Y Cyfarfod Llawn

Plenary

19/09/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Tom Giffard. 

Terfynau Cyflymder 20 mya

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fonitro effaith terfynau cyflymder 20 mya diofyn ar amseroedd teithio? OQ59941

Llywydd, bydd fframwaith monitro ar gyfer parthau 20 mya yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Medi. Bydd hwn yn nodi'r dangosyddion perfformiad allweddol. Un o'r rhain fydd amseroedd teithio cerbydau ac amrywiadau amseroedd teithio ar brif lwybrau drwodd.

Llywydd, mae deiseb fwyaf erioed y Senedd o bell ffordd yn cael ei llofnodi yr wythnos hon, a thros 162,000 o bobl a mwy yn cofrestru eu gwrthwynebiad i gynllun 20 mya Llywodraeth Lafur Cymru. Un o'r rhesymau pam y bydd pobl yn gwrthwynebu'r cynllun hwn yw oherwydd y gost i'n heconomi. Mae ffigurau'r Llywodraeth ei hun yn dangos y gallai ddioddef ergyd o hyd at £9 biliwn, ac mae pobl yn gwybod na allwn ni ei fforddio, oherwydd, ar ôl 25 mlynedd o Lafur yng Nghymru, rydym ni ar waelod isaf y tablau cynghrair ar gyfer ffyniant economaidd. Eu huchelgais yn y gorffennol oedd dod â ni i fyny i gyfartaledd y DU. Nawr eu hunig uchelgais yw stwffio 96 o wleidyddion yn y lle hwn.

Ond os nad yw'n fy nghredu pan ddywedaf y bydd yna ergyd economaidd, efallai y bydd eisiau gwrando ar etholwr i mi sy'n awdiolegydd yn gwneud ymweliadau cartref ledled y de. Cysylltodd â mi i ddweud wrthyf, ac rwy'n dyfynnu rhan o'i e-bost: 

'Mae'n cymryd llawer rhy hir o un claf i'r llall, yn defnyddio mwy o danwydd, yn rhy beryglus ar gyfer erlyniad a phwyntiau trwydded. Ni allwn ymweld â chleifion cartrefi gofal mwyach chwaith am yr un rheswm ac rydym ni wedi eu canslo nhw. Mae nyrsys gofal cartref yn cwyno gan nad oes amser teithio rhwng galwadau wedi'i neilltuo iddyn nhw ac mae'n ei gwneud yn amhosibl ffitio'r holl gleifion a neilltuwyd i mewn.'

Prif Weinidog, dim ond un busnes yw hwnna, ond bydd straeon fel hyn yn cael eu hailadrodd ledled Cymru. Ni fydd pobl ledled y wlad yn gallu derbyn y gwasanaethau y maen nhw'n dibynnu arnyn nhw diolch i weithredoedd eich Llywodraeth. Felly, a wnewch chi ymrwymo, fel y mae'r ddeiseb o 160,000 a mwy yn ei ofyn i chi, i ddiddymu eich cynllun 20 mya trychinebus?

A gaf i ddechrau drwy ddymuno pen-blwydd hapus i'r Prif Weinidog heddiw? Rwy'n siŵr bod hynny ar bob ochr i'r Siambr yn fater o anghytuno, ond dyna ni.

Rydyn ni hefyd, wrth gwrs, yr wythnos hon yn nodi blwyddyn ers i Liz Truss ddod yn Brif Weinidog y DU. Rydyn ni'n gwrando ar y Torïaid yn siarad am yr economi. Fe wnaethon nhw achosi ergyd o £40 biliwn i'r Trysorlys mewn awr. Cyllideb gyfan Llywodraeth Cymru wedi'i gwario gan Brif Weinidog di-glem mewn awr, ac yn chwalu'r economi. A nawr maen nhw'n dweud wrthym ni eu bod nhw'n poeni am fusnes. Os oedden nhw'n poeni am fusnes, wrth gwrs, fydden nhw ddim wedi cefnogi Brexit chwaith. 

Ond, Prif Weinidog, a all Llywodraeth Cymru bwysleisio pwysigrwydd y gyfraith newydd ar fodau dynol, ar bobl, ar gymunedau? Un o'r pethau yr wyf i wedi clywed pobl yn siarad amdanyn nhw dros yr wythnosau diwethaf a'r dyddiau diwethaf yw sut maen nhw eisiau eu cymunedau yn ôl, nad ydyn nhw eisiau i'w cymunedau gael eu rheoli gan y car, eu bod nhw eisiau teimlo'n ddiogel yn eu cymunedau, eu bod nhw eisiau teimlo'n ddiogel ar y ffyrdd. Ac un peth yr wyf i wedi ei glywed gan bobl iau yw nad ydyn nhw bob amser yn teimlo'n ddiogel ar ein ffyrdd. Does dim ots gan y Torïaid amdanyn nhw; mae ots gen i. Gadewch i mi ddweud hyn, Prif Weinidog: gadewch i ni glywed am straeon pobl go iawn sy'n cefnogi'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud.

Wel, diolch i Alun Davies am hynna, Llywydd. Mae rhai pobl yn cymryd diwrnod i ffwrdd ar eu pen-blwydd, rwy'n clywed. [Chwerthin.] Edrychwch, rwyf i eisiau myfyrio— 

Byddech chi wedi bod yn mynd yn groes i'r Rheolau Sefydlog pe baech chi wedi cymryd y diwrnod i ffwrdd heddiw, Prif Weinidog. [Chwerthin.]

Fyddwn i byth eisiau bod yn y sefyllfa honno, Llywydd.

Hoffwn fyfyrio ar y prif bwynt a wnaeth Alun Davies, oherwydd roeddwn i'n meddwl am hyn dros y penwythnos pan ddarllenais stori yr oedd y BBC wedi'i hadrodd am ŵr yn myfyrio ar farwolaeth ei frawd mewn damwain car rai blynyddoedd ynghynt, a sut y gellid bod wedi atal y farwolaeth honno pe bai cyflymder y cerbyd wedi bod yn teithio ar 20 yn hytrach na 30 mya. A'r hyn y gwnaeth hynny fy atgoffa i ohono, Llywydd, oedd y sgyrsiau niferus yr wyf i'n cofio eu cael yn y cyfnod yn arwain at y Bil rhoi organau yma ar lawr y Senedd, pan wnes i gyfarfod â theuluoedd cymaint o bobl a oedd wedi colli eu bywydau mewn damweiniau traffig ffordd, ac roedd y teuluoedd hynny wedi mynd ymlaen i gytuno i organau gael eu rhoi. Ond roedd effaith colled yr unigolyn hwnnw yr un mor fyw ym mywydau'r bobl hynny, weithiau 20 mlynedd a mwy ar ôl i'r ddamwain ddigwydd, gan ei fod ar y diwrnod ei hun, a thu ôl i'r penderfyniad hwn a'r cam gweithredu hwn y mae'r bywydau hynny. Bywydau pobl a fydd yn cael eu hachub. Bywydau pobl a fyddai fel arall yn cael eu dal yn y damweiniau traffig ffordd, na fydd yn digwydd pan fydd pobl yn teithio ar gyflymder o 20 mya sy'n digwydd pan fydd pobl yn teithio ar gyflymder o 30 mya. Dyna'i bwrpas. Dyna pam y bydd y Llywodraeth hon yn glynu'n dynn at y penderfyniad yr ydym ni wedi ei wneud, a gymeradwywyd ddwywaith ar lawr y Senedd, nid gan fwyafrif syml, ond gan uwchfwyafrif, oherwydd y straeon dynol sydd y tu ôl i'r penderfyniad yr ydym ni wedi ei wneud ac y byddwn yn parhau i'w weithredu yma yng Nghymru.

13:35

Prif Weinidog, rwy'n cytuno'n fawr â chi bod 20 mya wedi'i gyflwyno fel terfyn cyflymder diofyn yn mynd i achub bywydau ac yn mynd i atal llawer iawn o anafiadau difrifol. Ond a fyddech chi'n cytuno â mi mai'r hyn yr ydym ni wedi ei weld yw ystumiad o'r ddadl gan y Torïaid Cymreig—er enghraifft, y neges hon y maen nhw'n ei mynegi dro ar ôl tro ei fod yn waharddiad cyffredinol, pan ein bod ni'n gwybod y bydd eithriadau? Ac mae hynny'n rhan o batrwm, Prif Weinidog, patrwm sy'n dod o'r brig, gan yr arweinydd Andrew R.T. Davies—er enghraifft, esgus y byddai ceiswyr lloches sy'n dod i Gymru yn derbyn arian parod am ddim gan Lywodraeth Cymru. Mae'n rhan o batrwm, Prif Weinidog, ac mae'n rhan o batrwm sy'n ystumio ac yn diraddio ein democratiaeth. Mae'n rhaid i ni dynnu sylw ato.

Wel, gadewch i mi fod yn eglur unwaith eto, Llywydd, oherwydd clywais leisiau ar feinciau'r Ceidwadwyr unwaith eto yn honni mai gwaharddiad cyffredinol yw hwn. Maen nhw'n gwybod—[Torri ar draws.]—maen nhw'n gwybod nad dyna ydyw. Mae'n derfyn cyflymder diofyn, nad yw yr un fath â gwaharddiad cyffredinol. [Torri ar draws.] Llywydd, rwy'n barod i barhau i egluro hyn i arweinydd yr wrthblaid, ond, fel y mae John Griffiths wedi dweud, mae rhai pobl eisoes wedi dod i'r casgliad nad yw'n fater ohono ddim yn deall, ond ei fod yn benderfynol o beidio â dweud y gwir, ac mae hynny'n warth, yn warth llwyr, mewn rhywun sydd yn y swydd y mae ynddi. Oherwydd y gwir—[Torri ar draws.]

Na chewch, chewch chi ddim. Byddwch chi'n cael eich cyfle i holi'r Prif Weinidog mewn munud. Y Prif Weinidog i orffen.

Felly, gadewch i mi ddweud eto wrtho: nid yw hwn yn waharddiad cyffredinol.

Llywydd, mae'n ymddangos bod arweinydd yr wrthblaid yn credu, trwy barhau i ddweud rhywbeth nad yw'n wir, y gall ei wneud yn wir. Fel yr oedd gan yr holwr y gras o leiaf i ddweud yn ei gwestiwn, terfyn cyflymder diofyn o 20 mya yw hwn, ac yna mae gan awdurdodau lleol y gallu, ac mae pob awdurdod lleol wedi defnyddio'r gallu hwn, i osod terfynau cyflymder eraill. Pe bai'n waharddiad cyffredinol, ni fydden nhw wedi gallu gwneud hynny. Dyna pam mae'n anwir parhau i'w ailadrodd, ni waeth faint o weithiau y mae'n cael ei egluro, ni waeth faint o weithiau y mae arweinydd yr wrthblaid yn gwybod bod yr hyn y mae'n ei ddweud yn ystumiad o'r gwir, y sefyllfa yw ei fod yn derfyn cyflymder diofyn, gyda gallu awdurdodau lleol, y mae awdurdodau lleol yn ei ddefnyddio, i ddiwygio'r terfyn cyflymder hwnnw ar ffyrdd lle maen nhw'n gwybod mai dyna'r ateb cywir i'w poblogaethau lleol.

Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gadwraeth adeiladau hanesyddol yng Nghymru? OQ59922

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae'r meini prawf a ddefnyddir i bennu statws adeilad rhestredig o reidrwydd yn llym. Mae'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer rheoli a diogelu adeiladau rhestredig yn cael ei ategu gan reolaethau cynllunio a all ddiogelu adeiladau o werth arbennig i gymunedau. Mae gan gyrff cyhoeddus, y trydydd sector a pherchnogion swyddogaethau pwysig i'w cyflawni o ran diogelu ein hadeiladau hanesyddol.

Diolch, Prif Weinidog. Fel y byddwch yn gwybod, mae'r sector treftadaeth yng Nghymru werth swm anhygoel o £960 miliwn i economi Cymru, ac mae Cymru yn wirioneddol ffodus o fod â nifer fawr o adeiladau a henebion hanesyddol. Fodd bynnag, mae angen gofal sylweddol ar y rhain os ydyn nhw'n mynd i gael eu cynnal a'u cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o nifer o sefydliadau treftadaeth sydd wedi mynegi pryder yn ddiweddar am brinder crefftwyr a chrefftwragedd sydd â gwybodaeth am y sgiliau adeiladu traddodiadol sydd eu hangen i atgyweirio ac adfer yr adeiladau a'r henebion hanesyddol hyn. Rwy'n cydnabod bod Cadw yn gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru ar hyn o bryd i fynd i'r afael â'r broblem hon a bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Cymwysterau Cymru ar ddatblygu cymwysterau newydd a fydd yn codi proffil sgiliau adeiladu traddodiadol. Ond os ydym ni'n mynd i ddenu pobl i mewn i'r sector hwn, mae angen iddyn nhw fod yn ymwybodol o faint y prinder sgiliau a'r potensial ar gyfer gwaith ar ôl cymhwyso. Gyda hyn mewn golwg, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r diffyg gweithwyr medrus sydd wedi'u hyfforddi yn y sector crefftau treftadaeth a pha ymdrechion a wnaed i hysbysebu crefft adeiladu traddodiadol fel gyrfa bosibl i ymadawyr ysgol? Diolch.

13:40

Wel, diolch i Joel James am y cwestiwn pwysig yna, ac rwy'n cytuno â phopeth, rwy'n credu, a ddywedodd. Mae'r sector yn un pwysig iawn yma yng Nghymru. Rydym ni'n ddigon ffodus—mae gennym ni dros 30,000 o adeiladau rhestredig yng Nghymru, ac mae Cadw yn parhau i restru adeiladau o arwyddocâd cenedlaethol. Rwy'n credu, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, eu bod nhw wedi rhestru 26 adeilad newydd allan o 88 cais. Felly, mae'r meini prawf yn llym, ac fe ddylen nhw fod. Ond mae Joel James yn iawn i ddweud bod prinder pobl sydd â'r sgiliau arbenigol iawn sydd eu hangen i ddiogelu a chadw rhai o'n hadeiladau hanesyddol pwysicaf. Dyna pam mae Cadw wedi cymryd yr awenau, o ran gweithio gydag eraill yn yr union ffordd y dywedodd yr Aelod, i nodi lle mae prinder sgiliau yn bodoli, i wneud yn siŵr bod cymwysterau ar gael i bobl a fyddai'n fodlon hyfforddi, ac yna bod y bobl hynny yn gwybod y bydd llif o waith iddyn nhw ei wneud yn y dyfodol.

Un o'r rhesymau pam mae mor bwysig bod Cadw yn cymryd yr awenau yw oherwydd ei bod hi'n debygol y bydd angen rhannu'r sgiliau hynny ar draws amrywiaeth o brosiectau gwahanol, nad yw pob un ohonyn nhw'n cael eu rhedeg gan yr un sefydliad. Mae Cadw, fel y corff cydgysylltu, mewn sefyllfa dda i wneud yn siŵr bod modd y gall y llif gwaith hwnnw gael ei wneud ar gael, ac mae Cadw, wrth gwrs, ei hun yn ariannwr mawr o'r math o waith y byddai angen y sgiliau hynny i'w gwblhau. Y llynedd, cyflwynodd Cadw 58 o grantiau adeiladu hanesyddol, gwerth bron i £2 filiwn. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Cadw, gyda Cymwysterau Cymru, i wneud yn siŵr bod pobl a fyddai'n barod i ymroi eu bywydau gwaith i rywfaint, rwy'n credu, o'r gwaith mwyaf gwerth chweil y byddan nhw'n ei ganfod ar gael iddyn nhw yn gwybod bod y cyfleoedd hynny'n bodoli, a'n bod ni'n gweithio gyda'n gilydd i gynyddu'r cyflenwad o bobl i fanteisio ar y cyfleoedd hynny.

Efallai fod y Prif Weinidog yn ymwybodol bod y Pwyllgor Deisebau, y mae, rwy'n credu, Joel James yn aelod ohono, wedi ystyried—a bydd yn cael dadl ar lawr y Siambr hon—mater cynlluniau rheoli cadwraeth a chael gwneud y rheini'n orfodol ar gyfer adeiladau hanesyddol. Rwy'n falch iawn bod y pwyllgor wedi gwneud hynny, ac rwy'n dweud 'diolch' ar draws y pleidiau, ar draws y pwyllgor, i'r Aelodau hynny sydd wedi gwneud hynny. Cychwynnwyd y ddeiseb gan Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Rhiw'r Perrai, a byddwn yn argymell yn gryf bod Llywodraeth Cymru, cyn paratoi ymateb i'r ddadl yn y Siambr hon, yn siarad ag Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Rhiw'r Perrai am pam yn benodol y byddai'n ddefnyddiol i gastell Rhiw'r Perrai. Mae Castell Rhiw'r Perrai mewn perchnogaeth breifat, ond byddai bod â chynllun rheoli cadwraeth yno, o leiaf, yn helpu i ddiogelu'r castell ar gyfer y dyfodol, hyd yn oed os nad yw'n ei agor i ymwelwyr. A gaf i, felly, ofyn am gefnogaeth y Prif Weinidog yn hynny a bod Llywodraeth Cymru wedyn, fel y dywedais i, yn gwrando ar Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Rhiw'r Perrai?

Wel, diolch i Hefin David. Rwy'n gefnogwr o'r Pwyllgor Deisebau, ac, rwy'n credu, o dan arweinyddiaeth Jack Sargeant yn nhymor y Senedd hon, ei fod wedi bod yn gwneud gwaith eithriadol o ddiddorol. Felly, edrychaf ymlaen at gael y ddadl honno ar lawr y Senedd. Mae'r Aelod sy'n gyfrifol am y materion hyn yn y Siambr a bydd wedi clywed yr hyn a ddywedodd Hefin David, a gall fod yn sicr y bydd y Llywodraeth yn meddwl yn ofalus am yr achos dros gynlluniau rheoli statudol yn y sector hwn ac y byddwn yn cyflwyno ein hymateb pan fydd y ddadl honno'n cael ei chynnal.

Brif Weinidog, mae'n drist nodi bod Caerdydd wedi colli un o'r strydoedd olaf o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yng nghanol ein prifddinas ni. Bydd trigolion Caerdydd o oedran arbennig yn siarad yn hiraethus iawn am y pwll nofio Fictoraidd, y Guildford baths, oedd ar y stryd yna—adeilad o bensaernïaeth arbennig wedi ei ddymchwel am westy sy'n bensaernïol ddi-nod. Wrth ddymchwel adeiladau Guildford Crescent ac amddifadu busnesau bychain o'u cartref, dywedodd y cyngor nad oedd angen asesiad impact amgylcheddol ar y datblygwyr. Yn sicr, wedi i'r ffasâd nawr ddilyn gweddill yr adeiladau, dylai fod asesiad llawn hefyd o'r impact diwylliannol ac economaidd o golli adeiladau felly. Fel un sydd wedi byw yng Nghaerdydd ers degawdau, Prif Weinidog, rwy'n siŵr bod yna adeiladau yr ydych chi'n hiraethu amdanyn nhw fan hyn yn y brifddinas sydd nawr yn angof. Sut all Llywodraeth Cymru gydweithio â Chyngor Caerdydd i sicrhau nad yw'n prifddinas yn colli rhagor o fannau hanesyddol, ac a fyddech chi'n ystyried galwad y Sefydliad Siartredig Adeiladu am lefi dymchwel ar ddatblygwyr? Diolch yn fawr.

13:45

Diolch yn fawr i Rhys ab Owen. Beth sydd wedi digwydd yn Guildford Crescent, fel dwi'n ei deall, yw bod y developer wedi symud ymlaen i wneud pethau heb gael y caniatâd gyda Chyngor Caerdydd. So, lan i Gyngor Caerdydd yw e nawr os ydyn nhw'n mynd i wneud unrhyw beth yn ffurfiol yn erbyn y person sydd wedi mynd ymlaen heb gael y caniatâd i'w wneud e.

Yn gyffredinol, Llywydd, cyfeiriais i yn yr ateb gwreiddiol at y ffaith bod y pwerau gydag awdurdodau lleol i greu rhestri lleol, a phan fyddan nhw yn gwneud hynny a rhoi adeiladau ac yn y blaen ar y rhestr, maen nhw'n gallu cryfhau beth maen nhw'n gallu ei wneud i warchod pethau fel yna i'r dyfodol. Ysgrifennodd y Dirprwy Weinidog mas i'r awdurdodau lleol nôl ym mis Gorffennaf flwyddyn diwethaf yn tynnu eu sylw nhw at y pwerau sydd gyda nhw ac i drial dweud wrthyn nhw am bwysigrwydd defnyddio'r pwerau yna, defnyddio'r pwerau sydd gyda chynghorau lleol, i helpu i warchod adeiladau a llefydd eraill ble mae lot o ddiddordeb lleol, a phan fo adeiladau fel yna yn cyfeirio at garacter lleol pethau, fel Guildford Crescent yma yng Nghaerdydd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Llywydd. Pen-blwydd hapus a llawer ohonyn nhw, Prif Weinidog. Rwy'n siŵr y gallai pob un ohonom ni feddwl am leoedd gwell i fod ynddyn nhw ar ein pen-blwydd na Siambr drafod y Senedd, neu efallai nad yw hyn yn wir. Ond hoffwn godi gyda chi y trydariad a gyhoeddwyd gan y Cwnsler Cyffredinol ddydd Sadwrn, ac mae'n werth ei ailadrodd:

'Torïaid mor hapus i weld pobl ac yn enwedig plant yn cael eu lladd a'u hanafu ar ein ffyrdd.'

Mae hynny, does bosib, yn iaith annerbyniol i'w defnyddio wrth geisio ymgymryd â safbwynt polisi yr ydym ni'n anghytuno yn ei gylch. Nid yw dweud y byddem ni'n arbennig o falch o weld plant yn cael eu lladd a'u hanafu yn dderbyniol, ydy e, Prif Weinidog?

Wel, fel yr wyf i'n deall, fe wnaeth y Cwnsler Cyffredinol ddileu'r trydariad ar unwaith ac ers hynny mae wedi cydnabod na fyddai wedi ei fynegi yn y ffordd honno pe bai wedi bod mewn sefyllfa i roi ystyriaeth bellach iddo.

Rwy'n ddiolchgar bod y trydariad hwnnw wedi cael ei ddileu, ond ni chlywais ymddiheuriad i'r bobl yr oedd wedi ei anelu atyn nhw. Yn y pen draw, roedd yn drydariad sarhaus iawn, a dweud y lleiaf, i ddweud y byddem ni'n dymuno gweld plant yn cael eu hanafu. Ond mae wedi cael ei ddileu. Roeddwn i wedi gobeithio efallai y byddech chi fel Prif Weinidog wedi ymddiheuro ar ran y Cwnsler Cyffredinol, ond, yn amlwg, nid yw hynny'n mynd i ddigwydd.

Felly, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, am y cynigion cyllideb y mae eich Llywodraeth yn eu hystyried ar hyn o bryd, pa lefel o amddiffyniad fydd yn cael ei rhoi i gyllideb y GIG yn y trafodaethau hynny, o gofio'r datganiad gan y Gweinidog iechyd yr wythnos diwethaf bod pob bwrdd iechyd mewn rhyw fath o fesurau arbennig ariannol nawr a bod y gorwariant a ragwelir o'u cyllidebau yn £800 miliwn?

Llywydd, mae'n wir bod pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn wynebu heriau gyda'u cyllidebau. Nid yw hynny'n unrhyw syndod i unrhyw un sy'n cydnabod yr effaith ar ein holl wasanaethau cyhoeddus o fwy na degawd o gyni cyllidol Ceidwadol. Dyna'r rheswm y mae byrddau iechyd yng Nghymru o dan gymaint o bwysau: mae oherwydd bod eu cyllidebau wedi cael eu dal i lawr flwyddyn ar ôl blwyddyn. Os hoffech chi edrych, Llywydd, ar y graffiau sydd ar gael yn gyhoeddus, maen nhw'n dangos, yn 2010, yn gryno, o ganlyniad i ddegawd o fuddsoddiad cynyddol, bod cyfran yr incwm cenedlaethol a wariwyd ar wasanaethau iechyd ledled y Deyrnas Unedig wedi cyrraedd y cyfartaledd a wariwyd mewn gwledydd fel yr Almaen a Ffrainc ac eraill y byddem ni'n aml yn cymharu ein hunain â nhw. Byth ers hynny, mae'r graff hwnnw wedi drifftio, drifftio i lawr ac i lawr, fel bod y bwlch rhwng yr hyn sydd ei angen yn ein gwasanaethau cyhoeddus a'r hyn sydd ar gael o ganlyniad i benderfyniadau Llywodraeth ganolog yn golygu bod byrddau iechyd yn cyrraedd y sefyllfa y maen nhw ynddi, wedi'i gwaethygu nawr gan chwyddiant, effaith costau ynni sy'n codi'n gyflym, setliadau cyflog heb eu hariannu, lle mae Llywodraeth y DU yn dod i gytundebau cyflog ac yn darparu dim arian o gwbl i'w hariannu. Y canlyniad yw bod byrddau iechyd ledled Cymru gyfan—a ledled y Deyrnas Unedig gyfan, heb unrhyw amheuaeth o gwbl; byrddau iechyd ym mhobman—. Nid ffenomen Gymreig mo hon; edrychwch ar yr hyn sy'n digwydd dros ein ffin a gweld yr anawsterau y mae'r byrddau iechyd yno ynddynt hefyd.

Bydd y Llywodraeth hon bob amser yn blaenoriaethu'r gwasanaeth iechyd gwladol. Dyna fu cymeriad y sgyrsiau yr ydym ni wedi eu cael ar draws yr haf i wneud yn siŵr, er gwaethaf y pwysau sydd yno a'r anawsterau y mae'r byrddau iechyd yn eu hadrodd, ein bod ni'n gweithredu pa bynnag gymorth y gallwn ni ddod o hyd iddo ar draws Llywodraeth Cymru i'w hamddiffyn rhag effeithiau gwaethaf ymosodiad ei blaid ar wasanaethau cyhoeddus.

13:50

Bai rhywun arall yw hi bob amser pan ddaw i'r Prif Weinidog—

Wel, yn yr achos hwn, rydych chi'n dweud hynny wrthyf i.

—Gweinidog, pan oedd yn Aelod o'r Senedd, a bwysodd y botwm yn amlwg i dorri cyllideb y GIG yma yng Nghymru. A fy nghwestiwn gwreiddiol i'r Prif Weinidog oedd: a fydd unrhyw fath o amddiffyniad yn cael ei roi i'r gyllideb iechyd o dan y trafodaethau presennol sy'n cael eu cynnal yn y Llywodraeth? Rwy'n derbyn yn llawn bod heriau ar draws y Deyrnas Unedig gyfan, ond Cymru yw'r unig wlad lle mae pob bwrdd iechyd mewn rhyw fath o fesur arbennig ariannol. Nid oes gan unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Unedig hynny ar waith. Ond mae'n rhaid i chi ofyn mewn gwirionedd: a ydych chi wedi cael eich blaenoriaethau yn iawn, Prif Weinidog? Mae deiseb, fel y clywsom ni, ar wefan y Pwyllgor Deisebau yn erbyn y gwaharddiad cyffredinol 20 mya sydd wedi cael ei gyflwyno, hyd at 162,000 o lofnodion. Rydych chi'n cynnig rhoi 36 o wleidyddion arall yn y sefydliad hwn, am gost o £120 miliwn, ac eto, pan fyddaf yn cynnig cyfle syml i chi gynnig rhywfaint o gysur i'r rhai yn y gwasanaeth iechyd a'r rhai sy'n dibynnu ar y gwasanaeth iechyd y byddai'n cael rhyw fath o amddiffyniad yn rownd y gyllideb, rydych chi'n dewis peidio â chymryd y cyfle hwnnw i gynnig yr amddiffyniad hwnnw. Felly, a ydych chi wedi cael eich blaenoriaethau yn iawn, Prif Weinidog?

Wel, yn gyntaf oll, Llywydd, gadewch i mi ailadrodd mai bwriad popeth yr ydym ni wedi ei wneud dros yr haf hwn yw diogelu'r gwasanaeth iechyd. Felly, os yw ef eisiau ateb ar hynny, mae ganddo. Bwriad popeth yr ydym ni'n ei wneud yw helpu'r gwasanaeth iechyd yn yr anawsterau y maen nhw'n eu hadrodd; gadewch i neb fod mewn unrhyw amheuaeth o hynny. Ac wrth gwrs, mae'r £92 miliwn y bydd y gwasanaeth iechyd yn ei arbed o ganlyniad i lai o ddamweiniau ar y ffyrdd ei hun yn gymorth i'r gwasanaeth iechyd yn ystod yr oes anodd sydd ohoni, a byddan nhw'n elwa yn y ffordd honno bob un blwyddyn. Ac mae arfogi'r Senedd i wneud yn siŵr y gall wneud y gwaith y gofynnir i ni ei wneud, gan ymdrin â chyllideb o £20 biliwn, ymdrin â'r pwerau sydd gennym nawr i godi trethi, delio â'r pwerau sydd gennym i ddeddfu i bobl yng Nghymru, gan sicrhau bod y sefydliad hwn yn addas ar gyfer y cyfrifoldebau rydym ni'n eu harfer ac y bydd yn y dyfodol, mae hwnnw'n fuddsoddiad yn ein holl wasanaethau cyhoeddus i wneud yn siŵr mai'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yma yw'r penderfyniadau gorau y gellir eu gwneud.

Diolch, Llywydd. Ddoe, mi gafodd cynlluniau cyffrous eu cyhoeddi i droi’r Senedd yma yn Senedd gryfach, fwy cynrychioliadol, fydd yn gwasanaethu Cymru’n well, a hynny 26 o flynyddoedd ers y refferendwm datganoli gwreiddiol. Dwi'n edrych ymlaen at gydweithio o fewn y Senedd yma i wireddu hyn; mae o'n gam hanesyddol.

Un peth y bydd diwygio'r Senedd hon yn ei wneud yw dod â ni'n agosach at lefel y gynrychiolaeth sydd ganddyn nhw yn Senedd yr Alban. Roedd hi'n naw mlynedd ddoe ers refferendwm annibyniaeth yr Alban. Hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog: a yw hwn yn undeb tecach, mwy cyfartal nawr o ganlyniad i'r bleidlais honno?

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd arweinydd Plaid Cymru, y bydd y newidiadau yr ydym ni'n bwriadu eu gwneud yn dod â chynrychiolaeth pobl yng Nghymru yn agosach at y gynrychiolaeth y mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig eisoes yn ei mwynhau, ac nid wyf i'n credu bod unrhyw beth y byddai unrhyw un yn ei ddifaru o wneud yn siŵr bod hawliau democrataidd pobl Cymru yn gymesur â'r hawliau democrataidd sydd gan bobl mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig. A ydw i'n credu bod y Deyrnas Unedig heddiw yn undeb cryfach nag yr oedd beth amser yn ôl? Wel, dydw i ddim. Rwyf i wedi dweud ers tro bod yr ymosodiad ar ddatganoli, yn enwedig ers 2019, yn cael yr effaith o danseilio cefnogaeth i'r undeb yn hytrach na'i ddatblygu. Fy nod, wrth gwrs, Llywydd, yw gwneud y ddadl dros yr undeb, dadl yr wyf i'n ei gredu sydd yno i'w gwneud ac i'w gwneud yn rymus. Ond mae gweithredoedd Llywodraeth Geidwadol 2019, â'i pholisi anghywir o undeboliaeth cyhyrog, gan gymryd arian yn ôl, cymryd pwerau yn ôl, tanseilio'r setliad y pleidleisiwyd drosto mewn dau refferendwm yma yng Nghymru, yn cael yr effaith groes mae arnaf ofn.

13:55

Rwy'n ddiolchgar am yr ymateb. Wrth gwrs mae'n undeb anghyfartal; mae'r dystiolaeth yn gwbl eglur. Dyna pam rwy'n credu ei bod hi'n bryd ailgynllunio Prydain. Mae'r Prif Weinidog yn credu ei bod hi'n amser ailgadarnhau. Ond gadewch i ni edrych ar sut mae anghydraddoldebau yn cael eu hamlygu. Un enghraifft: yr wythnos diwethaf, holais y Prif Weinidog am ddiffyg ymrwymiad Keir Starmer i drosglwyddo cyllid rheilffyrdd HS2 a Northern Powerhouse i Gymru—y £6 biliwn efallai y mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn ei wrthod i ni ar hyn o bryd. Mae'r gwir ffigur, mae'n debyg, yn agored i drafodaeth, gan fod y Torïaid yn gwneud cymaint o lanast o gyflawni HS2, ond mae'r egwyddor dal yr un fath. 'Nid yw'n addewid i mi ei wneud', oedd ateb y Prif Weinidog. Pam mae'r Prif Weinidog yn credu bod darpar Lywodraeth Lafur yn gallu gwneud ymrwymiadau gwario mewn meysydd eraill ond nid yn hwn? Oni ddylai tegwch i Gymru fod yn llinell goch?

Wel, gadewch i mi ddweud yn gyntaf oll—. Wel, yn gyntaf oll, Llywydd, gadewch i mi gywiro'r peth cyntaf un a ddywedodd arweinydd Plaid Cymru. Rwyf o blaid ailgynllunio'r Deyrnas Unedig; mae ef o blaid ei chwalu. Dyna'r gwahaniaeth rhyngom ni. Rwyf i o blaid ailgynllunio; yn sicr, nid yw ef. O ran HS2, os oes unrhyw wirionedd yn y sibrydion yr ydym ni'n eu darllen amdano bellach ddim yn mynd ymlaen i ogledd Lloegr, yna bydd y ffuglen a ddefnyddiwyd gan y Trysorlys i atal cyllid yma i Gymru yn cael ei ddatgelu hyd yn oed ymhellach.

Rydyn ni'n agosáu at y pwynt pan fydd yn rhaid i Lywodraeth y DU ddechrau ei hadolygiad gwariant cynhwysfawr nesaf. Rydyn ni yn nhrydedd flwyddyn, neu'n agosáu at drydedd flwyddyn, y cyfnod tair blynedd presennol. Mae hwnnw'n gyfle i wneud y ddadl eto o ran sut y gellir unioni ffactorau cymharedd rhwng gwahanol adrannau'r DU a fformiwla Barnett. A bydd y Gweinidog cyllid yn cyfarfod eto gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys—ei seithfed Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, fel yr wyf i bob amser yn atgoffa pobl. Mae hi gydag ef ddydd Mercher—yfory—yr wythnos hon, a byddwn yn gwneud y ddadl honno iddo eto.

Wrth gwrs, rwy'n edrych ymlaen at y dyddiau pan fydd Llywodraeth Lafur, oherwydd bydd Llywodraeth Lafur yn reddfol yn dymuno gwneud yn siŵr bod y penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud ar draws y Deyrnas Unedig gyfan, ac yn eithaf sicr bydd hynny'n cynnwys Cymru.

A'r math hwnnw o ymrwymiad i bob rhan o'r Deyrnas Unedig, gan gynnwys Cymru yn arbennig i ni, yr wyf i'n dal i chwilio amdano gan Keir Starmer. Mae gen i ddiddordeb mawr yn yr iaith a ddefnyddir gan y Prif Weinidog yn siarad amdanom ni eisiau chwalu Prydain. Does gen i ddim diddordeb mewn chwalu Prydain, ond mewn datblygu Cymru. Nid wyf i'n ystyried fy hun yn ymwahanwr; rwy'n credu y gallwn ni fod yn agosach at ein gilydd fel gwledydd annibynnol o fewn yr ynysoedd hyn. Ond, ddydd Sadwrn, rwy'n edrych ymlaen at orymdeithio dros annibyniaeth ym Mangor. Rwy'n gwahodd y Prif Weinidog i ddod hefyd. Efallai y bydd yn cael ei ysgubo o'r diwedd gan y don flaengar honno. Bydd llawer o gefnogwyr ei blaid yno, heb os, ochr yn ochr ag aelodau a chefnogwyr Plaid Cymru a'r rhai heb deyrngarwch i blaid, i gyd o dan un faner. 

Nawr, mae arolwg diweddar wedi fy nghalonogi i, sy'n awgrymu bod rhedeg ein materion ein hunain yn rhywbeth sy'n apelio'n gynyddol, neu, ddylwn i ddweud, ei bod hi'n dod yn fwyfwy amlwg ei fod yn angenrheidiol, oherwydd, i mi a'r rhai ohonom ni ar y meinciau hyn, diben annibyniaeth yw gallu datblygu Cymru decach a gallu bod yn fwy uchelgeisiol i Gymru, a bu hynny'n wir erioed. Ond, pan fydd y Ceidwadwyr ac yna Llafur yn gwneud addewidion fel atal cyllid HS2 ac ar beidio â chael gwared ar y cap ar fudd-dal dau blentyn, ac ar gymaint o faterion eraill sy'n mynd yn groes i werthoedd Cymru neu'n dangos annhegwch tuag at Gymru, a yw'r Prif Weinidog yn credu y bydd hynny'n arwain at fwy neu lai o gefnogaeth i annibyniaeth?

14:00

Wel, Llywydd, allaf i ddim helpu ond meddwl pe bai arweinydd Plaid Cymru wedi gallu cyflawni ei uchelgais o adael y Senedd a gwneud ei ffordd i San Steffan, y byddai wedi cael digon o gyfle i wneud y pwyntiau hyn yn uniongyrchol i Keir Starmer yn hytrach na gorfod ymddwyn yn gyson fel pe bawn i'n rhyw ddirprwy am le yr hoffai fod mewn gwirionedd. Nid wyf i'n credu ei bod hi'n gwbl annheg tynnu ei sylw at hynny. Does bosib y byddai unrhyw un sy'n credu y byddai chwalu'r Deyrnas Unedig yn arwain at berthynas agosach rhwng Cymru a chydrannau'r Deyrnas Unedig eisiau myfyrio ar brofiad Brexit. A ydym ni wir yn credu, ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, ein bod ni rywsut yn agosach at Ewrop nag yr oeddem ni cyn i hynny ddigwydd? Mae'n syniad sydd wir wedi'i wreiddio mewn ffantasi credu y gallech chi chwalu'r Deyrnas Unedig, gadael y cydrannau eraill, ac yna bod yn agosach atyn nhw o ganlyniad.

Edrychwch, Llywydd, rwy'n hapus iawn i barhau i wneud y ddadl yr wyf i'n ei gwneud, ac rwy'n credu ei bod hi'n ddadl sy'n taro tant gyda phobl yma yng Nghymru mewn niferoedd llawer iawn mwy na'r rhai a fydd yn dod allan i orymdeithio gydag ef eto ym Mangor, a'r ddadl dros undeb undod yw honno. Mae honno'n ddadl dros Deyrnas Unedig sydd wedi'i gwreiddio yng nghredoau'r Blaid Lafur, lle rydym ni'n cyfuno ein hadnoddau ac yn rhannu'r gwobrau ar sail angen, lle mae pobl yn gwybod bod ganddyn nhw hawliau ddiymwad penodol—hawliau yr ymosodwyd arnyn nhw dros y 10 mlynedd diwethaf—trwy fod yn aelod o'r Deyrnas Unedig. Ond bydd Llywodraeth Lafur newydd yn adfer hawliau pobl i wybod os byddan nhw'n sâl neu'n hen neu'n anabl, y byddan nhw'n cael eu diogelu gan y wladwriaeth; gan wybod os ydyn nhw yn y gweithle, y bydd hawliau yno i'w diogelu; gan wybod pan fyddan nhw'n prynu pethau yn y siopau y bydd hawliau defnyddwyr i wneud yn siŵr bod y nwyddau y maen nhw'n eu prynu o'r safon y mae ganddyn nhw hawl i'w disgwyl. Dyna'r math o undeb yr wyf i eisiau ei weld. Dyna'r math o undeb y bydd y Blaid Lafur yn ei roi gerbron pobl yn yr etholiad nesaf, a dyna'r undeb yr wyf i'n credu y bydd pobl yng Nghymru, mewn niferoedd mawr iawn, yn dangos eu bod nhw'n ei gefnogi.

Llywodraethu Amgylcheddol

3. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar lywodraethu amgylcheddol yng Nghymru? OQ59932

Diolch i'r Aelod, Llywydd, am y cwestiwn yna. Cadarnhaodd y datganiad ar y rhaglen ddeddfwriaethol ar 27 Mehefin y bydd Bil sy'n sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol i Gymru yn cael ei gyflwyno yn ystod tymor y Senedd hon. Yn y cyfamser, rydym ni'n cryfhau trefniadau i sicrhau bod yr asesydd dros dro yn gallu parhau i wneud ei gwaith gwerthfawr.

Diolch, Prif Weinidog, am eich ymateb, ac wrth gwrs pan bleidleisiodd pobl Cymru dros Brexit, un o'r pethau a enillwyd gennym oedd rheolaeth dros y llywodraethu amgylcheddol hwnnw, ac fel rydych chi wedi ei amlinellu heddiw, rwy'n croesawu hynny yn dod drwodd yn nhymor y Senedd hon, oherwydd yn 2018 wrth gwrs yr ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddeddfu ar gyfer y trefniadau domestig newydd hyn ar gyfer llywodraethu amgylcheddol. Mae'n drueni ei bod hi wedi cymryd pum mlynedd yn y cyfamser i hyn ddod drwodd, oherwydd wrth gwrs rydyn ni wedi gweld y cyfreithiau cyfatebol ar waith yn yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn y cyfnod hwnnw, ac o ganlyniad mae'n bosibl y bu gennym ni fwlch yn ein deddfwriaeth amgylcheddol. Ac wrth gwrs, rwy'n siŵr y byddech chi'n fy nghefnogi i weld hyn yn gweithio'n dda i rywogaethau fel y rhywogaethau yr wyf i'n eu hyrwyddo, sef y dolffin cyffredin. Felly, tybed, Prif Weinidog, o fewn y ddeddfwriaeth hon sy'n dod drwodd, pa ymrwymiadau allwch chi eu sicrhau fel bod rhywogaethau fel y dolffin cyffredin yn cael yr amddiffyniad a'r oruchwyliaeth y maen nhw'n eu haeddu.

Wel, Llywydd, diolch i Sam Rowlands am y cwestiwn yna, ac ailadroddaf y bydd yna ddeddfwriaeth yn ystod tymor y Senedd hon. Disgwylir i Bapur Gwyn gael ei gyhoeddi ym mis Ionawr. Bydd modd ymateb i'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud yno, oherwydd bydd y Papur Gwyn hwnnw yn creu llwybr at Fil a fydd yn cynnwys targedau bioamrywiaeth a thargedau adfer natur, yn ogystal â threfniadau llywodraethu amgylcheddol ôl-UE. Yn y cyfamser, rwy'n canmol gwaith yr asesydd dros dro, Dr Nerys Llewelyn Jones. Rwy'n credu ei bod hi wedi gwneud gwaith da iawn gyda'r pwerau sydd ganddi. Rydym ni'n mynd i gryfhau ei swyddfa yn y cyfamser, trwy benodi dirprwy asesydd dros dro, ac rydym ni'n cynyddu'r gyllideb sydd ar gael iddi i wneud yn siŵr bod ganddi fynediad at y cyngor arbenigol y bydd ei angen arni.

Os nad yw Aelodau yma wedi cael cyfle i'w ddarllen, rwy'n cymeradwyo ei hadroddiad blynyddol, a gyhoeddwyd i Aelodau'r Senedd yn gynharach eleni. Ynddo, mae'n nodi'r gwaith y mae wedi ei wneud ar safleoedd gwarchodedig, ar ansawdd dŵr, ar halogi tir, ar goedwigaeth, ac yn nodi'r rhaglen waith y mae'n parhau i'w dilyn yn ystod y flwyddyn galendr hon. Felly, er ein bod ni wedi ymrwymo i roi trefniadau parhaol ar waith ac, fel y dywedaf, byddwn yn nodi ein cynigion yn y Papur Gwyn hwnnw, ni ddylai neb gredu nad oes, yn y cyfamser, set o drefniadau hynod weithredol, ymroddedig ac, rwy'n credu, llwyddiannus iawn ar waith sy'n parhau i wneud yn siŵr bod mesurau diogelu'r amgylchedd yn cael eu cynnig yma yng Nghymru, ac yn cael eu gweithredu gyda thrylwyredd a chyda llwyddiant.

14:05

Rwyf innau hefyd yn canmol gwaith Dr Nerys Llewelyn Jones, yr asesydd dros dro. Mae hi wedi ymddangos ddwywaith gerbron y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith, dan gadeiryddiaeth mor fedrus Llyr. Ond fel y dywedwch chi, Prif Weinidog, mae'n drefniant dros dro. Bydd yn cael ei gryfhau yn y dyfodol. Ond rydyn ni'n edrych ymlaen at y trefniadau llywodraethu amgylcheddol hynny yn y dyfodol. A gaf i nodi, iddo fyfyrio arnyn nhw, dri awgrym a ddylai danlinellu'r hyn y dylai'r rheini ei wneud?

Yn gyntaf oll, dylen nhw roi llais i'r dinesydd, gan gynnwys ein dinasyddion iau a oedd yn yr oriel yn gynharach heddiw, o fewn llywodraethu amgylcheddol. Dylai hyrwyddo'r egwyddorion ymhellach a chyd-fynd ag egwyddorion ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 arloesol, a dylai gyflawni gwaith adfer natur. Felly, a allech chi fy sicrhau, yng Nghymru, na fyddwn ni'n gwneud dim, wrth i ni geisio cryfhau llywodraethu amgylcheddol yng Nghymru, a fyddai'n gwanhau'r mesurau diogelu ar gyfer natur ac ar gyfer ein hecosystemau iach, ac yn sicr nad ydym yn mynd i ddilyn awgrymiadau hurt fel yr hyn yr ydym ni wedi ei glywed gan Geidwadwyr y DU i gael gwared ar niwtraliaeth maetholion? Nid oes dewis rhwng cartrefi fforddiadwy ac afonydd iach. Mae hwnnw'n ddewis ffug, a dylem wrthod meddylfryd fel yna yma yng Nghymru.

Wel, Llywydd, cefais fy nharo gan yr hyn a ddywedodd Sam Rowlands wrth agor ei gwestiwn, ein bod ni, wedi'n rhyddhau o'r Undeb Ewropeaidd, bellach yn gallu cymryd bwyell i safonau amgylcheddol yma yn y Deyrnas Unedig. Efallai nad dyna'n union yr hyn a ddywedodd, ond os edrychwch chi ar weithredoedd ei Lywodraeth yn Llundain, dyna'n amlwg yr oedden nhw'n ei olygu. Nawr, wrth gwrs, roedden nhw'n ddigon di-glem i ddweud eu bod nhw'n mynd i gael gwared ar y rheol niwtraliaeth maetholion mewn datblygiadau tai newydd. Gadewch i ni fod yn eglur, yr unig ganlyniad o hynny fydd mwy o lygredd mewn afonydd, ond roedden nhw'n ddigon di-glem i gyflwyno pleidlais a gollwyd ganddyn nhw wedyn yn Nhŷ'r Arglwyddi, a'i wneud ar adeg pan oedd yn amhosibl iddyn nhw ddod â'r bleidlais honno yn ôl i gael penderfyniad pellach. Felly, ar ôl dweud eu bod nhw'n mynd i'w wneud, maen nhw bellach yn canfod na allan nhw ei wneud.

Wel, diolch byth, na allan nhw, ac rwy'n cytuno â Huw Irranca-Davies: ni fyddwn ni'n eu dilyn i lawr y llwybr hwnnw oherwydd, yma yng Nghymru, rydym ni'n benderfynol, trwy ddod â phawb o amgylch y bwrdd at ei gilydd, i gymryd camau a fydd yn caniatáu i adeiladu tai barhau, heb ychwanegu at y llygredd yn ein hafonydd. Ac, wrth gwrs, mae'r trefniadau llywodraethu amgylcheddol yn Lloegr yn golygu bod y rheoleiddiwr bellach yn ystyried mynd ar drywydd camau cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth y DU oherwydd eu methiannau yn y maes hwn. Bydd ein Bil llywodraethu amgylcheddol, pan gaiff ei gyflwyno, gallaf sicrhau'r Aelod, yn cynnwys targedau adfer natur a bydd yn sicr yn rhoi llais i ddinasyddion a phobl ifanc, yr ydym ni'n gwybod bod yr holl agenda hon mor bwysig iddyn nhw.

Effaith yr Argyfwng Costau Byw ar Gwm Cynon

4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith yr argyfwng costau byw ar Gwm Cynon? OQ59945

Diolchaf i Vikki Howells, Llywydd. Mae'r argyfwng yn parhau i gynhyrchu effeithiau newydd a niweidiol ym mywydau trigolion Cwm Cynon. Mae ffigurau diweddaraf Banc Lloegr, er enghraifft, yn dangos bod ôl-ddyledion morgais wedi cynyddu 13 y cant dros y chwarter diwethaf, a 29 y cant dros y flwyddyn ddiwethaf, wrth i'r cynnydd i gyfraddau llog greu bwlch mawr yn incwm aelwydydd.

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch chi wedi gweld y rhybuddion noeth gan y Resolution Foundation uchel ei barch, diolch i anallu economaidd Torïaid y DU, y bydd safonau byw gweithwyr y DU yn gwastatáu yn 2024. Bydd aelwydydd yn waeth eu byd y flwyddyn nesaf, yn waeth eu byd o 4 y cant nag yr oedden nhw yn 2019, diolch i storm berffaith o ddim twf a chostau sy'n cynyddu'n gyflym. Mae'r Resolution Foundation yn nodi nad yw teuluoedd erioed, mewn cof byw, wedi mynd cymaint tlotach yn ystod Senedd. Prif Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddiogelu dinasyddion rhag yr argyfwng costau byw Torïaidd hwn?

14:10

Wel, Llywydd, diolch i Vikki Howells am hynna. Rwy'n gwbl gyfarwydd â gwaith y Resolution Foundation. Tybed a allwn i ganolbwyntio ar un agwedd yn unig ar yr argyfwng costau byw yn fy ymateb. Cyfeiriais yn fy ateb gwreiddiol at effaith cynnydd i gyfraddau llog ar ddeiliaid morgeisi. Hoffwn ganolbwyntio ar hynny y prynhawn yma, oherwydd mae pwyllgor polisi ariannol Banc Lloegr yn cyfarfod eto ddydd Iau yr wythnos hon. Defnyddiais fy nghyfarfod tri misol yr wythnos diwethaf gyda Banc Lloegr i nodi fy mhryderon, o ran y cynnydd i gyfraddau llog, bod Banc Lloegr eisoes wedi gorgywiro, bod y cynnydd y maen nhw eisoes wedi ei roi ar waith yn peri'r risg o atal adferiad economaidd—ac nid fy marn i yn unig yw hynny; dyna farn Andy Haldane, cyn-brif economegydd Banc Lloegr ydyw, ac, yn wir, cyngor cynghori economaidd Llywodraeth y DU ei hun. Ond mae popeth yr ydym ni'n ei ddarllen yn awgrymu bod tebygolrwydd gwirioneddol y bydd yr MPC yn codi cyfraddau llog unwaith eto ddydd Iau yr wythnos hon.

Mae dadansoddiad y Resolution Foundation, y cyfeiriodd Vikki Howells ato, Llywydd, yn awgrymu mai dim ond hanner effaith cynnydd i gyfraddau llog a gyhoeddwyd eisoes sydd wedi bwydo drwodd i daliadau morgais uwch, ond y bydd bron i'r holl ail hanner yn cael ei deimlo yng nghyllidebau aelwydydd erbyn diwedd y flwyddyn galendr nesaf. Ac, yn syfrdanol, Llywydd: dros dymor y Senedd hon yn unig, os gwnewch chi gymharu 2026 â 2021, bydd pobl sy'n talu morgeisi yn y Deyrnas Unedig yn talu dros £17 biliwn yn fwy—£17 biliwn wedi'i gymryd allan o rym prynu teuluoedd ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig. Dywedodd Vikki Howells y bydd cartrefi 4 y cant yn waeth eu byd y flwyddyn nesaf. Bydd incwm gwario i ddeiliaid morgeisi 7 y cant, neu £2,700 bob blwyddyn yn is nag y byddai wedi bod cyn i fini-gyllideb drychinebus Liz Truss roi'r cynnydd hwn i gyfraddau llog ar waith.

Nawr, Llywodraeth Cymru, rydym ni wedi cynnal ein cynllun achub morgeisi erioed, mae dal yno, ac yn ddiweddarach yr hydref hwn byddwn yn lansio yma yn y Senedd ein cynllun Cymorth i Aros, a fydd yn fath o gymorth i dalwyr morgeisi a fydd yn symud cymorth i adeg gynharach yn y broses—nid aros i achub pobl ar y diwedd, ond gwneud pethau'n haws iddyn nhw o'r adeg pan fydd y broblem yn dechrau effeithio arnyn nhw. Dyna'r gwahaniaeth rhwng Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru a'r hyn sy'n cael ei wthio ar bobl gan benderfyniadau Llywodraeth y DU.

Yn anffodus, Prif Weinidog, fel y byddwch yn gwybod, y rhai sy'n byw mewn tlodi yw rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, â llawer ohonyn nhw'n oedrannus neu'n anabl, ac mewn cyfarfod diweddar gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, amlygwyd i mi nad yw llawer, yn amlach na pheidio, yn ymwybodol o'r cymorth ariannol ychwanegol y mae ganddyn nhw hawl iddo, neu'n bryderus iawn am wneud cais amdano. Bob blwyddyn, amcangyfrifir bod gwerth £15 biliwn o fudd-daliadau heb eu hawlio o bob rhan o'r Deyrnas Unedig, yr wyf i'n siŵr y byddai gan lawer o bobl sy'n byw yng Nghymru a Chwm Cynon hawl iddyn nhw, a phe bai'r rhai â hawl yn manteisio ar y cymorth hwn, nid oes gen i unrhyw amheuaeth y gallai helpu i fynd i'r afael â rhai o'r problemau y gallen nhw fod yn eu hwynebu. Gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i helpu i godi ymwybyddiaeth o gymorth ariannol heb ei hawlio a allai fod ar gael i bobl yng Nghwm Cynon a Chymru gyfan, a chynyddu mynediad ato? Diolch.

Wel, Llywydd, rwy'n canmol y comisiynydd pobl hŷn am ei hymgyrch credyd pensiwn. Mae Joel James yn iawn mai'r budd-dal sydd leiaf tebygol o gael ei hawlio yng Nghymru yw credyd pensiwn, a'r hynaf ydych chi, y lleiaf tebygol ydych chi o'i hawlio. Felly, mae'r ymgyrch y mae'r comisiynydd pobl hŷn wedi'i sefydlu yn un bwysig. Mae'n un yr ydym ni'n ei chefnogi; rydym ni'n ei chefnogi mewn sawl ffordd ymarferol. Mae ein gwaith ar yr argyfwng costau byw drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf wedi canolbwyntio ar wneud i bob cyswllt gyfrif. Pan fo gweithwyr proffesiynol sy'n dod i gysylltiad â phobl y gallai fod ganddyn nhw hawl i fudd-daliadau nad ydyn nhw'n manteisio arnyn nhw, yna dylid cymryd pob un o'r cyfleoedd hynny i hyrwyddo'r posibilrwydd hwnnw i'r unigolion hynny, ac i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu rhoi mewn cysylltiad â'r gwasanaethau cynghori hynny a all eu cynorthwyo i wneud yr hawliad hwnnw. Ceir miliynau o bunnoedd y mae gan bensiynwyr yng Nghymru yr hawl iddyn nhw, ar hyn o bryd, nad ydyn nhw'n eu derbyn. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r comisiynydd pobl hŷn, a sefydliadau eraill yng Nghymru, i geisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud cynnydd o ran y sefyllfa honno.

14:15
Trafnidiaeth Gyhoeddus Leol yn y Rhondda

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau yn y Rhondda sydd wedi eu heffeithio gan leihad sylweddol mewn trafnidiaeth gyhoeddus leol? OQ59946

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi sicrhau, yn gynharach eleni, fod £46 miliwn ar gael o gyllidebau bysiau i atal effaith sylweddol ar wasanaethau bysiau. Mae'r awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a'r gweithredwyr yn cydweithio'n rhanbarthol i gynllunio rhwydwaith sy'n gweithio orau i gwrdd ag anghenion teithwyr.

Diolch, Prif Weinidog. Neithiwr cynhaliais gyfarfod cyhoeddus yn Nhreorci. Er bod pobl yn deall yr angen i gau'r rheilffordd er mwyn cwblhau gwaith metro de Cymru, mae'r gwaith, ynghyd â gostyngiad mewn gwasanaethau bysiau lleol a chau pont Maendy yn Nhon Pentre, yn golygu bod tarfu difrifol ar deithio. Mae hyn yn gwneud plant yn hwyr yn cyrraedd yr ysgol ac yn ôl adref, yn gwneud pobl yn hwyr ar gyfer apwyntiadau meddygol a deintyddol, a dywedodd busnesau lleol wrthyf neithiwr eu bod yn gweld gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr ac felly yn ei chael hi'n anodd goroesi, wrth i fwy o bobl ddewis siopa ar-lein yn hytrach nag eistedd mewn traffig, am ddwy awr o bosibl, dim ond i allu siopa'n lleol. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i sicrhau bod yr holl waith sy'n effeithio ar drigolion a busnesau Rhondda yn cael eu cynllunio i leihau unrhyw amhariad cymaint â phosibl? A pha gymorth fydd ar gael i fusnesau y mae hyn yn effeithio arnyn nhw a gweithwyr na allant fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth ar hyn o bryd, oherwydd yr amhariad, neu sydd mewn perygl o golli eu swyddi oherwydd na allan nhw gyrraedd eu gwaith ac adref?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw. Rwy'n gyfarwydd iawn â'r materion y mae hi'n eu disgrifio, oherwydd maen nhw wedi cael eu cyfleu yn rheolaidd iawn i mi gan Buffy Williams, Aelod Senedd y Rhondda. Rwy'n ei chanmol hi am y gwaith egnïol iawn y mae hi wedi bod yn ei wneud, ynghyd â Trafnidiaeth Cymru a gyda'r awdurdod lleol, i ddelio â'r anawsterau sy'n cael eu profi yn yr ardal honno.

Mae rhai ohonyn nhw, rwy'n ofni, yn anodd eu hosgoi. Rydym yn buddsoddi miliynau o bunnoedd mewn newid cenhedlaeth yn seilwaith trafnidiaeth Cymoedd y de. Yn yr achos penodol hwn, mae hynny wedi cyd-ddigwydd â'r camau angenrheidiol i ddelio â'r anawsterau â phont Maendy. Rwy'n deall bod hynny'n cael effaith wirioneddol ar bobl yn lleol, ond nid yw'r bont yn ddiogel ar gyfer y dyfodol. Cafodd ei difrodi yn ystod storm Dennis, ac mae'r bont newydd yn hanfodol angenrheidiol ar gyfer cynaliadwyedd tymor hir y seilwaith trafnidiaeth. Ac mae hyn wedi'i gymhlethu gan y ffaith mai'r bont, er nad yw'n bont fawr ynddi ei hun, yw'r ffordd y mae llawer o gyfleustodau—prif gyflenwad nwy, prif bibellau dŵr—yn cael eu cario dros yr afon.

Rwy'n gwybod bod syniadau ymarferol pellach yn cael eu cynnig; rwy'n gwybod bod Buffy Williams yn rhoi'r rheini i'r awdurdod lleol, yn union fel yr wyf yn gwybod bod yr awdurdod lleol wedi gweithredu i gynyddu gwasanaethau bysiau cymunedol yn yr ardal honno, i helpu pobl i ddelio â'r anawsterau penodol sydd heb os yn cael eu profi ar hyn o bryd. Mae'r holl waith yn cael ei gynllunio i'w gwblhau mor gyflym ag y gall gael ei wneud yn ddiogel, ac yna rwy'n credu y bydd pobl leol wir yn gweld budd y buddsoddiad sy'n cael ei roi yn eu cymuned.

Twyllwybodaeth Ar-lein

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thwyllwybodaeth ar-lein? OQ59944

Mae natur twyllwybodaeth ar-lein yn newid yn gyflym, gydag ymddangosiad bygythiadau newydd a gweithredwyr gelyniaethus newydd. Rwy'n gobeithio y bydd rôl a chyfrifoldebau estynedig Ofcom fel rhan o weithrediad Bil Diogelwch Ar-lein Llywodraeth y DU yn cael yr effaith fwyaf posibl yn y maes hynod ofidus hwn. 

14:20

Diolch, Prif Weinidog. Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth y DU yr adolygiad integredig diweddaraf, sef 'Ymateb i fyd mwy cystadleuol a helbulus', a amlygodd ei blaenoriaethau ar gyfer diogelu'r Deyrnas Unedig. Mae'n amlwg o'r adroddiad hwn mai un o'r bygythiadau mwyaf i'r DU, ei sefydliadau a'i democratiaeth yw twyllwybodaeth, sy'n cael ei diffinio fel 'gwybodaeth ffug y bwriedir iddi gamarwain—cam-ddatgan y ffeithiau yn fwriadol'. Rydyn ni i gyd yn ymwybodol, ers 2015 yn benodol, bod cynnydd pryderus wedi bod mewn twyllwybodaeth, gyda phwerau gelyniaethus a throseddwyr yn dod yn fwy eofn, yn ogystal â botiaid a deallusrwydd artiffisial.

Roedd Bil Diogelwch Ar-lein Llywodraeth y DU, fel y sonioch chi, i fod i fynd peth o'r ffordd i ymdrin â hyn, ac yn arbennig i amddiffyn plant ar-lein. Felly, mae'n gynyddol siomedig pan welwn ni wleidyddion yn lledaenu twyllwybodaeth yn rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol, oherwydd diffiniad arall mwy noeth o 'dwyllwybodaeth' yn y cyd-destun hwn yw defnyddio hanner gwir a dadl afresymol i gamliwio barn y cyhoedd wrth fynd ar ôl amcanion gwleidyddol. Gadewch imi fod yn glir: nid oes tir uchel foesol i wrthblaid sefyll arno heddiw, nid yn unig oherwydd y datganiad ffug am derfyn cyflymder blanced o 20 mya, fel y cyfeiriodd fy nghyd-Aelod John Griffiths ato yn gynharach, ond y targedu unigolion ag ymosodiadau personol; beirniadu cefnogaeth Llywodraeth Cymru i athrawon newydd o gefndiroedd amrywiol; gwybodaeth anghywir am ystafelloedd newid un rhyw; defnyddio plant bregus ceiswyr lloches fel 'pêl-droed wleidyddol'—mae hwnna'n ddyfyniad uniongyrchol gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru; a thargedu ein cymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae'n rhaid iddo stopio, mewn gwirionedd. Nid yw'n gwneud unrhyw ffafrau i'r un ohonom ni. Prif Weinidog, pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i fynd i'r afael â thwyllwybodaeth dinistriol sydd o bosibl yn tanseilio ein democratiaeth yng Nghymru? 

Diolch i Sarah Murphy am y cwestiwn atodol pwysig hwnnw. Yn gyntaf, gadewch imi ddelio'n uniongyrchol â'r pwynt y mae'n ei wneud am ddemocratiaeth ei hun, oherwydd yma yng Nghymru byddwn ni'n cyflwyno deddfwriaeth i gryfhau democratiaeth Cymru—y Bil a osodwyd ddoe, y Bil diwygio etholiadol y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ei gyflwyno yn ddiweddarach yn y tymor. Llywydd, cefais fy synnu gan lythyr a ysgrifennodd y Comisiwn Etholiadol at y Cwnsler Cyffredinol ar 15 Medi, lle maen nhw'n dweud bod eu dadansoddiad nhw yn dangos bod bron i 400,000 o bobl ledled Cymru ar goll o'n cofrestrau etholiadol—400,000 o bobl nad ydynt yn gallu arfer eu hawl i bleidleisio yma yng Nghymru.

Bydd ein Bil ni yn cywiro hynny. Bydd yn ein symud ni i lawr y ffordd o gofrestru awtomatig i sicrhau bod pobl yn gallu arfer eu hawliau democrataidd yma yng Nghymru. Yn y ffordd y cyfeiriodd Sarah Murphy ato, mae hynny'n wrthgyferbyniad llwyr i'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn ceisio gosod rhwystrau newydd yn llwybr pobl sy'n ceisio arfer eu hawl ddemocrataidd. Gwyddom yn awr gan Syr Jacob Rees-Mogg fod yr holl honiadau a wnaed gan Weinidogion y DU fod hyn er mwyn dileu twyll—twyll nad oedd ganddyn nhw unrhyw dystiolaeth o gwbl ohono—yr union fath o dwyllwybodaeth y mae Sarah Murphy yn cyfeirio ati, oherwydd bod Syr Jacob Rees-Mogg yn dweud yn hollol glir mai beth ydoedd oedd ymdrech i jerimandro y canlyniadau yn etholiadau Lloegr. 

Aeth Sarah ymlaen i wneud dadl ehangach na hynny am effaith ddinistriol gwleidyddion yn fwriadol yn cyflwyno dadleuon yr oedden nhw'n gwybod eu bod yn anwir. Nid wyf am ailadrodd popeth y soniom ni amdano yn gynharach y prynhawn yma, Llywydd, ond gadewch imi gymryd un o'r pwyntiau a wnaeth Sarah Murphy. Rwy'n credu ei fod yn warth—dim llai na gwarth—pan fo gwleidyddion arweiniol yn gwneud honiadau yn barhaus yr wyf i'n credu eu bod yn gwybod nad ydyn nhw wedi'u gwreiddio yn y ffeithiau. Pan fo ein cynllun ni ar gyfer incwm sylfaenol cyffredinol yn cael ei ymestyn i rai o'r plant mwyaf agored i niwed—a dyna beth ydyn nhw, plant; plant sydd heb eu teuluoedd eu hunain ac sy'n cyrraedd Cymru ac sydd bellach yn rhan o'n cymdeithas ni yma yng Nghymru—rwy'n credu bod hynny'n arwydd o'r Gymru yr ydym ni am fod, a phan fydd hynny'n cael ei ddefnyddio a'i gamddefnyddio gan wleidyddion yr wrthblaid i ysgogi teimladau pobl yn erbyn ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gan wybod na all yr hyn y maen nhw'n ei ddweud fod yn wir, gwybod yn llwyr—. Rwyf wedi gweld yr hyn a ddywedwyd ac rwy'n gwybod pa fwriad sydd y tu ôl iddo, ac rwy'n dweud bod hynny'n warth llwyr. 

14:25
Gwasanaethau Iechyd Meddwl

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru? OQ59942

Yn ogystal â chyllid sylweddol a pharhaus ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, rydyn ni'n darparu adnoddau iechyd meddwl penodol yng ngweithrediaeth newydd y GIG. Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddwr rhaglen iechyd meddwl cenedlaethol sy'n arwain yr ymdrechion i sicrhau gwelliant cyson mewn gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru.

Diolch, Prif Weinidog, am eich ymateb. Yr wythnos diwethaf, a heddiw, rydyn ni wedi clywed llawer o drafodaeth am gymryd camau i achub bywydau ledled Cymru, ac un ffordd sy'n seiliedig ar dystiolaeth o wneud hynny yw darparu mwy o gymorth iechyd meddwl ledled Cymru. Mae'n hynod o drasig bod 347 o achosion o hunanladdiad wedi bod yma yn 2021. Rwy'n ei chael hi'n hynod o frawychus bod cynlluniau atal hunanladdiad a hunan-niweidio Llywodraeth Cymru wedi dod i ben y llynedd, yn 2022, heb unrhyw ddiweddariad yn cael ei roi. Felly, Prif Weinidog, a wnaiff y Llywodraeth addo diweddaru'r cynlluniau hyn a chymryd camau ystyrlon i ddarparu mwy o gymorth iechyd meddwl i bobl Cymru?

Mae Peter Fox yn gwneud pwynt pwysig. Mae ffigurau hunanladdiad ledled Cymru yn destun pryder gwirioneddol. Maen nhw wedi bod ers peth amser. Maen nhw wedi eu crynhoi, fel mae'n gwybod, ymhlith grwpiau penodol yn y boblogaeth ac ymhlith grwpiau galwedigaethol penodol. Cefais fy nharo'n fawr yn gynharach yn yr haf pan oeddwn i a'r Gweinidog dros faterion gwledig yn sioe sir Benfro ac fe wnaethom ni gwrdd â phobl a oedd yn rhan o sefydlu Sefydliad DPJ. Bydd eich cyd-Aelod Sam Kurtz yn eu hadnabod yn dda iawn. Mae cymunedau ffermio yn arbennig o agored i'r risg o hunanladdiad oherwydd yn aml mae ganddyn nhw'r modd o ladd eu hunain wrth law. Felly, rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'r sefydliad a gyda llawer o grwpiau gwirfoddol a thrydydd sector eraill. Mae'r Gweinidog yn gweithio gyda'r grwpiau hynny a'r gymuned iechyd meddwl ehangach yma yng Nghymru i ddiweddaru'r strategaeth honno. Rydyn ni'n ffodus iawn o fod â chlinigwyr blaenllaw yn y DU yma yng Nghymru sy'n gweithio yn y maes hwn ac sy'n rhoi eu harbenigedd yn rhydd iawn i ni fynd i'r afael â'r mater hwnnw a gwella gwasanaethau, a gallaf roi sicrwydd llwyr iddo fod y Gweinidog yn gwbl ymroddedig i sicrhau ein bod yn alinio ein gwasanaethau iechyd meddwl mewn ffordd sy'n cynnig y posibilrwydd o leihau'r risg honno o hunanladdiad yma yng Nghymru. 

Prynhawn da, Prif Weinidog. Diolch i Peter Fox am godi'r mater pwysig hwn. Roeddwn i wir eisiau canolbwyntio ar blant sydd â salwch meddwl. Rydyn ni'n gwybod bod yna grŵp arbennig o agored i niwed yn y rhai sy'n derbyn gofal, ac rwy'n gwybod bod gennych chi ymroddiad ac ymrwymiad gwirioneddol i sicrhau bod y bobl ifanc hynny yn benodol yn cael gwasanaeth da ym maes iechyd meddwl. Gwyddom fod y bobl ifanc hynny bedair gwaith yn fwy tebygol o ddioddef o broblem iechyd meddwl. Rydyn ni wedi gweld gwelliannau cyflym yng Nghymru o ran amseroedd aros yn ein gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc, ond maen nhw wedi cynyddu mewn gwirionedd yn ystod y chwe mis diwethaf. Ers mis Rhagfyr, mewn gwirionedd, rydyn ni wedi gweld cynnydd yn nifer y plant sy'n aros am wasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru. Felly, tybed a allech chi roi sicrwydd i ni ac ailddatgan eich ymrwymiad i sicrhau bod pwyslais manwl iawn ar sicrhau nad yw'r amseroedd aros yn cynyddu ymhellach. Diolch yn fawr iawn. 

Rwy'n hapus i roi'r ymrwymiad hwnnw, ond ei wneud yn y ffordd yr ydym ni wedi ceisio bwrw ymlaen yma yng Nghymru dros nifer o flynyddoedd. Y ffordd orau o leihau amseroedd aros yw bod â llai o bobl y mae angen eu hatgyfeirio i'r gwasanaethau haen 4 hynny, fel y'u gelwir—mae'n ddrwg gen i am ddefnyddio'r jargon; y gwasanaethau mwy ymwthiol—a'r buddsoddiad yr ydym wedi'i wneud yn y gwasanaethau bob dydd hynny, gwasanaethau nad oes angen cael eich hatgyfeirio iddyn nhw ond gallwch chi eu defnyddio, fel gwasanaethau cwnsela ysgolion. Rydyn ni'n gwybod po fwyaf y byddwch chi'n buddsoddi ar gyfer pobl ifanc pan fyddan nhw'n dechrau teimlo ymdeimlad o ddiffyg lles meddyliol, y gorau yw'r cyfle sydd gennych o helpu'r bobl ifanc hynny i gael datrysiad llwyddiannus. Yr hyn nad ydym ni ei eisiau yw i'r bobl ifanc hynny deimlo nad oes ganddyn nhw unman arall i fynd heblaw am y gwasanaethau arbenigol, lle byddan nhw yn aml yn aros ac yna yn canfod nad y gwasanaeth hwnnw yw'r gwasanaeth sy'n iawn iddyn nhw. Felly, rydyn ni'n awyddus iawn yn wir i fynd ati i fuddsoddi yn y gwasanaethau hynny sy'n darparu cymorth ar unwaith, cyfnod cynnar i bobl ifanc i osgoi'r angen iddyn nhw yn nes ymlaen orfod defnyddio gwasanaethau arbenigol, fel bod y bobl hynny y mae angen gwasanaethau arbenigol arnyn nhw—a bydd bob amser pobl ifanc sydd yn wirioneddol sâl yn feddyliol—yn gallu cyrraedd blaen y ciw hwnnw cyn gynted â phosibl, oherwydd dydy'r ciw ddim yn llawn o bobl a fyddai, mewn gwirionedd, wedi cael eu gwasanaethu'n well gan fath gwahanol o wasanaeth. 

14:30
Dyfodol Ffermio Organig

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol ffermio organig yng Nghymru? OQ59936

Diolch i Llyr Gruffydd, Llywydd. Mae arferion ffermio organig yn cyd-fynd yn dda ag egwyddorion rheoli tir yn gynaliadwy, ein fframwaith ar gyfer cymorth i’r byd amaeth yn y dyfodol. Mae ffermydd organig eisoes yn dilyn yr egwyddor o reoli tir yn gynaliadwy, ac felly dylen nhw fod mewn sefyllfa dda i symud yn haws i'r cynllun ffermio cynaliadwy yn 2025. 

Wel, y gwir amdani yw, wrth gwrs, fod y gefnogaeth bresennol, Glastir Organig a Glastir Advanced ac yn y blaen, yn dod i ben, ac felly mae nifer o ffermwyr organig wedi cysylltu â fi yn mynegi gofid mawr ynglŷn â dyfodol eu busnesau nhw. Mae'n debyg mai'r hyn y gwelwn ni, oherwydd yr ansicrwydd, yw bod nifer eisoes yn gwneud y penderfyniad eu bod nhw am adael ffermio organig. Nawr, mae hynny'n dadwneud degawdau o waith a buddsoddiad gan gynlluniau agri-amgylcheddol yn y gorffennol. Mae e hefyd, wrth gwrs, yn tanseilio yr hyn roeddech chi'n honni byddai nod polisïol eich gwaith chi o gwmpas y cynllun ffermio cynaliadwy, sef annog a hyrwyddo mwy o'r math yma o beth. 

Nawr, dwi wedi clywed y bydd ffermwyr organig yn gallu cael mynediad i'r Habitat Wales scheme. Wel, mae hwnna'n mynd i fod yn agored, wrth gwrs, i bawb, yn fwy na dim ond y rhai sydd ag organic certification. Felly, pa sicrwydd allwch chi ei roi i'r sector y bydd yna gefnogaeth benodol ar eu cyfer nhw yn y dyfodol, a pha mor fuan allwch chi roi hynny, oherwydd, fel mae e nawr, mae pobl eisoes wedi gwneud y penderfyniad i symud mas o ffermio organig?

Well, Llywydd, dwi wedi gweld y llythyr—roedd llythyr wedi dod i mewn oddi wrth yr Aelod i'r Gweinidog, a dwi wedi gweld ateb y Gweinidog iddo fe hefyd. Gallaf ddweud bod swyddogion wedi cwrdd gyda'r sector yn ddiweddar, a byddwn yn parhau i ddylunio cynllun gyda'n gilydd i sicrhau bod manteision ffermio organig yn cael eu cydnabod yn briodol yn y cynlluniau y bydd y Gweinidog yn eu cyhoeddi. A dwi'n gwybod bod y Gweinidog yn edrych ar opsiynau—os oes opsiynau eraill i gefnogi'r sector. 

Ond jest i fod yn glir, bydd y sector mewn sefyllfa arbennig o dda i fanteisio ar y cynllun ffermio cynaliadwy newydd, a hefyd ar y cynllun Cynefin Cymru newydd. So, mae cryfder mawr yn y sector. Rŷn ni wedi cefnogi'r sector dros y blynyddoedd. Rŷn ni'n awyddus i wneud hwnna yn y dyfodol. Y ffordd i'w wneud e yw beth rŷn ni'n siarad gyda'r sector i'w amlinellu nawr, ac mae'r Gweinidog yn awyddus i gydweithio gyda nhw i weld beth yw'r ffordd orau i'w cefnogi nhw yn y dyfodol.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad busnes, ac mae'r Trefnydd yn mynd i gyflwyno'r datganiad hwnnw. Lesley Griffiths. 

Member
Lesley Griffiths 14:34:05
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Llywydd. Mae tri newid i fusnes yr wythnos hon, ac mae pob un ohonyn nhw wedi'u cyhoeddi ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Ar ôl y datganiad busnes hwn, bydd Gweinidog yr Economi yn gwneud datganiad ar y diwydiant dur. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip yn gwneud datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am genedl noddfa. Ac yn olaf, fel y cytunwyd yn y Pwyllgor Busnes y bore yma, mae dadleuon y gwrthbleidiau yfory wedi'u haildrefnu. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. 

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gennych chi, fel y Gweinidog dros faterion gwledig, ynghylch y cyhoeddiad diweddar gan Brif Weinidog y DU i wahardd cŵn bully XL yn dilyn yr ymosodiadau angheuol, trasig gan y cŵn hyn ledled y DU? Fel y gwyddoch yr wyf yn siŵr, roedd dau o bob pedwar ymosodiad angheuol gan gŵn ledled y DU yn 2021 yn ymwneud â'r brîd hwn. Cododd y ffigwr hwn i chwech o bob 10 yn 2022. Ers mis Tachwedd 2021 mae tri pherson wedi colli eu bywydau oherwydd cŵn bully XL yng Nghymru—dau yng Nghaerffili ac un yn Wrecsam—yn ogystal â'r hyn sydd wedi'i ddisgrifio fel ymosodiad ffyrnig a rhemp ar 22 o ddefaid beichiog gafodd eu lladd ar fferm yn y gogledd yn gynharach eleni. Rwy'n sylwi eich bod chi wedi croesawu'r penderfyniad hwn ar Twitter, ond o ystyried yr ystadegau hynod bryderus, a gaf i ofyn am ddatganiad ynghylch sut mae'r gwaharddiad yn debygol o edrych yma yng Nghymru, neu a ydych chi'n bwriadu cymryd unrhyw gamau eich hun o dan gyfrifoldebau datganoledig i amddiffyn pobl Cymru ac anifeiliaid? Diolch, Llywydd.

14:35

Diolch. Mae'n newyddion i'w groesawu'n fawr gan Lywodraeth y DU—yn sicr fe wnes i ei groesawu, ond mae'n well hwyr na hwyrach. Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth y DU yn gweithredu o'r diwedd. Yn ystod y chwe blynedd diwethaf mae'n debyg, rwyf wedi ysgrifennu at wyth Ysgrifennydd Cartref ac Ysgrifenyddion Gwladol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, yn eu hannog nhw i gymryd camau. Roedd y llythyr olaf y gwnes i ei ysgrifennu at Suella Braverman ym mis Mai, rwy'n credu; nid oedd hi'n ddigon cwrtais i ymateb, hyd yn oed. Felly, rwy'n falch iawn, nawr, fod y Prif Weinidog wedi gwneud y cyhoeddiad hwn.

Yn amlwg, nid yw Deddf Cŵn Peryglus 1991 wedi'i datganoli, mae'n fater a gadwyd yn ôl, ac mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu grŵp perchnogaeth gyfrifol ar gŵn i ystyried hyn, ac mae fy swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda swyddogion Llywodraeth y DU. Wrth gwrs, gallwn ni wneud pethau yma—mae gennym ni rai pwerau, yn amlwg, o ran hyn. Felly, unwaith eto, rydw i wedi bod yn ystyried perchnogaeth gyfrifol ar gŵn, ac rwy'n ystyried cynnal uwchgynhadledd aml-asiantaeth, fis nesaf yn ôl pob tebyg, i ddod â'r holl sefydliadau ynghyd, oherwydd, fel y dywedwch chi, rydyn ni'n gweld llawer gormod o ymosodiadau gan gŵn o'r fath y gwnaethoch chi eu disgrifio. Rwy'n credu mai'r peth pwysicaf nawr yw bod fy swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda swyddogion Llywodraeth y DU i sicrhau nad oes unrhyw ganlyniadau annisgwyl o'r gwaharddiad ar bullies XL. Yn sicr, dydyn ni ddim eisiau gweld nifer sylweddol o gŵn yn cael eu gadael, er enghraifft. Felly, mae angen i ni edrych arno'n fanylach nawr. Felly, ar yr adeg fwyaf priodol, byddaf i'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd.

Trefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad llafar, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol o ran y sefyllfa ariannol. Dŷn ni wedi clywed nifer yn sôn ynglŷn â'r £900 miliwn o ran y flwyddyn ariannol yma, ond byddwn i yn hoffi gwybod pryd bydd yna gyfle i'r Senedd hon drafod hynny.

Hefyd, wrth gwrs, dŷn ni'n gweld y tywydd garw yn ailddechrau. Mi fydd nifer o gymunedau yn ofni gweld y gaeaf yn dod—llifogydd unwaith eto. Mi gawson ni ddiweddariad, wrth gwrs, yr wythnos diwethaf gan y Gweinidog Newid Hinsawdd o ran yr adolygiad annibynnol o lifogydd. Ond un o'r pethau y mae nifer o'r cymunedau dwi'n eu cynrychioli yn ei holi ydy beth ydy'r cynlluniau o ran y gaeaf hwn tra bod llawer o'r gwaith cynllunio o ran lliniaru effaith llifogydd yn y dyfodol yn mynd rhagddo? Felly, oes modd cael datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd o ran y gefnogaeth ymarferol sydd ar gael i gymunedau sydd yn mynd i gael llifogydd yn ystod y misoedd nesaf yma—yn anffodus, dyna fydd y realiti i nifer—fel ein bod ni'n gallu sicrhau bod y gefnogaeth ar gael iddyn nhw, ond eu bod nhw hefyd yn gwybod sut mae cael y gefnogaeth honno?

Diolch. Fel yr ydych chi'n ei ddweud, gwnaeth y Gweinidog Newid Hinsawdd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am yr ymchwiliad yr wythnos diwethaf. Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi swm sylweddol o arian i helpu pobl y gwnaeth y llifogydd effeithio arnyn nhw yn anffodus, yn enwedig o ran llifogydd Storm Dennis yn ôl yn—tua phum mlynedd yn ôl nawr. Yn sicr, fe wnaf i ofyn iddi a oes diweddariad y gall hi ei roi, oherwydd rwy'n gwybod ei bod hi wedi bod yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol yn enwedig o ran y gaeaf sydd i ddod.

O ran eich cwestiwn cyntaf, bydd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn cyflwyno datganiad llafar fis nesaf ynghylch yr arbedion yr ydyn ni wedi gorfod dod o hyn iddyn nhw fel Llywodraeth yn ystod y flwyddyn.

Gweinidog, hoffwn i alw am ddatganiad ar ba sgyrsiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU a phrif gwnstabliaid yng Nghymru ynghylch yr adroddiad a gafodd ei ryddhau gan yr elusen Refuge yr wythnos diwethaf ar drais yn erbyn menywod a merched mewn ardaloedd heddlu ledled Cymru a Lloegr. Dangosodd y cais rhyddid gwybodaeth hwnnw fod 26 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr, o fis Mai 2022 tan fis Mai 2023, a datgelodd fod dros 1,000 o achosion o drais yn erbyn menywod a merched a chamymddwyn cysylltiedig wedi'u cofnodi gan heddluoedd a ddychwelodd y data hwnnw. Roedd pedwar o'r rheiny yn ardal heddlu Dyfed-Powys, a chwech yn ardal heddlu Gogledd Cymru. A gwnaeth y cais rhyddid gwybodaeth ddarganfod, mewn heddluoedd ledled Cymru a Lloegr, mai dim ond 24 y cant o swyddogion a staff yr heddlu a gafodd eu cyhuddo o'r ymddygiad hwn a gafodd eu hatal dros dro tra'n aros am ganlyniad yr ymchwiliad. Er bod Heddlu Dyfed-Powys wedi atal 100 y cant o'i holl swyddogion dros dro, dim ond 83 o'r rheiny gafodd eu hatal dros dro yn y gogledd. Yn anffodus, ni allaf roi unrhyw ffigurau i chi ar gyfer heddluoedd De Cymru a Gwent, gan na wnaethon nhw ddychwelyd data i'r elusen honno. Ac maen nhw'n gofyn na ddylai unrhyw swyddog sy'n cael ei gyhuddo o drais yn erbyn menywod a merched gael ei ystyried ar gyfer dyletswyddau eraill ond ei fod yn cael ei atal yn awtomatig tra bod ymchwiliadau yn mynd rhagddynt, ac rwy'n dueddol o gytuno â'r datganiad hwnnw. Felly, rwy'n awyddus i wybod, Gweinidog, pa sgyrsiau ydych chi wedi'u cael, pa ddylanwad y byddwch chi'n ei gael ar hyn, ac a fyddech chi'n annog Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent i gamu ymlaen ac ateb rhai o'r cwestiynau hyn.

14:40

Diolch. Rwy'n credu bod Joyce Watson yn codi pwynt pwysig iawn, a byddwn yn sicr yn annog heddlu Gwent a heddlu De Cymru i ryddhau'r data hwnnw, fel y gallwn ni gael y darlun cyflawn hwnnw ar draws y pedwar awdurdod heddlu. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn ymwybodol o'r data diweddar a gafodd ei ryddhau gan Refuge ar nifer swyddogion a staff yr heddlu sydd wedi'u cyhuddo o gamymddwyn neu gamymddwyn difrifol yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod a merched, ac mae'n bryderus iawn am hyn a bydd yn parhau i gael trafodaethau gyda'r prif gwnstabliaid a gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu. Yn anffodus, rydym yn gwybod bod cyflawnwyr cam-drin domestig yn dod o bob cefndir a bod llawer ohonyn nhw mewn safleoedd pwerus ac mae hynny, wedyn, yn creu hyd yn oed mwy o rwystrau i oroeswyr. 

Hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda, yn ymwneud â'r sefyllfa barhaus yn Ffos-y-frân, lle mae glo yn dal i gael ei gloddio flwyddyn ar ôl i'r cwmni gael cyfarwyddyd i roi'r gorau iddi. Llywodraeth Cymru a gymeradwyodd y pwll glo hwn yn 2005. Ar ôl i'r cyngor wrthod caniatâd yn 2014, rwy'n credu i adroddiad a gafodd ei gomisiynu gan y Llywodraeth dynnu sylw at y risg y gallai'r tir hwn gael ei adael heb ei adfer. Hoffwn i wybod pa gamau a gymerwyd mewn ymateb, os gwelwch yn dda? Ac fe allai'r gost i'r pwrs cyhoeddus, fel y gwyddom ni, fod yn fwy na £100 miliwn erbyn hyn os caiff y safle ei adael, a dim ond £15 miliwn sydd wedi'i roi o'r neilltu gan y cwmni a allai gael ei ddefnyddio i'w adfer. Mae hynny'n dipyn o wahaniaeth. Felly, pa gamau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau y bydd y tir yn cael ei lanhau a'i wneud yn ddiogel? Ac yn y cyfamser, mae'n debyg bod Llywodraeth Cymru wedi elwa ar gludo'r glo anghyfreithlon hwn gan ddefnyddio llwybrau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru. A all y Llywodraeth ymrwymo mewn datganiad i roi terfyn ar unwaith ar gludo unrhyw lo o Ffos-y-frân gan ddefnyddio'r traciau hynny? Ac a wnewch chi ymrwymo i roi unrhyw refeniw sydd wedi'i godi o gludo'r glo hwnnw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i gronfa gymunedol ar gyfer trigolion Merthyr Tudful?

Wel, bydd yr Aelod yn ymwybodol bod yr apêl a'r achos cyfreithiol yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd, felly ni fyddai'n briodol i Weinidogion Cymru gyflwyno datganiad llafar ar hyn o bryd. Ond rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog o ganlyniad, neu wedi hynny, y dylwn i ddweud, yn cael cyngor. Polisi Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod cloddio a defnyddio glo yn dod i ben mewn ffordd a reolir, fel y gwyddoch chi, a byddai agor pyllau glo newydd neu ymestyn pyllau glo presennol sy'n weithredol yng Nghymru yn ychwanegu at y cyflenwad byd-eang o lo, gan gael effaith sylweddol ar ein cyllidebau carbon ni a rhai'r DU sy'n gyfreithiol rwymol. Felly, dyna yn llwyr, y polisi sydd gennym ni. Dydw i ddim yn ymwybodol o'r mater yr ydych chi'n ei godi ynghylch Trafnidiaeth Cymru, ond yn sicr, fe wnaf i rai ymholiadau. 

I ddilyn cwestiwn Sam Kurtz, collodd Emma Whitfield ei mab, Jack Lis, i ymosodiad gan gi peryglus iawn, ac yn ei phostiad ar Twitter ar hyn o bryd, mae'n dweud, gyda llun o'i mab oddi tano:

'Mae pobl yn sôn am fy newrder i. Dyma wyneb yr un sy'n rhoi'r dewrder hwnnw i mi. Jack yw fy rheswm i. Os gallaf i atal teulu arall rhag galaru a'u hatal rhag peidio â gallu gweld gwên eu plentyn byth eto—bydd yn llwyddiant.'

A gaf i, felly, ofyn, cyn i unrhyw ddatganiad gael ei wneud yn y Siambr hon ac yn yr uwchgynhadledd y gwnaethoch chi sôn amdani, ein bod yn cysylltu ag Emma ac yn trafod a yw hi eisiau bod yn bresennol? Ac a gaf i ofyn hefyd fod Wayne David AS yn rhan o'r trafodaethau hynny hefyd, oherwydd mae ef wedi gweithio gydag Emma a gyda'r Daily Mirror a'u hymgyrch, i sicrhau bod lleisiau'r rhai y mae'r trychinebau hyn wedi effeithio arnyn nhw yn cael eu clywed?

Diolch. Rwy'n credu bod Hefin David yn ein hatgoffa ni i gyd o'r drasiedi bersonol iawn yr ydyn ni wedi'i gweld, yn anffodus, gyda'r ymosodiadau hyn gan gŵn, ac Emma oedd y person cyntaf a ddaeth i fy meddwl yr wythnos diwethaf. A byddwn i'n hapus iawn i gysylltu â hi ac, wrth gwrs, â Wayne David, yr Aelod Seneddol dros Gaerffili, sydd wedi gwneud cymaint o waith ar hyn. Rydyn ni'n ystyried dod â'r uwchgynhadledd amlasiantaeth hon at ei gilydd, ac rwy'n credu, pe byddai Emma yn hapus i ddod i siarad â ni, byddai hynny'n hynod bwerus.

14:45

A gaf i ofyn am ddatganiad oddi wrth y Gweinidog iechyd ynghylch gofal llygaid, os gwelwch yn dda?

Mae hi'n Wythnos Genedlaethol Iechyd Llygaid yr wythnos hon. Mae profion llygaid rheolaidd yn hanfodol i ganfod arwyddion cynnar o gyflyrau y mae modd eu trin, fel glawcoma, a gallan nhw ganfod cyflyrau iechyd eraill, fel diabetes neu bwysedd gwaed uchel. Fodd bynnag, mae'r angen am atgyfeiriadau amserol i wasanaethau offthalmoleg ar gyfer asesiadau a thriniaeth yn allweddol i osgoi colli golwg neu gyfyngu ar hynny. Ond, yma yng Nghymru, mae dros hanner y cleifion gofal llygaid sy'n wynebu'r risg uchaf yn aros y tu hwnt i'r amser targed ar gyfer triniaeth ac, felly, maen nhw'n wynebu risg o golli golwg nad oes modd ei wrthdroi. Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar wasanaethau offthalmig yn y gwanwyn, ond, hyd y gwn i, nid ydyn ni wedi gweld unrhyw ddatganiad ers hynny. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog gyflwyno datganiad ar gynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer gwasanaethau offthalmig a'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy'n cael eu cymryd i ymdrin â'r rhestrau aros?

Diolch. Rwy'n ymwybodol o'r adroddiad y gwnaethoch chi gyfeirio ato, a gafodd ei gomisiynu gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac rwy'n siŵr, unwaith y bydd hi wedi ystyried hynny, y bydd datganiad ar y ffordd. Ond, rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn—cyhyd â bod pobl yn cael gwiriadau llygaid amserol. Mae'n bwysig iawn eu bod nhw'n gweld naill ai eu hoffthalmolegydd neu eu hoptegydd i sicrhau bod y llygad mor iach â phosibl. Wrth gwrs, y llygad yw'r drych i'r corff; mae'n rhoi gwybodaeth am glefyd y llygaid ond hefyd, wrth gwrs, bob clefyd arall.

Trefnydd, a gawn ni ddatganiad llafar, os gwelwch yn dda, ar wasanaethau bysiau ar draws Cymru? Yn fy rhanbarth i, yng Nghaerdydd, mae penderfyniad Cardiff Bus i dorri'r prif wasanaeth bysiau—y Rhif 32—sy'n gwasanaethu pentref Sain Ffagan wedi achosi pryder mawr. Mae hyn yn golygu nad oes gennym ni gludiant cyhoeddus rheolaidd i'r pentref, sy'n cynnwys amgueddfa genedlaethol bwysig iawn. Mae aelodau o staff yr amgueddfa wedi cysylltu â mi, sydd nawr wedi colli eu llwybr i'r gwaith, a dros y penwythnos siaradais ag ymwelydd hyfryd o ogledd Sir Benfro, pensiynwr, a ddywedodd wrthyf na allai fynd i ymweld ag amgueddfa Sain Ffagan oherwydd diffyg trafnidiaeth gyhoeddus. Dydy hi ddim yn iawn bod ganddon ni ddim trafnidiaeth gyhoeddus yn cysylltu canol y ddinas â'r amgueddfa bwysig hon, ac mae'n sicr o gael effaith, Trefnydd, ar grwpiau agored i niwed ac anabl sydd eisiau defnyddio'r amgueddfa hon a dysgu mwy am fywyd Cymru. Mae hyn, fel y clywn ni bob wythnos yn y Senedd, yn enfawr ar draws Cymru. Gallwn ni ddim aros am ddeddf sydd flynyddoedd i ffwrdd ac sydd ymhellach byth i ffwrdd o ran ei gweithredu. A wnaiff Llywodraeth Cymru gyflwyno'r cynigion i ddiwygio gwasanaethau bysiau yng Nghymru ar frys? Diolch yn fawr. 

Diolch. Wel, mae gwasanaethau bysiau yn bwysig iawn i lawer o'n hetholwyr—rydyn ni'n gwybod hynny o'n bagiau post—ac, yn amlwg, mae amserlenni bysiau yn fater i awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau bysiau. Ond, mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cyhoeddi £46 miliwn ar gyfer cyllidebau bysiau, ar gyfer y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau a'r gronfa bontio ar gyfer bysiau, er mwyn atal y broblem honno o ran canslo gwasanaethau ar raddfa eang. Fel y mae'r Aelod, rwy'n credu, wedi cyfeirio ato, byddwn ni'n cyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio'r system fysiau yng Nghymru yn y dyfodol agos.

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad? Mae'n dda iawn gweld fy nghyd-Aelodau, Hefin David, a Sam, rwy'n credu hefyd, yn codi mater y bullies XL. Fel y gŵyr y Gweinidog, roeddwn i gyda Mick Antoniw yn Hope Rescue pan ddaeth y cyhoeddiad y bydd bullies XL yn cael eu hychwanegu at y rhestr waharddedig. Mae'n codi rhai materion arwyddocaol o ran yr elusennau lles anifeiliaid—elusennau achub cŵn ac ailgartrefu cŵn—yn enwedig y rhai sy'n ymdrin â chŵn crwydr a chŵn sydd wedi'u gadael, oherwydd, o'r foment y cafodd hyn ei gyhoeddi, mae'r cŵn hynny nawr yn ymddangos ar garreg drws yr elusennau hynny, ac mae'n codi materion ariannol go iawn, yn ogystal â rhai moesegol, ynglŷn â sut maen nhw'n ymateb i hyn. Ond, yn fwy na hynny, Gweinidog, mae'n codi agweddau diddorol ar yr hyn yr ydyn ni'n ei wneud nawr o ran cryfhau'r rheoliadau ynghylch bridio, ond hefyd a ydyn ni'n mynd yn ôl i'r materion hirddisgwyliedig o ystyried trwyddedau i fynd ati i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol, beth bynnag fo'r brîd. Felly, byddai'n dda cael datganiad ar hynny.

Yn ail, tybed a allwn ni gael datganiad nawr, wrth i ni nesáu at ddiwedd Wythnos Addysg Oedolion. Mae rhai digwyddiadau gwych wedi bod yma yn y Senedd. Roeddwn i mewn un gyda gwobrau cenedlaethol yn neuadd y ddinas y diwrnod o'r blaen, lle trodd dyn o'r enw John Gates, cyn-löwr a gollodd ei swydd pan gaeodd y pyllau nôl ym 1983-84, ei law at sgil oedd ganddo—sgil annisgwyl, efallai, i löwr, sef brodwaith—ac yna aeth yn ôl i addysg gyda'r Brifysgol Agored, ac mae e nawr yn teithio'r byd yn dysgu eraill am frodwaith a sgiliau, a hefyd na ddylech chi byth derbyn mai dim ond un cyfle sydd gennych chi mewn bywyd; dylech chi gael llawer iawn o gyfleoedd. Mae e'n 80 oed erbyn hyn, a fe yw'r ysbrydoliaeth fwyaf i mi ei weld erioed, ac fe gafodd e y wobr genedlaethol am ddysgu gydol oes i oedolion.

14:50

Oeddem, roeddem ni i gyd yn hoffi hynny. Rydych chi'n gwneud pwynt da iawn, ac rwy'n credu bod honna'n enghraifft dda iawn. Rydyn ni'n dysgu'n gyson, on'd ydyn ni? Ac mae wedi bod yn wych dathlu Wythnos Addysg Oedolion. Fel y dywedwch chi, bu digwyddiadau yma yn y Senedd a ledled Cymru. Ond rwy'n credu bod yr enghraifft a roesoch chi o John yn cynhesu calon rhywun yn arbennig.

O ran y bully XL, fel y dywedaf, cefais gyfarfod ag Ysgrifennydd Gwladol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ddydd Mercher diwethaf, pryd y gwnes i eu hannog i edrych ar hyn oherwydd ein bod ni wedi cael dau ymosodiad arall yr wythnos diwethaf, rwy'n credu. Felly, rwy'n croesawu'n fawr gyhoeddiad Prif Weinidog y DU, a oedd yn hollol annisgwyl, oherwydd rwy'n credu bod y Ddeddf Cŵn Peryglus—. Bob tro i mi ofyn dros y blynyddoedd diwethaf, fe wrthodon nhw edrych ar y bridiau newydd sy'n dod i'r amlwg. Ond rydych chi'n iawn y gallai fod canlyniadau anfwriadol, a dyna ddywedais i yn fy ateb cynharach i Sam Kurtz—bod angen i ni edrych ar hynny. Nid ydym eisiau gweld cŵn yn cael eu gadael. Nid ydym eisiau gweld ein canolfannau achub cŵn, sydd eisoes yn ymdopi â niferoedd cynyddol o gŵn sydd wedi'u gadael, yn gweld mwy yn dod i mewn. Hefyd, mae angen i ni weithio gyda'n timau gorfodi awdurdodau lleol hefyd. Felly, soniais ein bod yn cael yr uwchgynhadledd amlasiantaeth hon, oherwydd mae yna bethau y gallwn ni eu gwneud yn Llywodraeth Cymru; nid dibynnu ar agweddau Llywodraeth y DU yn unig. Felly, byddwn ni'n gwneud hynny fis nesaf, ac rwyf eisiau gweithio'n agos iawn gyda'r gwarchodfeydd anifeiliaid a'r canolfannau achub i weld beth arall y gallwn ni ei wneud. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n mynd i'r afael â hyn nawr, oherwydd rydyn ni'n gweld gormod o ymosodiadau o lawer.

Ar y pwynt trwyddedu, fel y gwyddoch chi, roeddwn i wedi gofyn i fy swyddogion edrych ar hynny eleni, ac nid wyf wedi derbyn unrhyw gyngor eto, ond rwy'n credu ei bod yn ffordd o sicrhau'r berchnogaeth gyfrifol honno ar gŵn. Ni fydd yn gwneud i bopeth, yr holl broblemau ddiflannu, ond rwy'n credu, os ydych chi'n berchennog cyfrifol—ac, wrth gwrs, mae llawer ohonyn nhw â chŵn bully XL hefyd, sy'n poeni'n fawr, ar hyn o bryd—. Felly, rwy'n credu y gallai trwyddedu fod yn un darn o'r jig-so hwnnw, ac yn sicr, wrth i ni fwrw ymlaen â'r cyngor, ac os credaf ei bod yn werth chweil ystyried dod â nhw i mewn, yna byddaf yn sicr yn hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i wrthod awdurdodiad brys ar gyfer defnyddio Asulox yng Nghymru ar gyfer rheoli rhedyn. Nawr, gallwn ni ddadlau rhinweddau neu fel arall y penderfyniad hwnnw, ond yr hyn na ddylem ni orfod ei ddadlau yw natur agored y Llywodraeth yn y ffordd y gwnaeth y penderfyniad hwnnw. Felly, er tryloywder, a fyddai'r Llywodraeth yn fodlon cyhoeddi cyngor yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch y gwnaed y penderfyniad yn ei sgil?

Wel, fi oedd y Gweinidog a wnaeth y penderfyniad hwnnw a byddaf yn sicr yn sicrhau bod hwnnw'n cael ei gyhoeddi, oni bai, yn amlwg, bod unrhyw beth yn eithrio hynny.FootnoteLink

3. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Diwydiant Dur

Felly, bydd y datganiad nesaf gan Weinidog yr Economi ar y diwydiant dur. Vaughan Gething.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae angen diwydiant dur llwyddiannus ar economi gref. Mae Llywodraeth Cymru yn uchelgeisiol o ran dur a'r rhan annatod y bydd yn ei chwarae wrth bontio i sero net. Bydd y pontio hwnnw'n cefnogi'r galw cryf a pharhaol am ddur ar gyfer nwyddau'r dyfodol, yn ogystal â'r prif nwyddau bob dydd yr ydym ni'n dibynnu arnynt. O dyrbinau gwynt arnofiol ar y môr a cherbydau trydan i duniau o ffa pob a thai newydd, dur fydd yr edau a fydd yn parhau i redeg trwy economi heddiw ac yfory.

Mae cyfraniad Cymru i'r diwydiant dur yn dotemaidd ac yn hanesyddol. Mae'n rhan gadarn o sylfeini economi'r Deyrnas Unedig. Mae miloedd o weithwyr medrus yn y sector yn gwybod am y rhan y mae'n ei chwarae wrth gefnogi economi ddiogel. Mae'r gweithwyr hynny'n gweld pam a sut mae gwledydd G7 eraill yn darparu cefnogaeth sefydlog a strategol i'w diwydiannau dur domestig eu hunain. Maent yn deall gwersi'r argyfwng ynni a'r risgiau a berir pan fo cenhedloedd nad ydynt yn gynghreiriaid i ni yn troi eu cefnau ar ddur. Dylai'r cefndir hwn sicrhau lefel o flaenoriaeth lawer uwch i'r diwydiant yn Llywodraeth y DU, a ddylai fod â gweledigaeth glir ar gyfer y sector a chynllun i'w gyflawni. Wrth i gostau gynyddu a risgiau newydd yn dod i'r amlwg, mae Gweinidogion y DU wedi methu â deall y broblem yn ddigon cyflym i sicrhau pontio tecach sy'n darparu mantais symudwr cyntaf y gallai ein diwydiant fanteisio arno.

Llywydd, byddai penderfyniad cynharach wedi caniatáu pontio tecach mewn diwydiant cryf. Rydym wedi bod yn annog Llywodraeth y DU ers tro i ddarparu'r cyd-fuddsoddiad sylweddol sydd ei angen i gefnogi'r symudiad i ddulliau mwy gwyrdd o gynhyrchu dur. Yn erbyn y cyd-destun hwn, mae croeso i Lywodraeth y DU fwrw ymlaen â thrafodaethau gyda'r cwmni i sicrhau dyfodol tymor hir i ddur yng Nghymru. Byddai colli'r gwaith yn llwyr yng Nghymru yn hollol afresymol, ac mae er budd y gweithlu, diwydiant a chymunedau fod gan y sector ddyfodol hirdymor yma yng Nghymru.

Rydym yn gwerthfawrogi ein sylfaen ddiwydiannol yng Nghymru yn aruthrol. Rwy'n benderfynol ein bod yn pontio i sero net mewn ffordd sy'n cynnal ac yn adeiladu ar ein cryfderau diwydiannol ac sy'n unol â'n hymrwymiad i bontio teg. Dyna pam y gwnaethom greu Diwydiant Sero Net Cymru, corff yr oeddwn yn falch o'i lansio ym Mhort Talbot. Llywydd, fodd bynnag, mae'n wir fod y cytundeb arfaethedig y daethpwyd iddo nawr rhwng Tata Steel a Llywodraeth y DU yn darparu ychydig iawn o fanylion ac yn codi gormod o gwestiynau. Mae gan Lywodraeth y DU ddegawdau o brofiad o ymdrin â gwybodaeth fasnachol sensitif mewn ffordd a reolir gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi gwneud penderfyniadau cadarn. Mae'r penderfyniad, y dewis, i gyfathrebu drwy ddatgeliadau answyddogol a briffiau i'r cyfryngau i rannu'r cyhoeddiad ar y cytundeb arfaethedig y daethpwyd iddo yn amharchus i'r gweithlu ac yn niweidiol i sector sydd angen recriwtio pobl a fydd, wrth gwrs, yn chwilio am lefel o ddiogelwch, ac, fel y gwyddom, maent yn hanfodol i ddyfodol dur yn y DU. Fel y soniais i, mae'n rhwystredig na chyrhaeddwyd y cytundeb hwn yn gynharach mewn trafodaethau. Gallai cytundeb cynharach fod wedi arwain at bontio hirach a thecach.

Mae llawer yn parhau i fod yn anhysbys o ran y cytundeb, ei amserlen ar gyfer ei weithredu a'r effaith bosibl nid yn unig ar y gweithlu a'r cwmni ond ar y gadwyn gyflenwi ehangach a'r economi leol. Felly, fel y dywedais i yr wythnos diwethaf, er bod y cyhoeddiad yn cynnwys buddsoddiad sylweddol ar gyfer y tymor hirach, mae'n anochel bod gweithwyr Tata a'u teuluoedd, yn briodol, yn canolbwyntio ar yr effaith y bydd yn ei chael ar y miloedd o swyddi ym Mhort Talbot a chyfleusterau ymhellach lawr cadwyn Tata yng Nghymru.

Mae'n hanfodol bod Tata bellach yn cynnal ymgynghoriad ystyrlon gyda'i gyflogeion a'r undebau llafur ynghylch y cynllun arfaethedig hwn. Mae ymrwymiad profedig y gweithlu yn gryfder parhaus ar gyfer y sector sy'n golygu bod yr ansicrwydd y mae'r gweithwyr hynny bellach yn ei wynebu yn niweidiol i'r sector ac i'n heconomi yn gyffredinol, yn ogystal âg i'r unigolion hynny a'u teuluoedd wrth gwrs. Cefais gyfarfod cynnar gydag undebau llafur dur yr wythnos diwethaf a chynhaliais gyfarfodydd pellach gyda chynrychiolwyr ddoe a heddiw. Fe wnes i ymweld â Phort Talbot ddoe a byddaf yn dychwelyd unwaith yn rhagor yn ddiweddarach yr wythnos hon. Byddaf yn parhau i ymgysylltu â'r undebau, y cwmni a Llywodraeth y DU wrth i'r sefyllfa ddatblygu.

Gan droi at y gadwyn gyflenwi ehangach yng Nghymru a thu hwnt, bydd y penderfyniad y mae Tata Steel yn ei wneud ynglŷn â natur ac amserlen ei daith ddatgarboneiddio yn cael effaith ddofn ar ei gadwyn gyflenwi lawn a'r rhanbarth cynhyrchu dur ehangach. Am y rheswm hwn, rwyf bob amser wedi gweld dyfodol Tata fel rhywbeth nad yw ar wahân, ond yn rhan o ymdrech lawer ehangach i gefnogi diwydiant a datblygu ein sylfaen weithgynhyrchu ledled Cymru wrth bontio i sero net. Wrth gyflwyno'r achos dros drafodaethau cynnar ac ystyrlon, rydym wedi nodi sut y gallai'r cyfnod pontio hirach hwnnw roi mwy o sicrwydd ar gyfer opsiynau ar gyfer technolegau ehangach, gan gynnwys rôl i hydrogen ar raddfa fawr.

Mae'n rhwystredig iawn bod Gweinidogion y DU wedi dewis cau Llywodraeth Cymru allan o'r trafodaethau, pan fo angen i'r ddwy Lywodraeth wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar y diwydiant a'r cymunedau y mae'n eu cefnogi. Cynigiodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach gwrdd â mi ym mis Mai, rai misoedd ar ôl ei phenodiad, ond ar ôl hynny mae hi wedi gwrthod cytuno ar ddyddiad addas i drafod y materion hyn yn y misoedd dilynol. Mewn gwirionedd, nid wyf yn credu bod un dyddiad wedi'i gynnig gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach i gwrdd â mi. Ers mis Mai, rwyf wedi ysgrifennu sawl gwaith i geisio trefnu cyfarfod ac i ymgysylltu â'r materion gorgyffwrdd pwysig sy'n berthnasol i'n cyfrifoldebau. Fodd bynnag, mewn llythyr a gefais oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol yn gynharach heddiw, nid oes unrhyw gynnig i gwrdd. Rwyf wedi rhannu'r llythyr hwn â Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, felly maen nhw'n edrych ar ei gynnwys.

Llywydd, rwy'n cydnabod bod pontio'r diwydiant yn gymhleth ac yn bellgyrhaeddol, sy'n gofyn am gannoedd o filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad. Nid yw'n ymwneud â'r hyn sy'n digwydd o fewn ffiniau safle'r cwmni yn unig. Bydd angen trawsnewid ein seilwaith ar raddfa nad ydym wedi'i gweld yn ystod ein hoes ni. Mae yna lawer o gwestiynau sydd angen eu hateb. Er enghraifft, pa effaith y bydd yn ei chael ar ofynion seilwaith ehangach, fel y rhwydwaith grid? Pa effaith y bydd yn ei chael ar werth a natur gaffaeladwy metel sgrap yn y DU, a sut y bydd hyn yn effeithio ar ein prif gynhyrchydd dur arall, Celsa? Dylwn i ddatgan buddiant, wrth gwrs, gan fod prif weithrediadau Celsa o fewn fy etholaeth i. Rwyf wedi bod yn glir bod y rhaglen porthladdoedd rhydd yng Nghymru wedi cyflwyno cyfle anhygoel i gysylltu cynhyrchu dur â photensial economaidd carlam yn y môr Celtaidd. Mae Gweinidogion y DU yn gwbl ymwybodol o'r pwysigrwydd yr ydym yn ei roi i'r materion hyn a byddaf yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd dros ffyniant bro i rannu fy mhryderon difrifol am y diffyg cydlynu clir ar draws y meysydd hyn.

Rwy'n gwybod bod Tata Steel wedi bod yn edrych yn ofalus ar y cyfleoedd a allai ddod o'r manteision economaidd enfawr gwynt arnofiol ar y môr. Nid yw'n glir pa effaith y byddai'r cynnig yn ei chael ar ei allu i wneud hyn, nac yn wir i gefnogi ei farchnadoedd cyfredol. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi yn ei datganiad i'r wasg y bydd bwrdd pontio yn cael ei greu i oruchwylio'r cytundeb arfaethedig y mae wedi'i gytuno. Ar hyn o bryd ychydig iawn a wyddom am sut y bydd y bwrdd hwn yn gweithredu a sut y byddai'r cyllid a gyhoeddwyd o hyd at £100 miliwn yn cael ei wario.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n gadarn i drefniadau gweithio mewn partneriaeth briodol gyda Llywodraeth y DU ac yn wir gwledydd datganoledig eraill. Fodd bynnag, rhaid i'r berthynas hon fod yn ddilys, a rhaid i'r bwrdd newydd hwn weithredu mewn ffordd ystyrlon a thryloyw. Mae llawer o'r pwerau sydd â dylanwad sylweddol mewn pontio diwydiannol i sero net, gan gynnwys prisiau ynni, rheoleiddio rhwydweithiau ynni, modelau busnes dal, defnyddio a storio hydrogen a charbon, wedi'u cadw yn ôl gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae gan Lywodraeth Cymru hefyd ddulliau ysgogi a gwybodaeth a fydd yn hanfodol wrth droi cytundeb yn realiti. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda'r undebau llafur a'r cwmni i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau y bydd cyn lleied â phosibl o swyddi'n cael eu colli ac i sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer gwneud dur yma yng Nghymru.

Diolch yn fawr, Llywydd. Byddaf yn hapus i dderbyn sylwadau a chwestiynau'r Aelodau nawr.

15:00

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma a'r copi o'r llythyr y mae wedi anfon ataf yn rhinwedd fy swydd yn Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig? Croesewir y cyhoeddiad bod Llywodraeth y DU wedi darparu £500 miliwn i helpu i sicrhau y gall Tata Steel barhau i weithredu ac i gynhyrchu dur mewn ffordd wyrddach. Yn syml, heb y buddsoddiad hwnnw, y gwir amdani yw y gallai Tata fod wedi gorfod rhoi'r gorau i weithredu yn y DU yn llwyr. Serch hynny, wrth i Tata symud i gyfnod pontio sy'n cynnwys ailstrwythuro, mae hefyd yn gyfnod pryderus a gofidus iawn i weithwyr a allent fod bellach yn wynebu colli swyddi, ac mae'n hanfodol bod digon o gefnogaeth i'r gweithlu ar yr adeg hon.

Mae'r datganiad heddiw yn cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru hefyd ddulliau ysgogi a gwybodaeth a fydd yn hanfodol wrth droi'r cytundeb hwn yn realiti, er nad yw'r datganiad yn dweud unrhyw beth am sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r dulliau ysgogi hynny, felly efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym yn ei ymateb beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda'r dulliau ysgogi sydd ganddi.

Nawr, gwyddom fod Llywodraeth y DU wedi darparu £500 miliwn i helpu i sicrhau y gall Tata Steel barhau i weithredu, ond efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad hefyd i ddarparu cymorth ariannol i helpu'r ffatri gynhyrchu dur mewn ffordd wyrddach, o ystyried ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio'r sector. Dywedodd cadeirydd grŵp Tata fod y cytundeb yn gyfle i ddatblygu ecosystem ddiwydiannol sy'n seiliedig ar dechnoleg werdd yn ne Cymru, ac mae gennyf i ddiddordeb mawr mewn dysgu mwy am ba gyfleoedd newydd allai fod ar y gorwel. Felly, efallai y gallai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Tata ynglŷn ag adeiladu'r ecosystem honno yn ne Cymru, a sut mae hynny'n edrych. A yw Tata wedi gofyn am gymorth gan Lywodraeth Cymru i gyflawni'r weledigaeth hon, ac a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu unrhyw gyllid i helpu'r sector gyda'r agenda hon, ac, os felly, faint?

Nawr mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at bwysigrwydd datblygu ein sector gweithgynhyrchu domestig a chadwyni cyflenwi cryf, ac, fel rwyf wedi dweud o'r blaen, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei dulliau ysgogi i sicrhau'r cyfleoedd caffael gorau ar gyfer diwydiant dur Cymru. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud wrthym sut mae strategaeth gaffael Llywodraeth Cymru yn nodi cyfleoedd ar gyfer dur Cymru, yn ogystal â pha gamau eraill sy'n cael eu cymryd i sicrhau'r cyfleoedd caffael yng Nghymru ac, yn wir, yn ehangach.

Nawr, fel y soniais i yn gynharach, bydd gweithwyr Tata a'u teuluoedd yn aros yn bryderus i glywed sut y bydd y cyhoeddiad yn effeithio arnynt, ac mae'n hanfodol bod Llywodraethau ar bob lefel yn darparu'r cymorth sydd ei angen ar y gweithlu. Mae'r datganiad heddiw yn dweud ei bod yn hanfodol fod Tata bellach yn cynnal ymgynghoriad ystyrlon gyda'i weithwyr a'r undebau llafur ynghylch ei gynllun ailstrwythuro arfaethedig, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r Gweinidog. Wrth gwrs, mae gan Lywodraeth Cymru ddigon o ddulliau ysgogi sydd ar gael iddi i gefnogi'r sector a'i weithlu, wrth symud ymlaen, ac mae'n hanfodol eu bod yn cael eu defnyddio. Ac er fy mod yn gwerthfawrogi ein bod yn y dyddiau cynnar o hyd, efallai y gall ddweud ychydig mwy wrthym am y trafodaethau y mae wedi'u cael gyda Tata a'r gweithlu.

Rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn cydnabod bod y diwydiant yn parhau i newid a bod swyddi yn y diwydiant 20 mlynedd yn ôl yn wahanol iawn i swyddi heddiw, ac mae'n debyg y byddant yn wahanol iawn i'r swyddi a fydd yn cael eu cyflawni ymhen 20 mlynedd. Felly, a all y Gweinidog ddweud wrthym sut mae hynny wedi effeithio ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi yn y sector ac yn ei gweithwyr hyd yma? Efallai y gallai ddweud wrthym yn union faint sydd wedi'i fuddsoddi mewn sgiliau i'r sector a sut mae'r buddsoddiad hwnnw wedi ymateb i natur newidiol y diwydiant dros y blynyddoedd.

Safle Tata ym Mhort Talbot yw allyrrydd carbon unigol mwyaf y DU ar hyn o bryd, a chredir y gallai disodli'r ffwrneisi chwyth glo presennol leihau allyriadau carbon y DU 1.5 y cant. Fel y mae'r datganiad heddiw yn cydnabod, yr her fwyaf sy'n wynebu'r sector yw ei symud tuag at ddatgarboneiddio. Gallai'r ffwrneisi newydd, llai llafurddwys arwain at golli mwy a mwy o swyddi, ac mae'n hanfodol bod cydbwysedd rhwng moderneiddio'r diwydiant a diogelu ei weithlu. Mae'r amser i gael trafodaethau gonest, ystyrlon am sut rydym yn mynd i'r afael â'r her honno ac yn cydbwyso'r ddau amcan sy'n cystadlu yn awr, ac rwy'n falch bod y datganiad heddiw yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drefniadau gweithio mewn partneriaeth briodol gyda Llywodraeth y DU.

Mae'n ffaith, pan fydd y ddwy Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd, bod Cymru'n elwa, ac rydym wedi gweld tystiolaeth o hynny gyda'r rhaglen porthladdoedd rhydd a'r bargeinion dinesig a thwf. Mae'r Gweinidog yn iawn i dynnu sylw at y ffaith fod y rhaglen porthladdoedd rhydd yn cynnig cyfle i gysylltu cynhyrchu dur â photensial economaidd carlam yn y môr Celtaidd. Felly, efallai y gall y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau diweddaraf y mae wedi'u cael gyda phorthladdoedd Cymru ynglŷn â datblygu cyfleoedd newydd ar gyfer dur Cymru drwy'r rhaglen porthladdoedd rhydd.

Llywydd, mae gan Gymru hanes balch o gynhyrchu dur, ac rwy'n mawr obeithio y bydd y cytundeb rhwng Tata a Llywodraeth y DU yn helpu i sicrhau y bydd gan ein sector dur ddyfodol disglair hefyd. Wrth gwrs, mae swyddogaeth bwysig i Lywodraeth Cymru hefyd o ran cefnogi'r diwydiant, ac mae angen iddi wneud mwy gyda'r dulliau ysgogi sydd ganddi i helpu i ddod o hyd i'r cydbwysedd cywir rhwng datgarboneiddio'r diwydiant a chefnogi ei weithwyr. Diolch.

15:05

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwy'n credu mai'r prif bwynt yma yw ein bod yn cydnabod yn Llywodraeth Cymru, fel y mae'r sector yn cydnabod ac, yn wir, mae undebau llafur dur yn cydnabod, yr angen i bontio i ddatgarboneiddio'r ffordd y cynhyrchir dur. Yr her yw sut y gwneir hynny, pa mor gyflym y gwneir hynny a sut mae cyd-fuddsoddi yn gweithio rhwng gwahanol Lywodraethau a chwmnïau o fewn y sector dur.

Nawr, yr ansicrwydd, ar hyn o bryd, yw bod y cytundeb yn edrych ar un ateb technoleg, ac rydym bob amser wedi bod yn glir, fel y dywedais i yn y datganiad, ein bod wedi dweud wrth Tata ac wrth Lywodraeth y DU mai ein dewis ni oedd buddsoddi mewn hydrogen fel dewis arall ar gyfer y rhannau trymion, yn ogystal ag edrych ar y potensial ar gyfer mwy o ddefnydd o arciau trydan. Rwy'n credu bod dewis un dechnoleg gydag un ffwrnais unigol arfaethedig yn cyflwyno rhai heriau i ni o ran deall sut mae hynny'n gweithio. Ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod y bydd hyn yn golygu pontio teg. Ac o ystyried y ffigurau sydd wedi'u crybwyll ynghylch y miloedd o swyddi sy'n debygol o gael eu colli, nid yw'n edrych fel pontio teg. Felly, mae'n rhaid i ni ddeall llawer mwy.

Nid dim ond ni sydd angen deall. Pan wyf wedi cwrdd â stiwardiaid undebau llafur, maen nhw wedi bod yn glir iawn bod eu haelodau eisoes yn gofyn cwestiynau iddyn nhw nad ydyn nhw'n gallu eu hateb, ac mae hynny'n ychwanegu at yr ansicrwydd mewn sector sydd angen cadw ei weithlu, sydd angen cadw sgiliau o fewn y sector ar gyfer y cyfle rydyn ni'n cydnabod sy'n bodoli. Mae'n neges anodd iawn, iawn, ac ychwanegwyd at hynny gan y ffordd y bu ffynonellau'r Llywodraeth yn briffio'r cyhoeddiad dros sawl diwrnod.

Ac rwy'n credu, ar y pwynt arall rydych yn ei wneud am bartneriaeth—. Rydym o ddifrif ynghylch partneriaeth. Rydym wedi gwneud dewisiadau pragmatig drwy gydol tymor y Senedd hon ynghylch dod i gytundebau â Llywodraeth y DU. Mae porthladdoedd rhydd yn un enghraifft. Dyna pam, pan nad yw hynny'n digwydd, mae'n fwy rhwystredig, oherwydd mewn gwirionedd roeddem yn gallu cael sgyrsiau aeddfed a oedd yn golygu y gallem ni i gyd gyrraedd cytundeb y gallai pob un ohonom ymrwymo iddo. Dyma enghraifft o sut mae peidio â gweithio mewn partneriaeth yn edrych. Cawsom ein cadw allan o'r trafodaethau, heb hyd yn oed ein briffio ar y diwrnod. Gwelsom y cyhoeddiad mewn datganiadau i'r wasg. Ac nid yw'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Busnes a Masnach wedi gallu dod o hyd i amser yn ei dyddiadur i gwrdd â mi ers ei phenodiad yn gynharach eleni. Roedd hi'n gallu dod o hyd i amser i fynd i Bort Talbot i wneud cyfweliadau ar gyfer y cyfryngau, ond nid amser i siarad yn uniongyrchol â'r Llywodraeth. Ac mae'r llythyr y byddwch chi wedi'i weld, ac y bydd aelodau eraill o bwyllgor yr economi wedi'i weld—ac, yn wir, mae'n gyhoeddus i'r Aelodau—yn cynnwys dewis i beidio cynnig cyfarfod, ac mae'n diolch i mi am fy niddordeb yn y sector dur. Rwy'n credu bod gennyf i fwy na diddordeb yn y sector dur, fel Gweinidog yr Economi yn Llywodraeth Cymru, a hoffwn weld gwaith partneriaeth sy'n wirioneddol ystyrlon, ac mae hynny'n golygu bod angen buddsoddi ymddiriedaeth ar y ddwy ochr, ac mae'n golygu bod angen i Lywodraeth y DU weithredu fel partneriaid ac nid yn unig i weithredu yn null hen lywodraethwr cyffredinol.

O ran yr heriau sy'n dal i fod yno, rwy'n dal i weld mwy y gallwn ni ei wneud yn ein gwaith. Ar gaffael, er enghraifft, rwy'n gweithio gyda Rebecca Evans i ymchwilio i'r hyn y gallwn ni ei wneud i gryfhau caffael yng Nghymru ymhellach fel ei fod yn cyd-fynd yn llwyr â siarter dur y DU. Bydd mwy o gyfleoedd ar gyfer dur a gynhyrchir yn y DU. Ac i fod yn glir, mae hynny'n ddur wedi'i ei gynhyrchu yn y DU nid wedi dod o ffynhonnell arall. Gallwch ddod o hyd i ddur yn y DU nad yw'n cael ei gynhyrchu yma, ac mae'r ddau beth yn bwysig o ran eu gwahaniaethau. Rydym yn dal i weld bod mwy o waith i'w wneud ar wynt ar y môr. Dyna pam y soniais i amdano yn y datganiad. Mae angen i ni ddeall sut mae hyn yn edrych o ran y porthladd rhydd a chlwstwr ehangach de Cymru. Mae angen i ni hefyd gael sgyrsiau gydag Associated British Ports ac Aberdaugleddau fel rhanddeiliaid y gellir hyn effeithio arnynt, ac i ddeall beth mae Tata yn bwriadu ei wneud nawr, ei amserlen ar gyfer gwneud hynny, a beth mae hynny wedyn yn ei olygu i'r cynigion a wnaed gyda'r partneriaid hynny.

O ran sgiliau, rydym yn parhau i ddarparu ystod o gymorth i Tata, a chytunwyd gyda'r cwmni ynglŷn â sut rydym yn gwneud hynny, ac yn wir sgwrs gyda'r cyrff sgiliau rhanbarthol ynghylch y mathau o sgiliau y bydd angen i ni eu darparu. Fe welwch lawer o brentisiaid o fewn Tata, llawer o bobl yn uwchsgilio drwy'r gweithlu hwnnw hefyd, ac mae hynny'n dod yn sgil y gwaith rydym yn ei wneud gyda nhw ac yn wir eu hundebau llafur. Yng nghynhadledd ddysgu ddiweddar yr undeb yr es iddi, cwrddais â grŵp o weithwyr a oedd wedi dod trwy Tata, gweithwyr gweddol ifanc, sy'n edrych ymlaen at ddyfodol iddyn nhw a'u teuluoedd. Dyma'r union fath o bobl a fydd yn disgwyl gyda phryder am yr hyn y mae hyn yn ei olygu i'w dyfodol nhw yn ogystal â phobl eraill yn y gadwyn gyflenwi ehangach. Felly, byddwn yn parhau i fod yn barod i gael sgyrsiau am sut y gallwn helpu yn ymarferol wrth ddatgarboneiddio a darparu'r sgiliau y bydd eu hangen ar y gweithlu wrth i gynhyrchu dur barhau i symud ac i symud ymlaen. Y sgyrsiau yr wythnos hon rydw i wedi'u cynnal gyda'r undeb llafur—. Bydd trafodaethau yn ddiweddarach yr wythnos hon rhwng y cwmni ac yn wir yr undebau llafur hynny. A dyna ddechrau'r broses ymgynghori, ymgysylltu a thrafod. Yr hyn sydd gennym yw cytundeb arfaethedig, ac o fewn y negodi hwnnw mae'n bosibl y gwelwn ffurf wahanol ar y cytundeb pan ddaw. Byddwn yn parhau i siarad mewn modd dibynadwy gyda'r holl randdeiliaid hynny, y cwmni, Llywodraeth y DU ac yn wir yr undebau llafur dur eu hunain sy'n cynrychioli'r gweithlu.

15:10

Yn gyntaf, mae Plaid Cymru yn sefyll mewn undod â'r gweithwyr yn y gwaith ym Mhort Talbot a gyda'n cymunedau, sydd heb os yn wynebu poen meddwl yn sgil y cyhoeddiad ddydd Gwener, a bydd effaith bosibl unrhyw golledion o ran swyddi nid yn unig yn cael ei deimlo ym Mhort Talbot ond mewn cymunedau ar draws fy rhanbarth, o Gastell-nedd i Abertawe i Gŵyr ac i fy sir enedigol, Pen-y-bont ar Ogwr.

Nawr, mae dur yn rhedeg trwy wythiennau a rhydwelïau Port Talbot a'i phobl, trwy'r amseroedd da a'r drwg, a dywedaf hefyd fy mod yn rhannu'r rhwystredigaeth ynghylch pa mor hir y mae wedi cymryd i ni gyrraedd y pwynt hwn a pha mor warthus yw hi fod Llywodraeth Cymru a'r undebau wedi cael eu cloi allan o drafodaethau—gweithwyr ac undebau yn enwedig. Yn sicr, un o'r lleisiau allweddol a ddylai fod o gwmpas y bwrdd wrth sôn am bontio yn y gweithle yw un y gweithwyr—y gweithwyr sydd wedi rhoi a cholli cymaint i'r gwaith hwnnw dros y blynyddoedd.

Nawr, gan droi at y cyhoeddiad, a yw'r Gweinidog yn derbyn mai dyma ddiwedd arni, neu a yw'n cytuno â Phlaid Cymru a'r undebau nad dyma ddiwedd arni a bod rhaid cael lle i drafod ymhellach? Rydym i gyd yn gwybod yma pa mor bwysig yw'r sector yn strategol ar sail ddiogelwch a sail werdd. Rydym yn gwybod mai dyma un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r sector hwn o ran datgarboneiddio, ond ni allwch adeiladu tyrbinau gwynt ac ni allwch adeiladu paneli solar ac ni allwch adeiladu gweithfeydd pŵer trydan dŵr heb ddur. Felly, mae'n bwysig ein bod yn cael hyn yn iawn, ac mae hynny'n golygu nid yn unig canolbwyntio ar ffwrneisi arc trydan. Rydym wedi clywed dro ar ôl tro nad yw ffwrneisi arc trydan yn cynhyrchu dur o'r radd sydd ei hangen, felly a yw'n cytuno bod angen i ni fuddsoddi mewn ffyrdd amrywiol o gynhyrchu dur gwyrdd, felly, trwy hydrogen, llai o haearn, a buddsoddiad mewn technolegau dal carbon? Efallai fod hyn yn cyfrannu at yr ecosystem werdd a grybwyllir gan Tata. Os felly, mae angen i ni wybod amdano. Mae'r buddsoddiadau hyn eisoes wedi'u gwneud mewn mannau eraill yn y byd, fel yn yr Almaen, gyda KfW, banc datblygu'r Almaen, a fuddsoddodd mewn dur hydrogen. A yw'n credu y gallai fod rôl i Fanc Datblygu Cymru yma ar ryw adeg?

Rydym i gyd wedi gweld adroddiadau am golledion swyddi sylweddol. Mae'r rhaglen ReAct yn aml yn cael ei ffafrio, ac rwy'n gwerthfawrogi bod y Gweinidog eisoes wedi dweud llawer am yr angen am bontio teg. Mae sôn am sefydlu cronfa bontio rhwng Tata a Llywodraeth y DU, yn ogystal â'r bwrdd pontio newydd a grybwyllir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach yn ei llythyr atoch chi. A yw'r Gweinidog wedi bod mewn trafodaethau yn ymwneud â chyfranogiad Llywodraeth Cymru yn naill neu'r llall o'r cronfeydd a'r paneli hyn? Ac a yw'r Llywodraeth wedi llwyddo i weld sut mae'r cronfeydd hyn yn cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd o ran sgiliau gwyrdd? Neu a oedd y llythyr yn llythrennol yn un 'er gwybodaeth' yn unig?

Yn olaf, rwyf eisoes wedi sôn amdano, ond mae dur yn sector strategol a hynod bwysig, ac wrth edrych i'r dyfodol, mae'r Gweinidog, wrth gwrs, yn aelod o'r Blaid Gydweithredol ac mae ganddo uchelgais ar gyfer y sector cydweithredol yma yng Nghymru. Felly, o ran dyfodol dur, a yw wedi ystyried clustnodi dur o bosibl ar gyfer y prosiect cydweithredoli mwyaf yng Nghymru, neu hyd yn oed yn wir yn y DU? Mae prawf o gysyniad eisoes yn bodoli yng Ngwlad y Basg. Bydd yn diogelu'r sector yma yng Nghymru, bydd yn grymuso'r gweithwyr o fewn y sector, a bydd yn cadw unrhyw elw a wneir yma yn ein cymunedau, er budd ein cymunedau.

15:15

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau, ac rwy'n cytuno â byrdwn eang sylwadau'r Aelod ar ble rydym ni. Byddech yn disgwyl y byddai Aelodau Llafur Cymru, nid Gweinidogion yn unig, yn sefyll mewn undod â'r cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli, gyda sector yr ydym wedi amlygu ers tro sydd yn sylfaen dyfodol economi Cymru a'r DU. Ni ddylem fod yr unig wlad G7 nad oes ganddi ased cynhyrchu dur sylweddol. Ni allem ac ni ddylem roi ein hunain mewn sefyllfa pryd rydym yn dibynnu ar fewnforion, gyda phopeth a fyddai'n ei olygu. Felly, mae'r ased ei hun o bwysigrwydd strategol. Dyna pam rydym wedi buddsoddi cymaint o'n hamser, ein hegni a'n hymdrech mewn sgyrsiau â'r cwmni ac, yn wir, gyda Llywodraeth y DU. Dyma pam ei bod mor siomedig hefyd nad ydi Llywodraeth y DU wedi ymateb i'r ymgysylltiad adeiladol yr ydym ni wedi'i wneud, gyda'r math o ymddiriedaeth y dylid ei chynnal yn yr un modd.

Ar eich pwynt o droi cynhyrchu dur yn ymdrech gydweithredol, nid ydym yn rheoli ac nid mewn sefyllfa i wneud hynny. Byddwn yn parhau i ddadlau dros fwy o fenter gydweithredol ledled ein heconomi, ond nid wyf yn credu ei fod yn ateb ymarferol i'r heriau sy'n cael eu hwynebu nawr. Mae gennym gwmni sy'n benderfynol o gynnal ei berchnogaeth o'r ased cynhyrchu dur hwn, ac mae'n bwriadu rhoi ei arian ei hun i wneud hynny.

A'ch pwynt chi ynghylch a fydd yna drafodaethau ystyrlon nawr, wel, dyna'n union mae undebau llafur dur yn disgwyl i ddigwydd. Ac er mwyn i unrhyw ymgynghoriad fod yn ystyrlon, mae'n rhaid iddynt fod yn barod i edrych ar y cytundeb arfaethedig sydd ar y bwrdd, yn hytrach na derbyn mai pob manylyn unigol sydd wedi'i gyhoeddi hyd yma fydd y canlyniad terfynol ac, yn wir, beth mae hynny'n ei olygu i'r gweithlu o ran unrhyw symudiad yn y dyfodol yn y ffordd y cynhyrchir dur a'r amserlen ar gyfer y newid hwnnw.

Rydym yn siarad eto am yr hyn a all ddigwydd a rhywfaint o'r gwaith adeiladol gyda Llywodraeth y DU er enghraifft ar y gronfa trawsnewid ynni diwydiannol, sydd wedi darparu mynediad. Rydym wedi bod yn rhan o'r cyfnod ymgynghori, a dylai hwnnw weld rownd arall yn y gwanwyn, a byddwn yn edrych i sicrhau, o fewn y cyfnod nesaf hwnnw, y bydd cefnogaeth go iawn ac ymarferol ar gyfer gwneud dur yma yng Nghymru. Fel y dywedais i, ni allwch gael ased cynhyrchu dur sylweddol yn y DU heb gynhyrchu dur sylweddol yma yng Nghymru hefyd.

O ran technolegau, fel y dywedais i yn gynharach, rydym bob amser wedi bod yn glir mai ein dewis ni yw bod hydrogen yn rhan o'r ateb. Byddai hynny'n gofyn am gyd-fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU er mwyn i hynny ddigwydd. Mae wedi digwydd yn yr Iseldiroedd oherwydd bod ganddyn nhw drefniant ac mae ganddyn nhw gyd-fuddsoddiad yn digwydd yno, ac, fel y dywedais i, mae trefniadau gwahanol ar waith ar gyfer y sector dur mewn economïau cystadleuol eraill yr UE. Mae'r Almaen a Ffrainc yn enghreifftiau da. Rydym eisiau gweld y sector yn cael ei drin yn deg yma, gyda'r un lefel o gefnogaeth, yr un lefel o gydnabyddiaeth, a'r un cyfle i ddatgarboneiddio heb y gost o golli nifer sylweddol o swyddi sydd wedi'u briffio gan ffynonellau Llywodraeth y DU hyd yma, a dyna pam y byddwn yn parhau i siarad yn ystyrlon gyda'n hundebau llafur a Llywodraeth y DU i ddeall beth mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd yn ymarferol, yn hytrach na'r penawdau a roddwyd i ni hyd yn hyn. Byddaf yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i lefarwyr ac, yn wir, Aelodau sy'n cynrychioli cymunedau dur, wrth i ni barhau.

15:20

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw, ac am ei gefnogaeth i'r gweithwyr a'r cymunedau sy'n mynd i gael eu distrywio gan y cyhoeddiad hwn yr wythnos diwethaf? Oherwydd 'does dim amheuaeth, mae miloedd o weithwyr dur a'u teuluoedd a phobl eraill yn y sector contractwyr ac yn y gadwyn gyflenwi yn poeni am eu dyfodol, ac mae busnesau ym Mhort Talbot a fydd yn ei chael hi'n anodd o ganlyniad i golli incwm gan yr unigolion hynny sy'n gwario eu harian yno. Felly, ar un ystyr, mae'r cyhoeddiad hwn yn ddraenen yn ystlys pobl: 'Beth ydyn ni'n ei wneud?', 'Ble awn ni?', 'Beth sy'n digwydd?' Mae angen gwneud yr amserlen yn glir. Felly, yn eich trafodaethau gyda Tata, pwysleisiwch arnyn nhw yr angen i egluro'r amserlen i'w gweithlu, i sicrhau eu bod yn ymgysylltu â'r undebau llafur ac yn gwrando ar yr undebau llafur, oherwydd nhw yw'r gweithwyr a nhw yw'r arbenigwyr yn y maes hwn, ac mae'n ymddangos eu bod yn cael eu hanwybyddu o ran yr agwedd honno, a byddai eu mewnbwn wedi bod yn hanfodol wrth wneud unrhyw benderfyniadau. Mewn gwirionedd, mae Llywodraeth y DU, rwyf wedi clywed Gweinidogion yn cyfeirio at hyn eu hunain, 'Rydym wedi bod yn trafod hyn ers blynyddoedd.' Wel, os dyma'r cytundeb a gafwyd ar ôl blynyddoedd o drafod, mae'n bryd iddyn nhw fynd i gael sgiliau trafod newydd, oherwydd dydyn nhw ddim yn gallu ei wneud.

Rwy'n falch bod Plaid Cymru wedi ymuno â'r Blaid Lafur ar y cytundeb dur gwyrdd, oherwydd dyna'r hyn yr ydym ei eisiau mewn gwirionedd, ac mae hynny'n bwysig. Felly, pa drafodaethau rydych chi wedi'u cael ynglŷn â sicrhau bod y dull hwnnw'n rhywbeth y gallwn ni symud tuag ato o hyd? Oherwydd mae hwn yn gynnig; nid dyma'r dyfodol eto, nid yw'n gwbl ddigyfnewid, mae'n dal i fod yn rhywbeth y gellir ei addasu. Felly, beth allwn ni ei wneud ynglŷn â hynny? Ac, a ydych chi'n cytuno â mi, mewn gwirionedd, mai'r budd mwyaf y gallwn ei gael yw Llywodraeth Lafur yn dod i mewn i ddeddfu ei chytundeb dur gwyrdd mewn gwirionedd, er mwyn caniatáu i ni fwrw ati i sicrhau dyfodol cynaliadwy, gyda llawer mwy o swyddi, gwell cyfleoedd i bobl, oherwydd mae Llywodraeth y DU, ar hyn o bryd, yn siarad am gyfleoedd—y gronfa £100 miliwn, cyfleoedd—ond ble mae'r cyfleoedd hynny? Yr wythnos gynt, ni chawson nhw unrhyw geisiadau am wynt arnofiol yn y môr Celtaidd; maen nhw wedi colli'r cyfle hwnnw. Felly, nid wyf yn eu gweld yn cyflawni. Mae'n ymddangos eu bod yn siarad, ond nid mewn gwirionedd yn gweithredu ac yn cael pobl i mewn i waith.

Rwy'n cydnabod ymrwymiad hirdymor yr Aelod nid yn unig i'r sector yn ei etholaeth, ond y pwyntiau ehangach y mae'n eu gwneud am bwysigrwydd dur i ddyfodol yr economi. Rwyf hefyd yn cydnabod y pwyntiau y mae'n eu gwneud yn rymus am y pryder ynghylch y dyfodol, ac mae hynny'n real iawn. Fel y dywedais i, pan wnes i gyfarfod â stiwardiaid undebau llafur ddoe a heddiw, roedden nhw'n glir iawn bod y pryderon hynny'n rhai go iawn, mae'r cwestiynau'n rhai go iawn, ac, ar hyn o bryd, ni all stiwardiaid yr undebau llafur ddweud wrthyn nhw beth sy'n digwydd. Mae dechrau'r sgyrsiau sydd bellach yn digwydd ar ôl i'r cyhoeddiad gael ei wneud yn rhoi pawb mewn sefyllfa anodd, ac, mewn gwirionedd, dyma'r math o beth nad yw'n helpu gydag ochr yr undeb llafur a'i pherthynas â Tata, sydd wedi bod yn adeiladol yn gyffredinol dros gyfnod hir, ac mae hynny ynddo'i hun yn wirioneddol annefnyddiol.

Bu blynyddoedd o drafod ar hyn. Os ydych chi'n cofio rhywun o'r llyfrau hanes o'r enw Kwasi Kwarteng, pan oedd yn Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, roedd eisoes yn sôn am y ffaith bod trafodaeth ar gyd-fuddsoddi, a gallai telerau'r drafodaeth honno, pe byddent wedi'u cyrraedd ynghynt, fod wedi caniatáu cyfnod pontio hirach a thecach, gydag atebion mwy technolegol y gellid bod wedi eu cyflwyno i'r cytundeb. Felly, mae methu â gwneud cytundeb yn gynharach mewn gwirionedd wedi rhoi mwy o broblem.

I'r gwrthwyneb, mae David Rees yn iawn, mewn gwirionedd, o ystyried y cyfnod yr ydym ynddo, a diwedd y ffordd sy'n wynebu'r Llywodraeth hon, oherwydd rhaid cael etholiad cyffredinol o fewn amserlen, y ffaith bod yna drafodaeth sy'n gorfod digwydd nawr, ac mae yna ddull amgen gan Lywodraeth amgen a allai fod ar draws y Deyrnas Unedig dros y flwyddyn nesaf, mae sgyrsiau ynghylch un o'r ychydig ymrwymiadau ariannu sydd wedi'u gwneud ac a lynnir wrthynt, ac rwy'n deall mewn gwirionedd pam nad yw fy swyddogion cyfatebol yn y DU yn gwneud cyfres gyfan o ymrwymiadau ariannu amser hir cyn etholiad. Ond, mewn gwirionedd, mae'r dur gwyrdd, y ffigur o £3 biliwn sydd wedi'i roi, yn un o'r ymrwymiadau y cyfeirir ato'n barhaus, ac mae hynny'n golygu bod yna ffyrdd amgen o drafod sut olwg fyddai ar raddfa cyd-fuddsoddi, a sut olwg fyddai ar yr enillion ar gyfer y buddsoddiad hwnnw.

Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt teg ynghylch gwynt arnofiol ar y môr: nid oedd un cais ar gyfer unrhyw ran o'r DU yn y rownd contractau ar gyfer gwahaniaeth ddiweddaraf ar gyfer unrhyw wynt arnofiol ar y môr—unrhyw brosiect gwynt ar y môr. Mae cyfle i unioni hyn o fewn y misoedd nesaf. Dylai fod rownd arall yn dod cyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Os yw Llywodraeth y DU o ddifrif ynglŷn â'r ffaith bod y DU yn arwain y byd yn ymarferol ac nid mewn rhethreg yn unig, bydd angen iddynt wneud rhywbeth i sicrhau bod y prosiectau arddangos hynny'n cychwyn ac yn cael cyfle i ddatblygu. Os na fydd hynny'n digwydd, ni fydd gwledydd eraill yn aros yn llonydd; byddant yn symud i fyny ac yn cydnabod y diffyg gweithredu sy'n digwydd yma. Os na fydd hynny'n digwydd, gallai'r cyfleoedd y gallai'r porthladdoedd rhydd eu cynhyrchu ar gyfer y cais porthladd rhydd Celtaidd, gan fynd ar draws o Bort Talbot, yr holl ffordd i borthladd Aberdaugleddau eu lleihau, os nad eu colli. Nawr, rwyf eisiau gweld manteisio i'r eithaf yn digwydd o ran hyn. Rwyf eisiau gweld y swyddi ac ansawdd y swyddi yn digwydd. Ac rwyf eisiau gweld Tata yn rhan o'r sgwrs honno, gyda'u partneriaid, ynghylch pa ddur y byddant yn ei gynhyrchu, faint o hwnnw y gellir ei wneud yma, faint a fydd yn bosibl ei roi i mewn i'r tyrbinau hynny, er mwyn sicrhau'r budd economaidd mwyaf posibl i ni, hefyd, wrth gwrs, fel pwynt a wnaed yn rymus gan stiwardiaid undebau llafur, eu bod yn deall, os ydych chi'n mewnforio dur, nid ydych chi'n torri eich allyriadau, rydych chi'n eu hadleoli i wledydd eraill. Ac mewn gwirionedd, mae hynny'n peri risg wirioneddol nid yn unig o ran yr hyn y gallai hyn ei wneud i ddatgarboneiddio, ond mewn gwirionedd i'r cyfle i werthu'r dur hwnnw i farchnadoedd Ewropeaidd a marchnadoedd UDA hefyd.

15:25

Rwyf i yn bersonol yn croesawu buddsoddiad enfawr Llywodraeth y DU o £500 miliwn ym Mhort Talbot, sy'n diogelu 5,000 o swyddi uniongyrchol a 17,500 o swyddi anuniongyrchol, a dyfodol y diwydiant dur yma yn y de.

Rwy'n rhannu pryder y Gweinidog am golli swyddi yn yr ardal. Dyna pam mae croeso mawr i'r £100 miliwn tuag at fwrdd pontio i reoli'r newid ac mae'n un o'r symiau mwyaf erioed o arian a gafodd ei ymrwymo i brosiect o'r math hwn. Ac rwyf wedi clywed y Gweinidog yn y Siambr hon, sawl gwaith, yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatrys dyfodol cynhyrchu dur ym Mhort Talbot. Nawr mae hynny wedi digwydd, roeddwn i'n meddwl y byddai wedi ei groesawu. Ond yn hytrach, wrth wrando ar ddatganiad y Gweinidog heddiw, roedd yn swnio fel rhywun yn sgrialu o gwmpas yn chwilio am rywun neu rywbeth i'w feirniadu. Mae ychydig yn smala ar ran y Gweinidog i siarad am ddiffyg eglurder a manylder pan ymddengys mai'r unig beth y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi'i gefnogi a oedd yn wahanol mewn unrhyw ffordd yw cynllun hydrogen heb ei brofi, ar ryw adeg yn y dyfodol, na fyddai'n gwneud unrhyw beth i ddiogelu swyddi heddiw; mae'n gwbl ddatgysylltiedig oddi wrth realiti'r sefyllfa. A nododd yr Ysgrifennydd busnes ac Ysgrifennydd Cymru y byddai hynny'n golygu gwario chwe gwaith cymaint â chynnig y Llywodraeth, dim ond i ohirio'r mater a throsglwyddo'r broblem i rywun arall. Ond mae ei wrthwynebiad i'r mater hwn mewn perygl o niweidio sefydlogrwydd dyfodol y cytundeb a'r diwydiant dur ym Mhort Talbot. Os yw'n anghytuno a'r cytundeb fel y mae'n awgrymu, ac y mae Plaid Lafur y DU, ar y cyfryngau cymdeithasol, yn awgrymu hefyd, a all gadarnhau a yw wedi cael trafodaethau gyda Phlaid Lafur y DU i sicrhau y byddai unrhyw Lywodraeth Lafur yn y DU yn y dyfodol yn anrhydeddu telerau'r cytundeb hwn, fel y gall Tata a thref Port Talbot fwrw ymlaen ag eglurder?

Wel, gyda pharch, mae'r Aelod wedi ceisio priodoli barn i mi nad oes gennyf ac nad wyf wedi'i nodi. Rwy'n credu y dylai wrando'n fwy gofalus a chydnabod difrifoldeb y mater. Mae naws ei sylwadau yn siomedig iawn. Mae hwn yn gyhoeddiad cymysg. Mae sicrwydd tymor hirach i'r sector, yr ydym wedi'i gydnabod. Fe wnaethon ni ei gydnabod ar y pryd, ac rydw i wedi ei gydnabod heddiw yn fy natganiad. Mae dyfodol cryf i'r sector dur, ac mae'n bwysig bod yn gadarnhaol ynghylch hynny. Mae gennym sgiliau, mae gennym allu cynhyrchu, dylem allu pontio i ddyfodol lle mae cynhyrchu dur sylweddol yn dal i ddigwydd, ac rydym eisiau gwneud hynny ar sail pontio teg, nid ei drafod yn unig ac yna ei roi i un ochr. Byddwn wedi meddwl bod hynny'n uchelgais a ddylai fod ar draws y Siambr hon, ac eto mae'r Aelod yn difrïo'r hyn yr ydym yn ceisio'i wneud wrth ofyn cwestiynau difrifol am yr hyn y mae'r cytundeb arfaethedig yn ei olygu a beth fydd yn ei olygu i'r holl weithwyr hynny sy'n wynebu dyfodol pryderus. Rydyn ni eisiau'r sicrwydd y cyfeiriodd David Rees ato, y cyfeiriodd Luke Fletcher ato, y cyfeiriodd Paul Davies ato hyd yn oed, ac rwy'n credu bod sylwadau'r Aelod wir yn groes i hynny, nid yn unig o ran naws ond o ran cynnwys hefyd.

O ran hydrogen, nid wyf yn ymddiheuro am egluro ein bod bob amser wedi dweud mai ein dewis ni oedd bod â hydrogen fel rhan o'r gymysgedd ar gyfer y dyfodol. Os ydych chi'n caniatáu i'r dyfodol hwnnw gael ei greu yn rhywle arall, yna mae'n gwbl bosibl na fydd y dechnoleg honno'n cyrraedd y glannau hyn. Pwy fyddai eisiau hynny? Oherwydd y byddech chi'n dibynnu ar gynhyrchu dur o'r newydd, yn hytrach na chynhyrchu dur wedi'i ailgylchu y mae'r broses arc trydan yn ei chynrychioli, yn digwydd yn rhywle arall, a bydd yn rhaid i'r graddau metel sydd ar hyn o bryd ond yn cael eu cynhyrchu yn y ffordd honno ddod o rywle arall. Byddwch yn dibynnu, ar fewnforio cyfran sylweddol o gynhyrchiant dur o rannau eraill o'r byd.

Byddai'n well gennyf pe bai'r DU yn gwneud dewis strategol o ran dymuno gweld y datblygiad hwnnw'n digwydd o fewn y DU. Mae gennym sefydliadau yma yng Nghymru, mewn gwirionedd, a allai gymryd rhan yn yr ymchwil honno a datblygu'r gwaith o wneud dur arc trydan, yr hyn y gall hynny ei ddarparu, yn ogystal â hydrogen fel dewis arall ar gyfer y rhannau trwm. Ac nid wyf yn ymddiheuro am nodi mai dyna fu ein safbwynt bob amser. Ni fydd y cwmni'n synnu fy nghlywed yn dweud na fydd Llywodraeth y DU yn synnu fy nghlywed yn dweud hynny. Ac fel yr ydym wedi dweud, mae hwn yn gytundeb arfaethedig. Nid ydym yn gwybod digon am y cytundeb a'r hyn sydd ynddo i ddweud y byddwn yn cefnogi'n llawn bob agwedd arno. Felly, edrychaf ymlaen at gael mwy o eglurder ar y cynigion yn y cytundeb, a'r ymgynghoriadau a'r negodiadau y mae'n rhaid eu cynnal rhwng y cwmni ac ochr yr undebau llafur er mwyn iddo fod yn ystyrlon, ac ni fyddwn yn rhoi unrhyw amserlen ar gyfer hyd y drafodaeth honno. Y pwynt pwysig yw eich bod yn cael yr ateb cywir ar gyfer gweithwyr y sector, ac ar gyfer pwysigrwydd y sector nid yn unig i economi Cymru, ond economi'r DU hefyd. 

15:30

Mae gwaith dur Tata ym Mhort Talbot yn cyflogi pobl o bob rhan o'r rhanbarth rwy'n ei gynrychioli. Mae'n cyflogi llawer o fy ffrindiau a'u plant. Mae tref Port Talbot wedi'i hysgwyd gan y newyddion am y colledion swyddi enfawr hyn, ond hefyd Castell-nedd, Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a'u cymunedau yn y cymoedd. Mae gan y gweithwyr hyn deuluoedd i'w cefnogi, morgeisi i'w talu, maent yn prynu mewn siopau lleol, yn mynd i dafarndai a bwytai lleol, hefyd y rhai sy'n gweithio i'r cwmnïau lleol sy'n cyflenwi'r holl ddeunyddiau, cynhyrchion a gwasanaethau sydd eu hangen ar y gwaith dros ddegawdau i gynhyrchu dur Port Talbot. Mae yna brentisiaid rwy'n gwybod eu bod yn teimlo bod amheuaeth am eu dyfodol. Ni chafodd yr un o'r bobl hyn lais yn y penderfyniad enfawr a phellgyrhaeddol hwn a fydd yn newid eu dyfodol, ac mae hyn yn eu cadw'n effro yn y nos. 

Rydych chi'n cyfeirio yn eich datganiad, Gweinidog, at gyllid y bwrdd pontio, ond, fel rydyn ni wedi'i glywed, nid oes llawer o fanylion. Felly, hoffwn wybod, Gweinidog, sut y bydd cymunedau'r rhanbarth ehangach yn cael eu cefnogi'n economaidd yn y dyfodol? Pa sgyrsiau mae'r Llywodraeth wedi'u cael gyda chynghorau Castell-nedd Port Talbot, Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr ynghylch effaith colli swyddi a'r newidiadau i natur gwaith Port Talbot? Oherwydd nid geiriau yn unig yw 'pontio teg'. 

Rwy'n credu bod dau bwynt i'w gwneud mewn ymateb. Fel yr wyf eisoes wedi dweud ar sawl achlysur, rwy'n cydnabod bod y pryder sydd gan bobl yn real iawn, ac nid yw'n mynd i ddiflannu'n gyflym, oherwydd, mewn gwirionedd, dim ond ar fin dechrau y mae'r trafodaethau gydag ochr yr undebau llafur, ac ni fyddwn eisiau gweld y rheini yn cael eu rhuthro gan o bosib gyflawni atebion anghywir. Os oes ffordd well o gyflawni'r pontio, gan gynnwys edrych ar dechnoleg, boed yn un ffwrnais neu fwy, mae'n rhaid i'r holl bethau hynny fod yn rhan o'r sgwrs. Yn sicr, ni fydd y Llywodraeth hon yn ceisio cwtogi'r drafodaeth honno y mae'n rhaid ei chynnal nawr i ddarparu ateb tymor hir ar gyfer cynhyrchu dur ym Mhort Talbot.

Ar eich pwynt o ran y sgyrsiau a gawn gyda'r holl awdurdodau lleol sydd â buddiant, mae angen i ni gael mwy o sicrwydd ynghylch yr hyn y mae hyn yn ei olygu, oherwydd, o ran nifer y swyddi a gollir yn ôl y briff, nid yw'n sicr mai dyna'r ffigur terfynol. Ac mae'r cydbwysedd rhwng swyddi uniongyrchol ac, yn wir, y pwynt a wnaeth David Rees am yr holl swyddi anuniongyrchol, a'r pwynt a wnaethoch am y gwariant yn yr economi leol, ac, os oes gostyngiad yn ôl troed Tata Steel, beth mae hynny'n ei olygu i ystod eang o feysydd eraill hefyd. Felly, mae angen mwy o sicrwydd ar hynny, ac, yn wir, ar y bwrdd partneriaeth.

Hoffwn gael sgwrs ystyrlon gyda Llywodraeth y DU am yr hyn y mae'r £100 miliwn yn ei olygu mewn gwirionedd, y cyfnod pan fydd gwario'n digwydd, sut mae'n gweithio gyda'n cyfrifoldebau datganoledig dros ddatblygu economaidd, nid drostynt neu rhyngddynt, a'i wneud mewn ffordd lle gallwn ychwanegu gwerth gwirioneddol. Fel arall, o bosibl, mae hyn yn creu twll mawr iawn mewn unrhyw fath o agenda ffyniant bro sydd ag unrhyw fath o ystyr. Felly, rydym yn cydnabod bod llawer i'w drafod—cwestiynau ymarferol iawn—a byddaf yn parhau i ymgysylltu'n ystyrlon ac adeiladol â Llywodraeth y DU. Byddaf hefyd, wrth gwrs, yn sicrhau bod yr Aelodau'n cael yr wybodaeth ddiweddaraf pan fydd diweddariadau sylweddol y gallwn eu darparu i'r Aelodau, naill ai yn y pwyllgor, neu, yn wir, yn gyhoeddus, a dyna fyddai fy newis i. 

Gweinidog, un o'r gweithrediadau ymhellach lawr y gadwyn yr effeithir arnynt gan gyhoeddiad Port Talbot yw gwaith dur Llanwern yn Nwyrain Casnewydd. Mae gennym gannoedd o swyddi uniongyrchol yno o hyd, yn ogystal â llawer o gontractwyr, y gadwyn gyflenwi sy'n gwasanaethu'r gwaith, ac, wrth gwrs, busnesau lleol sy'n elwa ar wariant gweithwyr yn Llanwern ac yn y swyddi eraill hynny. Ac, wrth gwrs, rhaid i ni beidio ag anwybyddu'r gweithrediadau ymhellach lawr y gadwyn yn y darlun cyffredinol, oherwydd mae'n arwyddocaol iawn yn lleol, Gweinidog. Ac un o'r cwestiynau allweddol yw ansawdd y dur y byddai ffwrnais arc drydan—sy'n amlwg yn ddull a ffefrir gan Lywodraeth y DU a Tata Steel ar hyn o bryd—yn ei gynhyrchu. 

Rydym wedi clywed barn amrywiol, ac rwy'n meddwl tybed beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru o ran ansawdd y dur y byddai ffwrnais arc drydan yn ei gynhyrchu, a'i addasrwydd ar gyfer gwaith Zodiac yn Llanwern, sy'n amlwg yn cynhyrchu dur ar gyfer y diwydiant modurol. Yr apêl, mewn gwirionedd, gan y gweithlu yn Llanwern a'r undebau, fel y dywedoch chi, yw iddynt gael cymryd rhan, i Lywodraeth Cymru gymryd rhan, yn ystyrlon, wrth i ni symud ymlaen o'r pwynt hwn. Fel y dywedoch chi, Gweinidog, mae llawer iawn eto i'w drafod ynghylch y pontio, ynghylch cyfleoedd ailhyfforddi, swyddi eraill i'r rhai a fydd yn colli cyflogaeth, ond llu o faterion eraill hefyd. Felly, o hyn ymlaen, Gweinidog, a gwn y byddwch yn gofyn i Lywodraeth y DU am hyn, yn amlwg dyna beth mae'r undebau a'r gweithlu yn dymuno—cyfranogiad ystyrlon ganddynt, gan Lywodraeth Cymru, a dull gwahanol o weithredu yn hynny o beth wrth i ni symud ymlaen ac ymdrin â'r holl fanylion dan sylw.

15:35

Diolch. Mae'n bwynt pwysig ynghylch rhai o fanylion y gadwyn gyflenwi ehangach. Ar gyfer Llanwern, ac yn wir Trostre, gyda dur yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd o Bort Talbot, nid yw'n glir y gallwch wneud hynny mewn ffordd lwyddiannus ac angenrheidiol drwy'r broses arc drydan ar hyn o bryd. Felly, mae deall sut mae hynny'n edrych, a deall a yw'r cwmni'n mynd i fuddsoddi mewn dyfodol tymor hir i Lanwern a Throstre, yn bwysig iawn i ni. Mae ochr yr undebau llafur wedi bod yn siarad am y peth yn gyhoeddus eisoes, ers cyhoeddi'r cytundeb arfaethedig.

Ond mae yna hefyd ein dealltwriaeth o'r pwynt sydd wedi'i wneud o ran allyriadau carbon; ni allwch adleoli eich allyriadau i wledydd eraill. Felly, os ydych chi'n mynd i fewnforio dur sy'n cael ei gynhyrchu yn rhywle arall, pa mor hir dymor yw'r ymrwymiad i wneud hynny, os nad ydych chi'n gwneud y dur hwnnw ym Mhort Talbot mwyach? O le mae'r dur hwn yn dod? Pan fydd gan yr Undeb Ewropeaidd, fel y mae bron yn sicr, fecanwaith addasu pris carbon ar draws ffiniau, mae hynny'n golygu'n fras eich bod chi'n deall cynnwys carbon y dur sy'n dod atoch chi, yn ei ddull cynhyrchu, ac yn wir ei ddull cludo. Felly, os oes gennych chi ddur wedi'i gynhyrchu mewn rhan wahanol o'r byd mewn dull carbon-ddwys o hyd, a'i ychwanegu at gost garbon ar gyfer ei gludo, bydd hynny'n effeithio ar sut mae'r dur hwnnw'n cael ei drin o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Hoffwn weld dur y DU, nid dim ond dur Cymru, yn cael ei gynhyrchu mewn ffordd sy'n cael ei gydnabod fel un sy'n cyfateb i'r dur sy'n cael ei gynhyrchu o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Bydd yn lleihau'r anghytundeb a fyddai fel arall o ran y ffordd y defnyddir dur, ac yna parodrwydd unrhyw un i fuddsoddi yn nyfodol y dur hwnnw sy'n cael ei wneud yma yn y DU.

Mae hefyd yn ymwneud â'r hyn rydyn ni'n credu rydyn ni eisiau ei glywed gan Tata ynghylch ymchwil i fetelau'r dyfodol. Mae gan Brifysgol Abertawe yn arbenigedd penodol yn hyn, ac mae Tata wedi arfer gweithio gyda nhw; ydyn nhw'n barod i fuddsoddi yn yr ymchwil honno i sicrhau y gallwn ni gynhyrchu gwahanol raddau o ddur o hyd gan ddefnyddio arc drydan? Mae angen i ni gael ateb i hynny, ac, yn wir, y cwestiwn ehangach o fetel sgrap. Ar hyn o bryd mae'r DU yn cynhyrchu tua 11.5 miliwn o dunelli a mwy o fetel sgrap bob blwyddyn. Defnyddir dros ddwy filiwn o hynny wrth gynhyrchu dur arc drydan, felly mae bwlch mawr. Yr her, serch hynny, yw bod y gormodedd hwnnw'n cael ei allforio ar hyn o bryd. Felly, rydym yn allforio ein metel sgrap. Nawr, a fydd cymhellion neu heriau ynghylch allforio'r sgrap hwnnw? Os ydych chi'n mynd i dorri ar draws model busnes allforwyr, sut ydych chi'n mynd i wneud hynny a sut ydych chi'n mynd i gael nid yn unig y cyfaint ond ansawdd y sgrap a fydd yn ofynnol i fwydo gwaith cynhyrchu arc drydan sylweddol arall yma nad yw'n tanseilio gallu cynhyrchu dur yn Celsa, sydd, fel y dywedais, yn fy etholaeth i?

Mae angen i ni ddeall yr holl gwestiynau hynny felly hefyd ochr yr undeb llafur. Byddwn yn bendant yn chwilio am atebion i'r rheini, a sut, os o gwbl, y bydd y £100 miliwn a'r bwrdd partneriaeth yn rhan o hynny, neu'r camau y bydd y cwmni eu hunain yn eu cymryd. Felly, mae llawer o gwestiynau y mae angen eu hateb yn y broses negodi, a gallaf eich sicrhau na fydd Llywodraeth Cymru yn colli golwg ar fuddiannau gweithwyr yn Llanwern, Trostre, Shotton neu unrhyw le arall o ran y trafodaethau hyn a'r hyn y mae'n ei olygu ar gyfer dyfodol y sector.

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Fe wnaethoch chi sôn am Shotton yn y fan yna yn eich brawddeg olaf. Roeddwn i eisiau dweud fy mod i'n sefyll mewn undod, wrth gwrs, gyda gweithwyr Tata ble bynnag maen nhw, ond yn enwedig yn fy rhanbarth i yng Ngogledd Cymru a Shotton. Mae'r cysgod tywyll hwn wedi'i daflu ar draws yr holl safleoedd yr ydym yn eu cynrychioli, ym mhob rhan o Gymru. Hoffwn ofyn beth yw eich dealltwriaeth o unrhyw effeithiau posibl ar Shotton yn enwedig, ond hefyd, yn bwysig, a wnewch chi gadarnhau, fel Llywodraeth Cymru, y byddwch yn barod i gamu i'r adwy a darparu'r cymorth angenrheidiol i weithwyr lle bynnag y bônt yng Nghymru, yn enwedig, o fy safbwynt i, y rhai yn Shotton, o ran ailhyfforddi a chymorth i ddod o hyd i waith amgen os bydd yr angen yn codi?

Rwyf wedi cael y cyfle eisoes i ymweld â Shotton gydag Undeb Unite, a Jack Sargeant yr Aelod dros yr etholaeth. Ein dealltwriaeth gychwynnol yw bod llai o bryder am Shotton nag am gyfleusterau cynhyrchu dur eraill, ond mae angen sicrwydd ar hynny. Bydd cael sicrwydd drwy'r trafodaethau sy'n cael eu cynnal yn ddefnyddiol iawn i ni, ac unwaith eto, i sicrhau y bydd unrhyw gynhyrchiad yn y dyfodol yn parhau i fwydo ffatri Shotton. Os oes effaith ar y niferoedd, yna byddwn yn parhau i ddarparu'r gefnogaeth yr ydym eisoes yn ei wneud—rhaglen ReAct+, ac eraill—i weithio gyda'r cwmni, y gweithwyr a'r undebau llafur eu hunain. Dyna pam mae ffrâm amser pontio yn bwysig iawn, oherwydd os ydych chi'n symud tuag at y broses o gael gwared ar weithlu yn gyflym, mae'n creu problem fwy o lawer i bron pawb. Yr her o gael ffrâm amser hirach yw a allwch chi gadw pobl yn y sector, os ydyn nhw'n credu nad yw'r dyfodol tymor hirach yn bodoli iddyn nhw. Felly, mae yna heriau gwahanol yn bodoli. Byddwn yn parhau i ddarparu cefnogaeth ymarferol, fel y dywedoch chi. Ac yn fy marn i, fel cyn-Weinidog iechyd, pan fyddwch yn cael digwyddiadau diswyddo mawr a chyflym fe geir, bron bob tro, effaith iechyd meddwl yn deillio o hyn. Felly, mae angen i bob un ohonom ddeall beth mae hynny'n ei olygu'n uniongyrchol ac yna deall a fydd galw ychwanegol ar ein gwasanaeth iechyd, pe bai yna ddigwyddiad diswyddo cyflym ar raddfa fawr. Felly, mae yna lawer o resymau da dros osgoi hynny. Rwy'n ymwybodol iawn o bob un ohonynt, ac, fel y dywedais i, byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd a wnawn. 

15:40

Bûm yn gweithio fel swyddog ymchwil yn yr hyn oedd canolfan ymchwil BSC ym Mhort Talbot, gan arbenigo mewn cynhyrchu haearn a dur, gan gynnwys gyda'r model cyfrifiadurol ffwrnais chwyth. Rwyf wedi clywed y datganiad ac wedi darllen y datganiadau i'r wasg. Mae symud i ffwrneisi arc drydan yn dileu'r angen am gynhyrchu haearn a chynhyrchu dur ocsigen sylfaenol. Mae hefyd yn ei gwneud hi'n anodd iawn gwneud unrhyw ddur arbenigol. Nid y colledion swyddi enfawr a'r swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol yw'r unig broblem; mae'n peryglu dyfodol cynhyrchu dur yn gyfan gwbl. Rydyn ni nawr, os ydyn ni'n mynd am system arc drydan, yn gwbl ddibynnol ar bris trydan a phris dur sgrap. Fel y mae'r Gweinidog yn ymwybodol mae'n siŵr, mae'r ddau beth hyn yn hynod o anwadal. Ac rydyn ni wedi gweld pobl sydd wedi defnyddio ffwrneisi arc drydan yn ddiweddar yn eu cau i lawr o bryd i'w gilydd, oherwydd bod pris trydan wedi codi. A wnaiff y Gweinidog ofyn am ystyriaeth o ran defnyddio hydrogen yn lle carbon wrth greu haearn, gan barhau â'r gwaith o greu haearn? 

Mae'n her allweddol, ac, fel y dywedais i, ein safbwynt ni a'n pwynt terfyn dewisol bob amser yw hyn. Ac, mewn gwirionedd, o ochr yr undeb llafur, maent wedi ymgysylltu'n ystyrlon â sut fyddai pontio teg yn edrych o ran datgarboneiddio'r sector. Maent wedi gweithio gyda'r ymgynghorwyr Syndex i weld sut fyddai'r pontio hwnnw'n edrych gyda'r sector cyfan, mewn gwirionedd, nid gyda Tata yn unig. Mae'r pwynt wedi'i wneud yn dda ac, rwy'n credu, yn cael ei gydnabod yn eang y gellir cynhyrchu gwahanol raddau o ddur trwy ddulliau cynhyrchu gwahanol. Os gallwch gael ateb gwahanol ar gyfer technoleg arc drydan, yna mae angen i chi fuddsoddi yn yr ymchwil i gyrraedd yno. Mae gennyf i ddiddordeb yn hynny beth bynnag i wneud y gorau o'r hyn y gallwn ei wneud gyda chynhyrchu arc drydan, ond mae her a chyfle gyda chynhyrchu sgrap i weld mwy o hynny yn cael ei gadw yma o fewn y DU, i weld gwerth ychwanegol yn dod o hynny. Ond mae'r Aelod yn llygad ei le i gyfeirio at anwadalrwydd prisiau trydan, sy'n bryder gwirioneddol i'r sector. Mae'n cael ei godi gyda mi bob tro rwy'n cwrdd â gweithwyr dur a phob tro rwy'n cwrdd â'r cwmni dur. Maent bob amser yn tynnu sylw at y ffaith bod cytundeb gwell ar gael mewn gwledydd Ewropeaidd lle darperir lefel wahanol o gefnogaeth. Dyna pam yr amlygais yn fy natganiad bod ein gweithwyr dur yn gweld pam a sut mae gwledydd G7 eraill yn gwneud dewisiadau gwahanol ynghylch sut i gefnogi'r sector strategol hwn o'r economi. Byddwn i eisiau i hynny ddigwydd gyda'r Llywodraeth hon, a byddwn yn sicr yn parhau i gael sgwrs gydag unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol ynghylch sut y gallent gefnogi'r sector ar gyfer dyfodol cynaliadwy tymor hirach. 

Prynhawn da, Gweinidog. Diolch yn fawr iawn am yr holl waith rydych chi wedi bod yn ei wneud hyd yma, ac rwy'n dymuno'n dda i chi gyda thrafodaethau parhaus. Rwy'n sefyll yma, fel arweinydd plaid Gymreig y Democratiaid Rhyddfrydol, yn sicrhau ein bod yn sefyll i gefnogi'r gweithwyr hynny ym Mhort Talbot. Mae Port Talbot yn waith dur eiconig nid yn unig yma yng Nghymru, ond hyd yn oed ymhellach, hyd yn oed ar draws y byd, byddwn i'n dweud, ac mae dyletswydd arnom i gefnogi'r gweithwyr hynny. Rwy'n cynrychioli Cwm Tawe uchaf. Mae yna weithwyr sy'n byw yno sy'n gweithio ym Mhort Talbot. Felly, mae'n bwysig iawn i bob un ohonom ledled Cymru ein bod yn sicrhau ein bod yn rhoi cytundeb teg i'r gweithwyr hynny ac yn sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi a'u diogelu.

Tybed a gaf i gysylltu dau o'r materion rwyf wedi'u codi â'r Prif Weinidog, un yr wythnos hon ac un yr wythnos diwethaf. Roedd un yr wythnos hon yn ymwneud ag iechyd meddwl. Mae yna broblemau economaidd enfawr, ond mae pryderon iechyd meddwl enfawr hefyd. Os ydych chi'n deulu sy'n wynebu diswyddiad posib, mae'n rhaid ei fod yn straen ofnadwy, nid yn unig i chi fel gweithiwr, ond i'ch teulu. Felly, mae angen i ni sicrhau bod cefnogaeth drawslywodraethol. Codais yr ail un yr wythnos diwethaf, am incwm sylfaenol cyffredinol a'r pontio incwm sylfaenol cyffredinol i weithwyr o ddiwydiannau carbon uchel, fel Port Talbot, i ddiwydiannau gwyrdd. Soniodd y Prif Weinidog am y ffaith bod angen i ni ddiogelu'r holl daliadau diswyddo presennol ac ati, a byddwn yn cefnogi hynny'n llwyr, ond mae incwm sylfaenol cyffredinol yn ychwanegol at hynny. Felly, byddwn yn gofyn i chi ystyried pa gymorth rydych chi'n ei roi i'r gweithwyr hynny ar draws y Llywodraeth o ran cymorth iechyd meddwl, ond hefyd sut y gallwn sicrhau bod y gweithwyr hynny'n cael neges gyson go iawn ynghylch yr incwm, wrth symud ymlaen. Ni allwn siomi'r gweithwyr hynny ym Mhort Talbot. Diolch yn fawr iawn. 

15:45

Rwy'n cydnabod y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud ac, yn wir, cyfeiriais at effaith bosibl iechyd meddwl digwyddiad diswyddo ar raddfa fawr ac uniongyrchol, a'r hyn y byddai hynny'n anochel yn ei wneud ar draws y boblogaeth o bobl a allai golli eu swyddi, pe bai hynny'n digwydd yn gyflym ac ar raddfa. Dyna pam rwyf wedi parhau i siarad am yr amserlen ar gyfer y pontio a beth bynnag yw'r pontio ei hun. Mae hynny'n dal i fod yn rhan o'r negodi ar y fargen arfaethedig.

Ar eich pwynt am adnoddau ymarferol i weithwyr a all naill ai ddewis gadael eu swydd os ydyn nhw'n ansicr am eu dyfodol neu, yn wir, y bobl hynny a allai gael eu diswyddo, mae'n rhan o'r rheswm pam mae'r negodi hwnnw mor bwysig—deall pa gymorth ymarferol sy'n mynd i gael ei ddarparu, naill ai o fewn y telerau ac amodau neu yn ychwanegol atyn nhw, fel yr ydym wedi ei weld sawl gwaith. Felly, roedd gweithwyr Ford, er enghraifft—yr undeb llafur Unite bryd hynny yn gallu negodi pecyn gwell sylweddol a roddodd gyfnod iddyn nhw chwilio am gyfleoedd eraill. Mae cymorth Llywodraeth Cymru wedi bod ar gael o hyd ar ben hynny, ac mae'n bwysig nid yn unig i ddod o hyd i waith ond i feddwl am ansawdd y gwaith sydd gan y gweithwyr presennol hynny a'u pŵer ennill, a'r ymrwymiadau sydd ganddyn nhw eisoes, ac a allwn ddod o hyd i waith iddyn nhw sy'n gymesur mewn rhyw ffordd. Felly, mae her wahanol yn dibynnu ar y mathau o—[Anghlywadwy.]—y mae angen iddo ddigwydd, a'r hyn y gallwn ni ei wneud wedyn. Rydyn ni'n barhaus, o fewn ein heriau cyllidebol, yn edrych ar yr hyn y gallwn ni barhau i'w wneud a byddwn ni'n parhau i'w wneud, ac rwy'n glir iawn ein bod ni'n parhau i fod â phecyn cymorth ac ailhyfforddi ar gael i weithwyr ar draws y sector a bydd hynny'n uniongyrchol berthnasol i'r hyn sy'n digwydd ar ddiwedd y negodi sy'n dal i ddigwydd ynghylch Port Talbot. 

Mae yna lawer iawn o gannoedd o weithwyr dur yn ardal Ogwr ac, yn wir, ardal Pen-y-bont ar Ogwr ac, mewn gwirionedd, rydyn ni wedi siarad â llawer ohonyn nhw dros y penwythnos diwethaf. Maen nhw'n dweud na ddylen ni droi ein cefnau ar unrhyw fuddsoddiad, ond fe ddylai fod ymgysylltiad priodol wedi bod rhwng y gweithlu a'r undebau a'r perchnogion, ac ymgysylltiad priodol rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ac mae'r ffaith nad yw hyn wedi digwydd, fel rydyn ni wedi clywed, yn destun pryder gwirioneddol ddwys. Maen nhw'n cytuno bod arc trydan yn rhan o'r atebion ar gyfer y dyfodol, ond bydd y Gweinidog yn gwybod bod yr undebau ac eraill wedi dadlau'n gyson dros gefnogaeth gan Lywodraeth y DU ymhell y tu hwnt i'r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd, yn fwy tebyg, yn wir, i wledydd eraill o fewn Ewrop, a lle mae dewisiadau amgen i arc trydan hefyd yn cael eu harchwilio—y symudiad tuag at hydrogen, dal carbon, modelau lleihau haearn uniongyrchol, sydd â manteision nid yn unig o gadw capasiti gwneud dur ehangach, gan gynnwys capasiti gwneud dur sylfaenol, ond hefyd cadw mwy o swyddi a datblygu'r dur gwyrdd hwnnw, gan roi'r arweinyddiaeth i ni yng Nghymru a'r DU yr ydyn ni ei eisiau, yn hytrach nag alltraethio newid hinsawdd, carbon, ac alltraethio swyddi hefyd. Felly, a allech chi roi sicrwydd i ni, a allech chi roi sicrwydd i'r Senedd, y byddwch chi'n parhau i weithio gyda'r undebau, yn gwthio'n galed ar Lywodraeth y DU ac yn gweithio gyda Tata, ac yn cadw'r holl opsiynau ar y bwrdd, ac yna'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd hon a'r gweithlu yn llawn?

Rwy'n fwy na pharod i roi'r ymrwymiad hwnnw, oherwydd yn y sgwrs a gefais gydag ochr yr undeb llafur, y cyfarfod a gefais pan oeddwn i dramor ar y dydd Gwener—cawsom gyfarfod cynnar bryd hynny—a'r cyfarfodydd rwyf wedi'u cael ddoe a heddiw, rydyn ni'n glir iawn ein bod ni wedi cyfochri buddiannau yn nyfodol y sector, yr hyn y gall ei wneud i'r economi, a'r ffaith bod stiwardiaid yr undebau llafur yn deall sut y gellir defnyddio eu dur yn y dyfodol. Maen nhw'n gwybod bod chwyldro gwyrdd yn dod yn y ffordd y cynhyrchir pŵer. Maen nhw'n gwybod bod cyfleoedd economaidd sylweddol yn sgil hynny. Maen nhw hefyd yn gwybod nad oes rhaid i hynny ddigwydd yma yng Nghymru na'r DU yn ehangach, ac mae hynny'n dibynnu ar ddewisiadau a wneir gan gwmnïau a'r gefnogaeth a ddarperir gan Lywodraeth y DU. Dyna pam roedd David Rees yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod rheswm pam na wnaeth yr un datblygwr gynnig yn y rownd contractau ar gyfer gwahaniaeth diwethaf i gynhyrchu gwynt ar y môr. Mae'n gyfle economaidd a gollwyd, ac mae'n bryder gwirioneddol i'r gweithlu.

Rwyf hefyd yn cytuno â'ch pwynt, ac rwyf am wneud hyn yn glir: roedd ochr yr undebau llafur a Llywodraeth Cymru bob amser yn cydnabod bod ffwrneisi arc trydan yn rhan o'r ateb, a daw'r her o ran pa mor niwtral o ran technoleg y gall y daith ddatgarboneiddio fod a beth fydd yn dod o'r negodi. Felly, edrychwn ymlaen at fod yn adeiladol yn yr hyn sy'n digwydd gyda'r negodi hwnnw, ac i weithio ochr yn ochr â'r cwmni, Llywodraeth y DU ac ochr yr undebau llafur. Ac fel y dywedais i, ac rwy'n hapus i ailadrodd, rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn ffurfiol drwy'r Senedd am yr hyn sy'n digwydd yn y trafodaethau hynny pan allaf wneud hynny, gan barchu, wrth gwrs, y ffaith y bydd cyfrinachedd ynghylch rhai o'r prosesau hynny, ac, yn wahanol i'r hyn sydd wedi digwydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf, Mae angen i'r gweithwyr glywed yn gyntaf beth sy'n digwydd gyda'u swyddi a'u bywoliaeth.

15:50

Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad? Mae'r un pryderon gennyf innau ac eraill ynglŷn â'r sefyllfa bresennol, ac rwyf innau'n teimlo yn rhwystredig iawn hefyd oherwydd ymagwedd Llywodraeth y DU yn hyn o beth. Mae'r ffaith eich bod chi yn y Llywodraeth wedi cael eich anwybyddu yn y trafodaethau yn arbennig o siomedig, a dyma enghraifft arall o danseilio'r setliad datganoli. Eto i gyd, yn eich datganiad chi, rydych chi'n gwneud sawl cyfeiriad at ffatri Tata Steel ym Mhort Talbot, ac yn briodol felly, ac rydych chi'n cyfeirio at eich ymweliad â'r dref ddoe. Nawr, rydych chi'n ymwybodol hefyd, wrth gwrs, o safle Tata Steel yn Nhrostre yn Llanelli yn fy rhanbarth i. Unwaith eto, bu hwn yn gyflogwr lleol hirsefydlog, hanfodol ers dros 70 mlynedd, sy'n cyflogi tua 600 o bobl ar hyn o bryd, ac mewn ardal sydd â chyfraddau amddifadedd styfnig o uchel. Felly, yng ngoleuni eich datganiad chi a'r ansicrwydd parhaus, a gaf i ofyn i chi felly pa drafodaethau a gawsoch chi am ddyfodol y gwaith dur yn Nhrostre yn yr amseroedd pryderus hyn?

Mae hwn yn bwynt y soniais i amdano yn gynharach mewn ymateb i John Griffiths, rwy'n credu, ond rwy'n hapus i wneud y pwynt unwaith eto. Yn agos at ddechrau fy natganiad, roeddwn i'n cyfeirio at y mannau y caiff dur ei gynhyrchu ynddyn nhw, sut caiff ei gynhyrchu a'r hyn ydyw, ac wrth gwrs roedd y cyfeiriad at ffa pob yn fwriadol, oherwydd mae Trostre yn cynhyrchu toreth o ganiau sy'n cael eu defnyddio mewn nwyddau bob dydd, gan gynnwys ffa pob. Nawr, yr her yw, os oes gennych chi fwlch o ran cynhyrchu, fe fydd y cwsmeriaid hynny'n mynd rywle arall, ac nid oes sicrwydd o gwbl y byddan nhw'n dod yn eu holau. Ac mae ochr yr undebau llafur wedi dweud, 'Mae eisiau sicrwydd arnom ni', ac mae eisiau sicrwydd ar Lywodraeth Cymru sicrwydd ar beth mae hyn yn ei olygu i Drostre a'r cyflenwad o ddur y bydd ei angen arnyn nhw i barhau â'u cynhyrchu. Felly, mae hynny'n rhan o'r hyn yr ydym yn chwilio amdano. Mae'n sicr yn rhan o'r hyn y mae'r ochr undebau llafur yn chwilio amdano. Felly, mae hynny'n bendant ar ein rhestr ni o faterion y gwnaethom ni eu codi eisoes ac fe fyddwn ni'n parhau i godi hynny lle bydd eisiau sicrwydd i'r hirdymor arnom ni, a dyna pam mae'r mathau o ddur a gynhyrchir mor bwysig, dyna pam rwyf i mor siomedig oherwydd y tinc yn llais Tom Giffard ac arddull ei sylwebaeth ef, oherwydd, mewn gwirionedd, mae hynny'n anwybyddu'r ffaith bod cynhyrchiant eilaidd yn Llanwern ac yn Nhrostre yn dibynnu ar y math o ddur a gynhyrchir ar hyn o bryd ym Mhort Talbot.

Felly, mae llawer o gwestiynau i'w hateb eto, ond fe ddylwn i orffen ar y pwynt hwn, Llywydd: er gwaethaf yr heriau i gyd sy'n bodoli—ac maen nhw'n rhai gwirioneddol iawn—mae gennym ni ased sylweddol o bwys drwy'r DU gyfan yma yng Nghymru. Mae hwn yn gryfder i adeiladu arno, ac os yw Llywodraeth y DU yn barod i'w ystyried yn y ffordd honno, fe all fod dyfodol cadarn a chadarnhaol eto i gynhyrchu dur yma yng Nghymru, o fewn y Deyrnas Unedig, lle nad ydym ni'n dibynnu ar rannau eraill o'r byd i gynhyrchu dur i ni a'r holl wendidau y byddai hynny'n eu cyflwyno. Fe fyddwn ni'n cyfranogi yn y ffordd adeiladol honno, gan gydnabod pwysigrwydd y sector sylfaenol hwn o'n heconomi ni. Rwy'n edrych ymlaen at roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ac rwy'n gobeithio y gallwn fod â mwy o sicrwydd a mwy o galondid ynghylch dyfodol y sector dur yn y dyfodol. 

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Yr eitem nesaf, felly, yw eitem 4, a hwn yw'r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Y Cwnsler Cyffredinol, felly, i wneud ei ddatganiad—Mick Antoniw.

Diolch yn fawr, Llywydd. Roedd y deunawfed o fis Medi 1997 yn ddiwrnod hanesyddol a phwysig yn hanes Cymru, yn hanes y Cymry a'r genedl Gymreig. Oherwydd ar y diwrnod hwnnw fe wnaethom ni bleidleisio i fod â llais newydd i bobl Cymru a dwyn ein democratiaeth yn nes at y bobl. Fe wnaethon ni bleidleisio i sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Dros y chwarter canrif diwethaf mae ein democratiaeth ni wedi aeddfedu ac fe ddaeth yn rhan barhaol o strwythur seneddol y Deyrnas Unedig, gan gymryd ei lle ochr yn ochr â'r Alban a Gogledd Iwerddon. A thros y chwarter canrif sydd wedi bod mae hi wedi tyfu, mae hi wedi cymryd cyfrifoldebau newydd, fe ddaeth yn ddeddfwrfa ynddi hi ei hunan, ac fe ddaeth yn Senedd wirioneddol—ein Senedd ni.

Yng Nghymru rŷn ni'n rhoi gwerth ar ein democratiaeth a'r gyfraith i fod yn atebol i'r bobl sydd yn ein hethol ni. Felly, mae'n hanfodol ein bod ni'n mynd ati i wella a moderneiddio ein democratiaeth o hyd, fel hyn y bydd yn gallu ymateb i'r heriau sydd o'n blaenau ni fel cenedl, fel Teyrnas Unedig, dros y degawdau nesaf. 

Yng Nghymru rydyn ni'n gwerthfawrogi ein democratiaeth, rheolaeth y gyfraith a'n hatebolrwydd i bobl Cymru, sy'n ein hethol ni. Felly, mae'n hanfodol ein bod ni'n ceisio adnewyddu, gwella a moderneiddio ein democratiaeth trwy'r amser i'w gwneud yn addas ar gyfer yr heriau niferus y byddwn ni'n eu hwynebu fel cenedl, ac yn y Deyrnas Unedig, dros y degawdau nesaf.

Cafodd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ei osod gerbron y Senedd ddoe. Mae'n rhoi cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ni a phobl Cymru gyflawni'r newidiadau angenrheidiol i foderneiddio'r Senedd, gan adlewyrchu Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain. Senedd sy'n fwy effeithiol, sydd â'r gallu a'r cadernid i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif; Senedd fwy cynrychioliadol i wasanaethu pobl Cymru yn well.

Pan gafodd ei sefydlu gyntaf, nid oedd gan y Cynulliad bwerau deddfu sylfaenol ac nid oedd wedi ei wahanu yn ffurfiol oddi wrth Lywodraeth Cymru. Heddiw mae'r Senedd yn deddfu, yn pennu trethi ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn rhai meysydd sydd â'r effaith fwyaf ar fywydau pobl. Ac eto, er gwaethaf y pwerau a'r cyfrifoldebau cynyddol hyn, er gwaethaf yr achos cymhellol dros ddiwygio'r Senedd drwy olyniaeth o adroddiadau arbenigol dros y ddau ddegawd diwethaf, nid yw ei maint na'i gallu i gyflawni ei chyfrifoldebau yn iawn wedi cael sylw tan yn awr, a dyna pam rwy'n dweud mai cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i newid yw hwn—cyfle y mae'n rhaid i ni afael ynddo yn fy marn i.

Wrth gwrs, mae hwn yn Fil anarferol. Er iddo gael ei gyflwyno gan y Llywodraeth, roedd ei ddechreuad yn nhrafodaethau'r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd. Mae adroddiad y pwyllgor, a gyhoeddwyd lai nag 16 mis yn ôl ac a gymeradwywyd gan y Senedd ar 8 Mehefin 2022, yn adlewyrchu'r achos eglur a chymhellol dros ddiwygio'r Senedd. Rwy'n falch o ddweud y bydd y Bil yn cyflawni'r rhan fwyaf o'r argymhellion a wnaeth y pwyllgor ac mae'n cynrychioli blaenoriaeth gyffredin yn y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Diolch i aelodau'r pwyllgor am eu gwaith, a'u rhagflaenwyr ar y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd a'r panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad.

Mae'r Bil yn darparu ar gyfer 96 Aelod i'r Senedd, gyda chwe Aelod yn cael eu hethol i bob etholaeth. Bydd y Bil yn symleiddio'r system bleidleisio i'r Senedd hefyd. Fe fydd pleidleiswyr yn gallu gweld enwau'r holl ymgeiswyr sydd wedi'u rhestru gan bob plaid. Fe fydd ganddyn nhw un bleidlais ac un papur pleidleisio, yn hytrach na'r ddau sydd ar hyn o bryd. Y cyfan y bydd yn rhaid i bleidleiswyr ei wneud yw marcio blwch y blaid neu'r ymgeisydd annibynnol o'u dewis nhw, a bydd y seddi yn cael eu cyfrifo mewn ffordd deg gan ddefnyddio dull D'Hondt. Yn hytrach na bod y rhan fwyaf o'r Aelodau yn cael eu hethol drwy system y cyntaf i'r felin, fe fydd Aelodau'r Senedd i gyd yn cael eu hethol gan ddefnyddio rhestrau cyfrannol caeedig.

Mae'n darparu ar gyfer creu 16 o etholaethau i'r Senedd ar gyfer etholiad 2026 drwy baru 32 o etholaethau seneddol newydd y DU yng Nghymru mewn adolygiad annibynnol. Mae'n darparu hefyd ar gyfer cynnal adolygiad llawn o ffiniau cyn etholiadau i'r Senedd yn dilyn hynny i greu 16 o etholaethau newydd yng Nghymru o etholiad 2030 ymlaen, ac adolygiadau cyfnodol wedi hynny. I gyflawni hyn, mae'r Bil yn darparu'r swyddogaethau angenrheidiol i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru i ymgymryd â pharu etholaethau newydd Senedd y DU yng Nghymru, a chynnal adolygiadau rheolaidd o ffiniau etholaethol newydd y Senedd wedi hynny, ac yn rhoi enw newydd iddo sef Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru. Hwn fydd y tro cyntaf i ni fod â chorff yng Nghymru sydd â'r pwerau i adolygu ffiniau etholaethau ein Senedd ni.

I gyd-fynd â'r cynnydd cyffredinol ym maint y Senedd, ac ar argymhelliad Pwyllgor Busnes y Senedd, mae'r Bil yn galluogi'r Senedd i ethol Dirprwy Lywydd ychwanegol. Mae'n cynyddu'r terfyn deddfwriaethol ar nifer Gweinidogion Cymru y caniateir eu penodi o 12 i 17.

Mae'r pwyllgor pwrpas arbennig yn argymell hefyd y dylid rhoi ystyriaeth bellach, ar sail drawsbleidiol, i archwilio heriau dichonoldeb a deddfwriaethol sy'n gysylltiedig â galluogi i etholiad ddigwydd ar sail rhannu swyddi. Mewn ymateb i hynny, mae'r Bil yn rhoi llwybr—llwybr ar gyfer ystyriaeth bellach i oblygiadau ymarferol a deddfwriaethol rhannu swyddi gan y Senedd nesaf. Nid yw'r Bil yn mynd i'r afael â nifer cyfyngedig o argymhellion y pwyllgor pwrpas arbennig. Fe fyddwn ni'n mynd i'r afael â'i argymhellion ar gwotâu rhywedd ymgeiswyr a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth ymgeiswyr trwy ddeddfwriaeth sydd eto i ddod.

Wrth ddatblygu a pharatoi'r ddeddfwriaeth hon, rydym ni wedi ystyried sawl maes polisi sy'n gysylltiedig hefyd. Er enghraifft, mae'r Bil yn darparu ar gyfer dychwelyd etholiadau'r Senedd i gylch pedair blynedd o 2026. Fel gŵyr yr Aelodau, tymhorau pedair blynedd oedd yn arferol i Gymru ar ôl datganoli a dim ond mewn ymateb i Ddeddf Seneddau Tymor Penodol y DU 2011 y newidiwyd hyn. Mae'r Ddeddf honno wedi cael ei diddymu wedi hynny, ac rwyf i o'r farn y byddai dychwelyd i dymhorau pedair blynedd yn fwy priodol o ran cydbwyso ystyriaethau adnewyddu democrataidd ac atebolrwydd i bobl Cymru. Mae'r Bil yn gwneud darpariaeth hefyd i anghymhwyso unrhyw berson nad yw wedi ei gofrestru ar gofrestr etholwyr llywodraeth leol mewn annedd yng Nghymru rhag sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad i'r Senedd na bod yn Aelod o'r Senedd.

Yn olaf, mae'r Bil yn darparu ar gyfer mecanwaith adolygu ar gyfer ystyried ei weithrediad a'i effaith. Nawr, rwy'n cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon ar ran y Senedd ac, os bydd yn cael ei basio, mae hi'n briodol mai'r Senedd a fyddai'n cynnal adolygiad o'r fath. Mae hyn yn rhoi'r symbyliad i bwyllgor o'r Senedd ystyried materion megis effeithiau'r system bleidleisio newydd ar gymesuredd, cyflwyno etholaethau aml-aelod, y profiad o fod â rhestrau caeedig ac unrhyw fater arall yn sgil diwygio'r Senedd y bydd yn ei ystyried yn berthnasol.

Wrth gwrs, dyw newid byth yn hawdd; does byth amser da i newid. Mae buddsoddi yn ein democratiaeth yn costio, ond bydd y gost tymor hir yn fwy os dydyn ni ddim yn manteisio ar y cyfle yma nawr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu amcangyfrifon cost manwl sy'n nodi goblygiadau ariannol rhagamcanol y ddeddfwriaeth hon dros gyfnod o wyth mlynedd. O 2031 ymlaen, fe fydd y Bil yn golygu cost flynyddol a amcangyfrifir rhwng £14.5 miliwn a £17.5 miliwn mewn blwyddyn arferol. 

Y gwerth a'r pwys rŷm ni'n eu rhoi ar sefydliadau democrataidd a pha mor bwysig ydyn nhw i Gymru, nawr ac yn y dyfodol, ydy'r her. Mae hyn yn golygu'r gwerth rŷm ni'n ei roi ar y gallu i gynrychioli pawb yng Nghymru wrth wneud penderfyniadau ar eu rhan, penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.

Mae cyfrifoldeb ar y Senedd i graffu ar wariant o fwy na £24 biliwn bob blwyddyn. Bydd yn cymryd gwelliant mewn gwerth o tua 0.07 y cant o'r gyllideb hon i wrthbwyso cost buddsoddi yng nghapasiti y Senedd—mae hynny'n llai na degfed ran o 1 y cant a ddaw o gyllideb y Senedd. Mae craffu gwell yn sicrhau llywodraethu gwell, ac mae llywodraethu gwell yn talu amdano'i hun. Ers i Gymru bleidleisio o blaid datganoli 26 mlynedd yn ôl, nid yw datganoli wedi sefyll yn yr unfan. Wrth i bwerau a chyfrifoldebau gynyddu, bron yr unig bethau sydd wedi aros yr un fath yw maint y Senedd a'r dull o ethol Aelodau. Mae hi wedi cymryd llawer o adroddiadau dros nifer o flynyddoedd inni gyrraedd y sefyllfa hon, ond mae gennym ni Fil gerbron nawr a fydd yn cyflwyno Senedd genedlaethol sy'n adlewyrchu Cymru fodern ac sydd â'r gallu angenrheidiol i gynrychioli pobl Cymru. 

Rhaid inni achub ar y cyfle yma.

Rwy'n sicr yn credu bod hwn yn gyfle y mae'n rhaid i ni achub arno. Rwy'n edrych ymlaen i graffu ar y Bil gan Aelodau a chlywed safbwyntiau rhanddeiliaid, partneriaid cyflenwi a'r cyhoedd yn ystod y broses ddeddfwriaethol. Diolch yn fawr, Llywydd.

16:00

Ni fydd yn syndod i unrhyw un yn y Siambr hon fod y Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu hynt y Bil hwn. Er bod rhai elfennau yn y Bil y gallwn ni eu croesawu, fel tymhorau pedair blynedd—rydym ni'n gwerthfawrogi hynny—a gofyniad i ymgeiswyr yn yr etholiad i'r Senedd fyw yng Nghymru, ni allwn ragweld cynigion ategol i gynyddu maint y Senedd hon a gwneud newidiadau sylweddol i'r system bleidleisio yn etholiadau'r Senedd heb gydsyniad penodol gan bobl Cymru.

Rwyf i wedi dweud hyn o'r blaen ac fe wnaf ei ddweud eto: angen mwy o feddygon, deintyddion, nyrsys ac athrawon sydd ar Gymru, nid mwy o wleidyddion. Ac mae angen Llywodraeth arnom ni yng Nghymru sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â blaenoriaethau'r bobl, nid blaenoriaethau'r sefydliad gwleidyddol. Mae angen i chi fynd i'r afael, a bod yn hollol onest, y llanast sydd yn ein gwasanaeth iechyd gwladol, cyflwr ein hysgolion a'r ffaith bod ein pecynnau cyflog ni'n llai yng Nghymru nag mewn mannau eraill yn y DU.

Y gwir amdani yw nad oes mandad o gwbl i gyflawni'r gyfres hon o gynigion sydd gerbron, ac nid yw'r mwyafrif llethol o bobl yng Nghymru yn cefnogi cynnydd ym maint y Senedd. Nawr, fe wn i fod ASau Llafur a Phlaid Cymru wedi honni bod mandad cyhoeddus ar gyfer y newidiadau arfaethedig. Maen nhw'n dweud, oherwydd eu bod nhw'n cyfeirio at ddiwygio'r Senedd yn eu maniffestos nhw mae hynny'n golygu y gallan nhw ddwyn yr agenda hon yn ei blaen. Ond rwyf i wedi gwirio'r ddau ddewis. Nid oedd dim i'w gael yno am 36 Aelod ychwanegol yn y Senedd. Nid oedd dim am gael gwared ar y system cyntaf i'r felin a'i disodli â system rhestr gaeedig—dim byd o gwbl yn y naill faniffesto na'r llall, a, gadewch i mi ddweud wrthych chi, rwyf i wedi eu darllen nhw'n drylwyr. Roedden nhw'n gwneud i mi gysgu yn hawdd iawn, ond fe ddarllenais i nhw. Felly, mae'r ffaith eich bod chi'n dal ati i honni bod mandad cyhoeddus i'w gael yn lol botes, a dweud y gwir. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau ein bod ni'n cyflawni blaenoriaethau pobl, nid gwneud llanast fel hwn.

A chipio pŵer yw hyn, coeliwch chi fi, gan bleidiau gwleidyddol. Rydych chi'n cymryd pŵer o ddwylo pobl unigol, y pleidleiswyr ledled y genedl hon, sydd, ar hyn o bryd, yn gallu mynegi barn ynghylch ymgeisydd unigol a enwir ar bapur pleidleisio, ac rydych chi'n rhoi'r pŵer hwnnw yn nwylo arweinyddiaeth pleidiau gwleidyddol, a'r cyfeiriad anghywir yw hwnnw. Mae hyn yn niweidiol i ddemocratiaeth, ac fe fydd yn datgysylltu atebolrwydd uniongyrchol Aelodau'r sefydliad hwn â'r cyhoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae hwn yn gam yn ôl.

Fe glywais i'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud, Cwnsler Cyffredinol, ynglŷn â bod hyn yn rhyw fath o orymdaith wych ymlaen ar gyfer craffu yn y Senedd hon, a hynny gan Lywodraeth a fathrodd y Senedd hon dan draed wrth gyflwyno'r Bil hwn yn y lle cyntaf. Fe sefydlwyd pwyllgor diwygio'r Senedd i ystyried y mater hwn a'i gloriannu yn fanwl, ac yn y bôn, fe roddodd Llywodraeth Cymru, neu'n hytrach, fe ddylwn i ddweud, y Prif Weinidog a chyn arweinydd Plaid Cymru, gyfarwyddiadau iddo a dweud wrtho'r hyn y dylai'r adroddiad ei gasglu. Dyna gyflwr y blaid sy'n pregethu ei bod ar dir uchel moesol ynglŷn â'r angen am graffu gwell ac eto yn pwyso ar bwyllgorau sy'n cyflawni'r craffu ac yn gwneud argymhellion i chi. Felly, ni fyddwn ni'n llyncu dim o'r rhagrith hwnnw.

Felly, nid oes mandad. Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n derbyn hynny, Cwnsler Cyffredinol. Ymgais i afael mewn grym gan bleidiau gwleidyddol yw hyn. Ni fydd yn cynnig Senedd fwy cynrychioliadol, fel rydych chi'n ei haeru yn eich datganiad, oherwydd, fel gwyddoch chi, fe fydd y trothwy ar gyfer cael eich ethol i'r Senedd hon yn cynyddu. Fe fydd yn cynyddu o ryw 6.5% ar gyfer ymgeiswyr rhestr ranbarthol ar hyn o bryd i oddeutu 12% yn y dyfodol. Felly, sut mae hynny'n cyd-fynd â'ch honiadau chi y bydd hyn yn gwneud y Senedd yn fwy cynrychioliadol? Y gwir amdani yw na fydd hyn yn gwneud Senedd fwy cynrychioliadol, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n derbyn y ffaith honno.

Mae hon hefyd, wrth gwrs, yn rhaglen gostus iawn. Rwy'n gwybod eich bod chi'n dal ati i glebran nad yw oddeutu £120 miliwn dros wyth mlynedd ond yn gyfran fechan o wariant y sefydliad hwn yma yng Nghymru, ac mae hi'n ddigon posibl mai cyfran fechan ydyw. Ond mae 120 miliwn o bunnoedd yn ddigon i godi cwpl o ysbytai, neu gwpl o ysgolion y mae pobl yn gweiddi amdanyn nhw yn eu cymunedau ac sy'n cael eu gwrthod ar hyn o bryd er gwaethaf y ffaith i chi addo lawer gwaith i gyflawni hynny mewn rhai ardaloedd, yn enwedig yn y gogledd. Dyna lle mae'r cyhoedd yn dymuno gweld yr arian hwn yn cael ei wario. Maen nhw'n dymuno gweld hyn yn cael ei wario ar ein gwasanaethau cyhoeddus ni. Ac mae'n rhoi halen ar y briw, a dweud y gwir, inni weld y Prif Weinidog dros yr haf, a'r Gweinidog cyllid, a'r Gweinidog iechyd yn bygwth torri cyllidebau gwasanaethau cyhoeddus, gan fygwth cwtogi'r cyllidebau i'n hysbytai a'n hysgolion, gan ddweud nad oes mwy o arian ar gael, ac eto maen nhw'n dod o hyd i £120 miliwn o rywle i ariannu'r math hwn o gynnig chwerthinllyd ar gyfer cynllun i greu swyddi i Aelodau'r Senedd. Wel, nid yw hyn yn ddigon da, ni fyddwn ni'n ei gefnogi, ac rwy'n eich annog chi i ailystyried y sefyllfa yn y dyfodol.

16:05

A gaf i ddiolch yn fawr i'r Aelod am gytuno, yn sicr, â rhai o'r cynigion, y tymhorau pedair blynedd, y gofyniad o ran preswylio hefyd a fydd yn cael ei gyflwyno gan y ddeddfwriaeth hon? Mewn ymateb i'w sylwadau ef am graffu ac yn y blaen, mater craffu a'r gallu i graffu ar ddeddfwriaeth yn iawn, i sicrhau'r gwerth gorau am arian ac yn y blaen yn y ffordd y mae'r Senedd hon wedi datblygu a gweithredu, a gaf i fynd ag ef yn ôl i 2014, at argymhellion pwyllgor Silk, a gefnogwyd, hyd y gwelaf i, ar y pryd ar draws y pleidiau? Dyma beth ddywedodd yr adroddiad hwnnw yn 2014:

'Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn fach o’i gymharu â Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon a’r cyrff rhyngwladol cymharol. Rydym i gyd yn glir bod hyn yn achosi problemau o ran llywodraethu effeithiol. Mae’r hyn a oedd o bosibl yn briodol cyn rhoi rôl ddeddfu lawn i’r Cynulliad Cenedlaethol...yn sicr yn llai priodol yn awr. Nid oes digon o gryfder mewn dyfnder, ac ystyried nifer yr Aelodau sy’n gwasanaethu ar fwy nag un pwyllgor. Mae’n anodd arbenigo ac nid yw mor rhwydd iddynt graffu mewn ffordd sy’n cadw llywodraethau ar flaen eu traed. Bydd y broblem hon yn tyfu’n sylweddol pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn dechrau craffu ar ddeddfwriaeth ym maes trethu, a bydd yn cynyddu eto fyth os bydd y cyfrifoldebau ychwanegol pwysig yr ydym yn eu hargymell...yn cael eu rhoi i’r Cynulliad Cenedlaethol.'

A gaf i ddweud nad yw hi'n syndod o gwbl i mi eich bod chi'n gwrthwynebu hyn—ac mae gennych chi hawl i'w wrthwynebu yn rhan o'ch swyddogaeth chi yn y Senedd hon—ond rwy'n credu bod rhywfaint o ragrith? Rydych chi'n iawn, mae yna ragrith, ond y rhagrith yw pan ydych chi'n sôn am gostau gwella a datblygu ein democratiaeth ni. Dros y cyfnod o amser y mae datganoli wedi bodoli, crëwyd 800 o Arglwyddi am Oes. Creodd Boris Johnson 105 o Arglwyddi am Oes yn ystod ei dair blynedd ef yn Brif Weinidog. Mae Liz Truss wedi argymell dau am bob un o'r chwe wythnos yr oedd hi yn ei swydd. Ac ar yr un pryd, rydych chi wedi lleihau—heb refferendwm, heb unrhyw refferendwm pan wnaethoch chi leihau—nifer Aelodau seneddol Cymru o 40 i 32. Mae gan Senedd yr Alban 129 o Aelodau, ac mae gan Gynulliad Gogledd Iwerddon 90 o Aelodau. Ni yw'r rhan â'r lleiaf o gynrychiolaeth yn y Deyrnas Unedig. Ac os ydych chi'n awyddus i siarad am gost, ni wnaethoch chi unrhyw sylw pan wnaethoch chi wario £120 miliwn ledled y DU i gyflwyno cardiau adnabod, a oedd â'r amcan pennaf o atal pobl rhag pleidleisio.

Roedd Aneurin Bevan yn gywir. Fe ddywedodd ef lawer o bethau am y Ceidwadwyr Cymreig. Yr un sy'n dod i fy meddwl i ar unwaith yw eich bod chi'n gwybod pris pob dim ond gwerth dim byd. Mae hyn wir yn brawf o'r gwerth a roddwn ni ar ddemocratiaeth Cymru a'n gallu ni i gyfranogi mewn ffordd briodol yn nyfodol seneddol y Deyrnas Unedig. Mae ein gallu ni i wneud hyn yn deillio o Ddeddf Cymru 2017. Fe fydd yn rhaid i unrhyw ddeddfwriaeth ynglŷn â hyn fod â mwyafrif o ddwy ran o dair o'r Senedd hon cyn ei chyflwyno. Ac oes, mae gan fy mhlaid i, y Democratiaid Rhyddfrydol, a Phlaid Cymru yn wir, fandad ar gyfer y diwygiad hwn. Mae'r ddadl wedi digwydd. Mae angen i ni fwrw ymlaen â hyn ac achub ar y cyfle hwn.

16:10

Diolch i’r Cwnsler Cyffredinol am y datganiad hwn, ac mae’n ddatganiad pwysig o ran hanes nid yn unig y Senedd hon, ond hanes ein cenedl. Chwe mlynedd ar hugain wedi i Gymru bleidleisio ‘ie’, arweiniodd at sefydlu Cynulliad Cenedlaethol sydd bellach yn Senedd, dyma ni’n cychwyn ar siwrnai fydd yn creu Senedd gryfach a mwy cynrychioliadol fydd yn gallu gwasanaethu pobl Cymru hyd yn oed yn well drwy gynyddu ein capasiti i wneud gwahaniaeth.

Fel y soniodd y Cwnsler Cyffredinol, wrth gwrs, mae hyn yn rhan o’r cytundeb cydweithio, ac mae’n bwysig ein bod hefyd yn diolch i’r holl waith sydd wedi’i wneud nid yn unig yn drawsbleidiol, ond hefyd yn annibynnol, sy’n sail i hyn oll, ac yn dangos pam mae hyn yn angenrheidiol.

Rhaid hefyd rhoi hyn mewn cyd-destun ehangach. Daw hyn ar adeg pan fo llais Cymru yn cael ei wanhau yn San Steffan, gyda 20 y cant o doriad yn nifer yr Aelodau Seneddol fydd gan Cymru, ynghyd, wrth gwrs, â’r pedwar Aelod o Senedd Ewrop a gollwyd yn barod. Ac fel yr amlinellwyd eisoes, mae’r Senedd hon wedi esblygu dros y chwarter canrif diwethaf, gan olygu bod gennym fwy o gyfrifoldebau bellach, sydd yn golygu bod mwy o waith i’w wneud o ran nid yn unig deddfu, ond craffu.

Wedi'r cyfan, mae craffu yn rhan hanfodol o ddemocratiaeth, ac fe fydd craffu gwell o fudd i fywydau pawb yr ydym ni'n eu cynrychioli, gan ysgogi gwell gwerth am arian cyhoeddus ac, yn y pen draw, bolisïau gwell. Ac mae'n rhaid i mi gyfaddef, dydw i ddim yn deall pam mae'r Ceidwadwyr yn gwrthwynebu mwy o graffu. Siawns fod gennym ni Lywodraeth Cymru yn y fan hon yn galw am ragor o graffu, rhywbeth yr ydym ni'n crefu amdano oddi wrth Lywodraeth y DU, felly mae'n rhaid i mi longyfarch y ffaith bod Llywodraeth gennym ni'n sy'n galw am graffu gwell am ei bod hi'n deall gwerth hynny. [Torri ar draws.] Beth hoffech chi i ni ei wneud? Dim ond bod yn ddiolchgar am y ffaith—y dylem ni fod yn ddiolchgar am ddim ond y lleiafswm pitw, neu a ydych chi'n credu y dylem ni fodloni ar fod yn yr ail safle bob amser? Dyna ni, dim ond, 'Mae hi'n iawn arnom ni yng Nghymru fel mae hi; rydym ni'n iawn, ni fydd y ddeddfwrfa leiaf o ran maint, pe byddech chi'n ein cymharu ni â'r Alban a Gogledd Iwerddon.' Ai dyna swm a sylwedd yr uchelgais sydd gennych chi ar gyfer ein gwlad ni, ein pobl ni a'n democratiaeth ni? Oherwydd mae gennyf i ffydd yng Nghymru. Rwy'n credu yn hawl y Senedd hon i graffu ar Lywodraeth Cymru ac rwy'n siomedig o weld gwrthblaid yn gwrthwynebu mwy o graffu. [Torri ar draws.] Yn wahanol i'r Ceidwadwyr, nid yw Plaid Cymru yn fodlon pan fydd rhywun yn dweud wrth Gymru fod yr hyn sydd gennym ni'n ddigon da. Rydym ni'n awyddus i Gymru fod â'r gorau o ran sefydliadau a gwasanaethau. Nid naill ai/neu mo hyn.

Ac wrth gwrs, mae yna wahaniaethau rhyngom ni a Llafur Cymru o ran dyfodol cyfansoddiadol Cymru, fel yr amlygwyd yn ystod y cwestiynau i’r Prif Weinidog y prynhawn yma. I Blaid Cymru, cam yn agosach at annibyniaeth yw’r mesurau hyn oherwydd ein bod ni'n grediniol bod system ffaeledig San Steffan ddim yn gweithio i Gymru, ta waeth pa blaid sydd wrth y llyw. Mae’r gagendor rhwng y Senedd hon a San Steffan yn dod yn amlycach bob dydd. A thra bod Llywodraeth San Steffan yn ceisio ei gwneud hi’n anoddach i bobl bleidleisio, rydym ni yma eisiau ehangu ein democratiaeth a gwneud y Senedd hon yn fwy cynrychioladol.

Bydd cael gwared â’r system cyntaf i’r felin—first-past-the-post—a chreu system etholiadol yn seiliedig yn llwyr ar gynrychiolaeth gyfrannol hefyd yn gam mawr ymlaen i ni fel cenedl, ac yn sicrhau y bydd pob pleidlais yn cyfrif. Ac er mai pleidlais sengl drosglwyddadwy y byddem ni’n ei ffafrio fel plaid, ac yn hoffi ei gweld yn cael ei chyflwyno, credwn fod y system a gynigir yn well na’r hyn sydd gennym rŵan.

Doeddwn i ddim yn ddigon hen i bleidleisio ar gyfer sefydlu’r Senedd hon, er imi ymgyrchu am bleidlais 'ie'. Yn wir, 26 mlynedd yn ôl i heddiw, ar ôl aros ar fy nhraed drwy’r nos i wylio’r canlyniadau yn dod i mewn, mi ges i ffrae gan yr ysgol am gyrraedd yn hwyr gan imi gysgu drwy fy larwm. Ond mi oedd hi’n ffrae gwerth ei chael er mwyn cael gwylio Eric Sunderland yn cyhoeddi’r canlyniad terfynol a dechrau taith y Senedd hon. Parhau’r daith ydyn ni heddiw gyda’r datganiad pwysig hwn sydd heb os yn gam tuag at gryfhau ein democratiaeth.

16:15

A gaf i ddiolch i'r Aelod am y sylwadau hynny? A hefyd, yn y cyd-destun hwn, wrth gwrs, mae llawer mwy yn digwydd ar hyn o bryd. Mae gennym ni ein comisiwn annibynnol ein hunain, wrth gwrs, a fydd yn cynhyrchu ei adroddiad ar faterion diwygio cyfansoddiadol ehangach ac, wrth gwrs, rydyn ni'n edrych ymlaen yn y dyfodol gweddol agos i hyrwyddo datganoli cyfiawnder, datganoli plismona ac, wrth gwrs, y gwasanaeth prawf. Ac fe fydd angen diwygiadau arnom ni yn y Llywodraeth ac yn y Senedd hon ar gyfer ysgwyddo'r cyfrifoldebau hynny a sicrhau eu bod nhw'n cael eu cyflawni mewn ffordd sy'n briodol. 

Nawr, mae'r Ceidwadwyr yn gwrthwynebu—tybed a yw pob Ceidwadwr yn gwrthwynebu; rwy'n amau bod yna lawer o Geidwadwyr sy'n cydnabod mewn gwirionedd bod angen i'r diwygiad hwn ddigwydd. Mae yna fath o ymagweddu fel poblyddwyr ymysg y Ceidwadwyr ar hyn o bryd yn eu hanobaith nhw o ran dal eu gafael ar ryw fath o hygrededd, ond maen nhw'n iawn am un peth: buddsoddi yn y math hwn o ddiwygio, nid oes byth amser hwylus iawn i wneud felly, nid oes byth amser rhwydd, a dyna pam mae hi'n cymryd gweledigaeth ac arweiniad i wneud hynny mewn gwirionedd, yn fy marn i.

Fe wnaeth yr Aelod rai pwyntiau pwysig ynglŷn â'r system bleidleisio. Fe fydd hi'n symlach, fe fydd hi'n costio llai mewn gwirionedd ac yn arbed arian, un papur pleidleisio fydd yna, ond rwy'n credu mai'r pwynt pwysig iawn a wnaethoch chi yw y bydd pob pleidlais yn cyfrif yn y system honno, ac ni ellir dweud hynny am y system bresennol.

Gweinidog, rwy'n croesawu'r datganiad a wnaethoch chi'r prynhawn yma'n fawr iawn ac yn croesawu'r ddeddfwriaeth yr ydych chi'n ei chyflwyno yn fawr iawn. A, Gweinidog, ni fyddai gwrthwynebiad y Ceidwadwyr i hyn yn poeni rhyw lawer arnaf i. Maen nhw, wrth gwrs, wedi brwydro yn erbyn datganoli ar bob cam ar hyd y degawdau. Yn 1997, fe bleidleisiodd y Ceidwadwyr yn erbyn datganoli dri mis ar ôl y refferendwm. [Torri ar draws.] Maen nhw'n dweud eu bod nhw'n siarad ar ran y bobl, yn anffodus nid yw'r bobl yn pleidleisio iddyn nhw nac yn credu ynddyn nhw. Ac mae rheswm am hynny, wrth gwrs. Mae'r Ceidwadwyr wedi dibrisio democratiaeth Cymru ar hyd y blynyddoedd. Maen nhw wedi tanseilio democratiaeth Cymru ac yn parhau i wneud felly nawr. Yn y pen draw, ni allan nhw ennill gyda democratiaeth Cymru, am eu bod nhw'n gwybod nad yw pobl Cymru yn teimlo eu bod nhw'n cael eu cynrychioli gan y Blaid Geidwadol, a dyna pam maen nhw'n gwrthwynebu unrhyw symudiad i gryfhau ein democratiaeth ni.

Rwy'n croesawu datganiad y prynhawn yma'n fawr iawn. Roeddwn i yn yr ysgol gynradd pan adroddodd Arglwydd Kilbrandon yn 1973, yn galw am senedd o 100 o Aelodau, a thaith hirfaith oedd hon. Rwyf i wedi colli cyfrif ar y comisiynau a'r pwyllgorau a'r paneli a'r bobl sydd wedi cael eu dwyn ynghyd i astudio ac ystyried sut mae'r lle hwn yn gweithredu, ac maen nhw i gyd wedi dod yn ôl i'r un casgliad. Mae hi'n bryd i ni wrando ar y rhain a phleidleisio hyn drwodd. Roeddwn i'n falch iawn o glywed y Prif Weinidog yn gwneud y pwynt hwnnw yn gynharach heddiw.

A'r hyn y byddwn i'n ei ddweud wrth y Ceidwadwyr, wrth ofyn y cwestiwn i'r Cwnsler Cyffredinol, yw: mae angen i ddemocratiaeth gynrychioli pob un, ac mae hi'n bwysig bod pob un yn teimlo ei fod yn cael ei gynrychioli yn ein democratiaeth ni. Rwy'n gwybod y gall hi fod yn anodd iawn weithiau i'r Ceidwadwyr ddeall y cysyniad hwnnw. I mi, fe fydd hyn bob amser yn golygu cyfaddawd. Yn bersonol, rwyf i'n gefnogwr brwd i'r bleidlais sengl drosglwyddadwy, ac fe fyddai hi'n well gennyf fod wedi gweld STV yn cael ei gynnwys yn y pecyn hwn, ond rwy'n cydnabod, mewn pecyn sy'n cynnwys cyfaddawd ar bob ochr, yr angen i ni i gyd wneud yr un cyfaddawd, ac fe wn i nad wyf i ar fy mhen fy hun o fod yn gwneud hynny. Felly, Cwnsler Cyffredinol, a wnewch chi sicrhau eich bod chi'n parhau i ymestyn allan a sicrhau, wrth ddiwygio ein Senedd ni, wrth ddiwygio ein democratiaeth ni, wrth gryfhau grym democratiaeth Cymru, ein bod ni'n ymestyn allan ac yn sicrhau bod pob un yn teimlo ei fod yn rhan o ddyfodol y ddemocratiaeth yr ydym ni'n ei llunio yma heddiw?

16:20

Rwy'n diolch i'r Aelod am y sylwadau hynny. Wrth gwrs, holl bwrpas datganoli yw datganoli grym. Mae hynny'n golygu dod â phŵer yn nes at bobl, a phroses yw honno. Mae hi'n broses sydd wedi bod yn mynd rhagddi dros y 25 mlynedd diwethaf, ac mae hyn yn ymwneud â sybsidiaredd. Dyna pam, mewn sawl ffordd, y bu cymaint o drafodaethau pwysig ynglŷn â'r dyfodol cyfansoddiadol, a dyna pam y gwnes i sôn yn gynharach am bwysigrwydd yr adroddiad y byddwn ni'n ei gael ar ddechrau'r flwyddyn newydd gan y comisiwn annibynnol, a fydd ystyried y materion ehangach ac a allai ystyried rhai o'r materion hyn hefyd. Bob amser, mae'n rhaid i ni  ddwyn pobl Cymru i gof a bod mor agos atyn nhw ag y gallwn ni. Yn y bôn, mae'r ddeddfwriaeth hon yn ymwneud â sut yr ydym ni am lywodraethu, sut yr ydym ni am gyflawni'r addewidion a wnawn i bobl Cymru a sut yr ydym ni'n ein dwyn ein hunain i gyfrif, a sut y maen nhw'n ein dwyn ni i gyfrif am y gwaith a wnawn.

Rwy'n cytuno ag un pwynt a ebychwyd o'r ochr draw. Nid yw hi'n wir fod y Torïaid wedi gwrthwynebu datganoli ar bob cam, oherwydd fe fu adeg, rwy'n cofio, gyda Nick Bourne a gydag eraill, y buom ni'n cydsefyll mewn gwirionedd o ran yr ymgyrch dros bwerau ychwanegol i'r Senedd. Yr hyn sy'n siomedig yn fy marn i yw ei bod hi'n ymddangos bod y Blaid Geidwadol yng Nghymru ar hyn o bryd wedi mynd tua nôl, yn hytrach na chydnabod pwysigrwydd proses sy'n gallu symud ymlaen. Ond rwy'n siŵr, efallai, y bydd hynny'n newid ar ôl i ni fynd drwy'r sefyllfa bresennol, pan fyddwn ni tu draw i'r etholiad cyffredinol ac y bydd Llywodraeth Lafur gennym ni, ac fe allwn ni siarad, efallai, gyda mwy o synnwyr ynghylch sut y byddwn ni'n diwygio ein strwythurau cyfansoddiadol a'n sefydliadau democrataidd yn y DU. Ond i ni, yng Nghymru, mae hwn yn gam ymlaen hanesyddol a phwysig iawn.

Wel, yn eironig, ar gyfer Bil sydd â'r bwriad o wella craffu cyhoeddus, nid yw'r honiadau a wnaethpwyd am yr angen am fwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd yn gwrthsefyll unrhyw graffu arnyn nhw. Fe ddywedwyd wrthym ni i ddechrau y byddai hyn yn grymuso'r gallu i graffu ar y Llywodraeth, ond fe ganfuwyd wedyn y bydd y gyfran o Aelodau sydd yn y Llywodraeth yn gweld mwy o gynnydd na'r nifer ar y meinciau cefn a fwriedir i wneud y gwaith craffu. Fe ddywedwyd wrthym ni y byddai hyn yn grymuso amrywiaeth mewn bywyd cyhoeddus, ond fe welsom ni wedyn fod rhan o'r Bil wedi cael ei roi mewn Bil gwahanol oherwydd nad oedd gan Lywodraeth Cymru erioed mo'r pwerau a addawodd.

Nawr, fe ddywedir wrthym ni mai gwasanaeth diffygiol sydd gan Gymru oherwydd mai dim ond 60 o Aelodau truenus sy'n cael eu gorweithio sydd ganddi hi, ond mae agenda'r Llywodraeth heddiw ar fin dod i ben cyn 6 o'r gloch. Rwyf i wedi clywed y dadleuon yn y datganiad heddiw o blaid bod â mwy o wleidyddion. Fe wnaethoch chi alw hynny, Cwnsler Cyffredinol, yn 'eglur a chymhellol', ond nid ydym ni ar y meinciau hyn wedi cael ein hargyhoeddi gan unrhyw un ohonyn nhw. Ond rwy'n derbyn, mewn democratiaeth, y gall y dadleuon hyn ennill pobl drosodd, ac efallai y bydd yna rai sy'n anghytuno â mi. Felly, mae hyn yn gofyn y cwestiwn, Llywydd: os yw bod â rhagor o wleidyddion, ar gost o £120 miliwn, mor boblogaidd â hynny, pam nad yw'r Cwnsler Cyffredinol yn ceisio'r mandad democrataidd sydd ei angen arno, gan bobl Cymru, mewn refferendwm?

16:25

Gwrandewch nawr, rwy'n diolch i'r Aelod am y sylwadau arbennig hynny. A gaf i ddim ond gwneud sylw y gallai'r Aelod fod yn gorffen am 6 o'r gloch, ond fe allaf i ei sicrhau ef na fyddaf i'n gorffen am 6 o'r gloch? Ac rwy'n credu na fydd y rhan fwyaf o'r bobl yn y fan hon yn gorffen am 6 o'r gloch. Felly, mwynhewch eich noson chi, oherwydd fe fydd rhai ohonom ni'n gweithio mewn gwirionedd.

Rhoddodd Deddf 2017 bwerau penodol iawn i ni o ran etholiadau ac o ran y Senedd. Mae gennym ni fandadau o ran ein maniffestos etholiadol. Rydym ni'n gweithredu ar y pwerau a roddwyd i ni. Pe bai San Steffan wedi bwriadu i ni allu defnyddio'r pwerau hynny wedi cynnal refferendwm yn unig, fe fydden nhw wedi dweud hynny. Ni wnaethon nhw ddweud hynny, ac rydych chi'n ymwybodol o'r comisiynau i gyd, y dadlau i gyd, y trafodaethau a gawsom ni i gyd, ac rwyf i o'r farn fod y ddadl yn gwbl eglur. Mae'r mandad sydd gennym ni'n gwbl eglur, ac fe fydd y ddeddfwriaeth hon yn cael ei dwyn ymlaen i'r cam craffu.

Mae'n rhaid i mi ddweud, Cwnsler Cyffredinol, na chwrddais i erioed â Cheidwadwr sydd wedi fy mherswadio i ei fod yn credu yn breifat yr hyn y mae'n ei grochlefain yn gyhoeddus am y mater hwn, fel gyda chymaint o faterion eraill.

Edrychwch, yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yma, mewn gwirionedd, yw dod o hyd i ddatrysiad lleol i broblem fyd-eang, problem fyd-eang gyda democratiaeth yn cael ei herio, democratiaeth mewn argyfwng, democratiaeth sydd angen am ymatebiad i fyd newidiol. Ac os na wnaiff hi felly, fe fyddwn ni'n gweld anallu i roi atebion effeithiol i'n pobl. Ni ddeallais i erioed mo'r ddadl bod grymuso democratiaeth yn tynnu sylw rywsut oddi wrth y gwaith gwirioneddol o hwyluso bywydau urddasol i'n pobl. Mae hynny wrth galon yr ymdrech honno, a dyna pam y gwnaethom ni greu'r sefydliad hwn, a pham rydym ni'n awyddus i greu'r amodau i'r sefydliad hwn allu ffynnu, yr wrthblaid ac Aelodau'r Llywodraeth fel ei gilydd. Mae hi wedi cymryd 20 mlynedd i ni gyrraedd y sefyllfa hon, onid ydyw, Cwnsler Cyffredinol? Ond a yw ef yn cytuno â mi y dylid ystyried hon, nid yn sefyllfa derfynol, ond yn fan cychwyn cyfnod o arloesi democrataidd, sy'n ceisio ffyrdd trwy'r amser o ddarparu bywydau gwell i'r bobl yr ydym ni'n ceisio eu cynrychioli nhw yn y lle hwn?

Wel, rwy'n cytuno â'r rhan fwyaf o sylwadau'r Aelod. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi ymrwymo i wella llywodraethu a democratiaeth, ac nid yw hynny'n rhywbeth sy'n cael ei rewi mewn amser, er bod ein niferoedd ni a'n maint ni wedi cael eu rhewi mewn amser. Mae'n rhywbeth y mae'n rhaid ei adolygu trwy'r amser, mae'n rhaid i chi asesu hefyd. Ac rwyf i o'r farn mai dyna'r hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud dros y degawd diwethaf. Ni ellir dweud ein bod ni wedi cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon yn frysiog. Rydym ni wedi cael tri chomisiwn, rydyn ni wedi bod â phwyllgor pwrpas arbennig, rydym ni wedi cael dadleuon di-ri. Rwyf i ac eraill wedi ateb cwestiynau cyson a mynych ynglŷn â hyn. Rydym ni i gyd wedi bod yn bresennol mewn cynadleddau a thrafodaethau, ac yn y blaen. Fe geir cydnabyddiaeth eang iawn fod yr hyn yr ydym ni'n dymuno ei wneud yn gywir, bod y newidiadau y mae angen i ni eu gwneud yn rhai addas. Mae hyn yn ymwneud â chynnal democratiaeth, mae hyn yn ymwneud a ni'n cymryd camau ymlaen i rymuso ein democratiaeth. Ni all honno aros yn yr unfan, yn union yn yr un ffordd nad yw perthynas na strwythur y Deyrnas Unedig yn aros yn yr unfan, yn yr un ffordd nad yw'r effaith ar ein bywydau ni i gyd a'n strwythurau cyfansoddiadol a gwleidyddol o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi aros yn yr unfan a bu'n rhaid iddyn nhw newid. Nid ystyr hyn yw ein bod ni â rhyw fath o obsesiwn ynglŷn â'r cyfansoddiad. Mewn gwirionedd, pe byddai obsesiwn gennych chi ynglŷn â'r cyfansoddiad, edrychwch chi ar ddeddfwriaeth ar ôl deddfwriaeth yn San Steffan nad yw'n ymwneud dim oll â'r cyfansoddiad. Un bwriad sydd i hyn: sef grymuso ein llywodraethu, grymuso ein democratiaeth, a rhoi llais cryfach i bobl Cymru. Efallai eich bod chi'n anghytuno â hynny, ond rwy'n eithaf sicr fod mwyafrif llethol yn y fan hon yn cytuno â hynny.

Rwy'n gobeithio y gall y Ceidwadwyr ddweud wrth Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg lle mae'r meddygon hyn i gyd y gallan nhw eu cael i'w cyflogi, oherwydd maen nhw'n ei chael hi'n anodd dod o hyd iddyn nhw.

O ran niferoedd, mae gan yr Alban 4.6 miliwn o bleidleiswyr i 129 Aelod—35,813 o bleidleiswyr fesul Aelod; mae gan Ogledd Iwerddon 1.36 miliwn o bleidleiswyr i 90 Aelod—15,111 o bleidleiswyr fesul Aelod; ac fe fydd gan Gymru, os cytunir ar hyn, 2.3 miliwn o bleidleiswyr i 96 Aelod—29,464 o bleidleiswyr fesul Aelod, bron hanner ffordd rhwng y ddau. Fy mhryder i yw, os gallwn ni uno etholaethau, beth fydd maint daearyddol yr etholaethau newydd? Meddyliwch chi am Frycheiniog, Maesyfed a Chwm Tawe, sy'n etholaeth ryfedd i ddechrau: y dewisiadau gyda honno fydd mynd hyd at gyrion Wrecsam, y môr yng Ngheredigion neu'r ffin â Lloegr yn Sir Fynwy, sydd, y byddwn i'n awgrymu, ymhell iawn o Waun-Cae-Gurwen, neu uno â Chastell-nedd a Dwyrain Abertawe neu Sir Gaerfyrddin, sydd, unwaith eto, yn fy marn i, yn bell iawn o ffin Lloegr yn Llanandras yn Sir Faesyfed. I 96 Aelod, pam na wnaeth Llywodraeth Cymru gefnogi 32 o etholaethau gyda thri o Aelodau, yn seiliedig ar yr etholaethau seneddol yn San Steffan?

16:30

Rwy'n diolch i'r Aelod am y sylwadau. A gaf i ddweud eich bod chi wedi fy ngholli i o ran y rhifau? Rwy'n gwbl sicr eich bod chi'n gywir yn eich rhifau, ac rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth y gwnaethoch chi ei ddweud mewn gwirionedd. Rwy'n siŵr bod y pwyntiau ychwanegol yn rhai a fydd yn sicr yn codi ac yn dod i'r amlwg yn ystod y broses graffu, Mike. 

Mae gennym ni uchelgeisiau. Rydyn ni'n dymuno bod â mwy o bwerau. Rydyn ni'n awyddus i bobl Cymru fod yn gysylltiedig â'r penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau bob dydd. Ac, yn wir, mae gwthio hyn ymlaen yn ffordd o gyflawni hynny. Nid yw'n ymwneud â chynyddu nifer y gwleidyddion er ei fwyn ei hun. A dweud y gwir, rydw i mewn ychydig o benbleth am fod y Ceidwadwyr yn disgwyl i'r Senedd graffu ar benderfyniadau'r Llywodraeth yn iawn, mewn gwirionedd, a honno'n llai o faint na'r rhan fwyaf o gynghorau lleol. Ond—ac ond ydyw, wrth gwrs—ni fyddech chi'n disgwyl i mi sefyll yma ac ymatal rhag dweud nad yw'r cynigion yn bodloni hyd at y disgwyliadau sydd eu hangen arnom ni i fod â'r tryloywder gwirioneddol sy'n briodol. Rydyn ni'n dymuno bod â'r bleidlais sengl drosglwyddadwy. Honno yw'r ffordd fwyaf effeithiol, agored o sicrhau bod pobl yn cael bwrw eu pleidlais, a'i bod yn hafal i sedd. Fe wnaeth Plaid Cymru, yn eu maniffesto nhw, ymrwymo i hyn, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni gydweithio i symud ymlaen â'r agenda. Fy nghwestiwn i, mae'n debyg, i chi, Cwnsler Cyffredinol, yw—. Fe glywais i'r gair 'cyfaddawd'—mewn gwirionedd, fe'i clywais y prynhawn yma. Nid wyf i'n deall wir pwy sy'n dymuno'r cyfaddawd. Nid Plaid Cymru, yn fy marn i; na'r Democratiaid Rhyddfrydol; na llawer o blith Llafur Cymru. Felly, os gwelwch chi'n dda, a wnewch chi ateb yr un cwestiwn hwn: pwy sy'n dymuno'r cyfaddawd o beidio â bod â system o bleidlais sengl drosglwyddadwy? Diolch yn fawr iawn.

Rwy'n diolch i'r Aelod am y sylwadau ac am y cwestiwn. Ac a gaf i ei chanmol hi hefyd? Mae hi wedi codi mater y math penodol o system bleidleisio yn gyson. Rwy'n credu mai'r sefyllfa wirioneddol yw mai'r cyfaddawd yw'r hyn sy'n angenrheidiol i ni gael mwyafrif o ddwy ran o dair i gael hyn drwodd. Ceir pob math o systemau pleidleisio amrywiol; mae agweddau cadarnhaol a negyddol ar bob un ohonyn nhw. Mae hyn yn cynnwys system y cyntaf i'r felin. Rwy'n credu mai system y cyntaf i'r felin, gyda llaw, yw'r un fwyaf hen ffasiwn o blith y systemau pleidleisio. Efallai nad oedd hi'n gymaint o broblem ar ôl yr ail ryfel byd, pan mai dim ond dwy blaid oedd gennych chi mewn gwirionedd, ond nid ydyn ni'n byw mewn byd fel yna nawr. Felly, y cyfan a ddywedaf i yw fy mod i o'r farn ei bod yn system y mae pawb wedi gallu gweld ei gwerth oherwydd iddi gynnig gwelliant sylweddol i'r system bleidleisio gyfredol. Yr hyn y gallaf i ei ddweud, wrth gwrs, yw y bydd y ddeddfwriaeth yn cynnwys darpariaethau i'w hadolygu. Felly, fe fydd gan y Senedd nesaf y swyddogaeth benodol honno. Fe fydd rhwymedigaeth ar y Llywydd i roi cynnig gerbron a fydd yn ystyried nid yn unig y mater o rannu swyddi, a godwyd yn barod, a hyfywedd hynny, ond o ran canlyniad yr etholiadau mewn gwirionedd hefyd, o ran sut y gweithredodd y system etholiadol. Mater i'r Senedd nesaf fydd ystyried canlyniad yr adolygiad hwnnw ac a fydd unrhyw argymhellion pellach yn dod i'r amlwg. Nid mater i'r Senedd hon yw hyn, ond mater i'r Senedd nesaf, a bydd cyfrifoldeb statudol i gynnal y drafodaeth honno o leiaf yn y Senedd.

Dywedodd Eleanor Roosevelt:

'Ni all democratiaeth fod yn statig. Mae beth bynnag sy'n statig wedi marw.'

Dwi'n cytuno gyda'r Gweinidog: i sicrhau bod democratiaeth yn fyw yma yng Nghymru, mae angen i'r Senedd hon fod yn ffit i bwrpas. Mae'n golygu cael ei hethol mewn modd mwy democrataidd; mae'n golygu bod yna fwy o Aelodau i wneud y gwaith craffu. Dwi'n eistedd ar y pwyllgor cydraddoldebau a chyfiawnder; fe fyddwn ni'n treulio un diwrnod yn craffu ar strategaeth tlodi plant y Llywodraeth. Peidied neb â son am wastraffu arian ar wleidyddion a llywodraethiant, a pheidiwch meiddio â sôn am sut gall yr arian cymharol fach yma gael ei wario ar helpu pobl yn yr argyfwng costau byw yma. Er mwyn eu helpu nhw, er mwyn sicrhau bod y Llywodraeth yn gwario pob ceiniog brin sydd ganddi yn effeithiol, mae angen mwy ohonom ni a mwy o amser i sicrhau bod hynny'n digwydd.

Mae 'ffit i bwrpas', Weinidog, hefyd yn meddwl bod y Senedd hon yn edrych yn fwy fel y cymunedau mae'n ei chynrychioli. Mae camau blaengar ac ymarferol, fel gwarantu ystyriaeth go iawn o gyflwyno rhannu swyddi, yn sicr yn ffordd o annog hynny. Dwi'n siomedig nad yw'r gwaith ar rannu swyddi sydd wedi'i hir addo a thrafod ers tipyn bellach yn gallu digwydd yn gynt. Felly, ydych chi'n cytuno, os ŷn ni am weld mwy o amrywiaeth o gynrychiolwyr yn y lle hwn, bod rhaid inni wneud y lle hwn yn rhywle sy'n gweddu i fywydau pobl yn eu holl amrywiaeth?

16:35

Diolch. Rydych chi'n gwneud rhai pwyntiau da iawn. Gwnaeth y dyfyniad gan Roosevelt, a wnaeth gymaint o gyfraniadau pwysig at ein dealltwriaeth o ddemocratiaeth, rheol y gyfraith ac ati, argraff arbennig arnaf. Roeddech chi'n dweud ei bod hi'n dweud

'Ni all democratiaeth fod yn statig. Mae beth bynnag sy'n statig wedi marw.'

Rwy'n credu mai dyna'r broblem gyda safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig. Maen nhw wedi dod yn wleidyddol statig, maen nhw wedi mynd yn farwol, ac rwy'n credu bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi dod yn amherthnasol i raddau helaeth. Rwy'n credu y bydd hyn yn cael ei ddangos yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

O ran y pwyntiau a godwyd gennych yn ddilys—[Torri ar draws.] O ran y pwyntiau—[Torri ar draws.] O ran y pwyntiau a godwyd gennych yn ddilys am amrywiaeth, fel y dywedais i, bydd rhai o'r rheini'n cael sylw mewn deddfwriaeth bellach. Ond rydych chi'n hollol gywir, ac rwy'n credu mai un peth y bydd y system bleidleisio yn ei wneud fydd cynyddu'r amrywiaeth honno mewn gwirionedd. Ond rydyn ni eisiau i'n Senedd fod yn llawer mwy cynrychioliadol o bob ffactor: rhywedd, cefndir ethnig, anabledd, dosbarth. Rwy'n credu bod sawl agwedd ar amrywiaeth, a dyna pam mae wedi cael cymaint o sylw yn y trafodaethau. Mae'n faes hynod gymhleth, yn enwedig oherwydd Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hynny, ac rwy'n hyderus y byddwn ni'n gallu gwneud pethau a fydd yn ein galluogi ni, yn 2026, i sicrhau ein bod yn cymryd camau pellach tuag at gynyddu natur ac amrywiaeth gynrychioliadol y Senedd hon.

Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Dwi'n croesawu eich datganiad am y Bil yn fawr iawn. Dwi'n deall pam bod y Bil wedi ei rannu, ond gobeithiaf na fydd unrhyw lywodraeth o unrhyw liw yn credu ei bod hi'n syniad da i herio Bil sy'n ceisio gwneud y lle hwn yn fwy cynrychioladol o bobl Cymru.

Mewn llythyr a ysgrifennais at y Prif Weinidog dros yr haf, codais rai pryderon am y dystiolaeth ryngwladol ynghylch effeithlonrwydd rhestrau 'am yn ail' ar ei ben ei hun fel dull o ddod â chyfle cyfartal i ymgeiswyr, ond fe wnaf gadw hynny ar gyfer dadl arall, yn ddiweddarach eleni gobeithio.

Mae gen i rai pryderon am rannau o'r Bil, yn enwedig y rhan honno ar seddi gwag. Er fy mod yn deall y gallai fod yn ddigwyddiad prin iawn i sedd gael ei gadael yn wag, nid yw'n amhosibl dychmygu grŵp rhydd o ymgeiswyr annibynnol gwrth-Senedd yn y dyfodol, yn ymgyrchu, o bosibl, ar un mater fel terfynau cyflymder, i ymddiswyddo ar yr un pryd ac achosi diffyg cynrychiolaeth go iawn o fewn y Senedd. Gallai hyn o bosibl amharu ar ddemocratiaeth Cymru, dim ond gan rai unigolion yn cerdded allan yn rhan o brotest. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi ei bod yn werth ailedrych ar yr eithriad rhyfedd hwn o adael sedd yn wag o bosibl am bron i bedair blynedd?

Mae democratiaeth Cymru wedi tyfu'n rhy fawr, fel y dywedodd Adam Price, i'r Senedd fach hon ac mae angen lle i ledaenu ei hadenydd fel Senedd amrywiol a chwbl weithredol. Fel y dywedodd Sioned Williams, oherwydd maint y Senedd hon, nid yw pwyllgorau yn gallu gwneud gwaith pwysig, gan eu bod yn cyfarfod unwaith y pythefnos yn unig. Rhaid i gynyddu ein Senedd i 96 aelod olygu ein bod yn barod i ymgymryd â mwy o waith, gan fynd i'r afael â'r materion go iawn sy'n bwysig i bobl Cymru ond na ellir eu hystyried ar hyn o bryd oherwydd amserlen y Senedd. Mae llwyth gwaith y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn enghraifft berffaith. Mae sawl pwyllgor cysgodol yn cysgodi'r pwyllgor hwnnw mewn deddfwrfeydd eraill ar yr ynysoedd hyn.

Pryd fedrwn ni weld, Cwnsler Cyffredinol, y fformat disgwyliedig o bwyllgorau y Senedd fwy a'r rolau newydd fydd gan yr aelodau Cabinet o fewn y Senedd wedi ei diwygio? Dwi'n gwybod na all e ddim bod yn un pendant, ond jest bod syniad gyda ni o'r hyn fedrwn ni ddisgwyl. 

Effaith bwysig arall y Bil hwn, a'r Bil cwota rhywedd yn y dyfodol, yw darparu cynrychiolaeth ar gyfer safbwyntiau newydd ac unigryw. Rhan o ddatrys y diffyg democrataidd yng Nghymru yw bod yn rhaid datrys y gynrychiolaeth yn ein system etholiadol. Rwyf wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog am hyn, ac rwy'n falch o glywed bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth ar ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad i'r Senedd nesaf. Mae angen i ni nodi'r rhwystrau posibl sy'n atal pobl rhag mynd i faes gwleidyddiaeth a chymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Gall democratiaeth Cymru ond elwa o sbectrwm eang o syniadau a phrofiad bywyd, sy'n dod o amrywiaeth o rywedd, dosbarth, ethnigrwydd, anabledd, ymhlith grwpiau eraill sydd wedi'u tangynrychioli'n hanesyddol yng ngwleidyddiaeth Cymru. Felly, a all y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithredu strategaethau amrywiaeth i sicrhau bod gan y Senedd fwy amrywiaeth eang o Aelodau?

Mae'n bwysig iawn nad ydym yn colli'r cyfle hwn. Fy ofn i i ddechrau pan glywais i'r newyddion am y Bil cwota rhywedd yn cael ei gyflwyno erbyn diwedd y flwyddyn oedd y byddai'n parhau i fod yn awydd i ddiwygio, yn hytrach na cham gweithredu diriaethol. Mae gen i'r pryder hwn am y ddeddfwriaeth hon hefyd. Os caiff Llywodraeth Cymru ei herio yn y llysoedd, neu'n destun gorchymyn adran 114, efallai y byddwn yn gweld oedi sylweddol neu wrthod y Bil yn llwyr. Fy mhryder arall yw—

16:40

Mae'n ddrwg gen i, Llywydd. Rwy'n gobeithio na fydd Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn achosi oedi yn hyn. Rydyn ni'n awyddus nawr i ddiwygio oherwydd pwy sydd yn San Steffan ar hyn o bryd.

Yn wahanol i Heledd Fychan, es i ddim i'r ysgol y diwrnod ar ôl hynny—fe wnes i aros adref ar ôl aros lan mor hwyr am ganlyniad sir Gâr. Ond dyma'r union ddadl gafodd ei defnyddio yn erbyn sefydlu'r Cynulliad yn y lle cyntaf. Does byth amser delfrydol i gael mwy o wleidyddion, ond rwy'n cymryd yn ganiataol, Cwnsler Cyffredinol, eich bod chi'n hollol gytûn â fi mai dyma'r amser i wneud y cam pwysig yma. Diolch yn fawr. 

Diolch. Dyma'r adeg i gymryd y cam pwysig hwn, ond a gaf i atgoffa'r Aelod nad Bil y Llywodraeth yn yr ystyr honno yw hwn? Mae'r Llywodraeth wedi ei gyflwyno, ond mae hon yn ddeddfwriaeth sy'n deillio o'r Senedd, ac yn gwbl briodol felly. Y Senedd sydd â'r perchnogaeth, y Senedd sy'n gorfod pasio'r mwyafrif o ddwy ran o dair—y Senedd sy'n gyfrifol, ac yn briodol felly. 

O ran seddi gwag, mae yna ganlyniad. Y gwahaniaeth, wrth gwrs, yw mai'r pecyn cyfan sydd, yn fy marn i, yn gwella democratiaeth y Senedd ei hun yn sylweddol. Ac o ran y gwaith y bydd angen i'r Llywodraeth a'r Senedd ei wneud, gadewch imi ddweud o ran y 96 Aelod o'r Senedd a sut y byddai'r system bwyllgorau yn gweithio, ac yn y blaen, materion i'r Senedd benderfynu arnynt ydyn nhw. Nid materion i mi yw'r rhai hynny, ac nid wyf wir eisiau mynd ar y trywydd hwnnw, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n gryn dipyn o waith, ac rwy'n gwybod bod y Llywydd yn edrych ymlaen at ei gyflawni dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Ond mae'n bwysig cydnabod nad yw ethos y ddeddfwriaeth hon yn rhywbeth y mae'r Llywodraeth eisiau ei orfodi ar y Senedd; mae wedi dod o gyfeiriad hollol wahanol. 

Ac o ran rhwystrau a chyfranogiad, wrth gwrs, rwy'n cytuno â hynny i gyd, ac rwy'n amau bod gennym gytundeb trawsbleidiol llwyr ar hynny. Ond a gaf i ddweud nad ydw i'n credu ei bod hi'n briodol i mi fynd i fanylder ac ymateb ar faterion amrywiaeth ar hyn o bryd? Bydd rhagor o ddeddfwriaeth. Rwy'n credu mai dyna'r adeg briodol i gael trafodaeth fwy sylweddol ar gynnwys y ddeddfwriaeth benodol honno pan gaiff ei chyflwyno. 

Diolch, Llywydd. Mewn gwleidyddiaeth, oni bai ein bod yn bwrw ymlaen, byddwn yn cael ein tynnu'n ôl, oherwydd nid yw hyn yn ymwneud â chadw'r status quo neu newid, ydy e, Cwnsler Cyffredinol, er bod y status quo hwnnw mor annigonol. Oherwydd, na, mae'n ymwneud ag a ydym ni yng Nghymru yn dangos uchelgais ar gyfer ein cenedl, neu a fydd ein Senedd yn encilio i ddinodedd, heb ddigon o Aelodau i wneud y gwaith yn iawn—lle a fydd yn pylu yn ei berthnasedd. Os na wnawn ni hyn, Cwnsler Cyffredinol, siawns y bydd San Steffan yn parhau i gydio a thynnu wrth ein cyfreithlondeb, wrth ein democratiaeth. Fe fyddan nhw'n rhwygo pwerau yn ôl o'n gafael y mae Cymru wedi gweithio'n galed i'w hennill. Pa arwydd ydych chi'n meddwl y byddai hynny'n ei anfon i'r byd? Mae gen i fwy o uchelgais i Gymru na hynny. Mae Cymru yn golygu mwy i mi na hynny. 

Nawr, Cwnsler Cyffredinol, mae'r Ceidwadwyr yn sôn am gost. A allech chi nodi'n fyr eto beth ydych chi'n meddwl fydd y gost i'n democratiaeth os na fyddwn ni'n gwneud hyn? Ac a ydych chi'n cytuno â mi y dylem ni fynnu democratiaeth sy'n gweddu i'n cenedl wych a dangos yr uchelgais y mae ein pobl yn ei haeddu? 

16:45

Wel, ar y pwynt olaf yna, rydyn ni'n amlwg eisiau i'r costau go iawn sy'n gysylltiedig â gwneud y newidiadau yma fod mor isel â phosibl, ond rydyn ni hefyd eisiau sicrhau, drwy'r trefniadau llywodraethu gwell, ein bod ni'n cyflawni canlyniadau gwell, yn rheoli'r adnoddau cyhoeddus sy'n cael eu hymddiried i ni yn well, ac y bydd y newidiadau y byddwn ni'n eu gwneud yn sicrhau bod hynny'n digwydd mewn gwirionedd, y bydd y newidiadau hyn yn talu amdanyn nhw eu hunain.

A gaf i ddweud wrth yr Aelod, o ran yr arwydd y mae hyn yn ei roi i San Steffan, dydw i ddim yn credu mai dyna'r cwestiwn cywir? Rwy'n credu mai'r arwydd yr ydym yn ei anfon allan o ran ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru ac i bobl Cymru yw hwnnw. Mae'r hyn y byddai San Steffan yn ei ddweud am hyn yn amherthnasol i raddau helaeth, oherwydd mae hyn yn rhywbeth yr ydyn ni wedi gorfod penderfynu arno. Rydyn ni wedi bod yn cael y trafodaethau hyn yn ein hamgylchedd ein hunain. Penderfyniad lleol yw e', diwygiad cyfansoddiadol lleol yr ydym yn teimlo bod angen i ni ei wneud, a'r cyfan y bydden ni'n ei ddweud wrth San Steffan, yn fy marn i yw, 'Wel, fe wnaethoch chi roi'r pwerau i ni yn benodol i'n galluogi i ystyried y pethau hyn.' Rydyn ni wedi rhoi ystyriaeth iddyn nhw. Gallai neb ddweud ein bod ni wedi rhuthro neu nad ydyn ni wedi rhoi ystyriaeth fanwl iddyn nhw. A dyma ganlyniad yr holl drafodaethau hynny, ac ni fydd unrhyw beth yn digwydd oni bai bod mwyafrif o ddwy ran o dair o leiaf yn y Senedd hon sy'n argyhoeddedig mai dyma'r ffordd gywir ymlaen. Rwy'n gobeithio bod gennym ni'r mwyafrif yna. Rwy'n ffyddiog y bydd e'. 

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Fesurau Arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Yr eitem nesaf, felly, yw eitem 5, a hwn yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: diweddariad ar fesurau Arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Y Gweinidog, felly, i wneud ei datganiad—Eluned Morgan.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Bron i saith mis yn ôl, fe benderfynais i roi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ôl mewn mesurau arbennig. Rwy'n falch o ddweud bod arwyddion go iawn bod y bwrdd iechyd yn dechrau newid er gwell. Ond mae yna gydnabyddiaeth hefyd fod llawer i'w wneud o hyd cyn y gallwn ni adfer hyder llawer o bobl yn y gogledd yn eu gwasanaethau iechyd.

Hoffwn gofnodi fy niolch i'r holl staff yn y bwrdd iechyd sy'n gweithio mor galed i wneud gwahaniaeth i ofal iechyd yn y gogledd. Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a minnau wedi ymweld â'r bwrdd iechyd ar sawl achlysur ac rydyn ni wedi gweld y gwelliannau hyn drosom ni ein hunain. Rydyn ni hefyd wedi clywed gan staff a'r cyhoedd. Mae'n bwysig iawn bod y cyhoedd a staff Betsi nid yn unig yn clywed am y meysydd niferus y mae angen eu gwella, ond hefyd yn dathlu'r gwaith sy'n digwydd ym mwrdd iechyd y gogledd, sydd weithiau'n waith blaenllaw ar lefel fyd-eang.

Gadewch i ni beidio ag anghofio bod cannoedd ar filoedd o bobl yn defnyddio'r gwasanaethau a ddarperir gan Betsi bob dydd a bod y mwyafrif helaeth ohonyn nhw'n cael gwasanaeth boddhaol. Cafodd dros 58 y cant o bobl ar restrau aros eu trin o fewn 26 wythnos ym mis Mehefin—dyna'r nifer uchaf i gael eu trin mewn chwe mis ers mis Mehefin 2020. Ers mis Chwefror 2023 mae'r cyfnod y mae'n rhaid aros am driniaeth yn PBC wedi gostwng o 21 wythnos i 19 wythnos. Ac rwy'n credu bod y rhain yn bethau sy'n wirioneddol bwysig i gleifion. Felly, mae yna lawer o newid yn digwydd ar y brig, ond yr hyn y mae'r cyhoedd eisiau ei wybod yw beth sy'n digwydd iddyn nhw. Yr hyn y gallwch chi ei weld yma yw'r gwahaniaeth y mae'n ei wneud i fywydau pobl ar lawr gwlad.

Ond faint ohonoch chi oedd yn gwybod mai'r bwrdd iechyd yw'r cyntaf yn y DU i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i wneud diagnosis o ganser y fron a'r prostad? Roedd gwylio arbenigwyr yn gweithio yn Ysbyty Glan Clwyd dros yr haf yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae angen i ni ddathlu'r datblygiadau arloesol newydd gwych sydd wedi cael eu cyflwyno ers iddyn nhw gael eu rhoi mewn mesurau arbennig ym mis Chwefror, gan gynnwys uned gofal ôl-anesthesia estynedig yn Ysbyty Maelor Wrecsam ar gyfer pobl sydd angen gofal arbenigol ar ôl llawdriniaeth. Rydyn ni hefyd wedi gweld uned cymorth anadlol newydd ag wyth gwely yn cael ei hagor yn Ysbyty Glan Clwyd i gefnogi pobl â phroblemau anadlu sydd angen cael eu harsylwi'n rheolaidd, ond nad oes angen gofal dibyniaeth uchel arnyn nhw. Mae llawdriniaeth laser arloesol yn cael ei defnyddio i dynnu cerrig arennau, ac mae'r tîm orthopedig yn Ysbyty Gwynedd wedi defnyddio technoleg robotig i osod 100 o bengliniau newydd. Roeddwn i hefyd yn falch o glywed mai adran frys Ysbyty Gwynedd yw'r lle gorau i hyfforddi yn y Deyrnas Unedig yn ôl meddygon dan hyfforddiant.

16:50

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Nawr, rydyn ni wedi gweld newidiadau ar frig y sefydliad. Mae gennym ni gadeirydd dros dro newydd erbyn hyn ac aelodau annibynnol dros dro newydd o'r bwrdd. Ond rwy'n gwybod bod llawer ohonoch chi'n awyddus i weld newidiadau i'r tîm gweithredol yn Betsi hefyd. Fel y gŵyr yr Aelodau, does gen i ddim y pŵer i wneud y newidiadau hyn, ond gallaf adrodd bod newidiadau wedi bod o ran bron pob un o arweinwyr y tîm gweithredol yn Betsi, gan gynnwys prif weithredwr dros dro newydd, cyfarwyddwr cyllid dros dro newydd a chyfarwyddwr gweithredol gweithrediadau dros dro newydd. Mae newidiadau wedi cael eu gwneud hefyd i swyddfa ysgrifennydd y bwrdd i gefnogi'r bwrdd. Bydd y cyfweliadau ar gyfer yr is-gadeirydd newydd ac aelodau annibynnol pellach yn cael eu cynnal yn gynnar y mis nesaf, ac yna bydd ymgyrch i recriwtio cadeirydd parhaol a phrif weithredwr.  

Rwy'n cydnabod mai'r hyn yr wyf wedi'i grybwyll yma yw llawer o benodiadau dros dro, ond mae'r bwrdd iechyd wedi gorfod cymryd camau brys i sicrhau bod y bobl gywir yn eu lle yn ystod y cam cynnar hwn o fesurau arbennig. Mae'r penodiadau hyn yn rhan o broses, a'r cynllun tymor hir yw sicrhau bod y bobl gywir yn eu lle i ddarparu arweinyddiaeth i'r sefydliad. Mae'r tîm o gynghorwyr a benodwyd gennym wedi cefnogi'r bwrdd ar draws ystod o faterion ansawdd, ariannol a gweithredol, ac yn y fan yma hoffwn nodi cyfraniad Geraint Evans, a fu farw yr haf hwn yn anffodus, a hoffwn rannu fy nghydymdeimlad â'i deulu.

Mae yna oruchwyliaeth allanol sylweddol hefyd o'r ymyrraeth mesurau arbennig. Rwy'n cadeirio fforwm gwella mesurau arbennig bob deufis gyda'r bwrdd ac mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn mynychu'r fforwm hwnnw hefyd. Mae hyn yn ein galluogi i sicrhau bod y bwrdd iechyd yn bwrw ymlaen â'r camau priodol mewn ymateb i'r mesurau arbennig a osodwyd. Mae'r Dirprwy Weinidog yn cadeirio cyfarfod chwarterol ar faterion iechyd meddwl. Rwy'n cwrdd â'r cadeirydd dros dro bob mis i asesu cynnydd. Mae prif weithredwr GIG Cymru yn cadeirio bwrdd sicrwydd mesurau arbennig chwarterol sy'n adolygu cynnydd yn erbyn y blaenoriaethau ym mhob cylch 90 diwrnod. Cynhaliwyd adolygiad o drefniadau llywodraethu'r bwrdd ac mae'r bwrdd iechyd wrthi'n rhoi ei argymhellion ar waith. Bydd y rhain yn helpu i sicrhau bod llywodraethu corfforaethol a threfniadau llywodraethu'r bwrdd yn effeithiol ar draws y sefydliad.

Pan wnes i roi'r bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig, roedd yr aelodau annibynnol hynny o'r bwrdd annibynnol a oedd yn ymadael yn glir iawn bod materion difrifol o ran ansawdd a diogelwch cleifion ar draws rhannau o'r sefydliad. Mae'r rhain wedi cael eu hategu gan grwneriaid Ei Fawrhydi, sydd wedi teimlo'n rhwystredig oherwydd y diffyg dysgu yn y sefydliad a'r paratoadau gwael ar gyfer cwestau. Mewn ymateb i'r pryderon difrifol hyn, fe wnaeth fy swyddogion gomisiynu asesiad annibynnol o faterion diogelwch cleifion. Erbyn hyn, mae'r asesiad hwn gyda'r bwrdd iechyd ar gyfer gweithredu, a bydd Gweithrediaeth y GIG yn gweithio gyda'r bwrdd i sicrhau bod systemau a gweithdrefnau llywodraethu ansawdd a diogelwch yn ymateb i'r materion hyn o fewn amserlen benodol.

Mae'r Dirprwy Lywydd, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a minnau yn parhau i bryderu am wasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd. Fe wnaethom ni gomisiynu asesiad o gyfleusterau iechyd meddwl cleifion mewnol i sicrhau bod yr holl risgiau rhesymol yn cael eu nodi a'u rheoli. Roedd yr asesiad hwn, er ei fod yn gadarnhaol ar y cyfan, yn amlygu rhai pryderon, y mae'r bwrdd iechyd yn mynd ati i'w hunioni erbyn hyn. Fodd bynnag, mae'n werth nodi bod rhai gwelliannau wedi'u gweld mewn perthynas ag amseroedd aros ar gyfer asesiad gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol, gyda 74 y cant o atgyfeiriadau yn cael eu hasesu o fewn 28 diwrnod i atgyfeiriad ym mis Mehefin—mae hynny'n welliant o bron i 30 pwynt canran ers dechrau 2022.

Roedd y penderfyniad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i lacio'r cyngor fel na fydd y gwasanaethau fasgwlaidd nawr yn cael eu hystyried yn wasanaeth sydd angen ei wella'n sylweddol yn galonogol. Ond dwi'n dal i boeni am y gwasanaeth fasgwlaidd, ond mae hwn, wrth gwrs, yn gam i'r cyfeiriad cywir. Dwi wedi gofyn i weithrediaeth yr NHS wneud mwy o waith gyda'r bwrdd iechyd dros y misoedd nesaf.

Pan oeddwn i yn y gogledd dros yr haf, fe wnes i ymweld â'r ward i gleifion fasgwlaidd yn Ysbyty Glan Clwyd ac fe wnes i gyfarfod â'r timau clinigol i gael gwybod mwy am beth maen nhw'n ei wneud i wella gwasanaethau. Dwi'n gwybod bod aelodau'r tîm gweithredol yn cyfarfod â rhai o'r cleifion yr effeithiwyd arnynt gan gamgymeriadau'r gorffennol yn ystod yr wythnosau nesaf.

Dirprwy Lywydd, mae'r NHS yng Nghymru, fel yn ardaloedd eraill y Deyrnas Unedig, yn wynebu heriau ariannol sylweddol. Mae hyn oherwydd y lefelau uchaf erioed o chwyddiant, dros ddegawd o galedi a biliau ynni uchel dros ben. Fel pob bwrdd iechyd arall yng Nghymru, nid oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gallu cyflwyno cynllun tymor canolig integredig—IMTP—tair blynedd cytbwys, ac yn lle hynny, cyflwynodd gynllun blynyddol anghytbwys. Ond, credwch hi neu beidio, mae hwn yn welliant ar gyflwyniad y llynedd.

Rhoddodd Archwilio Cymru farn amodol ar y cyfrifon blynyddol ac roeddwn i'r un mor bryderus â chi i glywed, dros yr haf, am y gordaliad sylweddol i'r cyfarwyddwr gweithredol nyrsio a bydwreigiaeth dros dro rhwng mis Ebrill ac Awst 2022. Dwi wedi cael sicrwydd bod mesurau pellach wedi'u rhoi mewn lle i sicrhau na all hyn ddigwydd eto. Ond cafodd y cyfrifon eu cymeradwyo gan y bwrdd yn ei gyfarfod cyffredinol eithriadol ar 24 Awst. Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud i ddelio â'r materion a gafodd eu codi gan Archwilio Cymru ynglŷn â'r cyfrifo ariannol y llynedd.

Dŷn ni ddim wedi gweld amseroedd aros yn gwella'n gyson eto, ond ers mis Ionawr, mae yna leihad o 35 y cant wedi bod yn nifer y bobl sy'n aros mwy na 52 wythnos am apwyntiad fel claf allanol—felly, yn bennaf, ers mesurau arbennig. Ac mae nifer y rhai sy'n aros yn hir iawn am driniaeth wedi lleihau gan 27 y cant. Nid yw hynny'n record wael yn ystod y cyfnod heriol y mae'r sefydliad wedi'i wynebu, ond dwi'n cydnabod ac mae'r bwrdd yn cydnabod bod ffordd bell i fynd.

Mae yna un maes lle mae gen i bryderon penodol mewn perthynas â rhestrau aros, ac mae hynny mewn llawdriniaeth orthopedig. Bu ffocws gwirioneddol ar gynhyrchiant orthopedig yn Wrecsam ac yn Abergele, a bydd yr hyn a ddysgir o hyn bellach yn cael ei rannu ar draws y safleoedd eraill. Ond mae llawer o wasanaethau gofal a gynlluniwyd yn dal i wynebu heriau. Dwi wedi pwysleisio wrth y bwrdd fy mod i am weld cynlluniau cynaliadwy ar gyfer offthalmoleg, wroleg, oncoleg, dermatoleg, orthodonteg a phlastigau yn cael eu datblygu yn y cam nesaf hwn o fesurau arbennig. Dwi'n falch i adrodd ein bod wedi gweld rhai gwelliannau ym mherfformiad gofal brys, er ein bod ni, unwaith eto, yn cydnabod bod llawer o waith i'w wneud.

O ran trosglwyddiadau ambiwlans, mae lleihad amlwg wedi bod mewn oedi, ond yn ôl Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, mae A&E yn Ysbyty Glan Clwyd yn dal i fod yn wasanaeth sydd angen ei wella'n sylweddol. Dwi wedi gofyn i'r bwrdd edrych yn benodol ar ba ddewisiadau eraill y gellir eu rhoi ar waith i leddfu'r pwysau ar Glan Clwyd. Dwi wedi ymweld â'r adran hon yn ddiweddar a dwi'n gwybod bod y staff yn gweithio'n ofnadwy o galed i wella'r gwasanaethau, ac i gywiro pethau sy'n mynd o'i le, ac mae'r awyrgylch yn sicr wedi newid ers imi fod yno'r tro diwethaf.

Mae'n amlwg, fodd bynnag, fod llawer iawn o waith i'w wneud eto. Mae'r bwrdd iechyd yn cydnabod hyn, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn a dwi'n cydnabod hyn. Fydd pethau ddim yn newid dros nos, does dim gwahaniaeth faint rŷn ni eisiau i hynny ddigwydd. Rŷn ni'n dechrau ar daith hir i gael y bwrdd iechyd lle rŷn ni am iddo fod, ac rŷn ni am sicrhau bod gan bobl ar draws y gogledd NHS y gallan nhw fod yn falch ohono. Diolch.

17:00

Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad ac am rannu copi ymlaen llaw. A gaf i hefyd gofnodi fy niolch i'r staff rheng flaen gweithgar ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr sy'n gwneud eu gorau o dan amgylchiadau dybryd iawn i ofalu am y cleifion sy'n cyflwyno eu hunain mewn gwahanol leoedd ar draws y gogledd?

Fe wrandewais i'n ofalus ar eich datganiad, fe ddarllenais i hefyd y dogfennau ar-lein mewn perthynas â'r cylchoedd, fel petai, i geisio monitro'r cynnydd, ac mae'n rhaid i mi ddweud, Gweinidog, fy mod i'n siomedig nad oedd unrhyw gyfeiriad o gwbl at adroddiad Ernst & Young ac unrhyw gynnydd a allai fod wedi'i wneud mewn perthynas â'r canfyddiadau yn yr adroddiad hwnnw. Dydy'r adroddiad hwnnw ddim yn y parth cyhoeddus o hyd, er gwaethaf geiriau cynnes cadeirydd y bwrdd iechyd a'r prif weithredwr a oedd yn awgrymu y gallen nhw o bosibl rhoi copi yn y parth cyhoeddus, er mai adroddiadau wedi'u golygu fydden nhw, ar ryw adeg yn y dyfodol.

Fel y gwyddoch chithau a minnau, roedd yr hyn a nodwyd yn yr adroddiad hwnnw yn frawychus iawn. Roedd yn awgrymu bod pobl yn euog o ffugio dogfennau cyfrifyddu, cyfrifyddu ffug, camymddwyn posibl mewn swydd gyhoeddus, ac yn sicr dyfarnu contractau yn amhriodol heb broses ddyledus mewn cydweithrediad â chyflenwr y GIG. Mae wedi dod i'm sylw bod y cyflenwr hwnnw, Lightfoot Solutions, yn gweithio gyda chwe chorff y GIG ledled Cymru, gyda chontractau gwerth £10.63 miliwn, nad yw'n swm ansylweddol o arian trethdalwyr, ac rwyf am wybod pa waith sydd wedi cael ei wneud i geisio sicrwydd gan Lywodraeth Cymru bod y contractau eraill hynny hefyd wedi cael eu dyfarnu yn y ffordd briodol, gan fod Archwilio Cymru wedi gohebu â mi yn ddiweddar ynghylch nid yn unig y cyfrifon ariannol yr oedd canfyddiadau adroddiad Ernst & Young yn ymwneud â nhw, ond y flwyddyn ariannol flaenorol, 2020-21. Fe wnaethon nhw nodi bod contract gwerth £1.2 miliwn hefyd a gronnwyd yn y cyfrifon hynny gydag Lightfoot Solutions. Ni chafodd ei nodi, oherwydd roedd y ffigwr o £1.2 miliwn, sydd yn y cyfrifon, wedi'i rannu'n ddwy, fel ei fod ychydig yn is na'r trothwy lle byddai'r archwilwyr wedi edrych arno, a oedd, wrth gwrs, yn y flwyddyn benodol honno, yn £1 miliwn, o'r hyn yr wyf yn ei ddeall. Felly, mae'n eithaf amlwg bod ymgais fwriadol wedi bod dros ddwy flynedd i guddio rhai o'r materion hyn oddi wrth yr archwilwyr, ac rwyf am wybod ychydig mwy am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymchwilio i hynny a phenderfynu a yw'n digwydd mewn mannau eraill.

Gwnaethoch chi ddim cyfeirio chwaith yn eich datganiad at bartneriaeth cydwasanaethau'r GIG. Rydyn ni'n gwybod eu bod nhw wedi bod yn gysylltiedig, neu fod unigolyn ar lefel uwch yn y sefydliad hwnnw wedi bod yn gysylltiedig â pharatoi dogfen, gorchymyn prynu, a gynlluniwyd i fethu er mwyn i gontract gael ei ddyfarnu. Yn amlwg, mae hynny'n beth difrifol, ac rwyf am wybod beth sy'n cael ei wneud i ddwyn yr unigolyn hwnnw i gyfrif ac, yn wir, yr holl unigolion hynny a oedd yn gysylltiedig â'r holl bethau hyn.

Nawr, cafodd yr adroddiad hwnnw ei gyhoeddi ym mis Ionawr eleni. Rydyn ni ym mis Medi nawr. Byddwn ni ym mis Hydref yn fuan. Rydych chi'n dweud bod llawer o newidiadau wedi bod o ran yr arweinyddiaeth. Yn amlwg, rydyn ni wedi gweld y newidiadau o ran y bwrdd; rydyn ni wedi gweld rhai newidiadau yn y tîm gweithredol. Ond dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw un sydd wedi cael ei ddiswyddo am yr hyn ddigwyddodd. Hoffwn i wybod a oes unrhyw un wedi cael ei ddiswyddo, a yw'r pethau disgyblu hyn yn dal i fynd rhagddynt, a yw'r bobl hynny sydd wedi gadael wedi gadael gyda ffarwelion aur mawr—ac rwy'n sicr yn gobeithio nad ydyn nhw—oherwydd mae'r cyhoedd eisiau gwybod y pethau hyn. Felly, rwy'n gwerthfawrogi eich bod chi wedi siarad llawer am bob math o bethau a'i fod yn ddatganiad hir, ond dydyn ni ddim wedi cael unrhyw atebion mewn perthynas ag unrhyw un o'r materion penodol hynny.

Rydych chi'n dweud bod cynnydd go iawn yn cael ei wneud, bod arwyddion bod y bwrdd iechyd yn gwneud cynnydd ar rai pethau, ac rwy'n falch o glywed hynny, ond rydyn ni wedi clywed y cyfan o'r blaen. Rydyn ni wedi cael camgychwyniadau, llawer ohonyn nhw, dros y degawd diwethaf gyda Betsi, ac, yn anffodus, yn y diwedd, maen nhw i gyd wedi dod i ddim, oherwydd dydy'r arweinyddiaeth yn y bwrdd iechyd ddim wedi bod yno i ysgogi'r newid a sicrhau'r sefydlogrwydd sydd ei angen ar y sefydliad.

O ran y sefyllfa gyda chanfyddiadau diweddar y crwner, rydyn ni'n gweld yr adroddiadau hyn gan y crwner dro ar ôl tro. Mae yna themâu cyffredin iddyn nhw, felly rwy'n falch eich bod chi eisiau i'r sefydliad fod yn fwy o sefydliad dysgu, ond mae llawer o bethau nad ydyn nhw'n cyrraedd y crwner sy'n cyrraedd ein mewnflychau cwyno ac rydym yn eu codi gyda'r bwrdd iechyd ac mae'n cymryd llawer gormod o amser i gael ymatebion iddyn nhw ar ran ein hetholwyr—hyd at naw neu 10 mis weithiau, dim ond i gael ymateb syml i'r hyn sy'n ymddangos i'r rhan fwyaf ohonom yn gŵyn syml. Nawr, yn amlwg, os dydych chi ddim yn gallu ymchwilio ac ymateb i'r pethau hynny mewn modd amserol, yna gallwch chi ddim dysgu ohonyn nhw er mwyn unioni pethau yn y dyfodol. Felly, a gaf i ofyn: pa waith sy'n cael ei wneud gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru yn y bwrdd iechyd i sicrhau yr ymdrinnir â chwynion cyffredin sy'n dod i law o ddydd i ddydd yn gyflymach, nid dim ond yr adroddiadau mawr hyn sy'n tynnu sylw at rai o'r themâu cyffredin hyn? Rwy'n gwybod bod yn rhaid i mi orffen, ond roedd yn ddatganiad hir, Dirprwy Lywydd. [Torri ar draws.] Rwy'n ei werthfawrogi.

A gaf i ofyn hefyd—? Fe wrandawais yn ofalus ar yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud am yr ymweliadau; rwy'n falch eich bod chi a'r Dirprwy Weinidog wedi bod ar ymweliadau ac wedi nodi rhai o'r problemau ym maes gofal iechyd meddwl. Mae'n fy synnu bod rhywfaint o waith i'w wneud o hyd yn rhai o'r unedau o safbwynt diogelwch cleifion. Rwyf wedi ymweld â nhw yn y gorffennol, wedi tynnu sylw at bethau. Maen nhw wedi dweud y byddan nhw'n cael eu sortio, ac eto dyma ni flynyddoedd yn ddiweddarach ac roedd pryderon diogelwch uniongyrchol o hyd. Felly, sut ydych chi'n mynd i sicrhau, er eich bod chi wedi tynnu sylw atynt, eu bod nhw'n cael eu cyflawni mewn gwirionedd, o ran gwelliannau?

Ac yn olaf, os caf i ofyn hyn: fe wnaethoch chi gyfeirio at y taliadau hyn yn cael eu gwneud i'r cyfarwyddwr gweithredol nyrsio a bydwreigiaeth, dros £400,000 y flwyddyn ar y gyfradd gyflog flynyddol. Fe'i penodwyd ar adeg pan oedd y bwrdd iechyd hwn yn destun monitro uwch gan y Llywodraeth hon mewn perthynas â'i gyllid. Sut ar y ddaear yr oedd hynny'n gallu digwydd o dan fframwaith uwchgyfeirio Llywodraeth Cymru, pan oedd yn destun monitro uwch? Mae'n codi cwestiwn ynghylch a yw eich trefniadau monitro, a yw eich fframwaith uwchgyfeirio, yn addas i'r diben, felly a wnewch chi ymrwymo i adolygu'r fframwaith uwchgyfeirio hwnnw? Oherwydd dydy e'n amlwg ddim wedi gweithio o ran Betsi o gwbl dros y degawd diwethaf, ac yn enwedig yr agweddau ariannol, o ystyried yr hyn rydyn ni'n gwybod sydd wedi bod yn digwydd yn y bwrdd iechyd hwn, a'r hyn rydyn ni'n gwybod ddigwyddodd gyda chyflog y person penodol hwn. Diolch.

17:05

Diolch yn fawr. Wel, roedd llawer o gwestiynau yn y fan yna, felly byddaf yn ceisio ateb cynifer ohonyn nhw ag y gallaf.

Felly, yn gyntaf oll, o ran adroddiad Ernst & Young, byddwch chi'n ymwybodol, yn dilyn cyngor cyfreithiol, bod cynrychiolwyr o'r bwrdd iechyd wedi cwrdd â'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus mewn sesiwn gaeedig ar 4 Gorffennaf i drafod copi wedi'i olygu o adroddiad Ernst & Young. Nawr y pwynt yw, ar hyn o bryd, mae'r bwrdd iechyd yn dal i weithio drwy'r prosesau disgyblu. Ac mae rhai gwrandawiadau disgyblu wedi digwydd; roedd pum achos disgyblu yn dilyn ymchwiliad Ernst & Young. Mae dau wedi dod i ben erbyn hyn, ac mae'r tri arall yn dal i fynd rhagddynt, ac felly yr hyn dydyn ni ddim eisiau ei wneud yw tanseilio'r broses honno. Felly, rwyf eisiau eich sicrhau eu bod nhw'n cymryd hyn o ddifrif. Mae dau ohonyn nhw wedi'u cwblhau; mae mwy i fynd. Ond rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gweld hyn yn cael ei ddatrys, yn sicr yn nhymor y Senedd hon. Felly, fydd e' ddim yn rhy hir, gobeithio.

Felly, dim ond i bwysleisio ei bod yn bwysig ein bod ni'n caniatáu i'r achosion hyn gael eu cwblhau yn unol â chyfiawnder naturiol, ac mae'r bwrdd iechyd wedi cytuno y byddan nhw'n cyhoeddi, drwy'r bwrdd, faterion cyfrifyddu, gan gynnwys adroddiad Ernst & Young, unwaith y bydd yr holl faterion disgyblu a chwynion sy'n weddill yn cael eu datrys. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n cael ei wneud yn sicr cyn y Nadolig, ac, yn amlwg, byddwn ni'n rhoi gwybod i chi ble rydyn ni arni o ran hynny. Ond dydw i ddim eisiau tanseilio'r broses; dydw i ddim yn credu y byddai hynny'n helpu yr un ohonom ni.

Yn sicr, o ran eich cwestiynau am y cydwasanaethau, rwyf wedi gofyn y cwestiynau hynny, felly mae hynny'n sicr yn rhywbeth y mae ein swyddogion yn mynd i'r afael ag ef. Rwy'n credu, o ran eich pwynt am fonitro uwch, mae hwnnw siŵr o fod yn gwestiwn sy'n werth ei ofyn: sut y gwnaethom ni fel Llywodraeth fethu hynny? Ac felly byddaf yn gofyn i fy swyddogion weld a ellid tynhau rhywbeth o ran hynny, oherwydd yn amlwg fe wnaethom ni ei fethu, fe wnaethon nhw ei fethu, roedd rhywbeth o'i le ar y systemau. Fe ges i sicrwydd yn y cyfarfod yr wythnos diwethaf gyda Betsi na allai ddigwydd eto. Felly, yn amlwg, mae yna fecanweithiau i dynhau'r systemau hynny.

O ran adroddiadau'r crwner, Llais—. Rwy'n credu bod Llais yn mynd i fod yn hanfodol yn y dyfodol, felly rwy'n awyddus iawn a byddwn i'n ddiolchgar iawn pe byddai Aelodau Gogledd Cymru yn helpu i hysbysu'r cyhoedd am y ffaith bod hwnnw'n llwybr da iawn i'r cyhoedd ei ddefnyddio o ran unrhyw rwystredigaeth gyda'r bwrdd iechyd. Ac yn sicr, rwy'n credu bod y system newydd honno yn dal i ymgyfarwyddo, ond mae yna system. Mae'n ddiddorol, on'd ydy, sut y gall rhai byrddau iechyd ymateb i gwynion yn llawer cyflymach nag eraill, ond mae rhai cwynion yn cael eu datrys yn llawer cyflymach nag eraill. Dydw i ddim yn gwybod a ydych chi wedi sylwi ar hynny hefyd, Darren. Felly, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n deall pam mae'n cymryd amser hir.

A gadewch i ni fod yn onest nawr, rydych chi'n un o'r bobl hyn sy'n dweud, 'Canolbwyntiwch ar y rheng flaen', y pethau clinigol. Rydyn ni mewn sefyllfa ariannol anodd iawn nawr ac felly beth ydw i—. Y pwynt yw, dydy e' ddim yn wasanaeth rheng flaen, ac rydyn ni'n mynd i gael ein herio go iawn ar unrhyw beth sy'n fater ystafell gefn yn y dyfodol. Ac wrth gwrs diogelwch cleifion yw'r brif flaenoriaeth yn hyn i gyd. Dyna'r brif flaenoriaeth. Felly, rwy'n gobeithio fy mod i wedi ateb y rhan fwyaf o'ch cwestiynau yn y fan yna.

17:10

Ie, felly rwyf wedi gofyn am ymchwiliad mewnol i hynny. 

Mae eisiau i finnau hefyd ar ran y Blaid atseinio'r hyn sydd wedi cael ei ddweud o ran diolch i weithlu'r bwrdd iechyd am eu holl waith nhw dros y flwyddyn diwethaf, yn ystod cyfnod anodd iawn. 

Rydyn ni'n croesawu'r adroddiad chwarterol ar y cynnydd o ran mesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac, waeth beth fo'n teyrngarwch gwleidyddol, rydyn ni i gyd eisiau gweld darpariaeth iechyd ddiogel, effeithlon ac amserol yn cael ei gweithredu yn y gogledd cyn gynted â phosibl. Ac rwy'n gobeithio bod y mesurau a amlinellir yn yr adroddiad yn mynd â ni'n agosach at y canlyniad hwnnw. Ond rydyn ni wedi bod yma o'r blaen, on'd ydyn ni? Yn ôl ym mis Tachwedd 2020, dywedwyd wrthym fod digon o gynnydd wedi'i wneud i ddad-ddwysáu mesurau arbennig yn Betsi Cadwaladr, ac rydyn ni i gyd yn gwybod beth oedd canlyniad hynny yn y pen draw. Felly, pan fôm ni'n siarad am gynnydd yn y cyd-destun hwn, mae angen sicrwydd pendant arnom ni y gall iaith o'r fath gael ei hategu gan ganlyniadau sylweddol ar lawr gwlad, yn hytrach na gobeithion ofer lefel uchel. 

Er bod yr adroddiad diweddaru i'w groesawu, mae'n codi llu o gwestiynau ac mae angen eglurder. Felly, gofynnaf yn garedig i'r Gweinidog ymateb i bob un o fy nghwestiynau er budd tryloywder ac eglurder, y mae pobl y gogledd yn amlwg yn eu haeddu. Felly, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o ddatblygiadau lleol. Er enghraifft, rhywbeth lleol i mi: mae ystafell driniaeth newydd wedi'i gweithredu a'i gosod yn Ysbyty Tywyn. Ond dylid cyd-destunoli hyn yn erbyn y ffaith mai dim ond tridiau'r wythnos y mae'r uned mân anafiadau ar gael erbyn hyn, a bod y ward cleifion mewnol wedi cael ei chau yn ôl ym mis Ebrill a bod gwasanaethau mamolaeth wedi cael eu colli. Felly, i ba raddau mae'r ystafell driniaeth newydd hon yn lleddfu'r rhwystrau sydd wedi bod mewn rhannau eraill o'r ysbyty? Ond, yn fwy na hynny, ydy'r cyhoeddiadau eraill yn cuddio dirywiad arall mewn gwasanaethau lleol?

O ran dad-ddwysáu ymyrraeth ar wasanaethau fasgwlaidd, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw hi nawr yn bwriadu comisiynu ymchwiliad cyhoeddus i ddarpariaeth y gwasanaeth, yn dilyn argymhelliad crwner gogledd-ddwyrain Cymru, John Gittins, yn gynharach eleni?

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf hefyd am waith i wella diwylliant gwaith ar draws timau gwahanol yn y llwybr fasgwlaidd, fel yr argymhellwyd gan adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru? Pryd ydym felly yn debygol o dderbyn asesiad rhwydweithiau clinigol cenedlaethol Cymru o'r cynllun fasgwlaidd?

Mae'r adroddiad yn sôn am benodi prif weithredwr dros dro, cyfarwyddwr cyllid dros dro, cyfarwyddwr gweithrediadau dros dro. Gwnaeth y Gweinidog grybwyll hyn, a soniodd Darren Millar am y newidiadau ar y brig. Nawr, hyd y gwn i, rydyn ni wedi cael wyth prif swyddog gweithredol a phedwar cyfarwyddwr cyllid yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, pa mor hyderus yw'r Gweinidog y bydd y newidiadau hyn yn rhoi'r sefydlogrwydd a'r sicrwydd sydd eu hangen ar lefel y bwrdd i ategu unrhyw fesurau dad-ddwysáu? A beth yw'r amserlenni disgwyliedig ar gyfer penodi staff parhaol i'r swyddi hyn?

Pryd bydd yr argymhellion a gododd o'r asesiad diogelwch cleifion mewnol iechyd meddwl ym mis Ebrill yn cael eu gweithredu? A all y Gweinidog roi sicrwydd na fydd unrhyw newid yn y mesurau ymyrraeth yn y maes hwn nes bod hyn wedi digwydd? Ac yn dilyn ymlaen o'r pwynt hwn ar iechyd meddwl, faint o gynnydd sydd wedi'i wneud i gael gwared ar risgiau clymu ar safleoedd Betsi Cadwaladr, pryder y tynnwyd sylw ato flynyddoedd lawer yn ôl, ac yn wir gan adroddiad gan AGIC mor hwyr â mis Chwefror eleni, a ddangosodd nad oedd y llyfr gwaith archwilio clymu misol wedi'i gwblhau yn Wrecsam Maelor ers mis Chwefror 2022?

Ac yn olaf, mae'r newyddion ynghylch llai o ofal wedi'i gynllunio a'r amseroedd aros i'w groesawu, ond a all y Gweinidog roi sicrwydd bod hyn yn cael ei ysgogi gan welliannau mewn gofal cymunedol a bod llwybrau clir ac effeithlon ar waith i'r perwyl hwn? Diolch.

17:15

Diolch yn fawr iawn. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n rhoi cyfle i'r bwrdd newydd ac ein bod ni'n rhoi cyfle i'r executive newydd. Beth dydw i ddim eisiau gwneud yw gweld bod targedau cyson yn tanseilio eu hyder nhw a'u gallu nhw i fynd ymlaen gyda'r swydd. Felly, wrth gwrs, mae'n rhaid inni wneud yn siŵr, pan fyddan nhw'n dweud, 'Dyma beth rŷn ni'n ei wneud,' ein bod ni'n dilyn i fyny a sicrhau bod action yn digwydd o ganlyniad i'r hyn maen nhw'n dweud sydd angen digwydd.

Mae yna ychydig o bwyntiau yr hoffwn i eu crybwyll. Yn gyntaf oll, fe wnaethoch chi sôn am Dywyn. Rwy'n ymwybodol iawn o'r sefyllfa o ran Tywyn, ac fe fyddwch chi'n ymwybodol mai'r rheswm pam y bu'n rhaid cau Tywyn yw oherwydd nad oeddem yn gallu cael y staff. Mae yna gysylltiad rhwng rhoi pregeth cyson i fwrdd iechyd a'n gallu i ddenu pobl i weithio yno. Mae yna gysylltiad. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ni ddeall canlyniadau ein gweithredoedd. Nawr, yr hyn rydyn ni wedi'i wneud yw ein bod ni'n amlwg wedi rhoi system newydd yno, ond mae'r broses honno o geisio recriwtio yn parhau, gan gynnwys ymgais nawr i recriwtio'n rhyngwladol. Felly, mae hyn i gyd yn mynd rhagddo.

O ran y gwasanaethau fasgwlaidd, roeddwn i'n falch iawn bod AGIC wedi dweud nad ydyn nhw erbyn hyn yn ystyried ei fod yn gyfleuster sydd angen y math o newid dwys yr oedden nhw'n sicr yn credu yr oedd ei angen yn flaenorol, ond dydy hynny ddim yn golygu ein bod ni'n tynnu'n troed oddi ar y sbardun o ran hynny. Fe wnes i gyfarfod â'r crwner yn y gogledd—y ddau grwner yn y gogledd—yn yr haf i drafod gwahanol faterion mewn perthynas â Betsi Cadwaladr. Rwyf wedi ysgrifennu atyn nhw eto yn ddiweddar, dim ond i'w gwneud yn glir ein bod ni'n ymchwilio i weld a oes angen ymchwiliad annibynnol. Dydyn ni ddim wedi dod i gasgliad ar hynny eto. Ond a gaf i nodi'n glir nad oedd y crwner yn dweud, o reidrwydd, 'Rwyf am i chi gael un.' Roedd yn dweud, "Allwch chi edrych arno? A yw'n cyrraedd y lefel lle rydych chi'n meddwl bod yna ofyniad i'w gynnal?'

O ran yr apwyntiadau, rydych chi'n hollol gywir. Fe restrais i lawer o benodiadau dros dro yn y fan yna. Nawr, yn amlwg, yr hyn yr oedd yn rhaid i ni ei wneud oedd sefydlogi pethau'n gyflym iawn, felly mae llawer o benodiadau dros dro wedi bod. Mae newid sylweddol wedi bod o ran nifer y bobl sydd wedi symud nawr o benodiadau dros dro i benodiadau parhaol. Rwy'n credu ei fod wedi gostwng o tua 32 i tua 12, felly rydyn ni eisoes yn cyrraedd sefyllfa well o ran penodiadau dros dro. Mae'r broses o chwilio am y prif weithredwr yn dechrau'n fuan, ac mae penodi'r cadeirydd yn sicr—. Mae'r is-gadeirydd allan yn barod, a byddwn ni'n penodi'r cadeirydd yn fuan hefyd, o ran y broses recriwtio. Rwy'n falch iawn o ddweud bod llawer o ddiddordeb wedi bod o ran nifer y bobl sydd eisiau gwasanaethu ar y bwrdd, fel is-gadeirydd ac fel Aelodau annibynnol.

O ran iechyd meddwl, yn amlwg, fy nghyd-Aelod Lynne Neagle sy'n arwain ar hyn, ond, yn sicr, mae'r math yna o ymchwiliad mewnol a ddigwyddodd yn rhywbeth sy'n cael ei fonitro erbyn hyn gan y grŵp sy'n goruchwylio'r hyn sy'n digwydd yn Betsi. Felly, rwy'n hyderus iawn bod Lynne Neagle yn cwrdd â nhw'n rheolaidd iawn, iawn i sicrhau bod y camau hynny'n cael eu rhoi ar waith.

O ran gofal wedi'i gynllunio, rwy'n credu bod pethau'n gwella'n sylweddol. Mae llawer o ffordd i fynd ac maen nhw'n fwrdd iechyd enfawr, felly mae yna niferoedd mawr o hyd, ond os edrychwch chi ar y gostyngiad o ran canran yn nifer y bobl sy'n aros am driniaeth, fe welwch chi nad yw'r niferoedd a nodais i chi yn y fan yna yn rhai di-nod. Ac, wrth gwrs, Betsi yw'r bwrdd iechyd sy'n perfformio orau neu'n perfformio orau ond un yn gyson o ran canser. Felly, rwy'n credu bod llawer i'w ddathlu.

Yn amlwg, mae gwaith i'w wneud o ran gofal cymunedol hefyd. Mae llawer o'r cyfleusterau gofal sylfaenol yn cael eu rhedeg yn uniongyrchol gan y bwrdd iechyd. Rydym yn ceisio defnyddio hynny, ac rwy'n credu bod y bwrdd iechyd yn ceisio defnyddio hynny fel cyfle i ddysgu beth arall y gallan nhw ei wneud o ran darparu arfer gorau mewn perthynas â gofal cymunedol.

17:20

Hoffwn ddiolch i chi am eich datganiad gwirioneddol onest a chynhwysfawr sy'n cwmpasu cynifer o feysydd gwasanaeth. Mae'n dda clywed hefyd am y pethau cadarnhaol y mae Betsi yn eu harwain ar hyfforddiant a thechnolegau newydd yn y bwrdd iechyd. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn pan fyddwn ni'n recriwtio pobl i'r gogledd, ac mae'n newyddion da iawn hefyd fod y Cyngor Meddygol Cyffredinol wedi rhoi sêl bendith i recriwtio i'r ysgol feddygol newydd, gan ddechrau ym mis Medi 2024. Felly, meddwl oeddwn i tybed beth allwch chi ei ddweud wrthyf am lefel y diddordeb yn y swyddi newydd hynny yn y gogledd, a pha effaith y bydd yn ei chael ar ofal iechyd yn y gogledd. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Wel, rwy'n credu ei bod yn wych eu bod nhw wedi cael yr adroddiad yna i ddweud, mewn gwirionedd, mai'r gogledd yw un o'r lleoedd gorau i hyfforddi fel meddyg. Rwy'n credu bod hynny'n mynd i godi morâl mewn gwirionedd, ac mae hyn yn ymwneud â'r genhedlaeth nesaf. Dyna beth sydd mor rhyfeddol am y peth. Mae angen i'r newyddion hyn ledaenu, fel y bydd mwy o bobl yn gwneud cais. Dydw i ddim yn credu y bydd prinder o ran nifer y bobl sy'n gwneud cais i astudio meddygaeth yn y gogledd. Rwy'n falch iawn, fel chi, o weld bod y GMC bellach wedi rhoi eu sêl bendith, fel y gall y broses recriwtio ddechrau o ddifrif. Siaradais i ag is-ganghellor Prifysgol Bangor ddechrau'r wythnos hon, ac roedd e, rwy'n gwybod, yn falch iawn, iawn gyda'r sêl bendith honno gan y GMC, ac mae'n edrych ymlaen at groesawu'r myfyrwyr newydd. O ran yr hyn y mae hynny'n ei olygu, rwy'n credu ei fod yn arwyddocaol, nid yn unig i'r brifysgol, ond, yn amlwg, mae'n arwyddocaol iawn i'r bwrdd iechyd, ac rwy'n gobeithio y bydd bod ag ysgol feddygol sydd â chysylltiad mor agos â'r bwrdd iechyd yn drawsnewidiol ac yn denu clinigwyr o'r radd flaenaf, ar ben y rhai sydd gennym yno eisoes, i ddod i sefydlu eu hunain yn y gogledd.

Gweinidog, yn eich datganiad, rydych chi'n nodi bod llawer eisiau gweld y newidiadau hynny yn y bwrdd rheoli gweithredol ac, wrth gwrs, rydych chi wedi dweud droeon yn y Siambr hon nad oes gennych chi'r pŵer i wneud y newidiadau hynny. Felly, rwy'n gofyn y cwestiwn mewn cyd-destun ehangach, mewn gwirionedd, y tu allan i Betsi hefyd. O ystyried mai chi yw'r Gweinidog iechyd a'n bod yn genedl weddol fach, a ydych chi'n credu y dylai fod gennych chi'r pŵer i wneud newidiadau i fwrdd rheoli gweithredol? Os na, pam ddim? Os ydych chi, beth sydd angen ei newid i wneud i hynny ddigwydd?

Soniodd Darren Millar am faterion yn ymwneud â'r gordaliad i'r swyddog gweithredol dros dro ar gyfer nyrsio a bydwreigiaeth. Yn eich datganiad chi, rydych chi'n nodi eich bod wedi cael sicrwydd bod mesurau bellach ar waith i sicrhau nad yw hynny'n digwydd eto. Ond o ystyried arwyddocâd hyn, a oes unrhyw beth arall y gallwch ei ddweud? A allwch chi roi unrhyw fanylion am y mesurau hyn?

Ac, yn olaf, fe wnaethoch chi orffen drwy ddweud, 'Wel, dydy'r materion hyn ddim yn mynd i gael eu datrys dros nos', ac wrth gwrs rwy'n derbyn hynny—mae'r rhain yn heriau mawr iawn—ond pryd fydd y bwrdd iechyd yn y sefyllfa rydych chi am iddo fod ynddi? Pryd bydd gan bobl y canolbarth GIG y gallant fod yn falch ohono? Mae'n debyg, rydych chi'n dweud na all fod dros nos, ond a allwch chi roi amcan bras i ni o pryd rydych chi'n credu y dylai'r bwrdd iechyd fod mewn sefyllfa rydych chi am iddo fod ynddi?

17:25

Diolch yn fawr. Wel, Russell, byddwch chi'n ymwybodol fy mod i wedi sefydlu adolygiad llywodraethu ac atebolrwydd i ystyried a oes gennym ni'r strwythur cywir o ran y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd, ac rwy'n credu bod rhai cwestiynau diddorol iawn i ni eu harchwilio ynghylch hynny. Rwy'n gobeithio y bydd y grŵp hwnnw'n galw ar bobl o'r Senedd i roi tystiolaeth i hynny, dim ond i roi eich barn ar yr hyn yr ydych chi'n credu y dylai'r sefyllfa fod. Oherwydd rwy'n credu ein bod ni mewn sefyllfa ychydig yn wahanol i San Steffan, lle does dim atebolrwydd, a dweud y gwir—ychydig iawn iawn o atebolrwydd—ond rwy'n deall bod hon yn genedl lai. Felly, y cwestiwn yw: pa mor bell ydych chi'n mynd gyda hynny? Os yw padell wely yn disgyn ar y llawr yn Nhredegar, mae i fod i seinio yn y coridorau yn Whitehall. Wel, rwy'n teimlo weithiau mai dyna yw'r sefyllfa, mai fy mai i oedd bod y badell wely wedi disgyn, ac rwy'n credu bod hynny'n mynd â hi'n rhy bell, mae'n debyg. Felly, y cwestiwn yw pa mor bell ydych chi'n mynd gyda hynny. Rwy'n credu bod yn rhaid i chi fod ychydig yn ofalus o ran pa mor bell rydych chi'n mynd gyda phenodi swyddogion gweithredol yn uniongyrchol, ond rwy'n hapus iawn i aros am ganlyniad yr adolygiad atebolrwydd, ac mae gen i feddwl agored ar hyn, mewn gwirionedd, felly gadewch i ni weld beth maen nhw'n ei nodi.

Dydy e ddim yn mynd i fod—. Dydyn ni ddim yn mynd i allu cyflawni hyn dros nos; rwyf wedi bod yn glir iawn am hyn. Ond yr hyn y gallaf i ei ddweud wrthych chi yw, unwaith y byddwn ni wedi bod drwy'r cam cychwynnol hwn a'r cyfnod sefydlogi hwn, ac rydym wedi bod drwy'r cam darganfod, mae angen i ni fod yn gwbl glir ein bod ni'n gwybod, 'Iawn. Ydyn ni wedi dod o hyd i bopeth, yn gyntaf?" Felly, mae angen i ni wybod ein bod wedi cyrraedd y gwaelod. Rwy'n gobeithio ein bod ni yno neu bron yno, ond yr hyn rydw i eisiau ei wneud wedyn yw nodi rhai meini prawf ar gyfer yr hyn sydd angen digwydd i ddod allan o fesurau arbennig, a dydyn ni ddim yno eto, ac unwaith y byddwn ni'n gwneud hynny, yn amlwg, byddwn ni'n gallu cael gwell ymdeimlad o ba mor hir y bydd yn ei gymryd i gyrraedd yno.

Prynhawn da, Gweinidog. Diolch yn fawr iawn am eich adroddiad yn ôl. Mae'n ymddangos bod newidiadau a symudiadau o'n blaenau mewn perthynas â Betsi Cadwaladr. Wrth gwrs, byddwch chi'n gwybod bod rhan o fy rhanbarth i wedi'i gwmpasu gan y bwrdd iechyd. Rwy'n credu bod yna ychydig o bryderon. Un yn amlwg yw'r materion ariannol a chyllideb Llywodraeth Cymru, ac rydym wedi clywed yn gynharach beth yw'r sefyllfa. Felly, tybed a allech chi roi darlun cyffredinol i ni, os gallwch chi, o sut rydych chi'n gweld hynny'n effeithio ar y newidiadau a'r cynllun a'r daith sydd gennych chi wrth fwrw ymlaen o ran Betsi Cadwaladr.

Ac yna yr ail fater a'r olaf gennyf i yw ein bod ni i gyd yn gwybod bod gwasanaethau iechyd yn ymwneud â'r cleifion, y teuluoedd maen nhw'n eu gwasanaethu, y staff, y bobl sy'n defnyddio'r cyfleusterau hynny mewn gwirionedd, a meddwl oeddwn i tybed pa brosesau oedd gennych chi i sicrhau bod lleisiau'r staff a lleisiau'r bobl sy'n defnyddio Betsi Cadwaladr yn cyfrannu o ran eu profiadau o'r gwasanaethau ac a oedden nhw'n teimlo bod pethau'n symud ymlaen ac yn gwella. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn. Felly, yn gyntaf oll, o ran y sefyllfa ariannol, fel y gwyddoch chi, mae heriau sylweddol, nid yn unig mewn perthynas â Betsi, ond ar draws y gwasanaeth iechyd cyfan, ac nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y Deyrnas Unedig. Nid yw Betsi Cadwaladr yn wahanol i'r gweddill ohonyn nhw; rwy'n credu eu bod yn rhagweld diffyg o ryw £134 miliwn, sydd ddim yn swm dibwys, ac, wrth gwrs, mae hynny'n golygu—. Nid bod yna doriadau'n digwydd; ond eu bod wedi rhagweld gorwariant. Felly, mae'r bwrdd iechyd wedi cael mwy o arian, ond, yn amlwg, os ydych chi'n ystyried chwyddiant a'r ffaith bod yn rhaid iddyn nhw dalu mwy am ynni ac maen nhw bellach yn gorfod talu am y brechiadau, sydd wedi dechrau cael eu rhoi, ac wrth gwrs y codiad cyflog y gwnaethom ni ei roi i'r staff, does dim o hynny wedi dod gydag unrhyw gyllid ychwanegol. Felly, yr hyn sy'n rhaid i chi ei wneud yw cymryd yr arian o rywle arall i bob pwrpas, a dyna'r her sydd ganddyn nhw, ac mae'n her anodd iawn, iawn. Felly, bydd mwy am hyn yn yr wythnosau nesaf.

O ran y staff a'r diwylliant, cawsom gyfarfod yn gynharach yr wythnos hon gyda'r bwrdd iechyd—neu ai yr wythnos diwethaf oedd hi—ac un o'r themâu y gwnaethom ni gyffwrdd arni oedd pwysigrwydd arweinyddiaeth dosturiol. Felly, gwneud yn siŵr pan fyddwch chi'n arwain—. Ac mae hwnnw'n gydbwysedd eithaf anodd, on'd yw e? Rydych chi'n ceisio cyflawni rhywbeth, lle mae angen i chi fod ychydig yn gyfeiriadol, oherwydd mae angen i chi weld gwelliannau, ond mae angen i chi wneud hynny heb i bobl eich cyhuddo chi o fod yn fwli. Felly, arweinyddiaeth dosturiol yw'r hyn yr ydym ni'n chwilio amdani, ac roedd hynny'n rhywbeth y gwnaethom geisio mynd i'r afael ag ef gyda'r bwrdd gweithredol yn gynharach yr wythnos hon. Mae 19,000 o staff yno. Yr hyn oedd yn ddiddorol i mi, wrth siarad â nhw dros yr haf, oedd bod llawer ohonyn nhw, mewn gwirionedd, yn synhwyro bod rhai pethau'n newid, bod yr awyrgylch yn newid rhywfaint. Ond mae ffordd bell i fynd, rwy'n credu.

Rhan o'r broblem, wrth gwrs, yw bod y pwysau ar y gwasanaeth yn ddwys iawn. Mae'r galw yn dal i ddod. A faint bynnag o arian rydych chi'n ei daflu ato, os yw'r galw yn dal i ddod, a does gennych chi ddim y staff, mae hynny'n mynd i fod yn anodd iawn, iawn i bobl ymdopi ag ef. Felly, mae angen ceisio sicrhau bod yna werthfawrogiad o'r hyn maen nhw'n ei wneud. Rwy'n credu y gallwn ni, y cyhoedd, wneud llawer mwy yn hyn o beth, ac rwy'n gobeithio y bydd y cyhoedd yn y gogledd yn gwneud mwy i ddiolch i'r staff am yr ymdrechion anhygoel y maen nhw wedi bod yn eu gwneud yn wyneb y sefyllfa heriol iawn hon yn y gogledd.

17:30

Yn gyntaf, Gweinidog, diolch am ddatganiad cynhwysfawr iawn heddiw. Rwy'n teimlo eich bod chi wedi mynd i'r afael â llawer o'r materion sydd wedi bod yn ein poeni ers misoedd—wel, blynyddoedd, mewn gwirionedd.

Saith mis yn ôl, fel y nodwch chi'n briodol, cafwyd penderfyniad i roi bwrdd Betsi Cadwaladr yn ôl mewn mesurau arbennig—rydyn ni'n croesawu hynny—ond, wrth gwrs, roedd hynny yn dilyn cyfnod o flynyddoedd lawer pan oedd y bwrdd hwn mewn mesurau am fwy o flynyddoedd nag unrhyw fwrdd iechyd arall yn y DU. Ac rydyn ni'n dal i gredu mai dim ond ar gyfer y budd etholiadol posibl y cafodd y rhain eu dileu cyn etholiadau'r Senedd yn 2021. Ers hynny, wrth gwrs, rydyn ni i gyd wedi gorfod gweld nifer o adroddiadau negyddol ac, a dweud y gwir, eithaf brawychus: y gwasanaethau fasgwlaidd, yr adroddiad ar fethiannau ariannol, adroddiad yr archwilydd cyffredinol, adroddiad Ernst & Young.

Mae'n hawdd i ni barhau i fynd ymlaen am yr holl bethau yr ydym ni wir yn poeni amdanyn nhw, ond rwy'n cytuno'n llwyr, wrth dynnu sylw at y methiannau niferus yr ydym ni i gyd wedi'u gweld o'r bwrdd hwn ar lefel uwch reolwyr, y dylem ni hefyd fod yn awyddus i grybwyll pan fyddwn ni'n cael gwybod, fel Aelodau, am unrhyw lwyddiant a gyflawnwyd. Felly, roeddwn i'n gyffrous iawn—a hoffwn ddysgu mwy—am y ffaith mai'r bwrdd iechyd yw'r cyntaf yn y DU i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i wneud diagnosis o bryderon y fron a'r prostad, a'r dechnoleg robotig sy'n digwydd nawr—

—ym maes orthopedeg. Gallaf.

I fynd yn ôl i bwynt a gododd fy nghyd-Aelod Darren Millar—ac mae Carolyn wedi ei godi hefyd—rydyn ni'n falch o wybod eich bod chi wedi ystyried ein pryderon gwirioneddol am ailstrwythuro'r uwch dîm gweithredol. Felly, a wnewch chi egluro bod y penodiadau newydd o'r tu allan i'r sefydliad mewn gwirionedd ac nid pobl sydd wedi symud i'r swyddi, a hefyd fod y rhai sydd wedi gadael y rolau penodol hyn, i wneud lle i'r bobl newydd, bellach wedi gadael Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr neu wedi gorffen eu contractau? Diolch.

Diolch yn fawr. O ran y mater ohonom ni'n dod allan o fesurau arbennig, wrth gwrs, rydyn ni wedi delio â hynny yn y gorffennol; roedd hynny'n argymhelliad i'r Gweinidogion. Ond gadewch i mi ganolbwyntio ychydig ar y pethau cadarnhaol, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar y pethau cadarnhaol. Rwy'n credu bod canser yn enghraifft dda o ble maen nhw'n gwneud pethau'n dda iawn yn y gogledd. Dydyn nhw dal ddim yn cyrraedd y targedau yr hoffem iddyn nhw eu cyrraedd, ond o'i gymharu â rhai o'r lleill yng Nghymru—. Roedd hi'n gyffrous iawn mynd i'r labordai patholeg yng Nglan Clwyd i edrych ar sut maen nhw'n penderfynu pa gleifion sydd fwyaf tebygol o ddatblygu canserau penodol. Ac os ydych chi'n eu rhoi trwy ddeallusrwydd artiffisial, yr holl systemau sydd wedi'u galluogi'n ddigidol, yna rydych chi'n cael y canlyniad yn llawer iawn cyflymach, ac mae'n fwy cywir. Felly, mae'n gyffrous iawn, iawn rwy'n credu, ac yn rhywbeth y dylem ni ei ddathlu yn bendant.

O ran y tîm gweithredol, rhestrais i chi lu o bobl newydd sydd wedi dod i mewn i'r sefydliad. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nad ydych chi'n dweud na ellir dyrchafu unrhyw un o fewn y sefydliad i fod yn swyddog gweithredol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nad dyna'r signal rydyn ni'n ei roi yn y fan yma. Ond rwy'n gyffrous iawn; mae yna rai penodiadau da iawn, rwy'n credu. Rwy'n credu y dylem ni fod yn hyderus iawn. Rwy'n cofio taro mewn i rywun yn yr Eisteddfod ddaeth ataf i yn dweud mai hi yw'r pennaeth risg newydd yn Betsi Cadwaladr. Mae hi'n dod o Ben Llŷn ac roedd hi wedi cael gyrfa anhygoel yn Llundain ac wedi dod yn ôl. Rwy'n credu, mae'r rhain yn bobl sy'n dod adref i'n helpu ni, ac rwy'n credu bod y rheini'n bethau y dylem ni eu dathlu. Mae yna ychydig yn fwy ar ôl o hyd ac, yn amlwg, yr hyn yr ydym ni am ei weld yw sefydlogi ac nid yr holl benodiadau dros dro hyn, ond mae llawer o'r penodiadau dros dro hynny wedi—[Torri ar draws.] Mae llawer o bobl wedi gadael y sefydliad. Er enghraifft, ymddeolodd cyfarwyddwr gweithredol y gwasanaethau clinigol integredig ac mae wedi gadael cyflogaeth Betsi Cadwaladr. Felly, mae nifer o bobl wedi gadael y sefydliad ac, yn amlwg, mae yna ambell wrandawiad disgyblu yn cael ei gynnal. Felly, mae pethau'n symud ymlaen, ond dydyn ni ddim mewn hwyliau dathlu eto. 

17:35

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Fel y dywedoch chi, mae meddygon dan hyfforddiant wedi dweud mai adran frys Ysbyty Gwynedd yw'r lle gorau i hyfforddi yn y Deyrnas Unedig. Mae hynny i'w groesawu'n fawr, ond pa sicrwydd a gawsoch chi fod y math hwn o esiampl o ddiwylliant da yn y gwaith yn cael ei rannu ar draws y bwrdd iechyd mewn gwirionedd, fel y mae angen gwneud yn bendant? 

Yn ail, Gweinidog, mae'n hanfodol bwysig nad ydym yn colli golwg ar yr angen i greu mwy o hybiau gofal iechyd integredig yr unfed ganrif ar hugain, ac mae gen i ddwy enghraifft yn fy etholaeth i o ble mae angen hybiau i gymryd lle cyfleusterau sy'n heneiddio. Byddwn i'n ddiolchgar iawn pe gallech roi sicrwydd bod gan Betsi Cadwaladr y gallu a'r ffocws i gyflawni'r gwaith cwmpasu sydd ei angen er mwyn i fuddsoddiad ddigwydd mewn hybiau newydd. 

Ac yn drydydd, ac yn olaf, mae materion sy'n ymwneud ag iechyd meddwl yn amlwg yn peri pryder i bawb. Byddwn i'n hynod ddiolchgar pe byddech chi neu'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar adeg briodol, yn gallu dod i'r grŵp trawsbleidiol ar iechyd meddwl i amlinellu sut mae gwelliannau'n mynd rhagddynt yn Betsi Cadwaladr ac, yn wir, ledled Cymru. Diolch. 

Diolch yn fawr. Roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n wych clywed eu bod nhw'n meddwl mai Ysbyty Gwynedd oedd y lle gorau i hyfforddi, ond rydych chi'n hollol iawn—yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud nawr yw cymryd yr arfer gorau hwnnw a gwneud yn siŵr bod hwnnw'n cael ei rannu mewn gwirionedd gyda'r sefydliadau eraill yn y gogledd. Yr hyn a oedd yn ddiddorol iawn i mi yn y gogledd yn ystod fy ymweliadau dros yr haf oedd bod rhai enghreifftiau o adrannau lle maen nhw'n gweithio'n dda iawn gyda'i gilydd ar draws y tri safle allweddol, ac roedd eraill lle'r oedden nhw yn eu parthau bach eu hunain a doedden nhw ddim eisiau chwarae gyda'i gilydd. Ac rwy'n credu y byddai rhywfaint o arweinyddiaeth yma gan glinigwyr yn ddefnyddiol iawn, dim ond i weld—. Mae'n rhaid i ni gadw mewn cof beth sydd orau i gleifion yn y fan yma, a chadw ein ffocws ar yr hyn sydd orau i gleifion rwy'n credu yw'r ffordd i edrych ar hyn. Ond roedd yn amlwg i mi fod arweinyddiaeth rhai clinigwyr wrth dynnu'r tair prif ganolfan at ei gilydd yn gweithio'n dda iawn mewn rhai adrannau, ac nid cystal mewn eraill. Rwy'n credu unwaith eto fod pethau i'w dysgu yn y fan yna.

O ran hybiau gofal yr unfed ganrif ar hugain, byddwch chi'n deall bod her aruthrol gennym ni o ran cyllid cyfalaf—her aruthrol—ac rydyn ni wedi gwneud ymrwymiad eisoes—rwy'n credu ein bod yn y camau olaf, felly efallai na fydd yn ymrwymiad cwbl gadarn, ond rydyn ni bron yno—ar yr uned iechyd meddwl i oedolion yng Nglan Clwyd, nad yw'n mynd i fod yn rhad; rwy'n credu ein bod ni'n sôn am fuddsoddiad o £70 miliwn. Felly, mae hynny'n rhywbeth rydyn ni'n edrych i'w weld yn datblygu. Rydyn ni'n edrych ar ddatblygu hyb orthopedig newydd yn Llandudno, ond nid yw hynny'n mynd i ddigwydd oni bai ein bod yn gweld gwelliannau cyson o ran cyfraddau cynhyrchiant mewn perthynas â llawfeddygaeth orthopedig. Maen nhw'n mynd i'r cyfeiriad cywir, rwy'n falch iawn o ddweud. Ac yna'r peth arall, wrth gwrs, yw ein bod yn cael digwyddiadau annisgwyl sy'n ein taro, fel concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth. Mae'r gyllideb gyfalaf yn gyllideb ganolog Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, felly pan fydd rhywbeth fel RAAC yn ymddangos yn ysbyty Llwynhelyg, lle mae'n rhaid i ni ddod o hyd i £12.8 miliwn yn sydyn i atgyfnerthu'r cyfleuster, yna mae'n rhaid i bethau fynd rhywle arall. Does dim mwy o arian ar gyfer y pethau hynny. Ond o ran yr hybiau gofal iechyd, mae chwe phrosiect rydyn ni'n eu hystyried yn y gogledd, ac mae dau rwy'n gobeithio yn mynd i gael eu datblygu'n fuan, un yng Nghonwy ac un ym Mhenygroes. Felly, mae pethau'n datblygu o ran yr hybiau gofal iechyd hynny. 

17:40

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am y datganiad y prynhawn yma. Roeddech chi'n iawn, rwy'n credu, i dynnu sylw at rai o'r pryderon a'ch bod yn canolbwyntio ar iechyd meddwl yn benodol, a gwasanaethau orthopedig hefyd. Rwy'n credu bod eich crynodeb tuag at y diwedd, lle rydych chi'n dweud yn glir bod llawer o waith i'w wneud o hyd, yn asesiad teg ar hyn o bryd fwy na thebyg. 

Rwyf eisiau gwneud dau bwynt byr. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn i dynnu sylw at rai o'r llwyddiannau tuag at ddechrau eich datganiad, yn enwedig o ran defnyddio deallusrwydd artiffisial a'r datblygiadau hynny mewn llawdriniaeth laser hefyd, ac maen nhw'n bwysig iawn. Dydw i ddim eisiau bychanu'r rhain. Ond y pethau y mae fy nhrigolion yn dod ataf yn eu cylch yw'r hyn y bydden nhw'n ei ystyried yn ddisgwyliadau sylfaenol o ran gweld eu meddyg teulu yn gyflym ac yn hawdd, a chael eu gweld yn gyflym ac yn effeithiol mewn unedau damweiniau ac achosion brys hefyd. Felly meddwl oeddwn i, gyda'r holl waith hwn yn digwydd, a'r holl arloesi sy'n digwydd, sut ydych chi'n mynd i gadw'r ffocws penderfynol hwnnw ar sicrhau bod y pethau sylfaenol hynny—yr hyn y byddai fy nhrigolion yn ei ystyried yn bethau sylfaenol—yn cael eu cyflawni mewn ffordd dda?

A fy ail bwynt, yn fyr iawn, yw eich bod ar ddiwedd eich datganiad yn dweud ein bod ni ar ddechrau taith hir, ac mae taith yn golygu efallai fod diwedd ar hyn i gyd ar ryw adeg, yr oedd Russell George yn cyfeirio ato yn gynharach. Ond tybed pa sicrwydd y gallwch chi barhau i'w roi inni na fydd y bwrdd iechyd yn cael ei dynnu allan o fesurau arbennig yn rhy gynnar, fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol efallai, i sicrhau bod y gefnogaeth honno a'r ffocws hwnnw'n parhau i gael ei roi ar y bwrdd iechyd, hyd nes y bydd yn perfformio fel y byddem ni i gyd yn disgwyl iddo wneud. Diolch yn fawr iawn. 

Diolch yn fawr iawn. Rydych chi'n hollol iawn; rwy'n credu bod ffocws penodol ar iechyd meddwl, ac mae fy nghyd-Aelod Lynne Neagle, rwy'n gwybod, yn cadw llygad barcud ar yr hyn sy'n digwydd yn Betsi o ran iechyd meddwl. Rydyn ni wedi gweld rhai gwelliannau o ran perfformiad iechyd meddwl hefyd, felly rwy'n falch iawn bod hynny wedi digwydd. Cafodd 84 y cant o oedolion eu hasesu o fewn 28 diwrnod, felly nid yw hynny'n ffigwr gwael o'i gymharu â 73 y cant ym mis Chwefror. Felly, mae hynny, unwaith eto, yn rhywbeth yr wyf yn credu y dylem ni fod yn ei ddathlu, ac mae gwelliant hefyd wedi bod mewn perthynas ag iechyd meddwl plant ers mis Chwefror. Mae hyn i gyd o dan fesurau arbennig, felly mae pethau'n dechrau gwella, ond fel rwy'n ei ddweud, mae yna ffordd bell i fynd.

Rydych chi'n iawn; mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar y materion sylfaenol ar yr un pryd. Mae 90 y cant o bobl yn cael eu gofal iechyd drwy feddygfeydd meddygon teulu, mae 1.5 miliwn o bobl yn mynd i weld meddygon bob mis yng Nghymru, felly dyna pam mae cael gweld meddyg yn hanfodol. Ond gadewch i ni fod yn glir: nid yw bob amser yn mynd i fod yn feddyg. Mae gennym ni fodel newydd nawr. Mae'n ymwneud â sicrhau eich bod yn cyrraedd y person iawn, y person mwyaf priodol i chi, ac weithiau nid yw hynny'n mynd i fod yn feddyg. Dyna pam mai un o'r pethau rydyn ni wedi'i wneud yw bod gennym ni'r contract newydd gyda meddygon teulu, ac rydw i'n sicr wedi sylwi yn fy mag post bod y nifer o ran mynediad i feddygfeydd meddygon teulu wedi gostwng yn sylweddol. Bydd gen i ddiddordeb mawr mewn clywed os yw hynny'n wir yn—. Os ydych chi'n dal i glywed llawer o sŵn gan feddygfeydd meddygon teulu penodol, byddwn i'n gofyn i fyrddau iechyd roi gwybod i mi, oherwydd rwy'n credu bod y contract hwnnw wedi gwneud gwahaniaeth, ac yn sicr mae'n ymddangos i mi fod y nifer wedi gostwng.

Fel rydych chi'n ei ddweud, rydyn ni ar daith. Yr hyn sy'n amlwg yw bod angen i ni fod â rhai meini prawf ar gyfer sut rydych chi'n dod allan o fesurau arbennig. Ond un o'r pethau y byddaf yn awyddus iawn i'w osgoi yw na ddylem ddisgwyl i Betsi gyflawni safonau uwch nag yr ydym yn eu disgwyl gan bawb arall, chwaith. Wyddoch chi, mae yna fyrddau iechyd eraill sy'n gwneud pethau'n dda iawn neu'n gwneud pethau ddim cystal, felly yr hyn dydw i ddim ei eisiau yw aros nes bod popeth yn berffaith cyn tynnu Betsi allan. Felly, mae cael y meini prawf hynny'n iawn yn mynd i fod yn bwysig iawn, ond dydyn ni ddim mewn sefyllfa eto i bennu'r meini prawf hynny.

17:45
6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Diweddariad ar Cenedl Noddfa

Eitem 6 y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: diweddariad ar genedl noddfa. Galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am gynnydd dros fisoedd yr haf o ran ein rhaglen cenedl noddfa. Yn ôl data'r Swyddfa Gartref, ar 12 Medi, mae noddwyr o Gymru bellach wedi croesawu dros 7,050 o Wcreiniaid ers i'r ymosodiad llawn ar Wcráin ddechrau ym mis Chwefror 2022. Rydym ni'n parhau i ddarparu'r cymorth gorau posibl i sicrhau y gall y rhai sy'n cyrraedd Cymru integreiddio'n effeithiol.

Mae ein llwybr uwch-noddwyr llwyddiannus bellach wedi noddi dros 3,200 o unigolion sydd wedi cyrraedd y DU. Gan weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, teuluoedd lletya a'n partneriaid trydydd sector, rydym ni wedi cynorthwyo dros 2,300 o bobl a ddechreuodd gydag uwch-noddwyr i symud ymlaen i lety tymor hwy, ac erbyn hyn mae llai na 500 o unigolion yn parhau i gael eu lletya'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Yn unol â'n strategaeth symud ymlaen tymor hwy, mae hyn wedi ein galluogi i leihau ein hystâd llety gychwynnol o dros 40 o leoliadau i oddeutu 10 sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd. Byddwn yn parhau i weithredu'r cynllun hwn dros y misoedd nesaf, gan helpu pob un o'n gwesteion i ddod o hyd i lety tymor hwy lle gallan nhw gael mwy o annibyniaeth ac ymgynefino.

Mae awdurdodau lleol a'r sefydliadau trydydd sector yr ydym ni'n eu hariannu yn allweddol i'n helpu i ddod o hyd i gynigion cynaliadwy o lety, yn enwedig o ystyried y pwysau tai ehangach ledled Cymru. Hoffwn dalu teyrnged hefyd i ymdrechion rhyfeddol awdurdodau lleol ledled Cymru, yn enwedig Caerdydd a Bro Morgannwg, o ran cynorthwyo ein teuluoedd o Affganistan i symud ymlaen yn llwyddiannus o'r gwestai a gaffaelwyd gan y Swyddfa Gartref, a gaeodd fis diwethaf. Er gwaethaf yr her enfawr hon, dim ond tri theulu fydd yn rhaid iddyn nhw gael eu cynorthwyo mewn llety dros dro. Gyda mwy o rybudd gan Lywodraeth y DU, gellid bod wedi osgoi'r nifer fach hon hyd yn oed. Mae dull tîm Cymru wedi bod yn allweddol, unwaith eto, o ran atal y canlyniadau mwyaf niweidiol rhag digwydd.

Yn anffodus, er gwaethaf llwyddiant cau'r gwestai hyn, rydym ni hefyd wedi gweld rhai sefyllfaoedd negyddol iawn yn datblygu dros yr haf. Mae'r Aelodau yn ymwybodol o'r sefyllfa yng Ngwesty Parc y Strade. Cynhaliwyd rhith-wasanaeth gwybodaeth amlasiantaeth ar gyfer cymuned Llanelli ym mis Awst a chynhaliwyd sesiwn holi ac ateb, dan arweiniad y Swyddfa Gartref, i ateb cwestiynau'r cyhoedd—bydd y sesiwn holi ac ateb honno yn cael ei chyhoeddi yn fuan iawn. Mae hyn yn helpu i gywiro'r gamwybodaeth sydd wedi lledaenu yn y gymuned. Nid yw pobl ar fin cael eu symud i mewn i'r gwesty, ac rydym ni'n parhau i weithio gyda'r holl bartneriaid i hyrwyddo dealltwriaeth a chydlyniant cymunedol.

Dros yr haf, fe wnaeth Gweinidogion Cymru ac arweinwyr awdurdodau lleol Cymru gyfarfod i drafod y problemau niferus gyda gweithrediad presennol system llety ceiswyr lloches y Swyddfa Gartref. Rydym ni i gyd yn cydnabod bod angen dull gwahanol i atal dulliau ymrannol a gwrthgynhyrchiol, fel yr hyn a welwyd ym Mharc y Strade. Cyn bo hir, byddwn ni a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cysylltu â Llywodraeth y DU i geisio dull diwygiedig gan y Swyddfa Gartref i sicrhau y gall Cymru barhau i chwarae rhan lawn i gynorthwyo ceiswyr lloches yn seiliedig ar ein hegwyddorion, sy'n parchu ein gweledigaeth o fod yn genedl noddfa. Er enghraifft, nid yw'n dderbyniol bod darparwr llety'r Swyddfa Gartref yn cymryd gwestai drosodd ac yn diswyddo'r gweithlu, neu y caniateir i wactod gwybodaeth ddatblygu, sy'n gwahodd camfanteisio gan y dde eithafol. Byddwn yn cynnig ffordd well o wneud pethau, wedi'i hysbysu gan y profiadau a'r gwersi yr ydym ni wedi eu dysgu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Rydym ni wedi galw'n gyson am benderfyniadau cyflymach o ran y ceisiadau lloches sydd wedi pentyrru, ond mae ffigurau'r Swyddfa Gartref ei hun yn dangos bod ôl-groniad cyffredinol y gwaith achos lloches oddeutu 175,000 o achosion erbyn hyn. Ar 20 Gorffennaf, rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Mudo Anghyfreithlon 2023, ac mae hyn fwy na thebyg yn mynd i waethygu'r sefyllfa. Nid yw'r Swyddfa Gartref wedi gweithredu eto y darpariaethau yn y Ddeddf sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r Ysgrifennydd Cartref symud ceiswyr lloches o'r DU. Mae hyn yn cydnabod bod y Ddeddf yn anymarferol ar ei ffurf bresennol. Serch hynny, mae'r Ddeddf yn golygu y bydd ceiswyr lloches yn wynebu ansicrwydd tan y gall y Swyddfa Gartref benderfynu sut i symud unigolion o'r DU. Rydym ni'n disgwyl i'r Goruchaf Lys glywed apêl Llywodraeth y DU yng nghyswllt cynllun Rwanda fis nesaf, yr ydym ni'n ei wrthwynebu.

Rydym ni'n disgwyl i Ddeddf 2023 gael effaith negyddol ddifrifol ar ein gallu i gynorthwyo ceiswyr lloches i integreiddio'n llawn i fywyd Cymru. Bydd yn golygu y gall Gweinidogion y DU dynnu plant agored i niwed allan o ofal awdurdodau lleol Cymru a'u hanfon o'r DU. Bydd yn golygu na all ein GIG yng Nghymru elwa o feddygon sy'n ffoaduriaid yn y ffordd yr ydym ni wedi ei wneud ers blynyddoedd lawer. A bydd yn golygu y bydd mwy o bobl yn cael eu hecsbloetio yn ein cymunedau lleol, o bosibl yn gweithio'n anghyfreithlon ac yn byw mewn amddifadedd parhaus yn ofni dod i sylw swyddogion mewnfudo. Gwelsom yn ystod y pandemig sut y gallai'r ofn hwnnw danseilio arferion iechyd cyhoeddus da. Yn ddiweddarach eleni, bydd Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar drothwy llwybrau diogel a chyfreithiol. Rydym ni wedi cyfarfod â swyddogion y Swyddfa Gartref ac wedi cytuno y byddwn ni'n ymgynnull gweithdy yng Nghymru i sicrhau cyfranogiad llawn yn yr ymgynghoriad hwnnw. A byddwn yn parhau i fonitro gweithrediad y Ddeddf yn ystod y misoedd nesaf.

Yr wythnos diwethaf cefais fy holi am y gwaith yr ydym ni'n ei wneud i barhau i ddarparu cymorth i bobl o Wcráin. Rydym ni'n parhau i annog Llywodraeth y DU i rannu ei chynlluniau ar gyfer deiliaid fisa o Wcráin yn y DU y tu hwnt i'w harhosiad tair blynedd. Rydym ni tua hanner ffordd trwy'r cyfnod fisa hwnnw, ac eto mae'r rhyfel yn dal yn ei anterth. Rydym ni'n cydnabod bod angen i'r DU weithredu'n ofalus ac ar y cyd â gwledydd eraill, ond mae angen i'n gwesteion a'n cymdogion allu cynllunio ar gyfer eu dyfodol. Rydym ni hefyd yn annog ailgyflwyno'r cyllid tariff integreiddio gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, a gafodd ei dorri ar gyfer blwyddyn 2, a pharhau i gynnig taliadau 'diolch' i letywyr. Mae unigolion wedi gwneud peth rhyfeddol o ran cynorthwyo dros 3,800 o Wcreiniaid i gyrraedd cartrefi Cymru ac mae'n bwysig bod Llywodraeth y DU yn parhau i gydnabod y cyfraniad enfawr y mae hyn yn ei wneud at gynorthwyo ac osgoi digartrefedd. Rwy'n cyfarfod â Gweinidog cyfrifol y DU, Felicity Buchan, yn ddiweddarach yr wythnos hon a byddaf yn pwysleisio'r pwyntiau hyn.

Yn olaf, hoffwn roi diweddariad cryno ar ein hymrwymiad i adnewyddu'r cynllun 'Cenedl Noddfa'. Ers cyhoeddi'r cynllun presennol yn 2019, rydym ni wedi ymgymryd ag ymyriadau beiddgar a phwysig, fel y llwybr uwch-noddwyr, ein croeso i bobl o Affganistan a'r tocyn croeso, yr olaf o'r rhain yr ydym ni wedi gallu ei ymestyn tan fis Mawrth 2024. Ni allai ein cynllun ragweld y datblygiadau hyn ac ni fyddwn byth yn gallu rhagweld argyfyngau ffoaduriaid y dyfodol. Ein bwriad ar gyfer y cynllun nesaf yw canolbwyntio'n fwy manwl ar yr egwyddorion a fydd yn llywio ein penderfyniadau, gyda llai o ganlyniadau a chamau gweithredu, ond sy'n fwy sylweddol. Rydym ni'n gobeithio ymgynghori ar y cynllun hwn ym mis Rhagfyr a chyhoeddi'r cynllun diwygiedig yn 2024. Diolch.

17:50

[Anghlywadwy.] —mae 'noddfa' yn berthnasol i sut mae pobl yn cael eu trin pan fyddan nhw'n dod yma, lle, fel y clywsom ni, mae polisi mewnfudo wedi'i gyfyngu i Lywodraeth y DU. Er bod Deddf Mudo Anghyfreithlon 2023 yn ei gwneud yn ddyletswydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol i wneud trefniadau cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol i symud unrhyw un sy'n dod i'r DU yn anghyfreithlon ac nad yw wedi dod yn uniongyrchol o wlad lle roedd bygythiad i'w fywyd a'i ryddid, rydym ni i gyd yn rhannu pryderon am blant a phobl ifanc ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches. A yw'r Gweinidog yn cydnabod felly bod Llywodraeth y DU wedi datgan y bydd yn symud plentyn o'r DU cyn iddo droi'n 18 oed o dan amgylchiadau cyfyngedig iawn yn unig, fel ei aduno gydag aelodau o'i deulu?

Mae ffigurau'r Swyddfa Gartref yn dangos bod 112,294 o geiswyr lloches yn derbyn cymorth gan awdurdodau lleol ar draws y DU ar 31 Mawrth. Sut mae'r Gweinidog yn ymateb i'r ystadegau yn hyn o beth, sy'n dangos mai Cymru sydd â'r nifer leiaf o geiswyr lloches sy'n ceisio cymorth gan awdurdodau lleol ymhlith 12 gwlad a rhanbarth y DU, hyd yn oed yn is na Gogledd Iwerddon, â'i phoblogaeth lai? Fel y mae fy ngwaith achos fy hun yn tystio, mae llawer o bobl yng Nghymru yn methu â chael oddi ar restrau aros am dai, yn byw mewn tai dros dro ac anaddas oherwydd yr argyfwng cyflenwad tai cymdeithasol, anfforddiadwy yng Nghymru. Wrth ymateb i'ch datganiad ar ffoaduriaid ym mis Mehefin, sylwaf fy mod i wedi codi mater tai ac wedi cynnig tai modiwlaidd yn rhan o'r ateb. Yn eich ymateb i mi ar 9 Mai, fe wnaethoch chi gyfeirio at yr angen i symud ein gwesteion o Wcráin i lety tymor hwy, y mae rhywfaint ohono'n lety modiwlaidd, a ddatblygwyd ledled Cymru. Felly, pa ddyraniad penodol, os o gwbl, sy'n cael ei ddarparu ar gyfer ffoaduriaid, gan gynnwys y nifer fras o 500 o unigolion sy'n parhau i gael eu lletya yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw? Cyfeiriais hefyd at y gronfa o £150 miliwn i helpu Wcreiniaid i mewn i'w cartrefi eu hunain a gyhoeddwyd yn flaenorol gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys £8 miliwn i Gymru, a gofynnais i chi gadarnhau sut y byddai'r arian hwn yn cael ei ddyrannu. Yn eich ymateb, fe wnaethoch chi gyfeirio at y rhaglen gyfalaf llety trosiannol, gan ddisgrifio hon fel

'amrywiaeth o atebion llety ledled Cymru, nid tai modiwlaidd yn unig, ond hefyd dod ag eiddo gwag neu segur yn ôl i ddefnydd, gan drosi adeiladau, dymchwel, ac adeiladu rhai newydd hefyd.'

Fe wnaethoch chi ddweud hefyd eich bod chi'n sefydlu bwrdd gweinidogol ac yn ehangu cwmpas y tasglu ffoaduriaid presennol, a bod rhai o'r meysydd y byddwch chi'n eu hystyried yn cynnwys yr anawsterau y mae ceiswyr lloches yn eu hwynebu wrth geisio cael mynediad at wasanaethau'r GIG, a phryderon ynghylch diffyg llety digonol i ffoaduriaid o Wcráin sy'n cael eu noddi gan Lywodraeth Cymru; wrth gwrs, rydych chi eisoes wedi cyfeirio at hynny. Felly, beth yw'r sefyllfa bresennol o ran pob un o'r meysydd sy'n cael eu hystyried gan y tasglu hwn, gyda thystiolaeth ac ystadegau?

Rwyf i eisoes wedi tynnu sylw at bryderon a godwyd gan drigolion Neuadd Llaneurgain, Sir y Fflint, ynghylch cynlluniau i gartrefu 400 o geiswyr lloches gwrywaidd sengl yn hen Westy Northop Hall, ac rwyf i wedi cyfarfod ers hynny gyda'r preswylwyr sydd eisoes yn byw ar y safle arfaethedig. Er mai mater i'r Swyddfa Gartref yw hwn, ac rwyf wedi ei gyfeirio atyn nhw dro ar ôl tro yn unol â hynny, a ydych chi'n cytuno y dylai hawliau ac natur agored i niwed pobl sydd eisoes yn byw ar safle llety ceiswyr lloches arfaethedig fod yn hollbwysig o'r cychwyn cyntaf?

Unwaith eto, mae'r UE wedi bod yn ganolog i ddadl yn y DU am gymryd ceiswyr lloches sy'n cyrraedd y DU o'r cyfandir. Sut ydych chi'n ymateb i gytundeb yr UE i ailwampio prosesau lloches yr UE, gan sicrhau bod rhai ceiswyr lloches yn cael eu prosesu ar unwaith ar y ffin, gan ei gwneud hi'n haws dychwelyd y rhai y mae eu ceisiadau'n cael eu gwrthod a chaniatáu i wledydd yr UE roi'r gorau i brosesu pobl ar y ffin os ydyn nhw'n cyrraedd terfyn?

Hefyd, sut ydych chi'n ymateb i addewid ddoe gan Arlywydd Comisiwn yr UE ar gyfer dychwelyd yn gyflym ymfudwyr nad ydyn nhw'n gymwys i aros yn yr UE i'w gwledydd cartref, ymdrin yn llym â busnes creulon smyglo mudwyr, ac archwilio opsiynau i ehangu cenadaethau morwrol presennol ym Môr y Canoldir, neu i weithio ar rai newydd?

Yn olaf ar nodyn cadarnhaol, a wnewch chi ymuno â mi, fel llywydd NWAMI, Networking for World Awareness of Multicultural Integration, i ddymuno digwyddiad diwrnod integreiddio rhyngwladol llwyddiannus iddyn nhw ar 15 Hydref?

17:55

Diolch am y cwestiynau yna, ac wrth gwrs, fel y dywedwch chi, yn gwbl unol â chonfensiwn 1951 y Cenhedloedd Unedig ar ffoaduriaid—yr wyf i'n credu sydd mewn perygl oherwydd polisïau Llywodraeth y DU—noddfa yw sut rydym ni'n trin pobl pan fyddan nhw'n cyrraedd yma, sut rydym ni'n trin pobl pan fyddan nhw'n cyrraedd yma yng Nghymru, a diolch am gydnabod hynny ac am y gwaith yr ydych chi wedi ei wneud, ac a gaf i ddim ond—? Ie, NWAMI: a gaf i eu canmol hwythau hefyd a chydnabod y gwaith y maen nhw wedi ei wneud ac ymuno â chi yn y sylw olaf yna, gyda'r gydnabyddiaeth honno, yn y rhanbarth yr ydych chi'n ei gynrychioli?

Ac rwy'n credu, ydy, mae'n ymwneud â sut rydym ni'n trin pobl pan fyddan nhw'n cyrraedd yma, a dyna lle mae effaith ddeifiol polisïau Llywodraeth y DU, yn enwedig y Ddeddf Mudo Anghyfreithlon, yn tanseilio'r cyfle hwnnw gymaint, ond rwy'n falch eich bod chi wedi cydnabod anghenion plant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches, ac rwy'n falch hefyd y bu rhywfaint o sicrwydd o ran ymyrraeth gan Lywodraeth y DU. Ond mae'n rhaid i ni wynebu'r ffaith bod gennym ni Ddeddf bellach—cafodd y Bil Mudo Anghyfreithlon Gydsyniad Brenhinol; mae bellach yn Ddeddf—ac, wrth gwrs, yr hyn y mae'n ei wneud yn y gyfraith yw tanseilio mewn gwirionedd swyddogaeth yr awdurdod arweiniol, ein gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru, o ran asesu'r hyn sydd er budd pennaf plant yn eu gofal. Ac rydym ni wedi dweud, fel yr wyf i wedi ei ddweud wrth yr Ysgrifennydd Cartref yn uniongyrchol, nad yw'n dderbyniol i Lywodraeth y DU dynnu plant o ofal yng Nghymru waeth beth yw barn gweithwyr cymdeithasol proffesiynol am yr hyn sydd er budd y plentyn hwnnw. Ac mae hynny ar y llyfr statud, felly mae'n rhaid i ni sicrhau nad yw hyn yn tanseilio ein pwerau datganoledig fel y mae'n ceisio ei wneud.

Nawr, rwy'n credu, wrth gwrs, ein bod ni'n ceisio croesawu ac integreiddio, ond mae hyn yn dibynnu'n fawr ar swyddogaeth y Swyddfa Gartref—i ni chwarae ein rhan. Dyna pam, ac rwyf i wedi sôn yn fy natganiad, ein bod ni'n gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i drafod mewn gwirionedd â'r Swyddfa Gartref. Ac rwyf i wedi dweud yn fy natganiad y byddwn ni'n cyflwyno i Lywodraeth y DU y cyfle i ni gymryd cyfrifoldeb Cymru gyfan cryfach o ran gwasgaru, ond mae ein hawdurdodau lleol, ein harweinwyr y gwnes i gyfarfod â nhw yn yr haf, eisiau cyflawni'r swyddogaeth honno.

Ond, wrth gwrs, y broblem yw ei bod hi'n ymddangos na all y Swyddfa Gartref ymdrin yn iawn â hyn. Mae'n rhaid i ni ddibynnu'n fawr ar y Swyddfa Gartref, a darparwr y Swyddfa Gartref—darparwr sector preifat—sy'n ceisio mynediad at westai, yn amhriodol iawn fel y gwyddom gyda Pharc y Strade, a diffyg gwybodaeth. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn arwain at anawsterau cydlyniant cymunedol, a welwyd yn eich etholaeth chi o ran Neuadd Llaneurgain. Pe baen nhw nid yn unig yn gallu ymgysylltu'n llawnach o ran cymorth a gwybodaeth gymunedol, y gwnaethom ni bwyso a phwyso amdanyn nhw ac fe wnaethom ni lwyddo i gael y sesiwn holi ac ateb gwybodaeth gymunedol honno yn y pen draw ar ôl wythnosau o'r gwrthdaro hwnnw a'r anawsterau cymunedol a achoswyd yn Llanelli gan nad oedd y Swyddfa Gartref yn fodlon esbonio beth oedd yn digwydd, pwy oedd yn dod, pryd roedden nhw'n dod, heb sôn am y ffaith a nodwyd gen i eu bod nhw wedi diswyddo pawb yn y gwesty hwnnw—swyddi a gollwyd a achosodd gymaint o bryder a cholled cymunedol.

Felly, yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud, a'r hyn yr ydym ni wedi ei ddweud gydag awdurdodau lleol wrth y Swyddfa Gartref, yw deall cwmpas a graddfa'r mater yn well er mwyn galluogi cyrff eraill i gael yr wybodaeth uwch honno cyn belled â phosibl i wneud yn siŵr bod—. A dweud y gwir, o ran eu hymrwymiad yn ystod yr wythnosau diwethaf, fe wnaethon nhw ddweud y byddan nhw'n mynd i'r afael â'r ôl-groniad hwnnw o ran yr ystyriaethau lloches. Mae angen i ni weld mewn gwirionedd 'Wel, a yw hyn yn mynd i wneud gwahaniaeth?' —175,000 ar hyn o bryd. Dyma lle mae'n rhaid i ni sicrhau bod newid.

Nawr, wrth gwrs, ceir pethau pwysig sy'n datblygu o ran ein cymorth grant cyfalaf trosiannol, sydd wedi cael ei wneud ar gael gan y Gweinidog Newid Hinsawdd. A gaf i ddweud fy mod i'n cadeirio'r bwrdd gweinidogol cenedl noddfa ac, wrth gwrs—a dweud y gwir, rydym ni'n cyfarfod yfory—rydym ni'n ymdrin â'r holl faterion yr wyf i wedi eu hamlinellu yn fy adroddiad: diweddariadau ar Wcráin a'r ffaith ein bod ni'n llwyddo, gyda chymorth yr holl awdurdodau lleol, y trydydd sector a chymunedau a theuluoedd lletyol, i gynorthwyo gwesteion o Wcráin yma. Ac fe wnes i gyfarfod â llawer ohonyn nhw yng Nghaerffili dim ond 10 diwrnod yn ôl, a siaradais am y materion sy'n effeithio arnyn nhw.

Mae'r rhaglen gyfalaf llety trosiannol yn ariannu amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd. Mae hwnnw'n llwybr allweddol iddo yn ogystal â'r tai modiwlaidd, ailfodelu a throsi adeiladau presennol, ac mae'r unedau modiwlaidd yr ydym ni wedi eu gweld nid yn unig yng Nghaerdydd, ond roedd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn ymweld â rhai o'r datblygiadau yn yr haf ac, yn wir, ceir datblygiadau modiwlaidd ledled Cymru. Ond mae'n wir hefyd bod awdurdodau lleol yn edrych ar yr agweddau a'r rhagolygon eraill hynny o ran eiddo gwag.

Ond maen nhw'n bwriadu mewn gwirionedd, yn y flwyddyn gyntaf, gyda'r £76 miliwn hwnnw i awdurdodau lleol, cyflwyno 936 o gartrefi. Ceir ceisiadau newydd ar gyfer y flwyddyn ariannol hon a byddwn yn parhau i weithio gyda'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol i ddarparu'r cartrefi hynny fel y gallwn ni symud ymlaen a gweld bod hyn yn ymwneud â diwallu'r holl anghenion tai oherwydd, fel y dywedwch chi, Mark, mae hyn yn ymwneud ag anghenion tai Cymru—mae'n ymwneud ag anghenion tai Cymru—ac mae hynny'n rhan o'r ffordd yr ydym ni'n symud ymlaen o ran cydlyniant a chymorth cymunedol. Felly, fel y dywedwch chi, o'r dechrau mae'n ymwneud â noddfa, sut rydym ni'n trin pobl. Hoffem ni gael mwy o reolaeth dros sut y gallwn ni wedyn groesawu a chynorthwyo'r ceiswyr lloches i ddod i Gymru, fel yr ydym ni wedi ei wneud gyda'n ffoaduriaid a'n gwesteion o Affganistan, fel yr ydym ni wedi ei wneud gyda'n gwesteion o Wcráin, fel y gwnaethom ni gyda'n ffoaduriaid o Syria. Ac mae ein hawdurdodau lleol yn barod i gydweithio i sicrhau y gall hyn ddigwydd.

18:05

Yr agwedd fwyaf digalon ar wleidyddiaeth, yn fy marn i, yw pan fydd pobl agored i niwed yn cael eu defnyddio fel pêl droed wleidyddol. Nid yw eu bywydau, eu diddordebau a'u llesiant yn cael eu hystyried mewn cyd-destun dynol ond mewn cyd-destun ideolegol. Pa mor aml dros y misoedd diwethaf ydym ni wedi gweld y rhai y bu'n rhaid iddyn nhw beryglu eu bywydau i gyrraedd ein glannau, peryglu bywydau eu plant, gan nad oes unrhyw lwybrau diogel a chyfreithiol ar eu cyfer nhw? Pa mor aml ydym ni wedi gweld anghenion a lles y bobl anobeithiol hyn, sy'n frodyr a chwiorydd i ni, yn cael eu troi'n deganau gwleidyddol, yn destun rhethreg poblyddiaeth noeth nad yw â'r bwriad o helpu i ddiwallu eu hanghenion ond i ennill etholiadau? Mae'n ddigalon ac yn gwbl anghyson ag ymrwymiad Cymru i fod yn genedl noddfa.

Mae'r rhai sy'n cynorthwyo ffoaduriaid, fel prif weithredwr Care4Calais, wedi dweud bod Llafur y DU, yn hytrach nag ychwanegu rhywfaint o barch a thosturi at y ddadl am ffoaduriaid yr wythnos diwethaf, wedi dewis adlewyrchu'r castiau a'r rhethreg ymrannol a ddefnyddir gan y Ceidwadwyr. A ydych chi'n cytuno, Gweinidog, bod prif nod hunan-ddatganedig Keir Starmer o sicrhau nad yw pobl yn croesi'r sianel yn y lle cyntaf, bod ei bwyslais i 'chwalu'r gangiau', a'i ddewis o eiriau, yng ngeiriau llywydd newydd y TUC, Matt Wrack, mewn perygl o ymostwng i rethreg asgell dde y Torïaid ar fewnfudo?

Rydych chi'n dweud yn eich datganiad yr hoffech chi weld mwy o bwyslais ar egwyddorion yn y cynllun 'Cenedl Noddfa' newydd. A ydych chi'n cytuno â Phlaid Cymru bod yn rhaid i ni hyrwyddo gwahanol ddull o ymdrin â ffoaduriaid sy'n pwysleisio pwysigrwydd dynoliaeth gyffredin fel sail i'r confensiwn ffoaduriaid? Mae eich Llywodraeth chi eisiau i Gymru fod yn genedl noddfa, ac eto mae Keir Starmer yn gwrthwynebu datganoli pwerau allweddol i Gymru i gyflawni'r uchelgais hwn, fel lles a nawdd cymdeithasol. Os ydym ni eisiau adeiladu gwlad dosturiol sy'n cynorthwyo ffoaduriaid, a ydych chi'n cytuno bod yn rhaid i ni gael y pwerau i wneud hynny? Mae'n rhaid i ni gael y pwerau i gefnogi'r egwyddorion hynny.

Er gwaethaf y rhethreg gadarn, nid yw Keir Starmer wedi amlinellu sut y bydd yn mynd i'r afael â'r problemau gwirioneddol sy'n wynebu ffoaduriaid a cheiswyr lloches, fel yr angen am well llety, cyngor cyfreithiol mwy hygyrch, a sut y bydd hawliau dynol pobl yn cael eu parchu yn rhan o unrhyw gytundeb dychwelyd gyda'r UE. Felly, os gwelwn ni Lywodraeth Lafur yn y DU ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf, sut wnaiff Llywodraeth Lafur Cymru sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn genedl noddfa, a pha sgyrsiau ydych chi wedi eu cael gydag arweinydd y Blaid Lafur ynghylch sut y gallai ei safbwynt effeithio ar ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin â cheiswyr lloches?

Hoffwn gysylltu Plaid Cymru â'ch sylwadau, Gweinidog, am ddull tîm Cymru. Ond, fel y soniais yr wythnos diwethaf gyda chi am y sefyllfa yr ydym ni wedi ei gweld yn datblygu yn Llanelli, y bydd yr Aelodau wedi ei gweld yno, ac yn wir y tu allan i'n Senedd heddiw, mae peryglon polisïau annoeth a chreulon y DU wedi arwain at dwyllwybodaeth yn creu rhaniadau, casineb a hiliaeth, a grwpiau asgell dde, fel y dywedwch chi, yn manteisio ar bryderon pobl leol. Rydych chi'n dweud yn eich datganiad y gwnewch chi gynnig ffordd well o wneud pethau, a gymeraf i olygu cynorthwyo pobl yn ein cymunedau. Felly, sut wnewch chi gynorthwyo awdurdodau lleol i wneud hynny? Pa gamau ymarferol, yn ogystal â sicrhau gwell gwybodaeth, fel yr amlinellwyd gennych, allwch chi eu cymryd?

Fe wnaethoch chi gyfeirio hefyd yn eich datganiad at y tocyn croeso fel un o'r mesurau sy'n cael ei gymryd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod croeso i ffoaduriaid yma ac i'w helpu i integreiddio i gymdeithas. Mae grwpiau sy'n cynorthwyo ffoaduriaid, fel Dinas Noddfa Abertawe, wedi tynnu fy sylw at achosion, a'r wythnos diwethaf codais bryderon gyda chi am ffoaduriaid cymwys yn cael eu rhwystro rhag teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, sydd wedi arwain at driniaeth wahaniaethol ac, mewn rhai achosion, ymosodiadau hiliol. Gweinidog, a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ynghylch yr hyn y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud ers i mi godi hyn gyda chi i sicrhau nad yw ffoaduriaid yn dioddef cywilydd a hiliaeth wrth geisio cael mynediad at y drafnidiaeth gyhoeddus am ddim y maen nhw'n gymwys i'w derbyn?

Mae ceiswyr lloches hefyd wedi cael tocynnau teithio i gyrraedd gweithdai a gweithgareddau gan y trefnwyr, ac mae hyn wedi effeithio arnyn nhw hefyd. A ydych chi wedi cysylltu, fel y gofynnais, â'r holl gwmnïau bysiau a threnau sy'n gweithredu yng Nghymru i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cydymffurfio â chynllun teithio am ddim y Llywodraeth, er mwyn osgoi'r math hwn o ofid a gwahaniaethu? Ac a ellir gwneud telerau'r cynllun yn fwy eglur ar wefan Llywodraeth Cymru? Diolch.

18:10

Diolch yn fawr, Sioned Williams. Diolch am eich cefnogaeth barhaus i'n gweledigaeth o genedl noddfa. Nid gweledigaeth yn unig yw hi; dyma sut rydym ni'n cyflawni o ran ein hegwyddorion a'n hargymhellion a'n gweithredoedd o ran bod yn genedl noddfa, sydd, fel y dywedais yn fy natganiad, yn mynd yn ôl i 2019 pan wnaethon ni gychwyn ar y daith hon i Gymru ddod yn genedl noddfa, a hefyd i gydnabod nad Llywodraeth Cymru yn unig sy'n arwain hyn, er fy mod i'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn arwain ar egwyddorion y genedl noddfa, ond, ledled Cymru, bod cynifer o sefydliadau, dinasoedd, colegau, ysgolion, trefi a phentrefi hefyd yn ymgysylltu â'r mudiad dinas noddfa, a hefyd yn croesawu hyn o ran y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Mae'n sicr yn rhan o'n 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' o ran ein nod o fod yn genedl wrth-hiliol yn rhan o'n cenedl noddfa. Ond mae'n rhaid i ni gyflawni hyn gyda'n partneriaid. Rydym ni'n cyflawni hyn gyda'n partneriaid mewn llywodraeth leol yn benodol. Ond hefyd, yn amlwg, nid yw wedi'i ddatganoli, fel y dywedwch chi, o ran y pwerau sydd gennym ni, felly mae'n ymwneud â sut rydym ni wedyn yn ymgysylltu nid yn unig o ran ein hawdurdodau lleol a'n partneriaid yng Nghymru, ein partneriaeth ymfudo strategol yng Nghymru, sy'n amlwg yn gysylltiedig â'r Swyddfa Gartref ac yn cael ei hariannu ganddi, ond sut rydym ni'n ymgysylltu â Llywodraeth y DU.

Rwyf i eisoes wedi mynegi fy ngwrthwynebiad—fy ngwrthwynebiad cryf iawn—i'r Ddeddf mudo anghyfreithlon, fel y mae nawr, a chyn hynny Deddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022. Rwy'n falch iawn o weld, o ran rhai o'r ymatebion gan arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer, y bydden nhw'n ceisio cydweithio â'r Undeb Ewropeaidd. Mae hyn yn hanfodol bwysig o ran polisi ar gyfer y dyfodol, oherwydd mae angen Llywodraeth newydd arnom ni yn San Steffan i fwrw ymlaen â hyn, a hefyd y sicrwydd na fyddai unrhyw ddefnydd o westai, cychod neu safleoedd milwrol fel llety lloches. Rwy'n siŵr y byddech chi wedi croesawu'r datganiad hwnnw, yn ogystal â recriwtio mwy na 1,000 o weithwyr achos Swyddfa Gartref i glirio'r ôl-groniad mewn ceisiadau lloches. Ac mae'n gwbl hanfodol cael gwared ar bolisi Rwanda, ac i edrych ar ffyrdd y gallwn ni fynd i'r afael â'r smyglo pobl hwnnw a chynorthwyo'r rhai sydd mewn angen dybryd. Ond mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod y ddynoliaeth gyffredin honno a'n bod ni'n dylanwadu ar bolisi, ac rwy'n credu, gan weithio gyda'n hawdurdodau lleol, mai dyna'r hyn yr ydym ni'n mynd i'w wneud gyda'n cynllun gwasgaru, a gweithio gydag awdurdodau lleol i gyflwyno, fel y dywedais, i'r Swyddfa Gartref ffordd ymlaen yr ydym ni'n credu fyddai'n gwneud gwahaniaeth.

O ran y tocyn croeso, rwy'n falch eich bod chi wedi codi hwnnw heddiw, oherwydd mae'r tocyn croeso yn rhywbeth sy'n unigryw i Gymru. Rydym ni wedi ymestyn y tocyn croeso i fis Mawrth 2024. Mae sgyrsiau pellach, wrth gwrs, yn cael eu cynnal am ddyfodol hirdymor y cynllun. Mae'n gwbl ddibynnol ar y gronfa bontio ar gyfer bysiau, ac mae sgyrsiau yn parhau er mwyn canfod ffordd ymlaen. Rwy'n bryderus iawn am yr achos y gwnaethoch chi sôn amdano, Sioned, yn Abertawe yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac rydym ni'n ymwybodol nad yw rhwystro rhywun rhag teithio yn ddigwyddiad ynysig. Rydym ni wedi cael digwyddiadau eraill. Felly, rydym ni bellach yn gweithio, gallaf eich sicrhau, gyda chwmnïau teithio ledled Cymru ac rydym ni wedi eu hatgoffa nhw am gymhwysedd, a bod cymryd rhan yn y cynllun tocyn croeso yn un o amodau buddsoddiad drwy'r gronfa bontio ar gyfer bysiau. Mae hwnnw yn arf grymus. Mae cyllid bysiau ar gael dim ond gyda'r cyfranogiad hwnnw yn y cynllun tocyn croeso, ac wrth gwrs mae hynny hefyd yn golygu, fel y soniais amdano yr wythnos diwethaf mewn ymateb i gwestiynau rwy'n credu, bod Trafnidiaeth Cymru yn ymgysylltu â Chyngor Hil Cymru ar hyfforddiant, ac mae angen i ni sicrhau bod 'Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol' yn cael ei weithredu ar bob lefel o'r ddarpariaeth o drafnidiaeth gyhoeddus. Felly, eto, archwilio pa hyfforddiant neu wybodaeth all fod ar gael i'r holl staff trafnidiaeth yn eu dyfodol newydd i helpu i atal digwyddiadau o'r fath rhag digwydd eto. Ond mae'n bwysig bod ein sylw'n cael ei dynnu ato fel hyn fel y gallwn ni fynd i'r afael ag ef.

Nawr, yr hyn sydd gennym ni, rwy'n credu, yw hanes da o ran y gwaith yr ydym ni wedi ei wneud, yn enwedig o ran cynorthwyo gwesteion o Wcráin—y tasglu yn gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol, y trydydd sector, partneriaid allweddol fel Housing Justice Cymru, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, yr ydym ni'n ei ariannu, gan eu helpu nhw i symud ymlaen i lety tymor hwy, lle gallan nhw gael annibyniaeth a byw bywydau mwy sefydlog. Rydym ni eisiau hynny i geiswyr lloches sy'n dod i Gymru. Rydym ni eisiau i westeion ddod atom ni a gwybod ein bod ni'n chwilio am gyfleoedd iddyn nhw o ran cyflogaeth, o ran Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill, ac o ran cyfleoedd trafnidiaeth.

A gaf fi ddweud i gloi, dros nifer o flynyddoedd—ac mae hyn yn ymateb i'r cwestiynau y prynhawn yma—mae awdurdodau lleol Cymru, gyda'n cymorth ni, wedi darparu cymorth hanfodol i'r Swyddfa Gartref ar amrywiaeth o lety wrth gefn i geiswyr lloches a lleoliadau i bobl ifanc, gan gamu ymlaen ar fyr rybudd yn aml, ac mae hynny'n cynnwys pobl ifanc ar eu pen eu hunain sy'n chwilio am loches? Dylai Llywodraeth y DU gydnabod ei dibyniaeth ar Lywodraethau datganoledig, ar Lywodraeth Cymru, ac ar ein hawdurdodau lleol, i ddarparu'r gwahanol gynlluniau yn briodol, a chydnabod y cymorth hirsefydlog. Oes, mae angen llwybrau diogel a chyfreithlon arnom ni. Mae gennym ni lwybrau diogel, cyfreithlon gyda'r cymorth i bobl o Affganistan ac Wcráin, ac roedd gennym ni gyda Syria. Mae angen y llwybrau diogel a chyfreithlon hynny arnom ni, ac rwy'n croesawu eich cymorth a'ch cefnogaeth, rwy'n siŵr, o bob rhan o'r Siambr, i sicrhau y gallwn ni barhau i gydweithio gyda'n hawdurdodau lleol i wneud ein dadl, a hefyd i wneud ein pwynt am effeithiolrwydd llwybrau diogel a chyfreithlon, i sicrhau y gallwn ni ddod yn genedl noddfa wirioneddol.

18:15

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Gweinidog, am eich datganiad, ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi ein bod ni angen i bob rhan o gymdeithas a phob sefydliad yng Nghymru ddod ymlaen a chefnogi'r genedl noddfa yr ydym ni. Ac yn y goleuni hwnnw, Gweinidog, fe wnaethoch chi sôn am ysgolion, a tybed a fyddech chi'n cytuno â mi ei bod hi'n bwysig iawn bod ysgolion yn gosod esiampl dda, o ran y presennol a'r dyfodol, yn eu gweithgareddau o ran y materion hyn, ac yn ymuno â mi i ganmol Ysgol Uwchradd Llyswyry yn Nwyrain Casnewydd, a gynhaliodd wythnos ddiwylliannol rhwng 19 a 23 Mehefin, ag amrywiaeth o weithgareddau, gwasanaethau arbennig ar ddiwylliant yn y gymuned, gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth, cystadlaethau, cyngerdd, gweithgareddau chwaraeon, a diwrnod pan gafodd disgyblion a staff eu hannog i ddod i'r ysgol mewn gwisg genedlaethol. Rwy'n credu eu bod nhw'n gosod esiampl dda iawn. Maen nhw'n gwasanaethu ardal amlddiwylliannol, Gweinidog, ac mae ganddyn nhw ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn yr ysgol, ac rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i ganmol eu cyfraniad at wneud Cymru yn genedl noddfa go iawn.

Diolchaf i John Griffiths, ac, rwy'n credu, yn ein holl etholaethau, bod gennym ni'r ysgolion noddfa hynny. Yn sicr, fe wnes i ymweld â llawer yn ystod yr wythnos ysgolion noddfa. Am bobl ifanc i ysbrydoli—Ysgol Uwchradd Llyswyry—gyda'u hwythnos ddiwylliannol. Ac a gaf i eu llongyfarch nhw? Rwy'n gwybod y bydd yr hyn a wnaethon nhw yn mynd i gael ei adlewyrchu yn y ffordd y maen nhw'n meddwl, yn gweithio ac yn dysgu drwy gydol y flwyddyn, nid yn ystod yr wythnos noddfa yn unig. Ond mae gennym ni lawer i fod yn falch ohono, llawer i adeiladu arno, yng Nghymru, a gwn mai dyna lle'r ydym ni'n troi i roi ein cefnogaeth i'n hysgolion, i'n awdurdodau lleol, i'n colegau, i'n prifysgolion, i'n cynghorau tref a sir, ac, yn wir, i'r rhai yn y cymunedau ac mewn cymdogaethau sy'n cynorthwyo ein ceiswyr noddfa yma yng Nghymru. 

7. Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 9) 2023

Diolch i'r Gweinidog. Eitem 7 sydd nesaf, Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 9) 2023. A galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i wneud y cynnig—Jeremy Miles. 

Cynnig NDM8351 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 9) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mehefin 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ac mae'n bleser cael agor y ddadl hon ar Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 9) 2023, sy'n galluogi Comisiynydd y Gymraeg i osod safonau ar gwmnïau dŵr. Mae dros 130 o gyrff eisoes yn dod o dan safonau. Bydd cynnwys cwmnïau sy'n darparu dŵr i'r cyhoedd yng Nghymru o dan y drefn safonau yn ein symud ni i sector a maes newydd.

18:20

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae'r rheoliadau wedi'u paratoi yn benodol ar gyfer y cwmnïau dŵr. Mae'r safonau yn canolbwyntio ar y gwasanaethau mae'r cwmnïau'n eu darparu i'r cyhoedd, sydd â’r potensial i gynyddu defnydd o'r Gymraeg. Rydym wedi paratoi safonau sy'n cwmpasu'r gwahanol ffyrdd y mae'r cyhoedd yn cyfathrebu â'r cwmnïau hyn.

Mae'n werth nodi, am y tro cyntaf, ein bod ni wedi cynnwys safonau ar gyfer gwasanaethau sgwrsio ar-lein yn y rheoliadau. Mae'n bwysig inni gadw lan gyda datblygiadau technolegol wrth baratoi rheoliadau, a gan fod cwmnïau dŵr, fel nifer o sectorau eraill, yn gwneud defnydd cynyddol o gyfleusterau sgwrsio ar-lein i gyfathrebu gyda'u cwsmeriaid, roedd hi'n bwysig cynnwys safonau ar gyfer y gwasanaethau hynny. Mae safonau ar gyfer apiau yn y rheoliadau hefyd—enghraifft arall o sut gall safonau helpu i normaleiddio’r Gymraeg mewn datblygiadau technolegol.

Mae'r pedwar cwmni sy'n darparu dŵr yng Nghymru mewn mannau gwahanol o ran darparu gwasanaethau yn Gymraeg. Mae gan Dŵr Cymru hanes hir mewn darparu gwasanaethau Cymraeg o safon, ac yn enghraifft o arfer dda i gyrff o sectorau eraill. Maen nhw a chwmni Hafren Dyfrdwy wedi bod yn dilyn cynllun iaith ers sawl blwyddyn. Rwy'n disgwyl felly iddyn nhw drosglwyddo'n llyfn i'r drefn safonau. Nid yw’r ddau gwmni arall, Leep Utilities ac Icosa, yn dilyn cynllun iaith ar hyn o bryd. Ble bynnag mae'r cwmnïau ar eu taith iaith, rwy'n gwybod bydd y comisiynydd a phartneriaid eraill, fel y ganolfan dysgu, wrth law i helpu pob cwmni i gynyddu capasiti i ddarparu gwasanaethau Cymraeg ac i'w helpu i ddarparu gwasanaethau o safon.

Gaf i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am graffu ar y rheoliadau cyn toriad yr haf? Yn dilyn derbyn adroddiad y pwyllgor, fe wnes i benderfynu ailosod fersiwn wedi'i ddiwygio o'r memorandwm esboniadol. Mae'r memorandwm esboniadol nawr yn ei gwneud hi’n glir pa bedwar cwmni sy'n dod o dan y rheoliadau ar hyn o bryd. Nid ydym wedi enw’r cwmnïau yn y rheoliadau gan ein bod ni am i'r comisiynydd fedru gosod safonau ar unrhyw gwmni newydd fydd yn darparu dŵr i'r cyhoedd yng Nghymru yn y dyfodol. Byddai enwi’r cwmnïau yn y rheoliadau yn cyfyngu gallu’r comisiynydd i osod safonau ar gwmnïau newydd pe bai strwythur y sector yn newid yn y dyfodol.

Mae’r cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru yn ymrwymo i baratoi safonau ar gyfer sectorau a chyrff penodol, gan gynnwys cwmnïau dŵr. Mae cyflwyno’r rheoliadau hyn gerbron y Senedd heddiw yn gam pellach mewn cyflawni hynny.

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.

Diolch, Llywydd. Fe wnaethom ni drafod y rheoliadau hyn ar 11 Medi, ac mae ein hadroddiad ar gael ar yr agenda heddiw i hysbysu'r Aelodau yn y ddadl y prynhawn yma.

Mae ein hadroddiad ar y rheoliadau yn cynnwys dau bwynt teilyngdod yn unig, a dim ond un ohonyn nhw oedd angen ymateb gan Lywodraeth Cymru, ac rwy'n ddiolchgar iawn am yr ymateb a gawsom ni.  

Nawr, fel y mae'r Gweinidog wedi ei amlinellu, mae'r rheoliadau hyn yn nodi'r safonau o ran ymddygiad ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth a gyflwynir yn Atodlen 4 i'r rheoliadau, y cyfeirir atyn nhw yn y rheoliadau fel 'cyrff'.

Nawr, mae'r cyntaf o'n pwyntiau adrodd yn nodi mai ystyr 'corff' yn y rheoliadau hyn yw person sy'n dod o fewn un categori neu'r ddau gategori o bersonau sydd wedi'u rhestru yn Atodlen 4. Mae Atodlen 4 yn rhestru personau sy'n darparu gwasanaethau dŵr neu garthffosiaeth i'r cyhoedd ac sydd, yn rhinwedd penodiad o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 neu yn rhinwedd amrywiad i benodiad o'r fath o dan adran 7 o'r Ddeddf honno, yn ymgymerwyr dŵr neu garthffosiaeth ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran ohoni.

Nawr, ni all aelod o'r cyhoedd sy'n darllen y rheoliadau hyn adnabod yn hawdd y cyrff sydd wedi'u cwmpasu gan Atodlen 4, ac er ein bod ni'n cydnabod bod Atodlen 4 wir yn ailadrodd geiriad Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac y gall y cyrff sydd wedi'u cwmpasu gan Atodlen 4, fel y dywedodd y Gweinidog, newid, rydym ni o'r farn y byddai'n caniatáu mwy o hygyrchedd pe cai'r cyrff sydd wedi'u cwmpasu gan Atodlen 4—sydd wedi'u cwmpasu gan Atodlen 4 ar hyn o bryd—yn cael eu rhestru yn ôl enw. Ond, mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym ni yn wir fod y penderfyniad i beidio â rhestru'r cwmnïau presennol sydd wedi'u cwmpasu gan yr Atodlen honno i'r rheoliadau yn ôl eu henwau wedi cael ei wneud er mwyn sicrhau hirhoedledd y rheoliadau. Felly, ym marn y Llywodraeth, efallai y bydd rhestru'r cwmnïau hynny yn ôl eu henwau yn ei gwneud hi'n ofynnol llunio rheoliadau diwygio a/neu achosi amwysedd yn wir, pe bai ymgymerwr dŵr a/neu garthffosiaeth newydd yn dechrau darparu gwasanaethau, er enghraifft.

Hefyd, dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym ni mai dim ond pan fydd yn rhaid i gorff gydymffurfio â'r hysbysiad cydymffurfio a roddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg y bydd unrhyw ddyletswyddau neu hawliau o'r fath yn berthnasol. Felly, o'r herwydd, ar yr adeg honno y byddai Comisiynydd y Gymraeg yn hysbysu'r cyhoedd am ba gyrff y mae'n rhaid iddyn nhw gydymffurfio â'r safonau hynny.

Felly, er nad yw Llywodraeth Cymru yn derbyn bod y rheoliadau drafft yn achosi unrhyw broblem o ran hygyrchedd y gyfraith, nodwn fod y memorandwm esboniadol, fel y mae'r Gweinidog wedi ei ddweud—ac rydym ni'n croesawu hynny—wedi cael ei ddiwygio er mwyn cynnwys rhestr o'r holl gyrff sydd wedi'u cwmpasu ar hyn o bryd gan y diffiniad yn Atodlen 4 i'r rheoliadau.

Ac yn gryno, nododd ein hail bwynt adrodd teilyngdod bod Gweinidogion Cymru wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar fersiwn ddrafft o'r rheoliadau hyn rhwng 15 Chwefror 2023 a 5 Ebrill 2023, a bod Gweinidogion Cymru, gan mai hwn oedd yr ail ymgynghoriad ar safonau drafft ar gyfer ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth, wedi ymgynghori am gyfnod o saith wythnos, sy'n fyrrach na'r arfer, ond hwn oedd yr ail ymgynghoriad ar y rhain. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.

18:25

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Dwi'n meddwl ei fod o'n bwysig iawn, yr hyn roeddech chi'n dweud, ynglŷn â normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg yn ein bywydau pob dydd, a bod pethau fel apiau a gwefannau yr un mor bwysig â chael ffurflenni yn eich dewis iaith, oherwydd mae'n rhwydd iawn, onid ydy, ar-lein, neu ar ap, er mwyn dod ar draws iaith, a dwi'n meddwl bod hynny i'w groesawu'n fawr. Oherwydd y defnydd digidol a'r defnydd dydd i ddydd ydy'r peth sydd yn mynd i sicrhau ein bod ni'n cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg, ond hefyd y targed sydd yna o'r defnydd o'r iaith, oherwydd dyna'r peth sy'n bwysig yma.

Yn amlwg, cyn y cytundeb cydweithio, mi oedd y rhaglen safonau wedi bod ar stop ers 2018, ac mae'n dda gweld y rhain yn ailddechrau, oherwydd, fel rydym ni wedi sôn, mae yna fanteision lu o fod yn sicrhau bod y gwasanaethau hyn ar gael. Ni ellir gwahanu cael seilwaith cadarn mewn lle oddi wrth y dyhead i greu cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, ac mae hyn, efallai, i rai, yn meddwl dyw o ddim mor bwysig â rhai o'r brwydrau sydd gennym ni, ond mae o'n bwysig o ran y normaleiddio.

A gaf i ofyn ichi, felly—dŷch chi wedi sôn yn y cytundeb cydweithio ein bod ni'n gweithio ar amryw o wahanol fesurau a rheoliadau—allwch chi roi diweddariad ar y gwaith sydd yn digwydd ar gyfer y rheoliadau eraill, megis cwmnïau rheilffyrdd?

Diolch, Llywydd. [Chwerthin.] Diolch ichi am ystyried y rheoliadau hyn heddiw. Er nad ydym yn mynd i reoleiddio'n ffordd i ffyniant yr iaith, mae gan safonau rôl i'w chwarae. Mae rheoliadau'n caniatáu felly i Gomisiynydd y Gymraeg ystyried ble mae pob cwmni ar eu taith iaith cyn gosod y safonau terfynol arnyn nhw. Mae hynny yn bwysig, ac efallai bydd e o ddiddordeb, efallai, i Huw Irranca-Davies wybod y bydd cyfle am drafodaeth rhwng y comisiynydd a'r cwmnïau cyn i'r comisiynydd osod safonau arnyn nhw. Ac mae'n bwysig y bydd y comisiynydd yn ystyried beth sy'n rhesymol i bob cwmni ei wneud, ond hefyd yn eu cynorthwyo nhw i wella gwasanaethau Cymraeg. Mae'r cymorth hwnnw yn bwysig. Wedi iddyn nhw dderbyn hysbysiad cydymffurfio, bydd o leiaf chwe mis ganddyn nhw wedyn i wneud unrhyw welliannau sydd angen eu gwneud er mwyn cydymffurfio'n llawn gyda'r safonau, felly cymryd y cam nesaf ar eu taith iaith.

I ateb y cwestiwn wrth Heledd Fychan, mae'r cynllun cydweithio, sydd yn delio â'r safonau o fewn y cytundeb, yn blaenoriaethu cyrff sydd angen paratoi safonau ar eu cyfer nhw. Y cyrff nesaf byddwn ni'n delio â nhw fydd cyrff cyhoeddus sydd ddim o dan y safonau ar hyn o bryd, a wedyn cymdeithasau tai a chwmnïau rheilffyrdd wedyn. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cefnogi'r rheoliadau yma heddiw, sy'n rhoi sylfaen ddeddfwriaethol gryfach ac yn cadarnhau hawliau siaradwyr Cymraeg.

Y cwestiwn yw, felly: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, does yna ddim gwrthwynebiad. Ac felly mae'r rheoliadau yna wedi cael eu derbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)

Yr eitem nesaf fydd y cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas ag egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru). Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig yma—Lee Waters.

18:30

Cynnig NDM8352 Lee Waters

Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Fe wnaethoch chi benderfynu bod angen cyflwyno penderfyniad ariannol ar gyfer Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru). Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol sy'n rhan o'r memorandwm esboniadol yn amlinellu'r effaith ariannol sy'n gysylltiedig â gweithredu'r Bil hwn, ac fel y nodir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, mae'r costau mwyaf arwyddocaol yn codi o'r darpariaethau gosod targedau yn y Bil, a'r costau monitro cysylltiedig. Mae modd addasu'r costau hyn fesul gradd.

O ran costau gweinyddol, mae disgwyl i'r rhan fwyaf o'r costau uniongyrchol gael eu hysgwyddo gan Lywodraeth Cymru. Mae'r costau hyn yn cynnwys costau staff i weithredu darpariaethau yn y Bil, costau sy'n gysylltiedig â sefydlu cyfres o dargedau ansawdd aer, costau parhaus i fonitro ansawdd aer, a chronfa i gefnogi awdurdodau lleol i ddatblygu'r drefn leol ar reoli ansawdd aer. Bydd rhai costau gweithredu yn gostwng i'r awdurdodau lleol, a'r bwriad yw y telir y rhain drwy'r gronfa rheoli ansawdd aer leol flynyddol gwerth £1 miliwn.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am graffu ar y Bil, a'i adroddiad cyhoeddedig. Rwyf wedi ystyried yr holl argymhellion yn llawn. Yn ogystal ag ymateb i'r rhain yn ystod y ddadl ar egwyddorion cyffredinol, rydym ni wedi darparu'r wybodaeth ychwanegol y gofynnodd argymhelliad yr adroddiad amdani. Byddaf yn cyflwyno memorandwm esboniadol diwygiedig ac asesiad effaith rheoleiddiol cyn Cyfnod 3, fel sy'n ofynnol gan y Rheolau Sefydlog. Gofynnaf i'r Senedd gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru). Diolch.

Diolch, Llywydd. Dwi'n croesawu’n fawr y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl yma heddiw ar y penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil yma, a diolch i'r Gweinidog am ei ymateb i'r pwyllgor. Mynegais farn y Pwyllgor Cyllid ar y costau sy’n gysylltiedig â’r Bil yn ystod y ddadl yr wythnos diwethaf, a dydw i ddim am ailadrodd y materion hynny eto. Fodd bynnag, dwi am ailadrodd yn fyr ein cefnogaeth i’r egwyddor o gynnal y ddadl ar benderfyniad ariannol Bil o leiaf wythnos ar ôl y ddadl ar yr egwyddorion cyffredinol, yn hytrach nag yn syth ar ôl y ddadl honno, sydd fel arfer yn digwydd. Fel y soniais yr wythnos diwethaf, hoffwn ofyn i’r Gweinidog ddarbwyllo ei gyd-Aelodau yn y Llywodraeth i ystyried ymdrin â phob Bil yn y dyfodol yn y modd hwn, fel bod mwy o amser yn cael ei ganiatáu i’r Senedd drafod goblygiadau ariannol Biliau mewn mwy o fanylder ar lawr y Siambr hon. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fo'r amcangyfrifon dan sylw yn sylweddol. Diolch yn fawr.

Does gen i ddim siaradwyr eraill. Ydy'r Dirprwy Weinidog yn moyn ymateb i hynna?

Diolch. Diolchaf i'r Cadeirydd am ei sylwadau, ac wrth gwrs byddwn yn ystyried ei gais. Gofynnaf i'r Senedd gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly mi wnawn ni gynnal pleidlais nawr yn y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Rŷn ni'n symud ymlaen yn syth i'r cyfnod pleidleisio, os nad oes yna dri Aelod sydd eisiau i fi ganu'r gloch. Heb hynny, fe wnawn ni gynnal y bleidlais. Yr unig bleidlais y prynhawn yma yw'r un ar yr eitem rŷn ni newydd ei chlywed, sef y penderfyniad ariannol mewn perthynas ag egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru). Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Lee Waters. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 14 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi cael ei gymeradwyo.

18:35

Eitem 8. Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru): O blaid: 38, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:35.