Y Cyfarfod Llawn

Plenary

05/07/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Ken Skates.  

Bioamrywiaeth

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi bioamrywiaeth yng Nghymru? OQ59771

Diolch, Ken. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi amrywiaeth o fentrau i fynd i’r afael â cholli bioamrywiaeth, gan gynnwys cynyddu graddfa ein rhwydweithiau natur a’n rhaglen weithredu genedlaethol ar fawndiroedd, a chwblhau rhwydwaith yr ardaloedd morol gwarchodedig. Bydd y rhain yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng natur ac yn cyfrannu at y gwaith o gyflawni ein targed 30x30.

Weinidog, rwy’n ddiolchgar iawn am eich ateb. Wrth gefnogi’r newid i ynni gwyrdd, mae’n amlwg fod yn rhaid inni fod yn ymwybodol o ganlyniadau anfwriadol mewn perthynas â bioamrywiaeth. Yn fy marn i, mae hydrogen yn cynnig potensial gwych i ddarparu ynni dibynadwy a glân gyda’r effaith leiaf bosibl ar fioamrywiaeth. Nawr, mae’n bosibl y bydd ffyrdd eraill o gynhyrchu ynni yn dibynnu ar greu cyfleusterau systemau storio batri mawr, ac mae bron i 400 o safleoedd ledled y DU naill ai’n weithredol neu’n cael eu datblygu. Ac mae nifer o ffrwydradau wedi digwydd yn y safleoedd hyn ledled y byd, gan gynnwys ger De Clwyd yn Lerpwl. Nawr, mae amgylcheddwyr a gwyddonwyr wedi codi pryderon ynghylch sŵn, cemegau a chanlyniadau trychinebus ffrwydradau mewn safleoedd batri, a all arwain at gymylau gwenwynig a dŵr ffo gwenwynig. Weinidog, a allech amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch datblygu ffermydd batri ïon lithiwm—yr effaith ar fioamrywiaeth? Hefyd, a yw Llywodraeth Cymru wedi penderfynu a fydd batris ceir trydan a phaneli solar ar ddiwedd eu hoes yn cael eu gwaredu yng Nghymru, gan fod ofnau amlwg y bydd y deunyddiau gwenwynig hyn yn cael eu dympio ar genhedloedd tlotaf y byd?

Ie, diolch, Ken. Fel y gŵyr pob un ohonom, mae newid hinsawdd yn un o brif achosion colli bioamrywiaeth, ac felly, bydd ynni glân yn gwbl hanfodol er mwyn cyflawni sero net a mynd i’r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur fel ei gilydd. Rydym yn ymrwymedig iawn i'r newid i system ynni glân, wedi'i phweru gan ynni adnewyddadwy, gan gynnwys hydrogen yn rhan o'r cymysgedd hwnnw, yn sicr. Ond er mwyn gwneud hynny, mae angen gallu i storio a hyblygrwydd, a bydd angen inni sicrhau ein bod yn cael gwared ar dechnoleg ar ddiwedd ei hoes, gan gynnwys pethau fel batris a phaneli solar, mewn ffordd ddiogel oherwydd y niwed y gallent ei achosi i'r amgylchedd, fel rydych wedi'i amlinellu. Felly, mae gennym Reoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff 2013 ar waith, ac mae'r rheini wedi cyflwyno system o gyfrifoldeb cynhyrchwyr, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchwyr offer trydanol ac electronig ysgwyddo'r cyfrifoldeb am drefnu i gasglu, trin ac ailgylchu cynhyrchion trydanol. Mae gan y rheoliadau gategori penodol ar gyfer paneli solar er mwyn sicrhau bod y cyllid ar gyfer casglu ac ailgylchu paneli solar gwastraff domestig ac annomestig yn cael ei ddarparu'n deg. Golyga hynny y gall cynhyrchwyr gwastraff gysylltu â chynhyrchydd neu werthwr eu paneli, a byddant hwy'n trefnu i gymryd yr eitemau yn ôl yn rhad ac am ddim i’w hailgylchu.

Mae gennym hefyd Reoliadau Batris a Chronaduron Gwastraff 2009, a gyflwynodd system debyg o gyfrifoldeb cynhyrchwyr. Unwaith eto, mae'n rhaid iddynt ddarparu gwasanaeth rhad ac am ddim i gymryd eitemau yn ôl gan y defnyddiwr terfynol. Ac mewn partneriaeth â Llywodraethau eraill yn y DU, mae Llywodraeth Cymru wrthi'n adolygu’r Rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff a’r rheoliadau batris a’r gofynion cyfrifoldeb cynhyrchwyr, gan gynnwys ystyried mesurau i hyrwyddo rhagor o adfer ac ailddefnyddio cynhyrchion trydanol ar ddiwedd eu hoes yn ogystal â gwella'r broses o ailgylchu hen fathau o fatris fel rhan o'r newid i economi gylchol. Mae angen trwydded amgylcheddol ar gyfleusterau ailgylchu a gwaredu gwastraff yn y DU i atal niwed i iechyd pobl neu’r amgylchedd, a chaiff amodau trwydded y safle eu gorfodi gan reoleiddwyr amgylcheddol y DU.

A dylwn ddweud, yn ogystal â hynny, Ken, ein bod yn falch iawn o'n perfformiad ailgylchu, fel y gwyddoch, ond ymhlith y pethau rydym yn falch ohonynt yw faint sy'n cael ei ailbrosesu yma yng Nghymru. Felly, credaf fod y pwynt a wnewch ynglŷn â pheidio ag allforio’r broblem i wledydd sy'n llai tebygol o fynd i'r afael â hi'n briodol yn un da iawn. Ac un o uchelgeisiau Llywodraeth Cymru yw ailgylchu hyd at 100 y cant o bopeth rydym yn ei gynhyrchu yma—wel, rydym wedi cyrraedd 80 y cant—a gallu defnyddio adnoddau o'r hen offer hwnnw at ddiben newydd fel rhan o’n hymdrech i greu economi gylchol. Ac rwy’n falch iawn o ddweud ein bod yn denu ailbroseswyr, fel y’u gelwir, i Gymru nawr sy'n awyddus i ddefnyddio ein deunydd eildro, felly bydd hyn yn rhan bwysig o’r cymysgedd hwnnw.

Weinidog, bydd camau diweddar gan Lywodraeth Lafur Cymru i wahardd atalyddion cebl trugarog, a’r ymgynghoriad diweddar gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar wahardd saethu i bob pwrpas yng Nghymru, yn gwneud niwed difrifol i’n cadwraeth a’n bioamrywiaeth yma yng Nghymru. Bydd y gwaharddiad ar atalyddion cebl trugarog yn atal ysglyfaethwyr rhag rheoli adar sy'n nythu ar y ddaear, a bydd gwaharddiad ar saethu yng Nghymru yn atal y gwaith gwerthfawr y mae ein digwyddiadau saethu wedi'i wneud i wella bioamrywiaeth ledled Cymru. Felly, hoffwn wybod pa asesiadau effaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r materion rwyf newydd sôn amdanynt, a'r effaith niweidiol a gaiff hynny ar fioamrywiaeth yma yng Nghymru?

13:35

Wel, fel y gŵyr yr Aelod, roedd hynny’n rhan o’r Bil amaethyddiaeth roeddem yn falch iawn o’i basio yn y Senedd yn ddiweddar, ac yn sicr, cafodd yr asesiadau effaith eu cynnal yn rhan o’r Bil hwnnw.

Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn ymwybodol o’r achosion dinistriol o ffliw adar yn sir y Fflint yn nythfeydd mwyaf Cymru o fôr-wenoliaid cyffredin a gwylanod penddu ar y safleoedd hyn nawr, sy’n ymestyn ar draws aber afon Dyfrdwy. Amcangyfrifir bod cannoedd o adar wedi marw, a chafwyd adroddiadau na welwyd yr un cyw gwylan penddu yn cael eu magu ar y safle eleni, lle byddai cannoedd lawer fel arfer. A gwyddom hefyd yr amcangyfrifwyd y llynedd, ar Ynys Gwales yr RSPB yn sir Benfro, fod miloedd o adar wedi marw o ffliw adar yno. Felly efallai y gallwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â'r sefyllfa mewn perthynas â ffliw adar pathogenig iawn mewn adar gwyllt, a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd. Ond yn fwy penodol mewn perthynas â’ch portffolio wrth gwrs, o ystyried effeithiau dinistriol ac uniongyrchol y straen pathogenig iawn hwn o ffliw adar sy’n cael effaith mor ddwys ar ein nythfeydd adar môr ledled y DU, a ydych yn cydnabod bod yn rhaid iddi fod yn flaenoriaeth frys nawr i Lywodraeth Cymru gyhoeddi strategaeth cadwraeth adar môr, heb unrhyw oedi pellach?

Diolch, Llyr. Mae hyn ym mhortffolio Lesley Griffiths mewn gwirionedd, ond yn amlwg, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'n gilydd, gan fod y mater yn croesi dros nifer o'r materion bioamrywiaeth a godwyd gennych. Mae'n peri cryn bryder yn wir. Gwelsom adar drycin Manaw yn cael eu heffeithio y llynedd. Rydych yn llygad eich lle am y gwylanod—mae'n ofnadwy, ac rydym yr un mor bryderus â phawb arall. Mae swyddogion Lesley a minnau yn gweithio gyda'i gilydd i weld beth y gellir ei wneud yn y tymor byr iawn, ac yna'n amlwg ar strategaeth fwy hirdymor ar gyfer gwell cadwraeth, a gwell rheoleiddio hefyd mewn gwirionedd. Felly, rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod lleoedd gwarchodedig i'w cael yng Nghymru nad yw pobl yn mynd iddynt yn ystod rhannau pwysig o'r cylch nythu a magu. A byddwn yn cyflwyno cynlluniau amrywiol, ond Lesley a'i phortffolio hi fydd yn edrych ar y camau y dylid eu cymryd ar unwaith yng ngoleuni'r ffliw adar sy'n dal i fod yn lledaenu'n eang. Mae'n peri cymaint o bryder, onid yw, ac mae'n debyg y bydd yn rhaid inni roi mwy o fesurau ar waith ar gyfer adar fferm hefyd.

Weinidog, gan gadw at ffliw adar, mae’r RSPB yn galw am foratoriwm ar ryddhau adar hela, gan fod oddeutu 2.3 miliwn y flwyddyn yn cael eu rhyddhau ledled Cymru, a gall adar hela gael eu heintio a throsglwyddo ffliw adar pathogenig iawn i adar gwyllt. Mae pryder y gallai rhyddhau adar hela fod yn ffynhonnell ychwanegol o adar sy’n agored i niwed, a allai fod yn gronfa ar gyfer ffliw adar pathogenig iawn a chynnal y feirws drwy ddiwedd yr haf, dechrau’r hydref, yn y misoedd cyn dyfodiad niferoedd mawr o adar gwyllt mudol. Felly, Weinidog, a ydych yn ystyried, a yw Llywodraeth Cymru yn ystyried, rhoi cynllun ar waith i atal lledaeniad ffliw adar pathogenig iawn o adar a fridiwyd mewn caethiwed, fel adar hela, i fywyd gwyllt?

Fel y dywedais mewn ymateb i Llyr, John, mae hyn yn rhan o bortffolio fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, ond yn amlwg, mae ei swyddogion hi a fy rhai innau, a hithau a minnau, yn gweithio’n agos iawn gyda’n gilydd ar hyn, a byddwn yn cyflwyno mesurau o ganlyniad i’r ffliw hwn sy’n dal i fod yn lledaenu'n eang yn y boblogaeth adar ac sy’n peri cryn bryder, gan arwain at effeithiau gwirioneddol ddinistriol. Felly, bydd yn rhaid inni edrych ar fesurau dramatig i geisio cymryd camau i ddiogelu rhai o’n hadar mwyaf gwerthfawr. Ac yma yng Nghymru, rydym wedi bod yn ffodus iawn, gan fod gennym nythfeydd bridio adar prin iawn, y mae angen inni eu diogelu er lles bioamrywiaeth fyd-eang, yn ogystal â'n bioamrywiaeth ein hunain. Felly, mae swyddogion yn gweithio'n galed iawn ar strategaeth i fynd i'r afael â hynny.

Cysylltedd Rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru

2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio gwella cysylltedd rheilffyrdd yng ngogledd Cymru? OQ59773

Diolch. Rydym yn gweithio'n galed i wella cysylltedd rheilffyrdd yng ngogledd Cymru drwy fuddsoddi lle mae gennym gyfrifoldeb datganoledig, gan gynnwys mewn trenau newydd. Mae'r seilwaith rheilffyrdd a gwasanaethau i Lundain yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU, gan gynnwys y pedwar gwasanaeth Avanti dyddiol a gafodd eu dileu yng ngogledd Cymru yn ystod cyfnod prysur yr haf.

Diolch. Mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig bedair blynedd yn ôl, dywedodd Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth ar y pryd,

'Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu proses asesu 3 cham ar gyfer gorsafoedd newydd… i… sicrhau bod cyfres o gynlluniau newydd ar gael i fanteisio ar gyfleoedd ariannu yn y dyfodol... gan Lywodraeth y DU',

a bod gorsaf Cyffordd Treffynnon ym Maes-glas wedi'i hychwanegu at y rhestr o orsafoedd newydd posibl. Mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig a gefais gennych yr wythnos hon, fe gyfeirioch chi at ddyhead Llywodraeth Cymru i ailagor yr orsaf, pe bai cyllid yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU, gan ychwanegu,

'Yn y cyfamser, rydym yn canolbwyntio ein hadnoddau ar wneud y gorau o'r seilwaith presennol—dull a gefnogir gan gomisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru yn eu hadroddiad interim.'

Fodd bynnag, mae eu hadroddiad interim hefyd yn cynnwys cefnogaeth i greu gorsaf newydd ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, a gwaith i wneud gorsaf Shotton yn gyfnewidfa bwysig. Pa gamau pellach a gymerwyd, felly, mewn perthynas â gorsaf Maes-glas, yn y pedair blynedd ers imi godi hyn gyntaf, a beth yw eich dealltwriaeth bresennol o’r sefyllfa gyda gorsafoedd parc Glannau Dyfrdwy a Shotton?

13:40

Diolch. Yn y pedair blynedd hynny, nid yw'r seilwaith rheilffyrdd wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru i'r graddau y byddem wedi hoffi. Rydym wedi cymryd camau i ariannu camau cyntaf y gwaith o ddatblygu achos busnes er mwyn diogelu ein dyhead ar gyfer ailagor gorsaf Maes-glas yn Nhreffynnon pe bai cyllid ar gael ar gyfer yr orsaf. Ond fel y dywedodd ar ddechrau'r cwestiwn hwn, mae'n fater o 'pan fydd cyfleoedd ar gyfer cyllid yn codi.' Wel, nid ydynt yn codi'n aml iawn, a dyna ein problem. Mae gennym lu o ddyheadau, gan gynnwys Glannau Dyfrdwy, a meiddiaf ddweud y bydd adroddiad Burns ar ogledd Cymru, y gobeithiaf fod pob un ohonoch yn ymgysylltu ag ef, yn ychwanegu at hynny. Ond heb gyllid, neu heb fod Llywodraeth y DU yn ysgwyddo ei chyfrifoldeb i wella seilwaith ar gyfer Cymru, mae ein hopsiynau'n gyfyngedig.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf i ofyn cwestiwn i'r Dirprwy Weinidog—Natasha Asghar. 

Diolch yn fawr, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, fel y gwyddoch, yr wythnos diwethaf, cawsom ddadl ar ddeiseb a oedd yn galw am ddiddymu cynlluniau i gyflwyno terfyn cyflymder cyffredinol o 20 mya yma yng Nghymru. Rydych yn ymwybodol o fy safbwynt i ar y mater, a chredaf fod pawb yn ymwybodol o hynny erbyn hyn, ond i unrhyw un nad ydynt, rwyf o blaid terfynau 20 mya wedi'u targedu y tu allan i ysgolion, mannau chwarae, strydoedd mawr prysur, ond nid ar gyfer Cymru gyfan. Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau am gyflwyno’r ddadl yr wythnos diwethaf, yn seiliedig ar y cyfyngiadau amser a oedd gennym, ond dim ond un ddeiseb, sydd wedi casglu dros 21,000 o lofnodion, a drafodwyd gennym, ac mae llawer mwy ohonynt i'w cael, gyda chyfanswm o bron i 100,000 o lofnodion.

Ddirprwy Weinidog, rwy'n siŵr y gallwch chi, hyd yn oed, gytuno bod y ffigurau hyn yn llawer uwch na'r ychydig filoedd a gymerodd ran yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru i ddechrau. Mae fy mewnflwch a fy mhlatfformau cyfryngau cymdeithasol wedi’u llenwi gan negeseuon gan drigolion ledled Cymru yn diolch i mi a fy nghyd-Aelodau am sefyll o'u plaid, a gwrthwynebu eich prosiect diweddaraf gyda'r terfyn 20 mya, tra bo'n ymddangos bod y fideo a bostiwyd gennych ar y cyfryngau cymdeithasol, yn canmol eich araith yn y Siambr yr wythnos diwethaf yn amddiffyn y cynllun, wedi cael ymateb ofnadwy o wael. Cefais drafferth dod o hyd i unrhyw sylw cefnogol wrth bori drwy fy nghyfryngau cymdeithasol. Felly, o ystyried bod nifer cynyddol o bobl Cymru yn erbyn hyn, a meiddiaf ddweud bod gan hyd yn oed rai o’ch cyd-Aelodau eich hun amheuon, pryd y byddwch yn rhoi eich ego o’r neilltu, yn cyfaddef o'r diwedd eich bod wedi gwneud camgymeriad, ac yn gwneud tro pedol, os a phan fo angen, ar y terfyn 20 mya hwn?

Waw, ai dyna oedd yr ateb? Iawn. Os mai dyna'r ymateb, mae hynny'n sioc—nid wyf am wadu hynny—ond nid yw'n syndod.

Iawn, gadewch inni roi'r cynllun 20 mya o'r neilltu am funud, gan fod llawer o feysydd trafnidiaeth pwysig eraill lle rydych chi a’r Llywodraeth hon wedi bod yn methu. Felly, gadewch inni siarad am Gaerdydd. Mae wedi croesawu enwau cerddorol mawr, fel Beyoncé, Coldplay, Harry Styles. Cafodd miloedd o bobl amser gwych yn y digwyddiadau hyn, a gwn eich bod chi'n un ohonynt, Ddirprwy Weinidog, ar sail ar y fideo chwithig a rannoch ohonoch eich hun yn gwylio Coldplay. Fodd bynnag, i lawer o bobl, daeth yr hwyl i ben cyn gynted ag y gwnaethant adael a cheisio gwneud eu ffordd adref. Roedd y trenau'n orlawn, ac nid oedd digon o gerbydau'n weithredol ar gyfer y digwyddiadau penodol hyn. Felly, ar ddiwrnod cyngerdd Harry Styles, gorfodwyd teithwyr i ddioddef siwrnai dair awr uffernol—a dyfynnaf y gair 'uffernol'—gyda phobl wedi eu gwasgu at ei gilydd y tu allan i'r toiledau ac yn yr eil gan mai dau gerbyd yn unig a oedd gan y trên. Llewygodd un fenyw ar y trên oherwydd y gorlenwi a'r diffyg aerdymheru. Nid yw’r rhain yn broblemau newydd, Ddirprwy Weinidog; codais faterion tebyg y llynedd pan fu Ed Sheeran a Tom Jones yn chwarae yng Nghaerdydd. Ac eto, fel arfer, nid oes unrhyw welliannau wedi'u gwneud. Felly, Ddirprwy Weinidog, a ydych yn cytuno bod ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus, sy'n cael ei ddinistrio gennych nawr, yn amharu’n ddifrifol ar ein gallu i gynnal digwyddiadau mawr o'r radd flaenaf?

Nid wyf yn cytuno â hynny, gan fod y dystiolaeth yn dangos eu bod yn dal i ddod i Gaerdydd a’u bod yn dal i gael eu gwerthfawrogi gan lawer iawn o bobl. Pan fydd gennych 70,000 o bobl mewn un lle, i gyd yn ceisio gadael ar yr un pryd, mae'n ffaith ffisegol y bydd tagfeydd ac y bydd yn rhaid ciwio. Mae hynny'n wir am unrhyw stadiwm chwaraeon neu stadiwm ddigwyddiadau torfol yn unrhyw le yn y byd. Byddwn wrth fy modd yn clywed unrhyw awgrymiadau ymarferol sydd gan Natasha Asghar ar gyfer rheoli hynny mewn ffordd wahanol; rydym yn glustiau i gyd. Darparwyd gwasanaethau ychwanegol gan Great Western a Trafnidiaeth Cymru. Mae'n anffodus fod yna amodau anghyfforddus wedi bod.

Fel y gwyddoch, mae gennym raglen adnewyddu a buddsoddi radical mewn trenau—dros £800 miliwn mewn cerbydau newydd ac £1 biliwn yn y prosiect metro, ac mae'n dod yn weithredol. Ac edrychaf ymlaen at lawer mwy o ddigwyddiadau llwyddiannus yn y stadiwm ac mewn mannau eraill.

13:45

Ddirprwy Weinidog, nid cyngherddau a digwyddiadau mawr yn unig sy'n achosi hunllefau trafnidiaeth gyhoeddus i breswylwyr. Rwy'n derbyn cwynion yn rheolaidd am gau llinell Treherbert i Bontypridd, a'r gwasanaethau bysiau yn lle trenau. Mae'r gwasanaethau bysiau yn lle trenau wedi bod yn hollol warthus, a dweud y gwir. Nid yw bysiau yn lle trenau i Gaerdydd yn dod, a phan fyddant yn dod, maent eisoes yn llawn, ac nid ydynt yn stopio lle maent i fod i stopio. Mae'n cymryd hyd at bedair awr i gymudwyr gyrraedd adref o'r gwaith gyda'r nos. Cafodd un ddynes ei derbyn i'r ysbyty gyda phoenau yn y frest oherwydd y straen a achoswyd gan wasanaethau bysiau yn lle trenau, a rhoddodd menyw arall y gorau i'w swydd am na allai wynebu teithio i Gaerdydd ar y bysiau hyn. Felly, ystyriwch hynny, bawb. Mae menyw wedi cael ei gorfodi i roi'r gorau i'w swydd oherwydd y gwasanaeth gwirioneddol ofnadwy hwn. Mae'r bobl hyn yn cael eu rhoi drwy uffern yn ddyddiol, ac maent yn teimlo bod y dyn sy'n gyfrifol am Trafnidiaeth Cymru yn troi ei gefn arnynt. Ond a yw hyn yn syndod? Ymddengys na allwch hyd yn oed gyflawni tasg sylfaenol fel pleidleisio y ffordd iawn, Ddirprwy Weinidog, felly sut ar y ddaear y gallwn ddisgwyl ichi fynd i'r afael â materion y dydd? Ddirprwy Weinidog, beth a ddywedwch wrth y rhai sy'n gorfod dioddef y gwasanaeth erchyll hwn, a beth fyddwch chi'n ei wneud i ddod â'r dioddefaint hwn i ben wrth symud ymlaen?

Rwyf wedi gofyn i'r Aelod o'r blaen am ei hawgrymiadau peirianyddol o sut arall rydym yn mynd i ailwampio'r rheilffordd yn llwyr heb ei chau. Nid wyf wedi cael unrhyw atebion, ond mae amser i gyflwyno'r syniadau hynny o hyd. Mae arnaf ofn fod hyn yn anochel, ac mae llawer o bobl yr ardal yn deall y bydd y dadleoli a'r anghyfleustra'n arwain at well gwasanaethau, ac yn amlwg, yn y cyfamser, mae'n annymunol iawn i lawer, ac rwy'n deall hynny'n llwyr, a dyna pam ein bod yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i gwblhau'r gwaith cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl, ac rwy'n hyderus y bydd y gwasanaeth y bydd pobl yn ei gael ar ôl hynny yn llawer iawn gwell.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi am gychwyn drwy dynnu sylw'r Gweinidog, os yn bosibl, at gyflwr llety dros dro a defnydd y llety dros dro yma yng Nghymru. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos yn ôl ar 30 Ebrill fod yna 10,444 o unigolion yn aros ac yn byw mewn llety dros dro, efo bron i draean ohonyn nhw—3,214—yn blant o dan 16 mlwydd oed, ac mae'r niferoedd yna'n cynyddu. 

Dangosodd tystiolaeth gan Tai Pawb fod y cynnydd mwyaf yn y defnydd o lety dros dro wedi bod ar y ffurfiau lleiaf addas, gan gynnwys gwestai a llety gwely a brecwast. Gall llety o'r fath arwain at broblemau logistaidd, gan gynnwys teuluoedd yn rhannu un ystafell, diffyg lle i blant chwarae, gorfod rhannu ystafelloedd ymolchi a diffyg adnoddau coginio. Yn aml, mae ganddynt gysylltiad rhyngrwyd gwael neu ddim cysylltiad o gwbl, gan roi preswylwyr dan anfantais, gan nad ydynt yn gallu gwneud cais am fudd-daliadau, cael mynediad at fancio ar-lein na chofrestru ar gyfer gwasanaethau cymorth. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd, felly, i sicrhau bod llety dros dro yn cyrraedd safon ofynnol, a pha gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod llety dros dro yng Nghymru yn gallu diwallu anghenion y nifer cynyddol o bobl sy'n ddibynnol ar wasanaethau o'r fath?

Diolch, Mabon. Mae nifer y bobl mewn llety dros dro yn uchel iawn. Mae'n bwysig dweud, serch hynny, nad yw pob un o'r rheini mewn llety anaddas iawn. Fel y gwn eich bod yn gwybod, mae gennym raglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro ar waith sydd wedi bod yn darparu safon lawer gwell o lety dros dro. Mae hon wedi bod yn sgwrs barhaus. Bûm yn siarad yng nghynhadledd Cartrefi Cymunedol Cymru y bore yma ynglŷn â'r cydbwysedd y mae angen ei sicrhau rhwng gwneud yn siŵr ein bod yn adeiladu cartrefi carbon isel sero net ar gyfer y dyfodol yn ein sector rhentu cymdeithasol, heb golli golwg ar y safon ar gyfer hynny, ond ein bod hefyd yn cynyddu'r ddarpariaeth o lety dros dro, sy'n llety dros dro da, yn hytrach na gwestai a llety gwely a brecwast, sy'n amlwg yn anaddas, ac rydym yn ymdrechu'n galed iawn i ddod â phobl allan o'r rheini cyn gynted â phosibl.

Rwyf wedi gofyn i swyddogion weld a allwn weithio gyda'n partneriaid awdurdod lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ar ffordd o gael ffigurau cywir o ran faint o bobl sydd ym mha fath o lety dros dro. Mae hynny'n swnio fel cais hawdd i'w wneud, ond mae wedi bod yn ddata eithaf anodd ei gasglu, gan nad ydym ond yn casglu data ar sut y caiff y taliadau eu gwneud ac nid ar y math o lety. Rwyf wedi dweud yn glir iawn wrth bartneriaid ein bod yn agored i unrhyw awgrym o gwbl a fyddai'n caniatáu i bobl symud allan o westai a llety gwely a brecwast cyn gynted â phosibl i lety llawer mwy addas, ac y byddwn ninnau'n gofalu am y manylion. Felly, dywedaf hynny eto yn gyhoeddus ar lawr y Senedd: os ydych yn sefydliad partner sy'n ceisio symud pobl i lety gwell, peidiwch â phoeni am geisio ffitio eich syniad i un o gynlluniau cyllido Llywodraeth Cymru. Rhowch y syniad i ni, ac fe ddown o hyd i ffrwd ariannu i chi, gan fod gwir angen inni gael pobl—. Ac mae llawer o bobl wedi bod yn cynnig atebion arloesol. Mae'n ffaith, serch hynny, er mor gyflym rydym yn symud pobl i lety dros dro parhaol a gwell—ac rydym yn dal i symud oddeutu 400 i 600 o bobl y mis i lety parhaol, o ansawdd uchel—nid ydym yn gallu atal llif y bobl i mewn i'r system, sydd wedi'i achosi i raddau helaeth iawn gan yr argyfwng costau byw sydd ohoni, mae arnaf ofn.

Felly, Mabon, gwn eich bod yn ymwybodol, ond rwyf am egluro ar gyfer gweddill y Senedd, ein bod, o ganlyniad i'r cytundeb cydweithio, yn gweithio ar ddau beth. Rydym yn gweithio ar strategaeth atal digartrefedd i gyd-fynd â'n cynllun digartrefedd, a strategaeth hefyd, wrth gwrs, i gyflymu'r broses o adeiladu tai cymdeithasol ledled Cymru gan ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael i ni. Oherwydd mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r rhestr o'r ddau ben. Mae'n rhaid inni atal pobl rhag dod yn ddigartref yn y lle cyntaf, hyd y gallwn, ac wrth gwrs, mae'n rhaid inni adeiladu'r tai, sef yr unig ateb hirdymor mewn gwirionedd i ddatrys y broblem.

13:50

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb yna.

Felly, dim ond un rhan o'r argyfwng tai ehangach rydym yn ei wynebu yw'r argyfwng llety dros dro y cyfeiriais ato, ac rydych chi newydd ymateb iddo. Ond nid yw'r sefyllfa'n anobeithiol. Gwyddom fod atebion a all weithio ochr yn ochr â'i gilydd, boed hynny'n ymwneud â chynyddu argaeledd tai trefol, fel rydych wedi'i grybwyll, a diwygio deddfwriaeth digartrefedd, neu ddefnyddio cymorth manwl fel lwfansau tai lleol neu daliadau disgresiwn at gostau tai. Felly, hoffwn achub ar y cyfle hwn i sôn am daliadau disgresiwn at gostau tai.

Mae taliadau disgresiwn at gostau tai yn arf hollbwysig sydd ar gael i awdurdodau lleol i ymdopi â phwysau sy'n gysylltiedig â digartrefedd, sydd ar gynnydd, yn rhannol oherwydd y cynnydd mewn prisiau rhent a'r effaith ar denantiaid incwm isel. Argymhellodd adroddiad diweddar gan Sefydliad Bevan y dylai Llywodraeth Cymru gynyddu ei buddsoddiad yn y gronfa taliadau disgresiwn at gostau tai, fel y gall awdurdodau lleol ychwanegu at daliadau disgresiwn at gostau tai i'r uchafswm a ganiateir o dan reolau taliadau disgresiwn o'r fath, yn ogystal â dyrannu cronfeydd dewisol i atal digartrefedd ar ddechrau'r flwyddyn ariannol, er mwyn sicrhau bod gan awdurdodau lleol fwy o sicrwydd ar gyfer cynllunio gwariant ar daliadau disgresiwn at gostau tai. Felly, sut mae'r Gweinidog yn ymateb i'r argymhellion hyn gan Sefydliad Bevan, ac a yw'r Gweinidog wedi ystyried mabwysiadu'r dulliau hyn o atal digartrefedd?

Iawn, felly, mae gennym gryn ddiddordeb yn y defnydd o'r rhaglen daliadau disgresiwn at gostau tai. Mae nifer o ffrydiau ariannu disgresiynol eraill ar gael hefyd. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau wedi bod yn edrych yn gyffredinol ar nifer o ffrydiau ariannu disgresiynol, ac mae'n flaenoriaeth inni gadw pobl yn eu cartrefi os oes modd o gwbl. Mae'n amlwg mai dyna'r ateb gorau i'r rhan fwyaf o bobl, ac felly byddwn yn gweithio—rydym yn gweithio, dylwn ddweud; rwyf eisoes wedi cael nifer o gyfarfodydd ar hyn—gyda chymheiriaid llywodraeth leol yn benodol er mwyn deall mwy ynglŷn â beth sy'n digwydd gyda'r gwariant. Felly, mae gennym hefyd gylchoedd gwariant rhyfedd iawn mewn rhai awdurdodau lleol, felly rydym wedi bod yn edrych i weld a yw ein mecanweithiau dosbarthu mor effeithiol ag y gallent fod, sut olwg sydd ar y gwaith proffilio gwariant, fel y'i gelwir, a oes patrwm iddo y gallwn ei efelychu'n well, a chryn dipyn o fanylion eithaf cymhleth ynglŷn â sut yn union y caiff ei ddarparu ac i bwy a sut olwg sydd ar y prosesau gwneud ceisiadau. Felly, mae cryn dipyn o waith manwl iawn yn mynd rhagddo ar sicrhau ei fod wedi'i dargedu mor effeithiol â phosibl.

Mae'r broses gyllidebol wedi bod yn erchyll eleni. Ni fydd pethau'n gwella ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rwy'n parhau i bwysleisio ei bod yn llawer rhatach cadw pobl yn eu cartref nag yw hi i orfod eu rhoi drwy'r system ddigartrefedd. Mae'n rhatach o ran dioddefaint dynol ac mae'n rhatach yn ariannol, felly mae'n gwneud llawer o synnwyr i wneud hynny, a byddaf yn parhau i bwysleisio'r pwynt hwnnw, ond yn wyneb un o'r setliadau cyllideb gwaethaf—wel, y setliad cyllideb gwaethaf—rydym erioed wedi'i gael fel Llywodraeth Cymru. Ond yn sicr, ac os oes unrhyw syniadau eraill ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud i sicrhau bod hynny'n digwydd. Felly, rydym yn derbyn yr argymhelliad cyffredinol yn llwyr, a bydd y manylion yn bwysig o ran sut yn union rydym yn mynd ati i wneud hynny.

Tipio Anghyfreithlon

3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon yng Nghymru? OQ59806

Diolch, Jayne. Rydym yn parhau i ariannu rhaglen taclo tipio Cymru. Yn 2022, fe wnaethom ddyblu'r cyllid i £1.2 miliwn dros y tair blynedd nesaf i wella ein cymorth i reoleiddwyr amgylcheddol a chymunedau fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon. Mae'r rhaglen yn cynorthwyo gyda gweithgareddau gweithredol a gorfodi, ynghyd â chynnal ymgyrch genedlaethol i atal tipio anghyfreithlon.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae tipio anghyfreithlon yn difetha ein cymunedau. Gall amrywio o adael gwastraff cartref ar gornel stryd i droseddwyr yn tipio'n anghyfreithlon ar raddfa ddiwydiannol. Pan fo'r rhan fwyaf o bobl yn gwneud popeth yn iawn, mae gweld unigolion yn difetha ein cymdogaethau lleol yn fwriadol, yn gyson, ac yn aml mewn ffordd gwbl haerllug yn peri cryn rwystredigaeth. Ddydd Gwener diwethaf, cefais y cyfle a'r pleser o siarad â phlant o ysgol gynradd yr Eglwys yng Nghymru Malpas. Roedd yn drist iawn clywed mai tipio anghyfreithlon yn eu hardal oedd un o'u pryderon mwyaf, ond roedd yn galonogol iawn clywed pa mor benderfynol ydynt o chwarae eu rhan a dylanwadu ar bobl eraill.

Ymddengys mai cyfyngedig yw gallu awdurdodau i fynd i'r afael â'r troseddwyr gwaethaf, gydag erlyniadau'n cymryd llawer iawn o amser, a'r dirwyon a roddir yn y pen draw yn annigonol i atal pobl, ac mae awdurdodau lleol a chyrff fel Cyfoeth Naturiol Cymru yn ceisio gwneud eu gorau, ond ar hyn o bryd, nid yw'n ymddangos bod ganddynt yr adnoddau cywir i fynd i'r afael â'r mater yn effeithiol. Felly, sut y gall Llywodraeth Cymru symleiddio'r broses o atal pobl sy'n tipio'n anghyfreithlon dro ar ôl tro, fel bod awdurdodau'n gallu gweithredu'n gyflym ac yn effeithlon i fynd i'r afael â'r troseddwyr gwaethaf? Ac a wnewch chi roi anogaeth i blant ysgol gynradd yr Eglwys yng Nghymru Malpas yn fy etholaeth am eu syniadau a'u gwaith ar yr hyn y gallant ei wneud a'r hyn yr hoffent ei weld yn digwydd i fynd i'r afael â'r broblem?

13:55

Fe wnaf hynny gyda'r pleser mwyaf, Jayne. Credaf fod y gofal sydd gan ein plant ysgol ledled Cymru ynglŷn â'r amgylchedd ar bob ffurf yn rhywbeth i fod yn falch iawn ohono. Mae fy nghyd-Aelod, Jeremy Miles, a minnau'n falch iawn o'r rhaglen eco-ysgolion hefyd. Rwyf wedi cyfarfod â llawer o gynghorau eco-ysgolion ledled Cymru, a gwn fod Jeremy wedi hefyd, ac rwy'n siŵr fod pob un ohonoch chithau wedi gwneud hynny yn eich etholaethau eich hunain. Mae'r brwdfrydedd a'r—nid wyf yn gwybod beth i'w alw, mewn gwirionedd—yr angerdd sydd ganddynt ynglŷn â'r pwnc yn wych. A dweud y gwir, maent wedi bod yn allweddol, wrth gwrs, gyda llawer o'n hailgylchu, gan eu bod yn mynd â'r neges adref at eu rhieni, ac os ydynt fel fy mhlant i, mae rhestrau mawr uwchben y bin, yn dweud wrthych beth y gallwch ei roi a beth na allwch ei roi yno. Credaf fod gan fy mhlant system ddirwyo hyd yn oed ar gyfer unrhyw un nad ydynt yn cydymffurfio. Rwy'n falch iawn o ddweud pa mor wych yw hynny.

O ran awdurdodau lleol, rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at yr awdurdodau lleol unwaith eto, gan fod ystod eang o ddulliau gorfodi ar gael iddynt, ac rydym yn eu hannog i wneud defnydd llawn o'r dulliau gorfodi presennol. Dylid erlyn ad-droseddwyr drwy'r llysoedd. Rwy'n derbyn y pwynt am yr amser y mae hynny'n ei gymryd a'r dirwyon, ond serch hynny, mae'n cael effaith ataliol iawn, fe wyddom hynny, os yw pobl yn credu eu bod yn debygol o gael eu herlyn. Felly, rydym yn annog hynny, ond rydym hefyd—. Byddaf yn atgoffa awdurdodau lleol fod opsiynau gorfodi amgen ar gael. Byddai perffaith hawl gan awdurdod lleol i atafaelu cerbyd sy'n tipio'n anghyfreithlon, er enghraifft, sy'n cael effaith ataliol iawn. Felly, byddaf yn atgoffa awdurdodau lleol o'r ystod o bwerau sydd ganddynt hefyd.

Diogelwch Ffyrdd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella diogelwch ar y ffyrdd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ59789

Diolch. Rydym yn gweithio'n agos gyda chynghorau sir Gaerfyrddin a sir Benfro, yr awdurdodau priffyrdd sy'n gyfrifol am ddiogelwch ar y ffyrdd yn eu siroedd. Ers 2019, maent wedi cael dros £5 miliwn o gyllid ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd. Eleni, byddant yn derbyn dros £2.5 miliwn i roi'r terfyn cyflymder 20 mya newydd ar waith, sef y fenter ddiogelwch ar y ffyrdd fwyaf mewn cenhedlaeth.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Weinidog. Ychydig wythnosau yn ôl, codais bryderon diogelwch difrifol gyda chi ynghylch cyffordd Mynegbost Nash ar yr A477, yn dilyn marwolaeth drasig Ashley Rogers ym mis Mai eleni. Casglodd deiseb a oedd yn galw am welliannau diogelwch 10,000 o lofnodion mewn ychydig wythnosau yn unig, gan ddangos pa mor gryf yw'r teimlad fod angen gwneud rhywbeth ar y gyffordd hon. Fodd bynnag, nid yw'r materion diogelwch yn gyfyngedig i'r gyffordd hon yn unig.

Yn Milton, hefyd ar yr A477, mae goryrru'n parhau i fod yn bryder i drigolion a defnyddwyr y ffordd. Yng Nghilgeti, hefyd ar yr A477, mae croesfan anniogel i gerddwyr a defnyddwyr sgwteri symudedd yn peri pryder, ac yn Llanddowror, ar gyffordd ymadael, hefyd ar yr A477, mae'r gyffordd ymadael hon wedi achosi nifer o ddamweiniau a fu bron â digwydd, gyda nifer o wrthdrawiadau gydag arwydd ffordd dros nifer o flynyddoedd. Mae'r A477 yn cael ei defnyddio gan gymudwyr lleol, twristiaid a gyrwyr lorïau trawsgyfandirol, felly mae'n hanfodol fod diogelwch ar hyd y darn hwn o'r ffordd yn cael ei wella.

A gaf fi ofyn i'ch swyddogion weithio gydag Asiant Cefnffyrdd De Cymru i gynnal adolygiad llawn a chynhwysfawr o'r A477 rhwng Doc Penfro a Sanclêr, oherwydd er mai dim ond 22 milltir o hyd yw'r darn o ffordd, ac efallai'n rhan gymharol fyr o rwydwaith ffyrdd Cymru, mae gormod lawer o ddamweiniau a fu bron â digwydd, ac o farwolaethau, yn anffodus, ar y rhan hon o'r ffordd? Diolch, Lywydd.

Diolch, ac unwaith eto, rwy'n cydymdeimlo â theulu Ashley Rogers am ei farwolaeth gynamserol, y mae'n flin gan bob un ohonom amdani. Mae gormod o farwolaethau ar y ffyrdd yng Nghymru, oddeutu 80 y flwyddyn, sy'n rhywbeth rydym wedi arfer ag ef, ac ni ddylem fod.

Ar yr ardal benodol y mae Sam Kurtz yn tynnu sylw ati, cyffordd Mynegbost Nash ar yr A477, mae Llywodraeth Cymru a'r asiantiaid cefnffyrdd wedi ymchwilio i wrthdrawiadau a damweiniau a fu bron â digwydd ar y safle. Roedd eu hastudiaeth yn cynnwys monitro gyda theledu cylch cyfyng a gwylio ymddygiad gyrwyr i geisio canfod a oedd unrhyw broblemau gyda gweithrediad y gyffordd, gan ei bod yn gyffordd a adeiladwyd yn ôl y safon gyffredin. Canfuwyd, yn rhan o'r gwaith monitro, fod yna achosion o gerbydau mawr yn rhwystro gwelededd, fod rhai cerbydau'n defnyddio'r gyffordd i wneud troeon pedol, a bod rhai cerbydau'n mynd y tu hwnt i'r gyffordd—hynny yw, maent yn troi i'r dde oddi ar yr A4075 ond yn stopio o fewn y lôn tua'r gorllewin ar yr A477. Mae'r astudiaeth wedi argymell newidiadau i'r seilwaith ac mae'n ymchwilio ymhellach i opsiynau.

Ar y coridor ehangach, edrychodd yr adolygiad ffyrdd yn fanwl ar gynlluniau i fynd i'r afael â diogelwch. Dywedodd yn gadarn y dylem fod yn edrych ar achosion unigol, a mynd i'r afael â'r rheini, ac mai un o'r prif ddulliau gweithredu sydd ar gael i ni mewn gwirionedd yw gostwng terfynau cyflymder, yn hytrach na gwneud newidiadau peirianyddol yn ddiofyn. Mantais hynny, wrth gwrs, yw y gellir ei wneud yn gyflym, yn rhad, a heb fawr o effaith o ran carbon. Mae hynny bellach yn rhan bwysig o'r gyfres o ddulliau rydym yn eu defnyddio i fynd i'r afael â materion diogelwch ar y ffyrdd, ac rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod am y cynnydd a wnawn gyda'n hastudiaethau.

14:00
Teithio ar Fysiau

5. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ymgyrch sydd â'r nod o gynyddu nifer y bobl sy'n teithio ar fysiau, yn dilyn cyhoeddi'r gronfa bontio ar gyfer bysiau? OQ59778

Diolch yn fawr, Carolyn. Mae'n hanfodol ein bod yn cael pobl yn ôl i'r arfer o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r defnydd wedi gostwng ar draws y byd ers y pandemig. Mae trafodaethau'n cael eu cynnal gyda Trafnidiaeth Cymru, partneriaid yn y diwydiant a sefydliadau masnach ynghylch cynllunio a chyflwyno ymgyrch i gael pobl yn ôl ar fysiau.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. I lawer o bobl, mae penderfynu a ddylid defnyddio'r bws yn fater o hyder—gwybod pa fws i'w gael, o ble, pa rif, ac ati. O fy mhrofiad i o deithiau bws ar draws gogledd Cymru, gwn fod gwefan ac ap Traveline Cymru yn dda iawn. Rwy'n credu ei fod wedi'i ddiweddaru, ac rwy'n ei chael hi'n hawdd iawn ei ddefnyddio.

Yn ddiweddar, cyfarfûm â'r comisiynydd pobl hŷn a buom yn trafod pwysigrwydd llinell ffôn Traveline hefyd i'r rhai nad ydynt ar-lein, ac awgrymodd efallai y gallem sicrhau bod rhif ffôn Traveline ar gael ar bob cysgodfan fysiau. Felly, a fyddech chi'n ystyried siarad â Trafnidiaeth Cymru a'n partneriaid yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i weld a allent wneud hynny'n bosibl, ei roi ar bob cysgodfan fysiau, fel y gallant o leiaf ffonio rhywun i gael gwybod pryd mae'r bws nesaf yn dod a beth yw'r amserlenni?

Byddwn hefyd yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn gwybod faint o lwybrau fydd yn cael eu cadw yn dilyn cyhoeddi'r gronfa bontio ar gyfer bysiau a phryd y byddant yn cael eu cyhoeddi.

Diolch. Ar y pwynt olaf, rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a Trafnidiaeth Cymru i gael darlun cywir o'r llwybrau y mae cwmnïau'n dal i fod yn barod i'w rhedeg yng ngoleuni'r cymorth ychwanegol rydym wedi'i roi ar waith. Rydym yn gwneud cynnydd da ar hynny. Mae gennym hyder mawr ynghylch y llwybrau ysgol a fydd yn cael eu cadw ar gyfer tymor mis Medi, ond nid oes gennym ffigur terfynol eto ar gyfer faint yn union fydd yn cael eu cadw, ac mae hynny'n rhannol oherwydd y bydd gweithredwyr masnachol yn dal i wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch pa lwybrau sy'n gwneud synnwyr, o ystyried bod ymddygiad teithwyr wedi newid. Felly, mae'n parhau i fod yn ddarlun sy'n datblygu, ond rydym yn parhau i fod yn hyderus y bydd y mwyafrif helaeth o lwybrau'n cael eu diogelu.

Ar ei phrif bwynt, rwy'n cytuno'n llwyr â hi fod gwybodaeth a mynd i'r afael â chanfyddiadau ffug yn hanfodol i gael pobl i newid eu dull o deithio, a cheir gwaith ymchwil cryf iawn i ddangos hynny. Mae pobl wedi dod allan o'r arfer o fynd ar y bws ers coronafeirws—fel y crybwyllodd—ac mae llawer o bobl erioed wedi bod ar fws. Gwyddom nad yw hanner y bobl erioed wedi defnyddio'r bws. Nid wyf wedi bod yn un sy'n defnyddio'r bws yn arbennig o aml ar unrhyw adeg yn fy mywyd, mae'n rhaid imi ddweud, ond rwyf wedi dechrau defnyddio'r bws. Rwy'n tueddu i ddefnyddio trên a beic a cherdded yn fwy na bws, ar ôl cael profiadau gwael fel myfyriwr bws TrawsCymru i Aberystwyth—mae hyd yn oed arogl hwnnw'n dal i wneud imi deimlo'n sâl nawr.

Ond mae'n rhaid imi ddweud, rwyf wedi bod yn defnyddio gwefan Traveline Cymru, sy'n ardderchog, a'r ap. Ond mae'r llinell ffôn—fel y dywedodd, yn enwedig i bobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol—yn rhagorol. Rydych yn cyrraedd canolfan alwadau gyfeillgar iawn yng ngogledd Cymru sydd â'r amynedd a'r amser i ddweud wrthych ble'n union rydych chi, ble mae'r safle bws, pa mor aml yw'r gwasanaethau. Rwy'n credu bod gennym adnodd pwysig iawn nawr yn nwylo Trafnidiaeth Cymru. Mae gan lawer o safleoedd bws y rhif Traveline arnynt eisoes, ond rwyf wedi gofyn i fy swyddogion ystyried y ffordd orau o roi mwy o gyhoeddusrwydd i'r manylion cyswllt. Byddwn yn annog yr holl Aelodau, fel rhan o'u gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol, i dynnu sylw at Traveline Cymru fel ffordd ymarferol o roi'r cymorth sydd ei angen ar bobl i wneud mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus.

14:05

Fel defnyddiwr achlysurol o'r bws T1C rhwng Caerdydd ac Aberystwyth, gallaf gadarnhau, ar gyfer y cofnod, nad oes arogl parhaol ar y bws hwnnw mwyach. Mae pethau wedi gwella er pan oeddech chi'n fyfyriwr, Ddirprwy Weinidog. 

Cefais y pleser o fynd ar fws yn ddiweddar, Ddirprwy Weinidog, o Abergele i Landdulas—taith sydd ychydig dros 2 filltir. Y rheswm dros fynd ar y daith honno ar fws oedd er mwyn gwneud yn siŵr y gallwn fwynhau'r noson o fy mlaen yn llawn, ond cefais fy mrawychu pan oedd pris y tocyn yn £6.10, Lywydd, am daith o ychydig dros 2 filltir. Roeddwn yn meddwl ar y pryd fod cost y tocyn gymaint â thua dau beint yn y Val. Ddirprwy Weinidog, fe fyddwch yn gwybod bod ganddynt ymgyrch wych o'r enw 'Get around for £2' yn Lloegr. Hoffwn awgrymu bod honno'n ymgyrch dda iawn i'w hystyried yma yng Nghymru, lle na fydd unrhyw daith fws unigol yn costio mwy na £2 i'r defnyddiwr, ni waeth beth fydd hyd y daith fws honno. Byddwn yn tybio bod honno'n ymgyrch syml iawn i'w deall ac yn ffordd dda iawn o annog pobl i ddefnyddio gwasanaethau bws yn y dyfodol. A yw hyn yn rhywbeth rydych chi'n ei ystyried?

Yn gyntaf oll, ynglŷn â chost teithio ar fysiau, byddwn yn cytuno â Sam Rowlands fod llawer o docynnau bws wedi mynd yn uchel iawn, ac mae hynny—i fod yn glir—yn ganlyniad uniongyrchol i breifateiddio. Ers preifateiddio, mae prisiau bysiau wedi codi'n llawer uwch na'r gost o ddefnyddio'r car, a hynny oherwydd ein bod wedi caniatáu i weithredwyr masnachol gael y grym. Byddant ond yn darparu llwybr os gallant wneud elw yn hytrach na darparu gwasanaeth cyhoeddus, a dyna pam y byddwn yn deddfu y flwyddyn nesaf ar gyfer system fasnachfraint wedi'i chynllunio'n llawn, a fydd yn caniatáu inni reoleiddio'r llwybrau, y prisiau ac amlder gwasanaeth.

Ond mae safon unrhyw system fysiau'n ddibynnol ar faint o arian rydych yn barod i'w fuddsoddi ynddi, ac rwy'n edmygu cynllun y Llywodraeth yn Lloegr i gael pris tocyn bws o £2. Fel y dywedais yn y Siambr hon o'r blaen, rydym wedi gwneud llawer o waith i weld a allem wneud un pris tocyn bws o £1 ai peidio, ac rydym wedi mynd yn eithaf pell ar y daith honno. Ond nid yw'r gost, rwy'n ofni, o £90 miliwn ychwanegol y flwyddyn yn fforddiadwy i ni o fewn y cyllidebau cyni rydym yn eu hwynebu. Cefais fy siomi pan gyhoeddwyd y cyllid hwnnw yn Lloegr, oherwydd fe'i gwnaed yn glir iawn gan y Gweinidogion a'i chyhoeddodd mai arian newydd oedd hwn, ac fel y gŵyr o'r ffordd y mae fformiwla Barnett yn gweithio, pan fydd arian newydd yn cael ei gyhoeddi i Loegr yn unig mewn maes datganoledig, byddem yn disgwyl cael cyfran 5 y cant o'r boblogaeth o hynny. Ond o ymholi, fe ddywedwyd wrthym nad oedd yn arian newydd mewn gwirionedd, ac nad oes unrhyw gyllid canlyniadol Barnett, ac nid ydym wedi gallu gwneud yr un peth, ac rwy'n gresynu at hynny'n fawr.

Yr hysbyseb orau i gael pobl i ddefnyddio bysys, wrth gwrs, ydy darparu llwybrau bysys da. Dwi'n aros i'r Gweinidog ddod o hyd i'w glustffon. Yr hysbyseb orau ydy darparu llwybrau bysys da sy'n gwasanaethu cymunedau yn effeithiol, a bysys sy'n rheolaidd ac yn ddibynadwy. Er fy mod i'n croesawu'n fawr y gronfa bontio, dim ond cam dros dro ydy o. Mae'n rhaid sicrhau bod y niferoedd sy'n defnyddio gwasanaethau yn cynyddu yn yr hirdymor. Gaf i ofyn felly sut mae'r Gweinidog yn disgwyl i'r rhwydwaith fysys ddatblygu mewn ardaloedd gwledig fel Ynys Môn mewn blynyddoedd i ddod, fel bod gennym ni wasanaethau sydd yn ddeniadol ac sy'n gynaliadwy?

Diolch am y cwestiwn.

Mae'n llygad ei le fod patrwm defnyddio bysiau mewn ardaloedd gwledig yn anoddach. Rydym wedi ceisio blaenoriaethu yn y gwaith y buom yn ei wneud gyda'r sgrymiau rhanbarthol, fel rydym yn eu galw—yr awdurdodau lleol sy'n gweithio ar ôl troed rhanbarthol—yn gwarchod gwasanaethau bysiau. Yr hyn a welsom mewn ardaloedd trefol yw y bu'n rhaid inni leihau amlder rhai gwasanaethau bws er mwyn ei wneud yn fforddiadwy, ond y byddwn yn cadw'r llwybr i fynd. Mewn ardaloedd gwledig, lle mae'r gwasanaethau'n llai aml eisoes, rydym wedi ceisio sicrhau nad yw'r rheini'n cael eu lleihau o gwbl, oherwydd fe wyddom eu bod yn achubiaeth i bentrefi gwledig.

Rwy'n awyddus i edrych ar enghreifftiau cyfandirol o sut y gallwn helpu i gyflawni'r newid dulliau teithio mewn ardaloedd gwledig y mae angen inni ei weld i fynd i'r afael â newid hinsawdd, oherwydd mae llawer o wledydd, fel yr Almaen a Sweden a'r Swistir, mewn ardaloedd sydd â phoblogaeth lawer mwy gwasgaredig na Chymru, yn llwyddo i gael gwasanaeth bws aml iawn o ansawdd uchel. Mewn gwirionedd, mewn rhannau o'r Almaen, mae ganddynt bolisi o un gwasanaeth bws yr awr i bob pentref o faint penodol, a chaiff hynny ei ariannu gan dreth fusnes ranbarthol. Felly, mae yna fodelau'n bodoli. Lle mae pobl eisiau ei wneud, fe ellir ei wneud, a lle mae yna ewyllys, mae yna ffordd. Nid oes unrhyw beth yn ei hanfod yn atal ardal wledig rhag cael gwasanaeth bws o safon.

Mewn gwirionedd, mae yna amrywiaeth o bethau y gallwn eu cynnig mewn ardaloedd gwledig, gan gynnwys y peilot Fflecsi y buom yn ei wneud, sy'n ymateb i'r galw. Mae'n debygol o fod yn rhan o'r darlun amrywiol rydym yn ei dendro fel rhan o broses y fasnachfraint. Yn bendant, mae gan bethau fel rhannu ceir a chlybiau ceir rôl i'w chwarae, fel sydd gan feiciau trydan, sydd â photensial enfawr i bobl ar gyfer newid dulliau teithio, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig a lled-wledig a bryniog. Rydym yn treialu'r cynllun hwnnw hefyd—y cynllun E-Symud gyda Sustrans, lle rydym yn rhoi cymhorthdal i bobl gael benthyg beiciau trydan am ddim er mwyn cyrraedd gwasanaethau allweddol, ac mae hynny'n hynod o lwyddiannus. Felly, rwy'n credu bod yna gyfres o fesurau y gallwn eu mabwysiadu i wneud trafnidiaeth gynaliadwy yn gyffredinol yn opsiwn mwy realistig i bobl mewn ardaloedd gwledig.

Ar y cynllun presennol ar gyfer bysiau, y gofynnodd yn benodol yn ei gylch—sut mae cadw hynny i fynd—wel, mae hynny'n mynd i fod yn her i bawb ohonom, o ystyried y setliadau ariannol rydym yn eu hwynebu. Rydym wedi llwyddo i gael rhywfaint o sefydlogrwydd a sicrwydd tan ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, ac rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i weld beth y gallwn ei wneud i'w gadw i fynd y tu hwnt i hynny.

14:10

Prynhawn da, Weinidog. A gaf fi ddiolch i Carolyn Thomas am godi'r mater hwn? Rwy'n gwybod ei fod yn fater pwysig iawn i chi. Diolch am ddal i dynnu ein sylw ato yn y Senedd.

Rwyf eisiau siarad ychydig am y buddsoddiad, yn enwedig yn dilyn cwestiwn Rhun ynglŷn â pha mor bwysig yw hi i ardaloedd gwledig gael gwasanaethau bws. Mae'n debyg mai cwestiwn am yr adolygiad ffyrdd sydd gennyf mewn gwirionedd, a'r potensial i arbed arian o beidio ag adeiladu rhagor o ffyrdd, rhywbeth rwy'n ei gefnogi'n llwyr, ac a yw'n bosibl trosglwyddo'r arbediad hwnnw wedyn i'w fuddsoddi yn ein bysiau. Diolch yn fawr iawn.

Rwy'n credu mai'r peth i'w gofio am yr arbediad o'r adolygiad ffyrdd yw nad oes unrhyw arbediad ar unwaith, oherwydd rydym yn parhau i adeiladu'r ffyrdd a oedd eisoes ar y gweill. Er enghraifft, mae pont afon Dyfrdwy yn mynd i gael ei chwblhau yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Mae hwnnw'n fuddsoddiad sylweddol iawn, tua hanner ein cyllideb eleni. Rydym yn adeiladu'r ffordd yn sir Benfro, sydd hefyd yn gwneud cynnydd da. Felly, nid ydym yn arbed unrhyw arian ar unwaith. Pwynt yr adolygiad ffyrdd oedd symud cyllid dros amser tuag at drafnidiaeth fwy cynaliadwy, a buddsoddi arian hefyd ar gyfer cynnal a chadw ein ffyrdd presennol, yn hytrach nag adeiladu rhai newydd pan fyddwn yn ei chael hi'n anodd cynnal a chadw'r ffyrdd sydd gennym eisoes. Felly, nid oes arbedion ar unwaith, yn anffodus, ond mae'n rhan o newid rydym yn ei wneud yn rhan o'n dull gweithredu strategaeth trafnidiaeth Cymru a'n nodau newid hinsawdd i sicrhau mai trafnidiaeth gyhoeddus yw'r ffordd hawsaf o deithio o gwmpas. Oherwydd ers 70 mlynedd, rydym wedi sicrhau mai'r ffordd hawsaf o symud o gwmpas yw teithio mewn car, a dyna mae pobl yn ei wneud, oherwydd mae'n hawdd ac yn gyfleus. Ac mae'r gwrthwyneb yn wir hefyd—mae'n llai cyfleus ac yn anos defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Os gwnawn drafnidiaeth gyhoeddus yn ffordd hawsaf o deithio o gwmpas, bydd pobl yn ei wneud. Dyna beth sy'n digwydd mewn gwledydd eraill. Nid yw mor gymhleth â hynny mewn gwirionedd, ond mae angen i ni ei wneud, ac mae angen rhagor o fuddsoddiad ar gyfer hynny a dyna beth sydd angen inni ei weld dros amser. Yn anffodus, oherwydd y polisïau cyni a wynebwn nawr, rydym yn gorfod wynebu'r gwrthwyneb, lle rydym yn gorfod edrych ar arbed arian ar adeg pan ydym eisiau ehangu gwasanaethau, ac mae hynny'n anodd iawn.

Mannau Gwyrdd Cymunedol yng Nghaerdydd

6. Pa drafodaethau mae’r Gweinidog wedi'u cael gyda Chyngor Caerdydd a phartneriaid eraill ynglŷn ag ehangu mannau gwyrdd cymunedol yng Nghaerdydd? OQ59795

Diolch am y cwestiwn, Rhys.

Mae Llywodraeth Cymru yn cysylltu â chyngor dinas Caerdydd drwy'r bartneriaeth natur leol a'r awdurdod cynllunio ynglŷn â chreu a gwella mannau gwyrdd cymunedol. Mae cymorth ar gael drwy gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, cyfleusterau cymunedol a grantiau gwella mynediad. Mae ein polisi cynllunio yn cefnogi darpariaeth seilwaith gwyrdd ar gyfer datblygiadau newydd hefyd.

Diolch yn fawr, Weinidog. Mae cynllunwyr yn Madrid yn ceisio amgylchynu'r ddinas â choedwig drefol i liniaru'r argyfwng hinsawdd a gwella bioamrywiaeth. Mae yna syniad uchelgeisiol tebyg yn cael ei gyflwyno gan ymgyrchwyr yma yng Nghaerdydd, yn enwedig yr actifydd lleol Steffan Webb, i'r ddinas ddod yn ddinas parc newydd gyda pharciau gwledig mawr ar gyrion y ddinas. Byddai hyn, wrth gwrs, yn datblygu amddiffynfeydd llifogydd naturiol, yn gwella ansawdd aer, ac yn amsugno allyriadau tŷ gwydr a gynhyrchir gan y brifddinas. Cafodd y rhan fwyaf o'r parciau yng Nghaerdydd eu hagor yn ystod oes Fictoria, heb unrhyw barciau newydd ers degawdau. Weinidog, sut mae sicrhau bod rhagor o fannau gwyrdd yn cael eu hagor yng Nghaerdydd, yn enwedig yn y datblygiadau tai newydd mawr sy'n cael eu hadeiladu o amgylch y ddinas ar hyn o bryd, lle nad oes mannau gwyrdd cymunedol er eu bod mewn lleoliad lled-wledig? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, Rhys. Os rhowch y gŵr bonheddig hwnnw mewn cysylltiad â mi, rwy'n hapus iawn i siarad â nhw am fod yn rhan o fenter y goedwig genedlaethol hefyd. Mae hynny'n swnio'n ddiddorol iawn. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mwy na £1.2 miliwn i greu a gwella mannau gwyrdd cymunedol yng Nghaerdydd dros y ddwy flynedd nesaf. Rydym yn cydweithio'n uniongyrchol â Chyngor Caerdydd drwy gynllun partneriaeth natur leol Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, ac yn ogystal â chynnal asesiad o seilwaith gwyrdd fel rhan o'r gwaith o baratoi'r cynlluniau datblygu, rhaid i awdurdodau cynllunio ddatblygu polisïau clir ar gyfer diogelu a gwella darpariaeth seilwaith gwyrdd amlbwrpas, ac mae hynny'n cynnwys darparu, diogelu a gwella cyfleusterau chwaraeon a hamdden, gan gynnwys mannau gwyrdd ffurfiol ac anffurfiol a mannau tawel.

Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau i gyd yn ymwybodol fy mod wedi ymgynghori'n ddiweddar ar newidiadau i 'Polisi Cynllunio Cymru' i gryfhau ein dull o ddarparu seilwaith gwyrdd. Un o'r newidiadau rwy'n eu cynnig yw y dylid cael datganiad seilwaith gwyrdd i gyd-fynd ag unrhyw gais cynllunio a gyflwynir. Bydd hyn yn sicrhau bod ymgeiswyr yn rhoi ystyriaeth gynnar i seilwaith gwyrdd fel rhan o'r broses o lunio prosiectau, a bod darpariaeth briodol yn cael ei chyflwyno fel rhan o'r datblygiad. Rydym yn falch o weld cymunedau'n cymryd perchnogaeth ar fannau gwyrdd, ac rydym yn ariannu'r Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol i ddarparu cymorth i grwpiau lleol nodi a chymryd perchnogaeth neu reolaeth ar fannau gwyrdd ar gyfer rhandiroedd a phrosiectau tyfu bwyd eraill, yn ogystal ag ar gyfer hamdden. Felly, unwaith eto, mae yna bosibiliadau ar gyfer y prosiect y soniwch amdano. Bydd Caerdydd yn derbyn dros £102,000 dros y ddwy flynedd nesaf o dan y grant cymorth rhandiroedd, ac maent yn bwriadu dod â 69 o leiniau diffaith yn ôl i ddefnydd yn Sblot, Rhiwbeina a Gabalfa. Mae Caerdydd hefyd wedi derbyn £2.25 miliwn mewn grantiau drwy'r cynllun Trawsnewid Trefi ar gyfer gwelliannau seilwaith gwyrdd mewn tri safle ar draws y ddinas.

Yr unig beth arall yr hoffwn ei ddweud yw ein bod wedi bod yn gwneud llawer iawn o gynllunio ar gyfer gwastadeddau Gwent; rydym yn bwriadu llunio prif gynllun ar gyfer gwastadeddau Gwent. Felly, yn debyg iawn i'r goedwig o amgylch Madrid y soniwch amdani, gwastadeddau Gwent yw ysgyfaint Caerdydd a Chasnewydd, felly mae cael prif gynllun i sicrhau eu bod yn cael eu gwella'n ôl i'r statws cadwraeth gorau posibl, eu bod yn cael eu hamddiffyn rhag datblygu a'u bod yn parhau i gynnig mynediad agored i bobl Caerdydd a Chasnewydd, a gweddill Cymru wrth gwrs, yn bwysig iawn hefyd. Ond rwy'n hapus iawn i siarad mwy am unrhyw brosiectau arloesol eraill sydd gennych mewn golwg.

14:15
Teithio Llesol

7. Pa gefnogaeth sydd ar gael i ysgolion gwledig yn Arfon sydd yn ceisio annog mwy o deithio llesol i’r ysgol? OQ59803

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i alluogi mwy o blant i gerdded, mynd ar eu sgwteri a beicio i’r ysgol. Rydym yn darparu cyllid grant i awdurdodau lleol bob blwyddyn er mwyn gwella llwybrau teithio llesol gerllaw ysgolion i gyflawni’r nod hwn, ynghyd â rhaglenni ac adnoddau i hyrwyddo teithio llesol. 

Diolch yn fawr. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn hybu teithio llesol i ysgolion gan ddisgyblion sy'n byw mewn cartrefi gwledig, lle mae cyrraedd yr ysgol ar droed neu ar feic yn rhy beryg oherwydd fod y ffyrdd yn gul ac yn anaddas ar gyfer eu lledu ac ar gyfer creu palmentydd arnyn nhw. Mae yna rieni yn Groeslon, Llandwrog, Mynydd Llandygai, er enghraifft, yn awyddus iawn i'w plant fedru cerdded neu seiclo i'r ysgol, ond maen nhw'n poeni am ddiogelwch ar lonydd cul. Beth fedrith gael ei wneud mewn sefyllfaoedd gwledig? Oes yna enghreifftiau o arfer dda y gallwch chi gyfeirio atyn nhw, os gwelwch yn dda?

Diolch am y cwestiwn.

Nawr, mae ein rhaglen teithio llesol yn amlwg yn cynnwys ardaloedd gwledig, ac mae awdurdodau lleol yn gallu dangos ar eu mapiau teithio llesol unrhyw ardaloedd yr hoffent eu nodi ar gyfer gwelliannau, ac ymrwymo'r cyllid hwnnw yn y blynyddoedd i ddod. Gwynedd, yn anffodus, yw'r unig sir yng Nghymru sydd heb gael eu map teithio llesol wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, a hynny er gwaethaf ymestyn y dyddiad cau iddynt wneud hynny. Rydym yn amlwg yn dal i'w hariannu, ond hoffem i'w perfformiad wella. Mae ganddynt dri llwybr gwledig yn cael eu datblygu yn ystod y flwyddyn ariannol hon, ac rydym am i hynny wella. Cafwyd cais am gyllid ar gyfer y llwybr rhwng Bethel a Chaernarfon eleni na fu modd symud ymlaen ag ef oherwydd nad oedd digon o ganiatadau a gwaith ymlaen llaw wedi'i wneud, a oedd yn ei gwneud yn ormod o risg i allu bod yn hyderus y byddent yn gallu ei wario o fewn blwyddyn. Rydym hefyd yn gwneud nifer o ymyriadau ymddygiad gydag ysgolion, ac mae'n amlwg fod y grant llwybrau diogel mewn cymunedau yn dal i fod ar gael hefyd. 

Felly, gwyddom o'r dystiolaeth mai cyfuniad o fesurau seilwaith a mesurau ymddygiad yw'r hyn y mae angen inni ei weld. Ac fel roeddwn yn ei ddweud wrth Rhun ap Iorwerth yn y cwestiwn yn gynharach, rydym hefyd yn gwybod y gallai'r cyfuniad o fesurau fod yn wahanol mewn ardaloedd gwledig. Ond mae diogelwch ar y ffyrdd a newid dulliau teithio'n hanfodol, ac rydym yn awyddus i barhau i gydweithio gydag awdurdodau lleol, a'u helpu i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i wella eu perfformiad, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael yr un cyfleoedd, yn hytrach na dim ond y rhai sydd â chynghorau sy'n well am wneud ceisiadau nag eraill.

14:20
Pwll Glo Brig Ffos-y-frân

8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n parhau ym mhwll glo brig Ffos-y-frân? OQ59799

Diolch yn fawr, Peredur. Cyflwynwyd apêl, ac felly mae'n bwysig iawn nad wyf yn dweud unrhyw beth a allai arwain at her gyfreithiol yn y dyfodol mewn ymateb i unrhyw benderfyniad gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r achos hwn, mae arnaf ofn.

Mae'n rhaid imi ofyn y cwestiwn, ac efallai y byddwch yn rhoi'r un ymateb i fy nghwestiwn atodol hefyd, ond efallai y gallech wneud sylwadau mewn ffordd fwy cyffredinol.

Dylai gwaith ym mhwll glo brig Ffos-y-frân ym Merthyr fod wedi dod i ben ar 7 Medi y llynedd. Byddai hyn wedi dod â hunllef 15 mlynedd i ben i drigolion lleol, sydd wedi cael eu gorfodi i ddioddef yr holl sŵn a'r llygredd a oedd yn gysylltiedig â phwll glo brig mwyaf y DU. Fel y gwyddom, nid dyma ddiwedd y mater, a dros y 10 mis diwethaf, mae perchnogion y pwll glo wedi chwarae'r system gynllunio, gyda phrin unrhyw wrthwynebiad gan awdurdodau i ymestyn oes y pwll, gan godi cannoedd o filoedd o dunelli o lo. Weinidog, a ydych yn derbyn barn bargyfreithwyr sy'n gweithio gyda'r grŵp ymgyrchu, Coal Action Network, y gallech fod wedi ymyrryd ynghynt, a bod y sefyllfa sydd wedi datblygu wedi dwyn anfri ar y system gynllunio? Ac yn olaf, a ydych chi a'r cyfreithwyr sy'n cynghori eich adran o'r farn fod unrhyw deilyngdod ym marn y bargyfreithwyr hynny y gellid dadlau bod eich oedi cyn cymryd camau gorfodi yn anghyfreithlon?

Mae'n wir ddrwg gennyf, Peredur, ond ni allaf wneud sylwadau ar fater ymgyfreitha sydd ar y gweill, yn enwedig o ystyried sylwadau a wnewch am y farn gyfreithiol sy'n cael ei mynegi. Ar ryw bwynt, Lywydd, rwy'n siŵr y gallwn ei drafod yn iawn, ond rwy'n ofni nad heddiw yw'r diwrnod.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Awn ni ymlaen i'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg. Y cwestiwn cyntaf, Gareth Davies.

Cyfleusterau Cegin a Bwyta ar gyfer Ysgolion

1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Chyngor Sir Ddinbych ynghylch darparu cyfleusterau cegin a bwyta digonol ar gyfer ysgolion yn Sir Ddinbych? OQ59777

Mae fy swyddogion yn parhau i ymgysylltu â Chyngor Sir Ddinbych, fel y maent gyda'r holl awdurdodau lleol, wrth inni weithredu ein hymrwymiadau o ran prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd. Er mwyn cefnogi'r broses o gyflwyno'r cynllun, dyfarnwyd £2.1 miliwn o gyllid cyfalaf i'r awdurdod i helpu i sicrhau cyfleusterau cegin a bwyta digonol mewn ysgolion.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yn ddiweddar, cefais gyfarfod â phennaeth addysg Cyngor Sir Ddinbych ar yr union fater hwn, ac er bod yr awdurdod wedi croesawu cyflwyno prydau ysgol am ddim i'r holl blant, mae hefyd wedi achosi rhywfaint o bryder ymhlith arweinwyr ac ysgolion lleol ynglŷn â  chael cyfleusterau cegin o faint digonol i fodloni'r defnydd a'r galw cynyddol am wasanaethau arlwyo yn yr ysgolion, gan fod gan lawer o'r ysgolion hŷn gyfleusterau coginio a mannau bwyta bychain, lle cânt eu gorfodi i gael amseroedd cinio gwasgarog er mwyn i'r holl ddisgyblion gael eu cinio.

A yw Llywodraeth Cymru yn derbyn y realiti hwn yn sir Ddinbych, ac a ydych chi'n cydnabod y flaenoriaeth i ariannu'r gwaith o ehangu ceginau ysgolion yn y sir dros yr haf, cyn i blant fynd yn ôl i'r ysgol ym mis Medi? Pa fecanweithiau cyllido a weithredir gennych? Rydych wedi sôn am y £2.1 miliwn, ond rydym yn brin o amser i gyflawni'r gwaith rhwng nawr a mis Medi, ac rwy'n awyddus iawn i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn fy etholaeth yn colli'r cyfle hwn. Mae amser yn greiddiol yn hynny o beth, Weinidog, felly beth fyddwch chi'n ei wneud i sicrhau bod y broses gyflwyno'n effeithiol ac nad oes unrhyw blentyn yn fy etholaeth yn cael eu hamddifadu o fanteision y cynllun hwn?

Wel, fel y dywedais, rydym mewn cysylltiad cyson ag awdurdodau ledled Cymru, gan gynnwys sir Ddinbych, ac roeddwn yn siarad â'r aelod cabinet yno, Gill German, yn ddiweddar iawn am brydau ysgol am ddim yn enwedig a meysydd eraill lle rydym yn helpu i sicrhau ein bod yn lleihau'r rhwystrau i fod yn yr ysgol ac i bobl ifanc ffynnu. Fel y gwyddoch, mae sir Ddinbych eisoes wedi cyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb ym mlynyddoedd derbyn, 1 a 2 ym mhob un o'r 46 ysgol, gyda disgyblion a'r grwpiau blwyddyn hynny, ac maent ar y trywydd iawn i ddarparu cam 2 i flynyddoedd 3 a 4 o fis Medi ymlaen.

Ar y pwynt a wnewch yn benodol am gyfalaf, mae'r cyllid wedi'i ryddhau i awdurdodau lleol ar sail fformiwla, a oedd yn ystyried nifer y dysgwyr a nifer yr ysgolion o fewn ardal yr awdurdod lleol perthnasol, sydd i bob pwrpas wedi golygu buddsoddiad teg ledled Cymru. A fy nealltwriaeth i yw bod llawer o ysgolion yn sir Ddinbych eisoes wedi elwa o uwchraddio cyfleusterau coginio a storio, a bod mwy o waith wedi'i gynllunio dros yr haf mewn gwirionedd. Lle bu heriau penodol gydag awdurdodau penodol ar brosiectau penodol, rydym wedi gallu bod yn hyblyg mewn perthynas â hynny. Ond rwy'n mentro dweud bod sefyllfa sir Ddinbych yn debyg i sefyllfa siroedd eraill, sef bod yna waith wedi ei gynllunio dros yr haf. Mae'n brosiect mawr iawn ac mae'n digwydd yn gyflym. Felly, hoffwn ddiolch i gydweithwyr yn sir Ddinbych ac ar draws Cymru am yr ymdrech y maent yn ei roi i hyn. Nid yw heb ei heriau, ond rydym wedi bod yn barod i roi cefnogaeth ar y cwestiynau y mae'n eu gofyn.   

14:25
Targed 'Cymraeg 2050'

2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud tuag at darged Cymraeg 2050 o filiwn o siaradwyr Cymraeg? OQ59793

Rydyn ni’n cynnig diweddariad yn erbyn amcanion ein strategaeth iaith Gymraeg, 'Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr', yn flynyddol. Caiff yr adroddiad nesaf ei gyhoeddi yn ystod hydref 2023.

Bydd y ffigwr o 538,000 siaradwr Cymraeg a gofnodwyd yng nghyfrifiad 2021 wedi bod yn siom i nifer ohonom sydd am weld y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050; mae'r ffigwr hefyd yn is nag amcanestyniad 'Cymraeg 2050' y Llywodraeth ei hun yn 2017. Ar y llaw arall, mae'r arolwg poblogaeth blynyddol yn awgrymu bod dros 900,000 o bobl yn siarad yr iaith, ond mae'n amlwg fod y ffigwr hwnnw wedi cael ei wrthod yn weddol eang. Ond rwy'n crybwyll y ffigurau cyferbyniol hynny i ddangos y gellir ystumio a mesur ystadegau i gyd-fynd â tharged penodol. Yn enwedig pan fydd pobl yn ystyried eu hyfedredd eu hunain mewn gwahanol ffyrdd, mae'n amlwg fod llawer o le i amrywio o ran y canlyniad terfynol a gyrhaeddir. Felly, a gaf fi ofyn cwestiwn syml a chlir? Beth yw siaradwr Cymraeg y teimlwch y byddai'n cyfrif tuag at y targed o filiwn o siaradwyr? Ai rhywun sy'n gwybod ambell air, neu rywun a allai adrodd y Mabinogi? Felly, a gaf fi rywfaint o eglurder ynglŷn â pha set yn union o ffigurau y bydd eich olynydd, neu chi hyd yn oed, yn dal yn eich swydd yn 2050, yn eu defnyddio i sicrhau bod y targed hwnnw wedi'i gyrraedd? Ai'r cyfrifiad yn union cyn hynny yn 2041, neu set arall o ystadegau yn gyfan gwbl? 

Rwy'n gwrthod yn llwyr y wleidyddiaeth ymrannol sydd y tu ôl i'r cwestiwn ynglŷn â phwy a all adrodd y Mabinogi a phwy na all wneud hynny. [Chwerthin.] Ond o ddifrif, mae'r Aelod yn codi cwestiwn pwysig. Nid fy lle i yw dweud wrth neb a ydynt yn siaradwyr Cymraeg. Mae'n benderfyniad goddrychol yn ei hanfod, ac rydym am symud o fyd lle nad ydych yn teimlo y gallwch ddisgrifio'ch hun fel siaradwr Cymraeg oni bai eich bod yn rhugl. Beth mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd? Rydym wedi bod yn glir iawn fod y Gymraeg yn eiddo i bob un ohonom, a rhan o hynny yw cydnabod bod ystod o hyder ac ystod o gymhwysedd, a bod gennych hawl i alw eich hun yn siaradwr Cymraeg beth bynnag yw lefel eich hyfedredd.

Mae'r pwynt a wnewch am y data'n bwysig. Ni fyddwn yn ei ddisgrifio fel ystumio; rwy'n credu ei fod yn bwynt goddrychol, onid yw? Felly, a ydych yn teimlo, os ydych yn llenwi ffurflen sy'n ofynnol yn gyfreithiol a bod cosb os nad ydych yn ei llenwi, a rhywun yn dweud, 'A ydych chi'n siarad Cymraeg?' —. Wel, bydd hynny'n gwneud i bobl deimlo mewn ffordd benodol weithiau, oni fydd, yn enwedig wrth ei wneud ar ôl cyfnod COVID, pan nad yw plant wedi bod yn yr ysgol. Ein hymrwymiad yw ein bod yn defnyddio'r cyfrifiad fel y meincnod ar gyfer cynnydd yn erbyn y nod, ond byddwn i gyd yn gwybod bod trafodaeth yn digwydd ar hyn o bryd ar lefel y DU ynglŷn ag a fydd y cyfrifiad yn parhau ar yr un ffurf â heddiw. Felly, rydym yn ddarostyngedig i'r drafodaeth ehangach honno, fel y bydd pob Llywodraeth arall yn y DU, ond dyna'r meincnod a ddefnyddiwn. Fe fyddwch yn gwybod hefyd fod y Prif Weinidog wedi ysgrifennu at y Swyddfa Ystadegau Gwladol i'n helpu i gysoni'r ddwy ffynhonnell ddata y cyfeirioch chi atynt yn eich cwestiwn, oherwydd mae'n bwysig iawn, o safbwynt cynllunio iaith, fod gennym ddealltwriaeth ddibynadwy a chyd-destunol o nifer y siaradwyr Cymraeg.   

Weinidog, cefais y fraint o fod yn rhan o'r orymdaith ar gyfer cyhoeddi Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024 yn Aberdâr ddau benwythnos yn ôl, lle roedd yn wych gweld cymaint o bobl leol allan yn cefnogi ac yn dathlu iaith a diwylliant y Gymraeg. Gwn fod tîm yr Eisteddfod eisoes yn cyflwyno amrywiaeth o brosiectau lleol ledled Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys cynnig gwersi Cymraeg. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i adeiladu ar hyn ac ymgorffori cynnydd tuag at gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? 

[Anghlywadwy.] —rhieni, mewn gwirionedd, yn y cyhoeddi hefyd, ac yn ei ddisgrifio fel achlysur llawen iawn ac yn achlysur cynhwysol iawn. Felly, roedd yn amlwg wedi denu llawer o bobl leol, ond pobl o ychydig ymhellach i ffwrdd hefyd. Rwy'n meddwl ei bod yn wych gweld yr Eisteddfod yn dod â chymuned Rhondda Cynon Taf at ei gilydd fel hyn. I lawer o bobl, dyma uchafbwynt yr haf, onid e, ond mae hefyd yn llawer mwy na'r ŵyl un wythnos honno, sy'n amlwg o'ch cwestiwn, ac yn ymarferol, mae'n bartneriaeth ddwy flynedd gyda chymunedau. Ac mae hynny'n cynnwys amrywiaeth o raglenni, mentrau a digwyddiadau cymunedol, a gwneud yn union beth roeddech chi'n ei wneud yn y cyhoeddi, sef cyflwyno pobl i'r Eisteddfod ac i fwynhau diwylliant Cymraeg. Hyd yn oed i'r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg eu hunain, gallant gymryd rhan lawn yn hynny.

Mae'r Eisteddfod yn gweithio'n galed iawn yn barod, fel y soniodd yr Aelod yn ei chwestiwn, i sicrhau bod yr ardal leol yn elwa o'r Eisteddfod, yn ddiwylliannol ac yn economaidd, ac wrth gwrs, o ran 'Cymraeg 2050'. Ac rwy'n gweld yr Eisteddfod fel catalydd mawr yn yr ystyr honno, gan ddod â chymunedau at ei gilydd ac ysgogi cefnogaeth, ac rwy'n falch iawn o glywed bod yr Aelod wedi mwynhau'r digwyddiad.

14:30
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Llefarwyr y pleidiau i ofyn y cwestiynau nawr. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.

Diolch, Lywydd. Bob wythnos, rydym i gyd yn codi yn y Siambr hon ac mae pob un ohonom ar ryw adeg, rwy'n siŵr, yn cydnabod bod STEM—gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg—o'r pwys mwyaf ac mai dyna fydd swyddi'r dyfodol. Felly, rwy'n ddryslyd braidd, Weinidog: ni all fod yn iawn eich bod chi'n cael gwared ar ddewis y dysgwr i wneud y nifer fwyaf o oriau mewn gwyddoniaeth drwy gael gwared ar y cyfle i ddilyn y gwyddorau hynny ar wahân, gan roi'r rhai sydd am fwrw ymlaen i wneud gwyddoniaeth, pynciau STEM a swyddi dan anfantais yn syth o gymharu â'u cyfoedion dros y ffin yn Lloegr a'r Alban.

Ac nid yn unig hynny, yn hytrach na bod ein hysgolion yn cynnig gwyddorau ar wahân a gwyddoniaeth ddwbl, ni fydd ein hysgolion ond yn cynnig gwyddoniaeth ddwbl a gwyddoniaeth sengl bellach. Felly, fel y dywedoch chi o'r blaen, fe gawsoch gefnogaeth gan gyrff gwyddoniaeth mawr pan ddywedoch chi mai dim ond un llwybr gwyddoniaeth y byddwch yn ei gynnig yn ein hysgolion a chael gwared ar y system ddwy haen sydd ar waith ar hyn o bryd a oedd yn destun anfodlonrwydd i lawer o bobl. Ond nawr—nawr—rydych chi wedi symud i system ddwy haen arall, ond bod gan hon lai o wyddoniaeth, llai o gyfle i fwrw ymlaen i astudio mwy o wyddoniaeth, llai o gyfle i gael eich derbyn yn y prifysgolion gorau a llai o gyfle i fod yn barod am swyddi STEM neu fod yn gystadleuol ynddynt ar gyfer y dyfodol. Felly, fy nghwestiwn i chi yw: a ydych chi a Cymwysterau Cymru yn meddwl o ddifrif mai dyma'r cam gorau, er budd gorau ein dysgwyr yng Nghymru?

Wel, gan fod yr Aelod wedi camddyfynnu'r cyrff gwyddoniaeth y tro diwethaf iddi roi'r pwynt hwn i'r Prif Weinidog, efallai y byddai'n ddefnyddiol imi egluro'r sefyllfa go iawn. Felly, Cymwysterau Cymru sy'n gwneud y penderfyniadau hyn. Ac mae'r pwynt y mae'n ei wneud am STEM yn bwysig iawn, ac rwy'n cytuno â hi ei bod yn bwysig annog pobl ifanc i astudio pynciau STEM hyd at 16 oed a thu hwnt. Bydd TGAU mewn gwyddoniaeth yn parhau i gydnabod pwysigrwydd pob disgyblaeth unigol. Felly, bydd pob un o'r rheini—bioleg, cemeg a ffiseg—o fewn y dyfarniad dwbl yn dal i gael ei radd ei hun. Mae Cymwysterau Cymru yn glir iawn y bydd y dyfarniad dwbl TGAU newydd yn cefnogi dysgwyr sydd am fynd y tu hwnt i hynny i astudio pynciau gwyddonol ar wahân ar lefel UG a Safon Uwch, yn y brifysgol, a thu hwnt yn wir.

Rwy'n siŵr y bydd hi wedi darllen y dadansoddiad a gyhoeddwyd o'r data mewn perthynas â hyn ar yr adeg pan gyhoeddodd Cymwysterau Cymru ei benderfyniad. Ac mae'r dadansoddiad hwnnw'n dangos bod cyfran debyg o ddysgwyr ag A*, er enghraifft, yn eu TGAU gwyddoniaeth yn mynd ymlaen i ennill gradd A mewn pynciau gwyddoniaeth UG, p'un a oeddent wedi ymgeisio am y TGAU dyfarniad dwbl a fodolai ar y pryd neu'r TGAU mewn pynciau gwyddonol ar wahân.

Mae'r cymdeithasau dysgedig yn cefnogi'r dyfarniad dwbl mewn gwirionedd, yn groes i'r pwynt a wnaeth hi i'r Prif Weinidog. Mae hi'n ysgwyd ei phen. Mae'n hollol wir fod y cymdeithasau dysgedig yn cefnogi hynny. Maent wedi mynegi pryder ynghylch y dyfarniad gwyddoniaeth sengl, ond mae gennym ddyfarniad gwyddoniaeth sengl yn barod, sy'n cael ei ddefnyddio gan oddeutu 6 y cant o ddysgwyr—yn aml y rhai sydd am fynd ymlaen i astudio pwnc STEM ar gyfer Safon Uwch neu y tu hwnt i TGAU heb wneud y pynciau gwyddonol yn llawn. Nifer bach yw hwnnw ac mae'n debyg i'r nifer y byddwn yn disgwyl iddynt ymgeisio am y dyfarniad gwyddoniaeth sengl yn y dyfodol hefyd.

Weinidog, rydych chi wedi methu tawelu fy meddwl eich bod chi'n gwneud yr hyn sy'n iawn i ddysgwyr yng Nghymru. Yr hyn rydych chi'n ei wneud yw sicrhau bod Cymru'n colli athrawon arbenigol ar gyfer Saesneg a Gwyddoniaeth, ynghyd ag amddifadu dysgwyr o'r cynnwys ychwanegol mawr ei angen hwnnw. Nid yw'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol, y Sefydliad Ffiseg, athrawon gwyddoniaeth a llawer o ddisgyblion yn cytuno â'r newid hwn. Ac rwy'n falch, fel y dywedoch chi, y byddant o leiaf yn cael eu graddio ar wahân, ond dim ond dau ddyfarniad TGAU ydynt, nid tri. Ac mae'n fwy na gwyddoniaeth yn unig, onid yw? Bydd Saesneg yn gymhwyster integredig newydd, ar gyfer llenyddiaeth ac iaith gyda'i gilydd—dyfarniad ddwbl. Fodd bynnag, ni fydd y rhain yn cael eu cofnodi ar wahân, ac er y bydd dwy radd, ni fydd modd eu hadnabod fel 'llenyddiaeth' neu 'iaith'. Weinidog, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol, yn ystod yr ymgynghoriad y dywedwch eich bod wedi'i ddarllen, mai'r cynnig o gyfuno llenyddiaeth ac iaith Saesneg a ddenodd fwyaf o wrthwynebiad, gyda 56 y cant o bobl yn anghytuno â'r syniad, ac eto mae'n mynd i ddigwydd beth bynnag, yn groes i'r ymgynghoriad, ac yn erbyn cyngor arbenigol. Felly, Weinidog, mae'n amlwg i bawb fod y ddau bwnc yn hollol wahanol, ac eto bydd dysgwyr Cymru'n gweld llai o gynnwys o'i gymharu â'u cyfoedion dros y ffin. Felly, Weinidog, pam eich bod chi'n bwrw ymlaen â'r newid hwn, pan nad oes mo'i angen a phan fo'n peryglu cyfleoedd dysgwyr mewn swyddi a phrifysgolion ac nad yw'n parchu'r gwahaniaethau real rhwng y ddau bwnc?

14:35

Wel, mae'r Aelod yn gwbl anghywir; nid dyna safbwynt y cymdeithasau dysgedig, y cyrff dysgedig. Fe wnaeth y pwynt hwn, yn anghywir, i'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, mae'n ei wneud eto, yn anghywir, i mi yr wythnos hon. Yn sicr, nid dyna yw eu safbwynt. Nid ydynt yn galw am adfer gwyddorau sengl; nid ydynt yn gwneud hynny. Felly, y ddadl—[Torri ar draws.] Efallai ei bod hi'n dymuno hynny, ond nid yw'n wir. A'r rheswm am hynny yw eu bod yn deall y bydd hynny'n cefnogi mwy o bobl i ddilyn pynciau STEM y tu hwnt i 16 oed, sef yr hyn y mae pawb ohonom eisiau ei weld. Ac yn wir, fe fydd hi hefyd yn gwybod bod prifysgolion yn gwneud cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau safon uwch, ac mae gan ddysgwyr yng Nghymru fantais o wneud cais gyda'r graddau UG yn eu pynciau dewisol, sy'n wahanol i'w cyfoedion yn Lloegr. Felly, mae ganddynt fantais mewn perthynas â hynny.

Mae'r pwynt am Saesneg ychydig yn wahanol. Y bwriad yw gwneud yn siŵr fod pawb yn cael cyfle i astudio llenyddiaeth Saesneg. Nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd—mae ysgolion yn gwneud dewisiadau i beidio â chofrestru pobl ar gyfer llenyddiaeth. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, a byddwn yn disgwyl ei bod hi o'r farn ei bod yn bwysig iawn, i bob dysgwr gael cyfle i wneud hynny, a dyna'r rhesymeg dros y newid.

I droi at fater arall, Weinidog, fel y gwyddoch, yn ddiweddarach eleni, bydd Cymru'n gweld ei chanlyniadau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) diweddaraf. Y tro diwethaf, roedd Cymru ar waelod y safleoedd PISA yn y DU, ac roedd ar yr un lefel â chyn wledydd y bloc dwyreiniol. Mae pob un o'ch rhagflaenwyr, Weinidog, wedi methu cyrraedd eu targedau ar gyfer PISA, ac mae'n ymddangos ein bod yn mynd i gyfeiriad tebyg. Felly, Weinidog, a allwch chi ddweud wrth y Senedd hon heddiw: ai 500 yw'r targed o hyd ar gyfer y sgoriau cyfartalog ar draws y tair disgyblaeth, a faint o obaith y credwch chi sydd yna o'i gyrraedd y tro hwn, ac a fyddwn ni'n gweld Cymru mewn gwell sefyllfa o'i chymharu â gweddill y DU?

Wel, mewn gwirionedd, Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i wella ym mhob un o'r tri maes PISA y tro diwethaf. Mewn gwyddoniaeth ac mewn mathemateg, nid oedd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ystyried bod sgoriau Cymru'n wahanol i rai'r Alban, Gogledd Iwerddon, na chyfartaledd y Sefydliad yn wir. A gwellodd sgôr cymedrig Cymru mewn darllen rhwng 2015 a 2018, ac fel y mae'n gwybod, rydym wedi sefydlu nifer o gamau gweithredu rydym yn eu cymryd i flaenoriaethu gwelliant mewn sgoriau darllen. Mae PISA yn ddarn pwysig o ddata am berfformiad y system ysgolion, ond dim ond un darn o ddata ydyw, ac mae'n bwysig ei weld ochr yn ochr â'r gweddill hefyd.

Diolch, Llywydd. Weinidog, jest i ddilyn o bwyntiau Laura Anne Jones, oes, mae yna groeso wedi bod i'r radd ddwbl, ond mae yna bryderon wedi codi o ran y radd sengl. Sut ydych chi'n mynd i ymateb i hynny, oherwydd mae yna alwadau wedi bod yn gofyn i chi ailystyried, i ymgynghori, oherwydd y cysylltiad cryf sydd yna rhwng yr angen i sicrhau sgiliau mewn gwyddoniaeth a'r pryderon sydd wedi eu mynegi gan bobl sy'n gwybod lot mwy na fi, ac sy'n arbenigwyr yn y maes yma, o ran y pryderon sydd ganddyn nhw?

Newid arall sydd, wrth gwrs, wedi derbyn cryn sylw ydy'r cymhwyster TGAU newydd, gwneud i Gymru. Wel, ddegawd yn ôl, fe wnaeth adroddiad Dr Sioned Davies, 'Un iaith i bawb', argymell dod â Chymraeg ail iaith i ben a chreu continwwm dysgu Cymraeg. Os ydym ni o ddifrif am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn perthyn i bawb, pam felly mai ail-frandio ail iaith sy'n digwydd yn hytrach na gweithredu argymhelliad Dr Sioned Davies, sydd yr un mor berthnasol heddiw ag yr oedd yn 2013? Pryd fydd y system addysg yn cefnogi pob disgybl yng Nghymru i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus drwy un continwwm iaith?

Mae dau bwynt yn y cwestiwn. Y pwynt cyntaf: mae'r Aelod yn iawn i ddweud dyw'r cyrff hyddysg—beth bynnag yw'r term hwnnw—ddim yn gwrthwynebu'r cyfuniad o'r tri i mewn i double award. Mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn iawn am y GCSE sengl, ond mae gennym ni un sengl ar hyn o bryd—mae gennym ni applied sciences ar hyn o bryd, ac mae rhyw 6 y cant o ddisgyblion yn cymryd hwnnw. Dyna'r un math o lefel y buaswn i'n ei ddisgwyl i gymryd yr un newydd. Mae e ar gyfer pobl sydd yn moyn gwneud rhywfaint o wyddoniaeth ond efallai ddim yn credu y gallan nhw wneud yr holl ystod, ond yn moyn mynd ymlaen i wneud rhywbeth wedyn sydd angen rhyw elfen o wyddoniaeth, ond ddim yr ystod ehangach. Felly, mae e yn caniatáu cynnig i'r cam nesaf—nid yn yr un ffordd, ac mae'n adlewyrchu'r trefniadau sydd gyda ni ar hyn o bryd. Bydd cyfle i drafod hyn ymhellach, wrth gwrs, wrth i gynnwys TGAU yn cael ei ddylunio dros y flwyddyn nesaf, ac mae cyfle i'r cyrff hynny gyfrannu yn agored at hynny, fel y proffesiwn ac eraill hefyd. 

O ran yr ail bwynt y mae'r Aelod yn ei ddweud, mae'r syniad o ail iaith wedi cael gwared ohono fe; dyw e ddim yn syniad rŷn ni'n ei gydnabod. Ac mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud am gontinwwm—dyna'r ateb i'r cwestiwn. Rŷn ni wrthi'n creu'r un continwwm yn y gwaith rŷn ni'n ei wneud ar y cyd gyda Plaid Cymru o fewn y cytundeb cydweithio, yn y Bil rŷn ni wedi bod yn ymgynghori arno fe yn y Papur Gwyn. Un o'r cynigion cyffrous, rwy'n credu, yn hynny, yw ein bod ni'n creu un continwwm o sgiliau, fel bod pobl yn deall lle mae nhw ar y llwybr. Ac mae hynny'n wir am y cymwysterau hyn; dŷn nhw ddim yr un peth, ond dŷn ni ddim yn dechrau o'r un man ym mhob ysgol, felly mae'n rhaid cydnabod hynny hefyd.

Byddwn i'n hoffi gweld, dros amser, fod y gwahaniaeth rhwng y ddau yn dod i ben, os hoffwch chi, ond rŷn ni ymhell o allu sicrhau hynny heddiw.

14:40

Diolch, Weinidog, ond y gwir amdani ydy mae yna gymhwyster gwahanol yn mynd i fod mewn ysgolion cyfrwng Saesneg i ysgolion cyfrwng Cymraeg, sydd yn diystyru taith y dysgwr hwnnw, oherwydd mae yna bobl sydd yn gallu'r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg hefyd. Fel y byddwch yn ymwybodol, Weinidog, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, mae gwefan Addysgwyr Cymru yn gweithredu fel porth swyddi, lle gall ysgolion a sefydliadau addysgol hysbysebu swyddi, a hynny yn rhad ac am ddim. Un opsiwn arall mae rhai ysgolion yn ei ddefnyddio ydy Eteach, lle gellir hysbysebu swydd am £499, ynghyd â threth, neu £1,100 y flwyddyn am ystod o swyddi. Echdoe, roedd 433 o swyddi yng Nghymru yn cael eu hysbysebu ar Eteach. Pe byddai pob un o'r rhain wedi costio £499, cyfanswm hyn fyddai £216,067. A ninnau â system newydd wych sydd am ddim i ysgolion ei defnyddio, sut ydych chi am sicrhau bod ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol, megis Cyngor Caerdydd, yn rhoi'r gorau i wario ar hysbysebu ar blatfformau fel Eteach, ac a wnewch chi ymrwymo i ysgrifennu at bob awdurdod lleol yng Nghymru, a phob sefydliad addysgiadol, a sicrhau bod pob un yn newid i ddefnyddio gwefan Addysgwyr Cymru, fel nad oes arian prin yn cael ei wario'n ddiangen? Onid dyna oedd holl bwrpas sefydlu Addysgwyr Cymru?

Wel, mae pwrpas llawer ehangach na hynny i sefydlu Addysgwyr Cymru. Ond, o ran y porth, dwi ddim yn mynd i wneud sylwadau ar yr un cwmni y mae'r Aelod yn sôn amdano fe, achos dwi ddim yn gwybod yr holl fanylion a'r ystod o wasanaethau maen nhw'n eu cynnig. Ond, ar ddiwedd y dydd, mae'n fater i benaethiaid benderfynu sut i wario'u cyllideb nhw. Mae ganddo nhw borth sydd yn cynnig gwasanaeth sydd ar gael am ddim, a does dim yn eu rhwystro nhw rhag defnyddio hwnnw. Os ydyn nhw'n defnyddio rhyw wasanaeth arall, dwi ddim yn gwybod beth mae'r gwasanaeth hwnnw'n ei ddarparu, felly mae'n anodd i mi gymharu yn hynny o beth. Ond mae pob pennaeth o dan bwysau ariannol ar hyn o bryd, so dwi'n sicr iawn y bydd pob un yn edrych ar ba gamau sydd angen eu cymryd er mwyn osgoi gwariant nag ydyn nhw'n teimlo sy'n angenrheidiol.

Addysg Uwch

3. Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cynnal gyda'r sector addysg uwch ynglŷn â rôl prifysgolion yn strategaeth Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd eleni, 'Cymru’n arloesi: creu Cymru gryfach, decach, a gwyrddach'? OQ59796

Mae Gweinidog yr Economi a minnau, ynghyd â’n swyddogion, yn cynnal trafodaethau rheolaidd gyda’r sector addysg uwch ar y cyfleoedd a’r heriau sy’n ymwneud ag ymchwil, datblygu ac arloesi. Mae ein prifysgolion wedi ymgysylltu’n llawn gyda’r gwaith o ddatblygu 'Cymru’n arloesi'.

Diolch, Weinidog. Dwi'n siŵr bod pawb yn gytûn bod ymchwil ac arloesi yn hanfodol i ddyfodol llewyrchus unrhyw wlad. Ond, yn ei erthygl ddiweddar yng nghylchgrawn Barn, mae'r Athro Richard Wyn Jones yn feirniadol iawn o strategaeth Llywodraeth Cymru, 'Cymru'n arloesi'—does dim targedau penodol, dim sy'n fesuradwy, ac felly mae'n amhosib barnu a ydy'r strategaeth yn llwyddiant ai peidio. Gweinidog, sut ydych chi'n ymateb i sylwadau Richard Wyn Jones? Diolch. 

Dwi wedi darllen yr erthygl, ac amryw erthyglau eraill gan Richard Wyn Jones ar y testun hwn. Mae'r strategaeth yn un sydd wedi cael ei hymgynghori arni gyda'r prifysgolion, gyda'r is-gangellorion, ac eraill, i sicrhau bod y peth yn gymwys. Mae hwn yn fater mae Gweinidog yr Economi, sy'n gyfrifol am y maes hwn o bolisi, dwi'n sicr wedi cymryd ystyriaeth ohono. Mae'n rhaid cydnabod bod y dirwedd wedi newid yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf o ran ffynonellau sydd ar gael ar gyfer ymchwil ac arloesi, fel roedd yr Aelod yn dweud yn ei gwestiwn. Rwy'n ymwybodol bod Gweinidog yr Economi wedi ymrwymo i wario dros £30 miliwn o ran arloesi dros y ddwy flynedd nesaf, ac i ddefnyddio ffynhonnell SMART FIS—flexible innovation support scheme—sydd newydd gael ei lansio, er mwyn delifro hynny. Yr hyn sydd angen sicrhau nawr yw ein bod ni'n cydweithio gyda'n prifysgolion i sicrhau eu bod nhw yn barod i allu gweithredu o fewn y dirwedd newydd honno. Dyw hi ddim yn un rŷn ni eisiau ei gweld. Yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru yw ein bod ni wedi colli mynediad at ffynonellau arian pwysig iawn yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'r Llywodraeth yn San Steffan wedi gwrthod gwneud yn iawn am hynny. Rŷn ni'n dal i bwyso arnyn nhw i wneud hynny. Dyna'r ateb, dyna'r datrysiad rŷn ni angen gweld, ynghyd â dod yn aelod o Horizon, ac, yn y cyfamser, rŷn ni'n gwneud popeth gallwn ni o fewn y cyfyngiadau sydd ar ein hadnoddau ni i allu cefnogi'n prifysgolion ni drwy hyn ac mewn ffyrdd eraill.

14:45
Ysgolion sy'n Canolbwyntio ar y Gymuned

4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned yng Nghymru? OQ59805

Mae ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned yn cael lle canolog yn ein hagenda i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Mae'r cyllid ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd wedi cynyddu i £6.5 miliwn y flwyddyn ariannol hon, ac rydym yn parhau i ddarparu cyllid i dreialu penodi rheolwyr ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned, ynghyd â buddsoddiad cyfalaf parhaus.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Cefais y pleser o ymweld ag Ysgol John Frost yn fy etholaeth yn ddiweddar, ac roedd yn wych gweld y cysyniad o ysgol gymunedol ar waith. Mae eu cynnig i'r gymuned leol yn cynnwys neuadd chwaraeon fawr, cae AstroTurf, pwll nofio, campfa, stiwdio ddawns, cwrt awyr agored ar gyfer tenis, pêl-fasged a phêl-rwyd. Mae'r ysgol wedi'i lleoli ynghanol y gymuned yn Dyffryn ac mewn cyfnod pan fo pwysau ar adnoddau a chyllid, mae'n gwneud synnwyr i weld cyfleusterau fel y rhain yn cael eu defnyddio drwy'r dydd, bob dydd, yn hytrach nag yn ystod y tymor ysgol yn unig. Mae'n bwysig iawn fod ysgolion modern sy'n cael eu hadeiladu yn ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned, ond mae llawer o drafferthion gyda diogelwch a mynediad gydag adeiladau ysgol hŷn. Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i benaethiaid sy'n awyddus i agor eu hysgolion i'w cymunedau ond sy'n cael trafferth gyda'r agweddau ymarferol ar wneud hynny? 

Wel, diolch i'r Aelod am nodi gwaith Ysgol John Frost, sy'n swnio'n wych, ac rwy'n gwybod bod nifer o ysgolion yn ei hardal yn gwneud gwaith da iawn yn dod yn ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned, a diolch iddynt am hynny. Mae hi'n iawn i nodi rhai o'r heriau y mae rhai o'n hysgolion hŷn yn arbennig yn eu hwynebu. Bwriad y cyllid cyfalaf a gyhoeddwyd gennym dros y ddwy flynedd nesaf, sef £40 miliwn, gan adeiladu ar y £20 miliwn yn y flwyddyn flaenorol, yw mynd i'r afael â rhai o'r heriau ariannol ymarferol sy'n gysylltiedig â sut rydych chi'n sicrhau bod y cyfleusterau hŷn hynny ar gael i'r gymuned. Mae gennym ddwy ffynhonnell o gyllid sy'n cael eu cynnig i awdurdodau lleol: un ar gyfer newidiadau dros £500,000—roedd pob awdurdod yn cael cyflwyno un cais am hwnnw—a'r prosiect arall ar gyfer symiau is na £500,000 i wneud yn siŵr fod yna amrywiaeth o ffyrdd y gallwn ni helpu, o brosiectau bach i ganolig eu maint. Ac yn ogystal â hynny, fe wnaethom gyhoeddi canllawiau newydd i ysgolion ddiwedd y llynedd, a bydd mwy o ganllawiau'n ymddangos ym mis Medi, ochr yn ochr â'r cyllid a ddarparwyd gennym ar gyfer swyddogion cyswllt â theuluoedd a rheolwyr ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned.

Y rheswm pam mae hyn yn bwysig yw ei bod yn ffordd wirioneddol dda o gyrraedd dysgwyr sy'n ei chael hi'n anodd dychwelyd i'r ysgol, a rhan o'r hyn y mae'n ei wneud yw ein galluogi i ail-wneud y berthynas rhwng ysgolion a'r gymuned, ac ysgolion a theuluoedd. Ymwelais ag ysgol yng Nghaerdydd pan lansiwyd yr arian cyfalaf newydd ychydig wythnosau'n ôl, a gofynnais i un o'r disgyblion yno sy'n elwa o ddosbarthiadau chwaraeon a choginio gyda'r nos, sut oedd hi'n teimlo i allu mwynhau'r holl weithgareddau hynny ac ymwneud â'r ysgol mewn ffordd ychydig bach yn wahanol, a dywedodd wrthyf, 'Mae'n gwneud i mi deimlo 100 y cant ynglŷn â bod yn yr ysgol'. Ac rwy'n credu bod honno'n ffordd syml iawn o ddisgrifio pam ein bod yn ceisio gwneud hyn. Rydym yn siarad am raglen gyfalaf ar un pen, ond yr hyn y mae'n ei olygu mewn gwirionedd yw sicrhau bod pob dysgwr yn dod i'r ysgol yn teimlo 100 y cant.

Rwy'n cytuno—mae ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned yn llefydd hollol wych pan gânt eu gwneud yn iawn, ac maent yn cynnig cyfleoedd enfawr nid yn unig i'r dysgwr, ond i'r gymuned, i gryfhau cydlyniant cymdeithasol, creu cyfleoedd o amgylch chwaraeon, a phopeth felly. Roeddwn yn falch o arwain y gwaith o adeiladu llawer o ysgolion newydd drwy fy sir, ysgolion a oedd yn canolbwyntio ar y gymuned o ran eu cynllun, ac roedd hynny'n bwysig iawn i'r ffordd y gwnaethom lunio ac adeiladu'r ysgolion hynny, fel y gallech ynysu rhannau addysgol, a phethau felly. Ond un o'r rhwystrau allweddol y gwnaethom eu hwynebu, ac rydym yn dal i'w hwynebu nawr, yw dod o hyd i ffyrdd i'r gymuned ysgol ffurfiol drosglwyddo'r cyfleusterau gwych hyn i'r gymuned ehangach y tu allan i'r 190 diwrnod pan gânt eu defnyddio, ac ar ôl ysgol, a rhai o'r heriau y gallai fod yn rhaid i lywodraethwyr eu hwynebu wrth ryddhau'r eiddo hwnnw—materion yn ymwneud ag ariannu, yswiriant a difrod a'r holl bethau hynny—ac mae hwnnw'n benbleth nad wyf yn meddwl ein bod wedi mynd i'r afael yn iawn ag ef, er mwyn annog llawer mwy o ysgolion i ddod yn ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Felly, Weinidog, tybed sut y gallai'r Llywodraeth weithio ymhellach gydag awdurdodau lleol i geisio goresgyn rhai o'r rhwystrau sy'n llesteirio datblygiad mwy o ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned. 

14:50

Wel, mae'r Aelod yn codi cwestiynau pwysig ynglŷn â sut rydym yn sicrhau bod modd i gymunedau ddefnyddio adeiladau ysgolion, ac ar un ystyr, rwy'n credu bod edrych arnynt fel ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned yn rhoi'r cyfrifoldeb ar yr ysgol er mai'r holl bwynt mewn gwirionedd yw y dylai fod yn bartneriaeth gymunedol. Felly, rwy'n credu bod rhywbeth yn hynny. Mae'r canllawiau a gyhoeddwyd gennym yn ymdrin â'r union bwyntiau mae Peter Fox wedi'u codi ac roedd Jayne Bryant yn eu codi eiliad yn ôl—beth yw'r pethau ymarferol sy'n gallu cynorthwyo penaethiaid i wneud y penderfyniadau hynny, a hefyd gofyn i gyrff llywodraethu edrych ar hyn eto. Mewn cyfnod pan fo llawer yn digwydd yn yr ysgol, gall hyn deimlo fel rhywbeth ychwanegol. A dweud y gwir, cael hyn yn iawn yw'r ffordd y gallwn symud ymlaen ar lawer o'r heriau eraill rydym yn ceisio'u datrys gyda'n gilydd. Ond yr ateb uniongyrchol i gwestiwn yr Aelod yw'r canllawiau rydym wedi'u darparu, a cheir astudiaethau achos o arferion gorau yno y gobeithiwn y gall ysgolion eu defnyddio wrth iddynt edrych ar eu cynlluniau eu hunain.  

Astudio'r Gwyddorau

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog dysgwyr i barhau i astudio'r gwyddorau tan eu bod yn 18 oed? OQ59787

Mae paratoi ein pobl ifanc ar gyfer swyddi'r dyfodol yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Mae gennym ystod o gynlluniau ar waith i gefnogi dysgwyr i ddewis llwybrau gyrfa STEM, gan gynnwys cynyddu cynwysoldeb STEM ar gyfer pob dysgwr a phartneriaethau rhwng cyflogwyr, colegau ac ysgolion. 

Rwy'n ddiolchgar iawn am eich ateb, Weinidog. Ddoe ddiwethaf fe aethom ar daith ar hyd lôn atgofion i mi yn ystod y ddadl ar adroddiad Hefin David, pan siaradais am fy llwybr i mewn i beirianneg, a buom yn trafod yr angen i brentisiaid y dyfodol ym maes peirianneg gael cefndir STEM cadarn gan ysgolion. Weinidog, cyn dod i'r sesiwn gwestiynau heddiw, roeddwn yn hynod o falch o ddarllen y newyddion am Airbus a'u hymweliad â dysgwyr blwyddyn 9 yn Ysgol Uwchradd Dewi Sant yn Saltney, ac ysgolion eraill gerllaw. Mae'n dda iawn arddangos y cyfleoedd sydd gennym i'n darpar brentisiaid yn y dyfodol, ond hefyd, mae angen inni annog pobl i ddilyn pynciau gwyddoniaeth tan eu bod yn 18 oed. Rydym eisoes wedi trafod pynciau gwyddonol mewn ysgolion y prynhawn yma, ond rwyf am fynd â'r ddadl ar hyd llwybr gwahanol. Faint o gymorth pellach y gall Llywodraeth Cymru ei roi i annog myfyrwyr i astudio gwyddoniaeth tan eu bod yn 18 oed?

Wel, rwy'n credu mai'r ddadl sy'n sail i'r newidiadau y mae Cymwysterau Cymru wedi'u gwneud, ac a gefnogir gan gyrff dysgedig, yw y bydd y newid hwnnw'n annog mwy o bobl i ddilyn pynciau STEM ar ôl 16 oed. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig peidio â cholli golwg ar hynny, oherwydd rwy'n cytuno y gallai deimlo'n groes i'r hyn y byddech yn ei ddisgwyl, ond dyna mae'r data a'r ymgynghoriad yn ei ddweud wrthym. Ond hyd yn oed ar gyfer TGAU gwyddoniaeth dyfarniad sengl, mae hynny wedi'i gynllunio i fod yn llwybr mwy hygyrch, os mynnwch, i ddysgwyr a fyddai'n elwa o ganolbwyntio ar ystod lai o gynnwys, ond gan ddal i gefnogi eu cynnydd y tu hwnt i 16 oed i gyrsiau ar lefel 2 yn ogystal â chyrsiau ar lefel 3 efallai, mewn rhai achosion.

Ond yn y pen draw, rwy'n credu ei fod yn ymwneud â mwy na chymwysterau'n unig; mae'n ymwneud â'r daith drwy'r ysgol i annog pobl ifanc i ddilyn pynciau STEM, a ph'un a yw'n brosiect mentora ffiseg, er enghraifft, neu'n annog merched i ddilyn pynciau STEM—mae yna ystod o ymyriadau rydym yn eu defnyddio—rwy'n meddwl yn gynyddol fod sicrhau bod ein plant yn deall, yn yr ysgol gynradd, beth mae hyn yn ei olygu'n ymarferol yn bwysig iawn, a chefais fy nghalonogi'n fawr wrth weld rhywfaint o waith ar hyn. Rwy'n gwybod eich bod wedi cael llawer o hyn yn eich etholaeth chi, ond yn y ddadl ddoe ar adroddiad Hefin David roeddwn yn siarad â Paul Davies am y gwaith yn ei ran ef o'r byd hefyd. Rwy'n credu ei fod yn gyffrous iawn.

14:55

Weinidog, wrth gwrs, mae annog dysgwyr i barhau i astudio gwyddoniaeth nid yn unig yn hanfodol os ydym am annog y genhedlaeth nesaf o beirianwyr, meddygon a nyrsys, ond mae hefyd yn hanfodol os ydym am sicrhau bod gan genedlaethau'r dyfodol sgiliau llythrennedd gwyddoniaeth. Yn ystod y pandemig, gwelsom lefelau twyllwybodaeth wyddonol yn codi i'r entrychion, ac mae'r ffaith bod pobl sy'n gwadu bodolaeth newid hinsawdd a rhai sy'n credu bod y byd yn wastad yn dal i fodoli, er gwaethaf pwysau'r dystiolaeth, yn un a ddylai fod yn bryder i bob un ohonom. Weinidog, a ydych chi'n cytuno mai astudio gwyddoniaeth yw'r ffordd orau o roi sgiliau meddwl beirniadol i genedlaethau'r dyfodol ac y bydd yn helpu i ymladd y cynnydd mewn twyllwybodaeth am faterion fel brechlynnau a newid hinsawdd?

Diolch i Altaf Hussain am y cwestiwn hwnnw. Nid wyf yn credu mai dyma'r unig ffordd o gyflwyno sgiliau meddwl beirniadol; rwy'n credu y gallwch chi gaffael y sgiliau hynny mewn disgyblaethau eraill, ac rwy'n dweud hynny fel rhywun nad oedd ganddo unrhyw dalent o gwbl mewn gwyddoniaeth. Rwy'n gobeithio fy mod wedi llwyddo i feithrin peth meddwl beirniadol mewn agweddau eraill ar fy astudiaethau. Ond rwy'n credu ei fod yn iawn, serch hynny, i wneud y pwynt ynglŷn â phwysigrwydd cynyddu amlygrwydd pynciau STEM, os mynnwch, yn yr ysgol, ond hefyd yn ehangach mewn cymdeithas. Rwy'n cytuno'n llwyr ag ef fod meddwl beirniadol a'r gallu i herio syniadau yn gynyddol bwysig yn ein cymdeithas, yn rhannol o ganlyniad i'r cyfryngau cymdeithasol, ac rydym yn ei weld nawr mewn amser real mewn perthynas â'r datblygiadau mewn deallusrwydd artiffisial. Rwy'n credu bod y Cwricwlwm i Gymru yn dod ar yr union adeg gywir, gan ganolbwyntio fel y mae ar ddatblygu meddwl creadigol, meddwl beirniadol a chwilfrydedd ym mhob dysgwr.

Dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pob dysgwr ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghanol De Cymru yn derbyn yr addysg a'r gefnogaeth y maent eu hangen? OQ59783

Fel rhan o’n diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol, bydd plant a phobl ifanc yng Nghanol De Cymru wrth galon y broses i nodi eu hanghenion unigol, cynllunio ar eu cyfer a’u diwallu. Bydd eu hanghenion dysgu ychwanegol yn cael eu gwarchod drwy gynllun datblygu unigol.

Diolch, Weinidog. Yn ddiweddar, mi ydw i a fy nhîm wedi gweld cynnydd amlwg mewn gwaith achos yn ymwneud â phlant a phobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol sydd ddim yn derbyn addysg a chefnogaeth addas, na chwaith yn eu dewis iaith. Oherwydd y cynnydd, dwi wedi creu arolwg byr, ac mi wnaeth bron i 100 o bobl ymateb mewn llai nag wythnos, gan rannu straeon dirdynnol am eu heriau wrth geisio eirioli dros hawliau eu plant i dderbyn addysg. Dywedodd 41 y cant na allai eu plant fyth fynd ar dripiau ysgol, a 60 y cant yn methu cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, ac ymhlith y sylwadau oedd:

'Mae'r ysgol yn parhau i anwybyddu'r ffaith ei bod hi'n awtistig, gan ddweud ei bod yn hunanysgogi'r "pyliau o dymer"'.

'Nid ydynt yn diwallu anghenion fy ŵyr ac ond yn caniatáu iddo ddod am 2 awr a hanner y dydd yn lle'r 6 awr a hanner sy'n bosibl.'

'Rwy'n symud fy mab o addysg Gymraeg i addysg Saesneg am fod y gefnogaeth yn gyfyngedig iawn'.

'Mae'r ysgol yn labelu fy mab fel plentyn drwg a ddim yn edrych ar ffyrdd eraill o oresgyn yr ymddygiad'.

'Nid yw staff yr ysgol yn deall awtistiaeth'.

Mae cymaint mwy o enghreifftiau, sy’n dangos sefyllfa argyfyngus o ran anghenion dysgu ychwanegol, gyda rhieni'n gorfod tynnu eu plant allan o addysg, newid iaith yr aelwyd neu dalu am asesiadau a thiwtoriaid preifat. Pam mae hyn yn gallu digwydd yng Nghymru yn 2023 a phryd fydd y newidiadau yn newid pethau i blant a phobl ifanc?

Wel, mae'r diwygiadau sydd gyda ni—ac mae cytundeb eang taw dyma'r newidiadau cywir i'w gwneud yn y system—lai na dwy flynedd i mewn i gynllun pedair blynedd i drawsnewid pethau, felly mae newid mawr yn digwydd yn y system. Wrth roi ystyriaeth i'r gwaith mae Estyn wedi gwneud i edrych ar sut mae'r diwygiadau yn cael eu cyflwyno ar lawr gwlad, mae'r darlun maen nhw'n ei roi i ni ychydig yn wahanol i'r darlun rŷch chi'n ei ddisgrifio heddiw. Dwi ddim am eiliad yn awgrymu nad oes heriau o'r math rŷch chi'n sôn amdanynt, ond wrth edrych ar y darlun cenedlaethol, mae'n llawer mwy cytbwys, efallai, na ddisgrifioch chi'n fanna, ond dwi ddim am eiliad yn dweud bod y pethau rŷch chi'n dweud yn dderbyniol.

Rydym ni wrthi ar hyn o bryd yn edrych ar dystiolaeth oddi wrth randdeiliaid ar sut mae hyn yn gweithio ar lawr gwlad. Mae Estyn yn gwneud gwaith pellach i ni i ddeall beth sydd yn digwydd. Mae'n sicr bod mwy o alw yn digwydd yn y system, mwy o bobl ifanc yn dod i mewn yn y blynyddoedd cynnar gyda heriau efallai mwy cymhleth nag rŷn ni wedi’u gweld yn y gorffennol; mae angen deall pam mae hynny’n digwydd. Mae’r arian rŷn ni'n rhoi i’r system ar hyn o bryd o ran y RRRS yn cyflogi tua 2,400 o bobl ychwanegol neu'n gyson â hynny, sydd yn creu ychydig mwy o gapasiti yn y system, ac mae hynny i fod i gael ei wario ar y cyfnodau lle mae'r mwyaf o her, yn cynnwys y blynyddoedd cynnar, ond mae'n amlwg bod heriau yn y system. Mae’r system yn gwneud ei gorau glas, dwi'n credu, i allu ymdopi â hyn. Mae’r ffynhonnell arian rwyf wedi’i darparu wedi cynyddu’n sylweddol iawn eleni. Mae'n bron i £26 miliwn, i fyny gan ryw £5 miliwn o llynedd, felly mae adnoddau’n dod i mewn i’r system. Ond rwy'n derbyn bod heriau; rydym ni'n gweithio gydag athrawon ac ysgolion i sicrhau ein bod ni'n gallu ymateb i hynny. Un o’r ffyrdd rŷn ni wedi ymateb yw ceisio lleihau’r pwysau ar ysgolion drwy ymestyn y cyfnod mae'n cymryd i allu cyflwyno’r diwygiadau newydd.

15:00
Cludiant Ysgol

7. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch darparu cludiant ysgol yn unol â'r Mesur Teithio i Ddysgwyr yn dilyn y cyhoeddiad am y gronfa bontio ar gyfer bysiau? OQ59779

Rwy’n cyfarfod yn rheolaidd â’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i drafod ystod o faterion trawsbortffolio, gan gynnwys teithio gan ddysgwyr. Mae uwch swyddogion addysg yn mynychu cyfarfodydd wythnosol y gronfa bontio ar gyfer bysiau i helpu i lunio a llywio datblygiad ein cynlluniau ar gyfer gwasanaethau.

Diolch am yr ateb, Weinidog. Yng ngogledd Cymru, mae trafnidiaeth gyhoeddus eisoes yn cael ei defnyddio i ddarparu cludiant i’r ysgol, ac mae chwarter y gyllideb addysg yn cael ei gwario ar drafnidiaeth ac mae costau wedi cynyddu 40 y cant oherwydd pwysau chwyddiant. Mae’n frwydr ddyddiol eisoes i awdurdodau lleol sicrhau bod digon o weithredwyr i sicrhau nad oes unrhyw ddisgybl yn cael ei adael ar ôl. A phan oeddwn yn aelod cabinet yn sir y Fflint, roedd 450 o gontractau trafnidiaeth gwahanol; roedd 350 ohonynt yn rhai ar gyfer ysgolion. Felly, roedd gwir angen arbenigedd lleol i sicrhau y gellid cyflenwi’r ddarpariaeth, ac ni ellir gorbwysleisio hynny.

Gan gofio hynny, Weinidog, drwy eich sgyrsiau â’r Gweinidog Newid Hinsawdd, a ydych yn credu y bydd trafnidiaeth a ddarperir ar lefel ranbarthol yn gwarantu lefel uniongyrchol o atebolrwydd, ac na fydd plant yn cael eu gadael ar ôl mewn safleoedd bysiau?

Wel, nid dyna'r hyn rydym eisiau ei weld o gwbl, ac ni fydd yr Aelod yn synnu fy nghlywed yn dweud hynny. Mae’n flaenoriaeth i ni wneud yn siŵr fod dysgwyr yn gallu cael mynediad at ysgolion. Yn amlwg, mae’r cwestiynau y gwnaethoch eu gofyn i’r Dirprwy Weinidog yn gynharach yn enghraifft dda iawn o’r heriau gwirioneddol sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd. Rwy’n credu ei bod yn bwysig i awdurdodau lleol weithio ar sail ranbarthol, oherwydd mae goblygiadau ehangach i’r dewisiadau sy’n cael eu gwneud ac mae’n bwysig iawn, wrth weithio ar yr ôl troed rhanbarthol hwnnw, eu bod yn gallu diffinio’r rhwydwaith bysiau yn yr ardal fwy honno, a phenderfynu beth maent eisiau ei gefnogi yn y gofod hwnnw.

Yn amlwg, mae yna newidiadau'n digwydd yn y system ac yn fy rhan i o’r byd nad ydynt i'w croesawu o gwbl, ond rydym yn gweithio’n agos iawn gyda thîm y Dirprwy Weinidog i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu, wrth inni agosáu at ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd, i sicrhau bod ein dysgwyr yn gallu cyrraedd yr ysgol.

TGAU Gwyddoniaeth Gradd Unigol

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynigion gan Gymwysterau Cymru ar gyfer TGAU gwyddoniaeth gradd unigol? OQ59784

Mae’r TGAU gwyddoniaeth dyfarniad dwbl newydd wedi’i gynllunio i gael ei astudio gan dros 90 y cant o ddysgwyr Cymru o 2025 ymlaen. Gan ymateb i adborth a gawsant o’r ymgynghoriad, mae Cymwysterau Cymru hefyd yn creu dyfarniad sengl yn y pynciau gwyddonol ar gyfer y gyfran fach o ddysgwyr a allai ei chael hi'n anodd astudio'r dyfarniad dwbl.

Diolch yn fawr iawn am yr ymateb.

Fel rydych wedi’i glywed, mae’n broblem fawr iawn, onid ydyw, a gwnaeth y ddau lefarydd o’r ddwy wrthblaid y pwynt hwnnw. Felly, mae'n bryder parhaus, ac roeddwn yn meddwl tybed a fyddech chi'n ystyried gofyn i Cymwysterau Cymru oedi eu cynigion tra'u bod yn cydgrynhoi'r ymgynghoriad hwnnw ac yn edrych ymhellach ar opsiynau. Diolch yn fawr iawn.

Diolch i’r Aelod am hynny. Mewn gwirionedd, gwnaed y cynnig i gyflwyno'r dyfarniad sengl mewn ymateb i’r ymgynghoriad. Felly, y cynnig gwreiddiol oedd y dyfarniad dwbl, ac fe gafodd Cymwysterau Cymru adborth yn dweud na fyddai hynny’n diwallu anghenion yr hyn sy’n cyfateb i tua 6 y cant o ddysgwyr sy’n dilyn y llwybr gwyddoniaeth gymhwysol ar hyn o bryd. Felly, cafodd hyn ei gyflwyno mewn ymateb i’r ymgynghoriad.

Dylwn fod yn glir: rwyf fi a Cymwysterau Cymru yn disgwyl mai canran fach iawn o ddysgwyr a fydd yn astudio’r dyfarniad sengl, ac rwy’n credu bod hynny’n wirioneddol bwysig. Pe byddem yn gweld y ffigur hwnnw’n cynyddu, rwy'n credu y byddai gennym bryderon a byddem yn amlwg yn dymuno ymateb i hynny. Ond o ystyried mai dyma’r ymateb i’r ymgynghoriad, rwy'n credu bod hynny’n bwysig i’w nodi.

Fodd bynnag, ac mae hwn yn bwynt pwysig iawn i ni ei gofio, byddwn yn dweud bod y cyhoeddiad hwn gan Cymwysterau Cymru yn un o ddau gam. Mae’r cam hwn yn disgrifio'r categorïau, os hoffech chi. Y cam nesaf yw disgrifio cynnwys y cymwysterau TGAU newydd, i wneud yn siŵr eu bod yn cyd-fynd yn iawn â'r Cwricwlwm i Gymru, a bydd y gwaith hwnnw’n cael ei arwain yn awr gan CBAC dros y flwyddyn nesaf, fel y bydd gan athrawon ddealltwriaeth glir o gynnwys y cyrsiau TGAU erbyn mis Medi 2024, flwyddyn cyn i’r pynciau hyn ddechrau cael eu haddysgu mewn ysgolion.

15:05
Gwella Llythrennedd Ariannol

9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella llythrennedd ariannol mewn ysgolion yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ59790

Mae gwybodaeth ariannol yn hanfodol i wireddu pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru. Oherwydd hyn, mae cyllid yn elfen orfodol o faes dysgu a phrofiad mathemateg a rhifedd, y dylai ysgolion yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro a ledled Cymru ei chynnwys wrth lunio cwricwla eu hysgolion unigol.

Diolch yn fawr, Weinidog. Rydych chi'n iawn, mae'n gwbl ganolog. Ond fe ddatgelodd adroddiad diweddar gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau fod hanner holl blant Cymru'n dweud nad ydynt wedi cael eu haddysgu am arian yn yr ysgol. O ganlyniad i hyn, maent bellach yn amcangyfrif nad yw dros 220,000 o blant yng Nghymru yn meddu ar y sgiliau ariannol y bydd eu hangen arnynt pan fyddant yn oedolion—ystadegyn pryderus iawn, rwy’n siŵr y byddech yn cytuno.

Nawr, rydych chi'n sôn bod y cwricwlwm newydd yn cynnwys gofyniad i addysgu llythrennedd ariannol, ac yn wir mae hyn i'w groesawu, ond pa sicrwydd y gallwch chi ei roi bod rhannau o'r cwricwlwm newydd, fel hwn, yn cael yr un ffocws a sylw mewn ysgolion ag adrannau eraill o'r cwricwlwm sy'n cael eu cynnwys mewn profion diwedd blwyddyn? Diolch, Lywydd.

Wel, mae hwn yn ofyniad trawsgwricwlaidd, felly bydd wedi'i wreiddio ym mhob rhan o'r cwricwlwm, ac mae'n amlwg yn bwysig fod ysgolion yn gwneud hyn. Yn fy mhrofiad i, o leiaf—. A chyda llaw, rwy'n cydnabod y ffigurau y mae'r Aelod yn eu darparu. Yn fy mhrofiad i, o leiaf, mae ysgolion wedi gallu dod o hyd i ffyrdd o ddefnyddio llythrennedd ariannol i addysgu ystod gyfan o bethau yn y cwricwlwm mewn gwirionedd. Mae mathemateg yn amlwg yn un ohonynt, ond mae yna bob math o bethau eraill. Rwy’n siŵr y bydd wedi cael yr un profiad â minnau o fynd i ysgolion yn ei etholaeth sy’n cynnal clybiau cynilo, er enghraifft, ac mae gennych chi bobl ifanc sy’n dysgu cadw llyfrau cyfrifon a rheoli trafodion ariannol. Rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol bwysig. Mae'n hollol gywir i ddweud nad yw'r lefel honno o lythrennedd ariannol yn ein hysgolion yn agos at y lefel sydd ei hangen, ond dyna pam ei fod yn rhan mor bwysig o'r cwricwlwm newydd, ac i gydnabod y pwynt y mae'n ei wneud, rwy'n siŵr y bydd ysgolion eisiau cyflwyno hynny i bobl ifanc.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitemau nesaf fydd y cwestiynau amserol, ac mae'r un cyntaf i'w ateb gan Weinidog yr Economi ac i'w ofyn gan Sarah Murphy.

Zimmer Biomet

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i'r cyhoeddiad gan Zimmer Biomet y bydd yn rhoi'r gorau i weithgynhyrchu yn ei ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr? TQ811

Diolch am y cwestiwn. Mae’r newyddion hwn yn hynod siomedig a bydd yn peri cryn bryder i staff, eu teuluoedd, a’r gymuned ehangach. Rydym yn ceisio ymgysylltu â'r cwmni i ddeall y rhesymeg dros y penderfyniad hwn ac i archwilio unrhyw opsiynau sy'n bodoli i amddiffyn, ac o bosibl, i ddiogelu unrhyw rai o'r swyddi hyn.

Diolch, Weinidog. Gwn eich bod chi a minnau wedi cael ein brawychu gan y newyddion yr wythnos diwethaf am y posibilrwydd y bydd ffatri weithgynhyrchu Zimmer Biomet yn fy etholaeth i ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cau. Ar hyn o bryd, mae’r ffatri’n cyflogi cyfanswm o 540 o bobl o bob rhan o Ben-y-bont ar Ogwr a chymoedd Ogwr. Cefais fy syfrdanu’n fawr gan natur y cyhoeddiad hwn, oherwydd ni roddwyd unrhyw rybudd blaenorol i mi na’r Aelod dros Ogwr, Huw Irranca-Davies, na Llywodraeth Cymru, sy’n dangos, rwy’n credu, difaterwch llwyr ynglŷn â chost ddynol real iawn y penderfyniad hwn.

Dros y degawd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi buddsoddi bron i £1 filiwn yn y cwmni fel rhan o gynllun mawr i hybu creu swyddi yn y rhanbarth, a’r hyn a gafwyd yn gyfnewid am gyllid gan bobl Cymru yw dinistrio bywydau. Hyn oll, Weinidog, tra bod Zimmer Biomet yn cynnal trafodaethau ynglŷn ag a ddylid agor ffatri newydd yn Iwerddon ai peidio. Os gwnewch chwiliad Google, neu fynd ar eu tudalen Facebook, gallwch weld eu bod yn cynnal ymgyrch recriwtio ar gyfer Iwerddon ar hyn o bryd. Mae’n amlwg i mi fod yn rhaid ateb cwestiynau ynglŷn â pha gymhellion a ysgogodd y cyhoeddiad hwn yr wythnos diwethaf.

Rwy'n ddiolchgar am y gwaith y mae fy undeb, Unite Cymru, wedi'i wneud hyd yma drwy drafodaethau, ac mae'n amlwg y dylai swyddi fod yn flaenoriaeth mewn unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Wedi dweud hynny, Weinidog, a ydych yn cytuno â mi fod yr ymyrraeth gan undebau'n hollbwysig? A pha gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r gwaith o ddiogelu cymaint o swyddi â phosibl ym Mhen-y-bont ar Ogwr? Diolch.

15:10

Diolch am y cwestiwn dilynol. Rwy'n ddiolchgar i Sarah Murphy a Huw Irranca-Davies fel Aelodau'r etholaethau sydd â'r rhan fwyaf o weithlu Zimmer Biomet, yn ogystal â lleoliad ffisegol y safle. Cawsom gyfle i gyfarfod, ynghyd â Chris Elmore, a oedd hefyd wedi bod mewn cysylltiad, ac rwy'n falch o weld Chris Elmore yn parhau i godi'r materion hyn yn Senedd y DU. Fe wnaethom gyfarfod â Huw David, arweinydd Pen-y-bont ar Ogwr, ac undeb Unite yr wythnos diwethaf, oherwydd rydych chi'n iawn, nid oedd y gweithlu, y cyngor, cynrychiolwyr etholedig lleol na'r Llywodraeth yn ymwybodol o'r newyddion hwn nes iddo gael ei gyhoeddi. Nid dyna rydym yn ei ddisgwyl gan gwmnïau sy'n buddsoddi yng Nghymru ac sydd wedi derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru yn y gorffennol i fuddsoddi yn eu dyfodol.

Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU, at Kemi Badenoch, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Busnes a Masnach, i ofyn pa ymgysylltiad y maent wedi'i gael neu heb ei gael gyda'r cwmni. Nid yw'n glir ar hyn o bryd pa ymgysylltiad a fu. Rydym wedi clywed ambell si ddi-fudd. Rwy'n chwilio am eglurder fel y gallaf weithredu ar sail dealltwriaeth lwyr o'r hyn sydd wedi digwydd. Rwyf wedi ysgrifennu at uwch is-lywydd gweithrediadau byd-eang a swyddog gweithredol Zimmer Biomet, ac rwyf i fod i siarad â nhw yfory. Byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau etholaeth sydd wedi gofyn i mi am ddiweddariad ac sydd wedi ymgysylltu'n uniongyrchol â'r undeb llafur a'r cyngor yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am hynny.

Ac rydych chi'n iawn fod undeb Unite yn ymgysylltu'n uniongyrchol. Nid yn unig eu bod yn ymgysylltu ac yn cynnal yr ymgynghoriad ffurfiol, deallaf hefyd eu bod yn cynnal cyfarfodydd dros yr wythnos neu ddwy nesaf. Felly, byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r undeb i ddeall beth y gellid ei wneud. A'r rheswm pam nad wyf yn credu y dylem fod yn gwbl ddiobaith yma yw oherwydd bod cyfnod ymgysylltu hir o chwe mis wedi'i gyhoeddi. Nid ydynt ychwaith yn argymell y dylai unrhyw agwedd ar leihau niferoedd ddigwydd tan y flwyddyn nesaf. Felly, mae yna gyfle, nid yn unig i ddeall beth mae'r cwmni'n ei gynnig a pham, ond i weld a oes cyfleoedd i ddylanwadu ar y penderfyniad sydd wedi'i wneud, gan fod hwn yn weithlu ffyddlon a medrus iawn. Mae'r rhain yn swyddi da mewn rhan o'r wlad lle na fydd unrhyw un eisiau eu gweld yn symud, ac mae'n cael effaith fawr iawn ar y gymuned ehangach.

Rydym yn parhau i ddarparu cefnogaeth drwy ein rhaglen ReAct+ a thrwy amrywiaeth o gyfleoedd eraill hefyd os bydd pobl yn colli eu swyddi. Ond ein ffocws ni, a gwn mai'r un ffocws sydd gan Sarah Murphy, undeb Unite a'r cynghorwyr a chynrychiolwyr etholedig eraill, yw'r hyn y gallwn ni ei wneud i geisio achub y swyddi yn hytrach na derbyn bod y swyddi'n cael eu colli. Ond bydd angen i ni gael mwy nag un cynllun gweithredu i wneud hynny. Ac fel y dywedais, rwy'n croesawu ymgysylltiad uniongyrchol Sarah Murphy a'i chymheiriaid mewn mater lle bydd angen parhau i weithio gydag undeb Unite i sicrhau'r canlyniad gorau posibl i'r gweithlu a'r gymuned ehangach.

Weinidog, mae'r newyddion yn ergyd enfawr i Sarah a fy etholwyr, ond gall hefyd fod yn golled enfawr i'n GIG. Rwy'n ymwybodol iawn o gynhyrchion Zimmer Biomet, ar ôl gosod cannoedd, os nad miloedd o'u mewnblaniadau pen-glin rhannol, pen-glin a chlun Oxford. Mae orthopedeg y GIG yn dibynnu'n fawr ar gynhyrchion Zimmer Biomet ac mae symud ei weithrediadau gweithgynhyrchu dramor yn bygwth creu rhwystrau wrth i'r dyfeisiau meddygol hanfodol hyn ddod yn eitemau a fewnforir. Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda'r Gweinidog iechyd ynghylch yr effaith y bydd y penderfyniad yn ei chael ar orthopedeg y GIG? Hoffwn hefyd gynnig unrhyw gymorth y gallaf ei roi i chi a Llywodraeth Cymru, o ystyried fy ngwybodaeth fanwl am Zimmer Biomet a'i gynnyrch. Diolch.

Diolch am y cynnig. Rwy'n ymwybodol o weithgareddau Zimmer Biomet o fewn y gwasanaeth iechyd—fe ymwelais â'r safle fy hun pan oeddwn yn Weinidog iechyd ar ôl i Weinidog blaenorol yr economi fuddsoddi arian yn nyfodol y ffatri—ac nid ansawdd y cynnyrch na sut y caiff ei ddefnyddio yw’r her. Rydym yn deall bod mwyafrif llethol yr eitemau a gynhyrchir yn cael eu hallforio i'w defnyddio yn Ewrop. Ni fyddai’n ddefnyddiol imi geisio dyfalu’r rheswm y tu ôl i’r cyhoeddiad, ond mae angen inni ddeall beth mae hyn yn ei olygu i Zimmer Biomet a’i gynhyrchion o fewn y GIG, ac nid yn unig yma yng Nghymru ond yng ngwledydd eraill y DU hefyd, ac ai dewis masnachol moel yw hwn, a yw’n ymwneud â rhwystrau i fasnach, neu a oes rhesymau eraill yn sail iddo. Dyna ran o’r anhawster. Y siom wirioneddol rwy'n ei theimlo yw bod hwn yn gwmni sydd â rheolwr cysylltiadau yn Llywodraeth Cymru. Mae wedi cael cymorth grant i helpu i fuddsoddi yn ei ddyfodol, rydym yn deall bod ei gynhyrchion yn cael eu defnyddio’n dda ac yn uchel eu parch o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol, ac felly byddem wedi disgwyl sgwrs er mwyn cael dealltwriaeth glir o’r hyn a oedd yn bosibl yn hytrach na chael cyhoeddiad a gorfod dal i fyny wedyn. Felly, bydd fy sgwrs gyda’r cwmni'n bwysig, ynghyd â’r ymgysylltiad parhaus â’r undeb llafur ac Aelodau etholedig.

15:15

Fel un o’r chwe Aelod sy’n cynrychioli sir Pen-y-bont ar Ogwr yn y Senedd hon, ac ar nodyn personol, fel Aelod roedd ei dad yn arfer cael ei gyflogi gan y ffatri, roedd y newyddion am yr argymhelliad yn sioc, nid yn unig i ni, ond i staff hefyd, ac wrth gwrs, yr aelodau staff hynny sydd bellach yn wynebu ansicrwydd ynghylch eu dyfodol eu hunain. Ysgrifennais at y Gweinidog yr wythnos diwethaf, ac nid wyf wedi cael ateb eto, ond nodais o ymateb y Trefnydd i Sarah Murphy ddoe fod y Gweinidog eisoes wedi cyfarfod â Sarah; hefyd, mae newydd gadarnhau cyfarfodydd gyda Huw Irranca-Davies a Chris Elmore AS. Efallai yr hoffai gynnig yr un peth i ni fel Aelodau rhanbarthol sydd hefyd yn cynrychioli’r ardal; rydym ni yma i helpu hefyd, ac rydym eisiau helpu.

Hefyd, gofynnais i Weinidog yr Economi yn ystod cwestiynau'r llefarwyr yr wythnos diwethaf beth fyddai ei neges i bobl ifanc yng Nghymru, fy nghenhedlaeth i, am eu dyfodol. Gyda phob parch, roedd yr ateb a roddodd i'w weld yn brin o unrhyw angerdd, ac roedd yn eithaf didaro a dweud y gwir, yn enwedig o ystyried bod y realiti wedi codi'i ben unwaith eto yn fy nghymuned. Y gwir amdani yw bod hon yn ergyd bosibl arall i Ben-y-bont ar Ogwr—o Ford i hyn. Sut y gallwn ni ddisgwyl i bobl ifanc aros yn ein cymunedau pan nad oes swyddi o ansawdd da ar gael? Ar ôl siarad â rhai o'r gweithwyr iau yn y ffatri, a thyfais i fyny gyda rhai ohonynt, maent yn ei chael hi'n anodd iawn bod yn obeithiol am ddyfodol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Felly, rwyf am ofyn yr un cwestiwn eto: pa sicrwydd y byddech chi'n ei roi i bobl ifanc yn ein hardal, a beth fyddwch chi'n ei wneud i gadw swyddi o ansawdd da yn yr ardal ar eu cyfer?

Ar y pwynt cyntaf, rwyf wedi bod mewn cysylltiad uniongyrchol ag arweinydd y cyngor, Aelodau etholedig ac undeb Unite, i ofyn am gyfarfod ar unwaith. Byddaf yn ymdrin â gohebiaeth yr Aelod, a phan fyddaf yn darparu diweddariadau pellach, byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau rhanbarthol yn cael y diweddariad hwnnw.

O ran y dyfodol economaidd ehangach, nid wyf yn ddidaro ynglŷn â'r heriau sy'n wynebu ein heconomi. Rwy'n cydnabod bod hwn yn gyfnod anodd i bobl ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys pobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd eisiau cynllunio eu dyfodol, ond gyda phob parch, nid wyf yn gweld cyferbyniad o gwbl rhwng hynny a bod eisiau dyfodol lle rydym yn cydnabod y cyfleoedd go iawn sy'n bodoli mewn sectorau a fydd yn parhau i dyfu dros y pum mlynedd a'r 10 mlynedd nesaf boed yn y sector ynni adnewyddadwy, yn y maes seiber a'r sector technoleg ehangach, mewn ystod o wasanaethau proffesiynol, ac yn wir, yn dal i fodoli yn y sector gweithgynhyrchu uwch. Yn gyffredinol, fe wyddom mai'r her o hyd yw dod o hyd i weithwyr sydd eisiau gweithio yn y sector mewn maes lle mae gyrfa dda i'w chael. Dyna pam fod Zimmer Biomet yn sefyll allan yn y ffordd y mae'n gwneud. Rwyf wedi mynegi fy siom ar sawl achlysur nid yn unig ynghylch y ffordd y maent wedi cyhoeddi pethau, ond hefyd ynghylch y ffaith nad ydynt wedi bod yn barod i gael sgwrs.

Fe fyddwn yn onest gyda phobl ifanc am y gwaith rydym yn ei wneud i geisio diogelu dyfodol gwell, i fod yn glir mai ein huchelgais yw sicrhau na fydd angen i bobl ifanc symud o Gymru i lwyddo, ond y gallant gynllunio dyfodol llwyddiannus yma yng Nghymru. Mae'r gwaith a wnawn ar fuddsoddi mewn sgiliau, prentisiaethau a'r warant ehangach i bobl ifanc, a'r gwaith a wnawn ar sectorau'r economi a fydd yn arwain at ddyfodol economi sy'n talu'n well, yn digwydd i'r union berwyl hwnnw. Gyda phob parch, nid wyf yn derbyn beirniadaeth yr Aelod; ni fyddwn byth yn ddidaro am yr heriau y mae gweithwyr a'u teuluoedd yn eu hwynebu, nac yn wir y cyfleoedd a'r heriau sy'n ein hwynebu ni wrth inni geisio sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cyfleoedd hynny i edrych ymlaen atynt.

15:20

Fel pob Aelod yma—ac rwy'n cytuno â phob gair y mae Sarah Murphy ac eraill wedi'i ddweud am hyn—roedd hyn yn sioc lwyr. Ond rydym wedi profi'r ystod lawn o emosiynau, sioc, a dicter hefyd, mae'n rhaid imi ddweud, oherwydd ni chawsom wybod unrhyw beth ynglŷn â hyn. Bu Sarah Murphy a minnau yno yn ddiweddar; fe gafodd y ddau ohonom y crysau chwys sy'n dweud 'Zimmer Biomet, made in Bridgend' yn falch ar y cefn. Ni ddywedwyd gair wrthym fod y cwmni hwn mewn unrhyw drafferth, yn wynebu unrhyw feddyliau heriol ynglŷn â symud i rywle arall. Ond, Weinidog, fe wyddom fod Zimmer Biomet yn gwrando ar bob gair sy'n cael ei ddweud, oherwydd pan godwyd hyn yn y cyfweliadau, cefais ymateb gan Zimmer Biomet a ddywedai:

'Cyhoeddodd Zimmer Biomet argymhelliad i roi'r gorau i weithgynhyrchu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Cymru. Nid ydym wedi dod i benderfyniad eto. Rydym yn ymrwymo i gymryd rhan weithredol yn yr ymgynghoriad.'

Felly, gadewch inni gredu geiriau Zimmer Biomet. Os yw hwn yn ymgynghoriad dilys, sy'n cynnwys dewisiadau amgen yn lle colli'r swyddi hynod fedrus a hanfodol hyn, gyda phobl sydd wedi gweithio yn y ffatri hon ers 10, 20, 30, 40 mlynedd—maent yno ers degawdau, a'u teuluoedd, ar draws y rhanbarth—dywedaf wrth Zimmer Biomet, 'Ymgysylltwch â Llywodraeth Cymru, ymgysylltwch â Llywodraeth y DU, ymgysylltwch â ni. Gadewch inni glywed y rhesymau y tu ôl i hyn a sut y gallwn helpu, oherwydd os na wnewch chi hynny, mae'n sarhad llwyr, nid yn unig i'r bobl a'r teuluoedd sy'n gweithio yno, a'r cymunedau, ond hefyd i'r ardal.' Mae ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn ymfalchïo yn yr enw da sydd ganddi ym maes gweithgynhyrchu, a bydd hwnnw'n parhau, ond rydym angen i Zimmer Biomet chwarae eu rhan hefyd.

Weinidog, nid oes gennym fynediad at yr holl drafodaethau sy'n mynd rhagddynt. Gofynnaf yn syml: a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i holl Aelodau'r Senedd yma? Oherwydd mae Zimmer Biomet wedi dweud wrthym y bydd trafodaethau'n cael eu cynnal trwoch chi yn hytrach na thrwom ni, felly gadewch inni gael yr wybodaeth ddiweddaraf. Ac o ddifrif, os oes unrhyw beth y gallwn ei wneud—ac rwy'n dweud hynny wrth Zimmer Biomet hefyd—i gadw'r swyddi hyn, dyna mae'n rhaid inni ganolbwyntio arno yn y lle cyntaf, yn ogystal â chanolbwyntio ar gefnogi cyflogadwyedd a helpu'r cyngor lleol i gefnogi'r gweithwyr, os na ellir osgoi'r gwaethaf. Diolch yn fawr.

Diolch i chi, a diolch i chi am y ffordd y gwnaethoch ymgysylltu â Sarah Murphy ac eraill, gan gynnwys undeb Unite, ynghylch y cyhoeddiad, ac yn y datganiadau cyhoeddus rydych chi a Sarah Murphy yn parhau i'w gwneud. Credaf ei bod yn werth bod yn glir ynglŷn â barn Aelodau etholedig, pobl y mae Zimmer Biomet wedi ymgysylltu â nhw yn y gorffennol.

Fel y dywedais mewn ymateb i gwestiwn cychwynnol a chwestiwn atodol Sarah Murphy, byddaf yn cael cyfarfod ag un o uwch is-lywyddion Zimmer Biomet yfory. Rwy'n edrych ymlaen at sgwrs onest ac adeiladol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig eu bod yn onest gyda ni am yr hyn y maent yn ei gynnig, neu'r hyn nad ydynt yn ei gynnig mewn gwirionedd, a byddaf yn parhau i ddadlau'r achos dros gadw'r swyddi hyn ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Byddaf yn parhau i ymgysylltu â chi ac undeb Unite, a byddaf yn rhoi gwybod i chi ac Aelodau eraill am natur y sgyrsiau hynny wrth gwrs, ac yn rhannu cymaint o wybodaeth ag y gallaf. Ond rwy'n credu y byddai'n wirioneddol gadarnhaol i Aelodau ar draws y Siambr ganolbwyntio ar sicrhau bod Zimmer Biomet yn gwneud y peth iawn ac yn ymgysylltu'n briodol ac yn llawn â Llywodraeth Cymru, a sicrhau yn wir ein bod yn ymwybodol o unrhyw ymwneud arall a allai fod rhyngddynt a Llywodraeth y DU hefyd, a allai fod â rhan i'w chwarae yn diogelu'r swyddi yn Zimmer Biomet.

Diolch i'r Gweinidog.

Cyn i fi alw'r cwestiwn amserol nesaf i'r Gweinidog iechyd, dwi am gymryd y cyfle i ddarparu canllawiau i Aelodau ar gwestiynau ynglŷn ag ymchwiliad cyhoeddus y Deyrnas Gyfunol i'r pandemig COVID-19.

Mae'n ymchwiliad, fel rŷn ni i gyd yn gwybod, sydd wedi ei sefydlu i archwilio, ystyried ac adrodd ar baratoadau a'r ymateb i'r pandemig COVID-19 yn Lloegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac i ddysgu gwersi i'r dyfodol. Mae pedwar modiwl eisoes yn mynd rhagddynt ac mae disgwyl modiwlau pellach. Mae disgwyl i'r ymchwiliad barhau am gryn amser.

Wrth benderfynu a ddylid derbyn y cwestiwn yma, sy'n ymwneud â'r ymchwiliad, rwyf wedi cydbwyso dwy elfen: yn gyntaf, hawl unrhyw Aelod i ofyn cwestiynau am faterion sydd o fewn cyfrifoldebau Gweinidogion Cymru, ac yn ail, yr arfer o beidio â gwneud datganiadau yn y Senedd a fyddai'n amharu ar waith unrhyw ymchwiliad cyhoeddus.

Mae'n bosib y bydd amgylchiadau ble na all Gweinidogion ateb mewn manylder, yn enwedig pan wnelo'r cwestiynau â modiwlau'r ymchwiliad sydd wedi dechrau ond sydd heb orffen eu gwaith. Mae’n bosib y bydd Aelodau yn dymuno rhoi ystyriaeth i hynny wrth fframio cwestiynau ynglŷn â’r ymchwiliad COVID-19 dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.

Yng nghyd-destun hynny, fe wnaf i nawr ofyn i Mabon ap Gwynfor ofyn ei gwestiwn i'r Gweinidog.

15:25
Ymchwiliad COVID-19 y DU

Diolch i'r Llywydd am yr arweiniad yna wrth ofyn y cwestiwn. 

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn dilyn y dystiolaeth a roddwyd gan y Prif Weinidog a Gweinidog yr Economi ynghylch diffyg parodrwydd ar gyfer y pandemig yng Nghymru yn ymchwiliad Covid-19 y DU ddoe? TQ819

Diolch yn fawr. Ddoe, rhoddodd tystion o Gymru dystiolaeth i fodiwl 1 ymchwiliad COVID-19 y Deyrnas Unedig am wydnwch—resilience—a pharodrwydd. Mae trawsgrifiad yr ymchwiliad yn darparu cofnod llawn o'r dystiolaeth a roddwyd. 

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb. 

Mae'r dystiolaeth a glywsom dros y ddau ddiwrnod diwethaf yn dangos yn glir nad oeddem wedi paratoi'n ddigonol ar gyfer pandemig. Dysgasom nad oedd dogfennau wedi eu diweddaru ers degawd, ac ni ddilynwyd cyngor gwyddonol annibynnol bob amser gan Weinidogion yn y cyfnod cyn y pandemig. Daeth yn amlwg nad oedd ganddynt agos digon o gyfarpar diogelu personol, ystafelloedd ynysu, a llawer iawn mwy. Felly, rydym yn gwybod am y gwendidau a oedd yn y system—darparwyd tystiolaeth ohonynt ddoe—ond nid ydym yn gwybod pam. Cyfaddefodd y Prif Weinidog a'r Gweinidog iechyd ar y pryd fod llawer o'r gwendidau hyn wedi bodoli, ac mae'r gonestrwydd hwnnw'n ganmoladwy, ond os ydym yn mynd i ddysgu'r gwersi'n llawn, mae'n rhaid inni ddeall y cyd-destun cyfan. Sut y daethom i'r sefyllfa hon? Mae'r dystiolaeth yn codi mwy o gwestiynau, ac rydym i gyd, yn enwedig y teuluoedd mewn profedigaeth, yn haeddu gwybod yr atebion, yn enwedig os ydym am baratoi ar gyfer unrhyw bandemig yn y dyfodol. 

O ystyried hyn a'r ffaith bod cymaint o gwestiynau heb eu hateb, cwestiynau na fydd gan bwyllgor Senedd adnoddau na chapasiti i fynd ar eu trywydd, a yw'r Gweinidog yn cytuno nawr ei bod hi'n bryd inni gael ymchwiliad annibynnol yng Nghymru i gael yr atebion a'n galluogi i baratoi'n well ar gyfer unrhyw bandemig yn y dyfodol?  

Mae'r ymchwiliad yn parhau i dderbyn tystiolaeth lafar fel rhan o fodiwl 1 am wytnwch a pharodrwydd. Fel y dywedais, mae'r trawsgrifiad ar gael o'r holl dystiolaeth lafar a roddwyd gan dystion. Yr hyn sy'n glir yw nad yw'r ymchwiliad wedi dod i unrhyw gasgliadau eto. Rwy'n gwybod y bydd yr ymchwiliad yn ystyried tystiolaeth lafar gan dystion Cymreig ochr yn ochr â'r dystiolaeth y mae wedi'i chlywed gan dystion eraill dros y 15 diwrnod diwethaf, ynghyd â llawer o dystiolaeth ysgrifenedig y mae wedi'i chael gan ystod eang o dystion. 

A gaf fi gytuno â'r teimladau sydd newydd gael eu cyfleu am yr angen am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol yng Nghymru? Rwy'n derbyn bod y meinciau Llafur wedi pleidleisio yn erbyn hynny a bod yn rhaid inni nawr symud at y pwyllgor sydd wedi'i sefydlu yma yn y Senedd. Ond un peth a gododd o'r dystiolaeth a gyflwynwyd gan Weinidogion y Llywodraeth ddoe oedd nad oedd eich rhagflaenydd wedi darllen y papurau o ran parodrwydd ar gyfer COVID neu barodrwydd ar gyfer pandemig. Yn wir, dywedodd llawer o newyddiadurwyr fod y Gweinidog yn amlwg yn ymbalfalu—eu geiriau nhw, nid fy ngeiriau i—yn ei ymatebion. A allwch chi sicrhau'r Senedd y prynhawn yma, Weinidog, eich bod chi, wrth ddod yn Weinidog iechyd yma yn y Senedd, wedi darllen eich papurau, eich bod chi'n deall yr hyn sy'n ofynnol, a'n bod ni yn y lle gorau ac yn barod pe bai pandemig yn ein taro yn y dyfodol ar y raddfa y gwnaeth COVID-19 ein taro? 

Ni allaf ac ni wnaf ddarparu sylwebaeth ar y dystiolaeth y mae'r ymchwiliad yn ei chasglu, ac nid wyf am ragfarnu na dyfalu beth fydd casgliadau'r ymchwiliad ar ddiwedd y modiwl hwn. Fel y gwyddoch, mae gennym y pwyllgor diben arbennig ac rwyf wedi darllen y papurau mewn perthynas â hynny. 

4. Datganiadau 90 Eiliad

Y datganiadau 90 eiliad sydd nesaf. Mae datganiad heddiw gan Sioned Williams. 

Diolch, Lywydd. Mae Clwb Rygbi Trebannws yn dathlu ei ben-blwydd yn 125 oed. Yn ystod hanner cyntaf ei hanes hir o fod wrth galon ei gymuned yng Nghwm Tawe, chwaraeodd y clwb ran weithgar mewn cystadlaethau lleol. Cofnodwyd un o'i rowndiau terfynol cwpan cynharaf ym 1925 pan wnaethant chwarae yn erbyn Harbwr Abertawe ar faes enwog Sain Helen. Aeth y gêm i amser ychwanegol ond yn anffodus, colli a wnaeth Trebannws yn y pen draw. Yn ôl pob tebyg, roedd yn rhaid i'r dyfarnwr ar y pryd fynd i'r gwaith am 10 pm felly bu'n rhaid dod â'r gêm i ben yn gyflym. 

Yn ystod dyddiau'r dirwasgiad mawr, gadawodd llawer o bobl leol Drebannws yng Nghwm Tawe i chwilio am waith, ond byddai'r tîm a oedd ar ôl yn hyfforddi bob dydd, ac er bod y rhain yn amseroedd anodd fe wnaethant gynhyrchu chwaraewyr rygbi o'r safon uchaf, yn cynnwys William Bowen, John Lewis, Mel Lloyd, Elwyn Davies, Danny Hopkin ac Aubrey Hyde—profodd bob un ohonynt galedi, ond aeth pob un ohonynt ymlaen i chwarae i Glwb Rygbi Abertawe. Ac mae Clwb Rygbi Trebannws wedi parhau i gynhyrchu chwaraewyr sy'n llwyddo: Bleddyn Bowen, Robert Jones, Arwel Thomas, a'r un mwyaf adnabyddus, gellid dadlau, yn ei gap sgrym glas, Justin Tipuric, a enillodd 93 cap dros Gymru cyn ymddeol o rygbi rhyngwladol yn ddiweddar. 

Y llwyddiant mwyaf diweddar i'r clwb fu ennill plât y bencampwriaeth. Ond i glwb rygbi sefyll prawf amser, dangos ei werth fel ased enfawr, i'r gêm genedlaethol ac i'w gymuned, mae hon yn gamp fawr—i fod wrth galon y gymuned o hyd—a dymunaf bob llwyddiant iddynt ar gyfer y dyfodol. Ac rwy'n falch fod fy mab, Dewi, yn chwarae i'r tîm ieuenctid, ac efallai y bydd ef, ryw ddiwrnod, yn ymuno â thraddodiad hir a balch sêr Trebannws sy'n arwyr i'w cymoedd a'u cenedl.

15:30

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Llongyfarchiadau Clwb Rygbi Trebanos, a diolch am eich cyfraniad amhrisiadwy i gwm Tawe ac i Gymru.

5. Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022–23
6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)—Gwasanaethau epilepsi

Felly, eitem 6 heddiw yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)—gwasanaethau epilepsi. A galwaf ar Luke Fletcher i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8273 Luke Fletcher

Cefnogwyd gan Darren Millar, Delyth Jewell, Heledd Fychan, Huw Irranca-Davies, Jane Dodds, Jayne Bryant, Joel James, Joyce Watson, Llyr Gruffydd, Mark Isherwood, Mike Hedges, Peredur Owen Griffiths, Rhun ap Iorwerth, Sioned Williams, Tom Giffard

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod cyffredinrwydd epilepsi ledled Cymru yn 1 y cant (tua 32,000 o bobl ag epilepsi), gydag amrywiad lleol yn gysylltiedig â lefelau amddifadedd;

b) bod 11.5 o nyrsys arbenigol epilepsi cyfwerth ag amser cyfan yng Nghymru, sy'n cyfateb i gymhareb o 1 nyrs i bob 2,823 o gleifion;

c) bod adroddiad Steers (2008) yn argymell cymhareb o 300 o gleifion i un nyrs arbenigol epilepsi a fyddai'n cyfateb i gyfanswm o 107 o nyrsys arbenigol epilepsi yng Nghymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cefnogi mesurau i leihau amseroedd aros presennol i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth sy'n defnyddio gwasanaethau epilepsi;

b) cefnogi gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru, drwy sicrhau bod y lefelau staffio ar draws byrddau iechyd Cymru yn cael adnoddau priodol i gyflawni a chynnal cynaliadwyedd, diogelwch cleifion, ac ansawdd gwasanaeth.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Busnes am ddewis y cynnig hwn i'w drafod, yr Aelodau a’i cefnogodd, ond yn bwysicach, hoffwn ddiolch i Epilepsy Action Cymru am godi pryderon pobl sy’n byw gydag epilepsi gyda mi ac Aelodau eraill yn gyson.

Nawr, nid oes gennyf epilepsi fy hun, ond drwy eiriolaeth Epilepsy Action, rwyf wedi dysgu llawer am y cyflwr. Hoffwn ddechrau drwy adrodd stori Becci Smart. Bydd rhai ohonoch eisoes yn gyfarwydd â Becci—mae hi wedi bod yn ymgyrchydd brwd ar y mater hwn, yn ogystal ag ar faterion iechyd menywod, ers peth amser. Mae hi'n ymuno â ni heddiw yn yr oriel. Cafodd Becci ddiagnosis o epilepsi yn 17 oed, er ei bod, yn ôl pob tebyg, wedi byw gyda'r cyflwr er pan oedd yn chwech oed. Dyna'r broblem gyntaf, meddai wrthym. I gael diagnosis, mae angen ichi gael dau neu fwy o byliau. I gael ei diagnosis, a hithau'n byw yn Lloegr ar y pryd, cafodd ei gweld o fewn chwe wythnos. Heddiw, yng Nghymru, mae'r amser aros bellach yn 22 mis.

Nid yw Becci ar ei phen ei hun yng Nghymru. Mae gennym gyfraddau uwch o epilepsi na gweddill y DU o ran nifer yr achosion newydd a nifer y bobl ag epilepsi. Mae gan 11 o bob 1,000 o bobl yng Nghymru epilepsi, o gymharu â naw o bob 1,000 yn Lloegr. Unwaith eto, o ran achosion newydd yng Nghymru, mae 55 achos newydd ym mhob 100,000 o bobl mewn blwyddyn, o gymharu â’r ffigur o 37 ym mhob 100,000 yn Lloegr. Ddirprwy Lywydd, mae epilepsi'n fwy cyffredin nag y sylweddolwn.

Erbyn hyn, wrth gwrs, mae gan Becci well dealltwriaeth o'i hepilepsi, a hynny i raddau helaeth oherwydd nyrs arbenigol. Mantais byw yng Nghymru, fel y dywed, yw y gall gael ymateb gan ei nyrs i unrhyw gwestiwn sydd ganddi o fewn 24 awr. Ond fel llawer, wrth i'r galw gynyddu a nifer y nyrsys aros yr un fath, mae'n pryderu na fydd cyflymder yr ymateb yn para. A dyna broblem arall. Mae nifer y nyrsys epilepsi arbenigol yn druenus o fach.

Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, amcangyfrifir bod angen pum nyrs epilepsi arbenigol; ar hyn o bryd, nid oes ganddynt un. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, amcangyfrifir bod angen 11; mewn gwirionedd, dim ond pedair sydd ganddynt. Er mwyn cyfarfod wyneb yn wyneb neu gael apwyntiad, mae angen i Becci deithio o bentref Goetre-hen ym Mhen-y-bont ar Ogwr i Dreforys yn Abertawe. Mae hynny’n golygu trefnu gofal plant a theithio ar fws a thrên, oherwydd, wrth gwrs, ni all Becci yrru oherwydd ei hepilepsi. Gall y daith hon gymryd dros dair awr weithiau. Dyna pam ein bod yn dymuno gweld ein gwasanaethau'n adlewyrchu'r heriau a wynebir gan y bobl sy'n byw gydag epilepsi.

Mae ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud dau beth penodol. Yn gyntaf, dylai Llywodraeth Cymru gefnogi mesurau i leihau amseroedd aros cyfredol i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth sy'n defnyddio gwasanaethau epilepsi. Ac yn ail, dylai Llywodraeth Cymru gefnogi gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru, drwy sicrhau bod y lefelau staffio ar draws byrddau iechyd Cymru yn cael adnoddau priodol i gyflawni a chynnal cynaliadwyedd, diogelwch cleifion, ac ansawdd gwasanaeth.

Ddirprwy Lywydd, gwn fod gan lawer o'r Aelodau yn y Siambr heddiw nifer o bwyntiau yr hoffent eu gwneud ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau Aelodau eraill yn ogystal â chlywed gan y Gweinidog. Diolch yn fawr.

Rwy’n falch o gael cyfrannu at y ddadl hon heddiw, a diolch i Luke Fletcher am ei chyflwyno yn y Siambr. A chredaf fod y rheswm dros y ddadl yn allweddol, oherwydd y rhan hollgwmpasog y gall epilepsi ei chwarae ym mywydau’r mwy nag 1 y cant o’n poblogaeth sy’n dioddef o'r cyflwr. Bydd y rhai ohonom sydd â ffrindiau neu deulu sy'n dioddef o'r cyflwr, neu sydd wedi cyfarfod ag etholwyr ag epilepsi, yn gwybod nad wyf yn gor-ddweud pan ddywedaf ei fod yn rhywbeth a all ddominyddu pob agwedd ar eich bywyd yn hawdd. A dyna pam ei bod yn hollbwysig gwybod bod cymorth ar gael i bobl sy'n dioddef o epilepsi pan fydd ei angen arnynt. Ond yn anffodus, mae'n rhaid i ddioddefwyr ymdopi â realiti anodd y sefyllfa ar lawr gwlad.

Mae NICE yn awgrymu na ddylai amseroedd aros am apwyntiadau epilepsi rheolaidd gymryd mwy na phythefnos, ond y gwir amdani yw nad yw unrhyw un o fyrddau iechyd Cymru yn cyrraedd y targed hwnnw. Mae adroddiad Steers yn 2008, y cyfeirir ato yng nghynnig y ddadl heddiw, yn argymell cymhareb o un nyrs epilepsi arbenigol i bob 300 o gleifion yng Nghymru. Y gwir amdani, fodd bynnag, yw bod gennym un nyrs epilepsi arbenigol i bob 2,823 o gleifion yn lle hynny. Ac er yr amcangyfrifir bod epilepsi yn costio £2 biliwn y flwyddyn i’n GIG, dylem fod ar flaen y gad o ran cyllido ymchwil ar sut i drin y cyflwr. Ond y gwir amdani yw mai dim ond £21 yr unigolyn a wariwn ar ymchwil epilepsi, o gymharu â £97 ar gyfer dementia a £234 ar gyfer clefyd Parkinson.

Felly, pwynt fy nghyfraniad heddiw yw hyn: gwn pa mor anodd yw bod yn Weinidog iechyd, mae llawer o achosion teilwng iawn yn cystadlu bob dydd am damaid o gacen fechan iawn; rwy’n deall y pwysau hwnnw. Ond os ydym yn dysgu unrhyw beth o'r ddadl hon heddiw, gadewch inni wybod hyn: pryd y bydd dioddefwyr epilepsi yng Nghymru'n cael eu trin o leiaf yn gyfartal â’r rhai sy’n dioddef o gyflyrau eraill? A phryd y bydd realiti’r profiad i’r rhai sy’n dioddef o'r cyflwr hwn yn debyg i realiti’r ddarpariaeth sydd ar gael iddynt? Diolch.

15:35

Roeddwn yn falch iawn o gefnogi’r ddadl hon. Tan i fy mam gael tiwmor ar ei hymennydd, nid oedd gennyf unrhyw brofiad personol o epilepsi. Arweiniodd y tiwmor ar ei hymennydd at epilepsi, ac roedd yn sioc i’n teulu ac iddi hithau. Ac mewn gwirionedd, mae gweld rhywun rydych yn eu hadnabod ac yn eu caru yn cael ffit epileptig yn gwbl wahanol i weld dieithryn yn cael un. Mae pob un ohonom yn dweud, 'Ydym, rydym yn malio am bobl eraill', ond pan fo rhywun rydych yn eu hadnabod ac yn eu caru yn cael ffit, mae'n sicr yn brofiad gwahanol. Yn sicr, daeth â phroblem epilepsi i ffocws i mi.

Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau y dylai unrhyw un ag epilepsi yng Nghymru gael mynediad at y gofal gorau posibl. Rwy'n croesawu camau i ychwanegu cyflyrau niwrolegol, gan gynnwys epilepsi, at y dangosfwrdd cenedlaethol sydd, gyda llaw, yn monitro gwasanaethau, yn nodi anghydraddoldebau, ac yn gwella gofal. Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i barhau i weithio gydag eraill i wella gwasanaethau i bawb sydd â chyflyrau niwrolegol ledled Cymru, gan gynnwys pobl ag epilepsi, a chan gynnwys pobl—rhywbeth a godais ddoe—sydd ag epilepsi a rhywbeth arall, cyflwr niwrolegol arall.

Rwy'n croesawu'r datganiad ansawdd a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer cyflyrau niwrolegol, sy’n nodi’r canlyniadau a’r safonau rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd eu cyflawni wrth ddarparu’r gwasanaethau hynny. Mae’n bwysig fod byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd sy’n gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau i bobl â chyflyrau niwrolegol, gan gynnwys epilepsi, yn cynnal asesiadau o anghenion y boblogaeth i bennu’r lefelau staffio gofynnol, gan gynnwys nyrsys epilepsi arbenigol. Mae epilepsi yn gyflwr cyffredin ac anwadal, ac yn aml, mae'n anweledig. Golyga ei natur episodig ac amrywiol nad yw'n hawdd mabwysiadu dulliau confensiynol o ddarparu gwasanaethau. Ac fel y dywedodd Luke Fletcher, gallwch gael un digwyddiad, ac efallai y bydd sawl blwyddyn arall yn mynd heibio cyn yr ail ddigwyddiad, ac os felly, nid yw pobl yn eich ystyried yn rhywun sy'n dioddef o epilepsi.

Ledled Cymru, mae nifer yr achosion oddeutu 1 y cant o’r boblogaeth, sef oddeutu 32,000 o bobl, gydag amrywiadau lleol yn gysylltiedig â lefelau amddifadedd. Gall defnydd optimaidd o feddyginiaeth gwrth-ffitiau reoli ffitiau mewn hyd at 70 y cant o gleifion, ond nid y 30 y cant arall o gleifion. Mae oddeutu 52 y cant o gleifion yn cael rhyddid parhaus rhag ffitiau, ond mae 30 y cant o gleifion yn datblygu ymwrthedd i bob triniaeth. Gall y diffyg hwn o ran llwyddiant triniaeth â meddyginiaeth gwrth-ffitiau arwain at lawer o bethau: ymwrthedd i afiechyd; goddefiad gwael; ymateb cleifion i feddyginiaeth arall; ffactorau sy'n ymwneud â ffordd o fyw; neu at gamddiagnosis mewn rhai achosion. Mae’r bobl sy’n cael ffitiau na ellir eu rheoli â thriniaeth bresennol yn parhau i wynebu risgiau ychwanegol oherwydd eu hepilepsi. Bob blwyddyn, mae epilepsi wedi arwain at dros 100,000 o dderbyniadau i’r ysbyty heb eu cynllunio, a 1,000 o farwolaethau cyn pryd yn y DU. Gellid atal cymaint â 40 y cant o'r marwolaethau hyn.

Mae rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud. Ym mis Rhagfyr 2021, lansiwyd y llwybr Cymru gyfan ar gyfer ffitiau cyntaf a rheoli epilepsi mewn oedolion, i’w ddefnyddio gan feddygon teulu ac mewn adrannau achosion brys, ar gyfer pobl sydd wedi cael diagnosis o epilepsi eisoes, yn ogystal â’r rheini sy'n cael eu ffit gyntaf. Mae’r model mynediad agored ar gyfer clinigau epilepsi wedi’i fabwysiadu ledled Cymru. Mae’r model hwn yn annog cleifion i berchenogi eu gofal epilepsi ac yn lleihau nifer yr apwyntiadau, gan ddarparu pwynt cyswllt i deuluoedd drwy’r nyrs epilepsi arbenigol i drafod problemau wrth iddynt godi. Y peth pwysig yw nad oes digon ohonynt. Mae'n eithaf hawdd cael polisi sy'n dweud y dylai pawb allu cael mynediad at eu nyrs epilepsi arbenigol, ond mae angen digon ohonynt fel y gallant gael mynediad atynt pan fyddant angen gwneud hynny.

Mae gwella cymorth seicolegol i bobl â chyflyrau niwrolegol wedi’i flaenoriaethu fel maes ffocws gan Lywodraeth Cymru, a hoffwn ddiolch iddynt am hynny. Lansiwyd y dangosfwrdd epilepsi ym mis Chwefror 2023. Bu’r grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol, fel y cyn-arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer cyflyrau niwrolegol, yn gweithio’n agos gyda’r tîm gofal iechyd ar sail gwerth ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru i gael dangosfwrdd data ar gyfer epilepsi, a lansiwyd ym mis Chwefror eleni. Bydd y dangosfwrdd yn cefnogi’r dull gofal optimaidd ac yn galluogi gwell dealltwriaeth o wasanaethau epilepsi mewn gofal eilaidd yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys ystyried priodoldeb y ddarpariaeth ranbarthol.

Mae etholwr wedi cysylltu â mi a oedd wedi darllen gyda diddordeb am y therapi laser ffeibr optig newydd ar gyfer epilepsi fel dewis amgen yn lle therapi. Mae gan eu hŵyr epilepsi heb ei reoli, ac mae ei feddygon bellach yn sôn am lawdriniaeth. A oes bwriad i edrych ar lwyddiant therapi laser, neu ddiffyg llwyddiant therapi laser, gan nad oes prinder mewn unrhyw gyflwr iechyd os oes gan rywun ffordd ddrud o beidio â'i ddatrys? Ond os yw'n gweithio, a fydd yn cael ei gyflwyno ledled Cymru os yw'n effeithiol, fel y gall pobl fel fy etholwr elwa ohono?

15:40

Diolch i Luke am ddod â'r ddadl hon gerbron y Senedd.

Mae epilepsi wedi bod yn bresenoldeb cyfarwydd mewn cymdeithas ers canrifoedd. Nododd tad meddygaeth, Hippocrates, ei gysylltiad â'r ymennydd am y tro cyntaf yn y bumed ganrif CC. Effeithiodd ar ffigurau enwog fel Julius Caesar a Vincent van Gogh, a'r rheswm pam fy mod yn sôn am yr hanes hwnnw yw am ei bod mor anghredadwy fod cyflwr sydd wedi bod o gwmpas ac yn gyfarwydd ers canrifoedd yn dal i gael ei gamddeall yn llwyr fel cyflwr. Ac nid yw anghenion y bobl y mae'n effeithio arnynt yn cael eu diwallu'n ddigon da o hyd; maent yn gymhleth, maent yn amrywio'n eang. Heddiw, mae cymaint ohonom wedi bod yn myfyrio ar gyflwr gofal iechyd yng Nghymru, ar y garreg filltir bwysig hon—pen-blwydd y GIG yn 75 oed. Mae'n realiti trist, yn 2023, fod darpariaeth gofal ar gyfer pobl sy'n byw gydag epilepsi yn annigonol.

Nawr, fe glywsom y ffigurau'n cael eu hailadrodd eisoes gan nifer o Aelodau—y ffaith bod mwy nag 1 y cant o holl boblogaeth Cymru yn byw gyda chyflyrau epileptig. Y tu ôl i'r holl ffigurau hynny, p'un a ydym yn sôn am faint o bobl yr effeithir arnynt, neu am hyd rhestrau aros, y tu ôl i’r ffigurau hynny, maent yn bobl sy’n ofnus yn ôl pob tebyg, maent yn bobl sydd—. Oherwydd, os oes gennych epilepsi, rydych yn—. Rydych yn colli rheolaeth, yn enwedig os ydych—wel, roeddwn ar fin dweud 'yn enwedig os ydych yn ifanc', ond i unrhyw un o unrhyw oedran mewn gwirionedd, fe fydd yn brofiad brawychus. Mae stigma ynghlwm wrth y cyflwr, oherwydd y diffyg dealltwriaeth, ac felly, bydd yr holl ffigurau hynny'n cuddio dioddefaint pobl yn y ffyrdd hynny.

Clywsom eisoes mai dim ond 11.5 o nyrsys epilepsi arbenigol amser llawn a geir yng Nghymru ar hyn o bryd, fel y mae Tom wedi'i nodi, a sut nad yw hynny'n cymharu'n ffafriol mewn unrhyw ffordd â darpariaeth nyrsys epilepsi arbenigol yn yr Alban. Nid oes gan unrhyw un o fyrddau iechyd Cymru y nifer angenrheidiol o'r nyrsys hyn i ddarparu ar gyfer y boblogaeth. Mae Caerdydd bum nyrs epilepsi arbenigol yn brin o'r lefel a argymhellir; saith yw'r diffyg ym mae Abertawe; nid oes gan Bowys unrhyw wasanaeth niwroleg penodol o gwbl. Canlyniadau anochel y diffyg capasiti hwn yw’r amseroedd aros uchel y cyfeiriwyd atynt ar gyfer apwyntiadau rheolaidd. Ac mae hynny wedi dod yn norm yng Nghymru, ac felly, bydd y dioddefaint a’r diffyg rheolaeth, a’r ofn y bydd pobl yn byw gydag ef wedi dod yn norm. A phan fyddwn yn nodi pob un o'r ffigurau hyn, mae'n rhywbeth y dylem geisio ei gadw mewn cof. Mae canllawiau NICE yn argymell amser aros o ddim mwy na phythefnos ar gyfer cleifion yr amheuir eu bod wedi cael eu ffit gyntaf. Y gwir amdani yw nad yw hynny’n cael ei gyflawni gan unrhyw fwrdd iechyd; mewn llawer o ardaloedd, mae pobl yn aros am dros flwyddyn i weld eu niwrolegydd.

Ddirprwy Lywydd, mae ymchwil ddiweddar wedi nodi bod cydberthynas rhwng epilepsi a newid hinsawdd, gyda mwy o achosion o ffitiau'n gysylltiedig â thymheredd poeth, felly ymddengys bod hynny'n ychwanegu mwy o frys eto at yr angen am fwy o ddibyniaeth ar ofal arbenigol, gan y bydd hynny'n dod hyd yn oed yn fwy cyffredin oherwydd y grymoedd allanol a'r ffactorau allanol hyn.

Nawr, rwyf am gloi drwy ddweud pa mor bwysig yw hi ein bod yn cynyddu darpariaeth gofal epilepsi Cymru ar fyrder, a bydd y ddadl hon, gobeithio, yn helpu i roi hyn ar yr agenda, a diolch i Luke, unwaith eto, am wneud hynny. Ond—

—boed inni oll jest cadw mewn cof unwaith eto y bobl hynny, yn enwedig pobl ifanc, sydd yn mynd drwy hyn: gymaint o ofn efallai byddan nhw'n gallu bod yn mynd drwyddo fe, a pha mor bwysig mae e inni wneud yn siwr bod y cymorth ar gael mewn ysgolion hefyd, fel bod pobl ifanc eraill yn gallu deall beth sy'n digwydd i'w ffrind nhw a'u bod nhw yn gallu eu helpu nhw hefyd, achos mae e mor bwysig dyw pobl ddim yn teimlo eu bod nhw wedi'u hynysu gyda rhywbeth fel hyn. Ond diolch yn fawr iawn.     

15:45

Hoffwn ddilyn ymlaen o'r hyn y mae Delyth wedi'i ddweud. Nid oeddwn yn sylweddoli bod Delyth yn mynd i sôn am ba mor bwysig yw hi fod pob un ohonom yn gwybod sut i weithio gyda rhywun sy'n cael ffit epileptig, gan nad dyna oedd fy mhrofiad cyntaf i. Rwy'n cofio fy mod yn 14, roeddwn yn gwylio Clwb Pêl-droed Wrecsam yn y Kop, a chafodd unigolyn agos iawn i mi ffit epileptig ac nid oedd unrhyw un yn gwybod beth i'w wneud. Ciliodd pawb ac aros i'r bobl a oedd yn swyddogion cymorth cyntaf, pobl Sant Ioan, ddod i helpu. Euthum adref, ac fe gafodd hyn argraff wirioneddol arnaf, ac roeddwn yn ofidus ac wedi fy nhrawmateiddio am nad oeddwn yn gwybod beth ydoedd, nid oeddwn yn gwybod beth i'w wneud; roeddwn yn teimlo'n dda i ddim.

Ac mewn gwirionedd, gan ddilyn ymlaen o'r hyn a ddywedoch chi, Delyth, mae yna ymdeimlad o stigma, ymdeimlad o gywilydd, ynghlwm wrth hyn, ac mewn gwirionedd, mae angen inni sicrhau ein bod yn siarad amdano, ac mae cael y ddadl hon yn rhan o hynny. A dweud y gwir, rwy'n ddiolchgar iawn i Luke am gyflwyno'r ddadl hon ac rwy'n falch iawn o'i chefnogi. Hoffwn ychwanegu hefyd fod angen inni edrych ar addysg ac ymwybyddiaeth yn ein hysgolion, fel rydych chi wedi’i ddweud, Delyth, a thu hwnt i hynny. Hoffwn ei weld yn rhan o'r cwrs cymorth cyntaf sylfaenol, gan y dylai pob un ohonom wybod sut i ymateb i rywun sy'n cael ffit epileptig.

Rhai ffeithiau: fe wyddom—ac mae Mike wedi crybwyll hyn hefyd—fod 1,000 o farwolaethau cyn pryd ledled y DU yn gysylltiedig ag epilepsi, ac y gellid atal 40 y cant o’r marwolaethau hyn. Gwyddom y gall epilepsi fod yn rhan o gyfluniad ehangach o broblemau corfforol i rywun ag anabledd, efallai, ac felly mae cael epilepsi ar ben hynny yn stigma ac yn anhawster mawr. Yn ôl arolwg gan y Gynghrair Niwrolegol, dywedodd 38 y cant o ymatebwyr eu bod wedi aros 12 mis neu fwy am ddiagnosis ar ôl y ffit gyntaf. Gwyddom fod oedi cyn cael triniaeth a gofal yng Nghymru, yn ogystal â diffyg mynediad at gymorth iechyd meddwl a niwrolegwyr priodol, yn creu’r annhegwch hwn, y soniodd Tom amdano hefyd.

Mae niwroleg yn parhau i fod yn wasanaeth blaenoriaeth isel sy’n cael ei danariannu, ac mae prinder staff sylweddol, yn enwedig, fel y clywsom, y nyrsys cymorth epilepsi, yn golygu ein bod yn methu darparu’r gofal sy’n canolbwyntio ar y claf y mae pobl ag epilepsi yn ei haeddu. Fel y dywedodd Delyth, nid oes gan fy mwrdd iechyd lleol ym Mhowys unrhyw nyrsys niwroleg penodedig a rhaid i bobl deithio o’r ardal i gael mynediad at y gwasanaethau hynny. Drwy fabwysiadu’r model mynediad agored hwn sy’n canolbwyntio ar y claf a rôl cydgysylltydd penodedig, gallwn wella canlyniadau clinigol a phrofiadau’r cleifion hynny. Mae angen inni rymuso ac ariannu ein byrddau iechyd a darparu’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i recriwtio a chadw gwasanaethau epilepsi arbenigol hanfodol er mwyn bodloni'r safon ofynnol a'r gwasanaeth gofynnol y mae pobl ag epilepsi yn ei haeddu. Ni ddylai epilepsi barhau i fod yn anabledd anweledig. Ni allwn fforddio anwybyddu'r broblem mwyach. Mae'n rhaid inni siarad amdani, mae'n rhaid inni ei thrafod—sef beth mae hyn yn rhan ohono—ac mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r materion sy'n effeithio ar bobl ag epilepsi. Diolch yn fawr iawn.

15:50

Rwy’n ddiolchgar i Luke am gyflwyno’r ddadl hon y prynhawn yma, ac rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon, gan ei bod yn golygu rhywbeth i mi ar lefel bersonol. Roedd fy modryb yn dioddef o epilepsi ers ei harddegau, a fy atgof cryfaf o Anti Mair yw ei bod yn rhyfeddol o uchel ei chloch, ac oedd, roedd hi’n wych. Ac mae gennyf atgof plentyn o dabledi, a nawr ac yn y man, roedd hi'n cael ffit, a ninnau'r plant yn cael ein symud allan o'r ystafell. Felly, mae'n ymwneud â'r stigma roeddech chi'n sôn amdano, 'Peidiwch â gadael i'r plant weld', a'r math hwnnw o beth. Ond daliodd ati i weithio'n llawn amser cyhyd ag y gallai. Yn y pen draw, bu'n rhaid iddi roi'r gorau i'w swydd. Yn y diwedd, cafodd lawdriniaeth fawr i leddfu rhai o'r ffitiau epileptig mwy problemus a difrifol, a helpodd hynny i raddau, ond ni chafodd wared arnynt. Yn anffodus, flynyddoedd lawer yn ddiweddarach, cafodd ffit a arweiniodd at gwymp ac anaf mawr i'w phen, a bu farw'n fuan wedyn.

Yn ystod y cwest, canfuwyd nad oedd y gwasanaeth ambiwlans wedi deall pa mor ddifrifol oedd y broblem, a’u bod wedi dadflaenoriaethu’r alwad. Dywedwyd wrthyf yn ddiweddarach, hyd yn oed pe bai’r ambiwlans wedi bod y tu allan pan ddigwyddodd y ddamwain honno, na fyddai wedi achub ei bywyd, oherwydd natur y trawma. Fodd bynnag, mae’n arwydd o ba mor ddifrifol, neu fel arall, y mae'r gwasanaethau brys yn ystyried epilepsi weithiau. Roeddwn yn bryderus wrth ddarllen y dystiolaeth gan Epilepsy Action Cymru am yr anghysondebau mewn triniaeth ledled Cymru, a nifer uwch yr achosion o epilepsi mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Mae fy rhanbarth i'n cynnwys rhai o gymunedau tlotaf Cymru, a hoffwn weld pobl ag epilepsi o'r lleoedd hyn yn cael triniaeth gystal â rhywun ag epilepsi o ardal fwy cefnog. Mae'n rhaid nodi a dileu anghydraddoldebau iechyd fel hyn yn gyflym. Onid dyna gonglfaen y GIG rydym yn ei werthfawrogi cymaint, ac sydd mor annwyl i ni, ac y dathlwn ei ben-blwydd heddiw?

Felly, rwy'n cefnogi'r holl argymhellion, yn enwedig yr un i ddarparu adnoddau priodol ar gyfer gwasanaethau epilepsi er mwyn cyflawni a chynnal cynaliadwyedd, diogelwch cleifion ac ansawdd gwasanaeth ledled y wlad. Diolch yn fawr.

Rwy’n falch o fod wedi cefnogi’r cynnig, ac yn diolch i Luke Fletcher, fy nghyd-Aelod dros Orllewin De Cymru, am ddod â’r ddadl hon gerbron y Senedd. Roedd e’n dda dy glywed di yn sôn am hanes Becci, sydd wrth gwrs â chysylltiad agos gyda fi—dwi’n mentora Becci fel rhan o’r cynllun ‘Equal Power, Equal Voice’, ac mae hi wedi gwneud gwaith ardderchog yn ymgyrchu dros sicrhau ein bod ni’n siarad am epilepsi, a bod triniaethau a chefnogaeth yn cael eu gwella.

Hoffwn i drafod yn gyntaf y niferoedd a’r gyfradd o bobl sydd ag epilepsi yng Nghymru, a’r ffaith bod gan Gymru gyfraddau uwch o achosion o epilepsi o ran achosion newydd, ac o ran nifer y bobl sydd ag epilepsi, na gweddill y Deyrnas Gyfunol. Yng Nghymru, fel rŷn ni wedi'i glywed, mae 11 o bob 1,000 o bobl ag epilepsi, o'i gymharu â naw o bob 1,000 yn Lloegr, ac yng Nghymru mae 55 o achosion newydd o epilepsi ym mhob 100,000 o bobl mewn blwyddyn, o'i gymharu â 37 o bob 100,000 yn Lloegr.

Mae’r cynnig yn tanlinellu, fel nifer o gyflyrau eraill, fod ymchwil yn dangos bod cysylltiad rhwng ardaloedd mwy difreintiedig a lefel uwch o epilepsi. Efallai hyn sydd i gyfrif am y niferoedd uwch yma o bobl sy’n byw gydag epilepsi yng Nghymru yw’r ffaith ein bod ni’n genedl sydd â lefelau uwch o dlodi, llawer rhy uchel o dlodi, sy’n cael effaith andwyol ar iechyd ein poblogaeth. Mae pobl yn ardaloedd mwyaf difreintiedig y Deyrnas Gyfunol mwy na thraean yn fwy tebygol o gael epilepsi na’r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Ond mae angen mwy o ymchwil i ddeall yn iawn holl oblygiadau’r ystadegyn yma. Felly, beth yw dealltwriaeth y Llywodraeth o’r data sydd ar gael ac yn cael ei gasglu o ran hyn?

Felly, mae nifer yr achosion o epilepsi tua 1 y cant yng Nghymru, gyda rhyw 32,000 o oedolion yn byw gyda’r cyflwr, yn ôl y ffigurau diweddaraf—nifer sylweddol, a nifer uwch na gweddill y Deyrnas Gyfunol. Ond, fel rŷn ni wedi’i glywed, mae nifer y nyrsys epilepsi arbenigol yn hynod isel ac yn anghyfartal dros Gymru, gyda nifer sy’n cyfateb i gymhareb o un nyrs i bob 2,823 o gleifion. Rwy’n byw yng nghwm Tawe yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae 6,000 o oedolion yn byw gydag epilepsi yn ardal y bwrdd iechyd hwnnw—mae pedwar nyrs arbenigol epilepsi. Yn yr Alban, mae un nyrs arbenigol i bob 1,106 o’r boblogaeth sy’n byw ag epilepsi.

Mae’r darlun yn gwbl anghyson drwy Gymru o ran y gyfradd yma o nyrsys arbenigol epilepsi y pen i bobl sy’n byw â’r cyflwr. Yr hyn sy’n gyson yw bod y gyfradd yn is o lawer, dros 50 y cant yn is ym mron pob achos, o ran y gyfradd o nyrsys i’r bobl sy’n byw ag epilepsi yn ein byrddau iechyd. Felly, beth yw’r cynlluniau i fynd i’r afael â hyn, Weinidog? Mae’r ystadegau yn awgrymu bod angen gweithredu ar hyn ar lefel genedlaethol o ran cael strategaeth genedlaethol, os yw ein gwasanaeth iechyd—yr hyn rŷn ni wedi bod yn ei ddathlu heddiw—am gwrdd ag anghenion a chefnogi’r rhai sy’n byw â’r cyflwr yma yng Nghymru.

15:55

Wrth gwrs, rwy'n cefnogi’r cynnig hwn yn llwyr ac yn gryf, ac roeddwn yn falch o ychwanegu fy enw at y rhestr o gefnogwyr, ond mae’n teimlo fel yr un hen stori. Yn 2016 ac eto yn 2017, wrth siarad yn y Senedd, dywedais nad oes gan rai ardaloedd o Gymru fynediad at wasanaethau epilepsi, fel nyrsys epilepsi, gwasanaethau eiriolaeth neu hyfforddiant, gan gynnwys darpariaeth iechyd neu addysg arbenigol. Dywedais fod rhieni plant ag epilepsi ac anghenion cymhleth yn ei chael yn anos cael mynediad at addysg briodol i’w plentyn, a’u bod yn fwy tebygol o gael anawsterau gyda chludiant, goruchwyliaeth feddygol, darpariaeth cymorth cyntaf neu feddyginiaeth na theuluoedd eraill. Sylwais hefyd fod oedolion ag epilepsi ac anghenion cymhleth yn ei chael hi’n anodd cael gwasanaethau sy’n diwallu eu hanghenion.

Wrth siarad yn nigwyddiad ymwybyddiaeth epilepsi Epilepsi Cymru yn y Senedd yn 2019, nodais y posibilrwydd y gellid bod wedi osgoi 40 y cant o farwolaethau cyffredinol a 59 y cant o farwolaethau plant sy'n digwydd o ganlyniad uniongyrchol i epilepsi drwy reoli'r cyflwr yn well. Bedair blynedd yn ddiweddarach, mae Epilepsy Action Cymru yn datgan bod nifer y nyrsys epilepsi arbenigol yng Nghymru, 'yn druenus o brin'. Mae'r amser wedi dod i droi geiriau llawn bwriadau da yn gamau gweithredu go iawn. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr i Luke Fletcher am godi'r mater pwysig yma yn y Siambr heddiw, a diolch i bob Aelod sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. Dwi wedi gwrando’n ofalus ar bawb, ac mae nifer o bwyntiau pwysig wedi eu gwneud. 

Mae epilepsi, fel y mae llawer o bobl wedi’i ddweud, yn gyflwr niwrolegol difrifol ond cyffredin sydd, fel y clywsom, yn gallu bod yn frawychus, yn anrhagweladwy ac yn gallu tarfu’n aruthrol ar fywydau pobl. Mae gan oddeutu 1 y cant o boblogaeth Cymru epilepsi, fel y mae llawer wedi'i nodi, a bydd oddeutu 1,500 o bobl yng Nghymru yn datblygu epilepsi bob blwyddyn. Nawr, yn yr amser sydd gennyf y prynhawn yma, hoffwn dynnu sylw at fesurau pwysig sydd eisoes ar waith i gefnogi pobl ag epilepsi, a rhai o'r mesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i gefnogi hyn.

Nawr, ers 2017, mae £1 filiwn o gyllid y flwyddyn wedi’i ddyrannu i’r grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol. Mae hynny er mwyn cefnogi datblygiad a gweithrediad teg—mae cymaint ohonoch wedi sôn am bwysigrwydd tegwch—gwasanaethau o ansawdd uchel i bawb sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol, gan gynnwys epilepsi. Nawr, rydym yn mynd i barhau i gefnogi'r gweithgarwch hwn wrth symud ymlaen, drwy Weithrediaeth y GIG, sydd newydd ei sefydlu.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad ansawdd ar gyfer cyflyrau niwrolegol ym mis Tachwedd y llynedd, sy’n nodi’r canlyniadau a’r safonau rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd eu cyflawni wrth ddarparu’r gwasanaethau hynny. Cafodd hwnnw ei gydgynhyrchu gyda'r grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol a’r 20 a mwy o bartneriaid trydydd sector a gynrychiolir yn y grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol gan Gynghrair Niwrolegol Cymru. Mae hyn yn cynnwys cynrychiolwyr o Epilepsy Action ac Epilepsi Cymru.

Drwy ei chymorth i'r grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol, bydd gweithrediaeth y GIG yn sicrhau bod y priodoleddau ansawdd a nodir yn y datganiad ansawdd yn cael eu hymgorffori wrth gynllunio a darparu gwasanaethau drwy ddatblygu manylebau gwasanaeth a llwybrau gofal. Ym mis Rhagfyr 2021, lansiwyd y llwybr Cymru gyfan ar gyfer ffitiau cyntaf a rheoli epilepsi mewn oedolion. Datblygwyd y llwybr clinigol hwn drwy gydweithio â chlinigwyr y grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol a phartneriaid yn y trydydd sector. Defnyddir y llwybr gan feddygon teulu ac adrannau achosion brys ar gyfer pobl sydd eisoes wedi cael diagnosis o epilepsi a rhai sy’n cael ffit am y tro cyntaf. Felly, mae'r llwybr hwnnw roedd pob un ohonoch yn gofyn amdano yn bodoli. Mae’r llwybr yn helpu i strwythuro a llywio gofal ar gyfer pobl ag epilepsi, a’i nod yw gwella mynediad at wasanaethau epilepsi ac ysgogi gwelliannau yn ansawdd y gwasanaethau hynny, gan fod gwella canlyniadau a phrofiadau pobl ag epilepsi yn ganolog i'r llwybr.

Mae datganiad sefyllfa Epilepsy Action Cymru yn rhoi darlun defnyddiol o wasanaethau epiliepsi yng Nghymru. Mae ei adroddiad yn nodi bod model gofal mynediad agored o fudd mawr drwy roi mynediad yn syth i bobl at wasanaethau epilepsi os bydd rhywbeth yn newid neu os hoffen nhw drafod pryderon. Mae hyn yn lleihau'r angen am apwyntiad claf allanol ac yn lleihau amseroedd aros a derbyniadau ysbyty.

Mae'n galonogol clywed bod y chwe bwrdd iechyd yn darparu gwasanaethau epilepsi arbenigol ledled Cymru, ac maent wedi mabwysiadu'r model mynediad agored.

Ym mis Chwefror eleni, lansiwyd y dangosfwrdd epilepsi, fel y clywsom. Datblygwyd hwnnw drwy gydweithio llwyddiannus, unwaith eto, rhwng y grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol, y tîm gofal iechyd seiliedig ar werth ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Bydd y dangosfwrdd yn cefnogi gwell dealltwriaeth o wasanaethau epilepsi yng Nghymru ac yn darparu gwybodaeth werthfawr wrth symud ymlaen i lywio cynllunio a dyrannu adnoddau i gefnogi'r model gofal optimaidd, gan gynnwys dulliau rhanbarthol o ddarparu gwasanaethau lle bo hynny'n briodol.

Wrth i'r dangosfwrdd gronni mwy o wybodaeth dros amser, bydd hefyd yn darparu ffordd o fonitro gwasanaethau, gan nodi meysydd i'w gwella a thynnu sylw at anghydraddoldebau ac amrywio diangen mewn gofal. Gwyddom fod nifer o nyrsys epilepsi arbenigol ledled Cymru yn gweithio'n galed i ddarparu gofal a chymorth hanfodol i bobl ag epilepsi, ac rydym yn cydnabod bod eu cyfraniad yn amhrisiadwy.

Rwyf wedi nodi'r argymhelliad yn yr adroddiad hwn y dylid cael cymhareb o 300 o gleifion i un nyrs epilepsi arbenigol, sy'n golygu y byddai angen 95 o nyrsys epilepsi arbenigol eraill cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru. Mae'n rhaid imi ddweud wrthych ein bod mewn cyfnod o anawsterau ariannol. Rydym wedi parhau i fuddsoddi yng nghynaliadwyedd ein gweithlu GIG. Am y nawfed flwyddyn yn olynol, mae cyllid i gefnogi addysg a hyfforddiant iechyd proffesiynol yng Nghymru wedi cynyddu—bydd £281 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn 2023-24, ac mae hwnnw'n cyfateb i gynnydd o 8 y cant o'r flwyddyn flaenorol. Felly, rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd sicrhau eu bod yn cynllunio ar gyfer gwasanaethau diogel, cynaliadwy o ansawdd uchel sy'n diwallu anghenion eu poblogaeth leol, a bod eu gweithlu felly'n adlewyrchu'r model hwnnw a'u bod yn darparu adnoddau yn unol â hynny.

Rydym yn gwybod bod y GIG yn wynebu heriau lluosog, ac nid wyf yn bychanu'r rhain. Rydym wedi nodi nodau clir o fewn y datganiad ansawdd ar gyflyrau niwrolegol. Mae rhai o'r mesurau eraill a ddisgrifiais yn allweddol i gyflawni'r nodau hyn. I fod yn glir, cyfrifoldeb y byrddau iechyd yw cynllunio a darparu eu gwasanaethau yn unol â hynny.

Hoffwn i sicrhau'r Siambr fod gwella canlyniadau i bobl sydd â chyflwr niwrolegol fel epilepsi yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Diolch yn fawr.

16:00

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel y mae pob Aelod bob amser yn ei wneud ar ddechrau eu haraith i gloi, hoffwn ddiolch i'r Aelodau a gyfrannodd at y ddadl hon a diolch i'r Gweinidog hefyd am ei hymateb. 

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Mike a Peredur yn benodol am rannu straeon personol yn y ddadl, a Delyth, wrth gwrs, am ein hatgoffa o bwysigrwydd rhannu'r straeon personol hynny. Hynny yw, nid yw ffigurau fel 1 y cant o reidrwydd yn swnio'n arbennig o fawr, ond rydym yn aml yn anghofio, y tu ôl i'r ffigurau hyn, fod yna bobl a'r heriau y maent yn eu hwynebu. Mae'r straeon sydd wedi cael eu rhannu heddiw yn hanfodol bwysig i ni yn y ddadl hon i ddeall yr heriau hynny.

Delyth a Mark, gallaf ddibynnu arnoch eich dau bob amser i ddysgu rhywfaint o hanes i ni mewn dadl. Delyth, fe wnaethoch chi gyffwrdd â sut mae'n brofiad brawychus i'r rhai sy'n byw gydag epilepsi, ac rwyf am droi'n ôl at Becci ar y pwynt hwn; y pryder a'r ofn a ddaw gydag epilepsi sy'n gwneud nyrsys epilepsi arbenigol yn hanfodol bwysig. Maent yn darparu gwasanaeth pwysig, yn gorfforol ac yn feddyliol. Mae Becci ac eraill yn gwybod, drwy'r cymorth y maent yn ei dderbyn, eu bod yn teimlo ychydig yn fwy diogel, felly mae'n hanfodol bwysig ein bod yn sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal at nyrsys epilepsi arbenigol.

Jane, fe wnaethoch chi godi pwynt hynod bwysig mewn gwirionedd: ni fyddwn yn gwybod beth i'w wneud pe bai rhywun yn cael ffit epileptig wrth fy ymyl, ac rwy'n credu, mewn gwirionedd, fod yna her yno i bob un ohonom yn y Siambr. Rwy'n gwybod nawr beth fydd ein diwrnod hyfforddi tîm nesaf yn fy swyddfa, ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau eraill yn ystyried darparu hyfforddiant ar beth i'w wneud os bydd rhywun yn cael ffit. Wedi'r cyfan, rydym yn ymdrin â miloedd o etholwyr bob dydd, ac yn ddi-os bydd epilepsi ar rai o'r bobl a ddaw i'n swyddfeydd.

Cododd Sioned a Peredur rywbeth a achosodd bryder mawr i mi hefyd, sef y cysylltiad posibl rhwng amddifadedd ac epilepsi. Mae angen mwy o ymchwil, wrth gwrs, fel y nododd Sioned, ond os oes cysylltiad, rwy'n credu bod angen inni ddod o hyd i'r cysylltiad hwnnw ac mae angen inni ei ddatrys fel mater o flaenoriaeth.

Wrth gwrs, rwyf eisoes wedi diolch i'r Gweinidog; diolch unwaith eto am ei hymateb i'r ddadl. Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd y Llywodraeth yn parhau i gefnogi gwasanaethau epilepsi, ond wrth gwrs, rydym wedi clywed nifer o Aelodau yn mynegi pryderon heddiw. Fe wnaeth Mark ein hatgoffa'n briodol o sawl gwaith y mynegwyd pryderon yn y Siambr, ac mae Epilepsy Action Cymru wedi ein hatgoffa o rai o'r pryderon hynny. Byddwn yn croesawu'r cyfle i gyfarfod â'r Gweinidog ar ôl y ddadl hon ar ryw adeg. Rwy'n derbyn bod hwn yn faes meddygol cymhleth iawn, a'r anhawster y bydd hi'n ei gael i geisio cyfleu popeth yn yr amser sydd ganddi yn y Siambr. Byddwn yn gwerthfawrogi cyfarfod yn fawr.

Wrth gwrs, crybwyllodd Tom gost epilepsi i'r GIG, sydd, yn ôl Epilepsy Action Cymru, oddeutu £2 biliwn y flwyddyn. Ac wrth gwrs, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am y portffolio iechyd, mae cymaint o flaenoriaethau'n cystadlu. Ond gall y gost o £2 biliwn gael ei lliniaru drwy ariannu mwy o nyrsys epilepsi arbenigol. Mae'n gosteffeithiol, nid yn unig mewn ystyr ariannol, ond o ran amser niwroleg—. Rwy'n baglu ar fy ngeiriau. Niwrolegwyr. Mae hynny'n ddigon agos, rwy'n credu. Mae'n ymwneud â nhw'n rhyddhau'r capasiti eu hunain, gan arbed arian yn y ffordd honno hefyd. Yn amlwg, mae yna bryderon, ac rwy'n credu bod yn rhaid inni weithio i'w datrys gyda'n gilydd.

Rwyf am gloi drwy ymdrin â'r hyn sydd y tu ôl i'r ffigurau hyn mewn gwirionedd. Mae a wnelo â phobl yn y pen draw, pobl sy'n ymdopi â'r heriau y maent yn eu hwynebu o ganlyniad i epilepsi. Mae a wnelo ag ofn a phryder. Felly, y tu ôl i'r ffigurau hynny, pan fyddwn ni'n siarad am yr 1 y cant, pan fyddwn ni'n siarad am nifer y bobl sy'n dioddef gydag epilepsi, gadewch inni gofio bod llawer mwy i hyn na ffigur mewn gwirionedd; mae a wnelo â phobl a'r heriau y maent yn eu hwynebu. Ac os ydym yma i wneud un peth, rydym yma i gynrychioli'r bobl hynny a sicrhau eu bod yn gallu byw eu bywydau cystal ag y gallant. Diolch yn fawr.

16:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol—'Y fframwaith deddfwriaethol sy'n cefnogi darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg'

Eitem 7 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Y fframwaith deddfwriaethol sy'n cefnogi darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Delyth Jewell.

Cynnig NDM8314 Delyth Jewell

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol, ‘Y fframwaith deddfwriaethol sy’n cefnogi darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mai 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser gen i agor y ddadl ar ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. Rwy’n ddiolchgar i aelodau’r pwyllgor, ac i’n tîm pwyllgor am eu holl waith.

Dyma'r ymchwiliad cyntaf sydd wedi ei gynnal ar y cyd rhwng gwahanol bwyllgorau yn y chweched Senedd, ac mi wnaeth dau rapporteur o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gymryd rhan yn yr ymchwiliad. Rŷn ni'n ddiolchgar i Sioned ac i Buffy am eu gwaith hefyd, ac i'r pwyllgor yn gyffredinol.

Hoffwn i ddweud o'r cychwyn cymaint roedden ni'n croesawu proses ymgynghori ddiweddar Llywodraeth Cymru ar Bapur Gwyn y Bil addysg Gymraeg. Rhan o fwriad y pwyllgor gyda'r ymchwiliad yma oedd cynorthwyo a chynnig tystiolaeth ar gyfer y broses honno, ac rŷn ni'n derbyn fod rhai pethau na all y Llywodraeth ymrwymo’n llwyr iddynt yn ei hymateb i'n hadroddiad yn dilyn cwblhau’r broses ymgynghori. Rŷn ni hefyd yn croesawu'r ymrwymiad gan y Prif Weinidog ar 27 Mehefin, pan gyhoeddodd y bydd Bil addysg Gymraeg yn cael ei gyflwyno yn ystod 2023-24. 

Felly, lle ydyn ni arni? Fe wnaf i droi at ein prif argymhellion. Yn gyntaf, pwysigrwydd sicrhau cysondeb. Daeth hi'n amlwg inni fod lefel ac amrywioldeb uchelgais yn wahanol yn y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg dros Gymru, ac roedd hyn yn destun pryder. Dywedodd Rhieni Dros Addysg Gymraeg inni fod rhaid i'r iaith Gymraeg fod wrth galon cynllunio addysg yn lleol, nid fel rhyw add-on.

Yn ogystal â hyn, fe wnaethom ni gynnig bod corff annibynnol, efallai Estyn, yn ymgymryd â'r gwaith o fonitro ac adolygu'r cynlluniau Cymraeg mewn addysg. Tra bod symud o system tair blynedd i 10 mlynedd wedi ei groesawu gan dystion, roedd y pwyllgor dal yn credu fod y broses bresennol yn wan. O ganlyniad, argymhellon ni fod y Llywodraeth yn rhoi rôl cryfach i gorff annibynnol i fonitro cynnydd a gweithredu'r cynlluniau yma. Rwy'n falch o weld y cynnig yma yn y Papur Gwyn, lle mae'r Llywodraeth yn cynnig rhoi rôl pellach i Estyn.

Clywsom hefyd fod grym Llywodraeth Cymru i ymyrryd, lle bod angen, yn eithaf gwan. Dyna pam mae angen sicrhau fod deddfwriaeth ar addysg Gymraeg yn cynnwys mesurau a fydd yn caniatáu i Lywodraeth Cymru fonitro cynnydd y cynlluniau ac ymyrryd, lle bo angen. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn yr argymhellion hynny.

Mae nifer o argymhellion yn ffocysu ar yr angen i annog a chefnogi newidiadau diwylliannol mewn awdurdodau lleol tuag at fanteision datblygu addysg Gymraeg, i gryfhau partneriaethau mewn ardaloedd lleol, ac mae argymhelliad am yr angen i unioni polisïau'r sector addysg a chyfalaf gyda'r cynlluniau strategol. Ein pryder fanna ydy sicrhau na fydd maint yr arian cyfalaf ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn gostwng. Dyw hwnna ddim i ddweud bod hynna yn mynd i digwydd, ond rŷn ni'n meddwl y dylid cadw'r pot ychwanegol hwn ar wahân, er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn hynna mewn egwyddor.

Ond efallai'r argymhellion sydd wedi derbyn y mwyaf o sylw, Dirprwy Lywydd, ydy'r rhai am y gweithlu addysg a'r angen i fuddsoddi a chynyddu'r niferoedd sy'n derbyn cymorth drwy'r cynllun sabothol, sef ein hargymhellion 13 hyd at 18. Heb os, un o'r heriau mwyaf i Lywodraeth Cymru ar gyfer targed 2050 yw sicrhau bod gweithlu dwyieithog digonol ar gael. Mae yna heriau cyffredinol, wrth gwrs, gyda recriwtio athrawon yn y ddwy iaith, ond gall prinder athrawon cyfrwng Cymraeg danseilio'r targed o 1 miliwn o siaradwyr.

Clywsom ni fod ansawdd y data sydd yn nodi sgiliau Cymraeg y gweithlu addysg yn annigonol. Rŷn ni eisiau'r Llywodraeth i wella'r prosesau casglu data yma, ac roedd y pwyllgor am weld gweithlu'r blynyddoedd cynnar yn cael eu cynnwys fel rhan o'r arolwg blynyddol cyfrifiad gweithlu'r ysgolion. Mae'r Gweinidog wedi nodi nad yw hyn yn bosib. Er hynny, rydym ni'n awyddus i weld gwell data am weithlu'r sector hwn a'u sgiliau Cymraeg, gan fod y sector hwn mor hanfodol o bwysig wrth ddatblygu sgiliau ieithyddol o'r crud, pan fo plant mor ifanc.

Ond yn ychwanegol i hyn, mae eisiau ac mae angen trawsnewidiad yn sut mae'r gweithlu yn cael ei uwchsgilio a'i drochi yn y Gymraeg. Mae'n rhaid bod hyn yn flaenoriaeth. Mae'r pwyllgor yn galw ar y Llywodraeth i fuddsoddi'n bellach mewn rhaglenni trochi'r gweithlu dysgu, i sicrhau fod sgiliau yn gallu datblygu ar frys. Mae hyn yn cynnwys cymorth i staff blynyddoedd cynnar ac ystyriaeth i ymestyn cyfleoedd ar y cynllun sabothol, achos, yn anffodus, er mor glodwiw ac angenrheidiol yw denu myfyrwyr yn ôl i Gymru i ymgymryd ag hyfforddiant dysgu, fydd hyn ddim yn ddigonol. Mae angen i nifer fawr oddi fewn i'r sector addysg cyfrwng Saesneg dderbyn mwy o gefnogaeth i gaffael a gwella eu sgiliau Cymraeg.

Mae cwpwl o’n hargymhellion ddim wedi cael eu derbyn, a dwi’n siŵr bydd y Gweinidog yn gallu gosod mas pam yn ei ymateb, ond ar y cyfan, mae lot o gytuno yma, ac mae hynny’n bwysig, achos mae Cymru fel cenedl nawr wedi cyrraedd trobwynt. Nawr yw’r amser i gyflwyno newidiadau. Roedd y gostyngiad yn niferoedd siaradwyr Cymraeg yn y census diwethaf wedi achosi cymaint o bryder. Roedd hynny’n amlwg yn bwynt ffocws i’r ymchwiliad. Ond fel dywedodd Raymond Williams,

'Mae bod yn radical go iawn yn golygu gwneud gobaith yn bosibl, yn hytrach na gwneud anobaith yn ddiamheuol.'

Gwneud gobaith yn bosibl—dyna'r her. Rhoi'r gwaith yn ei le er mwyn sicrhau bod y gobaith hynny yn realistig, yn ddyhead teg. Mae’r Gymraeg wrth galon ein cenedl, mae'r iaith yn un sy'n perthyn i bawb, ac mae’n rhaid iddi berthyn i bawb. Ein bwriad fel pwyllgor oedd ffeindio'r ffyrdd o sicrhau fod y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr yn fwy na ffigwr ar bapur, ond bod e’n ddyhead gyda gobaith y tu ôl iddo. Y gobaith hwnnw sy’n feistr pan fo amser yn was inni. Ond mae amser yn brin. Gyda'r flwyddyn 2050 yn prysur nesáu, boed inni oll roi ein gobaith a'n gwaith i sicrhau bod y targed hwnnw yn cael ei wireddu, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed eraill yn ein dadl. Diolch.

16:15

Roeddwn i wedi mwynhau yr ymchwiliad yma, fel mae'n digwydd. Yn aml iawn, mae gwaith pwyllgorau’n gallu bod yn lletchwith ac yn anodd iawn, ond mi oedd yna—a dwi'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn falch o glywed—lot fawr o gytundeb ymhlith y dystiolaeth a gawson ni. Roedd pawb wedi cytuno, mwy neu lai, bod y WESPs yn barod wedi llwyddo i greu fframwaith a strwythur ar gyfer datblygu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. A gan fod y Gweinidog yn ymateb i'r drafodaeth heddiw, dwi wedi gwahodd e i Dredegar, wrth gwrs, ac i gyfarfod â phlant fydd yn dechrau yn yr ysgol Gymraeg yn Nhredegar ym mis Medi. Dwi'n ymfalchïo yn y ffaith bod plant yn derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn Nhredegar am y tro cyntaf ers dros ganrif. Ac mae hynny'n beth i'w ddathlu. Mae'n meddwl ein bod ni'n creu Cymry Cymraeg newydd yn Nhredegar am y tro cyntaf yn ein bywydau ni, ac mae hynny yn dangos bod yna allu i newid ein dyfodol ni—newid dyfodol Cymru. Yn anaml iawn dŷn ni'n cael y cyfle i actually wneud hynny. Pan oeddwn i'n ystyried hyn, fel mae’r Cadeirydd newydd ei ddweud, mae'r amcan yn glir. Ac eto, mae yna gytundeb ar yr amcan—creu 1 miliwn o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg a mwynhau defnyddio'r Gymraeg yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Nawr, i fi, mae angen gwneud dau beth, ac wedyn trydydd peth ar ôl hynny. Yn gyntaf, a dwi'n adlewyrchu geiriau'r Cadeirydd drwy ddweud hyn: y gweithlu. Yr her fwyaf dwi'n gweld yw sicrhau bod gyda ni ddigon o athrawon a digon o bobl sy'n gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Dwi'n credu bod yna ddigon o bobl neu rieni sydd eisiau i'w plant fwynhau addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, ond dwi ddim yn siŵr bod gyda ni ddigon o bobl i alluogi hynny i ddigwydd. So, mae angen inni gael y cynllun gweithlu, ac mae'n rhaid i hynny edrych ar y tymor hir. Mae'n rhaid inni reoli’r sefyllfa fel mae hi heddiw, ac mae'n rhaid inni sicrhau bod gyda ni ddigon o athrawon y flwyddyn nesaf, y flwyddyn wedyn, ac mewn pum mlynedd. Ond mae'n rhaid inni feddwl amboutu’r dyfodol hefyd—y dyfodol hirdymor. A liciwn i glywed gan y Gweinidog sut mae'n ystyried bod deddfu yn mynd i helpu fe wneud hynny, achos dwi ddim yn siŵr mai deddfu yw'r ffordd orau i wneud hynny. Ond, mae'n rhaid inni gael y cynllun gweithlu i wneud hynny. 

Ac yn ail, mae'n rhaid inni gael rhwydwaith o ysgolion fydd yn galluogi rhieni i wneud y penderfyniadau yma. Nawr, dwi wedi newid fy meddwl bob tro dwi'n sefyll lan i siarad amboutu lot fawr o'r pethau yma. Dwi wedi edrych ar y broses o gategoreiddio ysgolion, ac mae'n rhaid i fi ddweud, pan dwi'n edrych ar yr holl gategorïau sydd gyda ni ambell waith, dwi ddim yn gweld rhywbeth sydd yn glir ac yn gyson. Dwi'n credu bod y cynigion mae'r Llywodraeth wedi'u gwneud yn mynd i helpu hynny, ond dwi ddim yn siŵr bod gyda ni gytundeb ar hynny eto, a liciwn i gael mwy o sgyrsiau a mwy o drafodaeth ar hynny, achos mae pawb eisiau'r un peth: mae pobl eisiau galluogi plant i siarad Cymraeg. Sut ydyn ni'n gwneud hynny? Ydyn ni'n estyn y Gymraeg i ysgolion dwyieithog, neu ydyn ni, efallai, yn cadw'r peth yn fwy cul, drwy ysgolion sydd dim ond yn dysgu drwy'r Gymraeg? Dwi ddim yn credu bod yna un ateb iawn i bawb. Ym Mlaenau Gwent, dwi'n credu y buasai ysgolion yn y ddwy iaith yn gwneud mwy i hybu'r Gymraeg nac, efallai, ysgol uniaith Gymraeg, ond, eto, mae hynny'n rhywbeth dŷn ni'n gallu sgwrsio a thrafod.

Y trydydd peth. Nawr, mae'r trydydd peth yn beth mwy anodd. Dŷn ni i gyd wedi clywed amboutu anecdotes o'r Gymraeg fel iaith y dosbarth ond ddim iaith yr iard. Dyw e'n bendant ddim yn iaith cymdeithasu mewn lot fawr o fannau. Pan dŷch chi'n dysgu Cymraeg, dŷch chi'n dysgu'r grammar, wrth gwrs, yn y dosbarth, ond dŷch chi ddim yn dysgu sut i gyfathrebu a mwynhau defnyddio'r Gymraeg yn y dosbarth yn yr un ffordd. Dŷch chi'n gwneud hynny drwy fywyd cymdeithasol a thrwy fyw bywyd trwy gyfrwng y Gymraeg. Nawr, dwi'n gwerthfawrogi ac yn cydnabod gwaith mudiadau fel yr Urdd a mentrau iaith yn hybu diwylliant Cymraeg a bywyd cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n gallu sicrhau bod gan blant ffordd o fwynhau defnyddio'r Gymraeg yn y cymunedau. 

A'r peth olaf gwnaf i ddweud yw hyn: mae yna gytundeb ar hyn i gyd, dwi'n meddwl; mi roedd yna yn y pwyllgor, ac mi fydd yna rhwng y pwyllgor a'r Llywodraeth, ac mae yna ar draws y wlad, ond, os yw hyn yn mynd i ddigwydd, ac mae hyn yn bwysig i ti, Weinidog—i chi, sori, Weinidog—i sicrhau bod gyda ni bolisi trafnidiaeth sy'n galluogi pobl i wneud y penderfyniadau maen nhw eisiau gwneud yn barod, pob un ohonom ni sy'n rhieni sydd wedi edrych ar ble mae ysgolion wedi'u lleoli, sut ydyn ni'n cael ein plentyn i'r ysgol yn y bore, sut ydyn nhw'n dod yn ôl yn y prynhawn. Dwi'n credu bod yna lot fawr o rieni simply wedi dweud, 'Mae'n rhy anodd. Mae jest yn rhy anodd i wneud', a dŷn ni i gyd yn deall y pwysau ar hyn o bryd ar gyllidebau. So, mae'n rhaid i drafnidiaeth fod yna fel rhan o'r cynllun. Mae'r un mor bwysig, siŵr o fod, â chynllun y gweithlu. Diolch yn fawr.

16:20

A gaf fi gysylltu fy hun â'r sylwadau a wnaed gan Delyth Jewell ac Alun Davies ynghylch y mwynhad a gawsom wrth lunio'r adroddiad penodol hwn? Rwy'n credu bod y mwynhad hwnnw'n deillio o rywbeth a ddywedodd Alun, sef ein bod ni i gyd eisiau'r un peth yn y pen draw: rydym eisiau gweld mwy o bobl yn mwynhau ac yn dysgu Cymraeg yn eu bywydau o ddydd i ddydd, a'r undod hwnnw, rwy'n credu, sydd wedi arwain at yr adroddiad rydym yn ei drafod heddiw.

Rwy'n credu ei fod yn nodi'n benodol—. Roeddwn eisiau canolbwyntio fy sylwadau ar y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. Rwy'n credu bod rhywfaint o gefnogaeth iddynt, ond rwy'n credu ein bod ni hefyd yn cydnabod bod yna rai diffygion; rwy'n credu bod y Gweinidog ei hun yn cydnabod bod yna rai diffygion yn y ffordd y gweithredent, a down at hynny yn nes ymlaen.

Ond yn gyntaf oll, roeddwn eisiau dechrau gyda'r problemau gyda'n gweithlu. Rwy'n falch o ddweud, yng Nghymru, ein bod yn mwynhau manteision gweithlu cymwys, medrus, brwdfrydig a galluog, ac mae hynny'n bwysig iawn o ran y gwaith y maent yn ei wneud ar gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru ar lawr gwlad, ond credaf mai'r broblem, fel y nododd Alun, a Delyth, yw nad oes gennym ddigon ohonynt. Roedd tystion a ddaeth ger bron ein pwyllgor yn glir fod addysg cyfrwng Cymraeg yn dioddef oherwydd nad oes gennym ddigon o athrawon, cynorthwywyr addysgu, darlithwyr ac yn y blaen, ac fel Ceidwadwyr Cymreig, mae fy ngrŵp eisiau gweld gwell amodau addysgu, cefnogaeth wedi'i thargedu, a mwy o gyfleoedd i uwchsgilio fel bod gennym weithlu sy'n addas ar gyfer y dyfodol, ond un sydd hefyd yn ein helpu i gyrraedd nod 'Cymraeg 2050'. Ond heb ymyrraeth benodol yn y maes hwn, rwy'n poeni y bydd y nod hwnnw'n fethiant yn y pen draw.

Ynghyd â niferoedd annigonol yn y gweithlu, tynnodd adroddiad ein pwyllgor sylw at bryderon pellach ynghylch y cylch 10 mlynedd ar gyfer adolygu a monitro datblygiad a chynnydd cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, ac er inni glywed dadleuon cryf iawn o blaid cael gwared ar y cylch tair blynedd, mae ein hadroddiad yn dweud yn glir fod 10 mlynedd, heb adolygiad rheolaidd, yn rhy hir. Felly, byddai'n ddefnyddiol clywed gan y Gweinidog heddiw, mewn ymateb i'r ddadl, sut mae'n bwriadu monitro'r rheini'n fwy dwys nawr, o ystyried bod yr amserlen wedi ymestyn.

Ar fonitro, y cwestiwn nesaf naturiol yw pa bwerau sydd gan y Gweinidog i ymyrryd ar hyn o bryd pan fo awdurdod yn methu cyrraedd y targedau a nodir ar ei gyfer yng nghylch y cynllun strategol Cymraeg mewn addysg. Yn ein sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog, clywsom lawer am y broblem o ran y ffordd y mae'n defnyddio pŵer meddal, os mynnwch, yn niffyg gair gwell, mewn perthynas â gweithio gydag awdurdodau i wella eu sefyllfa, ond credaf fod y Gweinidog ei hun wedi nodi bod y pŵer a oedd ganddo i gymryd camau ffurfiol yn eithaf cyfyngedig. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig fod Llywodraeth Cymru efallai yn ystyried gweithredu mesurau i ganiatáu i Weinidogion ymyrryd a gweithredu yn y meysydd hynny ac ar faterion mewn sefydliadau sy'n ei chael hi'n anodd mynd i'r afael ag achosion sylfaenol y problemau y maent yn eu gweld. Mae hyn yn rhywbeth sy'n cael ei argymell yn yr adroddiad, ac mewn gwirionedd, cafodd ei gynnwys yn adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg mor bell yn ôl â 2012.

Sylwodd ein hadroddiad hefyd fod gan lawer o fforymau cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg ran allweddol i'w chwarae yn y ffordd y mae awdurdodau lleol a rhanddeiliaid yn llunio cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, ond roedd sut yn union roeddent yn gweithredu yn amrywio'n fawr ac fe nodwyd hynny, yn briodol, fel pryder. Felly, o ganlyniad, rwy'n credu bod rôl gan Lywodraeth Cymru i adolygu sut mae'r rhain wedi'u cyfansoddi ac ymdrechu i ddatblygu llinell sylfaen a safoni sail cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg ledled Cymru, oherwydd, ar eu ffurf bresennol, nid ydynt bob amser yn cyflawni'r canlyniadau gorau ym mhob sefyllfa.

Ac yn olaf, mae'r adroddiad yn codi pryderon, pryderon a glywsom heddiw yn y ddadl, am y gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, yn ôl y cyfrifiad diwethaf—rhywbeth a drafodwyd gennym yn y cwestiynau ar addysg yn gynharach. Y prif bwyntiau pryder sy'n berthnasol i'r ddadl hon yw'r rhai sy'n ymwneud â phobl iau, a'r plant a'r bobl ifanc hynny sy'n cael eu heffeithio gan y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. Rwy'n gwybod y gall swnio ychydig yn ddiflas weithiau, ychydig yn dechnegol, sut rydym yn cael hyn yn iawn, ond mae'r niferoedd sylfaenol, gan droi'n ôl at yr hyn a ddywedais ar y dechrau, sy'n ymdrechu i gyflawni'r hyn rydym eisiau ei weld, yn cael eu heffeithio gan y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg a'r polisi cyffredinol y mae Llywodraeth Cymru'n ceisio ei roi ar waith. Felly, mae gostyngiad o 6 y cant yng nghyfran y plant rhwng 5 a 15 oed sy'n gallu siarad Cymraeg yn bryder ac yn cwestiynu'r gallu i gyrraedd y targed 'Cymraeg 2050'. Felly, mae angen i'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg hynny fod yn ymatebol ond hefyd yn ddigon hyblyg i ganiatáu ar gyfer newid yn y dyfodol, yn ôl yr angen. Felly, mae angen ffocws penodol arnom, rwy'n credu, ar y grwpiau oedran iau rwyf newydd eu crybwyll, oherwydd niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn y grwpiau hynny a welsom yn gostwng, ac mae'n bosibl mai dyna'r peth mwyaf llwm a mwyaf brawychus i lawer ohonom. Oherwydd, yn y pen draw, dyna pam ein bod ni'n cael y ddadl hon a pham ein bod wedi cynhyrchu'r adroddiad hwn, i sicrhau bod cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn ddigon effeithiol i ddarparu'r addysg Gymraeg o ansawdd uchel y mae pobl yng Nghymru eisiau ei gweld ac yn ei haeddu.

16:25

Hoffwn innau ategu fy niolch i bawb fu ynghlwm â hwn, fel aelod o'r pwyllgor ar y pryd. Mi oedd o'n ymchwiliad pwysig inni fod ynghlwm â fo, ac yn amlwg yn amserol iawn o ran yr holl waith sy'n mynd rhagddo o ran y Bil Addysg Gymraeg. Yn wir, mi wnaeth y gwaith hwnnw dorri ar draws ein gwaith ninnau hefyd a newid hefyd y ffordd roedden ni'n meddwl, gan feddwl o ran sut ydym ni'n tyfu addysg Gymraeg i'r syniad sydd, wrth gwrs, yn greiddiol i Bil Addysg Gymraeg o ran y syniad yma o'r continwwm iaith, a bod y weledigaeth erbyn hyn yn un fwy uwchgyrhaeddol o ran sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru, pa bynnag le maen nhw’n byw, pa bynnag ysgol maen nhw'n ei mynychu, yn mynd i gael yr iaith—uchelgais sy'n gyffrous iawn. Ond hefyd, wrth gwrs, wrth inni edrych ar hyn, mae rhai o'r pethau ymarferol sydd eisoes wedi cael eu crybwyll—ac ategu byddwn innau, heb ailadrodd, gobeithio—yn amlwg, mae yna loteri cod post ar y funud o ran y Gymraeg. Mae hynny oherwydd rhai o'r rhesymau sydd eisoes wedi'u nodi, megis trafnidiaeth. Ydy o'n ddewis go iawn os ydych chi'n gallu cerdded i dair ysgol Saesneg ond mynd ar fws am filltiroedd i ysgol Gymraeg? Wel, nac ydy. Mae rhai yn dewis gwneud hynny, ond dydy o ddim yn ddewis hawdd, ac mae hynny mewn llefydd lle mae yna drafnidiaeth gyhoeddus i'w chael.

Mae'r Gweinidog a minnau wedi cael amryw o sgyrsiau ynglŷn ag ysgol newydd fydd yn cael ei hagor yng Nglyncoch, diolch i fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Dwi'n amlwg yn croesawu ysgol newydd ar gyfer yr ardal hon, ond ysgol Saesneg fydd hi, gydag ysgol Gymraeg gyfagos yn cau. Mae nifer o'r rhieni yn dewis yn barod tynnu eu plant allan o ysgol Gymraeg sydd ar fin cau er mwyn gallu mynd i ysgol Saesneg newydd gyfagos. Mae hyn yn rhywbeth sydd yn peri pryder gwirioneddol.

Rydym ni wedi clywed tystiolaeth hefyd o ran y CSCAau, fod yna amrywiaeth mawr o ran awdurdodau lleol, rhai yn cydweithio'n agos iawn, rhai eraill yn disgwyl i bartneriaid greu gwyrthiau heb roi unrhyw fath o adnodd. Mi bwysleisiodd Alun Davies bwysigrwydd yr Urdd. Mewn rhai awdurdodau lleol, mae'r Urdd yn cael defnyddio llefydd am ddim, megis canolfannau hamdden; mae rhai awdurdodau lleol yn codi ar yr Urdd i wneud hynny. Mae yna anghysondeb felly o ran y CSCAau yma, oherwydd, os ydym ni eisiau iddyn nhw weithio, yna dydy gofyn i bartneriaid dalu i gefnogi'r gwaith hwn ddim yn help chwaith. Mae'n rhaid i ni edrych ar hyn mewn ffordd holistig, oherwydd mae pwysigrwydd profiadau fel chwaraeon yr Urdd ac ati, mor, mor bwysig—i gael chwarae pêl droed, pêl rwyd, beth bynnag, yn y Gymraeg, nid dim ond bod yn y dosbarth, yn allweddol bwysig, ac mae'r cysondeb yna yn allweddol. 

Mae amryw o bobl wedi ymgyrchu dros addysg Gymraeg yn y gorffennol. Un o'r rheini ydy dyn o'r enw Phil Bevan, oedd yn gynghorydd yng Nghaerffili, sydd yn ddi-Gymraeg ac yn dweud drwy'r adeg, 'Cymraeg yn y galon ond ddim yn y pen'. Mae o'n bryderus ofnadwy ar hyn o bryd ynglŷn â'r gweithlu. Mae o eisiau gwybod beth rydym ni'n mynd i'w wneud i sicrhau ein bod ni'n taclo hyn. Roedd o'n un o'r bobl a oedd yn arfer cysgu dros nos mewn ysgol er mwyn brwydro ar gyfer addysg Gymraeg, ac yn gresynu gweld bod rhai pethau yn dirywio o ran mynediad i'r iaith. 

Felly, mae hi'n sefyllfa lle mae yna nifer o bethau i fod yn bositif amdanynt, ond mae yna rwystrau ar y funud. Dwi'n falch o weld yr argymhellion yn cael eu nodi, ond byddwn i yn gofyn, Weinidog—. Rydych chi wedi dweud wrth ymateb i amryw o'r argymhellion y byddwch chi yn adlewyrchu ar hyn wrth ddatblygu'r Bil addysg cyfrwng Cymraeg, neu'r Bil Addysg Gymraeg, a sicrhau'r continwwm iaith hwnnw. Mae o'n allweddol ein bod ni'n cymryd y cyfle yn y Bil hwn i alluogi'r weledigaeth sydd gennym ni i gyd. Yn rhy aml, mae awdurdodau lleol wedi parhau i sôn am ateb y galw yn hytrach na cefnogi'r galw. Mae hyn hefyd yn wir, wrth gwrs, efo anghenion dysgu ychwanegol, lle dydy hynny ddim yn digwydd.

Dwi wedi sôn amryw o weithiau, jest yn y rhanbarth dwi'n ei gynrychioli, am amrywiaethau o ran pethau fel trochi iaith—enghreifftiau gwych ym Mro Morgannwg, lle mae rhywun yn gallu cael 12 wythnos o ddydd Llun i dydd Iau o drochi gwirioneddol; yn Rhondda Cynon Taf, awr y dydd efo rhywun sy'n mynd o ysgol i ysgol. Dydy hynny ddim yn drochi. Mae'n rhaid inni gael cysondeb, a beth byddwn i'n gobeithio ydy ein bod ni'n gallu parhau i weithio fel pwyllgor diwylliant a hefyd fel Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg i sicrhau ein bod ni'n cydweithio gyda chi i gael Bil sydd yn wirioneddol gyflawni yr holl rydym ni angen iddo fo ei wneud, nid dim ond yr hyn rydym ni'n ddeisyfu iddo fo'i wneud. 

16:30

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am yr adroddiad yn dilyn yr ymchwiliad. Mae'n adroddiad creadigol ac adeiladol iawn, felly diolch o galon i chi am eich gwaith. 

Mae tipyn wedi digwydd ers i chi gychwyn ar yr ymchwiliad. Mae cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg bob un o'r awdurdodau lleol bellach yn weithredol, ac rŷm ni'n ymgynghori, neu wedi ymgynghori erbyn hyn, ar Bapur Gwyn oedd yn cynnwys cynigion ar gyfer Bil Addysg Gymraeg, fel rŷm ni wedi sôn yn y drafodaeth eisoes. Mae'r ymgynghoriad, fel mae rhai wedi cydnabod, yn gam arwyddocaol ymlaen, rwy'n credu, tuag at wireddu'r ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru. Mae'r ymgynghoriad ar ben erbyn hyn, ac mae'r gwaith pwysig yn digwydd nawr o ddadansoddi'r ymatebion wrth inni barhau i ddatblygu a mireinio'r cynigion yn y Papur Gwyn. Ac felly, mae'r argymhellion yn yr adroddiad hwn yn gyfraniad pwysig i'r drafodaeth, ac yn dod yn amserol iawn. 

I adlewyrchu'r pwynt roedd Alun Davies yn ei wneud, rwy'n credu, dwi wedi dweud o'r blaen mae un rhan o'r darlun ehangach yw deddfwriaeth, ac mae'r hyn rŷm ni'n ei gyflawni trwy ymyraethau polisi, buddsoddiadau ariannol, y ffordd rŷm ni'n cydweithio, cyfathrebu ac ati, cyn bwysiced â'r hyn rŷm ni'n gallu deddfu ar ei gyfer yn aml iawn. Ac rwy'n falch hefyd bod yr adroddiad a'r drafodaeth rŷm ni wedi'i chael heddiw yn cydnabod, yn ddigon teg, ble mae yna welliannau wedi bod i'r CSCAau, a bod hynny wedi arwain at gynlluniau rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn derbyn yn rhai llawer iawn cadarnach. Mae'n bwysig ein bod ni'n cynnal momentwm y CSCAau cyfredol, tra hefyd yn cynllunio i gryfhau'r system, sef yr hyn rŷm ni eisiau ei weld. 

Gobeithio bydd y pwyllgor yn gweld bod ein cynigion ni yn y Papur Gwyn wedi mynd i’r afael â nifer o’r argymhellion yn yr adroddiad. Dyna pam rwyf wedi derbyn naill ai yn llawn, neu yn rhannol, neu mewn egwyddor, y mwyafrif llethol o’r argymhellion yn yr adroddiad, ac wedi ceisio esbonio’r rhesymau yn agored iawn pan dydyn ni ddim wedi gallu jest derbyn 100 y cant, fel petai. O’r argymhellion rwyf wedi eu gwrthod, rwy’n gwneud hynny jest oherwydd fy mod i’n gyfforddus eu bod nhw’n derbyn sylw priodol mewn ffyrdd eraill, os hoffech chi, ac yn cael eu gweithredu mewn ffyrdd eraill—er enghraifft, drwy’r Bil neu drwy reoliadau eraill. Felly, mae argymhellion 5 ac 14 yn y categori hwnnw.

Mae nifer o’r argymhellion i gryfhau’r trefniadau cynllunio, fel rŷn ni wedi bod yn trafod heddiw, ac dwi yn sicr yn cytuno â’r pwyslais hwnnw—dyna, ar ddiwedd y dydd, fydd yn gyrru gweithredu ar lawr gwlad, y gallu i wneud hynny, a dyna, yn y bôn, yw hanfod y Papur Gwyn.

Rŷn ni wedi sôn am fforymau addysg lleol, ac dwi yn sicr yn cydnabod eu bod nhw’n chwarae rôl bwysig yn gyrru’r agenda yn ei blaen ac yn meithrin perthnasau cryf lleol, ac, i fod yn deg, wedi bod yn rhan bwysig o’r cynnydd rŷn ni wedi gallu ei wneud yn y CSCAau diweddar.

Mae yna le, rwy’n credu, i gefnogi cynllunio gwell, felly rwy’n cytuno â’r argymhellion yn yr adroddiad i adolygu’r strwythurau. Mae’n bwysig taro’r balans cywir rhwng monitro cadarn a chefnogi, wrth gwrs, ac rwy’n credu bod y cynigion yn y Papur Gwyn mewn perthynas â’r cynllun cenedlaethol ar un llaw a’r cynlluniau gweithredu lleol yn mynd yn bell ar hyd y llwybr i wireddu hyn, ac wrth gwrs y gallu i ni weithredu fel Llywodraeth.

Eto, pwynt a wnaeth Alun, ond eraill hefyd—dyw hyn ddim, wrth gwrs, yn bosib heb inni sicrhau bod gyda ni weithlu digonol a phriodol. Mae’n flwyddyn ers i mi gyhoeddi’r cynllun gweithlu—y ‘specific intervention’ rwy’n credu yr oedd Tom Giffard yn galw amdano fe. Mae, wrth gwrs, yn her i ddenu gweithlu addysg y dyfodol mewn unrhyw iaith, ond, er bod heriau, mae gyda ni gyfrifoldeb—mae cyfrifoldeb arnom ni i gyd—i barhau i gydweithio fel bod ysgolion yn gallu ysbrydoli pobl ifanc i fynd i mewn i’r proffesiwn. Rŷn ni yn aml, rwy’n credu, yn meddwl am yr heriau recriwtio i’r proffesiwn Cymraeg fel rhyw fath o subset o’r her sy’n wynebu’r proffesiwn yn ehangach, ond efallai mai’r ffordd fwy creadigol o feddwl amdano fe yw bod hynny’n tanystyried y syniad o ysgogiad ac ysbrydoli y gallem ni ei gael drwy’r cyfle i rannu’r iaith gyda'r genhedlaeth newydd. Felly, mae angen, efallai, edrych arno fe mewn ffordd ychydig yn fwy creadigol o bryd i’w gilydd.

Mae’r cynigion yn y Papur Gwyn i osod targedau ar awdurdodau lleol i gynllunio’r gweithlu ac i gynyddu’r niferoedd sydd â sgiliau Cymraeg yn seiliedig ar ddadansoddiad data perthnasol o gyfrifiad blynyddol y gweithlu ysgol. Y nod yma yw gallu datblygu gwell dealltwriaeth o anghenion sgiliau iaith ymarferwyr yn lleol er mwyn cryfhau’r cynllunio cenedlaethol. Mae hynny’n cynnwys cyfeirio’r cyllid i’r mannau cywir, fel rŷn ni’n amlinellu yn yr ymateb i argymhelliad 17. Mae wastad mwy i’w wneud, ond mae’n rhaid inni barhau i arloesi a denu cymaint ag y gallwn ni o bobl ifanc Cymru i ddod yn athrawon, neu gynorthwywyr, wrth gwrs.

Mae’r cynigion yn y Papur Gwyn yn gosod seiliau da i gefnogi dysgwyr i wneud cynnydd parhaus yn y Gymraeg, a chael cyfle i ddod yn siaradwyr annibynnol, beth bynnag yw categori iaith yr ysgol. Mae hynny’n bwysig, ac mae ymgysylltu helaeth wedi digwydd yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn. Mae diddordeb mawr wedi bod yn y cysyniad o greu continwwm sgiliau Cymraeg i ddisgrifio lefelau hyfedredd ieithyddol, fel bod dysgwyr ac athrawon a rhieni a chyflogwyr hefyd yn dod i ddeall ac â dealltwriaeth gyffredin o’r daith tuag at ddysgu Cymraeg. Rwy’n credu gwnaiff hynny gymryd amser i sefydlu ei hunan, ond dyna, yn sicr, rwy’n credu, yw’r cysyniad iawn.

Mae cyffyrddiad cynnar gyda’r Gymraeg i blant cyn oed ysgol yn hollbwysig, ac rŷn ni’n gweld Mudiad Ysgolion Meithrin fel partner allweddol. Rwy’n awyddus ac agored i feddwl, fel gydag athrawon, am ffyrdd arloesol i ddenu gweithlu gofal plant a blynyddoedd cynnar i’r proffesiwn. Mae enghreifftiau o hynny i’w gweld eisoes, a byddwn ni’n parhau i gydweithio gyda’r mudiad ac, wrth gwrs, eraill yn y cyd-destun hwnnw. Yn yr un modd, mae angen cefnogi dilyniant rhwng yr holl gyfnodau addysg, gan gynnwys ymysg dysgwyr hŷn i'w galluogi nhw i barhau gyda'u dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg wedi iddyn nhw adael yr ysgol.

Ac mae'n bwysig hefyd cael naratif cryf i gefnogi'r newidiadau sy'n y Papur Gwyn er mwyn sicrhau bod y drafodaeth, y disgwrs gyhoeddus, yn cefnogi'r newid diwylliant hwnnw, yr hyn oedd Alun yn sôn amdano fe yn digwydd yn Nhredegar, ac yn creu ymagwedd bositif tuag at hwnnw. 

Felly, jest wrth gloi, Dirprwy Lywydd, hoffwn i ddiolch i'r pwyllgor eto am yr adroddiad hwn, ac rwy'n falch o allu cefnogi, neu gefnogi'n rhannol neu mewn egwyddor, y mwyafrif o'r cynigion, a diolch i bawb sydd wedi cydweithio gyda chi. Rwy'n edrych ymlaen fy hunan i barhau i gydweithio gyda chi yn y ffordd rŷn ni wedi sôn amdano eisoes heddiw wrth inni lywio taith y Gymraeg mewn addysg ar y cyd.

16:40

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. Gwnaf i fynd trwy rhai o'r pethau roedd pobl wedi eu dweud. Diolch i Alun am siarad am Dredegar a chreu Cymry Cymraeg newydd, sydd yn sicr yn rhywbeth i'w groesawu. Roeddwn i wedi ymweld yn ddiweddar â chylch meithrin y Gurnos ym Merthyr, ac eto, fel beth sy'n digwydd yn Nhredegar, beth sy'n digwydd ym Merthyr, yn rhai o'r llefydd lle mae yna gymaint o botensial am gynnydd, mae fe'n codi calon i weld hwnna'n digwydd. Felly, rwyf i'n cytuno'n gyfan gwbl gyda'r hyn oeddech chi'n ei ddweud, a hefyd am bwysigrwydd cymdeithasu yn yr iaith Gymraeg a mwynhau'r iaith. Dŷn ni'n sôn am fframweithiau—mae hynna'n rhywbeth sydd mor, mor bwysig, felly diolch am sôn am hynny.

Roedd Tom yn siarad am ein cyd-weledigaeth ynglŷn â lle rydym eisiau cyrraedd, ac wrth gwrs, roedd yn nodi rhai o'r heriau, ond mae hynny mor bwysig, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth a oedd i'w weld yn amlwg drwy gydol yr ymchwiliad hwn, mewn gwirionedd, ein bod i gyd yn rhannu'r ymdeimlad o sut ddyfodol rydym ei eisiau fel cenedl gyda hyn mewn golwg.

Fe wnaethoch chi siarad am ffigurau'r cyfrifiad, Tom, a gwn ein bod i gyd fel pwyllgor yn edrych ymlaen at weld beth a ddeuai gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol o ran y gwaith sy'n cael ei wneud yno, a byddwn yn parhau i fonitro hynny. Ond wrth gwrs, mae hynny'n rhywbeth sy'n fframio'n sut y byddwn ni i gyd yn gweld hyn, wrth gwrs.

Diolch, Heledd, am dy sylwadau. Bydd colled mawr ar dy ôl yn y pwyllgor. Dŷn ni i gyd, dwi'n meddwl, wedi rili cael ein cyfoethogi o gael dy bersbectif di yn y pwyllgor. Felly, diolch yn fawr iawn, ac nid dim ond am beth rwyt ti wedi ei ddweud nawr, ond am bopeth yn y pwyllgor.

Roeddech chi'n sôn am drafnidiaeth a gwneud y dewis cywir, neu wneud yn siŵr ei fod e'n hawdd i rywun ddewis i ddanfon eu plant i ysgol Gymraeg a gwneud yn siŵr fod y rhwystrau yna, ein bod ni'n cael gwared arnyn nhw—mae hwnna'n rhywbeth rili, rili bwysig—a phwysigrwydd eto cael cefnogaeth i'r Gymraeg tu fas i'r ystafell ddosbarth, fel roedd Alun wedi sôn am gymdeithasu trwy'r Gymraeg. Diolch am roi mensh i Phil Bevan; mae ein dyled ni oll iddo fe yn fawr iawn, felly diolch am roi hwnna i lawr.

Diolch i'r Gweinidog am eich sylwadau, ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu cael mewnbwn i'r hyn sy'n digwydd o ran deddfwriaeth ac edrych tuag at ddeddfwriaeth. Mae fe yn galonogol bod y Llywodraeth wedi derbyn y mwyafrif llethol o'n hargymhellion. Rwyf i'n meddwl bod hwnna eto yn siarad i'r ffaith fod cymaint o bethau dŷn ni'n cytuno arnynt o ran beth sydd angen digwydd. Rwyf i yn croesawu hefyd y parodrwydd sydd yna i gael trafodaethau pellach, ac rwyf i wir yn golygu hynna. Mae hwnna'n rhywbeth rwyf i rili yn ddiolchgar amdano fe.

O ran gwrthod argymhellion 5 ac 14, rwyf i yn deall y rhesymeg. Ar argymhelliad 14, buaswn i'n dweud eto am bwysigrwydd data ar sgiliau, ond rwyf i'n meddwl eto fod cytundeb am bwysigrwydd hynna. Mae fe am sut dŷn ni yn cyrraedd at y pwynt hwnnw, ond rwyf i yn deall yr hyn dŷch chi wedi ei ddweud am hynny.

Ond beth oedd wedi dod trwyddo yn glir, rwyf i'n meddwl, yn beth mae pawb wedi ei ddweud, y Gweinidog a phawb yn ein dadl, yw mai gweithredu ar lawr gwlad ydy'r peth pwysig. Dŷn ni wedi sôn am fframweithiau a ffeithiau, ond mae rhywbeth byw yma hefyd. Nid gwinllan a roddwyd i ni'n unig ydy'r Gymraeg, nid brawddegau ar bapur, ond mae'r iaith yn un sydd yn fyw. Mae'n bwysig i'n hanes ni, ond mae hi'n hanfodol i'n dyfodol. Mae llygaid y dyfodol arnom ni yn y trafodaethau hyn. Rhaid inni gael y pethau yma'n iawn er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn parhau, yn parhau i ffynnu, yn parhau i fod yn iaith fyw ar gyfer pob person yn ein gwlad fach, falch, sydd â'r iaith wrth ei chalon. Felly, yn ysbryd hynny, diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan yn ein dadl y prynhawn yma, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr—dŷn ni i gyd fel pwyllgor yn edrych ymlaen—at gario ymlaen i edrych ar y gwaith hynod o bwysig yma. Diolch.

16:45

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwasanaeth Iechyd Gwladol

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.

Eitem 8 y prynhawn yma yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y gwasanaeth iechyd gwladol, a galwaf ar Russell George i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8315 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn dathlu 75 mlynedd ers creu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

2. Yn nodi rhybudd Cymdeithas Feddygol Prydain bod gwasanaethau meddygon teulu a Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru mewn argyfwng ac mewn perygl o chwalu.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau 75 mlynedd nesaf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy ddiwallu anghenion cleifion a staff a chynnal yr egwyddor graidd o fod yn am ddim lle bynnag y bo’i angen.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Lywydd. Mae'n bleser cael y cyfle i agor y ddadl hon heddiw ac i ddathlu 75 mlynedd o'n GIG. Rwy'n gwneud y cynnig yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Mae'r ddadl hon gan y Ceidwadwyr Cymreig heddiw yn ymwneud â dau beth, yn fy marn i: mae'n ymwneud â dathlu ein GIG, ac mae hefyd yn ymwneud ag archwilio'r heriau y mae angen inni fynd i'r afael â nhw i sicrhau dyfodol llewyrchus i'n GIG yma yng Nghymru.

Heddiw roeddwn yn falch o siarad yn y digwyddiad yma yn y Senedd a drefnwyd gan Gydffederasiwn y GIG yng Nghymru, a oedd yn arddangos oriel 'dyfodol gofal iechyd'. Hefyd, roedd nifer o stondinau ac arddangosfeydd yn y digwyddiad y prynhawn yma yn y Senedd yn archwilio ac yn dangos arloesedd o fewn ein GIG, a phartneriaid y GIG hefyd. Siaradais yn y digwyddiad hwnnw heddiw am y modd rydym yn dibynnu ar ein GIG drwy gydol ein bywydau, nid yn unig i'n cynorthwyo pan fyddwn yn sâl yn gorfforol neu'n feddyliol, ond hefyd i'n helpu i aros yn iach a byw bywydau iachach.

Rwy'n gwybod y bydd gan bob un ohonom yma heddiw ein rhesymau personol ein hunain dros fod yn ddiolchgar i'r GIG wrth inni nodi'r garreg filltir bwysig hon. Euthum ymlaen i ddweud yn y digwyddiad heddiw fod y GIG yn sefydliad gwahanol iawn heddiw i'r un a sefydlwyd ym 1948. Mae newid yn gyson yn ein GIG. Mae datblygiadau mewn ymchwil a gwyddorau meddygol wedi arwain at arloesedd ym maes atal, at driniaethau newydd, ffyrdd newydd o weithio a phroffesiynau newydd. Mae yna broffesiynau yn y GIG heddiw nad oedd yn bodoli 20 mlynedd yn ôl. Mae yna fodelau gofal newydd a fyddai wedi bod yn annirnadwy pan ddechreuodd y GIG gyntaf.

Ond gan fod newid yn gyson, mae mwy i'w wneud i ddiwallu'r anghenion sy'n esblygu. Fel Ceidwadwr Cymreig, rwy'n credu fy mod yn siarad dros bawb yn y Siambr hon heddiw: rydym eisiau gweld y GIG yn parhau am 75 mlynedd arall, yn parhau i fod am ddim lle bynnag y bo’i angen. Wrth inni fwrw iddi'n briodol i ddathlu cynnydd mewn triniaethau a thechnolegau mewn gofal iechyd, credaf ei bod hefyd yn iawn ein bod yn defnyddio'r garreg filltir hon fel cyfle i siarad am yr heriau sy'n bodoli yn ein GIG a sut i ymateb i'r heriau hynny.

Yn y dyddiau a'r wythnosau diwethaf, clywsom fod Cymdeithas Feddygol Prydain wedi dweud y bydd gwasanaethau meddygon teulu yn chwalu yng Nghymru, ac y bydd y GIG yn chwalu'n fuan wedyn, oni bai bod cymorth brys yn cael ei ddarparu. Wrth i niferoedd cleifion gynyddu, mae nifer y meddygfeydd a meddygon teulu yn gostwng ymhlith adnoddau annigonol a llwythi gwaith ansefydlog. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni fel gwleidyddion, fel Llywodraeth, wrando pan fo gweithwyr iechyd proffesiynol yn siarad. Mae meddwl bod corff iechyd yng Nghymru wedi dweud y bydd gwasanaethau meddygon teulu yn chwalu yng Nghymru ac y bydd y GIG yn dilyn yn rhybudd clir i ni. Mae'n rhaid inni ddeall y rhesymau y tu ôl i'r hyn a ddywedir wrthym pan fo gweithwyr iechyd proffesiynol yn defnyddio geiriau fel hynny. Y gwir yw fy mod yn gwybod bod y corff wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn apelio am fwy o gyllid a chymorth staff hefyd, ac felly rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb yn briodol i'r proffesiwn.

Rwy'n credu fy mod am gytuno â llawer o bwyntiau yn y cyfraniad rydych chi'n ei wneud heddiw. Ond rwyf hefyd eisiau nodi bod yna lythyr diddorol wedi cael ei anfon at arweinwyr y pleidiau gwleidyddol yn y DU heddiw, ac at Rishi Sunak hefyd, yn tynnu sylw at yr heriau—[Torri ar draws.] Yn union. Ond maent yn nodi yn y llythyr hwnnw fod y GIG wedi dioddef degawd o danfuddsoddi o'i gymharu â'r cyfartaledd hanesyddol, ac mae gwariant cyfalaf wedi bod ymhell islaw'r cyfartaledd, yn is na gwledydd cymaradwy—ac maent yn mynd ymlaen. Y pwynt rwy'n ei wneud yw os ydym i gyd yn cytuno bod yn rhaid i'r gwasanaeth fod am ddim lle bynnag y bo’i angen am y 75 mlynedd nesaf, rhaid inni gael y modd i wneud hynny hefyd. Mae pob un o'r sefydliadau iechyd hynny hefyd yn dweud ei bod yn hen bryd inni ddiwygio gofal cymdeithasol oedolion hefyd. A yw'n cytuno â'r pwyntiau a wnaed? Rydym yn dioddef o danfuddsoddi cronig.

16:50

Rwy'n cytuno, Huw. Rydym yn dioddef o danfuddsoddi. Gallwn fynd ymlaen i wneud rhai pwyntiau gwleidyddiaeth bleidiol, ond rwyf am osgoi gwneud hynny, oherwydd rwyf eisiau ceisio—.  Fe ddywedoch chi eich bod yn cytuno â'r rhan fwyaf o'r hyn a ddywedwyd, ond rwy'n gobeithio, erbyn diwedd y cyfraniad hwn, y byddwch yn dal i arddel y safbwynt hwnnw, ac yn cytuno â'r rhan fwyaf o'r hyn rwy'n mynd i'w ddweud yn fy nghyfraniad heddiw. Ond rwy'n cytuno â'r pwyntiau cyffredinol a wnewch. 

Mae yna danfuddsoddi wedi bod. Cawsom hynny yng Nghymru. Rydym wedi gweld hynny yn anffodus—[Torri ar draws.] Wel, rwy'n mynd i osgoi cael fy nhynnu i mewn i wleidyddiaeth—. Byddwn yn hapus iawn i wneud hynny, ond rwyf eisiau ceisio dod â rhywfaint o gonsensws i'r ddadl hon y prynhawn yma.

Mae'n ymwneud â chyllidebau'r GIG. Rwyf fi yn bersonol eisiau cymeradwyo Llywodraeth y DU, oherwydd yn wahanol i'r Llywodraeth Lafur nid yw erioed wedi torri cyllideb y GIG. Yn ogystal â hynny, mae cyllideb y GIG ers 2010, o dan y Ceidwadwyr, wedi cynyddu 50 y cant. A fyddech chi'n croesawu'r ffaith honno?

Roedd y pwyntiau a wnaeth Darren Millar yn bwyntiau roeddwn am eu gwneud fy hun i ymateb i'ch ymyriad, Huw, ond roeddwn yn amharod i wneud hynny, oherwydd rwyf eisiau cael rhywfaint o gonsensws y prynhawn yma. Ond rwyf hefyd yn cytuno gyda'r pwyntiau y mae Darren Millar yn eu gwneud.

Rydym yn sôn hefyd am—. Rwyf wedi siarad am Gymdeithas Feddygol Prydain. Gwyddom hefyd fod Cymdeithas Ddeintyddol Prydain wedi canfod nad oedd 93 y cant o bractisau deintyddol yng Nghymru bellach yn derbyn oedolion newydd fel cleifion y GIG, a dyna oedd y gyfradd waethaf yn y DU. Mae llawer mwy o gyrff iechyd y gallwn gyfeirio atynt wedi mynegi pryderon dros y 12 mis diwethaf, ac yn enwedig yn ystod yr wythnos ddiwethaf hefyd, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod ni fel gwleidyddion yn gwrando ar y galwadau hynny. Cyd-noddais ddigwyddiad yma yn y Senedd ddoe—mae'n ymddangos fy mod yn cyd-noddi neu'n noddi llawer o ddigwyddiadau ar hyn o bryd—lle lansiodd grŵp cynghori'r colegau brenhinol a chyrff proffesiynol Cymru bapur ar y cyd a gymeradwywyd gan 28 o sefydliadau cenedlaethol, yn galw am weithredu i gynyddu niferoedd staffio a gwella llesiant y gweithlu. Dywedodd y Gweinidog ddoe nad oes GIG heb weithlu, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r Gweinidog yn hynny o beth. Gallwn siarad am adeiladau ac offer, ond y gweithlu yw'r GIG mewn gwirionedd, a'r gweithlu yw'r asgwrn cefn. Heb y gweithlu, ni fyddai gennym unrhyw GIG o gwbl.

Rwyf hefyd yn cytuno â'r bron i 30 o sefydliadau sydd wedi ymuno â'i gilydd i alw ar y Llywodraeth i fuddsoddi yn ein staff. Ac roedd yn ddiddorol; mae Judith Paget heddiw wedi cydnabod yr angen am gynnydd cyflym yn nifer y staff. Mae angen i gleifion fod yn gwbl hyderus y byddant yn cael triniaeth a gofal o'r radd flaenaf yn hirdymor. Rwy'n credu—ac efallai fy mod yn ymateb i rai o'r materion a gododd Huw Irranca-Davies—mai dyma lle mae angen datrys y materion hirdymor yng Nghymru. Mae'n ymwneud â'r gweithlu. Mae hwn yn fater y mae'n rhaid i'r Llywodraeth Lafur hon fynd i'r afael ag ef, ond mae hefyd yn fater y mae'n rhaid i Lywodraethau yng Nghymru yn y dyfodol fynd i'r afael ag ef, a dyna pam rwy'n credu bod lle i gonsensws ar draws pob plaid, oherwydd os ydym am fynd i'r afael â rhai o'r problemau hirdymor mewn perthynas â'r gweithlu yma yng Nghymru, rwy'n credu bod angen trafodaeth briodol a rhywfaint o gonsensws ymhlith pleidiau gwleidyddol. Rydym yn gwybod y bydd yn rhaid i'r lefelau staffio yn y GIG gynyddu yn y blynyddoedd i ddod, ond rydym hefyd yn gwybod am y rhybuddion llwm gan y Coleg Nyrsio Brenhinol fod gennym 3,000 o swyddi nyrsio gwag y mae angen eu llenwi. Felly, rwy'n credu mai'r flaenoriaeth hirdymor yw cynllun gweithlu ar gyfer y Llywodraeth hon a Llywodraethau'r dyfodol.

Rwyf am ddweud hefyd ein bod wedi dathlu 75 mlynedd y GIG heddiw, ac rwy'n credu bod yn rhaid inni gydnabod pawb sy'n cael triniaeth wych yn y GIG. Bydd llawer o bobl yn cysylltu â mi i ddweud sut maent wedi cael triniaeth wych, sut maent wedi gwerthfawrogi'r gweithwyr iechyd proffesiynol sydd wedi'u cefnogi, a sut maent yn gwerthfawrogi'r gwasanaeth y maent wedi'i gael yn fawr. Nid y rhai sy'n cael triniaeth yw'r broblem fawr wrth gwrs, ond y rheini nad ydynt yn cael triniaeth, a dyma lle y gwyddom fod gennym her arbennig yng Nghymru. Fe wyddom fod gennym 30,000 o bobl yn aros am ddwy flynedd. Fe wyddom fod yr amseroedd aros hynny wedi cael eu dileu mewn mannau eraill. Felly, rwy'n credu mai'r broblem yn y tymor byr i'r Llywodraeth yw mynd i'r afael â'r amseroedd aros o ddwy flynedd, oherwydd oni allwn wneud hynny, byddwn yn gaeth yn y pwll tro hwn ac ni fyddwn yn gallu mynd i'r afael â rhai o'r problemau eraill yn ein GIG yng Nghymru.

Gwyddom fod llawer o bobl ar y rhestr aros mewn poen ac anesmwythder, ac i lawer o bobl, yr unig ddewis yw mynd yn breifat. Yn y gorffennol, os oeddech yn mynd yn breifat, roedd hynny'n golygu eich bod yn gallu fforddio gwneud hynny. Wel, nid yw hynny'n wir bellach. Mae pobl yn gwneud dewisiadau ffordd o fyw. Os ydynt yn eu 70au, nid ydynt eisiau colli dwy flynedd o'u hymddeoliad. Os ydynt yn iau, nid ydynt eisiau colli dwy flynedd o'u gyrfa. Felly, maent yn gwneud dewisiadau ffordd o fyw i fynd yn breifat. Nid wyf yn credu mai dyma'r GIG a ragwelodd Aneurin Bevan, oherwydd dylai'r GIG fod am ddim lle bynnag y bo’i angen.

Dyma rai o'r problemau y mae angen mynd i'r afael â nhw. Materion y gweithlu yw'r broblem fawr—cadw staff, morâl—ac mae'r gwaith pwysig o gynllunio'r gweithlu'n hanfodol. Ac mae gennyf bryder arbennig am y gweithlu gofal cymdeithasol, oherwydd mae'r angen i wella cyflogau, telerau ac amodau yn fater brys yn y maes penodol hwn, oherwydd oni wneir hynny, byddwn yn dal i gael problemau gyda rhyddhau cleifion o'r ysbyty. Mae angen inni wella cyflogau ac amodau'r gweithlu gofal cymdeithasol os ydym am wneud cynnydd go iawn yn hyn o beth.

Rwy'n edrych ymlaen at gyfraniadau yn y Siambr y prynhawn yma, ac rwy'n gobeithio bod cywair y ddadl hon yn iawn. Ond yn anad dim, rwy'n dymuno pen-blwydd hapus i'r GIG. 

16:55

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Mabon ap Gwynfor i gynnig gwelliant 1.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod preifateiddio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn fygythiad sylfaenol i'n gwasanaeth iechyd ac y dylai darparu gofal iechyd am ddim lle bynnag y bo’i angen barhau i fod yr egwyddor wrth wraidd darpariaeth gofal iechyd yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n cynnig gwelliant 1 yn ffurfiol, a diolch i'r Ceidwadwyr am ddod â’r ddadl yma ymlaen heddiw. Fel y soniais ddoe, mae'n bwysig ein bod ni'n cofio pam y sefydlwyd y gwasanaeth iechyd i gychwyn a dathlu ei fodolaeth a'r oll mae o wedi ei gyflawni dros y 75 mlynedd. Dwi'n sicr na fuaswn i'n sefyll yma o’ch blaenau chi heddiw heblaw am waith rhagorol yr NHS. Fel rhywun oedd yn dod o aelwyd oedd yn ariannol gymharol dlawd, ni fuasai fy rhieni wedi medru fforddio'r meddyginiaethau gwahanol oedd eu hangen arnaf i ar wahanol adegau pan oeddwn yn iau, o’m genedigaeth gynamserol i'r gwrthfiotigau gwahanol ar hyd y blynyddoedd, ac yn y blaen. Mae gan bob un ohonon ni hanesion tebyg, wrth gwrs, ac felly dwi'n edrych ymlaen at weld ein Senedd yn cydnabod y gwaith ardderchog yma drwy ddiolch am yr NHS ac i'r NHS.

Ond wrth inni ddathlu un o greadigaethau Aneurin Bevan, mae'n hawdd iawn inni anghofio mai un hanner o'r geiniog oedd creu yr NHS. Yr ochr arall oedd ei raglen anferthol o o adeiladu tai o dan berchnogaeth gyhoeddus a oedd ar gael i bawb. Rydym ni wedi anghofio neu yn anwybyddu’r cyswllt rhwng iechyd a thai, ond mae cyflwr ein hiechyd yn aml ynghlwm â safon ein tai. Wrth gwrs, mae'r Ceidwadwyr yn anwybyddu hyn wrth sôn am ddathlu creu’r NHS, tra’n cyfiawnhau rhaglen giaidd Thatcher i werthu i ffwrdd y stoc dai gyhoeddus. Mae'r ddeubeth ynghlwm, a gadewch inni beidio ag anghofio un ar draul y llall.

Er ein bod yn dathlu 75 mlynedd o'r GIG, a hynny'n briodol, rhaid inni beidio ag anghofio beth yw'r GIG. Nid yw'r GIG yn ddim heb y gweithlu ymroddedig. Yr unigolion medrus ac ymroddedig hynny, o'r meddygon ymgynghorol i'r porthorion, sy'n gwneud y GIG yr hyn ydyw. Er ein bod yn gwerthfawrogi ac yn canu clodydd y GIG a'i gyflawniadau gwych, a hynny'n ddigon priodol, rhaid inni beidio â diystyru'r problemau sy'n ein hwynebu yma yng Nghymru heddiw. Mae'n bosibl mai'r her fwyaf y mae'r GIG erioed wedi gorfod ei hwynebu oedd y pandemig COVID, pandemig rydym yn dal i fyw drwyddo. Mae'n ddiddorol fod meddygon ymgynghorol a chlinigwyr wedi dweud wrthyf eu bod, ar y naill law, wedi ymdopi'n well yn ystod y pandemig oherwydd mai dim ond ar yr un mater hwnnw y bu'n rhaid iddynt ganolbwyntio, oherwydd bod y miloedd o faterion eraill wedi'u rhoi o'r neilltu dros dro.

Mae hynny i gyd bellach yn dal i fyny â'r system, ac mae'r bobl amhrisiadwy sy'n rhan o'r GIG rydym yn ei ddathlu heddiw wedi blino. Er ein bod yn eu cefnogi gyda'n geiriau canmoliaethus yma, y gwir yw nad ydynt yn teimlo'u bod yn cael eu gwerthfawrogi. Nid ydynt yn teimlo'u bod yn cael eu parchu. Mae llawer o fewn y gweithlu wedi gorfod brwydro i gael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu, ac maent yn parhau i frwydro am well amodau gwaith fel y gallant ddarparu'r gofal iechyd gorau y gallant ei roi. Ni ddylai fod yn rhaid iddynt frwydro yn erbyn y Llywodraeth. Mae'n sicr yn rhagrithiol i unrhyw un sefyll yma heddiw a chanu clodydd y GIG ar y naill law gan frwydro yn eu herbyn bob cam o'r ffordd i'w hamddifadu o'r hyn y maent yn haeddu ei gael mewn cyflogau ac amodau gwaith. Ni all y Ceidwadwyr bwyntio bys at y Llywodraeth Lafur yma yn unig; mae'r Llywodraeth bresennol, yn y DU, nawr yn argymell anwybyddu argymhellion y cyrff adolygu cyflogau annibynnol. Bydd y streiciau sy'n digwydd yn Lloegr yn cael effaith uniongyrchol ar gleifion yma yng Nghymru, gyda'r llawdriniaethau a gynlluniwyd ar gyfer cleifion o Gymru a gyflawnir yn Broadgreen, Arrowe Park, Clatterbridge, Gobowen ac ysbytai eraill yn Lloegr. Felly, os yw'r Ceidwadwyr o ddifrif ynglŷn â diwallu anghenion cleifion a staff, rwy'n awgrymu y dylent gael gair â Sunak a Hunt yn Stryd Downing.

Mae preifateiddio'n fygythiad gwirioneddol i'n GIG. Cymerwch yr argyfwng sy'n wynebu deintyddiaeth. Mae prinder deintyddion ac anallu i gael mynediad at ddeintyddion yn gorfodi pobl i chwilio am ofal preifat. Mae'r un peth yn wir am y rhai sy'n gorfod aros yn hir am driniaeth. Rwyf wedi cael llawer o lythyrau gan etholwyr sydd wedi mynd yn breifat i gael llawdriniaeth ar y glun a'r pen-glin oherwydd na allant aros am ddwy flynedd neu fwy. 

17:00

Credaf eich bod yn iawn fod llawer yn ceisio triniaeth breifat, fel y nodais, ond rwy'n credu bod pwynt pwysig yma, yn yr ystyr fod gan y sector preifat a chwmnïau preifat rôl i'w chwarae i helpu i fynd i'r afael â rhestrau aros y GIG, gan mai dyna'n union y dylai GIG Cymru a'r byrddau iechyd fod yn ei wneud—maent yn gwneud rhywfaint o hynny; dylent wneud mwy ohono. Dylent fod yn comisiynu’r gwasanaethau hynny i gyrff gofal iechyd preifat er mwyn lleihau’r amseroedd aros.

Dros dro, ond ni ddylai unrhyw un fod yn elwa ar afiechyd pobl eraill, a dyna holl bwynt y GIG, a dyna pam y sefydlwyd y GIG, a dyna pam fod yn rhaid inni ei amddiffyn a sicrhau bod y gwasanaethau yno, fel nad yw pobl yn troi at y sector preifat.

Rydym bellach yn gweld practisau meddygon teulu preifat yn agor mewn cymunedau ledled Cymru. Maent yn gweld cyfle oherwydd diffyg gwasanaeth meddyg teulu. Mae yna gynnydd araf ond cyson mewn darpariaeth gofal iechyd preifat yma yng Nghymru, ac oni bai ein bod yn gweld y buddsoddiad sydd ei angen i gadw ein staff gwych a sicrhau bod ganddynt y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith sydd ei angen yn yr unfed ganrif ar hugain, bydd mwy a mwy o'n darpariaeth iechyd yn cael ei phreifateiddio yn araf bach.

Felly, i gloi, ym Mhlaid Cymru, rydym yn diolch o galon i bawb sy’n gweithio yn y GIG ac sydd wedi ymrwymo i helpu eraill. Diolch am bopeth rydych wedi'i wneud ac yn ei wneud. Ond os yw’r cynnig hwn yn golygu unrhyw beth, gadewch inni sicrhau bod gweithlu'r GIG yn cael y telerau a’r amodau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu dyletswyddau a sicrhau bod gennym GIG sy’n iach ac yn barod ar gyfer y 75 mlynedd nesaf.

Wrth gwrs, mae 75 mlynedd yn garreg filltir bwysig i’r gwasanaeth iechyd gwladol, ac yn y cyfnod hwnnw, rwy’n siŵr y bydd pob un ohonom wedi cael rheswm i fod yn ddiolchgar i'r GIG, ac yn sicr, i’r rheini sy’n gweithio yn y gwasanaeth iechyd yn arbennig.

Rwyf wedi rhannu sawl gwaith yn y Siambr hon fy mod yn falch fod fy mrawd a fy chwaer eu dau yn nyrsys yn y GIG, ac fel llawer o rai eraill, wedi chwarae eu rhan yn helpu pobl yn ein cymunedau pan fyddant fwyaf o angen help. Mae ein staff yn y GIG yn gwneud eu gorau i wasanaethu cleifion, i’w cefnogi a’u helpu yn eu hawr o angen, er gwaethaf amodau gwaith heriol iawn ar adegau, a weithiau'n gweithio mewn byrddau iechyd fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y gellid ei alw'n gamweithredol.

Ond ar y pwynt hwn, hoffwn ddiolch yn bersonol hefyd i'r GIG, sydd wedi bod yno i mi ac i fy nheulu dros y blynyddoedd. Rwy’n meddwl am enedigaethau fy nhri o blant, a fy mrawd-yng-nghyfraith mewn gofal dwys yn ystod a chyda COVID, a'r rheini a ddarparodd ofal i fy nain a fy nhaid yn eu dyddiau olaf. Mae’r ystod eang o heriau a wynebir a’r cymorth a roddir gan y GIG yng Nghymru ar unrhyw ddiwrnod penodol yn syfrdanol ac yn werth eu dathlu yma heddiw ar achlysur ei 75 mlynedd.

Mae'n amlwg nad oes amheuaeth ynghylch ymroddiad staff y GIG a hwythau wedi cynnal y gwasanaeth iechyd dros y 75 mlynedd hyn. Ond fel y nododd Russell George yn ei sylwadau agoriadol, ac wrth inni nodi’r garreg filltir hon, fy mhryder i yw sut olwg fydd ar y gwasanaeth iechyd am y 75 mlynedd nesaf, a pha mor barod yw'r GIG yng Nghymru i allu cynnal ei egwyddor graidd o fod am ddim lle bynnag y bo’i angen pan fydd fy mhlant a fy wyrion yn ceisio'r cymorth a'r gefnogaeth y bydd eu hangen arnynt yn y dyfodol hefyd.

Fe wyddom, wrth gwrs, mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, fod y GIG yng Nghymru wedi’i redeg gan Lywodraeth Lafur ers dros 25 mlynedd, ac er mai'r byrddau iechyd neu gyrff cyflawni sydd â'r cyfrifoldeb am ddarparu’r gwasanaethau hyn, mae’n amlwg mai Llywodraeth Cymru sy'n atebol. Ac yng ngoleuni hyn, ac ar y garreg filltir hon, dylai pwynt 2 ein cynnig heddiw fod yn un o'r meysydd ffocws pwysicaf i Lywodraeth Cymru, gan ei fod

'Yn nodi rhybudd Cymdeithas Feddygol Prydain bod gwasanaethau meddygon teulu a Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru mewn argyfwng ac mewn perygl o chwalu'.

Mae hwn yn rhybudd sobreiddiol y mae Aelodau yn y Siambr hon eisoes wedi’i godi, ac mae’n dangos pwysigrwydd gwneud pethau’n iawn, ac yn enwedig ar lefel gofal sylfaenol. Oherwydd, i gymaint o bobl dros y 75 mlynedd diwethaf, ar lefel gofal sylfaenol y ceir y sicrwydd o ddydd i ddydd a'r gefnogaeth i fynediad am ddim lle bynnag y bo’i angen at y GIG, ac os na ellir gwneud hynny'n effeithiol ar y lefel hon, gall yr effaith ganlyniadol fod yn ddinistriol. A gadewch inni beidio ag anghofio bod y 'perygl o chwalu', fel y'i disgrifiwyd gan Gymdeithas Feddygol Prydain, wedi digwydd dan oruchwyliaeth Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru, a tybed beth fyddai Aneurin Bevan yn ei feddwl o'r ffordd y mae'r gwasanaeth iechyd gwladol yn cael ei redeg gan Lafur Cymru, sef yr unig Lywodraeth ym Mhrydain, fel y nododd Darren Millar, i dorri gwariant y GIG yn yr oes fodern. A than arweiniad y Blaid Lafur hon y ceir rhestrau aros dwy flynedd o dros 30,000, pan fo’r nifer bron yn sero yn Lloegr—

17:05

Diolch. Rydych yn sôn am yr adeg pan wnaed toriadau i wariant y GIG, ond rwy'n cofio—yn ôl yn 2014, rwy'n credu—un flwyddyn pan oeddwn yn gynghorydd, ac roeddem wedi cael blwyddyn ar ôl blwyddyn o doriadau i gyllid gofal iechyd cymdeithasol: toriadau o 30 y cant i ofal iechyd cymdeithasol; toriadau o 30 y cant i addysg; a thoriadau o 30 y cant i wasanaethau eraill oherwydd cyni. Ac rwy'n cofio, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fod yr arweinwyr wedi cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru i roi'r cyllid i ofal iechyd cymdeithasol y flwyddyn honno, yn hytrach na rhoi’r holl arian i’r GIG, a allai osod cyllideb ddiffyg, ac fe wnaethant hynny y flwyddyn honno, a chofiaf fod y Ceidwadwyr wedi eu beirniadu byth ers hynny am wneud hynny. Felly, hoffwn rywfaint o eglurder: ai dyna sydd o dan sylw yma? Oherwydd, unwaith eto, mae'r GIG yn cynnwys gofal iechyd cymdeithasol yn ogystal â GIG; ni allwch gael y gwasanaeth iechyd ar ei ben ei hun yn unig.

Wel, credaf fod Carolyn Thomas wedi tynnu sylw at nifer o feysydd yno lle mae Llywodraeth Cymru unwaith eto wedi dewis torri gwasanaethau cyhoeddus sy’n wirioneddol bwysig i bobl, ac sy’n cael effaith fawr ar ein gwasanaethau iechyd hefyd.

Fel y dywedais, dan arweiniad y Blaid Lafur y ceir y rhestrau aros dwy flynedd o dros 30,000, pan fo'r nifer yn sero yn Lloegr. Gadewch inni edrych ar hyn: o sefydlu’r gwasanaeth iechyd gwladol i’w ddinistrio, dyna waddol presennol y Blaid Lafur yma yng Nghymru. Mae’r dystiolaeth yn glir i mi. Gŵyr pob un ohonom mai’r cam cyntaf tuag at adfywiad y GIG yng Nghymru yw cael gwared ar y Blaid Lafur o'r Llywodraeth. Diolch yn fawr iawn.

Ar ran cymunedau Islwyn, hoffwn ddweud 'diolch' wrth y gwasanaeth gwladol sy'n nodi 75 mlynedd ers ei sefydlu heddiw.

Creodd gweledigaeth Aneurin Bevan a Llywodraeth Lafur Clement Atlee ar ôl y rhyfel un o lwyddiannau mwyaf erioed y Deyrnas Unedig: gofal iechyd cyffredinol am ddim lle bynnag y bo’i angen. Mae ein gwasanaeth iechyd gwladol annwyl yn berffaith o ran ei gysyniad a'i symlrwydd, ac mae hefyd angen y buddsoddiad mewn cyfalaf seilwaith y mae’n ei haeddu gan y DU. Yn wir, heb fod mor bell yn ôl â hynny, bu farw fy mam-gu wrth roi genedigaeth, gyda'r bwrdd gwaith yn gwrthod rhoi unrhyw gymorth meddygol, wrth i fy nhad-cu erfyn ar fwrdd o ddynion am ei bywyd, iddi gael gweld meddyg na allai ei fforddio. Dyna fy hanes teuluol i, ac mae'n drychineb a ddigwyddodd o fewn cof, ac ni ddylem byth gymryd hynny'n ganiataol. Dyna’r rhybudd hefyd ar dudalen flaen y Western Mail heddiw gan Aneira Thomas, y baban cyntaf un a aned o dan y GIG, a stori wahanol iawn i fy mam-gu, ac fe ddywedodd Aneira Thomas:

'Mae'r GIG yn cyffwrdd â bywydau pob un ohonom, ac mae pob un ohonom yn euog o'i gymryd yn ganiataol'.

Felly, ni waeth pa feirniadaeth sydd gennym, gwyddom er hynny fod yna rai ar yr asgell dde wleidyddol a fyddai wrth eu boddau'n cael gwared ar ein GIG ac agor gofal iechyd i loteri lwyr y farchnad rydd. Ac rwy'n gofyn ichi edrych ar bamffled Jeremy Hunt, y cyfrannodd Michael Gove ato hefyd.

Dyfynnwyd Sajid Javid ym mhapur Murdoch The Times yr wythnos hon, yn dweud bod y

'GIG sâl wedi ein gwneud ni'n salach'.

Nid wyf yn gwybod a fyddech yn anghytuno â hynny. A heddiw, roedd papur arall Murdoch, The Sun, yn sgrechian,

'Pen-blwydd hapus yn 75, GIG – ond bydd angen gofal dwys arnat i weld un arall'—

a bod 45 mlynedd—

'o fethiant gwleidyddol yn dy ladd'.

Felly, mae’r ddau bapur hyn sy'n eiddo i biliwnydd asgell dde eithafol, sydd ond yn cael ei ganiatáu i fod yn y DU am nifer penodol o ddiwrnodau’r flwyddyn, wrthi'n gyson yn bychanu ein GIG a’r gofal iechyd cyffredinol am ddim y mae’n ei ddarparu. Ac i'r eithafwyr asgell dde hyn, nad ydynt yn byw yn y DU, ond sy'n rheoli ein gwasg, y mogyliaid cyfryngol anetholedig hyn—[Torri ar draws.]; na—sy'n mynnu, yn mynnu bod gweithwyr cyffredin yn 'pleidleisio dros y Torïaid yn yr etholiad cyffredinol nesaf', ac sy'n aml yn rhoi arian i'r Blaid Geidwadol. Ac felly, nid yw'r GIG yn ddim byd ond sefydliad arall y maent yn dymuno gwerthu ei asedau—[Torri ar draws.]; peidiwch â fy nghredu i, darllenwch yr hyn a ysgrifennodd Jeremy Hunt—gwerthu ei asedau, i elwa ohono, ac i wneud pobl dlawd a sâl yn agored i rymoedd y farchnad, y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Ond yma, yn y Siambr hon, ar yr ochr hon, rydym yn credu mewn cymdeithas.

Felly mae’r heriau’n parhau, ond rwy’n ymroddedig, gyda fy nghyd-Aelodau Llafur Cymru ac Aelodau blaengar eraill ar draws y Senedd, i’r ddelfryd sosialaidd fwyaf a ddeddfwyd erioed yn y wlad hon—ein GIG. Mae'n cynrychioli'r cariad a ddangoswyd at ein pobl gan Lywodraeth etholedig, yn dilyn aberth yr ail ryfel byd, a sicrhaodd ryddid yn y wlad hon—amddiffyn ei phobl yn ei pholisi puraf. Felly yn olaf, hoffwn ddiolch, nid yn unig â geiriau, i bawb sydd wedi ac sy'n parhau i wasanaethu'r GIG, ac yn enwedig i'r rheini sy'n gwasanaethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ac ym maes gofal cymdeithasol. Rydym yn fythol ddiolchgar am eich gwasanaethau ymroddedig a'r gweithredoedd o dosturi a gofal rydych yn eu cyflawni bob dydd o'ch bywyd. Heddiw, lle bynnag y boch, rhowch eiliad i fyfyrio ar yr hyn y mae'r GIG yn ei olygu i chi a'ch teuluoedd, a hefyd yr hyn y byddai'n ei olygu, fel fy mam-gu, i fod hebddo. Felly, diolch.

17:10

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i’m cyd-Aelod Darren Millar am gyflwyno’r ddadl bwysig hon, ar y garreg filltir enfawr hon i’r GIG. Hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i bob aelod o staff sydd wedi gweithio yn y GIG drwy gydol ei hanes 75 mlynedd, ac am eu holl ymroddiad, yn ogystal â'u gwaith caled. Ni fyddai ein GIG yn ddim heb y staff gwych sy'n gweithio'n ddiflino, ddydd ar ôl dydd. Gallwn sefyll yma a rhestru 100 o wahanol ffyrdd y mae’r Llywodraeth Lafur hon yn methu ar ran ein GIG a phobl Cymru, ond heddiw, rwyf am ganolbwyntio ar ddathlu’r GIG, a'r gwasanaeth iechyd hefyd.

Mae gan bob un ohonom yma yn y Siambr hon straeon am adeg pan oedd y GIG yno i ni, ac mae heddiw’n ddiwrnod i rannu’r straeon hynny. Mae’r GIG wedi bod yno i mi a fy nheulu drwy rai o’n cyfnodau anoddaf. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r holl feddygon, nyrsys, therapyddion lleferydd ac aelodau o'r tîm adsefydlu cardiaidd a helpodd fy mam ar ôl ei strôc, a'r holl barafeddygon a geisiodd achub fy nhad yn dilyn y trawiad ar ei galon yn 2020. Nid yw'n gyfrinach mai 16 Mehefin, y diwrnod y bu farw fy nhad, yw’r diwrnod o’r flwyddyn rwy'n ei gasáu fwyaf, ond mae un peth a roddodd gysur i mi, sef y ffaith fy mod yn gwybod bod chwe gweithiwr meddygol proffesiynol wedi gwneud eu gorau glas am dros awr i ddadebru fy nhad. Nid oeddwn yno i ddiolch iddynt, ond nawr yw fy nghyfle i ddweud, o waelod calon, 'Diolch yn fawr am ddod i helpu fy nhad.'

Bydd gan deuluoedd ledled Cymru straeon tebyg i mi, a byddan nhw'n parchu'r staff rhyfeddol i'r un graddau. Mae ein gwasanaeth iechyd bob amser yn bwnc llosg, ac yn rhywbeth sy’n ennyn dadleuon tanbaid ac sy'n gwneud pobl yn emosiynol iawn. Ond y rheswm am hynny yw bod pob un ohonom yn malio ac am weld y GIG yn parhau i fod am ddim lle bynnag y bo’i angen, ac am flynyddoedd lawer i ddod, ac yn darparu'r gofal gorau posibl i'n hetholwyr ym mhob cwr o Gymru. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae’n amlwg nad yw ein hetholwyr bob amser yn cael y gofal gorau, ac nid oes diwrnod yn mynd heibio pan nad oes stori ddamniol am hynny yn y wasg, ac mae hynny wedi'i nodi heddiw gan lawer o Aelodau o bob rhan o’r Siambr.

Nid yw hynny mewn unrhyw fodd yn adlewyrchiad o’r staff; mae’n adlewyrchiad o’r Llywodraeth hon. Ni allwn barhau i wneud dim a gwylio pethau'n dirywio ymhellach. Mae arnom angen gwell technoleg, mae arnom angen gwell cymorth iechyd meddwl ar gyfer gweithwyr y GIG, ac mae angen inni ddarparu mwy o gyfleusterau a buddion iddynt sy'n gwneud y swydd yn fwy buddiol fel eu bod yn dymuno aros ynddi. Fel Aelodau yma o Senedd Cymru, mae angen inni wrando ar bob un o weithwyr y GIG i glywed eu syniadau ynglŷn â'r ffyrdd gorau o symud ymlaen a lleihau'r pwysau ar y GIG. O ganlyniad, mae angen inni weld camau gweithredu mwy cadarn gan Lywodraeth Cymru os ydym am weld a sicrhau’r 75 mlynedd nesaf o wasanaeth iechyd am ddim yma yng Nghymru.

Lywydd, gwn fod gan y Gweinidog dasg anferthol ar ei dwylo, ond rwy'n gobeithio y bydd y ddadl hon yn rhoi digon i’r Gweinidog iechyd feddwl amdano, gan fod gwir angen i bethau newid, ac mae angen iddynt newid yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, gan fod pob un ohonom yn dymuno gweld y GIG yn ffynnu ac yn goroesi. Felly, wrth inni nodi carreg filltir bwysig, ar ran yr holl etholwyr rwy'n eu cynrychioli yn ne-ddwyrain Cymru, hoffwn ddymuno pen-blwydd hapus iawn i'r GIG yn 75 oed.

Benthycodd, buddsoddodd a gwladolodd Llywodraeth Clement Attlee er mwyn gosod sylfeini’r wladwriaeth les a’r GIG, gan gynyddu'r nifer o dai cyhoeddus—adeiladwyd dros 1 filiwn o dai mewn pum mlynedd—ac adfywio diwydiannau craidd, a sicrhaodd gynnydd cyflym mewn safonau byw, gan leihau anghydraddoldeb a chynyddu ffyniant. Credai Aneurin Bevan mewn cyffredinoliaeth, gan sicrhau nad oedd unrhyw un yn cael eu gadael ar ôl, ni waeth beth fo'u cefndir.

Mae’r GIG yn adnodd gwerthfawr ac yn un o gyflawniadau gwych y Llywodraeth Lafur ddiwygiadol yn 1945, ac eto roedd y dybiaeth wrth ei sefydlu ym 1948 yn seiliedig ar ddisgwyliad oes o 65 mlynedd i ddynion a 70 mlynedd i fenywod. Ni all y GIG oroesi os bydd cyllid gofal cymdeithasol a chyllid gwasanaethau cyhoeddus yn lleihau nawr—mae amseroedd wedi newid—ac mae hynny wedi digwydd dros y 13 mlynedd ddiwethaf o dan Lywodraeth Dorïaidd y DU. Gyda phobl yn byw’n hirach, mae cyllid priodol ar gyfer yr holl wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys tai, trafnidiaeth a diogelu’r cyhoedd yn hanfodol ar gyfer GIG ffyniannus, fel y gwyddai Llywodraeth Attlee ac Aneurin Bevan—mae'n ymwneud â lles.

I fynd yn ôl dros yr 20 mlynedd diwethaf, rhwng 2000 a 2010, cynyddodd adnoddau mewn termau real 50 y cant, yn unol ag angen, ond o 2010, pan gymerodd y Torïaid yr awenau, dechreuodd cyni a dirywiad gydio—blwyddyn ar ôl blwyddyn o doriadau, gwanhau ac ymestyn gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys gofal cymdeithasol, tai a gwasanaethau ataliol, megis gwasanaethau hamdden. A dyna pam y dywedais yn gynharach, ynglŷn â phan ddywedodd y Ceidwadwyr fod cyllid wedi'i dorri i'r GIG un flwyddyn—. Roedd hynny oherwydd y pwysau i roi'r cyllid hwnnw yn ôl i wasanaethau cymdeithasol, a oedd wedi'i dorri flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan na ellir cael un heb y llall.

Fel y trafodwyd gennym yr wythnos diwethaf, mae arnom angen buddsoddiad mewn gwariant cyfalaf i ymdrin ag ystad y GIG sy’n heneiddio—[Torri ar draws.]—i fuddsoddi mewn cyfleusterau cam-i-lawr newydd—

17:15

Diolch.

Mae wedi’i leihau i Lywodraeth Cymru, ac mae’r swm y gall Llywodraeth Cymru ei fenthyca wedi’i gyfyngu gan Lywodraeth y DU. Mae llawer i’w ddathlu, ac mae angen inni ddathlu’r hyn sy’n wych am ein gwasanaeth iechyd. Mae llawer o bobl yn cael triniaeth ragorol dan ofal gweithwyr iechyd proffesiynol ymroddedig. Nhw yw ein GIG. Nhw yw ein gwasanaeth iechyd. A dylid nodi bod gwariant y pen yng Nghymru ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol gyda’i gilydd 14 y cant yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr, am eu bod yn mynd law yn llaw.

Dywedodd preswylydd wrthyf yn ddiweddar—yr wythnos diwethaf, mewn gwirionedd—am brofiad cadarnhaol o'r GIG gyda llawdriniaeth ar y glun yn y ward a agorodd ar ei newydd wedd yr wythnos diwethaf yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Cafodd un arall lawdriniaeth fawr ar y galon, a chafodd wasanaeth ailalluogi yn y gymuned, mewn canolfan gymunedol yng Nghei Connah, ac roedd nyrs arbenigol yn ei ffonio gartref i sicrhau ei fod yn iawn. Mae hefyd yn bwysig cydnabod yr heriau sy'n ein hwynebu. Yng Nghymru, gwariant y GIG bellach yw dros 50 y cant o gyllideb Llywodraeth Cymru, o gymharu â 39.1 y cant yn 2009-10.

Ond ni allwn adael gofal cymdeithasol ar ôl, gan mai dyma sy'n achosi diffyg gwelyau mewn ysbytai a phroblemau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, gydag ambiwlansys yn pentyrru, fel y gwelais—wel, fel y gwelodd preswylydd a roddodd wybod i mi yr wythnos diwethaf. Mae ysbytai'n llawn o bobl sydd angen gofal cymdeithasol, a dyna pam fod angen mynd i’r afael â hynny, a bydd nifer y bobl 85 oed yn dyblu dros y 25 mlynedd nesaf, a bydd nifer y bobl dros 65 oed yn codi i un o bob pedwar o’r boblogaeth cyn 2050, fel y mae’r Gweinidog iechyd wedi'i ddweud. Dyma graidd yr her a wynebwn i ddiogelu 75 mlynedd nesaf y GIG.

Siaradais â meddyg o ogledd Cymru yn ddiweddar yn nigwyddiad Cymdeithas Feddygol Prydain yma yn y Senedd, ac roedd yn dweud bod angen mwy o feddygon teulu arnom, gan fod llawer yn cael eu cyfeirio at wasanaethau arbenigol. Ond cytunodd y byddai’r ganolfan feddygol newydd sy’n cael ei hadeiladu ym Mangor yn helpu, ac ym mis Medi 2024, rwy'n credu y bydd Prifysgol Bangor yn lansio ei rhaglen feddygaeth gyntaf lle bydd myfyrwyr yn gallu cwblhau eu gradd feddygol lawn yng ngogledd Cymru, a fydd yn hwb enfawr. Ac mae hyfforddiant nyrsio a hyfforddiant gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gan gynnwys nyrsio, parafeddygon, hyfforddiant ambiwlans, ar gael bellach ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, yn ogystal â Bangor. Ac rwy'n adnabod rhywun sydd wedi newid gyrfa yn ddiweddar ac sy'n astudio i fod yn nyrs iechyd meddwl. Mae'n mwynhau cymaint; dywedodd ei fod wedi rhoi gyrfa ystyrlon iddi, sy'n wych.

Fel y dywedaf, ei bobl, ei staff yw'r GIG. Mae angen inni roi’r gorau i siarad yn negyddol amdano. Mae angen inni godi morâl ymhlith y staff. Roeddwn yn siarad â meddyg gofal argyfwng yng Nghaerdydd a'r Fro, ac roedd yn dweud nad oes ganddynt broblemau recriwtio, a dyna pam eu bod yn ymdopi'n dda iawn â damweiniau ac achosion brys, ac maent yn mynd yn syth i'r wardiau. Felly, mae gwir angen inni roi’r gorau i siarad yn negyddol. Mae'n fraint enfawr byw mewn gwlad lle mae gennym system iechyd wladol. Rwyf mor falch o hynny. Dylai mynediad at iechyd fod yn seiliedig ar angen clinigol, nid ar eich gallu i'w fforddio. Diolch.

17:20

Hoffwn ddiolch i Darren Millar am gyflwyno’r ddadl hon heddiw, a chofnodi fy niolch i’r degau o filoedd o bobl sy’n gweithio yn y GIG. Heb eu gwaith caled a’u hymroddiad, ni fyddai ein gwasanaeth iechyd yn un o’r goreuon yn y byd. Pen-blwydd hapus yn 75 oed, GIG.

Nawr, mae ein GIG ymhell o fod yn berffaith, ond mae'n llawer gwell na nifer o'r dewisiadau amgen, ac roeddwn yn falch o dreulio degawdau yn gweithio ar ei reng flaen. Mae’n falchder a rennir gan bawb sy’n gweithio yn ein gwasanaethau iechyd. Ond er y bydd pob unigolyn sy'n gweithio mewn rôl glinigol yn dweud wrthych faint y maent yn gwerthfawrogi ein GIG, byddant hefyd yn dweud wrthych nad yw ein system iechyd a gofal yn iach. Mae ein GIG yn sâl ac, oni bai ein bod yn mynd i'r afael â'r sefyllfa, efallai na fydd yn dal i fod yma ymhen 75 mlynedd arall. Ni fyddaf innau yma bryd hynny, ond bydd fy mhlant yma, a phlant fy mhlant, ac mae arnom ddyled iddynt hwy i ddiogelu dyfodol ein GIG.

Dri chwarter canrif yn ôl, sefydlodd Nye Bevan wasanaeth iechyd gwladol a oedd yn sicrhau bod pobl Cymru yn cael gofal iechyd am ddim lle bynnag y bo’i angen, ni waeth beth oedd gallu’r claf i dalu. Mae pawb yma am i’r egwyddorion craidd hynny barhau, ac i’r GIG fynd o nerth i nerth. Ond mae problem ddofn yn effeithio ar ein GIG: mae Llywodraethau o bob lliw ers amser maith wedi anwybyddu'r rhybuddion am staffio a gwneud datrysiadau tymor byr, gan roi plastrau dros y craciau, ond mae'r plastrau hynny'n dechrau dod i ffwrdd.

Nid yw hyn yn fwy amlwg yn unman nag yn nhwf rhestrau aros. Pan ymddeolais fel meddyg ymgynghorol orthopedig, nid oedd gennyf restr aros. A dweud y gwir, mynnais fod y rheolwyr yn caniatáu imi weld cleifion oedrannus yn breifat yn rhad ac am ddim er mwyn sicrhau nad oeddent yn cael eu gorfodi i ddioddef mewn poen. Heddiw, mae cleifion yn aros am flynyddoedd—mor hir—am driniaeth reolaidd.

Iechyd da yw conglfaen ein cymdeithas. Ar hyn o bryd, mae hawliau dynol ac ystyriaethau moesegol claf yn cael eu hanwybyddu wrth i'n GIG gael ei orlethu. Mae datganiad Tokyo yn nodi:

'Mae'n rhaid i feddyg gael annibyniaeth glinigol gyfan gwbl wrth benderfynu ar ofal unigolyn y mae ef neu hi yn feddygol gyfrifol amdanynt. Rôl sylfaenol y meddyg yw lleddfu trallod eu cyd-ddyn, ac ni ddylai unrhyw gymhelliad, boed yn bersonol, torfol neu wleidyddol, fod yn drech na'r pwrpas uwch hwn.'

Nid ydym yn cadw at yr egwyddorion hyn. Mae cleifion, ar hyn o bryd, mewn poen a thrallod ac yn colli gweithrediad, sy'n golygu bod eu hawliau dynol yn cael eu peryglu. Oni bai ein bod yn mynd i’r afael â rhestrau aros, bydd y baich ar gleifion a chlinigwyr yn ormod. Mae staff wedi cynnal y GIG er gwaethaf toriadau i niferoedd staff a gwelyau, ac oni bai ein bod yn mynd i’r afael â'r prinder yn y gweithlu, bydd llawer ar y rheng flaen yn gadael y gwasanaethau.

Gall pob un ohonom fod yn hynod falch o’n GIG, ond os ydym am ddathlu ei ben-blwydd yn 100, mae angen inni fynd i’r afael â rhestrau aros. Nid oes arnom angen cynnydd enfawr mewn cyllid, mae angen cynnydd enfawr o ran staffio, yn enwedig mewn gofal sylfaenol a gwasanaethau cymdeithasol.

Rwyf wedi fy synnu braidd gan y ffaith eich bod yn credu y gallwn gael cynnydd mewn staff wedi'u hyfforddi heb unrhyw gost, gan eich bod newydd ddweud nad oes angen unrhyw arian arnom. Ac rwyf newydd fod yn edrych ar siart Ymddiriedolaeth Nuffield o'r cyllid ar gyfer y GIG o'i ddechreuad hyd heddiw. Yr hyn a nodais o'r siart honno—a gallwch edrych arni; nid ein siart ni yw hi, nid siart y Llywodraeth—oedd bod y gwariant yn cynyddu bob tro roedd y Blaid Lafur mewn grym, a phob tro roedd y Blaid Geidwadol mewn grym, roedd y gwariant yn lleihau. [Torri ar draws.] Mae yno: darllenwch ef. [Torri ar draws.] Nid ydych—

17:25

[Anghlywadwy.] Mae hynny’n ffeithiol anghywir. [Torri ar draws.] Yn ffeithiol anghywir.

Gwych. Gadewch inni fwrw ymlaen. Nid oes arnom angen cynnydd enfawr—[Torri ar draws.]

Felly, gadewch inni ddod at ddiwedd hyn. Nid oes arnom angen cynnydd enfawr mewn cyllid. Mae arnom angen cynnydd enfawr o ran staffio, yn enwedig mewn gofal sylfaenol a chymdeithasol. Ac wrth feddwl am atal, mae angen meddyginiaeth ataliol arnom wrth feddwl ynglŷn â sut i fynd i'r afael â'n rhestrau aros. Gobeithio y gall pob un ohonom weithio gyda’n gilydd ar draws y rhaniad gwleidyddol i sicrhau dyfodol ein GIG, a fydd am ddim lle bynnag y bo’i angen am byth.

Diolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r ddadl bwysig hon. Fel y gwnaeth Aneurin Bevan 75 mlynedd yn ôl, mae'n rhaid inni fynd i’r afael â phroblemau ein hoes. Fel yr amlygodd Rhianon Passmore mor bwerus, nid oes angen inni fynd yn ôl sawl cenhedlaeth i weld y drasiedi a ddigwyddai pan nad oedd gofal iechyd ar gael i bawb. Bu farw chwaer fy nhaid, o Dreorci, yn y 1920au, ymhell cyn ei hamser, yn ferch ifanc, am na allai ei theulu fforddio’r gofal oedd ei angen arni. Dyna oedd y sefyllfa.

Fel y mae Aelodau eraill wedi'i ddweud, mae arnom ddyled enfawr i weithwyr y GIG. Dywedodd Natasha Asghar nad yw’r canlyniad bob amser fel yr hoffem, ond gallwn bob amser gael cysur o’r gofal a’r ymroddiad a gafodd ein hanwyliaid. Ond heddiw, mae pobl yn marw mewn amgylchiadau ofnadwy o ganlyniad i ddiffyg system ofal cymdeithasol genedlaethol—mae unigolion a'u teuluoedd yn teimlo'n ynysig wrth fyw gyda chyflyrau difrifol ac angheuol sy'n newid eu bywydau.

Fel y dywedodd Carolyn Thomas, mae llawer wedi newid dros y 75 mlynedd ddiwethaf, ond gydag angen cynyddol am ofal, mae’n hollbwysig ein bod yn ystyried diwygio’r sector gofal cymdeithasol cyn ei fod yn rhoi pwysau eithafol pellach ar y GIG. Rydym wedi ei weld yn digwydd o fewn ein teuluoedd ein hunain ac o fewn ein gwaith achos. Mae llawer o welyau ysbyty yn cynnal unigolion sy'n feddygol barod i adael yr ysbyty, ond na allant wneud hynny am nad oes cyllid iddynt allu gwella gartref.

Yn anffodus, mae'n rhaid i lawer o bobl dalu biliau na allant eu fforddio. Y bore yma, cefais e-bost am 7 a.m.—mae'n ddrwg gennyf, am 4 a.m.—gan unigolyn na allai gysgu oherwydd ei orbryder eithafol. Dywedodd wrthyf yn yr e-bost fod angen iddo ddod o hyd i £3,000 yr wythnos i dalu am ei ofal. Lle mae gofal cymdeithasol yn hanfodol, ac yn cynorthwyo’r GIG mewn gwirionedd, ni ddylid disgwyl i bobl dalu biliau mor fawr.

Rwyf wedi gweld â'm llygaid fy hun y gwahaniaeth yn y driniaeth y mae perthnasau sy’n dioddef o ganser wedi’i chael, yn wahanol i’r rheini â chlefydau dirywiol. Dylai unigolyn sy'n dioddef o glefyd Alzheimer neu glefyd Parkinson gael y cymorth sydd ei angen arnynt ac y maent yn ei haeddu. Ni ddylai fod pris ychwanegol am hynny. Dylai fod am ddim lle bynnag y bo’i angen, yn union fel y bwriadodd Aneurin Bevan iddo fod.

Y sector anghofiedig yw’r sector gofal—wedi’i danariannu, wedi’i danbrisio, a’i weithwyr yn cael eu tan-dalu. Fel Aelodau o Senedd Cymru, mae’n rhaid inni anfon neges glir heddiw i deuluoedd, i ofalwyr, i breswylwyr cartrefi gofal, ac i bawb sy’n byw gydag afiechydon fel Alzheimer’s, MS a Parkinson’s, ein bod ni’n gwrando arnyn nhw, a’n bod ni’n barod i weithredu drostyn nhw. Mae gormod o Lywodraethau o wahanol liwiau wedi esgeuluso’r mater pwysig o'r sector gofal oherwydd ei fod yn cael ei weld yn rhy gymhleth. Rhaid gweithredu nawr dros y teuluoedd sy'n cael eu cynrychioli yma yn y Senedd a dros deuluoedd ledled Cymru. Rhaid inni gofio'r sector anghofiedig.

Er fy mod yn falch o weld bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i dalu cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol, i lawer yn yr argyfwng costau byw, gallwn weld nad yw'r cyflog hwn yn ddigon. Fel mae'r Prif Weinidog wedi'i ddweud o'r blaen, mae'n gam cyntaf da, ond dyna'n unig ydyw; nid yw'n gynaliadwy. Mae'n iawn gweld y ddadl hon yn cael ei chyflwyno ac mae'n dda dathlu pen-blwydd y GIG, ond heb integreiddio'n briodol â'r sector gofal cymdeithasol, mae'n anodd gweld sut ar y ddaear y gall y GIG oroesi am 75 mlynedd arall. Felly, galwaf ar y Siambr i feddwl am fwy na dim ond y GIG wrth ystyried dyfodol gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Meddyliwch yn fwy o faint, fel y gwnaeth y gweledydd o Dredegar 75 mlynedd yn ôl. Rwy'n credu y dylem orffen yr hyn a ddechreuodd Aneurin Bevan yr holl flynyddoedd hynny yn ôl, a ffurfio gwasanaeth ar y cyd sydd o ddifrif yn trin pobl o'r crud i'r bedd, nid gwasanaeth iechyd gwladol yn unig, ond gwasanaeth gofal cymdeithasol cenedlaethol integredig.  Diolch yn fawr.  

17:30

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i siarad yn y ddadl heddiw. Ddoe, cawsom gyfle i ddathlu pen-blwydd y GIG yn 75 oed, ond ni allwch fod yn ddigon diolchgar am wasanaeth mor arbennig. Felly, mae'n wych gallu cael cyfle i ddymuno pen-blwydd hapus unwaith eto. 

Mae'n deg dweud bod ymddiriedaeth mewn cyfnod argyfyngus ar draws y gymdeithas, ac yn anffodus, mae'r GIG yn dioddef effeithiau cyrydol sinigiaeth, amheuaeth ac ymosodiadau, ac yn anffodus, rydym ni, fel gwleidyddion, yn cyfrannu ato, yn cymharu'r GIG yn gyson ar draws gwahanol rannau o'r DU er budd gwleidyddol. Ni ddylai heddiw fod yn eithriad—ni ddylai fod. Dylem fod yn dathlu'r GIG bob dydd ar sail y ffaith ei fod yn gwasanaethu pobl ledled y Deyrnas Unedig, ac rwy'n credu ei bod yn deg dweud, yn yr un modd, mai'r rhai a fydd yn elwa fwyaf o lefelau ymddiriedaeth yn y GIG yn gostwng yw'r cwmnïau yswiriant Americanaidd sy'n hofran o gwmpas, yn glafoerio dros y posibilrwydd o fanteisio ar unrhyw fethiannau ac unrhyw gam tuag at breifateiddio. 

Lywydd, rwy'n cynrychioli ardal drawsffiniol a hoffwn ddymuno pen-blwydd hapus i'r GIG, nid yn unig yng Nghymru, ond hefyd i'r gwasanaethau, y cyfleusterau y gall pobl o Dde Clwyd ac ar draws gogledd Cymru a llawer o Gymru, mewn gwirionedd, gael mynediad atynt—cyfleusterau yng Nghaer, cyfleusterau fel Alder Hey, Christie a Gobowen—mae pob un ohonynt yn darparu gwasanaethau rhagorol ac yn trin miloedd ar filoedd o bobl bob dydd. Rwy'n credu y dylem i gyd addo dadwleidyddoli'r GIG cymaint ag y gallwn ac ymrwymo i weithio'n fwy cydweithredol ar y meysydd heriol hynny nad ydynt yn unigryw i Gymru. Diolch yn fawr iawn.

Y Gweinidog iechyd nawr i gyfrannu i'r ddadl—Eluned Morgan. 

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n falch iawn o ymateb i'r ddadl hon a manteisio ar y cyfle unwaith eto i ymuno â chyd-Aelodau ar draws y Senedd i nodi 75 o flynyddoedd ers sefydlu'r GIG drwy gefnogi'r cynnig heddiw. Ddoe, cefais y pleser mawr o ymuno â chynrychiolwyr o bob rhan o GIG Cymru yn y gwasanaeth aml-ffydd yn Nhrelái, yn y digwyddiad cyntaf o sawl digwyddiad i ddathlu'r cyfoeth o dalent ac amrywiaeth yn ein gweithlu. Fel y soniais yn fy natganiad llafar i'r Siambr ddoe, hoffwn unwaith eto achub ar y cyfle i gofnodi fy niolch diffuant i'r gweithlu iechyd a gofal am eu hymroddiad a'u hymrwymiad parhaus. Ac rwy'n credu, fel llawer ar draws y Senedd heddiw, y dylem ddiolch iddynt a dathlu gyda nhw ar yr achlysur arbennig iawn hwn. Gadewch inni roi ein gwahaniaethau o'r neilltu am un diwrnod—am yr un diwrnod hwn. Gadewch inni ddod at ein gilydd i ddathlu canlyniadau anhygoel—anhygoel—75 mlynedd. 

Yfory, byddaf yn ymuno â phartneriaid a darparwyr gofal iechyd yng Nghomisiwn Bevan i gael sgwrs agored a gonest am ddyfodol ein gwasanaethau iechyd. Roeddwn yn falch iawn ein bod wedi gallu rhoi swm sylweddol o arian ychwanegol ar y bwrdd fel ein bod wedi gallu setlo'r mwyafrif helaeth o'r anghydfodau, yn enwedig gyda'r bobl sy'n rhan o'r 'Agenda ar gyfer Newid'. Roedd hwnnw'n bwynt pwysig iawn, oherwydd rydym yn cydnabod ac yn derbyn bod y bobl hyn yn haeddu gwobr ychwanegol.

Yr hyn sy'n allweddol yw bod y GIG ym 1948 am ddim lle bynnag roedd ei angen ac mae hynny'n parhau i fod yn wir heddiw. Ar draws y Siambr, rwy'n siŵr y carem lynu wrth yr egwyddor bwysig iawn honno. Mae'n egwyddor y mae'n rhaid inni ei chydnabod. Rydym yn cymryd y pethau hyn yn ganiataol. Roeddwn i'n darllen ychydig ddyddiau'n ôl, os ydych yn cael babi yn yr Unol Daleithiau, mae'n costio tua £13,000. Gwae i ni gymryd y pethau hyn yn ganiataol. Os ydych chi'n ffonio am ambiwlans, bydd yn costio tua £350. Os ewch chi at y meddyg teulu, byddai'r gost gyfatebol oddeutu £40 i £60. Mae'r rhain yn ffigurau mawr, ac rydym i gyd yn ei gymryd yn ganiataol, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn deall bod hwn yn adnodd prin hefyd. Mae'n rhaid inni ei ddefnyddio'n ofalus, ond gan wybod ei fod yno pan fo'i angen arnom.

Nawr, mae ail ran y cynnig y soniodd Sam, yn enwedig, amdano, yn ymwneud ag ymarfer cyffredinol, ac rydym yn gwybod bod hwnnw wedi bod yn biler allweddol iawn i'r GIG dros y 75 mlynedd diwethaf. Mae'r berthynas o ymddiriedaeth rhwng meddygon teulu a'u cleifion yn gwbl amhrisiadwy o ran parhad gofal yn enwedig. Nawr, rydym am gefnogi meddygon teulu i allu darparu'r gofal ansawdd uchel hwn am y 75 mlynedd nesaf. O ganlyniad i gytundeb contract y llynedd, fe wnaethom fuddsoddi £17 miliwn i gydnabod y rôl hanfodol y mae meddygon teulu a'u holl staff yn ei chwarae yn diwallu anghenion cleifion. Mae ein system genedlaethol ar gyfer adrodd ar y gweithlu yn dweud wrthym fod nifer y meddygon teulu yng Nghymru yn parhau'n gymharol gyson, ac mae data y llynedd yn dangos bod gennym ychydig yn fwy o feddygon teulu fesul 100,000 o'r boblogaeth nag sydd ganddynt yn Lloegr. Dros y tair blynedd diwethaf, mae ein hymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' wedi cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar hyfforddiant mewn meysydd lle mae recriwtio meddygon teulu wedi bod yn anos yn y gorffennol. Rydym yn gyson yn rhagori ar ein targedau mewn perthynas â nifer y meddygon teulu dan hyfforddiant newydd, ac rydym wedi cytuno ar £1.6 miliwn ychwanegol o gymorth er mwyn cynyddu niferoedd craidd meddygon teulu dan hyfforddiant.

Ond mae Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru wedi disgrifio pryderon eu haelodau'n rymus mewn perthynas â'r galw di-ildio am eu gwasanaethau a'r effaith y mae hynny'n ei chael. Mae'r pryderon hyn yn cael eu hategu gan y data ar weithgarwch mewn gwasanaethau meddygol cyffredinol. Nawr, rydym yn gwybod bod tua 1.5 miliwn o bobl Cymru, sy'n cyfateb i tua hanner cyfanswm poblogaeth Cymru, yn defnyddio gwasanaethau meddygon teulu bob mis—bob mis, sy'n cyfateb i bron i hanner y boblogaeth. Mae hwn yn alw enfawr, a bydd gweithio ar—[Torri ar draws.] Os nad oes ots gennych, nid wyf am wneud heddiw, na. Heb os, bydd gweithio ar y cyflymder hwn, ac o dan y pwysau parhaus hwn, yn arwain at gost bersonol, a dyna pam ein bod wedi ymrwymo i weithio gyda'r proffesiwn i wella cynaliadwyedd a mynd i'r afael â phroblemau hirsefydlog. Wrth ddarparu ein model gofal sylfaenol, rydym yn cymryd camau i sicrhau bod mwy o amser meddyg teulu'n cael ei dreulio'n gwneud pethau na all neb arall eu gwneud, ac mae'r model hwn yn cydnabod na ddylai meddygon teulu fod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer triniaeth bob amser, ac mae'n defnyddio ystod o weithwyr iechyd proffesiynol eraill yn rhan o dîm ymarfer amlddisgyblaethol. Rwy'n credu ei bod yn galonogol iawn ein bod yn gweld cynnydd yn nifer y staff sy'n darparu gofal cleifion uniongyrchol sy'n cael eu cyflogi mewn meddygfeydd ochr yn ochr â meddygon teulu. Rydym wedi gweld cynnydd o 18 y cant dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae angen inni annog y cyhoedd i'n helpu i leihau'r galw ar wasanaethau meddygon teulu, ac rwy'n credu mai dyna pam mae ein hymgyrch Helpwch Ni i'ch Helpu Chi wedi llwyddo i dynnu sylw at sut i gael mynediad at wahanol ddarparwyr gofal sylfaenol. Rydym wedi cyflwyno gwasanaeth 111 Cymru, a atebodd tua 70,000 o alwadau ym mis Mai. Rydym hefyd wedi cynyddu'r ystod o wasanaethau y gall fferyllfeydd cymunedol eu darparu i gleifion. O'r hydref hwn ymlaen, bydd gennym y contract unedig newydd, a fydd, unwaith eto, yn helpu i ryddhau mwy o amser i feddygon teulu weld eu cleifion. Wrth gymryd y camau hyn nawr, rydym hefyd eisiau diogelu ein proffesiwn meddygon teulu yn y dyfodol, gan weithio mewn partneriaeth â'r rhaglen strategol ar gyfer gofal sylfaenol, ac mae cynllun gweithlu strategol yn cael ei ddatblygu. Mae ein dull cadarn o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol yma yng Nghymru yn sail i'n hymgysylltiad parhaus â Chymdeithas Feddygol Prydain.

Gan droi at y gwelliant i'r cynnig a gyflwynwyd gan Blaid Cymru, rwy'n credu ei bod yn werth cofio geiriau Aneurin Bevan

'Na all unrhyw gymdeithas alw ei hun yn gymdeithas wâr mewn gwirionedd os yw’n gwrthod cymorth meddygol i rywun sâl oherwydd diffyg adnoddau'.

Cymdeithas anwaraidd oedd yr un na roddodd ofal i fam-gu Rhianon. Nid dyna'r math o gymdeithas y mae unrhyw un ohonom eisiau byw ynddi. Rydym yn mynd i gefnogi'r gwelliant ac rydym yn cytuno bod angen inni ddiogelu egwyddorion sylfaenol ein GIG, ond mae angen inni gydnabod nad yw'r galwadau presennol ar ein gwasanaethau yn gynaliadwy gyda'r model a ddefnyddiwn ar hyn o bryd. Mae gennym boblogaeth sy'n heneiddio ynghyd â nifer cynyddol o bobl â chyflyrau iechyd hirdymor. Mae hynny'n golygu y bydd y pwysau ar y GIG yn parhau i gynyddu.

Mae mabwysiadu datblygiadau technolegol newydd a meddyginiaethau newydd yn hanfodol i wella gofal cleifion, ond maent yn costio'n sylweddol, gan alw am fuddsoddiad a sgiliau newydd. Os ydym am ddiogelu ein GIG annwyl a'r bobl ynddo, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i weithredu i fynd i'r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu, a bydd yna ddewisiadau anodd iawn o'n blaenau. Ni all y GIG fynd i'r afael â'r her hon ar ei ben ei hun; bydd angen cydweithio â phartneriaid i sicrhau bod dull integredig yn cael ei ddarparu'n lleol ac mewn ffordd gynaliadwy—iechyd a gofal. Rhaid inni hefyd annog pobl i gymryd llawer mwy o berchnogaeth ar eu hiechyd eu hunain fel eu bod yn aros yn iach am fwy o amser. Rhaid inni ddefnyddio ein hadnoddau lle mae eu hangen fwyaf ac mae angen inni ganolbwyntio ar atal ac ar ffyrdd arloesol o weithio a mynd i'r afael â'r heriau hyn. Er y dylem bob amser ystyried ac ysgogi arbedion effeithlonrwydd ar draws y system, rwy'n glir mai gofal cleifion, nid elw, fydd yn ganolog i'r ffordd y gweithredwn ein gwasanaethau iechyd yma yng Nghymru.

Rydym yn gwybod bod angen newid, ond rydym hefyd yn gwybod sut i wneud y newid hwnnw. Mae'r cyfan wedi'i nodi yn ein dogfen weledigaethol 'Cymru Iachach'. Mae yno i chi ei weld—y rhaglen, mae'r cynllun yno. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw cyflawni'n gyflymach. Os nad ydych wedi darllen y ddogfen honno, hoffwn eich annog i roi amser i'w darllen. Fe'i darllenais eto y bore yma i wneud yn siŵr ein bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir, i wneud yn siŵr nad ydym wedi anghofio unrhyw beth. Mae yno yn y ddogfen honno. Nid oes angen gweledigaeth newydd; mae angen inni wireddu'r weledigaeth sydd gennym. I wneud hynny, bydd angen cefnogaeth arnom—byddwn angen cefnogaeth ar draws y Siambr hon, byddwn angen cefnogaeth gan y cyhoedd, byddwn angen cefnogaeth gan ein gweithwyr gofal iechyd. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn diogelu ein GIG a sicrhau ei fod yn parhau i ddarparu gofal hanfodol i bobl Cymru am y 75 mlynedd nesaf.

17:40

Diolch, Lywydd, ac mae'n bleser mawr gennyf gloi ac ymateb i'r ddadl hon heddiw ar y cynnig a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod Darren Millar. Mae llawer ohonom yn y Siambr hon wedi siarad ynglŷn â sut mae'r GIG wedi cyffwrdd â nhw'n bersonol, ac o safbwynt personol, roedd fy mam, fy mam-gu a llawer o fy nheulu a fy ffrindiau agos yn arfer gweithio, ac mae rhai'n dal i weithio, yn y GIG, ac rwy'n siŵr nad fi yw'r unig Aelod ar draws y Siambr y mae'r GIG wedi cyffwrdd â nhw'n bersonol iawn, gyda'r cymorth y mae wedi'i roi i bob un ohonom ar adeg o angen.

Agorodd Russell George ein dadl a siaradodd am yr heriau a'r newidiadau y mae'r GIG wedi mynd drwyddynt dros ei 75 mlynedd, a'r newidiadau mewn triniaethau a thechnolegau a nodwyd gan y Gweinidog hefyd, a bod angen inni sicrhau consensws yn y Siambr i fynd i'r afael â'r heriau y mae'r GIG yn eu hwynebu. Soniodd hefyd am Gymdeithas Feddygol Prydain yn siarad am ein gwasanaethau meddygon teulu yn chwalu, a'n GIG yn gyffredinol, ac mae hynny'n rhywbeth a ddylai sobreiddio pawb ohonom, ac mae angen inni gydweithio i sicrhau y gallwn ddod o hyd i atebion i fynd i'r afael â'r problemau hyn mewn gwirionedd, ac fel y dywedodd eraill, i beidio â'i ddefnyddio fel pêl-droed gwleidyddol. Soniodd hefyd am y problemau gyda gwasanaethau deintyddol a'r problemau staffio sy'n wynebu ein GIG ar hyn o bryd, a hefyd y rhestrau aros hir y mae pobl eraill wedi siarad amdanynt hefyd.

Gwnaeth Huw Irranca ymyriad eithaf pwysig, rwy'n credu, heb y wleidyddiaeth ynddo, am y cysylltiad rhwng gofal cymdeithasol ac iechyd, ac mae hwnnw'n faes enfawr y mae angen i bob un ohonom fynd i'r afael ag ef mewn gwirionedd, a byddaf yn crybwyll hynny a chyfraniadau eraill a wnaed.

Siaradodd Darren Millar am Lywodraeth y DU yn rhoi mwy o arian i'r GIG, ac mae hynny'n rhywbeth sydd, ar ein hochr ni i bethau, yn gadarnhaol iawn, oherwydd mae angen inni wneud yn siŵr fod y GIG wedi'i ariannu'n dda er mwyn sicrhau y gallwn oresgyn yr heriau y mae'n eu hwynebu.

Soniodd Mabon ap Gwynfor ynglŷn â sut roedd y GIG wedi ei helpu'n bersonol pan oedd yn iau a sut mae'r GIG wedi helpu pobl nad ydynt yn gallu fforddio triniaeth. Soniodd hefyd am y cysylltiad da rhwng tai o safon ac iechyd cyffredinol da. Ac rwy'n credu, fel y dywedoch chi, fod hynny'n rhywbeth sy'n cael ei golli yn hyn i gyd. Mae angen inni sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad at dai o ansawdd da er mwyn diogelu eu hiechyd cyffredinol.

Siaradodd Sam Rowlands am ei deulu, fel y dywedais yn gynharach, am bobl sy'n gweithio yn y GIG a hefyd tynnodd sylw at rai o'r materion sy'n ein hwynebu yma yng Nghymru yn ein GIG. Nid wyf am fanylu ar y rheini, oherwydd maent wedi cael eu trafod gan bawb ac nid oes gennyf lawer o amser.

Soniodd Rhianon, yn eithaf angerddol, am weledigaeth Aneurin Bevan a dyfodol ein gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru a pha mor werthfawr yw'r gwasanaeth iechyd gwladol. Ond roeddwn yn credu bod rhai o'ch sylwadau am bobl sydd i'r dde o'r canol yn wleidyddol yn eithaf sarhaus, ac nid wyf yn credu bod rhai o'r sylwadau hynny wedi gwneud cyfiawnder â'r ddadl hon. Roedd yn llawn o ddatganiadau eithaf ysgubol, ac rwy'n credu y gallai rhai o'r pethau a ddywedoch chi fod wedi bod yn eithaf sarhaus i rai pobl.

Soniodd Natasha ynglŷn â sut mae'r staff yn y GIG wedi ymrwymo i helpu pobl mewn gwirionedd, a'ch profiad personol o hynny. Ac rwy'n credu y gallwn ni i gyd fod yn ymwybodol, pan fyddwn wedi defnyddio gwasanaethau'r GIG, fod y staff ymroddedig hynny'n dod atoch chi ac yn gwneud cymaint ag y gallant i helpu i wella eich bywyd a gwella eich cyfle mewn bywyd, oherwydd maent i gyd yno i wasanaethu pobl ac maent yn gwneud hynny am eu bod yn malio am y bobl y maent yn mynd allan i'w gweld.

Soniodd Carolyn am Aneurin Bevan yn cynyddu niferoedd tai ac yn gwella safonau byw, ac fe wnaeth Mabon hefyd grybwyll hynny a chyflawniad allweddol gwella gofal iechyd, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn. Fe wnaethoch chi siarad am 13 mlynedd o Lywodraeth Geidwadol, ac rwyf wedi hen arfer â chi'n siarad am hynny yn y Siambr hon nawr, ond hoffwn eich atgoffa'n ofalus fod y Blaid Lafur wedi bod mewn grym yma ers 25 mlynedd a hi yw'r unig Lywodraeth sydd wedi torri cyllid i'r GIG mewn gwirionedd. Ond rwy'n credu eich bod wedi dweud bod angen inni roi'r gorau i'w ddifrïo, a soniodd llawer o'r Aelodau am beidio â difrïo'r GIG. Rydym eisiau siarad am y polisïau, ond mae'n rhaid inni hefyd fod yn onest iawn am yr heriau y mae'r GIG yn eu hwynebu—ni allwch gladdu eich pen yn y tywod gyda'r materion hyn, oherwydd os gwnewch hynny, bydd y problemau'n gwaethygu.

Ac Altaf, o ystyried eich arbenigedd proffesiynol yn y GIG ac fel ein meddyg ymgynghorol preswyl yma yn y Senedd, rydym i gyd mewn dwylo diogel iawn gyda chi yn y Siambr, ond fe wnaethoch chi sôn am falchder a braint yr holl bobl sy'n gweithio yn ein GIG. Ac fe wnaethoch chi hefyd siarad am yr atebion o ran sut y gallwn fynd i'r afael â'r problemau sy'n ei wynebu, ac fe wnaethoch chi ddarparu'r atebion hynny hefyd, a chredaf fod y Gweinidog yn gwrando ar hynny ac rwy'n gwybod ei bod yn gwrando'n astud ar eich cyngor hefyd, yn ôl pob tebyg.

Soniodd Rhys ab Owen am bobl yn dioddef yn ddiangen a dywedodd fod angen inni weithredu, ac fe soniodd eto am y cysylltiad rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Ac roedd hyn i'w glywed drwy'r ddadl ac mae'n rhywbeth y mae gwir angen inni ei wneud: mae angen inni helpu'r teuluoedd a'r unigolion sy'n wynebu costau gofal enfawr ac mae angen inni wneud cymaint ag y gallwn i gefnogi'r rheini.

Siaradodd Ken am ymddiriedaeth a bod angen inni ddathlu ein GIG a pheidio â'i ddifrïo, unwaith eto. Ni ddylai'r GIG fod yn bêl-droed wleidyddol; mae'n rhywbeth sydd yma i wasanaethu pawb a dylem i gyd weithio gyda'n gilydd cymaint ag y gallwn i geisio gwella ein GIG gwerthfawr.

Dechreuodd y Gweinidog drwy siarad am ein diolch i'r GIG, ac rwy'n siŵr ei bod wedi bod yn diolch i'r GIG drwy'r wythnos, a gwn ei bod yn parhau i wneud hynny bron bob dydd o'r wythnos am y gwaith gwych y maent yn ei wneud a sut mae angen inni roi ein gwahaniaethau o'r neilltu. Fe wnaethoch chi siarad ynglŷn â sut y dylai'r GIG fod am ddim lle bynnag y bo’i angen, ac mae hynny, rwy'n siŵr, yn rhywbeth y mae pob un ohonom ar draws y Siambr yn credu ynddo ac eisiau ei weld yn y dyfodol. Ac rwy'n credu bod yr hyn a ddywedoch chi'n wir iawn, Weinidog, ynglŷn â sut rydym yn cymryd y GIG yn ganiataol a sut mae angen inni ei ddefnyddio'n ofalus iawn weithiau. Nifer y bobl sy'n ceisio mynediad at ein gwasanaethau meddygon teulu—mae dros 1 filiwn o bobl yn ceisio mynediad at wasanaethau meddygon teulu bob mis, ac rwy'n credu bod hwnnw'n nifer sobreiddiol iawn.

Rwy'n credu bod y gwaith y mae pawb ohonom wedi'i wneud yn hyrwyddo ein gwasanaethau fferyllfa a gwasanaethau eraill yn gadarnhaol iawn, i sicrhau ein bod yn lleihau ein pwysau ar ein meddygon teulu, fel eu bod yn gweld y bobl y mae angen iddynt eu gweld yn hytrach na'r bobl sy'n eistedd yn yr ystafelloedd aros nad oes angen iddynt fod yno, mae'n debyg. Ond mae angen inni wneud mwy o waith i leihau'r galw ac mae'n rhaid i bob un ohonom yn y Siambr hon ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw a hyrwyddo'r gwasanaethau amgen hynny gymaint ag y gallwn.

Felly, i orffen, oherwydd rwy'n credu bod y Llywydd wedi bod yn hael iawn gyda fy amser, hoffwn ddiolch i bob un sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw a'u hymrwymiad i'n GIG, ei weithlu a'i bobl. Mae'n sefydliad hollol anhygoel; maent yn gwneud gwaith gwych i ni bob dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Hebddynt, byddem mewn sefyllfa lawer gwaeth. Felly, hoffwn ddweud, 'Pen-blwydd hapus, GIG', ac annog pawb i gefnogi ein cynnig heddiw.

17:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gwnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Mae hynny'n golygu ein bod ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, ac oni bai bod tri Aelod yn gofyn i fi ganu'r gloch, byddwn ni'n cynnal y bleidlais yn syth. Reit, felly gwnawn ni gynnal y bleidlais yn syth. Eitem 8 yw'r unig eitem o dan bleidlais y prynhawn yma. Hon yw'r ddadl rydyn ni newydd ei chynnal, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y gwasanaeth iechyd gwladol. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 15, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Mae hynny'n golygu ein bod ni'n pleidleisio nesaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 51, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei basio.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 51, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Mae hynny'n golygu ein bod ni'n pleidleisio ar y cynnig wedi ei ddiwygio gan welliant 1.

Cynnig NDM8315 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn dathlu 75 mlynedd ers creu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

2. Yn nodi rhybudd Cymdeithas Feddygol Prydain bod gwasanaethau meddygon teulu a Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru mewn argyfwng ac mewn perygl o chwalu.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau 75 mlynedd nesaf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy ddiwallu anghenion cleifion a staff a chynnal yr egwyddor graidd o fod yn am ddim lle bynnag y bo’i angen.

4. Yn credu bod preifateiddio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn fygythiad sylfaenol i'n gwasanaeth iechyd ac y dylai darparu gofal iechyd am ddim lle bynnag y bo’i angen barhau i fod yr egwyddor wrth wraidd darpariaeth gofal iechyd yng Nghymru.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 51, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 51, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Dyna ddiwedd ar ein pleidleisio ni, sy'n golygu ein bod ni'n barod i symud ymlaen i'r ddadl fer. 

10. Dadl Fer: Ôl troed y fyddin yng Nghymru: Pwysigrwydd y lluoedd arfog i hunaniaeth Cymru

Mae'r ddadl fer y prynhawn yma i'w chyflwyno gan Samuel Kurtz. Samuel Kurtz i gyflwyno'r ddadl, wrth i Aelodau adael yn dawel.

Os gall yr Aelodau adael yn dawel; mae'r ddadl fer heb ei chynnal eto. Samuel Kurtz.

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n falch o gyflwyno'r ddadl fer hon i'r Senedd heddiw ar ôl troed y fyddin yng Nghymru, sy'n ein galluogi i archwilio'r berthynas symbiotig sy'n bodoli rhwng y lluoedd arfog a'n hunaniaeth Gymreig. Cyn imi ddechrau, oherwydd ymrwymiadau blaenorol yng ngwobrau cyn-filwyr Cymru, hoffwn gydnabod bod y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, a oedd yn awyddus iawn i ymateb i'r ddadl hon, wedi gorfod ymddiheuro am ei habsenoldeb. Ac rwy'n ddiolchgar iddi am ei diddordeb yn y ddadl hon a hefyd i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol am ymateb i'r ddadl. Rwyf wedi addo rhoi munud o fy amser i fy nghyd-Aelodau Paul Davies, James Evans, Darren Millar ac Alun Davies. 

Yn dilyn ymweliad â maes tanio Castell Martin yng nghornel fwyaf gorllewinol fy etholaeth penderfynais fy mod am ddefnyddio fy amser yn y ddadl fer i dynnu sylw at y berthynas allweddol sy'n bodoli rhwng lluoedd arfog Ei Fawrhydi a'n cenedl. Gyda'i gilydd, yn ôl ffigurau 2019, mae 3,230 o bersonél milwrol a sifil wedi'u lleoli yng Nghymru, a dros 60 o sefydliadau a safleoedd y Weinyddiaeth Amddiffyn, gan gynnwys canolfannau lluoedd wrth gefn a chyfleusterau hyfforddi. Gan ddefnyddio'r ffigurau diweddaraf, mae Cymru'n darparu 9 y cant o bersonél gwasanaeth y DU, ond dim ond 2.5 y cant o'r personél hynny sydd wedi'u lleoli yma yng Nghymru. 

Mae de sir Benfro wedi chwarae rhan allweddol yn ein hanes milwrol droeon. Ganed y brenin olaf i ennill ei goron ar faes y gad, Harri VII—Harri Tudur—yng nghastell Penfro yn fy etholaeth, a dechreuodd ei orymdaith hir i'r gogledd i drechu Richard III ar faes Bosworth ar yr ochr draw i aber yr afonydd Cleddau, yn Dale. Adeiladwyd tref Doc Penfro o amgylch iard y dociau brenhinol, a ddefnyddiai harbwr dwfn naturiol aber yr afonydd Cleddau, i adeiladu nid yn unig llongau ymladd fel HMS Warrior, ond hefyd nifer o gychod hwylio brenhinol, ac yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, roedd yn gartref i sgwadron cychod hedfan Llu Awyr Brenhinol Sunderland. Ac rwy'n annog unrhyw un sy'n ymweld â sir Benfro yr haf hwn i dreulio un prynhawn yn ymweld â Chanolfan Treftadaeth Doc Penfro yng nghapel y garsiwn yn yr iard longau, i ddysgu mwy am y cychod hedfan gwych hyn a'r rôl a chwaraeasant yn yr ail ryfel byd. Wrth inni symud allan o'r trefi, rydym yn dal i weld tystiolaeth o hen safleoedd y Llu Awyr Brenhinol yn yr ail ryfel byd, megis Caeriw a Thalbenni, heb sôn am y barics niferus sydd wedi'u gwasgaru dros ganrifoedd lawer.

Gan droi at ôl troed presennol y Weinyddiaeth Amddiffyn yn yr ardal, mae gennym y sefydliad hyfforddiant amddiffyn ym Mhenalun, sy'n gartref i oriel maes tanio, a agorodd ym 1860 i ddarparu hyfforddiant saethyddiaeth yn dilyn rhyfel y Crimea, ac mae yno ffosydd hefyd a gloddiwyd i alluogi ymarfer cyn y rhyfela yn y ffosydd a ddigwyddodd yn y rhyfel mawr yng ngogledd Ffrainc. Mae maes amddiffyn awyr Maenorbŷr yn gweithredu am 100 diwrnod y flwyddyn, gan brofi taflegrau wyneb-i-awyr, a dyma'r cyntaf yn y DU, yn 2005, i fod yn addas ar gyfer defnyddio technoleg gweld yn y nos. Ar hyn o bryd, mae'n chwarae rhan bwysig mewn hyfforddiant ar gyfer gwrthdaro sy'n digwydd yn y byd heddiw. Gan symud ychydig dros y ffin i sir Gaerfyrddin, mae Gweinyddiaeth Amddiffyn Pentywyn, a weithredir gan QinetiQ ar gyfer hyfforddiant, profi a gwerthuso arfau, ac mae'n gweithredu ar y tir, y traethlin a'r môr.

Yn olaf, mae gennym yr hyn yr hoffwn feddwl amdano fel y trysor pennaf ymhlith sefydliadau'r Weinyddiaeth Amddiffyn, ardal hyfforddi Castell Martin. Fe'i sefydlwyd 85 mlynedd yn ôl, yn y cyfnod yn arwain at yr ail ryfel byd, dros 2,400 erw o hen ystad Cawdor ar benrhyn Angle, ac mae wedi'i leoli'n llwyr o fewn parc cenedlaethol arfordir sir Benfro. Mae Castell Martin yn gartref i un o ddau faes cerbydau ymladd arfog yn y DU, gydag ymarferion gynnau tanio byw a gyrru cerbydau arfog, ac yn dibynnu ar y math o arfau a ddefnyddir, mae'r parth gwahardd yn ymestyn tua 12 milltir fôr allan i'r môr Celtaidd. Daw catrodau o bob cwr o'r wlad a'r byd i ddefnyddio'r cyfleusterau, ac mae amser ar y safle yn cael ei archebu flynyddoedd lawer ymlaen llaw, sy'n dangos ei bwysigrwydd. Ond mae pobl leol yn sir Benfro wedi dod yn gyfarwydd â gweld minteioedd o danciau'n cael eu cludo ar gefn lorïau gwastad i'r maes, ac mae grwn tanio gynau'n aml yn llenwi'r aer o amgylch de sir Benfro. Mae'r safle hefyd yn gartref i rai o efelychyddion diweddaraf tanc Challenger II, sy'n galluogi milwyr i ymgyfarwyddo â rhai o'r genhedlaeth fwyaf modern o gerbydau milwrol. Roeddwn yn falch o ddysgu ar fy ymweliad sut mae ein cynghreiriaid NATO yn gallu cael mynediad at y safle, gan ddilyn ôl troed unedau arfog yr Almaen a alwai'r safle'n gartref am dros 30 mlynedd hyd at 1996.

Mae'r berthynas hon rhwng byddin yr Almaen, a gyrhaeddodd tua 16 mlynedd ar ôl diwedd yr ail ryfel byd, ac a arhosodd tan ddegawd olaf y ganrif, yn rhywbeth sy'n ennyn fy niddordeb, o ystyried fy etifeddiaeth. Yn naturiol braidd, roedd yn berthynas a gychwynnodd gyda rhywfaint o amheuaeth a phryder, ond daeth i ben gyda byddin yr Almaen yn gorymdeithio'n falch drwy sir Benfro a derbyn rhyddid y dref, ar ôl iddynt ddod yn rhan werthfawr a hoffus o'r gymuned leol. Cefais fy atgoffa o hanesyn, pan gyrhaeddodd yr Almaenwyr i gymryd eu lle yn y barics, am y ffordd y gyrrodd eu tanciau drwy dref Penfro a Doc Penfro, ac rwy'n siŵr fod yna gryn dipyn o wynebau pryderus ym Mhenfro, wrth weld tanciau Almaenig ar y lan yng ngorllewin Cymru, ond fe ddaethant yn rhan annwyl o'r gymuned yno.

Mae cyfleuster Castell Martin hefyd yn enghraifft wych o sut mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gweithio i amddiffyn ein hamgylchedd. Fel rwyf eisoes wedi'i ddweud, mae'r safle o fewn parc cenedlaethol arfordir Penfro, ac maent yn gweithio gyda'i gilydd, law yn llaw, i gynnal y tirlun, y fflora a'r ffawna unigryw a geir ar y penrhyn. Yn wir, yn ôl yn 2011, agorwyd llwybr newydd ar gyfer llwybr yr arfordir mewn cytundeb â'r Weinyddiaeth Amddiffyn i fynd â'r cerddwr oddi ar lôn wledig ac ar draws llwybr newydd, nad oedd yn ymyrryd â gweithrediadau'r safle, ond a oedd yn caniatáu i gerddwyr fwynhau golygfeydd helaeth a gwych y rhan honno o'r byd.

Gan droi at y rhai sy'n gwasanaethu ein cenedl gyda balchder, amlygodd cyfrifiad 2021 fod tua 115,000 o bobl yng Nghymru wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog—tua 4.5 y cant o'r boblogaeth. Mae hyn yn cymharu â 3.8 y cant o boblogaeth Lloegr, gan ddangos, unwaith eto, sut mae Cymru yn gwneud yn well na'r disgwyl. Mae Comisiynydd Cyn-filwyr cyntaf Cymru, y Cyrnol James Phillips, etholwr i mi, yn eiriolwr gwych dros gyn-bersonél y lluoedd arfog. A byddai'n esgeulus imi siarad am gyn-filwyr milwrol heb sôn am Oriel y Cyn-filwyr ardderchog, a sefydlwyd gan y cyn-filwr Barry John MBE yn sir Benfro ac sy'n helpu cyn-filwyr a'r gymuned ehangach i gymryd rhan mewn prosiectau celf i helpu i wella eu llesiant, eu hiechyd meddwl a'u hansawdd bywyd.

Mae'r hanes a'r etifeddiaeth y mae fy nghornel i o Gymru wedi'u cyfrannu i lwyddiant milwrol ein cenedl yn drawiadol, a gobeithio y bydd yn parhau i chwarae rhan bwysig am flynyddoedd lawer i ddod. Rwyf fi, fel pob un ohonom yn y Siambr hon, yn falch o'n lluoedd arfog. Mewn byd lle mae'r gair 'arwr' yn cael ei or-ddefnyddio'n aml, ein dynion a'n menywod mewn lifrai yw ei ddiffiniad mwyaf gwir. Maent yn cynrychioli ein cenedl a'n coron gydag anrhydedd. Rwy'n gobeithio bod fy nghyfraniad heddiw wedi helpu i atgyfnerthu'r rôl bwysig y mae'r fyddin wedi'i chwarae yn llunio hunaniaeth Cymru, ac efallai, hefyd, y ffordd y mae Cymru wedi helpu i lunio hunaniaeth y fyddin. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau fy nghyd-Aelodau, ac at ymateb y Gweinidog. Diolch yn fawr.

18:00

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Diolch i Sam Kurtz am roi munud o'i amser i mi. Mae’r lluoedd arfog wedi bod â phresenoldeb sylweddol iawn yn sir Benfro ers tro, ac rwy’n falch iawn o gynrychioli'r etholaeth sy’n gartref i Farics Cawdor. Mae Barics Cawdor, i’r rhai ohonoch sy’n anghyfarwydd â'r lle, wedi’u lleoli ychydig filltiroedd o Dyddewi, ac yn gartref i'r 14eg Catrawd Signalau, sef uned ryfela electronig byddin Prydain. Mae’r gatrawd wedi cael rôl gynyddol bwysig o fewn y lluoedd arfog, ac maent yn rhan hanfodol o gymdeithas sir Benfro. Ac felly, mae'n bwysig ein bod yn cydnabod y rhan y mae'r gatrawd hon, ac yn wir, catrodau eraill ledled Cymru yn ei chwarae yn amddiffyn ein cenedl.

Ni fydd yn syndod i’r Aelodau fy mod hefyd yn achub ar y cyfle i annog Llywodraeth Cymru i barhau i wneud mwy i amddiffyn cofebion rhyfel Cymru. Credaf mai dyma'r peth lleiaf y gallwn ei wneud i ddangos ein parch i'r rheini sydd wedi talu'r pris eithaf am ein rhyddid. Ac mae hefyd yn anfon neges at y rheini sy'n gwasanaethu yn ein lluoedd arfog heddiw, boed hynny yn y 14eg Catrawd Signalau neu yn rhywle arall. Mae’n anfon neges ein bod ni yng Nghymru yn cydnabod ac yn parchu’r gwaith a wnânt i’n cadw'n ddiogel. Mae arnom ddyled i'n milwyr a laddwyd am yr aberth a wnaethant, ac mae arnom ddyled i'n milwyr presennol, fel y rheini ym Marics Cawdor, hefyd.

Hoffwn ddiolch i Sam Kurtz am gyflwyno’r ddadl fer hon heddiw. Mae’r ddadl wedi rhoi cyfle imi godi proffil ystad y Weinyddiaeth Amddiffyn yn fy etholaeth ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Mae'n cynnwys y barics yn Aberhonddu a achubwyd rhag cau gan ein Haelod Seneddol, Fay Jones. Dyna gartref byddin Prydain yng Nghymru, a hir y parhaed hynny. Hefyd, mae'n cynnwys y gwersyll hyfforddi ym Mhontsenni ac ysgol frwydro'r milwyr traed yn Aberhonddu, sy'n darparu cyfleoedd gwych i'n lluoedd arfog ddod i hyfforddi yn fy etholaeth. Ac mae hefyd yn gartref i batrôl Cambria. Fe wnaeth AS yr Aelod a gyflwynodd y ddadl fer hon heddiw, Simon Hart, gymryd rhan ym mhatrôl Cambria, ac mae llawer o’n lluoedd arfog ledled y wlad wedi dod drwy fy etholaeth. Mae’r presenoldeb milwrol yn fy nghartref yn bwysig iawn i’n cymuned leol, ein heconomi leol, ac i wead fy etholaeth. Felly, hir y parhaed hynny, a diolch yn fawr iawn i’n holl luoedd arfog ledled y wlad.

Diolch i Sam Kurtz am gyflwyno’r ddadl bwysig hon. Fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol, mae bob amser yn syndod gweld y buddsoddiad y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud mewn amddiffyn yma yng Nghymru, ond wrth gwrs, gallem bob amser wneud gyda mwy. Un o’r pethau gwych a welwn yng ngogledd Cymru, wrth gwrs, yw RAF y Fali, sy’n hyfforddi nid yn unig pob un o beilotiaid jetiau ymladd yr Awyrlu Brenhinol, ond peilotiaid ar gyfer awyrluoedd eraill hefyd. Ond o’r buddsoddiad sylweddol hwn sydd gennym yn ein cyllideb amddiffyn, mae angen inni sicrhau bod mwy ohono'n llifo i mewn i fusnesau yma yng Nghymru, fel y gallwn helpu i gynhyrchu mwy o incwm i economi Cymru. Hoffwn wybod, yn ymateb y Llywodraeth i’r ddadl hon heddiw, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i geisio denu mwy o fuddsoddiad o wariant caffael amddiffyn, fel y gall economi Cymru elwa yn y ffordd y dylai.

Hoffwn innau ddiolch i Samuel Kurtz am gyflwyno’r ddadl hon y prynhawn yma. Mae’n ffaith, wrth gwrs, fod oddeutu 12 y cant o aelodau ein lluoedd arfog yn dod o Gymru. Mae’n bwysig inni weld hyn yn cael ei adlewyrchu yn ein gwlad ein hunain, ac yn y safleoedd a geir yng Nghymru. Nid ydym yn gweld hynny ar hyn o bryd. Nid ydym yn gweld digon o bersonél sy'n gwasanaethu wedi'u lleoli yn y wlad hon. Yr hyn yr hoffwn ofyn i’r Gweinidog yn ei hymateb i’r ddadl hon yw sut y bydd hi'n gweithio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn i sicrhau bod mwy o bersonél sy’n gwasanaethu wedi’u lleoli yng Nghymru. Roedd y bygythiadau i’r barics yn Aberhonddu yn hynod siomedig, ac ni ddylai hynny fod wedi digwydd. Ni fyddai wedi digwydd yn yr Alban, ac ni ddylai ddigwydd eto. Ond yr hyn y mae angen inni allu ei wneud yw sicrhau bod Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig yn cydweithio i sicrhau bod strategaeth safleoedd gadarn ar waith er mwyn sicrhau bod Cymru'n chwarae’r un rôl ag y mae pobl Cymru eisoes yn ei chwarae drwy wasanaethu yn ein lluoedd arfog a darparu’r cymorth y gall y Llywodraeth hon ei ddarparu i sicrhau bod hynny’n digwydd yn y dyfodol.

18:05

Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Sam Kurtz am gyflwyno’r pwnc hwn i'w drafod, a diolch hefyd i’n cyd-Aelodau sydd wedi gwneud cyfraniadau? Fel y dywedoch chi, Sam Kurtz, mae hon yn ddadl y byddai'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi hoffi ei mynychu a siarad ynddi ac ymateb iddi, ond fel y dywedwch, mae’n cynrychioli Llywodraeth Cymru heno yng ngwobrau cyn-filwyr Cymru. Ond rwy’n falch iawn, fel Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, o fod yma i ymateb i’r ddadl bwysig hon.

Bydd llawer ohonoch wedi mynychu Diwrnod y Lluoedd Arfog, ac rwy’n defnyddio’r ddadl hon i longyfarch pawb a gymerodd ran yn y diwrnod hwnnw. I’r rhan fwyaf o Gymru, roedd yn ddiwrnod poeth ond ardderchog o weithgarwch. Rwy’n mynd i ganolbwyntio ar Gasnewydd, sef yr awdurdod lleol a gynhaliodd y digwyddiad ac a gafodd gefnogaeth mor fedrus gan gyn-filwyr ein lluoedd arfog. Ac roedd Sioe Awyr Cymru, wrth gwrs, a gynhaliwyd y penwythnos diwethaf, hefyd yn dangos y gefnogaeth ymhlith y cyhoedd i gymuned ein lluoedd arfog. Rwy’n siŵr y bydd pobl gogledd Cymru allan yn eu heidiau yn y Rhyl ym mis Awst hefyd.

Mae ein lluoedd arfog yn rhan allweddol—fel y mae pawb wedi’i ddweud, ond Sam, yn bennaf, o ran eich cyfraniad heddiw yn y ddadl bwysig hon—o wead Cymru, ac maent wedi helpu i lunio ein hanes a’n hunaniaeth genedlaethol, fel y dywedoch chi. Maent hefyd yn bresenoldeb cyson a phwysig mewn llawer o ddigwyddiadau ledled Cymru. Mae'r cyhoedd yng Nghymru bob amser yn rhoi'r croeso Cymreig cynhesaf iddynt. Sam, ac yn wir, Paul Davies, rydych wedi tynnu sylw yn huawdl iawn at hanes milwrol sir Benfro, gan gynnwys sefydliad amddiffyn presennol y Weinyddiaeth Amddiffyn sy’n gweithredu yno. Wrth gwrs, maent yn chwarae rhan enfawr nid yn unig yn sir Benfro, ond ar ran Cymru, y DU a'r byd. A hefyd, ac yn bwysig yn fy marn i, fel y mae llawer ohonoch wedi’i ddweud, mae cyfleoedd yn sir Benfro, a ledled Cymru, i weld yr hanes mewn amgueddfeydd, gyda llawer ohonynt dan arweiniad gwirfoddolwyr, yn ogystal â chefnogaeth awdurdodau lleol, ac mae’r rheini’n bwysig iawn. Soniodd Paul Davies am y 14eg Catrawd Signalau ym marics Breudeth. Credaf eich bod chi hefyd wedi sôn am waith y cyn-filwyr yn sir Benfro. Ond mae'n rhaid inni gydnabod mai dyma ble mae Cymru yn draddodiadol wedi darparu cyfraniad mwy na chymesur o'i dynion a'i menywod i wasanaethu yn y lluoedd arfog—dros 6 y cant o'r lluoedd arfog, o 5 y cant o boblogaeth y DU.

Rwy'n mynd i ddewis enghraifft o'r ôl troed milwrol o bob un o'n tri gwasanaeth arfog, gan ddechrau gyda'r Awyrlu Brenhinol. Mae ein milwyr o Gymru wedi gwneud cyfraniad enfawr i hanes a chyflawniadau lluoedd arfog y DU dros nifer o flynyddoedd. Gwelsom enghraifft wych o hynny pan groesawom arddangosfa Cymru a Brwydr Prydain yma i’r Senedd fis Tachwedd diwethaf. Wrth inni glywed am fywydau’r 68 o griw awyr o Gymru a ymladdodd ym mrwydr Prydain, roedd yn sicr yn ingol myfyrio ar eu hanesion mewn digwyddiad a gynhaliwyd yma yn y Senedd, calon democratiaeth Gymreig heddiw, a chofio’r cyfraniad a wnaethant i ddiogelu ein democratiaeth a'n rhyddid ar adeg pan oedd yr union bethau hyn dan gryn fygythiad ledled Ewrop a thu hwnt.

Mae Sain Tathan a’r hen feysydd awyr cyfagos ym Mro Morgannwg wedi chwarae rhan fawr yn fy etholaeth i, ac fel Aelod Senedd yr etholaeth, rwy’n deall sut mae milwyr a’u teuluoedd yn cyfrannu at eu cymunedau lleol. Heb os, bydd newidiadau yn Sain Tathan yn ddiweddarach eleni, gyda chau Ysgol Hyfforddiant Technegol Rhif 4 yr Awyrlu Brenhinol, ond mae’n dda nodi y bydd presenoldeb yr Awyrlu Brenhinol yn parhau gyda Sgwadron Awyr Prifysgolion Cymru yn dal i hedfan o’r safle, a chyda'r Awyrlu Brenhinol hefyd yn cadw sgwadron wrth gefn yng Nghaerdydd a chanolfan hyfforddi antur yng Nghrucywel.

Rydym hefyd wrth ein boddau—ac mae RAF y Fali wedi'i grybwyll, wrth gwrs—fod RAF y Fali ar Ynys Môn yn parhau i fynd o nerth i nerth, gyda dyfodol hirdymor sicr yn darparu cannoedd lawer o swyddi i sifiliaid. Ac maent yn swyddi i sifiliaid yn ogystal â'r rheini yn y lluoedd, gan gynnwys cynlluniau prentisiaeth rhagorol; mae'n sicr yn drysor. Ac yn y byd cynyddol beryglus rydym yn byw ynddo, dylai pob un ohonom fod yn falch fod holl beilotiaid jetiau ymladd yr Awyrlu Brenhinol sydd ar hyn o bryd yn amddiffyn gofod awyr NATO yng nghanolbarth Ewrop wedi'u hyfforddi yma yng Nghymru—enghraifft wych o sut mae Cymru'n parhau i chwarae rhan hanfodol yn niogelwch y DU.

A chan droi at y fyddin yng Nghymru, ein presenoldeb mwyaf o ran niferoedd—neu esgidiau ar y ddaear, fel petai, os ydym yn sôn am olion traed—yw cartref y fyddin yng Nghymru yn Aberhonddu. Ac Aberhonddu, neu gerllaw ym Mhontsenni, a grybwyllwyd gennym hefyd, yw cartref ysbrydol y milwyr traed, drwy gysylltiadau hir y dref—yn gyntaf fel yr hen bencadlys i Gatrawd 24 y Gwŷr Traed. Yn fwy diweddar, mae Aberhonddu wedi bod yn gartref i’r ysgol filwyr traed, lle mae swyddogion iau heb eu comisiynu a swyddogion ifanc yn cwblhau eu hyfforddiant brwydro tactegol o dan amodau heriol ardal hyfforddi Pontsenni, y byddwch yn gwybod amdani rwy'n siŵr, James Evans a chyd-Aelodau. Roedd cadw barics Aberhonddu fel pencadlys Brigâd 160 (Cymru) yn fuddugoliaeth fawr i Gymru yn dilyn adolygiad integredig Llywodraeth y DU. Ac mae integreiddio'n rhywbeth a welwn drwy deuluoedd y lluoedd arfog yn Aberhonddu, un o’r ychydig leoliadau yn y DU lle gall plant ysgol eich cyfarch yn Gymraeg, Gurkhali a Saesneg.

O Aberhonddu hanesyddol, symudaf at Fae Caerdydd a'r HMS Cambria fodern iawn, prif bresenoldeb y Llynges Frenhinol yng Nghymru, a’n cymydog agos yma yn y Senedd. Rwy'n siŵr fod pawb sydd yma heddiw wedi bod yno. Gwn fod y llynges a'r môr-filwyr yng Nghymru wedi bod yn gweithio ar eu hôl troed a’u cyrhaeddiad mewn cymunedau lleol. Mae'n bleser gennyf dynnu sylw at eu gwaith diweddar gyda Chyngor Mwslimiaid Cymru, y bu'r Prif Weinidog yn eu seremoni wobrwyo yn gynharach eleni. Roedd rhaglen iLEAD yn ymwneud ag ehangu hunanhyder a photensial Mwslimiaid ifanc fel arweinwyr y dyfodol, a darparodd HMS Cambria ganolfan ar gyfer gweithgareddau a’i hyfforddwyr ysbrydoledig.

Cododd Darren Millar y pwynt ynglŷn â phwysigrwydd economaidd y presenoldeb milwrol yng Nghymru. A thrwy gysylltiadau â'r lluoedd arfog yma, ac yn rhynglywodraethol gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn, mae hyn yn rhywbeth rydym yn gweithio i ddylanwadu arno. Rydym yn ystyried y posibilrwydd o gael barics newydd yng Nghaer-went yn ddatblygiad arwyddocaol i Gymru, ac rydym wedi mynegi ein diddordeb gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn y dylai cynllunio ar gyfer gwariant sylweddol o’r fath ystyried cadwyni cyflenwi lleol a manteision cymunedol. Rydym mewn cysylltiad agos â'r Weinyddiaeth Amddiffyn ynghylch cynlluniau ar gyfer dyfodol Breudeth ar ôl i'r 14eg Catrawd Signalau ymadael.

A gaf fi gydnabod, i gloi, rôl Cymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru, sy'n rheoli 399 o adeiladau dros 158 o safleoedd yng Nghymru y mae ein 2,171 o filwyr wrth gefn, ein 4,685 o gadetiaid a’u 1,476 o oedolion sy’n gwirfoddoli yn gweithredu ohonynt? Mae gennym lawer o le i ddiolch am y cysylltiadau rydym wedi'u datblygu. A hoffwn ddweud, i gloi—ac mewn ymateb, yn rhannol, i Alun Davies hefyd—fod y Prif Weinidog wedi cyfarfod â'r Brigadydd Nick Thomas yn gynharach heddiw, a dywedodd y brigadydd mai ei weledigaeth yw i Gymru fod y lle gorau i filwr wasanaethu ac i gyn-filwr fyw. Roedd y Prif Weinidog yn gefnogol iawn i hynny, a soniodd am bwysigrwydd dathlu’r sgiliau y mae’r rhai sy’n gadael gwasanaeth yn eu cynnig i Gymru, ac mae hynny’n hollbwysig.

I gloi, hoffwn ddiolch i Sam Kurtz am gyflwyno’r ddadl hon heddiw, a diolch i chi hefyd—mae pob un ohonoch, wrth gwrs, wedi bod, a byddwch yn parhau i fod yn llysgenhadon dros Gymru a’n lluoedd arfog, oherwydd y gefnogaeth a roddwch. Mae’r lluoedd arfog yn parhau i fod mor bwysig i hunaniaeth Cymru, ac rydym yn sefyll gyda nhw, fel bob amser.

18:10

Daeth y cyfarfod i ben am 18:13.