Y Cyfarfod Llawn

Plenary

23/01/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Laura Anne Jones. 

Therapi Lleferydd ac Iaith

1. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o nifer y lleoedd hyfforddi therapi lleferydd ac iaith sydd ar gael yng Nghymru? OQ60571

Llywydd, diolch i Laura Anne Jones am y cwestiwn yna. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn datblygu ac yn cyflwyno cynllun hyfforddi blynyddol yn seiliedig ar wybodaeth gan bartneriaid ac ymgysylltu â sefydliadau rhanddeiliaid y GIG. Mae'r cynllun hwnnw yn cynnwys asesiad blynyddol o leoedd hyfforddi lleferydd ac iaith. Mae'r cyllid ar gyfer hyfforddiant wedi cynyddu am naw mlynedd yn olynol yng Nghymru.

Diolch, Prif Weinidog. Ar ôl holi'r Dirprwy Weinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol am gymorth therapi lleferydd ac iaith yn ddiweddar ar lefel pwyllgor, dywedodd y Dirprwy Weinidog yn ei hymateb y bu cynnydd o 11 y cant i leoedd hyfforddi therapi lleferydd ac iaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Derbyniais, wrth gwrs, yr hyn a ddywedwyd ar ei olwg, ond ers hynny mae wedi dod i'r amlwg gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd nad yw hyn efallai'n wir mewn gwirionedd. Nid yw'r lleoedd hyfforddi ar gyfer therapi lleferydd ac iaith wedi cynyddu ers 2020, ac mae'r data aelodaeth yn awgrymu bod gennym ni lai yma yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o'r DU, ac na ddisgwylir i'r cynnydd disgwyliedig o 8 y cant i leoedd hyfforddi ar gyfer 2024-25 ddigwydd bellach oherwydd pwysau cyllidebol. Mae ein sefydliadau addysg uwch a'n byrddau iechyd yn credu bod ehangu'r broses comisiynu lleoedd yn bosibl ac yn angenrheidiol. Felly, Prif Weinidog, pa gamau brys fyddwch chi'n eu cymryd i sicrhau nad yw Cymru yn disgyn hyd yn oed ymhellach ar ei hôl hi yn yr adran hon, gan ein bod ni i gyd yn gwybod, ar gyfer y gwasanaethau yma yng Nghymru, bod y galw yn cynyddu?

Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, i fod yn eglur, bu cynnydd o 11 y cant i leoedd hyfforddi yn ystod tymor y Senedd hon. Ond rwy'n cydnabod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ynglŷn â'r twf yn y galw am therapyddion lleferydd ac iaith, ac rydym ni'n gwybod bod galwadau gwirioneddol am staff ychwanegol, yn enwedig pobl sy'n gallu cynnig gwasanaethau lleferydd ac iaith drwy gyfrwng y Gymraeg, er enghraifft. Felly, mae problemau capasiti gwirioneddol o ran y cyllid sydd gennym ni, i barhau—fel yr ydym ni wedi eu wneud am naw mlynedd yn olynol—i ehangu nifer y bobl sy'n hyfforddi ar gyfer gwaith yn GIG Cymru. Ond mae'n fwy na hyfforddiant ac arian. Mae'n ymwneud â'r ffaith bod dod yn therapydd lleferydd ac iaith yn golygu dilyn llwybr caled, â 525 awr o ymarfer clinigol yn ofynnol. Mae'n rhaid i ddwy ran o dair o'r oriau hynny gael eu goruchwylio gan therapydd lleferydd ac iaith cofrestredig, ac mae hynny'n golygu bod rhywun y mae angen i ni fod yn darparu gwasanaethau uniongyrchol ar ei gyfer ar frys yn treulio ei amser yn goruchwylio pobl eraill. Felly, mae'n densiwn, onid ydyw, ar y rheng flaen? Rydym ni eisiau i fwy o bobl fod yn therapyddion lleferydd ac iaith—dyna pam mae gennym ni gwrs newydd llawn wedi'i agor ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam—ond, ar yr un pryd, mae'n rhaid i ni wneud y defnydd gorau posibl o amser y bobl sydd gennym ni'n darparu'r gwasanaeth rheng flaen hwnnw.

Ac a gaf i ddweud wrth yr Aelod hefyd—darllenais ei thrafodaeth gyda'r Gweinidog—bod yn rhaid hefyd i ni roi sylw i'r bobl hynny sydd eisoes yn y gweithle? Wyth o bob 10 o bobl a fydd yn gweithio yn y GIG ymhen 10 mlynedd yw'r bobl sydd eisoes mewn gwaith heddiw. Felly, mae'n gwneud pwyntiau pwysig am hyfforddi pobl newydd, ond mae'n rhaid i ni hefyd ddod o hyd i ffyrdd gwell o gadw'r staff sydd gennym ni eisoes, buddsoddi yn eu sgiliau hwythau hefyd, a gwneud yn siŵr ein bod ni, drwy oriau hyblyg, gweithio rhan-amser a rhannu swyddi, a chefnogaeth i bobl yn y gweithlu, yn cadw'r bobl sydd gennym ni eisoes. 

Prif Weinidog, mae'n hanfodol bwysig ein bod ni'n gallu hyfforddi therapyddion lleferydd ac iaith yn y gogledd. Fel y dywedwch chi, mae'n newyddion i'w groesawu'n fawr, Prif Weinidog, bod fy hen brifysgol, Wrecsam, yn cynnig cwrs gradd newydd yn yr union faes hwn. A gaf i ofyn, felly, Prif Weinidog, pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i annog cynifer o fyfyrwyr â phosibl i aros yn gogledd ar ôl cwblhau eu hyfforddiant?

Wel, Llywydd, diolch i Jack Sargeant am hynna, ac, wrth gwrs, rwy'n cytuno'n llwyr ag ef am y ffaith bod gennym ni gwrs therapi lleferydd ac iaith newydd sbon ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam—ei dderbyniad cyntaf ym mis Medi 2022. Rydym ni'n gwybod bod pobl yn fwy tebygol o aros a gweithio mewn mannau lle maen nhw'n hyfforddi, ac, fel y dywedais i yn fy ateb gwreiddiol i Laura Anne, rydym ni'n gwybod bod bwlch penodol o ran gallu darparu therapi lleferydd ac iaith i blant ifanc sy'n cael eu magu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae cael cwrs yn y gogledd yn golygu y bydd mwy o gyfleoedd i bobl y mae eu cymhwyster yn dibynnu ar ymarfer dan oruchwyliaeth yn y gweithle i allu gwneud yn union hynny. Bydd llawer o gyfleoedd i'r bobl hynny sy'n mynd ar gwrs Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, ac fel y dywedais i yn fy ateb gwreiddiol, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y gweithle yn parhau i fod yn opsiwn deniadol iddyn nhw ddefnyddio'r sgiliau y byddan nhw wedi eu caffael.

13:35
Cynlluniau Datblygu Lleol

2. Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i awdurdodau lleol ynghylch y rhesymeg y mae'n rhaid iddynt ei dilyn wrth baratoi eu cynlluniau datblygu lleol? OQ60560

Llywydd, mae llawlyfr cynllun datblygu Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cyngor manwl ar sut i baratoi cynllun datblygu lleol. Mae'n nodi'r materion allweddol y dylid mynd i'r afael â nhw a lefel y dystiolaeth sydd ei hangen i gyflawni CDLl mabwysiedig.

Diolch, Prif Weinidog. Fel efallai y byddwch chi'n gwybod, yr wythnos diwethaf, lansiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf eu hymgynghoriad ar eu cynllun datblygu lleol diwygiedig ar gyfer 2022-37, a roedd llawer o bethau diddorol ynddo. Er gwaethaf derbyn gwerth £8 miliwn o gyllid gan brifddinas-ranbarth Caerdydd yn ddiweddar i adfywio safle tir llwyd hen bwll glo Cwm, ac felly'n ei wneud yn ymarferol ar gyfer adeiladu tai, maen nhw bellach wedi penderfynu nad yw'n safle strategol mwyach ac yn hytrach wedi clustnodi maes glas o amgylch Llanilltud Faerdref ac Efail Isaf fel y safle newydd a ffefrir ganddyn nhw ar gyfer datblygiad preswyl. Ac mae'n rhaid i mi ddatgan buddiant, Llywydd, gan fy mod i'n byw yno. Mae'r newid safbwynt hwn yn ddryslyd ar y gorau, gan y bydd y cyngor yn gwbl ymwybodol bod y cyngor a Llywodraeth Cymru wedi gwrthod caniatâd cynllunio yn y lleoliadau hyn yn flaenorol oherwydd eu diffyg cynaliadwyedd, oherwydd eu gwerth ecolegol uchel, ac oherwydd y ffaith eu bod nhw'n cwmpasu gorlifdir C2, y bydd y Prif Weinidog yn gwybod yw'r dosbarthiad gwaethaf. Gyda hyn mewn golwg, sut all y cyhoedd fod yn hyderus yn y broses cynllun datblygu lleol pan fo cyngor Rhondda Cynon Taf unwaith eto yn cynnig adeiladu tai ar dir sydd wedi cael ei wrthod mor bendant yn y gorffennol ganddyn nhw a chan Lywodraeth Cymru? Diolch.

Wel, Llywydd, rwy'n croesawu penderfyniad Rhondda Cynon Taf i ddechrau ymgynghoriad ar strategaeth a ffefrir ar gyfer CDLl newydd. Mae'n bwysig iawn bod gan awdurdodau lleol yng Nghymru gynlluniau datblygu lleol a bod y cynlluniau datblygu hynny'n gyfredol. Ceir cyfres o brosesau statudol y bydd yn rhaid i'r awdurdod lleol fynd drwyddyn nhw a sawl cam ymgynghori. Felly, y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud, rwy'n siŵr, yw'r union fath o bwyntiau a fydd yn cael sylw yn ystod y cyfnod ymgynghori hwnnw. Rwy'n clywed yr hyn y mae'n ei ddweud am safleoedd penodol, ac rwy'n ymwybodol o'r pwynt y mae'n ei wneud am lifogydd, oherwydd rwy'n credu mai penderfyniad Llywodraeth Cymru oedd gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer rhan o'r safle hwnnw yn y gorffennol oherwydd pryderon llifogydd. Mater i'r cyngor fydd esbonio sut y gellir lliniaru'r pryderon hynny.

Ond rwyf i yn dweud hyn wrth yr Aelod: Rwyf i wedi clywed llawer o gyfraniadau gan Aelodau Ceidwadol yn y Siambr hon yn beirniadu cyfradd adeiladu tai yma yng Nghymru. Rwy'n cofio cyfraniad gan Janet Finch-Saunders, yn dweud wrthym ni mai oedi gyda chaniatâd cynllunio oedd yn golygu nad oedd tai yn cael eu hadeiladu. Cafwyd cynnig gan y Blaid Geidwadol yn dweud ein bod ni angen i 12,000 o dai newydd gael eu hadeiladu bob blwyddyn yng Nghymru. Y cwbl yr wyf i'n ei ddweud wrth yr Aelodau yw, os oes gennych chi uchelgais, na allwch chi atal y modd, a mater o Nimbyaeth yw dweud, 'Rydym ni eisiau i hyn ddigwydd, ond ni ddylai ddigwydd lle'r wyf i'n byw, ac ni ddylai ddigwydd lle mae pobl sy'n poeni amdano'. Felly, mae llinell ofalus i'w throedio yma rhwng pwyntiau dilys—a chododd Joel James nifer o bwyntiau dilys—tra ar yr un pryd cydnabod, os oes gan y Blaid Geidwadol uchelgais, yna mae'n rhaid iddi hefyd gefnogi'r modd yn ogystal â'r canlyniad.

Byddwch yn ymwybodol fy mod i a nifer o fy nghyd-Aelodau wedi codi gyda chi a Gweinidogion perthnasol yn rheolaidd faterion yn ymwneud â'r holl broses CDLl yn Wrecsam, a ddaeth i ben yn ddiweddar. A nawr ein bod ni'n canfod bod honno wedi dod i ryw fath o benderfyniad, o fyfyrio ar y sefyllfa, mae llawer o'r cynghorwyr a'r trigolion yno yn gofyn i mi, o gofio bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol y byddai trigolion Wrecsam yn wynebu risgiau cost mawr, yn effeithio ar wasanaethau o bosibl, pam na ddefnyddiodd y Llywodraeth eich pwerau cyfreithiol o dan adran 71 Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 i orfodi cynllun y CDLl, gan y byddai wedi cyfyngu'r costau yn yr achos, ac, wrth gwrs, byddai wedi cyflawni'r un canlyniad yn union o orfodi cynllun lleol yn erbyn dymuniadau'r cyngor lleol a benderfynwyd yn ddemocrataidd?

13:40

Wel, rwy'n credu bod hwnna yn gynnig mwyaf hurt, Llywydd. Dyma gyngor, yn Wrecsam, sydd ei hun yn hyrwyddo CDLl, yn ei roi drwy'r holl brosesau, yn cael cymeradwyaeth iddo gan yr holl wahanol grwpiau y mae'n rhaid iddyn nhw wneud sylwadau ar CDLl, ac, ar y funud olaf un, mae'n ceisio peidio â gweithredu'r CDLl y mae ef ei hun wedi'i hyrwyddo. Nid mater i Lywodraeth Cymru yw gorfodi eu cynllun eu hunain arnyn nhw, ac yn sicr nid mater i Lywodraeth Cymru yw ysgwyddo'r costau o wneud hynny. Aethpwyd â'r awdurdod lleol hwnnw i'r Uchel Lys. Dywedodd—dywedodd yr awdurdod lleol—gerbron yr Uchel Lys ei fod yn derbyn bod ei weithredoedd wedi bod yn anghyfreithlon ac nad oedd unrhyw resymoldeb yn sail iddyn nhw, ac yna aeth ymlaen i atal y CDLl yr eildro. Bydd pobl yn Wrecsam, sy'n edrych ar y stori drist iawn honno, yn gwybod pwy sy'n gyfrifol, ac nid yma y mae’r cyfrifoldeb; mae gyda'r aelodau hynny o'r cyngor, ac roedd aelodau Plaid Cymru i gyd yn rhan o hynny, a weithredodd mor anghyfrifol ac a gyfaddefodd hynny—a gyfaddefodd hynny—yn uniongyrchol yn yr Uchel Lys.

Prif Weinidog, mae awdurdodau lleol yn gynyddol, ac yn briodol, rwy'n credu, yn mabwysiadu dull eang o gyflawni eu cynlluniau datblygu lleol newydd, gan edrych ar greu lleoedd, sut y gellir sicrhau ansawdd bywyd drwy annog gweithgareddau awyr agored, mannau gwyrdd, teithio llesol, llu o fentrau ystyriol o blant ac ymgysylltu plant â'r awyr agored. Ac rwy'n credu bod hynny'n gwbl briodol, ond a fyddech chi'n cytuno â mi mai un o'r heriau y maen nhw hefyd yn eu hwynebu, Prif Weinidog, ac y mae nhw angen cymorth Llywodraeth Cymru yn ei gyswllt, yw sicrhau bod tai newydd yn cael eu cyfateb gan wasanaethau cyhoeddus? Rwy'n gwybod yn sir Fynwy y bu llawer o dai newydd ym Magwyr, Gwndy a Llanfihangel Rogiet, ond nid cynnydd cymesur i wasanaethau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi canolfan gymunedol ym Magwyr a Gwndy, sydd i'w groesawu'n fawr, a cheir cynigion ar gyfer gorsaf drenau llwybr cerdded ym Magwyr, ac mae hwn a llawer iawn arall angen cymorth Llywodraeth Cymru. Felly, lle mae awdurdodau lleol yn uchelgeisiol ac yn flaengar, Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno eu bod nhw'n haeddu'r cymorth hwnnw gan Lywodraeth Cymru ac, yn wir, sefydliadau partner?

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â John Griffiths bod awdurdodau lleol yn y de-ddwyrain, sy'n rhan o ardal twf cenedlaethol de-ddwyrain Cymru, sy'n uchelgeisiol ac yn flaengar o ran bod eisiau darparu tai ar gyfer eu poblogaethau lleol. Llywydd, yn fy etholaeth i fy hun, mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu adeiladu tai sy'n cyfateb i dref o faint Caerfyrddin o fewn ffiniau'r etholaeth. Ac rwy'n gyfarwydd iawn â'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud am y tensiwn rhwng angen adeiladu tai a chael yr arian adran 106 sy'n dod gydag ef, tra'n darparu'r cyfleusterau addysg, iechyd, trafnidiaeth ac eraill angenrheidiol sydd eu hangen i gefnogi adeiladu tai ar y raddfa honno. Mae'n arwydd o lwyddiant yr ardaloedd hynny yn ei etholaeth bod pobl eisiau dod i fyw yn ardal Dwyrain Casnewydd a bod ganddo gyngor sy'n barod i gymeradwyo'r uchelgeisiau hynny.

Ond mae'r pwynt y mae John Griffiths yn ei wneud yn un pwysig iawn i bobl sy'n byw yn lleol. Mae'n rhaid i awdurdodau lleol, pan fyddan nhw'n cyflwyno cynlluniau datblygu lleol, allu dangos, yn ogystal â thai, y bydd y gwasanaethau cyhoeddus sy'n mynd ochr yn ochr â nhw, ac mae hynny'n golygu iechyd, addysg a gwasanaethau awdurdod lleol eraill. Nid yw'r addewid ohonyn nhw yn y dyfodol yn rhywbeth i fod yn ddigon i berswadio pobl i fynd gyda graen yr hyn sydd ei angen yn y de-ddwyrain. Ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd John Griffiths hefyd, Llywydd, y bydd awdurdodau lleol sydd â CDLlau eisoes ac sydd bellach wrthi'n eu diwygio a'u diweddaru wedi dysgu o'r broses flaenorol honno, a gallwn ddisgwyl iddyn nhw fynd i'r afael â hynny mewn ffordd sy'n cymryd i ystyriaeth y pwyntiau y mae John Griffiths wedi eu gwneud y prynhawn yma.

13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies. 

Diolch, Llywydd. Ddydd Gwener, clywsom y newyddion trychinebus am gau'r ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot, Prif Weinidog. Mae bron i 3,000 o swyddi yn cael eu colli. Yn amlwg, mae ffwrneisi arc newydd yn dod yn eu lle. Mae'n ffaith bod bwrdd pontio wedi cael ei sefydlu, ar y cyd, rwy'n deall, â'r cwmni a Llywodraeth y DU, ac mae gan Lywodraeth Cymru swyddogaeth, gyda Gweinidog yr Economi yn eistedd fel is-gadeirydd ar y bwrdd pontio hwnnw. A allwch chi amlinellu beth yw dyhead a gobeithion Llywodraeth Cymru i'r bwrdd pontio hwnnw wneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran trosglwyddo i'r capasiti cynhyrchu dur newydd ym Mhort Talbot ac, yn bwysig, cefnogi'r gweithlu ar y daith honno?

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno ag arweinydd yr wrthblaid ei fod yn newyddion trychinebus i'r economi leol honno. Ond mae'n fwy na hynny; mae'n newyddion trychinebus, rwy'n credu, i'r Deyrnas Unedig gyfan, oherwydd ni fydd unrhyw gapasiti cynhyrchu dur cynhenid yn y Deyrnas Unedig os bydd cynlluniau'r cwmni yn mynd yn eu blaen. Felly, nid yw'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gynllun y cwmni. Rydym ni'n credu bod dewis arall hygred a fyddai'n cynnal swyddi ym Mhort Talbot ac a fyddai'n cynnal cynhyrchu dur cynhenid yn y Deyrnas Unedig. Cynllun Syndex yw hwn, y mae'r undebau llafur wedi ei ariannu ar y cyd i'w wireddu. Fe'i disgrifiwyd fel cynllun hygred gan y cwmni eu hunain. Dywedaf wrth y cwmni yr hyn y gwn fod pobl eraill wedi ei ddweud: rwy'n gobeithio na fyddan nhw'n gwneud unrhyw benderfyniadau na ellir eu gwrthdroi, oherwydd, gydag etholiad cyffredinol yn digwydd eleni, mae dyfodol amgen i'r diwydiant dur yn y Deyrnas Unedig, ac rwyf eisiau i Bort Talbot fod yn rhan o hynny.

Prif Weinidog, mae'r cwestiwn a ofynnais i chi yn ymdrin â'r hyn sydd gennym ni o'n blaenau nawr. Gallaf eich ddeall yn amlwg yn amlinellu lle'r ydych chi'n meddwl y dylai pethau fynd, ond yn y pen draw mae gennym ni gyhoeddiad o'n blaenau gan y cwmni sy'n mynd i gau, yn anffodus, y ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot. Rwy'n anghytuno â'r cynnig hwnnw. O'r sgyrsiau yr wyf i wedi eu cael gyda Tata, roeddwn i bob amser o dan yr argraff y byddai o leiaf un o'r ffwrneisi chwyth hynny yn parhau i weithredu. Ac rwy'n dal i ddadlau bod hwnnw'n amcan ymarferol ar gyfer pontio i ffwrneisi arc. Ond mae gennym ni'r bwrdd pontio hwn. A allwch chi amlinellu pa adnoddau y mae Llywodraeth Cymru ar y cyd, gyda Llywodraeth y DU, wedi eu cyfrannu at y bwrdd pontio fel y gall gychwyn ei waith fel mater o bwysigrwydd mawr ac, yn y pen draw, bod â'r adnoddau ar gael iddo fel bod y cyfleoedd hyfforddi a'r ailfodelu a fydd yn ofynnol i wneud yn siŵr bod cynhyrchu dur yn parhau ym Mhort Talbot yn cael eu cyflawni'n llawn gan y bwrdd pontio a'i gylch gwaith?

Wel, Llywydd, yn gyntaf oll a gaf i groesawu'r hyn y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei ddweud am ei gefnogaeth i barhad ffwrnais chwyth Rhif 4? Rwy'n credu bod pawb yn derbyn—mae'r undebau llafur yn derbyn—y bydd ffwrnais chwyth Rhif 5 yn cael ei datgomisiynu yn gymharol fuan. Ond mae cadw ffwrnais chwyth Rhif 4 i fynd tra gellir datblygu'r capasiti arc trydan yn ganolog i'r cynllun Syndex hwnnw, ac rwy'n falch iawn o glywed yr hyn y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei ddweud. 

Yn y cyfamser, ceir bwrdd pontio. Mae Gweinidog yr Economi yn ei fynychu. Siaradais â Changhellor y Trysorlys yn ôl ym mis Medi, pan gyhoeddwyd y buddsoddiad o £500 miliwn. Siaradais ag ef bryd hynny am y trefniadau pontio. Byddwn ni wrth y bwrdd hwnnw; byddwn yn gweithio gyda'r undebau llafur a phobl eraill ym Mhort Talbot i wneud beth bynnag y gallwn yn y cyfamser. Ond, i ni, nid ydym ni'n mynd i'w wneud ar y sail ein bod ni wedi setlo ar gynllun y cwmni. Rydym ni'n credu bod dyfodol gwahanol, dyfodol gwell, dyfodol hygred i'r bobl hynny a fydd yn colli eu swyddi—ac rydym ni'n gwybod y bydd llai o swyddi ym Mhort Talbot yn y dyfodol. Bydd y bwrdd pontio yno i helpu i ariannu'r hyfforddiant sy'n angenrheidiol, i wneud y pethau eraill y gellir eu gwneud, a bydd Llywodraeth Cymru yn chwarae ein rhan yn hynny, fel yr ydym ni wedi ei wneud erioed. Rydym ni'n fuddsoddwr hirdymor yn safle Tata, yn enwedig ar ochr hyfforddi pethau. Felly, byddwn ni yno, byddwn ni'n gwneud ein cyfraniad, ond byddwn ni'n ei wneud yn erbyn y cefndir o barhau i eirioli a dadlau'r achos dros wahanol lwybr o le mae Tata heddiw i'r le mae angen iddo fod yn y dyfodol.

13:50

Rwyf i wedi bod yn eithaf agored y prynhawn yma o ran dweud fy mod i'n anghytuno â chynnig y cwmni i gau ffwrnais chwyth Rhif 4. Rwy'n credu bod gallu a llwybr i gadw'r ffwrnais chwyth honno ar agor, ac, yn wir, roedd yr holl sgyrsiau yr wyf i wedi eu cael dros y blynyddoedd diwethaf gyda Tata yn nodi mai dyna fyddai'r daith y bydden nhw'n mynd arni. Cefais fy synnu cymaint ag unrhyw un pan gyhoeddwyd eu bod nhw'n mynd i gau'r ddwy ffwrnais chwyth, ac, yn amlwg, y colledion swyddi a fyddai'n dilyn o hynny wrth drosglwyddo i'r ffwrneisi arc. Ond mae'n ffaith bod y cwmni wedi gosod eu golygon ar y daith hon. Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi £0.5 biliwn ar y bwrdd, ynghyd â £750 miliwn y cwmni, i gadw capasiti cynhyrchu dur ym Mhort Talbot, gan ddiogelu cyfanswm o 17,000 o swyddi yn yr economi ehangach. 

Rhoddaf gynnig arni am y trydydd tro, os caf i, Prif Weinidog. Rwy'n deall bod gan y Gweinidog sedd wrth y bwrdd. Yr hyn yr wyf i'n ceisio ei ddeall yw: pa adnoddau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cyfrannu—a thrwy adnodd rwy'n golygu adnoddau ariannol—i gefnogi taith y bwrdd pontio i wneud yn siŵr y gellir manteisio'n llawn ar y cyfleoedd hyfforddi hynny a chyfleoedd eraill, fel y fenter porthladd rhydd, i wneud yn siŵr bod cyfleoedd ym Mhort Talbot i'r gweithwyr hynny a'r gweithwyr yn economi ehangach y de? Faint o arian sydd wedi cael ei gyfrannu, Prif Weinidog? 

Wel, Llywydd, nid wyf i'n credu bod llawer iawn yn gwahanu arweinydd yr wrthblaid a'r sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eu gwneud. Rwy'n ei wahodd ef, yn sicr, i gyfleu'r safbwyntiau hynny gyda ni i'w gydweithwyr yn Llywodraeth y DU, oherwydd nid wyf i'n credu eu bod nhw o'r un farn. Croesawais y £500 miliwn pan gyhoeddodd y Canghellor ef yn ôl ym mis Medi; rwy'n cofio ei groesawu yma ar lawr y Senedd. Yr hyn yr ydym ni'n sôn amdano yw trosglwyddiad cyfiawn o heddiw i le'r ydym ni i gyd yn credu y bydd angen i Tata fod. 

Nid oes gen i ffigur o fy mlaen ar hyn o bryd, ond mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi yn Tata ers blynyddoedd ar flynyddoedd. Rwy'n cofio cytuno ar symiau o arian pan oeddwn i'n Weinidog cyllid, ac roedden nhw'n sicr yn y maes hyfforddi hwnnw, gan wneud yn siŵr bod cyfleoedd i bobl ifanc gael yr hyfforddiant y byddai ei angen arnyn nhw ar y safle hwnnw, a byddwn yn parhau i chwarae ein rhan yn y ffordd honno. 

Y darlun mwy yw'r un y mae arweinydd yr wrthblaid wedi cyfeirio ato y prynhawn yma. Dyma sut rydym ni'n cynnal cynhyrchu dur mewn un ffwrnais chwyth dros y cyfnod hwnnw wrth i ni symud i'r dyfodol arc trydan, ac os gallwn ni ddweud hynny ar y cyd wrth Lywodraeth y DU, rwy'n siŵr y bydd y ddadl honno yn gryfach fyth.

Diolch, Llywydd. Mae cyhoeddiad Tata am ddiswyddo 2,500 o weithwyr yn drasiedi, wrth gwrs, i bob un o'r unigolion a'u teuluoedd, i gymuned Port Talbot a thu hwnt. Mae o'n bygwth dwysau gwendidau economaidd Cymru, ac mae o'n amlygu agwedd ddirmygus Llywodraeth San Steffan tuag at Gymru, mae gen i ofn. Mae diffyg parodrwydd y Llywodraeth Geidwadol i gydnabod pwysigrwydd y diwydiant dur i Gymru yn syfrdanol. 

Rŵan, dwi wedi siarad efo swyddogion Tata heddiw. Mi ges i gyfle i drafod sawl agwedd ar y sefyllfa a'r angen i bontio yn deg tuag at ddatgarboneiddio, i wneud popeth i arbed swyddi, wrth gwrs, i fuddsoddi yn nyfodol y gweithlu ac yn nyfodol y safle. Dwi'n falch o glywed gan y Prif Weinidog ei fod o'n cytuno efo fi na ddylem ni fod yn rhoi i fyny ar y gweithwyr rŵan, fod yna amser o hyd i ddod â gwahanol bartïon ynghyd i chwilio am ateb amgen, ond ydy o'n cytuno efo fi hefyd fod yn rhaid i Lywodraeth bresennol Prydain, ac, o bosib, Llywodraeth Lafur yn y dyfodol agos, roi ymrwymiad llawer cliriach o barodrwydd i fuddsoddi llawer, llawer mwy na'r hyn sydd ar y bwrdd gan y Llywodraeth bresennol na'r hyn sy'n cael ei addo gan Lafur pe baen nhw'n dod i rym? 

Wel, Llywydd, dwi'n siŵr, os ydym ni yn mynd i gael pontio teg i'r dyfodol, bydd yn rhaid i ni gael mwy o arian ar y bwrdd i helpu yn y broses yna. Mae gan y Blaid Lafur—. Mae cynllun gyda ni: £3 biliwn yn nyfodol dur yma yn y Deyrnas Unedig. Dyna pam, pan atebais i'r cwestiwn cyntaf oddi wrth arweinydd yr wrthblaid, roeddwn i'n trio tynnu sylw at y ffaith, wrth gwrs, ei bod hi'n mynd i fod yn gyfnod anodd dros ben i bobl leol ym Mhort Talbot, ond mae hyn yn argyfwng i'r Deyrnas Unedig hefyd. Dydy hi jest ddim yn dderbyniol i ddibynnu ar bethau sydd ar gael dros y byd heb gael capasiti i greu dur yma yn y Deyrnas Unedig. Mae arian ar gael dan Lafur. Dyna pam mae'n bwysig i'r cwmni, mewn blwyddyn lle bydd etholiad cyffredinol, glywed beth sydd ar gael gan Blaid Lafur ac ystyried hwnna pan fyddan nhw'n cynllunio. 

13:55

Diolch am yr ymateb. Hoffwn ei gwneud hi'n eglur nad wyf i'n credu bod £3 biliwn yn agos at ddigon, chwaith. Mae'n well na'r £0.5 biliwn sydd ar y bwrdd gan y Llywodraeth bresennol, ond nid yw Llywodraeth y DU yn buddsoddi i helpu diwydiant trwm baratoi ar gyfer trosglwyddiad cyfiawn i ddyfodol glanach fel y mae Llywodraethau mewn gwledydd Ewropeaidd eraill yn ei wneud. Mae cymorthdaliadau gwerth €50 biliwn ar gael i helpu gweithgynhyrchwyr ynni-ddwys yn yr Almaen drosglwyddo i dechnolegau niwtral o ran yr hinsawdd; mae €2.6 biliwn yn cael ei fuddsoddi mewn un rhanbarth yn unig i ddatgarboneiddio ei ddiwydiant dur gyda hydrogen. Mae'n rhaid i ni osod y bar gymaint yn uwch. 

Nawr, mewn blwyddyn etholiad cyffredinol, ydy, mae'r diwydiant dur yn chwilio am arwydd y byddai darpar Lywodraeth yn y dyfodol yn ymrwymo mewn ffordd nad yw'r Llywodraeth bresennol wedi ei wneud, ond, er bod arian, wrth gwrs, ar frig y rhestr mewn nifer fawr o ffyrdd, mae angen cynllun arnom ni hefyd, ac mae'n amlwg o gyhoeddiad Tata bod absenoldeb strategaeth ddiwydiannol gan naill ai Lywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru yn gostus dros ben i ni. Nawr, a wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i wneud llunio strategaeth ddiwydiannol, ochr yn ochr â diwydiant, prifysgolion ac eraill, yn flaenoriaeth? Oherwydd, heb strategaeth, rydym ni'n mynd i barhau i fod yn agored i niwed.

Llywydd, mae arweinydd Plaid Cymru yn gwneud nifer o bwyntiau pwysig yn y fan yna. Hoffwn gymryd eiliad, os caf i, Llywydd, i fynd drwy rhan fach o hanes hyn.

Yn ôl ar ddechrau Gorffennaf 2022 daeth Gweinidog yr Economi a minnau i Barc Cathays ar fore Sadwrn i gyfarfod cadeirydd bwrdd Tata yn India, a gwnaeth gyfres o bwyntiau i ni bryd hynny y mae Rhun ap Iorwerth wedi eu hatseinio y prynhawn yma, am annhegwch costau ynni yma yn y Deyrnas Unedig a'r angen am fuddsoddiad mewn technolegau gwyrdd a fyddai'n cefnogi diwydiant dur y dyfodol. Roeddwn i'n ddigon pryderus am yr hyn a glywsom y diwrnod hwnnw i drefnu galwad gyda Michael Gove, a rhannais gyfres o'r pwyntiau a wnaed i ni gan gadeirydd bwrdd Tata ag ef, gan fod y rhan fwyaf o'r hyn yr oeddem ni'n sôn amdano yn gamau a oedd yn nwylo Llywodraeth y DU, ac roedd trafodaethau rhwng y cwmni a Llywodraeth y DU eisoes bod yn hirfaith. Ysgrifennais at Brif Weinidog y DU ar y pryd, Boris Johnson, ar 22 Gorffennaf 2022, gan nodi'r holl bwyntiau hyn iddo yntau hefyd, ac chefais ateb ganddo ganol mis Awst yn dweud bod y rhain i gyd yn bwyntiau yr oedd yn eu cydnabod, bod ei Lywodraeth wedi ymrwymo i gefnogi cynhyrchu dur o ansawdd uchel ar draws y Deyrnas Unedig, ond y byddai'n rhaid i benderfyniadau am fuddsoddi yn Tata aros am ei olynydd. Wel, fe wnaeth osgoi ei olynydd uniongyrchol, a chymerodd o fis Gorffennaf 2022 i fis Medi 2023 cyn bod cytundeb gwirioneddol rhwng y cwmni.

Ac os ydym ni'n gwneud y pwyntiau hyn, hoffwn wneud y pwynt hwn hefyd, Llywydd, sef, pan ddaeth yn amlwg, ddydd Iau yr wythnos diwethaf, y byddai'r cwmni'n gwneud eu cyhoeddiad ar y dydd Gwener, ysgrifennais yn syth at Brif Weinidog y DU yn gofyn am alwad ffôn gydag ef ddydd Gwener fel y gallem ni drafod ar y cyd sut y gallem ni ymateb orau i'r darlun a oedd yn dod i'r amlwg, ac erbyn wyth o'r gloch, hanner awr wedi wyth y bore, ddydd Gwener roeddwn i wedi cael ateb gan Brif Weinidog y DU yn dweud na allai ddod o hyd i amser i gyfarfod â mi na siarad â mi y diwrnod hwnnw. Rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol syfrdanol. Mae'n cyferbynnu'n fawr iawn—[Torri ar draws.] Mae'n cyferbynnu'n fawr iawn—[Torri ar draws.] Rwy'n gobeithio nad ydych chi'n—. Rwy'n gobeithio nad ydych chi'n amddiffyn hynny. Rwy'n gobeithio—[Torri ar draws.] Na, rwy'n credu—[Torri ar draws.]

Wel, Llywydd, ni fydd neb y tu allan i'r ystafell hon yn clywed Aelodau'r Blaid Geidwadol yn gweiddi arnaf i, ond gadewch i mi wneud yn siŵr bod pobl yn gwybod eu bod nhw'n gweiddi arnaf i amddiffyn y ffaith nad oedd eu Prif Weinidog yn barod i siarad â Phrif Weinidog Cymru ar y diwrnod hwnnw. Mae hynny'n cyferbynnu, i mi, yn fyw iawn gyda gweithredoedd ei ragflaenydd, Theresa May, ar y diwrnod y cyhoeddodd Ford eu bod nhw'n gadael Pen-y-bont ar Ogwr. Cysylltodd fy swyddfa i â swyddfa Prif Weinidog y DU y diwrnod hwnnw, a chyn diwedd y diwrnod hwnnw roeddwn i'n cael sgwrs gyda Phrif Weinidog y DU am yr hyn y gallem ni ei wneud gyda'n gilydd i helpu pobl a oedd wedi'u heffeithio. Dyna roeddwn i'n chwilio amdano gan Brif Weinidog presennol y DU ac rwyf i mewn penbleth gwirioneddol nad oedd yn teimlo ei fod yn flaenoriaeth iddo ddod o hyd i'r ychydig amser y byddai wedi bod ei angen arno y diwrnod hwnnw i gael y sgwrs honno. Mae'r sgwrs honno yn angenrheidiol oherwydd os ydym ni'n mynd i roi sylw i'r pwyntiau y mae arweinydd Plaid Cymru yn eu gwneud, bydd yn rhaid i hynny fod yn ymdrech ar y cyd rhwng y cyfrifoldebau sy'n dal i fod yn San Steffan a'r cyfrifoldebau sydd wedi'u datganoli i'r Senedd hon.

14:00

Mae agwedd Llywodraeth y DU at ddiwydiant yng Nghymru, wrth gwrs, yn gywilyddus fel y mae wedi ymateb i'r cyhoeddiad hwn gan Tata, ac nid wyf i'n siŵr beth sydd fwyaf pryderus, gwrthodiad Prif Weinidog y DU i siarad â Phrif Weinidog Cymru am y mater neu'r amddiffyniad o'i ymddygiad gan y Ceidwadwyr yma yn ein Senedd genedlaethol.

Nawr, nid yw aros yn ofer i San Steffan wneud yr hyn sydd er budd pennaf Cymru wedi'i gyfyngu i fater swyddi yn y diwydiant dur, wrth gwrs. Yr wythnos diwethaf, barn ystyriol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru oedd nad yw'r sefyllfa fel y mae hi yn gynaliadwy. Ond cymerodd bedwar diwrnod cyfan i AS mwyaf blaenllaw Llafur yng Nghymru daflu dŵr oer am ben ar yr adroddiad a mynd yn groes i safbwynt swyddogol y Prif Weinidog. Mae ymrwymiad Ysgrifennydd Cymru yr wrthblaid, Jo Stevens, i archwilio datganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf yn unig yn mynd yn groes i'r consensws gwleidyddol yn y Siambr hon, a diystyru datganoli plismona a chyfiawnder cyn i'r inc sychu ar yr adroddiad yw'r arwydd mwyaf gofidus eto, efallai, y bydd uchelgais Cymru yn cael ei ddal yn ôl gan gylch mewnol Keir Starmer.

Nawr, dyma gyfle'r Prif Weinidog i ymbellhau ei hun oddi wrth y sylwadau hynny, i ailddatgan ei gefnogaeth i argymhellion comisiwn Thomas ac i ailddatgan bwriad ei Lywodraeth i baratoi'r tir ar gyfer datganoli cyfiawnder. Ac wrth i mi ei wahodd i wneud hynny, a wnaiff ef gadarnhau ai Prif Weinidog Llywodraeth Cymru neu Ysgrifennydd Gwladol Cymru yr wrthblaid yn nhîm Keir Starmer sydd â'r gair olaf ar y mater hwn?

Rwy'n hapus iawn i gadarnhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru i bolisi'r Blaid Lafur yma yng Nghymru—a gymeradwywyd yn unfrydol yn ein cynhadledd ym mis Mawrth y llynedd—o blaid datganoli'r system cyfiawnder troseddol fel y nodwyd yn adroddiad comisiwn Thomas—cyn brif ustus yng Nghymru a Lloegr; fel y'i cymeradwywyd yn adroddiad Brown—adroddiad cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig; ac fel y'i cymeradwywyd yn adroddiad Williams a McAllister—cyn-Archesgob Caergaint. Go brin fod y rhain yn griw o hwliganiaid sy'n awgrymu syniadau gwyllt i'w hystyried, onid ydyn nhw? A'r rhain yw polisi Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol yr wrthblaid y byddai angen i ni archwilio sut y byddai datganoli yn digwydd, ac wrth gwrs mae'n iawn yn hynny o beth. I mi, nid yw'n archwiliad o'r egwyddor; dyna bolisi Llywodraeth Cymru. Ond pe bai'r gwasanaeth prawf, gadewch i ni ddweud, yn cael ei ddatganoli fel ei fod yn dod yn gyfrifoldeb i'r Senedd hon, yna bydd llawer i'w archwilio i wneud i hynny ddigwydd. Bydd yn rhaid i ni archwilio'r trefniadau llywodraethu, bydd yn rhaid i ni archwilio'r trefniadau ariannol, bydd yn rhaid i ni archwilio'r rhyngwyneb rhwng y gwasanaeth prawf yng Nghymru a'r gwasanaeth cyfatebol yn Lloegr. Felly, bydd llawer i'w archwilio, ond i mi mae'r gyrchfan yn eglur: dyma bolisi'r Llywodraeth hon ac mae wedi bod yn ddiamwys felly ers misoedd lawer iawn.

Terfynau Cyflymder 20 mya

3. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r ymateb cyhoeddus i adolygiad Llywodraeth Cymru o 20mya? OQ60581

Llywydd, fy asesiad i yw bod y cyhoedd eisiau i ffyrdd fod yn ddiogel a chael terfynau cyflymder sy'n helpu i'w cadw'n ddiogel. Maen nhw hefyd yn disgwyl i bolisi Llywodraeth Cymru gael ei weithredu'n gyson a dyna pam y bydd ein hadolygiad yn ymdrin â'r canllawiau a ddarperir i awdurdodau priffyrdd a'u gweithrediad lleol.

Diolch am eich ymateb, Prif Weinidog. Wrth gwrs, bydd eich cyfnod yn y swydd yn dod i ben yn fuan ac ni fydd unrhyw adolygiad yn cael ei gwblhau yn eich amser fel Prif Weinidog. Ac i roi clod i chi, wrth gwrs, rydych chi wedi glynu'n gadarn at y polisi hwn yn ystod y blynyddoedd a'r misoedd diwethaf, ond mae'n ymddangos bod eich dau darpar olynydd mewn dryswch llwyr. Clywsom gan Mr Miles y byddai'n ymrwymo i adolygiad o'r polisi 20 mya yn ystod ei wythnos gyntaf yn y swydd, ac yna ychydig ddiwrnodau'n ddiweddarach cyhoeddodd ei fod wedi ymrwymo'n llawn i 20 mya, sy'n adolygiad cyflym iawn o gofio nad yw yn y swydd eto. Ac yna, yn sydyn, mae Mr Gething, sydd wedi cefnogi 20 mya o'r cychwyn cyntaf, eisiau sgwrs gyhoeddus, ac i'r cyhoedd fod yn flaenllaw ac yn ganolog i adolygiad o'r polisi. Efallai y byddai rhai yn disgrifio hynny fel trol o flaen y ceffyl. Felly, Prif Weinidog, hoffwn wybod gennych chi: pa un o'r ddau ymgeisydd i fod yn arweinydd ydych chi'n ei gymeradwyo yn ei ddull o ymdrin â'r adolygiad hwn?

14:05

Wel, Llywydd, rwy'n cymeradwyo polisi Llywodraeth Cymru, fel y'i cymeradwyir gan fy nau gyd-Aelod. Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi ysgrifennu heddiw—mae'r llythyr hwnnw ar gael—at yr holl Aelodau. Mae'n nodi manylion yr adolygiad. Mae'n nodi'r bobl a fydd yn cymryd rhan yn yr adolygiad. Mae'n croesawu cyfraniadau gan y cyhoedd. Wrth gwrs ein bod ni, oherwydd bydd eu safbwyntiau ar weithrediad ymarferol y polisi yn y mannau lle maen nhw'n byw yn berthnasol i'r ffordd yr ydym ni'n adolygu chwe mis cyntaf y polisi hwn yn ymarferol.

Byddwn yn ei wneud yn y ffordd y gwnaethom ni ddweud o'r cychwyn y byddem ni'n ei wneud. Yn gyntaf oll, byddwn yn casglu profiadau. Byddwn yn pwyso a mesur y dystiolaeth. Ac yna byddwn yn gwneud dau beth. Lle mae angen cryfhau neu egluro'r canllawiau, dyna fyddwn ni'n ei wneud. Ac yna, byddwn yn gwneud yn siŵr bod gan awdurdodau lleol y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i weithredu'r canllawiau hynny mewn ffordd sy'n gyson ar draws Cymru gyfan.

Prif Weinidog, rwy'n gwybod o'm profiad fel aelod o gabinet Cyngor Sir y Fflint pan wnaethom ni gynnal adolygiad terfynau cyflymder tua phum mlynedd yn ôl, neu chwe blynedd yn ôl efallai, ei fod wedi cymryd amser ac y bu gwrthwynebiadau i'w goresgyn ac anghysonderau y bu'n rhaid eu hailystyried, fel sy'n digwydd nawr.

Yr wythnos diwethaf, gyda diolch i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, fe wnes i hwyluso cyfarfod rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint, ac roedd yn gam defnyddiol iawn i ddatrys gwrthdaro ynghylch dehongli'r meini prawf, wrth gyflwyno'r meini prawf eithrio yn y dyfodol, a dysgwyd gwersi ar y ddwy ochr rwy'n credu. Felly, roeddwn i'n teimlo ei fod yn wirioneddol gadarnhaol. Yn ddiweddarach, roeddwn i'n bresennol mewn cyfarfod cymunedol, ac er i bobl godi pryderon am 20 mya, roedd eraill hefyd sydd bellach eisiau ei gadw, ac awgrymais iddyn nhw gyfrannu at adolygiad y cyngor. Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi bod camau cadarnhaol yn cael eu cymryd nawr i fwrw ymlaen â hyn?  

Llywydd, diolch i Carolyn Thomas am hynna. Mae'n iawn, wrth gwrs. Mae gwahanol safbwyntiau ymhlith y boblogaeth, ac yn sicr mae pobl sydd wedi bod yn ysgrifennu at eu hawdurdodau lleol, yn gofyn pam na chafodd eu stryd ei chynnwys fel stryd 20 mya pan roddodd y cyngor y canllawiau ar waith. Dyna pam y bydd y math o gyfarfod y cyfeiriodd Carolyn Thomas ato, rhwng Llywodraeth Cymru a'r awdurdod lleol, yn uniongyrchol yn yr un ystafell, gan rannu profiadau a safbwyntiau, yn golygu bod yr adolygiad yn ystyrlon, yn wybodus, ac yn cynhyrchu canlyniadau a fydd yn cael eu rhannu rhwng yr holl bartïon. 

Cyllid Awdurdodau Lleol a Grwpiau sy'n Agored i Niwed

4. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau nad yw toriadau i gyllid awdurdodau lleol yn effeithio'n anghymesur ar grwpiau sy'n agored i niwed? OQ60582

Llywydd, mae'r gyllideb ddrafft yn cynnal y cynnydd a addawyd yn flaenorol i gyllid llywodraeth leol ar gyfer 2024-25. Mae'r penderfyniad hwnnw yn adlewyrchu ymrwymiad y Llywodraeth hon i wasanaethau rheng flaen, sydd o fudd anghymesur i grwpiau agored i niwed.

Diolch, Prif Weinidog. Fodd bynnag, mae awdurdodau lleol ar draws fy rhanbarth i yn amlinellu toriadau i wasanaethau a ddarperir i'r grwpiau agored i niwed hynny. Mae'n ymddangos, ar draws bob un o'r tri awdurdod lleol, y bydd toriadau yn cael eu gwneud i'r ddarpariaeth o wasanaethau cymdeithasol, y bydd toiledau cyhoeddus yn cau a, gwaethaf oll, toriadau i'r ddarpariaeth o gymorth anghenion dysgu ychwanegol.

Prif Weinidog, realiti eich cyllideb ddiweddar yw y bydd plant a phobl hŷn agored i niwed yn ysgwyddo baich y toriadau. Rydych chi'n hapus i wario miliynau o bunnoedd ar gomisiwn ar ddiwygio cyfansoddiadol a chynyddu nifer y gwleidyddion, ond yn sefyll o'r neilltu pan fydd y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael eu siomi gan doriadau i wasanaethau lleol. A wnewch chi gyfaddef nawr bod eich cyllideb yn ddiffygiol a diwygio'r setliad llywodraeth leol er mwyn diogelu gwasanaethau hanfodol?

Wel, Llywydd, fel yr wyf i'n siŵr y bydd yr Aelod yn ymwybodol, hon fu'r gyllideb anoddaf yn holl hanes datganoli, gan fod ein cyllideb mewn termau real werth £1.3 biliwn yn llai na phan y'i gosodwyd gan Rishi Sunak ei hun. Yn ôl yn 2021, gwnaeth asesiad o'r cyllid yr oedd ei angen ar Lywodraeth Cymru. Nid oeddem ni'n cytuno â hynny; roeddem ni'n meddwl ei fod wedi tanamcangyfrif yr arian oedd ei angen, ond dair blynedd yn ddiweddarach, rydym ni £1.3 biliwn yn fyr o'r hyn yr oedd ef ei hun wedi'i gyfrifo a oedd yn angenrheidiol i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru.

Mae'r Aelod yn rhestru cyfres o faterion sy'n llond llaw o filiynau o bunnoedd pan fyddwch chi'n eu hadio nhw i gyd at ei gilydd. Byddwn yn darparu cynnydd o 3.1 y cant i awdurdodau lleol yng Nghymru eleni, sy'n dod ar ben y 7.9 y cant a gafodd awdurdodau lleol y llynedd, a 9.4 y cant y cawson nhw y flwyddyn gynt, y mae pob un ohonynt yn amcangyfrifon gwaelodlin. Ni all awdurdodau lleol yn Lloegr, lle mae ei blaid ef wrth y llyw, gredu i ba raddau y mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cael eu diogelu. Mewn oes pan nad oes digon o arian ar gyfer popeth sydd ei angen, maen nhw hefyd yn wynebu rhai penderfyniadau anodd iawn. Mae hynny heb unrhyw amheuaeth. Ond mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru, flwyddyn ar ôl blwyddyn, wedi dangos ein penderfyniad i wneud beth bynnag y gallwn gyda'r moddau sydd gennym ni ar gael i gynorthwyo awdurdodau lleol yn y gwaith hanfodol y maen nhw'n ei wneud.

14:10

Prif Weinidog, mae yna ganolfan boblogaidd iawn yng nghanol Caerffili sy'n gartref i siop goffi, oriel a thoiledau cyhoeddus. Mae Coffi Vista yn cael ei ddefnyddio fel canolfan gan grwpiau agored i niwed ac mae gan y gŵr sy'n ei redeg, Martin, fwrdd arbennig wedi'i neilltuo ar gyfer pobl sy'n unig, fel bod ganddyn nhw rywle sy'n gynnes ac yn groesawgar i eistedd. Mae dyfodol y ganolfan o dan fygythiad oherwydd toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol. Nawr, rwy'n sylweddoli bod cynghorau yn wynebu amgylchiadau anodd ac rwy'n meddwl tybed pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i gynghorau i sicrhau bod asedau cymunedol yn aros ar agor. Roedd mynegiant cyhoeddus o gefnogaeth i'r ganolfan yng Nghaerffili ychydig dros wythnos yn ôl. Fe wnaeth cannoedd o drigolion fentro i'r oerfel i ddangos pa mor bwysig yw'r ganolfan iddyn nhw. Rwy'n credu bod maer y dref, Mike Prew, wedi dweud mai dyma'r brotest fwyaf yng Nghaerffili ers bron i 50 mlynedd, ers i'r Sex Pistols chwarae i'r dref ym 1976. Felly, byddwn yn gofyn pa gymorth y gellid ei roi i helpu i gadw canolfannau fel hyn ar agor ac ar gael i'r bobl sy'n dibynnu arnyn nhw gymaint.

Diolch i Delyth Jewell am y rhan fach yna o hanes Caerffili. [Chwerthin.] Fe wnaethoch chi fy nghlywed i'n nodi i ba raddau yr ydym ni wedi diogelu a darparu'r hyn y gwnaethom ni ddweud y byddem ni'n ei wneud i lywodraeth leol o ran cymorth grant cymorth refeniw. Ar ben hynny, mae cyfres o grantiau y bydd awdurdodau lleol yn eu derbyn, a bydd Caerffili yn fuddiolwr o'r rheini hefyd. Yn union fel yr ydym ni'n mynd drwy'r broses yma yn y Senedd o graffu ar ein cyllideb gan wahanol bwyllgorau, felly hefyd y mae awdurdodau lleol wedi cyhoeddi eu cyllidebau fel y gallan nhw fesur ymateb eu poblogaethau lleol a gweld a oes angen mireinio'r penderfyniadau y maen nhw wedi eu gwneud i ymateb i'r pryder lleol hwnnw. Rwy'n gwbl sicr, o dan yr amgylchiadau anodd y mae cyngor Caerffili yn eu hwynebu—ac mae hynny'n wir am ein holl awdurdodau lleol—rwy'n siŵr y bydd yn gwrando'n astud ar farn ei boblogaeth leol.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Gwn fod llawer ohonom ni yn y Siambr hon wedi ymrwymo'n llwyr i fywydau plant sy'n derbyn gofal a phlant â phrofiad o ofal, gan gynnwys chi eich hun a'ch Cabinet, ac felly, roedd llawer ohonom ni wrth ein boddau o weld yr ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i ddileu elw o ofal. Mae llawer o awdurdodau lleol yn ei chael hi'n anodd o ran darparu lleoliadau i blant, ond mae'n rhaid i ni gofio'r hyn y mae ein plant sy'n derbyn gofal yn ei ddweud. Dywedodd y seneddwr ieuenctid, Rosie Squires bod plant sy'n derbyn gofal yn bobl ac nad ydyn nhw yno ar gyfer elw. Y pryder yw bod awdurdodau lleol yn gwario miliynau o'u cyllidebau ar leoliadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Y llynedd, amcangyfrifir bod awdurdodau lleol Cymru wedi gwario £200 miliwn ar leoliadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Nid yn unig y mae dileu elw o ofal y peth iawn i'w wneud, ond rwyf i a llawer o bobl eraill yn credu mewn gwirionedd y bydd yn arbed arian. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi roi ymrwymiad parhaus i ni i ddileu elw o ofal ac amserlen ar gyfer pryd y gallwn ni weld camau o ran bwrw ymlaen â hynny. Diolch yn fawr iawn.

Wel, Llywydd, rwy'n falch iawn o roi'r ymrwymiad hwnnw. Mae'n rhan bwysig iawn o'n rhaglen lywodraethu ein hunain i ddileu mynd ar drywydd elw preifat mewn gwasanaethau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Rwy'n hyderus y byddwn ni'n cyflwyno Bil gerbron y Senedd hon tra byddaf i'n dal yn Brif Weinidog i ddechrau'r broses o graffu ar y cynigion hynny.

Nid wyf i'n difaru un geiniog o'r arian sy'n cael ei wario yng Nghymru ar gael gwell dyfodol i'r plant hynny. Mae'n ddyled gennym ni iddyn nhw, yn fwy na bron unrhyw blant eraill yng Nghymru, gan fod awdurdodau cyhoeddus wedi dod yn rhieni i'r plant hynny. Ond rwyf i eisiau gweld yr arian hwnnw yn cael ei wario ar y plant hynny, ac i beidio â gollwng allan i bobl wneud elw preifat. Bydd yr Aelod yn gwybod bod yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd wedi cyhoeddi dau adroddiad y llynedd a feirniadodd y sector am gymryd gormod o elw. Nid wyf i'n credu bod gwneud elw ar draul pobl ifanc, lle gellid buddsoddi'r arian hwnnw mewn gwasanaethau i'r bobl ifanc hynny, yn sefyllfa y byddem ni eisiau ei gweld yn cael ei chynnal i'r dyfodol yng Nghymru.

Bydd yn darparu buddion i awdurdodau lleol yn ariannol, oherwydd bydd yr arian hwnnw ganddyn nhw i'w fuddsoddi mewn gwasanaethau, ac, fel y gwelaf i hi, i helpu i atal pobl ifanc yn y dyfodol rhag cael eu cymryd i ofal awdurdodau lleol lle gellid cefnogi teuluoedd drwy'r cyfnodau anodd y mae teuluoedd yn eu hwynebu. Nid oes unrhyw grŵp mwy agored i niwed, i ddefnyddio term y cwestiwn gwreiddiol, na'r bobl ifanc hynny, a byddwn yn gwneud yn well ar eu rhan yng Nghymru yn y dyfodol.

14:15
Y Gyllideb a Chwyddiant

5. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch adfer cyllideb Cymru yn unol â chwyddiant cynyddol yn y DU? OQ60575

Rydyn ni wedi pwyso droeon ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gynyddu cyllideb Cymru yn unol â chwyddiant. Mae ein cyllideb werth £1.3 biliwn yn llai mewn termau real na phan ei gosodwyd hi yn 2021. Bydd y Gweinidog cyllid yn codi hyn eto pan fydd yn cwrdd â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys nes ymlaen yr wythnos hon.

Diolch, Brif Weinidog. Rydych chi wedi ein hatgoffa ni ddwywaith y prynhawn yma fod Llywodraeth Cymru yn dlotach gan £1.3 biliwn mewn termau real. Mae cwestiynau blaenorol Altaf Hussain, Delyth Jewell a Jane Dodds wedi dangos impact diffyg cylliideb ar wasanaethau ac, yn bwysicach fyth, ar bobl ar lawr gwlad. Mae'n amlwg fod Cymru'n dlotach nawr nag y byddem ni pe byddem ni'n dal o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Dyw cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig o gyllido didarged jest ddim yn gweithio. Datgelodd cais rhyddid gwybodaeth diweddar fod awdurdodau lleol yn Lloegr wedi gwario o leiaf £27 miliwn dim ond am gymorth i baratoi ceisiadau am arian levelling-up—£27 miliwn i gwmnïau ymgynghori mawr, gan gymryd arian prin o'r pwrs cyhoeddus. Pa gamau, felly, mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i sicrhau bod arian trethdalwyr Cymru yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd effeithiol? Diolch yn fawr.

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

Diolch i Rhys ab Owen am y cwestiynau ychwanegol yna. Fel roedd Rhys ab Owen yn dweud, mae'r arian a oedd wedi dod i Gymru yn y gorffennol wedi cael ei dynnu nôl i Lundain, a nawr mae yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Ac mae'r ffordd maen nhw'n defnyddio'r arian yna yn gwastraffu arian—arian oedd yma yng Nghymru a dan gyfrifoldeb y Senedd. Beth dwi eisiau gweld gyda'r arian yna yw cael yr arian yna nôl yma yng Nghymru ble gallwn ni ddefnyddio'r arian mewn ffordd effeithiol trwy system o bartneriaeth gyda'r prifysgolion, yr awdurdodau lleol a busnesau preifat hefyd. Mae cynllun gyda ni yn barod, ac rydym ni wedi paratoi am y dyfodol gyda'r bobl yn Ewrop sy'n arbenigwyr yn y maes yma. Ac mae Keir Starmer wedi addo, os bydd Llywodraeth Lafur yn y dyfodol yn San Steffan, y bydd yr arian yna yn dod nôl i Gymru a nôl yn nwylo'r Senedd i'w ddefnyddio.

Prif Weinidog, byddem ni i gyd yn cytuno yr hoffem weld mwy o arian, ond yn wahanol i'r Alban, cytunodd eich plaid chi i fodel cymharol o gyllid i Gymru gyda bonws Barnett yn seiliedig ar anghenion. Rydym yn gwybod bod hyn yn rhoi o leiaf 15 y cant o gyllid y pen yn ychwanegol i Gymru, er rydyn ni'n gwybod, ar hyn o bryd, ei fod yn uwch na hynny. Fodd bynnag, ers blynyddoedd lawer, nid yw'ch Llywodraeth chi wedi bod yn defnyddio'r cynnydd hwn mewn cyllid at y diben y'i bwriadwyd. Pan fo Llywodraeth y DU wedi buddsoddi mewn addysg ac iechyd, mae Llywodraeth Cymru wedi dewis dargyfeirio'r arian hwnnw i rywle arall, i bethau fel y cytundebau gyda Plaid Cymru. Rwy'n gwybod bod amser wedi symud ymlaen, ond, Prif Weinidog, yn 2016, gwnaethoch chi ddweud y byddai'r fframwaith cyllidol diwygiedig, ac rwy'n dyfynnu, yn sicrhau

'cyllid teg i Gymru ar gyfer y tymor hir'.

Gwnaethoch chi ddweud ei fod yn

'gwarchod ein cyllideb rhag...risgiau diangen a allai godi'.

Ond nawr rydyn ni'n gweld y Llywodraeth yn beio Llywodraeth y DU am gadw at y cytundeb hwnnw yr oeddech chi ei eisiau, y gwnaethoch chi ei wneud a'i lofnodi. Yng ngoleuni'r cytundeb hwnnw y gwnaethoch chi ei lofnodi, Prif Weinidog, a wnewch chi yn awr sicrhau eich bod chi'n gweithio tuag at sicrhau bod ychwanegedd Barnett a chyllid canlyniadol yn mynd yn gyfan gwbl i'r maes cyfrifoldeb datganoledig y'i bwriadwyd?

14:20

Mae Llywodraeth Cymru yn gwario mwy y pen o'r boblogaeth ar iechyd, mwy y pen o'r boblogaeth ar addysg, mwy y pen o'r boblogaeth ar wasanaethau cymdeithasol na lle mae ei blaid ef wrth y llyw mewn man arall. Nid yw'r ddadl yn ymwneud â'r fframwaith cyllidol; mae'n ymwneud â faint o arian sy'n mynd i'r fframwaith cyllidol yn y lle cyntaf. Dyna lle'r ydyn ni'n cael ein trin yn annheg gan ei lywodraeth. Rwy'n falch o'r fframwaith cyllidol diwygiedig; rwy'n credu ei fod wedi gwasanaethu Cymru'n dda. Mae angen ei ddiwygio i ddod â'r ffigurau ynddo i'r telerau gwirioneddol yr ydyn ni'n eu gweld wrth reoli ein cyllideb heddiw. Ond nid yw'n broblem gyda'r fframwaith cyllidol o gwbl; y ffaith ydyw fod y fframwaith ei hun wedi'i eithriadol o brin o'r adnoddau sydd eu hangen arno i ddiwallu anghenion pobl yng Nghymru.

Prif Weinidog, argymhellodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, yn ei adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, fod Llywodraeth y DU yn dileu'r cyfyngiadau ar reoli cyllideb Llywodraeth Cymru. Gall pob cyngor yng Nghymru symud arian i mewn ac allan o gronfeydd wrth gefn heb unrhyw gyfyngiadau o gwbl a gallan nhw fenthyca i'w terfyn darbodus. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw un o'r pwerau hynny. A fyddech chi'n cytuno â mi fod yr adroddiad hwn a gomisiynwyd yn cymeradwyo'n bwerus y ddadl, y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei gwneud ers tro, y dylai fod caniatâd iddi symud arian i mewn ac allan o gronfeydd wrth gefn heb unrhyw derfyn a hefyd i fenthyca'n ddarbodus?

Mae casgliadau'r comisiwn yn adleisio casgliadau'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid ddwy flynedd yn ôl, lle gwnaethon nhw'r union bwyntiau hyn, ac rydyn ni wedi'u gwneud dro ar ôl tro. Mae fy nghyd-Aelod, y Gweinidog cyllid, wedi'u gwneud dro ar ôl tro yn y rhyngweithio sydd gennym â Llywodraeth y DU. Mae'r Alban wedi gallu ail-drafod y terfynau benthyca, y gallu i gario arian ymlaen, maint y gronfa wrth gefn. Mae'r holl bethau hynny'n sownd lle'r oedden nhw pan gafodd y cytunwyd ar y fframwaith cyllidol, ac mae'r ffigurau hynny nawr werth 17 y cant yn llai na phan gawson nhw eu trafod yn wreiddiol. Y cyfan yr ydyn ni wedi gofyn amdano yw eu bod yn cael eu diweddaru fel bod eu gwir werth yn cael ei adlewyrchu heddiw. Rwy'n gweld yng Ngogledd Iwerddon eu bod yn cael cynnig hyblygrwydd wrth reoli eu cyllideb sy'n mynd hyd yn oed y tu hwnt i'r hyn y cytunwyd arno yn yr Alban. Felly, mae'n iawn i Ogledd Iwerddon, mae'n iawn i'r Alban, maen nhw'n gwneud hynny eu hunain dros Loegr; Cymru yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig lle mae'r dulliau synhwyrol sydd eu hangen arnom i reoli'r arian sydd gennym ni yn y ffordd orau bosibl yn cael eu gwrthod, ac mae'n hen bryd i hynny gael ei gywiro.

Tâl Meddygon Iau

6. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud tuag at gynnig adferiad cyflog teg i feddygon iau? OQ60568

Rydyn ni wedi ymrwymo i'r egwyddor o adfer cyflogau ar gyfer ein holl weithlu GIG ymroddedig. Mae ar Gymru a'r DU gyfan angen yr arian sy'n ofynnol ar gyfer codiadau cyflog adferol. Mae ein cyllideb eleni yn caniatáu y cynnig sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd yn unig.

Diolch am yr ateb, Brif Weinidog.

Ddydd Llun diwethaf, fel y gwyddom ni i gyd, dechreuodd meddygon iau eu streic 72 awr, a gallwn ni ddisgwyl mwy i ddod, gan y cadarnhawyd ddoe bod pleidleisiau am streicio ar agor nawr i feddygon ymgynghorol a meddygon arbenigedd ac arbenigol. Roedd Plaid Cymru allan ar y llinellau piced gyda meddygon iau'r wythnos diwethaf ac roedd cryfder y teimlad yn amlwg. Mae erydiad cyflog o bron i draean ers 2008 wedi'i waethygu gan ddyledion enfawr myfyrwyr. Clywais dro ar ôl tro ei bod hi'n dod yn llai deniadol i weithio a hyfforddi yng Nghymru oherwydd codiadau cyflog is na chwyddiant. Y cynnig cyflog gan Lywodraeth Cymru yw'r gwaethaf yn y DU, ac mae'r GIG yn wynebu argyfwng recriwtio. Cyn i'r Prif Weinidog ofyn i mi ddod o hyd i fwy o arian ar ei gyfer, fy nghwestiwn i yw hyn: o ystyried yr heriau y mae'r Llywodraeth wedi'u nodi yn flaenorol, ac o ystyried cryfder y teimladau ymhlith meddygon, sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu datrys yr anghydfod hwn?

14:25

Dim ond un ffordd sydd o ddatrys anghydfod erioed, sef drwy fod o gwmpas y bwrdd. Rydyn ni'n parhau i fod yn agored i drafod gyda meddygon iau a staff eraill yn y GIG ffordd ymlaen y gallen ni ei llywio gyda'n gilydd. Ni fydd hynny'n hawdd, ond doedd hynny ddim yn hawdd pan oedden ni'n trafod â staff Agenda ar gyfer Newid yng Nghymru yn gynharach eleni, lle daethom ni i gytundeb. Nid oedd yn hawdd pan oedden ni'n trafod â fferyllwyr, optometryddion a deintyddion mewn gofal sylfaenol, ond rydyn ni wedi dod i gytundeb â phob un o'r rhain hefyd. Felly, er nad oes atebion hawdd—oherwydd rydyn ni'n deall yn llwyr cryfder y teimladau ymhlith meddygon iau, rydyn ni'n deall eu rhwystredigaeth o weld lefel wirioneddol eu cyflog yn cael ei erydu—nid ydym yn brin o ddealltwriaeth, na syniadau a rennir am yr hyn sydd angen ei wneud; yr hyn yr ydym ni'n brin ohono yw'r arian i allu bwrw ymlaen â'r uchelgeisiau hynny. Bod yn yr un ystafell a pharhau i siarad yw'r unig ffordd, yn y pen draw, y mae unrhyw anghydfod o'r math y gwelsom ni yr wythnos ddiwethaf yn cael ei ddatrys.

Mynediad Diogel i Glinigau Erthylu

7. Pa sylwadau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch canllawiau drafft y Swyddfa Gartref a fyddai'n caniatáu i brotestwyr gwrth-erthyliad fynd at fenywod sy'n mynd i glinigau erthylu? OQ60584

Mae'n rhaid i fenywod allu cael mynediad at wasanaethau gofal iechyd heb ymyrraeth na her gan eraill. Pleidleisiodd y Senedd yn y DU dros barthau diogel o 150m ger clinigau erthylu, er mwyn atal menywod rhag dioddef aflonyddu. Dyna'n union sydd angen digwydd nawr.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o bobl ledled Cymru ac ar draws y Deyrnas Unedig yn cefnogi hawl menywod i ddewis ymgymryd â'r ymrwymiad gydol oes anodd iawn hwnnw i gael plentyn. Mae menywod sy'n mynd i'r clinigau hyn ar eu hadeg fwyaf agored i niwed yn gwneud y penderfyniad anodd hwnnw, ac mae'n eithaf brawychus ein bod ni'n troi'r cloc yn ôl i alluogi aflonyddu ar bobl ar yr adeg fwyaf anodd honno. Mae'n siomedig iawn bod y canllawiau drafft hyn eisoes wedi'u rhoi i heddluoedd ac awdurdodau lleol er gwaethaf y bleidlais hon yn Senedd y DU yn gwahardd yr arfer hwn. Sut ar y ddaear y gallwn ni ymddiried yn Llywodraeth y DU i ufuddhau i ddymuniadau ei Senedd ei hun? Onid yw hyn yn enghraifft amlwg o pam mae angen datganoli plismona a chyfiawnder i Gymru, fel y cafodd ei ddisgrifio gan gomisiwn Thomas, adroddiad Gordon Brown ac adroddiad Williams-McAllister?

Rwy'n gweld i'r Ysgrifennydd Cartref James Cleverly ddweud bod y canllawiau wedi'u drafftio cyn iddo ddod yn Ysgrifennydd Cartref, ei fod wedi cytuno i gwrdd ag Aelodau Seneddol i drafod eu pryderon amdano, ac wedi rhoi ymrwymiad y bydd yr holl safbwyntiau hynny'n cael eu hystyried yn briodol cyn cyhoeddi fersiwn derfynol y canllawiau. Rydw i wir yn gobeithio mai dyna fydd yn digwydd. Oherwydd nid oes angen i chi gymryd fy ngair i amdano, na hyd yn oed gair Jenny Rathbone amdano; ysgrifennodd Syr Bernard Jenkin, gyda chydweithiwr Llafur, at yr Ysgrifennydd Cartref yn dweud

'Mae'n ymddangos bod ffurf y canllawiau yn amlwg iawn yn diystyru profiadau ac adroddiadau menywod sy'n cael mynediad at ofal erthylu, a'u cyfarwyddo na ddylen nhw deimlo eu bod yn cael eu haflonyddu, eu dychryn, eu brawychu na bod ymddygiad yn dylanwadu arnyn nhw sy'n...cael yr union effaith honno.1'

Dywedon nhw na fyddai'r canllawiau drafft

'yn gwneud dim byd i ymdrin â'r mater parhaus o aflonyddu gwrth-erthyliad y tu allan i glinigau'.

Rwy'n credu bod hynny'n amlwg yn farn Aelodau Seneddol ar ddwy ochr Tŷ'r Cyffredin; yn sicr, dyma yw fy marn i. Rwy'n cytuno â'r hyn y dywedodd yr Aelod, pe bai'r penderfyniadau hyn yn nwylo'r Senedd hon, byddem ni wedi gweithredu'n wahanol ac wedi gweithredu eisoes i roi diwedd ar yr aflonyddu hwnnw. Nid yw'n rhy hwyr i Lywodraeth y DU wrando ar Syr Bernard Jenkin ac eraill, ac rwy'n mawr obeithio y byddan nhw'n gwneud hynny.

Cyllid ar gyfer Awdurdodau Lleol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ60583

Diolch i Cefin Campbell am y cwestiwn. Yn ogystal â grantiau penodol, bydd cynghorau yn y rhanbarth yn cael dros £935 miliwn drwy’r setliad llywodraeth leol ar gyfer 2024-25.

Diolch yn fawr iawn. Ddydd Gwener diwethaf, ces i gyfarfod gydag arweinwyr cynghorau sir yn y rhanbarth dwi'n ei gynrychioli. Ac mae'n wir i ddweud bod yr hwyliau yn ddigalon iawn, fel y byddech chi'n gallu disgwyl. Ond un o'r materion mwyaf gofidus oedd wedi cael ei godi gyda fi oedd y setliad cyflog athrawon, a'r ffordd y disgwylir, nawr, i awdurdodau lleol dalu am hyn. Achos pan gytunwyd ar gynnig tâl i athrawon nôl yn Chwefror 2023, fe gytunodd y Llywodraeth i dalu'r costau ychwanegol am y flwyddyn honno, ond ni chafwyd unrhyw ymrwymiad i barhau â'r taliadau cyflog am y blynyddoedd dilynol. Felly, mae'r cyfrifoldeb am dalu'r cyflogau hyn, felly, wedi cael ei basio i awdurdodau lleol, ac mae'r WLGA wedi gwneud achos cryf iawn i adfer hyn, ac maen nhw'n amcangyfrif cost o tua £21 miliwn y flwyddyn. Felly, heb yr arian hwn, mae awdurdodau lleol yn wynebu twll du ariannol, ac yn gorfod gwneud toriadau mewn mannau eraill sy'n mynd i effeithio'n uniongyrchol ar addysg dysgwyr. Felly, a gaf ofyn i'r Prif Weinidog: a ydych chi'n barod i adfer y cyllid blynyddol yma ar gyfer y setliad cyflog i athrawon?

14:30

Wel, Llywydd, dwi'n clywed y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud, ac fel y dywedais i, mae pethau anodd yn wynebu awdurdodau lleol. Ond jest i fod yn glir, dydyn ni ddim wedi pasio'r cyfrifoldeb i'r awdurdodau lleol i gyflogi athrawon—nhw sydd yn gyfrifol am wneud hynny. Nhw sydd yn yr ystafell pan fyddan nhw'n cytuno ar lefel y cyflogau i'r athrawon, nid ni. Rŷn ni wedi'u helpu nhw yn y gorffennol. Mae'n anoddach inni wneud hynny nawr, ond beth dwi'n siarad am yw pethau y mae'r awdurdodau lleol yn cytuno, a nawr mae e lan iddyn nhw i dalu am beth maen nhw wedi cytuno i'w wneud. 

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 2 ar ein hagenda, sef y datganiad a chyhoeddiad busnes. A dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny—Lesley Griffiths. 

Member
Lesley Griffiths 14:32:22
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch yn fawr, Llywydd dros dro. Mae tri newid i fusnes y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon. Mae datganiad ar Tata Steel wedi'i ychwanegu at agenda heddiw. O ganlyniad, mae'r datganiad ar economi Blaenau'r Cymoedd wedi'i ohirio. Hefyd wedi'i dynnu nôl y mae datganiad ar adnewyddu'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth â Sefydliad Iechyd y Byd Ewrop. Bydd hyn nawr yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig. Mae'r busnes drafft am y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y cyhoeddiad a'r datganiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. 

Hoffwn alw am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynghylch y broses ymgeisio am fathodynnau glas. Yn anffodus, nid yw'r broses ymgeisio bresennol yn gweithio'n effeithlon, ac mae'n arbennig o anodd i'r rhai sydd â diagnosis gydol oes. Mae hyn yn cael effaith ar ansawdd bywyd llawer o bobl yng Nghymru, gan gynnwys llawer yn fy etholaeth i. Ar hyn o bryd, mae llawer o bobl â chyflyrau gydol oes yn ei chael hi'n anodd ailymgeisio am fathodynnau glas, a cheisiadau yn gorfod cael eu cyflwyno 12 wythnos ymlaen llaw, a'r broses yn llawn oedi. Mae hyn weithiau'n arwain at, fel yn achos un etholwr, gyfnod pan nad oes ganddyn nhw fathodyn glas.

Ar ôl cyfarfod ddiwedd y llynedd gyda STAND Gogledd Cymru, fe gefais wybod ein bod ni hefyd yn gweld mwy o bobl â symudedd cyfyngedig iawn, a chydafiacheddau eraill, yn cael eu ceisiadau wedi'u gwrthod. I lawer, mae'r syniad o orfod ailymgeisio a llenwi'r gwaith papur mor aml yn achosi straen. Hefyd, mae angen cymorth ar bobl yn y broses ymgeisio, ac mae llawer wedi colli ffydd yn y system oherwydd diffyg cysondeb.

Mae'r Dirprwy Weinidog wedi cadarnhau yn flaenorol nad oes proses apelio statudol, ond rwy'n credu y dylai fod ail-werthusiad o leiaf o hyn. Hoffwn i'r Dirprwy Weinidog ymdrin â'r pryderon sydd wedi'u codi, gan gynnwys gan y mwy na 1,500 o bobl sydd wedi llofnodi deiseb ynghylch a yw Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adolygu'r broses ymgeisio a'r meini prawf ar gyfer y rhai sydd angen bathodyn glas.

A all y Dirprwy Weinidog ystyried y posibilrwydd o gyflwyno bathodyn glas gydol oes i'r rhai sydd â diagnosis gydol oes, a fyddai'n tynnu'r baich oddi ar lawer o bobl yng Nghymru sy'n byw ag anabledd, ac yn dileu llawer o waith gweinyddol diangen? Diolch. 

Diolch. Wel, mae'n bwysig bod pobl y mae angen bathodyn glas arnyn nhw'n gallu cael gafael arno. Rwy'n ymwybodol iawn o'r ddeiseb yr ydych chi'n cyfeirio ati, ac, yn amlwg, pan fydd y ddeiseb honno ar gau, ac mae'r Pwyllgor Deisebau wedi ei hadolygu ac wedi penderfynu a ydyn nhw eisiau iddi gael ei chyflwyno ar gyfer dadl ai peidio, dyna'r amser y byddai'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad. Yn amlwg, rydych chi wedi cyfeirio at rywbeth penodol nawr, ac rwy'n credu y gallai fod yn well—mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn ei le, ac wedi'ch clywed chi—os gwnewch chi ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog, a gall ef ymateb yn uniongyrchol atoch chi.

14:35

Gawn ni ddatganiad gennych chi fel y Gweinidog materion gwledig yn ymateb i'r eitem a ddarlledwyd ar y rhaglen Ffermio ar S4C neithiwr? Mi oedd Wyn ac Enid Davies o Gapel Isaac yn sir Gaerfyrddin yn esbonio sut y maen nhw wedi gorfod difa 180 o wartheg yn y tair blynedd ddiwethaf oherwydd TB, er bod ganddyn nhw fuches gaeedig, wrth gwrs, a heb fod wedi bod yn dod ag anifeiliaid ymlaen i'r fferm. Roedd hi'n ddirdynnol gweld y tor calon llwyr wrth iddyn nhw orfod difa anifeiliaid ar fuarth y fferm. Roedden nhw yn eu dagrau; roedd nifer ohonon ni, dwi'n siŵr, wrth wylio'r eitem yn ein dagrau hefyd. A beth sy'n rhaid inni ei gofio yw bod Wyn ac Enid Davies ddim ond yn un teulu o gannoedd lawer o deuluoedd sydd wedi gorfod profi yr erchyllter yna.

A wnewch chi, felly, adolygu y rheolau sy'n gorfodi pobl fel Wyn ac Enid i ddifa eu stoc ar fuarth y fferm, oherwydd mae hynny'n amlwg yn dwysáu yr effaith sylweddol y mae'n ei gael ar iechyd meddwl y teuluoedd rheini sy'n gorfod mynd trwy'r fath artaith? A wnewch chi hefyd adolygu methiant eich Llywodraeth chi i daclo TB mewn bywyd gwyllt? A wnewch chi hefyd roi esboniad pam y gwrthodwyd rhoi unrhyw un o'r Llywodraeth ymlaen i ymateb i'r eitem yna neithiwr—dim hyd yn oed y prif swyddog milfeddygol? Mae hynny yn codi cwestiynau ynglŷn ag atebolrwydd, ac yn sicr yn rhwbio halen yn y briw i'r rheini sydd wedi bod trwy'r profiad uffernol yma. Felly, datganiad, os cawn ni, yn esbonio sut nawr, yn wyneb yr eitem yna, ydych chi'n mynd i adolygu eich polisïau presennol, oherwydd mae'n rhaid ichi dderbyn bod y sefyllfa fel y mae hi, ac fel yr amlygwyd ar Ffermio neithiwr, nid yn unig yn anghynaladwy ond yn gwbl, gwbl annerbyniol.

Wel, nid wyf i'n bychanu gofid achosion o TB ar unrhyw ffermwr neu'i deulu, ac rwy'n cydnabod hynny'n llwyr. Byddwch chi'n ymwybodol iawn fy mod i'n gwneud datganiad blynyddol ar ddileu TB a'r cynllun cyflawni. Fe wnes i ddatganiad, ym mis Mawrth y llynedd, rwy'n credu, felly byddwn ni'n dod yn agos at y datganiad blynyddol. Rwyf hefyd yn credu ei bod yn bwysig pwysleisio ein bod ni'n gweld gostyngiad yn nifer y buchesi newydd o TB, felly rydyn ni'n gwneud cynnydd sylweddol. Bydd grŵp cynghori technegol hefyd, ac un o'r pethau yr wyf i'n mynd i ofyn i'r grŵp hwnnw ei ystyried ar frys yw rhywbeth y mae'r ffermwyr wedi gofyn i mi ei wneud, o ran lladd gwartheg cyflo ar ffermydd. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gweithio gyda'r diwydiant, oherwydd rwy'n credu bod hwnnw'n gyfnod arbennig o straen, ac, yn amlwg, cafodd hyn ei amlygu yn y rhaglen neithiwr.

Tri pheth. Un yw: mae llyfr coffa o ymgyflwyniad yr Holocost i fyny'r grisiau yn y Neuadd, y gallwn ni i gyd ei lofnodi cyn Diwrnod Cofio'r Holocost ddydd Sadwrn, sef wrth gwrs pan ryddhaodd y Rwsiaid Auschwitz. Cawsom dystiolaeth wych gan Eva Clarke heddiw. Roedd yn wych bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yno i adnewyddu ei hymrwymiad ac ymrwymiad y Llywodraeth i frwydro yn erbyn gwrthsemitiaeth a sicrhau ein bod ni i gyd yn parhau i gofio'r Holocost, er bod y rhan fwyaf o'r rhai a oedd yno yn anffodus wedi marw.

Yn ail, mae'r wythnos hon yn Wythnos Atal Canser Serfigol. Rwy'n gwybod bod Huw Irranca-Davies—fy nghyd-Aelod, sydd fel arfer yn eistedd wrth fy ochr i—wedi ein hatgoffa ni i gyd yn wych am y cydweithio rhwng ysgolion a'r gwasanaeth iechyd, er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn manteisio ar y brechlyn HPV. Cefais i gyfarfod gyda phennaeth Ymddiriedolaeth Canser Serfigol Jo yr wythnos o'r blaen, ac nid yw'n cyfraddau ni'n ddigon uchel eto i sicrhau ein bod ni'n dileu canser serfigol. Rwy'n sylwi bod Lloegr wedi gosod targed o 2040 i ddileu canser serfigol, drwy ehangu'r rhaglen frechu. Fy nghwestiwn i yw pryd allai Llywodraeth Cymru fod mewn sefyllfa i bennu dyddiad ar gyfer dileu canser serfigol, oherwydd rwy'n gobeithio y bydd yn fwy uchelgeisiol na Llywodraeth y DU.

Yn drydydd, yn gynharach y mis hwn cafodd rhybudd diogelwch cleifion cenedlaethol ei anfon gan GIG Lloegr, ynghylch prinder byd eang yng nghyflenwad y cyffur Ozempic, a arferai fod yn driniaeth i'r rhai â diabetes ac sydd yn dal yn cael ei ddefnyddio. Mae cymaint o gyflenwad y byd nawr wedi cael ei ddargyfeirio i'w ddefnyddio fel cyffur colli pwysau gwyrthiol. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r prinder hwn, yn ogystal â'r risg y mae menywod yn ei hwynebu wrth ddefnyddio'r cyffur hwn ar gyfer colli pwysau heb unrhyw oruchwyliaeth feddygol? A sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu sicrhau bod Ozempic yn cyrraedd y rhai sydd wir ei angen? 

14:40

Diolch. A diolch am ein hatgoffa ni mai Dydd Sadwrn yw Diwrnod Cofio'r Holocost a bod y llyfr ar gael i bob Aelodau ei lofnodi yn y Neuadd. 

O ran gwella canlyniadau canser serfigol, rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo—. Oherwydd bodolaeth y brechiad y gwnaethoch chi gyfeirio ato, mae'n ddamcaniaethol bosibl dileu canser serfigol i raddau helaeth dros amser. Nid wyf i'n ymwybodol o bryd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i gyflwyno targed, ond yn sicr, fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog a yw hynny'n rhywbeth y mae hi wedi'i ystyried, ac efallai y gallai hi ysgrifennu atoch chi, os mai dyna yw'r sefyllfa.

O ran Ozempic, rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn. Mae yna bobl, yn anffodus, y mae ei angen arnyn nhw ar gyfer diabetes math 2 nad ydyn nhw nawr wedi gallu cael gafael arno, oherwydd ei fod yn cael ei hysbysebu a'i roi ar-lein, er enghraifft, ac heb label i bobl ei ddefnyddio fel cyffur colli pwysau. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU, sydd, wrth gwrs, â chyfrifoldeb dros gynnal y cyflenwad o feddyginiaethau yma yn y DU. Ond mae'n bwysig iawn bod y Gweinidog yn parhau i weithio gyda nhw, i weithio gyda GIG Cymru, i weithio gyda meddygon teulu, i weithio gyda fferyllwyr i sicrhau bod cleifion y mae ei angen arnyn nhw'n parhau i'w gael yn ôl yr angen. Os yw unrhyw glaf neu unrhyw etholwr yn cael trafferth cael cyflenwadau o Ozempic, dylai drafod hyn ar frys gyda'i feddyg. 

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gennych chi, fel y Gweinidog dros faterion gwledig, ar yr wybodaeth ddiweddaraf ar y camau y mae Llywodraeth wedi'u cymryd ar bolisi bwyd? Rydyn ni'n dod yn agos at wyth mis ers i Fil Bwyd (Cymru) fethu, ac rydw i, ochr yn ochr â rhanddeiliaid y sector, yn aros yn eiddgar am yr wybodaeth ddiweddaraf am yr ymrwymiadau a gafodd eu gwneud i'r Senedd fis Mai diwethaf. Trefnydd, cafodd y Senedd wybod y byddai dogfen drawsbortffolio ar gyfer rhanddeiliaid yn cael ei chyhoeddi o bryd i'w gilydd i dynnu sylw at bolisïau bwyd cydgysylltiedig y Llywodraeth sydd ar waith ar hyn o bryd a sut maen nhw'n cyd-fynd â nodau llesiant. Pryd allwn ni ddisgwyl cyhoeddi'r ddogfen hon am y tro cyntaf? A fyddwn ni hefyd yn gweld dangosyddion llesiant a cherrig milltir yn cael eu cyhoeddi, fel yr argymhellwyd gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig? Ac roedd ymrwymiadau eraill hefyd yn cynnwys cynnig cymorth i uno cynhyrchwyr bwyd o Gymru â grwpiau gweithredu lefel gymunedol a'r sector cyhoeddus. Byddai'r sector bwyd yn croesawu'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth presennol sydd ar gael a mentrau'r dyfodol, gan fod cynllunio tymor hir yn hanfodol i'r sector bwyd. Trefnydd, rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cytuno bod y sector bwyd yng Nghymru yn hanfodol. Gadewch i ni nid yn unig gydnabod ei bwysigrwydd, gadewch i ni ei hyrwyddo, ei feithrin a sicrhau ei fod yn ffynnu. Rwy'n gwybod y bydd rhanddeiliaid ledled Cymru yn croesawu'r wybodaeth ddiweddaraf honno. 

Diolch yn fawr iawn. Wel, bydd Peter Fox yn gwybod o fy nghyfarfodydd gydag ef ein bod ni bron yn barod i gyhoeddi'r ddogfen drawsbortffolio y mae'n cyfeirio ati. Rwyf i fod i gael cyfarfod gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol—rwy'n credu mai'r wythnos nesaf ydyw nawr—i gwblhau'r ddogfen, ac rwy'n gobeithio wedyn gallu ei chyhoeddi. Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn ac, unwaith eto, fel y gwyddoch chi o'n trafodaethau, y comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol—mae hyn yn rhywbeth y mae ganddo ddiddordeb arbennig ynddo. Ac rwy'n gwybod ei fod yn siarad mewn digwyddiad, ac rwy'n credu bod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol hefyd, yn fy etholaeth i a dweud y gwir, yn ddiweddarach y mis hwn, lle bydd byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn ystyried hyn. Oherwydd rwy'n credu bod cymaint o waith da yn digwydd ledled Cymru fel bod angen i ni ddod â hwn at ei gilydd, fel nad yw mor ar led a gwasgaredig, oherwydd, yn anffodus, mae'n ymddangos ei fod felly ar hyn o bryd. 

Rwy'n gwybod ei bod yn ymddangos bod y Llywodraeth yn cynhyrchu datganiadau bob tro y mae yna storm. Efallai y byddai'n ddefnyddiol, o gofio ein bod ni wedi dioddef wythnos arall o stormydd sylweddol, pe byddai'r Llywodraeth, efallai, yn llunio datganiad, yn flynyddol, ynghylch effaith stormydd a chadernid rhag stormydd. A Gweinidog, a wnewch chi fanteisio ar y cyfle hwn i ymuno â mi i ddiolch i'r holl swyddogion diogelwch ffyrdd a gweithwyr brys sy'n cadw'r ffyrdd, rheilffyrdd a chymunedau'n ddiogel yn ystod stormydd, fel yr un y gwnaethom ei dioddef dros y penwythnos, a achosodd i'r A5 gau am resymau da iawn?

14:45

Diolch. Rwy'n credu bod Ken Skates yn gwneud pwynt pwysig iawn. Rydyn ni eisoes wedi cael dwy storm dim ond yr wythnos hon, ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn fel Llywodraeth i'n gwasanaethau brys, i Cyfoeth Naturiol Cymru, i awdurdodau lleol a llawer o rai eraill a weithiodd yn gwbl ddiflino yn ystod y stormydd hyn ac sydd newydd wneud hynny dros y penwythnos i sicrhau eu bod yn lleihau'r effeithiau ar gymunedau, lle bo hynny'n bosibl. 

Prynhawn da, Trefnydd. Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os caf i, os gwelwch yn dda. Mae un am etholwr i mi, Fionna Ashman, sy'n gweithredu lloches fach achub cŵn o'r enw Lizzie's Barn Sanctuary, sy'n cael ei redeg gan y teulu, yn sir Gâr, yn sir Gaerfyrddin. Dim ond y llynedd, cafodd 43 o ddigwyddiadau llifogydd yn ei heiddo gan orfodi—arhoswch amdani—achub cŵn sy'n agored i niwed mewn cychod dan amodau peryglus. Rhaid bod hynny'n cyffwrdd â'r galon, rwy'n siŵr. Pan ysgrifennais i'n flaenorol at y Gweinidog yn gofyn am gymorth i ddiogelu'r lloches, cefais wybod nad oes gan Cyfoeth Naturiol Cymru, fel yr awdurdod rheoli risg, ddyletswydd statudol i liniaru llifogydd. Felly, tybed a allech chi fynd ar drywydd hyn er mwyn egluro cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru a grymuso fy etholwyr, yn enwedig y rhai sy'n gofalu am ein hanifeiliaid, i bwyso am y camau gweithredu sydd eu hangen arnyn nhw. 

Yn ail, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Economi ar Nidec Control Techniques a'u cynlluniau i dorri swyddi yn y Drenewydd. Ddydd Gwener diwethaf, cyhoeddodd Control Techniques ei fod yn bwriadu torri 98 o swyddi yn ei ffatri yn y Drenewydd oherwydd problemau parhaus yn ymwneud â'r gadwyn gyflenwi, a symud cynhyrchu yn ôl pob tebyg tuag at Asia a Gogledd America. Gan fod Control Techniques yn rhan ddofn, fel y mae llawer ohonon ni'n gwybod, o wead yr ardal, mae hon yn ergyd ddinistriol iawn. Felly, byddwn i'n croesawu datganiad gan Weinidog yr Economi ynghylch sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi'r gweithwyr hynny a gweithio gyda Control Techniques. Diolch yn fawr iawn.

Diolch. Wel, o ran eich cwestiwn cyntaf, yn sicr, byddaf i'n hapus i siarad â'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Rwy'n ymwybodol o'r anawsterau y mae Lizzie's Barn Sanctuary wedi'u hwynebu, ac rwy'n ymwybodol i'r Gweinidog ysgrifennu atoch chi—rwy'n credu mai mis diwethaf ydoedd—o ran y profiadau anodd a dinistriol iawn y mae perchennog Lizzie's Barn Sanctuary wedi'u cael. Yna byddaf i'n ysgrifennu at yr Aelod. 

O ran Nidec, cafodd swyddogion Gweinidog yr Economi wybod y bydden nhw'n gwneud y cyhoeddiad yn fuan—cyhoeddiad dinistriol iawn—o golli 98 o swyddi gweithgynhyrchu. Ac mae'r Gweinidog wedi gofyn i'w swyddogion barhau i gyfarfod â'r cwmni i gynnig cymorth i weithwyr drwy ReAct, Busnes Cymru a chymorth arall gan Lywodraeth Cymru sydd ar gael i'r gweithwyr y mae hyn yn effeithio arnyn nhw.

Gweinidog, dros wythnos yn ôl, cafodd rhywfaint o seilwaith band eang sylweddol bwysig gan Ogi ei ddifrodi'n droseddol mewn ymosodiad yn Noc Penfro, gan adael cartrefi a busnesau heb gysylltiad band eang am nifer o ddiwrnodau. Nawr, o ystyried bod hwn yn fater deddfwriaeth y DU o ran diogelwch hyn, meddwl ydw i tybed a allai'r Gweinidog perthnasol gyflwyno rhai sylwadau i Lywodraeth y DU ar yr angen i gryfhau'r gyfraith ynghylch y gweithgarwch troseddol a'r difrod i seilwaith critigol fel band eang, o ystyried (a) pwysigrwydd seilwaith band eang i'n bywydau o ddydd i ddydd, Ac, yn ail, mae'r cyflymder y mae seilwaith band eang wedi ei gyflwyno yn golygu nad yw'r gyfraith wedi cadw ar y blaen â'i bwysigrwydd. Gobeithio y gall Llywodraeth Cymru wneud rhai nodiadau i Lywodraeth y DU ar yr angen am hynny.

Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â deddfwriaeth yn cadw ar y blaen â thechnoleg oherwydd, fel y dywedwch chi, rydyn ni'n gwybod bod technoleg yn gwella ac mae pethau'n digwydd yn gyflym iawn, ac efallai nad yw'r ddeddfwriaeth yn digwydd mor gyflym. Byddwn i'n dychmygu mai ar gyfer Gweinidog yr Economi—sydd yn ei sedd; mae ef wedi clywed—ac yn sicr, gwnaf i ofyn iddo a yw'n barod i ysgrifennu at Lywodraeth y DU ynglŷn â diogelwch, oherwydd yn amlwg mae hyn yn cael effaith enfawr ar fusnesau sydd angen dibynnu ar fand eang, fel yr ydyn ni i gyd yn ei wneud.

Diolch i chi Dirprwy Lywydd dros dro—mae angen teitl mwy cynnil arnoch chi, rwy'n amau.

Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog addysg ynghylch cynnydd wrth ymdrin â phresenoldeb concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth mewn ysgolion. Yr wythnos diwethaf, gwnaeth y BBC adrodd bod materion gyda concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth wedi arwain at rai plant mewn ysgol yn fy rhanbarth i yn y gogledd byth yn sefyll arholiadau ffurfiol. O ran yr ysgol yng Nghaergybi, cafodd 60 y cant ohoni ei chau ym mis Medi oherwydd concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth ac, yn anhygoel, mae 40 y cant ohoni ar gau hyd heddiw. Cafodd un disgybl ei ddyfynnu'n dweud, ar un adeg, ei fod yn gwneud mathemateg ar hob yn yr adran arlwyo. Nid yw hynny'n ffordd o ddysgu—rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno. Felly, mae'n niweidiol i'r disgyblion. Nid ydyn nhw'n cael eu haddysgu mewn amgylchedd dysgu digonol o hyd, a fydd yn amharu ar eu llwyddiant academaidd. Yng ngoleuni hyn, Trefnydd, byddwn i'n croesawu datganiad gan y Gweinidog addysg i ddangos pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y gall y plant hynny ddychwelyd i'r ysgol yn llawn cyn gynted â phosibl. 

14:50

Diolch. Wel, mae'r Gweinidog yn parhau i weithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol i asesu risgiau cyflwr a diogelwch, gan gynnwys cadernid adeileddol ar gyfer pob adeilad o fewn eu hystad ysgol ac i gynnal y cofnodion hynny. Rwy'n gwybod, gyda'r ysgol benodol y gwnaethoch chi gyfeirio ati, fod cyfarfod dilynol wedi'i drefnu ar gyfer diwedd y mis, felly rwy'n tybio y bydd yr wythnos hon neu'r wythnos nesaf, rhwng y pennaeth a Cymwysterau Cymru a CBAC, i drafod yr opsiynau ac asesu amgylchiadau'r ysgol a dysgwyr. Felly, gofynnaf i'r Gweinidog addysg roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau gyda datganiad ysgrifenedig yn dilyn y cyfarfod hwnnw.

Diolch yn fawr, Llywydd dros dro. A gaf i ychwanegu at y datganiad y gofynnwyd amdano gan Jane Dodds, os gwelwch yn dda, Trefnydd? Yr wythnos diwethaf, cwrddais â fy nghydweithiwr Craig Williams AS, gyda Nidec Control Techniques a'r swyddogion yn y Drenewydd ar eu safle. Roeddwn i'n falch—ac rwy'n credu bod y ddau ohonom yn falch—fod o leiaf ymrwymiad i barhau i fuddsoddi yn safle'r Drenewydd, a dangoswyd hynny i ni, ac felly rwy'n teimlo'n hyderus ynghylch y gweithrediadau hirdymor ar y safle. Nawr, mae fy nghydweithiwr, Craig Williams, wedi bod yn gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i gyflwyno tasglu i gefnogi'r rhai yr effeithir arnynt, ond byddwn yn ddiolchgar iawn, Gweinidog, pe gallai Gweinidog yr economi gyflwyno datganiad i ddangos pa gefnogaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i'r teuluoedd hynny yr effeithir arnynt, a sut y bydd hefyd yn plethu ag unrhyw gymorth a gynigir gan Lywodraeth y DU.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Wel, soniais i am y gefnogaeth y mae Gweinidog yr Economi yn ei rhoi gan Lywodraeth Cymru. Mae wedi sicrhau bod ei swyddogion wedi parhau i weithio gyda Nidec i wneud yn siŵr y bydd y staff yr effeithir arnynt yn cael cefnogaeth. Soniais am ReAct, er enghraifft. Felly, fel y dywedais i, mae Gweinidog yr Economi yn sicrhau bod cymorth Llywodraeth Cymru ar gael.

3. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Tata Steel

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan Weinidog yr Economi ar Tata Steel. Y Gweinidog i wneud y datganiad—Vaughan Gething.

Diolch, Llywydd. Mae'r cyhoeddiad a wnaed gan Tata Steel UK ar 19 Ionawr wedi achosi gofid a phryder enfawr i filoedd o weithwyr, eu teuluoedd a chymunedau cyfan yng Nghymru, yn enwedig ym Mhort Talbot.

Mae'r diwydiant dur yn rhan o stori ein cenedl ac yn sefyll heddiw fel arwydd o ragoriaeth Cymru. Yn 2024, mae'n cynrychioli ased economaidd gyda chyrhaeddiad byd-eang sy'n hanfodol i fodloni gofynion dyfodol mwy gwyrdd a mwy diogel. Ym Mhort Talbot mae yna weithlu gyda'r arbenigedd, y gallu a'r ymroddiad i gyflawni'r trawsnewidiad hirach, tecach ar gyfer dur sydd ei angen ar economïau Cymru a'r DU. Fodd bynnag, ni fydd y cynigion a gyflwynwyd yr wythnos diwethaf yn caniatáu i'r diwydiant wireddu'r dyfodol uchelgeisiol hwnnw yng Nghymru. Yn hytrach, mae'n nodi proses a fyddai'n gweld y DU yn gyflym yn dod yr unig economi G20 i ildio ei galluoedd gwneud dur crai—hyn i gyd ar adeg o wrthdaro byd-eang cynyddol ac aflonyddwch masnach cynyddol. O ganiau i geir i adeiladu, mae dur crai yn elfen hanfodol o'r dur sydd ei angen arnom heddiw. Pe bai'r cynlluniau'n cael eu gweithredu'n llawn, byddai'r cynlluniau'n golygu y byddai'r DU yn dod yn fwy dibynnol ar fewnforion a gynhyrchir i safonau amgylcheddol is ac sy'n cael eu cludo miloedd o filltiroedd i Gymru ar longau tanwydd diesel.
 
Yn dilyn cytundeb â Llywodraeth y DU, mae Tata Steel bellach yn bwriadu cau dwy ffwrnais chwyth Port Talbot a'r ffyrnau golosg mewn modd graddol. Byddai'r ffwrnais chwyth gyntaf yn cau tua chanol 2024 a byddai'r asedau trwm sy'n weddill yn dirwyn i ben yn ail hanner 2024. Mae Tata wedi cyhoeddi y bydd hyd at 2,800 o swyddi uniongyrchol yn cael eu colli fel rhan o'i gynigion. Effeithir ar tua 2,500 o'r rhain o fewn y 18 mis nesaf. Mae'r cwmni'n disgwyl y byddai 300 o swyddi ychwanegol yn cael eu colli ymhen dwy i dair blynedd yn Llanwern.

Llywydd, mae hyn yn cynrychioli colled economaidd ar raddfa hanesyddol i Gymru o fewn diwydiant y bydd pob un ohonom yn dod yn fwyfwy dibynnol arno. Yn hytrach na darparu pont i'r dyfodol a fyddai yn ein gweld yn cynhyrchu dur glanach, mae'r fargen a gafodd ei tharo gan Weinidogion y DU yn cynnig dibyn a chaledi y gellir ei atal i'r gweithwyr hynny sydd yn y sefyllfa orau i wneud i'r broses o drawsnewid weithio. Barn gadarn Llywodraeth Cymru yw y gellid ac y dylid taro bargen well er mwyn osgoi canlyniad y gellir ei atal. Mae Gweinidogion y DU wedi methu a gosod yr achos dros gymhorthdal o £500 miliwn sy'n arwain at golli 2,800 o swyddi a cholli capasiti gwneud dur crai. Nid yw'n glir pa ganlyniadau a gafodd flaenoriaeth gan Weinidogion na pham y dewiswyd y lefel benodol hon o gymorth ariannol.

Llywydd, mae gan Lywodraeth y DU a Tata Steel yr offer rhyngddynt i sicrhau trosglwyddiad hirach, tecach i sector sy'n dda ar gyfer twf ac sy'n hanfodol i'n diogelwch ar y cyd. Mae er ein budd ni i gyd i sicrhau'r fargen orau ar gyfer dur, ac nid dim ond y fargen rataf. Gallai Prif Weinidog y DU sylweddoli'r angen i dynnu colledion swyddi ar y raddfa hon oddi ar y bwrdd. Gallai ddechrau trafodaethau brys gyda llinellau coch clir yn seiliedig ar asesiad o'n hanghenion economaidd a'r rôl y mae'n rhaid i ddur ei chwarae wrth eu diwallu. Rwyf wedi ysgrifennu at Ysgrifenyddion Gwladol dros fusnes olynol ynghylch Tata. Rwyf wedi ei gwneud yn glir ein bod yn barod i wneud yr hyn a allwn i gefnogi'r cwmni yn y cyfnod trosglwyddo a fydd yn digwydd. Yn wir, mae gennym hanes hir o gefnogi'r busnes, ffaith sy'n cael ei chydnabod gan y cwmni ac, yn wir, y gweithlu. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol presennol yn yr Adran Busnes a Masnach ar bedwar achlysur ers 11 Medi. Rwyf wedi gofyn am gyfarfod ar frys i drafod dyfodol Tata Steel UK a goblygiadau unrhyw gynlluniau arfaethedig ar gyfer gweithwyr a'r gadwyn gyflenwi ehangach. Er gwaethaf hyn, mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod caniatáu i Lywodraeth Cymru chwarae rhan weithredol yn y trafodaethau a gynhaliwyd gyda Tata Steel. Llywydd, mae'n bwysig nodi ar gofnod ein bod wedi gwrthod cymryd rhan mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar gynllunio ar gyfer cau gwaith dur Port Talbot wrth i ni gael ein gwahardd o'r trafodaethau a oedd yn parhau. Yn dilyn sesiwn friffio gyda Tata cyn eu cyhoeddiad, gofynnodd y Prif Weinidog am alwad frys gyda Phrif Weinidog y DU ddydd Gwener i drafod y camau y gellid eu cymryd o hyd i sicrhau dyfodol mwy uchelgeisiol i'r ased sofran pwysig hwn. Fodd bynnag, nid oedd Prif Weinidog y DU ar gael i gymryd galwad, ac nid oes cynnig wedi ei wneud ers hynny i swyddfa'r Prif Weinidog.

Llywydd, fel y dywedodd Tata Steel, mae unrhyw gytundeb yn amodol ar gymeradwyaeth reoleiddiol berthnasol, gwybodaeth a phrosesau ymgynghori. Nid yw'r gwaith o gwblhau telerau ac amodau manwl wedi'i gyrraedd eto. Rydym yn annog y cwmni i beidio â gwneud unrhyw ddewisiadau na ellir eu gwrthdroi yn seiliedig ar lefel bresennol cymorth Llywodraeth y DU. Mae ffordd gredadwy ymlaen i'r busnes pryd nad oes angen colli ffwrneisi chwyth a cholli swyddi ar y raddfa drawiadol hon. Mae'r cwmni wedi disgrifio'i hun ymdeimlad o uchelgais ar gyfer y dyfodol. Credaf y gellir datgloi posibiliadau newydd pe bai polisi Llywodraeth y DU yn newid i ganiatáu hyn. Mae'n hanfodol bod Tata bellach yn adeiladu ar y ddeialog y mae wedi bod yn ei chael gyda'r undebau llafur cydnabyddedig hyd yma. Rwyf wedi cwrdd â chynrychiolwyr o'r tri undeb llafur dur cydnabyddedig: Cymuned, Unite, a'r GMB. Rwyf wedi cwrdd â nhw'n rheolaidd ers y cytundeb rhwng Tata Steel a Llywodraeth y DU ar 15 Medi. Ymwelais â Phort Talbot i gyfarfod â'r undebau ar 19 Ionawr, yn ogystal â chwrdd wyneb yn wyneb ag uwch swyddogion gweithredol Tata. Ac unwaith eto, ddoe, cwrddais â 70 o gynrychiolwyr gweithlu a gwrando arnynt er mwyn deall eu safbwynt a deall eu barn am ddull amgen gwell y gellid ei ddilyn ar gyfer y sector hwn.

Mae'r Prif Weinidog a minnau wedi parhau i gyfarfod â'r cwmni, ac rwy'n croesawu ymrwymiad y cwmni i gynnal y ddeialog honno. Rydym wedi pwysleisio, yn barhaus, bwysigrwydd ymgynghori priodol ac ystyriaeth lawn o opsiynau amgen y mae'r undebau llafur wedi'u cyflwyno. Nid yw'r cwmni wedi dechrau ymgynghoriad ffurfiol eto. Rwy'n eu hannog i ymgysylltu â'r gweithlu ar bob cam i sicrhau canlyniad teg. Sefydlwyd bwrdd trawsnewid Tata Steel gan Lywodraeth y DU i roi cyngor ar sut i ddiogelu a thyfu'r amgylchedd economaidd ac i gefnogi a lliniaru'r effaith ar y gweithlu, busnesau a chymunedau y mae cynigion Tata ar gyfer trawsnewidiad datgarboneiddio yn effeithio'n uniongyrchol arnynt. Byddwn yn parhau i gymryd rhan yn y bwrdd i gefnogi meysydd o flaenoriaeth gyffredin.

Yn ogystal, byddwn yn gweithio'n agos gyda phartneriaid allweddol fel y Ganolfan Byd Gwaith, Cymru'n Gweithio, awdurdodau lleol a'r undebau llafur i sicrhau bod unrhyw bobl sy'n wynebu colli eu swyddi o ganlyniad i'r cynigion hyn yn cael gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ynghylch y cymorth sydd ar gael iddynt. Gall rhaglenni cyflogadwyedd a sgiliau Llywodraeth Cymru, ReAct+ a Cymunedau am Waith a Mwy ddarparu cymorth ar gyfer hyfforddiant a mentora i'r rhai sy'n dymuno neu sydd angen y cymorth hwn.

Llywydd, byddai'r gefnogaeth hon yn cael ei darparu o ganlyniad i'r fargen anghywir i ddur. Mae'r dicter, y loes a'r ofn sy'n cael ei deimlo gan gymaint yn cael eu dwysáu gan y ddealltwriaeth gyffredin a rhesymol y gellir atal hyn. Mae cyfle o hyd i sicrhau gwell canlyniad sy'n diogelu ased sofran sydd hefyd yn rhan o wead cymdeithasol ac economaidd Cymru. Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda'r cwmni, undebau llafur a Llywodraeth y DU i atal maint y golled yr ydym bellach yn ei hwynebu. Bydd Cymru a'r DU yn well eu byd ac yn fwy diogel pe bai cynhyrchion y dyfodol a fydd yn ein pweru tuag at ddyfodol mwy gwyrdd yn cael eu gwneud yma. Byddaf wrth gwrs yn parhau i gadw llinellau cyfathrebu ar agor i bob parti ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Diolch yn fawr, Llywydd.

15:00

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Gweinidog bod hwn yn gyfnod gofidus iawn i'r gweithwyr yng ngwaith Tata Steel. Bydd gweithwyr a'u teuluoedd yn ddealladwy yn bryderus am yr hyn y mae'r dyfodol yn ei gynnig iddyn nhw, ac mae'n hanfodol bwysig bod cefnogaeth gan lywodraethau ar bob lefel ar yr adeg anodd iawn hon. Gall unrhyw un sydd wedi dilyn y datblygiad ers i'r cyhoeddiad gael ei wneud deimlo pa mor ansicr yw'r sefyllfa hon i weithwyr y safle. Nawr, mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at ymgynghoriad Tata ar y swyddi y mae'n bwriadu eu colli ar draws ei weithrediadau yn y DU, ac mae'r cwmni wedi addo y bydd yn gweithio gydag undebau yn y lle cyntaf, ac, yn dilyn ei ddatganiad heddiw, a all y Gweinidog ddweud wrthym pa rôl y mae Llywodraeth Cymru yn ei chwarae i sicrhau bod yr ymgynghoriad yn arwain at y canlyniadau gorau posibl i'r gweithlu?

Nawr, mae'r cwmni wedi nodi'r ffordd raddol y mae'n bwriadu cau ei ddwy ffwrnais chwyth, ac mae'n hanfodol bod popeth posibl yn cael ei wneud i gefnogi'r gweithwyr a sicrhau eu bod yn cael cynnig cyfleoedd gwaith a hyfforddiant, yn enwedig y bobl ifanc. Mae'r datganiad heddiw yn dweud wrthym fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid allweddol fel y Ganolfan Byd Gwaith ac eraill i sicrhau bod gan bobl sy'n wynebu colli eu swyddi yr wybodaeth orau bosibl, ac rwy'n falch o glywed bod rhaglenni ReAct+ a Cymunedau am Waith a Mwy, yn darparu cymorth ar gyfer hyfforddiant. Yn dilyn hyn, efallai y gallai'r Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym am rywfaint o'r camau sy'n cael eu cymryd, a dweud wrthym hefyd a yw Llywodraeth Cymru wedi neilltuo unrhyw gyllid i sicrhau bod y gweithwyr yn gallu cael mynediad at gyfleoedd gwaith neu hyfforddiant.

Wrth gwrs bydd cyhoeddiad y cwmni nid yn unig yn effeithio ar y rhai a gyflogir yn uniongyrchol gan Tata; bydd hyn hefyd yn cael effaith ar gontractwyr, busnesau lleol a'r gymuned ehangach. Gallwch fod yn siŵr o un peth: bydd effaith y cyhoeddiad hwn i'w theimlo ar draws coridor de Cymru. Wrth gwrs, mae'n effeithio ar y gadwyn gyflenwi leol a'r rhanbarth ehangach, yn enwedig ar draws sector gweithgynhyrchu gyda chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd sero net a gyflwynir o amgylch y porthladd rhydd Celtaidd, felly mae'n hanfodol bod y bwrdd trawsnewid yn ymgysylltu â'r bobl, busnesau a'r cymunedau y mae'r trawsnewid yn effeithio arnynt. Er ein bod yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r undebau i gefnogi gweithwyr, efallai y gallai'r Gweinidog ddweud wrthym pa ymgysylltiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael â busnesau lleol ynghylch yr effaith y bydd y cyhoeddiad hwn yn ei chael arnynt, a dweud wrthym pa gymorth sydd ar gael iddynt hwythau hefyd.

Nawr, gwyddom y bydd y model busnes ar gyfer Tata yn newid yn sylweddol wrth i ffwrneisi chwyth y cwmni gael eu disodli gan ffwrnais arc trydan. Nawr, fel yr ydych wedi clywed gan arweinydd yr wrthblaid yn gynharach, mae ef a minnau'n credu y dylid cadw ffwrnais chwyth ar agor yn ystod y cyfnod trawsnewid i helpu i ddiogelu rhai o'r swyddi hynny yn y tymor byr i'r tymor canolig, ac mae'n hanfodol ein bod yn cael esboniad llawn pam nad yw hyn yn digwydd.

Mae'r datganiad heddiw yn cadarnhau bod y Gweinidog wedi cael trafodaethau sylweddol gydag uwch-swyddogion gweithredol, ac felly efallai y gall gadarnhau ei fod wedi gofyn i Tata gadw ffwrnais chwyth ar agor yn y trafodaethau hynny, ac, os felly, pa ymateb a gafodd. Ac a all ddweud wrthym a yw Llywodraeth Cymru wedi cynnig unrhyw gefnogaeth i gadw ffwrnais chwyth 4 ar agor, wrth i'r trawsnewid i dechnoleg fwy gwyrdd ddigwydd? Wrth gwrs, mae'r Gweinidog yn iawn i ddweud y dylai'r trawsnewid fod yn drawsnewid teg nad yw'n symud swyddi ac allyriadau i rannau eraill o'r byd.

Yn ogystal, dywedodd y Gweinidog fod angen ystyried technolegau eraill, megis lleihau haearn yn uniongyrchol yn y tymor byr i'r tymor canolig a hydrogen yn y tymor hwy. Wrth gwrs, yn y trafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Tata ynglŷn â'i gynlluniau i gynhyrchu dur mewn ffordd wyrddach, mae'n hanfodol bod pob technoleg wedi cael ei hystyried. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn dweud wrthym pa gymorth y mae'n ei gynnig i'r cwmni ar ei daith ddatgarboneiddio ac egluro safbwynt Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio hydrogen. Ac yn bwysicach fyth, efallai y gall y Gweinidog egluro'n union yr hyn y mae eisiau ei weld ar gyfer y sector, wrth symud ymlaen. Beth yw cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru o ran y diwydiant dur?

Mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at yr angen i sicrhau trosglwyddiad hirach, tecach i sector sy'n dda ar gyfer twf gwyrdd ac sy'n hanfodol i'n diogelwch ar y cyd, ac mae rhai cwestiynau mawr i'r ddwy Lywodraeth ynglŷn â sut y dylai sector dur Prydain edrych yn y dyfodol. Ar y naill law, mae Llywodraethau'n gefnogol i'r sector ddatgarboneiddio a chofleidio technoleg i gynhyrchu dur gwyrddach, ac, ar yr un pryd, maent hefyd yn ceisio diogelu swyddi. Felly, efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym sut mae'n credu y dylid taro'r cydbwysedd a beth yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynhyrchu dur a pha drafodaethau y mae wedi'u cael gyda'r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch sut y gall y ddwy Lywodraeth gydweithio ar y mater hwn.

Ac felly wrth gloi, Llywydd, a gaf fi ddweud bod fy meddyliau'n aros gyda'r rhai y mae cyhoeddiad Tata yn effeithio arnynt? Ac rwy'n annog Llywodraethau i weithio gyda'i gilydd i gefnogi'r gweithlu a'r gymuned ehangach a fydd yn teimlo effeithiau'r wythnos diwethaf am beth amser i ddod. Diolch.

15:05

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau, ac rwy'n credu bod angen i ni ailddatgan ar y dechrau bod gennym gyfres o gynigion, nid canlyniadau gwarantedig. Rwyf wedi clywed gormod o sylwadau sy'n derbyn bod popeth sydd wedi'i gyhoeddi yn mynd i ddigwydd, ac eto, mewn gwirionedd, nid ydym yn gwybod manylion yr hyn sy'n cael ei gynnig eto.

Rwy'n ceisio peidio â chwympo'n ôl i fod yn gyfreithiwr cyflogaeth, ond mae angen i'r cwmni ffeilio rhywbeth o'r enw HR1, sy'n nodi'r cynigion ynghylch colli swyddi a'r amserlenni cysylltiedig. Ar hyn o bryd, mae datganiad eang yn amlinellu 2,500 o doriadau swyddi uniongyrchol o amgylch Port Talbot, hyd at 300 yn Llanwern, ac mae'n rhoi amserlen fras o 18 mis. Nid oes cynllun o fewn hwnnw mewn gwirionedd; mae'n nodi canlyniad terfynol y cynigion. Mae gweld y cynllun a ddarperir yn bwysig iawn er mwyn i'r ymgynghoriad fod yn ystyrlon, a bydd angen i bob un ohonom ymgysylltu â hwnnw. Nawr, mae gennym ddiddordeb, ac wrth gwrs mae gan yr undebau llafur cydnabyddedig ddiddordeb mewn gweld manylion y cynllun hwnnw, sut mae'n edrych ac a oes sgwrs bellach y gallem ni ei chael, y dylem ei chael a byddwn yn ei chael, ac rwy'n gobeithio y bydd Gweinidogion y DU yn edrych ar y cynllun hwnnw hefyd.

Ac rwy'n croesawu'r gwrthgyferbyniad yn y sylwadau, pan fo Paul Davies ac, i fod yn deg ag ef, arweinydd yr wrthblaid yn y lle hwn, wedi dweud eu bod eisiau gweld dyfodol gyda ffwrnais chwyth sy'n parhau ar agor a llwybr credadwy i wneud hynny. Nid dyna farn breifat a chyhoeddus Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Ac os oes ganddo anghytundeb gonest ynghylch hynny, mae hynny'n iawn—mae pobl yn gallu anghytuno, wrth gwrs. Yr hyn sy'n anodd yn fy marn i yw'r ymgais gan Ysgrifennydd Gwladol presennol Cymru i nodweddu ein hanghytundeb fel chwarae gwleidyddiaeth gyda'r dyfodol, pan, mewn gwirionedd, rydym yn anghytuno mai dyma'r unig ddewis sydd ar gael. Rwyf hefyd wedi bod yn glir y byddai dewis arall, lle mae ffwrnais chwyth 4 yn aros ar agor, yn gofyn am fwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU. Rwyf wedi bod yn glir iawn am hynny, felly nid wyf yn dweud bod opsiwn heb gost. P'un a ydym gyda'n gilydd yn credu bod gwerth yn hynny ai peidio, nid yn unig yn y swyddi uniongyrchol a'r swyddi anuniongyrchol a fyddai'n cael eu hachub, ond y cyfnod trawsnewid tymor hwy gan beidio â dod yr unig wlad G20 na all wneud dur crai, gyda'r holl ofynion sydd gan nifer o'n ffynonellau metel. A phan fyddaf yn siarad am ganiau, ceir ac adeiladu, mae hynny oherwydd bod rhai graddau o ddur adeiladu angen i ddur crai fod yn rhan o'r gymysgedd. Mae rhai rhannau o'r diwydiant modurol angen i ddur crai fod yn rhan o'r gymysgedd i greu ceir a cherbydau eraill. Ac fel y gŵyr yr Aelod dros Lanelli, mae pob tun o ffa pob Heinz yn cael ei wneud yn Nhrostre. Mae angen i ddur crai fod yn rhan o gymysgedd ar gyfer y metel hwnnw. Os nad ydyw, mae'n rhaid mewnforio hwnnw, boed o'r Iseldiroedd neu o India, ac mae cwestiwn amlwg am hyfywedd tymor hwy os bydd hynny'n digwydd. Felly, mae perygl gwirioneddol o beidio â gwneud hyn a beth mae hynny'n ei wneud ar gyfer ein dyfodol economaidd.  

Nawr, rwy'n gobeithio, pan fydd y cynllun, manylion y cynllun, ar gael, y bydd Gweinidogion y DU yn manteisio ar y cyfle i edrych ar hwnnw eto. Byddai'n llawer gwell gennyf weld, cyn etholiad cyffredinol, fod cyfle i ailystyried ac achub y swyddi hyn. Byddai hynny'n ymdrin â'r ansicrwydd rydych chi'n sôn amdano y mae teuluoedd yn ei wynebu, ac mae'n ddealladwy bod gwir ddicter ymhlith y teuluoedd hynny ynghylch cynigion pan fo'r gweithlu wedi bod mor hyblyg, maen nhw wedi gwneud camau ar ystod eang o faterion, gan gynnwys newid eu pensiynau yn y gorffennol hefyd, i sicrhau y gall y busnes oroesi a bod â dyfodol.

Ond ar eich pwyntiau ehangach ynghylch gwaith a hyfforddiant, bydd hynny'n dibynnu ar yr angen o ran y cynnig terfynol. Oherwydd mae gennym gynigion nawr a gallant newid o hyd, nid dim ond y canlyniad terfynol yw'r hyn yr hoffem ei weld, bydd angen i ni weld yr amserlen yn ogystal â'r canlyniad terfynol yn arwain at gynigion y bydd wedyn angen hyfforddiant ar eu cyfer. Rwyf eisoes wedi nodi, os nad yw ein cyllidebau presennol yn diwallu'r angen sy'n bodoli, byddwn yn edrych eto yn fy adran ar sut y gallem symud cyllidebau i ddiwallu'r angen. Ond bydd yr Aelod yn gwybod, yn enwedig gan i mi fod o flaen ei bwyllgor yr wythnos diwethaf ar graffu, mae'r adnodd sydd ar gael i ni yn gyfyngedig. Ond mae hwn yn faes lle mae'n bosibl y bydd angen i ni symud materion o gwmpas, yn dibynnu ar faint yr angen. Ac mae hynny i gyd yn dibynnu ar yr ymgynghoriad a'r canlyniadau a ddaw yn ei sgil.

Ar waith y bwrdd trawsnewid, unwaith eto, mae'n dibynnu ar sut y gellid defnyddio arian, gan ddibynnu ar y fargen derfynol neu'r penderfyniad terfynol a wneir mewn gwirionedd. Rwyf eisoes wedi ei gwneud yn glir bod angen ymgysylltu â'r gwasanaeth iechyd—os bydd diswyddiadau ar raddfa fawr, mae angen gofal iechyd ychwanegol bob amser ynghylch hynny hefyd—ac â'r cyngor, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, gan edrych ar rywfaint o waith datblygu lleol, ond hefyd yr her ehangach a'r cyfle o weithio gyda bargen twf bae Abertawe, oherwydd eu bod yn edrych ar wahanol gyfleoedd o amgylch yr economi.

Yn sicr, byddai angen i'r bwrdd trawsnewid gydnabod a pharchu'r ffaith bod nifer o'r meysydd lle bydd angen cymorth ac y bydd yn cael ei ddarparu wedi'u datganoli. A dweud y gwir, yn y gorffennol, pan fu heriau eraill yn ymwneud â chyflogaeth, er enghraifft, boed hynny yn sir Fynwy neu Flaenau Gwent neu Ynys Môn, rydym wedi cael perthynas waith ymarferol rhwng y cyngor, Llywodraeth Cymru ac, yn wir, yr Adran Gwaith a Phensiynau ar lefel leol. Felly, os bydd diswyddiadau, yna byddwn yn disgwyl i ni feithrin dull gweithredu aeddfed i sicrhau ein bod yn helpu pobl cystal ag y gallwn.

Cefais sgwrs gyda grwpiau busnes ddoe am effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol y colledion swyddi posibl, ac mae'r Athro David Worsley o Brifysgol Abertawe wedi cadarnhau bod o leiaf tair swydd ychwanegol yn dibynnu ar bob un swydd uniongyrchol yn y gwaith dur, ac weithiau, o bosibl hyd at bump. Felly, rydyn ni wir yn sôn am nid dim ond 2,800—rydyn ni'n sôn am dros 10,000 o swyddi sy'n ddibynnol ar y penderfyniad hwn o fewn economi Cymru. Rhan o'r her yw y gallai gwaith arall fod ar gael, ond mae gweithwyr dur yn cael eu talu'n dda iawn. Felly, efallai y bydd pobl yn dod o hyd i waith arall ond nid o reidrwydd ar yr un raddfa. Felly, nifer y swyddi a'r ansawdd a'r canlyniadau yn y swyddi hynny sy'n bwysig i ni.

Rydym yn credu y gellid cadw ffwrnais chwyth 4 ar agor gyda chefnogaeth ychwanegol. Rwy'n credu y byddai'n rhoi gwerth ychwanegol hefyd. Mae hynny'n achos yr ydym wedi parhau i'w wneud gyda'r cwmni a byddwn yn parhau i wneud hynny. O ran hydrogen a lleihau haearn yn uniongyrchol a mathau eraill o newidiadau i ddyfodol gwneud dur, mae cyferbyniad rhwng y dull sy'n cael ei ddefnyddio yn y DU a'r dull sy'n cael ei ddefnyddio yn yr Iseldiroedd, lle mae gan Tata hefyd waith dur sylweddol. Yno, mae yna sgwrs wahanol, gyda chymhellion yn cael eu trafod i ddatblygu dyfodol, gan gynnwys gwneud dur gyda hydrogen fel posibilrwydd. Felly, mae'r sgwrs wahanol honno'n golygu bod canlyniadau gwahanol ar gyfer dyfodol cynhyrchu dur yn yr Iseldiroedd.

Nawr, rwy'n credu y gallwn gael yr un uchelgais a gallwn gael gwell canlyniadau yma i weithwyr dur Cymru. Bydd yn golygu gwneud dur arc trydan yn rhan o'r dyfodol, ond nid wyf yn derbyn mai'r cynigion sydd wedi'u cyhoeddi hyd yma yw'r unig ffordd i gyrraedd dyfodol, ar gyfer dyfodol cynhyrchu dur yng Nghymru a'r DU, a'r holl ganlyniadau i economi heddiw ac, yn wir, y dyfodol.

15:15

Wrth gwrs, mae undod Plaid Cymru a minnau â'r gweithwyr, cymuned Port Talbot, cymunedau cyfagos ledled de-orllewin Cymru, o Lanelli ar draws i Ben-y-bont ar Ogwr a thu hwnt, lle mae llawer o aelodau'r gweithlu a'u teuluoedd yn byw, ac wrth gwrs yr undebau llafur sydd wedi gweithio'n eithriadol o galed i osgoi'r cyhoeddiad a wnaed yr wythnos diwethaf.

Daeth y cyhoeddiad pan fo Tata Steel Ltd, rhiant-gwmni Tata Steel UK, yn eithaf proffidiol. Gwnaeth Tata Steel Ltd £3 biliwn mewn enillion cyn llog, trethi a dibrisiant, a £900 miliwn mewn elw net yn 2022-23. Mae gan Tata Steel Ltd gronfeydd wrth gefn o £1.6 biliwn hefyd, a thalwyd difidendau o £1.4 biliwn i gyfranddalwyr rhwng 2019 a 2023. Ar yr un pryd, mae gan Tata safleoedd yn India a'r UE sydd eisoes yn gwneud elw wrth fewnforio dur i'r DU a fydd o bosibl yn cynyddu hyd yn oed yn fwy ar draul diwydiant dur sy'n gwaethygu yn y DU.

Rwy'n credu bod hon yn wybodaeth gefndirol bwysig i ni ei chofio. Er y dywedir wrthym i groesawu'r £500 miliwn gan Lywodraeth y DU, ym mha sefyllfa y mae £500 miliwn ar gyfer colli 2,800 o swyddi, colli capasiti i gynhyrchu dur primaidd, a'r potensial i orlenwi marchnad y DU gyda dur tramor yn fargen dda? Mae yna gwestiwn pwysig sydd angen ei ystyried yma. A ydym yn gyfforddus ynghylch dilyn y llwybr hwn a osodwyd o'n blaenau a fydd o bosibl yn arwain at golli'r gallu i gynhyrchu dur primaidd ac, fel y mae'r Gweinidog eisoes wedi'i ddweud, y DU yw'r unig aelod o'r G20 nad yw'n gallu gwneud hynny? Nid oes sero net, nid oes economi werdd, heb ddur. Mae arallgyfeirio cynhyrchu dur yn allweddol, ac nid rhoi popeth mewn ffwrneisi arc trydan yw'r ffordd gywir ymlaen. Rydyn ni wedi clywed am leihau haearn yn uniongyrchol, rydyn ni wedi clywed am hydrogen yn barod. Felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen gyda Llywodraeth y DU ar hyn?

Roedd yn frawychus ond nid yn syndod dysgu dros y penwythnos bod Llywodraeth y DU, drwy ei Phrif Weinidog, unwaith eto, wedi gwrthod ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth Cymru i ddiogelu swyddi yn Tata. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi fod hyn yn arwydd arall eto na ellir ymddiried mewn unrhyw Lywodraeth y DU yn y pen draw i sefyll dros Gymru, ac a wnaiff amlinellu'r camau y mae'n eu cymryd i sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru ei sedd briodol wrth y bwrdd?

Yn allweddol, a wnaiff y Gweinidog gefnogi ein galwadau am wladoli safle Tata ym Mhort Talbot, yn enwedig os ydynt yn dewis parhau â'u cynnig presennol? Oherwydd, yn syml, ni allwn barhau ar y llwybr o daflu arian at endidau preifat, fel yr ydym wedi bod yn ei wneud, dim ond iddynt wneud penderfyniadau fel hyn beth bynnag, yn enwedig o ran adnoddau strategol. Mae angen gwladoli fel pont i sicrhau hyfywedd ac amrywiaeth hirdymor cynhyrchu dur domestig yng Nghymru. Mae angen buddsoddi biliynau, fel y gwelsom yn yr Almaen, fel y gwelsom yn Ffrainc a Sbaen. Mae pum can miliwn o bunnau yn hollol annigonol. Felly, byddwn yn gobeithio y byddai Gweinidog Llafur Cymru yn sefyll gyda ni ar hyn.

O ran yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud ar unwaith, bydd uwchsgilio gweithwyr ar gyfer y sector dur gwyrdd a'r economi werdd ehangach yn hanfodol. Felly, a fyddai'r Gweinidog yn ystyried cynigion Plaid Cymru ymhellach ar gyfer archwiliad sgiliau cenedlaethol, fel bod gennym y data wedyn i nodi'r bylchau hynny yn y diwydiant dur gwyrdd, yn yr economi werdd, ac yna defnyddio'r data hwnnw i benderfynu sut rydym yn eu llenwi? Rydym yn gwybod y bydd prentisiaethau hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y rhaglen hon o uwchsgilio, felly a fydd y Llywodraeth hefyd yn cytuno â galwadau i edrych eto ar gyllideb prentisiaethau? Nododd y byddai'n fodlon gwneud hyn mewn cyfweliad fore Sul. Nododd eto y byddai o bosib yn fodlon gwneud hyn mewn ymateb i Paul Davies. Ond a fyddai hynny'n berthnasol yn fwy eang i'r gyllideb prentisiaethau?

Y gwir amdani yw, os na chawn hyn yn iawn, ni fydd cenedlaethau'r dyfodol yn diolch i ni am ein diffyg gweithredu i ddiogelu'r diwydiant dur ar eu cyfer.

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Dechreuaf gyda'r ychydig bwyntiau olaf o ran manylion, oherwydd ar brentisiaid, rydym eisoes wedi bod yn glir bod ymyl y clogwyn mawr wedi'i wthio arnom oherwydd y ffordd y mae cronfeydd blaenorol yr UE wedi'u cymryd oddi arnom, a'r ffordd y cawsant eu cynllunio'n fwriadol i sicrhau na ellir eu defnyddio ar raglen strategol i Gymru gyfan. Rwyf wedi bod yn glir iawn fy mod eisiau gweld, pan fydd y cronfeydd yn cael eu hadfer, ail-fuddsoddi mewn rhaglen strategol i Gymru gyfan yn ymwneud â phrentisiaethau.

O ran yr ymgynghoriad cyllideb presennol serch hynny, dyna'n union sydd yma: wrth wneud cynnig i wario mwy mewn un maes mae'n rhaid i ni allu dod o hyd i'r arian hwnnw o rywle arall. Nawr, rydyn ni'n mynd trwy broses graffu. Cawsom rywfaint o'r sgwrs hon yr wythnos diwethaf, cyn cyhoeddiad Tata, pan oeddwn o flaen y pwyllgor dan gadeiryddiaeth Paul Davies. Ac eto, byddwn yn edrych ar unrhyw gynigion sy'n dod gan bwyllgorau, ond mae'n rhaid i ni gydbwyso a deall bod pwyllgorau eraill yn edrych ar feysydd pwnc sydd hefyd yn gofyn am ymrwymiadau gwario ychwanegol.

Pan oeddwn o flaen y pwyllgor dan gadeiryddiaeth Delyth Jewell, gyda Dawn Bowden, aethom drwy rai o'r heriau yn y cyrff hyd braich, ym maes y celfyddydau a diwylliant. Mae dewisiadau cyllidebol anodd iawn yn cael eu gwneud yno ac roedd y pwyllgor yn ein hannog i ddod o hyd i'r arian i wneud rhywbeth gwahanol yno hefyd. Mae hynny'n rhan o'r her onest sydd gennym o fewn rownd y gyllideb bresennol. Byddwn, wrth gwrs—oherwydd ei fod yn ymgynghoriad gwirioneddol—yn edrych ar gyfleoedd a llwybrau i symud arian o gwmpas, ond does gennym ni ddim y gallu i gynhyrchu swm sylweddol o arian ychwanegol nad oes gennym ni eto. Felly, bydd unrhyw ymgysylltiad difrifol ynghylch hynny, sy'n edrych ar yr hyn y mae pob pwyllgor gwahanol yn ei wneud, wrth gwrs, yn cael ei gymryd o ddifrif gan y Llywodraeth.

Ar eich pwynt ynghylch archwiliad sgiliau, rydym eisoes wedi ymrwymo i gynllun sgiliau sero net ac rydym yn mynd trwy ymgynghoriad mewn ystod o feysydd. Felly, bydd gennym yr wybodaeth, rwy'n credu, am anghenion sgiliau mewn gwahanol rannau o'n heconomi a sut i gyd-fynd ag anghenion gweithwyr yn gysylltiedig â hynny, gyda chyrsiau tymor hwy fel prentisiaethau, ond hefyd cyrsiau tymor byrrach lle mae angen i bobl, tra byddant yn y byd gwaith, barhau i wella ac adennill sgiliau, yn ogystal â'r cymorth a ddarparwn i bobl sy'n mynd trwy gyfnod o ddiweithdra. Fel y nododd y Prif Weinidog mewn cysylltiad â'r GIG yn gynharach, mae mwyafrif helaeth gweithlu'r dyfodol gyda ni eisoes. Ymhen 10 mlynedd, bydd y rhan fwyaf o'n gweithlu yn bobl sydd eisoes mewn gwaith heddiw. Felly, oes, mae angen i ni ganolbwyntio ar bobl sy'n dod i mewn i'r farchnad lafur sy'n newydd ac ar adeg gynnar yn eu bywyd, ond mae angen i ni hefyd feddwl am sut rydyn ni'n helpu pobl yn y byd gwaith heddiw.

O ran eich pwyntiau ehangach am wladoli, credaf mai'r gwir onest yw mai codi sgwarnogod yw gwladoli. Nid yw'r dyfodol na'r heriau y mae ein gweithwyr yn eu hwynebu heddiw yn y diwydiant dur yn mynd i gael eu datrys trwy gynnal ymgyrch ar wladoli. Mae angen i ni naill ai berswadio Llywodraeth bresennol y DU i fod â phersbectif buddsoddi gwahanol, neu mae angen i ni allu perswadio Llywodraeth y DU yn y dyfodol i fod â phersbectif buddsoddi gwahanol a all wneud yn siŵr bod y ffwrneisi chwyth hynny yn dal yn fyw ar ddiwedd y flwyddyn galendr hon, a sgwrs wahanol am sut olwg fyddai ar y buddsoddiad hwnnw.

Nawr, rwy'n credu bod honno'n sgwrs onest i'w chael ac, mewn gwirionedd, ar yr achlysuron pryd rwyf wedi cwrdd â stiwardiaid llawr gwaith—cwrddais â thua 40 o stiwardiaid llawr gwaith ar y dydd Gwener pan oeddwn ym Mhort Talbot, ac roedd tua 70 o stiwardiaid llawr gwaith a chynrychiolwyr eraill o dri safle gwahanol ddoe, pan oeddwn i ym Mhort Talbot hefyd—maen nhw'n deall bod yr ymgyrch ar gyfer y dyfodol yn un ymarferol gyda'r cwmni a gyda Llywodraeth y DU, ac maent hefyd yn deall y gallai sgwrs ynghylch gwladoli edrych yn dda ar bamffled, ond ni fydd yn helpu i achub swyddi'r gweithwyr hynny heddiw. Ac rwy'n credu bod angen i ni fod yn hynod ymarferol ynglŷn â'r hyn rydyn ni'n mynd i'w wneud i sicrhau bod y gobaith yn real ac yn seiliedig ar y cyfle i fuddsoddi yn y dyfodol.

Rwy'n gwybod eich bod wedi gwneud y pwynt 'A allwch chi ymddiried mewn unrhyw Lywodraeth y DU?', ac rwy'n gwerthfawrogi eich bod wedi ymrwymo'n ideolegol i'r safbwynt hwnnw ac mae hynny'n iawn, mae gennych hawl i wneud hynny. Rwy'n credu y gellir ymddiried mewn Llywodraeth Lafur y DU yn y dyfodol. Mae'r gronfa trawsnewid i ddur gwyrdd gwerth £3 biliwn yn un o'r prif addewidion gwariant sylweddol sydd wedi'u gwneud ac mae nifer o wahanol gydweithwyr mainc flaen y DU wedi ei gwneud yn glir iawn bod hyn mewn gwirionedd yn ymrwymiad a fyddai ar gael ar gyfer y trawsnewidiad y mae Tata eisiau ei wneud. Ac, mewn gwirionedd, y cynllun sydd yno i gadw ffwrnais chwyth yn fyw ar gyfer trawsnewidiad teg yn gyffredinol, ni fyddai angen y gronfa £3 biliwn gyfan arnoch i wneud hynny. Felly, mewn gwirionedd, credaf ei fod yn gynnig credadwy a dealladwy i'r sector, ac rwy'n credu bod hynny'n agor y ffordd i ddyfodol gwahanol, nid yr un sy'n cael ei drafod heddiw.

Ond ynghylch eich pwyntiau cychwynol am yr unig economi G20 i beidio â gwneud dur crai, mae'n bwynt yr ydym wedi'i wneud yn gyhoeddus ac yn breifat. Roedd yn rhan o sgwrs heddiw gyda'r Gweinidog Ghani a David T.C. Davies. Credwn fod dyfodol gwahanol ac un pryd nad yw diogelwch y DU yn cael ei beryglu. Fel y dywedais i, mae rhywbeth mor syml â chaniau, ceir ac adeiladu i gyd angen dur crai heddiw ar gyfer elfennau ohonynt, heb sôn am y cyfleoedd ar gyfer gwynt arnofiol ar y môr. Yr hyn yr wyf yn dymuno: y dur sy'n mynd i mewn i'r llwyfannau hynny i greu'r gwynt ar y môr hwnnw, rwyf am iddo gael ei wneud yng Nghymru, gyda gweithwyr Cymru yn cynhyrchu hwnnw hefyd. Mae hynny'n gyfle y gallem ei gael os gallwn achub y sector ar gyfer y dyfodol a chael trawsnewidiad gwirioneddol gyfiawn, rhaid i hywnnw fod yn un hirach.

15:20

Gweinidog, rwy'n sefyll yma heddiw yn cynrychioli fy nhref, fy nghymunedau, sydd wedi byw o fewn golwg y gweithfeydd dur ar hyd eu hoes. Yn wir, ar hyd fy oes, rwyf wedi byw o fewn golwg y gwaith dur. Rydym wedi ein llorio gan y newyddion a ddaeth ddydd Gwener diwethaf gan Tata ynghylch cau, cyn diwedd eleni, y ffwrneisi chwyth a'r pen trwm i gyd, gyda miloedd o swyddi'n mynd. Mae hynny'n peri ofn i lawer o bobl ynghylch eu dyfodol—eu teuluoedd, a'r gymuned gyfan, o ran sut mae busnesau—. Tynnodd Paul Davies sylw at y gadwyn gyflenwi a'r contractwyr sy'n debygol o golli gwaith o ganlyniad i hyn hefyd.

Gweinidog, rwy'n cytuno â phopeth a ddywedoch yn eich datganiad, ac rwy'n adleisio'r sylwadau hynny a diolch yn fawr iawn. Hoffwn ddiolch i chi'n bersonol, a'r Prif Weinidog, am eich ymrwymiad parhaus i ddur a'r cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli. Mae'r ymrwymiad hwn yn ddiamheuol. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig nad yw ymrwymiad Llywodraeth y DU yr un fath. Yr hyn yr ydym wedi'i weld yw cytundeb sydd wedi'i frocera nad yw'n ystyried y broses yn y dyfodol o sut rydym yn cyrraedd yno. Cytundeb nad oedd yn rhoi ymrwymiadau ar Tata ynghylch gwneud yn siŵr bod y trawsnewidiad yn deg, ac yn caniatáu i fusnesau symud ymlaen mewn gwirionedd i drawsnewidiad llyfn, sy'n golygu y gallai pobl aros mewn gwaith, cael eu hailhyfforddi tra eu bod mewn gwaith—nid tra eu bod yn ddi-waith, ond tra eu bod mewn gwaith.

A ydych chi'n cytuno â mi, felly, bod Llywodraeth y DU wedi siomi ein cymunedau? Mae wedi siomi'r bobl hynny sydd, mor aml, wedi gweithio'n galed i sicrhau bod eu bywyd yn gallu parhau? A wnewch chi sicrhau bod y neges yn glir? Gall arweinydd yr wrthblaid a Paul Davies gyfleu'r neges hon yn ôl i Lundain. Nid dyma'r llwybr cywir ar gyfer gwneud dur yn y Deyrnas Unedig. Mae'n rhaid iddyn nhw ailedrych ar eu syniadau. Mae angen iddyn nhw roi ymrwymiadau i Tata, i ddweud, 'Mae angen gwneud dur primaidd. Mae angen i ffwrnais chwyth 4 barhau hyd y diwedd.' Rwy'n pwyso ar Tata i feddwl am y peth. Ar ddiwedd y flwyddyn hon, bydd Llywodraeth wahanol yn ei lle, ac rwy'n gobeithio nad ydyn nhw'n gwneud y penderfyniad anghywir rhwng nawr a hynny.

15:25

Diolch yn fawr, David. Rwy'n credu bod David Rees yn iawn, ac nid oes angen i chi gymryd fy ngair i yn unig. Ni allai fod wedi bod yn gliriach. Gweithwyr dur ar y safle hwnnw yw'r stiwardiaid llawr gwaith y gwnes i gwrdd â nhw o'r tri undeb llafur. Cwrddais i â nhw ddydd Llun. Mi wnes i gyfarfod â grŵp mwy o bobl ddoe hefyd. Mae pryder gwirioneddol am ddyfodol eu cymunedau, nid dim ond eu teuluoedd unigol, ac mae gwir ddicter. Mae hynny'n cael ei gyfeirio at y cwmni—a gallwch ddeall, a chredaf fod y cwmni'n deall, y bydd pobl yn ddig gyda chynigion ar y raddfa honno—ond hefyd at Lywodraeth y DU.

Roedd llawer o gwestiynau yn cael eu gofyn ynghylch pam nad oedd ymrwymiadau ar drawsnewidiad, ynghylch faint o amser y byddai'n ei gymryd. Ar hyn o bryd, y cynnig yw y bydd yr holl swyddi hynny'n cael eu colli o fewn 18 mis, ond ni fydd y ffwrnais arc trydan yn barod i gael ei thanio yn ystod y cyfnod hwnnw. Felly, mewn gwirionedd, fe welwch gyfnod sylweddol o amser, o dan y cynigion hyn, fel yr ydym yn eu deall, pan na fyddai cynhyrchu dur yn bodoli ac y byddai'n cael ei ail-greu yn y dyfodol. Byddai cyfle wedi bod i rolio dur sy'n cael ei wneud mewn rhannau eraill o'r byd.

Nawr, nid yw'n anodd deall pam nad yw unrhyw weithiwr dur sydd ar hyn o bryd yn gweithio ym Mhort Talbot, Llanwern neu Drostre yn credu bod hynny'n ddyfodol gwych iddyn nhw. Ond dyna'r strategaeth sydd wedi'i hamlinellu hyd yn hyn. Ac rwyf wir yn croesawu'r ffaith bod Paul Davies ac Andrew R.T. Davies wedi bod yn barod i sefyll i fyny, nid yn unig heddiw ond ddoe hefyd, ac i egluro eu bod eisiau gweld cefnogaeth ar gyfer dyfodol amgen. Yr her yw a fydd Llywodraeth y DU yn gwneud hynny. Oherwydd ni fydd pobl yn anghofio pe bai'r dewis hwn yn mynd yn ei flaen, a bwrir ymlaen â'r cynigion sydd wedi'u gwneud cyn etholiad cyffredinol.

Rwyf wedi bod yn glir mewn sgyrsiau uniongyrchol gyda'r cwmni, yn ogystal â datganiadau cyhoeddus—a felly hefyd Keir Starmer—i beidio â gwneud dewis di-droi'n-ôl cyn yr etholiad cyffredinol. Byddai sgwrs wahanol i'w chael, a lefel wahanol o gyd-fuddsoddi a allai fod yn bosibl. A'r pwynt yw bod hyn yn rhan o asedau sofran y DU. Mae'n rhan o ddiogelwch y DU i beidio â dibynnu ar economïau cystadleuwyr am fewnforion metel nad oes gennym ddewis arall ar ei gyfer wrth i ni siarad nawr. Efallai y bydd hyn yn bosibl yn y dyfodol, ond mae'n rhaid i ni gyrraedd yno.

Ac nid dim ond hynny, ond bydd pob un ohonom yn gwybod: os oes gennych gadwyni cyflenwi sy'n digwydd am bedair i bum mlynedd ar fewnforion, bydd yn anodd iawn disodli'r rheini eto yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn talu sylw i'r hyn a ddywedwyd yn y Siambr hon ar draws mwy nag un blaid, a hefyd, yn bwysig, yn gwrando ar arbenigwyr go iawn am fusnes cynhyrchu dur. Oherwydd mae'r gweithlu ym Mhort Talbot wedi bod yn hyblyg, yn barod i addasu ac yn ymroddedig iawn, a chredaf fod y teyrngarwch a'r gallu hwnnw yn haeddu gwell gwrandawiad nag y mae wedi'i gael hyd yn hyn.

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Er nad oedd y cyhoeddiad ddydd Gwener yn sioc, roedd yn dal yn ergyd drom i fy etholwyr. Gweinidog, beth yw eich cynllun ar gyfer Port Talbot? Mae eich datganiad yn feirniadol iawn o'r fargen a gafodd ei tharo gan Lywodraeth y DU, ond nid yw'n cynnwys unrhyw ddewisiadau eraill. A ydych yn derbyn bod Tata wedi gwrthod yn llwyr y cynllun a gyflwynwyd gan yr undebau, cynllun, fe ddwedaf hefyd, na allai'r undebau hyd yn oed gytuno arno? Felly, os ydym am leihau'r colledion swyddi, mae angen dewis arall credadwy arnom. Gweinidog, mae eich cydweithwyr yn San Steffan, a llawer o gyd-Aelodau yma, yn sôn am gynllun Llafur gwerth £3 biliwn ar gyfer dur gwyrdd, ond nid ydych wedi darparu manylion eto. Allwch chi ymhelaethu, neu a yw hyn yn fwy o rethreg yn hytrach na dewis arall credadwy yn lle ailgylchu dur?

15:30

Rwy'n credu bod mwy i'w edmygu mewn teyrngarwch plaid nag mewn deall y materion yn y cyfraniad yna. Rwyf wedi bod yn glir iawn bod dewis arall. Mae'r cwmni ei hun wedi bod yn glir ei fod yn gynllun credadwy, ond nid yw'n fforddiadwy. Gyda Llywodraeth wahanol yn y DU gyda meddylfryd gwahanol ac ymrwymiad gwahanol i gyd-fuddsoddi yn y dyfodol, mae sgwrs wahanol iawn i'w chael a fyddai o fudd i weithwyr yn y sector hwn o'r economi, neu'r miloedd o swyddi ychwanegol sy'n dibynnu arnynt hefyd, ac, yn wir, yr ased sofran y mae'r dur hwn yn ei gynrychioli. 

Diolch am y datganiad, Weinidog. Rwyf am ategu'r farn bod y diswyddiadau sylweddol a llawer rhy gyflym yma yn gwbl annerbyniol pan fod yna opsiynau hyfyw eraill ar gael inni. Dwi eisiau pwysleisio unwaith eto yr effaith gwbl drychinebus mae hyn yn ei gael ar y cymunedau ac ar y bobl dwi'n eu cynrychioli ym Mhort Talbot, ac ar draws y tair sir dwi'n eu cynrychioli yn y Senedd—Castell-nedd Port Talbot, Abertawe a Phen-y-bont.

Achos hefyd, fel dŷn ni wedi clywed, yn ychwanegol i'r miloedd sy'n mynd i golli eu swyddi ar y safle ei hun, mae miloedd ar filoedd yn fwy yn gweithio i gwmnïau sy'n dibynnu'n drwm ar waith dur Tata. Felly, pa gefnogaeth ymarferol fydd ar gael ar eu cyfer nhw? Ydy'r Llywodraeth yn cytuno bod angen cefnogi cwmnïau Cymreig lleol i helpu datblygu a chynnal rhaglenni hyfforddi ac ailsgilio mewn gwaith a fyddai'n cynnig bywoliaeth a dyfodol i weithwyr os fyddan nhw'n colli'u gwaith, a hefyd helpu'r cwmnïau bach hynny i ddatblygu fel y gallant elwa o gyfleon a ddaw gan y diwydiant ynni adnewyddol?

Ac yn olaf, pa mor hir ydyn ni'n mynd i ddioddef hyn, codi ein hysgwyddau a derbyn y sefyllfa ble rydym yn ddiymadferth i warchod ein gweithwyr, ein diwydiannau, ein heconomi, ein cymunedau rhag cwmnïau rhyngwladol sy'n methu â gweld nac yn hidio dim am les a llewyrch ein gweithwyr na'n cenedl, rhag Llywodraeth yn San Steffan sy'n fodlon gweld Cymru yn tyfu'n dlotach, yn colli ei phobl a'i doniau, yn gweld ein cymunedau yn dioddef ac yn dirywio?

Yn sicr, does dim codi ysgwyddau yn y Llywodraeth hon ynglŷn â'r dyfodol i gymunedau gwaith dur yma yng Nghymru, neu, yn wir, dyfodol y wlad gyfan. Mae hyn yn cael ei gydnabod gan weithwyr yn y sector hwn. Maen nhw'n deall bod ganddyn nhw, fan hyn, Lywodraeth ar eu hochr nhw. Rydym yn edrych ymlaen at allu gweithio gyda Llywodraeth ar eu hochr nhw ledled y DU, gyda'r gallu ariannol i edrych ar gyd-fuddsoddiad sylweddol i sicrhau y gallwn ni wir arfogi pobl ar gyfer dyfodol o drawsnewid i gynhyrchu dur carbon is sy'n hanfodol ar gyfer yr economi wyrddach yr ydym yn ei dymuno.

Ar eich pwynt cyntaf o ran sgiliau, mae'n dibynnu mewn gwirionedd ar beth fydd ein sefyllfa ar ddiwedd yr ymgynghoriad, pryd y gwneir penderfyniadau, sut y cânt eu gwneud, a pha mor gyflym y gwneir penderfyniadau hefyd. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau, os oes diswyddiadau, ein bod yn cefnogi pobl i ddod o hyd i yrfaoedd amgen. Mae gennyf ddiddordeb hefyd yn ein gallu i fanteisio ar gyfleoedd ar gyfer twf yn y dyfodol, oherwydd rwyf eisiau gweld mwy o bobl ym Mhort Talbot, ac ar draws y de a'r gogledd, yn cael cyfleoedd i weithio mewn Cymru lle mae ein heconomi yn tyfu. A bydd y twf hwnnw'n rhannol ddibynnol ar ddur. Bydd hefyd yn dibynnu'n rhannol ar asedau eraill sydd gennym.

Yn gynharach heddiw, ymwelais â safle ehangu KLA yng Nghasnewydd. Unwaith eto, bydd llawer o economi'r dyfodol yn dibynnu ar y cynhyrchion lled-ddargludyddion y byddant yn eu cynhyrchu. Mae cyfleoedd ar gael i ni. Bydd erydu ein sector dur ein hunain—os yw hynny'n ddewis sy'n cael ei wneud gan y cwmni a Llywodraeth y DU, yn y modd y maen nhw yn nodi—yn golygu ei bod hi'n anoddach gwireddu'r cyfleoedd hynny, a bydd rhannau eraill o'r byd yn manteisio ar y gwerth economaidd y gellid fel arall ei greu yma er budd pobl yng Nghymru ac ar draws Prydain.

Rwy'n glir iawn ynglŷn â safbwynt y Llywodraeth hon yng Nghymru, ac yn sicr nid wyf am roi'r ffidil yn y to, hyd yn oed os yw eraill yn dewis gwneud hynny. 

15:35

Gweinidog, yn fy mhrofiad i, mae pobl yn ddeall yn iawn bwysigrwydd strategol y diwydiant dur—ar gyfer amddiffyn, ar gyfer gweithgynhyrchu, ar gyfer adeiladu a llawer mwy. Maen nhw'n gwybod ei fod yn fyd ansicr, ac mae'n ymddangos bod y gwledydd sy'n cystadlu yn ein herbyn yn deall hynny hefyd. Fel y dywedwch, mae angen i ni ddod o hyd i bont drosodd rywsut i'r amser pan fydd gennym Lywodraeth Lafur y DU a fydd hefyd yn deall hynny ac yn rhoi'r buddsoddiad angenrheidiol yn y diwydiant dur hwnnw. Cyn belled ag yr wyf yn y cwestiwn, Gweinidog, gwyddoch fod Llanwern yn dal i fod yn rhan bwysig iawn o'r economi leol yng Nghasnewydd. Mae rhai pobl o Gasnewydd yn teithio i Bort Talbot i weithio ar hyn o bryd, ond mae gennym gannoedd o swyddi o hyd ar safle Llanwern. Yn amlwg, mae'r cynigion i adleoli'r felin oer, hyd yn oed os yw ymhen tair blynedd, yn peri pryder mawr i bobl leol. Ac mae hefyd yn ymwneud â'r cyflenwyr a'r gwariant yn yr economi leol. Felly, fel bob amser, mewn gwirionedd, gennyf i, Gweinidog, dim ond ple ydyw, wrth ystyried dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru a'r DU, fod Llanwern yn cael ystyriaeth deg yn y broses o ystyried a gwneud penderfyniadau. Mae'n rhan o'r dull strategol hwnnw y mae angen i ni ei weld, a'r bont honno, y trawsnewidiad teg y mae angen i ni ei weld drwodd i Lywodraeth Lafur yn y DU a fydd yn gwneud y buddsoddiad angenrheidiol hwnnw yn ein swyddi a'n cymunedau.

Mae'r pwynt wedi'i wneud yn dda ac wedi 'i ddeall, yn sicr yma. Roeddwn i'n poeni nid yn unig am y swyddi a gollir ym Mhort Talbot; rwyf wastad wedi bod yn poeni am yr effaith ar fusnesau ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi, yn enwedig Trostre a Llanwern. Rwy'n gwybod y bydd o'n poeni am Shotton hefyd. Er hynny, mae'r prif gynigion a wnaed wedi effeithio'n uniongyrchol ar Lanwern, y 300 o swyddi—eto, byddent yn swyddi â chyflog da—wedi eu colli ar safle sydd eisoes wedi gweld nifer sylweddol o swyddi yn cael eu colli o'r safle hwnnw dros y genhedlaeth ddiwethaf. Ac mae'n bwynt sy'n werth ei wneud. Gwelaf eich bod yn eistedd wrth ymyl eich cyd-Aelod o Gasnewydd, Jayne Bryant; bydd llawer o weithwyr dur yn y ddinas. Ond yn yr un modd, rwyf mewn trafodaethau gyda fy nirprwy gyd-Weinidog, Lynne Neagle, ac, yn wir, gyda Hefin David, yn cydnabod bod mwy na 100 o weithwyr dur o Dorfaen a mwy na 150 o weithwyr dur o Gaerffili ar y safle hwnnw. Mae hwn yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth o amgylch Llanwern, nid yn ninas a sir Casnewydd yn unig. Felly, rwyf wedi ymrwymo i gydnabod yr effaith honno, ac mae'n atgyfnerthu eto pam mae angen i ni egluro nad ydym yn rhoi'r ffidil yn y to. Nid ydym yn cytuno, fel y mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru eisiau i ni wneud, nad oes dewis arall. Mae dewis arall credadwy, a gallai fod yn fforddiadwy gyda mwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU sy'n gweld gwerth dur mewn gwirionedd. Unwaith eto, mae'n dod yn ôl i ddeall pris popeth a gwerth dim, ac rwy'n ofni mai dyna sydd gennym yn Llywodraeth bresennol y DU.

Gweinidog, roeddwn i eisiau cydnabod yn gyntaf, yn amlwg, beth mae tref Port Talbot yn mynd drwyddo ar hyn o bryd. Bydd llawer o weithwyr yno'n lleol yn wynebu rhywfaint o ansicrwydd. Fel cynrychiolydd rhanbarthol ar gyfer yr ardal, rwy'n adnabod llawer o bobl leol sy'n cael eu cyflogi yn Tata Steel, a'u teuluoedd, a'r gymuned ehangach sy'n elwa arno hefyd, ond hefyd yr ymdeimlad o falchder, rwy'n credu, yn y dref sef ei bod yn dref sy'n gwneud dur. Rwy'n credu bod tref Port Talbot yn dangos llawer o falchder a llawer o angerdd am y diwydiant.

Rydym wedi siarad llawer am y pecyn cymorth o £500 miliwn gan Lywodraeth y DU, ond yr hyn nad ydym wedi siarad amdano ddigon, yn y sesiwn hon o leiaf, yw'r gronfa £100 miliwn y mae Llywodraeth y DU wedi'i rhoi ar waith ar gyfer y bwrdd trawsnewid, ac rwy'n gwybod eich bod yn aelod ohono. Fe wnaeth arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies, yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog bwyso deirgwaith ar y Prif Weinidog i geisio cael dealltwriaeth o'r union gyfraniad yr oedd Llywodraeth Cymru yn barod i'w wneud tuag at y gronfa drawsnewid honno. Rydyn ni wedi clywed, mewn gwledydd Ewropeaidd eraill fel yr Almaen, fod eu Llywodraethau rhanbarthol wedi cefnogi eu diwydiant dur yn uniongyrchol, ond nid yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi un geiniog tuag at y gronfa drawsnewid honno—nid un geiniog. A all y Gweinidog egluro pam ei fod yn ystod yr wythnosau diwethaf yn barod i redeg yn gyflym tuag at gamera teledu i roi ei farn, ond yn methu dod o hyd i un geiniog i gefnogi gweithwyr ym Mhort Talbot?

Rwy'n credu y byddai'r cyfraniad yna'n cael derbyniad gwael iawn gan weithwyr yr effeithir arnynt yn uniongyrchol. Nid wyf yn aml yn dweud hyn, ond roedd Andrew R.T. Davies yn deall yn llawer cliriach hwyliau gweithwyr pan wnaeth gydnabod ei fod eisiau gweld dyfodol lle mae'r ffwrnais chwyth yn aros yn agored. Os edrychwch ar yr hyn rydym wedi'i wneud, rydym wedi cefnogi'r cwmni dros nifer o flynyddoedd wrth iddo drawsnewid i ailsgilio ei weithlu: y rhaglenni prentisiaeth sydd wedi'u cynnal, gwerth y trawsnewid sgiliau ehangach sydd wedi digwydd. Mae'r cwmni'n deall y cyfraniad yr ydym wedi'i wneud ochr yn ochr â nhw ar gyfer eu dyfodol. Mae'r Bwrdd Trawsnewid yn gwybod ac yn deall. Yn wir, roedd Michael Gove, sydd yn—. Fyddwn i ddim yn ein disgrifio ni fel ffrindiau neu gydweithwyr, ond roedd Michael Gove yn deall bod gan Lywodraeth Cymru raglenni i gefnogi gweithwyr, boed yn ReAct+ neu'n Cymunedau am Waith a Mwy. Yr hyn yr ydym eisiau ei ddeall yw sut y gall y bwrdd trawsnewid weithio ochr yn ochr ag ymyrraeth ddatganoledig y llywodraeth i gefnogi'r gweithlu os bydd diswyddiadau o'r raddfa sydd bellach yn cael eu cynnig.

Rwy'n credu, mewn gwirionedd, os yw'r Aelod eisiau gwneud cyfraniad adeiladol at y dyfodol hwnnw, mae digon o gyfleoedd i wneud hynny, oherwydd bydd craffu arnom, wrth i hyn fynd drwodd, wrth i ni eistedd o flaen pwyllgorau. Yn wir, rwy'n disgwyl y bydd y pwyllgor dan gadeiryddiaeth Paul Davies eisiau siarad eto â Gweinidogion wrth i gynigion grisialu, wrth i newid ddechrau digwydd ar unrhyw daith i'r dyfodol, ynghylch a ydym yn arfogi ac yn cefnogi pobl i geisio gwaith amgen os oes angen iddynt adael y diwydiant. Dydyn ni ddim yn rhoi'r ffidil yn y to a dydyn ni ddim yn mynd i gymryd rhan mewn stori dyddiau'r cŵn sy'n awgrymu nad oes gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb yn y dyfodol, pan ydym, mewn gwirionedd, wedi rhoi digon o fuddsoddiad er mwyn cyrraedd ein nod ar gyfer dyfodol y sector dur ac mae digon o adnoddau yr ydym wedi'u rhoi yn y sector dur yn y gorffennol. Byddwn yn parhau i wneud hynny i helpu i ddiwallu anghenion sgiliau'r sector hanfodol hwn yn nyfodol economi'r DU. 

15:40

Hoffwn rannu'r teimladau a fynegwyd gan gyd-Aelodau ar draws y Siambr am y newyddion trychinebus am Bort Talbot a mynegi fy undod â'r gweithwyr a'r teuluoedd hynny y mae'r newyddion hyn yn effeithio arnynt, yn y gwaith dur a hefyd, fel y dywedwyd gan lawer o bobl, ymhellach i fyny ac ymhellach i lawr y cadwyni cyflenwi, gan gynnwys siopau a thafarndai lleol hyd yn oed yn yr ardal honno yr effeithir arni. Mae'n wirioneddol ddinistriol, a gwn y bydd llawer o weithwyr sy'n byw yn fy rhanbarth i yn poeni am eu dyfodol ar ôl y newyddion yr wythnos diwethaf.

Ond yn yr un modd ag y mynegodd John bryder am y ffordd y mae Llanwern yn ffactor yn y darlun ehangach, byddwch, wrth gwrs, Gweinidog, yn ymwybodol o waith tunplat Tata yn Llanelli, fel rydych eisoes wedi cyfeirio ato, sy'n defnyddio dur o Bort Talbot i wneud tunplat ar gyfer pecynnau nwyddau. Mae wedi bod yn gyflogwr lleol hynod bwysig ers dros 70 mlynedd, ac ar hyn o bryd mae'n cyflogi tua 700 o bobl, yn ogystal â channoedd o staff contractwyr. Mae hwn mewn ardal lle mae cyfleoedd am waith a hyfforddiant wedi gostwng yn raddol dros nifer o flynyddoedd, ac mae cysgod colli swyddi blaenorol o fewn diwydiant trwm yn pwyso'n drwm ar yr ardal hon.

Rwy'n deall bod sicrwydd wedi'i roi ynglŷn â dyfodol tymor byr y gwaith yn Nhrostre, sy'n amlwg yn newyddion da i ardal Llanelli, ond mae ansicrwydd o hyd yn lleol am ddiogelwch swyddi yn y tymor canolig a'r tymor hir. O'r herwydd, byddwn yn ddiolchgar am unrhyw eglurder neu fewnwelediad y gallwch ei roi i ni am unrhyw drafodaethau rydych chi wedi'u cael gyda Tata a rhanddeiliaid eraill ynghylch y sefyllfa yn Llanelli a'r effaith bosibl ar y gwaith. 

Rwyf wedi ymweld â Throstre ar fwy nag un achlysur yn y gorffennol. Mewn gwirionedd, o ran y cyfansoddiad presennol, bu Jason Bartlett, swyddog llawn amser Unite ar gyfer dur yng Nghymru, yn gweithio yn Nhrostre, ac, yn wir, pryd bynnag y byddaf yn mynd yno, mae gan gynrychiolydd y Gymuned, sydd hefyd yn gynghorydd tref, Andrew Bragoli, farn bob amser, ac mae'n lle croesawgar iawn i fynd iddo. Maen nhw'n falch iawn o'r hyn maen nhw'n ei wneud; maen nhw'n cydnabod yr ansawdd yn yr hyn maen nhw'n ei wneud. Pe na baent yn gwneud hynny, yna ni fyddent yn unig gyflenwr Heinz ac eraill ar gyfer y cynhyrchion sydd ganddynt fel nodwr ansawdd. Mae yna hefyd waith tunio yn yr Iseldiroedd. Os nad ydym yn gwneud dur crai, os oes angen i ni fewnforio rhan o'r dur i ddiogelu llyfr archebion Trostre, mae'n ddigon posibl y bydd hwnnw'n dod o'r Iseldiroedd, ac mae risg ddealladwy ynghylch pa mor bell i'r dyfodol y bydd dur sy'n cael ei wneud yn yr Iseldiroedd yn dal i ddod i Drostre, yn hytrach na mynd i'r gwaith tunplat yn yr Iseldiroedd. Felly, nid yw'n rhan o gyhoeddiad heddiw, ond ni ddylai unrhyw un gymryd arno nad yw'r gymuned gwaith dur yn Nhrostre yn poeni am ei dyfodol ac maen nhw'n deall y risg tymor canolig i dymor hwy yn iawn ei hunain. Y newyddion da, fel y dywedais, yw ei fod yn weithlu medrus iawn gyda chynnyrch o ansawdd uchel iawn. O fewn y grŵp, mae hynny'n cael ei gydnabod hefyd. Ond mae hyn yn ymwneud â'r dyfodol ac nid dim ond heddiw, a dyna pam rwyf wedi codi'r mater yn rhagweithiol mewn cyfarfodydd gyda'r cwmni, a gwnes hynny eto ddydd Gwener. Unwaith eto, mae'n atgyfnerthu pam mae arnom angen gorymdaith hirach a thecach i'r dyfodol mewn trawsnewidiad gwirioneddol gyfiawn, nad yw'r cynigion hyn, yn ein barn ni, yn gyfystyr â hynny.

15:45

Er fy mod yn credu y gall y mwyafrif ohonom yn y Siambr hon weld na fu gan Lywodraeth San Steffan gynllun clir ar gyfer ein busnes gweithgynhyrchu ers degawdau, rwy'n gobeithio'n fawr bod yna ymdeimlad o gydweithio ar draws y Siambr er mwyn edrych ar ddyfodol cadarnhaol a bod cyfle i ni achub y swyddi ym Mhort Talbot. Ni allaf ddychmygu sut deimlad yw byw a bod yn rhan o'r gymuned honno ym Mhort Talbot ar hyn o bryd. Mae'n rhaid ei bod yn ergyd ddinistriol. Mae hwn yn drawsnewidiad annheg i'r gweithwyr hynny. Rwy'n cael fy nghalonogi'n fawr gan rai o'r datganiadau gan y Ceidwadwyr Cymreig, gan Paul Davies a chan Andrew R.T. Davies, ac rwy'n mawr obeithio y gallwn ni i gyd fod yn aeddfed yn hyn a chydweithio ac edrych i'r dyfodol, oherwydd mae hyn yn effeithio ar filoedd nid yn unig bobl ond teuluoedd, ac mae tu hwnt i ddychymyg beth sy'n mynd ymlaen yn eu meddyliau. Ond mae'n debyg bod fy nghais i chi am y gweithwyr hynny. A allwch chi ddweud ychydig wrthym am yr hyn sydd ar waith i'w cefnogi ar hyn o bryd, yn enwedig o ran materion iechyd meddwl, ynghylch y straen y mae'n rhaid eu bod yn ei ddioddef ac am y cwestiynau sydd ganddyn nhw? Diolch yn fawr iawn.

Felly, mae hyn wedi bod yn rhan o'r drafodaeth a gawsom yn y bwrdd trawsnewid, lle rwyf wedi codi'r mater, os ydych chi'n mynd i gael diswyddiadau ar raddfa fawr, mae yna effaith iechyd meddwl bob amser. Yn aml, gellir ymdrin ag ef ar lefel is. Felly, mae'r bwrdd iechyd wedi bod i mewn i gyflwyno yr hyn y byddent yn bwriadu ei wneud. Nid oes gen i reswm i feddwl na fyddan nhw'n ceisio atgoffa pobl bod yna ddull a modd i bobl siarad. O fewn gweithle fel hwn, gyda lefel uchel o ddwysedd undebau llafur, o fewn cymuned sy'n deall pa mor gyffredin yw gwneud dur a beth mae'n ei olygu i'r economi, yn aml mae yna bobl y gellir siarad â nhw'n lleol. Yr her yw nad yw pawb yn teimlo eu bod yn gallu gwneud hynny. Nid ydym wedi cyrraedd lle mae angen i ni fod o fewn y wlad yn gyffredinol o ran cael sgwrs gyda phobl pan nad ydym yn teimlo'n iawn o safbwynt iechyd meddwl.

Ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y neges yn cyrraedd pawb ynghylch y gefnogaeth sydd ar gael yn y gymuned, oherwydd nid dyma sut mae trawsnewidiad teg i fod i edrych. Mae ofn a phryder ychwanegol ar gyfer y dyfodol. Rwy'n credu bod hynny'n rhan o'r hyn y dylai Llywodraeth y DU ei ystyried o ran a yw am fuddsoddi mwy. Ac nid oes angen iddyn nhw gymryd fy ngair i ynghylch a yw hwn yn drawsnewidiad teg, mae Greenpeace wedi dweud nad dyma sut mae trawsnewidiad teg i fod i edrych. Felly, mae cyfle i Lywodraeth y DU gymryd cam yn ôl ac edrych eto ar yr hyn y gellid ei gyflawni, gwerth y gwaith hwnnw am gyfnod o amser i'r dyfodol, ac nid yw'r trawsnewidiad i ddull carbon is, wirioneddol gynaliadwy o wneud dur yn golygu ein bod yn dibynnu ar fewnforion o economïau ein cystadleuwyr i'r dyfodol. 

Gweinidog, fel y mae eraill wedi dweud eisoes y prynhawn yma, roedd newyddion yr wythnos diwethaf yn ergyd i ni i gyd. Mae fy nghymuned yn gwybod o lygad y ffynnon sut beth yw colli swyddi medrus yn y sector dur. Yn fy etholaeth i, yng ngwaith dur Shotton, mae gweithwyr hefyd yn poeni am sut olwg sydd ar eu dyfodol. Dyma'r bartneriaeth rhwng Port Talbot a Shotton—y ddau leoliad hynny; mae'r bartneriaeth hon yn allweddol. A gaf i ofyn i chi, Gweinidog, felly, pa sgyrsiau rydych chi wedi'u cael am gyflenwi dur gwyrdd ar gyfer safle Shotton, a hefyd am sicrhau dyfodol y gweithlu medrus iawn ar safle Shotton? Rydym yn gwybod bod angen diwydiant dur bywiog ar Gymru ym Mhort Talbot a Shotton, ac mewn mannau eraill, fel y dywedodd cyd-Aelodau y prynhawn yma, ac mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu yn y Senedd hon, a Llywodraeth Cymru, i ddiogelu'r diwydiant ar gyfer y dyfodol. Diolch.

Diolch. Wrth gwrs, rwyf wedi ymweld â gwaith dur Shotton gyda'r Aelod. Mae'n werth nodi bu ysgrifennydd rhanbarthol presennol Unite yn gweithio yn Shotton pan oedd yn ymdrin â'r offer ei hun. Felly, edrychwch, mae'n ardal sydd â hanes hir ac, unwaith eto, rydych chi'n iawn, mae wedi gweld colli swyddi sylweddol yn y gorffennol, ac mae hynny'n dal i'w deimlo heddiw.

Pan gawsom sgyrsiau gyda'r cwmni, roedden nhw'n awyddus i bwysleisio nad ydynt yn credu bod unrhyw effaith ar Shotton, ond ein her ni yw, wrth i chi fynd i'r tymor canolig a'r tymor hwy, a fydd y dur sy'n cael ei gyflenwi ar hyn o bryd o Bort Talbot ar gael ar sail gynaliadwy hirdymor. Ac mae rhywfaint o hyn hefyd yn dibynnu ar y newid yr ydym yn gwybod sy'n dod hefyd o fewn cwpl o flynyddoedd, oherwydd pe bai dur yn cael ei gyflenwi o'r Iseldiroedd, ar hyn o bryd nid oes mecanwaith carbon. Yn y dyfodol, bydd costau ychwanegol i symud dur o gwmpas, i mewn ac allan o Ewrop. Nawr, os ydym ar yr ochr anghywir i hynny, mae hynny'n cael effaith wirioneddol ar gost cynhyrchion a dewisiadau buddsoddi yn y dyfodol. Felly, unwaith eto, nid yw'r risg gymaint yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf, ond yn ystod y pump i 10 mlynedd nesaf, a dewisiadau a wneir ynghylch ailfuddsoddi mewn gweithfeydd, y cyfalaf sydd ei angen, yn ogystal ag ailfuddsoddi sgiliau gweithlu. Rwy'n credu mai dyna pam mae angen i ni edrych ar y penderfyniad hwn nid yn unig drwy lens yr hyn sy'n digwydd ym Mhort Talbot—er mor hynod yw'r cyd-destun hwnnw, mae yna lens llawer mwy i edrych drwyddo ynghylch dyfodol economaidd pob cymuned sy'n gwneud dur a'r hyn y bydd economi'r DU yn sicr o fod ei angen yn y dyfodol yr ydym wedi'i gynllunio ar ein cyfer.

15:50

Mae'r cyhoeddiad hwn wedi bod yn gwbl dorcalonnus i'r gweithwyr a'u teuluoedd a'r cymunedau ehangach ym Mhort Talbot. Gweinidog, mae effaith y cyhoeddiad dinistriol yn mynd i gael ei deimlo ymhell y tu hwnt i Bort Talbot hefyd, oherwydd mae hwn yn gyfnod pryderus iawn i ddyfodol y diwydiant dur yng Nghymru, gan gynnwys gwaith dur Llanwern yng Nghasnewydd. Mae dur wedi bod mor bwysig i economi Casnewydd ac mae gennym hanes hir, balch o'r diwydiant dur yng Nghasnewydd. Amlygwyd eisoes heddiw efallai y bydd effaith ar 300 o swyddi ychwanegol yno yn ystod y ddwy i dair blynedd nesaf. Er bod Llanwern yn etholaeth fy nghyd-Aelod John Griffiths, mae gweithwyr, teuluoedd a busnesau ledled Casnewydd a'r gymuned ehangach yn poeni am yr effaith y byddai colli swyddi yn y dyfodol yn ei chael ar ein cymuned leol.

Hoffwn gofnodi fy niolch i chi a'r Prif Weinidog am y gwaith rydych chi wedi bod yn ei wneud ar hyn yn gyson. O dan gynlluniau Tata a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, ni fyddai Llanwern bellach yn cael ei ddur o Bort Talbot, yn lle hynny byddai dur yn cael ei gynhyrchu mewn ffwrneisi chwyth dramor a'i fewnforio ar longau diesel, gan wneud y ddadl bod y penderfyniad hwn yn cael ei ysgogi gan yr ymdrech tuag at sero net yn gyff gwawd go iawn. A gaf i ofyn i'r Gweinidog dawelu meddyliau pobl yng Nghasnewydd drwy sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda gweithwyr ac undebau llafur yn Llanwern yn ystod y misoedd nesaf, ac unwaith eto, drwy bwysleisio ymrwymiad cryf Llywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn eich gallu i ddod o hyd i ffordd gredadwy ymlaen?

Diolch. Rwy'n falch iawn eich bod wedi gwneud y pwynt ynghylch sero net. Mae colli 300 o swyddi sy'n cael ei drafod a'i ddisgrifio ar gyfer Llanwern ymhen dwy i dair blynedd yn fater go iawn i ni nawr. Fel y dywedais i yn gynharach, gwn fod nifer sylweddol o weithwyr dur Llanwern yng Nghaerffili ac yn Nhorfaen, yn ogystal ag yng Nghasnewydd.

Bydd y daith i sero net yn gofyn i ni ddefnyddio dur. Bydd yn rhaid i ni wneud y dur hwnnw, creu'r dur hwnnw a'i ddefnyddio i gynhyrchu pŵer glanach a gwyrddach, sydd hefyd yn gyfle economaidd mawr i ni. Y risg, wrth gwrs, yw y gallech chi gael llwyfannau arnofiol ar y môr wedi'u gwneud yn yr Iseldiroedd a'u harnofio i gael eu defnyddio oddi ar ein harfordir—newyddion gwych i weithwyr yn yr Iseldiroedd, newyddion ofnadwy i weithwyr yma, lle nad oes angen cynhyrchu'r dur yng Nghymru, lle nad oes angen gweithgynhyrchu yng Nghymru. Mae gwerth, wrth gwrs, yn y gwaith cynnal a chadw a'r cymorth gweithredol y gellir dim ond eu cyflawni'n agos atyn nhw mewn gwirionedd, ond mae'r gwerth mwy o lawer yn bellach i fyny yn y gadwyn, a dyna beth rydym yn chwilio amdano. Mae'n sail i'r cais porthladd rhydd sy'n cael ei gyflawni. Felly, mewn gwirionedd, i gyrraedd y dyfodol hwnnw, mae angen dur arnom. Yr her yw: a fydd yn ddur sy'n cael ei wneud yma, neu a fydd yn ddur sy'n cael ei wneud a'i gynhyrchu mewn rhan arall o'r byd, gyda'r holl werth economaidd sy'n mynd i mewn i hynny? Dyna pam rwy'n dweud nad yw'r dewis arall yn un credadwy yn unig, mae'n un y dylid ei fabwysiadu mewn gwirionedd oherwydd y gwerth llawer ehangach y bydd yn ei roi nid yn unig i gymunedau gwneud dur ond i bob un ohonom yn y dyfodol sy'n hollol bosibl i ni.

Gweinidog, rwy'n ddiolchgar iawn am eich datganiad heddiw ac am y sylw llwyr rydych chi'n ei roi i'r mater hwn nawr. Mae'n peri pryder mawr i'r gweithwyr dan sylw. Mae yna lawer o weithwyr yn teithio heddiw i San Steffan i lobïo ASau, beth fyddai eich neges chi gan Lywodraeth Cymru i'r gweithwyr hynny sy'n teithio i San Steffan i lobïo Aelodau Seneddol a Gweinidogion?

Nawr, mae gwir angen pob cyfle posibl ar Bort Talbot a'r cyffiniau, yn enwedig ym maes prentisiaethau. A yw eich cenhadaeth economaidd wedi'i chynllunio mewn modd sy'n hyrwyddo cymaint o gyfleoedd â phosibl i bobl a allai fod yn wynebu diswyddiadau ac sydd angen cyfleoedd ailhyfforddi a chyfleoedd cyflogaeth? Gweinidog, a wnewch chi barhau i ganolbwyntio'n fanwl iawn, ynghyd â'r Prif Weinidog a'ch cyd-Weinidogion yn y Llywodraeth, ar barhau â'r frwydr hon, oherwydd bydd yn un hir, ac rydych chi ar ochr y gweithwyr? Diolch.

15:55

Diolch am y cwestiynau. Fe wnaf ymdrin â'ch pwynt ynghylch dewisiadau amgen, oherwydd nid yn unig y gwaith o amgylch bargen ddinesig bae Abertawe, gyda'r bwriad i dyfu'r economi, ond yn benodol fe wnaethoch chi sôn am y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd—. Rydym yn gwybod bod cyfle, os gallwn ddod o hyd i fuddsoddiad pellach ar gyfer y safle hwnnw, ar gyfer dyfodol iach iawn lle bydd sgiliau uchel iawn. Mae'n enghraifft dda o ymyrraeth yn seiliedig ar le, gan fuddsoddi mewn lle gyda chynnig yr ydym yn hyderus y bydd yn gallu denu pobl eraill hefyd. Bydd yn cynnwys swyddi â gwerth uchel, swyddi dan arweiniad ymchwil prifysgolion, ac, mewn gwirionedd, mae'n rhan o'r byd lle na fydd y farchnad, os na fyddwch yn ymyrryd, yn cyfeirio buddsoddiad i'r rhan honno o'r byd. Mae'r un pwynt ag y mae Alun Davies yn ei wneud ynglŷn â'r angen i barhau i ymyrryd ar draws Blaenau'r Cymoedd, i sicrhau ein bod mewn gwirionedd yn dod â'r farchnad i rywle lle na fyddai fel arall yn dod.

Mae'n sail i ddewis rydw i wedi'i wneud yn gynnar yn y tymor hwn ynglŷn ag adfer llawer o dir o amgylch Baglan, gan sicrhau bod y rhan fwyaf o'r tir hwnnw'n cael ei ddefnyddio'n economaidd. Mae hefyd yn sail i pam na wnaethom ddymchwel gyda Llywodraeth y DU ar y pryd pan oedd bygythiad gwirioneddol i'r orsaf bŵer a'r posibilrwydd y byddem wedi colli defnydd swm sylweddol o'r asedau economaidd a oedd yno'n barod. Roedd yn rhyfedd fod yn rhaid i ni fynd â Llywodraeth y DU i'r llys i sicrhau bod y cyflenwad pŵer yn cael ei gynnal i sicrhau nad oedd risg o lifogydd y gellid eu hosgoi a fyddai wedi dinistrio nid yn unig asedau economaidd, ond cymuned ac roedd o leiaf un ysgol gynradd a fyddai wedi bod mewn perygl o lifogydd. Felly, rydym wedi gwneud y dewisiadau bwriadol hynny i ymyrryd a byddwn yn parhau i wneud hynny.

Rwy'n credu mai'r neges wirioneddol i weithwyr dur a phawb sy'n deall bod dyfodol go iawn, hyfyw i wneud dur yma yng Nghymru, yw peidio â rhoi'r ffidil yn y to, peidio ag ildio i rai o'r penawdau sy'n cael eu creu na'r geiriau eithaf ymosodol, 'Does dim dyfodol arall' sy'n cael eu hyrwyddo gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Ond i ddeall bod dyfodol gwahanol ar gael mewn gwirionedd. Gyda buddsoddiad gwahanol, gallem gael y fargen orau ar gyfer dur, nid y fargen rataf ar gyfer dur, a dyna mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo iddo.

Cynnig am Ddadl Frys o dan Reol Sefydlog 12.69: Colli swyddi yn Tata Steel, a dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.69, dwi wedi cytuno i'r cais gan Luke Fletcher i wneud cynnig ar gyfer dadl frys. Felly, Luke Fletcher i wneud y cynnig.

Cynnig

Cynnig bod y Senedd, o dan Reol Sefydlog 12.69, yn ystyried colli swyddi yn Tata Steel a dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru fel mater brys sydd o bwys cyhoeddus.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd, a diolch am y cyfle i alw am ddadl frys, nid yn unig ar y sefyllfa ym Mhort Talbot ond am drywydd dyfodol y diwydiant dur yma yng Nghymru hefyd.

Nawr, wrth gwrs, rwy'n cydnabod yn llwyr fod y Prif Weinidog wedi derbyn cwestiynau gan yr Aelodau ar Tata, ac ein bod newydd glywed datganiad gan Weinidog yr Economi ar Tata, ond rwy'n dal i gredu bod angen i ni ystyried dadl frys ar y mater hwn yn ogystal â dyfodol diwydiant dur Cymru. Mae'n fater o bwysigrwydd cyhoeddus brys. Er ein bod wedi cael amser i'r Llywodraeth ateb cwestiynau a bod yn destun craffu ar eu gweithredoedd eu hunain, o ystyried difrifoldeb y sefyllfa, dylid neilltuo mwy o amser drwy fformat mwy priodol, lle gellid rhoi'r cyfle i'r Senedd yn ei chyfanrwydd drafod syniadau a chyfarwyddiadau ar gyfer dyfodol y diwydiant dur ar y cofnod.

Ni ellir trafod materion colli swyddi ar y raddfa hon mewn diwydiant a gydnabyddir yn eang fel un hanfodol yn y trawsnewid i sero net ac yn bwysig i'n diogelwch cenedlaethol a'r ddadl ynghylch ble rydym yn mynd o'r fan hon drwy ofyn cwestiynau penodol â therfyn amser gan Aelodau. Nid mater rhanbarthol yn unig yw hwn, gyda llaw, sydd ynghlwm wrth Bort Talbot yn unig, fel y dywedais i ac Aelodau eraill yn gyson, mae hwn yn fater o bwysigrwydd cenedlaethol, nid yn unig ar gyfer swyddi cysylltiedig yn y diwydiant mewn mannau eraill yng Nghymru, ond hefyd ar gyfer ein sectorau hinsawdd a seilwaith a'n diogelwch cenedlaethol. Nawr, bydd ASau yn San Steffan yn cael cyfle i drafod y materion hyn mewn dadl yn Nhŷ'r Cyffredin heddiw; rwy'n credu bod angen rhoi'r un cyfle i Aelodau'r Senedd yma yng Nghymru. Ar adegau fel y rhain mae cael cyfle i drafod ffordd ymlaen fel Senedd yn bwysig, a gobeithiaf y bydd yr Aelodau'n cytuno i neilltuo amser ar gyfer dadl frys yfory. Diolch.

Nid oes gennym unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig.

Diolch.

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig am ddadl frys? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does yna ddim gwrthwynebiad. Ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Fe fyddaf i yn gosod y ddadl yna ar gyfer ei chlywed prynhawn fory yn dilyn eitem 5, sef y datganiadau 90 eiliad.

4. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Strategaeth Tlodi Plant Cymru

Eitem 4 sydd nesaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma, a'r datganiad gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol yw hwn ar y strategaeth tlodi plant. Y Gweinidog, felly, i wneud y datganiad—Jane Hutt.

16:00

Diolch yn fawr, Llywydd. Heddiw, rydym ni'n cyhoeddi strategaeth tlodi plant Cymru sy'n ddogfen bolisi drawsbynciol, i'r Llywodraeth gyfan i nodi ein blaenoriaethau ni ar gyfer gweithredu mewn ffordd ystyrlon i fynd i'r afael â thlodi plant a gwella profiad bywyd plant yng Nghymru. Rwy'n falch o ddweud y cafodd y strategaeth ei llunio ar y cyd â phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd a'r sefydliadau sy'n eu cefnogi nhw. Mae cynnwys terfynol y strategaeth wedi cael ei rymuso hefyd yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

Mae'n rhaid i roi terfyn ar dlodi plant fod yn flaenoriaeth lwyr i bob ystod o Lywodraethau. Mae Gweinidogion Cymru yn ymrwymedig i ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd gennym ni ar gael i'w graddau llawn, ac fe fydd gennym ni swyddogaeth arweiniol o ran cydlynu camau ehangach i weithio tuag at ddileu tlodi plant a'i effeithiau yma yng Nghymru. Felly, mae hwn yn ymrwymiad trawslywodraethol, fel amlygir hynny yn y Cyfarfod Llawn heddiw yn natganiadau'r Gweinidog addysg a'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol.

Trwy gyfrwng ein hymgynghoriad ni ar y strategaeth hon a'n gwaith ymgysylltu yn fwy eang, fe glywsom ni am y modd y mae tlodi yn effeithio ar blant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru. Roedd pobl yn sôn wrthym ni hefyd am yr ymdrechion sylweddol sydd ar y gweill mewn cymunedau, sefydliadau'r trydydd sector, grwpiau ffydd a chyrff cyhoeddus i fynd i'r afael ag effeithiau'r argyfwng costau byw a thlodi yn ehangach.

Fe glywsom ni'n glir fod llawer o'r polisïau a'r cynlluniau sydd gennym ni ar waith yn rhai addas, ond i sicrhau'r gwahaniaeth mwyaf posibl y gallwn ni ei weithredu, mae angen i ni ganolbwyntio mwy ar gyflawni, ac mae angen i ni fod yn ddoethach ynghylch cydweithio ar draws y Llywodraeth a chyda phartneriaid eraill i ddarparu datrysiadau yng Nghymru. Mae angen i ni fod yn fwy eglur hefyd ynghylch sut y byddwn ni'n rhoi mecanweithiau cadarn ar waith o ran monitro ac atebolrwydd ar gyfer olrhain cynnydd yn erbyn y dangosyddion allweddol o dlodi plant.

Ac fe hoffwn i ddiolch i bawb a gymerodd ran yn natblygiad y strategaeth ac sydd wedi ymateb i'r ymgynghoriad, gan gynnwys y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am ei ymchwiliad i'r strategaeth ddrafft a'r adborth gwerthfawr a gynhyrchodd. Mae'r strategaeth hon yn nodi dull i'w ddefnyddio nawr ac i'r dyfodol, beth bynnag fyddo swm yr adnoddau neu'r ystod o bwerau a fydd ar gael i ni yng Nghymru. Mae hon yn strategaeth ar gyfer y degawd nesaf, ac mae'n rhaid iddi fod yn hyblyg ar gyfer Llywodraethau sy'n gweithio mewn amgylcheddau amrywiol o ran arian a pholisi.

Fe ddaw cyhoeddiad y strategaeth ar adeg yr ydym ni'n wynebu'r setliad cyllideb mwyaf heriol yn hanes datganoli, ond yn y cyd-destun hwn, hyd yn oed, rydym ni'n benderfynol o ddiogelu'r rhai mwyaf anghenus ac anelu arian cyhoeddus at y mannau lle gall fod yn fwyaf effeithiol. Yn fy mhortffolio fy hun, mae hyn wedi golygu diogelu'r cyllidebau ar gyfer y gronfa cymorth dewisol a'r gronfa gynghori sengl yn eu cyfanrwydd, ac mae enghreifftiau drwy gydol y gyllideb ddrafft o achosion o Weinidogion yn blaenoriaethu plant wrth wneud eu penderfyniadau.

Mae'r strategaeth tlodi plant yn seiliedig ar bum amcan, pob un yn cyd-fynd â blaenoriaeth ar gyfer gweithredu. Fe geir ystod o ymrwymiadau penodol hefyd a restrir o dan bob un o'r amcanion, na chawson nhw eu bwriadu i fod yn rhestr hollgynhwysfawr, ond ar gyfer darlunio rhaglen fwy eang o waith ar draws y Llywodraeth.

Amcan 1 yw lleihau costau a sicrhau'r incwm mwyaf i deuluoedd, ac mae'n rhaid i hyn fod yn gyfan gwbl flaenllaw yn ein hymagwedd ni wrth fynd i'r afael â thlodi a chefnogi'r rhai sy'n byw mewn tlodi. Prydau ysgol am ddim, grant hanfodion ysgol, canllawiau gwisg ysgol diweddaredig, cynyddu lwfans cynhaliaeth addysg o £30 i £40, presgripsiynau am ddim, cynhyrchion mislif am ddim a'n partneriaeth â'r Sefydliad Banc Tanwydd—pob un yn enghraifft o waith sydd ar y gweill eisoes i gyflawni'r amcan hwn. Ac fe geir posibiliadau hefyd i arloesi eto drwy ein cynlluniau treialu ar gyfer incwm sylfaenol a bwndeli babanod.

Mae creu cyfundrefn o fudd-daliadau i Gymru sy'n gydlynol yn hanfodol i'r amcan hwn, gan ei gwneud hi'n fwy syml i bobl a theuluoedd gael gafael ar gymorth. Rwy'n falch o ddweud ein bod ni wedi cymryd cam sylweddol tuag at gyfundrefn o'r fath yr wythnos hon gyda lansio Siarter Budd-daliadau Cymru, a lofnodwyd gan bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Cafodd y siarter ei chyflwyno yn unol â thelerau'r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru. Yn y digwyddiad ar gyfer lansio'r siarter ym Mlaenafon ddoe, fe ymunodd arweinydd cyngor Torfaen a'r Aelod dynodedig Siân Gwenllian â mi, sy'n arddangos pwysigrwydd y cytundeb cydweithio o ran cyflawni yn y maes pwysig hwn o waith.

Rydym ni'n cydnabod cyfyngiadau'r setliad datganoli o ran codi incwm, gyda nawdd cymdeithasol yn fater a gedwir yn ôl. Yn anffodus, rydym ni i gyd wedi dod yn gyfarwydd â gweld Llywodraeth y DU yn siomi pobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru, ond rydym ni bob amser yn barod i ddweud wrthyn nhw lle maen nhw'n cyfeiliorni, ac yn wir, Llywydd, fe fyddwn i'n barod iawn i gydweithio mewn ffordd adeiladol â Llywodraeth yn y DU sydd o ddifrif ynghylch cefnogi'r rhai mwyaf anghenus a diddymu tlodi, ac rydym ni'n bwrw ymlaen â'n gwaith ni o ran ymchwilio i ddatganoli gweinyddu lles.

Amcan 2 yw creu llwybrau allan o dlodi fel bydd plant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn cael cyfleoedd i wireddu eu posibiliadau. Mae Dechrau'n Deg, rhaglen trawsnewid integreiddio blynyddoedd cynnar, darpariaeth ar gyfer gwyliau'r ysgol, 'Siarad gyda fi: Cynllun Cyflawni ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu', i gyd yn enghreifftiau o sut rydym ni'n cefnogi plant yn ystod y 1,000 diwrnod cyntaf o fywyd ar lwybr allan o dlodi. Mae hyn yn parhau yn yr ysgol a thrwy'r system addysg, gyda'n cenhadaeth genedlaethol i gau'r bwlch cyrhaeddiad a chynnig yr addysg orau bosibl i bob plentyn, ni waeth o ble y daw.

Mae gwaith teg ac economi sy'n gweithio i bob rhan o Gymru yn hanfodol hefyd i greu llwybrau allan o dlodi. Ein cenhadaeth economaidd ni, y warant i bobl ifanc, Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, ein cynnig gofal plant estynedig—i gyd yn rhan o fframwaith ar gyfer meithrin economi fwy ffyniannus, sy'n wyrddach ac yn fwy cyfartal, lle gall pobl ym mhobman gysylltu â gwaith teg. Fe fyddwn ni'n clywed rhagor am y blaenoriaethau hyn gan y Gweinidog addysg a'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol y prynhawn yma.

Amcan 3 yw cefnogi llesiant plant a theuluoedd a sicrhau bod gwaith ar draws Llywodraeth Cymru yn cyflawni ar gyfer plant sy'n byw mewn tlodi, gan gynnwys y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig, er mwyn iddyn nhw ymarfer eu hawliau a chael canlyniadau gwell. Mae tai yn faes allweddol ar gyfer cyflawni'r amcan hwn. Mae'r Aelodau eisoes yn ymwybodol o'r ystod eang o waith sy'n cael ei wneud gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, er enghraifft, drwy weithrediad Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, y Papur Gwyn ar weld diwedd ar ddigartrefedd a rhaglen Cartrefi Clyd. Mae'r amcan hwn hefyd yn ymwneud â chefnogi plant a theuluoedd gyda'u hiechyd meddwl, wrth i'r Llywodraeth baratoi i ymgynghori ar strategaeth iechyd meddwl yn dilyn yr adolygiad annibynnol o'r strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' a 'Beth am Siarad â Fi? 2'.

Llywydd, mae hi'n bwysig cydnabod profiad y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig a'r agweddau croestoriadol sydd ar dlodi. Yr aelwydydd sy'n cynnwys unigolyn neu bobl anabl yw'r rhai mwyaf tebygol o fod mewn tlodi. Mae menywod yn fwy tebygol o fod yn ysgwyddo baich tlodi. Mae pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn aml yn wynebu rhwystrau ychwanegol rhag gallu cael gafael ar wasanaethau. Mae pobl ifanc LHDTC+ mewn mwy o berygl o fynd yn ddigartref. Mae'n rhaid i ni gydnabod hyn a sicrhau ein bod ni'n cael ymateb sy'n diwallu'r anghenion amrywiol hyn.

Amcan 4 yw sicrhau y bydd plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn cael eu trin ag urddas a pharch gan y bobl a'r gwasanaethau sy'n rhyngweithio â nhw ac yn eu cefnogi nhw, a herio stigma tlodi. Felly, mae cyfrifoldeb gan adrannau ar draws y Llywodraeth a'r sector cyhoeddus i sicrhau bod pob rhyngweithio ag unigolion a theuluoedd yn cael eu cyflwyno gyda thosturi a dealltwriaeth, gyda chysylltiad cryf ag elfennau Amcan 3 o ran llesiant, ond mae hwn hefyd yn bwynt ymarferol ynglŷn â symud rhwystr y stigma er mwyn i hwnnw beidio â bod yn rhwystr i bobl rhag cael gafael ar gymorth.

Amcan 5 yw sicrhau bod gweithio trawslywodraethol effeithiol ar haen genedlaethol yn caniatáu cydweithio cadarn ar haenau rhanbarthol a lleol. Roedd honno'n thema fawr o ymgysylltu ac ymgynghori yn y strategaeth, ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r enghraifft newydd arloesol hon o'r hyn y gellir ei gyflawni trwy gyfuno ymdrechion y Llywodraeth, y trydydd sector a'r sector preifat. Wythnos diwethaf, fe ymwelodd y Prif Weinidog a minnau â'r banc pob dim cyntaf i gael ei sefydlu yng Nghymru, Cwtch Mawr, yn Abertawe. Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gyfrannu at y fenter hon, ochr yn ochr â chyngor Abertawe, partneriaid yn y sector preifat a Faith in Families yn arweinydd cyflawni yn y trydydd sector—dim ond un enghraifft o ddull sydd â photensial mawr i arloesi a chyflawni er mwyn y rhai sydd â'r angen mwyaf.

Yn olaf, Llywydd, fe hoffwn i gydnabod yr adborth pwysig a gawsom ni ynglŷn â sicrhau y bydd dulliau cadarn o fesur ein camau gweithredu ni ar dlodi plant ar gyfer ein dal ni'n atebol. Ac fe allaf i gadarnhau heddiw y byddwn ni, nid yn unig yn cynhyrchu fframwaith monitro ac effaith, ond bydd y fframwaith hwn yn cael ei adolygu yn annibynnol gan yr arbenigwr academaidd yr Athro Rod Hick o Brifysgol Caerdydd. Fe fydd y fframwaith yn ystyried llesiant dangosyddion cenedlaethol Cymru ac fe fydd yn sicrhau y bydd ein hymdrechion ni'n cael eu canolbwyntio yn y mannau y byddan nhw fwyaf effeithiol. Diolch.

16:05

Diolch, Llywydd. Mae data Llywodraeth Cymru, fel gwyddoch chi, yn dangos bod 28 y cant o blant yn byw mewn tlodi incwm cymharol yng Nghymru yn 2022. Roedd dadansoddiad gan Brifysgol Loughborough yr haf y llynedd yn canfod bod mwy nag un o bob pump o blant yn byw mewn tlodi ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Roedd Sefydliad Bevan yn datgan bod hyn yn dangos, rwy'n dyfynnu, 'mai ychydig iawn o gynnydd a wnaethpwyd o ran lleddfu tlodi plant dros y degawd diwethaf.'

Fel nododd adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree, 'Monitro tlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru', yn 2009, cyn y dirwasgiad, hyd yn oed—y dirwasgiad hwnnw—roedd y broblem gydag incwm isel yn cynyddu yn gyflym, i'r graddau bod hanner y gwelliant blaenorol o ran tlodi plant wedi mynd i'r gwellt eisoes. Mewn geiriau eraill, roedd hynny cyn y wasgfa gredyd a'r dirwasgiad yn 2008, pan gyrhaeddodd y cyfraddau mwyaf mewn unrhyw wlad yn y DU, sef 32 y cant. Yr achos yw, onid e, Gweinidog, mai Llywodraeth Cymru sydd wedi bod yn gyfrifol am ddatblygiad economaidd ers 1999. Cymru sydd â'r allbwn cynnyrch domestig gros isaf y pen heddiw, y pecynnau cyflog lleiaf a'r incwm gwario gros lleiaf ymhlith gwledydd y DU, gyda chyflogaeth islaw, a diweithdra ac anweithgarwch economaidd uwchlaw cyfradd y DU gyfan. Roedd yr argymhellion yn adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ym mis Tachwedd 2022, 'Amser am newid—Tlodi yng Nghymru', yn cynnwys gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd rhaglenni a ariennir gan grant, gan nodi:

'Mae pob cyngor yn ddibynnol ar grantiau ond mae natur fyrdymor rhaglenni grant, gweinyddiaeth rhy gymhleth, gwendidau mewn canllawiau a chyfyngiadau grantiau, ac anawsterau gwario arian yn golygu nad yw cyllid yn cael yr effaith y gallai ei chael.'

Aeth adroddiad yr archwilydd cyffredinol ymlaen i argymell bod Llywodraeth Cymru yn

'darparu graddfeydd amser hwy ar gyfer cyhoeddi a chael cynigion i'w gwneud yn bosibl cynllunio adnoddau'n well; newid o gylchoedd cynigion blynyddol i ddyraniadau amlflwyddyn; ei gwneud yn bosibl gwario cyllid yn fwy hyblyg er mwyn osgoi pwyslais ar brosiectau cyflymach.'

a

'symleiddio prosesau ac amodau grant i leihau’r baich gweinyddol;'.

Mae argymhellion yr adroddiad hwnnw yn cynnwys strategaethau, nodau ac adroddiadau perfformiad lleol hefyd i fynd i'r afael â thlodi a'i leddfu. Felly, pa ystyriaeth y gwnaethoch chi a'ch cydweithwyr gweinidogol ei rhoi i argymhellion yr archwilydd cyffredinol wrth ddylunio'r strategaeth hon, a pham mae hi'n ymddangos nad ydyn nhw wedi cael eu cynnwys yma?

Nid yw'r strategaeth hon gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys unrhyw nodau y gellir eu mesur, ond yn hytrach na hynny'n defnyddio'r cerrig milltir cenedlaethol generig yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r fframwaith monitro ac effaith fel y'i gelwir. Sut ydych chi am ymateb, felly, i'r datganiad heddiw gan Barnardo's Cymru ei bod yn

'parhau i fod yn siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar nifer o argymhellion ynglŷn â'r angen am nodau a chynllun gweithredu sydd ynghlwm wrth y strategaeth er mwyn monitro cynnydd mewn ffordd dryloyw ac yn rheolaidd'?

Fe fyddai unrhyw un di-duedd yn cydnabod ei bod nhw'n iawn, oni fyddai, Gweinidog? Wrth sôn am y strategaeth ddrafft dri mis yn ôl, fe ddywedodd Comisiynydd Plant Cymru ei fod yn brin o uchelgais, eglurder a manylion, a bod diffyg manylion ynglŷn â'r camau, yr amserlenni a'r cyflawniadau yn golygu nad oedd modd dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, a'i bod yn rhestr o fentrau polisi,

'nad yw'n dweud yn union beth, sut, pryd na phwy fydd yn cyflawni o ran y gwahanol bolisïau hynny ar gyfer lleddfu a dileu tlodi plant.'

Fe fyddai unrhyw a fu'n rheoli prosiectau neu strategaethau yn llwyddiannus erioed yn gwybod ei bod hi'n iawn, oni fyddai, Gweinidog? Sut ydych chi am ymateb i'r datganiad gan y comisiynydd plant y bore yma ei bod hi wedi cael ei siomi yn fawr gan y strategaeth newydd ac

'ni fyddwn yn gwybod a yw arian cyhoeddus sy’n cael ei wario yng Nghymru yn cyrraedd y plant hynny y mae eu bywydau’n cael eu heffeithio mor ddifrifol.'?

Onid yr achos yw bod gan Lywodraeth Cymru nifer o ddulliau i fynd i'r afael â thlodi plant sydd yn ei rheolaeth hi ei hun, felly pam nad yw hi wedi pennu nodau a cherrig milltir gwirioneddol yn y strategaeth, neu ai achos arall yn unig yw hwn o Lywodraeth Cymru yn osgoi atebolrwydd?

Rydym ni'n cytuno ag amcan y strategaeth o gynyddu incwm teuluoedd hyd yr eithaf. Ers blynyddoedd lawer, mae darparwyr gwasanaethau ac ymchwilwyr ar draws y sector wedi bod yn galw am system o fudd-daliadau i Gymru sy'n gydlynol ac yn integredig ar gyfer yr holl fudd-daliadau prawf modd y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanyn nhw, ac fe adlewyrchir hynny yn argymhellion adroddiadau pwyllgorau seneddol olynol, gan gynnwys un yr oeddwn i â rhan ynddo yn 2019. Felly, pam mae eich siarter budd-daliadau Cymru, a lansiwyd ddoe, yn ymwneud â dim ond gwaith pellach i ddatblygu system fudd-daliadau i Gymru, a thrwy wneud felly, dim ond gohirio'r peth tan rywbryd arall y bydd hynny'n ei wneud unwaith eto? Beth yw eich amserlen chi ar gyfer cyflwyno system o fudd-daliadau i Gymru mewn gwirionedd, a pha nodau a fydd ar waith i fesur cynnydd?

Yn olaf, mae'r strategaeth hon yn nodi y byddwch chi'n:

'Dileu'r rhwystrau i gyflogaeth a llwybrau gyrfa a wynebir gan bobl anabl, menywod, gofalwyr a phobl ethnig leiafrifol.'

Felly, pwy, beth, pryd, ym mha le, a sut? Diolch yn fawr.

16:10

Wel, mae'n rhaid i mi ddweud, roeddwn i'n dechrau meddwl tybed a oeddech chi wedi darllen y strategaeth tlodi plant mewn gwirionedd, Mark Isherwood, wrth i chi wneud eich sylwadau a'ch pwyntiau agoriadol—yn sicr nid cwestiynau i mi oedden nhw am y datganiad a wnes i'r prynhawn yma a'r strategaeth tlodi plant a lansiwyd gennyf i heddiw. Rwyf i o'r farn fod hynny'n arddangos diffyg parch i bawb a fu'n rhan o'r ymgynghoriad—ein hadeiladwaith ar y cyd â phlant a phobl ifanc a fynegodd eu dyheadau i ni, ac rydym ni wedi ymateb i hynny, o ran y strategaeth i fynd i'r afael â thlodi plant.

Wrth gwrs, mae'r strategaeth yn nodi ein huchelgeisiau ar gyfer y tymor hwy, gan amlinellu sut y byddwn ni'n gweithio ar draws y Llywodraeth, gyda'n partneriaid ni, i wneud y mwyaf posibl o effaith y dulliau sydd ar gael i ni yn Llywodraeth Cymru. Rwyf i wedi dweud eisoes bod fframwaith uchelgeisiol i gyflawni'r polisïau a'r rhaglenni hynny, gan wneud popeth sydd yn ein gallu gyda'n pwerau i fynd i'r afael â thlodi plant, a gweithio gyda'n partneriaid tuag at y Gymru honno lle rydym ni'n llwyddo i ddileu tlodi plant. Wrth gwrs hwnnw yw fy uchelgais i, Mark Isherwood—dileu tlodi plant yng Nghymru.

Rwy'n falch iawn eich bod chi wedi cyrraedd y pwynt, Mark, lle roeddech chi'n cydnabod, yn y strategaeth, y pwynt pwysicaf a ddaeth i'r amlwg, bod angen i ni roi'r arian ym mhocedi pobl, a bod angen i ni sicrhau'r incwm mwyaf. Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth yr wyf i wedi bod yn sôn amdano ers peth amser. Rwy'n credu mai dyna pam mae hi mor bwysig ein bod ni wedi lansio siarter budd-daliadau Cymru ddoe. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw nid ein siarter ni yn unig—lansio system fudd-daliadau newydd i Gymru, mewn gwirionedd, yn fy marn i. Nid dim ond cyflwyno siarter yn unig. Ystyr y siarter yw'r modd yr ydych chi'n rhedeg system fudd-daliadau yng Nghymru. Fe fyddaf i'n rhoi datganiad llafar yn ddiweddarach yn y mis—ac rwyf i wedi cytuno ar hynny gyda'n partneriaid yn y cytundeb cydweithio—ynglŷn â'r siarter budd-daliadau i Gymru. Fe fyddwn ni'n gwneud llawer mwy ynghylch hynny yn ddiweddarach yn y tymor hwn.

Wrth galon y siarter fudd-daliadau honno i Gymru y mae'r gwaith i ddatblygu system fudd-daliadau sy'n ystyriol, yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn fwy syml. Pan aethom ni i ganolfan adnoddau Blaenafon ddoe, fe wnaeth arweinydd cyngor Torfaen, ar ran 22 o awdurdodau lleol, lofnodi'r siarter hon, gan ddweud wrthym ni sut yr oedden nhw am symleiddio'r ffordd y bydd pobl yn cael eu budd-daliadau. Felly, mae hwn yn gam mawr ymlaen. Maen nhw am symleiddio drwy ddechrau gyda'r cyllid yr ydym ni'n ei roi i'r budd-daliadau hynny: cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor—nid yw miloedd o bobl yn ei thalu o gwbl, ond fe allai llawer mwy ei hawlio; prydau ysgol ar gael am ddim; mynediad i'r grant hanfodion ysgol; mynediad i'r lwfans cynhaliaeth addysg. Dyma fanteision i bobl yng Nghymru, gyda chydweithwyr yn llywodraeth leol, y byddwn ni'n sicrhau y gellir eu symleiddio nhw—cais unigol, heb orfod mynd trwy ystod eang o geisiadau, gweinyddu, biwrocratiaeth, ar gyfer rhoi'r budd-daliadau hynny ym mhocedi'r teuluoedd sydd â'r angen mwyaf.

Dim ond gair bach cyflym i ddweud bod y fframwaith ar gyfer monitro yn wirioneddol bwysig. Fe ddywedais i hynny yn fy natganiad i. A dweud y gwir, o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010—ac roeddech chi yn y fan hon, Mark, pan wnaethom ni ddwyn hwnnw drwodd—mae dyletswydd arnom ni i gyhoeddi adroddiad bob tair blynedd ar gynnydd o ran cyflawni ein hamcanion ynghylch tlodi plant. Rydym ni'n cael ein dwyn i gyfrif, wrth gwrs. Fe gyhoeddwyd yr adroddiad cynnydd diwethaf ym mis Rhagfyr 2022. Mae gwaith ynglŷn â'r fframwaith monitro cadarn hwnnw'n cael ei ddatblygu ar gyflymder. Rwyf i wedi cydnabod hynny eisoes. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fod y fframwaith yn ystyried dangosyddion cenedlaethol a cherrig milltir cenedlaethol sydd gennym ni ar waith yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'r Senedd gyfan yn anwesu, yn cefnogi ac yn cymeradwyo Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Gadewch i ni ei defnyddio hi a'i rhoi hi ar waith mewn ffordd briodol.

Un o'r dangosyddion yw'r ymrwymiad i lenwi'r bwlch tlodi rhwng pobl yng Nghymru sydd â nodweddion allweddol a gwarchodedig arbennig—sy'n golygu eu bod nhw'n fwyaf tebygol o fod mewn tlodi, ac fe soniais i am hynny yn fy natganiad i heddiw: pobl anabl, pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol a menywod—a'r rhai heb nodweddion erbyn 2035, ac ymrwymo i bennu nod ymestynnol ar gyfer 2050. Yn flynyddol, fe fyddwn ni'n adrodd ar ein hynt gyda'r nodau hynny, drwy gyfrwng ein hadroddiad blynyddol 'Llesiant Cymru'.

A gaf i ddweud hyn hefyd? Fe ddywedais i hyn yn fy natganiad ac fe wrandewais i'n amyneddgar arnoch chi er mwyn i chi gydnabod swyddogaeth Llywodraeth y DU yn hyn o beth. Yn sicr, fe ddylai llefarydd y Torïaid gydnabod bod ei system treth a budd-daliadau a nawdd cymdeithasol, nad y ni sy'n gyfrifol amdani hi—er ein bod ni'n datblygu ein system budd-daliadau ni i Gymru—yn ysgogiadau allweddol i fynd i'r afael â thlodi. Fe welsom ni, yn ystod 10 mlynedd o Lywodraeth Lafur, dlodi plant yn prinhau oherwydd y ffyrdd yr oeddem ni'n defnyddio trethiant a budd-daliadau. Mewn tair blynedd ar ddeg o gyni, fe gynyddodd.

Ddoe, fe welsoch chi—[Torri ar draws.] Rwy'n ymateb i'ch cwestiwn chi. Fe welsoch chi'r adroddiad ddoe a oedd yn dangos bod y system nawdd cymdeithasol yn denau iawn. Ac mewn gwirionedd, dim ond gair i ddweud ynglŷn â Sefydliad Joseph Rowntree, y gwnaethoch chi sôn amdano, bod yr amcangyfrifon cyfredol yn dangos bod cyfraddau credyd cynhwysol £35 yr wythnos yn rhy isel i unigolyn sengl a £65 yr wythnos yn rhy isel i ddau. Dyna i chi'r dreth ystafell wely, dyna i chi'r terfyn dau blentyn, y nawdd cymdeithasol i gyd, ac nid yw Llywodraeth y DU yn cydnabod ei chyfrifoldebau. Heddiw, rwy'n credu y byddwch chi wedi clywed Jeremy Hunt yn sôn am dorri treth. Sut y bydd ef yn gwneud hynny? Mae Rishi Sunak yn dweud mai drwy doriadau i fudd-daliadau y bydd hynny'n digwydd. Dyna'r hyn y gwnaethon nhw ei ddweud yn ystod y pythefnos diwethaf, ac fe glywsom ni heddiw na fydd pobl sydd â mesuryddion rhagdalu yn gallu rhoi arian yn eu mesuryddion nhw. 800 y llynedd; rhagwelir 2 filiwn eleni.

16:20

Ar ôl misoedd—nage, blynyddoedd mewn gwirionedd—o ofyn—erfyn, mewn gwirionedd—mae Plaid Cymru yn falch o weld cyhoeddi strategaeth tlodi plant newydd o'r diwedd. Mae hynny i'w groesawu. Rhywbeth sydd i'w groesawu hefyd yw bod hwn yn welliant ar y drafft a gawsom ni'r llynedd, a gafodd ei feirniadu yn gyffredinol ac yn briodol felly am iddo fod yn wan ac ar chwâl, ac, ym marn y comisiynydd plant, nid oedd yn cydweddu â difrifoldeb y sefyllfa sy'n wynebu plant a phobl ifanc yng Nghymru, ac roeddem ninnau'n cytuno â'r farn honno.

Fe wnaethom ni, yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yr wyf i'n aelod ohono, graffu ar y strategaeth ddrafft ac argymell sut i newid y duedd o fod â chyfraddau gwarthus o uchel o dlodi plant yng Nghymru. Fe wnaethom edrych ar ddulliau sy'n gweithio o ran camau a chyflawni, oherwydd pa les yw strategaeth os na allwch chi wybod a yw hi'n llwyddiannus ai peidio? Mae ei chyflwyniad yn gwbl allweddol. Roedd arbenigwyr fel Chris Burt, cyfarwyddwr cyswllt yn Sefydliad Joseph Rowntree, a chyn-bennaeth uned polisi a chyflawni Prif Weinidog yr Alban, ac eraill o Gymru a ledled y byd y cawsom ni dystiolaeth ganddyn nhw, i gyd yn darlunio i ni pam mae nodau mor hanfodol, a'u bod nhw'n gweithio.

Er ein bod ni i gyd yn gallu cytuno â'r amcanion a'r blaenoriaethau lefel uchel a nodir yn y strategaeth—ni cheir llawer i ddadlau ynglŷn ag ef—ac mae'r amcanion a'r blaenoriaethau hynny cael eu nodi yn fwy eglur a chydlynol erbyn hyn, gyda gwell ystyriaeth, ie, i hawliau plant a sôn am feysydd polisi allweddol pwysig o'r diwedd fel iechyd a thrafnidiaeth, mae arnaf i ofn fod y strategaeth hon yn parhau i fod yn ddisylwedd o ran sut y bydd yr amcanion hynny'n cael eu cyflawni, pa gamau a gymerir a pha ganlyniadau y gallwn ni eu disgwyl, i bwy y byddan nhw o gymorth, pa niferoedd, pa mor gyflym, y wedd ar eu cyflawniad, pwy fydd yn gyfrifol amdanyn nhw, pwy fydd yn cael eu dwyn i gyfrif. Oherwydd pam nad ydych chi wedi bod yn ddigon dewr, yng ngeiriau Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, i oresgyn eich gwrthwynebiad i bennu targedau, a ninnau'n gwybod bod targedau'n gweithio? Nid bod â thargedau er eu mwyn eu hunain; ond targedau a fydd yn ysgogi'r ddarpariaeth ac yn sicrhau perchnogaeth ohoni. Pam wnaethoch chi'r penderfyniad hwnnw, Gweinidog?

Mae hi'n dda gweld, o leiaf, eich bod chi wedi pennu dyddiad ar gyfer adrodd cynnydd—mis Rhagfyr 2025—ond, hyd yma, nid oes manylion gennym ni ynglŷn â'r fframwaith monitro y gwnaethoch chi sôn amdano, felly fe fyddai croeso mawr i fwy o eglurder ynglŷn â hynny. Rwy'n dweud 'croeso'—a dweud y gwir, mae hynny'n gwbl hanfodol, oherwydd sut allwch chi wybod a ydych chi'n cyflawni, a yw'r strategaeth hon yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant sy'n byw mewn tlodi, heb dargedau yn y cyfamser—ac mae hynny'n gwbl allweddol, yn y cyfamser—a hirdymor sy'n eglur ar gyfer ysgogi'r newid hwnnw? Ac roedd yr adroddiad cynnydd diwethaf a gawsom ni, Gweinidog, ym mis Rhagfyr 2022, yn ymarfer o dorri a gludo, mewn gwirionedd; rhestru camau yr oedd hwnnw, ac nid canlyniadau.

Mae cyfleoedd wedi mynd ar goll yma hyd yn oed o ran y mentrau newydd y mae croeso iddyn nhw. Nid yw siarter budd-daliadau Cymru, er bod cam y cyntaf i'w groesawu sef llunio system fudd-daliadau fel hon yng Nghymru, heb unrhyw sail statudol yn ddigon i sicrhau y bydd pob un o'r 22 awdurdod lleol yn ei blaenoriaethu hi, a sicrhau'r newidiadau hanfodol hynny i'r prosesau gorgymhleth ar gyfer gwneud yn siŵr fod pob £1 o gymorth yn cyrraedd y teuluoedd mor gyflym a rhwydd â phosibl. Felly, pa asesiad a gafodd ei wneud o effaith y pwysau eithriadol ar gyllidebau'r awdurdodau lleol, a sut y gallai hynny fod ag effaith ar greu'r system ddi-dor ac effeithiol honno o uchafu incwm?

Ac yna fe geir prinder o gamau ar gyfer sicrhau nad yw'r polisïau cyfredol yn cael eu tanseilio. Yn ei adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar system fudd-daliadau Cymru, roedd Sefydliad Bevan yn defnyddio grant hanfodion ysgol yn enghraifft o hyn. Nid yw dim ond mynnu bod yr ysgolion yn rhoi sylw i'r canllawiau ar wisg ysgol yn sicrhau y bydd y grant yn ymestyn cyn belled ag y gallai. Fe hoffwn i wybod hefyd, Gweinidog, sut y cafodd y gyllideb ddrafft ei dylanwadu arni gan y strategaeth, oherwydd yn sesiwn ein pwyllgor ddoe, yn ein sesiwn graffu ar y gyllideb gyda chi, roedd y llinellau o gyllideb a welsom ni ar gyfer pethau fel urddas mislif a chynhwysiant digidol yn cael eu torri, er bod y ddau beth hynny'n cael eu hystyried yn faterion pwysig yn ôl amcan 1. Felly, a wnewch chi roi enghreifftiau i ni o sut y mae'r strategaeth yn ei hamlygu ei hun yn uniongyrchol mewn penderfyniadau ynglŷn â'r gyllideb, fel rhain?

Yn yr un modd, nid oes unrhyw sôn am rai o'r mesurau a argymhellwyd gan grŵp arbenigol y Llywodraeth ei hun ynghylch yr argyfwng costau byw. Mae'r strategaeth yn nodi bod 31 y cant o blant a oedd yn byw mewn teulu lle ceir unigolyn anabl mewn tlodi incwm cymharol, o gymharu â 26 y cant o'r rhai mewn teuluoedd lle nad oedd unrhyw unigolyn anabl. Ond nid oes unrhyw ystyriaeth i daliad costau byw i deuluoedd anabl, fel roedd y grŵp arbenigol yn ei argymell; nid oes unrhyw sôn am daliad plentyn nac unrhyw waith i baratoi ar gyfer sefydlu hynny, er bod tystiolaeth gan y grŵp a'r pwyllgor o sut y gallai hynny fod yn ganolog i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r cyfraddau hyn o dlodi plant. Yn yr un modd, o ran tlodi bwyd, fe nodir bod methu â chael gafael ar fwyd iach sy'n fforddiadwy yn gysylltiedig yn uniongyrchol ag anghydraddoldebau o ran iechyd, ond nid oes unrhyw fesurau i fynd i'r afael â hyn, er y byddai galwadau gan y grŵp arbenigol am brydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol uwchradd sydd o aelwydydd sy'n cael credyd cynhwysol yn fuddsoddiad ataliol enfawr. Fe allwn i fynd yn fy mlaen.

Yn eich cyflwyniad chi, rydych chi'n dweud bod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant yn flaenoriaeth lwyr, ond nid yw'r strategaeth yn arddangos hynny, Gweinidog. Llywydd, rydym ni hanner ffordd drwy dymor Seneddol. Ni fyddwn ni'n cael adroddiad ar gynnydd tan ychydig fisoedd cyn yr etholiad nesaf. Fe fyddwn i'n dadlau nad yw honno'n ffordd o sicrhau blaenoriaeth i gyllido a chyflawni'r camau hyn. Nid oes unrhyw amheuaeth gennyf i, Gweinidog, eich bod chi'n dymuno gweld tlodi plant yn cael ei ddileu, fel gwna pawb ohonom ni yma, ond mae angen map ffordd sy'n fwy eglur ac arwyddbyst arnom ni i wybod ein bod ni'n nesáu at yr amcan hwnnw.

16:25

Diolch yn fawr, Sioned Williams, a diolch i chi am eich sylwadau a'ch cwestiynau heddiw. Rwy'n falch eich bod chi'n cydnabod bod rhai o'r pwyntiau allweddol a godwyd yn yr ymgynghoriad, ac, yn wir, yn yr ymchwiliad gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol—ac a gaf i ddweud fy mod i'n falch iawn hefyd fod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi cyfranogi yn hynny hefyd—yn cael sylw yn y strategaeth.

Fe hoffwn i fynd yn ôl am ychydig at gefndir hanesyddol y mater hwn, ynghylch sut yr ydym ni'n monitro'r camau yr ydym yn eu cymryd o ran mynd i'r afael â thlodi plant. Mewn gwirionedd, yn 2015—rwy'n gwerthfawrogi nad oeddech chi i gyd yma ar yr adeg honno—fe aeth y strategaeth tlodi plant i gyfeiriad dull a oedd yn cyd-fynd â'n huchelgeisiau ni i fynd i'r afael â thlodi plant â'r dangosyddion cenedlaethol yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Rydych chi'n ymwybodol o hyn, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n mynd yn ôl ac yn edrych ar hyn. Os nad ydych chi wedi gwneud felly, os nad ydych chi'n ymwybodol o'r materion hyn, roedd y strategaeth yn cynnwys y set hon o ddangosyddion allweddol i helpu i fesur cynnydd o ran cyflawni ein hamcanion gyda thlodi plant. Mewn gwirionedd, mae 12 carreg filltir genedlaethol, 22 o ddangosyddion cenedlaethol, sy'n ein helpu i fesur cynnydd ein cenedl o ran gwella canlyniadau i blant a'u teuluoedd nhw.

Mae ein hymagwedd ni tuag at y strategaeth tlodi plant newydd yn adeiladu ar y dull sefydledig hwn. Bob blwyddyn, fe gewch chi—. Ac, yn wir, rwyf i am ei rannu unwaith eto, adroddiad 'Llesiant Cymru' y llynedd. Mae hwnnw'n ystyried pa effaith a gawsom ni a pha gynnydd a wnaethom ni yn unol â'r dangosyddion hynny. Felly, rydym ni o'r farn fod fframwaith i'w gael, ar sail ystod o fesurau, gan gynnwys y dangosyddion cenedlaethol a ffynonellau eraill o ddata—. Fe soniais i am y materion croestoriadol, y nodweddion gwarchodedig. Mae targed gennym ni eisoes; fe roddais i'r dyddiadau i chi eisoes: 2035 hyd 2050. Fe fydd hyn yn ein helpu ni i adlewyrchu dylanwad ein dull o weithredu yn gywir. Mae hyn yn ymwneud â'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud a'r hyn y mae'n ei olygu ym mywydau pobl a sut y mae'n cael effaith—a ydyn nhw'n cael pryd ysgol am ddim, o ganlyniad i'n cytundeb cydweithio.

Un o'r pethau cyntaf a ddywedodd y comisiynydd plant ar y pryd pan ddes i yn Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol oedd, 'Cyflwynwch brydau ysgol am ddim, cynyddwch y niferoedd sy'n manteisio ar dalebau Cychwyn Iach'—rwy'n credu bod hynny wedi dod oddi wrth Sefydliad Bevan. Onid peth da yw clywed gan Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, mai Cymru sydd â'r niferoedd mwyaf sy'n manteisio ar dalebau Cychwyn Iach erbyn hyn? Nid o ganlyniad i dargedau y mae hynny; ond oherwydd camau'r Llywodraeth a alluogodd ymwelwyr iechyd i gael eu hyfforddi i sicrhau y gallent helpu pobl ar y rheng flaen, mewn gwirionedd, y mamau ifanc hynny, wrth allu cael talebau Cychwyn Iach. Mae perygl i ddull ar sail targedau fod yn orsyml, gan dynnu oddi wrth y dystiolaeth ynglŷn â phrofiad bywyd tlodi, yn tynnu sylw, mewn gwirionedd, oddi wrth lywodraeth dda a'r ffyrdd y gallwn ni gyflawni polisïau.

Rwyf i am roi rhai o'r targedau o ran cynllun gweithredu trechu tlodi i chi, ac rwyf i am eu rhannu unwaith eto er mwyn i chi eu gweld nhw: erbyn 2016, i weld cynydd yng nghyfran y plant tair oed sy'n cael sesiynau Dechrau'n Deg a gyflawnodd 5 y cant dros ben eu cerrig milltir datblygiadol. Fe gyrhaeddodd 55 y cant o blant yn rhaglen Dechrau'n Deg eu carreg filltir ddatblygiadol neu ragori arnyn nhw'n deirblwydd oed. Nawr, fe gafodd hyn ei wirio. Mae hyn wedi bod yn y cynllun plant a phobl ifanc. Rydym ni'n gwirio hyn. Mae hwn yn ddangosydd sy'n dangos ein bod ni'n gwneud cynnydd. Dangosydd arall: llenwi'r bwlch o ran cyrhaeddiad rhwng dysgwyr saith oed sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Dangosydd arall: y disgwyliad oes iach ar enedigaeth plentyn, sy'n rhoi'r nifer o flynyddoedd y gall unigolyn ddisgwyl byw gydag iechyd da. Dangosydd arall: i greu £8 miliwn mewn budd-daliadau ychwanegol a gadarnhawyd i unigolion bob blwyddyn drwy gyfrwng gwasanaethau cynghori.

Felly, i droi at eich pwynt chi ynglŷn â'r gyllideb ddrafft. Roeddwn yn destun craffu ddoe yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ac roeddwn i'n falch iawn y gallwn i ddweud—ac roedd honno'n dasg anodd—£1.3 biliwn yn mynd o'n cyllideb o ganlyniad i doriadau Llywodraeth y DU, o ganlyniad i Liz Truss yn dinistrio ein heconomi. Felly, roedd rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd iawn wedyn. Felly, roedd cadw'r gronfa cymorth dewisol honno ar ei chyfradd o £38.5 miliwn yn gyflawniad hanfodol ar draws Llywodraeth Cymru, gan gadw'r gronfa gynghori sengl. A ddoe, fe wnaethom ni gwrdd â Chyngor ar Bopeth lan yn Nhorfaen ym Mlaenafon sydd yno bedwar diwrnod yr wythnos, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, i roi'r math o gyngor y mae angen i bobl ei gael. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, wrth ystyried y gwaith a wnaethom ni o ganlyniad i gyngor y pwyllgor arbenigol costau byw. Ac fe fyddaf i'n adrodd ar hynny hefyd y prynhawn yma.

Mae hyn yn ymwneud â chyhoeddi siarter budd-daliadau Cymru, fel dywedais i, a gafodd ei gymeradwyo gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Yn wir, fe ddywedais i yn fy natganiad ysgrifenedig ddoe ein bod ni wedi penodi Fran Targett i gadeirio grŵp gweithredu allanol gyda llywodraeth leol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ar gyfer gweithio i sicrhau y bydd hyn yn cael ei gyflawni. Ac mae hyn yn ymwneud â system newydd o ddarparu manteision i Gymru yma heddiw, ond fe geir llawer o argymhellion eraill yr ydym ni'n eu hadolygu hefyd, nid yn unig cyflwyno prydau ysgol am ddim fel rhan o'r cytundeb cydweithio. Oni ddylem ni gydnabod bod mwy na 15 miliwn o brydau ysgol am ddim ychwanegol wedi cael eu rhoi ers y lansiad? Fe ddylem ni fod yn falch o hynny. Mae hynny'n helpu pobl, gyda'r Llywodraeth, nawr, ac mewn gwirionedd Llywodraeth o ganlyniad i ni fod yn gweithio gyda'n gilydd yw hon. Ond ymestyn y cynllun Nyth hefyd wrth i ni gaffael y cynllun Cartrefi Clyd newydd ar gyfer mis Ebrill, a galw ar Lywodraeth y DU—. Mae hyn yn bwysig hefyd—ac fe wn i y byddech chi'n cydnabod hyn—na allwn ni wneud hyn i gyd ar ein pennau ein hunain. Mae nawdd cymdeithasol yn fater a gedwir yn ôl. Ond fe allwn ni wneud yr hyn y gallwn ni ei wneud gyda'r ysgogiadau sydd gennym ni, a hwnnw yw ein cyfrifoldeb ni. Ac wedyn, yn amlwg, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cymeradwyo'r newidiadau a'r cynnydd pwysig a wnaethom ni o ganlyniad i'r ymgynghoriad hwn. 

16:30

Diolch i chi, Gweinidog, am gyflwyno'r strategaeth tlodi plant hon i Gymru heddiw. Heddiw, rwy'n siarad yn rhinwedd fy swydd yn Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac, fel roeddech chi'n sôn, yn y swydd hon, roeddwn i â rhan yng ngwaith diweddar y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynglŷn â'r strategaeth tlodi plant ddrafft, a drafodwyd yn y Cyfarfod Llawn bythefnos yn ôl. Unwaith eto, fe hoffwn i ddiolch ar goedd i Gadeirydd y pwyllgor hwnnw am fy ngwahodd i'w gwaith hi ar hynny.

Yn ystod y ddadl, fe gyfeiriodd y rhan fwyaf o'r cyfraniadau at yr effaith y mae tlodi yn ei chael ar blant a phobl ifanc a'u teuluoedd nhw, ac rwy'n credu, wrth i ni drafod y strategaeth hon heddiw, ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cofio'r effeithiau sylweddol a threiddiol sydd yn cael eu teimlo ledled Cymru gan lawer gormod o blant a phobl ifanc a'u teuluoedd nhw bob dydd. Ac rwy'n gwybod mai dyna pam roedd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn galw am i'r strategaeth gynnwys y targedau hynny o ran lliniaru tlodi plant, a bod cynllun gweithredu manwl yn sail i hynny. Roeddwn i'n falch iawn o'ch clywed chi'n dweud heddiw, a'r geiriau y gwnaethoch chi eu defnyddio, a'ch penderfyniad chi, bod rhaid i ddileu tlodi plant fod yn flaenoriaeth bennaf i bob llywodraeth.

Eto i gyd, fel gwnes i bythefnos yn ôl, fe hoffwn i ganolbwyntio fy nghwestiynau ar ddau grŵp arbennig y bydd tlodi yn fwy tebygol o effeithio arnyn nhw—plant â phrofiad o ofal a phlant a phobl ifanc anabl. Yn y pwyllgor, rydym ni wedi treulio'r 18 mis diwethaf yn siarad â'r ddau grŵp hyn o blant a phobl ifanc ar gyfer llywio ein gwaith ni. Mae gweddill y pwyllgor a minnau wedi cael ein hysbrydoli gan eu dealltwriaeth nhw, eu cryfder nhw a'u hawydd nhw i newid pethau er gwell i'r plant a'r bobl ifanc hynny a fydd yn dilyn yn ôl eu traed nhw. Mae ein gwaith ni wedi bod yn fwy caboledig a chadarn am iddo gael ei lywio mor eglur gan eu profiadau a'u hawgrymiadau ar gyfer newid ac fe fydd hyn ag effaith wirioneddol a chadarnhaol ar blant a phobl ifanc ledled Cymru. Gyda'r profiad hwn yn flaenllaw yn fy ystyriaethau i, fe hoffwn i ofyn i'r Gweinidog sut y gwnaethoch chi ystyried anghenion y ddau grŵp hyn yn benodol wrth ddatblygu'r strategaeth.

Yn olaf, mae'r strategaeth yn nodi eich bod chi wedi ymgymryd â gwaith ymgysylltu, sydd wedi cynnwys pobl ifanc â phrofiad o ofal, pobl anabl a niwroamrywiol, a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol. Efallai y gwnewch chi roi mwy o fanylion i ni ynglŷn â'r gwaith ymgysylltu hwn a sut mae eu barn nhw wedi ffurfio a dylanwadu ar y strategaeth. Diolch.

16:35

Diolch yn fawr iawn wir i chi, Jayne Bryant, am eich cyfraniadau chi, ac yn wir am ymateb i ddadl y Pwyllgor  Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol pwysig. Rwy'n credu eich bod chi wedi canolbwyntio ar agweddau allweddol ar y gwaith gyda'ch ymholiadau hi. Rwyf i am ymdrin yn gyntaf i gyd â'n gwelliant ni ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, yn enwedig o ran gwella eu canlyniadau addysgol nhw, oherwydd mae hynny'n ymwneud â'r ffyrdd y gallwn ni fynd i'r afael â thlodi plant. A chydnabod, mewn gwirionedd, bod cynnwys plant sydd â phrofiad o ofal yn yr hawl honno i addysg ragorol yn hanfodol iddyn nhw o ran eu cynnydd a'u datblygiad. A'r ffaith fod cyllid grant cychwynnol gennym ni ar gyfer awdurdodau lleol ledled Cymru i'w galluogi i redeg model ysgolion rhithwir, efallai eich bod yn ymwybodol o hyn, sy'n ceisio gwella profiad addysg a chanlyniadau plant sy'n derbyn gofal. Ac wrth gwrs hefyd—ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog addysg yn gwneud sylw ar hyn yn nes ymlaen—cefnogi'r plant sy'n derbyn gofal mewn addysg gyda £5.7 miliwn bob blwyddyn drwy'r grant datblygu disgyblion ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a'r consortia addysg rhanbarthol sy'n gweinyddu'r grant hwnnw. Ond yn ogystal â hynny, rwy'n credu bod grant hanfodion ysgol yn allweddol, oherwydd mae hwnnw ar gael i bob plentyn â phrofiad o ofal, heb ystyriaeth i'w amgylchiadau, a phan oeddwn i'n cyfeirio at bwysigrwydd siarter budd-daliadau Cymru, rwy'n credu y bydd honno'n ein helpu i weld y ffordd ymlaen yn hynny o beth.

Fe hoffwn i ddweud hefyd fod y cynllun treialu incwm sylfaenol yn fy marn i'n cydnabod y ffaith ein bod ni'n dymuno i'r strategaeth tlodi plant hon, ac, yn wir, rhywbeth na ddywedais i wrth ymateb i Sioned—roedd diogelu'r cynllun treialu incwm sylfaenol yn benderfyniad mawr yn ein cyllideb, lle bu'n rhaid i ni ddod o hyd i 10 y cant o linell gyllideb fechan iawn o £139 miliwn. Roeddwn i'n benderfynol o amddiffyn ein cynllun treialu incwm sylfaenol ar gyfer pobl sy'n gadael gofal, sydd yn aml wedi profi llawer iawn o dlodi plant. Mae hyn yn rhoi gobaith newydd a rhagolygon newydd iddyn nhw ac wrth gwrs mae'r gyfradd o 97 y cant sydd wedi manteisio ar y cynllun arloesol hwn—sy'n cael ei werthuso, ac fe fyddwn ni'n cael clywed am y gwerthusiad hwnnw'n fuan iawn—mor bwysig.

Rwy'n credu bod y gwaith yr ydych chi'n ei wneud gyda phlant a phobl ifanc anabl yn hanfodol bwysig, ac roeddwn i'n falch o ddwyn tystiolaeth gerbron hwnnw. Dim ond dweud fy mod i'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn elwa ar y cyfle i fwrw golwg ar y ddogfen a gyhoeddwyd gyda'r strategaeth tlodi plant hon ynglŷn â'r ymgynghoriad a'r rhai y gwnaethom estyn allan atyn nhw. Ac fe wnaethon ni gomisiynu Plant yng Nghymru, Achub y Plant, Voices from Care, gan gynnwys pobl ifanc â phrofiad o ofal, ond hefyd grwpiau cymunedol, grwpiau o bobl ifanc anabl, niwrowahanol, pobl ifanc LHDTC+, pobl ifanc sydd â phrofiad o ddigartrefedd, Teithwyr, Roma, pobl ifanc y Sipsiwn, a rhoi grantiau i sefydliadau ar gyfer estyn allan at blant a phobl ifanc, ac fe welwch chi ein bod ni mewn gwirionedd—. Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n defnyddio safbwynt ein plant a phobl ifanc yn hyn o beth o ran cynnwys pobl. Fe wnaethom ni gynnwys rhieni, gofalwyr a theuluoedd hefyd, ac fe wnaethon nhw ymateb yn uniongyrchol iawn, ac ystyr hyn yw bod â strategaeth a fydd yn helpu i leihau tlodi ac o gymorth i bobl mewn tlodi. Ac, wrth gwrs, maen nhw'n sôn am bethau fel cost dillad ysgol, tripiau a gweithgareddau. Maen nhw'n dweud bod y system fudd-daliadau yn gallu bod yn anodd ei defnyddio. Dyna pam mae'r strategaeth tlodi plant yn mynd i'r afael â'r materion hynny. Felly, rwy'n edrych ymlaen at ganlyniad eich adolygiad chi a fydd, rwy'n siŵr, yn rhan bwysig iawn o'r ymateb a fydd gennym ni wrth ehangu, wrth gwrs, ein camau gweithredu i gyd ar draws y Llywodraeth o ran mynd i'r afael â thlodi plant.

16:40

Wrth gwrs, heddiw, Gweinidog, rydym ni'n cydnabod yr hyn sy'n cael ei wneud, yn amlwg, trwy'r cytundeb cydweithio—fe fu'r prydau ysgol am ddim yn hanfodol bwysig—ac rydym ni'n cydnabod y cyfyngiadau oherwydd diffyg gweithredu gan Lywodraeth y DU hefyd. Ond rwy'n credu bod angen i ni gydnabod y lleisiau sydd wedi bod yn rhan o lunio'r strategaeth a gyhoeddwyd heddiw a fu'n feirniadol hefyd o'r ffaith nad oes targedau wedi cael eu pennu. Ac a wnewch chi egluro tybed—cwestiynau sydd wedi gorlethu ein mewnflychau o ran datganiad heddiw—pryd caiff y fframwaith ei gyhoeddi a'r hyn yr ydych chi'n disgwyl iddo ei gynnwys y gellir ei fesur?

Rwy'n nodi heddiw hefyd ein bod ni wedi cael datganiad ysgrifenedig yn dilyn yr argymhellion arbenigol—pethau sy'n cael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru—ac eto nid oes ymateb wedi bod gennym ni i bob un o'r argymhellion. Mae hyn er gwaethaf y ffaith i'r Prif Weinidog ddweud yn yr ymateb i mi nôl ym mis Tachwedd ei fod ef wedi bwrw golwg ar ddogfen o'r fath. Felly, a wnewch chi egluro pryd y byddwn ni'n dod i wybod beth yn union yw ymateb Llywodraeth Cymru i bob un o'r cynigion a wnaeth y grŵp arbenigol, a phryd y byddwn ni'n gweld y fframwaith hwnnw er mwyn i ni allu mesur unrhyw gynnydd? Plant yn ein cymunedau ni yw'r rhai sy'n gweld eu sefyllfa yn dirywio, er gwaethaf y pethau sy'n cael eu rhoi ar waith. Ac mae hi'n bwysig ein bod ni'n dod at ein gilydd ac yn gweld y cynnydd hwnnw, er mwyn i'w dyfodol nhw newid er gwell.

Diolch i chi, Heledd Fychan. Fe ddywedais i hyn wrth ateb mwy nag un o Aelodau'r Senedd heddiw, ond rydym ni'n datblygu fframwaith cadarn ar gyfer monitro ar sail dangosyddion cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, fel yr amlinellais i. Fe roddais i rai enghreifftiau i chi eisoes o'r targedau a bennwyd yn hynny o beth. Fe ddywedais i fod dull ar sail targedau mewn perygl o orsymleiddio materion. Ni fyddai'n ystyried pawb sydd â chyfrifoldebau eraill i gyflawni wrth fynd i'r afael â thlodi plant—Llywodraeth y DU yn bennaf.

Ond rwy'n credu mai diweddariad pwysig heddiw, a ninnau wedi bod yn gwrando nid yn unig ar y pwyllgor ond ar bartneriaid eraill, yw ein bod ni wedi penodi'r arbenigwr academaidd annibynnol hwn, yr Athro Rod Hick, i ddod i mewn a'n helpu ni i'ch argyhoeddi chi gobeithio ac argyhoeddi pob un ohonom ni mai'r ffordd ymlaen at gyflawni'r strategaeth hon ynglŷn â thlodi plant mewn gwirionedd yw dangos ffyrdd y gallwn ni arddangos canlyniadau'r amcanion a'r blaenoriaethau hynny i gyd. Felly, mae hwnnw'n waith a fydd nid yn unig yn digwydd gyda Llywodraeth Cymru—fe hoffwn i'r Athro Hicks ddod i'r pwyllgor. Rwy'n credu iddo fod un waith i roi tystiolaeth, felly rwy'n credu os gallwch chi barchu'r ffaith fod hwn nawr, heddiw, yn gyhoeddiad o bwys—sef ein bod ni'n awyddus i gynnwys yr arbenigedd annibynnol hwn. Rydyn ni wedi dweud bob amser ein bod ni'n dymuno gwneud hynny—edrych ar ffyrdd y gallwn ni saernïo'r fframwaith credadwy hwnnw—ac fe fydd yn fframwaith ar gyfer monitro sut yr ydym ni'n cyflawni'r strategaeth tlodi plant, sut yr ydym ni'n cyflawni gyda'r pwerau a'r cyfrifoldebau a'r ymrwymiad sydd gennym ni, heddiw.

Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Mae hwn yn bwynt a wnes i yn ystod dadl yr wythnos diwethaf ynglŷn ag adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ond rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig inni nodi bod y gyfradd gymharol o dlodi plant yng Nghymru wedi gostwng rhwng 2012-13 a 2021-22 mewn cyferbyniad â'r cyfartaledd yn y DU. Serch hynny, rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn cytuno bod y cyfraddau yn llawer rhy uchel ar hyn o bryd ac mai ein nod cyffredin ni yw dileu tlodi plant. Felly, rwy'n falch o weld yr ymrwymiad newydd hwn gan Lywodraeth Cymru i weithio ar draws y Llywodraeth, gan ddefnyddio pob ysgogiad yn ei rheolaeth i gyfyngu rhagor ar hyn.

Mae gennyf i ddau gwestiwn i chi heddiw: yn gyntaf, mae croeso gwirioneddol i gyhoeddiad ddoe ynglŷn â siarter budd-daliadau i Gymru, a fydd yn sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael y gefnogaeth y mae'r hawl ganddyn nhw i'w chael, ac rwy'n falch fod pob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi rhoi cefnogaeth i hyn. Mae hyn wedi ennyn llawer o ddiddordeb eisoes yn fy etholaeth i yng Nghwm Cynon ac rwy'n gwerthfawrogi eich bod chi'n bwriadu gwneud datganiad wythnos nesaf. Sut ydych chi'n rhagweld y bydd pobl yn cael gafael ar y gefnogaeth y bydd y siarter yn ei rhoi, a beth fyddai'r cydadwaith gyda'r system nawdd cymdeithasol a gedwir yn ôl?

Ac, yn ail, yn gyflym, fe ymwelais i â Banc Babanod Bwl, sy'n galluogi teuluoedd yn Ynysybwl a Choed-y-Cwm sydd mewn angen oherwydd yr argyfwng costau byw i gael gafael ar hanfodion fel cewynnau a llaeth fformiwla. Mae mentrau gwirfoddol lleol fel hyn yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod plant a theuluoedd yn ein cymunedau ni'n cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Felly, pa swyddogaeth yr ydych chi'n ei rhagweld bydd gan gynlluniau tebyg o ran sicrhau bod eich strategaeth chi'n cyflawni ei hamcanion?

16:45

Wel, diolch yn fawr iawn, Vikki Howells, a diolch am y gydnabyddiaeth honno bod hon yn her anodd, onid ydyw, o ran mynd i'r afael â lefelau tlodi plant, sydd wrth gwrs yn llawer rhy uchel. Mae adroddiadau ac ystadegau yn dangos bod lefelau tlodi plant yn rhy uchel ar draws y DU, ac mae digon o dystiolaeth o'r rhesymau dros hynny, y gellir eu gosod yn uniongyrchol hefyd wrth garreg drws Llywodraeth y DU, o ran eu toriadau a system nawdd cymdeithasol annigonol.

Rwy'n credu bod datblygu ein system fudd-daliadau yng Nghymru yn gam pwysig—siarter budd-daliadau Cymru. Byddaf yn gwneud datganiad llafar ar hynny yn ddiweddarach y mis hwn. Mae pob awdurdod lleol yn ei gefnogi; felly, yn eich etholaeth chi, Rhondda Cynon Taf. Ddoe, yn Nhorfaen, fe wnaethom gwrdd â phobl sydd ar y rheng flaen, y swyddogion refeniw a budd-daliadau. Yr hyn sy'n bwysig gyda llywodraeth leol Cymru yw bod llawer eisoes yn symleiddio eu budd-daliadau, mynediad at fudd-daliadau. Rwyf wedi sôn am y rhai allweddol: cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, mynediad at gymhwysedd prydau ysgol am ddim, grant hanfodion ysgol, y lwfans cynhaliaeth addysg. Felly, maen nhw wedi ymrwymo i gydweithio i sicrhau bod yr arfer gorau yn berthnasol i bob awdurdod lleol yng Nghymru. Cyngor ar Bopeth, ochr yn ochr â nhw—. Fran Targett, a arferai fod yn gyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth yng Nghymru, sy'n arwain y grŵp gweithredu allanol. Felly, rwy'n hapus iawn. Rwy'n gobeithio dweud mwy yn y datganiad llafar ymhen ychydig wythnosau.

Hefyd, credaf fod eich pwynt arall, yr ail, yn bwysig iawn. Oherwydd, rwy'n ymwybodol iawn, gyda'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau, o faint o aliniad sydd rhwng ein strategaeth tlodi plant a chynllun plant a phobl ifanc, sy'n mynd i'r afael â'r holl faterion yn fawr iawn, ac rydym yn sicrhau'r dull sy'n seiliedig ar hawliau o gefnogi plant a phobl ifanc a chymunedau, teuluoedd a chymunedau, ac, a dweud y gwir, drwy Dechrau'n Deg, sydd mewn gwirionedd o ran y blynyddoedd cynnar—mae hynny mor bwysig—mynediad at ofal plant am ddim. 

Y strategaeth, beth sy'n bwysig—a gobeithio y bydd yr Aelodau yn edrych ar y strategaeth yn fanwl—mae bron pob Gweinidog yma, pob adran o'r Llywodraeth, wedi ymrwymo i'r strategaeth tlodi plant hon a'i chyflawni, o addysg i gyflogaeth i iechyd i wasanaethau cymdeithasol. Yr hyn sy'n bwysig am ein cerrig milltir o dan Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a gobeithiaf y bydd pobl yn ailymweld â nhw—a byddaf yn sicr yn rhannu'r rhain—yw ei fod yn ymwneud â mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, anghydraddoldebau addysg, anghydraddoldebau tai. A dyna sut y byddwn yn mynd i'r afael â thlodi plant. 

Hoffwn gofnodi fy niolch i chi hefyd. Rwy'n gwbl ymwybodol eich bod chi a'ch tîm wedi ymrwymo i ddileu tlodi plant. Diolch am y strategaeth a hefyd am siarter budd-daliadau Cymru. Mae llawer i'w groesawu yno. Fodd bynnag, nid oes yr un ohonom yn y Siambr hon sydd wedi siarad am dargedau wedi sôn y prynhawn yma am yr hyn yr ydym yn mynd i'w gwmpasu, oherwydd dyna'r thema gyffredin. Mae'n debyg ein bod ni'n clywed popeth rydych chi'n ei wneud, ac wedi'i wneud, ond mae'n dal i arwain at 28 y cant o blant Cymru yn byw mewn tlodi. Fe ddes i mewn i wleidyddiaeth er mwyn ceisio newid tlodi plant, ac rwy'n siŵr bod llawer ohonom ni yn y Siambr hon wedi gwneud hynny hefyd. Fy mhle i chi yw—. Deallaf fod datganiad gan y Llywodraeth yn gyfle i chi glywed gennym ni o amgylch y Siambr beth yw ein barn a'n meddyliau. Mae hyn wedi'i nodi yn adroddiad y Pwyllgor cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol hefyd. Fy mhle i chi yw: os yw'r pethau rydych chi'n dweud yn mynd i weithio, mae'n rhaid i ni eu gwneud ar frys. Ac os ydych chi'n dweud eu bod nhw'n mynd i weithio, yna fy nghwestiwn i yw: beth am gael targedau? Diolch yn fawr iawn.

Wel, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n croesawu cyngor academaidd annibynnol yr Athro Rod Hick. Mae'n arbenigwr ledled y byd—arbenigwr a gydnabyddir yn fyd-eang—ar sut rydych chi'n mesur tlodi. A dyna hanfod y cwestiwn hwn: sut rydym yn mesur y camau yr ydym yn eu cymryd yn y strategaeth tlodi plant hon gyda'n pwerau a'n hysgogiadau? Sut ydyn ni'n eu mesur, fel y gall pobl deimlo bod y canlyniadau'n mynd i ddod?

Dydw i ddim yn mynd i fynd drwy'r holl ddangosyddion eto o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, ond mae yna lawer iawn mwy, sydd i gyd yn ymwneud â phlant ac rydw i'n mynd i'w rhannu eto—yn amlwg, mae eisiau iddyn nhw gael eu rhannu. Ond, wrth gwrs, mae gennym ni dargedau eraill mewn perthynas â'r cyllid rydyn ni'n ei roi, a byddaf yn rhoi un enghraifft yn unig o'r ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'—dyma rydyn ni'n ei ariannu o dan ein cronfa gynghori sengl. Felly, o ran y targedau ar gyfer yr ymgyrch honno, 'Yma i helpu â chostau byw', sy'n hanfodol bwysig wrth fynd i'r afael â thlodi plant, mae ein targedau yn gynnydd o 50 y cant ar gyfartaledd yn nifer y bobl sy'n cysylltu ag Advicelink Cymru, o'i gymharu â mis arferol—felly, mae gennym y targed hwnnw, cynnydd o 50 y cant—bydd pobl sy'n cysylltu ag Advicelink Cymru yn ennill cyfanswm o £2 filiwn mewn incwm ychwanegol i'r cartref—mae'r rhain i gyd yn dargedau ar gyfer ein rhoddwyr cyngor sengl—a hefyd 120,000 o ymweliadau â thudalennau hunangymorth Llywodraeth Cymru.

Nawr, mae'r rheini'n benodol iawn i waith y mae angen ei wneud, sy'n mynd i helpu i fynd i'r afael â thlodi plant. Ond, o ran y strategaeth tlodi plant gyfan a'r ffyrdd y gallwn ei fonitro, mae dyletswydd arnom i gyhoeddi'r adroddiad bob tair blynedd—mae'n mynd i ddigwydd; mae'n statudol. Rydym yn datblygu'r fframwaith monitro cadarn hwn, ac rwyf wedi rhoi'r hanes i chi: yn 2015, cytunodd pob un ohonom, derbyniwyd yn y Senedd hon, ein bod yn symud tuag at alinio ein strategaeth tlodi plant â'n Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, fel y gallwn fesur cynnydd o ran cyflawni ein hamcanion tlodi plant.

Felly, yn amlwg, mae gennym waith i'w wneud o ran clywed gan Rod Hick, gyda'i arbenigedd annibynnol. Ond rwy'n gobeithio y byddwch yn ailedrych ar y cerrig milltir cenedlaethol, y dangosyddion. Rwy'n cael fy nghalonogi'n fawr wrth edrych ar gynllun y plant a'r bobl ifanc yn unig, oherwydd hynny—. A dweud y gwir, mae Julie Morgan newydd wneud diweddariad arno ac, yn y diweddariad hwnnw, mae'n dweud, 'Dyma'r cynnydd rydyn ni wedi'i wneud', ac mae hi hefyd yn defnyddio—rydyn ni'n defnyddio—y dangosyddion yno. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Senedd yn edrych ar hyn mewn ffordd gadarnhaol.

16:50

Mae llawer i'w ddathlu yn y strategaeth newydd, ac, yn arbennig, rwy'n croesawu atgyfnerthu hawliau plant. Nid yw plant yn dewis cael eu geni i dlodi ac mae'n gwbl briodol bod ganddynt hawl gyfreithiol i sicrhau bod eu hawliau'n cael eu gorfodi.

Rwy'n croesawu'n fawr y cynnydd y mae'r Gweinidog yn ei wneud ar y siarter budd-daliadau hon. Ni fyddwn eisiau bod yr awdurdod lleol yn sefyll o'ch blaen nad oedd am gymryd rhan yn y siarter budd-daliadau. Rwy'n siŵr y byddai honno'n sgwrs anodd iawn. Ond mae'n rhaid i ni sicrhau bod hwn yn gam pwysig ymlaen y gellir ei ddefnyddio'n gyflym fel cyfrwng i sicrhau bod yr arweinwyr ymhlith awdurdodau lleol sy'n trosglwyddo'n awtomatig y rhai sy'n gymwys i gael un budd i rai eraill y maent eisoes wedi'u hasesu fel rhai cymwys ar eu cyfer, bod hynny'n cael ei gyfleu ar draws i'r llusgwyr traed nad ydynt yn gwneud hyn ar hyn o bryd. Felly, hoffwn weld targed ar gyfer sut rydym yn mesur y cynnydd y mae awdurdodau lleol yn ei wneud. Rwyf eisiau gweld rhai ystadegau ynghylch faint y mae'r siarter budd-daliadau hon yn mynd i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau y mae gan bobl hawl iddynt. Mae hyn yn dod allan o'u trethi ac yna mae ganddyn nhw hawl i'r arian hwnnw. Felly, oherwydd hyn, dylai'r awdurdod lleol ac eraill fod wrthi'n sicrhau bod hynny'n digwydd.

Rwy'n falch iawn, yn y strategaeth newydd, eich bod yn siarad am y diffyg mynediad at fwyd fforddiadwy ac iach. Rwy'n siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o'm diddordeb yn y pwnc hwn, ond rwy'n credu bod angen gwneud llawer iawn o waith o hyd ar hyn. Rwy'n rhannu eich cymeradwyaeth yn llwyr am y gwaith a wnaed gan Lynne Neagle, a aeth ati i fynd i'r afael â nifer warthus o isel o dalebau Cychwyn Iach—dim ond 40 y cant. Trwy waith Lynne Neagle, mae wedi mynd i fyny i 70 y cant, ond mae hynny'n dal i adael 30 y cant o grŵp o bobl wedi'u targedu sy'n cael gweld bydwraig yn awtomatig yn ogystal ag ymwelydd iechyd fel rhan o'r pontio i fod yn fam. Sut mae'n bosibl bod 30 y cant o grŵp o bobl yn dal ar eu colled? Felly, 30 y cant o'r rhai sydd ar incwm isel. Hoffwn weld targed newydd o 100 y cant o'r holl deuluoedd incwm isel hynny yn derbyn y daleb Cychwyn Iach.

Dwi'n meddwl bod awdurdodau lleol—. Pan fydd arian mor fyr, ac, fel ydych chi'n ddweud £1.3 biliwn yn llai nag yr aseswyd bod angen arnom yn 2021, rwyf eisiau i awdurdodau lleol ddechrau meddwl am yr arian arall sydd ar gael iddynt nad ydynt yn ei gymryd ar hyn o bryd. Felly, hoffwn gael targed ar nifer y cartrefi sy'n elwa ar ECO4 neu ECO Flex. Ar hyn o bryd, rwy'n credu ei fod yn sero yng Nghymru. Rwyf hefyd eisiau deall pa gymorth y mae awdurdodau lleol yn ei roi i aelwydydd cymwys i gael y budd o'r arian buddion cymunedol o ffermydd gwynt. Yn amlwg, nid yw'n arian sy'n mynd i awdurdodau lleol, ond dylai awdurdodau lleol fod yn cefnogi cymunedau i sicrhau bod yr arian hwnnw'n cael ei ddefnyddio nid yn unig ar faterion y byddai'n braf eu cael, ond materion hanfodol iawn fel cael cartref cynnes, pan, ar hyn o bryd, fo Llywodraeth Cymru wedi gorfod atal cyflwyno'r rhaglen Cartrefi Clyd newydd.

Felly, tybed a allech chi ddweud ychydig mwy am ba gerrig milltir rydych chi wedi'u gosod ar gyfer nifer yr ysgolion bro. Felly, rwyf eisiau gwybod faint o ysgolion bro sydd yna heddiw—

16:55

Rydw i wedi bod yn hael iawn gydag amser. Mae'n ddrwg gen i, ond mae angen i hyn ddod i ben.

Diolch, yr wyf yn mynd i orffen. Ond rwy'n croesawu trafod hyn i gyd gyda Rod Hick fel y gallwn sicrhau bod gennym gerrig milltir clir.

Diolch yn fawr iawn, Jenny. Rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol iawn eich bod wedi cydnabod bod newidiadau wedi digwydd o ganlyniad i holl effeithiau ymgynghoriad eich adroddiad pwyllgor, atgyfnerthu hawliau plant. O ran siarter budd-daliadau Cymru, yn gyflym iawn, aeth pob un o'r 22 arweinydd i'r cyngor partneriaeth llywodraeth leol lle roeddwn i, gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac fe wnaethon nhw i gyd ei gymeradwyo, felly maen nhw i gyd yn ei gefnogi. Ond, mewn gwirionedd, ac mae'n bwynt y mae Sioned wedi ei wneud amdano—ac eraill—sut ydych chi'n mynd i fonitro cyflawniad. A Vikki. Felly, mewn gwirionedd, rwy'n credu mai dyma rôl y grŵp gweithredu allanol a gadeirir gan Fran Targett, felly byddwn yn mynd â'r pwynt hwnnw yn ôl atynt o ran sut y gallwn eu cynnwys wrth fesur effaith eu gwaith.

Rwyf wedi rhoi rhai enghreifftiau o dargedau penodol iawn, fel 'Hawliwch yr Hyn sy'n Ddyledus i Chi', ac mae gennym ni hyn mewn gwirionedd—. Doedd gennym ni ddim targed ar gyfer talebau Cychwyn Iach; roedd yn ymrwymiad gan y Llywodraeth. Mae hyn yn mynd â mi yn ôl at y pwynt: os ydych yn darllen yr holl strategaeth, byddwch yn gweld yr ymrwymiadau ym mhob cynllun y mae'n rhaid i bob Gweinidog ei gyflawni a monitro beth yw'r cyflawniad hwnnw. Wrth gwrs, rwy'n siŵr y byddwch yn holi'r Gweinidog addysg yn nes ymlaen ynglŷn â hyn o ran cyrhaeddiad.

Dywedaf i orffen fod y mater tlodi bwyd—. Unwaith eto, holwyd am y gyllideb ddrafft, gwnaethom ddiogelu hyn yn y gyllideb ddrafft, ond nid yw'n ymwneud â rhoi arian i fanciau bwyd yn unig, nac ydyw, fel y gwyddoch. Dyma'r gwaith rydyn ni'n ei wneud, ac fe wnaethom sôn amdano yn gynharach y prynhawn yma, yr wyf ei wneud gyda'r Gweinidog dros faterion gwledig am y strategaeth bwyd cymunedol, cyrchu bwyd, cyflwyno prydau ysgol iach, sy'n dipyn o gwestiwn ar hyn o bryd. Felly mae hwnnw, rwy'n credu, yn faes pwysig iawn.

Yn olaf, Cartrefi Clyd a'r ffaith fod Nyth yn symud i'r Cartrefi Clyd o 1 Ebrill o ran caffael—mae tai yn hanfodol i fynd i'r afael â thlodi plant, felly rwy'n falch iawn ein bod wedi llwyddo i sôn am dai y prynhawn yma.

Fe wnaf sôn am ddau beth cyn i mi fynd ymlaen at fy mhwynt sylweddol. Yn gyntaf oll, soniodd Vikki Howells am ragoriaeth y polisi bwndeli babanod, ac mae'n wych, ond mae'n drist gweld bod y gyllideb ddrafft bresennol yn awgrymu rhyddhau £6 miliwn o'r gyllideb honno, a fydd, yn amlwg, yn effeithio ar botensial plant wrth iddynt fynd ymlaen yn eu bywydau. Ac yna, soniodd y Gweinidog am y polisi cap dau blentyn gan ddweud ei fod yn bolisi gwael yn Lloegr, ac rydym yn cytuno ar hynny, ond nid ydym yn gweld Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, yn cynnig diddymu'r polisi hwnnw. Felly, byddai'n dda gweld Llywodraeth Cymru yn rhoi pwysau ar y Blaid Lafur, a fydd cyn bo hir yn Llywodraethu, yn San Steffan, i ddiddymu'r polisi hwnnw.

Ond ar y pwynt olaf hwnnw y soniodd y Gweinidog o ran tai, rwy'n falch iawn o weld tai yn cael eu crybwyll 15 gwaith, rwy'n credu, yn y strategaeth hon. Pan edrychwn ar iechyd pobl unigol, a phlant yn enwedig, o ran triniaeth ysbyty ar gyfer pobl ag afiechydon anadlol, mae tua 20 y cant o'r apwyntiadau a'r triniaethau hynny yn ymwneud â thai gwael. Felly, mae gwir angen i ni fynd i'r afael â thai os ydym yn mynd i fynd i'r afael â thlodi. Ond os ydyn ni'n edrych ar y sefyllfa bresennol, dim ond gwaethygu y bydd, yn anffodus. Mae traean o'r bobl mewn llety dros dro yn blant, ac nid ydynt yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd oherwydd hynny. Felly, os ydym o ddifrif am drechu tlodi plant, mae gwir angen i ni fynd i'r afael â thai.

Fel y dywedais, bydd ond yn gwaethygu, oherwydd ar hyn o bryd mae'r bobl hynny ar y rheng flaen sy'n helpu pobl sy'n wynebu digartrefedd bellach yn gadael y sector. Rydym yn gweld pobl yn gadael cyflogaeth awdurdod lleol a sefydliadau eraill. Mae hynny oherwydd nad ydym wedi gweld cynnydd yn y grant cymorth tai. Fel mae pethau'n sefyll gyda'r gyllideb ddrafft ar hyn o bryd, ni fyddwn yn gweld hynny o hyd. Felly, fy her yw, os ydym o ddifrif ynghylch mynd i'r afael â thlodi plant, yna yn y tymor byr iawn hwn mae angen i ni weld cynnydd yn y grant cymorth tai. Gwelaf, a gwrandewais ar sylwadau'r Gweinidog, ei bod yn gefnogol i sicrhau bod tai yn flaenoriaeth, felly a allwn ni ddibynnu ar y Gweinidog i gefnogi'r alwad am gynnydd yn y grant cymorth tai yn y gyllideb eleni? Diolch.

Diolch am eich amynedd.

17:00

Diolch. Rwy'n ymddiheuro, oherwydd wnes i ddim ymateb yn iawn i Vikki Howells ar y cynllun treialu bwndel babi, a nawr rydw i'n gallu ymateb yn iawn i chi, Mabon. Diolch am hynny, oherwydd credaf fod Bwndel Babi yn bwysig iawn, dan arweiniad Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, o ran ei dreialu. Rwy'n credu bod fy ateb i'r cwestiwn hwn, ac yn wir y cwestiwn tai hefyd, yn mynd yn ôl at ein cyllideb ddrafft a'r anhawster a'r pwysau rydyn ni wedi'u hwynebu oherwydd y £1.3 biliwn a dynnwyd allan o'n hadnodd cyllidebol. Felly, drwy graffu—ac rwy'n siŵr bod craffu yn digwydd gyda'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn ogystal â gyda'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol—mae'n ymwneud â blaenoriaethau, onid ydyw, a sut y gallwn sicrhau y gallwn adlewyrchu'r blaenoriaethau hynny o ran y strategaeth tlodi plant.

Ond o ran Bwndel Babi, gwn fod y Gweinidog yn edrych ar ystod o opsiynau ar gyfer cyflawni'r ymrwymiad y flwyddyn nesaf. Mae'n ymwneud â sicrhau bod mwy o deuluoedd yng Nghymru yn meddu ar yr hanfodion hynny. Nid ydynt yn cael yr hanfodion trwy gredyd cynhwysol neu nawdd cymdeithasol. Mae budd-daliadau oedran gweithio 13 y cant yn is eleni nag yr oeddent yn 2009, cyn cyni. Sut y gall pobl fyw ar hynny? Felly, yr hyn y mae angen i ni ei wneud, yw adeiladu ar y cynllun treialu, ei werthuso, ac edrych ar ymchwil ar ble y gallwn ddarparu buddion cadarnhaol i rieni newydd a darpar rieni.

Diolch, Llywydd, diolch yn fawr iawn am eich datganiad heddiw, Gweinidog. Yn nhymor y Senedd ddiwethaf, gwnaeth y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, a gafodd ei gadeirio gennyf i, rai argymhellion pwysig yn fy marn i, a gwneud rhywfaint o waith pwysig yn y maes hwn, gan gynnwys yr angen am system fudd-daliadau i Gymru. Mae Sefydliad Bevan ei hun wedi gwneud gwaith da iawn, rwy'n credu, wrth gefnogi hynny ac egluro'r gwerth o ran rhoi dros £70 miliwn ym mhocedi'r aelwydydd mwyaf agored i niwed yma yng Nghymru.

Wrth gwrs, fel pwyllgor, awgrymwyd hefyd y dylid datganoli gweinyddiaeth budd-daliadau'r DU i Gymru fel y gallem gael polisi yn seiliedig ar urddas, effeithiolrwydd a thosturi, ac yn anffodus nid dyna ddull Llywodraeth bresennol y DU. Felly, Gweinidog, i ba raddau yr ydych yn gweld eich datganiad heddiw yn arwydd o gynnydd digonol ar y materion hynny, ac i ba raddau y bydd awtomatigrwydd yn cael ei gynnwys mewn rhai o'r mentrau hyn, er enghraifft, os ydych yn hawlio un budd-dal ac mae hynny yn eich gwneud yn gymwys i eraill, nid oes rhaid i chi fynd trwy gyfres o geisiadau.

A dim ond dau beth arall yn gyflym iawn, Llywydd. Yn amlwg, mae cyflawni strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant yn dibynnu ar bartneriaid. A fyddech chi'n cytuno bod rhai o'r mentrau y des i ar eu traws y bore yma, Gweinidog, yn bwysig iawn? Yn gyntaf, yn Ysgol Gynradd Maendy, a gafodd ymweliad gan Jeremy Miles, y Gweinidog addysg, y bore yma, maent yn gwasanaethu poblogaeth amrywiol iawn ac maent yn gweithio gydag ystod enfawr o bartneriaid i fynd i'r afael â pha bynnag broblemau sydd gan eu disgyblion, eu teuluoedd a'u cymuned. Mae llawer o hynny, wrth gwrs, yn ymwneud â mynd i'r afael â thlodi ac effeithiau tlodi.

Hefyd roedd arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, Jane Mudd, a gyfeiriodd at gyfarfod Cyngor Dinas Casnewydd heddiw lle byddant yn bwrw ymlaen â chynnig i gydnabod problemau plant â phrofiad o ofal a'u trin fel pe bai ganddynt nodweddion gwarchodedig. Felly, wrth ddatblygu a gweithredu polisi, byddai plant sydd â'r profiad hwnnw o ofal yn cael eu trin felly, ac yn amlwg byddai hynny'n sicrhau buddion pwysig iawn iddynt.

17:05

Diolch yn fawr, John Griffiths. A gaf i ddiolch i chi am yr holl waith a wnaethoch bell yn ôl, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol? Mae gen i'r adroddiad a gynhyrchwyd gennych o hyd, a oedd yn galw am ddatganoli gweinyddu budd-daliadau. Ar un ystyr, dyma'r cam nesaf yn rhannol, onid e, yr ydym yn ei gyhoeddi heddiw, yn datblygu system fudd-daliadau gydlynol, syml, i Gymru. Mae'n ganolog i amcan 1 wrth gyflawni ein strategaeth tlodi plant.

Dyma'r gwaith rydym yn ei wneud hefyd i edrych ar ddatganoli a gweinyddu budd-daliadau lles. Wrth gwrs, mae angen y cytundeb gan Lywodraeth y DU arnoch i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol, ac rydym mewn gwirionedd wedi cael ein gwrthod gan Lywodraeth y DU—y Pwyllgor Materion Cymreig, nid yn unig y Senedd a Llywodraeth Cymru. Fe wnaethon nhw argymell y dylai Llywodraeth y DU weithio gyda Llywodraeth Cymru i asesu rhinweddau posibl datganoli gweinyddiaeth yr un budd-daliadau i Gymru ag sydd wedi'u datganoli i'r Alban. Rwyf wedi gofyn i'r Pwyllgor Materion Cymreig fynd yn ôl at hynny, ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau mewn gwahanol bleidiau gwleidyddol yn mynd yn ôl at hynny hefyd. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo.

O ran yr hyn a ddisgrifiwyd gennych, rwyf hefyd wedi bod i Ysgol Gynradd Maendy ac aeth y Gweinidog addysg i Ysgol Gynradd Maendy y bore yma. Mae'n enghraifft eithriadol o arweinyddiaeth—yn yr ysgol, ar lefel gymunedol, a hefyd arweinyddiaeth gan yr awdurdod lleol. Pan ymwelais ag Ysgol Gynradd Maendy, roedd yr arweinyddiaeth yn mynd i'r afael nid yn unig â thlodi plant o ran sicrhau bod plant yn cael popeth yr oedd ganddynt hawl iddo, ond yn mynd i'r afael â stigma tlodi plant trwy rymuso'r plant hynny i deimlo eu bod yn bwysig, yn cael eu caru, yn cael eu grymuso, a'u cydnabod o ran eu holl alluoedd aruthrol, eu sgiliau a'u hamrywiaeth. Roeddwn hefyd yn falch iawn o weld bod gan Big Bocs Bwyd, a ddaeth o ysgol Tregatwg yn y Barri, dan arweiniad y pennaeth deinamig Janet Hayward, focs yn Ysgol Gynradd Maendy.

5. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Economi Blaenau’r Cymoedd

Mae eitem 5, y datganiad ar Flaenau'r Cymoedd, wedi'i ohirio.

6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Gweithredu Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023

Eitem 6 fydd nesaf, datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar weithredu Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023. Dwi'n galw ar Hannah Blythyn i wneud y datganiad.

Diolch, Llywydd. Yn union flwyddyn yn ôl i'r diwrnod, rôn i'n eistedd gerbron y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn gweithio drwy 115 o welliannau Cyfnod 2 i'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).

Ymlaen yn gyflym at fis Ionawr 2024 a chyfarfod cyntaf y cyngor partneriaeth gymdeithasol wythnos yn unig i ffwrdd. Mae'r paratoadau ar gyfer dechrau'r dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol ar 1 Ebrill wedi datblygu'n dda, ac mae gwaith ar y rheoliadau a'r canllawiau a fydd yn cefnogi ein darpariaethau caffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol yn symud ymlaen yn gyflym.

Rydym wedi dod yn bell mewn cyfnod cymharol fyr ers y Cydsyniad Brenhinol ddiwedd Mai y llynedd, ond rydym bellach yn canolbwyntio'n fawr ar weithredu'n ymarferol. Diolch i'r gefnogaeth a'r brwdfrydedd a gawsom gan ein partneriaid cymdeithasol, sydd wedi gweithio'n ddiflino gyda ni drwy gydol y gwaith o ddatblygu a phasio'r ddeddfwriaeth, rydym wedi gallu symud ymlaen yn gyflym. Mae'r gwaith hwn wedi parhau ers i'r Ddeddf gyrraedd y llyfr statud, wrth i ni weithio gyda'n gilydd i baratoi'r ffordd i'r dyletswyddau newydd ddod i rym fel y gall y ddeddfwriaeth ddechrau gwneud gwahaniaeth go iawn.

17:10

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

Hoffwn gydnabod unwaith eto y ffordd adeiladol a chynhyrchiol y mae ein partneriaid Plaid Cymru wedi ymgysylltu â ni i fwrw ymlaen ag agweddau caffael y Ddeddf yn benodol. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio yn yr un ysbryd wrth i ni weithredu ein hymrwymiadau cyffredin ar gaffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol.

Cafodd yr aelodau yr wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r Ddeddf ym mis Rhagfyr, pan gyhoeddodd y Prif Weinidog ddatganiad ysgrifenedig yn cadarnhau bod pob un o'r 18 aelod sy'n cynrychioli gweithwyr a chyflogwyr wedi'u penodi i'r cyngor partneriaeth gymdeithasol ac y byddai'r cyngor yn cyfarfod am y tro cyntaf yn gynnar yn 2024. Bydd y cyfarfod hwnnw'n cael ei gynnal yr wythnos nesaf ar 1 Chwefror a bydd, ymhlith materion eraill, yn cynnwys cyfle i aelodau'r cyngor partneriaeth drafod y gyllideb ddrafft gyda Gweinidogion. Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd arnom ni fel Gweinidogion Cymru i ymgynghori â'r cyngor partneriaeth ar benderfyniadau o natur strategol ynghylch y camau rhesymol a gymerwn i gyflawni ein hamcanion llesiant, ac, ar y cynlluniau presennol, fy mwriad yw dod â'r ddyletswydd honno i rym ar 1 Ebrill eleni.

Mae cael y gyllideb ddrafft ar yr agenda ar gyfer cyfarfod cyntaf y cyngor partneriaeth yn cefnogi partneriaeth gymdeithasol ymhellach, er nad yw'r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol ar Weinidogion Cymru wedi'i chychwyn eto. Wrth i ni symud ymlaen, byddwn yn sicrhau bod y cyngor partneriaeth yn parhau i gymryd rhan mewn ffordd ystyrlon ar benderfyniadau strategol eraill yr ydym ni fel Gweinidogion yn eu hystyried, fel bod y dewisiadau a wnawn a'r camau a gymerwn yn cael eu llywio gan arbenigedd a phrofiad ein gweithwyr a'n cynrychiolwyr cyflogwyr.

Mae'r Ddeddf hefyd yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru, i'r graddau y bo'n rhesymol, i geisio cyfaddawd a chonsensws gyda'u hundebau llafur neu gynrychiolwyr eraill o'u staff wrth bennu eu hamcanion llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a phan fyddant yn gwneud penderfyniadau o natur strategol ynghylch y camau rhesymol y maent yn bwriadu eu cymryd i gyflawni'r amcanion hynny. Yn syml, mae hyn yn ymwneud â defnyddio arbenigedd y bobl sy'n darparu ein gwasanaethau cyhoeddus i benderfynu sut y dylai'r gwasanaethau hynny edrych, yn ogystal â helpu i hyrwyddo llesiant ehangach. Daw'r ddyletswydd hon i rym ym mis Ebrill eleni, ac mae'n ofynnol i gyrff cyhoeddus adrodd bob blwyddyn ar ôl hynny ar y camau y maent wedi'u cymryd i gydymffurfio â'r ddyletswydd yn ystod y 12 mis blaenorol. 

Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda chyflogwyr sector cyhoeddus ac undebau llafur i sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau bosibl i weithredu'r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol mor ddi-dor ac adeiladol â phosibl. I gefnogi hyn, rhwng Awst a Thachwedd y llynedd, arweiniodd fy swyddogion gyfres o weithdai rhanbarthol, a chyn bo hir byddant yn ategu'r rhain gyda phecynnau dysgu ar-lein i gefnogi codi ymwybyddiaeth ymhellach. Byddaf hefyd yn cynnal cynhadledd yn Llanelwy ym mis Mawrth, a fydd yn trafod 'Partneriaeth Gymdeithasol: Y Ffordd Gymreig'. Bydd y gynhadledd yn cynnig cyfle allweddol i gyrff cyhoeddus gyfarfod a siarad â chymheiriaid a chlywed gan arbenigwyr ym maes partneriaeth gymdeithasol.        

Yn olaf, hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y dyletswyddau caffael cymdeithasol gyfrifol y mae'r Ddeddf yn eu gosod ar lawer o'n cyrff cyhoeddus yng Nghymru. Bydd y dyletswyddau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio, ymhlith pethau eraill, gynnwys cymalau cymdeithasol gyfrifol mewn contractau adeiladu dros £2 filiwn, a chontractau gwasanaethau allanol lle bo hynny'n bosibl. Mae llawer o waith manwl i'w wneud i sicrhau bod ein partneriaid yn y sector cyhoeddus yn cael eu paratoi cyn i ni ddod â'r dyletswyddau caffael hyn i rym. Er enghraifft, rydym yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid ar hyn o bryd i ddatblygu'r cymalau enghreifftiol, ac yn gwneud cynnydd ar y canllawiau eraill y bydd eu hangen ar awdurdodau contractio cyn i'r dyletswyddau ddod i rym. Rydym hefyd yn gweithio ar y mesurau a'r gofynion data sydd i'w cynnwys yn y rheoliadau y bydd angen i ni eu gwneud mewn perthynas ag adroddiadau blynyddol. 

Wrth graffu ar y Bil, dywedais yn glir mai ein bwriad oedd na fyddai'r darpariaethau caffael hyn yn cael eu deddfu nes bod y sylfeini angenrheidiol wedi'u gwneud a bod awdurdodau contractio mewn sefyllfa i gydymffurfio â nhw. Nodais bryd hynny y byddai'r gwaith paratoi hwn yn cymryd amser, ac na fyddai'r dyletswyddau'n dod i rym tan ddiwedd eleni ar y cynharaf—o bosibl ar sail gynyddrannol. Gallaf gadarnhau mai dyna yw ein bwriad o hyd, a byddaf wrth gwrs yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am hyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau heddiw yn croesawu'r cynnydd yr ydym yn ei wneud wrth roi'r Ddeddf bwysig hon ar waith. Yn wir, mae'r Ddeddf yn rhan o uchelgais Llywodraeth Cymru i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach, ac mae ei darpariaethau'n cysylltu ag amcanion y strategaeth tlodi plant, yn enwedig o ran gwaith teg. 

Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn ddeddfwriaeth nodedig sy'n rhoi ein ffordd Gymreig o weithio ar sail statudol. Yma yng Nghymru, rydym yn gweithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth i wneud gwahaniaeth i'n cymunedau, ein heconomi a'n gwlad, gan sicrhau bod lleisiau gweithwyr yn flaenllaw ac yn ganolog trwy eu hundebau llafur, ac yn dwyn ynghyd arbenigedd cyfunol partneriaid cymdeithasol i arwain at ganlyniadau gwell i bobl ledled Cymru—nid yn unig yn newid deddfwriaeth, ond yn newid bywydau.

17:15

Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad heddiw, ac roeddwn yn falch o glywed eich bod wedi cydnabod ac ystyried rhai o'r beirniadaethau a nodwyd gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wrth weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, yn enwedig yr angen i wneud cyrff cyhoeddus yn gwbl ymwybodol o'r ddeddfwriaeth a'i goblygiadau. Rwy'n croesawu'r ymdrech i gynnal gweithdai, dysgu ar-lein a'r cynadleddau rydych chi wedi'u crybwyll er mwyn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth. Ond gyda'r rhain mewn golwg, a ydyn nhw'n rhai unwaith yn unig, neu a ydych chi'n bwriadu iddyn nhw, neu rai tebyg fod yn rhan o raglen ymgysylltu barhaus? Os felly, pa gyllideb ydych chi wedi'i dyrannu ar gyfer hyn?

Yn eich datganiad, fe sonioch, Dirprwy Weinidog, eich bod yn aros nes bod cyrff cyhoeddus yn gallu cydymffurfio cyn gorfodi'r ddyletswydd i adrodd, yr ydych yn disgwyl iddo fod tua diwedd y flwyddyn. Pa asesiad ydych chi wedi'i wneud o'r goblygiadau cost i gyrff cyhoeddus allu cydymffurfio â dyletswyddau'r Ddeddf? Ac a ydych chi wedi darparu unrhyw arian iddyn nhw wneud hyn?

Fel y gwyddoch, Dirprwy Weinidog, mewn rhai cyrff cyhoeddus, mae adnoddau mor gyfyngedig fel nad yw cael swyddogaeth gaffael annibynnol yn ymarferol, a bod staff nad ydynt yn caffael yn cael eu prynu pan fydd eu hanghenion yn pennu hynny. Sut ydych chi'n cynnig bod y cyrff cyhoeddus hyn yn symud ymlaen gyda'r Ddeddf? A fydd hyfforddiant penodol yn cael ei ddarparu i staff nad ydynt yn staff caffael i helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni'r rhwymedigaethau? Ac os felly, a fydd arian ar gael iddynt recriwtio a hyfforddi staff i fodloni cydymffurfiaeth? Yn yr un modd, pa adnoddau penodol fydd ar gael i helpu i hyrwyddo caffael a swyddogion caffael fel llwybr gyrfa hyfyw?

Fel y soniwyd, fe wnaethoch chi dynnu sylw at y defnydd o weithdai a chyrsiau ar-lein i wneud cyrff cyhoeddus yn ymwybodol o'r Ddeddf, ond pa hyfforddiant penodol sy'n cael ei gynnig nawr fel bod staff caffael yn gallu asesu, er enghraifft, effaith carbon eu pryniannau, neu a yw'n cefnogi twf swyddi a sgiliau yn yr economi leol? Hefyd, a yw'r Dirprwy Weinidog yn ymwybodol o unrhyw feddalwedd benodol sydd ar gael i helpu cyrff cyhoeddus i wneud hyn, a beth yw goblygiadau cost hyn?

Ar ben hynny, rwy'n tybio y bydd cyrff cyhoeddus yn dechrau dadansoddi eu gweithdrefnau caffael ar ôl iddynt gynnal eu hasesiad cyntaf ac, fel y crybwyllwyd, Dirprwy Weinidog, efallai y bydd cyfnodau pontio sylweddol, ac efallai y bydd yn rhaid darwahanu gweithredu er mwyn i gyrff cyhoeddus gydymffurfio. Rwyf hefyd yn disgwyl y bydd yn cymryd amser i gyrff cyhoeddus ailgyfeirio eu caffael oherwydd rhwymedigaethau ac ymrwymiadau cytundebol presennol. Felly, o fewn pa amserlen ydych chi'n disgwyl i bob contract caffael cyhoeddus yng Nghymru fod wedi bodloni gofynion y Ddeddf? Mae'n ddigon posibl y gallai cyrff cyhoeddus wneud yr asesiad a chynhyrchu'r adroddiad, ond, oherwydd cyfyngiadau cyllidebol, efallai na fyddant yn gallu fforddio newid cyflenwyr neu ddod o hyd i nwyddau yn lleol, a allai fod yn ddrutach. Yna cânt eu rhoi mewn sefyllfa o fethu â gallu gwneud newidiadau i wella eu polisi caffael i gyflawni dyletswyddau'r Ddeddf. Sut y byddwch yn sicrhau eu bod yn gwneud yr holl newidiadau caffael y gallant mewn gwirionedd?

Fel y gwyddoch, Dirprwy Weinidog, mae gweithredu polisi wedi bod yn broblem wirioneddol i Lywodraeth Cymru ac, yn anffodus, mae gan y ddeddfwriaeth hon yr un potensial i fethu pe na bai gan gyrff cyhoeddus adnoddau i wneud y newidiadau sydd eu hangen ac felly ni fyddant yn eu rhoi ar waith yn y pen draw, yn enwedig os ydynt yn credu na fydd unrhyw ganlyniadau. Os bydd corff cyhoeddus, am ryw reswm neu'i gilydd, yn methu â chydymffurfio â'r ddeddfwriaeth newydd, pa gamau gorfodi fydd yn cael eu cymryd, ac a fydd yna gosb?

Yn olaf, Dirprwy Weinidog, rydych mewn sefyllfa unigryw ar ddechrau gweithrediad y Ddeddf hon i ddechrau casglu data a fydd yn eich helpu i asesu llwyddiant cyffredinol neu fethiant y ddeddfwriaeth hon. Gyda hyn mewn golwg, pa fetrigau sylfaenol ydych chi'n mynd i'w mesur nawr? Er enghraifft, a wnewch chi edrych ar y newid yn nifer y cynhyrchion sy'n dod o gwmnïau o Gymru, neu faint o fwyd sy'n dod o ffynonellau lleol? Ac, yn hollbwysig, a fyddwch chi'n gosod targedau i gyrff cyhoeddus eu cyrraedd? Os felly, sut fyddwch chi'n penderfynu ar y targedau hyn? Diolch.

A gaf i ddiolch i Joel James am ei gyfraniad? Rwy'n gwybod, er y cawsom hynt y ddeddfwriaeth, nid oeddem yn cytuno ar lawer o bethau, ond rwy'n eich cofio chi'n dweud, Joel, eich bod wedi mwynhau'r profiad o fynd â deddfwriaeth ar ei hynt. Ond rwy'n croesawu'r cwestiynau a godwyd gennych heddiw a'r diddordeb yn agweddau caffael pwysig y ddeddfwriaeth. Fel y gwyddoch, rydym yn gwario £9 miliwn o arian cyhoeddus ar gaffael bob blwyddyn, a dyna lle mae gennym yr ysgogiadau hynny yng Nghymru i ysgogi'r canlyniadau hynny yr ydym eisiau eu gweld mewn gwirionedd.

Ac i sôn yn fyr, am weithredu, dyma pam rydyn ni mewn gwirionedd yn cael—. Yn ddelfrydol, byddem eisiau defnyddio'r ysgogiadau hynny cyn gynted â phosibl i wneud y gwahaniaethau hynny cyn gynted â phosibl. Ond, fel y dywedwch, rydym yn cydnabod bod gofyn i awdurdodau lleol ac awdurdodau contractio eraill allu deall a defnyddio'r dyletswyddau caffael newydd hyn yn y ffordd orau, mae angen i ni weithio gyda nhw a'u cefnogi i fod yn y sefyllfa orau bosibl, fel yr amlinellais yn fy natganiad. Dyna pam y byddwn yn caniatáu amser rhwng cyhoeddi canllawiau ac, mewn gwirionedd, y dyletswyddau sy'n dod i rym, fel bod yr awdurdodau contractio hynny yn cael cyfle a ffrâm amser i ymgyfarwyddo â'r canllawiau hynny cyn i'r dyletswyddau hynny ddechrau. Felly, dyna pam y byddwn yn edrych ar amserlen gynyddrannol fwy na thebyg, ac, mewn gwirionedd, rydym yn ddiolchgar iawn bod partneriaid cymdeithasol ac aelodau ehangach o fusnesau caffael a chymunedau'r trydydd sector wedi bod yn cyfrannu at ddatblygu'r deunydd, trwy fynychu'r gweithdai a gwneud sylwadau ar ddogfennau drafft. Felly, byddwn yn parhau i weithio yn yr un modd i sicrhau bod unrhyw bryderon, cwestiynau, neu ystod o bethau y mae'r ystod o bartneriaid yn cyfrannu at y datblygiad—fel y dywedais, i'ch sicrhau ac i dybio ein bod yn y sefyllfa gryfaf bosibl i ni i gyd gyflawni'r canlyniadau gorau y gallwn o ran agwedd gaffael y ddeddfwriaeth hon.

Hefyd, goruchwylio a chefnogi: y darn hwn o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) oedd y tro cyntaf i ni ddeddfu ar gaffael yng Nghymru, ond ers hynny rydym wedi gweld Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) a hefyd mae Deddf Caffael y DU 2023 hefyd. Felly, rwy'n gwybod ein bod wedi cyffwrdd â hynny yn ystod proses graffu ar y ddeddfwriaeth hon, felly bydd goruchwyliaeth a chymorth ehangach drwy'r ganolfan ragoriaeth newydd ar gyfer caffael a threfniadau gweithredol eraill. 

Fel y dywedais yn fy natganiad, rwy'n cydnabod bod agweddau eraill ar y ddeddfwriaeth wedi bod yn weithredol yn gyntaf—y cyngor partneriaeth gymdeithasol yn gyntaf, yna'r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol ar gyrff cyhoeddus a Gweinidogion Cymru. Ac wrth i'r ochr gaffael a'r canllawiau ddatblygu, byddaf wrth gwrs yn parhau i ddiweddaru'r Aelodau yma ac rwyf bob amser yn agored i sefydlu cyfarfodydd gyda swyddogion efallai i siarad drwy ochr fwy technegol y canllawiau wrth i ni fwrw ymlaen a hynny. Diolch.

17:20

Diolch am y diweddariad, Weinidog. 

Mae Plaid Cymru yn cydnabod pwysigrwydd y Ddeddf hon, yn benodol, fel y dywedoch, o ran caffael cymdeithasol gyfrifol, wrth gwrs, ond hefyd am gryfhau hawliau ein gweithwyr a'n hundebau, ac roeddem yn falch o weithio, wrth gwrs, gyda'r Llywodraeth ar y ddeddfwriaeth fel rhan o'n cytundeb cydweithio.

Fodd bynnag, gyda'r Ddeddf Streicio a basiwyd gan San Steffan y llynedd—mewn geiriau eraill, y Ddeddf gwrth-streicio—mae Plaid Cymru yn pryderu am oblygiadau hon efallai ar weithredu'r Ddeddf partneriaeth gymdeithasol, oherwydd ymddengys fod deddfwriaeth gwrth-streicio San Steffan yn gwrthdaro â'r gwaith hwn, ac yn arbennig nodau'r Ddeddf i wneud Cymru'n wlad o waith teg. Fel yr ydym wedi sôn sawl gwaith yn y Siambr, goruchafiaeth San Steffan a'r Llywodraeth Dorïaidd hon yn diystyru lleoedd datganoli, efallai, yn rhoi'r agenda gwaith teg hon yma yng Nghymru dan fygythiad. Felly, a ydych chi'n cytuno mai dyma'r achos, Gweinidog? Ydych chi wedi gweld unrhyw dystiolaeth o hynny hyd yn hyn? Fel y dywedwch, rydych chi'n gweithio trwy weithredu'r manylion a'r prosesau technegol hyn yn awr y mae angen eu rhoi ar waith i ategu amcanion y Ddeddf. Rydym yn mynegi undod, wrth gwrs, gyda gweithwyr sector cyhoeddus ledled Cymru sy'n teimlo bod angen iddynt weithredu'n ddiwydiannol mewn ymateb i flynyddoedd o doriadau tymor real i'w cyflogau, a'r enghraifft fwyaf diweddar, wrth gwrs, yw'r meddygon iau. Felly, hoffwn hefyd wybod yn benodol sut y bydd gweithredu'r Ddeddf yn chwarae rhan yn y trafodaethau rhwng Cymdeithas Feddygol Prydain a Llywodraeth Cymru i ddod â'r gweithredu i ben. 

Yn olaf, felly, yn y sesiwn graffu a gawsom ddoe yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, dywedoch na fyddai'r gostyngiad yn y gyllideb yn cael unrhyw effaith ar weithrediad ymarferol y Ddeddf. Felly, a allwch amlinellu a fydd unrhyw un o'r cynigion cyllideb drafft yn gohirio neu'n rhwystro unrhyw ran o'r cynnydd rydych wedi'i amlinellu hyd yma? Diolch.

Diolch, Sioned, am eich cyfraniad. Unwaith eto, diolch i Blaid Cymru am eu cefnogaeth i fynd â'r ddeddfwriaeth hon drwodd, a hefyd yr her adeiladol o ran lle aethom ati ar ochr gaffael hefyd. Gobeithiaf, fel y dywedais yn fy natganiad, ein bod yn parhau i weithio yn yr ysbryd hwnnw wrth i ni ddatblygu'r canllawiau sy'n cefnogi ac yn eistedd o amgylch y ddeddfwriaeth wrth inni symud ymlaen. 

A dweud y gwir, mae'r ddeddfwriaeth nid yn unig, fel rydyn ni wedi trafod, wir yn cryfhau'r hyn y gallwn ni ei wneud gyda chaffael yng Nghymru—. Rwyf wedi dweud droeon na freuddwydiais erioed y byddwn i'n sefyll yma nac yn eistedd yn rhywle yn dweud fy mod yn credu bod caffael yn gyffrous iawn, ond mae potensial enfawr yno o ran yr hyn y gallwn ei gyflawni, ac, fel y dywedais, y canlyniadau y gallwn eu hennill ohono. Ond fel y dywedoch, mae ochr arall y ddeddfwriaeth mewn gwirionedd yn cryfhau llais i weithwyr drwy eu hundebau llafur o fewn gweithleoedd y sector cyhoeddus yng Nghymru. Pan fyddwn yn siarad am y ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol, a'r iaith o'i chwmpas, o amgylch y camau rhesymol hynny a gosod a chyflawni eich amcanion llesiant, yn y bôn yr hyn y mae hynny'n ei olygu yn ymarferol, yw ein bod yn cydnabod bod y bobl sy'n darparu ein gwasanaethau cyhoeddus yn arbenigwyr drwy brofiad ac, mewn gwirionedd, dylent gael mwy o lais a chyfran o ran sut olwg sydd ar y gwasanaethau hynny.

Gwn, fel fy amser—roeddwn i'n mynd i ddweud 'fel undebwr llafur'; rwy'n dal yn undebwr llafur—cyn cael fy ethol i'r lle yma, faint o weithiau mae'r sgyrsiau hynny mewn gweithleoedd—. Gallai pobl ddweud wrthych, gallent roi'r syniadau i chi sut y gallech wella'r gwasanaethau, ac, mewn gwirionedd, mae'n ffordd o ran sut y gallwn ddechrau gwneud hynny ac adeiladu arno, sydd yn, fel y dywedwch, yn gyferbyniad uniongyrchol i ddull Llywodraeth Geidwadol y DU, sydd, fel y dywedwch, eisiau sathru ar hawliau gweithwyr ac ar Gymru hefyd. Ac mewn gwirionedd, mae hyn mewn cyferbyniad uniongyrchol ac yn y pen draw, yn gwrthdaro â'r ffordd y byddem eisiau gweithio yng Nghymru. Ond rwy'n credu bod y sail honno a gawsom ni, y ffordd Gymreig honno o weithio, y bartneriaeth gymdeithasol ystyrlon honno y mae angen i ni adeiladu arni o hyd, a gallwn ni wella arni bob amser—rwy'n credu bod hynny'n rhoi gwell sylfaen i ni weithio arni. Ac mewn gwirionedd mae'r perthnasoedd hynny, pan gawn ni'r cyfnodau anodd hynny yr ydym wedi'u profi'n ddiweddar, yn golygu bod gennym y sylfeini hynny i weithio arnynt ac adeiladu arnynt a, gobeithio, datrys a symud ymlaen gyda'n gilydd hefyd.

17:25

Rydych chi'n dweud yn eich datganiad y bydd angen llawer mwy o waith ar y rheolau caffael eraill, ar wahân i'r gwaith adeiladu, cyn i chi fod yn barod i'w gweithredu. Mae gen i ddiddordeb arbennig yn y mater o gael glanhau ein sector bwyd cyhoeddus, oherwydd mae bwyd sydd wedi'i uwch brosesu, yn anffodus, yn ein lladd ni i gyd. Nawr, fel y mae Kevin Morgan yn nodi, mewn dogfen a ysgrifennodd ar gyfer Llywodraeth Cymru, dim ond 1 y cant o'r £7 biliwn sy'n cael ei wario ar gaffael cyhoeddus, felly dylai fod yn berffaith bosibl gwneud hyn. Ac mae'r sgyrsiau a gefais i, dros y penwythnos, gyda chwpl o unigolion mewn brecwast Undeb Amaethwyr Cymru, yn gwneud i mi feddwl bod hyn yn rhywbeth y mae angen mynd i'r afael ag ef ar frys. Oherwydd rydw i'n llunio rhestr o enghreifftiau o bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty gyda phethau fel colitis briwiol, sy'n gweld bod y bwyd ysbyty maen nhw'n ei gael yn eu gwneud nhw'n fwy sâl mewn gwirionedd, ac maen nhw ond yn gwella pan fyddan nhw'n cael bwyd sy'n dod i mewn o gartref, sy'n cael ei gynhyrchu'n ffres. Felly, mae hyn yn rhywbeth y mae gwir angen i ni ei ystyried, oherwydd, ar hyn o bryd, ein plant ni a'n pobl ni mewn ysbytai sy'n cael y bwyd hwn, yn ogystal â ni, bwyd rydyn ni'n ei gael, y brechdanau rydyn ni'n eu cael, yn y caffi rownd y gornel. Felly, mae hyn yn fater brys, a hoffwn gael ychydig o amserlenni o ran pa waith rydych chi'n ei wneud arno.

Diolch i Jenny Rathbone, am y rôl rydych chi'n ei chwarae fel Cadeirydd y pwyllgor, yn craffu ar y ddeddfwriaeth hon flwyddyn yn ôl, yng Ngham 2, ond hefyd o ran fy mod i'n gwybod bod hyn yn rhywbeth rydych chi'n frwd drosto, ac yn enwedig o ran caffael bwyd, a'r cyfleoedd y mae caffael yn eu cynnig i gwrdd â'r heriau hynny mewn gwirionedd, Fel rydych chi'n ei ddweud. Mae caffael cymdeithasol gyfrifol yn ymwneud â cheisio sicrhau'r nodau llesiant mwyaf posibl, trwy'r contractau cyhoeddus hynny a phŵer y pwrs cyhoeddus. Ac, fel y dywedoch—rwy'n credu eich bod wedi cyffwrdd â hyn i gyd, Jenny—mae bwyd yn gategori o wariant caffael, lle mae'r holl nodau llesiant hynny yn bwysig. Felly, p'un a yw hynny'n gwella canlyniadau iechyd, cefnogi'r economïau lleol, cymryd cyfrifoldeb byd-eang dros leihau carbon yn ein hôl troed carbon, diogelu bioamrywiaeth, a hefyd, yn y pen draw, diogelu hawliau cyflogaeth y bobl sydd yno yn cynhyrchu'r bwyd yr ydym i gyd yn dibynnu arno hefyd.

Felly, rydym wrthi'n datblygu'r canllawiau a'r rheoliadau statudol hynny i gefnogi'r dyletswyddau caffael cyfrifol cymdeithasol yn y Ddeddf, a bydd hynny'n cynnwys astudiaethau achos i rannu arfer da mewn caffael bwyd cymdeithasol gyfrifol. Felly, bydd hynny'n symud ymlaen dros y misoedd nesaf, wrth i ni barhau i weithio yn yr un ffordd, mewn partneriaeth. Felly, byddaf yn fwy na hapus, Jenny, os oes gennych ddiddordeb, i barhau y tu allan i'r Siambr, i, efallai, sefydlu cyfarfod gyda chi ac Aelodau eraill sydd â diddordeb, i siarad am yr agweddau y mae gennych y diddordeb mwyaf ynddynt hefyd.

Fel chi, Gweinidog, roedd gennym ddiddordeb mawr mewn caffael cyhoeddus tua blwyddyn yn ôl, ond, yn amlwg, daeth y Ddeddf i rym. Fel y cofiwch, cawsom drafodaeth fywiog ynghylch targedau caffael cyhoeddus. A allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni o beth yw eich sefyllfa o ran hynny nawr? Cafwyd dadl ynghylch a oedd caffael cyhoeddus yn 52 y cant ar hyn o bryd ai peidio. Ydyn ni'n gwybod os yw hynny'n gwella yng Nghymru? Ydyn ni'n gwybod a yw hynny'n mynd i fyny yng Nghymru, ai peidio? A yw'n helpu i greu mwy o swyddi? Ydyn ni'n defnyddio punt Cymru a chaffael cyhoeddus Cymru i allu cynyddu'r gwariant hwnnw'n lleol? A hefyd, gyda lefel y data rydych chi'n ei gasglu nawr a rhan o'r adrodd y byddwch chi'n ei wneud, a ydych chi'n adeiladu lle i allu monitro'n iawn sut mae caffael cyhoeddus yn digwydd yng Nghymru? Diolch.

17:30

Diolch, Peredur. Fel y dywedoch chi, bu trafodaeth fywiog drwy gydol proses y ddeddfwriaeth hon, a gwnaed gwelliannau i'r Bil yn ystod y broses graffu i gryfhau'r broses adrodd flynyddol a'r gofynion yn y ddeddfwriaeth i gyhoeddi'r wybodaeth y bydd ei hangen ar awdurdodau contract a'r metrigau hynny yr ydych yn siarad amdanynt o ran cyflenwyr Cymru a gallu monitro'r effaith honno a thyfu'r effaith a'r manteision. Felly, mae diffinio'r hyn a olygir gan 'gyflenwr o Gymru' a mesur effaith economaidd leol ein gwariant caffael, fel yr ydym wedi siarad amdanynt o'r blaen, yn bethau yr ydym yn dyheu amdanynt, ond nid ydynt o reidrwydd yn dasgau syml. Felly, gallaf ddiweddaru bod ystod o waith cydweithredol ar y gweill ac mae cynigion ar gyfer ymgorffori'r gofynion data mewn rheoliadau, ochr yn ochr â'r metrigau llesiant eraill, yn cael eu datblygu mewn partneriaeth gymdeithasol, fel y byddech yn ei ddisgwyl, ac ymgynghori â'r rhai y mae'r gofynion yn effeithio arnynt.

Mae hyn hefyd yn mynd i gynnwys pethau yn ymwneud ag edrych mewn gwirionedd ar—. Felly, rydym am fesur gwariant gyda chyflenwyr Cymru a'r effaith y tu hwnt i'r haen gyntaf honno o wariant ar ein heconomïau lleol. Mae hynny'n cael ei ddatblygu, ac mae'r gwaith hwnnw hefyd yn cynnwys cydweithwyr sy'n gweithio ar newidiadau i'r systemau TG, sydd ar y gweill, i gefnogi Deddf Caffael 2023 dan arweiniad y DU a chydweithwyr caffael yn y sector cyhoeddus. Felly, mae hyn yn mynd i ddod â chanlyniad rhagor o waith cydweithredol a metrigau llesiant ehangach at ei gilydd i lywio'r gwaith o ddatblygu rheoliadau. Fel mae'n swnio, mae'n waith cymhleth a heriol, ond yn waith yr ydym wedi ymrwymo'n gryf iddo. Ac rwy'n gwybod fy mod i i fod i gwrdd â'r Aelod dynodedig yn fuan iawn, gyda fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, i drafod y camau nesaf. Ond, yn amlwg, rydym yn hapus y gallem gael cyfarfod ehangach hefyd, os ydych chi eisiau cael cyfarfod ehangach i drafod hynny gyda'r rhai sydd efallai yn arbenigwyr mwy technegol na fi er fy mod yn gweithio ar hynny. Diolch.

7. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adnewyddu’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth â Sefydliad Iechyd y Byd, Ewrop
8. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad

Felly, symudwn ni ymlaen at eitem 8, sef datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad. Jeremy Miles. 

Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Mae mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol yn ganolog i'n cenhadaeth genedlaethol ym maes addysg. Rydyn ni wedi gwneud cynnydd, a dwi am roi ar gof a chadw fy niolch i'r gweithlu addysg am eu holl waith. Er bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi nodi’n ddiweddar fod y bwlch rhwng pobl o ran cyfleoedd a thegwch yn llai yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, neu wledydd eraill yr OECD, dwi’n gwybod mai cynyddu y mae’r bwlch wedi ei wneud, nid lleihau, ers y pandemig. Mae mwy eto i'w wneud, a heddiw, wrth inni gyhoeddi ein strategaeth tlodi plant, dwi am roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwnnw i ddangos y cynnydd sydd wedi'i wneud, a'r heriau sy'n dal i'n hwynebu.

Yn ganolog i'r Cwricwlwm i Gymru a'r system anghenion dysgu ychwanegol mae galluogi pob dysgwr i wneud cynnydd i'w lawn botensial. Rydyn ni'n gwybod bod addysgu a dysgu o ansawdd yn hanfodol i wella lefelau cyrhaeddiad. Gan gydnabod hyn, fe wnaethon ni sicrhau bod athrawon dan hyfforddiant yn deall y cysylltiadau rhwng tlodi a chyrhaeddiad; fe wnaethon ni adnewyddu'r meini prawf ar gyfer rhaglenni addysg gychwynol athrawon, gan ddechrau o fis Medi eleni; ac fe wnaethon ni hefyd gynnwys gofynion i ddatblygu gwerthoedd, gwybodaeth, sgiliau ac agweddau i fodloni blaenoriaethau fel mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Gwnaethon ni sefydlu'r radd Feistr genedlaethol mewn addysg, â modiwlau penodol ar degwch ac effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Datblygodd prifysgolion y llwybr a gafodd ei achredu ym mis Rhagfyr 2022 ac a oedd ar gael i'w addysgu o fis Medi llynedd.

Gwnaethon ni benodi saith pennaeth eithriadol yn hyrwyddwyr cyrhaeddiad, gan weithio gydag ysgolion i fynd i'r afael ag effaith tlodi a datblygu ein model cydweithredol o welliant. Fe ddangosodd y cynllun peilot byr ei werth, a dwi am ystyried nawr sut i ehangu ac ymestyn y peilot ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, er mwyn profi’n llawn rai o’r canfyddiadau cychwynnol. Ac i gefnogi ein gwaith, gwnaethon ni lunio contract gyda'r Sefydliad Gwaddol Addysgol, sy'n cael ei gydnabod am ei arferion gorau rhyngwladol o ran mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyflawniad addysgol.

Ochr yn ochr â hyn, fe wnaethom ni gomisiynu gwaith ymchwil i ailedrych ar anawsterau recriwtio athrawon i ardaloedd mwy heriol, ac ystyried hyd a lled y defnydd o addysgu cyrhaeddiad cymysg a'i effaith. Mae'r adroddiadau hyn nawr wedi dod i law, ac fe fyddwn ni'n ystyried eu canfyddiadau nhw a'r camau nesaf dros y misoedd i ddod.

Dirprwy Lywydd dros dro, i gefnogi plant i dyfu, dyheu a ffynnu, mae angen i ni sicrhau eu bod nhw wedi'u gwreiddio mewn amgylchedd dysgu cryf, gyda chadarnhad yn yr ysgol, gartref ac yn eu cymuned. Ein huchelgais yw i bob ysgol ganolbwyntio ar y gymuned. Eleni, rydym yn buddsoddi £6.5 miliwn i gynyddu nifer y swyddogion ymgysylltu â theuluoedd mewn ysgolion, ac yn parhau i ariannu treial o reolwyr ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned, gan gefnogi ymgysylltiad rhwng ysgolion a chymunedau. Gwnaethom hefyd gyhoeddi canllawiau i gefnogi ysgolion i ddatblygu eu dulliau ysgol eu hunain sy'n canolbwyntio ar y gymuned, a dechreuais fy niwrnod heddiw yn Ysgol Gynradd Maendy yng Nghasnewydd, yn etholaeth fy ffrind John Griffiths, gan weld y gwaith rhagorol y maen nhw'n ei wneud yno i greu partneriaethau i gefnogi rhieni a'r gymuned ehangach, gan fwynhau dosbarth coginio fforddiadwy i rieni fel rhan o'r arlwy helaeth yn yr ysgol.

Ochr yn ochr â hyn, rydym yn cefnogi plant a theuluoedd gyda rhai o'r costau ehangach y maen nhw'n eu hwynebu. Rydym wedi parhau i gyflwyno prydau ysgol am ddim cyffredinol ar gyfer pob disgybl cynradd, ac rydym wedi cynnal ymgyrch gyfathrebu ar 'Hawlio'r Hyn sy'n ddyledus i chi' fel rhan o'r broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim cyffredinol mewn ysgolion cynradd. Gwnaethom hefyd ehangu ein rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol, a welodd 175 o gynlluniau yn cael eu cynnal dros yr haf.

Mae gan y grant datblygu disgyblion rôl allweddol i'w chwarae hefyd wrth fynd i'r afael ag effaith tlodi. O flwyddyn i flwyddyn, gwnaethom ei ymestyn i adlewyrchu cynnydd mewn dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae cyllid o £128 miliwn wedi'i ddyrannu yn 2023-24, a £13.6 miliwn arall ar gyfer y grant hanfodion ysgol, gan wneud gwahaniaeth enfawr i deuluoedd incwm is.

Wrth i ni ymgeisio tuag at safonau uchel a dyheadau ar gyfer pob dysgwr, mae'n bwysig ein bod yn cadw ein ffocws ar wella llythrennedd a rhifedd. Ym mis Mawrth y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi pecyn cymorth i gefnogi ysgolion a lleoliadau i ddatblygu ac ymgorffori eu dull ysgol gyfan eu hunain o gyflawni safonau uchel o lefaredd a darllen. Ym mis Tachwedd, gwnaethom ddiweddaru'r pecyn cymorth hwn, gan egluro ein hymrwymiad i addysgu ffoneg yn systematig ac yn gyson. Ar yr un pryd, gwnaethom gyhoeddi cynllun mathemateg a rhifedd, sy'n nodi camau i gefnogi gwelliant ystyrlon mewn dysgu. Mae ein dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol hefyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth, gan gydnabod y cysylltiad rhwng lles a dysgu.

Dirprwy Lywydd dros dro, mae'r ffeithiau a'r ffigurau ar y niferoedd echrydus o blant sy'n byw mewn tlodi yn gyfarwydd. Nid yw'n fater unigryw i Gymru; mae'r argyfwng costau byw a'r mesurau cyni a orfodwyd gan Lywodraeth y DU yn effeithio ar bob rhan o'r DU. Ac er nad yw Llywodraeth Cymru yn dal yr holl ysgogiadau i fynd i'r afael â'r broblem, rydym wedi rhoi trechu tlodi wrth wraidd ein rhaglen lywodraethu. Mae ein polisïau a'n gweithgareddau, gan gynnwys ar draws addysg, yn cael eu craffu drwy'r lens hon, ac rwy'n falch bod cau'r bwlch cyrhaeddiad yn ganolog i'n strategaeth tlodi plant.

Gan ategu'r gwaith sydd eisoes ar y gweill, mae'r strategaeth yn cynnwys ymrwymiadau i: gyflymu gwaith gydag Estyn a phartneriaid gwella ysgolion i sicrhau bod addysg yn brofiad cost-niwtral;  gwaith ail-bwysleisio gydag Estyn a phartneriaid i fynd i'r afael â rhwystrau i weithredu dulliau sy'n atal tlodi fel nad yw'n effeithio ar brofiadau plant o'r ysgol, gan greu amgylcheddau addysg cynhwysol; cefnogi ysgolion i ddatblygu fel ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned, gan ymateb i anghenion eu cymuned a datblygu partneriaeth gref gyda theuluoedd; a gweithio gyda byrddau partneriaeth rhanbarthol i gyflawni dull system gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a lles ar draws sectorau addysg a sectorau eraill.

Ddiwedd y gwanwyn, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am gyrhaeddiad darllen a rhifedd, gan gynnwys gwybodaeth am wahaniaethau demograffig, yn dilyn y dadansoddiad lefel uchel a gyhoeddais yn yr hydref. Ac rwy'n ymrwymo i barhau i olrhain a bod yn dryloyw ynghylch ein cynnydd cenedlaethol. Bydd y Llywodraeth hon bob amser yn ymdrechu i sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, ac yn cael eu cefnogi i gyrraedd eu potensial. Mae pob plentyn yn haeddu safonau a dyheadau uchel, ac rydym yn benderfynol o gyflawni hynny ar eu cyfer.

17:35

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae tlodi, wrth gwrs, yn cael effaith enfawr ar gyrhaeddiad, ac rydym yn gweld bylchau cyrhaeddiad o 34 y cant yng nghyfnod allweddol 4 rhwng disgyblion sy'n derbyn prydau ysgol am ddim a'r rhai nad ydynt. Mae'r berthynas rhwng tlodi ac addysg yn gymhleth, ac mae nifer fawr o newidynnau wrth gwrs yn dylanwadu ar gyrhaeddiad yn yr ysgol. Addysg, fel y gwyddom, yw'r prif lwybr allan o dlodi, a gall addysg dda wella canlyniadau bywyd. Gall addysg dda dorri'r cylch hwnnw o dlodi o un cenhedlaeth i'r nesaf. Ond mae dod o dlodi yn eich gosod ar unwaith ar yr anfantais honno o gymharu â'ch cyfoedion. Yn anffodus, mae'r Llywodraeth hon wedi llywyddu dros nifer cynyddol o dlodi plant, o ganlyniad uniongyrchol i beidio â mynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi yng Nghymru ers degawdau. Felly, rwy'n siŵr ein bod ni i gyd wedi drysu ynghylch pam y gostyngodd Llywodraeth Lafur Cymru eu targed blaenorol yn 2016 i ddileu tlodi yng Nghymru erbyn 2020.

Gweinidog, datgelodd ymchwil gan y Sefydliad Polisi Addysg i effaith anghydraddoldebau addysgol ledled Cymru a Lloegr, a gyhoeddwyd ddwy flynedd yn ôl, fod ysgolion Cymru yn dioddef bwlch anfantais ehangach o'i gymharu ag ysgolion Lloegr. Yng Nghymru, mae dysgwyr 23 mis ar ei hôl hi o ran lle dylen nhw fod yn addysgol. Heddiw rydym wedi gweld cynllun Llywodraeth Cymru yn cael ei ryddhau i fynd i'r afael â thlodi, ac mae hynny i'w groesawu, ond o ystyried bod ystadegau yn dangos ddoe bod tlodi plant yn cynyddu'n gyflymach yn Abertawe, Casnewydd a Chaerdydd nag unrhyw ddinas arall yn y DU, mae'n amlwg i mi, a llawer o rai eraill sydd wedi gwneud sylwadau ar y cynllun heddiw yn gynharach, bod angen i chi osod targedau ochr yn ochr ag ef. Heb dargedau a monitro, ni fyddwn yn gallu penderfynu a yw arian cyhoeddus sy'n cael ei wario yng Nghymru yn cyrraedd y plant hynny y mae eu bywydau yn cael eu difetha ganddo. A allwch chi ymrwymo heddiw i osod targedau a fframwaith monitro, fel y gallwn olrhain tlodi a'i berthynas â lefelau cyrhaeddiad mewn ysgolion yn well, a pha fentrau sy'n gweithio?

Gweinidog, ar adeg pan fo athrawon yn cael mwy o gyfarwyddebau a phwysau ychwanegol arnynt mwy nag erioed o'r blaen, mae eich datganiad heddiw yn amlinellu sut rydych chi'n disgwyl iddyn nhw wneud hyd yn oed yn fwy nawr heb y cyllid sylweddol i'w ddilyn, a chynyddu eu llwyth gwaith ymhellach. Rydych chi nawr yn disgwyl i athrawon fod yn arbenigwyr ar fynd i'r afael â phlant sydd â phroblemau tlodi. Mae recriwtio a chadw o fewn y proffesiwn addysgu bron mewn argyfwng, a bydd rhoi hyd yn oed mwy o ddisgwyliadau ar athrawon ond yn cael effaith negyddol ar hyn. Oni fyddech chi'n cytuno mai'r hyn y mae angen i ni edrych arno yw datblygu cynllun cenedlaethol priodol i fynd i'r afael â chyrhaeddiad, gan ymgorffori ynddo angen gwirioneddol am fwy o gwnsela a chefnogaeth gofleidiol i gefnogi dysgwyr mewn angen, sy'n cymryd pwysau oddi ar athrawon yn gorfod llenwi'r rolau hynny nad oedden nhw'n cael eu cyflogi i'w gwneud? Oni fyddech chi'n cytuno bod angen mwy o arian arnom yn uniongyrchol i gyllidebau ysgolion ar gyfer y cymorth allanol hwn ac i fwy o staff helpu i ddal i fyny â chyrhaeddiad mewn darllen a phynciau craidd, ac wrth gwrs i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn anghenion dysgu ychwanegol?

Gweinidog, mae eich dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl, y sonioch amdano, hyd yma wedi bod yn eithriadol o siomedig, ac mae diffyg cynllun priodol wedi arwain at 22 dull gwahanol o ymdrin ag ef, ac o fewn hynny, gwahanol ddulliau fesul ysgol. Er y byddech chi, wrth gwrs, yn disgwyl rhywfaint o hynny, ni fu unrhyw rannu arfer gorau a beth sy'n gweithio a beth sydd ddim, i helpu ein plant a'n pobl ifanc. Rydych wedi methu â mynd i'r afael â chynnydd mewn anghenion iechyd meddwl yn ein hysgolion, sydd wedi arwain yn anfwriadol at gynnydd yn nifer y dysgwyr sy'n hepgor ysgol ac ehangu'r bwlch cyrhaeddiad hwnnw.

Rwyf hefyd yn bryderus iawn am y symudiad arfaethedig i bob dysgwr fod ar drafnidiaeth gyhoeddus, y disgwylir iddynt dalu amdano nawr, ac a fydd wrth gwrs yn cael sgil-effaith enfawr ar bresenoldeb ac felly cyrhaeddiad eto, yn enwedig i'r rhai o gefndiroedd llai cefnog. Mae'n hanfodol bod dysgwyr yn gallu cyrraedd yr ysgol, fel eu bod o leiaf yn cael cyfle, gweinidog. A yw hyn yn rhywbeth rydych chi'n bwriadu mynd i'r afael ag ef? Diolch.

17:40

Wel, rwy'n credu fy mod yn cytuno â'r Aelod hyd at ddiwedd paragraff cyntaf ei chwestiwn. Roedd nifer o ddatganiadau yr wyf yn anghytuno â nhw yn sylfaenol. Byddaf yn cyfyngu fy ymateb i rai o'r enghreifftiau allweddol.

O ran y bwlch cyrhaeddiad, mae hi'n gwneud pwynt mewn perthynas â data a ddarllenodd, rwy'n credu, o ychydig flynyddoedd yn ôl, ac er bod y data hwnnw'n adlewyrchu ein dealltwriaeth hefyd ac yn sail i'n dadansoddiad ein hunain yng Nghymru, gwn pa mor hoff yw hi o ganlyniadau PISA, a gallu dyfynnu'r rhain yn y Siambr, felly rwy'n siŵr y bydd hi wedi darllen yn y canlyniadau hynny bod Cymru'n cau'r bwlch cyrhaeddiad yn wahanol i rannau eraill o'r DU. Rwy'n credu y byddai hi'n croesawu hynny. Ni fyddwn yn hunanfodlon ynghylch hynny, oherwydd nid wyf yn credu y byddai hynny'n adlewyrchu profiad byw llawer o'n pobl ifanc, gan ddod ar ôl COVID yn benodol, ond rwy'n credu ei bod yn werth gwneud y pwynt hwnnw yn y drafodaeth heddiw.

Gwnaeth nifer o bwyntiau y mae'n debyg y byddai'n well eu cyfeirio at fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac yn wir, fe wnaeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol fynd i'r afael â hynny yn ei chyfraniadau yn gynharach, felly fe wnaf ei chyfeirio at y trafodaethau hynny yn y Siambr. 

Gwnaeth bwynt pwysig am gefnogaeth gofleidiol i sicrhau bod gan ein pobl ifanc y gefnogaeth ychwanegol honno ar gyfer yr anghenion penodol sydd ganddyn nhw. Bydd hi'n cofio prosiect Miller Research, a ddadansoddodd ymyriadau ledled y DU, o ran y buddsoddiad yr oedd Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i gefnogi ein pobl ifanc gan ddarparu'r gefnogaeth gofleidiol ychwanegol hwnnw, fel y galwodd hi ef. Rwy'n credu yn wahanol i rannau eraill o'r DU, mae wedi ei ystyried yn effeithiol iawn yma yng Nghymru, a gallaf roi'r sicrwydd iddi bod yr arian yr oeddem wedi rhagweld y byddai'n rhaid ei leihau eleni, oherwydd cyllideb gyni Llywodraeth y DU—y cyllid Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, y gwn y bydd hi'n gyfarwydd ag ef, y gronfa sy'n cefnogi cyflogi athrawon dros dro—wedi cynyddu mewn gwirionedd, yn hytrach na gostwng eleni. Felly, rwy'n siŵr y bydd hi'n croesawu hynny. Mae'n gwneud rhywfaint o gyfraniad, rwy'n credu, at fynd i'r afael ag anghenion pobl ifanc ac mae wedi ei wario'n arbennig o dda, fel yr wyf yn siŵr y bydd hi'n ei gydnabod, gan benaethiaid yn gallu darparu set o ymyriadau a rhaglen gymorth wedi'i theilwra i bobl ifanc yn yr ysgol.

17:45

Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw. Dwi'n croesawu'r cyfle i allu ymateb ar ran Plaid Cymru. 

Yn amlwg, mi rydyn ni wedi trafod nifer o weithiau y bwlch cyrhaeddiad hwn. Fel soniodd Laura Anne Jones, mae absenoldeb disgyblion yn parhau yn rhywbeth dwi'n gwybod rydych chi, Weinidog, hefyd yn pryderu'n fawr amdano fo. Ac fel dwi wedi sôn, droeon, mae gen i waith achos o ran y rhanbarth, a dwi'n gwybod am ddysgwyr sydd yn methu â chyrraedd yr ysgol oherwydd bod cost bws yn anfforddiadwy i'w rhieni, ac felly'n colli'r ysgol yn gyson. Dwi'n dal yn clywed am wisg ysgol, bod hwnna'n gallu bod yn rhwystr yn aml iawn. Felly, mae yna nifer o bethau sydd yn trio dod ynghlwm efo'r strategaeth tlodi plant yma, oherwydd rydyn ni'n gwybod o ran dyfodol ein plant fod yna gymaint o bethau ar y funud sydd yn rhwystrau i'n plant a'n pobl ifanc ni. 

Rydych chi wedi cyfeirio at nifer o bethau cadarnhaol mae'r Llywodraeth yn eu gwneud ar y funud. Beth fyddwn i'n hoffi gwybod ydy beth ydy effaith rhai o'r pethau sydd wedi bod yn cael eu rhoi ar waith, er enghraifft, yr ymgyrch gyfathrebu y gwnaethoch chi gyfeirio ati. A ydy hynny wedi gweld cynnydd yn y nifer o bobl sydd yn hawlio'r hyn y dylen nhw fod yn ei hawlio, ac os felly, faint o gynnydd? Neu, os dydych chi ddim efo'r wybodaeth yna, a oes modd derbyn y wybodaeth?

Hefyd, o ran y cynlluniau yn y gwyliau ac ati, faint wnaeth fynychu, a beth oedd effaith hynny ar y rheini sy'n byw mewn tlodi? Beth ydyn ni wedi'i ddysgu o'r cynlluniau hynny? A oedd yna rwystrau i'r rhai sydd fwyaf angen y gefnogaeth i fedru cael mynediad atyn nhw? Yr un peth efo pethau fel y grant datblygu ysgolion, y grant hanfodion ysgol. Ydyn, maen nhw'n bodoli, ond faint sydd yn cael ei wario o'r arian sydd ar gael? A hefyd, sut ydyn ni'n gweld i ddeall pam fod y rhwystrau yna'n bodoli? Dyw e ddim jest ynglŷn â chyfathrebu, ond pam dydy pobl ddim yn mynd am yr hyn y ddylen nhw fod yn ei gael.

Rydych chi'n sôn am sicrhau bod cost ysgol yn niwtral. Mae yna yn amlwg ganllawiau o ran gwisg ysgol, ond mae o'n amrywio'n fawr ledled Cymru o ran beth mae llywodraethwyr ac ysgolion yn credu sydd yn fforddiadwy. Ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth o ran gwneud y canllawiau'n statudol? Ac yn yr un modd, o ran costau sydd ynghlwm efo pethau sydd yn dod yn fwyfwy poblogaidd y dyddiau hyn fel y prom a rhai tripiau ysgol ac ati, sicrhau bod y cyfle cyfartal yna i bob un o'n dysgwyr ni.

Mae yna rhai ysgolion yn gwneud gwaith gwych o ran ailgylchu gwisg ysgol er mwyn sicrhau bod dysgwyr ddim o dan bwysau i fod yn gwario'n ddrud ar bethau fel Diwrnod y Llyfr, oherwydd rydyn ni'n gwybod bod lot o deuluoedd tlawd ddim yn gyrru'u plant i'r ysgol ar ddyddiau fel yna, oherwydd eu bod nhw methu fforddio gwisgoedd. Wel, mae o'n hollol wirion, onid ydy, ein bod ni mewn sefyllfa lle mae plant yn colli allan ar rywbeth sydd i fod i gyfoethogi eu profiad nhw o fod mewn ysgol oherwydd bod costau ynghlwm â hynna.

Mae yna gymaint sydd yn digwydd, ac yn amlwg rydych chi wedi cyfeirio at brydau ysgol am ddim. Un o'r argymhellion, wrth gwrs, gan y grŵp arbenigol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru oedd ynglŷn ag ymestyn y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim i flynyddoedd 7 i 11 ar gyfer yr aelwydydd hynny sy'n derbyn credyd cynhwysol. Dwi'n deall, wrth gwrs, sefyllfa economaidd Llywodraeth Cymru, ond oes yna gamau'n cael eu cymryd i edrych ar a fydd hyn yn bosib? Oherwydd, yn amlwg, o ran sicrhau bod plant yn cael bwyd yn yr ysgol, a hynny yn yr ysgol uwchradd hefyd, mae hwnnw i’w weld yn rhywbeth sydd yn allweddol bwysig.

Rydych chi hefyd wedi cyfeirio at nifer o adroddiadau ac ymchwil sydd wedi'i gomisiynu, gan ddweud y byddwch chi’n eu hystyried nhw yn y man a dros y misoedd nesaf. A fydd yr ymchwil hwnnw’n cael ei gyhoeddi, oherwydd rydych chi hefyd yn sôn am fod yn dryloyw? Ac, os felly, a fyddwch chi hefyd yn rhoi amserlen yn ei lle o ran pryd i ddisgwyl ymateb y byddwch chi wedi gallu ystyried hynny, er mwyn mynd â’r camau a’r hyn sydd wedi’i ddysgu ymlaen?

17:50

Diolch i Heledd Fychan am y cwestiynau hynny. Rwy’n credu fy mod i’n cytuno gyda bron bob pwynt y mae hi wedi’i wneud. Mae’r cwestiynau yn rhai teg. Felly, beth rŷn ni’n ei wneud o ran gwisg ysgol? Mae hynny’n gallu bod yn rhwystr, fel rŷn ni’n gwybod. Felly, cyfuniad o ymestyn y grant hanfodion—a byddaf yn hapus i rannu’r rhifau hynny gyda’r Aelod; fe wnaf i ysgrifennu ati am hynny—ond hefyd y canllawiau roedd hi’n sôn amdanyn nhw.

Mae’n rhaid taro rhyw fath o gydbwysedd, os hoffwch chi, o ran y canllawiau hynny. Yn nwylo’r llywodraethwyr a’r penaethiaid yn ein hysgolion ni y mae’r penderfyniadau yma, ond mae disgwyliad eu bod nhw’n mynd i ddilyn y canllawiau rŷn ni’n eu cynnig. Un o’r canllawiau pwysig yna yw ailgylchu gwisgoedd ysgol, a sicrhau bod honno’n ddarpariaeth sydd ar gael ym mhob ysgol. Yn fy mhrofiad personol i, mae hwn yn rhywbeth sy’n gynyddol bresennol yn ein hysgolion ni, bod mwy a mwy ohonyn nhw’n gweld bod hyn yn bwysig, a bod hyn yn aml yn dod oddi wrth y disgyblion eu hunain, lle mae ganddyn nhw rôl efallai, o bryd i’w gilydd, yn cyfrannu at y ddarpariaeth honno. Mae’n un o’r gofynion yn y canllawiau bod hyn yn rhywbeth sydd ar gael ym mhob ysgol.

Gwnaeth yr Aelod ofyn cwestiynau penodol ynglŷn ag effaith cynlluniau cyfathrebu o ran y grant hanfodion ac ymyraethau eraill. Mae’r cynlluniau yma yn ymateb i sylw ar ein rhan ni, efallai bod cyfle i gynyddu’r ddarpariaeth, i gynyddu'r rheini sy’n cynnig am y gefnogaeth yma, y cymorth yma. Rŷn ni yn gweld ei fod e wedi bod yn gadarnhaol.

O ran y cynlluniau dros yr haf, mae darn o waith eisoes yn digwydd ar y cyd rhyngof i a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i edrych ar sut y gallwn ni alinio’r cynlluniau sy’n digwydd o fewn ei phortffolio hi â’r hyn sydd gen i yn fy mhortffolio i, fel ein bod ni’n sicrhau bod cynifer o blant â phosibl yn cael mynediad at hyn, a sicrhau nad ydym yn dyblygu darpariaeth, er enghraifft, a bod alinio pethau yn fwy strategol yn gyfle. Felly, mae’r gwaith yna eisoes yn digwydd, a byddwn i'n disgwyl gweld bod hynny’n sicrhau impact sydd hyd yn oed yn fwy cadarnhaol o’r rhaglenni hynny.

O ran y pwynt y gwnaeth yr Aelod ofyn amdano ynghylch prydiau bwyd am ddim, mae hi’n gwybod mai polisi’r Llywodraeth yw cadw trosolwg dros y canllawiau hynny. Pan fyddwn ni mewn cyfnod pan fydd mwy o adnoddau ar gael i’r Llywodraeth, byddwn yn gallu edrych wedyn ar ymestyn ymhellach. Rŷn ni’n gwybod, fodd bynnag, fod y gost o ymestyn mewn ysgolion uwchradd yn agos at £30 miliwn. Felly mae’n gost sylweddol. Nid oes adnoddau o’r fath gyda ni ar hyn o bryd, ond mae hyn yn un o'r ymyraethau sydd gyda ni yn yr ystod o bethau rŷn ni’n eu gwneud.

Gwnaeth yr Aelod bwynt pwysig am sut rŷn ni’n sicrhau, yn gyffredinol, fod teuluoedd yn gwybod am fudd-daliadau, ac yn cael cyfle i gynnig amdanynt, a bod y profiad o gynnig am fudd-daliadau yn rhywbeth sydd yn barchus. Mae hyn wrth wraidd y gwaith y mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi bod yn ei wneud gyda’n cynghorau ni ar draws Cymru, i greu siarter o ran buddiannau Cymreig, fel bod safonau yn cael eu dilyn yn gyson ar draws Cymru, i sicrhau bod y ddarpariaeth yn cael ei hysbysebu ac yn cael ei diwallu a’i darparu mewn ffordd sy’n addas ac yn ofalus o anghenion pobl.

Rwy'n rhyfeddu y cawsom ni 175 o gynlluniau cyfoethogi gwyliau ysgol yr haf diwethaf, ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi diogelu'r swm hwnnw o arian yn y gyllideb ddrafft eleni, ond, yn anochel, nid yw'r un swm o arian yn cael cymaint o gleciau i'r geiniog oherwydd chwyddiant. Felly, tybed a ydych chi'n credu y bydd hi'n dal yn bosibl cynnal cymaint o gynlluniau ysgol, a sut y gallem ni annog asiantaethau neu elusennau eraill sydd â buddiannau plant yn ganolog iddynt i gymryd rhan yn hyn. Gwelaf fod hyn yn un o'r ffyrdd mwyaf rhyfeddol o sicrhau bod pob plentyn yn cael rhywfaint o wyliau haf, oherwydd does dim byd mwy anobeithiol na phan ddaw plant yn ôl i'r ysgol ym mis Medi a'r cwbl y medran nhw gofio yw'r rhaglen wyliau a brofwyd ganddyn nhw pan oedden nhw gyda'r ysgol yn nhymor yr haf.

Felly, y mater arall rwy'n credu sy'n hanfodol iawn i gau'r bwlch cyrhaeddiad yw'r gallu i ddarllen, sy'n weithgaredd anhygoel o ddwys i oedolion i helpu plant i ddysgu darllen. Gwyddom fod y niferoedd hyn yn gostwng; mae nifer yr oedolion sy'n darllen gyda phlant, hyd y gwelaf i gan yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol, yn parhau i fod yn is ymhlith pobl na chawson nhw addysg gystal eu hunain. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n dod ag oedolion eraill i'r ysgol i helpu athrawon i sicrhau bod pob plentyn yn dysgu darllen, a meddwl oeddwn i tybed beth rydym ni'n ei wneud ynghylch hynny.

Yn olaf, pa werthusiad—

17:55

Pa werthusiad sydd wedi'i gynllunio o lwyddiant yr ymgyrch gyhoeddusrwydd 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi', er mwyn cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau?

Wel, rwy'n diolch i Jenny Rathbone am y tri chwestiwn hynny. O ran rhaglen gwella gwyliau'r haf, dylwn i fod wedi ymateb i Heledd Fychan gyda'r ffigwr hwn—ymddiheuriadau. Y llynedd, gallodd y 175 o gynlluniau a gynhaliwyd gynnig ychydig dros 11,000 o lefydd i blant bob dydd. Ac yna, rydym ni, mae'n bosib ei bod hi'n cofio, wedi cynyddu'r gyllideb honno o, rwy'n credu, ddwy flynedd yn ôl, fel bod y ddarpariaeth gryn dipyn yn fwy helaeth nawr nag yr oedd. Ond mae'r pwynt mae'n ei wneud yn gywir, ynglŷn â sicrhau ein bod ni'n cael cymaint o werth â phosib o hynny. Mae hynny'n rhan o'r syniad y tu ôl i'r gwaith y mae Julie Morgan a minnau yn ei wneud gyda'n gilydd ynglŷn â sut y gall y Rhaglen Gwella Gwyliau'r Haf a'r cynllun Gwaith Chwarae weithio law yn llaw. Ond mae cyfle hefyd, rwy'n credu, i wneud yn siŵr ein bod yn gallu cydlynu nifer o ddarpariaethau eraill sy'n digwydd yn lleol mewn gwahanol gymunedau—mae sawl un yn fy etholaeth i ac rwy'n siŵr y bydd yna rai yn ei hetholaeth hi hefyd. Rwy'n credu bod cyfle i ni geisio cysoni ein darpariaeth â rhai o'r rheini hefyd, i sicrhau bod y ddarpariaeth yno yn y ffordd y mae ei hangen arnom ni, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth rwy'n teimlo'n gryf iawn amdano, yn sicr.

Mae'r pwynt a wnaeth am ddarllen, rwy'n credu, yn gywir ac rwyf yn cytuno ag ef. Rydym yn arbrofi gyda sawl ffordd wahanol i fynd i'r afael â'r pwynt y soniodd amdano. Felly, ar hyn o bryd, rydym ni'n arbrofi gyda rhaglen fentora darllen lle caiff myfyrwyr prifysgol eu paru ag ysgolion cynradd mewn ardaloedd o amddifadedd uchel yn benodol, i annog, fel yr oedd hi'n ei ddweud, y mwynhad hwnnw. Wyddoch chi, y cymhelliant i ddarllen yw'r peth tyngedfennol, onid e, mewn gwirionedd? Ac mae hi'n gywir yn dweud bod tystiolaeth bod dysgwyr mewn ardaloedd difreintiedig yn debygol o fod â lefelau llythrennedd is a chanfod bod darllen yn fwy heriol. Felly, rydyn ni'n targedu dysgwyr ym mlynyddoedd 5 a 6 mewn ardaloedd difreintiedig ac yna, drwy hynny, yn gobeithio gwrthdroi'r duedd honno. Ac mae hynny'n gynllun arbrofol ar hyn o bryd, ond mi fydd arna i eisiau edrych yn fanwl ar hynny ac os oes cyfle i ymestyn hynny, credaf y byddai hynny'n beth da iawn i ni allu ei wneud.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, diolch yn fawr iawn am ymweld ag Ysgol Gynradd Maendy y bore yma, roeddwn i'n meddwl ei fod yn ffordd wych o ddechrau'r diwrnod gwaith. Byddwch wedi gweld o lygad y ffynnon, Gweinidog, amrywiaeth ethnig wych yr ysgol ac rwy'n siŵr y bu gweld, drosoch chi eich hun, y gwaith da sy'n digwydd a chwrdd â thîm yr ysgol, y disgyblion a'u teuluoedd yn dystiolaeth gref iawn o werth yr ysgol honno wrth fynd i'r afael â materion cyrhaeddiad sy'n gysylltiedig â thlodi. Rwy'n credu fod cryn gydnabyddiaeth mewn gwirionedd, Gweinidog, cymaint o waith da y mae Ysgol Gynradd Maendy yn ei wneud, a pha mor wych yw arweinyddiaeth yr ysgol yn yr ysgol gynradd honno. Tybed beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â rhai o'r materion sy'n ymwneud â strwythurau a systemau ac olyniaeth. Oherwydd, pan fydd gennych chi arweinyddiaeth eithriadol, yn amlwg, rydych chi yn edrych i'r dyfodol a sut y gellir cynnal hynny dros gyfnod o amser, ac mae'n bwysig iawn bod strwythurau ar waith, gyda Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol eraill, fel y gallwn ni fod yn hyderus na chollir y cynnydd hwnnw pan fydd tîm arweinyddiaeth ysgol gwahanol.

Wel, a gaf i ddim ond adleisio'r pwynt mae John Griffiths wedi ei wneud? Roedd yn ffordd wych o ddechrau'r diwrnod yn ysgol gynradd Maendy, gweld gwaith y dehonglwyr ifanc, sy'n grŵp hynod angerddol o bobl ifanc, sy'n dehongli canllawiau ysgol i rieni a theuluoedd yn eu hieithoedd, ac yn dysgu ieithoedd newydd eu hunain yn ystod hynny, a oedd yn wych i'w glywed, a'u hangerdd yn rhan o hynny. Hefyd, roeddwn i'n meddwl bod hyn yn arbennig o gyffrous. Pan ddês i yn Weinidog addysg, un o'r cyfleoedd, y teimlais i, ym maes ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned oedd sut y gallai ysgolion estyn allan at rieni i ddod â nhw i'r ysgol mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd i'w cynnwys, ie, yn nysgu'r plant, ond hefyd i roi hyder iddyn nhw yn, efallai, dysgu sgiliau newydd neu wneud cysylltiadau newydd. Y ddau beth a osodais fel darlun i fy hun o sut y byddai hyn yn gweithio'n dda oedd pobl yn dod i mewn i ddefnyddio'r llyfrgelloedd ac yn defnyddio'r pecyn TG, ond hefyd pobl yn dod i mewn i ddefnyddio ceginau'r ysgol i ddysgu sut i goginio. Dyna a welsom ni y bore yma, ynte—grŵp o oedolion yn dysgu coginio prydau fforddiadwy gyda'i gilydd ac yn meithrin perthnasau newydd wrth wneud hynny.

Felly, mae hynny'n waith gwych, ond rwy'n credu ei fod yn hollol gywir i ddweud, yn rhy aml, mewn gwirionedd, fod hyn yn dibynnu ar weledigaeth ac angerdd penodol pennaeth unigol neu aelod unigol o'r uwch dîm arweinyddiaeth, neu barodrwydd y corff llywodraethu i ymgysylltu. Rwy'n credu bod hynny'n rhan o'r her, rwy'n derbyn hynny. Yr hyn yr ydym ni'n ceisio'i wneud yw, trwy'r canllawiau yr ydym ni'n eu dilyn, sy'n adeiladu ar astudiaethau achos da, cadarn, o'r math y mae Maendy yn eu darparu ar y naill law, ac, ar y llaw arall, amlygrwydd y buddsoddiad cyfalaf yr ydym ni'n ei wneud dros y ddwy flynedd nesaf i annog ysgolion i ymgysylltu â hynny fel y gallan nhw wneud yr addasiadau y mae, weithiau, angen iddyn nhw eu gwneud. Ond rwy'n credu mai'r cam nesaf nawr yw edrych ar sut y gallwn ni wneud hyn yn fwy o ddisgwyliad, os mynnwch chi, o gyrff llywodraethu yn ystyried hyn fel rhan brif ffrwd, nid yn unig i sicrhau bod cyfleusterau ar gael i'r gymuned, er mor hanfodol yw hynny, ond sut y gellir integreiddio'r ysgol yn fwy ym mywydau teuluoedd a rhieni hefyd. Os hoffech chi, credaf mai dyna'r cam nesaf wrth ddatblygu'r polisi.

18:00
9. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd

Eitem 9 heddiw yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Pan roddais y diweddariad diwethaf i'r Senedd am y cynnydd mewn gwasanaethau mamolaeth a newydd-anedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe cyn y Nadolig, dywedais y byddwn yn gwneud datganiad am y trefniadau ar gyfer sefydliadau GIG eraill yn y flwyddyn newydd. Nid oes amheuaeth bod y GIG yng Nghymru, yn union fel gwasanaethau iechyd mewn rhannau eraill o'r DU, dan bwysau dwys. Mae'r galw am wasanaethau gofal iechyd wedi cynyddu'n aruthrol nid yn unig ers diwedd cyfnod brys y pandemig, ond dros y degawd diwethaf. Bob mis, mae'r GIG yn ymwneud ag oddeutu 2 filiwn o bobl yng Nghymru. Mae hynny'n lefel anhygoel o weithgaredd i wlad o 3.1 miliwn o bobl. Roedd mwy na 1.4 miliwn o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol newydd yn 2022-23, bron i draean yn fwy na 10 mlynedd yn ôl.

Ond nid yw'r GIG wedi sefyll yn llonydd yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae wastad yn ystyried ac yn canfod ffyrdd newydd a gwell o ddiwallu anghenion poblogaeth Cymru. Mae'r chwe nod ar gyfer rhaglen gofal brys ac mewn argyfwng yn enghraifft wych o sut mae byrddau iechyd yn datblygu gwasanaethau newydd i atal pobl rhag mynd i adrannau brys, gan eu hannog i ddefnyddio gwasanaethau eraill lle gellir gofalu amdanyn nhw a'u trin yn well mewn mannau eraill.

Nawr, mae'n rhan o'm swydd i sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn darparu'r gofal gorau posibl a'r canlyniadau gorau posibl i bobl yng Nghymru. Ond rwy'n dirprwyo'r cyfrifoldeb beunyddiol am ddarparu gofal iechyd i fyrddau iechyd a all ac sy'n ymateb i anghenion ac amgylchiadau lleol eu poblogaethau. A minnau'n Weinidog Iechyd, mae rhan o'm cyfrifoldeb yn cynnwys gwneud penderfyniadau difrifol ynghylch a oes angen cymorth a goruchwyliaeth ychwanegol ar sefydliadau'r GIG gan Lywodraeth Cymru, i wella gofal a chanlyniadau, yn unol â'r trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd. Mae uwchgyfeirio un o sefydliadau'r GIG yn ffordd bwysig o sicrhau ei fod yn deall y problemau a'r heriau y mae'n eu hwynebu ar draws y sefydliad neu mewn gwasanaeth penodol. Mae'n rhoi cyfle i ni dynnu sylw at yr hyn sydd angen ei wneud, gyda'n cefnogaeth, i wneud gwelliannau. Nid yw'n fath o gosb, ond cydnabyddiaeth y mae angen i ni weithio gyda'n gilydd i wella pethau. Gellir gwneud hyn drwy fwy o graffu, adolygiadau ychwanegol, ymyriadau gwasanaeth gan weithrediaeth y GIG ac, os oes angen, cefnogaeth annibynnol.

Mae penderfyniadau am uwchgyfeirio ac isgyfeirio yn faterion i Lywodraeth Cymru. Gwneir y penderfyniadau hyn ar ôl asesu ystod eang o dystiolaeth a gwybodaeth, gan gynnwys yr wybodaeth a rennir gan y tri phartner: Llywodraeth Cymru, Archwilio Cymru, ac Arolygiaeth Iechyd Cymru. Yna mae fy swyddogion yn gwneud argymhellion i mi fel y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch lefelau uwchgyfeirio. Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi fframwaith trosolwg a chynnydd newydd GIG Cymru. Erbyn hyn mae pum lefel: trefniadau arferol; meysydd sy'n peri pryder—sy'n lefel newydd i atal gwaethygu pellach; monitro uwch; ymyrraeth wedi'i thargedu; ac, y gyfradd uchaf o uwchgyfeirio, mesurau arbennig. Mae'r fframwaith newydd yn nodi'r broses o ran sut mae Llywodraeth Cymru yn goruchwylio cyrff y GIG ac yn cael sicrwydd ar draws y system. Mae'n disgrifio'r broses uwchgyfeirio, isgyfeirio ac ymyrryd yn fanylach, gan adeiladu ar y dysgu o'n profiadau gyda byrddau iechyd prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Betsi Cadwaladr.

Mae pob sefydliad iechyd yn wynebu heriau ariannol gwirioneddol oherwydd y ffaith bod eu cyllidebau i bob pwrpas yn werth llai heddiw nag oedden nhw yn y gorffennol oherwydd chwyddiant a ffactorau eraill. Ond er bod pob ymddiriedolaeth, gan gynnwys gwasanaeth ambiwlans Cymru, Felindre, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r ddau awdurdod iechyd arbennig, Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru, wedi gallu parhau yn y categori monitro arferol, bydd yr Aelodau'n cofio, oherwydd methiant byrddau iechyd i gydbwyso eu cyllidebau, eu bod i gyd wedi'u gosod yn y categori monitro uwch o ran cynllunio a chyllid yn ôl ym mis Medi 2023.

Llywydd, byddaf nawr yn nodi'r newidiadau yr wyf yn eu gwneud.

Fel pob bwrdd iechyd arall, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn wynebu heriau o ran cyllid a chynllunio, ond mae hyn bellach yn effeithio ar ei berfformiad. Mae angen i'r bwrdd wneud rhai penderfyniadau anodd am ei strategaeth a’i gynllun ar gyfer gwasanaethau clinigol er mwyn sicrhau gwelliannau cynaliadwy. Dwi’n credu y byddai’r bwrdd yn elwa o gymorth ychwanegol wedi’i dargedu ac, felly, dwi wedi penderfynu rhoi’r sefydliad cyfan o dan statws ymyrraeth wedi’i thargedu.

Byddaf yn gosod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyfan mewn ymyrraeth wedi'i thargedu.

Fe fydd hyn yn ein galluogi i’w gefnogi’n briodol ac i sicrhau ei fod mewn sefyllfa i ddatblygu a gweithredu'r gwelliannau sydd eu hangen.

Cyn y Nadolig, mi wnes i godi gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i statws monitro uwch, ond dwi hefyd yn poeni nad ydym ni wedi gweld cynnydd digonol o ran gofal wedi’i gynllunio a gofal heb ei gynllunio. Mae heriau o ran amseroedd aros ac mae oedi annerbyniol wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys. Er mwyn helpu’r bwrdd i wella, dwi wedi penderfynu codi’r bwrdd i statws ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer perfformiad a chanlyniadau, ond fe fydd yn aros o dan statws monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid.

Byddaf yn cynyddu lefel uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer perfformiad a chanlyniadau, ond bydd yn parhau i fod yn y categori monitro uwch ar gyfer cyllideb a chynllunio.

Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fwlch ariannol cynyddol, a dyw’r bwrdd heb gynllunio’n ddigonol i gynilo’r diffyg ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol yma. Mae angen ymateb cryfach ar y sefydliad a chymorth ychwanegol i'w galluogi i wneud hynny. Felly dwi wedi penderfynu i godi eu statws ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer chynllunio a chyllid.

Byddaf yn gosod Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan mewn ymyrraeth wedi'i thargedu o ran cyllid a chynllunio. Rwy'n arbennig o bryderus am berfformiad yr adran frys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor. Felly, caiff y bwrdd iechyd ei uwchgyfeirio i'r categori monitro uwch ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n gysylltiedig â llwybrau gofal brys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor. Bydd Aelodau'r Senedd sy'n cynrychioli'r ardal yn falch o glywed fy mod wedi darparu ychydig dros £14 miliwn i ymestyn ac ad-drefnu rhannau o adran frys Ysbyty Athrofaol y Faenor, a fy nisgwyliad yw y bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn arwain at well diogelwch, cysur a phreifatrwydd i gleifion, ac rwy'n disgwyl i'r sefydliad ymateb i sicrhau bod gwelliannau pellach yn cael eu gwneud.

Nid wyf yn gwneud unrhyw newidiadau i lefelau uwchgyfeirio'r pedwar bwrdd iechyd arall. Felly, mae Betsi yn parhau i fod mewn mesurau arbennig ac mae Caerdydd yn parhau i fod yn y categori monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid, fel y mae Powys a Chwm Taf Morgannwg. Mae Cwm Taf Morgannwg hefyd yn parhau i fod mewn ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer perfformiad.

Llywydd, nid yw'r penderfyniadau hyn wedi'u gwneud ar chwarae bach. Dyna'r ffordd orau o gefnogi'r sefydliadau GIG hyn a byddant yn gwella ansawdd y gwasanaeth a'r gofal y mae pobl yn ei dderbyn yng Nghymru gan y gwasanaeth iechyd yn eu hardal leol, ac, yn y pen draw, yn gwella canlyniadau clinigol cleifion. Diolch yn fawr.

18:10

Rwy'n credu bod dwy agwedd ar ddatganiad y Gweinidog y prynhawn yma, a diolchaf i'r Gweinidog am ei datganiad. Rwy'n credu bod rhan gyntaf y datganiad yn ddatganiad eithaf sobreiddiol o ran cyflwr rhai o'n byrddau iechyd a chyflwr dirywiad rhai o'n byrddau iechyd, rwy'n credu, ledled Cymru. Dyna'r rhan siomedig, rwy'n credu, i'r datganiad heddiw, ac fe wnaf i ateb maes o law rai cwestiynau yn fwy manwl.

Mae'r rhan arall i'ch datganiad, Gweinidog, yn ymwneud â'r oruchwyliaeth yn y fframwaith uwchgyfeirio. Rwy'n credu bod yna groeso mawr i hynny. Rwy'n credu, o'r blaen, pan aeth bwrdd iechyd i gategori ymyriad neu y bu newid yn yr ymyriad neu y cai ei uwchgyfeirio, yna nid oedd yn glir sut a pham roedd y penderfyniadau hynny'n cael eu gwneud. Nid wyf yn credu bod hynny'n briodol yn flaenorol, ac rwy'n credu bod y fframwaith hwn bellach yn helpu i ddod â rhywfaint o eglurder a thryloywder yn hynny o beth. Felly, rwy'n credu bod croeso mawr i'r darn hwnnw yn eich datganiad heddiw.

Efallai y gallwn ofyn, o ran datblygu eich fframwaith, Gweinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni sut y gwnaethoch chi ddatblygu hynny, gyda phwy y buoch chi'n gweithio, pa adborth a gawsoch chi gan fyrddau iechyd, a gafodd byrddau iechyd olwg ar y fframwaith cyn ei gyhoeddi, beth oedd eu hadborth, a pha sefydliadau eraill rydych chi wedi gweithio gyda nhw, yn cynnwys Aelodau etholedig, i ddatblygu'r fframwaith a gyhoeddoch chi y bore 'ma. Sut ydych chi'n mynd i werthuso'r fframwaith, hefyd, o ran amserlen a'i effeithiolrwydd? Oes amser yn y dyfodol pan fyddwch chi'n—? Rydych chi'n dweud nawr mai eich bwriad yw diweddaru neu ddiwygio'r fframwaith.

O ran Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, darllenais gyda diddordeb eich bod yn gweithio gydag ystod o gyrff, gan gynnwys AGIC, o ran penderfynu beth sy'n lefel briodol ar gyfer ymyrraeth neu uwchgyfeirio. Felly, yn y goleuni hwnnw ac yng ngoleuni'r ddogfen a gyhoeddwyd gennych chi heddiw, a gaf i ofyn a oes unrhyw ystyriaeth bellach o ail-edrych ar y toriadau arfaethedig i AGIC yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru? Ac, mewn gwirionedd, a oes unrhyw ystyriaeth bellach i gynyddu'r cyllid sydd ar gael i AGIC, o ystyried ei swyddogaeth yn y fframwaith a gyhoeddwyd gennych chi'r bore 'ma?

A gaf i ofyn am gapasiti yn Llywodraeth Cymru? Hefyd, os oes mwy o fyrddau iechyd yn destun ymyrraeth ac angen monitro a chymorth, efallai y gallwch chi ddweud wrthym ni am staffio ac adnoddau ariannol yn Llywodraeth Cymru. Ac, wrth gwrs, rydyn ni'n ymwybodol bod AGIC eu hunain, yn ôl fis diwethaf, wedi dweud nad oedd tystiolaeth bod mentrau Llywodraeth Cymru yn cael unrhyw effaith ar wasanaethau rheng flaen. Felly, o ran y sylw yna, mae'n debyg, efallai y dylai Llywodraeth Cymru fod yn destun rhywfaint o ymyrraeth neu fesurau arbennig. Ond, sut y byddwch chi'n mynd i'r afael, a cheisio mynd i'r afael, â phryderon difrifol AGIC?

O ran rhai o'r pwyntiau eraill rydych chi wedi'u codi o ran y cynnydd a gyhoeddwyd heddiw, Bae Abertawe—roeddwn yn falch o ymweld â gwasanaethau mamolaeth Bae Abertawe yn Ysbyty Singleton yr wythnos diwethaf, yn enwedig yn dilyn y pryderon a godwyd—rydych chi bellach yn cynyddu'r ymyrraeth yno i ymyrraeth wedi'i thargedu. Dim ond y mis diwethaf, wrth gwrs, fe roesoch chi'r ysbyty yn y categori monitro uwch, felly beth sydd wedi newid yn y pedair wythnos hynny? Oes mwy o wybodaeth wedi dod i'r amlwg? A yw rhywbeth wedi newid yn ystod y pedair wythnos diwethaf, neu a oedd y penderfyniad a wnaed bedair wythnos yn ôl yn anghywir ac a ydych chi nawr yn ceisio dal i fyny? Felly, efallai y gallech chi ddweud ychydig mwy wrthym ni yn hynny o beth.

Ac yna, o ran bwrdd iechyd Hywel Dda, sy'n wynebu heriau gwirioneddol yn hynny o beth o ran—. Fe wnaethoch chi nodi yn eich datganiad heddiw bod angen iddyn nhw wneud penderfyniadau anodd iawn. Ydy'r toriad rydych chi'n gofyn iddyn nhw ei wneud i'w diffyg—? Ydych chi'n meddwl bod hynny'n rhy eithafol?

O ran bwrdd iechyd Aneurin Bevan, fe sonioch chi yn eich datganiad am ddiffyg ariannol cynyddol. A gaf i ofyn faint yw'r diffyg hwnnw ar hyn o bryd, a pha mor fawr y mae angen iddo fod i fynd i lefel uwch o ymyrraeth neu i fesurau arbennig, oherwydd fe wyddom ni y bu'n fater hirsefydlog ers peth amser? Mae'n debyg y byddwn i'n gofyn—. Y cwestiwn cywir yw: ydym ni'n mynd i fod yma ymhen pedair wythnos, er enghraifft, yn clywed bod y bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig, neu mewn lefel ymyrraeth wahanol?

Yn olaf, Gweinidog, fe wnaethoch chi sôn y bydd Aelodau lleol yn falch o'r buddsoddiad yn ysbyty'r Faenor. Un agwedd yw, ydw, rwy'n siŵr y byddan nhw, ond wrth gwrs y cwestiwn yw: pam rydym ni yn y sefyllfa hon yn y lle cyntaf un? Ysbyty newydd sbon, a adeiladwyd dim ond bedair blynedd yn ôl—. Mae ysbyty'r Faenor, a adeiladwyd dim ond bedair blynedd yn ôl ac a agorwyd, bellach yn gofyn am newidiadau ac ad-drefnu i rannau o'i wasanaethau brys. Felly, efallai y gallwch chi ddweud ychydig yn fwy, Gweinidog, pam na ragwelwyd hynny yn ystod y cam dylunio o ran sicrhau bod y cynlluniau gwreiddiol yn briodol ar gyfer diogelwch a chysur a phreifatrwydd, fel yr ydych chi wedi'i amlinellu heddiw yn eich datganiad.

18:15

Diolch yn fawr, Russell. Bobl bach, roedd gennych chi lawer o gwestiynau yn y fan yna, felly byddaf yn gweld faint y gallaf eu hateb, os yw hynny'n iawn.

O ran heriau ariannol, mae'n hysbys bod ein cyllideb werth £1.3 biliwn yn llai nag yr oedd pan gafodd ei amlinellu gyntaf. Mae chwyddiant wedi cael effaith enfawr ar bob agwedd ar y Llywodraeth, gan gynnwys y GIG, ac wrth gwrs, bu cynnydd enfawr yn y galw ers y pandemig, er, fel y dywedais i yn fy natganiad, roedd y galw yn cynyddu'n sylweddol cyn hynny hefyd.

A dim ond i gau pen y mwdwl ar fater y Faenor, roeddech chi'n holi pam mae'n rhaid i ni wneud hyn mor gynnar ar ôl iddo gael ei agor; wel, rhan o'r rhesymu hwnnw yw oherwydd ein bod ni wedi gweld galw'n cynyddu fel nad oeddem wedi'i ragweld. Nawr, nid wyf yn credu y gallwn ni ymddiheuro am y cynnydd enfawr yr ydym ni wedi'i weld, na allem ni fod wedi'i ragweld ar y pryd—fel y dywedais i yn fy natganiad, traean yn uwch na 10 mlynedd yn ôl. Ni fyddai neb wedi rhagweld hynny. Dyna pam rwy'n credu—gobeithio—y bydd pobl yn croesawu'r ffaith bod yr hyn sydd gennym ni—. Mae yna ysbyty o'r radd flaenaf, ond rydyn ni'n cydnabod bod yn rhaid i ni ehangu'r adran ddamweiniau ac achosion brys. Rwy'n siŵr eich bod yn hapus i weld y buddsoddiad ychwanegol sylweddol hwnnw.

Dim ond o ran eglurder a thryloywder yn y fframwaith, diolch i chi am gydnabod hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n werth cyferbynnu hynny gyda'r ffordd y maen nhw'n uwchgyfeirio yn Lloegr, sydd i gyd yn ddirgelwch mawr a does neb yn gwybod yn iawn pam mae'n cael ei wneud. Rydym ni wedi nodi'r fframwaith hwnnw. Rydym ni wedi gweithio gyda'r GIG a'r byrddau iechyd. Mae'n bwysig iawn nad yw'n cael ei ystyried yn gosb, y fframwaith uwchgyfeirio. Mae'n ymwneud â rhoi cefnogaeth. Yr hyn nad ydym ni ei eisiau yw loteri cod post i bobl ledled Cymru. Os gwelwn un rhan o Gymru yn edrych fel nad yw'n gwneud cystal â'r llall, yna mae gennym ni gyfrifoldeb fel Llywodraeth, yn ganolog, i sicrhau bod y maes hwnnw'n codi, a'r hyn y gallwn ni ei wneud nawr yw rhoi'r gefnogaeth honno ar waith.

Dim ond o ran gwerthuso, fe ddywedaf wrthych chi sut beth yw llwyddiant. Caiff llwyddiant ei werthuso o ran a yw'r byrddau iechyd yn dod i lawr yr ysgol uwchgyfeirio o ran gwella. Felly, bydd yn hawdd iawn gwerthuso a yw'r fframwaith hwn yn gweithio mewn gwirionedd.

O ran ail-edrych ar doriadau i AGIC, rwy'n credu ei bod hi'n werth nodi bod yr hyn a welsom ni yn AGIC yn gyllideb wastad, nid toriad yn y gyllideb. Roedd yn gyllideb wastad. Ond yn amlwg, rydym ni'n cydnabod, pan fydd y rhan fwyaf o'r cyllid a gaiff AGIC yn talu am staff, ei bod hi'n amlwg yn anodd iawn iddyn nhw ymdrin â'r sefyllfa benodol honno.

Dim ond o ran capasiti, yr hyn sydd gennym ni nawr yw gweithrediaeth y GIG, sef, fel y gwyddoch chi, y sefydliad newydd a sefydlwyd fel math o led-ran, hyd braich o Lywodraeth Cymru. A'r hyn a wnaethom ni yn hynny o beth oedd dod â llawer o arbenigwyr ynghyd. Felly, daeth Gwelliant Cymru, er enghraifft, yn rhan o'r sefydliad hwnnw, a dyna'r mathau o ddatryswyr problemau sy'n mynd i mewn nawr, ac mae gennym ni arbenigwyr go iawn yno, llawer ohonyn nhw sy'n arweinwyr clinigol, i fynd i mewn ac i roi cymorth lle bo angen. Ac maen nhw wedi gwneud llawer o hynny mewn perthynas â Betsi eisoes—mae llawer iawn o gefnogaeth wedi cael ei roi i weithio gyda Betsi.

O ran yr hyn a ddywedodd AGIC, mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n anghytuno braidd gydag AGIC. Mae'n debyg na ddylwn i, gan fy mod i'n Weinidog iechyd, ond fe wnaf i beth bynnag. Dweud nad oes unrhyw effaith ar wasanaethau rheng flaen—dydw i ddim yn derbyn hynny. Mae'r ffaith bod 70,000 o bobl erbyn hyn, bob mis, yn gallu ffonio llinell 111 y GIG, mae 20,000 o gleifion yn cael eu dargyfeirio o unedau achosion brys oherwydd eu bod yn mynd i ganolfannau gofal sylfaenol brys. Mae hynny'n arloesi, gan dynnu pobl o'r rheng flaen, felly rwy'n credu bod effaith ar y rheng flaen, a dydw i ddim yn siŵr sut y gall unrhyw un ddadlau yn erbyn hynny.

Dim ond o ran Abertawe, fel y gwyddoch chi, rydym ni wedi rhoi'r bwrdd yna yn y categori monitro uwch, ond roedd hynny'n arbennig ar gyfer mamolaeth. Mae hyn nawr yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd mewn perthynas ag Abertawe o ran perfformiad a chanlyniadau, sydd ychydig yn wahanol, ac mae hynny'n mynd i gategori ymyrraeth wedi'i thargedu. Rwy'n pryderu'n fawr, yn arbennig, am yr amseroedd trosglwyddo mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn Abertawe. Rwy'n pryderu hefyd am restrau aros hir. Felly, bydd pwyslais gwirioneddol ar weithio gyda nhw i helpu i'w cefnogi i gywiro'r heriau penodol hynny y maen nhw'n eu hwynebu.

Ydy'r toriadau'n rhy eithafol? Gofynnwch i'ch Llywodraeth hynny. Gofynnwch i'ch Llywodraeth os ydych chi'n meddwl ei bod hi'n syniad da siarad—hyd yn oed sibrwd—am doriadau treth pan ydych chi'n gwybod y mathau o bwysau sydd ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae yna reswm pam mae byrddau iechyd o dan y math yma o heriau. Y rheswm am hynny, a dweud y gwir, yw eich bod chi nid yn unig wedi trethu'n uwch nag a welsom ni mewn 70 mlynedd, ond hefyd rydym ni mewn sefyllfa lle rydych chi'n torri gwariant gwasanaeth cyhoeddus, ac i chi ofyn a yw'r toriadau yn rhy llym—wel, rwy'n credu y dylech chi fynd i ofyn i'ch Llywodraeth eich hun hynny.

Felly, rwy'n gobeithio fod hynny, Dirprwy Lywydd, wedi ymdrin â rhai o'r cwestiynau hynny.

18:20

Diolch, Dirprwy Lywydd. Wel, pan welais i ein bod ni am gael datganiad ar drefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd, mae'n rhaid cyfaddef fy mod i wedi cael fy nghyffroi ychydig. Bydd y Gweinidog yn gwybod ein bod ni yma yn y Blaid wedi bod yn galw am ail-lunio'r trefniadau ers sawl blwyddyn bellach. Roeddwn i'n obeithiol y buasem ni'n cael datganiad i'r perwyl hynny mewn gwirionedd, o ran ail-drefnu llwyr, ond gallwch chi ddychmygu fy siom felly, wrth glywed y datganiad yma heddiw, mai dim mwy, mewn gwirionedd, nag ailddatgan y drefn bresennol, efo un lefel ychwanegol wedi'i hychwanegu at y pedair lefel oedd yn bodoli'n flaenorol, sydd gennym ni.

Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru, disgrifir mesurau uwchgyfeirio ac ymyrryd fel unrhyw oruchwyliaeth o fyrddau iechyd sy'n mynd y tu hwnt i drefniadau arferol, ond gyda phob bwrdd iechyd mawr yng Nghymru bellach o dan fath o ymyrraeth wedi'i dargedu, neu lefelau uwch, fel y clywsom ni yn gynharach, y gwirionedd trist yw bod yr anarferol bellach wedi dod yn drefn arferol. Nid ydym ni'n anghytuno â phwysigrwydd bod â dulliau cadarn ar waith i fonitro perfformiad gweithredol byrddau iechyd ac i sicrhau bod unrhyw ddiffygion yn cael eu gweithredu lle bo angen. Y mater yma yw a yw'r fframwaith a'r eglurder a fynegir heddiw yn addas i'r diben mewn gwirionedd, o ystyried ei gofnod amheus o gyflawni gwelliannau amserol yn ansawdd gwasanaethau. Sut bydd ychwanegu un lefel newydd yn gwneud gwahaniaeth? Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu esbonio.

Mae achos Betsi Cadwaladr, sydd wedi bod mewn mesurau arbennig ers cyfanswm o chwe blynedd a hanner allan o'r naw mlynedd y bu'r fframwaith uwchgyfeirio ac ymyrraeth presennol yn weithredol, yn amlwg yn hyn o beth. Ac mae Betsi yn parhau mewn mesurau arbennig. Ond mae ei effeithiolrwydd ar draws y byrddau iechyd eraill yn bur siomedig hefyd. Er enghraifft, nid oedd yr haenau amrywiol o fonitro uwch a oedd ar waith o 2016 ym mae Abertawe yn ddigonol i atal methiannau difrifol yn ei wasanaethau mamolaeth yn ôl ym mis Tachwedd 2020, y mae'r Llywodraeth dim ond nawr yn mynd i'r afael â'r canlyniad yn hwyr iawn yn y dydd. Nid yw'r mesurau i feithrin disgyblaeth gyllidol hefyd wedi gallu atal y byrddau iechyd rhag cronni diffyg cyfunol o dros £150 miliwn, gyda chwech o'r saith prif fwrdd yn torri eu dyletswydd statudol i gael cyllideb wastad hyd yn oed yn ystod y cyfnod adrodd tair blynedd diweddaraf.

Mae mater atebolrwydd yn allweddol. Byddwch yn ymwybodol, ym mis Ebrill y llynedd, y bu inni sôn am ein pryderon am nodweddu'r broses deirochrog o wneud penderfyniadau gan y Prif Weinidog a'r cyn Weinidog iechyd a arweiniodd at isgyfeirio mesurau arbennig yn Betsi ym mis Tachwedd 2020. Er gwaethaf ymdrechion y Prif Weinidog i gymylu'r dyfroedd wrth gael ei herio ar hyn, mae bellach y tu hwnt i unrhyw amheuaeth bod y penderfyniad hynod ddadleuol hwn wedi'i wneud gan Lywodraeth Cymru yn unig, yn erbyn cyngor Archwilio Cymru ac AGIC. Mae hyn, wrth gwrs, yn tanlinellu sut mae'r fframwaith yn agored i wleidydda. Mae hyd yn oed y tincran presennol y sonnir amdano yn dal yn agored i'r un lefel o wleidydda, a daeth y goblygiadau niweidiol i'r fei ym mis Chwefror y llynedd pan ailosodwyd mesurau arbennig yn Betsi.

Gallai'r fframwaith diweddaru hwn fod yn ymgais i gael eglurhad, ond, ar ôl ei ddarllen yn gynharach y prynhawn yma, rhaid imi gyfaddef nad yw'n gymaint cliriach o ran pwy sy'n cyfrannu a phwy yn y pen draw sy'n cymryd cyfrifoldeb am isgyfeirio. Rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog egluro.

Credwn yn gryf y dylid asesu perfformiad gofal iechyd yng Nghymru bob amser yn unol â meini prawf diduedd a gwrthrychol trwyadl, ac mae'r ffaith y gall Gweinidogion Cymru, ar hyn o bryd, anwybyddu cyngor Archwilio Cymru a AGIC, yn peryglu hyn, ac felly nid yw'n cadw at un o'r egwyddorion sylfaenol sy'n sail i'r fframwaith—hynny yw, tryloywder. Er mwyn cryfhau hyder cleifion a staff fel ei gilydd a llywodraethu gofal iechyd yng Nghymru, felly, a wnaiff y Gweinidog gefnogi ein galwad am roi'r pŵer i wneud penderfyniadau ar gyflwyno neu dynnu'n ôl y trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd yn nwylo corff arbenigol annibynnol?

Yn olaf, i droi at y datganiadau rydyn ni wedi'u clywed y prynhawn yma, ddaru'r Gweinidog sôn bod Hywel Dda wedi mynd mewn i ymyrraeth wedi'i thargedu, sef yr haen newydd, y bedwaredd haen bellach sydd gennym ni o'r pum haen. Beth ydy'r gwahaniaeth, felly, rhwng yr haen yma a mesurau arbennig? Pam nad ydy Hywel Dda, felly, mewn mesurau arbennig, a pham mae'r Gweinidog wedi penderfynu, ar sail y lefelau newydd yma, fod Hywel Dda yn lefel ymyrraeth wedi'i thargedu? Rydym ni'n clywed bod bae Abertawe ac Aneurin Bevan wedi cael eu cynyddu—fod rhai elfennau wedi cynyddu—i ymyrraeth wedi'i thargedu, ac, yn achos y Grange, fod yna £14 miliwn wedi'i neilltuo. Faint yn fwy o bres sydd yn mynd i gael ei neilltuo ar gyfer y byrddau eraill yma er mwyn iddyn nhw fedru gwella eu perfformiadau nhw?

Ac yna mae'r Gweinidog yn sôn bod yna gefnogaeth wedi'i dargedu ar gyfer lefelau 4 a 5. Beth ydy'r gefnogaeth yma mewn termau go iawn? A fedrith y Gweinidog ymhelaethu, os gwelwch yn dda? Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.

18:25

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu mai mabwysiadu'r fframwaith newydd heddiw, y ffaith bod gennym ni bopeth wedi'i nodi, y ffaith ein bod ni wedi ei drafod gyda'r byrddau iechyd—ac, yn hollbwysig ac yn sylweddol, y gwir wahaniaeth yw bod gennym ni nawr weithrediaeth y GIG i ddod i mewn ac i gefnogi'r byrddau iechyd, felly rydym ni'n gallu mynd i mewn gyda phobl sy'n gallu datrys problemau. Felly, mae'r dulliau o ran sut rydym ni'n cefnogi'r byrddau iechyd i ddod allan o'u trafferthion yno i ni eu helpu gyda'r sefyllfa honno.

Felly, mae yna reswm, wrth gwrs, am y ffaith ein bod ni mewn sefyllfa lle mae gan bob un o'r byrddau iechyd ryw lefel o ymyrraeth y tu hwnt i drefniadau arferol, ac mae hynny, wrth gwrs, oherwydd yr heriau ariannol maen nhw'n eu hwynebu. Ni fyddaf yn ymddiheuro am hynny; mae hynny'n ffaith. Rydych chi wedi gweld cyflwr y cyllid ar draws Llywodraeth Cymru; rwyf newydd egluro pam fod y sefyllfa honno'n bodoli, ond mae 'na ganlyniadau i hynny, a rhan o'r canlyniad ydy, mewn gwirionedd, ein bod ni'n gofyn i fyrddau iechyd wneud mwy gyda—. Rydym ni yn rhoi mwy o arian iddyn nhw, llawer mwy o arian—rydym ni wedi bod yr holl ffordd o gwmpas bwrdd y Cabinet i gael mwy o arian i gefnogi a sicrhau'r byrddau iechyd—ond maen nhw'n dal i fynd i wynebu heriau ariannol sylweddol iawn, ac maen nhw, fodd bynnag, yn gorfod ymateb i'r hyn rydym ni wedi dweud wrthyn nhw bod angen iddyn nhw ei wneud er mwyn cydbwyso cyllideb gyffredinol Cymru. Dyna pam mae'n rhaid i ni ddal ati i roi pwysau arnyn nhw a byddwn yn gwneud hynny nes eu bod yn gallu cyrraedd sefyllfa lle mae gennym ni'r cydbwysedd ariannol hwnnw. Rydym ni'n hyderus bod tri bwrdd iechyd ar y trywydd iawn i wneud hynny, ac rydym ni'n gobeithio y bydd honno'n sefyllfa a fydd yn golygu y byddwn yn gallu eu hisgyfeirio.

Felly, dim ond o ran yr amser o wneud penderfyniad, mae'n rhaid i mi anghytuno â chi o ran Betsi. Eu tynnu nhw allan o fesurau arbennig—mae'n rhaid i mi fod yn hollol glir—mae Llywodraeth Cymru yn cymryd cyngor gan AGIC, Archwilio Cymru a swyddogion yn Llywodraeth Cymru. Dyna beth ddigwyddodd. Y Gweinidog sy'n gwneud y penderfyniad, mae hynny'n wir, ond dyna'r system, ac mae honno'n system rydym ni'n gwbl gefnogol iddi o ran mynd i mewn i fesurau arbennig a hefyd dod allan o fesurau arbennig. Fe wnaethoch chi holi am gyfle i hynny fod yn gwbl annibynnol ar Weinidogion Cymru a'r Llywodraeth. Wel, dyna sy'n digwydd yn Lloegr, a does dim atebolrwydd. Nid oes unrhyw atebolrwydd. Yn Lloegr mae 19 o ymddiriedolaethau yn yr hyn sy'n cyfateb i fesurau arbennig a does byth cwestiwn ar lawr San Steffan ynglŷn â'r sefyllfa honno, oherwydd nid y Llywodraeth a'u rhoddodd yn y sefyllfa honno. Felly, os ydych chi eisiau hynny, mae'n rhaid i chi fod yn glir iawn ynglŷn â chanlyniad hynny, a hynny yw na fyddwch chi'n gallu fy llusgo i mewn yma wythnos ar ôl wythnos i esbonio'r ffordd rydw i'n gwneud pethau, a chael y math o dryloywder ac atebolrwydd rydych chi hefyd yn ei fynnu. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod pobl yn deall bod rheswm dros sut rydym ni'n gwneud hyn.

Mae yna adolygiad atebolrwydd a llywodraethu yn cael ei gynnal ar hyn o bryd, ac fe welwn ni beth yw eu canlyniadau. Ond mae'n rhaid i mi ddweud wrthych chi na allwch chi gael y ddau beth. Allwch chi ddim cael y ddau beth. Yr hyn sydd ganddyn nhw yn Lloegr yw sefyllfa lle mae'n annibynnol, mae'n wahanol, mae gweithrediaeth y GIG ar wahân, penderfynir yn annibynnol pwy sy'n mynd i ba lefel o uwchgyfeirio, ac nid yw'r Llywodraeth yn craffu fel yr ydym ni yma yng Nghymru. Nawr, efallai bod hynny'n rhywbeth yr hoffech chi ei ystyried. Mae'n rhywbeth rwy'n siŵr ei fod yn cael ei ystyried yng nghyd-destun yr adolygiad llywodraethu ac atebolrwydd hwnnw. Nid wyf yn gwybod beth fydd pendraw hynny, ond allwch chi ddim ei gael y ddwy ffordd.

18:30
10. Rheoliadau Gwin (Diwygio) (Cymru) 2024

Yr eitem olaf heddiw yw'r Rheoliadau Gwin (Diwygio) (Cymru) 2024, a galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru i wneud y cynnig—Lesley Griffiths.

Cynnig NDM8455 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwin (Diwygio) (Cymru) 2024 yn cael ei gwneud yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Lesley Griffiths 18:32:41
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ac rwy'n cynnig cymeradwyo Rheoliadau Gwin (Diwygio) (Cymru) 2024. 

Mae'r rheoliadau wedi bod yn destun ymgynghoriad yn 2023, a ganfu gefnogaeth eang yn y diwydiant ar gyfer y newidiadau a wnaed gan y rheoliadau. Mae'r newidiadau'n cynnwys amrywiaeth o faterion cynhyrchu technegol, sy'n caniatáu i fusnesau gwin fabwysiadu dulliau y cytunwyd arnyn nhw gan y safonau diweddaraf cytunedig rhyngwladol. Mae'r rheoliadau hefyd yn cynnwys darpariaeth am win iâ sy'n ofynnol drwy i'r DU lofnodi cytundeb partneriaeth gynhwysfawr a blaengar y Môr Tawel. Bydd y rheoliadau yn dod i rym ar 15 Gorffennaf 2024. 

Mae diwydiant gwin Cymru yn gymharol fach o'i gymharu â'r diwydiant bwyd a diod ehangach yng Nghymru ac mae'n un raddfa fach iawn o'i gymharu â busnesau gwin Lloegr. Fodd bynnag, mae gan y diwydiant botensial pellach, ac mae gwneud y rheoliadau yn galluogi ein busnesau gwin i weithredu ar yr un telerau â busnesau Lloegr ac Ewrop yn y farchnad. Heb y newidiadau hyn, byddai ein busnesau dan anfantais gystadleuol. 

Byddai'r diwygiadau hyn yn cyd-fynd â deddfwriaeth sy'n cael ei chyflwyno gan Lywodraethau'r DU a'r Alban, gan gyfyngu ar unrhyw wahaniaethau rhwng sut mae'r deddfau'n berthnasol yng Nghymru a gweddill Prydain Fawr. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ystyried y rheoliadau, a gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau heddiw. Diolch.

Nid oes unrhyw siaradwyr eraill. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:34.