Y Cyfarfod Llawn
Plenary
12/12/2023Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y byddwn ni'n trafod y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Mabon ap Gwynfor.
1. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am hyfywedd gwasanaethau bysys cyhoeddus yn Nwyfor Meirionnydd? OQ60440
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn, Llywydd. Rydyn ni’n gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Gwynedd i wella’r gwasanaethau bws sy’n cael eu darparu'n lleol yn ardal Dwyfor Meirionnydd. Mae hyn yn cynnwys y gwelliannau sydd wedi cael eu gwneud yn ddiweddar i wasanaethau TrawsCymru yn yr ardal. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi buddsoddi mewn bysiau trydan newydd.
Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Fe wnes i ymweld â chyflogwr sydd yn gorfod cau ym Mlaenau Ffestiniog yn ddiweddar. Maen nhw'n talu cyflog da wrth ystyried cyflogaeth y sector, ac mae gyda nhw lefydd gwaith eraill yn y gogledd hefyd. Ond, yn anffodus, dydy'r gweithlu profiadol a dawnus presennol sydd ym Mlaenau Ffestiniog ddim yn gallu ffeindio cyflogaeth arall oherwydd nad oes ganddyn nhw ffordd o gyrraedd y mannau gwaith hynny. Does ganddyn nhw ddim car preifat, a does dim bysiau yn teithio ar amser i'w cymryd i rannau eraill o'r gogledd. Mae diffyg bysiau, felly, yn effeithio'n uniongyrchol ar ein heconomi, ac yn arwain at broblemau eraill, problemau megis rhai cymdeithasol a iechyd meddwl, er enghraifft. Gwn fod yna Fil bysys yn yr arfaeth, ond mae'r problemau yma'n digwydd rŵan. Felly, pam gamau ydych chi am eu cymryd yn y tymor byr er mwyn gwella trafnidiaeth gyhoeddus a sicrhau bod pobl yn medru cyrraedd eu gwaith a'u canolfannau addysg?
Wel, Llywydd, mae gwasanaethau bysiau dan bwysau ym mhobman. Mae llai o deithwyr yn golygu llai o refeniw i gefnogi'r rhwydwaith blaenorol o lwybrau. Ond, yn ardal Dwyfor Meirionnydd, bydd Cyngor Gwynedd yn dechrau gwasanaeth T22 newydd yn gynnar yn 2024, a fydd yn gwella cysylltiadau rhwng Porthmadog, Blaenau Ffestiniog a Chaernarfon. Bydd hwnna'n rhedeg saith diwrnod yr wythnos, a gobeithio y bydd hwnna'n help i'r bobl sy'n byw yn yr ardal, ym Mlaenau Ffestiniog, yn y sefyllfa roedd Mabon ap Gwynfor wedi'i hesbonio.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru unrhyw effaith o ddatganiad hydref y Canghellor ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? OQ60412
Wel, Llywydd, ers dros ddegawd, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i liniaru effaith cyllidebau gostyngol ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Bydd y dychweliad i gyni cyllidol llawn yn natganiad yr hydref yn gwneud lliniaru yn anoddach fyth. Byddwn yn defnyddio grym partneriaeth gymdeithasol i arwain ein gweithredoedd.
Prif Weinidog, mae gwasanaethau cyhoeddus yn ganolog i'n cymunedau, gan ddarparu iechyd, trafnidiaeth, addysg, tai, i enwi dim ond rhai, yn ogystal â bod yn gyflogwr mawr. Mae mwy na degawd o gyni cyllidol, colli cyllid yr UE a phwysau chwyddiant enfawr yn dilyn cyllideb Truss wedi gadael gwasanaethau mewn sefyllfa lle maen nhw'n cael eu hymestyn i'r eithaf yn natganiad yr hydref. Dywedodd y Canghellor fod angen iddyn nhw fod yn fwy cynhyrchiol ac effeithlon, ac eto maen nhw eisoes wedi cael degawd o ailstrwythuro ac ad-drefnu, gan ddod yn fain, a, gyda'r argyfwng costau byw, mae eu hangen nhw yn fwy nag erioed yn ein cymunedau lleol. Prif Weinidog, a gaf i ofyn: beth yw eich asesiad o'r sefyllfa yma yng Nghymru?
Wel, Llywydd, nid oes angen i Aelodau ddibynnu ar fy asesiad i yn unig; gallen nhw ddibynnu ar asesiad y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, a sefydlwyd gan Iain Duncan Smith, a adroddodd ddoe fod y rhaniad cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig heddiw o ddyfnder na welwyd ers oes Fictoria. Dyna mae'r Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol—y felin drafod asgell dde honno, a sefydlwyd gan aelod o'r Blaid Geidwadol pan oedd yn arweinydd y Blaid Geidwadol— dyna yw'r casgliad mae'n dod iddo o ran cynnyrch y 13 mlynedd diwethaf o Lywodraeth Geidwadol. Mae Prydain wedi torri, medd yr adroddiad. Dyna fy asesiad innau hefyd, Llywydd. Mae'r effaith ar ein gwasanaethau cyhoeddus yn golygu nad yw pobl ledled Cymru a ledled y Deyrnas Unedig yn teimlo'n hyderus mwyach bod Llywodraeth y DU yn barod i wneud y buddsoddiadau angenrheidiol i gefnogi'r gwasanaethau y maen nhw'n dibynnu arnyn nhw, ac ni ddarparodd datganiad yr hydref, a ddefnyddiodd £20 biliwn i roi toriad treth, yr un geiniog i'w buddsoddi yn y gwasanaethau cyhoeddus hynny. Does ryfedd bod y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, ac eraill—adroddiad y Resolution Foundation o'r wythnos gynt—yn canfod bod angen dwys, angen dwys, yn ein cymunedau, y mae'r Llywodraeth hon wedi ei greu ar y naill law ac yn gwbl amharod i'w ddiwallu ar y llaw arall.
Prif Weinidog, fe wnaeth y fframwaith cyllidol wedi'i ddiweddaru a lofnodwyd gennych gyda Llywodraeth Geidwadol y DU yn 2016 gymryd i ystyriaeth argymhelliad Holtham ar gyfer fformiwla Barnett i gynnwys asesiad sy'n seiliedig ar anghenion. Roedd hwn yn gam cadarnhaol iawn. Mae'r cytundeb diwygiedig yn sicrhau na fydd Cymru byth yn cael llai na £1.15 am bob £1 sy'n cael ei gwario y pen ar iechyd ac addysg yn Lloegr, gan gydnabod yr angen ychwanegol yma. Yn wir, wrth gadarnhau'r fframwaith cyllidol, Prif Weinidog, fe wnaethoch chi ddweud bod y cytundeb yn sicrhau cyllid teg i Gymru yn y tymor hwy. Fodd bynnag, rydym ni'n gwybod mai dim ond £1.05 sy'n cael ei wario yn y gwasanaeth iechyd, ac rydym ni'n gwybod bod pethau wedi mynd i'r gwellt gyda'n system addysg—fe welsom ni hynny gyda'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr yr wythnos diwethaf. Felly, Prif Weinidog, er bod pawb yn cydnabod bod pwysau enfawr ar wasanaethau cyhoeddus—pwysau a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i'ch Llywodraeth flaenoriaethu'n drwm—a allwch amlinellu'r strategaeth sydd gan Lywodraeth Cymru ynghylch y cyllidebau iechyd ac addysg, gan gydnabod y canlyniadau PISA siomedig diweddar hynny ac amseroedd aros annerbyniol y GIG?
Llywydd, gadewch i mi fod yn glir, nid oes unrhyw asesiad sy'n seiliedig ar anghenion yn y cyllid yn y fframwaith cyllidol; mae'n gyllid gwaelodol o'r math a argymhellodd Holtham. Ond yn syml, nid yw'r syniad ei fod yn seiliedig ar anghenion yn wir—nid yw fformiwla Barnett yn seiliedig ar anghenion mewn unrhyw ffordd. Rydym ni wedi galw lawer, lawer gwaith yn y Siambr hon am ddull ariannu sydd wedi'i ddiwygio'n briodol sy'n cydnabod gwahanol anghenion mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig. Nid oedd y fframwaith cyllidol erioed wedi'i ddylunio i wneud hynny, ac nid yw'r ffigurau ynddo erioed wedi cael eu diweddaru. Felly, pan gawsant eu gosod yn 2016, fe wnaethon nhw ddarparu'r dulliau i Lywodraeth Cymru yr oedd eu hangen arnom ni i reoli'r gyllideb a oedd gennym ni bryd hynny. Saith mlynedd yn ddiweddarach, nid yw'r ffigurau hynny erioed wedi cael eu huwchraddio i ddelio â chwyddiant. Maen nhw werth 17 y cant yn llai i ni heddiw na phan gytunwyd ar y ffigurau hynny. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid ac eraill wedi galw ar Lywodraeth y DU i wneud y peth syml iawn hwnnw. Gadewch i ni beidio am eiliad ddadlau dros hyd yn oed mwy, o ran benthyg—rwy'n credu y gallech chi wneud y ddadl honno—ond gadewch i ni o leiaf ofyn i Lywodraeth y DU beidio â chaniatáu i wir werth yr hyn a drafodwyd ac a gytunwyd gennym ni yn 2016 gael ei erydu a pheidio byth â chael ei ddisodli. Yn nhrafodaethau anodd iawn Llywodraeth Cymru dros y misoedd diwethaf wrth geisio cytuno ar gyllideb a fydd yn cael ei rhoi gerbron y Senedd, wrth gwrs, mae gwasanaethau cyhoeddus, ein gwasanaeth iechyd, y gwasanaethau hynny a ddarperir gan lywodraeth leol, wedi bod yn flaenllaw yn ein hystyriaethau drwy'r amser.
Delyth Jewell.
Does gen i ddim cwestiwn, Llywydd.
Alun Davies.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Llywydd. Rydym ni'n gwybod bod datganiad yr hydref wedi arwain at fwy o anghydraddoldeb, o fewn cymdeithasau unigol a ledled y Deyrnas Unedig. Dangoswyd hynny eisoes gan y dadansoddiad o ddatganiad yr hydref. Ond, neithiwr, digwyddodd rhywbeth diddorol, Prif Weinidog: fe wnaeth Llywodraeth y DU gynnig i Ogledd Iwerddon, a oedd yn cynnwys fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion, a oedd yn cynnwys rhyddid ariannol, a oedd yn cynnwys yr holl wahanol ddulliau ariannol hynny yr ydych chi a'r Llywodraeth hon a'r Senedd hon wedi bod yn gofyn amdanyn nhw ers blynyddoedd lawer. A yw'n wir erbyn hyn, os yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn derbyn bod fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion yn ddigon da i Ogledd Iwerddon, yna mae'n ddigon da i Gymru?
Llywydd, diolch i Alun Davies am hynna, oherwydd mae'n iawn i ddweud bod llawer iawn o ddiddordeb i Gymru yn yr hyn yr oedd Llywodraeth y DU yn ei gyflwyno o ran Gogledd Iwerddon. Os yw'n fformiwla wirioneddol seiliedig ar anghenion y maen nhw'n ei chynnig ar gyfer un rhan o'r Deyrnas Unedig, yna, yn amlwg, byddai'n rhaid i'r fformiwla honno fod yn berthnasol i'r Deyrnas Unedig gyfan. Ond fe wnaeth y cyflwyniad gan Lywodraeth y DU honni hefyd eu bod nhw'n rhoi £2.5 biliwn ar y bwrdd i hwyluso dychweliad Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Nawr, nid wyf i'n gresynu bod £2.5 biliwn yn cael ei wneud ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon. Rwy'n gwbl sicr bod angen y swm hwnnw o arian, ond mae ei angen yr un faint yn Lloegr, yn yr Alban ac yng Nghymru, ac os oes arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus mewn unrhyw un rhan o'r Deyrnas Unedig, yna mae'r trefniadau cyllido sydd wedi'u cytuno rhyngom yn glir iawn: mae'n rhaid darparu'r un codiad i bawb. Ac edrychaf ymlaen at glywed bod cytundeb yng Ngogledd Iwerddon ac at ddychweliad i Weithrediaeth, bydd hynny i gyd yn newyddion da iawn, ond os oes arian ar gael i ddelio â'u trafferthion mewn gwasanaethau cyhoeddus, yna rydym ni'n gwbl sicr yn wynebu'r un peth, a bydd unrhyw un sy'n darllen am gyflwr y GIG yn Lloegr yn gwybod bod angen cyllid ar frys yno hefyd.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. A gaf i, yn gyntaf oll, gan mai hon yw'r sesiwn olaf cyn y Nadolig, ddymuno cyfarchion y tymor i bawb? A gobeithio y byddan nhw'n cael Nadolig teuluol hapus a blwyddyn newydd lewyrchus hefyd.
Prif Weinidog, ddoe, dywedodd Aelod Seneddol Gŵyr fod y cyfweliad a roddwyd gan y Dirprwy Weinidog ar Politics Wales ddydd Sul yn 'ymgais sinigaidd i ailysgrifennu hanes'. A ydych chi'n cytuno?
Wel, Llywydd, ers y cyfweliad hwnnw, mae'r Gweinidog wedi ysgrifennu ataf yn gofyn y dylid ymchwilio i'r honiadau hynny o dan god y gweinidogion. Felly, rwyf i wedi cytuno i hynny. Bydd ymchwiliad annibynnol i'r honiadau, a phan fydd yr ymchwiliad hwnnw wedi'i gynnal, bydd ei ganlyniadau yn cael eu gwneud yn hysbys.
Rwy'n ddiolchgar i chi am wneud hynny'n hysbys heddiw, ac edrychaf ymlaen at ganlyniad yr ymchwiliad hwnnw. A allwch chi gadarnhau'r amserlen ar gyfer yr ymchwiliad hwnnw, ac a fydd yn adrodd cyn y Nadolig?
Wel, Llywydd, derbyniwyd y llythyr gan y Dirprwy Weinidog y bore yma. Rwyf i wedi cyfarwyddo ar unwaith, drwy'r Ysgrifennydd Parhaol, y dylid cynnal ymchwiliad o'r fath. Nid yw ei amseru yn fy nwylo i. Mae'r amseru yn nwylo'r unigolyn a fydd yn cynnal yr ymchwiliad annibynnol hwnnw, ac nid wyf i'n mynd i osod unrhyw gyfyngiadau ar ei ymchwiliad. Mater iddo ef fydd penderfynu ar yr hyn y mae angen iddo ei weld, gyda phwy y mae angen iddo siarad a pha mor hir y bydd yn ei gymryd iddo wneud hynny.
Prif Weinidog, nid oes gennych chi gynghorydd annibynnol i edrych i mewn i'r mathau hyn o bethau. Fodd bynnag, chi yw cymrodeddwr cod y gweinidogion yn y pen draw. Mae'n bwysig deall yr amserlenni, y cylch gorchwyl a phwy allai'r unigolyn annibynnol hwnnw fod. A allwch chi gadarnhau y bydd yr unigolyn annibynnol yn rhywun o'r tu allan i'r Llywodraeth, ac yn y pen draw y bydd yr amserlenni ar gyfer adrodd o fewn yr amserlen fyrraf bosibl, oherwydd, yn amlwg, mae'r honiadau a wnaed yn erbyn y Dirprwy Weinidog yn ddifrifol, gan gydweithiwr iddi yn y grŵp Llafur—y Blaid Lafur, dylwn i ddweud—ac roedd hi ar y radio y bore yma yn gwneud y pwynt ynghylch sut y gallwch chi ymddiried yn rhywun sydd wedi eich siomi? Mae unigolion agored i niwed sydd wedi cael eu siomi. O glywed am yr ymchwiliad yr ydych chi wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Parhaol ei gynnal, bydd yr unigolion hynny eisiau gwybod ateb i'r cwestiynau yr wyf i newydd eu gofyn i chi. Rwy'n clywed yr hyn rydych chi'n ei ddweud nad yw'n bosibl i chi osod amserlenni a bennwyd ymlaen llaw, ond mae dealltwriaeth o bwy fydd yr unigolyn annibynnol hwnnw, y cylch gorchwyl ac, yn bwysig, pryd y gallai adrodd yn hanfodol bwysig i bobl sy'n dilyn y stori hon.
Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, gadewch i mi gofnodi fy niolch i'r bobl hynny a ddaeth ymlaen gyda'r honiadau a arweiniodd at yr adolygiad annibynnol a gynhaliwyd o fewn Undeb Rygbi Cymru. Roedden nhw'n fenywod dewr i ddod ymlaen, ac mae URC wedi elwa'n enfawr o'r goleuni a daflwyd ganddyn nhw ar y diwylliant o fewn y sefydliad hwnnw. Gadewch i mi ddweud, hefyd, fy mod i'n credu bod URC, ers iddo ddod i'r gydnabyddiaeth gychwynnol honno, wedi gweithredu ei hun i gomisiynu cyngor annibynnol. Mae wedi derbyn holl argymhellion yr adroddiad annibynnol hwnnw, ac rwy'n credu bod arwyddion addawol o'r ffordd y mae prif weithredwr newydd, cadeirydd newydd ac aelodau newydd o'r bwrdd yn benderfynol o unioni pethau o fewn y sefydliad hwnnw. Mae gan URC lawer i'w brofi o hyd, ond rwy'n credu ei fod wedi cychwyn ar y daith honno.
O ran yr ymchwiliad yma, y Dirprwy Weinidog oedd o'r farn bod yr honiadau a wnaed yn ei herbyn mor ddifrifol ei bod yn dymuno i'w henw gael ei glirio, neu beidio, yn dibynnu ar y casgliad y mae'r ymchwiliad yn dod iddo. Bydd yn cael ei gynnal, yn y lle cyntaf, gan y cyfarwyddwr moeseg a phriodoldeb o fewn Llywodraeth Cymru. Dyna'r man cychwyn cyntaf o fewn cod y gweinidogion. Bydd yr adroddiad hwnnw yn dod i mi, a fy mhenderfyniad i, fel y mae arweinydd yr wrthblaid yn ei ddweud, fydd sut y byddaf yn ymateb i hwnnw. Ni fyddaf yn gosod amserlen ar gyfer yr ymchwiliad hwnnw. Rwy'n gobeithio y bydd yn cael ei wneud yn gyflym, wrth gwrs. Rwy'n gobeithio y bydd i'r Dirprwy Weinidog, a fydd eisiau gweld y mater yn cael ei ddatrys. Ond nid fy lle i yw gosod cyfyngiadau artiffisial ar broses sy'n cael ei chynnal heb i mi gymryd rhan ynddi.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a buaswn innau'n licio dymuno Nadolig llawen iawn i bawb yn y sesiwn gwestiynau olaf yma cyn y Nadolig.
Roeddwn i'n mynd i ofyn heddiw i'r Prif Weinidog gyfeirio, o dan god y gweinidogion, ymchwiliad i'r datganiadau a wnaed ynghylch gweithredoedd y Dirprwy Weinidog. Fy nghwestiwn i, yn syml, nawr: o gofio bod yr anghysondeb rhwng fersiynau Tonia Antoniazzi a'r Dirprwy Weinidog heddiw yr un fath ag yr oedd bron i flwyddyn a hanner yn ôl, a bod ceisiadau wedi bod i gamau gael eu cymryd i gael y gwirionedd ers misoedd lawer iawn, pam ar y ddaear y mae wedi cymryd tan nawr i hyn gael ei gyfeirio yn y modd hwn?
Wel, Llywydd, nid wyf yn cydnabod yr hyn y mae arweinydd Plaid Cymru wedi ei ddweud o gwbl. Cafwyd dadleuon yn gynharach yn y broses. Ymddangosodd y Dirprwy Weinidog gerbron un o bwyllgorau'r Senedd a rhoddodd dystiolaeth helaeth yno. Ni wnaed unrhyw alwadau gan yr ymchwiliad hwnnw am y camau yr wyf i wedi eu cymryd heddiw. Fe wnaethon nhw ddigwydd heddiw gan fod safbwyntiau newydd wedi cael eu mynegi gan Aelod Seneddol Gŵyr. Ac, ar ôl mynegi'r safbwyntiau hynny, rwyf i wedi gweithredu.
Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog. Dechreuais drwy ddymuno Nadolig llawen i bobl; dylwn i hefyd ychwanegu blwyddyn newydd dda. Mae'n sicr yn argoeli i fod yn flwyddyn newydd gyffrous yn wleidyddol, gydag etholiad cyffredinol yn un o ddau etholiad sydd ar y ffordd. Y broblem gydag etholiadau cyffredinol y DU yw ei bod hi'n frwydr i lais Cymru gael ei glywed. Dyna lle mae Plaid Cymru yn dod i mewn. Wrth i Starmer a Sunak ymgiprys â'i gilydd am bleidleisiau dosbarth canol Lloegr, bydd Plaid Cymru yn sefyll dros degwch, dros uchelgais a thros Gymru.
Mae'r cam hwnnw o wthio Cymru i'r ymylon wedi cael ei weld ar ffurf eithaf amlwg yn ymchwiliad COVID y DU hefyd. Bydd, mi fydd ymchwiliad hwnnw y DU yn ymweld â Chymru yn fuan, ond cyfaddefodd y cadeirydd o'r cychwyn na ellid craffu yn fanwl ar yr hyn a ddigwyddodd yma, ac mae'r rhwystredigaeth ynghylch y realiti hwnnw wedi cael ei glywed yn gwbl glir yn ystod y dyddiau diwethaf gan y teuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth oherwydd COVID yng Nghymru. Wrth i'r Prif Weinidog gyrraedd pum mlynedd yn y swydd, rwy'n awgrymu iddo bod gwrthod derbyn craffu priodol drwy ymchwiliad penodol i Gymru yn un penderfyniad a adlewyrchodd yn wael iawn arno ef ac ar ei Lywodraeth. Wrth iddo fyfyrio ar ei amser yn y swydd, a thrwy gydnabod gloes a galar y rhai sydd wedi dioddef profedigaeth oherwydd COVID, a wnaiff y Prif Weinidog ystyried unioni'r anghyfiawnder hwnnw nawr?
Wel, Llywydd, nid yw'n anghyfiawnder; mae wedi bod y penderfyniad cywir o'r cychwyn i roi'r atebion i'r teuluoedd hynny sydd eu hangen arnyn nhw. Yn syml, ni fydden nhw byth wedi cael yr atebion hynny drwy ymchwiliad Cymru yn unig y mae Gweinidogion y DU wedi ei wneud yn glir na fydden nhw'n cymryd rhan ynddo. Ac os ydym ni wedi dysgu unrhyw beth yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, siawns mai'r hyn a ddysgwyd yw, er mwyn gallu deall y camau a gymerwyd yma yng Nghymru, mae'n rhaid i chi eu rhoi yng nghyd-destun ehangach penderfyniadau a oedd yn cael eu gwneud ar lefel y DU honno. Rhwygwch y cyd-destun i ffwrdd, fel y byddech chi'n ei awgrymu, ac ni fyddai unrhyw atebion sy'n gwneud synnwyr i neb. Bydd cael modiwl penodol i Gymru o fewn yr ymchwiliad, sy'n eistedd yma yng Nghymru, yn caniatáu i'r pwyslais gael ei roi ar y penderfyniadau a wnaed yma. Rwy'n sicr eisiau i hynny ddigwydd. Ond byddwch yn cael dealltwriaeth briodol o benderfyniadau a wnaed yma, gan eu bod nhw'n anochel—fel y mae'r dystiolaeth a gyflwynwyd mor fyw gerbron yr ymchwiliad dros yr wythnosau diwethaf wedi dangos—yn cael eu gwneud mewn cyd-destun y DU, ac ni fyddai ymchwiliad Cymru yn unig byth yn gwneud hynny'n amlwg i bobl.
Wrth gwrs, mae'r cyd-destun ehangach yn bwysig. Wnes i ddim gwrthwynebu cael ymchwiliad ar sail y DU; roedd y cwestiwn ynghylch yr ymchwiliad fforensig hwnnw o'r hyn a ddigwyddodd a pham, ar ba adeg, a phenderfyniadau a wnaed gan bwy yng Nghymru, fel y gallem ni ddysgu gwersi ar gyfer pandemigau yn y dyfodol, a fydd yn digwydd.
Soniais am ail etholiad, wrth gwrs, sy'n cael ei gynnal y flwyddyn nesaf—dyna'r etholiad y mae mawr ddisgwyl amdano ar gyfer arweinyddiaeth y blaid Lafur yng Nghymru. Ac mae'r cwestiwn o ymchwiliad COVID, a dweud y gwir, yn bwysig, oherwydd, wrth i'r Prif Weinidog baratoi i ymddiswyddo, gallai fod yn gosod esiampl i'w olynydd o ran sut y dylai atebolrwydd go iawn edrych. Wrth i arweinydd y blaid, Keir Starmer, astudio'r cystadleuwyr o ran pwy sy'n debygol o fod yn rhedeg drosto yng Nghymru nesaf, bydd yn gweld enwau tri ymgeisydd yn codi dro ar ôl tro: y Gweinidog iechyd, Gweinidog yr economi a'r Gweinidog addysg. A pha un a yw ar ddiffyg cynllun gaeaf, ar ganlyniadau gwael y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, neu'r mwyaf amwys o strategaethau economaidd, mawredd, mae'r rheini yn dri maes lle mae'n rhaid derbyn atebolrwydd. Yn ysbryd y Nadolig, rwy'n gwahodd y Prif Weinidog i wneud dymuniad Nadolig. Pe bai'r dymuniad hwnnw'n dod yn wir, pwy fyddai yn ei le flwyddyn o nawr?
Wel, Llywydd, mae arweinydd Plaid Cymru yn parhau â'i ddiddordeb obsesiynol ym musnes y Blaid Lafur. Pe baem ni'n clywed ychydig ganddo am fusnes ei blaid ei hun, byddem ni'n fwy gwybodus nag ydym ni. Nid yw'r pethau hyn yn ddim i'w wneud ag ef o gwbl.
Gadewch i mi ddychwelyd at yr un cwestiwn a ofynnodd i mi a oedd yn werth ei ystyried y prynhawn yma, sef ei honiadau anwybodus iawn am ymchwiliad y DU a'i anallu, fel y mae ef yn ei gredu, i ganolbwyntio ar y gwaith y bydd yn ei wneud yma yng Nghymru. Bu cyfarfod modiwl 2B o'r ymchwiliad y bore yma. Mae cwnsler yr ymchwiliad wedi dweud ei fod wedi derbyn gan Lywodraeth Cymru hyd yma 30,838 o ddogfennau a'i fod wedi cyflwyno 274 o geisiadau rheol 9 yma yng Nghymru. Pe na bai'r ymchwiliad yn mynd i wneud gwaith priodol, Llywydd, fel y mae arweinydd Plaid Cymru yn ei honni, pam y byddai'n mynd i'r drafferth y mae'n mynd iddi i wneud yn siŵr bod ganddo wybodaeth ar y raddfa ddiwydiannol y bydd wedi ei chaffael gan unigolion a thrwy'r dogfennau a ddarparwyd iddo?
Rwy'n falch iawn bod cwnsler yr ymchwiliad wedi cydnabod heddiw y gwaith caled y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i ymateb i'w geisiadau niferus, y diolch a fynegwyd am gydweithrediad Llywodraeth Cymru, y sicrwydd y mae'r ymchwiliad yn ei deimlo o weithredoedd Llywodraeth Cymru o ran darparu datgeliadau erbyn diwedd mis Tachwedd—gwerslyfrau, testunau, llyfrau nodiadau, yn ogystal â dogfennau ffurfiol. Mae'r ymchwiliad yn mynd ati i wneud ei waith yng Nghymru yn union yr un ffordd drwyadl ag y mae wedi ei dangos dros yr wythnosau yr ydym ni wedi gweld pobl ger ei fron yn Llundain. Rwy'n hyderus y bydd yr ymchwiliad yn gwneud y gwaith y gofynnwyd iddo ei wneud. Bydd yn taflu goleuni fforensig ar yr hyn sydd wedi digwydd yma yng Nghymru, bydd yn gallu gwneud hynny o fewn y cyd-destun y mae wedi'i sefydlu drwy edrych ar yr hyn a ddigwyddodd ar lefel y DU, ac, yn y modd hwnnw, rwy'n gobeithio, i'r teuluoedd hynny sy'n edrych i'r ymchwiliad roi'r atebion a'r wybodaeth y maen nhw'n dymuno eu cael, y bydd hynny'n cael ei gydnabod yn helaeth iawn.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwr gwasanaethau gofal sylfaenol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ60449
Mae gwasanaethau gofal sylfaenol yn dal i fod o dan bwysau gwirioneddol yn y canolbarth a’r gorllewin. Ond, o amgylch Cymru gyfan, mae mwy nag 1.5 miliwn o gysylltiadau â’r gwasanaeth yn cael eu cynnal bob mis. Mae amrywio’r gweithlu wedi bod yn allweddol i gynnal gofal sylfaenol mewn cyfnod estynedig o gyni ariannol.
Diolch yn fawr iawn. Brif Weinidog, rhyw fis yn ôl, fe gwrddais i â rhyw 50 o drigolion ym mhentref Talacharn yn sir Gaerfyrddin yn dilyn cais a gyflwynwyd gan bartneriaid y feddygfa i gau'r gangen yno. Byddai hyn yn disgwyl i drigolion deithio i'r feddygfa agosaf, sef Sanclêr, sydd ryw 6 milltir i ffwrdd. Dim ond unwaith bob dwy awr mae bws yn gadael Talacharn i fynd i Sanclêr, ac mae tacsi yn costio, un ffordd, rhywbeth fel £15 i £20. Maen nhw'n sylweddoli'r pwysau sydd ar y feddygfa yn Sanclêr o ran recriwtio, ond maen nhw hefyd yn poeni yn fawr iawn os nad yw pobl yn gallu fforddio yn gorfforol i fynd i'r feddygfa yn Sanclêr, dyw pobl ddim yn mynd i fynd o gwbl, ac mae pen draw hynny'n golygu bod pobl yn mynd i fynd yn fwy sâl ac arwain at gyflyrau iechyd llawer mwy cymhleth lawr y lein. Rŷm ni'n gwybod am y dirywiad difrifol mewn gwasanaethau gofal sylfaenol mewn ardaloedd gwledig, felly ydych chi'n gallu derbyn erbyn hyn fod y sector gofal sylfaenol yn wynebu sefyllfa ddifrifol iawn, ac argyfyngus, o bosib? Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â hyn?
Fel y dywedais i yn yr ateb gwreiddiol, Llywydd, mae gofal sylfaenol o dan bwysau ym mhob man yng Nghymru, ac mae hynny'n wir yn Hywel Dda hefyd. Dwi'n ymwybodol o'r ffaith bod y feddygfa deulu yn Sanclêr wedi gofyn i'r bwrdd iechyd dynnu nôl o'r gwasanaethau maen nhw wedi eu rhoi yn Nhalacharn. Dydy apwyntiadau gyda doctoriaid ddim wedi bod ar gael yn Nhalacharn ers mwy na dwy flynedd. Maen nhw wedi defnyddio'r gangen sydd gyda nhw i wneud pethau eraill, ond heb gael apwyntiadau i weld y doctor.
Mae'r bwrdd iechyd wedi mynd ati, fel mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud, i siarad gyda phobl leol. Mae popeth mae'n gwneud wedi dod i ben ddiwedd wythnos diwethaf. Nawr, bydd rhaid i'r bwrdd iechyd ystyried beth mae pobl leol wedi'i ddweud, ac i siarad ac i weithio gyda'r gangen, y doctoriaid yn Sanclêr, i weld beth fydd y ffordd orau ymlaen.
Yn fwy cyffredinol, wrth gwrs rŷm ni'n trio gwneud pethau i recriwtio mwy o bobl i weithio yn ein gwasanaeth gofal sylfaenol. Rŷm ni wedi rhoi arian ar y bwrdd i helpu tynnu pobl sy'n hyfforddi i fod yn feddygon teulu yn y dyfodol i gefn gwlad, ac rŷm ni wedi ymestyn y cynllun hynny i sir Gâr, nôl ym mis Awst. Mae wedi llwyddo i dynnu mwy o bobl i sir Benfro ac i'r gogledd, a nawr rŷm ni'n mynd i roi yr un cyfle i bobl sy'n hyfforddi i ddod i sir Gâr, ac mae £20,000 bob blwyddyn yna i helpu'r bobl sy'n fodlon gwneud hynny.
Rwy'n ddiolchgar i Cefin Campbell am gyflwyno'r cwestiwn hwn. Mae llawer o bryder ym mhentref Talacharn, a hynny'n briodol, ar ôl i'r feddygfa gael ei chau. Mae fy nhîm a minnau wedi bod yn trafod gyda thrigolion a maer Talacharn, Pam Jones, yn rhannu eu pryderon. Un o'r modelau y mae Llywodraeth Cymru wedi siarad amdano yn aml o ran darpariaeth iechyd yw sicrhau bod gwasanaethau lleol yn y gymuned i'r rhai sydd eu hangen nhw. O gofio ei bod yn edrych yn debygol, yn anffodus, bod gwasanaethau meddygon teulu yn mynd i adael Talacharn, a oes unrhyw gyfle i ddod ag unrhyw wasanaethau eraill i Dalacharn, yn agosach at y gymuned, gan ddefnyddio'r cyfleusterau sydd yno eisoes, fel nad yw pentref Talacharn yn cael ei dorri i ffwrdd yn llwyr o wasanaethau gofal iechyd sylfaenol hanfodol? Diolch, Llywydd.
Bydd hwnnw'n fater i'r bwrdd iechyd ei benderfynu yn ei drafodaethau gyda'r gymuned leol honno a chyda'r meddygon teulu hynny sy'n gweithredu allan o Sanclêr ac sydd, hyd yma, wedi darparu gwasanaethau yn uniongyrchol yn Nhalacharn. Fel y dywedais yn fy ateb i Cefin Campbell, ni fu unrhyw apwyntiadau gyda meddyg yn y feddygfa honno ers dros ddwy flynedd. Mae pa un a fydd modd defnyddio'r cyfleusterau ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol lleol eraill yn gwestiwn priodol i'w ofyn. Rwy'n siŵr y bydd wedi cael ei godi yn yr ymgynghoriad cyhoeddus, a mater i'r bwrdd iechyd fydd meddwl am hynny wrth iddo wneud ei benderfyniad.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Agwedd arall ar wasanaethau meddygon teulu yw gwneud yn siŵr bod gennym ni wasanaeth ambiwlans cadarn iawn yng Nghymru. Un o'r materion y mae meddygon teulu yn ei godi, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel y canolbarth a'r gorllewin, yw eu bod weithiau'n cael eu galw i ddarparu'r ymateb brys hwnnw i drin claf yn y gymuned a ddylai fod yn cael ambiwlans, er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw rywun gyda nhw, er enghraifft, a gallu rhoi'r ymateb brys hwnnw. Ond wrth gwrs, nid yw meddygon teulu wedi'u hyfforddi i ddarparu'r ymateb hwnnw. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi wneud sylw ar sut y gallwn ni gynorthwyo ein meddygon teulu i beidio â bod yr ymatebwyr cyntaf hynny, i beidio â bod yr ymatebion brys hynny, gan wneud yn siŵr bod gennym ni wasanaeth ambiwlans da yng Nghymru sy'n mynd i'n cymunedau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel y canolbarth a'r gorllewin. Diolch, Llywydd.
Wel, Llywydd, bydd pob Aelod yma wedi derbyn llythyr ag adroddiad helaeth ynghlwm wrtho gan brif weithredwr yr ymddiriedolaeth ambiwlans. Rwy'n credu iddo gael ei anfon at bawb yr wythnos diwethaf. Mae'n sôn am gynlluniau'r ymddiriedolaeth ar gyfer y gaeaf sydd i ddod, ac un o'r pethau y mae'r adroddiad yn canolbwyntio arno yw cryfhau ymatebion ar unwaith i bobl, oherwydd ni fydd ambiwlans bob amser yn ateb y gellir ei roi ar waith ar unwaith. Felly, o dan yr amgylchiadau hynny, yr hyn y mae'r prif weithredwr yn sôn amdano ac yn ei nodi yn ei adroddiad yw'r cynlluniau sydd gan yr ymddiriedolaeth, yn gweithio gydag eraill, a phob agwedd ar y system. Mae'n ymateb system gyfan y mae'n rhaid i chi ei roi ar waith yma, a gweithio gydag agweddau eraill ar y system i gryfhau ffyrdd y gellir darparu ymateb cyntaf ac uniongyrchol, fel nad yr ambiwlans, mewn gwirionedd, yw'r un peth sydd ar gael i ymateb i bobl mewn argyfwng.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu twristiaeth yng ngogledd Cymru? OQ60409
Llywydd, rydym ni'n cymryd camau i ymestyn y tymor twristiaeth yng Nghymru, i annog ymwelwyr i fwynhau'r amrywiaeth ehangach o atyniadau sydd gennym ni i'w cynnig, ac i wario mwy o arian tra eu bod nhw yng ngogledd Cymru a thu hwnt.
Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n credu ei fod yn asesiad digon teg ac yn sylw teg i'w wneud bod yr ystadegau ar dwristiaeth yng Nghymru yn eithaf brawychus, yn enwedig pan ydych chi'n cynrychioli, fel yr wyf i, rhan o Gymru sy'n dibynnu ar yr economi dwristiaeth. Wrth gwrs, mae effeithiau parhaus eich cyfyngiadau symud yn ystod COVID-19 a'r argyfwng costau byw yn chwarae rhan enfawr o ran lleihau twristiaeth, yn rhyngwladol, ond mae'r ffigurau diweddaraf ar ymweliadau rhyngwladol i mewn i Gymru yn dangos, rhwng Ionawr a Mehefin 2023, bod 403,000 yn llai o ymweliadau â Chymru, gostyngiad o 12 y cant o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2019. Ar yr un pryd, gostyngodd faint o arian a wariodd ymwelwyr yng Nghymru o ganran syfrdanol o 24 y cant o 2019 ymlaen, ac nid yw'r darlun mewn rhannau eraill o Brydain Fawr yn agos at fod mor enbyd ag y mae yng Nghymru. Ac yn lleol yn Nyffryn Clwyd, rydym ni'n ymwybodol dros ben o'r gostyngiad o ran twristiaeth o dan eich arweinyddiaeth. Yn yr ychydig wythnosau diwethaf yn unig, mae cyhoeddi'r penderfyniadau trist i gau dau o gyrchfannau twristiaeth mwyaf sefydledig fy etholaeth—SeaQuarium y Rhyl a Pontins ym Mhrestatyn—wedi gadael llawer o deuluoedd yn ansicr am waith yn y dyfodol ac yn yr oerfel y Nadolig hwn. Mae angen taer i ni roi cymaint o gymhellion ar waith i annog ymwelwyr i Gymru, ond nid ydym yn gweld hyn. A dweud y gwir, mae'r gwrthwyneb llwyr o hynny yn wir, oherwydd mae'r cynlluniau ar gyfer ardoll ymwelwyr—
Bydd yn rhaid i chi ddod at gwestiwn nawr. Rwyf i wedi bod yn hael iawn.
—wedi bod yn drychinebus hyd yn hyn. Iawn, diolch am eich haelioni. Felly, yng ngoleuni'r holl sylwadau hynny a wneuthum, Prif Weinidog—y ffigurau twristiaeth enbyd, y llu o achosion o gau yn y diwydiant ar draws arfordir y gogledd, yr ardoll ymwelwyr mewnblyg sy'n atal ymwelwyr—
Fe wnes i ofyn am gwestiwn, nid rhestr.
Beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i wrthdroi'r duedd hon a hybu twristiaeth yng ngogledd Cymru?
Wel wel. Ble i ddechrau, mewn gwirionedd, gyda Farage—. Farage—bydd ef yno gyda chi'n fuan, rwy'n tybio. Gadewch i ni ddechrau gyda dim ond un. Gadewch i ni ddechrau gyda dim ond un pwynt. Nid oedd y penderfyniad i gau'r ffiniau fel nad oedd twristiaid yn gallu dod i Gymru yn benderfyniad a wnaed gan Lywodraeth Cymru—cafodd ei wneud gan Lywodraeth y DU ac yna bu'n rhaid i ni basio rheoliadau i gyd-fynd â'r hyn a benderfynwyd ganddyn nhw. Felly, mae unrhyw syniad—unrhyw syniad—bod y gostyngiad o ran nifer yr ymwelwyr a oedd yn dod i Gymru yn ystod epidemig COVID oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi cau'r ffiniau hynny—
[Anghlywadwy.] Fe wnaethoch chi atal gwestai rhag—
Does dim angen i chi wrando ar Janet Finch-Saunders pan nad yw'n cymryd rhan. Mae angen i chi ateb y cwestiwn gan Gareth Davies.
Y cwbl rwy'n ei wneud yw ceisio cywiro argraff gamarweiniol iawn a wnaeth yr Aelod yn ei gwestiwn atodol, bod y gostyngiad o ran ymwelwyr rhyngwladol â Chymru rywsut oherwydd camau unigryw a gymerwyd yma yng Nghymru. Nid oedd yn ddim o'r fath. Ac fel rwy'n dweud yn aml iawn wrth Aelodau'r Blaid Geidwadol, pe baen nhw'n treulio cyfran fach o'u hamser yn hyrwyddo Cymru a phosibiliadau twristiaeth Cymru ag y maen nhw'n ei beirniadu, ei beirniadu mewn cwestiwn a aeth ymlaen am lawer iawn mwy o amser nag yr oedd angen iddo, yna byddai'r rhagolygon ar gyfer y diwydiant twristiaeth yn cael eu gwella. A dweud y gwir, rwy'n credu bod twristiaeth yng ngogledd Cymru yn stori o lwyddiant. Rwy'n credu ei fod yn cyfrannu miliynau o bunnoedd at economi'r gogledd. Rwy'n credu bod llawer iawn o resymau pam mae pobl yn dod ac y dylen nhw ddod i ogledd Cymru, a phe gallai'r Aelod oedi am funud i ychwanegu ei lais at hynny yn hytrach na beirniadu popeth sy'n digwydd yn ei ardal ei hun, byddai wedi gwneud un cyfraniad gwerth ei glywed y prynhawn yma.
Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu eu canolfannau ymwelwyr, ac mae yna fygythiad i ddyfodol canolfan Coed y Brenin ger Ganllwyd, Ystradllyn ger Cader Idris, a chanolfannau Ynyslas a Bwlch Nant yr Arian yng Ngheredigion. Mae miloedd o bobl yn ymweld â'r canolfannau yma o bell ac agos yn flynyddol, ac maen nhw'n cyfrannu'n sylweddol at ein heconomïau lleol a hefyd fel rhan o ofal iechyd ataliol. Dwi'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cytuno â fi y byddai cau unrhyw un o'r canolfannau yma yn gam gwag a niweidiol. Felly, pa gamau mae'r Llywodraeth am eu cymryd er mwyn sicrhau parhad y canolfannau yma?
Well, Llywydd, diolch yn fawr, i ddechrau, i Mabon ap Gwynfor, am y pethau positif mae e wedi dweud heddiw am y pethau sydd ar gael yma yng Nghymru i bobl sy'n ymweld â ni. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, fel pob gwasanaeth yma yng Nghymru, dan bwysau ariannol. Bydd dewisiadau anodd iddyn nhw wneud, fel rŷn ni wedi gwneud fel Llywodraeth dros y misoedd diwethaf, ond dwi'n siŵr pan fydd yr asiantaeth yn gwneud y penderfyniadau yna, byddan nhw'n gwrando ar y pwyntiau mae'r Aelod wedi gwneud a phethau eraill mae pobl leol eisiau cadw.
Llywydd, waeth beth yw sylwadau'r Torïaid wythnos ar ôl wythnos yma, rydym ni'n clywed realiti'r effaith negyddol y bydd polisïau'r Torïaid yn ei chael. Realiti arall o'r fath, Llywydd, yw'r effaith a gladdwyd yn natganiad yr hydref: y newidiadau i hawl gwyliau gweithwyr tymhorol. Rydym ni'n gweld newidiadau a fydd yn gweld gweithwyr tymhorol, eu hawl gwyliau, yn cael ei rhwygo o'u dwylo. Prif Weinidog, tybed a allech chi ein goleuo ar y cymorth y gallwch chi ei gynnig i'r gweithwyr tymhorol hyn—gweithwyr pwysig yn fy etholaeth i, ac mewn etholaethau ledled Cymru—a'r effaith y bydd hynny yn ei chael ar fusnes Cymru yn y diwydiant twristiaeth.
Wel, Llywydd, diolch i Jack Sargeant am hynna. Mae'n gwestiwn pwysig yn y diwydiant twristiaeth, oherwydd mae'n iawn bod mesur crintachlyd arall wedi'i gladdu'n ddwfn yn natganiad yr hydref gan y Llywodraeth Geidwadol i leihau telerau ac amodau gweithwyr tymhorol. Lle'r oedden nhw'n arfer bod yn gymwys i gael tâl gwyliau ar y diwrnod yr oedden nhw'n dechrau gweithio, nawr bydd yn rhaid iddyn nhw gasglu'r hawl honno dros gyfnod o 12 mis, a bydd hyn yn cymryd tua £250 miliwn allan o bocedi gweithwyr tymhorol ledled y Deyrnas Unedig dros y 12 mis nesaf hynny.
Felly, o ran twristiaeth a'n gallu i gynnal y diwydiant hwnnw, rydym ni'n gwybod ei fod yn dibynnu ar weithlu tymhorol, a nawr bydd y gweithwyr hynny yn waeth eu byd nag yr oedden nhw cyn datganiad yr hydref. Mae'r Canghellor yn gallu gwneud hynny, yn gallu tynnu arian allan o bocedi'r bobl hynny, oherwydd nad yw Llywodraeth y DU bellach wedi'i rhwymo gan y gyfarwyddeb oriau gwaith—bonws Brexit arall, felly, i'r gweithwyr hynny.
5. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda byrddau iechyd ynglŷn â gofal iechyd yr ysgyfaint? OQ60419
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal trafodaethau rheolaidd gyda byrddau iechyd ynglŷn â gwasanaethau i bobl â chyflyrau'r ysgyfaint. Mae hynny'n cynnwys niferoedd sy'n manteisio ar imiwneiddio, diagnosis cywir, rheoli cyflyrau cronig, parodrwydd ar gyfer y gaeaf, ac ymchwilio i ganser yr ysgyfaint a'i drin.
Diolch, Prif Weinidog. Ar draws Cymru gyfan, clefyd yr ysgyfaint yw'r trydydd lladdwr mwyaf yn anffodus, ac amcangyfrifir bod 12,000 o dderbyniadau brys i'r ysbyty yn digwydd bob blwyddyn oherwydd clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint a chyflyrau tebyg. Mae hynny'n golygu bod angen 14,000 o welyau mewn ysbytai, â thua 5,000 o'r rheini yn dod yn ystod cyfnod y gaeaf, pan fydd ein GIG o dan ei bwysau mwyaf. Dyna pam rwy'n falch o ddweud, fis diwethaf, mai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, sy'n cwmpasu fy etholaeth i, sef Pen-y-bont ar Ogwr, oedd y bwrdd iechyd cyntaf i gwblhau prosiect peilot ar sgrinio canser yr ysgyfaint. Mewn cydweithrediad â Rhwydwaith Canser Cymru, fe wnaethon nhw gynnig sgan tomograffeg gyfrifiadurol i tua 500 o gleifion i chwilio am ganser yr ysgyfaint a chlefydau eraill yr ysgyfaint. Dyma'r cyntaf o'i fath yng Nghymru, ac mae'n archwiliad cyflym, rhwydd, ac yn cynhyrchu gwybodaeth ddibynadwy i ganfod canser yr ysgyfaint. Dywedodd Sinan Eccles, y meddyg ymgynghorol sy'n arwain y prosiect hwn:
'Gall dal canser yr ysgyfaint yn gynnar, cyn bod unrhyw symptomau, wneud gwahaniaeth enfawr',
a gall wir achub bywydau. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi gadarnhau a yw'r peilot hwn yn cael ei ystyried, i'w gyflwyno ledled Cymru, ac os felly, pa arloesiadau eraill o ran gofal iechyd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cyflwyno yn y dyfodol? Diolch.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna, Llywydd, ac mae'n iawn i dynnu sylw at y rhaglen beilot honno. Yr hyn sy'n newydd amdani yw ei bod yn cynnig sganiau CT i gleifion asymptomatig. Felly, mae meddygon yn nodi pobl sy'n smygu, oherwydd smygu yw'r achos unigol mwyaf o glefyd yr ysgyfaint yma yng Nghymru o hyd, ac yn dilyn brysbennu dros y ffôn, mae'r bobl hynny sy'n gymwys wedi cael eu cyfeirio ymlaen ar gyfer y sgan. Nawr, byddwn yn defnyddio'r profiad hwnnw, wrth gwrs, yn rhan o'n derbyniad o argymhelliad Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU ar gyfer rhaglen sgrinio'r ysgyfaint wedi'i thargedu ar gyfer pobl 55 i 74 oed, nid yn unig yma yng Nghymru ond ledled y Deyrnas Unedig.
Yn ddiweddar iawn, mae'r Gweinidog wedi darparu cyllid ychwanegol i Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn iddyn nhw gwmpasu sut y gellir darparu'r rhaglen genedlaethol honno, ac mae'r gwaith cwmpasu hwnnw yn angenrheidiol. Llywydd, rydym ni angen gwybod lefel y gweithgarwch y bydd ei angen arnom ni yng Nghymru. Pan fyddwch chi'n gwybod lefel yr angen, byddwch yn gwybod lefel y staffio a'r offer y bydd eu hangen i ddiwallu'r angen hwnnw, y mater pwysig o integreiddio â gwasanaethau rhoi'r gorau i smygu ehangach ac, wrth gwrs, bydd yn rhaid i'r arolwg cwmpasu hwnnw ddarganfod y costau o ddarparu rhaglen genedlaethol. Oherwydd, gadewch i mi fod yn glir, Llywydd, y dull yr ydym ni'n bwriadu ei ddilyn yng Nghymru yw y bydd rhaglen genedlaethol; ni fydd yn cael ei adael i fyrddau iechyd lleol benderfynu. Pan fyddwn ni wedi gwneud hynny, ac yna dysgu o raglen beilot Cwm Taf a rhaglenni peilot sy'n cael eu cynnal yn Lloegr, byddwn yn cyflawni'r hyn y mae'r rhaglen sgrinio genedlaethol yn ei argymell, sy'n rhaglen sy'n seiliedig ar y dystiolaeth a fydd yn cael ei chasglu, gan fynd i'r afael â'r heriau gweithredu ac yna darparu rhaglen a fydd, yn fy marn i, yn bodloni'r meini prawf arloesol y mae'r Aelod wedi'u hamlygu.
Fis diwethaf, Prif Weinidog, roeddwn i'n bresennol —fel yr oedd Aelodau eraill yn y Siambr hon—mewn digwyddiad galw heibio a gynhaliwyd gan Asthma + Lung UK Cymru, a oedd yn y Senedd i lansio eu hadroddiad diweddaraf, 'Arbed Eich Anadl: Sut mae iechyd yr ysgyfaint gwell o fudd i bawb yng Nghymru'. Nawr, roedd yr adroddiad yn sicr yn agoriad llygad i lawer, a Llywodraeth Cymru hefyd rwy'n gobeithio, ond pwysleisiodd fod cyflyrau'r ysgyfaint fel COPD ac asthma yn aml yn cael eu hanwybyddu, er eu bod y trydydd achos o farwolaeth yng Nghymru. Nawr, mae'r adroddiad yn amlinellu sawl arbediad cost yn seiliedig ar argymhellion polisi, a dywedodd mai prin iawn yw'r cynnydd a wnaed ers cyhoeddi'r datganiad ansawdd ar gyfer clefyd anadlol. Felly, a gaf i ofyn, Prif Weinidog, beth fu ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad, ac os ydych chi wedi ymateb, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd gweithredu'r datganiad ansawdd?
Wel, Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r adroddiad. Rydym ni bob amser yn ddiolchgar am y gwaith y mae'r gymdeithas yn ei wneud yn cynrychioli pobl sy'n dioddef o asthma a chyflyrau eraill yr ysgyfaint yma yng Nghymru. Bydd y Gweinidog wedi ei gyfeirio at y grŵp sy'n ein cynghori, y grŵp hwnnw o arbenigwyr sy'n darparu'r gwasanaethau ar y rheng flaen yma yng Nghymru, ac yna byddwn yn gweld, fel yr ydym ni bob amser, lle gall adroddiad o'r fath ein helpu i wella'r gwasanaethau sydd ar gael i gleifion yng Nghymru.
6. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar argaeledd sgrinio iechyd rhywiol yng nghanolbarth Cymru? OQ60401
Diolch i'r Aelod am hynna, Llywydd. Yng Nghymru, mae pecynnau profi ar-lein am ddim ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a feirysau a gludir yn y gwaed ar gael gan wasanaeth Iechyd Rhywiol Cymru. Mae'r cynnig hwn yn cynyddu mynediad at brofion iechyd rhywiol ledled y canolbarth. Bydd pecynnau profi hefyd ar gael mewn allfeydd cymunedol ym Mhowys o fis Ionawr 2024.
Hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog am eich ateb. Prif Weinidog, mae sgrinio iechyd rhywiol yn fy etholaeth i, fel yr ydych chi wedi dweud, yn cael ei wneud yn bennaf gan Iechyd Rhywiol Cymru, ond mae data diweddar wedi dangos bod y nifer sy'n manteisio ar hynny wedi bod yn gymharol isel o gymharu ag etholaethau eraill. Mae data diweddar arall wedi dangos bod clamydia a gonorea, ynghyd â chlefydau eraill, ar gynnydd yn fy etholaeth i, felly rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol bwysig ein bod ni'n rhoi cyfle i gynifer o bobl gael eu sgrinio, fel nad ydyn nhw'n mynd heb ddiagnosis o gyflyrau sy'n newid bywydau.
Un ffordd y gallem ni wneud hyn o bosibl, Prif Weinidog, yw trwy gynnig clinigau dros dro ar draws fy etholaeth. Roedd yn rhan o adolygiad annibynnol a argymhellwyd i'r Llywodraeth a dweud y gwir. Mae gen i nifer o leoliadau yn fy etholaeth a fyddai'n hapus i wneud hyn. Felly, a wnewch chi, Prif Weinidog, weithio gyda'r Gweinidog iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i wneud yn siŵr bod clinigau fel hyn ar gael fel na all neb fynd heb ddiagnosis o gyflyrau yn fy etholaeth i?
Llywydd, diolch i'r Aelod am y pwyntiau hynny ac am y gwaith rwy'n gwybod y mae ef wedi'i wneud i dynnu sylw at y mater hwn yn ei ardal leol ei hun, oherwydd mae'n fater difrifol iawn sy'n wynebu cymunedau. A dweud y gwir, mae mynediad at sgrinio yn y canolbarth wedi gwella ers y pandemig. Mae'n un o'r nifer gymharol fach o bethau lle y gallwn ni ddweud bod y pandemig wedi newid natur y gwasanaeth, gan ei symud ar-lein, ac mae llawer mwy o bobl yn defnyddio'r gwasanaeth ar-lein nag oedd erioed yn defnyddio'r gwasanaeth galw-i-mewn, ac mae yna resymau y gallem ni ddychmygu'n hawdd pam y byddai hynny'n digwydd. Ac mae'r nifer sy'n defnyddio'r gwasanaeth ar-lein wedi bod yn dda iawn yng nghefn gwlad Cymru lle'r oedd y clinigau galw-i-mewn hynny bob amser yn llai tebygol o gael eu darganfod.
Rwy'n cytuno â'r hyn y mae James Evans wedi'i ddweud, Llywydd, ynghylch yr angen i wneud mwy na hynny. Dyna pam mae'r pecynnau prawf nawr yn mynd i fod ar gael mewn lleoliadau cymunedol—mewn fferyllfeydd, mewn canolfannau hamdden, mewn llyfrgelloedd yn ei etholaeth ei hun—ac mae gwaith arall y gallwn ni ei wneud. Er enghraifft, mae clybiau ffermwyr ifanc wedi bod yn cael sesiynau hyfforddi sy'n ymdrin â materion iechyd rhywiol. Felly, mae mwy y gallwn ni ei wneud, ac, mae arna' i ofn, yn y maes hwn, po fwyaf y byddwch chi'n ei wneud, y mwyaf y byddwch chi'n dod o hyd iddo. Felly, pan fydd yr Aelod yn cyfeirio at gyfraddau cynyddol o glefydau, dydyn ni byth yn siŵr a ydyn ni ond yn dod o hyd i fwy yn hytrach na bod yna fwy; yn sicr rydyn ni'n dod o hyd i fwy wrth i'r gwasanaeth gyrraedd mwy o bobl. Bydd y Gweinidog eisiau gweithio gyda gwasanaeth Iechyd Rhywiol Cymru i barhau i ddarganfod ffyrdd o sicrhau bod y gwasanaeth ar gael yn rhwydd mewn ffordd sy'n dderbyniol i bobl, fel y gallwn ni ddatblygu'r llwyddiant mwy diweddar hwnnw.
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod anghenion cyfathrebu disgyblion anabl yn cael eu diwallu mewn ysgolion? OQ60411
Diolch i'r Aelod am hynny, Llywydd. Mae ein diwygiadau addysg, gan gynnwys y cwricwlwm newydd a'r system anghenion dysgu ychwanegol, yn helpu i sicrhau bod anghenion plant anabl yn cael eu diwallu gan y bobl gywir yn y lle cywir. Mae ein buddsoddiadau mewn cymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu yn galluogi cymryd camau eraill yn y blynyddoedd cynnar hanfodol hynny.
Diolch. Mae anhwylder iaith datblygiadol, neu DLD, yn cael diagnosis pan fydd plant yn methu â dysgu eu hiaith eu hunain heb reswm amlwg, sy'n gallu arwain atyn nhw'n cael anhawster deall yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthyn nhw a'u bod yn ei chael hi'n anodd mynegi eu syniadau a'u teimladau. Ar 17 Hydref, cynhaliodd Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd yng Nghymru ddigwyddiad yn y Senedd i nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Anhwylder Iaith Datblygiadol, lle y gwnes i gwrdd â llysgennad DLD Cymru sydd hefyd yn etholwr yn y gogledd ac y mae ei fab wedi cael diagnosis DLD. Dywedodd wrthyf i eu bod yn gallu cael papurau arholiad tystysgrif addysg cyffredinol iaith wedi'i haddasu CBAC iddo mewn rhai pynciau, ond cawson nhw wybod nad ydyn nhw ar gael ym mhob pwnc. Ar ben hynny, doedd ysgol eu mab erioed wedi clywed amdanyn nhw.
Yn dilyn hynny, ysgrifennodd y coleg brenhinol at CBAC yn nodi mai dyma'r tro cyntaf iddyn nhw weld papurau wedi'u haddasu gan fwrdd arholi, ac yn gofyn am ragor o fanylion. Ymatebodd CBAC yn gadarnhaol, gan gynnig trafod i ddysgu mwy am sut y gallan nhw gefnogi pob ymgeisydd sy'n sefyll eu harholiadau. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nawr i sicrhau bod deunyddiau arholi wedi'u haddasu fel hyn yn rhan greiddiol o ddarpariaeth yn y dyfodol ledled Cymru?
Diolch i'r Aelod oherwydd mae hwn yn bwynt pwysig y mae'n ei godi, ac rwy'n credu bod y system yn fwy effro ac ymatebol i'r ystod honno o bobl ifanc ag anghenion cyfathrebu. Mae'n dda gwybod bod CBAC wedi ymateb mor gadarnhaol ac, ar ôl dechrau gyda rhai o'u papurau sydd ar gael yn y ffordd honno, rwy'n eithaf sicr y byddan nhw eisiau dysgu o hynny a gweld a oes modd gwneud mwy. Ond mae'n rhan, fel yr wyf i'n ei ddweud, Llywydd, o duedd ehangach yng Nghymru. Iaith sy'n cael ei chydnabod yn y cwricwlwm newydd yw Iaith Arwyddion Prydain. Mae modd dysgu'r cwricwlwm drwy Iaith Arwyddion Prydain i'r bobl ifanc hynny sy'n gweld hynny'n ffordd fwy effeithiol o gyfathrebu. Felly, diolch i'r Aelod am y pwyntiau, oherwydd rwy'n credu mai'r hyn y mae'n ei amlygu yw sensitifrwydd newydd, neu wedi'i adnewyddu, ledled y system i anghenion penodol pobl ifanc sydd â heriau cyfathrebu, a dylem ni annog hynny drwy'r system hyd at ac yn cynnwys arholiadau.
Yn olaf, cwestiwn 8, Mike Hedges.
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i wasanaethau bysiau yn Abertawe? OQ60403
Diolch yn fawr Mike Hedges. Llywydd, erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, bydd dros £200 miliwn o gyllid y Llywodraeth wedi'i ddarparu i ddiogelu ein rhwydwaith bysiau ers dechrau pandemig COVID. Mae tîm cynllunio rhwydwaith rhanbarthol yn dyfeisio rhwydwaith o wasanaethau bysiau y dyfodol ar gyfer Abertawe a'i hawdurdodau cyfagos.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb hwnnw? Yn yr unfed ganrif ar hugain rydyn ni'n byw mewn diwylliant o gyfalafiaeth gymhorthdal. P'un a yw'n ffermio, cyfleusterau hamdden, gwyliau neu fysiau, maen nhw eisiau cymorthdaliadau i ychwanegu at eu helw sylfaenol. Gwyddom o ddata sydd wedi ei gyhoeddi fod elw gweithredu addasedig First Group wedi cynyddu i £100.6 miliwn yn 2023. Rydyn ni hefyd yn gwybod bod gwasanaethau bysiau wedi lleihau'n sylweddol yn Abertawe, gydag effaith ar amseroedd teithio i'r gwaith a'r coleg, er bod rhai, erbyn hyn, wedi'u dychwelyd. O ddata a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth rydyn ni'n gwybod bod £52.8 miliwn wedi'i roi i gwmnïau bysiau eleni. Sut bydd y Bil bysiau yn helpu gyda diwygio y mae mawr ei angen, fel y gall pobl fynd o gwmpas ar fysiau?
Diolch i Mike Hedges am hynny. Mae'n cyfeirio'n uniongyrchol at un o'r rhesymau pam mae'r Bil bysiau mor bwysig, oherwydd cwmnïau preifat yw'r rhain, maen nhw'n gwneud elw o'r arian cyhoeddus sy'n cael ei fuddsoddi ynddyn nhw, ac mae gan y cyhoedd hawl gyfreithlon i fod yn sicr bod yr arian sy'n cael ei wario ar eu rhan yn cael ei gyfeirio i'r ddarpariaeth gwasanaeth yn hytrach nag, ar gyfradd annheg, lle bo hynny'n digwydd, i elw sylfaenol y cwmni ei hun. Nawr, bydd y Bil bysiau, pan gaiff ei gyflwyno, yn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus sy'n cael eu darparu gan gwmnïau bysiau yn cael eu cynnal gyda budd y cyhoedd wrth ei wraidd, a bydd hynny'n newid sylfaenol yn y ffordd y mae'r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu a'u cynllunio gan ein hawdurdodau lleol. Bydd yn gwrthdroi'r difrod enfawr a gafodd ei wneud gan ddadreoleiddio bysiau, sydd wedi caniatáu mynd ar drywydd elw preifat ar draul budd y cyhoedd. Dyna beth mae'r Bil bysiau wedi'i gynllunio i'w gywiro.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf nawr fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Y Trefnydd sy'n gwneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae nifer o newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad ar drefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newydd-anedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ac o ganlyniad mae wedi tynnu'n ôl y datganiad ar yr wybodaeth ddiweddaraf ar 'Mwy na geiriau: Cynllun Pum Mlynedd 2022-27'. Mae'r datganiad ar yr wybodaeth ddiweddaraf ar sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil a chyhoeddi datganiad blaenoriaethau Gweinidogion Cymru wedi'i ohirio. Yn olaf, mae'r ddadl ar Reoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023 wedi'i lleihau i 10 munud. Mae'r busnes drafft am y tair wythnos nesaf—mae'n ddrwg gen i, am y tair wythnos eistedd nesaf—wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w gweld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
A gaf i alw am ddatganiad gennych chi neu Weinidog yr Economi ar y newyddion siomedig bod Cyngor Sir Ddinbych a grŵp gwestai a hamdden Mikhail—rwy'n credu y mae'n cael ei ynganu—wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â'u partneriaeth arfaethedig ym Marchnad y Frenhines yn Y Rhyl? Chwistrellodd Llywodraeth Cymru bron i £25 miliwn i ganol tref y Rhyl, yn enwedig prosiect Marchnad y Frenhines, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rydw i'n llwyr o blaid adfywio canol tref y Rhyl, wrth gwrs fy mod i, a byddwn i wrth fy modd yn gweld Marchnad y Frenhines ar agor ac yn ffynnu. Ond mae gweld gwesty Mikhail yn tynnu'n ôl yn peri pryder, ac rwy'n poeni bod y weledigaeth o le ffyniannus o fusnesau, llety a gweithgareddau hamdden yn y fantol. Rydyn ni wedi gweld nifer o brif fusnesau o arfordir y gogledd yn diflannu yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac mae angen sicrwydd ar bobl y Rhyl y byddan nhw'n elwa ar yr arian a gafodd ei fuddsoddi, ac na fydd yn ofer. Felly, a wnewch chi, Trefnydd, amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod Marchnad y Frenhines yn lle deniadol i fusnesau fuddsoddi ynddo, a beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gymell busnes i ddod i'r Rhyl? Diolch.
Wel, mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu cyllid sylweddol i adfywio'r Rhyl dros nifer o flynyddoedd. Fe wnes i, fy hun, ymweld â'r ardal honno y gwnaethoch chi ei nodi, ar ymweliad fel Gweinidog gogledd Cymru. Doeddwn i ddim yn ymwybodol o'r hyn rydych chi newydd ei ddweud am y gwesty. Dydw i ddim yn gwybod a yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn cael trafodaethau, ond yn sicr, fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog sicrhau bod ei swyddogion yn siarad â'r perchennog, os yw hynny'n berthnasol.
Trefnydd, yn gynharach y prynhawn yma, ysgrifennais at y Llywydd ar ran grŵp Senedd Plaid Cymru, yn gofyn i'r Senedd gael ei galw yn ôl ddydd Mercher nesaf i roi'r cyfle cynharaf posibl i'r Senedd gyfan graffu ar y gyllideb ddrafft. Mae'r holl arwyddion yn awgrymu y bydd hyn o bwys mawr i fywydau pobl ledled Cymru, ac felly, o bwysigrwydd cyhoeddus brys. Rwy'n siŵr bod eich mewnflwch chi yr un mor llawn â'n un ni gyda chymaint o sefydliadau ac unigolion yn cysylltu gan eu bod mor bryderus am yr holl bethau sydd wedi bod yn y wasg.
A gaf i, felly, ofyn: a fyddwch chi'n cefnogi'r cais hwn ac a fyddwch chi'n ychwanegu at y galwadau fel y gallwn ni gael y drafodaeth honno, yn hytrach nag aros tan fis Ionawr?
Wel, nid wyf wedi gweld y llythyr, yn amlwg, yr ydych wedi'i ysgrifennu at y Llywydd, ond ni fyddwn i'n gweld yr angen i adalw'r Senedd yr wythnos nesaf, na.
Yn ddiweddar, Gweinidog, mae wedi dod at fy sylw bod swyddfa'r Post Brenhinol yn fy etholaeth i, oherwydd bod swyddi'n cael eu dileu, nawr wedi gorfod dweud wrth y staff sy'n weddill, sy'n gweithio amser dwbl ar hyn o bryd—fel goramser—i ymdrin â llwyth y gwaith, y dylen nhw flaenoriaethu parseli dros lythyrau. Nid cardiau Nadolig yn unig y gallai gael eu gohirio, ond apwyntiadau pwysig iawn y GIG hefyd a llythyrau eraill o bwysigrwydd tebyg sy'n cyrraedd drwy'r post. Felly, roeddwn i'n gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf neu ddatganiad am sgyrsiau y maen nhw wedi'u cael â'r Post Brenhinol ynglŷn â'r effaith y mae eu toriadau i swyddi yn ei chael.
Ac yn ail, hoffwn i ofyn am ddatganiad am golli swyddi medrus a'r effaith ar ein gwasanaethau newyddion yng Nghymru a democratiaeth Cymru oherwydd mae'r NUJ, Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr, wedi ysgrifennu at bob Aelod o'r Senedd gyda phryderon difrifol am y datblygiadau diweddaraf, bod Reach plc—y cyhoeddwr papurau newydd mwyaf yng Nghymru—yn mynd i wneud toriadau eto. Mae'n debyg y bydd 450 o swyddi'n cael eu colli gyda 320 o rolau golygyddol. Byddai'n wych os gallen ni gael datganiad gan Lywodraeth Cymru am drafodaethau y maen nhw wedi'u cael ynghylch y bygythiad hwn i'n newyddiaduraeth yng Nghymru. Diolch.
Diolch. Fel y gwyddoch chi, mae'r Post Brenhinol a Swyddfa'r Post, wrth gwrs, yn faterion a gedwir yn ôl, ond, wrth gwrs, rydyn ni'n bryderus iawn am faterion sy'n effeithio ar swyddi a phobl Cymru. Rwy'n siŵr, fel llawer o fy nghydweithwyr yn y Siambr, ein bod ni wedi mwynhau ein hymweliadau â'r Post Brenhinol. Fel arfer cawn ein gwahodd yn ystod cyfnod y Nadolig ac mae'n anhygoel gweld faint o barseli a llythyrau y maen nhw'n eu dosbarthu.
Byddai colli cymaint o staff, fel y gwnaethoch chi gyfeirio ato, yn gwneud pethau'n anodd iawn i unrhyw fusnes barhau i weithredu yn y ffordd y mae wedi'i wneud, ac yn fwy felly ar adeg o'r flwyddyn pan fo'r galw hwnnw, yn amlwg, yn cynyddu'n sylweddol. Rwy'n ymwybodol bod y Post Brenhinol wedi cael dirwy o £5.6 miliwn yn ddiweddar gan reoleiddiwr y gwasanaethau post, Ofcom, am fethu eu targedau cyflawni yn 2022-23 ac mae hynny, yn amlwg, yn mynd i barhau i fod yn broblem eleni hefyd. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn eu bod yn ystyried y nifer hynny o swyddi sy'n cael eu colli, fel yr ydych chi'n ei ddweud.
O ran eich ail bwynt, gwnaf i ofyn i'r Dirprwy Weinidog gyflwyno datganiad ysgrifenedig.
Hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, ar Ffos-y-fran. Roedd Ffos-y-fran yn safle cloddio glo anghyfreithlon am fwy na blwyddyn tan i'r cwmni roi'r gorau i gloddio, o'r diwedd, fis diwethaf. Yn ystod y 15 mis o weithgarwch anghyfreithlon cafodd tua 500,000 tunnell o lo eu cloddio, gan ychwanegu 1.6 miliwn tunnell o garbon deuocsid i'n hatmosffer, heb sôn am y llwch sydd wedi gorchuddio'r ardal gyfagos ac, heb os, wedi mynd i ysgyfaint pobl leol. Mae'r Rhwydwaith Gweithredu Glo yn rhoi gwybod i mi y bydd hyn yn achosi 362 o farwolaethau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd.
Nawr, rwy'n poeni'n fawr am ganlyniadau diffyg gweithredu'r Llywodraeth ar gyfer y 15 mis hynny wrth i gwmnïau diegwyddor eraill wylio'r fandaliaeth hinsawdd hon yn datblygu heb ei atal. Felly, hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, yn nodi pam na wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi rhybudd atal, pa gamau brys y mae'n eu cymryd nawr i sicrhau bod y safle'n cael ei adfer fel yr addawyd yn 2007—hyd yn oed os yw'r cwmni'n cefnu ar y safle gyda thwll du o fwy na £100 miliwn—ac a fydd y Llywodraeth yn ymrwymo i ymchwiliad cyhoeddus i'r sgandal hon. Fy nealltwriaeth i yw bod y Llywodraeth erbyn hyn yn gallu siarad yn agored am y sefyllfa hon.
Wel, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n galed. Maen nhw wedi bod yn cefnogi'r cyngor, maen nhw wedi bod yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, maen nhw wedi bod yn gweithio gyda'r Awdurdod Glo i ystyried pa gamau sydd angen eu cymryd. Gweithredwr y pwll glo sy'n gwbl gyfrifol am adfer, ond peidiwch â meddwl bod y Llywodraeth wedi bod yn anweithgar; maen nhw wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth.
Arweinydd y tŷ, a fyddai'n bosibl i ni gael datganiad gan y Gweinidog iechyd o ran pa mor barod yw GIG Cymru ar gyfer y gaeaf? Mae pob GIG ledled y DU yn dod dan bwysau difrifol yn ystod y cyfnod arbennig hwn o'r flwyddyn o gwmpas y Nadolig. Mae llawer ohonom ni'n mwynhau treulio amser gyda'n teuluoedd, ond yno ar y rheng flaen y mae ein gweithwyr iechyd ni, yn gofalu am gleifion yn aros mewn ysbytai neu'n dod i'n hadrannau damweiniau ac achosion brys.
Nid peth anghyffredin yw i'r Aelodau, wrth ddychwelyd yma ym mis Ionawr, sôn am lawer o'r pwysau hynny'n dod i'r amlwg, yn anffodus, ym mhrofiadau etholwyr sydd yn eu tro wedi mynegi hynny wrth eu haelodau etholedig yma yn y Siambr. Bydd yr Aelodau dros gyfnod y toriad, os cânt ddatganiad sy'n gyfredol ynghylch parodrwydd y GIG a'r cynlluniau a roddodd y GIG ar waith ar gyfer cyfnod y gwyliau, a'r flwyddyn newydd, gobeithio, yn meddu ar yr wybodaeth ddiweddaraf ac yn gallu cyfleu honno i'r etholwyr hynny a allai fod yn teimlo yn rhwystredig, neu'n bryderus efallai, ynglŷn â phroblemau o ran cael mynediad at y gwasanaethau iechyd yn eu hardal leol.
Felly, a gaf i erfyn ar arweinydd y tŷ i bwyso ar y Gweinidog iechyd i gyflwyno datganiad gyda'r wybodaeth ddiweddaraf yr wythnos nesaf, er mwyn i'r ffeithiau hynny fod ym meddiant yr Aelodau?
Wel, rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn ynglŷn â nifer staff ein gwasanaethau cyhoeddus ni—ac mae hynny'n amlwg yn cynnwys y gwasanaeth iechyd a llawer o wasanaethau eraill—sy'n gweithio yn eithriadol o galed, fel pob dydd, dros gyfnod y Nadolig a ninnau, fel rydych chi'n sôn, yn mwynhau treulio rhywfaint o amser i ffwrdd gyda'n teuluoedd a'n ffrindiau.
Mae'r GIG yn gweithio yn galed iawn i baratoi ar gyfer y gaeaf. Mae'n debyg ei fod yn paratoi ar gyfer y gaeaf am y rhan helaethaf o'r flwyddyn, ac mae dull system gyfan yn cael ei gweithredu pob amser i sicrhau bod ein gofal sylfaenol ni, ein darpariaeth gymunedol ni, ein gwasanaethau cymdeithasol a brys ni'n bendant yn cynyddu eu capasiti mewn cyfnodau y rhagwelir y bydd y galw ar y gwasanaethau hynny'n debygol o fod yn fwy.
Trefnydd, a gawn ni ddatganiad ar wella trafnidiaeth gyhoeddus yn y Cymoedd, ac yn fy rhanbarth i yn benodol? Mae hyn yn dilyn y newyddion na fydd y lein hirddisgwyliedig rhwng Glyn Ebwy a Chasnewydd yn agor cyn y Nadolig, fel addawyd hynny. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dweud wrthym ni eu bod nhw'n gobeithio y bydd yn agor ym mis Ionawr rywdro, sy'n bryderus o amwys. Mae'n rhaid i mi ddweud nad oes gennyf i lawer o hyder na fydd y rhagolwg hwn yn cael ei daflu ymlaen eto. Fe ddywedwyd wrthym ni ar y pedwerydd o'r mis hwn y byddai'r lein yn agor o fewn yr wythnos, ond fe dorrwyd yr addewid hwnnw rai dyddiau ar ôl hynny.
Mae pobl sy'n byw yn y cymunedau rhwng Glyn Ebwy a Chasnewydd wedi bod yn aros am y gwasanaeth hwn ers dros ddau ddegawd. Rwy'n gwybod bod y South Wales Argus wedi rhedeg ymgyrch boblogaidd ar ddechrau'r 2000au i gael y cyswllt trafnidiaeth hwn ar waith. Mae amynedd pobl Gwent yn mynd yn brin yn yr achos hwn, Trefnydd. Maen nhw'n dymuno clywed addewidion na fydd yn cael eu torri, ac maen nhw'n awyddus i fod â gwasanaeth y gallan nhw ddibynnu arno. Os yw'r Llywodraeth hon yn dymuno adfer hyder mewn trafnidiaeth gyhoeddus, ac annog mwy o bobl i beidio â defnyddio eu ceir, mae angen darparu gwasanaeth dibynadwy a hynny'n gyflym. Diolch.
Fe fydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn cyflwyno datganiad ysgrifenedig.
Prynhawn da, Gweinidog. Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, gan Weinidog yr Economi ynghylch y cynlluniau ar gyfer Banc Cambria. Yn ein cymunedau ni, fe welwn ni ganghennau banc yn cau drwy'r amser, ac mae hynny'n peri effaith sylweddol, yn enwedig ar gymuned pobl hŷn. Rhywfaint o newyddion da: ar ddydd Gwener, fe fyddaf i'n mynd i ddathlu agor y ganolfan fancio gyntaf i ni yma ym Mhowys, yn y Trallwng, ac rwy'n edrych ymlaen at hynny. Efallai mai dyna fydd yr ateb i'r dyfodol. Ond tybed a fyddech chi'n gallu dod o hyd i ffordd i ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddyfodol Banc Cambria, er mwyn ein cymunedau ni'n enwedig sy'n gweld eu canghennau banc lleol yn cau. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn i chi. Rwyf i o'r farn ei bod hi'n hanfodol i flaenoriaethau rheoleiddiwr ein sector bancio ni ganolbwyntio yn fwy ar sicrhau bod pobl Cymru yn gallu cael mynediad at y gwasanaeth hanfodol iawn hwn. Mae hi'n dda iawn clywed am y digwyddiad y byddwch chi'n mynd iddo ddydd Gwener. Fe wn i fod swyddogion Gweinidog yr Economi yn parhau i weithio gyda Cambria Cydfuddiannol Ltd a sefydliadau allanol eraill i ystyried dewisiadau wrth edrych ymlaen, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni pan fydd rhagor o wybodaeth ganddo ef.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar ansawdd dŵr. Y Gweinidog, felly, i wneud y datganiad. Julie James.
Diolch, Llywydd. Ym mis Hydref, fe wnaethom ni basio carreg filltir arwyddocaol, gyda chwmnïau dŵr yn cyflwyno eu cynlluniau busnes ar gyfer 2025 i 2030 i Ofwat yn rhan o'r broses gyfredol o adolygu prisiau. Mae'r cynlluniau yn nwylo Ofwat erbyn hyn i graffu arnyn nhw, ac felly ni allaf i roi unrhyw sylw ar hyn o bryd ynglŷn â'r manylion penodol. Serch hynny, fe hoffwn i fynegi dau beth unwaith yn rhagor.
Yn gyntaf, rydym ni'n disgwyl i gwmnïau dŵr yng Nghymru fod yn gweithio llawer mwy ar ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid ym mhob maes eu gweithrediad. Ac, yn ail, mae hi'n hanfodol sicrhau cydbwysedd da rhwng cymryd camau effeithiol a chadw biliau dŵr cwsmeriaid yn fforddiadwy, yn enwedig yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw a phwysau chwyddiant. Fe wn i fod y ddau gwmni dŵr yng Nghymru wedi mabwysiadu mesurau rhagweithiol i gynorthwyo aelwydydd sy'n cael trafferthion wrth dalu eu biliau dŵr, gan gynnwys cyhoeddusrwydd amlwg iawn ynglŷn â sut i gael gafael ar gymorth. Ar hyn o bryd, mae cwmnïau dŵr yng Nghymru yn cefnogi mwy na 145,000 o aelwydydd drwy gynlluniau amrywiol.
Yn y cyfamser, o safbwynt Llywodraeth Cymru, mae diogelu a gwella amgylchedd ein dŵr yn gyfan gwbl wrth galon ein blaenoriaethau ni. Mae ein rhaglen lywodraethu ni'n cynnwys sawl ymrwymiad gyda'r amcan o wella ansawdd y dŵr yn gyffredinol. Rydym ni wedi ymrwymo i ddechrau dynodi dyfroedd mewndirol Cymru ar gyfer ymdrochi, gan efelychu llwyddiant parhaus y dyfroedd ymdrochi arfordirol, y gwnaeth 98 y cant o ddyfroedd ymdrochi arfordirol dynodedig ateb ein safonau amgylcheddol caeth yn 2023.
Yn ystod tymor ymdrochi 2023, cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru dymor cynllun treialu ymdrochi, a oedd yn cynnwys cymysgedd o saith afon, llynnoedd a chronfeydd dŵr amrywiol. Roedd y cynllun treialu, dan arweiniad CNC, yn chwilio am wybodaeth, fel niferoedd yr ymdrochwyr, cyfleusterau, peryglon a phroblemau, ac ansawdd tebygol y dŵr ym mhob un o'r safleoedd yn y cynllun treialu. Roedd hwn yn gyfle allweddol i CNC ddeall yn well y gwahaniaethau o ran gweithredu a'r ymarferoldebau rhwng y dyfroedd ymdrochi mewndirol a'r rhai arfordirol hyn. At hynny, fe fydd y gwaith hwn yn ein galluogi ni i ddeall y manteision a'r heriau o ddynodi mwy o'n dyfroedd ymdrochi mewndirol yn well, a sicrhau bod ein dyfrffyrdd yn cyflawni ein hymrwymiadau amgylcheddol, a hefyd, yn bwysig iawn, yn cefnogi llesiant y cyhoedd.
Rydym ni wedi ymrwymo hefyd i rymuso monitro ansawdd y dŵr. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio yn agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, cynrychiolwyr y diwydiant ac academyddion i ddatblygu rhwydwaith monitro sy'n fwy integredig a hyblyg. Rydym ni'n rhoi cefnogaeth i Brifysgol Caerdydd i ymgymryd â phrosiect a fydd yn archwilio dewisiadau ar gyfer porth data agored sy'n diwallu anghenion darparwyr a defnyddwyr y data yn y ffordd fwyaf buddiol. Mae data monitro dibynadwy ac amser real yn hanfodol o ran deall y tueddiadau yn ansawdd y dŵr ac ar gyfer rhoi ymyraethau polisi ar waith sy'n effeithiol. Mae cyfle i ni ddefnyddio technolegau newydd, llwyfannau modelu a gwyddoniaeth dinasyddion. Llywydd, mae gwyddoniaeth dinasyddion yn arbennig wedi ehangu yn gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae'n adlewyrchu diddordeb a phryder y cyhoedd yn gyffredinol o ran materion ynglŷn ag ansawdd y dŵr. Mae'r ymgysylltiad cyhoeddus hwn yn cael ei ysgogi yn aml gan gymunedau yn eu hymdrechion i wella ansawdd y dŵr yn eu hardal leol.
Yn y cyfamser, mae trydydd ymrwymiad y Llywodraeth yn ymwneud â deddfu i rymuso'r gofynion ar gyfer defnyddio systemau draenio cynaliadwy—SuDS—sy'n cynnig cynefin i fywyd gwyllt. Yn 2022, comisiynwyd Arup i gynnal adolygiad annibynnol o'r drefn SuDS gyfredol. Un o argymhellion yr adolygiad hwn oedd sefydlu a chefnogi grŵp cynghori SuDS newydd, gan rannu gwersi ac arfer gorau ar gyfer ymgeiswyr a chyrff cymeradwyo SuDS, a bwrw ymlaen ag argymhellion yr adolygiad. Felly, Llywydd, rwy'n falch iawn o ddweud bod cymuned ymarfer newydd SuDS wedi cyfarfod am y tro cyntaf ddydd Gwener diwethaf. O ystyried yr ystod o fuddion amgylcheddol a chymunedol y gall systemau rheoli dŵr wyneb o gynlluniad da eu cyflawni, ein canolbwynt ni fydd sicrhau, lle bo'r angen, ein bod ni'n cadarnhau'r gofynion presennol a'r prosesau cysylltiedig er mwyn i gyrff cymeradwyo SuDS gyflawni cyfundrefn sy'n effeithiol ac effeithlon.
Ond nid unig ystyr gwella ansawdd ein dŵr yw cyflawni ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu ni. Mae rhif aruthrol o ffactorau cymhleth a chydgysylltiedig yn effeithio ar ansawdd y dŵr, gan gynnwys dŵr gwastraff, dŵr ffo trefol, camgysylltiadau, llygredd gwledig gwasgaredig, addasiadau ffisegol, llygredd o hen fwyngloddiau metel, a rhywogaethau goresgynnol. I sicrhau gwelliannau o ran ansawdd dŵr, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i hyrwyddo dull tîm Cymru. Ni ellir gwireddu ein huchelgeisiau ni heb ymgysylltiad llawn rhwng y Llywodraeth, rheoleiddwyr, a phob sector perthnasol yng Nghymru sy'n gweithio gyda'i gilydd. Dyma pam rydym ni'n cymryd ymagwedd gyfannol o ran gwella ansawdd ein dŵr.
Bydd rheoli gorlifoedd storm cyfun â rhan bwysig yn hyn o beth, wrth gwrs. Mae'r Aelodau yn siŵr o fod yn ymwybodol ein bod ni wedi cyhoeddi adroddiad 'Tystiolaeth ar orlifoedd storm yng Nghymru' ar 26 o fis Hydref, a gomisiynwyd gan dasglu gwella ansawdd afonydd Cymru, yn rhan o'i gynllun gweithredu rheoleiddio gorlifo amgylcheddol. Er nad yw'r adroddiad yn cynnwys argymhellion penodol, fe fydd y dewisiadau a gyflwynir ynddo yn helpu i lywio'r tasglu wrth ddatblygu rhaglen waith sy'n gyraeddadwy a fforddiadwy ar gyfer rheoleiddio gorlifoedd storm cyfun yn well ac atal niwed ecolegol yn nyfrffyrdd Cymru. Yn ogystal â hynny, eleni, mae dau gwmni dŵr Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau draenio a rheoli dŵr gwastraff—neu DWMP—am y tro cyntaf. Bydd y DWMPs yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar y pwysau sydd ar y rhwydwaith ac yn tynnu sylw at gyfleoedd ar gyfer cydweithredu effeithiol ar draws y sector.
Mae dadansoddiad diweddaraf o ddosbarthiad ffynonellau llygredd a wnaeth Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, a sicrwydd ansawdd gan asesydd annibynnol, yn dangos bod llygredd ffosfforws mewn afonydd yn ein hardaloedd cadwraeth arbennig yn dod o amrywiaeth o ffynonellau. Mae'n nodi defnydd tir yng nghefn gwlad yn brif gyfrannwr at orlwyth ffosfforws mewn chwech o naw afon ACA Cymru, gan gynnwys pedair o'r pum afon ACA sydd ar hyn o bryd yn methu targedau ar gyfer ffosffadau. Ar hyn o bryd mae llygredd ffosfforws yn ennill lle blaenllaw yn ystyriaethau cynllunio defnydd tir mewn llawer o ardaloedd gwledig yn bennaf am fod cyfraddau llygredd yn fwy na'r trothwyon a benwyd. Mae hynny'n atgyfnerthu'r angen am ddull amlsector, tîm Cymru eto o ran gwella ansawdd dŵr.
Llywydd, hyfrydwch o'r mwyaf i mi yw y bydd prosiect dalgylch arddangos Teifi a lansiwyd yn ddiweddar, menter aml-flwyddyn dan arweiniad CNC ac a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, yn adeiladu ar y dull cydweithredol hwn. Nod y prosiect traws-sector yw gwella rheolaeth dŵr yn nalgylch Teifi drwy ystyried mewn ffordd wahanol a defnyddio datrysiadau arloesol. Fe gyhoeddais i ddatganiad ysgrifenedig ynglŷn â'r prosiect hwn ar 27 Tachwedd.
Rwy'n falch ein bod wedi cymryd camau breision hefyd i fynd i'r afael â'r materion hyn drwy ein tair uwchgynhadledd llygredd afonydd, ac roeddwn yn cadeirio'r un diweddaraf ar 30 Tachwedd. Roeddem ni wedi parhau i ymgysylltu yn eang ym mhob sector allweddol a oedd o gylch y bwrdd, gan gynnwys rheoleiddwyr, cwmnïau dŵr, datblygwyr tai, llywodraeth leol, undebau ffermio a'r byd academaidd. Trafodwyd y cynnydd a wnaethpwyd yng ngyd-destun y cynllun gweithredu y cytunwyd arno yn yr ail uwchgynhadledd ym mis Mawrth, a oedd yn sefydlu meysydd canolbwyntio o'r newydd ac yn pennu'r cyfeiriad dros y misoedd nesaf. Rwy'n edrych ymlaen at yr uwchgynhadledd nesaf ym mis Mawrth 2024, a fydd yn cael ei chadeirio gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Llywydd, fe allwn i fynd ymlaen ac ymlaen, ond fe fyddwn i'n mynd ymhell dros fy amser. I grynhoi, rydym ni wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at wella ansawdd dŵr trwy gydol 2023. Ond mae ansawdd dŵr yn fater cymhleth sy'n anodd ei ddatrys yn syml ac mae ffordd bell i fynd eto yn y flwyddyn i ddod a thu hwnt i hynny. Eto i gyd, drwy barhau â'n dull tîm Cymru ni, rwy'n hyderus ein bod ni ar y trywydd iawn i gyflawni ein huchelgeisiau gyda'n gilydd. Diolch.
Wel, fe wyddom ni, oni wyddom, ein bod ni'n ddifrifol o brin o dai yng Nghymru? Mae cymaint â 10,000 o dai wedi cael eu gohirio oherwydd cyflwyniad y rheoliadau ffosffad, gyda dros 1,000 o'r rhain yn dai fforddiadwy. Dim ond yn Wrecsam, mae 3,500 o unedau o fewn tua 100 o geisiadau cynllunio wedi bod yn gorwedd ar ddesgiau, am y rheswm syml eu bod nhw'n aros i'r broblem ynghylch ffosffadau gael ei datrys. Serch hynny, diolch i ymdrechion arbennig Sarah Atherton AS, mae CNC wedi rhoi trwydded amgylchedd yn ddiweddar i waith trin dŵr gwastraff Pum Rhyd, sy'n golygu y gall ceisiadau cynllunio symud ymlaen nawr. Mae tair blynedd erbyn hyn ers i CNC gyflwyno'r canllawiau ffosffad. A ydych chi'n cydnabod bod camau CNC a methiant Llywodraeth Cymru i gynorthwyo'r awdurdodau cynllunio lleol ar gyflymder wedi niweidio ein sector tai? Cynhaliodd y Prif Weinidog uwchgynhadledd ar 18 Gorffennaf 2022, lle nodwyd wyth maes ymyrraeth, gan gynnwys Rhif 3,
'Nodi a gweithredu mesurau byrdymor priodol.'
Felly, a wnewch chi egluro pa fesurau byrdymor sydd wedi cael eu rhoi ar waith? A pha gynnydd a ydych chi'n disgwyl ei wneud erbyn yr uwchgynhadledd nesaf ar 18 Mawrth?
Mae CNC wedi cael y gorchwyl hefyd o gynnal adolygiad o drwyddedau gollwng dŵr, gan flaenoriaethu'r rhain dros waith trin dŵr gwastraff sy'n effeithio ar dai cymdeithasol ac mewn dalgylchoedd ACA sy'n ffaelu. Felly, er fy mod i'n deall bod gan CNC tan 2024 i gwblhau'r adolygiad, faint o drwyddedau y maen nhw wedi gallu eu hystyried hyd yn hyn? A ydyn nhw wedi asesu'r lle dros ben sydd mewn trwyddedau perthnasol erbyn hyn? Ac fe fyddai'r data o'r asesiadau yn arbennig o ddefnyddiol i arwain yr awdurdodau cynllunio lleol o ran ardaloedd addas i ddatblygu tai.
Roedd adroddiad yn dadansoddi perfformiad 11 o weithiau trin carthion yng Nghymru rhwng 2018 a 2023. Unwaith eto, roedd yn canfod bod 10 wedi bod yn gollwng carthion heb eu trin yn anghyson â'u trwyddedau nhw. Mae angen diwygio gorfodi, fel ei fod mewn gwirionedd yn arwain at welliannau i'r gorlifoedd storm cyfun sy'n achosi llawer o bryder ym mhob un o'n cymunedau. Yn Lloegr, os bydd achos o dorri rheoliadau trwyddedu amgylcheddol, fe all Asiantaeth yr Amgylchedd dderbyn ymgymeriad gorfodi. Yng Nghymru, nid yw hwnnw'n ddewis sydd ar gael i CNC ar hyn o bryd, ac nid oes llawer o gyfle i Dŵr Cymru gynnig yr ymgymeriadau amgylcheddol hyn. Felly, a wnewch chi reoleiddio i alluogi CNC i ganiatáu i gwmnïau, fel Dŵr Cymru, dderbyn ymgymeriad gorfodi, fel eu bod yn gwella'r amgylchedd sy'n lleol i'r niwed, yn hytrach na dim ond anfon arian i'r Trysorlys?
Nawr, rydym ni'n ymwybodol bod saith mis wedi mynd wrth i ni ddisgwyl i chi ddod ymlaen a chyhoeddi'r adroddiad gorlif storm gohiriedig. Fel gwyddoch, ni chafwyd unrhyw argymhellion, ond fe geir rhai prisiadau sy'n ddefnyddiol. Pa asesiad a wnaethoch chi o'r prisiadau hynny? A sut maen nhw wedi dylanwadu ar eich camau chi, Gweinidog, o ran sut yr ydych chi wir am fynd i fynd i'r afael â phla parhaus llygredd dŵr yma yng Nghymru? Diolch.
Wel, Llywydd, rwyf i wedi fy syfrdanu i raddau gyda'r syniad bod AS Torïaidd wedi bod ag unrhyw ddylanwad o gwbl ar drwyddedu'r gwaith trin dŵr gwastraff yn y gogledd. Efallai yr hoffai Janet ysgrifennu llythyr ataf i esbonio pa ddylanwad yn union a gafodd honno wrth ganiatáu'r drwydded eithriadol dechnegol gan CNC. Yn fy marn i, Llywydd, fe wnaeth CNC weithio yn galed iawn gyda Dŵr Cymru i uwchraddio'r gwaith trin dŵr sydd yno, ac mae hynny wedi ein galluogi ni i roi rhai o'r ceisiadau am dai yn ardal y gogledd-ddwyrain drwodd, gan ryddhau rhywfaint o adeiladu tai o'r broblem sy'n bodoli o ran ffosffadau.
Fodd bynnag, Janet, ni wn i sut yn y byd mawr y gallwch chi droi fel ceiliog gwynt o un diwrnod i'r llall rhwng safbwyntiau hollol wahanol. Rydych chi newydd fod yn dadlau—nid wyf i'n siŵr eich bod chi'n sylweddoli—na ddylai CNC allu dirwyo pobl ond y dylen nhw allu gwneud trefniadau gyda nhw, yn hytrach na hynny. Rwy'n weddol sicr fod Aelodau ar eich meinciau chi wedi codi ar eu traed ac wedi fy nwrdio i am nad oedden nhw wedi eu dirwyo nhw am yr all-lifoedd ar yr arfordir—[Torri ar draws.]
Janet Finch-Saunders, fe gawsoch chi eich cyfle i roi eich sylwadau i'r Gweinidog. Ymateb i'r hyn a glywodd hi y mae hi nawr.
Efallai na chlywodd hi'n iawn.
Mae'r Gweinidog yn clywed yn iawn bob amser. Os gwelwch chi'n dda, peidiwch ag ymhél â sarhau Gweinidog. Felly, a gawn ni adael llonydd i'r Gweinidog ymateb?
Diolch i chi, Llywydd. Fel dywedais i, fe gawsom ni enghraifft eisoes lle mae Dŵr Cymru wedi gweithio yn galed iawn gyda'r cwmni trin dŵr nid ar gyfer dirwyo'r cwmni a dychwelyd yr arian i'r Trysorlys, ond yn hytrach i roi cynllun adfer a gweithredu ar waith a fydd yn caniatáu uwchraddio'r gwaith trin dŵr hwnnw, ac rwy'n cytuno yn llwyr â hynny. Rwy'n credu yn llwyr mai hwnnw yw'r dull priodol. Felly, mae hi'n braf cytuno â chi, Janet, o bryd i'w gilydd, er nad wyf i'n siŵr eich bod chi'n cytuno â chi eich hun.
Mae'r ddau fater arall y gwnaethoch chi eu codi nhw'n ddiddorol iawn—[Torri ar draws.]
Gadewch i'r Gweinidog fynd yn ei blaen, os gwelwch yn dda.
Fe ddywedais i sawl gwaith yn y Siambr hon nad oes unrhyw argymhellion yn yr adroddiad gorlif storm oherwydd nid oedd unrhyw fwriad erioed iddo fod ag argymhellion ynddo. Rwyf i newydd ailadrodd hynny yn fy natganiad i. O bosibl, fe ddylech chi addasu eich ymholiadau pan fyddwch chi'n ymateb i mi ar ôl i chi glywed y datganiad. Holl bwynt hynny oedd llywio'r fframwaith i reoli ansawdd dŵr yn well a'r adroddiad gweithredu o ganlyniad i'r uwchgynhadledd. Llywydd, rydym ni wedi cyhoeddi'r adroddiad gweithredu. Mae hwnnw ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Felly, Janet, os byddech chi'n hoffi cael rhagor o fanylion ynglŷn â'r peth, rwy'n awgrymu eich bod chi'n gofyn i'ch ymchwilydd chi edrych ar hwnnw.
Yn amlwg, mae angen newid y sefyllfa hon. Mae Surfers Against Sewage wedi gwneud yn glir difrifoldeb y sefyllfa. Y llynedd, dadlwythwyd carthion dros yr ynysoedd hyn fwy na 399,864 o weithiau, sef tua 1,000 o weithiau bob diwrnod dros yr ynysoedd hyn. Y tebygrwydd ydy bod yr amcangyfrif hwn lot yn rhy isel. Torrwyd trwyddedau yng Nghymru gan Hafren Dyfrdwy a Dŵr Cymru ill dau yn 2022, a dadlwython nhw garthion am gyfanswm o 613,618 o oriau. Mae hwnna'n cyfateb i ddadlwytho am 25,567 o ddiwrnodau yn olynol, heb stop. Mae’r data yna’n cael eu rhoi yn ôl-weithredol. A fyddech chi'n cytuno, Gweinidog, fod yn rhaid inni wella’r ffyrdd o gael data mewn amser real fel ein bod ni'n gallu cyfathrebu hynny i’r cyhoedd os dyw e ddim yn saff i bobl fynd i nofio neu i fod yn agos, hyd yn oed, efallai, at rai llefydd dŵr? Wrth gwrs, dim ond dechrau’r gwaith fydd adnabod y data. Rhaid lleihau’r carthion yma sy’n cael eu dadlwytho.
Un o’r problemau sylweddol—ac mae hwn wedi codi'n barod—sydd gennym ydy diffyg capasiti Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd i’r afael â’r broblem. Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru, wrth gwrs, rôl hollbwysig mewn rheoleiddio ein hadnoddau ni yng Nghymru, trwy fonitro, trwy amddiffyn. Ond mae diffyg adnoddau, yn rhy aml, yn arwain at oedi neu weithredu sy'n annigonol. Gweinidog, ydych chi’n rhannu fy mhryder—dwi'n cydnabod beth rydych chi wedi dweud yn barod am hwn—y gall y ffaith bod gweithredu annigonol weithiau'n digwydd neu fod oedi yn rhoi'r neges i gwmnïau dŵr eu bod nhw’n gallu cario ymlaen i dorri’r rheoliadau, heb ofni cymaint â hynny o gosb?
Ac i droi at y cwestiwn o fonysau sy’n cael eu rhoi i weithredwyr cwmnïau, o ystyried graddfa y toriadau amgylcheddol sy’n digwydd, a hefyd y costau cynyddol o wella isadeiledd, ydych chi’n meddwl ei bod hi’n briodol i gwmnïau rhoi bonysau sydd mor uchel? Dwi'n deall, wrth gwrs, nad yw hwn yn fater i’r Llywodraeth, ond ydych chi eto'n rhannu fy mhryder am optics hyn, ac fel maent yn gwneud i bobl gyffredin feddwl bod dim byd yn digwydd ac y byddan nhw'n cael y bonysys yma beth bynnag? Sut, felly, ydyn ni'n gallu sicrhau na fydd yr optics yna'n parhau o fewn yr hyn y mae gennych chi, o leiaf, yr hawl i'w wneud? Ond hefyd, sut ydyn ni'n gallu gwneud yn siŵr na fydd y costau ar gyfer gwella'r isadeiledd yn cwympo i gwsmeriaid dalu amdanynt, yn enwedig cwsmeriaid sydd ddim yn gallu fforddio unrhyw gost ychwanegol gyda'r creisis costau byw? Oni ddylai'r llygrwr dalu yn lle?
A ydych chi'n cytuno bod angen inni weld datganoli pwerau dros ddŵr ac ailgenedlaetholi’r diwydiant hwn er mwyn gwella atebolrwydd? Wrth gwrs, mae angen inni gael system llywodraethiant amgylcheddol parhaol yng Nghymru hefyd. Mae hynny'n dod â fi at fy mhwynt olaf, Llywydd a Gweinidog. Onid yw'r sefyllfa ofnadwy yma, gyda charthion yn cael eu dadlwytho i'n hafonydd ni, yn gwneud yr achos dros gael system barhaol o lywodraethiant amgylcheddol hyd yn oed yn fwy o fater o frys? Ni yng Nghymru yw'r unig wlad yn yr ynysoedd hyn nad oes ganddi gyfundrefn o’r fath, ac mae'r gap yma yn un rwy'n meddwl y gall fod yn un niweidiol iawn, ac efallai hyd yn oed yn beryglus. Mae Plaid Cymru wedi gwthio am gyflymu’r broses o roi system o’r fath yn ei lle. A ydych chi'n cytuno gyda mi fod angen gweithredu yn fuan iawn, er mwyn sicrhau bod newid yn digwydd?
Diolch, Delyth. Dim ond ar y pwynt olaf yna, rydym ni wedi cytuno, wrth gwrs, yn rhan o'r cytundeb cydweithio, ar amseriad Deddf newydd nodau llywodraethu amgylcheddol a bioamrywiaeth—dyna ei theitl hi am y tro. Mae disgwyl i'r Papur Gwyn a fydd yn cyflwyno'r Ddeddf honno'n ffurfiol i'r system gael ei gyhoeddi yn ail wythnos mis Ionawr y flwyddyn nesaf. Mae yna amserlen gyfyng iawn wedyn ond un y gellir ei chyflawni, i dderbyn yr ymatebion yn ôl, i fod â drafft y Ddeddf, a'i chyfieithu wedyn a'i rhoi gerbron y gyfundrefn Seneddol mewn pryd i'w gweithredu cyn diwedd tymor y Senedd hon, sef ein nod ni o'r dechrau. Rwy'n gobeithio yn fawr y gallaf i weithio gyda'r pwyllgorau i sicrhau bod rhai o gamau grymuso hynny yn cyd-fynd â'r Ddeddf, er mwyn i ni sefydlu'r corff llywodraethu amgylcheddol fwy neu lai yn syth wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol, yn hytrach na gorfod oedi. Dyna ran fawr iawn o'r cytundeb cydweithio. Felly, fe fydd hi'n ddiddorol iawn, pan gyhoeddwn ni'r Papur Gwyn, i weld ymateb y sector i hwnnw, a fydd, rwy'n gobeithio, yn un cadarnhaol iawn, oherwydd fe wnaethom ni archwiliad dwfn o ran bioamrywiaeth gyda rhanddeiliaid i gyd, gan gynnwys y broses uwchgynhadledd, i wneud yn siŵr ein bod ni wedi cyrraedd y fan neu o'i chwmpas hi o ran yr hyn y byddwn ni'n ymgynghori arno. Rwyf i wedi bod yn ddiolchgar iawn am gydweithrediad Plaid Cymru wrth i ni fynd trwy hynny hefyd.
Gan droi at rai o'r materion eraill y gwnaethoch chi eu codi, rwy'n falch iawn bod y cwmnïau dŵr wedi cyflwyno eu cynlluniau busnes i Ofwat. Mater i Ofwat nawr fydd sicrhau bod y cynlluniau busnes hynny'n addas i'r diben. Maen nhw'n cynnwys y pethau hynny i gyd yr oeddech chi'n gofyn i mi amdanyn nhw o ran tâl cydnabyddiaeth ac ati. Ni fyddaf i'n rhoi unrhyw sylwadau ar hynny. Ni fyddai hi'n briodol i mi wneud hynny hyd nes y bydd Ofwat wedi dweud rhywbeth am y cynlluniau busnes hynny. Yn amlwg, fe roddodd Llywodraeth Cymru ei hysbysiad o gyfarwyddyd yn y broses honno, ac rwyf i wedi cwrdd â'r cwmnïau dŵr a chydag Ofwat yn ystod y broses honno, ac rydym ni'n aros am ganlyniad hynny.
Ysgogir y system hon gan farchnad lle mae buddsoddiad seilwaith yn cael ei wneud ar draul y rhai sy'n talu'r biliau. Mae'r hyn a ddywedais i ar gof a chadw—ac rwyf i am ei ddweud eto nawr—nad honno yw'r unig ffordd o wneud hyn. Mae hyn yn golygu y bydd hi'n cymryd llawer mwy o amser i ni gyrraedd yr ansawdd amgylcheddol yr hoffem ei gael oherwydd, yn amlwg, mae'n cyfyngu ar faint y buddsoddiad. Ni ddeallais i erioed yn iawn pam nad yw buddsoddi mewn ansawdd amgylcheddol da yn cael ei ystyried yn fath o fuddsoddiad economaidd fel, er enghraifft, y mae palmantu cefn gwlad yn cael ei ystyried bob amser, ac rwy'n parhau i wneud y pwynt hwnnw. Mae'r system yn gofyn diwygiad mawr, yn fy marn i. Ond beth bynnag am hynny, yn y cyfamser, rydym ni am sicrhau y bydd y dylanwad sydd gennym ni'n cael rhaglen fuddsoddi ar waith a fydd, rwy'n gobeithio, yn gwella ansawdd y dŵr sydd gennym ni yma'n sylweddol iawn.
Mae'r broses uwchgynhadledd yn ymestyn i feysydd eraill hefyd o ran llygredd ac ansawdd dŵr. Nawr, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod hynny. Rwy'n gwybod mai gofyn cyfres benodol o gwestiynau i mi ynglŷn â hynny'r ydych chi. Effeithir ar y system gorlif carthffosiaeth gyfun yn eang gan adeiladu tai a chysylltiadau a gollwyd yn y system garthffosiaeth, a'r diffyg o ran uwchraddio'r system garthffosiaeth gan feysydd eraill, nid dim ond gan y cwmnïau dŵr. Felly, rydym ni wedi bod yn gweithio yn galed iawn gyda'r adeiladwyr tai i sicrhau bod y systemau draenio cynaliadwy yr ydym ni'n eu rhoi ar waith yn gweithio yn ddigon da ac mewn gwirionedd yn dod â manteision amgylcheddol eraill yn eu sgil. Felly, yn aml fe geir tanciau dŵr tanddaearol, ac ni all llawer o fudd fod iddyn nhw yno, ond fe geir dulliau eraill o wneud hyn yn bosibl. Felly, mae hi'n berffaith bosibl bod â systemau amddiffyn rhag llifogydd naturiol sydd hefyd yn gweithio fel systemau draenio, er enghraifft. Felly, fe fydd hi'n ddiddorol iawn gweithio drwy adroddiad Arup a gweld ein cyfeiriad ni yn hynny o beth.
O ran y pwynt ynglŷn â gorlif carthffosiaeth gyfun serch hynny, fe fyddwn i wrth fy modd yn gweld dim gorlifoedd carthffosiaeth gyfun o gwbl yn cael eu gollwng, hyd yn oed mewn glaw trwm, gyda llifogydd, ond rwy'n benderfynol iawn, wrth i ni gywiro'r sefyllfa gyda gorlifoedd carthffosiaeth gyfun, ein bod ni'n ateb yr angen mwyaf yn gyntaf. Nid oes gennym ni ddim digon o arian i wneud pob un ohonyn nhw, ac nid oes unrhyw ddiben i ni esgus fel arall. Felly, mae hi wedi bod yn bwysig iawn i mi fod yn gweithio gyda'r ddau gwmni dŵr i ddeall ym mha le y mae'r effaith amgylcheddol fwyaf ac nid ystyr hynny bob amser yw'r amser y mae'n ei gymryd i'w ollwng; ond yr hyn sy'n cael ei ollwng ac ym mha le. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni ddynodi'r gwahaniaeth hwnnw. Mae niferoedd yr oriau o ollwng yn ofnadwy—peidiwch â'm camddeall i—ac rwy'n credu yn llwyr y byddai hi'n wych bod heb ddim o gwbl. Ond mae'n rhaid i ni ddeall pa rai sy'n llygru fwyaf, beth yw'r cynnwys sy'n mynd i mewn yn y mannau hynny, a sut y gallwn ni drin y materion gwaethaf yn gyntaf. Felly, dyna'r hyn yr ydym ni wedi bod yn canolbwyntio arno, a rhan o'r broses uwchgynhadledd yw cael pobl eraill sy'n cyfrannu at y systemau carthion a'r systemau draenio i fynd i'r afael â cheisio dargyfeirio dŵr i ffwrdd oddi wrth y system.
A'r peth olaf y byddwn i'n ei ddweud ynglŷn â hynny, Llywydd, yw y gallai'r Aelodau fod wedi sylwi fy mod i wedi cyhoeddi safonau ansawdd tai newydd Cymru. Efallai eich bod chi'n meddwl nad oes gan hynny lawer i'w wneud â hyn, ond mewn gwirionedd, rhan o safon ansawdd tai newydd Cymru fydd sicrhau y bydd gan bob cartref cymdeithasol yng Nghymru gasgen ddŵr. Mae faint o ddŵr y mae hynny'n ei ddargyfeirio o'r system garthffosiaeth yn syfrdanol, felly pe bawn i'n gallu annog hanner y boblogaeth yng Nghymru i roi casgen ddŵr ar y to ac atal y dŵr hwnnw rhag mynd i mewn i'r system ddraenio, byddai nifer y gorlifoedd carthffosiaeth gyfun yn gostwng mewn ffordd sylweddol iawn.
Rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Fe hoffwn i siarad am ffosffadau mewn afonydd. Mae ffosffadau yn ymddwyn fel gwrtaith mewn afonydd fel Afon Gwy, ac yn achosi i lawer o algâu ffurfio blodau algaidd, sy'n disodli blodyn menyn y dŵr. Mae'r algâu yn mygu llystyfiant eraill ac yn defnyddio cyflenwadau ocsigen sy'n hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt dŵr croyw. Mae'r priddoedd a'r llaid sy'n cario'r ffosffadau yn malu graean yr afon a oedd gynt yn lân, sy'n bwysig iawn fel meithrinfeydd ar gyfer eogiaid sy'n silio a brithyll. Mae'r llaid hefyd yn gallu llenwi tagellau infertebratau dŵr croyw a mandyllau planhigion dŵr croyw, gan leihau amrywiaeth a helaethrwydd y bywyd gwyllt naturiol yn ein hafonydd.
Mae'r cynllun rheoli maethynnau yn nodi'r pwysau amaethyddol allweddol sy'n arwain at lygredd ffosffad yn eglur fel: arferion ffermio da byw—gorbori, erydiad pridd a thail; cynhyrchiant dofednod—cynhyrchu a gwasgaru tail a sbwriel dofednod; ffermio âr—gorddefnydd o wrteithiau organig ac anorganig a dŵr ffo yn aml yn cael eu sianelu i gyrsiau dŵr; a garddwriaeth—defnyddio gormodedd o wrtaith, priddoedd moel ac erydiad pridd yn dilyn hynny a cholli maethynnau. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i reoli'r llygredd hwn?
Diolch yn fawr iawn i chi, Mike. Rwy'n cytuno yn llwyr â chi. A dweud y gwir, afon Gwy yw'r afon sydd â'r gyfradd fwyaf o lygredd ffosffadau yng Nghymru, er bod gennym ni sawl afon yng Nghymru sy'n dioddef o'r aflwydd arbennig hwnnw. Nid wyf i'n dymuno rhoi gormod o bwyslais ar hynny, fodd bynnag—mae gennym ni afonydd yng Nghymru sy'n rhagorol hefyd; ni fyddwn i'n hoffi rhoi'r argraff fod pob afon yng Nghymru â phroblem gyda ffosffadau. Ond mae gennym ni broblemau, yn enwedig yn nalgylch afonydd Wysg a Gwy, yn hyn o beth, ac rydym wedi bod yn gwneud nifer o bethau, yn enwedig yn y broses uwchgynhadledd yr ydym ni wedi bod yn sôn amdani, sef y cynllun gweithredu sy'n dod â phob sector ledled Cymru at ei gilydd i geisio mynd i'r afael â phob ffynhonnell o lygredd.
Mae hi'n wir, yn afonydd Wysg a Gwy, mai llygredd dŵr ffo amaethyddol, o bell ffordd, yw'r broblem fwyaf sydd gennym ni yno. Ac felly, yn yr uwchgynhadledd ddiweddaraf, a gadeiriais i ar 30 Tachwedd, fe gawsom ni gyflwyniad ardderchog gan un o'r ffermwyr; mewn gwirionedd fe gafodd gymeradwyaeth mewn cyfarfod bwrdd crwn—ni welais i hynny'n digwydd erioed o'r blaen yn yr holl flynyddoedd yr ydw i wedi bod yn mynychu'r pethau hyn—am fod yr hyn y gallodd ef ei wneud wedi creu cymaint o argraff ar bobl. Mae'n rhan o grŵp o'r enw Ceiniogi'r Coed, os cafodd Aelodau gyfle i fynd i edrych ar hwnnw—mae'n drawiadol iawn, wir. Roedd hwn yn unigolyn trawiadol iawn, ffermwr ymroddedig, sy'n gwbl benderfynol o beidio â gadael i'w dir ef lygru'r afon yr oedd ef yn amlwg yn ei pharchu yn fawr iawn. Ac roedd ef yn amlinellu cyfres o bethau bychain yr oedd ef wedi eu gwneud ar ei fferm sydd wedi rhwystro unrhyw ddŵr-ffo amaethyddol yn gyfan gwbl. A dyna fydd yr hyn y byddwn ni'n ei adleisio yn ein cynllun ffermio cynaliadwy newydd, er mwyn cynorthwyo ffermwyr i wneud defnydd o'r hyn sydd mewn gwirionedd yn adnodd gwerthfawr—felly, naill ai ei lapio ac anfon y pecyn i rywle arall lle mae angen amdano, oherwydd, mewn gwirionedd, mae ffosffadau, yn rhyfedd iawn, yn bethau anodd eu cael yn y rhan helaethaf o'r byd, ac yn digwydd bod, mae llawer ohono i'w gael yng Nghymru—. Felly, mae angen i ni ei rwystro rhag mynd i'r afonydd ac mae angen i ni ei roi mewn pecyn a'i anfon i'r lleoedd sydd â'r angen amdano mewn gwirionedd. Felly, mae gan y cynllun gweithredu, a gyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru, gyfres lawn o bethau yr ydym ni'n eu gwneud i gynorthwyo ffermwyr yng Nghymru i wneud y pethau a amlinellodd Richard, y ffermwr a oedd yn rhoi'r cyflwyniad. Fe roddodd ef yn hael o'i amser, fel nifer fawr o bobl yn ei grŵp ef, fel gwnaeth pob un o'r bobl ar y byrddau rheoli maethynnau a'r byrddau ansawdd rheoli afonydd yn well—rwyf i'n rhoi hynny yn y drefn anghywir bob tro. Y peth mwyaf mewn gwirionedd yw ein bod yn datblygu cyfrifiannell maethynnau cyffredin er mwyn rhoi llinell sylfaen y mae'r ffermwyr yn gofyn amdani, ar gyfer deall sut a phryd a beth i'w wasgaru, ac, a dweud y gwir, a yw hynny'n gwneud unrhyw les i'r tir o gwbl neu beidio, neu a ddylen nhw fod yn gwneud rhywbeth arall mewn gwirionedd.
Felly, mae hi wedi bod yn mynd yn dda iawn hyd yma. Fe fydd fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog materion gwledig, yn cyhoeddi'r cynllun ffermio cynaliadwy newydd yn fuan iawn nawr ar gyfer ymgynghori. Fe fydd pobl yn gallu gweld y dylanwad gwirioneddol a gafodd ffermwyr fel Richard ledled Cymru.
Gweinidog, fel gwyddoch chi, fe geir problem arbennig yn y gorllewin lle mae safle Aberteifi Dŵr Cymru wedi caniatáu i garthion heb eu trin lifo i Afon Teifi heb i'r gwaith fod yn gweithio hyd eithaf ei allu. Fel dywedais i o'r blaen, mae hynny'n gwbl annerbyniol. Mae safle Aberteifi yn gwasanaethu dros 7,000 o bobl ac yn gollwng i Afon Teifi, a ddynodir yn ardal cadwraeth arbennig. Rwy'n derbyn eich bod chi wedi cyfeirio at ddalgylch Afon Teifi yn eich datganiad chi brynhawn heddiw.
Yn fwy pryderus, roedd adroddiad diweddar gan yr Athro Hammond yn datguddio bod y toriadau hirdymor ar safle Aberteifi yn wybyddus i Cyfoeth Naturiol Cymru, a wnaeth ganiatáu i'r gollyngiadau barhau am hyd at 10 mlynedd heb gymryd camau sylweddol. Rydych chi wedi crybwyll Cyfoeth Naturiol Cymru sawl gwaith yn eich datganiad heddiw, ac yn rheoleiddiwr, mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru swyddogaeth hanfodol o ran cosbi ac, rwy'n credu, o ran erlyn y cwmnïau dŵr. Os nad ydyn nhw'n gwneud hynny i raddau digonol, yna fe fydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ymyrryd, wrth gwrs.
Felly, a wnewch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud ei waith o ran monitro cwmnïau dŵr yn effeithiol? A wnewch chi ddweud wrthym ni hefyd sut mae Llywodraeth Cymru yn mesur effeithiolrwydd Cyfoeth Naturiol Cymru o ran cyflawni ei ddyletswyddau? Yn olaf, Llywydd, os nad yw hi'n ymddangos bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn dal y cwmnïau dŵr i gyfrif mewn ffordd briodol, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru am eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater hwnnw?
Diolch i chi, Paul. Rydym ni wedi trafod hyn nifer o weithiau eisoes yn y Senedd, felly dim ond i ailadrodd, rwy'n anghytuno â chyfran o'ch portread chi nawr i ryw raddau, er fy mod i'n cytuno ei fod yn fater y mae angen gwirioneddol i ni roi sylw iddo.
Rhan o'r rheswm pam rydym ni wedi dewis Afon Teifi ar ei hyd fel dalgylch i'r cynllun treialu yw oherwydd rhai o'r materion sy'n deillio o hynny. Mae'n un o'r ychydig o afonydd ardaloedd cadwraeth arbennig yng Nghymru lle nad llygredd oherwydd amaethyddiaeth yw'r llygredd mwyaf, felly roeddem ni'n arbennig o awyddus i dargedu gorlif carthffosiaeth gyfun a phroblemau dŵr gwastraff yn Afon Teifi. Felly, rwy'n falch iawn fod yr afon honno wedi cael ei dewis. Fe fyddwn ni'n gweithio gyda thirfeddianwyr ar hyd yr afon o'i tharddiad i'r môr, i sicrhau ein bod ni'n deall yn union beth sy'n digwydd ar hyd yr afon honno, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys Dŵr Cymru, sydd wedi dweud eisoes eu bod nhw am fuddsoddi £20 miliwn yn y gwaith trin dŵr gwastraff newydd a fydd yn Aberteifi.
Nid wyf i am fynd i fanylder ynglŷn â'r peth, ond rwy'n fwy na pharod i gael sgwrs gyda chi am hyn. Mae yna faterion penodol iawn sy'n deillio o stori Aberteifi, lle mae hi'n weddol amlwg fod CNC wedi gweithio gyda Dŵr Cymru am amser maith, gan bwyso arnyn nhw i roi mwy o flaenoriaeth i hynny ar eu rhaglen ar gyfer buddsoddi. Yn wir, rydym ni wedi gweld cyhoeddi'r buddsoddiad, ac rwy'n aros am y canlyniad oddi wrth Ofwat o ran y cynllun busnes ar gyfer gwneud hynny. Mae Dŵr Cymru wedi bwrw ymlaen o ddifrif gyda dalgylch Teifi o un pen i'r llall hefyd, felly rydym ni'n gobeithio y byddan nhw'n gallu gwneud ychydig mwy o waith yn y maes hwnnw, oherwydd rydych chi'n gywir, mae honno'n afon bwysig ac o arwyddocâd diwylliannol gwirioneddol, a dweud y gwir, ond mae hi hefyd, wrth gwrs, yn cynnwys toreth o fioamrywiaeth, yn wir, ac mae ansawdd y dŵr ynddi o bwys am gyfres gyfan o resymau.
Nid yw ansawdd y dŵr ar gyfer ymdrochi ynddi mor wael ag y byddech chi'n ei ddisgwyl o ystyried y cyhoeddusrwydd a'r hyn sydd wedi digwydd yno, ac fe geir esboniad hir a thechnegol iawn am hynny. Fe fyddai'r Llywydd yn ddig iawn wrthyf i pe byddwn i'n dechrau darllen hwnnw i chi nawr, gan ei fod yn rhedeg dros sawl tudalen, ond rwy'n hapus i'w rannu â chi. Mae'n fater o gofnod cyhoeddus. Efallai y gwnaf i ysgrifennu atoch chi i wneud hynny.
Fe gyfeirioch chi, Weinidog, yn y datganiad at y ddau gwmni dŵr yng Nghymru sydd yn cyflenwi cwsmeriaid, ond mae yna ddau gwmni dŵr arall sydd yn weithredol yng Nghymru, sef United Utilities a Severn Trent Water, sydd yn echdynnu biliynau o litrau o ddŵr o Gymru, yn allforio i Loegr am y nesaf peth at ddim, a dweud y gwir. Dŷn ni ddim yn gallu gwneud unrhyw beth am hynny ar hyn o bryd oherwydd bod y pwerau i'w rheoleiddio nhw yn dal yn gadwedig yn San Steffan. Oni bai am hynny, buasem ni'n gallu gosod lefi allforio dŵr er mwyn generadu yr arian fyddai’n ein helpu ni i fynd i’r afael â rhai o’r heriau o ran yr isadeiledd dŵr yma yng Nghymru. Ydych chi wedi gwneud cais erbyn hyn i ddatganoli’r pwerau dros y cwmnïau hynny o dan Ddeddf Cymru 2017? Pe bai’r pwerau hynny’n dod i Gymru, fyddech chi hefyd wedyn yn rhoi o'r neilltu y pwerau sydd gan y rheoleiddydd Saesnig yn bennaf, Ofwat, a’r Drinking Water Inspectorate yn dal i fod, dros ein sector dŵr ni yng Nghymru?
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch i chi am y cwestiwn yna. Fel dywedais i wrthych chi—rwy'n credu eich bod chi wedi gofyn cwestiwn i mi yn ystod un o'r sesiynau holi, neu mewn dadl gynharach o bosibl—mae gennym ni gyfres o swyddogion yn gweithio ar yr hyn y mae angen i ni ei wneud yn hollol i sicrhau bod y pwerau datganoledig mwyaf gennym ni dros ddŵr. Mae yna ambell awgrym, fel gwnaethom ni fynd drwyddyn nhw'r tro diwethaf y gwnaethoch chi ofyn y cwestiwn hwn, o ran, oherwydd y ffordd y gweithiodd y setliad datganoli diwethaf, a yw hi'r un mor syml nawr. Ond mae gennyf i set o swyddogion yn gweithio ar hynny. Rwy'n ddigon hapus i adrodd yn ôl i'r Senedd cyn gynted ag y byddan nhw'n adrodd yn ôl i mi, ond nid ydyn nhw wedi gwneud hynny eto.
Fe wnes i gyfarfod yn ddiweddar iawn â—. Fe anghofiais i'r enw, ond grŵp rhywbeth fel 'dŵr y gorllewin' oedd hwnnw. Beth bynnag am hynny, dyma'r grŵp o bobl sy'n edrych i weld ble mae'r dŵr yn mynd ar gyfer y system gyfan yn y DU. Mae'n ddrwg gennyf, ni allaf i gofio'r enw nawr. Fe gefais i drafodaeth ddiddorol iawn gyda nhw ynglŷn â sut mae'r trwyddedau echdynnu yn gweithio a beth oedd yr effeithiau lliniaru a pha bwerau a oedd gennym—sydd gennym ni—i atal difrod yn sgil hynny, ac mewn gwirionedd i geisio sicrhau ein bod ni'n gwella bioamrywiaeth yn sgil echdynnu dŵr. Felly, mae hi'n gwbl bosibl, mewn cyfnodau sych iawn er enghraifft, fel cawsom ni yn yr haf y llynedd, i wneud yn siŵr bod echdynnu'r dŵr hwnnw o les gwirioneddol i'r afonydd sydd wedi mynd yn rhy isel, er enghraifft. Felly, fe gafwyd trafodaeth ddiddorol iawn. Rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod ac egluro yn union sut yr aeth y drafodaeth honno a beth yw'r amserlen—mae arnaf i ofn fod hynny wedi mynd o'm meddwl i—ar gyfer dychwelyd atoch ynghylch y pwynt am ddatganoli.
Diolch yn fawr iawn i chi am roi hyn gerbron y Siambr heddiw. Daw'r pwysau unigol mwyaf ar ansawdd dŵr yng Nghymru oherwydd amaethyddiaeth a defnydd tir cefn gwlad. Fe dreuliais i ddwy flynedd ar Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn craffu ar Fil Amaethyddiaeth (Cymru), ac felly fe wn i fod gwaith aruthrol wedi bod ar gyfer dod o hyd i'r cydbwysedd cywir hwnnw.
Fodd bynnag, fe amgylchynir fy etholaeth i, sef Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl, gan yr arfordir, felly gyda'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n cysylltu â mi, ymwneud â gollyngiadau carthion Dŵr Cymru y mae'r galwadau, fel codais i gyda chi o'r blaen, Gweinidog. Cynhaliodd Newton Buoyant Bluetits brotest o 200 o bobl yn ddiweddar yn erbyn gollyngiadau carthion. Rwy'n cael neges bob tro y mae un yn digwydd ac nid ydyn nhw'n gallu mynd i nofio. Maen nhw'n ceisio nofio bob dydd, ac mae hi'n ymddangos bod anghysondeb rhwng yr hyn sy'n cael ei adrodd a'r hyn y maen nhw'n ei ddweud wrthyf i. Felly, rwy'n cytuno â chi y bydd system adrodd hyblyg, integredig yn gwneud gwahaniaeth mawr. Yn y cyfamser, Gweinidog, a wnewch chi ofyn i Dŵr Cymru a chwmnïau eraill ymgysylltu â'r gymuned honno, er mwyn iddyn nhw allu cael atebion i'w cwestiynau a gallu rhoi adborth a theimlo bod rhywun yn gwrando arnyn nhw?
Yn ail, yn y gwaith a welsom ni i lanhau'r afon ger yr aber yng Nghwm Ogwr, fe wnaethon nhw dynnu 2,000 o deiars allan ohoni hi. Mae Alun, a wnaeth drefnu hyn, yn bwriadu cael wythnos fis Mehefin nesaf i dynnu 10,000 arall allan. Rwy'n gwybod, Gweinidog, y byddai ef wrth ei fodd pe gallech chwithau ddod hefyd, ac fe hoffwn iddo allu ymestyn allan a'ch gwahodd chi, pe byddai hynny'n iawn. Rydym ni am ysgrifennu at bob un o'r archfarchnadoedd i ofyn iddyn nhw sicrhau hefyd nad yw eu trolïau nhw'n cael eu taflu i'n dyfrffyrdd ni, ac rydym ni'n ceisio cael pawb i ymrwymo i hynny hefyd. Roeddwn i ond eisiau rhannu hynny. Diolch i chi, Gweinidog.
Diolch yn fawr iawn i chi, Sarah. Fe fyddaf i'n falch o ddod. Pe byddech chi'n dymuno ysgrifennu ataf i ofyn yn ffurfiol i mi, fe fyddwn i'n hapus iawn i wneud felly. Rydym ni wedi cael trafodaeth fanwl ynglŷn â hyn eisoes. Fe ddylwn i ddatgan buddiant, wrth gwrs, oherwydd rwy'n aelod o'r Bluetits yn fy ardal leol i hefyd. Rwy'n arbennig o hoff o nofio yn nŵr oer y môr, ac felly rwy'n hapus iawn i ddod ac, yn wir, i gael ymdrochi pan fyddaf i yno. Fe fyddai hynny'n hynod o braf, wir.
Rwy'n ymwybodol eich bod chi’n gwybod y cafodd y samplo ei wneud y diwrnod wedi'r ymgyrch fawr i lanhau'r afon, ac felly mae gennym ni rai canlyniadau yr ydym ni o'r farn eu bod nhw'n rhoi canlyniad camarweiniol efallai, ond rydym ni'n sicrhau y bydd CNC yn cymryd ystod o brofion yno i sicrhau ein bod ni'n cael canlyniad sy'n gywir. Fe welsom ni ganlyniadau eraill a oedd yn siomedig, serch hynny: y dyfroedd ymdrochi newydd, un yn Aberogwr ac un hefyd ym Mae'r Tŵr Gwylio, rydym ni wedi gweld canlyniadau gwael ar gyfer y ddau le. Felly rydym ni wedi rhoi monitro ychwanegol yn ei le yno i sicrhau ein bod ni'n deall pam mae hynny wedi digwydd a sicrhau ein bod ni'n gallu unioni hynny, oherwydd rydym ni'n awyddus i'w dynodi yn ddyfroedd ymdrochi ac felly rydym ni'n awyddus iddyn nhw fod o'r un ansawdd rhagorol ag sydd gan y gweddill ohonyn nhw. Roedd niferoedd y teiars a ddaeth o'r afon yn gwbl syfrdanol, onid oedden nhw? Ac rwy'n ymwybodol eich bod chi'n gwybod bod llawer mwy i ddod eto, felly fe fyddwn wrth fy modd i ddod, ac rwy'n fwy na pharod i drefnu cyfarfod rhyngoch chi, CNC a Dŵr Cymru i weld beth allwn ni ei wneud i fonitro hynny'n well.
Gweinidog, diolch yn fawr iawn i chi am y datganiad. Mae hi'n amlwg fod llawer o waith wedi cael ei wneud a'i fod yn parhau, a diolch i chi am eich ymrwymiad parhaus. Mae hi'n dda i ni weld mater llygredd dŵr yn cael ei godi yma yn y Siambr, yn y Senedd, ac mae hi'n wych clywed hefyd eich bod chi'n gweithio gyda'r gwahanol gymunedau hynny, gan gynnwys ein ffermwyr ni, sy'n gweithio yn galed iawn i sicrhau eu bod nhw'n gwneud eu rhan ac yn cymryd cyfrifoldeb. Rwy'n teimlo ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n nodi'r gwaith caled y maen nhw'n ei wneud ac nad ydym ni'n rhoi'r bai ar ein ffermwyr ni; maen nhw'n gwneud cymaint ag y gallan nhw o ran sicrhau eu bod nhw'n cydbwyso ennill bywoliaeth a sicrhau nad ydyn nhw'n llygru ein tir.
Ond roeddwn i'n awyddus i ddychwelyd at fater Dŵr Cymru, mae arnaf i ofn, a'r pryderon parhaus sydd o ran eu cyfrifoldeb nhw. Fe glywsom ni am rai o'r asiantaethau eraill sy'n ymdrin ag ansawdd ein dŵr yma yn y Siambr, ond rydym yn parhau i fod â phryderon ynghylch Dŵr Cymru, yn enwedig o ran eu hatebolrwydd nhw a bod eu penaethiaid nhw'n cael cyflog cymharol dda o hyn, fel rwy'n deall—er na allaf i ddod o hyd i'r hyn y bydden nhw'n cael eu talu eleni, sy'n her ddiddorol iawn i ni; efallai y gwnewch chi ein goleuo ni. Ond tybed pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau'r cosbau ar Ddŵr Cymru yn sylweddol, o ystyried eu hymateb hynod ddifater i rai o'r pryderon ynghylch ansawdd dŵr yn ein hafonydd ni. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i chi, Jane. Fe geir cwpl o bethau yn y fan yna. Rwyf yn credu bod y rhan fwyaf o ffermwyr yn trysori'r tir y maen nhw'n ei ffermio. A dweud y gwir, roedd hi'n ddiddorol iawn cael y cyflwyniad yn yr uwchgynhadledd am y newidiadau bychain mewn arferion traddodiadol y gellid eu gwneud sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i swm y dŵr ffo a oedd yn llifo i'r afon leol. Mae'r sleidiau i'w dangos gennyf i. Cafodd y ffermwr, sy'n rhan o gydweithfa Ceiniogi'r Coed yno, yr ymateb mwyaf rhyfeddol yn yr uwchgynhadledd; ni welais i erioed mo hynny o'r blaen. Roedd pobl yn wirioneddol frwdfrydig.
Yr hyn yr oedd ef yn ei ddweud yn sylfaenol oedd y bydd pethau bychain iawn, fel y ffordd yr ydych chi'n drilio'r maes, yn sianelu'r dŵr i gyfeiriad penodol, ac mewn gwirionedd, fe fyddai dim ond drilio ychydig ar sgiw yn troi'r dŵr ffo o gyfeiriad yr afon, er enghraifft. Mae hyn yn ymwneud â pheidio â mynd hyd at yr ymyl, gan sicrhau bod y parth clustogi yn ei le, a gwneud yn siŵr bod parth bychan yno. Roedd ef yn disgrifio pethau o ychydig fodfeddi o uchder sy'n atal y dŵr pan fo glaw trwm. Roedd y peth yn anhygoel.
Yn amlwg, maen nhw'n gwneud y pethau hyn ar lawr gwlad, felly rwy'n credu mai'r hyn sydd angen i ni ei wneud yw sicrhau bod ffermwyr yn deall yr hyn y gellir ei wneud gyda newidiadau bychain mewn arferion amaethyddol a fyddai, yn achos y rhan fwyaf o'n hafonydd ni yma, yn gwneud gwahaniaeth sylweddol iawn i'r hyn sydd wedi bod yn digwydd, yn ogystal â'r holl gyfarpar sydd ar gael fel arall, wrth gwrs, a bod proses yr uwchgynhadledd yn cael ei rhoi ar waith—y cyfarpar i reoli maethynnau. Mae angen i ffermwyr ddeall eu llinell sylfaen er mwyn deall yr hyn y gallan nhw ac na allan nhw ei roi ar y tir a'r hyn sy'n fuddiol a'r hyn sy'n ddi-fudd; oherwydd nid yw hynny'n gyffredinol o bell ffordd.
Gan droi at Dŵr Cymru, serch hynny, nid yw'r hyn sy'n cael ei dalu iddyn nhw yn fy rheolaeth i. Nid oes gennyf i unrhyw reolaeth dros hynny o gwbl. Rydym ni'n bwydo i mewn i broses Ofwat ac rydym ni'n mynegi barn Llywodraeth Cymru ynghylch yr hyn y dylai'r cwmnïau dŵr yng Nghymru fod yn ei wneud yn y broses honno. Fe gawsom ni ganlyniadau gwell y tro hwn gan Ofwat. Mae hi wedi bod yn frwydr yn y gorffennol i gael gwrandawiad i lais Llywodraeth Cymru, os mynnwch, yn adolygiadau'r prisiau. Nid y fi a oedd yn gwneud hyn bum mlynedd yn ôl, ond fy nealltwriaeth gan fy swyddogion yw ein bod ni wedi gwneud yn llawer gwell y tro hwn o ran dylanwadu ar hynny, er mai'r prawf o hynny fydd yr hyn a ddaw allan yn ei ôl.
Rydym ni wedi bod yn ofalus iawn i sicrhau bod Dŵr Cymru mor dryloyw ag y gallwn ni eu gwneud nhw. Fe wn i fod Llŷr, er enghraifft, wedi eu gwahodd nhw i'r pwyllgor. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cadw'r lefel honno o graffu arnyn nhw. Er mai cwmni nid er elw ydyw, cwmni preifat ydyw, ni chafodd ei wladoli nac unrhyw beth o'r fath, felly mae hi'n bwysig sicrhau ein bod yn rhoi pwysau arnyn nhw a'u bod nhw'n gwneud yr hyn y maen nhw'n ei ddweud y byddan nhw'n ei wneud. Felly, maen nhw'n dweud eu bod nhw'n dryloyw o ran yr hyn y maen nhw'n ei wneud, maen nhw'n cwrdd â mi pryd bynnag yr wyf i'n gofyn iddyn nhw wneud felly, ac rwy'n cyfarfod yn rheolaidd iawn gyda nhw i fynd trwy bethau. Fel dywedais i wrth fy nghyd-Aelod, Sarah draw fan acw, os ydych chi'n cael trafferth i'w cael nhw yno, wel rhowch wahoddiad i minnau hefyd ac fe allaf i wneud yn siŵr y byddan nhw'n dod.
Yn dilyn arweiniad y Gweinidogion, rwy'n croesawu y bydd rhanddeiliaid yn cymryd cyfrifoldeb nawr ac yn gweithio gyda'i gilydd ar gynlluniau cyflawni i fynd i'r afael â llygredd yn ein hafonydd a datgloi cynllunio, yn enwedig yn y gogledd-ddwyrain. Mae llawer o dirfeddianwyr yn methu â chynnal ceuffosydd, ffosydd a chyrsiau dŵr, gan achosi llifogydd ar briffyrdd cyhoeddus ac mewn tai a halogedigaeth. Rwy'n darganfod bod rhagdybiaeth o hyd y bydd y cynghorau, awdurdodau afonydd neu rywun arall yn camu i'r adwy ac yn eu cynnal nhw. A wnaiff Llywodraeth Cymru gyhoeddi datganiad yn mynegi mai gan y tirfeddianwyr y mae'r cyfrifoldeb hwnnw ac annog rhanddeiliaid fel CNC, cynghorau ac undebau ffermwyr i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â'r cyfrifoldeb?
Ie, mae hynny'n bwynt da iawn, mewn gwirionedd, Carolyn. Rwy'n falch iawn o'i gwneud hi'n glir pwy sy'n gyfrifol am beth. Un o'r pethau y mae ein cyd-Aelod Joyce Watson yn ei godi bob amser yw rhoi palmant dros erddi ffrynt, er enghraifft. Mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer hynny. Nid yw hynny'n cael ei ddeall yn eang, ac nid yw'n cael ei orfodi'n eang chwaith. Felly, rydyn ni wedi ysgrifennu at awdurdodau cynllunio, ac rwy'n bwriadu ei wneud eto yn y flwyddyn newydd, i ddweud, 'Gwnewch beth mawr o hyn.' Mae'r dŵr ffo mewn ardaloedd trefol yn achosi problemau difrifol, ac mae llawer o'r problemau yn y gorlifoedd carthffosydd cyfun yn ymwneud â dŵr llifogydd, pan fo'n bwrw glaw yn drwm, yn rhaeadru i'r gylïau yn hytrach na chael ei amsugno yn y fan a'r lle gan erddi pobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny. Yn yr un modd, i'r ffermwyr ac i berchnogion glannau afon. Felly, ydw, rwy'n hapus iawn i wneud hynny.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 4 yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: hawl ar gyfer dysgu proffesiynol. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Y dylanwad pwysicaf ar lwyddiant dysgwyr yn y system addysg yw ansawdd yr addysgu a'r dysgu. Mae'r hawl genedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol, a lansiwyd ychydig dros flwyddyn yn ôl, eisoes yn chwarae rhan allweddol o ran cefnogi gweithwyr addysg proffesiynol yn eu datblygiad parhaus, gyda darparu addysgu a dysgu o ansawdd uchel yn flaenllaw.
Mae egwyddorion sylfaenol y model ysgolion fel sefydliadau dysgu, y fframwaith gwella ysgolion a'n safonau proffesiynol gyda'i gilydd yn darparu sylfaen gadarn i ysgolion a lleoliadau nodi blaenoriaethau dysgu proffesiynol a datblygu diwylliant cydweithredol ar gyfer dysgu proffesiynol a gwelliant parhaus.
I weithredu'r hawl genedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol yn llawn, rŷn ni'n parhau i ganolbwyntio ar gefnogi ysgolion i ddatblygu fel sefydliadau sy'n dysgu, gan ddarparu mynediad at ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel, a helpu ysgolion i ddeall effaith dysgu proffesiynol yng nghyd-destun gwella ysgolion.
Heddiw rwy'n falch o allu edrych yn ôl ar y cynnydd a wnaed ers fy nghyhoeddiad blaenorol am hyn ym mis Medi. Rwyf hefyd am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y camau pellach rŷn ni'n eu cymryd i warantu mynediad teg at ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel i bob ymarferydd, er mwyn galluogi safonau a dyheadau uchel i bawb.
Ym mis Medi cyhoeddais i fod yr Athro Ken Jones wedi'i benodi i gadeirio'r panel cymeradwyo cenedlaethol. Heddiw rwy'n falch o ddweud bod y gwaith o recriwtio'r panel a fydd yn gweithio gyda'r Athro Jones, i sicrhau ansawdd dysgu proffesiynol, wedi'i gwblhau ac mae'r panel bellach yn weithredol.
Mae'r panel cymeradwyo cenedlaethol yn cynnwys 12 aelod, sy'n gymysgedd o gynrychiolwyr o'r haen ganol, ac ymarferwyr o ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y panel yr wythnos diwethaf.
Yn unol â'r dull cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol, bydd tair lefel o sicrwydd ansawdd ar gyfer dysgu proffesiynol yng Nghymru, sef achrededig, cymeradwy a cydnabyddedig.
Bydd dysgu proffesiynol achrededig yn parhau i gael ei arwain gan sefydliadau unigol yn unol â'r gofynion achredu presennol, a bydd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn parhau i gymeradwyo darpariaeth arweinyddiaeth.
Bydd y trefniadau sicrhau ansawdd newydd yn cynnwys proses gymeradwyo ar gyfer rhaglenni dysgu proffesiynol cenedlaethol, a phroses gydnabyddiaeth ar gyfer rhaglenni dysgu proffesiynol ar raddfa lai neu raglenni dysgu proffesiynol lleol. Bydd y prosesau sicrhau ansawdd newydd hyn a fydd yn cael eu datblygu gan y panel cymeradwyo cenedlaethol yn cael eu llywio gan fframweithiau sefydledig ar gyfer dysgu proffesiynol, gan gynnwys y dull cenedlaethol o ddysgu proffesiynol, canllawiau Estyn ar arolygu dysgu proffesiynol, ac wyth nodwedd dysgu proffesiynol dan arweinyddiaeth dda a ddatblygwyd gan yr academi genedlaethol.
O dymor y gwanwyn, bydd y panel yn dechrau sicrhau ansawdd dysgu proffesiynol. Mae gwaith ar y gweill gyda'r Athro Jones i drefnu galwadau am gymeradwyaeth a chydnabyddiaeth. Bydd y rowndiau cychwynnol yn canolbwyntio ar raglenni dysgu proffesiynol cenedlaethol sefydledig. Bydd panel ehangach o arbenigwyr pwnc yn cael eu recriwtio yn y gwanwyn i ddarparu arbenigedd technegol i'r panel craidd i gefnogi galwadau eraill am gymeradwyaeth.
Yn ail ran fy natganiad, rwyf i eisiau roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr ardal ddysgu broffesiynol ar Hwb, a gafodd ei lansio ar ffurf beta ym mis Medi. Nod ardal newydd Hwb yw darparu un pwynt mynediad at ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel, hawdd ei lywio sy'n diwallu anghenion pob gweithiwr addysg proffesiynol. Er mwyn cyflawni hyn, rydyn ni'n parhau i weithio gydag ymarferwyr ar ddylunio, datblygu a chyflwyno'r ardal dysgu proffesiynol newydd er mwyn sicrhau'r profiad gorau posibl i ddefnyddwyr. Mae'r adborth, yr ydyn ni wrthi'n ei geisio gan randdeiliaid trwy ein hastudiaeth sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, yn cael ei ddadansoddi'n rheolaidd, gyda themâu allweddol yn cael sylw a'r ardal dysgu proffesiynol yn cael ei mireinio fel rhan o broses ddatblygu ailadroddol.
Mae'r grŵp ymarferwyr, a gafodd ei sefydlu gennym ni i gefnogi'r gwaith hwn, wedi cwblhau adolygiad cychwynnol o'r adnoddau sydd ar gael yn yr ardal, a fydd yn cael ei datblygu gan waith y panel cymeradwyo cenedlaethol. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd i ymarferwyr bod y ddarpariaeth dysgu proffesiynol sydd ar gael drwy'r ardal dysgu proffesiynol yn bodloni'r safonau ansawdd gofynnol. Rydyn ni'n gweithio gyda thimau polisi Llywodraeth Cymru, ein partneriaid allweddol, a darparwyr dysgu proffesiynol eraill i sicrhau bod y cynnig dysgu proffesiynol yn y ardal dysgu proffesiynol yn darparu'r cynnwys sydd ei angen ar ein gweithwyr proffesiynol. Bydd y gwaith hwn yn parhau law yn llaw â gwaith y panel cymeradwyo cenedlaethol. Bydd ein buddsoddiad mewn darpariaeth ansawdd ac adnoddau ar gyfer pob ymarferydd yn cryfhau ymhellach y gefnogaeth i ddysgwyr ac ysgolion wrth i ni gyflymu ein taith ddiwygio.
Mae dysgu proffesiynol yng Nghymru wedi canolbwyntio'n briodol ar wireddu diwygio'r cwricwlwm. Nid oedd canlyniadau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr yr wythnos diwethaf, wrth gwrs, yr hyn y byddai unrhyw un ohonon ni wedi'i ddymuno. Ond roedd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, sy'n gyfrifol am brofion PISA, yn adlewyrchu'n gadarnhaol bod ymgysylltu diweddar mewn dysgu proffesiynol yng Nghymru yn uwch na chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Yn unol â thystiolaeth ryngwladol, byddwn ni'n datblygu hyn drwy barhau i flaenoriaethu datblygiad ymarferwyr a gwella ysgolion er mwyn sicrhau addysgu a dysgu o ansawdd uchel i bawb.
Rydyn ni'n cyflymu ein taith i wireddu nodau'r hawl ar gyfer dysgu proffesiynol cenedlaethol i ymarferwyr o Gymru, i gyflawni safonau a dyheadau uchel ar gyfer pob dysgwr ledled Cymru gyfan.
Diolch am y copi ymlaen llaw o'ch datganiad heddiw, Gweinidog. A gaf i ddweud yn gyntaf fy mod i'n cefnogi'r hawl genedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol? Ac rwy'n croesawu'r ffaith bod hyn wedi'i fwriadu ar gyfer staff cymorth dysgu yn ogystal ag athrawon, oherwydd mae'n hanfodol bwysig ein bod ni'n uwchsgilio ein holl staff yn ein hysgolion, ledled Cymru. Ac rwy'n cytuno mai'r dylanwad pwysicaf ar lwyddiant dysgwyr yn y system addysg yw ansawdd yr addysgu a'r dysgu. Fel yr ydych chi wedi'i ddweud, nid oedd canlyniadau PISA fel y byddem ni'n dymuno'u gweld, ond os gallwn ni fuddsoddi yn ein haddysgu a phobl yn ein hysgolion, byddwn ni'n gallu gwella safonau ledled Cymru. Rydyn ni wedi bod yn aros yn hir am hyn, ac rwy'n falch o'i weld yn cael eu cyflwyno heddiw. Fodd bynnag, rydyn ni'n gwybod y gall fod amrywiadau rhwng ysgolion ac i ba raddau y mae dysgu proffesiynol yn cael ei gynnig. Felly, mae'n bwysig bod hyn yn cael ei fonitro, ar gyfer staff dan gontract a'n staff cyflenwi.
Rwy'n nodi eich bod chi wedi crybwyll bod yr hawl ar gyfer dysgu proffesiynol a gafodd ei gyflwyno ychydig o dan flwyddyn yn ôl a'r panel cymeradwyo cenedlaethol erbyn hyn yn weithredol, felly mae gennyf i nifer o gwestiynau nawr, Gweinidog, felly os oes gennych chi eich ysgrifbin yn barod. Sut bydd y Gweinidog yn gwarantu mynediad teg ledled Cymru, a sut ydych chi'n bwriadu gwneud staff yn ymwybodol o'r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw? Yn ogystal â hyn, Gweinidog, sut byddwch chi'n sicrhau ei fod yn cael ei fonitro'n ofalus? A sut ydych chi'n bwriadu mesur llwyddiant y rhaglen wrth symud ymlaen? Hefyd, hoffwn i ddeall gennych chi: beth yw'r lefel bresennol o ymgysylltu â'r cyfleoedd dysgu proffesiynol yn y sector addysg? Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n deall pa ymgysylltu sydd yno ar hyn o bryd.
Mae'r system addysg, Gweinidog, fel y gwyddoch chi, yn cael trafferthion oherwydd yr argyfwng recriwtio ar hyn o bryd. Dydw i ddim yn hoff o ddefnyddio'r gair hwnnw'n ysgafn, fel y gwyddoch chi, oherwydd mae cadw ein hathrawon yn anodd iawn, iawn ar hyn o bryd. Dyna dystiolaeth rwy'n gwybod ein bod ni wedi'i gweld yn y pwyllgor addysg, yn ogystal â thystiolaeth rwy'n gwybod ein bod ni wedi'i chlywed yn y Siambr hon. Felly, yr hyn yr hoffwn ni ei wybod yw: sut y gwnewch chi sicrhau bod amser yn cael ei neilltuo ar gyfer dysgu proffesiynol a gwelliant parhaus mewn lleoliadau addysgol i'n staff pan eu bod yn wynebu pwysau o ran strwythurau staffio ar hyn o bryd? A hefyd, cwestiwn arall yw: mae cannoedd o gynorthwywyr addysgu wedi dweud wrth eu hundeb, Unsain, nad oes ganddyn nhw hyfforddiant ddigonol i gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru newydd. Felly, hoffwn i ddeall yn well gennych chi beth yr ydyn ni'n mynd i'w wneud yn benodol ar gyfer cynorthwywyr addysgu fel rhan o'r rhaglen hon, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu huwchsgilio, oherwydd rwy'n credu'n gryf mai ein cynorthwywyr addysgu yw ein cenhedlaeth nesaf o weithlu o athrawon, os gallwn ni eu huwchsgilio yn y ffordd gywir.
Yn olaf, oherwydd rwy'n gryno iawn ar y datganiadau hyn, fel y bydd y Dirprwy Lywydd yn falch o wybod—ynghylch elfennau ariannol hyn hefyd. Rwy'n gwybod eich bod chi eisiau dweud y bydd gennych chi raglen gyflymu yma yng Nghymru i wneud iddo weithio, ond ni wnaethon ni glywed unrhyw beth yn y datganiad ynghylch yr ymrwymiadau ariannol ar gyfer hyn. Felly, bydd gennyf i ddiddordeb mawr mewn gwybod gan y Gweinidog heddiw pa ddyraniadau ariannol yr ydych chi'n eu rhoi yn y rhaglen hon, ac os yw hynny'n cael ei warchod fel rhan o'r trafodaethau ynghylch y gyllideb, yr wyf yn gwybod bod Llywodraeth Cymru—maen nhw'n parhau ar hyn o bryd. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny, pob un ohonyn nhw'n gwestiynau teg iawn. Felly, o ran y cwestiwn o fynediad teg, mae cyllid, yn amlwg, yn rhan o hynny, ond mae ymwybyddiaeth yn rhan arall ohono. Felly, o ran y cwestiwn cyllido yn benodol, yn 2023-24 yn unig, fe wnaethon ni ddyrannu bron i £36 miliwn i gefnogi datblygu a darparu dysgu proffesiynol. Ac o ran y pwynt y mae'n ei wneud ynglŷn â'r gallu i ymgysylltu â hyn, cafodd £12 miliwn o hwnnw ei ddyrannu'n uniongyrchol i ysgolion er mwyn caniatáu iddyn nhw, drwy'r grant dysgu proffesiynol—mae'n caniatáu amser a lle i ymarferwyr ac arweinwyr ymgysylltu â dysgu proffesiynol.
Ac o ran y pwynt pwysig iawn rwy'n credu y mae'n ei wneud ynghylch mynediad i'r hawl ar gyfer dysgu proffesiynol gan gynorthwywyr addysgu, roeddwn i'n glir iawn, iawn pan wnaethon ni ei dylunio flwyddyn yn ôl fy mod i eisiau i gynorthwywyr addysgu elwa ar yr hawl yn yr un ffordd ag y mae athrawon yn ei wneud. Felly, rydyn ni wedi ystyried eto sut yr ydyn ni'n cyfrifo'r grant dysgu proffesiynol fel nad yw'n cael ei ddyrannu ar sail nifer yr athrawon mewn ysgol yn unig, ond ei fod hefyd yn adlewyrchu nifer yr athrawon cynorthwyol mewn ysgol hefyd, a gobeithiaf yn fawr y bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth.
Ar y pwynt olaf y gwnaeth ef, mewn gwirionedd, mae cynorthwywyr addysgu o Unsain a chynorthwywyr addysgu o GMB hefyd wedi bod yn gweithio gyda ni. Bydd e'n ymwybodol o'r rhaglen y gwnes i ei lansio i wella telerau ac amodau cynorthwywyr addysgu, ac mae'r gwaith hwnnw yn mynd rhagddo'n dda iawn ac yn gwneud cynnydd da, mewn gwirionedd, ac yn cael ei arwain gan gynorthwywyr addysgu eu hunain, ac rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn, oherwydd rydyn ni wedyn yn cael synnwyr clir iawn o'r pethau sydd bwysicaf i'n cynorthwywyr addysgu yn y broses honno. Ac un o'r cyflawniadau neu gyraeddiadau cynnar yn y broses honno oedd datblygu'r hawl a mynediad i gynorthwywyr addysgu.
Felly, mae hynny'n rhan o'r system yn barod, ond yn amlwg mae yna, rwy'n credu—. Mae'n flwydd oed, ac rwy'n credu bod llawer yn digwydd mewn ysgolion, onid oes e, ac rwy'n credu ei bod hi'n her gyson i ni, mewn gwirionedd, i wneud yn siŵr ein bod ni'n sicrhau bod pawb yn gwybod am yr hawl. Mae'n beth newydd, ac mae'n dwyn ynghyd lefel y ddarpariaeth sydd yno eisoes. Rwy'n credu mewn gwirionedd bod lansio'r man ar Hwb, sydd eisoes, fel y byddwch chi wedi clywed, ar ffurf beta, yn ffordd dda iawn o wneud hyn yn ymarferol hygyrch, oherwydd bod y rhan fwyaf o athrawon a chynorthwywyr addysgu, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, yn defnyddio Hwb, ac felly mae bod ag ardal bwrpasol ar hynny yn bwysig iawn. Rydyn ni wedi—. Roedd e'n gofyn i mi am lefel yr ymgysylltu. Yn ystod y deufis diwethaf, rwy'n credu, rydyn ni wedi cael 18,000 o athrawon dim ond yn ystod y deufis diwethaf yn defnyddio'r tudalennau newydd ar Hwb, ac mae'n amlwg yn gynnar iawn—mae'n beta, on'd ydyw, felly mae'n gynnar iawn, iawn ar hyn o bryd.
Gofynnodd gwestiwn teg iawn ynglŷn â sut mae mesur llwyddiant hyn. Wel, mae rhywfaint o hynny yn ymwneud â'r niferoedd yr ydyn ni’n eu gweld yn defnyddio—. Mae ymgysylltu yn unig yn fetrig cychwynnol, ond rwy'n credu mai'r hyn yr wyf i wedi'i adlewyrchu yn y maes hwn yw bod angen i ni fod—a gobeithio ein bod ni, mewn gwirionedd—mewn cyflwr cyson o wrando ac addasu o ran dysgu proffesiynol, oherwydd ar ddiwedd y dydd mae angen iddo fod yn hygyrch ac mae angen iddo fod yn hawdd i ymarferwyr wybod yr hyn sy'n ddibynadwy a'r hyn nad yw'n ddibynadwy. Rwy'n credu y byddwch chi wedi clywed y ffigurau yr ydyn ni'n eu buddsoddi mewn dysgu proffesiynol—mae'n gyllid sylweddol iawn, iawn. Rwy'n credu, ar un ystyr, y gallai rhywun wneud y ddadl bod gormod ohoni ar gael, felly mae'n heriol i ymarferwyr sydd o dan bwysau amser lywio eu ffordd drwyddo. Felly, y gwaith yr ydyn ni'n ei wneud mewn gwirionedd yw ceisio'i wneud, ar y naill law, yn haws ei lywio, ac ar y llaw arall i roi lefel o sicrwydd ansawdd iddo, fel y gall ymarferwyr ddod o hyd iddo a gwybod bod yr hyn y maen nhw'n dod o hyd iddo yn ddibynadwy. Ac rwy'n disgwyl, ac yn gobeithio, mewn gwirionedd, ar un lefel, y bydd y broses honno, mewn gwirionedd, yn lleihau faint o ddysgu proffesiynol sydd ar gael ac yn ei gwneud yn haws ei reoli, os mynnwch chi, i ymarferwyr.
Yn olaf, o ran amrywiaeth, wel, rydyn ni'n siarad am weithwyr proffesiynol yma, felly mae lefel o ymgysylltu proffesiynol a phersonol â'r broses; dyna sut mae ein system wedi'i chynllunio i gyflawni. Ond bydd e'n cofio, pan gafodd yr hawl genedlaethol ei lansio y llynedd, fy mod wedi sicrhau ar yr un pryd, bod ymarferwyr mewn unrhyw ranbarth yng Nghymru yn gallu cael mynediad at y dysgu proffesiynol sydd ar gael mewn unrhyw ranbarth arall, oherwydd, ar ddiwedd y dydd, yr hyn yr ydy ni'n ceisio'i gyflawni yw cwricwlwm i Gymru, nid cyfanswm y cwricwla unigol mewn gwahanol ranbarthau.
Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw. Buaswn i'n hoffi dilyn o bwyntiau James Evans, jest o ran y gyllideb. Dwi'n nodi'r hyn dŷch chi wedi'i ddweud o ran y gyllideb eleni, ond a allwch chi gadarnhau, o ran y gyllideb yn y flwyddyn i ddod, neu roi unrhyw fath o syniad i ni o ran oes yna effaith yn mynd i fod oherwydd y sefyllfa dŷn ni'n gwybod sydd ohoni? Yn amlwg, o ran undebau athrawon, fyddwch chi ddim yn synnu eu bod nhw'n dweud pwysigrwydd yr arian dŷch chi wedi'u glustnodi yn y gorffennol, oherwydd, yn amlwg, er mwyn i hyn gael ei wireddu, mae angen y lefel yna o fuddsoddiad.
Os caf hefyd ofyn ynglŷn â'r amodau i athrawon allu ymgymryd â'r gwaith yma, fel dŷn ni gyd yn gwybod, mae yna argyfwng o ran recriwtio athrawon. Dŷn ni wedi gweld lleihad yn nifer yr athrawon ac ati. Dwi'n gwybod eich bod chi wedi bod yn gweithio gyda'r undebau o ran pethau fel llwyth gwaith ac ati. Felly, a gaf i jest holi yn ychwanegol, felly, o ran sut dŷn ni'n mynd i sicrhau bod y gweithlu â'r amser er mwyn gwneud hyn, a bod gan ysgolion y capasiti i ryddhau athrawon ar gyfer eu hawl i ddysgu proffesiynol, ynghyd â'r cynorthwywyr dosbarth, wrth gwrs?
Mae hyn yn eithriadol o bwysig, felly dau gwestiwn syml, ynglŷn â'r cyllid a hefyd sicrhau'r amser i bawb allu ymgymryd â hyn.
Wel, mae'r ddau gwestiwn ynghlwm ar un lefel, onid ydyn nhw? Dwi ddim yn mynd i wneud unrhyw ddatganiad am gyllideb y flwyddyn nesaf, am resymau y bydd yr Aelod yn eu deall, ond bydd hynny'n glir ddigon ymhen y diwrnodau nesaf. Ond, actually, dwi ddim yn credu mai dim ond cyllideb yw'r ateb. Fel roeddwn i'n sôn yn fy ateb i gwestiynau James Evans, mae llawer iawn o adnoddau dysgu proffesiynol allan yn barod. Yr her ar hyn o bryd yw dwi ddim yn credu ychwanegu at hynny o anghenraid, ond, dwi'n credu, sicrhau bod pobl yn gallu darganfod yr hyn sydd yno, a sicrhau bod y peth sydd yno yn bwrpasol ar gyfer yr angen, a bod sicrwydd o ansawdd yn dod yn sgil y trefniadau dwi wedi sôn amdanyn nhw yn y datganiad heddiw. Felly, dwi ddim yn credu mai dim ond cyllideb yw'r llinyn mesur. Ond mae'r Aelod yn gwneud pwynt teg, fel y gwnaeth James Evans, ynglŷn â sicrhau ein bod ni'n gallu creu capasiti ac amser yn yr ysgol. Mi wnes i sôn yn yr ateb blaenorol ynglŷn â'r professional learning grant, a pwrpas hwnnw yw creu capasiti yn yr ysgol.
Jest un pwynt o ran recriwtio. Mae mwy o bobl yn cymhwyso eleni o ran addysg gychwynnol athrawon nag oedden ni'n disgwyl. Felly, mae'r ffigurau yn edrych yn well nag oedden nhw. O ran cadw pobl yn ein hysgolion ni, rŷn ni'n llwyddo llawer mwy na rhannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol i sicrhau dyw pobl ddim yn gadael y proffesiwn. Dwi ddim yn dweud hynny'n ysgafn; dwi, wrth gwrs, yn deall bod angen chwilio am ffyrdd yn gyson i sicrhau ein bod ni'n denu athrawon i'r sector, ond mae wir hefyd yn bwysig ein bod ni'n cadw'r cyd-destun ehangach yna. Ond dwi yn credu bod llwyth gwaith yn bwysig, a dwi yn credu bod datblygu proffesiynol yn bwysig. Ac mae yna systemau addysg ar draws y byd sy'n llwyddo i sicrhau cyflenwad o bobl proffesiynol ac o ddysgwyr, ac yn llwyddo yn y ddau faes hynny yn sicr, hynny yw, fod llwyth gwaith yn gymesur a hefyd bod buddsoddiad mewn addysgu proffesiynol.
Felly, dyna, dwi'n gobeithio, yw canlyniad yr hyn rŷn ni wedi ei roi ar waith eisoes. Rŷn ni flwyddyn i mewn i'r trefniadau newydd, ac mae cynnydd wedi bod yn y flwyddyn honno, ond dwi yn sicr yn credu bod mwy i wneud fel system i sicrhau bod hyn yn weladwy i bobl, eu bod nhw'n gwybod yr hawl yno, a bod hynny, wedyn, yn sgil y gwaith sydd yn digwydd yn flynyddol i edrych ar sgiliau'r gweithlu a sgiliau'r unigolion, yn rhan o'r sgyrsiau sy'n digwydd rhwng athrawon a phenaethiaid.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 5 y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd—newid hinsawdd. A galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad. Julie James.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Pan gyhoeddwyd ein rhaglen lywodraethu yn 2021, dywedom y byddem yn ymgorffori'r argyfyngau hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn, a byddem yn adeiladu economi gryfach, wyrddach wrth i ni wneud y cynnydd mwyaf posibl tuag at ddatgarboneiddio. Tanlinellwyd ein hymrwymiad i Gymru fwy ffyniannus, fwy cyfartal a gwyrddach.
Hanner ffordd drwy dymor y Llywodraeth hon, a gyda'r lleisiau o COP28 yn atseinio yn ein clustiau, rwyf am rannu cipolwg yn unig ar y cynnydd rydym wedi'i wneud wrth gydweithio â'n partneriaid yn y sector cyhoeddus, busnesau, elusennau a chymunedau.
Ar 6 Mehefin, cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd ei ail adroddiad cynnydd ar leihau allyriadau yng Nghymru. Cydnabu'r Pwyllgor Newid Hinsawdd fod Cymru wedi cyrraedd ei tharged yn llawn ar gyfer 2020 a'i chyllideb garbon gyntaf, 2016-20, a chafwyd
'camau cadarnhaol yng Nghymru, gyda ffocws i’w groesawu gan Weinidogion ar sgiliau, swyddi ac ymgysylltu â’r cyhoedd ar gyfer y cyfnod pontio Sero Net.'
Yn unol â'r degawd o weithredu rwyf wedi bod yn ei argymell ers i ni gyhoeddi ein cynllun datgarboneiddio presennol, Cymru Sero Net, nododd y Pwyllgor Newid Hinsawdd hefyd y byddai angen i ostyngiadau allyriadau gyflymu er mwyn sicrhau bod Cymru'n cyflawni ei chyllidebau carbon a'i thargedau sero net. Rwy'n argymell Aelodau nad ydynt eto wedi edrych trwy'r adroddiad i wneud hynny—mae'n nodi lle mae angen i ni weithio'n galetach a gwneud penderfyniadau llymach i sicrhau bod gweithredu a chyflawni yn cyd-fynd â rhethreg y Senedd hon.
Yn unol â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, rhoddais ymateb i adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd gerbron y Senedd yr wythnos diwethaf. Mae'r ymateb hwnnw'n edrych yn ôl yn bennaf, gan fyfyrio ar gwmpas y cyfrifoldeb statudol. Mae'n adrodd stori am ymdrech gyfunol—er enghraifft, ein gwaith gydag awdurdodau lleol i ddatgarboneiddio gwastraff, eu fflydoedd ac i osod y sylfeini ar gyfer economi gylchol, a chreu Diwydiant Sero Net Cymru i hwyluso hyd yn oed mwy o gydweithio rhwng diwydiant, y Llywodraeth ac eraill, er mwyn galluogi diwydiant i leihau allyriadau a gwella cystadleurwydd.
Mae'r data diweddaraf a gyhoeddwyd yn dangos bod allyriadau Cymru 35 y cant yn is yn 2021 o'u cymharu ag allyriadau gwaelodlin y flwyddyn. Er bod hyn yn gynnydd, a rhaid rhoi'r clod dyledus i'r rhai sydd wedi gwneud hyn yn bosibl, mae llawer o ymdrech y cyfnod presennol yn ymwneud â gosod y cerrig sylfaen ar gyfer lleihau carbon yn y dyfodol ar y cyd. Nid yw'r ymdrechion hyn eto wedi trosi i'r data allyriadau, ac mae llawer, llawer mwy i'w wneud, gan y bydd gweithredu nawr yn cymryd amser i gyflawni gostyngiadau allyriadau gwirioneddol.
Mae COP28, sydd i fod i ddod i ben yn Dubai heddiw, yn dangos yr heriau byd-eang. Mae yna faterion diogelwch ynni, rhwystrau economaidd, rhwystrau gwleidyddol a llawer mwy i lywio drwyddynt. Mae Cymru, er yn genedl fach, yn parhau i chwarae ei rhan ar lwyfan y byd hwnnw. Rydym yn ymgysylltu â chenhedloedd o bob cwr o'r byd, gan rannu ein gwersi a dysgu eu rhai nhw. Mae Cymru wedi ymrwymo'n gadarn i ddiddymu tanwydd ffosil, a bydd yn parhau i hyrwyddo'r ymrwymiad hwn ar bob cyfle. Rwy'n falch iawn o adrodd bod y Beyond Oil and Gas Alliance, y mae Cymru yn aelod sefydlol ohoni, yn parhau i dyfu, ac roedd galwadau yn COP28 am gamau pellach ar danwydd ffosil yn uwch nag erioed. Felly, rwy'n obeithiol ynghylch y testun sydd i fod i ddod allan o drafodaethau COP28 pan fyddant yn dod i'w diwedd.
Tanlinellodd y gynhadledd yr angen i bawb chwarae eu rhan wrth fynd i'r afael â bygythiad dirfodol newid hinsawdd. Mae'n bosib bod Aelodau wedi darllen yn adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd am y rôl hanfodol i Lywodraeth y DU wrth fynd i'r afael ag allyriadau Cymru. Rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gymryd y camau sydd eu hangen arnom, megis ysgogi adnewyddu tai a datgarboneiddio ar raddfa genedlaethol, gan greu cytundeb hirdymor a thryloyw gyda phartneriaid diwydiannol i gymell datgarboneiddio, a rhoi trefn ar y grid.
Mae cydweithio yn hanfodol er mwyn i ni wireddu ein huchelgeisiau hinsawdd, ac yng Nghymru, rydym yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol. Ar y llaw arall, nid oedd cyhoeddiadau hinsawdd y Prif Weinidog y DU ar 20 Medi yn awgrymu ysbryd o gydweithredu. Yn hytrach, roeddent yn hollol annisgwyl, ac nid wyf wedi derbyn unrhyw lefel o ddadansoddiad effaith gan Lywodraeth y DU, er gwaethaf ceisiadau dro ar ôl tro. Yn yr un modd, cododd y newyddion diweddar am Tata Steel fwy o gwestiynau nag atebion. Rydym eto i ddeall effaith unrhyw newidiadau ar y bobl a'r cymunedau sy'n debygol o ddioddef effaith y newidiadau hyn.
Ar y llaw arall, amlygwyd ein dull gweithredu yng Nghymru yn 'Cenhadaeth economaidd: blaenoriaethau ar gyfer economi gryfach' a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ac mewn uwchgynhadledd ategol. Crëwyd y genhadaeth yn dilyn ymgysylltu â busnesau ac undebau llafur ynghylch sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau'r sicrwydd mwyaf posibl, sy'n hanfodol i hybu twf, lleihau anghydraddoldeb, a chreu'r amodau ar gyfer pontio teg a chadw mwy o werth yn economi Cymru. Mae cyhoeddi pecyn o ddogfennau sy'n ymwneud â'r cynllun masnachu allyriadau sydd ar fin digwydd yn dangos bod perthynas waith agosach yn bosibl, yn ffrwythlon, ac yn gallu creu newid ystyrlon i helpu datgarboneiddio. Rwy'n gobeithio dweud mwy am y rhain yn fuan.
Rwyf wedi sôn am yr effaith ar bobl sawl gwaith, ac yn briodol felly. Wrth i ni bontio i sero net, rhaid i ni sicrhau bod newid yn cael ei gynllunio'n effeithiol ac yn deg, nid yn unig amddiffyn diwydiannau a'u gweithwyr, ond eu cryfhau, datblygu sgiliau ar gyfer marchnadoedd yn y dyfodol, a sicrhau nad yw'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn cael eu beichio'n annheg â chostau newid. Mae tegwch wrth wraidd ein dull, a dyma pam mai pontio teg yw ein polisi cyntaf yn Sero Net Cymru.
Gan ddatblygu'r ymrwymiad hwnnw, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Llywodraeth hon ymgynghoriad ar fframwaith pontio teg, sy'n dilyn galwad am dystiolaeth. Roeddem yn ddiolchgar iawn am y 115 cyfraniad gan sefydliadau, gan gynnwys busnes, y byd academaidd, sefydliadau'r trydydd sector, undebau llafur a grwpiau cymunedol. Mae'r ymatebion hyn wedi bod yn hanfodol wrth lywio ein fframwaith, sy'n gosod gweledigaeth ar y cyd o'r ffordd y gall Cymru gyflawni'r newidiadau sydd eu hangen ar gyfer sero net. Rydym bellach yn annog adborth ar y fframwaith hwn, sy'n dangos sut y gellir dod â chydgysylltu a chydlyniant i'n hymdrechion, ac mae'n darparu gwybodaeth ac arweiniad i'n helpu i ddatrys anghydraddoldebau presennol ac osgoi creu rhai newydd.
Dirprwy Lywydd, yr wythnos diwethaf gwelwyd pedwaredd Wythnos Hinsawdd Cymru, lle bu dros 2,000 o unigolion yn trafod agweddau ar y cwestiwn, 'Sut ydym yn mynd i'r afael â newid hinsawdd mewn ffordd deg?' Rydym wedi defnyddio'r sbardun hwn i ddod â'r ymgynghoriad ar bontio teg yn fyw ac rydym yn cefnogi dwsinau o sgyrsiau hinsawdd gyda grwpiau cynulleidfa lleol, anodd eu cyrraedd, agored i niwed a grwpiau cynulleidfa eraill, a weithredir gan ein partneriaid yn y sectorau preifat a chyhoeddus a'r trydydd sector. Rydym yn gwybod bod pobl yn uchelgeisiol dros Gymru ac rydym eisiau defnyddio eu brwdfrydedd, eu syniadau, eu her adeiladol a'u pragmatiaeth fel rhan o'n hymdrechion ar y cyd. Pan fyddwn yn cyflawni gyda'n gilydd, rydym yn mynd yn gyflymach ac yn cyflawni canlyniadau gwell.
Felly, Dirprwy Lywydd, i grynhoi, mae llawer wedi'i wneud, ond, fel mae COP28 yn ei amlygu, mae llawer ar ôl i'w wneud. Mae cytundeb hinsawdd Paris yn ein gadael ni heb unrhyw amheuaeth ynghylch yr angen i gadarnhau ein huchelgais a'n darpariaeth i gadw 1.5 gradd yn fyw. Mae'n bwysicach nag erioed bod pawb yn chwarae eu rhan i helpu Cymru i bontio'n deg ac yn gyfartal i ddyfodol cryfach, gwyrddach a mwy llewyrchus. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad amserol hwn. Gydag Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 newydd ddigwydd a COP28 yn dirwyn i ben, unwaith eto, mae gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd yn agos at frig yr agenda fyd-eang. Rwy'n cydnabod bod cyllideb carbon 1 a tharged interim 2020 wedi'u cyrraedd. Fodd bynnag, mae'r targedau ar sero net 2050 yn sylfaenol ddiffygiol. Mae'n broblem fawr nad yw targed sero net 2050 Llywodraeth Cymru yn ystyried allyriadau nwyddau sy'n cael eu mewnforio o dramor. Gwelsom yn ddiweddar gau pwll glo Ffos-y-frân, a bydd hyn nawr yn golygu mewnforio glo llai ffafriol o wledydd eraill filltiroedd i ffwrdd. Felly, beth mae hyn yn ei olygu yw, er gwaethaf y rhethreg a geir yma, y bydd llai o gynhyrchiant yma, ac mae'n gwneud i ni gynyddu dibyniaeth ar nwyddau o wledydd eraill.
Rydw i wir eisiau codi hyn gyda'n pwyllgor newid hinsawdd ein hunain, oherwydd rydyn ni wedi cael cymaint o ddadleuon yn y 12 mlynedd rydw i wedi bod yma ynglŷn â bod yn gyfrifol yn ein dull o ymdrin â di-garbon, ond nid yw hynny'n golygu ei ddadlwytho i ryw wlad arall dim ond i wneud i ni deimlo'n well.
Felly, er enghraifft, yn yr adroddiad cynnydd, argymhellodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, ac rwy'n dyfynnu:
'Plannu coed ar 2% o dir fferm erbyn 2025 tra'n cynnal ei brif ddefnydd, gan godi i 5% erbyn 2035, ac ymestyn perthi 20% erbyn 2035 a rheoli perthi presennol yn well.'
Er fy mod yn cefnogi plannu coed yn y lle iawn, ni all hyn fod ar draul ein cynhyrchiant amaethyddol. Rydych eisiau mynd hyd yn oed ymhellach nag y mae ein pwyllgor wedi'i argymell, ac rydych wedi nodi yn eich ymateb i'r adroddiad:
'Mae cynigion i gynyddu’r gorchudd coed i 10% o bob fferm yn ffocws pwysig ar gyfer datblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.'
Rwy'n adnabod ffermwyr a ffermydd, a allai, unwaith y byddwch yn cymryd y 10 y cant hwnnw oddi wrthynt, ei gwneud hi'n anhyfyw iddynt barhau â'r amaethyddiaeth. Felly, mae'n rhaid edrych eto ar hynny.
Enghraifft arall—. O, dwi wedi sôn am hynny, onid ydw i, am Ffos-y-frân. Roedd Ffos-y-frân mor bwysig yma yng Nghymru, gan gynhyrchu dwy ran o dair o lo'r DU. Nid oes gwadu bod economi'r DU angen glo o hyd yn y cyfnod pontio hwn. Ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni i gyd fod yn glir yn ein negeseuon am hynny. Mae'n hollol hurt ein bod bellach mewn sefyllfa lle bydd yn rhaid mewnforio mwy o lo o dramor, a hefyd yr effaith ar ein gwaith gwneud dur. Felly, a wnewch chi adolygu polisïau newid hinsawdd fel eu bod yn cynnwys targedau ar gyfer lleihau'r ddibyniaeth ar nwyddau sy'n cael eu mewnforio o dramor? A wnewch chi hefyd weithio gyda chwmnïau i sicrhau y gallwn fod yn cynhyrchu rhai o'r pethau hynny?
Fel y mae, nid yw gwrthbwyso olion traed i wledydd eraill yn bontio teg. Rwy'n ymwybodol fod uwch swyddogion wedi mynd i gynrychioli Cymru yn COP28. A gaf i ofyn, Gweinidog, beth wnaeth i chi gredu, fel y Gweinidog yma yng Nghymru, na fyddech chi'n mynychu COP28? Mae hyn wedi dod i'r amlwg eto yn ystod y gwaith o graffu ar y Bil Seilwaith (Cymru), gyda galwadau gan randdeiliaid unwaith eto am gynllun morol cenedlaethol, cynllun datblygu, i Gymru, yn fwy ar sail ofodol. Rwy'n cytuno â hynny, a bod angen gosod targedau clir. Mae angen i ni wybod beth yw ehangiad ein morfeydd heli; mae angen i ni fod yn gwella'r dull o storio carbon mewn cynefinoedd gwaddodol islanwol; mae angen i ni weld adfer cynefinoedd rhynglanwol ac islanwol bas; mae angen i ni weld pysgod cregyn yn cael eu hadfer; mae angen i ni weld mwy o garbon glas ac integreiddio ynni adnewyddadwy ac adfer natur forol. Rwy'n ddiolchgar iawn i'ch tîm o swyddogion a gyfarfu â mi yr wythnos diwethaf, ac rwyf wir yn credu bod gennych swyddogion gwych yn eich adran. Rwy'n dal i bryderu'n fawr am ochr gynllunio ein gwelyau morol. Felly, er eich bod eisoes wedi cytuno i edrych ar forwellt, gyda mi, a wnewch chi archwilio'n ddwfn i bolisi morol, gyda'r nod o wella ei gyfraniad at ein nod sero net 2050?
A dim ond ar yr ymgynghoriad fframwaith pontio teg, mae ychydig yn siomedig. Mae'r ddau ohonom yn gwybod bod y ddeddfwriaeth bresennol yn atgyfnerthu'r angen i sicrhau bod datgarboneiddio a gwaith cydnerthedd hinsawdd yn cael ei wneud mewn ffordd sy'n osgoi creu neu waethygu anghydraddoldebau. Felly, yn hytrach na defnyddio adnoddau ar fframwaith pontio teg, a wnewch chi ganolbwyntio ar gyflawni cynllun credadwy i Gymru gyfan, boed hynny ar y tir, boed ar ein gwelyau môr, a hefyd edrych ar ein mewnforion, oherwydd dim ond wedyn y gallwn ddweud ein bod wedi ymrwymo i agenda bontio teg? Diolch. A pheidiwch â dweud y drefn wrthyf.
Diolch yn fawr, Janet. Felly, yn y bôn, dim ond i grynhoi: rydych chi eisiau parhau i gloddio glo; nid ydych chi'n hoffi coed; nid ydych chi eisiau pontio teg, ond hoffech chi i ni fynd yn gyflymach. Bobl annwyl, lle ydw i'n dechrau dywedwch?
Nid wyf yn siŵr a ydych chi'n gwybod hyn, ond mae'r Gweinidog o Lywodraeth y DU sydd mewn gwirionedd â sedd wrth y bwrdd yn COP28 wedi cael ei alw adref i bleidleisio yn eich nonsens Rwanda chwerthinllyd. [Torri ar draws.] Dyna faint—. Dyna faint—. Dyna faint o bwys y mae eich Llywodraeth Geidwadol yn ei roi ar yr argyfwng hinsawdd dirfodol. [Torri ar draws.] Nid oes gennyf i sedd wrth y bwrdd trafod, Janet. Rydym yn rhan o genedl-wladwriaeth y DU, ac mae'r Gweinidog sydd â sedd wrth y bwrdd trafod hwnnw wedi dod adref i gynorthwyo Prif Weinidog anetholedig. O diar, rwy'n credu bod hynny'n dweud popeth sydd angen i chi ei wybod am ymrwymiad y Torïaid i newid hinsawdd.
Rwy'n gwerthfawrogi’r sylw sy'n cael ei roi i COP28. Roeddwn i'n hynod siomedig pan oeddem ni, yn gynharach y prynhawn yma, wedi clywed am beth sydd wedi digwydd, bod representative yr ynysoedd hyn wedi cael ei ddanfon, neu wedi penderfynu dod adref, neu fod y Llywodraeth wedi penderfynu ei ddanfon e adref. Mae e jest yn inexplicable y byddan nhw'n rhoi'r pwyslais ar rywbeth mor anghywir â hwnna.
Ond, mae yna reidrwydd, wrth gwrs, i gael trawsnewidiad teg yn y ffyrdd rŷn ni’n byw yng Nghymru. Rydych chi wedi dweud, wrth gwrs, Gweinidog, eich bod chi'n bwriadu cyhoeddi fframwaith ar drawsnewidiad teg erbyn 2024. Mae lot o bethau yma i'w croesawu. O ran y camau y bydd angen inni eu cymryd nawr, pa rai ydych chi'n meddwl fydd y rhai mwyaf heriol o ran isadeiledd, ond hefyd o ran perswadio'r cyhoedd i ddod gyda ni ar y newidiadau hynny? Pa rai ydych chi'n meddwl fydd yr her fwyaf?
Bydd methiant COP, os ydy COP nawr yn methu, bydd y methiant yna yn ergyd sylweddol, wrth gwrs, sydd yn tanlinellu pa mor rwystredig yw e bod dim mwy o bleidlais neu fwy o lais gennym ni yn y penderfyniadau hynny. Fel mae pethau’n sefyll, mae mwy o garbon deuocsid yn ein atmosffer, rŷn ni'n prysur gyflymu tuag at gynhesu i 1.5 gradd Celsius, mae’r adroddiad diweddaraf gan yr IPCC yn dangos pa mor ddifrifol anodd y bydd hi i’r byd aros o fewn terfyn 1.5 gradd C, oni bai bod newidiadau enfawr, toriadau enfawr yn ein hallyriadau nawr. Mae bodau dynol yn barod wedi achosi 1.1 gradd Celsius o gynhesu, sydd wedi arwain at lefelau’r môr yn codi, tywydd eithriadol, a phobl yn marw.
Mae dirfawr angen edrych ar ffyrdd o gyrraedd net zero erbyn 2035, a dwi'n croesawu'r ymrwymiad i edrych ar hyn fel rhan o'r cytundeb cydweithio. Ond, wrth gwrs, mae angen cynlluniau pendant. A allwch chi osod mas unrhyw fanylion rŷch chi'n gallu eu rhoi inni o ran cynlluniau am hyn: pa dargedau, pa bolisïau ŷch chi'n meddwl y bydd angen eu cymryd i gyrraedd y nod neu'r gôl mwy uchelgeisiol hwnnw? Efallai gallwch chi ymateb yn fyr i adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru am ddatgarboneiddio ynni erbyn 2035.
Ond ar y pwnc o ynni cymunedol, rwy’n meddwl eich bod chi, yn y gorffennol hefyd, wedi sôn am yr angen i ehangu'r sector yna. Buaswn i’n hoffi clywed mwy am sut bydd y Llywodraeth yn gallu ymbweru cymunedau yng nghyd-destun penderfyniadau ar brosiectau ynni adnewyddol. Bydd y Bil isadeiledd yn gyfle pwysig i ni edrych ar hyn, felly pa amddiffyniadau all gael eu rhoi mewn lle i wneud yn siŵr bod cymunedau wir yn elwa, ac eto bod y cysylltiad yna rhwng y gymuned a'r prosiect yn un mae pobl yn gallu ei weld, yn gallu teimlo eu bod nhw'n rhan o'r peth?
Yn olaf, Gweinidog, sut bydd y Llywodraeth yma yng Nghymru yn ymateb i benderfyniadau'r Ceidwadwyr a Llafur hefyd yn San Steffan i wanhau eu hymrwymiadau hinsawdd? Sut bydd y Llywodraeth yng Nghymru yn sicrhau na fydd ein gwaith ni tuag at net zero yn cael ei danseilio gan y rhetoric gwag a’r polisïau pryderus sy’n dod o gyfeiriad Llundain? Bydd sgil effeithiau hynny yn wael iawn nid yn unig ar barodrwydd busnesau i wneud y newidiadau sydd angen eu gwneud, ond hefyd dwi'n meddwl o ran hyder y cyhoedd ac, efallai, iechyd meddwl ac ymateb pobl i ba mor barod ydyn nhw i fod yn rhan o newid, achos mae angen newid mawr.
Oes, diolch, Delyth, digonedd o bethau i fynd trwyddynt yn y fan yna. Felly, dim ond ar 2035, mae gennym y gweithgor yn gweithio'n effeithiol iawn. Mae'n grŵp diddorol iawn o bobl sy'n rhoi o'u hamser i ni oherwydd eu bod yn poeni'n fawr am yr argyfwng dirfodol hwn sy'n ein hwynebu, ac maen nhw'n hollol flaengar yn edrych ar y pontio teg fel rhan o'r rhaglen gyflymu honno. Nid yw'n ddigon da i ddatgarboneiddio Tata Steel, er enghraifft, trwy gyhoeddi eich bod yn mynd i roi un ffwrnais arc i mewn yno, gwneud 12,000 o bobl yn ddi-waith, peidio ag ymgynghori â'r undebau o gwbl, peidio â gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol ac yna cerdded oddi yno gan chwibanu, sef yr hyn y mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud i'n cymunedau yno. Nid yw hynny'n cynhyrchu'r math cywir o ddur hyd yn oed i sicrhau ein bod yn cael y diwydiant byd-eang sydd ei angen arnom i roi'r môr Celtaidd ar waith.
Yr hyn y dylem fod yn ei wneud, wrth gwrs, yw datgarboneiddio ein diwydiant dur effeithlon rhagorol mewn ffordd sy'n caniatáu iddynt gynhyrchu'r dur sy'n angenrheidiol ar y safle i gynhyrchu'r tyrbinau ar gyfer gwynt arnofiol, a fydd yn cynhyrchu trawsnewidiad llwyr yn y grid a chapasiti cynhyrchu ynni Prydain Fawr. Mae'r syniad eich bod yn gwneud hynny drwy barhau i archwilio am olew a nwy, fel y mae'r Llywodraeth y DU gwbl sobor hon wedi penderfynu gwneud, neu i gyhoeddi bod pyllau glo newydd yn agor, na fydd yr un ohonynt yn weithredol am ddegawdau, yn gwbl afresymol. Ni fyddai hyd yn oed yn gwneud synnwyr pe baent yn eiddo i'r wladwriaeth Brydeinig mewn gwirionedd, ond wrth gwrs maen nhw ar y farchnad agored yn unig a byddant yn masnachu i'r farchnad agored a dim ond cynyddu nifer y tanwydd ffosil. Felly, mae hynny'n warthus.
Ar y llaw arall, ein polisi ni yw sicrhau ein bod yn buddsoddi yn y diwydiant adnewyddadwy hwnnw, ein bod yn caniatáu i bobl sy'n trosglwyddo o'r hen ddiwydiannau i ailhyfforddi ac ailgymhwyso. Maent yn beirianwyr a gweithredwyr cymwys iawn. Bydd rôl iddyn nhw yn y diwydiant newydd hwnnw sy'n tyfu. A'r gamp i ni yw ei raddnodi fel ein bod yn cynyddu'r diwydiannau hynny ar yr un pryd ag y mae'r hen rai yn cael eu cau i lawr.
Roeddwn yn falch iawn o weld y cyhoeddiad newydd gan Ystad y Goron am y gyfran nesaf o gigawatts y maent yn ei gyhoeddi yn y môr Celtaidd. Gobeithiwn fod hynny'n golygu bod honno'n ddigon o biblinell i ddatgloi'r buddsoddiadau ym mhorthladdoedd Cymru ac yn y diwydiant dur ei hun i wneud Tata ei hun fuddsoddi. Rydym yn cyfathrebu'n gyson â'r porthladdoedd yno. Dim ond yr wythnos diwethaf y cyfarfûm â chynghrair y môr Celtaidd neu'r wythnos gynt—mae fy mywyd yn un cylch hir o gyfarfodydd; gallai fod wedi digwydd yr wythnos cyn hynny. Rwyf wedi cwrdd ag Ystad y Goron. Mae'r Prif Weinidog yn cwrdd ag Ystad y Goron ddydd Llun yr wythnos nesaf i fynd drwy'r hyn y mae'r cyhoeddiad hwnnw'n ei olygu o ran datgloi'r buddsoddiad hwnnw.
Felly, yn hytrach na chael adweithiau sydyn lle rydych chi'n cyhoeddi mewn gwirionedd yr hyn a oedd yn fuddsoddiad sylweddol, ond mae hynny'n achosi trallod ac aflonyddwch go iawn, nid yw'n brosiect ar gyfer dyfodol yr hyn sy'n ddiwydiant dur effeithlon iawn, ac mewn gwirionedd mae'n paratoi'r ffordd ar gyfer mewnforio llwyth o ddeunydd fferrus o fannau eraill yn y byd. Yn hytrach na gwneud hynny, yr hyn y dylech ei wneud yw cael strategaeth fuddsoddi hirdymor ar gyfer y diwydiannau sydd eu hangen arnom ar gyfer ein dyfodol adnewyddadwy, sy'n dod â'r cyfoeth a'r ffyniant sydd ei angen arnom. Dyna'r unig ffordd rydyn ni'n mynd i gyrraedd sero net erbyn 2050, heb sôn am gyflymach.
Mae arnom hefyd angen chwyldro ym mhopeth arall a wnawn. Mae angen i ni helpu ein sector amaethyddol i allu ffermio'r tir mewn ffordd y gwn eu bod eisiau gwneud hynny: mae hynny'n parchu'r diwylliant a'r fioamrywiaeth, ac yn cynhyrchu'r bwyd, ond hefyd y gwasanaethau ecosystem eraill sydd eu hangen arnom. Mae ffermwyr yn cynhyrchu ein bwyd, ond maent hefyd yn cynhyrchu'r gwasanaethau ecosystem yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt. Maent yn llythrennol yn cynhyrchu'r ocsigen rydyn ni'n ei anadlu. Felly, mae'n rhaid i ni wneud hyn mewn cytgord. Rwy'n credu mai dyna'r ateb i'ch holl gwestiynau, mewn gwirionedd. Mae angen i ni dynnu ein cymunedau gyda ni, mae angen i ni ddeall beth yw eu hanghenion ar lawr gwlad, mae angen i ni eu helpu i dybio'r anghenion hynny mewn ffordd sy'n garbon niwtral, sero net, ac sy'n hyrwyddo pontio teg a dyfodol economaidd mewn economi werdd y gallwn ni i gyd ei chefnogi.
Mae angen i ni ddechrau drwy gadw pob tanwydd ffosil yn y ddaear. Nid glo yn unig yw hynny; mae'n olew, mae'n nwy. Mae'n amlwg mai Rhif 1 yw hynny, ond yn anffodus mae'n ymddangos bod COP wedi cael ei gymryd drosodd gan lawer o'r buddiannau tanwydd ffosil hyn, a dyna pam rydyn ni'n gwneud cynnydd mor araf. Ni ddylai unrhyw iawndal yr ydym yn ei dalu am golled a difrod y mae'r byd diwydiannol wedi'i wneud gynnwys y buddiannau olew sydd wedi'u gwaddoli'n ormodol, sydd wedi bod yn brif achos cyflwr enbyd ein byd sy'n cynhesu.
Rydych chi'n siarad yn dda, Gweinidog, am yr angen i ysgogi adnewyddu tai, nad ydym yn ei gael gan Lywodraeth y DU. Yn hytrach, rydym yn caniatáu i'r chwe chwmni adeiladu mawr barhau i adeiladu tai anuchelgeisiol, sy'n adeiladu i safonau isel iawn y bydd yn rhaid i ni eu hôl-osod yn y dyfodol.
Rwyf hefyd yn bryderus iawn am y diwydiannau y mae angen i ni eu meithrin a'u helpu wrth iddyn nhw ddatgarboneiddio, ac os ydym yn gosod y telerau trwyddedu ar gyfer y môr Celtaidd mor isel fel nad oes neb eisiau gwneud cais amdanynt, mae'n amlwg na fyddwn yn gallu cyflawni'r egni amgen sydd ei angen ar y diwydiant dur er mwyn datgarboneiddio. Felly, mae'n rhaid i ni obeithio yn y dyfodol fod gennym Lywodraeth sy'n uchelgeisiol ynghylch hyn, oherwydd mae'n ddadl gwbl gylchol.
Rwyf eisiau gofyn i chi am yr angen i ddatgarboneiddio ein bwyd, oherwydd dyma'r allyriadau carbon unigol mwyaf o aelwydydd unigol. Oes, wrth gwrs mae angen i ni leihau ein gwastraff bwyd, a hefyd rwy'n cytuno—
Rhaid i chi orffen, Jenny, os gwelwch yn dda.
Mae angen i ni leihau ein dibyniaeth ar nwyddau sy'n cael eu mewnforio o dramor, ond mae diffyg enfawr ar gynhyrchu llysiau. Rwy'n gwybod nad yw amaethyddiaeth yn eich portffolio, ond serch hynny ychydig iawn sydd yn eich ymateb i adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd ar sut rydyn ni'n mynd i sicrhau bod y cynllun ffermio cynaliadwy yn mynd i ganolbwyntio'n llwyr ar sicrhau ein bod yn datgarboneiddio'r holl fwyd rydyn ni'n ei fwyta.
Diolch yn fawr, Jenny. Felly, mae yna gwpl o faterion fan yna. Ar y pwynt adeiladu tai, mae dau bwynt yna. Mae Llywodraeth y DU yn dal i fynnu codi TAW ar adnewyddu tai, gan gynnwys adnewyddiadau i ddatgarboneiddio, tra bod dim TAW ar adeiladu o'r newydd, felly mae hynny'n dweud cyfrolau am yr hyn maen nhw'n ceisio'i gyflawni mewn gwirionedd. Gellid newid hynny yn rhwydd a byddai'n gwneud gwahaniaeth enfawr i faint o arian y mae'n rhaid i bobl ei dalu i ddatgarboneiddio'r stoc dai bresennol, gan gynnwys landlordiaid cymdeithasol hefyd. Felly, mae hynny'n fater go iawn. Mae yna hefyd gyfres gyfan o faterion ynghylch y gwahaniaeth rhwng y systemau cynllunio yng Nghymru a Lloegr, sy'n mynd yn eithafol iawn, yn ogystal â'r materion rheoleiddio adeiladu. Nid oes gennym unrhyw broblem denu adeiladwyr tai yma. Er gwaethaf y rhethreg gynharach pan ddywedon nhw na fydden nhw'n dod, mewn gwirionedd nid yw hynny wedi bod yn wir o gwbl. Felly, maent yn addasu'n hawdd. Rydyn ni wedi caniatáu i'n landlordiaid cymdeithasol brynu oddi ar y cynllun, sy'n golygu bod cwmnïau bach, os ydyn nhw'n adeiladu i'r GAD—y gofynion ansawdd datblygu—rydyn ni'n caniatáu i'n landlordiaid cymdeithasol brynu oddi ar y cynllun, ac mae wedi codi'r diwydiant cyfan, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl. Felly, mae cynlluniau ar droed yno, ond mae gwir angen iddo fod ledled y DU i gael effaith wirioneddol.
O ran datgarboneiddio diwydiant, buom yn gweithio'n agos gyda phob un o bedair Llywodraeth y DU yn y cynllun masnachu allyriadau, ac rydym bellach yn edrych ar fecanwaith prisio carbon, mecanwaith prisio ehangach. Mae'n ddigon hawdd i'r Ceidwadwyr ddweud nad ydyn nhw'n hoffi mewnforio pethau, ond rydyn ni mewn gwirionedd yn mewnforio llawer iawn o'n deunydd diwydiannol, y gallem ei gynhyrchu'n hawdd iawn gartref pe baem yn ail-raddnodi'r ffordd yr ydym yn gwneud ein diwydiant. Yn syml, nid yw hyn wedi'i wneud.
Bydd y cynllun masnachu allyriadau, serch hynny, yn sbarduno newid, a gwnaethom hynny mewn cysylltiad agos â phobl fel Valero, Tata Steel—cefais nifer o gyfarfodydd, fel y gwnaeth Vaughan Gething, ar hynny. Yn amlwg, mae hynny'n anodd, onid yw? Mae angen iddynt ddatgarboneiddio, felly mae lwfansau am ddim, ond bydd y lwfansau am ddim hynny'n dirywio wrth i'r diwydiant gael ei alluogi i ddatgarboneiddio. Mae'n rhaid i ni ysgogi'r newid hwnnw i gyrraedd lle rydym eisiau bod. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod y diwydiannau hynny'n cynhyrchu'r nwyddau a'r gwasanaethau angenrheidiol i gychwyn y chwyldro nesaf, felly, ar gyfer gwynt arnofiol yn y môr Celtaidd.
Methiant y contract ar gyfer gwahaniaeth ar y gwynt arnofiol oedd methiant mwyaf rhyfeddol Llywodraeth y DU. Ymhlith cyfres o fethiannau, dyna'r methiant mwyaf rhyfeddol. Dim un cynigydd yn y broses honno, oherwydd yr oeddent mor wancus i geisio cael arian cyflym fel na allent weld yr angen i helpu diwydiant eginol i ddechrau yma yn hytrach nag mewn mannau eraill yn y byd.
Ac yna, ar ddatgarboneiddio bwyd, mewn gwirionedd, roedd Grŵp Her Sero Net Cymru 2035 y mae Jane Davidson yn ei gadeirio yn edrych ar fwyd fel un o'i heriau cyntaf, ac rydym yn disgwyl yr adroddiad yn fuan iawn. Bydd hynny'n cyfrannu at ein strategaeth bwyd cymunedol ac i'r ymgynghoriad ar y cynllun ffermio cynaliadwy.
Rydym wedi dysgu y prynhawn yma fod Gweinidog y DU sy'n gyfrifol am COP28 wedi gadael y trafodaethau am Lundain, mewn gwirionedd, gan adael ei weision sifil i gwblhau'r trafodaethau hynny ar adeg fregus iawn yn ei absenoldeb. Mae'n dychwelyd, wrth gwrs, i geisio achub croen Rishi Sunak a Llywodraeth y DU, ac mae'n amlwg ei bod yn set o amgylchiadau chwerthinllyd ac anhrefnus. Mae'n esgeuluso’n llwyr gyfrifoldebau rhyngwladol Llywodraeth y DU. Ac, wrth gwrs, Gweinidog Llywodraeth y DU yw llais Cymru yn y trafodaethau hyn, ond nawr, yn amlwg, dydyn ni ddim bellach yno yn briodol i gael ein clywed yn y trafodaethau hyn. Felly, a ydych chi'n rhannu fy siom ynghylch ymadawiad Gweinidog Llywodraeth y DU o'r trafodaethau hyn, ac a ydych chi'n cytuno â mi y dylai Cymru, yn y dyfodol, gael ei chynrychioli yn ein rhinwedd ein hunain yn y trafodaethau hyn a pheidio â gorfod dibynnu ar Lywodraeth y DU sydd wedi methu ac sy'n dwyn anfri?
Rwy'n rhannu eich siom yn llwyr, Llŷr. Mae'r syniad ei bod hi'n bwysicach ategu'r math o nonsens sydd gyda ni yn mynd ymlaen yn Senedd y DU nag yw bod â llais wrth fwrdd un o'r argyfyngau dirfodol—wel, yr argyfwng dirfodol—o'n cyfnod ni wir yn gwbl ryfeddol.
Mae gan Gymru ryw fath o lais yno, oherwydd ein bod yn perthyn i'r Cynghrair Dan2 ac i ICLEI, y cydweithrediad rhyngwladol a elwir yn anfachog iawn yn llywodraethau is-genedlaethol, rhanbarthol a dinasoedd—ddim yn fachog, ond effeithiol yr un fath. Mae'n cwmpasu tua dwy ran o dair o boblogaeth y byd ac mae ganddo lais. Felly, mae ein llais yn uchel iawn y tu mewn i'r cynghrair hwnnw, rwy'n falch o ddweud—yn uwch y tu mewn i'r cynghrair hwnnw nag ydyw, mewn gwirionedd, yng nghynrychiolaeth y DU. Felly, mae hynny'n ddiddorol ynddo'i hun.
Dydyn ni ddim yn gwybod eto beth fydd y broses COP yn ei gynhyrchu, gyda lleisiau cenhedloedd fel Tuvalu sy'n llythrennol yn diflannu o dan y tonnau, yr apêl o'r galon i ddileu tanwydd ffosil mor gyflym ag y gallwn ni ac i symud i fyd nad yw'n cynhesu fel bod ein capiau iâ pegynol yn toddi ar y gyfradd frawychus iawn.
Dydw i ddim yn gwybod, Dirprwy Lywydd, a ydych chi wedi gwylio unrhyw ran o'r gyfres Attenborough ddiweddaraf, ond mae'n anodd iawn i'w gwylio. Mae gennych chi eich calon yn eich dwylo wrth i chi wylio dirywiad y byd naturiol a'r hyn y gallem ni ei wneud o hyd—dyna'r pwynt, dyna'r neges—yr hyn y gellir ei wneud o hyd i atal hynny rhag digwydd. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw i bobl ddeffro a deall y gallem ni gyda'n gilydd atal yr argyfwng dirfodol echrydus hwn. Yn llythrennol, dyma'r blaned yr ydym ni i gyd yn dibynnu arni i oroesi, ac eto mae gennym Lywodraeth—ein Llywodraeth ni ein hunain, yn rhyfeddol—yn meddwl ei bod yn bwysicach gwneud arian cyflym allan o olew nad ydyn nhw hyd yn oed yn ei reoli.
Ac yn olaf, Carolyn Thomas.
Diolch. Ddydd Sadwrn, ymunais â Grŵp Gweithredu ar Hinsawdd gogledd-orllewin Cymru. Roedd yn ddigwyddiad dan arweiniad pobl ifanc o'r enw 'We rise for our future'. A diolch, Gweinidog, am dderbyn cardiau ganddyn nhw yn gynharach, lle maen nhw yn rhoi eu negeseuon newid hinsawdd y tu mewn. Roedden nhw'n falch iawn o gael y llun hwnnw. Dywedodd un person ifanc, 'Mae pobl yn disgwyl i ni gywiro'r camgymeriadau a wnaed ganddyn nhw pan fyddwn ni'n hŷn', ond maen nhw'n poeni nad oes digon o amser.
Rwyf wedi bod yn gwylio'r rhaglen Attenborough honno, Planet Earth III, ac rwyf wedi bod yn poeni'n arw y gallem ni golli ein riffiau cwrel mewn 20 mlynedd, y bydd llawer o rywogaethau yn diflannu mewn dim ond 20 i 30 mlynedd, a byddwn yn colli cymunedau tir isel. Felly, roeddwn i'n mynd i roi'r cyfle i chi, mewn gwirionedd, ddweud pa mor ddifrifol yw hi i'r gwadwyr hinsawdd hynny. Oherwydd rwy'n credu bod angen i ni weithredu nawr ac ni allwn fyw am y presennol gyda thanwydd ffosil yn unig. Mae angen i ni weithredu nawr er mwyn dyfodol ein planed. Diolch.
Allwn i ddim cytuno yn fwy, Carolyn. A diolch yn fawr iawn am ddanfon y cardiau. Rwyf wedi darllen llawer ohonyn nhw ac maen nhw'n ddiddorol iawn. Roeddwn i'n falch iawn o'u casglu. Yr un wnaeth fy nharo fwyaf oedd un gan blentyn 10 oed a ddywedodd, 'Annwyl Gweinidog, ewch yn gynt os gwelwch yn dda'. Hynny yw, mewn gwirionedd, dyna beth mae amdano, onid ydyw? 'Er mwyn Duw, bwrwch ymlaen ag ef', wyddoch chi, 'Brysiwch'. Pwnc araith gynhadledd ddiwethaf Prif Weinidog Cymru, mewn gwirionedd, oedd 'brysiwch'. A dyna beth y mae angen i ni ei wneud. Mae angen i ni frysio, ac i wneud hynny mae'n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan.
Mae gan bob un ohonom lawer o hetiau. Rydym yn freintiedig yma i fod yn gynrychiolwyr democrataidd o'r cymunedau yr ydym yn dod ohonynt, ond mae gennym hetiau eraill, onid oes? Mae gennym hetiau teuluol. Mae gennym hetiau gweithwyr. Mae gennym hetiau cymunedol lleol. Ym mhob un o'r hetiau hynny, gallwn geisio dwyn perswâd ar bobl bod y camau bach maen nhw'n eu cymryd, neu'n wir y camau mwy maen nhw'n eu cymryd, yn cael effaith sylweddol.
Yma yng Nghymru, mae gennym ni y prawf byw o hynny yn ein hailgylchu. Efallai ei fod yn ymddangos fel peth bach, ac mae llawer o sinigiaeth allan yna, ond gallaf ddweud yn bendant wrthych chi fod gennym gwmnïau yn dod i Gymru gyda channoedd a channoedd o swyddi, sydd eisiau cael y deunydd ailgylchu hwnnw. Rydym yn ei ailgylchu yma yng Nghymru. Maen nhw'n ei droi'n ôl yn ddeunyddiau nad oedd yn galw am dynnu olew a nwy o'r ddaear, na glo na dim byd arall. Maen nhw'n defnyddio'r deunydd ailgylchu hwnnw i'w troi yn ôl i'r nwyddau yr ydym ni i gyd eu heisiau, yma yng Nghymru, gyda swyddi lleol a sgiliau lleol.
Dyna pam rydyn ni'n ailgylchu. Rydyn ni'n gwneud yr ailgylchu i atal y deunyddiau crai rhag gorfod cael eu cymryd o hyd o'r ddaear, ac i gadw'r deunyddiau eraill mewn defnydd, yr holl ffordd. Yr hierarchaeth honno—ailddefnyddio, lleihau, ailgylchu—yw'r cyfeiriad y dylem ni fod yn mynd iddo. Rwy'n dweud hyn bob amser wrth y plant. Pan es i allan i COP15, y COP bioamrywiaeth allan yng Nghanada, roedd yna gynrychiolydd yno o genedl Cree. Roedd hi'n bwerus iawn, wir. Dywedodd, yn eu diwylliant nhw, mai'r peth maen nhw'n ei geisio fwyaf yw bod wedi bod yn hynafiad da. Dyna beth y dylai pob un ohonom fod, on'd e? Mae arnom ddyled i'n plant a'n hwyrion i fod yr hynafiaid gorau y gallwn fod. Ac rydyn ni'n gwneud hynny trwy sicrhau bod y blaned rydyn ni i gyd yn ei rhannu yn addas i'w phreswylio.
Diolch i'r Gweinidog.
Mae eitem 6 wedi'i dynnu yn ôl.
Eitem 7 yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrraeth ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yn gynharach heddiw, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ei fod wedi comisiynu adolygiad annibynnol o'i wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol. Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad hwn. Dyma'r dull gweithredu cywir er mwyn i'r bwrdd iechyd roi sicrwydd am ei wasanaethau, a byddwn ni yn Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd dros y misoedd nesaf i sicrhau bod unrhyw ddysgu a nodwyd yn cael ei ddatblygu a bod camau gweithredu ar unwaith yn cael eu cynyddu yn ôl yr angen.
Rwyf wedi cael gwybod y bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yn ddiweddarach yr wythnos hon, yn cyhoeddi ei hadroddiad terfynol yn dilyn yr arolygiad dirybudd o'r gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Singleton, a gynhaliwyd ym mis Medi. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae AGIC eisoes wedi uwchgyfeirio nifer o feysydd sicrwydd uniongyrchol i'r bwrdd iechyd, a gwn fod y bwrdd iechyd wedi cyflwyno ei gynllun gwella, a fydd yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr ag adroddiad AGIC ddydd Gwener. Mae'n bwysig bod y bwrdd iechyd yn mynd i'r afael â'r materion hyn yn gadarn.
Rwyf o'r farn bod angen rhywfaint o gymorth a chefnogaeth benodol i sicrhau bod y bwrdd iechyd yn cyflawni'r gwelliannau angenrheidiol. O ganlyniad, rwyf heddiw'n cyhoeddi rhai camau ar unwaith i gefnogi'r bwrdd iechyd i gryfhau ei wasanaethau tra bod yr adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru, drwy fonitro gwell, yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i'w cefnogi i gyflawni'r camau gweithredu a'r gwelliannau sydd eu hangen.
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd dros y 12 mis diwethaf i ddarparu cefnogaeth a her ynghylch materion sy'n dod i'r amlwg a phryderon presennol. Ceisiwyd sicrwydd a darparwyd proses graffu drwy'r trefniadau ansawdd integredig, cynllunio a chyflawni a threfniadau cyfarfod tîm gweithredol ar y cyd, yn ogystal â thrwy ymweliadau safle penodol a mecanweithiau sicrwydd eraill. Mae hyn wedi ein galluogi i wneud asesiad o'r gwasanaethau. Rhannwyd yr wybodaeth hon gyda'r bwrdd iechyd, fel y gellid darparu eglurder a sicrwydd pellach.
Mae penderfyniad y bwrdd i fuddsoddi £750,000 arall mewn gwasanaethau mamolaeth yn gam ymlaen i'w groesawu. Fel rhan o hyn, bydd 35 o staff ychwanegol yn cael eu recriwtio i sicrhau bod lefelau staffio yn cyd-fynd â'r lefelau isaf sy'n cael eu gosod gan Birthrate Plus, sef y mecanwaith sy'n cael ei gydnabod i asesu faint o bobl sydd eu hangen mewn adran famolaeth. Fe fydd hefyd yn golygu bod modd ailagor canolfan eni Castell-nedd Port Talbot ac ailgyflwyno'r gwasanaeth geni gartref ddechrau'r flwyddyn nesaf. Fe fyddwn ni'n cefnogi'r bwrdd ar y daith yma.
Yn fy marn i, mae'n bosibl na fyddai'r gwelliannau hyn yn cael eu gwneud dan y trefniadau arferol, felly dwi wedi derbyn argymhelliad swyddogion, yn unol â'r trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd, i osod gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol y bwrdd i statws monitro uwch. Mae eisoes wedi cael ei godi i'r statws yma ar gyfer perfformiad, cynllunio a chyllid. O dan statws o'r fath, fe fydd y bwrdd yn cael ei gefnogi, ond bydd angen iddo hefyd ddangos ei fod yn ymateb yn rhagweithiol i sbarduno gwelliant ei hun. Fe fydd Llywodraeth Cymru yn monitro, yn herio ac yn adolygu'r cynnydd yn ofalus. Fe fydd y gwaith monitro yn digwydd yn fwy aml nag o dan y trefniadau arferol ac yn cynnwys cyfarfodydd a rhyngweithio rheolaidd. Yn ogystal, fe fydd adroddiadau cynnydd yn cael eu paratoi a thystiolaeth yn cael ei chyflwyno, gan gynnwys cynlluniau gweithredu a data perthnasol.
Dwi'n deall bod nifer o staff rheng flaen y gwasanaethau wedi bod yn gweithio dan straen mawr ers nifer o fisoedd, a bod nifer o swyddi gwag i'w llenwi—sefyllfa sydd wedi gwella'n sylweddol dros yr wythnosau diwethaf yn sgil ymgyrch recriwtio lwyddiannus. Er hynny, dwi'n awyddus i gydnabod y pwysau yma, ynghyd â'u gwaith diflino i gynnal gwasanaethau ar gyfer teuluoedd a'u cymunedau. Dwi'n gobeithio y bydd y penderfyniad yma'n dangos i staff a chleifion ein bod ni'n gweithio gyda'r bwrdd i gryfhau ei wasanaethau ymhellach. Fe fydd statws uwchgyfeirio holl gyrff statudol y gwasanaeth iechyd yn cael ei ystyried mewn cyfarfod tair ochr yn ddiweddarach y mis yma, ac fe fyddaf i'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau drwy ddatganiad llafar arall yn y flwyddyn newydd.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw? Wrth gwrs, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno y dylai rhoi genedigaeth a chael y profiad o roi genedigaeth am y tro cyntaf fod yn achlysur llawen i deuluoedd, ac nid yw hynny wedi bod yn wir, yn anffodus, i lawer o fenywod a theuluoedd sydd wedi defnyddio'r unedau mamolaeth ym mwrdd iechyd bae Abertawe.
A gaf i ofyn, Gweinidog, pam y mae hi wedi cymryd cyhyd i gymryd y camau hyn, i uwchgyfeirio gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol i fonitro gwell? Bu sawl cwestiwn ynglŷn ag arweinyddiaeth, cwestiynau ynghylch ymgeisiadau i gelu pethau neu gamwybodaeth yn cael ei rhoi i deuluoedd, a nifer sylweddol o ddigwyddiadau, gan gynnwys sawl digwyddiad 'byth'—digwyddiadau na ddylid byth fod wedi digwydd—sydd wedi dod i'r amlwg dros y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n credu bod 300 o ymchwiliadau wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf hefyd. Felly, rwyf eisiau bod yn glir pam mai dim ond heddiw y mae hyn wedi dod i'r amlwg ac rydych chi wedi gweithredu'r uwchgyfeirio hwn heddiw ac nid ynghynt. Mae'n ymddangos bod rhai cwestiynau wedi bod yma yn y Siambr yn ystod yr wythnosau diwethaf a rhywfaint o ymyrraeth yn y cyfryngau a chwestiynau ar y mater hefyd, ond siawns na ddylai gymryd—heb os nac oni bai dylai'r 300 o ddigwyddiadau fwy neu lai sbarduno rhyw fath o broses uwchgyfeirio.
A allwch chi fod yn glir iawn, Gweinidog, ar beth y mae gwaith wedi'i wneud mewn gwirionedd, pa adolygiad sydd wedi digwydd neu sydd heb ddigwydd? Oherwydd rydym yn gwybod o ohebiaeth gan rai o'r teuluoedd sydd wedi dod ymlaen eu bod wedi cael gwybod na chynhaliwyd unrhyw adolygiad, yna cynhaliwyd adolygiad, ac yna ni chynhaliwyd adolygiad, ac yna, yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd adolygiad. Felly, mae hyn yn amlwg yn ddryslyd i deuluoedd. Rwy'n gwerthfawrogi y gallai fod rhai materion yn ymwneud â therminoleg yn ymwneud â hyn, ond byddai'n ddefnyddiol pe gallech egluro a nodi'r hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd. Fel yr wyf yn ei ddeall o rywfaint o ohebiaeth gyda theuluoedd yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd adolygiad gan uned gyflawni'r GIG. Wrth gwrs, mae cyfyngiadau ar yr hyn y gall ymchwilio iddo; ni fyddai ganddyn nhw fynediad, fel rydw i'n ei ddeall, er enghraifft, i bob ffurflen digwyddiad difrifol gan y bwrdd iechyd. Felly, pam mae'r teuluoedd wedi cael camwybodaeth a pham mae hyn wedi bod mor gymhleth?
Yn sicr, fy marn i, Gweinidog, yw y dylid ymchwilio ymhellach o ran yr hyn sydd wedi digwydd o fewn y bwrdd iechyd a'r gwasanaethau mamolaeth yma, a hefyd o fewn Llywodraeth Cymru. Felly, a fyddech chi'n cytuno ei bod hi'n bryd cael ymchwiliad annibynnol llawn i wasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â rhai o'r materion hyn? Rwy'n dweud, yng nghyd-destun un teulu sydd wedi cyflwyno rhai ceisiadau rhyddid gwybodaeth eu hunain, dim ond i weld y cyfeirir atynt fel 'gohebwyr cyfresol', ac meddai un swyddog Llywodraeth Cymru wrth swyddog arall Llywodraeth Cymru, 'Rwy'n meddwl tybed a yw'n bryd ei gau i lawr.' Gallaf weld eich bod wedi eich dychryn o glywed hynny, ac rwy'n falch o hynny, Gweinidog, oherwydd yn sicr nid dyna'r iaith y byddwn i'n disgwyl i swyddogion Llywodraeth Cymru ei defnyddio.
Felly, yn y cyd-destun hwnnw, beth all teuluoedd ei wneud? Os nad ydych chi'n cytuno i ymchwiliad annibynnol llawn, beth all teuluoedd ei wneud, y rheini sydd â phryderon ynghylch y profiad y maen nhw wedi'i gael mewn gwasanaethau mamolaeth yn y bwrdd iechyd? Beth ddylen nhw ei wneud? I bwy y gallan nhw fynd gyda'u profiad fel y gellir ymchwilio'n llawn i'w sefyllfa? Oherwydd, yn amlwg, mae pryder ar hyn o bryd bod swyddogion Llywodraeth Cymru—neu nad oes proses ar waith a all ystyried yn ddigonol rai o'r materion a'r pryderon a godwyd, Gweinidog. Ond, yn y pen draw, dim ond o ganlyniad i bwysau gan deuluoedd, y cyfryngau, cwestiynau yn y Siambr y mae hyn wedi digwydd. Onid ydych chi'n credu ei bod hi'n bryd cael proses nawr i ymchwilio'n llawn i'r hyn sydd wedi digwydd o fewn uned mamolaeth y bwrdd iechyd a hefyd o ran sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r broses hon?
Diolch yn fawr iawn, Russell. Rwy'n cytuno â chi, rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn ei gael yn iawn o ran unrhyw beth sy'n ymwneud â genedigaeth, oherwydd mae'r goblygiadau i'r teuluoedd pan aiff o'i le yn sylweddol iawn, iawn. Felly, mae angen i ni wneud hyn yn iawn, a dyna pam rydyn ni'n ceisio rhoi cymaint o sylw â phosib i hyn.
Rydych chi'n gofyn pam na chafodd unrhyw beth ei wneud yn gynharach. Wel, gallaf eich sicrhau, mewn gwirionedd, fod hwn wedi bod yn rhywbeth sydd wedi bod ar ein hagenda yn Llywodraeth Cymru ers amser maith. Ym mis Tachwedd y llynedd, 2022, gofynnodd y prif swyddog nyrsio i'r uned gyflawni gynnal adolygiad sicrhau ansawdd i'r gwasanaeth. Felly, rwy'n credu bod ychydig o ddryswch wedi bod ynghylch beth yn union mae hynny'n ei olygu. Wel, yr hyn y gofynnwyd i honno ei wneud oedd edrych yn benodol ar yr achos—nawr, mae gwahaniaeth, a dyma lle rwy'n credu bod tipyn bach o ddryswch wedi bod. Rydyn ni nawr yn eu galw'n 'ddigwyddiadau adroddadwy cenedlaethol', ond yn y gorffennol roedden nhw'n arfer cael eu galw'n 'ddigwyddiadau difrifol', a newidiwyd hynny yn 2021, felly rwy'n credu mai dyna lle mae ychydig bach o ddryswch wedi bod, felly gofynnwyd i bobl, 'A wnaethoch chi gynnal adroddiad digwyddiad difrifol?' 'Na, oherwydd nad ydyn nhw'n bodoli mwyach, ond fe wnaethom ni gynnal yr ymchwiliad digwyddiad adroddadwy cenedlaethol'—dim ond i edrych ar faint o'r digwyddiadau adroddadwy cenedlaethol hynny a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod hwnnw, faint o gwynion ddaeth i mewn yn ystod y cyfnod hwnnw, faint o adroddiadau ombwdsmon ddigwyddodd yn ystod y cyfnod hwnnw. Felly, ysgrifennwyd yr adroddiad hwnnw, ac rwy'n hapus i gyhoeddi copi o'r adroddiad hwnnw pe byddai hynny'n ddefnyddiol, ond bydd yn cael ei olygu, oherwydd credaf ei bod yn hollol iawn nad yw'r cleifion yn cael eu hadnabod. Felly, cyn belled â bod dealltwriaeth o hynny.
Ond ar ben hynny, yn amlwg, dim ond dechrau'r broses oedd hynny. Cyflwynwyd hwnnw gan yr uned gyflawni, cyfarfu'r cyfarwyddwr cyffredinol â'r bwrdd iechyd ym mis Rhagfyr y llynedd, cawsom adroddiad pellach—23 Rhagfyr. Cawsom adolygiad wedi'i gwblhau—9 Mawrth 2023. Roedd eitem agenda ar agenda'r Ansawdd Cynllunio a Chyflawni Integredig mewn cysylltiad â mamolaeth a newydd-anedig ym mis Mawrth, ac eto ym mis Ebrill. Felly, nid yw hyn wedi bod oddi ar ein hagenda, rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn—. Nid ydym wedi cael ein gwthio i mewn i hyn, mae hyn wedi bod yn rhywbeth yr ydym wedi bod yn ei fonitro'n ofalus iawn.
Yr hyn a ganodd clychau larwm i ni yn benodol oedd pan welsom ddata Mamau a Babanod: Lleihau Risg drwy Archwiliadau ac Ymholiadau Cyfrinachol ym mis Mai. A dyna pryd roeddem ni'n meddwl, 'Mewn gwirionedd, mae angen i ni fod â mwy o ran yn hwn.' Cafwyd cyfarfod tîm gweithredol ar y cyd ym mis Mehefin, a oedd hefyd yn edrych ar hyn yn fanwl, ac yna, wrth gwrs, cawsom arolygiad dirybudd AGIC ym mis Medi. Felly, ers hynny rwy'n credu bod pethau wedi bod yn cynyddu yn eithaf cyflym, ac fe welsoch fod ymateb yn syth gan y bwrdd iechyd i'r arolygiad hwnnw, a bu ymgyrch recriwtio sylweddol, er enghraifft, ers hynny, ac mae llawer o hyn yn ganlyniad i faterion staffio, ac rwy'n falch iawn o weld bod llawer o'r rheini wedi cael sylw. Ond mae yna ffordd i fynd o hyd, a dyna pam rydyn ni wedi cyrraedd y sefyllfa hon lle rydyn ni'n dweud, 'Mewn gwirionedd, mae angen i ni fod â gwell monitro ar y gwasanaeth penodol hwn.' Felly, siaradais â chadeirydd y bwrdd iechyd ddoe ac egluro hynny, ac roedd yn glir iawn bod y bwrdd iechyd ei hun wedi cyhoeddi heddiw eu bod wedi comisiynu eu hadolygiad annibynnol eu hunain. Felly, fe wnaethoch chi ofyn am adolygiad annibynnol—mae'r bwrdd iechyd yn cynnal adolygiad annibynnol. Mae hwnnw'n mynd i fod yn edrych ac mae'n mynd i fod yn wirioneddol annibynnol; rwy'n gobeithio y bydd pobl yn cael eu calonogi gan hynny. Bydd yn cael ei wneud gan grŵp amlddisgyblaethol sy'n brofiadol iawn. Bydd yn edrych nid yn unig ar gael sicrwydd ar gyfer y sefyllfa bresennol, ond bydd yn edrych ar ddadansoddiad o farw-enedigaethau a marwolaethau newydd-anedig rhwng 2021 a 2023, ar ben profiadau cleifion a staff. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y bwrdd iechyd mewn gwirionedd yn cymryd perchnogaeth o hyn. Mae angen iddynt unioni'r materion eu hunain, a dyna pam rwy'n falch iawn eu bod mewn gwirionedd yn cymryd y camau hynny eu hunain.
Felly, rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig hefyd yw cydnabod, mewn gwirionedd, fod yna ddarn ehangach o waith sy'n cael ei wneud ar draws yr holl adrannau mamolaeth yng Nghymru o ganlyniad i'r hyn a ddysgwyd o brofiad Cwm Taf. Ac mae llawer iawn o adnoddau wedi mynd i mewn i hyn hefyd, ac rydym yn ceisio sicrhau bod y gwersi hynny—a Chwm Taf wedi gweld newid enfawr ers i'r tîm hwnnw fynd i mewn, ac rydym yn ceisio cyflwyno hynny nawr ledled y wlad.
Dwi am ddechrau drwy fynegi fy nghydymdeimladau dwysaf gyda Kate Barrett, Nathalie Borland, Mr and Mrs Channon a phob un o'r teuluoedd sydd wedi dioddef o ganlyniad i ddiffygion yng ngwasanaethau mamolaeth bwrdd iechyd bae Abertawe. Yn ystod cyfnod a ddylai fod yn un llawen i bob un rhiant newydd, roedd y profiad iddyn nhw ei dderbyn yn un y tu hwnt i beth fedraf i ei ddirnad, ac mae e'n parhau i achosi gofid yn eu bywydau nhw heddiw.
Mae'r teuluoedd hyn bellach yn haeddu esboniad llawn a gonest o leiaf o'r union amgylchiadau a arweiniodd at eu profiadau trawmatig. Mae'n destun gofid mawr, felly, eu bod yn teimlo nad yw eu cwestiynau'n cael eu hateb a'u bod yn wynebu dryswch yn hytrach na gonestrwydd. Hoffwn ddechrau, felly, drwy ofyn i'r Gweinidog am eglurhad ynghylch y modd yr ymdriniwyd â'r cais a wnaed gan y teulu Channon yn ôl ym mis Tachwedd 2022, yn dilyn adroddiad Dr Bill Kirkup i'w hachos am adolygiad annibynnol i gyflwr gwasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Ar y pryd, sicrhaodd Llywodraeth Cymru y teulu y byddai adolygiad o'r math hwn yn digwydd, ond mae tystiolaeth a gafwyd o geisiadau rhyddid gwybodaeth dilynol bellach yn bwrw amheuaeth ar yr honiad. Ychydig wythnosau yn ôl, roedd y Prif Weinidog yn rhoi cyfrif am yr anghysondeb ymddangosiadol hwn trwy ddweud bod yr adolygiad wedi'i gynnal fel proses o sicrwydd yn hytrach na phroses ymchwilio. A wnaiff y Gweinidog felly esbonio'r gwahaniaethau ymarferol rhwng y ddwy broses?
Nawr, eglurodd y Gweinidog yn fyr yn gynharach rai o'r materion sy'n ymwneud â'r adolygiad a dywedodd ei bod yn hapus i gyhoeddi adroddiad wedi'i olygu, ond a all y Gweinidog egluro pam yr oedd Llywodraeth Cymru o'r farn bod y trywydd hwn yn ddigonol ar y pryd, yn hytrach nag ymchwiliad—neu fel yr ydym yn ei glywed heddiw, adolygiad sy'n cael ei gynnal gan y bwrdd iechyd—sy'n dod dros flwyddyn yn rhy hwyr?
O safbwynt ehangach, mae'n amlwg bod prinder staffio wedi bod yn bryder cyson yn y bwrdd iechyd. Yn anffodus, nid yw bae Abertawe yn unigryw o bell ffordd yn hyn o beth, fel y nodwyd gan ymchwiliad gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd yn yr haf. Parhaodd nifer y bydwragedd GIG yng Nghymru bron yn sefydlog rhwng Tachwedd 2016 a Thachwedd 2022. Bu gostyngiad hefyd yn nifer y bydwragedd profiadol sy'n gweithio mewn gwasanaethau mamolaeth. Wrth gwrs, dylid edrych ar hwn yng nghyd-destun y ffaith y cynyddodd cyfran yr enedigaethau i fenywod 30 oed neu hŷn i 53 y cant yng Nghymru erbyn 2021. Bu cynnydd hefyd yn nifer y menywod beichiog sydd ag anghenion iechyd ychwanegol yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Am y rheswm hwn rydym yn llwyr gefnogi galwad Coleg Brenhinol y Bydwragedd ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth recriwtio a chadw benodol ar gyfer y sector bydwreigiaeth, a byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog roi syniad a yw'r Llywodraeth wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i'r awgrym hwn. Oherwydd fel yr ydym wedi sôn sawl gwaith, nid yw'r GIG yn ddim heb ei staff, ac mae'r achos hwn yn dangos canlyniadau'r byd go iawn o beidio â gwreiddio'r egwyddor sylfaenol hon ym mhob agwedd ar bolisi iechyd. Mae'r bwrdd iechyd wedi honni ei fod wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru drwy rybudd cynnar ddiwedd 2021 fod lefelau staffio mamolaeth wedi cyrraedd lefel dyngedfennol, ac eto mae'n ymddangos bod lefelau staffio bydwreigiaeth yn dal i gael eu disgrifio fel rhai 'tyngedfennol' yn Ysbyty Singleton, mewn cyfarfod ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd ym mis Gorffennaf eleni, roedd lefelau staffio bydwreigiaeth yn dal i gael eu disgrifio fel rhai 'tyngedfennol' yn Ysbyty Singleton, a oedd yn peri risg i ddiogelwch cleifion. Felly, pa fesurau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru pan gawson nhw eu rhybuddio ddiwedd 2021 am y mater hwn, a pham y gwnaethon nhw brofi'n aneffeithiol yn y pen draw? A all y Gweinidog roi sicrwydd nawr bod y lefelau staffio yn ddiogel ac yn unol â fformiwla y Llywodraeth ei hun?
Yn olaf, dim ond sôn bod y datganiad a anfonwyd heddiw gan brif weithredwr dros dro'r bwrdd iechyd yn dweud bod y bwrdd wedi penderfynu cynnal adolygiad annibynnol oherwydd 'craffu a sylwadau cyhoeddus parhaus'. Yr hyn sy'n cythruddo rhywun yw nad yw'r adolygiad yn cael ei gynnal oherwydd methiannau mewn gwasanaethau mamolaeth, ond oherwydd craffu cyhoeddus. Mae'n ymddangos bod yr un peth yn wir yn yr achos hwn, gyda chyhoeddiad y Gweinidog Iechyd heddiw. Mae'r gwasanaethau wedi cael eu rhoi mewn mesurau uwchgyfeirio oherwydd craffu cyhoeddus a sylw'r cyfryngau, nid oherwydd methiannau. Felly, a all y Gweinidog esbonio pam eu bod wedi cael eu rhoi mewn mesurau uwchgyfeirio heddiw ac nid ynghynt? Croesewir ailagor canolfan Castell-nedd, fel y dywedodd y Gweinidog, a chyflogi 35 o staff mwy arbenigol hefyd, ond pam y caniatawyd iddynt fod yn y sefyllfa islaw'r safon hon i ddechrau? A all y Gweinidog egluro pa gamau monitro a gyflawnodd y Llywodraeth dros y cyfnod hwn pan ganiatawyd i'r sefyllfa waethygu? Diolch.
Diolch yn fawr. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn gweld o'r adroddiad ein bod yn paratoi i gyhoeddi mewn cysylltiad â'r uned gyflawni nifer y digwyddiadau a welwyd o ganlyniad i'r ymchwiliad hwnnw. Felly, rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw cydnabod, mewn gwirionedd, mai sefyllfa yw hon, yr ydym wedi bod yn ei monitro'n ofalus iawn—. Fel yr eglurais wrth Russell, yr amser pan oeddem ni, mewn gwirionedd, yn meddwl, 'Mae angen i ni fod â mwy o ran yn hwn', oedd pan welsom ddata Mamau a Babanod: Lleihau Risg drwy Archwiliadau ac Ymholiadau Cyfrinachol, MBRRACE—felly, roedd hynny nôl ym mis Mai—dyna pryd y gwnaethom ni edrych yn fanwl ar yr hyn sydd angen digwydd yma. Felly, nid yw hyn o reidrwydd wedi cael ei wthio gan ddigwyddiadau allanol, data MBRRACE sy'n nodi bod materion marwolaethau mewn cysylltiad â'r adran benodol honno'n rhywbeth y mae angen i ni edrych arno o ran a yw'n allanolyn ai peidio. Dyna pryd y gwnaethom ddechrau chwarae mwy o ran o lawer. Nid nad oeddem ni'n gwneud hynny o'r blaen—roeddem ni'n ei fonitro mewn data, fel y nodais yn yr holl gyfarfodydd. Yn llythrennol cawsom gyfarfod bob mis i fonitro'r hyn oedd yn digwydd. Felly, nid oedd hyn yn rhywbeth newydd a oedd yn digwydd.
Fe wnaethoch chi ofyn am y sefyllfa recriwtio, ac mae'n hollol gywir, roedd problemau gwirioneddol mewn cysylltiad â recriwtio yn yr adran fydwreigiaeth yn Singleton. Yn aml, mae'n wir mai Gorffennaf yw'r cyfnod anoddaf oherwydd dyna ddiwedd y flwyddyn academaidd. Felly, yr hyn sy'n digwydd yw ein bod ni'n gallu recriwtio llawer ym mis Medi, ond yr hyn sydd gennych chi yw bod llawer o bobl yn ymddeol yn ystod y flwyddyn ac ni allwch recriwtio nes eu bod yn dechrau dod allan o'r prifysgolion y flwyddyn ganlynol. Felly, mae problem ynghylch hynny bob amser, a dyna pam rydyn ni wedi ceisio mynd i'r afael â hynny nawr a chael y—. Mae rhai o'r prifysgolion yng Nghymru bellach yn derbyn ddwywaith y flwyddyn, felly rydym yn ceisio mynd i'r afael â'r broblem benodol honno. Ond gallaf gadarnhau i chi fod gennym ni'r nifer cywir erbyn hyn—mae ganddyn nhw, yn y bwrdd iechyd hwnnw, y nifer cywir o nyrsys band 5 a'r nifer cywir o nyrsys band 6. Mae un swydd wag 15 awr ar gyfer bydwraig band 7, sy'n cael ei recriwtio ar hyn o bryd. Felly, gwelliannau sylweddol o ran recriwtio. Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n tynnu pwysau oddi ar y gwasanaeth, a'r ffaith eu bod wedi blaenoriaethu hyn fel bwrdd iechyd a rhoi adnoddau ychwanegol sylweddol a fydd o gymorth gobeithio. Ond, yn amlwg, yn ogystal â'r hyn sydd wedi bod yn digwydd, mae adroddiad AGIC hefyd yn fesur allweddol i ni, ac mae hynny'n ddylanwadwr go iawn i ni o ran pryd a sut rydym yn ymyrryd.
Pe bai dynion yn rhoi genedigaeth, ni fyddem yn y sefyllfa hon, oherwydd rwy'n gwybod bod problemau penodol ym mwrdd iechyd bae Abertawe, ond mae rhai heriau sylweddol ym mhob gwasanaeth mamolaeth ledled y DU. Cawsom gyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol nyrsio a bydwreigiaeth ar 29 Tachwedd, yr oedd Russell George a minnau ynddo, fel yr oedd un neu ddau Aelod arall. Mae'r sefyllfa yn ddifrifol, mewn gwirionedd. Gwyddom fod cynnydd yn nifer yr achosion o gonorea a chlamydia, a gododd James Evans eiliad yn ôl. Gwyddom fod gennym wrteithiau yn cael eu taflu o gwmpas ar y tir, sy'n achosi anffrwythlondeb mewn dynion. Ac rydym yn cael anawsterau enfawr gyda gordewdra, sydd yn ôl pob tebyg yn 50 y cant o'r garfan sy'n cael ei gwasanaethu yn uned famolaeth ysbyty Caerdydd a'r Fro, sydd ei hun yn achosi anawsterau enfawr yn feddygol o ran rhoi genedigaeth normal. Erbyn hyn mae gennym gyfradd o 40 y cant o enedigaethau cesaraidd ledled y DU, ac mae hynny'n cynnwys yng Nghaerdydd a'r Fro, a dywedir wrthyf fod yr un peth yn wir ym mhob un o'r saith bwrdd iechyd, oherwydd eu bod yn cydweithio, i bob pwrpas, gyda'i gilydd. Dim ond 1 y cant o famau sy'n bwydo o'r fron yn unig dros chwe mis cyntaf bywyd baban. Mae'r rhain yn ystadegau ofnadwy, ofnadwy.
Jenny, mae angen i chi ddod at eich cwestiwn a chanolbwyntio ar Fae Abertawe, os gwelwch yn dda.
Fy nghwestiwn yw, o edrych ar gylch gorchwyl yr adolygiad annibynnol hwn, gallaf weld bod yna obstetregydd ymgynghorol. Gallaf weld bod yna berson newyddenedigol. Nid oes arweinydd bydwreigiaeth gymunedol. Nid oes unrhyw arweinydd bwydo ar y fron ar yr adolygiad annibynnol hwn. Felly, a wnaeth bwrdd iechyd Bae Abertawe ymgynghori â chi ynghylch ei gylch gorchwyl a chyfansoddiad aelodau'r panel hwn, oherwydd fel arall ni fyddant yn gofyn y cwestiynau cywir?
Diolch yn fawr. Dim ond i mi gael ymateb i un o'r cwestiynau nad wyf yn credu imi ymateb iddo gan Mabon ynghylch cadw, gwnaed llawer iawn o waith mewn cysylltiad â chadw gweithwyr ym maes nyrsio a bydwreigiaeth. Yn amlwg, mae hynny'n rhan o'n cynllun gweithlu ac mae'r RCN a Choleg Brenhinol y Bydwragedd wedi bod yn rhan annatod o hynny. Rhan o hynny yw sicrhau bod llawer mwy o hyblygrwydd o ran oriau gwaith a hyblygrwydd, fel nad oes rhaid i ni ddibynnu yn gyson ar weithwyr asiantaeth. Rwy'n falch o ddweud bod hynny'n mynd i'r cyfeiriad cywir.
Mewn ymateb i'r cwestiynau gan Jenny, wel, rydyn ni'n hyfforddi mwy o fydwragedd nag erioed o'r blaen ac rydyn ni'n llwyddiannus iawn, iawn o ran yr hyfforddiant hwnnw. Y mater cadw yw'r her nawr. Dyna pam rwy'n credu ei bod yn dda iawn bod y sefydliadau hynny'n gweithio'n agos iawn gyda ni. Y gyfradd o enedigaethau cesaraidd—wel, un o'r pethau y mae Abertawe yn gobeithio ei wneud yw ailddechrau'r gallu i bobl gael genedigaethau cartref, sy'n amlwg yn awgrymu nad yw'n mynd i fod yn un cesaraidd, felly mae hynny'n bositif, rwy'n credu.
O ran yr adolygiad annibynnol, adolygiad bwrdd iechyd Abertawe yw hwn. Eu hadolygiad nhw yw hwn. Byddant yn edrych arno. Nid ydym wedi cael llawer o'r manylion. Yn llythrennol, siaradais â'r cadeirydd neithiwr, a ddywedodd wrthyf eu bod yn mynd i gynnal yr adolygiad annibynnol hwn. Byddant yn nodi rhywfaint o'r manylion mewn cysylltiad â'r adolygiad hwnnw yn ddiweddarach yr wythnos hon, a bydd ganddynt gynllun gweithredu, rwy'n tybio, i ymateb i beth bynnag y mae adroddiad AGIC yn ei ddweud ddydd Gwener.
Gweinidog, roeddwn i eisiau ymateb i gwpl o bwyntiau a wnaeth Russell George yn ei gyfraniad. Mae'n amlwg bod rhywfaint o ddryswch wedi bod ynghylch yr adroddiadau blaenorol sydd wedi digwydd o ran gwasanaethau mamolaeth ym mwrdd iechyd Prifysgol Abertawe. Rwy'n credu fy mod yn cofio'r Prif Weinidog yn ei alw'n 'broses o sicrwydd' yn lle hynny. Ond fe wnaethoch chi grybwyll y byddech chi'n cyhoeddi adroddiad Tachwedd 2022 yn eich ateb i Russell George. Pryd allwn ni ddisgwyl i hwnnw gael ei gyhoeddi?
Yn ail, fe sonioch chi gynnau am yr adolygiad annibynnol y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn ei gynnal. A allwch gadarnhau a fydd hwnnw hefyd yn archwilio swyddogaeth Llywodraeth Cymru yma ac a wnaeth swyddogion Llywodraeth Cymru ddilyn y prosesau cywir wrth ymdrin â'r bwrdd iechyd a'r gwasanaethau mamolaeth wrth fwrw ymlaen â hynny?
Ac, yn olaf, yn amlwg bydd pobl yn gwylio hyn heddiw ac yn poeni o glywed rhai pethau. Rwy'n dawel fy meddwl o glywed yn eich ateb i Mabon ap Gwynfor am y sefyllfa bresennol gyda staffio yn y gwasanaethau mamolaeth yn y bwrdd iechyd, ond a allwch chi roi sicrwydd heddiw bod gwasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn ddiogel?
Diolch yn fawr. Yn gyntaf oll, gallaf ddweud wrthych chi fod yr adroddiad a gomisiynwyd gan y prif swyddog nyrsio ac a gyflwynwyd gan yr uned gyflawni yn ôl ym mis Tachwedd—rwyf yn hapus i gopi wedi'i olygu o'r adroddiad hwnnw gael ei gyhoeddi cyn diwedd yr wythnos hon. Ond bydd yn cael ei olygu er mwyn diogelu cyfrinachedd enwau'r bobl hynny sy'n rhan ohono.
Mae'r adroddiad annibynnol yn amlwg yn rhywbeth, fel yr awgrymais i, i fwrdd iechyd Abertawe ei arwain. Nhw yw'r bobl sydd wedi penderfynu eu bod am ddod â phobl allanol i mewn, felly rwy'n obeithiol y gallant roi llawer mwy o fanylion am hynny yn ddiweddarach yn yr wythnos, o ran pwy sy'n debygol o fod yn arwain hwnnw a beth fydd pobl yn cyfrannu at yr adroddiad annibynnol hwnnw. O ran staffio, gallaf dawelu eich meddwl, fel yr oeddwn yn tawelu, gobeithio, meddwl Mabon ap Gwynfor yn gynharach, eu bod o ran bandiau 5 a 6, hyd at y lefel a awgrymwyd; dim ond un categori sydd yna lle maen nhw nawr yn recriwtio'n weithredol sef band 7. Felly, dyna'r unig faes lle mae ychydig o her ar hyn o bryd, ond maen nhw'n mynd ati i recriwtio ar gyfer y person hwnnw ar hyn o bryd.
Ac o ran diogelwch, a gaf i ei gwneud hi'n hollol glir? Pe na bai'r gwasanaeth yn ddiogel, byddai'n cael ei gau. Dyna'r sefyllfa. Dim gwasanaeth—. Mae'n anodd iawn dweud nad oes unrhyw risg o gwbl yn unrhyw le, ond, pe na bai'n ddiogel, ni fyddai ar agor ar hyn o bryd, ac rwyf am sicrhau'r cyhoedd yn Abertawe bod y sefyllfa yn Abertawe yn ddiogel i'w defnyddio.
Mae tua 3,500 o fabanod yn cael eu geni yn ardal bwrdd iechyd bae Abertawe, ac mae 95 y cant ohonynt yn cael eu geni yn Singleton, lle cafodd fy nau blentyn eu geni. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan i sicrhau bod gwasanaethau mamolaeth yn fy rhanbarth yn cael eu monitro'n fwy gofalus ac mae'r bwrdd iechyd bellach yn mynd i gael ei gefnogi'n well i wneud y gwelliannau angenrheidiol. Ond hoffwn wybod beth yn union mae hynny'n ei olygu i bobl ar lawr gwlad, oherwydd mae fy etholwyr i gyd eisiau i'r Llywodraeth gydnabod pa mor frawychus oedd hi iddyn nhw wrth geisio penderfynu ar y lle mwyaf diogel i gael eu babanod, a hefyd i weld pa mor bwysig ydyw, yng ngoleuni'r pryderon hyn sydd wedi'u codi, i'r Llywodraeth allu rhoi sicrwydd bod y lle hwn yn fwy diogel o hyn ymlaen a bod y camau a gynigir yn mynd i fod yn ddigonol i drawsnewid pethau. Felly, hoffwn ofyn, Gweinidog: sut mae'r wybodaeth ynghylch yr hyn sy'n digwydd yn y gwasanaethau mamolaeth a pham, yn cael ei chyfleu i'r rhai sy'n disgwyl babanod nawr ac sy'n bwriadu dechrau teulu yn y dyfodol agos ac a fyddai'n cael ei gwasanaethu gan wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe?
Diolch yn fawr. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ni nodi ar ba lefel yr ydym yma. Rydym yn cymryd rhan mewn gwaith monitro gwell. Mae'r swyddogaeth yr ydym yn ei chynnig i'r bwrdd iechyd i'w helpu drwy'r amser penodol hwn yn un gefnogol iawn. Mae'r bwrdd iechyd yn cydnabod bod angen iddynt wneud ychydig yn fwy, a dyna pam mae ganddynt gynllun gweithredu eu hunain y maent wedi ei ddatblygu a byddant yn ymgymryd â'r ymchwiliad annibynnol hwnnw. Rwy'n credu bod y staff ychwanegol eisoes wedi gwneud gwahaniaeth mawr i Singleton, fel y mae ar hyn o bryd. Yr hyn rwy'n falch o ddweud yw y bydd ailagor canolfan enedigaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot, rwy'n credu yn rhoi cyfle hefyd, ar wahân i Singleton, i bobl yn yr ardal honno.
O ran yr hyn sy'n digwydd nawr, rwy'n credu eich bod chi'n hollol iawn, mae angen i ni dawelu meddyliau'r cyhoedd yn y rhan honno o'r byd drwy eu sicrhau bod hon yn uned ddiogel i'w defnyddio. Mae hynny'n gyfrifoldeb i'r bwrdd iechyd; nhw sydd i gyfleu hyn i dawelu meddyliau'r cyhoedd, ac rwy'n siŵr y bydd y bydwragedd sy'n rhan o Ysbyty Singleton ac yn y bwrdd iechyd hwnnw'n gwneud popeth o fewn eu gallu i dawelu meddwl y mamau hynny sy'n edrych ymlaen yn fawr at hyn, yn ôl pob tebyg yr amser mwyaf cyffrous yn eu bywydau, bod hyn, mewn gwirionedd, yn rhywbeth i edrych ymlaen ato, ac y bydd y bwrdd iechyd yno bob cam o'r ffordd gyda nhw.
Ac yn olaf, Altaf Hussain.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Yn anffodus, ni fydd y cyhoeddiad heddiw yn gwneud fawr ddim i leddfu ofnau fy etholwyr. Wedi'r cyfan, rydym wedi bod yn rhybuddio ynghylch y gwasanaeth mamolaeth ym mae Abertawe ers ymhell dros flwyddyn. Gweinidog, pa wersi a ddysgwyd o adolygiad Dr Bill Kirkup? Nid dyma'r tro cyntaf y bu problem gyda'r gwasanaeth mamolaeth yn y rhanbarth. Roeddech chi'n sôn am Gwm Taf. Gweinidog, sut mae'r gwersi o'r methiannau yn y gwasanaeth mamolaeth yng Nghwm Taf wedi cael eu cymhwyso i fyrddau iechyd eraill yng Nghymru? Rydym wedi gweld gwasanaethau eraill yn Abertawe yn cael eu rhoi mewn trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd, ond eto heb weld unrhyw welliannau. Gweinidog, a ydych yn argyhoeddedig fod uwch reolwyr yn dysgu gwersi ac yn gwrando ar arbenigedd clinigol?
Yn olaf, Gweinidog, a ydych yn credu bod ein strwythurau llywodraethu presennol yn ddigonol i alluogi clinigwyr i ddarparu'r gofal rhagorol y gwyddom y gallant ei ddarparu? Yn olaf, sut ydych chi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau dros y Nadolig?
Diolch yn fawr iawn, Altaf. Rwy'n siŵr y byddwch yn deall nad yw'n bosibl i mi siarad am gleifion unigol, ac rwy'n gwybod bod rhai o'r adroddiadau yr oeddech yn cyfeirio atynt yn cyfeirio at gleifion unigol. Rydym yn ceisio dysgu'r gwersi o Gwm Taf a sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno ledled Cymru gyfan. Un o'r rheiny yw'r dull mamolaeth digidol sy'n cael ei gyflwyno ar draws Cymru erbyn hyn. Felly, mae gwersi i'w dysgu, ac rydym yn ceisio sicrhau bod yr unedau hynny ledled Cymru yn dysgu o'r enghraifft yng Nghwm Taf, lle maen nhw wedi llwyddo i drawsnewid pethau yn sylweddol.
Mae uwch reolwyr yn Abertawe yn cymryd hyn o ddifrif. Rwy'n credu bod yr union ffaith eu bod wedi buddsoddi bron i £0.25 miliwn yn ychwanegol yn y gwasanaeth hwn er mwyn sicrhau bod recriwtio yn dangos, o'r amser pan aeth AGIC ym mis Medi, eu bod wedi recriwtio'n egnïol iawn. Ac mae'r ffaith eu bod wedi gallu recriwtio cymaint yn awgrymu bod bydwragedd, mewn gwirionedd, yn awyddus i fynd i Abertawe. Mae hwn yn lle da i fynd iddo, mae'n lle da i weithio, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod pobl yn deall bod hwn yn lle sy'n datblygu, lle rwy'n credu y dylai pobl fod â hyder ynddo Ond yr hyn rydym yn gobeithio y bydd y monitro gwell hwn yn ei gynnig yw hyder ychwanegol o ran cysondeb gweithredu—felly, cysondeb yw'r hyn y mae gennym ddiddordeb ynddo.
Rwy'n cytuno â chi: mae clinigwyr, ar y cyfan, yn cyflawni gofal rhagorol. Yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw sicrhau bod cysondeb o ran cyflawni, a dyna pam mai cyfrifoldeb y bwrdd iechyd yw sicrhau eu bod yn monitro'r data sy'n dod allan o'r adrannau hynny a sicrhau eu bod yn perfformio ochr yn ochr â'r gorau yn y wlad.
Diolch i'r Gweinidog.
Mae eitem 8 wedi'i thynnu'n ôl.
Felly, eitem 9: Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023. Galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru i wneud y cynnig—Lesley Griffiths.
Cynnig NDM8439 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Tachwedd 2023.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig y cynnig. Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023 yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 a Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019. Bydd yr offeryn yn ymestyn ac yn ailsefydlu esemptiad sy'n bodoli eisoes sy'n berthnasol i ffioedd penodol o dan y cynllun cymorth symud ar gyfer nwyddau sy'n symud o Gymru i Ogledd Iwerddon. Ni fydd ffioedd yn daladwy ar gyfer gwasanaethau ardystio cyn-allforio ac allforio ar gyfer rhai planhigion rheoledig a deunydd cysylltiedig. Bydd yr esemptiad yn cael ei ymestyn hyd at 30 Mehefin 2025 ac ni ddisgwylir iddo gael ei ymestyn eto y tu hwnt i'r dyddiad hwn. Mae newidiadau tebyg yn cael eu gwneud mewn mannau eraill ym Mhrydain. Mae hyn yn sicrhau nad yw busnesau yng Nghymru dan anfantais o'u cymharu â'u cymheiriaid yn yr Alban a Lloegr.
Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ystyried drafft a dynnwyd yn ôl o'r rheoliadau hyn yn flaenorol. Cododd y pwyllgor bryderon ynghylch y ddarpariaeth, a geisiodd ymestyn y cynllun cymorth symud yn y rheoliadau coedwigaeth. Tynnodd y pwyllgor sylw hefyd at fater o gysondeb rhwng y rheoliadau drafft a dynnwyd yn ôl a'r nodiadau esboniadol. Mae'n bwysig bod y gyfraith yn glir ac yn hygyrch, felly tynnais y rheoliadau drafft hynny yn ôl, ac mae'r rheoliadau sy'n cael eu trafod heddiw yn mynd i'r afael â'r pryderon hynny. Diolch.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gwnaethom ystyried y rheoliadau drafft hyn ddoe, ac mae ein hadroddiad ar gael o'r agenda heddiw.
Gosodwyd fersiwn gynharach o'r rheoliadau hyn i ddechrau ar 7 Tachwedd, a ystyriwyd gennym ar 20 Tachwedd.
Nododd ein hadroddiad ar y fersiwn gynharach, fel y dywedodd y Gweinidog, rai pwyntiau adrodd, pedwar i gyd, yr ymatebodd y Llywodraeth iddynt yn ddefnyddiol iawn. Fodd bynnag, roeddem yn teimlo ar y pryd fod angen rhywfaint o wybodaeth ac eglurhad pellach mewn cysylltiad â dau o'r pwyntiau adrodd, ac felly fe wnaethom ysgrifennu at y Gweinidog. Felly, yn benodol, roeddem yn ceisio deall pam a sut roedd y Llywodraeth o'r farn bod darpariaeth yn rheoliadau 2019, a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr y llynedd, wedi'i hadfywio gan y dull drafftio yr oeddent wedi'i fabwysiadu yn y rheoliadau drafft a ystyriwyd gennym ar 20 Tachwedd. Roedd gennym hefyd rai pryderon ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng y nodyn esboniadol ac effaith y gwelliannau a wnaed gan y rheoliadau hynny.
Felly, fel y mae ein pwynt rhinweddau cyntaf yn ein hadroddiad newydd ar y rheoliadau newydd hyn yn amlygu, ysgrifennodd y Gweinidog yn ôl atom yn ddefnyddiol ar 27 Tachwedd a chadarnhaodd ei bod yn bwriadu gosod rheoliadau diwygiedig i gyflawni'r un bwriad polisi, ond y byddent yn mynd i'r afael â'r pwyntiau penodol a godwyd gan ein pwyllgor, ac rydym yn ddiolchgar am hynny.
Mae ein hail bwynt adrodd rhinweddau ar y rheoliadau drafft yr ydym yn eu hystyried y prynhawn yma yn tynnu sylw at y ffaith bod yr esemptiad rhag ffioedd y darparwyd ar ei gyfer gan reoliadau 2019 wedi dod i ben ar gam ar 31 Rhagfyr 2022. Felly, er bod y rheoliadau drafft newydd hyn yn ymestyn yr esemptiad rhag ffioedd hyd at 30 Mehefin 2025, yr effaith yw, rhwng 1 Ionawr 2023 a'r dyddiad y daw'r rheoliadau i rym—30 Rhagfyr 2023—nid oedd unrhyw esemptiad rhag ffioedd wedi bod mewn grym. Fodd bynnag, dywedodd y Gweinidog wrthym fod y potensial i hyn effeithio'n andwyol ar fusnesau yn cael ei ystyried yn risg isel.
Felly, diolchwn i'r Gweinidog am ei hymgysylltiad â'n pwyllgor ar y mater hwn ac am roi ystyriaeth drylwyr i'n pryderon ac ymateb yn y ffordd y mae hi wedi gwneud. Mae ein gwaith craffu a chanlyniadau'r craffu ar y rheoliadau hyn yn golygu bod y canlyniadau'n well oherwydd yr ymgysylltiad adeiladol hwnnw. Diolch yn fawr.
Galwaf ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, a diolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am ei ystyriaeth ofalus iawn o'r rheoliadau a dynnwyd yn ôl ac am gyflymu ystyriaeth o'r rheoliadau hyn. Fel y cyfeiriodd y Cadeirydd ato, yn anffodus, ni chafodd yr esemptiad rhag ffioedd o dan reoliadau 2019 ei ymestyn cyn iddo ddod i ben a hynny ar gam, ond ni chafwyd unrhyw effaith. Felly, byddwn yn gofyn i'r Aelodau bleidleisio dros y cynnig hwn. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 10 yw'r cynnig cydsyniad offeryn statudol ar y Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiad Canlyniadol) 2023. Galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd i wneud y cynnig. Lesley Griffiths.
Cynnig NDM8438 Lesley Griffiths
Cynnig bod Senedd Cymru yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiad Canlyniadol) 2023 yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Hydref 2023.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i egluro cefndir y cynnig cydsyniad offeryn statudol mewn cysylltiad â Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiad Canlyniadol) 2023.
Mae'r memorandwm a osodwyd gerbron y Senedd ar 24 Hydref, ynghyd â datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar yr un diwrnod, yn crynhoi darpariaethau'r rheoliadau ac yn nodi'r newidiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol y ceisir caniatâd ar eu cyfer. Hoffwn hefyd ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei waith yn craffu ar femorandwm cydsyniad yr OS, a'i adroddiad, a gyhoeddwyd ar 28 Tachwedd.
Mae hwn yn OS technegol iawn heb unrhyw oblygiadau polisi. Ei ddiben yw diweddaru cyfeiriadau mewn deddfwriaeth sylfaenol bresennol a wneir yn San Steffan o 'gyfraith yr UE a ddargedwir ' i 'gyfraith a gymathwyd' a thermau cysylltiedig. Mae hyn er mwyn adlewyrchu adran 5 o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023, sy'n sefydlu cyfraith a gymathwyd fel corff newydd o gyfraith. Mae'r OS hefyd yn dileu cyfeiriadau at hawliau a gydnabyddir ac sydd ar gael mewn cyfraith ddomestig yn rhinwedd adran 4 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a thelerau fel 'egwyddorion cyffredinol cyfraith yr UE a ddargedwir', oherwydd y newidiadau a wnaed gan Ddeddf REUL i gael gwared ar y nodweddion dehongli cyfraith yr UE sy'n berthnasol i gyfraith yr UE a ddargedwir ar ôl diwedd 2023.
Bydd yr Aelodau'n cofio bod y Senedd yr wythnos diwethaf wedi cytuno i wneud newidiadau cyfatebol i ddiweddaru cyfeiriadau o fewn deddfwriaeth a wnaed gan y Senedd a Gweinidogion Cymru. Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud newidiadau technegol tebyg ar gyfer deddfwriaeth sy'n berthnasol i Gymru mewn meysydd datganoledig a wnaed yn San Steffan yn flaenorol. Yn yr un modd â'r rheoliadau hynny a gymeradwywyd gan y Senedd ar 5 Rhagfyr mewn cysylltiad â chyfraith a wnaed gan Gymru, mae'r rheoliadau hyn yn deillio o Ddeddf y pleidleisiodd y Senedd ddwywaith drosti i atal cydsyniad deddfwriaethol.
Mae'r rheoliadau hyn wedi dod i'r amlwg o amgylchiadau digynsail. Yn ystod hynt Bil cyfraith yr UE a ddargedwir, aeth Llywodraeth y DU yn ei blaen â'r gwaith ar gyfres o welliannau technegol i weithredu newidiadau terminoleg y darperir ar eu cyfer o dan Ddeddf cyfraith yr UE a ddargedwir. Fodd bynnag, ni roddwyd y pŵer i wneud y diwygiadau canlyniadol hyn i Weinidogion Cymru tan yn hwyr yn hynt y Bil. Felly, roedd tipyn llai o amser ar gael i wneud ein OS ein hunain, ac nid oedd gwaith paratoi cyfatebol wedi'i wneud yng Nghymru.
O ystyried yr angen am ddull cymesur o weithredu newidiadau canlyniadol mor fach i'r llyfr statud i Gymru, rydym wedi mabwysiadu dull o flaenoriaethu adnoddau Llywodraeth Cymru ar gyfer deddfwriaeth a wneir gan y Senedd neu Weinidogion Cymru. Ar y sail honno, bu'r Senedd yn trafod ac yn cytuno ar OS i Gymru ar 5 Rhagfyr. Mae'r cynnig cydsyniad offeryn statudol heddiw yn ein galluogi i fanteisio ar waith Llywodraeth y DU, sy'n cynnwys deddfwriaeth a wneir yn San Steffan sy'n berthnasol i Gymru o fewn meysydd datganoledig. Mae hwn yn ymateb pragmatig i flaenoriaethu adnoddau cyfyngedig Llywodraeth Cymru mor effeithiol â phosibl.
Nid oes gwahaniaeth barn rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch yr angen am y newidiadau technegol hyn. Fel arfer, polisi Llywodraeth Cymru yw deddfu dros Gymru mewn materion cymhwysedd datganoledig. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, mae manteision i gydweithio â Llywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig eraill pan fo rhesymeg dros wneud hynny. Yn yr achos hwn, credaf mai dyma'r achos.
Yn adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y rheoliadau hyn, mae'n cyfeirio at ymgysylltiad gwael ymddangosiadol o ran Llywodraeth y DU ar y mater hwn. Rwyf wedi mynd i'r afael â'r amgylchiadau penodol sy'n effeithio ar y rheoliadau hyn ac rwy'n deall bod yna bellach gyfathrebu sefydlog a sylweddol yn dod o Lywodraeth y DU ynghylch gwneud offerynnau gweithredu pellach o dan Ddeddf cyfraith yr UE a ddargedwir.
Rwyf wedi gosod y cynnig yn unol â'r gofyniad o dan Reol Sefydlog 30A. Rwy'n ystyried bod y rheoliadau yn OS perthnasol oherwydd eu bod yn gwneud darpariaethau mewn cysylltiad â Chymru, gan ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd yn gyfan gwbl neu'n rhannol, nad ydynt yn ddarpariaethau deilliadol, canlyniadol, trosiannol, darfodol, atodol neu arbedion sy'n ymwneud â materion nad ydynt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Mae'r diwygiadau yn newidiadau bychain sy'n deillio o newidiadau terminoleg a wnaed gan Ddeddf cyfraith yr UE a ddargedwir. Felly, mae'n briodol ymdrin â'r darpariaethau hyn yn yr offeryn hwn, gan ei fod yn cynrychioli'r cyfrwng deddfwriaethol mwyaf ymarferol a chymesur i alluogi'r darpariaethau hyn i fod yn gymwys yng Nghymru. Ar y sail hon y rhoddir y cynnig cydsyniad offeryn statudol gerbron yr Aelodau i'w gymeradwyo, ac rwy'n cynnig y cynnig. Diolch.
A galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am eich sylwadau cynhwysfawr. Byddaf yn eithaf byr, ond fy mwriad yw eich anfon i ffwrdd gyda neges galonog ar gyfer y Nadolig hefyd.
Gwnaethom osod ein hadroddiad ar femorandwm Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiad Canlyniadol) 2023 ar 28 Tachwedd. Fel y mae'r Gweinidog wedi'i amlinellu, mae'r rheoliadau'n gwneud diwygiadau canlyniadol i wahanol ddarnau o ddeddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd datganoledig i ddiweddaru cyfeiriadau at 'gyfraith yr UE a ddargedwir' i 'gyfraith a gymathwyd' o ganlyniad i Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023.
Nawr, mae'n bosibl bod enw'r rheoliadau hyn yn swnio'n eithaf cyfarwydd i ni, gan fod diben cyffredinol y rheoliadau yr un fath â diben Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023, a gymeradwyodd y Senedd yr wythnos diwethaf. Fel rhan o'n hystyriaeth o'r memorandwm, gwnaethom felly ofyn i'r Gweinidog egluro dull y Llywodraeth o wneud y gwelliannau canlyniadol hyn, ac yna mae'n dod yn eithaf diddorol.
Cadarnhaodd y Gweinidog wrthym mai'r dull a fabwysiadwyd oedd defnyddio offeryn statudol Cymru, a gyflwynwyd gan Weinidogion Cymru, i wneud newidiadau i ddeddfwriaeth a wnaed gan y Senedd a Gweinidogion Cymru, gan gynnig defnyddio offeryn statudol y DU ar gyfer newidiadau i Ddeddfau'r DU mewn meysydd datganoledig. Mae hwn yn eglurhad defnyddiol.
Gofynnom hefyd i'r Gweinidog pam nad oedd un offeryn statudol Cymru yn cael ei ystyried yn briodol i wneud yr holl newidiadau perthnasol mewn meysydd datganoledig. Fel y mae'r Gweinidog newydd amlinellu i ni, digwyddodd y broses o roi pwerau cydamserol i Weinidogion Cymru yn eithaf hwyr ym mhroses Llywodraeth y DU ar gyfer diweddaru'r ddeddfwriaeth, ac mae clywed hyn yn siomedig, oherwydd roedd hyn yn golygu nad oedd yn ymarferol nac yn effeithlon nac yn hawdd ei gyflawni yn yr amser oedd ar gael i ofyn i Gymru gael ei thynnu allan o gwmpas offeryn statudol Llywodraeth y DU a oedd eisoes yn datblygu'n dda. Ond mae'r esboniad hwnnw'n ddefnyddiol.
Ond mae'n anffodus, byddai ein pwyllgor yn nodi, ei bod yn ymddangos bod yr ymgysylltiad gwael ymddangosiadol rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i gydsynio i gynnwys darpariaethau datganoledig o fewn y rheoliadau sy'n ddarostyngedig i'r memorandwm.
Rydym, fodd bynnag—a dyma'r neges galonogol, Dirprwy Lywydd, i chi fynd â hi gyda chi—yn ddiolchgar iawn fel pwyllgor fod y Gweinidog wedi cyflwyno cynnig mewn cysylltiad â'r rheoliadau i'n galluogi i gael y ddadl hon heddiw, ac i gofnodi'r pwyntiau hyn o eglurhad. Byddwch yn ymwybodol, Dirprwy Lywydd, ein bod wedi galw dro ar ôl tro fel pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion i geisio cydsyniad y Senedd ar gyfer defnyddio is-ddeddfwriaeth y DU i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd datganoledig. Mae'n farn a rannwyd gan ein pwyllgor rhagflaenol, Dirprwy Lywydd, yn wir. Felly, mae hyn yn bwynt pwysig o egwyddor i ni a gobeithiwn fel pwyllgor y bydd Llywodraeth Cymru yn wir yn parhau â'r dull gweithredu derbyniol hwnnw y mae wedi'i ddefnyddio heddiw wrth gyflwyno'r cynnig sydd ger ein bron nawr ac yn y dyfodol hefyd.
Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddweud 'Nadolig llawen iawn' wrth holl aelodau'r pwyllgor, wrth Aelodau'r Senedd sydd wedi trafod hyn hefyd, ond mae'n rhaid i mi ddweud hefyd, wrth ein tîm pwyllgor cwbl ardderchog, sydd wedi ein gwasanaethu'n arbenigol drwy eleni, fel y gwnân nhw bob blwyddyn. Diolch yn fawr iawn.
A galwaf ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch i chi, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, am y sylwadau yna. Yn wir, dyma'r tro cyntaf, rwy'n credu, i ni drafod cynnig cydsyniad offeryn statudol ers dwy flynedd yn ôl pob tebyg, felly rwy'n ddiolchgar iawn am eich neges galonogol, ac fel rwy'n dweud, byddwn i'n gofyn i'r Aelodau gymeradwyo'r cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
A daw hynny â busnes heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 16:58.