Y Cyfarfod Llawn

Plenary

15/11/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf fydd y cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jayne Bryant.

Bwlio mewn Ysgolion

1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ynghylch mynd i'r afael â bwlio gwrth-LHDTC+ mewn ysgolion? OQ60230

Mae bwlio'n gwbl annerbyniol. Rydym am weld diwedd ar bob math o fwlio ac rydym yn diweddaru ein canllawiau gwrth-fwlio statudol, 'Hawliau, parch, cydraddoldeb', sy'n nodi bod bwlio gwrth-LHDTC+ yn cael ei gynnwys yn strategaeth atal bwlio ysgolion mewn ffordd sy'n ystyried anghenion dysgwyr.

Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog, ac am yr ymrwymiad cadarn hwnnw. Ni allwn danamcangyfrif yr effaith y gall bwlio gwrth-LHDTC+, neu unrhyw fath o fwlio, ei chael ar bobl ifanc, ac mae'n gwbl briodol ein bod yn gwneud safiad ar hyn. Mae’r wythnos hon yn Wythnos Gwrth-fwlio, a’r thema eleni yw ‘Gwnewch Sŵn am Fwlio’. Mae’r Gynghrair Gwrth-fwlio, sy’n cydgysylltu'r Wythnos Gwrth-fwlio bob blwyddyn, yn dweud ar eu gwefan,

'Dewch inni ddod at ein gilydd yn yr Wythnos Gwrth-fwlio i drafod beth mae bwlio'n ei olygu i ni, sut mae tynnu coes yn gallu troi’n rhywbeth mwy niweidiol, a beth y gallwn ei wneud i atal bwlio. Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth a gwneud safiad yn erbyn bwlio.'

'O’r maes chwarae i’r Senedd, ac o’n ffonau i’n cartrefi, gadewch inni wneud sŵn am fwlio.’

Felly, Ddirprwy Weinidog, a gaf fi ofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r Wythnos Gwrth-fwlio, ac a ydych chi'n cytuno â mi ei bod yn bwysig fod gan bob un ohonom gyfrifoldeb i siarad am fwlio ac i fynd i'r afael â bwlio?

A gaf fi ddiolch i’r Aelod, Jayne Bryant, am ei chwestiwn? A chytunaf yn llwyr fod gan bob un ohonom gyfrifoldeb i fynd i'r afael â bwlio ac i sôn amdano, ac rydych yn llygad eich lle yn dweud na allwn danamcangyfrif yr effaith y gall bwlio gwrth-LHDTC+, neu unrhyw fath o fwlio o ran hynny, ei chael ar bobl ifanc yn eu bywydau. Rydym yn gweithio’n agos, fel Llywodraeth Cymru, gyda’r Gynghrair Gwrth-fwlio, sy'n gyfrifol am yr Wythnos Gwrth-fwlio, ac rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â nhw ers tymor diwethaf y Senedd, sydd wedi golygu ein bod wedi cael adnoddau dwyieithog newydd i helpu i atal bwlio, ac maent ar gael bob hydref i ddysgwyr ac addysgwyr, gan gynnwys yn 2023.

Rydym yn siarad am yr hyn a ddywedoch chi, effaith bwlio LHDTC+ a’r effaith a gaiff ar bobl wrth iddynt dyfu i fyny, a chredaf fy mod wedi crybwyll hyn yn y Siambr hon o’r blaen—fy mod wedi cael fy mwlio yn yr ysgol uwchradd. Roeddwn yn meddwl ar y pryd fod hynny'n digwydd am fy mod yn wahanol. Credaf fod plant wedi nodi rhywbeth ynof nad oeddwn wedi'i nodi ynof fy hun ar y pryd, a phe baech yn meddwl amdano nawr, rwy'n credu y byddem yn ei alw yr hyn ydoedd: bwlio homoffobig. Parhaodd am bedair blynedd a hanner a dim ond pan benderfynais fy mod wedi cael digon y daeth i ben, am fy mod wedi clywed bod y grŵp yn bwriadu rhoi powdr cosi yn fy nillad ar ôl y wers addysg gorfforol, ac ni allwn oddef meddwl am y fath gywilydd. Felly, dyna pryd y gwnaeth un o fy ffrindiau wasgu arnaf i ddweud wrth athro fel y gallem roi diwedd ar y peth. Felly, cymerodd amser hir imi ailadeiladu fy hunanhyder ar ôl i hynny ddigwydd. Felly, fel y dywedoch chi yn y geiriau hynny, ‘o’r maes chwarae i’r Senedd’, mae’n bwysig iawn ein bod yn gwneud sŵn am fwlio. Rydym yn rhannu ein profiadau, ni waeth pa mor anodd ydynt, ac felly mae’n wir, os ydym yn eu rhannu yn y Senedd hon, fod hynny, gobeithio, yn rhywbeth sydd wedyn yn cael ei drosglwyddo i feysydd chwarae a lleoliadau ar draws ein cymunedau yng Nghymru.

Cytunaf â’r Aelod dros Orllewin Casnewydd—mae bwlio'n falltod yn ein hysgolion ac yn rhywbeth y mae angen i bob un ohonom weithio tuag at ei gondemnio a’i ddileu. Rydym wedi gweld adroddiadau ar-lein yn ddiweddar am gynnydd yn nifer y disgyblion mewn ysgolion yng Nghymru a allai fod yn hunan-adnabod fel cath neu 'furries'. Cytunaf yn llwyr â phennaeth yr ysgol dan sylw yn y stori ddiweddaraf am hyn nad oes angen blychau gwasarn cathod ar y plant hyn; mae angen cymorth iechyd meddwl priodol arnynt, a chyllid ychwanegol i’n hysgolion. Nid oes angen Llywodraeth arnynt sy'n annog plant a phobl ifanc i hunan-adnabod fel cath, moronen, 'furry' neu beth bynnag.

Yn ogystal ag amharu ar addysg disgyblion, gan roi ein hathrawon mewn sefyllfa amhosibl, mae’n anochel y bydd yn cynyddu bwlio yn ein hysgolion. Onid ydych yn cytuno â mi, fel y profwyd gan y straeon diweddar yn y wasg, na fydd gwthio eithafion yr ideoleg yr ydych ei heisiau yn ein hystafelloedd dosbarth ond yn mynd i gael effaith negyddol, cynyddu bwlio, ac mai'r hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw mwy o gymorth iechyd meddwl yn ein hysgolion, ac er eich bod chi a'r Gweinidog addysg yn dweud wrthym o hyd fod mwy o arian yn mynd i'n hysgolion ar gyfer cymorth iechyd meddwl, nid wyf yn ei weld yn digwydd ar lawr gwlad?

Mae'n drist, ond nid yn syfrdanol, eich bod yn ceisio creu stori gyffrogarol o fater sy'n wirioneddol bwysig a heriol i bobl ifanc, a hefyd i athrawon a staff cymorth mewn ysgolion sydd am wneud y peth iawn ar ran pobl ifanc a chael gwared ar fwlio ym mhob un o'n lleoliadau dysgu. Ac mae'n ymwneud â chreu strategaeth sy'n gynhwysol, fod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, ac y byddant yn gallu—. Mae pobl ifanc yn gwylio yma yn yr oriel heddiw, a’n neges iddyn nhw yw nad ydym am greu straeon cyffrogarol na phenawdau mawr, ond yn hytrach ein bod yn ceisio gwneud y peth iawn a sicrhau y gallant ddysgu mewn amgylchedd lle cânt eu cefnogi a lle maent yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys.

13:35
Mynegai Rainbow Europe

2. A wnaiff y Gweinidog ystyried gwneud cais i fod yn rhan o fynegai Rainbow Europe yr International Lesbian and Gay Association er mwyn mesur cynnydd yn erbyn y nod o fod yn wlad LHDT-gyfeillgar? OQ60219

Mae Llywodraeth Cymru yn trafod â thîm ILGA Europe i weld beth yw’r ffordd orau o dynnu sylw at gynnydd Cymru yn erbyn y nod o fod y wlad fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LGBTQ+. Mae hyn yn profi yr ymrwymiad sydd yn y cynllun gweithredu LGBTQ+ i gryfhau a dangos ein gwerthoedd a’n cefnogaeth yng Nghymru a thu hwnt.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog. Roedd e'n ysbrydoliaeth i fod yn Melita yn ddiweddar a gweld, adeg EuroPride, y cynnydd aruthrol sydd wedi bod yn y wlad honno, oedd yn wlad draddodiadol gymdeithasol geidwadol. Doedd dim cynnydd wedi bod o ran hawliau LHDTC+ am 40 mlynedd ers dad-droseddoli perthnasau cyfunrywiol. Ond nawr, mae Melita wedi bod yn rhif 1 ym mynegai Enfys Ewrop am y saith mlynedd diwethaf oherwydd penderfynoldeb sicrhau bod hawliau yn cael eu parchu, tra'n bod ni, ar yr un llaw, wedi gweld y Deyrnas Gyfunol, wrth gwrs, yn syrthio'n is ac yn is, a nawr yn safle 17, oherwydd yr agweddau hyll dŷn ni wedi clywed o'r meinciau Ceidwadol eto y prynhawn yma. 

Diolch am eich cwestiwn. Dwi'n cytuno bod safle bresennol yr UK yn ofnadwy ac yn embaras. 

Roeddem yn arfer bod yn rhif 1. Ar un adeg, y DU oedd y wlad fwyaf cyfeillgar i bobl LHDT+ yn Ewrop, ac fel y dywedwch, rydym bellach yn yr ail safle ar bymtheg allan o 49 o wledydd Ewropeaidd. A gwelais fideos ohonoch allan ym Malta, ac mae'n rhaid imi ddweud bod rhan ohonof braidd yn genfigennus na chefais innau fynd allan i EuroPride—efallai un diwrnod. Ond rydym yn gweithio'n galed, fel rhan o'r cynllun gweithredu LHDTC+—y mae Plaid Cymru yn rhan ohono, fel ein partneriaid yn y cytundeb cydweithio—ar sut y gallwn sicrhau bod safle Cymru, a'r gwaith y ceisiwn ei wneud, wedi'i gynnwys gyda gwaith tîm ILGA Europe. Felly, rydym yn archwilio opsiynau i weld sut y gallwn dynnu sylw at y gwaith a wnawn, a'n sefyllfa ledled y DU, a pham ein bod yn mynd i gyfeiriad arall wrth ddefnyddio'r dull gwahanol hwnnw. A gwn fod tîm o swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cael cyfarfod rhagarweiniol gyda thîm polisi ILGA Europe yr haf diwethaf. Felly, rydym yn parhau â’r sgyrsiau hynny i archwilio sut y gallwn wneud hynny, ac un ffordd o’i wneud, o bosibl, yw drwy’r adolygiad blynyddol, a gyhoeddir bob mis Ionawr fel arfer. Felly, rwy’n fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelod am y gwaith hwnnw.

Fel y mae Adam Price eisoes wedi'i ddweud, cynrychiolir y Deyrnas Unedig ar fynegai Rainbow Europe. Ac un o'r pethau y mae'r mynegai yn eu hystyried yw i ba raddau y mae pobl LHDT yn cael eu cefnogi, ni waeth beth fo'u cefndir, eu rhywedd, eu dosbarth cymdeithasol, eu hil, eu hanabledd, neu hyd yn oed y ffordd y maent yn pleidleisio. A dyna pam yr hoffwn godi digwyddiad Pride Cymru eleni, lle gwisgodd y Prif Weinidog fathodyn a ddywedai nad oedd erioed wedi cusanu Tori. Ac wrth wneud hynny, cafodd ei gyhuddo o fychanu Ceidwadwyr LHDT. Ac mae gennyf ddyfyniad gan un ohonynt y siaradais â nhw wrth baratoi ar gyfer y cwestiwn hwn, a ddywedodd,

'Mae’n siŵr fod y cyfan yn jôc fawr i’r Prif Weinidog. Nid oes ganddo unrhyw syniad o'r brwydrau rwyf wedi byw drwyddynt fel unigolyn LHDT. Dychmygwch fyw mewn gwlad lle mae eich arweinydd eich hun yn mynd ati i wahaniaethu yn eich erbyn.'

Mae hon yn Wythnos Gwrth-fwlio. Rydym eisoes wedi clywed gan Jayne Bryant y gall tynnu coes droi'n rhywbeth mwy niweidiol. Felly, a wnaiff y Blaid Lafur atal dosbarthiad y bathodynnau hyn yn y dyfodol?

Rwy’n cofio pan ddaeth y slogan hon i'r amlwg gyntaf, ac fe’i lleisiwyd gyntaf mewn gorymdaith Pride yn Llundain, gyda'r slogan ‘Nid wyf erioed wedi cusanu Tori’. A’r flwyddyn nesaf, daeth grŵp Ceidwadwyr LHDTC allan gydag un yn dweud ‘Rwyf wedi cusanu Tori’, felly yn sicr, fe’i cymerwyd yn y ffordd y'i bwriadwyd bryd hynny. Ac unwaith eto, credaf ein bod yn bychanu adeg wirioneddol heriol i aelodau'r gymuned LHDTC+ drwy geisio sgorio'r pwyntiau gwleidyddol pleidiol hynny, pan ddylem fod yn gweithio gyda'n gilydd i gefnogi cymunedau. Ac mewn gwirionedd, Tom, efallai y dylai mwy o'ch aelodau ddod i Pride, i gefnogi ein pobl ifanc a'n cymuned LHDTC+ yng Nghymru.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Altaf Hussain.

Diolch, Lywydd. Weinidog, yr wythnos hon, rydym yn nodi Wythnos Gwrth-fwlio. Gall bwlio ddigwydd ar sawl ffurf a gall ddigwydd mewn llawer o leoliadau, o’r maes chwarae i ystafell y bwrdd, ac mae gormod lawer o bobl yn dioddef bwlio. Ac mae'r bwlio hwnnw fel arfer yn ymwneud â nodwedd warchodedig. Yr wythnos diwethaf, tynnodd adroddiad i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sylw at gynnydd mawr mewn cam-drin hiliol mewn ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol. Weinidog, sut rydych chi'n gweithio gyda’r Gweinidog addysg i fynd i’r afael â bwlio hiliol yn ein hysgolion?

Diolch yn fawr iawn, Altaf Hussain, am eich cwestiwn gwirioneddol bwysig. Rydym newydd gael sgwrs wirioneddol bwysig am fynd i’r afael â bwlio mewn ysgolion mewn perthynas â’n canllawiau ar fwlio, 'Hawliau, parch, cydraddoldeb', sydd wrthi'n cael eu diweddaru. Ac wrth gwrs, mae hyn yn cyd-fynd yn llwyr â’n 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'. Yn wir, ddoe, roeddwn yn falch iawn o’r cyfle i fynd i ddiwrnod HMS yng Nghaerdydd ar sut roedd ysgolion yng Nghaerdydd, gan ddod â hyn ynghyd, yn cydymffurfio â'r 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' drwy ddysgu proffesiynol amrywiaeth a gwrth-hiliaeth, sy'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a’i arwain gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Ac ymrwymodd yr athrawon a'r disgyblion y cyfarfûm â nhw yno i'r 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'. Wrth gwrs, mae rhan o hynny'n ymwneud â gwneud yn siŵr a nodi unrhyw achosion o fwlio. Ond hefyd, yr hyn a oedd mor wych am yr ysgol honno yw eu bod wedi cynhyrchu eu cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol eu hunain—yr ysgol yr ymwelais â hi, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Paul, yn Grangetown—ac roeddent yn falch ohono. Ac maent yn credu mai dyma’r ffordd y gallant ddysgu’n effeithiol fel dinasyddion Caerdydd a Chymru.

Diolch, Weinidog. Hoffwn ymhelaethu ar yr ateb a gafodd Jayne Bryant yn gynharach. Gwyddom y gall bwlio, boed yn gam-drin hiliol, ymosodiadau sy’n ymwneud ag anabledd plentyn, neu’n wrth-LHDT, fod yn ddi-baid yn yr oes fodern dechnolegol sydd ohoni. Yn aml, nid oes dihangfa, Weinidog. Sut mae eich Llywodraeth yn gweithio gyda phedwar tîm seiberdroseddu'r heddlu a Tarian i helpu i gyfleu’r neges i bobl ifanc nid yn unig fod y math hwn o fwlio yn drosedd casineb bosibl, ond y gallai fod yn seiberdrosedd hefyd? Yn sicr, y ffordd orau o fynd i’r afael â’r math hwn o fwlio yw drwy addysgu pobl ifanc am ganlyniadau gweithredoedd o’r fath.

Rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn hwnnw hefyd a'r cwestiwn dilynol. Fel y dywedais, rydym yn diweddaru ein canllawiau gwrth-fwlio statudol, a arweinir, wrth gwrs, gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg. Mae hefyd yn bwysig iawn eu bod yn cryfhau ein dulliau o atal a mynd i'r afael â bwlio ar sail rhagfarn o unrhyw fath. Ac wrth gwrs, rydym hefyd wedi clywed y bydd hyn yn cynnwys bwlio homoffobig a thrawsffobig hefyd. Ond o ran yr ystod eang o fwlio, a all fod yn rhan o droseddau casineb ac arwain at droseddau casineb, fe wyddom fod ein cwricwlwm newydd, sy’n cael ei gyflwyno yn yr ysgolion, yn ein helpu i fynd i’r afael â hyn. Credaf mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys yr heddlu, ac fel y dywedwch, credaf fod hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid inni ei gydnabod mewn perthynas â seiberfwlio hefyd. Mae'n rhywbeth lle mae gennym gynllun gweithredu amlasiantaethol, er enghraifft, i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol rhwng cymheiriaid mewn lleoliadau addysg, a chamau gweithredu penodol iawn o ran y ffordd y gallwn fynd i'r afael â hyn, ond yn arbennig, gan ystyried anghenion dysgwyr â nodweddion gwarchodedig.

Diolch eto, Weinidog. Wrth gwrs, mae canlyniadau’r math hwn o fwlio yn mynd ymhell y tu hwnt i'r posibilrwydd o record droseddol i'r bwli. Mae’n rhaid i’r unigolyn sy’n cael eu bwlio ymdrin â'r canlyniadau ymhell ar ôl i’r gamdriniaeth ddod i ben, a gorfod ymdopi â thrawma gydol oes yn aml. Yn anffodus, fel yr amlygwyd yn ddiweddar mewn adroddiad gan Samaritans UK, mae llawer o bobl ifanc LHDTC+ yn lladd eu hunain. Dywed cymaint ag un o bob pedwar eu bod wedi ceisio lladd eu hunain yn y gorffennol. Mae Samaritans UK yn galw am well rhwydweithiau cymorth i bobl ifanc LHDTC+. Mae cynghorwyr sydd â phrofiad o'u bywydau eu hunain wedi dweud bod y cymorth pwysicaf y gall pobl ei gael i'w gael weithiau yn eu cymuned eu hunain. Gall grwpiau hamdden a llesiant a arweinir gan, ac ar gyfer pobl LHDTC+ fod yn achubiaeth. Weinidog, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i sefydlu ac ariannu grwpiau o’r fath? Diolch yn fawr iawn.

13:45

Diolch yn fawr iawn. Credaf fod hyn yn dilyn ymlaen, i raddau helaeth, o'r ymatebion gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn gynharach. Ac mae'n dda eich bod wedi tynnu ein sylw at adroddiadau, fel yr un gan Samaritans UK, a'n bod yn ystyried ac yn cysylltu'n agos ag unrhyw dystiolaeth y gallwn ei chael ac unrhyw argymhellion i'n cefnogi. Ond soniais am y cwricwlwm, a chredaf mai’r hyn sy’n dod yn glir iawn yw bod elfen addysg cydberthynas a rhywioldeb ein cwricwlwm yn bwysig iawn ac o gymorth, gan helpu dysgwyr i ffurfio a chynnal ystod o berthnasoedd yn seiliedig ar barch ac ymddiriedaeth ar y ddwy ochr. Dyna sylfaen addysg cydberthynas a rhywioldeb, ac mae gan ysgolion a lleoliadau ran mor bwysig i’w chwarae. Ni allaf ond ystyried y newid y byddai hynny wedi'i wneud i’n Dirprwy Weinidog, a gwn fod hyn wedi’i fynegi yn y Siambr—pe byddem wedi cael addysg cydberthynas a rhywioldeb o'r fath yn ystod eich plentyndod a phlentyndod eraill yma heddiw. A'r hyn sy'n bwysig iawn yw elfen rymuso, diogelwch a pharch y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb gorfodol. Felly, credaf fod gennym yr holl ddulliau gweithredu—mae gennym y dulliau—mae gennym ymrwymiad ein gweithwyr addysgu proffesiynol, yn ogystal â'n dysgwyr, i fynd i'r afael â hyn yn llawn.

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Fel y gwelsom yn y ffigurau a gyhoeddwyd heddiw, mae chwyddiant yn gostwng, ond nid yw hynny’n golygu bod y rhan fwyaf o nwyddau a gwasanaethau yn rhatach i’w prynu, dim ond fod prisiau’n codi’n llai cyflym, ac mae Sefydliad Resolution wedi rhybuddio bod difrifoldeb argyfwng chwyddiant y DU wedi arwain at brisiau llawer uwch. A thros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae cost ynni wedi codi 49 y cant, tra bo prisiau bwyd wedi codi 28 y cant, llawer mwy na'r 14 y cant ar enillion cyfartalog dros y cyfnod hwn, ac wrth gwrs, mae rhenti a morgeisi eisoes wedi cynyddu. Gellid dadlau bod yr argyfwng ariannol sy’n wynebu aelwydydd Cymru y gaeaf hwn hyd yn oed yn fwy difrifol na’r llynedd, gan fod llawer o’r cymorth sydd ar gael gan y Llywodraeth wedi diflannu ac unrhyw arbedion eisoes wedi’u defnyddio gan aelwydydd. Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn parhau i weld y niferoedd uchaf erioed o bobl sydd angen cymorth mewn argyfwng.

Mae Plaid Cymru yn falch o’r camau rydym eisoes wedi’u cymryd gyda’r Llywodraeth i roi mwy o arian ym mhocedi pobl ac i helpu cyllidebau i fynd ymhellach drwy’r cytundeb cydweithio, gyda chinio ysgol am ddim, wrth gwrs, i blant ysgol gynradd, a sicrhau mwy o ofal plant am ddim. Ond fel y tanlinellwyd gan lawer o argymhellion adroddiad y grŵp arbenigol ar yr argyfwng costau byw, a adleisiwyd gan Blaid Cymru yn ein galwadau yr wythnos hon, mae mwy y dylai Llywodraeth Lafur Cymru ei wneud i gefnogi’r rheini sydd mewn angen. Felly, a wnaiff y Gweinidog ymateb i’r galwadau hynny, sydd o fewn pŵer Llywodraeth Cymru, ac y cyllidebwyd ar gyfer llawer ohonynt eisoes, er enghraifft y gwaith ar system fudd-daliadau Cymru a rhoi iteriad nesaf rhaglen Cartrefi Clyd ar waith? A ydych yn derbyn mai cynnydd araf a wnaed ar y camau hyn y nododd y grŵp arbenigol eu bod mor bwysig? Felly, pryd y gallwn gael diweddariadau ar y rheini, os gwelwch yn dda?

Diolch yn fawr. Wel, mae hyn yn rhywbeth lle mae’r dystiolaeth yn glir iawn wrth ddod â’r holl adroddiadau hynny ynghyd, ac yn wir, mae’r ymgynghoriad a gynhaliwyd gennym o ran bwrw ymlaen â’n strategaeth tlodi plant—. Fe wnaethom gomisiynu'r grŵp cynghori technegol i edrych ar effaith yr argyfwng costau byw. Er gwaethaf y gostyngiad mewn chwyddiant, fe wyddom fod yr argyfwng costau byw a'r effaith, yn enwedig o ran tlodi tanwydd a thlodi bwyd, yn taro cartrefi’n galed yng Nghymru. Ond rydym wedi ymrwymo, fel y gwyddoch, i gefnogi’r aelwydydd difreintiedig hynny drwy’r holl raglenni sy’n darparu cymorth wedi’i dargedu i leddfu pwysau ariannol.

Credaf mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yw ein bod wedi dyrannu dros £18 miliwn i gefnogi sefydliadau bwyd cymunedol, er enghraifft, i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac ystod eang o wasanaethau. Ond credaf ei bod yn bwysig cydnabod bod ein rhaglen Cartrefi Clyd newydd bellach wedi’i chyhoeddi ac ar ei ffordd, a chredaf, o edrych ar flwyddyn olaf cynllun Nyth, er enghraifft—dyma'r flwyddyn olaf, ond dyma rai uchafbwyntiau o gyfarfod cynnydd gyda Nyth ychydig wythnosau yn ôl, ar 31 Hydref: cafodd 2,246 o aelwydydd becyn am ddim o fesurau effeithlonrwydd ynni a chafodd 7,813 o aelwydydd gyngor am ddim ar effeithlonrwydd ynni. Ac mae'r ffyrdd yr ydym ni, ar draws y Llywodraeth—y Gweinidog Newid Hinsawdd yn ogystal â minnau wrth gwrs—yn buddsoddi mewn mynd i'r afael â thlodi tanwydd a thlodi bwyd yn hanfodol bwysig i ymateb i'r adroddiad pwysig hwn a'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg o effaith barhaus methiant Llywodraeth y DU i fynd i’r afael ag anghenion pobl yng Nghymru, yn enwedig y ffaith nad ydynt yn ymateb i’n galwadau am dariff cymdeithasol, nac yn ymateb i’n galwadau am roi diwedd ar daliadau sefydlog mesuryddion rhagdalu ychwaith.

13:50

Diolch. Gan droi yn awr at y gwrthdaro parhaus yn Israel a Phalesteina, sydd wedi arwain at golli miloedd o fywydau, fel y gwyddoch mae’r gwrthdaro hwn yn gwaethygu argyfwng ffoaduriaid sydd eisoes yn ddifrifol iawn yn y rhanbarth. Mae 1.5 miliwn o bobl wedi’u dadleoli’n fewnol yn Gaza, sy’n fwy na hanner y boblogaeth, ac mae hanner yr holl dai yn llain Gaza, sydd o dan warchae, eisoes wedi’u dinistrio neu eu difrodi. Mae Prif Weinidog yr Alban, Humza Yousaf, ynghyd â City of Sanctuary, wedi galw ar Lywodraeth y DU i groesawu ffoaduriaid Palesteinaidd i’r DU ac i’r gymuned ryngwladol ymrwymo i raglen ffoaduriaid fyd-eang ar gyfer pobl Gaza. Pan fydd y DU wedi gwneud hyn, mae Prif Weinidog yr Alban wedi dweud bod eu gwlad yn fodlon cynnig diogelwch a noddfa i’r rheini sy’n cael eu gorfodi i ffoi rhag marwolaeth, afiechyd a dinistr.

Yn y cynllun cenedl noddfa a cheiswyr lloches, un o’r pwyntiau gweithredu yw parhau i hyrwyddo’r gwerthoedd Cymreig o groesawu’r rhai sy’n ffoi rhag trais ac erledigaeth rhyfel. Felly, o ystyried hyn, pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chreu cynllun adsefydlu ffoaduriaid ar gyfer y rheini yn Gaza sy'n dymuno ac sy'n gallu gadael? A ydych chi'n adleisio galwadau Humza Yousaf? A yw Cymru yn fodlon ac yn barod i groesawu pob ffoadur o Gaza ac nid y rheini sydd â phasbortau Prydeinig yn unig, yn enwedig o ystyried penderfyniad Llywodraeth Dorïaidd San Steffan i dorri cyfraith ryngwladol er mwyn rhoi ei pholisïau mewnfudo creulon mewn grym?

Diolch yn fawr, Sioned Williams. Mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau—a buom yn trafod hyn yr wythnos diwethaf—i wneud yr hyn a allwn, nid yn unig o ran cydlyniant cymunedol, fel y mynegais ac y rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ffyrdd yr ydym yn ymgysylltu â chymunedau yng Nghymru, ond hefyd ein bod yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud fel cenedl noddfa. Yn amlwg, mae materion sy'n ymwneud â mewnfudo'n parhau i fod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU, ac mae hyn yn cynnwys cynlluniau posibl ar gyfer adsefydlu ffoaduriaid. Rydym mewn cysylltiad rheolaidd â Llywodraeth y DU i edrych ar y sefyllfa, ac rydym hefyd yn cydnabod na chafwyd unrhyw gyhoeddiadau gan Lywodraeth y DU ar unrhyw becynnau adsefydlu ar gyfer y bobl o Gaza ac Israel sy'n dymuno ceisio noddfa yng Nghymru. Ond gan ein bod i gyd wedi cefnogi'r rheoliadau hynny ddoe, y rheoliadau digartrefedd, rwy’n siŵr y byddwch yn falch ein bod yn gwneud yr hyn a allwn i ddarparu cymorth i’r rheini sydd â statws neu statws deuol i ddod i gael cymorth o ran tai. Felly, mae angen inni edrych ar ba gymorth dyngarol y gellir ei roi. Yn sicr, cyfraith ddyngarol yw sylfaen gweithredu dyngarol, a byddwn yn parhau i weithio, yn enwedig o ran cadw mewn cysylltiad, a chysylltu â’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu ynghylch y bobl yng Nghymru hefyd sydd wedi cael eu dal yn y gwrthdaro.

Banciau Bwyd

3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi banciau bwyd ym Mlaenau Gwent? OQ60237

13:55

Ers 2019, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu dros £18 miliwn i gefnogi banciau bwyd a sefydliadau bwyd cymunedol ledled Cymru, gan gynnwys ym Mlaenau Gwent, i fynd i’r afael â thlodi bwyd a darparu ystod ehangach o wasanaethau i helpu unigolion a chartrefi i gynyddu eu hincwm a meithrin cadernid ariannol.

Diolch i’r Gweinidog am ei hymateb. Dywed Ymddiriedolaeth Trussell wrthym mai mis Rhagfyr diwethaf, y Nadolig diwethaf, oedd y mis prysuraf erioed o ran y niferoedd a ddefnyddiodd fanciau bwyd, ac nad oes enghraifft well o fethiant y Llywodraeth na’r 3 miliwn o bobl—poblogaeth Cymru—ar draws y Deyrnas Unedig sy'n dibynnu ar fanciau bwyd bob blwyddyn. Ym Mlaenau Gwent, rydym wedi gweld cynnydd o 23 y cant yn nifer y bobl sy'n defnyddio banciau bwyd dros y flwyddyn ddiwethaf.

Weinidog, mae gan Lywodraeth Cymru hanes o gefnogi’r bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed pan fydd Gweinidogion y DU wedi gwneud cam â nhw. Ers blynyddoedd lawer, mae Llywodraeth Cymru wedi cynorthwyo banciau bwyd a sefydliadau cymunedol i gynnal a chefnogi teuluoedd, yn enwedig, efallai, ar adeg y Nadolig. Eleni, mae Clwb Rygbi Glynebwy yn cefnogi teuluoedd drwy ddarparu bwyd ar Ddydd Nadolig. Ond onid yw'r Llywodraeth yn haeddu ei chondemnio am hyn, ac a yw’r Gweinidog yn cytuno â mi na ddylem fod yn dibynnu ar fanciau bwyd a chlybiau rygbi i gynnal teuluoedd ar Ddydd Nadolig? Yn yr unfed ganrif ar hugain, dylem fod yn gwneud yn well na hyn. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig a dweud wrthi, ‘Mae plant sy’n llwglyd ar Ddydd Nadolig yn gondemniad o 13 mlynedd o Lywodraeth Geidwadol, yn gondemniad o gyni, yn gondemniad o fethiant economaidd, ac yn gondemniad o'u honiadau eu bod yn malio am y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas'?

Wel, diolch yn fawr iawn, Alun Davies. Mae’n gondemniad. Mewn gwirionedd, mae'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg o effaith cyni—. Cyni, 13 mlynedd o gyni—gadewch inni feddwl am y dyddiau cynnar hynny. Cyflwyno’r dreth ystafell wely, er enghraifft, yr effaith a gafodd hynny. Ac mewn gwirionedd, rwy'n cofio dadleuon yn y Siambr hon lle rydym wedi gwneud cysylltiad uniongyrchol rhwng twf banciau bwyd a'r 13 mlynedd o gyni. Y diwygiadau lles honedig, sef toriadau lles, toriadau i les. Gwladwriaeth les fregus iawn sydd gennym ar ôl, gwladwriaeth yr ydym yn ceisio ei hadeiladu a’i hamddiffyn yma yng Nghymru.

Ond hoffwn ddiolch i'r banciau bwyd yn eich etholaeth, gan imi ymweld â nhw tua blwyddyn yn ôl, ac rydym bellach wedi ariannu partneriaethau bwyd ledled Cymru. Mae yna gydgysylltwyr, ac mae yna lawer o weithgareddau. Ar draws y Siambr, fe fyddwch yn gwybod am y banciau bwyd, y pantrïoedd, y grwpiau cymunedol, eglwysi, mosgiau, pawb yn dod ynghyd am eu bod yn gweld yr angen yn eu cymunedau. Ac ym Mlaenau Gwent, mae gennych gymorth gan Tai Calon, y bwrdd iechyd lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r awdurdod lleol, oll yn cyfrannu bellach at fanc bwyd Blaenau Gwent. A diolch hefyd i'r banc bwyd yng Nglynebwy a ddechreuodd, eu hunain, gael mynediad at wasanaethau'r Sefydliad Banc Tanwydd, a buont yn dosbarthu talebau tanwydd hyd yn oed cyn i ni, fel Llywodraeth Cymru, ddechrau ariannu'r Sefydliad Banc Tanwydd.

Mae'r angen ym Mlaenau Gwent yn enfawr. Mae pobl yn ei chael hi'n wirioneddol anodd yn ystod yr argyfwng costau byw hwn. Mae fy swyddfa wedi bod mewn cysylltiad â chynllun rhannu bwyd TK's & Community Group yng Nghwm, ac maent wedi bod yn ei chael hi'n anodd ateb y galw. Roedd eu cyflenwadau'n isel iawn yn ddiweddar, ond yn ffodus, cawsant eu hailgyflenwi mewn pryd ar gyfer rhuthr y Nadolig, o ganlyniad i apeliadau lleol drwy ysgolion ac eglwysi. Fel y dywedodd Alun, mae Clwb Rygbi Glynebwy, yn hael iawn, yn cynnig ciniawau Nadolig am ddim i bobl mewn angen ddod i'w nôl.

Dyma'r sefyllfa yr ydym ynddi ar ôl 13 mlynedd o gyni a 13 mlynedd o arweinyddiaeth y Torïaid yn San Steffan. Sut y gall Llywodraeth Cymru ei gwneud yn haws i grwpiau cymunedol gael mynediad at yr arian sydd ei angen arnynt i ddal ati gyda'u gwaith gwrthdlodi anhygoel, sy'n tyfu'n barhaus? Mae angen yr arian hwn nid yn unig er mwyn prynu bwyd ond hefyd er mwyn cynyddu capasiti storio sych ac oer. Fel y saif pethau ar hyn o bryd, nid yw ceisiadau grant yn syml, yn enwedig ar gyfer gwirfoddolwyr oedrannus, a dylid eu gwneud yn fwy hygyrch i grwpiau fel cynllun rhannu bwyd TK's & Community Group yng Nghwm. Diolch.

14:00

Diolch yn fawr, Peredur. Yn dilyn y cwestiwn pwysig hwnnw gan Alun Davies, rwyf eisoes wedi sôn am yr arian y buom yn ei ddarparu i gefnogi sefydliadau bwyd cymunedol, ac rwyf hefyd wedi crybwyll—sy'n gysylltiedig â hyn—yr arian a roddwn i'r Sefydliad Banc Tanwydd. Ar y pwynt am y Sefydliad Banc Tanwydd, mae llawer o bobl mewn tlodi tanwydd a thlodi bwyd. Yn wir, gwyddom fod llawer o bobl bellach yn methu coginio bwyd oherwydd cost trydan, felly mae mwy o ddefnydd o fwyd oer. A dweud y gwir, dyma lle mae'r pantrïoedd sy'n datblygu, fel y pantri rhannu bwyd yng Nghwm a phantrïoedd eraill o amgylch Cymru—Big Bocs Bwyd, FareShare—yn darparu bwyd a ffrwythau ffres, yn ogystal â bwyd tun a bwyd sydd angen ei gynhesu—. Ond rydym yn gwneud popeth yn ein gallu, nid yn unig i ddarparu cyllid i sefydliadau bwyd cymunedol, sy'n helpu i gael gafael ar gyflenwadau bwyd, ond hefyd i dalu am rewgelloedd ac oergelloedd.

Cyfarfûm â'r Loteri Genedlaethol yr wythnos diwethaf, ac roeddent yn dweud wrthyf eu bod wedi rhoi llawer iawn o gyllid drwy Arian i Bawb, sy'n ffynhonnell hygyrch iawn o gyllid. Ond wrth gwrs, rydym hefyd yn darparu cyllid yn uniongyrchol i bobl drwy'r gronfa cymorth dewisol. Rwy'n credu bod y gefnogaeth a roddwn i'r partneriaethau bwyd yma—. Fe wneuthum gyfarfod â nhw—. Erbyn hyn mae gan bob un o'r 22 awdurdod lleol gydlynwyr partneriaeth bwyd. Cyfarfûm â nhw fis diwethaf. Maent yn helpu i gael mynediad at asiantaethau eraill a gweithio gyda nhw, gan gynnwys cysylltu â'u byrddau gwasanaethau cyhoeddus i gael gafael ar y cyllid hynod bwysig sydd ei angen arnynt. Ond rwy'n credu y bydd angen i ni gysylltu hyn i gyd er mwyn mynd i'r afael â thlodi bwyd, mynd i'r afael â thlodi tanwydd, a hefyd, ie, unwaith eto, ei godi—fel rwy'n ei wneud yn rheolaidd—gyda Llywodraeth y DU, sydd wedi cael gwared ar lawer o'r ffynonellau cyllid sydd ganddynt i helpu pobl yn uniongyrchol, ac yna felly mae pobl yn troi yn ôl at eu cymunedau, a dyna lle mae angen i ni ddod i mewn a gwneud yr hyn a allwn i gefnogi.

Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyn-filwyr y lluoedd arfog? OQ60213

Mae amrywiaeth o ddarpariaeth a gweithgarwch ar draws Llywodraeth Cymru i gefnogi cyn-filwyr ein lluoedd arfog yng Nghymru, yn unol â chyfamod y lluoedd arfog. Mae'r cymorth hwn yn cynnwys cyllid ar gyfer swyddogion cyswllt y lluoedd arfog, darparu cymorth iechyd meddwl drwy wasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr, a gweithio gyda phartneriaid ar ddigwyddiadau cyflogaeth ar gyfer cyn-filwyr a'r rhai sy'n gadael gwasanaeth.

Diolch yn fawr, Weinidog. Mae adeg y cofio, wrth gwrs, yn amser i bawb ddod at ei gilydd, i uno ar draws diwylliannau, cefndiroedd a phob ffydd i gofio'r rhai sydd wedi gwasanaethu i amddiffyn ein rhyddid democrataidd a'n ffyrdd o fyw. Ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n gyfarwydd ag ymgyrch y Lleng Brydeinig Frenhinol, Credit their Service. Mae'n galw ar gynghorau i adolygu eu polisïau i sicrhau nad yw iawndal milwrol yn cael ei gynnwys mewn profion modd ar gyfer budd-daliadau, ac ar hyn o bryd tri awdurdod lleol yn unig sy'n diystyru'r iawndal yn llawn; rwy'n falch o ddweud bod Wrecsam, fy awdurdod lleol i, yn un o'r awdurdodau lleol hynny. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU a chynrychiolwyr awdurdodau lleol yng Nghymru mewn perthynas â'r mater hwn, ac a wnewch chi ymuno â mi i gefnogi ymgyrch y Lleng Brydeinig Frenhinol? 

A gaf fi ddiolch i Ken Skates am ei gwestiwn? Rydych chi'n iawn i godi gwaith y Lleng Brydeinig Frenhinol, yn enwedig o ystyried bod adeg y cofio blynyddol newydd fod. Rydym yn gwybod bod y Lleng Brydeinig Frenhinol yn chwarae rhan allweddol mewn cymunedau. Byddwn yn fwyaf cyfarwydd â nhw yn gwerthu pabïau yn ystod cyfnod y cofio, ond rydych yn cyfeirio at y gwaith a wnânt mewn perthynas ag ymgyrchu a galw am newid hefyd. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r Lleng Brydeinig Frenhinol, yn enwedig oherwydd eu bod yn aelod o grŵp arbenigol y lluoedd arfog. Rydym wedi bod mewn cysylltiad â nhw ynghylch eu hymgyrch Credit their Service, ac mae swyddogion wedi cyfarfod â'r Swyddfa Materion Cyn-filwyr yn Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r materion a godwyd yn yr ymgyrch. Rydym wedi codi hynny hefyd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a'n swyddogion cyswllt y lluoedd arfog, sef y cysylltiadau sy'n gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol ac sy'n darparu cymaint o gefnogaeth i'n cyn-filwyr a chymuned y lluoedd arfog yng Nghymru. 

Fy nealltwriaeth i yw bod yr ymgyrch yn ymdrin â materion datganoledig a materion a gedwir yn ôl, ac felly rydym am weithio gyda'r partneriaid hynny i archwilio pa gamau pellach y gallai fod eu hangen ar ein rhan ni. Mae'n rhywbeth yr wyf wedi ymrwymo iddo ac yn hapus i'w drafod, ac rwy'n hapus i fynd ar ei drywydd gyda'r Aelod gyda fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, sydd â chyfrifoldeb nid yn unig am gyllid ond llywodraeth leol hefyd, i weld a oes mwy o bethau y gallwn eu gwneud yng Nghymru yn unol â'n hegwyddorion, egwyddorion cyfamod y lluoedd arfog, i sicrhau ein bod yn cefnogi ein cyn-filwyr a chymuned y lluoedd arfog. 

14:05

Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod, Ken Skates, am godi'r cwestiwn hwn heddiw. Ddirprwy Weinidog, mae fy nghyd-Aelod, Darren Millar, sy'n gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog, wedi ysgrifennu atoch mewn cwestiwn ysgrifenedig am arweinwyr cyfamod y lluoedd arfog yn ein byrddau iechyd ledled Cymru. Rwy'n ymwybodol fod rhai o'n byrddau iechyd wedi penodi pobl i'r swyddi hyn, ond mae yna fyrddau iechyd eraill ledled ein gwlad nad oes ganddynt unrhyw un i gynrychioli ein cyn-filwyr, ac mae'r swyddi hyn yn hanfodol i godi'r materion y mae cyn-filwyr yn eu codi gyda nhw, fel y gallant gael mynediad at wasanaethau ein GIG yma yng Nghymru. Felly, hoffwn wybod pa waith a wnaethoch gyda GIG Cymru i sicrhau y gallwn gael arweinwyr cyfamod y lluoedd arfog ym mhob bwrdd iechyd ledled Cymru fel y gallant gynrychioli ein cyn-filwyr gwych yma yn ein gwlad wych. 

Diolch i James Evans am ei gwestiwn. Rwy'n gwybod, yn enwedig o ystyried eich etholaeth, fod gennych ddiddordeb mawr mewn cefnogi cymuned y lluoedd arfog yng Nghymru. Roeddwn yn ysbyty'r Mynydd Bychan yng Nghaerdydd ddydd Gwener gyda Maisy Provan, sy'n swyddog cymorth yno, i weld y gwaith y maent yn ei wneud yno, nid yn unig yn cefnogi staff y bwrdd iechyd sy'n gyn-filwyr sydd wedi gwasanaethu, boed wrth gefn neu'n llawnamser, a'r gwaith y maent yn ei wneud bob mis, ond hefyd y gwaith y maent yn ei wneud ar wella'r broses o nodi cyn-filwyr a allai fod yn yr ysbyty, ynghyd â'u hanghenion, a gwneud pethau syml iawn fel rhoi pabi magnetig ar y bwrdd wrth ymyl eu gwely. Felly, rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid. Cânt eu hariannu gan gyfamod y lluoedd arfog. Felly, rydym yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys byrddau iechyd, i sicrhau ein bod yn targedu cefnogaeth ac yn cynyddu ymwybyddiaeth o gymuned y lluoedd arfog, y problemau sy'n eu hwynebu.

Rydym yn sicr yn cydnabod gwaith y swyddogion cyfamod ymroddedig hynny, fel y rhai sydd i'w cael yn rhai o'n byrddau iechyd. Rwy'n credu bod yna her o ran faint y gallwn ei ariannu ar draws Cymru o dan yr amgylchiadau, ond rydym yn hapus i weithio gyda'r rheini. Rwy'n gwybod bod Caerdydd a'r Fro yn arbennig o awyddus i weld sut y gallent sefydlu'r gwaith hwnnw wrth symud ymlaen, felly efallai ei fod yn rhywbeth y gallwn siarad amdano yng nghyfarfod nesaf grŵp arbenigol y lluoedd arfog, y mae Darren Millar yn aelod arsylwi, mewn perthynas â sut y gallwn, o fewn yr adnoddau sydd gennym, rannu arferion gorau o ran cymorth â byrddau iechyd ledled Cymru. 

Diolch i Ken am godi mater cymorth i gyn-filwyr, ar yr adeg hon o'r flwyddyn yn enwedig. Ond Weinidog, mae yna grŵp yn Rhondda—mae yn ardal leol Buffy Williams ond mae hefyd yn gwasanaethu pobl a chyn-filwyr ar draws fy ardal i, ac ar draws ardaloedd Aelodau eraill hefyd, ac mae'n gwneud gwyrthiau bach bob dydd, gan weithio gyda chyn-filwyr a thros gyn-filwyr. Dyn o'r enw Paul Bromwell o gwm Rhondda sy'n ei arwain. Sefydlodd Cyn-filwyr y Cymoedd, elusen dan arweiniad cyn-filwyr sy'n cefnogi a gwella iechyd a lles meddyliol a chorfforol cyn-filwyr drwy weithgareddau ceffylau a garddio. Mae ef ei hun yn gyn-aelod o'r gwarchodlu Cymreig, yn un o gyn-filwyr ymgyrch Ynysoedd y Falkland. Trefnodd y grŵp 16 mlynedd yn ôl ar ôl cael trafferth ailafael â bywyd sifil ac ar ôl cael diagnosis o anhwylder straen ôl-drawmatig ei hun. A wnewch chi ac eraill yn y Siambr ymuno â mi, Weinidog, i longyfarch Paul Bromwell o Cyn-filwyr y Cymoedd, a gafodd wobr Point of Light yn ddiweddar gan y Prif Weinidog am fod yn wirfoddolwr mor ysbrydoledig, ac am y gwyrthiau bach y mae ef ac eraill yn eu gwneud yn Rhondda, ac ar draws ardal Rhondda yn ehangach, i gynifer o gyn-filwyr bob dydd?

Ie, a gaf fi ddiolch yn fawr iawn i'r Aelod am godi hyn yn Siambr y Senedd heddiw? Rwy'n gwybod y bydd Buffy Williams yn falch eich bod wedi crybwyll hyn yn gyhoeddus, oherwydd gwn ei bod hi'n adnabod Paul yn dda. Cefais y fraint o'i gyfarfod mewn digwyddiad Falklands 40 y llynedd, a hefyd nifer o ddigwyddiadau gwobrau cyn-filwyr a digwyddiadau eraill ledled Cymru. Rydych chi'n iawn; mae'n ysbrydoliaeth anhygoel i mi ac i lawer o bobl eraill ac mae'r gefnogaeth y mae'n ei darparu i'w gyfoedion heb ei hail, ac mae'r effaith y mae'n ei chael yn hynod gadarnhaol ac yn cael ei theimlo mewn cymunedau ledled Cymoedd de Cymru, fel y dywedwch. Felly, roeddwn yn falch iawn o glywed ddoe fod Paul Bromwell o Cyn-filwyr y Cymoedd wedi cael y wobr Point of Light gan y Prif Weinidog, a hoffwn ymuno â chi i longyfarch Paul ar y gydnabyddiaeth haeddiannol honno. 

Digartrefedd

5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith digartrefedd ar nod Llywodraeth Cymru o hyrwyddo ffyniant a threchu tlodi? OQ60224

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i roi diwedd ar ddigartrefedd, gan sicrhau bod gan bawb gartref diogel sy'n diwallu eu hanghenion i gefnogi bywyd iach a llewyrchus. Rydym yn cydnabod bod tlodi yn un o achosion strwythurol sylfaenol digartrefedd ac mae ein gwaith i fynd i'r afael â thlodi yn hanfodol er mwyn cyflawni ein nod o roi diwedd ar ddigartrefedd. 

14:10

Diolch yn fawr, Weinidog. Adeg y Nadolig y llynedd, cysylltodd offeiriad lleol â mi i ddweud bod dyn digartref a oedd yn ceisio cymorth yn neuadd yr eglwys wedi gofyn am gymorth gan wasanaethau lleol, ac fe roddwyd pabell iddo a dywedwyd wrtho y byddent yn ei weld ar ôl y Nadolig. Codais hyn yn y Siambr, a chytunodd y Trefnydd fod hyn yn annerbyniol. Ond tan yr wythnos hon, roedd gan Lywodraeth y DU Ysgrifennydd Cartref a oedd yn dadlau bod byw mewn pabell yn ddewis bywyd i bobl ddigartref. Diolch byth ei bod wedi mynd, ond tybed faint o ffydd sydd gennych na fydd yr un creulondeb yn treiddio i bolisïau'r un hen Gabinet newydd sbon hwn yn y DU. Pa mor hyderus ydych chi na fydd tlodi'n parhau i gael ei ystyried yn ddewis ffordd o fyw gan San Steffan? Ac o fewn eich pwerau, a wnewch chi fynd ati ar frys i siarad â'r Gweinidog newid hinsawdd am rewi rhenti i rentwyr preifat, moratoriwm ar droi allan a gweithredu'r rhaglen Cartrefi Clyd ar unwaith? Ac a allwch chi roi sicrwydd, Weinidog, na ddywedir wrth unrhyw unigolyn digartref mewn tlodi sy'n ceisio cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol i wneud y tro â phabell y Nadolig hwn? 

Diolch yn fawr. Hynny yw, mae'r hyn a ddywedodd y cyn-Ysgrifennydd Cartref yn frawychus. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw un ar draws y Siambr wedi rhannu'r farn honno, fod byw mewn pabell yn ddewis ffordd o fyw. Roedd yn frawychus. Nid yw'n Ysgrifennydd Cartref mwyach, ond rydym yn gwybod bod y safbwyntiau hynny'n gyffredin, yn enwedig—yn amlwg—yn y Blaid Geidwadol, a arweiniodd at y galwadau hynny.

Ni chafodd ei adlewyrchu yn Araith y Brenin, ond rydym yn eithaf pryderus am yr hyn y gallent ei wneud gyda Deddf Crwydraeth 1824, a'r ffaith bod yna ymgais o fath i droseddoli pobl ddigartref. Ond yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud yw cymryd cyfrifoldeb yma yng Nghymru am gefnogi ein pobl ddigartref. Rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn, ac mae hyn yn rhywbeth sy'n gysylltiedig â'n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, sef mynd i'r afael â'r angen i drechu digartrefedd. Roeddwn yn falch o weld y Papur Gwyn ar ddigartrefedd, a buddsoddi £210 miliwn mewn digartrefedd a gwasanaethau cymorth tai.

Mae'n ymwneud â sut y gall awdurdodau weithio i leihau nifer y bobl mewn llety dros dro y mae—. Mae llawer ohonynt, fel y gwyddoch, mewn llety dros dro, yn enwedig llety gwely a brecwast a gwestai. Mewn gwirionedd, am y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi darparu ymyriadau drwy'r gyllideb sy'n werth mwy na £3.3 biliwn, a £6 miliwn ychwanegol ar gyfer y gronfa atal digartrefedd ddisgresiynol.

Ni ddylem fod mewn sefyllfa lle mae gennym enghraifft fel yr unigolyn a aeth at offeiriad, ac yna at yr awdurdod, a'r cyfan a gafodd oedd pabell. Rydym yn gwybod nad dyna'r ddarpariaeth y byddem ei heisiau fel gwasanaeth yma yng Nghymru. Ond rwy'n credu ein bod yn gweithio'n galed ar hyn. Bydd y grant atal digartrefedd a'r Papur Gwyn ar ddigartrefedd, yn amlwg, a gafodd groeso mawr pan ddaeth i'r Senedd, yn ein helpu i fynd i'r afael â hyn. Ond mae'n anodd iawn.

Mae gennym gynllun gweithredu ar gyfer rhoi diwedd ar ddigartrefedd. Mae'n gynllun ar gyfer pobl o bob oed. Mae'n ddull o weithredu ar ddigartrefedd nad yw'n hepgor neb. Mae wedi achub bywydau. Ond mae'n anodd iawn, a ninnau mewn sefyllfa lle mae £900 miliwn wedi'i dorri o'n cyllideb eleni, Lywydd, fel y gŵyr pawb, o ganlyniad i gyllideb y gwanwyn ym mis Mawrth a'r adolygiad o wariant. Felly, byddwn yn mynd i'r afael â'r materion hyn yng Nghymru i sicrhau nad oes neb yn cael eu hepgor.  

Rwyf am ddatgan buddiant eto o ran perchnogaeth ar eiddo. Rwyf wedi dweud dro ar ôl tro yn y Senedd hon, Weinidog, mai eich Llywodraeth Lafur chi yng Nghymru sy'n methu ar bolisi tai yng Nghymru, ac rydych yn gwaethygu'r argyfwng digartrefedd: mae 10,931 o unigolion bellach yn byw mewn llety dros dro, ac yn fy etholaeth i, ystafelloedd gwely a brecwast a gwestai ydynt yn bennaf. Teuluoedd mewn ystafell mewn gwesty. Mae'n annerbyniol.

Mae 90—ie, 90—o elusennau Cymreig yn dweud bod y sector digartrefedd mewn perygl o chwalu oherwydd cynnydd yn y galw a thoriadau olynol mewn termau real i'r gyllideb gan eich Llywodraeth. Mae Cymorth Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru yn dweud y bydd y system gyfan yn chwalu heb gynnydd ar frys yn y grant cymorth tai, sy'n ariannu'r mwyafrif helaeth o gymorth i bobl ddigartref yng Nghymru. Felly, Weinidog, a wnewch chi annog eich cyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru i weithredu ar alwad y trydydd sector, a'r Ceidwadwyr Cymreig ar y meinciau hyn yn wir, drwy fod o ddifrif ynglŷn â digartrefedd a dechrau adeiladu'r cartrefi y mae eu gwir angen arnom yma yng Nghymru? Diolch.

14:15

Ie, wel, yn amlwg ni wnaethoch wrando ar y pwynt a wneuthum am y ffaith ein bod wedi cael ein hamddifadu o'r cyllid sydd ei angen arnom—mae eich Llywodraeth wedi ein hamddifadu o'r cyllid yr ydym ei angen i fynd i'r afael â'r broblem. [Torri ar draws.] A hefyd, mae'r ffaith eich bod chi—. Rwy'n cofio, pan lansiodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ei Phapur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yma yng Nghymru, fe wnaethoch chi godi'r un hen bethau unwaith eto—

—ac nid ydynt yn cydnabod yr heriau yr ydym wedi'u hwynebu ar ôl 13 mlynedd o gyni. Ond yr hyn sy'n bwysig—ac rwyf am ei ddweud eto, a byddai'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn ei ddweud pe bai'n sefyll yma—yw bod creu mwy o dai fforddiadwy nid yn unig yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon ond yn angen allweddol—[Torri ar draws.] Gwrandewch, os gwelwch yn dda, rwy'n siarad. Rydych chi'n gofyn y cwestiwn ac rwy'n ymateb. Mae'n angen allweddol ledled Cymru ac fe wyddom fod buddsoddi mewn tai cymdeithasol yn lleihau tlodi, sef y cwestiwn a ofynnodd Delyth Jewell i mi, ac mae'n gwella iechyd ac yn helpu i sbarduno twf economaidd.

Rydym wedi ymrwymo i gynyddu'r ddarpariaeth, ac rydym wedi nodi'r lefelau uchaf erioed o gyllid i gyflawni hyn—£1.2 biliwn dros y pedair blynedd gyntaf o dymor y Senedd hon. Mae'n gyfnod heriol i'r sector, ond rydym yn cefnogi'r mentrau hynny, nid yn unig i ddarparu cartrefi gwirioneddol fforddiadwy, ond hefyd i sicrhau bod gennym y tai dros dro hynny gyda'r rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro. Yn wir, yfory, rwy'n mynd i ymweld â'r hen safle gwaith nwy sy'n llety trosiannol, sy'n bwysig iawn i helpu pobl i symud ymlaen o ddigartrefedd, ond hefyd i gydnabod bod hyn yn ymwneud â mwy na chael to uwch eich pen; mae'n ymwneud â sut y gallwn dorri cylch digartrefedd, sydd ag ystod eang o achosion a chanlyniadau. Mewn gwirionedd, fel y dengys y Papur Gwyn, mae hwn yn ddull cyfannol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r trydydd sector i'w gyflawni.

Wythnos Cyflog Byw

6. Beth wnaeth Llywodraeth Cymru i gefnogi Wythnos Cyflog Byw? OQ60238

Roeddwn yn falch o fod yn rhan o lansiad Wythnos Cyflog Byw yng Nghymru ar 6 Tachwedd. Fel rhan o'r wythnos, cymerodd Llywodraeth Cymru ran mewn nifer o ddigwyddiadau a chyfathrebiadau. Ond mae ein cefnogaeth i'r cyflog byw gwirioneddol yn ymrwymiad drwy gydol y flwyddyn, ac rydym yn gweithio gyda chyflogwyr, undebau llafur ac ystod o bartneriaid i hyrwyddo mabwysiadu ac achredu cyflog byw.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. Mae'r wythnos wedi dod yn ganolbwynt blynyddol pwysig i hyrwyddo a dathlu'r cyflog byw gwirioneddol a'r effaith y mae'n ei chael. Felly, rwy'n falch fod Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ceisio dod yn rhanbarth cyflog byw, gan ddilyn esiampl Caerdydd fel dinas cyflog byw. A yw'r Dirprwy Weinidog yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd tuag at y gydnabyddiaeth honno, ac a ydych yn cytuno â mi y dylai'r cyflog byw gwirioneddol fod yn rhan o ddull o weithredu gwaith teg yn ehangach?

Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Joyce Watson, mai llinell sylfaen yw'r cyflog byw gwirioneddol, nid meincnod, a dylid ei ystyried yn rhan o becyn ehangach sy'n cefnogi gwaith teg mewn gweithleoedd ledled Cymru, boed hynny ynghylch eich telerau ac amodau, eich llesiant, eich gallu i ddatblygu a chael mynediad at hyfforddiant neu gael mynediad at gymorth undebau llafur. Felly, dylai fod yn rhan o'r pecyn ehangach hwnnw, ond gwyddom fod newid i dalu'r cyflog byw gwirioneddol yn cael effaith sylweddol, nid yn unig ar y gweithwyr, ond ar y gweithleoedd. Fe'i clywais fy hun, gydag enghreifftiau wrth lansio'r Wythnos Cyflog Byw, o fusnesau Cymreig yn siarad am yr effaith y mae wedi'i chael ar gynnal eu gweithlu a symud i gyflogau ac amodau tecach.

Rydych yn llygad eich lle i dynnu sylw at y pwynt fod ardal Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ceisio cael ei chydnabod fel rhanbarth cyflog byw. Rwy'n deall bod cynnydd da yn cael ei wneud. Ers sefydlu grŵp llywio yn ôl yn 2022, gwn eu bod yn gweithio i gynyddu nifer y gweithwyr sy'n cael y cyflog byw gwirioneddol ar draws y rhanbarth, a chynhaliodd y grŵp llywio ddigwyddiad yn ystod Wythnos Cyflog Byw yr wythnos diwethaf, yng Nghaerfyrddin, i hyrwyddo'r gwaith a gyflawnwyd. Rwy'n credu mai 550 o gyflogwyr yng Nghymru sydd bellach ag achrediad cyflog byw gwirioneddol ac mae tua un o bob pump o'r rheini'n dod o Ganolbarth a Gorllewin Cymru. Edrychais cyn i mi ddod, ac fel y gwelwch, mae cryn dipyn o gyflogwyr yno sydd bellach yn gyflogwyr achrededig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ac maent yn amrywio o fusnesau gyda dau weithiwr i dros 2,000 o weithwyr, felly mae'n dangos y posibiliadau yno a'r potensial ar gyfer y gwahaniaeth y gall ei wneud.

14:20
Cymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr

7. Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi'r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru? OQ60215

Diolch am eich cwestiwn.

Rydym yn cefnogi cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr drwy weithio gydag awdurdodau lleol ar eu hasesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr. Rydym hefyd yn darparu cyllid ar gyfer grantiau cyfalaf safleoedd Sipsiwn a Theithwyr a chyllid ar gyfer prosiect Teithio Ymlaen yn Tros Gynnal Plant Cymru i ddarparu cyngor ac eiriolaeth i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Diolch, Weinidog. Rwy'n pryderu am y cynnydd truenus a wnaed ar gefnogi'r cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru, sy'n dod yn fwy acíwt byth yn ystod yr argyfwng costau byw fel y gwelsom mewn tystiolaeth drwy waith craffu ac ymchwiliadau diweddar a gynhaliwyd gan fwy nag un o bwyllgorau'r Senedd, gan gynnwys y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yr wyf yn aelod ohono. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, nid yw'r Llywodraeth ond yn cefnogi un prosiect bach yn ariannol, fel y nodwch yno, sy'n canolbwyntio ar gefnogi'r cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr drwy eiriolaeth, ar gyfer Cymru gyfan. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno, Weinidog, fod angen inni ddeall a chael sicrwydd fod cefnogaeth ddigonol ac effeithiol yn cael ei chynnig i'r hyn y gellid dadlau sy'n un o gymunedau mwyaf ymylol a difreintiedig Cymru. Felly, a allwch chi amlinellu rôl a chylch gwaith y prosiect a'r elusen sy'n ei gefnogi, yr arian a gafodd hyd yma a pha werthusiad a gyflawnwyd ar unrhyw adroddiad cynnydd a gyflwynwyd hyd yma?

Diolch yn fawr. Mae hon yn flaenoriaeth i mi yn fy mhortffolio, ac mae'n rhaid inni sicrhau bod awdurdodau lleol yn darparu safleoedd digonol sy'n briodol yn ddiwylliannol lle mae angen. Ac rwyf wedi crybwyll, wrth gwrs, ein bod bellach yn gweithio drwy eu hasesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr, ac mae angen inni weld pa mor gadarn ydynt o ran cydymffurfio â chanllawiau a'u cyfrifoldebau i gefnogi unigolion.

Ydym, rydym yn ariannu'r prosiect Teithio Ymlaen. Mae'n darparu cyngor a chymorth eiriolaeth i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ac yn ddiweddar daethant â theuluoedd Sipsiwn a Theithwyr o bob rhan o Gymru ynghyd, a chyfarfûm â nhw i drafod pryderon penodol. O ganlyniad i hynny yn arbennig, rwy'n cynnal cyfarfodydd gydag awdurdodau lleol i drafod eu sefyllfaoedd presennol. Rwyf hefyd am ddiolch nid yn unig i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ond y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai hefyd am y gwaith y maent wedi'i wneud, oherwydd mae argymhellion clir yn y gwaith hwnnw sy'n cyd-fynd â'r 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'.

Rydym yn adolygu cydymffurfiaeth â dyletswyddau awdurdodau lleol yn Rhan 3 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 i sicrhau bod digon o leiniau ym mhob ardal. Hefyd, hoffwn ddweud fy mod wedi cael cyfres o gyfarfodydd gyda chynghorau ledled Cymru, gan ddechrau yng Nghasnewydd, ac yna yng Nghonwy a sir Ddinbych, ac mae gennyf gyfarfodydd wedi'u trefnu gyda phob awdurdod. Rydym wedi creu'r ddyletswydd hon drwy ddeddfwriaeth, rydym wedi ariannu awdurdodau lleol ac mae gennym gyllid gwerth £1.2 miliwn i adnewyddu darpariaeth sy'n bodoli, ond yn amlwg, nid ydym yn diwallu'r holl anghenion wrth inni asesu'r asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr, a dyna pam, drwy weithio gyda'r awdurdodau lleol, y mae'n rhaid inni gyflawni ar hyn. Mae'n flaenoriaeth ac mae'r cyfarfodydd yn digwydd.

Amseroedd Ymateb Digonol

8. Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda'r heddlu a'r gwasanaethau tân i sicrhau amseroedd ymateb digonol? OQ60251

Diolch am eich cwestiwn. Mae ein fframwaith cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau tân ac achub yn ei gwneud yn ofynnol i'r gwasanaethau ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i bob galwad frys. Nid yw'r cyfrifoldeb dros blismona wedi'i ddatganoli, ond rydym yn gweithio'n agos gyda Plismona yng Nghymru i gefnogi'r rhyngwyneb rhwng plismona a meysydd datganoledig megis tai ac iechyd.

Diolch i'r Gweinidog am ei hateb ac rwy'n falch o'ch clywed yn dweud eich bod yn cydnabod pwysigrwydd ymateb i alwadau tân brys mewn modd amserol. Ychydig fisoedd yn ôl, crybwyllais y tân ar fferm Windmill yng ngogledd Gŵyr wrth y Dirprwy Weinidog cyfiawnder cymdeithasol, lle roedd angen tanceri dŵr a bu'n rhaid iddynt gael eu hanfon o'r Tymbl, a gymerodd dros awr i gyrraedd y lleoliad yng ngogledd Gŵyr. Hwnnw oedd y tancer dŵr agosaf, os mynnwch, a oedd ar gael i gyrraedd gogledd Gŵyr ar y pryd. Rwyf wedi cyfarfod ag Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ers hynny, ac roeddwn yn falch o glywed eu bod yn ystyried ychwanegu tancer dŵr newydd at eu rhestr. Yn anffodus, roedd yn ymddangos eu bod yn meddwl mai Port Talbot oedd y lle gorau i leoli hwnnw. Nawr, fel y gwyddoch eisoes, Weinidog, mae tancer dŵr eisoes wedi'i leoli ym Mynydd Cynffig, ond oherwydd bod hwnnw o fewn Awdurdod Tân ac Achub De Cymru, yn hytrach nag Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, roeddent yn dweud na allent ei gyfrif tuag at eu hamseroedd ymateb targed, er y byddai gyn lleied â phum neu 10 munud i ffwrdd o'r tancer dŵr presennol ym Mynydd Cynffig pe bai hynny'n digwydd. Felly, er fy mod yn ddiolchgar fod awdurdod tân canolbarth a gorllewin Cymru wedi cydnabod yr angen am dancer dŵr newydd, a wnewch chi weithio gyda nhw i sicrhau nad yw'r ffiniau gweinyddol hyn rhwng awdurdod tân canolbarth a gorllewin Cymru ac awdurdod tân de Cymru yn rhwystr yn y ffordd hon rhag gwneud penderfyniadau synhwyrol?

14:25

Clywodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol y cwestiwn hwnnw a bydd hi'n ei ystyried, rwy'n siŵr, ac mae'n bwynt pwysig yn seiliedig ar eich cwestiwn gwreiddiol iddi am yr amser ymateb. Diolch yn fawr.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad nesaf. Y cwestiwn cyntaf gan Mabon ap Gwynfor.

Bil Tybaco a Fêps

1. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Bil tybaco a fêps arfaethedig Llywodraeth y DU ar gymwyseddau datganoledig yng Nghymru? OQ60249

Diolch am y cwestiwn. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â gwledydd eraill y DU, yn ymgynghori ar gynigion i greu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i'r afael â fepio ymhlith pobl ifanc. Pan ddaw'r ymgynghoriad i ben, byddwn yn dadansoddi'r ymatebion ac yn ystyried yr opsiynau deddfwriaethol, gan gynnwys y potensial i roi'r Bil tybaco a fêps ar waith yng Nghymru.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ymateb yna. Wel, ges i'r pleser o drafod materion o bwys gyda chyngor disgyblion Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, yn ddiweddar. O'r holl bethau yr oedd y disgyblion yn pryderu yn eu cylch, y prif beth oedd pryderon am fêps ac argaeledd fêps i blant. Soniodd Elan fod y defnydd o fêps wedi cynyddu ymhlith pobl ifanc, a gofyn pa gefnogaeth oedd i helpu ysgolion a phobl ifanc, ac fe ofynnodd Eimantas beth all y Senedd ei wneud er mwyn stopio fêps rhag cael eu gwerthu i bobl ifanc dan oed. Gwn fod y Llywodraeth wedi cyflwyno canllawiau newydd i ysgolion, ond bydd y Bil newydd ar fêps a thybaco yn Lloegr yn tynhau ar y rheolau o ran hyrwyddo a gwerthu fêps i blant. Felly, ydy'r Cwnsler Cyffredinol yn credu y bydd y Bil tybaco a fêps yn cyfarch pryderon Elan ac Eimantas, ac ydy'r Cwnsler yn credu bod gan Gymru’r cymhwysedd i wneud mwy i reoli defnydd a gwerthiant fêps i blant?

Diolch am y cwestiwn, ac mae'n dda clywed bod disgyblion yn trafod hyn, oherwydd mae'n amlwg iawn fod cynnydd mewn fepio wedi symud i ffwrdd o fod yn ddewis amgen yn lle tybaco i ysmygwyr sydd eisiau rhoi'r gorau i ysmygu, ac yn rhywbeth sy'n cael ei dargedu tuag at blant i raddau helaeth. Mae'n ddiddorol iawn hefyd fod llawer o'r offer fepio sy'n cael ei gynhyrchu nawr yn cael ei gynhyrchu gan yr hen gwmnïau tybaco, sydd wedi symud o'r naill ddiwydiant i'r llall.

Lansiodd pedair Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar 12 Hydref, ac fe wnaethant nodi cynigion ar gyfer creu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i'r afael â fepio ymhlith pobl ifanc, sy'n bwysig iawn yn fy marn i, ac wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth sy'n berthnasol ledled y DU. Mae yna ddiddordeb cyffredin, ac rwy'n credu bod yna elfen unigryw i'r cynnig hwn. Un o'r gwir bryderon, wrth gwrs, yw'r cynnydd mewn fepio ymhlith pobl ifanc, ac un o'r amcanion o reidrwydd yw lleihau apêl ac argaeledd fepio i blant.

Felly, ymhlith y meysydd dan ystyriaeth fyddai cyfyngu ar flasau fel nad yw blasau fepio yn cael eu targedu tuag at blant mwyach; rheoleiddio sut y cânt eu harddangos, sy'n aml iawn yn cael ei wneud mewn ffordd sydd wedi'i anelu at blant a phobl iau; rheoleiddio pecynnu a'u hymddangosiad; cyfyngu ar werthu cynnyrch fepio tafladwy. Mae hyn hefyd yn broblem pan fyddwch yn sôn am bethau eraill y gellir eu gwneud, o bosibl gyda'r ddeddfwriaeth ar blastig untro a'r pwerau sydd gennym, ac rwy'n siŵr fod hynny'n rhywbeth y bydd y Gweinidog eisiau ei ystyried. Credaf ei bod hefyd yn bwysig ystyried a ddylid ymestyn rheoleiddio i gynnwys fêps nad ydynt yn cynnwys nicotin, yn ogystal â gweithredu ar fforddiadwyedd fêps, gan gynnwys cyflwyno toll ar fêps i gynyddu eu pris a'u gwneud yn llai deniadol a llai fforddiadwy i blant eu prynu.

Rwy'n ddiolchgar i chi am godi hyn. Mae'n amlwg yn rhywbeth a fydd yn dod yn ôl i'r Siambr, a gwn y bydd Gweinidogion yn amlwg yn awyddus i sicrhau bod y Senedd yn cael ei briffio'n llawn ar y mater.

14:30
Effaith Araith y Brenin

2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch effaith Araith y Brenin ar gyfiawnder troseddol yng Nghymru? OQ60245

Diolch am eich cwestiwn. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaeth gyda Llywodraeth y DU am gyfiawnder troseddol yn dilyn Araith y Brenin yr wythnos diwethaf a chyn cyflwyno'r Bil Dedfrydu a'r Bil Cyfiawnder Troseddol.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw. Rwy'n siŵr y byddai'r Cwnsler Cyffredinol, fel finnau, wedi gwylio'r Goruchaf Lys yn dyfarnu y bore yma fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gweithredu'n anghyfreithlon. Roedd yn ymddangos bod y dyfarniad yn un cwbl ddinistriol a drechodd Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar bron bob pwynt o gyfraith.

Ymateb dirprwy gadeirydd y Blaid Geidwadol oedd dweud, 'Anwybyddwch y gyfraith'. Ymateb AS Ceidwadol arall oedd disgrifio barnwyr fel gelynion y bobl. Gwnsler Cyffredinol, mae'r lle hwn—y Senedd hon—wedi'i sefydlu ar sail parch at bobl, parch at reolaeth y gyfraith. A fydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i ddyfarniad y Goruchaf Lys mewn unrhyw ffordd? Ac a wnewch chi ddweud wrth y Siambr y bydd y Llywodraeth hon bob amser yn parchu llysoedd, na fydd yn difrïo barnwyr, na fydd yn dweud ein bod am anwybyddu'r gyfraith ac y bydd bob amser yn ymddwyn mewn ffordd ddyngarol ac yn ymdrin â phobl â pharch a moesoldeb, ac na fydd yn ceisio gwneud esiampl o ddioddefaint a thrallod dynol er mwyn bachu ambell bennawd?

A gaf fi ddweud bod cynnal rheolaeth y gyfraith, a chyfraith ryngwladol, yn un o ofynion sylfaenol unrhyw senedd ddemocrataidd yn fy marn i? Rydym wedi dweud bod amser fod Deddf Mudo Anghyfreithlon 2023 yn anymarferol. Nid yn unig y mae'r cynigion hyn yn anymarferol, maent yn anghyfreithlon ac maent hefyd wedi gwastraffu £140 miliwn.

Mae'n werth edrych ar yr hyn a ddywedodd y Goruchaf Lys mewn gwirionedd. Rwyf wedi cael copi o'r dyfarniad; rwy'n gweithio fy ffordd drwyddo. Ond dyma grynodeb o'r dyfarniad: datganwyd bod polisi Rwanda Llywodraeth y DU yn anghyfreithlon oherwydd bod sail cryf dros gredu y byddai ceiswyr lloches yn wynebu risg wirioneddol o gamdriniaeth drwy gael eu gorfodi i ddychwelyd i'w gwlad wreiddiol pe byddent yn cael eu symud i Rwanda.

Mae hwn yn benderfyniad unfrydol gan y Goruchaf Lys ac wrth ei wneud, maent yn pwyso ar nifer o bethau: maent yn dweud bod peidio â gorfodi ceiswyr lloches i ddychwelyd i'w gwlad wreiddiol lle maent yn wynebu risg o gael eu cam-drin  yn un o egwyddorion craidd cyfraith ryngwladol, y sonioch chi amdani. Mae hefyd yn rhan o'r confensiwn ffoaduriaid y mae'n ofynnol inni gydymffurfio ag ef. Mae i'w weld yn Erthygl 3 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, ac yn Neddf Hawliau Dynol 1998 hefyd. Felly, mae yna dair colofn allweddol ac nid yw'n briodol i unrhyw Lywodraeth, neu unrhyw gynrychiolydd etholedig, awgrymu y dylai'r Llywodraeth weithredu y tu allan i'r gyfraith.

Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn gwrthod y sylwadau hynny ac yn sicr, yn fy swydd fel Cwnsler Cyffredinol, rwy'n bendant yn eu gwrthod oherwydd byddent yn annerbyniol i unrhyw Senedd ddemocrataidd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood.

Diolch, Lywydd. Mae datganiad y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar 9 Rhagfyr 1975 yn nodi bod gan bob person anabl yr un hawliau â phobl eraill ac mae'n cydnabod y rhwystrau a grëwyd gan sefydliadau cymdeithasol a chymdeithas yn gyffredinol.

Mabwysiadwyd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau ar 13 Rhagfyr 2006 a chadarnhaodd y DU y confensiwn yn 2009. Galwodd adroddiad Anabledd Cymru a ryddhawyd yn ddiweddar, 'Prin yn Goroesi', ymhlith pethau eraill, ar Lywodraeth Cymru i ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl. Mae'n mynd ymlaen i ddweud, er iddo gael ei gynnwys yn y rhaglen lywodraethu, nad oes amserlen o hyd ar gyfer ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig. Gyda'r amser sy'n weddill yn yr agenda ddeddfwriaethol yn gyfyngedig, rhaid i Lywodraeth Cymru amlinellu eu cynllun ar gyfer ymgorffori'r confensiwn. 

Yn 2018, pleidleisiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd o blaid cynnig deddfwriaethol i ymgorffori datganiad y Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru, gyda chefnogaeth drawsbleidiol. Felly, pa drafodaethau a chyngor cyfreithiol y mae eich cyd-Weinidogion Cabinet wedi gofyn i chi amdanynt ar ymgorffori'r confensiwn yng nghyfraith Cymru o fewn yr amser sy'n weddill yn yr agenda ddeddfwriaethol?

14:35

A gaf fi ddiolch i chi am y cwestiwn? Rydych chi'n codi rhai materion pwysig iawn. Wrth gwrs, rydym yn rhwym wrth y confensiwn hwnnw, ac ni allwn wneud unrhyw beth sy'n groes i'r hyn sydd yn ein deddfwriaeth, a'r ffordd y gweithredwn yn wir. Ac unwaith eto, mae llawer o'n gweithgareddau wedi'u cynllunio er mwyn cyflawni rhwymedigaethau'r confensiwn penodol hwnnw. Rwyf wedi bod yn ymgysylltu â fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, a chyda chyfranogwyr allanol eraill, mewn fforwm sy'n edrych ar y mater a sut i ymgorffori'r confensiwn hwn, a chonfensiynau eraill, yn ein strwythur deddfwriaethol a chyfansoddiadol. Nid oherwydd diffyg parodrwydd i wneud hynny, ond mae'n broses hynod gymhleth. Un o'r rhesymau yw'r ffordd y caiff confensiynau eu drafftio a sut y gellir eu troi'n ddeddfwriaeth bendant sy'n mynd â chi y tu hwnt i'r hyn yw ein rhwymedigaethau eisoes ac sy'n creu eglurder a manylder o ran gwella nid yn unig y sefyllfa i bobl anabl ond hefyd gweithredu'r confensiwn ar hawliau dynol. Mae'n waith sydd ar y gweill. Mae yna grwpiau o arbenigwyr wedi bod yn edrych ar sut y gellid gwneud hyn. Rwy'n credu, yn yr un modd, ei bod yn deg dweud eu bod nhw hefyd wedi dod ar draws anhawster gwirioneddol, a hynny oherwydd y ffordd y mae confensiynau wedi'u geirio—yn aml yn nod i ymgyrraedd ato. Ond mae trosi hynny'n ddeddfwriaeth ymarferol yn her. Mae'r gwaith hwnnw'n parhau. Rwy'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf maes o law, ond gallaf ddweud wrtho fy mod wedi bod yn gweithio'n agos iawn ar sail reolaidd gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar sut y gallem geisio cyflawni hyn.

Diolch. Buaswn i, a phob Aelod arall, rwy'n siŵr, yn croesawu'r diweddariadau hynny.

Ond os caf aros gyda rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru, fe wnaethoch chi gyhoeddi datganiad ar y cyd gyda'r Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol ddoe ar ymchwil i baratoi ar gyfer datganoli plismona yng Nghymru. Nodai hwnnw fod yr ymrwymiad hwn yn dilyn argymhelliad unfrydol Comisiwn Thomas ar Gyfiawnder yng Nghymru yn 2019, gan ychwanegu bod hyn yn cynnwys deall yr effeithiau ar weithio trawsffiniol. Fodd bynnag, er gwaethaf fy nghwestiynau mynych i chi ynglŷn â hepgoriadau ynghylch hyn o adroddiad comisiwn Thomas, fe wnaethoch chi fethu mynd i'r afael â'r pwyntiau difrifol a godwyd.

Dim ond un cyfeiriad at fater allweddol troseddolrwydd trawsffiniol y mae'r adroddiad yn ei wneud, yng nghyd-destun llinellau cyffuriau, a'r unig ateb a gynigir yw cydweithio ar draws y pedwar heddlu yng Nghymru mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill, heb unrhyw gyfeiriad at y cydweithio sefydledig gyda phartneriaid cyfagos ar draws y ffin trosedd a chyfiawnder anweledig â Lloegr.

Fel rwyf hefyd wedi nodi dro ar ôl tro, pan ymwelais â Titan, uned troseddau cyfundrefnol rhanbarthol gogledd-orllewin Lloegr, gyda grŵp trawsbleidiol y Senedd ar blismona ar y pryd—cynllun cydweithredol yw Titan rhwng Heddlu Gogledd Cymru a heddluoedd gogledd-orllewin Lloegr—ar gyfer cyflwyniad ar effaith troseddau difrifol a chyfundrefnol, gan gynnwys y cysylltiad â llinellau cyffuriau a chyflenwi cyffuriau a reolir, roeddent yn dweud wrthyf fod tystiolaeth a roddwyd i gomisiwn Thomas yn cael ei hanwybyddu i raddau helaeth yn adroddiad y comisiwn. Sut y gallwch chi sicrhau felly y bydd y tîm a gomisiynwyd gennych nawr yn mynd i'r afael â hyn?

Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i chi unwaith eto am godi hyn? Rwy'n credu ei fod yn bwynt pwysig. Mae mater datganoli plismona yn bwysig. Ein pryder yn bennaf am blismona, wrth gwrs, yw integreiddiad plismona o fewn yr holl agweddau eraill ar wasanaethau datganoledig, sy'n rhan o jig-so cyffredin, nid yn unig o ran darparu cyfiawnder ond o ran ymdrin â llawer o'r materion cymdeithasol sydd gennym yn ein cymdeithas y mae'n rhaid i heddlu modern fynd i'r afael â nhw mewn gwirionedd. Mae hefyd yn rhywbeth y mae'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu yng Nghymru wedi ymwneud ag ef, ac mae pob un ohonynt yn gefnogol i hyn. Felly, credaf fod y gefnogaeth i ddatganoli plismona wedi tyfu, ac yn y bôn, yn cael ei dderbyn yn weddol gyffredin ymhlith y rhai sy'n ymwneud â'r sector cyfiawnder, a'r un fath hefyd, rwy'n credu, o ran y comisiynwyr heddlu a throseddu.

A gaf fi ddweud hefyd, ar ddatganoli plismona, fod gennym ni hynny eisoes yng Ngogledd Iwerddon, ac mae gennym ni hynny yn yr Alban? Mae yna ddatganoli ym Manceinion a hefyd yn Llundain. Nid yw'n achosi unrhyw broblemau penodol. Rydych chi'n iawn i godi materion trawsffiniol. Mae angen cynnal materion trawsffiniol bob amser, fel bod gennych ddull strategol o blismona ar draws y bwrdd, a bydd hynny'n rhywbeth a fydd yn cael ei gadw mewn cof mewn perthynas â'r ymchwil yr ydym ei eisiau. Credwn fod y dadleuon ynghylch rhinweddau datganoli plismona a'r sail resymegol drosto yn eithaf clir, ac rwy'n credu eu bod yr un mor berthnasol nid yn unig i'r ardaloedd lle ceir datganoli plismona eisoes, ond hefyd i ardaloedd eraill o Loegr hefyd. Rwy'n credu bod hynny'n cael ei gydnabod, ac mae hi'r un fath gydag agweddau ar ddatganoli cyfiawnder. 

Y rheswm dros gyflawni'r ymchwil, wrth gwrs, yw oherwydd ein bod eisiau adeiladu ar hynny, i'w ddeall yn well, edrych ar y mecanweithiau o ran sut y byddai'r union faterion rydych chi'n eu codi yn cael eu trin mewn amgylchedd lle credaf fod yna sail resymegol gydnabyddedig dros ddatganoli plismona mewn cymaint o feysydd sy'n effeithio ar ein cymunedau ac sy'n ymwneud â'r hyn sy'n bwysig am leoleiddio plismona. Mae gwaith sylweddol eisoes wedi'i wneud, gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, eto, ar y bartneriaeth plismona ac mae hi'n ymwneud yn helaeth â'r bartneriaeth honno. Rwyf innau hefyd wedi bod yn falch iawn o allu mynychu o bryd i'w gilydd. Rwy'n credu y daw'r prawf pan welwn yr ymchwil gan yr arbenigwyr sydd ag arbenigedd clir iawn ac arbenigedd ymarferol yn y maes. Rwy'n siŵr y bydd y gwaith y maent yn ei wneud a'r adroddiad a gynhyrchir ganddynt yn y pen draw o werth mawr i holl Aelodau'r Senedd hon. 

14:40

Rwy'n siŵr y byddech yn derbyn y byddai methu mynd i'r afael â'u datganiad fod tystiolaeth a roddwyd i gomisiwn Thomas yn cael ei hanwybyddu i raddau helaeth yn cryfhau'r argraff y byddech yn dilyn tystiolaeth a arweinir gan bolisi. Wrth gwrs, mae'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu hefyd yn wleidyddion pleidiol ac mae pwerau'r meiri yn Llundain a Manceinion, er enghraifft, yn cyfateb i rai comisiynydd heddlu a throseddu. Hyderaf nad ydych yn cynnig y dylai'r pwerau hynny fod yn nwylo un unigolyn yng Nghaerdydd.

Er bod eich datganiad ddoe yn cynnwys fod y pedwar heddlu yng Nghymru eisoes wedi dewis gweithio gyda'i gilydd a chyda Llywodraeth Cymru a chyrff eraill, mae swyddogion heddlu, o gwnstabliaid i brif gwnstabliaid, yn pwysleisio dro ar ôl tro na allant gymryd rhan mewn materion polisi ac mae eu cyfranogiad yn gwbl weithredol. Pan ymwelais ag uned troseddau cyfundrefnol rhanbarth gogledd-orllewin Lloegr, roeddent yn dweud wrthyf hefyd, fel y dywedais o'r blaen, fod holl gynlluniau argyfwng gogledd Cymru yn cael eu gwneud gyda gogledd-orllewin Lloegr, fod 95 y cant neu fwy o droseddau yng ngogledd Cymru yn lleol neu'n gweithredu ar sail drawsffiniol dwyrain-gorllewin, ac nad oes gan Heddlu Gogledd Cymru unrhyw weithrediadau sylweddol yn gweithio ar sail Cymru gyfan.

Er eich bod wedi osgoi ymateb i'r ffeithiau hyn o'r blaen pan wyf wedi eu codi gyda chi, roedd y swyddogion a ddywedodd hyn wrthyf yn cynnwys uwch aelodau o dîm rheoli prif gwnstabl gogledd Cymru ar y pryd, a nodaf y bydd yr adolygiad a gyhoeddwyd gennych ddoe yn cael ei arwain gan y cyn-brif gwnstabl hwnnw. O ystyried bod cyfiawnder a phlismona yn gweithredu ar batrwm dwyrain-gorllewin ledled Cymru, a bod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn byw mewn rhanbarthau neu'n agos i ranbarthau sy'n rhychwantu'r ffin â Lloegr, pa sicrwydd y gallwch ei roi nawr y bydd tystiolaeth wrthrychol gan heddluoedd a chyrff perthnasol eraill ar draws y ffin, ond gan weithredu gyda heddluoedd a chyrff perthnasol yng Nghymru, yn cael ei chynnwys yn yr adolygiad? 

Diolch unwaith eto am y pwyntiau a godwyd gennych. Rwy'n credu bod rhai o'r pwyntiau, sy'n feirniadaeth o rai o weithrediadau'r heddlu, yn ymddangos fel pe baent yn cefnogi'r union reswm pam ein bod yn credu ei bod yn bwysig datganoli plismona, fel y gellid mynd i'r afael â nhw o fewn y fframwaith ehangach hwnnw. Ond gan roi hynny i'r naill ochr, rwy'n credu, ar ôl comisiynu'r dystiolaeth arbenigol hon nawr, y ffordd allweddol ymlaen yw aros nes daw'r dystiolaeth honno, ei hystyried wedyn, ei gwerthuso ac yna ei thrafod yn y Siambr hon. Credaf yn gyffredinol fod y pwyntiau a godwch yn rhai a gaiff sylw yn yr adroddiad hwnnw a gallwn eu trafod yn y Siambr hon. Rwy'n credu mai dyna'r ffordd y gwnawn fwrw ymlaen â hyn.  

Yn y ddadl yr wythnos diwethaf ar ansawdd dŵr, roedd mwy nag un Aelod o fwy nag un blaid wedi gwneud yr achos dros gymryd Dŵr Cymru yn ôl mewn i berchnogaeth gyhoeddus. Mi oedd y Prif Weinidog ei hunan, yn ôl ym mis Mai, wedi dweud y byddai fe yn ei groesawu pe bai'r Senedd yn adolygu a oedd y model cydfuddiannol wedi cyflawni'r manteision a addawyd dros 20 mlynedd yn ôl pan grëwyd Glas Cymru, y rhiant gwmni. Fel cam cyntaf yn y broses hynny, fel petai, ydy'r Cwnsler Cyffredinol mewn sefyllfa i gadarnhau bod gennym ni fel Senedd y cymhwysedd i ddeddfu i wladoli Dŵr Cymru fel cwmni dŵr sydd yn bennaf yn gweithredu yng Nghymru?

14:45

Wel, yr hyn y gallaf ei ddweud yw nad yw dŵr yn fater a gadwyd yn ôl, heblaw bod cyfyngiadau penodol mewn perthynas â dŵr, yn enwedig lle gallai ymwneud â dŵr sy'n rhannol yng Nghymru, yn rhannol yn Lloegr, ac ati. Y pryder a fyddai gennym fyddai mater cymhwysedd o ran bod yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru. Felly, mae'r rhain yn faterion y gallai'r Senedd hon eu hystyried a phe ceid adolygiad, yn sicr byddai'n briodol iawn ei gynnal o fewn y Senedd hon. 

Pan fydd unrhyw gwmni yn cael ei wladoli, mae'r cwestiwn cyfreithiol o lefel addas iawndal ar gyfer ei berchnogion yn codi. Mae yna ddigon o gynseiliau o'r Uchel Lys, y Llys Apêl a Llys Iawnderau Dynol Ewrop sydd yn dyfarnu bod seneddau, yng nghyd-destun gwladoli, yn medru pennu lefel iawndal sydd yn addas yn eu tyb nhw, o fewn y cyd-destun penodol. Yn yr achos yma, gan nad oes yna gyfranddalwyr o gwbl, ydy'r Cwnsler Cyffredinol o'r farn na fyddai iawndal yn gyfreithiol angenrheidiol ac, yn benodol, na fyddai angen chwaith talu iawndal i gredydwyr Dŵr Cymru—deilyddion bondiau a benthycwyr eraill—oherwydd y byddai'r dyledion hynny'n cael eu trosglwyddo o dan yr un telerau i'r cwmni gwladoledig, neu, pe bai yna gymal yn y cytundebau ariannu yn atal hyn rhag digwydd, y byddai'r Senedd â'r pŵer i wyrdroi hynny yn ôl ei phenderfyniad?

Wel, mae mater cymhwysedd yn faes cymhleth iawn ac mae'n cynnwys llawer o ffactorau. Mae Glas Cymru yn endid corfforaethol. Yn sicr, mae hynny'n rhoi hunaniaeth gyfreithiol iddo. Mae'n gwmni preifat, cyfyngedig trwy warant. Felly, mewn perthynas ag eiddo, mae'n debyg fod yna faterion sy'n ymwneud ag eiddo a allai fod yn berthnasol yn gyfreithiol. Mae yna hefyd fuddiannau eiddo eraill a fyddai'n cael eu cynnwys, fel y dywedoch chi, o ran dyledion neu o ran bondiau ac yn y blaen, lle mae Dŵr Cymru wedi gweithredu. Byddai'r rheini'n sicr yn codi cwestiynau a materion y byddai angen eu hystyried hefyd.

Byddai angen ystyried unrhyw ddeddfwriaeth yn ofalus o dan adran 108A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Fel y dywedais, mae Atodlen 7A yn cynnwys rhai cymalau cadw mewn perthynas â dŵr y byddai angen eu hystyried yn ofalus iawn. Nid oes gan y cwmni unrhyw gyfalaf cyfranddaliadau ac fel y dywedoch chi, nid oes ganddo gyfranddalwyr, ond mae ganddo unigolion sy'n cael eu penodi fel aelodau sy'n chwarae rôl debyg i gyfranddalwyr ond heb unrhyw fuddiant ariannol. Felly, rwy'n credu mai'r gorau y gallaf ei ddweud ar hyn o bryd yw hyn: pe ceid cynnig o'r fath, byddai angen rhoi ystyriaeth ofalus i gymhwysedd.

Deddf Crwydraeth 1824

3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ar fwrw ymlaen i ddiddymu Deddf Crwydraeth 1824? OQ60231

Diolch am eich cwestiwn. Rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddiddymu'r Ddeddf Crwydraeth, rhywbeth y buom yn galw amdano ers peth amser, ond mae gennym bryderon na fydd yr hyn a ddaw yn ei lle yn cyd-fynd â'n dull tosturiol o gynorthwyo pobl sy'n profi digartrefedd i gael llety sefydlog. Mae ein swyddogion wedi pwysleisio hyn i'w swyddogion cyfatebol wrth i ni aros am fanylion llawn yr argymhellion.

Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Dyna fy mhryder innau hefyd. Fel y soniais o'r blaen yn y Senedd, fel bargyfreithiwr newydd gymhwyso, byddwn yn aml yn gweld pobl ddigartref bregus yn cael eu herlyn o dan y Ddeddf ofnadwy hon, am ddim byd mwy na cheisio goroesi. Er cymaint y gobeithiwn fod agweddau wedi newid ers hynny, mae'n ymddangos nad yw hynny'n wir yn ôl datganiadau diweddar gan y cyn-Ysgrifennydd Cartref bellach. Gyda Llywodraeth a hyrwyddodd ddigartrefedd fel dewis ffordd o fyw ac sydd eisiau cosbi sefydliadau sy'n darparu pebyll a sachau cysgu i bobl a fyddai fel arall yn marw o oerfel, nid yw'n syndod fod yna adwaith enfawr wedi bod, gyda llawer o elusennau'n dweud eu bod yn barod i dorri'r gyfraith a mynd i'r carchar er mwyn dangos dyngarwch sylfaenol. Hefyd, roedd y cyn-Ysgrifennydd Cartref eisiau gosod ei chynigion yn y Bil Cyfiawnder Troseddol, a gyhoeddwyd yn Araith y Brenin, gan ei wneud yn Ddeddf crwydraeth 2.0 i bob pwrpas. Gyda'r cyhoeddiad fis diwethaf gan y Gweinidog Newid Hinsawdd yn y Senedd hon, a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol wrthwynebu unrhyw ymdrechion gan Lywodraeth y DU i orfodi'r rheoliad annynol hwn? Diolch yn fawr.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

14:50

Rydych chi'n gwneud nifer o bwyntiau dilys iawn. Yn ddiweddar, fe wnaethom gyhoeddi ymgynghoriad ar ein cynigion i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru, ac mae ein ffocws yn y Senedd hon ar atal, a phan fo digartrefedd yn digwydd, mae'n bwysig cynorthwyo pobl i gael llety diogel. Fel y dywedais, mae rhannau o Ddeddf Crwydraeth 1824 wedi cael eu diddymu dros y blynyddoedd. Yr hyn y mae Llywodraeth y DU wedi'i ddweud yn glir, serch hynny, yw nad yw'n mynd i'w dileu nes bod ganddynt ddeddf i gymryd ei lle. Nawr, mae gennym bryderon ynglŷn â beth allai'r ddeddf newydd fod. Mae'n bosibl y gallai'r hyn a ddaw yn lle'r Ddeddf Crwydraeth droseddoli'r rhai sy'n ddigartref ac sydd â'r angen mwyaf, tra bod y dystiolaeth yn awgrymu y dylai'r ffocws bob amser fod ar gynorthwyo pobl ddigartref i ddod oddi ar y strydoedd ac i mewn i lety hirdymor addas, yn hytrach na throseddoli pobl fregus ac unigolion ag anghenion cymhleth.

Rwy'n meddwl hefyd—ac rwy'n credu, mae'n debyg, mai dyma sy'n sail i rai o'r sylwadau a wnaethoch chi hefyd—ein bod yn pryderu am rai o'r sylwadau sydd wedi'u gwneud am bebyll ac erlid pobl ddigartref a'r rhai sy'n cysgu allan i bob pwrpas. Felly, yn sicr ni fyddem yn gefnogol i unrhyw beth a fyddai'n arwain at droseddoli, yn hytrach na rhywbeth a fyddai'n ceisio datrys problem digartrefedd a chyfrannu at gael pobl oddi ar y strydoedd. Dyna'r cyfeiriad y byddem yn dymuno mynd iddo. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU, ac wrth gwrs, pan fydd rhagor o fanylion am beth yn union a gynigir yn cael eu rhannu gyda ni—. Ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod. Mae'n anffodus na fu rhagor o fanylion i'w rhannu gyda ni fel ein bod yn gwybod mwy amdano ar y cam hwn, ond gallaf eich sicrhau bod hyn yn rhywbeth yr ydym yn edrych arno'n agos iawn.

Diwygio'r Senedd

4. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch goblygiadau diwygio'r Senedd ar gyfer y setliad datganoli? OQ60252

Diolch am eich cwestiwn. Nid oes goblygiadau yn sgil diwygio'r Senedd i'r setliad datganoli. Rwyf wedi ymgynghori â Gweinidogion y DU yn ôl yr angen, lle mae gan ddarpariaethau'r Bil oblygiadau i swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru.

Diolch yn fawr am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Ddechrau mis Rhagfyr, nodaf y bydd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn cyflwyno'r Bil rhestr ymgeiswyr etholiadol er mwyn gosod cwotâu rhywedd ar gyfer etholiadau nesaf y Senedd. Yn amlwg, fe fyddwch yn ymwybodol fod y pwyllgor diben arbennig sy'n edrych ar ddiwygio'r Senedd, yn ogystal â'r panel arbenigol ac academyddion ac arbenigwyr cyfreithiol eraill, wedi mynegi pryderon ynghylch cymhwysedd Llywodraeth Cymru i allu deddfu yn y maes hwn. Rwy'n gwybod bod honno'n farn yr ydych chi a Llywodraeth Cymru'n anghytuno â hi o bosibl, felly buaswn wedi gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru wedi cydweithio â Llywodraeth y DU i ddod o hyd i ffordd drwodd i sicrhau y gellid pasio'r Bil hwn. Felly, dychmygwch fy syndod pan gysylltais â Swyddfa Cymru yn gynharach heddiw i weld a oeddech chi wedi cysylltu â Llywodraeth y DU a chael gwybod nad oeddech chi wedi gwneud hynny. A wnewch chi egluro pam?

Wel, a gaf fi ddweud, o ran y ddeddfwriaeth sy'n mynd drwodd yr wyf yn gyfrifol amdani, ysgrifennais at y tîm gweinidogol yn yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ar 11 Medi, i ymgynghori ar oblygiadau diwygio'r Senedd i swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol. Nid oedd ymateb y Gweinidog ffyniant bro yn cynnwys unrhyw sylwadau penodol ar y cynigion deddfwriaethol. Fodd bynnag, nododd y Gweinidog ffyniant bro y byddai diddordeb mawr yn ddi-os yng nghynigion diwygio'r Senedd gan y rhai sy'n gweithio ar etholiadau, a gofynnodd am ddiweddariadau ar hynt y ddeddfwriaeth. Mae fy swyddogion hefyd wedi ymgysylltu â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar effaith bosibl y ddeddfwriaeth ar y system gyfiawnder, ac yn dilyn eu hadolygiad, cadarnhaodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder nad yw'r cynigion yn cael fawr o effaith os o gwbl ar system gyfiawnder y DU. Nid yw'r Bil cwotâu rhywedd, sef yr un y cyfeirioch chi ato, yn cael ei gyflwyno gennyf fi, gan nad yw'n un o gyfrifoldebau fy mhortffolio. Ond yr hyn y gallaf eich sicrhau, o ran fy swyddogaethau fel Cwnsler Cyffredinol—y sicrwydd rwy'n ei roi ar bob darn o ddeddfwriaeth y gwnaf sylwadau arni—yw mai mater i mi wneud sylwadau arnynt, i adrodd arnynt, yw materion sydd o fewn y cymhwysedd, ac i'r Llywydd hefyd. Os oes materion yn y Bil hwnnw sy'n berthnasol i Lywodraeth y DU, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU lle mae'n angenrheidiol ac yn briodol gwneud hynny.

14:55

Bydd y rhai ohonom sy'n credu yn egwyddorion sybsidiaredd a chraffu da, gan gredu bod craffu da yn arwain at lywodraethu da ac yn arbed arian mewn gwirionedd, yn cefnogi cynigion ynghylch diwygio'r Senedd, ond tybed a yw'r Cwnsler Cyffredinol wedi troi ei sylw o gwbl i'r cyfeiriad arall, gan edrych ar gynigion posibl Llywodraeth a ddaw yn y dyfodol ar ôl etholiad cyffredinol yn y DU. Tybed beth yw ei farn ar y cynigion, er enghraifft, yn yr hyn a elwir ar lafar erbyn hyn yn adroddiad Gordon Brown, nid yn unig mewn perthynas â senedd y gwledydd a'r rhanbarthau, sy'n adlewyrchu gwahanol rannau cyfansoddol y DU—llai, mwy cryno, mwy effeithiol, mwy cynrychiadol—ond hefyd y newidiadau ehangach a gynhwysir ynghylch pethau fel confensiwn Sewel. Mae diwygio'r Senedd yn gam da iawn ymlaen. Yr hyn sydd ei angen arnom nawr hefyd yw diwygio sefydliadau'r DU.

Rydych chi'n gwneud nifer o bwyntiau dilys iawn. Wrth gwrs, mae diwygio Tŷ'r Arglwyddi hefyd wedi'i gynnwys yn adroddiad Gordon Brown, sefydliad sydd angen ei ddiwygio'n ddybryd, a lle credaf fod urddo arglwyddi'n fater sy'n peri pryder cynyddol i'r Senedd, ac yn enwedig y ffordd y camfanteisir ar y drefn o benodi arglwyddi. Fe'i gadawaf ar hynny ar y cam hwn.

Rydych chi'n gwneud pwynt dilys ynghylch sybsidiaredd. Mae sybsidiaredd yn ymwneud â dod â phenderfyniadau mor agos â phosibl at y bobl a'r cymunedau yr effeithir arnynt. Credaf fod hyn yn rhywbeth yr ydym wedi'i drafod sawl gwaith yn y Senedd hon, ond mae'n rhan sylfaenol o adroddiad Gordon Brown, ac rwy'n credu ei fod yn sail bwysig iawn ar gyfer diwygio cyfansoddiadol. Wrth gwrs, confensiwn yw Sewel. Weithiau, mae statws confensiwn, a hefyd confensiwn sy'n cael ei ailadrodd mewn cyfraith statud yn neddfwriaeth Llywodraeth Cymru, yn rhywbeth a ddylai fod o bwys, felly mae'n peri pryder mawr, yn gyfansoddiadol, ei fod yn cael ei dorri a'i normaleiddio'n gynyddol. Buaswn yn gobeithio y byddai Llywodraeth Lafur newydd eisiau sicrhau bod y trefniadau cyfansoddiadol sydd ger bron pedair gwlad y DU yn cael eu rhoi yn ôl ar sail briodol. Rwy'n credu bod y cynnig yn adroddiad Gordon Brown lle byddai angen mwyafrif o ddwy ran o dair yn y Senedd cyn mynd yn groes i Sewel yn rhywbeth sydd â llawer o rinwedd yn perthyn iddo. Mae'n safon yr ydym yn ei chymhwyso yma ar gyfer diwygio cyfansoddiadol. Mae'n ddigon posibl y byddai'n safon a allai fod yn berthnasol mewn perthynas â San Steffan ac efallai na fyddai'n datrys yn llwyr, ond yn mynd yn bell i ddatrys yr anghysondebau a'r camweithrediad sydd eisoes yn bodoli yn ein trefniadau cyfansoddiadol.

Datganoli'r System Gyfiawnder

5. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch datganoli'r system gyfiawnder i Gymru? OQ60216

Rydym wedi egluro ein safbwynt dro ar ôl tro wrth Lywodraeth y DU dros y blynyddoedd ers cyhoeddi'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, ond yn y pen draw nid ydynt yn cefnogi casgliad y comisiwn y dylid datganoli cyfiawnder.

Diolch. Rwy'n cefnogi popeth a ddywedoch chi yno, Gwnsler Cyffredinol, yn fwyaf arbennig oherwydd, yn ôl Gweinyddiaeth Gyfiawnder Llywodraeth y DU, mae carchardai'r DU ar 98 y cant o'u capasiti, ac adroddwyd yn swyddogol fod dwy ran o dair o garchardai Cymru a Lloegr yn orlawn, gyda charcharorion yn byw mewn amodau annynol. Mewn gwirionedd, y mis diwethaf, roedd poblogaeth carchardai Cymru a Lloegr yn uwch nag y bu erioed ac eisoes, o dan Lywodraeth y DU, Prydain oedd â'r gyfradd garcharu uchaf y pen yng ngorllewin Ewrop. Mewn ymateb i hyn, aeth Llywodraeth y DU ati fel lladd nadroedd i ryddhau lle mewn carchardai gorlawn gyda chynlluniau i anfon llai o droseddwyr a gafwyd yn euog i'r carchar ac uwch farnwr gweinyddol yn dweud wrth farnwyr am oedi cyn dedfrydu troseddwyr a gafwyd yn euog ac sydd nawr ar fechnïaeth—ac mae hynny'n cynnwys treiswyr a byrgleriaid—oherwydd bod carchardai'n llawn. Ond mae hyn hefyd yn rhoi pwysau pellach ar wasanaeth prawf sydd eisoes mewn argyfwng, gyda swyddogion yn ymdrin â llwyth gwaith ofnadwy o uchel oherwydd ecsodus o staff a phrofiad. Felly, i gloi, mae'r Llywodraeth hon wedi arwain y system gyfiawnder yng Nghymru a Lloegr i argyfwng difrifol oherwydd blynyddoedd o danariannu, ôl-gronni a streiciau oherwydd amodau gwaith gwael. O ystyried hyn, Gwnsler Cyffredinol, pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn? A pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i leihau gorlenwi peryglus yn ein systemau carchar yng Nghymru? Diolch.

15:00

Wel, nid yw'r carchardai, fel y cyfryw, wedi'u datganoli. Wrth gwrs, mae gennym rolau pwysig o fewn y system garchardai, o ran iechyd ac addysg, ac wrth gwrs, rydym yn paratoi'r tir mewn perthynas â datganoli prawf a chyfiawnder ieuenctid. Nid yw'n glir ble'n union mae Llywodraeth y DU yn mynd gyda'i deddfwriaeth. Yr hyn sy'n bwysig, serch hynny, yw ei bod yn sylweddoli—rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth a gafodd ei gydnabod yn dda yn adroddiad comisiwn Thomas—fod gormod o ddedfrydau byr. Nid yw dedfrydau byr yn cyfrannu'n ddigonol at ein system gyfiawnder. Gwyddom fod llawer o resymau pam y dylem symud tuag at fwy o ddewisiadau yn lle carchar a thuag at drefniadau o fewn y gymuned. Nawr, mae hyn yn rhywbeth sy'n ymddangos fel pe bai wedi cael ei gydnabod gan Lywodraeth y DU.

Mae'r system carchardai mewn argyfwng. Yn yr 13 mlynedd o Lywodraeth Dorïaidd, mae wedi cynyddu o 45,000 i 90,000, ond rydym yn dod yn fwyfwy ymwybodol o bryderon mawr hefyd nawr, yn enwedig oherwydd peth o'r gwaith a'r data sydd bellach yn deillio o'r gwaith a wneir gan Brifysgol Caerdydd. Mae cael data i ddeall beth sy'n digwydd yn ein carchardai, a'r carcharorion sy'n cael eu rhyddhau wedyn i'n cymuned ac ymwneud â chyfrifoldebau datganoledig yn arwyddocaol iawn. Rydym wedi ei godi gyda'r Arglwydd Bellamy, yr Is-Ysgrifennydd dros gyfiawnder, ac er tegwch, mae'n fater sy'n drafodaeth barhaus, a rheolaidd bellach, gyda'r Arglwydd Bellamy.

Ond rwyf am roi enghraifft i chi sy'n dangos pam mae ein carchardai mewn cyflwr mor gamweithredol ar hyn o bryd. Nid yn unig oherwydd, yng Nghymru, mae'n debyg mai ni sydd â'r gyfradd uchaf o garchariadau yng ngorllewin Ewrop gyfan—fesul 10,000 o bobl o liw, bydd 91 yn y carchar; fesul 10,000 o gefndir Asiaidd, bydd 28 yn y carchar; rhai o gefndiroedd ethnig cymysg, bydd 41 yn y carchar; o gefndiroedd gwyn, bydd 14 yn y carchar. Os ydych chi'n ddu a'ch bod yn cael eich dedfrydu, rydych chi'n debygol o gael dedfryd sydd 10 mis yn hwy ar gyfartaledd. Felly, mae'n amlwg fod cryn arwyddocâd i fater y polisi dedfrydu. Os ydych yn dod o gefndir du ac ethnig leiafrifol, rydych yn debygol o dreulio rhan hwy o'ch dedfryd yn y carchar. Felly, mae llawer o—. Gallwn barhau â rhestr o'r rhain sy'n dangos pa mor bwysig yw hi ein bod nid yn unig yn mynd i'r afael â'r mater hwnnw mewn perthynas â charchardai, ond ein bod yn edrych ar yr opsiynau amgen, ac yn amlwg, byddwn yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ynghylch yr opsiynau amgen hynny. Wrth gwrs, mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn cadw hyder yn y modd y caiff y cyhoedd eu diogelu, ond yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yw methiant difrifol a sarhaus o fewn y system garchardai ac mae'n un o'r rhesymau sy'n sail i'n galwadau am ddatganoli cyfiawnder.

Gwasanaethau i Ddefnyddwyr sy'n Agored i Niwed

6. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch y goblygiadau ar gyfer gwasanaethau i ddefnyddwyr sy'n agored i niwed o ran dyfarniad yr Uchel Lys yn achos R. Shane Williams v Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ym mis Mehefin 2019 ynghylch cau canolfan hamdden Pontllanfraith? OQ60228

Diolch am eich cwestiwn. Mae Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 yn rhoi pŵer i awdurdodau lleol ddarparu amrywiaeth o gyfleusterau hamdden, gan gynnwys canolfannau chwaraeon, ac yn galluogi awdurdodau lleol i ymateb i anghenion a blaenoriaethau lleol. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 a rheoliadau cysylltiedig yn rhan o ystyriaeth yr awdurdodau lleol wrth arfer eu pwerau.

Diolch am hynny.

Rwy'n ymwybodol fod adroddiad am ddyfodol canolfan hamdden Pontllan-fraith yn cael ei ystyried gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili heddiw, yn argymell cynnal ymgynghoriad ar gau'r cyfleuster yn barhaol, sy'n gwneud i rywun feddwl sut mae'r cyngor wedi bodloni'r dyfarniad llys o fis Mehefin 2019. Pa ffyrdd cyfreithiol sydd ar gael i ddiogelu gwasanaethau i ddefnyddwyr bregus ledled Cymru, pa bynnag awdurdod cyhoeddus sy'n gyfrifol? Sut y gallwn sicrhau ein bod yn achub ein canolfannau hamdden?

Wel, a gaf fi ddweud wrth yr Aelod, fel cyrff etholedig democrataidd lleol, mai'r awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i reoli trefniadaeth gwasanaethau hamdden yn eu hardaloedd, a'u cyfrifoldeb datganoledig nhw yw hynny. Fel rhan o'u penderfyniadau wrth gwrs, dylai awdurdodau lleol fod yn ystyriol o'u dyletswyddau cydraddoldeb sector cyhoeddus ac ystyried effaith eu penderfyniadau ar bobl sydd â nodweddion gwarchodedig. Hefyd, mae angen iddynt ystyried eu dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r rhain yn darparu parsel o ystyriaethau i helpu awdurdodau lleol i wneud penderfyniadau rhesymegol.

15:05
Araith y Brenin

7. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith y Bil Dedfrydu newydd a gyhoeddwyd yn Araith y Brenin ar lysoedd yng Nghymru? OQ60232

Diolch am eich cwestiwn. Dim ond gwybodaeth amlinellol a gawsom ar y Bil Dedfrydu cyn iddo gael ei gyflwyno ddoe, ac nid wyf wedi cael unrhyw esboniad eto sut y gallai ei ddarpariaethau effeithio ar feysydd polisi datganoledig neu'n wir ar waith a gedwir yn ôl gan lysoedd yng Nghymru. Felly, nid ydym wedi bod mewn sefyllfa i wneud unrhyw asesiad eto.

Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Unwaith eto, mae'n clywed am y diffyg cyfathrebu rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn destun pryder. Mae'r Bil Dedfrydu, a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn ystod Araith y Brenin, yn nodi y bydd yn ofynnol i farnwyr roi dedfrydau oes gyfan cyn bo hir ar gyfer yr achosion mwyaf difrifol. Ond fel y dywedodd Sarah Murphy yn ei chwestiwn atodol, mae hyn yn cuddio argyfwng go iawn yn y system cyfiawnder troseddol. Gofynnir i farnwyr ohirio dedfrydu'r troseddwyr mwyaf difrifol sydd ar fechnïaeth, am nad oes lle ar ôl yn y carchardai. Gwelais mai 500 o leoedd yn unig a oedd ar ôl ym mhob carchar yng Nghymru a Lloegr fis diwethaf, ac mae hynny'n cuddio'r argyfwng go iawn, oherwydd roedd mwyafrif y rheini mewn carchardai i fenywod a sefydliadau troseddwyr ifanc. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi mai rôl y Llywodraeth yw peidio â mynd ar drywydd penawdau cadarnhaol er mwyn bodloni grŵp sy'n arddel ideoleg benodol, a chytuno fod gohirio cyfiawnder yn aml iawn yn gyfystyr â gwrthod cyfiawnder? Diolch yn fawr.

Diolch am y pwyntiau sy'n dilyn sylwadau Sarah Murphy mewn gwirionedd. Wel, rydych yn mynd ymhellach na hynny ac wrth gwrs, yr hyn y mae'r Swyddfa Gartref wedi'i wneud yw ariannu lleoedd, archebu'r celloedd bron iawn, bron fel Booking.com o gelloedd yr heddlu, i sicrhau bod capasiti ychwanegol yn y carchardai. Yr hyn y maent hefyd wedi gwneud sylwadau yn ei gylch yw sut y gallent archebu lleoedd dramor i allanoli'r lleoedd carchar nad ydynt wedi gallu eu darparu.

Mae'n 13 mlynedd o fethu cael unrhyw bolisi cyfiawnder strategol mewn perthynas â charchardai. Ac wrth gwrs, mae'r hyn sydd wedi digwydd nawr yn ganlyniad i hynny. Rydym bellach wedi cyrraedd y cam, ar ôl 13 mlynedd, nid yn unig o danariannu ond diffyg unrhyw strategaeth ar gyfer carchardai, lle gwelwn y canlyniadau penodol hyn bellach. Wyddoch chi, mae'n anodd deall sut nad ymatebwyd i'r arwyddion rhybudd, pan fyddwch wedi dyblu poblogaeth y carchar mewn 13 mlynedd o Lywodraeth. A dim ond nawr, yn ystod misoedd olaf y Llywodraeth hon, neu ar wely angau'r Llywodraeth bresennol hon mae'n debyg, maent yn ceisio cyflwyno deddfwriaeth sy'n ymdrechu i wneud iawn am 13 mlynedd o fethiant.

Mae gennym ddiddordeb arwyddocaol iawn fel Llywodraeth ddatganoledig, yn enwedig, er enghraifft, yn y pethau sy'n digwydd pan ryddheir carcharorion, y darpariaethau llety, yr ymdrechion i sicrhau gwaith i bobl, pa fecanweithiau cymorth eraill sydd yna. Oherwydd y sefyllfa arall, os nad yw hynny'n digwydd, yw bod pobl yn y pen draw yn dychwelyd i'r carchar, ac mae hynny, wrth gwrs, wedi bod yn rhan o'r broblem. Yr un arall, wrth gwrs, yw y bydd gormod o lawer o bobl yn y carchar ar ddedfrydau byr heb fawr o bwrpas iddynt. Nid yw'r gost ddrud o ddefnyddio carchardai mewn ffordd, yn gynyddol, ac rwy'n credu i fodloni'r galw poblyddol, yn ateb unrhyw ddiben go iawn. Mae 21 y cant o'r menywod sydd yn y carchar wedi eu carcharu am gyfnodau o fis neu lai. Pa ddiben ar y ddaear y mae hyn yn ei ateb mewn gwirionedd?

Felly, byddwn yn amlwg yn ystyried y ddeddfwriaeth hon, y Bil Dedfrydu, y bydd yn rhaid edrych arni ar y cyd â'r Bil Cyfiawnder Troseddol, i edrych ar beth yw'r goblygiadau i ni ac i'n cyfrifoldebau. Ond yn sicr mae gennym gyfeiriad gwahanol iawn y byddem am ei gymryd, a byddwn yn sicr yn bwydo hynny i mewn ar bob cyfle, yn dibynnu ar ba mor bell y bydd y ddeddfwriaeth hon yn ei gyrraedd mewn gwirionedd.

15:10
Diogelwch Tomenni Glo

8. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru ynghylch y rhaglen diogelwch tomenni glo? OQ60223

Diogelu ein cymunedau yw prif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru o hyd, a byddwn yn parhau i gyflawni ein cyfrifoldebau i wneud hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth newydd i'n galluogi i reoli tomenni nas defnyddir yng Nghymru yn 2024.

Diolch am hynny. Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd wrthyf ddoe yn y Siambr hon:

'Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi cyd-gadeirio'r uwchgynhadledd diogelwch tomenni glo ers cryn amser.'  

Ac eto, yn y llythyr a gafodd yr Aelodau gan y Prif Weinidog ar y cyhoeddiad, roedd yn dweud, 'Er gwybodaeth, dylwn ychwanegu mai'r bwriad gwreiddiol oedd i'r llythyr hwn gael ei anfon ar y cyd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fel y cytunwyd ac y cofnodwyd yn yr uwchgynhadledd ar domenni glo, ond mae'n well ganddo beidio ag ychwanegu ei enw bellach.' Gwnsler Cyffredinol, a fyddech yn cytuno â mi fod hyn yn anarferol? Pa gynseiliau sydd yna ar gyfer sefyllfa o'r fath, a pha effaith y bydd hyn yn ei chael neu y gallai hyn ei chael yn gyfreithiol ac yn ymarferol ar y rhaglen diogelwch tomenni glo? Ac a fyddech yn cytuno â mi fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn methu yn y dyletswyddau a ddisgwylir ganddo yn ei swydd?  

A gaf fi ddweud ei bod hi'n siomedig iawn fod hynny wedi digwydd? Wrth gwrs, nid oes gennyf unrhyw ymgysylltiad uniongyrchol â hynny, ac fe wnaeth y Prif Weinidog sylwadau mewn ymateb i gwestiynau iddo wrth gwrs. Ond mae'n arwydd, onid yw, o Lywodraeth y DU sydd yn y bôn wedi cefnu ar unrhyw un o'i rhwymedigaethau i'r hyn a adawyd ar ôl i ni yng Nghymru o gyfran mor fawr o'r tomenni glo cyn datganoli. Ceir effaith anghymesur arnom: mae bron i 40 y cant o'r tomenni glo yng Nghymru. Mae disgwyl i Fil tomenni nas defnyddir (Cymru) yr ymchwiliad i'r pyllau glo gael ei gyflwyno y flwyddyn nesaf. Mae'n ceisio ymgorffori cyfundrefn reoleiddio hirdymor, gynaliadwy ac addas i'r diben ar gyfer diogelwch tomenni nas defnyddir mewn deddfwriaeth. Ac wrth gwrs, roedd ymgysylltiad rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar lefel eithaf uchel ac ar y cyd. Cafwyd cydnabyddiaeth ar y cyd. Rwy'n credu ei bod hi'n siomedig iawn ei bod yn ymddangos bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru bellach wedi cefnu ar y dull hwnnw o fynd ati, ac wedi cefnu ar Gymoedd de Cymru mewn gwirionedd, lle mae cymaint o'r tomenni glo hyn wedi'u lleoli.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Eitem 3 yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Senedd, a bydd y tri chwestiwn cyntaf yn cael eu hateb gan y Llywydd. Cwestiwn 1, Andrew R.T. Davies. 

GB News

1. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y penderfyniad i wahardd GB News o systemau teledu'r Senedd? OQ60226

Yn dilyn darllediad diweddar ar GB News a oedd yn benodol sarhaus i fenywod mewn bywyd cyhoeddus, penderfynais i dynnu'r sianel oddi ar system deledu fewnol y Senedd. Bydd y gwaharddiad hwnnw'n parhau wrth i'r Comisiwn geisio mewnbwn annibynnol ar gyfer datblygu protocol darlledu a fydd yn darparu eglurder a chysondeb ynghylch y sianeli sydd ar gael ar system deledu fewnol y Senedd.

Diolch am yr ateb hwnnw, Lywydd. A wnewch chi ymhelaethu ar y gwaith annibynnol a gomisiynwyd gennych fel Comisiwn i osod y meincnod ar gyfer pa ganllawiau a allai fodoli wrth symud ymlaen ar yr hyn sydd ar gael ar rwydwaith mewnol y Senedd? A phryd y gellir cwblhau'r gwaith hwnnw, fel y gall y Comisiwn wneud penderfyniad gwybodus ynghylch adfer sianeli, os mai dyna ganlyniad yr adolygiad? 

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i ddweud ychydig o bethau ar y mater hwn wrth yr Aelodau y prynhawn yma. Ni chafodd GB News ei atal gennyf oherwydd fy mod o bosibl yn anghytuno â'i gylch gwaith golygyddol. Nid ei chynnwys gwleidyddol a arweiniodd at ei wahardd, ond sylwadau gwreig-gasaol cwbl sarhaus Laurence Fox, a hwyluswyd gan gyflwynydd GB News. Caniatawyd i Laurence Fox siarad heb ei herio am newyddiadurwr benywaidd—ac rwy'n dyfynnu yma, Ddirprwy Lywydd—a dywedodd:

'Dangoswch imi un dyn sy'n parchu'i hun a fyddai'n dymuno dringo i'r gwely gyda'r fenyw honno.'

Ac yna aeth ymlaen i ddweud:

'Pwy fyddai eisiau cysgu gyda honna?'

Rwy'n ymwybodol y gallai dyfynnu'r sylwadau heddiw yn y Siambr hon ymddangos mewn clipiau ar gyfryngau cymdeithasol, ac mae'n ddigon posibl y bydd sylwadau tebyg yn cael eu gwneud amdanaf innau erbyn heno. Dyna sut y gellir siarad am fenywod ar gyfryngau cymdeithasol a sut y siaradwyd am un fenyw ar GB News. Peidiwch â disgwyl i mi ei oddef a pheidiwch â disgwyl i mi adael iddo barhau i fod ar system deledu fewnol y Senedd. Rwy'n gwybod nad ydych yn cymeradwyo'r sylwadau hyn, Andrew R.T. Davies, ond dylech ddeall a pharchu fy ymgais i amddiffyn menywod a dynion sy'n gweithio yn y Senedd hon rhag gorfod eu gweld ar ein system fewnol yn y Senedd.

Nawr, ymlaen at y camau nesaf. Yn gyntaf, rwyf wedi ysgrifennu at brif weithredwr GB News i ofyn pa wersi a ddysgwyd o gyfweliad Laurence Fox, a pha gyfarwyddyd hyfforddi a golygyddol newydd sydd ar waith i ymdrin yn well â chyfraniadau o'r fath yn y dyfodol. Nid wyf wedi cael unrhyw ymateb.

Yn ail, mae GB News yn parhau i fod wedi'i wahardd ac mae'r Comisiwn yn chwilio am fewnbwn annibynnol, fel yr amlinellwyd gennych, Andrew R.T. Davies, i ddatblygu protocol darlledu i ddarparu eglurder ar y sianeli a ddylai fod ar gael ar system deledu fewnol y Senedd yn y dyfodol. Yn y cyfamser, os ydynt yn ysu i wylio GB News, gall unrhyw Aelod godi'ch ffôn neu eich gliniadur yn y Senedd a gallwch barhau i'w wylio.

Bydd y materion hyn yn cael eu hystyried gan y Comisiwn nawr. Mae'r adolygiad annibynnol yn mynd i edrych ar y materion hyn a darparu'r cyngor y mae'r Comisiwn yn ceisio ei gael. Buaswn yn ddiolchgar iawn hefyd pe bai unrhyw Aelodau o'r Siambr sydd ag unrhyw farn ar hyn yn ei gwneud yn hysbys i mi.

Ond os gwelwch yn dda, wrth inni barhau i drafod ac ystyried y materion hyn, gadewch inni wneud hynny mewn ffordd barchus, urddasol. Gadewch inni beidio â gwneud sylwadau gwamal—sylwadau gwamal amdanaf fi a fy ngwallt, hyd yn oed, ar GB News. Ni wnaeth y sylw hwnnw beri tramgwydd i mi, ond hoffwn sicrhau bod Aelodau, pan fyddwn yn siarad am y pethau hyn, bob amser yn ystyried mai dadl gyhoeddus barchus ac urddasol yw hi—dyna mae pawb ohonom yn ceisio ei sicrhau yn y Senedd hon ac yn ein cymunedau.

15:15

Mae sawl etholwr wedi cysylltu â mi yn poeni bod pobl yn cael eu cyflogi ar draul trethdalwyr i wylio'r teledu. Rwy'n cytuno â nhw. Rwyf wedi gweithio mewn mannau lle byddai gwylio'r teledu yn ystod oriau gwaith wedi bod yn drosedd ddisgyblu. Ar wahân i ddilyn trafodion y Senedd, a digwyddiadau fel Araith y Brenin a datganiad yr hydref, pam fod pobl yn gwylio'r teledu pan ddylent fod yn gweithio?

Nid oes gennyf unrhyw syniad, dyna fy ateb i'r cwestiwn hwnnw. Yr hyn y gallai fod o ddiddordeb i chi ei wybod yw bod y penderfyniad i wahardd GB News o'r system fewnol—. Cymerodd amser i unrhyw Aelod sylweddoli ei fod wedi'i wahardd. Felly, efallai na fydd gwylio'r teledu neu wylio'r sianel benodol honno mor gyffredin ag y byddai rhai pobl am ei feddwl. 

Gwasanaethau TGCh

2. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am ddarparu gwasanaethau TGCh ar ystâd y Senedd? OQ60235

Mae'r Comisiwn yn defnyddio ystod eang o dechnolegau modern i gefnogi gwaith yr Aelodau a'u staff cymorth. Ein nod yw darparu technoleg sy'n addas ar gyfer gwahanol arferion gwaith, ac yn caniatâu i ddefnyddwyr weithio yn hyblyg ac yn ddiogel o unrhyw leoliad sydd â chysylltiad â'r rhyngrwyd. 

Rwy'n ddiolchgar i'r Llywydd am yr ymateb hwnnw. Cyflwynais y cwestiwn hwn mewn rhwystredigaeth bur, mae arnaf ofn. Roeddwn yn ceisio cymryd rhan mewn cyfarfod Zoom yn fy swyddfa yn Nhŷ Hywel a cholli cysylltiad, colli'r signal, dro ar ôl tro. Fy mhrofiad i o weithio yn Nhŷ Hywel yn rhy aml o lawer yw nad yw'r systemau mewnol yn ddigon cadarn i fy ngalluogi i gymryd rhan mewn cyfarfodydd yn rhithwir. Rwy'n gobeithio y bydd y Comisiwn yn edrych ar sut y gallwn sicrhau y gallwn barhau i weithio'n rhithwir, yn enwedig pan fyddwn yma yng Nghaerdydd ac am gynnal cyfarfodydd gydag etholwyr, a sicrhau bod gennym systemau TGCh ar waith i sicrhau ac i'n galluogi i wneud hynny. 

Nid dyna fy mhrofiad i, mae'n rhaid imi ddweud, ac nid wyf yn ymwybodol fod unrhyw broblemau wedi'u codi gan Aelodau ynghylch defnyddio Zoom ar gyfer cyfarfodydd â'u hetholwyr. Rwy'n defnyddio'r dechnoleg fy hun. Ond os oes problemau, rwy'n fwy na pharod i sicrhau ein bod yn edrych arnynt a sicrhau bod y seilwaith hwnnw'n addas i'r diben. Felly, rwy'n falch eich bod wedi ei godi, ac efallai y gallwn gael trafodaeth benodol ynghylch beth yw'r problemau y daethoch ar eu traws, ac os gwelwch yn dda, os oes unrhyw Aelodau eraill yn wynebu problemau o'r fath, mae angen inni eu datrys.

Argyfwng Costau Byw

3. Pa fesurau y mae Comisiwn y Senedd yn eu cymryd i helpu holl staff y Senedd yn ystod yr argyfwng costau byw? OQ60227

Yn ystod 2023, mae'r Comisiwn wedi talu dau daliad costau byw i staff. Yn gynnar yn 2023, gwnaed taliad o £500 i weithwyr a oedd yn ennill £32,000 neu lai. Mae'r ail daliad o £1,500 yn cael ei dalu mewn dwy ran yn y flwyddyn ariannol yma—y rhan gyntaf ym mis Hydref a'r ail ran derfynol ym mis Chwefror. Bydd y taliad yma ar gael i bawb lan i radd 6. Cafodd yr ail daliad yma ei gytuno ar ôl trafodaethau gydag ochr undebau llafur y Comisiwn.

15:20

Diolch am hynny. Rwy'n croesawu’r ffaith bod staff y Comisiwn wedi derbyn y taliad argyfwng costau byw o £1,500 yn ddiweddar. Ymhellach i hyn, a ydy’r Comisiwn wedi gwneud newidiadau priodol, ydych chi'n meddwl, yn dilyn y cynnydd yn y real living wage, i sicrhau bod staff ar fandiau is yn derbyn cyflog cyfatebol, ar y lleiaf?

Rwy’n deall bod y bwrdd taliadau yn penderfynu tâl a thelerau staff cymorth yr Aelodau a’r staff sy’n gweithio i grwpiau'r pleidiau. Mae gan staff cymorth gap o 3 y cant yn flynyddol, sy’n golygu nad ydyn nhw’n derbyn codiad cyflog sy’n adlewyrchu pwysau chwyddiant. Fel rydw i’n ei ddeall, mae’r undebau yn gwthio i gael gwared ar y cap yna ar gyfer staff cymorth.

Pa gamau, felly, mae’r Comisiwn yn eu cymryd i weithio gyda’r bwrdd taliadau i sicrhau bod ganddynt gyllideb ddigonol er mwyn, yn gyntaf, caniatáu cyflog cynyddol a fydd yn gyfatebol i chwyddiant, ac, yn ail, cyllideb a fydd yn sicrhau bod staff cymorth ar fandiau is yn derbyn y real living wage, os gwelwch yn dda?

Wel, mae'r bwrdd taliadau yn annibynnol ar y Comisiwn, a’r bwrdd taliadau sy’n gwneud y cais ariannol i’r Comisiwn am yr arian sy’n angenrheidiol iddyn nhw ddarparu eu gwaith. Byddwn ni, yn yr eitem nesaf o fusnes heddiw, yn trafod cyllideb y Comisiwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Felly, mae’r egwyddor yna o annibyniaeth y bwrdd taliadau a’u rôl nhw yn penderfynu cyflogau yn egwyddor bwysig i’r Comisiwn ei pharchu, ac wrth gwrs yn egwyddor statudol.

Cyfathrebu â Rhanddeiliaid Allanol

4. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i wella cyfathrebu â rhanddeiliaid allanol mewn ieithoedd heblaw'r Gymraeg a'r Saesneg? OQ60225

Rwy'n croesawu'r cwestiwn hwn ac yn diolch yn fawr amdano. Rydym yn cydnabod mai'r Gymraeg a'r Saesneg yw'r prif ieithoedd ar gyfer ein cyfathrebu, ond rydym yn parhau i archwilio cyfleoedd i feithrin perthynas â chynulleidfaoedd newydd trwy gyfathrebu mewn ieithoedd eraill y gwyddom eu bod yn boblogaidd yng Nghymru. I'r perwyl hwnnw, yn ystod ein hymgyrch etholiadol yn 2021, fe wnaethom ddosbarthu cyfathrebiadau, ar-lein ac all-lein, mewn Arabeg, Bengaleg, Tsieinëeg, Pwyleg ac Wrdw. Ac mae Iaith Arwyddion Prydain yn parhau i fod yn iaith bwysig inni hefyd, gyda dehongliad yn Iaith Arwyddion Prydain yn cael ei ddefnyddio ar-lein ar gyfer cwestiynau'r Prif Weinidog bob wythnos, i annog cyfranogiad yng ngwaith rhai o'n pwyllgorau, ac ar gyfer digwyddiadau arbennig, fel y digwyddiad 'Lle i Ni' yn ddiweddar.

Diolch am yr ateb hwnnw, Gomisiynydd. Rwy'n gwerthfawrogi hynny. Yn y pen draw, mae gan lawer o Aelodau unigolion sy'n byw yn eu hetholaethau nad oes ganddynt ddigon o Gymraeg na Saesneg i ddeall sylwadau eithaf technegol weithiau a wneir ar eu rhan mewn perthynas â sefyllfaoedd difrifol, a sefyllfaoedd sy'n fater o fywyd a marwolaeth o bryd i'w gilydd. Mae hyn yn golygu bod rhaid i Aelodau naill ai ddarparu dogfennau heb eu cyfieithu, gan wybod bod gallu etholwyr i gael mynediad at ddeunydd sy'n ymwneud â'u bywydau eu hunain wedi'i gyfyngu, neu gallant ddewis allanoli gwaith cyfieithu i ddarparwyr allanol ar gost enfawr a thraul amser wrth i ofynion y rheoliad cyffredinol ar ddiogelu data gael eu trafod. Yn yr achos hwn, yn seiliedig ar gostau, ni fyddem ond yn gallu fforddio cyfieithu 24 llythyr y flwyddyn, gan ystyried yr holl gostau.

Mae gan y Senedd a'i Haelodau ddyletswydd i hyrwyddo cynhwysiant, hygyrchedd a chydraddoldeb, yn enwedig mewn perthynas â darparu cynrychiolaeth. Ar hyn o bryd, mae'r gwerthoedd hyn yn cael eu peryglu wrth gynrychioli trigolion nad yw eu Cymraeg na'u Saesneg yn caniatáu iddynt gael mynediad at wybodaeth sy'n bwysig i'w bywydau a'u lles. Fel Senedd genedlaethol, byddai'r gwerthoedd hyn—a buddiannau ein hetholwyr—yn cael eu hyrwyddo drwy sefydlu gwasanaeth cyfieithu mewnol fforddiadwy neu gytundeb gwasanaeth wedi'i gontractio'n fewnol gyda gwasanaeth cyfieithu. Felly, a gaf fi ofyn i'r Comisiynydd pa waith a chynnydd y mae'r Comisiwn yn ei wneud mewn perthynas â'r mater hwn? A pha drafodaethau a gawsoch yn fewnol a/neu gyda chyrff allanol ynghylch y mater hwn i ddatrys y broblem? Diolch.

15:25

Rydym yn parhau i archwilio pob cyfle ac rydym yn croesawu adborth yr Aelodau, fel yr un yr ydym newydd ei gael nawr, ar unrhyw rwystrau iaith y mae eu hetholwyr yn eu profi, fel y gall hynny lywio ein holl ymdrechion. Fel rhan o'n strategaeth gyfathrebu ac ymgysylltu, rydym yn datblygu gwell mewnwelediad cynulleidfa i lywio ein gwaith, gan gynnwys casglu gwell mewnwelediad ar rwystrau iaith, trwy wybodaeth o'r cyfrifiad a thrwy waith gyda phartneriaid eraill. Ond rydym yn cydnabod bod rhagor o waith i'w wneud bob amser yn hyn o beth, a byddwn yn parhau gyda'n cyhoeddiadau. Wrth gwrs, roedd eich cwestiwn yn ymwneud â chyfieithu deunyddiau rydych chi am eu hanfon at eich etholwyr, a fforddiadwyedd a hygyrchedd i allu gwneud hynny. Ni allaf roi ateb ichi ar unwaith, ond byddaf yn ceisio dod o hyd i ateb ichi. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd yn rhaid cael sgwrs gyda'r bwrdd taliadau sy'n caniatáu i gostau ein swyddfeydd gynnwys y gost hon hefyd. Felly, fe gewch chi ateb gennyf, ond ni allaf roi un llawn a chynhwysfawr i chi yr eiliad hon.

4. Cwestiynau Amserol

Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol. Dim ond un cwestiwn amserol sydd wedi'i dderbyn heddiw. Galwaf ar Heledd Fychan.

Undeb Rygbi Cymru

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn sgil cyhoeddi Adolygiad Annibynnol Undeb Rygbi Cymru? TQ910

A gaf fi ddiolch i Heledd Fychan am y cwestiwn hwnnw? Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fy mod wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig y bore yma ynglŷn â chyhoeddi adroddiad y panel annibynnol. Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu cyhoeddi'r adroddiad hwn, a byddwn yn gweithio gyda phawb a gyfrannodd at y canfyddiadau a'r argymhellion.

Diolch, Dirprwy Weinidog. Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd ddoe yn un di-flewyn-ar-dafod ac yn anodd ei ddarllen, gyda thystiolaeth ddirdynnol gan fenywod sydd wedi profi ymddygiad annerbyniol o fewn rygbi Cymru, ac o fewn y corff sy'n gyfrifol am redeg y gêm yng Nghymru.

Rwy'n croesawu ac yn cydnabod bod Undeb Rygbi Cymru wedi derbyn difrifoldeb yr adroddiad yn ei hymateb ddoe, ac yn cytuno gyda chi o ran yr angen i'r undeb weithredu ar yr argymhellion heb oedi er mwyn adfer ymddiriedaeth. Ond rydyn ni hefyd yn gwybod nad oedd Llywodraeth Cymru yn gwbl ddall i'r honiadau cyn iddyn nhw weld golau dydd yn rhaglen y BBC Wales Investigates a ddarlledwyd yn Ionawr eleni, a bod yr Aelod Seneddol, Tonia Antoniazzi, wedi ysgrifennu atoch chi ym mis Mai 2022 yn tynnu sylw at bryderon am Undeb Rygbi Cymru ac yn gofyn ichi ymyrryd yn bersonol ar y mater yma.

Mae'n allweddol bod gan y Llywodraeth, sydd â pherthynas ariannol gyda'r undeb, brosesau llym yn eu lle wrth ddyfarnu ar briodoldeb y berthynas honno. Mae Undeb Rygbi Cymru wedi ymrwymo i ddysgu gwersi. Pa wersi ydych chi, Dirprwy Weinidog, wedi'u dysgu, ac oes gwell prosesau wedi eu rhoi yn eu lle i sicrhau gweithredu os oes pryderon o'r fath byth yn cael eu codi gyda chi eto?

Diolch am y cwestiwn atodol, ac rydym wedi ei archwilio sawl gwaith wrth gwrs, gan gynnwys pan roddais dystiolaeth i'r pwyllgor a phan gyhoeddodd y pwyllgor ei adroddiad. Roedd nifer o'r argymhellion yn yr adroddiad hwnnw ar gyfer Llywodraeth Cymru ac fe wnaethant ymdrin â materion yn ymwneud â'n prosesau mewnol a sut yr ymatebwn i faterion yn ymwneud â chwythu'r chwiban, a derbyniais yr holl argymhellion hynny. Felly, rwy'n credu ein bod wedi mynegi'n glir iawn ein bod yn cydnabod bod yn rhaid i bethau newid ac rydym wedi rhoi ymateb llawn i'r pwyllgor ynglŷn â hynny.

Ond rwy'n credu mai'r pwynt pwysig yma yw cydnabod yr ymchwiliad i'r hyn sydd wedi digwydd yn Undeb Rygbi Cymru (URC). Wedi'r cyfan, adroddiad ydoedd am ymddygiad URC, nid am ymddygiad Llywodraeth Cymru. Dylai'r adroddiad fod yn drobwynt sy'n dod â newid i rygbi Cymru yn ei gyfanrwydd. Nid wyf ond wedi cael amser byr iawn i ystyried yr adroddiad yn llawn, a byddaf yn cyfarfod ag URC i drafod yr argymhellion a'u cynlluniau ehangach i fynd i'r afael â'r rheini, dros y dyddiau nesaf gobeithio. Ac mae'r drafodaeth honno'n mynd i gynnwys ffocws ar y disgwyliadau a nodais yn fy llythyr at URC yn syth ar ôl y rhaglen ddogfen ar ymchwiliad y BBC, a oedd yn cynnwys yr angen i sicrhau bod staff yn cael eu cefnogi a bod ymchwiliadau'n cael eu cwblhau'n llawn lle roeddent yn ymwneud â'r achosion unigol honedig.

Roedd y prif faterion a nodwyd gan yr adroddiad yn cynnwys pryderon am gamweithredu ar lefel y bwrdd, am lywodraethu gwael am sefydliad mor fawr, a methiant i gefnogi gemau'r menywod a'r merched yn ddigonol. Arweiniodd y materion hynny at sefydliad a fethodd fynd i'r afael â'r problemau sefydliadol a diwylliannol difrifol a wynebai—diwylliant a oedd yn amlwg yn wreig-gasaol, yn hiliol ac yn homoffobig. Ac fel chi, rwy'n dawel fy meddwl fod URC wedi derbyn, yn ddieithriad, holl argymhellion y panel adolygu, gyda chynnydd sylweddol wedi'i wneud yn rhai o'r meysydd hynny eisoes, ac rydych yn ymwybodol o hynny.

Ac mae'n rhaid i URC ganolbwyntio nawr ar y dasg o ddiwygio ei llywodraethiant ymhellach ac adfer hyder pawb sydd â diddordeb yn y gêm, gan gynnwys, ac rwy'n credu bod hyn yn bwysig, dioddefwyr ymddygiad annerbyniol a siaradodd mor ddewr am eu profiadau. Felly, fel chi, rwy'n croesawu'r argymhellion yn yr adroddiad a sefydlu'r corff goruchwylio i wella tryloywder ar draws y sefydliad. Ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr nawr at gael sgwrs gydag URC ynglŷn â sut y bydd yr argymhellion hyn yn cael eu gweithredu.

15:30

Rwy’n ddiolchgar i’r Gweinidog am ei hymateb. I’r rhai ohonom sydd wedi teimlo angerdd at rygbi Cymru drwy gydol ein hoes, mae hwn yn adroddiad sy’n dorcalonnus i’w ddarllen. Mae'n dorcalonnus gwybod bod corff llywodraethu'r gamp rwy'n ei charu wedi trin pobl fel hyn. Ac wrth ddarllen tudalen ar ôl tudalen o adroddiadau am sut mae pobl wedi teimlo, wrth weithio gyda, a gweithio ochr yn ochr ag URC, mae’n dorcalonnus fod ein corff llywodraethu cenedlaethol wedi ymddwyn fel hyn. Ac rwy'n croesawu ymateb Undeb Rygbi Cymru i'r adroddiad yn fawr iawn felly, ac yn croesawu'r ffaith eu bod yn cydnabod eu sefyllfa—eu bod wedi derbyn yr argymhellion. Rwyf hefyd yn croesawu ymateb Llywodraeth Cymru o ran sicrhau eu bod yn gweithio ochr yn ochr ag URC i unioni’r pethau hyn.

Credaf y bydd Aelodau ar bob ochr i’r Siambr yn awyddus i estyn allan mewn cariad ac undod at y bobl, at y menywod sydd wedi cael eu trin fel hyn gan URC yn y gorffennol, ac rwy'n gobeithio y bydd pob un ohonom ar bob ochr i'r Siambr yn dymuno gweithio i unioni'r pethau hyn, fel y gallwn fod yn falch unwaith eto o’n camp, yn falch o’n camp genedlaethol ac yn falch o fynd i’r stadiwm a chefnogi ein timau. Ac rwy'n gobeithio, wrth inni symud ymlaen, y bydd hyn yn cael ei ystyried, fel y dywedodd y Gweinidog, nid yn unig fel trobwynt i URC, ond fel enghraifft o sut y gallwn unioni pethau hefyd. Edrychaf ymlaen at weithio gyda phobl yn fy etholaeth i ac mewn mannau eraill i sicrhau nad oes unrhyw un arall byth yn wynebu'r math o driniaeth ac ymddygiad a ddisgrifiwyd ac a ddatgelwyd yn yr adroddiad hwn.

Ni chredaf fod cwestiwn wedi'i ofyn, Ddirprwy Weinidog, ond os hoffech wneud sylw.

Roedd cwestiwn yno, sef, 'A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi?' [Chwerthin.]

Ie, diolch i Alun Davies am ei sylwadau, a hoffwn gytuno â nhw, oherwydd, fel pob corff chwaraeon yng Nghymru, rwy'n credu bod gennym hawl i ddisgwyl i URC ddarparu amgylchedd diogel i’w staff, ei chwaraewyr, ac i blant a phobl ifanc sy'n cymryd rhan yn y gamp ar bob lefel. A’r hyn yr hoffwn ei ddweud, i orffen fy ymateb i Alun Davies, yw mai ein huchelgais ar gyfer URC yw i hyn weithio fel catalydd i sicrhau bod y sefydliad hwnnw’n dod yn arweinydd ac yn batrwm o driniaeth deg ar draws yr holl genhedloedd a’r holl gampau, gan y credaf fod gan URC gyfle unwaith mewn cenhedlaeth nawr, yn ôl pob tebyg, i newid ei arweinyddiaeth, rhywbeth y mae wedi’i wneud, i newid ei fwrdd, y mae wrthi’n ei wneud, ac i arwain newid diwylliannol yn y sefydliad hwnnw sy’n golygu nad yw pobl fel y rheini a siaradodd am eu profiadau ar gyfer y cyfweliad gyda'r BBC byth yn mynd i orfod profi unrhyw beth felly eto yn eu gweithle.

Mae’n drueni, a dweud y gwir, ei bod wedi cymryd unigolion dewr yn chwythu’r chwiban ar hyn i'r sgandal gael ei gweld ar raddfa mor eang. Ac a gaf fi hefyd ganmol gwaith y BBC ar gynhyrchu’r rhaglen ddogfen? Ond roedd nifer o’r unigolion hynny a siaradodd am eu profiadau, ac efallai unigolion eraill a fyddai wedi hoffi siarad am eu profiadau, yn destun cytundebau peidio â datgelu yn Undeb Rygbi Cymru. Ac wrth ddarllen yr adroddiad, roedd fel petai Undeb Rygbi Cymru yn defnyddio’r cytundebau peidio â datgelu hyn bron fel mater o drefn. I ddyfynnu'r adroddiad, roeddent,

'yn ôl pob tebyg yn cael eu defnyddio hyd yn oed pan oedd staff iau yn gadael gyda fawr iawn o iawndal'.

Ac ymddengys mai'r agwedd at gwynion oedd,

'y byddent yn prynu eu ffafr ac yn claddu'r peth gyda chytundebau peidio â datgelu.'

Mae’r holl bethau hyn yn tanseilio diwylliant o fod yn agored yn Undeb Rygbi Cymru, ac er fy mod yn nodi bod y cytundebau peidio â datgelu wedi’u codi, neu eu hepgor, dylwn ddweud, i’r rhai a oedd am gyfrannu at yr adolygiad, a gaf fi erfyn arnoch, Weinidog, yn eich trafodaethau sydd i ddod gydag Undeb Rygbi Cymru, fod yr agwedd honno, y dull hwnnw o weithredu, y natur agored honno, yr ydych chi a minnau’n gobeithio ei gweld yn Undeb Rygbi Cymru yn cael ei hymestyn, fel bod y bobl sy'n destun i'r cytundebau peidio â datgelu ar hyn o bryd yn eu gweld yn cael eu hepgor yn ôl-weithredol? Oherwydd credaf ei bod yn bwysig iawn nad ydym yn cyrraedd sefyllfa lle na all pobl siarad am gamgymeriadau’r gorffennol er mwyn adeiladu dyfodol gwell.

15:35

A gaf fi ddiolch i Tom Giffard am ei gwestiwn pellach? Cytunaf yn llwyr â’r hyn y mae’n ei ddweud. Bydd fy nghyd-Aelodau'n gwybod am fy nghefndir, cyn dod i’r Senedd. Treuliais 30 mlynedd ym maes cysylltiadau diwydiannol, a gorfod negodi fy ffordd, ar ran aelodau o undebau llafur, gyda’u cyflogwyr, drwy amgylchiadau anodd tu hwnt. Roeddent yn aml yn golygu bod yn rhaid i'r ddwy ochr ymwahanu. Ac yn eithaf aml, pan fydd y ddwy ochr yn ymwahanu, byddai gennych rywbeth a elwir yn gytundeb cyfaddawd. Nawr, mae cytundeb cyfaddawd yn rhywbeth gwahanol iawn, gan ei fod yn nodi natur y berthynas gyflogaeth a sut mae honno'n mynd i ddod i ben, sut mae hynny'n mynd i ddigwydd. Ac mae'n cynnwys cymalau cyfrinachedd, gan ei bod yn gwbl briodol y dylai amgylchiadau unigol pobl gael eu diogelu, ac felly mae hynny'n aros yn gyfrinachol. Ond mae hynny'n wahanol iawn i gytundeb peidio â datgelu—y math a welsom ar waith yn URC.

Mae’r adroddiad, yn gwbl briodol, yn tynnu sylw at y ffaith bod hynny’n arfer gwael, a buaswn yn cytuno'n llwyr â hynny. Ni ddylid defnyddio cytundebau peidio â datgelu heblaw mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn, a buaswn yn gobeithio, wrth symud ymlaen, nad yw hynny’n dod yn modus operandi, fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol, ac y bydd URC yn edrych ar hynny eto ac yn sicrhau nad yw unrhyw gytundebau sydd ganddynt â’u gweithwyr yn y dyfodol yn eu hatal rhag gwneud y mathau o bethau a welsom yn yr adroddiad gan y BBC, nac yn eu hatal rhag rhoi tystiolaeth i ymchwiliad, megis yr ymchwiliad rydym newydd ei weld yn cael ei gwblhau. Oherwydd ni ddylai unrhyw un gael eu hatal rhag codi eu llais a dweud y gwir. A dyna pam fy mod hefyd yn falch iawn fod yr adroddiad yn argymell y dylai'r cytundebau chwythu'r chwiban yn URC hefyd fod—

Roeddwn yn meddwl eich bod yn fy nhewi; rwy'n ymddiheuro. Roeddwn ar fin cloi drwy ddweud, i roi hynny yn ei gyfanrwydd, rwy’n cytuno’n llwyr, yn ei hanfod, â’r hyn y mae Tom Giffard yn ei ddweud.

5. Datganiadau 90 Eiliad
6. Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024-25

Felly symudwn ymlaen at eitem 6, cynnig i gymeradwyo cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024-25. Galwaf ar Ken Skates i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8404 Ken Skates

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024-25, fel y pennir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024-25, a osodwyd gerbron y Senedd ar 8 Tachwedd 2023, a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud cynnig cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2024-25, a gofynnaf iddo gael ei ymgorffori yng nghynnig y gyllideb flynyddol.

Fel y byddwch wedi gweld o ddogfen y gyllideb, mae'r Comisiwn yn gofyn am gyfanswm o £72.195 miliwn o gyllideb, sy'n cynnwys £41.5 miliwn ar gyfer gwasanaethau'r Comisiwn; £19.2 miliwn ar gyfer dyfarniad y bwrdd taliadau; £101,000 ar gyfer swyddfa'r Comisiynydd Safonau; £627,000 am gostau sy'n gysylltiedig â darparu cymorth i'r bwrdd taliadau annibynnol; £2.1 miliwn i gefnogi gwaith paratoi ar gyfer diwygio’r Senedd; £1.5 miliwn ar gyfer y rhaglen ffyrdd o weithio; a £7.1 miliwn ar gyfer llog ac eitemau nad ydynt yn arian parod.

O gymharu â chyllideb ddrafft a chyllidebau atodol 2023-24, mae cyllideb weithredol arferol y Comisiwn wedi cynyddu 2.5 y cant a 3.6 y cant yn y drefn honno. Mae hyn yn cynyddu i 6.6 y cant a 7.6 y cant yn y drefn honno o gynnwys cyllid ar gyfer y ddwy raglen waith: paratoi ar gyfer diwygio’r Senedd a ffyrdd o weithio. Cyfanswm y cynnydd i’r gwariant sy’n ymwneud â’r Comisiwn yw £3.126 miliwn, ac mae ychydig dros £3 miliwn ohono i ariannu'r rhaglen baratoi ar gyfer diwygio’r Senedd a'r rhaglen ffyrdd o weithio.

Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ddweud fy mod yn ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Cyllid am eu cydnabyddiaeth o'r fframwaith adnoddau tymor canolig a gyflwynwyd a'u dealltwriaeth o sut y bydd hynny'n newid prosesau'r Comisiwn drwy gydol y flwyddyn? Fel rhan o'r dull newydd hwn, rydym wedi cynnwys targed arbedion o £315,000 ar y gyllideb weithredol, yn ogystal ag amsugno pwysau chwyddiant llym a chadw cynnyd cyllideb weithredol y Comisiwn i 2.5 y cant yn unig. Mae’r gwaith ar nodi manylion yr arbedion wedi’i drefnu ar gyfer diwedd yr hydref, fel rhan o’r ymarfer cynllunio’r gweithle a chynllunio gwasanaethau, a bydd y Comisiwn yn cymeradwyo’r arbedion hyn yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Diolch i’r pwyllgor am eu parodrwydd i newid yr amserlen ar gyfer derbyn gwybodaeth. Mae’r Comisiwn yn hyderus y bydd y newidiadau i broses y fframwaith adnoddau tymor canolig yn galluogi gwell cyllidebu a darlun llawnach o sefyllfa ariannol hirdymor y Comisiwn, yn enwedig ar gynllunio prosiectau aml-flwyddyn.

Nawr, mae’r dyfarniad cyflog ar gyfer staff y Comisiwn yn 2024-25 wedi’i gyllidebu ar y cap o 3 y cant, yn unol â’r mecanwaith dyfarniad cyflog a gytunwyd, yn seiliedig ar y cynnydd cyfartalog yn yr arolwg blynyddol o oriau ac enillion ar gyfer y tair blynedd diwethaf. Bydd y cytundeb cyflog presennol yn dod i ben ym mis Mawrth 2025, ac mae trafodaethau eisoes wedi dechrau ynglŷn â strwythur y cytundeb cyflog nesaf. Yn unol â phrosesau cyllidebol, nid ydym wedi darparu ar gyfer unrhyw daliadau staff anrhagweladwy yn y dyfodol yn y gyllideb. Nid yw’r gyllideb yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth ar gyfer taliadau costau byw pellach i staff, sy’n unol â gweithdrefnau cyllidebol y Trysorlys, a phe bai cais yn cael ei gyflwyno, ni fyddai gan y Comisiwn unrhyw ddewis ond ceisio cyllideb atodol. Mae pob un ohonom wedi gweld effaith y taliad costau byw a wnaed eleni gan y Comisiwn, yr effaith yn benodol ar deithio, hyfforddiant a rhewi recriwtio staff y Comisiwn, ac felly, eu llwythi gwaith. Gan na all strwythur cyllidebol y Comisiwn gadw unrhyw gronfeydd wrth gefn, golyga hyn na all reoli gwariant untro mor fawr heb effaith ar wasanaeth.

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i baratoi cyllidebau sy’n gadarn, yn dryloyw ac sy'n hwyluso’r lefel uchaf o gefnogaeth i Aelodau yn eu gwaith pwysig o ddeddfu ar gyfer pobl Cymru a dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Rydym felly wedi cynnwys dwy gyllideb ychwanegol wedi’u clustnodi o fewn cyllideb y Comisiwn eleni. Mae'r gyntaf ar gyfer cefnogi’r gwaith paratoi ar gyfer diwygio’r Senedd. Gan mai'n ddiweddar yn unig y cynhyrchwyd y Bil, mae lefel o ansicrwydd o hyd ynghylch y gwaith y bydd yn rhaid i’r Comisiwn ei wneud. Os bydd y Bil yn symud ymlaen yn wahanol i’n disgwyliadau ac nad oes angen rhywfaint o’r cyllid, caiff ei ddychwelyd i gronfa gyfunol Cymru.

Yr ail yw'r rhaglen ffyrdd o weithio, sef y strwythur rheoli sy'n cefnogi'r gwaith o gyflawni'r strategaethau cynaliadwyedd, ystadau a phobl. Bydd y gwaith eleni'n cynnwys mynd i’r afael â'r ffaith y bydd les Tŷ Hywel yn dod i ben yn 2032, a elwir yn brosiect Bae Caerdydd 2032, lle bydd y Comisiwn yn ystyried opsiynau ar sut i ddarparu’r gofod angenrheidiol i Aelodau, eu staff cymorth a staff y Comisiwn ar ôl 2032. Nid yw gwneud dim yn opsiwn i ni fel Senedd. Bydd angen i brosiect Bae Caerdydd 2032 symud ymlaen i ddarparu datrysiad mewn pryd. Unwaith eto, ar hyn o bryd, ceir lefel o ansicrwydd ynghylch cyfeiriad terfynol posibl y penderfyniadau a wneir. Mae’r gyllideb ar gyfer ffyrdd o weithio, felly, yn adlewyrchu’r angen i gyllidebu er mwyn sicrhau y gellir bwrw ymlaen â’r holl opsiynau i’w hystyried, ac unwaith eto, mae’r Comisiwn yn ymrwymo i ddychwelyd unrhyw gyllid nad oes ei angen. Rydym hefyd yn parhau i glustnodi’r gyllideb ar gyfer cefnogi'r bwrdd taliadau a’r comisiynydd safonau.

Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am ei waith craffu ar y gyllideb hon a'i ymrwymiad parhaus i sicrhau tegwch a thryloywder gofyniad y Comisiwn, gan barhau i ofyn cwestiynau sy'n rhoi hwb i berfformiad ac yn sicrhau rhagoriaeth. Ac mae’r pwyllgor wedi gwneud 11 o argymhellion, ac rydym wedi rhoi sylw i bob un ohonynt yn yr ymateb a ddarparwyd gennym i’r pwyllgor. Yr argymhelliad cyntaf oedd bod y pwyllgor yn cefnogi’r gyllideb hon, ac rydym yn nodi hynny ac yn ei werthfawrogi’n ddiffuant. Ac roedd yr argymhellion eraill yn cwmpasu’r meysydd canlynol: fframwaith adnoddau tymor canolig, dyfarniadau cyflog a llesiant staff, darparu rhagor o wybodaeth am gylch gwaith prosiect Bae Caerdydd 2032, darparu manylion prosiectau i fuddsoddi ynddynt, darparu gwybodaeth am y gwasanaethau ymgynghori allanol y gofynnwyd amdanynt gan y bwrdd taliadau annibynnol, annog y Comisiwn i barhau i archwilio mentrau lleihau ynni ar gyfer ystad y Senedd a swyddfeydd etholaethol, a darparu, pan fo ar gael, y rhaglen ymgysylltu i Aelodau a’r cyhoedd ar gyfer 2024-25. Mae'n bwysig dweud, fel gyda'n holl waith fel Comisiwn, ein bod yn ceisio ymgysylltu ag Aelodau ar draws y Senedd i gael eu barn a sicrhau bod y safbwyntiau hynny'n cael eu hadlewyrchu yn y modd y darperir ein gwasanaethau. Mae hyn yn bwysig wrth inni fynd ati i ddiwygio’r Senedd a chyflwyno'r rhaglen ffyrdd o weithio.

Rydym wedi derbyn holl argymhellion y pwyllgor, ac fel bob amser, rydym yn agored i awgrymiadau ynglŷn â sut i wella ein proses gyllidebu a darparu gwerth am arian i bwrs y wlad. Rydym yn barod i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan yr Aelodau. Yn y cyfamser, rwy'n falch o gyflwyno'r gyllideb hon ar ran y Comisiwn ac ailadrodd ein hymrwymiad i weithio mewn ffordd sy'n agored ac yn dryloyw, gan sicrhau'r gwerth gorau posibl am arian i bobl Cymru.

15:45

Cyn imi ddechrau, byddwn i'n licio diolch i Ken Skates, Comisiynydd y Senedd dros y gyllideb a llywodraethu, ac i swyddogion y Senedd, am ddod i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid ar 5 Hydref i drafod cynigion y Comisiwn ynghylch y gyllideb. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i’r Comisiwn am ddarparu ei ymateb i’n hadroddiad cyn y ddadl hon ac yn falch o weld bod wyth o’n hargymhellion wedi’u derbyn a tri wedi’u nodi.

Yn gyffredinol, mae’r pwyllgor yn cefnogi cyllideb y Comisiwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Yn y cyd-destun presennol, mae'n hanfodol bod camau'n cael eu cymryd i wneud y mwyaf o arbedion a rheoli costau. Gan hynny, roeddem ni’n falch o glywed y bydd y Comisiwn yn mynd ati i ganfod arbedion o hyn ymlaen, ac edrychwn ymlaen at glywed am gynnydd yn y maes hwn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

Wedi dweud hynny, ceir meysydd hefyd lle gwnaethom geisio gwelliannau. Er bod y pwyllgor yn nodi’r camau a gymerwyd gan y Comisiwn i ddod o hyd i arbedion yn ystod y flwyddyn, byddem wedi hoffi cael rhagor o eglurder ynghylch yr effaith y bydd yr arbedion hyn yn ei chael ar wasanaethau’r Comisiwn yn 2024-25, gan gynnwys unrhyw brosiectau arfaethedig. O ystyried y gostyngiadau a wnaed i gyllideb y Comisiwn ar ddechrau’r flwyddyn ariannol gyfredol, teimlai’r pwyllgor hefyd fod y Comisiwn wedi colli cyfle i gynnwys ffigurau i gymharu ei gais cyllidebol ar gyfer 2024-25 â’r ffigurau diwygiedig ym mis Mehefin, a oedd yn dangos gostyngiad o £435,000 yn ei gyllideb flynyddol. Mae hyn yn anffodus, gan y byddai cynnwys y ffigurau hyn wedi rhoi lefel ychwanegol o eglurder a fyddai wedi ein galluogi i gymharu lefelau cyllid yn well o un flwyddyn i’r llall.

Gan droi yn awr at feysydd penodol yn yr adroddiad, y gweithlu yn gyntaf, rydym yn cydnabod yr ymdrechion a wnaed gan y Comisiwn i gefnogi ei weithlu, yn y flwyddyn ariannol gyfredol drwy daliadau costau byw ychwanegol yn ogystal ag wrth gynllunio ar gyfer dyfarniad cyflog yn 2024- 25. Fel pwyllgor, nid yw’n briodol inni lunio barn ar faterion gweithredol o fewn y cyrff a ariennir yn uniongyrchol. Serch hynny, mae gennym ddiddordeb naturiol yn effaith ariannol penderfyniadau o'r fath, yn enwedig pan fydd yn effeithio ar allu'r Comisiwn i ddarparu ei wasanaethau. Gofynnwn felly i’r Comisiwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni’n rheolaidd am unrhyw gytundebau cyflog a wnaed yn 2024-25, gan gynnwys manylion ynghylch sut y caiff unrhyw newidiadau i gyflogau staff a/neu daliadau ychwanegol eu hariannu gan gynnal y lefelau gwasanaeth presennol.

Yna, gan symud ymlaen at ddiwygio'r Senedd a ffyrdd o weithio, Ddirprwy Lywydd, rhoddir ffocws sylweddol a dealladwy yng nghyllideb y Comisiwn ar gefnogi'r gwaith o ddiwygio'r Senedd. Mae costau manwl sy’n ymwneud â chynyddu aelodaeth y Senedd wedi’u cynnwys ochr yn ochr â Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), sy’n destun trefniadau craffu ar wahân ac y bydd y pwyllgor yn cyflwyno adroddiad arnynt yn y flwyddyn newydd. Nid wyf am ddweud llawer am y costau hynny heddiw, heblaw am groesawu'r ffaith eu bod wedi’u clustnodi yn y gyllideb a’u cyflwyno mewn modd tryloyw. Nid yw hyn yn golygu na ellid gwneud mwy i roi rhagor o eglurder ynghylch costau sy’n gysylltiedig â diwygio’r Senedd a newidiadau i’n ffyrdd o weithio. Dyna pam fod y pwyllgor wedi gofyn am ragor o wybodaeth yn ymwneud â phrosiect Bae Caerdydd 2032. Mae hyn yn cynnwys materion yn ymwneud â les adeilad Tŷ Hywel a rhwymedigaethau o ran gosod ffenestri newydd, gan y bydd y ddau beth hynny'n golygu costau sylweddol. Rydym yn croesawu ymgysylltiad parhaus â’r Comisiwn ar y pwynt hwn, gan gynnwys y cynnig o briff technegol ar y cynllun.

Gan droi at ymgysylltiad a chynaliadwyedd, Ddirprwy Lywydd, hoffwn gloi drwy gyfeirio at ddau faes sydd o ddiddordeb arbennig i'r pwyllgor. Er bod y pwyllgor yn falch o’r cynnydd a wnaed gan gynlluniau cynaliadwyedd y Comisiwn, credwn y gellid gwneud mwy, yn enwedig i leihau’r defnydd o ynni, ar ystad y Senedd ac yn swyddfeydd etholaethol yr Aelodau. O ran gwaith ymgysylltu’r Comisiwn, rydym yn cydnabod y gwaith da sy’n mynd rhagddo ond rydym yn siomedig na ddarparwyd manylion costau cysylltiedig yn nogfennaeth y gyllideb eleni, a hoffem gael rhagor o eglurder ar y cynigion hyn o ganlyniad.

I gloi, Dirprwy Lywydd, mae o’r pwys mwyaf bod gennym Senedd sy’n perfformio’n dda, bod ganddi ddigon o adnoddau, a bod y bobl mae’n eu gwasanaethu yn cael eu gwerthfawrogi ac yn ymddiried ynddi. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid i’r Comisiwn reoli adnoddau mewn ffordd ddarbodus a chymesur, gan ystyried y cyd-destun ariannol ehangach yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Fel pwyllgor, rydyn ni’n cefnogi’r gyllideb hon i gyflawni’r nod hwnnw, ond gofynnwn i’r Comisiwn roi i ni’r lefelau ychwanegol o dryloywder y gofynnwyd amdanyn nhw fel y gallwn ni barhau i ddwyn ei benderfyniadau a’i gamau gweithredu ariannol i gyfrif. Diolch yn fawr.

15:50

Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod, Ken Skates, nid yn unig am weithio gyda’r tîm i gynhyrchu’r gyllideb, ond hefyd am siarad amdani heddiw? Hoffwn hefyd ddiolch i'n prif weithredwr, Manon Antoniazzi, a'n tîm o staff ar draws y Comisiwn. Wrth gwrs, mae cyfanswm y gyllideb ar gyfer 2024-25 oddeutu £72.195 miliwn ar gyfer y gyllideb weithredol, ac fel y mynegwyd—a hoffwn ddiolch i chi, hefyd, yn y Pwyllgor Cyllid am y gwaith yr ydych yn ei wneud wrth graffu arni—mae gennym y ddwy linell wariant ychwanegol yn y gyllideb, un ar gyfer y ffyrdd o weithio ac yna un, wrth gwrs, ar gyfer diwygio'r Senedd.

Fel Comisiwn, rydym yn parhau i wynebu heriau ariannol diddorol, yn enwedig y taliad costau byw a roddwyd i staff y Comisiwn yn ystod y tymor canol-blwyddyn hwn, ac achosodd hynny bwysau gormodol er mwyn dod o hyd i oddeutu £900,000, gan ein bod ar orchymyn yr undebau llafur. Roedd gwrthod cyllideb atodol gan Lywodraeth Cymru yn siom pellach—yn sicr, fe wnaeth hyn waethygu’r broblem. Mae canran fawr o gyfanswm gwariant gweithredol y Comisiwn yn ymwneud â chostau staffio, sef 71 y cant. Mae’r gyllideb weithredol wedi gwneud darpariaeth ar gyfer dyfarniad cyflog o 3 y cant yn y gyllideb staffio, gan ddefnyddio setliad pum mlynedd indecs gyswllt mynegai'r arolwg blynyddol o oriau ac enillion, a gytunwyd, unwaith eto, gyda’r undebau llafur.

Hoffwn ailadrodd y pwynt a wnaed yn gynharach gan Delyth Jewell AS ynghylch yr anghydraddoldeb cyflog ymddangosiadol sy'n parhau rhwng staff y Comisiwn a staff cymorth Aelodau’r Senedd, sy’n gweithio’n galed iawn yn yr un ffordd â staff y Comisiwn ac sydd hefyd yn wynebu’r costau byw a chostau ynni uwch. Rwyf wedi codi hyn dro ar ôl tro. Rwyf wedi'i godi gyda phobl. Cawn ein cyfeirio at y bwrdd taliadau, ac mae'n rhaid imi ddweud, er imi ei godi droeon, rwy'n aros i weld sut yn union y mae'r bwrdd taliadau'n gweithio, gan ein bod yn y tymor yr ydym ynddo, ac rwy'n teimlo bod angen edrych ar hynny, yn bendant.

Her bellach i ni fel Comisiynwyr wrth gwrs yw’r gost sydd ei hangen nawr ar gyfer diwygio’r Senedd—36 Aelod arall, staff a gwelliannau i’r Siambr a llawer o faterion eraill a fydd yn codi o ganlyniad i gost y diwygio hwn. Mae dros £0.5 miliwn ar swyddi wedi’i gymeradwyo yn 2023-24, dros £100,000 ar dair swydd newydd, a thros £1.3 miliwn ar gostau cyfalaf. Dyna gyfanswm cost o £2 filiwn. Rôl cyllideb y Comisiwn yw

'i dalu costau rhedeg y Senedd.'

Felly, mae rhywun yn cymryd bod hynny'n golygu'r Senedd ar unrhyw adeg benodol, ac eto, mae’n ffaith ein bod eisoes yn teimlo’r wasgfa sy'n gysylltiedig â diwygio'r Senedd. Mae fy etholwyr, ac etholwyr ledled Cymru, fe wn, eisoes yn cwestiynu’r angen am wleidyddion ychwanegol ar adeg pan fyddant yn wynebu goblygiadau ariannol cyllidebol anodd eu hunain.

Mae angen inni hefyd, ac rwyf wedi codi hyn yng nghyfarfodydd y Comisiwn, ailasesu gallu'r Comisiwn i gynhyrchu incwm. Rwyf wedi mynegi'r teimladau hynny. Mae'r gyllideb yn nodi y bydd yr incwm refeniw amcangyfrifedig oddeutu £100,000, ac eto, o'r blaen, rydym wedi ei osod ar £200,000. Felly, fel dynes fusnes fy hun—. Nid oes ond angen edrych o'ch cwmpas; mae gennym adeiladau gwych yn ein hystad. Nid wyf wedi fy argyhoeddi pam nad ydym yn gwireddu potensial ariannol yr adeiladau hyn yr ydym yn gyfrifol amdanynt, megis y Pierhead, y Senedd ei hun, y swyddfeydd rhanbarthol, a’r nifer o ystafelloedd yn Nhŷ Hywel a’r Senedd sy’n aml yn wag o ddydd i ddydd.

Rwyf wedi codi'r bwrdd taliadau, ac mae’n debyg fy mod—wel, rwyf wedi—sefyll yma cyn nawr yn mynegi pryderon am y bwrdd taliadau, ei berthynas â’r Comisiwn, a pha mor dda y mae’n gwasanaethu’r Aelodau wrth iddynt gyflawni eu rolau pwysig iawn. Os yw diwygio’r Senedd yn mynd i ddigwydd, credaf fod nawr yn adeg dda i edrych ar y fframwaith deddfwriaethol o gwmpas y bwrdd taliadau ac a allai fod model gwell ar gyfer ei wneud, neu adolygiad o’r bwrdd ei hun ar weithio mwy effeithiol gyda'r bwrdd. Yn y pen draw, rhaid i Aelodau deimlo bod ganddynt hyder yn y bwrdd wrth gyflawni eu rolau pwysig, a’i fod yn dweud wrthym beth yn union y gallwn ei wario ar beth. A dyna ni. Diolch.

O, hoffwn ddiolch i'r Llywydd, oherwydd yn y pen draw, hi sy'n cynnal cyfarfodydd y Comisiwn a phopeth, a gall fod yn waith anodd weithiau.

15:55

A yw’n wir y gallwch fynd dros amser os dywedwch rywbeth caredig am y Llywydd? Os felly, a gaf fi ddechrau drwy ddweud 'diolch' wrth y Llywydd? Nid wyf am gymryd llawer iawn o amser.

Byddaf yn cefnogi’r argymhelliad. Roeddwn yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid a fu’n craffu ar y gyllideb hon, ac mae’r hyn a ddigwyddodd yn y pwyllgor hwnnw wedi’i ddisgrifio’n dda iawn gan Peredur yn gynharach yn y drafodaeth. Diolch i’r Comisiwn am yr arbedion y maent wedi’u gwneud, ond roeddwn am godi’r pwynt fod cyllideb Comisiwn y Senedd a chyllidebau’r archwilydd cyffredinol a’r ombwdsmon yn cael eu trin yn wahanol i brif gyllideb Cymru. Cânt eu hariannu yn erbyn eu cynigion cyllidebol a gaiff eu craffu, sydd, mewn cyfnod o dwf, yn ffordd synhwyrol iawn ymlaen. Fodd bynnag, nid wyf yn argyhoeddedig fod hynny'n gweithio ar adegau pan fo toriadau. Mae angen inni gael mecanwaith lle caiff yr holl wariant ei ystyried yn erbyn yr un meini prawf yn union. Gallaf feddwl am nifer fawr o gyrff sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru a fyddai wrth eu boddau'n cael eu hariannu’n uniongyrchol gan y Senedd, gan y byddent yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt, yn hytrach na’r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei fforddio. Credaf fod angen inni drin pob darn o wariant yn union yr un fath.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi hefyd ddiolch i’r Llywydd am ei chefnogaeth i’r gwaith a wnaed ar baratoi’r gyllideb? Diolch yn yr un modd i fy nghyd-gomisiynwyr a gefnogodd y gyllideb hon. Rwy’n ei chyflwyno ar ran yr holl gomisiynwyr. Hoffwn ddiolch hefyd i brif weithredwr y Comisiwn a’i thîm.

Mewn ymateb i nifer o bwyntiau a godwyd y prynhawn yma, a gaf fi ddweud bod gwaith y Pwyllgor Cyllid yn rhagorol? Rwy’n ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth i’r gyllideb. Ar yr adeg hon y llynedd, ymrwymais i nodi arbedion yn ystod y flwyddyn. Gwnaethom hynny fel Comisiwn, daethom o hyd i’r arbedion hynny, ac rydym yn benderfynol o sicrhau ein bod yn cynnal y gyllideb dynnaf bosibl.

Codwyd pwynt y gweithlu, a chostau sy’n gysylltiedig â chyflogau. Nawr, dyrennir 71 y cant o’r gyllideb i gostau staff, a bydd y cynnydd mewn cyflogau y flwyddyn nesaf yn 3 y cant. Credaf felly fod hynny'n dangos pa mor llym yr ydym wedi sicrhau y gellir rheoli gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, o ystyried bod y gyllideb weithredol yn cynyddu 2.5 y cant ar y gyllideb ddrafft a osodwyd y llynedd. A gallaf addo y byddaf yn cyflawni diweddariadau rheolaidd ar y rhaglen ffyrdd o weithio a rhaglen ddiwygio'r Senedd.

O ran cynaliadwyedd, buaswn yn cytuno â Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid: mae’n gwbl hanfodol ein bod yn ymdrechu i leihau ein hôl troed carbon gan sicrhau hefyd ein bod yn gwneud arbedion yn sgil cynlluniau effeithlonrwydd ynni. Gallaf roi rhagor o fanylion i'r Aelodau am y cynlluniau tymor byr, canolig a hir a all nodi faint o dunelli o garbon y bydd pob un o’r prosiectau’n eu harbed, a hefyd yr arbediad cost gwirioneddol. Rwy'n fwy na pharod i wneud hynny ar ôl y ddadl heddiw.

Mae’r rhaglen waith ei hun yn dibynnu ar argaeledd cyllid, ac fel y gŵyr yr Aelodau’n iawn, mae cronfa’r prosiect yn un o'r ychydig iawn o feysydd gwariant dewisol sydd gan y Comisiwn i allu eu buddsoddi mewn cynlluniau arbed ynni, ond rydym yn ymdrechu i nodi cymaint o feysydd ariannu ag y gallwn at y diben hwnnw. Hoffwn ddweud bod y taliad costau byw yn ystod y flwyddyn y cyfeiriodd Janet Finch-Saunders ato yn adlewyrchu cyllideb eleni wrth gwrs, nid cyllideb y flwyddyn nesaf. Roedd hyn oherwydd y camau a gymerwyd yn San Steffan, ond fel Comisiwn, fe wnaethom gytuno i dalu’r taliad costau byw, o ystyried y pwysau anhygoel yr oedd llawer o weithwyr, yn enwedig y rheini ar gyflogau is, yn ei wynebu, oherwydd lefelau uchel iawn o chwyddiant.

Nawr, mater i'r Bwrdd Taliadau Annibynnol yw cyflogau. Mae'r Bwrdd Taliadau Annibynnol yn annibynnol ar unrhyw ddylanwad gennyf fi ac unrhyw gomisiynwyr eraill. Mae'n rhaid cyfeirio unrhyw faterion sy'n ymwneud â chyflogau at y bwrdd annibynnol, ac o ran costau diwygio’r Senedd, efallai y dylwn roi’r costau yn eu cyd-destun. Yn gyffredinol, rydym yn ceisio cadw unrhyw gynnydd yng nghyllideb y Comisiwn mor fach â phosibl, ac rydym yn ceisio sicrhau bob blwyddyn nad yw cyllid y Comisiwn yn fwy na 0.3 y cant o’r grant bloc. Er gwaethaf y ddau brosiect newydd enfawr hynny, ffyrdd o weithio a diwygio’r Senedd, gallaf ddweud wrth yr Aelodau ein bod unwaith eto wedi cynnal cyllideb sy'n llai na 0.3 y cant o’r grant bloc. Ac fel cyd-destun pellach, mae'r gwariant a ddyrannwyd ar gyfer—

16:00

Mae angen i chi ddirwyn i ben nawr, oherwydd rwyf wedi rhoi llawer o hyblygrwydd i chi.

Ymddiheuriadau, Ddirprwy Lywydd. Mae £72 miliwn wedi'i ddyrannu ar gyfer diwygio'r Senedd y flwyddyn nesaf, felly, mewn geiriau eraill, 0.008 o 1 y cant o'r grant bloc. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil i atal gwerthu e-sigaréts untro

Eitem 7 heddiw yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: Bil i atal gwerthu e-sigaréts untro. A galwaf ar Jenny Rathbone i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8366 Jenny Rathbone

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n atal gwerthu e-sigaréts untro.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) atal e-sigaréts untro rhag cael eu gwerthu;

b) cyflawni cyfrifoldebau byd-eang Cymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol;

c) mynd i'r afael â'r ffaith bod e-sigaréts untro yn berygl i iechyd y cyhoedd;

d) diogelu cenedlaethau'r dyfodol rhag problemau iechyd gan gynnwys niwed i’r ysgyfaint; ac

e) rhoi’r gorau i ddefnyddio lithiwm mewn cynhyrchion untro.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr. Mae'n hawdd edrych yn ôl. Bydd rhai ohonom yn cofio, yn ôl yn 2016, pan oedd Mark Drakeford yn Weinidog iechyd, ein bod wedi cael cyfle yng Nghymru i wneud rhywbeth a fyddai wedi diogelu pobl ifanc rhag y risgiau sydd ynghlwm wrth fepio ac e-sigaréts. Yn anffodus, fe daeth y gwrthbleidiau at ei gilydd i'w wrthwynebu, ac felly, yn agos at ddiwedd y bedwaredd Senedd, bu'n rhaid tynnu'r cymalau hyn o Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru). Ers hynny, rydym wedi caniatáu i'r cwmnïau tybaco barhau i fynd  nerth i nerth drwy ail-becynnu eu gwerthiant tybaco sy'n crebachu yn fêps nicotin. Mae siopau gwerthu fêps newydd yn ymddangos bob wythnos, gyda mwy a mwy o bobl yn mynd yn gaeth iddynt. Roedd yr holl arian a wariwyd ar helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu yn arian a wariwyd yn dda, am mai ysmygu yw prif achos marwolaeth gynnar o hyd, ond bydd bwriadau da Rishi Sunak i godi'r oedran cyfreithiol i unrhyw un brynu sigaréts fel na fydd unrhyw berson ifanc sy'n 14 oed ar hyn o bryd byth yn gallu prynu sigarét yn gyfreithlon yn bilsen chwerwfelys os nad ydym, ar yr un pryd, yn gwneud unrhyw beth i atal pobl ifanc rhag mynd yn gaeth i fepio.

Yn yr un modd ag y targedwyd diodydd caffein at blant, mae'r blasau mafon a gwm swigod hyn wedi'u cynllunio'n fwriadol i apelio at blant ysgol gynradd fel pe baent yn felysion. Mewn cyfarfod yr wythnos diwethaf ar glefyd yr afu, clywsom fod plant mor ifanc â phedair a phump oed yn defnyddio fêps. Mae canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal 2021 wedi dyddio'n ofnadwy, gan ei fod hyd yn oed yn eithrio plant o dan 12 oed o'i ystyriaethau. Mae'n rhaid inni fabwysiadu dull deddfwriaethol rhagofalus o fynd i'r afael â'r trychineb iechyd cyhoeddus hwn sy'n tanseilio nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Un, rydym eisiau Cymru iachach. Er bod Ymchwil Canser yn parhau i hyrwyddo e-sigaréts i helpu ysmygwyr i roi'r gorau iddi neu i'ch atal rhag mynd yn ôl at dybaco, maent yn glir na ddylech ddefnyddio e-sigaréts os nad ydych chi erioed wedi ysmygu. Nid oes tystiolaeth dda fod fepio'n achosi canser eto, ond mae fêps yn gaethiwus. Mae fêp untro yn darparu unrhyw beth rhwng wyth ac 20 gwaith y nicotin a geir mewn sigarét arferol. Mae hynny ynddo'i hun yn eu gwneud yn llawer anos i roi'r gorau iddynt nag ysmygu.

Rydym eisoes yn gwybod eu bod yn ddrwg i'ch ysgyfaint. Mae'r coctel cemegol a gynhyrchir drwy gynhesu'r hylif ar gyfer fepio yn cynnwys: acrolein, a ddefnyddir gan amlaf fel chwynladdwr; diacetyl, ychwanegyn bwyd a ddefnyddir i ddyfnhau blasau'r fêps; a fformaldehyd. Mae'r rhain i gyd yn gysylltiedig â niwed i'r ysgyfaint. Beth fydd yr effaith ymhen 20 mlynedd ar bobl ifanc sy'n gaeth i fêps?

Mae fepio hefyd yn tanseilio nod Cymru gydnerth, gwneud ein rhan i osgoi'r argyfwng hinsawdd. Mae'r 1.3 miliwn o fêps untro sy'n cael eu taflu gyda gwastraff cyffredinol bob wythnos yn creu perygl amgylcheddol enfawr, gyda dros 700 o danau mewn lorïau bin a chanolfannau ailgylchu ledled y DU yn cael eu hachosi gan fatris fflamadwy'r fêps, sy'n cynnwys lithiwm. Mae ailgylchwyr yn nodi nad yw gwahanu'r lithiwm a'r fêps yn gosteffeithiol, felly mae miliynau o dunelli o'r aur gwyn gwerthfawr hwn, yr ystyrir ei fod yn hanfodol ar gyfer batris ceir trydan a storio ynni, yn lle hynny yn bwydo tanau ac yn creu peryglon newydd i waredu gwastraff. Mae hefyd yn tanseilio ein dyhead i fod yn Gymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Mae dros 75 y cant o gronfeydd lithiwm y byd i'w canfod yn y triongl lithiwm sy'n ffinio â'r Ariannin, Bolifia a Chile, o amgylch anialwch yr Atacama. Er mwyn echdynnu lithiwm, mae'n rhaid i lowyr ddrilio tyllau yn y gwastadeddau halen a phwmpio heli llawn mwynau hallt i'r wyneb. Mae'n galw am oddeutu 500,000 galwyn o ddŵr fesul tunnell o lithiwm, yn un o'r lleoedd sychaf ar y ddaear. Mae'n cymryd tua 12 i 18 mis i echdynnu'r lithiwm, a gyfiawnheir gan ei rôl yn helpu'r blaned i bontio o danwydd ffosil, gan greu trychineb amgylcheddol enfawr, sy'n effeithio ar fodolaeth y cymunedau brodorol sy'n dibynnu ar y cronfeydd tanddwr hyn i dyfu cnydau a chadw da byw. Mae echdynnu lithiwm eisoes wedi defnyddio dwy ran o dair o gyflenwad dŵr y rhanbarth.

Felly, heddiw, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi fy nghynnig deddfwriaethol i wahardd fêps untro a sicrhau na fydd e-sigaréts ond ar gael ar bresgripsiwn, i gefnogi'r rheini sydd eisiau rhoi'r gorau i ysmygu.

16:05

A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Jenny am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol hwn, yr wyf yn ei gefnogi'n fawr? Cefais ddadl fer yma yn ddiweddar, Ddirprwy Lywydd, ar drywydd tebyg iawn i'r hyn y mae Jenny newydd ei amlinellu'n fyr, ac rwy'n cytuno'n fawr iawn fod fepio'n fygythiad cynyddol i iechyd y cyhoedd ac yn achosi'r canlyniadau amgylcheddol y mae Jenny Rathbone wedi'u crybwyll.

Yn fy etholaeth fy hun, rwyf wedi cyfarfod â staff ysgolion cynradd a disgyblion ysgolion cynradd sy'n bryderus iawn am ba mor gyffredin yw fepio yn yr oedrannau ifanc hynny. Mae'n arwain at bob math o ganlyniadau digroeso: y problemau iechyd a grybwyllodd Jenny, y problemau amgylcheddol gyda'r elfen lithiwm, yn ogystal â sut ceir gwared ar fêps untro, ond hefyd, wrth gwrs, byddant yn arwain at broblemau iechyd yn y dyfodol. Mae'n dal i fod yn ddyddiau eithaf cynnar ar fêps, onid ydyw, ond mae tystiolaeth eisoes yn dod i'r amlwg o'r effeithiau ar iechyd fel y mae Jenny Rathbone, unwaith eto, wedi crybwyll.

Mae'n ymddangos i mi, Ddirprwy Lywydd, fod gwerth fêps i gael pobl i roi'r gorau i ysmygu tybaco a fepio yn lle hynny, yn sylweddol, ond rwy'n credu mai'r ffordd orau o fynd o'i chwmpas hi, fel y mae Jenny wedi'i ddweud ac fel y mae'r Prif Weinidog wedi'i gofnodi'n dweud, yw'r dull presgripsiwn yn unig fel rhan o gymorth dan oruchwyliaeth i helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu tybaco. Mae yna rôl yno, ond credaf mai dyna'n unig yw gwerth fepio mewn gwirionedd.

Felly, hoffwn gefnogi'r cynnig hwn gan Jenny Rathbone heddiw, i ymdrin â'r holl faterion hyn. Ar y fêps untro tafladwy, yn ogystal â'r effeithiau amgylcheddol, gwn fod y podiau fêp tafladwy sydd i'w gweld yn dod yn fwy ffasiynol yn caniatáu i lefelau arbennig o uchel o nicotin i gael eu mewnanadlu, ac felly maent yn creu mwy o risg, ac mae plant a phobl ifanc yn fwy tebygol o ddatblygu dibyniaeth ar nicotin nag oedolion, ac yn wir, gall nicotin effeithio ar ddatblygiad eu hymennydd. Felly, mae yna broblemau penodol yno i blant.

Pan edrychwn ar yr holl bethau hyn, Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu y dylem gofio sinigiaeth ofnadwy y cwmnïau sy'n hyrwyddo'r cynhyrchion hyn a'r ffordd y maent yn eu targedu tuag at bobl ifanc—y lliwiau sy'n cael eu defnyddio, y marchnata, y ffordd y cânt eu harddangos. Mae'n wirioneddol sinigaidd ac mae'r holl beth wedi'i gynllunio i dargedu pobl ifanc heb unrhyw ofal am eu hiechyd neu effeithiau eraill. Ac mewn sawl ffordd, mae'r cwmnïau tybaco, a wnaeth gymaint i wneud pobl yn gaeth i dybaco, bellach yn gwneud yr un peth gyda fêps. Felly, rwy'n credu bod cymaint o resymau da dros gefnogi'r cynnig hwn heddiw, ac rwy'n hapus iawn i wneud hynny.

16:10

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i Jenny Rathbone am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Rwyf yr un mor bryderus am y defnydd cynyddol o fêps untro, y mae llawer ohonynt yn cynnwys nicotin, ac mae'n wirioneddol ofidus gweld y cynnydd yn y defnydd ymhlith ein plant a'n pobl ifanc. Mae fy nghyd-Aelod Lynne Neagle a minnau wedi bod yn ystyried y mater o'n gwahanol safbwyntiau, felly er fy mod yn ymateb ar ran y Llywodraeth heddiw, mae hwn yn amlwg yn bryder trawslywodraethol.

Mae Cymru wedi gwneud cynnydd gwych mewn perthynas ag atal pobl ifanc rhag ysmygu a helpu ysmygwyr i roi'r gorau iddi. Mae gan ein hymgynghoriad presennol gyda gwledydd y DU i greu cenhedlaeth ddi-fwg botensial i ddileu ysmygu yn gyfan gwbl. Ond fel yr amlygodd Jenny Rathbone a John, dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r tactegau sy'n cael eu defnyddio i farchnata fêps tafladwy, gyda blasau a phecynnu deniadol, wedi gweld niferoedd cynyddol o blant a phobl ifanc yn rhoi cynnig ar fêps ac yn mynd yn gaeth, gyda chanlyniadau difrifol i'w hiechyd. Gellir dadlau bod fêps yn gallu helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu, ac efallai fod hynny'n wir mewn rhai amgylchiadau, ond nid oes tystiolaeth o hynny ar gyfer fêps untro, ac mae'r defnydd ohonynt wedi cynyddu'n eithafol oherwydd eu bod yn eithriadol o gaethiwus ac yn denu pobl at ddos rhad o nicotin.

Mae angen i'r dirwedd reoleiddio mewn perthynas â fêps newid ar frys i ymdrin â'r ffrwd wastraff hon sy'n tyfu'n gyflym ac sy'n beryglus iawn. Mae ymgynghoriad y DU yn cynnwys cynigion i gyfyngu ar y cynhyrchion hyn a'u hatal rhag cael eu defnyddio gan blant. Rwy'n annog pob Aelod yn gryf i ofyn i'w hetholwyr leisio eu barn ar y mater pwysig hwn yn ystod yr ymgynghoriad, ac i'r Aelodau fynegi eu barn eu hunain wrth gwrs. Un o'r pethau sy'n eich taro'n fawr pan edrychwch ar y mater hwn yn fanwl yw'r ffaith bod angen trwydded arnoch i werthu alcohol, ond nid oes angen trwydded o gwbl i werthu tybaco a'r cynhyrchion niweidiol hyn.

Mae fêps untro hefyd yn cael effaith hollol ddinistriol ar ein hamgylchedd, fel y nododd Jenny. Mae ymchwil gan Material Focus wedi dangos bod bron i 5 miliwn yn cael eu taflu bob wythnos—cynnydd bedair gwaith drosodd rhwng 2022 a 2023, mewn un flwyddyn felly. Amlygodd adroddiad Llywodraeth yr Alban yr effeithiau amgylcheddol sylweddol pan nad yw fêps yn cael eu hailgylchu. Fel y dywedodd Jenny, gall fêps sy'n cael eu taflu ryddhau lithiwm, cadmiwm a chemegau tra gwenwynig eraill i'r amgylchedd. Gallant fynd ar dân mewn cyfleusterau gwastraff, gyda chanlyniadau economaidd ac amgylcheddol. A gall y difrod o'r cemegau hyn fod yn hirhoedlog iawn yn wir. Yma yng Nghymru, rydym yn dal i ymdrin â gwaddol drud a pheryglus cemegau na chawsant eu gwaredu ddegawdau yn ôl. Nid oes angen inni ychwanegu at hyn heb unrhyw reswm da o gwbl.

Mae fêps untro a'u pecynnau hefyd yn cynyddu gwastraff plastig yn yr amgylchedd, a all ddadelfennu'n ficroblastigau a mynd i mewn i'n cadwyn fwyd. Ac yn drist iawn heddiw, fe welwch sbwriel fêps untro ar bron bob stryd, pob traeth, pob bryn. Mae hwn yn drychineb amgylcheddol sy'n cyflymu'n gyflym ac mae'n rhaid i ni ei atal cyn ei bod hi'n rhy hwyr.

Felly, cyfarfûm â Gweinidogion ac uwch swyddogion o bob rhan o'r DU yn ôl ym mis Medi i drafod fêps untro ac rydym i gyd wedi cytuno i gydweithio i fynd i'r afael â'r effeithiau, hyd at a chan gynnwys ystyried gwaharddiad llwyr. Mae fêps tafladwy yn tanseilio ein hymgyrch tuag at economi gylchol a'r angen i gynhyrchion fod yn fwy gwydn, hirhoedlog a defnyddio llai o adnoddau naturiol y ddaear. Mae dros 360 miliwn o fêps untro yn cael eu prynu yn y DU bob blwyddyn, gyda mwynau gwerthfawr a phwysig, fel y mae Jenny wedi'i grybwyll, fel lithiwm a chopr, yn cael eu taflu'n rheolaidd. Amcangyfrifir bod cyfanswm y deunyddiau sy'n cael eu gwastraffu yn gyfwerth â batris bron i 5,000 o gerbydau trydan, fel y dywedoch chi, Jenny.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda gwledydd eraill y DU ar agweddau iechyd cyhoeddus hyn ac i leihau effaith amgylcheddol a sbwriel e-sigaréts untro. Mae ymgynghoriad arfaethedig y pedair gwlad ar ddiwygiadau i gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr yn cydnabod hyn ac mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig i greu categori newydd ar gyfer fêps, er mwyn sicrhau bod cynhyrchwyr yn ariannu'r gost o gasglu a thrin yn llawn, a chredaf y bydd hynny'n symud i ffwrdd o'r farchnad untro i raddau sylweddol. Hefyd, hoffem weld y mesurau rheoli cyfrifoldeb cynhyrchwyr newydd yn cael eu cyflwyno cyn gynted â phosibl i ategu'r cynigion eraill i gyfyngu ar y cyflenwad o e-sigaréts untro.

Mae swyddogion yn parhau i weithio gyda Safonau Masnach Cymru i ddatblygu cynigion i gefnogi eu gwaith ar gynhyrchion fepio a thybaco anghyfreithlon yng Nghymru. Mae rhai o'r cynhyrchion anghyfreithlon wedi bod yn wirioneddol syfrdanol o ran eu cynnwys a'u natur niweidiol. Rydym hefyd yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru'n rhan o'r rhwydwaith cuddwybodaeth, ac i ddysgu o ddulliau gweithredu mewn mannau eraill yn y DU. 

Felly, hoffwn gloi, Ddirprwy Lywydd, drwy ddiolch i'r Aelod am gyflwyno'r ddadl hon. Rwy'n gwybod bod llawer ohonoch, fel finnau, yn poeni'n fawr am effeithiau'r fêps untro hyn ar iechyd a'r amgylchedd. Rwyf wedi gwrando'n astud ar farn yr Aelodau heddiw. Rwyf wedi gweithio'n agos gyda fy nghyfaill a fy nghyd-Aelod Lynne Neagle ar y mater hwn. Byddwn yn siarad â Llywodraeth y DU ynglŷn â chyflymu'r ymgynghoriad, ac yna, y gwaharddiad llwyr ar e-sigaréts untro, mewn gwirionedd, nid fêps yn unig—mae cynhyrchion ychydig yn wahanol ar y farchnad—oherwydd iechyd y cyhoedd ac oherwydd natur amgylcheddol wastraffus, hynod niweidiol a pheryglus y cynnyrch hwn. Diolch. 

16:15

Diolch yn fawr iawn. Cymerodd ran helaeth o'r ugeinfed ganrif i gael y diwydiant tybaco hyd yn oed i gyfaddef eu bod yn achosi canser yr ysgyfaint, ac maent yn parhau i hyrwyddo tybaco ledled y byd mewn gwledydd nad oes ganddynt y math o wasanaeth iechyd sy'n ein galluogi i'w drin. Mae'r cynhyrchion hyn gan y diwydiant tybaco sydd wedi'u targedu tuag at y genhedlaeth nesaf yn dangos i chi nad yw'r bobl hyn wedi diflannu; maent wedi ailbecynnu eu hunain, ac rwy'n argymell TobaccoTactics ar wefan Prifysgol Caerfaddon os ydych chi eisiau gweld y manylion. 

Diolch yn fawr iawn i John Griffiths am ei ddadl fer, oherwydd fe sefydlodd fod pryder ar draws y Senedd mewn perthynas â'r mater hwn, felly rwy'n siomedig braidd nad oes yr un Aelod arall o'r meinciau cefn, ar wahân i chi'ch hun wedi—[Torri ar draws.] Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad. 

Os gwnewch chi dderbyn ymyriad, hoffwn ddiolch i chi am gyflwyno'r mater hwn, Jenny. Mae'n ddadl mor bwysig i'w chael, ac mae cymaint o bobl ifanc wedi bod mewn cysylltiad â mi dros y 12 mis diwethaf yn enwedig, ac rwyf wedi cyfarfod â phlant ysgol hefyd, sydd wedi dweud wrthyf eu bod eisiau gwaharddiad ar fêps untro. A hoffwn ddefnyddio'r cyfle hwn i ganmol y bobl ifanc hynny am gysylltu â nifer ohonom, rwy'n siŵr, i'n rhybuddio am y peryglon y maent yn eu gweld eu hunain ymhlith eu ffrindiau a'u cymheiriaid sy'n defnyddio'r fêps untro hyn. A ydych chi'n cytuno â mi fod ymateb y Gweinidog yn galonogol, pan ddywed ei bod yn hapus i gyflymu'r broses gyda Llywodraeth y DU a gwledydd datganoledig eraill fel y gallwn wahardd fêps untro yn llwyr cyn gynted â phosibl?

Yn sicr, rwy'n rhannu eich brwdfrydedd am y ffaith bod y Gweinidog yn bwriadu gweithio gyda Gweinidogion y DU i geisio cyflymu cynigion deddfwriaethol, oherwydd rydym yn gwybod ei fod yn tarfu ar wersi, mae'n achosi i bobl ifanc adael gwersi, am na allant aros tan ddiwedd y wers cyn cael eu dos nesaf. James, a oeddech chi eisiau dweud rhywbeth?

Diolch i chi, a diolch am gyflwyno'r mater hwn, Jenny, oherwydd mae fepio'n fater difrifol sy'n effeithio ar ein pobl ifanc ledled Cymru. Un peth y gobeithiaf y byddwch yn cytuno â mi yn ei gylch yw bod angen inni weld mwy o orfodaeth gan ein hadrannau safonau masnach hefyd. Ni ddylid gwerthu'r rhain i blant dan 18 oed. Felly, hoffwn gael eich barn ynglŷn ag a ddylem fod yn rhoi mwy o arian i'n hadrannau safonau masnach i sicrhau gorfodaeth fwy llym mewn perthynas â gwerthu fêps i bobl ifanc.

Diolch am hynny. Rwy'n sicr yn gwybod bod deddfwriaeth Araith y Brenin Llywodraeth y DU yn dweud y byddai'n rhoi pwerau newydd i awdurdodau lleol orfodi'r terfynau oedran. A byddai'n well gennyf ddeddfwriaeth ar gyfer y DU gyfan, oherwydd, fel arall, pe baem yn deddfu yng Nghymru'n unig, gallai ysgogi pobl i smyglo cynhyrchion anghyfreithlon i Gymru, a fyddai'n amlwg yn ganlyniad gwrthnysig iawn. Ond ni allwn ddibynnu ar Lywodraeth y DU i wneud amser ar gyfer hyn, oherwydd mae'n ymddangos bod pob math o bethau eraill ar eu meddyliau ar hyn o bryd. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn gael cefnogaeth drawsbleidiol i atal ein pobl ifanc o leiaf rhag cael eu bywydau wedi'u difetha gan rywbeth sydd i'w weld yn eithaf niwtral, ond sydd, mewn gwirionedd, yn hynod niweidiol yn ôl pob tebyg.

Felly, rwy'n credu fy mod am gloi drwy ddiolch i'r Gweinidog am y gefnogaeth drawsbleidiol sydd gennym—wel, cefnogaeth drawslywodraethol. Nid yw'r ymgynghoriad sy'n cael ei gynnal gan Lywodraeth y DU yn dod i ben tan 6 Rhagfyr, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod pob un ohonom yn annog ein hysgolion a phartïon eraill sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth, er mwyn sicrhau bod y DU yn ymateb ar frys. Felly, diolch am wrando.

16:20

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Diwrnod Rhyngwladol y Dynion

Eitem 8 yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig, Diwrnod Rhyngwladol y Dynion. Galwaf ar James Evans i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8405 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod Diwrnod Rhyngwladol y Dynion 2023 yn cael ei gynnal ar 19 Tachwedd: digwyddiad blynyddol i dynnu sylw at bwysigrwydd cydnabod a mynd i'r afael â'r heriau iechyd meddwl a chorfforol y mae dynion yn eu hwynebu.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn wneud ein cynnig heddiw, a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar.

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Dynion yn gyfle i gydnabod a dathlu'r cyfraniad rhyfeddol a wneir gan ddynion a bechgyn yn ein cymdeithas ac ar draws y byd. Mae'n ddiwrnod sydd wedi'i neilltuo i dynnu sylw at y materion sy'n effeithio ar ddynion, fel y cyfraddau uchel o hunanladdiad a pherfformiad academaidd gwael. Mae yna broblemau iechyd corfforol hefyd, gyda dynion yn fwy tebygol o gael canser yr ysgyfaint a chlefyd y galon. Gall fod diffyg parodrwydd i geisio cymorth a siarad am broblemau hefyd, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen mynd i'r afael ag ef.

Mae problemau iechyd meddwl ymhlith dynion yn bwnc nad yw'n cael ei drafod yn aml, ac rwy'n croesawu'r cyfle heddiw i dynnu sylw at hyn. Yn ôl adroddiad, mae un o bob wyth dyn yn profi symptom iechyd meddwl gwael, ac mae 35.2 y cant o ddynion yn credu eu bod wedi cael cyflwr iechyd meddwl y gellir gwneud diagnosis ohono ar ryw adeg yn eu bywydau, ac mae'r ystadegyn hwnnw'n frawychus. Mae'n tynnu sylw at yr effeithiau difrifol y gall problemau iechyd meddwl eu cael ar fywydau dynion.

Mae dynion hefyd yn profi ynysu cymdeithasol mewn gwahanol agweddau ar fywyd, gan gynnwys digartrefedd, bechgyn ifanc sy'n cael eu derbyn i ofal, gwaharddiadau o'r ysgol a dynion yn y ddalfa. Gall dynion hefyd ddioddef trais, troseddau, gan gynnwys bwlio, trais rhywiol, trais gangiau a gweithgareddau troseddol eraill. Yn ogystal, mae dynion yn wynebu heriau unigryw fel rhieni, yn enwedig fel tadau newydd a thadau sydd wedi gwahanu, ac mae bechgyn a dynion yn aml yn cael eu portreadu'n negyddol yn y cyfryngau pan fyddant wedi gwahanu oddi wrth eu partneriaid. Ond yn ehangach na hynny, mae gan ddynion rôl ychwanegol wrth fynd i'r afael â thrais domestig ac addysgu cenedlaethau iau o ddynion am berthnasoedd cadarnhaol â menywod. Ac os ydym am fynd i'r afael â thrais domestig gyda menywod, mae angen inni addysgu dynion am y rôl y maent yn ei chwarae wrth fynd i'r afael â'r mater hwn.

Ond ffocws allweddol Diwrnod Rhyngwladol y Dynion eleni yw mynd i'r afael â hunanladdiad ymhlith gwrywod yn y byd gorllewinol. Mae dynion yn marw drwy hunanladdiad dair neu bedair gwaith yn fwy aml na menywod. Gall y gwahaniaeth ddeillio'n rhannol o'r ffaith bod mwy o amharodrwydd ymhlith dynion i geisio cymorth gan wasanaethau iechyd meddwl, ac mae disgwyliad ynghylch ymddygiad gwrywaidd sy'n aml yn dweud wrth ddynion, 'Mae angen i ti ymwroli a pheidio â siarad am dy brofiadau', ac mae hynny'n drueni mawr. Mae'n ffaith adnabyddus fod dynion mewn cymunedau gwledig ac yn y diwydiant ffermio—. Mae'n ddiwydiant sy'n cael ei ddominyddu gan ddynion, ac maent mewn mwy o berygl o gyflawni hunanladdiad. Rwy'n credu ein bod i gyd yn adnabod rhywun yn ein cymunedau ffermio ein hunain yr ydym wedi'u colli drwy hunanladdiad. Mae ein diwydiant ffermio wedi profi cyfnodau cythryblus dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r disgwyliadau ar ein ffermwyr yn uwch. Yn ogystal â bod yn un o'r proffesiynau mwyaf boddhaol, mae hefyd, rwy'n credu, yn un o'r proffesiynau mwyaf unig. Ac mae hefyd yn un o'r rhai mwyaf anrhagweladwy, pan fo hyfywedd fferm yn cael ei gwestiynu dro ar ôl tro. Rwy'n pryderu'n fawr am y cynnydd mewn hunanladdiad ymhlith ein ffermwyr ifanc. Mae'r Sefydliad Diogelwch Fferm yn mynd i'r afael â phroblem iechyd meddwl gwael, ac maent yn dweud bod 94 y cant o ffermwyr o dan 40 oed—94 y cant o ffermwyr dan 40 oed—yn profi problem iechyd meddwl. Dylai'r ystadegyn hwnnw ddychryn unrhyw un.

Ond er mwyn mynd i'r afael â hyn, rwy'n credu bod angen sicrhau cyfathrebu effeithiol, nid yn unig yn y byd ffermio ond ym mhob diwydiant. Mae'n rhan annatod o fynd i'r afael ag iechyd meddwl ymhlith dynion a menywod. Fodd bynnag, fel y dywedais yn gynharach, mae normau cymdeithasol yn aml yn pennu y dylai dynion guddio ein hemosiynau ac y dylid gwneud hynny o oedran ifanc. Gallaf gofio rhywun yn dweud wrthyf am beidio â siarad am fy emosiynau. Ac nid fy nhad a ddywedodd hynny wrthyf. Fy mam-gu a ddywedodd wrthyf nad oedd dynion yn crio, nad oedd gan ddynion emosiynau—na ddylech eu dangos; mae'n arwydd o wendid. Ac rwy'n credu bod y pethau hynny wedi'u gwreiddio'n ddwfn ym meddyliau rhai pobl heddiw. Mae'n agwedd niweidiol ar fagwraeth dynion, a gall atal dynion a bechgyn rhag ceisio'r cymorth y maent ei eisiau, a dyna pam ein bod yn gweld llawer o ddynion yn colli eu bywydau i broblemau iechyd meddwl.

Rydym hefyd yn gweld bod mamau yn tueddu i gael mwy o sgyrsiau gyda'u merched na'u meibion. Mae mamau yn tueddu i annog eu merched i fynegi eu hemosiynau, i siarad ynglŷn â sut maent yn teimlo, ond nid wyf yn meddwl—wel, nid yn fy mhrofiad i—fod hynny wedi cael ei esbonio i mi. Bydd llawer o fy ffrindiau yn dweud yr un peth, na chawsant eu hannog i siarad. Mae'n effeithio ar hunan-barch bechgyn ifanc a'u sgiliau cyfathrebu, a'n parodrwydd i gyfathrebu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ddiweddarach mewn bywyd. Sawl gwaith y clywsom ddynion yn dweud, 'O, nid wyf yn mynd at y meddyg, nid wyf yn troi atynt', oherwydd na chawsant erioed mo'u hannog i wneud hynny pan oeddent yn iau. Fel y dywedais, gallai hyn arwain at oblygiadau difrifol i'w hiechyd corfforol ac i'w hiechyd meddwl. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn creu amgylchedd diogel a chefnogol i fechgyn a dynion fynegi eu hemosiynau a gofyn am gymorth heb ofni barn a stigma. 

Hoffwn siarad am elusen sy'n agos iawn at fy nghalon, sef y mudiad Siediau Dynion. Mae'n fenter fyd-eang a ddechreuwyd yn Awstralia i helpu i gysylltu dynion â'i gilydd mewn amgylcheddau diogel a chefnogol. Nod y mudiad yw mynd i'r afael â phroblem ynysu cymdeithasol ac unigrwydd ymhlith dynion, a all arwain yn aml, fel y dywedais, at broblemau iechyd corfforol a meddyliol. Mae Siediau Dynion yn darparu gofod fel y gall dynion ddod at ei gilydd i weithio ar brosiectau, dysgu sgiliau newydd a mwynhau cwmni ei gilydd. Euthum i un Sied Dynion yn Ystradgynlais lle roeddent i gyd yn gwneud gwaith pren; roedd yn lle da iawn mewn gwirionedd, ac roedd yn llawer o hwyl, a chefais baned dda iawn o de hefyd.

Ond un o fanteision allweddol mudiad Siediau Dynion yw ei fod yn rhoi ymdeimlad o bwrpas i ddynion, ymdeimlad o berthyn eto, drwy weithio ar brosiectau gyda'i gilydd. Mae'n hyfryd cael ymdeimlad o gyflawniad a balchder, a phan fo llawer o bobl yn gorffen eu bywyd gwaith hefyd, nid ydynt yn hollol siŵr beth i'w wneud, ac mae Siediau Dynion yn rhoi cyfle i chi fynd yno a gwneud hynny. Ond mae hefyd yn annog dynion i fod yn agored am eu teimladau hefyd. Nid oes neb arall yno, ac mae'n eu hannog i siarad am yr hyn y maent yn ei deimlo, sut maent yn teimlo, ac mae'r bobl yno wedi'u hyfforddi i annog dynion i siarad os ydynt eisiau gwneud hynny. Nid oes raid i chi, ond gallwch siarad os ydych chi eisiau. Mae'n chwalu'r rhwystrau sy'n atal dynion rhag gofyn am help, a hoffwn glywed ychydig mwy gan y Llywodraeth am ba gymorth y gallant ei roi i Siediau Dynion ledled Cymru hefyd, oherwydd rwy'n credu eu bod yn hanfodol bwysig. 

Mae yna opera wych ymlaen ar hyn o bryd. Ei henw yw Shoulder to Shoulder a hoffwn annog unrhyw un ar draws y Siambr i fynd i'w gwylio yn eu hardal neu pan fydd yn dod i Gaerdydd, ac fe gafodd yr opera honno ei hysbrydoli gan Siediau Dynion ac mae'n tynnu sylw at y pethau hynny. Rwyf wedi bod i'w gwylio, ac roedd yn un o'r pethau hynny lle byddwch yn crio wrth ei gwylio ond byddwch chi'n chwerthin hefyd, ond mae'n deimladwy iawn ac mae'n esbonio'r heriau sy'n wynebu dynion. Ond fe'i galwyd yn Shoulder to Shoulder oherwydd bod cymaint o sgyrsiau y mae dynion yn eu cael yn tueddu i ddigwydd pan fyddant ysgwydd wrth ysgwydd â'i gilydd; nid ydynt yn digwydd pan fyddant yn edrych i lygaid ei gilydd. Fel y dywedais, mae'n teithio o gwmpas ar hyn o bryd, a hoffwn argymell i bob Aelod, Ddirprwy Lywydd, fynd i'w gweld.

Felly, i gloi, hoffwn ddiolch i'r Siambr am y cyfle i siarad am y pwnc pwysig hwn heddiw. Nid wyf yn credu ein bod yn cael digon o gyfle i godi'r problemau y mae dynion yn eu hwynebu. Nid yw hynny'n ymwneud ag unrhyw grŵp arall yr ydym yn siarad amdano yma, ond rwy'n credu y bydd siarad am faterion sy'n ymwneud â dynion, siarad am y problemau y maent yn eu hwynebu, yn helpu rhai dynion yng Nghymru i fagu plwc i siarad am eu problemau, i siarad am eu problemau iechyd a sut y gallant ddod at ei gilydd i fynd i'r afael â nhw. Diolch.  

16:25

Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad yn y ddadl bwysig hon am yr heriau iechyd meddwl a chorfforol y mae dynion yn eu hwynebu yng Nghymru ar hyn o bryd, a hoffwn ddiolch i James Evans am y ffordd ystyrlon a chydymdeimladol yr agorodd y ddadl hon. 

Rydym eisoes wedi clywed am y realiti trasig mai hunanladdiad yw prif achos marwolaeth dynion o dan 50 oed, a dylai fod yn destun pryder mawr i bob un ohonom fod cyfraddau hunanladdiad yng Nghymru yn parhau i fod yn uchel ac ymhell uwchlaw'r gyfradd gyfartalog ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae'r ffaith bod yr oedi canolrifol ar gyfer cofrestru adroddiadau crwner ar hunanladdiadau yn sylweddol hwy yng Nghymru o gymharu â Lloegr hefyd yn awgrymu nad yw gwir faint y broblem yn cael ei adlewyrchu'n llawn yn yr ystadegau. 

Mae canser y prostad yn agwedd arall ar iechyd dynion lle gwelwyd tueddiadau pryderus yn ddiweddar. Mae effaith y pandemig wedi arwain at ostyngiad o 26.5 y cant yn y diagnosis o ganser y prostad yng Nghymru, sy'n tanseilio gallu gwasanaethau iechyd i ddarparu triniaeth gynnar effeithiol. Mae achosion o gamddefnyddio cyffuriau, sy'n arbennig o gyffredin ymhlith dynion, hefyd ar eu lefelau uchaf erioed yng Nghymru. 

Ond o ran mynd i'r afael ag achosion sylfaenol y problemau hyn, hoffwn annog y Ceidwadwyr Cymreig i fyfyrio ar fethiannau eu plaid eu hunain yn y maes hwn. Mae 13 mlynedd o gyni a achoswyd gan y Torïaid yn San Steffan wedi cael effaith ddinistriol ar wasanaethau iechyd corfforol a meddyliol ledled Cymru, gyda llawer o awdurdodau lleol yn ei chael hi'n anodd darparu'r lefel fwyaf sylfaenol o gymorth hyd yn oed. Mae'r gydberthynas rhwng tanfuddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen a chyfraddau marwolaethau wedi bod yn amlwg ers amser maith. Er enghraifft, mae ymchwil a gyhoeddwyd ddiwedd y llynedd gan Ganolfan Iechyd y Boblogaeth yn Glasgow a Phrifysgol Glasgow wedi datgelu bod 335,000 o farwolaethau ychwanegol wedi digwydd rhwng 2012 a 2019 o ganlyniad i bolisïau cyni.

16:30

Diolch. Beth fyddech chi'n ei ddweud, felly, am y ffaith bod iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a llawer o bethau sy'n ymwneud ag iechyd meddwl wedi cael eu datganoli i Gymru ers 25 mlynedd?

Mae Gareth yn gwneud pwynt da. Byddaf yn dod at Lywodraeth Cymru mewn munud, ond mae ganddynt hefyd gyllideb gyfyngedig y mae'n rhaid iddynt weithio o'i mewn, ac mae'r gyllideb honno'n cael ei throsglwyddo i lawr. O ganlyniad i gyni, mae'r toriadau wedi golygu bod ganddynt lai o arian i'w rannu rhwng y gwasanaethau y mae angen iddynt ddarparu ar eu cyfer.

Fel y dywedwch, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ysgwyddo cyfrifoldeb, yn enwedig am yr ansicrwydd a achoswyd gan ei hymarfer ailgyllidebu yn ddiweddar. Buaswn yn croesawu diweddariad gan y Dirprwy Weinidog yn ei hymateb ynglŷn ag a yw addewid y Llywodraeth i ddarparu £19 miliwn ychwanegol i'r portffolio iechyd meddwl yn 2024-25 yn parhau i fod ar y trywydd cywir. Gostyngodd disgwyliad oes i ddynion saith wythnos ar gyfartaledd ledled y DU rhwng 2018 a 2020. Nid yw'n syndod fod y tueddiadau hyn wedi bod yn fwy amlwg mewn cymunedau tlotach. Roedd cyfradd y marwolaethau y gellir bod wedi eu hosgoi yn 37 y cant o'r holl farwolaethau ymhlith gwrywod yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn 2020, o'i gymharu â 18.9 y cant yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Felly, os ydym am fod o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â'r materion a godwyd heddiw, mae'n hanfodol fod gwleidyddiaeth cyni yn cael ei gwrthod yn llwyr, a bod tanfuddsoddi gan San Steffan a Llywodraeth Cymru fel ei gilydd mewn sectorau allweddol yn cael ei wrthdroi fel mater o frys.

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Dynion hefyd yn rhoi cyfle inni ystyried dylanwad difäol gwrywdod gwenwynig yn ein cymdeithas, rhywbeth y profwyd ei fod yn arwain at oblygiadau iechyd meddwl a chorfforol niweidiol i ddynion a menywod fel ei gilydd. Fel y nodwyd gan elusen Mental Health UK, mae gwrywdod gwenwynig yn cyfrannu at ganlyniadau iechyd meddwl gwael i ddynion, yn enwedig mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau a chyfraddau hunanladdiad. Mae'n creu disgwyliadau niweidiol ynghylch hunaniaeth rhywedd a mynegiant emosiynol sy'n aml yn atal dynion rhag ceisio'r gefnogaeth y maent ei hangen, fel y clywsom gan James yn gynharach.

Mae gwrywdod gwenwynig hefyd yn ffactor yn nifer brawychus yr achosion o drais yn erbyn menywod. Yn ôl ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol, profodd 1.7 miliwn o fenywod ryw fath o gam-drin domestig ledled Cymru a Lloegr y llynedd, sy'n cyfateb i 6.9 y cant o'r holl fenywod dros 16 oed. Ac mae datguddiadau diweddar hefyd wedi datgelu ei bresenoldeb niweidiol ym myd gwleidyddiaeth. Rydym wedi clywed sawl honiad dros y flwyddyn ddiwethaf sy'n arwydd o ddiwylliant o hawl a rhywiaeth ymhlith gwleidyddion gwrywaidd, sydd wedi profi'n rhwystr mawr i fenywod sy'n ceisio dilyn gyrfa ym maes gwleidyddiaeth. Rwy'n falch o'r ffaith y byddwn, drwy ein cytundeb cydweithio â'r Llywodraeth, yn cyflawni diwygiadau i'r Senedd hon yn fuan i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau o ran cynrychiolaeth, a hynny ar sail barhaol. Un o'r ffyrdd amlycaf y gallwn wanhau gwrywdod gwenwynig yn ein gwleidyddiaeth yw drwy wrthdroi tangynrychiolaeth hanesyddol menywod mewn swyddi o ddylanwad gwleidyddol.

O safbwynt cymdeithasol ehangach, mae hefyd yn ddyletswydd foesol arnom i herio gwrywdod gwenwynig lle bynnag y'i gwelir a hyrwyddo fersiwn fodern o wrywdod sy'n gynhwysol, yn emosiynol gyflawn ac sy'n ystyried ymdrechion i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau ym mhob agwedd ar fywyd fel rhywbeth i'w ddathlu yn hytrach na bygythiad. Mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau o fudd i bob un ohonom. Gadewch i hyn fod yn alwad ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Dynion eleni.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, wrth inni baratoi i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Dynion ddydd Sul. Mae'n bwysig cydnabod yr heriau sy'n wynebu dynion ledled Cymru. Wrth inni ymdrechu i greu Cymru fwy cyfartal, rydym wedi canolbwyntio'n briodol ar fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n wynebu menywod a merched. Fodd bynnag, ni allwn anwybyddu'r heriau sy'n wynebu dynion, heriau sy'n aml yn cael eu hysgogi gan yr un arferion diwylliannol â'r rhai sydd wedi ysgogi'r gymdeithas anghyfartal i fenywod a merched.

Mae'r un gwrywdod gwenwynig—fel y dywedwyd yn gynharach—sy'n rhoi rhwystrau yn ffordd ein menywod ifanc hefyd wedi ysgogi anghydraddoldebau iechyd meddwl a chorfforol ymhlith ein dynion ifanc. Mae 'ymwrola' a 'nid yw bechgyn yn crio' yn negeseuon y mae cymdeithas wedi'u cyflwyno i lawer o ddynion ifanc. O ganlyniad, maent wedi tyfu i fyny i gredu na allant ofyn am gymorth am yr hyn sy'n eu poeni. Rydym yn cael ein rhaglennu o'n genedigaeth i guddio ein hemosiynau; nad yw'n iawn i ni ddangos bregusrwydd neu wendid. O ganlyniad, mae llawer o ddynion yn dewis dioddef yn dawel. Nid yw'n syndod fod cyfraddau hunanladdiad dynion mor uchel, fel y dywedwyd yn gynharach.

Dynion yw tri o bob pedwar hunanladdiad cofrestredig yn y DU. Ac eto, yn ôl y ffigurau poblogaeth diweddaraf, dynion yw llai na 50 y cant o boblogaeth Cymru a Lloegr. Mae llawer gormod o ddynion yn cyflawni hunanladdiad, a dyma pam mai un o themâu allweddol Diwrnod Rhyngwladol y Dynion eleni yw 'dim hunanladdiad ymhlith dynion'. Os ydym am gyflawni hyn, mae'n rhaid inni fynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl ymhlith dynion, fel y nododd James.

Rhaid inni gyfleu'r neges i fechgyn ei bod hi'n iawn i siarad am faterion iechyd meddwl, ei bod hi'n iawn i geisio cymorth, ei bod hi'n iawn i beidio â bod yn iawn. Yn anffodus, mae hon yn frwydr galed. Mae agweddau cymdeithasol tuag at wrywdod wedi gwreiddio'r gwrthwyneb yn llwyr ers cenedlaethau. Gofynnodd Priory Group i garfan o ddynion am y rhesymau pam nad ydynt yn siarad am eu hiechyd meddwl, a dyma rai o'r ymatebion: 'Rwyf wedi dysgu ymdopi ag ef'; 'Nid wyf eisiau bod yn faich'; 'Rwy'n teimlo gormod o embaras'; 'Nid wyf eisiau ymddangos yn wan.' Dyna'r her a wynebwn, ac oni bai ein bod yn gweithredu nawr i addysgu cenedlaethau'r dyfodol, byddwn yn parhau i weld nifer fawr o hunanladdiadau ymhlith dynion. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r stigma a dileu stereoteipiau gwrywaidd gwenwynig.

Felly, pam y dylech deimlo embaras i ofyn am help ar gyfer iselder? Ni allwn adael i ddynion ddioddef yn dawel am fod cymdeithas wedi eu harwain i gredu hynny. Mae angen inni ei weiddi'n uchel ac yn glir, fod siarad yn helpu ac nad oes unrhyw beth i fod â chywilydd ohono. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig ac yn gofyn i bob un ohonom wneud yr hyn a allwn i ddileu hunanladdiad ymhlith dynion. Diolch yn fawr.

16:35

A gaf fi ddechrau drwy gymeradwyo sylwadau James Evans mewn perthynas â cham-drin domestig, a'r rhan y mae'n rhaid i ddynion ei chwarae wrth ddod yn fodelau rôl ar gyfer dod â cham-drin domestig i ben? Ychydig cyn i mi ddod i lawr i'r Siambr—. Nid oeddwn yn bwriadu siarad yn y ddadl hon heddiw, Lywydd, ond rwyf newydd wneud fideo ar gyfer y Diwrnod Rhuban Gwyn, sydd i ddod yn yr wythnosau nesaf, ac am bwysigrwydd dynion yn gwneud y newid i sicrhau nad ydynt yn cyflawni cam-drin domestig ac na fyddant yn cadw'n dawel os byddant yn dyst i gam-drin domestig.

Ond os caf symud at brif neges y cynnig o'n blaenau heddiw, ac iechyd meddwl dynion yn benodol, a hunanladdiad dynion, bydd James, a agorodd y ddadl dros y Ceidwadwyr Cymreig, yn gwybod ei fod ef a minnau wedi cael llawer o sgyrsiau i ffwrdd o frwydrau gwleidyddol y Siambr am ein problemau ein hunain gydag iechyd meddwl, ac rwy'n ddiolchgar am ei gyfeillgarwch yn hynny o beth.

Rydym eisoes wedi clywed y prynhawn yma, onid ydym, am y cyfraddau uwch? Rwy'n credu bod James wedi defnyddio'r geiriau hynny. Yn bersonol, rwyf wedi colli gormod o bobl i hunanladdiad. Chwe blynedd yn ôl i'r wythnos diwethaf, collais Dad. Yfory, bydd hi'n 14 mis ers imi golli fy ffrind gorau ers 20 mlynedd a mwy. Dywedodd Mabon ap Gwynfor, ar ran Plaid Cymru, mai hunanladdiad yw prif achos marwolaeth dynion o dan 50 oed; roedd dad yn 47 oed, roedd Jamie yn 28 oed. Rhaid imi ddweud, Lywydd, heb rwydwaith cymorth fy ffrindiau, fy nghariad a fy nheulu, mae'n bosibl y byddai fy ngallu i ymdopi o ddydd i ddydd yn wahanol iawn. A chredwch chi fi, mae gennyf fy mhroblemau fy hun mewn perthynas ag iechyd meddwl ac rwy'n brwydro gydag iechyd meddwl yn eithaf rheolaidd; rwyf wedi dweud o'r blaen fy mod yn cymryd meddyginiaeth yn ddyddiol i helpu gyda fy iselder ac anhwylder straen wedi trawma.

Ond mae'n ymwneud â mwy na rhwydweithiau gyda ffrindiau, teulu ac anwyliaid, mae hefyd yn ymwneud â rhwydweithiau yn ein gweithleoedd. Ar y ffordd i lawr i'r Siambr, gwelais drydariad gan fy undeb llafur, Unite Cymru. Neges ar y cyfryngau cymdeithasol oedd hi, wrth i Daz Reynolds, cydgysylltydd safle Unite yn Airbus ym Mrychdyn, ynghyd â'i gydweithwyr yn yr undeb llafur a chynrychiolwyr y gweithle, fynychu digwyddiad heddiw ynglŷn â siarad yn agored am iechyd meddwl, yn enwedig yn y gweithle. Rwy'n credu bod hynny, unwaith eto, yn ategu'r rôl bwysig y gall undebau llafur ei chwarae yn cefnogi ac yn eirioli dros eu haelodau a sicrhau bod iechyd meddwl yn cael ei ystyried o ddifrif mewn gweithleoedd ledled Cymru. Felly, hoffwn ddiolch i Daz, Kyle a'r lleill a fynychodd y digwyddiad hwnnw heddiw, ac wrth gwrs, i Airbus am ei gynnal. Rwyf am annog gweithleoedd ledled Cymru i ddilyn eu hesiampl.

Daeth y sylwadau hynny o'r galon, Lywydd. Maent wedi cael eu hysgrifennu i lawr ar fy nhaith o'r swyddfa i'r fan hon, ond rwy'n credu ei bod hi'n hynod bwysig ein bod yn ceisio gwneud i bobl ddeall bod yna broblem mewn perthynas â materion iechyd meddwl, i fenywod a dynion. Yn anffodus, rydym yn gweld bod ystadegau hunanladdiad ymhlith dynion yn uchel iawn. Rwy'n credu bod yn rhaid i bob un ohonom yn y lle hwn, a thu hwnt i'r lle hwn, ond yn enwedig Aelodau a etholwyd gan y cyhoedd, wneud popeth yn eu gallu i geisio sicrhau bod yr ystadegyn hwnnw'n gostwng yn sylweddol, oherwydd rydym eisiau byw mewn byd lle nad yw hunanladdiad yn digwydd, a lle gallwn i gyd fyw gyda phroblemau iechyd meddwl, oherwydd mae gennym i gyd broblemau iechyd meddwl. Rai dyddiau, mae'n well i rai pobl nag i eraill, ond dylem i gyd wneud ac ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i geisio mynd i'r afael â'r broblem honno. [Torri ar draws.] Yn sicr.

16:40

Jack, diolch am dderbyn ymyriad. Yn digwydd bod, cyfarfûm â'r Gymdeithas er Diogelwch Prosiectau ddoe, yma yn y Senedd. Maent yn ymwneud â'r diwydiant adeiladu ac fe wnaethant dynnu sylw at iechyd meddwl fel un o'u prif bryderon ar hyn o bryd o ran y materion hyfforddi a diogelwch y maent yn ymwneud â nhw gydag ystod o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant adeiladu a chynllunio. Ac mae'r gweithlu adeiladu hwnnw, sy'n cynnwys dynion yn bennaf, rwy'n credu, yn un sydd wirioneddol angen elwa o'r polisïau hynny a'r gwaith y gall y sefydliad hwnnw ei wneud. Felly, rwy'n tybio bod yna lawer iawn o sefydliadau a all chwarae rhan yn hynny ac mae gwir angen i ni eu hannog i wneud hynny.

Rwy'n cytuno'n llwyr. Ac mae hynny'n fy arwain yn braf at ddiwedd fy nghyfraniad, Lywydd, ac rwy'n cytuno'n llwyr â John Griffiths a'r hyn a ddywed yno. Mae yna waith gwych yn mynd rhagddo, ac nid yn y diwydiant adeiladu yn unig; mae Airbus yn enghraifft arbennig. Carwn annog y Llywodraeth i geisio casglu rhai o'r enghreifftiau hynny at ei gilydd, lle gallwn eu trosglwyddo i feysydd eraill, fel adeiladu, fel ffermio ac amaethyddiaeth fel y dywedodd James Evans, a'r holl feysydd eraill yr ydym yn ymwneud â nhw, fel ein bod yn byw mewn lle gwell lle mae pobl yn gallu siarad am iechyd meddwl, a lle mae cefnogaeth ar gael hefyd, lle bo angen.

Rwy'n falch o wneud rhai sylwadau yn y ddadl bwysig a sylweddol hon y prynhawn yma, a diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r cynnig amserol hwn y prynhawn yma i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Dynion, a fydd yn digwydd ddydd Sul, 19 Tachwedd. Mae'n bwysig sôn am y cyfraniad y mae dynion yn ei wneud i gymdeithas a Chymru gyfan, yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol.

Rwyf wedi bod yn ymwybodol o Ddiwrnod Rhyngwladol y Dynion wrth gwrs, ond roeddwn eisiau ymchwilio ymhellach i ddeall ei darddiad a'r hyn y mae'n sefyll drosto mewn gwirionedd. Gwnaed argraff fawr arnaf pan welais chwe cholofn Diwrnod Rhyngwladol y Dynion yn cael eu crynhoi yn eu cyfraniadau i'r genedl, yr undeb, cymdeithas, cymuned, teulu, priodas a gofal plant, yn ogystal â'r ffaith y gall y materion niweidiol y mae dynion yn eu hwynebu ar ffurf gelyniaeth rhieni, cam-drin, digartrefedd, hunanladdiad a thrais fod yn rhwystr rhag cyflawni'r chwe cholofn a grybwyllais.

Mae'r ystadegyn sy'n dangos bod dynion yn fwy tebygol o gyflawni hunanladdiad yn ystadegyn sydd angen ei wella, yn anffodus. Nid yw hynny'n golygu bod problemau iechyd meddwl menywod yn eilradd i hyn, neu y dylid eu cynyddu, dim ond bod angen tynnu sylw at y ffaith hon a gostwng cyfraddau hunanladdiad ymhlith dynion a gweithredu'r lefel gywir o gymorth iechyd meddwl yn ein cymunedau i unioni'r broblem. Yn ogystal â'r pwynt hwn, hoffwn ei gwneud hi'n glir ac ailadrodd nad yw'r ddadl hon na fy sylwadau yn tynnu oddi wrth y problemau sy'n wynebu menywod yng Nghymru mewn unrhyw ffordd, ond credaf ei bod yn ddyletswydd arnom fel Aelodau o'r Senedd i neilltuo amser i sicrhau bod y Senedd hon yn adlewyrchu'r problemau dydd i ddydd y mae llawer o bobl yn eu hwynebu yng Nghymru, ac yn wir, yr effaith ganlyniadol y mae'r problemau y mae dynion yn eu hwynebu yn ei chael ar fenywod yng Nghymru hefyd, gan gofio'r chwe cholofn sy'n sail i Ddiwrnod Rhyngwladol y Dynion.

Rwy'n rhannu'n hollol agored y problemau iechyd meddwl rwyf wedi'u cael, ac yn parhau i'w cael, ac rwyf wedi siarad yn Siambr y Senedd hon yn fanwl iawn yn y gorffennol. Nid oeddwn yn ceisio hunan-hyrwyddo nac ennyn cyhoeddusrwydd personol wrth drafod hyn; roeddwn yn gwneud hynny er mwyn defnyddio fy rôl fel Aelod o'r Senedd i dynnu sylw at y problemau, codi ymwybyddiaeth a helpu dynion a phobl yn gyffredinol sy'n teimlo na allant siarad a chysylltu â'u meddyg teulu lleol neu wasanaethau iechyd meddwl a rhannu eu problemau mewn amgylchedd diogel gyda'r bobl iawn ar yr adeg iawn. Roeddwn yn teimlo bod trafod fy nhrafferthion iechyd meddwl yn agored wedi fy helpu i ddod yn berson gwell yn gyffredinol, a hoffwn annog pawb i wneud yr un peth.

Ar wahân i iechyd meddwl ac yn fwy cyffredinol, credaf nad yw ond yn iawn ac yn gydwybodol i ni fel Aelodau o'r Senedd, fel y crybwyllwyd, sydd â dyletswydd gofal a chyfrifoldeb, i wneud popeth yn ein gallu i hyrwyddo Diwrnod Rhyngwladol y Dynion ochr yn ochr â'r gyfres o ddigwyddiadau eraill yr ydym yn eu nodi i sicrhau nad oes neb yn llithro drwy'r rhwyd yng Nghymru a chodi ymwybyddiaeth o'r problemau sy'n wynebu dynion yn y Gymru fodern. Gadewch inni gofio, os mai eich mab chi, eich tad, eich gŵr neu eich partner, eich ewythr, eich tad-cu, eich nai, eich ffrind neu unrhyw berthynas gwrywaidd arall oedd yn ei chael hi'n anodd ac angen cefnogaeth, byddech am wneud eich gorau drostynt a rhoi'r gefnogaeth a'r gofal y maent eu hangen iddynt. Mae pob un o'r dynion hynny naill ai'n rhai neu'n bob un o'r pethau hynny, felly gadewch inni gofio hynny a chefnogi'r cynnig heno.

16:45

Mae hon yn ddadl mor bwysig i'w chael heddiw ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Dynion. Fel y clywsom, mae iechyd dynion yn cwmpasu ystod o faterion, yn feddyliol ac yn gorfforol, a chan canolbwyntio mwy ar iechyd meddwl fel thema heddiw, mae'n drafodaeth hynod o bwysig, un nad ydym ni fel dynion yn ei chael yn ddigon aml. Rwy'n falch iawn ein bod yn cael y ddadl hon nawr. Mae dynion, yn enwedig dynion dros 65 oed, ac rwyf am ganolbwyntio ar ardaloedd gwledig am eiliad, mewn perygl arbennig o wynebu heriau iechyd meddwl, ac yn anffodus, mae'r dynion hyn yn llai tebygol o geisio cymorth iechyd meddwl, gydag arolygon yn dangos mai dim ond dau o bob pump dyn yng nghefn gwlad a oedd yn barod i geisio cymorth. Mae hyn yn bennaf oherwydd bod llawer o ddynion yn y gymuned ffermio yn aml yn wynebu bywydau hynod o brysur a llawn straen ac nid ydynt yn rhoi amser i ofalu amdanynt eu hunain.

Mae ystadegau gan y Sefydliad Amaethyddol Llesiannol Brenhinol yn dangos bod traean o ddynion yn y gymuned ffermio yn dweud eu bod yn dioddef o iselder. Roedd y Gweinidog materion gwledig yn iawn ddoe yn ei datganiad pan soniodd am y straen y gall materion gwledig ei gael ar ffermwyr, yn enwedig mewn perthynas â TB buchol, er enghraifft. Mae hyn yn wir, ac o'i gyfuno â phroblemau eraill y mae llawer o ffermwyr yn eu hwynebu fel problemau ariannol, problemau perthynas, gall fod yn gwbl annioddefol, gan arwain at lawer o ganlyniadau ofnadwy fel y clywsom yn gynharach. Yn ogystal â hyn, mae dros hanner y gymuned ffermio hefyd yn profi rhyw fath o anesmwythder a phoen corfforol o ganlyniad i'w bywydau caled.

Ceir enghreifftiau o fentrau gwych sy'n cynnig cymorth i ffermwyr, fel Canolfan Cymorth Gwledig Sir Fynwy, sydd wedi'i lleoli ym marchnad da byw Rhaglan, lle mae gwirfoddolwyr yn estyn cefnogaeth i ffermwyr ac yn eu cyfeirio at gymorth. Ond rwy'n teimlo bod angen mwy o fentrau fel hyn i ymgysylltu â ffermwyr, yn sicr, yn y llefydd y mae ffermwyr yn mynd iddynt. Ceir llawer o fentrau gwych, fel y clywsom, ond mae angen mwy i fynd i'r afael ag iechyd meddwl dynion ledled y wlad.

Sefyllfa arall lle gall dynion deimlo'n agored i niwed, a lle gallant gael trafferth yn eu bywydau, yw pan fo perthynas yn chwalu, pan fyddant yn cael eu hatal rhag cael mynediad at eu plant—ar ôl gwahanu, er enghraifft. Gall y sefyllfaoedd hyn achosi straen ofnadwy, gan arwain at broblemau iechyd meddwl difrifol. Flwyddyn yn ôl, cefais y fraint o gyfarfod â sefydliad o'r enw Both Parents Matter Cymru, elusen sy'n cefnogi dynion nad oes ganddynt fynediad at eu plant, heb fod unrhyw fai arnyn nhw, mater sy'n gallu gwneud i lawer o ddynion deimlo'n gwbl ddiymadferth. Gall y broses o wahanu wneud iddynt deimlo mor unig ac ynysig, ac rwy'n gwybod bod llawer o'r dynion y siaradais â nhw wedi meddwl am hunanladdiad. Mae'r elusen benodol hon yn cefnogi'r broses o wneud cais am wrandawiad llys teulu, yn darparu cyngor cyfreithiol am ddim gan gyfreithwyr ac yn cynorthwyo ceisiadau am gymorth cyfreithiol. Mae hefyd yn cefnogi dynion sydd wedi dioddef cam-drin domestig ac yn darparu cefnogaeth emosiynol drwy eu grŵp cyfeillio, gan ddarparu man diogel i'r rhai sy'n chwilio am gefnogaeth emosiynol. Mae yna ystod eang—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, iawn.

16:50

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod traean o ddioddefwyr cam-drin domestig yn ddynion mewn gwirionedd, ac yn syfrdanol, bechgyn—plant. A ydych chi'n cytuno â mi, felly, ein bod angen cymorth arbenigol wedi'i deilwra i bobl mewn mannau diogel yn eu hardaloedd eu hunain os ydynt yn ddioddefwyr neu'n oroeswyr—dynion a bechgyn yn ogystal â menywod?

Yn sicr. Nid ydym yn tynnu oddi ar y problemau ofnadwy y mae'n rhaid i rai menywod eu hwynebu o ddydd i ddydd, ond mae yna ddynion a bechgyn sy'n wynebu sefyllfaoedd ofnadwy hefyd, ac mae angen iddynt allu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt i'w helpu drwy'r cyfnodau anodd iawn hynny. Yn aml, mae pobl yn anwybyddu dynion yn y sefyllfa gam-drin domestig.

Fel roeddwn yn ei ddweud, mae yna ystod eang o elusennau sy'n cefnogi bechgyn a dynion, gan gwmpasu ystod eang o faterion, yn cynnwys datblygiad personol dynion ifanc, cam-drin domestig, tadolaeth, anffrwythlondeb, iechyd corfforol a meddyliol, ac mae'n hanfodol fod dynion yn dod yn fwy ymwybodol o'r gwasanaethau hyn. Mae'r elusennau hyn yn chwarae rhan ganolog yn cefnogi bechgyn a dynion yng Nghymru ac rwyf eisiau diolch am bopeth y mae'r elusennau hyn yn ei wneud. Dyma pam fod sefydliadau ac unigolion, fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Dynion, yn cael eu hannog i ddangos cefnogaeth er mwyn cynnal a hyrwyddo eu hymdrechion. Fel cymdeithas, rhaid inni weithio i fynd i'r afael â'r stigma o amgylch dynion sy'n ceisio cymorth. Nid oes cywilydd mewn gwneud hyn, ac nid yw'n arwydd o wendid. Felly, rwy'n gobeithio y bydd pawb yma yn ymuno â mi heddiw i gefnogi'r cynnig hwn, gan gydnabod bod mynd i'r afael â'r heriau iechyd corfforol a meddyliol y mae dynion yn eu hwynebu yn bwysig iawn. Diolch.

Y Dirprwy Weinidog nawr i gyfrannu i'r ddadl. Lynne Neagle.

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy groesawu'r ddadl hon heddiw sy'n canolbwyntio ar iechyd dynion. Fel y dywedodd yr Aelodau, y thema fyd-eang ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Dynion eleni yw 'dim hunanladdiad dynion'. Mae atal a lleihau hunanladdiad yn brif flaenoriaeth i mi, ac er bod achosion hunanladdiad yn gymhleth, gellir atal hunanladdiad ac nid yw'n anochel. Gwyddom fod dynion dair gwaith yn fwy tebygol o farw drwy hunanladdiad na menywod, gyda'r cyfraddau uchaf ymhlith dynion rhwng 40 a 49 oed.

Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, mae colli rhywun i hunanladdiad yn cael effaith ddinistriol ar deuluoedd, ffrindiau a chymunedau cyfan. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn atal hunanladdiad. Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, mae atal hunanladdiad yn fusnes i bawb ac yn gyfle i bawb. Mae dynion canol oed yn grŵp blaenoriaeth yn ein strategaeth atal hunanladdiad gyfredol, 'Beth am siarad â fi 2', a byddant yn parhau i fod yn flaenoriaeth wrth inni ddatblygu strategaeth hunanladdiad a hunan-niweidio newydd i Gymru.

Ond er mwyn cael dull effeithiol o atal, rydym yn gweithio i ddeall yn well y ffactorau sy'n golygu bod rhai dynion mewn mwy o berygl. Gwyddom fod dynion yn llai tebygol o geisio cymorth, felly mae darparu mwy o opsiynau i annog dynion i geisio cymorth yn allweddol. Un ffordd y ceisiwn fynd i'r afael â hyn yw drwy ein gwasanaeth '111 pwyso 2'. Mae'r gwasanaeth '111 pwyso 2' ar gael bellach ym mhob bwrdd iechyd, yn darparu cymorth iechyd meddwl brys i bobl o bob oed 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae hwn yn drawsnewidiad gwasanaeth sylweddol i wella mynediad at gymorth iechyd meddwl. Mae dros 30,000 o unigolion wedi defnyddio'r gwasanaeth ac mae 97 y cant o'r rhai sy'n ffonio yn dweud eu bod mewn llai o ofid yn dilyn yr alwad. Yn bwysig, mae 41 y cant o'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn ddynion. Gwyddom fod dynion yn draddodiadol yn llai tebygol o ofyn am gymorth ac mae'n galonogol iawn fod ein gwasanaeth newydd '111 pwyso 2' yn profi'n hygyrch i ddynion.

Yn ogystal ag iechyd meddwl, ceir amrywiaeth o ffactorau risg eraill, gan gynnwys diweithdra, ansicrwydd neu straen ariannol, camddefnyddio sylweddau a gamblo. Fel rhan o'n hymdrechion parhaus i wella ein dull o weithredu, rydym wedi comisiynu ystod o waith i'n cefnogi i nodi'r grwpiau o ddynion sy'n wynebu'r risg fwyaf i'n helpu i dargedu cefnogaeth. Mae hyn yn cynnwys adolygiad cyflym o dystiolaeth gan Brifysgol Bangor, ac mae arweinydd y rhaglen genedlaethol ar atal hunanladdiad a hunan-niwed wedi trefnu gweithdy darganfod ar atal hunanladdiad a hunan-niweidio ymhlith dynion ledled Cymru ar 2 Rhagfyr. Mae'r gweithdy yn ddigwyddiad sy'n cael ei ddatblygu gan ddynion ar gyfer dynion i archwilio anghenion dynion, i nodi rhwystrau i fynediad at gymorth, gwella cydweithredu a rhannu arferion gorau. Bydd canfyddiadau'r digwyddiad yn allweddol i lywio ein dull o weithredu yn y dyfodol.

Y llynedd, cynullais ein grŵp trawslywodraethol ar atal hunanladdiad a hunan-niwed, ac mae bellach wedi hen sefydlu. Bydd y grŵp yn defnyddio'r dystiolaeth hon i helpu i lywio camau trawslywodraethol pellach ar draws meysydd iechyd, tai, trafnidiaeth, addysg, gwasanaethau cymdeithasol, plismona a lleoliadau carcharu, lles a chyflogaeth. Ond rydym eisiau gwneud mwy nag atal hunanladdiad, rydym eisiau darparu polisïau a gwasanaethau sy'n hyrwyddo iechyd meddwl a chorfforol da ymhlith dynion. Gydag iechyd corfforol, gwyddom fod dynion yn fwy tebygol o ddioddef o glefyd y galon yn iau na menywod ac maent ddwywaith yn fwy tebygol o ddioddef o ganser yr ysgyfaint. Mae'r rhesymau y tu ôl i hyn yn amlochrog ac yn gymhleth. Er enghraifft, gwyddom y gall dynion fod yn llai tebygol o geisio cymorth meddygol ar gyfer arwyddion cynnar o glefydau ac yn llai tebygol o fynychu apwyntiadau dilynol, sy'n golygu y gallai clefyd fod yn cael ei ganfod a'i drin yn hwyrach nag y byddai fel arall. Dyna pam y gall sgrinio fod yn offeryn mor bwysig, a gwn fod y Gweinidog iechyd, ar hyn o bryd, yn ystyried ein hymateb i argymhellion pwyllgor sgrinio'r DU i gyflwyno gwasanaeth sgrinio canser yr ysgyfaint yng Nghymru ar gyfer y rhai sy'n wynebu mwy o risg.

Rydym hefyd yn gwybod bod rhai dynion yn fwy tebygol o wneud pethau sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o rai clefydau, fel ysmygu ac yfed alcohol. Mae gennym amrywiaeth o strategaethau a pholisïau sy'n ceisio mynd i'r afael â'r ffactorau hyn, gan gynnwys gweithio tuag at Gymru ddi-fwg erbyn 2030 drwy ein strategaeth rheoli tybaco a mynd i'r afael â gordewdra a gorbwysau drwy 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Fel rhan o strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach', rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi partneriaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chynghrair Pêl-droed Lloegr i gyflwyno cynllun FIT FANS, i gefnogi colli pwysau a chynyddu gweithgarwch corfforol drwy chwe chlwb pêl-droed yng Nghymru, gan gynnwys Dinas Caerdydd a Wrecsam. Mae'r carfannau'n targedu dynion a menywod, ond mae mwyafrif y defnyddwyr yn ddynion. Cefais y fraint o ymweld â rhaglen Dinas Caerdydd yn ystod yr haf a siarad â rhai o'r cyfranogwyr a chefais fy nharo gan y ffordd gynnes a chadarnhaol y gwnaeth y dynion y siaradais â nhw ddisgrifio'r rhaglen, gan ddweud wrthyf ei fod yn teimlo fel amgylchedd cefnogol iawn i wella eu hiechyd mewn amgylchedd lle roeddent yn teimlo'n gyfforddus a lle nad oeddent yn cael eu stigmateiddio. Nid oes gennyf amheuaeth mai'r teimlad o berthyn i'r clwb pêl-droed a greodd yr amgylchedd hwnnw. Fel y nododd James Evans, mae ymdeimlad o berthyn mor bwysig i'n hiechyd meddwl ni i gyd; mae'n ein gwarchod. Ac mae'r gwrthwyneb yn wir—mae unigrwydd ac ynysigrwydd yn ddrwg i'n hiechyd meddwl. Rwy'n awyddus iawn i archwilio pob cyfle i ddod o hyd i ffyrdd newydd o gynnig cymorth i ddynion a bechgyn.

I gloi, Lywydd, er mai ein huchelgais yw hyrwyddo a chefnogi llesiant meddyliol a chorfforol pawb yng Nghymru, rydym yn cydnabod bod gan rai grwpiau anghenion penodol, gan gynnwys dynion. Fel mam falch i ddau fachgen, gallaf ddweud wrthych fy mod yn siarad gyda fy mechgyn yn gyson am eu teimladau a byddaf yn parhau i wneud hynny. Rhaid i bob un ohonom sicrhau ein bod yn cefnogi ein brodyr, ein tadau, ein meibion a'n ffrindiau i siarad am eu hiechyd meddwl a chorfforol ac i ofyn am gymorth pan fyddant ei angen. Diolch yn fawr.

17:00

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch, wrth gwrs, i fy mhlaid am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw, ac wrth gwrs, i bawb sydd wedi rhoi amser i gyfrannu at y ddadl heddiw, ac wrth gwrs, y sylwadau cadarnhaol a ddilynodd gan y Gweinidog. Heddiw, buom yn trafod ac yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Dynion sydd ar y ffordd, diwrnod a fydd, ledled y byd, yn dathlu'r gwerth cadarnhaol y mae dynion yn ei gyfrannu i'r byd, eu teuluoedd a'u cymunedau. Mae’r diwrnod yn tynnu sylw at fodelau rôl cadarnhaol ac yn codi ymwybyddiaeth o lesiant dynion, gyda thema eleni, fel y mae llawer o Aelodau wedi’i nodi heddiw, yn canolbwyntio ar ddileu hunanladdiad ymhlith dynion erbyn 2030—rhywbeth rwy’n siŵr y byddai pob un ohonom yn dymuno ei gefnogi. Mae wedi rhoi cyfle da i ni heddiw i fyfyrio ar bolisi presennol Cymru a’r pethau y gallwn eu gwneud, fel Aelodau unigol ac ar y cyd, i wneud mwy ac i sicrhau bod dynion yn cael eu cefnogi ar draws ystod o faterion.

Mae'r ddadl heddiw wedi bod yn ddiddorol, yn addysgiadol, ac wedi peri pryder i'r un graddau. Fel y nododd fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, yn ei gyfraniad ystyriol ar y dechrau, ceir myrdd o faterion sy’n effeithio ar ddynion y mae angen inni siarad amdanynt, ac mae’n dda ein bod yn cael cyfle i siarad amdanynt heddiw. Fel y soniodd llawer o'r Aelodau heddiw, mae gennym broblemau ym maes iechyd—mae canser y galon a chanser yr ysgyfaint yn broblem benodol; canlyniadau addysgol; teuluoedd yn chwalu, fel y nododd Peter Fox; gwrywdod gwenwynig, fel y nododd Mabon ap Gwynfor, a'r enghreifftiau a gafwyd gan yr Aelod dros Orllewin De Cymru; a gamblo, caethiwed a llawer mwy. Fel y nododd fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Fynwy, yn ei gyfraniad, mae cymunedau gwledig a chymunedau ffermio yn wynebu heriau acíwt yn hyn o beth o ran cyfraddau hunanladdiad ac iechyd meddwl, gyda dynion, yn enwedig dynion dros 65 oed, mewn ardaloedd gwledig mewn perygl arbennig o wynebu heriau iechyd meddwl. Ac fel y dywedodd James Evans, mae 98 y cant o ffermwyr ifanc dan 40 oed yn cyfaddef eu bod wedi dioddef problemau iechyd meddwl o ryw fath. A chydag 80 y cant o Gymru yn wledig ei natur, mae'n hollbwysig ein bod ni a Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â hyn. Mae’n yrfa sy'n rhoi boddhad, cael gyrfa yn ein hardaloedd gwledig, ond mae’n un unig, fel y nodwyd yn gywir ddigon, ac rwy’n siŵr ei fod yn rhywbeth y mae llawer o'r Aelodau ar draws y Siambr hon yn pryderu yn ei gylch. Y llynedd, tynnodd y Samariaid sylw at y ffaith bod dynion mewn ardaloedd gwledig yn llai tebygol o ofyn am gymorth iechyd meddwl, fel y nodwyd gennym heddiw, gyda’u harolwg yn canfod mai dim ond dau o bob pump o ddynion yng nghefn gwlad a oedd yn fodlon estyn allan am y cymorth hwnnw. Mae’n ddiwydiant llawn straen, fel y dywedodd Peter Fox, ac nid yw ffermwyr yn gofalu amdanynt eu hunain. Dyna pam ei bod yn hollbwysig fod elusennau, elusennau gwych fel y Sefydliad Amaethyddol Llesiannol Brenhinol, y Sefydliad Diogelwch Fferm, Rhannu'r Baich, FarmWell—. Maent yn gwneud gwaith mor bwysig, ac mae’n wirioneddol hanfodol fod y Llywodraeth yn gwneud popeth yn ei gallu i weithio a chefnogi a hyrwyddo’r gwaith a wnânt.

Dywedodd yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed hefyd fod pob un ohonom yn adnabod rhywun sydd wedi cael eu heffeithio neu sydd wedi marw o ganlyniad i hunanladdiad, a chredaf fod pob un ohonom yn teimlo trueni arbennig dros eich tad, Jack Sargeant, cyn-Aelod annwyl yr oeddem yn meddwl llawer iawn ohono, felly rydym yn cydymdeimlo â chi ar hynny. Ond mae pob un ohonom yn adnabod rhywun sydd wedi marw. Yn fy nheulu ffermio fy hun yng nghwm Rhondda, roedd ewythr gennyf a oedd yn ystyried lladd ei hun oherwydd pwysau’r diwydiant ffermio. Mae'n peri pryder arbennig am fod ffermwyr wedi'u hamgylchynu gan fyd ffermio lle mae llawer ohono'n 'macho' ac mae'n rhaid i ddynion gael eu gweld yn bod yn 'macho'. Dywedir wrthynt am rygnu ymlaen, fel y dywedodd yr Aelod dros Orllewin De Cymru, ac i ymwroli. Mae'n agwedd mor ofnadwy, ond gyda chenedlaethau iau, rwy'n gobeithio y byddwn yn cydnabod mai dyma'r agwedd anghywir ac y gall fod yn gwbl niweidiol. Fel y Gweinidog, yn sicr, nid dyna sut rwy'n rhianta fy meibion. Rwy'n gofyn iddynt yn rheolaidd i ddweud wrthyf sut maent yn teimlo. Felly, o genhedlaeth i genhedlaeth, rwy'n gobeithio y bydd pethau'n dechrau newid yn naturiol, er ei bod yn sicr yn agwedd yr ydym newydd ei thrafod y clywaf lawer amdani ledled Cymru. Gyda mwy o addysg a thrafod y materion hyn yn ein hysgolion, rwy'n gobeithio y gallai’r pynciau tabŵ hyn a siarad am iechyd meddwl, yn enwedig ar gyfer bechgyn a dynion, eu cymell i ofyn am fwy o gymorth wrth symud ymlaen.

Mater arall sy'n effeithio ar Gymru ac sy'n haeddu sylw heddiw—mae'n rhywbeth rwyf wedi'i godi o'r blaen—yw'r her i fechgyn a dynion gwyn dosbarth gweithiol. Cyhoeddwyd adroddiad yn Nhŷ’r Cyffredin a ddangosai mai dynion gwyn dosbarth gweithiol yw’r grŵp lleiaf tebygol o fynd i brifysgol yn y DU. Mae'r ffigurau ar gyfer Cymru yn dangos bod y rhaniad rhwng y rhywiau yng Nghymru yn hyn o beth ar gyfartaledd yn waeth na chyfartaleddau'r DU a Lloegr. Ac o fewn y rhaniad hwn, mae myfyrwyr gwyn yn wynebu’r gwahaniaeth mwyaf rhwng y rhywiau o ran mynychu'r brifysgol, yng Nghymru a’r DU gyfan. Mae'r gwahaniaeth rhwng y rhywiau yng Nghymru 6 y cant yn fwy na'r cyfartaledd cenedlaethol. Nid yw hyn yn gyfyngedig i'r brifysgol yn unig, serch hynny. Mae nifer y dysgwyr sy'n dechrau o leiaf un cymhwyster galwedigaethol ac sy'n disgrifio eu hunain fel 'gwryw gwyn' wedi gostwng. Fel y dywedodd yr Athro Matthew Goodwin, nid oes un ffactor unigol a all egluro'r broblem honno. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod llu o faterion yn cyfrannu at hynny: anfantais rhwng y cenedlaethau, anghydraddoldebau daearyddol, profiad teuluol o addysg, beth bynnag fo hynny. Felly, mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef, neu fel arall, rydym yn mynd i gondemnio cenhedlaeth arall o ddynion a bechgyn i fin sbwriel hanes.

Crybwyllwyd cam-drin domestig heddiw—rhywbeth a godwyd gan Jack Sargeant hefyd—fod angen i ddynion wneud y newid hwnnw o ran trais domestig. Ond hefyd, amlygodd Mark Isherwood, rwy’n credu, fod un o bob tri o ddioddefwyr cam-drin domestig bob blwyddyn yn ddynion, ac y bydd un o bob chwe dyn yn dioddef cam-drin domestig yn ystod eu hoes. Ac eto, mae llai na 5 y cant o’r dioddefwyr hynny'n cael eu cefnogi gan wasanaethau domestig lleol, sy’n ystadegyn sy’n peri pryder, fel y nododd Gareth Davies hefyd.

Mae cwnsela'n costio ffortiwn, felly sut maent yn cael mynediad ato? Mae'r llinell gymorth a amlinellwyd gennych yn ffordd wych ymlaen, ond os ydych yn cael mynediad at ofal iechyd preifat, mae'n llwybr hynod ddrud, ond mae rhai pobl yn dymuno cadw'r peth yn breifat, ac felly mae hynny'n rhywbeth y credaf y dylem edrych arno o ran estyn allan at ddynion.

Soniwn am ganser y prostad, fel y nododd Mabon ap Gwynfor, gyda chwymp o 26.5 y cant yng nghyfraddau diagnosis canser y prostad, sy’n ystadegyn sy’n peri pryder, onid ydyw? Nid yw dynion yn edrych ar ôl eu hunain, yn archwilio eu hunain, nac yn gofyn am help. Felly, mae cyfle bob amser inni ymchwilio i hynny nawr.

A beth am y tadau a'r partneriaid sydd yno'n cefnogi menywod sy'n rhoi genedigaeth? Mae'r profiadau hynny'n aml yn cael eu hanwybyddu. Caiff y dynion eu hanwybyddu yn y sefyllfaoedd hynny, ac efallai fod hynny'n rhywbeth, y straen ôl-drawmatig ar ôl genedigaeth, y mae angen inni ymchwilio iddo hefyd. Mae llawer o lefydd lle mae dynion yn credu y byddant yn iawn, ond mewn gwirionedd, mae angen inni ofalu amdanynt yn y sefyllfaoedd unigryw hynny.

Mae dulliau traddodiadol yn anodd i ddynion, felly mae’r grwpiau sydd wedi’u disgrifio yn y Siambr heddiw yn wych. Gwn eu bod yn chwarae rhan bwysig yn y gymdeithas, ac rydym yn ffodus i gael Aelodau dewr yn y Senedd hon, Lywydd, sydd wedi cydnabod a chyfaddef eu bod wedi cael problemau iechyd meddwl, fel fy arweinydd, Andrew R.T. Davies. Ni fyddech chi byth yn disgwyl i ffermwr mawr, cryf a hyderus gael y problemau iechyd meddwl hynny, ond yn syth ar ôl iddo gyfaddef hynny, helpodd hynny lawer o bobl i gydnabod a chyfaddef bod ganddynt broblemau eu hunain, a chael y cymorth yr oeddent ei angen. Mae angen inni edrych ar undebau llafur, fel y nododd Jack Sargeant, a sefydliadau eraill a all gammu i mewn a chwarae eu rhan wrth drafod iechyd meddwl yn y gweithleoedd.

Ond fel y dywedodd y Gweinidog wrth gloi, mae’r Llywodraeth yn gwneud llawer o bethau da. Mae llinell gymorth '111 pwyso 2', sydd ar gael 24 awr y dydd, yn gam pwysig iawn ymlaen, ac rwy'n gobeithio ei bod yn wirioneddol lwyddiannus. Felly, mae angen i bob un ohonom wneud mwy i hyrwyddo honno. A'r bartneriaeth, wrth gwrs, gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru—yr holl bethau hynny—yw'r ffordd ymlaen fel bod dynion yn teimlo'n gyfforddus, gydag ymdeimlad o berthyn mewn amgylchedd diogel. Felly, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Dynion, rwy'n gobeithio y bydd pob un ohonom nawr yn cryfhau ein hymdrechion i sicrhau na chaiff unrhyw ddyn ei adael ar ôl. Mae’r ddadl hon heddiw ar gyfer eich meibion, tadau, ewythrod, teidiau, ffrindiau, ac felly rwy'n annog pob un ohonoch i gefnogi ein cynnig heddiw. Diolch.

17:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does dim gwrthwynebiad. Felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Cyfnod Pleidleisio

Daw hyn â ni at y cyfnod pleidleisio, ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu’r gloch, byddwn ni yn symud yn syth i’r bleidlais. Mae'r unig bleidlais y prynhawn yma ar eitem 6, sef y cynnig i gymeradwyo cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024-25, a dwi'n galw am bleidlais, felly, ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Ken Skates. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 30, neb yn ymatal, 12 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo.

Eitem 6. Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024-25: O blaid: 30, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

17:10

A dyna ni, dyna ddiwedd ar y pleidleisio, ond nid dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am heddiw, achos mae yna ddadl fer. Mae'r ddadl fer y prynhawn yma gan Delyth Jewell. Fe wnaf i ofyn iddi gychwyn ar y ddadl honno pan fydd hi'n teimlo bod y Siambr yn ddigon tawel iddi wneud hynny.

Os gall yr Aelodau adael yn dawel. Os ydych yn teimlo bod angen ichi adael, gwnewch hynny’n dawel os gwelwch yn dda, ac yna fe ofynnaf i Delyth Jewell gyflwyno ei dadl fer.

10. Dadl Fer: Mynediad at ofal ysbyty yn y de-ddwyrain

Diolch, Llywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i fy nghyd-Aelod, Peredur Owen Griffiths.

Rydyn ni i gyd yn gwybod bod gan y gwasanaeth iechyd genedlaethol le arbennig yn ein calonnau ni, ond efallai fod hwnna hyd yn fwy gwir yn ne-ddwyrain Cymru, sef man geni'r gwasanaeth iechyd genedlaethol. Mi wnaeth Cymru arwain y gad gyda'r gwasanaeth iechyd oedd wedi'i seilio ar ddarpariaeth iechyd yn Nhredegar, yn fodel ar gyfer yr ynysoedd hyn.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Bydd fy sylwadau heddiw yn canolbwyntio ar sut y gallwn gyrraedd ysbytai yn y de-ddwyrain a'n gallu i gael mynediad at ofal pan fyddwn yn eu cyrraedd. Nawr, hoffwn nodi ar y dechrau gymaint rwy'n gwerthfawrogi ymroddiad y staff rheng flaen gweithgar sy'n gwneud y GIG mor werthfawr, er gwaethaf yr heriau y maent yn eu hwynebu. Rydych yn arwyr yn ein plith. Nawr, mae'r heriau hynny'n bodoli, wrth gwrs.

Nawr, yn y ddadl fer hon, rwyf am roi'r rhan fwyaf o fy amser i ddyfynnu geiriau uniongyrchol eraill—cleifion a phobl sy'n gweithio yn y GIG. Nawr, yn gyntaf, hoffwn gyfleu'r profiad a gafodd un o fy etholwyr, Huw Evans, yn gynharach eleni pan geisiodd gael mynediad at ofal brys. Nawr, rwy'n dyfynnu geiriau Dr Evans: 'Cefais driniaeth yn ysbyty Llandochau. Cefais fy atgyfeirio atynt gan fod angen eu harbenigedd. Roedd yn driniaeth gymhleth. Aeth popeth yn dda; roeddwn adref yr un diwrnod. Roedd popeth yn wych tan iddo beidio â bod. Am oddeutu 9 o’r gloch, ar ddydd Sul 5 Mawrth, cefais waedlif mawr a pharhaus heb unrhyw arwyddion o rybudd. Galwodd fy ngwraig am ambiwlans a dywedwyd wrthi y byddai'n rhaid aros tair awr, ac fel y dywedodd fy ngwraig wrth y gweithredwr ar ben arall y llinell ffôn, buaswn wedi marw erbyn i'r ambiwlans gyrraedd. Nid oedd dewis gennym heblaw cael fy ngwraig i fy ngyrru o'n cartref i ysbyty'r Faenor, rhywbeth a wnaeth yn dda iawn. Nawr, roedd yr ysbyty'n wych ar ôl i bethau sefydlogi, oherwydd roeddwn wedi bod yn llewygu, yn colli gwaed, mewn sioc, ond pan oedd pethau wedi sefydlogi, daeth y gwaedu i ben, gwellodd fy arwyddion bywyd, ac yna roedd yn fater o gael fy arsylwi tan i'r risg o waedu pellach gilio.'

Nawr, mae fy etholwr yn mynd yn ei flaen i wneud y pwyntiau a ganlyn: 'Mae strategaeth y gwasanaeth ambiwlans yn dibynnu ar gael eu parafeddygon i gyrraedd pobl yn gyflym i'w sefydlogi, rhywbeth na allant ei wneud, yn ôl pob golwg. Mae'r sefyllfa bresennol yn rhoi pwyslais ar gael pobl i fynd i'r adran ddamweiniau ac achosion brys eu hunain, gyda pha gyflwr bynnag y maent yn dioddef ohono, ac yn cymryd yn ganiataol y gallant drefnu ac ymdopi â'r cyfan. Mae'r gwasanaeth ambiwlans wedi colli rheolaeth dros ei ymateb brys. Felly, mae'r rhesymeg fod ambiwlansys a pharafeddygon ymateb cyflym yn cyrraedd pobl yn gyflym gan ddileu, o bosibl, yr angen i bobl ddod i adrannau damweiniau ac achosion brys ohonynt eu hunain wedi methu, gyda phobl yn rasio o amgylch yr ardal yn eu ceir eu hunain, gan gludo cleifion a ddylai fod mewn cerbyd golau glas. Roeddwn yn lwcus. Mae'n rhaid bod pobl yn marw am na allant gael mynediad at y gofal iechyd brys priodol.'

Nawr, roeddwn am ddyfynnu llawer o'i eiriau'n llawn, Ddirprwy Lywydd, am fod y dystiolaeth honno mor bwerus. Ac o siarad â'r etholwr hwn, gwn ei fod yn etholwr sy'n cefnogi'r GIG yn gadarn iawn. Mae am i’r GIG lwyddo. Rwyf am ofyn i’r Gweinidog, pan fydd y Gweinidog yn ymateb i’r ddadl fer, pa sicrwydd y gellid ei roi i fy etholwr am gyflwr y gwasanaeth iechyd yn y de-ddwyrain.

Gan symud ymlaen i faes arall, mae fy nghyd-Aelod Peredur a minnau, ac Aelodau eraill, wedi tynnu sylw yn y gorffennol at ba mor anodd yw cyrraedd ysbytai ar gyfer apwyntiadau ysbyty rheolaidd hefyd. A hoffwn ofyn eto i'r Gweinidog ymateb i ba ystyriaeth y gallai Llywodraeth Cymru ei rhoi i ddarparu cymhorthdal, o bosibl, ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus i ysbytai.

Nawr, rwyf am ddyfynnu meddyg ymgynghorol o Ferthyr Tudful yn uniongyrchol, sy’n cael ei ddyfynnu ym mhorth pwysau BMA Cymru, a dyfynnaf: ‘Lefelau staffio peryglus o isel, amodau gwaith gwael, staff ar gyflogau annigonol ac sy’n cael eu gorweithio, diffyg gwelyau a diffyg adnoddau yw rhai yn unig o'r rhesymau pam fod mynediad claf at ofal iechyd eilaidd mewn perygl difrifol. I gymhlethu pethau ymhellach, mae canoli gwasanaethau penodol wedi gwneud mynediad at rai arbenigeddau hyd yn oed yn waeth, ac fel y byddai llawer yn ei ddisgrifio, yn fater o loteri cod post. Yn ychwanegol at hynny, mae'r ffaith bod arweinwyr a chyflogwyr yn mynnu bod ysbyty fel ysbyty'r Tywysog Siarl—lle mae llawer iawn o waith adnewyddu a moderneiddio yn mynd rhagddo, gyda chontractwyr dros y lle ym mhobman—yn parhau i fod yn safle 'poeth'. Mae'n warthus, ac mae'n rhaid imi ddweud bod meddygon yn teimlo'n rhwystredig iawn drwy'r amser nawr oherwydd y sefyllfa y maent ynddi ar hyn o bryd.' Maent yn mynd ymlaen i ddweud, 'Mae'n ddrwg iawn gennyf os ydynt yn teimlo bod fy adborth yn negyddol, ond rwy'n ceisio gwneud popeth a allaf i helpu i rybuddio'r rheini a all helpu i ddatrys y broblem i wneud rhywbeth yn ei chylch cyn ei bod yn rhy hwyr. Rwy'n gweld meddygon yn meddwl am y peth neu yn y broses o ddod o hyd i weithleoedd eraill, yn aml mewn gwledydd eraill.'

Nawr, hoffwn drafod y pwynt am ganoli gwasanaethau a chau llawer o ysbytai cymuned a'r effaith y mae hynny wedi'i chael ar ddiffyg darpariaeth cam-i-lawr mewn llawer gormod o'n cymunedau. Hoffwn dynnu sylw at enghraifft Cwm Rhymni. Nawr, cefais fy ngeni yn ysbyty glowyr Caerffili, a phan gaewyd ysbyty glowyr Caerffili, cafodd y gymuned sicrwydd y byddai ysbyty cyffredinol yn cael ei agor yn ei le. Ac yna, aeth rhai blynyddoedd heibio, ac heb unrhyw esboniad go iawn—a hyd y gallaf weld, ni chafwyd esboniad cyhoeddus llawn o hyn erioed—cafodd y cynllun hwnnw ei israddio, ac mae Ysbyty Ystrad Fawr wedi dod yn ysbyty mân anafiadau.

Nawr, unwaith eto, fel y buaswn yn ei ddweud gydag ysbyty'r Tywysog Siarl, fel y buaswn yn ei ddweud gydag ysbyty'r Faenor, mae'r staff sy'n gweithio yn yr ysbytai hyn yn wych, maent mor ymroddedig, ac mae'r gofal y mae pobl yn ei gael yn fendigedig, ond er mwyn cyrraedd yr apwyntiadau hynny, er mwyn cyrraedd yr ysbytai hynny, mae’n rhaid i bobl deithio ar draws gwahanol Gymoedd. Y llynedd, cysylltodd un etholwr a oedd yn byw yn y Fenni â mi i ddweud eu bod yn gorfod mynd—o’r hyn a gofiaf, ac fe wnaethant roi caniatâd i mi eu dyfynnu ond—o’r hyn a gofiaf, credaf eu bod yn mynd i apwyntiad yng nghlinig y fron yn Ysbyty Ystrad Fawr. Roedd etholwr arall a oedd yn byw yng Nghaerffili ac yn gorfod mynd i Ysbyty Nevill Hall ar gyfer rhywbeth arall wedi cysylltu â mi ar yr un pryd, neu oddeutu’r un pryd, ac felly byddent wedi bod yn croesi ei gilydd ar y gwahanol ffyrdd yn y Cymoedd. Nawr, os nad oes gan bobl gar at eu defnydd, sefyllfa sy'n fwy cyffredin, wrth gwrs, mewn cymunedau fel y Cymoedd, yna mae'n anos byth. Ac felly, buaswn yn croesawu sylwadau’r Gweinidog yn fawr ynglŷn â beth arall y gellir ei wneud gyda thrafnidiaeth gyhoeddus, gan fod honno'n broblem barhaus gyda chyrraedd ysbyty'r Faenor.

Ond mae'r sefyllfa hon yn lleol i mi wedi golygu, yng Nghwm Rhymni, nad oes adran ddamweiniau ac achosion brys ar gael. Ond pan fydd pobl yn cyrraedd adran ddamweiniau ac achosion brys, mae'r sefyllfa hefyd ymhell o fod yn ddelfrydol. Mae dadansoddiad y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys wedi canfod mai Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan o'r holl fyrddau iechyd sy’n perfformio waethaf ar amseroedd aros pedair awr, gyda llai na hanner y cleifion yn aros llai na phedair awr. Credaf mai 49.6 y cant oedd y ffigur ym mis Medi, sy’n ostyngiad sylweddol; cyn y pandemig, ym mis Medi 2019, roedd y ffigur yn 66 y cant. Ym mis Medi 2015, roedd yn 85.8 y cant. Rwy'n dyfynnu'r gostyngiad rhwng 2015 a 2019 i ddangos nad yw hyn oherwydd COVID yn unig, er y gwn y bydd hynny'n rhan o'r ffactor.

Nawr, mae’r ffigur defnydd gwlâu ar gyfer Cymru gyfan oddeutu 95 y cant. Mae hynny ymhell o fod yn ddelfrydol, ond ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, roedd defnydd gwlâu yn 98 y cant, ar gyfartaledd, am chwe mis cyntaf eleni. Mae cyn lleied o le i unrhyw beth fynd o'i le. Nawr, gyda diffyg gwelyau acíwt a staff mewn ysbytai, mae hynny'n arwain at lefel uchel o ddefnydd gwlâu mewn ysbytai, amseroedd aros rhy hir am fynediad at ofal ysbyty, a hoffwn ofyn pa gamau y byddai'r Llywodraeth yn eu cymryd neu y gall eu cymryd i fynd i'r afael â'r broblem a gwella llif cleifion drwy ysbytai drwy’r gaeaf hwn a thu hwnt.

Fis diwethaf, cyhoeddodd y Coleg Nyrsio Brenhinol 'Hybu effeithlonrwydd ac arbed arian ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru', ac yn y cyhoeddiad hwnnw, codwyd rhai pwyntiau diddorol ar faterion fel presgripsiynu, technoleg, ond un peth a ddywedant yw

'y dylai buddsoddi yn y gweithlu fod yn flaenoriaeth gyntaf i Lywodraeth Cymru er mwyn mynd i’r afael ag effeithlonrwydd.'

Felly, i gloi, pan fydd y Gweinidog yn ymateb, hoffwn ofyn iddi nodi, os gwelwch yn dda, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r prinder staff cronig mewn ysbytai ac yn y GIG yn fwy cyffredinol yng Nghymru, a beth y gellid ei wneud i gymell meddygon, nyrsys ac aelodau eraill o staff i hyfforddi ac i barhau i weithio yn ein GIG. Ddirprwy Lywydd, rydym mor falch o'n GIG yng Nghymru. Mae hynny’n parhau i fod yn arbennig o wir yn y Cymoedd, ond mae gormod o gleifion yn teimlo’n bryderus, pan fyddant yn sâl, efallai na fyddant yn gallu cael sicrwydd y bydd yr ambiwlans yn eu cyrraedd mewn pryd, efallai y bydd yn rhaid iddynt aros gormod o amser am driniaeth, ac efallai y bydd disgwyl iddynt deithio'n rhy bell i gyrraedd y cymorth hwnnw. Felly, mae pob un ohonom am i'n GIG lwyddo, a hoffwn ofyn pa gamau y gellir eu cymryd, os gwelwch yn dda, i newid y sefyllfa hon. Diolch yn fawr.

17:20

Diolch i Delyth am roi cyfle i mi gyfrannu at y ddadl yma. Dwi'n gweithio yn agos iawn efo hi ar y pethau yma, a gwybod am rai o'r sefyllfaoedd mae hi wedi bod yn sôn amdanyn nhw y prynhawn yma. 

Er i rai gwasanaethau bws ychwanegol gael eu cyflwyno pan agorodd ysbyty'r Faenor, mae llawer o bobl o bob rhan o'r rhanbarth yn dal i wynebu problemau i gyrraedd yno gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Cafodd y mater sylw gan gynghorwyr Plaid Cymru, Charlotte Bishop a Steve Skivens, wrth iddynt geisio cyrraedd yr ysbyty o Abertridwr ar drafnidiaeth gyhoeddus. Cymerodd ddwy awr, dau fws a £9.10 yr un iddynt fynd o Abertridwr i ysbyty'r Faenor. Un enghraifft yw hon. Mae gennyf aelodau o'r teulu yn yr ysbyty ar hyn o bryd ac fe symudon nhw o ysbyty'r Faenor i ysbyty Ystrad Fawr. Mae'r gofal yn ardderchog, ond mae'r teulu'n gorfod teithio, ac nid ydynt yn gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Yn ffodus, mae ganddynt geir i fynd i ymweld. Mae'n debyg fod un aelod o'r teulu yno yn hirdymor erbyn hyn, ac mae hynny'n golygu eu bod yn teithio'n ddyddiol, ond yn ffodus, mae ganddynt gar i wneud hynny.

Yn weddol ddiweddar, roedd aelod arall o'r teulu am ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd ysbyty Griffithstown o Gaerffili ar gyfer apwyntiad claf allanol; roedd bron yn amhosibl cyrraedd yno mewn pryd. Felly, mae'r pethau hyn yn enghreifftiau go iawn o broblemau sy'n ymwneud â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd ein hysbytai, a'r cysylltiad rhwng gwasanaethau. Felly, yr hyn yr hoffwn ei ddeall yw beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i geisio mynd i'r afael â rhywfaint o hyn. Ai'r ateb yw helpu i gefnogi gwirfoddolwyr a chynlluniau rhannu ceir gwirfoddol—gwn am bobl sy'n gwirfoddoli eu hamser i allu gwneud hynny—neu sicrhau gwell gwasanaethau bws, gwell gwasanaethau trên, i gysylltu rhai o'r pethau hyn?

Ond ie, hoffwn pe gallech roi sylwadau ar yr hyn y gellid ei wneud a pha atebion y gallem eu cynnig i gefnogi ein cymunedau, ond hefyd ein staff yn ein hysbytai, sydd, unwaith eto, yn gorfod gyrru yno o bosibl am na allant gyrraedd eu shifftiau mewn pryd ar fysiau a threnau. Diolch yn fawr.

Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Eluned Morgan.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad am fynediad at ofal ysbyty yn ne-ddwyrain Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau y gall cleifion gael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal diogel o ansawdd uchel mor agos at eu cartrefi â phosibl. Mae byrddau iechyd ledled Cymru, nid yn y de-ddwyrain yn unig, yn gweithio’n eithriadol o galed, fel y nodoch chi, o dan amgylchiadau heriol iawn, yn cynllunio a darparu eu gwasanaethau yn unol ag anghenion y boblogaeth leol.

Nawr, fe fyddwch yn ymwybodol fod Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Aneurin Bevan wedi rhoi ei strategaeth dyfodol clinigol ar waith, ac mae'r gwaith yn parhau i gyflawni eu huchelgeisiau ar gyfer cleifion. Roedd agor Ysbyty Athrofaol y Faenor yn rhan o rwydwaith newydd o ysbytai yn garreg filltir hollbwysig wrth gyflawni’r strategaeth honno, ac mae hynny wedi bod yn hanfodol wrth iddynt geisio sicrhau mwy o sefydlogrwydd i’w gwasanaethau ac i’w gweithlu. Mae hefyd yn hanfodol er mwyn darparu gwell gwasanaethau a gwell ansawdd gofal, defnydd mwy effeithiol o'i ystad a chyfleoedd systemau ehangach.

Nawr, yr hyn y gŵyr pob un ohonoch yw y bu cynnydd enfawr yn y galw—cynnydd enfawr yn y galw. Mae'r boblogaeth sy'n heneiddio yn rhoi mwy o bwysau nag erioed ar y GIG. Mae gennym boblogaeth fwy sâl, felly, er gwaethaf y ffaith bod gennym fwy o feddygon nag erioed, mwy o nyrsys nag erioed, mwy o weithwyr proffesiynol perthynol i ofal iechyd nag erioed, nid yw'n ateb y galw, ac mae hynny'n anodd iawn, yn enwedig pan fyddwch yn wynebu rhai o'r mathau o heriau ariannol sy'n ein hwynebu ni heddiw. Felly, gwn eich bod yn deall hynny, ond credaf fod angen dealltwriaeth nad yw'r broblem yn deillio o ddiffyg ymdrech yma. Rydym yn gwneud ymdrechion enfawr. Mae buddsoddiad newydd enfawr yn cael ei wneud y gwasanaethau hyn. Mae llawer mwy o welyau fesul y pen o’r boblogaeth yng Nghymru nag yn Lloegr, er enghraifft.

Fe ofynnoch chi am y gweithlu. Wel, wyddoch chi, rydym yn gwario £0.25 biliwn y flwyddyn ar fuddsoddi yng ngweithlu'r dyfodol. Gwirfoddoli—. Dof at drafnidiaeth maes o law, ac rwy’n cydnabod bod honno’n broblem i rai pobl.

Nawr, fel y byddech yn ei ddisgwyl, mae bwrdd iechyd Aneurin Bevan yn parhau i fyfyrio ar effaith y newidiadau a wnaed wrth agor ysbyty'r Faenor, ac mae eisoes wedi nodi nifer o fanteision o ganlyniad i hynny. Felly, mae gennym wasanaeth gofal critigol mwy gwydn a hyblyg. Credaf fod hynny'n bwysig. Mae'n rhaid inni ddeall bod angen ichi ganolbwyntio a ffocysu arbenigwyr mewn un ardal, yn rhannol am fod yna her o ran y gweithlu. Gwyddom y bydd diffyg o 10 miliwn o weithwyr iechyd ar draws y byd erbyn 2030. Nid yw'r broblem hon yn mynd i ddiflannu'n fuan, ac nid yng Nghymru'n unig y mae'n broblem. Mae hon yn broblem y mae llawer iawn o wledydd yn ei hwynebu. Felly, mae'n rhaid inni geisio gwneud y system sydd gennym yn fwy gwydn.

Mae gennym wasanaethau mwy cynaliadwy ar gyfer menywod a phlant, a gwasanaethau acíwt arbenigol mwy gwydn. Mae gennym gapasiti ychwanegol o ran adrannau achosion brys a dadebru. Nawr, efallai nad yw'n teimlo felly, ond mae hynny oherwydd bod y galw wedi cynyddu. Ond rydym wedi sicrhau capasiti ychwanegol. Mae gennym fwy o gapasiti diagnostig. Rydym wedi gwella recriwtio. Rwy’n cofio, pan agorodd ysbyty'r Faenor, fod yna broblemau gwirioneddol yn ymwneud â’r gweithlu. Nawr, mae hynny oll wedi'i ddatrys. Felly, credaf fod gwelliannau sylweddol wedi'u gwneud.

Wrth gwrs, ar yr un pryd â cheisio ymdrin â gofal brys, mae ein gallu i ymdrin â gofal a gynlluniwyd effeithiol hefyd yn her yr ydym yn ceisio'i goresgyn. Mae hynny'n anodd iawn. Felly, mewn llawer o ardaloedd, gallwch wahanu'r ddau beth. Mewn lleoedd fel ardal bwrdd Aneurin Bevan, mae'n llawer anos oherwydd y ffordd y mae'r boblogaeth wedi'i gwasgaru.

Felly, credaf fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a’i staff wedi gwneud ymdrechion enfawr. Rwy’n cydnabod bod angen gwelliannau pellach i ddarparu’r mathau o wasanaethau cynaliadwy yr hoffem eu gweld. Gwn nad yw eu perfformiad yn erbyn mesurau brys cystal ag y dymunem ni a’r bwrdd iddo fod. Ond mae gennym y chwe nod ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng i wella mynediad i bobl, fel eu bod yn cael y gofal iawn yn y lle iawn y tro cyntaf. Felly, mae llawer iawn o fuddsoddiad wedi'i wneud yn hynny—£25 miliwn y flwyddyn; mae £6 miliwn ohono wedi mynd yn uniongyrchol i fwrdd Aneurin Bevan. Mae gennym y gwasanaeth 111. Mae gennym y gwasanaeth '111 pwyso 2'. Mae hyn oll yn lleihau derbyniadau i'r ysbyty.

Mae gennym hefyd, wrth gwrs, y canolfannau gofal sylfaenol brys newydd: un yn Ysbyty Brenhinol Gwent, un yn ysbyty Nevill Hall, un yn Ysbyty Ystrad Fawr. Felly, nid yw 1,400 o gleifion y mis a fyddai wedi bod yn mynd i ofal brys yn mynd yno bellach. Felly, mae'r rhain yn bethau ychwanegol yr ydym wedi'u rhoi ar waith i dynnu pobl oddi wrth y mannau anodd y gwyddom eu bod o dan bwysau.

Rydym yn archwilio sut i wneud y defnydd gorau o adnoddau. Bydd rhai ohonoch yn ymwybodol fod ymarfer ymgysylltu â'r cyhoedd yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ar ddefnyddio unedau mân anafiadau yn y bwrdd iechyd penodol hwnnw. Ysbyty Nevill Hall—yr awgrym yw ei fod yn lleihau ei oriau o 24 awr y dydd i 18 awr y dydd. Mae hynny oherwydd mai dim ond un claf, ar gyfartaledd, oedd yno rhwng 1 a.m. a 7 a.m. Mae'r gymuned yn ddig iawn am y peth, ond mae'n rhaid inni feddwl am arbedion effeithlonrwydd a sut mae gwneud y gorau o'r arian a fuddsoddwn. Felly, rydym yn ceisio gwneud penderfyniadau anodd iawn. A'r un peth gyda'r uned mân anafiadau yn Ysbyty Ystrad Fawr. Felly, am resymau tebyg, dylid gwneud y trefniadau dros dro a awgrymir ganddynt yn rhai parhaol.

17:25

[Anghlywadwy.]—rydych wedi cyfeirio at ysbyty'r Fenni, ysbyty Nevill Hall, beth oedd y ffigurau ar gyfer arosiadau dros nos yn ysbyty Ystrad Fawr? Oherwydd rydych wedi sôn yn aml am yr un unigolyn gyda'r nos yn ysbyty Nevill Hall. Beth oedd y ffigur cyfatebol yn ysbyty Ystrad Fawr?

Wel, bydd yn rhaid imi ddod yn ôl atoch ar hynny, ond yn amlwg, mae hynny wedi bod yn llai ers tro. Felly, ar hyn o bryd, yn amlwg, nid oes ffigurau, ond gallwn edrych yn ôl ar beth oedd y ffigurau.FootnoteLink

Y peth arall y mae'n rhaid inni ei gofio, wrth gwrs, yw bod canoli, yn aml iawn, yn rhoi canlyniadau clinigol gwell, ac mae'n rhaid i ddiogelwch fod yn flaenoriaeth Rhif 1 i ni. Mae'n rhaid i hynny fod yn egwyddor arweiniol i ni. Ac wrth gwrs, yn ddelfrydol, hoffai pob un ohonom gael ein gwasanaethau mor agos at ein cartrefi â phosibl, ond mewn gwirionedd, os oes achos clinigol da iawn i bobl deithio ac inni grynhoi'r arbenigedd hwnnw mewn un lle, credaf fod yn rhaid inni dalu sylw i'r hyn y mae'r dystiolaeth glinigol yn awgrymu sy'n iawn i ni.

Yr hyn rwy'n ei gydnabod, felly, yw bod mater trafnidiaeth yn rhan o'r hafaliad, a dyna pam fy mod yn falch o weld, fel y nodwch, fod rhywfaint o welliant wedi bod gyda rhai o’r cysylltiadau trafnidiaeth ag ysbyty'r Faenor. Yn amlwg, ni chredaf y bydd byth yn ddigon, ond mae dewisiadau eraill i'w cael. Mae'r system wirfoddol ar gyfer mynd â phobl i'r ysbyty yn wirioneddol effeithiol. Hynny yw, efallai nad yw pobl yn gwybod amdani, a dylem wneud pobl yn ymwybodol ohoni, mae'n debyg. Felly, cludwyd fy modryb 94 oed yr wythnos hon o Dyddewi i Abertawe i gael llawdriniaeth. Nid oedd ganddi unrhyw fodd o deithio, defnyddiodd y system drafnidiaeth wirfoddol, ac fe weithiodd y cyfan yn berffaith. Felly, mae'n bodoli, ond efallai nad yw pobl mor ymwybodol o'r cyfleusterau ac argaeledd y mathau hynny o wasanaethau.

Hefyd, mae gennym y gwasanaeth gofal argyfwng yr un diwrnod sydd wedi'i agor yn ysbyty'r Faenor. Fe wnaethom wario £3.5 miliwn ar hynny, ac unwaith eto, mae'n gwneud gwahaniaeth clir, gan helpu cleifion i osgoi defnyddio'r gwasanaethau brys.

Mae tua 600 o gleifion bob mis yn cael eu trin yn y gwasanaeth SDEC ar hyn o bryd yn y Grange. Felly, mae yna lot fawr o fuddsoddiad wedi mynd i mewn. Mae system canolfan llif cleifion hefyd mewn lle. Rŷn ni hefyd wedi dyrannu £300,000 ychwanegol i ddarparu'r adnodd e-triage yn y Grange hefyd. Mae yna lot mwy o adnoddau y maen nhw wedi gofyn amdanynt, er enghraifft, ar gyfer gwelliannau amgylcheddol yn yr adran frys yn y Grange, so, gwnaethon ni ddarparu £250,000 y llynedd. Maen nhw hefyd yn gofyn—ac rŷn ni'n aros am achos oddi wrthyn nhw—am ad-drefnu'r sefyllfa bresennol yn y Faenor. Felly, mae pethau'n gwella, dwi'n meddwl.

Y drafferth yw bod y galw jest yn cynyddu ac yn cynyddu ac yn cynyddu, a'r ffaith yw ei fod yn anodd iawn i ni, yn arbennig o dan yr amgylchiadau presennol, i ffeindio'r arian i ymateb i'r hyn sydd ei angen. Mae yna waith wedi'i wneud, dwi'n meddwl bod pethau wedi gwella, ond dwi yn meddwl bod yn rhaid i bobl gydnabod bod yna gap ar faint rŷn ni'n gallu gwario yn y maes yma, ac rŷn ni i gyd yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â sut rŷn ni'n gwario'r arian yna—rŷch chi fel plaid wedi penderfynu ble rŷch chi eisiau rhoi'r adnoddau ac rŷn ni hefyd yn penderfynu. Mae hwn yn flaenoriaeth i ni a dyna pam rŷch chi wedi gweld yn ddiweddar ein bod ni wedi edrych ar draws y Llywodraeth i dynnu arian oddi wrth rai adrannau eraill er mwyn helpu achos y gwasanaeth iechyd. Diolch.

17:30

Diolch i'r Gweinidog, a diolch i Delyth. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:33.