Y Cyfarfod Llawn

Plenary

24/10/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da, bawb, a chroeso i'r Cyfarfod Llawn o'r Sendd. Yr eitem gyntaf, felly, y prynhawn yma, fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Llyr Gruffydd.

Gwasanaethau Trenau

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gapasiti y gwasanaeth trenau rhwng y de a’r gogledd? OQ60178

Wel, diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn, Llywydd. Bydd y capasiti yn gwella dros yr wythnosau sydd i ddod. Mae Trafnidiaeth Cymru yn mynd i gyflwyno mwy o wasanaethau tri-cherbyd ar y llwybr hwn. Bydd y trenau hyn yn cymryd lle’r hen gerbydau a gafodd eu defnyddio am y tro olaf yr wythnos ddiwethaf.

Wel, diolch i chi am yr esboniad yna, ond dwi eisiau codi'n benodol gyda chi yr anrhefn llwyr oedd ar y trenau wrth i gefnogwyr pêl-droed o ogledd Cymru geisio teithio lawr i wylio Cymru yn chwarae Croatia yn ddiweddar. Nawr, mi oedd hi'n siambls llwyr, ac mi oedd yna drên arbennig, gyda llaw, i gefnogwyr o'r de oedd eisiau mynd i Wrecsam i weld Cymru yn chwarae Gibraltar, ond dim trên ychwanegol cyfatebol i gefnogwyr o'r gogledd oedd eisiau dod lawr i weld y tîm cenedlaethol yn chwarae yng Nghaerdydd. Roedd rhai o'r trenau mor llawn mi oedd yna bobl ar y platfform yn y Fenni, ac yn gorsafoedd ar ôl hynny, yn llythrennol yn methu mynd ar y trenau. Mi oedd pobl oedd ar y trenau yn llythrennol yn methu cyrraedd y tai bach. 

Nawr, dyw hwn ddim yn rhywbeth sydd ddim ond wedi digwydd unwaith; mae e'n digwydd bob tro bron iawn. Mae rhywun yn teimlo bod yna fethiant llwyr pan fydd e'n dod i drefnu ar gyfer digwyddiadau mawr, yn enwedig pan fydd pobl a chefnogwyr o'r gogledd eisiau dod i Gaerdydd i weld gemau pêl-droed. Felly, a wnewch chi sicrhau, Brif Weinidog, yn sgil yr hyn roeddech chi'n dweud ynglŷn â'r trenau ychwanegol yn dod ar-lein, na fydd hyn yn digwydd eto pan fydd Cymru'n chwarae Twrci mewn rhai wythnosau, a hefyd sicrhau y bydd teithwyr o'r gogledd yn cael yr un gwasanaethau ychwanegol ag y mae teithwyr o'r de yn eu cael i ddilyn y tîm pêl-droed cenedlaethol?

Wel, Llywydd, dwi'n derbyn y pwyntiau mae'r Aelod yn eu gwneud. Fe allaf ofyn i'r Dirprwy Weinidog godi'r pwyntiau yna gyda TfW cyn y gemau sydd i ddod. Ar ôl adeg y pandemig, Llywydd, mae TfW wedi delio gyda 21 o ddigwyddiadau yng Nghaerdydd ble roedd mwy na 60,000 o bobl yn cymryd rhan yn y digwyddiadau. So, mae lot o brofiad gyda nhw—a phrofiad llwyddiannus hefyd—yn delio gyda'r nifer fawr o bobl sydd eisiau teithio. Ond dwi wedi clywed y pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud am bobl sy'n dod lawr o'r gogledd i Gaerdydd, ac fe allaf i ofyn i'r Gweinidog fynd ar ôl hwnna. 

Mae Llyr Gruffydd yn gwbl gywir i godi hyn fel enghraifft benodol, enghraifft y mae'n rhaid i lawer o'm hetholwyr yn y gogledd, fel rhai Llyr, ei dioddef yn llawer rhy aml. Ac mae'r hyn yr ydym ni'n ei weld, wrth gwrs, yn symptom o flynyddoedd o danfuddsoddiad a rheolaeth wael ar y gwasanaethau rheilffordd yma yng Nghymru. Rydym ni hefyd yn gweld yr hyn sy'n gydbwysedd anghyfartal o ran y buddsoddiad hwnnw a'r rheolaeth honno hefyd. Rydym ni'n gwybod, yn y de, bod £1 biliwn bellach wedi'i neilltuo ar gyfer metro, ond yn y gogledd dim ond £50 miliwn sydd wedi'i glustnodi i'w fuddsoddi yno, a hyn oll tra bod help llaw gwerth £125 miliwn ar gael i Trafnidiaeth Cymru yr wythnos ddiwethaf. Ochr yn ochr â hyn, fodd bynnag, mae gennym ni Lywodraeth y DU, a'r Phrif Weinidog y DU, Rishi Sunak, sydd bellach wedi cyhoeddi y bydd £1 biliwn o fuddsoddiad yn digwydd ar brif reilffordd y gogledd. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi roi eich cefnogaeth i'r buddsoddiad hwn ac ymrwymo yma i gyfateb uchelgais y Ceidwadwyr ar gyfer y gogledd na fu gennych chi yn ystod y chwarter canrif ddiwethaf?

Wel, Llywydd, mae'n dda clywed aelod o'r wrthblaid Geidwadol yn cyfaddef y bu blynyddoedd o danfuddsoddiad yn y rheilffyrdd yng Nghymru. Mae'n dda ei gael ar y cofnod ar y pwynt hwnnw, oherwydd mae'n hollol sicr yn wir. A bu nifer o'r anawsterau y mae Trafnidiaeth Cymru wedi'u hwynebu wrth redeg gwasanaethau o'r gogledd i'r de oherwydd yr effaith ar y gwasanaethau hynny o ddirywiad wedi'i reoli o'r rheilffyrdd yng Nghymru, sydd—[Torri ar draws.] Dyna farn Network Rail, nid Llywodraeth Cymru; dyna maen nhw wedi ei ddweud. Yn y cyfnod rheoli asedau nesaf—y cyfnod ariannu pum mlynedd nesaf—Cymru sydd â'r ail setliad gwaethaf yn y Deyrnas Unedig gyfan, gyda chyllid yn gostwng mewn termau arian parod—nid mewn termau real, mewn termau arian parod—tra bod costau yn cynyddu. Yr effaith yw dirywiad wedi'i reoli o'r rheilffyrdd yng Nghymru, ac mae arbenigwyr yn y maes yn dweud y bydd hi'n cymryd rhwng 10 a 15 mlynedd i adfer yn sgil yr anffawd hwnnw. Felly, rwy'n sicr yn gobeithio gweld buddsoddiad pellach gan Lywodraeth y DU yn eu cyfrifoldebau, y cyfrifoldebau Network Rail y maen nhw wedi siomi pobl yng Nghymru yn eu cyswllt yn ystod y cyfnod diweddar.

Ac o ran yr £1 biliwn, Llywydd, rydym ni'n gwybod gan Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Drafnidiaeth bod y rhestr o brosiectau a ddarllenodd Prif Weinidog y DU yn rhestr enghreifftiol. Ni ddylai neb ddychmygu am eiliad bod y rheini yn brosiectau go iawn, y cwbl oedd honno oedd rhestr enghreifftiol o'r math o bethau a allai ddigwydd yn rhywle yn y dyfodol, ac, yn gwbl sicr, rwy'n hyderus, ymhell y tu hwnt i oes y Llywodraeth Geidwadol bresennol.

13:35

Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd trenau newydd yn cael eu cyflwyno. Mae eu hangen nhw ar frys ar y gwasanaethau y soniodd Llyr Gruffydd amdanyn nhw. Rwyf i hefyd yn pryderu am gynlluniau Network Rail i dorri swyddi a lleihau adnewyddiadau rheilffyrdd yn sylweddol, wrth i Lywodraeth y DU barhau i dorri cyllid trafnidiaeth gyhoeddus yn sylweddol. Bydd yn cael effaith ddifrifol ar faterion yn ymwneud â draenio traciau, coed yn tyfu dros reilffyrdd, yn ogystal â signalau. Mae dileu lefelau staff yn lleihau gallu, gwytnwch a diogelwch. A ydych chi'n cytuno, Prif Weinidog, y bydd hyn yn rhwystro ail-adeiladu rhwydwaith rheilffyrdd sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain?

Wel, wrth gwrs, rwy'n cytuno â'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud, Llywydd. Rwyf i eisoes wedi nodi y prynhawn yma rai o'r effeithiau a fydd yng Nghymru o Lywodraeth y DU yn gostwng y cyllid ar gyfer Network Rail, gostyngiadau sy'n canolbwyntio'n benodol ar Gymru. Rwyf innau hefyd wedi gweld adroddiadau o gynllun i leihau'r tîm adnewyddu yn Network Rail o 800 i 260, ac mae hynny er gwaethaf galwad swyddfa'r rheoleiddiwr rheilffyrdd am fwy o wariant yn y maes hwnnw. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn ceisio darganfod y ffeithiau sy'n sail i'r adroddiadau hynny, ond, pe baen nhw'n wir, dim ond enghraifft arall o'r ffordd, tra ein bod ni'n ceisio buddsoddi yma yng Nghymru mewn gwasanaethau rheilffyrdd ac, yn wir, i ddarparu mwy o gyllid ar gyfer Trafnidiaeth Cymru yn ystod y flwyddyn, yr ydym ni'n gwneud hynny yn erbyn cefndir gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru yn cael eu tanseilio'n barhaus gan leihad i gefnogaeth Llywodraeth y DU.

Mae cwestiwn 2 [OQ60146] wedi cael ei dynnu nôl. Cwestiwn 3—Paul Davies.

Lles Anifeiliaid

3. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella lles anifeiliaid ym Mhreseli Sir Benfro? OQ60142

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae'r rhaglen lywodraethu yn cynnwys pedwar ymrwymiad lles anifeiliaid penodol. Mae un o'r rheini, sef gwella cymwysterau a statws proffesiynol arolygwyr lles anifeiliaid, yn ymrwymiad sydd eisoes yn cael effaith gadarnhaol ym Mhreseli Sir Benfro.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Ymwelais yn ddiweddar â bae Ceibwr yn fy etholaeth i, gyda thrigolion pentref Trewyddel, sy'n bryderus iawn am darfu ar forloi yn y bae yn ystod y tymor bwrw lloi bach. Mae'n gyfnod hynod sensitif i'r rhywogaeth, ac eto, yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon, nid oes unrhyw ddeddfwriaeth yng Nghymru i ddiogelu morloi rhag aflonyddwch yn ystod y cyfnod hwn. Nawr, rwy'n deall bod gan Lywodraeth Cymru gymhwysedd yn y maes hwn, ac mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r holl arfau sydd ar gael iddi i sicrhau bod yr anifeiliaid hyn yn cael eu diogelu cymaint â phosibl. Felly, Prif Weinidog, a all eich Llywodraeth edrych ar y mater hwn felly, ac ystyried cyflwyno deddfwriaeth i ddiogelu morloi rhag aflonyddwch yn y dyfodol agos iawn?

Diolch i Paul Davies am hynna. Rwyf i wedi bod i Drewyddel fy hun yn y gorffennol, a does dim dwywaith bod gweld morloi o amgylch arfordir sir Benfro yn un o ogoniannau mawr y rhan honno o Gymru, ac yn denu llawer iawn o ymwelwyr sy'n mynd yno am y rheswm hwnnw. Fodd bynnag, mae gwneud yn siŵr nad yw morloi yn cael eu haflonyddu yn ystod y tymor bwrw lloi bach yn amcan gwirioneddol sy'n cael ei rannu gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n hapus iawn i roi ymrwymiad y byddwn ni'n mynd ar drywydd y pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud.

Prif Weinidog, hoffwn yn gyntaf oll groesawu'r gwaharddiad ar faglau a thrapiau glud, a ddaeth, o'r wythnos diwethaf, yn gyfraith yng Nghymru. Rwy'n siŵr y bydd y ddeddfwriaeth yn arwain at ganlyniad cadarnhaol i les anifeiliaid.

Soniodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd bythefnos yn ôl ei bod yn cynnal uwchgynhadledd amlasiantaeth ar berchnogaeth cŵn cyfrifol, a dywedodd y byddai'n trafod camau gweithredu a gorfodi ynghylch cŵn peryglus. Eto, mae hynny yn ymwneud â lles yr anifeiliaid hynny sy'n cael eu bridio yn y fath fodd fel ei fod yn anfantais iddyn nhw fel brîd, ond sydd hefyd yn cael effeithiau enfawr ar bobl pan fydd hynny i gyd yn mynd o'i le.

13:40

Wel, Llywydd, diolch i Joyce Watson am y pwyntiau hynny. Rwy'n falch iawn o'r ffaith, ar 17 Hydref, bod gwaharddiad hanesyddol Cymru ar ddefnyddio maglau a thrapiau glud wedi dod i rym. Bydd yn helpu i roi terfyn ar ddioddefaint anwahaniaethol anifeiliaid, y rhai y bwriadwyd y maglau a'r trapiau glud ar eu cyfer a'r anifeiliaid eraill hynny a gafodd eu dal ynddyn nhw'n rheolaidd. Rydym ni'n gwybod bod dewisiadau rhad, hawdd cael gafael arnyn nhw ac effeithiol yn hytrach na'r ffyrdd hynny o gadw plâu dan reolaeth, a nawr, yng Nghymru, dyna fydd y norm.

O ran yr uwchgynhadledd cŵn peryglus, fe'i cynhaliwyd yr wythnos diwethaf—diolchgar iawn i Aelodau o amgylch y Siambr a gymerodd ran yn yr uwchgynhadledd ac a glywodd rywfaint o'r dystiolaeth rymus a gyflwynwyd yno. Trafododd yr uwchgynhadledd nifer o faterion penodol iawn yn ymwneud â'r ffordd y gellir gwella'r defnydd presennol o ficrosglodynnu yn y dyfodol a'r angen am ymrwymiad ehangach gan bob awdurdod lleol i'r broses honno o archwilio a thrwyddedu sefydliadau bridio cŵn. Ond, Llywydd, roedd hefyd yn canolbwyntio ar y ffaith mai ochr arall y geiniog i gi peryglus yw perchennog anghyfrifol, a pherchnogaeth cŵn cyfrifol yw'r agwedd allweddol i wneud yn siŵr bod cŵn yn derbyn gofal priodol, wedi'u hyfforddi'n briodol, yn cael eu rheoli'n briodol. Ceir bridiau, fel y mae Joyce Watson yn ei ddweud, sy'n cael eu bridio'n benodol ar gyfer rhai o'u nodweddion sy'n eu gwneud nhw'n anoddach eu rheoli yn y ffordd honno, ond roedd perchnogaeth cŵn cyfrifol yn un o themâu'r uwchgynhadledd, a bydd yn cael ei adlewyrchu yn y datganiad ysgrifenedig y bydd fy nghyd-Weinidog Lesley Griffiths yn gyflwyno gerbron yr Aelodau o ganlyniad i gyfarfod yr uwchgynhadledd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.   

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, dros y penwythnos, cafodd y pwysau y mae'r gwasanaeth ambiwlans yn eu hwynebu yma yng Nghymru eu chwyddo gan dri digwyddiad mawr, ac, mewn gwirionedd, galwodd y gwasanaeth ambiwlans i sefyllfa 'digwyddiad anghyffredin' gael ei datgan. Yn Nhreforys, yn Abertawe, roedd 16 o ambiwlansys wedi eu parcio y tu allan i'r adran damweiniau ac achosion brys, ac roedd arhosiad o 28 awr. Ar gyrion Llangollen, syrthiodd gŵr oedrannus a bu'n rhaid i gymydog gyflawni dyletswyddau parafeddyg ar y gŵr oedrannus hwnnw, ac, yn y diwedd, bu'n rhaid i wraig y gŵr ei drosglwyddo i'r ysbyty wedi aros pedair awr. Ac yn anffodus, yng Nghaerffili, arhosodd dynes am 22 awr ac, yn anffodus ac yn drasig, bu farw yng nghefn ambiwlans. Rydym ni ar ddechrau tymor y gaeaf. Pa hyder allwch chi ei roi i ni y bydd mesurau Llywodraeth Cymru, ar y cyd â gwasanaeth ambiwlans Cymru, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i amseroedd ymateb ambiwlansys yma yng Nghymru, ac yn y pen draw yn cael y llif drwy'r system ysbytai fel nad yw'r sefyllfa honno a welsom ni ledled Cymru yn digwydd wythnos ar ôl wythnos trwy fisoedd y gaeaf?

Wel, gadewch i mi ymateb, yn gyntaf oll, i'r pwynt olaf a wnaeth arweinydd yr wrthblaid, oherwydd dyna sydd wrth wraidd yr anawsterau a gafwyd gan ymddiriedolaeth ambiwlans Cymru dros y penwythnos. Roedd digonedd o ambiwlansys ar y ffyrdd y penwythnos hwn. Roedd lefelau staffio yn dda ledled Cymru. Yn wir, roedd lefelau staffio yn ardal bae Abertawe ar 102 y cant, wrth i bobl ddod i mewn i helpu gyda'r anawsterau a oedd yn bodoli. Roedd y broblem yn Nhreforys yn benodol gyda'r llif drwodd i'r ysbyty fel y gallai pobl gael eu trosglwyddo o ambiwlansys mewn da bryd. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn trafod gyda'r bwrdd lleol sut y datblygodd yr amgylchiadau hynny a beth arall y gellir ei wneud i'w gwella. Bydd y Gweinidog yn ymweld â Threforys yr wythnos hon, eto, i drafod gyda'r bwrdd yn uniongyrchol sut mae'n mynd i'r afael â'r heriau gofal brys ac argyfwng y mae'n eu hwynebu.

Pan fydd yr ymddiriedolaeth ambiwlans yn datgan 'digwyddiad anghyffredin', mae'n caniatáu iddyn nhw dynnu cymorth ar y cyd i mewn o rannau eraill o'r gwasanaeth. Digwyddodd hynny ddydd Sul ac, erbyn dydd Llun, nid oedd y digwyddiad anghyffredin yn cael ei ddatgan mwyach. Hoffwn pe gallwn ddweud wrth yr Aelod na fydd digwyddiadau anghyffredin pellach dros y gaeaf hwn, ond rwy'n ofni y byddai hwnnw'n ddatganiad gor-optimistaidd. Cafwyd digwyddiadau anghyffredin y gaeaf diwethaf yng Nghymru, yn Lloegr, yn yr Alban, a chyda'r pwysau sydd ar y gwasanaeth, er gwaethaf yr ymdrechion enfawr y mae staff yn eu gwneud, mae'n rhaid i ni fod yn realistig a dweud, pan ddaw'r pwysau enfawr, y bydd datgan digwyddiad anghyffredin er mwyn ysgogi cymorth ychwanegol yn un o'r technegau y bydd yn rhaid i'r rhai sy'n gyfrifol am reoli'r gwasanaeth eu defnyddio.

13:45

Rwy'n falch eich bod chi wedi darganfod y broblem. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn deall beth yw'r broblem drwy'r disgrifiadau a roddwyd gan wahanol uwch reolwyr yng ngwasanaeth ambiwlans Cymru. Roedd un o'r enghreifftiau mwyaf byw yn y mis diwethaf a gofnodwyd—mis Medi—pan gollwyd 19,000 awr o amser gweithredol gydag ambiwlansys gan fod ambiwlansys yn methu â gadael ysbytai. Roedd yr amser ymateb ym mis Medi hyd yn oed yn is nag yr oedd 12 mis yn ôl ar gyfer galwadau coch, a hwnnw ei hun oedd yr ail isaf ar gofnod 12 mis yn ôl.

Yr hyn yr wyf i'n ceisio ei ddenu gennych chi, Prif Weinidog, heddiw, i roi hyder i'r rhai sy'n gweithio yn y gwasanaeth ac sy'n gwneud gwaith ardderchog ddydd ar ôl dydd, a chleifion a theuluoedd sy'n dibynnu ar y gwasanaeth, yw pa gapasiti ychwanegol, pa adnoddau ar y gwersi a ddysgwyd o'r gaeaf diwethaf sydd wedi cael eu rhoi ar waith ar gyfer y gaeaf hwn. Rwy'n derbyn yn llwyr y byddwn ni, yn anffodus, yn gweld penwythnosau fel rydym ni wedi ei weld y penwythnos hwn yn digwydd eto; yn anffodus, mae hynny'n anochel. Ond mae'r penwythnosau hynny yn brin ac yn anaml. Pa gapasiti ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru—y bydd eich ymateb i mi yn ei amlygu gobeithio—yn mynd i'w roi ar waith i wneud yn siŵr eu bod nhw'n parhau i fod yn ddigwyddiad prin ac anghyffredin, yn hytrach na digwyddiad rheolaidd?

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £425 miliwn yn ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn ystod y flwyddyn dim ond yr wythnos ddiwethaf. Ceir gwersi o aeafau blaenorol, y mae'r gwasanaeth bob amser yn ceisio eu hamgyffred a'u rhoi ar waith, ac mae cynllunio yn dechrau ar gyfer y gaeaf yn llawer iawn cynharach yn y flwyddyn na nawr. Mae hynny'n cynnwys niferoedd staffio—mae mwy o bobl yn gweithio i wasanaeth ambiwlans Cymru nag erioed o'r blaen—ac mae'n cynnwys capasiti ychwanegol yn y gwasanaeth iechyd ond hefyd allan yn y gymuned. Mae'n bwysig iawn pwysleisio'r ffaith mai llawer o'r hyn y gellir ei wneud i helpu llif drwy'r system yw rhyddhau pobl o'r ysbyty yn ôl i'w cartref neu yn ôl i fannau eraill yn y gymuned pan fyddan nhw'n gallu gwneud hynny yn gorfforol. 

Ymhlith y ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, byddwch yn gweld bod nifer y bobl sy'n aros am ofal yn y gymuned wedi gostwng. Mae hwnnw'n arwydd da o rywfaint o wytnwch yn ein hadrannau gwasanaethau cymdeithasol. Fe wnaeth nifer y bobl a welwyd o fewn y targed o bedair awr y tu mewn i adrannau brys gynyddu yn ystod y mis diwethaf. Felly, eto, ceir rhai arwyddion o wytnwch yn yr adrannau brys yng Nghymru hefyd. Nid yw dim o hynny yn tynnu oddi wrth y pwysau parhaus y mae'r system yn eu hwynebu ac y bydd yn ddiamheuaeth yn eu hwynebu yn ystod y gaeaf hwn. 

Yr hyn sy'n fy mhoeni i am ofyn y cwestiynau hyn heddiw, Prif Weinidog, yw mai'r adeg hon y llynedd y gwnaethoch chi fy nghyhuddo i o fod mor hyf â dod i'r Siambr hon a chodi digwyddiadau tebyg yn ymwneud â'r gwasanaeth ambiwlans, am ŵr ym Merthyr a oedd wedi aros ar lawr y gegin yn ei dŷ ei hun oherwydd, yn anffodus, ni allai'r ambiwlans ddod i'w gludo i'r ysbyty, a hefyd oherwydd y digwyddiad y tynnais sylw ato yng Nghefn Cribwr, pan adawyd chwaraewr rygbi ar y cae mewn glaw trwm ac yn gwaethygu'n gyflym gyda hypothermia. Yn anffodus, mae hon yn thema ailadroddus, ac rydym ni'n ei gweld dro ar ôl tro.

Yn anffodus, nid wyf i wedi clywed unrhyw atebion heddiw gennych chi am fesurau y byddwch chi'n eu rhoi ar waith i leddfu'r pwysau hyn yn ystod misoedd prysur y gaeaf. A allwch chi gadarnhau heddiw bod yr atebion gennym ni, neu fod gan Lywodraeth Cymru yr atebion ar waith, ac y gallwn ni gefnogi'r gwasanaeth ambiwlans yn y pen draw pan fo'r angen fwyaf? Oherwydd rydym ni'n gwybod y gall Llywodraeth weithredu pan fo angen iddi: rydym ni wedi gweld hynny gyda'r terfyn cyflymder 20 mya cyffredinol a gyflwynwyd ledled Cymru; rydym ni wedi ei weld gyda'r cynigion i greu 36 yn fwy o wleidyddion. Felly, gall y Llywodraeth, pan fydd yn wynebu problemau y mae eisiau eu datrys, ddatrys y problemau hynny, ond pan ddaw i'r gwasanaeth ambiwlans, yn anffodus, mae problemau ailadroddus yn digwydd. Rhowch yr hyder i ni, pan fydd ein hetholwyr yn dod atom y gallwn ni roi'r sicrwydd iddyn nhw, pan fyddan nhw'n deialu am ambiwlans, y bydd yr ambiwlans hwnnw yn dod i'w helpu pan fo'r angen fwyaf.

13:50

Dyma'r hyn y gall yr Aelod ei ddweud wrth y bobl hynny: gall ddweud wrthyn nhw fod mwy o bobl yn gweithio yng ngwasanaeth ambiwlans Cymru nag erioed o'r blaen yn hanes datganoli. Gall ddweud wrthyn nhw fod y bobl hynny sy'n gweithio yn y gwasanaeth ambiwlans yn cael eu hyfforddi i ymestyn eu cwmpas, fel y gallan nhw wneud mwy ac y gallan nhw wneud mwy i helpu pobl i aros yn eu cartrefi yn hytrach na chael eu cludo i ysbyty. Gall ddweud wrthyn nhw fod mwy o arian ar gael i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru o ganlyniad i'r penderfyniadau anodd iawn a wnaed gan y Cabinet. Gall ddweud wrthyn nhw fod gwasanaethau newydd yn cael eu darparu gan sefydliadau trydydd sector, eto i helpu pobl i aros gartref neu i gael eu rhyddhau o adrannau brys yn ôl adref cyn gynted â phosibl. A gall ddweud wrthyn nhw fod y bobl hynny sy'n gweithio bob dydd i gynnal ein gwasanaeth bob amser yn benderfynol o ddysgu gwersi profiad blaenorol ac y byddan nhw'n eu rhoi ar waith yng Nghymru eto eleni.

Diolch, Llywydd. Mewn cyfweliad efo Wales Today ar y BBC yr wythnos diwethaf, mi ddywedodd y Gweinidog iechyd y byddai hi'n amlinellu y diwrnod wedyn y toriadau y byddai disgwyl i fyrddau iechyd eu gwneud. Yn absenoldeb unrhyw ddatganiad, llafar neu weinidogol, all y Prif Weinidog roi diweddariad i ni ar y manylion?

Y diweddariad, Llywydd, yw bod y Gweinidog yn dal i drafod pethau gyda'r byrddau iechyd. Cyfrifoldeb y byrddau iechyd yw hi i ddod ymlaen gyda'r cynlluniau, a bydd yn rhaid iddyn nhw ddod lan gyda'r cynlluniau, fel maen nhw'n ei wneud bob blwyddyn. Ar ôl y trafodaethau, pan ydym ni'n glir am y camau bydd y byrddau iechyd yn mynd i'w gwneud, wrth gwrs bydd y Gweinidog yn dod i lawr y Senedd i esbonio a rhoi mwy o fanylion.

Mae angen i ni gael gwybod beth yw'r disgwyliadau hynny fel y gallwn ni ddwyn y Llywodraeth i gyfrif ar ei chynlluniau, wrth gwrs.

Yr wythnos diwethaf, gwahoddodd y Prif Weinidog fi a Phlaid Cymru i gyflwyno ein syniadau ar sut i ymdrin â phroblemau systemig yn y GIG. Mae'n gwybod ein bod ni wedi; roedd ein cynllun pum pwynt diweddar yn cyfeirio'n benodol at gynllunio'r gweithlu, er enghraifft, ac rydym ni wedi bod yn galw ers blynyddoedd am gamau penodol ar leihau'r bil staff asiantaeth. Fe wnaeth y Gweinidog gyfeirio yn y cyfweliad hwnnw at wario llai ar staff asiantaeth er mwyn gwneud arbedion, ac mae hynny'n dda. Mae'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi methu'n llwyr â mynd i'r afael ag ef yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gyda bron i 7,000 o swyddi gwag yn y GIG yng Nghymru, a bil asiantaeth y llynedd yn cyrraedd swm uchaf erioed o £325 miliwn, byddwn i'n dweud bod yn rhaid i adeiladu gweithlu cynaliadwy a gyflogir yn uniongyrchol fod yn flaenoriaeth.

Ond nid yw datganiad mewn cyfweliad teledu yn cyfeirio at staffio asiantaeth ddim yn ddigon. Mae angen manylion arnom ni. Ac yn absenoldeb manylion, ni ellir beio pobl am feddwl bod datganiadau fel hynny yn cael eu tynnu o'r gwynt. Ond yn hollbwysig, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod cynlluniau gwariant nad ydyn nhw'n cael eu gweithredu yn iawn neu nad ydyn nhw wedi eu hystyried yn briodol yn sicr o effeithio ar wasanaethau rheng flaen? Fel y dywedodd pennaeth Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru, mae arbedion effeithlonrwydd ar ben arbedion effeithlonrwydd wedi arwain at GIG sy'n aneffeithlon yn ei ddarpariaeth o wasanaethau.

Yn wir, fe wnes i ofyn i arweinydd Plaid Cymru yr wythnos diwethaf am y syniadau newydd yr oedd yn galw amdanyn nhw. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli ei fod yn cyfeirio at y cynllun pum pwynt yr oedd wedi ei gyhoeddi gryn amser ynghynt. A bod yn blaen, os mai dyna raddau llawn y syniadau newydd y cyfeiriodd atyn nhw, yna mae'r cwpwrdd braidd yn wag.

O ran staffio asiantaethau, roedd hyn yn rhan o'r trafodaethau a gynhaliwyd yn ofalus iawn yn gynharach eleni gyda'n cydweithwyr nyrsio a'r undebau llafur yn arbennig, ac mae cynlluniau penodol ar waith i wneud yn siŵr y gallwn ni leihau dibyniaeth y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ar staffio asiantaeth. Gyda llaw, mae staffio asiantaeth yn rhan bwysig iawn o'r ffordd y mae'r gwasanaeth iechyd yn darparu gwasanaethau. Nid wyf i eisiau syrthio i mewn i iaith sy'n sôn am staff asiantaeth fel pe baen nhw'n rhyw anghenraid anffodus. Maen nhw'n rhan bwysig iawn o'r ffordd y mae'r gwasanaeth yn gallu darparu ar gyfer pobl sy'n dibynnu arno. Ond rydym ni eisiau unioni'r cydbwysedd rhwng dibyniaeth ar staff asiantaeth a dibyniaeth ar staff banc—banciau sy'n cael eu rhedeg gan y gwasanaeth iechyd, lle mae cyfarwyddyd Gweinidogion i fyrddau iechyd erioed y dylen nhw fod mor hyblyg ag y gallan nhw fod, i wneud yn siŵr bod bywydau gwaith pobl yn cael eu cyfateb gan ofynion gwaith y gwasanaeth iechyd, ac y dylid datgymalu rhwystrau artiffisial pobl sy'n barod i weithio yn y ffordd fwy hyblyg honno yn hytrach na'u codi.

13:55

Rwy'n credu bod y Prif Weinidog yn gwneud esgus eithaf gwael dros fethiant Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â maint y defnydd o staff asiantaeth yn y GIG, oherwydd y raddfa y gwnaethom ni gyfeirio ati. Mae'n ein beio ni am ddod yn ôl dro ar ôl tro yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar rai materion sylfaenol y mae angen ymdrin â nhw. Pe bai Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r materion hyn, ni fyddai angen i mi fod yn dod yn ôl yma, fel llefarydd iechyd a bellach fel arweinydd, yn gofyn am weithredu. Mae wedi bod yn rhwystredig galw am weithredu ar bethau a allai, pe baen nhw wedi cael eu gwneud yn gynharach, fod wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Mae'r angen i gael staffio yn iawn yn fater hirdymor. Problem hirdymor arall yw anghynaliadwyedd y sector gofal. Os yw'r gwariant ar staff asiantaeth yn enghraifft o gwmnïau preifat yn camu i mewn i wneud elw oherwydd camreolaeth y blaid Lafur, onid dyna'n union sydd wedi ysgogi'r penderfyniad nawr gan gyngor Llafur Rhondda Cynon Taf—er dicter undebau a thrigolion lleol—i roi ei holl ofal cartref hirdymor ar gontractau allanol?

Pe bai atebion mor hawdd ag areithiau byddem ni i gyd yn llawer gwell ein byd. Yn wir, mae arweinydd Plaid Cymru yn gywir: mae'n treulio ei amser yn galw am bethau i bobl eraill eu gwneud. Un diwrnod, efallai y bydd ef mewn sefyllfa i wneud rhai o'r pethau hynny ei hun. 

Cyn belled ag y mae RhCT yn y cwestiwn, rwy'n hapus i'w gyfeirio at yr hyn y mae'r cyngor ei hun wedi ei ddweud. Nid yw'r cyngor yn preifateiddio pob gwasanaeth gofal cartref yn Rhondda Cynon Taf; mae 90 y cant o'r gofal hirdymor yn y cyngor eisoes yn cael ei ddarparu gan y sector annibynnol, a bydd y cynigion hyn yn trosglwyddo'r 10 y cant sy'n weddill i'r sector annibynnol i sicrhau darpariaeth gwasanaethau mwy effeithlon i breswylwyr. Bydd y gwasanaethau sy'n weddill yn parhau i gael eu darparu yn uniongyrchol gan yr awdurdod lleol. Nid oes gen i unrhyw amheuaeth y bydd yr awdurdod lleol yn parhau i fod mewn trafodaethau gyda'i undebau llafur a chydag eraill sydd â diddordeb yn y sector gofal i wneud yn siŵr eu bod nhw, ar adeg pan fo holl gyllidebau gwasanaethau cyhoeddus o dan bwysau aruthrol, yn gallu parhau i wneud penderfyniadau sy'n canolbwyntio ar ofal yr unigolion hynny sy'n dibynnu ar y gwasanaeth, a sicrhau eu bod nhw ar flaen y gad o ran y ffordd y caiff y penderfyniadau hynny eu gwneud.

Trafnidiaeth Gyhoeddus

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pobl yng Ngorllewin De Cymru yn cael eu gwasanaethu gan drafnidiaeth gyhoeddus ? OQ60170

Mae Llywodraeth Cymru yn dal i ddarparu'r lefelau uchaf erioed o gymhorthdal cyhoeddus i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus. Y ffordd orau i wneud yn siŵr bod gwasanaethau fel hyn yn parhau i gael eu darparu yw eu defnyddio.

Diolch, Brif Weinidog. Rwy'n croesawu buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Fodd bynnag, mae'n siomedig gweld na chafodd unrhyw fuddsoddiad ychwanegol i ddiogelu llwybrau bysiau ei gynnwys yn natganiad diweddar y Gweinidog cyllid, er gwaethaf y ffaith fod tri chwarter y teithiau trafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu gwneud ar fysiau yn hytrach na threnau. Brif Weinidog, rwyf i wedi clywed am bobl yn fy rhanbarth i yn cael eu gorfodi i adael eu swyddi oherwydd toriadau i fysiau. O'r wythnos nesaf, er enghraifft, ni fydd unrhyw un sy'n byw rhwng Ystradgynlais a Phontardawe yn gallu dal bws sy'n cyrraedd Abertawe erbyn 9 y bore. Pan wyf i wedi gofyn am hyn lawer gwaith dros y misoedd diwethaf, cefais fy hysbysu nad oedd unrhyw arian ychwanegol ar gael i helpu i ddiogelu llwybrau a gwasanaethau hollbwysig. Mae'n ymddangos, fodd bynnag, ei bod hi'n wahanol stori ar gyfer trenau erbyn hyn. Dywedodd Aaron Hill, cyfarwyddwr Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru, fod anghydraddoldeb gwirioneddol yn y lefelau cyllid, gyda lefelau anghymesur yn mynd i'r rheilffyrdd o'u cymharu â bysiau. Rwy'n croesawu uchelgeisiau'r Llywodraeth i ail-reoleiddio gwasanaethau bysiau, ond mae'r uchelgeisiau hynny flynyddoedd i ffwrdd o gael eu gwireddu yn llawn. A gaf i ofyn, Brif Weinidog, felly, yng ngoleuni arian ychwanegol yn cael ei ganfod ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd, a hyd at chwarter gwasanaethau bysiau mewn perygl o gael eu colli yn fuan, a ydych chi'n cytuno bod anghydraddoldeb yn y lefelau cyllid rhwng bysiau a rheilffyrdd, a beth yw eich ymateb i'm hetholwyr sy'n teimlo nad yw'r Llywodraeth yn cefnogi eu hanghenion trafnidiaeth?

14:00

Wel, Llywydd, rwy'n cofio'n dda iawn bod Plaid Cymru, yn ystod hynt y gyllideb eleni, wedi nodi tair blaenoriaeth yr oedden nhw eisiau eu gweld yn cael eu hadlewyrchu yn y gyllideb honno. Un o'r rheini oedd buddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau bysiau, a nodwyd £46 miliwn bryd hynny, er mwyn pontio rhwng y cymorth sydd gan wasanaethau bysiau nawr a'r cymorth y bydd ei angen unwaith y bydd y Bil bysiau ger eich bron ac rydym ni'n gallu diwygio'r sail y darperir gwasanaethau bysiau arni yng Nghymru heddiw. Felly, roedd y £46 miliwn hwnnw eisoes wedi'i gyhoeddi. Ceir her yn y diwydiant bysiau o hyd, wrth gwrs bod yna, a'r her yw niferoedd teithwyr—y pwynt a wnes i yn fy ateb gwreiddiol. Y rheswm mae gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau yn wynebu'r heriau sydd ganddyn nhw heddiw yw nad yw niferoedd y teithwyr wedi dychwelyd i'r man lle'r oedden nhw cyn y pandemig, ac felly nid yw'r blwch arian ar fysiau yn arbennig yn y man yr oedd bryd hynny. Mae trenau wedi dychwelyd i'r man lle'r oedden nhw cyn i'r pandemig ein taro, ond maen nhw wedi methu'r twf a fyddai wedi digwydd yn y blynyddoedd yn y cyfamser. Felly, pan fyddwch chi'n sôn am yr amcanestyniadau ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd, nid yw'r blwch arian yn ôl i'r man lle y byddai wedi cael ei ragweld pe na bai'r pandemig wedi cael yr effaith honno.

Felly, mae arian ychwanegol ar gyfer bysiau, ac mae arian ychwanegol ar gyfer trenau, ac, mewn gwirionedd, nid wyf i'n credu ei fod yn ddull synhwyrol gosod y naill yn erbyn y llall. Pe baem ni wedi torri gwasanaethau rheilffyrdd, nid oes gen i unrhyw amheuaeth y byddai'r Aelod yn dweud wrthym ni heddiw am etholwyr na allen nhw gyrraedd y gwaith gan nad oedd gwasanaethau rheilffyrdd yn rhedeg. Fe wnaethom ni ddod o hyd i arian ar gyfer bysiau ac fe wnaethom ni ddod o hyd i arian ar gyfer trenau, ac ar adeg pan fo arian ar gyfer fawr ddim, rwy'n credu bod hynny yn ddarlun gwirioneddol o'r flaenoriaeth yr ydym ni wedi'i neilltuo i wasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn arbennig.

Prif Weinidog, un o'ch polisïau allweddol yw annog newid dulliau teithio, ond sut allwn ni gael pobl i gefnu ar eu ceir os nad yw'r dewis amgen yno? Gyda thoriadau i fysiau ar draws fy rhanbarth, a'r trenau mwyaf annibynadwy yn y DU, mae mwy a mwy o bobl yn cefnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, nid fel arall. Prif Weinidog, oni bai a hyd nes y bydd gennym ni ddewisiadau amgen dibynadwy, ni fydd gan bobl unrhyw ddewis ond parhau i ddefnyddio cerbydau preifat. A wnewch chi gefnu bellach ar eich dull ffon a darparu dewisiadau amgen gwirioneddol yn hytrach na'r car, yn enwedig i'r rhai nad ydyn nhw'n gallu cerdded neu feicio?

Wel, Llywydd, rwyf i eisoes wedi nodi'r buddsoddiad ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn trafnidiaeth gyhoeddus, a thu hwnt i hynny mae gennym ni gyfres o gronfeydd eraill sydd hefyd yn cefnogi'r newid y mae'n rhaid i ni ei weld, oddi wrth y ffyrdd yr ydym ni wedi gwneud pethau yn y gorffennol, i'r ffordd y bydd yn rhaid i bethau fod yn y dyfodol. Yn Abertawe yn unig, Llywydd, rydym ni'n darparu £7.6 miliwn—£7.6 miliwn—dros ddwy flynedd drwy'r gronfa drafnidiaeth leol, a fydd yn annog teithio llesol. Bydd yn darparu buddsoddiadau pellach mewn cyfleusterau bysiau a threnau, ac yn y ffordd honno rydym ni'n symud tuag at ein huchelgais, sef gwneud yn siŵr bod gwasanaethau cyfleus a dibynadwy y gall pobl eu defnyddio, er mwyn peidio â gorfod defnyddio eu ceir.

Cynhwysiant Digidol

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cynhwysiant digidol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ60175

Llywydd, mae ein rhaglen cynhwysiant digidol ac iechyd, Cymunedau Digidol Cymru, yn cynorthwyo sefydliadau ar draws pob cymuned a sector i helpu pobl i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd digidol. Trwy sicrhau bod ein dinasyddion yn hyderus ac yn alluog yn ddigidol, byddwn yn gallu gwireddu manteision ein buddsoddiad ar draws sectorau mewn gwasanaethau digidol yn llawn.

Wel, Prif Weinidog, mae'n eithaf diogel dweud bod cyflwyno cynllun Cynefin Cymru wedi bod yn draed moch hyd yma. Mae tir cynefin wedi cael ei fapio gan ddefnyddio data sy'n 30 oed. Mae Llywodraeth Cymru, mewn camgymeriad, wedi hepgor y tir sy'n cael ei fapio fel cynefin yn Glastir Sylfaenol rhag datganiadau o diddordeb. Ac mewn ymdrech i gywiro camgymeriadau Llywodraeth Cymru ei hun, gall ffermwyr gael gwared ar ardaloedd sydd wedi'u mapio'n anghywir fel cynefin o dan amgylchiadau eithriadol yn unig. O ganlyniad i'r camgymeriadau mapio mawr hyn, mae'r cynllun yn mynd yn hynod gymhleth ac yn achosi straen i ffermwyr a'u cynghorwyr, y mae pob un ohonyn nhw angen gallu a sgiliau digidol i allu gwneud cais drwy Taliadau Gwledig Cymru. Wrth ymweld â fferm organig Glastir yn fy etholaeth i, a oedd wedi cynnal arolwg cynefin wedi'i noddi gan Cyswllt Ffermio o'u fferm gyfan, fe wnaethon nhw ddweud wrthyf i na ellir mewnbynnu'r data cywir cyfredol hyn i gynllun Cynefin Cymru drwy Taliadau Gwledig Cymru. Felly, Prif Weinidog, a gaf i eich annog chi a Llywodraeth Cymru i ganiatáu i ffermwyr fewnbynnu'r data yn ddigidol, i fapio eu cynefinoedd eu hunain yn ddigidol ar-lein, fel y gallan nhw o leiaf geisio gwneud llwyddiant o'r hyn sy'n gynllun sy'n methu ar hyn o bryd? Diolch, Llywydd.

14:05

Wel, nid wyf i'n cytuno â'r Aelod ei fod yn gynllun sy'n methu. Mae wedi cael dros 500 o geisiadau, ac nid wyf i'n credu bod amser ymgeisio'r cynllun yn—. Pe bai'n gynllun sy'n methu, pam mae 500, o leiaf, o ffermwyr yn gwneud cais amdano? Nid yw hynny'n ymddangos i mi yn ddiffiniad teg iawn o fethiant, ac mae'n gynllun y mae Llywodraeth Cymru wedi bwrw ymlaen ag ef oherwydd nad yw cyllid Ewropeaidd, a ddefnyddiwyd ar gyfer Glastir, bellach ar gael i ffermwyr yng Nghymru—polisi yr oedd ei blaid ond yn rhy awyddus i'w gefnogi.

Mae'r broblem fapio y cyfeiriodd yr Aelod ati wedi cael ei datrys, ond mae cymorth ar gael drwy Cyswllt Ffermio i ffermwyr sy'n gweld bod mynediad digidol at y cynllun yn her iddyn nhw. Rwy'n credu y bydd ffermwyr yng Nghymru yn cydnabod hyd yn oed pan nad yw arian a oedd ar gael iddyn nhw yn y gorffennol ar gael mwyach—polisi y gwnaeth ei blaid ef, wrth gwrs, ei annog ar bobl yma yng Nghymru—nawr eu bod nhw'n wynebu canlyniadau eu darpariaeth polisi, Llywodraeth Cymru sydd wedi camu i'r adwy i wneud arian ar gael iddyn nhw.

Ffermydd Batris Ïon Lithiwm

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y drefn gynllunio ar gyfer ffermydd batris ïon lithiwm mawr yng Nghymru? OQ60158

Llywydd, yr awdurdod cynllunio lleol sy'n penderfynu ar gynigion ar gyfer cynlluniau storio batri annibynnol. Gellir penderfynu ar gynigion sy'n gysylltiedig â chynlluniau ynni adnewyddadwy mawr trwy ddatblygu proses arwyddocâd cenedlaethol, ac mae hynny, wedyn, yn nwylo Llywodraeth Cymru.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Efallai eich bod chi'n ymwybodol bod cynigion i adeiladu cyfleuster batri ïon lithiwm mwyaf y Deyrnas Unedig ar ffin pentrefi Rhostyllen, Rhos a'r Bers yn Ne Clwyd. Nawr, mae llawer o'r dechnoleg yn y cyfleusterau hyn yn gymharol newydd, a bu achosion o gyfleusterau tebyg yn mynd ar dân ledled y byd, gan gynnwys yn gyfagos yn Lerpwl, lle cymerodd mwy na deuddydd i ddiffodd y tân. Pa fesurau diogelu sy'n cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru i amddiffyn rhag tân a gollyngiadau gwenwynig o gyfleusterau o'r fath? Ac a fyddech chi'n cytuno bod lle maen nhw wedi'u lleoli yn hanfodol bwysig, ac na ddylid eu lleoli yn rhy agos at anheddau nac afonydd?

Wel, Llywydd, diolch i Ken Skates am y cwestiwn pellach yna, ac yn wir rwy'n ymwybodol o'r cais posibl am y cyfleuster ffatri hwnnw, ac am bryderon sy'n cael eu mynegi yn etholaeth yr Aelod ei hun. Mae'n rhaid mai'r mesur diogelwch cyntaf yw ymgysylltu'n gynnar â chymunedau a chydag ymgyngoreion gan y rhai sy'n cyflwyno'r cais cynllunio yn y cam cyn ymgeisio ac yna yn ystod y broses ymgeisio, ac mae honno'n rhwymedigaeth ar y rhai sy'n gwneud y cynnig i wneud yn siŵr bod yr ymgysylltiad hwnnw yn digwydd. Yna ceir y mesurau diogelwch y mae'r system gynllunio ei hun yn eu darparu, y broses gydsynio, y mae'n rhaid iddi gymryd i ystyriaeth effeithiau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch posibl unrhyw ddatblygiad. Ac yn hynny i gyd, mae agosrwydd cynigion at anheddau ac at ddŵr yn ystyriaeth berthnasol i'r awdurdod cynllunio ei chymryd wrth asesu'r cais sydd o'i flaen. Lle ceir cais mawr, a bydd yn rhaid i ni aros i weld manylion unrhyw gais arfaethedig—. Lle ceir cais mawr, yna mae angen cydsyniadau ychwanegol i reoli peryglon damweiniau mawr, i ddiogelu diogelwch pobl ac i leihau effeithiau amgylcheddol. Felly, byddwn i'n dweud wrth yr Aelod ac wrth ei etholwyr fod y tair lefel o fesurau diogelu hynny y gallan nhw fanteisio arnyn nhw—yr ymgysylltu cynnar yn y cyfnod cyn-ymgynghori, cyn ymgeisio, y mesurau diogelu sydd yn y broses gynllunio ei hun, ac yna, yn dibynnu ar faint unrhyw gais, y cydsyniadau ychwanegol hynny sydd eu hangen pe bai'r cais o'r math o raddfa a adroddwyd weithiau.

14:10

Prif Weinidog, rydym ni'n gwybod bod ein system gynllunio yng Nghymru wedi'i gorlethu braidd, ond mae'n hanfodol nad oes unrhyw fenter werdd yn cael ei dal yn ôl, ond bod yr holl ragofalon angenrheidiol yn cael eu rhoi ar waith. Nawr, heddiw mae tua 4 GW o storfa drydan yn weithredol ym Mhrydain Fawr sydd wedi'i chyfansoddi o 3 GW o storfa hydro pwmp ac 1 GW o storfa batri ïon lithiwm mwy newydd sydd wedi cael ei hadeiladu ers 2017. Mae gan storfa batri ïon lithiwm botensial anhygoel. Mae'n gweithredu'n nodweddiadol am gyfnodau o 30 munud i bedair awr, ac mae wedi lleihau'n sylweddol mewn cost—tua 90 y cant ers 2010. Gall ddarparu ymateb cyflym i newidiadau i anghenion y system. Fodd bynnag, rydym ni'n gwybod o enghreifftiau byd-eang bod perygl tân posibl. Canfu cronfa ddata yn yr Unol Daleithiau sy'n rhestru tanau mewn systemau storio ynni batri 63 o enghreifftiau ledled y byd ers 2011. Felly, pa gamau ydych chi'n eu cymryd fel Llywodraeth i sicrhau bod y perygl posibl a achosir gan y ffermydd batri mawr hyn yn cael eu deall, eu hymchwilio'n iawn, ac y gall y broses gynllunio fynd yn ei blaen, ond gyda'r holl ragofalon hynny mewn golwg? Diolch.

Wel, Llywydd, bydd ynni adnewyddadwy'r dyfodol, gan gynnwys hydrogen a mathau eraill o ynni adnewyddadwy, angen capasiti i storio'r ynni sy'n cael ei gynhyrchu yn y ffordd honno, fel y gellir hwyluso ei ddefnydd wedyn ar draws y llu o ofynion sy'n digwydd dros gyfnod o 24 awr. A phan fydd technolegau newydd yn cael eu defnyddio, mae'n anochel bod yn rhaid i chi gael craffu agosach arnyn nhw rhag ofn y bydd unrhyw ganlyniadau anfwriadol o ddefnyddio'r technolegau newydd hynny. Yn sicr, bydd hynny ym meddyliau'r rhai sy'n gyfrifol am ystyried unrhyw geisiadau cynllunio ar gyfer cyfleusterau batri ïon lithiwm yma yng Nghymru. Ac yn fy ateb i Ken Skates, nodais y gwahanol fesurau diogelu a fydd yno, ac y mae angen iddyn nhw fod yno, am y rheswm y mae'r Aelod wedi ei amlinellu.

Mae cwestiwn 7, gan Laura Anne Jones, wedi'i dynnu'n ôl. Cwestiwn 8—Alun Davies. 

Ni ofynnwyd cwestiwn 7 [OQ60169].

Cymorth i Fusnesau

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau ym Mlaenau Gwent? OQ60162

Llywydd, bydd cwblhau'r A465, ffordd Blaenau'r Cymoedd, yn cynorthwyo busnesau ledled Blaenau Gwent. Yn y cyfamser, fel y nododd yr Aelod ar lawr y Senedd yr wythnos diwethaf, mae 12 o wahanol gwmnïau ym Mlaenau Gwent wedi elwa o raglen gwella cynhyrchiant busnes Llywodraeth Cymru.

Mae'r Prif Weinidog yn achub y blaen ar fy nghwestiwn i. Rwy'n ddiolchgar iddo ac i'w ymchwilwyr. [Chwerthin.] Ond rydym ni'n ddiolchgar iawn am y buddsoddiad o'r gronfa gwella cynhyrchiant, ac mae'r 12 busnes wir yn elwa'n fawr ohoni. Ond mae'r Prif Weinidog yn iawn, wrth gwrs, am lwyddiant prosiect deuoli'r A465. Ers i Lywodraeth Cymru benderfynu buddsoddi mewn deuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd, rydym ni wedi gweld cynnydd sylweddol i weithgarwch busnes a chynnydd sylweddol i ymholiadau busnes i Flaenau Gwent. [Torri ar draws.] Does gan y Torïaid ddim diddordeb, ond rwy'n meddwl bod gan bawb arall. A'r hyn rydym ni'n ei weld nawr, Prif Weinidog, yw prinder gofod busnes mewn gwirionedd, prinder lleoedd o ystadau diwydiannol a phrinder unedau busnes ar gyfer y busnesau hynny sydd eisiau tyfu ym Mlaenau Gwent, adleoli ym Mlaenau Gwent, ond manteisio ar y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn economi Blaenau Gwent.

Wel, Llywydd, mae'r gwaith parhaus ar ffordd Blaenau'r Cymoedd wedi cael ei gynnal ers 15 mlynedd. Am wrthgyferbyniad rhwng ein penderfyniad ni i gyflawni'r prosiect hwnnw dros dermau olynol y Senedd o'i gymharu â'r llanastr llwyr o ran gwneud penderfyniadau yng nghyswllt rheilffordd cyflymder uchel 2. Llywodraeth yw hon sydd, er gwaethaf yr ymosodiadau niferus arni gan wrthbleidiau, wedi bod yn benderfynol o gwblhau deuoli'r A465, ar gyfer yr holl fanteision a ddaw yn ei sgil. Ac fel yr wyf i wedi clywed yr Aelod yn ei ddweud yn y Siambr hon o'r blaen, nid prosiect am ffordd yw hwn, mae'n brosiect am y cyfleoedd economaidd sy'n dod yn ei sgil yn y ffordd iddo ei hamlinellu. Nawr, Llywydd, rwyf i wedi gallu mynd gyda'r Aelod dros Flaenau Gwent i nifer o'r ystadau diwydiannol sydd wedi elwa o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru. A byddwn yn parhau i wneud yn siŵr y bydd y cyfleoedd economaidd sydd wedi cael eu gwireddu o ganlyniad i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn cael eu gwireddu ym Mlaenau Gwent hefyd trwy wneud gwaith dilynol ar y materion y mae'r Aelod wedi eu codi, trwy barhau i drafod gyda'r busnesau hynny sydd bellach yn dymuno buddsoddi yn yr ardal honno ac i wneud yn siŵr bod y cyfleoedd sy'n dod gyda'n gallu—ein gallu ni, mor arbennig o wahanol i'r hyn yr ydym ni'n ei weld mewn mannau eraill—i gynnal buddsoddiad dros yr hirdymor yn cael y manteision hirdymor sy'n llifo ohono.

14:15
Economi Canolbarth Cymru

9. Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i dyfu economi canolbarth Cymru? OQ60155

Llywydd, mae'r camau sydd wedi'u cymryd i dyfu economi'r canolbarth wedi cyfrannu at dwf o 41 y cant mewn enillion wythnosol cyfartalog i oedolion mewn gwaith amser llawn yn yr ardal, ar adeg pan fo twf cyflogau ledled y DU ond yn 28 y cant.  

Hoffwn i ddiolch i'r Prif Weinidog am eich ateb, ac, ar y penwythnos, cafodd gwobrau busnes Powys eu cynnal, ac rwy'n siŵr yr hoffech chi ymuno â mi i longyfarch yr holl fusnesau a ymgeisiodd am y gwobrau hynny, gan dynnu sylw at ehangder yr hyn sydd gennym ni i'w gynnig ym Mhowys.

Mae'r busnesau bach yr wyf i'n siarad â nhw, Prif Weinidog, yn rhannu'r un heriau ag y maen nhw ym Mlaenau Gwent ynghylch gweithdai a'u bod ar gael i fusnesau gychwyn. Ond mater arall y maen nhw'n dod ar ei draws hefyd yw sgiliau, a'r diffyg sgiliau sydd gennym ni yn y canolbarth. Felly, byddai gen i ddiddordeb mewn gwybod pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu'r sgiliau yn y canolbarth i alluogi'r busnesau hynny i dyfu a ffynnu.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw, ac rydw i, yn wir, yn ymuno ag ef i longyfarch pawb a oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth gwobrau busnes Powys. Mae Powys yn llawn busnesau a phobl wych sy'n buddsoddi eu hamser a'u hadnoddau eu hunain yn sylweddol i sicrhau llwyddiant y busnesau hynny. Mae bargen twf y canolbarth yn un o'r ffyrdd y mae modd buddsoddi mwy o sgiliau ar gyfer y dyfodol yn y rhan honno o Gymru. Roedd hi'n dda iawn gweld Coleg Castell-nedd Port Talbot yn Aberhonddu—presenoldeb ffisegol yno nawr. Fe wnes i gwrdd â myfyrwyr yno yn gynharach yn y flwyddyn. Bydd y gwaith y bydd y fargen twf yn ei fuddsoddi ynddo yn mynd ochr yn ochr â hynny oll i wella'r cyflenwad o sgiliau i ddiwydiant, i wneud yn siŵr bod—os daw'r prosiect i'w lawn ffrwyth—gampws gweithgynhyrchu uwch yn y canolbarth, i gyflawni yr union bethau y mae James Evans wedi'u hamlinellu y prynhawn yma.

Y Gwasanaeth Carchardai

10. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gyflwr y gwasanaeth carchardai yng Nghymru? OQ60176

Llywydd, Llywodraeth y DU sy'n bennaf gyfrifol am garchardai yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae pwysau llym o ran poblogaeth yn yr ystad carchardai. Barn Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yw bod carchardai yng Nghymru yn gweithredu'n effeithiol, er gwaethaf y pwysau ehangach hyn.

Wel, mae'n dda cael gwybod hynny, ond rydyn i'n gwybod, o lawer o adroddiadau arolygu, fod yr ystad carchardai'n llawn ac mae'n gwbl amhosibl cyflawni ei dasg o adsefydlu pobl yn ogystal â'u cosbi. Mae glasbrint cyfiawnder menywod wedi nodi bod canlyniadau gwell i fenywod sy'n bwrw dedfrydau byr yn y gymuned a llawer llai o aildroseddu. Pa drafodaethau, felly, y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar ymestyn y polisi hwnnw i unrhyw un sydd wedi cael dedfryd fer o garchar am lai na blwyddyn, i'w bwrw yn y gymuned, a fydd yn rhatach ac yn sicrhau gwell canlyniad?

Wel, Llywydd, rwy'n croesawu rhai o'r cynigion sydd wedi'u cyflwyno gan yr Ysgrifennydd Gwladol diweddaraf yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac yn sicr, byddwn ni'n ymgysylltu â nhw i weld sut y byddai'r cynigion hynny'n cael effaith yma yng Nghymru.

Yng Nghymru, rydyn ni mewn sefyllfa i arwain rhai o'r dadleuon hynny. Bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gwneud datganiad ar lawr y Senedd y prynhawn yma ar y glasbrintiau cyfiawnder troseddol—y glasbrintiau ym maes cyfiawnder ieuenctid a menywod sy'n troseddu, sydd wedi torri tir newydd mewn gwirionedd ac sy'n gallu dangos i weddill y Deyrnas Unedig ffyrdd o ganolbwyntio ar atal troseddu ac adsefydlu pobl sy'n cael eu dal yn y system cyfiawnder troseddol, sut y gall hynny weithio er budd pawb, yn hytrach na phwyslais unplyg ar ymdrin â chanlyniadau troseddu pan fydd popeth wedi mynd o'i le. Ac ar draws Llywodraeth Cymru, rydyn ni'n benderfynol o barhau i chwarae ein rhan yn hynny. Bydd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn ymweld â'r ystad carchardai yn ddiweddarach yr wythnos hon i ystyried y ffordd y gall gwasanaethau addysg a ddarperir gan Lywodraeth Cymru wneud eu cyfraniad at ddull sydd wir yn adsefydlu. Os bydd y datblygiadau diweddaraf yn null gweithredu'r Weinyddiaeth Gyfiawnder tuag at hyn i gyd â phwyslais fel yna, bydd partner parod ganddyn nhw yma yng Nghymru.  

14:20
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf felly fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Lesley Griffiths. 

Member
Lesley Griffiths 14:20:49
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r datganiad ar ansawdd dŵr wedi'i ohirio tan 12 Rhagfyr. Mae'r busnes drafft am y tair wythnos nesaf ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. 

Trefnydd, byddwch chi wedi gweld y newyddion diweddar bod Dŵr Cymru wedi cyfaddef i ollwng carthion heb eu trin yn anghyfreithlon yn ei weithfeydd trin, ac mewn rhai achosion, fel yn Aberteifi, sydd yn anffodus yn effeithio ar fy etholaeth i, mae'r arfer hwnnw wedi bod yn digwydd ers o leiaf 10 mlynedd neu hyd yn oed mwy. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi fod hyn yn gwbl annerbyniol, a bod angen gweithredu ar frys. Felly, mae'n siomedig iawn bod datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd wedi'i ohirio heddiw, a dim ond ar ddiwedd y flwyddyn y bydd yn cael ei gynnal. Mae hon yn broblem enfawr a dylai Llywodraeth Cymru fod yn blaenoriaethu hyn o ystyried yr adroddiadau damniol hyn, oherwydd gall ansawdd dŵr annigonol gael effaith enfawr ar iechyd pobl, ar fywyd gwyllt ac ar yr amgylchedd ehangach. Felly, a gaf i ofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno datganiad cyn gynted â phosibl ar y mater hwn, fel nad oes rhaid i bobl Cymru aros tan ddiwedd y flwyddyn i ddeall beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymdrin â'r sefyllfa annerbyniol hon? 

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'n cwmnïau dŵr yma yng Nghymru weithio'n galetach o lawer i ddarparu gwasanaethau rhagorol i'n cwsmeriaid ledled pob maes gweithredu, ac fe wnaeth y Gweinidog Newid Hinsawdd gyhoeddi ein datganiad blaenoriaethau ac amcanion strategol i Ofwat yn 2022, gan egluro'n llwyr ei disgwyliadau hi gan ein cwmnïau dŵr. Bydd datganiad ar 12 Rhagfyr. Bydd hynny'n dilyn yr uwchgynhadledd ansawdd dŵr nesaf yr ydyn ni'n ei chynnal ar draws y Llywodraeth, felly dyna pam y bydd y datganiad yn cael ei gyflwyno ar 12 Rhagfyr. 

Mae nifer o hen safleoedd diwydiannol yn y rhanbarth yr wyf i'n ei gynrychioli sydd wedi'u halogi gan wastraff gwenwynig ac mae taer angen eu glanhau. Mae risgiau parhaus i'r cyhoedd o rai o'r safleoedd hyn. Byddwn i'n gofyn am ddatganiad ar sut y byddai modd gwneud y gwaith glanhau hwnnw ar frys, gyda phwyslais ar rôl Cyfoeth Naturiol Cymru a'r broses, os gwelwch yn dda. Mae llawer o bryder am lygredd ar hen safle chwarel Tŷ Llwyd ym mwrdeistref sirol Caerffili. Mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi ynglŷn â'r mater hwn, yn ogystal â fy nghyd-Aelod Peredur. Rydyn ni'n ymwybodol o bryderon sylweddol ynghylch nifer o safleoedd eraill ar draws y fwrdeistref, lle mae'n bosibl bod cemegau wedi cael eu dympio. Nawr, mae'n ymddangos bod llawer o'r safleoedd hyn yn gollwng cemegau i'r tir cyfagos, i nentydd ac afonydd lleol, yn enwedig ar adegau o law trwm, ac rydyn ni i gyd yn gwybod y bydd hyn yn dod yn fwy o broblem gyda phatrymau tywydd sy'n newid a chanlyniad newid hinsawdd. Mae cynghorwyr lleol, rwy'n gwybod, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yr wythnos hon yn amlinellu eu pryderon, ond nid mater lleol yn unig yw hwn. Rwy'n credu y gallai hyn fod yn rhywbeth a fyddai'n cael ei ailadrodd ar draws y Cymoedd, felly byddwn i'n croesawu datganiad, os gwelwch yn dda, yn nodi sut y mae modd ymdrin yn genedlaethol â halogiad hen safleoedd diwydiannol. 

Diolch. Rydych chi'n codi mater pwysig iawn sydd, fel y dywedwch chi, yn peri pryder. Rwy'n ymwybodol o'r llythyr yr ydych chi'n cyfeirio ato, ac rwy'n deall y bydd y Prif Weinidog a'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn ymateb maes o law. 

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

Ym mis Mehefin, gwnes i gyfarfod â dau riant pobl ifanc awtistig, y mae gan y ddau ohonyn nhw bryderon difrifol ynghylch defnyddio gorchmynion a threfniadau diogelu rhag amddifadu o ryddid o ran eu plant, sydd erbyn hyn yn oedolion. Maen nhw'n pryderu y gallai hyn fod yn digwydd ledled Cymru ac felly gallai fod yn fater ehangach, ac, yn anffodus, mae ein gallu ni i ddeall maint y broblem hon a'i monitro wedi'i gyfyngu gan y diffyg data cyfredol sydd ar gael nad yw'n cael ei gadw'n ganolog, ac maen nhw'n pryderu y gallai'r diffyg gwybodaeth hwn olygu ein bod ni y tu ôl i Loegr o ganlyniad. Mae'r teuluoedd yn teimlo'n gryf y gallai fod achosion eang ledled Cymru o bobl yn cael eu hamddifadu o'u rhyddid yn y fath fodd, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Mark Isherwood AS, sydd wedi cyfarfod â'r teuluoedd yn ddiweddar yn rhinwedd ei swydd fel cadeirydd grŵp awtistiaeth trawsbleidiol y Senedd, a byddwn ni'n ysgrifennu llythyr manwl at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch y mater penodol hwn. Meddwl oeddwn i tybed, yn y cyfamser, a allai Llywodraeth Cymru gyflwyno datganiad yn nodi pa gamau y bydd yn eu cymryd i ymdrin â'r materion hyn sy'n peri cryn bryder.

14:25

Diolch yn fawr, ac rwy'n falch o glywed y byddwch chi'n ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog. Rwy'n credu hefyd y byddai'n werth cynnwys y Dirprwy Weinidog iechyd arall hefyd, er mwyn sicrhau bod gennym ni'r dull gweithredu trawslywodraethol hwnnw. 

Mae cynllun Cynefin Cymru bellach wedi'i gyhoeddi yn gynharach yr haf hwn, ond wythnos yn ôl fe wnaeth y Gweinidog cyllid roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Llywodraeth Cymru, gan gyhoeddi toriadau i'r gyllideb materion gwledig. Felly, ar gyfer ein diwydiant bwyd a ffermio yng Nghymru, daw hyn ar adeg pan fo cymaint eisoes yn y fantol. Ar ôl siarad â ffermwyr ar draws fy etholaeth ac ar draws y wlad, mae'n amlwg bod proses ddatblygu cynllun Cynefin Cymru hyd yma wedi bod yn dipyn o lanast, fel y cyfeiriais i ato'n gynharach, gydag ansicrwydd eisoes yn cynyddu o ran sut olwg fydd ar y dyfodol i amaethyddiaeth Cymru. Os na all Llywodraeth Cymru gael cynllun Cynefin Cymru yn iawn, wel sut ar y ddaear fyddan nhw'n llwyddo i gael y cynllun ffermio cynaliadwy yn iawn?

Felly, gyda'r cynllun hwnnw'n cael ei gyhoeddi ar 21 Gorffennaf yn ystod y toriad drwy ddatganiad ysgrifenedig, yn y datganiad hwnnw nododd y byddai'r gyllideb ar gyfer y cynllun interim yn cael ei chyhoeddi cyn agor cyfnod y cais ar 29 Medi, ond eto nid oes unrhyw arwydd o gyllideb wedi'i rhoi. Bydd hyn yn cael effaith ganlyniadol ar ddyfodol ffermio a bwyd yng Nghymru, a chyflawni targedau amgylcheddol Llywodraeth Cymru ei hun. Hoffwn i felly alw am ddatganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig ar gynllun Cynefin Cymru fel mater o frys i gadarnhau beth fydd y gyllideb ar gyfer y cynllun. Diolch.

Wel, ni fyddaf i'n cyflwyno datganiad. Fel yr ydych chi'n ei ddweud, rydyn ni wedi cyflwyno cynllun Cynefin Cymru. Rwy'n anghytuno â'ch dadansoddiad chi ohono. Rydyn ni eisoes wedi cael cannoedd lawer o geisiadau, fel y dywedodd y Prif Weinidog wrthych chi wrth ateb eich cwestiwn iddo. Gwnaethom ni weithio'n agos iawn gyda'n rhanddeiliaid i gyflwyno'r cynllun hwn yn gyflym iawn, oherwydd, fel y gwyddoch chi, mae cyllid Glastir yn dod i ben ym mis Rhagfyr eleni, oherwydd ein bod ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Gofynnwyd i mi gyflwyno cynllun amgylchedd amaeth dros dro cyn i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ddod i mewn yn 2025. Dyna'n union yr ydw i wedi'i wneud. Rydych chi nawr yn beirniadu hynny. Roedd rhai materion yn ymwneud â'r mapio, a felly—. Os hoffech chi wrando, fe wnaf ateb eich cwestiwn. Fe wnaethom ni ymdrin â'r materion yn ymwneud â mapio oherwydd, yn anffodus, fe wnaethon nhw ddigwydd, ond rydyn ni wedi ymdrin â'r rheiny. Byddwch chi'n ymwybodol iawn, iawn bod pob portffolio wedi gorfod torri ei gyllideb yn ystod y flwyddyn. Mae hynny'n beth anodd iawn i'w wneud yn ystod y flwyddyn, ond mae pob cyllideb wedi gorfod gwneud hynny er mwyn ymdrin â'r diffyg o £900 miliwn yr ydyn ni wedi'i weld yn ein cyllideb ers i ni gael yr adolygiad cynhwysfawr o wariant. 

Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru am y cymorth sydd ar gael i ymddiriedolwyr sy'n rheoli adeiladau hanesyddol ac asedau o werth cymunedol. Mae Neuadd Les Glowyr Resolfen yng Nghastell-nedd Port Talbot mewn argyfwng wrth i ymddiriedolwyr wynebu rhwymedigaethau cynyddol ar gyfer yr adeilad, sydd ar hyn o bryd heb ei feddiannu. Nawr, oherwydd natur gymhleth yr adeilad, mae wedi bod yn anodd i'r ymddiriedolwyr ei yswirio bob blwyddyn, a phob blwyddyn mae heriau newydd yn cyflwyno eu hunain. Nawr, mae arian bob amser i'w gael i ddiogelu plastai urddasol a chefnogi eu cadwraeth; yn bwysicach fyth, mae angen i ni ddod o hyd i arian i ddiogelu hanes y dosbarth gweithiol.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n ymdrin ag unrhyw faterion sy'n ymwneud ag adeiladau o'r fath. Nid wyf i'n ymwybodol o'r adeilad penodol yr ydych chi'n cyfeirio ato. Byddwn ni'n eich cynghori i ysgrifennu at—rwy'n dyfalu mai Dawn Bowden fyddai hi, yn ei rôl Dirprwy Weinidog, i weld a all eich helpu chi gyda hynny. 

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar sut y gall Cymru ddod yn genedl ffasiwn cynaliadwy? Yn ddiweddar, noddais ddigwyddiad yn y Senedd gyda Sustainable Clothing a Textiles Cymru, sy'n glymblaid newydd o grwpiau, a siaradodd aelodau Sustainable Clothing and Textiles Cymru am eu hadroddiad diweddaraf o argymhellion allweddol yn amlinellu sut y gall Cymru ddod yn genedl ffasiwn cynaliadwy. Rwy'n siŵr bod Aelodau eraill a gymerodd yr amser i fynd i'r digwyddiad â chymaint o ddiddordeb ag yr oedd gen i i ddysgu am y microffibrau plastig sy'n cael eu golchi oddi ar ddillad synthetig, ac amcangyfrifir eu bod yn cyfrif am oddeutu 35 y cant o'r holl lygredd plastig yn ein moroedd a'n cefnforoedd. A wnewch chi ymuno â mi hefyd i dalu teyrnged i'm etholwr, Sara Crerar, a helpodd i sefydlu Jean Genies gyda Marion Cheung—sesiwn celfyddydau creadigol am effeithiau niweidiol ffasiwn cyflym, yn enwedig denim? Yn anffodus, bu farw Sara yn ddiweddar cyn i'r prosiect gael ei gwblhau.

Felly, Trefnydd, byddwn i'n croesawu'r newyddion diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar yr hyn y maen nhw'n ei wneud i ymdrin ag effeithiau niweidiol y diwydiant ffasiwn cyflym, a sut y gallwn ni ymdrechu i fod yn genedl ffasiwn cynaliadwy.

14:30

Diolch yn fawr iawn. Mae'n ddrwg gen i fy mod wedi colli'r digwyddiad, oherwydd mae'n swnio'n hynod ddiddorol. A phwy fyddai'n meddwl bod 35 y cant, fel y dywedwch chi, o ficroffibrau plastig yn dod o ddillad. Felly, pan ydyn ni’n sôn am gynaliadwyedd, mae'n hollol iawn ein bod ni'n ymdrin â phob agwedd ar ein bywydau, ac, yn amlwg, dillad a thecstilau cynaliadwy. Ac rwy'n ymuno â chi yn sicr i dalu teyrnged i'ch etholwyr. 

Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar y pwnc triniaethau cosmetig fel Botox a llenwyr gwefusau. Mae Senedd y DU wedi gwahardd rhoi triniaethau o'r fath i bobl ifanc dan 18 oed. Fodd bynnag, nid oes gwaharddiad o'r fath yn gymwys yng Nghymru. Mae ein pobl ifanc ni mewn perygl, ond hefyd mae'r ugeiniau o bobl ifanc yn eu harddegau o Loegr sy'n croesi'r ffin ar gyfer triniaethau o'r fath mewn perygl. Cymru oedd y gyntaf i wahardd pobl ifanc yn eu harddegau rhag cael tyllau a thatŵs mewn rhannau personol o'r corff, ac eto rydyn ni’n dal i ganiatáu i bobl heb drwydded a heb eu rheoleiddio, sy'n aml heb eu hyfforddi, chwistrellu tocsin mwyaf marwol y byd, neu ryw gymysgeddau heb eu rheoleiddio, i wynebau ein pobl ifanc. 

Felly, byddwn i'n gofyn beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i atal pobl ifanc rhag cael triniaethau o'r fath, yn ogystal â nodi a ydych chi'n bwriadu rheoleiddio triniaethau o'r fath ar gyfer y boblogaeth ehangach. Diolch yn fawr. 

Diolch yn fawr iawn am godi hynny. Rwy'n credu ei fod yn bwynt pwysig iawn, ac nid oeddwn i'n ymwybodol o'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud wrth y Siambr. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud, Cymru oedd y wlad gyntaf—fe wnaethon ni arwain y ffordd ar wahardd tyllau mewn rhannau personol o'r corff mewn gwirionedd. Rwy'n credu mai fi oedd y Gweinidog iechyd yr adeg honno, ac rwy'n credu ein bod ni'n arwain ym maes iechyd y cyhoedd.

Yn sicr, fe wnaf ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ystyried hyn, ac ysgrifennu atoch chi i weld pa gamau y byddai modd eu cymryd, oherwydd, fel yr ydych chi'n ei ddweud, nid ydym ni eisiau bod y wlad y mae pawb yn dod iddi os ydyn nhw wedi cael eu gwahardd yn Lloegr. Ond byddaf i'n sicrhau bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ysgrifennu atoch chi, a, bod y Cadeirydd, yn rhoi llythyr yn y Llyfrgell. 

Bu pawb wedi'u brawychu gan weithredoedd dieflig Hamas ar 7 Hydref, gyda thua 1,400 yn cael eu lladd yn Israel. Does dim cyfiawnhau erchyllterau fel hyn. Does dim cyfiawnhad ychwaith dros wadu dŵr, trydan, tanwydd, meddyginiaeth ac hanfodion eraill i 2 miliwn o bobl yn llain Gaza—gyda hanner y boblogaeth o dan 18 oed—gan gosbi plant a phobl ddiniwed eraill. Mae ysbytai yno bellach yn rhedeg allan o ddeunyddiau a meddyginiaeth hanfodol. Mae amcangyfrif bod 5,000 o Balestiniaid bellach wedi eu lladd a thaflegrau yn dal i ddisgyn ar dde Gaza, lle mae pobl yn cael eu hannog i symud iddo.

Rwy'n deall y bu i'r Llywodraeth yma sicrhau cymorth dyngarol i Balesteina mewn gwrthdaro blaenorol. Felly, a gawn ni ddatganiad brys gan y Llywodraeth, yn gosod allan pa gymorth dyngarol mae'r Llywodraeth am ei gynnal a'i gynnig i bobl Gaza, a sicrwydd bod y Llywodraeth yma yn defnyddio pob grym sydd ganddi er mwyn galw am gadoediad yn y rhan honno o'r byd ar fyrder?

Diolch. Wel, gallaf i eich sicrhau chi fod Llywodraeth Cymru yn cymryd y camau yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw. Rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wir wedi cysylltu â'n grwpiau ffydd yma i weld beth arall y gallwn ni ei wneud i'w cefnogi. Yn amlwg, nid yw materion rhyngwladol yn fater datganoledig, ond rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn gwylio gydag arswyd llwyr wrth i'r golygfeydd hyn ddatblygu o'n blaen ar ein sgriniau teledu bob nos.

Gweinidog, dros y penwythnos, achosodd storm Babet hafoc yn Sandycroft, Mancot, Brychdyn, Penyffordd a'r cymunedau cyfagos yn fy etholaeth i. Rwy'n gofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar effaith y llifogydd yn y cymunedau hyn, a hefyd y cymorth gan swyddogion yn y weinyddiaeth newid hinsawdd i sefydlu gweithgor dan arweiniad arbenigwyr i gyflawni'r newid sydd ei angen i ddiogelu'r cymunedau hyn rhag dioddef mewn digwyddiadau o'r fath yn y dyfodol. Diolch. 

Diolch. Wel, yn sicr, ar ôl glaw trwm iawn ddydd Gwener ac i mewn i ddydd Sadwrn, a oedd yn gysylltiedig â storm Babet, gwnaethom ni gael sawl rhybudd llifogydd ac, yn anffodus, gwnaeth sawl ardal—rhai yn eich etholaeth chi, rhai yn fy etholaeth i, ac mewn rhannau eraill o Gymru—yn anffodus, ddioddef llifogydd. Ac rydyn ni'n gwybod pa mor ddinistriol y gall effeithiau llifogydd fod, nid yn unig ar gartrefi, ond hefyd ar unigolion a'u bywydau. Felly, bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn hapus i gyflwyno datganiad ysgrifenedig.

14:35

Prynhawn da, Gweinidog. A gaf i ofyn tybed am ddau ddatganiad, os gwelwch chi'n dda? Mae'r cyntaf oddi wrth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol am y sefyllfa ariannu ar gyfer toiledau cyhoeddus sy'n cael eu cynnal gan gynghorau tref a chymuned. Mae Powys yn ardal wledig, eang ac rydym ni'n croesawu ymwelwyr a phobl sy'n teithio drwyddi. Fe ddeuthum i'n ymwybodol o ymadrodd nad oeddwn i erioed wedi ei glywed o'r blaen, drwy'r Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, 'tennyn y toiled', sef yr hyn sy'n dal pobl hŷn yn ôl rhag gadael eu cartrefi nhw am nad oes modd iddyn nhw, efallai, gael mynediad i doiled, a rhai hyd yn oed yn peidio ag yfed i raddau sy'n beryglus i'w hiechyd. Roedd hi'n canfod bod bron i ddwy ran o dair o'r rhai dros 60 oed yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i doiledau cyhoeddus. Felly, fe fyddwn i'n croesawu datganiad o'r fath i egluro safbwynt Llywodraeth Cymru ar gyllid i doiledau cymunedol. Mae problem gennyf ym Mhowys, lle mae Cyngor Tref Rhaeadr Gwy yn cynnal tri thoiled ar yr A470, ac mae ganddyn nhw heriau gwirioneddol gydag ariannu'r rhain.

Mae fy ail ddatganiad oddi wrth y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Fe welsom ni ffigurau pryderus iawn yn cael eu cyhoeddi heddiw, ar ôl ymchwil gan y BBC ar wasanaethau plant, lle mae'r cynghorau yn adrodd am gynnydd sylweddol yn nifer yr atgyfeiriadau diogelu, ac mae'r cynghorau yn wynebu heriau difrifol, gan gynnwys cyfraddau sylweddol o swyddi gwag. Felly, fe fyddwn i'n croesawu datganiad gan y Dirprwy Weinidog, yn nodi sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r pryderon a'r pwysau hyn. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn i chi. Rwyf i am gyfeirio at eich ail fater. Rwy'n credu y bydd y Dirprwy Weinidog yn dymuno mynegi ei diolch yn bendant iawn am y gwaith a wna ymarferwyr rheng flaen sy'n gweithio gyda'n teuluoedd ni, a'r heriau sylweddol iawn y maen nhw'n eu hwynebu. Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog wedi cyfarfod ag aelodau cabinet gofal cymdeithasol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ddiweddar i glywed am eu pryderon nhw ynglŷn â'r effaith uniongyrchol y mae'r pwysau yn ei gael ar y gwasanaethau. Mae hi'n gweithio yn agos iawn hefyd gyda'r awdurdodau lleol, ac mae hi wedi sefydlu llwybr adrodd cadarn, i sicrhau y caiff hi wybod yn llawn am y pwysau sydd ar y gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau plant, wrth iddyn nhw barhau i gefnogi awdurdodau lleol sy'n gweithio gyda phlant a'u teuluoedd.

Rwyf i o'r farn fod y pwynt cyntaf y gwnaethoch chi ei godi yn un perthnasol iawn. Fel rydych chi'n dweud, mae'n rhywbeth—. Nid oeddwn i wedi clywed am 'dennyn y toiled' o'r blaen, ond rydych chi'n gallu deall ystyr hynny'n llwyr. Fel gwyddoch chi, mae'n debyg, mae hi'n ofynnol yn gyfreithiol i'r awdurdodau lleol gynhyrchu strategaethau toiledau lleol, ac, wrth wneud hynny, fe ddylen nhw achub ar bob cyfle i siarad â'r cyhoedd, i weld beth sydd ei angen arnyn nhw, er mwyn bod â mynediad i doiledau lleol wrth fynd allan, a gwrando yn astud ar eu pryderon nhw hefyd, ac ystyried unrhyw ddatrysiadau posibl y gellir eu cyflwyno. Rwy'n gwybod i'r awdurdodau lleol gael canllawiau, i dynnu sylw at y ffaith bod toiledau hygyrch yn bwysicach i'r rhai sydd â chyflyrau iechyd arbennig hefyd.

Trefnydd, rwy'n synnu braidd nad ydym ni wedi cael datganiad gan Weinidog yr amgylchedd a newid hinsawdd, o ystyried bod storm Babet wedi effeithio ar rannau helaeth o Gymru. Fe wn yr effeithiwyd yn ddifrifol ar fy nghyd-Aelod Jack Sargeant draw fan acw, a chyd-Aelodau eraill ar y meinciau hyn, ac Aelodau eraill yn y fan hon yn eu hetholaethau nhw. Roedd yr hyn a welais i dros y penwythnos, wel, yn frawychus, mewn gwirionedd, ar ddydd Gwener yn arbennig felly. Nid oedd unrhyw gynllun cydgysylltiedig. Fe glywn ni'n aml yn y Siambr hon y bydd y cynllun hwn yn cychwyn ar ei waith, ond roedd y gwasanaeth tân, ni allai pobl fynd drwodd i allu gofyn am fagiau tywod, neu roedden nhw'n cael gwybod bod bagiau tywod ar gael, ac wedyn roedd rhywun yn dweud wrthyn nhw, 'Nac oes, nid oes gennym ni rai i'w cynnig erbyn hyn'. Roedd pobl yn sâl, yn cael eu cario o'u cartrefi; cafodd pobl eu gyrru o'u tai mewn achosion eraill. Roedd hi'n draed moch mewn gwirionedd. Nawr, i ni yn Llandudno, wrth gwrs, roedd hynny'n dwyn atgofion erchyll o 1993 i gof, pan gyfarfu'r dyfroedd drwy'r bae i gyd—rydym ni'n isel iawn o ran lefel y môr. Felly, fe fyddwn i'n cymeradwyo'r alwad gan Jack Sargeant i ni gael datganiad am y llifogydd ar unwaith gan y Gweinidog ynglŷn â sut y dylid osgoi sefyllfa o'r fath eto. Mae'n rhaid cael cynllun ar waith, ac mae angen i'r gwasanaethau brys wybod beth y maen nhw'n ei wneud ar unrhyw adeg benodol, ac er mwyn i ni'r Aelodau etholedig allu cyfathrebu â'n trigolion mewn gwirionedd. Diolch i chi.

14:40

Diolch i chi. Wel, fel dywedais i, bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn cyflwyno datganiad ysgrifenedig.

Diolch. Wel, rwy'n galw am ddau ddatganiad gan y Gweinidog iechyd: y cyntaf ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod byrddau iechyd Cymru yn atebol am flaenoriaethu gweithredu cynllun gweithredu clefydau prin Cymru, fel nodir yng nghylchlythyr iechyd Cymru 2022/017. Ddoe, y 23 o fis Hydref, oedd Diwrnod Rhyngwladol Ymwybyddiaeth XLH, X-linked hypophosphataemia. Mae XLH yn glefyd metaboledd yr esgyrn gydol oes a phrin sy'n dod â llu o heriau yn ei sgil i unigolion sy'n byw gyda'r cyflwr bob dydd. Roeddwn i'n bresennol mewn digwyddiad bwrdd crwn a gynhaliwyd yn y fan hon gan Mike Hedges ychydig wythnosau yn ôl, a dynnodd sylw at yr angen i wella'r gofal i oedolion ag XLH, fel sy'n wir i lawer o bobl sy'n byw gyda chyflyrau prin. Roedd yr heriau allweddol a godwyd yn cynnwys diffyg cydlynu gofal, diffyg dealltwriaeth o'r cyflwr, yn ogystal â heriau o ran triniaeth a gofal arbenigol. Mae hi'n hanfodol i'r garfan hon gleifion a theuluoedd, ynghyd ag eraill y mae cyflyrau prin yn effeithio arnyn nhw, fod yr ymrwymiadau yn y cynllun gweithredu yn cael eu blaenoriaethu mewn ffordd briodol a'u cyflawni mewn ffordd gyffelyb ledled Cymru, ac rwy'n galw am ddatganiad ynglŷn â hynny.

Yn olaf, rwy'n galw am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd hefyd ar y llwybr clinigol gorau posibl i bobl a effeithiwyd gan bolio yng Nghymru. Heddiw yw Diwrnod Polio'r Byd 2023, gyda chefnogwyr yn ymgyrchu i ddweud wrth bartneriaid byd-eang, cyfranwyr a llywodraethau gwledydd yr effeithir arnynt gan bolio bod dilead yn bosibl a bod angen hynny ar frys. Yn noddwr i Gymrodoriaeth Polio Prydain, fe noddais i ac fe siaradais i yn y digwyddiad lansio ym mis Mehefin yn y Senedd i nodi'r llwybr clinigol gorau posibl i bobl y mae polio yn effeithio arnyn nhw, a nodi sut olwg sydd ar driniaeth, gofal a chymorth da i oroeswyr polio ledled y DU. Yn dilyn hynny, fe alwais i am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd, yn manylu ar sut y bydd hi'n ymgysylltu â Chymrodoriaeth Polio Prydain ynghylch gweithredu'r llwybr hwn a'r angen i leihau'r anghysondeb o ran gofal i oroeswyr polio sy'n byw yng Nghymru, ac rwy'n ailadrodd yr alwad honno am ddatganiad heddiw ar Ddiwrnod Polio'r Byd 2023. 

Diolch yn fawr iawn i chi. Felly, o ran y cynllun gweithredu clefydau prin, nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw ganllawiau i'r byrddau iechyd y byddai angen eu diweddaru, ond yn sicr fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog iechyd ystyried ai dyna'r achos, yn wir. 

Ac, o ran polio, nid oeddwn i'n ymwybodol ei bod hi'n ddiwrnod ymwybyddiaeth heddiw. Rwy'n credu bod hyn yn bwysig iawn, oherwydd er nad ydym yn clywed am hwnnw'n aml iawn, rwy'n credu bod llawer o bobl yn parhau i fyw gyda chanlyniadau polio. Felly, unwaith eto, pe byddai'r Gweinidog iechyd o'r farn fod angen diweddaru unrhyw ganllawiau, fe ofynnaf iddi hi wneud felly. 

3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ansawdd Dŵr
4. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol ar gyfer Pobl Ifanc sy'n Gadael Gofal yng Nghymru

Fe symudwn ni ymlaen, felly, i eitem 4, sef datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. A dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad, Jane Hutt. 

Diolch yn fawr, Llywydd dros dro. Mae dros 12 mis wedi mynd heibio ers i ni lansio ein cynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer pobl sy'n gadael gofal yng Nghymru. Ac roedd y cynllun peilot yn cynnig cyfle i bobl ifanc sy'n gadael gofal ac yn dathlu eu pen-blwydd yn 18 oed rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Mehefin 2023 gael incwm misol o £1,600 am gyfnod o ddwy flynedd, sy'n cyfateb i £1,280 y mis ar ôl treth. Ac, ers lansio'r cynllun peilot, fe fu yna ddiddordeb mawr yn y ffordd y mae'n datblygu a'i effaith ar fywydau pobl ifanc. Heddiw, rwy'n falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y cynllun peilot ynghyd â gwybodaeth bellach am y dull o'i werthuso. Fe fyddaf i'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf hefyd am ein cynlluniau ni i gefnogi'r bobl ifanc wrth i'w taliadau nhw ddod i ben, a'u bod yn pontio ac yn symud ymlaen o'r cynllun peilot.

Yn ystod y cyfnod cofrestru o 12 mis, a ddaeth i ben yn ffurfiol ar 30 Mehefin 2023, fe ymunodd 635 o bobl ifanc sy'n gadael gofal yng Nghymru â'r cynllun peilot a dechrau cael eu taliadau incwm sylfaenol. Mae hyn yn cynrychioli tua 97 y cant o'r rhai a oedd yn gymwys i'r cynllun peilot. Da iawn o beth yw bod cymaint o bobl ifanc wedi manteisio ar y cyfle hwn, ac rwy'n hynod falch fod y gyfradd ymaelodi yn uwch na chynlluniau incwm sylfaenol eraill y gellir dewis ymuno â nhw ledled y byd. Mae gweithrediad da'r cynllun peilot hyd yn hyn yn adlewyrchu cadernid ein dull cydweithredol ni gyda thimau gadael gofal awdurdodau lleol, Voices from Care Cymru, Cyngor ar Bopeth Cymru, gofalwyr, teuluoedd a ffrindiau, a llawer o grwpiau eiriolaeth eraill a darparwyr gwasanaethau. Fe hoffwn i ddiolch ar goedd i bawb a gymerodd ran am eu mewnbwn a'u cefnogaeth i'r prosiect hwn.

Mae'r cynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer pobl sy'n gadael gofal yng Nghymru yn bolisi uchelgeisiol ac arloesol, ac mae hi'n hanfodol fod y gwerthusiad yn cyd-fynd â'r uchelgais hwn trwy gynnig asesiad sy'n drylwyr ac eang o'i effaith. Bwriad ein cynllun peilot yw nodi a phrofi manteision darparu'r math hwn o gymorth i'r rhai ifanc hyn sy'n gadael gofal.

Drwy gydol y cynllun peilot, fe gwrddais i â llawer o'r bobl ifanc sy'n cyfranogi ynddo er mwyn canfod sut y maen nhw'n dod yn eu blaenau. Wythnos diwethaf, fe gwrddais i â rhywun ar y cynllun yn Aberystwyth, ac yfory a dydd Iau fe fyddaf i'n cwrdd â rhagor o bobl ifanc yng Nghaerdydd a Chonwy yn rhan o nifer o ddigwyddiadau anffurfiol yr ydym ni'n eu cynnal ledled Cymru. Ac rwyf i wedi bod yn falch o allu eistedd i lawr a chlywed am y gwahaniaeth y mae'r arian hwn yn ei wneud i'w bywydau nhw nid yn unig yn y presennol, ond o ran sut maen nhw'n gweld eu dyfodol hefyd. Er enghraifft, mae rhai o'r bobl ifanc yr wyf i wedi siarad â nhw'n dweud ei fod wedi caniatáu iddyn nhw gynilo er mwyn cefnogi eu hunain i'r dyfodol, ac archwilio'r posibilrwydd o ariannu cymwysterau pellach a allai roi hwb i'w rhagolygon nhw o ran gyrfaoedd a swyddi, yn ogystal â'u helpu i dalu eu costau byw a'u biliau cyfredol.

Yn gynwysedig yn y cynllun peilot hwn, mae dros 600 o unigolion, gyda'u straeon unigryw eu hunain, pob un yn dilyn llwybr unigryw yn ei fywyd. Oherwydd hynny, mae effeithiau'r cynllun peilot ar bobl ifanc yn debygol o amrywio llawer iawn, gyda rhai canlyniadau mwy uniongyrchol ac amlwg, tra bod eraill yn gallu bod yn fwy graddol. Rydym ni wedi comisiynu tîm arbenigol, dan arweiniad y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant ym Mhrifysgol Caerdydd, i arwain y gwerthusiad eang o'r cynllun peilot. Fe fydd y tîm amlddisgyblaethol hwn o arbenigwyr byd-eang ym maes gwerthuso cymhleth, incwm sylfaenol, gofal cymdeithasol ac ymyraethau nawdd cymdeithasol yn asesu sut y cafodd y cynllun peilot ei brofi a'i ddarparu, yn ogystal â'r costau a'r manteision i'r gymdeithas yn fwy eang. Fe fydd y tîm gwerthuso yn cynhyrchu cyfres o adroddiadau thematig i'w cyhoeddi yn ystod y rhaglen ymchwil pedair blynedd. Rydym ni'n bwriadu cyhoeddi adroddiad cyntaf y gyfres hon yn gynnar yn 2024. Fe fydd yr adroddiad cychwynnol hwn yn cyflwyno canlyniadau posibl y cynllun peilot, gan fanteisio ar dystiolaeth â theori incwm sylfaenol rhyngwladol yn ogystal â dyheadau Llywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun peilot. Fe fydd yr adroddiad yn amlinellu hefyd sut cafodd y cynllun peilot ei redeg hyd yma, gan fanteisio ar farn gweithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â'r gwaith o'i gyflawni. Fe fydd yn adeiladu ymhellach ar y data a gyhoeddwyd gennym ni ym mis Medi eleni, gan ddarparu dealltwriaeth ddyfnach o'r garfan hon o bobl ifanc sy'n gadel gofal. Fe fydd yr adroddiad hwn yn helpu i feithrin dealltwriaeth o brofiad y cynllun peilot i bobl ifanc a'r rhai sy'n ymwneud â'r gwaith o'i gyflawni. O gofio y bydd effaith y cynllun peilot mewn sawl maes o fywyd yn cymryd blynyddoedd i'w wireddu, mae'n rhaid i ni olrhain effaith y cynllun peilot am flynyddoedd lawer i ddod hefyd.

Ochr yn ochr â'r gwerthusiad, rydym ni'n canolbwyntio ar ddatblygu cynlluniau i gefnogi'r garfan hon o bobl ifanc wrth iddyn nhw ddechrau pontio a symud ymlaen o'r cynllun peilot y flwyddyn nesaf. Mae'r ffordd y byddwn ni'n ceisio dirwyn y cynllun peilot i ben mewn ffordd adeiladol i'r cyfranogwyr wedi bod yn ystyriaeth allweddol drwy gydol y broses hon, ac rydym ni wedi bod yn awyddus i ymarferwyr ymgysylltu â'r bobl ifanc ynghylch diwedd y cynllun peilot ar bob cam ohono. Fe fydd y garfan gyntaf o'r rhai sydd wedi derbyn incwm sylfaenol yn gweld eu taliadau nhw'n dod i ben ym mis Gorffennaf 2024, ac rydym ni'n gweithio yn agos gyda phartneriaid cyflawni allweddol a'r derbynwyr eu hunain ynglŷn â'r ffordd orau i'w cefnogi nhw drwy'r cyfnod pontio hwn. Fel rhai sy'n gadael gofal, mae gan y bobl ifanc hyn lwybrau ar waith eisoes gyda'r diben o'u cefnogi nhw wrth iddyn nhw bontio o ofal. Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda'n partneriaid i adeiladu ar y cynlluniau presennol hyn a chynnig arweiniad a rhestrau gwirio i sicrhau bod y bobl ifanc mor barod ag y gallan nhw fod. Rhan allweddol o'r cymorth yr ydym ni'n ei roi yw'r cyngor ariannol annibynnol y gall pob unigolyn ifanc ar y cynllun ei gael drwy Gyngor ar Bopeth Cymru, fel rhan o'n cronfa gynghori sengl ni.

Wrth gwrs, nid yw'r dull yw hwn yn ateb sy'n addas i bawb. Fel yr amlygwyd yn gynharach, mae dros 600 o bobl ifanc ar y cynllun peilot, ac mae hynny'n golygu dros 600 o fywydau, profiadau ac amgylchiadau amrywiol. O'r herwydd, mae'n rhaid i ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn fod wrth wraidd y gefnogaeth i bobl ifanc ar y cynllun peilot, ac rydym ni'n dibynnu ar waith rhagorol partneriaid ein hawdurdod lleol a'u cynghorwyr pobl ifanc i gefnogi pobl drwy'r cyfnod pontio hwn. Fe fyddaf i'n falch o allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynglŷn â'r cynnydd a'r canfyddiadau a ddaw wrth i ni barhau i gyflawni'r rhaglen arloesol hon ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth. Diolch.

14:45

Diolch yn fawr, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Rwy'n falch o glywed bod cymaint o'r rhai sy'n gadael gofal wedi manteisio ar y cyfle i ymgysylltu â'r cynllun a chael symiau o arian a allai newid eu bywydau, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n eu galluogi nhw i dorri llawer o'r cylchoedd dinistriol y mae'r rhai sy'n gadael gofal yn eu profi, yn anffodus. Gan godi rhai o agweddau'r arbrawf, mae 635 o'r rhai sy'n gadael gofal wedi ymuno â'r cynllun, sy'n sylweddol fwy na'r 500 a gyllidwyd ar eu cyfer nhw'n wreiddiol. Mae'r cynllun wedi mynd tua £5 miliwn dros ei gyllideb erbyn hyn, ac nid yw hynny'n cynnwys yr arian ychwanegol a addawyd gennych chi i'r elusennau a'r sefydliadau hynny sy'n cefnogi'r rhai sy'n gadael gofal gyda chyngor. O ystyried eich bod chi wedi cyhoeddi toriad o £7 miliwn i'ch cyllideb chi'n ddiweddar, fe geir pwysau sylweddol o ran cyflawni mwy am lai o arian. Felly, pa ganlyniadau penodol o'r cynllun peilot ydych chi'n edrych arnyn nhw ar gyfer penderfynu ai incwm sylfaenol yw'r gwerth gorau am arian o ran helpu'r rhai sy'n gadael gofal?

Rydych chi wedi dweud o'r blaen, Gweinidog, ac rwy'n dyfynnu,

'Bydd y cynllun peilot hwn, rydym ni'n gobeithio, yn ein galluogi ni i roi prawf ar rai o'r honiadau a wneir ynglŷn ag incwm sylfaenol cyffredinol.'

O ystyried bod y cynllun ar waith erbyn hyn ac rydym ni bron hanner ffordd drwyddo, rwy'n awyddus i wybod pa honiadau penodol ynghylch incwm sylfaenol cyffredinol a roddir ar brawf. Fel gwyddoch chi, rwyf i wedi mynegi fy mhryder yn y Siambr hon o'r blaen, ac yn parhau i wneud hynny, o ran bod y rhai sy'n gadael gofal yn grŵp arbennig o agored i niwed nad yw eu hanghenion penodol yn adlewyrchu'r boblogaeth ehangach o reidrwydd, a'u bod nhw wedi cael eu dewis yn fwriadol ar gyfer atal gwrthwynebiad i'r cynigion hyn. Heb gyfres eglur o ganlyniadau i'w mesur nhw ynghlwm ag incwm sylfaenol cyffredinol, nid yw'r cynllun hwn yn golygu dim mwy na mesur o ymyrraeth ariannol a anelir at un grŵp arbennig, sef yr un peth yn union â'r hyn y mae cymorth lles yn ei gynnig ar hyn o bryd.

Gweinidog, pe credid i'r cynllun fod yn llwyddiant a'ch bod chi'n penderfynu y byddai incwm sylfaenol yn cael ei gyflwyno i bob unigolyn sy'n gadael gofal ar y gyfradd bresennol yn barhaol, ac na fyddai unrhyw un sy'n gadael gofal fyth yn peidio â chael incwm sylfaenol felly, ac y byddai 500 o rai newydd yn gadael gofal yn dod i'r cynllun bob blwyddyn, o fewn 10 mlynedd fe fyddai'r cynllun yn costio £528 miliwn, heb addasu ar gyfer chwyddiant, ar gyfer cymorth i 5,000 o bobl yn unig. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud ein bod ni i gyd yn gytûn yn y fan hon na fyddai hi'n briodol yn ariannol i wario symiau mor fawr o arian cyhoeddus, yn arbennig pan fo cyllidebau yn cael eu torri mewn mannau eraill, i roi prawf ar gynllun ar gyfer bod â chanfyddiadau academaidd yn unig a heb gynllunio ar gyfer gweithredu yn yr hirdymor. Siawns na fyddech chi fyth yn dechrau cynllun ar gyfer rhai agored i niwed yn y gymdeithas heb unrhyw fwriad o'i weithredu? Felly, gyda hyn mewn golwg, pa gynlluniau a ydych chi'n eu hystyried i ariannu'r incwm sylfaenol ar gyfer pobl sy'n gadael gofal ar sail hirdymor?

Wrth symud ymlaen, fel mae'r Gweinidog yn ymwybodol efallai, canfu adroddiad gan Ymddiriedolaeth y Tywysog yn 2017 fod y rhai sy'n gadael gofal yn cael trafferthion gyda chyrhaeddiad addysgol, gydag 87 y cant o'r rhai sy'n gadael gofal yn ennill llai na phump o raddau A* i C TGAU. Dangoswyd hefyd fod 63 y cant o blant a aeth i mewn i ofal wedi profi camdriniaeth neu esgeulustod a gafodd effaith barhaol ar eu hiechyd emosiynol a meddyliol yn drist iawn, ac adroddir yn eang fod 25 y cant o'r rhai sy'n gadael gofal yn rhieni wrth adael gofal, ac mae hyn yn codi i 50 y cant wedi dwy flynedd. At hynny, mae 25 y cant o boblogaeth carchardai Cymru a Lloegr yn rhai sydd wedi gadael gofal. Nid yw bod ag incwm sylfaenol yn mynd i ddatrys y problemau hyn. Mae llawer o'r rhai sy'n gadael gofal yn dal i fod yr un mor debygol o ddod yn rhieni, ac yn yr un modd, yr un cyraeddiadau addysgol fydd ganddyn nhw, ac y bydden nhw'n parhau i fod â chymhlethdodau o ran iechyd emosiynol a meddyliol. Mae hi'n amlwg bod angen cyflwyno polisïau mwy effeithiol i'w helpu nhw. O gofio mai dim ond 635 o bobl sy'n gadael gofal a fydd yn debygol o dderbyn y cyllid hwn, ac na fydd hi fyth yn hyfyw yn ariannol i'w gyflwyno i bawb, pa gamau a ydych chi'n eu cymryd i gynyddu a gwella'r gefnogaeth i'r rhai mewn gofal ar gyfer gwella eu cyrhaeddiad addysgol a'u llesiant emosiynol a meddyliol nhw o gymharu â'u cyfoedion? A pha gamau a ydych chi'n eu cymryd i ddod â'r cylch hwn i ben lle gwelir plant y rhai sy'n gadael gofal yn mynd i mewn i ofal eu hunain yn y pen draw?

Yn olaf, Gweinidog, mae ymchwil eang wedi amlygu nad yw bron i draean o'r rhai sy'n gadael gofal yn gweithio nac yn astudio, o'i gymharu â dim ond 2.4 y cant o'u cymheiriaid ifanc. Ac ymhlith y rhai sy'n gadael gofal sydd â gwaith, mae dros ddwy ran o dair ohonyn nhw mewn swyddi ansicr sy'n fyrdymor, rhan amser neu â chyflog pitw. Mae'r ymchwil hon wedi dangos hefyd y gellir gwneud mwy i oresgyn y rhwystrau a chymell pobl ifanc â phrofiad o ofal i weithio, ac agwedd gyfaddas ar helpu'r rhai sy'n gadael gofal yw darpariaeth fwy cadarn o lwybrau i bobl ifanc fynd i addysg a hyfforddiant ôl-16, a chryfhau cysylltiadau â chyflogwyr lleol i wella gwybodaeth pobl ifanc am yr ystod o gyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw. Fe gafwyd awgrymiadau eraill hefyd yn cynnwys cymorth cyn cyflogi, cyn prentisiaeth a anelir i baratoi pobl ifanc sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth i gymryd camau tuag at gyfleoedd sy'n gysylltiedig â gwaith, ac i ddarparwyr addysg a chyflogwyr fod â mwy o ymwybyddiaeth o anghenion trawma ac iechyd meddwl pobl sy'n gadael gofal. O ystyried y bydd angen parhaus am gymorth ychwanegol ar y rhai sy'n gadael gofal yn y cynllun i'w helpu i gael swyddi, pa gamau a ydych chi'n eu cymryd yn gyfochrog â'r cynllun peilot incwm sylfaenol i helpu i wella cyfleoedd gwaith ac addysgol? Diolch i chi.

14:50

Diolch yn fawr iawn i chi, Joel James, am y cwestiynau yna.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni fyfyrio ar y garfan hon o bobl ifanc, a fydd mewn gwirionedd yn ymateb i lawer o'r cwestiynau y gwnaethoch chi eu codi. Ein penderfyniad ni oedd cyflwyno'r cynllun peilot i'r garfan arbennig hon—y grŵp hwn o bobl ifanc—am ein bod ni'n gwybod bod pobl sy'n gadael gofal yn wynebu heriau unigryw, ac rydych chwithau wedi cydnabod hynny yn eich cwestiynau chi. Felly, fe fydd y fenter hon—ein cynllun peilot incwm sylfaenol ni—yn gwella'r buddsoddiad a wnaeth Llywodraeth Cymru eisoes i'r grŵp hwn, megis eithriad i'r dreth gyngor a sefydlu cronfa Dydd Gŵyl Dewi.

Rwy'n credu bod hyn, o ran y polisïau eraill i gyd a ysgogwyd gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, yn arbennig felly'r trawsnewidiad radical o wasanaethau ar gyfer pobl ifanc â phrofiad o ofal—. Yn ddiweddar, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru'r siarter rhianta corfforaethol, ac mae honno'n rhoi addewid o ymrwymiad i bob corff sector yn rhinwedd eu swydd fel rhieni corfforaethol, gydag 11 egwyddor o ran rhianta corfforaethol. Wrth gwrs, mae hynny'n wir am gyfrifoldeb cyfunol pob corff cyhoeddus i hyrwyddo cyfleoedd bywyd pobl ifanc â phrofiad o ofal, a'r angen i bob corff sector cyhoeddus gefnogi pobl ifanc â phrofiad o ofal wrth iddyn nhw adael gofal. Fe fydd pob un o'r 11 egwyddor hynny yn ymdrin â llawer o'r pwyntiau a wnaethoch chi. Ond mae'n rhaid i ni gydnabod bod pobl sy'n gadael gofal dan anfantais anghymesur, yn ystadegol yn fwy tebygol o brofi problemau fel digartrefedd a materion ynglŷn ag iechyd meddwl—yn fwy tebygol na'u cyfoedion—ac maen nhw'n ymddangos yn fwy anghymesur yn y system cyfiawnder troseddol.

Mae cost pontio aflwyddiannus i fyd oedolion yn uchel i'r rhai sy'n gadael gofal ac yn uchel i'r cyhoedd hefyd. Mae gweld bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y Senedd ddiwethaf wedi galw am barhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau i gefnogi pobl ifanc sy'n gadael gofal wedi ennyn fy niddordeb hefyd. Roedden nhw'n gweld hon yn enghraifft effeithiol o wariant ataliol. Felly, rwy'n credu bod y ffyrdd yr ydym ni'n mynd i'r afael â hyn, a'n dull o fwrw ymlaen â hyn gyda'n blaenoriaeth ni o ran cyllideb—. Rydym ni'n blaenoriaethu cyllidebau ar sail egwyddorion diogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen, gan anelu cymorth at y rhai sydd â'r angen mwyaf. Mae hyn yn cyd-fynd â'r hyn yr ydym ni'n ei wneud gyda'r cynllun peilot hwn.

Mae hi'n bwysig edrych ar y gwerthusiad. Yn amlwg, ar gyfer cael y canlyniadau yr ydym ni'n eu ceisio, mae'r cynllun peilot yn destun gwerthusiad cynhwysfawr a chadarn iawn. Rwyf i wedi amlinellu'r ffyrdd yr ydym ni'n bwrw ymlaen â hyn eisoes, gydag arbenigedd o'r radd flaenaf ym maes gofal cymdeithasol plant, a gwybodaeth hefyd am incwm sylfaenol a chynlluniau o'r math hwn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig gweld bod asesiad o'i effaith yn eang ac egnïol. Ond, yr hyn y maen nhw'n ei ystyried yw'r ffactorau allweddol hynny a fydd yn dylanwadu ar fywyd plentyn, a bywyd unigolyn ifanc. Fe fydd yn ystyried llesiant. Fe fydd yn ystyried llythrennedd ariannol a diogelwch. Fe fydd yn ystyried lliniaru effeithiau tlodi. Fe fydd yn ystyried addysg a mynediad i'r farchnad lafur. Fe fydd yn ystyried iechyd corfforol a meddyliol. Fe'i cynhelir yn y byd go iawn, ac mae'r bobl ifanc a'r derbynwyr yn ymgysylltu â hynny.

Felly, mae hyn yn rhywbeth a all fod ag effaith a honno'n eang ar fywydau'r bobl ifanc hyn. Nid wyf i o'r farn fod angen i ni fynd lawer pellach na chyfarfod gyda rhai o'r bobl ifanc, fel gwnaeth y Prif Weinidog, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau. Yn wir, fe fyddwn ni'n cwrdd â rhai yfory, ac fe fyddaf i'n cwrdd â rhai yng Nghonwy wythnos nesaf. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni eu clywed nhw, ac mae llawer ohonyn nhw wedi rhannu eu hanesion a'u profiadau gyda ni yn gyhoeddus. Mae hanes y gŵr ifanc y gwnaethom ni gwrdd ag ef yn gynharach eleni, Brandon, sydd ar gwrs gwaith trydan a phlymio, a'r ffordd yr oedd ef yn bwrw ymlaen â'i fywyd mewn gwirionedd o ran yr effaith a gafodd hyn, yn bwysig iawn i'w gofnodi heddiw.

Yn ogystal â hynny, yfory, rwy'n credu y bydd yr Athro Syr Michael Marmot yn ymuno â ni hefyd, ac y mae ef yn ffigwr blaenllaw yn y maes hwn, ar gyfer cwrdd ag ymarferwyr a phobl ifanc a chlywed am eu profiadau. Felly, rwy'n credu y bydd hyn i gyd yn ein galluogi i weld y dylanwad llesol, ond i ddysgu'r gwersi hefyd, oherwydd, yn amlwg, dyna fydd gwerthusiad parhaus yn ei gyflawni. Ond gadewch i ni fynd yn ôl at y garfan arbennig honno ac ystyried y buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud yn y garfan honno, er mwyn gweld y canlyniadau y byddem ni i gyd ar draws y Siambr hon, rwy'n siŵr, yn eu ceisio.

15:00

Diolch am y datganiad, Weinidog.

Mae Plaid Cymru yn llwyr gefnogi'r cynllun peilot incwm sylfaenol i'r rhai sy'n gadael gofal yn ogystal â'i nod o fynd i'r afael â thlodi a diweithdra, a gwella iechyd a llesiant ariannol. Roeddwn i'n aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg pan gynhaliwyd yr ymchwiliad gennym ni i'r angen am ddiwygiad radical ar gyfer plant a phobl ifanc â phrofiad o ofal, ac roedd hi'n dda clywed am yr effaith gadarnhaol a gafodd y cynllun peilot hwn ar fywydau'r rhai sy'n gyfranogol ohono, ac am farn sefydliadau a chyrff fel y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru fod yr adnoddau a ddarperir gan incwm sylfaenol yn ffordd effeithiol o fynd i'r afael â'r ffaith na fyddai gan y bobl ifanc hyn adnoddau digonol bob amser i ddianc rhag drygau tlodi.

Ond fe glywsom ni hefyd—ac yn bennaf oddi wrth y bobl ifanc eu hunain—fod angen gwneud mwy ochr yn ochr â'r incwm sylfaenol hwnnw, fel gwaith i helpu'r rhai sy'n gadael gofal i ddysgu sut i gyllidebu a sut i osgoi dioddef camfanteisio. Felly, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf, Gweinidog, ynglŷn â'r ddarpariaeth o'r math hwn o gymorth; ac yn benodol, sut mae hwn wedi cael ei newid neu ei addasu yn ystod y 12 mis diwethaf yn dilyn yr hyn a ddysgwyd hyd yn hyn o'r cynllun peilot a'r sgyrsiau hynny roeddech chi'n sôn amdanyn nhw a gawsoch chi â'r bobl ifanc eu hunain?

Fe ddywedwyd wrthym ni yn y pwyllgor hefyd y byddai'n rhaid i bobl ifanc dalu nawr am bethau fel llety â chymorth eu hunain, ond mewn gwirionedd, efallai na fydden nhw'n gallu fforddio gwneud hynny. Fe siaradodd y comisiynydd plant yn y pwyllgor am faterion yr oedd hi wedi dod i wybod amdanyn nhw ynghylch cymhwysedd ar gyfer dulliau eraill o gymorth, megis cyllid i fyfyrwyr, gallu cael budd-dal tai a mynediad at bethau fel cymorth cyfreithiol i'r rhai sy'n ceisio lloches. Pwysleisiodd hi y dylai'r gwerthusiad o'r cynllun ystyried sut y gellir cryfhau ei weinyddiaeth, i sicrhau—a dyfyniad yw hwn—'y gall pob unigolyn ifanc sy'n gymwys gael gafael ar gymorth mewn ffordd deg' a sut mae taliad incwm sylfaenol yn cysylltu â budd-daliadau eraill y gellir eu hawlio. Felly, sut mae'r mater hwn wedi cael sylw yn y cynllun peilot hyd yn hyn, a pha sylw a roddir iddo yn y gwerthusiad arfaethedig?

Rydym ni'n cytuno â chi, Gweinidog, ynghylch pa mor bwysig yw hi fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau rhoi cefnogaeth i'r rhai sy'n gadael gofal sy'n gyfrannog yn y cynllun peilot hwn wedi iddo ddod i ben. Fe glywais i dystiolaeth, unwaith eto, yn rhan o ymchwiliad y pwyllgor, y gallai hi fod yn heriol i bobl ifanc pan fydd y taliad incwm sylfaenol wedi dod i ben. Felly, pa gymorth sydd ar gael ar gyfer y cyfnod o 24 mis ac ar gyfer y cyfnod pontio i bobl ifanc neu wrth iddyn nhw adael y cynllun? Pa wersi a ddysgwyd, unwaith eto, ynglŷn â hyn? Sut addaswyd y gefnogaeth honno i adlewyrchu unrhyw beth a ddysgwyd o'r cynllun? Oherwydd fe fydd y garfan gyntaf honno'n wynebu hyn, oni fyddan nhw, ym mis Gorffennaf y flwyddyn nesaf. Buan iawn y daw hynny.

Mae hi'n bwysig ystyried y rhai sy'n gadael gofal hefyd nad ydyn nhw'n gallu bod â rhan yn y cynllun peilot oherwydd eu bod nhw wedi gadael gofal eisoes, neu'n derbyn gofal, ond wedi methu'r ffrâm amser ar gyfer bod â rhan yn y cynllun peilot. Felly, pa asesiad a wnaethoch chi o ran y rhai a ddewisodd peidio â chyfranogi yn y cynllun peilot hefyd? Beth oedd y rhesymau am hynny? A pha gefnogaeth arall oedd ar gael iddyn nhw?

Ac unwaith eto, nid wyf i'n credu ein bod ni wedi clywed yr ateb mewn ymateb i Joel James; pa ystyriaethau a roddir i ganiatáu'r cynllun peilot i fynd yn gynllun incwm sylfaenol parhaol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal, neu ei ehangu i gynnwys grwpiau eraill?

Diolch yn fawr, Sioned Williams. Diolch i chi am eich cefnogaeth hirsefydlog a'ch swyddogaeth ar y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc a'r dystiolaeth a gasglwyd o ran meithrin y proffil hwnnw, y ddealltwriaeth honno o'r hyn sy'n deillio o weithrediad y cynllun peilot hwn.

Rydych yn gofyn cwestiynau pwysig, er enghraifft, am gyngor ariannol, oherwydd roedd hyn yn seiliedig ar y bobl ifanc â phrofiad o ofal y gwnaethom ni gwrdd â nhw wrth i ni ddatblygu'r polisi, cyn i ni ddechrau rhedeg y cynllun peilot incwm sylfaenol. Rwy'n cofio cyfarfod yn Voices from Care Cymru un fore Sadwrn â phobl ifanc â phrofiad o ofal na fyddai wedi elwa ar y cynllun peilot—yn amlwg, roedden nhw wedi symud ymlaen yn eu bywydau—ond oedd â rhan allweddol gyda rhoi cyngor i'r polisi ac arweiniad i ni wrth ddatblygu'r cynllun peilot. Roedden nhw'n dweud y bydd materion a chwestiynau am gyllidebu a chymorth ariannol, felly fe wnaethom ni ddatblygu'r pecyn hwn o gyngor a chymorth ariannol unigol, ac mae Cyngor ar Bopeth yn cyflawni hynny. Cyn cofrestru ar y cynllun peilot, fe wahoddwyd ymgeiswyr i sesiynau gyda chynghorydd annibynnol i drafod y broses—y broses o ymgeisio a thalu ac ati—er mwyn iddyn nhw wneud dewis deallus o ran cyfranogiad mewn gwirionedd. Ac oherwydd y ffaith ein bod wedi gweld cymaint eisiau manteisio ar y cyfle, yn fy marn i—y mwyaf, mewn gwirionedd, fel dywedais i yn fy natganiad, ledled y byd—rydym ni'n teimlo bod y gwaith paratoi ar gyfer y cynllun peilot yn gadarn, yn enwedig gan ei fod yn ymwneud â phobl ifanc â phrofiad o ofal. Ac mae'r niferoedd mawr sydd wedi cymryd rhan i'w croesawu ac yn drawiadol iawn.

Oes, mae yna bwyntiau siomedig, dim ond o ran gallu'r bobl ifanc hyn i gael eu budd-daliadau, er enghraifft. Mae problem wedi bod o ran cymorth cyfreithiol. Dim ond i ddweud, yn amlwg, ni chafodd cymorth cyfreithiol ei ddatganoli, mae'n fater i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac mae hi'n annhebygol iawn, mewn gwirionedd, oherwydd swm yr incwm a dderbyniwyd, y byddai unigolion yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol pe byddai angen cynrychiolaeth fel honno arnyn nhw, sy'n ddibynnol ar amgylchiadau unigol. Dyna pam rydym ni wedi gorfod gweithio a chodi'r materion hyn gyda Llywodraeth y DU. Ond fe gadarnhaodd Llywodraeth y DU na fyddai pobl ifanc sy'n derbyn taliadau incwm sylfaenol yn cael eu heithrio o'r prawf modd am gymorth cyfreithiol. Roedd hi'n rhaid i ni sicrhau, hefyd, nad oedd pobl ifanc yn dlotach o ganlyniad i'r cynllun peilot a bod pobl ifanc yn rhydd i adael y cynllun peilot ar unrhyw adeg. Ond mae'r rhain yn faterion yr ydym ni wedi gweithio drwyddyn nhw gyda'r pwyllgor cynghori technegol, gan weithio gyda'r bobl ifanc, a'r rhai sydd yn cael eu cefnogi drwy'r cynllun peilot erbyn hyn.

Mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n edrych ar bontio o'r cynllun peilot, oherwydd mae hynny ar feddyliau'r bobl ifanc. Pan fyddwn ni'n cwrdd â nhw, fe fyddan nhw'n sôn am eu camau nesaf, eu cynlluniau i'r dyfodol, a dyna pam rwyf i'n awyddus i gydnabod swyddogaeth yr awdurdodau lleol. Wythnos diwethaf, pan aeth y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau i ddigwyddiad yn Aberystwyth, fe gawsom ni gynrychiolaeth o'r awdurdodau lleol i gyd, o'r cynghorwyr personol, yn ogystal â Chyngor ar Bopeth, ac mae'r cynghorwyr personol gadael gofal â rhan fawr yn y gefnogaeth i'r bobl ifanc sydd ar y cynllun peilot hwn. Felly, fe allwn ni siarad yn uniongyrchol â'r tîm. Roedd y gefnogaeth gan y cynghorwyr yn cael ei werthfawrogi yn fawr iawn gan y bobl ifanc ar y cynllun peilot, yn amlwg. Felly, maen nhw'n edrych nid yn unig ar ddathlu'r llwyddiant—rydym ni wedi rhoi rhai enghreifftiau o effaith cyfranogi yn y cynllun peilot eisoes—ond ar rai o'r heriau hefyd a allai fod o'u blaenau nhw. Mewn gwirionedd, fe fydd yn rhaid i'r awdurdodau lleol barhau i ddarparu cymorth i dderbynwyr, fel ar gyfer unrhyw un arall rhwng 18 a 21 oed sy'n gadael gofal. Bydd angen i rai edrych ar y chwe mis olaf; mae angen sail sefydlog arnyn nhw i adeiladu eu dyfodol. Ac efallai y bydd eraill sy'n dechrau neu hanner ffordd drwodd ag angen cefnogaeth fwy dwys, wrth iddyn nhw symud ymlaen.

Mae hi'n bwysig ein bod ni'n ymgysylltu hefyd—fel crybwyllwyd mewn ymateb i gwestiynau cynharach—gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i archwilio dewisiadau ar gyfer llwybrau cymorth hefyd yn unol â chyfamod gadael gofal Llywodraeth y DU. Rydym ni'n gweithio yn agos gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau ar y ffordd yr ydym ni'n cefnogi pobl ifanc wrth iddyn nhw bontio o incwm sylfaenol i gredyd cynhwysol. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig y bydd pobl ifanc wedi gallu derbyn cymorth eang sy'n ymwneud â llesiant ariannol a chyngor cyffredinol, a atgyfnerthir yn ystod y chwe mis olaf o'u cyfranogiad er mwyn gallu cynllunio ar gyfer pontio. Yr hyn a fynegwyd i mi'n eglur iawn yw'r ymdeimlad o hunan-werth, hunan-barch a hyder a ddaw am fod gennym ni ffydd ynddyn nhw, y gallwn ni fod â rhan fechan wrth sicrhau bod ganddyn nhw rai dewisiadau i'r dyfodol. Rwy'n siŵr y byddwn ni'n cwrdd â mwy o bobl ifanc yfory, ac mi fyddaf i yn y gogledd ddydd Iau. Yn amlwg, fe fydd hi'n her i lawer ohonyn nhw, ond mae'r gobaith a'r disgwyliad a amlygwyd yn ein pobl ifanc ni ar y cynllun peilot yn rhagorol iawn, ac rydym ni'n rhoi teyrnged i'r derbynwyr am eu hymagwedd yn hyn o beth ac wrth symud ymlaen.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

15:05

Gweinidog, mae yna dystiolaeth sylweddol a diamheuol bod unigolion â phrofiad o ofal yn wynebu rhwystrau ychwanegol enfawr o ran cyrraedd eu potensial llawn. Mae hyn yn aml oherwydd eu bod nhw wedi wynebu archollion sylweddol yn ystod eu plentyndod. Rydym ni wedi clywed gwrthwynebiad i'r cynllun peilot hwn yn wastad yma yn y Senedd. Rydym ni wedi clywed rhai Aelodau yn ceisio ystumio'r gwirionedd ynglŷn â'r cynllun peilot hwn, hyd yn oed—nid yw Aelodau'r wrthblaid yn y Senedd erioed wedi dymuno cyfaddef bod hyn yn ymwneud â cheisio helpu unigolion â phrofiad o ofal i gyrraedd eu potensial llawn gan roi prawf ar egwyddorion gwirioneddol incwm sylfaenol.

Gweinidog, fe wnaethoch chi gyfeirio at y dros 600 o brofiadau unigol ac enghreifftiau o gyfranogwyr yn y cynllun peilot hwn. Rwyf i am ddewis un o'r enghreifftiau hynny, sef enghraifft Lil. Mae Lil yn rhentu ei fflat ei hun erbyn hyn. Mae hi'n astudio nyrsio, meddygaeth a gofal iechyd yn y coleg ar hyn o bryd. Ddwy flynedd yn ôl, Gweinidog, nid oedd hynny'n ddewis iddi. Ond mae erbyn hyn. Rwy'n hynod falch fod Llywodraeth Cymru wedi cymryd y cam beiddgar hwn. Gweinidog, a wnewch chi barhau i werthuso llwyddiannau'r cynllun peilot arloesol hwn a'r enghreifftiau sy'n newid bywydau, ac enghreifftiau fel yr un a nodais y prynhawn yma, a pheidio, fel ceisiodd eraill, â bychanu eu cyflawniadau nhw?

15:10

Diolch yn fawr, Jack Sargeant, a diolch i chi am eich rhagwelediad, eich rhagwelediad sy'n mynd ymhell yn ôl at y ddadl y gwnaethoch chi ei chyflwyno ar y posibilrwydd o sefydlu cynllun peilot incwm sylfaenol i'n pobl ifanc ni yng Nghymru sydd â phrofiad o ofal, am yr holl resymau y gwnaethoch chi eu hamlinellu.

Rwyf i am fynd yn ôl at y rheswm y gwnaethom ni benderfynu cyflwyno'r cynllun peilot ar gyfer y grŵp penodol hwn o bobl ifanc. Am ein bod ni'n gwybod, fel rydych chi'n dweud, fod pobl sy'n gadael gofal yn wynebu'r heriau unigryw hyn. Wrth gwrs, rydym ni'n gwrando ar y rhai sy'n cyfranogi yn y cynllun peilot—mae hynny'n rhan o'r gwerthusiad. Fe ddaeth yr Athro Sally Holland i'n cyfarfod ni yn Aberystwyth, ac roedd hi'n treulio amser gyda'r bobl ifanc, gan eu holi am eu profiadau. Mae hi'n hanfodol ein bod yn clywed oddi wrth y bobl ifanc ynglŷn â sut yr ydym ni'n nodi llwyddiannau'r prosiect hwn sy'n uchelgeisiol yn fyd-eang, a hefyd ar gyfer clywed y gwahaniaeth y mae'r arian hwn yn ei wneud i'w bywydau nhw, y dewisiadau y mae'n eu rhoi. Rwy'n credu y bydd rhaid i'r gwerthusiad fod yr un mor uchelgeisiol â'r cynllun peilot.

Rwy'n falch eich bod chi wedi sôn am Lil, oherwydd mae hi, fel llawer un, wedi bod yn awyddus i siarad yn gyhoeddus am yr hyn y mae hyn wedi ei olygu iddi hi. Rwy'n dyfynnu Lil, sy'n rhentu ei llety ei hun erbyn hyn. Roedd hi'n dweud:

'Mae hyn yn gwneud i chi deimlo sefydlogrwydd ariannol. Mae'n helpu llawer iawn, yn enwedig pan ydych chi'n oedolyn, rydych chi'n dechrau bod â'r pryderon ariannol hyn ac rydych chi'n dechrau meddwl ychydig mwy am eich bywyd. Pe byddai'r fflat gennyf i heb i mi fod ar y cynllun peilot hwn, fe fyddwn i'n ei chael hi'n anodd iawn.'

Mae hi'n astudio nyrsio, meddygaeth a gofal iechyd yn y coleg ar hyn o bryd. Mae hi'n cydnabod hefyd y cymorth a gafodd hi gan ei hymgynghorydd pobl ifanc, ymgynghorydd yr awdurdod lleol, a Chyngor ar Bopeth, oherwydd ei bod hi wir yn deall bod arbed arian yn rhan fawr o hyn. Felly, mae gennym ni hyder gwirioneddol yn y gwerthusiad, ac yn ein pobl ifanc a fydd yn rhannu eu profiadau gyda ni, er mwyn i ni ddangos bod y cynllun peilot hwn yn bwriadu helpu rhai o'r plant a'r bobl ifanc mwyaf agored i niwed sy'n dod allan o ofal yr awdurdodau lleol yng Nghymru.

Testun llawenydd mawr a gwirioneddol iawn i mi heddiw yw sefyll yma i gefnogi, unwaith eto, y cynllun peilot incwm sylfaenol. Rwy'n falch iawn o fod yn Aelod o Senedd Cymru sydd wedi cyflwyno'r cynllun peilot incwm sylfaenol hwn nawr, oherwydd fe fydd pobl ledled y DU yn ein gwylio ni, yn gwrando arnom ni, yn edrych arnom ni ac yn gweld ein bod ni'n gwneud gwahaniaeth i'r bobl ifanc hynny. Rwyf i am anghytuno â Joel James pan ddywedodd ef fod hon yn cyfateb i gyfundrefn well o fudd-daliadau. Nid felly, taliad yw hwn sy'n union yr un fath i bob unigolyn ifanc, heb unrhyw ystyriaeth o'i amgylchiadau. Mae yna gliw yn yr enw. Incwm sylfaenol i bob unigolyn ifanc yw hwn, ac felly os gwelwch yn dda, peidiwch â chymysgu hynny, oherwydd nid yw hynny'n rhoi darlun cywir o'r sefyllfa.

Rwy'n cael fy nghalonogi yn fawr gan sawl agwedd ar y cynllun peilot hwn, ond yn arbennig felly'r gwelliannau a welwn ni o ran iechyd meddwl y bobl ifanc hynny. Materion o ran iechyd meddwl yw'r rhai sydd â'r effaith fwyaf ar bobl ifanc â phrofiad gofal yma—cael gafael ar gymorth, ond bod â gallu hefyd i ymdopi â'r holl bwysau sydd arnyn nhw. Fe fu yna lawer o gynlluniau peilot, fel gwyddom ni, ledled y byd. Cynhaliwyd un yn Ontario, fel gwyddoch chi, yn 2018 a arweiniodd at 80 y cant o'r ymatebwyr yn nodi gwell iechyd meddwl a llesiant, 80 y cant yn adrodd am lai o straen a phryder a 73 y cant o leihad yn yr achosion o iselder. Mae hynny ynddo'i hun, i mi, yn werthfawr iawn, heb sôn am unrhyw beth arall. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu gweld y canlyniadau hyn o ran iechyd meddwl i'n pobl ifanc yma yng Nghymru ac yn edrych ymlaen at y cynllun peilot incwm sylfaenol nesaf, rwy'n gobeithio, ar gyfer gweithwyr sy'n pontio, sy'n symud o'n diwydiannau trwm sy'n dibynnu ar garbon i'n diwydiannau gwyrdd. Felly, a wnewch chi wneud sylw ynglŷn â'r manteision hynny o ran iechyd meddwl i'r rhai sy'n gadael gofal a sut yr ydym ni am gynnal y rhain, yn enwedig wrth i'r cynllun peilot ddod i ben, fel clywsom ni? Diolch yn fawr iawn, Llywydd.

15:15

Diolch yn fawr, Jane Dodds, a diolch i chi am y gefnogaeth aruthrol honno unwaith eto. Rydym ni'n cael y fath gefnogaeth gan y mwyafrif helaeth o'r Senedd hon, ac rwy'n gobeithio y bydd y lleill yn newid eu cân. Rwy'n credu bod honna'n gyfres fwy cymedrol o gwestiynau na'r un a gafwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig ynglŷn â hyn heddiw, sy'n arwydd da, Jane Dodds, oherwydd fe fydd hwn yn destun sylw byd-eang, ac mae'n rhaid i ni gofio mai'r hyn sy'n gyrru'r polisi yw cefnogaeth i'r rhai sy'n gadael gofal i bontio mewn ffordd adeiladol o ofal awdurdodau lleol, ac mae'n defnyddio incwm sylfaenol fel modd i gyflawni hynny. Mecanwaith ydyw, yn hytrach na diben i'r rhaglen, gan arwain at y canlyniadau hynny yr ydym ni'n eu gweld eisoes o ran gwella iechyd meddwl, gwella—. Wel, fe wyddom ni y bydd angen i lawer o bobl ifanc allu defnyddio'r gwasanaethau, fel byddai ar unrhyw unigolyn ifanc dan amgylchiadau o unrhyw fath. Ond eisoes, oherwydd yr effaith gadarnhaol a gaiff ar eu bywydau nhw, gan fynd i'r afael mewn gwirionedd—. Yn hyn o beth, yn ôl at y pwynt a ddaeth drwodd—mae hyn yn ataliol, yn golygu ymyrraeth, mae hwn yn fuddsoddiad yn y bobl ifanc hyn i'r dyfodol, o ran eu rhagolygon nhw, a allasai fod mor heriol o ran y profiad o ofal. Felly, bydd y cynllun peilot yn rhoi prawf ar realiti cyflawni ymyrraeth sylfaenol mewn cyd-destun datganoledig. Yn amlwg, nid yw'r pwerau perthnasol i gyd gennym ni o ran budd-daliadau treth a lles, ond fe allwn ni ddysgu o fod yn rhedeg y cynllun incwm sylfaenol nodedig hwn yn llwyddiannus. Yn amlwg, fe fyddwn ni'n aros am y canlyniad cyn cyflwyno cynlluniau pellach, ac rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn—mae'r gwerthusiad yn hollbwysig.

A dim ond ar gyfer dweud wrth gloi, yn amlwg, y Gweinidog newid hinsawdd sy'n arwain y gwaith o ran pontio teg i economi carbon isel, ac rwy'n ddiolchgar iawn am eich awgrymiadau a'ch ymyraethau ynglŷn â'r mater hwn. Ac, mewn gwirionedd, mae sicrhau pontio teg i sero net yn hanfodol, a dyma pam mae angen i ni ddysgu oddi wrtho, ond, wrth gwrs, rhowch ystyriaeth i hyn o ran yr hyn y gallai ei olygu i ni yn y dyfodol o ran ein cynllun peilot incwm sylfaenol. Ac rwy'n credu mai'r fframwaith pontio teg—rwy'n gwybod y byddwch chi'n ymgysylltu â hwnnw o ran ymgynghori.

Rwy'n adleisio llawer o'r hyn a ddywedodd Jane Dodds eisoes. Rwy'n credu, mewn gwirionedd, y cawn ni esiampl arall yn y fan hon o sut y gallwn ni wneud pethau mewn ffordd wahanol yma yng Nghymru, ac rwyf i, yn ogystal â Phlaid Cymru, yn sefyll yn gadarn yn ein cefnogaeth ni i'r cynllun peilot.

Rwy'n meddwl ychydig ymlaen nawr—ac rwy'n gwerthfawrogi'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud nawr, Gweinidog, ond gan feddwl ymlaen—mae Jane wedi sôn eisoes am ymestyn y cynllun peilot o bosibl i weithwyr sy'n gweithio mewn sectorau carbon uchel yr effeithir arnynt o bosibl oherwydd y symudiad i sero net, yn colli eu swyddi o bosibl. Rydych chi'n iawn i dynnu sylw, mewn gwirionedd, at yr angen a fydd i asesu effaith y cynllun peilot hwn nawr yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf, ac fe fydd hi'n cymryd nifer o flynyddoedd cyn i ni weld y canlyniadau llawn. Ond y gwir amdani yw nad oes blynyddoedd gennym ni i symud at sero net a gweithredu pontio teg. Mae Tata Steel wedi dangos hynny i ni. Felly, gan ystyried yr hyn yr oeddech chi'n ei ddweud ynghylch sicrhau bod y darlun llawn gennym ni, a oes unrhyw beth wedi dechrau eto ynghylch sut y gallwn ni ddatblygu hyn, hynny yw, i ble'r awn ni nesaf a phwy fydd nesaf?

Diolch yn fawr. Rwy'n credu mai yng nghamau cynnar y gwerthusiad yr ydym ni, ac, wrth gwrs, hwnnw yw'r cam cyntaf a ran deall yr effaith. Mae'r profiad bywyd gwirioneddol hwnnw'n cael ei rannu â ni yn hyn o beth, ac, yn wir, mae'r tîm gwerthuso a gomisiynwyd yn ôl ym mis Tachwedd wedi gwneud cynnydd da o ran ein gwerthusiad ni, ac fe wnes i sylwadau eisoes ynglŷn â'r gwaith y maen nhw'n ei wneud yn y maes. A'r hyn sy'n bwysig yw ei fod yn werthusiad lle mae cyd-gynhyrchu yn gysylltiedig â hyn gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, ac rydym ni wedi gorfod gweithio i brofi'r dulliau o werthuso gyda'r gymuned academaidd yn fwy eang, ac rydym ni'n symud ymlaen gyda hynny, ar gyfer bod â gwerthusiad cadarn y gallwn ni ei asesu a'i brofi wedyn. Ac yna, wrth gwrs, mater i ni fydd rhoi ystyriaeth o ran y blaenoriaethau, o ran y rhagolygon i'r dyfodol—ym mha le y mae hyn yn gorwedd gyda'n blaenoriaethau ni? Rwy'n credu bod angen edrych ar hyn yn ôl yn y cyd-destun hefyd. Fe ddywedais i mai mecanwaith yw hwn, onid e, o ran edrych ar brofiadau a bywydau ein pobl ifanc â phrofiad o ofal a'r gwaith sydd wedi cael ei wneud, nid yn unig gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, ond y dystiolaeth ddefnyddiol a ddaeth o ymgysylltu â'r pwyllgor hefyd, gyda'ch ymchwiliad chi, dan arweiniad Jayne Bryant ac aelodau'r pwyllgor. Mater i ni, felly, fel rydych chi'n dweud—mae hi'n ardderchog cael eich cefnogaeth ddiysgog chi—fydd ystyried y ffordd ymlaen. Ond gadewch i ni alluogi'r bobl ifanc hyn i ddangos y ffordd i ni.

15:20

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Rwy'n siŵr bod yr Athro Sally Holland a'r tîm ym Mhrifysgol Caerdydd yn ystyried pob mesur metrigau a chostau a chanlyniadau, ond mae rhai o'r canlyniadau hynny, fel llesiant ac iechyd meddwl, sydd wedi'u crybwyll heddiw, yn llawer anoddach eu mesur na, er enghraifft, cyflogaeth. Bydd eraill, fel y dywedwch chi, yn cymryd llawer mwy o amser i gael eu gwireddu. Felly, wrth i'r peilot barhau, rwy'n awyddus i glywed am y straeon personol, ac rydyn ni wedi clywed rhai o'r rheiny heddiw, yn ogystal â gweld y data. Ond yr hyn nad ydw i eisiau'i glywed na'i weld yw'r ymosodiadau gwleidyddol di-chwaeth. Mae ceiswyr lloches sy'n blant ar eu pen eu hunain yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn. Rydyn ni'n sôn am blant yma. Rydyn ni'n sôn am y plant mwyaf difreintiedig. Felly, roedd y straeon Torïaidd anghywir ac anwybodus ar elfen hon y polisi yn warthus, ac ni ddylen nhw cael eu hailadrodd, ac ni ddylen nhw cael eu caniatáu i dynnu oddi wrth yr hyn sy'n gynllun rhagorol, gan roi, fel y cafodd ei grybwyll yma heddiw, hunan-werth a gwerth gwirioneddol i bobl ifanc a phlant a rhoi gwybod iddyn nhw eu bod o bwys i ni.

Diolch yn fawr, Joyce Watson. Rwy'n credu nad oes llawer mwy y gallaf i ei ddweud ond i gymeradwyo hynny, ac i ddweud mewn gwirionedd fy mod i'n gobeithio y bydd y datganiad hwn a'r adroddiad sydd ar ddod, yr adroddiad thematig cyntaf, yn annog yr wrthblaid i ystyried hyn o ddifrif, oherwydd mae wedi bod mor siomedig ein bod ni wedi gweld y Ceidwadwyr Cymreig yn ailadrodd datganiadau anghywir a chamarweiniol ar y mater hwn. Mae wedi siomi pawb sy'n rhan o hyn, gan gynnwys y bobl ifanc eu hunain, na allan nhw weld pam nad yw hyn yn cael ei ystyried yn gyfle, a hefyd cydnabyddiaeth o Lywodraeth yn gwrando ac yn bwrw ymlaen â phethau.

Gadewch i ni orffen. Mae hwn yn gynllun peilot â'r nod o helpu rhai o'r plant a'r bobl ifanc mwyaf agored i niwed sy'n dod i'r amlwg o ofal awdurdodau lleol yng Nghymru. Y bobl ifanc hynny yw'r rhai yr ydyn ni nawr eisiau'u ceisio, i roi'r cyfleoedd hynny, i roi'r hunanhyder hwnnw, yr hunan-barch hwnnw, y mae, mewn gwirionedd, gymaint o'n pobl ifanc rhwng 18 a 25 oed yn eu cymryd yn ganiataol. Diolch yn fawr, Joyce.

5. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Diweddariad ar Gynnydd y Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau

Eitem 5 sydd nesaf. Datganiad gan Weinidog yr Economi ar ddiweddariad ar gynnydd y cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau yw hwn. Felly'r Gweinidog, Vaughan Gething.

Diolch yn fawr, Llywydd. Fe wnes i lansio'r cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau ychydig dros 18 mis yn ôl, ym mis Mawrth 2022. Mae hyn yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer Cymru gryfach, decach a gwyrddach. Yn ein cynllun, gwnaethom osod y nod o helpu pobl ledled Cymru, yn enwedig y rhai pellaf o'r farchnad lafur, i lywio ac ymateb i'r heriau sy'n gysylltiedig â gwaith y byddan nhw'n eu hwynebu trwy gydol eu bywydau, p'un ai yw hynny drwy hyfforddiant, ailhyfforddi, uwchsgilio, newid gyrfa neu ddechrau busnes. Mae hyn yn adlewyrchu'r wir sefyllfa bod cefnogaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau yn canolbwyntio ar bobl sy'n llawer agosach at fod yn barod am swydd. Rydyn ni wedi gwneud dewis bwriadol i ategu a pheidio â chystadlu na gwrthddweud cefnogaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae ein cynllun yn mynd ymhellach na mynd i'r afael â'r angen am sgiliau a hyfforddiant. Mae'n nodi sut y byddwn ni'n cefnogi unigolion gyda phob agwedd ar eu hanghenion cyflogadwyedd, gan gynnwys: chwalu rhwystrau i gyflogaeth; cefnogaeth ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol; a sicrhau bod pobl â nodweddion gwarchodedig yn cael cyfle cyfartal a bod y cymorth cywir ar waith.

Mae cynnydd da wedi'i wneud ar gamau gweithredu sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun yn erbyn cefndir o heriau a fydd yn parhau hyd y gellir rhagweld. Mae'r rhain yn cynnwys: yr adferiad parhaus ar ôl y pandemig; prinder llafur a sgiliau mewn rhai meysydd o'r economi; yr argyfwng costau byw; a cholli dros £1 biliwn o gyllid yr UE, er i Gymru gael addewid na fydden ni'n colli ceiniog o ganlyniad i'r DU yn gadael yr UE. Rydyn ni i gyd yn gwybod bod hwnnw'n addewid nad yw wedi'i gadw.

Fel y gwnaethom ei nodi yr wythnos diwethaf, rydyn ni wedi gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd ynglŷn â'r gyllideb. O ganlyniad, mae'n debygol na fyddwn ni'n gallu cyflawni popeth i'r un raddfa nac uchelgais ag y gwnaethom ei nodi pan wnaethon ni gyhoeddi'r cynllun i ddechrau. Er gwaethaf hyn, mae ein cynnig yn parhau i fod yn gadarn. P'un a ydych chi'n dechrau ar eich taith gyflogaeth, yn chwilio am waith, mewn perygl o golli gwaith neu, yn y pen draw, wedi cael eich diswyddo, mae gennym ni raglenni cymorth effeithiol ar waith i sicrhau na fydd neb yn cael ei adael ar ôl. Er enghraifft, ein rhaglen Cymunedau am Waith+ yw ein hymyriad allweddol o hyd ar gyfer helpu i fynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd. Mae wedi'i hintegreiddio â gwasanaethau'r Ganolfan Byd Gwaith ac yn cael ei chyflwyno mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ledled Cymru i ddarparu cymorth a hyfforddiant personol dwys. Mae ein rhaglen ReAct+ yn agwedd allweddol ar y cymorth sydd ar gael i'r rhai y mae diswyddiadau wedi effeithio arnyn nhw neu'r rhai sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod byr, i'w helpu i ddychwelyd i'r gwaith yn gyflym. Mae ein rhaglenni ReAct+ a Cymunedau am Waith+ yn parhau i fod ar flaen y gad o ran y cynnig cydlynol o gymorth dileu swyddi gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau, gan gefnogi gweithwyr sydd wedi'u dadleoli. Yn fwyaf diweddar, mae hyn wedi bod yn amlwg o ran Tillery Valley Foods a'r sefyllfa barhaus gydag UK Windows & Doors.

Wrth wraidd y flaenoriaeth rydyn ni'n ei rhoi i bobl ifanc mae ein gwarant i bobl ifanc—rhaglen hyblyg sy'n helpu pobl ifanc dan 25 oed i ennill lle mewn addysg neu hyfforddiant, neu gael waith neu fynd yn hunangyflogedig. Yn unigryw i Gymru ac wedi'i lansio ym mis Ebrill 2022, mae Twf Swyddi Cymru+ yn rhan o'r ymrwymiad hwn yn y rhaglen lywodraethu. Mae'n gyfle cyffrous i bobl ifanc yng Nghymru, gyda hyfforddiant a datblygiad arbenigol i'w helpu i fynd i addysg bellach neu uwch neu gyflogaeth. Rydyn ni'n gweithio'n barhaus gyda'r rhanddeiliaid allweddol sy'n ymwneud â Twf Swyddi Cymru+ i fynd i'r afael â materion ac ymgorffori gwelliannau i hyrwyddo ac i wella'r gwasanaeth hwn ac i ymateb i heriau economaidd sy'n datblygu.

Rydyn ni wedi gweld cyflawniadau gwych i bobl ifanc o ran rhagoriaeth mewn addysg a sgiliau galwedigaethol. Mae ein dull Cymru ar y Cyd o ymdrin â sgiliau a rhagoriaeth alwedigaethol wedi arwain at lwyddiant a medalau mewn cystadlaethau sgiliau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae Cymru'n parhau i gyflawni'n well na'r disgwyl, gan ddarparu chwarter y cystadleuwyr ar gyfer rowndiau terfynol y DU sydd ar ddod. Dyna'r rhan o'r DU sy'n perfformio orau, felly yr ydyn ni wedi bod yn ystod y pum mlynedd diwethaf. 

Ein nod yw sicrhau bod ein rhaglenni cyflogadwyedd yn parhau i weithredu yn yr amodau heriol hyn, yn parhau i fod yn addas at y diben, yn addas ar gyfer y dyfodol ac yn addas ar gyfer pontio'r economi ac anghenion y farchnad lafur. Ar y sail honno rydyn ni wedi dechrau gweithio ar adolygiad sylfaenol o sut mae ein rhaglenni cyflogadwyedd allweddol—Twf Swyddi Cymru+, Cymunedau am Waith+ a ReAct+—yn gweithio gyda'i gilydd.

Rydym wedi ymrwymo i hybu swyddi da ac, yn fwyaf diweddar, rydyn ni wedi darparu £2 filiwn o gyllid i gefnogi creu 1,000 o swyddi newydd yng Nghaerdydd gan y cwmni gwasanaethau proffesiynol PwC. Mae ein cefnogaeth yn seiliedig ar ddarparu symudedd cymdeithasol ym meysydd recriwtio a dilyniant.

Llywydd, rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd, gan greu Cymru fwy cyfartal a chymdeithas sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial, waeth beth fo'u cefndir neu'u hamgylchiadau. I wneud hynny, rwyf i eisiau helpu i greu gweithlu cynhwysol sy'n adlewyrchu cymdeithas a'n cymunedau. Nod hyrwyddo gwaith teg i bawb yw sicrhau bod gweithwyr yn cael eu gwobrwyo, eu clywed a'u cynrychioli'n deg, yn ddiogel ac yn gallu camu ymlaen mewn amgylchedd gwaith iach, cynhwysol lle y caiff hawliau eu parchu. Mae canllaw gwaith teg wedi'i gyhoeddi, sy'n ceisio gwella dealltwriaeth o waith teg, ac yn darparu enghreifftiau darluniadol o'r camau y gallai cyflogwyr eu cymryd.

Mae ein hyrwyddwyr cyflogaeth i bobl anabl yn parhau i sefydlu cysylltiadau â chyflogwyr, rhwydweithiau cyflogwyr a Busnes Cymru i ddylanwadu ar arferion recriwtio ac i chwilio am gyfleoedd mwy cydweithredol a'u hwyluso, gyda'r nod o wella lefelau cyflogaeth i bobl anabl.

Rydyn ni'n parhau i fuddsoddi mewn cymorth cyflogaeth i helpu pobl sy'n gwella ar ôl salwch corfforol a meddyliol a chamddefnyddio sylweddau i fynd i mewn i waith ac i aros ynddo. Bydd y gwasanaeth mentora cymheiriaid di-waith yn cefnogi hyd at 10,500 o bobl erbyn mis Mawrth 2025, i'w helpu i ailadeiladu eu bywydau ac i fynd yn ôl i hyfforddiant, addysg a chyflogaeth. 

Rwy'n cydnabod rôl cyflogaeth fel penderfynydd ehangach llesiant meddyliol. Rwy'n awyddus ein bod ni'n parhau i feithrin cysylltiadau cryf rhwng y cynllun cyflogadwyedd a sgiliau a'r strategaeth iechyd meddwl newydd, a fydd yn cael ei chyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad yn ddiweddarach eleni gan y Dirprwy Weinidog.

Llywydd, rydyn ni hefyd yn meithrin diwylliant 'dysgu i fyw'. Fel y gwyddom, mae amseroedd yn newid ac mae poblogaeth Cymru yn parhau i heneiddio'n gyflym. Wrth i'r boblogaeth gyffredinol heneiddio, mae ein gweithlu'n dilyn. Mae gennym ni fwy o weithwyr 50 oed a hŷn yng Nghymru nag erioed o'r blaen. Mae Cymru'n Gweithio, ein cynnig adolygu gyrfa canol oes am ddim, yn cydnabod y galw presennol hwn, ac mae cynghorwyr gyrfaoedd yn darparu arweiniad gyrfa i'r rhai mewn cyflogaeth, yn ogystal â'r rhai sy'n ddi-waith. Rhwng mis Ebrill a mis Awst eleni, cefnogodd Cymru'n Gweithio dros 2,300 o oedolion dros 50 oed, gyda thros 5,600 o ryngweithiadau un-i-un â chynghorydd gyrfaoedd.

O ran dysgu gydol oes, yn gynharach eleni, gwnaethon ni gyhoeddi ein cynllun gweithredu sgiliau sero net, ac, ar 12 Hydref, fe wnes i lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar ofynion sgiliau sector ar draws ein hwyth sector allyriadau allweddol.

Llywydd, fel y nodais, rydyn ni wedi gwneud cynnydd da ym mhob un o'n blaenoriaethau strategol ar draws y cynllun. Fodd bynnag, rydyn ni'n parhau i wynebu rhai heriau sylweddol o ran colli cyllid yr UE, amodau cyllideb heriol iawn ac effeithiau negyddol parhaus y pandemig ar ein gweithlu. Er gwaethaf yr heriau hyn sydd o'n blaenau, rydyn ni'n parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i adeiladu Cymru gryfach, wyrddach a thecach.

15:30

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Nawr, mae'r datganiad heddiw yn tynnu sylw at rai o'r heriau economaidd y mae'r wlad yn eu hwynebu ar hyn o bryd, er enghraifft, y pwysau costau byw. A dyna pam ei bod yn bwysicach nag erioed bod y cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau yn dangos tystiolaeth ei fod yn gwneud cynnydd ym mhob un o'r meysydd blaenoriaeth strategol yn y cynllun. Nod cyffredinol y cynllun yw bod 75 y cant o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru yn gymwys i lefel 3 neu uwch erbyn 2050, ac y bydd canran yr oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau yn 5 y cant neu'n is ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050. A byddwn i'n gwerthfawrogi asesiad y Gweinidog o ble rydym arni ar hyn o bryd, ac a yw'n credu bod y targedau hynny yn dal i fod yn gyraeddadwy. 

Nawr, rwy'n falch bod y datganiad heddiw wedi tynnu sylw at y rhaglen ReAct+, sydd â rôl bwysig wrth gefnogi'r rhai y mae diswyddiadau wedi effeithio arnyn nhw neu'r rhai sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod byr i ddychwelyd i'r gwaith yn gyflym. Mae'n hanfodol bod cynlluniau fel hyn yn cael eu hariannu'n ddigonol, ac, o ystyried bod y Gweinidog wedi'i wneud yn glir bod rhai penderfyniadau anodd wedi'u gwneud o ran y gyllideb, efallai y gallai ddweud mwy wrthyn ni am ble y bydd y toriadau hynny yn digwydd nawr.

Mae'r datganiad heddiw yn dweud bod y gwarant i bobl ifanc wrth wraidd y flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i bobl ifanc, ond nid oes sôn am y cynnig prentisiaethau a'r rôl y bydd prentisiaethau yn ei chwarae wrth gyflawni'r agenda sgiliau. Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru wedi dweud bod mwy na chwarter o fusnesau Cymru yn ystyried bod prentisiaethau yn well nag unrhyw gymhwyster arall, ac rydyn ni'n gwybod eu bod yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu talent yn y dyfodol. Mae buddsoddiad mewn prentisiaethau wedi cael ei groesawu yn y gorffennol, ac efallai y gall y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthyn ni am unrhyw gynlluniau i gynyddu nifer y prentisiaethau sydd ar gael, a'r angen i sicrhau bod y prentisiaethau hynny'n hyblyg i ddarparu ar gyfer y dirwedd swyddi sy'n newid. 

Nawr, rwy'n falch bod y datganiad heddiw yn tynnu sylw at addysg alwedigaethol. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r adolygiad diweddar o gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru, sy'n gwneud rhai argymhellion pwysig iawn i Lywodraeth Cymru, fel datblygu strategaeth genedlaethol ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol. Argymhellodd hefyd y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu gwaith i ddiffinio'r galw cenedlaethol am anghenion galwedigaethol a sgiliau yng Nghymru yn y dyfodol, ac rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y mae angen ei wneud ar frys. Felly, efallai y gall y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau y mae wedi'u cael, yn wir, gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg am yr adroddiad hwn a dweud ychydig mwy wrthyn ni am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu cyfleoedd sgiliau galwedigaethol yma yng Nghymru. 

Nawr, mae'r datganiad yn cyfeirio at fynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd, ac mae Llywodraeth Cymru wedi siarad am archwilio deddfwriaeth i fynd i'r afael â bylchau cyflog yn seiliedig ar rywedd, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd, anabledd a mathau eraill o wahaniaethu. Byddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog gadarnhau a yw hynny'n dal i gael ei ystyried.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ysgogi newidiadau i ddiwylliant gwaith Cymru, fel bod o leiaf 30 y cant o weithwyr Cymru yn gweithio gartref neu'n agos at adref. Rwy'n gwerthfawrogi y gall hyn roi'r dewis i fwy o bobl weithio mewn ffordd sy'n helpu eu cynhyrchiant, eu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac unrhyw ymrwymiadau gofalu sydd ganddyn nhw, ond ychydig iawn o waith asesu sydd wedi bod o'r effaith y mae gweithio gartref yn ei chael ar iechyd meddwl pobl, yn ogystal ag ar y manteision economaidd ehangach sy'n cael eu colli pan nad yw pobl yn gweithio o'u gweithle. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog gadarnhau a yw'n dal i fod yn bolisi Llywodraeth Cymru i wthio i sicrhau bod o leiaf 30 y cant o'r gweithlu yn gweithio gartref. Os felly, efallai y gallai ddweud wrthyn ni a yw Llywodraeth Cymru yn cyrraedd y targed hwnnw, ac efallai y gall hefyd ddweud wrthyn ni pa waith sydd wedi'i wneud ac sy'n cael ei wneud i ddeall effaith economaidd newid diwylliant gwaith Cymru.

Mae mwy y gallwn ni ei wneud hefyd i gefnogi pobl sydd â chyflwr iechyd hirdymor i weithio. Ac rwy'n gwybod, yn y cynllun hwn, fod Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu datblygu gweithleoedd iach, er enghraifft. Efallai y gallai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ehangu mynediad cyflym at gymorth therapi galwedigaethol yn y gweithle. Byddai'n ddefnyddiol gwybod pa fuddsoddiad ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn y maes hwn a pha gymorth sy'n cael ei gynnig i gyflogwyr ar sut i gefnogi pobl anabl a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor yn y gweithle.

Mae'r datganiad heddiw hefyd yn atgyfnerthu pwysigrwydd dysgu am oes, ac rwy'n cefnogi'n fawr yr adolygiadau gyrfa canol oes, sy'n annog gweithwyr 50 oed a hŷn i feddwl yn rhagweithiol am ddatblygu gyrfa a sgiliau, iechyd a lles, cyllid a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith drwy Cymru'n Gweithio. Efallai y gall y Gweinidog ddweud mwy wrthyn ni am y gwaith hwn a hefyd unrhyw gamau i ehangu cyfranogiad mewn dysgu yn y gweithle.

Ac yn olaf, Llywydd, mae'r ffordd yr ydyn ni'n byw ac yn gweithio yn newid. Mae digideiddio ac awtomeiddio yn trawsnewid ein bywydau, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i gynnal dadansoddiad o effeithiau digideiddio ac awtomeiddio ar economi Cymru. Ac o ystyried nad yw'n cael ei grybwyll yn y datganiad heddiw, efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthyn ni sut mae Llywodraeth Cymru yn archwilio effaith digideiddio ac awtomeiddio ar economi Cymru, a sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i hyrwyddo cyfleoedd hyfforddi a datblygu i weithwyr, fel bod sgiliau'n cael eu datblygu i ategu technolegau sy'n dod i'r amlwg fel y rhain.

Felly, Llywydd, gyda hynny, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw? Rwy'n edrych ymlaen at barhau i graffu ar Lywodraeth Cymru ar yr agenda hon yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

15:35

Diolch am y rhestr hir o gwestiynau—byddaf i'n ceisio ateb cynifer ohonyn nhw ag y gallaf heb drethu amynedd y Llywydd.

Edrychwch, rwy'n credu mai man cychwyn hyn yw, ar ôl nodi'r hyn yr ydyn ni eisiau'i wneud, rydyn ni wedi cael amrywiaeth o ergydion gwahanol, yr wyf wedi'u nodi. Fe geisiais i nodi'n onest y bydd yn effeithio ar y raddfa a pha mor bell y gallwn ni gyrraedd, ond rydyn ni'n dal i geisio gwneud yr hyn a nodwyd gennym, sef sicrhau bod gennym ni gynnig mwy cydlynol, sydd wedi'i dargedu'n fwriadol at bobl ymhellach i ffwrdd o'r farchnad lafur, oherwydd lle mae'r Adran Gwaith a Phensiynau, drwy'r Ganolfan Byd Gwaith, yn llawer mwy gweithredol. Rydyn ni'n parhau i gael sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU, yn sicr ar lefel swyddogion, sy'n aml yn adeiladol, o ran sut mae'r pethau hynny'n cyd-fynd. Ac mewn gwirionedd, mae'r ffaith fy mod i wedi crybwyll yn y datganiad yr hyn yr ydyn ni wedi'i wneud gyda Tillery Valley Foods a'r sefyllfa barhaus gydag UK Windows & Doors yn enghraifft dda o ble y gall yr ymyriadau hynny weithio'n dda gyda'i gilydd. Ac mae'r hyn y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn ei wneud, mewn gwirionedd, yn dibynnu ar ac yn ystyried yr hyn yr ydyn ni'n ei wneud drwy'r rhaglenni hyn hefyd, drwyddi draw. Bydd gennym ni fwy o ffigurau o ran y cymwysterau a gyflawnwyd trwy weddill y flwyddyn hon, ac rwy'n fwy na pharod i ddod yn ôl at yr Aelod. Ac yn amlwg, ar ryw adeg, bydd hyn yn dod yn ôl at y pwyllgor y mae e'n ei gadeirio, pan nad yw yn ei rôl llefarydd gwleidyddol, hefyd.

O ran strategaeth y gyllideb, ni fydd yn syndod i'r Aelod, y tu hwnt i'r hyn rydym wedi'i nodi'n gyffredinol, ein bod ni'n mynd trwy strategaeth cyllideb y flwyddyn nesaf, a bydd cyllideb yn cael ei gosod ym mis Rhagfyr gan Lywodraeth Cymru a bydd honno'n nodi'r manylion o ran yr hyn y byddwn ni'n gallu'i wneud gyda'r realiti bod ein cyllideb yn werth cryn dipyn yn llai na phan gafodd yr adolygiad o wariant ei gyhoeddi. Mae hynny'n cael ei erydu'n sylweddol gan yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Felly, bydd dewisiadau anodd i'w gwneud, ac nid oes unrhyw ffordd o wneud y dewisiadau hynny heb ganlyniadau. Bydd gan yr Aelod ddiddordeb, ond, mewn gwirionedd, bydd gennym ni swm o arian i'w wario na allwn ni ei wario sawl gwaith drosodd. Felly, yn ogystal â sicrhau ein bod yn mantoli'r gyllideb, bydd yn rhaid i ni allu nodi rhai o'r blaenoriaethau hynny. Ac o fewn hynny, mae'n debyg ei bod yn werth nodi nawr fy mod i'n parhau i drafod materion gyda'r Gweinidog addysg. Mae'n debyg ei fod yn beth da ei fod yn y Siambr oherwydd rwy'n siŵr y cawn ni gwestiynau penodol gan Dr David am ei adroddiad a materion eraill, ond mewn gwirionedd—[Torri ar draws.]  O, wel. Ond, ar amrywiaeth o'r meysydd hyn, rwyf wedi cael trafodaeth yr wythnos hon â'r Gweinidog addysg am feysydd ein portffolios sy'n gorgyffwrdd, am realiti y dewisiadau anodd y mae'n rhaid i'r ddau ohonon ni eu gwneud o ran y gyllideb, er mwyn sicrhau eu bod mor gydlynol â phosibl. Ond rydyn ni dal eisiau ei gwneud yn glir bod y cynnig sgiliau galwedigaethol yn rhan allweddol o'r hyn yr ydyn ni'n ei wneud yn y dyfodol, a sut y bydd y comisiwn newydd yn ymgymryd â rôl yn hyn o beth hefyd. Felly, mae yna waith parhaus yr ydyn ni'n ei wneud, ac, mewn gwirionedd, mae'r adolygiad yr wyf wedi cyfeirio ato, ar y ffordd y mae'r rhaglenni gwahanol sydd gennym yn cydweithio, yn rhan o weld y pos ehangach hwnnw'n dod at ei gilydd.

O ran prentisiaethau, rydyn ni wedi gweld gostyngiad yn y galw, ac efallai nad yw hynny'n syndod, o ystyried yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Felly, mae mwy o fusnesau'n poeni am eu dyfodol, mae mwy o fusnesau, felly, yn bryderus am fuddsoddi yn eu gweithlu eu hunain, er gwaethaf y ffaith ei fod yn hunanwelliant; mae angen iddyn nhw fuddsoddi yn sgiliau eu gweithlu presennol yn ogystal â'r bobl newydd hynny sy'n dod i mewn. Ond rydyn ni hefyd wedi gweld rhywfaint o dystiolaeth bod rhai pobl ifancach yn ailfeddwl a ydyn nhw eisiau ymroi i brentisiaeth i gael y fantais a ddaw yn y tymor hwy, ond, mewn gwirionedd, a allan nhw elwa mwy o fynd i mewn i waith cyflogedig, yn hytrach na mynd i gyfradd prentisiaeth. Felly, rydyn ni wedi gweld y galw hwnnw'n lleihau, ond mewn gwirionedd rwy'n hyderus, yn ystod y flwyddyn nesaf, o'r trafodaethau rwyf wedi'u cael, ac mae fy swyddogion wedi'u cael, gyda darparwyr prentisiaethau a'r sector ehangach, y byddwn ni'n dechrau gweld cynnydd unwaith eto yn nifer y prentisiaethau. Ac rydyn ni'n awyddus i wneud hynny; rwy'n hyderus y byddwn ni'n gweld mwy o brentisiaethau yn dechrau yn nhymor y Senedd hon na'r un blaenorol. Rydyn ni'n dal yn mynd i orfod cydbwyso sut yr ydyn ni'n gweld y rheiny ochr yn ochr ag ymyriadau sgiliau eraill y mae busnesau eu hunain wedi dweud eu bod nhw eu heisiau—felly, y cyrsiau tymor byrrach nad ydyn nhw'n cyfrif mewn gwirionedd ar gyfer prentisiaethau tymor llawn.

Byddaf yn ymdrin â'ch pwynt am risgiau a chyfleoedd digidol ac yna gweithio gartref. Felly, risgiau a chyfleoedd digidol—mae'n risg allweddol ac yn gyfle wrth bontio o ble mae pobl nawr ar draws pob maes o'r economi a gwasanaethau cyhoeddus. Mae cyfleoedd i wella dyluniad a ffit y gwasanaethau hynny, ar gyfer gweithwyr ac ar gyfer y cyhoedd sy'n dibynnu arnyn nhw. Mae'r un peth yn wir yn y sector preifat hefyd. Os meddyliwch chi am weithgynhyrchu, mwy o ddigideiddio, y defnydd cyfan o fwy o dechnoleg, y sgyrsiau rwyf wedi'u cael yr wythnos hon gyda Llywodraeth y DU am rôl deallusrwydd artiffisial, mae yna gyfleoedd gwirioneddol yno ac mae yna risgiau sy'n cyd-fynd â hynny. Ond rwy'n siŵr, pan fydd yr Aelod yn ymweld â busnesau sydd â budd gweithgynhyrchu, y bydd yn gweld mwy a mwy o bobl yn gweithio ochr yn ochr â lefelau uwch o awtomeiddio, ac mae lefel sgiliau pobl yn y lleoliadau hynny mewn gwirionedd yn uchel iawn. Felly, mae dal angen buddsoddi yn sgiliau gweithwyr, ac mae disgwyliadau cyflog dealladwy wrth i hynny ddigwydd, ochr yn ochr â'r broses gynyddol o fwy o dechnoleg ac awtomeiddio. A dim ond parhau fydd hynny, ond rwy'n dal i feddwl bod gyrfa dda iawn a rhagolygon da ar gyfer gweithgynhyrchu gwerth uchel. Byddwn ni'n dal i weld rhai pethau lle mae angen i bobl roi rhai pethau at ei gilydd yn ffisegol, ond, mewn gwirionedd, o ran gweithgynhyrchu gwerth uchel yn y gogledd, y de, y dwyrain a'r gorllewin, mae dyfodol da o'n blaenau, rwy'n credu. Ac eto, mae cyfleoedd digidol yn rhan o hynny, ond nid yr unig beth. Mae ailgynllunio gwasanaethau mewn ffordd wahanol yn un o'r cyfleoedd mawr sy'n deillio ohono. 

Ac o ran gweithio gartref, rydyn ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i weld tua 30 y cant o bobl yn gweithio gartref yn rheolaidd. Mewn gwirionedd, rydych chi wedi gweld yn ystod y pandemig duedd o ran cymysgedd o weithio a oedd eisoes yn digwydd yn cyflymu. Ni all pawb weithio gartref yn eu swydd, ond, i'r rhai sy'n gallu, oherwydd bod pobl wedi cael eu gorfodi i weithio gartref yn ystod y pandemig, rydyn ni wedi gweld nifer o bethau y mae busnesau eisiau'u cadw o hynny. Mae rhai pobl yn awyddus i gael pobl yn ôl yn y gwaith yn llawnamser, mae eraill yn gweld y cydbwysedd rhwng gweithio hybrid—rhai yn y swyddfa, rhai y tu allan i'r swyddfa, fel arfer—ac, mewn gwirionedd, mae galw yn cael ei ysgogi gan y ddau fusnes, oherwydd rhai o'r pwyntiau yr ydych chi wedi sôn amdanyn nhw o ran rhai gwelliannau mewn cynhyrchiant. I rai pobl, mae'n eu helpu nhw'n well i gydbwyso eu bywyd y tu allan i'r gwaith gyda'r gwaith y tu mewn iddo, a hefyd i rai pobl mae'n gwella eu hiechyd meddwl a'u gallu i gydbwyso amrywiaeth o faterion eraill hefyd. Ond nid yw gweithio gartref yn ddelfrydol i bob person, oherwydd bydd yr amgylchiadau yn ein cartrefi'n wahanol, o'r gallu i weithio yno a heriau ac ymrwymiadau eraill o'i gwmpas. Felly, mae hyn yn rhywbeth lle bydd yr amcan eang, rwy'n credu, yn rhoi cyfleoedd economaidd gwahanol—os oes gennych chi fwy o bobl yn gweithio gartref, mae mwy o weithgarwch economaidd yn debygol o ddigwydd yn agos at lle maen nhw'n byw, yn hytrach na lle maen nhw'n gweithio—ac, ar yr un pryd, deall wedyn gwerth bwriadol gweithgaredd wyneb yn wyneb pan fydd yn digwydd—. Ac rwy'n credu bod y rheiny'n dal i fod yn bethau yr ydyn ni, yn y Llywodraeth, yn gweithio arnyn nhw, fel y mae sectorau o'r economi. Ond nid wyf yn credu y bydd y cloc yn cael ei droi'n ôl ac y bydd disgwyl i bawb fynd i mewn i'r swyddfa am gyhyd â phosibl, ac rwy'n credu y bydd gennym ni fyd gwaith gwell o ganlyniad i hynny. 

15:40

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw. 

Wrth gwrs, does dim dwywaith amdani: mae'n siomedig bod y Llywodraeth yn rhagweld na fyddan nhw'n gallu cyflawni eu huchelgais yn llawn. Ac, i fod yn deg hefyd, does dim dwywaith ei fod yn siomedig i'r Gweinidog. Rwy'n dychmygu nad dyma'r hyn y byddech chi wedi dymuno dod i'r Siambr i'w ddweud heddiw. Ond, wrth gwrs, mae'n arbennig o siomedig gan fod Cymru eisoes wedi bod ar ei hôl hi o ran sgiliau a chyflogadwyedd.

Yn 2022, roedd gan 66.8 y cant o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru gymwysterau lefel 3 o leiaf. Mae hynny'n is na'r Alban, lle'r oedd y ffigur yn 74.4 y cant. Mae hefyd yn werth nodi bod adroddiad baromedr busnes diweddaraf y Brifysgol Agored, sy'n asesu tirwedd sgiliau'r DU, wedi canfod bod 75 y cant o sefydliadau yng Nghymru yn wynebu prinder sgiliau ar hyn o bryd—y gyfran uchaf yn y DU. O ganlyniad, nid yw 43 y cant o sefydliadau yng Nghymru yn gallu llenwi rolau oherwydd y prinder sgiliau yng Nghymru. 

Nawr, wrth gwrs, diolch i'r cytundeb cydweithio, ym mis Gorffennaf 2023, cyhoeddwyd adroddiad a oedd yn edrych ar gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru a ganfu, dros y pum mlynedd diwethaf, fod nifer y dysgwyr sy'n dechrau cymwysterau galwedigaethol wedi gostwng. Yn bryderus, canfu hefyd nad oes gan Gymru strategaeth gyffredinol ar gyfer dysgu ôl-16 ac nad oes gan Gymru asesiad clir o'n hanghenion galwedigaethol a sgiliau cenedlaethol ar gyfer y dyfodol.

Fel y cadarnhawyd yn ystod y diweddariad ariannol yr wythnos diwethaf, rydym hefyd yn gwybod y bydd y gyllideb ar gyfer rhaglenni prentisiaeth yn cael ei lleihau £17.5 miliwn yng nghanol y flwyddyn ariannol bresennol. Mae'r arbediad hwn wedi'i gyfiawnhau ar y sail bod y rhaglenni'n cael eu harwain gan alw. Ond rwy'n credu bod hyn yn codi cwestiwn difrifol ynghylch pam nad oedd mwy o bobl yn manteisio arnyn nhw, o ystyried y sefyllfa yr ydym yn cael ein hunain ynddi. Byddwn yn ddiolchgar iawn, felly, pe gallai'r Gweinidog esbonio pam mae toriadau o'r fath i'r rhaglenni prentisiaeth os ydym am annog pobl i fanteisio arnyn nhw yn y tymor hir.

Dylai hyn hefyd, rwy'n credu, gael ei gyd-destunoli yn erbyn targed Llafur Cymru i greu 125,000 o brentisiaethau i bobl o bob oed o fewn tymor presennol y Senedd; targed i'w groesawu. Ond mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 33,365 o brentisiaethau wedi dechrau ers gosod y targed, gyda'r mesur dan sylw hefyd yn cael ei addasu'n ddiweddar i gynnwys prentisiaethau gradd o fewn cyfanswm y ffigur. Dros hanner ffordd drwy dymor presennol y Senedd, dim ond chwarter targedau Llafur Cymru sydd wedi'u cyrraedd, hyd yn oed gyda'r defnydd o feini prawf mwy hyblyg ar gyfer diffinio prentisiaethau i bobl o bob oed. Yn amlwg, mae angen i brentisiaethau gael eu creu yn llawer cyflymach, ymhell y tu hwnt i'r gyfradd yr ydym wedi'i gweld hyd yn hyn y tymor hwn, er mwyn cyrraedd y targed o fewn y ddwy flynedd a hanner nesaf. Ac wrth gwrs, nid yw'r datganiad yn rhoi unrhyw sicrwydd y bydd hyn yn digwydd. Rwy'n ei chael hi'n anodd gweld sut y gallwn ni ddweud ar y naill law bod cynnig Llywodraeth Cymru yn ddiwyro pan eu bod yn torri cyllid ar y llaw arall, ac yna wrth gwrs mae casgliadau eithaf damniol yr adroddiad ar gymwysterau galwedigaethol. Gweinidog, a ydych chi'n dal i gredu bod addewid maniffesto eich plaid ar brentisiaethau yn gyraeddadwy ac, os felly, a allech chi egluro sut rydych chi'n mynd i wneud hynny, o ystyried eich datganiad heddiw?

O ran Twf Swyddi Cymru yn benodol, mae nifer o sefydliadau wedi codi pryderon am ei chynaliadwyedd o ran mwy o restrau aros a phwysau cyllidebol. Mae Twf Swyddi Cymru, wrth gwrs, yn chwarae rhan bwysig o ran cyflogadwyedd a sgiliau, ond, unwaith eto, rydym wedi gweld toriad i'w chyllideb ym mlwyddyn 2. Yn anecdotaidd, rydym wedi clywed bod rhai ardaloedd awdurdodau lleol wedi gwario eu cyllideb lawn mewn tri mis. Rydym hefyd wedi clywed bod rhestrau aros yn cynyddu. Ym Merthyr, rwyf wedi cael cadarnhad heddiw bod y rhestr aros bellach yn 24. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog roi ei resymeg dros doriad i gyllideb Twf Swyddi Cymru, ac a allai hefyd roi'r ffigur ar gyfer faint o bobl ifanc ledled Cymru sy'n aros i gael mynediad at Twf Swyddi Cymru? Os na wnawn ni gymryd rheolaeth o hyn nawr, yna bydd costau tymor hir y bobl ifanc hyn sy'n parhau i fod yn ddi-waith yn llawer gwaeth, nid yn unig ar gyfer cyllideb y Llywodraeth, ond i'r unigolion hynny eu hunain. 

Ac, yn olaf, ni fydd yn syndod i unrhyw un fy mod i'n dychwelyd unwaith eto at gadw myfyrwyr mewn addysg, ac rwyf wedi cofnodi fy niolch i'r Llywodraeth a'r Gweinidog addysg am gynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg. Mae'n gam i'r cyfeiriad cywir ac yn rhywbeth sydd eisoes yn helpu myfyrwyr sy'n ei dderbyn. Wrth gwrs, ni fydd y lwfans yn unig yn ddigon i gadw pobl ifanc rhag gadael addysg i weithio, ond un peth sydd wedi fy nharo i yw'r diffyg data ynghylch cadw myfyrwyr. Ac, wrth gwrs, Gweinidog, rydych chi'n iawn bod cwestiwn yn ymwneud â'r Gweinidog addysg yma, ond o ystyried y croesiad clir rhwng eich adran chi ac adran y Gweinidog addysg, pa waith sy'n cael ei wneud, yn gyntaf, i sicrhau ein bod yn casglu'r data ynghylch cadw myfyrwyr mewn ffordd unffurf, ac yn ail, a oes unrhyw waith yn cael ei wneud i ddeall y rhesymau pam mae pobl ifanc yn gadael addysg? Gyda fy ymgyrch i gynyddu'r lwfans, ym mhob sesiwn a wnaethom gyda myfyrwyr ac rydyn ni'n ei wneud gyda myfyrwyr, ym mron pob panel, mae pob myfyriwr yn codi ei law i'r cwestiwn, 'Ydych chi'n adnabod unrhyw un sy'n ystyried gadael addysg i gael swydd, neu a ydych chi wedi ystyried gadael eich hun?' Roedd angen i ni fynd i'r afael â hyn ddoe, ac rwy'n gobeithio bod y Llywodraeth yn cymryd fforddiadwyedd addysg o ddifrif, oherwydd os na wnawn ni hynny, yna bydd bwlch sgiliau o hyd a bydd materion yn parhau ynghylch cyflogadwyedd.

15:50

Diolch. Rwy'n credu ein bod ni wedi ailadrodd rhai o'r cwestiynau hynny ar fwy nag un achlysur. O ran cefnogi pobl i gwblhau cyrsiau addysg a hyfforddiant, rydym, fel y mae'r Aelod yn ei gydnabod, wedi darparu cymorth uniongyrchol ychwanegol. Mae'n gynnig mwy hael na mewn rhannau eraill o'r DU i geisio gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu aros mewn addysg a chael budd ohono. Rydym hefyd wedi darparu cymorth ychwanegol drwy raglen Twf Swyddi Cymru+, i sicrhau bod pobl yn cael cymorth gyda chostau, i wneud yn siŵr eu bod yn gallu cwblhau'r cwrs a chael budd ohono. A'r newyddion da, mewn gwirionedd, yw bod Twf Swyddi Cymru+ yn llwyddiant; mae'n llwyddiant o ran canlyniadau cadarnhaol i bobl sy'n manteisio arni. Dyna hefyd pam rydyn ni'n gweld nifer o bobl yn edrych i fynd ar y cwrs. Ar gyfer rhywbeth a gafodd ei ail-lansio'n gymharol ddiweddar, ac rydym wedi'i newid yn fwriadol yn dilyn adborth gan ddarparwyr a chan bobl sy'n cymryd rhan yn Twf Swyddi Cymru+ hefyd, yr her bob amser yw sut y gallwn barhau i ehangu'r ddarpariaeth yn ddibynadwy i ddiwallu anghenion a galw. Dyna un o'n heriau: mewn rhaglen a arweinir gan alw, sut rydym yn parhau i wneud hynny.

Rwyf wedi cael sgwrs yr wythnos hon, fel mae'n digwydd, gyda fy swyddogion, ynghylch y ffaith bod nifer o fentrau Twf Swyddi Cymru+ bron yn llawn. Felly, rwy'n edrych ar ba hyblygrwydd sydd gennym, gan gofio realiti'r gyllideb y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag ef. Roedd gan fy adran i, yn yr un modd ag adrannau eraill, ran i'w chwarae wrth gyflawni amcanion cyffredinol y Llywodraeth o ran gallu rhoi mwy o adnoddau i mewn i wasanaethau cyhoeddus allweddol. A phe baem yn cael dadl wahanol, gyda Gweinidog gwahanol, byddai cwestiwn gwahanol ynghylch pam na ellid gwneud hyd yn oed mwy. Wel, dyma'r realiti o sut beth yw gwneud rhywbeth fel hynny yn ystod y flwyddyn.

Mae yna nifer o resymau am hynny. Gwyddom am effaith sylweddol chwyddiant, codiadau cyflog heb eu hariannu yn yr ystyr pan fydd cytundeb ar ledled y DU neu gytundeb Cymru-a-Lloegr, fel arfer mae gennych chi arian sy'n dod gydag ef, ond nid yw hynny wedi digwydd, a'r camreoli economaidd ehangach yn—. Mae blwyddyn wedi mynd heibio'n ddiweddar ers i Rishi gymryd yr awenau, ond yn ystod y flwyddyn honno a'r anhrefn a welwyd cyn iddo gyrraedd Stryd Downing, mae yna effaith wirioneddol o hyd ar yr hyn yr ydym yn delio ag ef yma. Mae'r her cyllideb yn ystod y flwyddyn yn golygu na allwch chi fod mor strategol ag yr hoffech chi fod; lle mae arbedion i'w gwneud a lle gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw sy'n helpu i yrru llawer o'r dewisiadau sydd gennym wedyn.

Yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, y trafodaethau yr ydym eisoes yn eu cael, dylem allu cymryd ymagwedd fwy strategol, ond bydd dewisiadau anodd iawn i ni eu gwneud o hyd ac ni fyddwn yn gallu bodloni holl ddisgwyliadau dilys Gweinidogion, heb sôn am Aelodau meinciau cefn y Llywodraeth neu Aelodau eraill yn y Siambr hon a thu hwnt. Ond bydd yn rhaid i ni nodi'r dull gorau posibl, nid dim ond ar gyfer y pethau na allwn eu gwneud, ond i fod yn glir ynghylch pam rydym wedi dewis parhau i wneud nifer o bethau eraill yn fwriadol. Mae hynny'n cynnwys yr hyn rydyn ni'n mynd i barhau i'w wneud o ran maes ehangach prentisiaethau a sgiliau.

Rhan o hyn, fel y dywedais mewn ymateb i Paul Davies, yw deall y gostyngiad yn y galw yn ystod y flwyddyn y byddem wedi'i ddisgwyl fel arall oherwydd bod yr economi wedi bod mor wastad dros y 12 mis diwethaf. Felly, dyna pam rydyn ni wedi cael arbediad yn ystod y flwyddyn. O dan amgylchiadau cyllidebol gwahanol, byddwn wedi bod yn gwneud mwy o waith i annog mwy o fusnesau ac unigolion i fanteisio ar y cynnig prentisiaeth drwy weddill y flwyddyn ariannol hon. Wrth fynd i mewn i'r flwyddyn nesaf, fel y dywedais, rwy'n credu y bydd gennym ddiddordeb iach yn ein rhaglenni prentisiaeth mewn ystod o wahanol sectorau a sut y byddwn yn ceisio datblygu hynny.

Rwyf eisoes wedi dweud, fodd bynnag, rai misoedd yn ôl, nad ydym yn rhagweld y byddwn yn cyrraedd 125,000 o ddechreuwyr o fewn tymor y Senedd hon, ac y byddwn yn mynd i flwyddyn arall o leiaf, felly i flwyddyn 6 mewn Senedd yn y dyfodol. Ond, fel yr wyf wedi'i ddweud yn gynharach heddiw, rwy'n dal yn hyderus y byddwn yn gweld mwy o brentisiaethau yn dechrau o fewn tymor y Senedd hon nag yn nhymor blaenorol y Senedd, ond, fel y dywedais, bydd angen o leiaf flwyddyn arall arnom i gyrraedd 125,000 o ddechreuwyr, ac mae hynny'n cyd-fynd ag ymyriadau eraill i geisio helpu i wella sgiliau'r gweithlu sy'n dod i mewn—pobl sy'n dechrau gweithio o'r newydd, pobl sy'n symud swyddi, neu bobl sy'n aros yn yr un gwaith hefyd.

Ac, yn olaf, o ran eich disgrifiad o'r adroddiad cymwysterau galwedigaethol, nid wyf yn credu y byddwn i na'r Gweinidog addysg yn dweud bod hwn yn adroddiad damniol; yn fy marn i, roedd yn adroddiad adeiladol a edrychodd ar ble rydym arni ac a roddodd gyfle i ni wella'n fwriadol ar gyfer y dyfodol. Os nad ydych chi'n barod i ofyn am safbwynt gonest ar ble rydych chi arni nawr, ni allwch ddisgwyl gwneud rhywbeth am y sefyllfa rydych chi ynddi a ble rydych chi am fod. Ac rwy'n gobeithio y bydd yr adolygiad adeiladol hwnnw yn ein galluogi i adeiladu'n fwriadol y math o rwydwaith cymwysterau a sgiliau galwedigaethol yr ydym ei eisiau ar gyfer ein hunain ac ar gyfer dyfodol economaidd y wlad.

15:55

Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Jayne Bryant.

Diolch, Llywydd, ac rwy'n siarad heddiw yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Ac mae llawer i'w drafod yn hyn, ond rwy'n mynd i ganolbwyntio ar un agwedd yn unig.

Fel rhan o'r gwaith o gasglu tystiolaeth ar gyfer ein hymchwiliad i fynediad pobl anabl at ofal plant ac addysg, rydym wedi clywed llawer o straeon personol digalon sy'n dangos y rhwystrau y mae rhieni a gofalwyr plant ag anghenion ychwanegol yn eu hwynebu o ran sicrhau neu gynnal cyflogaeth. Mae rhieni a gofalwyr wedi dweud wrthym eu bod naill ai wedi gorfod rhoi'r gorau i weithio neu wedi methu â dychwelyd i'r gwaith, oherwydd na allant sicrhau unrhyw addysg neu ofal plant hygyrch priodol, neu oherwydd bod ysgolion neu ofal plant yn disgwyl iddynt fod ar gael ar unrhyw adeg benodol. Nid yw'r disgwyliadau hyn o argaeledd cyson yn bodoli i rieni plant nad ydynt yn anabl. Rydym wedi clywed yn rhy aml am yr effaith y mae hyn wedi'i chael ar aelwydydd ac incwm aelwydydd, a hefyd yr effaith ehangach ar les emosiynol a meddyliol. Mae'r effaith hon yn cael ei theimlo gan y teulu i gyd ac nid yw'n eistedd ar ysgwyddau'r rhieni a'r gofalwyr yn unig. Rydyn ni wedi clywed achosion niferus o deuluoedd yn chwalu o dan y pwysau.

Felly, roeddwn i eisiau gofyn i'r Gweinidog heddiw pa gamau sy'n cael eu cymryd, fel rhan o'r cynllun cyflogadwyedd a sgiliau, i sicrhau bod y rhieni a'r gofalwyr hyn naill ai'n gallu parhau mewn cyflogaeth neu'n gallu sicrhau cyflogaeth. Nodaf fod camau gweithredu yn y cynllun ynghylch ehangu'r cynnig gofal plant, ond beth yn benodol y gellir ei wneud i sicrhau bod teuluoedd yn gallu cael mynediad at addysg a gofal plant cynhwysol a hygyrch sy'n darparu cyfleoedd addysgol a chwarae i blant a phobl ifanc, ond sydd hefyd yn cefnogi rhieni a gofalwyr i weithio, gyda'r holl fanteision ariannol ac ehangach a ddaw i'r teulu a'r gymuned ehangach? Diolch.

Diolch am y cwestiwn, Gadeirydd.

Rwy'n credu bod hyn, eto, yn tynnu sylw at y ffaith bod hyn yn mynd ar draws mwy nag un maes o fewn y Llywodraeth, oherwydd mae'n ymwneud â darpariaeth gofal plant sy'n hygyrch ac yn briodol i'r plentyn, sut y caiff ei threfnu, ac yna ei fforddiadwyedd, a beth mae hynny'n ei olygu wedyn i riant sydd am fanteisio ar y cyfleoedd hyfforddi i ddychwelyd i'r gwaith neu aros mewn gwaith eisoes. Ac mae hynny'n rhan o'r rheswm pam rydym yn edrych i adolygu rhywfaint o'r ddarpariaeth rhwng ein rhaglenni: er ein bod yn credu eu bod wedi bod yn llwyddiannus, mewn gwirionedd, rydym yn credu y gallwn ni wneud mwy i ddeall sut maen nhw'n gweithio gyda'i gilydd.

Felly, mae Cymunedau am Waith+ yn cael ei ddarparu gan awdurdodau lleol; mae wedi'i dargedu'n fwriadol at gefnogi pobl i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant. Mae'n edrych yn fwriadol ar bobl â nodweddion gwarchodedig—felly, mae pobl anabl a phlant anabl yn rhan o hynny; mae rhieni sengl yn rhan o hynny hefyd. Mae yna ystod eang o bethau rydyn ni'n ceisio eu gwneud o ran cael rhaglen sy'n addas i'r bobl hynny. Ac, ar yr un pryd, os ydych chi'n bwriadu ymgymryd â chyfleoedd hyfforddi neu gyflogaeth, mae rhaglen ReAct+ yn edrych ar helpu gyda rhai o'r costau hyn hefyd, yn dibynnu ar y sefyllfa rydych chi'n eich cael eich hun ynddi. Felly, dyna beth rydyn ni'n edrych i'w wneud. Mae yna wastad mwy y gallwn ni ei wneud, a chlywed yn uniongyrchol gan bobl ynghylch a yw'r rhaglen yn gweithio iddyn nhw ai peidio—y rhai lle mae'n gweithio ac yn gweithio'n dda, ond yn yr un modd lle rydyn ni'n deall nad yw wedi gweithio'n ddigon da i'r person hwnnw ac i'w deulu hefyd—wrth geisio gweld y person hwnnw, y person cyfan, felly nid yn unig yr hyn sydd ei angen ar y rhiant, ond hefyd beth mae hynny'n ei olygu i'w blentyn a'i allu i barhau i weithio.

Byddwn i'n hapus iawn i edrych yn fanylach a gwneud cyfiawnder â'r cwestiwn a ofynnwyd, i edrych ar rywfaint o'r gwaith y cyfeiriodd yr Aelod ato, y gwaith y mae'r pwyllgor yn ei wneud, ac yna i ddarparu ymateb mwy ystyriol. Rwy'n hapus i wneud hynny naill ai yn y Siambr neu, yn wir, yn ôl i'r pwyllgor.

Gweinidog, rwy'n ddiolchgar i chi am eich datganiad y prynhawn yma. Wrth gwrs, rydym wedi trafod nifer o faterion yma dros yr wythnosau diwethaf. Rydych chi wedi trafod y prosiect gwella cynhyrchiant, yr holais y Prif Weinidog amdano yn gynharach heddiw, ac mae'r ddau ohonom wedi trafod effaith deuoli'r A465 ar economi Blaenau'r Cymoedd a sut y gallwn ni sicrhau'r gwerth mwyaf o hynny. Byddwch yn ymwybodol fy mod i wedi mynychu digwyddiad gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, rai wythnosau yn ôl, ym mhrosiect HiVE yng Nglynebwy, ac roedd ymrwymiad yno, gyda Choleg Gwent, yr awdurdod lleol, yn ogystal â'r Ysgrifennydd Gwladol, ac, rwy'n gobeithio, gan Lywodraeth Cymru hefyd, i gydweithio i sicrhau'r canlyniadau gorau i bobl ym Mlaenau Gwent, ond hefyd i ranbarth ehangach Blaenau'r Cymoedd.

Gweinidog, byddai'n ddefnyddiol pe gallech chi amlinellu sut rydych chi'n gweld y cynllun cyflogaeth hwn a'r gwaith rydych chi'n ei wneud yn cyd-fynd â'r rhaglen buddsoddi economaidd ehangach honno, oherwydd yr hyn sy'n bwysig, rwy'n credu, i bob un ohonom sy'n cynrychioli seddi yn rhanbarth Blaenau'r Cymoedd, yw ein bod ni'n gweld cynllun swyddi, cynllun cyflogadwyedd, cynllun economaidd, strategaeth ddiwydiannol sy'n cyd-fynd â'i gilydd ac sy'n darparu'r cyfleoedd mwyaf posibl o'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn yr ardal.

16:00

Diolch am y cwestiwn a'r pwyntiau. Ynghylch y cwestiwn y gofynnoch chi i'r Prif Weinidog yn gynharach heddiw, nid dim ond sôn ydym ni am rai o'r pethau rydyn ni'n eu gwneud eisoes i helpu gyda chynhyrchiant busnes—ac mae hynny'n ymwneud i raddau helaeth â sgiliau, ond hefyd, weithiau, mae'n ymwneud â buddsoddi cyfalaf i wneud busnes yn fwy cynhyrchiol hefyd—yn aml mae angen i chi wella sgiliau'r gweithwyr wedyn i fanteisio ar sut mae hynny'n edrych. Ond fe wnaethoch chi dynnu sylw at y ffaith, oherwydd y buddsoddiad yn y seilwaith trafnidiaeth a'r gwaith rydyn ni'n ei wneud ar gynhyrchiant, fod mwy o bobl â diddordeb mewn lleoli eu hunain mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae hynny'n golygu wedyn bod angen i chi gael y safleoedd i'w cyflwyno ar gyfer y cyfleoedd hynny, ar gyfer busnesau sydd yno ac sydd am ehangu yn ogystal â chyfleoedd mwy. Rydym wedi trafod rhai o'r rheini ar safleoedd mwy sydd eu hangen o bosibl ar gyfer lefel y diddordeb sy'n bodoli bellach, ac nid wyf yn credu y byddai hynny'n wir oni bai am y buddsoddiad hirdymor hwnnw mewn seilwaith trafnidiaeth.

Mae'n rhaid i hynny fynd ochr yn ochr â buddsoddi mewn sgiliau pobl; dyna pam mae gwaith ein partneriaethau sgiliau rhanbarthol mor bwysig. Dyna pam rydw i wedi buddsoddi cryn dipyn o amser mewn sgwrs â phrifddinas-ranbarth Caerdydd i sicrhau bod ganddyn nhw ddull gweithredu sy'n edrych ar y cyfleoedd i'r de o'r M4, ond sydd hefyd yn edrych yn fwriadol ar Gymoedd y gogledd fel grŵp o gymunedau y mae angen gwneud buddsoddiad bwriadol ynddynt. Felly, o ran y gwaith y mae'r Dirprwy Weinidog a minnau wedi'i wneud gyda'r brifddinas-ranbarth, rwy'n credu y byddwn ni'n gweld dull gweithredu, gobeithio, yn yr wythnosau nesaf lle byddwn ni'n gallu gweld y Llywodraeth a'r brifddinas-ranbarth yn ymrwymo i ddull gweithredu ar gyfer Cymoedd y gogledd. Ac yna dylai fod rhai amcanion a rennir ynghlwm wrth hynny, rwy'n gobeithio. Dyma'r hyn y cyfeiriais ato yn natganiad yr wythnos diwethaf hefyd, ac rwy'n ymrwymedig i wneud hynny, oherwydd ni fyddwn yn gweld potensial economaidd y bobl yn y cymunedau hynny oni bai bod rhaglen fwriadol ar gyfer buddsoddi a blaenoriaeth.

Byddwch chi'n gweld mwy o'r hyn sy'n edrych fel cynllun cenedlaethol ddiwedd mis Tachwedd, pan fyddwn ni'n edrych ar adfywio'r genhadaeth economaidd er mwyn nodi beth yw ein dull gweithredu, ac yna rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gweld ymgysylltu adeiladol â Llywodraeth bresennol y DU ac unrhyw Lywodraeth y DU yn y dyfodol, lle gallwn ni gytuno ar gyfres o flaenoriaethau i wneud y mwyaf o'r dewis buddsoddi yr ydym yn ei wneud, a pheidio â chael y gystadleuaeth bresennol i wneud pethau'n wahanol. Mae'r gystadleuaeth ddi-fudd ar y cynnig sgiliau, er enghraifft, yn un o'r meysydd hynny. Mae'n dirwedd fwy dryslyd i fusnesau, ac nid yw hynny, mewn gwirionedd, yn helpu i weld y math o fuddsoddiad yr hoffech chi a minnau, ac, rwy'n credu, pobl eraill yn y Siambr hon, ei weld. Ond rwy'n obeithiol y bydd gennym well syniad o'r hyn yr ydym wedi'i wneud eisoes a'r hyn y gallwn ni ei wneud ddiwedd y mis hwn, ac edrychaf ymlaen at ateb adeiladol gan y Llywodraeth bresennol, neu, yn wir, Llywodraeth y DU yn y dyfodol i'n galluogi i wneud hynny.  

Rwyf am ofyn am ddarparu prentisiaethau masnach peirianneg sifil yng Nghymru, oherwydd anfonwyd llythyr atoch chi, Gweinidog, bron i flwyddyn gyfan yn ôl bellach gan Gymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil Cymru yn codi pryderon am ddiffyg darpariaeth prentisiaethau ar gyfer gweithredwyr peirianneg sifil yma yng Nghymru. Cyfeirir atynt yn aml fel prentisiaethau gweithwyr daear, ac, yn amlwg, maent yn eithaf hanfodol—ni fyddai llawer o beirianneg sifil yn digwydd hebddynt. Mae sefyllfa debyg yn bodoli o ran gweithredwyr peiriannau peirianneg sifil hefyd, neu yrwyr peiriannau fel yr ydym yn eu hadnabod. Ond er bod y 12 mis hwn wedi mynd heibio, mae'r adborth gan y sector yn dangos nad yw'r sefyllfa wedi newid, heb unrhyw ddarpariaeth drwy golegau addysg bellach. Oni bai bod y mater hwn yn cael sylw, yna, yn amlwg, bydd busnesau peirianneg sifil yng Nghymru yn arafu'n raddol ac yn dod i stop ac ni fyddant yn gallu manteisio'n llawn ar y cyfleoedd a ragwelir ar draws y sector seilwaith yn y dyfodol. Felly, a allwch chi ddweud wrthym beth rydych chi'n ei wneud am y sefyllfa, a pha sicrwydd y gallwch chi ei roi i ni fod hyn yn rhywbeth rydych chi'n mynd i'r afael ag ef?  

Yn rhyfedd iawn, roeddwn i'n cael sgwrs gyda Jones Bros Civil Engineering, rwy'n credu, pan oeddwn i ym Morlais yn ddiweddar gyda Gweinidogion eraill, ac, yn wir, y Tánaiste, Dirprwy Brif Weinidog Gweriniaeth Iwerddon, lle, mewn gwirionedd, roeddent yn edrych ar y camau yr ydym eisoes yn eu cymryd i geisio manteisio ar fathau adnewyddadwy o ynni, ac rwy'n credu eu bod wedi creu cryn argraff arnynt; yn amlwg, mae Morlais yn edrych ar lif llanw ar hyn o bryd. Ac mewn gwirionedd, yr hyn oedd yn ddiddorol am y safbwynt oedd bod gyrfa iach o hyd yn nyfodol y sector peirianneg sifil. Er bod rhai o'r rheini wedi bod yn edrych ar adeiladu ffyrdd yn bennaf i fod yn faes gwaith allweddol iddynt—a byddwn ni'n dal i adeiladu ffyrdd, yn enwedig o ran agor cyfleoedd datblygu economaidd yn y dyfodol—roeddent hefyd yn edrych ar y ffaith bod llawer o'r hyn yr oeddent yn ei wneud nawr mewn prosiectau peirianneg sifil yn ymwneud ag edrych ar brosiectau newid hinsawdd, gan gynnwys cyfleoedd o amgylch dyfodol y sector adnewyddadwy. Byddwn ni'n gweld llawer o angen peirianneg sifil o amgylch seilwaith porthladdoedd, er enghraifft, hefyd. Nawr, ni allaf ddweud wrthych y gallaf roi ateb manwl i'r cwestiwn penodol am brentisiaethau yn y sector peirianneg sifil, ond rwy'n fwy na pharod i ddod yn ôl atoch chi, ac yn wir y sector ehangach yr wyf yn siarad ag ef yn rheolaidd fel rhan o'r sector adeiladu, ond rwy'n cydnabod bod hyn yn rhan benodol ohono. Ond rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu atoch chi, ac yn wir corff y sector hefyd. 

16:05

Rwy'n credu y dylai Llywodraeth Cymru gymryd clod mawr iawn am y gefnogaeth a roddir i'r brentisiaeth gradd peirianneg rheilffyrdd sy'n rhedeg o fis Ionawr. Roeddwn i yn y lansiad, ac mae'n paratoi ein gweithlu ar gyfer gwasanaeth rheilffyrdd sy'n eiddo i'r cyhoedd yn y dyfodol, a sicrhau ein bod yn defnyddio ein talent gartref i gadw'r gwasanaeth hwnnw o safon fyd-eang.

Yn tudalennau 50 a 51 o'r cynllun, serch hynny, mae'r Gweinidog wedi bod yn sôn am ehangu cyfrifon dysgu personol, cyflwyno adolygiad canol gyrfa drwy Cymru'n Gweithio, a chyhoeddi strategaeth safonau galwedigaethol cenedlaethol newydd. A gaf i ofyn iddo ymhelaethu ar gynnydd gyda'r tair agwedd honno ar y cynllun?

Ar gyfrifon dysgu personol, rydym wedi buddsoddi mwy, ac yn y rownd gyllideb hon byddwn yn cael sgyrsiau ynghylch nid yn unig maint y buddsoddiad ond pa mor hyblyg ydyw hefyd, i sicrhau bod y budd mor hawdd â phosibl, i sicrhau nad yw ein proses yn amharu ar bobl sy'n manteisio ar y cyfle mewn gwirionedd. Mae honno'n sgwrs y mae'r Gweinidog addysg a minnau wedi'i chael, ac mae dewisiadau cyllidebol ynghylch hynny i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud y buddsoddiad mwyaf ohono. 

Bydd angen i mi ddod yn ôl atoch ynglŷn â safonau galwedigaethol cenedlaethol.

Ar eich pwynt o ran prentisiaethau rheilffyrdd, rwy'n falch iawn ein bod yn gwneud hynny, ac rwy'n credu y gallwn gymryd rhywfaint o glod o hynny yn y gwaith yr ydym yn ei wneud yn fwriadol.

Rwy'n credu bod hyn i gyd yn dangos, yn y cynnydd rydym yn ei wneud, rwy'n credu y gallwch chi weld bod dewisiadau bwriadol rydyn ni wedi'u gwneud yn ogystal â rhai o'r anawsterau rydyn ni wedi'u hwynebu, ond rwy'n hyderus, ar ôl blwyddyn arall, y byddwch chi'n gweld cynnydd pellach eto ar yr hyn rydyn ni wedi gallu ei wneud i gefnogi mwy o bobl i ymgymryd â'r gefnogaeth sgiliau a chyflogadwyedd sydd ei hangen arnyn nhw i fod â dyfodol economaidd gwell o'u blaenau. 

Diolch, Llywydd. Diolch. Gweinidog, rwy'n croesawu'n fawr eich datganiad heddiw a'i gyfraniad gwirioneddol tuag at ein Cymru gryfach, wyrddach a thecach. Wrth i ni wynebu colli cyllid penodol helaeth yr UE, effaith y pandemig a thros ddegawd o doriadau termau real i gyllideb Cymru, mae'r diweddariad hwn ar gynnydd nod y cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau yn atgof pwysig o'r egwyddorion allweddol sy'n arwain y Llywodraeth Lafur hon, sef rhoi ar waith y gefnogaeth strategol, effeithiol yma i gefnogi a sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Rydych yn datgan bod mwy o weithwyr yn 50 oed a throsodd yng Nghymru nag erioed o'r blaen, sut felly, Gweinidog, y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adeiladu ar y gwaith rhagorol a wneir gan Cymru'n Gweithio, sy'n cefnogi pobl i gael mynediad at ryngweithiadau galluogol, grymusol a chefnogol gyda chynghorwyr gyrfaoedd?

Mae'n ddrwg gen i, efallai y dylwn i fod wedi delio â hyn—roedd yn un o'r tri phwynt y gofynnodd Hefin David a wnes i ddim dod atyn nhw. Roedd hynny'n ymwneud â'r gefnogaeth yr ydym yn ei darparu drwy Cymru'n Gweithio ar gyfer yr adolygiadau canol gyrfa. Mewn gwirionedd, rydym yn gweld llawer iawn o fanteisio ar hynny. Rwy'n credu fy mod yn cyfeirio at hyn yn fy natganiad hefyd—rydym yn gweld miloedd o bobl yn manteisio arno, ac mae hynny'n bwysig, oherwydd gall mwy ohonom yn ein bywydau gwaith yn y dyfodol ragweld gweithio drwy ein pumdegau gyda thalp sylweddol o'n gyrfa yn dal i ddod. Bydd mwy o bobl yn ystyried newid eu gyrfa yn eu pumdegau, a llawer iawn o fywyd gwaith o'u blaenau o hyd, ac felly mae'n ymwneud â sut rydym yn cefnogi pobl i wneud hynny. Gall y newid hwnnw fod yn eithaf anodd bryd hynny hefyd, yn enwedig os ydych chi wedi gweithio mewn un ardal am gyfnod hir. Felly dyna beth rydyn ni'n bwriadu ei wneud, a bydd rhan o'n her o ran y gyllideb yn ymwneud â sut rydyn ni'n sicrhau, wrth bennu cyllideb yn y dyfodol, ein bod ni'n gallu cynnal y ddarpariaeth rydyn ni'n gwybod sy'n llwyddiannus, yr ydyn ni'n gwybod ei bod yn cael ei chydnabod a'i defnyddio'n ehangach. Ac rwy'n gadarnhaol iawn ynglŷn â'r canlyniadau rydym yn eu gweld wrth helpu pobl i edrych ar ddewisiadau gyrfa amgen neu'n wir edrych ar gyfleoedd yn y dyfodol mewn lleoliad gyrfaoedd penodol hefyd. 

6. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Canllawiau ar Bresenoldeb

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar ganllawiau presenoldeb. Y Gweinidog i wneud ei ddatganiad. Jeremy Miles. 

16:10

Diolch, Llywydd. Bydd Aelodau'n ymwybodol fy mod yn gweld pwysigrwydd mawr mewn gwella cyfraddau presenoldeb yn ein hysgolion ni. Rwy'n dal i bryderu, ers y pandemig, bod gormod o bobl ifanc yn colli amser amhrisiadwy yn yr ysgol. Mae hyn yn gallu effeithio ar eu lles, eu sgiliau cymdeithasol a'u haddysg, a does dim dwywaith bod ein system addysg yn dal i adfer ar ôl effaith ofnadwy y pandemig.

Mewn datganiadau blaenorol i'r Siambr dwi wedi nodi nifer o'r camau gweithredu rŷn ni'n eu cymryd yn barod. Rŷn ni wedi darparu dros £6.5 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon ar gyfer mwy o swyddogion ymgysylltu â theuluoedd; rŷn ni wedi darparu £2.5 miliwn ar gyfer swyddogion lles addysg i ddarparu mwy o gymorth i ddysgwyr sydd ag absenoldeb uchel; rŷn ni'n diweddaru'r fframwaith presenoldeb ar gyfer Cymru gyfan; mae Estyn wedi cryfhau eu gofynion adrodd ar bresenoldeb; a rŷn ni nawr yn ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol sicrhau bod eu polisïau presenoldeb ar gael er mwyn caniatáu mwy o ffocws ar y polisi.

I gefnogi'r gwaith hwn, rwy'n falch o gyhoeddi heddiw y canllawiau presenoldeb newydd, 'Perthyn, ymgysylltu a chyfranogi'. Mae'r canllawiau, yr ymgynghorwyd arnyn nhw yn ystod yr haf, yn nodi dulliau i helpu ymarferwyr a phartneriaid i wella lefelau ymgysylltu a phresenoldeb dysgwyr. Maen nhw'n cydnabod natur amrywiol profiad y dysgwr yn yr ysgol a gartref, a'r ffactorau sy'n gorgyffwrdd i achosi absenoldeb neu ymddieithriad dysgwyr o addysg, gan gynnwys iechyd meddwl a lles, argaeledd gwasanaethau cymorth dysgu penodol, costau byw cynyddol, ac agweddau rhieni a dysgwyr tuag at bresenoldeb yn yr ysgol yn gyffredinol. Felly, maen nhw'n rhoi pwyslais ar strategaethau ysgol gyfan a threfniadau gweithio amlasiantaeth cryf i gefnogi anghenion cymhleth dysgwyr a'u teuluoedd.

Yn arwyddocaol, mae'r canllawiau bellach yn newid y diffiniad ystadegol o absenoldeb 'parhaus', sydd ar hyn o bryd yn cael ei ddiffinio fel mwy nag 20 y cant. Mae'r mesur hwn yn aml yn cael ei osod fel sbardun ar gyfer rhai mathau o ymyrraeth, megis cyfranogiad y gwasanaeth lles addysg. Yn dilyn ymgynghoriad, rydym bellach yn gostwng y trothwy i 10 y cant i annog ymyrraeth gynharach.

Mae'n atgyfnerthu'r pwerau dewisol sydd ar gael i awdurdodau lleol i wneud unrhyw drefniant y maent yn credu sy'n addas i hwyluso cludiant o'r cartref i'r ysgol. Mae'r canllawiau hefyd yn rhoi eglurder mewn cysylltiad ag amserlenni rhan-amser, a all, fel rhan o gynllun bugeiliol, helpu dysgwyr i ailintegreiddio i ysgol ar ôl absenoldeb hir, neu fod yn fodd o atal mwy o absenoldeb. Mae hefyd yn nodi pwysigrwydd ysgolion yn gweithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar drawma. Mae'r ymchwil yn glir bod cysylltiad rhwng adfyd plentyndod a thrawma a phresenoldeb, ymddygiad a chanlyniadau dysgu gwaeth yn yr ysgol. Ar ôl COVID, mae hyn yn bwysicach nag erioed. Mae deall y materion y mae plant a theuluoedd yn eu hwynebu yn hanfodol i ddatblygu ymyraethau effeithiol, ond mae'n amlwg nad oes un ateb, un grŵp nac un sector a all fynd i'r afael â'r mater hwn yn llawn. Mae angen dull amlasiantaethol, sy'n cynnwys teuluoedd a chymunedau pryd y mae gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau yn cyfathrebu'n effeithiol â'i gilydd i gydlynu'r gefnogaeth.

Mae gwella presenoldeb yn gofyn am ymdrech genedlaethol. Felly, rwyf wedi sefydlu tasglu presenoldeb cenedlaethol amlasiantaeth. Bydd y tasglu yn darparu cyfeiriad strategol, yn gosod blaenoriaethau ac yn nodi camau pendant pellach i ysgogi gwelliannau mewn presenoldeb ac ail-ymgysylltu â'n dysgwyr. Wrth wneud hyn, rwyf am i ni ddefnyddio ac adeiladu ar arferion da mewn ysgolion yn ogystal â thystiolaeth genedlaethol a rhyngwladol. Bydd y tasglu yn manteisio ar brofiad adrannau addysg a gwasanaethau cymdeithasol llywodraeth leol, penaethiaid ysgolion ac undebau, Estyn, byrddau iechyd, y gymuned meddygon teulu, gwasanaethau ieuenctid, Parentkind, Plant yng Nghymru, yr heddlu, y Senedd Ieuenctid, y gymuned academaidd sydd â phrofiad uniongyrchol ac eraill. Rwy'n gosod rhestr yn llyfrgell y Senedd heddiw sydd ag enwau'r rhai a benodwyd i'r tasglu. Un o flaenoriaethau'r grŵp hwn fydd edrych yn fanwl ar y rhesymau dros beidio â mynychu a defnyddio eu harbenigedd i nodi camau gweithredu i sicrhau gwelliannau parhaus.

Llywydd, rydym yn gwybod bod cysylltiad rhwng presenoldeb sy'n dirywio a phroblemau ymddygiadol ac emosiynol dilynol, a allai, os na eir i'r afael â nhw, arwain at wahardd y dysgwyr hyn o'r ysgol. O'r herwydd, mae gweithgaredd bellach ar y gweill i adolygu'r canllawiau gwaharddiadau, datblygu canllawiau cyfeirio a chomisiynu ar gyfer darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol, ac i ddatblygu canllawiau ymddygiad ysgol. Bydd y canllawiau gwaharddiadau yn cael eu hadolygu mewn dau gam. Bydd Cam 1 yn cynnwys diwygiadau sy'n ymwneud â newidiadau deddfwriaethol a pholisi, cryfhau'r canllawiau ynghylch plant â nodweddion gwarchodedig a diwygio'r naws a'r iaith a ddefnyddir yn y canllawiau fel eu bod yn adlewyrchu dull seiliedig ar hawliau a gwybodaeth am drawma. Byddwn yn cyhoeddi'r rhain ym mis Rhagfyr 2023. Bydd yr ail gam yn golygu adolygu'r canllawiau gwahardd yn fwy sylfaenol, gan ystyried y dysgwyr y gwyddom y gallant fod o dan waharddiadau parhaol neu dros dro yn anghymesur. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig a dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal. Er mwyn cefnogi'r ail gam hwn, gwnaethom gomisiynu ymchwil i nodi dulliau sy'n effeithiol o ran osgoi gwaharddiadau a nodi'r gefnogaeth sydd ei hangen i osgoi gwaharddiadau hefyd. Rydym yn disgwyl derbyn yr adroddiad ymchwil ym mis Rhagfyr 2023 a byddwn yn ymgynghori ar ddiweddariad yr ail gam y flwyddyn nesaf.

Mae darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol yn ddarpariaeth bwysig i sicrhau bod plant nad ydynt yn gallu mynychu darpariaeth prif ffrwd yn gallu parhau i gael eu haddysg. Yn ddiweddar mae Estyn wedi adrodd bod y pandemig wedi arwain at gyfraddau cyfeirio uwch, niferoedd uwch o ddisgyblion ac arosiadau hirach, a chynnydd mewn cyfeiriadau ar gyfer disgyblion iau a disgyblion â phroblemau cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl. Ar hyn o bryd rydym yn datblygu canllawiau cyfeirio a chomisiynu i gefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol i gomisiynu darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol, gan gynnwys sut i ymgymryd â diwydrwydd dyladwy wrth gomisiynu'r ddarpariaeth, i sicrhau bod y ddarpariaeth yn mynd i'r afael ag anghenion disgyblion unigol a'i bod o ansawdd uchel.

Mae ymddygiad cadarnhaol yn hanfodol ar gyfer amgylcheddau dysgu effeithiol, pan fo holl aelodau o gymuned yr ysgol yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, ac yn teimlo'n ddiogel. Maent yn llunio ethos yr ysgol ac maent yn gwneud datganiad ynghylch sut mae'r ysgol yn gwerthfawrogi ac yn cynnwys yr holl bobl ynddi. Felly, mewn cydweithrediad â phartneriaid, rydym wrthi'n datblygu canllawiau sy'n ceisio cefnogi uwch arweinwyr mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion i wneud penderfyniadau gwybodus am eu polisïau ymddygiad. Bydd y canllawiau'n cynnwys strategaethau a all helpu i atal problemau ymddygiad rhag digwydd, ymdrin â materion ymddygiad pan fyddant yn digwydd a nodi pwysigrwydd strategaethau ymddygiad cyson a chlir sy'n hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol.

Llywydd, mae enghreifftiau o arfer rhagorol yn ein hysgolion i wella presenoldeb, ymgysylltu â theuluoedd ac ysgolion sy'n gweithio'n agos gyda gwasanaethau'r awdurdod lleol i roi cymorth arbenigol ar waith. Drwy gymryd ymagwedd gydweithredol a rhannu cyfrifoldebau, gallwn adeiladu ar y gwaith rhagorol hwn a chynyddu'r effaith y gall ysgolion ac awdurdodau lleol ei chael.

16:15

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Bu pryderon hirsefydlog am absenoldeb disgyblion, felly mae croeso mawr i ganllawiau ar y mater hwn heddiw. Yn y flwyddyn 2018-19, roedd y ffigur absenoldeb yn 5.7 y cant, ond dengys y data bod y ffigur hwn bellach wedi codi i 10.5 y cant yn y flwyddyn academaidd 2022-23. Yn y cyfamser, mae absenoldeb parhaus ymhlith disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim wedi mwy na dyblu, gan godi o 8.4 y cant yn 2018-19 i 18.8 y cant yn 2022-23. Mae myfyrwyr sydd â chyfraddau absenoldeb uchel dan anfantais sylweddol ac ar eu colled o ran cyfleoedd dysgu allweddol. Felly, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn annog Gweinidogion Cymru i gyflwyno cynllun manwl i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn absenoldebau ysgol, sydd yn y pen draw yn deillio o ddiffyg cyllid.

Felly, Gweinidog, a ydych chi'n credu bod torri'r gyllideb addysg yn gyson yn mynd i helpu i fynd i'r afael â'r broblem o absenoldeb yr ydym yn ei gweld? Mae'n amlwg bod absenoldeb hir o'r ysgol yn cael effaith ar gyrhaeddiad dysgu ac iechyd meddwl, felly rwy'n falch eich bod wedi gwrando ar ein galwadau blaenorol am weithredu. Fel y dywedwch chi, dylai fod yn flaenoriaeth rhif 1 i chi am nifer o resymau. Roeddech chi'n sôn bod y canllawiau'n tynnu sylw at yr angen i ysgolion weithio gyda'r asiantaethau priodol i sicrhau bod dysgwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Fodd bynnag, mae marciau cwestiwn enfawr o hyd ynghylch hyn ac ynghylch cyfrifoldeb pwy ydyw. Ar hyn o bryd, mae 22 dehongliad gwahanol o beth y dylai natur y cymorth i ddysgwyr fod. Sut fydd hyn yn gweithio mewn gwirionedd? Os yw'n gyfrifoldeb athrawon, pryd mae ganddyn nhw'r amser? Os nad athrawon, a ydych chi'n mynd i roi adnoddau cymorth arbenigol ym mhob ysgol yng Nghymru?

Yn olaf, Gweinidog, rydych wedi sôn am Ysgol Uwchradd Pontypridd, ac am sut y dadansoddodd staff ddata a chanfod bod dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim wedi bod â phresenoldeb gwaeth o lawer, yn ogystal â dysgwyr nad oeddent yn ymgysylltu'n dda â gwaith ysgol yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud. Felly, sut ydym ni'n mynd i ddadansoddi'r data prydau ysgol am ddim pan fo'n gyffredinol erbyn hyn? Felly, sut ydych chi'n mynd i adnabod y rhai mewn angen yn well?

Rydych hefyd yn siarad am gael rhieni i gymryd rhan fel rhan o ddull gweithredu Llywodraeth Cymru sef ysgolion yn canolbwyntio ar y gymuned. Mae hwn yn swnio'n dda, ond a ellir cyflawni hyn? Fel y gwelsom gydag addysg rhyw a pherthnasoedd, mae lleisiau rhieni wedi cael eu tewi a'u hanwybyddu yn wyneb beirniadaeth eang—yn wahanol i Lywodraeth y DU, sydd wedi cyhoeddi cyfranogiad llawn i rieni heddiw. Os gallwch gynnwys rhieni, yna pam dim ond ynghylch y pwnc hwn ac nid addysg rhyw a pherthnasoedd?

Gweinidog, mae eich hanes o gynnwys rhieni mewn penderfyniadau ymhell o fod yn foddhaol. Felly, a allwch chi nodi yn union pa ffurf y bydd hyn yn ei gymryd? Sut y bydd yn digwydd, yn enwedig os bydd rhieni'n rhoi adborth i chi sy'n wahanol i'r hyn yr oeddech ei eisiau? A fydd hwn yn cael ei anwybyddu? Sut allwch chi ymgysylltu â rhieni'n ehangach? Diolch.  

16:20

Wel, mae cyfres o bwyntiau rhethregol yn fy marn i, yng nghyfraniad yr Aelod, ond lle yr oedd cwestiynau, fe geisiaf ymdrin â nhw. Nid wyf yn credu ei bod yn ddefnyddiol i fod â bwriad i wleidyddoli'r hyn sy'n fater cymhleth ac amlochrog. Mae'n her y mae gwledydd ledled y byd yn mynd i'r afael â hi mewn ffordd ddifrifol iawn, o ganlyniad i rywfaint o'r pwysau a achoswyd gan COVID. Nid yw'n ganlyniad llwyr i hynny, ond mae'n sicr yn gyfrannwr sylweddol. Mae'n ymddangos bod natur absenoldeb wedi dod yn fwy cymhleth ac, unwaith eto, yn fwy amlochrog, am amrywiaeth o resymau gwahanol ac o bosibl newydd. Nid yw hyn yn gynnyrch unrhyw system ysgol unigol. Mae'n gyfres o heriau cyffredin. Ond nid ydym yn camu'n ôl o'r her; i'r gwrthwyneb yn wir. Mae'r datganiad rwyf wedi'i roi, gobeithio, yn disgrifio'n llawn i'r Aelodau, nid yn unig y gwaith sydd eisoes ar y gweill, ond pum cam sylweddol newydd yr ydym yn eu cymryd i geisio mynd i'r afael â'r her hon, ac i gefnogi ysgolion ac asiantaethau eraill a rhieni a dysgwyr i sicrhau bod lefelau presenoldeb yn gwella.

Agorodd yr Aelod ei chyfraniad yn briodol gyda nifer o ystadegau, sy'n gyfarwydd, ac ni fydd yr un ohonom yn barod i oddef sefyllfa barhaus yn y ffordd y gwnaeth ei disgrifio. Yr hyn rydyn ni'n ei wybod yw bod hon yn her y gellir mynd i'r afael â hi yn effeithiol dim ond trwy ddull amlasiantaethol. Nid yw'n rhywbeth y gall ysgolion ei ddatrys ar eu pennau eu hunain. Mae gan rieni ran bwysig i'w chwarae. Gyda llaw, rwy'n gwrthbrofi'n llwyr y pwynt a wnaeth am gyfranogiad rhieni yn addysg rhyw a pherthnasoedd. Mae cyhoeddiad Llywodraeth y DU heddiw, mewn gwirionedd, yn nodi i Loegr beth sydd eisoes yn wir am Gymru. Ond fel y soniais i yn fy natganiad, byddwn yn cynnwys rhieni yng ngwaith y tasglu. Mae hyn eisoes yn digwydd ar lefel leol mewn sawl rhan o Gymru. Rwyf eisoes wedi siarad am swyddogaeth Parentkind i sicrhau bod y ffordd yr ydym yn ymgysylltu â rhieni yn cael ei wneud mewn ffordd sy'n hwyluso'r broses honno i rieni. Bydd hi hefyd yn gwybod, rwy'n siŵr, o ddarllen y canllawiau, a'r canllawiau sydd wedi'u cyhoeddi heddiw, fod cyfran sylweddol o hynny wedi'i gynllunio i gefnogi ysgolion ac asiantaethau eraill i ymgysylltu â rhieni i sicrhau bod eu plant yn gallu dychwelyd i'r ysgol.

Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae Plaid Cymru yn gyson wedi lleisio pryderon ynglŷn â'r cynnydd yn nifer y plant sy'n absennol o'r ysgol. Felly, rŷn ni'n croesawu'r canllawiau newydd a'r ffocws ar hyn. Mae'n symptom o nifer o ffactorau, onid ydyw, rŷn ni wedi'u codi, sy'n effeithio ar ddysgwyr a'u mynediad at addysg, fel effaith tlodi, costau'r dydd ysgol, diffyg ac anfforddiadwyedd trafnidiaeth, a diffyg cymorth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. A da gweld bod y canllawiau yn ystyried nifer o'r ffactorau yma.

Mae effaith tlodi plant yn arbennig yn amlwg ar y ffigurau presenoldeb, gyda'r plant sy'n gymwys am brydiau ysgol am ddim yn drawiadol yn fwy tebygol o golli ysgol yn gyson. Ac mae gan NEU Cymru, undeb addysg fwyaf Cymru, bryderon mawr am effaith y lefelau presenoldeb cyfartalog mewn ysgolion a cholegau a'r lefel is cyfartalog ymhlith plant ar brydau ysgol am ddim. Mae’r undeb wedi galw ar Lywodraeth Cymru am fwy o gyllid er mwyn caniatáu i ysgolion a cholegau helpu dysgwyr absennol sy'n eistedd arholiadau allanol i ddal i fyny, er mwyn eu helpu i lwyddo yn eu cymwysterau a'u gosod nhw ar y llwybr yna at weddill eu bywydau nhw, i gyflogi staff arbenigol ychwanegol, ac am gymorth a sgrinio iechyd meddwl i gefnogi ysgolion a cholegau.

Felly, oes yna gyllid newydd ychwanegol a digonol i gefnogi'r canllawiau hyn a'r hyn y byddan nhw eisiau blaenoriaethu a galwadau fel rhai yr NEU? Rwy'n sicr wedi gweld tystiolaeth yn fy ngwaith achos, a dwi'n siŵr bod Aelodau eraill wedi hefyd, o ran sut y mae costau byw a chost y diwrnod ysgol yn rhwystr i rai fynychu, ac mae'r comisiynydd plant hefyd wedi datgan yn glir fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried absenoldeb cyson yng nghyd-destun tlodi. Felly, hoffwn wybod sut mae gwaith y tasglu yn ymgysylltu ac yn alinio â'r gwaith ar ffurfio strategaeth tlodi plant y Llywodraeth. A pha asesiad, hefyd, sydd wedi'i wneud o effaith absenoldeb ar y sector ôl-16 o ran y cymorth sydd ar gael ar gyfer colegau addysg bellach i fynd i'r afael â hyn?

Eto, mae cost uchel a diffyg argaeledd trafnidiaeth wedi codi'n gyson yn fy ngwaith achos i, ac mae adroddiad diweddar Plant yng Nghymru ar seithfed arolwg blynyddol tlodi plant a theuluoedd yn nodi bod hyn ymhlith y pum mater oedd yn cael ei nodi fwyaf ac fel un a oedd yn cael effaith ar blant a theuluoedd mewn tlodi, mewn ardaloedd gwledig ac mewn ardaloedd mwy poblog. A'r hyn oedd yn cael ei effeithio, yn ôl yr arolwg, gan y gost uchel yma a'r diffyg argaeledd oedd presenoldeb. Roedd yr arolwg yn dangos bod teuluoedd yn gostwng nifer y diwrnodau roedd eu plant yn mynychu'r ysgol, er mwyn lleihau eu costau o ran trafnidiaeth gyhoeddus a phersonol. Ac fe glywodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg dystiolaeth fod y ffigurau presenoldeb yn sylweddol is i blant mewn grwpiau blwyddyn nad oes ganddynt hawl i drafnidiaeth am ddim, hynny yw plant sydd dros oed ysgol gorfodol neu sy'n iau na'r oed ysgol gorfodol. A hyd yn oed i'r rhai sy'n gymwys am drafnidiaeth ysgol am ddim, mae'r hyn dwi eto'n clywed bron yn wythnosol yn fy ngwaith achos yn cael ei adlewyrchu yn yr adolygiad sy'n mynd rhagddo o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, sef bod rhieni a disgyblion fel ei gilydd yn canfod bod y fframwaith deddfwriaethol presennol ddim yn ffit i bwrpas o ran darparu ar gyfer eu hanghenion, yn enwedig pan nad oes yna opsiynau trafnidiaeth eraill ar gael, a phan nad ydyn nhw'n fforddiadwy.

Felly, rwy’n falch bod trafnidiaeth yn cael ei ystyried fel ffactor yn y canllawiau newydd. Ond rhaid cofio nad yw pawb sydd mewn tlodi yn derbyn budd-daliadau, ac mae angen hefyd ystyried effaith ffactorau eraill—anabledd o ran y dysgwyr a'u rhieni, anghenion dysgu ychwanegol a phroblemau iechyd meddwl. Felly, sut bydd y canllawiau yn sicrhau y bydd y pwerau disgresiwn mwy grymus yma gan awdurdodau lleol yn cael eu defnyddio mewn modd cyson a theg ar draws Cymru? Ac a wnaiff y Gweinidog roi diweddariad i ni am y sefyllfa o ran adolygiad y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008?

Ar wisg ysgol, wedyn, roedd adroddiad Plant yng Nghymru hefyd yn nodi bod yn rhaid i 79 y cant o blant a phobl ifanc wisgo o leiaf un eitem o wisg ysgol wedi'i frandio, er gwaethaf canllawiau gwisg ysgol Llywodraeth Cymru. Ar gyfartaledd, mae gwisgoedd heb eu brandio yn costio tua £73 fesul plentyn ysgol uwchradd, o'i gymharu â thua £150 ar gyfer gwisgoedd ysgol wedi'u brandio—dros ddwbl y pris. Mae bod heb y wisg gywir, ynghyd ag eitemau sydd wedi treulio ac sydd ddim yn ffitio'n gywir, yn cael ei nodi o fewn yr adroddiad fel un o'r prif amgylchiadau pam na fyddai plant a phobl ifanc yn mynychu'r ysgol. Mae'r mater yma o wisg ysgol yn cael eu hamlygu gan blant a phobl ifanc fel rhwystr i fynychu'r ysgol—rhai sydd heb y wisg iawn yn fwy tebygol o gael eu bwlio a'u cosbi hefyd, a dysgwyr yn cael eu hanfon adref am dorri rheolau gwisg ysgol.

Felly, ydych chi'n cytuno, Weinidog, fod angen mwy o orfodaeth a monitro cydymffurfiaeth gyda chanllawiau gwisg ysgol Llywodraeth Cymru? Ac os felly, sut ŷch chi'n bwriadu gwneud hynny? A ŷch chi'n fodlon ystyried yr hyn dwi wedi codi gyda chi'n flaenorol, sef rhyw fath o gynllun cenedlaethol i hyrwyddo a chefnogi pob ysgol i ddarparu gwisgoedd ysgol ail-law mewn modd sy'n normaleiddio trefn o'r fath ac felly leihau y stigma o ran defnydd dillad ail-law? Diolch.

16:30

Diolch i Sioned Williams am y cwestiynau hynny. Mae'r canllawiau'n newydd ond dyw'r ffocws ar absenoldeb yn sicr ddim yn newydd, ac mi fyddwn i'n cytuno gyda'r pwynt mae NEU Cymru wedi ei wneud am ba mor bwysig yw hyn. Roeddwn i yn eu cynhadledd nhw fore Sul yn cael yr union drafodaeth hon gyda nhw, a diolch iddyn nhw am gynnal y ffocws o'u safbwynt nhw ar yr ymateb pwysig iawn hwn. 

O ran y gyllideb rŷn ni'n ei darparu ar gyfer mynd i'r afael â hyn, ynghyd ag amryw o bethau eraill sydd yn heriau sy'n dod yn sgil COVID, bydd yr Aelod yn gwybod bod yr arian rŷn ni wedi ei ddyrannu yng Nghymru tuag at hynny gyda'r uchaf ar draws y Deyrnas Gyfunol ac wedi cael ei ddefnyddio, ac mae asesiad annibynnol yn dweud hyn, yn y ffordd fwyaf blaengar a chefnogol o'r cynlluniau oedd ar gael yn y bedair gwlad. Felly, mae hynny'n rhywbeth rŷn ni'n falch iawn ohono. Mae e'n gyfraniad tuag at rai o'r elfennau pwysig roedd yr Aelod yn sôn amdanyn nhw yn ei chyfraniad. 

O ran y berthynas rhwng absenoldeb a thlodi a phwysau costau byw a gwaith y tasglu a'r strategaeth ehangach, mae'r cysylltiad hwnnw yn un amlwg ac yn un pwysig. Mae rôl Plant yng Nghymru ar y tasglu yn mynd i'n cynorthwyo ni i sicrhau bod y cysylltiad hwnnw yn un sydd yn glir, ond mae eraill ar y tasglu hefyd gyda'r profiad hwnnw yn uniongyrchol. Mae amryw o bethau rŷn ni'n eu gwneud, wrth gwrs, i sicrhau ein bod ni'n ceisio lleihau baich costau ysgol ar deuluoedd, yn amrywio o'r cynllun ar y cyd i ddarparu prydau bwyd am ddim, ac mae hynny’n gydnabyddiaeth o'r pwynt mae'r Aelod yn ei wneud nad yw anhawster economaidd, ariannol, yn cael ei benderfynu yn uniongyrchol ac yn unig ar dderbyn budd-daliadau. Mae llawer iawn o deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd iawn sydd ddim yn gymwys ar gyfer budd-daliadau, felly mae'r polisi hwnnw yn cydnabod hynny, rwy'n credu. Mae'r polisi sydd gyda ni yn sicrhau bod cost gwisg ysgol cyn lleied ag y gall hi fod hefyd yn gydnabyddiaeth o hynny. Felly, mae amryw o bethau rŷn ni'n eu gwneud.

Roedd hi'n sôn am beth sy'n digwydd yn y cyfnod ôl 16. Rŷn ni'n clywed, ac roedd Luke Fletcher yn sôn am hyn yn gynharach yn ei gyfraniad e mewn eitem arall, fod cynnydd yn yr EMA wedi sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn gallu aros ymlaen ar ôl 16. Dyna'n union beth o'n ni eisiau ei weld. Mae'r canllawiau rŷn ni'n eu cyhoeddi heddiw yn sicr yn mynd i'r afael gyda'r elfen o ran trafnidiaeth. Mae'r gwaith rwy'n ei wneud gyda'r Dirprwy Weinidog o ran edrych eto ar y Mesur trafnidiaeth yn dal yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Byddwn ni'n gallu gwneud datganiadau pellach am hwnnw maes o law.

Ond jest i ddweud rwy'n cydnabod ac yn cytuno'n llwyr gyda'r dadansoddiad mai costau yw un o'r elfennau pwysicaf yn hyn o beth. Mae amryw o elfennau eraill, rhai ohonyn nhw'n gysylltiedig, ond beth rwy'n gobeithio bydd yr Aelod yn ei weld yn y canllawiau sy'n cael eu cyhoeddi heddiw yw'r gogwydd ehangach hynny, yr edrych fel system gyfan ar yr her o sicrhau mynediad i'r ysgol, a bod hyn yn mynd law yn llaw gyda'r ystod eraill o bethau rŷn ni'n eu gwneud fel Llywodraeth i geisio mynd i'r afael â phwysau costau byw ar addysg ein pobl ifanc ni.

Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Jayne Bryant.

Diolch, Llywydd, a heddiw rwy'n siarad yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Mae gennym ddiddordeb mawr iawn yn yr heriau parhaus sy'n wynebu plant a phobl ifanc a'u teuluoedd, ysgolion ac awdurdodau lleol i gefnogi presenoldeb ac ymgysylltiad ysgolion. Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog heddiw, ac fel y gŵyr y Gweinidog, fe gyhoeddom ni ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg adroddiad gydag argymhellion gan edrych ar absenoldeb disgyblion yr hydref diwethaf. Mae materion yn ymwneud â phresenoldeb mewn ysgolion hefyd wedi'u hamlygu yn ein hymchwiliad presennol sy'n edrych ar hygyrchedd a chynhwysiant addysg a gofal plant.

Heddiw, hoffwn ofyn i'r Gweinidog pa gymorth fydd yn cael ei roi ar waith i sicrhau bod ysgolion, awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol eraill yn gallu darparu'r canllawiau yn gyson ledled Cymru. Rydym yn clywed dro ar ôl tro am y brwydrau y mae ysgolion yn eu hwynebu wrth fantoli eu llyfrau a gorfod jyglo gofynion cystadleuol niferus ar eu cyllidebau sydd dan bwysau, a nodaf fod hwn hefyd yn fater a godwyd yn yr ymgynghoriad ar y canllawiau, felly byddwn yn croesawu sicrwydd y bydd gan ysgolion ac awdurdodau lleol yr adnoddau yn yr hinsawdd heriol hon i allu cefnogi dysgwyr i fynychu'r ysgol.

A hoffwn hefyd ofyn am fwy o fanylion am sut y bydd y canllawiau yn helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol yn cael eu cefnogi i fynychu'r ysgol. Rydym yn clywed straeon pryderus iawn am blant yn methu â mynychu'r ysgol oherwydd nad oes cymorth neu addasiadau ar gael. Gan waethygu effaith yr absenoldeb ymhellach, mae rhai plant wedyn yn cael cyswllt cyfyngedig iawn â'u hysgol neu awdurdod lleol tra byddant i ffwrdd, ac rydym wedi clywed am ychydig neu ddim gwaith o gwbl yn cael ei ddarparu i'w gwblhau gartref ac ni chynigiwyd unrhyw gymorth ehangach. Ac yna mae'r diffyg cefnogaeth yma yn arwain at bryderon ynghylch bod ar ei hôl hi o ran addysg, a all gael effaith bellach ar lesiant a gallu dysgwr i ddychwelyd i amgylchedd ysgol.

Felly, dim ond ychydig o gwestiynau ar y pwyntiau hynny. Diolch.

16:35

Diolch i Jayne Bryant am ei sylwadau ar ran y pwyllgor. Bwriad y canllawiau yw mynd at wraidd yr union gyfres honno o heriau y mae hi'n eu disgrifio yn ei chwestiynau: sut y gall yr holl bartneriaid amrywiol sydd â rhan i'w chwarae wrth sicrhau presenoldeb gwell i'n pobl ifanc yn yr ysgol, sut y gallant ddefnyddio eu hadnoddau mewn ffordd sy'n gydgysylltiedig ac nid yn dyblygu ac yn gefnogol i'r ddwy ochr ac yn atgyfnerthu yng ngoleuni'r pwynt, y mae hi'n ei wneud yn briodol, sef y pwysau ar bob cyllideb gwasanaeth cyhoeddus. Mae'n bwysig iawn bod canllawiau ac ymarfer yn sicrhau cysondeb ar draws y system, a dim ond trwy gael y math o ddull cydgysylltiedig y gallwn gyflawni hynny y mae'r canllawiau'n cefnogi ysgolion a phartneriaid eraill i'w sefydlu.

Bydd hi'n gwybod, wrth gwrs, am yr arian ychwanegol rydyn ni wedi'i ddarparu i gefnogi gwaith ymgysylltu â theuluoedd, ond hefyd gwaith lles addysg, yn ogystal ag agweddau ehangach ar y polisi ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned a'r diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol, y maen nhw i gyd wedi cael eu cyllid ychwanegol sylweddol eu hunain, ac mae elfennau o'r polisïau hynny yn gallu cefnogi ysgolion ac asiantaethau yn well i annog pobl ifanc yn ôl i'r ysgol.

Mae hi'n gwneud pwynt pwysig mewn cysylltiad â phresenoldeb dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Fel y gŵyr hi, rydym ar hyn o bryd mewn rhaglen ddiwygio yn y maes hwn ac mae hynny'n creu pwysau ychwanegol, ynghyd â'r hyn rwy'n gwybod y bydd hi wedi'i glywed o dystiolaeth y mae'r pwyllgor wedi ei gael am gynnydd yn nifer y bobl ifanc mewn ysgolion sydd yn ôl pob golwg ag anghenion mwy cymhleth. Mae hyn yn creu pwysau ychwanegol yn y system.

Bydd hefyd yn gwybod ein bod wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol yn ddiweddar i gefnogi ysgolion i ddarparu'n well ar gyfer anghenion dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, fel nad yw rhieni'n teimlo eu bod mewn sefyllfa lle mae'n rhaid iddynt wneud rhai o'r dewisiadau y cyfeiriodd atynt yn ei chwestiynau, ac mae rhywfaint o hynny yn ymwneud â gwella adeiledd adeiladau, felly uwchraddio, prynu offer newydd, gwaith adnewyddu i wella'r ddarpariaeth mewn ysgolion, ac mae hynny wedi'i gynllunio i sicrhau bod ysgolion yn gallu diwallu anghenion disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn ehangach, ac mae hi'n hollol gywir i ddweud bod hwnnw'n faes y mae'n rhaid i ni ganolbwyntio arno wrth i ni edrych ar y cwestiwn ehangach o bresenoldeb.

Mae'n dda fy mod yn dilyn Jayne Bryant, oherwydd rwy'n gwybod bod y pwyllgor plant a phobl ifanc wedi gwneud llawer o waith ar hyn. Rwy'n croesawu eich datganiad yn fawr. Rwy'n credu ei fod yn gwbl gynhwysfawr; rwy'n credu ei fod yn ymdrin â chymhlethdod y mater hwn. Rydych chi wedi crybwyll materion cludiant ysgol y soniodd Sioned Williams amdanynt. Yn wir, yn y bôn ni all llawer o deuluoedd fforddio £400 y flwyddyn i anfon eu plentyn i'r ysgol ac yn syml nid oes ganddynt y cydnerthedd i gerdded dwy neu dair milltir, yn anffodus.

Mae gennyf i'r fraint o fod yn llywodraethwr mewn ysgol sydd wir yn arwain y sector yn hyn o beth, ond rwy'n ymwybodol o ysgolion eraill sy'n tueddu i wahardd disgyblion sy'n mynd â llawer o amser ac sydd angen adnoddau ychwanegol. Felly, edrychaf ymlaen at eich dull gweithredu fesul cam tuag at hyn, ond mewn gwirionedd mae gan bob plentyn hawl i gael addysg, ac ni fydd o reidrwydd yr addysg y mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ei dilyn, efallai oherwydd na fyddant yn gallu gwneud hynny, yn enwedig fel y gwn, Gweinidog, eich bod chi'n ymwybodol bod rhai o drawmâu rhai pobl ifanc y mae Teilo Sant wedi llwyddo i'w cadw yn yr ysgol yn enfawr, ac ni all fod yn amhosibl i unrhyw ysgol arall wneud hyn os oes ganddynt yr ewyllys. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn yn dod i sefyllfa yn y pen draw pan nad yw gwaharddiad yn digwydd o gwbl bron, oni bai bod penderfyniad gweinidogol bod yr amgylchiadau mor ddifrifol fel bod yn rhaid i hynny ddigwydd, ond ni ellir ei ddefnyddio fel esgus dros gael gwared ar bobl ifanc.

Y tasglu presenoldeb cenedlaethol hwn—a fydd yn edrych ar arfer gorau o ran sut mae awdurdodau lleol yn cadw llygad ar bobl ifanc yr honnir eu bod yn cael eu haddysgu gartref? Oherwydd mae rhai ohonynt yn gweithio. Yn syml, nid yw rhai ohonynt yn cael unrhyw addysg—mae'n weddol amlwg o arsylwi yn unig. Er bod llawer o bobl yn ymroddedig iawn i addysgu eu plant yn y cartref, mae eraill yn ei wneud am resymau gwahanol, ac mae'n ymddangos i mi fod hwn yn faes lle mae angen i ni sicrhau y gweithredir arfer gorau gan bob awdurdod lleol.

16:40

Diolch. Mae'r ddau fater hyn yn gwbl hanfodol. Ar gwestiwn gwaharddiadau, ni allwn gytuno mwy â'r pwynt y gwnaeth Jenny Rathbone am—. Wyddoch chi, mae gwahardd yn ymateb amhriodol i'r mwyafrif helaeth o amgylchiadau, onid ydy, ac rydyn ni wedi gweld cynnydd mewn rhai carfannau o ran gwaharddiad, ond mae angen i ni hefyd fod yn ymwybodol o'r cwestiwn o symudiadau rheoledig rhwng ysgolion a gwaharddiadau cudd hefyd—gwaharddiadau mewnol estynedig, os mynnwch chi, neu newidiadau hirdymor sylweddol i amserlennu. Gall pob un o'r rhain gael effeithiau tebyg i wahardd. Felly, bydd gennym fwy i'w ddweud yn ystod yr wythnosau nesaf, mewn gwirionedd, o ran cam cyntaf y canllawiau diwygiedig, ac yna byddwn yn ymgynghori y flwyddyn nesaf ar y canllawiau llawnach. Rydyn ni hefyd—. I'r disgyblion hynny sydd angen darpariaeth tymor byr heblaw yn yr ysgol, mae gwaith ychwanegol ar y gweill yn y maes hwnnw ar ganllawiau diwygiedig ynghylch sut i gomisiynu hynny a'r fframwaith o safbwynt hawliau plant o ran sut y dylai darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol fod ar gael. Felly, bydd hynny'n digwydd ar ddiwedd y flwyddyn hon a'r flwyddyn nesaf hefyd. Ac rwy'n credu bod y pethau hyn yn gydgysylltiol iawn, i fod yn glir. Rwy'n credu na allwch chi fynd i'r afael ag un agwedd heb weld y cyfan, fel y gwn y bydd hi'n cytuno.

Mae hi'n iawn, bydd y tasglu yn edrych ar arfer gorau, a byddaf eisiau iddynt gael ysbrydoliaeth o'r awdurdodau lleol hynny, ac mae awdurdodau lleol sydd wedi datblygu perthynas dda â'r gymuned addysgu gartref, ac mae hynny'n bwysig iawn, oherwydd, fel y dywed hi, bydd y profiad yn amrywiol iawn, oni fydd, o ran gallu rhieni i addysgu gartref a darparu addysg addas. Bydd hi hefyd yn gwybod am y gwaith rydyn ni wedi'i wneud ar ailgyhoeddi canllawiau statudol yn y maes hwn, sy'n bwysig iawn yn fy marn i; datblygu'r gronfa ddata, a fydd yn cefnogi awdurdodau lleol i nodi'r plant hynny sy'n cael eu haddysgu gartref. Mae gennym gronfa gwerth £1.7 miliwn yng Nghymru o hyd sydd wedi'i chynllunio i gefnogi addysgwyr gartref. Y rheswm bod hynny'n bwysig yw oherwydd fy mod eisiau i'r berthynas rhwng ysgolion ac addysgwyr gartref ddod yn fwy mandyllog, fel bod gan deuluoedd pan fyddant yn teimlo y gallant ddod â'u plant yn ôl i'r ysgol, lwybr i wneud hynny mewn ffordd sy'n gefnogol ac yn galonogol, ac felly rydym yn edrych ar beth arall y gallwn ei wneud i ddarparu mynediad i ganolfannau arholi, i Hwb ac adnoddau eraill, ochr yn ochr, wrth gwrs, â'r gwasanaethau statudol presennol yn yr ysgol y mae gan rieni sy'n addysgu gartref hawl iddynt eisoes. Ond rwy'n credu bod hynny'n enghraifft dda iawn o sut mae angen i ni edrych ar y darlun cyflawn wrth geisio mynd i'r afael â'r hyn sy'n fater dyrys iawn o ran presenoldeb.

7. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Diweddariad ar y Glasbrintiau Cyfiawnder Troseddol

Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar ddiweddariad ar y glasbrintiau cyfiawnder troseddol. Y Gweinidog felly i wneud y datganiad. Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Llywydd. Prynhawn da.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fesurau brys, gan gynnwys cynllun rhyddhau cynnar mewn carchardai, mewn ymateb i bwysau poblogaeth acíwt ar draws ystad y carchardai. Mae hyn yn dangos bod angen diwygio'r dull hirsefydlog o ymdrin â chyfiawnder Llywodraeth y DU. Mae angen dull gweithredu gwahanol. Mae'r dystiolaeth yn glir, rhaid i ni fynd i'r afael ag ysgogwyr sylfaenol ymddygiad troseddol a gweithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar drawma i gefnogi'r rhai sydd mewn perygl o droseddu ac atal troseddu rhag digwydd yn y lle cyntaf.

16:45

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

Yn y cyd-destun hwn, mae'r glasbrintiau ar gyfer cyfiawnder menywod a chyfiawnder ieuenctid yn ymgorffori ein gweledigaeth ar gyfer cyfiawnder. Trwyddynt, rydym yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid i gefnogi a dargyfeirio pobl agored i niwed i ffwrdd o droseddu a thuag at ddyfodol gwell iddyn nhw eu hunain, eu teuluoedd a'u cymunedau. Cyhoeddom y glasbrintiau yn 2019, yn bwysig, mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Plismona yng Nghymru, a Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr. Rwyf wedi cael sawl cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y ddarpariaeth ac, ers fy natganiad diwethaf ym mis Tachwedd 2022, mae mwy o gynnydd i'w rannu.

Ond cyn i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein cyflawniadau, hoffwn ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am eu hadroddiad ar brofiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol. Gwnaeth yr adroddiad sawl argymhelliad sydd wedi llywio ein gwaith, a byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am ein cynnydd o'i gymharu â'r rhain.

Gan droi yn gyntaf at lasbrint cyfiawnder menywod, mae tystiolaeth glir eisoes bod y glasbrint yn gwneud gwahaniaeth. Roedd 507 o ddedfrydau o garchar ar unwaith i ferched Cymru yn 2019, a gostyngodd hyn i 288 yn 2022. Er y bydd llawer o ffactorau yn ysgogi'r prif ffigurau hyn, mae'n galonogol gweld tuedd mor gadarnhaol a diffiniedig, a byddwn yn parhau i weithio i ostwng y niferoedd ymhellach.

Un o gonglfeini'r glasbrint yw dull system gyfan y rhaglen fraenaru i fenywod. Mae'r rhaglen fraenaru yn darparu cymorth pwrpasol ar gyfer materion fel camddefnyddio alcohol a sylweddau a phroblemau iechyd meddwl, wrth helpu i wella perthnasoedd teuluol. Mae dros 2,108 o fenywod wedi cael eu cyfeirio at y rhaglen fraenaru ers Ionawr 2020 yn y de a Gwent. Byddwn yn adeiladu ar lwyddiant y rhaglen fraenaru drwy gefnogi datblygiad dull system gyfan o weithio gyda menywod ledled Cymru y flwyddyn nesaf.

Mae'r prosiect Ymweld â Mam ar gyfer menywod Cymru yng ngharchardai HMP Eastwood Park a HMP Styal—y ddau ohonynt yn Lloegr—yn helpu menywod i gynnal a meithrin perthynas â'u teuluoedd, ffactor hanfodol wrth sicrhau ailsefydlu llwyddiannus yn ôl i'w cymunedau pan gânt eu rhyddhau. Ers lansio'r gwasanaeth ym mis Gorffennaf 2021, mae wedi cefnogi 115 o fenywod yn y carchar a 130 o blant yn y gymuned.

Mae canolfan breswyl menywod Abertawe, sy'n rhan hanfodol o'r glasbrint, sy'n darparu dewis newydd arloesol sef adsefydlu yn lle dalfa i fenywod, wedi cael caniatâd cynllunio, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau ei bod yn agor ac yn cefnogi menywod o'r ardal cyn gynted â phosibl. Ar 16 Ionawr ymwelais â chanolfan menywod Ymddiriedolaeth Nelson yng Nghaerdydd. Mae canolfannau menywod yn darparu man diogel sy'n canolbwyntio ar y gymuned i fenywod gael mynediad at gymorth a gwasanaethau. Trwy'r glasbrint byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu manyleb safon aur ar gyfer canolfannau menywod ac, yn y tymor hwy, i archwilio sut y gellid cynyddu'r ddarpariaeth ledled Cymru.

Gan droi at gyfiawnder ieuenctid, dros y 10 mlynedd diwethaf, mae gweithgareddau atal a wnaed gan wasanaethau cyfiawnder ieuenctid a phartneriaid wedi lleihau nifer y bobl ifanc sy'n mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol yn sylweddol sef gostyngiad o dros 79 y cant, o dros 3,000 yn 2011 i lai na 400 yn 2022. Ers ei lansio yn 2019, mae'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid wedi cyflawni amrywiaeth o waith i adeiladu ar y cyflawniadau hyn a chefnogi plant a phobl ifanc ymhellach.

Mae hyn yn cynnwys darparu hyfforddiant ar sail trawma i dros 300 o ymarferwyr cyfiawnder yng Nghymru a sicrhau bod gwell rheolaeth achos ar gael i holl wasanaethau troseddau ieuenctid Cymru. Mae'r dull amlasiantaethol hwn a arweinir gan seicoleg yn cydnabod y trawma y mae pobl ifanc wedi'i brofi, ac yn nodi sut i'w helpu i adeiladu'r cydnerthedd sydd ei angen arnynt i ffynnu a byw bywydau di-drosedd.

Mae hwn yn ategu'r cyllid a ddarperir drwy grant plant a chymunedau ar gyfer gwaith atal a dargyfeirio, a ddarperir gan wasanaethau troseddau ieuenctid. Mae'r cyllid yn helpu i dorri'r cylch o anfantais ac anghydraddoldeb, gan sicrhau bod pobl ifanc yn cyrraedd cerrig milltir datblygiadol allweddol i gael swyddi ac iechyd a llesiant ehangach da.

Wrth symud ymlaen, bydd y glasbrint cyfiawnder ieuenctid yn canolbwyntio ar dri maes blaenoriaeth: atal, dargyfeirio cyn y llys a dalfa. Bydd hyn yn cynnwys cyhoeddi fframwaith atal a fydd, am y tro cyntaf, yn creu un darlun o'r hyn sy'n gweithio i atal troseddu, a sut rydym yn cefnogi plant agored i niwed tuag at fywydau gwerth chweil, di-drosedd. Byddwn hefyd yn parhau i wreiddio ymarfer sy'n seiliedig ar drawma yn yr ystad ddiogel yng Nghymru, gan ddefnyddio fframwaith Cymru sy'n seiliedig ar drawma. Rwyf wedi ysgrifennu at y bwrdd cyfiawnder ieuenctid i groesawu ein llwyddiannau ar y cyd o dan y glasbrint ac i ddarparu arweiniad strategol sy'n pwysleisio pwysigrwydd dull cyfiawnder sy'n seiliedig ar drawma ac yn rhoi'r plentyn yn gyntaf.

Byddwn yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu diwygiedig ar gyfer y ddau lasbrint cyn toriad y Nadolig. Bydd y rhain yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd i adeiladu ar ein cyflawniadau ac i gyflawni'r nodau y cytunwyd arnynt ar y cyd ymhellach yn ôl yn 2019. Bydd y cynlluniau gweithredu newydd yn parhau i ymgorffori egwyddorion cydgynhyrchu, gan gynnwys yn ystyrlon y rhai sydd â phrofiad o fywyd wrth ddylunio a gweithredu gwasanaethau a chynhyrchion. Byddwn hefyd yn parhau i gyflawni gwaith mewn partneriaeth â blaenoriaethau eraill, megis y glasbrint trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a'r 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', sy'n cyd-fynd â rhaglen wrth-hiliaeth cyfiawnder troseddol.

Er ein bod yn cyflawni newid drwy'r glasbrintiau, a byddwn yn parhau i wthio hyn ymlaen, gallem gyflawni hyd yn oed mwy pe bai gennym system gyfiawnder wedi'i datganoli'n llawn. Dyna pam yr ydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i fynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli cyfiawnder. Bydd cael cyfiawnder wedi'i gyflawni gan un Llywodraeth yng Nghymru, yn hytrach na'i rannu ar draws yr ymyl tolciog rhwng Llywodraethau'r DU a Chymru, yn ein galluogi i ymgorffori dull gwirioneddol integredig yn y maes hwn gyda chyfiawnder cymdeithasol wrth ei wraidd. Yn ddiweddarach yn yr hydref, bydd fy nghyd-Weinidog, y Cwnsler Cyffredinol, yn cyhoeddi diweddariad i'r adroddiad 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru', a fydd yn tynnu sylw at y cynnydd yr ydym yn ei wneud yn y maes hwn. Diolch.

16:50

Wel, wrth gwrs, y gwir amdani yw bod polisïau Llywodraeth Cymru a'r DU ar y materion hyn yn cyd-fynd yn agos iawn. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU lasbrintiau cyfiawnder menywod a chyfiawnder ieuenctid ar y cyd ym mis Mai 2019, i wella partneriaethau rhwng gwasanaethau datganoledig a rhai sydd heb eu datganoli, a ddatblygwyd ar y cyd â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM a'r bwrdd cyfiawnder ieuenctid. Felly, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau unwaith eto fod hyn yn ymwneud â sut mae'r ddwy Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd, fel y gwnaeth hi yma pan ymatebais i'w datganiad ar lasbrintiau cyfiawnder fis Tachwedd diwethaf? A wnaiff hi hefyd gadarnhau'r ffaith bod hyn yn cyd-fynd â strategaeth troseddwyr benywaidd Llywodraeth y DU, i ddargyfeirio troseddwyr agored i niwed i ffwrdd o ddedfrydau carchar byr, a gyda strategaeth cyfiawnder ieuenctid Llywodraeth y DU, i ddal ac atal troseddau ieuenctid yn gynt nag erioed? 

A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i groesawu'r tueddiadau hirdymor cadarnhaol a gadarnhawyd gan ystadegau cyfiawnder ieuenctid blynyddol Cymru a Lloegr, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, gan ddangos bod nifer y plant sy'n mynd i mewn i'r system gyfiawnder am y tro cyntaf a nifer y plant yn y ddalfa yn is nag erioed, a bod aildroseddu hefyd wedi gostwng i'r lefel isaf a gofnodwyd, er bod cyfyngiadau'r pandemig wedi effeithio ar hyn yng Nghymru a Lloegr? Ac a wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i groesawu'r datganiad yn adroddiad blynyddol a chyfrifon Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr ar gyfer 2022-23 bod nifer y plant sy'n mynd i mewn i'r system cyfiawnder ieuenctid sydd wedi cael rhybudd neu wedi eu dedfrydu wedi parhau i leihau?

Fodd bynnag, pa ystyriaeth y mae hi wedi'i rhoi i'w datganiad bod y rhai y mae'r system yn gweithio gyda nhw'n debygol o fod yn blant ag ymddygiadau mwy parhaus a thrallodus? O ganlyniad mae Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr yn canolbwyntio ar greu cydweithio amlasiantaethol, gan gynnwys gyda gwasanaethau iechyd ac addysg, yn ogystal â'r sectorau gwirfoddol a chymunedol—allweddol. Mae glasbrint cyfiawnder ieuenctid Cymru yn nodi y bydd opsiynau'n cael eu harchwilio i alinio gwasanaethau ataliol sy'n cael eu cynnig i blant, gan gynnwys y rhai sydd wedi'u hanelu at leihau nifer y plant sy'n derbyn gofal, atal gwaharddiadau ysgol, a gwasanaethau digartrefedd, wrth gwrs, sy'n gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, i atal plant rhag mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol yn y lle cyntaf. Sut, felly, y mae'r Gweinidog yn bwriadu cysoni hyn â'r realiti, ar ôl rhedeg y sioe ers 1999, mai Cymru sydd â'r gyfran uchaf o blant yn y DU yn derbyn gofal, ac un o'r cyfrannau uchaf o blant sy'n derbyn gofal gan unrhyw wladwriaeth yn y byd?

Canfu Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd nad yw pobl ifanc ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yng Nghymru yn cael digon o gefnogaeth wrth iddynt lywio drwy'r system gyfiawnder, rhywbeth a godwyd gyntaf gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith yma ryw ddau ddegawd yn ôl—roedd gennyf ran yn yr adroddiad hwnnw—lle mae gan 60 y cant o bobl ifanc sy'n ymwneud â'r system cyfiawnder ieuenctid anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, er gwaethaf y ffaith mai dim ond 10 y cant o bobl ifanc y maen nhw'n ei gynrychioli yn gyffredinol. Er i'r Uchel Lys ddyfarnu yn 2018 bod gwahardd disgybl awtistig oherwydd ymddygiad sy'n deillio o'i awtistiaeth yn anghyfreithlon, mae hyn yn dal i ddigwydd yng Nghymru. Ac mae 3,350 o blant dibynnol dan 16 oed yng Nghymru mewn llety dros dro—traean mewn gwestai a llety gwely a brecwast.

Galwodd Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yng Nghymru, ac Asesiad Gwerthusadwyedd ar gyfer Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod Cymru a’r Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru ym mis Hydref 2022, am ehangu sylfaen dystiolaeth droseddol y menywod gan argymell datblygu fframwaith perfformiad a monitro amlasiantaeth gydag adnoddau digonol cyn unrhyw werthusiad. Felly, pa gamau y mae'r Gweinidog wedi'u cymryd ers hynny ynglŷn â hyn?

Er mai Llywodraeth y DU a gyhoeddodd strategaeth troseddwyr benywaidd i ddargyfeirio troseddwyr benywaidd agored i niwed i ffwrdd o ddedfrydau byr o garchar pryd bynnag y bo modd; buddsoddi mewn gwasanaethau cymunedol; a sefydlu pum canolfan breswyl dreialu i ferched, gan gynnwys un yng Nghymru, y Gweinidog yma, dros gyfiawnder cymdeithasol, a ysgrifennodd wedyn at yr Aelodau yn cyhoeddi y byddai un o'r canolfannau hyn ger Abertawe. Pa ddiwydrwydd dyladwy a gyflawnodd y Gweinidog ymlaen llaw, pan wrthododd pwyllgor cynllunio Abertawe hyn yn dilyn hynny, a dim ond nawr ar ôl apêl y mae'r gwaith i fynd yn ei flaen? A sut y bydd hyn yn helpu troseddwyr benywaidd agored i niwed yn y gogledd i gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, a'u teuluoedd, yn nes at adref, er enghraifft pan fo'r pellter o Wrecsam i Abertawe yn 133 milltir, ond dim ond 50 milltir i garchar menywod HMP Styal?

Yn olaf, sut ydych chi'n cyfrif am y data yn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar brofiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol, sy'n dangos—? Nid wyf yn gwybod pam rydych chi'n chwerthin, Alun Davies. Mae'r rhain yn bethau difrifol iawn. Sut ydych chi'n cyfrif am y data yn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar brofiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol, sy'n dangos, yn ardal Heddlu De Cymru, fod y nifer yn y carchar bedair gwaith yn uwch nag yn y rhanbarth isaf yn nalgylch y carchar yn Lloegr, pan fo Llywodraeth Cymru ei hun yn gyfrifol am y gwasanaethau yng Nghymru a ddylai fod yn ymyrryd yn gynnar ac yn atal carcharu?

16:55

Diolch yn fawr, Mark Isherwood. Fel y dywedwch chi, mae'r glasbrint cyfiawnder menywod yn fenter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF a hefyd gyda phartneriaid eraill, fel Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF, sydd ag ymgysylltiad agos iawn. Ac, wrth gwrs, mae gennym gyfrifoldeb i weithio gyda'n gilydd i drawsnewid canlyniadau i fenywod a phobl ifanc, fel y gwnawn drwy'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid hefyd. Mae gennym y cyfrifoldeb hwnnw i ddarparu'r gwasanaethau hynny yng Nghymru ac, yn wir, rydym wedi dysgu llawer iawn, nid yn unig o ran darparu'r glasbrintiau a'r gwasanaethau hynny sy'n diwallu anghenion menywod a phobl ifanc sy'n cael eu dal yn y system gyfiawnder yng Nghymru, ond hefyd yn unol â'n gwerthoedd a'n hamcanion penodol yng Nghymru i gyflawni'r rhain, sydd, wrth gwrs, yn bwrpasol iawn i Gymru ac i Lywodraeth Cymru a'n partneriaid.

Wyddoch chi, rwy'n falch iawn ein bod ni ar flaen y gad o ran gallu cyflwyno cytundeb i dreialu'r ganolfan breswyl i fenywod, ac mae hyn yn rhywbeth lle rydyn ni wedi gweithio i sicrhau bod gennym ddewis arall i fenywod sydd wedi cael eu cloi mewn carchardai y tu allan i Gymru. Mae nifer o'r menywod hynny yn ddioddefwyr; mae polisi sy'n seiliedig ar drawma yn dangos i ni na ddylen nhw fod yn y carchar, ac, wrth gwrs, rydym yn cydnabod ei fod wedi'i gydnabod o ran y datganiad a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Cyfiawnder ar 16 Hydref. Mae gennym y cyfrifoldebau hynny dros feysydd datganoledig o ran y darpariaethau carchar hynny, ac mae'n rhaid i ni sicrhau y gallwn ddylanwadu ar y rheini o ran addysg ac iechyd, ac mae llawer o ffyrdd yr ydym yn gwneud hynny. Ond rwy'n credu y bydd y ganolfan breswyl i fenywod yn darparu'r gefnogaeth gyfannol honno, wedi'i llywio gan drawma, i fenywod, ac yn darparu dewis arall yn lle'r gwasanaethau dalfa aflonyddgar a diangen hynny.

Yn wir, mewn gwirionedd, ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder ar 5 Hydref, cyn datganiad Alex Chalk ar yr unfed ar bymtheg. Ysgrifennais ato i ddweud nad ydym yn cefnogi cynnydd mewn carchardai; nid oeddem yn ymwybodol o'r hyn a oedd yn cael ei gyflwyno o ran ei ddatganiad. Dywedais ein bod yn credu mewn dull mwy ataliol o gyfiawnder sy'n mynd i'r afael ag achos troseddu, yn dargyfeirio pobl i ffwrdd o'r ddalfa, ac fe wnes i atgyfnerthu safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater hwn.

O ran y pwyntiau a'r materion rydych chi'n eu codi o ran cyfiawnder ieuenctid, rhoddais y ffigurau hynny yn fy natganiad ynghylch sut mae gweithgareddau ymyrraeth gynnar ac atal a gyflawnir gan ein gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid a'n partneriaid yn ein cymunedau yng Nghymru wedi lleihau nifer y bobl ifanc sy'n mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol yn sylweddol. I ailadrodd, mae nifer y rhai sy'n mynd i mewn am y tro cyntaf i'r system cyfiawnder ieuenctid yn gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn yng Nghymru, o dros 3,000 o bobl ifanc yn 2011 i dan 400 yn 2021. Ond mae hynny wedi ei wneud oherwydd ymrwymiad, sgiliau a phrofiad ein timau troseddau ieuenctid yng Nghymru, a'u cefnogaeth i blant drwy gyswllt gwirfoddol a statudol. Mae ein dull gweithredu—y dull amlasiantaethol a arweinir gan seicoleg—yn cydnabod y trawma y mae pobl ifanc wedi'i brofi, ac mae'n eu galluogi i ddatblygu'r cydnerthedd sydd ei angen arnynt i ffynnu a byw bywydau di-drosedd.

Bydd ein fframwaith atal cyfiawnder ieuenctid, y cyntaf o'i fath, hefyd yn cael ei ategu gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, gan gefnogi ystod o waith i wella sut mae atal yn gweithio'n ymarferol. Felly, oes, mae gennym ni ein perthnasoedd â phartneriaid cyfiawnder, ac rydyn ni'n falch o'r perthnasoedd hynny rydyn ni wedi'u creu, ond o ran cyfiawnder—ac mae hyn, wrth gwrs, yn cael ei adlewyrchu yn ein hachos dros ddatganoli cyfiawnder i Gymru, ac rydyn ni nawr yn symud tuag at baratoi ar gyfer datganoli yn enwedig cyfiawnder ieuenctid a phrawf ieuenctid—mae'n hanfodol ein bod ni'n gweithio gyda'n partneriaid i annog a chyflawni newid. A dyna fyddwn ni'n ei gyflawni o ran datganoli cyfiawnder i Gymru.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig myfyrio ar y datganiad 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru'. Roedd yn ddatganiad ar y cyd gyda'r Cwnsler Cyffredinol yn ôl ym mis Mai. Fe wnaethom amlinellu hanes o weithgaredd yn ymwneud â chyfiawnder, y gwaith rydym yn ei wneud i wella canlyniadau mewn meysydd o'r system gyfiawnder sydd eisoes wedi'u datganoli i Gymru, a meysydd sy'n cydgysylltu â'r system gyfiawnder. Ond dim ond drwy alinio polisïau cyfiawnder â'n hymdrechion ehangach o ran cyfiawnder cymdeithasol y byddwn ni wir yn cyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen ar y system gyfiawnder. Ac, yn anad dim, mae hynny'n golygu lleihau'r pwysau ar y system, y gellir ei wneud dim ond trwy gyflawni cyfiawnder cymdeithasol. Credwn y bydd canolbwyntio ar y swyddogaethau cyfiawnder hynny yn ein helpu i leihau ymyl tolciog datganoli yn llwyr. 

17:00

O'n gwasanaethau carchardai gorlawn i'r anghydraddoldebau brawychus yn ein system cyfiawnder troseddol i dorri hawliau plant Cymru, nid yw cyflwr cyfiawnder yng Nghymru yn addas i'r diben ar hyn o bryd ac mae'n niweidio pobl Cymru, a grwpiau arbennig yn benodol, o fewn y system cyfiawnder troseddol. Mae'r adroddiadau, y llyfrau a'r comisiynau niferus sydd wedi manylu ac wedi dangos tystiolaeth o effaith y pwerau a'r cyfrifoldebau sy'n gwrthdaro sy'n dal rhai o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed yn nhir neb barnwrol annynol a chamweithredol yn dditiad o ddiffyg gweithredu ac ewyllys wleidyddol i fabwysiadu dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn gwbl atebol o ran cyfiawnder, ac mae'n alwad i lywodraethau yng Nghymru a San Steffan weithredu yn awr ac yn y dyfodol.

Mae Plaid Cymru yn parhau i alw am ddatganoli cyfiawnder yn llawn yng Nghymru. Dyma'r unig ffordd y gallwn ni sicrhau system sy'n ymgorffori ein gweledigaeth ar gyfer cyfiawnder—un o ddargyfeirio a chefnogi, o ymyrraeth gynnar ac atal. Fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, bydd canfyddiadau damniol ein hadroddiad ar brofiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol yn aros gyda mi nes y bydd hyn yn digwydd. A bydd methiannau a niwed y system bresennol, sydd wedi'u hamlygu'n glir, yn parhau i effeithio ar fenywod sydd, ar y cyfan, yn ddioddefwyr troseddau.

O'r dedfrydau carchar creulon o fyr, nad ydynt yn cynnig unrhyw gyfle ar gyfer adsefydlu, ond digon o gyfle i ddryllio bywydau, i'r effaith ddinistriol ar famau Cymru a'u plant o gael eu carcharu gannoedd o filltiroedd o'u cartrefi, a ydych chi'n cytuno, Gweinidog, fod y sefyllfa bresennol yn sylfaenol anghyfiawn, anghynaladwy ac yn gwrthdaro uniongyrchol â dull gweithredu eich Llywodraeth o ran cyfiawnder troseddol? Ac, os felly, sut y byddwch yn sicrhau, os daw eich plaid i rym yn San Steffan, na fyddwch yn fodlon ar ddull tameidiog o ddatganoli cyfiawnder er lles y menywod Cymreig hyn?

O ran canolfannau menywod, cytunodd y Llywodraeth gydag argymhelliad ein pwyllgor ar gryfhau'r math hwn o ddarpariaeth, ond ni wnaethoch ymrwymo i fwy o gyllid, dim ond y byddai'n cael ei ystyried mewn rowndiau cyllideb yn y dyfodol. Felly, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y buddsoddiad y mae'r Llywodraeth yn barod i'w wneud mewn canolfannau merched, gan fod y gyllideb bron a chyrraedd?

Ymchwiliad arall roeddwn i'n rhan ohono fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol oedd i anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y system cyfiawnder ieuenctid, a soniodd Mark Isherwood am y materion yno, pryd amlygwyd bod gan o leiaf 60 y cant o blant a phobl ifanc yn y system cyfiawnder troseddol anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, ac fe allai fod cymaint â 90 y cant—dyna ganfu ymchwiliad ein pwyllgor. Wrth edrych ar y rhesymau y tu ôl i'r gwahaniaeth hwn, prif gasgliad y pwyllgor oedd nad yw'r gefnogaeth sydd ar gael i'r bobl ifanc hyn yn ddigonol ac mae'n anghyson ledled Cymru. Felly, mae'n rhaid gwella'r mynediad at gymorth therapi lleferydd ac iaith a'i wneud yn gyson, er mwyn helpu i atal y bobl ifanc hyn rhag cael eu hunain mewn sefyllfa a allai newid cwrs eu bywydau yn llwyr, sy'n golygu nad oes mynediad teg at gyfiawnder.

O ystyried bod y Llywodraeth wedi gwrthod argymhellion i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod therapyddion lleferydd ac iaith yn cael eu hymgorffori ym mhob tîm troseddau ieuenctid yng Nghymru, a thrwy weithio gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu drwy'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid i sicrhau bod therapyddion lleferydd ac iaith o'r gwasanaeth iechyd yn cael eu hymgorffori mewn dalfeydd mewn gorsafoedd heddlu, hoffwn wybod sut y gwnaed cynnydd i fynd i'r afael â'r sefyllfa annerbyniol hon.

Yn olaf, hoffwn gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gamau i fynd i'r afael â'r toriadau pryderus ar hawliau plant a amlygwyd gan adroddiad Comisiynydd Plant Lloegr yn gynharach eleni, a ddangosodd fod 134 o achosion o noeth-chwilio plant yng Nghymru gan yr heddlu rhwng 2018 a 2022, gyda Heddlu De Cymru yn noeth-chwilio 108 o blant, ffigur sy'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae Canolfan Gyfreithiol Plant Cymru yn dadlau bod noeth-chwilo plant yn torri hawliau plant, yn groes i ymrwymiad ein cenedl i CCUHP, ac i ddeddfwriaeth Cymru yn unig sy'n hyrwyddo hawliau plant. Yn dilyn achos brawychus plentyn Q, galwodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu fis diwethaf am adolygiad sylweddol o bwerau plismona o dan y deddfau sy'n ymwneud â noeth-chwilio plant, i wella diogelu a blaenoriaethu lles plant dan oed. Pa wybodaeth ydych chi wedi'i gael ynglŷn â'r adolygiad hwnnw, Gweinidog? A heb ddatganoli pwerau ar gyfiawnder a phlismona yn llawn i Gymru, sut, Gweinidog, ydych chi'n cynnig ein bod yn cynnal hawliau ein plant? Diolch.

17:05

Diolch yn fawr, Sioned Williams. A gaf i nawr fyfyrio ar adroddiad pwysig Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd? Rwy'n siŵr y byddwn yn clywed mwy am hwn y prynhawn yma. Roedd yn adroddiad hanfodol, byddwn i'n dweud, ar y dystiolaeth a gafwyd ar brofiad menywod yn y system cyfiawnder troseddol. Mae'n rhoi sylw i'r meysydd cyfiawnder i fenywod a merched, gan dynnu sylw at lawer o'r anghenion a'r gwendidau y mae menywod yn eu hwynebu yn y system, ond hefyd, fel y dywedais i yn gynharach, ac fel y dywedoch chi, tynnodd sylw at y ffaith bod llawer o fenywod yn y system gyfiawnder yn ddioddefwyr eu hunain, ac y dylid eu hystyried felly.

Pan ymwelodd y Cwnsler Cyffredinol a minnau â HMP Eastwood Park, dyna'n union a ddywedodd y llywodraethwr wrthym. Dywedodd, 'Mae mwyafrif y menywod yn y carchar hwn yn ddioddefwyr'—trais domestig, camddefnyddio sylweddau, tlodi. A dyna lle mae'r dedfrydau tymor byr yn aml wedi cael effaith mor andwyol ar nid yn unig bywydau'r menywod—a dweud y gwir, clywais eitem yr wythnos hon am y ffaith bod yr effaith ar y teulu, y plant. Do, rydym wedi ariannu ein cynllun Ymweld â Mam. Cyfarfuom â mam-gu, mewn gwirionedd, yn Eastwood Park a oedd yn elwa'n arbennig ar y gwaith sy'n cael ei wneud yn y gymuned. Ond daeth yr unigolyn hwn o orllewin Cymru, a faint gwell fyddai hi pe bai ei merch wedi bod mewn canolfan breswyl i fenywod gyda'r gofal cyfannol ac adsefydlu, hyfforddiant a sgiliau, a chysylltiad agos â'i theulu?

Ond rwyf eisiau canolbwyntio ar y ffaith mai—ac fe wnaeth Mark Isherwood y pwynt hefyd—ar ganolfannau merched amhreswyl a chadw menywod allan o'r system gyfiawnder, un o flaenoriaethau allweddol y glasbrint cyfiawnder menywod yw cefnogi canolfannau fel canolfan merched y gogledd yn Y Rhyl, canolfan Nelson yng Nghaerdydd—rwyf wedi sôn am honno—darparu'r gwasanaethau hynny i'w cefnogi, rheoli a goresgyn rhai o'r rhwystrau a'r problemau a'r trawma hynny sydd wedi effeithio ar eu bywydau, a thrawma a phrofiad eu bywydau. A hefyd dim ond gweld beth all y canolfannau hynny ei gynnig a'r hyn y gallant ei olygu i'r menywod hynny ac, yn wir, eu teuluoedd a'u plant.

Rwyf hefyd yn credu bod angen i ni edrych ar yr hyn yr ydym wedi'i gyflawni o ganlyniad i'n cyfrifoldebau yng Nghymru. Rwy'n credu os edrychwch chi ar ein hymrwymiad i gefnogi menywod sydd yn y ddalfa, mai GIG Lloegr sy'n gyfrifol am ddarparu gofal iechyd—maen nhw'n garchardai y tu allan i Gymru—gan gynnwys camddefnyddio sylweddau. Ond fe wnaethom ni gefnogi gweithrediad cenedlaethol Buvidal mewn ymateb i COVID-19 ac mae'r gefnogaeth hon yn ymestyn i'r system cyfiawnder troseddol yma yng Nghymru. Ni oedd y genedl gyntaf yn y DU i weithredu'r dewis o'r driniaeth hon ac erbyn hyn mae 1,400 o ddefnyddwyr gwasanaethau ledled Cymru yn elwa ar hyn.

Nid oes rhwystr mwyach i fenywod o Gymru rhag cael mynediad i Buvidal yn Eastwood Park neu Styal. Credaf fod hynny'n mynd i'r afael â rhai o'r materion a godwyd gan y pwyllgor, ac roeddem yn falch o gadarnhau'r cam hanfodol hwn ymlaen. Mae'r gwaith yr ydym yn ei wneud yng Nghymru, rwy'n credu, wedi'i ategu gan ein gwerthoedd, ein hymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol, o fewn dull gweithredu cyfiawnder cymdeithasol tuag at gyfiawnder troseddol yng Nghymru. Mae hynny'n cynnwys yr holl waith rydyn ni'n ei wneud o ran cyflogadwyedd i bobl mewn cyfiawnder.

Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig cydnabod adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y system cyfiawnder ieuenctid. Rydym yn cydnabod yr angen hanfodol hwnnw ac rwy'n falch bod yna uwchgynhadledd gyda rhanddeiliaid allweddol i edrych yn benodol ar effaith lleferydd ac iaith ar blant a'r cysylltiad â chyfranogiad y rhai sy'n ymwneud fwyaf â'r system cyfiawnder ieuenctid. Bydd hynny'n digwydd ym mis Rhagfyr eleni.

Fe wnaf hefyd ymateb i'ch pwynt am noeth-chwilio plant a phobl ifanc. Nid yw plismona wedi'i ddatganoli i Gymru eto. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am hyn, ond rydym wedi cymryd y mater hwn o noeth-chwilio plant a phobl ifanc o ddifrif. Gall fod yn hynod drawmatig ac mae'n rhaid cyfiawnhau pob achos yn llawn, ei gynnal a'i ddefnyddio'n briodol fel dewis olaf. Felly, rwyf wedi cwrdd â'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ac mae plismona yng Nghymru wedi cytuno i gynnal ymarfer mapio data i wella data a sicrwydd sydd ar gael ar y mater hwn, ac i ni nodi camau pellach i'w cymryd. Ond hefyd, unwaith eto, yn y dolenni i'n polisïau cyfiawnder cymdeithasol ehangach, mae hyn yn berthnasol iawn i gynllun gweithredu gwrth-hiliol Cymru. Felly, rwyf wedi gofyn am wybodaeth am ethnigrwydd a nifer y chwiliadau a gynhaliwyd. 

Rwy'n credu ein bod ni'n symud ymlaen o'r diwedd. Fel y dywedais i, daw'r manteision mwyaf gyda datganoli'r system gyfiawnder gyfan. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i fynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli cyfiawnder yn ei gyfanrwydd, ac mae graddfa'r system gyfiawnder, wrth gwrs, yn golygu, yn ymarferol, eich bod yn datganoli fesul cam. O ran datganoli cyfiawnder ieuenctid a phrawf, rwyf eisoes wedi dweud mewn ymateb i gomisiwn Gordon Brown nad ydym yn gwneud yr achos yn unig, rydym yn paratoi ar eu cyfer. Diolch. 

17:10

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am y datganiad y mae hi wedi'i gyflwyno i ni y prynhawn yma. Mae bob amser yn siom clywed llefarydd y Ceidwadwyr yn ailddarllen areithiau o'r gorffennol. Mae'n debyg bod eu clywed unwaith yn hen ddigon. Nid yw'n ddigonol, mewn casgliad deallusol rhyfedd, i lwyddo i feio Llywodraeth Cymru am fethiannau system cyfiawnder troseddol y DU. Ond rwy'n cytuno ag ef o ran y methiannau a ddisgrifiodd. Po'r cynharaf y caiff y system hon ei datganoli i Gymru, gorau oll, oherwydd byddwn wedyn yn gweld y mathau o welliannau yr adroddodd y Gweinidog arnynt yn ei chyfraniad, yn ei datganiad heddiw. Ac mae'n dda iawn gweld ymyraethau Llywodraeth Cymru yn y system yn cael effaith wirioneddol ar bobl go iawn.

Rwy'n credu bod pawb sydd wedi bod yn rhan o'r system cyfiawnder troseddol ar unrhyw lefel yn gadael y cysylltiad hwnnw ag ymdeimlad dwys o anesmwythyd oherwydd bod pobl yn cael eu trin fel hyn yn ein cymunedau, yn ein gwlad, yn ein cymdeithas heddiw. Ac o'r holl bethau rydw i wedi'u gweld yn y lle hwn, rwy'n credu bod y ffordd y caiff menywod eu trin yn y system cyfiawnder troseddol yn sefyll allan fel rhywbeth hollol anghywir, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn dechrau ar y gwaith o newid hynny ac effeithio ar hynny. 

Rwy'n gwybod fy mod i'n rhedeg allan o amser, Cadeirydd dros dro, ond rwy'n gobeithio y byddwch chi'n hael. Hoffwn i'r Gweinidog, os gallai hi, esbonio sut y rheolir y ganolfan menywod yr ydym yn disgwyl iddi gael ei hadeiladu ger Abertawe; sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau'r Deyrnas Unedig a gyda llywodraeth leol a'r GIG i ddarparu gwasanaethau yno; sut rydych chi'n gweld datblygu polisi cyfiawnder ieuenctid ochr yn ochr â pholisi ieuenctid i sicrhau bod gennym ddull mwy di-dor o ddiogelu dyfodol pobl ifanc; ac yn olaf, gwyddom fod y gwasanaeth prawf wedi dioddef problemau enfawr ers preifateiddio, ond roedd preifateiddio prawf mor agos at weithred droseddol ynddo'i hun ag y gallwch chi ddychmygu. Sut ydych chi'n gweld dyfodol y gwasanaeth prawf nawr, o gofio y bydd methiannau'r system honno yn y gorffennol yn effeithio ar fenywod a phobl ifanc? Rwy'n ddiolchgar i'r Cadeirydd dros dro.

17:15

Diolch yn fawr, Alun Davies, a diolch nid yn unig am eich ymrwymiad heddiw a'ch cwestiynau i mi heddiw, ond am eich ymrwymiad yn y maes polisi hwn a'ch ymrwymiad i weld cyfiawnder i fenywod o ran y maes polisi hanfodol hwn, a'ch dylanwad o ran datblygu, datblygiad cynnar, glasbrint cyfiawnder menywod a glasbrint cyfiawnder ieuenctid.

Fel y dywedwch chi, mae methiannau'r system cyfiawnder troseddol yn glir. Pa achos gwell all fod dros ddatganoli cyfiawnder i Gymru? Ond fe wnaethoch chi ofyn cwestiwn penodol am y ganolfan breswyl i fenywod. Fel y dywedais i, bydd y ganolfan yn darparu'r gefnogaeth wybodus, gyfannol honno sy'n seiliedig ar drawma i fenywod ac yn darparu'r dewis arall hwnnw—sydd bellach wedi'i gydnabod o'r diwedd gan Lywodraeth y DU—yn lle dedfrydau o garchar aflonyddgar a diangen. Ac felly rwy'n croesawu—roedd y Prif Weinidog hefyd yn cydnabod hyn yn gynharach heddiw—y datganiad ynghylch y ffaith y bydd y gostyngiad hwn ar ddedfrydau byr—gan ragdybio yn erbyn dedfrydau byr o garchar o 12 mis neu lai. Ni allwch wneud dim ond dinistrio bywyd menyw gyda dedfrydau o lai na 12 mis, heb sôn am anghenion ei phlant a'i theulu. Ac fel y dywedais i, rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder i groesawu'r penderfyniad, ond, wedyn, mae angen i ni fwrw ymlaen â'n canolfan breswyl i fenywod. Bydd honno'n cael ei darparu mewn partneriaeth, wrth gwrs, ond yn cael ei darparu gan ein gwasanaeth prawf cenedlaethol yng Nghymru erbyn hyn, ac mae'n mynd i ddarparu cefnogaeth i fenywod agored i niwed yn y system cyfiawnder troseddol, neu'r rhai sydd mewn perygl o fynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol. Wrth gwrs, cynllun peilot ydyw; dyma'r cyntaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn ffyddiog y gallwn ni ei gyflawni i helpu i osgoi'r dedfrydau aflonyddgar a diangen hynny o garchar. Rwy'n falch y bydd yn cael ei lleoli yn ardal Abertawe. Mae'n mynd i fod yn arloesol, yn profi'r dull newydd, ond mae gennym ddyhead hirdymor i wreiddio dewisiadau amgen yn lle dalfa ledled Cymru gyfan—sydd, wrth gwrs, yn ymateb i'r cwestiwn cynharach gan Mark am y gogledd—ac i sicrhau, mewn gwirionedd,  bod hyn ledled Cymru i sicrhau y gall menywod hefyd gael mynediad at wasanaethau datganoledig hefyd, megis cymorth iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau mewn ffordd integredig.

Yn olaf, dim ond i ddweud, o ran ein camau nesaf, mae cyfiawnder ieuenctid a phrawf yn ymgeiswyr ar gyfer datganoli, fel y dywedais i, oherwydd eu hagosrwydd at feysydd datganoledig presennol, gwasanaethau prawf effeithiol. Mae angen iddynt weithio'n agos, onid oes e, gyda'r gwasanaethau cymdeithasol, darparwyr gofal iechyd, ymhlith gwasanaethau eraill a ddarperir yn lleol. Felly, rydym yn paratoi ar gyfer datganoli cyfiawnder ieuenctid, prawf a phlismona. Rydyn ni'n gweithio ar yr ymarferoldeb—ac mae hynny'n bwysig—o ddatganoli yn y meysydd hyn: beth yn union y dylid ei ddatganoli; sut y byddwn yn defnyddio ein cyfrifoldebau newydd; beth yw'r costau a'r gallu? Ac, wrth gwrs, rwy'n credu bod hyn yn ymwneud â diwygio. Nid sgwrs am bwerau, mae'n sgwrs am sut rydym yn cynhyrchu'r canlyniadau gorau i bobl sy'n byw yng Nghymru, a menywod a phobl ifanc yn arbennig.

Diolch yn fawr iawn. A diolch, Gweinidog, am fynd ar drywydd y mater hwn fel ci ag asgwrn. Gallaf weld eich angerdd a'ch penderfyniad i lwyddo lle mae Llywodraethau eraill wedi methu, mewn gwirionedd, oherwydd cyhoeddwyd adroddiad Corston yn 2007 ac rydym yn dal i fod yn bell iawn o'i gweledigaeth hi o ran sut rydym yn ymdrin yn well â menywod yn y system cyfiawnder troseddol.

Rwy'n falch iawn o glywed bod canolfan merched Abertawe wedi cael caniatâd cynllunio ac edrychaf ymlaen at glywed sut y bydd hynny'n gweithio, ond, fel y dywedwch chi, mae angen canolfannau menywod yn ddigon agos at ble mae menywod yn byw i sicrhau bod gan bob cymuned yr opsiwn o dderbyn cefnogaeth, er mwyn peidio â pharhau i fod yn rhan o'r system cyfiawnder troseddol. Ond o ganlyniad i'r fenter ar lasbrint troseddol y menywod, gallwn ddweud nad yw 319 o ferched wedi cael eu hanfon i'r carchar, ac mae hynny'n gyflawniad go iawn.

O ran y gwaith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd ar drywydd ein hadroddiad ar bobl ag anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu, yn amlwg, mae rhywfaint o hyn yn ymwneud â'r trafodaethau am ddiffyg mynychu a gawsom gyda'r Gweinidog addysg yn gynharach y prynhawn yma. Meddwl oeddwn i tybed beth sydd wedi'i wneud i rannu'r arfer da sy'n digwydd yng Nghastell-nedd Port Talbot, lle, oherwydd bod ganddyn nhw therapyddion lleferydd ac iaith yn y tîm cyfiawnder ieuenctid, maen nhw'n gallu adnabod yn llawn nid yn unig 60 y cant o bobl ifanc ond 79 y cant o bobl ifanc sy'n ymwneud â'r system cyfiawnder ieuenctid yno.

Rwy'n gwerthfawrogi bod anhawster gwirioneddol, lle mai dim ond 800 o therapyddion iaith a lleferydd sydd yng Nghymru, ac mae eu hangen mewn sawl agwedd ar ein gwaith. Ond er mwyn cynyddu'r nifer hwnnw, yn amlwg, mae angen i ni, ar hyn o bryd, ymgysylltu â Llywodraeth y DU. Felly, a yw Llywodraeth y DU yn glir nad yw'n bosibl cyfweld â pherson ifanc os nad oes ganddo ddealltwriaeth o'r hyn sy'n digwydd neu pam y mae'n cael ei ddwyn gerbron y system cyfiawnder ieuenctid? Ac a oes unrhyw beth arall y gallwch ei ddweud ar hyn o bryd am gynyddu nifer y therapyddion lleferydd ac iaith sydd ar gael?

17:20

Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Rwyf i'n edrych bob amser at adroddiad Jean Corston yn ôl yn 2007, fel rydych chi'n ei ddweud, i chwilio am y canllawiau a'r dystiolaeth sy'n sail i gymaint o'n polisi. Diolch am ymchwiliad eich pwyllgor a'ch adroddiad a chydnabyddiaeth o'r effaith gadarnhaol ar ddull y rhaglen fraenaru i fenywod, yn arbennig.

Fe wnaf i ateb y pwynt ynglŷn â'r argymhellion ar anghenion lleferydd ac iaith a chymunedol yn y system cyfiawnder ieuenctid. Rwyf i wedi sôn am y ffaith ein bod ni'n cynnal yr uwchgynhadledd hon gyda rhanddeiliaid allweddol. Rwy'n credu y bydd y dystiolaeth mewn mannau fel Castell-nedd Port Talbot, lle'r ydych chi'n gweld budd yr ymyrraeth honno, o ran therapyddion lleferydd ac iaith, yn dod i'r fei. Bydd yn uwchgynhadledd 'ymarfer yr hyn sy'n gweithio' da, rwy'n siŵr.

Hefyd, i ddweud o'r diwedd ein bod ni'n ariannu therapyddion lleferydd ac iaith, fel y gwyddoch, ym mhob gwasanaeth Dechrau'n Deg yng Nghymru. Mae'n gyson ledled Cymru, ar gyfer buddiolwyr Dechrau'n Deg. Wrth gwrs, mae hynny'n cael ei gynyddu nawr wrth i ni ehangu Dechrau'n Deg. Felly, mae mwy o fynediad at gymorth lleferydd ac iaith ar gyfer anghenion cyfathrebu'r plant hynny. Mae hefyd yn golygu ein bod ni'n nodi ac yn cynorthwyo plant a phobl ifanc yn gynharach ac yn fwy effeithiol, oherwydd gall nodi anghenion lleferydd ac iaith a chyfathrebu, wrth gwrs, fod yn ymyrraeth hollbwysig o ran dyfodol eu bywydau. Felly, rydym ni eisoes yn gweld mentrau polisi eraill yn cael yr effaith honno. Diolch am y sylwadau hynny.

8. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Safon Ansawdd Tai Cymru 2023

Fe symudwn ymlaen nawr at eitem 8, sef datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Julie James.

Diolch. Heddiw, rwy'n cyflwyno safon ansawdd tai Cymru 2023, gan adeiladu ar lwyddiannau rhagorol ei ragflaenydd, y mae pob cartref cymdeithasol yng Nghymru bellach wedi'i fodloni. Bydd y safon newydd hon yn parhau i gynyddu ansawdd tai cymdeithasol yng Nghymru, unwaith eto'n codi'r safon ar gyfer tai cymdeithasol.

Mae'r safon newydd yn feiddgar. Mae'n fwriadol heriol, oherwydd rwy'n benderfynol bod tai cymdeithasol yng Nghymru yn darparu cartrefi carbon isel, o ansawdd uchel i denantiaid sy'n ddiogel, yn fforddiadwy i'w gwresogi, ac yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a thu hwnt. Ond mae hefyd yn bosibl. Mae pawb yn derbyn bod byw mewn cartref o ansawdd yn dod â manteision lluosog i lesiant corfforol a meddyliol y rhai sy'n byw ynddyn nhw, a bydd 44 elfen y safon yn sicrhau bod ein cartrefi cymdeithasol yn darparu'r buddion hynny.

Mae'r 2020au eisoes wedi dod â newid sydyn ac annisgwyl, nid leiaf gyda phandemig byd-eang yn newid yn sylfaenol sut mae pobl yn byw ac yn gweithio, a'r hyn sydd ei angen arnyn nhw gan gartref. Mae materion cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, fel mynediad at fand eang a darpariaeth lloriau, diogelwch adeiladau a'r gallu i fyw'n ddiogel mewn cartrefi, wedi dod yn bwysicach fyth. Mae gwerthfawrogiad o'n cartrefi yn uwch nag erioed, a dyna pam mae'r safon newydd hon yn canolbwyntio mor gadarn ar denantiaid.

 minnau'n Weinidog Newid Hinsawdd, ni fydd yn unrhyw syndod fy mod i wedi gwneud datgarboneiddio ein stoc tai cymdeithasol yn thema ganolog ar gyfer y safon newydd hon. Datgarboneiddio tai yw un o'n prif flaenoriaethau. Drwy'r gwaith ar gartrefi cymdeithasol, gallwn ddysgu sut i uwchraddio cartrefi yn effeithiol ac yn effeithlon mewn ffyrdd sy'n lleihau biliau ynni tenantiaid yn ogystal ag allyriadau carbon. Bydd yr hyn y byddwn ni'n ei ddysgu wrth uwchraddio'r 230,000 o gartrefi cymdeithasol yng Nghymru yn ysgogi sut rydym ni fel cenedl yn mynd i'r afael â datgarboneiddio'r 1.2 miliwn o gartrefi sy'n eiddo preifat yng Nghymru.

Mae ein safon newydd ar gyfer tai cymdeithasol presennol yn pennu'r uchelgais o dystysgrif perfformiad ynni A neu weithdrefn asesu safonol 92 neu fwy yn y dyfodol. Mae hyn yn cyd-fynd â'r safon adeiladu tai cymdeithasol newydd a gyflwynais ddwy flynedd yn ôl. I gyflawni'r uchelgais hwnnw, bydd yn rhaid i ni wneud pethau fesul cam. Cam cyntaf y daith honno yn y safon newydd yw i landlordiaid cymdeithasol gynnal asesiadau o stoc gyfan er mwyn cael dealltwriaeth fesul cartref unigol o'r gwaith sydd ei angen. Y cam nesaf fydd i landlordiaid lunio cynllun i bob cartref gyrraedd EPC A, sef yr hyn a fydd yn cael ei alw'n llwybr ynni wedi'i dargedu. Mae hyn yn sicrhau cysondeb â'n rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio bresennol.

Mae hon yn safon hirdymor ac felly mae'n iawn ein bod ni'n rhoi rheolfeydd ar hyd y ffordd. Y gofyniad yn y safon newydd yw i bob landlord cymdeithasol gael EPC C neu SAP 75 erbyn 2029. O dan y safon newydd hon, bydd EPC C neu SAP 75 yn sicrhau bod pob tenant cymdeithasol yn gallu cynhesu eu cartrefi'n fforddiadwy, nid dim ond y rhai sy'n llwyddo i gael cartref cymdeithasol newydd sbon. Ond mae'r safon yn ymwneud â llawer mwy na datgarboneiddio a chynhesrwydd fforddiadwy, mae'n cyflwyno elfen lloriau newydd i'r safon, sy'n golygu, wrth newid tenantiaeth, y dylai fod gan bob ystafell yn y cartref y mae pobl yn byw ynddyn nhw, pob set o risiau a phen-grisiau, orchuddion llawr addas. Yn ogystal â gwneud y cartref yn fwy cyfforddus i denant newydd a gwella inswleiddio, mae gan hyn y fantais ychwanegol o leihau gwastraff diangen o gael gwared ar loriau cwbl addas pan ddaw tenantiaeth i ben, sef yr arfer diofyn ar hyn o bryd.

O ran lleithder a llwydni, mae'r safon yn darparu eglurder ychwanegol yn seiliedig ar y dysgu o achos trasig Awaab Ishak yn Rochdale. Mae'r safon yn nodi'n eglur y gofyniad i landlordiaid cymdeithasol sicrhau nad oes lleithder mewn cartrefi, gan gynnwys cyddwysiad parhaus. Ceir 13 elfen yn y safon newydd hon sydd naill ai'n newydd neu'n ddiwygiedig, a bydd angen i landlordiaid ddechrau'r broses o gydymffurfio â'r elfennau hyn o 1 Ebrill 2024. Rydym ni'n mabwysiadu dull pragmatig o gyflawni'r newidiadau hyn, gyda nifer o elfennau yn cael eu gwireddu wrth newid tenantiaeth. Bydd hyn yn sicrhau bod proses raddol o gyflwyno elfennau dros gyfnod o amser i gynorthwyo landlordiaid cymdeithasol gyda chostau rhaglenni. Hefyd, bydd angen cwblhau elfennau newydd, fel yr asesiad stoc gyfan a'r llwybrau ynni wedi'u targedu y soniwyd amdanyn nhw'n gynharach, o fewn cyfnod o dair blynedd. Gellir ariannu'r gost o fodloni elfennau newydd yn ymwneud â chynhesrwydd fforddiadwy a datgarboneiddio o ddyraniadau cyllideb y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio ar gyfer landlordiaid cymdeithasol. Rwy'n gwybod bod y sector wedi mynegi pryderon am gost bodloni'r safon yn ystod y cyfnod ymgynghori, a bod pryderon yn parhau o ran ariannu ein huchelgeisiau ar gyfer datgarboneiddio'r sector tai cymdeithasol. Ac felly, ynghyd â ffrydiau cyllid craidd, fel y lwfans atgyweiriadau mawr, sy'n darparu dros £60 miliwn i awdurdodau lleol bob blwyddyn, a chyllid gwaddol o dros £43 miliwn i'r cymdeithasau tai trosglwyddo gwirfoddol ar raddfa fawr bob blwyddyn, mae gennym ni'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio sy'n darparu £270 miliwn dros dymor y Llywodraeth hon i dai cymdeithasol. Fodd bynnag, i ddarparu cymorth pellach, rwy'n bwriadu gwneud £22.5 miliwn arall ar gael ar gyfer eleni a'r flwyddyn nesaf, wedi'i dargedu at gynorthwyo tai cymdeithasol, gan fodloni safon ansawdd tai Cymru 2023.

Dros y flwyddyn nesaf, bydd fy swyddogion yn gweithio gyda'r sector i sicrhau bod cyllid yn y dyfodol yn cefnogi'r gwaith parhaus i fodloni'r safon yn y ffordd orau, yn ogystal â chefnogi arloesedd. Datblygwyd y safon newydd hon mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid ac ar draws adrannau dros gyfnod o ddwy flynedd. Mae hefyd yn cynnwys elfennau sy'n cyd-fynd â'n hegwyddorion economi gylchol, teithio llesol, bioamrywiaeth ac effeithlonrwydd dŵr, i gyfrannu at ein nodau newid hinsawdd fel Llywodraeth, fel y nodir yng nghynllun Sero Net Cymru. Rwy'n ffyddiog mai dyma'r safon gywir, ar yr adeg gywir, ond ni fydd ei gweithredu yn rhwydd.

Fel Llywodraeth, byddwn yn gweithio ar y cyd â'r sector, yn yr un modd ag yr ydym ni wedi datblygu'r safon i oresgyn yr heriau hyn. Rwyf i wedi ymrwymo i adolygu'r safon o fewn tair blynedd, gan ganiatáu i ni gymryd i ystyriaeth yr hyn y mae'r arolygon stoc gyfan yn ei ddweud wrthym ni. Mae maint yr her o uwchraddio tai cymdeithasol yn fawr. Mae'r safon newydd yn feiddgar ac yn gyflawnadwy, ac mae'n fwriadol heriol. Fodd bynnag, rydym ni wedi ei wneud o'r blaen, ac ynghyd â'n landlordiaid cymdeithasol, gallwn ni ei wneud eto. Mae angen i ni fod yn bragmatig ac ymateb i'r her, oherwydd mae ein tenantiaid yng Nghymru yn dibynnu arnom ni. Diolch.

17:25

Wel, Gweinidog, diolch am y datganiad hwn. Byddwch yn falch o'm clywed i'n siarad i gefnogi safon ansawdd tai Cymru ac, yn wir, eich datganiad. Yn sicr, rwy'n gallu cofio pan gawsom ni'r trosglwyddiad stoc dai, ac mae'n deg dweud, heb y safon ansawdd tai a roddwyd ar waith gennych chi bryd hynny, ar yr adeg honno—. Roedd llawer o'r stoc honno wir ar ei hôl hi o ran ceginau da, ystafelloedd ymolchi da, wedi'u hinswleiddio, gwydr dwbl. Ac rwy'n credu bod eich safon yn y gorffennol wedi bod yn llwyddiant digamsyniol.

Nid wyf i'n credu y byddai'r un Aelod yn y Siambr hon yn anghytuno â mi wrth ddweud bod gwella ansawdd ein cartrefi cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru yn darged clodwiw ac yn un y mae'n rhaid ei gyflawni. Nid oes amheuaeth y dylai'r safon arwain at dai cymdeithasol o ansawdd uwch sy'n fforddiadwy i'w gwresogi ac yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a thu hwnt, a hefyd osgoi unrhyw dlodi tanwydd.

Yn gynharach eleni, codwyd pryderon yn Wrecsam bod safon ansawdd tai Llywodraeth Cymru, fodd bynnag, yn atal yr awdurdod rhag lleihau'r rhestr aros am dai mewn gwirionedd, ond rwy'n dychmygu, Gweinidog, eich bod chi wedi cymryd hyn i ystyriaeth, gan ein bod ni i gyd yn gwybod am landlordiaid cymdeithasol cofrestredig lle, pan fydd ganddyn nhw dŷ gwag, rydych chi'n disgwyl—. Mae gennym ni gymaint o bobl sydd eisiau cartrefi bod pobl yn meddwl os daw tŷ yn wag, 'Gallaf i gael y tŷ yna', pan, fel rheol, mae naill ai'n cael ei neilltuo i rywun arall neu'n wag am fisoedd lawer am y rheswm syml na allan nhw roi'r rhaglenni ailosod sylfaenol ar waith. Felly, nawr, gan ofyn am yr ôl-osod ychwanegol, atodol, mae'n rhaid i ni fod yn siŵr nad yw hyn yn achosi i gartrefi tymor hwy fod yn wag, os ydych chi'n deall fy ystyr.

Mae gen i bryderon am adnoddau ychwanegol ar gyfer ôl-osod, ond £22 miliwn—sut cyfrifwyd y ffigur hwnnw ac a ydych chi'n credu y gallwch chi gyflawni'r hyn yr ydych chi eisiau ei gyflawni gyda'r ffigur hwnnw? A wnewch chi drafod gyda darparwyr tai cymdeithasol y posibilrwydd o gyflymu gwaith ar eiddo gwag fel nad yw'r safon hon yn dod yn rhwystr i eiddo droi'n gartrefi?

Rwy'n pryderu am y diffyg sgiliau yng Nghymru, Gweinidog. Yn amlwg, y bobl hyn sy'n gweithio ar y mathau hyn o raglenni ôl-osod, byddem ni'n gobeithio y byddan nhw wedi'u cofrestru gyda'r cymwysterau iawn, ac eto, ar hyn o bryd, mae gennym ni brinder sgiliau o ran ein seiri, ein plymwyr, ein trydanwyr bob dydd. Felly, mae'n ofyniad mwy fyth ein bod ni angen y sgiliau hyn ar waith i allu cyflawni'r gwaith hwn yn briodol.

Yn y flwyddyn ariannol hon, rydych chi wedi ymrwymo, fel y dywedwch chi, i ddarparu £22.5 miliwn arall eleni a'r flwyddyn nesaf wedi'i dargedu at gynorthwyo tai cymdeithasol i fodloni safon ansawdd tai Cymru 2023. Sut fydd eich cyllid yn cael ei rannu? A ydych chi wedi estyn allan a chasglu data gan bob awdurdod lleol eisoes ynghylch yr hyn sy'n ofynnol o ran cael eu heiddo landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn ôl i'r safon? Rwy'n awyddus i weld a yw'r £22.5 miliwn yn mynd i fod yn gam i'r cyfeiriad cywir neu ddim ond diferyn yn y môr. Rydych chi wedi dweud y gallwn ni ddysgu o uwchraddio'r 230,000 o dai cymdeithasol yng Nghymru, ond sut fydd hynny yn gyrru'r genedl yn ei blaen i fynd i'r afael â datgarboneiddio'r 1.2 miliwn o gartrefi preifat neu eiddo perchen-feddiannaeth? Mae'n debyg y dylwn i ddatgan buddiant, gan fy mod i'n berchen-feddiannwr, fel y mae pawb yn ei wybod mae'n debyg.

Er bod cynnydd pellach wedi'i bennu, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi gwaith ymchwil yn dweud mai tua £95 miliwn yw cost cartrefi oer o ran y gost i GIG Cymru. Mae Gofal a Thrwsio Cymru wedi dweud, am bob £1 sy'n cael ei gwario ar addasu tai, y gallwn ni arbed tua £7.50 i GIG Cymru. Felly, a wnewch chi roi ychydig mwy o wybodaeth heddiw am y camau rydych chi'n eu cymryd i helpu preswylwyr mewn cartrefi sy'n eiddo i berchen-feddianwyr? Rwy'n deall bod yn rhaid i chi ddechrau yn rhywle, a'ch bod chi'n dechrau gyda'r sector cymdeithasol cofrestredig, ond y cwestiwn sy'n mynd i gael ei ofyn i bob un ohonom ni yn ein hetholaethau yw, 'Wel, sut wnewch chi helpu'r perchen-feddianwyr?' Pa mor fuan ydych chi'n disgwyl i wersi o weithredu'r safon newydd gael eu dysgu a dylanwadu ar gynlluniau i helpu preswylwyr sy'n berchen ar eu cartrefi? Diolch.

17:30

Diolch, Janet. Gan ddechrau yn y diwedd a mynd am yn ôl drwy'r cwestiynau y gwnaethoch chi eu gofyn i mi, rydym ni eisoes yn gweithio gyda Banc Datblygu Cymru ar brosiect peilot ar gyfer y sector perchen-feddianwyr, yn edrych ar fenthyciadau i'r bobl a allai dalu, ond sydd efallai angen cymorth ymlaen llaw gyda hynny. Rydym ni hefyd yn cyflwyno cymorth i landlordiaid preifat i ddatgarboneiddio eu heiddo, sy'n gysylltiad rhwng cynllun prydlesu Cymru a'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio. Felly, mae tai sy'n ymuno â chynllun prydlesu Cymru o dan y cysylltiad yn gymwys i gael cyllid grant i wella effeithlonrwydd ynni'r eiddo yn rhan o gynllun prydlesu Cymru. Felly, rydym ni'n amlwg yn ceisio annog pobl i ymuno â hwnnw os oes angen uwchraddio eu cartref. A cheir rhai effeithiau ehangach hefyd—er enghraifft, mae gennym ni safon effeithlonrwydd ynni gofynnol sy'n berthnasol yn y sector rhentu preifat. Ond nid yw hwnnw wedi ei ddatganoli; mae'n cael ei reoli gan Lywodraeth y DU ac maen nhw eisoes wedi gwneud rhai cyhoeddiadau yn ei gwneud hi'n ofynnol i landlordiaid uwchraddio effeithlonrwydd ynni ar sail hynny.

O ran y gyfran ariannu, o'r cyllid ôl-osod er mwyn optimeiddio, mae £70 miliwn ar gael eleni a £70 miliwn arall y flwyddyn nesaf. Mae hynny eisoes ar waith; mae'r £22.5 miliwn yn ychwanegol at hynny. Ceir fformiwla ariannu ar gyfer hynny; cytunwyd ar y fformiwla ariannu gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ar draws y cynghorau sy'n berchen ar stoc a'r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, a chaiff ei ddosbarthu yn unol â hynny.

O ran sgiliau, byddwn ni'n gor-sgilio'r rhaglen yn fwriadol, felly, yn gweithio gyda fy nghyd-Weinidog, Vaughan Gething, yn y rhaglen brentisiaeth, byddwn yn gallu rhoi nifer o brentisiaid ar waith. Mae'n llwybr da iawn i brentisiaeth, oherwydd, yn amlwg, mae'n caniatáu i chi gael cyflogwr da, a byddwn hefyd yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol i hwyluso hynny hefyd, a'r syniad yw gor-sgilio'r sector, fel bod digon o sgiliau i wneud marchnad ynddo, ac rydym ni'n hyderus iawn y bydd hynny'n gweithio. Rydym ni'n gwybod hynny, gan ein bod ni wedi ei dreialu eisoes yn y rhaglen dai arloesol a'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio. Mae Vaughan a minnau wedi bod yn gweithio ers rhai blynyddoedd ar wneud yn siŵr bod y sgiliau hynny yn gweithio.

Ac yna o ran eiddo gwag i'w llenwi, mae gennym ni gytundebau llym iawn gyda'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'n cynghorau sy'n berchen ar stoc gymdeithasol ynghylch nifer yr eiddo gwag y caniateir iddyn nhw feddu arnyn nhw a'r trosiant. Mae'n un o'r pethau y maen nhw'n cael eu barnu arnyn nhw, ac rydym ni'n gweithio'n galed iawn gyda nhw i wneud yn siŵr bod yr eiddo gwag yn cael ei lenwi cyn gynted â phosibl. Ond, yn amlwg, rydych chi'n hollol gywir, rydym ni'n disgwyl i'r eiddo gwag gael eu codi i'r safon, felly ar adeg newid tenantiaeth yr ydym ni'n disgwyl i'r safon newydd gael ei chymhwyso. Ond ni ddylai hynny gymryd mwy o amser i wneud hyn, ac, wrth gwrs, pan fyddwch chi'n mynd i gartref newydd, gyda'r effeithlonrwydd ynni newydd, y safonau lloriau newydd—a bydd casgenni dŵr yn rhan o hyn, er enghraifft—yna bydd gennym ni gartref llawer mwy effeithlon, ac felly bydd gan y tenantiaid lawer mwy o allu i dalu eu biliau a chynnal eu tenantiaeth.

17:35

Dwi'n croesawu’r uchelgais o sicrhau bod gan bob tenant dŷ o ansawdd sydd yn eu galluogi i fyw gydag urddas ac mewn diogelwch, ond, er y weledigaeth, mi ydym ni ymhell o gyrraedd y nod yma.

Rwy'n credu y dylai Llywodraeth Cymru wreiddio'r hawl i dai addas yng nghyfraith Cymru, gan y byddai'n gyrru'r newid yr ydym ni angen ei weld yng Nghymru. Byddwn yn annog y Gweinidog i gefnogi'r nod hwn, a fyddai wedyn yn gosod yr esiampl ar gyfer pob polisi tai yn y dyfodol.

Mae pethau wedi gwella ers sefydlu safon ansawdd tai Cymru yn 2002, ond y gwir realiti yw nad oes digon o dai cymdeithasol fel y mae hi, bod llawer o breswylwyr tai cymdeithasol yn dioddef tlodi tanwydd, a bod yn rhaid i'r Llywodraeth gyflymu eu hymdrechion os ydyn nhw'n mynd i gyrraedd eu targed o 20,000.

Ond wrth edrych ar y cyhoeddiad heddiw—ac mae gen i nifer o gwestiynau i'r Gweinidog—rwy'n credu mai risg sy'n cael ei hanghofio yw nad ydym ni'n adeiladu ar gyfer y dyfodol, pa un a ydym ni'n sôn am ddemograffeg neu am risgiau hinsawdd. A ydym ni'n adeiladu tai y bydd yn rhaid eu hôl-osod eto ymhen ychydig flynyddoedd, er enghraifft? Neu ydyn nhw'n hawdd eu haddasu ar gyfer pobl â phroblemau symudedd? Felly, a yw'r Gweinidog yn credu bod y safon y mae'r Llywodraeth yn gobeithio ei chyflawni yn addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac ar gyfer ein planed yn y dyfodol? Mae llwydni a lleithder yn dal i effeithio ar lawer gormod o aelwydydd, â chanlyniadau iechyd difrifol. Mae'r safon newydd yn nodi na ddylai fod lleithder mewn cartrefi, ond mae gan lawer o dai cymdeithasol o gyfnod penodol lwydni a lleithder ar hyn o bryd, a bydd y gost o ailwampio'r holl dai trefol hyn yn sylweddol. Rydym ni wedi clywed bod disgwyl iddyn nhw gyrraedd safon EPC C erbyn 2029, felly pryd mae'r Gweinidog yn disgwyl i ni gyrraedd pwynt lle nad oes gan ein tai trefol leithder a llwydni ynddyn nhw?

Mae tai tymheredd isel hefyd yn destun pryder mawr. Pa fesurau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod gan bob preswylydd fynediad at wres ac inswleiddiad digonol, er mwyn atal y dioddefaint a'r problemau iechyd sy'n gysylltiedig â chyflyrau byw is-safonol? Erbyn pryd mae'r Gweinidog yn rhagweld y bydd gwresogi cartref yn wirioneddol fforddiadwy i bawb? Mae'r safon newydd yn dweud bod yn rhaid i systemau gwresogi fod yn weddol ddarbodus. A all y Gweinidog ddiffinio beth yw gweddol ddarbodus?

Bydd y codau rheswm asesu, os cânt eu cyflawni, yn gosod safonau uchel, sydd i'w croesawu. Y llynedd, tynnais sylw at y ffaith yr ystyriwyd bod bron i 55,000 o'r stoc tai cyhoeddus yng Nghymru yn fethiannau derbyniol. Roedd hyn bron i chwarter y stoc tai cyhoeddus. Rwy'n gweld o'r safonau newydd bod y term 'methiant derbyniol' wedi diflannu, a bellach mae gennym ni 'fethiant dros dro' a 'llwyddiant amodol'. Ond mae bod yn rhy ddrud yn parhau i fod yn rheswm derbyniol am fethiant dros dro neu lwyddiant amodol. Mae'n debyg y gallai'r rheswm, neu'r esgus, hwn fod am gyfnod amhenodol o amser. Felly, a all y Gweinidog ddweud wrthym ni am ba hyd y gall sefydliad tai honni bod y gost o uwchraddio cartref gwael yn afresymol? A all y Gweinidog roi sicrwydd i ni nad yw'r newid i dermau yn ffordd o newid neu ystumio'r ffigurau yn unig? Pa mor hir y gellir ystyried bod cartref yn fethiant dros dro neu ei fod wedi llwyddo'n amodol cyn fod yn rhaid gwneud rhywbeth?

Mae'r codau rheswm asesu hefyd yn niferus ac yn gosod safon uwch nag o'r blaen, sydd, unwaith eto, i'w groesawu. Bydd cyflawni'r targedau hyn yn gostus, felly pa gymorth cyllido y mae'r Gweinidog yn ei gynllunio, yn enwedig yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, i helpu cymdeithasau tai i fodloni'r targedau hyn, a phryd mae'n gobeithio y byddan nhw'n cael eu cyflawni? Er fy mod i'n deall y bydd y rhain yn cael eu gweithredu dros amser, a yw'r Gweinidog yn credu y bydd gosod y safonau uchel newydd hyn yn effeithio ar ein gallu i gyrraedd yr 20,000 o dai cymdeithasol newydd, o gofio y bydd llawer o gyllidebau'r cymdeithasau tai bellach yn cael eu hailddyrannu i ailwampio ac ôl-osod? Ac os na fyddan nhw'n cyflawni'r targedau hyn ac yn parhau fel llwyddiant amodol neu fethiant dros dro, yna pa gosb fydd yn cael ei rhoi?

Nid yw data ar safonau tai cymdeithasol wedi cael eu diweddaru ers cryn amser, felly pryd allwn ni ddisgwyl gweld y data diweddaraf ar ansawdd ein tai trefol, a phryd allwn ni ddisgwyl gweld data newydd ar y codau rheswm asesu?

Yn olaf, mae'r Gweinidog wedi datgan sawl gwaith bod adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd yn uchelgeisiol. Hyd yn hyn, rydym ni ymhell iawn o gyrraedd y targed hwnnw. Nawr, bydd disgwyl i gymdeithasau tai gyrraedd safonau newydd, uwch hefyd. I lawer, bydd yn fwy na gwaith ailwampio syml. Felly, ni fydd £275 miliwn, fel y clywsom ni heddiw, yn ddigon. Bydd angen prosiect ailadeiladu cyfan mewn rhai achosion. Mae gan gymdeithasau tai incwm cyfyngedig, felly a yw'r Gweinidog wir yn credu bod modd bodloni'r targedau newydd hyn? Beth mae'r Gweinidog yn ei feddwl sydd bwysicaf: cyflawni'r safonau hyn neu adeiladu cartrefi newydd? Oherwydd, gyda'r lefel isel o gyllid gan y Llywodraeth, mae'n anodd gweld sut y gellir cyflawni'r ddau. Neu a yw ein cymdeithasau tai cymdeithasol yn cael eu paratoi i fethu? Felly, a allwn ni ddisgwyl gweld cynnydd sylweddol i'r cyllid ar gyfer tai cymdeithasol dros y blynyddoedd nesaf, yn ychwanegol at yr hyn a gyhoeddwyd heddiw? Diolch. 

17:40

Diolch, Mabon. Rwy'n credu mai 21 cwestiwn oedd hynna, felly fe wnaf i fy ngorau, ond efallai y byddaf i wedi fy nghyfyngu braidd o ran amser, yn dibynnu ar oddefgarwch y Dirprwy Lywydd dros dro. Felly, fe wnaf i fy ngorau. O ran yr hawl i dai addas, yn amlwg, rwy'n cytuno â hynny; rwy'n cytuno'n llwyr y dylem ni roi'r hawl i dai addas yn y gyfraith. Mae gennym ni lwybr wedi'i nodi ar gyfer hynny. Rwyf i wedi bod yn eglur iawn erioed bod hynny, yn fy marn i, yn beth dilyniannol i'w wneud, oherwydd mae angen i ni wneud yn siŵr ei fod yn hawl y gellir ei gweithredu y gall pobl ddibynnu arni, ac ni allwn wneud hynny tan fod gennym ni'r stoc ar gael, ac rwy'n credu mai dyna'r drefn gywir. Rwy'n gwybod bod safbwyntiau eraill yn bodoli, ond dyna fu fy marn i erioed ac, fel y gwyddoch chi, rydym ni'n gweithio gyda'n gilydd ar y cytundeb cydweithio i ddilyn y llwybr hwnnw. Felly, rwy'n siŵr y byddwn ni'n cyrraedd yno—wel, rwy'n ffyddiog y byddwn ni'n cyrraedd yno.

O ran y sawl cwestiwn y gwnaethoch chi eu gofyn am wresogi, llwydni, lleithder, mwy o ôl-osod ac yn y blaen, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yma yw dysgu yn fawr iawn o'r rhaglen dai arloesol a'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio yr ydym ni wedi bod yn ei rhedeg ers bron i bum mlynedd bellach—y rhaglen dai arloesol ychydig yn hwy na hynny. Felly, mae gennym ni gyfoeth o ddata yn cael eu cynhyrchu am yr hyn sy'n gweithio ym mha fath o dŷ, ac rydym ni wedi bod yn eglur iawn ein bod ni wedi bod eisiau gwneud hynny fel ein bod ni'n deall yr hyn sy'n bosibl ym mhob math o dŷ. Rwyf i newydd ddweud yn rhan o'r datganiad hefyd y byddwn ni'n cynnal arolwg stoc dai gyfan. Felly, o fewn tair blynedd, bydd gennym ni syniad da iawn o'r hyn sydd gan bob landlord cymdeithasol yn rhan o'i stoc.

Felly, yr ateb i'ch cwestiwn arall, o ran sut mae methiannau derbyniol yn edrych ac ati, yw y byddwn ni'n gwybod beth sy'n dderbyniol ai peidio oherwydd bydd y data gennym ni a byddwn yn gwybod beth sy'n bosibl ar y tŷ a byddwn yn gwybod beth yw cost gyfartalog hynny, felly bydd gennym ni syniad llawer gwell nag yrr oedd gennym ni pan wnaethom ni ddechrau'r safon ansawdd tai Cymru gyntaf beth fydd hynny'n debygol o'i gostio. Felly, fel y dywedais, byddwn ni'n ei adolygu ar ôl tair blynedd, byddwn ni'n gallu addasu'r fformiwla ariannu yn unol â hynny, a bydd gennym ni syniad da iawn.

Hoffwn ddweud bod rhai o'r hen fethiannau derbyniol at ddibenion diwylliannol a threftadaeth hefyd. Mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol o'r ffaith bod rhai cartrefi wedi'u gwarchod neu eu rhestru neu mewn ardaloedd cadwraeth neu beth bynnag, ac dydyn ni ddim eisiau tarfu ar hynny chwaith, ond rydym ni eisiau eu gwneud nhw'n gartrefi cyfforddus i bobl fyw ynddyn nhw. A hoffwn fod yn eglur iawn bod 'dim llwydni na lleithder' yn rhan o'r safon bresennol hefyd. Felly, y cwbl rydym ni'n ei wneud yw ei ail-bwysleisio, oherwydd y drasiedi a welsom yn Rochdale, ond mae'n bodoli nawr. Felly, os ydych chi'n meddwl bod landlord cymdeithasol cofrestredig yn cael y mathau hynny o broblemau, ysgrifennwch ataf, gan fod pethau y gellir eu gwneud am hynny eisoes.

Mae'r termau wedi cael eu newid gan nad oedd pobl yn eu deall, felly rydym ni wedi ceisio eu gwneud yn fwy hygyrch, mewn gwirionedd, fel bod pobl yn deall ei fod yn fethiant dros dro gan ein bod ni wedi derbyn bod rhyw broblem ag ef, ond rydym ni'n disgwyl iddo gael sylw yn y dyfodol. Neu mae'n fethiant derbyniol—rwyf i wedi anghofio'r enw rydym ni wedi ei roi arno nawr; rwyf i wedi drysu fy hun—am reswm diwylliannol a threftadaeth, er enghraifft, felly rydym ni'n derbyn mai dyna'r sefyllfa.

O ran cymorth ariannol, mae gennym ni ffrydiau ariannu cwbl wahanol ar gyfer yr ailadeiladu. Mae'n rhan o'r cytundeb setlo rhent yr ydym ni'n ei wneud gyda'n holl landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Nid wyf i'n disgwyl i hyn effeithio ar y rhaglen honno o gwbl. Yr hyn rydym ni'n ei wneud yma yw gwneud yn siŵr bod gan denantiaid sydd mewn tai presennol yr un safon byw â'r bobl sy'n mynd i'r adeilad newydd. Felly, dydyn ni ddim yn ymddiheuro am safonau'r adeiladau newydd. Rwyf i wedi clywed y ddadl sawl gwaith y gallem ni adeiladu mwy o dai pe baem ni'n eu hadeiladu i safon is, ond wedyn mae'n rhaid i ni eu hôl-osod, felly nid yw'r gost tymor hwy yn dderbyniol.

Ac yna ar y pwynt olaf a wnaethoch chi ynglŷn â data, rydym ni'n disgwyl bod â llawer mwy o ddata unwaith y byddwn ni wedi cyflawni'r asesiadau stoc gyfan. Byddwn yn cynorthwyo ein cynghorau sy'n meddu ar stoc a'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i wneud hynny, a dyna pam fydd yr adolygiad yn cael ei gynnal ymhen tair blynedd pan fydd gennym ni'r data hwnnw wrth law.

17:45

Rwy'n croesawu'n fawr y datganiad gan y Gweinidog, ac rwy'n croesawu'n fawr y bydd y safon newydd hon yn parhau i gynyddu ansawdd tai cymdeithasol. Fel rhywun a fagwyd mewn tŷ cyngor, nid wyf i erioed wedi credu y dylai'r rhai ohonom ni sy'n byw mewn tai cyngor fyw mewn eiddo oer sy'n ddrud iawn i'w gwresogi. Mae byw mewn cartref o ansawdd yn gwella iechyd, deilliannau addysgol ac ansawdd bywyd. Rwy'n croesawu'r gofynion i landlordiaid cymdeithasol gynnal asesiadau stoc gyfan, i gael dealltwriaeth fesul cartref unigol o'r gwaith sydd ei angen. Yna, i landlordiaid lunio cynllun i bob cartref gyrraedd EPC A. A wnaiff y Gweinidog, fel blaenoriaeth gyntaf, osod disgwyliad na ddylai fod llwydni na lleithder mewn unrhyw dai cymdeithasol, ac os oes llwydni neu leithder y dylid ymdrin ag ef ar unwaith, ac nad yw lleithder yn cael ei ddiystyru fel cyddwysiad? Rwy'n credu bod llawer o bobl sydd—

Na, na, na—trefn. Na, nid dadl yw hon; datganiad yw hwn.

Mae'n ddrwg gen i. Yn llawer rhy aml, mae landlordiaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, yn ei ddiystyru gan ddweud, 'Dim ond cyddwysiad yw e.' Mae gan bobl ddŵr yn llifo i lawr eu waliau o hyd. Mae ganddyn nhw'r holl broblemau o hyd, ond mae'n cael ei ddiystyru gan ddweud, 'Nid yw'n broblem.' Mae'n broblem i'r bobl sy'n byw yno.

Ie. Rwy'n falch iawn o ddweud yn union hynny, Mike. Mae'n rhan o'r safon ansawdd tai Cymru bresennol, ond yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yma yw ei chryfhau. Rwy'n ymwybodol iawn o'r mater o gyddwysiad. Cefais innau hefyd fy magu mewn tŷ cyngor, fel yr ydych chi'n gwybod yn iawn. Roedd fy mam-gu yn meddwl mai dyna'r peth gorau a ddigwyddodd erioed iddi hi a'i holl deulu, ac nid oes amheuaeth bod hynny'n wir. Yr hyn rydym ni ei eisiau yw ail-greu'r profiad hwnnw i'r genhedlaeth bresennol. Felly, do, rydym ni wedi bod yn eglur iawn, yn y safon newydd, y dylid awyru cartrefi yn iawn, a dylid eu hoeri a'u gwresogi yn briodol yn ôl yr angen. Ceir pwyslais o'r newydd ar ddim llwydni na lleithder yn sicr. Ond, wrth gwrs, y gwir fater yma yw ein bod ni'n chwilio am effeithlonrwydd ynni, systemau gwresogi carbon isel a gwell inswleiddio, a fydd yn datrys y problemau hynny ynddynt ac ohonynt eu hunain.

Rwy'n croesawu'r datganiad hwn, Gweinidog. Ym mhob cymuned, gallwch weld buddsoddiad yn ein tai cymdeithasol yn deillio o safon ansawdd tai Cymru a buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn cynlluniau lapio cyfalaf, ffenestri newydd, toeau, drysau ac inswleiddio, gan eu gwneud nhw'n gynhesach, yn ogystal â cheginau ac ystafelloedd ymolchi newydd. Mae yno i'w weld ym mhob cymuned. Mae'n rhyfeddol.

Yn aml, fodd bynnag, rwy'n gweld, ochr yn ochr, wahaniaeth llwyr y tai hynny sy'n parhau i fod yn dai cyngor a'r rhai a brynwyd gan landlordiaid preifat. Fe wnaeth tenant tŷ cymdeithasol, a oedd â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, ddweud wrthyf i am y gwahaniaeth yr oedd y buddsoddiad wedi ei wneud i'w safon byw a sut roedd ei hiechyd wedi gwella. Roeddwn i eisiau cyfleu hynny i chi heddiw. Gwnaeth gymaint o wahaniaeth iddi. Ac rwy'n croesawu'r ychwanegiad y bydd gan bob eiddo sy'n cael ei drosglwyddo orchuddion lloriau ynddyn nhw. Mae hynny wedi cael ei godi gynifer o weithiau gyda mi, o ran, 'Pam nad yw carpedi yn cael eu gadael yma?' neu beth bynnag. Mae'n rhywbeth sylfaenol. A hefyd, bioamrywiaeth—mae'n wych gweld cyflawni hynny.

Mae'r amseroedd yn newid, fel y mae gweinyddiaethau, felly pe bai awdurdodau lleol a drosglwyddodd eu stoc dai i gymdeithas dai yn y gorffennol eisiau dechrau ailadeiladu eu stoc dai eto, pa gymorth all Llywodraeth Cymru ei ddarparu i helpu i hwyluso hyn?

Ie. Diolch, Carolyn. Allwn i ddim cytuno mwy. Fel y dywedais mewn ymateb i Janet Finch-Saunders, mae gennym ni nifer o bethau ar gael i landlordiaid preifat a pherchnogion sector preifat, felly os ydych chi'n ymwybodol o rywun sydd eisiau manteisio ar y rheini, cysylltwch â ni, oherwydd mae gennym ni gynllun prydles Cymru ac mae gennym ni nifer o fenthyciadau rydym ni'n gweithio arnyn nhw, ynghyd â'm cyd-Weinidog Vaughan Gething a Banc Datblygu Cymru. Mae gennym ni nhw ar gyfer busnesau ac ar gyfer tai preswyl. Felly, mae nifer o fenthyciadau ar gael.

Os yw awdurdod lleol eisiau ail-gaffael ei statws fel awdurdod tai, dim ond hyd at 50 o dai y gall eu prynu cyn iddo orfod ailagor ei gyfrif refeniw tai a sefydlu ei hun fel awdurdod tai. Os ydych chi'n ymwybodol o unrhyw awdurdod nad yw'n meddu ar stoc sydd eisiau gwneud hynny, yna dywedwch wrthyn nhw i gysylltu â ni. Mae proses i fynd drwyddi. Nid oes unrhyw awdurdod wedi cysylltu â mi sydd eisiau gwneud hynny, er fy mod i wedi cael sgyrsiau gyda nifer ohonyn nhw am y posibilrwydd, felly mae croeso i chi ofyn iddyn nhw gysylltu. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni'r trosglwyddiadau gwirfoddol graddfa fawr, felly'r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig y trosglwyddwyd stoc iddyn nhw yn yr ardaloedd, ac rydym ni'n gweithio gyda nhw ar yr un safon, a chyda'r awdurdodau nad ydyn nhw'n meddu ar stoc, felly rwy'n hapus iawn i hwyluso'r sgwrs honno os ydych chi eisiau i ni wneud hynny.

17:50

Diolch. Rwy'n croesawu'n fawr eich datganiad a'i uchelgais i sicrhau bod pawb yn byw mewn cartref cynnes sy'n byw mewn tai cymdeithasol. Wrth gwrs, mae pobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol yn freintiedig o'u cymharu â phobl sy'n byw mewn cartrefi rhent preifat, sy'n llawer oerach ac yn ddrytach. Felly, yn amlwg, mae hynny ar gyfer gwahanol ddiwrnod.

Mae £70 miliwn eleni a £70 miliwn y flwyddyn nesaf yn llawer o arian, ond nid yw'n ddigon, rydym ni'n gwybod hynny. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed sut y mae awdurdodau lleol yn mynd i gael cyfarwyddyd ar sut y maen nhw'n mynd i'w ddosbarthu. Mae Cyngor Caerdydd yn ffodus o fod â stoc gyngor o hyd ac mae wedi gwneud gwaith da yn ei chodi i'r safon—y safon flaenorol. Yn y gorffennol, gwnaed cynlluniau ardal fesul ystâd, ond ni chodwyd tâl ar y rhai a oedd yn lesddalwyr, a oedd yn golygu nad oedd pobl eraill a oedd yn byw mewn tai cyngor mewn mannau eraill yn cael y cynllun. Esgusodwch fi. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi ddweud wrthym ni a ydych chi'n credu y bydd tâl yn cael ei godi ar y rhai sy'n berchen ar eu cartref neu'n ei brydlesu fel y gall mwy o bobl sy'n denantiaid wedyn gael budd o'r £70 miliwn.

Felly, ceir un neu ddau o bethau i'w trafod yn y fan yna. Felly, dim ond o ran y cyllid, fel y gwyddoch chi, rydym ni'n cynnal asesiad stoc gyfan ar gyfer pob un o'r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, gan gynnwys y cynghorau sy'n meddu ar stoc. Felly, rydym ni'n disgwyl iddyn nhw wedyn weithio ar y tai gwaethaf yn gyntaf. Felly, rydym ni'n disgwyl iddyn nhw ddosbarthu'r cyllid i'r gwaethaf yn gyntaf, i bob pwrpas, a byddwn yn gweithio gyda nhw i benderfynu beth yw hynny, a byddwn yn edrych ar hynny o ran a fydd cynlluniau ardal gyfan yn gweithio. Rwy'n gwbl sicr eich bod chi'n gyfarwydd â'r fersiwn flaenorol o safon ansawdd tai Cymru lle amlenwyd, fel y'i gelwir, strydoedd cyfan, gan ei bod hi'n rhatach ei wneud felly, ond byddwn yn gweithio gyda nhw.

Mae rhai o'r methiannau derbyniol a gawsom ni yn y gorffennol lle nad oedd tenant eisiau i'r gwaith gael ei wneud ar ei gartref, a bu'n rhaid i ni aros i'r denantiaeth ddod i ben. Cartrefi pobl yw'r rhain, felly mae'n rhaid i ni weithio gyda hynny. Rydym ni'n amlwg yn gweithio'n galed iawn gyda phobl i geisio eu perswadio, ond os na ellir eu perswadio, yna mae'n rhaid i chi aros i'r denantiaeth drosglwyddo. Er, yn gyffredinol, pan fydd y cynllun ardal yn cychwyn, mae pobl yn tueddu i newid eu meddyliau, yn fy mhrofiad i.

Mae gennym ni'r rhaglen Cartrefi Cynnes hefyd, y mae fy nghyd-Weinidog Jane Hutt a minnau wedi bod yn gweithio arni ers cryn amser yn rhan o'r strategaeth tlodi tanwydd. Bydd honno hefyd yn mabwysiadu dull ardal, ond mae honno ar gyfer perchen-feddianwyr neu'r sector rhentu preifat, ac rydym ni wedi gwneud yn union fel rydych chi'n ei awgrymu. Felly, os oes cymhwysedd ar stryd, ond nad yw rhai o'r tai yn gymwys, ac y byddai'n fuddiol cael ateb stryd gyfan, byddwn yn gwneud hynny beth bynnag, gan dybio y gallwn ni gael ymrwymiad yr holl bobl sy'n byw yno, ond nid yw'n rhy anodd gwneud hynny fel rheol, a byddwn yn gwneud hynny drwy ein hyb ynni cynnes a thrwy'r broses asesu ynni leol yr ydym ni wedi gofyn i'n hawdurdodau lleol ei dilyn.

Felly, dim ond i grynhoi, rydym ni'n disgwyl, mewn gwirionedd, i'r cyllid fynd i'r tai gwaethaf yn gyntaf, byddwn yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol a chyda'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i benderfynu pa rai yw'r rheini, ac yna ymhen tair blynedd, pan fydd canlyniadau'r asesiad stoc gyfan gennym ni, byddwn yn gallu ail-ystyried eto.

Diolch, Llywydd dros dro. Gweinidog, hoffwn ddiolch i chi am y datganiad rhagorol hwn. Mae'n cynnwys uchelgais enfawr, sydd i'w groesawu'n fawr iawn. Ac mae'n wir fod maint yr her yn fawr, ond mae hefyd yn gyfle enfawr o safbwynt cyflogaeth ac yn economaidd. Felly, a fyddwch chi'n gweithio gyda Gweinidog yr economi i edrych ar sut rydym ni'n manteisio i'r eithaf ar fuddion economaidd a chyflogaeth y buddsoddiad y byddwch chi'n ei wneud mewn tai cymdeithasol? Mae'r arian ychwanegol yn swm sylweddol. Sut ydych chi'n rhagweld sicrhau bod cymaint o'r buddsoddiad hwnnw â phosibl yn aros gyda chwmnïau yng Nghymru, a fydd yn cael eu comisiynu i wneud y gwaith o uwchraddio tai cymdeithasol? Diolch.

17:55

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Ie. Rhai pwyntiau da iawn, Ken Skates. Rwyf i eisoes wedi amlinellu y byddwn ni'n gweithio gyda swyddogion yr economi a chyda Gweinidog yr Economi ar y rhaglen brentisiaethau, ac ar gyflwyno'r sylfaen sgiliau. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod cymaint o bunt Cymru yn aros yn economi Cymru ag sy'n bosibl. Rydym ni'n gweithio gyda'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'n cynghorau sy'n meddu ar stoc i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael y budd o hynny. Mae gan lawer o'n cynghorau sy'n meddu ar stoc, wrth gwrs, sefydliadau llafur uniongyrchol sy'n elwa o hynny o hyd, felly byddan nhw'n gallu cyflogi crefftwyr newydd, ac yn wir, prentisiaid, yn uniongyrchol. Felly, rwy'n credu eich bod chi'n iawn: nid yn unig y mae hwn yn gyfle gwych i'r tenantiaid; mae wir yn fuddsoddiad economaidd gwirioneddol yn y dyfodol.

9. Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2023

Yr eitem nesaf, felly, fydd y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2023. Dwi'n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd eto i wneud y cynnig yma. Julie James.

Cynnig NDM8386 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Mehefin 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2023. Cyflwynwyd y rheoliadau ar ffurf ddrafft gerbron y Senedd ar 28 Mehefin. Maen nhw'n diwygio Atodlen 9 Rhan 2 Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2016.

Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r rheoliadau hynny mewn ymateb i ymgynghoriad 2021 ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr am becynwaith, y cynllun EPR, i gael gwell data am wastraff pecynwaith o gyfleusterau deunyddiau. Bydd gwella cyfanswm ac ansawdd y data pecynwaith y mae'n ofynnol i gyfleusterau deunyddiau eu casglu, eu cofnodi a'u hadrodd yn cefnogi asesiadau cost a thaliadau teg a chywir o dan gynllun EPR. Bydd hyn, yn ei dro, yn helpu i drosglwyddo'r gost o ymdrin â gwastraff a gynhyrchir gan aelwydydd o drethdalwyr a chynghorau lleol i fusnesau sy'n trin ac yn defnyddio pecynwaith, gan wneud cynhyrchwyr yn gyfrifol am y pecynwaith y maen nhw'n ei roi ar y farchnad.

Rwyf i wedi ceisio symleiddio'r gofynion samplu presennol trwy ddiwygio Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016, yn hytrach na chreu trefn samplu ychwanegol. Bydd y rheoliadau yn cyflwyno gofynion samplu, cofnodi ac adrodd gwell ar gyfer cyfleusterau deunyddiau, ac yn ymestyn cwmpas y rheoliadau i gynnwys mwy o fathau o gyfleusterau. Bydd cyfleusterau deunyddiau yng nghwmpas y rheoliadau diwygiedig os byddan nhw'n derbyn ac yn rheoli o leiaf 1,000 tunnell o ddeunydd aelwyd neu o fath aelwyd y flwyddyn at ddibenion ailddefnyddio ac ailgylchu. Bydd samplu ac adrodd yn digwydd yn amlach, ar gyfer mwy o fathau o ddeunyddiau. Bydd cynnydd yn nifer y categorïau o bedwar i 10, gan gynnwys gofyniad i gofnodi data ar gyfansoddion ffeibr, fel cartonau diod a chwpanau coffi sydd â haen o alwminiwm neu blastig y tu mewn iddyn nhw. Bydd angen i gyfleusterau deunyddiau hefyd adrodd gwybodaeth am gyflenwyr a chyrchfannau ar gyfer y gwastraff y maen nhw'n ei reoli. Roedd darparu'r data hyn yn wirfoddol gynt.

Bydd cyflwyno rheolaethau i gefnogi cynllun cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr cadarn, sy'n cymell busnesau i leihau gwastraff ac yn cadw adnoddau yn weithredol am fwy o amser, yn helpu i adeiladu economi gryfach, wyrddach, ac yn cefnogi cynnydd tuag at ddatgarboneiddio. Diolch.

Does gen i ddim siaradwyr ar yr eitem yma, felly dwi'n siŵr bydd y Gweinidog ddim eisiau dweud unrhyw beth ychwanegol mewn ymateb i neb. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Gorchymyn Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 1) 2023

Yr eitem nesaf fydd y Gorchymyn Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 1) 2023. Y Gweinidog unwaith eto, Julie James, i gyflwyno'r eitem yma.

Cynnig NDM8387 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 1) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Hydref 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Rwyf i yma heddiw i gyflwyno Gorchymyn Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 1) 2023. Bydd y Gorchymyn hwn yn dechrau darpariaethau Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023, sy'n caniatáu i ni gyflwyno'r cam cyntaf o waharddiadau.

Fel y nodwyd yn flaenorol yn ystod hynt y Bil drwy'r Senedd, bydd gwahardd y cynhyrchion plastig untro a restrir yn yr Atodlen i'r Ddeddf yn cychwyn mewn dau gam. Mae'r Gorchymyn hwn yn cyflwyno'r cam cyntaf o waharddiadau, ac, yn amodol ar eich cymeradwyaeth, bydd y rhain yn dechrau ar 30 Hydref 2023. Bydd y cam cyntaf hwn yn cynnwys cwpanau, cyllyll a ffyrc a throwyr diod plastig untro, ffyn cotwm plastig, platiau, cynwysyddion cludfwyd a ffyn balŵn. O ran gwellt plastig, rydym ni wedi darparu eithriadau ar sail iechyd ac anabledd.

Bydd yr ail gam yn dechrau cyn diwedd tymor y Senedd hon, a bydd yn cynnwys bagiau plastig untro, caeadau ar gyfer cwpanau a chynwysyddion cludfwyd, a chynhyrchion wedi'u gwneud o blastig ocso-ddiraddadwy. Cafodd y Ddeddf gefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd ac mae'n gam allweddol i newid arferion defnyddwyr oddi wrth gynhyrchion plastig untro tuag at ddewisiadau amgen mwy cynaliadwy neu, hyd yn oed yn well, y gellir eu hailddefnyddio. Mae gwaith eisoes ar y gweill ar lefel y DU i archwilio'r ffordd orau o fynd i'r afael â chynhyrchion problemus eraill, fel cadachau gwlyb sy'n cynnwys plastig, a fêps untro. Rwy'n cymeradwyo'r cynnig hwn i'r Siambr.

18:00

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.

Diolch, Llywydd. Ac ni allwn i adael i brynhawn Mawrth fynd heibio heb sefyll i wneud ychydig o sylwadau. Fe wnaethom ni ystyried y Gorchymyn drafft hwn ar 16 Hydref. Wedi hynny, ymatebodd Llywodraeth Cymru i'r pwyntiau yn ein hadroddiad, a chawsom gyfle i ystyried yr ymateb hwnnw yn ein cyfarfod brynhawn ddoe.

Nawr, fel y mae'r Gweinidog wedi ei amlinellu, ceir nifer o ddarpariaethau yn Neddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 a ddaeth i rym ar 7 Mehefin 2023, y diwrnod ar ôl i'r Ddeddf dderbyn Cydsyniad Brenhinol. Mae'r Gorchymyn yn gweithredu wyth o'r 11 cofnod yn y tabl o gynhyrchion plastig untro gwaharddedig yn yr Atodlen i Ddeddf 2023. Felly, mae ein hadroddiad ar y Gorchymyn drafft yn cynnwys tri phwynt rhinweddau. Y cwbl mae ein pwynt cyntaf yn ei wneud yw amlygu, er nad ydym yn ei wrthwynebu, ei bod hi'n anarferol i Orchymyn cychwyn fod yn destun y lefel hon o graffu yn y Senedd. Yn ddefnyddiol, mae'r ffaith ei fod yn destun dadl a phleidlais yn y Siambr hon heddiw, o bosibl, yn dibynnu ar farn yr Aelodau, yn caniatáu i mi dynnu sylw pob Aelod o'r Senedd at ein hail a'n trydydd pwynt adrodd rhinweddau. Felly, mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at berthnasedd Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, yr UKIMA, i weithrediad Deddf 2023. Yn ystod hynt y Bil a ddaeth yn Ddeddf 2023, fe wnaethom ni godi pryderon ynghylch effaith egwyddorion mynediad i'r farchnad ar effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth arfaethedig.

Nawr, bydd yr Aelodau yn gwybod bod Deddf y farchnad fewnol yn cynnwys egwyddorion mynediad i'r farchnad sy'n sicrhau yn fras y gall nwyddau y ceir eu gwerthu yn gyfreithlon mewn un rhan o'r DU hefyd gael eu gwerthu mewn mannau eraill yn y DU, yn rhydd o unrhyw ofynion perthnasol a fyddai fel arall yn berthnasol i'r gwerthiant yn y rhan arall honno o'r DU. Popeth yn iawn hyd yma. Mae'r cynhyrchion gwaharddedig sy'n cael eu gweithredu gan y Gorchymyn yr un fath â'r eitemau sydd wedi'u heithrio o'r egwyddorion mynediad i'r farchnad mewnol gan baragraff 13 Atodlen 1 i'r Ddeddf marchnad fewnol. Nid yw'r cynhyrchion a restrir yn y tri chofnod yn y tabl, nad yw'r Gorchymyn yn eu gweithredu, fel y mae'r Gweinidog wedi sôn—caeadau ar gyfer cwpanau neu gynwysyddion cludfwyd, bagiau siopa a chynhyrchion wedi'u gwneud o blastig ocso-ddiraddadwy—wedi'u cynnwys yn y paragraff hwnnw yn Atodlen y Ddeddf marchnad fewnol, felly nid yw'n ymddangos eu bod wedi'u cwmpasu gan yr eithriad o egwyddorion mynediad i'r farchnad. Felly, gyda hynny mewn golwg, fe wnaethom ni ofyn i Lywodraeth Cymru esbonio pam nad yw'r gwaharddiadau yn ymwneud â chaeadau ar gyfer cwpanau neu gynwysyddion cludfwyd, bagiau siopa a chynhyrchion wedi'u gwneud o blastig ocso-ddiraddadwy yn cael eu cychwyn ar y cam hwn, a phryd fydd y cofnodion sy'n weddill yn y tabl yn cael eu cychwyn, y mae'r Gweinidog wedi cyfeirio ato heddiw, a faint o gamau pellach sydd wedi'u cynllunio i weithredu'r gwaharddiadau sy'n weddill. Ac fe wnaethom ni hefyd ofyn a yw Llywodraeth Cymru yn parhau i fod o'r farn y bydd Deddf 2023 yn gwbl effeithiol ac y bydd modd ei gorfodi pan fydd wedi cychwyn yn llawn. Nododd yr ymateb a gawsom gan Lywodraeth Cymru ei safbwynt, sef lle mae'r Senedd yn deddfu mewn meysydd nad ydyn nhw wedi'u cadw'n ôl, ei bod yn gwneud hynny yn rhydd o ofynion y Ddeddf marchnad fewnol, sy'n golygu, o'i safbwynt hi, y bydd y gwaharddiadau y darperir ar eu cyfer yn Neddf 2023 yn gwbl effeithiol a gorfodadwy, waeth beth fo'r sefyllfaoedd rheoleiddio mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig. Mae hynny'n eglur iawn.

Dywedwyd wrthym ni hefyd y bydd yr ail gam gweithredu, sef y cam olaf, yn cynnwys y cynhyrchion hynny nad ydyn nhw wedi'u gwahardd mewn mannau eraill yn y DU—felly, y bagiau plastig untro, y caeadau polystyren ar gyfer cwpanau a chynwysyddion cludfwyd, a'r cynhyrchion hynny sydd wedi'u gwneud o blastigau ocso-ddiraddadwy—a bwriedir i'r dull fesul cam hwn roi amser ychwanegol i fusnesau drosglwyddo o'r cynhyrchion hyn a dod o hyd i opsiynau eraill. Mae hynny'n dda.

Felly, o ran safbwynt Llywodraeth Cymru ar y Ddeddf marchnad fewnol, hoffwn ailadrodd safbwynt fy mhwyllgor: rydym ni'n derbyn na all y Ddeddf marchnad fewnol, fel y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddadlau, gyfyngu cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Nid oes unrhyw ddadl ynghylch hynny. Fodd bynnag, mae ein pryder yn parhau y gall y Ddeddf marchnad fewnol, unwaith y bydd y Senedd yn llunio'r gyfraith, effeithio ar ba mor effeithiol yw'r gyfraith honno oherwydd yr egwyddorion mynediad i'r farchnad a gyflwynwyd ledled y DU. Nawr, mae hwnnw'n safbwynt y mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi ei fynegi o ran deddfwriaeth Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr ar dechnoleg enetig. Felly, mae'r hyn yr ydym ni'n ei ddweud yn gyson â'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i fynegi mewn darn arall o ddeddfwriaeth, mewn gwirionedd. Dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym ni hefyd, er nad yw manylion yr amserlen ar gyfer cychwyn yr ail gam wedi'u cwblhau o hyd, mae'r Gweinidog wedi ymrwymo i ddechrau gwahardd y cynhyrchion sy'n weddill cyn diwedd tymor y Senedd hon, fel y mae wedi ei gadarnhau heddiw.

Felly, gyda'r sylwadau hynny, roeddem ni'n teimlo ei bod hi'n bwysig tynnu sylw'r Senedd at y materion hyn y prynhawn yma—y berthynas rhwng UKIMA a meysydd sy'n amlwg o fewn cymhwysedd datganoledig. Nid oes dadl ynghylch meysydd cymhwysedd datganoledig; mae effaith UKIMA ar gymhwyso'r ddeddfwriaeth honno yn ymarferol yn parhau i fod o ddiddordeb i ni fel pwyllgor. Diolch yn fawr.

18:05

Nid oes gen i unrhyw siaradwyr pellach. Mae'r Gweinidog yn dymuno ymateb i'r Cadeirydd.

Diolch, Llywydd. Rwy'n cael fy nhemtio i ddweud bod Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder wedi ateb ei gwestiynau ei hun yn ei araith ei hun, ond, dim ond i ailbwysleisio’r pwynt, rydym ni wedi bod yn eglur drwy gydol hynt y Bil hwn yn y Senedd mai safbwynt Llywodraeth Cymru, a'i safbwynt o hyd, yw lle mae'r Senedd yn deddfu mewn meysydd nad ydyn nhw wedi'u cadw'n ôl, mae'n gwneud hynny yn rhydd o ofynion Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020. O'n rhan ni, mae hyn yn golygu y bydd y gwaharddiadau a ddarperir yn Neddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 yn gwbl effeithiol a gorfodadwy, waeth beth fo'r sefyllfaoedd rheoleiddiol mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig. Dyna oedd ein safbwynt ar y pryd, a dyna ydyw nawr. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna hefyd wedi ei dderbyn. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:06.