwl enbyd arnyn nhw ac yn golygu bod nifer fawr yn gweld nad oes ffordd allan o'r boen meddwl yna. Felly, o ran y gwaith ychwanegol yna, y gwaith papur, cofrestru ac yn y blaen, pa gymorth ychwanegol yr ydych chi’n ei roi i ffermwyr yn y maes yna er mwyn tynnu’r baich ychwanegol yna oddi ar eu hysgwyddau a galluogi ffermwyr i ffermio?

Wel, popeth a wnaethom ers inni adael yr Undeb Ewropeaidd—. Pe baech yn gofyn i ffermwyr yn gyffredinol pam y gwnaethant bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, un o'r atebion mwyaf oedd y fiwrocratiaeth. Felly, roedd hi'n hanfodol bwysig i mi ein bod yn symleiddio unrhyw waith papur a gâi ei gyflwyno gennym, ac fe wnaethom geisio gwneud yn siŵr—gan fod y rhan fwyaf o ffermwyr ar-lein nawr, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny; gwelais gynnydd enfawr yn nifer y ffermydd sydd wedi mynd ar-lein yn y pum mlynedd diwethaf yn sicr—ein bod yn ei wneud yn haws iddynt. Rydym yn ceisio defnyddio systemau sydd wedi'u profi. Mae Taliadau Gwledig Cymru yn gyfarwydd iawn i'n ffermwyr, felly gydag unrhyw gynlluniau newydd a gyflwynwn, rydym yn ceisio defnyddio system y maent wedi arfer â hi i geisio lleihau'r straen.

Prynhawn da, Weinidog. Roeddwn eisiau parhau â'r drafodaeth ynghylch y pwysau ar ffermwyr, fel y crybwyllwyd gan Mabon ap Gwynfor, o ran y gwaith papur ychwanegol. Ni fuaswn yn anghytuno â chi o gwbl mai un o'r prif achosion straen yw'r pwysau ar ffermwyr wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, ond mae pwysau ychwanegol hefyd gyda'r gwaith papur y mae Llywodraeth Cymru wedi'i greu i ffermwyr. Felly, yn ystod y 12 i 18 mis diwethaf yn unig, rydym wedi gweld rheoli llygredd amaethyddol, rydym wedi gweld rheoliadau Cynefin Cymru a'r problemau yno gyda'r anawsterau mapio. Twbercwlosis—mae'r gwaith papur ar gyfer profi yn ormodol. Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy a'r pryder ynghylch cynaliadwyedd, yn enwedig ynghylch y gofyniad coed o 10 y cant. Hefyd, yr wythnos diwethaf soniais fod gwaith papur yn cyrraedd blychau llythyrau ffermwyr ynghylch treth gwerth tir, sydd unwaith eto'n rhoi straen ychwanegol arnynt. A hynny ar ben disgwyliadau bob dydd gyda gwaith papur a biliau y mae'n rhaid i bob un ohonom ymdopi â nhw. Wrth sgwrsio â ffermwyr, rwy'n gwybod bod llawer ohonom wedi clywed bod y rhain yn peri straen go iawn iddynt. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy i sicrhau ffermwyr na fydd unrhyw fiwrocratiaeth newydd gan Lywodraeth Cymru yn gwaethygu'r pwysau iechyd meddwl sylweddol y mae ffermwyr eisoes yn ei ddioddef. Diolch yn fawr iawn.

Diolch. Yn sicr, dyna yw fy nod. Rwy'n cofio dweud wrth swyddogion, pe byddem yn cynyddu'r fiwrocratiaeth o amgylch yr hyn sydd gennych ar gyfer y cynllun taliadau sylfaenol a phe bai'n fwy ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy, ni fyddai hynny'n beth da o gwbl. Ar eich sylwadau ynghylch Cynefin Cymru, yn sicr roedd problemau gyda mapio. Ond mewn rhai ffyrdd, gallwn ddysgu'r gwersi hynny cyn y cynllun ffermio cynaliadwy, ac efallai ei bod hi'n well ei fod wedi digwydd gyda chynllun llai. Byddai wedi bod yn well pe na bai wedi digwydd o gwbl, ond yn anffodus mae wedi digwydd. Ond mae'n bwysig iawn fod gwersi wedi'u dysgu ac rwy'n sicr wedi cael sicrwydd gan swyddogion fod hynny wedi digwydd.

Mae'n rhaid imi ddweud, os ydych chi'n derbyn arian cyhoeddus, mae'n rhaid inni sicrhau y gallwn roi cyfrif amdano. Aelodau'r gwrthbleidiau—wel, unrhyw Aelod yma—fyddai'r cyntaf i feirniadu Gweinidogion a'r Llywodraeth pe na baem yn gallu rhoi cyfrif am yr arian cyhoeddus hwnnw, felly, yn anffodus, pan fyddwch yn derbyn arian cyhoeddus, ar ba bynnag ffurf o gymorth neu gymhorthdal, mae'n bwysig iawn fod y gwaith papur yn gywir. Ac rwy'n deall yn llwyr, fel rhywun sy'n casáu gwneud unrhyw beth swyddogol—mae'n cronni ac yn cronni—ei fod yn achosi lefel o straen—rwy'n meddwl bod Mabon ap Gwynfor wedi ei ddisgrifio'n glir iawn—pan fyddwch chi'n edrych ar ôl anifeiliaid, yn rhedeg busnes, yn edrych ar ôl cartref, pan fydd gennych deulu, ac yn y blaen, ac mae'n boen meddwl arall eto. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn ei symleiddio cymaint ag y gallwn.

15:00
Perchnogaeth Gyfrifol ar Gŵn

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn? OQ60576

Diolch. Cynhaliais uwchgynhadledd amlasiantaethol ym mis Hydref i drafod perchnogaeth gyfrifol ar gŵn a’r hyn y gellir ei wneud gan ddefnyddio’r ysgogiadau sydd ar gael i Gymru. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar 6 Rhagfyr, yn nodi ein camau nesaf, er lles cŵn ac er diogelwch y cyhoedd.

Weinidog, fis Hydref diwethaf yn ardal Sain Silian yn Nwyrain Casnewydd, ymosododd ci bully XL ar yrrwr danfon nwyddau, gan wneud i'r gyrrwr hwnnw ofni am ei fywyd. Gwn fod llawer o enghreifftiau o hyn ledled Cymru, yn anffodus. Felly, yn amlwg, mae angen inni feddwl sut rydym yn hyrwyddo perchnogaeth fwy cyfrifol ar gŵn. Mae’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid (RSPCA) wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried lansio ymgyrch godi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd ledled Cymru, a fyddai’n atgoffa perchnogion cŵn am eu cyfrifoldebau a’u rhwymedigaethau cyfreithiol, gan eu cyfeirio ar yr un pryd at gyngor perthnasol ac adnoddau ar-lein, megis y cod ymarfer er lles cŵn. Gallai’r ymgyrch honno hefyd gynghori’r cyhoedd yn ehangach ble i droi pe bai ganddynt bryderon am ymddygiad cŵn, naill ai am eu ci eu hunain neu gi rhywun arall. Felly, tybed beth yw eich safbwynt diweddaraf, Weinidog, ynglŷn ag a fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal yr ymgyrch godi ymwybyddiaeth gyhoeddus honno ai peidio, fel y mae'r RSPCA yn ei awgrymu?

Diolch. Wel, roedd yr RSPCA yn rhan o’r uwchgynhadledd a gynhaliwyd gennym yn ôl ym mis Hydref. Fel y soniais yn gynharach, rwy'n gobeithio cynnal uwchgynhadledd arall, nid ar yr un lefel a'r un a gynhaliwyd gennym ym mis Hydref efallai, ond rwy'n gobeithio cynnal un arall fis nesaf. Cawsom argymhellion o’r uwchgynhadledd honno, felly, er enghraifft, sut y gall heddluoedd ailflaenoriaethu ac adrodd am ddigwyddiadau sy’n ymwneud â chŵn. Felly, rwyf wedi ysgrifennu at yr holl brif gwnstabliaid. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol, fel y gallwn gadw ychydig o fomentwm yn y cyswllt hwn; rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parhau i wneud hynny.

Fe sonioch chi am ymosodiad gan gi bully XL. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig cofio y gall unrhyw gi fod yn beryglus, ac mae perchnogaeth gyfrifol yn hanfodol ar gyfer pob math o gi. Mae fy swyddogion yn parhau i weithio’n agos gyda sefydliadau’r trydydd sector, megis yr RSPCA, a chydweithwyr awdurdodau lleol i allu parhau i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn ac i gyflawni’r camau gweithredu tymor byr, canolig a hir a nodir yn yr uwchgynhadledd. Rydym yn cynnal ymgyrchoedd; rydym yn cynnal ein hymgyrch—rwyf wedi anghofio ei henw—Aros, Atal, Amddiffyn. Rydym bob amser yn gwneud hynny yn y cyfnod cyn y Nadolig. Mae'n ddrwg gennyf: mae gennym ymgyrch yn y cyfnod cyn y Nadolig, ac yna defnyddir Aros, Atal, Amddiffyn dros weddill y flwyddyn. Felly, mae hynny eisoes ar waith gennym. Ond mewn gwirionedd, mae'n ymwneud ag atgoffa darpar brynwyr o'r angen i wneud ymchwil mewn perthynas â'u ci bach, gan fynd yn ôl at yr hyn roeddwn yn ei ddweud ynghynt, a gwneud yn siŵr ein bod yn sicrhau bod perchnogion yn gyfrifol. Gwelsom gynnydd enfawr yn nifer y bobl a oedd yn berchen ar anifeiliaid anwes yn ystod pandemig COVID-19, ac yn anffodus, wrth inni weld yr argyfwng costau byw yn gwaethygu, rydym wedi gweld pwysau ar gyllidebau aelwydydd, sydd wedi arwain at broblemau eraill.

Hoffwn ganmol Llywodraeth Geidwadol y DU am sicrhau bod yn rhaid i gŵn bully XL gael eu cadw ar dennyn a bod yn rhaid rhoi safnffrwyn arnynt yn gyhoeddus. O 1 Chwefror eleni, fe fydd yn anghyfreithlon i fod yn berchen ar un oni bai ei fod wedi'i niwtro a'i ficrosglodynnu. Daw hyn yn sgil nifer o ymosodiadau milain, ac angheuol yn anffodus, gan gŵn o'r brîd hwn, ar gŵn eraill, ac yn wir, ar bobl. Efallai fod y Gweinidog yn ymwybodol imi godi mater brîd cŵn bully XL y llynedd yn Siambr y Senedd. Yn 2023, mae 43 y cant o ymosodiadau gan gŵn wedi’u hachosi gan fridiau bully mawr, gydag 11 achos a gadarnhawyd o farwolaethau dynol a achoswyd gan y brîd hwn ers 2021. O ystyried yr ystadegau brawychus hyn, mae’n galonogol gweld rheoliadau’n cael eu cyflwyno i liniaru’r perygl hwn, rhywbeth y gelwais amdano'r llynedd.

Fodd bynnag, rwy'n siŵr fod y Gweinidog yn ymwybodol nad cŵn bully XL yw’r unig broblem mewn perthynas â pherchnogaeth ar gŵn yng Nghymru: yn drasig, fe wnaeth creulondeb i gŵn yng Nghymru gynyddu 10 y cant y llynedd. Yn 2022, gwnaed 3,379 o adroddiadau i’r RSPCA yng Nghymru am greulondeb i gŵn, o gymharu â 3,065 yn 2021, felly cynnydd o oddeutu 300. Gwelsom 579 o adroddiadau hefyd o niwed bwriadol yn 2022, gyda 45 o adroddiadau am gŵn wedi'u gadael. Roedd enghraifft yn fy etholaeth i, yn y Rhyl, pan gafodd ci a oedd dan bwysau ac mewn cyflwr eithriadol o wael ei adael. Mae’r ystadegau hyn yn rhoi darlun trist o les anifeiliaid yng Nghymru lle mae'n amlwg fod angen cymryd camau.

Mae'r argyfwng costau byw yn golygu bod cost achub anifeiliaid ar ei huchaf erioed, ac mae gwasanaethau hanfodol yn cael eu hymestyn i'r eithaf. O ystyried hyn, a wnaiff y Gweinidog amlinellu felly pa gymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i sefydliadau lles anifeiliaid yng Nghymru, yn ogystal â nodi a fydd y Llywodraeth yn ystyried hyrwyddo plismona cymunedol fel ffordd o fynd i’r afael â cham-drin anifeiliaid, megis gadael cŵn—

15:05

Dyna ddigon. Rwyf wedi bod yn hael iawn yma. Roedd o leiaf ddau gwestiwn yno, yn ogystal â rhagarweiniad hir. Weinidog.

Diolch. Wel, yn anffodus, roeddem wedi gweld nifer anghymesur o ymosodiadau gan gŵn bully XL, a chymerodd amser maith i Lywodraeth y DU gymryd camau. Roeddwn wedi cael sawl trafodaeth â Gweinidog Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ynglŷn â sicrhau bod Deddf Cŵn Peryglus 1991 yn addas i’r diben, gan ei bod yn amlwg nad ydoedd, a chredaf fod hyd yn oed Ysgrifennydd Gwladol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi’i synnu gan y cyhoeddiad a wnaeth Prif Weinidog y DU, ac roeddwn innau hefyd yn ei groesawu. Fodd bynnag, ni chredaf eu bod wedi edrych ar y canlyniadau anfwriadol sydd bellach i'w gweld, yn anffodus, ac rydym yn gorfod gweithio gyda'r rheini.

Ar eich ail bwynt ynghylch creulondeb i anifeiliaid, yn anffodus, rydym yn gweld pobl yn trin anifeiliaid yn greulon, ac rydym yn cefnogi nifer o sefydliadau trydydd sector. Yn fy ateb cynharach i John Griffiths, soniais am yr uwchgynhadledd perchnogaeth ar gŵn a gawsom ym mis Hydref, a'r nifer o argymhellion a wnaed, ac un ohonynt oedd gweithio gyda’r heddlu mewn ffordd wahanol. Rwy'n credu fy mod i fod i gyfarfod â phrif gwnstabl Gwent yn y dyfodol agos—efallai nad y prif gwnstabl, ond yn sicr, swyddog uchel ei statws—ynglŷn â beth arall y gellir ei wneud. Mae'n dda iawn fod gennym Rob Taylor, y cydgysylltydd troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt, sy'n gwneud cymaint o waith gydag awdurdodau'r heddlu yma yng Nghymru i dynnu sylw at y mater hwn.

Mae cwestiwn 6 [OQ60572] wedi ei dynnu nôl. Cwestiwn 7, Samuel Kurtz.

Pysgodfeydd a Dyframaethu

7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pysgodfeydd a dyframaethu? OQ60567

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i gyflawni ein rhwymedigaethau statudol mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid, gan gynnwys cyflwyno cynlluniau rheoli pysgodfeydd. Roedd y rhai cyntaf ar gyfer pysgodfeydd cregyn bylchog a draenogiaid môr, ac fe’u cyflwynwyd ddiwedd y llynedd, yn unol â’r amserlenni a nodir yn y cyd-ddatganiad pysgodfeydd.

Diolch, Weinidog. Ac fe fyddwch yn ymwybodol fod eich cyllideb materion gwledig wedi cael cryn ergyd yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd y mis diwethaf, ac er bod holl gyfrifoldebau eich portffolio wedi’u heffeithio, un na chafodd lawer o sylw yw’r gostyngiad o dros £1.7 miliwn yn y gyllideb pysgodfeydd yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Er nad yw pysgodfeydd a dyframaeth yn cael yr un sylw â mathau eraill o gynhyrchiant bwyd, maent yn gwneud cyfraniad gwerthfawr a gwerth chweil i economi Cymru. Felly, yng ngoleuni’r toriadau hyn, pa gymorth sy’n cael ei gynnig i ddiwydiant pysgodfeydd a dyframaeth Cymru, i’w alluogi i gystadlu â diwydiannau cyfatebol eraill yn y DU a’r UE ac i fuddsoddi mewn twf?

Rydym wedi sicrhau bod £1.5 miliwn ar gael i gynllun môr a physgodfeydd Cymru ar gyfer 2023-24. Bu tri chylch ariannu, ac yn anffodus—yn amlwg, mae'n gynllun sy'n cael ei arwain gan alw—mae wedi bod yn siomedig, y nifer sydd wedi manteisio ar y cyllid hwnnw. Dyna pam y bu modd imi ailddyrannu £0.5 miliwn, ac yn amlwg, mae hynny wedi cael effaith ar y ffordd rydym wedi edrych ar y gyllideb ar gyfer 2024 a 2025. Mae’r cynigion hynny'n cael eu datblygu ar hyn o bryd. Byddant yn cynnig ystod eang o weithgareddau cyllido ar gyfer y sector, ond hoffwn wneud hyn ar y cyd â’r sector a gwrando ar yr hyn y mae ein rhanddeiliaid yn credu sy’n bwysig iddynt.

Cefnogi'r Diwydiant Amaethyddol ym Mhreseli Sir Benfro

8. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r diwydiant amaethyddol ym Mhreseli Sir Benfro? OQ60542

Mae ffermwyr yn sir Benfro wedi cael bron i £18 miliwn o daliadau drwy gynllun y taliad sylfaenol ers mis Hydref, sef dros 99.9 y cant o hawlwyr. Mae’r cymorth hwn yn ychwanegol at ein gwasanaeth Cyswllt Ffermio, sy’n parhau i ddarparu cymorth a chyngor pwysig i fusnesau amaethyddol yn sir Benfro.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Un ffordd o gefnogi’r diwydiant amaethyddol yw cefnogi ei ddyfodol drwy gynorthwyo pobl ifanc sy'n dymuno bod yn rhan o’r diwydiant yn y dyfodol. A phythefnos yn ôl, lansiodd cynrychiolwyr Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru eu hadroddiad effaith blynyddol yma yn y Senedd. Mae’r adroddiad hwnnw’n dangos pa mor werthfawr yw clybiau ffermwyr ifanc yn cefnogi ein diwydiant amaethyddol, a'n cymunedau gwledig yn wir, yn ogystal â chadw a hyrwyddo ein diwylliant a’r Gymraeg. Mae digon o enghreifftiau o’u gwaith allgymorth anhygoel yn fy etholaeth.

Felly, Weinidog, o ystyried yr effaith enfawr y mae’r mudiad yn ei chael ar gymunedau gwledig yn sir Benfro, a ledled Cymru yn wir, a allwch chi ddweud wrthym pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i helpu’r mudiad i barhau i chwarae rhan hanfodol yn ein diwydiannau amaethyddol, ac yn ein cymunedau gwledig yn wir, am flynyddoedd i ddod?

15:10

Diolch. Yn sicr, mae’r clybiau ffermwyr ifanc, fel y dywedwch, yn chwarae rôl hanfodol, a chredaf ichi grybwyll gwaith rhagorol yn fy sesiwn gwestiynau llafar ddiwethaf—ni allaf gofio ai esgidiau ymarfer neu esgidiau ydoedd—a oedd yn cael ei wneud yn un o'ch clybiau ffermwyr ifanc lleol. Felly, gallwn weld yr effaith enfawr a gânt, nid yn unig arnynt eu hunain, ond ar y gymuned. Rwy'n credu hefyd eu bod yn rhagorol fel sefydliad. Mae'r sgiliau a gânt yn aros gyda nhw drwy eu bywydau. Nid ydym wedi gallu eu hariannu i'r graddau y byddem wedi dymuno. Rwyf bob amser yn ceisio cefnogi eu gweithgareddau. Cyfarfûm â'r—roeddwn am ddweud y prif weithredwr newydd, ond mae'n debyg ei bod wedi bod yn y swydd ers tro bellach. Cyfarfûm â hi'r llynedd i drafod beth yw eu gofynion a pha gyllid a chymorth y gallem eu rhoi iddynt fel Llywodraeth.

Llifogydd

9. Sut y mae'r Gweinidog yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y Llywodraeth i amddiffyn cymunedau yn Alun a Glannau Dyfrdwy rhag llifogydd? OQ60553

Ar draws Llywodraeth Cymru, rydym yn gweithio’n agos gyda’n hawdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru fel yr awdurdodau rheoli perygl llifogydd arweiniol. Rydym yn annog awdurdodau rheoli risg i gyflwyno cynlluniau arfaethedig ar gyfer cyllid o dan ein rhaglen rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.

Rwy’n ddiolchgar i’r Gweinidog am ei hateb. Weinidog, mae trigolion Mancot a Brychdyn wedi cysylltu â mi eto dros yr wythnosau diwethaf, trigolion yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd o ganlyniad i storm Babet yn hwyr y llynedd. Roeddent yn pryderu y gallai’r stormydd diweddar effeithio ar eu heiddo unwaith eto, ac mae eu pryderon yn gwbl ddealladwy, gan fod llawer ohonynt wedi dioddef llifogydd ddwywaith yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Rwy'n codi'r mater hwn yn y Senedd yn rheolaidd, ac rwy’n gofyn am eich cefnogaeth heddiw, Weinidog, i swyddogion Llywodraeth Cymru weithio gyda CNC a Chyngor Sir y Fflint i asesu a ellir cyflymu mewn unrhyw ffordd y gwaith arfaethedig a’r ceisiadau am gyllid gan yr awdurdod lleol ar gyfer cwblhau'r gwaith ychwanegol. Diolch.

Wrth gwrs, yn sicr, fe siaradaf â’r Gweinidog Newid Hinsawdd gan fod hyn yn rhan o’i phortffolio. Gwn fod ei swyddogion wrthi'n adolygu'r holl geisiadau a ddaeth i law gan awdurdodau rheoli risg, a bydd yn cyhoeddi rhaglen y flwyddyn nesaf ym mis Mawrth. Felly, byddaf yn siŵr o ofyn, a goffwn eich annog i ysgrifennu ati hefyd ar y pwynt hwnnw.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau amserol. Y cwestiwn cyntaf i'w ateb gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, ac mae'r cwestiwn i'w ofyn gan Heledd Fychan. 

Rygbi Chwe Gwlad

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am benderfyniad Llywodraeth y DU i wrthod cynnwys y rygbi chwe gwlad yn y categori sianeli di-dâl ar gyfer dibenion darlledu? TQ960

A gaf fi ddiolch i Heledd Fychan am ei chwestiwn? Mae’r penderfyniad i beidio â chynnwys pencampwriaeth y chwe gwlad yng ngrŵp A yn y drefn digwyddiadau rhestredig yn siomedig, yn enwedig o ystyried pwysigrwydd diwylliannol a chymdeithasol rygbi yng Nghymru. Rydym wedi annog Llywodraeth y DU i sicrhau bod y gystadleuaeth yn parhau i gael ei darlledu'n rhad ac am ddim, a byddwn yn parhau i ddadlau'r achos.

Diolch yn fawr iawn. Fyddwn i'n gobeithio bydd yna neb yn anghytuno efo chi na minnau o ran pwysigrwydd sicrhau bod chwaraeon ein timau cenedlaethol, yn ddynion a merched, ar gael yn rhad ac am ddim, oherwydd fel rydyn ni'n gwybod, mae dilyn a chefnogi ein timau cenedlaethol yn ysgogi pobl o bob oed i ymwneud efo chwaraeon, nid dim ond dilyn y chwaraeon hynny. Ac rydyn ni'n ymfalchïo fel cenedl pan fydd y tîm yn ennill a hefyd yn cydymdeimlo gyda'r chwaraewyr fel cenedl pan nad ydy pethau yn mynd o'n plaid. 

O ran S4C, mi wn i—a dwi'n siŵr eich bod chithau yn nabod hefyd—nifer o bobl di-Gymraeg a siaradwyr newydd sydd yn gwylio chwaraeon ar y sianel, gan normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg fel iaith fyw sy'n perthyn i bawb, boed ichi fod yn ei siarad hi ai peidio. Pa asesiad felly mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i wneud o effaith y penderfyniad hwn ar hawl pobl Cymru i wylio'r gemau trwy gyfrwng y Gymraeg, ac, yn ehangach, yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a chynyddu'r defnydd? Ac yn ail, rŵan ein bod ni wedi cael y penderfyniad hwn, fyddwch chi hefyd yn ysgrifennu eto i ofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ailystyried, fel nad oes neb yng Nghymru yn cael eu hamddifadu o'r hawl i ddilyn a chefnogi hynt a helynt ein timau cenedlaethol?

15:15

Diolch yn fawr am eich cwestiwn atodol, Heledd. Mae'n llygad ei lle—wrth gwrs eich bod yn llygad eich lle. Mae pwysigrwydd diwylliannol chwaraeon yng Nghymru a phoblogrwydd rygbi a phêl-droed yn dra hysbys. Nid cynulleidfaoedd yn unig sy’n teimlo’r manteision hynny; maent yn cefnogi cynaliadwyedd yn y dyfodol, twf chwaraeon ar lefel gymunedol, yr holl bethau rydych wedi bod yn sôn amdanynt. Ac eto, rydych yn llygad eich lle; mae’r ffaith inni weld rygbi rhyngwladol a phêl-droed rhyngwladol ar S4C gyda sylwebaeth yn yr iaith Gymraeg ac is-deitlau Saesneg i bobl nad ydynt yn deall, ond mae gallu gwrando ar y Gymraeg ac ymgorffori hynny yn ein bywydau bob dydd yn bwysig tu hwnt, a dyna pam ein bod yn benderfynol o gael mwy o rôl yn y broses benodi ar gyfer S4C hefyd. Bûm yn trafod hyn yn gynharach gyda’ch cyd-Aelod Cefin Campbell. Mae hynny’n bwysig iawn fel rhan o’r gwaith a wnawn ar ddarlledu yng Nghymru. Felly, mae'r cyfan yn bwysig iawn, gan fod S4C a’r Gymraeg yn gydgysylltiedig, ac mae’n rhywbeth rydym yn awyddus i'w gefnogi.

Yn sicr, credaf ein bod hefyd yn gweld llawer o'n cyrff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol yn cofleidio'r iaith. Rydym wedi gweld y gwaith gwych y mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi’i wneud ar hynny, ac rydym yn gweld hyn gyda chyrff llywodraethu eraill hefyd. Mae cysylltiad agos iawn rhwng y ddau beth, ac rydym yn sicr yn awyddus i gefnogi hynny. Rwyf wedi dweud yn glir iawn fy mod yn llwyr gefnogi rygbi a phêl-droed Cymru ac y dylai ein holl chwaraeon cenedlaethol fod yn rhad ac am ddim i'w darlledu i unrhyw un sy'n dymuno gwneud hynny.

Fe fyddwch yn ymwybodol fod y Prif Weinidog wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ynglŷn â hyn, yn dilyn llythyr gan Rhun mewn gwirionedd, yn ôl ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr y llynedd. Yn ddiddorol, ni chafodd ymateb i’r llythyr hwnnw, ond byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth y DU ar hynny, ac rwy’n fwy na pharod i fynd ar drywydd hynny gyda’r Ysgrifennydd Gwladol, am ba mor hir bynnag y bydd yn ei swydd. Byddaf yn mynd ar drywydd hynny gyda’r Ysgrifennydd Gwladol yn dilyn adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig, a oedd yn amlwg yn cefnogi darlledu pencampwriaeth rygbi’r chwe gwlad am ddim. Roedd hyd yn oed Stephen Crabb yn dweud bod gwir angen inni fwrw ymlaen â hyn. Felly, rwy’n fwy na pharod i wneud hynny. Rwy’n fwy na pharod i weithio gyda’r Pwyllgor Materion Cymreig a phwyllgor diwylliant y Senedd, y gwn eu bod yn awyddus iawn i wneud hyn hefyd. Credaf ichi gael sesiwn dystiolaeth gan John Whittingdale ar yr union bwynt hwn, oni wnaethoch, ac roedd yn dweud bryd hynny, pe bai’r Senedd yn cefnogi darlledu pencampwriaeth rygbi’r chwe gwlad am ddim, y byddai’n fwy na pharod i'w ystyried. Nawr, fe wyddom eu bod wedi ystyried y mater, ac maent wedi'i wrthod, felly rydym yn mynd i orfod mynd yn ôl atynt a gofyn iddynt ei ailystyried.

Mae Cymru yn genedl rygbi, ac mae’n rhan o’n stori genedlaethol. Credaf fod rygbi Cymru yn rhan o bwy ydym fel cenedl Gymreig. Fe fyddwch yn gwybod, ac fe gyfeirioch chi at hyn yn yr ateb i’ch cwestiwn blaenorol, fod John Whittingdale, pan ddaeth at y pwyllgor diwylliant, wedi dadlau'r achos, pe gallai Senedd Cymru gyflwyno achos cymhellol dros gynnwys gemau Cymru ym mhencampwriaeth y chwe gwlad fel digwyddiad rhestredig i sicrhau eu bod yn cael eu dangos ar sianeli di-dâl yma yng Nghymru, y byddai’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn ystyried y peth. Gallaf ddweud wrthych fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi cyflwyno dadl ar gyfer yr wythnos nesaf i gryfhau hynny, fel y gallwn ni fel Senedd Cymru ddod ynghyd, gwneud yr alwad honno ar yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, a sicrhau bod yr achos y gofynnodd y Gweinidog dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar y pryd iddo gael ei wneud yn cael ei wneud yma, gan Senedd Cymru. A gaf fi gadarnhau heddiw fod y Llywodraeth yn fodlon cefnogi hynny?

Credaf fod hwnnw'n gam rhagorol, Tom. Y pwynt y gallwn ei wneud i Lywodraeth y DU yw bod gan hyn gefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd hon. Fel y clywsom, roedd Stephen Crabb yn dweud, ac roedd John Whittingdale hefyd yn dweud, pe bai’r Senedd yn cefnogi hyn, y byddent yn pwyso ar Lywodraeth y DU i ailystyried. Yn amlwg, dim ond newydd wneud y penderfyniad hwn y mae Llywodraeth y DU, ond nid yw hynny'n golygu na ddylem daro eto tra bo'r haearn yn boeth, fel petai, a dweud, 'Mae arnom angen ichi ailystyried hyn yng ngoleuni ewyllys Senedd Cymru'. Felly, rwy'n croesawu dadl i'r perwyl hwnnw'n fawr. A yw'n digwydd yr wythnos nesaf? Edrychaf ymlaen ati. Dyna ddwy ddadl y byddwn yn eu cael yr wythnos nesaf. Diolch.

Tom Giffard, byddaf innau'n eich cefnogi hefyd. A gaf fi awgrymu eich bod yn meddwl o ddifrif am alw am bleidlais a enwir ar hyn, fel ei bod yn dangos pawb sy'n pleidleisio drosto, yn hytrach na’i fod yn cael ei dderbyn heb bleidlais? Carwn ofyn ichi ystyried hynny.

Rydym wedi gweld yr hyn sydd wedi digwydd gyda cholli chwaraeon sydd am ddim i'w darlledu, onid ydym? Mae pêl-droed byw'r uwch gynghrair wedi diflannu oddi ar sianeli di-dâl. Bydd symud i ddarparwyr chwaraeon tanysgrifiedig yn rhoi mwy o gymorth ariannol i bencampwriaeth y chwe gwlad, gan gynnwys Undeb Rygbi Cymru. Fel y canfu'r byd criced, fodd bynnag, gostyngodd nifer y bobl ifanc a oedd yn gwylio'r gemau byw yn sylweddol.

Pa mor bwysig yw pencampwriaeth y chwe gwlad i ni yng Nghymru? Buaswn o'r farn ei bod yn bwysig iawn i ni. Mae’n rhan o’r hyn a wnawn gyda'n gilydd. Ac nid yw gwylio teledu gyda'n gilydd yn rhywbeth sy'n digwydd mor aml bellach mewn byd amlsianel. Ond dyma un adeg pan ydym yn tueddu i wylio gyda'n gilydd.

Rwy’n falch fod y Gweinidog yn derbyn pwysigrwydd pencampwriaeth y chwe gwlad i Gymru, ac yn ymuno â’r rhai ohonom sy’n galw am i bencampwriaeth rygbi'r chwe gwlad fod yn y categori sianeli di-dâl ar gyfer darlledu. A yw’r Gweinidog wedi cysylltu ag aelod Cabinet yr wrthblaid Lafur ynglŷn â hyn? Oherwydd credaf y gallai aelod Cabinet yr wrthblaid Lafur yn hawdd ddod yn aelod Cabinet cyn diwedd y flwyddyn.

15:20

A gaf fi ddiolch i Mike Hedges am ei gwestiwn? Mewn gwirionedd, rwyf wedi bod yn sgwrsio ag Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Gymru ac Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar ystod o faterion. Yn anffodus, nid wyf wedi siarad â nhw eto ynglŷn â mater darlledu am ddim, ond fe fyddaf yn gwneud hynny, gan y gallaf eich sicrhau y bydd ganddynt farn debyg i ni ar y pwynt penodol hwnnw. Diolch.

Cytunaf â llawer o'r Aelodau yn y Siambr hon. Mae’n siomedig iawn na wnaeth Llywodraeth y DU ychwanegu pencampwriaeth y chwe gwlad at y categori di-dâl ar gyfer ein prif ddigwyddiadau chwaraeon. Fel chwaraewr rygbi balch fy hun, mae'n bwysig iawn fod gennym rygbi ar y teledu i annog cenedlaethau'r dyfodol i wisgo eu hesgidiau a'u crysau rygbi a mynd allan i chwarae ar brynhawn Sadwrn neu Sul.

Ond un peth sydd hefyd yn bwysig iawn i mi, Ddirprwy Weinidog, yw ein tafarndai a’n clybiau ledled Cymru. Os bydd y chwe gwlad yn symud i sianeli talu wrth wylio, gallai tafarndai, ar gyfartaledd, fod yn talu rhwng £20,000 a £21,000 y flwyddyn am danysgrifio i BT a Sky Sports. Felly, hoffwn wybod pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y gallai hyn ei chael ar ein tafarndai a'n clybiau ledled Cymru. Oherwydd mae llawer o bobl yn eu mynychu i wylio’r gemau hyn, ac os na all pobl eu gwylio, mae hon yn hoelen arall eto fyth yn arch y sector lletygarwch yng Nghymru.

Rwy'n credu bod James Evans yn llygad ei le ar hynny. Mae llawer o bobl yn hoffi dod at ei gilydd naill ai yn y dafarn neu yn y clwb rygbi lleol neu’r clwb pêl-droed lleol—mae unrhyw fan lle gallant ymgynnull fel torf i ganu a chefnogi'r tîm cenedlaethol yn wych. Ac wrth gwrs, os nad yw hynny ar gael, mae hynny'n amlwg yn mynd i effeithio ar y sefydliadau hynny, y tafarndai a'r clybiau sy'n darlledu'r gemau hyn. Mae'r cyfan yn ychwanegu at yr achos pam y dylem alw am i bencampwriaeth y chwe gwlad a digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mawr eraill gael eu darlledu am ddim. Ond ni chredaf y dylem danbrisio'r problemau y mae hyn hefyd yn eu hachosi i'r gwledydd eu hunain, ac i bencampwriaeth y chwe gwlad ac i ddigwyddiadau chwaraeon rhyngwladol eraill.

Pan oedd Nigel Walker, er enghraifft, yn brif swyddog gweithredol dros dro URC, rhoddodd dystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cymreig y llynedd, a nododd bwysigrwydd refeniw darlledu i chwaraeon, a dywedodd fod hynny’n darparu oddeutu 40 y cant o'u hincwm. Roedd yn cydnabod bod tensiwn rhwng darlledu twrnameintiau am ddim i gynulleidfaoedd a'r refeniw roedd hynny'n ei gynhyrchu wedyn i gyrff llywodraethu'r chwaraeon hynny. Mae'n debyg fod hwnnw'n gylch eithaf anodd ei sgwario, ond serch hynny, yn anad dim, rwy'n credu y dylai'r ffocws fod ar y cefnogwyr sy'n cefnogi ein chwaraeon. Rwy’n mawr obeithio y gall yr adolygiad o ddigwyddiadau rhestredig gael ei gefnogi gan y Senedd hon ac y gallwn ddadlau'r achos mewn ffordd lawer cryfach i Lywodraeth y DU.

Yn union fel y dywedodd Mike Hedges, mae chwaraeon byw yn rhoi'r testun trafod hwnnw i ni, y llinellau eiconig hynny. Rwy'n meddwl am y dyfyniad gan y diweddar Eddie Butler: 'Shave away, Gavin, shave away', pan giciodd y gic gosb fuddugol yn 2005 yn erbyn Lloegr. Dyna hanfod chwaraeon byw i mi—yr eiliadau cofiadwy hynny.

Ond Ddirprwy Weinidog, tybed a ydych wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i sut y gallem weithio gyda Senedd yr Alban o bosibl i lobïo hefyd, a dangos bod cysylltiad Celtaidd yma i ddangos pam ei bod yn wirioneddol bwysig cadw pencampwriaeth y chwe gwlad yn rhad ac am ddim i'w gwylio, nid yn unig o safbwynt Cymreig, ond o safbwynt Celtaidd hefyd. Credaf y gallai fod cyfle yno hefyd inni weithio ar y cyd â gweinyddiaeth ddatganoledig arall a Senedd arall yn y Deyrnas Unedig.

15:25

Credaf fod hwnnw, unwaith eto, yn bwynt pwysig a dilys iawn. Buaswn yn fwy na pharod i siarad â fy swyddogion cyfatebol yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, gobeithio, hefyd, ar ôl i ni eu cael, a Llywodraeth Iwerddon. Mewn gwirionedd, roeddwn ar alwad gyda Gweinidogion chwaraeon y pedair gwlad ac Iwerddon y bore yma, yn trafod pencampwriaeth yr Ewros. Mae’r cysylltiadau chwaraeon rhwng yr ynysoedd hyn yn arwyddocaol iawn, ac rwy’n siŵr y byddai Iwerddon a gwledydd eraill y DU, ar wahân i Gymru, yn awyddus iawn i gael y mathau hynny o drafodaethau hefyd. Felly, rwy’n fwy na pharod i wneud hynny.

Diolch i’r Dirprwy Weinidog. Edrychaf ymlaen at y ddadl hirddisgwyliedig ar gyfer yr wythnos nesaf. Os caf gadarnhau i Mike Hedges, os bydd yn gwrthwynebu’r cynnig yr wythnos nesaf, y bydd hynny’n gwarantu pleidlais unigol gan bob Aelod yn y Siambr. Mae tactegau cudd o fewn y Rheolau Sefydlog a all wneud i’r pethau hyn ddigwydd.

Natasha Asghar nawr i ofyn yr ail gwestiwn amserol, i’w ateb gan y Dirprwy Weinidog.

Y Terfyn Cyflymder 20 mya

2. Will the Minister make a statement on the planned review of 20 mph speed limits? TQ963

Diolch, Lywydd. Fel y dywedais bythefnos yn ôl yn y Siambr hon, roedd yn anochel y byddai angen cyfnod sefydlu, ac mae'r gallu i wneud newidiadau wedi’i ymgorffori yn y pwerau sydd gan gynghorau fel yr awdurdodau priffyrdd lleol. Gwyddom fod awdurdodau lleol eisoes yn coladu rhestrau o ffyrdd lle nad yw 20 mya yn teimlo fel y cyflymder cywir. Yn ddealladwy, nid ydynt wedi dymuno gweithredu ar frys, wrth i bobl ddod i arfer â'r newid, ond maent yn awyddus i adolygu a diwygio eu terfynau cyflymder lleol. Nid oes unrhyw un yn rhagweld y bydd hyn yn golygu newidiadau mawr, a bydd yn canolbwyntio ar fynd i'r afael ag anghysondebau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi tîm bach i weithio gydag awdurdodau priffyrdd, fel y dywedais bythefnos yn ôl, i ystyried y ffordd y mae’r polisi wedi’i roi ar waith, a sut mae’r canllawiau eithrio wedi’u rhoi ar waith. Mae tîm yr adolygiad yn cynnwys yr Athro Peter Jones, athro trafnidiaeth a datblygu cynaliadwy yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Nid yw’r Athro Jones wedi bod yn rhan o'r gwaith o lunio na gweithredu'r cynlluniau 20 mya, a bydd yn darparu her annibynnol i’r broses. Dau aelod arall y panel yw Kaarina Ruta, cynghorydd trafnidiaeth yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a Phil Jones, cadeirydd y grŵp tasglu 20 mya a wnaeth yr argymhellion cychwynnol. Bydd y tîm yn gweithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, swyddogion awdurdodau lleol, ac arbenigwyr a phartneriaid eraill.

Mae cyfres o gyfarfodydd eisoes wedi'u cynnal gyda chynghorau lleol i gael dealltwriaeth o'r modd y mae'r canllawiau wedi'u defnyddio mewn gwahanol rannau o Gymru; i fyfyrio ar y defnydd ohonynt, ac i ystyried a oes angen eglurhad ar y canllawiau er mwyn annog mwy o gysondeb ledled Cymru; i edrych ar y dulliau gweithredu mewn perthynas â ffyrdd ar y trothwy rhwng 20 mya a 30 mya; ac i rannu canfyddiadau cychwynnol gyda swyddogion awdurdodau lleol. Os yw pobl yn teimlo bod y stryd y maent yn byw arni yn fwy addas ar 30 mya, dylent gysylltu â’u cyngor lleol a rhoi gwybod iddynt pam. Rwy'n disgwyl adroddiad interim fis nesaf, gydag adroddiad terfynol i’w gyflwyno i’r Prif Weinidog nesaf.

Diolch, Ddirprwy Weinidog, ond a dweud y gwir, roedd eich ymateb yn annigonol i mi, ac efallai i’r holl drigolion, ymwelwyr a busnesau ledled Cymru yr effeithiwyd arnynt yn ddifrifol gan y newid hwn. Nid oes eisiau adolygiad o'r terfyn 20 mya ar y Cymry. Yn syml, maent am iddo gael ei wrthdroi. Heb amheuaeth, mae terfyn cyflymder 20 mya cyffredinol eich Llywodraeth Lafur wedi peri dryswch a chynnen ledled Cymru. Gyda mwy na 468,000 o bobl bellach wedi llofnodi deiseb i'w ddileu, mae’n hen bryd, Ddirprwy Weinidog, i chi anghofio eich ego a diddymu eich prosiect porthi balchder.

Ychydig iawn o ffydd sydd gan bobl yng Nghymru eisoes mewn adolygiad a arweinir gan ddyn a argymhellodd fod Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu’r polisi hwn yn y lle cyntaf, ochr yn ochr â dau o gefnogwyr eraill Llywodraeth Cymru. Gadewch inni fod yn onest: go brin y bydd yn deg, a go brin y bydd yn ddiduedd. Er nad wyf yn amau cymwysterau'r Athro Jones am eiliad, mae ei benodi'n rhan o'r adolygiad hwn yn mentro tanseilio dilysrwydd a dibynadwyedd yr adolygiad yn gyfan gwbl. Mae hefyd yn peryglu hygrededd y bobl a nodwyd gennych a allai fod yn cymryd rhan yn yr adolygiad hwn.

Felly, Ddirprwy Weinidog, os oes rhaid inni gael yr adolygiad o 20 mya, a allwch gadarnhau y bydd y panel yn cynnwys unigolion nad ydynt yn gysylltiedig â Llywodraeth Cymru ac nad ydynt wedi bod, neu ar hyn o bryd, ar gyflogres Llywodraeth Lafur Cymru? Diolch yn fawr iawn.

Lywydd, ni chredaf fod gan Natasha Asghar unrhyw hygrededd i gwestiynu cymwysterau proffesiynol tri unigolyn uchel eu parch. Fel rwyf wedi'i ddweud o'r cychwyn cyntaf, y bwriad oedd adolygu'r broses wrth iddi fynd rhagddi, i edrych ar sut y câi ei rhoi ar waith. Mae’n iawn fod cadeirydd y tasglu gwreiddiol, sydd wedi darparu her i Lywodraeth Cymru drwy gydol y broses, yn rhan o’r broses honno i farnu yn erbyn yr argymhellion a wnaeth ei banel a barnu a yw Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith yn effeithiol ai peidio, ac a yw llywodraeth leol wedi'u rhoi ar waith yn effeithiol. A chredaf ei bod yn iawn fod y llais hwnnw’n rhan o’r tîm adolygu. Mae'n iawn hefyd fod awdurdodau lleol yn cael eu cynrychioli ar y panel hwnnw i gyfrannu eu profiadau uniongyrchol. Ac rydym wedi cyflwyno aelod annibynnol newydd hefyd i ddarparu her annibynnol, ac maent yn rhydd i wneud unrhyw argymhellion a ddymunant, a bydd y rheini'n seiliedig ar adborth y cyhoedd ac awdurdodau lleol.

15:30

Ddirprwy Weinidog, gwyddom fod cynghorau lleol yn wynebu her fawr ar hyn o bryd gyda'u cyllidebau ac mae cyllidebau'n dynn i Lywodraeth Cymru hefyd. A allwch chi ddweud wrthym, os gwelwch yn dda, sut y byddwch yn sicrhau bod gan awdurdodau lleol adnoddau priodol fel y gallant gael cefnogaeth ac fel y gallant benderfynu pa ffyrdd y mae'n gwneud synnwyr i'w cadw ar 20 mya a pha ffyrdd y byddai'n well eu newid yn ôl i 30 mya fel y gallant gymryd rhan lawn yn y broses adolygu?

Wrth gwrs, cyflwynodd Plaid Cymru welliant i broses adolygu allu digwydd. Fe wnaeth y Llywodraeth gefnogi hynny. Nid wyf yn deall yn iawn o hyd pam y dewisodd y Ceidwadwyr beidio â chefnogi'r gwelliant hwnnw ar y pryd.

Iawn, diolch am y cwestiwn. Ac wrth gwrs, rydym wedi dweud wrth awdurdodau lleol y byddwn yn sefyll gyda nhw wrth iddynt wneud y newidiadau y teimlant eu bod yn iawn i'w hawdurdodau lleol. Mae'n bwysig fod y cyhoedd yn cymryd rhan. Rwy'n credu mai un o'r gwersi a ddysgais—ac yn wir roedd yn un o'r gwersi o'r prosiectau peilot yn sir y Fflint—yw bod ymgynghori â'r cyhoedd cyn y newidiadau hyn yn hanfodol iddynt gael eu derbyn gan gymunedau ac iddynt weithio'n dda. Cafwyd amrywiaeth o ddulliau gweithredu gan awdurdodau lleol cyn hyn o ran lefel yr ymgynghori a wnaethant. Nid yw'n rhy hwyr i ymgynghori, ac rwy'n gobeithio y gofynnir i'r bobl sy'n byw ar y strydoedd hynny beth yw eu barn nhw ac y byddant yn darparu rhesymau os credant fod angen newid. Ac yn fy mhrofiad i, mae llawer o'r adborth gan awdurdodau lleol wedi bod ynglŷn â'r polisi yn gyffredinol, nid am ffyrdd penodol. Dyna pam y byddai'n ddefnyddiol pe bai'r trigolion yn rhoi enghreifftiau penodol o newidiadau y maent am eu gweld. Ond wrth gwrs, bydd yna bobl ar y ffyrdd hynny bob amser sydd eisiau cadw'r terfyn cyflymder fel y mae ac mae gan awdurdodau lleol waith pwyso a mesur anodd iawn. Ac mae ganddynt bwerau i arfer hyblygrwydd a nhw sydd yn y sefyllfa orau i wneud hynny am eu bod yn ffyrdd lleol.

Wel, cyn y 20 mya diofyn, roedd llawer iawn o ffyrdd 20 mya yn Abertawe. Roedd yna ffyrdd 20 mya mewn ardaloedd eraill hefyd. Ac fel y gwyddoch, Lywydd, roedd terfyn cyflymder o 20 mya yn mynd drwy Aberaeron. Yn rhinwedd y ffaith eich bod yn un o drigolion Aberaeron, mae'n debyg eich bod yn meddwl bod hynny'n syniad da iawn oherwydd ei bod yn ffordd eithaf peryglus i'w chroesi. Ond mae gennym hefyd ffyrdd ystadau—mae 20 mya ar ffyrdd ystadau'n gweithio'n dda. Nid wyf yn meddwl y byddai neb yn meddwl yn rhesymol ar ffyrdd ystadau—. Er, fe ddywedodd rhywun wrthyf eu bod yn credu nad yw 20 mya yn iawn ar gyfer ffordd sy'n 30m o hyd a bod angen i honno fod yn 30 mya. Rwy'n credu eu bod yn berygl iddynt eu hunain yn ogystal ag i bawb arall.

Ond mae cais y Ceidwadwyr i gael gwared ar bob twmpath ffordd a phob rhwystr igam-ogamu, oherwydd dyna a olygwch os ydych chi am roi diwedd ar 20 mya—rydych chi am wneud yn siŵr fod traffig yn gallu symud ac nad oes dim i'w atal hyd nes bod damweiniau—. Ond rwy'n meddwl bod angen adolygiad ar gyfer ffyrdd A a B. Mae ffyrdd A a B yn wahanol: prif ffyrdd ydynt ac rwy'n meddwl mai pryder llawer o bobl, gan fy nghynnwys i, yw bod ffyrdd A a B sydd lawr i 20 mya lle nad yw'n ymddangos bod rheswm da dros hynny, a Ffordd Llangyfelach, lle mae'n 20 mya hyd at y goleuadau traffig ac yna mae'n codi i 30 mya—. Rwy'n credu y bydd edrych ar ffyrdd A a B, a gadael i gynghorau edrych ar ffyrdd A a B, yn datrys y rhan fwyaf o'r broblem. Mae rhai, gan gynnwys un o fy etholwyr, yn dweud, 'Rwy'n yrrwr profiadol, nid oes angen terfyn cyflymder arnaf o gwbl. Dylwn allu gyrru ar yr hyn y credaf yw'r cyflymder gofynnol a'r cyflymder diogel.' Rwy'n meddwl ei fod yn berygl iddo'i hun ac i eraill, ond yn anffodus, mae'r Ceidwadwyr yn rhoi swcwr i bobl felly.

Diolch i Mike Hedges am y sylwadau hynny, ac mae'n iawn: mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn i wneud penderfyniadau am eu ffyrdd lleol. Dyna pam nad yw'n ddull cyffredinol, fel y dywedwyd mor gamarweiniol gan y Ceidwadwyr. Ac rwyf wedi gyrru ar ffyrdd yn Abertawe, yn Rhondda Cynon Taf, ym Mro Morgannwg, sy'n brif ffyrdd sy'n 30 mya mewn gwirionedd. Felly, mae yna hyblygrwydd. 

Rwy'n credu bod ei awgrym y dylai pob prif ffordd fod yn 30 mya yn anodd, oherwydd ar lawer o'r ffyrdd hynny, mae yna dai, mae yna feysydd chwarae, mae yna siopau, mae yna ysgolion. Ac felly rwy'n credu nad cymryd agwedd unochrog o'r fath yw'r dull cywir, a dyna pam ein bod wedi nodi canllawiau sy'n rhoi arweiniad i awdurdodau lleol lle gallai eithriad fod yn briodol, ond mater iddyn nhw yw dehongli'r canllawiau hynny'n lleol. Mae'r pŵer yn amlwg yno, oherwydd mae awdurdodau wedi ei arfer. Nid yw wedi'i gymhwyso'n gyson, ac mae nifer o resymau am hynny, a dyna pam mae'r adolygiad hwn yn mynd i ddeall hynny'n well. Mae rhai o'r rhesymau'n cynnwys ymagwedd ofalus gan rai awdurdodau lleol ynglŷn â gwyro o lythyren y canllawiau—maent wedi mabwysiadu ymagwedd lythrennol iawn oherwydd eu bod yn ofni y gallent fod yn agored i her os oes damwain yn digwydd. Ac rwy'n credu bod angen inni weld lle mae hynny'n digwydd a deall lefel y risg, a pha gymorth y gellir ei roi i'w hannog i edrych ar bethau fel llwybrau bysiau lle mae hynny'n briodol i'w wneud. Unwaith eto, nid ydych am i bob llwybr bws newid yn ôl i 30 mya gan na fyddai hynny'n briodol ychwaith. Wrth weithredu'r polisi hwn yn fanwl, rwy'n credu bod y rhain yn benderfyniadau cymhleth i'w gwneud, oherwydd nid yw rhai ffyrdd yn syml, a dyna pam mai'r awdurdod lleol sydd yn y sefyllfa orau i wneud y penderfyniadau hynny.

15:35

Rwy'n falch fod y pwnc hwn wedi'i godi gan Natasha Asghar heddiw. Rwyf am godi'r anghysondeb rhanbarthol rhwng yr eithriadau 20 mya gyda chi eto. Fe ddywedoch chi eich hun bythefnos yn ôl mai dim ond 0.6 y cant o ffyrdd yn sir Ddinbych sydd wedi'u heithrio, ond mae hyd at 10 y cant a mwy o ffyrdd wedi'u heithrio mewn ardaloedd yn ne Cymru, fel Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr. Felly, hoffwn pe gallai'r Dirprwy Weinidog ymhelaethu ynglŷn â beth y gall elfennau penodol o adolygiad posibl ei wneud i fynd i'r afael â'r gwahaniaeth hwn, a pha gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn barod i'w roi i awdurdodau lleol i gynyddu cyfraddau eithrio ar gyfer fy etholwyr a chael pobl i symud eto?

Wel, unwaith eto, dyma ddiben yr adolygiad—i awdurdodau lleol roi adborth i'r panel pam eu bod wedi gwneud y penderfyniadau a wnaethant a pham eu bod yn credu y gallai'r canllawiau fod yn broblem, ac os oes achos dros newid y canllawiau, neu'n wir, a allwn ni eu helpu gyda dehongliad mwy cyson o'r canllawiau. Un o'r pethau rydym wedi'u trafod gyda sir y Fflint, er enghraifft, yw gweithio gydag awdurdod lleol arall, fel Rhondda Cynon Taf, sydd wedi mabwysiadu barn wahanol—i'w swyddogion gyfeillio, os mynnwch, i gyfnewid arferion da ac i weithio drwy broblemau gyda'i gilydd. Rwy'n credu y gallai hynny helpu rhai awdurdodau lleol. Nid oes problem yma mewn egwyddor; mae hyn i gyd yn ymwneud â dehongli pethau ar gyfer amgylchiadau lleol. Roedd hwn bob amser yn mynd i fod yn bolisi anodd a chymhleth i'w weithredu. Dyma'r polisi diogelwch ffyrdd mwyaf uchelgeisiol mewn mwy na chenhedlaeth, ac mae'n un sydd wedi cael cefnogaeth y Siambr hon, gan bob plaid, ar wahanol adegau.

Nid oeddwn yn bwriadu dod i mewn yn wreiddiol, ond mae gennyf ddiddordeb yn yr atebion rydych wedi'u rhoi i rai o'r cwestiynau yma heddiw, lle rydych wedi dweud mai'r ffocws ar gyfer yr ymgynghoriad fydd gofyn am farn pobl sy'n byw ar ffyrdd penodol, lle mae'r ffordd honno'n 20 mya. Nawr, yn amlwg, bydd gan lawer o bobl ledled Cymru farn ar ystod eang o ffyrdd, ond yn enwedig pobl sy'n byw ar ffordd neu cul-de-sac a allai fod ychydig oddi ar ffordd 20 mya. Felly, a gaf fi fod yn glir iawn heddiw, Weinidog, y bydd barn pobl sy'n byw ar ffordd 20 mya, a'r bobl sy'n defnyddio ffordd 20 mya, yn cael ei phwysoli'n gyfartal yn yr ymgynghoriad?

Wel, mater i'r awdurdod lleol yw'r ymgynghoriad i gymryd unrhyw safbwyntiau y maent eu heisiau. Ond rwy'n meddwl bod Tom Giffard rywsut yn awgrymu bod gan y bobl sy'n gyrru drwy ardal fwy o hawliau na phobl sy'n byw mewn ardal. Ac rwy'n gwybod y bydd pobl yn aml yn dweud, 'Rwyf am i fy llwybr i'r gwaith fod yn 30 mya, ond rwyf am i'r stryd y tu allan i fy nhŷ fod yn 20 mya', ac nid yw hynny'n gyfiawn nac yn deg. Dyma'r penderfyniadau anodd eu pwyso a'u mesur sy'n rhaid i awdurdodau lleol eu gwneud, a dyna pam fy mod yn credu ei bod yn bwysig fod pawb yn gallu ymateb i'r awdurdodau lleol, rhoi eu hadborth, a darparu rhesymau pam eu bod yn credu y dylid ei newid, a dyna fyddwn ni'n eu hannog i'w wneud.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad cyntaf heddiw gan Jayne Bryant.

Yr wythnos diwethaf mynychais lansiad elusen Be Heart Happy yng Nghasnewydd. Enw'r elusen yn flaenorol oedd Cronfa Cardioleg Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Gwynllyw, a fu'n cefnogi cleifion yng Nghasnewydd a'r ardal gyfagos ers dros 40 mlynedd. Mae'r gronfa hon yn enwog yn yr ardal leol, ac mae unrhyw sôn amdani bob amser yn ennyn geiriau cynnes o werthfawrogiad gan gleifion, teuluoedd a staff y GIG. Pwrpas y gronfa oedd codi arian i helpu i brynu offer arbennig, llyfrau a hyfforddiant i staff, na fyddai fel arall yn cael eu hariannu. Drwy ailfrandio i Be Heart Happy, sicrheir y bydd yr elusen yno i gleifion cardioleg a'u teuluoedd am flynyddoedd lawer i ddod. Amcangyfrifir bod 63,000 o bobl yn byw gyda chyflyrau'r galon a chlefydau cylchrediad y gwaed yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Ers 1983 maent wedi codi a gwario mwy na £2 filiwn er budd uniongyrchol cleifion y galon yn yr ardal gyfagos. Rhaid rhoi sylw arbennig i gadeirydd ymroddedig Be Heart Happy, Steve Richards, a gwirfoddolwyr codi arian gwych yr elusen am eu hymrwymiad diwyro i helpu cleifion cardioleg i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach. Diolch yn fawr am bopeth a wnewch. 

Mae hon yn bennod newydd i Be Heart Happy, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd yr elusen yn parhau i gyffwrdd â bywydau pobl ar draws ein cymuned. 

15:40

Diolch, Lywydd. Hoffwn dalu teyrnged i Rhedwyr Llyswyry Dwyrain Casnewydd—clwb rhedeg lleol ar gyfer pobl o bob cefndir, ethnigrwydd, oedran a gallu. Maent yn darparu cyfleoedd i aelodau o'r gymuned gadw'n heini yn gorfforol, drwy ymarfer corff rheolaidd, ac yn feddyliol iach, drwy'r gymuned a'r cyfeillgarwch y bydd yr aelodau'n ei gael drwy ymuno â'r grŵp.

Mae Rhedwyr Llyswyry yn croesawu ymhell dros 500 o aelodau, mewn saith sesiwn bob wythnos, mewn amgylchedd diogel a chefnogol, sesiynau sy'n cael eu trefnu'n gyfan gwbl drwy garedigrwydd gwirfoddolwyr lleol. Ddydd Sul diwethaf, 21 Ionawr, cynhaliwyd ras Llyswyry 8 Rhedwyr Llyswyry. Cefais y pleser o fynd draw i gefnogi'r rhedwyr wrth iddynt redeg y llwybr wyth milltir drwy lonydd gwledig pentrefi Allteuryn a Thre'ronnen. Mae ras Llyswyry 8 wedi cael ei chynnal ers dros 35 mlynedd, ac mae'n ras hwyliog a chynhwysol i redwyr o bob gallu. Eleni, cymerodd dros 750 o redwyr ran ynddi. 

Lywydd, hoffwn gofnodi fy ngwerthfawrogiad o Redwyr Llyswyry, a diolch iddynt am yr holl waith gwych y mae eu gwirfoddolwyr hael yn ei wneud i wella lles meddyliol a chorfforol aelodau o fy etholaeth yn Nwyrain Casnewydd a'r ardal ehangach. 

Mae 15 mlynedd wedi mynd heibio ers marwolaeth Paul Ridd. Dyn ag anabledd dysgu o Faglan oedd Paul, a fu farw yn Ysbyty Treforys yn 2009. Roedd modd osgoi marwolaeth Paul, gyda chwest yn 2013 yn cadarnhau ei fod wedi marw o achosion naturiol y cyfrannwyd atynt gan esgeulustod. Sefydlodd teulu Paul Sefydliad Paul Ridd i helpu i wella canlyniadau iechyd i bobl ag anabledd dysgu. Gyda chefnogaeth Mencap Cymru, maent wedi gweithio'n ddiflino i dynnu sylw at yr anghydraddoldebau sy'n wynebu pobl ag anabledd dysgu wrth iddynt geisio cael mynediad at ofal iechyd, gyda'r nod o sicrhau nad oes unrhyw berson arall ag anabledd dysgu yn marw o achosion y gellir eu hosgoi yn ysbytai Cymru. 

Bymtheng mlynedd ers marw Paul, mae'r cynnydd yn y maes hwn i'w groesawu. Ar 1 Ebrill 2022, lansiwyd hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd dysgu Paul Ridd ar draws y GIG yng Nghymru, gan ddod yn orfodol i'r holl staff gofal iechyd mewn rôl sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r cyhoedd. Fodd bynnag, mae llawer mwy i'w wneud o hyd. Mae pobl ag anabledd dysgu yn parhau i wynebu anghydraddoldebau iechyd. Mae disgwyliad oes ar gyfer oedolion ag anabledd dysgu ychydig yn iau na 63 oed, gyda ffigyrau diweddar yn dangos bod dynion ag anabledd dysgu yn marw tua 19 mlynedd ynghynt na dynion yn y boblogaeth gyffredinol, a'r ffigur yn 23 mlynedd ynghynt i fenywod ag anabledd dysgu, o'i gymharu â menywod yn y boblogaeth gyffredinol. 

Wrth inni nodi 15 mlynedd ers marwolaeth Paul, hoffwn gynnig cefnogaeth y Senedd hon i deulu Paul—Jonathan a Jane—a hoffwn ailddatgan ein hymrwymiad ar y cyd i weithio tuag at Gymru lle mae pobl ag anabledd dysgu yn cael eu gwerthfawrogi'n gyfartal, yn cael eu clywed ac yn cael eu cynnwys. 

5. Dadl Frys: Colli swyddi yn Tata Steel a dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru

Y ddadl frys sydd nesaf y prynhawn yma ar golli swyddi yn Tata Steel a dyfodol y diwydiant dur. A dwi'n galw ar Luke Fletcher i agor y ddadl yma. 

Diolch, Lywydd, a diolch i'r Aelodau am gytuno i wneud amser ar gyfer y ddadl hon. Fel y soniais ddoe, wrth gynnig y ddadl hon, fe wnaethom hynny oherwydd pwysigrwydd strategol y diwydiant dur, diwydiant y mae pawb ohonom yn dibynnu ar ei gynhyrchion bob dydd. Er mwyn dangos hyn, a wnaethoch chi yrru i'r gwaith neu ddod ar drafnidiaeth gyhoeddus? Wel, mae eich car, eich bws, eich trên wedi ei wneud o ddur. A wnaethoch chi droi eich rheiddiadur ymlaen, neu agor eich oergell i nôl llaeth ar gyfer eich brecwast? Wel, eich oergell, eich rheiddiadur—dur. Mae'r gallu i gynhyrchu dur yn hanfodol i unrhyw gynlluniau a allai fod gan unrhyw un ohonom yn ein cartrefi ein hunain, ond hefyd i ddatblygu ein seilwaith, gwarchod ein diogelwch cenedlaethol neu dyfu a gwyrddu ein heconomi.

I'w roi mor blaen ag y gallaf, nid oes llwybr at sero net nad yw'n cynnwys cynhyrchu dur domestig. Dyna pam ei bod yn bwysig inni feddwl am ddyfodol y sector hwn. Ac rwy'n dweud hyn gyda phob parch, ond dyna pam mae'r diffyg brys, gweledigaeth ac uchelgais dros y degawd diwethaf gan y Llywodraeth ganolog wedi bod yn siomedig. Nid ydym yn siarad am rywbeth sy'n braf i'w gael; rydym yn sôn am un o'r adnoddau a'r galluoedd cynhyrchu pwysicaf y gall gwlad eu cael. 

Nawr, rwy'n cydnabod yn llwyr fod Llywodraeth y DU wedi camu i'r adwy gyda £500 miliwn a £100 miliwn o gronfa bontio hefyd. Clywsom gan Weinidog yr economi a Phrif Weinidog Cymru ddoe am y £3 biliwn sydd ar y bwrdd ar gyfer y sector ledled y DU gan Lafur y DU, os ydynt yn ennill yr etholiad cyffredinol, ond nid yw'r symiau hyn yn dod yn agos at gyrraedd maint yr her. Ac nid wyf yn dweud hyn er mwyn gwneud pwynt gwleidyddol; rwy'n dweud hyn oherwydd ei fod yn ffaith. Rydym naill ai o ddifrif am ddur gwyrdd neu nid ydym o ddifrif yn ei gylch.

Nid oes ond angen inni edrych ar yr hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill i weld maint y buddsoddiad sydd ei angen. Cymerwch yr Almaen, lle mae gennym ystod o brosiectau a gynorthwyir gan y wladwriaeth i amddiffyn cynhyrchiant dur domestig, prosiectau a gymeradwywyd yn 2023 a 2024, y gallwn gymharu ein sefyllfa â nhw. Ac rwy'n ymddiheuro ymlaen llaw am fy ynganiad o rai o'r lleoedd hyn. Yr un cyntaf oedd pecyn o €2.6 biliwn i Stahl-Holding-Saar mewn un rhanbarth yn unig, a gymeradwywyd eleni. Roedd yr ail yn grant uniongyrchol €550 miliwn, gyda mecanwaith talu amodol ychwanegol o hyd at €1.45 biliwn, i gefnogi ThyssenKrupp Steel Europe yn 2023, a thraean, yn 2023, o €1 biliwn i Salzgitter Flachstahl, hyn i gyd ar gyfer datgarboneiddio. Clywsom ddoe hefyd am y gronfa €50 biliwn i gefnogi datgarboneiddio mewn sectorau trwm ar ynni, hefyd yn yr Almaen. Mae gennym ffordd bell i fynd i gael uchelgais debyg i honno. 

Wrth gwrs, pryder arall sydd gennym ynghylch y cynnig ym Mhort Talbot yw'r ffocws ar ffwrnais arc trydan. Nid yw'n bryder uniongyrchol gyda'r ffwrnais ei hun, oherwydd mae gan ffwrneisi arc trydan rôl bwysig i'w chwarae yn y diwydiant dur. Y pryder yw y gallem golli gallu i gynhyrchu dur sylfaenol o ganlyniad i ffwrnais arc trydan. Mae arallgyfeirio cynhyrchiant dur yn bwysig. Os collwn y gallu i gynhyrchu dur sylfaenol, ni fydd yr unig wlad G20 a fydd yn methu gwneud hynny. Ac nid pwynt symbolaidd yn unig yw hwn; mae'n bwynt pwysig i'w ystyried, yn enwedig mewn byd cynyddol elyniaethus.

Mae ffwrneisi arc trydan yn dibynnu ar gyflenwad o ddur sgrap i'w ailgylchu'n ddur newydd. Rydym wedi clywed llawer am ansawdd a gradd y dur hwnnw. Nawr, yn ôl Tata, mae'r dechnoleg wedi dod yn bell dros y blynyddoedd, i bwynt lle credant na fydd y radd yn fater mor fawr ag y tybid yn wreiddiol. Er bod hynny'n newyddion i'w groesawu ar ansawdd y dur y gellir ei gynhyrchu o dan y cynigion cyfredol, er ein bod yn aros i weld y realiti, mae cwestiynau angen eu hateb o hyd: yn gyntaf, a oes gennym ddigon o ddur sgrap ar gael i ni yn y DU ar hyn o bryd i ateb y galw? Byddai rhai'n dadlau nad oes. Yn ail, beth sy'n digwydd os yw'r galw am ddur sgrap yn cynyddu'n fyd-eang, ac mae hynny'n mynd i ddigwydd, oherwydd nid ni yw'r unig rai sy'n buddsoddi mewn ffwrneisi arc trydan?

Mae rhoi ein holl wyau ym masged y ffwrnais arc trydan yn gambl costus. Mae angen arallgyfeirio buddsoddiad. Rydym yn gwybod bod dewisiadau eraill ar gael. Mae haearn wedi'i leihau'n uniongyrchol (DRI) wedi cael ei drafod, ac mae hydrogen yn un arall. Ac wrth gwrs, ar hydrogen, ydy, mae'n wir ei fod yn bell o fod yn barod, ond ar yr union adeg hon y mae angen buddsoddi ynddo i'w wneud yn hyfyw. Os na cheir buddsoddiad, byddwn yn llithro ymhellach byth ar ôl gweddill Ewrop ac ni fydd cenedlaethau'r dyfodol yn diolch i ni. Down yn ôl at fuddsoddiad. Y gwir amdani yw y bydd angen i'r wladwriaeth gamu i mewn. Caiff hynny ei gydnabod ar draws y byd. Rwyf wedi cyffwrdd yn fyr â'r modd y mae'r byd yn mynd yn fwyfwy gelyniaethus. O ystyried y ffactorau hyn, o ystyried pwysigrwydd strategol dur fel adnodd, mae'n gwneud synnwyr i'r wladwriaeth gynyddu ei chyfran yn y diwydiant.

Nawr, wrth gwrs, mae Plaid Cymru wedi sôn sut mae'n rhaid i bob opsiwn, gan gynnwys gwladoli a chydweithredoli, fod ar y bwrdd. Nid syniadau newydd yw'r rhain gyda llaw. I'r rhai ohonom mewn cymunedau ôl-ddiwydiannol, nid cysyniad tramor yw gwladoli. Edrychwch ar bwll glo'r Tower yn y 1950au, a brynwyd wedyn ym 1994 gan y gweithwyr, yr unig bwll glo dwfn i oroesi'r don o byllau glo'n cau. Ac os ydych chi eisiau enghraifft sy'n benodol i ddur, edrychwch ar Wlad y Basg, lle mae dur cydweithredol yn ffynnu ac yn sail i ddiwydiant llwyddiannus. Am ran helaeth o'u hanes, mae cymunedau fel Port Talbot wedi gweld penderfyniadau'n cael eu gwneud drostynt. Wrth inni symud tua'r dyfodol, mae angen i hynny newid.

Lywydd, fel y dywedais ar ddechrau'r cyfraniad hwn ac yn ystod fy nghais am y ddadl hon ddoe, mae dirfawr angen dadl ddifrifol ar gyfeiriad y diwydiant dur yng Nghymru yn y dyfodol. Rwyf wedi siarad â llawer o Aelodau yma dros y misoedd diwethaf, ac ar y pwnc hwn nid oes llawer sy'n ein rhannu mewn gwirionedd. Rydym i gyd yn cytuno ynghylch pwysigrwydd y diwydiant dur, ond os ydym o ddifrif am ei ddyfodol, nawr yw'r amser i ddewis llwybr newydd. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau heddiw ac at barhau â llawer o'r gwaith hwn y tu hwnt i'r sesiwn heddiw. Diolch.

15:50

Diolch i chi, Luke, am alw am y ddadl hon y prynhawn yma.

Am y pum munud cyntaf, cytunais â phopeth a ddywedoch chi'n llwyr. Lywydd, ers cyhoeddiad Tata yr wythnos diwethaf, mae cymunedau ar draws fy etholaeth yn Aberafan yn deffro bob dydd gyda phryder ac ansicrwydd am eu dyfodol. Ar hyd fy oes, rwyf wedi byw mewn cymuned lle mae'r gwaith dur wedi bod yn y golwg erioed. Rwy'n ei basio bob dydd pan fyddaf yn dod yma. Rwy'n gweld y ddwy ddraig ddur yn anadlu tân o'u boliau ac yn cynhyrchu'r haearn hylif sy'n cael ei ddefnyddio i wneud y dur sy'n mynd ar draws y byd—gan gynnwys yr adeilad hwn mewn gwirionedd. Mae'r gwaith wedi rhoi bywoliaeth i aelodau o'r teulu, cymdogion, ffrindiau a phobl rwy'n eu gweld bob dydd. Rwyf wedi cyfarfod ag etholwyr sy'n weithwyr dur ers tair a phedair cenhedlaeth, plant sydd wedi edrych ymlaen at weithio yn y gwaith, ac mae brodyr a chwiorydd wedi bod yno, mae eu mamau a'u tadau wedi bod yno. Mae yna gwmnïau lleol sydd â llyfrau archebion yn seiliedig bron yn gyfan gwbl ar eu gwaith yn y gwaith dur, a'r busnesau manwerthu a lletygarwch o amgylch y ffatri, sy'n dibynnu ar weld gweithwyr dur yn dod i mewn ac yn gwario eu harian. 

Nawr, rydym yn adnabod Port Talbot fel tref ddur, ond nid term yn unig yw hwnnw i ni; rydym yn gwisgo'r disgrifiad gydag anrhydedd. Mae'n ffordd o fyw i filoedd lawer o bobl, yn rhychwantu'r cenedlaethau. Ac fel y dywedodd Alan Coombs, swyddog undeb Community, mae dur yn ein DNA; mae wedi siapio cymuned Port Talbot fel y mae wedi siapio llawer o gymunedau eraill ar draws Cymru—Llan-wern, Trostre, Shotton. Ond yn dilyn y cyhoeddiad, mae pobl yn gofyn, 'Beth sy'n mynd i ddigwydd i ddur?', 'Beth sy'n mynd i ddigwydd i'n tref ni?' Ac i economi'r DU, nid yn unig i economi Cymru, mae'n ddiwydiant sylfaenol ac mae ystyried na fydd gallu gan y DU i wneud dur crai yn un y dylem i gyd resynu ato a'i herio. 

Lywydd, nid dyma'r tro cyntaf i mi sefyll yn y Senedd hon i siarad am ddyfodol y gwaith a'i weithlu; fe fydd yr Aelodau yn cofio yn 2016, pan gawsom ein galw'n ôl cyn yr etholiad, a hynny oherwydd bod bygythiad gan Tata i werthu'r safle neu ei gau. Y pryd hwnnw, roedd 6,000 o swyddi yng Nghymru a hyd at 40,000 o swyddi ledled y DU mewn perygl. Gofynnais lawer o gwestiynau i'r Llywodraeth bryd hynny ac maent yn dal i fod yn berthnasol nawr. Fodd bynnag, fe wnaethom oresgyn y bygythiad hwnnw ac fe wnawn oresgyn y bygythiad hwn. Heddiw, mae'n rhaid inni edrych tua'r dyfodol. Rwy'n croesawu'r cytundeb gwerth £500 miliwn rhwng Llywodraeth y DU a Tata a gyhoeddwyd fis Medi diwethaf a buddsoddiad ar gyfer gosod ffwrnais arc trydan sengl a ffurfiai ran o fargen gwerth £1.25 biliwn. Mae buddsoddiad i'w groesawu bob amser. Ond roedd y gweithwyr dur yn teimlo'n anesmwyth, yn naturiol, ynglŷn â beth oedd y cynigion, oherwydd nid oeddem yn gwybod y manylion—ni waeth beth a glywais gan Weinidogion yn Llywodraeth y DU, nid oedd manylion ar gael ar y pryd—ond roeddent yn derbyn bod angen dyfodol gwyrdd ar dur. Fodd bynnag, roedd gwahanol opsiynau ar gael ynglŷn â sut y gallwn gyrraedd y dyfodol hwnnw, sut olwg fydd ar bontio. A dyma ni, mis Ionawr, ac mae Tata bellach wedi cyhoeddi eu cynllun i gau'r ddwy ffwrnais chwyth eleni, gyda 2,500 o swyddi i fynd o Bort Talbot yn unig. Mae hynny'n gwbl annerbyniol. Yr hyn y byddwn yn ei weld ym Mhort Talbot nawr yw gwaith a fydd, hyd nes y caiff y ffwrnais arc trydan ei hadeiladu, yn mewnforio dur crai o weithfeydd ffyniannus Tata mewn mannau eraill, yn yr Iseldiroedd ac India, a bydd hwnnw'n cael ei rolio'n goil yma. Nid yw hwnnw'n newid teg a chyfiawn. Sut y gall colli 2,500 o swyddi mewn llai na naw mis fod yn bontio teg a chyfiawn?

Am sefyllfa druenus sy'n ein wynebu. Byddwn wedi mynd o fod yn un o'r gwledydd mwyaf blaenllaw yn y byd sy'n cynhyrchu dur o ansawdd i fewnforio dur yn unig. Mae yna ffordd arall, ac rwy'n ddiolchgar i fy nghyfeillion yn undebau llafur Community, GMB ac Unite, am weithio'n galed dros y misoedd diwethaf i gynhyrchu cynllun amgen credadwy ar gyfer dur yn y DU, a allai arbed swyddi a sicrhau ein bod yn dal i fod yn wlad sy'n cynhyrchu ei dur ei hun. Fe wnaethant gomisiynu arbenigwyr blaenllaw ym maes cynhyrchu dur—nid nhw, ond arbenigwyr ar gynhyrchu dur, Syndex, a gynhyrchodd yr adroddiad a luniodd y dewis arall yn lle'r penderfyniad tyngedfennol hwn. Nawr, rwy'n annog pawb i ddilyn a chefnogi'r dewis arall hwnnw. Rwyf hefyd yn cael fy nghalonogi gan addewid dur gwyrdd £3 biliwn Llafur y DU. Rwy'n gwybod bod Luke wedi dweud nad oedd yn ddigon, ond mae'n fwy na digon o gymharu â'r hyn sy'n cael ei roi gan Lywodraeth y DU ar hyn o bryd. Rwy'n deall yr hyn a ddywedodd am y €4.5 biliwn yn yr Almaen, a phe byddem yn dal yn yr UE efallai y buasem wedi gallu cael ychydig mwy o arian ganddynt hefyd, ond dyna ni. Nawr, mae hwnnw'n fuddsoddiad uniongyrchol mewn technoleg briodol, mewn technoleg newydd, ac ni fydd ar gyfer ffwrnais arc trydan yn unig, fe fydd ar gyfer yr haearn wedi'i leihau'n uniongyrchol hefyd, ac mae hynny'n bwysig; mae'n union fel y mae'r Iseldiroedd yn ei wneud gyda Tata mewn gwirionedd.

Mae fy nghymuned i, Aberafan, yn haeddu gwybod pa ddyfodol sy'n ei hwynebu a beth sydd gan y Torïaid ar y gweill iddynt, oherwydd ar hyn o bryd, y cyfan y gallant ei weld yn y bôn yw Llywodraeth y DU yn rhoi arian i Tata allforio swyddi dramor a mewnforio allyriadau carbon, ac yn dweud wrthynt, 'Dyma'r arian, torrwch yr allyriadau,' a dyna ni. Ni ddylai fod felly. Yn anffodus, neu'n ffodus i mi, yr unig obaith yw etholiad cyffredinol lle mae Llafur yn dod i rym a bod ganddynt gynllun y byddant yn ei roi ar waith. Mae'n gynllun credadwy, gan weithio gyda'r undebau llafur. Yn y cyfamser, byddaf yn parhau i ymladd dros bawb ym Mhort Talbot, am bob un swydd, pob busnes, pob teulu yr effeithir arnynt. Rwy'n annog Tata i feddwl yn ofalus am eu cynlluniau. Peidiwch â gwneud penderfyniadau nawr na ellir eu gwrthdroi, penderfyniadau a fydd yn difetha cymaint o fywydau ac yn difetha cymaint o fusnesau. Mae yna gynllun credadwy'n bodoli: manteisiwch arno. 

15:55

Tref wedi'i hadeiladu ar ddur, a thref wedi'i siapio gan ddur, yw Port Talbot. Ar ôl ymweld â gwaith Port Talbot ar sawl achlysur ers imi gael fy ethol i'r Senedd hon bron i dair blynedd yn ôl, y cwestiwn twpaf a ofynnais erioed oedd, 'Ers faint o amser y buom yn gwneud dur ym Mhort Talbot?' Oherwydd yr ateb yw 'ers erioed' mewn gwirionedd. Cyn y gweithfeydd diwydiannol mawr a welwn ar draws y byd heddiw, defnyddiai ein cyndeidiau Celtaidd ddull cyntefig o wneud dur, gan ddefnyddio'r deunyddiau crai y doent o hyd iddynt yn y bryniau sy'n edrych i lawr dros safle'r gwaith dur presennol i wneud ffurf gynnar iawn ar ddur.

Mae Port Talbot yn dref lle mae dur yn rhan annatod o hanes a diwylliant y lle. Mae'r ffwrneisi chwyth yn dominyddu'r gorwel, yn edrych i lawr dros y strydoedd lle mae pobl yn byw eu bywydau bob dydd. Hyd yn oed os nad ydych yn gweithio yn y gwaith dur eich hun, mae'n rhan mor sefydledig o dref Port Talbot fel y byddai bod hebddo'n annirnadwy. I lawer ohonom a fagwyd yn ne-orllewin Cymru, gweld y gwaith dur drwy eich ffenest ar yr M4 ar ôl taith hir i ffwrdd oedd yr arwydd eich bod yn gwybod eich bod gartref. Dychmygwch San Francisco heb bont y Golden Gate neu Baris heb Dŵr Eiffel. Nid Port Talbot yw Port Talbot heb y gwaith dur ar ei orwel.

Felly, bydd colli'r swyddi a gyhoeddwyd gan Tata Steel nid yn unig yn ddinistriol i'r gweithwyr yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, bydd yn herio'r syniad o beth yw Port Talbot. Heb amheuaeth, mae colli 2,800 o swyddi mewn tref o faint Port Talbot yn golled a fydd yn pwyso'n drwm. Ond mae'n arbennig o galed wrth ystyried pa mor annatod yw'r swyddi hynny i'r dref ei hun. Yn y cyfnod anodd hwn, rwy'n credu ei bod yn hawdd iawn bod yn besimist ynglŷn â dyfodol tref fel Port Talbot, ond er gwaethaf popeth, rwy'n parhau i fod yn obeithiol am y dref a'r dyfodol y gallai ei gael. Mae Llywodraeth y DU wedi datgelu cronfa gymorth pontio gwerth bron i £100 miliwn, cronfa heb ei thebyg o'r blaen i gefnogi gweithwyr i helpu i'w hyfforddi i ddod o hyd i waith newydd. Mae hynny bron yn £36,000 ar gyfer pob un o'r 2,800 o swyddi yr ymddengys eu bod yn mynd i gael eu colli. Mae'r farchnad waith gyffredinol yn y DU ar hyn o bryd yn un lle ceir mwy o gyfleoedd gwaith nag o bobl i'w llenwi, felly bydd hyfforddi gweithwyr i allu llenwi'r swyddi hynny'n hanfodol.

Ond i'r dref ei hun, rwy'n credu'n wirioneddol fod gan y porthladd rhydd arfaethedig gyfle i newid pethau'n llwyr i dref Port Talbot ac i'r rhanbarth cyfan—prosiect y porthladd rhydd Celtaidd, a fydd yn gweld coridor buddsoddi'n cael ei adeiladu ar draws porthladdoedd Port Talbot ac Aberdaugleddau, gyda phrosiectau ynni gwyrdd yn ganolog iddynt. Gallai'r porthladd rhydd weld 16,000 o swyddi newydd yn cael eu darparu a gwerth £5.5 biliwn o fuddsoddiad, gan wneud gwahaniaeth trawsnewidiol mewn dwy gymuned sydd ei angen yn fawr.

Diolch am dderbyn yr ymyriad, Tom. Rwy'n derbyn yr hyn rydych chi'n ei ddweud, ac rwy'n edrych ymlaen at y porthladd rhydd; rwyf wedi ei gefnogi o'r diwrnod cyntaf. Ond a ydych chi'n cytuno â mi fod hynny flynyddoedd i ffwrdd, ac nad yw'n mynd i ddigwydd y flwyddyn nesaf neu'r flwyddyn ar ôl hynny na'r flwyddyn wedyn? Mae'n dal i fod yn bell iawn i ffwrdd. Dyna'r dyfodol, ond mae'n bell iawn i ffwrdd, ac mae ymyl y clogwyn o'n blaenau nawr, ac mae bwlch enfawr rhwng y ddau beth.

Ie, diolch am eich ymyriad. Roedd llinell nesaf fy araith yn mynd i'r afael â hynny.

Rwy'n derbyn bod yr uchelgais yma yn fwy hirdymor, a dyna pam mae'r mesurau tymor byr, fel cronfa bontio Llywodraeth y DU, mor hanfodol. Fe'i gelwais yn gronfa Llywodraeth y DU, ond wrth gwrs, mae ganddi gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru yn rhan ohoni. Ond rwy'n ei galw'n gronfa Llywodraeth y DU am mai Llywodraeth y DU sydd wedi rhoi'r arian—£100 miliwn ohono, i fod yn fanwl gywir. Ond nid yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi ceiniog tuag ati—dim ceiniog. Fe glywsom ddoe, ac rwy'n siŵr y byddwn yn ei glywed eto gan Weinidog yr economi heddiw, fod Llywodraeth Cymru yn barod i gefnogi gweithwyr ym Mhort Talbot, ond oni bai bod eu llyfr siec ar agor i ategu'r geiriau hynny, nid ydynt yn ddim mwy na geiriau gwag. Mae gweithwyr ym Mhort Talbot yn haeddu gweld Llywodraeth Cymru yn rhoi eu harian ar eu gair, yn camu i'r adwy ac yn cefnogi'r gweithwyr dur yn ariannol drwy gyfrannu at y gronfa bontio honno. Fel arall, bydd gweithwyr a thref Port Talbot yn gofyn yr un cwestiwn ag y gofynnodd y BBC i Weinidog yr economi yr wythnos diwethaf: ble mae'r Llywodraeth wedi bod?

16:00

Mae wedi bod yn wythnosau o artaith i filoedd o bobl dwi'n eu cynrychioli ers inni glywed y cyhoeddiad yna am ochr drom y gwaith yn cau yn gyfan gwbl. Sut ansicrwydd wedyn, sut bryder, ond hefyd gobaith taer y byddai'r cynllun amgen a gafodd ei gyflwyno gan yr undebau yn dwyn perswâd ar Tata i newid eu penderfyniad i wneud diswyddiadau mewn modd mor sylweddol ac mor gyflym, ac achosi'r sefyllfa gatastroffig rŷn ni nawr ynddi. Roedd hefyd gobaith y byddai eu Llywodraethau ar ddau ben yr M4 yn medru sicrhau trawsnewid cyfiawn i'r dyfodol gwyrdd y maen nhw'n llwyr ymwybodol sydd ei angen ar eu diwydiant a'r byd i sicrhau tegwch.

Ond yr hyn gafwyd oedd dirmyg: dirmyg San Steffan tuag at Gymru, gyda Rishi Sunak yn gwrthod cymryd galwad Prif Weinidog Cymru. Mae’r peth yn gwbl warthus. Dirmyg tuag at y gweithwyr sy'n cael eu taflu i'r neilltu yn yr un modd y taflwyd ein glowyr a'u cymunedau i'r neilltu. Ac maen nhw'n grac, yn teimlo bod anghyfiawnder mawr yn cael ei gyflawni fan hyn, achos mae opsiynau ar gael. Doedd colli'r swyddi hyn yn y modd yma ddim yn anochel. Maen nhw'n cofio i Lywodraeth San Steffan achub y banciau yn 2008, felly pam ddim achub eu diwydiant nhw, pam ddim achub ein dur, dur sy’n hanfodol ar gyfer creu y dyfodol gwyrdd yna sy'n cael ei weld nawr fel allor y mae eu bywoliaeth, eu sgiliau, eu hunaniaeth a'u cymunedau yn cael eu haberthu arni?

Allwn ni ddim fforddio colli'r sgiliau, colli'r swyddi na cholli ymddiriedaeth chwaith yn y dyfodol sero net, ond dyna sy'n anochel os na welwn rhywbeth ar y ford a fydd yn medru oedi a gwyrdroi y penderfyniad hwn. Yn ogystal â chynlluniau'r undebau, mae'n gwbl amlwg bod angen mwy o fuddsoddiad er mwyn gwireddu hynny. Mae yna hefyd fodelau amgen y gallai gael eu mabwysiadu er mwyn sicrhau ein bod yn cadw swyddi ac yn cadw'r gallu i wneud dur primaidd yng Nghymru ac ym Mhrydain. Gallai hyn ddigwydd trwy wladoli ac yna proses o greu cwmni dur Cymreig cydweithredol. Rhaid inni feddwl yn greadigol ac ystyried pob opsiwn. Mae Cymru a'i gweithwyr yn cael eu bradychu unwaith eto gan Lywodraeth San Steffan, a'n cymunedau unwaith eto yn ddiymadferth i atal y dinistr economaidd a chymdeithasol a fydd yn dod yn sgil hyn.

Rhaid cofio bod gwaith dur Tata mewn sir sydd â lefel is o gyflogaeth na chyfartaledd Cymru a bod lefelau o ddiffyg gweithgaredd economaidd wedi cynyddu yno. Mae Castell-nedd Port Talbot felly wedi’i orgynrychioli ym mhob categori yn ôl mynegai amddifadedd lluosog Cymru, ac mae'r hyn yr un peth o ran amddifadedd incwm, ardaloedd o amddifadedd cyflogaeth, ac ardaloedd difreintiedig o ran iechyd. Felly, sut mae'r Llywodraeth yma yn pwyso ar y Llywodraeth yn San Steffan i ystyried pob opsiwn, gan gynnwys rheolaeth gyhoeddus, camu i mewn a gwneud mwy i atal yr effeithiau cwbl ddinistriol yma ar y gymuned leol, economi Cymru, gallu’r Deyrnas Gyfunol i gynhyrchu dur primaidd, a’n llwybr tuag at sero net?

Fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth wrth y Prif Weinidog ddoe, nid mater o arian yn unig ydyw—mae'n ymwneud â chynllun hefyd. Ac mae hyd yn oed yn fwy hanfodol nawr ein bod yn sicrhau cefnogaeth i fentrau sy'n cadw ac yn cynyddu'r sylfaen sgiliau sydd ei hangen ar gyfer y dyfodol yn ardal Port Talbot.

Ddydd Iau diwethaf, ar y diwrnod y dechreuodd y newyddion ein cyrraedd o Lundain, roeddwn ym Mhort Talbot, yn cyfarfod â chwmni saernïo a weldio lleol, JES Group. Maent wedi lansio academi sgiliau, canolfan ragoriaeth, ar gyfer datblygu sgiliau saernïo a weldio, sy'n brin iawn ar draws de-orllewin Cymru—diwydiant sy'n un o'r ychydig iawn sy'n cynnig cyfleoedd ar gyflogau tebyg sy'n uwch na'r cyfartaledd cymedrig ar gyfer gweithwyr yn y rhanbarth. Gall yr academi y maent yn ei datblygu gynnal ystod lawn o gyrsiau hyfforddi arbenigol i unrhyw un, o ddisgyblion ysgol a phrentisiaid lleol, i weldwyr presennol sydd angen datblygiad proffesiynol parhaus, a phawb sy'n chwilio am lwybrau i mewn i'r diwydiant. Yr amcan yw cyflwyno rhaglen sy'n gallu uwchsgilio ac ailsgilio gweithwyr, a allai fanteisio wedyn ar y cyfleoedd a gyflwynir gan y diwydiant ynni adnewyddadwy. 

A fydd y mathau hyn o fentrau yn cael eu cefnogi mewn unrhyw strategaeth gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol? A fyddai'r Gweinidog yn cefnogi'r defnydd o gyllid sydd ar gael, gan y Llywodraeth, Tata neu'r bwrdd pontio, ar gyfer y math hwn o ddatblygiad lleol? Ni allwn obeithio elwa o'r cyfleoedd a ddarperir gan y diwydiant ynni adnewyddadwy a'r ymgyrch tuag at economi sero net heb weithlu medrus iawn, sydd bellach dan fygythiad yn sgil cyhoeddiad Tata. Oherwydd mae pobl wedi gadael eisoes. Maent yn gadael, ac efallai y byddant yn cael eu gorfodi i adael i gefnogi eu teuluoedd, i ddod o hyd i ddyfodol i'w hunain. Felly, pa atebion sydd gennych ar eu cyfer, Weinidog, os bydd ewyllys ac anghenion pobl Cymru yn cael eu hanwybyddu unwaith eto?

16:05

Bydd y broses o wneud dur sylfaenol yng Nghymru, ac yn y DU yn wir, yn cael ei dinistrio unwaith ac am byth gan benderfyniad Llywodraeth y DU i alluogi Tata i gau'r ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot. Gyda'r broses o wneud dur sylfaenol yn dod i ben ar yr ynysoedd hyn, ni fydd y wlad ddatblygedig gyntaf yn y byd i roi'r gorau i gynhyrchu ei dur crai ei hun. Mae'r goblygiadau'n enfawr i Gymru ac i'r DU. O ran diogelwch cenedlaethol, bydd ein sector amddiffyn yn agored i beryglon geo-wleidyddol dur wedi'i fewnforio, yn ogystal â'n diwydiant ceir a sectorau eraill. Bydd y gweithgynhyrchu y gobeithiwyd ei weld gan ddefnyddio dur y DU ar gyfer ein diwydiant gwynt ar y môr yng Nghymru yn cael ei danseilio cyn iddo ddechrau hyd yn oed.

Bydd y miloedd o swyddi uniongyrchol a gollir ym Mhort Talbot, cannoedd ohonynt yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, ynghyd â'r gadwyn gyflenwi ar draws y rhanbarth, a'r DU yn wir, yn drychinebus, a bydd yr effaith ganlyniadol drwy'r economi leol a rhanbarthol i'w theimlo am genedlaethau eto. O dan y cyn-Brif Weinidog Thatcher a MacGregor, roedd yna resymeg o leiaf—roedd yn rhesymeg galed, neoryddfrydol, ond roedd yn rhesymeg serch hynny—o achosi poen dwfn drwy doriadau llym i'r diwydiant dur i'w wneud yn gystadleuol yn yr economi fyd-eang. Er bod y diwydiant dur wedi cael ei ddinistrio a chymunedau dur wedi'u dinistrio, fe'i gwnaed gan Geidwadwyr y cyfnod dan esgus creu capasiti dur mwy cynhyrchiol ond llawer llai.

Ond y tro hwn, o dan y Prif Weinidog Sunak, nid oes hyd yn oed yr ymgais leiaf i achub cynhyrchiant dur sylfaenol. Mae Ceidwadwyr Llywodraeth y DU wedi troi eu cefnau ar ddur ac ar y cymunedau hyn. Tra bod y Prif Weinidog Thatcher yn credu bod rhyw fath o ddyfodol i ddur, wedi'i deneuo bron yn ddim a chyda gweithlu'n gorfod derbyn newidiadau cronnol enfawr i'w telerau ac amodau dros y blynyddoedd, mae'r Llywodraeth a'r Prif Weinidog Ceidwadol presennol yn condemnio cynhyrchiant dur sylfaenol ar yr ynysoedd hyn i'r llyfrau hanes.

Nid yw'r cyn-Ganghellor, y Prif Weinidog Sunak bellach, yn credu bod ein dur yn werth y gost o'i achub. Dyma gyfalafiaeth bur, ddiatal ar ei mwyaf creulon: 'Gadewch i'r farchnad benderfynu. Mae'r llywodraethau'n ddi-rym. Bydd cymunedau'n dioddef, bydd teuluoedd yn dioddef, ond hei, dyna sut mae byd y farchnad rydd fyd-eang yn gweithio.' Ond mae yna ateb i'r gyfalafiaeth fyd-eang ddilyffethair hon, ac mae bob amser wedi bod, os ydym ni—ni—yn ei ddewis, gan mai ni ydyw—ein llais democrataidd, a gweithredoedd a diffyg gweithredu ein Llywodraethau hefyd. Gallwn ddewis siapio'r hyn sy'n digwydd yma. Ond ar hyn o bryd, diffyg gweithredu yw'r drefn i Lywodraeth y DU.

Mae'r methiant i fuddsoddi mewn cynhyrchiant dur sylfaenol yn ddewis gwleidyddol a wnaed gan y Prif Weinidog Ceidwadol presennol a'i Gabinet. Heddiw, mae'r Ysgrifennydd Gwladol Cymru presennol yn mynd o gwmpas y stiwdios teledu yn hyrwyddo tranc y diwydiant, gan ofyn i ni gymeradwyo wrth i'r llen ddisgyn am y tro olaf ar gynhyrchiant dur sylfaenol, oherwydd mae Llywodraeth y DU wedi darparu £500 miliwn ar gyfer sioe arall ar ochr arall y stryd, oherwydd dyna sy'n cael ei gynnig i ni nawr. Mae dur arc trydan a dur wedi'i ailgylchu yn rhan hanfodol bwysig o ddyfodol dur wedi'i ddatgarboneiddio, wrth gwrs, a dylem fod yn buddsoddi ynddo, ond mae rhoi'r gorau i'r gwaith o wneud dur sylfaenol ar adeg pan fo gwledydd eraill yn cynnal eu buddsoddiadau, ac mae'r goreuon yn wir yn ceisio datgarboneiddio cynhyrchiant dur sylfaenol yn wir—wel, mae hyn yn anfaddeuol. Mae'r Llywodraeth Geidwadol yn cynnig dewis ffug i ni: dur arc trydan neu ddim byd. [Torri ar draws.] Na wnaf, oherwydd mae angen i mi—. Ewch amdani. Gwnaf. Ewch amdani, os gwelwch yn dda.

16:10

Mae hwnnw'n ymosodiad gwleidyddol iawn ar gyflawniad Llywodraeth Geidwadol y DU mewn perthynas â chynhyrchu dur, ond a gawn ni edrych ar gyflawniad y Blaid Lafur y tro diwethaf iddi fod mewn grym? Rwy'n gwybod eich bod chi'n rhan o'r Llywodraeth honno, Huw. O dan y Blaid Lafur, gostyngodd cynhyrchiant dur bron i 50 y cant rhwng 1997 a 2010; o gymharu â 1997, hanner y nifer o bobl a weithiai ynddo yn 2010. A'r holl amser y bu Ed Miliband—efallai y byddwch chi'n ei gofio—yn arweinydd y Blaid Lafur, ni soniodd unwaith am ddur ar lawr y Senedd. Mae gan y Blaid Lafur hanes affwysol mewn perthynas â dur yn y DU ac mae'n bryd i'ch sylwadau adlewyrchu hynny.

Mae'r Llywodraeth Geidwadol bellach yn cau'r drysau'n llwyr ar gynhyrchiant dur sylfaenol, a dyna'r realiti caled. Nid fydd unrhyw eiriau rhamantus am y diwydiant dur yn gwneud iawn am hynny. Mae dewis gwleidyddol yn cael ei wneud gan Lywodraeth Geidwadol y DU—ei Lywodraeth ef—yr eiliad hon.

Rydym wedi cael £500 miliwn yn gyfnewid am golli miloedd o swyddi. Maent yn dweud wrthym 'Byddwch yn ddiolchgar am drugareddau bach'. 'Derbyniwch y boen' unwaith eto. Ond mae yna ffordd ymlaen sy'n wahanol ac yn well, pe bai Llywodraeth y DU, neu Lywodraeth wahanol yn y DU yn dewis y trywydd hwnnw; mae yna ddewis gwleidyddol gwahanol. Y dewis yw buddsoddi mewn cynhyrchiant dur sylfaenol gwyrdd. Fe'i cyflwynir yn y cynlluniau aml-undeb amgen a gefnogir gan yr undebau dur, Community, Unite a'r GMB. Byddai hyn yn diogelu dyfodol cynhyrchiant dur Port Talbot, yn diogelu capasiti cynhyrchu a dyfodol yr holl weithfeydd ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi, y mae'n rhaid sôn amdanynt hefyd, ac osgoi unrhyw ddiswyddiadau gorfodol. Mae'r cwmni wedi cydnabod ei fod yn cynnig strategaeth amgen gredadwy ar gyfer datgarboneiddio dur, ond mae angen i Lywodraeth y DU gamu i'r adwy gyda chefnogaeth i'r cynllun hwn—Llywodraeth y DU sy'n credu yn yr angen i gynhyrchu dur sylfaenol fel mater o ddiogelwch sofran, yn ogystal â phwysigrwydd economaidd. Llywodraeth sy'n credu ac yn buddsoddi mewn strategaeth ddiwydiannol weithredol. Gyda llaw, mae Llywodraethau'r Almaen, Ffrainc a Sbaen i gyd yn ymrwymo biliynau i sicrhau dyfodol y diwydiant dur strategol bwysig hwn.

Mae'r Blaid Lafur wedi ymrwymo £3 biliwn yn y gronfa dur gwyrdd, ac wedi ymrwymo i'w ddefnyddio i gefnogi pontio teg yn Tata Steel. Mae Tata, er clod iddynt, wedi aros, er gwaethaf anawsterau, gyda chynhyrchu dur a chyda Phort Talbot, tan nawr, ond maent bellach yn siarad â'r unig Lywodraeth ar lefel y DU, y Llywodraeth Geidwadol, sy'n chwilio am yr opsiwn rhataf, nid y gorau. Felly, dywedaf wrth Tata, fel y dywedodd David, fy nghyd-Aelod, 'Arhoswch; oherwydd mae cynllun arall ar y bwrdd. Ni fydd y gweithwyr dur yn ildio ein dur sofran yn hawdd ac mae yna Lywodraeth arall ar y ffordd. Arhoswch; siaradwch gyda'r undebau, siaradwch gyda'r Blaid Lafur, cynlluniwch ar gyfer dyfodol gwell a phontio teg i Bort Talbot ac i ddur Cymreig a Phrydeinig. Gadewch inni beidio ag allforio ein swyddi a'n hallyriadau carbon dramor.'

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hynod bwysig hon fel Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

Ni ellir tanamcangyfrif yr effaith y bydd cyhoeddiad Tata yn ei chael ar y gweithwyr a'r gymuned ym Mhort Talbot, ond hefyd ar safleoedd Tata ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi yn Llan-wern a Throstre a'r gadwyn gyflenwi ehangach. Fel y dywedwyd eisoes, mae cynhyrchu dur wedi bod yn anadl einioes y gymuned ym Mhort Talbot ers degawdau lawer; fodd bynnag, mae effaith y gwaith dur yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r dref. Mae Tata yn gawr economaidd yng Nghymru, ac ar hyn o bryd mae'n ffurfio 3 y cant o allbwn economaidd Cymru. Mae'r swyddi yn eu gweithfeydd yn rhai medrus iawn ac yn talu'n dda, ac effaith ganlyniadol y cynhyrchiant dur yw ei fod yn cefnogi miloedd o bobl a llawer o fusnesau lleol.

Ddoe, cyfeiriodd y Gweinidog at yr Athro David Worsley o Brifysgol Abertawe, sydd wedi dweud bod o leiaf dair swydd ychwanegol yn dibynnu ar bob swydd uniongyrchol yn y gwaith dur, ac yn ôl rhai cyfrifiadau, gallai fod hyd at bump. Ac felly mae goblygiadau enfawr yn sgil cyhoeddiad Tata i'r diwydiant dur cyfan, economi ehangach Cymru a chynhyrchiant dur yn y DU. Felly, yn gyntaf, rwyf eisiau ailadrodd bod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn unedig yn ein cefnogaeth i'r gweithwyr y mae'r cyhoeddiad hwn yn effeithio arnynt ac rydym yn meddwl amdanynt yn y cyfnod anodd iawn hwn.

Y llynedd, clywodd y pwyllgor gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU ei phecyn cymorth gwerth £500 miliwn i Tata Steel ar gyfer datgarboneiddio a newid i gynhyrchiant ffwrnais arc trydan. Clywodd y pwyllgor hefyd gan yr undebau am yr effeithiau posibl y byddai'r colli swyddi a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn eu cael, ac am y dewisiadau amgen a argymhellir ganddynt. Ac mewn ymateb i'r cyhoeddiadau yr wythnos diwethaf, mae'r pwyllgor bellach wedi galw ar Weinidogion yma yng Nghymru a San Steffan i gyfarfod â ni eto fel mater o frys i edrych ar beth arall y gellir ei wneud i geisio sicrhau pontio tecach—pontio sy'n achub swyddi yng Nghymru ac yn diogelu ein lles cenedlaethol. [Torri ar draws.] Rwy'n ildio i'r Aelod dros Aberafan.

Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. A gaf fi ofyn i chi a wnaethoch chi ofyn i Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn y pwyllgor a oedd unrhyw amodau yn gysylltiedig â'r cytundeb? Ac os na ofynnoch chi hynny, a wnewch chi ei ofyn y tro nesaf y daw?

16:15

Wel, hoffwn eich sicrhau chi fel pwyllgor y byddwn yn craffu ar y mater hwn gymaint ag y gallwn, a byddwn yn sicr yn gofyn y cwestiynau hynny. Wrth gwrs, bydd y pwyllgor yn parhau i ymgysylltu â Tata Steel, ac mae uwch-swyddogion gweithredol wedi cadarnhau y byddant yn ymgysylltu â'r pwyllgor ac yn ateb cwestiynau ar eu cynlluniau hefyd, ac rwy'n ddiolchgar i Weinidog yr Economi am gytuno i ymddangos gerbron y pwyllgor eto mewn perthynas â'r mater hollbwysig hwn, ac mae'n gadarnhaol clywed ei fod wedi gallu sicrhau cyfarfod gyda'r Gweinidog Ghani i drafod dyfodol dur Cymru.

Nawr, fel y gŵyr yr Aelodau, gwaith dur Port Talbot yw'r allyrrydd carbon mwyaf yn y wlad, a chredaf fod pob Aelod yn cytuno bod angen i gynhyrchiant dur fod yn wyrddach yn y dyfodol, ond y peth pwysig yw bod pontio teg yn digwydd sy'n sicrhau bod capasiti cynhyrchiant dur crai yn parhau yng Nghymru, ac yn y DU yn wir. Ni all Cymru fforddio colli'r sgiliau sy'n hanfodol i ddarparu economi werdd yn y dyfodol na gweld niwed anadferadwy i'r cymunedau sydd wedi bod yn ddibynnol ar gynhyrchiant dur ers cymaint o amser. Mae hyn yn arbennig o wir am brentisiaid, sy'n dysgu sgiliau i gefnogi ein dyfodol gwyrdd, ac mae'r ansicrwydd sy'n eu hwynebu nhw ar hyn o bryd yn dorcalonnus. Rhaid gwneud datblygiadau i gadw ac ailgyfeirio'r capasiti sgiliau hwnnw ar gyfer swyddi'r dyfodol. Nawr, mae'r angen am ddeialog adeiladol ar bob ochr yn hanfodol i hyn, ac mae'n rhaid cael ymgysylltiad ystyrlon rhwng Tata Steel, Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, yr undebau, ac yn bwysicach, y gweithlu. Mae'n hollbwysig fod pob llwybr yn cael ei archwilio'n llawn i liniaru canlyniadau gwaethaf posibl y datganiad yr wythnos diwethaf.

Lywydd, mae'r pwyllgor yn awyddus i chwarae pa bynnag ran y gall i sicrhau bod y mater hwn yn cael ei graffu'n llawn a bod y pwyllgor yn cael yr atebion y mae'r gweithwyr dur, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach yn eu haeddu. Mae'n gwbl hanfodol fod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi'r gweithlu a'r gymuned ehangach, ac rwy'n gobeithio y bydd gan y bwrdd pontio rôl bwysig iawn wrth ddatblygu'r berthynas honno fel y gellir sicrhau pontio teg.

Rwy'n deall bod Gweinidog yr Economi yn un o is-gadeiryddion y bwrdd pontio, sydd eisoes wedi dechrau cyfarfod i ystyried sut y gellir cefnogi gweithwyr dur wrth symud tuag at waith datgarboneiddio ym Mhort Talbot. Fel sydd wedi'i ddweud eisoes, dyrannwyd £100 miliwn i'r gwaith pontio hwnnw hyd yma, ac wrth ymateb i'r ddadl efallai y gallai'r Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym am yr hyn y mae eisiau ei gael o waith y bwrdd pontio a sut y bydd yr arian hwnnw'n cael ei wario.

Wrth gwrs, fel y dywedodd y Gweinidog ddoe, nid oes unrhyw ganlyniadau wedi'u gwarantu, dim ond cyfres o gynigion, ac nid oes unrhyw beth yn hollol bendant mewn gwirionedd. Felly, nawr yw'r amser i gael sgyrsiau pwysig ynglŷn â sut y gall Tata sicrhau pontio teg i waith mwy gwyrdd mewn ffordd sy'n cefnogi gweithwyr ac yn cadw'r sgiliau hanfodol hynny.

Ac felly i gloi, Lywydd, gallaf sicrhau'r Aelodau y bydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn monitro'r datblygiadau yn agos iawn. Byddwn yn troi pob carreg wrth graffu ar Tata Steel a'r ddwy Lywodraeth ac yn gwneud popeth a allwn i helpu i sicrhau cyfnod pontio hwy a thecach i'r sector yng Nghymru am flynyddoedd i ddod. Diolch.

Rwyf am siarad yn fyr am effaith ehangach y penderfyniad gan Tata. Er nad oes unrhyw effaith uniongyrchol wedi'i nodi ar safle Llan-wern yn fy rhanbarth i o ganlyniad i'r penderfyniad i gau'r ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot, nid yw pethau'n edrych yn dda yn y tymor hir. Dywedodd Tata Steel y gallai tua 300 o swyddi gael eu colli yn Llan-wern ymhen tair blynedd o ganlyniad i'r ffaith y bydd yr asedau rholio oer yn cael eu cyfuno a'u had-drefnu ar ôl i fuddsoddiadau gael eu cwblhau ym Mhort Talbot. Mae'r newyddion am ddyfodol Port Talbot a safleoedd Tata eraill fel Llan-wern yn fy ngofidio'n fawr. Mae'r rhain yn swyddi sy'n talu'n dda na ellir dod o hyd i rai yn eu lle yn hawdd, felly bydd eu colli'n ergyd fawr.

Ar y diwrnod y cyhoeddwyd y newyddion ym Mhort Talbot, siaradais â chyn-weithiwr yng ngwaith dur Glyn Ebwy, a ddisgrifiodd effaith cau'r gwaith dur ar y dref ddau ddegawd yn ôl, a'r goblygiadau i'r gadwyn gyflenwi helaeth. Dywedodd nad oedd y swyddi a gollwyd yn y gwaith dur, er yn ddinistriol, ond yn adrodd rhan o'r stori. Collwyd llawer mwy o swyddi yn y gadwyn gyflenwi, ac roedd yr effaith ganlyniadol ar ganol y dref yn drychinebus. Dyna fy mhryder i ar gyfer Port Talbot. Dyna fy mhryder i ar gyfer Casnewydd, os bydd swyddi'n cael eu colli yn Llan-wern ymhen tair blynedd. Dyna pam mae angen i ni sicrhau bod popeth ar y bwrdd nawr o ran achub ein swyddi ac achub ein cymunedau. Diolch yn fawr.

16:20

Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cytuno yn y Senedd, yn drawsbleidiol, fod angen i'r DU gynhyrchu ei dur ei hun, fel y dywed Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a hynny am gymaint o resymau: diogelwch mynediad at gynnyrch yn hytrach na dibynnu ar y farchnad; mewnforio dur o bob cwr o'r byd mewn cychod, sy'n ychwanegu mwy o garbon, a hwnnw'n ddur sydd wedi'i greu mewn ffordd lai amgylcheddol gynaliadwy, o bosibl.

Roeddwn i'n siomedig ynghylch camwybodaeth sy'n cael ei rhannu eto ei fod yn ymwneud â'r strategaeth ynni gwyrdd a sero net, ac nid yw hynny'n wir. Rydym angen cynhyrchu dur crai yma i wneud tyrbinau gwynt. Rydym i gyd yn cefnogi'r newid i ffwrneisi arc fel proses ychwanegol i allu ailgylchu ac ail-greu dur, ond dylai fod yn drosiannol. Nid wyf yn credu bod arc trydan wedi cael caniatâd cynllunio eto, ac mae'n bosibl y bydd pedair neu bum mlynedd yn mynd heibio cyn hynny. Bydd miloedd o swyddi'n cael eu colli. Mae llawer o'r swyddi hyn yn fedrus iawn, yn talu'n dda, ac yn anodd cael rhai cystal yn eu lle. Bydd eu colli'n gwneud pethau'n anodd am flynyddoedd lawer i ddod, ac mae creithiau'r 1980au a Thatcher yn dal i'w gweld yng Nghymru.

Mae'n rhaid inni edrych ar realiti'r sefyllfa. Bydd bywydau'n cael eu dinistrio, bydd cymunedau'n cael eu dinistrio, ac rydym yn sôn am bobl, eu bywoliaeth, eu ffordd o fyw—wedi'u dinistrio, wedi diflannu. Mae angen inni fesur yr effaith ar iechyd, lles, teuluoedd, plant a gorbryder. Pa ystyriaeth sy'n cael ei roi i hynny? Pa asesiad effaith? Ddoe ddiwethaf roeddem yn trafod tlodi plant cynyddol yng Nghymru. Mae gwasanaethau cyhoeddus a fyddai fel arfer yn camu i'r adwy ac yn estyn cymorth yn cael trafferth oherwydd cyni a phwysau chwyddiant. Mae budd-daliadau lles wedi bod dan ymosodiad ers blynyddoedd. Mae'n cymryd pum wythnos i gredyd cynhwysol ddod drwodd.

Dywedodd Llywodraeth Geidwadol y DU ei bod yn buddsoddi £0.5 biliwn, ond nid yw hyn yn ddigon. Maent yn buddsoddi £20 biliwn ar gyfer dal a storio carbon—technoleg sydd ymhell ar ei hôl hi. Nid yw wedi'i ddatblygu'n iawn eto. Mae technoleg newydd well yn cael ei chyflwyno drwy'r amser, o droi carbon deuocsid yn belenni i adfer priddoedd a chynyddu cnydau, i ddefnyddio carbon deuocsid mewn eplesu manwl i greu bwyd. Mae datrysiadau technolegol blaengar sy'n cael eu datblygu'n gyson yn bygwth gwneud prosiect mawr a drud fel HyNet yn ddarfodedig cyn iddo ddechrau hyd yn oed. Mae'n codi llawer o gwestiynau ynghylch gosod pibellau o dan y ddaear a storio ar y môr yng ngogledd Cymru a thaliadau gwyrddgalchu.

Felly, rwy'n galw ar Lywodraeth y DU i bwyso a mesur, symud y buddsoddiad i ble mae ei angen ar unwaith nawr i achub cymunedau, i achub pobl. Ni allwn feddwl am wneud fel arall. Diolch.

Fel y dywedais ddoe, cafodd y cyhoeddiad ddydd Gwener ei ystyried yn eang fel ergyd drom i Bort Talbot a fy rhanbarth ehangach. Rwy'n cydymdeimlo â'r gweithwyr dur a'r is-gontractwyr sy'n wynebu colli eu swyddi dros y misoedd nesaf.

Er bod llawer o feirniadaeth wedi bod o'r cytundeb a gafodd ei wneud gyda Llywodraeth y DU, gadewch inni fod yn realistig—mae'n well na dim cytundeb o gwbl. Heb fuddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth y DU, gallem fod yn trafod cau gwaith dur Port Talbot. Mae'r senario gwaethaf hwn yn bosibilrwydd gwirioneddol, ac mae'r ffaith bod Plaid Cymru yn sôn am wladoli a streicio yn ei wneud yn fwy posibl fyth. A wyf i'n meddwl bod y cynllun achub yn berffaith? Nac ydw. Mae'n bell o fod. Er fy mod yn derbyn yr angen i newid i gynhyrchiant dur sy'n lanach, yn wyrddach, nid wyf yn derbyn bod yn rhaid inni weithredu'r dull ymyl clogwyn hwn. Hoffwn weld pontio teg sy'n gwneud y mwyaf o swyddi yn y ffatri a fyddai'n golygu bod ffwrnais chwyth 5 yn parhau i fod yn weithredol nes iddi gyrraedd diwedd ei hoes.

Gwn fod Tata wedi comisiynu astudiaethau peirianneg annibynnol o'r cynigion a gyflwynwyd gan yr undeb, astudiaethau a ddaeth i'r casgliad nad oedd yn ymarferol parhau gyda chynhyrchiant ffwrnais chwyth wrth adeiladu'r ffwrnais arc trydan newydd oherwydd y gost a'r risgiau cysylltiedig. Wel, rwy'n siŵr y gallwn ddod o hyd i ffordd ymlaen gyda'n gilydd sy'n gwneud y mwyaf o gynhyrchiant ac yn lleihau nifer y swyddi a gollir. Weinidog, mae'n ymddangos fod y mater pwysicaf yn ymwneud â'r ffyrnau golosg a'r ffaith na ellir gwneud gwaith ar y ffwrnais arc yn ddiogel tra'u bod yn weithredol. Byddai hyn yn golygu y byddai'n rhaid i'r safle ddibynnu ar olosg wedi'i fewnforio i barhau â gwaith ffwrneisi chwyth. Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud—[Torri ar draws]. Gwnaf.

16:25

Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad, ac rwy'n gwrando arnoch chi yma'n ofalus iawn, ond rwyf am ddweud hyn: mae golosg wedi'i fewnforio nawr. Nid dim ond golosg o'r ffyrnau golosg y maent yn ei ddefnyddio mewn gwirionedd; maent yn ei fewnforio nawr, felly gallant ddal ati, fel y maent, heb y ffyrnau golosg hynny, ar gyfer un ffwrnais chwyth. Gall ffwrnais rhif 4 barhau i weithredu. Fe'i hadeiladwyd yn 2014; mae digon o fywyd ar ôl ynddi.

Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau y gall Port Talbot fewnforio golosg mewn ffordd sydd yr un mor syml â'i gynhyrchu ar y safle? Mae'n rhaid inni dderbyn mai ateb dros dro yn unig yw cadw ffwrnais chwyth 5 nes bod y ffwrnais arc yn weithredol. Mae ffwrnais chwyth 5 ar fin cyrraedd diwedd ei hoes, a bydd yn rhaid iddi gau mewn ychydig bach o flynyddoedd.

Byddai'r undebau eisiau i ni gredu ein bod yn gallu parhau i wneud dur crai ym Mhort Talbot, a hyd yn oed cynhyrchu dwywaith cymaint drwy newid i gynhyrchiant haearn wedi'i bweru'n uniongyrchol gan hydrogen. Er bod y dechnoleg hon yn addawol, mae blynyddoedd lawer hyd nes y daw'n fasnachol hyfyw. Y pethau agosaf sydd gennym at fod yn barod i gynhyrchu yw'r dechnoleg hydrogen arloesol o Sweden ar gyfer gwneud haearn, neu HYBRIT, cyd-weithrediad rhwng cynhyrchydd y wladwriaeth SSAB, cwmni mwyngloddio LKAB a Vattenfall. Maent yn rhagweld y bydd yn fasnachol hyfyw erbyn diwedd y degawd. Mae'n amlwg nad yw Tata yn barod i fentro buddsoddi yn y dechnoleg hon sydd heb ei phrofi, a'u bod wedi ymrwymo i'r llwybr ailgylchu dur. Y DU sy'n allforio fwyaf o ddur sgrap, felly o safbwynt amgylcheddol, mae'n gwneud synnwyr i ddilyn y trywydd hwn. Efallai nad yw gwneud haearn yn seiliedig ar hydrogen yn apelio at Tata, ond nid oes unrhyw beth yn atal Llywodraeth Cymru a'r prifysgolion rhag buddsoddi mewn datblygu'r dechnoleg a sgil-gynhyrchu eu cynhyrchiant dur gwyrdd eu hunain. Pa bynnag drywydd y byddwn yn ei ddilyn, mae angen cynllun credadwy arnom, a bydd hwnnw'n ei gwneud yn ofynnol i bawb gydweithio i sicrhau dyfodol dur Cymru, gan ddod o hyd i atebion yn hytrach na gweld bai. Diolch yn fawr.

Ddoe fe wneuthum gadeirio cyfarfod bwrdd crwn sero net yn y Senedd lle buom yn trafod y camau sydd eu hangen i gyflawni uchelgeisiau sero net Cymru, a gwnaed y pwynt, ac fe gafodd ei wneud yn bwerus, fod angen dur ar lawer o'r technolegau sy'n angenrheidiol er mwyn cyflawni sero net. Os mai dim ond ffwrnais nad yw ond yn gallu cynhyrchu dur wedi'i ailgylchu a fydd gennym yn y pen draw, mae'r pwynt wedi'i wneud na fyddwn yn gallu defnyddio honno ar gyfer adeiladu pethau fel tyrbinau gwynt—yr holl gynhyrchion gwahanol hyn sydd mor angenrheidiol ar gyfer y dyfodol sero net y mae pawb ohonom yn cytuno bod angen i ni ei gyrraedd. Sut y gallai unrhyw un feddwl y gallem wneud hyn nawr heb allforio ein llygredd i fannau eraill? Ble mae ein strategaeth ar gyfer dur carbon isel ar gyfer ein heconomi carbon isel yn y dyfodol? Ni allwn gael gwared ar ein hallyriadau drwy gau ein diwydiant a dinistrio ein cymunedau. Nawr, rwy'n deall rhwystredigaeth Llywodraeth Cymru eu bod, i raddau helaeth yma, wedi eu cau allan o wneud penderfyniadau ar y mater hwn, yn union fel y gweithwyr yn y dyddiau a fu, a gâi eu cau allan gan y perchnogion dur mawr yn y chwyldro diwydiannol, ond mae'n rhaid iddynt fynnu bod gweithredu'n digwydd.

Nawr, onid yw'n eironig fod y gweithwyr a aeth i Lundain ddoe i fynnu gweld y gweithredu hwnnw'n digwydd wedi mynd yno ar draciau trên a gafodd eu gwneud yma yng Nghymru yn ôl pob tebyg? A beth sy'n digwydd pan na allwn ddarparu'r traciau hynny? Mae'n rhaid inni ofyn a allwn fforddio colli'r gallu i gynhyrchu dur crai yn y DU. Ni fyddwn yn gallu symud tuag at sero net hebddo. Nid adnodd moethus yw hwn. Os collwn reolaeth drosto, y cyfan y bydd yn ei olygu yw y bydd yn rhaid inni fewnforio dur mwy budr am brisiau gormodol gan gwmnïau fel Tata mewn lleoedd gydag amodau gwaith gwaeth, gan gyfrannu drwy'r amser at fewnforio allyriadau. Mae'n llawer glanach, yn fwy effeithlon ac yn fwy rhesymegol i'w gynhyrchu yma.

Mae angen i Bort Talbot fod yn gwbl weithredol ar gyfer dyfodol Cymru, a dywedodd fy nghyfaill Liz Saville Roberts ddoe yn Nhŷ'r Cyffredin, ac mae fy nghyd-Aelod yma, Sioned, wedi gwneud y pwynt hefyd: os gall y Llywodraeth Geidwadol gymryd meddiant ar y banciau pan fo'r marchnadoedd yn methu, pam ddim dur? Mae rhagrith ym mhenderfyniad Tata i ddod â gwaith yng Nghymru i ben ar sail pontio gwyrdd tra bo'n parhau i allforio dur a weithgynhyrchir gan ffwrnais chwyth o safleoedd nad ydynt yn wyrdd yn India a'r Iseldiroedd. Nid yw'r penderfyniad hwn yn ymwneud â sero net; mae'n ymwneud â gwleidyddiaeth ac arian, ac nid oedd Rishi Sunak yn gallu codi'r ffôn. Ni allai ddod o hyd i amser i siarad â Phrif Weinidog Cymru am y miloedd o swyddi sydd mewn perygl. Nid oedd yn credu ei bod yn werth ei amser i siarad ag ef. Am sarhad ar bobl Port Talbot. Am sarhad ar bobl Cymru. Bydd teuluoedd cyfan yn poeni'n arw am yr hyn y bydd y 12 mis nesaf yn ei olygu iddynt. Ni fydd busnesau lleol yn gwybod lle i droi am sicrwydd. Nid problem i Bort Talbot yn unig yw hon, mae'n effeithio ar fwy na'r un dref honno'n unig neu'r un diwydiant hwn. Bydd canlyniadau difrifol i esgeulustod Tata tuag at ei weithlu, ac ni allai Rishi Sunak godi'r ffôn. Mae hynny'n dweud popeth sydd angen i chi ei wybod am yr hyn y mae San Steffan yn ei feddwl ohonom.

Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn credu y gallwn wneud yn well. Byddwn yn parhau i frwydro dros bobl Port Talbot, dros weithwyr dur ledled Cymru ac yn brwydro i sicrhau na chaiff cymunedau eu taflu ar y domen. Rydym wedi bod yma o'r blaen yng Nghymru. Mae'r stori am gefnu ar weithwyr yn un gyfarwydd iawn i ni, fel y mae'r un am Lywodraeth esgeulus, greulon a dideimlad yn San Steffan. Mae'n stori na allwn ganiatáu iddi gael ei hailadrodd. Dylai bywydau pobl olygu mwy na hyn.

16:30

Rydym wedi clywed cyfraniadau pwerus iawn eisoes heddiw, onid ydym, ar effeithiau’r cyhoeddiad gan Tata a dull gweithredu Llywodraeth y DU. Roeddwn yn credu bod fy nghyd-Aelod, David Rees, wedi siarad yn hynod o bwerus ar ran y gweithwyr dur ym Mhort Talbot, yr holl fusnesau eraill sy'n dibynnu ar y gwaith, a’r gymuned leol. Roeddwn yn falch iawn hefyd fod David wedi disgrifio’r sefyllfa ledled Cymru gyfan, gan gynnwys Llan-wern yn Nwyrain Casnewydd, oherwydd yn amlwg, mae Port Talbot yn llygad y ddrycin, ond mae'r goblygiadau'n lledaenu i bob rhan o'n gwlad, fel y dywedodd Delyth Jewell hefyd, a llawer o bobl eraill.

Yr hyn sy'n fy nharo, Lywydd, pan fyddwch yn siarad â phobl, yw nad y gweithwyr dur a'u cymunedau yn unig sy'n deall y ddadl fod angen diwydiant dur ar y DU, am y rhesymau y mae Aelodau eraill, gan gynnwys Huw Irranca, wedi'u nodi. Mae mor amlwg i gynifer o bobl, yn yr oes fodern hon, gyda’r holl ansicrwydd, gyda’r holl ryfeloedd a gwrthdaro, fod yn rhaid i wlad sydd o ddifrif am gael economi gref a gofalu am ei phobl fod â diwydiant dur ffyniannus, gan gynnwys cynhyrchiant dur sylfaenol. Mae mor bwysig ar gyfer amddiffyn, gweithgynhyrchu, seilwaith, adeiladu, ynni adnewyddadwy. Nid yw'n ymwneud â'r gorffennol; mae'n ymwneud â'r presennol a'r dyfodol. A gwyddom y gall y dyfodol hwnnw fod yn ddyfodol dur gwyrdd, a dyna pam fy mod mor ddiolchgar i adroddiad aml-undeb Syndex sy'n nodi nid yn unig pa mor bwysig yw cyrraedd y dyfodol dur gwyrdd, ond sut rydym yn cyrraedd yno. Maent wedi gwneud peth o'r gwaith trwm, onid ydynt, drwy nodi sut y gellir cyflawni hynny, ac nad ydym yn gaeth i ddull gweithredu presennol Llywodraeth y DU a Tata.

Un o'r rhwystredigaethau enfawr yw amseru, ynte, y byddai'n wych, yn ogystal â'r adroddiad Syndex hwnnw, pe bai gennym Lywodraeth Lafur y DU sydd wedi ymrwymo i ddarparu'r math o fuddsoddiad a fydd yn helpu i sicrhau dyfodol sy'n diogelu ein swyddi, ein cymunedau, ein dyfodol economaidd. Ond rydym yn y sefyllfa rydym ynddi. Mater i Lywodraeth Dorïaidd y DU yw pryd y cynhelir etholiad cyffredinol nesaf y DU, a gallai fod blwyddyn tan hynny. Mae ceisio pontio'r bwlch hwnnw'n hynod o rwystredig ac yn anhygoel o anodd. A phan welwn ein heconomïau cystadleuol, fel y clywsom eisoes, yn buddsoddi ar raddfa sy'n angenrheidiol i ddiogelu eu heconomïau a'u pobl, a chan wybod y gallem ac y dylem ninnau wneud yr un peth, ond cawn ein rhwystro gan ymagwedd Llywodraeth Dorïaidd bresennol y DU—.

A’r peth arall rwy’n clywed llawer ohono gan bobl y credaf ei fod mor bwerus a phwysig—rwy’n ei glywed yng Nghasnewydd, sy’n dal i fod yn dref, yn ddinas, sy’n gwerthfawrogi ei threftadaeth ddur a’i swyddi dur presennol yn fawr, y cannoedd o swyddi sy'n talu'n dda rydym am eu diogelu ar gyfer y dyfodol, a'r holl wariant a chyflenwyr yn yr economi leol sy'n dibynnu ar y diwydiant—. Mae pobl yng Nghasnewydd yn deall hyn oll, Lywydd, a'r hyn a ddywedant wrthyf yw, 'Oni allwn ddysgu'r gwersi o'r diwydiant glo, er enghraifft?' Nid oedd cymunedau'n cyfrif i'r Torïaid. Nid oedd swyddi'n cyfrif i'r Torïaid. Cyfnod pontio amserol a oedd yn diogelu pobl ar gyfer y dyfodol a ffordd drwodd at amseroedd gwell—nid oedd dim o hynny’n cyfrif i’r Torïaid bryd hynny, ac nid yw’n cyfrif iddynt nawr. Ac yng Nghasnewydd, mae gennym enghraifft gwaith dur Orb yn cynhyrchu dur trydan. Dadleuwyd ar y pryd: 'Mae angen y dur trydan hwnnw arnom ar gyfer y DU ar gyfer y diwydiant ceir trydan, ar gyfer y sector ynni adnewyddadwy.' Ni chafodd mo'i dderbyn, ni chafodd mo'i ddeall gan y Torïaid yn Llywodraeth y DU, a bellach, mae pawb bron yn galaru am golli gwaith dur Orb nid yn unig ar gyfer Casnewydd a’r cyffiniau, ond y DU gyfan.

Lywydd, gadewch inni ddysgu'r gwersi hynny. Mae'n rhaid i Dorïaid y DU ailfeddwl. Edrychwch eto ar adroddiad Syndex a gwnewch y penderfyniadau sydd eu hangen ar Bort Talbot, Llan-wern a chymunedau dur ledled Cymru ar gyfer ein dyfodol.

16:35

Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, a hoffwn gofnodi fy mod yn cydymdeimlo â’r gweithwyr ym Mhort Talbot yr effeithiwyd arnynt gan y newyddion am gau’r ffwrneisi chwyth. Fel Aelod dros ogledd Cymru, nid yw gwaith dur Shotton yn rhy bell o fy etholaeth ac mae’n dal i gyflogi dros 700 o bobl. Felly, buaswn yn falch pe gallai’r Gweinidog, wrth ymateb i’r ddadl heddiw, roi sylw i ran gogledd Cymru yn hyn o beth, a beth mae hynny’n ei olygu, a pha drafodaethau y byddwch yn eu cael gyda Llywodraeth y DU a Tata Steel i edrych ar y rhagolygon ar gyfer pobl yng ngogledd-ddwyrain Cymru o ganlyniad i'r newyddion hyn o Bort Talbot.

Roeddwn yn disgwyl yr ymosodiadau rhagweladwy ar Lywodraeth y DU gan wleidyddion Llafur a Phlaid Cymru dros y pum niwrnod diwethaf sydd wedi gwleidyddoli’r mater yn fwriadol lle nad oedd unrhyw reswm na budd i hynny. Tra bo Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi bod yn beirniadu o’r cyrion, heb gyfrannu unrhyw beth yn ariannol i’r bwrdd pontio, mae Llywodraeth y DU wedi arwain y ffordd drwy fuddsoddi £500 miliwn yn y diwydiant, £100 miliwn mewn ailhyfforddi a chefnogi gweithwyr yr effeithir arnynt, ac uchelgais hirdymor i fuddsoddi mewn porthladd rhydd Celtaidd gyda photensial enfawr i bobl de-orllewin Cymru.

Mae'r ddadl wan a simsan hon nad yw Prif Weinidog y DU wedi siarad â'r Prif Weinidog yn annheg. Mae gennych rif ffôn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a gallech ei ffonio unrhyw bryd, ond nid ydych wedi gwneud hynny yn ôl yr hyn a ddeallaf. Mae'n aelod o'r cabinet gyda chyfrifoldeb uniongyrchol dros Gymru. Faint yn uwch y gallech ofyn amdano? Dyna'r pwynt gwleidyddol—[Torri ar draws.] Dyna'r pwynt gwleidyddol. [Torri ar draws.] Braf gweld bod Plaid Cymru yn credu bod y mater hwn yn un doniol. Nid wyf fi—nid wyf fi, yn anffodus. Dyna bwynt gwleidyddol fy nghyfraniad, ond fel cenedl—[Torri ar draws.] Na wnaf, Hefin, na. Gan ichi fod yn trydar anwireddau amdanaf ddoe, nid wyf am roi'r pleser i chi.

Ac yng Nghymru, a Phrydain yn wir, mae gennym hanes diwydiannol cyfoethog sy'n dyddio'n ôl ganrifoedd lawer, hanes sydd wedi ei erydu ac sy'n parhau i gael ei erydu gan economeg fyd-eang. Ar un adeg, roedd bron bob dinas a thref fawr ym Mhrydain yn cael ei hadnabod yn ôl y cynnyrch roeddent yn ei greu—adeiladu llongau yn Glasgow, crochendai yn Stoke-on-Trent, mwyngloddio a chynhyrchu dur yn ne Cymru a Swydd Efrog, i enwi rhai yn unig. Ac mae gennyf ddiddordeb mewn ceir, ac yn ddiweddar, bûm yn ailymgyfarwyddo â hanes gweithgynhyrchu ceir ym Mhrydain, diwydiant a oedd yn dibynnu ar ddur Prydain.

Ar y ffordd i'r Senedd yn ddiweddar, euthum heibio i safle Longbridge ger Birmingham, gan ei fod bum munud yn unig oddi ar yr M5, ac yn anffodus, nid oes llawer i'w weld yno y dyddiau hyn, gan mai tai yn bennaf sydd ar lawer ohono erbyn hyn. Dim ond cwmni o Tsieina, MG Motors, sy'n ei ddefnyddio bellach, ar gyfer ymchwil a datblygu, ond roedd unwaith yn gartref i un o'r ffatrïoedd ceir mwyaf yn y byd, ac ar ei anterth, cyflogai 25,000 o bobl ac roedd yn gyfrifol am weithgynhyrchu hen frandiau ceir adnabyddus fel MG, Austin, Rover, Mini, Metro, Maestro ac ati—mae'n siŵr fod pob un ohonoch yn eu cofio.

Ond yn anffodus, daeth y cynhyrchu i ben yn 2005, ac aeth y brandiau ceir adnabyddus yn rhan o hanes. Yr unig gar sydd wedi goroesi yw’r Mini, sydd bellach yn eiddo i BMW, ac ers tro y si oedd mai’r unig reswm pam y prynodd BMW Rover ym 1994 oedd am eu bod am ailddatblygu’r Mini ar ffurf y model a welwn heddiw. Yr elfen wleidyddol yn hyn yw’r penderfyniad annirnadwy bellach a wnaeth y Llywodraeth Lafur i brynu British Leyland, fel y'i gelwid ar y pryd, a’i wladoli i bob pwrpas, gan wneud y cwmni’n ddarostyngedig i ddylanwad undebol a streiciau llethol yn ystod y 1970au a’r 1980au, ac i raddau helaeth hefyd, dyna sy'n cael y bai am ei dranc yn y pen draw, flynyddoedd yn ddiweddarach. Mae busnesau a marchnadoedd modern bellach yn pennu fel arall, ac roedd y brandiau ceir hyn yn aml yn annibynadwy o ran eu perfformiad, ac roedd ganddynt lawer o ddiffygion. Ond ein heiddo ni oeddent, a gallem ddweud y geiriau nad oes iddynt fawr o ddefnydd erbyn hyn, 'gwnaed ym Mhrydain'.

Er y gallai rhai ystyried bod hynny'n gwyro oddi ar y pwnc, fel y noda’r Aelodau, mae’n tynnu sylw at ddirywiad generig gweithgynhyrchu ym Mhrydain, a Phort Talbot yw’r achos diweddaraf o hynny. [Torri ar draws.] Ie, David.

16:40

Diolch am dderbyn yr ymyriad. Mwynheais y wers hanes yn rhannol, ond a ydych yn cytuno â mi, ac fel yr amlygwyd gynnau fach, y bydd yna ddiwydiant ar gyfer y dyfodol—nid diwydiant yn y gorffennol, ond diwydiant yn y dyfodol—os ceir buddsoddiad priodol mewn dur gwyrdd a gwahanol ddulliau o ymdrin â dur gwyrdd, ac os na fydd y diwydiant yn wynebu ymyl clogwyn? Bydd gennym weithlu y gellir ei hyfforddi, bydd gennym le a all ei gymryd, mae gennym yr holl seilwaith yn ei le—mae'n ymwneud â Llywodraeth y DU yn dweud wrth Tata, 'Daliwch eich dŵr; gadewch inni wneud hyn yn iawn.'

Ie, rwy’n cytuno, ac mae Aelodau ar ein meinciau wedi sôn am hyn dros y dyddiau diwethaf, gan edrych ar bosibiliadau cyfnod pontio, ac ni allaf weld pam na ellid cyflawni hynny.

Ond dyna'r realiti ffeithiol, nad oes unrhyw blaid wleidyddol benodol nac unigolyn ar fai amdani, o reidrwydd—fel y soniais, economeg fyd-eang a ffactorau byd-eang. Mae'n ganlyniad trist i'r ffaith bod Prydain wedi dod yn genedl sy’n mewnforio, ffaith y gobeithiaf ei gweld yn cael ei gwrthdroi, yn enwedig gyda’r rhyddid newydd sydd gennym ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd gyda Brexit yn 2016. Mae gennym botensial enfawr ar gyfer cytundebau masnach ledled y byd, ac fel y dywedaf yn aml, mae’r byd yn fwy na’r Undeb Ewropeaidd yn unig. Diolch.

Lywydd, o ben arall Cymru, mae fy nghymuned yn sefyll mewn undod â phobl Port Talbot. Mae’n sefyll mewn undod â’r teuluoedd y mae David Rees wedi siarad o'u plaid unwaith eto yn y Senedd hon. Lywydd, rydym ninnau hefyd yn gymuned sydd wedi’i hadeiladu ar ddur. Mae llawer yng Nglannau Dyfrdwy yn byw gyda’r atgof o gau gwaith dur Shotton yn y 1980au, lle collwyd 6,500 o swyddi mewn un diwrnod. Lywydd, dysgodd y profiad hwn i lawer nad oes gan Lywodraeth Dorïaidd unrhyw ddealltwriaeth o sut beth yw pontio teg, unrhyw ddealltwriaeth o gymunedau dosbarth gweithiol—Llywodraeth nad yw'n malio, mewn gwirionedd, am gymunedau dosbarth gweithiol—. Clywais yr Aelod Ceidwadol dros Orllewin De Cymru yn sôn am hanes blaenorol y prynhawn yma, a dywedaf wrtho nad yw'r diswyddo diwydiannol mwyaf mewn un diwrnod yng ngorllewin Ewrop, yn sicr, iddo ef, yn rhywbeth i fod yn falch ohono. A’r hyn a welwn heddiw yw’r union beth a welodd llawer o bobl yn y 1980au, ac rwy'n croesawu ymrwymiadau fy mhlaid fy hun, ac adleisiaf y galwadau hynny i beidio â gwneud unrhyw beth na ellir ei wrthdroi heddiw, cyn etholiad cyffredinol.

Rwy’n erfyn ar swyddogion gweithredol Tata Steel i roi cyfle i gynllun buddsoddi Llafur. Lywydd, mae cyd-Aelodau eisoes wedi sôn ar y meinciau hyn am fy undebau fy hun, undeb Unite ac undeb Community, a'r ffordd y maent wedi gweithio’n agos gyda Keir Starmer a’i dîm, a sut maent wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a Gweinidog yr economi, Vaughan Gething. Mae'n hanfodol nawr, Lywydd, fod Tata a'u swyddogion gweithredol yn gwrando—yn gwrando, yn camu i'r adwy ac yn diogelu cynhyrchiant dur yn y Deyrnas Unedig.

Lywydd, mae gweithwyr yn fy nghymuned i yn Shotton Steel wedi cysylltu â mi, yn briodol bryderus am effaith cynllun Tata, a gefnogir gan y Torïaid, a’r effaith y gallai hynny ei chael ar eu swyddi eu hunain ac ar fywydau a chyfleoedd bywyd eu teuluoedd. Mae cysylltiad rhwng cynhyrchiant dur ar y ddau safle. Roeddwn yn ddiolchgar i’r Gweinidog am ei ymateb pan godais y mater pwysig ddoe, ac yn dilyn fy nhrafodaethau gyda chynrychiolwyr undeb Unite ac undeb Community yn Shotton, rwyf wedi galw droeon ar Gymru a’r DU i arwain y ffordd a datblygu dur carbon niwtral y dyfodol ar gyfer yr holl bethau a drafodwyd gennym y prynhawn yma, o dyrbinau gwynt i’r holl bethau eraill sydd o’n blaenau, a thechnolegau gwyrdd y dyfodol.

16:45

Yn ei araith, dywedodd Gareth Davies na allwch fynd yn uwch nag Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Wrth gwrs y gallwch. Gallwch gael sylw Prif Weinidog y DU. A fyddai’n cytuno ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth y DU yn rhoi sylw i hyn ar lefel brif weinidogol?

Credaf ei bod yn warthus nad yw Prif Weinidog y DU wedi mynd ati i geisio siarad â Phrif Weinidog Cymru, heb sôn am—

Nid wyf yn mynd i amddiffyn Prif Weinidog y DU am beidio â derbyn galwad y Prif Weinidog. Credaf y dylai fod wedi derbyn galwad y Prif Weinidog. Ond yn ôl yr un mesur, fe wnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru alwad ffôn i'r Prif Weinidog ddydd Gwener, ac ni chafwyd ymateb i'r alwad honno. A ydych chi'n condemnio hynny?

Af yn ôl at ymyriad Hefin, a dywedaf wrtho fy mod yn credu ei bod yn warthus nad yw Prif Weinidog y DU wedi gwneud ymdrech fwriadol—[Torri ar draws.] Rwy'n ateb Hefin David yn gyntaf—i siarad â Phrif Weinidog Cymru.

Ac rwyf am ddweud bod angen i bawb ddod at ei gilydd o amgylch y bwrdd i ddiogelu swyddi. Rwy'n dweud bod angen i bawb wneud hynny. Fe'i dywedaf wrthych chi, fe'i dywedaf wrth holl Aelodau’r Senedd hon, fe'i dywedaf wrth bob Aelod o Lywodraeth San Steffan. Oherwydd mae angen i hyn ddigwydd, onid oes, Lywydd? Ac mae angen ei wneud mewn ffordd sy'n diogelu swyddi, ond nid yn unig yn diogelu'r swyddi nawr, ond hefyd yn diogelu swyddi'r dyfodol, a thyfu diwydiant y dyfodol.

Roeddwn yn credu i lefarydd pwyllgor yr economi wneud araith dda iawn heddiw, ac rwy'n croesawu ymchwiliadau ei bwyllgor. Ond dywedaf wrth yr Aelodau Ceidwadol fod cynlluniau Tata, a gefnogir gan y Torïaid fel y maent ar hyn o bryd, yn anwybyddu’r cyfle i ddiogelu swyddi. Maent yn anwybyddu'r cyfle i dyfu'r diwydiant. Yr hyn y maent yn ei wneud yw cynllunio i ddiswyddo miloedd o bobl mewn argyfwng costau byw.

Gofynnaf iddynt ailfeddwl, ac rwy'n gobeithio y bydd y Senedd yn cefnogi hynny. Os ydynt mor hyderus ynghylch y cynlluniau y maent wedi'u cyflwyno a'u cefnogi, efallai y dylent eu profi ar raddfa ehangach gyda'r cyhoedd yn gyffredinol. Rhowch gyfle i weithwyr dur ddadlau eu hachos i’r cyhoedd. Galwch etholiad cyffredinol nawr. Diolch yn fawr.

Mae llawer o bobl wedi siarad yn huawdl am y dinistr sy’n digwydd pan fyddwch yn rhoi miloedd o bobl ar y dôl, yn enwedig David Rees wrth siarad dros ei gymuned ei hun ym Mhort Talbot. Ond rwy’n cofio adrodd ar y dinistr dur a ddigwyddodd yn y 1980au. Euthum i Shotton, a oedd ar y pryd yn dref brysur, a gweld yr hyn a oedd yn digwydd.

Yn wir, mae gennym hanes diwydiannol cyfoethog. Y drafferth yw ein bod wedi bod yn llawer rhy haerllug wrth geisio cynnal hynny. Nid ydym wedi moderneiddio ein heconomi ddiwydiannol. Rydym wedi cael ein llesteirio gan benderfyniadau tymor byr, sydd wedi cyflymu ein cwymp o fod yn economi weithgynhyrchu fwyaf blaenllaw y byd i fod yn ddarparwr gwasanaethau hunanfodlon a haerllug. Ac o ystyried yr holl heriau sy'n ein hwynebu o ganlyniad i'r argyfwng hinsawdd, nid yw hyn yn ddigon da.

Tom Giffard, fe sonioch chi am y cyfleoedd y mae porthladd rhydd yn eu cynnig. Pa ddyfodol fyddai i borthladd rhydd pe na bai dur i'w gael? Oherwydd dylem feddwl am glwstwr diwydiannol cyfan de Cymru fel pecyn o gardiau. Pe na bai gennym gynhyrchiant dur, ble fyddai clwstwr diwydiannol de Cymru? Ac rwy'n cymeradwyo Sioned yn llwyr am ddweud fod y banciau wedi cael eu hachub yn 2008, felly pam ar y ddaear nad ydym yn achub y diwydiant dur?

Amser cinio, manteisiodd llawer ohonom ar y cyfle i fynd i siarad â Wales & West Utilities am eu cynigion ar gyfer piblinell hydrogen o sir Benfro i Bort Talbot. Pam ei bod yn mynd i Bort Talbot? Am eu bod yn gwybod bod dur yn cael ei gynhyrchu yno, ac mae arnynt angen yr ynni y gellir ei ddarparu fel ateb gwyrdd amgen i gynhyrchu ynni newydd yn wyrdd. Ni fydd y biblinell hydrogen 130 km honno ar gael tan y 2030au cynnar, felly mae'n rhaid inni gael cynllun pontio priodol, ac yn anffodus, dyna sydd ar goll gan Lywodraeth y DU. Mae’n rhaid i ni—[Torri ar draws.] Altaf.

16:50

Pan oeddwn yma ddiwethaf, cyfarfûm â chyfarwyddwyr Tata, ac roeddent yn awyddus i gael cinio gyda mi. Daethant yma, a bu'n rhaid imi wneud hynny. Ar y pryd, un cwestiwn syml a ofynnais iddynt, oherwydd bryd hynny, roeddent yn dweud eto y byddai 8,000 o swyddi’n cael eu colli. Nid wyf yn gwybod, gyda Llywodraeth y DU, faint o arian y maent wedi’i ddarparu, a chyda Llywodraeth Cymru, faint y maent wedi’i roi iddynt. Un cwestiwn a ofynnais iddynt oedd, 'Beth ydych chi'n ei wneud o ran technoleg?' Ni chefais ateb. Roedd hynny yn 2015, ac o hynny ymlaen, nid ydynt wedi gwneud unrhyw beth i newid y dechnoleg, a dyna pam ein bod yn dioddef.

Ond credaf mai'r hyn sy'n digwydd yw bod Tata yn moderneiddio. Maent yn moderneiddio mewn mannau eraill—yn yr Iseldiroedd neu yn India—yn hytrach nag ym Mhort Talbot. Gan ei fod yn ddiwydiant mor strategol bwysig, mae'n hanfodol fod y DU yn datgan yr angen i gael diwydiant strategol fel dur.

Clwstwr diwydiannol de Cymru yw'r mwyaf ond un yn y DU, ar ôl Glannau Humber. Sut y gall oroesi gyda’r penderfyniad tymor byr gan Lywodraeth y DU i beidio â gwneud unrhyw beth i achub dur? A beth fydd yn ei olygu i'n targedau sero net? Sut ydym ni'n mynd i ddatgarboneiddio ein diwydiant dur yn fyd-eang? A ydym yn mynd i'w adael i wledydd eraill ei wneud? Mwy o'r haerllugrwydd hwnnw—mai cyfrifoldeb rhywun arall yw hyn.

Ymddengys bod Llywodraeth y DU o’r farn y gallwn ddadlwytho ein rhwymedigaethau sero net ar wledydd eraill. Fel y dywedwyd eisoes—gan Delyth, rwy'n credu, er y gallai fod yn rhywun arall—. Beth bynnag, y pwynt yw, os ydym yn mewnforio dur o wledydd lle caiff ei gynhyrchu gydag amodau gwaith gwaeth ac allyriadau carbon llawer uwch, mae'n amlwg nad ydym yn cyflawni ein rhwymedigaethau i atal y byd rhag gorboethi.

Mae hyd yn oed Tsieina o ddifrif ynglŷn â hyn. Maent yn lleihau eu cynhyrchiant dur am eu bod yn gwybod bod yn rhaid iddynt leihau eu hallyriadau carbon. Beth sy'n digwydd wedyn? Os bydd cynhyrchiant dur ledled y byd yn lleihau, beth sy'n digwydd? Mae'r pris yn codi. Mae'n ein gadael ar drugaredd y farchnad yn gyfan gwbl.

Mae adroddiad Syndex, yr wyf yn falch o glywed bod Altaf Hussain yn ei gefnogi hefyd, yn rhoi ateb gwahanol i ni i’n galluogi i barhau i ehangu ein diwydiant tyrbinau gwynt. O ble maent yn mynd i gael y dur, ac a fyddant yn mynd i rywle arall os na allant gael y dur yn lleol?

Beth am ein cynigion uchelgeisiol ar gyfer cynhyrchu ynni ar y môr Celtaidd? Maent yn sicr angen dur o ansawdd ar gyfer gwrthsefyll y tonnau yn ogystal â'r gwynt. Rwy'n ofni'n fawr y gallai cau'r gwaith cynhyrchu dur crai yn ne Cymru ym Mhort Talbot achosi i glwstwr diwydiannol de Cymru chwalu fel pecyn o gardiau.

Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i’r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon, a chydnabod ystod o gyfraniadau o ansawdd uchel i’r ddadl hon, wrth ei hagor, a chydnabod Delyth Jewell a Sioned o grŵp Plaid Cymru am eu cyfraniadau, a'r cyfraniad pwyllog a thrawiadol, yn fy marn i, gan Paul Davies, Cadeirydd pwyllgor yr economi, ac yn wir, gan gyd-Aelodau y tu ôl i mi. Yn amlwg, gan fod gweithfeydd dur yn eu hetholaethau, gellir disgwyl i John Griffiths a Jack Sargeant wneud cyfraniadau sy'n dangos lefel wirioneddol o ddealltwriaeth. Ond rwy'n credu gryf fod y cyfraniad gorau hyd yma wedi'i wneud gan David Rees, ac yn ddealladwy felly, o ystyried lle mae Port Talbot, a'i hanes a'i gysylltiad â'r gweithlu.

Mae hynny’n fy arwain at fy mhwynt cyntaf: effaith ddynol yr hyn a gyhoeddwyd, a’r hyn a allai ddigwydd o hyd. Mae’n amrwd ac mae’n real mewn cymunedau cynhyrchu dur ledled ein gwlad. Mae angen i bob un ohonom ddechrau drwy ddweud nad yw hyn drosodd. Mae yna gynnig nad oes ymgynghoriad ffurfiol wedi'i gynnal arno eto; ni cheir penderfyniad sy’n cael ei roi ar waith heddiw. Y peth gwaethaf y gall unrhyw un ohonom, neu bobl sy’n sôn am y sefyllfa, ei wneud yw anobeithio bod hyn eisoes ar ben rywsut, a’r cyfan sydd angen i ni ei wneud nawr yw meddwl beth i’w wneud ynglŷn â'r swyddi sy'n sicr o gael eu colli. Mae'n rhaid i'r ymgynghoriad fod yn ystyrlon. Mae yna ddewis arall yr af ymlaen i'w ddisgrifio a'i drafod eto. Ein gwaith ni yn y Senedd hon yw dadlau achos Cymru, ar ran y cymunedau a gynrychiolir gennym, a galw ar eraill i gydnabod nid yn unig ein galwad am gyfiawnder i Gymru o safbwynt daearyddol, ond mewn gwirionedd, i gydnabod cost yr hyn a fyddai'n digwydd pe bai'r cynigion hynny'n cael eu rhoi ar waith. Ac mae'r gost, fel y gost ddynol, yn un sylweddol yn economaidd.

Roeddwn yn falch o glywed Paul Davies yn cydnabod geiriau’r Athro David Worsley o Brifysgol Abertawe, o’r 2,800 o swyddi a allai gael eu colli o fewn y tair blynedd nesaf, gyda'r posibilrwydd y caiff 2,500 eu colli o fewn y 18 mis nesaf, fod lluosydd o dri o leiaf, a mwy o bosibl. Felly, o fewn y 18 mis nesaf, rydym yn sôn am fwy na 10,000 o swyddi'n diflannu o'n heconomi ar draws de Cymru. Ac yna, os bydd y toriadau swyddi sydd wedi'u cynnig ar gyfer Llan-wern yn cael eu gwneud, bydd 300 o swyddi'n cael eu colli, gyda 900 ychwanegol yn debygol o'u dilyn yn yr economi ehangach. Ni chredaf y dylem anghofio’r gost economaidd a’r hyn y byddai'n ei olygu mewn termau dynol pe bai'r bobl hynny’n colli eu swyddi. Ac mae'n ymwneud â mwy na'r nifer o swyddi sy'n cael eu colli, mae'n ymwneud â'r realiti fod y rhain yn swyddi sy’n talu’n dda y mae pobl eraill wedyn yn dibynnu arnynt. Ac unwaith eto, gwnaed y pwynt gan ystod gyfan o bobl eraill, o letygarwch i osodwyr dur a chontractwyr, i ystod gyfan o fusnesau eraill. Roedd gennyf ddiddordeb arbennig mewn adroddiad gan ITV Wales ar fusnes ffenestri a oedd yn cydnabod, heb yr arian a ddaw gan weithwyr dur yn y dref honno, y byddent yn annhebygol o gael y lefel o fusnes a gânt ar hyn o bryd, os byddent yn cael unrhyw fusnes o gwbl. Felly, mae yna effaith economaidd real a sylweddol i hyn. Rwyf eisoes wedi trafod gyda Chydffederasiwn Diwydiant Prydain, gyda Make UK, ac yn wir, gyda'r Ffederasiwn Busnesau Bach ynglŷn â'r hyn a allai ddigwydd pe bai'r cynigion yn mynd yn eu blaenau.

Hoffwn nodi'n glir eto nad dyma y mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried yn bontio teg; mae ymhell o fod yn hynny. Credaf mai trosglwyddo swyddi i wledydd eraill a throsglwyddo allyriadau i wledydd eraill yw’r union beth na ddylem fod yn ei wneud i sicrhau dyfodol carbon is ar gyfer ein heconomi a’n ffordd o fyw. Dyna pam ein bod yn dweud eto ein bod yn edrych am bont i’r dyfodol, nid ymyl clogwyn. A bydd economi’r dyfodol yn un lle mae'n rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd carbon is o gynhyrchu cyfoeth i ni, i’n teuluoedd ac i wasanaethau cyhoeddus ar gyfer ein dyfodol. Dyna pam y crëais Diwydiant Sero Net Cymru—i helpu i osod llwybr ymarferol at y dyfodol hwnnw, gyda chyngor sy’n dod â busnesau ynghyd i feddwl am yr hyn sy'n bosibl, gan fod rhai pethau'n hanfodol i’r busnesau hynny, o ran gofynion a disgwyliadau eu cwsmeriaid. Ac mewn gwirionedd, mae Diwydiant Sero Net Cymru eisoes yn gwneud cynnydd ar ddangos llwybr i ddyfodol y gallai ac y dylai pob un ohonom fod yn barod i'w ddilyn. Ac rydych yn meddwl am y cyfleoedd hynny—rydym wedi disgrifio rhai ohonynt eisoes: o gerbydau trydan i hydrogen a'r hyn a allai ddigwydd wrth gynhyrchu llawer mwy o hydrogen. Mae hynny’n gysylltiedig â ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, a chyfle porthladd rhydd y credaf y byddai'n cael ei danseilio o ran ei effaith os na welwn lefel sylweddol o gyflogaeth a gallu yn y gwaith dur. Ac yna hefyd, wrth gwrs, y dyfodol i bobl. Meddyliwch am y prentisiaid sydd eisoes yn y gwaith dur heddiw, meddyliwch am yr holl bobl sydd â theuluoedd ifanc ac ymrwymiadau, rhenti, morgeisi—yr holl ymrwymiadau a gaiff eu tanseilio os byddant yn colli eu gwaith ac yn methu cael swyddi eraill sy'n talu cystal yn eu lle. Dywedwyd hynny’n glir iawn wrthyf ddydd Gwener a dydd Llun pan gyfarfûm yn uniongyrchol â gweithwyr dur ym Mhort Talbot.

Mae'n ymwneud hefyd ag economi heddiw wrth gwrs. Fel y dywedais ddoe, caniau, ceir ac adeiladu—maent oll yn dibynnu ar ddur a wneir yn ffatri Tata ym Mhort Talbot heddiw. Mae'r defnydd sy'n mynd i waith Trostre i wneud pob can o ffa pob Heinz ac eraill yn dod o Bort Talbot. Ni allwch wneud y cynhyrchion hynny â dur o ffwrnais arc trydan yn unig eto; mae angen dur crai arnoch. Ni allwch greu'r holl ddeunyddiau ar gyfer ein diwydiant ceir ar hyn o bryd, ac unwaith eto, mae Llan-wern yn un o'r cyflenwyr yno. Unwaith eto, mae angen dur crai arnynt i fod yn rhan o’r cymysgedd i greu’r cynhyrchion hynny. Ac yn y diwydiant adeiladu, rhai o'r cynhyrchion a wneir yn Shotton, mae angen i ddur crai fod yn rhan o'r cymysgedd dur i greu'r holl gynhyrchion hynny ar gyfer heddiw, heb sôn am y dyfodol y mae pob un ohonom yn dymuno'i weld, a fydd, wrth gwrs, yn cynnwys mwy o adeiladu eiddo masnachol, y cartrefi y gwyddom y bydd eu hangen arnom i sicrhau bod gan bob teulu gartref yma yng Nghymru a thu hwnt.

Ac mae'n ymwneud â mwy na'r tair tref ddur honno yn ogystal â Phort Talbot, mae hefyd yn ymwneud â realiti gwasgariad cyflogaeth. Nid gweithwyr yng Nghastell-nedd Port Talbot yn unig yw'r rhain, mae dros 500 o weithwyr dur yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, dros 500 o weithwyr dur yn byw yn Abertawe. Yn sir Gaerfyrddin, mae mwy na 700 o weithwyr yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol yn Trostre. Os ydych chi'n meddwl wedyn am Lan-wern, nid yn unig yng Nghasnewydd, ond rwy'n gwybod, ac fe wnaeth Hefin David y pwynt hwn, fod dros 150 o weithwyr dur yng Nghaerffili sy'n gweithio yn Llan-wern. Mae hwn yn gyrhaeddiad eang i bob un o'r ardaloedd hynny, o ran ei effaith economaidd ac yn y siroedd y mae'r bobl yn byw ynddynt lle byddai effaith uniongyrchol.

Mae dur crai'n ymwneud â mwy nag effaith economaidd peidio â'i greu yma. Mae hefyd, wrth gwrs, yn fater o ddiogelwch y DU, i fod yr unig wlad G20 na all wneud dur o sgrap. Nawr, fe fyddwch wedi clywed y pwynt a wnaed yn glir gan ein cymheiriaid Llafur Stephen Kinnock, Jessica Morden, Jonathan Reynolds a Stephen Doughty yn y ddadl ddoe yn Senedd y DU. Ond gan fod hwn yn fater ar gyfer y DU, fe glywsoch hefyd y pwynt a wnaed gan yr AS Ceidwadol dros Scunthorpe, ac yn wir, gan gyn Weinidog diogelwch Ceidwadol yn y DU. Mae hon yn risg i beidio â'i chymryd yn ansicrwydd y byd a wynebwn nawr a chytuno i drosglwyddo'r gallu i wneud dur crai i economïau cystadleuol mewn byd llai sicr na'r un y mae'r rhan fwyaf ohonom wedi cael y fraint o dyfu i fyny ynddo, gyda'r hyn y mae hynny'n ei olygu wedyn o ran bod y cadwyni cyflenwi'n dibynnu'n gyson ar fewnforion dur a wnaed mewn rhannau eraill o'r byd. Nid diogelwch yn unig y byddwn yn ei drosglwyddo, byddwn yn trosglwyddo swyddi gweithwyr Cymreig ac yn trosglwyddo allyriadau Cymreig i fod yn fwy dibynnol ar rannau eraill o'r byd. Nid wyf yn credu bod hwnnw'n ddewis doeth i'r DU, heb sôn am y cymunedau a gynrychiolwn yma yng Nghymru.

Nawr, rwyf am geisio mynd i'r afael â'r wleidyddiaeth mewn ffordd sydd mor gynhyrchiol â phosibl. Rwy'n cydnabod pam mae rhai pobl eisiau siarad am safbwynt Llywodraeth Cymru a dweud mai pobl Lafur Cymru nad ydynt yn gwneud eu gwaith sy'n gyfrifol am hyn. Rwy'n cydnabod pam y bydd y Ceidwadwyr am wneud hynny yn y ffordd afieithus y mae Tom Giffard wedi'i wneud heddiw eto. Ond mae'n fater o ffaith na wnaeth Prif Weinidog y DU dderbyn galwad ffôn gan Brif Weinidog Cymru, ond ei fod wedi mynd allan o'i ffordd o sedd yn yr eisteddle yng Nghlwb Pêl-droed Southampton i ymosod ar Lywodraeth Cymru. Roeddwn o'r farn nad oedd yn ymyrraeth ddoeth, ac mae'r pwynt wedi'i wneud o'r blaen, pan gyhoeddodd Ford eu bod yn mynd i gau Pen-y-bont ar Ogwr, fod y Prif Weinidog Ceidwadol, Theresa May, wedi derbyn galwad ffôn ar yr un diwrnod ag y gwnaed y cais gan Brif Weinidog Cymru. Mae'n dangos ei bod yn gwbl bosibl i Brif Weinidog Ceidwadol gydnabod eu cyfrifoldebau gwasanaeth cyhoeddus ehangach mewn ffordd wahanol i'r ffordd y mae'r Prif Weinidog Sunak wedi ymateb hyd yma. Nid yw'n rhy hwyr iddo ddychwelyd at bwynt lle gallai fod cytundeb rhyngom, neu anghytundeb gonest fan lleiaf, ynglŷn â beth fydd y llwybr yn y dyfodol.

Cefais fy siomi gan ymateb y Gweinidog dur Nusrat Ghani ddoe yn Nhŷ'r Cyffredin. Cefais fy siomi gan ymateb Ysgrifennydd Gwladol Cymru, sydd, rwy'n credu, yn ildio i anobaith fod y penderfyniad hwn eisoes wedi'i wneud ac nad oes unrhyw beth i'w wneud. Rwy'n anghytuno. Rwy'n credu y dylai Ysgrifennydd Gwladol Cymru o unrhyw blaid ymladd ar ein rhan o amgylch bwrdd y Cabinet, nid dweud wrthym am fod yn ddiolchgar mai dim ond 10,000 a mwy o swyddi sydd i'w colli yn y 18 mis nesaf. Rwy'n credu bod ganddo gyfrifoldeb gwahanol i bob un ohonom, ni waeth beth fo'i blaid. Yn economi'r dyfodol, yn y dyfodol gweithgynhyrchu uwch y gallem ei gael, mewn economïau sylfaenol fel tai, bydd angen mwy na dur yn unig, bydd angen sgiliau, dur a phethau fel lled-ddargludyddion arnom hefyd. Yr holl bethau a fydd yn ffurfio economi fodern. Ni allwch wneud yr holl bethau hyn heb ddur.

Nawr, mae'r bwrdd pontio yn rhywbeth y byddaf yn parhau i chwarae rhan adeiladol ynddo, yn rhannol oherwydd bod llawer o'r ymyriadau y maent yn edrych arnynt wedi'u datganoli'n glir, a bydd angen inni weithio gyda'n gilydd. Felly, bydd angen inni ddefnyddio adnoddau datganoledig os gwelwn ddiweithdra sylweddol yn deillio o'r cynigion a gyhoeddwyd. Rwyf bob amser wedi deall y byddai angen defnyddio dulliau datganoledig a rhoi arian datganoledig i mewn i atebion. Ond nid oedd Llywodraeth Cymru yn mynd i dalu am fynediad at y sgwrs honno. Pam ar y ddaear y byddem yn gwneud hynny? Pwy ar y ddaear a fyddai'n meddwl ei bod yn rhesymol mynnu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru dalu swm mympwyol am sedd o amgylch y bwrdd er mwyn deall sut y defnyddiwn ein cyllidebau a'n hysgogiadau? Nid dyna'r math o undeb rwy'n credu ynddo. Rwy'n credu efallai na fydd y £100 miliwn yn ddigon, o ystyried y niwed hirdymor a welsom o ddigwyddiadau economaidd arwyddocaol yn y gorffennol, gan gynnwys, fel y mae llawer o bobl wedi dweud, nid yn unig y diswyddiadau yn Shotton neu'r hyn a ddigwyddodd gyda chwalu'r diwydiant glo. Rwyf am weld ateb hirdymor sy'n cynnwys cyfrifoldebau'r Llywodraeth ddatganoledig hon yn ogystal â'r Senedd ddatganoledig hon mewn ffordd nad yw wedi digwydd hyd yma.

Mae dewis arall yn bosibl; rydym yn ei weld yn yr Iseldiroedd, lle mae gan Tata berthynas wahanol â Llywodraeth y wlad honno. Maent yn buddsoddi mewn gwahanol ffyrdd o wneud dur, maent yn buddsoddi mewn gwahanol ddewisiadau eraill i gefnogi eu gweithlu yn y dyfodol. Maent hefyd yn buddsoddi mewn ymchwil yn gysylltiedig â chynhychu dur arc trydan. Gallai'r un Lywodraeth yma wneud hynny gyda Phrifysgol Abertawe, un o'r prif sefydliadau ymchwil ar fetelau'r dyfodol ledled y DU.

Mae angen i ni wneud cynnydd o ran caffael hefyd. Mae angen inni wneud cynnydd ar ailgylchu metel sgrap, cadw mwy ohono yma, peidio â'i allforio i rannau eraill o'r byd—pethau y gallai'r Llywodraeth hon ei wneud i ddiogelu rhan o'r dyfodol y mae'n rhaid iddo ddigwydd lle nad oes cynnydd wedi'i wneud hyd yma. Nid dull gwahanol y gallai cronfa dur gwyrdd gwerth £3 biliwn ei ddarparu yn unig, ond dull gwahanol sy'n ei gwneud yn ofynnol i Tata beidio â gwneud dewisiadau na ellir eu gwrthdroi yn seiliedig ar gymorth Llywodraeth y DU, dewis gwahanol ar gyfer diogelwch y DU, lle rydym yn dewis a ydym yn cynhyrchu dur neu'n mewnforio dur, i fod yn ddibynnol ar rannau eraill o'r byd, lle rydym i gyd yn barod i weithio gyda phartneriaid eraill—Llywodraeth y DU o unrhyw liw, gyda Tata, a'r undebau llafur, a'r Llywodraeth hon. Rwy'n falch o ddweud y bydd y Llywodraeth hon yn parhau i ddadlau dros ddyfodol i ddiwydiant dur Cymru a byddwn yn parhau i ddadlau dros y fargen orau ar gyfer dur, nid dim ond y fargen rataf. Diolch, Lywydd.

17:05

Diolch, Llywydd. Ac a gaf i ddiolch i Aelodau ar draws y Siambr am gefnogi’r ddadl frys yma heddiw? A gaf fi ddiolch yn arbennig i Luke Fletcher am wthio inni gael y ddadl yma heddiw yma ac am siarad mor huawdl dros ei etholwyr o? Mae’r teimlad hwn a’r parodrwydd i drafod hyn eto heddiw yn dangos, dwi’n meddwl, ewyllys o gefnogaeth go iawn i’r gweithlu a’r gymuned, ond ar yr unfed awr ar ddeg i ddiwydiant o bwysigrwydd economaidd, cymdeithasol a strategol enfawr, mae angen llawer mwy nag ewyllys da. Oni bai fod Llywodraethau yn sylweddoli’r angen i godi eu gêm yn sylweddol yn yr ymateb i’r argyfwng presennol, mi allai’r cyfle sydd gennym ni i warchod swyddi a phontio’n deg tuag at ddyfodol cynaliadwy i’r diwydiant dur gael ei fethu. Mae yna ormod o lusgo traed wedi bod yn barod, dwi’n ofni, dros gyfnod o flynyddoedd, cyfleon i fod yn rhagweithiol go iawn, cyfleon i fuddsoddi a moderneiddio, cyfleon i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddangos eu bod nhw yn deall gwerth go iawn y diwydiant, i ddangos bod ots ganddi hi am gymunedau ac am Gymru. Ac nid diffyg brys rŵan nac yn hanesyddol sydd gennym ni yn unig, ond diffyg sgêl yn yr ymateb hefyd, fel y mae eraill wedi ei ddweud eisoes. Mae’r cynnig o £0.5 biliwn i ddatgarboneiddio ym Mhort Talbot yn gwbl, gwbl annigonol.

Rydym wedi bod angen i Lywodraethau fod yn fwy beiddgar o ragweithiol wrth feddwl am ddyfodol dur, a gadewch inni fod yn onest yma: byddaf yn gwthio Llywodraeth Cymru yn galed i chwarae ei rhan i gefnogi ein cymunedau dur nawr ac yn y dyfodol, ond edrychwn yn bennaf ar yr adeg hon ar Lywodraeth y DU, yn y presennol a'r dyfodol, a chofiwch, Prif Weinidog y DU a nododd nad oedd ar gael pan oedd Cymru eisiau siarad am yr argyfwng sy'n ein hwynebu. Roedd yn ymateb cywilyddus gan y Prif Weinidog ac yn un sy'n siarad cyfrolau.

Mae 'pontio teg', serch hynny, yn derm sydd wedi'i ddefnyddio'n eang, ond anaml y credaf ein bod yn gweld gweithredu sy'n cyd-fynd â'r hyn sydd ei angen i gyflawni pontio teg. Mae Llywodraethau'n sôn am yr angen i symud i economi carbon is, ond maent wedi bod yn rhy adweithiol wrth roi'r ymyriadau cymdeithasol ac economaidd priodol ar waith i ddiogelu bywoliaeth gweithwyr. Rhaid i weld gwerth swyddi a gofalu am yr amgylchedd fod yn genhadaeth ar y cyd, ac mae'n rhaid i bontio teg olygu gweithio'n strategol, cael eich tŷ mewn trefn, meddwl yn gydgysylltiedig, buddsoddi a pharatoi'r dechnoleg, technoleg hydrogen, haearn wedi'i leihau'n uniongyrchol; cyfarfûm â Wales & West Utilities y bore yma i siarad am gynlluniau ar gyfer y biblinell i ddod â hydrogen i mewn i Bort Talbot. Mae angen inni siarad am ffynonellau ynni glanach, dal carbon. Mae datblygiadau'n digwydd yn gyflym ledled y byd, ond mae'n rhaid i Bort Talbot fod yn ganolog i hynny. Ac mae'n ymwneud â chael yr amseru'n iawn, peidio â chau'r ffwrneisi chwyth a cholli'r holl swyddi a sgiliau cyn bod y technolegau newydd yn barod i ddod yn eu lle. Dyna beth mae 'pontio' yn ei olygu. Ac nid yw'r cynlluniau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn bontio o unrhyw fath, heb sôn am bontio teg. 

Mae undebau wedi rhoi eu cynlluniau ar y bwrdd i helpu gyda'r newid hwnnw. Rhaid clywed yr undebau, cynrychiolwyr y gweithlu. A chofiwch beth sydd yn y fantol yma—i deuluoedd, ie, sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol, pryder sy'n anfesuradwy, ond effaith a graddfa'r hyn sydd yn y fantol i Gymru. Yn 2021 cyfrannodd Tata 3 y cant o gyfanswm allbwn economaidd Cymru, sy'n golygu mai dyma'r cyfrannwr sector preifat mwyaf yn ôl y mesur hwn. Dylem fod yn defnyddio ei nerth economaidd i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd gwaith nawr ac yn y dyfodol, mewn tirwedd amgylcheddol uchelgeisiol. Fel y clywsom y prynhawn yma, rydym am i ddatblygiadau ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn y dyfodol gael eu hadeiladu gan ddefnyddio dur Cymru, ac yn lle hynny rydym yn gwanhau ein huchelgais gyda'r bygythiad o ganiatáu i ddiwydiant strategol grebachu'n ddim a'r holl drallod personol a ddaw yn sgil hynny. 

Ac o ran y pris y mae Llywodraeth y DU yn ei roi ar gefnogi cymunedau, ar ddiogelu swyddi, ar ddiogelu capasiti cynhyrchu dur sylfaenol yng Nghymru a'r DU, mae'n amlwg fod swm yr arian yn rhy fach. Mae'r £500 miliwn sydd ar y bwrdd gan Lywodraeth y DU yn swm pitw pan ystyriwch y bygythiad i swyddi, ac yn gynnig tila o'i gymharu â maint yr ymateb i argyfyngau eraill. Fel y clywsom, achubwyd y banciau, nawr mae'n bryd achub ein dur. Ac mae Llywodraethau mewn gwledydd eraill wedi deall beth sy'n rhaid digwydd o ran buddsoddi, fel y clywsom gan Luke. Gwyddom am y £50 biliwn sydd ar gael ar gyfer datgarboneiddio diwydiant yn yr Almaen. Dyma raddfa'r ymateb sydd ei angen arnom yma yng Nghymru ac yma yn y DU. 

Er bod angen i Lywodraeth Geidwadol y DU ddeffro a bod yn barod i dalu symiau sy'n sylweddol uwch, rhaid inni fod yn onest, mae'n rhaid i  Lywodraeth Lafur arfaethedig wella'i hymateb hefyd. Ac nid yw'r cynnig o £3 biliwn wedi'i rannu ar draws pum safle yn y Deyrnas Unedig dros 10 mlynedd fawr mwy hael na'r hyn sydd ar y bwrdd nawr. Mae'n rhaid i bawb ddeall maint y buddsoddiad sydd ei angen. Ond yn ogystal â'r arian, mae angen inni gael pob syniad ar y bwrdd. Rwyf wedi cyfeirio at y syniadau a gyflwynwyd gan yr undebau; rhaid iddynt gael eu hystyried. Rhaid ystyried cyd-fuddsoddi gyda Tata—cyd-berchnogaeth, gwladoli hyd yn oed. Ni allwn adael unrhyw garreg heb ei throi i adeiladu dyfodol hirdymor i'r diwydiant dur. 

Mae gan Gymru draddodiadau balch o wneud dur. Mae gweithfeydd wedi'u plethu i wead cymunedau. Mae yna strydoedd lle mae gan bob cartref gysylltiad â gwaith dur. Ond nid yw'r byd wedi aros yn llonydd, ac mae angen i Lywodraethau fod yn llawer mwy effro i hynny. Fel y dywedodd Jenny Rathbone, bu llawer iawn o hunanfodlonrwydd—'haerllugrwydd' yw'r gair a ddefnyddiodd Jenny. Yn 2013 fe wnaed y synau cywir mewn adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Yn dwyn y teitl 'Tuag at strategaeth ddiwydiannol Gymreig', roedd yn gywir i nodi globaleiddio, argyfwng economaidd hir, economi wyrgam yn y DU fel rhesymau pam fod angen i Gymru edrych arni ei hun i ysgogi ffynonellau newydd o fuddsoddiad diwydiannol cynaliadwy. Roedd hynny dros ddegawd yn ôl. Yn y ddogfen bolisi 'Dyfodol Gweithgynhyrchu i Gymru', mae'r rhagair gweinidogol yn sôn am 

'Economi ffyniannus sy'n canolbwyntio drwy’r amser ar fod yn gydnerth ac ar allu newid.'

Ac eto dyma ni wrthi'n daer yn trafod y diffyg cydnerthedd mewn sector strategol bwysig. Nawr, rwy'n erfyn ar y Gweinidog, Llywodraeth Cymru, i gyflwyno strategaeth ddiwydiannol ystyrlon i Gymru a chynnwys syniadau a gwybodaeth y diwydiant wrth ei datblygu, ynghyd ag academyddion, undebau wrth gwrs, arbenigedd ein gweithlu, a gwneud gwell gwaith o baru sgiliau ein gweithlu â'r cyfleoedd nad oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddant yn codi i Gymru ac y byddant yno i Gymru eu croesawu yfory ac yn y dyfodol. 

Nawr, rwy'n gwybod bod cadarnleoedd cynhyrchu dur Cymru yn gymunedau gwydn, clos, ond gwn hefyd fod gormod o gymunedau tebyg iddynt wedi cael eu gadael ar ôl yng Nghymru gan ddiffyg gweithredu Llywodraeth, pan adawyd diwydiannau trwm eraill i farw heb fawr ddim cyflogaeth arall yn lleol, os o gwbl. Gallwn osgoi ailadrodd camgymeriadau'r gorffennol cyhyd â'n bod yn cynnig camau cadarn i ateb yr alwad glir heddiw. Gadewch inni sefyll gyda gweithwyr dur heddiw a rhoi dyfodol iddynt.

17:15
6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Ariannu hosbisau elusennol

Ac felly fe fyddwn ni'n symud ymlaen i eitem 6, y ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 yw hon, ar ariannu hosbisau elusennol. Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i wneud y cynnig yma.

Cynnig NDM8448 Mabon ap Gwynfor

Cefnogwyd gan Adam Price, Cefin Campbell, Jane Dodds, Mark Isherwood, Peredur Owen Griffiths, Sioned Williams

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod darparwyr gofal hosbis elusennol yn chwarae rhan hollbwysig wrth ddarparu gofal a chymorth hanfodol i bobl sydd wedi'u heffeithio gan salwch angheuol ledled Cymru;

b) bod y sector hosbis elusennol yn darparu gofal i fwy na 20,000 o bobl bob blwyddyn, gyda'u gwasanaethau yn cefnogi pobl sy'n marw i aros yn eu cartrefi eu hunain a lleihau derbyniadau i'r ysbyty, gan sicrhau canlyniadau gwell i unigolion a'r GIG;

c) bod costau cynyddol o ran ynni a staff, pwysau ar y gweithlu, a galw cynyddol am ofal cymhleth yn fygythiad dirfodol i gynaliadwyedd y sector;

d) bod 90 y cant o hosbisau yn cyllidebu ar gyfer diffyg yn 2023/24 ac yn defnyddio cronfeydd wrth gefn i gwrdd â'r diffyg; ac

e) y bydd y galw a'r angen am ofal lliniarol yn tyfu'n sylweddol wrth i'r boblogaeth heneiddio ac mae mwy o bobl yn byw yn hirach gyda chyflyrau cronig lluosog.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ymrwymo i weithio gyda'r sector i fynd i'r afael â'r heriau cyllido uniongyrchol, gan gynnwys sicrhau cynnig cyflog teg i weithlu hosbisau, sy'n cyfateb i'r cynnydd yn yr Agenda ar gyfer Newid, fel bod cydraddoldeb â chydweithwyr yn y GIG;

b) datblygu ateb ariannu cynaliadwy hirdymor mewn partneriaeth â'r sector, gan gynnwys fformiwla ariannu genedlaethol newydd, cynllun gweithlu, a manyleb gwasanaeth gofal lliniarol a diwedd oes; ac

c) ymestyn adolygiad cyllid gofal diwedd oes Llywodraeth Cymru, y disgwylir iddo ddod i ben ym mis Ionawr 2024, os nad yw hyn yn ymarferol o fewn yr amserlen hon.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a dwi'n cynnig yn ffurfiol. Diolch am y cyfle yma i gyflwyno dadl sydd nid yn unig yn gwbl amserol, ond yn un mor bwysig. Mae pawb, wrth gwrs, yn gyfarwydd â hosbisau. Mae enw hosbisau’n frith ar ein strydoedd mawr, â phobl yn rhoi hen ddillad, teganau a llyfrau i'w hamryfal siopau neu yn rhoi rhodd mewn angladd neu'n rhedeg rasys nawdd. Yn wir, dyna un o ryfeddodau hosbisau, eu bod nhw'n cael eu cynnal i raddau helaeth drwy roddion haul pobl Cymru. Ond, er ein bod ni'n gyfarwydd â hosbisau, dwi am gymryd ennyd i osod allan darlun o ba mor arbennig mewn gwirionedd ydyn nhw cyn mynd ymlaen i grynswth y ddadl yma heddiw.

Er mae elusennau ydyn nhw, maen nhw'n rhan hanfodol o'r system gofal ac iechyd, a, hebddyn nhw, byddai degau o filoedd o bobl yn flynyddol—yn fabanod newydd-anedig i bobl sy'n cyrraedd terfyn oes hir a llawn—yn dioddef mewn poen enbyd. Mae yna hosbis yn gweithredu ymhob un o ardaloedd byrddau iechyd Cymru, gydag 14 hosbis elusennol yn weithredol yng Nghymru heddiw. Ac yn yr ardaloedd hynny, mae hosbisau yn darparu gwasanaethau sydd yn cadw cleifion allan o'r ysbytai, gyda dros 85 y cant yn derbyn gofal yn eu cymuned, ac yn rhoi gwerth rhyfeddol am arian wrth leihau'r galwadau ar wasanaethau statudol.

Mae'u staff ymroddedig yn cydweithio'n agos â chydweithwyr yn y gwasanaethau iechyd a gofal, gan gefnogi pobl ar ddiwedd eu hoes pob dydd o'r flwyddyn. Mae'u gwaith diflino yn cynnwys gwasanaeth yn y cartref, gwasanaeth 24 awr a thros nos, ymateb brys y tu allan i oriau, gwelyau cleifion mewnol, gan gefnogi cleifion diwedd oes a gofal parhaol, gwasanaethau gwelyau allanol a chefnogaeth galar. Mae'r ystod o wasanaethau arbenigol maen nhw'n eu darparu, gan rai o'r staff mwyaf ymroddedig, sydd yn gorfod mynd trwy'r boen a'r galar gyda'r cleifion, yn rhyfeddol, ac maen nhw'n cyflawni'r hyn oll drwy godi arian trwy weithgareddau elusennol, gyda dros ddwy rhan o dair o'r arian yn dod o'r gweithgareddau yma. Ac yn achos hosbisau plant, tri chwarter yr arian yn dod o roddion a gweithgareddau codi arian.

Ystyriwch hyn: pe na fuasai'r hosbisau yma yn gwneud yr amryfal waith yma, yna pwy fuasai'n gorfod gwneud y gwaith? Wel, mae yna dau ddewis: (1) gadael i bobl ddioddef, neu (2) trosglwyddo'r holl ddisgwyliadau a'r cyfrifoldebau yma ar ysgwyddau ein byrddau iechyd. Ond, wrth gwrs, mae yna drydydd dewis, sef cefnogi ein hosbisau a gadael iddyn nhw wneud y gwaith y maen nhw'n arbenigo ynddo. Oherwydd y gwir ydy bod y rhoddion haul yma, sydd yn ariannu gwaith angenrheidiol yr hosbisau, yn tynnu pwysau sylweddol oddi ar y pwrs cyhoeddus, ac felly yn cynrychioli disgownt sylweddol i'r NHS.

Ym mis Hydref 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei datganiad ansawdd gofal lliniarol a diwedd oes, a oedd yn nodi'r heriau sydd o'n blaenau yn glir. Ar hyn o bryd, mae tua 32,000 o bobl yng Nghymru yn marw gydag anghenion gofal lliniarol bob blwyddyn. Mae disgwyl i hyn gyrraedd 37,000 y flwyddyn erbyn 2048. Mae ein poblogaeth sy'n heneiddio yn golygu bod anghenion yn fwy cymhleth, gyda llawer o bobl yn datblygu cyflyrau iechyd lluosog wrth iddynt gyrraedd diwedd eu hoes.

Argymhellodd cyngor gwyddonol Llywodraeth Cymru ei hun yn ddiweddar y bydd angen rhoi hwb i'r gwasanaethau hyn ar draws y disgyblaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Dylid ystyried lleoliad gwasanaethau gofal lliniarol, gan y gall mwy o bobl gael gofal gartref, gan gynyddu anghenion gofal sylfaenol a mynediad at wasanaethau arbenigol. Bydd y galwadau'n cynyddu ac nid yw GIG Cymru fel y mae, ac fel y mae'n debygol o fod yn y dyfodol y gellir ei ragweld, wedi'i gyfarparu nac wedi'i drefnu i ymateb i'r gofynion cynyddol hyn. Mae model cynaliadwy ar gyfer comisiynu a phartneru gyda hosbisau Cymru yn hanfodol os ydym yn mynd i ddiwallu'r gofynion cynyddol am ofal lliniarol yn y gymuned. Mae hosbisau'n cynnig arbenigedd, arloesedd a gallu i wella gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan fynd i'r afael â mynediad teg, gwella cynllunio gofal ymlaen llaw ac yn y dyfodol a datblygu canlyniadau a mesurau profiad cenedlaethol, ac felly maent yn bartneriaid allweddol wrth gyflawni uchelgeisiau datganiad ansawdd gofal lliniarol a diwedd oes y Llywodraeth.

17:20

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Mae'r sector iechyd yn ei gyfanrwydd yn wynebu heriau enfawr, gydag amlen ariannu sy'n crebachu, costau cynyddol oherwydd pwysau chwyddiant enfawr a brwydrau recriwtio. Nid yw'r sector hosbis elusennol yn wahanol yn hynny o beth, ond mae gwahaniaeth pendant hefyd. A'r gwahaniaeth yw, pan fydd ein byrddau iechyd mewn anawsterau ariannol, achubir eu crwyn fel mater o drefn. Ar y llaw arall, os yw hosbis elusennol mewn trafferthion ariannol, rhaid iddynt dorri gwasanaethau neu gau, bydd y ffrwd ariannu'n diflannu a bydd y pwysau hwnnw'n cael ei drosglwyddo ar unwaith i fwrdd iechyd sy'n ei chael hi'n anodd.

Mae cynnydd mewn costau staff ac ynni, pwysau gweithlu a galw cynyddol am ofal mwyfwy cymhleth yn fygythiad dirfodol i gynaliadwyedd tymor byr a chanolig gwasanaethau hosbis plant ac oedolion yng Nghymru. Mae llawer o hosbisau eisoes yn gwneud, a/neu, mewn rhai achosion, yn cynllunio toriadau i wasanaethau. Mae cynnydd yng nghyflogau'r GIG dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi golygu cynnydd o £5.4 miliwn i gyfanswm costau staffio hosbisau, ac mae hosbisau Cymru wedi ymrwymo i dalu cyflog teg a chystadleuol i'w staff gwych, ond mae hyn yn amlwg yn gostus.

Fodd bynnag, er bod y cleifion hyn yn cael eu cyfeirio o ofal y bwrdd iechyd lleol at hosbis elusennol ar gyfer gofal, nid yw'r rhan fwyaf o fyrddau iechyd wedi codi gwerth cytundebau lefel gwasanaeth hosbisau eleni, yn dilyn blynyddoedd o danfuddsoddi. Er bod buddsoddiad ychwanegol wedi'i wneud i'r GIG ar yr adeg hon o argyfwng i fynd i'r afael â phwysau chwyddiant a thalu dyfarniadau cyflog, yn y rhan fwyaf o achosion nid yw'r rhain wedi'u trosglwyddo i ddarparwyr gwasanaethau elusennol. Mae hosbisau hefyd yn wynebu costau ynni cynyddol, gyda rhai yn profi cynnydd bum gwaith drosodd yn eu biliau, ynghyd â phwysau chwyddiant ehangach ar gostau gweithredu. Mae pob hosbis yng Nghymru yn rhagweld diffyg ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Mae pob hosbis yn defnyddio cronfeydd wrth gefn i dalu am y diffyg a diogelu gwasanaethau. Ond mae cronfeydd wrth gefn yn gyfyngedig, gyda hosbisau Cymru ar gyfartaledd yn cadw dim ond 10 mis wrth gefn, gyda rhai â chyn lleied â thri mis.

Mae hosbisau Cymru'n falch o ddarparu'r mwyafrif helaeth o'u gofal drwy eu hymdrechion codi arian elusennol eu hunain, ond mae angen cymorth arnynt i dalu costau cynyddol fel y gallant gynnal a datblygu gwasanaethau, tynnu pwysau oddi ar y GIG, a helpu i drawsnewid gofal i oresgyn heriau'r dyfodol. Mae torri gwasanaethau hosbis yn golygu llai o gefnogaeth i gleifion a'u teuluoedd, a phobl yng Nghymru sydd wedi cael diagnosis gofal lliniarol nad ydynt yn cael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i fyw'n gyfforddus ac i gael marwolaeth dda.

Mae 80 y cant o hosbisau Cymru yn rhagweld gorfod cyfyngu ar rai gwasanaethau, gan roi mwy o bwysau diwedd oes ar GIG sydd eisoes dan bwysau. Mae 70 y cant o hosbisau Cymru'n dweud bod llai o gefnogaeth ar gael i'r system ehangach, fel ysbytai a chartrefi gofal, ac mae chwyddiant cynyddol a phwysau costau byw yn parhau. Mae dros 80 y cant o hosbisau sydd ag unedau cleifion mewnol yn credu bod pwysau costau byw yn debygol iawn o arwain at sefyllfa lle bydd un neu fwy o welyau cleifion mewnol heb fod ar gael dros dro neu'n barhaol. Mae'n amlwg felly bod angen model cynaliadwy ar gyfer ariannu a darparu gwasanaethau hosbis yng Nghymru. 

Nododd Llywodraeth Cymru hyn yn briodol fel mater allweddol, ac ymrwymodd i ganolbwyntio ar ofal diwedd oes ac adolygu cyllid hosbisau yn ei rhaglen lywodraethu. Gwn fod y Gweinidog wedi ymrwymo'n bersonol i wneud yr hyn a all i gefnogi darparwyr gofal lliniarol a diwedd oes, fel nad oes rhaid i bobl fyw eu dyddiau olaf mewn poen a'u hanwyliaid yn gwylio'n ddiymadferth, ac rwy'n cymeradwyo'r Gweinidog am hyn.

Mae camau cadarnhaol wedi'u cymryd drwy sefydlu bwrdd rhaglen genedlaethol y GIG ar gyfer gofal lliniarol a diwedd oes a chyhoeddi'r datganiad ansawdd. Disgwylir i drydydd cam yr adolygiad o gyllid gofal diwedd oes gyflwyno argymhellion yn fuan iawn, a dylid ei ystyried yn gyfle pwysig i fynd i'r afael â pheth o'r pwysau uniongyrchol sy'n wynebu hosbisau, ac mae angen penderfyniad brys ar dalu'r diffyg presennol.

Ond mae llawer i'w wneud o hyd cyn cytuno ar fodel cynaliadwy ar gyfer ariannu a darparu gofal. Dyna pam mae angen i'r Llywodraeth weithio gyda'r sector i fynd i'r afael â'r heriau cyllido uniongyrchol, gan gynnwys sicrhau cynnig cyflog teg i weithlu hosbisau, sy'n cyfateb i'r cynnydd yn yr 'Agenda ar gyfer Newid', fel bod cydraddoldeb â chydweithwyr yn y GIG, datblygu ateb ariannu cynaliadwy hirdymor mewn partneriaeth â'r sector, gan gynnwys fformiwla ariannu genedlaethol newydd, cynllun gweithlu, a manyleb gwasanaeth gofal lliniarol a diwedd oes, ac ymestyn adolygiad cyllid gofal diwedd oes Llywodraeth Cymru, y disgwylir iddo ddod i ben ym mis Ionawr 2024, yn fuan iawn. Ac os nad yw hyn yn ymarferol yn yr amserlen, dylid ei ymestyn. Ac felly rwy'n annog yr holl Aelodau sy'n bresennol i gefnogi'r cynnig hwn.

17:25

Rwy'n ddiolchgar i Mabon am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ac am rannu ei bryderon am rai o'r materion y mae hosbisau'n eu hwynebu, oherwydd mae'n bwysig iawn ein bod yn cael y ddadl hon heddiw.

Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn falch iawn o fynd gyda'r Gweinidog iechyd ar ymweliad â hosbis Dewi Sant yn fy etholaeth yng Nghasnewydd, a hoffwn gofnodi fy niolch i'r Gweinidog am roi amser i ddod i wrando ar y staff yn hosbis Dewi Sant a'r tîm yno, a'ch diddordeb yn eu gwaith. Rwy'n gwybod bod hyn yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan bob un ohonynt. Ac rwy'n ddiolchgar iawn i Emma Saysell, y clywsom ganddi, a'i thîm am roi amser i'n croesawu. Cenhadaeth hosbis Dewi Sant yw darparu a pharhau i ddatblygu gwasanaeth gofal lliniarol cynhwysfawr a rhagorol am ddim ledled de a chanolbarth Cymru ar gyfer pobl, eu teuluoedd a'u gofalwyr sy'n wynebu salwch cynyddol na ellir ei wella ac sy'n cyfyngu ar fywyd. Mae'r hosbis yn gweithredu dull sy'n edrych ar yr unigolyn cyfan, a darperir y gwasanaeth mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill.

Nid yr wythnos diwethaf oedd y tro cyntaf i mi ymweld â'r hosbis, ac rwy'n gwybod o brofiad personol fod y staff yn darparu gofal meddygol o ansawdd uchel yn ogystal â darparu cefnogaeth amhrisiadwy ac empathetig i'w teuluoedd. Mae'n anodd cyfleu ansawdd y gofal a roddir, a gwerthfawrogiad dwfn cleifion a theuluoedd o hosbis Dewi Sant. Maent yn arbenigwyr ar siarad am bwnc anodd ond pwysig marwolaeth gyda phobl o bob oed, ac mae gwasanaeth Ungorn yr hosbis ar gyfer plant a phobl ifanc yn cael mwy a mwy o atgyfeiriadau gan ysgolion.

Y llynedd, cafodd 3,498 o gleifion a theuluoedd ofal gan hosbis Dewi Sant, gyda mwy na 25 y cant ohonynt wedi cael diagnosis nad oedd yn ddiagnosis o ganser. Mae mwy o bobl yn cael gofal yn hosbis Dewi Sant a chan hosbis Dewi Sant nag Ysbyty Brenhinol Gwent, Ysbyty Nevill Hall ac Ysbyty'r Faenor ar draws ardal bwrdd Aneurin Bevan. Mae'n lefel sy'n cyfateb i ddarpariaeth o 46 o wardiau 30 gwely, ac mae hynny'n eithaf rhyfeddol mewn gwirionedd. Cafodd dros 34,000 awr o ofal eu darparu gan wasanaeth hosbis yn y cartref Dewi Sant y llynedd, gan alluogi cleifion i aros yn eu cartrefi eu hunain os mai dyna yw eu dewis. Bu modd i 99 y cant o'r cleifion a gafodd ofal hosbis yn y cartref farw gartref.

Mae'r holl ofal a ddarperir gan Gofal Hosbis Dewi Sant yn rhad ac am ddim. Fodd bynnag, mae'n costio £13,500 bob dydd i ddarparu'r gofal hwnnw. Mae'r hosbis yn derbyn arian gan y GIG a Llywodraeth Cymru i gefnogi eu gwaith, ac mae hwnnw'n rhoi hwb i'r arian cyhoeddus a ddaw drwy roddion gan y cyhoedd, cymynroddion a grantiau gan ymddiriedolaethau. Wrth i'r galw am ei wasanaeth barhau i gynyddu, mae Gofal Hosbis Dewi Sant yn rhagweld y byddant yn gorffen y flwyddyn ariannol hon gyda diffyg o £262,000. Mae hosbisau elusennol ar draws Cymru, gan gynnwys Tŷ Hafan, yr ymwelais ag ef hefyd, yn wynebu pwysau ariannol yr un mor enbyd. Er fy mod yn deall y penderfyniadau cyllidebol anodd iawn y mae Llywodraeth Cymru yn gorfod eu gwneud—a gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol iawn o'r sefyllfa ansicr i hosbisau—byddai hosbisau, cleifion a theuluoedd yn ddiolchgar iawn pe bai'r Gweinidog yn gallu rhoi rhywfaint o eglurder ynglŷn â mecanwaith ariannu hosbisau yn y dyfodol yng Nghymru. A all y Gweinidog gofnodi ei diolch am y gwaith anhygoel ac amhrisiadwy y mae hosbis Dewi Sant a gofal hosbis arall yn ehangach yn ei roi? Diolch.

17:30

Yn ôl yn 2006, cynhaliais ddigwyddiad yma i dynnu sylw at rôl hanfodol hosbisau yn darparu gwasanaethau gofal lliniarol yng Nghymru, a galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng ariannu cynyddol roeddent yn ei wynebu bryd hynny, ac fe'i mynychwyd gan bob hosbis yng Nghymru. Cadeiriais ymchwiliad y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol yn 2018 i anghydraddoldebau mewn mynediad at ofal hosbis a gofal lliniarol yng Nghymru, a ganfu fod angen sylweddol nad yw'n cael ei ddiwallu ac angen nad yw'n cael ei ddiwallu'n ddigonol; nad oedd cyllid statudol i hosbisau wedi cynyddu ers degawd, ac felly wedi gostwng mewn termau real bob blwyddyn; fod cyllid statudol ar gyfer hosbisau plant yng Nghymru yn sylweddol is nag yn Lloegr a’r Alban, a bod cyllid statudol ar gyfer hosbisau oedolion yng Nghymru yn is fel canran o’r gwariant nag yn unrhyw wlad arall yn y DU. Hefyd, cadeiriais ymchwiliad y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol i brofiadau o ofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y gymuned yn ystod pandemig COVID-19. Canfu ein hadroddiad, a gyhoeddwyd fis Ionawr diwethaf, y rhagwelir y bydd nifer y bobl sydd angen gofal lliniarol yn cynyddu dros 40 y cant erbyn 2040, gyda llawer o’r twf hwn mewn lleoliadau cymunedol.

Mae pob hosbis yng Nghymru yn rhagweld diffyg ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, ac yn dibynnu ar eu cronfeydd wrth gefn cyfyngedig iawn i dalu am y diffyg a diogelu gwasanaethau. Y realiti caled yw bod hosbisau Cymru eisoes yn gwneud toriadau i wasanaethau, gydag 80 y cant o aelodau Hosbisau Cymru yn dweud wrthym fod pwysau’n debygol iawn o arwain at orfod lleihau nifer rhai o'r gwasanaethau a ddarperir ymhellach. Bydd hyn yn arwain at lai o gymorth ar gael i’r system ehangach, megis ysbytai a chartrefi gofal, gan roi mwy o bwysau diwedd oes ar GIG Cymru, sydd eisoes o dan bwysau. Mae dros 80 y cant o'r hosbisau sydd ag unedau cleifion mewnol yn credu bod pwysau costau byw yn debygol iawn o arwain at sefyllfa lle na fydd un neu fwy o welyau cleifion mewnol ar gael dros dro neu’n barhaol.

Fodd bynnag, caiff y rhan fwyaf o'u gofal ei ddarparu yn y gymuned drwy eu hymdrechion elusennol eu hunain i godi arian, gan leihau'n sylweddol nifer y derbyniadau i'r ysbyty a galluogi cleifion i aros gartref. Fodd bynnag, mae costau staff ac ynni cynyddol, pwysau'r gweithlu a galw cynyddol am ofal cymhleth yn fygythiad difrifol i allu hosbisau Cymru i barhau i wneud hyn ac i fod yn bartneriaid allweddol wrth helpu i drawsnewid gwasanaethau gofal lliniarol ar gyfer y dyfodol. Mae codiadau cyflog y GIG dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi arwain at gynnydd o oddeutu £5.4 miliwn i gyfanswm costau staffio hosbisau. Mae hosbisau oedolion a phlant yng Nghymru wedi ymrwymo i dalu cyflogau teg a chystadleuol i'w staff gwych, ond ni allant ddal i fyny â chodiadau cyflog y GIG na chwyddiant sylweddol ym mhob rhan o'u darpariaeth.

Yn y grŵp trawsbleidiol, disgrifiodd hosbisau plant Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith yr heriau difrifol y maent yn eu hwynebu wrth ddarparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion lleol ar draws ardaloedd helaeth o Gymru, lle mae hosbisau, yn aml, yn unig ffynhonnell o gymorth i blant a’u teuluoedd. Mae costau teithio'n parhau i fod yn broblem wirioneddol i deuluoedd ynghyd â chymorth y tu allan i oriau a gwaith partneriaeth gyda thimau nyrsio plant cymunedol sydd dan bwysau cynyddol.

Disgrifiodd Hosbis Dewi Sant yn Llandudno sut roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn torri eu cyllid ar adeg pan fo'r bwrdd iechyd wedi cael gwared â'i welyau gofal lliniarol arbenigol ei hun. Ar hyn o bryd, mae'r hosbis yn darparu tri chwarter ei gwasanaethau drwy ei hymdrechion elusennol ei hun i godi arian. Dywedant y dylai'r adolygiad cyllid fynd i'r afael â'r pwysau uniongyrchol hyn a loteri cod post cyllido hosbisau yng Nghymru, ochr yn ochr ag adeiladu model mwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Mae hosbisau, fel y clywsom, yn darparu arbenigedd, arloesedd a gallu i wella gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, mynd i’r afael â mynediad teg, gwella cynlluniau gofal ymlaen llaw ac at y dyfodol, a datblygu mesurau profiad a chanlyniadau cenedlaethol. Golyga toriadau i’w gwasanaethau fod gallu partneriaethau hosbis i weithio gyda Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd er mwyn trawsnewid gwasanaethau a mynd i’r afael â’r galw cynyddol am ofal lliniarol a gofal diwedd oes yn crebachu.

Mae hosbisau'n arbed miliynau i GIG Cymru, a gallant eu helpu i arbed miliynau'n rhagor gyda chyllid clyfar a gwasanaethau sydd wedi’u cynllunio a’u darparu ar y cyd. Fel arall, mae’r effaith negyddol ar gleifion a’u teuluoedd, pan fo hosbisau’n gorfod torri gwasanaethau, yn golygu nad yw pobl yng Nghymru sydd wedi cael diagnosis gofal lliniarol yn cael y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i fyw eu bywyd gorau ac i gael marwolaeth dda. Byddai Llywodraeth Cymru yn methu yn eu dyletswydd pe na baent yn gweithio gyda’r sector hosbisau i fynd i’r afael â’r heriau cyllid uniongyrchol ac yn datblygu ateb cyllido cynaliadwy hirdymor. Diolch yn fawr.

17:35

Fel fy nghyd-Aelod, Jayne Bryant, hoffwn innau dalu teyrnged i hosbis Dewi Sant yng Nghasnewydd oherwydd y gwaith hynod o dda a wnânt, sydd mor bwysig i unigolion, eu teuluoedd a’r gymuned. Maent mor werthfawr ac uchel eu parch, a hynny am reswm da, Ddirprwy Lywydd, ac mae'n fraint gallu talu teyrnged iddynt yn y ddadl hon heddiw.

Fel y dywedodd Jayne, mae’r gofal y maent yn ei ddarparu, gofal diwedd oes, yng nghartrefi pobl, sef, yn aml iawn, lle mae pobl yn dymuno treulio eu dyddiau olaf, yng nghysur amgylchedd cyfarwydd gyda’u hanwyliaid, mor hynod o bwysig i’r unigolion hynny a’u teuluoedd, a bod sefydliad ar gael sy’n gwneud y math hwnnw o ofal diwedd oes yn bosibl yn eu cartref eu hunain. Dyma'r adeg anoddaf i deuluoedd, onid e, pan fo rhywun yn y teulu'n agosáu at ddiwedd eu hoes, ac mae cael y cymorth hwnnw wrth law, yr arbenigedd hwnnw, y profiad hwnnw, y nyrsys hynny, yn hynod werthfawr. Ac wrth gwrs, yn ychwanegol at hynny, mae gofal mewnol hosbisau ar gael hefyd, lle mae hynny'n angenrheidiol neu pan fydd cleifion yn dymuno hynny.

O ystyried pwysigrwydd eu gwasanaethau a gwerth eu gwasanaethau, mae'n eithaf anhygoel meddwl, fel y mae eraill wedi'i wneud, faint o arian y maent yn ei godi eu hunain, gan ei fod mor bwysig i ddarpariaeth gofal iechyd yn gyffredinol, ac yn wir, mae’n mynd â chymaint o bwysau oddi ar y wladwriaeth, byddech yn credu y byddai mwy o’r cyllid hwnnw’n dod o sector y wladwriaeth. Mae sefydliad Dewi Sant yn gwneud gwaith anhygoel o ran faint o arian y maent yn ei godi a'r ymdrechion a wnânt. Rwy’n falch iawn o redeg hanner marathon Casnewydd bob blwyddyn, sy’n un o ddigwyddiadau sefydliad Dewi Sant ac sy'n codi llawer iawn o arian iddynt, a bydd yn cael ei gynnal ymhen ychydig wythnosau, ac edrychaf ymlaen at gymryd rhan eto. A gwn fod rhai problemau'n ymwneud â pharhad y digwyddiad hwnnw, ac mae angen mynd i'r afael â nhw, Ddirprwy Lywydd, am ei fod mor bwysig i sefydliad Dewi Sant.

Hoffwn dalu teyrnged hefyd i Dŷ Hafan, oherwydd, unwaith eto, rwyf wedi cael y fraint o ymweld â’u hosbis yn Sili ar sawl achlysur, ac unwaith eto, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw eu gwasanaethau i deuluoedd. Ac fel y gwyddom, mae cyflyrau mwy a mwy cymhleth gan bobl ifanc yng Nghymru, ac mae'r galw am eu gwasanaethau'n tyfu o un wythnos i'r llall, o un mis i'r llall. O ystyried yr holl heriau eraill y gwyddom amdanynt—yr argyfwng costau byw, effaith chwyddiant, dyfarniadau cyflog—mae'n amlwg yn hynod o anodd iddynt, o ystyried y galw cynyddol, ond y pwysau cynyddol o ran costau, i ddarparu'r gwasanaethau, lefel y gwasanaethau, ansawdd y gwasanaethau, y maent mor ymrwymedig iddynt. Ac mae mor dorcalonnus ymweld â’r hosbis honno a gweld, ar y waliau, olion dwylo'r plant sydd wedi elwa o waith Tŷ Hafan dros y blynyddoedd, a’u staff ymroddedig, fel y credaf y byddai pob un ohonom yn gwybod pa mor bwysig yw hi i wneud popeth a allwn, popeth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, i ddarparu'r cymorth sydd ei angen arnynt, wrth iddynt symud ymlaen ac wynebu'r heriau hyn. Oherwydd mae hyn yn ymwneud â'r plant fel unigolion, onid yw? Mae'n ymwneud â'r teuluoedd. Mae'n ymwneud â'r cymunedau.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Mabon ap Gwynfor am gyflwyno’r mater pwysig hwn yn y Siambr, ac rwy’n cydnabod ei ymrwymiad personol i’r agenda benodol hon, a hoffwn ddiolch i bawb arall sydd wedi cyfrannu heddiw.

Credaf y gall pob un ohonom gytuno bod hosbisau elusennol yn cyflawni rôl gwbl hanfodol yn darparu gofal a chymorth diwedd oes o ansawdd uchel. Un o'r cyfnodau anoddaf ym mywyd unrhyw un yw pan fyddwch yn colli un o'ch anwyliaid, ac mae cael y math hwnnw o arbenigedd yn y cymorth o'ch cwmpas, pan fyddwch yn mynd drwy hynny, yn gwbl amhrisiadwy. Felly, mae'n gwneud gwahaniaeth enfawr, nid yn unig i'r unigolyn ar ddiwedd eu hoes, ond hefyd i'r teuluoedd wrth gwrs. Ac rwy'n credu bod yn rhaid inni gydnabod cyfraniad enfawr hosbisau i'r GIG yng Nghymru. Maent yn sicr yn helpu i leihau derbyniadau drwy gefnogi pobl i farw yn eu cartrefi eu hunain. Roedd y ffigurau a roddwyd i mi y diwrnod o’r blaen ar yr ymweliad â hosbis Dewi Sant yn gwbl syfrdanol. A'r pwynt yw y byddai'n well gan y rhan fwyaf o bobl farw gartref, a dyna ran helaeth o'r hyn a wnânt. Rydym weithiau’n anghofio, mewn gwirionedd, fod y rhan fwyaf o’u gwaith yn digwydd yng nghartrefi pobl.

Nawr, gwn fod hosbisau'n wynebu heriau cynyddol, a'u bod, fel pawb arall, yn ceisio ymdopi â'r cynnydd hwn mewn costau ynni a chostau gweithredu. Rwyf wedi cyfarfod â Hosbisau Cymru, y sefydliad sy’n cynrychioli hosbisau ledled Cymru, a hosbisau unigol i drafod eu pryderon. Ac roedd yn fraint fawr cael gwahoddiad gan Jayne i ymweld â hosbis Dewi Sant yng Nghasnewydd, a diolch am y gwahoddiad hwnnw. Dysgais lawer, yn sicr. Mae'n adeilad anhygoel, ac roedd yr awyrgylch yn hollol addas ar gyfer y math o ofal o ansawdd y maent yn ceisio'i ddarparu. Rwyf hefyd wedi ymweld â Hospis Tŷ'r Eos a Thŷ Hafan, i weld drosof fy hun yr heriau uniongyrchol y maent yn eu hwynebu. A hoffwn ddymuno pob lwc i John gyda'i hanner marathon, wrth godi'r arian hwnnw, rhywbeth y gwn ei fod yn ei wneud yn flynyddol.

Maent wedi rhoi gwybod i mi fod 90 y cant o hosbisau yn cyllidebu ar gyfer ddiffyg yn 2023-24, ac maent yn defnyddio cronfeydd wrth gefn i dalu am y diffyg hwnnw. Rwy’n llwyr gydnabod bod hon yn sefyllfa anodd i hosbisau ei hwynebu. Fel y gŵyr yr Aelodau, rydym mewn sefyllfa ariannol anodd, a daw hyn ar adeg pan ydym hefyd yn ceisio adfer wedi effaith y pandemig, a mynd i’r afael â’r ffaith bod gennym boblogaeth sy’n heneiddio. Mae rhai o'r ffigurau y dywedodd Mabon wrthym amdanynt, a'r cynnydd rydym yn debygol o'i weld, yn rhywbeth y mae'n rhaid inni fod o ddifrif yn ei gylch.

Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’r sector hosbisau i fynd i’r afael â’r materion hyn, ac i archwilio beth arall y gallem ei wneud i helpu i gefnogi hosbisau. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod, yn 2021, wedi gwneud ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i gadw ffocws ar ofal diwedd oes, ac i gynnal adolygiad o gyllid hosbisau. Ym mis Hydref 2022, fe wnaethom gyhoeddi'r datganiad ansawdd ar ofal lliniarol a gofal diwedd oes, ac er gwaethaf yr amgylchiadau heriol, rydym yn parhau i gynnal yr ymrwymiadau allweddol hyn gan y Llywodraeth. Felly, rydym wedi cyflawni cam cychwynnol yr adolygiad o gyllid hosbisau, ac fe wnaethom ddarparu £2.2 miliwn ychwanegol ar gyfer hosbisau ar sail reolaidd o fis Ebrill 2022.

Nawr, mewn ymateb i ail gam yr adolygiad, mae cyllid yn cael ei ddarparu i gynyddu capasiti nyrsys ardal a nyrsys clinigol cymunedol arbenigol, gyda rhai'n canolbwyntio'n benodol ar ofal diwedd oes fel rhan o raglen Ymhellach, Yn Gyflymach; roedd yn dda trafod hynny gyda’r hosbis. Mae tîm y rhaglen gofal lliniarol a gofal diwedd oes bellach yn gweithio ar gyflawni trydydd cam a cham olaf yr adolygiad cyllid. Mae’r gwaith hwnnw’n cael ei gyflawni ar y cyd â’r sector hosbisau gwirfoddol i ddeall ac i ddehongli’r gwahaniaethau, yr annhegwch a’r risgiau i’r trefniadau cyllido a chomisiynu presennol.

Bydd y cam hwn yn cynnwys ystyried llawer o’r materion dybryd y mae hosbisau’n eu hwynebu, gan gynnwys y cynnydd chwyddiant i ffrydiau cyllido presennol, y cytundebau lefel gwasanaeth a gwella tegwch mewn perthynas â chyllid hosbisau, a gwerthfawrogiad o heriau’r gweithlu, ac mae’r effaith y mae poblogaeth sy'n heneiddio'n ei chael ar ofal diwedd oes, yn y tymor canolig ac yn fwy hirdymor, hefyd dan ystyriaeth er mwyn galluogi cynllunio mwy effeithiol ar gyfer anghenion y dyfodol.

Mae disgwyl i fersiwn derfynol adroddiad interim cam 3 ddarparu argymhellion ar gyfer y tymor byr i’r tymor canolig, a dwi’n disgwyl gweld y rhain yn hwyrach y mis yma. Bydd rhai ar gyfer y tymor hir hefyd yn cael eu cwblhau yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Byddwn ni’n cymryd ein hamser ni i’w hystyried nhw yn llawn, ond dwi eisiau i chi fod yn ymwybodol fy mod i’n cymryd y mater hwn yn ddifrifol. Dwi’n deall pa mor ddifrifol yw’r sefyllfa iddyn nhw, mewn cyfnod, wrth gwrs, sy’n arbennig o heriol yn ariannol. Mae’n bwysig i ni ystyried hefyd a yw’r ymyrraeth glinigol rŷn ni’n ei gwneud yn gwneud digon o wahaniaeth ac o werth. Felly, mae’n rhaid i ni ystyried y rhain ar draws yr NHS.

O ran galwadau penodol ar Lywodraeth Cymru yn adran 2 y cynnig, dwi’n cytuno yn llwyr â phwynt (a), bod gweithio gyda’r sector, ochr yn ochr â’r sector, yn hollol bwysig ac yn hanfodol. Dwi wedi sôn cyn hyn fod tîm y rhaglen gofal lliniarol a gofal diwedd oes wedi dechrau rhoi hyn ar waith yn barod, ac maen nhw’n edrych ar y materion penodol hyn o ran cyllid a’r heriau y mae’r sector yn eu profi. Maen nhw hefyd yn ystyried y gwaith cynllunio ar gyfer y tymor hirach. Mae tîm y rhaglen hefyd yn ystyried a ydy’n bosibl datblygu fframwaith comisiynu cenedlaethol ar gyfer hosbisau. Byddai'r fframwaith hwn yn chwilio am ateb cyllid cynaliadwy ar gyfer y tymor hir mewn perthynas â’r bartneriaeth gyda’r sector hosbisau, a byddai hefyd yn rhoi manyleb gwasanaethau cenedlaethol ar waith ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes. Mae ymateb i heriau’r gweithlu hefyd yn flaenoriaeth i dîm y rhaglen, ac mae’n gam gweithredu allweddol yn y datganiad ansawdd.

Gwn fod cwestiwn wedi bod ynglŷn ag a fydd y cyllid ychwanegol y mae byrddau iechyd wedi’i gael ar gyfer hosbisau yn cael ei wireddu mewn gwirionedd, ac mae’n rhaid imi ddweud wrthych fod y cyllid hwnnw wedi’i neilltuo ar gyfer hosbisau, ac mae’r naratif yn llythyr cyd-ddyrannu'r GIG yn cadarnhau hyn, ac mae llythyr dilynol gan y dirprwy brif swyddog meddygol yn mynd i gael ei anfon a'i gopïo i hosbisau. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny’n rhoi rhywfaint o hyder iddynt fod yr hyn y dywedasom y dylai fynd i hosbisau yn eu cyrraedd ar y rheng flaen.

Yn olaf, ac o ran pwynt (c), dwi wedi derbyn yn barod bod angen mwy o amser er mwyn darparu amcangyfrifon mwy cywir o’r niferoedd dan sylw, ac er mwyn casglu tystiolaeth ehangach ar gyfer adroddiad cam 3 terfynol.

So, diolch unwaith eto i Blaid Cymru am godi’r mater pwysig yma. Dwi am eich sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn dal i fod wedi ymrwymo i ddarparu gofal lliniarol a gofal diwedd oes o ansawdd uchel ar draws Cymru. Diolch yn fawr.

17:45

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Wel, mae hyn yn ymwneud yn ei hanfod â chyllid teg ar gyfer ein hosbisau, ac nid o reidrwydd arian newydd bob amser, er bod hynny hefyd yn ffactor pwysig lle maent yn chwilio am gynnydd, ac am sicrwydd, a gobeithio y bydd clywed am y sicrwydd o arian wedi'i glustnodi yn lleddfu rhywfaint o'r pryderon hynny. Ond mae'n ymwneud hefyd i bob pwrpas â sicrhau eu bod yn cael yr arian a addawyd iddynt yn flaenorol. Mae Gweinidogion iechyd olynol wedi cyfarwyddo byrddau iechyd i sicrhau bod hosbisau’n cael y codiadau cyfatebol mewn perthynas â’r ‘Agenda ar gyfer Newid’ a chwyddiant dros y chwe blynedd diwethaf, ond ceir enghreifftiau, megis yn Betsi Cadwaladr yn fy ardal i, lle mae’r cyfarwyddiadau hyn wedi cael eu hanwybyddu. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn mynd i'r afael â hyn, ac os hoffai, gallaf ysgrifennu ati’n uniongyrchol ar y pwynt hwn.

Erys y pwynt sylfaenol fod hosbisau’n darparu gwasanaethau y byddai’n rhaid i’r byrddau iechyd eu darparu fel arall, ond rydym yn gweld gwelyau gofal lliniarol arbenigol yn cau mewn ysbytai nawr. Dros y blynyddoedd, mae byrddau iechyd wedi cau gwelyau gofal lliniarol arbenigol mewn ysbytai acíwt a chymunedol, ac wedi trosglwyddo’r cyfrifoldeb hwnnw i hosbisau. Mae Ysbyty Eryri yng Nghaernarfon yn enghraifft o hyn. Ac eto, er bod y byrddau iechyd wedi cau'r gwelyau hyn, nid yw’r cyllid yn dilyn, felly mae hosbisau elusennol yn gorfod codi arian yn eu cymunedau i gynnig gwasanaethau yn lle'r rhai sydd wedi’u torri ac a ddylai fod yn gyfrifoldeb i'r bwrdd iechyd. A yw’n iawn fod ein byrddau iechyd yn torri eu darpariaethau gyda’r disgwyliad y bydd hosbisau’n ysgwyddo'r baich, er nad ydynt yn cael cyllid priodol i wneud hynny? Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn mynd i'r afael â hynny ac yn rhoi pwysau ar y byrddau iechyd i wneud y taliadau y mae’n rhaid iddynt eu gwneud.

Yn ychwanegol at hynny, mae buddsoddiadau olynol a threfniadau ariannu brys wedi’u rhoi ar waith i gefnogi byrddau iechyd mewn cyfnodau o gostau cynyddol, ond caiff hosbisau eu hamddifadu o hynny, gan gynyddu’r baich a gwthio’r sector i’r hyn a ddisgrifiais yn gynharach fel argyfwng dirfodol. A hyn oll tra bo hosbisau’n parhau i gynnig gwasanaethau craidd rheng flaen na all byrddau iechyd eu darparu neu y maent yn dewis peidio â’u darparu.

Hefyd, mae'r trefniadau comisiynu sydd gennym yn wael neu'n absennol. Mae gan fyrddau iechyd drefniadau gwael iawn gyda’r hosbisau, sy’n golygu bod modelau ariannu wedi dyddio ac yn ecsbloetiol, ac nid oes fawr o awydd i’w newid. Ond wrth wrando ar ymateb y Gweinidog nawr, soniodd y Gweinidog y bydd yn edrych ar y cytundebau lefel gwasanaeth, felly gobeithio y bydd hynny’n ateb y pryder hwnnw. Ond fel y dywedodd Jayne Bryant, mae gwely gofal lliniarol yn costio rhwng £600 a £1,300 i rai byrddau iechyd, ac eto mae’r cyllid y mae hosbisau’n ei gael gan y bwrdd iechyd oddeutu £150 y noson, sydd ymhell o fod yn ddigon i gynnal y gwasanaeth—sy’n wasanaeth pum seren—a ddarperir gan ein hosbisau.

Nodaf fod Jayne Bryant a John Griffiths ill dau wedi sôn am hosbis Dewi Sant a’r gwasanaeth gwych yn hosbis Dewi Sant yng Nghasnewydd. Cefais fy synnu, wrth glywed yr ystadegau, fod nifer y bobl y maent yn ymdrin â nhw yn fwy na holl ysbytai acíwt y rhanbarth gyda’i gilydd, sy’n dangos gwerth hosbis Dewi Sant yng Nghasnewydd a phob hosbis arall yng Nghymru fel ei gilydd. Ond rwy'n rhoi'r un gwahoddiad i'r Gweinidog: os hoffai'r Gweinidog ymuno â mi i ymweld â hosbis Dewi Sant yng ngogledd Cymru i weld y gwaith sy'n digwydd yno hefyd, byddai hynny'n cael ei groesawu gan hosbis Dewi Sant.

Yn olaf, ar fater ecsbloetio'r elusennau annibynnol hyn a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, a chan ddychwelyd at y pwynt hwnnw, pam y dylai gofal diwedd oes arbenigol mewn amgylchedd cyfforddus ddibynnu ar faint o ddillad ail law neu faint o bobl sy’n rhedeg ras benodol, a faint o gyllid y gallant ei godi'n lleol? Pam y dylent fod yn ddibynnol ar hynny? Nid yw'n fodel y gellir ei gyfiawnhau yn y gymdeithas fodern.

Yn olaf, soniodd y Gweinidog am gam 3. Nawr, rydym yn deall ein bod yn disgwyl rhywbeth y mis hwn. Mae hynny’n rhoi chwe diwrnod, rwy’n credu, felly a allwn ddisgwyl gweld rhywbeth yr wythnos nesaf? Buaswn yn gwerthfawrogi rhywfaint o eglurder ar hynny.

Felly, i gloi fy nghyfraniad, yr alwad heddiw yw dod o hyd i fodel ariannu addas sy'n sicrhau cyflog teg i staff, yn sicrhau model ariannu cynaliadwy hirdymor, ac os na ellir cyflawni hynny drwy'r adolygiad presennol, yna i ymestyn yr adolygiad hwnnw, fel y clywsom—diolch i’r Gweinidog am hynny—i ddod o hyd i gytundeb credadwy. Dyna pam fod y cynnig hwn ger ein bron, a buaswn yn gwerthfawrogi cefnogaeth pawb heno. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.

17:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Y tu ôl i’r llenni: Gweithlu’r diwydiannau creadigol'
8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ariannu llywodraeth leol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 3 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Peredur Owen Griffiths. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Felly, eitem 8, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ariannu llywodraeth leol. Galwaf ar Sam Rowlands i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8459 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y rôl hanfodol y mae cynghorau'n ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru a'r heriau cyllido y maent yn eu hwynebu.

2. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn derbyn y lefelau uchaf erioed o gyllid gan Lywodraeth y DU.

3. Yn nodi bod gan gynghorau dros £2.75 biliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio.

4. Yn gresynu bod cynghorau'n ymgynghori ar godiadau o hyd at 25 y cant i’r dreth gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-2025.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) comisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla cyllido llywodraeth leol Cymru;

b) gweithio gydag awdurdodau lleol i ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio i gadw'r dreth gyngor mor isel â phosibl; ac

c) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw awdurdod lleol sy'n cynnig codiad o dros 5 y cant i’r dreth gyngor gynnal refferendwm lleol a chael pleidlais o blaid cyn gweithredu'r cynnydd arfaethedig.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o agor y ddadl hon heno ar ariannu llywodraeth leol, ac rwy'n gwneud cynnig y Ceidwadwyr Cymreig, a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar.

Nid oes dianc rhag y ffaith bod hwn yn gyfnod anodd i gyllid cyhoeddus. Mae gennym effaith gronnol materion byd-eang yn parhau i gynyddu, gan gynyddu costau nwyddau, deunyddiau crai, darparu gwasanaethau a llawer mwy. Mae chwyddiant wedi bod yn her enfawr. Diolch byth, rydym yn gweld hyn yn newid. Mae’n dod i lawr, ar ôl cael ei haneru diolch i Brif Weinidog y DU, Rishi Sunak, ond mae mwy i’w wneud o hyd.

Ac mae’r cyd-destun hwn yn bwysig i’w ddeall, gan fod y cyd-destun yn cael effaith ar ein cynghorau yma yng Nghymru. Ond mae'n rhaid inni gofio bob amser fod cyllid llywodraeth leol yn cael ei reoli gan Lywodraeth Lafur Cymru. Maent wedi elwa eleni ar y lefelau uchaf erioed o gyllid gan Lywodraeth Geidwadol y DU. Mater iddynt hwy yn llwyr wedyn yw sut maent yn rheoli'r arian hwnnw. Yn anffodus i gynghorau lleol, mae Llafur Cymru yn parhau i ddefnyddio fformiwla ariannu llywodraeth leol sy’n sylfaenol annheg.

Rydym yn gweld cynghorau yng ngogledd Cymru ac ardaloedd gwledig yn cael eu cosbi, gan greu system o enillwyr a chollwyr. Un enghraifft yn fy rhanbarth i yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf yw bod Cyngor Sir Ddinbych wedi cael £256 y pen yn fwy na’r sir gyfagos, Conwy, sir sydd â daearyddiaeth, demograffeg ac economi leol debyg iawn. Mae hynny wedi creu bwlch cyllid o £20 miliwn rhwng y ddau awdurdod lleol—y naill 15 y cant yn uwch na’r llall. Mae'n anodd iawn gweld pam fod gwahaniaeth o'r fath wedi digwydd. Mae angen diwygio'r fformiwla ariannu'n gyfan gwbl.

Mae'n ffaith—[Torri ar draws.] Ai ymyriad yw hwn?

17:55

Ie, ar y fformiwla ariannu annheg hon. Yr unig ffordd o'i newid yw pe gallech gael pob un o’r awdurdodau lleol i gytuno ar un wahanol, gan fod hyn yn rhywbeth y maent yn ei wneud gyda’i gilydd. Felly, os ydych yn credu ei bod yn annheg—ac efallai'n wir ei bod—beth fyddech chi'n ei wneud?

Oni fyddai’n wych pe bai Llywodraeth Cymru yn derbyn y cyfrifoldeb ac yn arwain ar hyn hefyd, ac yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol i weld sut y gellid gweithio drwy’r anghysondebau hynny?

Mae'n ffaith bod cyfanswm y dreth gyngor yng Nghymru wedi cynyddu dros £900 y cartref, neu oddeutu 200 y cant, ers i'r Llywodraeth Lafur ddechrau yma yn Senedd Cymru. Yn amlwg, mae rhywbeth o'i le, lle mae trethi a godir gan awdurdodau lleol yn cynyddu cymaint â hynny—200 y cant—a'n trethdalwyr cyffredin sy'n gorfod talu'r pris am hynny. Mae’n amlwg eto fod angen diwygio hyn yn gyfan gwbl, sy'n rhywbeth y mae Jenny Rathbone yn awyddus i’w weld hefyd, rwy'n siŵr. Rydym yn galw, ac yn parhau i alw, ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu—a dyma ble gallant arwain—adolygiad annibynnol o’r fformiwla ariannu, i sicrhau nad yw'r gwahaniaeth yn y lefelau cyllido'n parhau.

Yn rhyfeddol, pan fo rhai cynghorau’n cael eu tanariannu'n gyson, mae cynghorau eraill wedi llwyddo i gadw symiau gormodol o arian mewn cronfeydd wrth gefn. Gwyddom fod gan gynghorau yng Nghymru oddeutu £2.75 biliwn mewn cronfeydd wrth gefn ar hyn o bryd. Rwy'n hanner aros i Mike Hedges neidio i mewn ar y pwynt hwn, ond mae'n gwbl briodol i gynghorau gadw lefel o gronfeydd wrth gefn ar gyfer diwrnod glaw gyfer cyfnodau anodd. Nawr, byddai rhai'n dweud ei bod bellach yn arllwys y glaw, a'i bod yn gyfnod anodd iawn, a bod angen edrych o ddifrif ar y cronfeydd wrth gefn hynny. Felly, yn hytrach na dal gafael ar y cronfeydd wrth gefn hynny ar gyfer diwrnod hyd yn oed yn fwy glawog, efallai fod angen eu defnyddio, edrych arnynt, eu hadolygu, i sicrhau eu bod yn diogelu ein pobl agored i niwed a gwasanaethau hanfodol, yn hytrach na rhoi mwy fyth o faich ar drethdalwyr.

Gadewch inni ystyried cyngor Rhondda Cynon Taf er enghraifft, sy'n cael ei redeg gan Lafur. Mae ganddo £270 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn. Nawr, ni ellir gwadu bod rhywfaint o'r arian hwnnw'n cael ei gadw'n ddarbodus yno wrth gefn, a dyna'r peth iawn i'w wneud. Ond fe wyddom hefyd fod yr awdurdod lleol yn Rhondda Cynon Taf yn cynnal adolygiad o gludiant am ddim i'r ysgol ac yn codi'r dreth gyngor eto ymhell uwchlaw 5 y cant, felly mae'n anodd cyfiawnhau dal gafael ar £270 miliwn gan wneud y toriadau hynny i wasanaethau awdurdodau lleol ar yr un pryd.

Felly, mae'r toriadau hyn i wasanaethau, ynghyd â'r codiadau treth, yn digwydd ledled Cymru. Mae trethdalwyr sydd dan bwysau'n cael y gwaethaf ym mhob ffordd, ac mae Llywodraeth Cymru'n gwrthod gwneud dim ynglŷn â'r peth. Mae'n gwbl nodweddiadol o Lafur Cymru a dweud y gwir. Maent yn cwyno nad oes ganddynt lawer o arian, yn gwneud dim ynglŷn â'r peth, ac yna'n trosglwyddo'r broblem i'n cynghorau i godi trethi yn lle hynny. Maent yn arbenigwyr ar daflu'r baich a gorfodi'r penderfyniadau anodd ar ein cynghorau.

O ganlyniad, mae rhai cynghorau’n gorfod ymgynghori nawr ar godiadau o hyd at 25 y cant yn y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf—cynnydd syfrdanol a fyddai’n golygu cost ychwanegol i'n trigolion gweithgar. Yn y cyd-destun hwn, rydym ni ar y meinciau hyn yn credu bod pobl yn haeddu mwy o lais dros y codiadau hyn yn y dreth gyngor. Credwn ei bod bellach yn bryd sicrhau ei bod yn ofynnol i unrhyw awdurdod lleol sy’n cynnig codiad o dros 5 y cant yn y dreth gyngor gynnal refferendwm lleol ar y codiad hwnnw. Byddai hyn yn cynyddu atebolrwydd i gynghorau ledled Cymru sydd â lefelau sylweddol o gronfeydd wrth gefn. Byddai hefyd yn cynyddu cyfranogiad y cyhoedd yn y cynlluniau hyn. Pe baent yn gwrthod y cynnydd, byddai'n rhaid i gynghorau ailfeddwl ac ystyried mesurau eraill.

Yn y cyfamser, nodwn heddiw fod £600 miliwn arall wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Geidwadol y DU i gefnogi cynghorau yn Lloegr. Nawr, ar y meinciau hyn, rydym yn cytuno â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac yn sefyll gyda’n cynghorau yng Nghymru, y dylid pasbortio unrhyw gyllid canlyniadol o’r cyhoeddiad hwnnw gan Lywodraeth y DU yn syth i’n cynghorau fel y gallant leihau unrhyw godiadau yn y dreth gyngor a helpu i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar ein trigolion. A Weinidog, buaswn yn falch o glywed a yw hynny'n rhywbeth rydych chi'n ymrwymo i'w wneud heddiw, hefyd, fel Llywodraeth Cymru.

Felly, yn gryno ac i gloi, dylai'r Llywodraeth hon yng Nghaerdydd wneud popeth yn ei gallu i greu system decach, fwy cyfiawn i awdurdodau lleol, yn hytrach na'r llanast presennol rydym ynddo heddiw. Diolch yn fawr iawn.

18:00

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliannau 1 a 3, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. 

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu pwyntiau 1 a 2 a rhoi yn eu lle:

Yn cydnabod y rôl hanfodol sydd gan awdurdodau lleol o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, y cynnydd sylweddol yn y setliad llywodraeth leol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, diogelu'r cynnydd o 3.1 y cant ar gyfer 2024-25, a'r heriau cyllido y mae awdurdodau yn eu hwynebu serch hynny.

Yn cydnabod bod cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 bellach yn werth hyd at £1.3 biliwn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei phennu yn 2021.

Gwelliant 3—Lesley Griffiths

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn:

a) parhau i ddatblygu a chynnal fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru mewn partneriaeth â llywodraeth leol; a

b) parhau i gydnabod pwysigrwydd gwneud penderfyniadau democrataidd lleol ynghylch cyllidebau cynghorau a gwasanaethau cyhoeddus.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 3.

Yn ffurfiol.

Galwaf ar Peredur Owen Griffiths i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn ei enw.

Gwelliant 2—Peredur Owen Griffiths

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu at:

a) y tanariannu cronig i Gymru gan lywodraethau olynol y DU, sy'n effeithio ar gyllidebau awdurdodau lleol; a

b) amcangyfrifon o fwlch cyllido o £750 miliwn erbyn 2027 a fydd yn ymwreiddio ymhellach amddifadedd ac anghydraddoldeb.

Yn credu bod cyllid llywodraeth leol yng Nghymru ar daflwybr anghynaladwy heb fodel ariannu teg o San Steffan.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gofyn yn ffurfiol i Lywodraeth y DU adolygu model cyllido Barnett ar sail anghenion cymdeithasol Cymru i gefnogi pob maes cyllidebol, gan gynnwys cyllid awdurdodau lleol;

b) cyflwyno cynlluniau manwl ar frys a fydd yn rhoi sylfaen gynaliadwy i awdurdodau lleol a'r holl wasanaethau cyhoeddus; ac

c) darparu canllawiau ar sut mae isafswm presennol y Grant Cynnal Refeniw yn ymwneud â setliad llywodraeth leol ar gyfer 2024-25, a datblygu strategaeth i sicrhau y caiff y Grant Cynnal Refeniw ei gymhwyso'n gyson drwy flynyddoedd ariannol dilynol.

Yn galw ar Lywodraeth y DU ar y pryd i weithredu fformiwla ariannu teg bob amser sy'n galluogi Llywodraeth Cymru i ariannu awdurdodau lleol yn ddigonol.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n symud gwelliant Plaid Cymru yn fy enw i.

Mae Plaid Cymru'n credu'n gryf fod llywodraeth leol yn gonglfaen i'n cymdeithas ddinesig, ond yn y cyfnod hwn o galedi ariannol eithafol, mae'r realiti difrifol sy'n wynebu awdurdodau lleol yn un o argyfwng dirfodol. Mewn ychydig dros flwyddyn, rydym wedi gweld pum cyngor yn Lloegr yn datgan eu bod yn fethdalwyr. Hyd yma, nid ydym wedi cyrraedd y pwynt hwn yng Nghymru, ond tanlinellwyd maint yr her gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y DU, a ddatgelodd fod y 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn wynebu dyled gyfunol o £5.6 biliwn. Mae cyllid llywodraeth leol yng Nghymru ar drywydd anghynaladwy ar hyn o bryd, gyda bwlch cyllido o £354 miliwn yn cael ei ragweld yn y flwyddyn ariannol nesaf, a gallai godi i £750 miliwn erbyn 2027-28.

Bydd effaith y cyhoeddiad heddiw yn San Steffan o £600 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol Lloegr yn arwain at gyllid canlyniadol Barnett i Gymru, fel y cadarnhawyd gan Lywodraeth San Steffan. Fy nghwestiwn cyntaf i'r Gweinidog yw: sut y bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu'r cyllid ychwanegol, gan gofio honiadau'r Gweinidog cyllid fod gwasanaethau lleol a llywodraeth leol yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon? A wnaiff y Llywodraeth ymrwymo i wario'r cyllid canlyniadol i godi'r cyllid gwaelodol o 2 y cant i 3 y cant fan lleiaf, neu i'r cyfartaledd o 3.1 y cant? Byddai o fudd sylweddol i lawer o awdurdodau lleol, yn enwedig y rhai mewn ardaloedd gwledig. A gaf fi erfyn ar y Llywodraeth i roi gwybodaeth glir a buan i gynghorau ar lefel y cyllid ychwanegol i leihau'r effaith ar godiadau treth gyngor a gwasanaethau lleol mewn pryd i allu gosod eu cyllidebau eu hunain?

I ddychwelyd at eiriad y cynnig gan y Torïaid, yn hytrach na symud y bai am fethiannau trychinebus San Steffan i'n hawdurdodau lleol, dylem fod yn hyrwyddo'r gwaith arwrol y maent wedi bod yn ei wneud. Ond dim ond hyn a hyn y gall yr adnoddau cyfyngedig sydd ar gael i'n hawdurdodau lleol ei wneud i liniaru llanast San Steffan. Gwaetha'r modd, golyga hyn ein bod yn debygol o weld codiadau sylweddol yn y dreth gyngor dros y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Mae Plaid Cymru wedi bod o'r farn ers tro fod y dreth gyngor yn fodel trethiant anflaengar sy'n cosbi'r aelwydydd mwyaf difreintiedig yn annheg, ac yn wahanol i'r Torïaid, sydd unwaith eto wedi dangos nad ydynt yn cynnig unrhyw atebion adeiladol o gwbl, rydym yn falch o gyflwyno rhaglen radical ar gyfer diwygio'r dreth gyngor yng Nghymru i sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hariannu mewn ffordd decach.

Yn y tymor mwy uniongyrchol, fodd bynnag, mae awdurdodau lleol yn haeddu cymaint o gefnogaeth a sicrwydd ag y gallwn ei ddarparu gan y Senedd. Felly mae angen cynllun gweithredu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rheoli'r bylchau cyllid sylweddol sy'n wynebu awdurdodau lleol yn y flwyddyn i ddod—

Rwy'n mynd i brofi amynedd David beth bynnag, felly—. Ewch amdani, Sam.

Mae'n amlwg fod gennych bryderon am y sefyllfa ariannol y mae awdurdodau lleol ynddi—yn briodol felly—ac rydych chi wedi herio'r Llywodraeth ynglŷn â chyllid gwaelodol hefyd yn eich sylwadau cynharach. Felly, ar bleidlais y gyllideb ymhen ychydig fisoedd, neu ymhen ychydig wythnosau, a fyddai honno'n llinell goch i chi allu cefnogi cyllideb Llywodraeth Cymru ai peidio?

Byddwn yn ystyried yr hyn sydd gan y Gweinidog i'w ddweud a byddwn yn ystyried popeth wrth i ni fynd yn ein blaenau. Mae angen i Lywodraeth Cymru esbonio sut y bydd y cynnydd o 5 y cant i gyflog athrawon yn cael ei ariannu. Y disgwyl yw y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol dalu. Os felly, a ydych chi'n cyfaddef bod hyn yn ychwanegu pwysau pellach ar y grant cynnal refeniw? Mae angen i'r ddwy blaid fawr yn San Steffan ysgwyddo cyfrifoldeb am dangyllido Cymru gan Lywodraethau olynol y DU ac addo cael fformiwla Barnett newydd yn lle'r un bresennol sy'n golygu ein bod ar ein colled flwyddyn ar ôl blwyddyn. Yn anffodus, er gwaethaf tystiolaeth academaidd glir o blaid diwygio Barnett yn seiliedig ar anghenion, nid oes yr un o brif bleidiau San Steffan wedi dangos unrhyw ddiddordeb mewn mynd i'r afael â'r anghyfiawnder hwn a rhoi setliad cyllido teg i ni. Mae'n bosibl fod hyn i'w ddisgwyl gan blaid Dorïaidd sydd wedi dangos ei dirmyg dro ar ôl tro tuag at Gymru, ond drwy addo peidio ag agor y tapiau gwariant a dweud dim am ddiffygion model cyllido Barnett, mae Keir Starmer yn condemnio ein hawdurdodau lleol i ddyfodol ansicr iawn.

Felly, yn hytrach na hyrwyddo gimics anymarferol a dibwrpas fel yr un a gynhwysir yn y cynnig gwreiddiol, neu lynu at y gobaith ofer y bydd Keir Starmer yn newid ei feddwl yn llwyr am ei agenda o blaid cyni, gall Aelodau'r Senedd ar draws y Siambr hon ddangos eu bod o ddifrif ynglŷn â chefnogi ein hawdurdodau lleol drwy bleidleisio dros welliant Plaid Cymru. Dyma'r unig ffordd i anfon neges glir i San Steffan nad yw busnes fel arfer yn ddigon da. Diolch yn fawr.

18:05

Mae ein cynghorau yng Nghymru mor sylfaenol bwysig i fywydau pobl Cymru, ac mae fy mharch yn fawr at yr hyn a wnânt a phawb sy'n gweithio ac yn darparu'r gwasanaethau y dibynnwn arnynt. Ni cheir unrhyw anghytundeb oddi ar y meinciau hyn ynglŷn â hynny. Maent yn gweithio ar y rheng flaen, yn darparu gwasanaethau hanfodol i bawb, o'r ifanc iawn i'r henoed i'r rhai mwyaf agored i niwed. Ond yn bendant, y flwyddyn nesaf fydd y flwyddyn anoddaf y bydd llywodraeth leol wedi gorfod ei hwynebu yn y 25 mlynedd diwethaf, ac mae'n sicr yn anos nag unrhyw beth a brofais yn fy 13 mlynedd fel arweinydd, neu 25 mlynedd fel cynghorydd. Rwyf wedi clywed yn uniongyrchol gan arweinwyr cynghorau, a llawer ohonynt yn ddiweddar, ac maent yn unfryd eu barn fod gwasanaethau allweddol mewn perygl, y bydd llawer o wasanaethau statudol yn wynebu toriadau sylweddol, ac y bydd gwasanaethau dewisol yn cael ergyd enfawr fel y gwelwn eisoes yn eu cynigion cyllidebol. Ac rwy'n credu'r hyn y maent yn ei ddweud.

Felly pam mae hyn yn digwydd? Wel, y ffaith amdani yw bod y setliad llywodraeth leol ar 3.1 y cant yn wael. Mae'n doriad enfawr mewn termau real i'n cynghorau, toriad gan Lywodraeth Lafur Cymru, sy'n gwybod yn iawn pa mor anhygoel o anodd fydd hi i gynghorau a'u preswylwyr o ganlyniad. Clywsom Lafur yma yn dweud mor aml pa mor ofnadwy yw Llywodraeth y DU am wneud toriad o £1.3 biliwn mewn termau real, ac eto, ar amrantiad, byddant yn trosglwyddo'r rhan fwyaf o hynny ymlaen i lywodraeth leol heb feddwl ddwywaith. Er bod cynghorau'n croesawu'r 3.1 y cant, bydd y setliad, meddent, ond yn darparu tua £170 miliwn yn ychwanegol i'r sector. I roi pethau mewn cyd-destun, amcangyfrifir bod y pwysau ar ofal cymdeithasol yn unig oddeutu £230 miliwn. Gwyddom fod tua 50 y cant o gostau cynghorau'n gostau staffio, felly mae'n amlwg na fydd y cynnydd o 3.1 y cant yn mynd yn bell o gwbl i fynd i'r afael â phwysau cyflogau, fel 5 y cant i athrawon, 4 y cant neu 5 y cant ar gyfer yr holl gyflogau eraill, ac 8 y cant neu 9 y cant i dalu am godiadau cyflog byw gwirioneddol. Hyn oll, heb sôn am bwysau chwyddiant ar bethau fel ynni a thanwydd, gyda rhai o'r elfennau hynny'n codi 300 y cant. Mae'n amlwg y byddai canlyniad uniongyrchol toriad termau real Llywodraeth Cymru i gynghorau yn eu gorfodi i gynnig y codiadau yn y dreth gyngor y maent wedi eu hargymell. Byddant yn tynnu arian o'u cronfeydd wrth gefn i liniaru hyn rywfaint, ond nid oes ganddynt lawer o hyblygrwydd. Mae cynghorau wedi cael eu rhoi mewn sefyllfa anghynaladwy gan y Llywodraeth hon.

Mae trigolion sir Fynwy yn wynebu codiad treth gyngor o 7.5 y cant, gyda'r teulu cyffredin yn mynd i dalu tua £252 yn fwy y flwyddyn, a gwyddom y bydd cynnydd tebyg ledled Cymru, gyda nifer ohonynt yn llawer uwch. Fel cyn-arweinydd cyngor dros gyfnod hir, gwn fod yn rhaid gwneud dewisiadau anodd, ac mae'n rhaid i gynghorau weithio gyda'r gyllideb a roddir iddynt. Gallwn herio rhai o'r penderfyniadau y maent yn eu gwneud yn lleol, a byddaf yn sicr yn gwneud hynny. Ond rwy'n credu bod y codiadau treth uchel hyn yn afresymol ar adeg pan fo pobl eisoes yn ei chael hi mor anodd. Y gwir amdani yw bod Llywodraeth Cymru yn gorfodi cynghorau ar draws y wlad i wneud penderfyniadau ofnadwy ac anodd. Gallech hyd yn oed ddweud ei bod yn trosglwyddo treth lechwraidd. Gadewch inni fod yn glir, Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol yn y pen draw am y cynnydd yn y dreth gyngor ledled Cymru, ac eto maent yn dweud mai, ac rwy'n dyfynnu, 

'Cyllideb i ddiogelu'r gwasanaethau sydd bwysicaf i chi'

yw cyllideb eleni.

Wel, Ddirprwy Lywydd, yn amlwg iawn, nid yw hon yn gyllideb sy'n gwneud hynny. Ar ben y pwysau y mae cynghorau'n ei wynebu oherwydd y setliad, mae'n rhaid inni gydnabod bod pethau'n waeth i lawer o gynghorau oherwydd y fformiwla ariannu hynod annheg. Mae'n ffactor allweddol wrth bennu gwytnwch cynghorau unigol. Nid yw'r ffordd y mae adnoddau'n cael eu dosbarthu yn addas i'r diben mwyach. Rydym yn gweld system sy'n galluogi rhai cynghorau i ddarparu eu holl wasanaethau gan gronni cronfeydd sylweddol wrth gefn, tra bod eraill yn ei chael hi'n anodd darparu eu gwasanaethau a heb fawr o gronfeydd wrth gefn. Rhaid deall yr anomaledd hwn. Dyna pam mae angen inni weld asesiad annibynnol ac adolygu'r fformiwla llywodraeth leol.

Yn y cyfnod eithriadol o anodd hwn, gyda chostau byw fel y maent, y peth olaf y mae teuluoedd angen ei weld yw cynnydd enfawr yn eu biliau treth gyngor. Bydd y 7.5 y cant—

18:10

O'r gorau. Bydd y 7.5 y cant y flwyddyn yn cario ymlaen, a bydd codiadau'n cael eu hychwanegu yn y dyfodol, a chyn i chi wybod, fe welwch gynnydd o 20, 25 y cant. Dyna pam mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol i ddod o hyd i ffordd o gadw'r dreth gyngor mor isel â phosibl. Mae'n rhaid inni feddwl am y pwysau ar deuluoedd. Hyn a hyn y gallant ei oddef. Dyma pam ein bod yn credu, fel yn Lloegr, y dylai unrhyw awdurdod lleol sy'n argymell codiad o dros 5 y cant i'r dreth gyngor gynnal refferendwm ar eu cynlluniau. Rwy'n cyflwyno ein cynnig.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i siarad yn y ddadl hon, ac rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Lywydd yn falch, fel y bydd Aelodau eraill yn sicr, mai cyfraniad byr yn unig sydd gennyf.

Ddirprwy Lywydd, nodaf fod y cynnig o'n blaenau heddiw yn galw am adolygu fformiwla ariannu llywodraeth leol—pwynt pwysig i'w wneud. Rwyf hefyd yn nodi bod y gwelliant gan Lywodraeth Cymru yn dweud y bydd yn parhau i ddatblygu a chynnal y fformiwla mewn partneriaeth â llywodraeth leol. Ddirprwy Lywydd, fy safbwynt i, safbwynt fy nadl, yn y ddadl hon a'r hyn rwy'n arbennig o awyddus i'w weld yn digwydd yw i gynghorau—ac yn benodol, cynghorwyr eu hunain, sy'n gwybod orau am y materion hyn—gymryd rhan a gwneud cynigion ynglŷn â beth y dylai'r fformiwla fod, ac yna gallwn ofyn i Lywodraeth Cymru a ydynt am roi ystyriaeth ddifrifol i hynny. Rwyf wedi codi'r pwynt hwn gyda Gweinidogion llywodraeth leol blaenorol dros nifer o flynyddoedd, dros y chwe blynedd y bûm yn y lle hwn yn sicr, ac mae pob Gweinidog llywodraeth leol wedi ateb eu bod yn awyddus i ddeall cynigion gan gynghorwyr lleol eu hunain a'u cymryd o ddifrif. Felly, tybed a fydd y Gweinidog o'n blaenau, wrth ymateb i'r ddadl heddiw ar ran Llywodraeth Cymru, yn cytuno—os bydd cynghorau a chynghorwyr, fel fy un i yn sir y Fflint ac eraill ledled Cymru, yn cyflwyno cynigion difrifol, a fydd Llywodraeth Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru yn ddigon parod i ymgysylltu ac edrych ar y cynigion hynny a'u hystyried o ddifrif? Buaswn yn ddiolchgar am ymateb gan y Gweinidog i'r cais hwn. Diolch.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy mhlaid am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Mae'r rownd ddiweddaraf o gyllidebau drafft gan gynghorau yn fy rhanbarth yn ddigalon iawn i'w darllen. Yng Nghaerffili, gwelwn gynnydd arfaethedig o 6.9 y cant yn y dreth gyngor. Yn sir Fynwy, gwelwn gynnydd arfaethedig o 7.5 y cant. Yng Nghasnewydd, gwelwn gynnydd arfaethedig yn y dreth gyngor o 8.5 y cant, a gallwn barhau. Mae codiadau sylweddol mewn cynghorau ledled Cymru yn arwydd o feichiau enfawr y mae disgwyl i lywodraeth leol eu hysgwyddo.

Yn ogystal ag ystyried ein bod mewn cyfnod anodd, mae awdurdodau lleol yn beio'r cyllid cyfyngedig y maent wedi'i gael ar Lywodraeth Cymru, ac eto nid ydym yn clywed gair gan gynghorau Llafur ynghylch blaenoriaethau gwario cyfeiliornus gan Lywodraeth Cymru. Mae'n rhaid inni edrych ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn penderfynu pwmpio arian i mewn iddo, yn hytrach na phwmpio arian i'r mannau lle mae ei angen, i gyllidebau llywodraeth leol. Mae'r arian enfawr y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wastraffu yn ystod y blynyddoedd diwethaf ynddo'i hun yn dyst i'r ffaith bod Llafur i'w gweld yn credu ei bod hi'n iawn i gosbi pobl weithgar Cymru yn ariannol, tra bo Llafur yn blaenoriaethu eu hoff brosiectau yn lle rhoi arian iawn i lywodraeth leol sy'n ceisio darparu gwasanaethau hanfodol yn ein cymunedau. Ceir llawer o enghreifftiau o Lywodraeth Cymru'n gwastraffu symiau sylweddol o arian a chael fawr iawn, os unrhyw beth o gwbl, yn ôl. Gallai'r arian hwn fod wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer meysydd sydd heb ddigon o arian, gan gynnwys cyllid ar gyfer llywodraeth leol, lle rydym yn disgwyl i wasanaethau craidd gael eu darparu, yn enwedig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac addysg.

Mae trethdalwyr gweithgar yn fy rhanbarth i sydd eisoes yn teimlo cost 26 mlynedd o Lafur Cymru bellach yn wynebu codiad treth cynyddol a thoriadau i wasanaethau lleol, diolch i'r penderfyniadau hyn. Mae cyllideb arfaethedig Llywodraeth Lafur Cymru wedi rhoi codiad pitw o 3.1 y cant i gynghorau, gan gofio bod y rhain yn gynghorau sy'n darparu gwasanaethau craidd—gwasanaethau pwysig a hanfodol yn ein cymunedau. Roedd cynghorau wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru y byddai cynnydd bach iawn yn arwain yn anochel at doriadau i wasanaethau, colli swyddi a chynnydd yn y dreth gyngor, ac eto mae'r Llywodraeth Lafur yn bwrw yn ei blaen yn ddiwahân. Dyna pam mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am orfodi cynghorau i gynnal refferendwm lleol pryd bynnag y byddant yn ceisio codi'r dreth gyngor y tu hwnt i gap o 5 y cant.

Er hynny, heddiw, rwy'n falch o weld, fel y gwelsom yn y newyddion, y bydd Llywodraeth Cymru, diolch i Lywodraeth Geidwadol y DU, yn derbyn cyllid ychwanegol i gefnogi awdurdodau lleol ledled Cymru. Ac fel y mae Sam Rowlands eisoes wedi dweud, rwy'n gobeithio y bydd y weinyddiaeth Lafur hon yn trosglwyddo'r cyllid hwnnw i'n cynghorau lleol yn llawn ac nad yw'n gwneud cam â gwasanaethau pwysig. Mae hynny'n debyg, wrth gwrs, i'r hyn a wnaed yn Lloegr ers blwyddyn ariannol 2012-13. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnwys cyllid gwaelodol o 2 y cant i'r cynnydd mewn cyllid i awdurdodau lleol Cymru drwy ddarparu £1.3 miliwn ychwanegol; yn y cyfamser, mae Llywodraeth y DU wedi darparu cyllid o 3 y cant ar gyfer pŵer gwario craidd i gynghorau Lloegr, cyn unrhyw benderfyniad y mae'n rhaid iddynt ei wneud ynghylch arbedion effeithlonrwydd sefydliadol, defnydd o gronfeydd wrth gefn a'r dreth gyngor. Unwaith eto, gwelwn ddwy set wahanol o flaenoriaethau gan ddwy Lywodraeth wahanol: un sydd am gadw trethi mor isel â phosibl a chynnal lefel dda o wasanaethau cyhoeddus; ac mae'r llall yn disgwyl i drethi godi gan dorri gwasanaethau hyd at yr asgwrn ar yr un pryd. Nid yw'n anodd dyfalu pa un yw pa un.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i alw am adolygiad annibynnol o'r fformiwla cyllido cynghorau. Mae'n hollol annheg. Mae'n cosbi ardaloedd gwledig, ac nid yw'n ystyried y problemau unigryw y maent yn eu hwynebu. Mae'n amlwg mai dewis gwleidyddol yw cadw'r fformiwla ariannu gyfredol, a dyna pam mae galwadau am adolygiad annibynnol yn gwbl angenrheidiol. Mae'n amlwg nad yw'n gweithio, nid yw'n addas i'r diben, yn debyg iawn i'r Llywodraeth hon. Mae trethdalwyr a chynghorau ar draws fy rhanbarth, a Chymru, yn cael cam. Fel y mae fy nghyd-Aelodau eisoes wedi dweud, mae'n bryd mynd i'r afael â chynghorau sy'n eistedd ar gronfeydd wrth gefn mor enfawr. Rwy'n gobeithio bod y ddadl hon heddiw yn ennyn peth synnwyr gan Lywodraeth Cymru ac yn eu gorfodi i newid llwybr, ac rwy'n annog pawb yn y Siambr i dderbyn ein cynnig.

18:15

Yn gyntaf, rwy'n ddiolchgar i'r Ceidwadwyr am y ddadl hon heddiw ac am gydnabod y rôl hanfodol y mae cynghorau'n ei chwarae yn darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Mae angen mwy o arian ar gynghorau i gyflawni eu dyletswyddau statudol ac anghenion yr ardal y maent yn gyfrifol amdani. Nid yw parciau'n ddyletswydd statudol, ond rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn yr ardaloedd y maent yn eu cynrychioli yn gwrthwynebu'n fawr pe baent am gau parciau. Mae'n rhaid talu am ddiffyg incwm o gronfeydd wrth gefn a thrwy gynyddu taliadau a chodi treth gyngor, yn ogystal â thorri gwasanaethau. 

Nid addysg, gwasanaethau cymdeithasol, tyllau ffyrdd a chasglu sbwriel yw unig wasanaethau'r cyngor. Pe bawn yn rhestru'r ystod lawn o wasanaethau a ddarperir gan gynghorau, buaswn yn defnyddio'r pum munud llawn a dal i fethu cwblhau'r rhestr. Yr wythnos diwethaf, yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, buom yn trafod gwasanaethau rheolaeth adeiladu cynghorau, y gwasanaethau sy'n sicrhau bod adeiladau'n ddiogel, yn gynaliadwy ac yn hygyrch ar gyfer—

Diolch. Yn 2011, pan gefais fy ethol—a fi oedd Gweinidog llywodraeth leol yr wrthblaid—fe wnaethom godi hyn bryd hynny, ac roedd consensws yn y Siambr hon bryd hynny fod y fformiwla ariannu yn ddiffygiol. Rwy'n cyflwyno sylwadau i fy arweinydd, y Cynghorydd Charlie McCoubrey; a ydych chi'n cyflwyno'r sylwadau hynny, Mike?

Rwy'n gobeithio y gwnewch chi wrando arnaf yn nes ymlaen, oherwydd rwy'n mynd i esbonio sut mae'r fformiwla ariannu yn gweithio. 

Nac ydych. Rwy'n credu mai dyna lle mae'r broblem go iawn: nid ydych yn ei deall. 

Mae'n cynnwys adeiladau domestig, masnachol a defnydd cyhoeddus ac yn sicrhau eu bod yn bodloni rheoliadau adeiladu. Gwasanaeth cyngor nad yw'n cael ei drafod yn aml, ond sy'n hanfodol i ddiogelwch y cyhoedd. 

Rwyf am dynnu sylw hefyd at bwysigrwydd iechyd yr amgylchedd. Un o lwyddiannau mawr Llywodraeth Cymru yw'r sgôr hylendid bwyd. Mae pob busnes yn cael sgôr pan gaiff ei arolygu gan swyddog diogelwch bwyd awdurdod lleol. Mae'r sgôr hon yn seiliedig ar safon cydymffurfiaeth â chyfraith hylendid bwyd. Mae'n enghraifft o wariant ataliol gan lywodraeth leol sy'n lleihau'r galw ar iechyd.

Ariennir cynghorau drwy gyfuniad o gyllid allanol cyfun, sy'n gyfuniad o'r grant cymorth ardrethi a chyfran cyngor o'r ardreth annomestig yn ogystal â threth gyngor, ffioedd a thaliadau a godir gan y cyngor. Asesiadau o wariant safonol—nawr rydym yn cyrraedd yr eitem allweddol, a gobeithio bod y Ceidwadwyr yn mynd i wrando ar hyn—yw'r mecanweithiau ar gyfer dosbarthu'r grant cynnal refeniw i awdurdodau lleol i'w galluogi i godi'r un lefel o dreth gyngor am ddarparu safon debyg o wasanaethau. Y bwriad yw iddynt adlewyrchu amrywiadau yn yr angen i wario, y gellid ei barchu pe bai pob awdurdod yn ymateb mewn ffordd debyg i'r galw am wasanaethau yn eu hardal.

Mae cyfanswm asesiadau o wariant safonol Cymru yr un fath â chyfanswm y gyllideb ragdybiedig ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru yng nghyllideb Llywodraeth y Senedd. Felly dylanwadir ar gyfanswm cyffredinol yr asesiadau o wariant safonol gan benderfyniadau ar y cynnydd sylfaenol mewn cyllid gan y Llywodraeth ganolog. Fodd bynnag, nid yw asesiadau o wariant safonol yn fecanwaith ar gyfer dosbarthu grantiau ac ni fwriedir iddynt fod yn rhagnodol mewn unrhyw ffordd mewn perthynas ag awdurdodau lleol. Gall cyllidebau gwirioneddol fod yn uwch neu'n is na'r asesiad o wariant safonol ar gyfer awdurdod lleol penodol, gan fod penderfyniadau ar lefel y gwasanaeth a ddarperir yn amrywio o un awdurdod lleol i'r llall. Bydd unrhyw wariant gan awdurdod lleol uwchlaw'r asesiad o wariant safonol yn cael ei ariannu'n gyfan gwbl o'r dreth gyngor. Mae gallu awdurdod i osod ei flaenoriaethau gwariant ei hun yn rhan bwysig o lywodraeth leol, ac mewn gwirionedd, yn rhan bwysig o ddemocratiaeth. Mewn egwyddor, mae'r asesiad o wariant safonol yn gymorth heb ei neilltuo i awdurdodau.

Mae dull dosbarthu ar wahân yn bodoli ar gyfer pob elfen gwasanaeth er mwyn dosbarthu cyfanswm ar draws yr awdurdodau. Nid oes gan rai gwasanaethau eu fformiwla eu hunain, a byddant yn defnyddio fformiwla gwasanaeth cysylltiedig mewn gwirionedd. Mae'r dulliau dosbarthu yn perthyn i ddau gategori: fformiwla sy'n seiliedig ar ddangosyddion angen a dosbarthiad yn seiliedig ar wariant gwirioneddol neu amcangyfrifon o wariant. Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau'n cael eu dosbarthu yn ôl dangosyddion angen.

18:20

Diolch. Fel rhywun sydd fel chithau'n hoff o'r asesiad o wariant safonol y cyfeirioch chi ato, fe fyddwch yn ymwybodol, yn yr asesiad o wariant safonol, ei fod yn nodi, ar gyfer preswylwyr dros 60 oed, y bydd cynghorau'n derbyn cyllid sy'n cyfateb i tua £11.99, ond ar gyfer preswylwyr dros 85 oed, mae'r awdurdodau lleol hynny'n cael £1,900. Felly, £12 os ydych chi dros 60 oed; £1,900 os ydych chi dros 85 oed Mae hwnnw'n wahaniaeth enfawr. Mae gennyf lawer o drigolion yn fy rhanbarth sydd yn eu 70au efallai, eu 70au hwyr, nad ydynt yn cael eu cydnabod fel rhai sydd angen y lefel honno o gymorth y bydd ei hangen ar bobl dros 85 oed. Felly, dyna enghraifft wych, rwy'n credu, o pam mae angen adolygu'r fformiwla ariannu. A fyddech chi'n cytuno?

Wel, a siarad fel rhywun sydd dros 60 oed, nid wyf yn meddwl fy mod yn faich mwy ar yr awdurdod lleol o ran galw na'r hyn a oeddwn pan oeddwn i'n 40 neu 50 oed.

Mae defnyddio dangosyddion angen yn hytrach na mesurau uniongyrchol o'r defnydd o wasanaethau yn atal awdurdodau lleol rhag dylanwadu'n uniongyrchol ar yr asesiad o wariant safonol, ac felly ar faint o grant y maent yn ei gael. Gellir grwpio'r dangosyddion a ddefnyddir yn y fformwlâu hyn yn dri phrif grŵp cleientiaid. Y prif ffactorau sy'n gysylltiedig â phennu costau yw poblogaeth, nifer disgyblion, hyd ffyrdd; dangosyddion amddifadedd i adlewyrchu costau ychwanegol darparu gwasanaethau i boblogaethau sydd â lefelau uwch o amddifadedd; a gwasgariad poblogaeth, y byddech fel arfer yn ei ddisgrifio fel 'teneurwydd'.

Y cyllid allanol cyfun yw cyfanswm y lefel o gymorth y mae'r Llywodraeth yn ei ddarparu i awdurdodau lleol. Mae'r cymorth hwn yn cynnwys fformiwla benodol y grant cynnal refeniw a grantiau wedi'u neilltuo a'r swm a ddosberthir o ardrethi busnes. Yn anffodus—ac rwy'n dweud hyn bron bob blwyddyn—mae Llywodraeth Cymru'n gwrthod cyhoeddi cyfrifiadau'r asesiad o wariant safonol ar gyfer pob awdurdod. Er y byddai'r rhain yn hir i bob awdurdod ac yn eithaf cymhleth, gallai pawb weld sut y caiff ei gyfrifo. Mae hefyd yn gwrthod cyhoeddi'r cyfrifiad cyllid allanol cyfun. Mae'r methiant i argraffu'r cyfrifiadau hyn yn lleihau ymddiriedaeth pobl yn y ffigurau a gyhoeddir a chawn y dadleuon Ceidwadol hyn bob blwyddyn.

Mae'n wych ein bod yn cael y ddadl hon heddiw oherwydd mae'n hynod bwysig ein bod yn mynd i'r afael â sut y cefnogwn rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas a rhoi cyfle i'r Aelodau dynnu sylw at y materion sy'n effeithio ar yr etholwyr y maent yn eu cynrychioli.

Yn gyntaf, Ddirprwy Lywydd, os caf, hoffwn fynd ar drywydd pwynt ynglŷn â sut mae rhai arweinwyr cyngor, yn fy marn i, yn defnyddio codiadau'r dreth gyngor yn fwriadol fel cyfle i godi ofn ar ein hetholwyr mwyaf bregus. Yn benodol, hoffwn dynnu sylw at sut mae fy arweinydd cyngor fy hun, Andrew Morgan, wedi'i gofnodi'n dweud bod angen codiadau o 35 i 40 y cant i'r dreth gyngor er mwyn sicrhau nad oes toriadau i wasanaethau, a gwleidydda pur yw hynny a bod yn onest. Mae gan Rondda Cynon Taf, fel y clywsom eisoes, £270 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn yn y banc yn gwneud dim. Mae wedi cael cynnydd o 2.8 y cant gan Lywodraeth Cymru, sy'n werth dros £13.8 miliwn. A byddai'n well gan Andrew Morgan a'i gyfeillion godi ofn ar dalwyr gweithgar y dreth gyngor na defnyddio'r arian sydd ganddo'n gwneud dim.

Yn ddiweddar, mae cyngor Rhondda Cynon Taf wedi argymell cynnydd o 4.9 y cant yn y dreth gyngor, a dywedodd y byddai hynny'n dod â dros £1 filiwn ychwanegol y flwyddyn i mewn. Ddirprwy Lywydd, pe bai'r cyngor yn bwriadu helpu pobl yn RhCT, rwy'n credu y gallai fforddio cael gwared ar y cynnydd hwn yn y dreth gyngor yn gyfan gwbl. Mae cynghorau Cymru, fel y clywsom eisoes, yn cadw cronfeydd wrth gefn—[Torri ar draws.] Na, rwyf newydd ddechrau; rwyf am barhau. Maent yn cadw cronfeydd wrth gefn o £2.7 biliwn, ac rwy'n credu, Ddirprwy Lywydd, ei bod yn gwbl anghyfiawn parhau i godi'r dreth gyngor pan fo cyllidebau cartrefi yn cael eu hymestyn cymaint oherwydd y pwysau chwyddiant y mae'r wlad hon wedi'i brofi yn sgil dylanwadau allanol y tu hwnt i'w rheolaeth, a phan fo gan gynghorau gymaint o arian yn eu cyfrifon banc.

Credaf yn gryf ei bod yn hen bryd inni gael adolygiad annibynnol o fformiwlâu cyllido cynghorau a chael mwy o dryloywder ac atebolrwydd ynghylch yr hyn y defnyddir ein harian ar ei gyfer a pham y cedwir cymaint mewn cyfrifon banc wrth gefn. Fel y gwyddom, mae cynghorau'n cael ac yn gwario symiau enfawr o arian, ond mae'n annheg parhau i godi'r dreth gyngor fel hyn, gan nad yw'n rhoi unrhyw gymhelliant i ddefnyddio adnoddau'n effeithlon. Mae'n hysbys ac yn cael ei dderbyn, gwaetha'r modd, fod gwasanaethau a chyrff cyhoeddus yn talu prisiau uwch am eitemau y gallent eu prynu'n rhatach, ond nad yw cyfyngiadau caffael yn annog hyn, nac yn ei ganiatáu weithiau hyd yn oed.

Clywsom eto ddoe am Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, ond credaf y bydd y Ddeddf hon yn gwaethygu'r broblem hon ymhellach. Yn y pen draw, bydd busnesau lleol yn codi prisiau pan fyddant yn gwybod y bydd yn rhaid i gynghorau a chyrff cyhoeddus eraill brynu ganddynt i fodloni gofynion Llywodraeth Cymru—wedi'r cyfan, arian pobl eraill ydyw. Mae'r ffaith bod Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi canfod gwerth £5.2 miliwn o arbedion effeithlonrwydd yn ddiweddar yn dangos nad ydynt wedi bod yn ddiwyd yn y gorffennol wrth gadw llygad ar ba mor dda y caiff arian ei wario. Ac fel cyn-gynghorydd yn yr awdurdod lleol hwnnw, gallaf gofio'n dda am lu o flaenoriaethau gwariant anghredadwy, o geir a yrrir gan chauffeurs a gwisgoedd ffansi—[Torri ar draws.] O, ewch amdani, Gareth, fe adawaf i chi ymyrryd.

18:25

Diolch, Joel. Clywais y sylwadau gan y Cynghorydd Andrew Morgan, ar Twitter a phethau eraill, ac mae bob amser yn dweud bod yr arian wedi'i glustnodi ar gyfer prosiectau cyfalaf, ond pam nad yw'r prosiectau cyfalaf hyn byth yn digwydd a pham nad ydynt byth yn dwyn ffrwyth, a pham mae £270 miliwn yn gorwedd mewn cyfrifon banc ac nad yw'n cael ei wario ar y bobl sydd ei angen?

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi, Gareth, ac fel y dowch i sylweddoli, mae cyfarthiad y Cynghorydd Morgan yn waeth na'i frathiad.

Felly, o geir a yrrir gan chauffeurs a gwisgoedd ffansi i osodweithiau celf erchyll a'r pontydd drwgenwog i bathewod, y gwir amdani yw bod trigolion eisiau gweld gwasanaethau'n cael eu darparu a pheidio â gweld arian yn cael ei wastraffu ar brosiectau porthi balchder.

Yn ail, Ddirprwy Lywydd, hoffwn godi'r pwynt ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru yn pennu blaenoriaethau anghywir, a sut mae hyn yn cael effaith niweidiol ar bobl Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi gorfodi toriadau i'r gyllideb ond eto wedi gwastraffu bron i £40 miliwn ar weithredu terfyn cyflymder cyffredinol o 20 mya yng Nghymru nad yw wedi cael croeso, ac yr amcangyfrifir ei fod wedi cyflawni gostyngiad pitw o ddim ond 2.4 milltir yr awr mewn cyflymder ac a fydd yn cael ei wrthdroi pan fyddwn ni'n dod yn Llywodraeth.

Rhoddwyd £3 miliwn i fy nghyngor i yn Rhondda Cynon Taf i osod arwyddion, sydd bellach wedi'u fandaleiddio'n helaeth. Mae'r ffigur hwn deirgwaith yn fwy na'r hyn y bydd y cynnydd arfaethedig o 4.9 y cant yn y dreth gyngor yn ei ddarparu. Yn yr un modd, mae Caerdydd wedi cael £2 filiwn i godi arwyddion ffordd 20 mya, sydd wedi'u fandaleiddio'n helaeth, ac mae'n rhaid bod y Prif Weinidog, y cofnodwyd ei fod yn cefnogi fandaleiddio arwyddion i wneud pwyntiau gwleidyddol, yn llawen wrth weld cymaint o arian cyhoeddus a allai fod wedi cefnogi aelwydydd ledled Cymru yn cael ei wastraffu. [Torri ar draws.] Rwy'n ymwybodol o'r amser, mae'n ddrwg gennyf. [Torri ar draws.] Chi sydd nesaf. Chi sy'n dod nesaf.

Rwyf wedi nodi'r pwynt hwn sawl gwaith yn y Siambr ac rwy'n gwneud hynny eto i dynnu sylw at y gwir anghyfleus i Lywodraeth Cymru, nad oes ganddi esgus arall heblaw beio San Steffan, fod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi darparu lefelau digynsail o gefnogaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf i ymdopi ag effaith COVID a'r rhyfel yn Wcráin: y taliad costau byw o £650 y person; y taliad costau byw o £300 i bensiynwyr, ynghyd â thaliad tanwydd y gaeaf; y taliad costau byw i'r anabl o £150; y gostyngiad o £150 yn y dreth gyngor, sy'n daladwy i bob aelwyd ac eiddo ym mand A i D, sydd wedi helpu dros 212,000 o aelwydydd yn fy rhanbarth i yn unig; ac mae wedi cynyddu'r isafswm cyflog i bawb dros 21 i £11.44 yr awr. Rydym hefyd wedi gweld cyhoeddiad o £600 miliwn heddiw gan Lywodraeth y DU i helpu i ddarparu gwasanaethau allweddol fel gofal cymdeithasol, y byddwn yn derbyn cyllid canlyniadol ar ei gyfer. Gyda dros ddau—

18:30

Y frawddeg olaf, Ddirprwy Lywydd. Gyda dros ddau ddegawd o reolaeth Llafur yng Nghymru, a dros ddau ddegawd ohonynt yn beio San Steffan, mae pobl o'r diwedd yn mynnu atebion gan y Llywodraeth hon yng Nghymru, a gallant ddechrau drwy gefnogi ein cynnig. 

Mae awdurdodau lleol Cymru yn wynebu penderfyniadau anodd iawn eleni, ond nid yw'n ddim o'i gymharu â'r hyn y mae llywodraeth leol Lloegr yn gorfod ei wynebu. Gwelwyd niferoedd enfawr—awdurdodau lleol sylweddol yn Lloegr—yn gorfod cyhoeddi hysbysiadau 114, sy'n golygu yn y bôn eu bod yn fethdalwyr. Mae hyd yn oed Torïaid asgell dde eithafol a wrthwynebodd gynyddu treth incwm, fel Priti Patel a Robert Jenrick, yn gofyn i'r Prif Weinidog roi mwy o arian tuag at lywodraeth leol. Efallai y dylwn—

Jenny, roeddech chi a minnau yn nigwyddiad Diwrnod Cofio'r Holocost ddoe, lle clywsom am erchyllterau ideolegol y dde eithafol go iawn. Rwy'n credu ei fod yn gam mawr â goroeswyr yr Holocost ichi ddweud bod Priti Patel a Robert Jenrick yn Geidwadwyr asgell dde eithafol. 

Roeddwn yn ceisio dod o hyd i'r geiriau cywir, ac rwy'n ymddiheuro os rhoddais yr argraff honno. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny; ac rwyf am gamu'n ôl rhag hynny i gyd. Ond rwy'n gwybod, o fod wedi siarad â phobl yn Lloegr, am rai o'r penderfyniadau anodd iawn, yn enwedig mewn perthynas â chyllid ysgolion. Mae fy merch yn athrawes, a gallaf ddweud wrthych nad yw anghenion arbennig yn cael eu hariannu mewn ysgolion yn Lloegr, ac mae'n sefyllfa ddifrifol iawn. 

Beth bynnag, fe adawaf hynny, oherwydd credaf fod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dweud y cyfan mewn gwirionedd, sef bod y ffaith bod y cynghorau hyn yn mynd yn fethdalwyr yn gadael effeithiau eithafol, hirhoedlog ar drigolion yn yr ardaloedd hynny. Ac mae talu'r dyledion mewn llefydd fel Woking, lle mae pobl mewn dyled o £19,000 y preswylydd, yn hollol frawychus. Dyma rai o'r sefyllfaoedd anodd y mae awdurdodau lleol ynddynt. 

Yng Nghymru, mae awdurdodau lleol wedi cael eu meithrin, oherwydd ein bod yn cydnabod y rôl bwysig y maent yn ei chwarae yn llesiant ein cymunedau. Felly, rwy'n falch iawn fod Llywodraeth y DU yn rhoi mwy o arian i gynghorau Lloegr, oherwydd mae'n golygu, yn fras, fod swm canlyniadol o £30 miliwn yn dod i ni. Ac rwy'n siŵr y bydd Rebecca Evans mewn sefyllfa dda i gynyddu'r swm o arian, ar ben y £170 miliwn ychwanegol y mae awdurdodau lleol yn ei gael eleni.

Serch hynny, roeddwn yn falch iawn—. A diolch i Peter Fox am fy ngwahodd i'r cyfarfod gydag arweinwyr llywodraeth leol Cymru, oherwydd roedd yn gyfarfod diddorol iawn ar gyfer clywed gan bob un ohonynt—y rhai a fynychodd—a sylweddoli pa mor gymhleth yw hyn. Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi oddeutu 80 y cant o'u cyllid refeniw iddynt, a daw 20 y cant arall o'r dreth gyngor. Felly, os nad ydynt yn cynyddu'r dreth gyngor, mae ganddynt lawer llai o arian ar gyfer gwasanaethau ataliol, oherwydd, yn anochel, mae'n rhaid iddynt wario mwy o arian ar yr anghenion mwyaf. Ond mae'n neges anodd os gofynnwch i drigolion dalu mwy o dreth gyngor gan orfod lleihau gwasanaethau ar yr un pryd. Ond yn anffodus, dyna yw'r sefyllfa y mae awdurdodau lleol ynddi. 

Mae'r cap ar daliadau gofal cartref—ar £100 am y tair blynedd diwethaf—hefyd yn fater sy'n mynd i orfod bod yn destun trafodaeth, oherwydd os na allant adennill costau ychwanegol, byddant yn anochel yn gwario mwy o arian ar bobl sydd ag anghenion mwy, a bydd y rheini sydd ag anghenion llai yn dod yn bobl ag anghenion mwy wedyn, neu'n mynd i ysbytai yn y pen draw, sy'n amlwg yn opsiwn hyd yn oed yn ddrytach. Felly, mae hynny'n anodd iawn. 

Gwnaeth Lis Burnett, arweinydd Bro Morgannwg argraff fawr arnaf pan ddywedodd eu bod wedi bod yn cynllunio dros y chwe mis diwethaf ar gyfer y ffordd y byddent yn rheoli cyllideb y flwyddyn nesaf. Oherwydd mae tri chwarter eu cyllideb yn cael ei gwario ar addysg a gofal cymdeithasol wrth gwrs, ac mae hynny'n wir am unrhyw awdurdod lleol. A daw hynny ar adeg o alw cynyddol. Nododd fod pobl oedrannus yn mynd allan yn llai aml. Nid ydynt yn defnyddio'r bysiau, sy'n golygu llai o refeniw i'r cwmnïau bysiau. A chyda phlant, roedd oedi datblygiadol clir o ganlyniad i COVID. Mae'r rhain yn faterion difrifol iawn i bob un ohonom.

Dilema arall yw sut y dylent fynd i'r afael â chodiadau cyflog. A ddylai fod yn gyfradd safonol, rhywbeth a fyddai'n fwy buddiol i bobl ar gyflogau is? Ond os nad ydynt yn ei wneud ar gynnydd canrannol, maent mewn perygl o golli staff allweddol gwerthfawr fel gweithwyr cymdeithasol, sy'n amlwg yn arwain at fwy o gostau yn y pen arall. Rwy'n credu y dylem wneud rhai o'r cynigion sydd gan Gaerdydd, megis lleihau casgliadau gwastraff na ellir ei ailgylchu i bob tair wythnos, cyn belled â'u bod yn gosod dirwyon llymach i bobl sy'n rhoi gwastraff bwyd yn yr ailgylchu a'r bobl nad ydynt yn ailgylchu. Fel arall, ni allaf weld beth yw'r broblem yno. Ond mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn cadw ein llyfrgelloedd a'n gwasanaethau cynghori ar agor, hyd yn oed os ydynt ar agor am lai o amser, oherwydd drwy wneud hynny, gallwn ymestyn y gwasanaethau eto pan fydd yr arian yn llai tynn. Felly, dyma rai o'r materion cymhleth y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â nhw, a diolch i chi, David, am adael i mi gael mwy o amser.

18:35

Mae dros ddegawd o gyni wedi golygu bod cynghorau'n cael eu hymestyn i'r eithaf. Maent wedi gwneud popeth yn eu gallu, flwyddyn ar ôl blwyddyn—ailstrwythuro, ad-drefnu a symleiddio, ynghyd ag edrych ar ffioedd a thaliadau i liniaru'r toriadau. Yn natganiad yr hydref yn ddiweddar, parhaodd Jeremy Hunt i wyntyllu'r mantra Torïaidd arferol, gan ddweud bod yn rhaid i wasanaethau cyhoeddus fod yn fwy effeithlon, a bod Llywodraeth y DU eisiau gwladwriaeth gyhoeddus lai fyth, a pharhau cyni. Mae Hunt mor bell oddi wrth y ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus, sy'n galon i'n cymunedau, ac yn cyflogi cymaint o bobl yng ngogledd Cymru, ac felly'n rhan bwysig o'r economi.

Pan glywodd y cynghorau ddatganiad yr hydref Llywodraeth y DU yn dweud na fyddai cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, roedd yn hollol ddinistriol. Mae cynghorau yn Lloegr bellach yn mynd yn fethdalwyr, un ar ôl y llall. Roedd ASau, gan gynnwys ASau Torïaidd, yn bygwth pleidleisio yn erbyn y gyllideb, ac fe wnaethant orfodi tro pedol, gyda Michael Gove, rwy'n credu, a ddylai olygu gobeithio y dylai Cymru gael £30 miliwn ychwanegol. Ac rwy'n gobeithio, fel y crybwyllwyd, y bydd hwn yn mynd tuag at gynyddu'r cyllid gwaelodol, oherwydd ni ddylai unrhyw gyngor fod ar bwynt lle nad yw'n gallu darparu gwasanaethau hanfodol, fel cyngor Conwy, sydd ar eu gliniau. Mae cynghorau'n cael cynnydd wedi'i ddiogelu o 3.1 y cant, sy'n uwch na'r 1 y cant a drosglwyddwyd i Lywodraeth Cymru, ond mae unrhyw gyllid ychwanegol wedi syrthio i'r twll du o bwysau chwyddiant, a achoswyd yn bennaf gan gyllideb Truss a Brexit ofnadwy.

Pan fydd yna frwydr, fe geir rhaniadau, ac mae rhai cynghorau wedi gofyn am adolygu'r fformiwla ariannu, yn union fel cynghorau yn Lloegr, sy'n dweud bod eu fformiwla ariannu o fudd anghymesur i ardaloedd cyfoethocach. Rwyf innau wedi gofyn i'r fformiwla ariannu gael ei hystyried hefyd ar ran Cyngor Sir y Fflint ac fel Jack Sargeant, rydym wedi gofyn yn ogystal am awgrymiadau ymarferol y gallwn eu trosglwyddo. Ond yn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, dywedwyd wrthym mai ei archwilio'n fanylach sydd ei angen, yn hytrach nag adolygiad mawr, a dywedwyd hynny gan Wynedd, sy'n un o'r cynghorau sy'n cael y lleiaf o arian. Mae yna enillwyr a chollwyr, ac yn aml gall newid greu canlyniadau annisgwyl.

Rwy'n credu bod angen gwell eglurder i gynghorau a chynghorwyr i ddeall y fformiwla ariannu fel eu bod yn deall ble mae'r arian yn mynd. [Torri ar draws.] Rwyf wedi gofyn am adolygiad. Clywsom hefyd fod angen inni gynyddu'r pot, ond nid sut y caiff y pot ei ddyrannu. Ni ddylem fod yn ymladd dros y briwsion ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus pan fo'r gyllideb sy'n dod o San Steffan yn rhy fach i ddechrau. Dyna ydyw yn y bôn. Dylem fod yn brwydro i roi diwedd ar 13 mlynedd o gyni a rhoi diwedd ar doriadau i wasanaethau cyhoeddus. Mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn werth £1.3 biliwn yn llai—

—na phan wnaed adolygiad o wariant cyllideb y DU yn 2021—

—ac mae cynghorau yng Nghymru yn wynebu diffyg o £421 miliwn a mwy. Sam, fe wnaf dderbyn eich ymyriad, cyn belled ag y caf barhau i siarad.

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am dderbyn yr ymyriad, Carolyn. Mae llawer o'r pwyntiau rydych chi'n eu gwneud yn cyfeirio at San Steffan ac at yr heriau y mae Llywodraeth y DU yn eu hwynebu, ond ychydig iawn o ran Llywodraeth Cymru. A ydych chi'n credu mewn datganoli?

Rwy'n credu mewn datganoli. Hoffwn gael mwy o ddatganoli, ond hoffwn i'r cyllid sy'n ddyledus i Gymru gael ei roi, gan gynnwys y cyllid HS2 a haeddwn. Nid yw arian y deuir o hyd iddo i lawr cefn y soffa yn Lloegr yn dod draw i Gymru.

Mae llai o arian gan Lywodraeth y DU i Lywodraethau datganoledig, mewn termau real, yn golygu llai o wasanaethau a biliau treth gyngor uwch i gau'r bwlch. Pe bai cyllid wedi cadw gyfuwch â'r twf yn yr economi ers 2010, byddai'n werth £3.5 biliwn yn fwy.

Mae angen cronfeydd wrth gefn ar lawer o gynghorau. Gallai teulu sydd â phlant ag anghenion cymhleth symud i ardal, a gallai gostio cannoedd o filoedd o bunnoedd i'r un plentyn yn unig. Efallai y ceir llifogydd trwm, efallai y bydd eira. Mae angen grantiau arnom tuag at adeiladau ysgol, cartrefi gofal a thai cymdeithasol mawr eu hangen. Po fwyaf yw awdurdod, y mwyaf yw'r cronfeydd wrth gefn, ond y mwyaf yw'r rhaglen adeiladu a'r angen am dai hefyd, yn dibynnu ar faint y cyngor.

Clywsom sut mae cyngor Conwy mewn cyflwr mor fregus, oherwydd bod cronfeydd wrth gefn wedi cael eu defnyddio dros y blynyddoedd, yn hytrach na chynyddu'r dreth gyngor. Mae tai wedi mynd i gymdeithas drosglwyddo, sydd ond yn darparu tai, nid gwasanaethau cymorth i'r digartref, ac mae'r cyngor yn ei chael hi'n anodd helpu'r rhai mewn angen. Maent ar eu gliniau. Rwy'n credu bod y ddadl hon yn annheg i gynghorau a chynghorwyr, sydd dan bwysau ofnadwy ac yn cael eu cam-drin yn ofnadwy yn barod, ac mae'n rhoi pwysau arnynt. Mewn gwirionedd, mae'n achosi mwy o raniadau a chasineb, ac ymddengys mai dyna'r ffordd Dorïaidd o weithredu, a lledaenu amheuaeth. Nid oes ganddynt unrhyw ddewis ond cynyddu'r dreth gyngor neu dorri gwasanaethau statudol, fel gofal cymdeithasol ac addysg.

Mae gan lawer o bobl na allant fforddio talu'r dreth gyngor hawl i gael gostyngiad yn y dreth gyngor, ac mae angen inni wneud mwy i hyrwyddo hynny, fel eu bod yn cael y cymorth hwnnw. Yn anffodus, mae credyd cynhwysol y Llywodraeth Dorïaidd yn achosi problem i bobl sydd am gael rhyddhad treth gyngor, ac mae angen mynd i'r afael â hynny. Mae angen mynd i'r afael â'r system fudd-daliadau. Mae angen mynd i'r afael â'r system fudd-daliadau Dorïaidd.

Byddaf bob amser yn parhau i frwydro i weld y cynghorau yng ngogledd Cymru yn cael cyllid teg a rhan fwy o'r gacen, ond pan fo pob cyngor yn wynebu pwysau cyllidebol enfawr, mae'r gacen yn rhy fach, a dylai Cymru fod â hawl i'w chyfran deg o gyllid. Diolch.

18:40

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ar lywodraeth leol, a diolch i'r Aelodau ar draws y Siambr am eu cyfraniadau? Hoffwn ddechrau drwy gofnodi fy niolch, unwaith eto, i lywodraeth leol, i Aelodau etholedig a staff ym mhob awdurdod, am y gwaith hanfodol y maent yn ei wneud ar ran cymunedau, pobl a busnesau ledled Cymru. Ac yn wir, mae llawer o'r siaradwyr, gan fy nghynnwys i, wedi cael y fraint o fod yn gynghorwyr, ac mae'r profiad hwnnw mor werthfawr i ni fel Aelodau o'r Senedd.

Mae cynghorau'n parhau i gyflawni, er gwaethaf heriau parhaus, ac rydym yn parhau i'w cefnogi i wneud hynny. Rydym wedi cefnogi a gweithio gyda nhw yn ystod y cyfnod anodd o gyni, llifogydd, y pandemig, ac rydym yn parhau i wneud hynny yn ystod y cyfnod hwn o bwysau chwyddiant a galw cynyddol. Mae ein sefyllfa ariannol heriol ein hunain yn golygu ein bod wedi ein cyfyngu yn yr hyn y gallwn ei wneud. Mae ein setliad ar gyfer 2024-25 bellach yn werth hyd at £1.3 biliwn yn llai mewn termau real na'r disgwyl ar adeg adolygiad o wariant 2021. Unwaith eto, nid yw ein setliad cyllid yn ddigonol i ymateb i'r pwysau eithriadol sy'n wynebu Cymru. A bydd y dewisiadau a wnaed gan y Canghellor yn natganiad yr hydref yn arwain at ganlyniadau ledled y DU, wrth i wasanaethau cyhoeddus wynebu toriadau dwfn a niweidiol unwaith eto, oherwydd eu bod wedi cael eu hamddifadu o fuddsoddiad go iawn. Felly, mae ei ddewisiadau wedi gwneud ein penderfyniadau ni'n anos.

Ddirprwy Lywydd, rydym yn ymateb i'r cyfnod heriol hwn gyda'r ysgogiadau sydd gennym. Roedd ein cyllideb yn blaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen cyn belled ag y bo modd, gan gefnogi'r aelwydydd sydd wedi'u taro waethaf, gan flaenoriaethu swyddi lle gallwn. Y flwyddyn nesaf, bydd awdurdodau lleol yn gweld cynnydd o 3.1 y cant, ar ben y cynnydd cyfunol o 7.9 y cant ar gyfer y flwyddyn gyfredol, a 9.4 y cant ar gyfer 2022-23. Serch hynny, rydym yn gwybod, yn wyneb galw cynyddol, chwyddiant uchel a phwysau cyflogau, y bydd awdurdodau'n wynebu heriau gwirioneddol i ddarparu gwasanaethau, cydbwyso eu cyllidebau a chefnogi eu cymunedau lleol drwy gadw'r cynnydd yn y dreth gyngor mor isel ag y gallant. Ac wrth gwrs, bydd cynghorau'n ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael iddynt. Byddant yn edrych ar eu gwasanaethau, yr hyn y gallai fod rhaid iddynt ei docio heb effeithio ar y rhai mwyaf anghenus. Byddant yn edrych ar wasanaethau cyffredinol yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt, a gweld a ellir eu gwneud yn fwy effeithlon. Byddant yn ystyried pa ffioedd y gallai fod rhaid iddynt eu cynyddu, neu ble gallant gyflwyno ffioedd newydd. Bydd aelodau etholedig lleol—a dyna yw eu rôl, democratiaeth leol yw hyn—yn ystyried yn ofalus beth fydd effeithiau cynnydd yn y dreth gyngor ar eu cymunedau. A bydd cynghorau'n ystyried pa mor bell y gallant ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn i helpu ym mhob un o'r penderfyniadau hyn heb beryglu eu sefyllfa hirdymor.

Rwy'n falch o gael cyfle y prynhawn yma i gywiro nifer o bwyntiau yng nghynnig y Ceidwadwyr, a gadewch inni ddechrau gyda chronfeydd wrth gefn. Nawr, mae cronfeydd wrth gefn eisoes yn cael eu defnyddio'n ddarbodus i gefnogi newid gwasanaethau ac i gefnogi'r newidiadau y maent yn eu gwneud wrth ddarparu eu gwasanaeth, a hefyd i gynnal pwysau tymor byr. Ond mae'n anghywir cymryd y disgrifiad technegol o gronfa wrth gefn y gellir ei defnyddio, yn cynnwys cronfeydd wrth gefn ysgolion unigol a chronfeydd wrth gefn ar gyfer prosiectau penodol a chronfa wrth gefn y cyfrif refeniw tai, ac awgrymu y gellir defnyddio hyn oll i leddfu'r penderfyniadau ar gyfer eleni heb boeni am y flwyddyn nesaf.

18:45

A wnewch chi gytuno â mi fod rhan sylweddol o'r cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio sydd gan awdurdodau lleol yn gronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi? Ac a ydych chi'n cytuno â mi fod llawer o'r cronfeydd wrth gefn hyn sydd wedi'u clustnodi yn chwyddo bob blwyddyn, ac na thynnwyd arian o nifer ohonynt ers pum mlynedd efallai, neu nad oes cynlluniau i dynnu arian ohonynt ar gyfer y dyfodol, am bum mlynedd? Felly, dylid defnyddio'r arian hwnnw i helpu'r teulu llywodraeth leol, yn gyfunol. Dyna pam ein bod yn galw ar y Llywodraeth i weithio gydag awdurdodau lleol i ddatgloi cronfeydd wrth gefn nas defnyddiwyd, nad ydynt wedi'u clustnodi yn rhywle ar hyn o bryd, i greu sylfaen o gyllid llywodraeth leol efallai. A fyddech chi'n cytuno â defnydd darbodus o'r cronfeydd hynny?

Wel, wrth gwrs, Peter, o'ch profiad hir mewn llywodraeth leol, fe ddywedoch chi'r peth iawn—cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi yw'r rhain. Rydych chi'n gwybod pa mor anodd yw defnyddio cronfeydd wrth gefn sydd wedi'u clustnodi, ond mewn gwirionedd, mae cynghorau'n eu defnyddio, maent yn eu defnyddio'n ddarbodus, ac maent yn ymateb i bwysau tymor byr. Ac rwyf am ddweud hefyd, ar bwysigrwydd y prosiectau penodol hynny—mae cyfalaf wedi cael ei grybwyll—yr awdurdodau Llafur sydd wedi adeiladu ysgolion yn ein rhanbarthau a'n hetholaethau, ledled Cymru. Dros 13 mlynedd o gyni, rydym wedi bod yn adeiladu'r ysgolion hynny gyda'n partneriaid mewn llywodraeth leol. A'r enghraifft ddiweddaraf, ac rwy'n siŵr eich bod i gyd wedi gyrru heibio iddi, yw ysgol uwchradd wych Fitzalan, sy'n gwasanaethu'r gymuned hon.

Felly, rwy'n meddwl bod y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud am wasanaethau, am gronfeydd wrth gefn ac am gynyddu'r dreth gyngor—. Y pwynt pwysig, mae'n siŵr, yw eu bod yn cael eu gwneud gan aelodau lleol, a etholwyd yn ddemocrataidd, gan bobl sydd o ddifrif am eu cyfrifoldebau, ac sy'n wynebu—fel rydym ni'n ei wneud, wrth gwrs—eu hetholwyr, bob dydd. Mae'r dreth gyngor yn rhan hanfodol o ariannu llywodraeth leol. Mae'n cyfrannu tua £2 biliwn bob blwyddyn at wasanaethau lleol hanfodol. Ac wrth bennu cyllidebau a lefelau'r dreth gyngor, mae dyletswydd ar awdurdodau i ystyried yn ofalus y cydbwysedd rhwng cynnal gwasanaethau a chyfyngu'r baich ariannol y maent yn ei roi ar aelwydydd. Ac fel y gŵyr yr Aelodau yn dda, mae cynghorau'n ymgysylltu â'u cymunedau lleol ar y dewisiadau hyn. Ac nid yw Llywodraeth Cymru yn gosod cap artiffisial ar benderfyniadau treth gyngor, ac nid ydym yn gosod costau a baich ychwanegol refferendwm lleol am gynnydd uwchlaw lefel a ddewisir yn ganolog, fel y maent yn ei wneud yn Lloegr.

Ond Ddirprwy Lywydd, rwy'n gresynu at ddewisiadau'r Canghellor sy'n golygu bod cynghorau ledled y DU, nid yng Nghymru'n unig, yn gorfod gwneud y penderfyniadau anodd hyn. Ac mae'n bwysig ein bod yn hyrwyddo'r ystod honno o gymorth i helpu pobl sy'n ei chael hi'n anodd. Mae ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn darparu cymorth cyson ar draws Cymru, ac mae'n golygu bod dros 200,011 o bobl yn derbyn cymorth llawn, ac nad ydynt yn talu unrhyw dreth gyngor o gwbl. Ac rwy'n hynod o falch o allu sôn eto am ein siarter fudd-daliadau newydd i Gymru, a gafodd ei lansio ddydd Llun. Ymrwymodd pob un o'r 22 awdurdod lleol, ym mhob un o'ch etholaethau, i'r gwaith hwn, i wella hygyrchedd y system fudd-daliadau, ac i annog yr holl breswylwyr cymwys i hawlio cymorth. Peredur.

Yn gynharach, roeddwn yn sôn am y £600 miliwn sydd wedi'i gyhoeddi yn San Steffan. A wnewch chi roi ymrwymiad ynghylch y swm canlyniadol a fydd yn dod i Gymru, os gwelwch yn dda?

Gallaf eich sicrhau y byddaf yn dod at hynny ar ddiwedd fy ymateb. Byddaf yn dod at hynny'n gyflym iawn, Ddirprwy Lywydd. Ond rwyf am droi'n fyr iawn at y fformiwla llywodraeth leol. Mae galwadau wedi bod erioed am adolygu'r fformiwla'n sylfaenol, ac rydym ni a llywodraeth leol bob amser wedi cydnabod y risgiau a'r heriau y byddai adolygiad o'r fath yn eu creu. Byddai unrhyw newid, wrth gwrs, yn arwain at enillwyr a chollwyr, a gallai hynny fod yn sylweddol. Ac rydym bob amser wedi bod yn glir—ac mae hyn wedi cael ei gydnabod heddiw yn y ddadl hon—os oes awydd cyfunol gan lywodraeth leol i gynnal adolygiad sylfaenol o gyllid y setliad llywodraeth leol, byddwn yn gweithredu arno gyda'n gilydd. Ac a gaf fi ddweud 'diolch' wrth Mike Hedges, sydd wedi egluro eto heddiw pa mor bwysig yw'r ffordd y caiff y fformiwla ei llunio? Wrth gwrs, mae cyfle i adolygu'r fformiwla'n barhaus drwy waith yr is-grŵp dosbarthu, a oruchwylir gan yr is-grŵp cyllid.

Felly, yn olaf un rwyf am droi at y cyhoeddiad ynghylch cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol Lloegr a ddaeth heddiw. A gaf fi ddweud, unwaith eto, na roddodd Llywodraeth y DU unrhyw rybudd ymlaen llaw i ni, Lywodraeth Cymru, ynglŷn â'r datganiad hwn, dim rhag-rybudd ynglŷn ag arian ychwanegol sy'n cael ei ddarparu yn Lloegr? Ac ni roddwyd unrhyw sicrwydd i ni ynghylch lefel unrhyw gyllid canlyniadol. Dyna'r sefyllfa rydym ynddi heddiw, ond fel y gŵyr yr Aelodau, gall fformiwla Barnett sy'n gweithio yn y ffordd arferol olygu hefyd fod ein cyllid yn gostwng yn gyffredinol os oes newidiadau eraill i adrannau eraill y Llywodraeth. Felly, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn egluro'r sefyllfa i'r Senedd pan fydd hi'n glir i Lywodraeth Cymru.

Ond rwy'n gobeithio y gwnewch chi ymuno â fi i ddweud wrth ein Ceidwadwyr Cymreig: 'A oeddech chi'n gwybod?' Nid oeddem ni'n gwybod. Llywodraeth Cymru, unwaith eto—diffyg parch gan Lywodraeth y DU. Ac mae angen inni wybod, ac mae angen inni wybod yn fuan am y swm canlyniadol hwnnw i Gymru. Diolch yn fawr. 

18:50

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ac mae'n rhaid imi ddweud ei bod yn eithaf difyr gwrando ar Jane Hutt yn siarad mewn gwirionedd, oherwydd rydych chi'n amlwg wedi anghofio bod Liam Byrne—un o'ch pobl chi, un o'r Blaid Lafur—wedi gadael y nodyn yn dweud, 'Nid oes gennym unrhyw arian ar ôl'. [Torri ar draws.]

Nawr, mae Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn andwyo Cymru— 

Rwyf am ofyn i'r holl Aelodau ymatal rhag gwneud unrhyw synau fel y gall pob un ohonom glywed cyfraniad yr Aelod yn ymateb. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae Llafur Cymru a Phlaid Cymru, heb unrhyw amheuaeth, yn andwyo Cymru, ac maent yn sicr yn gwanychu fy awdurdod lleol fy hun bellach. Nid yw'r setliad dros dro ar gyfer 2024-25 ond yn £3.975 miliwn yn fwy na 2023-24. Dyna'r cynnydd isaf, unwaith eto, yn y setliad ar draws Cymru gyfan. Ac fel y mae'r Gweinidog cyllid Llafur wedi dweud, dim ond oherwydd y cyllid gwaelodol y cafodd Conwy hynny. Yn y bôn, gallai'r cynnydd fod wedi bod yn waeth. Yn amlwg, fel y mae fy nghyd-Aelod Sam Rowlands AS wedi nodi, nid yw fformiwla ariannu llywodraeth leol Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn addas i'r diben. I'r rhai ohonoch nad oeddech yma yn gynharach yn y Siambr yn ystod y ddadl hon, codais hyn yn 2011, 2012, 2013, 2014 hyd nes y daethoch chi'n Weinidog yr wrthblaid. Rydym wedi codi hyn bob blwyddyn. 

Mae'n rhaid imi ddweud pa mor falch wyf i mai fy nghyd-Aelod Sam Rowlands, fel arweinydd Conwy, a osododd y cynnydd isaf yn y dreth gyngor yng Nghonwy dros yr 20 mlynedd diwethaf. Dyna'r Ceidwadwyr Cymreig i chi ar bob lefel o Lywodraeth. [Torri ar draws.] Mae'r Cynghorydd Charlie McCoubrey, arweinydd cyngor Conwy—[Torri ar draws.]  

Ni all yr Aelod ddeall na chlywed pobl yn gofyn oherwydd ei bod yn rhy swnllyd. Janet, mae gennych ddau gais. A ydych chi eisiau—? Janet, mae gennych ddau gais am ymyriadau. A ydych chi eisiau eu derbyn? 

Gadewch i mi barhau am ychydig ac yna cawn weld. Felly, mae angen £4.4 miliwn ar gyfer dyfarniadau cyflog athrawon a staff, sy'n dileu'r cynnydd o 2 y cant. Roedd Peredur yn llygad ei le yn tynnu sylw at y cyllid a'r cymorth a ddaw gan Lywodraeth y DU, ond hoffwn ofyn pa sylwadau y mae wedi'u gwneud i arweinydd eich cyngor i ofyn iddynt godi hyn gyda CLlLC a Llywodraeth Cymru wrth gwrs.

Rhesymau pellach dros adolygu'r fformiwla yw'r ffaith bod 30 y cant o'r data a ddefnyddir wedi hen ddyddio, ac mae peth ohono'n mynd yn ôl i 1991. Yn fy awdurdod lleol fy hun, mae'n cosbi'r preswylwyr hŷn a chost drwm gofal cymdeithasol. Ac mae'r digartrefedd a gafodd ei greu gan Lywodraeth Cymru a pholisïau'r cytundeb cydweithio yn achosi i symiau enfawr o arian gael eu gwario ar lety dros dro. Mae gan gynghorau yng Nghymru dros £2.7 biliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio, ac rydym hefyd yn gwybod—ac rwy'n gwybod nad yw'r Prif Weinidog yn rhy hapus gyda fi'n dweud hyn—rydym yn gwybod bod y setliadau gwell yn mynd i awdurdodau lleol sy'n cael eu rhedeg gan Lafur Cymru, ac maent fel arfer yn eistedd ar filiynau o gronfeydd wrth gefn—nid cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi—flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Mae'n rhaid i fy awdurdod lleol i nawr, yn ogystal â cheisio gweithredu cynnydd mawr iawn yn y dreth gyngor, gau cyfleusterau cyhoeddus, lleihau biniau sbwriel a newid casgliadau cewynnau wythnosol i bob mis. Mae'r cynigion hyn yn drewi, ac mae ffynhonnell y llygredd gyda chi a Phlaid Cymru. Mae Llywodraeth y DU yn helpu Cymru, a'r newyddion gwych a gawsom ddoe oedd bod benthyca bellach £5 biliwn yn is, er bod Llafur wedi ein gadael heb unrhyw arian. Yn syml, ni allwch roi'r bai ar Lywodraeth y DU am eich methiannau yma yn Llywodraeth Cymru. Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, cynghorydd Plaid Cymru ac arweinydd Cyngor Gwynedd:

'gyda'r cyhoeddiad diweddaraf rydym wedi cyrraedd pen draw'r hyn sy'n bosibl yn realistig heb dorri gwasanaethau a chodi'r Dreth Gyngor'.

Gallai peth o'r diffyg hwnnw fod wedi'i roi yn lle cael ei wastraffu gennych chi. Gwariwyd £52 miliwn ar brynu Maes Awyr Caerdydd, ac fel rwy'n deall y ffigurau, gwariwyd £245 miliwn arno; ei werth mewn prisiad diweddar, £15 miliwn. Dyna economeg dda. Dros £1.4 biliwn ar seilwaith a phrosiectau Llywodraeth Cymru aflwyddiannus, neu a ganslwyd neu lle bu gorwario; £11 miliwn ar barc busnes Bangor, sydd wedi bod ar gau ers dros 20 mlynedd; £4.25 miliwn ar fferm Gilestone; £20 miliwn ar ddim ond y gwaith cychwynnol ar incwm sylfaenol cyffredinol; £3.6 miliwn ar y pwyllgor cyfansoddiadol a Chomisiwn y Senedd; ac £11.5 miliwn ar gerflun y ddraig yng Nglyn Ebwy.

Ceisiodd Mike Hedges ein haddysgu am y fformiwla ariannu. Rydych chi'n gwybod ac rwyf i'n gwybod, Mike, ei bod yn ddiffygiol, ond nid ydych chi wedi gwneud unrhyw beth amdano. Nododd Joel James fod etholwyr yn dioddef yn sgil codi ofn gan arweinwyr cynghorau fel Andrew Morgan, sy'n bygwth ein trigolion gyda threth gyngor uwch. Laura Jones, roeddech chi'n wych i dynnu sylw at y ffaith bod gormod o flaenoriaethau cyfeiliornus, ac unwaith eto fe wnaethoch dynnu sylw at flynyddoedd o wastraff llwyr.

Tynnodd Jenny Rathbone sylw at yr heriau enfawr y mae ein hawdurdodau lleol yn eu hwynebu, ond ni wnaethoch sôn am y ffaith bod Llywodraeth Cymru bob tro y bydd yn cyflwyno deddfwriaeth ddiwerth a diangen, fel 20 mya—[Torri ar draws.] Arhoswch eiliad. Ein hawdurdodau lleol sy'n cael eu gadael i dalu'r gost am y ddeddfwriaeth hon am nad ydynt yn cael digon—

18:55

Janet, arhoswch eiliad. Rwy'n gwybod bod pobl yn cyffroi heno, ac mae hi ychydig yn hwyrach na'r arfer, ond rwy'n hoffi clywed Janet yn cyfrannu, a hoffwn sicrhau ein bod i gyd yn gallu ei chlywed, oherwydd mae yna gymaint o siarad yn digwydd ar hyn o bryd fel na allaf glywed y cyfraniad. Janet.

Roeddwn yn edrych rai blynyddoedd yn ôl, ac rwy'n meddwl mai Lesley Griffiths—

Diolch. Rwy'n cofio mai Lesley Griffiths ydoedd, mewn gwirionedd—os byddai'n mynd dros 5 y cant, y cap cyllido, gallech orfod wynebu refferendwm, a hoffwn alw am hynny eto.

Mae angen diwygio mawr i'r fformiwla ariannu a'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddosbarthu. Mae fy awdurdod a llawer o awdurdodau eraill yng Nghymru yn haeddu'r hyn sydd ei angen arnynt i allu darparu'r gwasanaethau hynny. Rwy'n falch unwaith eto, yn ein dadleuon wythnosol, mai'r Ceidwadwyr Cymreig sy'n sefyll dros bobl Cymru. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Ocê.

Mae'r bleidlais gyntaf heno ar eitem 6, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 32, roedd 12 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn. 

19:00

Eitem 6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Ariannu hosbisau elusennol: O blaid: 32, Yn erbyn: 0, Ymatal: 12

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 8, dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynir i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 32 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod. 

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu llywodraeth leol. Cynnig heb ei ddiwgio: O blaid: 12, Yn erbyn: 32, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn. 

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu llywodraeth leol. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 23, Yn erbyn: 21, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Peredur Owen Griffiths. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod. 

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu llywodraeth leol. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Peredur Owen Griffiths: O blaid: 10, Yn erbyn: 34, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Nesaf, galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 32, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 3 wedi ei dderbyn.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu llywodraeth leol. Gwelliant 3, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 32, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8459 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y rôl hanfodol sydd gan awdurdodau lleol o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, y cynnydd sylweddol yn y setliad llywodraeth leol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, diogelu'r cynnydd o 3.1 y cant ar gyfer 2024-25, a'r heriau cyllido y mae awdurdodau yn eu hwynebu serch hynny.

2. Yn cydnabod bod cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 bellach yn werth hyd at £1.3 biliwn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei phennu yn 2021.

3. Yn nodi bod gan gynghorau dros £2.75 biliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio.

4. Yn gresynu bod cynghorau'n ymgynghori ar godiadau o hyd at 25 y cant i’r dreth gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-2025.

5. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn:

a) parhau i ddatblygu a chynnal fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru mewn partneriaeth â llywodraeth leol; a

b) parhau i gydnabod pwysigrwydd gwneud penderfyniadau democrataidd lleol ynghylch cyllidebau cynghorau a gwasanaethau cyhoeddus.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn. 

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu llywodraeth leol. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 23, Yn erbyn: 21, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Diolch, bawb. Nesaf mae'r ddadl fer.

Os oes pobl yn gadael, gwnewch hynny'n dawel, os gwelwch yn dda.

19:05
10. Dadl Fer: Pwnc llosg: Mynd i'r afael â chanser yr esoffagws a'r stumog yng Nghymru

Symudwn nawr i'r ddadl fer, a galwaf ar Altaf Hussain i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo. Altaf. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Joyce Watson i gyfrannu at y ddadl fer hon. Edrychaf ymlaen at glywed eich syniadau, yn ogystal ag ymateb y Gweinidog. 

Ychydig wythnosau ar ôl Diwrnod Ymwybyddiaeth o Ganserau Llai Goroesadwy, ac wythnos cyn Diwrnod Canser y Byd, ar 4 Chwefror, sydd hefyd yn digwydd bod yn Fis Ymwybyddiaeth Canser yr Oesoffagws, hoffwn ganolbwyntio ar frwydr y mae llawer yng Nghymru yn ei hymladd yn dawel: canserau'r oesoffagws a'r stumog. Mae arwyddocâd arbennig i'r frwydr yn erbyn canserau'r oesoffagws a'r stumog i mi. Pan ddechreuais fy hyfforddiant llawfeddygol yn y 1970au, fy llawdriniaethau cyntaf oedd cael gwared ar ganser yr oesoffagws. Ar y pryd, nid oedd y llawdriniaeth yn soffistigedig iawn. Diolch byth, mae technegau llawfeddygol a meddyginiaethau wedi gwella'n fawr.

Ond er inni gael dros 40 mlynedd o welliant yn y cyfraddau goroesi canser, mae'r gelynion tawel hyn, sy'n aml yn anweledig, yn dal i hawlio llawer gormod o fywydau, gan adael unigolion a'u teuluoedd wedi chwalu a thorri calonau cymunedau. Yn hanesyddol, nid yw'r canserau hyn na'r cleifion sy'n eu dioddef wedi cael yr un statws a sylw â chanserau eraill. Dylai hyn newid, gobeithio, yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad, 'Mater Llosg', gan Gofal Canser Tenovus, sydd wedi dewis archwilio'r materion sy'n unigryw i'r ddau ganser hyn. Gyda mwy o ymwybyddiaeth, camau gweithredu wedi'u targedu ac ysbryd diwyro Cymru, gallwn droi'r llanw a gwella'r canlyniadau i bob claf sy'n wynebu'r heriau hyn. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yma heddiw, a Llywodraeth Cymru, yn gallu rhoi eu cefnogaeth.

Gan bwyso ar gyfuniad o ddata sydd ar gael yn gyhoeddus, ceisiadau rhyddid gwybodaeth a digwyddiad bwrdd crwn ar gyfer clinigwyr, mae adroddiad Gofal Canser Tenovus, 'Mater Llosg', yn rhoi darlun llwm iawn. Yn 2020 yn unig, cafodd dros 800 o unigolion ddiagnosis o ganser yr oesoffagws neu'r stumog. Mae hynny'n dri unigolyn bob dydd, bron iawn—unigolion y cafodd eu bywydau eu newid am byth. Ac er efallai na fydd y canserau hyn yn dominyddu'r penawdau, mae eu heffaith yn ddiymwad. Er bod y canserau hyn yn 4.5 y cant o gyfanswm yr achosion o ganser, maent yn 7.7 y cant o gyfanswm y marwolaethau o ganser. Dyna dros 600 o bobl yn 2021—bywydau gwerthfawr wedi'u colli, gan adael bwlch mewn teuluoedd a chymunedau ledled Cymru.

Fel y rhan fwyaf o ganserau, mae cyfraddau goroesi'n dibynnu i raddau helaeth ar ba gam y gwnaed y diagnosis, sy'n golygu bod canfod a diagnosis cynnar yn hanfodol. Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid oes prawf sgrinio ledled y DU ar gael i ganfod canserau'r oesoffagws a'r stumog ar gam cynnar, ac mae'r rhan fwyaf o achosion yn cael diagnosis yng nghamau hwyr y clefyd. Mae 42 y cant o ganserau'r oesoffagws a 43 y cant o ganserau'r stumog yn cael diagnosis yng ngham 4. Cymharwch hyn â chanser mwy goroesadwy, fel y fron, lle nad oes ond 5 y cant yn cael diagnosis yng ngham 4. Mae dal y canserau hyn ar gam cynnar yn hanfodol, os ydym am eu gwneud yn fwy goroesadwy. Gan fod symptomau amwys neu ddim symptomau i ganserau'r oesoffagws a'r stumog yn aml, gall cynyddu ymwybyddiaeth o symptomau fod yn heriol.

Canfu arolwg ledled y DU a gyflawnwyd gan y Tasglu Canserau Llai Goroesadwy yn 2022 fod ymwybyddiaeth o symptomau ar gyfer canserau'r oesoffagws a'r stumog yn isel. Dim ond 1 y cant a 4 y cant yn y drefn honno o'r bobl a holwyd a oedd yn adnabod symptomau'r ddau ganser.

Am fod lefelau ymwybyddiaeth o symptomau'n isel, mae'n anarferol i bobl sydd â symptomau'r canserau hyn ymweld â'u meddyg teulu, ac os gwnânt, canfuwyd y bydd yn rhaid i 48 y cant ohonynt ymweld fwy na dwywaith cyn cael eu hatgyfeirio. Mae hyn yn dangos bod pobl naill ai'n cael trafferth cyfathrebu maint eu symptomau neu weithiau mae'r meddygon teulu'n methu adnabod eu difrifoldeb posibl. Gellir gweld yr anghysondebau hyn mewn gofal yn yr amser y mae'n ei gymryd i atgyfeiriad at ofal eilaidd gael ei wneud, a all amrywio o un diwrnod i 18 mis. Fel gyda phob canser, mae pob diwrnod o aros yn ddiwrnod a gollir ac yn lleihau'r gobaith o oroesi.

Yng Nghymru, mae cyfartaledd o 19 y cant o bobl â chanserau'r oesoffagws a'r stumog yn cael diagnosis mewn adran damweiniau ac achosion brys. Yn aml, gallai hyn fod oherwydd diffyg ymwybyddiaeth o symptomau, atgyfeiriadau araf neu gyfleoedd a gollwyd i atgyfeirio ymlaen gan feddygon teulu. Fodd bynnag, mae'r canserau hyn yn aml yn ddi-symptom tan y camau diweddarach, felly mewn rhai achosion fe fydd yn anochel mai mewn uned frys y cânt eu canfod.

Y mis nesaf yw Mis Ymwybyddiaeth o Ganser yr Oesoffagws ac mae Gofal Canser Tenovus yn lansio eu hymgyrch ymwybyddiaeth o symptomau ar gyfer canserau'r oesoffagws a'r stumog. Byddant yn annog pobl sydd â diffyg traul parhaus a llosg cylla neu ddŵr poeth ers amser hir i siarad â'u meddyg teulu a chael eu symptomau wedi eu harchwilio. Bydd yr elusen hefyd yn gweithio gyda fferyllfeydd cymunedol yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru i roi eu negeseuon ymwybyddiaeth o symptomau ger meddyginiaethau ar gyfer diffyg traul a llosg cylla neu ddŵr poeth sy'n eu lleddfu yn y tymor byr, ond sydd hefyd yn gallu cyfrannu at guddio symptomau'r ddau ganser. Maent yn rhannu'r neges bwysig, er bod y symptomau hyn yn ymddangos yn fach, y gallent fod yn ddangosydd o rywbeth mwy difrifol.

Weinidog, edrychaf ymlaen at ddeall yn well yr hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu gyda'r ymgyrch ymwybyddiaeth o symptomau sydd wedi bod yn tyfu o lawr gwlad i fyny. Yn sicr, gall Aelodau helpu drwy rannu gwybodaeth a gynhyrchir gan Tenovus, gan fod gan bob un ohonom bresenoldeb a llwyfannau cyhoeddus yn ein cymunedau. Sut y gall Llywodraeth Cymru—[Torri ar draws.] Ie.

19:10

Na. Mewn dadl fer, dim ond i Aelod sy'n ymateb y gallwch ofyn am gael ymyrryd, nid yr Aelod sy'n gwneud y datganiad.

O'r gorau. Diolch. Sut y gall Llywodraeth Cymru helpu i gryfhau'r negeseuon a chynyddu ymwybyddiaeth o symptomau, yn enwedig gan fod gennym y llwybrau diagnostig cyflym newydd ar gyfer symptomau annelwig ar waith ar draws pob bwrdd iechyd?

Gan symud ymlaen at gam diagnostig y llwybr canser, mae'n rhaid inni wneud mwy i groesawu a chyflwyno offer a thechnegau arloesol newydd, a rhatach yn aml i helpu i leddfu'r argyfwng capasiti sy'n wynebu gwasanaethau endosgopi Cymru. Mae amseroedd aros a phwysau yn arwain at wneud i lawer o bobl sy'n gallu fforddio gwneud hynny, a rhai na allant ei fforddio, fynd yn breifat a thalu am eu profion diagnostig, a gallant achosi i rai meddygon teulu oedi cyn gwneud atgyfeiriad i ofal eilaidd.

Ceir rhai pocedi o arferion arloesol yn digwydd nawr yng Nghymru. Er enghraifft, defnyddir endosgopi drwy'r trwyn i archwilio symptomau gastro-oesoffagaidd. Mae'n fwy cyfforddus nag endosgopi confensiynol drwy'r geg, ac yn galw am lai o staff, ac amser adfer byrrach ac mae'n cymryd llai o le. Mae angen cyflymu'r gwaith o fabwysiadu'r technegau newydd hyn, endosgopi drwy'r trwyn a'r sbwng llyncu, ac mae gan Gymru fwrdd rhaglen ddiagnostig cenedlaethol i gynllunio ar gyfer pethau o'r fath. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda bwrdd y rhaglen i sicrhau bod pawb sy'n gymwys yn gallu cael mynediad at brofion diagnostig cynt a chyflymach, a beth mae'r Gweinidog yn credu y dylid ei wneud i sicrhau nad yw meddygon teulu yn cael eu hatal rhag atgyfeirio at lwybrau diagnostig oherwydd pryderon ynglŷn â galw gormodol? Er, pe bawn i yn eich lle chi, buaswn yn defnyddio offer o'r fath mewn gofal sylfaenol.

Rwyf am orffen fy nghyfraniad gyda rhai syniadau terfynol am gyflwr sy'n gallu rhagflaenu canser yr oesoffagws a'r hyn y mae clinigwyr am ei weld yn digwydd yn y maes hwn. Mae oesoffagws Barrett yn gyflwr sy'n achosi i gelloedd dyfu'n normal yn yr oesoffagws. Dyma hefyd yw'r unig gyflwr y gwyddys amdano sy'n rhagflaenu canser yr oesoffagws. Bydd tua 3 y cant o'r bobl sydd â Barrett yn datblygu canser yr oesoffagws. Gan fod Barrett yn gallu datblygu i fod yn ganser yr oesoffagws, argymhellir bod pobl yn cael eu monitro'n rheolaidd gan ddefnyddio endosgopi, a chaiff amlder yr archwiliadau hyn ei bennu gan hyd y segment annormal yn yr oesoffagws. Fel arfer, bydd hyn yn golygu bod pobl â Barrett yn cael endosgopi cadw gwyliadwriaeth bob dwy i bum mlynedd. Ni ddylid bychanu gwerth cadw gwyliadwriaeth. Mae gostyngiad o 30 y cant yn lefelau marwolaethau o ganser yr oesoffagws i bobl sydd â Barrett y cedwir gwyliadwriaeth arnynt o'i gymharu â'r bobl nad ydynt yn cael hynny, ac er y credir mai dim ond 3 y cant o bobl â Barrett sy'n datblygu canser yr oesoffagws, mae'r nifer yn gyfran fawr o'r achosion o ganser yr oesoffagws a welir yng Nghymru. Yn ogystal, credir bod Barrett ei hun yn cael ei dan-ddiagnosio'n aruthrol, felly mae'n bosibl fod ei rôl yn cyfrannu at ganser yr oesoffagws wedi'i dangynrychioli.

Mae angen trefniadau gwell ar gyfer casglu data am Barrett yng Nghymru. Bydd creu cofrestrfa genedlaethol ar gyfer Barrett yn safoni'r broses o gasglu data sy'n gysylltiedig â Barrett rhwng byrddau iechyd a sicrhau bod pawb yn cael eu monitro'n gyson. Mae angen trefniadau gwell ar gyfer casglu data i werthuso effaith Barrett ar ganser yr oesoffagws yng Nghymru. Yn absenoldeb rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser yr oesoffagws, mae Barrett yn cynnig cyfle unigryw i genedl maint Cymru nodi'r bobl sy'n wynebu'r perygl mwyaf o ganser yr oesoffagws a gwneud diagnosis ohono cyn gynted â phosibl pan fo'r opsiynau triniaeth ar eu gorau.

Hoffwn glywed syniadau'r Gweinidog ar y cynnig. Mae clinigwyr sy'n gweithio yn y maes yn galw am gofrestrfa Barrett. Byddai ei chefnogaeth a chefnogaeth Llywodraeth Cymru yn helpu i wireddu cynnig o'r fath, gan ein galluogi i safoni canfod a gofal yn well ledled Cymru, gan gyfrannu at ganlyniadau gwell i gleifion.

Gall y darlun presennol a gyflwynir gan ganserau'r oesoffagws a'r stumog fod yn llwm ac yn frawychus, ond gyda'r sylw a gawsant gan Gofal Canser Tenovus, gwell ymwybyddiaeth o symptomau, cyflwyno technegau diagnostig arloesol, cyflymach, cofrestrfa Barrett safonol ledled Cymru, a'n cefnogaeth ddiwyro, gallwn ddechrau llunio dyfodol mwy gobeithiol. Gadewch inni weithio gyda'n gilydd, fel cleifion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, Llywodraeth Cymru, a phob dinesydd, i greu Cymru lle nad yw'r canserau hyn yn ddedfryd marwolaeth, ond yn her i'w goresgyn gyda'n gilydd. Diolch yn fawr.

19:15

Diolch i chi, Altaf, am gyflwyno'r ddadl bwysig hon ac am dynnu sylw at ymgyrch Life Shoudn't Be Hard to Swallow Tenovus. Mae ymgyrchoedd a arweinir gan elusennau, a ariennir yn aml gan haelioni'r cyhoedd, yn hanfodol yn y frwydr yn erbyn canser, ac maent yn arbennig o bwysig, fel rydych chi wedi nodi heddiw, ar gyfer codi ymwybyddiaeth o glefydau llai adnabyddus ond sy'n cael eu cydnabod i'r un graddau. Rwy'n mynd i ganolbwyntio fy nghyfraniad ar oesoffagws Barrett.

Mae gennyf aelod agos iawn o'r teulu a gafodd gamddiagnosis—ond nid yw'n byw yng Nghymru, rhaid i mi ddweud. Mae'n gyflwr sy'n gallu rhagflaenu canser. Mae'n ddi-symptom, fel y dywedoch chi, ond yn fwy cyffredin ymhlith y rhai sy'n cael problemau adlifiad asid hirdymor, a byddai'n eithaf cyffredin i'r unigolion hynny fynd i gael meddyginiaeth gwrthasid dros y cownter. Ond mae arwyddion, ac mae dynion dros 50 oed a thros bwysau yn wynebu risg uwch, ac rydym yn gwybod y bydd rhywle rhwng 3 a 13 y cant o bobl â'r cyflwr hwnnw'n mynd ymlaen i ddatblygu canser yr oesoffagws, felly mae'n hanfodol ei fod yn cael ei nodi. Felly, rwy'n cefnogi eich galwad am y gofrestr. Ac rydym yn gwybod hefyd, o ran offer diagnostig, ei fod yn ymwneud ag endosgopi, a all fod yn broblem o ran atgyfeirio a'r nifer sy'n ei gael. Ond darllenais beth amser yn ôl am drwyn electronig sy'n gallu canfod cleifion Barrett drwy ddadansoddi eu hanadl. Felly, mae hon yn dechnoleg newydd, a gall helpu i greu llwybr cyflym ac osgoi'r holl sgrinio mewnwthiol diangen.

Felly, rwy'n gobeithio, Weinidog, y gallwn yn sicr edrych ar hynny, ac mae Cymru'n dda iawn am edrych ar dechnoleg newydd, arloesol. Diolch i chi am godi ymwybyddiaeth ohono, a hyd nes imi gael aelod agos iawn o'r teulu â'r cyflwr a mynd ymlaen i gael canser cam 4, nid oeddwn erioed wedi clywed amdano. Ac roedd yn rhaid imi gymryd rhan yn y ddadl heddiw, a byddaf yn sicr yn eu helpu i osod y posteri i rybuddio pobl.

19:20

A galwaf ar y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i’r ddadl—Eluned Morgan.

Hoffwn ddiolch i Altaf Hussain am gyflwyno'r ddadl fer hon ar ganserau'r oesoffagws a'r stumog, dau o'r canserau 'llai goroesadwy' fel y'u gelwir, o ystyried y diwrnod ymwybyddiaeth diweddar. Rwyf bob amser yn awyddus i wrando ar yr hyn sydd gan Altaf i'w ddweud, wrth gwrs, ac mae'n rhaid imi ddweud, fel Gweinidog iechyd, eich bod yn gwybod y bydd y fath arbenigwr clinigol yn eich cadw ar flaenau eich traed. Felly, diolch yn fawr iawn am hynny. Nawr, rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cael amser i drafod sut yr awn i'r afael â chanserau penodol, yn enwedig y rheini sydd â chyfraddau goroesi cymharol isel, ac fel arfer, bydd y rhain yn ganserau lle mae'n anos nodi symptomau tan y bydd y canser yn fwy datblygedig, ac mae hyn yn cyfyngu ar opsiynau triniaeth a chanlyniadau goroesi yn sgil hynny, fel y sonioch chi.

Nawr, yn rhy aml, gwelir y canserau hyn gyntaf yn yr adran frys, neu fel canfyddiad yn sgil rhyw broses arall, yn hytrach na thrwy ofal arferol, ac ar brydiau, mae pobl yn aros y tu hwnt i'n hamseroedd targed am driniaeth. Rhwng mis Ionawr a mis Hydref 2023, dechreuodd tua 54 y cant o bobl ar y llwybr canser gastroberfeddol uchaf eu triniaeth o fewn 62 diwrnod, ac rydym yn cydnabod nad yw hynny'n ddigon da.

Nawr, rwyf am i bawb sydd wedi cael diagnosis o'r canserau hyn a'u teuluoedd wybod, i Lywodraeth Cymru, fod canser yn un o'n prif flaenoriaethau ers blynyddoedd lawer. Mae gennym lawer iawn o ffocws ar wella amseroedd aros canser a chanlyniadau cleifion yn ein hymwneud â byrddau iechyd. Mae gwasanaethau canser dan bwysau aruthrol, yn rhannol o ganlyniad i'r cynnydd hirdymor yn y galw am archwiliadau a thriniaethau canser. Yng Nghymru, mae nifer y bobl sy'n cael eu hatgyfeirio at y llwybr lle'r amheuir canser wedi codi o 10,500 y mis ar gyfartaledd yn 2020 i 16,000 o bobl y mis yn 2023. Dyna gynnydd o 53 y cant. Felly, yr hyn rydych chi'n ei ddweud yw bod yn rhaid i chi geisio dod o hyd iddo yn gynharach. Er mwyn dod o hyd iddo yn gynharach, mae angen i chi brofi mwy o bobl, a rhan o'r broblem wedyn, os ydych chi'n gweld y math o gynnydd enfawr y siaradwn amdano, yn amlwg, yw ei bod hi'n cymryd amser i'r system ddal i fyny a'r holl ddiagnosteg a'r holl bethau eraill hynny, oherwydd mae hynny, fel y gallwch ddweud, yn ymchwydd enfawr, a dyma'r peth iawn; ond bod tagfa wedyn yn y ddiagnosteg. Rydym yn gwybod na fydd canser ar oddeutu 95 y cant o bobl sy'n cael eu rhoi ar y llwybr, ond mae'n rhaid i chi roi cymaint â hynny o bobl arno er mwyn dal y 5 y cant. Felly, mae triniaeth ganser, wrth gwrs, hefyd yn cystadlu â thriniaethau arferol a brys eraill yn ogystal â'r llwyth gwaith cynyddol a'r cymhlethdod sy'n gysylltiedig â thrin canser. Felly, dyna pam mae'r system iechyd ledled y DU yn ei chael hi'n anodd yn enwedig wrth gyrraedd y targed canser.

Nawr, mae ein dull newid a gwella wedi'i nodi yn y datganiad ansawdd ar gyfer canser. Mae'n ceisio dod â chlinigwyr ynghyd yng Nghymru ar gyfer pob math o ganser i gytuno ar lwybr wedi'i optimeiddio'n genedlaethol ar gyfer yr hyn a ddylai ddigwydd yn unol â fframiau amser y cytunwyd arnynt yn glinigol. Ac mae hyn eisoes wedi'i wneud ar gyfer mwy nag 20 math o ganser, gan gynnwys canserau'r stumog a'r oesoffagws. Nawr, mae hyn yn golygu bod gan bob un o'n byrddau iechyd bwynt cyfeirio cyffredin i gynllunio a goruchwylio eu gwasanaethau. Gallant weld yr hyn y mae angen iddynt weithio tuag ato a gallwn adolygu sut maent yn gwneud a herio lle mae angen i ni wneud hynny drwy ein cyfarfodydd atebolrwydd gyda byrddau iechyd. Felly, os oes gennych system ac nad yw pobl yn dilyn y system honno, gallwn eu herio nawr, oherwydd mae hon yn system y cytunwyd arni gan glinigwyr. Nid Llywodraeth Cymru sy'n dweud wrthynt beth i'w wneud; mae'r rhain yn arbenigwyr a benderfynodd mai dyma'r ffordd orau o fynd i'r afael â'r mater hwn.

Ond rhan ganolog o'r rheswm pam mae'r cyfraddau goroesi'n gymharol wael ar gyfer y canserau hyn, yw'r modd y caiff y canserau hyn eu canfod, fel y nodoch chi, ac yn aml iawn, maent ar y cam mwy datblygedig. A dyna pam mai un prif ffocws yn ein polisi cenedlaethol a chynllun gwella canser y GIG yw canfod yn gynharach. Mae angen inni ganfod y canserau hyn yn gynt os ydym am roi canlyniadau gwell i fwy o bobl.

Roeddwn yn falch iawn ddydd Sul o ymweld â'r cynllun peilot a sefydlwyd gennym yng Nghymru mewn perthynas â chanser yr ysgyfaint. Felly, fe wnaethant sgrinio llawer o bobl—hyn yn ardaloedd Cwm Taf a Rhondda—'Iawn, pwy yw'r bobl sy'n ysmygwyr neu'n arfer bod yn ysmygwyr?', ac rydym wedi clustnodi'r bobl hynny, rydym wedi'u targedu, mae'r meddygon teulu yn eu nodi ac anfonir llythyr atynt, 'Dewch i gael archwiliad'. I fod yn deg, mae cannoedd o bobl wedi dod i gael archwiliad ac rydym wedi dal canserau—canserau'r ysgyfaint—yn gynnar. Felly, mae'n fodel gwych ac rydym yn mynd i asesu hynny nawr a gweld a allwn ni gyflwyno hynny ledled Cymru a sut y gallwn ni gyflwyno hynny ar draws Cymru.

19:25

Weinidog, a gaf fi ymyrryd? Rwy'n ymddiheuro, Altaf, am dorri ar draws eich cyflwyniad yn gynharach, a diolch yn fawr iawn am ddod â'r ddadl bwysig hon i'r Siambr. Bu farw fy nhad o ganser y stumog yn ifanc iawn, fel y gwnaeth ei frawd. Felly, oherwydd hanes y teulu, mynnodd fy meddyg teulu fy mod yn cael y llygad hud rheolaidd. Felly, mae hynny'n rhan o'r mesur ataliol—yr endosgopi. Felly, Weinidog, rwy'n meddwl tybed a ellid cysylltu â phobl, neu deuluoedd sydd â hanes o ganser y stumog, Barrett neu beth bynnag, a'u hannog i gael endosgopïau ataliol, oherwydd fe ddywedoch chi mai ei ganfod yn gynnar, os ydych chi'n ddigon anlwcus i gael y canser hwnnw, yw'r ffordd orau ymlaen, yn amlwg. Felly, nid wyf yn gwybod a oes gennych unrhyw sylwadau ar hynny. Diolch.

Wel, fe edrychaf ar beth yw'r cyngor clinigol ynglŷn â hynny. Ac mae'n wych clywed bod hynny'n digwydd i chi. Rwy'n credu bod fy mam-gu wedi cael canser y stumog hefyd. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni wneud yn siŵr ein bod yn deall bod gennym lwythi a llwythi o bobl eisoes ar y llwybr, ac felly mae'n rhaid inni fod yn ofalus wrth annog mwy o bobl i gael archwiliadau. Mae'n rhaid inni dyfu ein capasiti diagnosteg. Dyna'r peth allweddol, ac mae gennym strategaeth ddiagnosteg gyfan yr ydym yn gweithio arni. Ond rwy'n falch o glywed eich bod yn derbyn y math hwnnw o ofal ataliol, sy'n bwysig iawn yn fy marn i. Oherwydd, fel arfer, mae pobl yn mynd i weld eu meddyg teulu os oes ganddynt symptomau neu arwyddion o salwch, ac o hynny y daw llawer o'r atgyfeiriadau canser. A'r hyn a welsom yw cynnydd mawr iawn a hirdymor yn nifer y bobl sy'n cael eu hatgyfeirio am archwiliadau lle'r amheuir canser. Ac rwy'n credu mai'r hyn y mae hynny'n ei ddangos yw bod ein meddygon teulu yn fwy a mwy parod i archwilio achosion posibl o ganser. Ac o ystyried y rôl hanfodol y mae meddygon teulu yn ei chwarae yn nodi pobl sydd â risg o ganser, mae'r hyfforddiant i feddygon teulu yn gwbl hanfodol. Mae gennym adnodd hyfforddi sydd ar gyfrifiadur pob meddyg teulu yng Nghymru, ac fe'i gelwir yn GatewayC, ac mae hwnnw'n darparu hyfforddiant parhaus i gefnogi meddygon teulu. Felly, rydym hefyd yn cydnabod y gall y symptomau annelwig a'r hanesion cleifion cymhleth a allai fod gan bobl a welir mewn gofal sylfaenol ei gwneud hi'n anodd iawn i feddygon teulu. Felly, os oes ganddynt amheuaeth, ond nad ydynt yn siŵr, mae gennym y system ddiagnosteg gyflym hon y gallant gyfeirio ati hefyd. Ac rwy'n falch iawn mai dyma'r tro cyntaf yn y DU lle mae gennym y boblogaeth gyfan wedi'i chynnwys yn hynny.

Rŷn ni'n gweithio'n galed i wella'n gallu i roi diagnosis, gan fuddsoddi mewn offer delweddu newydd, fel peiriannau MRI a CT. Yn benodol, rŷn ni'n gwella'r ddarpariaeth o sganiau PET-CT, sy'n hanfodol ar gyfer archwilio'r ddau ganser yma.

Yn ogystal â chanolbwyntio ar ganfod a rhoi diagnosis yn brydlon, rŷn ni hefyd yn canolbwyntio ar ansawdd y gofal, ac rŷn ni'n argymell ffyrdd o'i wella. Dros gyfnod o awdit—rŷn ni'n rhan o awdit sy'n cymryd lle—rydyn ni wedi gweld gwelliant mewn canlyniadau hanfodol, fel cyfraddau marwolaethau ar ôl llawdriniaeth. Felly, mae hwn yn dangos ein bod ni'n gwneud gwahaniaeth go iawn i ganlyniadau tymor byr. 

Mae cymaint i'w wneud, ond gallwn ni fod yn falch ein bod ni eisoes wedi gweld cyfraddau goroesi canser am flwyddyn ac am bum mlynedd yn gwella dros y tymor hir, yn ogystal â chyfraddau marwolaethau yn gostwng. Mae gennym ni ffordd bell i fynd ac mae lot i'w wneud. A dwi eisiau diolch i Altaf unwaith eto am ddod â'r pwnc pwysig yma o'n blaenau ni. 

Mae jest un pwynt arall gwnaethoch chi ofyn amdano. 

Fe wnaethoch chi ofyn i mi, Altaf, ynglŷn â chefnogaeth i ymgyrch ymwybyddiaeth. Fe ofynnaf i Lywodraeth Cymru gefnogi a gwthio rhai o'r ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y siaradoch chi amdanynt ar ein sianelau cyfryngau cymdeithasol. Diolch. 

19:30

Diolch i'r Gweinidog a diolch i Altaf. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:32.