Y Cyfarfod Llawn

Plenary

17/01/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau y prynhawn yma fydd gyntaf yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jenny Rathbone.

Datgarboneiddio Cartrefi

1. Pa gynnydd y mae'r Gweinidog wedi'i wneud wrth weithio gydag awdurdodau lleol i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i ddatgarboneiddio cartrefi? OQ60521

O dan y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, mae oddeutu £28 miliwn wedi'i ddarparu i awdurdodau lleol. Mae'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio yn cefnogi dull profi a dysgu o ddatgarboneiddio cartrefi yn y ffordd fwyaf effeithlon a chosteffeithiol. Lansiwyd yr hwb carbon sero net yn ddiweddar i helpu awdurdodau lleol i gysylltu â gweithredwyr y diwydiant i rannu profiadau a gwersi a ddysgwyd.

Diolch. Mae £28 miliwn yn llawer o arian, ond rwy’n sylweddoli nad yw’n mynd mor bell â hynny pan soniwch am ddatgarboneiddio cartrefi. Erbyn hyn, mae sawl fferm wynt fawr yn gweithredu yng Nghymru, pob un yn creu buddion cymunedol, gan gynnwys Pen y Cymoedd gyda’i 78 o dyrbinau, sy'n cynhyrchu incwm derbyniol iawn i’r 188,000 o drigolion sy’n byw yn yr ardal honno. Pa ddadansoddiad y mae’r Llywodraeth wedi’i wneud o sut mae’r awdurdodau lleol perthnasol wedi achub ar y cyfle hwn i helpu’r gymuned leol i ddatgarboneiddio eu cartrefi drwy eu cynghori ar y strategaeth orau ar gyfer eu heiddo unigol?

Yn yr un modd, yn yr un flwyddyn, dechreuodd cynllun ECO Flex, a roddodd ffynhonnell arall o gyllid i awdurdodau lleol gan Lywodraeth y DU. Gwn fod Bryste a Llundain, a llawer o awdurdodau lleol eraill yn Lloegr, wedi dechrau gwneud ceisiadau ar gyfer cynlluniau ECO Flex a’u bod yn gweld pethau’n digwydd yn barod. Felly, faint o awdurdodau lleol yng Nghymru sydd wedi defnyddio’r cyllid hwnnw i gefnogi poblogaethau lleol i ddatgarboneiddio eu cartrefi? A sut y gallwn sicrhau bod awdurdodau lleol yn mynd ati'n rhagweithiol iawn i gyrraedd y targed a osodwyd yn wreiddiol sef 2033 ar gyfer cartrefi cymdeithasol?

Ie, diolch, Jenny. Felly, rydym yn cefnogi awdurdodau lleol i drosglwyddo cyllid cyfalaf a ddarparwyd ar gyfer Prydain gyfan i gymunedau lleol drwy gyflwyno, fel y dywedwch, y cynlluniau Flex awdurdodau lleol sy'n gysylltiedig ag ECO4 a chynllun inswleiddio Great British Insulation, a arferai gael ei alw'n ECO+. Gallant gyhoeddi datganiad o fwriad ar y cyd ar gyfer ECO4 ac ar gyfer cynllun inswleiddio Great British Insulation a datblygu partneriaethau gyda chyflenwyr a gosodwyr. Felly, rydym wedi bod yn cefnogi’r awdurdodau lleol i ddatblygu’r datganiadau, ac rydym yn annog cydweithio rhanbarthol lle mae hynny'n arwain at gyflawni mwy effeithlon, gan fod yn rhaid iddynt gysylltu â'r arolygon Gwasanaeth Ynni Cymru y buom ni yn eu gwneud, ac fe wyddoch ein bod wedi bod yn cyflwyno ein cynllun cymunedol i ganfod ble mae fwyaf o angen effeithlonrwydd ynni ac i geisio defnyddio dull gweithredu 'tai gwaethaf yn gyntaf'. Felly, rydym wedi bod yn ceisio sicrhau, lle maent yn croesi ffiniau ac ati, nad oes maes grym anweledig am eich bod yn cyrraedd ffin ardal awdurdod lleol, a'n bod yn gwneud hyn fel cynllun cymunedol lle bo hynny'n briodol.

Mae gwasanaeth cynghori Nyth yn cyfeirio at gynllun inswleiddio Great British Insulation a mentrau eraill, gan gynnwys pethau fel y cynllun uwchraddio boeleri ac ECO4, fel cynlluniau ategol i gynlluniau a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n cael eu harwain gan y galw. Felly, rydym yn ceisio sicrhau bod y gwasanaeth cynghori newydd yn cryfhau hynny ac yn arwain at drefniant atgyfeirio fel bod pobl yn deall, ar ôl cael un, nad yw'n golygu na allwch gael y llall, ac y gallwch gael cyfuniad. Gall deiliaid tai, perchen-feddianwyr a’r rheini mewn cartrefi cymdeithasol a chartrefi rhent preifat wirio eu cymhwysedd a gwneud cais yn uniongyrchol drwy’r cyflenwyr ynni.

O ran Pen y Cymoedd a ffermydd gwynt eraill, a’r pecynnau mawr iawn o fuddion cymunedol a ddaw yn eu sgil, nid yw’r rheini’n cael eu gwneud drwy’r awdurdodau lleol, fe’u gwneir drwy gonsortia cymunedol. Rydym wedi bod yn gweithio gyda’r diwydiant datblygwyr, a chyfarfûm â RenewableUK Cymru cyn y Nadolig yng ngwesty'r Celtic Manor, yn eu cynhadledd yno, i drafod beth arall y gallem ei wneud ar gyfer y cynlluniau budd cymunedol. Mae rhai cyfyngiadau: ni allwch ddefnyddio cynllun budd cymunedol i leihau bil ynni yn unig, er enghraifft. Ni chaniateir hynny o fewn y rheolau. Ond nid oes unrhyw beth o gwbl i'ch atal rhag defnyddio cynllun budd cymunedol i ôl-osod tai er mwyn eu gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni. Ond mater i'r gymuned leol yw dod i'r casgliad hwnnw. Felly, drwy Ynni Cymru a mentrau eraill, rydym wedi bod yn defnyddio galluogwyr lleol i annog y cymunedau i ddod ynghyd i ddeall beth sy’n bosibl a beth y gallai’r gwaith ôl-osod ei gynnig ac i ddefnyddio’r cynlluniau budd cymunedol yn y ffyrdd hynny. Oherwydd ledled Cymru, mae gennym waith ardderchog wedi'i wneud ar neuaddau pentref a thimau chwaraeon a phopeth arall—mae hynny'n wych, ond nid oes ganddynt hirhoedledd rhywfaint o’r cynlluniau eraill. Roeddwn yn falch iawn fod y datblygwyr yn hapus iawn ac yn datblygu rhywbeth y maent yn ei alw'n ‘wasanaeth safon aur’, i roi’r mathau hynny o fentrau yn y cynlluniau budd cymunedol. Ond byddent yn ategu’r holl gyllid arall—nid yw’r naill yn atal y llall.

Cyfeiriaf yr Aelodau at fy natganiad o fuddiant ynghylch perchnogaeth eiddo, a deallaf nad fi yw'r unig un a ddylai fod yn datgan. Fel y gwyddoch, Weinidog, mae miloedd—

13:35

Nid oes angen ichi gyfeirio at ddatganiadau pobl eraill; cyfeiriwch at eich datganiadau eich hun, os gwelwch yn dda.

Ond ymddengys mai fi yw'r unig Aelod, ar hyn o bryd, sy'n gwneud y datganiadau hyn.

Fel y gwyddoch, Weinidog, ceir miloedd o eiddo gwag y gellid eu troi’n gartrefi hyfryd. Mae rhaglen Cynllun Lesio Cymru yn rhoi cymorth i landlordiaid sy’n ymuno â’r cynllun, gyda chyllid ychwanegol i wella mesurau datgarboneiddio’r tai rhent preifat hynny. Nawr, dim ond 16 o awdurdodau lleol sydd wedi ymuno â'r cynllun dros y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf, a dim ond 60 o grantiau a roddwyd—mae hynny'n llai na thri y mis. Mae perchnogion eiddo, ac yn wir, landlordiaid preifat wedi dweud wrthyf yn glir iawn y byddent yn fwy na pharod i adnewyddu eiddo'n gartrefi ac i gynnwys y cynllun datgarboneiddio pe baent yn cael cymorth gan Lywodraeth Cymru. A wnewch chi helpu i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn manteisio ar Gynllun Lesio Cymru a chynlluniau ECO eraill sydd ar gael, a darparu mwy o gyllid fel rhan o’ch cynnydd diweddar mewn cyllid yn y gyllideb i atal digartrefedd? Diolch.

Felly, mewn gwirionedd, mae dau awdurdod arall newydd ymuno â Chynllun Lesio Cymru yn ddiweddar iawn. Wrth gwrs, bydd y codiad calonogol iawn yn y lwfans tai lleol ym mis Ebrill yn gymorth mawr, gan mai'r ffordd y mae Cynllun Lesio Cymru yn gweithio yw drwy warantu swm y lwfans tai lleol ar gyfer rhent i’r landlord. Yna, mae’r landlord yn trosglwyddo’r eiddo i’r awdurdod lleol, neu i landlord cymdeithasol cofrestredig lleol, ac rydym yn ei redeg fel pe bai’n gartref cymdeithasol. Mae'n isafswm o bum mlynedd; byddai'n well gennym gyfnod o 10 neu 15 mlynedd, serch hynny, am resymau amlwg. Yna, mae'r landlord yn cael tŷ yn ôl lle maent wedi cael incwm drwy gydol y cyfnod hwnnw, ond sy'n dod yn ôl iddynt mewn gwell cyflwr na phan gafodd ei drosglwyddo. Rydym yn awyddus iawn i annog pobl i wneud hynny. Janet, rwyf am ddweud nad ydym wedi cael unrhyw arwydd o gwbl eto a fydd y lwfans tai lleol yn cael ei godi ym mis Ebrill am flwyddyn neu am fwy o flynyddoedd, ac mae hynny’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Felly, mewn gwirionedd, un o'r rhwystrau mwyaf sy'n ein hwynebu yw diffyg dealltwriaeth ynglŷn ag a fydd y lwfans tai lleol yn parhau i godi gyda chwyddiant, a fyddai'n ei wneud yn llawer mwy deniadol, neu a yw'n mynd i gael ei rewi unwaith eto. Felly, mae hynny’n dipyn o rwystr. Felly, rwy'n gweithio gyda Llywodraeth y DU ar hyn o bryd i geisio rhywfaint o eglurder ar hynny—ni chafwyd unrhyw eglurder hyd yn hyn, felly os gallwch gynorthwyo gyda hynny, byddai hynny'n ddefnyddiol.

Gorsaf Drenau Rhiwabon

2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i wella gorsaf drenau Rhiwabon? OQ60504

Iawn. Diolch i Ken Skates, sydd wedi bod yn hyrwyddwr cyson ar ran gorsaf Rhiwabon, ac rydym yn cytuno bod ganddi botensial mawr, gan ei bod yn gwasanaethu ardal eang ac fel porth ar gyfer trenau i safle treftadaeth y byd ym Mhontcysyllte. Rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ariannu’r gwaith o ddarparu pont Mynediad i Bawb newydd yn yr orsaf.

Diolch, Weinidog. Rwy'n eich canmol am eich ynganiad perffaith o enw'r safle treftadaeth y byd. Fel y gwyddoch, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n anhygoel o galed, a chithau’n bersonol, i geisio gwneud y gwelliannau angenrheidiol yng ngorsaf Rhiwabon. Ond yn ôl ym mis Tachwedd, cafwyd cyhoeddiad am chwe gorsaf yng Nghymru a fydd yn cael eu huwchraddio, ac nid oedd Rhiwabon yn eu plith. A allech chi nodi’r rhesymau pam y credwch nad yw gorsaf Rhiwabon wedi elwa eto o’r gwaith uwchraddio y mae cymaint o deithwyr angen iddo fynd rhagddo yn yr orsaf? A yw’n broblem gyda Network Rail neu Lywodraeth y DU, gan y deallaf fod Trafnidiaeth Cymru wedi cefnogi’r gwaith angenrheidiol yn gyson? Diolch.

Diolch am eich cwestiwn. Gallaf gadarnhau bod gorsaf Rhiwabon yn un o’n prif flaenoriaethau ar gyfer cyflawni yng Nghymru drwy gynllun Mynediad i Bawb Llywodraeth y DU. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio’n agos gyda Network Rail ar hynny, a disgwylir cynllun amlinellol terfynol ddiwedd mis Mawrth. Felly, credaf ein bod yn gwneud popeth a allwn yn ein pen ni. Ond credaf mai’r gwir amdani yw nad yw Llywodraeth y DU yn cyflawni ar ran gogledd Cymru o ran buddsoddi mewn seilwaith allweddol. Byddai pont hygyrch newydd yn Rhiwabon yn gwneud gwahaniaeth sylweddol yno, ond ni allwn fwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw oni bai fod Llywodraeth y DU yn ei ariannu. Nid yw rheilffyrdd wedi’u datganoli i Gymru; maent yn gyfrifoldeb i’r DU, ac mae'n rhaid imi ofyn beth mae’r holl ASau Torïaidd hynny yng ngogledd Cymru yn ei wneud os na allant ddarparu cyllid ar gyfer buddsoddiad cymedrol o'r fath. Nawr, diolch byth, mae buddsoddiad yn cael ei wneud mewn rheilffyrdd yn y gogledd, ond mae'n cael ei wneud gan Lywodraeth Lafur Cymru. Mae’r rhan fwyaf o'r gwasanaethau yn Rhiwabon bellach yn cael eu gweithredu gan ddefnyddio ein trenau dosbarth 197 newydd o ganlyniad i’n buddsoddiad o £800 miliwn mewn fflydoedd newydd. Ond unwaith eto, rydym yn poeni y gallai eu perfformiad gael ei danseilio'n hawdd gan Lywodraeth y DU, wrth i Network Rail dorri eu cyllidebau cynnal a chadw ar gyfer y blynyddoedd i ddod, a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar ddibynadwyedd trenau a’u gallu i gadw at yr amserlen. Felly, er gwaethaf ein hymdrechion, mae perygl fod hynny'n cael ei danseilio.

Nawr, mae Llywodraeth y DU, drwy ei hadolygiad o gysylltedd yr undeb, o dan arweiniad yr Arglwydd Peter Hendy, wedi nodi argymhelliad ein bod yn edrych ar goridor gogledd Cymru yn ei gyfanrwydd o ran trafnidiaeth. Ac rydym wedi gwneud hynny, ac yn ddiweddar, mae'r Arglwydd Burns a'i gomisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru wedi cyhoeddi eu hargymhellion manwl—oddeutu 60 o argymhellion. Mae nifer o’r rheini sy’n ymwneud â rheilffyrdd yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU, ac rydym yn dymuno gweithio gyda Llywodraeth y DU ar gyfres o gynlluniau y gellir eu hariannu, rhai gennym ni, rhai ganddynt hwy, i wella trafnidiaeth ar draws gogledd Cymru. Ac mae'r gwaith uwchraddio a argymhellir yng ngorsaf Caer, i ganiatáu pum trên yr awr, gan gynnwys gwasanaeth cyflym i ogledd Cymru, yn rhan hollbwysig o hynny.

13:40

Diolch am y cyfle i ymateb i ymateb y Dirprwy Weinidog yno, Lywydd. Rwy’n siomedig iawn o glywed y Dirprwy Weinidog yn anghofio mor hawdd fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £1 biliwn o fuddsoddiad mewn rheilffyrdd yng ngogledd Cymru. Felly, yn hytrach na sefyll yno'n cwyno am y diffyg buddsoddiad gan Lywodraeth y DU, mae £1 biliwn ar y bwrdd, a fydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i'r trigolion rwy'n eu cynrychioli.

Yn benodol mewn perthynas â gorsaf Rhiwabon, bydd y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol, wrth gwrs, ei bod yn rhan bwysig o fetro gogledd Cymru, fel y nodwyd gennych yn eich ymateb i Ken Skates. Ond wrth gwrs, ar hyn o bryd, mae oddeutu £50 miliwn wedi'i glustnodi gan Lywodraeth Cymru ar gyfer metro gogledd Cymru, tra bo oddeutu £700 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer metro de Cymru. Felly, pe bai gwir awydd i weld pethau'n gwella yn y gogledd, byddai ymrwymiad pellach gan Lywodraeth Cymru i wella ardaloedd o ogledd Cymru gyda'r metro. Ond gan ddychwelyd at orsaf Rhiwabon yn benodol, Ddirprwy Weinidog, tybed a allech amlinellu pa gyfarfodydd rydych wedi bod yn eu cael gyda Llywodraeth y DU i helpu i gyflymu’r buddsoddiad yng ngorsaf Rhiwabon fel bod fy nhrigolion, ac yn enwedig, pobl ag anableddau yn cael mynediad hawdd i'r orsaf.

Wel, marciau llawn i Sam Rowlands am hyfdra. Nid yw seilwaith rheilffyrdd wedi’i ddatganoli i Gymru. Mae'n gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU, ac yn syml iawn, nid ydynt yn cyflawni dros Gymru yn gyffredinol, a gogledd Cymru yn benodol. Nawr, dywed fod Prif Weinidog y DU wedi ymrwymo £1 biliwn ar gyfer rheilffyrdd yn y gogledd drwy drydaneiddio’r brif linell reilffordd. Nawr, yn gyntaf oll, nid yw wedi gwneud hynny, gan mai'r unig beth a wnaeth oedd dweud bod hynny'n enghraifft o'r math o arian y gellid ei wario. Yn ail, byddwn yn cofio eu haddewid i drydaneiddio’r rheilffordd yn ne Cymru, addewid y gwnaethant ei dorri. Felly, ni chredaf y gallwn fod ag unrhyw hyder o gwbl yn hynny. Ac mae ein sinigiaeth yn dyfnhau ymhellach am nad oes unrhyw waith paratoi o gwbl y tu ôl i’r cyhoeddiad deniadol hwn. Felly, mae'n ffantasi llwyr. Nid yw Network Rail wedi gwneud unrhyw waith paratoi. Nid yw'r Adran Drafnidiaeth wedi gwneud unrhyw waith paratoi. Mae hon yn ffantasi y mae'n ddigon parod i'w defnyddio at ddibenion etholiadol, gan wybod yn iawn na fydd yn digwydd o dan y Llywodraeth hon, ac mewn gwirionedd, mae rhai o'r pethau yr ydym wedi cytuno arnynt gyda'r Adran Drafnidiaeth fel blaenoriaethau, fel y gwaith uwchraddio yng Nghaer, a fyddai’n darparu cymorth i deithwyr gogledd Cymru yn y tymor byr, yn cael eu hanwybyddu gan Lywodraeth y DU. Felly, mae arnaf ofn, ymgais lew, ond nid un a gefnogir gan y ffeithiau.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr heddiw, Natasha Asghar. 

Diolch yn fawr, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, efallai ei bod yn flwyddyn newydd, ond yn ôl y disgwyl, mae lefel aruthrol y dicter, y rhwystredigaeth a’r gwrthwynebiad i’ch prosiect 20 mya costus yn parhau i dyfu. Er bod bron i 0.5 miliwn o bobl wedi llofnodi deiseb i ddiddymu'r fenter £33 miliwn, a phrotestiadau di-rif wedi'u cynnal, gan gynnwys yr un yma heddiw y tu allan i Senedd Cymru, mae Gweinidogion Llafur yn dal i wrthod gwneud y peth iawn. Mae'r negeseuon gan Weinidogion Llafur, yn enwedig ynghylch gorfodi ac erlyn, wedi bod, fel y dywedodd fy arweinydd mor berffaith, mor glir â mwd. Lywydd, efallai y bydd y Dirprwy Weinidog yn ceisio beio’r Ceidwadwyr Cymreig am beri dryswch ynghylch y polisi hwn—fel y gwnaeth yr wythnos diwethaf—ond y gwir amdani yw mai ef sydd ar fai. Unwaith eto, yn hytrach na derbyn cyfrifoldeb am ei gamgymeriadau, mae’r Dirprwy Weinidog yn taflu'r bai ar eraill. A dweud y gwir, mae cyflwyno’r prosiect porthi balchder hwn wedi bod yn broses hynod anhrefnus, gyda Llywodraeth Cymru yn parhau i achosi dryswch llwyr. Felly, Ddirprwy Weinidog, a hithau’n flwyddyn newydd, a wnewch chi ddechrau'r flwyddyn newydd yn y ffordd iawn a rhoi’r hyn y mae pobl Cymru ei eisiau iddynt drwy ddiddymu'r prosiect porthi balchder 20 mya hurt?

Wel, blwyddyn newydd dda i Natasha Asghar hefyd. Cefais fy atgoffa, wrth wrando ar hynny, o’r erthygl ar Nation.Cymru heddiw, sy’n sôn am y trosiant uchel iawn o staff yn swyddfa’r Ceidwadwyr. Ond roedd y dyfyniad a arhosodd gyda mi yn ymwneud ag Andrew R.T. Davies—a chredaf y gallai fod yn berthnasol iddi hithau hefyd—lle dyfynnir cyn-aelod o staff yn dweud nad yw Andrew R.T. Davies

'y math o wleidydd sydd â diddordeb mewn llunio polisïau ymarferol. Yr hyn y mae'n ei garu yn fwy na dim yw ymosod ar Lywodraeth Cymru am faterion fel y terfyn cyflymder 20mya'.

A chredaf fod hynny'n hollol gywir, ac mae hi wedi arddangos hynny'n glir heddiw.

Fel y buom yn ei drafod yr wythnos diwethaf, cafwyd cefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd hon i fabwysiadu dull terfyn cyflymder diofyn. Yn hytrach na dull gweithredu fesul stryd anymarferol a drytach o lawer, argymhellodd y panel arbenigol a sefydlwyd gennym ddull gweithredu ardal gyfan, a chefnogwyd hynny yn y Senedd hon, gan gynnwys gan Laura Anne Jones, gan Russell George, a chan nifer o Geidwadwyr Cymreig eraill. [Torri ar draws.] Nawr, mae Laura Anne Jones yn ceisio dianc rhag y cofnod, ond pe bai'n edrych ar y cynnig a gefnogodd, mae’n dangos yn glir iawn ei fod yn cefnogi dull adroddiad Phil Jones, a oedd yn cefnogi terfyn cyflymder diofyn. Ac mae Laura Anne Jones yn dweud wrth y Siambr nawr fy mod yn camarwain, ac nid wyf yn gwneud hynny, Lywydd, ac mae hynny'n fy nigio; mae hyn wedi'i gofnodi.

13:45

Mae hyn wedi'i gofnodi—y dull gweithredu a ddefnyddiwyd yn dilyn argymhelliad mewn cynnig yn y Siambr hon, a gefnogwyd gan y Ceidwadwyr, fel y’i cefnogwyd gan bleidiau eraill. Nawr, rydym wedi symud ymlaen i'r cam nesaf yn hynny o beth, a gweithio ar y manylion, ac rydym wedi cael y dadleuon hyn sawl tro yn y Siambr, ac mae'r safbwynt yr un fath. Rydym yn derbyn nad yw hyn ar waith ym mhob cymuned fel y bydd ar waith yn y pen draw, mae’n siŵr, gan y bydd awdurdodau lleol yn awyddus i fanteisio ar bedwar mis o brofiad o fyw gyda’r terfyn cyflymder i adolygu rhai o’r ffyrdd. Felly, er enghraifft, roeddwn yn gyrru ar y penwythnos yng Nghaerdydd, ar Rodfa Lloyd George, ac roeddwn yn synnu wrth weld bod Rhodfa Lloyd George yn ffordd 20 mya. Nawr, mae'r canllawiau'n dweud y byddai disgwyl i stryd o fewn 200m i dai fod yn 20 mya oni bai fod achos da fel arall. Nawr, wrth gwrs, mae Rhodfa Lloyd George o fewn 200m i dai, ac felly gallwch weld pam, mewn dehongliad llythrennol iawn o’r canllawiau, y gwnaed y penderfyniad hwnnw. Ond wrth gwrs, ceir perth fawr, ceir palmant llydan iawn, ceir lôn feicio. Nawr, o'm rhan i a'r prawf synnwyr cyffredin a drafodais yn flaenorol, ymddengys i mi y byddai'r ffordd honno'n enghraifft berffaith o ffordd y dylid ei hadolygu, a bydd enghreifftiau o'r fath i'w cael ledled Cymru, rwy'n siŵr. Hoffem gyrraedd pwynt lle mae’r polisi hwn yn ymsefydlu, lle mae pobl yn dod i arfer ag ef. Mae pobl eisoes yn gyrru’n arafach, ac fel rhan o’r broses honno, bydd yna strydoedd, wrth gwrs, lle bydd cynghorau'n dymuno gwneud newidiadau, ac felly y dylai fod. Ond mae hwnnw'n bolisi difrifol, mae honno'n ddadl ynglŷn â gweithredu; nid yw’n ddadl am sloganau, ac nid yw’n ddadl am gynhyrchu traffig ar y cyfryngau cymdeithasol, wedi’i hannog gan Geidwadwyr yn Lloegr.

Waw. Nid wyf yn gwybod ble i ddechrau gyda hynny, Ddirprwy Weinidog. Yn gyntaf, rwy'n gwbl ymwybodol fod gennych gystadleuaeth arweinyddiaeth ar y gweill ymhlith aelodau eich plaid. Ond ar gyfer y cofnod, chi yw’r Dirprwy Weinidog trafnidiaeth, nid y Dirprwy Weinidog na’r Gweinidog adnoddau dynol, Duw a'n helpo, felly nid yw hynny’n mynd i ddigwydd. Am y tro, gadewch imi barhau â thrafnidiaeth, sef yr hyn rydym yma i'w drafod heddiw.

Nawr, roeddwn yn siomedig iawn gyda'r ateb rydych newydd ei roi. Na phoener, serch hynny, gan fod y Llywodraeth Lafur wedi gorchymyn adolygiad o’r cynllun 20 mya trychinebus hwn. A pha unigolyn diduedd y maent wedi awgrymu y gallai arwain yr adolygiad hwn? Yn anghredadwy, Phil Jones, yr un dyn a argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno’r polisi hwn yn y lle cyntaf. Ni allech greu stori o'r fath pe baech yn ceisio. Mater yw hwn o Lywodraeth Cymru yn marcio ei gwaith cartref ei hun mewn perthynas â’r polisi hwn. Yn fy marn i, nid oes angen adolygiad arnom. Mae angen diddymu'r polisi hwn, gan y gallwn eisoes weld y niwed enfawr y mae’n ei wneud i Gymru, gydag ergyd o £9 biliwn i’r economi, gan amharu ar fywoliaeth pobl, niweidio rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus ac arafu ein gwasanaethau brys. Ni waeth beth yw eich dadl, Ddirprwy Weinidog, dyna'r gwir. Ond serch hynny, Ddirprwy Weinidog, sut ar y ddaear y credwch y mae hyn yn edrych i’r cyhoedd—y cyhoedd y tu allan i’r Siambr hon—eich bod wedi cyfarwyddo dyn a oedd yn allweddol wrth gyflwyno’r polisi pwysig hwn, sydd wedi bod yn hynod ddadleuol, i arwain yr adolygiad hwn wrth symud ymlaen?

Wel, rydych yn taflu amheuaeth ar enw da gweithiwr proffesiynol uchel ei barch ar draws y diwydiant trafnidiaeth yn y DU a hynny heb unrhyw sail o gwbl. Felly, ar gyfer y cofnod, ni wnaeth Phil Jones argymell y polisi i Lywodraeth Cymru. Roedd polisi Llywodraeth Cymru eisoes wedi'i osod. Gofynasom i Phil Jones edrych ar y ffordd orau o’i roi ar waith, gan weithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid a’r bobl a fyddai’n gyfrifol am wneud i hyn weithio’n ymarferol, a’r genhadaeth glir oedd meddwl am rywbeth a oedd yn ymarferol. A threuliodd dros flwyddyn yn llunio'r adroddiad hwnnw, ac argymhellodd ddull diofyn, a gymeradwywyd mewn egwyddor gan y Ceidwadwyr yn Siambr y Senedd hon. [Torri ar draws.] Nawr, cyn gynted ag y byddwn yn dechrau—[Torri ar draws.]—cyn gynted ag y byddwn yn dechrau edrych wedyn ar sut y caiff hyn ei roi ar waith yn ymarferol, bydd rhai pobl yn anghytuno â hynny wrth gwrs, ac wrth gwrs, mae’r Ceidwadwyr yn bachu ar gyfle, unwaith eto, i gynhyrfu pobl a cheisio ennill rhywfaint o boblogrwydd i guddio’r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi dinistrio economi’r DU. Felly, unwaith eto, rydym yn cael tactegau twyllodrus ar feinciau'r Ceidwadwyr. Nid oes ganddynt unrhyw awgrymiadau adeiladol ynglŷn â sut i fynd i'r afael â diogelwch ar y ffyrdd. Nid oes ganddynt unrhyw awgrymiadau adeiladol ar sut i newid dulliau teithio. Nid oes ganddynt unrhyw awgrymiadau adeiladol ynghylch sut i leihau llygredd sŵn mewn cymunedau. Ac er ei holl honiadau fod hwn yn bolisi hynod amhoblogaidd, mae ceir yn gyrru'n arafach, mae pobl yn cydymffurfio ag ysbryd y gyfraith newydd. Mae hyn yn boblogaidd ar lawer o strydoedd, ac mewn gwirionedd, mae rhai strydoedd wedi'u heithrio ac wedi'u cadw ar 30 mya—mae yna bobl yn byw ar y strydoedd hynny sy'n dadlau'r achos i'w hawdurdod lleol dros eu gostwng i 20 mya.

Felly, bydd hwn yn gyfnod o hyblygrwydd ac addasu, wrth inni edrych ar y ffordd y caiff ei roi ar waith a sut i gael gwared ar unrhyw anghysondebau. Mae honno'n broses arferol ar gyfer unrhyw newid ar raddfa fawr. Ein bwriad bob amser—a dweud y gwir, fe wnaethom ei gyhoeddi beth amser yn ôl—oedd adolygu hyn wrth iddo fynd rhagddo. Mae gan awdurdodau lleol bŵer i wneud hynny, ar unrhyw adeg. Mewn gwirionedd, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot eisoes wedi cynnal adolygiad o’i ffyrdd yng ngoleuni profiad, ac rydym yn annog eraill i wneud yr un peth, yn union fel rydym yn annog aelodau’r cyhoedd i roi adborth i awdurdodau lleol ynghylch y ffyrdd y credant fod angen edrych arnynt eto. Gellir gwneud hyn mewn ffordd synhwyrol, bwyllog, gyfrifol, ond fel y dywedodd y dyfyniad gan y cyn-aelod o staff, nid yw hyn yn ymwneud â llunio polisïau ymarferol, mae'n ymwneud ag ymosod ar Lywodraeth Cymru—oherwydd dyna'r cyfan y gall y Ceidwadwyr Cymreig ei wneud.

13:50

Iawn, Ddirprwy Weinidog, gadewch inni fynd yn ôl at drafnidiaeth, gan mai dyna rydym yma i'w wneud, nid sôn am faterion adnoddau dynol.

Nawr, fe sonioch chi am ysbryd. Gadewch inni sôn am ysbryd nawr: beth am ysbryd y protestwyr 20 mya sydd wedi bod y tu allan i'r Senedd hon yn yr haul, glaw, cenllysg, ym mhob tywydd? Sawl gwaith yr aethoch chi i gyfarfod â nhw? Dim unwaith. Dangoswch rywfaint o ysbryd i mi heddiw, Ddirprwy Weinidog, ac ewch i siarad â nhw heddiw a gweld beth yw’r farn go iawn ar lawr gwlad, gan eich bod wedi bod yn esgeuluso pawb sydd wedi gwrthwynebu hyn hyd yma ac wedi claddu eich pen yn y tywod yn llythrennol ers i'r polisi hwn gael ei gyflwyno.

Nawr, i ddod yn ôl at fy nghwestiwn. Gŵyr pob un ohonom fod eich prosiect 20 mya cyffredinol yn rhan o agenda wrth-fodurwyr ymosodol y Llywodraeth hon. Yn ogystal â'r terfynau cyflymder 20 mya, mae cynlluniau hefyd yn cael eu llunio i gosbi gyrwyr ymhellach gyda chynlluniau codi tâl am ddefnyddio ffyrdd a thaliadau atal tagfeydd. A gwelwn bellach nad gan Weinidogion Llafur ym Mae Caerdydd yn unig y daw’r ymosodiadau gwrth-yrwyr hyn, gydag awydd eich cyd-bleidwyr Llafur yng Nghyngor Sir Fynwy i gosbi gyrwyr ymhellach. Wedi'i guddio, ar dudalen 42 i fod yn fanwl gywir, o gynllun trafnidiaeth lleol y cyngor, ceir y syniad o ailgyflwyno'r tollau ar bont Hafren. Maent yn credu y bydd y newid hwn, a dyfynnaf,

'yn lleihau nifer y siwrneiau i/o Fryste mewn ceir preifat, a byddai hynny wedyn yn lleihau traffig ar yr M4 a'r M48.'

Diwedd y dyfyniad. Credaf y byddai’r newid hwn yn cael effaith ddinistriol ar drigolion, busnesau a gyrwyr, ac yn hoelen olaf yn arch economi Cymru. Felly, Ddirprwy Weinidog, o ddiddordeb pur, a ydych chi'n cefnogi ailgyflwyno'r tollau ar bont Hafren yr M4, ac a wnewch chi roi pwysau ar eich cyd-bleidwyr Llafur yn y cyngor i sicrhau nad yw'r syniad erchyll hwn yn cael ei roi ar waith?

Wel, gobeithio i'r nefoedd na fydd Natasha Asghar byth yn Weinidog trafnidiaeth, gan ei bod yn amlwg nad oes ganddi unrhyw grap ar sut y caiff penderfyniadau trafnidiaeth eu gwneud yn ymarferol.

Mae gennym gyfrifoldeb i bennu cynllun trafnidiaeth rhanbarthol; mae'n rhaid i bob rhan o'r wlad wneud hynny. Yn rhan o hynny, mae’n rhaid iddynt edrych ar ystod o opsiynau a gwneud arfarniad o opsiynau—dyna’n union y mae cyngor sir Fynwy wedi’i wneud, fel y mae’n ofynnol iddynt ei wneud yn ôl y gyfraith, ac yn rhan o hynny, maent yn edrych ar gyfres gyfan o bethau y gellid eu rhoi ar waith, a daethant i'r casgliad yn yr achos hwn nad oedd yn ffordd ddymunol o fwrw ymlaen. Mae'n gwybod hynny'n iawn. Nid oes unrhyw gynlluniau i ailgyflwyno tollau ar bont Hafren. Ni fu cynlluniau erioed, ac roedd yn ymwneud ag edrych ar yr holl opsiynau, fel sy’n gyfrifol, a byddent yn methu yn eu cyfrifoldeb i gynnal asesiad cywir pe na baent wedi ystyried yr opsiynau hynny.

Nawr, gallwn gael sgwrs ddifrifol ynglŷn â sut yr awn i'r afael â thagfeydd, sut i leihau allyriadau carbon, sut i leihau marwolaethau ar y ffyrdd, neu gallwn gael anhrefn, lle mae popeth yn cael ei gamddehongli a'i dynnu allan o'i gyd-destun er mwyn cynhyrfu pobl. Oherwydd mae arnaf ofn nad oes gan Natasha Asghar a’r Ceidwadwyr unrhyw beth difrifol nac adeiladol i’w ddweud am drafnidiaeth yng Nghymru. Ni chawn unrhyw beth ond sylwadau bachog sydd wedi'u cynllunio i ysgogi gwrthdaro.

Nawr, o ran y bobl sy’n protestio yn erbyn y terfyn cyflymder o 20 mya, rwy’n deall yn llwyr nad oedd hwn byth yn mynd i fod yn bolisi poblogaidd gan bawb, dim mwy nag y bu’r newidiadau eraill i bolisi ffyrdd dros y blynyddoedd. Y diwrnod o’r blaen, roeddwn yn darllen am y protestiadau yn erbyn y goleuadau croesi Belisha a gyflwynwyd yn y 1930au—a'r protestiadau, ac yn wir, y bygythiadau i fywyd y Gweinidog trafnidiaeth, Barbara Castle, a gyflwynodd yr anadlennydd, a phrotestiadau yn erbyn y gyfraith gwregysau diogelwch a newidiwyd. A phe baech yn edrych ar y rheini ar-lein, byddech yn gweld dadleuon tebyg iawn i'r rhai a glywn heddiw.

Ac felly, wrth gwrs, bydd yna rai pobl nad ydynt yn hoffi'r syniad o orfod gyrru'n arafach. Rydym am edrych ar yr effaith y mae hynny’n ei chael ar y bobl sy’n byw ar strydoedd, nid yn unig y bobl sy’n gyrru ar y strydoedd, ac mae hwn yn faes lle cafwyd consensws. Rydym wedi cael nifer o Aelodau Ceidwadol yn dadlau’r achos dros 20 mya yn eu hardaloedd, a chawsom grŵp y Ceidwadwyr yma yn y Senedd ddiwethaf yn cymeradwyo egwyddor y dull diofyn. Mae arnaf ofn mai'r cyfan y mae grŵp y Ceidwadwyr am ei wneud yw creu penawdau ac ystumio'r gwirionedd er mwyn cynhyrfu pobl, ac nid oes unrhyw sail ffeithiol iddo.

13:55

Diolch, Lywydd. Ers mis Hydref, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cael cyfanswm o £236 miliwn mewn cyllid ychwanegol. Nawr, mae cyfanswm y toriadau a wnaed i’r gyllideb ddrafft ar gyfer 2024-25, o gymharu â ffigurau dangosol y gyllideb, ychydig yn llai na £270 miliwn, felly bu newid sylweddol yn y cyllid i Trafnidiaeth Cymru. Cyfiawnhad Llywodraeth Cymru am hyn yw bod y pandemig wedi creu diffyg sylweddol yn nifer y tocynnau sy'n cael eu gwerthu o gymharu, i ddefnyddio'r term a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru, â’r rhagamcanion refeniw ‘uchelgeisiol’ a oedd yn sail i gais KeolisAmey ar gyfer masnachfraint Trafnidiaeth Cymru yn 2018. Felly, credaf fod gan yr wybodaeth a arweiniodd at y rhagamcanion gan KeolisAmey werth sylweddol o ran budd y cyhoedd, ond pan wnaethom gyflwyno cais rhyddid gwybodaeth am yr wybodaeth honno, dywedwyd wrthym nad yw'n cael ei chadw gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Felly, a allech chi esbonio pam, Weinidog, ac er budd tryloywder, a wnewch chi ymrwymo i gaffael a chyhoeddi'r wybodaeth honno, os gwelwch yn dda?

Diolch. Credaf ein bod wedi egluro mai KeolisAmey yn unig a ŵyr beth oedd y rhagdybiaethau a oedd yn sail i gais KeolisAmey. Yn syml, nid yw'r wybodaeth honno gennym, ond yn ôl ein dealltwriaeth, roedd ganddynt gyfres optimistaidd ac uchelgeisiol iawn o ragdybiaethau yn seiliedig ar syniad digon rhesymol y byddent, drwy gyflwyno trenau llawer amlach a llawer mwy deniadol, yn gallu cynyddu nifer y teithwyr yn sylweddol. Nawr, ni fu modd profi hynny gan i COVID gyrraedd, gan chwalu'r holl ragdybiaethau economaidd hynny, a chan arwain yn wir at fethiant KeolisAmey i barhau â'r contract. Felly, gallwch ddweud eu bod yn rhy optimistaidd yn eu ffigurau, ond ar un ystyr, mae'n bwynt academaidd braidd, oherwydd daeth COVID a gwneud hynny i gyd yn amherthnasol.

Nawr, wrth gwrs, o ganlyniad i hynny, bu’n rhaid addasu rhagybiaethau ariannol Trafnidiaeth Cymru. Gwyddom fod cost adeiladu’r metro a darn rheilffordd Cymoedd Caerdydd fel y’i gelwir wedi cynyddu, fel sy'n wir am bob prosiect adeiladu yn y wlad oherwydd deunyddiau ac oherwydd cost Brexit. Felly, mae'n amlwg ein bod wedi gorfod wynebu bil uwch, ac ar ben hynny, roedd bwlch yn seiliau cyfrifyddu cyllideb Trafnidiaeth Cymru nad oedd yno mwyach, a bu'n rhaid i ni ei lenwi. Fel arall, byddem wedi gorfod cau'r rheilffordd, nad oedd yn ddewis y credem y gallem ei wneud yn realistig. Felly, bu'n rhaid inni wneud yr addasiad hwnnw.

Diolch, Weinidog. Ni chredaf mai cwestiwn academaidd yn unig yw hwn, oherwydd yr effaith sylweddol iawn y mae wedi'i gael a'r goblygiadau i weddill y gyllideb. Felly, hoffwn bwyso arnoch eto, os gwelwch yn dda, i gaffael a chyhoeddi'r wybodaeth honno. Nawr, ar yr hyn a nodwyd gennych am effaith y pandemig, ni fuaswn yn dadlau â hynny. Ni chredaf y byddai unrhyw un yma'n dadlau na fyddai’r ffordd yr effeithiodd hynny ar drafnidiaeth mewn cymaint o ffyrdd yn annisgwyl, i raddau helaeth. Roedd Trafnidiaeth Cymru ymhell o fod yn unigryw ymhlith gweithredwyr rheilffyrdd y DU wrth weld gostyngiad yn nifer y teithwyr oherwydd y cyfyngiadau symud a newidiadau eraill mewn ymddygiad.

Fodd bynnag, ymddengys bod Trafnidiaeth Cymru yn anomaledd o ran lefel y cyllid y mae’n parhau i’w gael gan y Llywodraeth i reoli canlyniadau hynny, o gymharu’n arbennig â masnachfreintiau rheilffyrdd eraill sy’n eiddo cyhoeddus fel ScotRail. Er bod niferoedd teithwyr ScotRail wedi cael ergyd fwy mewn termau absoliwt a chymesurol o gymharu â Trafnidiaeth Cymru yn sgil y pandemig, mae Llywodraeth yr Alban wedi gallu lleihau ei gwariant ar ScotRail 11 y cant, a dywedant fod hynny oherwydd adferiad parhaus mewn refeniw teithwyr. A allwch chi egluro pam fod Trafnidiaeth Cymru, i bob golwg, gymaint yn llai costeffeithiol o gymharu â masnachfreintiau tebyg, a phryd y disgwyliwch i’r niferoedd hynny godi i'r lefelau blaenorol?

Nawr, hoffwn dweud, Lywydd—gwn fod fy amser ar ben—fy mod yn cefnogi buddsoddiad cyhoeddus yn y rheilffyrdd yn frwd iawn. Rwy'n ceisio darganfod ble mae'r anghysondebau hyn a beth y gellir ei wneud i fynd i'r afael â nhw. Diolch.

14:00

Wel, rydym yn herio Trafnidiaeth Cymru yn gyson mewn perthynas â'u perfformiad a ffigurau eu cyllideb. Mae honno'n broses ddwys yr wyf yn rhan ohoni, ac mae bwrdd Trafnidiaeth Cymru wedi'i rymuso i'w wneud. Yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, nid yw eu perfformiad yn llawer gwaeth na'r trefniadau masnachfraint eraill, sydd wrth gwrs wedi cael eu trosglwyddo'n ôl i'r Adran Drafnidiaeth. Felly, mae'r model o breifateiddio y mae'r Ceidwadwyr wedi'i orfodi arnom wedi cwympo'n ddarnau, fel y dywedodd llawer o bobl ar y pryd, ac unwaith eto nid ydym wedi gweld unrhyw ostyngeiddrwydd gan y Ceidwadwyr. Rydym wedi gweld y camau i breifateiddio bysiau yn methu, sy'n arwain at y toriadau a welwn nawr. Rydym wedi gweld y camau i breifateiddio rheilffyrdd yn methu, sydd wedi arwain at y sefyllfa rydym yn ei hwynebu, gyda diffyg buddsoddiad, perfformiad gwael a gwaith cynnal a chadw gwael ar y rhwydwaith rheilffyrdd.

Rwy'n hapus i edrych ar yr union gymhariaeth y mae Delyth Jewell yn ei wneud gyda ScotRail ac i ymateb iddi ynglŷn â hynny. Nid dyna fy nealltwriaeth i o'r sefyllfa, ond rwy'n ymrwymo i ddarganfod mwy.

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru)

3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad diweddaraf o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru)? OQ60526

Diolch. Ar hyn o bryd rwy'n adolygu adroddiad argymhellion yn seiliedig ar yr ymarfer dadansoddi a gwerthuso mewnol diweddar a'r ymgysylltiad a gafwyd â phobl ifanc.

Mae'r Mesur yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud asesiad o anghenion teithio dysgwyr, ac mae'r Llywodraeth yn ystyried diogelwch fel rhan o'r anghenion hynny, ac mae'r canllawiau gweithredol yn awgrymu asesiadau risg o lwybrau cerdded lle bod hynny yn briodol. Y broblem yw dyw awdurdodau lleol ddim yn dehongli hynny fel gofyniad statudol, ac mae hynny yn broblem fawr, yn arbennig mewn ardal gwledig lle mae yna lawer iawn o blant yn gorfod cerdded i fannau casglu, yn aml iawn yn eithaf hir, ond hefyd ar hyd lonydd cul, ac, yn ystod y gaeaf, wrth gwrs, pan fo'n dywyll. Felly, fel rhan o'r adolygiad sydd wedi digwydd, ydy'r cwestiwn yma o sicrhau bod yna asesiadau risg, gan gynnwys o lwybrau cerdded, yn cael ei wneud yn ofyniad statudol, nid lleiaf, wrth gwrs, achos bod rhagflaenydd i chi, Edwina Hart, wedi dweud bod peidio â gwneud yr asesiadau risg yma yn dramgwydd yn erbyn Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn?

Diolch. Rwy'n gwybod bod awdurdodau lleol o ddifrif ynglŷn â hyn, ni waeth a yw'n gyfrifoldeb statudol ai peidio. Y dull rydym yn ceisio ei fabwysiadu yma yw peidio ag edrych ar y daith i'r ysgol fel rhywbeth ar ei ben ei hun yn unig, ond yn hytrach fel rhan o'n hymagwedd ehangach tuag at deithio ar draws ein cymuned. Felly, er enghraifft, rydym yn buddsoddi'n helaeth mewn gwelliannau i lwybrau teithio llesol ar gyfer cerdded a beicio, rydym yn gweld gwelliannau drwy adolygiadau rheolaidd a chynllunio llwybrau yn y dyfodol i wneud i bob cerddwr deimlo'n gyfforddus ac yn ddiogel i gerdded pellteroedd byr. Ac mae'r rhan fwyaf o bobl ifanc yn gwneud teithiau cymharol fyr i'r ysgol.

Wrth gwrs, mae yna broblemau yno. Beth amser yn ôl erbyn hyn, euthum ar daith o'i bentref genedigol ef, y Tymbl, i ysgol Maes y Gwendraeth gyda phlant ysgol, a chario eu bagiau a'u gitâr iddynt, ar daith gerdded weddol hir ar hyd llwybr, ac mae'n rhaid imi ddweud bod fy nghefn yn brifo erbyn diwedd y daith. Felly, rwy'n cydymdeimlo'n fawr â'r bobl sy'n awyddus i deithio am ddim ar fysiau pan fyddant yn agos iawn at y trothwy. Y gwir amdani yw nad oes gennym arian i roi mwy o arian tuag at gludiant i'r ysgol ar adeg pan fo ein rhwydwaith bysiau cyfan o dan bwysau anhygoel, a hefyd, wrth fasnachfreinio, rydym eisiau mabwysiadu agwedd cymuned gyfan tuag at hyn. Mae dros chwarter cyllidebau ysgolion yn cael eu gwario ar gost rhedeg bysiau ysgol. Nid yw'r bysiau hynny ar gael i weddill y gymuned am weddill y dydd, ac rwy'n credu ei fod yn gwneud llawer mwy o synnwyr i ni, pan fyddwn yn edrych ar gynllunio ar gyfer masnachfreinio, ein bod yn edrych ar y rhwydwaith bysiau cyfan i bawb, gan gynnwys ar gyfer disgyblion ysgol, a sicrhau bod gennym rwydwaith cydlynol ar gyfer pob teithiwr, yn hytrach na cheisio gweithio mewn seilos. Nawr, mae hynny'n rhan o'r gwaith parhaus a wnawn wrth i ni baratoi ar gyfer y Bil bysiau, a byddwn yn cyhoeddi map llwybr tuag at fasnachfreinio dros y misoedd nesaf.

Rydym yn agos at bwynt lle gallwn gyhoeddi adolygiad y Mesur teithio gan ddysgwyr, sydd wedi bod yn waith cymhleth a hir. Ac rwy'n credu bod llawer y gallwn ei wneud yno, hyd yn oed o fewn y system bresennol, ac o fewn y cyllid presennol, a all wella profiad yr ysgol i bobl ifanc. Ond yn hytrach nag edrych ar gludiant i'r ysgol ar ei ben ei hun, rwyf eisiau edrych ar y problemau ehangach sydd gennym mewn perthynas â theithio yng Nghymru. 

14:05

Ddirprwy Weinidog, mae blynyddoedd wedi mynd heibio bellach ers cyhoeddi adolygiad ac argymhellion y Mesur teithio gan ddysgwyr ac mae gennyf bryderon gwirioneddol am y cyfeiriad y mae cludiant i'r ysgol yn mynd iddo. Ac rwy'n ailadrodd y galwadau a wnaeth Adam Price i gynnal asesiadau risg mewn perthynas â phlant yn mynd ar fysiau, yn ogystal â'r llwybrau cerdded, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Er y gallai rhoi pob plentyn ar drafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd trefol weithio ac er y gallai fod yn addas, ni fydd yn addas ar gyfer pob ardal wledig. Ac yn syml, nid oes—. Yn gyntaf, nid oes digon o fysiau i blant fynd arnynt lle rydych yn gweld gorgyffwrdd, lle mae plant yn gorfod aros 45 munud am fws cyn ac ar ôl yr ysgol, ac mae cwestiynau diogelu yn gysylltiedig â hynny wrth gwrs, aros yn yr oerfel a'r tywyllwch, yn ogystal â materion diogelu eraill sy'n gysylltiedig â hynny. Ond mae'n hanfodol ein bod yn cael pethau yn eu lle erbyn mis Medi. Ni allwn ailadrodd y llanast a welwyd ar ddechrau'r flwyddyn ysgol ddiwethaf pan oedd llawer o rieni a llawer o blant a phobl ifanc yn bryderus iawn am nad oeddent yn gwybod sut roeddent yn mynd i gyrraedd yr ysgol. Felly, a allwch chi sicrhau'r Senedd hon heddiw y byddwch yn rhoi pethau yn eu lle ac y byddwch yn mynd i'r afael â'r argymhellion ac yn dod â nhw i lawr y Senedd fel y gallwn eu trafod? Diolch. 

Wel, nid wyf yn derbyn eich disgrifiad o fis Medi diwethaf. Yn wir, digwyddodd llawer iawn o waith drwy gydol y llynedd, o dan fy arweiniad i, i wneud yn siŵr nad oedd y trefniadau newydd a oedd gennym ar waith ar gyfer y system fysiau yn effeithio'n andwyol ar lwybrau cludiant i'r ysgol, a gweithiais yn agos gyda'r Gweinidog addysg i sicrhau hynny. Ac fe weithiodd popeth yn llyfn. 

Ar beryglon teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig, nid wyf yn siŵr fod llawer iawn o dystiolaeth ar gyfer hynny. Yn wir, mae gan Gyngor Sir Fynwy system effeithiol iawn y maent yn ei rhedeg ar gyfer cludiant i'r ysgol ac rydym yn awyddus i weithio gyda nhw i ddysgu o hynny a chan weddill Cymru.

Ac ar y pwynt ehangach, buaswn yn awyddus iawn i gael set ymarferol o argymhellion gan Laura Anne Jones sy'n fforddiadwy o fewn y cyllidebau cyni y mae ei Llywodraeth wedi'u trosglwyddo i ni ac sy'n goresgyn yr heriau sy'n ein hwynebu. Oherwydd fel arall, nid yw hyn yn ddim mwy na siarad gwag.  

Tai Digonol a Rhent Teg

4. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i sicrhau tai digonol a rhent teg i bobl Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl? OQ60528

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Rwy'n falch iawn o ddweud bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr newydd ymuno â Chynllun Prydlesu Cymru Llywodraeth Cymru. Dyma'r rhaglen £30 miliwn sy'n darparu grantiau i awdurdodau lleol i sicrhau a rheoli llety diogel a fforddiadwy gan y sector preifat, yn cynnwys eiddo a arferai fod yn wag.

Diolch yn fawr, Weinidog. Mae hynny'n wych i'w glywed. Fel y gwyddoch, o gofio mai tai yw un o'r pryderon mwyaf i bobl ledled Cymru, mae cyhoeddi Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru ar ddigonolrwydd tai a rhenti teg wedi cael ei groesawu ac mae llawer wedi dweud ei fod yn gam enfawr ymlaen. Fel y gwyddom, mae angen llawer o ffactorau i sicrhau llwybr tuag at dai digonol, gan gynnwys rhenti teg a fforddiadwyedd, ac mae Sefydliad Bevan a llawer o rai eraill wedi dweud bob amser fod cynyddu darpariaeth tai cymdeithasol yn hanfodol.

Felly, fel rhan o'r cynlluniau i adfywio Porthcawl, gan gynnwys siopau a bwytai y gwnaethoch ymweld â nhw gyda ni dros yr haf, parciau cymunedol a thoiledau, ysgol gynradd newydd—mae'n rhestr hir—rwy'n falch iawn, gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, fod tir wedi'i gaffael i sicrhau, fel rhan o'r datblygiad tai arfaethedig, y bydd yna dai carbon isel, a bydd hyd at hanner y rheini'n cael eu clustnodi fel rhai fforddiadwy, a bydd tai cymdeithasol yn cael blaenoriaeth.

Felly, Weinidog, a wnewch chi hefyd ymuno â mi i groesawu'r cyfle hwn i leihau'r pwysau ar ein rhestrau aros tai cymdeithasol, i gynyddu cyfleoedd i berchnogion tai ifanc a newydd aros ym Mhorthcawl yn agos at eu teuluoedd os ydynt yn dymuno gwneud hynny, yn ogystal ag i helpu i gyrraedd ein holl dargedau cartrefi cymdeithasol carbon isel ar gyfer Cymru? Diolch. 

Diolch yn fawr iawn, Sarah. Rwy'n falch iawn o ymuno â chi i groesawu'r cyfle. Ein blaenoriaeth yw darparu mwy o gartrefi gwirioneddol fforddiadwy yn y sector cymdeithasol a darparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol ychwanegol i'w rhentu. Gan weithio gyda phartneriaid yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, rydym ar hyn o bryd yn chwilio am ymgynghoriaeth uwchgynllunio i lunio ailddatblygiad ardal ehangach Porthcawl sy'n eiddo i'r sector cyhoeddus. Mae'n gyfle cyffrous iawn i sicrhau manteision sylweddol i gymuned Porthcawl. Rwy'n cofio inni gael ymweliad braf iawn yno a fwynheais yn fawr. Fe wnaethom gaffael y tir ychydig ar ôl yr ymweliad hwnnw yn 2023 i ddatblygu'r defnydd ar gyfer tai. Gan weithio gyda'r cyngor, y nod yw cael caniatâd cynllunio yn 2025 i gyflawni datblygiad preswyl defnydd cymysg, a fydd yn cynnwys oddeutu 900 o anheddau, gyda 50 y cant ohonynt yn dai cymdeithasol a fforddiadwy. Mae'n uchelgeisiol ac yn heriol—nid ydym yn ymddiheuro am hynny. Byddwn yn gweithio'n agos iawn gyda'r cyngor i sicrhau bod y tai cymdeithasol yn cael blaenoriaeth. Rydym wedi dyrannu'r lefelau uchaf erioed o gyllid i'r grant tai cymdeithasol i gyflawni hyn ledled Cymru, gan ddyblu'r gyllideb o 2020-21 i £300 miliwn yn 2022-23 ac i £330 miliwn yn y flwyddyn gyfredol, gan gynnwys £30 miliwn ar gyfer y rhaglen llety trosiannol, a £325 miliwn yn 2024-25.

Mae'r datganiadau ystadegol diweddaraf yn dangos bod 3,369 o unedau fforddiadwy ychwanegol wedi'u darparu ledled Cymru, sy'n gynnydd o 26 y cant ar y flwyddyn flaenorol a'r ail gyfanswm uchaf ers dechrau cofnodi'r data. Felly, rwy'n falch iawn y bydd Pen-y-bont ar Ogwr yn chwarae rhan ganolog iawn wrth gyflawni'r targed hwnnw, ac rwy'n credu, mewn iaith adfywiol, os mynnwch, fod y datblygiad cyfan yn enghraifft dda iawn o'r hyn y gall datblygiad defnydd cymysg, gan gynnwys datblygiadau preswyl, ei wneud i drawsnewid ardal yn llwyr a darparu'r tai o ansawdd uchel iawn y mae pobl leol eu hangen ac yn eu haeddu, felly rwy'n falch iawn o groesawu hynny. 

14:10

Mae'n wych cael gwybod am Ben-y-bont ar Ogwr; mae ar y trywydd iawn. Weinidog, mae Cymru mewn argyfwng tai, gydag oddeutu 100,000 o gartrefi yn hollol wag. Mae eich Llywodraeth wedi methu cyrraedd targedau adeiladu tai yn gyson, gan adeiladu llai na hanner y tai sydd eu hangen ar hyn o bryd. Yn ddiweddar, rydych wedi torri £19 miliwn o'r cynllun cartrefi gwag, gan gynyddu pwysau pellach ar gynghorau i ddefnyddio gwestai ar gyfer llety dros dro. Mae pryderon hefyd wedi'u codi am ganlyniadau anfwriadol treth ar dir gwag, a allai rwystro datblygiadau newydd. Felly, Weinidog, pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i gymell pobl i adeiladu tai a dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd i ddarparu cartrefi y mae eu gwir angen ar bobl yng Nghymru? 

Wel, yn syml, nid wyf yn cydnabod y disgrifiad hwnnw. Fe wnaethom ragori ar ein targed o gyfran sylweddol ar ddiwedd tymor diwethaf y Senedd, ac yn llythrennol rwyf newydd ddarllen yr ystadegau sy'n dangos ein bod ar y trywydd cywir ar gyfer y tymor hwn, felly rwy'n—. Wel, yn y bôn, nid yw'r hyn rydych newydd ei ddweud yn seiliedig ar ffeithiau. Felly, rwyf am ei ddarllen i chi eto: cyhoeddwyd y datganiad ystadegol diweddaraf i ddangos cynnydd tuag at y targed o 20,000 o gartrefi ar 7 Tachwedd. Yr ystadegyn allweddol yw bod 3,369 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol wedi'u darparu ledled Cymru yn 2022-23. Dyna gynnydd o 26 y cant—693 o unedau—ar y flwyddyn flaenorol a'r ail gyfanswm uchaf ers dechrau cadw cofnodion data yn 2007-08. Rwy'n credu bod y ffeithiau hynny'n siarad drostynt eu hunain, Lywydd.

Gwaith Ôl-osod mewn Tai Cymdeithasol

5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyflwyno gwaith ôl-osod mewn tai cymdeithasol? OQ60534

Diolch yn fawr iawn, Jayne Bryant. Mae'r her i ôl-osod cartrefi cymdeithasol Cymru yn enfawr. Rydym yn cefnogi landlordiaid tai cymdeithasol i ddeall eu stoc a'r gofynion ôl-osod i'n helpu i gyrraedd safon ansawdd tai uchelgeisiol Cymru gyda rhaglenni fel y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, lle mae £190 miliwn wedi'i ddyrannu hyd yma.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae cymdeithasau tai ledled Cymru yn cymryd camau arloesol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, gan gynnwys Pobl, Linc Cymru a Chartrefi Dinas Casnewydd yn fy etholaeth. Er bod arbedion carbon i'w croesawu, rwyf eisiau canolbwyntio ar fuddion iechyd a llesiant y mesurau hynny. Mae'r tymheredd oer cyfredol a chost biliau ynni unwaith eto yn tynnu sylw at bwysigrwydd cael cartrefi sydd wedi'u gwresogi ac wedi'u hinswleiddio'n dda. Heb os, bydd cynyddu nifer y cartrefi a ôl-osodwyd ar draws Cymru yn gwella iechyd y cyhoedd, ond nid yw pob preswylydd yn ymwybodol o fanteision iechyd ôl-osod na beth yn union y gallai'r broses ei olygu. Gall tarfu tymor byr a achosir gan waith adeiladu hefyd fod yn rhwystr i bobl sy'n cael cynnig gwaith gan eu darparwr tai. Weinidog, beth arall y gellir ei wneud i gynnwys preswylwyr yn y broses o wneud penderfyniadau ar gyfer ôl-osod eu cartrefi, gan eu helpu i ddeall a manteisio ar y cymorth sydd ar gael?

Cwestiwn ardderchog, Jayne. Egwyddor sylfaenol safon tai ansawdd Cymru a'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio yw sicrhau gwell canlyniadau cymdeithasol, economaidd a llesiant i denantiaid ac i'w cymunedau cyfan. Rydym yn mynd ati i ymgysylltu â landlordiaid cymdeithasol a'u hannog i ymgysylltu â rhanddeiliaid mewn modd clir, wedi'i dargedu, i amlinellu manteision a llwyddiannau'r gwaith ôl-osod hyd yma. Y syniad yw y bydd y landlordiaid cymdeithasol, yr ydym yn eu hariannu ac sydd â detholiadau o dai y gallant edrych arnynt, yn gallu ystyried technoleg a phrofi'n union beth rydych newydd ei ddweud—pa mor hir y mae hyn yn ei gymryd, beth yw'r canlyniad, faint o darfu y mae'n ei olygu a sut y gallwn ei leihau—gyda golwg ar roi cyngor i bobl mewn sectorau eraill, drwy hyb ynni Cartrefi Clyd, ynglŷn â sut i fynd ati i wneud hynny a beth yw'r rhaglenni. Ac wrth ateb Jenny Rathbone yn gynharach, siaradais ychydig am raglenni ECO a'r rhaglen newid boeleri gan Lywodraeth Prydain yr ydym yn cyfeirio pobl ati drwy ein cynllun Cartrefi Clyd. Yn anffodus, oherwydd y ffordd y mae'r rhaglen yn gweithio, nid wyf wedi gallu ei chyhoeddi eto, ond rwy'n gobeithio cyhoeddi canlyniad caffael y rhaglen Cartrefi Clyd newydd yn fuan iawn. Mae'r gwefannau eisoes yn weithredol, i ddarparu'r wybodaeth honno. Mae'r wybodaeth yn real ac yn ymarferol, oherwydd mae'n deillio o'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, sydd wedi ei phrofi, yn llythrennol, ar gartrefi ac yna ar bobl sy'n byw yn y cartrefi hynny, i sicrhau bod yr hyn a honnir o ran y dechnoleg yn cael ei wireddu.

Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth dechnolegol o'r rhaglen dai arloesol, sydd wedi bod ar y gweill ers saith mlynedd bellach, fel ein bod yn gallu argymell pethau y gwyddom eu bod yn gweithio i bobl. Rydym wedi profi'r rhain; nid oedd rhai cynhyrchion yn gwneud yr hyn a honnwyd, ond mae cynhyrchion eraill wedi bod yn wych ac rydym yn gallu cyflwyno'r rheini. Rydym hefyd yn gallu eu cyflwyno yn ein rhaglen adeiladu newydd, ac felly pan fyddwn yn adeiladu ein tai newydd, byddant yn dai carbon isel, yn effeithlon o ran eu defnydd o ynni ac yn cynnig yr holl fanteision iechyd.

Lywydd, os caf, hoffwn ddweud fy mod wedi cyfarfod â dynes yn Rhydaman yn etholaeth Adam Price, a oedd wedi symud yn ddiweddar i un o'r cartrefi carbon isel newydd. Roedd ei mab wedi bod yn gwneud defnydd helaeth o anadlyddion ar gyfer ei asthma ers amser maith. Pan gyfarfûm â hi, roedd hi wedi byw yn y cartref cymdeithasol newydd hwnnw ers tua phedwar mis ac nid oedd ei mab yn defnyddio anadlydd o gwbl. Felly, dyna'r dystiolaeth o'r hyn sy'n digwydd os ydych chi'n byw mewn cartref sydd wedi'i gynhesu'n dda ac wedi'i inswleiddio'n dda. Mae iddo fuddion iechyd a chymdeithasol enfawr, yn ogystal â'r manteision effeithlonrwydd ynni ac ariannol a ddaw yn ei sgil.

14:15

Weinidog, ni all unrhyw un wadu bod angen inni wneud ein cartrefi cymdeithasol yn fwy cynaliadwy, ac nid ein cartrefi cymdeithasol yn unig, ond ein cartrefi preifat hefyd, i'w gwneud yn garbon niwtral, i wneud ein cartrefi'n gynhesach ac i gadw biliau ynni'n isel i'r bobl sy'n byw ynddynt. Mae llawer o'r cartrefi cymdeithasol yn fy etholaeth hefyd yn ardal y parc cenedlaethol ac o fewn ardaloedd cadwraeth. Mae gan yr ardaloedd hyn ddeddfau cynllunio llym iawn a gyfer newid ffenestri allanol, inswleiddio allanol a mesurau effeithlonrwydd ynni eraill. Felly, a allwch chi amlinellu heddiw, Weinidog, sut rydych chi'n gweithio gyda pharciau cenedlaethol ac o fewn ardaloedd cadwraeth i sicrhau y gall pawb elwa o'r cynlluniau y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu?

Gallaf. Mae'n gwestiwn ardderchog, oherwydd yr hyn y mae angen inni allu ei wneud yw dod o hyd i ateb ar gyfer pob math o dŷ sydd gennym yng Nghymru, a dyna'n union y buom yn ceisio ei wneud. Felly, nid oes pwynt cael un dull sy'n addas i bawb; rydym wedi gweld canlyniadau hynny. Felly, gyda'r iteriad olaf o safon ansawdd tai Cymru, er enghraifft, mae'r rhan fwyaf o gartrefi, y mwyafrif helaeth ohonynt—ymhell dros 90 y cant—wedi elwa o hwnnw, ond roedd yna ganran ohonynt a oedd yn dioddef o lefelau gwael iawn o anwedd ac yn y blaen, oherwydd nid oedd y dull un ateb sy'n addas i bawb yn addas ar gyfer y math o gartref a oedd ganddynt ac ni fyddai wedi gweithio mewn ardal gadwraeth, er enghraifft. Felly, pwynt y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio yw cymryd pob math o dŷ sydd gennym a phrofi'r hyn y gellir ei wneud, gan weithio gyda'n parciau cenedlaethol a'n hawdurdodau cynllunio, i wneud yr hyn a ganiateir, a'i wneud mewn ffordd sy'n dod yn gyngor ymarferol i bobl sy'n byw mewn mathau eraill o ddeiliadaeth sy'n gallu cael mynediad ato. 

Rwyf hefyd wedi bod yn gweithio gyda Banc Datblygu Cymru ers peth amser i ddarganfod ffordd o sefydlu rhaglen fenthyciadau addas, ac fel y dywedais mewn ymateb i Jenny Rathbone, rwyf hefyd wedi bod yn siarad â rhai o'r cynhyrchwyr ynni adnewyddadwy ledled Cymru ynglŷn â sut y gellid defnyddio eu rhaglen asedau cymunedol—'rhaglen budd cymunedol', dylwn ddweud, nid 'rhaglen asedau'—i helpu pobl i ddeall pa anghenion ôl-osod sydd ganddynt, yn enwedig mewn ardaloedd felly, fel y gallwn gael ateb pwrpasol i bob un o'r bobl hynny. Ac yn ogystal, yr hyn y mae'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio yn ei wneud yw darparu sgiliau i weithlu sy'n gallu ei wneud, oherwydd hyd yn oed os ydych chi'n gwybod beth yw'r ateb, gall fod yn anodd dod o hyd i rywun a all ei wneud mewn gwirionedd. Felly, rwy'n awyddus iawn i weld y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio yn cynhyrchu gweithlu medrus yn ogystal â'r atebion technoleg a fyddai'n helpu pobl mewn tai fel y rheini.

Ansawdd Dŵr

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella ansawdd dŵr ym Mhreseli Sir Benfro? OQ60499

Diolch am y cwestiwn, Paul Davies. Mae Preseli Sir Benfro yn gartref i 14 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig, gyda phob un yn cyflawni'r dosbarthiad uchaf sef 'rhagorol'. Mae hefyd yn gartref i'r Cleddau, afon ardal cadwraeth arbennig sy'n enwog am ei hamrywiaeth o fywyd gwyllt. Mae ein dull o weithredu yn canolbwyntio ar gydweithredu aml-sector ac atebion sy'n seiliedig ar natur i wella ansawdd dŵr ar draws y dalgylch.

Diolch am eich ateb, Weinidog, ac am yr wybodaeth a roesoch i mi mewn gohebiaeth y bore yma ar y materion sy'n ymwneud â gwaith trin dŵr gwastraff Aberteifi. Nawr, mae trigolion ar draws Preseli Sir Benfro yn parhau i godi digwyddiadau llygredd dŵr a gollyngiadau o orlifoedd carthffosiaeth gyfun, gan dynnu sylw at yr effaith ar yr amgylchedd, a diogelwch defnyddwyr dŵr hefyd. Rwy'n gwybod bod rhywfaint o fuddsoddiad wedi bod gan Dŵr Cymru mewn rhannau o fy etholaeth, ac mae yna brosiectau a fydd yn digwydd dros y misoedd nesaf, sydd i'w groesawu, wrth gwrs. Ond a allwch chi ddweud wrthym pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i helpu i gyflymu unrhyw waith gwella yn sir Benfro? Ac a allwch chi ddweud wrthym hefyd sut mae Llywodraeth Cymru, a Cyfoeth Naturiol Cymru yn wir, yn monitro'r gwaith hwn ac yn dwyn Dŵr Cymru i gyfrif?

14:20

Diolch yn fawr iawn. Mae'n gwestiwn da iawn, ac mae'r ateb ychydig yn gymhleth, oherwydd y gwir amdani yw ein bod yn ymgysylltu â phob sector sydd â rôl i'w chwarae. Rydym wedi bod yn gwneud hyn ers cryn dipyn o amser. Rwy'n gobeithio bod Paul Davies wedi sylwi ar brosiect arddangos Teifi sy'n mynd rhagddo. Mae hwnnw'n enghraifft dda iawn o gymhlethdod yr hyn rydym yn ceisio mynd i'r afael ag ef, ond hefyd y canlyniadau sy'n seiliedig ar atebion rydym yn edrych arnynt. Mae hwnnw'n brosiect o'r tarddiad i'r môr ar afon sy'n ymgysylltu â'r holl dirfeddianwyr ar hyd yr afon, a'r holl weithredwyr, gan gynnwys y cwmnïau dŵr, y tirfeddianwyr amaethyddol a pherchnogion tir eraill, adeiladwyr tai ac ati, i ddod o hyd i ateb pwrpasol ar gyfer pob rhan o'r afon. Bu'n rhaid newid peth ar ystum yr afon, lle gwyddom bellach fod hen fesurau atal llifogydd caled wedi culhau'r afon ac wedi cynyddu ei llif a nifer o bethau—ac nid afon Teifi yn unig, rwy'n siarad yn fwy cyffredinol am afonydd ledled Cymru. Mae'n braf gweld ymgysylltiad mor gryf gan gynrychiolwyr ar draws amrywiaeth o sectorau wrth fynd i'r afael â'r prosiect hwnnw, oherwydd rydym yn ceisio darganfod beth sy'n gweithio mewn ffordd ymarferol iawn.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig cael gwaith craffu cyhoeddus ar hyn, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr. Mae'n rhywbeth y mae gwir angen i ni ei gael, ac mae angen i ni gael ein dwyn i gyfrif ar y cyd i wneud i hyn ddigwydd. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cyfleu'r ffeithiau hefyd. Felly, roedd 98 y cant o ddyfroedd ymdrochi dynodedig ledled Cymru yn cyrraedd y safonau ansawdd dŵr ymdrochi mwyaf llym. Ym Mhreseli Sir Benfro, derbyniodd pob un o'r 14 o ddyfroedd ymdrochi ddosbarthiad 'rhagorol'. Nid yw hynny'n golygu na allem wneud yn well na hynny hyd yn oed, oherwydd fe gafwyd gollyngiadau, fel y dywedwch. Ond rwyf eisiau sicrhau pobl ei bod hi'n ddiogel i ymdrochi ym Mhreseli Sir Benfro. Rydych chi'n gwybod yn iawn, Paul, mai dyna un o fy hoff bethau i'w gwneud, felly mae gennyf fuddsoddiad personol iawn mewn gallu gwneud hynny. Dyna fy hoff fan, os llwyddaf i gael seibiant, i ymdrochi yn y môr. Mae'n wych gallu gwneud hynny, onid yw?

Ond rydym yn gwbl benderfynol o weithio gyda'r holl randdeiliaid ledled Cymru i sicrhau bod ein holl afonydd ardaloedd cadwraeth arbennig yn dychwelyd i statws cadwraeth da drwy ddefnyddio'r holl ysgogiadau y gall pob sector o'r we gymhleth honno o bobl eu gwneud. Mae'r alwad wedi bod, ac mae pobl wedi ei hateb yn wych, nid pwyntio'r bys ar sectorau eraill, ond i weld beth y gall eich sector chi ei wneud i gyfrannu at hyn. Felly, y cwmni dŵr i weld beth y gall wneud, y ffermwyr a'r sector amaethyddol i weld beth y gallant hwy ei wneud, adeiladwyr tai i weld beth y gallant hwy ei wneud, pawb i chwarae eu rhan i sicrhau bod eu diwydiant eu hunain a'u cyfraniad at lygredd dŵr yn cael ei leihau ac yna'n cael ei wrthdroi. Rwy'n credu bod gennym broses dda iawn ar y gweill, a chyda lwc, a'r ymrwymiad y mae pawb wedi'i ddangos, bydd y cynllun gweithredu yn gweithio a byddwn yn datrys hynny. Bydd afon Teifi yn arddangos yn ardderchog sut mae hynny'n gweithio.

Argaeledd Tai Cymdeithasol

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu argaeledd tai cymdeithasol yng Nghwm Cynon? OQ60497

Diolch am y cwestiwn, Vikki Howells. Mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddarparu 20,000 o gartrefi i'w rhentu yn y sector cymdeithasol yn y tymor seneddol hwn. Er mwyn cefnogi'r ymrwymiad hwn, darparwyd y lefelau uchaf erioed o gyllid drwy'r grant tai cymdeithasol. Dyrannwyd bron i £20 miliwn i Rondda Cynon Taf, sef £19,975,226 i fod yn fanwl gywir, ar gyfer tai cymdeithasol yn 2023-24.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rhoddodd cymdeithas dai Trivallis anrheg Nadolig cynnar i 10 teulu yn Rhondda Cynon Taf y llynedd, gan gyflwyno allweddi i gartrefi teuluol a oedd newydd gael eu hadnewyddu. Cafodd y tai gwag hyn eu dwyn yn ôl i ddefnydd drwy'r rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro, gan drawsnewid bywydau'r teuluoedd hyn, a gwella cymunedau hefyd drwy ddod ag eiddo adfeiliedig yn ôl i ddefnydd. Rwy'n gwybod bod Trivallis yn awyddus i gynyddu'r gwaith hwn, felly, gan gadw'r pwysau ar gyllid y Llywodraeth mewn cof, hoffwn wybod sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol, cynghorau a phartneriaid eraill i roi bywyd newydd i eiddo gwag yn benodol a darparu cartrefi cynnes a diogel o ansawdd da.

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw. Mae'n un ardderchog ac mae wedi bod yn wych gweld rhaglen Trivallis yn mynd rhagddi. Fel y dywedoch chi'n gywir, mae'n rhan o'r rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro a sefydlwyd gennym yn 2022. Mae'r rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro yn darparu cyllid i landlordiaid cymdeithasol ar gyfer ystod eang o brosiectau i ddarparu mwy o gartrefi yn gyflym, ac mae hynny'n cynnwys dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd, fel y dywedwch, Vikki. Yn ystod blwyddyn ariannol 2022-23, darparodd y rhaglen gyllid i sicrhau bod 374 o unedau gwag, fel y'u gelwir, neu eiddo gwag, yn cael eu defnyddio unwaith eto i ddarparu llety mwy hirdymor o ansawdd gwell i'r rhai sy'n byw mewn llety dros dro o ansawdd gwael. Mae ceisiadau i ddod ag unedau gwag yn ôl i ddefnydd yn cael eu cefnogi eto eleni, 2023-24. Rydym yn gweithio'n helaeth gydag awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i rannu arferion da mewn perthynas â'r rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro, gan gynnwys defnyddio unedau gwag, ac i'w cefnogi i sicrhau'r cyllid mwyaf posibl i gyflwyno cartrefi o ansawdd da yn gyflym.

Mae nifer o fesurau eraill a phecynnau ariannu ar waith i leihau nifer y cartrefi gwag hirdymor yng Nghymru. Mae £30 miliwn wedi'i ddyrannu i gynllun prydlesu Cymru dros y pum mlynedd nesaf, fel y dywedais un neu ddwy o weithiau wrth ymateb i Aelodau eraill y prynhawn yma, i gefnogi gwelliannau llety er mwyn iddynt gael eu cynnwys yn y cynllun, ac mae buddsoddiad o £50 miliwn ar gael i ddod â hyd at 2,000 eiddo gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd drwy ein cynllun grant cartrefi gwag. Bydd y cyllid yn cyflymu ein gwaith i ddefnyddio eiddo gwag unwaith eto ac i ategu ein cynlluniau presennol. Mae'n cynnwys bron i £43 miliwn o gyllid ailgylchadwy a ddarparwyd gennym i awdurdodau lleol i'w galluogi i ddarparu benthyciadau eiddo di-log i landlordiaid a pherchnogion tai, ar gyfer gwelliannau i'r cartref neu adnewyddu eiddo gwag a'u defnyddio unwaith eto. Defnyddiwyd y benthyciadau hynny i ddod ag oddeutu 1,850 o unedau gwag ledled Cymru yn ôl i ddefnydd ac i wella tua 1,700 o gartrefi â feddiennir, sydd bellach yn cyrraedd y safon.

Ac unwaith eto, Lywydd, os caf, fe wneuthum gyfarfod ag aelod o'r cyhoedd a oedd wedi manteisio ar y benthyciadau hynny yn eich ardal chi ychydig flynyddoedd yn ôl, Vikki—rwy'n gwybod eich bod chi'n adnabod y perchennog dan sylw—a chawsant gartref iddynt eu hunain, a chafodd y stryd gyfan ei gwella o ganlyniad i hynny, ac roedd yna ymdeimlad cymunedol go iawn wrth i'r cartref gwag hwn gael ei ddefnyddio unwaith eto, gan gael gwared ar falltod ar y stryd, a rhoi teulu ifanc hyfryd yn ei le a ddaeth â bywiogrwydd i'r gymuned, ac roedd yn bleser gweld hynny. Felly, mae'n gweithio ar gyfer cymunedau ac ar gyfer cartrefi.

14:25
Gwasanaethau Bws TrawsCymru

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau bws TrawsCymru? OQ60517

Rydym yn parhau i fuddsoddi'n helaeth yn rhwydwaith bysiau strategol TrawsCymru ac rydym wedi ariannu gwasanaethau newydd, gan gynnwys bysiau glanach, mwy newydd, tocynnau symlach a mwy fforddiadwy a gwasanaeth mwy mynych.

Diolch i’r Dirprwy Weinidog am yr ateb yna. Wel, mi fydd y Dirprwy Weinidog, dwi’n siŵr, yn ymwybodol fy mod i wedi bod yn codi achos y T2 a’r T3 yn gyson. Yn achos y T2, mae Garndolbenmaen wedi colli gwasanaeth gwerthfawr iawn, ac hefyd myfyrwyr ar hyd y ffordd yna sydd yn mynd i ddysgu yn Nolgellau. Yn achos y T3, rydyn ni wedi gweld llefydd fel Llanuwchllyn a Llandderfel yn colli allan ar gyswllt hollbwysig i bobl y gymuned yno. Rŵan, o edrych ar eich dogfen chi, 'National Transport Delivery Plan 2022 to 2027', o dan 'What we will deliver—Bus' ar dudalen 59, a dwi’n dyfynnu’n Saesneg, mae'n dweud:

'Dull strategol o ddylunio gwasanaethau.... Byddwn hefyd yn ymgynghori ag awdurdodau lleol a grwpiau defnyddwyr ynghylch unrhyw newidiadau yn y dyfodol cyn gwneud unrhyw newidiadau mawr.'

Wel, mae defnyddwyr y T2 a’r T3 o'r farn bod y newidiadau yna yn cyfrif fel newidiadau sylweddol, major changes, ond doedd yna ddim ymgynghoriad o gwbl efo trigolion lleol, defnyddwyr y bysus, nag unrhyw un arall ynghylch y newidiadau. Felly, a gaf fi ofyn ichi, a ydych chi'n meddwl ei bod hi'n iawn bod Trafnidiaeth Cymru ddim wedi ymgynghori efo defnyddwyr y bysus a’r cymunedau hynny, ac a wnewch chi edrych eto i sicrhau bod cymunedau Garndolbenmaen, Llanuwchllyn, Llandderfel ac eraill yn cael y gwasanaeth llawn yna sydd ei angen arnyn nhw?

Wel, a gaf fi ymddiheuro yn gyntaf i bobl Garndolbenmaen am yr tarfu a fu ar eu gwasanaeth bysiau? Roedd Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd am oddeutu dwy flynedd, yn cynllunio newidiadau i'r rhwydwaith i ddarparu gwasanaeth gwell ar y coridor rhwng Caernarfon a Blaenau Ffestiniog. Yn ogystal â T2, penderfynwyd cael gwasanaeth arall, y T22, a fydd mewn gwirionedd yn gweithredu o'r pentref ac yn cynnig amseroedd teithio tebyg. Nawr, yn anffodus, cafodd Cyngor Gwynedd anhawster gwirioneddol i roi'r cynlluniau ar waith am nad oedd modd defnyddio'r cerbydau trydan angenrheidiol mewn pryd a chael y mannau gwefru'n weithredol. O ganlyniad i hynny, cafwyd ychydig o oedi cyn i wasanaeth newydd T22 ddechrau. Yn y cyfamser, roedd y cyngor wedi darparu dewisiadau amgen. Rwy'n falch o ddweud y bydd gwasanaeth newydd T22 yn dod yn weithredol ar 12 Chwefror ac yn gwasanaethu Garndolbenmaen ar chwe thaith ddwyffordd y dydd rhwng Caernarfon, Porthmadog a Blaenau Ffestiniog. Bydd hefyd yn cynyddu amlder gwasanaethau ar rannau cyffredin y llwybr rhwng Caernarfon a Phorthmadog i bob awr. Felly, mae rhai problemau wedi bod yno, ac rwy'n ymddiheuro amdanynt. Rwy'n gobeithio bod pobl yn deall pam fod hynny wedi digwydd. Rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda'r cyngor. Rwy'n credu y bydd yn cynhyrchu gwasanaeth llawer gwell yn gyffredinol i deithwyr, a gobeithio y bydd yn cynyddu niferoedd teithwyr.

14:30

Diolch i'r Dirprwy Weinidog a'r Gweinidog am yr eitem yna.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Yr eitem nesaf, felly, bydd y cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders.

Myfyrwyr Ysgol ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

1. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i gefnogi myfyrwyr ysgol ag anghenion dysgu ychwanegol? OQ60508

Rwyf wedi ymrwymo'n bendant i gyflawni'r diwygiadau ADY gyda'r nod o alluogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol i gael y gefnogaeth a'r cyfle cywir i gyrraedd eu potensial. Dyna pam fy mod wedi cynyddu cyllid ADY yn sylweddol ac wedi diogelu'r buddsoddiad hwn yn y gyllideb ddrafft.

Diolch. Fe gofiwch, y llynedd, yr haf diwethaf, fy mod wedi codi'r ffaith bod fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr wrthblaid Laura Anne Jones wedi ymweld ag Ysgol San Siôr gyda mi, ac nid nhw yw'r unig ysgol sydd wedi lleisio eu pryderon wrthyf nad oes digon o arian ar gyfer yr agenda ADY.

Mae dyraniad y gyllideb ar gyfer adnoddau anghenion dysgu ychwanegol wedi'i dorri 86 y cant o £25 miliwn i £3.5 miliwn. Ar yr un pryd, yn sir Conwy, mae'n rhaid i ysgolion barhau i weithredu er bod cyllideb addysg y flwyddyn bresennol wedi'i thorri 5 y cant, a bod toriad pellach yn debygol yn y gyllideb addysg ar gyfer 2024-25, ac yn ddiweddar fe wnaeth cabinet yr awdurdod lleol benderfynu codi llog ar fenthyciadau pontio ysgolion sy'n brin o arian.

Mae gan ein hathrawon gweithgar yn Aberconwy lai o adnoddau i gefnogi plant ag ADY. Diolch i graffu gan y Senedd yma gan y meinciau hyn, rydym yn gwybod am y pwysau sy'n wynebu ein hysgolion wrth iddynt gyflwyno'r system ADY newydd. Felly, fel y Gweinidog—ac yn wir, fel y darpar arweinydd, efallai—pa effaith y credwch chi y bydd toriadau i gyllidebau ysgolion yn ei chael ar allu ysgolion i drosglwyddo'n effeithiol o anghenion addysgol arbennig i'r system ADY newydd? Diolch.

Bydd athrawon yn ei hetholaeth am wybod ei bod wedi camddarllen cyllideb ddrafft y Llywodraeth. Fel y dywedais yn glir yn fy ymateb agoriadol, rydym wedi cynyddu buddsoddiad ADY mewn blynyddoedd blaenorol ac wedi ei ddiogelu yn y gyllideb hon. Dyna'r sefyllfa mewn gwirionedd. Mae ei phwynt yn camliwio'r gyllideb yn hynny o beth ac rwy'n gobeithio y bydd hi'n derbyn hynny.

Mae'n gwneud pwynt teg am y pwysau mewn ysgolion mewn perthynas â'r newid i'r diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol newydd. Gallech ddweud hyd yn oed mai nawr yw'r pwynt lle mae'r pwysau ar ei fwyaf, oherwydd bod ysgolion yn gweithredu dwy system: y diwygiadau newydd sy'n dod i mewn a'r diwygiadau hŷn i blant hŷn. Felly, mae'n gyfnod o bwysau ac mae plant ifanc yn dod i'r ysgolion gydag anghenion cynyddol gymhleth. Dyna pam y mae wedi bod mor bwysig cynyddu'r gyllideb i hwyluso'r diwygiadau dros y blynyddoedd diwethaf, a dyna pam y mae wedi bod mor bwysig diogelu hynny yn y gyllideb eleni.

Fe fydd hi'n gwybod hefyd ein bod yn cynnal adolygiad o'r dulliau ledled Cymru o ddyrannu cyllid anghenion dysgu ychwanegol i ysgolion. Mae yna lefel o amrywiaeth rhwng awdurdodau lleol. Fe fyddech chi'n disgwyl gweld rhywfaint o amrywiaeth, ond rydym eisiau deall yn iawn pam mae'r amrywio hwnnw'n bodoli. Rwy'n hapus i rannu casgliadau'r adolygiad hwnnw gyda'r Siambr maes o law.

Weinidog, mae Mark Isherwood a minnau wedi codi cefnogaeth y clwb gwyliau yn Ysgol Pen Coch yn sir y Fflint yn y gorffennol mewn cwestiynau i chi yma yn y Senedd, ac roeddwn yn ddiolchgar am eich ymyrraeth. Roedd yn ymyrraeth a wnaeth wahaniaeth gwirioneddol i'r myfyrwyr. A gaf fi hefyd ddiolch i'r ysgol, y rhieni yn yr ysgol, Cyngor Sir y Fflint a chyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru hefyd am y ffordd arloesol y daethant o hyd i ateb? Fe wnaeth wahaniaeth go iawn i lesiant y myfyrwyr, mae'n rhaid imi ddweud. 

Weinidog, rwy'n ceisio eich cefnogaeth unwaith eto i ofyn am sgwrs bellach rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a chydweithwyr yn sir y Fflint a rhanddeiliaid perthnasol fel y gallant alluogi'r ysgol i gael hyb cymorth drwy gydol y flwyddyn a darparu'r cymorth hwnnw drwy gydol y flwyddyn i'r myfyrwyr sydd â'r anghenion hynny. Felly, a gaf fi ofyn i chi ymgysylltu â'ch swyddogion, a gofyn iddynt siarad â'r cyngor, siarad â'r rhanddeiliaid perthnasol, i drafod hyn ymhellach? Mae'n uchelgais a rennir gan bob un o'r cyd-Aelodau sy'n cynrychioli awdurdod sir y Fflint yma yn y Senedd. Diolch.

14:35

Diolch i Jack Sargeant am y cwestiwn atodol hwnnw. Wrth gwrs, mae wedi dwyn Ysgol Pen Coch i fy sylw o'r blaen, ac rwy'n falch fod y cyfle hwnnw wedi creu gallu i ymgysylltu â'r ysgol mewn perthynas â'r ddarpariaeth. Rwy'n credu ei fod yn iawn i ddweud bod yr ateb a ganfuwyd ganddynt yn arloesol. Mae'n hynod o bwysig ceisio dod o hyd i ddulliau arloesol o ymdrin â phob math o ddarpariaeth ledled Cymru, a gall hynny fod yn esiampl i eraill hefyd. Rwy'n hapus iawn i ofyn i fy swyddogion drefnu cyfarfod pellach rhwng Ysgol Pen Coch a Chyngor Sir y Fflint, i ddeall eu safbwynt ac unrhyw gynlluniau posibl ar gyfer hyb cymorth drwy gydol y flwyddyn.

Cynorthwywyr Addysgu

2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cynorthwywyr addysgu mewn ysgolion? OQ60498

Rydym wedi ymrwymo i barhau i alluogi cynorthwywyr addysgu i wella eu sgiliau a'u helpu i gymryd rhan mewn dysgu proffesiynol. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid i hwyluso llwybrau dysgu cliriach, gan gynnwys llwybrau i gyflawni statws cynorthwyydd addysgu lefel uwch.

Diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Cawsom drafodaeth hir am hyn yn y pwyllgor y bore yma, am gynorthwywyr addysgu. Ond mae llawer o'r cynorthwywyr addysgu y siaradaf â nhw—. Maent yn hanfodol i gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru newydd, ond mae llawer ohonynt yn dweud nad ydynt yn cael digon o hyfforddiant ar gyflwyno'r cwricwlwm neu uwchsgilio eu hunain i allu helpu'r athrawon yn yr ystafell ddosbarth. Felly, hoffwn wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella sgiliau ein cynorthwywyr addysgu yn yr ystafell ddosbarth, a'u haddysgu am y cwricwlwm newydd a sut y gallant ei gyflwyno yn y ffordd orau i'r disgyblion yn ein hystafelloedd dosbarth.

Diolch i James Evans am y cwestiwn hwnnw. Cawsom drafodaeth gynhyrchiol iawn yn y pwyllgor y bore yma mewn perthynas â hyn. Fe fydd yn cofio fy mod wedi dweud wrtho pa mor bwysig yw hyn i mi. A gaf fi hefyd fanteisio ar y cyfle i ddiolch i Unsain, a gyflwynodd yr ymateb i'w harolwg i mi yn ddiweddar, arolwg a aeth ati i nodi barn cynorthwywyr addysgu mewn perthynas â hyfforddiant yn gyffredinol, ond hyfforddiant mewn perthynas â'r cwricwlwm yn benodol? Fel y soniais y bore yma, rydym wedi cyflwyno'r hawl genedlaethol newydd i ddysgu proffesiynol, sy'n hawl i gynorthwywyr addysgu, fel i athrawon. Mae'n debyg fod tua blwyddyn ers i hynny ddechrau, a gwelwyd lefelau uchel o gyfranogiad, ond yn amlwg, rydym eisiau hyrwyddo hynny hyd yn oed ymhellach, yn enwedig i gynorthwywyr addysgu. Fe fydd hefyd yn ymwybodol o'r llwybr dysgu i gynorthwywyr addysgu, sydd wedi'i gynllunio i gefnogi dysgu proffesiynol yr holl gynorthwywyr addysgu, ac fe fydd yn gwybod am y buddsoddiad a wnawn bob blwyddyn yn y llwybr hwnnw.

Yn fy nhrafodaethau gyda chynorthwywyr addysgu a'u cynrychiolwyr mewn perthynas â hyn, daeth yn amlwg fod yr hyfforddiant sydd ar gael i weithwyr proffesiynol yn gyffredinol mewn perthynas â'r cwricwlwm yn aml yn cael ei dargedu a'i gyfleu i athrawon ond nid i gynorthwywyr addysgu. Felly, yn y trafodaethau hynny, rwyf eisoes wedi ymrwymo i edrych eto ar sut rydym yn hyrwyddo, weithiau sut rydym yn disgrifio, yr adnoddau sydd ar gael, fel eu bod yn hawdd i gynorthwywyr addysgu eu hadnabod fel rhywbeth y byddant hwy, yn ogystal ag athrawon, yn elwa ohono. Felly, mae pethau ymarferol y gallwn eu gwneud yn y ffordd honno, ac rydym hefyd wedi bod yn trafod faint mwy y gallwn ei wneud i sicrhau bod diwrnodau hyfforddiant mewn swydd yn cael eu defnyddio i ddarparu hyfforddiant i gynorthwywyr addysgu ochr yn ochr ag athrawon. Mae yna rywfaint o ymarfer da, ond mae mwy y gallwn ei wneud. Gallwn gefnogi ysgolion i gyflwyno hynny ymhellach, a chredaf y byddai honno'n flaenoriaeth bwysig iawn.

Weinidog, fel y gwyddom, mae cynorthwywyr addysgu yn chwarae rhan bwysig iawn mewn ysgolion, ac rydym hefyd yn gwybod eu bod yn aml yn ffurfio perthynas agos iawn â phlant, gan weithio'n aml gyda nhw ar sail un i un, sy'n hanfodol. Mae llawer o gynorthwywyr addysgu yn dweud wrthyf eu bod yn dwli ar eu swyddi—yn gweithio'n galed bob dydd i wella bywydau ein pobl ifanc yng Nghymru. Mae pawb yn cytuno eu bod yn cael eu gwerthfawrogi fel rhan annatod o weithlu'r ysgol, ac yn rôl bwysig fel rhan o broffesiwn addysg o ansawdd uchel. Mae cynorthwywyr addysgu wedi bod yn tynnu sylw at bryderon ers tro mewn perthynas â'u rolau mewn ysgolion, felly rwy'n falch fod eu pryderon, fel rhan o ddull partneriaeth gymdeithasol Llywodraeth Cymru, yn cael eu hystyried ar hyn o bryd gan grŵp sy'n cynnwys swyddogion Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol sy'n cyflogi cynorthwywyr addysgu, ac undebau llafur y byd addysg. Er enghraifft, rwy'n gwybod bod GMB ac Unsain—ac rwy'n aelod o'r ddwy undeb—wedi chwarae rhan fawr yn y gwaith hwn. Fel y nodwyd gennych, mae gwybod eich hawliau, Weinidog, a gwybod y telerau a'r amodau a'ch hawliau yn hanfodol. Rydych chi wedi lansio'r wefan Hwb, ac roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â sut mae'r gwaith partneriaeth cymdeithasol hwnnw'n mynd rhagddo, a hefyd yr ymgysylltiad a gawsoch drwy'r wybodaeth ar Hwb.

Diolch i Sarah Murphy am y cwestiwn. A gaf fi ategu'r pwynt a wnaeth am ba mor ganolog yw cynorthwywyr addysgu i ddarparu addysg yn ein hysgolion? Maent yn gwneud gwaith anhygoel. Yn fuan wedi i mi ddod yn Weinidog, cefais gyfarfod â grwpiau o gynorthwywyr addysgu, trwy Unsain a GMB, i drafod eu profiadau uniongyrchol â nhw, a rhai o'r pryderon a fu ganddynt ers peth amser, fel y dywedodd Sarah Murphy. O'r cyfarfodydd hynny, fe wnaethom ddatblygu rhaglen waith eang i geisio sicrhau cynnydd ar rai o'r materion roeddent wedi bod yn tynnu sylw atynt ers peth amser, fel rwy'n dweud.

Mae yna waith, dan arweiniad cynorthwywyr addysgu eu hunain i raddau helaeth, yn gweithio gyda phenaethiaid, ar rolau swydd, i geisio symud i sefyllfa lle ceir set fwy cyffredin o rolau swyddi ar draws y 22 awdurdod yng Nghymru. Diolch hefyd i'r awdurdodau sydd wedi ymwneud â nhw yn y broses honno. Ond ochr yn ochr â hynny, mae gwaith ar ganllawiau mewn perthynas â gweithredu, canllawiau mewn perthynas â dysgu proffesiynol, cynrychiolaeth neu lais i gynorthwywyr addysgu ar gyrff llywodraethu ysgolion, a chredaf ein bod, ym mhob un o'r meysydd hyn, wedi gallu gwneud cynnydd eithaf sylweddol.

Ddoe ddiwethaf cawsom gyfarfod i'r partneriaid cymdeithasol i drafod y cynnydd, yn arbennig, a wnaed mewn perthynas â rolau swyddi, ac os caf ddweud, rwy'n credu ei fod yn dangos yn glir sut y gallwch chi gymryd camau breision ymlaen i geisio datrys rhai o'r heriau hyn pan fyddwch chi'n gallu gweithio yn y ffordd agored, gydweithredol a pharchus sy'n bosibl drwy bartneriaeth gymdeithasol. Edrychaf ymlaen at gwblhau'r rhaglen waith gynhwysfawr hon yn yr un modd. 

14:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones. 

Diolch, Lywydd. Weinidog, darllenais eich darn ar LabourList—y tro cyntaf i mi wneud, rhaid imi gyfaddef. Ond roedd ynddo ddyfyniad diddorol:

'Dros amser, bydd y cyllid sy'n cael ei wario ar ysgolion yn cynyddu fel canran o gyllideb Llywodraeth Cymru. Mewn gwirionedd, mae'n adeiladu ar y gwaith y bûm yn ei wneud eisoes.'

Weinidog, fe gefais syndod pan ddarllenais eich dyfyniad. Ai ymgais i daflu llwch i lygaid eich aelodau Llafur eich hun yn unig oedd hynny neu eich methiant yn y swydd? Fe hoffwn yn fawr wybod beth yw'r gwaith rydych chi'n adeiladu arno, oherwydd yn sicr ddigon nid yw'n gynnydd mewn cyllid. Mae'r ffeithiau'n glir: rydych chi wedi torri £56 miliwn oddi ar y gyllideb addysg eleni yn nhermau arian parod. Mewn termau real, mae hwnnw'n ostyngiad o £140 miliwn, a hyn ar ben toriad yn nhermau arian parod ac mewn termau real y llynedd.

Mae Mark Drakeford fel Prif Weinidog Cymru wedi methu blaenoriaethu addysg, yn union fel ei ragflaenwyr. A wnewch chi ddweud ar goedd nawr, pe baech chi'n Brif Weinidog, y byddech chi fan lleiaf yn cael gwared ar hoff brosiectau fel y 20 mya cyffredinol a'r cannoedd o filiynau o bunnoedd a werir ar fwy o wleidyddion, a chyfeirio'r arian hwnnw at ble mae ei angen, ar addysg ein plant yng Nghymru?

A gaf fi awgrymu bod yr Aelod yn canolbwyntio ei hymdrechion craffu ar fy rôl bresennol fel Gweinidog addysg? A gaf fi awgrymu hefyd ei bod hi'n darllen yn fanylach yr hyn y mae hi wedi bod yn ei ganfod ar LabourList? Ond rwy'n siŵr y bydd LabourList yn falch iawn o glywed pa mor eang yw eu cyrhaeddiad.

Fel y bydd hi'n gwybod o'r trafodaethau a gawsom yn y pwyllgor ac mewn mannau eraill, yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, mae'r Llywodraeth wedi diogelu'r symiau sy'n mynd i ysgolion, yn y set anodd iawn o ddewisiadau y bu'n rhaid inni eu gwneud mewn perthynas â gostyngiadau yn ystod y flwyddyn y llynedd, ac mewn perthynas â'r dewisiadau y bu'n rhaid inni eu gwneud i ymdopi â'r pwysau yng nghyllideb 2024-25. Fe fydd hi'n gwybod bod y grantiau a dalwn i ysgolion wedi cadw eu gwerth yn y ddwy flynedd fel ei gilydd. Yn wir, bwriad y dull a fabwysiadir gennym nawr, sef gwneud y grantiau hynny'n fwy hyblyg a haws eu defnyddio gan ysgolion, yw eu gwneud hyd yn oed yn fwy gwerthfawr, ac ymddiried yn yr awdurdodau lleol ac athrawon ynghylch y ffordd orau o gyflawni'r canlyniadau sydd gennym fel blaenoriaethau a rannwn gyda nhw.

Weinidog, ar ôl blynyddoedd olynol o doriadau i'r gyllideb addysg, mae'n amlwg eich bod yn ceisio honni nawr fod arian ychwanegol yn mynd tuag at addysg drwy gyllidebau llywodraeth leol. Ond y gwir amdani yw bod cynghorau fel sir Fynwy sy'n cael ei redeg gan Lafur, er enghraifft, yn argymell torri bron i £1 filiwn oddi ar eu cyllideb addysg. Rydym yn gweld toriadau tebyg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a chynghorau eraill ar draws Cymru. Nid yw eich geiriau'n cyd-fynd â'r realiti ar lawr gwlad. Mae'r arian sydd wedi'i ddargyfeirio i gyllideb llywodraeth leol, ac a addawyd gennych chi i ysgolion, yn mynd i lenwi bylchau yn sgil toriadau cynghorau, sy'n golygu nad oes sicrwydd o gwbl y bydd arian yn cyrraedd lle mae ei angen ar frys yn ein hysgolion. Weinidog, rydych chi'n honni bod yna gynnydd mewn cyllid i addysg. Gyda'r toriadau ar lefel y Senedd a'r cynghorau, sut y bydd hyn yn gynnydd mewn cyllid?

Yr hyn a ddywedais mewn gwirionedd oedd fod grantiau ysgolion wedi cael eu cynnal, yn hytrach na'u cynyddu, felly gadewch inni roi sylw i'r hyn a ddywedais mewn ymateb i'ch cwestiynau cynharach. Y gwir amdani yw y bydd cynghorau ledled Cymru, penaethiaid ar draws Cymru sy'n rheoli cyllidebau anodd, yn gwybod beth sydd wrth wraidd hynny, sef bod gennym Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn dosbarthu cyllidebau cyni i ni yng Nghymru a rhannau eraill o'r DU. Maent yn deall yn iawn beth sydd wrth wraidd yr her hon. [Torri ar draws.] Nid oes lluchio llwch—nid oes lluchio llwch—i'w llygaid yn y ffordd y mae'r Aelod yn ceisio ei wneud. Ac fe fydd hi'n gwybod yn iawn fod athrawon yn gwneud eu gorau o un diwrnod i'r llall i reoli cyllidebau heriol iawn, ac rwy'n eu canmol am hynny mewn amgylchiadau anodd iawn. Yr hyn sydd ei angen arnom yw Llywodraeth Lafur yn San Steffan sy'n barod i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, fel y gwnawn ni yma yng Nghymru.

14:45

Ac eto, Weinidog, mae safonau addysg wedi codi'n sylweddol yn Lloegr, onid ydynt, ond maent wedi gostwng yng Nghymru, ac mae gweddill y DU i gyd wedi codi, ar wahân i Gymru. Dim ond un gair y gellir ei ddefnyddio i ddisgrifio eich amser fel Gweinidog addysg: methiant. Rydych chi nawr yn dechrau ar ymgyrch arweinyddiaeth gan addo'r byd, fel yn LabourList—fe roddaf sylw iddynt eto—ond mewn gwirionedd, rydych chi wedi gwneud cam dro ar ôl tro â'r genhedlaeth nesaf. Weinidog, roeddwn mewn penbleth unwaith eto wrth ddarllen eich sylwadau yn eich cais am yr arweinyddiaeth. Fe wnaethoch chi ddweud, 

'O dan fy arweinyddiaeth i, bydd gennym ddisgwyliadau uchel ar gyfer addysg ac nid ydym yn ymddiheuro am hynny'.

A hyn gan ddyn sydd wedi llywyddu dros ganlyniadau PISA gwaethaf Cymru erioed, y canlyniadau addysgol gwaethaf a gofnodwyd erioed yn y DU. Weinidog, mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi gwrthod ymddiheuro am ddegawdau o fethiant mewn addysg, sydd wedi rhoi Cymru ar waelod pob tabl cynghrair addysgol. Ac i wneud pethau'n waeth, rydych chi'n gwrthod gosod targed ar gyfer y set nesaf o ganlyniadau PISA ymhen tair blynedd, neu hyd yn oed yr un ar ôl hynny, i'ch dwyn i gyfrif yn eu herbyn. Weinidog, rydych chi'n peryglu dyfodol ein plant a'n pobl ifanc drwy fethu mynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio athrawon; rydych chi wedi methu rhoi diwedd ar drais mewn ysgolion, gan adael iddo waethygu allan o reolaeth mewn gwirionedd; rydych chi wedi gwneud cam â myfyrwyr ADY drwy wrthod bodloni eu gofynion, y rhai sy'n fyddar, y rhai sydd â phroblemau gyda'u golwg, y rhai â phroblemau lleferydd ac iaith, nad ydynt yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt, ac rydych chi'n gwybod hynny. Rydych chi wedi pentyrru cyfarwyddeb ar ben cyfarwyddeb, pwysau ar ben pwysau ar ein hathrawon, ar ein hysgolion, ac nid ydych wedi rhoi arian i ddilyn hynny er mwyn gallu cyflawni. Efallai mai dyma fydd eich cwestiynau olaf fel Gweinidog addysg. A allwch chi ddweud ar goedd eich bod yn wirioneddol falch o'ch cyflawniad yn y swydd? A wnewch chi, fel un o'ch gweithredoedd olaf fel Gweinidog addysg o bosibl, ymrwymo o'r diwedd i osod targed ar gyfer y set nesaf o ganlyniadau PISA, fel rhan o'ch ymrwymiad nad ydych chi'n ymddiheuro yn ei gylch i safonau uchel, a dangos rhywfaint o uchelgais go iawn i geisio llusgo Cymru i fyny i lefel gweddill y DU fan lleiaf, ac yn uwch, gobeithio?

Wel, wrth edrych ar y meinciau y tu ôl i'r Aelod, nid yw'r ffaith ei bod yn darllen fy areithiau mor fanwl yn gwneud unrhyw les i'w huchelgais ei hun i arwain. [Chwerthin.] Mae hi, fel bob amser, yn gwneud y gymhariaeth rhwng Cymru a Lloegr. Lloegr, Lloegr Geidwadol, lle mae ysgolion yn adfeilio—lle mae ysgolion yn adfeilio—a welodd saith diwrnod yn cael eu colli i streiciau y llynedd, sydd â gwariant addysg is nag yng Nghymru, sydd â chyfradd uned prydau ysgol am ddim is nag yng Nghymru, sydd wedi—  

Gadewais i'r Aelod gael amser hir iawn i ofyn ei chwestiwn. Nawr mae angen i'r Gweinidog gael ei glywed yn ei ateb. Diolch, Weinidog.  

Lywydd, fe ddechreuaf eto, os caf, oherwydd nid wyf yn credu bod y meinciau gyferbyn wedi clywed hyn: adeiladau ysgol yn adfeilio yn Lloegr o gymharu â Chymru; streiciau yn Lloegr mewn ysgolion am saith diwrnod, o'i gymharu â dau ddiwrnod yng Nghymru; gwariant addysg sy'n is yn Lloegr nag yng Nghymru—[Torri ar draws.]—yn hollol; cymorth i fyfyrwyr sy'n llai yn Lloegr nag yng Nghymru. Ar unrhyw un o'r mesurau hyn, byddai gennyf gywilydd o dynnu sylw at Loegr Geidwadol fel esiampl i ni yng Nghymru. 

Diolch, Llywydd. Bydd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn gwneud toriadau sylweddol i addysg ôl-16, gyda rhai o'r toriadau mwyaf amlwg i gyllid ar gyfer cefnogi myfyrwyr ôl-raddedig. Does dim dwywaith y bydd symud i system fenthyciadau yn unig ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig yn cynyddu lefelau angydraddoldeb o ran mynediad i addysg uwch, yn enwedig o ystyried bod myfyrwyr wedi eu bwrw yn hynod o galed gan yr argyfwng costau byw. Mae Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru wedi clywed gan nifer o fyfyrwyr ôl-radd yng Nghymru sy'n dweud na fyddent wedi medru ymgymryd â'u hastudiaethau oni bai am yr elfen grant o'u cefnogaeth ariannol. Er enghraifft, dywedodd un myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, sy'n rhiant sengl, na fyddai'n gallu astudio a chadw to uwchben ei phlentyn heb y grant. Dychwelodd y myfyriwr yma i'r brifysgol i ailsgilio ar gyfer gyrfa mewn treftadaeth, rhywbeth ddylai Cymru, fel cenedl ail gyfle, ei ddathlu a'i annog. Rwy'n gwybod eich bod chi'n cytuno bod addysg yn medru trawsnewid bywydau a helpu dileu tlodi dros genedlaethau. Sut ydych chi, felly, am liniaru effaith hyn ar ein myfyrwyr mwyaf disglair sy'n dod o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig? Ydych chi'n derbyn y bydd y toriadau yma'n cynyddu anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol o fewn mynediad at addysg uwch?

14:50

Wel, mae'r penderfyniadau yma'n rhai tu hwnt o anodd, ac mae'r her mae'r Aelod yn codi yn gwestiwn digon teg. Dydyn nhw ddim yn benderfyniadau hawdd i'w gwneud. Y dewis sydd gennym ni fel Gweinidogion yw sut ydyn ni'n mynd i ddefnyddio'r gyllideb brin sydd gyda ni a pha ffyrdd sy'n mynd i gael yr effaith fwyaf positif, fwyaf blaengar i gynyddu cydraddoldeb, ffyniant a llesiant ein cymunedau ni. A'r dewis y bu'n rhaid i fi wneud yn y cyd-destun hwn yw a fuaswn i'n parhau i gynnig grantiau i griw cymharol gyfyngedig o bobl ar ddiwedd siwrnai academaidd, neu a fuaswn i'n defnyddio'r arian hynny i sicrhau bod pob plentyn ym mhob ysgol yng Nghymru yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen ar gyfer y sgiliau craidd hynny.

Ac o ran y pwynt mae'r Aelod yn gwneud o ran sicrhau bod gennym ni gymdeithas hafal â phob cyfle i unigolyn allu ffynnu, rŷn ni'n gwybod o'r dystiolaeth po gyntaf yn y siwrnai addysg rydych chi'n gwario'r arian hynny, y mwyaf positif mae'r effaith dros gwrs bywyd rhywun. Felly, dyna sydd wrth wraidd y penderfyniad rwyf wedi gorfod ei wneud i flaenoriaethu'r cyfnod tan 16 a defnyddio peth o'r arian o'r grantiau ôl-raddedig er mwyn gwneud hynny. Rŷn ni'n dal i gynnig y system fwyaf cefnogol ym Mhrydain i gefnogi graddedigion am y tro cyntaf, ac rŷn ni'n falch iawn o wneud hynny. 

Diolch. Wrth gwrs, mae'r sgiliau uwch yna a'r angen i ailsgilio yn rhywbeth sy'n gyrru cau y bwlch, onid yw e, o ran anghydraddoldebau o ran y bwlch cyflogau, o ran y bwlch cyrhaeddiad, a hefyd ein heconomi ni yn y pen draw. Ac mae dadansoddiad y Llywodraeth ei hun yn dangos y bydd y toriadau i grantiau a bwrsariaethau ôl-raddedig yn cael effaith anghymesur ar grwpiau penodol o fewn cymdeithas, er enghraifft menywod sydd am astudio pynciau STEMM a hefyd siaradwyr Cymraeg. Dywedodd un myfyriwr sy'n dilyn cwrs MSc ym Mhrifysgol Aberystwyth, er enghraifft, na fyddai wedi medru cwrdd â chostau byw sylfaenol heb y fwrsariaeth yna gan Lywodraeth Cymru. 

Mae cyrsiau Meistr yn darparu'r sgiliau uwch yna sy'n hanfodol i ddatblygiad ein meysydd ni, ein sefydliadau ni ac, fel dywedais i, ein heconomi ni drwy arloesedd ac ymchwil, ac mae dileu'r bwrsariaethau sy'n cefnogi astudiaethau ôl-radd wedi eu haddysgu trwy'r Gymraeg hefyd yn tanseilio'r angen dybryd i sicrhau'r sgiliau Cymraeg yna ymhlith y rhai sy'n arwain o fewn ein gweithluoedd. Ydych chi'n derbyn bod y Llywodraeth, drwy gyflwyno'r toriadau hyn, yn debyg o ehangu'r bwlch cyflog rhywedd a thanseilio'r nod, efallai, yng nghynllun gweithredu 'Cymraeg 2050' o ddatblygu'r gweithlu cyfrwng Cymraeg, achos heb gefnogi myfyrwyr ôl-radd cyfrwng Cymraeg, pwy sy'n mynd i ddatblygu'r adnoddau a'r dechnoleg angenrheidiol sydd eu hangen arnom ni i gynyddu nifer y siaradwyr, cynyddu'r defnydd yna o'r Gymraeg a chreu amodau ffafriol i'r Gymraeg?

Wel, rwy'n deall pam mae'r Aelod yn gofyn y cwestiwn, ond fyddwn i ddim yn cytuno mai dyna yw effaith hyn. Mae'r bwrsariaethau yma'n rhai pwysig, ond maen nhw'n dod ar ben system o gefnogi myfyrwyr sydd gyda'r mwyaf cefnogol o unrhyw ran o'r Deyrnas Gyfunol. Felly, mae hynny'n ystyriaeth bwysig yn hyn o beth—hynny yw, arian ychwanegol ar ben system sydd eisoes yn un sy'n gefnogol iawn ac yn un sy'n cyrraedd nifer prin iawn o bobl. Felly, yn yr un ffordd ag yr oeddwn i'n gorfod gwneud y penderfyniad o ran symud o grantiau i fenthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion, yr un syniadaeth sydd wrth wraidd hwn. 

Mae hi'n gofyn y cwestiwn, 'A ydy hyn yn cael effaith anghymesur?' Mae e os edrychwch chi ar y gronfa, ar y ffynhonnell hon o arian, ond fy nadl i fyddai os nad ydych chi'n blaenoriaethu'r blynyddoedd cynharach, mae hwnna'n mynd i gael effaith sy'n fwy anghymesur fyth. Felly, yn yr her sydd gennym ni, yn y broses sydd ohoni o gloriannu effaith un toriad yn erbyn toriad arall, fy mhenderfyniad i yw sicrhau ein bod ni'n blaenoriaethu'r blynyddoedd ysgol oherwydd ein bod ni'n gwybod pa mor bwysig yw'r rheini i allu cynnig cyfleoedd yn hwyrach mewn bywyd i bobl yn gyffredinol.  

Y Celfyddydau Creadigol

3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi plant ysgol i gymryd rhan yn y celfyddydau creadigol? OQ60533

Disgwyliad y Cwricwlwm i Gymru yw bod pob dysgwr yn datblygu eu creadigrwydd, ac mae'r celfyddydau mynegiannol yn un o'r chwe maes gorfodol. Mae'r rhaglen Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau a'r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol yn rhoi cyfleoedd pwysig i ddysgwyr gymryd rhan yn y celfyddydau creadigol.

14:55

Diolch, Weinidog. Fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar y celfyddydau ac iechyd, rwy'n awyddus i godi ymwybyddiaeth o'r manteision y gall y celfyddydau eu cynnig i iechyd a llesiant. Mae hynny ar gyfer pob oedran wrth gwrs, gan gynnwys plant a phobl ifanc. Ar ymweliad diweddar â Ballet Cymru sy'n sefydliad anhygoel ac wedi'i leoli yn fy etholaeth, clywais am eu rhaglen Duets. Rhaglen ysgoloriaeth unigryw yw Duets, wedi'i chynllunio'n benodol i adnabod talent ac agor llwybrau cynnydd i bobl ifanc na fyddent fel arfer yn cael cyfle i ymwneud â dawns. Cyflwynir y rhaglen mewn partneriaeth ag ysgolion cynradd, sefydliadau dawns cymunedol a gweithwyr llawrydd. Mae Ballet Cymru yn bwriadu ehangu'r rhaglen i fwy o ysgolion nawr, a chefnogi mwy o bobl ifanc i gymryd rhan yn y diwydiannau creadigol. Weinidog, a fyddech chi'n derbyn gwahoddiad i ymweld gyda mi ag ysgol sy'n cyflwyno'r rhaglen Duets gyda Ballet Cymru er mwyn i chi allu gweld drosoch eich hun y gwaith gwych y maent yn ei wneud gyda phobl ifanc drwy'r rhaglen Duets?

Wel, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am y gwaith y mae hi wedi'i wneud—ac wedi ei wneud dros ei holl amser yn y Senedd—ar hyrwyddo manteision y celfyddydau mewn iechyd? Mae'n ddiddordeb ac yn ymrwymiad rwy'n ei rannu gyda hi. Mae'n wych clywed am ei hymweliad â Ballet Cymru, a'r rhaglen Duets yn enwedig, ac rwy'n fwy na pharod i ymweld â Ballet Cymru gyda hi a gweld y gwaith rhagorol y maent yn ei wneud gyda phobl ifanc.

Weinidog, mae National Theatre Wales yn chwarae rhan ganolog yn annog plant ysgol i gymryd rhan ym myd y theatr a'r celfyddydau, sy'n sector hynod o bwysig. Mae peth o'r gwaith y maent yn ei wneud gyda phobl ifanc yn cynnwys gweithdai, cyfleoedd perfformio a phrosiectau mewn ysgolion a phrifysgolion. Nod trosfwaol hyn yw rhoi cyfleoedd i bobl ifanc feithrin eu hyder ac archwilio dyfodol yn y theatr neu'r sector celfyddydau—gwaith hynod bwysig, fel y byddwch yn cytuno rwy'n siŵr, Weinidog. Fodd bynnag, mae 100 y cant o gyllid National Theatre Wales wedi ei dorri ac o ganlyniad, cafwyd rhybuddion clir na fydd yn gallu goroesi y tu hwnt i fis Ebrill 2024. Weinidog, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd y toriadau hyn yn ei chael ar fynediad plant ysgol at y celfyddydau creadigol a beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i bontio'r bwlch hwn? Felly, Weinidog, o ddiddordeb, a ydych chi'n cefnogi—? Ymddiheuriadau; dyna fe. [Chwerthin.]

Gwn y bydd y Dirprwy Weinidog wedi ystyried yn ofalus iawn holl oblygiadau'r setliad cyllideb heriol, gan gynnwys yr effeithiau ar y theatr genedlaethol. Mae yna lawer iawn o ffyrdd y gall ein pobl ifanc fanteisio ar ystod o brofiadau creadigol yn y theatr, ac yn wir, mewn ffyrdd eraill—clywsom am gyfraniad pwysig yr oedd Jayne Bryant yn sôn wrthym amdano—a chredaf ei bod yn bwysig iawn fod ysgolion yn gallu manteisio ar ystod o sefydliadau a'r gwasanaethau a'r cyfleusterau y maent yn eu darparu, ac mae'n bwysig iawn o safbwynt mynediad at brofiadau na fyddai llawer o bobl ifanc yn eu cael fel arall—felly, o fudd cyffredinol o ran mynediad at greadigrwydd ac at ddysgu, ond y budd penodol o gael cyfle i fod mewn lleoliad theatr fyw neu leoliad cerddoriaeth fyw. Bydd llawer ohonom wedi cymryd hynny'n ganiataol dros y blynyddoedd; nid wyf yn credu y dylem. Mae llawer o bobl ifanc yn cael eu hamddifadu o fynediad at y rheini fel arall, felly hoffwn ddiolch i'r holl sefydliadau sy'n cynorthwyo ysgolion i wneud hynny.

Toriadau Addysg

4. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau nad yw'r toriadau addysg a nodir yng nghyllideb ddrafft y Llywodraeth yn effeithio'n anghymesur ar y plant mwyaf agored i niwed? OQ60500

Mae cefnogi ein dysgwyr mwyaf agored i niwed a mynd i'r afael ag effeithiau tlodi ar gyrhaeddiad yn ganolog i genhadaeth ein cenedl. Mae ein cyllideb ddrafft yn ceisio diogelu cyllid i ysgolion ac i raglenni fel y grant datblygu disgyblion, gan sicrhau bod cymorth ar gael i'r rhai sydd ei angen fwyaf.

Diolch am yr ateb, Weinidog. Rŷch chi'n gwybod yn well na neb yn y Senedd yma am impact toriadau difrifol i'r gyllideb. Yn dilyn y toriadau i'ch cyllideb chi, mae yna gonsýrn nawr am gyllido anghenion dysgu ychwanegol. Wrth fod sôn am grantiau anghenion dysgu ychwanegol yn symud i gyllideb ehangach grantiau, dwi wedi clywed consýrn y bydd toriadau i'r grantiau pwysig yma. Fe wnaeth Laura Anne Jones a Peredur Owen Griffiths godi hyn gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol cyn y Nadolig. Yn wir, fe gododd Peredur Owen Griffiths yr hen dric o guddio toriadau wrth symud i bot mwy oherwydd bod costau gweinyddol llai. A oes modd i chi, Weinidog, roi addewid na fydd toriadau i’r grantiau anghenion dysgu ychwanegol, sydd mor bwysig i blant a theuluoedd?

15:00

Wel, fe wnaf i gymryd y cyfle i ddweud eto: does dim toriad i'r gyllideb honno.

Yn dilyn y thema honno, ac nid wyf am ailadrodd popeth a ddywedodd Rhys—. Yn y bôn, er y gwyddom—. Mae'r £22.1 miliwn canfyddedig, sef y toriad canfyddedig i ADY, bellach wedi mynd i mewn i'r grant addysg diwygiedig i awdurdodau lleol, ac mewn egwyddor, mae yno i gefnogi ADY. Gyda hynny mewn golwg, Weinidog, a gawn ni sicrwydd, gan adeiladu ar yr hyn a ddywedodd Rhys, na fydd y £22.1 miliwn a neilltuwyd ar gyfer ADY yn ôl ein dealltwriaeth, yn cael ei golli o fewn y grant diwygiedig hwnnw a’i ddargyfeirio o’i ddiben gwreiddiol, sef helpu pobl ifanc ag ADY? Ai eich disgwyliad yw bod awdurdodau lleol yn defnyddio’r holl arian hwnnw i roi eich newidiadau deddfwriaethol ar waith? Rwy'n ymwybodol o'r pwysau y mae cynghorau'n mynd i'w wynebu, wrth iddynt orfod defnyddio adnoddau o lawer o ffynonellau eraill o bosibl. Mae mor bwysig fod y dyraniad ADY hwnnw, lle bynnag y mae, yn cael ei ddefnyddio at ei ddiben priodol.

Ydw, rwy'n sicr y bydd yn cael ei ddefnyddio at ei ddiben priodol, ac mewn bywyd blaenorol, rwy'n siŵr y byddai wedi croesawu'r dull partneriaeth a'r dull cydweithredol sy'n sail i'r newidiadau a wnawn i'r grantiau hyn, fel y gallwn weithio gydag awdurdodau i gyflawni’r canlyniadau sy'n flaenoriaethau a rennir gennym. Fel y dywedais yn fy ymatebion i lawer o gwestiynau heddiw, mae dros £53.6 miliwn wedi’i ddiogelu yn y gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac rwy’n falch o hynny. Mae’n flaenoriaeth bwysig iawn i’r Llywodraeth. Rydym eisoes heddiw wedi trafod y pwysau ar ysgolion mewn perthynas â'r diwygiadau eu hunain. Dyna pam fod diogelu'r gyllideb a rhoi lefel o hyblygrwydd i awdurdodau ei defnyddio, hyd yn oed yn fwy creadigol neu arloesol nag y mae'r trefniadau presennol yn ei ganiatáu efallai, yn ffordd bwysig iawn o ganolbwyntio ar y canlyniadau y ceisiwn eu cyflawni.

Mae’r pwysau ar gyllidebau oherwydd y setliad hynod annigonol gan Lywodraeth y DU yn ddwys ledled y DU ac ar draws Llywodraeth Cymru ym mhob adran. Ond un o’r llwyddiannau mawr a gawsom yw’r ffocws yn y blynyddoedd diwethaf ar sicrhau bod disgyblion yn y cymunedau sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn cael y mesurau cywir wedi’u rhoi ar waith i’w diogelu, felly pethau fel y gwaith ar y cyd â Phlaid Cymru ar bethau fel prydau ysgol am ddim, ond y brecwast ysgol am ddim hefyd, ar gyfer ysgolion cynradd; y grant hanfodion ysgol; y cynnydd yn y lwfans cynhaliaeth addysg; y cymorth gyda gwisg ysgol—mae'r holl bethau hyn yn wirioneddol bwysig i etholwyr yn rhai o'r sefyllfaoedd mwyaf difreintiedig yn fy nghymuned. Felly, a gaf fi ei sicrwydd, hyd yn oed wrth iddo wynebu dewisiadau anodd iawn ar draws cyllidebau ar hyn o bryd, y bydd yn gweithio gydag awdurdodau addysg lleol i sicrhau y gallwn barhau i lunio'r mesurau a fydd yn rhoi'r cymorth hwnnw i'r disgyblion a'r teuluoedd sy'n wynebu'r heriau mwyaf?

Gwnaf, yn sicr, fe roddaf y sicrwydd hwnnw i Huw Irranca-Davies. Mae'n gwneud pwyntiau pwysig iawn. Os edrychwch drwy'r gyllideb, er gwaethaf y dewisiadau ofnadwy o anodd y bu'n rhaid i ni eu gwneud—ac mae pob Gweinidog wedi bod yn y sefyllfa honno—rydym wedi gallu diogelu'r grant datblygu disgyblion. Rydym wedi gallu diogelu rhaglen gwella gwyliau’r haf. Rydym wedi gallu diogelu lefel uwch y lwfans cynhaliaeth addysg, fel roeddech chi'n dweud. Rydym wedi gallu diogelu lefel uwch y gronfa ariannol wrth gefn, y mae colegau addysg bellach yn ei defnyddio i gefnogi dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Cafwyd meysydd eraill y bu’n rhaid eu torri er mwyn gwneud y dewisiadau hyn i ddiogelu’r elfennau pwysig hyn yn y gyllideb, ac rwy'n gwybod, fel gŵyr yntau, fod ein hawdurdodau lleol yn gwneud popeth a allant i geisio dod o hyd i ffyrdd y gallant hwy eu hunain ddiogelu'r un garfan o ddysgwyr, a fydd yn cael amser heriol iawn, ac rwy'n rhoi ymrwymiad iddo y byddaf yn parhau i weithio gyda’n hawdurdodau lleol ar y flaenoriaeth honno a rannwn.

Cwestiwn 5, Laura Anne Jones.

Mae gennych gwestiwn ar y papur trefn, Laura Anne Jones—cwestiwn 5.

Ni chredaf eich bod yn barod i ofyn eich cwestiwn. Fe symudaf ymlaen, a rhoi cyfle i rywun arall.

Ni ofynnwyd cwestiwn 5 [OQ60525].

15:05
Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth ariannol i fyfyrwyr addysg uwch ac addysg bellach yn y dyfodol? OQ60518

Mae cymorth statudol i fyfyrwyr yn parhau i fod ar gael i fyfyrwyr cymwys sy’n dechrau addysg uwch yn ystod blwyddyn academaidd 2024-25. Ar gyfer dysgwyr iau mewn addysg bellach, rydym yn cadw ein cynllun lwfans cynhaliaeth addysg ar £40 yr wythnos, ac ar gyfer rhai dros 19 oed, cynllun grant dysgu addysg bellach Llywodraeth Cymru ar £1,500 y flwyddyn.

Rwy’n ddiolchgar i’r Gweinidog am ei ymateb, ac wrth gwrs, mae’n hollbwysig i allu pobl i gymryd rhan mewn addysg ac addysg ôl-16 fod cymorth ariannol ar gael iddynt, ac mae hynny’n mynd at wraidd sicrhau bod addysg ar gael fel dewis real i bawb, gan gynnwys y myfyrwyr tlotaf a mwyaf agored i niwed yn y wlad. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo y prynhawn yma y bydd yn parhau i sicrhau bod y maes hwn yn cael ei ddiogelu, y bydd lefel y lwfans cynhaliaeth addysg, a ddiogelwyd ganddo, yn parhau i gael ei diogelu, ac y bydd cymorth ariannol yn parhau i fod ar gael i fyfyrwyr yn y dyfodol er mwyn galluogi pawb, nid y bobl gyfoethocaf yn unig, ond y bobl dlotaf, i elwa ar addysg?

Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu cynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg, ac fel y bydd yn gwybod, nid oes angen imi ei atgoffa, mewn rhannau eraill o'r DU, fod Lloegr Geidwadol wedi diddymu hwnnw ers amser maith. Felly, credaf ei bod yn ffordd bwysig iawn inni allu cael gwared ar y pwysau ychwanegol ar fyfyrwyr ôl-16. Roeddem yn clywed yn glir iawn gan bobl fod pobl yn gwneud y dewis i beidio â mynd i’r coleg neu aros yn y coleg am na allent fforddio gwneud hynny. Felly, rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu gwneud hynny, a byddwn yn cynnal hynny.

Soniais yn gynharach am nifer o ffyrdd eraill y buom yn cefnogi myfyrwyr yn fy ateb i Huw Irranca-Davies, ac ochr yn ochr â'r lwfans cynhaliaeth addysg wrth gwrs, mae gennym y gronfa ariannol wrth gefn, y mae colegau’n ei defnyddio i allu darparu cymorth ychwanegol i ddysgwyr sydd angen cymorth ariannol. Mae'n wirioneddol bwysig, fel y dywed, ein bod yn gwireddu'r addewid a wnaethom i bobl ifanc na ddylai cost fod yn rhwystr i astudio, ac na ddylai fod yn rhwystr i lwyddiant, ac mae'n un o lawer o ffyrdd y gallasom wneud hynny drwy'r gyllideb addysg.

Weinidog, nid yn unig fod cymorth ariannol i fyfyrwyr addysg uwch ac addysg bellach yn hanfodol, mae hefyd yn ffordd bwysig o gymell myfyrwyr i ymgymryd ag astudiaethau sydd o fudd i’r genedl. Er enghraifft, gall y bwrsariaethau a ddarperir i'r rhai sy'n astudio gyrfa mewn meddygaeth annog myfyrwyr i ddod i mewn i'r maes. Weinidog, a ydych chi wedi trafod gyda chyd-Aelodau o'r Cabinet y posibilrwydd o dalu ffioedd dysgu’r holl fyfyrwyr sy’n ymrwymo i wasanaethu yn GIG Cymru am o leiaf bum mlynedd?

Wel, fel y gŵyr yr Aelod, rydym eisoes yn darparu cymorth arbennig i fyfyrwyr sy’n ymrwymo i wasanaethu yn y GIG. Byddem bob amser yn edrych ar ffyrdd y gall dull cydgysylltiedig ar draws cyllideb Llywodraeth Cymru gyflawni'r uchelgeisiau a rennir gennym, a chredaf fod y profiad a gawsom dros yr ychydig fisoedd diwethaf o edrych ar ddewisiadau cyllidebol anodd iawn wedi galluogi Gweinidogion i edrych yn fanwl iawn ar yr ymdeimlad o 'un sector cyhoeddus, un gwasanaeth cyhoeddus’, lle gall cyllid mewn un maes gefnogi gweithgarwch mewn maes arall, a chredaf fod honno’n ffordd dda iawn o symud ymlaen.

Pwysau Ariannol sy'n wynebu Ysgolion

7. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r pwysau ariannol sy'n wynebu ysgolion yn y flwyddyn i ddod? OQ60516

Rydym yn cydnabod bod yr argyfwng costau byw yn rhoi ysgolion dan bwysau sylweddol ac nad oes atebion hawdd i ddatrys y materion hyn. Rydym wedi rhoi blaenoriaeth i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen craidd, gan gynnwys ysgolion, drwy ddiogelu’r cynnydd dangosol ar gyfer y setliad llywodraeth leol a blaenoriaethu cyllid sy’n mynd yn uniongyrchol i ysgolion.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Gweinidog.

Yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, mae'r darlun yn llwm. Ym mis Tachwedd y llynedd, roedd diffygion presennol—roedd gan 26 o ysgolion ym Mhowys broblemau ariannol, gyda diffyg cronnol o £3.5 miliwn erbyn mis Mawrth 2024, a rhagwelir y bydd y ffigur yn £7.9 miliwn erbyn mis Mawrth 2027. Fel y soniais yr wythnos diwethaf, mae ehangu cymhwysedd ar gyfer y grant datblygu disgyblion yn un ffordd y gallem feddwl am fynd i’r afael â’r cyllid hwn, drwy ddarparu mwy o gyllid uniongyrchol i ysgolion. Pe bai modd i fyfyrwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim barhau i gael cyllid y grant datblygu disgyblion am chwe blynedd arall, hyd yn oed pe baent yn colli eu cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim, byddai hynny’n mynd i’r afael mewn ffordd decach â’r argyfwng cynyddol yng nghyllidebau ysgolion. Rwy'n gwybod eich bod yn diogelu'r grant datblygu disgyblion fel y mae ar hyn o bryd, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r heriau cyllidebol i Lywodraeth Cymru, ond tybed a fyddech yn ystyried ehangu meini prawf cymhwysedd y grant datblygu disgyblion i fynd i'r afael mewn ffordd decach â'r dilema cynyddol mewn perthynas â diffyg ariannol ysgolion. Diolch yn fawr iawn.

15:10

Diolch i Jane Dodds am ei chwestiwn. Fe fydd yn gwybod o’r trafodaethau rydym wedi’u cael yn y Siambr heddiw ac yn flaenorol mai’r her y mae’r Llywodraeth wedi’i hwynebu oedd dod o hyd i’r adnoddau i gyflawni ein rhaglenni cymorth presennol a’n hymrwymiadau presennol, ac mae hynny ynddo’i hun, yng nghyd-destun anodd cyllideb sy’n lleihau gan Lywodraeth y DU, wedi golygu dewisiadau heriol tu hwnt er mwyn cyflawni ein hymrwymiadau presennol hyd yn oed. Felly, er y byddem fel arfer yn edrych am ffyrdd y gallem ymestyn y cymorth a gynigiwn—mae'r grant datblygu disgyblion yn un o'r elfennau hynny, ond rydym yn darparu ystod o rai eraill a restrais yn y Siambr heddiw drwy’r gyllideb addysg. Yn yr hinsawdd sydd ohoni, yn syml iawn, ni fu’n bosibl gwneud mwy na chyflawni’r ymrwymiadau sydd gennym eisoes, ond byddwn bob amser yn edrych am ffyrdd o ddefnyddio’r gyllideb sydd gennym i gefnogi’r rhai sydd angen y cymorth mwyaf, ac rwy'n gobeithio y byddai’n cydnabod, mewn llawer o ffyrdd eraill, fod y gyllideb addysg wedi gallu gwneud hynny.

Newidiadau i Wyliau Ysgol

8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ar gyfer newidiadau i wyliau ysgol yng Nghymru? OQ60501

Mae cynigion yn gysylltiedig â strwythur y flwyddyn ysgol yn destun ymgynghoriad cyhoeddus a gyhoeddwyd ar 21 Tachwedd y llynedd ac sy’n rhedeg tan 12 Chwefror eleni.

Diolch am yr wybodaeth ddiweddaraf, Weinidog. Rwy’n siŵr y byddwch yn cydnabod bod heriau mawr gydag addysg yng Nghymru, ac fel y nododd Laura Anne Jones yn gynharach, mae rhai o'r canlyniadau PISA diweddaraf yn dystiolaeth bellach o hynny. Yr hyn y mae hynny’n ei ddangos, yn fy marn i, yw bod cyfleoedd bywyd plant ledled Cymru yn cael eu niweidio oherwydd y canlyniadau addysgol salach hynny, a bydd angen ymdrech enfawr i wyrdroi’r system, ond yn hytrach na defnyddio ein holl egni i wyrdroi’r system, yr hyn a wneir yw tincran, ceisio newid y gwyliau ysgol. Nid yw'n ymddangos bod ystyried newid gwyliau ysgol er mwyn ceisio gwella canlyniadau addysgol yn gwneud synnwyr. Fe wyddom fod gan wledydd Ewropeaidd sy’n perfformio’n llawer gwell, fel Gweriniaeth Iwerddon ac Estonia, sydd â chanlyniadau addysgol rhagorol, wyliau haf sylweddol hirach nag yng Nghymru, gydag Estonia'n cael oddeutu tri mis o wyliau haf. Yr ymgais barhaus honno i gael gwyliau gwahanol i Loegr—a gwn eich bod wedi dweud eich bod yn teimlo cywilydd wrth edrych ar ganlyniadau Lloegr, er eu bod yn llawer mwy llwyddiannus o ran canlyniadau a system addysg decach nag yma yng Nghymru. Felly, Weinidog, tybed a allech fy argyhoeddi nad ymgais i dincran gyda phethau'n unig yw eich dewis i ystyried newid gwyliau ysgol, a sut rydych chi'n mynd i fynd i'r afael â'r problemau gwirioneddol y mae ein hysgolion yn eu hwynebu?

Wel, mae colli dysgu, sydd, fel y gwyddoch, yn cyfeirio at ddysgwyr yn llithro ar ei hôl hi yn academaidd yn ystod gwyliau ysgol, yn fwy cyffredin yn ystod gwyliau'r haf o gymharu ag unrhyw doriad arall, ac mae llawer iawn o dystiolaeth dros wneud hynny. Polisi addysg yw hwn, a’r hyn rydym yn canolbwyntio arno yma yw sicrhau bod pob dysgwr ifanc yn cael yr addysg orau bosibl. Ceir tystiolaeth glir y gall gwyliau hir dros yr haf fod yn heriol iawn i lawer o’n dysgwyr, gan gynnwys, ac yn fwyaf arbennig efallai, llawer o ddysgwyr o'r cefndiroedd lleiaf breintiedig. Mae'n fy nhemtio unwaith eto i wneud y gymhariaeth â Lloegr. O’r pum neu chwe awdurdod sydd wedi newid yn fwyaf diweddar i’r model y mae’r ddogfen ymgynghori yn ei argymell, o'r hyn rwy'n ei gofio, rwy'n credu bod pob un ond un ohonynt yn awdurdodau Ceidwadol. Rwy’n cymryd y byddent yn cael eu perswadio, fel y cawsom ninnau, ei bod yn werth edrych ar hyn, gan ei fod yn cynorthwyo eu pobl ifanc i gael y dechrau gorau mewn bywyd.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau amserol. Mae'r cyntaf heddiw i'w ateb gan Weinidog yr Economi, ac i'w ofyn gan Rhun ap Iorwerth.

Cwmni Gwynedd Shipping

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael mewn perthynas â dyfodol cwmni Gwynedd Shipping? TQ949

Diolch am y cwestiwn. 

Mae fy swyddogion wedi bod yn trafod â’r busnes ers i adroddiadau ddod i’r amlwg. Maent hefyd wedi cysylltu â’r gweinyddwyr a chynrychiolwyr undebau sy’n cynrychioli peth o’r gweithlu, ac maent yn gweithio’n agos gyda swyddogion cyfatebol o’r awdurdod lleol, yr Adran Gwaith a Phensiynau ac asiantaethau eraill i gefnogi unrhyw weithwyr yr effeithir arnynt.

Diolch yn fawr iawn am yr ymateb yna. Mae hwn yn gwmni sydd yn weithredol ers 40 mlynedd. Dwi'n meddwl mai 40 mlynedd yn ôl i eleni y cafodd Gwynedd Shipping ei sefydlu, ac mae o wedi bod yn rhywbeth rydym ni'n falch ohono fo, o weld lorïau Gwynedd Shipping ar y rhwydwaith draffyrdd ar draws y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Ac mi ddaeth y newydd yma, yn y dyddiau diwethaf, fod y cwmni mewn trafferth, fel ergyd fawr, a'r ergyd, wrth gwrs, yn cael ei theimlo drymaf gan y rheini sy'n cael eu taro'n uniongyrchol, y rhai sydd yn gweithio i'r cwmni.

Mae hi wedi bod yn anodd iawn, rhaid dweud, ceisio dod o hyd i wybodaeth ynglŷn â'r hyn oedd yn mynd ymlaen yn union. Mae hi wedi bod yn haws cael gwybodaeth drwy ffynonellau ar y cyfryngau cymdeithasol—a dwi'n ddiolchgar i bobl sydd wedi bod yn agored drwy'r cyfryngau cymdeithasol, wedi cysylltu â fi yn sgil hynny. Dwi'n sicr ddim wedi llwyddo i gael gafael ar y cwmni yn uniongyrchol. Ac mae hi'n bwysig iawn, iawn, iawn, ar adeg fel hyn, fod cwmni yn bod mor agored â phosib ynglŷn â'i sefyllfa, ynglŷn â'r heriau y mae o yn eu wynebu, a hynny ar gyfer y gymuned yn ehangach, ond, wrth gwrs, ar gyfer y gweithwyr yn bennaf.

Rydym wedi dioddef ergyd ar ôl ergyd i swyddi yn fy etholaeth—colli cannoedd o swyddi, wrth gwrs, yn ffatri 2 Sisters yn Llangefni, oedd yr achos diweddaraf a gafodd y sylw mwyaf. Ond mae hyn, unwaith eto, yn nifer sylweddol o swyddi. Unwaith eto, mae'n anodd nodi faint yn union, ond mae angen inni sicrhau bod cymorth yn cael ei roi nawr i'r bobl sy'n colli eu gwaith. Mae galw mawr am sgiliau gyrwyr yn enwedig; mae eraill sy'n gweithio yn yr iard ei hun yng Nghaergybi, eraill sy'n gweithio ar yr ochr weinyddol, a fydd angen y cymorth hwnnw hefyd. Felly, a gaf fi ofyn i’r Gweinidog pa gymorth sy’n cael ei baratoi, pa becyn sy’n cael ei baratoi, i sicrhau bod y cymorth mor gryf ag y gall fod i bawb yr effeithir arnynt? Mae angen inni ddysgu beth sydd wedi digwydd yma hefyd. Pa wybodaeth sydd gan y Gweinidog am yr hyn a arweiniodd at y sefyllfa hon? A oedd y Llywodraeth yn ymwybodol o'r pwysau ar y cwmni? Mae angen inni glywed nawr fod yr holl asiantaethau gwahanol yn cydweithio—rwyf mewn cysylltiad â’r cyngor, wrth gwrs—er mwyn mynd i’r afael â’r ergyd ddiweddaraf hon i swyddi ar Ynys Môn, a bod modd dod o hyd i waith cyn gynted â phosibl i bawb yr effeithiwyd arnynt.

15:15

Diolch am y gyfres o gwestiynau. Fe geisiaf eu hateb mor ddefnyddiol ag y gallaf yn seiliedig ar yr wybodaeth, sy'n gyfyngedig o safbwynt y Llywodraeth hefyd. Oherwydd gwelais yr adroddiadau fy hun, a gofynnais i fy swyddogion ar unwaith beth oedd y sefyllfa. Yn anffodus, nid oedd y cwmni wedi bod mynd ati'n rhagweithiol i gysylltu â’r Llywodraeth ymlaen llaw, ac rydym eto i gael gwybodaeth o faint sylweddol gan y cwmni, ac yn wir, y gweinyddwyr. Deallwn fod dau o’r busnesau yn y grŵp wedi penodi gweinyddwyr, gan effeithio, yn ôl yr hyn a ddeallwn, ar y ffigur a adroddwyd o 127 o weithwyr posibl. Ac rydych yn iawn, maent mewn amrywiaeth o swyddi. Mae gyrwyr yn debygol o allu dod o hyd i swyddi eraill; mae prinder o hyd yn y sector hwnnw o'r economi. Yr her, fodd bynnag, fel y dywedwch, fydd deall pa bobl y gallai fod angen mwy o gymorth arnynt i ddod o hyd i waith arall. Bydd pob un ohonynt yn byw gydag ansicrwydd gwirioneddol yn dilyn y cyhoeddiad a wnaed, a chredaf fod y ffaith na allaf roi eglurder yn ychwanegu at yr ansicrwydd. Hoffwn allu bod yn llawer cliriach ynglŷn â’r cyswllt rhwng y Llywodraeth, yr Adran Gwaith a Phensiynau, y cyngor a’r cwmni. Gwyddom fod rhai aelodau o undebau llafur yno; nid yw'n glir i ni a oes cydnabyddiaeth ar y safle. Felly, rydym yn ceisio gweithio drwy'r holl faterion hynny gyda'r cwmni, ac yn wir, gyda'r gweinyddwr.

Ar yr ystod o gymorth sydd ar gael, ein rhaglen ReAct+ yw’r rhaglen hyblyg rydym yn ei chynnig. A chyda heriau eraill o ran swyddi yn y gorffennol, lle cafwyd digwyddiadau diweithdra sylweddol—fe sonioch chi am 2 Sisters; yn ne Cymru, cafwyd digwyddiadau eraill hefyd—yr hyn y gallasom ei wneud yw gweithio'n adeiladol gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau a'r awdurdod lleol. Mae'r berthynas honno'n un dda ac ymarferol a phragmatig. Er yr holl wahaniaethau sydd gennym ar lefel wleidyddol gyda Llywodraeth y DU, rwy'n credu bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn lleol bob amser wedi bod yn bartneriaid ymatebol a pharod wrth geisio helpu i ddod o hyd i swyddi i bobl, gyda’r ysgogiadau sydd ganddynt. Wrth inni gael mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y caiff hynny ei roi at ei gilydd, fe fyddwn yn rhagweithiol ynghylch rhannu'r wybodaeth honno â'r cyhoedd, ac yn wir, gyda'r Aelod, ynglŷn â sut a ble y bydd y cymorth hwnnw'n cael ei ddarparu, darparu ffair swyddi os oes angen, a sut y gwnawn hynny yn y ffordd sy’n gweithio orau i’r gweithwyr yr effeithir arnynt, i’w helpu i ddod o hyd i swyddi eraill.

Er bod hyn yn siom wrth gwrs ac yn peri gofid i'r bobl sy'n wynebu colli eu gwaith, yr agwedd fwy cadarnhaol yw bod gweithgaredd o fewn y porthladd yn rhywle y dylem weld cynnydd mewn cyflogaeth yn y dyfodol. Dyna rydym am geisio ei wneud, ond fel y dywedaf, mae’n rhaid cydbwyso hynny â'r pryder gwirioneddol y bydd nifer o deuluoedd yn ei deimlo, rwy'n siŵr, wrth fynd i’w gwelyau bob nos hyd nes y cânt eglurder ynglŷn â'r dyfodol.

15:20

Wrth gwrs, mae Gwynedd Shipping yn gweithredu o ddau safle yng ngogledd Cymru, Caergybi a Glannau Dyfrdwy, yn ogystal ag o Benbedw, Belffast a Dulyn. Beth yw eich dealltwriaeth ynglŷn â pham y gwnaeth y cwmni gais gweinyddu pan ddywedai adolygiad strategol y cwmni o'i ganlyniadau blynyddol diweddaraf ar gyfer y flwyddyn hyd at fis Mai 2022, a bostiwyd fis Chwefror diwethaf fod gan ei gyfarwyddwyr ddisgwyliad rhesymol fod gan y cwmni adnoddau digonol i barhau mewn bodolaeth weithredol am y dyfodol rhagweladwy, neu a fyddwch chi'n gofyn am yr wybodaeth hon ac yn ei rhannu? Beth yw eich dealltwriaeth o adroddiadau heb eu cadarnhau fod cwmni logisteg arall yn cymryd meddiant ar rannau o’r cwmni, a bod cwmnïau cludo lleol a rhanbarthol eraill eisoes yn cynnig gwaith i rai o’r gyrwyr, neu a fyddwch yn gofyn am yr wybodaeth honno ac yn ei rhannu? Ac yn olaf, o ystyried eich sylwadau am yr Adran Gwaith a Phensiynau, pa ymgysylltiad penodol a gawsoch chi a'ch swyddogion, neu y byddwch yn ei gael, â'r Ganolfan Byd Gwaith a'r Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch cymorth i'r rhai sy'n chwilio am waith arall neu am gyfleoedd i ailhyfforddi?

Ar y pwynt am yr Adran Gwaith a Phensiynau, credaf fy mod wedi ateb hwnnw eisoes. Rydym yn gweithio'n adeiladol ochr yn ochr â'r Adran Gwaith a Phensiynau. Yn lleol, bob tro y cafwyd digwyddiad diweithdra sylweddol, rydym wedi gweithio’n adeiladol iawn—ac mae fy swyddogion yn gwneud hynny nawr—gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau a’r awdurdod lleol.

Ar y pwyntiau eraill ynglŷn ag adroddiadau heb eu cadarnhau, dyna'r pwynt—maent yn adroddiadau heb eu cadarnhau—ac ni fyddech yn disgwyl imi ychwanegu at y dyfalu. Yr hyn a wnaf, wrth inni gael gwybodaeth na fu ar gael i ni hyd yma, yw ei rhannu â’r Aelodau, ac yn hollbwysig, rwy'n awyddus i roi rhywfaint o hyder i bobl sy’n pryderu am eu dyfodol eu hunain, a'n poeni am ddyfodol eu cyflogaeth eu hunain, i sicrhau bod y cyfleoedd i chwilio am swyddi eraill ar gael mor hawdd â phosibl iddynt, ac i sicrhau, boed eu bod yn troi at yr awdurdod lleol, neu at Lywodraeth Cymru neu'r Adran Gwaith a Phensiynau, ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod dull ‘dim drws anghywir’ ar waith a’n bod yn eu cynorthwyo i gyrraedd y pwynt y mae angen iddynt allu ei gyrraedd i sicrhau eu bod yn cael y cymorth cywir ar eu cyfer.

Diolch i'r Gweinidog. Y cwestiwn nesaf i'w ateb gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth. Llyr Gruffydd i ofyn y cwestiwn. 

S4C

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn rhoi ymateb i argymhelliad unfrydol Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol y dylai fod gan Lywodraeth Cymru rôl ffurfiol yn y broses o benodi Cadeirydd newydd ar gyfer S4C? TQ950

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan yn y broses o benodi bwrdd S4C, gydag uwch swyddog o Lywodraeth Cymru yn gweithredu fel aelod o’r panel penodi sydd wedyn yn gwneud argymhellion i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, sy’n gwneud penodiadau. Rwy’n cytuno, fodd bynnag, y dylai fod gan Lywodraeth Cymru rôl fwy ffurfiol a chryfach yn y broses hon.

Diolch i chi am yr ymateb. Wrth gwrs, mae Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn gytûn ar y ffaith y dylai pwerau dros ddarlledu a chyfathrebu gael eu datganoli, gan gynnwys, wrth gwrs, dros S4C. Dylen nhw gael eu datganoli i'r Senedd yma. Mi fyddai hynny, wrth gwrs, yn sicrhau wedyn bod gan Lywodraeth Cymru ran uniongyrchol i'w chwarae ym mhenodi cadeirydd newydd S4C. Ond mi fyddwn i'n hoffi, os caf i, Ddirprwy Weinidog, ychydig fwy o eglurder ynglŷn â sylwadau gafodd eu gwneud gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru wythnos diwethaf ar raglen Y Byd yn ei Le ar S4C. Mi ddywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol ei fod e wedi cael cyfarfod gyda chi wythnos diwethaf i drafod sefyllfa S4C, a'ch bod chi wedi methu dweud wrtho fe beth fyddech chi na Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn wahanol ynglŷn â sefyllfa S4C. Byddai diddordeb gyda fi i wybod os ydy hynny yn wir. 

Ond a gaf i hefyd ofyn a wnaethoch chi achub ar y cyfle i ddefnyddio hwn fel enghraifft i wneud yr achos dros ddatganoli darlledu a chyfrifoldeb am S4C i Gymru? Ac yn y cyfarfod hwnnw, a wnaethoch chi ofyn yn benodol i sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru, a chithau fel Dirprwy Weinidog, rôl mwy ystyrlon a mwy ffurfiol yn y broses o benodi cadeirydd newydd? 

Diolch am eich cwestiynau atodol, Llyr. Mae rôl gennym ni, fel y dywedais, yn y broses o benodi’r cadeirydd, er ei bod yn gyfyngedig, ac mewn gwirionedd, cafwyd argymhelliad gan y Sefydliad Materion Cymreig ar gyflwr presennol rheoleiddio ac atebolrwydd i ddarlledwyr yng Nghymru, ac un o'r pethau a argymhellwyd ganddynt mewn gwirionedd oedd y dylai Llywodraeth y DU drosglwyddo rhai o'r swyddogaethau sy'n ymwneud â darlledu o'r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, drwy siarter y BBC, naill ai i Lywodraeth Cymru neu i gomisiynydd annibynnol. Nawr, nid yw Llywodraeth y DU wedi ystyried hynny. Nawr, rydych yn llygad eich lle—rydym ni, mewn partneriaeth â Phlaid Cymru drwy'r cytundeb cydweithio, yn edrych ar ddatganoli darlledu. Sefydlwyd y panel arbenigol gennym y llynedd, ac rydym wedi cael adroddiad y panel arbenigol. Ar hyn o bryd, oherwydd y consensws sydd gennym, nid yn unig rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ond math o gonsensws ehangach ledled Cymru, rwy'n credu, nad yw’r fframwaith darlledu a chyfathrebu presennol yn diwallu anghenion Cymru, dyna pam ein bod yn y broses o gynnal y trafodaethau hyn mewn gwirionedd. Ac mae argymhellion y panel arbenigol hwnnw bellach yn cael eu hystyried a’u trafod, ond yn enwedig yng nghyd-destun y sefyllfa ariannol y mae Llywodraeth Cymru ynddi ar hyn o bryd, y buom yn ei thrafod am beth amser yn y pwyllgor y bore yma. Felly, bydd hynny'n cael ei gyflwyno i'r Cabinet cyn bo hir, ond gallaf warantu ac rwy'n ymrwymo i chi ein bod yn gwbl ymrwymedig i amgylchedd darlledu Cymraeg ffyniannus, cryf sy'n diwallu anghenion Cymru fodern.

Nawr, yn y cyfarfod a gefais gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yr wythnos diwethaf—. Rwy'n credu y dylwn ddweud ei fod yn gyfarfod byr iawn. Fe'i cynhaliwyd am i mi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn ôl ym mis Tachwedd, pan gyhoeddwyd adroddiad Capital Law gyntaf, yn gofyn iddi, fel y Gweinidog a oedd yn gyfrifol am S4C—oherwydd, ni waeth beth yw ein huchelgeisiau ar gyfer datganoli darlledu, ar hyn o bryd, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am hynny, a’u cyfrifoldeb nhw yw—. Felly, ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn ôl ym mis Tachwedd yn gofyn iddi beth oedd ei bwriadau a beth oedd y camau nesaf mewn perthynas ag S4C o ran yr adroddiad ac yn y blaen. Ac ni chefais y cyfarfod hwnnw gyda hi tan 10 Ionawr, a gofynnais iddi yn y cyfarfod hwnnw am yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r sefyllfa o ran yr amgylchiadau heriol gydag S4C, ac unrhyw amserlen a oedd ganddi ar gyfer gwneud penderfyniadau ar y camau nesaf.

Nawr, yn y cyfarfod hwnnw, gofynnodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru i mi a oeddwn yn credu y dylid diswyddo'r cadeirydd. Nawr, yn onest, nid oeddwn yn teimlo ei bod yn briodol imi wneud y math hwnnw o ddyfarniad, gyda’r wybodaeth gyfyngedig a oedd ar gael i mi, a hefyd ar y sail nad oedd yn fater sydd wedi’i ddatganoli i Gymru. Cyfrifoldeb yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yw hynny'n gyfan gwbl. Felly, roedd yn teimlo i mi fel pe bai rhyw fath o wyro rhag eu cyfrifoldeb i geisio cael rhywun arall i wneud penderfyniad y dylent hwy fod yn ei wneud.

Fel y mae'n digwydd, a thros y 24 awr ddiwethaf, wrth gwrs, mae Rhodri Williams wedi nodi na fydd yn ymgeisio am ail dymor fel cadeirydd S4C. Ond ailadroddaf yr hyn a ddywedais yn wreiddiol yn fy ymateb cychwynnol i'ch cwestiwn, Llyr: credaf y dylem gael rôl gryfach o ran y prosesau penodi ar gyfer S4C, yn yr un ffordd ag y gwnawn gyda'r BBC—BBC Cymru, hynny yw—drwy'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth sydd gennym gyda nhw. Os rhywbeth, credaf mai’r hyn y mae hyn yn ei wneud yw tynnu sylw at y ffaith bod angen inni gael y trafodaethau pellach hynny gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ac S4C ynglŷn â sut y gallwn fwrw ymlaen â hyn yn y dyfodol.

15:25

Dirprwy Weinidog, ar ôl darllen adroddiad Capital Law, roedd e'n glir i fi bod hon yn sefyllfa siomedig iawn, ac yn anghredadwy i wybod bod hwn yn digwydd yn S4C yng Nghymru. Rydyn ni'n gwybod bod cyfrifoldeb am ddarlledu yn rhywbeth sydd yn gyfrifoldeb San Steffan, ac rydyn ni fel plaid yn credu mai dyna'r lle gorau amdano fe, ond dwi'n gwybod bod dadl yn digwydd am hynny. Ond fe wnaeth Llyr Gruffydd sôn am y rhaglen Y Byd yn ei Le, ac roeddwn i ar Y Byd yn ei Le hefyd ddydd Iau diwethaf, ac fe wnes i ddweud ar y rhaglen, ac rwy'n hapus i'w ddweud e eto, mai'r unig ffordd y mae hwn yn mynd i weithio—bod y cyfrifoldeb hwnnw yn San Steffan—yw bod DCMS yn cymryd diddordeb yn beth sydd yn digwydd i S4C. Ac roedd yn glir i mi, pan glywais y dystiolaeth gan Rhodri Williams yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, ei fod wedi gofyn am gyfarfod gyda Gweinidog DCMS ers pedair blynedd a heb gael cyfarfod â'r Gweinidog. Mae'n anghredadwy i'w glywed, ac mae'n fy ngwneud i'n grac a dweud y gwir.

Nawr dwi'n gwybod bod y pwyllgor hwn wedi gofyn am rôl ffurfiol i Lywodraeth Cymru o ran apwyntio'r cadeirydd newydd, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig, ond dŷch chi wedi sôn yn barod am y rôl anffurfiol, os ŷch chi'n moyn, sydd gan Lywodraeth Cymru yn yr apwyntiad newydd. Felly, allwch chi sôn mwy am natur y rôl honno a pha sgyrsiau ydych chi'n eu cael gyda DCMS a Swyddfa Cymru?

15:30

A gaf fi ddiolch i Tom Giffard am y cwestiwn? Ac fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol i Llyr Gruffydd, cyfyngedig iawn yw'r trosolwg sydd gan Lywodraeth Cymru ar benodiadau cyhoeddus ym maes darlledu, ac mae'r rôl sydd gennym gydag S4C ychydig yn wahanol i'r rôl sydd gennym gyda BBC Cymru. 

Felly, nid yw'n rôl anffurfiol. Rydym yn rhan ffurfiol o'r broses benodi, ond rydym yn gwneud argymhellion i Ysgrifennydd Gwladol yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, a'r Ysgrifennydd Gwladol hwnnw sy'n penodi. Ac mae hynny yr un fath ar gyfer fy rôl i o ran penodi cadeiryddion i gyrff cyhoeddus yng Nghymru sydd o fewn fy maes cyfrifoldeb. Felly, bydd swyddogion yn ymgymryd â'r cyfweliad a'r broses benodi ac yna byddant yn cyflwyno argymhellion i mi, a fy mhenderfyniad i yw a wyf yn derbyn yr argymhellion hynny, ac rwy'n penodi. A dyna sy'n digwydd gyda phenodi cadeirydd S4C hefyd, a phenderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yw hwnnw.

Ond rwy'n credu bod hyn yn taflu goleuni ar y broses honno ac rwy'n credu bod yr adroddiad a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig, y cyfeiriais ato nawr, a phwysigrwydd rôl S4C yng nghymdeithas Cymru, yn ei rhoi mewn sefyllfa ychydig yn wahanol. Rwy'n credu bod S4C a Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa unigryw i gael rôl fwy yn S4C, gyda neu heb ddatganoli darlledu, fel safbwynt polisi ffurfiol gan Lywodraeth y DU. Mae yna rôl—rôl fwy, rwy'n credu—y gallai Llywodraeth Cymru ei chael o fewn y prosesau penodi ar gyfer S4C, oherwydd y berthynas unigryw sydd gan y sianel honno â Chymru.

Gwrandewais gyda diddordeb mawr ar yr atebion a roesoch i fy nghyd-Aelod Llyr Gruffydd, ac i Tom Giffard hefyd. Wrth gwrs, rydych chi wedi siarad am yr angen neu'r awydd am rôl gryfach wrth benodi cadeirydd. Beth yn union mae hynny'n ei olygu? Mae'n rhaid imi ddweud bod llawer o'r atebion a roddwyd i fy nghyd-Aelod Llyr Gruffydd yn eithaf amwys, ac ni chlywais unrhyw gyfeiriad penodol ynglŷn ag a ydych chi, fel Dirprwy Weinidog, yn cefnogi datganoli darlledu ai peidio. Felly, rwyf am ofyn cwestiwn syml: a ydych chi fel y Dirprwy Weinidog yn cefnogi datganoli darlledu—ydych neu nac ydych?

Mae gennym gytundeb gyda Phlaid Cymru: mae'r cytundeb cydweithio yn nodi'n hollol glir bod yna ddyhead ar y cyd ar ddatganoli darlledu. Ni allaf fod yn gliriach na'r hyn y mae'r cytundeb cydweithio yn ei ddweud.

Y gwahaniaeth yn y rolau—ac rwy'n credu bod hyn yn bwysig—sydd gennym ni gydag S4C a'r BBC yw ein bod yn gwneud penderfyniadau ar y cyd ar benodiadau i fwrdd BBC Cymru. Ac rwy'n credu bod achos cryf, os nad achos cryfach, y dylem gael gwneud penderfyniadau ar y cyd gyda'r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon hyd nes, neu oni bai bod, darlledu'n cael ei ddatganoli'n llawn; bod gennym yr un trefniant gydag S4C ag sydd gennym gyda BBC Cymru ar hyn o bryd; ein bod yn gwneud penderfyniadau ar y cyd ar benodiadau'r bwrdd a chadeirydd S4C, fel y gwnawn gyda'r BBC.

Mae'n rhaid imi ddweud nad wyf yn cefnogi datganoli darlledu, ac nid polisi'r Blaid Lafur yw cefnogi datganoli darlledu, felly ni fyddaf yn cefnogi hynny hyd nes y bydd y polisi'n newid. Ond o fewn y cyd-destun hwnnw, mae'n gadarnhaol iawn clywed yr hyn y mae'r Gweinidog wedi bod yn ei ddweud y prynhawn yma, oherwydd mae angen inni gael mwy o atebolrwydd am ddarlledu yn y lle hwn. Ac rwy'n credu bod yr holl saga druenus gydag S4C wedi dangos y diffyg diddordeb sydd gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn S4C ac mewn rheoleiddio darlledu yng Nghymru, ac mae hynny'n codi cwestiynau difrifol iawn am y berthynas, wrth symud ymlaen.

Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog edrych ar benodiadau ar y cyd gyda'r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, nid yn unig ar gyfer cadeirydd S4C, ond bwrdd S4C a phenodiadau eraill, megis aelod bwrdd Ofcom, aelod bwrdd y BBC, fel y gallwn weithio ar hyn gyda'n gilydd, ar draws y Deyrnas Unedig, ac er mwyn sicrhau bod buddiannau pobl Cymru yn cael eu cynrychioli mewn gwirionedd, hyd yn oed os nad oes diddordeb gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

15:35

A gaf fi ddiolch i Alun Davies am y cwestiwn hwnnw? Mae'n hollol gywir, ac wrth gwrs, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniad ar benodi cynrychiolydd Cymreig o Gymru ar fwrdd Ofcom. Ac fel y dywedais, rydym yn gwneud penderfyniad ar y cyd gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon mewn perthynas â'r penodiadau i BBC Cymru. Felly, rwy'n credu bod y sefyllfa a welsom yn ddiweddar gydag S4C yn ein rhoi mewn sefyllfa lawer cryfach i ddweud bod y rôl honno gyda'r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yn y prosesau penodi hynny, boed darlledu wedi'i ddatganoli'n llawn neu beidio—. Hynny yw, nid yw hynny'n rhagofyniad i'r trefniant hwnnw oherwydd rydym yn ei wneud eisoes gyda'r BBC a chydag Ofcom, ac rwy'n credu bod honno'n sgwrs y mae angen ei chael ar frys gyda'r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ac S4C.

4. Datganiadau 90 Eiliad
5. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar sicrwydd hinsawdd i blant a phobl ifanc

Felly, yr eitem nesaf fydd y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, ar Fil ar sicrwydd hinsawdd i blant a phobl ifanc. Ac mae hwn i'w gyflwyno gan Delyth Jewell.

Cynnig NDM8370 Delyth Jewell

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar sicrwydd hinsawdd i blant a phobl ifanc.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) diwygio Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 i sicrhau bod y cwricwlwm ysgol yn cynnwys dealltwriaeth o ddifrifoldeb a brys yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol fel cysyniad allweddol ar draws pob maes dysgu a phrofiad;

b) sicrhau bod y cwricwlwm yn adlewyrchu brys ac anghenraid mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a diogelu'r amgylchedd ecolegol;

c) sicrhau nad yw addysgu o'r fath wedi'i gyfyngu i bynciau traddodiadol sy'n cwmpasu'r maes hwn, ond wedi'i wreiddio ar draws pob maes dysgu a phrofiad;

d) cydnabod pwysigrwydd dysgu isganfyddol a hyrwyddo amgylchedd cynaliadwy lle y gall dysgu ddigwydd; ac

e) dechrau mynd i'r afael â phryder hinsawdd ymhlith plant a phobl ifanc.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Mae'n bleser gennyf gyflwyno fy nghynlluniau ar gyfer Bil ar sicrwydd hinsawdd. Mae'r argyfyngau hinsawdd a natur ymhlith yr heriau mwyaf angheuol sy'n wynebu ein byd a'n bodolaeth. Mae penawdau dyddiol yn egluro difrifoldeb yr argyfwng hwnnw, graffiau sy'n dilyn y trywydd anghywir, tymereddau uwch nag erioed, a thanau gwyllt a llifogydd dinistriol sy'n bygwth cymunedau a bywydau. Nid yw ond yn rhesymol y byddai pobl yn poeni am yr argyfwng hwn. Ond mae'r niferoedd uchaf erioed o bobl ifanc yn cael eu llethu gymaint gan ddicter a galar am gyflwr ein planed fel ei fod yn cael effaith negyddol ar eu cyflwr meddyliol. Mae'n un o drychinebau cudd yr argyfwng hinsawdd: mae'r ymchwydd hwn mewn gorbryder ac ofn am y trychineb hollbresennol nad yw byth yn cael ei ddatrys yn dyfnhau ac yn tyfu'n fwyfwy dybryd.

Mae ein hymenyddiau yn ei chael hi'n anodd ymdopi ag argyfyngau parhaus fel hyn. Mae argyfwng fel arfer yn foment ddwys mewn amser, lle mae pethau'n cyrraedd penllanw ac yn cael eu datrys. Ond mae'r argyfwng hinsawdd yn wahanol, mae bob amser yno. Ac oherwydd diffyg gweithredu gan lywodraethau ac yn fyd-eang, oherwydd hunanoldeb a thrachwant busnesau mawr, mae'r cwestiynau dybryd yn cael eu gohirio, mae'r angen am weithredu diffiniol yn cael ei gwthio o'r neilltu, ac felly, mae'r dwyster sy'n mudferwi'n parhau heb ei liniaru, ac mae ymenyddiau pobl yn cyrraedd berwbwynt. Mae'r eco-bryder hwn mor gyffredin nes bod Achub y Plant wedi canfod bod 70 y cant o bobl ifanc yn poeni am y byd y byddant yn ei etifeddu. Mewn arolwg o 10,000 o bobl ifanc, ar draws 10 gwlad, canfu The Lancet fod 60 y cant yn 'bryderus iawn' neu'n 'eithriadol o bryderus' am newid hinsawdd. Rydym mewn perygl o adael planed wedi'i llosgi, a chenhedlaeth o bobl wedi'u llethu.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Dyna pam mae'n rhaid inni sicrhau bod mynd i'r afael â phryderon pobl ifanc am yr argyfwng hinsawdd yn fater mwy prif ffrwd yn ein cwricwlwm. Dyna pam mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r gorbryder hwn gyda sicrwydd, sicrwydd nad oes neb ar ei ben ei hun wrth iddynt ei chael hi'n anodd ymdopi â dwyster yr argyfwng hwn, ac nad ydynt ychwaith yn ddi-rym yn wyneb y trychineb hwnnw.

Ddirprwy Lywydd, bûm yn ddigon ffodus i weithio'n agos gyda Choleg Brenhinol y Seiciatryddion ar y mater hwn, ac mae'r coleg yn cefnogi'r cynlluniau rwy'n eu cyflwyno yn llawn, a thrwyddynt, gallais siarad â chlinigwyr ac athrawon prifysgol sy'n cydnabod yr angen brys i newid sut y siaradwn â phobl ifanc am newid hinsawdd. Ni ddylem eu dibwyllo i feddwl nad yw mor ddrwg ag y maent yn ei ofni, oherwydd nid yw hynny'n wir. Ond mae cydnabod, dilysu'r dicter, a'r galar, ie, ynglŷn â sut maent yn teimlo am yr hyn sy'n cael ei ddwyn oddi arnynt o flaen eu llygaid, mae hynny mor bwysig, fel y gallant deimlo'n llai unig. Ond ar yr un pryd, yn ddiamwys, mae'n rhaid inni eu grymuso i ddysgu mwy am yr hyn sy'n digwydd i fynd i'r afael â'r argyfwng, nid yn unig mewn rhannau eraill o'r byd, ond yn eu cymuned, i ddarganfod mwy am grwpiau fel y llysgenhadon hinsawdd ieuenctid yma yng Nghymru, sy'n rhoi llais i bryderon pobl ifanc, ac i roi'r arfau i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn grwpiau neu i ffurfio grwpiau eu hunain.

Felly, dyna beth rwy'n ei gynnig. Yn gyntaf, hoffwn sicrhau bod y cwricwlwm yn cynnwys dealltwriaeth o'r brys sydd ynghlwm wrth yr argyfyngau hinsawdd a natur ar draws pob maes dysgu. Hoffwn sicrhau nad yw addysgu wedi'i gyfyngu'n unig i bynciau traddodiadol sy'n ymdrin â'r maes, fel daearyddiaeth a gwyddoniaeth, a bod y dyniaethau—seicoleg, ysgrifennu creadigol—yn ymgorffori ymwybyddiaeth o bryder hinsawdd yn eu gwersi a pharodrwydd i fynd i'r afael ag ef. A hoffwn ddechrau rhoi sylw i'r pryder ymhlith plant a phobl ifanc, gan gynnwys drwy roi mwy o arweiniad a chefnogaeth i athrawon ac ysgolion ynglŷn â sut i siarad am y materion hyn mewn ffordd sensitif a chynhyrchiol.

Rwy'n cefnogi galwad Coleg Brenhinol y Seiciatryddion am ddarpariaeth llesiant i fynd i'r afael â galar hinsawdd. A gwn fod cymaint o sefydliadau eisoes a all helpu fel partneriaid yn hyn o beth. Mae rhaglen eco-ysgolion Cadwch Gymru'n Daclus yn cynnwys ymdeimlad o rymuso pobl ifanc, i'w harfogi ag arfau i wella'r amgylchedd. Rwy'n gwybod bod dros 1,100 o ysgolion yng Nghymru wedi ymgysylltu â Cadwch Gymru'n Daclus y llynedd, ac mae eu cyrsiau hyfforddi i athrawon yn cynnwys llythrennedd carbon, a chysylltu gwaith eco â'r cwricwlwm. Gall sefydliadau eraill fel Teach the Future ac Oxfam rannu eu harbenigedd nhw hefyd i ddatblygu'r cynlluniau hyn. 

A gallem hefyd ddysgu o ymddiriedolaethau natur Cymru, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Natur Gwent, sydd hefyd wedi fy ysbrydoli. Mae cymaint o grwpiau a phrosiectau i bobl ifanc gymryd rhan ynddynt, a gall hyn roi nerth anferthol i’n pobl ifanc.

A nerth sydd ei angen: nerth, sicrwydd, cadarnhad. Mae angen sicrwydd ar blant am sut byddem ni fel cymdeithas, ac fel dynoliaeth, yn gwarantu eu dyfodol nhw. Er mwyn diogelu iechyd ein pobl ifanc, ac iechyd ein planed, mae angen cynnig y sicrwydd hwn. Mae cyfle euraidd yma i ddefnyddio’r cwricwlwm newydd i ymbweru ein pobl ifanc, ac i gynnig gobaith iddynt yn wyneb yr heriau enfawr sy’n ymwneud â’r argyfwng hinsawdd. A dwi'n edrych ymlaen at glywed barn Aelodau eraill. Diolch.

15:40

Rwy'n credu mai dyma'r rheswm pam na ddylem fod yn addysgu tuag at ganlyniadau PISA yn unig. Rydym eisiau i'n plant edrych ar y byd yn ei gyflawnder.

Dywedwyd wrthyf unwaith, os na fydd plant yn ffurfio cysylltiad â'r awyr agored cyn eu bod yn 12 oed, ni fyddant yn gwneud hynny fel oedolion. Ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o blant wedi treulio mwy a mwy o amser dan do, wedi'u diddanu gan lu o ddyfeisiau electronig a chyfryngau 24 awr y dydd. Mae rhieni'n poeni am adael i'w plant gael annibyniaeth i fynd i'r parc ar eu pen eu hunain. Roedd pethau'n wahanol iawn pan oeddwn i'n blentyn. Roeddem yn mynd allan, yn aml am y dydd, heb unrhyw fath o gyfathrebu, gan archwilio'r awyr agored, chwarae mewn nentydd, coedwigoedd, gwneud llochesau o bêls gwair yn y cae. Dyna sut oedd hi. Mae cysylltu â natur, ynghyd ag ymarfer corff, yn lleddfu iechyd meddwl ac yn rhoi ymdeimlad o lesiant. Mae tyfu i fyny gyda hynny yn blentyn—fel y gwnaeth fy mhlant i—yn gwneud i chi deimlo mai eich gardd chi yw hi i'w harchwilio. Mae'n rhoi hyder i chi fynd allan i grwydro heb ofn, ond gyda chariad, parch, hoffter ac ymdeimlad o lesiant gyda natur. Fel oedolyn felly, mae'n teimlo yr un mor naturiol i fod tu allan ag yw hi i fod tu mewn, ac rydych chi'n dysgu hynny i'ch plant eich hun. Mae'n gylch.

Yn yr adroddiad diweddar ar gyflwr natur, gwelsom ostyngiad o 20 y cant yn lefelau helaethrwydd rhywogaethau yng Nghymru. Mae 42 y cant o blanhigion blodeuol ledled Cymru wedi gweld gostyngiad, ac mae 18 y cant o rywogaethau ar y rhestr goch, mewn perygl o ddiflannu yng Nghymru. Yn sail i addysg natur, mae'r syniad, os ydym am atal dinistr, fod yn rhaid i bobl ddysgu gofalu amdano. Mae gweithredu cadarnhaol yn gweithio. Rydym wedi gweld hynny gyda'r lleihad yn y clorofflworocarbonau sy'n cael eu rhyddhau, ac mae glaw asid wedi gostwng 80 y cant o'i gymharu â lefelau 1990.

Mae plant yn llawer mwy ymwybodol nawr, a chyda COP28 yn cael ei redeg gan farwniaid olew, a'n Llywodraeth yn San Steffan yn darparu 100 o drwyddedau olew newydd, mae'n frawychus. Ond dylai fod yn fwy brawychus i oedolion wybod beth fydd yn rhaid i'n plant ei wynebu oherwydd ein cenhedlaeth ni. Mae plant yn siarad â mi, ac yn dweud bod yna ragdybiaeth y bydd hi'n iawn am fod pobl ifanc yn deall ac y byddant yn gwneud y byd yn well, ond maent yn dweud wrthyf, 'Bydd hi'n rhy hwyr erbyn hynny, rhaid i chi wneud rhywbeth am y peth nawr.' Ac mae'n wir.

Mewn digwyddiad gweithredu ar hinsawdd yn ddiweddar, a gâi ei arwain gan bobl ifanc, gwrandewais ar eu hareithiau a'u cyflwyniadau. Darllenodd un oedolyn ifanc ac aelod o fforwm ieuenctid Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru lythyr gan ffrind. Nid oedd yr unigolyn yn gallu bod yn bresennol, ond dywedodd sut roedd gorbryder ynghylch yr argyfwng hinsawdd mor llethol fel ei fod yn gwneud iddynt deimlo'n hynod o isel. Mae'r sefyllfa wedi gwneud iddynt deimlo'n bryderus iawn ac ni allent ddod o hyd i ffordd allan. Roedd yn drist iawn clywed hyn. Yn y pen draw, llwyddodd yr unigolyn i oresgyn y gorbryder drwy fod yn rhan o grŵp o bobl o'r un anian, gan weithio gyda'i gilydd i helpu'r amgylchedd. Mae'r grŵp ar gyfer pobl rhwng 11 a 24 oed sy'n angerddol ynglŷn â dysgu am yr amgylchedd a helpu i ddod â chymunedau ynghyd i'w warchod. Maent yn cynnal sesiynau misol yn dysgu am natur, y bygythiadau a chadwraeth, morol a daearol, gan ddatblygu sgiliau cadwraeth a fydd yn werthfawr yn y sector gwyrdd pe byddent eisiau dilyn y trywydd hwnnw, gan ddod at ei gilydd i gyfarfod â phobl o'r un anian, sy'n weithred gadarnhaol wych, gan weithio gyda'i gilydd. Diolch. 

15:45

Diolch am eich cynnig ar Fil ar newid hinsawdd mewn addysg. Y newid yn yr hinsawdd yw un o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu fel rhan o'r gymuned fyd-eang. Er mwyn sicrhau Cymru wyrddach, decach a mwy llewyrchus mae gan bawb yng Nghymru, gan gynnwys ein plant a'n pobl ifanc, ran i'w chwarae wrth wthio am y newid tuag at ddyfodol carbon isel. Wrth adeiladu ein Cwricwlwm i Gymru a'n rhaglenni buddsoddi, ein nod yw creu system addysg uchelgeisiol ac arloesol, ac mae'n rhaid iddi fynd i'r afael â materion sy'n diffinio ein cenhedlaeth: datgarboneiddio a byw'n gynaliadwy. Mae lleisiau ein plant a'n pobl ifanc yn hanfodol i'r broses hon. Yn bennaf oll, mae hynny'n golygu gwrando arnyn nhw. Rydyn ni i gyd yn gwybod, o'n sgyrsiau gyda phlant a phobl ifanc, pa mor angerddol a phryderus y maen nhw yn teimlo ynghylch newid hinsawdd ac am sicrhau dyfodol gwell iddyn nhw eu hunain a chenedlaethau'r dyfodol. 

Un o'r pedwar diben sydd wedi eu nodi yn y Ddeddf cwricwlwm ac asesu ac sydd wrth wraidd y cwricwlwm, yn ogystal â'r penderfyniadau y mae ysgolion yn eu gwneud, yw plant yn tyfu i fod yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus. Mae rhan o'r dyhead hwn wedi'i diffinio'n benodol mewn canllawiau statudol fel rhywbeth sy'n cefnogi dysgwyr i ddangos eu hymrwymiad i gynaliadwyedd y blaned. Dyna pam mae dysgu am y newid yn yr hinsawdd a'r amgylchedd wedi ei wneud yn orfodol yn y Cwricwlwm i Gymru. Mae'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig yn y dyniaethau a gwyddoniaeth a thechnoleg yn cyfeirio'n benodol nifer o weithiau at elfennau o'r argyfwng hinsawdd a natur, ymateb i'r newid yn yr hinsawdd, a'r amgylchedd.

Mae hyn yn golygu ei bod eisoes yn ofynnol, yn gyfreithiol, rhoi sylw i newid hinsawdd ac ymateb i'r argyfwng hinsawdd yng nghwricwlwm ysgolion, nid dim ond ar un pwynt o'r daith drwy'r ysgol, ond bob cam o'r ffordd. Ac ar draws pob maes pwnc mae ysgolion yn cael eu grymuso a'u hannog i addysgu am y newid yn yr hinsawdd a'r amgylchedd drwy gyd-destunau dysgu o bob math, er mwyn ysbrydoli ac ennyn diddordeb dysgwyr. Cafodd cod 'yr hyn sy'n bwysig', sy'n cynnwys y gofynion hyn, ei gynllunio i sicrhau disgwyliadau gorfodol fel hyn. Ni fyddai gosod disgwyliadau ychwanegol ar wyneb y Ddeddf cwricwlwm ac asesu yn ychwanegu at yr hyn y mae'n ofynnol i ddysgwyr ei ddysgu eisoes. Ond fe allai greu dryswch, drwy osod gwahanol ofynion mewn gwahanol leoedd ar adeg pan ydw i wedi ymrwymo i symleiddio'r disgwyliadau gan ysgolion.

Er mwyn cefnogi ysgolion i gyflawni'r gofynion cyfreithiol gorfodol hyn, rŷn ni wedi comisiynu a datblygu adnoddau i gefnogi athrawon i gynllunio cwricwlwm sy'n cynnwys dysgu effeithiol am y newid yn yr hinsawdd a phwysigrwydd gweithredu. Mae hyn yn cynnwys adnoddau ar gyfer ysgolion sy'n ymwneud yn benodol â gorbryder ynghylch yr hinsawdd. Mae'r cynigion yn sôn am orbryder am y newid yn yr hinsawdd. Dwi'n gwybod bod effaith newid hinsawdd yn ofid i blant a phobl ifanc, ac, i rai, bydd hyn yn achosi gorbryder. Dyna pam mae rhoi sylw i iechyd meddwl ac ymateb i ystod o brofiadau, gan gynnwys y rhai sy'n sbarduno gorbryder, unwaith eto, yn orfodol i bob ysgol.

Dwi am i blant a phobl ifanc gael eu cefnogi a'u helpu. Does neb yn dysgu'n iawn os ydyn nhw'n orbryderus neu'n cael trafferthion iechyd meddwl, ac mae'r cwricwlwm wedi'i gynllunio i arfogi dysgwyr i reoli hyn a gofyn am gymorth lle bo angen. Dwi wedi rhannu manylion gyda chi o'r blaen am ein rhaglenni addysg amgylcheddol eraill sy'n cael eu hariannu, megis Eco-Sgolion a Maint Cymru, sy'n gweithio gydag ysgolion a phobl ifanc i godi ymwybyddiaeth am y newid yn yr hinsawdd a phwysigrwydd amddiffyn y byd naturiol. Mae'r rhaglenni hyn yn annog plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n gallu cael effaith gadarnhaol ar eu hamgylchedd lleol, fel gofalu am ardd yr ysgol neu ddefnyddio dulliau teithio llesol i gyrraedd yr ysgol. Mae rhoi'r cyfle i ddysgwyr newid rhywbeth yn eu cymuned leol yn gallu eu grymuso a chyfrannu at eu hiechyd a'u lles. 

Mae 'Gweithredu ar Newid Hinsawdd: Strategaeth Ymgysylltu â’r Cyhoedd' yn sôn am bwysigrwydd cynnwys pobl—ac ie, pobl ifanc—wrth lunio polisi ar fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Mae lleisiau plant a phobl ifanc yn hynod o bwysig. Mae mentrau fel cynhadledd y partïon i bobl ifanc yn fy nghalonogi ac yn dod â phobl ifanc ynghyd o bob rhan o Gymru i drafod newid hinsawdd yn uniongyrchol gyda rhanddeiliaid a gwleidyddion. 

I fod yn gwbl glir, dwi'n cytuno'n llwyr gyda'r bwriadau sydd y tu ôl i'r cynnig hwn. Dyna pam ein bod ni eisoes yn glir mewn deddfwriaeth fod yn rhaid i ysgolion addysgu dysgwyr am y newid yn yr hinsawdd, yr argyfwng hinsawdd a sut i ymateb iddo. Fyddai rhoi gofynion pellach ar ysgolion ddim yn ychwanegu at hyn. Dwi hefyd wedi amlinellu amrywiaeth o elfennau cymorth sydd ar waith i sicrhau bod ysgolion yn cyflawni'r gofynion cyfreithiol hyn ac i rymuso ein plant a'n pobl ifanc er mwyn creu dyfodol mwy gwyrdd i Gymru. 

15:50

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Diolch i Carolyn yn gyntaf.  

Diolch yn fawr, Carolyn. Fe wnaethoch ein hatgoffa o bwysigrwydd dysgu yn yr awyr agored a chysylltu â natur. Fe wnaethoch chi ein hatgoffa hefyd am yr ystadegau enbyd sy'n ymwneud â dirywiad rhywogaethau, ac rwy'n credu eich bod wedi canolbwyntio ein meddyliau i gyd ar pam ei bod mor bwysig ein bod yn obeithiol am newid. Fel y dywedoch chi, os ydym am atal y dinistr, mae'n rhaid i bobl ddysgu malio amdano. Yn hollol. Diolch yn fawr iawn am rannu hynny gyda ni a rhannu eich syniadau. 

Diolch hefyd i'r Gweinidog am ei ymateb. Ie, y sialens o ran newid hinsawdd a sut dŷn ni'n ymateb iddo fe fydd yn diffinio ein cenhedlaeth. Dwi'n cytuno gyda chi'n llwyr. A diolch hefyd am osod sut mae'r cwricwlwm yn ffocysu ar gefnogi'n pobl ifanc. Mae e'n beth da bod dysgu am newid hinsawdd yn orfodol, ac mae'r adnoddau sydd ar gael yn barod am orbryder am newid hinsawdd i'w croesawu yn sicr. Buaswn i'n dal yn hoffi gweld y Llywodraeth yn canoli hyn, efallai, ychydig yn fwy. Mae'r gwaith sydd yna mor gadarnhaol.

Rwy'n gwybod y byddwn ni efallai'n anghytuno am—. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi dweud ar y diwedd nad ydych chi eisiau rhoi mwy o ofynion ar ysgolion. Rwy'n gweld y safbwynt yna'n sicr. Y rheswm pam buaswn i eisiau i hyn gael—dwi ddim yn siŵr sut i ddweud y ferf 'to package' yn Gymraeg—ei roi at ei gilydd fel rhywbeth canolog yw er mwyn dangos ac er mwyn sbarduno'r bobl ifanc yna sydd yn poeni cymaint am newid hinsawdd, sydd gyda gorbryder, i weld ei fod e'n rhywbeth sydd yn signal i ddangos iddyn nhw fod y Llywodraeth wir yn cydnabod ac eisiau dangos y sbardun yna iddyn nhw. 

Mae poeni am yr argyfwng hinsawdd, wrth gwrs, yn ymateb rhesymol, synhwyrol, ond os ydyn ni'n gweld newid hinsawdd fel rhywbeth sydd yn ddiwrthdro, ysgubol, mi fydd yr argyfwng yn ysgubo drosom ni. Byddwn yn cael ein boddi drwy ddiffyg gweithredu a diffyg cred yn ein gallu i newid pethau. Felly, mae yna falans bregus sydd angen ei ffeindio rhwng yr angen i gydnabod a chyfiawnhau'r pryder mae pobl ifanc yn ei deimlo am newid hinsawdd a'r angen i roi gobaith iddyn nhw fod newid yn bosibl, a sicrwydd nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain yn y frwydr hon.

Buaswn i jest eisiau diolch eto, Dirprwy Lywydd, i'r Gweinidog ac i Carolyn am gymryd rhan yn y ddadl. Buaswn i eisiau dweud ar y diwedd—ar gyfer unrhyw bobl ifanc sydd yn gwrando ar y ddadl, nawr neu yn y dyfodol—mae eich lleisiau chi yn bwysig. Rŷn ni yn y Senedd yma yn eu clywed nhw a dŷn ni eisiau gwneud yn siŵr—. Dŷn ni'n deall pam eu bod nhw'n poeni ond mae yna wastad obaith a dŷn ni yn gallu newid pethau ar gyfer dyfodol gwell. Diolch yn fawr. 

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohirir y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

15:55
6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Arolygu ac ariannu gofal iechyd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Mabon ap Gwynfor. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Eitem 6 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig: arolygu ac ariannu gofal iechyd. Galwaf ar Gareth Davies i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8452 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru 2022-2023.

2. Yn gresynu bod yr adroddiad:

a) yn amlygu risgiau yn ymwneud â gofal brys, pryderon staffio, llif gwael cleifion a hygyrchedd apwyntiadau;

b) yn datgan bod oedi yn aml o ran rhyddhau cleifion oherwydd prinder staff gofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol i asesu anghenion rhyddhau; ac

c) heb ddod o hyd i dystiolaeth fod mentrau Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth clir a sylweddol i wasanaethau ar y rheng flaen.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) dileu toriadau a wnaed i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yng nghyllideb ddrafft 2024-2025, ac ehangu eu cylch gwaith i ymchwilio i gwynion;

b) sefydlu amserlen gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar gyfer archwilio'r bron i 60 y cant o wasanaethau gofal iechyd nad ydynt wedi'u harolygu yn ystod y 5 mlynedd diwethaf;

c) sicrhau bod y cynnydd canlyniadol Barnett llawn o 20 y cant ar gyfer iechyd yn cael ei wario ar GIG Cymru; a

d) cyflwyno cynllun sylweddol ar gyfer y gweithlu gydag ad-daliad ffioedd dysgu ar gyfer gweithwyr gofal iechyd sy'n aros yng Nghymru am bum mlynedd ar ôl eu hastudiaethau.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl hon ac rwy'n cyflwyno cynnig y Ceidwadwyr Cymreig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Ond rwy'n siŵr y byddai'n well gennym i gyd fod yn trafod cyflwr ein GIG yng Nghymru gyda newyddion mwy cadarnhaol. Mae adroddiad yr arolygiaeth gofal iechyd wedi amlygu canfyddiadau go ddiflas, ac mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried yn ddwys o ganlyniad i hyn, oherwydd ni allai'r adroddiad hwn fod yn gliriach nad yw'r strategaethau presennol yn gweithio.

Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig hefyd, hoffwn fynegi ein gwrthwynebiad i gynlluniau i dorri Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a wnaed yng nghyllideb ddrafft 2024-2025. Os yw'r adroddiad hwn yn amlygu unrhyw beth, mae'n dangos yr angen i ehangu cylch gwaith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, cyflwyno gweithdrefn ymchwilio i gwynion a sefydlu amserlen ar gyfer arolygu bron i 60 y cant o wasanaethau gofal iechyd yng Nghymru nad ydynt wedi'u harolygu yn ystod y pum mlynedd diwethaf, sy'n syfrdanol a dweud y gwir. Rhaid imi ddweud yn glir hefyd fod gwneud toriadau i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn gwneud i Lywodraeth Cymru edrych yn wael iawn gan ei bod ar hyn o bryd yn edrych fel Llywodraeth sydd wedi colli rheolaeth ar unrhyw allu i redeg gwasanaeth iechyd gweithredol, a'i bod yn lle hynny wedi troi at leihau tryloywder a chyfyngu ar allu'r cyhoedd i asesu perfformiad y gwasanaeth iechyd. 

Rydym yn gwybod yr ystadegyn sydd wedi cael ei ailadrodd yn y Siambr hon dro ar ôl tro, ond rwyf am atgoffa unrhyw un a allai fod wedi anghofio: mae dros 25,000 o bobl yng Nghymru yn aros dwy flynedd neu fwy am driniaeth, o'i gymharu â 227 o unigolion sy'n aros yr un faint o amser yn Lloegr. Mae'r Llywodraeth Lafur yn derbyn £1.20 am bob £1 a werir ar y GIG—sawl gwaith y clywsoch chi hynny—yn Lloegr, ac eto dim ond £1.05 y mae Llywodraeth Cymru yn ei wario am bob £1 a werir yn Lloegr. Mae'r gyllideb newydd yn mynd i leihau hyn ymhellach eto.

Ar hyn o bryd mae pob un o fyrddau iechyd GIG Cymru yn destun monitro uwch neu fesurau arbennig o ryw fath neu'i gilydd; un enghraifft yn unig yw fy mwrdd iechyd fy hun, Betsi Cadwaladr. Pan fydd y ffigurau hyn yn cael eu hadrodd wrth Lywodraeth Cymru, rydym yn clywed yr un ymatebion prennaidd a di-hid: y diffyg cyllid gan Lywodraeth y DU a bod mentrau ar waith i fynd i'r afael â'r problemau hyn. Unwaith eto, sawl gwaith y clywsom hynny?

Efallai mai'r canfyddiad mwyaf damniol yn yr adroddiad hwn, a'r mwyaf digalon, yw'r ffaith na ddaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o hyd i unrhyw dystiolaeth fod mentrau Llywodraeth Cymru 

'yn gwneud gwahaniaeth clir a sylweddol i wasanaethau rheng flaen'.

Yn amlwg, mae gweithdrefnau cwyno ac arolygiadau craffu gwell yn hanfodol, yn enwedig yn sgil achos anffodus teulu Channon, ac mae fy nghyd-Aelod, Russell George, wedi craffu'n barhaus ar fethiannau Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Efallai y bydd rhai yn cofio'r sylwadau brathog a fynegwyd yn y rhagair i adroddiad 2022-23 gan Alun Cairns—nid yr Aelod Seneddol. Yn anffodus, nid yw'r adroddiad diweddaraf hwn yn dangos fawr iawn o welliant, gyda llawer o feysydd wedi parhau i ddirywio. Mae angen mynd i'r afael â'r diffyg brawychus o arolygiadau o gyfleusterau iechyd Cymru ar frys, a dyna pam ein bod yn galw am lunio amserlen frys i sicrhau bod y cyfleusterau hyn yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig. Rydym hefyd eisiau sicrhau bod y cynnydd o 20 y cant yn swm canlyniadol Barnett ar gyfer iechyd yn cael ei wario ar y sawl y bwriadwyd iddo ei dderbyn, sef GIG Cymru. Dylai Llywodraeth Cymru wrthdroi ei chynlluniau ar gyfer toriadau mewn termau real i GIG Cymru, ac o bosibl, ailgyfeirio'r arian y maent wedi cynllunio i'w wastraffu ar 36 yn fwy o wleidyddion a chynlluniau porthi balchder eraill, fel cyflwyno 20 mya, pan fo ein GIG mewn trafferth enbyd. Pe bai'r Llywodraeth yn wirioneddol o ddifrif ynghylch achub bywydau, byddai'r arian sy'n cael ei wario ar gynlluniau porthi balchder yn cael ei wario ar ein GIG.

Mae angen inni glywed rhywbeth newydd gan Lywodraeth Cymru. Nid yw eu targed o 75 y cant i'r rhai yr amheuir bod canser arnynt gael eu gweld a dechrau eu triniaeth o fewn 62 diwrnod erioed wedi cael ei gyrraedd; mae un o bob pump o bobl yng Nghymru ar restr aros GIG; ac mae methiannau mewn gofal cymdeithasol yn arwain at dagfeydd ar wardiau ysbytai gan fod cleifion sy'n ffit i gael eu rhyddhau yn cael eu cadw mewn gofod gwely gwerthfawr, mater y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwybodol ohono ers cryn amser. Rydym bellach yn gwybod i sicrwydd nad oes cynnydd yn cael ei wneud ac mae ein sefyllfa'n mynd yn fwy enbyd bob blwyddyn, ac mae'r Cymry'n haeddu gwell. Ac mae'n peri tristwch mawr i mi fod llawer o fy sylwadau yn ddigalon heddiw, ond dyna'r sefyllfa bresennol, yn anffodus, Weinidog.

Ond i gloi, Ddirprwy Lywydd, mae angen ailfeddwl strategaethau Llywodraeth Cymru mewn modd radical a bydd y cynigion y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi'u cyflwyno yn symud ein GIG i'r cyfeiriad hwnnw, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau Aelodau eraill yn ystod y ddadl hon y prynhawn yma. Diolch yn fawr iawn.

16:00

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu popeth ar ôl is-bwynt 2b) a rhoi yn ei le:

Yn gwerthfawrogi gwaith pwysig AGIC ac yn nodi'r heriau a amlygwyd.

Yn cydnabod y sefyllfa ariannol heriol ar draws Llywodraeth Cymru, sy'n parhau i flaenoriaethu gofal rheng flaen a gofynion staffio ein GIG.

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda darparwyr gofal iechyd gan ddefnyddio arolygiadau i ddysgu a gwella.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i gyflwyno gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn ei enw ei hun.

Gwelliant 2—Mabon ap Gwynfor

Ym mhwynt 3, dileu is-bwynt c), a rhoi yn ei le:

gwneud cais ffurfiol i Lywodraeth y DU am adolygiad cynhwysfawr o Fformiwla Barnett i sicrhau cyllid teg ar gyfer pob maes cyllideb yng Nghymru, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol;

Gwelliant 3—Mabon ap Gwynfor

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

cynyddu nifer y prentisiaethau gradd sydd ar gael yn y sector gofal iechyd i roi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc ymuno â'r proffesiwn ac aros yng Nghymru i weithio.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn i gynnig gwelliannau ar gyfer y cynnig yma gan y Ceidwadwyr.

Wel, ar y wyneb, mae'n anodd anghytuno â sylwedd y cynnig yma—wrth gwrs ein bod ni am wyrdroi toriadau i gyllideb yr HIW, wrth gwrs ein bod ni am weld gwella yn effeithlonrwydd gweithredol HIW ac am weld cynnydd pellach yng nghyllideb yr NHS. Ond mae yna eliffant yn y Siambr hon, un nad ydy'r Ceidwadwyr na Llafur am fynd i'r afael ag o, sef y ffaith ei fod yn amhosib cael yr NHS deinamig, gwydn a gweithrediadol yr ydym ni oll am ei weld heb ein bod ni'n gweld ailwampio sylfaenol o fformiwla Barnett, sydd yn golygu bod Cymru yn cael ei thanariannu'n flynyddol. Heb y gydnabyddiaeth onest hon, mae arnaf i ofn fod sylwedd y cynnig Ceidwadol heddiw yn colli pob hygrededd.

Yn gyntaf, gan fod y pot o arian sy'n cael ei neilltuo i Gymru yn flynyddol yn sefydlog, hynny ydy yn fixed, byddai cynnig y Ceidwadwyr yn golygu trosglwyddo arian i ffwrdd o wasanaethau cymdeithasol a fyddai, yn ei dro, yn gwaethygu'r sefyllfa ymhellach, gyda mwy o arian yn cael ei wario ar wasanaethau rheng flaen, yn hytrach nag ar wasanaethau ataliol.

Efallai pe bai'r Ceidwadwyr yn fodlon ymrwymo i gryfhau gallu Cymru i wneud addasiadau sylweddol i'r grant bloc drwy ddatganoli pwerau trethu a benthyca ymhellach, byddai'r hyn sydd ganddynt i'w ddweud ar y mater yn llawer mwy credadwy. Ond nid ydynt yn fodlon gwneud hynny. Felly, nid yw'n fwy credadwy.

Yn ail ac yn bwysicaf oll, er ei bod yn wir fod Cymru'n derbyn mwy y pen ar gyfartaledd o gymharu â Lloegr, mae hyn yn seiliedig ar y cyllid gwaelodol a argymhellwyd gan gomisiwn Holtham yn ôl yn 2010, a gâi ei gydnabod gan y comisiwn, hyd yn oed ar y pryd, ei fod yn isafswm llwyr i atal Cymru rhag disgyn ymhell islaw'r isaf o'r holl amcangyfrifon o anghenion cymharol—ac rwy'n dyfynnu. Ers hynny, rydym wedi cael 14 mlynedd o gyni wedi'i ysgogi gan y Torïaid a phandemig COVID, a bydd yr ôl-gryniadau'n cael eu teimlo'n fawr am flynyddoedd i ddod. Mae gennym hefyd boblogaeth â'r oedran canolrifol hynaf o holl wledydd y DU, ac sy'n heneiddio ar gyfradd gyflymach na chyfartaledd y DU gyda lefelau uwch yn gyfartalog o gyfraddau salwch hirdymor. Fel y mae nifer o academyddion ac arbenigwyr wedi casglu felly, nid yw'r model cyllido presennol o San Steffan yn darparu ar gyfer anghenion cymdeithasol Cymru. Mae yna reswm da pam nad yw'r Torïaid wedi bod yn agored ynglŷn â chyfyngiadau fformiwla Barnett, oherwydd byddai'n golygu wynebu'r realiti fod San Steffan bob amser yn gwneud cam â Chymru. Byddai hefyd yn golygu y byddai'n rhaid iddynt gyfaddef cyfrifoldeb eu plaid—

—am waddol trychinebus cyni sy'n amlwg wedi cael effaith niweidiol ar iechyd y cyhoedd ledled y DU. Mark.

A ydych chi'n cydnabod, adeg refferendwm yr Alban ar annibyniaeth, refferendwm roedd gennych chi farn wahanol i fy un i yn ei gylch wrth gwrs, fod arweinwyr pleidiau Ceidwadol, Llafur a Democratiaid Rhyddfrydol y DU wedi addo cadw fformiwla Barnett fel cynnig i boblogaeth yr Alban oherwydd, yn amlwg, maent yn gwneud yn gymharol well ohoni na ni, ac mai dyna sy'n dal holl bleidiau cenedlaethol y DU yn ôl ar lefel y DU?

Nac ydw, nid wyf yn derbyn hynny. Rwy'n derbyn y ffaith bod yr Alban yn gwneud yn well ohoni na Chymru, ond mae angen inni weld diwygio fformiwla Barnett am y rhesymau rwy'n eu rhestru yma nawr, am nad ydym yn cael ein cyllido'n iawn i ariannu ein GIG yma yng Nghymru.

Yn wahanol i'r Ceidwadwyr, mae Llywodraeth Cymru, o leiaf mewn geiriau, wedi adleisio ein galwad am adolygu fformiwla Barnett ar sail angen cymdeithasol. Ond fel sydd wedi digwydd yn aml gyda'r Llywodraeth hon, ar annhegwch systemig y ffordd y caiff Cymru ei thrin gan San Steffan, nid oes brys i weithredu i gyd-fynd â chywair y geiriau hyn bob amser. Un peth yw tynnu sylw at ddiffyg tryloywder y Llywodraeth Dorïaidd, ond beth am dawelwch byddarol arweinydd Llafur y DU ar unrhyw beth bron iawn sy'n gysylltiedig â Chymru, heb sôn am fater penodol ariannu teg? Pe bai Aelodau Llafur yma o ddifrif yn cael eu cymell i wella'r fargen wael a gawn ar hyn o bryd, byddent yn lobïo Keir Starmer yn ddi-baid i wneud adolygu fformiwla Barnett yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Lafur newydd. Ond yn lle hynny, y cyfan a glywn yw'r gobaith ofer y bydd Starmer rywsut yn frwd ei gefnogaeth i egwyddorion Keynesaidd pan yn y swydd, sydd, yn amlwg, yn groes i bob agwedd ar ei arweinyddiaeth hyd yn hyn, o addo i beidio â newid ei farn ar y ffrydiau gwario i efelychu meddwl economaidd ffantasïol Torïaidd y gellir creu twf o ddim rywsut heb fuddsoddi yn ein gwasanaeth cyhoeddus adfeiliedig. A heddiw clywsom Rachel Reeves yn dynodi na fydd hi'n codi treth gorfforaeth ychwaith.

Ac mae'n dweud cymaint, onid ydy o, nad ydy'r un o'r ddau ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth cangen Cymru o'r Blaid Lafur wedi ymrwymo i alw am adolygu'r fformiwla ariannu a rhoi pwysau ar eu harweinydd Keir Starmer i ymrwymo i hyn. Trwy gyflwyno ein gwelliant, felly, mae Plaid Cymru unwaith eto yn dangos mai dim ond ni sydd o ddifrif ynghylch ariannu tecach i Gymru. Mae hyn yn cynnwys nid yn unig cadw doniau yr unigolion hynny sydd yn astudio yma yng Nghymru, ond hefyd ymhelaethu'r cyfleon sydd ar gael i'n pobl ifanc er mwyn gweithio yn yr NHS, fel y clywn yn y ddadl arall y prynhawn yma sydd yn cael ei harwain gan Blaid Cymru.

Mae pobl Cymru yn galw allan am gyfle i flaguro a chwarae eu rhan i ddatblygu'r gwasanaeth iechyd gorau posib a fydd yn ateb gofynion yr unfed ganrif ar hugain ac yn galw ar i San Steffan roi'r adnoddau angenrheidiol er mwyn medru cyflawni hyn. Fel Aelodau etholedig, mae gennym ni ddyletswydd i ymateb. Drwy gefnogi ein gwelliant heddiw, fe allwch chithau ddangos eich bod chi'n gwrando arnyn nhw a hefyd yn mynnu cael cyfiawnder ariannol i Gymru er mewn ein galluogi i ddarparu'r gwasanaeth iechyd gorau posib. Diolch am eich amynedd.

16:05

Hoffwn ddiolch i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru nid yn unig am eu hadroddiad blynyddol, ond hefyd am yr holl waith caled y maent yn ei wneud i sicrhau diogelwch cleifion. Yn anffodus, fel y mae ein cynnig yn ei nodi, bydd toriadau i gyllideb AGIC yn tanseilio'r gwaith hwn ac yn ychwanegu at brinder cynyddol o waith arolygu. Nid yw bron i ddau o bob tri gwasanaeth gofal iechyd wedi cael eu harolygu yn ystod y pum mlynedd diwethaf, a heb archwiliadau mor hanfodol, pwy a ŵyr pa broblemau diogelwch cleifion sydd heb gael sylw?

Dim ond trwy waith diwyd timau arolygu yn gysylltiedig â'r gwasanaeth mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yr aethpwyd i'r afael â methiannau ehangach. Pwy a ŵyr beth fyddai wedi digwydd pe na bai AGIC wedi ymchwilio i bryderon cleifion? Pan edrychodd y bwrdd iechyd ar y gofal a ddarparwyd i Gethin Channon a'i rieni, Sian a Robert Channon, fe wyddom eu bod wedi anwybyddu llawer o'r canfyddiadau. Bron i flwyddyn a hanner ar ôl i'r bwrdd iechyd gael adroddiad a amlygodd fethiannau difrifol a chyda thua 300 o ddigwyddiadau'n cael eu hymchwilio, mae AGIC wedi adrodd ar gyflwr enbyd gwasanaethau mamolaeth ym Mae Abertawe. Cymerodd ddau fis, er hynny, i Lywodraeth Cymru weithredu ar ganfyddiadau AGIC. Ond o leiaf fe gymerwyd camau gweithredu o'r diwedd.

Gydag 17 y cant o ysbytai Cymru a 73 y cant o bractisau meddygon teulu Cymru byth yn cael eu harchwilio, pwy a ŵyr pa sgandalau diogelwch cleifion eraill sydd heb eu nodi? Yr hyn sy'n amlwg o adroddiad blynyddol diweddaraf AGIC yw nad yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella gofal cleifion yn cael unrhyw effaith o gwbl. Ni allwn ddibynnu ar ddictad gweinidogol i wella gofal cleifion, ac ni allwn ganiatáu i bryderon diogelwch fod heb eu datrys. Mae angen arolygiaeth gofal iechyd wedi'i hariannu a'i staffio'n llawn arnom i sicrhau bod gwasanaethau'n ddiogel ac yn diwallu anghenion cleifion, nid y rhai sy'n eu darparu.

Mae un o bob pump o bobl Cymru ar restr aros am driniaeth GIG, ac mae llawer ohonom yn aros am fwy na dwy flynedd am driniaeth. Er ein bod yn gwario mwy y pen ar ofal y GIG na rhannau eraill o'r DU, mae ein canlyniadau'n llawer gwaeth. Ni allwn ddibynnu ar Lywodraeth Cymru nac uwch arweinwyr byrddau iechyd i sicrhau triniaeth ddiogel ac amserol heb eu gorfodi gwneud hynny, a dyna pam mae gwaith AGIC mor hanfodol i'n GIG. Ac eto, mae Gweinidogion Cymru eisiau cwtogi'r gwasanaeth yn hytrach na'i ehangu. Ni allwn ganiatáu i flaenoriaethau ariannol tymor byr y Llywodraeth bresennol hon yng Nghymru danseilio'r gyfundrefn arolygu.

Yn anffodus, wrth ymdrin â materion iechyd, fe fydd pethau'n mynd o chwith, ond mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau nad yw unrhyw fethiannau'n systemig. Dyna pam mae AGIC yn rhoi sicrwydd y bydd camau gweithredu'n cael eu cymryd pan nad yw darpariaeth gwasanaeth yn cyrraedd y safon. Ac mae'n ddyletswydd arnom ni fel Aelodau o'r Senedd hon i sicrhau bod AGIC wedi ei gyfarparu i wneud ei waith. Rwy'n eich annog i gefnogi ein cynnig y prynhawn yma a rhoi pwysau ar Weinidogion Llywodraeth Cymru i ddarparu adnoddau priodol i'n cyfundrefn gofal iechyd ac arolygu.

16:10

Mae yna argyfwng iechyd ar draws y DU, nid yng Nghymru yn unig. Mae'r holl dystiolaeth yn dangos bod hyn wedi gwaethygu dros y 14 mlynedd diwethaf ers dechrau cyni a thoriadau i wasanaethau cyhoeddus. Bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn 2024-25 £3 biliwn yn is nag y byddai wedi bod pe bai wedi tyfu yn unol â'r economi ers 2010.

Ni allwn edrych ar y GIG ar ei ben ei hun: mae pob gwasanaeth cyhoeddus ledled y DU yn wynebu pwysau digynsail yn yr argyfwng costau byw presennol. Fe wyddom fod un o bob pum cyngor yn Lloegr yn edrych ar fethdaliad, ac eto mae'n ymddangos bod y Torïaid yn San Steffan yn benderfynol o wneud pethau'n waeth, gyda datganiad yr hydref yn golygu bod Cymru £1.3 biliwn yn waeth ei byd mewn termau real na'r disgwyl adeg yr adolygiad o wariant yn 2021. Mae datganoli'n golygu bod dewisiadau a phenderfyniadau gwahanol yn cael eu gwneud ar sail anghenion pobl yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Lafur Cymru bob amser yn diogelu ac yn buddsoddi mewn iechyd a gofal cymdeithasol ac yn gwario 8 y cant yn fwy ar iechyd a 43 y cant yn fwy ar ofal cymdeithasol nag yn Lloegr. Ac ni allwch eu gwahanu. Ac ym mis Hydref eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn o newidiadau i gynyddu eu cyllid i GIG Cymru eleni. Bydd ei gyllideb yn cynyddu £425 miliwn yn ychwanegol, er gwaethaf pwysau ar bob maes gwasanaeth. Rwy'n credu y byddai symud cyllid oddi wrth y gwasanaeth iechyd ei hun a'i wario ar wasanaethau arolygu yn lle hynny, fel y mae'r Ceidwadwyr yn ei awgrymu, yn benderfyniad anghywir.

Mae'r cyni sy'n cael ei orfodi arnom yn golygu bod penderfyniadau anodd fel hyn yn cael eu gwneud ar draws Llywodraeth Cymru, ac mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth i wasanaethau rheng flaen. Mae Llywodraeth Cymru wedi argymell—[Torri ar draws.]—Mae'n ddrwg gennyf, fe wnaf ildio. Mae'n ddrwg gennyf.

Diolch yn fawr iawn, Carolyn. Onid ydych chi'n gweld bod yr arolygiaeth yn rhan annatod o weithgarwch iechyd a'r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru, o gofio eich bod yn cynrychioli ardal sydd wedi cael cymaint o drychinebau gyda darparu gwasanaethau iechyd, yn enwedig y ddarpariaeth iechyd meddwl? Mae'r arolygiaeth iechyd yn rhan hanfodol o'r ffabrig sydd ei angen i brofi'r system a sicrhau ei bod yn saff ac yn ddiogel i gleifion a staff. Onid ydych yn derbyn hynny?

Fe wnaf ymateb i hynny—rwy'n credu ei bod yn bwysicach buddsoddi yn y gwasanaethau, fel y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, trwy fuddsoddi yn y gwasanaeth '111 pwyso 2', y byddaf yn mynd ymlaen i'w grybwyll nawr. [Torri ar draws.] Os caf barhau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y bydd yn rhaid i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, fel eraill ar draws y sector cyhoeddus, feddwl yn ofalus ynglŷn â sut i roi ffocws i adnoddau cyfyngedig dros y flwyddyn nesaf, fel y mae'n rhaid i bob asiantaeth ei wneud ar draws y sector cyhoeddus. Byddant yn un o nifer o sefydliadau sy'n cymryd cyfran o'r boen a achosir gan y twll yn ein cyllideb. Mae'r adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cydnabod yr heriau y mae ein gwasanaeth iechyd yn eu hwynebu, ond fel yr amlygodd y Prif Weinidog ddoe, mae'r adroddiad hefyd yn dangos y cynnydd sy'n cael ei wneud, gyda chynlluniau newydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn, megis gwasanaeth '111 pwyso 2' ar gyfer iechyd meddwl, y canolfannau gofal sylfaenol brys, a'r ddarpariaeth gofal argyfwng yr un diwrnod yn ein hysbytai. Mae llawer o waith yn cael ei wneud.

Mae'r adroddiad hefyd yn ein hatgoffa pa mor bwysig fydd cynllun gweithlu Llywodraeth Cymru wrth ymateb i heriau staffio yn y dyfodol, wrth i'r pwysau ar y gwasanaeth barhau i gynyddu. Yn ogystal â thoriadau, mae'r pwysau ar y gwasanaeth yn parhau i gynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Bydd gwella recriwtio a chadw staff yng ngweithlu'r GIG yn allweddol wrth symud ymlaen. Dyna pam na wnaeth Cymru dorri bwrsariaeth y GIG yn 2017, fel y gwnaeth Lloegr. Rydym wedi parhau i ddarparu bwrsariaeth y GIG, ac yn darparu bwrsariaeth gwaith cymdeithasol yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynyddu cyllideb hyfforddiant ac addysg y GIG am naw mlynedd yn olynol, oherwydd bod Llafur Cymru yn deall pwysigrwydd buddsoddi yng ngweithlu'r GIG yn y dyfodol. Yn 2023-24, cynyddodd y gyllideb 8 y cant arall. Yng ngogledd Cymru, mae'r ymrwymiad i recriwtio i'r gweithlu yn glir. Mae gennym ysgol feddygol ac academi ddeintyddol newydd ym Mangor, lleoedd hyfforddi newydd i weithwyr gofal cymdeithasol, a llwybrau at addysg a datblygiad parhaus—[Torri ar draws.] Na, rwy'n brin o amser. A lleoedd hyfforddi newydd i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ym mhrifysgol Wrecsam, gan gynnwys nyrsys, parafeddygon, hyfforddiant ambiwlans a ffisiotherapyddion, sy'n galonogol iawn. Er gwaethaf yr holl heriau y mae'r GIG yn eu hwynebu a'r pwysau cyllidebol enfawr a achoswyd gan San Steffan, dylem gydnabod y cynnydd sy'n cael ei wneud a'r bobl anhygoel sy'n cadw'r gwasanaeth iechyd i redeg o ddydd i ddydd. Ac mae angen inni roi'r gorau i ymosod ar y gwasanaeth iechyd, oherwydd o un diwrnod i'r llall—[Torri ar draws.]—o un diwrnod i'r llall, darparir gwasanaeth gwych i'n trigolion yng Nghymru bob dydd. Diolch.

16:15

Onid yw'n dda fod gennym y Ceidwadwyr Cymreig yma i graffu a herio'r gwasanaeth iechyd sy'n methu yng Nghymru? Fe wyddom fod gwefan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn rhestru 1,572 o wasanaethau gofal iechyd yng Nghymru. O'r rheini, nid yw 660 o wasanaethau erioed wedi cael eu harolygu hyd yn oed, ac nid yw 342 o wasanaethau wedi'u harolygu ers 2018, bum mlynedd yn ôl. Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, cynhaliodd tîm archwilwyr AGIC 178 darn o waith arolygu a sicrwydd; roedd 41 o'r darnau hynny o waith yn wiriadau ansawdd. Dim ond 137 o arolygiadau ar y safle a gynhaliwyd, sy'n golygu prin fod gallu gan AGIC i arolygu 10 y cant o gyfleusterau bob blwyddyn. Ac mae'n gwaethygu. O'r 95 o ysbytai'r GIG yng Nghymru, nid yw 16 erioed wedi cael eu harolygu, ac nid yw 18 wedi cael eu harolygu yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Nid yw o leiaf 86 y cant o bractisau meddygon teulu y GIG wedi cael eu harolygu yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ac nid yw 73 y cant erioed wedi cael eu harolygu. 

Pam mae hyn yn bwysig? Wel, mae'n bwysig i mi oherwydd, am flynyddoedd lawer, roedd gennym gorff gwarchod da iawn a system cefnogi cleifion gyda'r cynghorau iechyd cymuned, ac roeddwn yn falch iawn o wasanaethu ar un ohonynt am dymor o bedair blynedd. Byddent yn gwneud ymweliadau ar alwad ac roedd pobl yn eu parchu fel sefydliad. Ond beth a ddigwyddodd? Efallai eu bod yn gwneud gwaith rhy dda, a chawsant eu llesteirio gan ddiffyg cyllid ac adolygiad o'u gwasanaeth.

Mae'n bwysig hefyd oherwydd bod AGIC yn arolygu gwasanaethau'r GIG ac yn rheoleiddio darparwyr gofal iechyd annibynnol yn erbyn ystod o safonau, polisïau, canllawiau a rheoliadau, i dynnu sylw at feysydd y mae angen eu gwella. Yn 2022-23, cynhaliodd AGIC 19 o arolygiadau mewn ysbytai acíwt ledled Cymru. Ac yn frawychus, roedd yn rhaid i'r sefydliad ddefnyddio ei broses sicrwydd diymdroi mewn 58 y cant o'r arolygiadau hynny—hynny yw, 11 allan o 19. Fel y maent yn datgan eu hunain, mae hwn yn ffigur pryderus iawn ac mae'n dangos, ar hyn o bryd, mai gofal iechyd i gleifion mewnol acíwt—acíwt—sydd â'r lefel uchaf o risg mewn gwasanaethau ledled Cymru. 

Ym mis Mai 2022, fe wnaethant ddynodi bod yr adran frys yn Ysbyty Glan Clwyd—bwrdd Betsi —yn wasanaeth sydd angen ei wella'n sylweddol, sef gwasanaeth sydd â'r lefelau risg mwyaf sylweddol. Ac rwy'n cofio'r adroddiad hwnnw, ac rwy'n ei gofio'n datgan bod offer yn fudr yn yr unedau. Felly, gofynnaf i'r Siambr hon ystyried beth fyddai'r sefyllfa yn y cyfleusterau meddygol hyn heddiw pe na bai AGIC wedi dwyn y rheini i'n sylw yn eu hadroddiadau. Gan gofio nad oes ganddynt ddigon o gapasiti i archwilio'r holl gyfleusterau meddygol a gofal yng Nghymru yn rheolaidd a natur wirioneddol ddylanwadol gwaith y sefydliad, mae'r toriad o £25,000 i'w cyllideb ar gyfer 2024-25 yn afresymol ac nid yw'n seiliedig ar unrhyw dystiolaeth dda mewn gwirionedd.

Weinidog, hoffwn pe gallech egluro a yw AGIC wedi dweud yn glir wrthych eu hunain ar ryw adeg faint o arian y byddai ei angen arnynt i sicrhau y gellir archwilio a gwirio yr holl gyfleusterau. Pe bawn i'n rhedeg gwasanaeth iechyd, buaswn eisiau gwybod bod y lleoedd hyn ac amryw o leoedd darparu gwahanol yn rhoi gwasanaeth o'r ansawdd gorau mewn gwirionedd, a thros y ddwy neu dair blynedd diwethaf, fe glywsom y gwrthwyneb. Felly, buaswn eisiau mwy a mwy o arolygiadau ac yn sicr ni fuaswn yn ystyried torri eu cyllideb.

Pan fydd pwysau o'r fath, nid yw'n syndod fod arolygiadau'n parhau i nodi lefelau isel o gydymffurfio â hyfforddiant gorfodol i staff. Rydym yn gwybod am yr argyfwng staffio difrifol ar draws GIG Cymru. Y tîm sydd gennym yno—. Ac os ydych chi'n gwylio, unrhyw un, diolch i chi am bopeth rydych chi'n ei wneud yn ein gwasanaeth iechyd, a gwn eich bod yn ei wneud yn erbyn cefndir o flinder a phwysau mawr, ac mewn rhai achosion, problemau llywodraethu y mae gwir angen eu datrys. Er enghraifft, diffyg staff yw'r rheswm pam nad yw oriau agor uned mân anafiadau Llandudno wedi cael eu hymestyn. Mae gan Gymru strategaeth gweithlu'r GIG, ac eto rydym yn dibynnu gormod ar staff asiantaeth. Sut rydych chi'n meddwl rwy'n teimlo pan ddaw un o fy etholwyr ataf a dweud wrthyf eu bod yn deyrngar iawn i'r bwrdd iechyd, eu bod yn gweithio oriau hir iawn, ond fod pobl yn gallu taro draw dros y ffin ac ennill mwy o arian yr awr na nhw?

Gallech helpu i ddenu mwy o staff hefyd drwy weithredu mesurau, megis cynnig ad-daliad ffioedd dysgu i weithwyr gofal iechyd sy'n aros yng Nghymru am bum mlynedd ar ôl eu hastudiaethau, cynnig gradd-brentisiaethau ar gyfer gyrfaoedd gofal iechyd yn y GIG yng Nghymru, a chynnig swyddi mewn ysbytai penodol yn hytrach nag ar sail bwrdd iechyd.

16:20

O'r gorau. Felly, er bod gan Gymru strategaeth gweithlu'r GIG a chynllun gweithredu gweithlu'r GIG, nid oes ganddi gynllun gweithlu cynhwysfawr ar gyfer y GIG fel yr un a ddatblygwyd ar gyfer Lloegr o dan Lywodraeth Geidwadol y DU.

Beth bynnag, hoffwn gofnodi fy niolch i AGIC am fod yn llwyfan i leisiau cleifion, ac os gwelwch yn dda, Weinidog, os oes un peth yr hoffwn ofyn i chi ei wneud, sicrhewch fod gennych ddigon o gyllid. Er yr holl gwyno am nad oes digon o arian yn cael ei gyflwyno, gwnewch yn siŵr fod gennych ddigon o gyllid i ganiatáu i'r arolygiadau hyn ddigwydd. Diolch yn fawr.

Mae'n bwysig ein bod ni'n cael dadleuon fel hyn sy'n canolbwyntio ar y system gofal iechyd, ac rwy'n siŵr nad hon fydd yr olaf. Mae'r ffocws heddiw yn gwbl briodol gan fod adroddiad blynyddol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn dangos ei fod yn gwneud gwaith hynod o bwysig, yn asesu ac yn craffu ar ddiogelwch gwasanaethau gofal iechyd y mae pawb ohonom yn dibynnu arnynt. Clywsom mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe pa mor bwysig yw eu gwaith, ond hefyd faint mwy sydd i'w wneud, gyda chymaint o leoliadau iechyd sydd heb gael eu harolygu ers nifer o flynyddoedd. Gyda hyn mewn golwg, ac fel y clywsom ddoe yn ogystal â heddiw, mae'n hynod siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi dewis argymell toriadau i'r arolygiaeth iechyd yn y gyllideb eleni. Rwy'n credu'n wirioneddol fod hwn yn gam tuag yn ôl ac yn economi ffug, yn enwedig ar adeg pan fo'r gwasanaeth iechyd yn ei chael hi mor anodd.

Hoffwn annog y Llywodraeth yn gryf i ailystyried y toriad arfaethedig hwn, gan sicrhau y gall Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru barhau â'i waith i sicrhau bod pobl Cymru yn cael y gwasanaeth gofal iechyd y maent yn ei haeddu. Gall craffu fod yn anghyfforddus, ond mae'n angenrheidiol. Hebddo, sut mae sicrhau gwelliant parhaus?

Ddirprwy Lywydd, rydym i gyd yn gwybod yn rhy dda am y pwysau a'r diffygion amrywiol ym mhob agwedd ar y ddarpariaeth iechyd. Boed yn ddiffyg darpariaeth gofal cymdeithasol ac angen nas diwallwyd, yn bractisau meddygon teulu sy'n wynebu'r fath bwysau fel eu bod yn gorfodi ymarferwyr allan o'r system, neu'n amseroedd aros hirfaith am ambiwlansys a rhestrau aros enfawr am driniaeth, mae'r arolygiaeth yn hanfodol i ysgogi'r gwelliannau sydd eu hangen.

Mae adroddiad blynyddol AGIC yn rhoi asesiad gonest, sy'n canmol lle mae lle i ganmol, ond yn datgelu arferion gwael neu fethiant systemig. Braf oedd nodi—nid fy mod yn amau hynny—fod y staff yn trin cleifion gydag urddas a pharch. Yn ei adroddiad diwethaf, nodwyd hyn yn arbennig yn ysbyty'r Faenor yn fy etholaeth i, ac mae'n sylw rwy'n cytuno'n llwyr ag ef. Anaml y clywaf sylwadau negyddol am staff ein GIG. Maent yn gwneud eu gorau bob amser yn wyneb pwysau mawr. Fodd bynnag, yn yr adroddiad blynyddol, gwelwn fod cleifion yn parhau i'w chael hi'n anodd cael apwyntiadau ac yn aml yn profi pryder a straen o ganlyniad, ac mae ein mewnflychau'n ategu hyn yn glir. Mae'r straen o beidio â gwybod os a phryd y gallwch weld meddyg yn straen emosiynol, ac fel y dywed yr adroddiad, gall

'effeithio ymhellach ar eu gallu i ymdopi â materion iechyd a gwneud penderfyniadau gwybodus am eu gofal.'

Yn sicr, nid ein staff sy'n gyfrifol am y diffygion yn ein gwasanaeth iechyd, ond yn hytrach, deilliant yn uniongyrchol o gyfres o fethiannau sefydliadol. Mae hyn yn arbennig o wir yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, lle canfu adroddiad AGIC fod ymatebion gan gleifion am eu gofal yn gymysg, gan gynnwys sylwadau negyddol am amseroedd aros a chyfarpar diogelu personol, ond sylwadau cadarnhaol am staff. Rydym hefyd yn gwybod bod gan staff yn yr ysbyty bryderon, a chanfu'r adroddiad eu bod yn cwyno am y diffyg gofod a mannau asesu, a oedd yn effeithio ar ddiogelwch cleifion. Hefyd, roedd yno lefel annigonol o staff a diffyg hyfforddiant priodol. Er nad yw'r sylwadau hyn byth yn dda i'w clywed, rwy'n falch fod gennym Arolygiaeth Iechyd Cymru yno i ddatgelu'r problemau a'r pryderon, oherwydd, heb eu canfyddiadau, a fyddem yn gweld y gwelliant y mae cymaint o'i angen arnom? Rwy'n amau hynny.

Mae'n amlwg fod blaenoriaethu'r pethau anghywir gan Lafur wedi gadael ein gwasanaeth iechyd yn agored i niwed a heb fod yn ddigon cadarn. Croesewir mwy o arian i iechyd yn y gyllideb eleni, ond gadewch inni fod yn glir: ni fydd hyn yn dadwneud canlyniadau tanariannu hanesyddol dros nos. Ddirprwy Lywydd, mae'r cynnig yn nodi cyfres o faterion hynod o bwysig y mae'n rhaid inni gytuno arnynt os ydym am achub ein GIG a'i dynnu oddi ar ei drywydd presennol. Diolch.

16:25

Lywydd, rwyf am ddechrau drwy groesawu adroddiad blynyddol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a diolch i bawb yn y sefydliad am y gwaith arolygu a sicrwydd y maent yn ei wneud bob blwyddyn. Wrth gwrs, fe fydd hi'n siom i AGIC fod y gyllideb yn cael ei lleihau, ond penderfyniad gwleidyddol oedd canolbwyntio cyllid ar wasanaethau rheng flaen. Rwy'n cydnabod yn llwyr y rôl bwysig y mae AGIC yn ei chwarae yn sicrhau diogelwch ac ansawdd i gleifion. Hoffwn awgrymu bod yr Aelodau'n darllen yr adroddiad, oherwydd mae'n nodi'n glir iawn yn yr adroddiad, ac fe wnaf ei ddarllen:

'Gwnaethom ymweld â phob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth lle y caiff gofal cleifion mewnol ei ddarparu.'

Felly, maent yn cyrraedd yr holl fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau. Nodir hynny'n glir, a dylech ddarllen yr adroddiad cyn taflu cerrig. Diolch.

Nid yw'n dweud eu bod wedi ymweld â phob cyfleuster. Rydych chi newydd ddweud ei fod yn ymgysylltu â phob bwrdd iechyd. Nid yw hynny'n golygu ei fod yn ymweld â phob adeilad.

Mae'n dweud:

'Gwnaethon ymweld â phob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth'—

Ymweld â phob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth—nid adeiladau.

—'lle y caiff gofal cleifion mewnol ei ddarparu.'

Rwy'n meddwl bod hynny—[Torri ar draws.] Rwy'n credu bod hynny'n ddigon clir, ac rwy'n credu y dylai pobl dderbyn yr hyn y maent wedi'i ysgrifennu yn eu hadroddiad. Nawr, mae'r adroddiad a'i ganfyddiadau yn dangos y pwysau a'r heriau y mae ein GIG yn eu hwynebu, a hoffwn atgoffa'r Aelodau fod y GIG yn cyflawni 2 filiwn o gysylltiadau â'r cyhoedd yng Nghymru bob mis, mewn poblogaeth o 3 miliwn, ac mae mwyafrif helaeth o'r cyhoedd yn cael gwasanaeth da iawn.

Nawr, mae'r pwysau a'r heriau hyn yn bresennol ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig drwy gydol y flwyddyn. Fel y gwyddom i gyd, mae'r GIG wedi newid yn aruthrol ers iddo gael ei sefydlu 75 mlynedd yn ôl. Mae'n esblygu'n barhaus i ateb y galw am ei wasanaethau a natur newidiol gofal iechyd ei hun. Nawr, heddiw, rydym yn byw bywydau hirach ond rydym yn tueddu i fod ag anghenion gofal iechyd mwy cymhleth. Felly, mae'n rhaid inni dderbyn, rwy'n credu, fod oes y gwasanaeth iechyd tadol ar ben. Mae'n rhaid i'r GIG heddiw fod yn bartneriaeth rhwng y gwasanaeth, y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol a'r unigolyn, gyda phob un yn gweithio gyda'i gilydd i wella canlyniadau.

Hefyd, rydym wedi gweld mwy o gydweithio rhwng byrddau iechyd, awdurdodau lleol a'r sector annibynnol i wella ac ymestyn y ddarpariaeth bresennol o wasanaethau i sicrhau bod ein GIG yn addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Dyna pam mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a'r adroddiadau y mae'n eu cynhyrchu mor bwysig. Maent yn ein helpu i ddeall lle dylem roi ein ffocws a lle mae angen inni weithio gydag AGIC a'r GIG i wella a rhannu arferion gorau wrth ddarparu gofal iechyd.

16:30

Na, os nad oes ots gennych, hoffwn wneud rhywfaint o gynnydd. Rwy'n hapus ichi ymyrryd yn nes ymlaen. Gallwch gadw eich holl ymyriadau a'u gwneud gyda'i gilydd yn nes ymlaen.

Nawr, credaf fod dull gweithredu â ffocws o’r fath, sy'n seiliedig ar dystiolaeth gan AGIC a ffynonellau eraill, yn fwy hanfodol nag erioed, oherwydd y rhagolygon economaidd ac ariannol hynod heriol presennol. Fel y gwyddoch, o ganlyniad i bwysau chwyddiant, bydd cyllideb Cymru yn 2024-25 yn werth £1.3 biliwn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod yn 2021. Ac fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi cyfarwyddo arian, yn Llywodraeth Cymru, o bob rhan arall o’r Llywodraeth i gefnogi'r GIG. Mae pob rhan o'r GIG ledled y DU mewn trafferthion ariannol.

Roeddwn yn siomedig, fodd bynnag, nad oedd cydnabyddiaeth yn adroddiad AGIC o’r ymdrechion sylweddol a wnaed i leddfu'r pwysau. Felly, y gwasanaeth 111, 70,000 o gleifion y mis wedi'u hailgyfeirio; y gwasanaeth '111 pwyso 2', 6,000 o bobl yn defnyddio'r ganolfan alwadau honno; 13 o ganolfannau gofal sylfaenol brys newydd, sy'n sicrhau bod 20,000 o gleifion y mis yn cael eu hailgyfeirio o'r canolfannau gofal brys; a 23 o ganolfannau gofal argyfwng yr un diwrnod, sy'n sicrhau nad oes 5,000 o bobl y mis yn mynd drwy ddrysau adrannau achosion brys. Felly, byddai'r cyfan hyn, pe na bai ar waith gennym, wedi golygu pwysau ychwanegol.

Lywydd, mae’r gwaith y mae AGIC yn ei wneud, yn y pen draw, yn helpu i ategu’r gwaith o gynllunio gwasanaethau’r dyfodol yn y GIG. Credaf ei bod yn werth cywiro ychydig o bwyntiau, mae'n debyg, er enghraifft, y ffaith nad yw’n ofynnol i fyfyrwyr gofal iechyd sy’n cael bwrsari GIG Cymru dalu ffioedd dysgu, ac mae ganddynt hawl i fwrsari ar gyfer costau byw os ydynt yn astudio yng Nghymru. Ac mae'n rhaid iddynt ymrwymo, o ganlyniad i hynny, i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio.

Cyhoeddais fframwaith cynllunio’r GIG ar 18 Rhagfyr, ac mae hwn yn nodi’r blaenoriaethau, gan ganolbwyntio ar helpu sefydliadau’r GIG wrth iddynt baratoi eu cynlluniau tair blynedd. Mae’r fframwaith cynllunio wedi’i ategu gan y rhaglenni cenedlaethol, sydd, yn eu tro, wedi’u datblygu mewn ymateb i lawer o’r materion a nodwyd yn adroddiad blynyddol AGIC, gan gynnwys hygyrchedd, gweithlu, llif cleifion a rhyddhau cleifion.

Nawr, hoffwn ystyried hygyrchedd fel enghraifft. Mae adborth cleifion wedi dangos gwerthfawrogiad o fodel cyfunol o fynediad at feddygon teulu, boed hynny drwy ymgynghoriadau dros y ffôn, meddalwedd digidol, neu apwyntiadau wyneb yn wyneb. Ac er bod apwyntiad yn ymwneud â barn glinigol meddyg teulu yn y pen draw, mae'n bwysig ein bod yn gwrando ar gleifion a'u cais am fodd o ddewis dull o ymgynghori â'u meddyg teulu. Mae angen inni gydnabod hefyd y gall galw sylweddol parhaus am wasanaethau meddygon teulu ei gwneud yn anodd cael apwyntiad. Gwyddom fod 1.5 miliwn o bobl yn defnyddio gwasanaethau gofal sylfaenol yn gyson ledled Cymru bob mis, ond credaf fod y sŵn ynghylch mynediad at wasanaethau meddygon teulu a'r dagfa am 8.00 a.m. wedi lleihau’n sylweddol ers cyflwyno’r contract meddygon teulu newydd fis Ebrill diwethaf. A chredaf ei bod yn ddiddorol iawn nodi bod y pryderon a godwyd gydag AGIC wedi'u codi hyd at fis Mawrth 2023, cyn i'r contract hwnnw ddod yn weithredol wrth gwrs. Mae data o’r flwyddyn ddiwethaf hefyd yn dangos, ar gyfartaledd, nad yw oddeutu 80,000 o bobl yn mynychu eu hapwyntiadau bob mis, felly rydym wedi bod yn gweithio i annog pobl i helpu i wella hygyrchedd meddygon teulu drwy fynychu pob apwyntiad neu ganslo apwyntiadau os na allant eu mynychu.

Maes allweddol arall sydd wedi cael sylw gan HIW yw gwella llif cleifion mewn ysbytai, ac rŷn ni wedi datblygu menter genedlaethol gyda chymorth £25 miliwn o gyllid yn ychwanegol. Mae pwyslais penodol ar ddechrau cynllunio i ryddhau cleifion o'r adeg pan fyddan nhw'n cael eu derbyn i'r ysbyty a gweithredu ar sail gartref yn gyntaf nawr yn rhan o'r strategaeth ymhob bwrdd iechyd. Mae'r gwaith yn cael ei gefnogi gan y data newydd sydd bellach yn cael ei gasglu ar gyfer hyd arhosiad ac oedi mewn llwybrau gofal. Y byrddau iechyd a'r byrddau partneriaeth rhanbarthol sy'n gyfrifol am y cynlluniau gweithredu.

Trydedd esiampl yw gwneud yn siŵr bod gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch. Mae mwy na 38,000 o bobl wedi defnyddio'r llinell '111 pwyso 2' newydd ar gyfer gwasanaeth cymorth iechyd meddwl brys, ac rŷn ni hefyd wedi ymestyn gwasanaethau cymorth hwylus fel therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein, llinell gymorth anhwylderau bwyta Beat, a gwasanaethau gwrando a chyngor CALL 24/7. Byddwn ni'n cyhoeddi ein strategaeth iechyd meddwl newydd cyn bo hir, a dwi'n gwybod bod Lynne Neagle, sy'n gwrando ar hyn o bryd, yn brysur yn gweithio ar hynny ar hyn o bryd.

Nawr, dwi eisiau cloi drwy sôn am gylch gwaith HIW. Byddai ehangu'r cylch gwaith i gynnwys ymchwilio i gwynion ddim yn ddefnydd da o adnoddau ar adeg pan fo'n rhaid i ni wneud y mwyaf o'r cyllid a'r capasiti sydd gennym ni. Mae proses gadarn ar gael eisoes i ddelio—[Torri ar draws.]

16:35

Mae ei hamser wedi hen ddod i ben, felly roeddwn yn mynd i atgoffa'r Gweinidog y dylai ddirwyn i ben.

Sori. Mae proses gadarn ar gael eisoes i ddelio â chwynion NHS Cymru—proses sydd wedi'i nodi mewn rheoliadau. Mae adroddiad blynyddol HIW yn chwarae rhan allweddol o ran nodi lle mae angen gwella. Byddaf i'n parhau i weithio gyda fy swyddogion a'r NHS i wneud yn siŵr ein bod ni'n dysgu o'r materion sy'n cael sylw yn yr adroddiad blynyddol, a'n bod ni'n dal ati i weithio gyda'n gilydd i adeiladu NHS addas ar gyfer y dyfodol, sy'n cael ei drysori gan bobl Cymru.

A gaf fi ddiolch i’r Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn ein dadl y prynhawn yma? Amlygodd adroddiad blynyddol AGIC rai meysydd pwysig sy'n destun pryder a oedd yn rhan o destun ein dadl heddiw a’n cynnig. Yn fwyaf arwyddocaol, yn fy marn i, roedd yr adroddiad yn nodi bod AGIC 'heb ddod o hyd i dystiolaeth' fod mentrau Llywodraeth Cymru

'yn gwneud gwahaniaeth clir a sylweddol i wasanaethau ar y rheng flaen'.

Wel, mae hwnnw’n ddatganiad sylweddol i’w wneud. Cododd Andrew R.T. Davies hyn gyda’r Prif Weinidog yn ystod y cwestiynau ddoe, ac roedd ymateb y Prif Weinidog i hynny, yn fy marn i, yn ddiystyriol. Awgrymodd y Prif Weinidog fod Andrew wedi tynnu hyn o’i gyd-destun rywsut. Wel, ni chafodd ei dynnu o'i gyd-destun; roedd yno, dyfyniad uniongyrchol yn yr adroddiad, a hefyd ar gychwyn yr adroddiad: roedd yn rhagair y cadeirydd, felly yn rhan arwyddocaol ac allweddol o ganfyddiadau AGIC.

Ymhellach, roeddwn yn teimlo hefyd fod ensyniad, efallai, gan y Prif Weinidog a Carolyn Thomas heddiw fod corff sydd yno i archwilio a monitro gwasanaethau iechyd yn gorff llai pwysig rywsut. Nid yw hynny’n wir o gwbl gan fod AGIC yn gorff a chanddo rôl sylweddol i’w chwarae yn sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd yn ddiogel a bod cleifion yn cael gofal da. A beth a allai fod yn bwysicach?

Hefyd, mae’r toriad mewn cyllid i’r corff sydd â rôl hanfodol i’w chwarae i gadw cleifion yn ddiogel yn peri pryder sylweddol i ni. Nid ydym, fel Ceidwadwyr Cymreig, yn nodi yn ein cynnig heb unrhyw reswm o gwbl ein bod yn anhapus fod corff wedi cael toriad yn ei gyllid; rydym yn gwneud hynny, ac rydym wedi dadlau hyn heddiw gyda rheswm da, oherwydd ein bod hefyd yn ymwybodol nad yw 60 y cant o wasanaethau gofal iechyd wedi cael eu harolygu yn y pum mlynedd diwethaf, sy'n syfrdanol. Mae 60 y cant o wasanaethau, gwasanaethau gofal iechyd, heb gael eu harolygu yn y pum mlynedd diwethaf. Yn ei chyfraniad, archwiliodd Janet Finch-Saunders y manylion a nodi beth yn union sydd y tu ôl i'r pennawd hwnnw.

Roedd ein cynnig heddiw hefyd yn gofyn am ehangu AGIC a chynyddu eu cylch gorchwyl i gynnwys ymchwilio i gwynion hefyd. Wel, pam hynny? Y sefyllfa ar hyn o bryd, pan fydd gan rywun bryder neu gŵyn yn erbyn corff, yw bod yn rhaid iddynt fynd at y corff yn gyntaf, at y corff y maent yn gwneud cwyn yn ei erbyn, i ymchwilio, a dim ond wedyn—dim ond wedyn—y gallant fynd at yr ombwdsmon—[Torri ar draws.]

A ydych chi'n cytuno, ar y pwynt hwnnw—a gwn fod y Gweinidog wedi gwneud rhai sylwadau yno—fod llawer o fy etholwyr yn teimlo, pan fyddant yn gwneud cwynion i fyrddau iechyd yn uniongyrchol, ei fod yn teimlo fel pe bai'r bwrdd iechyd yn marcio eu gwaith cartref eu hunain weithiau, ac nad ydynt yn ymchwilio'n llawn i'r cwynion sy'n cael eu cyflwyno i'r byrddau iechyd?

16:40

Oes. Fe gewch wneud ymyriadau, Weinidog, os dymunwch, a dewis yr Aelod yw eu derbyn ai peidio.

Felly, yn yr adroddiad, yn adroddiad AGIC, mae'n amlwg iawn, mewn gwirionedd, fod llawer o'r gwaith yn seiliedig ar risg, ac mae rhywfaint ohono'n seiliedig ar yr hyn a glywant gan y cyhoedd. Ceir cyfleuster chwythu'r chwiban, lle gall pobl fynd yn uniongyrchol at AGIC, ac mae hynny'n pennu a ydynt yn archwilio. Ac os cânt lawer o gwynion am un lle, maent yn fwy tebygol o fynd i arolygu. Felly, awgrymaf eich bod yn darllen adroddiad AGIC cyn dod ag ef i—[Torri ar draws.] Wel, sicrhewch eich bod yn gwneud hynny, gan y byddech yn gwybod am y cyfleoedd i chwythu'r chwiban pe baech wedi'i ddarllen.

Diolch am y ddau ymyriad, a rhoddaf sylw i ymyriad y Gweinidog yn y man, ond rwy'n cytuno â sylwadau James Evans. Mae'n anodd iawn, onid yw, pan fydd gennych glaf â phryder sy'n codi mater gyda'r union gorff y maent yn bryderus yn ei gylch. Ond dyna rwy’n ei awgrymu: rwy'n awgrymu nad oes gan yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus allu i fod o ddifrif ynghylch pryderon cleifion ac i archwilio’n ddigonol. Dyna pam rwy'n awgrymu bod AGIC yn ehangu eu cylch gwaith yn hynny o beth, a dof at sylwadau’r Gweinidog mewn eiliad. Ond i mi, mae gan AGIC yr arbenigedd, fel y mae ganddynt arbenigedd i archwilio cwynion unigol, buaswn yn awgrymu; mae ganddynt allu i wneud hynny, os cânt ei wneud yn rhan o'u cylch gwaith a’r cyllid i wneud hynny hefyd.

A dyma lle rwyf am drafod sylwadau Altaf Hussain, a chynnwys ymyriad y Gweinidog hefyd. Soniodd Altaf Hussain, wrth gwrs, am achos teulu Channon, a gododd bryderon gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ar ôl i’w mab gael ei eni â niwed i’r ymennydd yn dilyn cymhlethdodau yn ystod ei enedigaeth. Dywedodd swyddogion Llywodraeth Cymru wrth ei deulu fod adolygiad wedi’i gynnal ac na nodwyd unrhyw bryderon, ac yna daeth yn amlwg na chynhaliwyd unrhyw adolygiad o gwbl mewn gwirionedd. Wel, mae achos teulu Channon yn enghraifft berffaith o ganlyniadau’r hyn sy’n digwydd pan fydd sefydliadau’r GIG yn camddefnyddio’r ymddiriedaeth a roddwyd ynddynt i archwilio, mynd i’r afael a datrys cwynion a phryderon cleifion ynghylch rhai o’r gwasanaethau y maent yn eu darparu. A chredaf fod adroddiad AGIC yn cyfiawnhau’r hyn roedd teulu Channon yn ei ddweud. Ac os yw chwythu'r chwiban yn gweithio cystal, pam na weithiodd yn achos teulu Channon? Felly, dyma'r hyn y buaswn yn ei awgrymu heddiw, yn fy sylwadau mewn ymateb i sylwadau'r Gweinidog am chwythu'r chwiban: ni chredaf fod gennym bolisi chwythu'r chwiban digonol, na chyfleuster chwythu'r chwiban sy'n gweithio'n ddigonol i fynd i'r afael â'r anghenion y cyfeiriwn atynt heddiw.

Hoffem ddweud hefyd, awgrymu—. Cafwyd cryn dipyn o sylwadau hefyd gan Aelodau eraill—Carolyn Thomas a Mabon ap Gwynfor—am gyllid, ac nid wyf am dreulio gormod o amser ar hynny, ond mae ein cynnig hefyd yn mynd i’r afael â hynny heddiw. Byddem ni, fel Ceidwadwyr Cymreig yn gwario’r dyraniad llawn gan y Llywodraeth ganolog a glustnodwyd ar gyfer iechyd ar iechyd, ac mae hwnnw’n benderfyniad gwleidyddol a wnaed yma, i ddargyfeirio’r cyllid tuag at feysydd eraill. Ac nid wyf—. Rwy'n edrych ar beth arall roeddwn am ei ddweud.

A’r sylw arall yr hoffwn ei wneud i gloi, Ddirprwy Lywydd, yw ei bod yn ymddangos bod elfen o’r hyn roedd y Gweinidog yn ei ddweud heddiw, ac mae’n cyffwrdd â’r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog a Carolyn Thomas ddoe, sef ei bod yn ymddangos fel pe bai AGIC, rywsut, ar wahân a'r tu allan i'r gwasanaeth iechyd. Ond carwn awgrymu—

Mae'n annibynnol—nid dyna'r pwynt roeddwn—[Torri ar draws.] Mae'r Gweinidog yn dweud, o'i sedd, ei fod yn annibynnol, ond y pwynt roeddwn am ei wneud, Weinidog, yw na ddylech weld y gwahaniad, gydag AGIC fan hyn a'r gwasanaeth iechyd fan draw; mae AGIC yn rhan o’r gwasanaeth iechyd, yn rhan annatod, yn rhan bwysig o’r gwasanaeth iechyd.

Credaf mai un o’r pryderon ynghylch diffyg annibyniaeth AGIC yw y gall arolygiaethau mewn mannau eraill yn y DU, wrth gwrs, wneud sefydliadau yn destun mesurau arbennig heb ofyn am ganiatâd Gweinidogion, sy’n rhoi cyfle i ymyrryd yn wleidyddol. Nid yw hynny'n wir yma yng Nghymru. Rydym wedi gweld oedi mewn sefydliadau fel bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wrth gyflwyno a diddymu mesurau arbennig, fel yr hoci coci, ar fympwy Gweinidogion mewn ffordd amhriodol. Dyna'r math o ymyrryd gwleidyddol y cawsom lond bol arno yng ngogledd Cymru a dweud y gwir. Rydym am weld yr arolygiaeth annibynnol yn cael cyfle i fynd i'r afael â hynny.

16:45

Diolch, Darren. Mae ein cynnig ar y papur trefn heddiw. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau’n cefnogi’r cynnig ar y papur trefn, gan mai'r hyn rydym am ei weld yw adnoddau digonol yn cael eu darparu ar gyfer AGIC nid yn unig i sicrhau eu bod yn gallu archwilio a monitro gwasanaethau iechyd yn effeithiol ac yn ddigonol ledled Cymru, ond hefyd, i ehangu eu cylch gorchwyl i roi ystyriaeth ddifrifol i bryderon a chwynion cleifion, oherwydd yn y pen draw, mae angen inni sicrhau, os oes problemau—ac fe fydd problemau'n codi yn y gwasanaeth iechyd—pan ddown o hyd i’r problemau hynny, y rhoddir sylw iddynt, a'n bod yn dysgu gwersi o'r problemau hynny yn ogystal. Diolch yn fawr iawn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl Plaid Cymru: Prentisiaethau

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Eitem 7 heddiw yw dadl Plaid Cymru ar brentisiaethau. Galwaf ar Luke Fletcher i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8451 Luke Fletcher

Cynnig bod y Senedd hon:

1. Yn nodi:

a) bod tua 80 y cant o gwmnïau bach yng Nghymru wedi cael trafferth recriwtio yn ystod y 12 mis diwethaf oherwydd prinder sgiliau;

b) y bwlch sgiliau ar draws sectorau economaidd yng Nghymru a amlinellwyd mewn Arolygon Sgiliau Cyflogwyr yn ddiweddar; ac

c) targed Llywodraeth Cymru i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed erbyn diwedd tymor presennol y Senedd.

2. Yn gresynu:

a) mai llai na thraean o darged Llywodraeth Cymru sydd wedi'i gyflawni, dros hanner ffordd drwy dymor presennol y Senedd;

b) y bydd gostyngiad amcangyfrifedig o 24.5 y cant mewn cyllid ar gyfer rhaglen brentisiaethau Llywodraeth Cymru, a fydd yn arwain at 10,000 yn llai o brentisiaethau yn dechrau yn 2024-25; ac

c) bod Llywodraeth Cymru, o ganlyniad i ostyngiadau cyllid, yn methu yn ei chenhadaeth economaidd i gefnogi pobl ifanc i sicrhau dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sefydlu model ariannu hirdymor cynaliadwy ar gyfer prentisiaethau;

b) diystyru cyflwyno ffioedd dysgu ar gyfer gradd-brentisiaethau yng Nghymru; ac

c) comisiynu gwerthusiad annibynnol o ddichonoldeb cyrraedd ei tharged ar gyfer prentisiaethau pob oed erbyn 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rydym yn cyflwyno’r ddadl hon nid yn unig oherwydd ein pryderon ein hunain, ond hefyd y pryderon a rannwyd gyda ni gan y sector addysg bellach, myfyrwyr yn ogystal â’r sector busnes ehangach, pryderon y gall Aelodau eu gweld o’r llythyr agored a lofnodwyd gan 60 o gyflogwyr. Yn amlwg, nid mater addysg yn unig yw prentisiaethau; maent yn fater economaidd hefyd.

Mae prentisiaethau’n cael sylw cyson gan bob un ohonom yn y Siambr fel blaenoriaeth. Ni waeth pwy yw'r siaradwr—Plaid Cymru, y Torïaid, Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol—gall pob un ohonom gytuno ar yr angen i adeiladu ar yr hyn sydd gennym yn barod. Dyna pam y credaf fod y toriadau hyn yn arbennig o ysgytwol, yn fwy felly gan fod Gweinidog yr economi ei hun wedi nodi hyn fel blaenoriaeth yn ei strategaeth ar gyfer yr economi—blaenoriaeth 2, platfform i bobl ifanc, gwaith teg, sgiliau a llwyddiant. Roeddem yn gwybod bod y strategaeth yn brin o fanylion, ond ni chredaf fod unrhyw un yn disgwyl, wythnos yn unig yn ddiweddarach, y toriad mwyaf i brentisiaethau ers dechrau datganoli, gan danseilio strategaeth Gweinidog yr economi ei hun yn llwyr.

Digwyddodd hyn hefyd ar ôl i’r Llywodraeth friffio’r sector addysg bellach i ddisgwyl toriad o 3 y cant, 10,000 yn llai o brentisiaethau newydd, gostyngiad o 50 y cant mewn prentisiaethau newydd. Dyna, o bosibl, sy’n ein hwynebu. Nododd grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro effaith y toriadau arfaethedig yn glir iawn i ni, gan amcangyfrif y gallai cyfanswm colled economaidd y toriadau arfaethedig, yn y senario waethaf, fod yn golled oes bosibl o hyd at £406.8 miliwn. Yn ei amcangyfrif mwy ceidwadol, gallai fod yn gost oes bosibl o £296.5 miliwn.

Gadewch inni ddadansoddi hynny. Mae disgwyl i’r diwydiant adeiladu, sector sero net ac ailsgilio allweddol, sy’n hollbwysig wrth inni symud tuag at ddiwydiannau gwyrdd, wynebu un o’r toriadau gwaethaf ar ôl y sector iechyd. Mae bron i 10 y cant o brentisiaethau sy’n cychwyn ym maes peirianneg, ac mae 12 y cant arall ym maes adeiladu. Yn gyffredinol, bydd 24.6 y cant o golled o werth ychwanegol gros yn y sector hwn. Mae hynny'n golled oes bosibl o £99.9 miliwn yn y senario waethaf, neu £73.1 miliwn o dan amcangyfrif mwy ceidwadol.

Y sector gweithgarwch gwyddonol a thechnegol proffesiynol, sector hollbwysig arall ar gyfer sero net, sydd â’r golled fwyaf ar ôl y ddau faes hynny, cost oes bosibl o £69.6 miliwn yn y senario waethaf, a chost oes o £50.7 miliwn o dan amcangyfrif ceidwadol. Mae hyn yn 17.1 y cant o'r holl golledion. Ni waeth sut yr edrychwch chi ar hyn, gallai'r toriad arfaethedig presennol gael effaith ddinistriol.

Wrth gwrs, ni ellid cynnig y toriadau hyn ar adeg waeth, adeg pan wyddom fod 80 y cant o gwmnïau bach yng Nghymru yn dweud bod prinder sgiliau yn rhwystr i recriwtio. Dylai hynny fod yn arwydd i’r Llywodraeth mai dim ond cynyddu y bydd y galw am brentisiaid newydd. Ni fu unrhyw ostyngiad yn y galw am brentisiaethau newydd, ac mae data Llywodraeth Cymru yn dangos cynnydd mewn gwirionedd yn nifer y prentisiaethau newydd a gychwynnodd yn hanner cyntaf 2022-23 o gymharu â’r un cyfnod flwyddyn yn gynt. Mae ColegauCymru yn disgwyl cynnydd yn y galw gan gyflogwyr yn 2023-24, sy'n adlewyrchu’n dda ar y rhagolygon ar gyfer economi Cymru pe bai modd darparu ar ei gyfer.

Rwyf am achub y blaen ar y Gweinidog a'r Aelodau Llafur: beth fyddai’n cael ei dorri? Ble mae'r gyllideb amgen? Fe wyddom, wrth gwrs, am effaith colli cronfeydd strwythurol yr UE. Buom yn trafod hynny brynhawn ddoe. Mae’r sector yn ei gydnabod. Mae angen asesu'r ardoll brentisiaethau. Gwyddom fod Cymru ar ei cholled o’i herwydd ar hyn o bryd. Byddem wrth ein boddau'n gweld manylion llawn y llyfrau, fesul llinell, ond ni allwn wneud hynny. Ni roddwyd y lefel honno o fanylder i ni, er inni ofyn amdani. Fel gwrthblaid, nid gwneud gwaith y Llywodraeth ar eu rhan yw ein rôl ni, yn enwedig heb adnoddau’r Llywodraeth a mynediad at wybodaeth. Yn bendant, er hynny, ein rôl yw dod yma a thynnu sylw at benderfyniadau y mae’r Llywodraeth yn eu gwneud, a’r effeithiau, er mwyn annog y Llywodraeth i fynd yn ôl a dod o hyd i ffordd arall. Dyna yw craffu.

Rydym yn deall yr anawsterau a’r pwysau ar gyllideb Llywodraeth Cymru wrth gwrs, ond mae angen inni gadw ein pobl ifanc, creu cyfleoedd gyrfa ac ailsgilio, gan ddarparu’r sgiliau a’r gyrfaoedd hyn i genedlaethau’r dyfodol, yn enwedig gyda phoblogaeth sy’n heneiddio yma yng Nghymru, yn enwedig gyda her pobl ifanc yn mudo, yn enwedig gyda'r bwlch sgiliau. Mae angen i’r Llywodraeth feddwl eto.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n gwneud y cynnig hwn i'r Senedd, ac edrychaf ymlaen at holl gyfraniadau'r Aelodau.

16:50

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf ar Weinidog yr Economi i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. 

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod busnesau bach ledled Cymru yn cael mynediad at ystod o gymorth cyflogaeth, sgiliau a busnes a ariennir gan Lywodraeth Cymru i gwrdd â heriau recriwtio mewn marchnad lafur gyfnewidiol ac yn amgylchedd twf isel y DU;

b) y bwlch sgiliau sy'n bodoli mewn sectorau economaidd yng Nghymru a amlinellwyd mewn Arolygon Sgiliau Cyflogwyr diweddar; ac yn croesawu pwyslais Llywodraeth Cymru ar gymorth wedi'i dargedu yn y meysydd hynny, gan gynnwys cyllid ar gyfer cyfrifon dysgu personol; 

c) targed Llywodraeth Cymru i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed erbyn diwedd tymor presennol y Senedd, a'r effaith y mae'r toriadau i gyllideb Cymru, colli arian yn lle'r cronfeydd Ewropeaidd a'r chwyddiant uchaf erioed yn ei chael ar gyllidebau busnes a chyhoeddus sy'n ofynnol i gyflawni yn erbyn amcangyfrifon a osodwyd cyn y sawl ysgytwad economaidd sydd wedi dod i'r amlwg ers 2021; a

d) bod toriadau i gyllideb Cymru, colli arian a addawyd yn lle cronfeydd yr UE a chwyddiant uchel tu hwnt wedi tanseilio cenhadaeth economaidd Llywodraeth Cymru, a goblygiadau hyn i bobl ifanc a'u gallu i gyflawni dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru.

2. Yn croesawu:

a) bod Llywodraeth Cymru, erbyn hanner ffordd drwy dymor presennol y Senedd, wedi ymrwymo dros £400m mewn prentisiaethau; a

b) yr ymrwymiad i ddiogelu ansawdd darpariaeth prentisiaethau ar adeg o ostyngiad mewn cyllidebau, ac yn cydnabod y risgiau hirdymor sy'n gysylltiedig â lleihau ystyriaethau ansawdd er mwyn cynyddu nifer y prentisiaethau a gyflwynir.

3. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn:

a) parhau i flaenoriaethu cyllid ar gyfer prentisiaethau yn erbyn cefndir o bwysau ariannol difrifol;

b) cefnogi prentisiaethau gradd yng Nghymru; ac

c) gweithio gyda'r rhwydwaith prentisiaethau i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Galwaf ar Paul Davies i gynnig gwelliannau 2 a 3 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. 

Gwelliant 2—Darren Millar

Ym mhwynt 3, cynnwys is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt (a) ac ailrifo yn unol â hynny:

ehangu prentisiaethau, yn enwedig i lefel gradd, i fynd i'r afael â phrinder sgiliau mewn sectorau craidd gan gynnwys gofal iechyd, ynni adnewyddadwy a thechnoleg ddigidol;

Gwelliant 3—Darren Millar

Ym mhwynt 3, cynnwys is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt (a), ac ailrifo yn unol â hynny:

caniatáu ar gyfer pwyntiau mynediad hyblyg ar gyfer prentisiaethau gradd, gan gydnabod cyrhaeddiad addysgol blaenorol unigolyn;

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar.

Mae’r Aelod dros Orllewin De Cymru wedi rhoi trosolwg da o’r sefyllfa bresennol sy’n wynebu darparwyr prentisiaethau a’r effaith y bydd y toriadau arfaethedig yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn ei chael ar y sector, ac rwy'n adleisio llawer o’r pwyntiau a wnaeth. Fel y gŵyr pob un ohonom, mae prentisiaethau’n rhan hanfodol o’r agenda addysg a sgiliau. Maent yn helpu i adeiladu gweithlu medrus a gwella cyflogadwyedd dysgwyr. Ac maent yn gyfrwng ar gyfer newid cymdeithasol, hefyd—maent yn cynnig cyfle i bobl uwchsgilio, ailsgilio a datblygu sgiliau seiliedig ar waith wrth iddynt ddysgu. Ac felly, roedd Llywodraeth Cymru yn iawn i sefydlu ymrwymiad i brentisiaethau drwy osod targed i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed erbyn diwedd tymor y Senedd hon.

Dros y blynyddoedd, cafwyd llawer o sôn am yr angen am barch cydradd rhwng addysg academaidd a galwedigaethol, felly roedd nodi blaenoriaeth i ddarparu prentisiaethau yn ddatganiad cryf o gefnogaeth iddynt, a’r rôl werthfawr sydd ganddynt yn cefnogi Cymru. Ac o fy nhrafodaethau â darparwyr, busnesau a dysgwyr yn fy etholaeth fy hun, rwy'n gwybod pa mor drawsnewidiol y gall prentisiaeth fod. Mae busnesau’n tynnu sylw’n rheolaidd at yr effaith gadarnhaol y mae prentisiaethau’n ei chael ar eu gweithlu, ac mae’r effaith ar ddysgwyr yn drawsnewidiol. Er enghraifft, mae Sara Rees, sy’n brentis ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi cael cyfle i arsylwi ar lawdriniaeth a mynychu’r theatr, a dilyn cynnydd y claf yn uniongyrchol, sydd wedi rhoi mewnwelediad a phrofiad gwerthfawr iddi yn y maes. Mae’n credu bod prentisiaethau yn gyfle gwych, boed eich bod yn dod yn syth o’r ysgol, yn rhiant, neu’n newid eich llwybr gyrfa, gan eu bod yn rhoi sicrwydd, profiad a chymorth i chi allu cyrraedd eich nod terfynol. Ac mae'n llygad ei lle. Mae'n rhaid inni beidio â cholli golwg ar y ffaith bod prentisiaethau’n cael effaith enfawr ar fywydau pobl fel Sara ledled Cymru.

Ym mis Tachwedd, amlinellodd Llywodraeth Cymru ei chenhadaeth economaidd newydd, ac un o bedwar pwynt bwled y genhadaeth honno oedd pwyslais ar gynorthwyo sectorau allweddol i dyfu a blaenoriaethu pobl ifanc. Ac eto, ar yr un pryd, mae toriadau sylweddol yn cael eu hargymell i'r rhaglen brentisiaethau flaenllaw, a gwyddom y bydd hynny'n cyfyngu ar gyfleoedd i filoedd o bobl ifanc. Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru wedi dweud yn glir y bydd y toriadau i’r rhaglen brentisiaethau yn cael effaith enfawr ar warant Llywodraeth Cymru i bobl ifanc, a sectorau economaidd blaenoriaethol Llywodraeth Cymru. Yn wir, maent yn cadarnhau y bydd nifer y prentisiaethau yng Nghymru yn gostwng o 20,000 i 10,000 yn 2024-25, sy’n ostyngiad enfawr o 50 y cant. Ac fel y clywsom eisoes, fe wnaethant ymuno â Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, CBI Cymru, y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, Make UK a ColegauCymru i ysgrifennu llythyr agored at y Prif Weinidog yn pwysleisio sut y bydd y toriadau i'r rhaglen brentisiaethau yn tanseilio'r genhadaeth economaidd newydd ac yn torri llif talent i gyflogwyr. Rwy'n ymuno â’r sefydliadau hyn, yn ogystal â darparwyr, busnesau a dysgwyr ledled Cymru, i alw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y toriad arfaethedig cyn ei bod yn rhy hwyr.

Mae’r cynnig hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu model ariannu cynaliadwy hirdymor ar gyfer prentisiaethau, y credaf y dylai ddod yn sgil adolygiad o’r dirwedd ariannu ar gyfer prentisiaethau, a sgwrs genedlaethol onest ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu prentisiaethau yn y dyfodol. Mae angen cymorth ar y sector, ac mae angen i ddarparwyr allu cynllunio a mapio eu darpariaeth yn fwy hirdymor, ac felly rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i adolygiad annibynnol, fel y gelwir amdano yn y cynnig.

Yn olaf, hoffwn sôn yn gryno am radd-brentisiaethau. Mae gwelliant fy mhlaid yn ceisio ychwanegu at gynnig Plaid Cymru drwy ychwanegu pwynt i ehangu prentisiaethau mewn sectorau craidd a hefyd i sicrhau bod mwy o hyblygrwydd o ran mynediad at radd-brentisiaethau fel y gellir cydnabod addysg flaenorol myfyriwr. Credaf fod angen i’r system fod yn llawer mwy agored i gydnabod gwerth dysgu blaenorol, ac o ganlyniad, dylai fod mwy o hyblygrwydd o ran mynediad at radd-brentisiaethau. Dylem fod yn agor drysau ac yn ehangu mynediad lle bo modd.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, unwaith eto rwy'n adleisio llawer o'r safbwyntiau a fynegwyd eisoes ynghylch y penderfyniad i dorri cyllid ar gyfer prentisiaethau ac yn annog y Gweinidog i ailystyried ei benderfyniad. Rwy'n deall bod cyllid y Llywodraeth yn dynn a bod pwysau gan bob sector am gymorth ar hyn o bryd. Fodd bynnag, o ystyried cenhadaeth economaidd newydd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar a’r flaenoriaeth a roddwyd gan y Llywodraeth hon yng Nghymru i ddarparu sgiliau a phrentisiaethau, mae’r penderfyniad i dorri cyllid ar gyfer prentisiaethau yn gwbl groes i amcanion polisi'r Llywodraeth ei hun. Rwy'n atgoffa'r Aelodau fod proses y gyllideb ymhell o fod ar ben, a bod amser i wneud newidiadau, felly rwy'n annog Llywodraeth Cymru i wrando ar y sector, gwrando ar fusnesau a gwrando ar ddysgwyr. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliannau.

16:55

Soniais mewn ymyriad ar y mater hwn yr wythnos diwethaf, rwy'n credu, fy mod wedi cael cyfarfodydd gyda Viv Buckley o Goleg Penybont. Rwyf hefyd wedi cael sesiynau briffio a thrafodaethau gyda ColegauCymru cyn y ddadl hon heddiw. Credaf fod pob un ohonom yn Siambr y Senedd yn cydnabod, ac wedi crybwyll eisoes yn yr ychydig gyfraniadau cyntaf, pa mor bwysig yw prentisiaethau da, yn enwedig mewn cymunedau fel fy un i, lle bydd llawer o bobl ifanc, gwrywaidd a benywaidd i raddau mwy a mwy, yn mynd ymlaen i weld prentisiaethau fel llwybr at yrfaoedd da, gyrfaoedd hir mewn swyddi sy'n talu'n dda. Dyna'r llwybr y maent yn ei ddewis i raddau mwy a mwy, yn aml gyda chymorth a roddir gan gyflogwyr lleol, darparwyr hyfforddiant, a Choleg Penybont.

Nodaf y llythyr y mae pob Aelod o’r Senedd wedi’i gael gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a ColegauCymru cyn y ddadl heddiw, lle maent yn cydnabod y buddsoddiad a wnaed mewn prentisiaethau yng Nghymru. Yn wir, maent yn cydnabod llwyddiant hynny, yn enwedig y buddsoddiad—y £400 miliwn a mwy, rwy'n credu, y mae Llywodraeth Cymru wedi’i fuddsoddi yn ystod ychydig flynyddoedd cyntaf tymor y Senedd hon—a’r uchelgeisiau sydd gennym ar ei gyfer. Ond wrth wneud hynny, mae'n rhaid imi ddweud eu bod hefyd—fel y mae cyd-Aelodau eisoes wedi nodi—yn annog Llywodraeth Cymru i ailystyried a chwilio am y cyllid pontio hwnnw. Oherwydd yr hyn a nodant, Weinidog, yw ein bod wedi colli’r cyllid Ewropeaidd a oedd yn sail i hyn oll, a dyna realiti caled y sefyllfa. Ni allaf sefyll yma mewn difrif calon fel Aelod o’r Senedd hon a dweud wrth y Gweinidog, yn wyneb yr holl doriadau sydd gennym ar hyn o bryd ar draws pob maes cyllideb, ‘Cloddiwch yn ddyfnach, Weinidog, dewch o hyd i’r arian ychwanegol yr addawyd y byddem yn ei gael pan fyddai'r arian Ewropeaidd yn diflannu, ac a fyddai ar gael i Gymru.' Ble mae'r arian hwnnw? Yr ateb yw nad yw yno, nid yw wedi'i roi i ni.

Ond mae gennym gymhlethdodau ychwanegol hefyd y mae angen inni fod yn onest yn eu cylch. Nid y cyllid Ewropeaidd yn unig a gollwyd, ond y gallu hefyd i reoli ein prentisiaethau ein hunain yma yng Nghymru. Mae'r ardoll brentisiaethau'n drychineb llwyr. Oherwydd gwyddom y gallwn ddarparu’r prentisiaethau hyn yn dda yng Nghymru, mae gennym hanes o wneud hynny, ond rydym wedi cael ein llesteirio gan awydd Llywodraeth y DU i ddweud, 'Na, ni sy'n rheoli hynny’.

Mae’r holl bethau hyn yn ychwanegol at, ac yn gysylltiedig â'r chwyddiant mewn costau a welsom a’r pwysau cyllidebol ar Lywodraeth Cymru a datganiad y gyllideb yn gyffredinol, nad yw’n dod eleni yn unig, ond flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, i—. Rydym yn aml yn eu galw'n benderfyniadau anodd, ond maent yn benderfyniadau amhosibl. Nawr, rwy'n deall safbwynt Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a ColegauCymru ar hyn. Maent yn dadlau eu hachos i bob pwrpas, ac rwyf am i’r Gweinidog ymateb i un neu ddau o’r senarios y maent yn eu disgrifio mewn eiliad, ac maent yn gwneud hynny, ond credaf ei bod yn ddyletswydd arnom felly, gan nad ColegauCymru na Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru ydym ni—rydym yn siarad ar ran y bobl ifanc sy'n dymuno dechrau prentisiaethau, ac mewn gwirionedd, y bobl o bob oed sy'n dymuno dechrau prentisiaethau—i ddweud, 'Sut mae ei wneud pan ydym yn wynebu hyn?' Ond rydym naill ai'n aelodau o bleidiau sydd mewn llywodraeth neu bleidiau sy’n dyheu am fod yn llywodraeth rhyw ddydd, ac felly, wrth edrych ar y cyllidebau hyn wrth iddynt fynd drwy bob pwyllgor yn y Senedd ar hyn o bryd, mae rhywun yn mynd i orfod meddwl am rywbeth rhyfeddol wrth i’r rhain fynd drwy bwyllgorau, ac mae rhywun yn mynd i orfod rhoi atebion i’r Gweinidog, atebion nad ydynt yn ymwneud ag adolygiad annibynnol, comisiwn annibynnol ac yn y blaen—gwyddom beth yw’r problemau; gwyddom yn iawn beth yw'r problemau—ond mewn gwirionedd, i feddwl am syniadau ac atebion sy'n dweud, 'Wel, os ydym yn mynd i'w hariannu ar yr un lefel ag y buom yn eu hariannu am y tair blynedd gyntaf, bydd yn rhaid i rywbeth arall fynd.' Mae'n rhaid inni fod yn onest am hynny—yn wirioneddol onest—ac edrychaf ymlaen at weld y bobl ar y pwyllgorau perthnasol yn gwneud hynny.

Ond gadewch imi ddweud yn gryno, Weinidog, fod rhai o'r senarios a ddisgrifiwyd gan ColegauCymru yn awgrymu, wrth edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod—y flwyddyn hon sydd o'n blaenau—gan y bydd yn rhaid iddynt ddangos ffafriaeth i bobl sydd eisoes ar lwybrau prentisiaeth, gallai hynny olygu gostyngiad sylweddol, gostyngiad enfawr, mewn prentisiaethau newydd ar gyfer y flwyddyn nesaf. Beth fyddai eich ymateb i hynny? Y peth arall yw: oherwydd ffocws Llywodraeth Cymru ar adeiladu, peirianneg, iechyd a gofal cymdeithasol, mae’n bosibl iawn y bydd gostyngiad mewn meysydd eraill, gan mai dim ond cyn belled y gellir gwasgaru’r arian, wrth gwrs. Felly, buaswn yn croesawu hynny, ond ymatebion eraill i—fe fydd wedi gweld y papur briffio gan ColegauCymru hefyd, ond ymatebion i'w pryderon gwirioneddol a'r hyn y gallai hyn ei olygu ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Ond gadewch inni fod yn gwbl onest, ac rwy'n ymwybodol fod fy amser ar ben, mae hyn yn sgil hanes blaenorol o fuddsoddiad mawr dros ddwy neu dair blynedd gyntaf y Llywodraeth hon—dros £400 miliwn. Ond mae'r her sylweddol sy'n ein hwynebu yn ymwneud â mwy na phrentisiaethau'n unig. Aeth rhai ohonom allan ddoe a chyfarfod â meddygon iau. Rydym yn cyfarfod, o ddydd i ddydd, ag elusennau digartrefedd; rydym yn cyfarfod, o ddydd i ddydd, â phawb sy'n dweud, yn gwbl briodol, fod eu maes nhw'n faes blaenoriaeth—mae prentisiaethau yn un hefyd. Mae'n rhaid imi ddweud mai realiti caled hyn yw bod angen inni gael yr arian i redeg y pethau hyn, ac yna fe'i gwnawn. Ar hyn o bryd, carwn ofyn am sicrwydd gan y Gweinidog y bydd yn gweithio’n galed ac yn adeiladol gyda phob un o’r darparwyr hyfforddiant a’r colegau yng Nghymru i’n tywys yn dda drwy’r 12 mis sydd i ddod, gan olygu y gallwn ddychwelyd, yn y dyfodol, gyda Llywodraeth ar lefel y DU sy'n penderfynu ei bod yn werth buddsoddi yn y materion hyn ac ar draws ein cyllidebau, gan ychwanegu at ein cyllideb, fel y gallwn fod yn ôl ar dir gwastad unwaith eto.

17:00

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch i Huw am yr ymyriad ac rydym yn rhannu'r brys, yn bendant, a dyna pam ein bod am i'r ddadl hon gael ei chlywed y prynhawn yma. Ond er i ni ofyn dro ar ôl tro, mae'n anodd i ni fel gwrthbleidiau awgrymu toriadau cyllidebol amgen heb inni weld y manylion fesul llinell wariant sydd eu hangen arnom. Pan allwn wneud hynny, gallwn gymryd rhan mewn dadl briodol am flaenoriaethau, ond mae hyn, i ni, yn sicr yn flaenoriaeth, fel y mae i chi, rwy'n siŵr.

Mae fy nghyfraniad y prynhawn yma yn un sydd yn bwriadu tynnu sylw at yr effaith y bydd y toriadau i brentisiaethau yn ei chael ar y sector iechyd, ar y gweithlu iechyd ac, yn arbennig, ar ein cymunedau gwledig. Mae’r rhan fwyaf o’r prentisiaid sy’n dechrau ar eu cwrs yng Nghymru pob blwyddyn yn gysylltiedig â'r sector iechyd a gwasanaethau gofal; mae hyn yn cynnwys ryw 43 y cant o’r holl brentisiaethau sy'n cael eu cynnig.

Gallai toriadau yn y gyllideb arwain at ostyngiad o tua 10,000 o brentisiaethau yn dechrau’r flwyddyn nesaf—gostyngiad o tua 50 y cant—a bydd effeithiau hyn, fel rwyf wedi ei grybwyll eisoes, i’w teimlo yn arbennig yn y sector iechyd a'r sector gofal. Mae prentisiaethau yn y sector iechyd a gofal yn darparu hyfforddiant arbenigol ar gyfer rolau hanfodol mewn gofal cymdeithasol, gofal cartref, gofal iechyd clinigol a llawer mwy. Mewn sector sydd eisoes yn gweiddi am gymorth yn wyneb blynyddoedd o doriadau, mae cwtogi ar brentisiaethau’n mynd i gael effaith andwyol ar gynllunio’r gweithlu a recriwtio a hyfforddiant i'r dyfodol.

Mae cyflogau gweithwyr gofal iechyd yn is yng Nghymru nag mewn unrhyw ran arall o'r ynysoedd hyn, ac rydym yn gwybod bod ein gweithwyr gofal iechyd yn gadael i weithio a hyfforddi lle ceir gwell cyflog, gwell amodau gwaith a mynediad at well cyfleoedd hyfforddi. A hyn ar adeg, er enghraifft, ym mis Awst 2023, pan oedd GIG Cymru eisoes yn wynebu 4,300 o swyddi gwag. Nawr, beth yw cynllun Llywodraeth Cymru i unioni hyn? A sut olwg sydd ar ddyfodol gweithlu GIG Cymru o dan y Llywodraeth hon?

Wel, mae'r argyfwng sydd ar y gorwel mewn prentisiaethau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn tynnu sylw at fater ehangach: nad yw'r Llywodraeth hon yn creu digon o gyfleoedd i'n pobl ifanc aros yn eu cymunedau na chyfrannu at eu heconomïau lleol. Mae hyn i gyd yn bryder arbennig yn y mathau o gymunedau gwledig ac arfordirol rwy'n eu cynrychioli yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Bydd effaith y toriad llym i brentisiaethau ar ein cymunedau gwledig yn arbennig o arwyddocaol—ergyd arall i aelwydydd a busnesau gwledig sydd eisoes dan bwysau anghymesur oherwydd yr argyfwng costau byw presennol. Mae 50 y cant o gyfanswm y prentisiaethau newydd bob blwyddyn y tu allan i goridor yr M4. Yma, mae prentisiaethau'n darparu ffordd hanfodol o gael mynediad at waith a hyfforddiant lle mae cyfleoedd eraill i wneud hynny'n brin. Mae'n ffordd i mewn i gyflogaeth i rai sy'n aml yn ei chael hi'n anodd gwneud hynny drwy'r llwybr addysg traddodiadol.

Felly, bydd y toriadau arfaethedig i gyllideb y rhaglen brentisiaethau hefyd yn effeithio'n anghymesur ar y mathau o gwmnïau llai sy'n asgwrn cefn i'n heconomi wledig. Mae ystadegau'r Ffederasiwn Busnesau Bach heddiw yn dangos bod mentrau bach a chanolig yn llai tebygol o gynnal prentisiaethau o'u cymharu â chwmnïau canolig eu maint, ac fel y gwyddom i gyd, busnesau bach a chanolig yw'r mwyafrif helaeth o fusnesau yng nghefn gwlad Cymru. Felly, heb y mathau cywir o gefnogaeth gan y Llywodraeth, bydd y cwmnïau hyn yn ei chael hi'n llawer anos cynnig hyfforddiant yn y gwaith. Bydd hyn yn ei dro yn cyfyngu ar allu pobl ifanc i ddod o hyd i gyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth a thrwy hynny i aros yn eu cymunedau lleol a chyfrannu atynt.

I orffen, felly, gaf i ofyn a ydy'r Llywodraeth wedi cynnal unrhyw fath o asesiad i ganfod pa effaith y byddai'r toriadau hyn yn ei gael ar ardaloedd gwledig? Os na, wnaiff y Gweinidog ymrwymo heddiw i'r gwaith hwnnw gael ei wneud?

Yn olaf, mae'r hyn sy’n digwydd gyda phrentisiaethau yn dangos, unwaith eto, nad yw'r Llywodraeth yn ddigon ymwybodol o'r heriau gwirioneddol sy'n effeithio ar ein cymunedau gwledig. Rwy'n galw arno fe y prynhawn yma i ddatblygu strategaeth i fynd i'r afael â hyn.

17:05

Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Mae'n bwysig iawn ein bod yn trafod hyn, gan fod ein sector prentisiaethau bellach mewn cyflwr peryglus. I Lywodraeth sy'n cytuno â'r Ceidwadwyr fod cynnig prentisiaethau nid yn unig yn bwysig ond yn hanfodol, gan nad yw pawb yn academaidd, fel sydd eisoes wedi ei grybwyll heddiw—mae hefyd yn bwysig i'n heconomi a'n heconomi yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae gwella sgiliau i fod yn rhan ganolog o strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru, ond eto, o ganlyniad i'r toriad mewn cyllid, mae'r sector yn rhagweld y bydd 10,000 yn llai o brentisiaethau newydd yn dechrau y flwyddyn nesaf. Er mwyn rhoi hyn yn ei gyd-destun, mae'r ffigurau diweddaraf sydd ar gael yn dangos bod tua 20,000 o brentisiaethau newydd wedi dechrau yn 2021—dyna ostyngiad o 50 y cant mewn dechreuwyr newydd. Mae'r toriadau arfaethedig i'r gyllideb brentisiaethau yng nghyllideb ddrafft 2024-25 yn doriad o 25 y cant—sy'n cyfateb i £35 miliwn. Daw'r toriadau creulon hyn ar ben y £17.5 miliwn sydd eisoes wedi'i dorri i brentisiaethau gan y Llywodraeth Lafur hon. Mae'r sector wedi rhybuddio y bydd y gostyngiad mewn prentisiaethau yn effeithio'n anghymesur ar bobl ifanc a menywod, ac yn 2021-22, roedd dros hanner y prentisiaid yn fenywod. Boed yn brentisiaethau arferol neu'n radd-brentisiaethau, rydym mor bell y tu ôl i'n cymdogion yn Lloegr a'r Alban nes ei fod bron iawn yn embaras a bod yn onest. Mae'n fethiant gwirioneddol ar ran y Llywodraeth anghymwys hon, ac ar ran Gweinidog sy'n dymuno dod yn Brif Weinidog ein gwlad. Mae'n destun pryder mawr, fel y mae'r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Cefin Campbell, newydd ddweud, fod y toriadau Llafur hyn yn mynd i daro'r sector iechyd a gofal cymdeithasol yn galetach na dim—prentisiaethau iechyd a gwasanaeth cyhoeddus yw bron i 45 y cant o'r holl brentisiaethau—ar adeg pan fo taer angen mwy o weithlu yn y GIG, Weinidog, yn enwedig mewn gofal cymdeithasol. Dylai'r Llywodraeth Lafur hon fuddsoddi i sicrhau ein bod yn cau'r bylchau hyn a dadflocio'r system, a chael pobl allan o'u gwelyau ysbyty yn gyflymach ac yn ôl i'r gymuned. Bydd peidio â gwneud hynny'n gwaethygu'r problemau sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd.

Pan gysylltwch hyn â'r toriadau i addysg bellach, mae'n creu darlun llwm ar gyfer y genhedlaeth nesaf o weithwyr. Rydym eisoes wedi gweld Llywodraeth Cymru yn rhoi'r gorau i'w haddewid maniffesto o greu 125,000 o brentisiaethau newydd erbyn diwedd tymor y Senedd. Er mwyn cyrraedd y targed newydd llai, byddai angen 84,760 o brentisiaethau newydd erbyn 2026. Byddai hyn yn golygu bod angen 42,308 o brentisiaethau newydd y flwyddyn, bron i ddwbl yr hyn a gyrhaeddwyd ym mis Chwefror 2022 a mis Ebrill 2023. Ar y trywydd tuag i lawr, mae'n amlwg nad yw hynny'n mynd i ddigwydd. A bod yn onest, Weinidog, rydym ar fin gweld niferoedd yn gostwng yn ddramatig, onid ydym?

Mae ffederasiwn cenedlaethol Cymru yn rhybuddio bod y toriadau'n bygwth cannoedd o swyddi yn y sector dysgu seiliedig ar waith, ac mae hyn yn rhywbeth sy'n peri pryder gwirioneddol. Ar y naill law, mae Llafur Cymru yn honni eu bod o ddifrif ynglŷn â buddsoddi yng nghenedlaethau'r dyfodol a sgiliau, ond ar y llaw arall, rydym yn eu gweld yn tynnu'r cyfle y mae prentisiaethau'n ei gynnig yn ôl ac yn eu torri i'r asgwrn. Mae'n hanfodol fod y toriad hwn nid yn unig yn cael ei wrthdroi, ond bod yna fuddsoddi ynddynt er mwyn inni allu gweld chwyldro prentisiaethau yn dechrau yma yng Nghymru. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y ddadl hon gan Blaid Cymru heddiw yn deffro'r Llywodraeth i realiti canlyniadau torri prentisiaethau yng Nghymru a'r anhrefn y maent ar fin ei hachosi i'r sector os na fyddant yn gwrthdroi'r toriadau niweidiol hyn. Felly, rwy'n annog pawb i bleidleisio dros y cynnig a'n gwelliannau ni heddiw. Diolch.

17:10

Rwyf i wedi gweld a'm llygad fy hunan ar ymweliad i gwmni JES Group ym Mhort Talbot y balchder a'r sgiliau sy'n gallu dod yn sgil prentisiaethau. Roedd yn brofiad gwirioneddol drawiadol gweld cwmni lleol llwyddiannus yn datblygu rhaglen brentisiaethau arloesol sy'n rhoi cyfleon lleol i bobl leol, a'r manteision i'r cwmni, i'r prentisiaid ac i'r gymuned yn gwbl amlwg. Ac, wrth gwrs, fel ŷn ni wedi clywed, mae prentisiaethau yn gallu bod yn llwybr effeithiol ar gyfer symudedd cymdeithasol a modd o ddianc o fagl tlodi amlgenhedlaeth, yn enwedig mewn cymunedau difreintiedig lle mae lefelau uwch o anghydraddoldeb croestoriadol.

Mae'r pryderon ynghylch y toriadau arfaethedig i'r rhaglen brentisiaethau a'r effaith anghymesur y bydd hyn yn ei gael ar grwpiau sydd eisoes dan anfantais yn rhai mae'n rhaid eu hystyried o ddifrif, ac yn rhai y mae Plaid Cymru yn eu gwrthwynebu. Mae yna bryderon am ddyfodol colegau sy'n helpu hyfforddi prentisiaid mewn cymunedau difreintiedig, pryderon am ddiswyddiadau, pryderon am golli cyrsiau ac arbenigedd hyfforddi a chyfleon ar gyfer pobl nid yn unig i wella eu bywydau ond hefyd i gyflenwi sgiliau y mae mawr eu hangen ar gyflogwyr lleol. 

Felly, sut mae’r penderfyniad hwn yn ystyried ‘sylw dyledus’ i ddyletswydd economaidd-gymdeithasol Gweinidog yr Economi? Achos mae'r data yn rhoi darlun clir i ni o'r anghydraddoldeb a fydd yn cael ei greu gan doriadau i'r rhaglen brentisiaethau. Fel rŷn ni wedi clywed, mae 36 y cant o brentisiaethau yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, a 43 y cant o’r prentisiaethau newydd sy’n dechrau mewn gofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus.

Ac, wrth gwrs, mae mwyafrif gweithlu y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn fenywaidd ac maen nhw'n dueddol o fod dros 25 oed. Mae 59 y cant o'r holl brentisiaethau sy'n cael eu dechrau yn cael eu dechrau gan fenywod. Felly, pan fyddwn ni'n sôn am y gostyngiad yna o 50 y cant yn nifer y prentisiaethau newydd sy’n dechrau, dyw hyn ddim wedi’i wasgaru’n gyfartal ar draws grwpiau demograffig. Mae hyn yn mynd i daro menywod sydd eisoes yn wynebu rhwystrau cyflogaeth a bylchau cyflog rhywedd, gan waethygu anghydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Yn yr un modd, oherwydd bod cyfran sylweddol o brentisiaethau yn y sector gofal iechyd, a bod prentisiaid yn tueddu i fod dros 25 oed—fel y dywedais i, mae 56 y cant o’r rhai sy’n dechrau prentisiaethau dros 25 oed beth bynnag—mae’r toriadau hyn, felly, yn mynd i ddileu cyfleoedd i nifer o bobl hŷn sy’n edrych i ailsgilio, uwchsgilio, efallai wedi colli swyddi oherwydd newidiadau economaidd neu ddiwydiannol—rŷn ni’n wynebu'r rheini yn yr ardal dwi’n ei chynrychioli gyda’r newyddion sy’n edrych fel ei fod e’n mynd i dorri yfory gyda Tata—neu’n atal y rhai hefyd sydd wedi gorfod gadael y gweithlu yn sgil cyfrifoldebau gofal plant, neu gyfrifoldebau gofal eraill, rhag wedyn ddychwelyd drwy ailsgilio. O gofio nad yw’r genhadaeth economaidd yn sôn o gwbl am ddysgwyr sy’n oedolion neu ailsgilio, rhaid gofyn faint o flaenoriaeth yw’r grŵp yma i’r Llywodraeth.

Ym mis Ebrill, bydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn cael ei ddiddymu a bydd ei swyddogaethau, sy'n cynnwys darpariaeth prentisiaethau, yn cael eu trosglwyddo i’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Dŷn ni ddim wedi cael datganiad eto gan y Llywodraeth ar flaenoriaethau y corff newydd, na manylion o ddyraniadau cyllid penodol, er rŷn ni'n deall y bydd cyllido ar gyfer gradd-brentisiaethau yn cael eu hamlinellu yn llythyr cyllido’r comisiwn.

Mae gwelliant y Llywodraeth yn datgan y bydd yn cefnogi gradd-brentisiaethau, ond rŷch chi, Weinidog, wedi datgelu mewn llythyr at y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig nad oes trosglwyddiadau’n cael eu gweithredu o'r MEG economi fel rhan o gyllideb ddrafft 2024-25 i gefnogi gradd-brentisiaethau. A doedd y Gweinidog addysg y bore yma yn y pwyllgor ddim yn gallu rhoi gwybod a oes yna ddyraniad cyllid ar gyfer gradd-brentisiaethau o fewn ei ddyraniad e ar gyfer CCAUC neu'r comisiwn newydd heb y trosglwyddiad. Wnewch chi roi gwybod i ni, felly, pam nad ydych chi’n trosglwyddo arian o'ch cyllideb chi fel y gwnaethoch y llynedd, o gofio bod gradd-brentisiaethau, wrth roi’r cyfle yna i gyfuno gweithio ac astudio’n rhan amser yn y brifysgol, gyda Llywodraeth Cymru yn ariannu’r ffioedd dysgu yn llawn, yn cynnig llwybr mor bwysig i bobl sy'n edrych i ailsgilio neu uwchsgilio neu geisio gwella eu cyfleon?

Fel rŷn ni wedi clywed gan bawb, mae’r prentisiaethau yn cynnig cyfle unigryw i bobl o gefndiroedd economaidd gymdeithasol difreintiedig, yn rhoi cyfle i ennill arian wrth ddysgu, yn llwybr sy’n newid bywyd, yn arwain nid yn unig at yrfa well, ond hefyd at adeiladu cyfalaf diwylliannol, rhwydweithiau pwysig, cysylltiadau cyflogaeth na fyddai ar gael i lawer o’r bobl hyn fel arall.

Ac o’i ystyried wedyn y toriadau eraill dŷn ni wedi clywed amdanyn nhw—ac mi wnes i sôn amdanyn nhw yn fy nghwestiynau i’r Gweinidog addysg y prynhawn yma—o ran addysg bellach ac addysg uwch, mae’r toriadau hyn wedyn i brentisiaethau fydd yn effeithio yn anghymesur ar bobl sydd angen cyfle, nid cyfyngiadau ar eu gallu i fyw'n dda ac i fyw'n gydradd. Mae'r penderfyniadau hyn yn anghydnaws gyda'r dyhead yna i greu Cymru deg.

17:15

Diolch. Lywydd, rwyf bob amser yn falch o glywed y gefnogaeth angerddol i brentisiaethau mewn dadleuon yn y Senedd hon. Mae'n arbennig o foddhaol gan fod nifer y gwleidyddion sydd wedi bod yn gyn brentisiaid yn arbennig o isel, ac fel cyn brentis balch fy hun, Lywydd, rydych wedi fy nghlywed droeon yn dweud o'r blaen fod rhai proffesiynau wedi eu gorgynrychioli mewn gwleidyddiaeth yn y lle hwn, ac mae taer angen mwy o gyn brentisiaid, o ystod o feysydd, i amrywio'r lle hwn a llawer o sefydliadau eraill.

Lywydd, roedd fy mhrentisiaeth i mewn peirianneg, ac mae miloedd o bobl eraill yn cyflawni prentisiaethau mewn gweithgynhyrchu uwch yn fy etholaeth, Alun a Glannau Dyfrdwy. Hyfforddodd Airbus ei hun 4,000 o brentisiaid yn y degawd diwethaf, ac ym Mrychdyn, rwy'n falch o ddweud bod 70 y cant o uwch reolwyr y DU yn Airbus ym Mrychdyn wedi dechrau eu gyrfaoedd fel prentisiaid. Nawr, bydd y sgiliau hyn a ddatblygir yn ystod tymor prentisiaeth yn hanfodol i Airbus wrth gwrs, byddant yn hanfodol i'r busnesau sydd â chynlluniau prentisiaeth eraill, ond maent hefyd yn hanfodol i adeiladu economi Cymru, ac ni waeth sawl gwaith y mae Aelodau'n ceisio lladd ar Gymru, rydym yn sefyll ar drothwy cyfle yma yng Nghymru.

Mae'r ras i sero net yn galw am ddatblygu economi werdd, ac mae'r Gweinidog a chyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru yn iawn i ganolbwyntio ar brentisiaethau a all gyflwyno'r sgiliau hyn. Lywydd, cefais gyfle yn ddiweddar i siarad â'r tîm polisi yn y Sefydliad Ffiseg, ac fe wnaethant gadarnhau'r pwynt hwn yn gryf pan wnaethant ddweud wrthyf y gall prentisiaethau sy'n gysylltiedig â ffiseg chwarae rhan hanfodol a phwysig yn mynd i'r afael â'r bwlch sgiliau, ond hefyd, wrth inni wneud hynny, mae angen atebion beiddgar. 

Ac fe all prentisiaethau weithio, maent yn gweithio, ac mae'n iawn, mae eu hangen. Mae eu hangen ar y blaen yn yr economi newydd, o ynni gwyrdd i'r diwydiant niwclear, i beirianneg drydanol, adeiladu, digidol—yr holl feysydd hyn y buom yn siarad amdanynt eisoes. A hoffwn weld mwy o fuddsoddiad bob amser mewn prentisiaethau. Mewn gwirionedd, rwy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i unrhyw un sy'n fwy angerddol neu efallai'n fwy cymwys i siarad yn y dadleuon hyn. Ond Lywydd, mae'n rhaid inni ddeall, fel pob gwariant, fod gwariant ar brentisiaethau wedi cael ei niweidio. Mae wedi cael ei niweidio gan fethiannau San Steffan, mae wedi cael ei niweidio gan fethiannau Llywodraeth Geidwadol y DU. Mae cyllid prentisiaethau, fel cyllid arall ar gyfer gwasanaethau eraill, yn talu pris Liz Truss, mae'n talu pris y Prif Weinidog, Rishi Sunak, nawr yn chwalu a difrodi ein heconomi, ac mae'n talu pris yr anhrefn cyson, y methiant cyson—

17:20

Diolch. Oni fyddech chi'n cytuno y dylem i gyd fod yn ddiolchgar er budd ein hetholwyr fod yr un Prif Weinidog ag y gwnaethoch chi ei grybwyll wedi addo gostwng chwyddiant, a'i fod o ddifrif wedi gwneud hynny?

Janet, soniais am ddau Brif Weinidog o fewn hynny, ac rwy'n meddwl am gyfnod byr Liz Truss fel Prif Weinidog, pan chwalodd hi'r economi'n llwyr. Y rheswm pam ein bod ni'n cael y ddadl hon nawr am yr anawsterau a wynebwn yw oherwydd ei chyfnod hi fel Prif Weinidog Ceidwadol. [Torri ar draws.] Fe dderbyniaf ymyriad arall os yw'r Aelod eisiau un. 

Rwy'n barod i wneud ymyriad os yw'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy yn caniatáu i mi; mae'n garedig iawn i wneud hynny. Un o'r materion allweddol sydd wedi erydu cyllidebau ar draws hemisffer y gorllewin yw chwyddiant, nid prif weinidogaeth Liz Truss, ond chwyddiant a achosir gan yr ymosodiad ar Wcráin a'r dyledion y mae'n rhaid inni eu talu yn sgil cymorth COVID.

Diolch i Sam Kurtz am yr ymyriad. Rhaid imi ddweud, mae'r Aelod, drwy sefyll yma yn y Senedd gydag wyneb syth a dweud nad yw'n ddim i'w wneud â phrif weinidogaeth Liz Truss, yn ddewr iawn ac yn anonest, efallai, ond chwarae teg iddo. Yr hyn y dylwn ei ddweud serch hynny yw bod methiant cyson, parhaus—. Rydym yn talu'r pris am fethiant cyson—am anhrefn—i gyflawni twf, sy'n nodweddu'r Llywodraeth yn San Steffan, a cholli cyllid i Gymru. Mae'n iawn ein bod yn ymwybodol o golli cyllid i Gymru, yn enwedig cronfeydd yn lle cyllid yr UE, a gymerwyd gan y Llywodraeth Geidwadol. Mae'n ddigon posibl y gallai'r arian hwnnw fod wedi cael ei wario i ariannu prentisiaethau yng Nghymru. Ac mae llefarydd y Ceidwadwyr yn sôn am sgwrs genedlaethol onest; efallai y dylai gael y sgwrs honno gyda'i gyd-bleidwyr hefyd, oherwydd mae'r rheolau hynny yn benodol yn gwahardd defnyddio arian ar raglenni ledled Cymru, ac eto fe wnaeth y Torïaid gefnogi'r sefyllfa honno yn ôl yn 2021 ac maent yn gwneud yr un peth heddiw.

Rwy'n gweld fy mod yn brin o amser, Lywydd, felly rwyf am orffen yma. Ond fe ddywedaf wrth ein cyd-Aelodau Plaid Cymru hefyd ar draws y Siambr, yn eu trafodaethau, fod llefarydd Plaid Cymru wedi dweud yn ei gyfraniad agoriadol nad ei waith ef oedd gwneud gwaith y Llywodraeth; wel, rwy'n cytuno mewn gwirionedd, nid ei waith ef yw gwneud hynny, ond ei waith ef, a gwaith ei blaid yw cynnig dewis arall difrifol yn lle Llywodraeth Cymru i'r cyhoedd yng Nghymru. Ac os ydynt yn onest yn eu hasesiad heddiw, rwy'n credu nad ydych chi wedi cael hynny ac nad yw'r cyhoedd yng Nghymru wedi cael hynny. Ond diolch byth, Lywydd—ac rwyf am orffen gyda hyn—gyda'r hyn rwyf wedi'i ddweud, y newyddion da, Lywydd, yw bod Keir Starmer eisiau cefnogi dychwelyd cyllid yr UE i Gymru a'r pwerau gwneud penderfyniadau i Gymru. Felly, unwaith eto, mae'r ateb yn glir iawn i'r cyhoedd: os ydych chi am gefnogi rhaglen brentisiaethau ledled Cymru, pan ddaw'r etholiad, fe ddylech, ac mae'n rhaid i chi bleidleisio dros Lafur. 

Hoffwn siarad yn fyr am alwad Plaid Cymru am fodel ariannu cynaliadwy ar gyfer prentisiaethau. Rydym yn edrych ar doriad cyllideb o fewn y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru o £17.5 miliwn. Mae cyd-destun dwfn y tu ôl i hyn, sef yr ychwanegiad i gronfeydd strwythurol Ewropeaidd a aeth tuag at y cynllun prentisiaethau yma yng Nghymru. Mae hynny bellach wedi ei golli a bydd yn cael effaith ddinistriol. Roedd Llywodraeth Cymru'n gwybod y byddai'r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yn cael eu tynnu'n ôl ac fe wnaethant ymrwymo i roi £18 miliwn o gronfeydd wrth gefn yn ei le. I ble'r aeth yr arian hwnnw? Pam nad ydym yn ei weld nawr? Felly, yr hyn a welwn mewn gwirionedd yw toriad o £17.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru, sy'n ostyngiad o £38 miliwn rhwng blynyddoedd contract y cynllun prentisiaeth sef 2023-24 a 2024-25. Mae'n teimlo fel pe bai Llywodraeth Cymru'n cuddio y tu ôl i'w naratif cyllidebol, gan nad yw'n cynnwys y colledion hyn o'r gronfa strwythurol. Mae gwir raddfa'r mater dan sylw yn llawer mwy arwyddocaol ac mae pryderon gwirioneddol ynghylch tryloywder. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gwerthoedd contractau ar gael i'w gweld a bod y negeseuon hyn yn glir.

Mewn gwirionedd, dros nifer o gyllidebau a chyllidebau atodol, rydym wedi gweld y gyllideb brentisiaethau'n cael ei herydu'n gyson i gefnogi blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru; gwnaed hyn er gwaethaf addewid maniffesto Llywodraeth Cymru a nodau cenhadaeth economaidd Gweinidog yr economi yn ddiweddar. Ond cafodd ei guddio gan y ffaith bod yna bosibilrwydd o gronfeydd strwythurol Ewropeaidd i ychwanegu at werthoedd contract a gwrthbwyso unrhyw ostyngiadau.

Hyd nes yn ddiweddar, roedd yna ymrwymiad gwirioneddol i 125,000 o brentisiaethau. Roedd darparwyr yn cael gwybod bod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'w tharged prentisiaethau yn sefyll. Ac yna, yn sydyn, cafwyd tro pedol enfawr. Ceir gofyniad i barhau i ariannu'r prentisiaethau hyn, ond ni ddisgwylir y bydd digon o gyllid ar gael ym mlwyddyn gontract 2024-25 i ganiatáu ar gyfer y lefel o brentisiaethau newydd a ddisgwylid yn wreiddiol; dyna pam ein bod yn edrych ar 10,000 yn llai o brentisiaethau'n dechrau. Mae angen i Lywodraeth Cymru ymrwymo i sicrhau bod gwerth y contract ar gyfer 2024-25 mor uchel â gwerth y contract ar gyfer 2023-24, fel yr awgrymwyd gennym yn flaenorol. Y gwerthoedd contract hyn sy'n bwysig mewn gwirionedd ac y bydd darparwyr prentisiaethau yn eu hystyried. Gwelwyd diffyg meddwl hirdymor ac unrhyw werthusiad beirniadol o effeithiau'r penderfyniadau hyn. Ble bydd y gostyngiad arfaethedig mewn cyllid yn taro galetaf?

Dyna pam mae Plaid Cymru yn galw am fodel ariannu hirdymor cynaliadwy ar gyfer y cynllun hwn. Nid yw dyraniadau ar sail un flwyddyn yn darparu'r sicrwydd a'r eglurder sydd eu hangen ar fusnesau, dysgwyr ac addysgwyr fel ei gilydd. Nid yw meddwl tymor byr ac ansicrwydd o'r fath yn mynd i sicrhau'r effaith orau o gynlluniau prentisiaeth. Diolch yn fawr.

17:25

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Mae'n swnio fel pe baem i gyd yn gytûn ar rywbeth—hynny yw, fod prentisiaethau fel llwch aur; mwy ohono sydd ei angen. Ac yn fy marn i, byddem yn elwa o'u bod yn canolbwyntio'n fawr ar yr argyfwng hinsawdd. Rydym ni yma yng Nghymru wedi ein bendithio â chyfoeth o adnoddau ynni adnewyddadwy ac mae angen inni fanteisio ar hyn. Gadewch inni edrych ar un enghraifft y mae llawer ohonom wedi siarad amdani yn y Siambr hon. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, gwnaed cynnydd sylweddol ar gyflawni capasiti hirdymor gwynt alltraeth arnofiol yn y môr Celtaidd. Fodd bynnag, dim ond gyda chynllun twf strategol ar gyfer y gweithlu y gellir gwneud cynnydd o'r fath, ac mae'n rhaid i hynny gynnwys llu o brentisiaethau.

Dywed arbenigwyr fod angen 10,000 o swyddi newydd i gynhyrchu dim ond 1 GW o wynt alltraeth arnofiol. Mae hynny'n golygu y bydd tua 20,000 o swyddi newydd yn cael eu creu gan wynt alltraeth y môr Celtaidd yn y dyfodol, gan greu angen gwirioneddol am raglenni a fydd yn ein galluogi i hyfforddi'r gweithlu sy'n datblygu. Os ydym am fod o ddifrif ynglŷn â chyflawni ein targedau sero net, mae'n hanfodol bwysig ein bod yn pwyso am ddatblygu'r sgiliau cywir sydd eu hangen ar gyfer y sector ynni gwyrdd.

Roeddwn yn falch felly o weld bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y rôl bwysig y gall prentisiaethau ei chwarae yn rhan o'u cynllun gweithredu sgiliau sero net, ond rwy'n pryderu am yr effaith bosibl y bydd y toriadau arfaethedig i'r rhaglen brentisiaethau'n ei chael ar y gallu i hyfforddi ein gweithlu newydd. Os ydym o ddifrif am fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, mae'n rhaid inni sicrhau na cheir mwy o doriadau sy'n effeithio ar gynnydd y cynllun gweithredu sgiliau sero net. Rydym yn brin o amser. Ni allwn bwysleisio digon pa mor bwysig yw hi ein bod yn gwneud y newid i ynni gwyrdd nawr—nid yfory na'r diwrnod wedyn, ond nawr.

Mae Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig wedi dangos cyn lleied y maent yn poeni am yr argyfwng hinsawdd, ac fe allwn ni yma yng Nghymru wneud mwy, ond mae'n rhaid inni ei wneud yn gyflym ac ar raddfa fawr. Mae prentisiaethau mewn ynni adnewyddadwy eisoes yn bosibilrwydd. Er enghraifft, mae gan y cwmni ynni gwynt alltraeth Ørsted gynllun prentisiaeth hirsefydledig eisoes ar gyfer technegwyr tyrbinau gwynt, ac maent hefyd yn darparu arian ar gyfer hyfforddiant a sgiliau sy'n gysylltiedig â STEM, ond mae'r cloc yn tician ac mae angen gweithredu. Mae angen inni osod cynllun gweithredu realistig a chynaliadwy sy'n manylu ar y mathau o bolisïau y gallwn eu datblygu ar gyfer cyflwyno sgiliau a datblygu'r gweithlu, a phrentisiaethau yw asgwrn cefn y gweithlu sydd ei angen. Diolch yn fawr iawn.

17:30

Hoffwn wneud cyfraniad byr. Fel y dywedodd Jack Sargeant, yn gwbl briodol, mae llawer o gefnogaeth i brentisiaethau yn y Siambr hon ar sail drawsbleidiol, a chredaf ei bod yn wych clywed cymaint o bobl yn rhannu eu brwdfrydedd dros sicrhau bod pobl yn dechrau prentisiaethau ac nad yw'r llif hwnnw'n cael ei dorri neu ei atal mewn rhyw ffordd. Fe wyddom pa mor bwysig ydynt i economi Cymru, a phan fyddwch yn torri cyllid i brentisiaethau, mae arnaf ofn fod hynny'n cael effeithiau canlyniadol mewn mannau eraill, a allai achosi costau i bwrs y wlad yng Nghymru, ac a allai gostio’n ddrud i Lywodraeth Cymru.

Yng Nghonwy a sir Ddinbych, lle rydym wedi cael llawer iawn o brentisiaethau—miloedd lawer mewn gwirionedd—ers 2019, rwy'n gwybod y byddai effaith wirioneddol ddifrifol ar y busnesau sy’n dibynnu ar y sgiliau y mae’r prentisiaethau hyn yn eu dysgu. Ac fel y dywedwyd gan eraill yn y Siambr hon, ni ddylid diystyru’r effaith ar ein sector gofal iechyd a’n sector cyhoeddus ychwaith, oherwydd yn y pen draw, mae angen inni sicrhau bod gennym bobl sy'n meddu ar y sgiliau y bydd eu hangen ar weithlu Cymru yn y dyfodol. Y gwir amdani yw bod dros 800 o  brentisiaethau yng Nghonwy a sir Ddinbych yn unig yn rhannau gofal iechyd a sector cyhoeddus y rhaglenni prentisiaeth, a hynny yn ystod tri chwarter cyntaf y llynedd yn unig.

Gwyddom hefyd fod y galw am brentisiaethau wedi bod yn cynyddu. Nid yw wedi bod yn lleihau. Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio awgrymu ei fod wedi bod yn lleihau yn y blynyddoedd blaenorol, a dyna pam y gwnaeth doriadau i’r gyllideb yn y blynyddoedd hynny, ond wrth gwrs, mae’r galw'n cynyddu. Mae mwy a mwy o bobl yn dod yn ymwybodol o gyfleoedd prentisiaeth. Ceir mwy o raglenni prentisiaeth y gall pobl eu dilyn. A dyna pam nad wyf yn credu bod torri’r gyllideb brentisiaethau'n syniad da. Nid wyf yn credu ei fod yn safbwynt hirdymor da i'w gael. Rwy'n credu y bydd yn arwain at ganlyniadau trychinebus i economi Cymru. Ac yn enwedig pan ystyriwch fod buddsoddiad mewn prentisiaethau mewn mannau eraill yn y DU wedi bod yn tyfu mewn gwirionedd.

Yn 2021 yn unig, dyrannodd Llywodraeth y DU £200 miliwn arall i brentisiaethau. Yn y gyllideb y llynedd, dyrannwyd £50 miliwn arall i gynlluniau peilot prentisiaethau, i gryfhau economi’r DU, gan gynnwys ym maes peirianneg a gweithgynhyrchu. Felly, mae gennym sefyllfa lle mae buddsoddiad mewn prentisiaethau yn cynyddu mewn mannau eraill yn y DU, ond yng Nghymru, ymddengys ein bod yn tynnu'n ôl ar brentisiaethau, er gwaethaf eu poblogrwydd cynyddol. A bydd hynny'n cael effaith drychinebus ar ein heconomi, oherwydd os nad oes gennym y gweithlu medrus sydd ei angen arnom, ni fyddwn yn denu'r mewnfuddsoddiad, ni fydd busnesau newydd sydd angen y sgiliau hynny yn dechrau, a bydd gennym fylchau sgiliau, yn enwedig yn ein gwasanaeth iechyd gwladol, ein gweithlu gofal, a'r sector cyhoeddus, sy'n dibynnu gymaint ar y pethau hyn hefyd.

Felly, hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn edrych eto ar y ffordd y mae'n blaenoriaethu ei chyllideb. Mae pawb yn dweud o hyd, 'Ble rydych chi'n mynd i ddod o hyd i'r arian hwn?' Gwyddom fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwario swm enfawr o arian ar bethau nad oedd yn rhaid iddi eu gwneud, pethau y gallai fod wedi’u dadflaenoriaethu. Fe wnaethom grybwyll y parthau 20 mya a newid terfynau cyflymder yn un ohonynt. Nid oedd yn rhaid ichi wneud hynny. Rwy'n credu bod hyn yn llawer pwysicach a dylai fod wedi'i flaenoriaethu mewn ffordd lawer gwell. Felly, hoffwn annog Llywodraeth Cymru i edrych eto ar y cyllidebau. Yng ngholeg Grŵp Llandrillo Menai yn unig, fe wyddom y bydd effaith y toriadau y flwyddyn nesaf yn fwy na £5 miliwn, gyda channoedd o brentisiaid yn methu manteisio ar y cyfleoedd prentisiaeth hynny mwyach, ac mae’n gam yn ôl go iawn. Felly, rwy’n eich annog, Weinidog, i edrych eto o fewn eich adran, gweld lle rydych yn canolbwyntio eich adnoddau, ac rwy’n siŵr y dowch o hyd i lawer o fannau gwastraffus lle gallech ddargyfeirio adnoddau i’r gyllideb hon.

Credaf fod gan Lywodraeth Cymru hanes cryf o ddatblygu rhaglenni prentisiaeth yma yng Nghymru, ac mae'n destun cryn bryder ein bod bellach mewn sefyllfa lle bydd rhywfaint o'r cynnydd hwnnw'n cael ei wanhau. Ac fel y dywedodd Huw Irranca-Davies a Jack Sargeant, mae hynny, i raddau helaeth iawn, yn ganlyniad i gyni Llywodraeth y DU, eu methiant i ddarparu cyllid yn lle cyllid Ewropeaidd fel yr addawyd, yr ardoll brentisiaethau, a’u hymagwedd gyffredinol at gyni. Wrth gwrs, bydd canlyniadau i hyn yma yng Nghymru, ac rydym eisoes wedi clywed am rai o’r rheini yn y ddadl hon heddiw.

Yn lleol i mi, rwy'n gwybod bod Coleg Gwent yn rhagweld y bydd yn cynnig oddeutu 100 yn llai o leoedd prentisiaeth newydd o fis Medi eleni. Mae llawer o'u darpariaeth prentisiaethau ym maes gweithgynhyrchu, peirianneg ac adeiladu, felly bydd cyflogwyr lleol yn gweld gostyngiad yn y lleoedd a fydd ar gael yn y sectorau hynny. Rwy'n gwybod hefyd fod y coleg wedi bod yn gweithio’n galed gyda nifer o gyflogwyr sydd am dyfu prentisiaethau mewn meysydd fel technoleg ddigidol, lletygarwch ac iechyd, er enghraifft, a bydd yn rhaid i’r sectorau hynny aros nawr hyd nes y bydd cyllid pellach ar gael i dyfu prentisiaethau yn y ffordd y byddent hwy a'r coleg am ei gweld.

Rwyf hefyd yn ymwybodol o ddarparwyr hyfforddiant sy'n canolbwyntio'n arbennig ar bobl ifanc sydd wedi ymddieithrio drwy brentisiaethau a hyfforddiant, ac wrth wneud hynny, maent yn ein helpu i fynd i'r afael â'r nifer o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Wrth gwrs, mae hwnnw’n waith hanfodol sy'n cael lle canolog yn ein hagenda cyfiawnder cymdeithasol yma yng Nghymru, a bydd yn ein helpu i ddiwallu anghenion ein heconomi yn y dyfodol, o ran y sgiliau sydd ar gael a’r gweithwyr sydd ar gael.

Credaf hefyd fod gwaith i’w wneud mewn perthynas â phrentisiaethau presennol, a'r ffordd rydym yn eu strwythuro a’r cynnwys. Clywaf lawer o bobl yn sôn am yr agenda 14-19, a gwn fod Gweinidog yr economi yn gweithio gyda’r Gweinidog addysg ar y materion hyn. Weithiau, nid yw pobl ifanc 14 oed, sy'n dymuno cael profiad mwy galwedigaethol, yn cael y cyfleoedd a’r dewis y byddent yn dymuno'u cael, ac weithiau maent yn parhau yn yr ysgol pan fyddent yn hoffi mynd i’r coleg addysg bellach lleol, er enghraifft. Ac o ganlyniad i fethu cael y dewisiadau y byddent yn eu ffafrio, maent yn ymddieithrio, nid ydynt yn mynd i'r ysgol mor aml ag y dylent, ac yna weithiau, pan fyddant yn mynd i'r coleg, pan fyddant yn 16 oed ac yn gallu dechrau cyrsiau galwedigaethol yn y coleg, maent yn gweld nad oes ganddynt y sgiliau rhifedd a llythrennedd gofynnol, oherwydd yr ymddieithrio o'r adeg pan oeddent yn 14 oed. Felly, rwy'n credu bod angen i ni gysylltu’n well, yr ysgolion a cholegau addysg bellach, i roi gwell dewis a gwell ansawdd i'n pobl ifanc.

Ac rwyf hefyd yn clywed llawer o bobl yn dweud eu bod yn credu nad yw'r cydbwysedd bob amser yn iawn mewn prentisiaethau, er enghraifft, y rhai ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, o ran yr elfennau ymarferol a dysgu drwy wneud, o gymharu â'r agweddau mwy academaidd. Er mwyn bod yn barod i weithio i gyflogwyr, ac i ymgysylltu’n well â’u profiad addysg a hyfforddiant eu hunain, maent yn credu y byddai’n well pe byddent yn canolbwyntio mwy ar y dull ymarferol, dysgu drwy wneud hwnnw.

Felly, rwy'n credu bod materion yn codi ynghylch y prentisiaethau sydd gennym, wrth gwrs, a gallent gael eu cryfhau mewn gwahanol ffyrdd, ond yn y pen draw, hyd nes y cawn Lywodraeth Lafur y DU yn gweithio gyda'n Llywodraeth yma yng Nghymru, a symud oddi wrth yr agenda gyni wirioneddol gyfyngol sy'n gwneud cymaint o niwed, ni fyddwn mewn sefyllfa i wneud yr hyn yr hoffai cymaint ohonom yn y Siambr ein gweld yn ei wneud mewn perthynas â phrentisiaethau a chymaint o bethau eraill. Felly, gorau po gyntaf y cawn Lywodraeth Lafur yn y DU.

17:35

Diolch, Lywydd, a diolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau o bob rhan o’r Siambr yn y ddadl hon. Mae llawer i gytuno arno, o ran gwerth prentisiaethau. Yr her, serch hynny, yw: beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud â’r heriau sy’n ein hwynebu wrth fantoli'r gyllideb? Mae dewisiadau Llywodraeth y DU a chwyddiant uchel yn golygu bod ein cyllideb y flwyddyn nesaf bellach yn werth £1.3 biliwn yn llai o gymharu â’r ffigurau a osodwyd yn wreiddiol gan y Canghellor ddwy flynedd yn ôl. Neu i roi hynny mewn ffordd arall, roedd gan Cwm Taf Morgannwg, y llynedd, £1.2 biliwn i redeg eu holl wasanaethau—bydwragedd, ymwelwyr iechyd, practisau lleol, gwasanaethau cymunedol, ac ystod o ysbytai—ac rydym wedi colli gwerth mwy na’u cyllideb gyfan o gyllideb Llywodraeth Cymru. Yn ychwanegol at hynny, mae colli'r arian a oedd i fod i gael ei ddarparu yn lle cyllid yr UE yn golygu ein bod £375 miliwn y flwyddyn yn waeth ein byd, neu o'i roi mewn ffordd arall, cyllideb refeniw gyfan cyngor Caerffili. Dyna’r bwlch y mae'n rhaid i ni ei lenwi.

Nawr, rwyf wedi clywed llawer am effaith y toriadau Torïaidd hyn—ymdrech ddewr gan un Tori i ddweud nad ei thoriadau hi mohonynt o gwbl. Nid ydym wedi clywed llawer ynglŷn ag a ddylai iechyd a llywodraeth leol, er enghraifft, fod yn flaenoriaethau cyllidebol i Lywodraeth Cymru. Mae canlyniad i hynny. Nid ydym wedi clywed unrhyw beth ynglŷn â pha feysydd y dylid eu torri i ddiogelu prentisiaethau. Mae’r cronfeydd ffyniant bro, y buom yn sôn ychydig amdanynt heddiw, yn gwahardd awdurdodau lleol yn benodol rhag cyfuno arian ar gyfer y mathau hyn o raglenni Cymru gyfan, hyd yn oed y rhai sydd â gwerth, diben a chefnogaeth o amgylch y Siambr hon, fel prentisiaethau.

Mae'n werth cofio faint o ddefnydd roeddem yn ei wneud o arian Ewropeaidd: gwariwyd dros £200 miliwn yn y rownd ddiwethaf o gronfeydd Ewropeaidd ar gefnogi prentisiaethau. Nid yw hwnnw'n swm o arian hawdd ei ganfod ar y gorau, heb sôn am ar ôl bron i 14 mlynedd o gyni. Er gwaethaf y toriadau gan Lywodraeth y DU, byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn prentisiaethau o safon i ddarparu dyfodol llwyddiannus i’n pobl ifanc, ac yn wir, fel rhan o’n rhaglen bob oed, i’n holl brentisiaid.

Yn ystod dwy flynedd ariannol lawn gyntaf tymor y Senedd hon, buddsoddodd Llywodraeth Cymru £273 miliwn mewn prentisiaethau. Y llynedd, fe wnaethom fuddsoddi £147 miliwn mewn prentisiaethau—y ffigur uchaf a wariwyd mewn unrhyw flwyddyn. Rydym eisoes wedi ymrwymo dros £400 miliwn i brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon. Rwyf wedi dweud yn glir fod penderfyniadau anodd wedi’u gwneud yng nghyllideb yr economi. O fewn y gyllideb honno, dewisais flaenoriaethu prentisiaethau, ac mae hynny ynddo’i hun yn arwain at ganlyniadau i bob maes arall yn fy nghyllideb. Buom yn sôn amdanynt gerbron y pwyllgor diwylliant heddiw: y realiti fod diogelu’r gwariant hwnnw mewn termau cymharol yn arwain at ganlyniadau real ym mhobman arall. Ond fe wneuthum hynny am fy mod yn credu bod buddsoddi mewn prentisiaethau yn helpu i adeiladu gyrfaoedd cryfach, i gael swyddi sy'n talu'n well ac i gynnig cyfle i gamu ymlaen yn eich gyrfa. Dyna pam mai dyma'r flaenoriaeth unigol fwyaf o hyd o ran gwariant yn fy nghyllideb adrannol. Byddwn yn buddsoddi £138 miliwn y flwyddyn nesaf mewn prentisiaethau ar gyfer y buddion hirdymor a’r gyrfaoedd y maent yn eu darparu. Mae hynny'n golygu dewisiadau anodd ar gyfer cyllidebau eraill sydd wedi'u lleihau.

Bydd nifer y prentisiaethau sy'n dechrau yn ystod y tymor cyfan hwn o leiaf ar yr un lefel ag yn nhymor cyfan diwethaf y Senedd. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar y sectorau lle gwyddom y bydd cyfleoedd prentisiaeth yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Byddant yn parhau i gefnogi ein gwarant i bobl ifanc, gan helpu pobl ifanc ar ddechrau eu gyrfaoedd, a bydd busnesau'n dal i allu recriwtio prentisiaid i ddod o hyd i gyfleoedd i ddatblygu eu staff eu hunain. Yn onest, fodd bynnag, fe fydd yn golygu llai o gyfleoedd prentisiaeth, yn enwedig yn y meysydd nad ydynt wedi’u nodi fel blaenoriaethau. Rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedodd Jane Dodds am faes blaenoriaeth allweddol wrth bontio i sero net. Felly, byddwn yn parhau i flaenoriaethu sectorau lle credwn y gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf.

Mae ein cryfderau cydnabyddedig yng Nghymru a’n potensial ar gyfer twf yn parhau i wneud Cymru yn lle gwych i fuddsoddi ynddo. Mae ein blaenoriaethau economaidd yn adeiladu ar ein henw da fel Llywodraeth sefydlog y gall busnesau weithio gyda hi a chynllunio gyda hi. Er gwaethaf y pwysau ar ein cyllidebau, byddwn yn parhau i fuddsoddi yn y sectorau a’r sgiliau a fydd yn ysgogi twf ac adfywio economaidd, ac mae hynny’n cynnwys parhau i fuddsoddi yn ein rhaglen radd-brentisiaethau, gyda’r rhaglen peirianwyr rheilffyrdd newydd yn dechrau ym mis Ionawr eleni, ac adeiladu yn dechrau ym mis Medi eleni. [Torri ar draws.] Fe ildiaf.

17:40

Diolch am dderbyn yr ymyriad. Diolch. Fe sonioch chi am bwysau ar y gyllideb a’r ffaith nad yw Llywodraeth y DU yn ariannu Cymru’n briodol. Pe bai Llafur yn dod i rym yn San Steffan yn yr etholiad nesaf, a fyddai Keir Starmer yn rhoi cyllid teg i Gymru, ac a wnewch chi ymrwymo i roi pwysau ar Lywodraeth Lafur y DU i roi’r cyllid teg sydd ei angen arnom yng Nghymru er mwyn ariannu’r prosiectau hyn?

17:45

Dof yn ôl at gyllid prentisiaethau ar gyfer y dyfodol—rwy'n falch iawn eich bod wedi gwneud y pwynt. Fodd bynnag, hoffwn ymdrin â rhai o’r pwyntiau eraill a wnaed yn y ddadl.

Roedd Jack Sargeant yn llygad ei le, cafodd Llywodraeth y DU wared ar allu Llywodraeth Cymru i gymryd rhan mewn rhaglenni prentisiaeth Cymru gyfan. Roeddent yn gwybod y byddai hynny’n golygu y byddai’r rhaglen brentisiaethau'n doredig. Rwy'n falch fod Huw Irranca-Davies wedi crybwyll yr ardoll brentisiaethau. Derbyniodd y Gweinidog cyllid ar y pryd—Mark Drakeford—un nodyn, sef y byddai swm yn cael ei ddarparu gyda’r ardoll brentisiaethau. Y broblem yw bod Cymru wedi colli £9 miliwn. Mae Cymru wedi colli £9 miliwn yn sgil cyflwyno’r ardoll brentisiaethau. Ni ddylem wrando ar y Torïaid na’r rhai sy'n eu hamddiffyn sy’n dal i ddweud bod yr ardoll brentisiaethau'n llwyddiant—mae’n gost i Gymru.

Awgrymwyd y dylem gael model ariannu hirdymor cynaliadwy. Hoffwn gael hynny; mae'n ddyhead ar gyfer y tymor hir. Fodd bynnag, mae realiti rownd ar ôl rownd o gyni pellach gan Lywodraeth y DU yn golygu na allwn wneud hynny. Ym mlwyddyn olaf y setliad cyllido tair blynedd presennol, nid oes gennym unrhyw sicrwydd o’n cyllid y tu hwnt i hynny. Nid oes gennym unrhyw syniad beth a ddaw o gyllideb Llywodraeth y DU ym mis Mawrth. Efallai na fydd yn newyddion da. Rydym yn disgwyl i Lywodraeth y DU gynnal adolygiad o wariant amlflwyddyn i roi sicrwydd hirdymor i ni. Fodd bynnag, nid oes gennym unrhyw fanylion ynglŷn ag a fydd hynny'n digwydd.

I ymdrin â’r pwynt ynghylch y bwlch yng ngwerth contractau, mae oddeutu £40 miliwn yn fras. Pe baem yn llenwi’r bwlch hwnnw ar gyfer darparwyr prentisiaethau, mae hynny’n fwy na chyllideb gyfunol Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Gallem gau'r ddau sefydliad, a byddem yn dal i fethu llenwi'r bwlch presennol yng ngwerth contractau. Ni ddylai unrhyw un roi rhwydd hynt i’r Torïaid dorri addewidion refferenda, i dorri addewidion maniffesto, i dorri addewidion a wnaed yn y Siambr hon. Dyma ganlyniad uniongyrchol y Torïaid yn torri eu haddewidion; y canlyniad uniongyrchol lle mae gan Gymru lai o lais dros lai o arian. Ac mae'n rhagrithiol i Aelodau Torïaidd gwyno yn y Siambr hon ac yn y cyfryngau na allwn wario mwy o arian yn y maes hwn, gan ganmol dull Llywodraeth y DU sy'n mynd ag arian o Gymru ar yr un pryd—mwy na £1.3 biliwn yn llai na ddwy flynedd yn ôl, colli refeniw o gronfeydd yr UE sy'n gyfwerth â chyllideb refeniw gyfan cyngor Caerffili. Dyna maent wedi’i wneud, ac eto, maent yn dal i fod eisiau inni ganmol y ffaith bod gan Gymru lai o lais dros lai o arian. Nid yw'r Llywodraeth hon yn mynd i wneud hynny.

Mewn cyferbyniad, os byddwn yn Llywodraeth Lafur nesaf y DU, mae Llafur y DU wedi ymrwymo y bydd y cyllidebau a’r pwerau’n cael eu rhoi yn ôl lle dylent fod: gyda Llywodraeth Cymru, gyda’r Senedd hon. Rwyf wedi ymrwymo'n bersonol i adfer rhaglen brentisiaethau genedlaethol; mae’r Llywodraeth hon yn parhau i fod yn ymrwymedig i brentisiaethau ar gyfer ein dyfodol economaidd. Byddaf yn falch o allu gwneud hynny ar y cyflymder y credaf fod ein gwlad yn ei haeddu, a phan fydd gennym y cyllid rydym yn ei haeddu.

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r holl Aelodau a gyfrannodd at y ddadl. Rwy'n credu mai’r hyn a atgyfnerthwyd yn y ddadl oedd rhywbeth roedd pob un ohonom eisoes yn gwybod ei fod yn wir, sef bod pob un ohonom, ar draws y pleidiau, yn derbyn pwysigrwydd prentisiaethau. A gobeithio bod y Gweinidog yn sylweddoli bod ganddo nifer o gynghreiriaid ar draws y Siambr ar yr agenda brentisiaethau. Ni fydd rhai ohonom yn ei enwebu i fod yn Brif Weinidog, ond ar yr agenda hon, mae ganddo gynghreiriaid yn wir.

Rwy'n credu bod Huw Irranca wedi crybwyll rhai pwyntiau allweddol: cyllid yr UE a’r ardoll brentisiaethau. Ar gyllid yr UE, mae’n tynnu sylw at y ddadl a gawsom ddoe: yr angen am gyllid teg i Gymru, nad ydym yn ei weld ar hyn o bryd. Ac mae angen mynd i'r afael â'r ardoll, wrth gwrs, fel y dywedodd y Gweinidog, gan fod Cymru ar ei cholled o ganlyniad i'r ffaith nad yw'r ardoll yn gweithio drwy fformiwla Barnett. Fe sonioch chi hefyd am yr angen am sgyrsiau anodd, ac rwy'n cytuno.

Gofynnodd y Gweinidog beth y gall y Llywodraeth ei wneud. Wel, buaswn yn dechrau, efallai, gyda pharodrwydd i ymgysylltu ychydig bach mwy â’r gwrthbleidiau ar broses y gyllideb, ac mewn ffordd ychydig yn fwy tryloyw. Wyddoch chi, soniais am gynghreiriaid yma. Un syniad, o bosibl, yw pe bai pob un ohonom yn gweithio ar ffordd ymlaen fel Senedd—fel Senedd, tynnu sylw at y blaenoriaethau y dymunwn eu gweld yn y gyllideb, rhyw fath o gyllideb 'Cymru’n un’ mewn cyfnod o argyfwng cyllidol. Fy marn bersonol i yw hynny, Lywydd, ond roedd yn adeiladu ar yr hyn a nododd Huw Irranca a'r sgyrsiau anodd y bydd angen i ni eu cael. Gorau oll po fwyaf agored y bydd y sgyrsiau hynny, po fwyaf o ddata, o wybodaeth a fydd gennym—pob un ohonom—i allu cael y sgyrsiau anodd hynny.

Un peth allweddol y soniodd nifer o’r Aelodau amdano oedd effaith draws-sector y toriadau i brentisiaethau. Rydym wedi siarad ym mhroses y gyllideb hyd yma am feysydd blaenoriaeth. Mae gwelliannau’r Ceidwadwyr yn cyfeirio at hyn yn yr ystyr inni sôn ym mhroses y gyllideb am iechyd fel maes blaenoriaeth. Wel, bydd toriadau i brentisiaethau yn cael effaith negyddol ar y portffolio iechyd yn yr ystyr ein bod yn gweld toriadau i brentisiaethau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Os yw’r rhesymeg yn dilyn, felly, fod iechyd yn flaenoriaeth, mae’n siŵr y byddai hynny'n golygu y dylai cymorth i brentisiaethau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol fod yn flaenoriaeth hefyd. Rwy'n credu mai Darren Millar a nododd y bydd toriadau polisi yn y maes penodol hwn yn cael effeithiau negyddol ar feysydd eraill, ac felly'n arwain at gostau mewn meysydd eraill, ac yn troi wedyn yn broblemau eraill.

Os nad ydym yn ofalus, os nad ydym yn gwneud hyn yn iawn, credaf ein bod yn sôn am gambl ddifrifol, a gambl gostus ar hynny. Byddwn yn mygu ein gallu i drosglwyddo i sero net. Byddwn yn mygu ein gallu i gyflawni ein huchelgeisiau yn y sectorau technoleg newydd—un enghraifft yw'r sector lled-ddargludyddion. A byddwn wedi methu darparu gwasanaethau cyhoeddus i'r safonau yr hoffai pob un ohonom eu gweld. Rwy'n ceisio osgoi defnyddio iaith ddramatig, Lywydd, ond mae pob arwydd y bydd y toriad hwn yn cael effaith ddinistriol nid yn unig ym maes prentisiaethau yn benodol, ond ar draws pob sector yn ein heconomi ac ar draws pob un o bortffolios y Llywodraeth.

Hoffwn ddiolch eto i’r holl Aelodau am eu cyfraniadau. Gobeithio mai dyma'r dechrau, mewn gwirionedd, i allu gweithio gyda'n gilydd ar yr agenda benodol hon; fel y dywedais, mae gan y Gweinidog gynghreiriaid yn y maes hwn. Felly, rwy'n gwneud y cynnig, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau’n ei gefnogi, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi gwelliannau’r Ceidwadwyr yn yr achos hwn hefyd. Diolch.

17:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly fe wnawn ni adael y pleidleisiau tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, awn ni'n syth i'r pleidleisiau.

Y bleidlais gyntaf y prynhawn yma yw'r bleidlais ar eitem 5, y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar sicrwydd hinsawdd i blant a phobl ifanc. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Delyth Jewell. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, 17 yn ymatal, 13 yn erbyn, ac felly mae'r bleidlais yna wedi ei chymeradwyo. 

Eitem 5. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod – Bil ar sicrwydd hinsawdd i blant a phobl ifanc: O blaid: 22, Yn erbyn: 13, Ymatal: 17

Derbyniwyd y cynnig

Y bleidlais nesaf fydd y bleidlais ar eitem 6, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar arolygu ac ariannu gofal iechyd. Rwy'n galw am bleidlais felly ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Arolygu ac ariannu gofal iechyd. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

17:55

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Agor y bleidlais ar welliant 1. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, felly dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Ac felly, mae'r gwelliant wedi'i drechu, gyda 26 pleidlais o blaid a 27 yn erbyn. 

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Arolygu ac ariannu gofal iechyd. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 fydd nesaf, yn enw Mabon ap Gwynfor. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 14 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 2 wedi'i gymeradwyo. 

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Arolygu ac ariannu gofal iechyd. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Mabon ap Gwynfor: O blaid: 38, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 3 fydd nesaf, yn enw Mabon ap Gwynfor. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 52, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Mae gwelliant 3 wedi'i dderbyn.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Arolygu ac ariannu gofal iechyd. Gwelliant 3, cyflwynwyd yn enw Mabon ap Gwynfor: O blaid: 52, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8452 fel y'i diwygiwyd

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru 2022-2023.

2. Yn gresynu bod yr adroddiad:

a) yn amlygu risgiau yn ymwneud â gofal brys, pryderon staffio, llif gwael cleifion a hygyrchedd apwyntiadau;

b) yn datgan bod oedi yn aml o ran rhyddhau cleifion oherwydd prinder staff gofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol i asesu anghenion rhyddhau; ac

c) heb ddod o hyd i dystiolaeth fod mentrau Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth clir a sylweddol i wasanaethau ar y rheng flaen.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) dileu toriadau a wnaed i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yng nghyllideb ddrafft 2024-2025, ac ehangu eu cylch gwaith i ymchwilio i gwynion;

b) sefydlu amserlen gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar gyfer archwilio'r bron i 60 y cant o wasanaethau gofal iechyd nad ydynt wedi'u harolygu yn ystod y 5 mlynedd diwethaf;

c) gwneud cais ffurfiol i Lywodraeth y DU am adolygiad cynhwysfawr o Fformiwla Barnett i sicrhau cyllid teg ar gyfer pob maes cyllideb yng Nghymru, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol;

d) cyflwyno cynllun sylweddol ar gyfer y gweithlu gydag ad-daliad ffioedd dysgu ar gyfer gweithwyr gofal iechyd sy'n aros yng Nghymru am bum mlynedd ar ôl eu hastudiaethau; ac

e) cynyddu nifer y prentisiaethau gradd sydd ar gael yn y sector gofal iechyd i roi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc ymuno â'r proffesiwn ac aros yng Nghymru i weithio.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 40 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i wrthod. 

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Arolygu ac ariannu gofal iechyd. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Mae'r pleidleisiau nesaf ar ddadl Plaid Cymru ar brentisiaethau. Mae'r bleidlais gyntaf ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Luke Fletcher. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi'i wrthod. 

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Prentisiaethau. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 fydd nesaf, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Felly, pleidlais ar welliant 1, yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, ac felly dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 1. Felly, mae gwelliant 1 yn cael ei drechu o 26 pleidlais o blaid i 27 pleidlais yn erbyn. 

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Prentisiaethau. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 fydd nesaf, yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, felly dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 2. Mae'r bleidlais yn cael ei threchu o 26 pleidlais i 27 yn erbyn. Felly, gwelliant 2 wedi cwympo. 

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Prentisiaethau. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 3 sydd nesaf, yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod. 

18:00

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Prentisiaethau. Gwelliant 3, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 25, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Felly, mae hynny'n golygu bod yr holl welliannau a'r cynnig wedi'u gwrthod a does dim byd wedi'i gymeradwyo o dan yr eitem yna. Dyna ddiwedd ar ein cyfnod pleidleisio ni, ac awn ni ymlaen gyda'r ddadl fer. 

9. Dadl Fer: Strwythuro system gofal cymdeithasol sy'n addas ar gyfer Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain

Os gwnaiff Aelodau yn y Siambr adael yn dawel, mae'r ddadl fer heddi i'w chyflwyno gan Gareth Davies. 

Gareth Davies, gallwch ddechrau'r ddadl fer. 

Diolch, Lywydd. Heddiw, rwy'n mynd i siarad am ofal cymdeithasol yng Nghymru a thrafod rhinweddau gwahanol atebion sydd ar gael a all liniaru rhai o'r heriau mewn sector cymhleth sydd â llawer o broblemau cymhleth. Rwy'n bwriadu rhoi munud o fy amser i fy nghyd-Aelod James Evans.

Hoffwn ddechrau drwy gydnabod yr amser y mae degau o filoedd o bobl ledled Cymru yn ei roi i ofalu am eraill, boed yn ofal cymdeithasol mewn rôl broffesiynol neu'n gymorth di-dâl i eraill, gan gynnwys rhieni neu blant. Ceir barn bron yn unfrydol fod gofal cymdeithasol yng Nghymru yn dal i fod yng nghanol argyfwng, gyda 100 y cant o arweinwyr y GIG a arolygwyd yn cytuno â'r asesiad hwn yn 2022. Ac er fy mod yn derbyn bod llawer o'r heriau hyn heb fod yn unigryw i Gymru, rwy'n gobeithio y bydd y ddadl hon yn taflu goleuni ar rai o'r materion mwyaf heriol ym maes gofal cymdeithasol. Ond yn bwysig, bydd y ddadl hon yn rhoi cyfle i Aelodau'r Senedd drafod atebion i rai o'r problemau hyn.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Rhai o'r materion sy'n effeithio ar ofal cymdeithasol yng Nghymru yr hoffwn eu crybwyll y prynhawn yma yw recriwtio a chadw gweithlu, a pherthynas well rhwng ymddiriedolaethau'r GIG a'r sector gofal cymdeithasol. Anfonais ddogfen at yr Aelodau gyda ffigurau diweddar sy'n tynnu sylw at beth o'r pwysau ar y sector gofal cymdeithasol ar hyn o bryd. Mae lefelau cadw staff yn y gweithlu yn arbennig o wael yn y sector gofal cymdeithasol gyda throsiant staff arbennig o uchel. Mae yna resymau amrywiol am hyn ond yn bennaf, mae cyflogau isel yn y sector gofal cymdeithasol yn golygu bod gofalwyr yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi. Rydym yn aml yn gweld bod gweithwyr gofal yn gadael y proffesiwn i waith arall sy'n talu cyflog tebyg iawn ond sy'n anochel yn cynnwys llai o gyfrifoldeb. Mae llawer o weithwyr gofal yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi am y rheswm hwn ac mae'n rhaid iddynt weithio oriau anghymdeithasol gyda chyflog sydd yr un fath ag i weithiwr archfarchnad. Pam y byddai rhywun eisiau aros yn y sector gofal gyda'r baich cyfrifoldeb o ofalu am les rhywun arall pan nad yw hynny'n cael ei adlewyrchu yn y tâl gofal cymdeithasol, pan ystyriwch y cyfrifoldebau sydd ganddynt o gymharu â sectorau eraill lle mae cyflogau'n isel?

Gall yr opsiynau ar gyfer camu ymlaen mewn gyrfa fod yn brin hefyd, gyda'r rhan fwyaf o rolau gofalu heb fod yn cynnig llwybr go iawn ar gyfer camu ymlaen. Bydd cyflog teg sy'n adlewyrchu'r gwaith y mae'r rhai yn y sector gofal yn ei wneud, ynghyd ag amodau gwaith da, yn cyfrannu'n helaeth at sicrhau bod gweithwyr gofal yn teimlo eu bod yn cael tâl iawn am eu llafur.

Dangosodd astudiaeth a gyflawnwyd gan Oxfam yn 2020 fod 68 y cant o oedolion yng Nghymru yn credu nad yw gwaith gofal yn cael ei werthfawrogi'n ddigonol gan Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol, gan ei godi i £10.90 yr awr, ac rydym yn cefnogi hynny. Yn realistig, lleiafswm pur yw hwn ac mae'n rhybudd na fydd rhagor o arian gan y Llywodraeth yn datrys y mater ar ei ben ei hun, ond gyda'r model buddsoddi cywir, byddai'r diwydiant yn talu cyflog teg. Hoffwn weld mwy o fuddsoddiad mewn addysg gynnar, sy'n creu 2.5 gwaith cymaint o swyddi â'r un buddsoddiad mewn adeiladu ac yn cynhyrchu mwy o enillion treth. Mae gwariant ar fudd-daliadau nawdd cymdeithasol hefyd yn gostwng am ei fod yn galluogi rhieni i weithio mwy o oriau heb gymorth gwladwriaethol.

Mae'r baich ar y GIG hefyd yn cael ei leihau'n sylweddol pan fydd gennym system gofal cymdeithasol lwyddiannus a gweithredol. Ar hyn o bryd, rydym yn dal i weld tagfeydd yn ffurfio mewn wardiau ysbyty lle nad yw cleifion yn cael eu rhyddhau pan fyddant yn ffit yn feddygol i gael eu rhyddhau, am na ellir cael y gofal priodol gartref. Mae pobl felly'n mynd â gofod gwely gwerthfawr mewn ysbytai, sy'n costio mwy o arian i'r trethdalwr ac yn achosi oedi i gleifion y mae mwy o angen gwely arnynt.

Un llwybr arbennig y credaf y dylid ei archwilio er mwyn cynorthwyo recriwtio i'r sector gofal cymdeithasol yw defnyddio'r sgiliau trosglwyddadwy sydd gan weithwyr gofal di-dâl. Yn ôl data cyfredol y cyfrifiad, mae 310,000 o weithwyr gofal di-dâl yng Nghymru, ac os ydynt yn dewis gyrfa yn y sector gofal sy'n anatyniadol ar hyn o bryd, ni cheir cydnabyddiaeth i'w cyfrifoldebau gofalu y tu allan i leoliad proffesiynol. Rwy'n credu y dylid cydnabod a mireinio'r sgiliau trosglwyddadwy hyn mewn lleoliad proffesiynol gyda rhywbeth tebyg i gynllun hyfforddiant gofal llwybr cyflym i'r rhai sydd â phrofiad personol o ofal di-dâl.

Roedd cyhoeddi'r gyllideb ddrafft gan Lywodraeth Cymru yn peri pryder, gyda bwlch cyllid a ragwelir o £646 miliwn yn y gwasanaethau cymdeithasol. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud bod cynghorau yn wynebu'r lefelau uchaf erioed o alw mewn gwasanaethau i blant ac i oedolion.

Mae yna lawer o ffactorau eraill sy'n gysylltiedig ac sy'n cydblethu â'r gwasanaeth iechyd, fel atal. Bydd 'Cymru Iachach' ac ymwybyddiaeth gyffredinol y cyhoedd o fwyta'n iachach yn arwain at atal llawer o broblemau gofal cymdeithasol y gellid bod wedi'u hosgoi. Bydd symudiad cyffredinol tuag at Gymru iachach yn gostwng cyfraddau gordewdra a chlefyd y galon, a bydd yn lleihau'r pwysau ar ofal cymdeithasol yn sylweddol. Mae ffigurau o 2021 yn dangos bod 62 y cant o bobl yng Nghymru dros eu pwysau neu'n ordew, sy'n cynyddu'n sylweddol y tebygolrwydd y bydd unigolion gordew angen gofal, neu gleifion bariatrig, fel y cyfeirir atynt mewn lleoliadau gofal iechyd.

I orffen, Ddirprwy Lywydd, mae pobl sy'n darparu gofal a chymorth i eraill, gan gynnwys rhieni, gofalwyr di-dâl a'r gweithlu gofal plant a gofal cymdeithasol, yn ffurfio rhwydwaith anweledig sy'n dal cymdeithas gyda'i gilydd. Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod pwysigrwydd gwaith gofal yn y gymdeithas a phwysigrwydd y diwydiant, ac yn cydnabod yr argyfwng yn gyntaf a mabwysiadu atebion i'r problemau hyn. Diolch yn fawr iawn. 

18:05

Hoffwn ddiolch i Gareth Davies am gyflwyno'r ddadl fer hon i'r Siambr heddiw, gan ein bod i gyd yn gwybod am y cysylltiad rhwng gofal cymdeithasol â lleddfu'r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd ehangach yma yng Nghymru. Rydym i gyd yn gwybod bod llawer gormod o bobl yn eistedd yn ein hysbytai gydag oedi wrth drosglwyddo gofal rhwng ein hysbytai a'r system ofal, ac mae'n rhywbeth roeddwn am ei godi heddiw, oherwydd gwn fod llawer o fy etholwyr yn gaeth mewn ysbytai ac nad oes ganddynt y pecynnau gofal sydd eu hangen arnynt i ddod yn ôl adref neu ddychwelyd i'r gymuned. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed gan y Dirprwy Weinidog heddiw pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo gofal, oherwydd os gallwn wneud hynny, byddai'n tynnu cymaint o bwysau oddi ar ein hadrannau damweiniau ac achosion brys ac yn cael y bobl sy'n aros y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys i mewn iddynt ac at y gofal sydd ei angen arnynt yn ein hysbytai.

Galwaf ar Ddirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Julie Morgan.

Diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl.

Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod yr Aelod dros Ddyffryn Clwyd am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn heddiw a hefyd am bwysleisio pwysigrwydd y system ofal i gymdeithas gyfan. Rwyf wedi ymrwymo'n ddwfn i sicrhau bod ein dinasyddion mwyaf agored i niwed, a'r rhai sy'n gofalu amdanynt, yn gallu byw bywydau iach a chyflawn, gan gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddynt.

Fel Llywodraeth, cefnogi ein pobl fwyaf agored i niwed yw ein prif flaenoriaeth, ac rwy'n falch o'n hanes o flaenoriaethu buddsoddiad mewn gwasanaethau a fydd yn eu cefnogi. Er enghraifft, rydym yn parhau i ddiogelu, ac yn wir i gynyddu'r setliad llywodraeth leol, gyda chynnydd o 3.1 y cant yn cael ei gynnig ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae hyn yn cynnwys cyllid o fewn y setliad refeniw i lywodraeth leol i dalu cost y cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol. Cydnabu Gareth yn ei araith ei fod yn cefnogi cyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol, a diolch iddo am gydnabod pwysigrwydd hynny.

Rydym wedi dangos arweinyddiaeth ymroddedig wrth ddiogelu gwasanaethau ar gyfer ein grwpiau mwy agored i niwed yng Nghymru, a— 

Er bod y cyflog byw gwirioneddol yn cael ei gefnogi gennyf fi a grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, mae hefyd yn ddyletswydd arnom, rwy'n credu, i edrych ar syniadau eraill ar draws gyrfa gweithiwr gofal cymdeithasol, o ran hyfforddiant a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn y rolau hynny fel bod y cyflog wedyn yn ategu gyrfa dda a all ddenu pobl i'r gweithlu, fel eu bod yn teimlo ei bod yn yrfa werth chweil a bod modd camu ymlaen yn yr yrfa honno a thorri nenfwd gwydr, fel y nodais ar sawl achlysur.

18:10

Ie. Diolch yn fawr iawn. Unwaith eto, rwy'n cytuno â'r pwynt hwnnw, ac fel y gwyddoch, rydym wedi sefydlu'r fforwm gwaith teg ar gyfer gofal cymdeithasol, sydd wedi cynhyrchu argymhellion ar gyfer camu ymlaen o fewn y maes gofal cymdeithasol ac rydym wedi ymgynghori ar yr argymhellion hynny mewn gwirionedd. Ond mae'n amlwg yn bwynt pwysig iawn.

Felly, fel y dywedoch chi yn eich cyfraniad, Gareth, mae'r gweithlu gofal cymdeithasol yn flaenoriaeth fawr i ni yn Llywodraeth Cymru, ac rydym wedi buddsoddi cyllid sylweddol yn y sector, yn ogystal â'r setliad refeniw llywodraeth leol, er mwyn datblygu gweithlu gofal cymdeithasol cynaliadwy. Er enghraifft, rydym wedi rhoi £34.4 miliwn i awdurdodau lleol drwy'r grant gweithlu a gwasanaethau cynaliadwy; £13 miliwn ar draws rhanbarthau i gefnogi datblygu a hyfforddi'r gweithlu drwy raglen datblygu gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru a weinyddir gan Gofal Cymdeithasol Cymru, sydd hefyd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru; a buddsoddiad o £10 miliwn, dros dair blynedd, yn y fwrsariaeth i weithwyr cymdeithasol i wneud y radd gwaith cymdeithasol yn gyraeddadwy yn ariannol ac i ddenu pobl i yrfa ddeniadol, ac rydym eisoes wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n gwneud cais i ddilyn cyrsiau gwaith cymdeithasol oherwydd y fwrsariaeth, felly rwy'n credu bod hynny'n gynnydd da.

Yn ogystal â hyn, rydym yn parhau i ddiogelu buddsoddiad a fydd yn meithrin gallu cymunedol i alluogi pobl fregus i fyw ac aros yn iach gartref, a dyna ein nod—i bobl fregus fyw ac aros yn iach gartref. Rhai enghreifftiau o hynny: mae'r gronfa integreiddio rhanbarthol gwerth £146 miliwn yn cefnogi 187 o brosiectau sy'n darparu gwasanaethau iechyd a gofal integredig yn ein cymunedau. Mae'r prosiectau a'r gwasanaethau hyn yn gweithio gyda'n pobl fwyaf agored i niwed i'w galluogi i fyw mor annibynnol â phosibl yn y gymuned, gan helpu i atal yr angen i fynd i'r ysbyty neu i'w helpu i ddychwelyd adref yn gyflym os oes angen gofal ysbyty arnynt. Ac mae llawer o'r prosiectau hynny wedi'u targedu'n benodol tuag at hynny.

Ers 2022, rydym yn darparu £12 miliwn ychwanegol dros dair blynedd i wella gwasanaethau niwroddatblygiadol, a hefyd, o 2022, rydym wedi buddsoddi £42 miliwn i ddarparu cymorth mawr ei angen i ofalwyr di-dâl. Rwy'n gwybod bod Gareth wedi sôn am ofalwyr di-dâl yn benodol yn ei gyfraniad, ac maent yn dal y system gyfan at ei gilydd, ac rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod hynny. Rydym hefyd yn buddsoddi arian cyfalaf, drwy'r gronfa gyfalaf integreiddio ac ailgydbwyso, i gefnogi datblygiad hybiau cymunedol iechyd a gofal integredig, gan sicrhau bod pobl yn cael mynediad haws at wybodaeth, gofal a chymorth yn eu hardaloedd eu hunain. Mae'r gronfa gyfalaf hon hefyd yn cefnogi datblygiad cyfleusterau gofal preswyl nid-er-elw ledled Cymru, ac rwy'n siŵr y byddai gan yr Aelod o'r Senedd dros Ddyffryn Clwyd ddiddordeb mewn clywed—neu mae'n gwybod, rwy'n siŵr—ein bod wedi cytuno ar gyllid o dros £7 miliwn yn ddiweddar ar gyfer datblygu cartref preswyl 56 ystafell wely ar safle Croes Ati yn y Fflint i ddarparu gofal preswyl a gwasanaethau gofal integredig i bobl hŷn yn sir y Fflint, ac rwy'n edrych ymlaen at ymweld â'r safle hwn yn fuan iawn.

Yn ogystal â hyn, rhaid inni beidio ag anghofio ein hymrwymiad i gefnogi ein partneriaid cyflawni cymunedol ehangach yn y trydydd sector, y byddai llawer o bobl agored i niwed yn teimlo'n ynysig hebddynt ac yn methu cyflawni'r hyn sy'n bwysig iddynt. Mae'r gronfa integreiddio rhanbarthol yn buddsoddi dros £23.7 miliwn yn y sector hanfodol hwn, ynghyd â'r £9.3 miliwn y byddwn yn ei fuddsoddi y flwyddyn nesaf drwy ein grant trydydd sector i wasanaethau cymdeithasol cynaliadwy dros bum mlynedd.

Rwyf wedi bod yn gweithio'n agos iawn y gaeaf hwn gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae hi hefyd wedi buddsoddi £8.4 miliwn ychwanegol i adeiladu capasiti cymunedol a chynyddu nyrsio cymunedol ar benwythnosau, gan gynnwys i bobl sydd ar lwybrau gofal diwedd oes. Yn ei gyfraniad, gwn fod James Evans wedi sôn yn benodol am bobl a oedd yn aros yn yr ysbyty ac a oedd yn ffit yn feddygol i fynd adref. Dyna un o'n blaenoriaethau uchaf, oherwydd yn amlwg, mae'n niweidiol iawn i bobl aros yn yr ysbyty pan fyddant yn ffit yn feddygol ac yn gallu mynd. Ac rydym wedi gweithio'n agos iawn ar y mater, gan weithio gydag awdurdodau lleol ac adeiladu'r bartneriaeth. Yn wir, cawsom gyfarfod heddiw o'n pwyllgor gweithredu gofal, felly gallaf eich sicrhau mai dyma un o'n blaenoriaethau uchaf.

Rydym wedi gwneud gwaith helaeth iawn ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol i geisio sicrhau bod pobl yn cael eu rhyddhau'n gyflym o'r ysbyty er mwyn atal dirywiad pellach. Mae byrddau iechyd ac awdurdodau lleol wedi bod yn adrodd yn ffurfiol ar oedi mewn llwybrau gofal, ac erbyn hyn mae gennym ffordd lawer mwy penodol o adrodd ar oedi mewn llwybrau gofal ac rydym bellach yn gallu edrych yn llawer mwy penodol er mwyn mynd i'r afael ag oedi. O ganlyniad, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol eisoes ar leihau nifer y bobl sy'n aros i fynd adref neu fynd ymlaen i'w cam nesaf o ofal, ac rydym yn disgwyl mwy o ffigurau yn fuan iawn y credaf y byddant yn dangos ein bod ar y trywydd iawn, ein bod yn mynd i'r cyfeiriad iawn a bod y niferoedd yn gostwng. Felly, dim ond ychydig enghreifftiau'n unig yw'r rhain o'r gwaith a wnawn i gefnogi'r hyn y gwyddom eu bod yn rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru.

Fodd bynnag, dros y 30 mlynedd diwethaf mae poblogaeth Cymru wedi tyfu 8 y cant, neu 232,000 o bobl. Mae'r boblogaeth hefyd yn heneiddio, gyda nifer y bobl dros 65 oed wedi cynyddu 35 y cant, o 493,000 i 666,000, ac rydym yn disgwyl i'r duedd hon barhau. Am y rheswm hwnnw, mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i wneud mwy er mwyn sicrhau bod gennym system iechyd a gofal sy'n gynaliadwy ac yn effeithiol ar gyfer y dyfodol.

Mae adroddiad y grŵp arbenigol, a ddaeth yn sgil y cytundeb cydweithio â'n partneriaid ym Mhlaid Cymru, 'Tuag at Wasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol i Gymru', yn dweud wrthym, fel y mae'r gwerthusiad o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, fod nodau ac egwyddorion sylfaenol y ddeddfwriaeth sydd gennym yn dal i fod yn berthnasol ac yn dal i gael eu cefnogi'n eang iawn. Felly, rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gydag ystod eang o randdeiliaid i ddatblygu sylfeini gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru a fydd yn helpu i wella cysondeb ac ansawdd gwasanaethau gofal cymdeithasol ledled Cymru a chefnogi gweithredu'r Ddeddf yn fwy effeithiol. Fel y dywedais, rwy'n credu bod y ddeddfwriaeth, y Ddeddf, yn hollol iawn, ond mae gennym ffordd bell i fynd o hyd o ran y gweithredu.

Felly, er mwyn gosod y sylfeini ar gyfer cyflawni nodau'r Ddeddf a'n symud tuag at wasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol, rydym yn gweithredu rhaglen bwysig o welliant a newid sy'n cynnwys lansio fframwaith comisiynu cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth, sefydlu swyddfa genedlaethol ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth, dileu elw o ofal plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal, cryfhau a chefnogi ein gweithlu, cryfhau gweithio mewn partneriaeth ar draws iechyd a gofal cymdeithasol a datblygu system iechyd a gofal cymunedol integredig, ac adeiladu capasiti a gallu i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed i gael gofal yn nes at adref.

Gyda chefnogaeth ein partneriaid cytundeb cydweithio, bydd ein hymrwymiad i ddatblygu gwasanaeth gofal cenedlaethol yn helpu i wella a safoni systemau ac ymarfer gofal cymdeithasol ledled Cymru ac yn sicrhau bod ein gwasanaethau o ansawdd uchel, yn gyson ac yn canolbwyntio'n bendant iawn ar yr unigolyn, gan gefnogi pobl i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddynt. Bydd hyn, yn ei dro, yn cryfhau'r cyfraniad y gall gofal cymdeithasol ei wneud i'n trefniadau partneriaeth rhanbarthol a lleol sy'n dod ag awdurdodau lleol, byrddau iechyd a'r trydydd sector ynghyd i gynllunio a datblygu gwasanaethau cymunedol integredig i helpu pobl i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddynt.

Felly, unwaith eto, diolch i Gareth Davies am y cyfle i ymateb i'w ddadl ac i ailadrodd fy ymrwymiad parhaus i gefnogi ein pobl fwyaf agored i niwed ac i rannu rhai yn unig o'r cynlluniau ar gyfer yr hyn y bwriadwn ei wneud i gryfhau gofal cymdeithasol a chymunedol yng Nghymru ymhellach.

Diolch yn fawr am eich amser heddiw.

18:15

Daeth y cyfarfod i ben am 18:19.