Y Cyfarfod Llawn

Plenary

26/09/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. 

Fel y byddwch chi i gyd yn ymwybodol, mae gan y Senedd ddeiseb ar hyn o bryd yn galw am ddiddymu'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya, sy'n derbyn nifer ddigynsail o lofnodion. Roeddwn i eisiau gwneud pob Aelod yn ymwybodol, yn dilyn y broses arferol, y gall deiseb gasglu llofnodion am hyd at chwe mis, ac ar yr adeg honno bydd yn cael ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau, ac yna, o bosibl, at y Senedd i'w thrafod. Ar ôl i fwy na 10,000 o lofnodion gael eu derbyn, yna gofynnir i'r deisebydd ei hun a yw'n dymuno cau'r ddeiseb yn gynnar er mwyn sbarduno cam pwyllgor a Senedd ei hystyriaeth. Yn yr achos hwn, nid oes cais ar hyn o bryd i'r ddeiseb gael ei chau, ac efallai y bydd hyn yn wir tan i'r ffenestr chwe mis gau ym mis Mawrth 2024. Roeddwn i eisiau gwneud pob Aelod yn ymwybodol ein bod yn dilyn y drefn briodol gyda'r ddeiseb hon, yn yr un modd â phob deiseb arall.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Cefin Campbell. 

Cysylltedd Rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gyflwr cysylltedd rheilffyrdd yng nghanolbarth a gorllewin Cymru? OQ59953

Wel, diolch, Llywydd, a phrynhawn da i Cefin Campbell. Nid yw cysylltedd rheilffyrdd yn y canolbarth a'r gorllewin wedi cyrraedd y safonau yr ydym yn disgwyl dros yr haf. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cymryd camau, ac mae'r gwasanaeth wedi gwella yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mae mwy o le i wella o hyd.

Diolch yn fawr i chi am gydnabod y diffygion sydd wedi bod, a dwi'n falch i glywed bod yna beth gwelliannau. Ond, Brif Weinidog, mae trethdalwyr Cymru yn cyllido prosiect HS2 yn Lloegr, ac er bod e'n cael ei barseli fel prosiect Cymru a Lloegr, mae'n amlwg erbyn hyn na fydd yna unrhyw fudd yn dod i Gymru. Ac, yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon, fyddwn ni ddim yn derbyn ceiniog o'r biliynau sydd yn ddyledus i ni. Ac fel dwi'n siŵr y byddech chi wedi cytuno a chydnabod yn barod, mae mawr angen gwella buddsoddiad yn ein hisadeiledd trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Ac un enghraifft yw'r rheilffordd eiconig yna, llinell Calon Cymru, sy'n rhedeg o Abertawe drwy sir Gaerfyrddin, Powys ac ymlaen i'r Amwythig. Mewn arolwg diweddar, mae perfformiad y gwasanaeth mewn gorsafoedd megis Llanymddyfri, Llandeilo a Llanwrtyd mor wael, o'r 2,700 o orsafoedd ar draws Prydain, maen nhw, y tair yna, ymhlith y 100 gwaethaf dros y chwe mis diwethaf, gyda 40 y cant o'r trenau naill ai wedi'u canslo neu'n rhedeg dros 10 munud yn hwyr. Felly, Brif Weinidog, a allwch chi esbonio i fi sut ŷch chi'n bwriadu mynd ati i fynd i'r afael â'r problemau difrifol ar linell Calon Cymru, a phwyso ar eich arweinydd chi i sicrhau bod arian HS2 yn dod i Gymru?

Wel, diolch yn fawr i Cefin Campbell am y cwestiwn ychwanegol. Rwy'n clywed y pwyntiau mae'r Aelod yn eu gwneud, a dwi wedi darllen ei erthygl ef yn y papur newydd yn gynharach y mis hwn. Ac rwy'n cytuno hefyd, Llywydd, gyda'r hyn ddywedodd Cefin Campbell, fod llinell Calon Cymru yn rhan bwysig iawn yn y rhwydwaith rheilffyrdd yma yng Nghymru. 

Fel y dywedais yn yr ateb gwreiddiol, mae Trafnidiaeth Cymru yn dweud bod pethau wedi gwella yn ystod mis Medi, ac maen nhw'n hyderus y bydd y gwasanaeth yn parhau i wella dros weddill y flwyddyn, wrth i drenau newydd gael eu cyflwyno i'r llinell, gan ddarparu gwasanaeth gwell i fwy o deithwyr a beicwyr. Ac mae hwnna'n bwysig, a dwi'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog wedi gwneud hyn yn un o'i flaenoriaethau yn ei gyfarfodydd rheolaidd gyda'r gwasanaeth.

O ran y pwynt mwy cyffredinol a wnaeth yr Aelod am HS2, Llywydd, mewn sawl ffordd, nid wyf i'n credu y gallaf i wneud yn well na dyfynnu Paul Johnson, cyfarwyddwr y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol. Dywedodd mewn cyfweliad ar Times Radio: 

'Mae'r holl beth yma, mae'n gwneud i mi fod eisiau wylo. Mae'n gwneud i mi anobeithio.'

Rydym ni bellach yn mynd i wario biliynau a biliynau o bunnoedd, a bydd hi'n cymryd mwy o amser i fynd o Lundain i Birmingham nag y bydd o dan y system bresennol, gan ein bod ni'n gwybod nawr nad oes unrhyw obaith y bydd HS2 yn gadael o orsaf Euston, fel y bwriadwyd—bydd yn gadael o orsaf sy'n gyfleus o agos at Wormwood Scrubs. A phan fydd yn cyrraedd Birmingham, nid yw'n mynd i gyrraedd New Street yn Birmingham chwaith—bydd yn gofyn i chi gerdded am 15 munud ar draws Birmingham i gyrraedd o le y cewch chi eich gollwng gan HS2 i'r man lle bydd angen i chi ddal eich trên cyswllt. Nawr, y gwir amdani yw ei fod yn draed moch llwyr, ac mae'n draed moch, fel y dywedodd Cefin Campbell, lle mae Cymru yn arbennig ar ei cholled. Os, fel rydym ni'n ei ddarllen drwy'r amser, y bydd HS2 yn cael ei ganslo o Birmingham i Fanceinion, yna bydd y ffuglen y mae Llywodraeth y DU wedi dibynnu arni bod y rheilffordd honno, rywsut, o fantais i Gymru, yn cael ei ffrwydro'n llwyr. Ar yr adeg honno, mae angen i ni gael cyllid canlyniadol Barnett o'r arian a wariwyd hyd yn hyn, a byddai hynny'n caniatáu i ni fuddsoddi yn rheilffordd Calon Cymru a llawer o rannau eraill o'r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru hefyd.

13:35

Prif Weinidog, ers i mi fod yn Aelod o'r Senedd, un mater cyson a godwyd gyda mi yw gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd yn cyd-fynd â'i gilydd, a'r broblem, wrth gwrs, o drenau yn gadael gorsaf ychydig cyn i wasanaeth bws cyswllt gyrraedd. Nawr, rwy'n gwybod bod y Llywodraeth yn bwrw ymlaen â throsglwyddo rheolaeth gwasanaeth TrawsCymru i Trafnidiaeth Cymru, gyda'r bwriad, wrth gwrs, o well cysondeb rhwng y gwasanaethau hynny. Nawr, rwy'n cytuno â'r egwyddor honno. Mae gen i bryderon, wrth gwrs, mai Trafnidiaeth Cymru yw'r sefydliad a fyddai'n gyfrifol am y ddau, gan fod cymaint o fethiannau o fewn Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd, ond rwy'n cytuno â'r egwyddor gyffredinol y bydd hynny yn helpu. Tybed a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran ble'r ydym ni gyda'r trosglwyddiad hwnnw, a phryd ydych chi'n credu, o ganlyniad i hynny, y cawn ni'r gwasanaethau wedi'u hamserlennu'n well ac yn fwy priodol hynny rhwng bysiau a rheilffyrdd.

Wel, yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i Russell George am ei gymeradwyaeth o'r egwyddor honno bod cyd-leoli, lle mae hynny'n bosibl, ac yn sicr cysondeb rhwng amserlenni gwahanol elfennau trafnidiaeth gyhoeddus, yn gwbl er budd y teithiwr? Trwy roi'r cyfrifoldebau newydd hyn i Trafnidiaeth Cymru, byddan nhw mewn sefyllfa llawer gwell i wneud yn union hynny. Mae'r amserlen ynghlwm wrth y Bil bysiau a fydd yn dod gerbron y Senedd hon yn y flwyddyn ddeddfwriaethol hon, gan y bydd hwnnw yn rhoi'r pwerau i wneud yn siŵr bod gwasanaethau bysiau yn cael eu cynllunio a'u darparu er budd y cyhoedd. Ac mae honno'n agenda sy'n ganolog i'r polisi trafnidiaeth sy'n cael ei ddilyn gan Lywodraeth Cymru, a byddwn yn gweld cam sylweddol iawn ymlaen ar y daith honno pan ddaw'r Bil bysiau gerbron yr Aelodau yn ddiweddarach eleni.

Datblygiad SA1

2. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o lwyddiant datblygiad SA1 a'r gwersi i'w dysgu ar gyfer y dyfodol? OQ59948

Diolch i Mike Hedeges, Llywydd, am y cwestiwn yna. Buddsoddwyd dros £250 miliwn hyd yma gan y sectorau cyhoeddus a phreifat i ddarparu datblygiadau defnydd cymysg newydd ar yr hen safle dociau hwn. Mae diddordeb datblygwyr a meddianwyr yn parhau i fod yn uchel mewn cynllun sy'n dangos yn helaeth bwysigrwydd buddsoddiad cyhoeddus yn denu buddsoddiadau sylweddol ac arwyddocaol gan eraill.

A gaf i ddiolch yn gyntaf i'r Prif Weinidog am ei ymateb? Mae'r datblygiad hwn wedi bod yn llwyddiant enfawr, gan adfywio hen ardal dociau a storio. Mae'n ddatblygiad cymysg—datblygiad masnachol, gweithgynhyrchu a dylunio, tai, prifysgol, a hamdden. Er bod Felindre yn etholaeth Rebecca Evans, a gaf i awgrymu eich bod chi'n edrych ar rywbeth tebyg ar gyfer safle Felindre? A hefyd, ar SA1, a all y Prif Weinidog geisio cyflymu'r trosglwyddiad o gyfrifoldeb i Gyngor Abertawe am ffyrdd a draenio?

Llywydd, diolch i Mike Hedges am yr hyn a ddywedodd am lwyddiant SA1. Mae'n hollol gywir—y datblygiad cymysg hwnnw yw ef. Mae 1,500 o unedau preswyl naill ai wedi'u cwblhau eisoes neu wrthi'n cael eu hadeiladu. Ac mae ganddo'r cymysgedd gwych hwnnw o weithgarwch newydd a fydd yn rhoi bywyd i'r rhan honno o Abertawe—eglwys newydd ar y glannau, gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol, yswiriant Admiral fel partner masnachol, meithrinfa i blant ifanc fod yno, a llety i fyfyrwyr fel y bydd pobl o'r oedran hwnnw yn rhan o SA1. Bydd wir yn rhan fywiog o'r ddinas ac, fel y dywedais i yn fy ateb gwreiddiol, Llywydd, a dyma'r wers, rwy'n credu, y gellir ei dysgu ar gyfer Felindre yn y ffordd y mae Mike Hedges wedi ei ddweud, mae'r defnydd strategol o fuddsoddiad cyhoeddus, ymhell o ymylu buddsoddiad preifat, fel yw cred ddamcaniaethol neo-ryddfrydwyr, yn cael yr effaith groes mewn gwirionedd. O'i ddefnyddio yn iawn, mae'n creu magnet sy'n denu buddsoddiad gan eraill i mewn i ardal. Dyna'r hyn yr ydym ni wedi ei weld yn SA1, ac mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud am Felindre yn un da hefyd. Ceir buddsoddiad cyhoeddus sylweddol yno. Nid yw'n cyd-fynd yn llwyr ag SA1, gan ei fod yn canolbwyntio yn fwy uniongyrchol ar feddiannaeth fasnachol, ond mae'r defnydd o gyllid cyhoeddus i wneud i hynny ddigwydd yn y ffordd orau bosibl yn sicr yn wers sydd yno i'w dysgu.

O ran trosglwyddo cyfrifoldeb am briffyrdd yn SA1—mabwysiadu ffyrdd—mae hynny'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i'w weld yn digwydd. Mae'n broses tri cham, fel yr wyf i wedi ei ddysgu wrth ddarllen fy nogfen friffio ar gyfer y cwestiwn hwn, ac mae cam yn dibynnu ar gyngor dinas Abertawe yn cyflwyno tystysgrifau rhan 1. Ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at ddinas a sir Abertawe yn gynharach y mis hwn, yn gofyn i'r tystysgrifau hynny gael eu cyflwyno. Unwaith y bydd hynny'n digwydd, byddwn yn gallu symud i'r camau nesaf, ac yna, yn y ffordd y mae Mike Hedges wedi gofyn, gallwn ni wneud yn siŵr bod y ffyrdd yn y rhan hon o'r ddinas yn cael eu mabwysiadu yn briodol ac y bydd cyngor y ddinas ei hun yn gofalu amdanyn nhw wedi hynny.

13:40

Prif Weinidog, fe allwn ni i gyd gytuno bod datblygiad SA1 yn hwb enfawr i'r ddinas ac i'w groesawu'n fawr. Fodd bynnag, nid oedd trawsnewid glannau Abertawe yn llwyddiannus bob amser yn siŵr o ddigwydd. Roedd gennym ni y prosiect technium, a oedd ymhell o fod yn anhygoel, a oedd i fod i arwain y trawsnewidiad. Pwy a ŵyr faint ynghynt y byddai trawsnewidiad y ddinas wedi digwydd? Rydym ni'n gweld bod prosiect Bae Copr hefyd yn ei chanol hi gyda phroblemau, wrth i'r prif ddatblygwr fynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Prif Weinidog, sut ydym ni'n sicrhau bod y gwersi'n cael eu dysgu o'r datblygiadau hyn fel eu bod nhw'n llwyddiannus o'r cychwyn cyntaf, nid blynyddoedd yn ddiweddarach?

Wel, diolch i Altaf Hussain am ei gydnabyddiaeth wrth ddechrau ei gwestiwn am y llwyddiant a grëwyd yn natblygiad SA1. Rwy'n credu ei bod hi'n wir ym mhobman, os ydych chi'n rhan o fuddsoddiad enfawr, ac yn sicr mae'r buddsoddiadau yn Abertawe wedi bod ar y raddfa honno, a byddan nhw'n parhau i fod ar y raddfa honno wrth i rannau pellach o'r cynllun uchelgeisiol ar gyfer ailddatblygu'r ddinas gael ei ddatblygu gan gyngor y ddinas, rwy'n ofni bod gwersi o fannau eraill yn dweud wrthych chi, os ydych chi'n gwneud pethau ar y raddfa honno, bydd rhai pethau annisgwyl yn digwydd. Fel y dywedodd yr Aelod, bu datblygwr yn destun datodiad. Nid yw hynny yn nwylo cyngor y ddinas fel y prif randdeiliad, nac yn nwylo Llywodraeth Cymru. Yr hyn y gallaf i sicrhau'r Aelod yw, pan fydd gennych chi fuddsoddiad ar y raddfa hon, yna, wrth gwrs, rydym ni bob amser yn awyddus i wneud yn siŵr ein bod ni'n dysgu pa bynnag wersi y gellir eu dysgu ohono, pa un a yw hynny'n golygu'r gwersi llwyddiannus y cyfeiriodd Mike Hedges atyn nhw, neu'n lleoedd lle gellid gwneud  pethau yn wahanol ac yn well yn y dyfodol, a byddwn yn parhau i fynd i'r afael â'r buddsoddiad enfawr yn Abertawe yn yr union oleuni hwnnw.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, fel y soniodd y Llywydd yn ei sylwadau agoriadol, mae yna ddeiseb fwyaf o'i math gerbron Pwyllgor Deisebau'r Senedd ar hyn o bryd, sydd bron â chyrraedd 440,000 o lofnodion. Mae yna ddeiseb arall hefyd yn cefnogi safbwynt y Llywodraeth, o tua 3,000 o lofnodion. Nid wyf yn dilorni unrhyw un sy'n llofnodi deiseb, pa un a oes ganddi sawl can mil neu ychydig filoedd, ond dywedodd y dirprwy Weinidog trafnidiaeth nos Wener mewn trydariad bod y 440,000 bras o lofnodwyr ar y ddeiseb honno yn wrth-ddiogelwch ar y ffyrdd. A ydych chi'n cytuno ag ef?

13:45

Rwy'n credu y dylid cymryd pob deiseb o ddifrif, a dyna'n union sut y bydd y gwahanol ddeisebau yn ymwneud â'r parthau 20 mya yn cael eu hystyried gan y Llywodraeth hon. Y broses yw'r un a nodwyd gan y Llywydd. Mae'r deisebau i'r Senedd, nid i Lywodraeth Cymru, a mater i'r Senedd, drwy'r Pwyllgor Deisebau, yw ymateb iddyn nhw. Ond gallaf sicrhau'r Aelod ein bod ni ar yr ochr hon yn cymryd pob deiseb o ddifrif ac y byddwn ni'n ystyried y deisebau hyn yn y goleuni hwnnw. 

Mae diogelwch ar y ffyrdd yn ganolog i'r ddadl dros symud i derfynau cyflymder 20 mya ar sail ddiofyn mewn ardaloedd preswyl adeiledig. Mae hwn yn fesur a fydd yn achub bywydau. Dyna'r sail y'i cyflwynwyd arni a dyna'r sail y byddwn ni'n parhau i amddiffyn mesur a ddisgrifiwyd dim ond yr wythnos diwethaf gan y cyfnodolyn academaidd blaenllaw yn y maes hwn fel y mesur iechyd cyhoeddus mwyaf arwyddocaol y rhoddwyd cynnig arno yn y Deyrnas Unedig ers bron i 20 mlynedd.

Mae'n hanfodol nad yw pobl yn cael eu dilorni oherwydd eu bod nhw'n cymryd rhan mewn protest pan fydd ganddyn nhw sylwadau neu bryderon am fesur Llywodraeth. Fel y dywedais i, fe wnaeth y Dirprwy Weinidog alw'r ddeiseb hon yn 'wrth-ddiogelwch ar y ffyrdd'. Wel, nid yw yn erbyn diogelwch ar y ffyrdd, mewn gwirionedd mae'n tynnu sylw at bryderon gwirioneddol pobl am y ffordd y gweithredwyd y polisi hwn a'u pryderon ynghylch sut y bydd yn datblygu yn eu cymunedau. Rwy'n cymryd o'r pwyntiau yr ydych chi wedi eu gwneud nad ydych chi'n ystyried bod y ddeiseb hon yn wrth-ddiogelwch ar y ffyrdd a'ch bod yn ei ystyried yn fodd gwirioneddol i bobl fynegi eu hunain a mynegi'r pryderon y bu ganddyn nhw. 

Un peth sy'n cael ei amlygu eto drwy ryngweithio â phobl sydd â phryderon ynghylch y cynigion y mae'r Llywodraeth wedi'u gweithredu yw a fydd hyn yn effeithio ar derfynau cyflymder cenedlaethol eraill yn y wlad hon. Felly, a allwch chi gadarnhau heddiw, Prif Weinidog, nad oes unrhyw gynlluniau gan Lywodraeth Cymru i addasu unrhyw un o'r terfynau cyflymder cenedlaethol eraill yma yng Nghymru cyn etholiadau nesaf y Senedd yn 2026?

Llywydd, gadewch i mi wneud hyn yn gwbl eglur i bobl a allai fod wedi cael eu camarwain gan wybodaeth sy'n honni ei bod yn eu hysbysu am gynlluniau yng Nghymru ond nad yw'n gwneud dim o'r fath: rydym ni wedi arfer yn llwyr yng Nghymru, ar un daith, i symud o derfyn cyflymder a allai fod yn 40 mya i 50 mya, 60 mya neu 70 mya—nid yw'r un o'r rheini yn cael eu newid gan y polisi hwn ac nid oes unrhyw gynlluniau i wneud hynny. Mae hwn yn bolisi sydd â'r nod o wneud sefyllfa ddiofyn o 20 mya ar ffyrdd sy'n gwasanaethu ardaloedd preswyl adeiledig, gyda lle i awdurdodau lleol gadw 30 mya lle maen nhw'n credu mai dyna'r peth iawn i'w wneud. 

Gadewch i mi wneud un pwynt arall i'r Aelod. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cymryd o ddifrif y safbwyntiau y mae pobl yn eu mynegi yn ein proses ddemocrataidd gan ddefnyddio'r system ddeisebau sydd gennym ni yma. Rwyf i hefyd yn credu bod hynny'n wir y ddwy ffordd, a bod gan y bobl hynny sy'n cefnogi'r polisi a'r bobl hynny sydd wedi cyflwyno'r polisi hawl i gael eu trin gyda pharch hefyd. Rwy'n gwbl hapus i anfon rhai o'r negeseuon ffiaidd yr wyf i wedi eu cael gan bobl sy'n gwrthwynebu'r polisi hwn, ac iddo ef ddweud wrthyn nhw, fel yr wyf i'n cytuno ag ef am bobl sydd â gwahanol farn i'm un i—. Dydw i ddim eisiau eu dilorni nhw. Rwy'n credu y byddai'n dda clywed ganddo fod y bobl hynny sy'n barod i ddweud pethau nad ydyn nhw'n ddilornus yn unig, ond yn bygwth diogelwch corfforol pobl yn uniongyrchol—bod y pethau hynny yn gwbl annerbyniol hefyd.

Rwy'n fwy na hapus, Prif Weinidog, i ymuno â chi yn y sylwadau hynny. Nid oes lle yn ein cymdeithas ar gyfer hynny o gwbl. Gallaf i, fy hun, anfon llawer iawn, iawn o enghreifftiau—ac mae'n agored ar fy ffrydiau cyfryngau cymdeithasol cyhoeddus—o'r sylwadau sy'n cael eu taflu ataf i. Rwyf i hefyd yn cael gwefannau newyddion honedig a ariennir gan y Llywodraeth yn ysgrifennu erthyglau sy'n dweud fy mod i'n credu bod y math hwn o iaith—eich bod chi, y Gweinidog ac eraill yn cael eich niweidio'n anuniongyrchol—. Nid wyf i erioed wedi dweud hynny, ond o newyddiadurwr yn awgrymu fy mod i'n credu hynny, mae'n rhoi targed ar fy nghefn ac ar gefn fy nheulu hefyd, Prif Weinidog. Nid wyf i'n mwynhau'r amddiffyniad sydd gan Weinidogion y Llywodraeth, a phan welaf negeseuon o'r fath yn cael eu rhoi ar wefan sy'n cael ei hariannu gan y Llywodraeth, rwy'n credu bod yn rhaid i'r Llywodraeth feddwl yn ofalus iawn am ariannu'r wefan honno.

Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrthych chi, ac wrth bob gwleidydd yn y Siambr hon, yw bod y math hwn o iaith yn gwbl annerbyniol, yn warthus, ac y dylid ei feirniadu ar bob cyfle. Rwy'n clywed y Dirprwy Weinidog yn dweud bod honna'n un dda. Ail-bostiwyd yr erthygl yr wyf i newydd gyfeirio ati ar wefan Nation.Cymru gan lawer o Aelodau yn y Siambr hon, ac nid oes y mymryn lleiaf—y mymryn lleiaf—o wirionedd ynddi. Felly, fel y gwnaethoch chi ddweud, Prif Weinidog, y gall fod yn wir y ddwy ffordd. Mae'n rhaid i ni sefyll yn ei erbyn, ac rwy'n sefyll gyda chi yn erbyn hynny.

Mae fy nhrydydd cwestiwn i chi, Prif Weinidog, yn ymwneud yn benodol â'r mesurau codi tâl ar y ffyrdd y sonnir amdanyn nhw ym Mil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), gan fod hwn yn faes y mae llawer o bobl hefyd wedi gofyn am sicrwydd yn ei gylch, a pha effaith debygol y bydd y rhain yn ei chael ledled Cymru, pan fydd Llywodraeth Cymru yn cymryd y mesurau hyn. A allwch chi amlinellu heddiw y weledigaeth sydd gan Lywodraeth Cymru am godi tâl ar y ffyrdd yng Nghymru, o gofio bod y Llywodraeth, yn y darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth, yn ceisio cymryd y pwerau hynny a gweithredu yn y pen draw, fel y mae'r cynllun trafnidiaeth genedlaethol yn sôn amdano, cynllun codi tâl ar y ffyrdd yma yng Nghymru?

13:50

Mae'r pwerau yn y Bil hwnnw yn bwerau sy'n ymwneud â gwella ansawdd aer. Rwyf i wedi clywed yr Aelod yn gwneud cyfraniadau cadarnhaol iawn ar lawr y Senedd am bwysigrwydd gwella ansawdd aer yng Nghymru. Rydym ni'n gwybod ei fod yn fater iechyd cyhoeddus. Rydym ni'n gwybod bod miloedd o bobl y gallai eu bywydau gael eu byrhau os nad yw'r aer y maen nhw'n ei anadlu o'r ansawdd yr hoffem iddo fod. Mae'r Bil yn cyflwyno cyfres o ffyrdd y byddwn ni'n ceisio gwella ansawdd aer yma yng Nghymru. Mae ganddo, fel safbwynt gweddilliol ac wrth gefn, bwerau a allai yn y dyfodol arwain at godi tâl ar y ffyrdd, os nad yw'r holl bethau eraill hynny yn gweithio. Ond diben y Bil yw gwneud i'r pethau eraill hynny weithio. Dyna'r pethau y mae'r Bil yn canolbwyntio arnyn nhw, a dyna'r mesurau y byddwn ni'n canolbwyntio arnyn nhw fel Llywodraeth. Os byddwn ni'n llwyddo i wneud hynny, yna byddwn wedi cyflawni nodau'r Bil, sydd, fel y dywedais i, yno yn rhan o'r dull iechyd cyhoeddus hwn—o ymdrin â thrafnidiaeth, wrth gwrs; o ymdrin ag ansawdd aer, yn sicr. A dyna natur y cynigion y mae'r Bil yn eu cynnwys.

Diolch, Llywydd. Mae lefelau tlodi plant yng Nghymru yn sgandal cenedlaethol. Maen nhw'n gywilydd cenedlaethol. Mae ymchwil gan Sefydliad Bevan, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mehefin, yn amcangyfrif bod un o bob pum plentyn yn byw mewn tlodi yng Nghymru. Mewn rhai ardaloedd—Ceredigion, Blaenau Gwent—mae o gymaint ag un o bob tri.

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru yn un o bwyllgorau'r Senedd ddoe bod angen i Lywodraeth Cymru fod yn fwy eglur ac yn fwy dewr o ran ei dull o ymdrin â thlodi plant. A yw'r Prif Weinidog yn credu bod Llywodraeth Cymru yn eglur neu'n ddewr pan benderfynodd gefnu ar ei tharged i ddileu tlodi plant?

Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu o fewn y pwerau sydd gennym ni a'r adnoddau sydd ar gael i ni i fynd i'r afael â thlodi plant. Bydd fy nghyd-Weinidog, Jane Hutt yn gwneud datganiad yn ddiweddarach y prynhawn yma, a fydd yn canolbwyntio ar nifer o'r materion hynny. Rwy'n falch, wrth gwrs, o gael y comisiynydd plant yn cymryd rhan weithredol yn y ddadl hon. Nid wyf i wedi cael cyfle i ddarllen popeth a ddywedodd yn y pwyllgor ddoe, ac nid wyf yn synnu bod rhai o'i sylwadau wedi gwneud penawdau. Rydym ni'n ffodus, Llywydd, rwy'n credu, fod gennym ni hanes yng Nghymru o gomisiynwyr plant, o Peter Clarke ymlaen, sydd wedi dylanwadu'n gadarnhaol ar y polisïau a ddilynwyd gan Lywodraeth Cymru o ran tlodi plant. Mae cymaint o'r pethau yr ydym ni wedi gallu eu gwneud yn ystod y pum mlynedd diwethaf, er enghraifft ar gost y diwrnod ysgol, yn deillio'n uniongyrchol o'r gwaith a wnaed gan y comisiynydd plant blaenorol, yr Athro Sally Holland. Pan fyddaf yn darllen y trawsgrifiad o'r hyn sydd gan y comisiynydd plant presennol i'w ddweud, rwy'n eithaf siŵr, o dan y pennawd, y byddaf yn gweld cynigion cadarnhaol pellach y bydd yn dymuno eu gwneud ac y byddwn ni wedyn yn gallu eu cymryd i ystyriaeth yn rhan o'r ymgynghoriad yr ydym ni'n ei gynnal ar ein strategaeth arfaethedig ar hyn o bryd.

13:55

Bydd y Prif Weinidog yn gwybod, wrth gwrs, bod y comisiynydd plant wedi bod yn gyson, nid yn unig ddoe. Dyma a ddywedodd pan wnaed y strategaeth tlodi plant yn destun ymgynghoriad ym mis Mehefin:

'Mae’n hynod o bwysig bod Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â dogfen strategaeth tlodi plant lefel uchel, yn cyhoeddi cynllun cyflawni penodol a mesuradwy. Mae hyn angen cynnwys targedau clir sy’n dangos sut a phryd bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni'.

Oedd, roedd hi'n gryfach fyth yn y pwyllgor ddoe, ac roedd Victoria Winckler hefyd o Sefydliad Bevan yr un mor gryf, gan ddweud bod y cynllun, fel yr oedd, yn anghydlynol, â diffyg targedau neu gerrig milltir. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog wrando ar y comisiynydd plant a Sefydliad Bevan, yn ogystal â sefydliadau eraill fel y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol, er enghraifft, a sicrhau bod gan y strategaeth derfynol honno dargedau clir, mesuradwy a phenodol, ynghyd ag amserlenni?

Fel y dywedais i, mae'r strategaeth yn destun ymgynghoriad, a dyna pam mae pobl yn cyfrannu eu safbwyntiau. Mae Llywodraeth Cymru wedi creu'r cyfle hwn yn fwriadol iawn i ni glywed gan bobl sydd ag arbenigedd uniongyrchol yn y maes. Yna, wrth gwrs, byddwn ni'n gwrando'n astud ar yr hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud. Dywedaf eto, fodd bynnag, wrth yr Aelodau, fel fy mod i'n eglur: mae'n rhaid i'r hyn y gallwn ei gyflawni trwy ein strategaeth tlodi plant ganolbwyntio ar y pethau hynny y mae gennym ni gyfrifoldeb amdanyn nhw, y pwerau sydd wedi'u neilltuo i'r lle hwn, a'r adnoddau sydd gennym ni ar gael i wneud hynny. Nid wyf i'n credu bod ymrwymiadau rhethregol yn unig yn gwneud gwahaniaeth ym mywydau plant. Y pethau ymarferol y gallwn ni eu gwneud sydd wir yn cael eu heffaith, a dyna'r hyn y byddwn ni'n canolbwyntio arno pan fydd fersiwn derfynol y strategaeth yn cael ei chyhoeddi.

Wrth gwrs, y rheswm rwy'n gofyn y cwestiynau hyn heddiw yw oherwydd fy mod i eisiau dylanwadu ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r hyn y mae'n ei dderbyn yn ystod yr ymgynghoriad hwnnw. Nid wyf i'n amau am eiliad bod y Prif Weinidog yn ddiffuant am fod eisiau dileu tlodi plant, ond nid yw ei ddweud yn ei gyflawni, a phan ddywedodd y comisiynydd plant ddoe nad yw'r uchelgais yno, mae'n rhaid i chi feddwl tybed a yw Llywodraeth Cymru hyd yn oed yn dweud y pethau cywir.

Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'r feirniadaeth o'r cynllun drafft drwy ddweud bod y prif ysgogiadau ar gyfer mynd i'r afael â thlodi—budd-daliadau lles a llawer o bwerau cyllidol—yn nwylo Llywodraeth y DU, ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn yr hyn yr ydym ni wedi ei glywed gan y Prif Weinidog heddiw. Ond fe'i cofnodwyd yn dweud y byddai'n well ganddo fod San Steffan, yn y pen draw, yn penderfynu ar ein system les. Nid ydym ni eisiau parhau i ofyn y cwestiwn a ofynnwyd gan Sefydliad Bevan, a ddywedodd, 'Beth yw pwynt y ddogfen hon?' Rydym ni eisiau iddi fod â phwynt. A wnaiff y Prif Weinidog gyfaddef o'r diwedd y byddai datganoli lles yn llawn yn rhoi'r ysgogiadau ystyrlon i Gymru i ostwng lefelau tlodi plant?

Nid wyf i'n derbyn y pwynt hwnnw, ac nid wyf i'n credu ei fod yn cael ei gadarnhau gan unrhyw ddadansoddiad difrifol. Rwy'n parhau i gredu mai un o'r dadleuon cryfaf dros y Deyrnas Unedig yw ei bod yn gweithredu, yn y dwylo iawn, fel peiriant gwych ar gyfer ailddosbarthu. Nid yw wedi bod yn y dwylo iawn, yn amlwg, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac un o'r rhesymau pam mae'r strategaeth tlodi plant hon yng Nghymru yn cael ei chyhoeddi yn y cyd-destun anodd hwnnw yw bod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dweud, i bob pwrpas, y bydd y penderfyniadau a wneir gan y Llywodraeth Geidwadol bresennol yn ychwanegu cannoedd o filoedd o blant at y niferoedd, sydd eisoes yn llawer rhy uchel, sy'n byw mewn tlodi. Ateb yr Aelod yw trosglwyddo popeth drosodd i Gymru annibynnol lle bydd hyn i gyd yn cael ei gywiro. Nid wyf i'n credu bod hynny'n debygol o fod yn wir byth. Byddwn wedi ein cyfyngu yr un faint, os nad yn fwy, gan yr un realiti ariannol.

Yr hyn yr wyf i'n edrych ymlaen ato yw Llywodraeth Lafur yn San Steffan sydd wedi ymrwymo eto i leihau tlodi plant. Yn negawd gyntaf datganoli, fe wnaeth tlodi plant yng Nghymru ostwng o chwarter ac roedd yn gostwng o un flwyddyn i'r llall. Gyda Llywodraeth yn San Steffan sy'n benderfynol o ymuno â ni i wneud y pethau yr ydym ni eisiau eu gwneud, gallwn wneud y gwahaniaeth hwnnw. Mae Llywodraeth yn San Steffan sy'n benderfynol o wneud y gwrthwyneb bob amser yn creu rhwystrau ychwanegol i'r pethau yr ydym ni eisiau eu gwneud yma yng Nghymru. Gallaf ddweud wrthych chi fod y Llywodraeth hon wedi ymrwymo'n llwyr i ddull uchelgeisiol o ymdrin â thlodi plant. Nid oes dim sydd wedi fy ysgogi i'n fwy yn yr holl flynyddoedd yr wyf i wedi bod ym myd gwleidyddiaeth na bywydau'r bobl ifanc hynny yn fy etholaeth sydd, o'u blynyddoedd cynharaf, yn cael eu niweidio gan y ffaith nad oes gan eu teuluoedd yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i gynnig cyfle i'r bobl ifanc hynny dyfu i fyny mewn bywyd yn y ffordd y byddem ni'n dymuno eu gweld nhw'n ei wneud. Rwyf i mor angerddol am hynny heddiw ag yr wyf i wedi bod erioed, a phan fydd gennym ni'r Llywodraeth Lafur nesaf honno, byddwn yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn.

14:00
Atebolrwydd Aelodau'r Senedd

3. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y bydd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) Llywodraeth Cymru yn gwneud Aelodau o'r Senedd yn fwy atebol i'r cyhoedd? OQ59970

Llywydd, bydd y Bil yn cynyddu amlder etholiadau ac yn sicrhau bod pob pleidlais yn cyfrif, gyda'r holl Aelodau yn cael eu hethol drwy un system gyfrannol.

Hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog am eich ateb. Ar wefan Llywodraeth Cymru, mae'n amlinellu mai nodau hirdymor y Bil hwn yw cynrychioli pobl Cymru, ymateb iddyn nhw a'u gwasanaethu, a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Fodd bynnag, y system bleidleisio yr ydych chi'n ei chynnig yw bod Aelodau'r Senedd yn cael eu hethol ar system rhestr plaid caeedig, sy'n atal yr opsiwn i bobl ddewis eu dewis o ymgeisydd, ac a fydd yn mynd ag Aelodau'r Senedd ymhellach i ffwrdd o'r cyhoedd, sy'n ein hethol ni yma i'w gwasanaethu. Rwy'n gynyddol bryderus y gallai'r system hon danseilio ein hetholiadau yng Nghymru, a gwanhau ein democratiaeth. Yn y drefn honno, mae rhai pleidleiswyr yn edrych at ymgeiswyr unigol i'w cynrychioli, nid pleidiau gwleidyddol, a byddai o fudd i ni gofio bod datganoli i fod i gryfhau ein cymunedau lleol, nid eu hanwybyddu trwy gymryd eu dewisiadau oddi wrthyn nhw. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi y dylid cefnu ar y ddeddfwriaeth hon gan fod y system yr ydych chi'n ei rhoi ar waith yn cael gwared ar atebolrwydd lleol ac yn mynd â gwleidyddion ymhellach i ffwrdd o'r cyhoedd, a ddylai allu dewis, yn briodol, ymgeisydd mewn system agored sy'n gwneud Aelodau unigol o'r Senedd yn fwy atebol i'r cyhoedd sy'n eu hethol?

Wel, wrth gwrs, nid wyf i'n cytuno â'r Aelod, ac nid wyf i'n dychmygu bod y bobl hynny sy'n eistedd o'i gwmpas ar y meinciau Ceidwadol sy'n cael eu hethol yma ar sail system rhestr plaid caeedig yn cytuno ag ef chwaith. Beth mae'n ei ddweud wrth ei gyd-Aelodau? Gadewch iddyn nhw ddarllen yr hyn a ddywedodd wrthyf i y prynhawn yma am eu diffyg hygrededd democrataidd oherwydd y ffordd y maen nhw wedi cyrraedd yma. Oni feddyliodd am hynny cyn iddo benderfynu gwneud y pwynt hwnnw i mi?

Gadewch i mi ddweud hyn wrtho fel ei fod yn deall: yn y system yr ydym ni'n ei chynnig, bydd gan bleidleiswyr o'u blaenau y rhestr ymgeiswyr gyfan a gyflwynir gan blaid wleidyddol. Bydd rhestr o ymgeiswyr y Blaid Geidwadol, a bydd pleidleiswyr yn gallu edrych ar yr enwau hynny, fel y byddan nhw'n gallu edrych ar restrau pob plaid arall, ac yna, os bydd pleidleiswyr yn ymateb yn y ffordd y mae'r Aelod yn credu, byddan nhw'n gallu pwyso a mesur hynny a bwrw eu pleidlais yn ôl eu hasesiad o safon yr ymgeiswyr o'u blaenau. Byddan nhw'n gallu gwneud yn union yr hyn mae'n ei ddweud. Os mai ei ddadl ef yw mai dim ond rhestr plaid fydd hon wedyn, yna bydd y system yn caniatáu i ymgeiswyr sefyll yn eu henw eu hunain, felly bydd yr Aelod yn gallu gwneud ei benderfyniad ei hun; bydd yn gallu bod ar restr y Blaid Geidwadol, pe bai ei blaid yn dewis parhau i'w gefnogi yn y ffordd honno. Os yw o'r farn bod hynny yn torri'r cysylltiad rhyngddo ef ac etholwyr da Brycheiniog a Sir Faesyfed, yna mae ganddo ateb: gall sefyll fel James Evans, a gallan nhw barhau i bleidleisio drosto, os ydyn nhw'n dewis gwneud hynny, yn y ffordd honno.

Mewn ymgais i wella atebolrwydd, mae nifer o Seneddau ar draws y byd wedi cyflwyno proses lle, mewn amgylchiadau penodol, mae'n bosib dod â thymor Aelod i ben rhwng etholiadau. Yn San Steffan, er enghraifft, mae gyda nhw system adalw. Yng nghyd-destun y math o boblyddiaeth yr oedd y Prif Weinidog yn cyfeirio ato fe'n gynt, wrth gwrs, mae yna wastad perygl i systemau fel hyn gael eu camddefnyddio. Mae hynny'n sicr wedi digwydd yn yr Unol Daleithiau. Ond, serch hynny, ydy'r Prif Weinidog yn gweld rhinwedd inni drafod y ffordd yma o wella atebolrwydd yng nghyd-destun y Senedd ddiwygiedig, o bosib yn archwilio syniad amgen a wnaed yn wreiddiol gan Gordon Brown, er enghraifft, o rymuso pwyllgor safonau i eithrio Aelodau yn barhaol mewn amgylchiadau penodol, gan ddod â'r cyhoedd mewn i'r broses hefyd drwy gael aelodau lleyg yn rhan o'r pwyllgor?

Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Adam Price am y syniadau diddorol yna. Gwell i fi ddechrau drwy esbonio jest un peth sylfaenol. Gwaith y Llywodraeth pan oeddem ni'n paratoi y Bil sydd o flaen y Senedd oedd ymateb i adroddiad pwyllgor y Senedd. Mae'r Llywodraeth wedi datblygu'r Bil, ond roedd popeth sydd tu ôl i'r Bil yn bethau roedd y Senedd wedi cytuno arnyn nhw, dan waith Huw Irranca-Davies. A doedd dim byd yn adroddiad y pwyllgor oedd yn dweud wrthym ni fel Llywodraeth taw dyna beth oedd y Senedd eisiau inni ei wneud.

A nawr, wrth gwrs, mae'r Bil o flaen y Senedd, ac fel roedd y Cwnsler Cyffredinol yn ei ddweud pan oedd e'n cyflwyno'r Bil, mae'r broses nawr o drafod a datblygu y Bil yn nwylo'r Senedd. A dwi'n siŵr y bydd nifer o'r syniadau yn ddiddorol i Aelodau'r Senedd eu hystyried pan fydd y Bil o flaen y Senedd. A beth mae Adam Price wedi'i ddweud y prynhawn yma—dwi'n siŵr y bydd hwnna'n rhan o'r trafodaethau.

14:05

Hoffwn ddilyn Adam Price yn rhai o'r syniadau hynny, mewn gwirionedd, oherwydd pan fyddwn ni'n edrych ar gynyddu atebolrwydd a chynyddu gallu'r cyhoedd i'n dwyn i gyfrif yn y lle hwn, un o'r ffyrdd sydd wedi cael ei brofi yn Senedd y Deyrnas Unedig, sydd, yn fy marn i, yn gweithio'n dda iawn, yw'r broses galw yn ôl. Rydym ni'n gweld nifer o is-etholiadau yn cael eu cynnal ar hyn o bryd yn Lloegr a'r Alban, lle mae'r Aelodau wedi cael eu galw yn ôl, oherwydd eu bod nhw naill ai wedi torri'r gyfraith neu eu bod nhw wedi bod yn destun gwaharddiad gan y pwyllgor perthnasol yn Nhŷ'r Cyffredin. Ac mae'n rhan bwysig ac yn elfen o atebolrwydd, a dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, wrth ateb cwestiynau ar y mater hwn, ei fod yn fater ar gyfer craffu, a oedd yn ddull enigmatig iawn o ateb y cwestiwn. A meddwl oeddwn i tybed, neu gobeithio, a allai'r Prif Weinidog roi syniad i ni o feddylfryd y Llywodraeth ac a fyddai system galw yn ôl yn y lle hwn yn rhywbeth a fyddai'n ennyn cefnogaeth gan feinciau'r Blaid Lafur. Gallaf weld y Ceidwadwyr yn amneidio at hyn, a gallaf weld rhai amneidiau gan Blaid Cymru hefyd. Efallai ei fod yn rhywbeth sy'n uno'r Siambr hon.

Wel, Llywydd, diolch i Alun Davies am hynny. Rwy'n credu bod angen i mi ailadrodd y pwynt a wnes i yn fy ymateb agoriadol i Adam Price, bod y Bil yn Fil—ydy, mae'r gwaith ymarferol arno wedi cael ei wneud y tu mewn i'r Llywodraeth, ond roedd y Llywodraeth yn bwrw ymlaen ag adroddiad un o bwyllgorau'r Senedd, fel y cymeradwywyd gan Aelodau yma, ac nid oedd unrhyw gyfeiriad at alw yn ôl yn yr adroddiad hwnnw. Os yw'r Senedd, yn y broses o graffu ar y Bil, yn dod i gonsensws ar y mater hwnnw neu, yn wir, efallai materion eraill a fydd yn dod yn rhan o'r ddadl, yna, mewn ffordd, nid wyf i'n siŵr mai mater i'r Llywodraeth yw bod â safbwynt arno. Oherwydd Bil am y Senedd yw hwn, a'r Llywodraeth yw'r cyfrwng i'w gyflwyno yn hytrach na'i fod yn Fil Llywodraeth o'i darddiad. Heb os, pe bai posibilrwydd galw yn ôl yn rhan o'r drafodaeth honno, yna bydd rhywfaint o'r cymhlethdod ynglŷn â hynny yn sicr yn dod i'r amlwg. Gwn, er enghraifft, yn Senedd yr Alban, y gwnaed ymdrechion i ddod o hyd i ffordd y gellid gweithredu dull galw yn ôl i Aelodau rhestr yn Senedd yr Alban. Ac yn y pen draw, dywedodd y pwyllgor a oedd yn gyfrifol am hynny yn yr Alban na allen nhw ddod o hyd i ddull fecanwaith y gellid ei weithredu yn gyfreithlon.

Felly, rwy'n credu bod gan y Llywodraeth ddiddordeb yn y ddadl ac yn safbwyntiau'r Senedd, gan wybod, ym mhob un o'r materion hyn—ac yn sicr bydd yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin yn gwybod hyn—weithiau, yn y pen draw, mae mwy o gymhlethdod nag y gallech chi ddychmygu yn gysylltiedig â hyd yn oed y syniadau symlaf, a dyna fydd y broses graffu yn caniatáu i ni ymchwilio iddo.

Gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys

4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ59968

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn, Llywydd. Mae colli gwelyau yn gysylltiedig â choncrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth yn Llwynhelyg wedi rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys yr ysbyty. Mae'r rhain wedi cael eu lliniaru gan ymdrechion enfawr staff yr ysbyty. Mae adran damweiniau ac achosion brys Glangwili yn wynebu pwysau yn gyffredin â phob gwasanaeth iechyd, ond mae wedi sicrhau gostyngiad sylweddol i amseroedd trosglwyddo ambiwlansys yn y flwyddyn galendr hon.

14:10

Prif Weinidog, mae dyddiad adeiladu'r ysbyty newydd a addawyd ers amser maith ac a drafodwyd yn helaeth, ar gyfer gorllewin Cymru wedi cael ei symud yn ôl i 2031 yn ddiweddar, a fydd yn agos at chwarter canrif o'r adeg y cafodd y prosiect hwn ei grybwyll gyntaf, heb unrhyw benderfyniad o hyd am ei leoliad terfynol. Mae adroddiad annibynnol diweddar gan Opinion Research Services wedi datgelu, ac rwy'n dyfynnu, fod 'pryderon eang' am yr anallu i wneud penderfyniad am leoliad newydd y safle, ond hefyd mai'r trigolion yng ngorllewin sir Benfro, Ceredigion a dwyrain sir Gaerfyrddin fydd yn cael eu taro galetaf gan yr adleoliad. Mae'r ddau safle olaf yn peri cryn bryder oherwydd y seilwaith ffyrdd gwael, cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwael a thagfeydd traffig yn yr ardaloedd cyfagos, yn enwedig dros fisoedd yr haf. Ac rwy'n dyfynnu:

'Yn gysylltiedig â hyn, roedd pryderon gwirioneddol ynghylch a fyddai Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn gwelliannau i'r rhwydwaith ffyrdd o gofio ei moratoriwm ar adeiladu ffyrdd.'

Felly, a fyddech chi'n cytuno â mi mai'r ffordd orau o leddfu'r ofnau hyn i bobl y gorllewin yw darparu'r gwasanaethau damweiniau ac achosion brys gorau posibl yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili? Diolch.

Wel, Llywydd, y cwestiwn cyntaf un rwy'n cofio a ofynnodd yr Aelod i mi erioed ar lawr y Senedd oedd gwrthwynebu creu ysbyty newydd i'w etholwyr, ac rwy'n cofio dweud wrtho bryd hynny fy mod i'n gobeithio nad oedd wedi dod yma er mwyn ymestyn ymhellach fyth faint o amser y mae wedi ei gymryd i gyrraedd cynigion terfynol ar gyfer gwasanaethau iechyd yn y de a'r gorllewin. Mae'r bwrdd iechyd wedi bwrw ymlaen yn ofalus iawn a bu'n rhaid iddo wneud hynny oherwydd y dadleuon y mae Sam Kurtz wedi cyfeirio atyn nhw y prynhawn yma. Mae bellach wedi dod i'r sefyllfa lle mae ganddo ddau safle y mae'n dymuno eu cyflwyno, a swyddogaeth Llywodraeth Cymru yw craffu ar yr achosion hynny a gweld ein hymateb. Mae'r broses honno yn parhau. Rwy'n credu bod y bwrdd iechyd wedi gweithio'n galed iawn i geisio datblygu consensws clinigol mai'r cynigion y byddan nhw'n eu cyflwyno fydd y rhai sy'n gwasanaethu'r boblogaeth leol honno orau. Rwy'n credu y byddai'n ein helpu yn fawr iawn i gyflymu'r broses a dod i gasgliad pe bai cynrychiolwyr lleol yn barod i roi eu pwysau y tu ôl i gynigion sydd â'r raddfa honno o gefnogaeth glinigol.

Cysylltiadau Llywodraeth Cymru â Japan

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gysylltiadau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Llywodraeth Cymru â Japan? OQ59949

Llywydd, mae gan Gymru berthynas gref gyda Japan, â llawer o gysylltiadau economaidd a diwylliannol arwyddocaol. Mae ein cysylltiadau yn rhychwantu degawdau lawer ac yn parhau i dyfu. Edrychaf ymlaen at groesawu llysgennad Japan i Gymru yn ddiweddarach yn yr hydref i nodi 50 mlynedd o fuddsoddiad Japan yn economi Cymru.

Yn wir, a dyna yr hoffwn i droi ato mewn eiliad, ond flynyddoedd lawer yn ôl rwy'n cofio cyfarfod â chyn-lysgennad Japan i'r DU a ganodd glodydd nid yn unig ei ymweliadau â chwrs lincs Clwb Golff Brenhinol Porthcawl, ond ei swydd flaenorol yn ei ieuenctid fel bachwr brwd iawn yn ei dîm rygbi. A byddem ni'n sgwrsio am rygbi Japan a Chymru gydag edmygedd mawr ac, wrth gwrs, wedi hynny rydym ni wedi gweld y Sakura yn ffynnu fel tîm ac rydym ni'n dymuno'n dda iddyn nhw—rydym ni'n dymuno'n dda iddyn nhw—oni bai ein bod ni'n eu hwynebu, wrth gwrs, yn rownd yr wyth olaf. [Chwerthin.] Ond mae'r cysylltiadau hynny sy'n mynd yn ôl dros 50 mlynedd—yn economaidd, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol—wir yn bwysig dros ben. Maen nhw'n gryf iawn ac maen nhw'n seiliedig ar gymuned gref, cysylltiadau teuluol cryf a synnwyr o gydweithio er ein budd pennaf cyffredin. Felly, a wnaiff ef ymuno â mi hefyd i groesawu'r fenter a sefydlwyd ar Prokect Global Citizen, sydd â'r nod o weithio gydag ysgolion ledled Cymru i adeiladu ar y cysylltiadau hynny rhwng Cymru a Japan? Mae dros 50 o ysgolion wedi cofrestru eu diddordeb erbyn hyn; mae dros 30 yn dynodi y byddan nhw'n cymryd rhan. Ac am ffordd dda o'n tywys i'r 50 mlynedd nesaf o gydweithio, cyfeillgarwch a chydweithrediad rhwng Japan a Chymru.

Diolch i Huw Irranca-Davies am hynny. Diolch iddo am sôn am y rygbi. Ni ddylem fod wedi gadael i'r prynhawn yma fynd heibio heb fyfyrio ar ddigwyddiadau'r penwythnos, a phan oeddwn i'n ddigon ffodus o gael mynd i Tokyo ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd ddiwethaf, rwy'n cofio trafod gyda llywodraethwr Ōita, y dalaith lle'r oedd tîm Cymru wedi'i leoli, sut y byddem ni'n rheoli ein perthynas pe bai Cymru yn wynebu Japan yn rownd derfynol y gwpan pan oedd yn cael ei chwarae yn Tokyo ei hun.

Edrychwch, rwy'n cytuno'n fawr â'r pwyntiau y mae Huw Irranca-Davies wedi eu gwneud. Pryd bynnag yr wyf i wedi cyfarfod â llysgenhadon o Japan—ac rwy'n credu mai hwn fydd y trydydd llysgennad i'r Deyrnas Unedig yn ystod yr amser yr wyf i wedi bod yn Brif Weinidog—maen nhw bob amser yn hynod gefnogol o'r cwmnïau sydd yma yng Nghymru, ond hefyd yr ymdrechion a wnaed i gynorthwyo'r teuluoedd hynny sy'n dod o Japan ac sydd yma weithiau am gyfnod byr, weithiau am gyfnod hwy, a rhan o hynny fu'r ysgol ddydd Sadwrn y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i'w chefnogi, sy'n addysgu Japaneeg i blant a fydd yn dychwelyd i'w gwlad eu hunain, ac, o hynny, pwyslais enfawr ar gyfnewidfeydd diwylliannol rhwng pobl ifanc.

Yn gynharach y mis hwn—mae'n ddrwg gen i, Llywydd; mis diwethaf oedd hi—fe wnaethom ni groesawu dirprwyaeth o Ōita i Gymru, ac roedd llawer iawn o hynny yn canolbwyntio ar gyfnewidfeydd rhwng pobl ifanc. Mae wyth myfyriwr ysgol uwchradd o Kyoto yn ymweld â Chaerdydd ac Aberystwyth ym mis Tachwedd. Mae'r Project Global Citizen yn ganolog i'r gyfres ehangach honno o gysylltiadau yr ydym ni wedi eu datblygu, ac mae'n rhan o'r rheswm pam, pan fydd pobl fusnes Japan yn mynd adref o Gymru i Japan, eu bod nhw'n llysgenhadon mor gryf dros eu holl brofiadau tra maen nhw wedi bod yma, oherwydd rydym ni'n cynnig cyfleoedd busnes gwych yn ogystal â synnwyr gwirioneddol o gyfnewid diwylliannol rhwng y profiadau diwylliannol gwych sydd gennym ni yng Nghymru tra'n cydnabod pwysigrwydd eu treftadaeth eu hunain iddyn nhw.

14:15

Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o benderfyniad Llywodraeth Siapan i ganiatáu rhyddhau dŵr ymbelydrol o byllau dŵr atomfeydd Fukushima, dŵr toxic ers y ddamwain erchyll 12 mlynedd yn ôl, sydd yn cynnwys elfennau ymbelydrol neu beidio fel tritium, a’u rhyddhau i’r Môr Tawel. Mae pysgod o’r moroedd yna yn cael eu mewnforio i Gymru—mae yna 142,000 tunnell yn cael eu mewnforio o Tsiena, a 71,000 tunnell o Fietnam. Pa drafodaethau mae’r Prif Weinidog wedi’u cael efo llysgennad Siapan ynghylch hyn, ac ydy’r Prif Weinidog yn cytuno bod rhyddhau’r dŵr ymbelydrol yma i’r môr yn bryder?

Wel, Llywydd, wrth gwrs dwi'n ymwybodol o beth sydd wedi digwydd yn Japan, a sut maen nhw'n delio â'r effaith mae hynny wedi'i chael yn y wlad, gyda'r pwyntiau mae'r Aelod wedi'u gwneud. Dydy cyfrifoldebau'r Llywodraeth yma yng Nghymru ddim yn ymestyn at y pwyntiau mae e'n eu gwneud. Mae'r drafodaeth yn un bwysig, ond mae'n bwysig i'r bobl gyda'r cyfrifoldebau gael y ddadl, ac nid yw i fi fel Prif Weinidog treial camu i mewn i'r ddadl lle does dim cyfrifoldebau o gwbl gyda fi am y pethau mae'r Aelod wedi siarad amdanyn nhw y prynhawn yma. 

Cofrestru Pleidleiswyr

6. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran datblygu cynlluniau peilot ar gyfer cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yng Nghymru? OQ59957

Llywydd, rydym yn parhau i weithio gyda’r awdurdodau lleol ac eraill i greu modelau cofrestru awtomatig, fydd yn gallu cael eu treialu wedyn. Mae’r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) wedi’i gynnwys yn y datganiad busnes i gael ei gyflwyno ddydd Mawrth nesaf. 

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Dwi'n falch iawn o glywed hynny, ac, fel rŷch chi'n gwybod, mae'r nifer sy'n pleidleisio yn gallu amrwyio'n anhygoel, hyd yn oed o fewn un ward. Yn etholiadau diwethaf y Senedd, lle gwelwyd y diddordeb mwyaf yn weithgareddau'r lle hwn, roedd rhai o orsafoedd pleidleisio Trelai gyda turnout o ddim ond tua 20 y cant, ac, mewn gwirionedd, rŷn ni'n gwybod bod y ffigwr yn llawer is, oherwydd, wrth i ni ganfasio mewn rhai ardaloedd, rŷn ni'n pasio tŷ ar ôl tŷ, rhes ar ôl rhes o lefydd heb eu cofrestru o gwbl. Mae'r system gofrestru yn hen ffasiwn. Mae'n effeithio yn fwy ar bobl ifanc a'r rheini sydd yn rhentu eu cartrefi, ac, yn ogystal, tra bod 87 y cant o bobl gwyn ym Mhrydain wedi’u cofrestru, mae’r ffigur yn syrthio i 72 y cant o bobl ddu. Ydy’r Prif Weinidog yn cytuno â mi y byddai cofrestru awtomatig yn gam pwysig iawn ymlaen i geisio taclo’r anghyfiawnderau yma? Diolch yn fawr.

14:20

Rwy'n cytuno'n llwyr. Dyna pam rŷn ni'n mynd i roi'r Bil o flaen y Senedd. Bydd yn rhaid inni dreialu pethau i ddechrau. Dyna pam mae grŵp yn gweithio ar hyn o bryd ar y posibiliadau ymarferol y gallwn ni eu dwyn ymlaen os bydd y Bil yn cael caniatâd yma ar lawr y Senedd. Os ydym ni'n llwyddo i wneud hynny, dwi'n hyderus y bydd y pwerau yn y Bil yn gallu cael effaith bositif ar y sefyllfa y mae'r Aelod wedi'i hesbonio y prynhawn yma. 

Nid yw cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yn rhywbeth yr wyf yn ei erbyn. Ond, wrth gwrs, mae ganddo hefyd ei heriau a'i broblemau. Mae'n dibynnu ar y system rydych chi'n ei defnyddio i gofrestru pobl yn awtomatig i bleidleisio. Ond un o'r heriau sydd yna hefyd yw bod rhai pobl yn dewis peidio cofrestru i bleidleisio am nad ydyn nhw eisiau pleidleisio ac eisiau optio allan o'r system. A allwch chi sicrhau pobl Cymru, ar gyfer yr unigolion hynny nad ydyn nhw eisiau pleidleisio, nad ydyn nhw am gael eu cofrestru i bleidleisio, neu a all ddewis peidio â chael eu cofrestru i bleidleisio oherwydd eu bod am amddiffyn eu hunaniaeth neu leoliad os ydyn nhw wedi ffoi rhag trais domestig, er enghraifft, y bydd amddiffyniadau ar waith i'w hwyluso i beidio â bod ar unrhyw fath o gofrestr gyhoeddus a allai eu rhoi mewn perygl? 

Wel, Llywydd, mae rhai pwyntiau pwysig yn yr hyn y mae Darren Millar wedi'i ddweud. Rydyn ni'n ymdrin â data, data pobl. Mae angen ei drin yn gyfrifol, mae angen ei drin yn ddiogel, ac mae angen ei ddefnyddio'n foesegol. Dim ond i fod yn hollol glir, mae hyn yn ymwneud â chofrestru awtomatig. Nid oes rheidrwydd ar neb i wneud unrhyw beth oherwydd bod eich enw ar y gofrestr. Mae honno'n ddadl gwbl wahanol ac yn un y mae'r Aelodau yma eisoes wedi dechrau ei chodi, ac mae'n ddadl bwysig. Ond nid yw'r cynigion yn y Bil yn symud i'r cyfeiriad hwnnw o gwbl. Byddai enwau'r bobl ar y gofrestr. Os nad ydyn nhw eisiau unrhyw beth i'w wneud ag unrhyw un o'r canlyniadau, ni fyddan nhw o dan unrhyw rwymedigaeth o gwbl i wneud hynny. A bydd mesurau diogelu ar gyfer y mathau o achosion y mae'r Aelod wedi'u hamlinellu, fel y mae ar hyn o bryd, pan nad yw pobl, am resymau diogelwch personol, er enghraifft, eisiau i'w henw fod yn weladwy i eraill. Yn wir, bydd y Bil yn cryfhau gallu'r system i ymateb i'r pryderon hynny.

Terfynau Cyflymder Diofyn o 20 mya

7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymateb i'r ddeiseb ar derfynau cyflymder diofyn o 20 mya a gyflwynwyd i'r Senedd? OQ59988

Wel, Llywydd, fel y dywedoch chi ar ddechrau'r trafodion, mater i'r Pwyllgor Deisebau fydd ystyried y ddeiseb yn y lle cyntaf. Yna bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i gasgliadau'r pwyllgor ac unrhyw ddull a ffefrir y gallai ei nodi.

Mae pobl ledled Cymru yn lleisio eu barn trwy lofnodi deiseb y Senedd sydd wedi torri record i ddiddymu terfyn cyflymder 20 mya diofyn eich Llywodraeth. Mae llawer o'r rhai hynny sy'n llofnodi'r ddeiseb honno'n teimlo'n rhwystredig eu bod yn gweld Llywodraeth nad ydyn nhw'n teimlo sy'n gwrando arnyn nhw. Ni fydd ateb diystyriol y Prif Weinidog i mi yr wythnos diwethaf yng nghwestiynau'r Prif Weinidog wedi helpu gyda'r canfyddiad hwnnw. Rydyn ni wedi gweld pobl, yn anffodus, ym mhob rhan o Gymru yn fandaleiddio arwyddion ffyrdd fel modd o fynegi'r rhwystredigaeth honno. Nawr, rwy'n condemnio'r fandaliaeth honno, ond tybed a wnaiff y Prif Weinidog hefyd. Rwy'n gofyn oherwydd sylwais ar gyfweliad gyda'r BBC pan ddaeth yn Brif Weinidog am y tro cyntaf. Fe wnaethoch chi sôn am brotestiadau Cymraeg yn y 1960au ac fe ddywedoch chi fod chwalu arwyddion ffyrdd, ac rwy'n dyfynnu, yn 'beth ffantastig' i'w wneud. Felly, a ydych chi'n cymeradwyo fandaliaeth arwyddion ffyrdd heddiw, neu, os nad ydych chi, sut ydych chi'n cyfiawnhau eich safbwynt yng ngoleuni eich sylwadau yn y gorffennol? Neu, fel arfer, ai un rheol i Lywodraeth Cymru yw hi, ac un rheol i bawb arall?    

Llywydd, dydw i ddim yn bwriadu cael fy nhynnu i mewn i wamalu dadl bwysig yn y ffordd y mae'r Aelod wedi ceisio ei wneud y prynhawn yma.

Cyllideb 2024-25

8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith cynllunio cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25? OQ59990

Llywydd, 2024-25 yw'r olaf o'n setliad aml-flwyddyn. Mae cynlluniau dangosol eisoes wedi'u hamlinellu mewn cyllidebau blaenorol. Mae paratoadau ar gyfer y gyllideb ddrafft ar y gweill. Mae datganiad hydref hwyr y DU yn golygu y bydd yn cael ei chyhoeddi ddydd Mawrth 19 Rhagfyr.

14:25

Diolch am eich ymateb, Prif Weinidog. Rwy'n sicr yn cydnabod rhai o'r heriau y byddwch yn eu hwynebu yn ystod y misoedd nesaf yn y gwaith cynllunio hwnnw. Ond un o'r materion y mae trigolion yn eu codi gyda mi pan fyddan nhw'n clywed, o bryd i'w gilydd, am yr heriau yr ydych chi'n eu hwynebu yn y flwyddyn ariannol nesaf, o bosibl, yw peth o'r gwastraff canfyddedig yn y ffordd y mae arian cyhoeddus yn cael ei drin. Yn wir, mae enghraifft syml iawn yn fy rhanbarth i ym mhentref Llan San Siôr, ac rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod Darren Millar wedi'i godi yn y gorffennol, lle mae gan bont gefnffordd olau traffig dros dro arni ac mae wedi bod yno ers dros bedair blynedd bellach. Mae'r golau traffig hwn yn cwmpasu pellter o lai nag 20m. Ac mae ail bont gefnffordd ychydig filltiroedd i lawr y ffordd yn Abergele â goleuadau traffig dros dro tebyg arni. Mae cais rhyddid gwybodaeth wedi dangos bod y goleuadau traffig dros dro hyn wedi costio mwy na £250,000 i drethdalwyr—dyna £250,000 heb ei wario ar ysgolion yn fy rhanbarth i, £250,000 heb ei wario ar ysbytai yn fy rhanbarth i, am ddau olau traffig dros dro. Felly, rwy'n gwybod bod heriau o'n blaenau, Prif Weinidog, ac rwy'n gwybod bod hon yn enghraifft benodol iawn yr wyf wedi'i rhoi ichi yma heddiw, ond, pan fydd fy nhrigolion yn gweld hyn, maen nhw'n rhwystredig. Felly, sut allwch chi eu sicrhau nhw eich bod chi'n cymryd pob mesur posibl i leihau'r math hwn o wastraff fel bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hariannu'n iawn?

Wel, Llywydd, gadewch imi gytuno â'r egwyddor sylfaenol ein bod ni bob amser eisiau i arian cyhoeddus gael ei wario yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl. A phan fo yna enghreifftiau lle gellid gwneud hynny'n well, yna gallaf eich sicrhau chi y bydd fy nghyd-Weinidogion yma yn falch iawn o wybod amdanyn nhw ac i unioni'r pethau hynny—wrth gwrs y byddem ni. Dydw i ddim yn gwybod manylion yr achosion unigol y mae'r Aelod wedi'u codi. Mae'n dweud y gallai £250,000 fod wedi cael ei wario ar wasanaethau addysg neu wasanaethau tai ar gyfer ei boblogaeth leol. Rwy'n tybio—ond, unwaith eto, dydw i ddim yn gwybod y manylion—bod y £250,000 hwnnw wedi ei wario yn eu cadw nhw'n ddiogel ar bontydd na fyddai wedi bod felly fel arall. Felly, dydw i ddim yn dychmygu bod gan yr awdurdod priffyrdd oleuadau traffig ar y bont dim ond er mwyn bod â goleuadau traffig; bydd rheswm wedi bod dros hynny. Nawr, efallai bod yr Aelod yn iawn y gallai'r arian fod wedi cael ei wario'n wahanol ac yn fwy effeithiol. Os oes enghreifftiau o hynny, byddem yn falch iawn o glywed amdanyn nhw.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Lesley Griffiths.

Member
Lesley Griffiths 14:27:43
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Ar ôl y datganiad busnes, bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad ar ymrwymiadau sero-net. Nodir y busnes drafft am y tair wythnos nesaf ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Diolch yn fawr, Trefnydd, am eich datganiad. A gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Llywodraeth? Mae'r un cyntaf ar ddiogelwch ar y ffyrdd ar y rhwydwaith cefnffyrdd. Rwyf wedi codi materion o'r blaen ynglŷn â hyn, ond, yn fy etholaeth i fy hun, yng nghymuned Pwllglas, sydd ar gefnffordd yr A494, mae'r gymuned honno wedi llwyddo yn ddiweddar i godi arian i ddatblygu cyfleuster chwarae a ffitrwydd ar un ochr i'r gefnffordd, tra bod pawb neu'r rhan fwyaf o bobl y pentref hwnnw'n byw ar yr ochr arall. Ar hyn o bryd, y terfyn cyflymder trwy'r pentref yw 40 mya. Roedd wedi bod yn 30 mya sawl blwyddyn yn ôl, ond mae wedi cael ei godi i 40 mya. Mae yna feithrinfa hefyd sy'n wynebu'r ffordd. Mae'n ymddangos i mi ei bod yn synhwyrol i leihau'r terfyn cyflymder hwnnw i o leiaf 30 mya ar sail diogelwch. Nawr, rydyn ni wedi gweld, yn amlwg, awydd gan y Llywodraeth i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel, ac rwy'n cydnabod mai dyna'r awydd. Hoffwn weld y ffordd bentref hon yn cael ei gwneud yn fwy diogel, gyda gostyngiad ar y gefnffordd honno i 30 mya er mwyn caniatáu i bobl fynd i'r cyfleusterau newydd hyn. Ac rwy'n credu bod angen diweddariad arnom ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan bentrefi fel Pwllglas gyfyngiadau cyflymder priodol sy'n ddiogel i fodurwyr ac, yn wir, i gerddwyr.

Yn ail, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar alwadau gan etholwr i mi o Abergele, sy'n dioddef o ganser y prostad, sydd, yn anffodus, yn gorfod defnyddio cynhyrchion anymataliaeth o bryd i'w gilydd? Yn amlwg, nid oes ganddo rai wrth law bob amser, yn anffodus, yn enwedig pan fydd allan ac efallai y bydd angen iddo ddefnyddio cyfleusterau cyhoeddus. Bu cam mawr ymlaen yn ystod y blynyddoedd diwethaf i sicrhau bod cynhyrchion mislif ar gael mewn toiledau cyhoeddus; rwy'n credu bod hwnnw'n ddatblygiad cadarnhaol. Ond nid oes gennym ddatblygiad tebyg i'r holl bobl, fel yr etholwr hwn ac eraill, y gallai fod angen iddyn nhw ddefnyddio cynhyrchion anymataliaeth. Felly, tybed a allai Llywodraeth Cymru roi datganiad inni ynghylch a ydyn nhw wedi ystyried a yw hwn yn bolisi yr hoffen nhw ei hyrwyddo mewn cyfleusterau cyhoeddus ledled Cymru. Diolch.

14:30

Diolch i chi. Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn yn eich ail gwestiwn. Nid yw hyn yn rhywbeth yr wyf i'n ymwybodol ein bod ni'n ei ystyried ar hyn o bryd, ond, yn amlwg, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei lle ac fe glywodd hi eich cwestiwn chi. 

O ran eich cwestiwn cyntaf, rwy'n credu i chi ddweud mai cefnffordd oedd hon. Felly, yn amlwg, fe fyddai hynny'n rhywbeth y gallai'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ei ystyried. Efallai y byddai hi'n well i chi ysgrifennu ato ef yn uniongyrchol, oherwydd, yn amlwg, rydych chi'n siarad am bwynt penodol iawn. 

Trefnydd, rwy'n ymwybodol bod tri digwyddiad i wirfoddolwyr llifogydd cymunedol wedi cael eu trefnu gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae disgwyl i un gael ei gynnal yng Nghaerdydd yr wythnos hon; fe fydd un arall yn Aberystwyth ac un arall eto yn Llandudno. Rwyf wedi bod yn ceisio cael gafael ar wybodaeth am y digwyddiadau hyn, oherwydd rwy'n deall bod rhywfaint o ddryswch wedi bod ynghylch ymwybyddiaeth gwirfoddolwyr. Tybed a ellid rhoi datganiad—diweddariad gan Lywodraeth Cymru—fel ein bod ni'n fwy gwybodus o ran dibenion y digwyddiadau hyn i wirfoddolwyr llifogydd cymunedol, er mwyn i ni eu hyrwyddo nhw, a chael gwybod sut i ymgysylltu hefyd. O ystyried bod y gaeaf ar ddod—fe welsom ni rybuddion llifogydd wythnos diwethaf—fe fyddai hi'n dda i ni fod â rhagor o wybodaeth.

Fe hoffwn i ofyn hefyd am ail ddatganiad ynghylch metro de Cymru, ar lein Treherbert yn benodol. Fel y gwyddoch chi, fe gaeodd y lein ar ddiwedd mis Ebrill. Disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau ym mis Ionawr neu fis Chwefror y flwyddyn nesaf. Mae cymaint o sibrydion ar-lein o ran oediadau posibl i'r gwaith, rwy'n credu y byddai croeso mawr i ddatganiad ysgrifenedig neu lafar, a fyddai'n diweddaru'r Senedd o ran y datblygiadau, gan fod hwn yn fuddsoddiad allweddol, yn amlwg. Diolch i chi.

Diolch i chi. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, os oes tri digwyddiad cymunedol fel hyn gennych chi, fod pobl yn ymwybodol ohonyn nhw. Nid wyf i'n siŵr mai'r ffordd orau ymlaen fyddai datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, ond fe fyddaf i'n gwneud rhai ymholiadau, yn sicr. Efallai y byddai hi'n well i awdurdodau lleol gyhoeddi'r wybodaeth honno.

O ran eich ail gais chi, rwy'n ymwybodol fy mod wedi siarad â'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynghylch diweddaru'r Aelodau, nid yn unig o ran metro de Cymru, ond metro gogledd Cymru hefyd, ac fe fyddaf i'n sicr yn gofyn iddo ef wneud felly ar yr adeg fwyaf priodol.

Fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, ac am i'r Gweinidog egluro ei hateb olaf. Fe soniodd hi am fetro gogledd Cymru a metro de Cymru. Rwy'n siŵr mai llithriad tafod oedd iddi hi beidio â sôn am fetro gorllewin Cymru hefyd. 

Fe hoffwn i gael dau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru. Y cyntaf ar dai cydweithredol. Mae rhywfaint o gynnydd wedi bod, gan gynnwys datblygiadau cydweithredol tai newydd a Cartrefi Cymoedd Merthyr yn trosglwyddo i fod yn ddatblygiad tai cydweithredol. Pa gynigion pellach sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y tai cydweithredol yng Nghymru?

Yr ail ddatganiad yr wyf i'n gofyn amdano yw defnyddio polisïau diswyddo ac ailgyflogi gan gwmnïau sy'n masnachu yng Nghymru. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynigion i beidio ag ymrwymo i gytundebau gyda'r cwmnïau hynny sy'n ymhél â'r arfer gwarthus hwn, a ddylai gael ei wahardd? Ni allwn ei wahardd, ond o leiaf fe allwn ni beidio â masnachu â nhw.

Diolch i chi. Wel, a gaf i egluro i'r Aelod; nid llithriad tafod oedd hwnnw. Doeddwn i ddim wedi trafod yr un yna gyda'r Dirprwy Weinidog, ond rwy'n derbyn eich pwynt chi'n gyfan gwbl. 

O ran tai cydweithredol, mae Llywodraeth Cymru yn wirioneddol awyddus i barhau i gefnogi tai a arweinir gan y gymuned yng Nghymru, ac rwy'n credu mai dull y Gweinidog yw ei bod hi'n hanfodol i ni wneud hynny gyda dull o'r gwaelod i fyny, ac mae'r cymorth a ddarparwn drwy Gwmpas wedi'i gynllunio i annog hyn. Rydym ni wedi cynyddu ein cefnogaeth ni i dai a arweinir gan y gymuned, ac rydym ni'n darparu £180,000 o gyllid refeniw bob blwyddyn i Cwmpas o 2022 hyd at 2023, ac yna, wedyn, o 2024 i 2025. Mae natur tai a arweinir gan y gymuned yn golygu bod yn rhaid iddo gael ei ysgogi gan y grwpiau cymunedol eu hunain ac, ar hyn o bryd, mae ein rhaglen gymorth yn gweithio gyda 50 o grwpiau cymunedol sydd i gyd ar wahanol gamau ar eu taith i godi tai dan arweiniad y gymuned. 

O ran diswyddo ac ailgyflogi gan gwmnïau sy'n masnachu yng Nghymru, rydym ni'n llwyr gondemnio'r defnydd o ddiswyddo ac ailgyflogi fel tacteg ar gyfer negodi ac arfer ym myd cyflogaeth. Nid yw defnyddio'r bygythiad o ddiswyddo i dalu cyflog is neu gynnig telerau ac amodau gwaeth i weithwyr yn cyd-fynd â'n gwerthoedd ni o ran gwaith teg neu bartneriaeth gymdeithasol. Rydym ni'n defnyddio offer yn y Llywodraeth hon fel y contract economaidd, er enghraifft, a'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi, i fynegi'r gwerthoedd yr ydym ni'n barod i sefyll y tu ôl iddyn nhw a'u gwobrwyo nhw. Fel y gŵyr yr Aelod, fe wnaethom ni ddeddfu yn ddiweddar, drwy Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, i bennu dyletswyddau caffael cymdeithasol cyfrifol newydd ar ein cyrff cyhoeddus ni a rhai awdurdodau contractio. Nid yw'r dyletswyddau hyn wedi dechrau eto, ond rydym ni'n gweithio ar y canllawiau statudol ar hyn o bryd.

14:35

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad brys gan Weinidog yr Economi ar y gefnogaeth i fusnesau y mae mater RAAC yn effeithio arnyn nhw? Wythnos diwethaf, fe gafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ei orfodi i gau marchnad dan do Pen-y-bont ar Ogwr yng nghanolfan siopa Rhiw ar ôl i archwiliad asbestos ddod o hyd i RAAC yn nho'r adeilad. Fe gaewyd y farchnad dan do yn union syth. Er ei bod hi'n gwbl ddealladwy fod yr adeilad wedi gorfod cau er diogelwch, mae'n rhaid ystyried cwynion y masnachwyr. Maen nhw wedi colli unig ffynhonnell eu hincwm. Er y gellir datrys y sefyllfa yn y ganolfan yn gyflym gobeithio, fe allwn ni fod yn sicr nad hwn fydd yr achos olaf. Felly, a gawn ni ddatganiad yn amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau sy'n colli busnes o ganlyniad i fater RAAC? Diolch.

Diolch i chi. Wel, fel gwyddoch chi, o ran y mater sy'n parhau ynglŷn â RAAC mewn rhai adeiladau ledled Cymru, ym myd addysg y dechreuodd hwnnw, ac fe wnaeth Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ddatganiad llafar fwy neu lai yn syth ar ôl i'r gyntaf o'r ddwy ysgol gael ei nodi. Gofynnwyd i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno datganiad ysgrifenedig am iechyd. Ac rydym ni'n parhau i weithio gyda'n hawdurdodau lleol i gyd i nodi pa adeiladau ar yr ystad gyhoeddus sydd mor anffodus o fod â RAAC, ac mae hwnnw'n ddarn o waith sy'n parhau.

Dwi'n falch o weld y Gweinidog addysg yn ei sedd heddiw yma. Mi hoffwn i gael datganiad ysgrifenedig mewn perthynas ag effaith canfod RAAC ac effaith hynny ar ysgolion yn fy etholaeth i ar y ffordd y mae disgyblion yn cael eu hasesu. Mi wnes i ymweld ag Ysgol Uwchradd Caergybi yr wythnos yma, sydd wedi cael ei tharo waethaf. Does gen i ond canmoliaeth ar gyfer y tîm arweinyddol yn Ysgol Uwchradd Caergybi am lwyddo i drefnu bod gwersi'n parhau, un ai mewn rhannau o'r ysgol sy'n gallu bod ar agor neu adeiladau eraill yng Nghaergybi. Ond mae hyn yn amlwg yn mynd i gael effaith ar addysg disgyblion. Mae yna bryder gwirioneddol bod hynny'n mynd i ddangos pan ddaw hi'n amser asesiadau. Dwi'n deall bod y Prif Weinidog, tra ar ymweliad â'r ysgol—dwi'n falch iawn ei fod o wedi mynd—wedi awgrymu wrth y disgyblion y bydd yna ystyriaeth o effaith hyn ar eu haddysg nhw. Dydy Cyd-bwyllgor Addysg Cymru ddim yn barod i roi'r addewid hwnnw eto. Mi fyddwn i wirioneddol yn gwerthfawrogi cael y sicrwydd yna i ddisgyblion sydd, am yr eildro mewn ychydig flynyddoedd, yn wynebu amser pryderus tu hwnt.

Diolch i chi. Wel, roedd y ddwy ysgol y cyfeiriais i atyn nhw yn fy ateb blaenorol i Altaf Hussain, wrth gwrs, yn eich etholaeth chi. Fel gwyddoch chi, fe wnaeth y Gweinidog ddatganiad llafar. Rwy'n credu iddo ef wneud dau ddatganiad ysgrifenedig wedyn ar RAAC mewn ysgolion, ac fe fyddai ef yn hapus iawn i gyflwyno datganiad ysgrifenedig pellach, fel gwnaethoch chi ofyn amdano.

Trefnydd, mae gennyf i ddau gais i'w gwneud heddiw. Yn gyntaf, a gawn ni ddadl yn amser y Llywodraeth ynglŷn â'r hyn y gellir ei wneud i leihau nifer y bobl ifanc dan 18 oed sy'n defnyddio e-sigaréts? Rydym ni i gyd wedi gweld y ffigurau: mae 20 y cant o fyfyrwyr ym mlynyddoedd 7 i 11 yn dweud eu bod wedi rhoi cynnig ar e-sigaréts, ac mae un o bob 20 myfyriwr ysgol uwchradd yn eu defnyddio nhw o leiaf unwaith yr wythnos. Nawr, rwy'n croesawu'r canllawiau newydd i ysgolion gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, a'r sylwadau am wahardd e-sigaréts tafladwy, ond fe fyddwn i'n croesawu'r cyfle hefyd i Aelodau'r Senedd drafod a chael dadl am y materion yn fwy cyffredinol.

Yn ail, efallai eich bod chi'n ymwybodol o'r newyddion dros yr haf fod Cyngor Bro Morgannwg yn bwriadu mynd ar drywydd camau cyfreithiol yn erbyn tri adeiladwr mawr—Persimmon, Taylor Wimpey, a Barratt Homes—am eu methiant nhw i ddarparu'r man gwyrdd a addawon nhw i drigolion mewn amser rhesymol. Yn anffodus, mae'r stori hon yn rhy gyfarwydd ledled Cymru, ac yn wir ledled y DU. Yn fy etholaeth i fy hun yng Nghwm Cynon, dim ond ar ddatblygiad Coed Dyffryn yn Aberdâr y creodd Persimmon Homes y man gwyrdd yn ôl eu haddewid ar ddatblygiad Coed Dyffryn yn Aberdâr wyth mlynedd ar ôl i'r cartref olaf ar yr ystad gael ei adeiladu, ac ar ôl ymgyrch hirfaith dan arweiniad y trigolion yno a minnau. A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y bydd yn egluro i'r datblygwyr bod mannau gwyrdd yn rhan na ellir ei hepgor o'r ystadau y maen nhw'n eu hadeiladu, ac, o'r herwydd, y dylid eu darparu wrth i ddatblygiadau gael eu hadeiladu, a pheidio â'u rhoi ar waelod y rhestr o flaenoriaethau?

Diolch i chi. Wel, fel roeddech chi'n dweud, fe gyhoeddwyd canllawiau'r wythnos diwethaf ynglŷn ag e-sigaréts. Ac yn y Llywodraeth, mae gennym ni hanes o fod â dull pwyllog iawn o ymdrin ag e-sigaréts, o gofio mai datblygu y mae'r dystiolaeth ar eu heffeithiau hirdymor nhw, ac rwyf i o'r farn ein bod ni i gyd yn cydnabod eu hapêl bosibl i blant a phobl ifanc. Rydym ni'n eglur iawn na ddylai plant ddefnyddio e-sigaréts, na phobl ifanc na phobl nad ydyn nhw'n ysmygu. Er y cydnabyddir, wrth gwrs, fod fêpio yn fwy diogel nag ysmygu a gellir eu defnyddio gan rai pobl i helpu i roi'r gorau i ysmygu, ond rydym ni o'r farn fod y dystiolaeth ar eu heffeithiau iechyd hirdymor yn gyfyngedig ac yn parhau i ddod i'r golwg. Ac, yn rhan o'n strategaeth tybaco, rydym ni'n edrych yn ofalus iawn ar ein safbwynt polisi ni ar e-sigaréts yng Nghymru.

O ran eich ail gwestiwn, ni ddylai unrhyw gymuned orfod aros wyth mlynedd am faes chwarae, felly, rwy'n eich llongyfarch am eich ymgyrch chi. Rwy'n credu bod ein polisïau cynllunio ni'n eglur iawn: mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn disgwyl i ddatblygiadau tai newydd ddarparu seilwaith gwyrdd, ac mae hynny'n cynnwys mannau chwarae a mannau agored. Mae'n rhaid i awdurdodau lleol ddefnyddio'r offer sydd ar gael iddyn nhw, ac mae hynny'n cynnwys gorfodi amodau cynllunio a rhwymedigaethau adran 106 i sicrhau bod addewidion datblygwyr yn cael eu gwireddu, ac mae'r Gweinidog yn llwyr ddisgwyl i gwmnïau gadw at eu rhwymedigaethau cytundebol.

14:40

Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar effeithiau dinistriol cyfraith 20 mya ar wasanaethau bysiau yng Nghymru. Rwyf i wedi derbyn llythyr gan Arriva ac maen nhw wedi ysgrifennu gyda phryderon aruthrol. Maen nhw wedi trafod yr heriau o ran gwasanaeth 5 Llandudno o'r blaen; cynlluniau amrywiol o waith ar y ffyrdd; mae'n rhaid iddyn nhw ailystyried eu fflyd; a beth i'w wneud â'r rhwydwaith. Yn sgil cyflwyno'r terfyn 20 mya, rydym ni'n gweld yr amherir ar wasanaethau pellter hir a mewndrefol mewn ffordd ddifrifol, mae eu prydlondeb wedi gwaethygu yn sylweddol, ac mae teithiau yn cael eu canslo er mwyn i'r bysiau fod yn eu holau ar amser. Llywodraeth Cymru sy'n achosi'r problemau hyn nawr, felly mae hi'n rhaid iddyn nhw ystyried torri ar amlder y gwasanaethau, gwneud gwelliannau i'r amserlenni, a newidiadau i lwybrau a diddymu llwybrau. Ond un cwestiwn y maen nhw wedi ei ofyn i mi yw: sut wnaeth y Dirprwy Weinidog ymgysylltu o ran hyn? A fydd ef yn cyflwyno datganiad llafar yn egluro pa fodelu a fu? Sut aeth ati i ymgysylltu â'r gwasanaethau bysiau? Oherwydd mae hyn wedi cael ei wthio arnyn nhw'n llythrennol ac fe fyddwn ni'n gweld llai o wasanaeth bellach na'r hyn a oedd gennym ni o'r blaen. Diolch i chi.

Wel, nid yw hyn wedi 'cael ei wthio arnyn nhw'n llythrennol'. Mae cyflwyno’r terfyn cyflymder o 20 mya wedi'i gofnodi'n eglur iawn ers amser maith, ac rwy'n ymwybodol iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cael llythyr oddi wrth Stagecoach yn mynegi barn sy'n hollol i'r gwrthwyneb. Nawr, gyda'r rhan fwyaf o'r meysydd hyn o bolisi, wrth gwrs, fe gewch chi wybodaeth yn cael ei gyflwyno o safbwyntiau gwrthwynebus. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni gofio mai dim ond ar 17 Medi y dechreuodd ei weithrediad. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn cydnabod bod gan awdurdodau lleol bwerau i eithrio. Fe ddylen nhw fod yn gweithio gyda'u darparwyr bysiau lleol nhw hefyd i sicrhau bod unrhyw broblemau—ac nid wyf i'n amau am eiliad y bydd yna broblemau cychwynnol—a'u bod nhw'n cael eu datrys. Nid wyf i'n credu y byddai datganiad llafar nawr yn briodol, mewn gwirionedd, ynglŷn â'r agwedd ar y cynllun yr ydych chi'n ei awgrymu.

Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y sefyllfa barhaus yn rhanbarth Nagorno-Karabakh. Nawr, fe siaradais i am hyn mewn dadl fechan—dadl fer, y dylwn ddweud—a gynhaliais yn y Senedd ychydig amser yn ôl, ac mae'r sefyllfa, wrth gwrs, wedi mynd yn sylweddol fwy enbyd yn ddiweddar. Mae'r hyn a oedd yn flocâd gan Lywodraeth Aserbaijan ar y rhanbarth bellach wedi troi yn ymosodiad milwrol ar raddfa lawn yn y rhanbarth, sy'n golygu bod cannoedd o bobl wedi trengi, eu hanafu neu, yn wir, wedi mynd ar goll. Nawr, mae cenhedloedd yr UE, fel yr Almaen, wedi mynegi pryderon am Armeniaid ethnig yn y rhanbarth, ac mae David McAllister, cadeirydd pwyllgor materion tramor Senedd Ewrop, yn rhannu pryderon tebyg, gan gynnwys gorfodi neu symud y boblogaeth Armenaidd yn y rhanbarth. Ers y penwythnos, mae tua 6,500 o bobl wedi croesi i Armenia o Nagorno-Karabakh, ac nid oes amheuaeth y bydd y defnydd o'r fyddin gan Aserbaijan yn gwaethygu'r argyfwng ymhellach, yn amlwg.

Fe wn i fod 20 Aelod o'r Senedd wedi arwyddo datganiad barn ar y sefyllfa yno, a gyflwynwyd ar y cyd gan Heledd Fychan a minnau, yn gynharach eleni. Ond gyda'r cynnydd diweddaraf hwn a'r tensiynau cynyddol yn y rhanbarth, rwy'n credu bod yn rhaid i ni, yn aelodau o'r gymuned ryngwladol, ddangos undod â'r sifiliaid sy'n wynebu creulondeb y trais. Mae'n rhaid i ni sicrhau hefyd nad oes unrhyw droseddu yn erbyn confensiwn Genefa, yn enwedig o ran anelu at grwpiau lleiafrifoedd ethnig a throsglwyddiad poblogaethau sifil gyda grym. Felly, er bod materion rhyngwladol yn fater a gedwir yn ôl yn San Steffan, mae cyfrifoldeb moesol gan bob un ohonom ni i sefyll mewn undod â'r boblogaeth leol a defnyddio ein llais ni a llais Senedd Cymru, yn yr achos hwn, i amddiffyn y rhai yn rhanbarth Nagorno-Karabakh sy'n dioddef camdriniaeth o ran eu hawliau dynol. 

Diolch i chi. Wel, rwy'n cydnabod yn llwyr yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am undod, ond mae hwn yn fater a gedwir yn ôl ac nid wyf i'n credu mai'r Siambr a fyddai'r lle gorau i wneud hynny. Ond rwy'n credu i ddatganiad barn fod yn gwbl briodol.

14:45
3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymrwymiadau Sero Net

Felly, nesaf bydd y datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar ymrwymiadau sero net. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Julie James. 

Diolch, Llywydd. Fe hoffwn i agor fy natganiad heddiw trwy gytuno â rhai pwyntiau a wnaeth Prif Weinidog y DU yn ei gyhoeddiad sero net ar 20 o fis Medi. Dywedodd y Prif Weinidog ei bod hi'n rhaid cynnal dadl onest ynglŷn â sut yr ydym ni am sicrhau buddiannau hirdymor y wlad. Fe ddywedodd ef hefyd fod angen llwybr credadwy arnom i gyrraedd sero net erbyn 2050 mewn ffordd sy'n dwyn pobl gyda ni. Yn anffodus, Llywydd, mae'n ofid gennyf i na chymerodd ef gyfle yn ei araith i fynd i'r afael â'r naill neu'r llall o'r heriau sylfaenol a bennodd ef ei hun.

Pan fyddwn ni'n mynd hyd at yr asgwrn yng nghyhoeddiadau'r Prif Weinidog, fy marn i yw y bydd y newidiadau uniongyrchol a materol i'n hallyriadau ni'n ddi-fudd ond yn gymharol gymhedrol felly. Roedd llawer o'r lol yr oedd ef yn awyddus i'w gynhyrchu yn deillio o gael gwared ar gynigion nad oedden nhw'n bodoli erioed yn y lle cyntaf. Serch hynny, drwy weithredu er lles ei blaid ei hun yn hytrach na'r genedl, fe greodd effeithiau llawer mwy niweidiol a mwy eang. Fe amharodd ar hyder busnesau a chymunedau fel ei gilydd ac fe gollodd ef gyfle arall i fynd i'r afael â gwir heriau'r argyfwng hinsawdd. Bu dadansoddwyr y farchnad yn ddiamwys.

Mae'r Prif Weinidog wedi gwneud y DU yn gyrchfan lai deniadol i fuddsoddwyr sefydliadol sy'n awyddus i fuddsoddi mewn prosiectau hinsawdd. Disgrifiodd y Prif Weinidog gostau sylweddol ar weithwyr yn enwedig y rhai sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd eisoes. Eto i gyd, mae llawer o'r pwysau ariannol ar ddeiliaid tai o ganlyniad uniongyrchol i gael eu cloi mewn economi gyfnewidiol, sy'n defnyddio tanwydd ffosil. Mae angen busnesau fod yn hyderus yn y llwybr y maent yn ei ddewis i ddarparu atebion sy'n helpu'r rhai sydd dan bwysau ariannol i fynd yn wyrdd—atebion gyda chostau oes sy'n is na'r dewisiadau eraill carbon uchel, atebion sy'n rhoi mantais economaidd i Gymru. Yn hytrach, fe gaiff y tlotaf gyfle nawr i wylio'r rhai y mae hi'n well eu byd arnyn nhw'n crafangu'r manteision unwaith yn rhagor dan Lywodraeth Geidwadol. Yn eironig, cerbydau trydan a gwresogi carbon isel yw dau o'r meysydd lle ceir manteision economaidd i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd, ond lle mae'r Prif Weinidog wedi ffrwyno cynnydd. Mewn gwirionedd, mae dadansoddiad Llywodraeth y DU o fandad cerbydau dim allyriadau yn cydnabod arbedion cost sylweddol wrth newid i geir a faniau dim allyriadau. Er y bydd angen buddsoddiad ychwanegol ymlaen llaw, mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn nodi yn eglur y byddai'r arbedion o ran costau tanwydd yn gwrthbwyso costau'r buddsoddi mewn blynyddoedd diweddarach. Wedi dweud hynny, nid yw ceir newydd yn ddewis i lawer o bobl yng Nghymru. Eto i gyd, po gynharaf y bydd y farchnad yn symud i geir allyriadau isel newydd, y cynharaf y byddwn ninnau'n gweld marchnad ail-law iachach, â chost is. Fe ddewisodd y Prif Weinidog beidio â helpu'r newid o danwydd ffosil costus, llygredig, na chefnogi pontio i drafnidiaeth egnïol a chyhoeddus yn ei araith ef. Nid wyf i'n gweld sut mae hyn yn cefnogi ein huchelgeisiau cyffredin ni o ran yr hinsawdd nac yn cyflawni ei addewid ef i gefnogi pobl sy'n gweithio yn yr hirdymor.

Gan droi at wresogi carbon isel, mae'r Senedd hon yn gwybod y bydd datgarboneiddio ein cartrefi yn gofyn am becyn polisi cydlynol a chyson sy'n deg, dros gyfnod o amser, ac yn cymell y nifer sy'n manteisio ar fesurau effeithlonrwydd ynni ac yn lleihau cost mabwysiadu atebion gwresogi carbon isel. Fe wyddom ni fod cartrefi mwy ynni-effeithlon yn costio llai i'w cadw yn gynnes. Mae'r Prif Weinidog wedi penderfynu gohirio'r gofyniad yn 2028 i bob eiddo rhent preifat fodloni safon EPC C. Fe wyddom ni fod cartrefi yn y sector rhentu preifat yn llai effeithlon yn thermol nag mewn unrhyw ddeiliadaeth arall. Felly, fe fydd unrhyw oedi cyn gwella effeithlonrwydd y cartrefi hyn yn golygu y bydd llawer o denantiaid yng Nghymru yn parhau i rentu cartrefi gwael ac aneffeithlon ac yn wynebu biliau ynni uchel am flynyddoedd i ddod. Mae'n golygu hefyd fod y cyfle i yrru mwy o swyddi gwyrdd i'n heconomi wedi cael ei golli unwaith eto.

O ran cartrefi oddi ar y grid, methodd y Prif Weinidog ag achub ar y cyfle i ddatgloi enillion uchel ar fuddsoddiad trwy alluogi mecanweithiau marchnad sy'n disodli gwresogi olew gydag effeithlonrwydd ynni a dewisiadau amgen carbon isel. Yn hytrach na lleihau allyriadau ac arbed arian i ddeiliaid tai, bydd llawer o ddeiliaid tai yn dal wedi'u cloi mewn marchnadoedd cost uwch, carbon uchel, cyfnewidiol. Er i'r Prif Weinidog addo cynyddu grantiau cynllun uwchraddio boeleri hyd at £7,500, mae hynny o'r budd mwyaf i'r rhai y mae'n well eu byd arnyn nhw, sy'n gallu ariannu'r costau ymlaen llaw sy'n gysylltiedig â newid eu systemau gwresogi. Fe fyddai mwy o groeso i dariff cymdeithasol ar gyfer ynni, a byddai'n fwy effeithiol ac yn llawer mwy effeithlon.

Aeth y Prif Weinidog ymlaen i gael gwared ar gynigion fel y'u gelwir nad oedden nhw'n bodoli erioed i ddechrau cychwyn. Fe soniodd ef am drethi ar fwyta cig—nid oes y fath beth yn bodoli; trethi newydd ar hedfan—ni welais i unrhyw gynigion o'r fath; rhannu ceir gorfodol os ydych chi'n gyrru i'ch gwaith—ni welsom ni'r cynigion hynny; a gofyniad gan y Llywodraeth i ddosbarthu eich sbwriel mewn saith bin ar wahân. Wel, o ystyried bod Lloegr mor bell y tu ôl i Gymru o ran ailgylchu, fe fyddech chi'n meddwl y bydden nhw'n dymuno gwneud rhywbeth, ac, wrth gwrs, yma yng Nghymru, rydym ni'n falch iawn o'r ffaith ein bod yn drydydd ar hyn o bryd, yn ail cyn bo hir, drwy'r byd o ran ein gweithgarwch ailgylchu. Felly, rwyf i o'r farn fod y Prif Weinidog wedi colli'r cyfle unwaith eto i ddysgu trwy ein hesiampl ni, mewn ffordd ddifrifol iawn.

O ran hedfan, gwyddom fod 1 y cant o'r boblogaeth fyd-eang yn gyfrifol am oddeutu 50 y cant o'r holl allyriadau hedfan, ac nid wyf i'n credu y byddai treth ar hedfan yn aml ar yr 1 y cant hwn yn annheg nac yn amhoblogaidd.

Rydym ni wedi gweithio, fel dywedais i eisoes, Llywydd, gyda'n hawdurdodau lleol ac wedi ymgysylltu â'n deiliaid tai ledled Cymru i gyflawni ein cyfraddau uchaf erioed o ailgylchu trefol, ac rwy'n falch o'r mwyafrif helaeth o blith y cyhoedd yng Nghymru sydd wedi gwneud ailgylchu yn rhan bwysig o fywyd bob dydd yng Nghymru. Llywydd, fe wyddoch y byddwn ni'n cyflwyno rheoliadau yn fuan iawn i ymestyn yr ailgylchu gwahanu yn y tarddle i weithleoedd ledled Cymru hefyd.

Gan droi at yr her o ddwyn ein cymunedau gyda ni, canfu'r arolwg cenedlaethol a gynhaliwyd yn 2022 yng Nghymru fod 74 y cant o bobl yng Nghymru yn 'bryderus iawn' neu'n 'weddol bryderus' ynglŷn â newid hinsawdd, tra bod 93 y cant yn credu bod gan y cyhoedd 'rywfaint' neu 'lawer' o gyfrifoldeb i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae'n rhaid i ni ddefnyddio'r awydd hwn i weithredu. Fe allwn ni fynd i'r afael â'r hinsawdd ac argyfyngau costau byw ar yr un pryd, ond, ar gyfer gwneud hynny, mae'n rhaid i ni annog bod yn agored, cynnal deialog, archwilio a gweithredu. Fe wyddom ni, pan ydym ni wedi gweithredu o ran newid hinsawdd, ein bod ni wedi gweld manteision cymdeithasol yn fwy eang. Mae angen i ni rannu'r buddion hyn a dangos bod y Llywodraeth yn gweithio ar gyflymder i wneud dewisiadau gwyrdd yn haws, yn fwy cyfleus a fforddiadwy, a blaenoriaethu cefnogaeth i'r mannau hynny lle mae'r angen mwyaf, i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl, i sicrhau nad ein plant na'n hwyrion ni fydd y rhai a fydd yn gwneud yr 'aberth' chwedl y Prif Weinidog. Dyma sut rydym ni am ddwyn ein cymunedau gyda ni, nid drwy ddiddymu nodau pwysig yn fympwyol.

Fe ofynnwyd cwestiwn i mi yn y Siambr hon ddydd Mercher diwethaf ynglŷn â sut y bydd y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth y DU yn effeithio ar ymrwymiadau Cymru o ran sero net. Fe fydd ein dadansoddiad ni'n cael ei lywio gan ddadansoddiad Llywodraeth y DU o ystyried mai eu polisïau nhw sydd wedi newid. Yn anffodus, nid oedd Llywodraeth y DU wedi ymgysylltu â Llywodraeth Cymru cyn datganiad y Prif Weinidog. Rwyf i wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net, yn atgyfnerthu'r angen i gydweithio, ac yn gofyn am y rhagdybiaethau a'r dadansoddiad sy'n sail i'r cyhoeddiad hwn ac am gael cyfarfod cyn gynted â phosibl. Llywydd, fe fyddaf i'n gwneud datganiad pellach pan fyddaf wedi cael ac ystyried data oddi wrth Lywodraeth y DU. Diolch.

14:50

Wyddoch chi beth? Nid yn aml yr wyf i'n dweud hyn, ond fe hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am hyn ac am agor ei datganiad hi drwy gytuno â rhai pwyntiau a wnaeth Prif Weinidog y DU yn ei gyhoeddiad ef am sero net ar 20 o fis Medi. Rydych chi'n nodi ei bod hi'n rhaid cynnal dadl onest ynglŷn â sut yr ydym ni am ddiogelu buddiannau'r wlad i'r hirdymor. Fe ddywedodd hefyd fod angen llwybr credadwy arnom ni i gyrraedd sero net erbyn 2050 mewn ffordd sy'n dwyn pobl gyda ni, a phwy allai anghytuno â hynny?

Nawr, mae'r DU wedi gweld y gostyngiad cyflymaf mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr yn y G7, i lawr bron i 50 y cant ers 1990, dros yr un cyfnod yn Ewrop, mae'r Almaen a Ffrainc wedi gweld gostyngiad o 41 a 22 y cant yn unig. Mae'r DU wedi rhagori ar y nodau a bennodd y rhan fwyaf o wledydd ar gyfer 2030, megis Awstralia, Canada, Japan a'r Unol Daleithiau. Mewn gwirionedd, mae'r DU wedi gor-gyflawni, pe byddai hynny'n bosibl, o ran ei holl nodau blaenorol hyd yn hyn, ac mae ein Prif Weinidog wedi ymrwymo i gyflawni'r nod mwyaf uchelgeisiol i leihau allyriadau carbon 68 y cant erbyn 2030, o'i gymharu â lefelau 1990, a 77 y cant erbyn 2030. Felly, rwy'n credu y dylech chi ymuno â mi i fynegi pa mor falch y dylem ni fod i gyd am ein bod ni—a phan rwy'n dweud 'ni', gyda'n gilydd yn y Deyrnas Unedig—yr unig economi fawr yn y byd sydd â nod sydd mor uchelgeisiol. Diolch i'r cynnydd hwn a wnaethpwyd eisoes, nid oes raid cyrraedd nodau 2030 a 2035 y DU a fyddai'n dod ar draul dinasyddion Prydain sy'n wynebu costau byw uwch o hyd.

Nawr, mae Prif Weinidog y DU am sicrhau nad yw cyflawni sero net yn gosbedigaeth i'r boblogaeth. A wnewch chi wneud yr un peth trwy ddod â'ch rhyfel ar ein gyrwyr ni i ben? Rydych chi wedi cynghori bod angen i fusnesau fod yn hyderus o ran cyfeiriad y daith i ddarparu atebion sy'n helpu'r rhai sydd dan bwysau ariannol i geisio bod yn wyrdd, a dyna yn union y mae ein Prif Weinidog ni'n ei wneud. O'r wythnos diwethaf, fe fydd hyd at 8,000 o bobl, gan gynnwys gosodwyr presennol a'r rhai sy'n newydd i'r diwydiant, yn gallu datblygu'r sgiliau a'r wybodaeth arbenigol sydd eu hangen i ôl-osod cartrefi a gosod inswleiddio trwy lu o ddarparwyr hyfforddiant diolch i'r cynllun hyfforddi sgiliau datgarboneiddio cartrefi. Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Diogelwch Ynni gynnydd o £22 miliwn yng nghefnogaeth y Llywodraeth ar gyfer ynni adnewyddadwy drwy gynllun blaenllaw Contractau ar gyfer Gwahaniaeth, gan fynd â chyfanswm y gyllideb i £227 miliwn ar gyfer yr arwerthiant, sydd wedi arwain at brosiectau llwyddiannus yng Nghymru. Mae grant gwerth hyd at £500 miliwn, un o'r pecynnau cymorth mwyaf gan y Llywodraeth mewn hanes, yn cael ei roi i ffwrnais arc drydan newydd yng Nghymru ar gyfer cynhyrchu dur gwyrddach ym Mhort Talbot, ac mae ffatri batri ceir trydan gwerth biliynau o bunnoedd newydd i'w hadeiladu yn y DU, un o'r buddsoddiadau mwyaf erioed yn sector modurol y DU. Yma yng Nghymru, mae gennym ni fuddsoddiad enfawr gan Lywodraeth y DU mewn dau borthladd rhydd anhygoel sydd ag ynni, newid hinsawdd a thwf economaidd wrth eu gwraidd. Felly, mae Llywodraeth y DU yn galluogi'r twf economaidd gwyrdd hwn. A wnewch chi'r un peth drwy gefnogi ein tirfeddianwyr preifat ni gyda chost cynlluniau ynni adnewyddadwy? Ac, wrth gwrs, ni allwn anghofio mai Llywodraeth Cymru—y Llywodraeth hon yng Nghymru—a ddileodd ryddhad ardrethi busnes i gynlluniau ynni dŵr preifat.

Nid oes dianc rhag y ffaith fod y Gweinidog ac, yn wir, Llywodraeth Cymru, yn parhau i eiriol yn frwd dros yr Undeb Ewropeaidd. Felly, a wnewch chi, Gweinidog, egluro pam y mae problem bellach gydag alinio ein polisi ni ynglŷn â cherbydau trydan ag Ewrop trwy ohirio hynny am bum mlynedd? Yn y pen draw, fe fydd cam o'r fath o gymorth enfawr i Lywodraeth Cymru nad yw hi, hyd yn hyn, wedi cyrraedd pump o'i naw nod ei hunan ar gyfer darparu seilwaith gwefru cerbydau trydan. Diolch yn fawr.

14:55

Well, ble mae dechrau, Llywydd? A wyddoch chi, Janet, roedd yna adeg pan oeddwn i o'r farn eich bod chi'n wleidydd argyhoeddedig ynglŷn â newid hinsawdd, ond mae'r hyn yr ydych chi newydd ei draethu yn dangos nad yw hynny'n wir. Mae'r Deyrnas Unedig o'r radd flaenaf; o'r radd flaenaf yn hollol. O'r radd flaenaf o ran gorbwysleisio'r hyn y mae hi'n ei wneud, a gwneud llai na hynny wedyn. Fe welsom ni'r gostyngiad cyflymaf oherwydd roeddem ni'n dechrau o'r safle gwaethaf. Mae yna wahaniaeth rhwng gostyngiad cyflymaf a gostyngiad gwirioneddol. Darllenwch chi adroddiad Pwyllgor Newid Hinsawdd eich Llywodraeth chi os ydych chi'n awyddus i weld yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd. Darllenwch chi adroddiad yr AS Ceidwadol Chris Skidmore. Mae yna lawer o leisiau Ceidwadol sydd o blaid newid hinsawdd sy'n protestio yn erbyn y cyhoeddiad diwethaf hwn. Roeddwn i'n credu y byddech chi'n un ohonyn nhw; rwy'n siomedig iawn. Nid oes unrhyw bwynt gwrth-ddweud yr hyn a wnaethoch chi ei ddweud. Mae'n seiliedig ar gamddealltwriaeth sylfaenol o economeg newid hinsawdd. Os ydych chi'n oedi cyn cyflwyno rhywbeth, rydych chi'n gohirio'r buddsoddiad, rydych chi'n colli'r statws o fod yn symudwr cyntaf, rydych chi'n colli buddsoddiad ymlaen llaw mewn newid hinsawdd. Ac os ydych chi o'r farn mai buddsoddi mewn un ffwrnais arc drydan ym Mhort Talbot yw'r ateb i hynny, nid oes unrhyw obaith i chi.

Rwy'n bryderus iawn ynglŷn â sut y bydd hyn yn cael effaith nid yn unig ar fusnesau, ond ar y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ni, y bobl sydd leiaf tebygol o allu talu am y pethau hyn i gyd, oherwydd, cyhyd ag yr ydym ni'n parhau i fod mor ymrwymedig ac yn ddarostyngedig i'r marchnadoedd nwy byd-eang hyn—fe welsom ni yn ystod y misoedd diwethaf pa mor anwadal yw'r marchnadoedd hyn—y tlotaf a fydd yn talu fwyaf. Felly, rwy'n gofidio yn fawr am hynny, Gweinidog, ac  rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â hynny.

Mae gennym ni sefyllfa yn y fan hon lle mae Prif Weinidog y DU wedi penderfynu—. Rydym yn sôn am bobl yn colli eu pwyll; ond gorffwylltra pur yw hyn, sy'n ein taflu i'r tân, ac rwyf i o'r farn mai ein dyletswydd ni, yn gynrychiolwyr pobl Cymru, yw ceisio atebion ac eglurder ynghylch sut mae'r newid mawr hwn—oherwydd ei fod yn newid mawr ac atchweliadol iawn—ym mholisi'r DU mewn gwirionedd—[Torri ar draws.] Nid wyf i'n credu y bydd pobl yn ei groesawu pan fydd eu biliau nhw'n uchel.

Roeddwn i am ofyn, Gweinidog, sut ydych chi'n credu y bydd hyn yn effeithio ar daith Cymru hyd at sero net. Rydych chi wedi nodi llawer ynglŷn â hynny eisoes yn eich datganiad chi. A gaf i ofyn beth ydych chi'n ei feddwl fydd yr agwedd fwyaf heriol yn hyn o beth i Lywodraeth Cymru a pha gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i geisio lliniaru effeithiau'r elfen fwyaf heriol honno?

Ac, unwaith eto, roeddwn i am ofyn i chi, o ran ymgysylltu â Llywodraeth y DU, a oedd unrhyw ymgynghoriadau neu drafodaethau blaenorol wedi bod rhwng y ddwy Lywodraeth cyn y newid sylfaenol hwn o ran polisi, ac nid dim ond y newid yn y polisi, ond y naratif cysylltiedig yn ei gyfanrwydd—ac rydych chi wedi ateb hynny eisoes yn eich datganiad hefyd—ac a oes unrhyw lwybrau pellach wedi cael eu harchwilio i amddiffyn buddiannau Cymru yn dilyn penderfyniad Rishi Sunak dros yr wythnos diwethaf. Mae hi'n amlwg fod hyn wedi digwydd oherwydd gwrthwynebiad cyhoeddus canfyddedig i bolisïau gwyrdd, ond rwyf i o'r farn, sy'n fwy sinigaidd, ei fod oherwydd canfyddiadau canfyddedig mewn un isetholiad penodol. Yn anffodus, roedd y ddwy blaid fawr yn Llundain wedi mynd i ryw fath o ras i'r gwaelod. Rwy'n poeni sut y gallai hynny arwain at y naill blaid neu'r llall a fydd yn arwain Llywodraeth nesaf San Steffan yn wannach o ran polisi hinsawdd. Trychineb fyddai hwnnw i'n daear. Ond, ar lefel ymarferol, a gynhaliwyd unrhyw sgyrsiau rhwng Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddirprwyaeth yn cynrychioli'r hyn a fyddai Llywodraeth nesaf y DU pe bai Llafur yn ennill yr etholiad hwnnw, ac a ellir rhoi eglurder i ni ynghylch a fyddai'r ddirprwyaeth honno'n ymrwymo i lynu’n agos wrth y polisïau y mae angen glynu’n agos wrthyn nhw, er mwyn ein hinsawdd a'n hamgylchedd? Rwy'n anobeithio ynghylch sut y bydd hyn yn effeithio ar y bobl dlotaf yn y gymdeithas.

15:00

Diolch, Delyth. Pwy fyddai wedi meddwl y byddech chi a minnau ar ochr Boris Johnson a George Osborne a Janet yn eu herbyn nhw? Ym mha fyd y mae hyn wedi digwydd? Ond dyna lle rydym ni'n ein cael ein hunain, oherwydd mae hi'n ymddangos bod Janet yn cytuno â phwy bynnag yw'r Prif Weinidog cyfredol, ni waeth beth fyddo ei bolisïau neu ei ymrwymiadau. Mae'n ddrwg iawn gennyf i mai dyna'r hyn sy'n digwydd ar feinciau Torïaidd gyferbyn â ni, oherwydd mewn gwirionedd roedd consensws gennym ni yn y Siambr hon ynghylch yr angen am weithredu ynglŷn â newid hinsawdd, ac mae hi'n ymddangos bod hynny'n ymddatod, sy'n drist iawn wir.

Mae hi'n gwbl hanfodol fod sicrwydd gennym ni yn y broses bontio ar gyfer ein busnesau a'n buddsoddwyr. Fe fyddwn ni'n glynu'n dynn wrth ein proses ni. Mae angen buddsoddiad arnom ni yn y grid, ac rwy'n gobeithio yn fawr iawn nad yw'r Llywodraeth am lastwreiddio—yn ffodus, nid o ran y buddsoddiad hwn—ac mae angen i'r buddsoddiad hwn ddod yn gyflym, oherwydd mae angen—roedd Janet hyd yn oed yn crybwyll hyn—i'r porthladdoedd rhydd yma yng Nghymru allu manteisio ar y cyfleoedd yn y môr Celtaidd. Yn anffodus, Llywydd, rydym ni wedi gweld y cynigion ar gyfer cyfleoedd môr Celtaidd eisoes, felly rwy'n gobeithio yn fawr iawn y gellir eu cyflymu nhw unwaith eto.

Y peth sy'n fy mhoeni i'n wirioneddol yw'r newid oddi wrth wresogi â nwy. Fe fydd yn rhaid i ni wneud rhywfaint o ddadansoddiad o hynny, Delyth, ond rydym ni'n gobeithio wir y byddwn ni'n gallu parhau i fuddsoddi mewn gwneuthurwyr pympiau gwres ffynhonnell aer yma yng Nghymru, fel bydd ganddyn nhw lyfr archebu sy'n golygu y gallan nhw gyflymu eu buddsoddiad, oherwydd heb hynny, ni ddaw'r pris i lawr, yn ôl y gromlin a ragwelir. Fe wyddoch chi sut mae hynny'n gweithio: rydych chi'n rhoi'r buddsoddiad ymlaen llaw, mae'r llyfrau archebu yn cynyddu, mae cost pob uned unigol yn dod i lawr, ac mae'r cylch yn parhau. Rydych chi'n mabwysiadu technoleg newydd, ac mae'r dechnoleg honno'n mynd yn rhatach dros amser, fel sydd wedi digwydd gyda phob technoleg arall. Yr hyn a wna hwn, mewn polisi economaidd anllythrennog a dweud y gwir, yw ymestyn y buddsoddiad ar gyfer hynny ac felly'r gromlin debygol. Ond nid wyf i wedi gwneud y dadansoddiad hwnnw eto. Rydym ni'n gobeithio y gallwn ni ddal ein gafael yn dynn ar ein polisi ni.

Mae angen i ni helpu'r gymdeithas i ddod i delerau â newid. Mae pwnc hedfan yn enghraifft glasurol. Os gwnewch chi ddadansoddiad o gost teithio mewn awyren a chost teithio ar y trên, fe allwch chi weld ar unwaith bod Llywodraeth gennym ni sy'n rhoi ei chymorthdaliadau yn y mannau anghywir yn ein rhwydwaith trafnidiaeth, oherwydd pobl gyfoethog sy'n hedfan a phobl dlawd sy'n defnyddio'r trên, ar y cyfan, ac mae hon yn Llywodraeth sydd ar gyfer miliwnyddion ac nid pobl gyffredin. Fe fyddwn ni'n parhau i wneud yr hyn a allwn ni. Fe wnaf i ddadansoddiad pellach a dod ag ef yn ôl, i'r pwyllgor newid hinsawdd yn ôl pob tebyg, ond, Llywydd, fe fydd datganiad arall yma yn y Senedd pan fyddwn ni wedi gwneud hwnnw. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn ni ddal ein gafael, ond nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl am y digalondid yn hyn i gyd.

Diolch i chi, Gweinidog, am eich dadelfeniad pendant o ddatganiad Rishi Sunak a'r niwed a wna. Yn amlwg, rydym ni wedi colli unrhyw hawliad, yn y Deyrnas Unedig, i fod yn arweinydd ar y newid i ddyfodol carbon niwtral—yn gwbl dorcalonnus yng nghyd-destun cynhadledd y Cenhedloedd Unedig a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf.

Ar lefel fwy lleol, mae gennyf i un darn o newyddion cadarnhaol. Mae un o'r gorsafoedd petrol yn fy etholaeth i, ar gornel Heol Casnewydd ac Elm Street, yn cael ei rhedeg gan MFG, ac roedden nhw wedi gosod wyth pwynt gwefru EV eisoes, felly fe ffoniais i nhw ac roedden nhw'n adrodd nad oedden nhw am newid eu cynllun busnes mewn unrhyw ffordd—eu bod nhw am ddal ati, nad ydyn nhw'n credu y bydd hyn yn effeithio ar eu cynllun busnes nhw, yn amlwg, mae hynny'n galonogol iawn i'w glywed. Ond ni fydd pob busnes yn gwneud felly. Maen nhw'n gwneud trawsnewidiad synhwyrol, yn amlwg, wrth ddal eu gafael ar eu gorsaf betrol drws nesaf yn y cyfamser. Ond yn amlwg, mae'n debygol yr effeithir ar y penderfyniadau mwy ynghylch y môr Celtaidd ac eitemau eraill llawer iawn mwy costus.

Gan edrych yn fwy lleol ar effaith y penderfyniad i ohirio gofyniad 2028 ar gyfer gwneud pob eiddo rhent yn rhai tystysgrif perfformiad ynni C, fe hoffwn i ymchwilio gyda chi pa effaith, os o gwbl, y bydd penderfyniad Prif Weinidog y DU yn ei gael ar Gymru, o gofio bod tai wedi cael eu datganoli i Gymru, yn amlwg. I unrhyw un o fy etholwyr i sydd mewn llety rhent preifat, mae unrhyw oedi yn eu gwthio nhw ymhellach i dlodi eithafol oherwydd rhenti uwch a chartrefi oerach sy'n llawer anos eu gwresogi. Felly, dyna'r pwnc yr hoffwn i ganolbwyntio arno am y tro, sy'n rhywbeth y dylem allu gwneud rhywbeth yn ei gylch, rwy'n teimlo, ar y cyd â landlordiaid preifat.

15:05

Diolch yn fawr iawn i chi, Jenny. Mae cwpl o bethau yn y fan yna. Wrth bontio i gerbydau trydan, rydym ni'n gobeithio yn fawr iawn y bydd cwmnïau o Gymru yn cadw at eu cynlluniau nhw i fuddsoddi. Mae angen dau beth. Bydd angen uwchraddio'r grid. Mae hi'n wych eich bod yn gallu gwneud hynny yng Nghaerdydd, ond mae sawl rhan o Gymru lle na fyddai hynny'n bosibl oherwydd nid yw'r rhwydwaith dosbarthu yn ddigon cryf i bweru wyth car ar yr un pryd mewn rhai mannau. Felly, rydym ni wedi bod yn parhau i gynnal sgyrsiau gyda'r Grid Cenedlaethol ei hun a gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr uwchraddio sydd ei angen i allu gwneud hynny. Mae yna bwynt cyfochrog hefyd, mae'n debyg, sef bod y grid mor wael ar hyn o bryd fel bod yn rhaid diffodd rhywfaint o'r ynni sy'n cael ei gynhyrchu oherwydd na ellir ei gydbwyso ledled y grid. Pe byddech chi'n ailgyfeirio rhywfaint o hwnnw ac yn rhoi cynllun cymhelliant ar waith i roi cyfarpar electroleiddio i mewn, fe fyddech chi'n cynhyrchu hydrogen gwyrdd o'r ynni hwnnw, hyd yn oed cyn i chi uwchraddio'r grid. Rydym ni wedi bod yn gwthio cynlluniau buddsoddi gweddol fychan mewn gwirionedd a fyddai'n trawsnewid gallu pobl i wneud eu fflydoedd yn fwy gwyrdd, er enghraifft, gyda symiau bychan o hydrogen ar gael ledled Cymru, ac fe allai ddigwydd yn hawdd iawn. Felly, mae yna rai pethau yr ydym ni'n parhau i'w datblygu. Rwyf i wir yn gobeithio nad yw Llywodraeth y DU am lithro'n ôl o ran rhai o'r ymrwymiadau a wnaeth hi.

O ran yr effaith ar y sector rhentu preifat, mae rhai pethau y gallwn ni eu gwneud, ond, wrth gwrs, nid yw cyfraith eiddo, ynddi hi ei hun, wedi cael ei datganoli i Gymru. Y mater arall yw ein bod ni'n gobeithio y byddai strategaeth fuddsoddi yn dod ochr yn ochr â gofyniad EPC C, oherwydd un o'r pethau eraill y mae'n rhaid i ni amddiffyn rhagddo yw atal pobl rhag ymadael â'r sector rhentu preifat yn gyfan gwbl oherwydd na allan nhw fforddio'r uwchraddio. Felly, rydym ni'n gwneud pethau eisoes fel ein cynllun prydlesu sector rhentu preifat. Rwyf i am achub ar y cyfle unwaith eto, Llywydd, i'w hyrwyddo. Rwy'n ei hyrwyddo bob amser. Os ydych chi'n landlord yn y sector rhentu preifat, yna pe byddech chi'n dod i mewn i'n cynllun ni, fe fyddwn ni'n eich helpu chi i uwchraddio'ch tŷ. Fe fyddwch chi'n cael y rhent lwfans tai lleol safonol drwy'r holl gyfnod heb unrhyw wagleoedd, nac eithriadau, nac anhawster na ffwdan. Ac ar y diwedd, fe fydd eich tŷ chi o ansawdd gwell. Felly, mae hi'n werth i chi wneud hyn, er nad yw'r lwfans tai safonol wedi cael ei godi ers cryn amser. Mae rhai pethau y gallwn ni eu gwneud, ond roeddem ni'n dibynnu ar strategaeth Llywodraeth y DU i ddod â rhaglen fuddsoddi gyda hi, ac fe fydd yn rhaid i ni edrych i gael gweld beth allwn ni ei wneud dros ben honno ar gyfer gwneud hyn yma yng Nghymru.

Y peth arall, wrth gwrs, yw bod y sector rhentu preifat yn ddarostyngedig i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, felly mae'n rhaid iddyn nhw ei gwneud yn llety addas i unigolyn, felly mae hynny'n golygu bod yn rhaid iddyn nhw fod â thystysgrifau trydan a'r cwbl i gyd, ac fe fyddwn ni'n golygu ymestyn ein rhaglen Cartrefi Clyd i'r sector rhentu preifat am ein bod ni'n ystyried addasu strydoedd a chymunedau cyfan, ac fe fydd rhai o'r rhain yn y sector rhentu preifat. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu gwneud peth cynnydd yn hyn o beth, ond nid yw'n gyfystyr â bod â chynllun buddsoddi canolog oddi wrth y Llywodraeth, yn amlwg. Rydym ni'n edrych ymlaen at weld beth y gallwn ni ei wneud. Ac, yn amlwg, rydym ni wedi trefnu pethau fel ein bod ni wedi newid ein rheoliadau adeiladu er mwyn i ni fod â mwy o effeithlonrwydd ynni, mwy o effeithlonrwydd thermol yn dod i mewn, felly fe fyddwn ni'n parhau gyda'r rhaglenni hynny.

Yn y pen draw, yr hyn y mae hyn wedi ei wneud yw—. Fel dywedais i, fe gafodd hyn effaith eithaf ymylol ynddo'i hun, y cyhoeddiad, hynny yw. Yr hyn a wnaeth mewn gwirionedd yw ysgwyd hyder buddsoddwyr yn y DU. Dyna'r gwir ddifrod a wnaeth y Prif Weinidog wythnos diwethaf, pylu diddordeb buddsoddwyr newid hinsawdd byd-eang yn y DU mewn gwirionedd, oherwydd os ydyn nhw'n gwneud tro pedol mor gyflym â hynny heb unrhyw ymgynghoriad ymlaen llaw ag unrhyw un, fe allan nhw wneud hynny eto. Honno yw'r dybiaeth. Felly, mae arnaf i ofn po gyntaf y bydd gennym ni Lywodraeth sydd wedi ymrwymo i'r math hwnnw o fuddsoddiad ac sy'n gallu cynnig sicrwydd o ran strwythurau buddsoddi, y gorau i gyd fydd hynny.

Gweinidog, rwyf innau hefyd yn drist ein bod yn gorfod cael y drafodaeth hon heddiw. Rwy'n drist iawn. Fe wyddoch o lawer o drafodaethau a gawsom ni fod y rhanbarth yr wyf i'n ei gynrychioli wedi profi dinistr o ganlyniad i newid hinsawdd a'r argyfwng hinsawdd yn 2020, ac mae'r perygl yn parhau i fod yn wirioneddol real i lawer. Fe hoffwn i anghytuno â rhai o'r pethau a ddywedwyd o ran sut roedd Prif Weinidog y DU yn ystyried cymunedau tlotach yn hyn o beth, oherwydd, mewn gwirionedd, y rhai sy'n dioddef, fel amlinellwyd yn briodol gan Delyth Jewell, yw'r union bobl na allant fforddio aros i ni weithredu. Ni allan nhw fforddio symud o ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd; nid ydyn nhw'n gallu fforddio yswiriant; mae eu hiechyd nhw'n dirywio oherwydd eu bod nhw'n byw mewn cartrefi llaith, oherwydd na allant fforddio eu hatgyweirio. Felly, sut ydym ni am wyrdroi'r naratif hynod beryglus hwn? Oherwydd mae hi'n hynod effeithiol pan fydd gennych Brif Weinidog y DU yn cael ei ddarlledu i bob cartref ac yn gallu dweud, 'Bydd hyn yn arbed arian i bobl dlawd, onid yw hyn yn wych?', pan fo cost newid hinsawdd yn cael ei theimlo o ddydd i ddydd, mewn gwirionedd, nid yn unig ym mhocedi pobl, ond o ran eu bywydau nhw'n gyfan. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru am ei wneud i wyrdroi'r naratif hwn a sefyll yn gadarn yn ein hymrwymiad ni i'r argyfwng hinsawdd a natur, a pheidio â chaniatáu i Lywodraeth y DU gamarwain pobl?

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

15:10

Yn hollol, Heledd; ni allwn i gytuno mwy. Fel mae hi'n digwydd, roeddem ni eisoes yn cychwyn ar raglen o'r hyn yr ydym yn ei alw yn gefnogaeth ymddygiad ledled Cymru, ac fe fydd hynny'n rhan o Wythnos Hinsawdd Cymru sy'n dod yn yr hydref nawr. Rydym ni am gynnal Wythnos Hinsawdd Ieuenctid hefyd, ac rydym ni wedi bod yn estyn allan yn fwriadol at gymunedau nad oedden nhw'n cyfranogi cyn hyn i geisio eu tynnu nhw i mewn; mae gennym ni lysgenhadon mewn llawer o gymunedau sy'n gweithio yn galed yn eu cymunedau nhw i geisio ennyn diddordeb pobl yn y drafodaeth honno.

Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl, gyda'r cyhoeddiadau a wnaed, yr hyn a wnaethom ni yn hyn o beth oedd esgusodi'r cyfoethogion. Y nhw yw'r rhai sy'n achosi'r anhawster mwyaf yn yr hinsawdd, mewn gwirionedd. Maen nhw'n tueddu i fod â cherbydau mwy, y nhw sy'n hedfan amlaf, mae ganddyn nhw dai mwy, ac ati. Po dlotaf yr ydych chi, y lleiaf yw eich ôl troed carbon, i bob pwrpas, a dyna un o'r materion y mae angen i ni fynd i'r afael â nhw, onid ydyw? Mae angen i ni weld pontio teg, ac mae angen i ni sicrhau bod y buddsoddiad yn cael ei roi i mewn er mwyn gwneud hynny.

Felly, fe fyddwn ni'n parhau i fwrw ymlaen â'n rhaglenni a'n polisïau. Fel dywedais i, nid yw effaith benodol yr hyn a ddywedodd ef mor fawr â hynny; fel gwnaethoch chi ei nodi yn gywir, yr effaith ymddygiadol a'r arwyddion sydd mor—. Nid wyf i'n gwybod beth i alw hyn. Digalon, mae'n debyg, yw'r hyn yr wyf i eisiau ei ddweud, mewn gwirionedd, oherwydd y neges yw, rywsut, y gellir anghofio am yr hinsawdd a gadael i'n plant a'n hwyrion ymdrin â'r peth.

Rydych chi wedi ein clywed ni'n dweud yn y Siambr hon lawer gwaith bod angen i ni wneud dwywaith cymaint yn ystod y degawd hwn ag y gwnaethom yn yr 20 mlynedd cyn hynny. Rydym ni wedi bod yn gyflym iawn o ran datgarboneiddio o ystyried ble dechreuon ni, ond mae hynny oherwydd mai'r DU oedd dyn budr Ewrop ddim mor bell iawn yn ôl, ac yn amlwg mae hi'n haws mynd o fod yn 'ddrwg iawn' hyd at 'ddim yn rhy ddrwg' yn gyflym iawn. Mynd o fod yn 'ddim yn rhy ddrwg' hyd at arwain y byd mewn gwirionedd yw'r hyn sy'n anodd, a dyna'r hyn y maen nhw newydd ei daflu o'r neilltu.

Mae llawer i fod yn siomedig yn ei gylch yma o ystyried bod gennym argyfwng hinsawdd a natur ac argyfwng costau byw. Mae cael gwared ar nodau a rheoliadau inswleiddio cartrefi yn drosedd arall yn erbyn yr hinsawdd eto, un sydd o fudd i gwmnïau tanwydd a landlordiaid diegwyddor pan allai fod hyn wedi helpu pobl mewn gwirionedd, yn enwedig gyda'r argyfwng costau byw.

Un peth arall yr hoffwn i dynnu sylw ato yw diddymu ailgylchu. Fel roeddech chi'n dweud, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi miliynau dros y blynyddoedd i fod yn yr ail safle drwy'r byd, gobeithio, o ran ailgylchu, a bod deunydd yn hynod werthfawr hefyd, fel rhywbeth i'w ailgylchu, ac mae ailgylchu wedi dwyn pobl gydag ef hefyd, ac wedi gwneud iddyn nhw deimlo eu bod nhw'n gwneud eu rhan gyda'r argyfwng hinsawdd, ac yn awyddus i wirfoddoli i gasglu sbwriel a phethau eraill hefyd, felly mae hyn yn bwysig iawn. Gweinidog, a gaf i ofyn i chi, serch hynny, a fydd hyn yn effeithio ar unrhyw symiau canlyniadol sy'n dod i Gymru, ac a fydd hyn yn effeithio ar yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud, sy'n bwysig iawn? A'r ddeddfwriaeth o ran cyfrifoldeb estynedig i gynhyrchwyr, a yw honno wedi cael ei diddymu nawr, yn sgil hyn? Diolch i chi.

Diolch i chi, Carolyn. Mae'r pwynt ynglŷn ag ailgylchu yn arbennig o dorcalonnus, onid ydyw? Fe ddywedodd Prif Weinidog y DU rywbeth ynglŷn â'r angen i fod â saith bin yn eich cartref chi ar gyfer ailgylchu. Fe wyddom ni nad yw hynny'n wir os ydym ni'n byw yng Nghymru. Fe all rhai pobl fod â saith bin yn eu cartrefi nhw, wrth gwrs; a dweud y gwir, mae gennyf i saith bin yn fy nghartref i, ond fe allwch chi gynnal ein cynlluniau ailgylchu ni yng Nghymru heb wneud hynny, ac rydym ni wedi gwneud yn dda iawn mewn llawer dull yn hyn o beth.

Mae ein taith ni o ran ailgylchu yn un hynod ddiddorol i'r meinciau gyferbyn, os oes gan unrhyw un ohonyn nhw ddiddordeb, oherwydd, wrth gwrs, roedd gennym ni bobl yn protestio yng Nghymru hefyd am golli bagiau bin duon ac yn y blaen, ond fe wnaethon nhw sylweddoli yn gyflym iawn, os ydyn nhw'n ailgylchu, nid yn unig eu bod nhw'n lleihau'r gwastraff y mae eu cartref nhw'n ei gynhyrchu—ac mae gennym ni lawer iawn o dystiolaeth i ddangos bod gwastraff a gynhyrchir yn gostwng yn sylweddol ar ôl i chi ei gasglu yn y ffordd honno sy'n gwahanu'r mathau o wastraff, oherwydd gall pobl weld beth maen nhw'n ei wastraffu mewn gwirionedd, yn enwedig o ran casgliadau biniau bwyd, er enghraifft—ond rydym ni'n gwybod hefyd fod hynny'n golygu ein bod yn arwain y byd o ran denu cwmnïau ailbrosesu i Gymru, gan fynd ati i chwilio am ein hailgylchu ni a chymryd deunyddiau cwbl newydd o'r gadwyn gynhyrchu. Mae Prif Weinidog y DU wedi anghofio yn llwyr mai dyna yw pwrpas ailgylchu. Nid ystyr hyn yw anghyfleustra i ddeiliad tŷ; ystyr hyn yw arbed adnoddau gwerthfawr y blaned er mwyn cenedlaethau'r dyfodol ac, mewn gwirionedd, yr economi werdd a'r economi gylchol fydd y chwyldro diwydiannol nesaf. Allwn i ddim cytuno mwy â hynny. Mae ein cynghorau ni ledled Cymru, a'n pobl ni i gyd yng Nghymru, wedi cofleidio hynny'n llwyr. Ac mae hi'n drueni mawr fod Prif Weinidog y DU wedi penderfynu, wel, unwaith eto, ei fod am gipio cyhoeddusrwydd yn rhad drwy gyfrwng darn o wybodaeth sydd ar y gorau, yn anonest, ac ar ei waethaf, yn dwyllodrus.

15:15

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dyw hi ddim yn—mae'n ddrwg gen i—gyd-ddigwyddiad; dyna fe, roeddwn i'n trio cofio'r gair. Dyw hi ddim yn gyd-ddigwyddiad bod approval ratings Rishi Sunak wedi disgyn i'w lefel isaf erioed yn fuan iawn ar ôl iddo wneud y cyhoeddiad yma ynglŷn ag oedi mesurau newid hinsawdd. Rŷn ni i gyd yn gwybod y bydd methu â buddsoddi yn yr ymyriadau yma sydd eu hangen nawr yn golygu cost uwch pan ddaw hi'n amser i wneud hynny yn y dyfodol, ac mi fydd e'n gofyn am weithredu mwy eithafol yn nes ymlaen wrth i'r argyfwng ddwysáu. Nawr, beth mae hwn hefyd yn dangos i fi yw bod yna'n dal i fod wendidau sylweddol iawn yn y setliad datganoli—hynny yw, bod uchelgais Cymru o ran sero net yn gallu nid yn unig gael ei dal yn ôl ond ei thanseilio i'r fath raddau, ac mor hawdd, gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae'r Prif Weinidog yn hoff iawn o drio creu darlun y byddai Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn rhyw fath o nirfana, felly efallai gallwch chi ddweud wrthym ni, Weinidog, beth fydd Llywodraeth Lafur yn ei gwneud yn wahanol pan fo'n dod yn benodol i rymuso y Senedd yma a'n hymbweru ni gyda'r grymoedd ychwanegol sydd eu hangen arnon ni, nid yn unig i gwrdd â her yr argyfwng hinsawdd, ond i atal Llywodraeth y Deyrnas Unedig rhag tanseilio'r hyn rŷn ni'n trio ei wneud?

Diolch yn fawr, Llyr. Allwn i ddim cytuno mwy. Yr hyn yr ydym yn sôn amdano yw strategaeth ddiwydiannol briodol a strategaeth economaidd briodol sy'n galluogi'r math o fuddsoddiad ar draws yr economi sydd ei angen arnom er mwyn newid ein heconomi yn sylfaenol i economi gylchol werdd. Ac rydym wedi cael sgyrsiau da iawn gyda'r fainc flaen Lafur am weledigaeth Keir Starmer, a ddyfynnir yn aml iawn, ar gyfer archbŵer ynni gwyrdd. Ni allwch wneud hynny oni bai fod gennych y buddsoddiad ymlaen llaw yn y grid a'r seilwaith, buddsoddiad yn y môr Celtaidd er enghraifft—mae llawer o gyfleoedd o amgylch arfordir y DU—os nad ydych yn defnyddio adnoddau naturiol cenedl ynys fel ein cenedl ni er mwyn brwydro yn erbyn newid hinsawdd, ond hefyd, a dweud y gwir, er mwyn peidio â bod yn ddibynnol ar bethau fel nwy wedi'i fewnforio. Un o'r problemau mwyaf rydyn ni wedi'i gael gyda'n hargyfwng ynni yw cost nwy wedi'i fewnforio. Mae'r ffaith bod gennym bris ynni wedi'i glymu wrth gost ymylol nwy yn chwerthinllyd a dweud y gwir, o ystyried faint o ynni adnewyddadwy yr ydym yn ei gynhyrchu yma. Mae gennym grid sy'n methu â chymryd maint yr ynni adnewyddadwy y gallem fod yn ei gynhyrchu. Gallai'r DU fod yn allforiwr net o ynni adnewyddadwy yn hawdd iawn, pe bai gennych Lywodraeth gyda'r rhagwelediad i fuddsoddi.

Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at—ac rwy'n cytuno â'r Prif Weinidog—rwy'n edrych ymlaen yn fawr at Lywodraeth sy'n gweithredu er budd y DU yn gyffredinol ac sy'n ein gwneud yn archbŵer ynni gwyrdd, sef yr hyn yr ydym wir yn ei haeddu. Ac, wrth gwrs, i Gymru, bydd hynny'n golygu harneisio ein hynni llanw. Rwy'n gwybod bod gennych chi ddiddordeb mawr yn hynny. Rydym wedi gwneud yn dda o ran ynni llanw hyd yn hyn, ond gallem wneud llawer gwell gyda'r math cywir o fuddsoddiad.

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cadernid y System Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Eitem 4 y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: cadernid y system iechyd a gofal cymdeithasol. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, am y cyfle i roi gwybodaeth i Aelodau ynglŷn â'r system rŷn ni'n ei gweld yn ystod y gaeaf.

Dirprwy Lywydd, diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar gynlluniau cadernid y system iechyd a gofal cymdeithasol i ymdopi â'r pwysau yr ydym yn disgwyl eu hwynebu y gaeaf hwn.

Nawr, rydyn ni wedi dysgu trwy brofiad fod dechrau cynllunio ar gyfer y gaeaf ym mis Medi yn rhy hwyr. Felly, yng Nghymru rydyn ni wedi sicrhau bod byrddau iechyd yn llunio eu cynlluniau ar gyfer y gaeaf yn eu cynlluniau blynyddol, fel y gallant ddechrau paratoi o ddechrau'r flwyddyn ariannol ym mis Ebrill. Byddwch i gyd yn cofio pa mor heriol oedd y gaeaf diwethaf i'r gwasanaeth iechyd a gofal, a gadewch i mi eich sicrhau bod hyn wedi digwydd er gwaethaf y ffaith i ni roi cynlluniau sylweddol ar waith. Ond roedd cyfuniad o COVID, ton enfawr o ffliw ar yr un pryd â phryderon ynghylch strep A, gweithredu diwydiannol a thywydd oer yn golygu bod y system dan bwysau eithafol. Trwy ddechrau'n gynnar a chydweithio'n glòs gydag awdurdodau lleol, llwyddwyd i ddarparu 670 o welyau cymunedol, nad yw'n nifer ychwanegol di-nod pan ystyriwch fod tua 9,000 o welyau ledled Cymru gyfan. Ond bydd unrhyw un sy'n gweithio yn y GIG heddiw yn dweud wrthych nad yw pethau'n gwella mwyach yn ystod misoedd yr haf. Mae'r pwysau'n ddi-baid, a chlywais hyn yn eglur iawn mewn cynhadledd y bûm yn bresennol ynddi ddoe gydag arweinwyr o'n hadrannau brys.

Ond rydyn ni i gyd yn gwybod bod y gaeaf bob amser yn dod â phwysau ychwanegol sylweddol. Eleni, byddwn yn wynebu'r pwysau ychwanegol hynny ar yr adeg pan fo'r GIG yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig dan straen ariannol sylweddol, a dyna pam rydym ni'n paratoi yn barod. Rydym yn disgwyl y bydd heintiau COVID yn dod i anterth dros y gaeaf, sy'n debygol o gael eu hachosi gan nifer o amrywiolion. Rydym yn gobeithio y bydd y cyhoedd yn ein helpu gyda hyn. Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi fframwaith anadlol sy'n amlinellu'r cyd-destun iechyd cyhoeddus a'n dull o ymateb i heintiau anadlol.

Mae mesurau atal a rheoli heintiau yn parhau i fod yn allweddol i leihau'r trosglwyddiad o heintiau anadlol mewn lleoliadau iechyd a gofal, ac mae'r fframwaith yn tynnu sylw at feysydd o flaenoriaeth y canolbwyntir arnynt a chamau allweddol i helpu i liniaru pwysau acíwt yn y system. Rydym eisoes wedi dechrau, er enghraifft, ein rhaglen frechu atgyfnerthu COVID; dechreuom ni ar 11 Medi ac eisoes mae 50 y cant o'n preswylwyr cartrefi gofal oedrannus wedi cael eu pigiad atgyfnerthu COVID. Mae gwir angen i bawb sy'n gymwys ddod ymlaen, ac rydym yn arbennig o awyddus i'r bobl hynny sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal fanteisio ar y cynnig fel y gallant amddiffyn eu hunain a gallant amddiffyn y bobl y maent yn eu gwasanaethu. Bydd ein rhaglen ffliw hefyd yn cynnig amddiffyniad i'r rhai mwyaf agored i niwed. Mae arnom angen pobl gymwys i ddod ymlaen i roi'r cyfle gorau iddynt eu hunain i fynd drwy'r gaeaf heb ddioddef gormod, a fydd, yn ei dro, yn ein helpu i ddiogelu'r system ehangach.

Mae gennym raglen gynhwysfawr i gyflawni gwell perfformiad mewn adrannau brys. Ac unwaith eto, eleni rydym wedi buddsoddi £25 miliwn yn y rhaglen chwe nod, y mae agweddau ohonynt wedi'u cynllunio'n benodol i dynnu pwysau oddi ar y system trwy gefnogi pobl, yn enwedig yr henoed, fel nad oes angen iddynt ddod i'r ysbyty yn y lle cyntaf, neu eu cefnogi i adael yn gyflymach os cânt eu derbyn. Mae cadw'r system yn llifo yn ein hysbytai yn un o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu, ac mae gennym gynlluniau ar waith i wella'r llif. Er gwaethaf yr heriau ariannol, rydym yn dal gafael ar rai o uchelgeisiau Ymhellach, yn Gyflymach, sy'n golygu symudiad bwriadol o gefnogaeth, o ysbytai a gofal eilaidd i gefnogi pobl yn eu cymunedau—a fydd, gobeithio, unwaith eto yn helpu i osgoi derbyniadau i'r ysbyty.

Mae byrddau iechyd wedi bod yn gweithio gyda byrddau partneriaeth rhanbarthol i ddatblygu eu cynlluniau eu hunain ar gyfer cadernid dros y gaeaf. Maent yn datblygu gwasanaethau rheng flaen yn y gymuned a all ymateb i sensitifrwydd lleol ac ymateb i anghenion unigolion, gan weithio'n aml trwy'r grwpiau cynllunio clwstwr. Bydd hyn yn cyd-fynd â'r uchelgeisiau ar gyfer y gronfa integreiddio rhanbarthol, sy'n gronfa sy'n cael ei rhannu rhwng byrddau iechyd a llywodraeth leol, ac sydd hefyd yn cynnwys y trydydd sector ac agweddau ar y sector preifat.

Dwi'n falch iawn o weld y meysydd iechyd a gofal cymdeithasol a'r trydydd sector yn cynllunio ar y cyd ar gyfer y gaeaf, a bod hynny nawr yn digwydd yn rheolaidd drwy fyrddau partneriaeth rhanbarthol. Mae partneriaid nawr yn defnyddio'r haf i gynllunio ymhell o flaen llaw ar gyfer y pwysau tymhorol fydd yn siŵr o gyrraedd yn y gaeaf. Ar ben hyn, mae gan bob bwrdd iechyd gynllun gwella ambiwlansys ar y cyd. Cafodd y rhain eu datblygu gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Dyma'r prif gamau yn y cynlluniau: gwella gwasanaethau neu lwybrau i gleifion sydd â salwch anadlu neu sydd wedi cwympo; datblygu mannau sgrinio clinigol i sgrinio cleifion yn effeithiol a'u cyfeirio at y gofal priodol, gan leihau nifer y bobl sy'n cael eu cludo i adrannau achosion brys. Hefyd, fe fydd yna fwy o ganolbwyntio penodol y gaeaf yma ar helpu pobl mewn cartrefi gofal i aros yn iach, ac os ydyn nhw angen gofal brys, i wneud yn siŵr eu bod nhw’n cael hynny yn y cartref gofal; pan fydd e’n briodol, osgoi cludo cleifion mewn ambiwlans a'u derbyn i'r ysbyty; gwella amseroedd triage ac asesu mewn adrannau achosion brys; a lleihau derbyniadau’n ddiogel drwy wasanaethau gofal argyfwng yr un diwrnod.

Mae £3 miliwn ar gael i fyrddau iechyd drwy ein rhaglen chwe nod, ac rŷn ni’n disgwyl iddyn nhw ddefnyddio’r arian yma i roi’r camau hyn ar waith. Ond dwi eisiau gwneud yn siŵr bod pobl yn gwybod pa mor heriol mae'r gaeaf yma yn debygol o fod. Rŷn ni’n disgwyl y bydd y gaeaf hwn hyd yn oed yn fwy anodd eleni nag yr oedd y llynedd. O ganlyniad, dwi’n apelio at y cyhoedd i 'ein helpu ni i’ch helpu chi', ac i ystyried bob amser a oes dewis arall.

Ddwy flynedd yn ôl, doedd gyda ni ddim canolfannau gofal sylfaenol brys na chanolfannau gofal argyfwng yr un diwrnod. Doedden ni ddim yn gwneud llawer o ddefnydd o’r fferyllfa gymunedol, a doedd gyda ni ddim gwasanaeth 111 ar-lein neu ar y ffôn ar gyfer iechyd corfforol, nag '111 pwyso 2' ar gyfer cymorth iechyd meddwl. Heddiw, rŷn ni’n gwybod bod cannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru yn manteisio ar y ffyrdd newydd yma o ddefnyddio’r gwasanaethau iechyd—er enghraifft, 399,000 o drawiadau ar wefan 111 a 71,000 o alwadau i'r llinell ffôn 111 ym mis Awst yn unig. Mae hyn yn tynnu pwysau oddi ar y gwasanaeth ambiwlans ac adrannau achosion brys, ond mae yna dal pobl sydd angen help i ddefnyddio’r systemau newydd yma. Dyna pam y byddwn ni’n ailddechrau ymgyrch cyfathrebu 'Helpwch ni i’ch helpu chi' eto'r gaeaf yma.

Rŷn ni hefyd yn disgwyl i fyrddau iechyd roi pwyslais mawr ar gynllunio i ryddhau cleifion o'r adeg pan gawson nhw eu derbyn i'r ysbyty, a phwyslais hefyd ar leihau oedi mewn llwybrau gofal. Bydd hyn yn gwneud yn siŵr bod cleifion a defnyddwyr gwasanaethau yn cael y gofal a'r cymorth iawn yn y lle iawn. Rŷn ni’n gwybod bod ffitrwydd pobl eiddil hŷn yn dirywio wrth dreulio cyfnodau hir mewn gwely, a bod y cyhyrau yn gwanhau. Mae hyn wedyn yn golygu bod angen pecynnau gofal cymdeithasol mwy cynhwysfawr. Mae aros yn yr ysbyty am gyfnod hir hefyd yn cynyddu'r risg o ddal feirws. Felly, dwi'n apelio ar deuluoedd i gefnogi eu perthnasau drwy eu helpu nhw i adael yr ysbyty cyn gynted ag y mae'n bosibl, a phan maen nhw'n barod yn glinigol. Bydd hyn yn helpu i wella eu profiad a'u canlyniadau clinigol nhw.

Mae gan bob bwrdd iechyd, felly, gynllun gweithredu ar gyfer lleihau cyfran gwlâu ysbyty sy'n cael eu defnyddio gan gleifion arhosiad hir, sef mwy na thair wythnos mewn gwely ysbyty. Mae gyda ni nawr wybodaeth a data ar gyfer Cymru gyfan o ran y rheswm pam fod pobl yn oedi yn yr ysbyty. Rŷn ni felly yn gallu gwneud yn siŵr bod y sefydliadau hynny yn atebol. Mae'n bosibl bod y claf yn aros am feddyginiaeth, neu am le mewn cartref gofal, neu am gludiant, ond un o'r heriau mwyaf ar hyn o bryd yw aros i anghenion cleifion gael eu hasesu.

Dwi'n disgwyl i'r cynlluniau hyn, ochr yn ochr â'n model asesu dibynadwy, wneud gwahaniaeth gwirioneddol yr hydref a'r gaeaf yma. Mae cyfran sylweddol o'r gronfa integreiddio ranbarthol, gwerth £145 miliwn, yn chwarae rhan allweddol i gefnogi a chynyddu capasiti yn y gymuned, a galluogi'r system i lifo'n dda yn y gaeaf. Y gaeaf yma, er enghraifft, byddwn ni'n buddsoddi £36.1 miliwn ar gyfer atal a chydlynu cymunedol; £24.3 miliwn i ddarparu gofal cymhleth yn nes at gartrefi pobl; a £29 miliwn ar gyfer llwybrau mynd adref o'r ysbyty a modelau gofal.

Dwi'n gwybod y bydd y gaeaf yma yn un heriol arall. Er hynny, dwi wedi gwneud yn glir beth yw'r disgwyliad, ac mae gyda ni nifer o gamau ar waith ar draws iechyd a gofal cymdeithasol i ddelio gydag effeithiau'r gaeaf. 

15:30

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad manwl iawn heddiw? Nid wyf yn credu ei bod yn bosibl cael gormod o ddatganiadau o ran ymdrin â pharodrwydd y gaeaf. Wrth gwrs, rwy'n cytuno â'r Gweinidog; mae'n bwysig iawn dechrau cynllunio yn gynnar iawn yn y cylch. Nawr, rydyn ni'n gwybod y bydd yn aeaf caled, ac fe wnes i gofnodi fy niolch fy hun am waith gwych staff y GIG. Ond ar hyn o bryd rydym yn gweld rhai rhestrau aros hir sylweddol iawn. Rydym yn ymwybodol, wrth gwrs, o'r amseroedd targed triniaeth a fethwyd, ac rydym i gyd wedi gweld, wrth gwrs, brinder cronig gwelyau ysbyty a'r capasiti gofal critigol cyfyngedig. Felly, gwyddom y bydd hyn oll yn creu sefyllfa anodd iawn i'r GIG yng Nghymru y gaeaf hwn.

Nawr, Gweinidog, rydych chi'n dweud yn eich datganiad eich bod chi'n disgwyl y bydd heintiau COVID yn dod i anterth dros y gaeaf, mae'n debyg oherwydd nifer o amrywiolion. Felly, efallai y gallwch roi ychydig mwy o wybodaeth i ni am unrhyw amcanestyniadau o ran heintiau COVID ac unrhyw achosion penodol o ddod i anterth y gallech eu disgwyl. Gwn, yn ystod y pandemig, fod llawer o'r amcanestyniadau hynny ar gael hefyd. Ond, o ran nifer yr amrywiolion, efallai y gallwch chi roi ychydig o fanylion am y rheini ac a oes unrhyw amrywiolion penodol sy'n peri pryder y credwch fod angen mynd i'r afael â nhw, neu i fod yn ymwybodol ohonyn nhw. Nawr, rydym yn gwybod, wrth gwrs, yn anffodus, yn ystod y pandemig, fod 25 y cant o'r rhai a fu farw o COVID yn anffodus wedi dal COVID mewn ysbyty yng Nghymru, a oedd gryn dipyn yn uwch o gymharu â rhannau eraill o'r DU. Felly, efallai y gallech ddweud ychydig bach mwy wrthym am y mesurau sydd gennych o ran atal pobl rhag dal COVID-19, ac, yn yr un modd, feirysau anadlol eraill hefyd, mewn ysbyty.

Wrth gwrs, rwy'n poeni am heriau'r gweithlu ym maes gofal iechyd, felly byddai'n ddefnyddiol gwybod pa gynlluniau sydd ar waith i fynd i'r afael â phrinder gweithlu posibl yn y sector gofal iechyd pe bai pwysau parhaus dros y gaeaf. 

Nawr, rwy'n credu y bydd cydweithio ar draws y DU ar ddata allweddol a rhannu arferion gorau, yn eithaf hanfodol pe bai pwysau eithafol, felly tybed a allech chi ddweud wrth y Siambr y prynhawn yma, Gweinidog, sut rydych chi'n cydweithio â rhanbarthau cyfagos a Llywodraeth y DU i gydlynu ymatebion i gynnydd posibl mewn achosion o COVID-19 a allai ddigwydd, wrth gwrs, dros y ffin, a goblygiadau eraill.

Gweinidog, rydych chi'n briodol yn siarad am yr angen i staff gofal iechyd gael brechiad, tybed a allech chi ddweud wrthym a oes gennych chi unrhyw bryder am lefel y nifer sy'n manteisio ar y brechiad ymhlith staff gofal iechyd, yn amlwg er mwyn eu diogelu, ond hefyd amddiffyn y rhai maen nhw'n eu gwasanaethu—a oes unrhyw bryderon penodol am hynny—ac wedyn, efallai hefyd, Gweinidog, sut rydych chi'n mynd i'r afael â heriau posibl sy'n ymwneud â phetruster brechu neu gamwybodaeth. Rydym yn ymwybodol o hyn, felly gallai hynny fod o gymorth hefyd, efallai o ran manylu ar y nifer sy'n manteisio o'i gymharu â'r blynyddoedd blaenorol, ac unrhyw wybodaeth arall sydd ar gael o ran petruster brechu ymhlith y grwpiau agored i niwed hynny o ran cael y brechiad. A phe bai yna ymchwydd mewn achosion COVID-19, tybed pa strategaethau cyfathrebu sydd gennych ar waith i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd am y sefyllfa.

Wrth gwrs, byddwn wedi gweld prinder cronig o welyau ysbytai a chapasiti gofal critigol cyfyngedig, ac wrth gwrs, bydd hyn yn rhoi straen ar ein system gofal iechyd yn ystod argyfyngau, gan ei gwneud yn heriol iawn i ddarparu ar gyfer mewnlifiad sydyn o gleifion, fel y gwelwyd yn ystod pandemig COVID-19. Felly, rydym wedi gweld achosion yn codi. Tybed beth sy'n cael ei wneud o ran cynyddu capasiti gwelyau ysbyty. Gwn eich bod wedi dweud yn eich datganiad heddiw eich bod wedi llwyddo i ddarparu 670 o welyau cymunedol. Nid oeddwn yn hollol glir ynghylch hynny. A yw hynny'n 670 o welyau ychwanegol ar gyfer pwysau'r gaeaf a fydd yn lleihau ar ôl y gaeaf? Ac o ran cyfanswm capasiti gwelyau ledled Cymru y gaeaf hwn, sut mae'n cymharu â blynyddoedd eraill, o gymharu â'r pandemig, a chyn y pandemig hefyd?

Ac yn olaf, Gweinidog, efallai y gallech ddweud ychydig mwy wrthym am y sefyllfa bresennol o ran cyflwyno'r pigiad atgyfnerthu a'r brechiad ffliw. A yw'r nifer sy'n manteisio yn ôl y disgwyl yn y grwpiau agored i niwed hynny? Ac a oes gennych dargedau penodol o ran y nifer sy'n manteisio arnynt? Ac yn olaf, rwy'n credu mai'r un mater—

15:35

Rydych chi wedi dweud 'ac yn olaf' unwaith o'r blaen, ac rydych chi ymhell dros eich amser, Russell.

Iawn. Rwy'n addo mai hwn fydd y cwestiwn olaf, ond bydd yn gwestiwn hir iawn—na, Llywydd, bydd yn gwestiwn cyflym iawn. Ffliw—un mater, Gweinidog, yw y bydd pobl yn mynd am eu brechiad ffliw ar un dyddiad i un lleoliad, ac yna am eu brechiad COVID ar ddyddiad arall mewn lleoliad arall. Felly, wrth gwrs, mae'n llawer gwell i'r cyhoedd gael y ddau ar yr un pryd. Nawr, rwy'n gwybod bod cymhlethdodau gwirioneddol ynghylch hynny, o ran cyflenwi'r brechiadau hynny, ond roedd rhywfaint o drafodaeth gynharach ynghylch un brechiad. Nawr, wrth gwrs, byddai hynny'n help mawr o ran sicrhau bod pobl yn cael eu brechu, byddai'r nifer sy'n manteisio arno yn cynyddu, a byddai'n sicr yn helpu'r gweithlu i gyflwyno'r brechiadau hynny hefyd. Felly, efallai y gallech ddweud wrthym, os nad yw hynny'n barod ar gyfer eleni, a ydych yn ymwybodol o unrhyw drafodaeth am y posibilrwydd y bydd hwnnw ar gael yn y blynyddoedd i ddod.

Diolch yn fawr, Russell. Ydym, rydym yn disgwyl y bydd pwysau sylweddol dros y gaeaf. Rydym yn disgwyl y bydd COVID yn dod i anterth arall yn ystod y gaeaf. Rydym yn monitro'r amrywiolyn penodol BA.2.86 ar hyn o bryd—efallai eich bod wedi clywed cryn dipyn am hwn. Nid ydym wedi dod o hyd i unrhyw achosion yng Nghymru hyd yn hyn, ond rydym yn gobeithio'n fawr iawn y gallwn ni gadw llygad ar hynny. Mae ein gwyddonwyr yn hyddysg o ran sut mae hynny'n datblygu—mae llawer o brofion yn cael eu gwneud mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig. Rwy'n credu bod ychydig mwy o hyder efallai nad hwn yw'r amrywiolyn yr oeddem yn ofni y gallai fod, ond mae'n dal i gael ei fonitro ac yn dal i gael ei ddatblygu. Ond pwy a ŵyr pa amrywiolion eraill a allai ddod i'r golwg yn ystod y gaeaf. Ond rydym ni'n disgwyl y bydd yn dod i anterth rywbryd yn ystod y gaeaf.

Rydych chi'n hollol iawn—mae rheoli haint yn gwbl hanfodol mewn ysbytai, nid yn unig ar gyfer COVID ond hefyd ar gyfer y ffliw a feirysau anadlol eraill. Dyna pam mae canllawiau clir iawn ynghylch rheoli anadlol mewn ysbytai, ac fe atgoffwyd ysbytai o hynny yn ddiweddar iawn.

Fe wnaethoch chi siarad am heriau'r gweithlu. Rydych chi'n hollol iawn—mae heriau i'r gweithlu. Efallai y bydd hi'n fwy heriol eleni oherwydd ein bod mewn sefyllfa wahanol iawn yn ariannol, felly bydd ein gallu i recriwtio yn fwy cyfyngedig nag y bu yn y gorffennol. Mae gennyf i gyfarfod gyda Gweinidogion iechyd yr Alban a Lloegr yn fuan iawn, ac rwy'n siŵr y bydd rhai o'r pethau hyn yn cael eu crybwyll bryd hynny.

Mewn cysylltiad â'r brechiad, staff iechyd a gofal—rwyf bob amser ychydig yn siomedig, i fod yn onest, cyn lleied o bobl sy'n gymwys i gael y brechiad hwn sy'n manteisio arno, felly rydym ni'n ceisio sicrhau bod byrddau iechyd yn gallu ei gwneud hi mor hawdd â phosib i'w staff fanteisio ar y cyfle, i gynyddu canran y bobl sy'n manteisio ar y cyfle hwnnw. O ran petruster brechu, rydym yn gweld, bob tro yr ydym yn cynnig pigiad atgyfnerthu, ei fod yn gostwng ychydig, ond nid yw ar lefel wael eto, felly rwy'n credu ein bod yn weddol falch. Ond, yn amlwg, un o'r pethau a ddysgom ni yn ystod anterth y pandemig oedd sut i fynd ar ôl y bobl anodd eu cyrraedd, felly mae gennym ni dipyn o brofiad erbyn hyn o ran sut rydym ni'n cyrraedd y bobl anodd eu cyrraedd hynny, a cheisio argyhoeddi'r bobl hynny a oedd efallai ychydig yn betrusgar o ran y brechlyn ar y dechrau.

Mewn cysylltiad â chapasiti gwelyau—. Fe wnaethom ni gyflwyno tua 670 o welyau cymunedol y llynedd. Mae rhai o'r rhain yn dal i fod yn y system. Rwy'n credu bod tua 450 ohonynt dal yn y system. Nifer y gwelyau sydd gennym ar hyn o bryd yw tua 9,000. Mae hynny tua 309 fesul 100,000. Os ydych chi'n meddwl am astudiaeth Nuffield a wnaed tua 2019, fe wnaethon nhw awgrymu ein bod ni ar 207 fesul 100,000 ac roedd Lloegr ar 170 fesul 100,000. Felly, rydym yn dal i fod yn sylweddol uwch na lle mae Lloegr arni ar hyn o bryd. Gwrandewch, rwy'n credu y bydd llawer o bwysau ar y gwasanaethau. Mae'r sefyllfa ariannol yn mynd i fod yn heriol iawn. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gofio bod hynny'n mynd i gynyddu'r pwysau o ran ein gallu i sicrhau y gallwn gadw'r gwasanaeth fel y mae ar hyn o bryd.

Felly, mae'r nifer sy'n manteisio ar frechiadau hyd yn hyn, ers 11 Medi, rwy'n credu, yn eithaf calonogol. Mae 50 y cant o holl breswylwyr cartrefi gofal eisoes wedi cael eu brechu. Felly, rwy'n credu mai dyna'n union lle roeddem yn disgwyl iddo fod, ac o ran cyd-frechu—ffliw a COVID—roedd gobaith y byddai hwnnw'n cael ei ddatblygu mewn pryd; nid yw wedi'i ddatblygu mewn pryd. Rydym yn cadw mewn cysylltiad agos â'r Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), ac roedd canllawiau clir iawn gan y JCVI y dylem newid y drefn ar gyfer brechu pobl mewn gwirionedd, oherwydd roeddem ychydig yn bryderus am yr amrywiolyn newydd hwn. Felly, rydym wedi dechrau gyda phreswylwyr cartrefi gofal, sef ein carfan fwyaf agored i niwed, ac yna byddwn yn symud ymlaen i garfannau eraill ar ôl hynny. Cyn hynny, roeddem yn mynd i'w brechu yn y cyfnod cyn yr anterth yn y gaeaf, ond nid oeddem yn siŵr beth oedd yn mynd i ddigwydd mewn cysylltiad â'r amrywiolyn newydd. Felly, rydym yn gyffredinol yn dilyn cyngor y JCVI o ran pryd mae pethau ar gael. Roeddem yn gobeithio bod â brechlyn mwy diweddar erbyn hyn; ond nid yw ar gael eto. Felly, roeddem yn meddwl, 'Gwrandewch, mae angen i ni roi'r amddiffyniad cyn gynted ag y gallwn ni; mae hynny'n bwysicach."   

15:40

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad a diolch hefyd am y cyfle i'w weld o rhag blaen. Dŷn ni, ym Mhlaid Cymru, wrth gwrs, yn croesawu'r cyhoeddiad yma. Ddaru ni arwain ar ddadl, wrth gwrs, nôl ym mis Mai, ar iechyd yr ysgyfaint, ac, felly, dŷn ni'n croesawu'r datganiad yma fel ymateb i rannau o'r ddadl honno. Ac wrth gwrs, fel digwyddiad rheino llwyd, mae pawb yn gweld beth sydd yn dod tuag atom ni. Fel rheino llwyd mawr, mae'n anferthol, mae'n rhedeg yn sydyn, mae o'n creu andros o ddifrod ac, yn bwysicach na dim, mae'n gwbl ragweladwy. Felly, mae'n ofynnol i ni baratoi o flaen llaw, ac mae clywed y cyhoeddiad yma a chlywed eich bod chi wedi bod yn paratoi ers mis Ebrill i'w groesawu. 

Fel dywedodd y Gweinidog, roedd y gaeaf diwethaf yn arbennig o galed ar ein gwasanaethau iechyd am amryfal resymau ac mae'r rhagolygon yn awgrymu y bydd y gaeaf yma yn anos fyth. Ond yn ystod mis Ionawr eleni, er enghraifft, fe welsom ni nifer o enghreifftiau ble cafodd pobl oedrannus a bregus eu gyrru gartref o'r ysbyty heb y cymorth sylfaenol yn cael ei gynnig er mwyn iddyn nhw fedru byw eu bywydau yn ddyddiol. Roedd hyn, felly, yn ei dro, yn arwain at bobl yn mynd yn ôl i'r ysbyty. Felly, tra bod datganiad y Gweinidog heddiw yn sôn am ofal cymdeithasol a'r angen i ddarparu pecynnau gofal cymdeithasol, mae'n hynod o bryderus nad oes unrhyw sôn yma am flaenoriaethu a pharatoi'r gweithlu cymdeithasol ar gyfer y gaeaf caled sydd o'n blaenau. Felly, dwi'n awyddus i glywed cynlluniau'r Gweinidog ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol, os oes yna unrhyw gynlluniau ganddi. Ydy'r Gweinidog yn credu bod y gweithlu mewn sefyllfa i ymateb i'r galw? 

Fel y soniais yr wythnos diwethaf, rydym ni yn llawer rhy ddibynnol ar fintai o weithlu gwirfoddol pan fo'n dod at ofal cymdeithasol—pobl sydd heb yr hyfforddiant ond sydd yn gorfod ymgymryd â'r dyletswyddau anodd iawn o edrych ar ôl eu hanwyliaid neu eu cymdogion, a hynny yn ddi-dâl. Heddiw, fe glywsom ni'r Gweinidog yn apelio ar deuluoedd i wneud mwy. Ydy'r Gweinidog yn meddwl ei fod yn deg disgwyl ar bobl sydd heb yr arbenigedd, na'r gallu yn aml iawn, i wneud mwy—pobl sydd, yn aml iawn, yn hen ac yn fregus ei hunain yn gorfod gwneud y gwaith gofal hwnnw a hynny heb gymorth ariannol? Drwy fethu â buddsoddi yn iawn yn nhâl ac amodau gwaith gofalwyr, dŷn ni wedi gweld mwy o bobl yn gadael y sector gan roi fwy o straen ar ofalwyr di-dâl. Ydy'r Gweinidog yn credu bod ein gofalwyr yn cael eu talu yn ddigonol? Os ddim, pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i newid y drefn?

Pan fo'n dod at broblemau anadlol, yn aml iawn mae'n fater sy'n effeithio ar fenywod yn fwy na dynion. Mae mwy o fenywod yn dioddef o'r fogfa, er enghraifft, na dynion, ac yn cael mwy o ymosodiadau o'r fogfa na dynion. Maen nhw'n fwy tebygol o orfod mynd i'r ysbyty a bron ddwywaith yn fwy tebygol o farw o ganlyniad i'r fogfa na dynion. Yn wir, fel y clywson ni yn y ddadl honno nôl ym mis Mai, mae un o bob pum person yng Nghymru yn byw efo cyflwr ar yr ysgyfaint, ac mae mwy o bobl yn marw o ganlyniad i gyflyrau'r ysgyfaint yng Nghymru nag yn unrhyw wlad arall yng ngorllewin Ewrop.

Er bod y Llywodraeth wedi cyflwyno datganiad ansawdd ar iechyd yr ysgyfaint, nid oes cynllun gweithredu. Felly, pryd fydd y Gweinidog yn cyhoeddi cynllun gweithredu? A wnaiff y Gweinidog ddatblygu cynllun gwella ar gyfer clefydau anadlol i drawsnewid a gwella bywydau pobl sy'n byw gyda chyflyrau'r ysgyfaint?

Soniodd Russell George am frechiadau, felly ni wnaf ailadrodd y materion hynny, ond cyfeiriodd y Gweinidog at leihau trosglwyddiad heintiau anadlol mewn lleoliadau iechyd a gofal a'r angen am fesurau ataliol. Heb os, bydd y Gweinidog yn cofio'r ymgyrch gan feddyg teulu o Nefyn, Dr Eilir Hughes, i sicrhau awyr iach ym mhob man caeedig. Gyda nifer cynyddol o amrywiolion COVID ac annwyd a ffliw, mae angen i ni sicrhau nad yw'r neges hon yn cael ei hanghofio. Dywedodd y Gweinidog y bydd yn rhoi arweiniad clir. A fydd y canllawiau hyn yn cael eu rhannu rhwng mannau cyhoeddus eraill hefyd, nid yn unig ysbytai ond ysgolion a mannau eraill, ac a fydd hefyd yn pwysleisio'r angen i awyru adeiladau'n iawn er mwyn helpu i wanhau, yn niffyg gair gwell, yr aerosolau heintus? Ac a fydd canllawiau ar fasgiau wyneb a mesurau ataliol eraill ar gyfer lleoedd fel cartrefi gofal neu leoedd gydag unigolion arbennig o agored i niwed?

Soniodd y Gweinidog am yr angen am welyau, neu'r ffaith bod gennym ni ychydig yn fwy o welyau yma yng Nghymru na gwledydd eraill y DU, ond mae Cymru yn dal i fod ymhell islaw cyfartaleddau Ewropeaidd eraill. Rydym eisoes wedi cyrraedd capasiti mewn llawer o'n hysbytai cymunedol ac, yn y mannau hynny, rydym yn gweld lefel uwch o heintiau a gafwyd yn yr ysbyty, ac mae COVID a'r ffliw yn ddau o'r heintiau hynny a gafwyd yn yr ysbyty. Felly, pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i agor mwy o welyau cymunedol?

Yn olaf, ni allwn barhau i edrych ar y tymor byr, mae angen dull tymor hir arnom. Gwyddom fod salwch anadlol yn gysylltiedig â thai gwael, gyda mwy o adrodd am lwydni a lleithder, er enghraifft. Soniodd y Gweinidog Newid Hinsawdd am hyn yn gynharach yn ei datganiad. Felly, pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar fynd i'r afael â hyn a sicrhau bod pob tŷ wedi'i inswleiddio'n iawn a'i fod yn dŷ y gellir byw ynddo fel ein bod yn gallu ymdrin ag achos sylfaenol llawer o'r problemau hyn? Diolch.

15:45

Wel, diolch yn fawr, ac rydych chi'n eithaf reit ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n canolbwyntio'n arbennig ar y bobl sy'n dioddef o broblemau anadlu. Felly, dyna beth rydyn ni'n poeni amdani, yn arbennig yn y gaeaf.

Jest i fod yn glir, gwnaethon ni ddim anfon pobl allan o'r ysbyty oedd ddim yn barod i fynd o ran gofal clinigol y llynedd, ond mae'n bwysig—ac mae hwn yn rhywbeth dwi'n gobeithio y gwnes i'n glir yn fy agoriad i—ac mae angen cydnabod, os ydych chi'n aros yn yr ysbyty am gyfnod hir, rydych chi'n fwy tebygol o fod yn exposed i COVID a ffliw, a hefyd eich bod chi'n debygol o weld dirywiad o ran peidio â defnyddio'ch cyhyrau. Felly, mae'n fanteisiol i'r claf i adael cyn gynted ag y bod nhw'n barod i adael. A dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod teuluoedd yn clywed y neges yna hefyd. Felly, mae'n anodd iawn, a dwi'n deall bod hynny'n golygu pwysau ar ofalwyr. Ac rydyn ni'n deall, o ran gofal, er ein bod ni wedi cynyddu faint rydyn ni'n ei dalu i bobl o ran gofal, bod yna'n dal problemau o ran cael pobl i weithio yn y byd yna. Felly, dwi'n meddwl bod byddin eisoes yn gweithio'n ddi-dal i ofalu am eu hanwyliaid, ac mae'n bwysig hefyd ein bod ni'n eu cefnogi nhw, a dwi'n gwybod bod Julie Morgan yn gwneud hynny.

Roeddwn i'n trio gweithio mas beth yw 'y fogfa'.

Asthma. Ocê. Reit. Ie, rŷch chi'n eithaf reit.

Mae'n bwysig cydnabod hynny, mewn gwirionedd, mae'n un o'r pethau hynny—. Rwyf wedi ei gwneud yn glir, o ran cynllun iechyd menywod, bod llwyth o gyflyrau y mae menywod yn ymateb yn wahanol iddynt neu yr effeithir yn fwy arnyn nhw, ac roedd asthma yn un o'r rheini. Felly, rydych chi'n llygad eich lle, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth y bydd byrddau iechyd yn ei ystyried wrth ddatblygu eu hymateb i'r datganiad ansawdd ar fenywod.

O ran awyru, rwy'n credu y bydd ysbytai'n ymwybodol o hyn, ond rydych chi'n llygad eich lle, y gallai fod yn rhywbeth y mae angen i ni feddwl mwy amdano ar draws y llywodraeth o ran rhoi'r canllawiau hynny. Mae'n anodd iawn, on'd ydy, pan ddaw'r gaeaf ac mae gennych chi filiau ynni, a'r hyn rydych chi'n ei ddweud yw, 'Agorwch eich ffenestri.' Mae'n neges anodd iawn, rwy'n credu. Felly, mae hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid i ni ei drafod, yn drawslywodraethol efallai, o ran sut rydych chi'n cyfleu'r math hwnnw o neges gymhleth.

Efallai y bydd adegau yn ystod y gaeaf pan welwn ni gynnydd sylweddol o ran feirws COVID, ac yna bydd yn rhaid i ni gymryd camau pellach, a bydd yn rhaid i ni ystyried pethau megis a oes rhaid i chi gyflwyno masgiau wyneb, ac a ydych chi'n camu i mewn, mewn ffordd llawer mwy bwriadol. Rydym eisoes wedi cynyddu, er enghraifft, nifer y menig cyfarpar diogelu personol (PPE) er mwyn sicrhau bod gennym y cyflenwad yn union lle mae angen iddo fod, er enghraifft. Efallai y byddwn yn ehangu'r arolwg gwyliadwriaeth sentinel cymunedol dim ond i sicrhau ein bod yn gwybod beth sy'n digwydd ble.

Byddwn ni, wrth gwrs, yn cael cyngor gan y JCVI o ran ailfrechu pe baem yn gweld bod pethau'n cynyddu y tu hwnt i'r hyn rydyn ni'n ei ddisgwyl. Felly, mae llawer o bethau y gallwn ni eu cynyddu ymhellach fyth pe bai hi'n dod i'r pwynt pan welwn ni'r math o gynnydd a welsom yn y gorffennol. Gyda phrofi, er enghraifft, gallem ailgyflwyno profion cyn derbyn i ysbytai a chartrefi gofal. Nid ydym yn awgrymu ein bod yn gwneud hynny nawr, ond mae gennym lawer o bethau wrth gefn yn barod i'w defnyddio pe bai angen.

Rydych chi'n iawn o ran gweithgaredd trawslywodraethol. Mae llawer o'r pethau mewn cysylltiad ag iechyd, os ydych chi'n mynd i'w datrys, mae'n rhaid i chi eu datrys yn gynnar. Mae'n ymwneud ag atal. Mae'n ymwneud â gweithio ar draws y llywodraeth. A byddwch yn gweld trwy gyflwyno'r Ddeddf aer glân, er enghraifft, mai dyna'n union yw un o'r mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod yna ymateb, i sicrhau y gallwn ni fod yn yr amgylchedd atal hwnnw. Nid yw'r canlyniadau iechyd yn mynd i ddod o'r gwasanaeth iechyd yn unig.

15:50

Dywedodd datganiad CLlLC yr wythnos diwethaf yr amcangyfrifir bod gorwariant ar wasanaethau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig tua £93 miliwn, gydag awdurdodau lleol yn tynnu tua £193 miliwn o'u cronfeydd wrth gefn sy'n lleihau. Ar ben hynny, mae argyfwng recriwtio a chadw difrifol. Fe wnaethon nhw hefyd bwysleisio'r angen am fuddsoddiad mewn cymorth cartref a chymunedol, a glywaf heddiw yw ffordd Llywodraeth Cymru, ac mae'n braf iawn ei glywed yn eich datganiad.

Ond, Gweinidog, a fyddech chi'n ymuno â mi a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddweud bod angen i wasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol gael eu hariannu'n briodol gan Drysorlys Llywodraeth y DU, ac nad yw'n ymwneud ag ariannu'r GIG yn unig; mae'n ymwneud ag ariannu gofal iechyd cymdeithasol a'r holl wasanaethau cyhoeddus hynny, o ran gwasanaethau ataliol, a gan weithio'n drawslywodraethol, mae angen i ni gyfleu'r pwynt hwnnw iddynt? Diolch.

Diolch yn fawr. Rydych chi'n llygad eich lle: mae llywodraeth leol o dan bwysau sylweddol. Mae pawb yn teimlo effeithiau chwyddiant. Felly, yr effeithiau ar y gwasanaeth iechyd—. Rydych chi'n meddwl am gyllideb o £10 biliwn, ac rydych chi'n meddwl am gyfraddau chwyddiant o tua 10 y cant. Mae hwnnw'n rhif mawr. Mae'n rhif mawr iawn, iawn. Mae llywodraeth leol hefyd yn ei chael hi'n anodd iawn. Felly, rydym i gyd yn cael trafferthion oherwydd effaith chwyddiant, ac mae hynny'n esbonio i raddau pam fod gorwariant mor sylweddol.

Dyna pam, mewn gwirionedd, mae cydweithio â llywodraeth leol yn gwbl hanfodol, gan sicrhau ein bod yn cysylltu â'n gilydd cyn belled ag y bo modd. Rwy'n gwbl glir bod yn rhaid i ni ddechrau symud adnoddau o ofal eilaidd, o ysbytai, i'n cymuned. Os yw pobl yn sâl, byddai'n well ganddyn nhw fod yn sâl gartref nag yn yr ysbyty. Yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw sicrhau y gallwn eu cofleidio â gofal yn y gymuned. Felly, dyna beth mae ein rhaglen Ymhellach, yn Gyflymach i fod i'w wneud, i sicrhau bod gennym y gefnogaeth gymunedol honno ar waith. Felly, mae'n ehangu nifer y nyrsys cymunedol, er enghraifft, ac yn ehangu nifer yr oriau, fel eu bod nhw'n gweithio penwythnosau ac maen nhw'n gweithio'n hwyr yn y nos—yr holl bethau hynny—am nad yw pobl yn sâl o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm yn unig. Os nad ydyn nhw yno, os nad yw'r cymorth yno, maen nhw ar eu ffordd yn syth i'r adran damweiniau ac achosion brys ac yna mae'r system gyfan yn ei chael hi'n anos ymdopi.

Felly, rydych chi'n hollol iawn: mae angen ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn iawn. Rydym yn gwybod, o dan y Llywodraeth Lafur ddiwethaf, ein bod wedi gweld cynnydd enfawr mewn gwariant ar wasanaethau cyhoeddus a'r hyn yr ydym wedi'i weld o dan y Llywodraeth Geidwadol yw gostyngiad enfawr, o'i gymharu â'r hyn y maent yn ei wario ar y cyfandir. Ac mae yna reswm pam y mae ein gwasanaethau cyhoeddus ni yn y fath gyflwr heddiw; mae hyn oherwydd eu bod wedi cael eu hamddifadu o arian cyhoeddus i'r graddau ein bod, mewn gwirionedd, bellach yn ei chael hi'n anodd iawn. Deng mlynedd o gyni, rydyn ni'n talu'r pris am hynny; rydyn ni'n talu'r pris am COVID a nawr rydyn ni'n talu'r pris am chwyddiant. Mae'r holl bethau hynny'n cael effaith enfawr ac mae arnaf ofn, o ganlyniad i hynny, mae'r cyhoedd yn debygol o orfod talu pris hefyd.

15:55

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud nad yw ein system iechyd a gofal cymdeithasol yn gadarn. Bob blwyddyn, mae gennym ddatganiad yn siarad am bwysau'r gaeaf ac yn annog pobl i gadw draw o ysbytai. Mae'r negeseuon yn newid, ond mae'r broblem yn aros yr un fath. Gweinidog, pa drafodaethau a gawsoch chi gyda'r byrddau iechyd ynghylch cyflymu'r gwaith o greu canolfannau diagnostig a llawfeddygol? Pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda chymdeithasau tai awdurdodau lleol ynghylch ehangu tai gofal ychwanegol i leddfu'r pwysau ar ofal cymdeithasol? Ac yn olaf, Gweinidog, amser cinio heddiw, roedd y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yn dweud wrth yr Aelodau am y rhan y gall fferyllwyr ei chwarae i leddfu'r pwysau ar ofal sylfaenol ac eilaidd. Gweinidog, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda'r sector ar gyflymu e-bresgripsiynu a phresgripsiynu fferyllol? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr. Wel, rydych chi'n hollol iawn, rydyn ni'n paratoi ar gyfer pwysau'r gaeaf, ac fe wnaethoch chi weithio yn y gwasanaeth iechyd am amser hir, hir ac fe wnaethoch chi baratoi ar gyfer pwysau'r gaeaf—mae pawb yn paratoi ar gyfer pwysau'r gaeaf yn y GIG. Felly, rydych chi'n hollol iawn, rydyn ni'n datblygu canolfannau diagnostig a llawfeddygol; un, roeddwn yn falch iawn o fynd i'w hagor yng Nghastell-nedd yn ystod y gwanwyn-haf ac mae'n dda gweld bod honno ar waith nawr, a byddwch yn falch o glywed ei bod yn ganolfan orthopedig, felly dyna'n union, fe wn, yr hyn rydych chi wedi bod yn galw amdano. Rydym hefyd, wrth gwrs, yn bwrw ymlaen â datblygu'r ganolfan ddiagnostig yng Nghwm Taf Morgannwg, felly mae hynny i gyd yn symud ymlaen ac rwy'n falch o weld hynny'n digwydd hefyd.

Rydym yn cael sgyrsiau cyson gyda llywodraeth leol. Mewn gwirionedd, cawsom gyfarfod â nhw ddoe, paratoi ar gyfer y gaeaf, sicrhau bod pawb wedi trefnu a sicrhau, er enghraifft, bod y system aseswyr dibynadwy yn rhywbeth sy'n cael ei barchu ar bob ochr. Ond gan lywodraeth leol y mae'r cyfrifoldeb dros asesiad cartref gofal, er enghraifft. Os na wnânt hynny, mae'r bobl yn aros yn yr ysbyty, felly mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i wneud yn siŵr ein bod yn dadflocio'r rhwystr penodol hwnnw. Felly, dyna'r math o drafodaethau a gawn yn y cyfarfodydd penodol hynny.

O ran y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, rydych chi'n hollol gywir, rwy'n credu ein bod ni'n gwneud defnydd sylweddol o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru. Roeddem ymhell ar y blaen i weddill y Deyrnas Unedig o ran defnyddio fferylliaeth. Mae 99% o'n fferyllfeydd bellach yn cynnig y system anhwylderau cyffredin; mae un o bob chwech ohonyn nhw'n cynnig gwasanaeth presgripsiynu a manteisiodd 47,000 o bobl ar y cynnig hwnnw, a chafodd 26,000 o bobl brawf ar eu gwddf mewn fferyllfa gymunedol y llynedd. Felly, mae pobl yn dechrau clywed am hyn, a rhan o'r hyn y mae angen i ni ei wneud y gaeaf hwn yw sicrhau bod pobl yn gwybod bod y dewisiadau amgen hynny sy'n golygu nad oes rhaid mynd at y meddyg teulu, ar gael. Felly, mae fferylliaeth gymunedol, i mi, yn gwbl sylfaenol i'r ffordd yr ydym yn mynd i'r afael â'r gaeaf sydd i ddod.

Siaradais innau hefyd â chwpl o fferyllwyr cymunedol sy'n gwneud gwaith ardderchog, yn gweithio mewn meddygfeydd, ond hefyd yn mynd i gartrefi pobl i sicrhau nad oedd amlgyffuriaeth yn digwydd oherwydd bod stoc o hen feddyginiaethau yn y cwpwrdd yn cael eu cymysgu â'r meddyginiaethau newydd. Dyna un o'r rhesymau pam mae pobl yn mynd i'r ysbyty, yn anffodus, os ydych chi'n oedrannus.

Rwyf am dalu teyrnged i'r fyddin binc o weithwyr gofal cymdeithasol sy'n gweithio ochr yn ochr â chlinigwyr yn yr adran achosion brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru i nodi pobl, yn enwedig pobl oedrannus, fel y dywedoch chi yn eich datganiad, nad oes angen iddynt ddod i'r ysbyty trwy ddarparu cymorth ychwanegol gartref. Mae'n wych clywed y gellir gwahodd pobl i droi rownd, gan wybod eu bod yn mynd i gael y gefnogaeth i'w hanwyliaid neu i'r unigolyn gartref, oherwydd mae angen cymorth ychwanegol arnynt, ond nid oes angen iddynt ddod i'r ysbyty. Hefyd, mae'r fyddin binc yn gwneud gwaith gwych yn mynd ar y wardiau meddygol yn Ysbyty Athrofaol Cymru i sicrhau bod yr holl gwestiynau cywir yn cael eu gofyn er mwyn cynllunio i ryddhau'r unigolyn cyn gynted ag y bydd yn addas yn feddygol, mae hyn nid yn unig o fudd i'r unigolion, mae hefyd yn sicrhau bod gwelyau ar gael yn gyflymach i'r rhai sydd angen llawdriniaethau ysbyty.

Fy nghwestiwn i chi yw sut mae'r cynlluniau cadernid y gaeaf hwn yn y gymuned a'r grwpiau cynllunio clwstwr yn sicrhau bod unigolion agored i niwed yn cael un pryd poeth, yn cael ei baratoi'n ffres bob dydd. Oherwydd cefais sgwrs dorcalonnus iawn gyda rhywun yng nghlwb garddio'r Maelfa ynghylch rhywun ag Alzheimer's a oedd yn canu clodydd tatws stwnsh, ond datgysylltwyd ei phopty nwy er ei diogelwch ei hun, ac roedd yn ymddangos nad oedd unrhyw un ar gael yn lleol i gyflawni tasg mor syml â rhoi tamaid o datws stwnsh a phethau poeth eraill i fynd gyda'r tatws iddi. Y mathau hynny o bobl sy'n dueddol o fynd i'r ysbyty oherwydd nad ydyn nhw'n bwyta'n iawn.

16:00

Diolch yn fawr. Rydych chi'n llygad eich lle, ac rwy'n credu bod tynnu sylw at y mater mewn cysylltiad â meddyginiaethau yn bwysig iawn. Gwyddom fod yna bwysau ariannol sylweddol. Rydym yn gwario tua 10% o'n cyllideb ar feddyginiaethau, felly mae angen i ni sicrhau bod pobl yn defnyddio'r meddyginiaethau sydd eu hangen arnynt, ond, mewn gwirionedd, mae angen iddynt roi'r gorau i ddefnyddio'r meddyginiaethau a dweud wrthym eu bod wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio meddyginiaethau nad oes eu hangen arnynt. Mae hynny i gyd yn eithaf cymhleth, ac maen nhw'n sgyrsiau anodd eu cael, ond rwy'n credu bod yna gyfleoedd i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud llawer mwy ym maes meddyginiaethau. Mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud, nid yn unig yn ein fferyllfeydd cymunedol, ond mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud yn ein fferyllfeydd mewn ysbytai—cryn dipyn o waith yn cael ei wneud yno.

Rydych chi'n llygad eich lle i dalu teyrnged i'r fyddin binc, ac mae'n wych clywed hynny. Rwy'n poeni'n arbennig am yr henoed sy'n dod i'r ysbyty. Mae'n torri fy nghalon i feddwl am rai ohonyn nhw, yn enwedig y rhai sydd â dementia sy'n mynd yn ddryslyd, felly roedd hi'n ddiddorol iawn cael sgwrs ddoe gyda phobl o adrannau brys a ddaeth at ei gilydd i geisio dechrau siarad am ddatganiad ansawdd ar gyfer adrannau brys—sut olwg sydd ar hynny, sut olwg sydd ar 'da'. Rwy'n gobeithio y bydd eiddilwch yn rhywbeth y byddant yn ei ystyried yng nghyd-destun adrannau brys.

Yr hyn rydyn ni'n ei wybod yw, er enghraifft, gydag ambiwlansys nawr, gyda thua 15 y cant o'r bobl maen nhw'n mynd i'w casglu, maen nhw'n gwrando ac maen nhw'n eu trin yn y fan a'r lle. Mae ceisio osgoi derbyniadau i'r ysbyty ar gyfer ein pobl agored i niwed yn ddelfrydol mewn gwirionedd, ac os oes rhaid i ni ddod â'r ysbyty allan atyn nhw, dyna ddylem ei wneud. Felly, rwy'n awyddus iawn i weld hynny. Mae llawer o gynlluniau ar waith i wneud llawer mwy o hynny.

Rydych chi'n iawn; yr hyn y mae'r rhan fwyaf o fyrddau iechyd yn ei wneud nawr yw cynllunio'r broses rhyddhau o'r eiliad y maent yn cyrraedd, ac mae hynny'n hanfodol i hwyluso'r llif. Mae llawer o waith y gall grwpiau cymunedol ei wneud. Mae gennym y gronfa integreiddio rhanbarthol (RIF), sef y byrddau partneriaeth rhanbarthol sy'n cydweithio â byrddau iechyd ac awdurdodau lleol. Ond mae 15% o'r arian hwnnw'n mynd i'r trydydd sector. Felly, rwy'n credu bod cyfle yno i siarad am rai o'r pethau rydych chi'n pryderu amdanyn nhw o ran sicrhau bod pobl yn cael eu bwydo.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog. Mae'r gaeaf ar fin cyrraedd, felly rwy'n falch bod y datganiad hwn wedi'i wneud mewn da bryd wrth i ni ddisgwyl gorfod ymdrin â phwysau'r gaeaf, neu o leiaf ceisio gwneud hynny. Hoffwn ofyn pa ffactorau lleol y mae'r Gweinidog yn eu hystyried o ran paratoi ar gyfer y gaeaf. Gofynnaf hyn gan fod Ysbyty Glan Clwyd yn fy etholaeth i, ac mae pwysau difrifol yn yr adran damweiniau ac achosion brys ac adrannau eraill gyda staff yn wynebu lludded corfforol a meddyliol eithriadol a chleifion yn aml yn methu cael eu gweld mewn pryd gan weithwyr meddygol proffesiynol. Pa sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi i fy etholwyr yn sir Ddinbych bod gwasanaethau iechyd lleol yn ddigon cadarn ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ymdrin â phwysau cynyddol y gaeaf ac nad yw'n cymhlethu'r problemau presennol sydd yma drwy gydol y flwyddyn?

16:05

Diolch yn fawr. Gobeithio nad yw'r gaeaf wedi cyrraedd eto. Dydw i ddim am droi'r gwres ymlaen am ychydig wythnosau eto, gallaf eich sicrhau chi. Rwy'n siŵr bod llawer o bobl yn y wlad yn teimlo'r un fath. Ond o ran ffactorau lleol, rydych chi'n hollol iawn; rwy'n poeni'n arbennig am Glan Clwyd, felly rwy'n rhoi llawer o sylw i hynny. Roeddwn i'n falch o fynd i ymweld â'r adran frys dros yr haf. Yr ymdeimlad a gefais i oedd bod yr awyrgylch yn newid yno a'u bod nhw mewn sefyllfa wahanol. Roedden nhw'n ymddangos yn llawer mwy bywiog nag yr oedden nhw yn y gorffennol. I mi, roedd hynny'n ddechrau ar rywbeth llawer mwy cadarnhaol. Un o'r pethau rwy'n poeni amdano yw nad oes digon o ddewis amgen i'r adran frys yn yr ardal honno, felly mae hynny'n rhywbeth rwyf wedi gofyn i gadeirydd y bwrdd iechyd ei ystyried yn benodol. Mae gennym brif swyddog gweithredu newydd yn Betsi nawr, ac mae hi'n arbenigwr yn y maes hwn, felly rwy'n gwybod ei bod hi'n cadw llygad ar bethau. Mi fyddaf i'n cael cyfarfod, rwy'n credu fory, efo cadeirydd Betsi, a dyma un o'r pynciau y byddaf i'n ei godi.

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Siarter Iaith: Fframwaith Cenedlaethol

Eitem 5 yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar y siarter iaith a'r fframwaith cenedlaethol. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cyn cychwyn fy natganiad yn ffurfiol, a gaf i ddymuno Diwrnod Ieithoedd Ewropeaidd hapus i bawb?

Mae amrywiaeth ieithyddol y byd yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo. Yma yng Nghymru, mae’r siarter iaith yn rhaglen sy’n grymuso plant a phobl ifanc i ymfalchïo yn y Gymraeg ac sy’n annog defnydd ohoni. Gyda’r siarter bellach yn cael ei ddefnyddio o fewn cannoedd o ysgolion a gan filoedd o ddisgyblion, mae’n destun balchder i mi gyhoeddi pennod newydd yn hanes y siarter iaith.

Yn ddiweddar, fel rhan o waith y siarter, roeddwn yn falch iawn o gefnogi prosiect oedd yn dathlu amrywiaeth ieithyddol a ieithoedd lleiafrifol Ewrop. O ganlyniad i’r gystadleuaeth ECCA—European Charter Classroom Activities—cafodd dysgwyr o Ysgol Garth Olwg y cyfle i gynrychioli Cymru mewn campws ieithoedd lleiafrifol i bobl ifanc ym Mallorca ym mis Mai. Ennill cystadleuaeth i fynd yno wnaeth y grŵp ac maen nhw newydd ddychwelyd o Frwsel hefyd. Yno, fe wnaethon nhw gyflwyno eu prosiect a’u canfyddiadau i’r Comisiwn Ewropeaidd a Chyngor Ewrop ar y cyd â phobl ifanc sy’n siarad ieithoedd lleiafrifol ar draws Ewrop—o Gatalwnia, rhanbarthau gogledd yr Eidal, a Hwngari. Yn anffodus, mae’r Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond dyw Cymru ddim wedi troi cefn ar Ewrop, nac ar weddill y byd. Yma ydyn ni, yn rhan gadarn o gymuned fywiog, amrywiol o ieithoedd, yn barod i gydweithio, yn barod i ddysgu, a does dim enghraifft gwell o hyn na’r siarter iaith a’r cyfleoedd y mae’r siarter yn ei gynnig i ddathlu’n hiaith trwy gydweithio a dysgu o’n gilydd.

Rwy’n barod i ddysgu gan ein rhanddeiliaid, arbenigwyr a dysgwyr yma yng Nghymru. Mewn byd sy’n cyson newid, lle mae datblygiadau technolegol a chymdeithasol yn siapio arferion ieithyddol ein plant a phobl ifanc, fuodd y Siarter Iaith erioed mor briodol a phwysig ag y mae heddiw. Dyma’r cyntaf, felly, mewn cyfres o ddatganiadau y byddaf i’n eu gwneud ar y thema o gynyddu defnydd plant a phobl ifanc o’r Gymraeg.

Mae’r siarter iaith yn offeryn pwysig ar gyfer cynyddu’r defnydd o’n hiaith ymysg ein plant a phobl ifanc. Rwy’n diolch i Gyngor Gwynedd am sefydlu’r rhaglen yn y lle cyntaf, ac yna ein caniatáu i weithio gyda phartneriaid ar draws y wlad er mwyn lledaenu’r siarter ledled Cymru ers 2016. Ers hyn, mae ysgolion, dysgwyr a’u cymunedau wedi cofleidio’r siarter a’i hegwyddorion, gydag ysgolion o bob categori a chyfrwng ieithyddol yn cymryd rhan ac yn annog eu dysgwyr i ddefnyddio’u Cymraeg ac ymfalchïo ynddi, ble bynnag maen nhw arni ar eu taith iaith.

Dirprwy Lywydd, mae'r Llywodraeth hon wedi llwyr ymrwymo i ddyfodol ein hiaith. Yn 'Cymraeg 2050', rydym ni'n nodi'n huchelgais ar gyfer ein hiaith ac mae gyda ni gynlluniau mawr i roi'r uchelgais honno ar waith. Rwy'n barod i gyflwyno newidiadau i'r ffordd rŷn ni'n meddwl am y Gymraeg a rôl addysg oddi fewn i hynny. Ym mis Mawrth, cyhoeddais i ymgynghoriad ar Bapur Gwyn ar gyfer Bil addysg Gymraeg, ar y cyd â Phlaid Cymru trwy ein cytundeb cydweithio. Bydd y Bil yn cymryd camau i alluogi holl ddisgyblion Cymru i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus drwy'r system addysg statudol. Cyfiawnder cymdeithasol sydd wrth wraidd fy ngweledigaeth ar gyfer y Gymraeg o fewn y system addysg. Rwyf am i genedlaethau'r dyfodol gael yr un cyfleoedd ag yr wyf i wedi eu cael—yr un cyfleoedd diwylliannol neu economaidd. Fe fydd y Bil, o'i weithredu, yn gosod y seiliau ar gyfer gwireddu rhaglen newid uchelgeisiol, ac mae gan y siarter iaith rôl allweddol i gefnogi hyn.

Un rhan o'r jig-so o gyrraedd amcanion 'Cymraeg 2050' yw'r Bil. Mae creu siaradwyr newydd yn hollbwysig, yn amlwg, ac mae defnyddio'n hiaith a sicrhau ein bod yn cynllunio'n bwrpasol ar gyfer annog hynny yn hollbwysig hefyd. Rwy'n dweud yn aml fod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, pob un ohonom ni, beth bynnag yw ein gallu ieithyddol. Rwyf hefyd wedi dweud bod y Gymraeg yn fwy na dim ond rhywbeth rwy'n ei siarad. Mae'n rhywbeth rwy'n ei deimlo, ac rwyf am i fwy ohonon ni brofi'r teimlad hwnnw, yn genedlaethau'r dyfodol, neu ein pobl ifanc presennol, o ba bynnag gefndir ieithyddol rydym yn dod ohono. Dyma pam rwy'n cyhoeddi'r fframwaith newydd ar gyfer y siarter iaith heddiw.

Rŷm ni wedi gweithio'n agos gyda phartneriaid i gynllunio a chreu'r fframwaith cenedlaethol newydd. Er fy mod yn cyhoeddi'r fframwaith heddiw, rŷn ni'n parhau i fod yn awyddus i glywed gan fwy o bobl, a mwy o leisiau ein plant a phobl ifanc. Mae cynnwys pobl ifanc yn ein gwaith cynllunio ieithyddol yn hanfodol. Felly, bydd fy swyddogion yn trefnu cyfres o sesiynau ymgysylltu gyda phobl ifanc yn y dyfodol agos.

Rwy'n ffyddiog bod y fframwaith hwn yn cynnig sail gref ar gyfer esblygu'r siarter iaith, er mwyn ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd sydd yn ein hwynebu. Yn ystod y flwyddyn byddwn ni'n parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid, ymgynghori â phlant a phobl ifanc, a chreu ymgyrch gyfathrebu newydd i godi proffil y siarter. Bydd hyn oll yn sicrhau bod y siarter yn cyrraedd ei llawn botensial.

Mae fy ngweledigaeth i yn glir, Dirprwy Lywydd. Rwyf am i'n disgyblion ddod yn ddinasyddion sy'n medru'r Gymraeg. Rwyf am iddyn nhw fod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol; yn defnyddio'r Gymraeg o'u gwirfodd eu hunain ac yn mwynhau gwneud hynny; yn siarad Cymraeg gyda'i gilydd, p'un a ydyn nhw'n dod o gartrefi Cymraeg ai peidio; ac yn meddu ar agwedd bositif tuag at y Gymraeg, ac yn hyderus wrth ei defnyddio.

Mae cyhoeddi'r fframwaith yn gam tuag at gyflawni hynny. Rwy'n ffyddiog, drwy weithio gyda'n gilydd, y bydd y fframwaith newydd hwn yn grymuso arweinwyr a staff ysgolion i roi cynlluniau clir ar waith i gynyddu defnydd o'r Gymraeg ymhlith plant a phobl ifanc a'u hannog i ymfalchïo yn eu hiaith a'u diwylliant.

Bydd y siarter yn parhau i newid ac i esblygu yn barhaus, ond bydd yr egwyddorion yr un fath. Rwyf felly yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda phlant a phobl ifanc, rhanddeiliaid ac ysgolion, i siapio a gweithredu'r siarter iaith, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn arf priodol a phwerus yn y dyfodol.

16:10

Diolch yn fawr, Weinidog, am y datganiad heddiw, a Diwrnod Ieithoedd Ewropeaidd hapus ichi hefyd. Ar ran fy mhlaid i, rwyf am ei gwneud yn glir unwaith eto ein bod yn cefnogi 'Cymraeg 2050', ac rydym wedi ymrwymo i helpu i gyrraedd y nod hwn.

Mae gan fframwaith y siarter iaith, a gyflwynwyd yn gynharach eleni ac sydd bellach ym mhob ysgol ledled Cymru, rôl bwysig yn y gwaith o wireddu nodau'r Llywodraeth. Mae'r Gweinidog yn llygad ei le pan ddywed nad yw'r fframwaith hwn yn ymwneud ag addysgu'r Gymraeg yn unig; mae'n ymwneud â magu hyder yn ei defnydd a datblygu agweddau cadarnhaol tuag at yr iaith.

Un o'r heriau sydd ynghlwm wrth gyrraedd targed 2050 yw sicrhau bod disgyblion yn mwynhau defnyddio'r Gymraeg, ond bod yna hefyd amgylchedd y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth sy'n annog ac yn cefnogi ei defnydd. Rwy'n awyddus i ddeall y mesurau sy'n bodoli i annog rhieni nad ydynt yn siarad Cymraeg i ddysgu'r iaith. Yn ogystal, a oes gwaith gydag elusennau a sefydliadau i ddatblygu sgiliau iaith y tu allan i'r ystafell ddosbarth, a sut mae daearyddiaeth a thafodiaith Cymru yn cael eu hystyried?

O ystyried y pwysau ariannol ar gyllidebau ysgolion a'r ffaith bod ysgolion yn gyfrifol am lwyddiant y fframwaith hwn, hoffwn ofyn y cwestiynau hyn: a oes archwiliadau wedi eu cynnal i wybod pa ganran o staff yr ystafell ddosbarth sydd â digon o Gymraeg i'w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth; mewn achosion lle mae bylchau mewn sgiliau yn cael eu nodi, pa gymorth sydd ar gael i gynorthwyo ysgolion i fynd i'r afael â'r bylchau hyn; a sut ydyn ni'n sicrhau bod swyddi addysgu yng Nghymru yn apelio at ymgeiswyr o'r tu allan i Gymru nad oes ganddynt sgiliau iaith o bosibl, ond sydd â phrofiadau gwerthfawr?

O ystyried y fframwaith a gyflwynwyd yn ddiweddar, a oes unrhyw faterion neu heriau cychwynnol wedi codi, a pha gamau sydd wedi'u cymryd i fynd i'r afael â nhw? At hynny, pa gymorth sydd ar gael i ysgolion sydd wedi cael problemau wrth weithredu'r fframwaith, a sut y bydd ei lwyddiant yn cael ei sicrhau dros amser?

Weinidog, mae'n ymddangos bod y siarter iaith yn targedu ysgolion cynradd yn bennaf, a bod dulliau mwy anffurfiol ar waith mewn ysgolion uwchradd. Mae hyn yn cyfateb i bryderon a godwyd gan grwpiau fel Wish I Spoke Welsh, sydd wedi nodi gostyngiad o 11 y cant yn nifer y disgyblion sy'n cadw eu sgiliau iaith pan fyddant yn trosglwyddo o addysg gynradd i addysg uwchradd. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r dirywiad hwn yn ystod y cyfnod pontio hwn?

I gloi, hoffwn ddatgan eto ein cefnogaeth i'r fenter hon. Ysgogir ein hymrwymiad gan yr awydd i weld trawsnewidiad cadarnhaol yn y defnydd o'n hiaith ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a gweld y Gymraeg yn ffynnu ymhob agwedd ar ein cymdeithas. Mae'r cwestiynau rwyf wedi'u gofyn yn adlewyrchu ein penderfyniad cryf i sicrhau mai rhywbeth dros dro yw'r drop yn y defnydd o'r iaith a nodwyd yn y cyfrifiad diwethaf, a bod Cymraeg 2050 yn parhau i fod yn gyraeddadwy. Diolch.

16:15

Diolch i Sam Kurtz am y sylwadau cefnogol hynny a'r cwestiynau adeiladol hynny mae e wedi eu gofyn heddiw. Mae'n iawn i ddweud bod angen creu cyfleoedd y tu allan i'r ystafell ddosbarth hefyd i ysgogi pobl i barhau i ddefnyddio eu Cymraeg y tu allan i'r dosbarth. Dwi'n gwybod bod criwiau Cymraeg yn gwneud gwaith gwych mewn ysgolion ledled Cymru, yn cynnwys yn ei etholaeth, e mae'n siŵr, i wneud yn siŵr bod eu cyd-ddisgyblion nhw yn defnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r dosbarth hefyd, ac rwyf am ddiolch iddyn nhw am eu gwaith wrth wneud hynny.

Mi wnaeth yr Aelod ofyn cwestiynau ynglŷn â’r hyn rŷn ni wedi'i ddysgu o'r fframwaith eisoes, a beth rŷn ni wedi cymryd i mewn i ystyriaeth o ran adborth ynglŷn â llwyddiannau a mannau i weithio ymhellach. Mae adolygiad gwerthuso wedi digwydd o'r siarter iaith er mwyn asesu sut mae'r siarter iaith mor belled wedi bod yn gweithio, ynghyd a rhaglenni eraill sydd yn gysylltiedig â’r siarter. Ac mae rhanddeiliaid a phartneriaid ar draws y system addysg wedi bod yn gweithio ar hynny, yn cynnwys sicrhau bod llais y dysgwr yn rhan bwysig o'r gwaith, ac mae grwpiau ffocws wedi digwydd gyda dysgwyr mewn pum ysgol, rwy'n credu, i glywed oddi wrthyn nhw beth maen nhw'n credu sydd wedi bod yn llwyddiant a beth sydd angen gwaith pellach. Ac ynghyd â hynny, mae holiaduron siarter iaith wedi bod yn cael eu defnyddio ers 2021 er mwyn clywed yn uniongyrchol oddi wrth ddysgwyr beth yw eu barn nhw. Mae'r rheini ar Hwb ac ar gael i ysgolion yn gyffredinol, er mwyn ein bod ni'n gallu cadw’r broses o esblygu y siarter yn rhywbeth sydd yn fyw ac yn broses greadigol.

Mi wnaeth yr Aelod ofyn cwestiynau pwysig ynglŷn â sgiliau athrawon a chynorthwywr yn yr ystafell ddosbarth. Mae gwaith o asesu sgiliau wedi bod yn digwydd ers cyfnod. Mae'r darlun yn dod yn eglurach dros amser. Fel y bydd e’n gwybod, rŷn ni wedi buddsoddi’n sylweddol iawn fel rhan o'r cytundeb cydweithio ac yn ehangach na hynny hefyd mewn darparu gwersi Cymraeg. Mae gwersi Cymraeg ar gael—cwrs blwyddyn am ryw £90, ond mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael disgownt sylweddol iawn ar hynny. Ac os ydych chi’n prynu yr amser hyn o'r flwyddyn, gallwch chi gael disgownt o dua 50 y cant. Felly, mae hynny ar gael yn sylweddol yn llai drud na'r arfer, felly mae hynny'n beth calonogol. Ond hefyd mae gwersi am ddim i'r gweithlu addysg yn gyffredinol. Felly, os oes unrhyw berson yn gweithio mewn ysgol ac yn hoffi cael y cyfle yn eu hamser nhw eu hunain i esblygu eu sgiliau ac i gynyddu eu sgiliau, mae cyfle iddyn nhw wneud hynny nawr am ddim. Ac ynghyd â hynny, wrth gwrs, mae'r gwaith cynllun sabothol a chynlluniau eraill sydd yn bwrpasol ar gyfer rhoi cefnogaeth intensive i athrawon. Mae hyn i gyd nawr ar gael ar y wefan mae'r ganolfan ddysgu wedi'i lansio, ble gallwch chi fynd a sicrhau eich bod chi'n deall yr arlwy sydd ar gael.

Gwnaeth yr Aelod bwynt pwysig mai pwyslais y siarter iaith yw ysgolion cynradd. Bydd e'n gwybod efallai hefyd am y prosiect cefnogi arferion ieithyddol, PCAI, sydd wedi bod yn gweithio dros y blynyddoedd. Mae hwnnw'n sicr yn gynllun sydd wedi esblygu'n sylweddol. Mae unrhyw weithgarwch sydd yn parhau i ddigwydd o fewn y fframwaith hwnnw nawr yn cael ei alw yn siarter iaith uwchradd, fel bod hynny'n cyd-fynd gydag esblygiad y siarter iaith yn genedlaethol.

16:20

Diolch, Weinidog, am y datganiad. Wrth gwrs, mi wnaf innau hefyd ddymuno Diwrnod Ieithoedd Ewropeaidd hapus i bawb. Mae'n wych ein bod ni'n cael cyfle i ddathlu'r Gymraeg fel iaith, ond ein bod ni'n dathlu hefyd yr holl waith gwych sy'n digwydd ledled Cymru ynghlwm efo'r siarter iaith. Efallai y dylwn i ddatgan budd o ran fy mod i'n parhau yn lywodraethwraig mewn ysgol gynradd, a fi ydy'r llywodraethwraig sydd yn gorfod helpu'r criw Cymraeg efo'r siarter iaith. Dwi wrth fy modd; mae'n un o fy hoff bethau i i fod yn ei wneud, yn mynd mewn i'r ysgol, oherwydd mae'r ffaith bod y plant yn perchnogi hyn fel proses ac yn gyffrous amdano fo mor, mor bwysig, yn lle bod o'n rhywbeth, 'Mi wnawn ni hyn', a bod athrawon yn dweud—mae'r ffaith ei fod o'n unigryw ymhob ysgol.

Un o'r manteision mawr dwi'n bersonol wedi'i weld ydy'r cydweithio rhwng ysgolion cyfrwng Saesneg ac ysgolion cyfrwng Cymraeg er mwyn dod â'r rhwystrau yna i lawr rhwng ysgolion. Yn amlwg, dŷn ni'n cydweithio o ran y cytundeb cydweithio rŵan, o ran edrych ar ddyfodol addysg Gymraeg, ond dwi'n meddwl beth mae o wedi dangos ydy'r pwysigrwydd o'r cysylltu rhwng ysgolion, sydd efallai wedi bod yn cystadlu am ddisgyblion yn y gorffennol o ran niferoedd, oherwydd mae honna'n her i nifer o ysgolion mewn nifer o ardaloedd, ond i weld y cydweithio yna oherwydd yr ymrwymiad o ran cyrraedd y targed o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg.

Dwi hefyd yn falch eich bod chi wedi pwysleisio bod hyn yn deillio o rannu arfer da a pharhau efo hynny. Y cwestiwn sydd gen i ydy: mae o'n wych pan fo cynlluniau'n newydd, onid ydy, a'r berchnogaeth, ond, wrth gwrs, un o'r pethau sy'n digwydd yn hanes pob ysgol ydy bod pobl yn symud ymlaen—mae'r disgyblion yn tyfu'n hŷn ac ati ac maen nhw'n gweithio i lefelau felly. A dŷn ni'n gweld, o ran y siarter iaith, un o'r pethau ydy beth sy'n digwydd ar ôl i chi gyrraedd yr aur a pharhau i weithio, oherwydd mae'r heriau'n wahanol efo pob blwyddyn ysgol hefyd, onid ydy, o ran efallai fod gennych chi fwy mewn un flwyddyn sydd yn dod o gefndir di-Gymraeg i ysgol, neu brofiadau gwahanol. Digwydd bod, yn Rhondda Cynon Taf ar y funud mae yna nifer o ddigwyddiadau cyfrwng Cymraeg oherwydd bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod—wedyn mae'r cyfleoedd allgyrsiol yna'n bodoli sydd ddim wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf. Yr her wedyn ydy sut ydych chi'n parhau i gynnig hynny. Felly, un peth roeddwn i eisiau holi ydy: sut ydych chi'n mynd i fod yn sicrhau bod hwn yn rhan barhaol, rŵan, o ran proses ysgol, ac yn enwedig o ran hyfforddi athrawon, bod hwn yn cael—? Ydy o'n rhan o'r rhaglen hyfforddi athrawon, fel bod pawb yn deall manteision, a bod yn rhan ohono fo? 

Hefyd, jest i bigo fyny efo un o bwyntiau Sam Kurtz jest o ran yr heriau cyllidebol, felly: mi fyddai'n dda deall, ac mae'n ddrwg gen i, o ran y gwerthuso—. Dwi'n meddwl bod hwnna'n rhywbeth inni ei ddeall—rhai o'r rhwystrau sydd efallai'n atal, ac os oes yna amrywiaethau o ran ardaloedd, felly. Mae'r pwysigrwydd o ran yr arfer da yn sôn am y cyfleoedd allgyrsiol ar ôl ysgol ac ati, a dŷn ni'n gwybod mai un o'r heriau ydy os ydych chi'n gorfod teithio i'r ysgol ac yn dibynnu ar fynd ar fws, efallai eich bod chi ddim yn gallu manteisio ar hynny. Felly, sut ydych chi'n gweithio i sicrhau bod pob plentyn, lle bynnag maen nhw yng Nghymru, yn gallu cael y cyfleoedd allgyrsiol sydd mor bwysig i wireddu'r siarter iaith hefyd, fel bod o'n parhau i fynd o nerth i nerth?

Wel, diolch i Heledd Fychan am y cwestiynau hynny. Dylwn i hefyd gydnabod—gwnes i sôn am rôl Cyngor Gwynedd yn creu'r siarter iaith gyntaf, a honna sydd wrth wraidd yr holl beth. Dylwn i gydnabod yn benodol gwaith Siân Gwenllian, oedd yn amlwg iawn yn datblygu'r siarter yng Ngwynedd hefyd. Ac rwy'n cytuno â beth ddywedodd Heledd Fychan mai un o'r pethau sydd wastad yn codi calon yw eich bod chi'n gweld cynnydd a defnydd o'r Gymraeg, a'r siarter mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Ac mae wastad yn codi calon, rwy'n credu, pan eich bod chi'n mynd i ystafell ddosbarth a chlywed defnydd o rywfaint o'r Gymraeg, o leiaf, a chynefino ein plant ieuengaf ni â defnydd o'r Gymraeg mewn ffordd sydd yn hollol normal ac yn rhywbeth pob dydd iddyn nhw. Mae'r cysylltiad hwnnw gyda'r gymuned yn rhywbeth sydd yn bwysig iawn. Mae nifer o bartneriaid yn rhan—fel bydd yr Aelod yn gwybod—o waith y siarter iaith: Undeb Rygbi Cymru, Amgueddfa Cymru, yr Urdd, BBC, Llenyddiaeth Cymru, Bardd Plant Cymru—felly mae lot o bobl ynghlwm â'r gwaith mae'r siarter yn ei ddarparu. Ac mae'r cynllun grant rŷn ni'n ei ddarparu hefyd yn gallu ariannu gweithgaredd cymdeithasol sydd yn gallu cydlynu â gwaith y siarter iaith.

Gwnaeth yr Aelod bwynt pwysig, rwy'n credu, ynglŷn â sut gallwn ni sicrhau bod hwn yn rhywbeth—ac rwy'n defnyddio'r gair yma—sy'n cael ei brif-ffrydio mewn i waith athrawon yn gyffredinol, i waith ysgolion yn gyffredinol, fel ein bod ni'n cysoni—gorau gallwn ni, o ystyried yr amrywiaeth o ysgolion sydd gyda ni—cysoni'r profiad ar draws y system. A bydd hi'n gwybod bod gwaith wedi bod yn digwydd eisoes i gynyddu'r defnydd o ymwybyddiaeth o'r Gymraeg, er enghraifft, yn addysg gychwynnol athrawon. Ond rwyf hefyd yn credu bod hwn nawr yn cynnig rôl bwysig yn cydlynu â gwaith y cwricwlwm yn ehangach. A dyna pam mae rhywfaint o oedi wedi bod yn ail-lansio'r fframwaith, fel ein bod ni wedi gallu gweld cychwyn ar gyflwyno'r cwricwlwm y llynedd. Adnodd, os hoffwch chi, yw'r fframwaith hwn, i gefnogi athrawon yn y gwaith sydd gyda nhw bob dydd, i bontio rhwng meysydd dysgu a phrofiad y cwricwlwm gyda'r profiadau allgyrsiol hyn. A byddwn ni'n cyhoeddi mwy o ganllawiau ac adnoddau i gyd-fynd â'r fframwaith, er mwyn inni allu hwyluso y gwaith hwnnw o sut gallwch chi sicrhau bod hwn yn cefnogi gwaith y cwricwlwm yn ehangach. Ac rwy'n credu drwy wneud hynny, mae'r cyfle gorau gyda ni i sicrhau bod hwn yn brofiad ehangach i fwy a mwy o ddisgyblion.

16:25
6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Costau Byw

Eitem 6 yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: costau byw. A galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ym mis Ionawr fe wnes i ddatganiad i'r Senedd am y pwysau di-baid yr oedd pobl ledled Cymru yn eu hwynebu o ran costau byw, ac yn anffodus does dim byd wedi newid. Yn gynharach y mis hwn, adroddodd y Resolution Foundation ein bod ni wedi gweld yr ergyd chwyddiant fwyaf ers pedwar degawd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae Banc Lloegr wedi codi'r gyfradd sylfaenol 14 gwaith yn olynol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, gan roi rhagor o bwysau ar gyllidebau aelwydydd sydd eisoes o dan straen enfawr yn sgil costau ynni, tanwydd a bwyd uchel. Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl drwy'r argyfwng costau byw hwn, i liniaru'r effeithiau gwaethaf, ond hefyd drwy'r camau yr ydym yn eu cymryd i atal pobl rhag wynebu tlodi yn y lle cyntaf.

Yn ystod y flwyddyn hon a'r flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi rhoi mwy na £3.3 biliwn mewn cymorth trwy raglenni a chynlluniau wedi'u targedu, sy'n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl. Mae hyn yn cynnwys ein cynnig gofal plant, ein cynllun cymorth tanwydd gaeaf, ein hymgyrchoedd 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' a'n gwasanaethau cynghori o dan y gronfa gynghori sengl, ein talebau tanwydd talu ymlaen llaw, ein cefnogaeth i gymorth bwyd brys a'n cronfa cymorth dewisol, sy'n darparu cymorth brys i'r rhai mewn argyfwng. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni wynebu'r realiti nad ydyn ni fel Llywodraeth yn ddiogel rhag y chwyddiant uchaf erioed ac ergydion a phwysau ariannol. Rydyn ni'n wynebu pwysau eithriadol ar ein cyllid, eleni a'r flwyddyn nesaf, ac mae hyn yn golygu ein bod ni'n gweithio trwy rai penderfyniadau anodd iawn ynghylch sut rydyn ni'n defnyddio'n cyllid a sut rydyn ni'n targedu ein cefnogaeth i amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus a'r rhai sydd â'r angen mwyaf.

Ar ôl cyllideb gwanwyn y DU ym mis Mawrth, roedd cyllideb Cymru yn werth hyd at £900 miliwn yn llai mewn termau real nag ar ddechrau'r adolygiad diwethaf o wariant yn 2021. Dyma'r sefyllfa ariannol anoddaf yr ydyn ni wedi'i hwynebu ers datganoli, ond byddwn ni'n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu'r rhai sydd â'r angen mwyaf. Mae hyn yn cynnwys diogelu cyllid ar gyfer cymorth bwyd brys, ar gyfer y gronfa cymorth dewisol, ar gyfer y gronfa gynghori sengl, ac ar gyfer cymorth i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd fforddio costau tanwydd a thrydan. Rydyn ni'n parhau i fuddsoddi yn ein cynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer pobl sy'n gadael gofal yng Nghymru, gan brofi'r dull arloesol hwn ar gyfer y bobl ifanc hynny y mae arnyn nhw fwyaf o angen cymorth ychwanegol.

Dirprwy Lywydd, mae llawer o'r ysgogiadau allweddol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi ac effeithiau'r argyfwng costau byw yn nwylo Llywodraeth y DU, ac rydyn ni'n parhau i'w hannog i gyflawni eu cyfrifoldebau i bobl yng Nghymru. Ond mae llawer y gallwn ni ei wneud gan ddefnyddio'r ysgogiadau sydd gennym ni yng Nghymru i gyflawni dull gweithredu wedi'i wneud yng Nghymru ar gyfer Cymru. Ym mis Mehefin, cyhoeddais i'r ymgynghoriad ar y strategaeth tlodi plant ddrafft, a oedd yn amlinellu'r meysydd y byddwn ni'n eu blaenoriaethu i fynd i'r afael â thlodi plant a chynyddu effaith ein huchelgeisiau polisi. Ac rwy'n bwriadu cyhoeddi'r strategaeth derfynol yn ddiweddarach eleni.

Fel rhan o'n ffocws parhaus ar yr argyfwng costau byw, rydyn ni wedi cynnal cyfarfodydd rheolaidd o is-bwyllgor y Cabinet ar gostau byw. Ym mis Awst, argymhellodd y grŵp arbenigol a gafodd ei ffurfio i gynghori'r is-bwyllgor ar effaith yr argyfwng ar bobl yng Nghymru gyfres o gamau gweithredu yr oedden nhw'n teimlo y byddai modd eu cymryd i liniaru'r effaith yng Nghymru, ac rwyf wedi cyhoeddi'r adroddiad hwn heddiw. Rydyn ni'n hynod ddiolchgar am waith y grŵp arbenigol, ac yn croesawu eu hargymhellion gwerthfawr. Mae llawer o gamau gweithredu yn yr adroddiad yr ydyn ni eisoes yn eu rhoi ar waith, neu y byddwn ni'n gallu bwrw ymlaen â nhw'n gyflym.

Yn unol â'u hargymhellion, rwy'n falch o gadarnhau, hyd yn oed yn y cyfnod anodd hwn, ein bod ni'n diogelu cyllid y gaeaf hwn i'r rhai y mae'r argyfwng hwn yn effeithio arnyn nhw fwyaf. Byddwn ni'n cynnal ymgyrch arall 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' yr hydref hwn i annog pobl i fanteisio ar yr hyn y mae ganddyn nhw hawl iddo, gan gynnwys mentrau fel 'Help i Gynilo', ac i helpu i gefnogi pobl i wneud y mwyaf o'u hincwm. Byddwn ni'n bwrw ymlaen â'n hymrwymiadau i symleiddio'r system fudd-daliadau yng Nghymru i sicrhau bod budd-daliadau yng Nghymru yn cael eu darparu mewn modd tosturiol, yn seiliedig ar hawliau. Byddwn ni'n sicrhau ei bod hi'n haws defnyddio'r system, gan alluogi mwy o bobl yng Nghymru i fanteisio ar eu hawl i gymorth ariannol, gan gyflawni argymhellion y grŵp arbenigol a rhai Policy in Practice ar fudd-daliadau yng Nghymru.

Byddwn yn parhau i ariannu ein gwasanaethau cronfa gynghori sengl ac i weithio gyda'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau i ddarparu cyngor annibynnol a diduedd yng Nghymru. Ochr yn ochr â'n cynllun brecwast mewn ysgolion cynradd, rydyn ni'n parhau i gyflwyno prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd ac i gymryd camau i leihau cost y diwrnod ysgol a chost gwisgoedd ysgol ac yn parhau i ddarparu cynnyrch mislif am ddim ym mhob ysgol yng Nghymru.

Rydyn ni wedi cynyddu'n sylweddol y lwfans cynhaliaeth addysg ar gyfer myfyrwyr addysg bellach cymwys yn y chweched dosbarth neu'r coleg, ac wedi cynyddu cyfradd ein lwfans hyfforddi i bobl ifanc ar ein rhaglen Twf Swyddi Cymru+. Nod ein strategaeth drafnidiaeth Cymru, 'Llwybr Newydd', yw lleihau cost trafnidiaeth gynaliadwy a sicrhau ei bod ar gael yn haws i bawb yng Nghymru, gan gynnwys myfyrwyr. Ac rydyn ni wedi buddsoddi cyllid ychwanegol yn y grant atal digartrefedd a thrwy gymorth atal digartrefedd yn ôl disgresiwn i awdurdodau lleol i helpu i leihau effaith yr argyfwng costau byw ar y rhai a allai fod yn wynebu risg o ddigartrefedd, neu sy'n profi digartrefedd.

Bydd ein rhaglen Cartrefi Clyd newydd yn ein helpu ni i fynd i'r afael â thlodi tanwydd trwy wella effeithlonrwydd ynni'r cartrefi incwm isel lleiaf effeithlon yn thermol yng Nghymru. Ac rwyf wedi cyfarfod â darparwyr ynni ac Ofgem ar sawl achlysur, a byddaf yn parhau i weithio gyda nhw i sicrhau bod y rhai y mae costau ynni uchel wedi effeithio arnyn nhw fwyaf yn cael eu diogelu rhag arferion niweidiol y farchnad. Rwyf hefyd wedi dadlau dros gyflwyno tariffau cymdeithasol ynni a byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU ar y pwynt hwn.

Byddwn ni hefyd yn parhau i weithio'n agos gyda'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr, cwmnïau dŵr a rhanddeiliaid allweddol eraill i gyflwyno mesurau i helpu cwsmeriaid sy'n cael trafferth yn talu biliau dŵr. Mae Dŵr Cymru wedi arwain y ffordd drwy gyflwyno cynllun tariff fforddiadwy i aelwydydd lle mae o leiaf un oedolyn mewn cyflogaeth, ond sy'n ei chael hi'n anodd talu biliau hanfodol y cartref. Nid yw'r cwsmeriaid hyn yn gymwys i gael cymorth fel arfer ond maen nhw ymhlith y rhai sy'n wynebu anawsterau ariannol difrifol wrth i'r argyfwng costau byw barhau. Cafodd cynllun Cymuned ei gyflwyno i'w ardal weithredu gyfan ym mis Awst eleni, yn dilyn treial llwyddiannus yn RhCT a sir Ddinbych.

Dirprwy Lywydd, rydyn ni'n cytuno â'r grŵp arbenigol y bydd darparu dull cydweithredol a chydgysylltiedig ledled Cymru yn allweddol i gyflawni ein huchelgeisiau polisi o ran mynd i'r afael â'r pwysau parhaus o ran costau byw, ac yn ehangach ar dlodi plant. Yr wythnos diwethaf, fe wnes i gyfarfod â nifer o gyrff cyhoeddus ac awdurdodau lleol i drafod sut y gallwn ni alinio ein hymdrechion ataliol o ran tlodi plant yn well, gan gynnwys ein dyletswyddau priodol o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 i sicrhau ein bod ni'n darparu atebion cydweithredol i gael yr effaith fwyaf. Fodd bynnag, o ystyried y sefyllfa ariannol eithafol yr ydyn ni'n ei hwynebu, bydd rhai camau gweithredu a argymhellwyd gan y grŵp yn fwy heriol, a dim ond os bydd cyllid ychwanegol sylweddol ar gael y bydd modd eu rhoi ar waith. A bydd yr argymhellion mwy heriol hyn yn parhau i gael eu hystyried gan Weinidogion wrth i ni baratoi ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf.

Mae'r grŵp arbenigol hefyd wedi gwneud nifer o argymhellion i Lywodraeth y DU, i liniaru effeithiau'r argyfwng costau byw a datblygu cadernid ar gyfer y dyfodol. Wrth gwrs, byddwn ni'n codi'r rhain gyda Gweinidogion y DU, a byddwn i hefyd yn galw ar Aelodau'r Senedd yma heddiw i wneud yr un peth.

Yn olaf, hoffwn achub ar y cyfle hwn i fynegi ein diolch i'r holl weithwyr a gwirfoddolwyr rheng flaen sydd wedi gweithio mor ddiflino yn ystod y 18 mis diwethaf i helpu'r rhai y mae'r argyfwng costau byw wedi effeithio arnyn nhw fwyaf, o bawb sy'n darparu cyngor, i'r bobl sy'n rhoi o'u hamser yn rhydd i helpu mewn banciau bwyd a hybiau cynnes. Byddan nhw hefyd wedi bod yn cael trafferth gyda chostau cynyddol wrth roi cymorth i eraill. Diolch yn fawr.

16:35

Diolch am hynny. Yn sgil effaith fyd-eang y pandemig, ac yna rhyfel Putin yn Wcráin, gwelwyd cynnydd mewn chwyddiant, ac mae hon yn dreth ar incwm pobl, sy'n achosi pwysau ar gyllidebau aelwydydd, ac mae'n rhaid mynd i'r afael â hi. Pan welwyd cynnydd mewn chwyddiant domestig yn y 1970au, gwelwyd diwedd ar filoedd o fusnesau a miliynau o swyddi; yn wir, aeth y cwmni yr oedd fy nhad wedi gweithio iddo i'r wal yn 1978 oherwydd hyn.

Mae Llywodraeth bresennol y DU wedi darparu cymorth digynsail ar gyfer costau byw gwerth £3,300 fesul aelwyd ar gyfartaledd rhwng 2022 a 2024. Rhwng 31 Hydref a 19 Tachwedd, bydd miliynau o deuluoedd ar fudd-daliadau prawf modd yn cael ail daliad costau byw, sy'n gyfanswm o £900 ar draws tri thaliad. Bydd aelwydydd pensiynwyr cymwys hefyd yn cael taliad arall o £300 yn ddiweddarach eleni fel ychwanegiad at y taliad tanwydd gaeaf, a chafodd y rhai sy'n derbyn budd-daliadau anabledd daliad costau byw ychwanegol o £150 rhwng 20 Mehefin a 4 Gorffennaf. 

Ond nid yw pethau'n hawdd. Sut ydych chi'n ymateb i'r argymhelliad yn adroddiad grŵp arbenigol Cymru ar yr argyfwng costau byw a gafodd ei gyhoeddi heddiw, y gwnaethoch chi gyfeirio ato, fod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno taliad costau byw i bobl anabl ar sail rhandaliad? Mae'r grŵp arbenigol yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi'r rhaglen Cartrefi Clyd newydd ar waith ar frys, gan sicrhau bod y cynllun galw newydd yn cael ei gaffael ac yn cael ei roi ar waith y gaeaf hwn. Yn gynharach y mis hwn, gofynnais i chi am yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pryd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu lansio ei rhaglen Cartrefi Clyd newydd, gan gynnwys yr olynydd i gynllun tlodi tanwydd Nyth, gan dynnu sylw at alwad National Energy Action Cymru iddyn nhw fod yn weithredol cyn gynted â phosibl gan ein bod ni nawr yn agosáu at fisoedd y gaeaf. Yn eich ymateb, fe ddywedoch chi eich bod chi

'ar y trywydd cywir i ddyfarnu contract a dechrau ar y gwaith eleni.'  

Yn ymarferol, pryd fydd y cynllun felly'n dod yn gwbl weithredol?

Mae'r grŵp arbenigol hefyd yn argymell bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i sicrhau bod mwy o bobl yn manteisio ar grantiau, lwfansau a chymorth budd-daliadau sydd eisoes ar gael i aelwydydd. Yn gynharach eleni, fe dynnais i sylw at y nifer sy'n manteisio ar gynllun cymorth tanwydd Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23, a oedd yn cynnig taliad i aelwydydd incwm isel cymwys i'w helpu gyda chost gynyddol ynni. Fe wnaethoch chi gadarnhau mewn atebion ysgrifenedig i'm swyddfa bod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod hyd at £90 miliwn ar gael ar gyfer hyn, gan amcangyfrif y byddai tua 427,000 o aelwydydd yn gymwys. Fodd bynnag, fe wnaethoch chi hefyd gadarnhau wrth fy swyddfa, o 28 Chwefror eleni, fod llai na £65 miliwn wedi'i wario ar hyn, a bod awdurdodau lleol ledled Cymru wedi dweud, ar y pryd, mai dim ond 360,000 o aelwydydd oedd wedi gwneud cais i'r cynllun, ac mai dim ond 341,468 oedd wedi cael taliad, a oedd yn golygu bod 78,000 yn llai o aelwydydd nag yr oedd Lywodraeth Cymru wedi'u hamcangyfrif wedi manteisio ar y rhaglen honno ar y cam hwnnw, a bod £20 miliwn i £25 miliwn a oedd wedi'u dyrannu ar ei chyfer heb eu defnyddio. Felly, sut ydych chi wedi dysgu o hyn, a pha gamau, os o gwbl, sy'n cael eu gweithredu yn unol â hynny i fodloni'r argymhelliad y cyfeiriwyd ato?

Nododd adroddiad Sefydliad Bevan ym mis Ebrill, 'Dull cyffredin o ymdrin â budd-daliadau Cymru', eu bod wedi galw ers tro am un fframwaith o grantiau a lwfansau a fyddai'n cael ei alw'n system budd-daliadau Cymru ar gyfer yr holl fudd-daliadau y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanyn nhw, a bod eu canfyddiadau'n dangos bod sefydlu system budd-daliadau Cymru yn ymarferol o ran data, ac y gallai miliynau o bunnoedd o fudd-daliadau heb eu hawlio gefnogi'r rhai ar incwm isel. Ychwanegon nhw fod y rheoliadau sy'n llywodraethu budd-daliadau Cymru yn cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru, felly mae o fewn ei phŵer i gyflwyno diwygiadau rheoleiddio i hwyluso mwy o unffurfiaeth.

Mae'r grŵp arbenigol yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cymryd y camau nesaf tuag at system budd-daliadau Cymru, drwy gyflwyno dulliau cyffredin o ymdrin â chymhwystra, ymgeisio a dilysu tystiolaeth, wedi'u gweithredu drwy weithio gydag awdurdodau lleol a chyrff eraill, i ganolbwyntio ar yr asesiad cymhwystra a'r targedu. Er eich bod chi'n cyfeirio at hyn yn eich datganiad, pam nad ydych chi'n ymrwymo i system budd-daliadau Cymru y mae cynifer o bobl wedi bod yn galw amdani cyhyd?

Mae'r grŵp arbenigol yn cyfeirio at gyhoeddi strategaeth tlodi plant newydd i Gymru, sydd yn ei chyfnod ymgynghori ar hyn o bryd. Sut, felly, ydych chi'n ymateb i'r datganiad ddoe yn y pwyllgor gan Gomisiynydd Plant Cymru, nad oes gan y strategaeth ddrafft, ac rwy'n dyfynnu, 'uchelgais, eglurder na manylder'?

Yn olaf, ac mae'n rhaid i mi ddweud hyn, o ystyried y datganiad gan Fforwm Economaidd y Byd bod cost gynyddol bwyd ac ynni yn effeithio ar bobl ledled y byd, bod chwyddiant ar hyn o bryd yn uwch mewn 16 o wledydd Ewropeaidd, a bod cyfraddau llog ar hyn o bryd yn uwch mewn 12 o wledydd Ewropeaidd a 10 o wledydd eraill y G20 o gymharu â'r DU, ai dim ond person twp iawn fyddai'n honni bod yr argyfwng costau byw wedi'i greu yn San Steffan? Diolch yn fawr.

16:40

Diolch yn fawr, Mark Isherwood. Yn eich sylwadau agoriadol, rydych chi'n nodi'r cyd-destun byd-eang heriol. Ond, wrth gwrs, y gwir amdani yw bod gan Lywodraeth y DU yr ysgogiadau a'r pwerau allweddol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.

Rwyf wedi croesawu'r adroddiad gan ein grŵp cynghori arbenigol, ac rwyf wedi gwneud sylwadau yn fy natganiad ar lawer o'r argymhellion hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n werth ystyried yr argymhelliad cyntaf oll, sydd mewn gwirionedd yn ymwneud â lle y gall Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithio gyda'i gilydd. Mae'r argymhelliad hwnnw'n nodi y dylen ni fod yn cymryd camau i sicrhau bod mwy o bobl yn manteisio ar y grantiau, lwfansau a chymorth budd-daliadau sydd eisoes ar gael i aelwydydd.

Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod, ac yn sicr mae'r dystiolaeth yno, mai cynyddu incwm i'r eithaf a hawlio budd-daliadau yw'r gweithgaredd allweddol, yr ydyn ni'n ei gyflawni trwy ein cronfa gynghori sengl. Mae'n fodel cyflawni arloesol iawn, fel y gwyddoch chi, gyda'r holl bartneriaid cynghori a mynediad. Yr hyn sy'n hanfodol am hynny yw, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, nododd dros 80 y cant o bobl a ddefnyddiodd gwasanaethau'r gronfa gynghori sengl eu bod yn dod o grŵp poblogaeth y mae'r argyfwng costau byw yn effeithio arno fwyaf. Mae hynny'n cynnwys pobl hŷn, pobl anabl, a phobl o gymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.

Ond, mewn gwirionedd, ers mis Ionawr 2020, mae'r gwasanaethau cronfa gynghori sengl hynny wedi helpu pobl i hawlio incwm ychwanegol gwerth cyfanswm o £83 miliwn. Dyna ganlyniad ein hymgyrch hawlio. Rydyn ni wedi annog Llywodraeth y DU i arwain ymgyrch ar hawlio budd-daliadau ledled y DU, gan ddysgu gwersi o'r gwaith rhagorol sy'n cael ei gyflawni gan y Llywodraethau datganoledig, yr ydyn ni'n parhau i'w ddatblygu.

Rydych chi'n codi cwestiwn pwysig am y rhaglen Cartrefi Clyd. Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth o ran datganiadau gan y Gweinidog Newid Hinsawdd. Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n parhau i roi cyngor am ddim ar fesurau arbed ynni i bawb sydd ei angen, ac i gyfeirio aelwydydd at gymorth. Rydych chi'n gwybod, mewn gwirionedd, y bydd iteriad nesaf y rhaglen Cartrefi Clyd yn canolbwyntio ar y gwaethaf yn gyntaf, sy'n golygu y bydd teuluoedd cymwys sy'n byw yn y cartrefi lleiaf effeithlon o ran ynni yn cael cymorth i wella adeiledd eu cartrefi a gwelliannau i'w systemau gwresogi.

Dyna pam rwy'n credu ei fod mor siomedig—ac roeddwn i'n falch o fod yno i glywed y datganiad llafar a gafodd ei wneud gan y Gweinidog Newid Hinsawdd—ein bod ni'n teimlo eu bod yn tynnu'n ôl ar lawer o'r ymrwymiadau sy'n arbennig o bwysig o ran sicrhau ein bod ni'n symud ymlaen i gyflawni'r cartrefi ynni effeithlon hynny, sydd, wrth gwrs, yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd, sy'n flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon.

Mae'n rhaid i ni hefyd ystyried yr amgylchiadau penodol yng Nghymru—y gyfran uchel o eiddo oddi ar y grid, sy'n fwy tebygol o gael eu meddiannu gan deuluoedd incwm isel. Mae'n bwysig cydnabod hefyd y bydd y cynllun grant cartrefi gwag gwerth £50 miliwn yn sicrhau bod 2,000 o eiddo gwag hirdymor yn cael eu defnyddio unwaith eto. Ac wrth gwrs, o ran y rhaglen Cartrefi Clyd, rydych chi'n gwybod hefyd ei bod wedi mynd allan i dendr. Yn wir, mae cyngor effeithlonrwydd ynni yn parhau i fod ar y trywydd cywir. Mewn gwirionedd, mae dyfarnu'r contract a rhaglen dendro Cartrefi Clyd yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd.  

Mae'n bwysig ein bod ni'n ystyried ac yn croesawu'r argymhellion yn fawr o ran siarter budd-daliadau Cymru. A gaf i ddweud bod hyn yn rhywbeth yr ydyn ni bob amser wedi'i gefnogi? Rydyn ni'n cyflymu ein gwaith i ddatblygu system budd-daliadau gydlynol i Gymru. Rhan ganolog o'r gwaith hwnnw yw creu'r siarter ar gyfer darparu budd-daliadau Cymru, megis cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor a phrydau ysgol am ddim. Ond mae'n fformat drafft, mae'n gyfres o egwyddorion sylfaenol i sicrhau bod budd-daliadau Cymru yn cael eu darparu mewn modd tosturiol, yn seiliedig ar hawliau, a byddwn ni, gyda'r siarter, yn gwella hygyrchedd y system. Rydyn ni'n gweithio, wrth gwrs, i gyflawni adroddiad Policy in Practice, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mawrth, 'Dull cyffredin o ymdrin â budd-daliadau Cymru: Astudiaeth dichonoldeb', y gwaith a gafodd ei gomisiynu gan Sefydliad Bevan. Roeddwn i'n falch iawn o gael yr adroddiad hwnnw gydag Aelod dynodedig—sy'n rhan bwysig o'n cytundeb cydweithio—i ystyried y ffordd ymlaen.

Mae'n bwysig ein bod ni'n bwrw ymlaen â hyn o ran y cyfrifoldebau sydd gennym ni yng Nghymru, oherwydd fel y dywedais i yn fy natganiad, byddwn ni'n defnyddio'n hysgogiadau a'n pwerau ni i wneud yr hyn a allwn ni. Ond rwy'n siŵr y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd, Mark Isherwood, yn yr adroddiad gan Bwyllgor Diogelwch Ynni a Sero Net San Steffan, ei adroddiad 'Paratoi ar gyfer y gaeaf', sydd newydd gael ei gyhoeddi. Mae'n rhaid i mi ddweud mai un o'r pethau allweddol y maen nhw wedi'i ddweud yn eu hargymhelliad yw bod aelwydydd sy'n agored i niwed yn wynebu her wirioneddol o ran arbedion ynni a bod angen mwy o gartrefi ac offer ynni-effeithlon, ac maen nhw hefyd yn galw o ran yr angen am dariff cymdeithasol, yr ydym ni, wrth gwrs, yn galw amdano hefyd, ond hefyd fod angen mwy o gefnogaeth ar aelwydydd sy'n agored i niwed.

16:45

Diolch am y datganiad ac am waith y grŵp arbenigol. Mae'n amlwg i ni i gyd, rwy'n credu, yn y Siambr hon a phawb y tu hwnt iddi fod angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithredu ar frys i gefnogi'r miloedd lawer o aelwydydd ledled Cymru y mae'r gaeaf hwn yn mynd i fod yr un mor anodd os nad yn anos na'r llynedd iddyn nhw. Rydyn ni'n gwybod bod cyllid yn dynn i Lywodraeth Cymru oherwydd y setliad annheg yr ydyn ni'n ei gael gan San Steffan, yn rhannol, ac rydyn ni hefyd yn gwybod bod Llywodraeth Dorïaidd y DU yn poeni mwy am ennill etholiadau nag y maen nhw am anghenion pobl Cymru.

Ond gan droi at adroddiad y panel arbenigol a'ch datganiad, does dim byd newydd yma, mewn gwirionedd, oes yna? Mae tlodi yng Nghymru wedi cael ei waethygu—ydy, gan ddewisiadau gwleidyddol a datblygiadau macro-economaidd, ond dydy e' ddim yn rhywbeth newydd. Ac mae'r methiant i fynd i'r afael ag ef dros ddegawdau, mewn gwirionedd, wedi gwneud yr argyfwng costau byw presennol yn fwy acíwt a difrifol i aelwydydd Cymru. Ac nid yw neges y grŵp arbenigol yn un newydd. Rydyn ni wedi cael gwybod drosodd a throsodd, gan sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth Cymru, Sefydliad Bevan, y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, National Energy Action—gallwn i fynd ymlaen ac ymlaen—bod nifer y bobl sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol yn parhau i fod yn eithriadol o uchel; gallai'r lefelau caledi y bydd pobl yn eu hwynebu'r gaeaf hwn fod yn sylweddol oni bai bod newid wrth gwrs o bob haen o'r llywodraeth, neu welliant mawr yn sefyllfa ariannol pobl.

Nid yw'r argymhellion yn rhai newydd, chwaith. Mae Plaid Cymru wedi bod yn cefnogi llawer ohonyn nhw ac yn dadlau drostyn nhw ac wedi bod yn gofyn i Lywodraeth Cymru eu hystyried, oherwydd mae'r rhain yn fesurau y profwyd eu bod yn lleihau tlodi. Er enghraifft, mae gennym ni'r prydau ysgol am ddim,  o'r diwedd, mewn ysgolion cynradd, diolch i'r cytundeb cydweithio, a'r grŵp arbenigol yn siarad am ymestyn prydau ysgol am ddim i ddisgyblion uwchradd; cludiant bws am ddim i bobl ifanc; taliad plant Cymru—roedd hynny yn ein maniffesto diwethaf; gwell data ar dlodi croestoriadol ac ar ddarparu mesurau costau byw. Cefais i wybod yn ddiweddar na all Llywodraeth Cymru, er enghraifft, ddarparu data ar dlodi plant yng Nghymru wedi'i drefnu yn ôl ethnigrwydd hyd yn oed. Felly, beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â hynny, Gweinidog, oherwydd mae'r uned data cydraddoldeb wedi bod yn weithredol ers dros flwyddyn nawr ac nid oedd sôn am hynny yn eich datganiad?

Ac yna, yr angen am system budd-daliadau Cymru, wrth gwrs. O ran hynny, fel rhan o'n gwaith craffu ar strategaeth tlodi plant ddrafft y Llywodraeth yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ddoe, gwnaethon ni glywed gan nifer o dystion o ran sicrhau bod y cymorth sydd ar gael yn cyrraedd y rhai sydd â hawl i'r cymorth hwnnw yn awtomatig. Nid oes angen ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth arnom; mae angen i'r arian hwn gyrraedd eu pocedi heb fod angen iddyn nhw fynd drwy'r felin, pan fydd ganddyn nhw ddigon i ymdopi ag ef, o ran rhoi bwyd ar y bwrdd. Dywedodd yr holl dystion ddoe fod hyn yn gwbl allweddol, ac mae'n rhywbeth rwy'n ei godi'n gyson gyda chi, Gweinidog.

Amcangyfrifwyd y gallai gwella mynediad i'r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol roi £75 miliwn ychwanegol ym mhocedi teuluoedd yng Nghymru, gan eu helpu nhw nid yn unig i oroesi'r gaeaf caled hwn, ond i'w hatal rhag syrthio i dlodi yn y lle cyntaf. Felly, pa gynnydd sydd wedi'i wneud, oherwydd mae'n nosi'n gynt, mae'n troi'n oerach, nid yw'r cynnydd mewn biliau, er ei fod yn arafu, yn mynd i ostwng? Mae'r gwaith hwn eisoes wedi bod yn druenus o araf, ac rwy'n nodi ei fod yn dweud yn yr adroddiad mai'r mesurau tymor canolig yw'r rhain, Mawrth 2024 i 2026. Rydyn ni wedi cael yr adroddiad hwnnw gan Policy in Practice ers mis Mawrth, ac mae'r syniadau wedi cael eu trafod ers ymhell cyn hynny.

Gan droi wedyn at fynd i'r afael â thlodi plant yn benodol, wnaethoch chi ddim ymateb i gais Mark Isherwood i chi ymateb i ddisgrifiad y comisiynydd plant o strategaeth tlodi plant ddrafft Llywodraeth Cymru fel un sydd

'wir yn dangos diffyg uchelgais...camau gweithredu manwl, amserlenni a thargedau cyflawnadwy y byddai modd eu defnyddio i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.'

Roedd y comisiynydd yn rhan o'r grŵp arbenigol, Gweinidog. Felly, a wnaethoch chi wrando arni hi? Os felly, pam y dywedodd hi wrthyn ni ei bod hi'n teimlo bod yn rhaid iddi wneud yr ymateb diamwys hwn i'r ymgynghoriad ar y strategaeth ddrafft, oherwydd cafodd ei llywio gan y neges gan bobl ifanc a phlant yr oedd ei swyddfa wedi ymgysylltu â nhw, gan gynnwys 8,000 a oedd wedi cymryd rhan yn ei harolwg blynyddol, oherwydd dywedodd hi wrthyn ni eu bod nhw wedi dweud wrthi hi'n glir iawn bod tlodi yn effeithio ar eu bywydau? Felly, sut mae lleisiau'r bobl ifanc hynny a'u teuluoedd yn bwydo i mewn i ymateb y Llywodraeth i galedi economaidd?

Fe wnaeth y comisiynydd plant gwestiynu eglurder, cydlyniad ac uchelgais y strategaeth tlodi plant ddrafft. Fe wnaeth hi geryddu'r Llywodraeth am ddiffyg mecanweithiau atebolrwydd yn y strategaeth ddrafft. Roedd cryfder ei thystiolaeth, gyda chefnogaeth arbenigwyr eraill, yn drawiadol ac yn ddiamwys. Felly, a ydych chi'n cytuno â hi ein bod ni mewn cyfnod o argyfwng a bod angen strategaeth tlodi plant gydlynol a chadarn arnom, yn ei geiriau hi, sy'n gliriach ac yn ddewrach i sicrhau nad yw plant a phobl ifanc yn colli allan ar yr hawliau sydd ganddyn nhw o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn? Pam oedd y strategaeth ddrafft hon mor brin o uchelgais, oherwydd, yn syml, nid yw'n ddigon da i'r Llywodraeth hon laesu'u dwylo? Mae'r panel arbenigol yn ei gwneud hi'n glir bod yna bethau y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud nawr ac nid oes unrhyw esgusodion.

16:50

Diolch yn fawr, Sioned Williams. Rydych chi'n hollol gywir, mae angen i ni weithredu ar frys, a dyna rydyn ni'n ei wneud. Rydyn ni'n delio ac yn gweithredu ar frys gyda'r ysgogiadau, y pwerau a'r cyfrifoldebau sydd gennym, ond o fewn sefyllfa ariannol anodd iawn, fel y gwnaethoch chi gydnabod o ran yr heriau sydd gennym o ganlyniad i'r sefyllfa ariannol eleni. Nid dim ond oherwydd y chwyddiant uchel iawn mae hyn ond, yn wir, oherwydd y sefyllfa ariannol honno yr ydym ynddi ar ôl cyllideb y gwanwyn gyda, fel y dywedais i yn fy natganiad, £900 miliwn yn is mewn termau real na'r hyn yr oeddem yn ei ddisgwyl ac, yn wir, yr hyn sydd ei angen ar Gymru ar adeg yr adolygiad diwethaf o wariant. Mae llai o gyllid i wneud y pethau yr ydym am eu gwneud, yr ydym wedi'u gwneud yn llwyddiannus o ran cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, ac i edrych ar yr hyn sy'n gweithio a sut y gallwn ni barhau i gyflawni hynny a hefyd symud ymlaen ar y newidiadau nad oes angen cyllid arnyn nhw o reidrwydd, ond sydd angen y math o gydweithio a gweithio mewn partneriaeth sydd, wrth gwrs, yn argymhelliad allweddol.

Felly, roeddwn i eisiau sôn am un maes blaenoriaeth rydych chi'n gwybod ein bod ni wedi gweithio'n galed i'w ddiogelu, ac, yn wir, i'w wella, sef y gronfa cymorth dewisol sy'n parhau i gynyddu. Mae mwy a mwy o bobl yn troi at y gronfa am gymorth ariannol. Yn wir, erbyn mis Awst, roedd 72,000 o bobl wedi defnyddio'r gronfa cymorth dewisol. Fe wnaethom ni sicrhau bod yr £18.8 miliwn ychwanegol yna ar gael. Dyma'r hyn sydd ei angen ar bobl ar adeg o argyfwng, y taliadau brys hynny, yr arian sydd ei angen arnyn nhw yn eu pocedi i dalu am hanfodion sylfaenol. A hefyd y ffaith, o 1 Ebrill, ein bod ni wedi cynyddu'r taliadau hynny mewn gwerth 11 y cant yn unol â chwyddiant i roi cymaint o gymorth ag y gallwn ni ar gyfer y costau byw sylfaenol hynny fel bwyd a thanwydd, a £10.5 miliwn mewn grantiau eisoes, ac, fel y dywedais i, dros £5 miliwn mewn taliadau arian parod. Felly, rwy'n credu bod y gronfa cymorth dewisol yn arwydd pwysig iawn o'r cymorth rydyn ni'n ei roi i'r rhai sydd fwyaf agored i niwed.

Ond mae'n bwysig dweud, o ran y gwaith, argymhellion pellach sy'n dod drwodd, a chydnabyddiaeth o dystiolaeth: cafodd y rhain eu cymryd gan academyddion o'r sefydliadau rydym yn cydweithio'n agos â nhw, gan gynnwys Sefydliad Bevan, Cyngor ar Bopeth, National Energy Action, ac yn wir, comisiynwyr. Wrth gwrs, mae'r dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio wedi'i nodi mewn gwirionedd yn y polisïau yr ydym yn eu cyflawni. Wrth gwrs, mae angen mwy o gyllid arnom i'n galluogi i estyn allan. Gallwn ni ddim gwneud hynny ar hyn o bryd; does dim arian i'n helpu i ddarparu'r taliadau hynny, ond fel y dywedais i, mae'n rhaid i ni edrych ar hyn, mae'n rhaid i ni edrych ar yr argymhellion ac ystyried y rheini o safbwynt lle rydym yn gobeithio y gallem fod o ran rhagolygon ariannol yn y dyfodol gyda'n cyllid cyhoeddus.

A gaf i roi sicrwydd i'r Aelodau ar yr adroddiad Policy in Practice? Yn wir, pan wnaethom gyfarfod â'r rhai a ddatblygodd yr adroddiad gyda Sefydliad Bevan, fe ddywedon nhw fod Cymru mewn sefyllfa ardderchog i fwrw ymlaen â'r gwaith. Fe ddywedon nhw fod llawer o arferion da o fewn modelau darparu awdurdodau lleol y gellir adeiladu arnyn nhw, ac rydym yn gweithio'n gyflym, fel y dywedais i yn fy natganiad, i gyflawni'r hyn a nodir yn yr adroddiad Policy in Practice.

Nawr mae'n bwysig, ac ymddiheuriadau na wnes i, oherwydd fe ges i lawer o gwestiynau gan Mark Isherwood, ond rydw i eisiau ymateb ar y strategaeth tlodi plant a chydnabod—ac fe wnaeth y Prif Weinidog hynny hefyd yn gynharach heddiw—bwysigrwydd yr holl leisiau a'r holl dystiolaeth, sy'n annibynnol, wrth gwrs, a dyna pam mae gennym gomisiynydd plant. Roeddwn i'n falch iawn mai fi oedd y Gweinidog a benododd, a helpodd, gyda'r bobl ifanc, i benodi'r comisiynydd plant cyntaf yr holl flynyddoedd hynny yn ôl, oherwydd mae angen y lleisiau annibynnol hynny arnom.

Ond rwy'n credu mai'r hyn sydd wedi bod yn bwysig am y strategaeth tlodi plant hon yw mai cyflawni'r Mesur yw'r diben, fel y dywedais i yn fy natganiad. Cyn y strategaeth, cafwyd y cyfnod ymgysylltu hwnnw â phobl ifanc, a gwnaethom siarad â mwy na 3,000 o bobl i sicrhau bod ein hamcanion yn cyd-fynd â phrofiadau pobl ledled Cymru. Wrth gwrs, roedd yn cynnwys plant a phobl ifanc, teuluoedd a chymunedau, sefydliadau sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, plant a phobl ifanc â nodweddion gwarchodedig—fe wnaethom ni roi grantiau i sefydliadau gael yr ymgysylltiad hwnnw—a'r adborth a gawsom o'r ymgynghori hynny cyn y strategaeth ddrafft oedd 'Rydym am i chi wneud yr hyn rydych chi'n ei wneud, parhau i'w wneud, ei ddyfnhau lle y gallwch chi o ran cyllid a pholisi', a dyna sut y gwnaethom ni feddwl am y pum amcan, blaenoriaeth ac ymrwymiad lefel uchel hynny. Fe wnaethon ni gau'r ymgynghoriad ar 11 Medi. Rydym wedi cael ymateb da iawn i'r ymgynghoriad, gan gynnwys, wrth gwrs, ymateb gan yr holl sefydliadau hynny sydd wedi cymryd rhan mor llawn ynddo. Rwy'n credu ein bod ni wedi cael dros 150 o ymatebion, mewn gwirionedd, i'r ymgynghoriad.

Yr wythnos diwethaf, fe wnes i gadeirio uwchgynhadledd gydag awdurdodau lleol a hefyd gyda chyrff cyhoeddus, oherwydd mai ganddyn nhw ddyletswydd—dyletswydd gyffredin ydyw, dyletswydd i fynd i'r afael â thlodi plant—a chawsom ymatebion rhagorol gan arweinwyr llywodraeth leol ledled Cymru, dan arweiniad yr aelod cabinet dros gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ar gyfer Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a siaradodd am sut yr oedden nhw'n cyflawni'r ddyletswydd statudol honno i fynd i'r afael â thlodi plant, ac a roddodd enghreifftiau rhagorol o sut yr oedden nhw'n gweithio gyda'i gilydd ar y materion hyn.

Credaf ei bod yn bwysig bod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn cynnal yr ymchwiliad hwn, ac rydym yn edrych, wrth gwrs, ar yr ymatebion i'r strategaeth tlodi plant ddrafft. Bwriedir iddi fod yn strategaeth 10 mlynedd. Mae'n gosod y cyfeiriad strategol i ni a Llywodraethau dilynol fynd i'r afael â thlodi plant. Ond mae'n bwysig ein bod ni'n buddsoddi yn yr heriau uniongyrchol y mae plant a phobl ifanc a theuluoedd yn eu hwynebu.

Mynd i'r afael â chost y diwrnod ysgol, dydy hynny ddim wedi cael ei grybwyll, ac mae'n rhan hanfodol bwysig o'r gweithredu trawslywodraethol; darparu cyngor a chefnogaeth; cymorth bwyd brys; ac rwy'n falch iawn fy mod i'n mynd i fod yn siarad yn niwrnod gwerthuso Big Bocs Bwyd yn ddiweddarach yr wythnos hon i gydnabod yr holl fentrau arloesol hynny sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth yn ein hysgolion erbyn hyn. Rwy'n falch iawn o'r gwaith y maen nhw wedi'i wneud, y gwnaethom roi cymorth ariannol ar ei gyfer, i fwrw ymlaen â hyn.

Ond mae'n bwysig ein bod ni'n ystyried yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad ar y strategaeth tlodi plant, ein bod ni'n gweithio'n gyflym ar yr adroddiad Polisi mewn Ymarfer, ein bod ni'n diogelu ein cronfa cymorth dewisol, a'n bod ni hefyd yn cydnabod yr hyn y mae Llywodraeth y DU—. Ac rwy'n siŵr y byddech chi hefyd yn ymuno â chydweithwyr yn San Steffan, a alwodd am becyn o gymorth wedi'i dargedu gan Lywodraeth y DU ar gyfer grwpiau agored i niwed ac am ddull mwy rhagweithiol a mwy empathig tuag at wasanaeth cwsmeriaid gan gwmnïau ynni. Byddaf yn cwrdd â chwmnïau ynni yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf hefyd i wneud y pwyntiau hyn, ond rwyf hefyd yn codi'r materion hyn gyda Llywodraeth y DU yn uniongyrchol, yn enwedig yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net, oherwydd mae'n rhaid iddyn nhw symud ymlaen ar y tariff cymdeithasol ar gyfer marchnad ynni decach i'n defnyddwyr ac i'r defnyddwyr mwyaf agored i niwed yng Nghymru.

17:00

Gweinidog, rwy'n ddiolchgar am eich datganiad y prynhawn yma ac, mae'n rhaid i mi ddweud, eich arweinyddiaeth gyson trwy gydol y cyfnod anodd hwn o'r argyfwng costau byw.

Gweinidog, fe fyddwch chi'n gwybod fy mod i wedi treulio llawer o'r gaeaf diwethaf yn tynnu sylw at ymddygiad gwael cyflenwyr ynni a'r effaith a gafodd ar rai o'n haelwydydd mwyaf agored i niwed yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig. Mae trigolion y gogledd yn parhau i gael eu siomi gan y cyflenwyr, maen nhw'n parhau i gael eu siomi gan y rheoleiddiwr, Ofgem, ac maen nhw'n parhau i gael eu siomi gan Lywodraeth y DU, sydd i gyd wedi methu â gweithredu o ran taliadau sefydlog. Mae trigolion y gogledd yn talu'r taliadau sefydlog uchaf am drydan unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Mae hynny dros £80 y flwyddyn yn fwy na thrigolion sy'n byw yn Llundain. Mae hyn yn £80 y flwyddyn yn fwy nag y gall fy nhrigolion yn y gogledd ei fforddio yn ystod yr argyfwng costau byw hwn. Y gwir amdani yw ei fod yn argyfwng costau byw sydd nid yn unig wedi cael ei wneud yn San Steffan ond sydd wedi cael ei waethygu yn San Steffan gan ddiffyg gweithredu gan y Llywodraeth Geidwadol.

Gweinidog, nid yw hwn yn fater sydd wedi'i ddatganoli. Mae hwn yn fater i San Steffan. Rwy'n siŵr y bydd pob cyd-Aelod ar draws Siambr y Senedd hon, yn enwedig y rhai sy'n cynrychioli trigolion yn y gogledd, yn awyddus i ymuno â mi i anfon neges drwodd, trwoch chi yn eich sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU a'r Grid Cenedlaethol, bod angen newid arnom mewn perthynas â thaliadau sefydlog, a bod angen gostyngiad yn y taliadau sefydlog ar gyfer trigolion yn y gogledd. Ydych chi'n cytuno?

Rwy'n cytuno'n llwyr, a diolch i Jack Sargeant eto am y sêl ymgyrchol a'r dylanwad y mae wedi'i gael wrth godi'r materion hyn. Mae'n bwysig hefyd eich bod chi'n tynnu sylw eto, ac mae wedi cael ei drafod yn y Siambr hon, at y ffordd annheg y mae trigolion y gogledd yn wynebu'r taliadau sefydlog uchaf hefyd. Unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdano o ran y camau y gallan nhw eu cymryd, ond felly hefyd gyflenwyr ynni. Rwyf wedi siarad â chyflenwyr ynni hefyd am y taliadau sefydlog. Mae rhai ohonyn nhw'n dweud eu bod nhw'n cytuno y dylen ni symud i ffwrdd oddi wrth y taliadau sefydlog hynny. Ac unwaith eto, mae adroddiad pwyllgor dethol San Steffan, yr wythnos hon yn unig, hefyd yn codi mater annhegwch taliadau sefydlog.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig, unwaith eto, pan ofynnir i mi a phan gaf fy herio'n hollol gywir am, 'Wel, beth ydych chi'n ei wneud yng Nghymru a beth allwn ni ei wneud?', yn enwedig ac nid yn unig, os mynnwch chi, o ystyried cryfder cyfrifoldeb gweinidogol—. Rwy'n mynd i fod yn ysgrifennu ac rwy'n gobeithio cwrdd â'r ysgrifennydd newydd dros ynni a sero net, Claire Coutinho, i godi'r materion penodol ynglŷn â thaliadau sefydlog yn y gogledd, ond hefyd gydag Ofgem yn ogystal, ac i gwrdd â'r darparwyr ynni hynny. Rydyn ni wedi galw hefyd—ac rwy'n gwybod y byddech chi'n fy nghefnogi ar hyn—yn gyson i Lywodraeth y DU ac Ofgem gyflwyno'r tariff cymdeithasol, a byddaf yn codi hynny hefyd gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros ynni a sero net. Dyma'r cynnydd uchaf ym Mhrydain o ran taliadau sefydlog eto, cynnydd o 102 y cant, tra bod y de yn wynebu taliadau sefydlog sy'n codi 94 y cant, y pedwerydd uchaf ym Mhrydain. Mae angen i hyn fynd nawr i Lywodraeth y DU fel anghyfiawnder i Gymru. Ond mae'r hyn y gallwn ni ei wneud o ran y gefnogaeth i'n talebau Sefydliad Banc Tanwydd, sy'n cael eu defnyddio ledled Cymru erbyn hyn, yn enwedig mewn ardaloedd oddi ar y grid, yn gwneud gwahaniaeth, ochr yn ochr â'n cronfa cymorth dewisol.

17:05

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, rhaid imi adleisio sylwadau Sioned Williams. Ydyn, rydym yn deall yr argymhellion yma, ond mae'n bryd i ni weld gweithredu. Fy nghwestiwn i yw sut y byddwch chi'n ymateb yn llawn i bob un o'r argymhellion. Oherwydd rwyf wedi nodi rhai o'r pethau rydych chi wedi'u codi yma. Rydych chi wedi dweud nad yw rhai yn bosibl. Rwy'n credu y byddai'n wych cael eglurder o ran ymateb manwl yn ysgrifenedig, gan danlinellu beth yw eich ymateb i bob argymhelliad, pa un rydych chi'n bwrw ymlaen ag ef, a'r ystyriaeth. Oherwydd mae nifer ohonyn nhw'n rhai allweddol, fel prydau ysgol am ddim dros wyliau'r ysgol ac ymestyn rhaglenni bwyd a hwyl. Mae'r rhain yn gwestiynau y mae sefydliadau rydych chi wedi diolch iddyn nhw'n gywir yn ysu i gael gwybod yr atebion iddyn nhw, oherwydd mae hynny'n cael effaith uniongyrchol ar sut maen nhw'n gweithredu, faint o wirfoddolwyr sydd eu hangen arnyn nhw ac yn y blaen.

Mae gen i ddigwyddiad rhwydwaith costau byw arall ar ddod, ac un o'r pethau sydd wedi codi'n gyson, sydd hefyd yn cael ei adleisio yn yr adroddiad hwn, yw'r ffaith bod cymorth ar gael, ond mae llawer ohono yn ad hoc, mae rhywfaint ohono'n cael ei dynnu i ffwrdd ar y funud olaf—yr anghysondeb hwnnw, a rhywbeth sy'n dod drwyddo yn yr argymhellion. Ond yr hyn yr hoffwn allu rhoi gwybod i'r sefydliadau hynny yw beth yn union sy'n digwydd, ac nid wyf yn glir o'ch datganiad heddiw sut y gallwn ni, mewn gwirioneddol, fwrw ymlaen â'r argymhellion hyn, bod yn onest am y cymorth sydd ar gael, ond hefyd sicrhau bod y cymorth sydd ar gael yn cyrraedd pobl, ac nad oes unrhyw ddryswch ymhlith y sefydliadau sydd, mewn gwirionedd, ar y rheng flaen yn cefnogi pobl.

Diolch yn fawr iawn, Heledd Fychan. Fel y dywedais i yn fy natganiad, roedd yn bwysig iawn i ni gyhoeddi'r adroddiad heddiw, ac fe wnes i ei rannu gyda chi yn gynharach heddiw. Ac fe welwch chi o'r argymhellion bod yna lawer—ac rwyf wedi gwneud sylwadau arnyn nhw—rydym yn eu cyflawni eisoes mewn gwirionedd, ond maen nhw'n argymhellion pwysig iawn, y gallaf ymateb iddyn nhw yn llawnach nawr eu bod nhw ar gael i ni ac rwyf wedi gwneud y datganiad cychwynnol hwn.

Hefyd, dim ond i ddweud bod grŵp cyfeirio allanol wedi bod ar gyfer y strategaeth tlodi plant, ac rwy'n credu bod yr argymhellion a'r ffordd yr ydym yn gweithredu yn cyd-fynd i raddau helaeth â'n strategaeth tlodi plant. Rwy'n credu bod hwnnw'n gyfrwng a fydd yn ein helpu i fwrw ymlaen â hyn a rhoi'r ymateb llawn hwnnw. Ond yn ystod yr haf, ymwelais i hefyd â nifer o brosiectau ledled Cymru a chwrdd â phobl sydd â phrofiad bywyd o dlodi. Fe wnes i wrando arnyn nhw'n sôn am eu blaenoriaethau yn ogystal â'u hanghenion. Mae cyflwyno prydau ysgol am ddim, sydd, wrth gwrs, yn rhan mor bwysig o'n cytundeb cydweithio, eisoes yn gwneud cymaint o wahaniaeth, ac yn cyrraedd cynifer. Ond dylid nodi hefyd fod yna gydnabyddiaeth eisoes bod rhywfaint o'r gwaith trawslywodraethol yr ydym yn ei wneud yn gwneud gwahaniaeth.

Wrth gwrs, oes, mae yna bethau sy'n digwydd o ganlyniad i ystyriaethau polisi a'n gwaith gyda'n gilydd sy'n amlwg iawn yn gwneud gwahaniaeth ar draws yr holl feysydd polisi hynny. Dydw i ddim wedi gallu ymateb i bob un ohonyn nhw heddiw. Rwy'n credu bod ein his-bwyllgor Cabinet ar gostau byw yn mynd i edrych yn llawn ar yr adroddiad hwn nawr, ond rwy'n falch fy mod i wedi gallu ei rannu gyda chi cyn gynted â phosibl heddiw i sicrhau ein bod yn cydnabod pwysigrwydd yr argymhellion hyn a bod hynny'n cael ei gofnodi. Rydym yn cyflawni llawer ohonyn nhw, ac rydym yn galw ar Lywodraeth y DU, a gobeithio y byddwch chi'n ymuno â ni, i ymateb mewn gwirionedd i'r argymhellion sy'n galw yn benodol am weithredu gan Lywodraeth y DU ac yn wir gan awdurdodau lleol hefyd.

7. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth: Cadw: Ennyn diddordeb cymunedau mewn treftadaeth

Yr eitem olaf heddiw yw datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth—Cadw: ennyn diddordeb cymunedau mewn treftadaeth. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei datganiad. Dawn Bowden.

17:10

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Cadw wedi cyflenwi rhaglenni arloesol i gynyddu ymgysylltu cymunedau Cymreig gyda safleoedd Cadw a'r amgylchedd hanesyddol ehangach. Mae’r gwaith hwn yn dangos sut y gall treftadaeth arbennig gyfrannu at lesiant pobl Cymru ac yn arbennig ei manteision o ran iechyd ac addysg.

Yn ddiweddarach yr wythnos hon, byddaf yn ymweld â heneb abaty Castell Nedd Cadw i drafod cadwraeth a sgwrsio â'r gymuned ar y safle. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Cadw wedi ffurfio perthynas ag Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin yn abaty Castell-nedd i lansio cynllun ceidwaid ifanc ar gyfer y safle abaty Sistersaidd pwysig hwn. Mae hyn yn rhan o fenter ehangach sydd gan Cadw, ceidwaid ifanc Cymru, i annog pobl ifanc i gymryd perchnogaeth o'u hamgylchedd hanesyddol. Mae gan Cadw geidwaid ifanc mewn sawl safle yn y gogledd, ond cyflwyniad y cynllun yn abaty Castell-nedd yw ymddangosiad cyntaf y fenter yn y de. Nod y fenter yw creu partneriaethau a mannau dysgu sy'n ategu cwricwlwm Cymru o fewn cymunedau ac annog y ceidwaid ifanc i werthfawrogi a pharchu eu henebion sydd yng ngofal Cadw a'r amgylchedd hanesyddol ehangach.

Mae'r ymateb i gynllun ceidwaid ifanc Dŵr-y-Felin wedi rhagori ar ddisgwyliadau pawb. Gwirfoddolodd llawer o ddisgyblion i fod yn geidwaid ifanc, ac ar ddiwedd y flwyddyn ysgol buont yn cynorthwyo athrawon wrth i'r safle ddod yn ystafell ddosbarth agored ar gyfer holl ddosbarth Blwyddyn 8 Dŵr-y-Felin am ddiwrnod. Mae Cadw a Dŵr-y-Felin yn cydweithio i adeiladu ar y sylfaen gref a grëwyd gan lwyddiant cychwynnol y cynllun.

Er y bu abaty Castell-nedd yn hybu dysgu disgyblion Dŵr-y-Felin, mae ei gymar Sistersaidd yn Nhyndyrn, yn nyffryn Gwy, wedi bod yn cefnogi adsefydlu troseddwyr ifanc. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Cadw wedi bod yn cydweithredu â thîm cyfiawnder ieuenctid Casnewydd ar fenter lle mae troseddwyr ifanc yn gweithio yn abaty Tyndyrn fel rhan o'r adsefydlu. Mae'r bobl ifanc, sydd yng nghwmni goruchwylwyr, yn chwynnu, clirio llwybrau a glanhau gwaith cerrig cain, a hefyd yn sgwrsio ag ymwelwyr ac yn gweithio ochr yn ochr â chontractwyr cynnal a chadw tiroedd Cadw i gael profiad gwaith gwerthfawr. Mae'r prosiect wedi cael ei gydnabod fel arfer gorau ymhlith timau cyfiawnder ieuenctid ac mae wedi dangos manteision pendant i'r cyfranogwyr a'r safle. Mae llwyddiant y cynllun wedi gweld ehangu'r fenter i dref Rufeinig Caerwent, gyda Cadw yn archwilio ei estyniad posib i safleoedd eraill.

Mae Cadw hefyd wedi bod yn gweithio yn ystod y flwyddyn i wella cyfleoedd gwirfoddoli ar ei safleoedd. Mae gwirfoddoli'n cynnig cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd, ennill profiad a gweithio fel rhan o dîm. Gall wella llesiant a chaniatáu i'r gwirfoddolwr ymgysylltu â'r safle a gwneud cyfraniad gwirioneddol i brofiad yr ymwelydd. Mae gwirfoddolwyr Cadw ym Mhlas Mawr, y tŷ trefol Elisabethaidd yng Nghonwy, yn enghraifft berffaith o'r rhan bwysig y mae gwirfoddolwyr yn ei chwarae wrth greu ymweliad cofiadwy. Cafodd gwirfoddolwyr Plas Mawr ganmoliaeth uchel yng ngwobrau'r amgueddfa a threftadaeth, gan ennill gwobr rhanbarth Cymru yn y categori Gwirfoddolwyr ar gyfer dysgu mewn amgueddfeydd yng ngwobrau Marsh ym mis Tachwedd. Gwnaed cynnydd sylweddol o ran recriwtio gwirfoddolwyr newydd yng Nghastell Caerffili a hefyd yng Nghastell Coch.

Mae 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' wedi gosod nodau heriol i gefnogi pob rhan o gymdeithas i gofleidio a dathlu treftadaeth ddiwylliannol amrywiol Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda chymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i nodi a chael gwared ar rwystrau sy'n atal mynediad i safleoedd treftadaeth. Mae Cadw wedi cefnogi cymunedau nad ydynt yn draddodiadol yn ymweld â'n safleoedd. Er enghraifft, cafodd dros 3,500 o ffoaduriaid a cheiswyr lloches fynediad am ddim i safleoedd Cadw y llynedd. Mae Cadw hefyd wedi gweithio i ddod â mwy o amrywiaeth i'w gwefan, gan gyd-greu cynnwys gyda'r Romani Cultural and Arts Company a chomisiynu dathliadau creadigol o bobl dduon yn hanes Cymru.

Mae'n werth nodi ein bod bellach yng nghanol yr ŵyl Drysau Agored flynyddol sy'n cael ei chynnal drwy gydol mis Medi. Wedi'i hariannu a'i threfnu gan Cadw, mae'n rhan o ŵyl Diwrnodau Treftadaeth Ewrop ac yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o, ac ymgysylltu ag amgylchedd hanesyddol Cymru. Eleni, mae'r dathliad bythol boblogaidd o dreftadaeth adeiledig Cymru yn gweld mwy na 200 o safleoedd a thirnodau hanesyddol ein cenedl yn cynnig mynediad am ddim i ymwelwyr, rhai ohonyn nhw erioed wedi bod ar gael i'r cyhoedd o'r blaen. Bydd yr ŵyl eleni yn annog cymunedau Cymru i archwilio rhai o safleoedd llai o faint a llai adnabyddus y wlad. Er enghraifft, y penwythnos yma fe allech chi fynd ar daith o amgylch caer Rufeinig Segontium, ar gyrion Caernarfon, neu Dŷ Sant Ioan, sef yr adeilad hynaf y gellir byw ynddo ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda thrawstiau yn dyddio'n ôl i 1511.

Wrth gloi, Dirprwy Lywydd, hoffwn dynnu sylw at rai o fentrau Cadw i gymryd rhan yn y byd digidol. Arweiniodd Cadw weithdy podlediadau mythau a chwedlau eleni. Cafodd hanner cant o bobl ifanc o leoliadau Youth Shedz ac Youth Cymru ledled y wlad brofiad ymarferol o gynhyrchu podlediadau, o ymchwil a sgriptio i actio a pheirianneg sain. Gwellhaodd eu sgiliau a chodi dyheadau yn y sector celfyddydau a threftadaeth. Datblygiad hyd yn oed yn fwy cyffrous yw gwaith parhaus arlwy addysg newydd Minecraft Cadw, i gysylltu ag adnodd presennol Hwb Minecraft. Mae'r adnodd hwnnw'n darparu mynediad i'r platfform chwarae poblogaidd ar gyfer addysgwyr a dysgwyr yng Nghymru. Bydd addysg Minecraft Cadw yn helpu pobl ifanc i ymgysylltu â'r amgylchedd hanesyddol ar lwyfan y maen nhw eisoes yn ei adnabod ac yn gwirioni arno.

I gloi, rhoddodd y pandemig diweddar bwyslais manwl ar y dreftadaeth sydd ar gerrig ein haelwydydd. Gyda phobl wedi'u cyfyngu i'r ardaloedd o amgylch eu cartrefi, daeth y dreftadaeth yn eu cymunedau yn ganolbwynt sylw. Gan ein bod ni bellach wedi dod allan o'r pandemig, mae Cadw yn ceisio rhoi cyfle i bobl gymryd rhan yn yr amgylchedd hanesyddol ehangach, yn y byd go iawn a'r byd digidol.

17:15

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad. Rwy'n falch iawn o glywed am raddfa'r gwaith ieuenctid sy'n digwydd. Rwyf i, fel llawer o rai eraill yma, yn credu'n gryf bod ein treftadaeth a'n lleoedd hanesyddol yn rhan bendant a hanfodol o'r daith ddysgu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, i'w galluogi i ddeall hanes ein cenedl, bywydau ein cyndeidiau, ac yn bwysig, yr hyn sydd wedi helpu i lunio ein cenedl, da neu ddrwg, i'r hyn yr ydym ni a phwy ydym ni heddiw.

Fel y bydd y Dirprwy Weinidog yn gwybod, rwyf wedi holi'r Prif Weinidog yn ddiweddar ynghylch sut y gallwn ni hyrwyddo gyrfaoedd treftadaeth, ac yn benodol annog pobl sy'n gadael yr ysgol i ystyried hyfforddiant mewn sgiliau adeiladu traddodiadol lle mae gennym ni brinder o weithwyr yn arbennig. Gyda hyn mewn golwg, ym mha ffordd y mae Cadw yn helpu i hyrwyddo hyn yn ystod eu hymgysylltiad â'r cynllun ceidwaid ifanc a phan fyddant yn gweithio gyda gwirfoddolwyr eraill ar safleoedd treftadaeth? Fel y gwyddom ni, mae treftadaeth werth dros £960 miliwn i economi Cymru ac mae'n dod â £1.7 biliwn arall mewn gwariant gan ymwelwyr sy'n mwynhau'r dreftadaeth a'r hanes sydd gennym i'w gynnig yma. Mae'n hanfodol ein bod yn cynnal ac yn wir yn tyfu'r sector hwn, gan hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i dwristiaid, ac mae'n hanfodol bod gennym y sgiliau yma er mwyn cynnal a chadw'r safleoedd hyn yn iawn. Felly, pa gyllid ydych chi wedi'i ddyrannu i bobl ifanc er mwyn iddyn nhw wireddu'r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw yn y sector treftadaeth, a chefnogi prentisiaethau mewn sgiliau traddodiadol?

Mae gwefan Cadw yn sôn am gymunedau amrywiol, sy'n ymdrin â nifer o gategorïau blaengar, gan gynnwys LHDT a phobl o liw. Ond rwy'n siomedig yr ymddengys hi ein bod ni wedi anwybyddu grŵp pwysig sydd â rhan sylweddol i'w chwarae: cymunedau ffydd. Mae pobl o bob ffydd yn chwarae rhan enfawr yn y gwaith o warchod treftadaeth gymunedol. Er mwyn cymryd un enghraifft yn unig, mae'r cannoedd o eglwysi rhestredig ledled Cymru yn cael eu cynnal yn ddiflino gan wirfoddolwyr ac wedi bod yn ganolbwynt i gynulleidfaoedd ers cannoedd o flynyddoedd. Mae grwpiau eglwysig yn gweithio'n galed i gynnal eu treftadaeth yng Nghymru a'i hyrwyddo i'r cyhoedd ehangach. Ac mae addoldai rhestredig yn agwedd hanfodol ar ddiwylliant a threftadaeth leol, sy'n gwasanaethu cymunedau ledled Cymru fel canolfannau cymunedol. Rwy'n teimlo nad yw eu cyfraniad yn cael ei gydnabod yn sylweddol, yn enwedig gan fod twristiaeth ffydd yn ychwanegu'n sylweddol at economi Cymru, ac mae angen gwneud mwy i ddatblygu partneriaethau sy'n gweithio. Felly, Dirprwy Weinidog, pa ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn barod i'w gwneud i annog Cadw i estyn allan at gymunedau ffydd o bob enwad a'u helpu i nodi anghenion cadwraeth treftadaeth leol, a'u helpu i hyrwyddo a datblygu naratif eu ffydd yn eu cymuned, i helpu i ehangu potensial ariannol y sector twristiaeth ffydd?

Rydym yn clywed dro ar ôl tro yn y Siambr hon nad yw cymunedau ledled Cymru yn teimlo eu bod wedi'u grymuso i wneud y dewisiadau sy'n iawn iddyn nhw, a gyda'n treftadaeth, mae gennym ni gyfle unigryw i ymgysylltu â chymunedau a hyrwyddo hanes Cymru. Er enghraifft, gallwn helpu i hyrwyddo cymdeithasau hanesyddol lleol, sy'n rhoi gwir ymdeimlad i bobl o'u hanes lleol eu hunain ac yn helpu eraill i ddysgu ac ymgysylltu, ac yn ddi-os mae'n helpu pobl i sylweddoli sut y gallant gyfrannu'n weithredol. Trwy annog cyfranogiad yn y grwpiau hyn, mae'n cynnwys pob un ohonom ni yn y stori genedlaethol yr ydym ni'n ei rhannu, wedi'i hadeiladu o lawr gwlad, ac yn rhoi ymdeimlad o hunaniaeth a pherthyn, oherwydd nid adeiladau a gwrthrychau yn unig sy'n bwysig—mae'n ymwneud â phobl ddoe a heddiw. Felly, pa gamau y bydd Cadw a Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynnwys cymdeithasau a chymunedau hanesyddol lleol mewn cynlluniau i warchod treftadaeth Cymru?

Ac yn olaf, Dirprwy Weinidog, mae cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol Cadw yn galw am roi pwyslais gwleidyddol ar elfennau hanes hil a rhyw, ac fel y gwyddoch chi, mae hyn yn rhyngweithio â chyfarwyddeb arall gan Lywodraeth Cymru, sef 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'. Mae hyn eisoes yn arwain at ailenwi strydoedd sy'n dwyn yr enwau Churchill a Nelson, rhywbeth y dywedwyd wrthym ni bob amser na fyddai'n digwydd. Ac ar y llaw arall, mae Llywodraeth Cymru i'w weld yn awyddus iawn i gofleidio a dathlu etifeddiaeth Owain Glyndŵr, ac mae o, wrth gwrs, yn ffigwr cenedlaethol, ond mae ei enw hefyd yn un dadleuol ac fe ddaeth ei wrthryfel a'i ymateb â chymaint o galedi a thrallod ar draws Cymru. Does ond angen i ni edrych ar y cannoedd o gyrff, llawer ohonyn nhw'n blant, a gafodd eu dadorchuddio'r llynedd yn Hwlffordd. Mae angen trin pob ffigwr hanesyddol fel Owain Glyndŵr, Churchill a Nelson gyda chydbwysedd sy'n rhan o'u gwaddol. Mae angen gwerthuso pob ffigwr yn erbyn cyd-destun a brwydrau eu hamser, ac eto mae'n ymddangos bod y diwygiadau hyn i'n hanes yn gweithio un ffordd yn unig. Felly, Dirprwy Weinidog, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod yr holl ffigyrau hanesyddol yn cael eu gwerthuso'n gyfartal o ran cadwraeth treftadaeth ddiwylliannol, fel bod y broses hon yn cael ei chyflawni'n sensitif ac nid ar gais ymgyrchwyr a grwpiau un mater? Diolch. 

17:20

A gaf i ddiolch i Joel James am y pwyntiau yna, ac mae wedi ymdrin â nifer o feysydd, gan ddechrau gyda'r cynllun ceidwad ieuenctid, sy'n gynllun gwych yr ydym ni'n ei ariannu nawr? Mae'n gynllun Cymru gyfan. Mae wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y gogledd. Rydym ni nawr yn bwriadu symud hwn i'r de, fel y dywedais. Rydym ni'n datblygu partneriaethau ac yn creu mannau dysgu sy'n ategu cwricwlwm Cymru, felly rydym yn ceisio cysylltu hynny â'r cwricwlwm o ran hanes a threftadaeth Cymru.

Ond fe wnaethoch chi bwynt dilys iawn hefyd—ac fe wn i eich bod wedi gofyn y cwestiwn i'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf—am y sgiliau treftadaeth mewn crefftau adeiladu traddodiadol, a'r hyn rydym ni'n ei wneud i hyrwyddo hynny. Nawr, rwy'n gwybod yn 2015 bod y diwydiant adeiladu wedi nodi bod y mathau hyn o brinder sgiliau traddodiadol yn y diwydiant treftadaeth, ac mae hynny wedi gwella ers hynny, ers iddyn nhw gyhoeddi adroddiad ar ymateb i sgiliau adeiladu traddodiadol. Ac rydym ni bellach yn gweld cyflwyno tystysgrif gyffredinol newydd ar gyfer yr amgylchedd adeiledig a blynyddoedd sylfaenol a chynnydd, ac mae hynny'n cynnwys peth o'r wybodaeth sylfaenol a'r sgiliau ymarferol ar gyfer gwaith sydd eu hangen ar adeiladau traddodiadol. Mae Canolfan Tywi yn sir Gaerfyrddin, er enghraifft, yn darparu cymhwyster galwedigaethol cenedlaethol sgiliau treftadaeth lefel 3 mewn gwaith saer maen, plastro a gwaith saer coed trwy'r rhaglen sgiliau cymhwysol arbennig, yn ogystal â chyflwyno dyfarniad lefel 3 i atgyweirio a chynnal adeiladau traddodiadol cyn 1990.

Fodd bynnag, nid oes prentisiaeth saer maen ar hyn o bryd, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth, o safbwynt Cadw, mae'n debyg bod angen i ni ei ddefnyddio yn fwy na dim. Os oes unrhyw un yn cael y cyfle i fynd i weld y gwaith sy'n digwydd ar hyn o bryd yn abaty Tyndyrn, er enghraifft—y gwaith cynnal ac adfer cain iawn, iawn sy'n digwydd yn yr abaty hwnnw—dyna waith seiri maen medrus iawn, iawn. Felly, yr hyn yr ydym yn ei wneud, rydym yn trafod nawr gyda thîm rhaglen adfer ac adnewyddu Palas San Steffan i weld a oes rhywbeth y gallwn ni ei wneud yng Nghymru, gan weithio gyda Chymwysterau Cymru, i weld a allem ni ddatblygu llwybr saer maen newydd mewn prentisiaethau lefel 3 ar gyfer Cymru. Felly, mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn ei weld yn digwydd am yr holl resymau a nodwyd gennych chi yn eich cwestiwn a'ch cyfraniad.

Roeddech chi'n sôn am gyfraniad twristiaeth ffydd, ac fe wn i ein bod ni wedi cael trafodaethau yn y Siambr hon o'r blaen am eglwysi hanesyddol pob enwad—y ffaith bod rhai o'r rheiny bellach yn wag, byddant yn dechrau dadfeilio os nad ydyn nhw'n cael gofal. Mae rhai wedi'u rhestru, rhai ddim. Mae nifer o'r eglwysi a'r capeli yng Nghymru wedi eu rhestru, ond does dim dwywaith bod nifer o'r adeiladau hynny o gwmpas Cymru yn cau. Ac mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda'r holl wahanol enwadau i drafod dyfodol yr adeiladau hynny, a dyna mae Cadw yn ei wneud. Ond ni allwn ni gymryd perchnogaeth o'r holl adeiladau hynny ac atgyweirio'r holl adeiladau hynny, felly mae'n rhaid i ni weithio mewn partneriaeth â'r enwadau, gyda'r eglwysi eu hunain, i ddod o hyd i amrywiaeth o bartneriaid lle gallwn edrych ar ddyfodol cynaliadwy ar gyfer yr adeiladau gwerthfawr hynny a'u hadfer i'w gogoniant blaenorol. Mewn rhai mannau, nhw yw calon y cymunedau hynny, ac wrth gwrs mae gennym ni bethau fel—. Rydym ni wedi gweld eglwysi a chapeli yn cael eu troi'n ganolfannau cymunedol. Mae gennym ni gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer asedau cymunedol y gall sefydliadau gymryd yr awenau, yn eglwysi, grwpiau, grwpiau cymunedol, a'u hariannu drwy'r cynllun asedau cymunedol a'r grantiau cyfleusterau cymunedol. Felly, mae cyfleoedd i wneud hynny i gyd, ac mae gweithio gyda chymdeithasau hanesyddol lleol yn hanfodol bwysig yn hyn i gyd.

Yna fe wnaethoch chi sôn am 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' Cymru gyfan, ac rwy'n gwbl glir, Joel James, fod hynny'n cwmpasu pob agwedd ar hil yng Nghymru. Rwyf wedi sôn am yr hyn y byddwn yn ceisio'i wneud i annog cymunedau annhraddodiadol i ymgysylltu â'n hanes, p'un a ydyn nhw'n Sipsiwn a Theithwyr Roma, p'un a ydyn nhw'n bobl â chefndiroedd cymunedol du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ac ati. Mae hynny'n hanfodol bwysig, fel cydnabyddiaeth o'n cymunedau LHDTC+, fel y mae cydnabyddiaeth o fenywod yn ein cymdeithas. Rwy'n siarad yn aml—. Wyddoch chi, pan ddeuthum yn Aelod o'r Senedd dros Ferthyr Tudful a Rhymni am y tro cyntaf, roeddwn i'n cael trafferth dod o hyd i unrhyw le yn Rhymni lle roeddem yn coffáu'r cyfraniad a wnaeth menywod i'r dref honno. Ac mewn gwirionedd fe gawsom ni o'r diwedd—Jayne, efallai y byddwch chi'n cofio—blac porffor i Ursula Masson a oedd yn un o'r menywod cyntaf o Ferthyr i gael ei chydnabod gyda phlac o fewn y dref.

Ond fe wnaethoch chi siarad yn benodol, wedyn, am y gydnabyddiaeth trwy enwau lleoedd a choffadwriaeth. Rydym ni'n ymgynghori ar y canllawiau ynghylch sut mae cyrff lleol a chyhoeddus yn coffáu ffigyrau nodedig mewn hanes, ac rwyf wedi dweud hyn sawl gwaith mewn cysylltiad â hynny—yr hyn nad ydym ni'n ceisio ei wneud yw ailysgrifennu hanes. Hanes yw hanes, ond yr hyn y gallwn ni ei wneud yw y gallwn ni fframio pobl mewn hanes, ac fe allwn ni gyfeirio at eu rhan mewn hanes fel da neu ddrwg. Ac roedd llawer o'r bobl y gwyddom ni bellach eu bod yn gysylltiedig â phethau fel y fasnach gaethweision—ac fe wnaethoch chi sôn am Picton—hefyd yn gwneud pethau da mewn bywyd. Felly, mae angen i ni goffáu'r bobl hyn yng nghyd-destun hanes a chydnabod y cyfraniadau hynny a wnaethant er lles ac afles. Wnaf i ddim codi'r hanes dadleuol ynghylch Owain Glyndŵr. Mae cymaint o bobl yn ein hanes y mae dadlau am eu straeon, a bydd gan bobl eu barn eu hunain am Owain Glyndŵr a nifer o ffigyrau hanesyddol eraill. Ond rydym am gydnabod yr holl bobl hynny yn ein hanes. Fe wnaethon nhw i gyd gyfrannu at Gymru a'r hyn yw Cymru, ac mae angen eu fframio nhw yng nghyd-destun hynny. 

17:25

Diolch, Dirprwy Weinidog, am y datganiad hwn heddiw. Mae'n braf cael y cyfle i drafod treftadaeth yn y Senedd hon. Dŷn ni ddim yn cael cyfleoedd yn aml, ac mae'n rhaid i fi ddweud, pan oeddwn i'n gweld teitl o ran beth oedd y datganiad, roeddwn i'n dyfalu a fyddai efallai'n gysylltiedig efo'r ddau ddatganiad ysgrifenedig dŷn ni wedi'u cael gennych chi yn ddiweddar ynglŷn â Cadw, sydd yn edrych o ran y gwaith dan arweiniad Roger Lewis. Buaswn i'n hoffi gofyn a fyddwn ni'n cael cyfle i gael trafodaeth ar hynny, oherwydd dwi'n meddwl ei bod yn bwysig iawn. Wrth gwrs, mae yna bethau i ddathlu fan hyn heddiw, o ran yr ymgysylltu cymunedol, ond dwi'n meddwl, o ran edrych ar Cadw, yn amlwg, mi oedd yna drafodaeth fawr nôl yn 2017 ynglŷn â llywodraethiant Cadw ac ati, ac mi fyddwn i'n gobeithio y gallwn ni gael trafodaeth lawn fan hyn, a gobeithio y medrwch chi ymrwymo, oherwydd, o beth dwi'n deall, mae yna ddrafft efo chi y mis hwn, ac efallai y bydd yr adroddiad olaf fis nesaf. Felly, os caf i'r ymrwymiad hwnnw, byddwn i'n ddiolchgar.

Os caf i, does dim rhaid i chi fy argyhoeddi i o bwysigrwydd treftadaeth a'r effaith y mae'n ei chael ar fywydau pobl. Fel y gwyddoch chi, bûm yn gweithio i Amgueddfa Cymru cyn cael fy ethol yma, ac yn sicr mae llawer o'r pethau rydych chi'n eu rhestru yma yn fuddion treftadaeth, a pham na ddylid ei ystyried yn braf ei gael. Mae'n gwbl hanfodol, mae'n drawsnewidiol, ac mae rhai o'r astudiaethau achos rydych chi wedi'u darlunio yma yn arwydd mawr o pam mae hyn yn bwysig. Ac efallai y bydd yn syndod i rai pobl ddysgu bod Cadw yn gwneud yr holl bethau hyn, ond i mi dyma'r lleiaf eithaf o'r hyn y dylent fod yn ei wneud oherwydd bod gennym ni Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yma yng Nghymru, maen nhw'n rhan o'r Llywodraeth, ac, yr un fath â chyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru, fe ddylem ni fod yn ymgysylltu â phobl ac ni ddylai fod rhwystrau.

Ac mae cyfleoedd enfawr, er enghraifft, fel yr ydych chi wedi amlinellu, gyda'r cwricwlwm mewn llu o wahanol feysydd, ond mae sgiliau a phrentisiaethau yn un arall, ond hefyd o ran hanes Cymru. Rydym yn tueddu i feddwl am Cadw fel rhai o'r safleoedd mawr, ond mae tua 120 o safleoedd ledled Cymru, a fy nghwestiwn i yw: faint o'r safleoedd hyn sy'n cynnig cyfleoedd gwirfoddoli? Faint o wirfoddolwyr sy'n weithgar gyda Cadw ar hyn o bryd? A faint o oriau maen nhw'n eu cyfrannu ar hyn o bryd, ynghyd â'r ddemograffeg? Oherwydd roedd gennyf i ddiddordeb mewn darllen adroddiad blynyddol diweddar Amgueddfa Cymru, oedd yn dangos bod ganddyn nhw, ar draws saith safle, neu wyth gan gynnwys y ganolfan gasgliadau yn Nantgarw, 604 o wirfoddolwyr, sy'n cyfrannu 26,273 awr, ac mae ganddyn nhw'r data demograffig. Felly, hoffwn wybod pa mor llwyddiannus yw Cadw o ran y cynlluniau gwirfoddoli.

Hefyd, o ran cyfleoedd iaith Gymraeg, rydych chi wedi gweld, trwy'r hyn rydych chi wedi'i ddweud o ran cynllun Ceidwaid Ifanc Cymru, pan fydd cyfle i bobl ifanc ymgysylltu, bod y manteision yn aruthrol, ond yn anffodus nid yw pob ysgol na phob grŵp blwyddyn na phob disgybl yn cael y cyfle hwnnw i ymgysylltu. Felly, a gaf i ofyn faint o staff sy'n gweithio ar ymgysylltu â'r cyhoedd yn Cadw? Ydy'r tîm wedi cynyddu? A oes unrhyw gynlluniau i'w gynyddu? A oes unrhyw gynlluniau o ran elw? Oherwydd yn amlwg, o ran rhai o'n safleoedd ar gyfer Cadw, codir tâl yno, felly sut mae hynny'n cael ei ail-fuddsoddi, felly, o ran ymgysylltu â'r cyhoedd? Rwy'n gwybod, yn flaenorol, mai tîm bach iawn oedd yn gweithio o ran ymgysylltu â'r cyhoedd—yn gwneud gwaith gwych, ond doedd dim digon ohonyn nhw, a olygai fod rhaid targedu eu hadnoddau. A gan nad yw hynny yn rhywbeth cynhwysfawr mae'n rhywbeth yr hoffwn i, efallai, gael eglurder arno.

Ac yn olaf, os caf i, dim ond o ran Cadw, rwy'n credu ei fod yn bwysig, a byddwn yn dadlau yn erbyn rhai o sylwadau Joel James. Mae treftadaeth yn bwerus ac ni ddylem ni ofni cymryd safiad weithiau a chwestiynu rhai credoau. Roedd fy mhrofiad i o fynd i rai o safleoedd Cadw yn blentyn, yn fy arddegau, hyd yn oed fel oedolyn, yn teimlo'n rhwystredig am y diffyg hanes Cymreig sy'n cael ei arddangos yno. Mae'n gwella, ond nid ym mhob man. Cawsom ddadl fywiog ynghylch Sycharth ac os safle Cadw y dylai hwnnw fod. Rydych chi'n gwybod fy marn yn glir iawn am hynny, ond rwy'n credu bod y pwyslais hwn o hyd ar naratif Edward I, y cestyll amlycaf ac ati, a rhai o'n safleoedd llai, efallai nad ydym ni'n eu gwireddu'n llawn o ran eu potensial ar gyfer yr union beth y mae'r datganiad hwn yn ei ddisgrifio. Felly, a gaf i ofyn, o ran y cyfle cyffredinol hwnnw i gymryd rhan yn ein treftadaeth, sut ydyn ni'n sicrhau ein bod ni'n gwneud y mwyaf o effaith pob safle Cadw yng Nghymru ac yn sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan, nid dim ond y rhai sy'n ddigon ffodus i gael eu gwahodd neu yn eu darganfod trwy hap a damwain?

17:30

Wel, diolch yn fawr, Heledd am y sylwadau yna. Fel arfer, rwy'n gweld, pan fyddaf yn gwrando arnoch yn siarad, bod eich angerdd am dreftadaeth yn rhywbeth sy'n atseinio, ac nid oes unrhyw beth rydych chi'n dweud yr wyf i'n anghytuno ag ef. Felly, nid ydym yn dechrau o safbwyntiau gwahanol ar unrhyw un o'r pethau hyn.

A gaf i ddechrau gyda Roger Lewis a'r adolygiad llywodraethu? Fel y gwyddoch chi, mae wedi dechrau ar yr adolygiad llywodraethu hwnnw. Gofynnais iddo edrych ar hwnnw yn gynharach yn y flwyddyn ac rwy'n aros am ei adroddiad nawr. Rwy'n gwybod ein bod yn ceisio trefnu cyfarfod ar hyn o bryd. Roedd hwn yn adolygiad llywodraethu a oedd eisoes wedi'i gynllunio o'r adolygiad diwethaf yn 2017, felly mae hwn yn ymrwymiad a roesom yn yr adolygiad hwnnw, ac fe wn i y bu yn ymgysylltu ymhell ac agos gyda phartïon a chanddynt fuddiant ar draws y sector. Felly, rwy'n gobeithio y dylwn gael yr adroddiad terfynol erbyn diwedd mis Tachwedd, a bydd hynny'n rhywbeth y byddaf yn amlwg yn gwneud datganiad yn ei gylch pan gaiff hwnnw ei gyhoeddi. Ac yn sicr gallwn gael sgwrs am ei gynnwys a goblygiadau hynny bryd hynny.

Rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth rydych chi'n ei ddweud am dreftadaeth a diwylliant. Nid pethau 'braf i'w cael' yn unig yw'r rhain. Mae'r rhain yn bethau nad ydyn nhw o reidrwydd yn bethau y mae pobl yn eu hystyried yn rhai sy'n hanfodol, fel y mae'r gwasanaeth iechyd yn ei wneud, neu, wyddoch chi, 20 mya, y math yna o bethau. Felly, rwy'n deall yn llwyr mai'r prif bethau a welwn yw'r pethau sy'n effeithio ar bobl yn eu bywydau beunyddiol, p'un a yw'n drafnidiaeth, p'un a yw'n wasanaeth iechyd neu beth bynnag ydyw, ond rwy'n gwbl glir bod treftadaeth a diwylliant yn rhywbeth sy'n rhan annatod o'n ffordd o fyw, ac mae'n cyfrannu'n llwyr at iechyd a llesiant y genedl. Dyma'r hyn rydyn ni'n ceisio'i wneud wrth sefydlu'r oriel gelf gyfoes genedlaethol, a sicrhau bod gennym ni fodel gwasgaredig sy'n mynd â'n celfyddyd gyfoes allan i bobl ledled Cymru gyfan ac nad yw'n dibynnu ar bobl yn gorfod mynd yno. Rwy'n credu mai dyna beth sydd angen i ni ei wneud gyda'n safleoedd diwylliannol, ac mae gan Cadw ran enfawr i'w chwarae yn hynny trwy'r ymgysylltiad rydych chi wedi siarad amdano a thrwy'r gwirfoddoli rydych chi wedi siarad amdano.

Nawr, yn anffodus, Heledd, nid oes gennyf i'r math yna o ffigurau ar flaenau fy mysedd, ond byddaf yn sicrhau y cewch chi'r rhai hynny, o ran mewn faint o safleoedd rydym ni'n cynnig cyfleoedd gwirfoddoli. Mae hynny'n cynyddu. Hoffem weld mwy. Yn rhai o'n safleoedd, wrth gwrs, nid oes gennym ni unrhyw staff o gwbl; nid oes ceidwaid yno. Lle mae gennym ni safleoedd sylweddol gyda nifer o geidwaid, yna mae'r rheini'n tueddu i fod yn safleoedd lle mae gennym ni wirfoddolwyr oherwydd, yn amlwg, mae angen iddyn nhw weithio ochr yn ochr â phobl sy'n cael eu cyflogi gan Cadw fel ceidwaid hefyd. Ond byddaf yn sicrhau y cewch chi'r wybodaeth honno am faint o safleoedd a ble rydym yn bwriadu gwella hynny. Oherwydd y rhan allweddol o waith Cadw yw ymgysylltu â'r gymuned ac ymgysylltu mewn ysgolion, felly byddaf yn sicrhau bod yr holl wybodaeth honno'n cael ei darparu i chi.

Y naratif ar safleoedd llai—rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Dyna pam mae'r mis Drysau Agored mor bwysig. Pan edrychwch chi ar y safleoedd lle mae'r drysau yn llythrennol ar agor i bobl, mae rhai o'r rhain yn safleoedd lle, unwaith eto, nad oes gennym ni geidwaid yno, nid oes gennym ni wirfoddolwyr yno, ond maen nhw'n chwarae rhan annatod yn ein hanes a'n treftadaeth. Felly, mae angen i ni gael y cyfle i'r safleoedd hynny fod ar agor ac ar gael i bobl o leiaf ran o'r flwyddyn, os nad trwy'r flwyddyn.

Yn anffodus, mae llawer o hyn yn dibynnu ar ba gyllid sydd ar gael. Mewn byd delfrydol, wrth gwrs, byddai gennym ni lawer mwy o arian ar gyfer ein safleoedd treftadaeth, a byddem yn gallu buddsoddi llawer mwy yn ein safleoedd treftadaeth. Ond mae gan Cadw gyfrifoldeb clir iawn dros gynnal a sicrhau bod ein safleoedd yn cael eu diogelu a'u cynnal. Dyma pam fod y cwestiwn yr oedd Joel James yn ei godi yn gynharach, am sgiliau treftadaeth, yn bwysig iawn hefyd. Oherwydd os ydym yn mynd i warchod y safleoedd hyn yn y dyfodol, mae angen i ni gael pobl sydd â'r sgiliau a all wneud hynny hefyd.

17:35

Diolch am eich datganiad heddiw. Rwyf wedi dysgu cymaint mwy am yr hyn y mae Cadw yn ei wneud, felly roedd croeso mawr iddo. Yr wythnos diwethaf, buom yn trafod deiseb am gadw a diogelu cartref Owain Glyndŵr, Sycharth, a sut y gwnaeth y beirdd gysylltu cymunedau â newyddion ac adrodd straeon hanes drwy'r oesoedd, fel na fyddem yn anghofio. Ac mae'r cwricwlwm newydd yn gofyn i blant chwilio am beth mae'n ei olygu i fod yn Gymro neu Gymraes fel prosiect. Treuliais amser ar brosiect yn recordio pobl oedrannus y pentref, a oedd yn siarad am sut brofiad oedd cael eu magu 70 i 80 mlynedd yn ôl yn y pentref. Mae straeon wedi eu cadw mewn llyfrau lleol, ond maen nhw'n eithaf prin. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddiogelu'r straeon y mae ein cymunedau yn eu trysori, fel y gellir eu mwynhau am genedlaethau i ddod.

Wel, rwy'n credu bod hynny'n hynod o bwysig. Gwelais fy mhlant fy hun yn dod adref o'r ysgol pan oeddent yn iau, ac roedden nhw'n gwneud prosiectau yn yr ysgol ac yn siarad â fy mam a fy nain—a fu farw amser maith yn ôl, ond hi oedd eu hen nain—ac mewn gwirionedd yn gofyn iddi sut beth oedd cael ei magu adeg y rhyfel. Os nad ydym yn cofnodi'r straeon hynny, rydym yn eu colli. Felly, does a wnelo hyd ddim â'r straeon hanesyddol, mawr, yn nac oes? Mae'n ymwneud â bywydau bob dydd pobl, ac mae angen i ni sicrhau bod gennym ni gofnod o hynny.

Rwy'n gwbl benderfynol ein bod ni, yn y cwricwlwm cenedlaethol, yn creu'r modd i gyflawni hynny, oherwydd mae hynny'n rhan o'r dreftadaeth Gymreig yr oeddem yn sôn amdani. Mae'n rhan—. Am y tro cyntaf, mae gennym ni hanes Cymru yn y cwricwlwm. Ond, fel y dywedais, nid yw'r hanes Cymru hwnnw am Owain Glyndŵr a'r holl farchogion yn ymladd ac Edward I. Mae'n ymwneud â phobl gyffredin, a phobl gyffredin sy'n creu hanes. Felly, rwy'n gwbl benderfynol y dylem ni allu gwneud hynny. A phopeth arall rydyn ni'n ei wneud o amgylch Cadw, boed hynny drwy 'Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', boed hynny drwy ein polisïau cydraddoldeb eraill, cynllun gweithredu LHDTC, boed hynny drwy'r gwaith rydym ni'n ei wneud gyda'n hymddiriedolaethau archeolegol, lle rydym ni'n darparu grantiau iddyn nhw wneud yn siŵr bod gennym ni gofnod o bethau rydym ni ar fin eu colli—. Es i ymweld â—ceisio meddwl ydw i am enw'r lle—caer bentir Porth y Rhaw yn sir Benfro. A byddwn yn ei golli; rydym ni'n gwybod ein bod ni'n mynd i'w golli oherwydd bod y clogwyn yn cwympo. Ac felly mae'n bwysig iawn bod yr ymddiriedolaeth archeolegol yn gweithredu, gyda grantiau gan Cadw, i gofnodi hynny ar gyfer y dyfodol. Felly, mae llawer yn cael ei wneud, Carolyn, a llawer mwy sydd angen ei wneud. Ond rwyf yn credu bod y cynllun ceidwad ifanc yn hanfodol i hynny, hefyd; rwy'n credu y byddai cael cymaint o bobl ifanc yn ymwneud â gweithio mewn gwirionedd gyda'n safleoedd treftadaeth hefyd—. I gynyddu hynny, rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol iawn o ran y gwaith yr ydym yn ceisio'i wneud i gofnodi hynny i gyd.

Un peth y byddwn i hefyd yn ei ddweud, yn fyr iawn, yw am y gwaith digidol y mae Cadw yn ei wneud, oherwydd mae hynny'n hynod bwysig ar gyfer cofnodi ein hanes hefyd. Siaradais yn fy natganiad am y gwaith a wnaethom ni i gofnodi hanes lleol; roedd gennym ni rywbeth o'r enw Treftadaeth 15 Munud, a oedd ar safle Cadw, felly pan oeddem yn y cyfnod cyfyngiadau symud a phobl dim ond yn gallu mynd allan am awr y dydd, gallech fynd ar wefan Cadw a chael golwg a gweld beth oedd ar gael o fewn taith gerdded 15 munud o'ch cartref, a, sut y bu i bobl gysylltu â'u hanes lleol yn ystod y cyfnod hwnnw, dyna beth rydym ni'n bwriadu parhau ag ef. Ac rydym ni wedi gallu digideiddio llawer o'r wybodaeth honno fel bod gennym ni fynediad digidol i'n hanes, yn ogystal â'r mynediad corfforol, oherwydd ni all pawb fynd allan i'r holl safleoedd hynny.

17:40

A gaf i ddatgan buddiant fel ymddiriedolwr Sefydliad Evan Roberts, sefydliad sy'n hyrwyddo treftadaeth ffydd yma yng Nghymru?

Gweinidog, rwy'n falch iawn o glywed eich geiriau, yn eich ymateb i Joel James, am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru eisiau ei wneud i ymgysylltu â chymunedau ffydd i ddiogelu'r agwedd honno ar dreftadaeth Cymru. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod Llywodraeth Cymru yn hwylusydd, os mynnwch chi. Rwy'n sylweddoli mai dim ond hyn a hyn o arian sydd yna i'w rannu, ond, yn sicr, mae rhai adeiladau treftadaeth ffydd unigryw iawn sydd wedi bod mewn perygl dros y blynyddoedd—gallaf feddwl am un yn eich etholaeth eich hun, er enghraifft, sydd, rwy'n falch iawn, bellach â'i ddyfodol wedi'i ddiogelu, y synagog ym Merthyr Tudful. Mae llawer o rai eraill, wrth gwrs, ar draws Cymru ac mae'n siŵr y gellid gwneud galwad daer mewn cysylltiad â llawer ohonyn nhw. Rwyf hefyd yn aelod o Capel, sef cymdeithas dreftadaeth capeli Cymru, sy'n gweithio'n agos gydag Addoldai Cymru a sefydliadau eraill i geisio nodi'r enghreifftiau gorau o bensaernïaeth ffydd, os mynnwch chi, ledled Cymru i wneud yn siŵr nad ydym yn eu colli ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Tybed a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried cael uwchgynhadledd o'r holl sefydliadau hynny sydd â diddordeb mewn treftadaeth ffydd, gan ddod â phobl at ei gilydd fel y gallwn ni gael trafodaeth ford gron, synnwyr cyffredin, ar sut y gallwn ni ddynodi'r adeiladau hynny ledled Cymru sy'n bwysig iawn ac sy'n wirioneddol unigryw ym mhob cwr o'r wlad, i wneud yn siŵr bod yr adnoddau cyfyngedig sydd gennym ni yn gallu canolbwyntio, os mynnwch chi, ar yr enghreifftiau gorau o'r adeiladau hynny.

Ac os caf i, roedd cyfeiriad at dreftadaeth filwrol hefyd. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi gohebu rhywfaint ar hyn yn rhinwedd fy swydd yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid, ond rwy'n credu mewn gwirionedd bod angen amgueddfa filwrol genedlaethol yng Nghymru. Mae gennym ni nifer o amgueddfeydd cenedlaethol, ac rwy'n credu bod pob un ohonyn nhw yn hollol wych o ran cyfleu stori Cymru i bobl. Rwy'n credu bod amgueddfa filwrol genedlaethol yn rhywbeth sydd ar goll o'r cynnig ar hyn o bryd; does unman lle gall pobl fynd i ddysgu am hanes y Llu Awyr Brenhinol yng Nghymru na'r Llynges Frenhinol yma yng Nghymru. Mae gennym ni nifer o amgueddfeydd milwrol, ond dydyn nhw ddim wir yn gweithredu fel rhwydwaith, a tybed i ba raddau y byddech chi'n barod i drafod gyda'r grŵp trawsbleidiol y posibilrwydd o geisio, unwaith eto, rhoi cyfle i'r straeon lleol a'r straeon cenedlaethol hynny gael eu hadrodd o ran ein treftadaeth filwrol yma yng Nghymru.

Diolch i Darren Millar am y pwyntiau yna. I ddweud y gwir, fe soniaf i am y sylw olaf hwnnw yn gyntaf, oherwydd i chi ysgrifennu ataf, Darren, ac fe wnes i ymateb i chi ar y pryd. Nid wyf yn siŵr bod pethau wedi symud ymlaen ymhellach o'r adeg y gwnes i ysgrifennu atoch chi am hynny, ond rwy'n cydnabod yn llwyr y pwyntiau rydych chi'n eu gwneud am yr angen i gael rhywle lle mae ein hanes milwrol yn hygyrch i bawb. Nawr, p'un a oes angen i hynny fod yn—mae hyn yn rhywbeth y buom yn sôn amdano—amgueddfa wedi ei hadeiladu o'r newydd, ac ni wn i o ble ddaw'r arian ar gyfer hynny—dyna'r man cychwyn i bopeth ar hyn o bryd, ac rwy'n gwybod eich bod yn deall hynny—ond dydy hynny ddim yn golygu na allwn ni ddod o hyd i ffyrdd mwy dychmygus o sicrhau bod hyn yn cael ei wneud.

Roedd gennyf i ddiddordeb pan wnaethoch chi siarad â mi am hyn yn ddiweddar nad oes unrhyw le mewn gwirionedd lle gallwch chi fynd i weld yr awyrlu neu'r llynges. Mae gennym ni amgueddfeydd y fyddin, ond nid oes gennym ni unrhyw le i edrych ar y cyfraniad y mae'r gwasanaethau eraill wedi'i wneud i fywyd Cymru. Felly, rwy'n credu bod sgwrs i'w chael o hyd. Rwy'n credu bod rhywbeth y gallem edrych arno o hyd ac mae'n debyg y gallem ni gynnwys Amgueddfa Cymru yn hynny i gyd. Ni allaf sefyll yma a dweud ein bod yn mynd i gyflwyno amgueddfa newydd sgleiniog i chi, ond rwy'n credu bod ffyrdd y gallwn ni weithio gyda'r adeileddau presennol i weld beth allwn ni ei wneud, felly rwy'n hapus i barhau i gael y sgwrs honno.

O ran treftadaeth ffydd, unwaith eto, rwy'n credu os gallwn ni gael sgwrs am sut y gallwn ni hyrwyddo treftadaeth ffydd yn fwy effeithiol nag yr ydym ni yn ei wneud nawr, yna byddwn i, unwaith eto, yn fwy na pharod i wneud hynny. A dweud y gwir, cyn y datganiad hwn heddiw, cefais lythyr gan Gynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr, a siaradodd â mi am yr eglwysi Catholig yng Nghymru a sut maen nhw wedi cael eu hanwybyddu o ran cael eu rhestru ac ati. Felly, rwy'n ymwybodol bod hyn, fel y dywedwch chi, yn cwmpasu pob enwad.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at y synagog ym Merthyr Tudful, sy'n mynd i fod yn hollol anhygoel, ond yr hyn sydd wedi digwydd yw bod rhywun wedi cael gafael ar yr adeilad hwnnw ac wedi gweithio'n ddiflino i gael cyllid ar ei gyfer, felly mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu, ond mae buddsoddwyr preifat, mae Cadw yn cymryd rhan a bydd gennym ni yn y pen draw ganolfan dreftadaeth Iddewig genedlaethol ar y safle hwnnw ar gyfer Cymru gyfan. Bydd yn hollol wych.

Felly, ydw, rwy'n deall yn llwyr. Mae rhai o'r eglwysi a'r capeli sydd gennym ni ar draws Cymru, yn adrodd stori ynddynt eu hunain o ffydd ledled y wlad. Felly, unwaith eto, os oes rhywbeth y gallwn ei wneud, Darren, o ran siarad am sut y gallem ni ddod â phobl ynghyd, gyda'r adnoddau cyfyngedig yr ydych chi wedi'u nodi, i weld a allwn ni wneud mwy i hyrwyddo treftadaeth ffydd, yna rwy'n gwbl hapus i wneud hynny.

17:45

Diolch, Dirprwy Lywydd. A minnau wedi ymgyrchu ers amser maith dros gael mynediad gwell i safleoedd treftadaeth Castell-nedd ac iddyn nhw gael eu hyrwyddo'n well, roedd yn dda eich clywed yn sôn am abaty Castell-nedd, Dirprwy Weinidog, ac ymateb cadarnhaol disgyblion ysgol Dŵr-y-Felin i'r cynllun ceidwaid ifanc yno. Rwyf wir yn croesawu'r nod o gynyddu ymgysylltiad cymunedau â'r safleoedd hyn, ond mae'n rhaid i'r ymgysylltiad hwnnw, ydych chi'n cytuno, fod yn gynhwysol? Mae gan abaty Castell-nedd bedwar lle parcio, ac nid oes yr un ohonyn nhw yn addas i'r anabl; nid oes toiledau, rhai i'r anabl neu fel arall; does dim caffi na chanolfan ymwelwyr, unman y gallwch chi brynu cerdyn post, heb sôn am arweinlyfr; ac mae gwefan Cadw yn ei galw yn un o'r

'adfeilion mynachaidd mwyaf trawiadol yn ne-ddwyrain Cymru.'

Gallaf eich sicrhau nad yw yn ne-ddwyrain Cymru.

Felly, mae gwaith haearn Abaty Castell-nedd gerllaw yr un mor drawiadol, yn safle pwysig o'r oes ddiwydiannol, ac mae Cyfeillion Gwaith Haearn Abaty Castell-nedd yn gwneud gwaith anhygoel yno fel gwirfoddolwyr, yn cloddio'r safle, cynnal diwrnodau gwaith, ac yn ddiweddar mae wedi bod yn un o'r diwrnodau drws agored gyda Cadw. Ond hoffwn wybod dau beth, sef sut ydych chi'n mynd i wella mynediad i'r safleoedd hyn a hefyd hyrwyddo'r safleoedd hyn yn well, gan ddod â'r holl safleoedd hyn at ei gilydd mewn un cynnig treftadaeth dychmygus ar gyfer lleoedd fel Castell-nedd sydd wir ei angen?

Diolch yn fawr, Sioned, am y sylwadau yna. Nawr, dydw i ddim yn arbennig o gyfarwydd ag abaty Castell-nedd. Nid yw'n rhan o'r byd rwy'n arbennig o gyfarwydd â hi, gan fy mod i wedi treulio'r rhan fwyaf o fy mywyd o amgylch y de-ddwyrain, a byddaf yn sicrhau bod y wefan wedi newid i roi lleoliad cywir abaty Castell-nedd. Ond rydw i'n mynd i abaty Castell-nedd ddydd Iau yn rhan o'r dathliad twristiaeth ar gyfer yr wythnos dwristiaeth. Felly, mae abaty Castell-nedd ar fy rhestr ar gyfer dydd Iau, felly byddaf yn cael cyfle i gael golwg uniongyrchol ar hynny a gweld drosof fy hun beth y credwn y gallai fod angen ei wneud.

Fel y dywedwch chi, mae'n bendant yn heneb gofrestredig y mae angen ei diogelu, ac y mae angen annog pobl i'w gweld. Ac mae'n ymwneud â chael y cydbwysedd hwnnw—fe wnaethom ni siarad am hyn gyda Sycharth, oni wnaethon ni—cael y cydbwysedd rhwng sicrhau bod heneb gofrestredig, rhywbeth sydd mor bwysig i'n hanes, yn hygyrch i'r cyhoedd a'n bod yn annog pobl i ymgysylltu ag ef ac i ymweld, ond ein bod ni'n sicrhau nad yw hynny ynddo'i hun yn niweidio'r adeilad a'r safle. Felly, mae'n rhaid i ni reoli hynny'n effeithiol iawn, oes.

Felly, mae angen ei reoli'n effeithiol, ond rwy'n derbyn eich sylw: mae llawer o waith y mae angen ei wneud yno. Y fenter ceidwaid ifanc yno, y gwnaethoch chi siarad amdani, mae'n creu'r holl fathau hynny o bartneriaethau yr ydym eisiau eu gweld, gan ddod â'r safleoedd hyn yn fyw. Ond caf olwg iawn ar y materion rydych chi wedi'u codi heddiw, Sioned, pan fyddaf yn ymweld ag abaty Castell-nedd ddydd Iau, ac fe ddof yn ôl atoch chi ac efallai cael sgwrs gyda chi am yr hyn y gallwn ni neu na allwn ni ei wneud ar y safle.

17:50

Diolch i’r Dirprwy Weinidog a daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch, bawb.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:51.