Y Cyfarfod Llawn
Plenary
27/06/2023Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf fydd cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Peredur Owen Griffiths.
1. Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi perchnogion tai yn Nwyrain De Cymru sy'n wynebu taliadau morgais uwch? OQ59749
Llywydd, rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo pobl drwy'r argyfwng costau byw hwn trwy ddarparu cymorth wedi'i dargedu i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Dyrannwyd £40 miliwn i gyflwyno cynlluniau i gynorthwyo pobl sydd mewn trafferthion morgais yn gynnar i'w caniatáu i aros yn eu cartrefi eu hunain.
Diolch, Prif Weinidog. Mae'n dda clywed bod y cynlluniau hynny yn datblygu, oherwydd mae llawer iawn o aelwydydd mewn sefyllfa enbyd. Dangosodd un o fy etholwyr ei ddatganiad morgais i mi, sy'n dangos, ar 30 Tachwedd eleni, y bydd ei daliad presennol, sef £617.81, yn codi i £932.96. Os oes mwy o gynnydd i'r gyfradd llog yn y cyfamser, mae'n ddigon posibl y bydd y taliad misol hwnnw yn cynyddu eto. Nid ydyn nhw'n gwybod ble y byddan nhw'n dod o hyd i'r arian ychwanegol hwnnw. Yn y cyfamser, mae Rishi Sunak yn gofyn i bobl 'ddal eu tir'. Mae'n hawdd dweud hynny pan fo gennych chi gyfoeth teuluol amcangyfrifedig o £529 miliwn. Mae'r cynllun achub morgeisi yn rhywbeth a ddatblygodd Jocelyn Davies o Blaid Cymru yn effeithiol iawn yn ystod Llywodraeth Cymru'n Un. Yn rhan o'r gyfres o gynlluniau i amddiffyn perchnogion tai, a wnewch chi ystyried rhewi rhent yn y farchnad dai breifat i amddiffyn tenantiaid a fydd hefyd yn dioddef oni bai fod camau yn cael eu cymryd? Mae Llywodraeth yr SNP wedi pasio deddfwriaeth sydd wedi amddiffyn tenantiaid. Mae tenantiaid yng Nghymru yn haeddu'r un diogelwch, Prif Weinidog.
Wel, Llywydd, diolch i Peredur Owen Griffiths am y gyfres yna o gwestiynau. Rwy'n cytuno ag ef, wrth gwrs, bod cymaint o aelwydydd yng Nghymru yn wynebu biliau morgais sy'n cynyddu, lle nad ydyn nhw'n gwybod sut y byddan nhw'n ymdopi â'r codiadau a gyhoeddwyd eisoes, ac nad ydyn nhw'n gwybod pa godiadau pellach fydd yn dod yn y dyfodol. Bydd y cynlluniau y mae Llywodraeth Cymru yn eu llunio gyda'r £40 miliwn hwnnw yn teithio o dan faner eang Cymorth i Aros. Felly, maen nhw wedi eu hanelu at anawsterau morgais cam cynnar, lle mae'n bosibl cymryd camau a fydd yn caniatáu i bobl aros yn eu cartrefi eu hunain. Nid yw'r cynllun y cyfeiriodd yr Aelod ato gan Lywodraeth Cymru'n Un erioed wedi cau; mae wedi bod ar agor drwy'r holl gyfnod ers hynny. Wrth gwrs, am gyfnod hir, â chyfraddau morgais yn isel iawn, roedd y nifer a oedd yn manteisio arno yn fach iawn. Ond mae'n dal i fod yno, ac mae'n dal i fod yn opsiwn i awdurdodau lleol yn arbennig i helpu pobl llawer pellach i lawr y llwybr anawsterau morgais.
O ran rhewi rhent, mae'n erfyn di-awch; mae'n arwain at lawer o ganlyniadau anfwriadol. Rydyn ni'n gwybod yn yr Alban ei fod wedi arwain at ostyngiad yn nifer yr eiddo sydd ar gael i'w rhentu, gan fod pobl sydd wedi prynu eiddo ar sail prynu i osod eu hunain yn wynebu morgeisi sydd wedi codi'n sylweddol erbyn hyn. Mae Banc Lloegr yn amcangyfrif y bydd angen cynnydd o 20 y cant dim ond i renti sector preifat dalu'r costau ychwanegol y mae landlordiaid prynu i osod yn eu hwynebu bellach. Nid yw cynllun yr Alban yn rhewi rhent i bawb hyd yn oed; mae'n rhewi rhent i rai pobl, o dan rai amgylchiadau. Yng Nghymru, rydym ni'n credu bod mesurau eraill, ac arfau llai di-awch, sy'n caniatáu i ni ymateb i'r bobl sydd yn yr union anawsterau a ddisgrifiwyd gan yr Aelod.
Prif Weinidog, hoffwn ddechrau gyda dyfyniad:
'Does dim ateb i'r argyfwng morgeisi heb adeiladu mwy o gartrefi.'
Nid fy ngeiriau i yw'r rheini, Prif Weinidog, ond geiriau'r AS Llafur, Lisa Nandy, mewn cyfweliad y penwythnos hwn. Mae hwn yn gyfnod hynod ansicr a phryderus i berchnogion tai, ac roeddwn i'n falch o weld Llywodraeth y DU yn datgelu cyfres o fesurau i helpu preswylwyr dim ond yr wythnos diwethaf. Fodd bynnag, i lawer o bobl yng Nghymru, nid yw'r syniad o fod yn berchen ar eu cartref eu hunain yn ddim mwy na breuddwyd bell, ac mae hynny oherwydd bod Llywodraeth Cymru yma yn goruchwylio argyfwng tai mawr, ac, yn anffodus, ddim yn gwneud llawer iawn i'w drwsio. Prin fod y Llywodraeth yn adeiladu 6,000 o gartrefi y flwyddyn, Prif Weinidog, pan, mewn gwirionedd, fod angen tua 12,000 arnom ni. Mae gennym ni tua 90,000 o bobl yma yn dioddef ar restrau aros am dai cymdeithasol, ac mae gennym ni fwy na 10,000 o bobl yn byw mewn llety dros dro. Roedd gan ddau gyngor yng Nghymru aelwydydd ar restrau aros am dai cymdeithasol am fwy na 17 mlynedd. Mae hynny'n syfrdanol, Prif Weinidog. Gall y rhan fwyaf o bobl weld mai'r allwedd i ddatrys llawer o broblemau yw adeiladu mwy o gartrefi, mewn gwirionedd. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â Lisa Nandy nad oes ateb i'r argyfwng morgeisi hwn heb adeiladu cartrefi newydd? Ac os felly, o gofio bod Llafur mewn grym yma, ac wedi bod ers 25 mlynedd, pryd allwn ni weld y Llywodraeth yn rhoi'r gorau i osgoi cyfrifoldeb a gweithredu—[Torri ar draws.]—ar hyn?
Mae angen i ni gael rhywfaint o dawelwch fel y gall y Prif Weinidog glywed y cwestiwn. Roedd y sŵn yn dod o'ch meinciau cefn eich hun, gyda llaw, rhag ofn bod angen i chi wybod hynny, Prif Weinidog. [Chwerthin.]
Roeddwn i'n gallu clywed hynny. Llywydd, wel, wrth gwrs, roedd Lisa Nandy yn iawn fod rhaid i adeiladu mwy o gartrefi fod yn rhan o'r ateb i bobl sydd heb gartrefi ar hyn o bryd. Bydd hi wedi bod yn ymateb i benderfyniad Llywodraeth y DU i gefnu ar y cynlluniau yr oedd y Blaid Geidwadol wedi eu cyhoeddi yn gynharach yn y Senedd hon—y cefnu o dan bwysau aelodau Ceidwadol y meinciau cefn sydd wedi golygu y bu'n rhaid i Michael Gove gael gwared ar y cynlluniau a oedd ganddo i adeiladu mwy o dai yn Lloegr. Dyna'r pwynt yr oedd Lisa Nandy yn ei wneud.
Yma yng Nghymru, rydyn ni'n dal i fod wedi ymrwymo i 20,000 o gartrefi newydd ar gyfer rhent cymdeithasol, wedi'u hadeiladu i'r safonau uchaf posibl. Tra bod cyfraddau morgeisi yn parhau i godi o dan oruchwyliaeth Llywodraeth Geidwadol y DU, yna wrth gwrs ni fydd adeiladwyr tai yn cael eu hannog i adeiladu mwy o gartrefi. Dyna'r hyn y mae adeiladwyr tai yn ei ddweud wrthym ni. Wrth i gost benthyg godi, mae'n codi iddyn nhw, mae'n codi i fusnesau. Rydyn ni eisoes wedi clywed y prynhawn yma am yr effaith ar berchnogion tai a phobl sy'n ceisio rhentu eu cartrefi. Ond nid dyna'r unig broblem, nage? Mae'n cynnwys pobl sy'n rhedeg busnesau, gan gynnwys busnesau adeiladu tai hefyd, sydd bellach yn gweld eu biliau yn codi, ac mae gallu pobl gyffredin i fforddio tai sy'n cael eu hadeiladu yn lleihau. Felly, nid yw hwn yn fater syml o adeiladu mwy o gartrefi, ni waeth pa mor ddymunol yw hynny; mae'n fater o fforddiadwyedd y cartrefi hynny hefyd. A dyna pam mae'r cynnydd i gyfraddau yr ydym ni wedi ei weld yn y misoedd diwethaf yn cael effaith mor daglyd ar gyllidebau aelwydydd a gallu marchnadoedd i gyflenwi anghenion sylfaenol.
Wrth gwrs, mae Lisa Nandy, rydych chi, Prif Weinidog, rwyf innau ac mae pawb yn y Siambr hon yn gwybod nad argyfwng cyfradd llog yw hwn; mae'n argyfwng cyfraddau llog Torïaidd, a grëwyd o ganlyniad i Brexit caled a chamreoli economaidd. Fe wnaethom ni i gyd weld—[Torri ar draws.] Gallwch chi weiddi gymaint ag y dymunwch. Fe wnaethom ni i gyd weld y ffordd y gwnaeth Liz Truss chwalu'r economi. Nid Liz Truss sydd bellach yn dioddef canlyniadau hynny; y bobl yr ydym ni i gyd yn eu cynrychioli yma, perchnogion tai a rhentwyr hefyd. A gall yr Aelod dros Lundain grio cymaint o ddagrau crocodeil ag y mae'n dymuno am y sefyllfa sy'n wynebu perchnogion tai. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi bod camreoli economaidd y Torïaid wedi gwneud tro gwael â pherchnogion tai, wedi gwneud tro gwael â rhentwyr, wedi gwneud tro gwael â phob un ohonom ni, a'r peth gorau sydd ei angen arnom ni yw Llywodraeth Lafur sy'n gallu ailadeiladu'r economi hon?
Llywydd, wrth gwrs, mae Alun Davies yn mynegi'r ateb pwysicaf i'r anawsterau y mae pobl gyffredin yng Nghymru yn eu hwynebu. Mae hwn yn argyfwng a grëwyd yn Downing Street, gan breswylwyr olynol rhif 10 Downing Street. Rwyf i wedi gwrando yn ystod yr wythnos diwethaf ar Weinidogion Ceidwadol y DU yn dweud wrthym ni fod cyni wedi bod yn beth da iawn oherwydd ei fod wedi ein paratoi ni'n well ar gyfer coronafeirws. Rwyf i wedi clywed Gweinidogion Torïaidd yn dweud y buom yn ffodus o gael argyfwng Brexit gan fod argyfwng Brexit wedi golygu ein bod ni'n fwy parod ar gyfer argyfwng COVID. [Torri ar draws.] Dyna'r hyn a ddywedodd Oliver Dowden—[Torri ar draws.] Dyna'r hyn a ddywedodd Oliver Dowden; nid unwaith yn unig y gwnaeth ei ddweud, fe'i dywedodd dro ar ôl tro. A dweud y gwir, yr hyn a ddywedodd oedd bod trychineb Brexit—trychineb Brexit—wedi golygu ein bod ni mewn gwell sefyllfa ar gyfer trychineb coronafeirws. A nawr maen nhw eisiau dweud yr un peth eto—bod eu record drychinebus rywsut yn rhoi hawl iddyn nhw gael cyfle i unioni'r trychineb hwnnw. Mae'n gwbl amlwg ym mywydau pobl sy'n wynebu cynnydd i gyfraddau llog. Mae'r bobl hynny yn gwybod pwy sy'n gyfrifol. Maen nhw'n gwybod pwy sydd ar fai hefyd, a dyna pam y byddwn ni'n cael y Llywodraeth Lafur nesaf honno.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo datblygu economaidd yng nghanolbarth Cymru? OQ59767
Llywydd, rydyn ni'n gweithio yn weithredol gyda'n partneriaid i archwilio cyfleoedd ar gyfer y rhanbarth trwy ddarparu bargen twf canolbarth Cymru. Mae'r fframwaith economaidd rhanbarthol a luniwyd ar y cyd ar gyfer y canolbarth yn cyflwyno ein blaenoriaethau cyffredin ar gyfer y rhanbarth.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae Llywodraeth Cymru, yn wir, yn cefnogi ac yn creu swyddi yn y canolbarth, ac mae hynny'n allweddol i gadw a denu mwy o bobl ifanc i'r rhanbarth hwnnw. Ond darllenais gydag anniddigrwydd dwys adroddiadau yn y cyfryngau am fygythiadau honedig i gymryd buddsoddiad oddi wrth Gymru os bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fynd ar drywydd gweithgarwch yn Fferm Gilestone. Rwyf i hefyd yn sylwi bod arweinydd yr wrthblaid wedi cyflwyno dim llai na 60 o gwestiynau ysgrifenedig ar y buddsoddiad unigol hwn. A allwch chi daflu goleuni ar y stori? Ac a ydych chi'n cytuno â mi ei bod hi'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gyson ac yn deg wrth ymdrin â phob darpar fuddsoddwyr?
Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn gwneud pwynt cyffredinol pwysig iawn am bwysigrwydd tyfu'r economi yn y canolbarth a'r gorllewin, ac yn enwedig swyddi sy'n cadw pobl ifanc yn y cymunedau lle maen nhw wedi cael eu magu a lle maen nhw'n dymuno gwneud cyfraniad at lwyddiant yr economïau hynny yn y dyfodol. Dyna pam rydyn ni'n gweithio gyda bargen twf y canolbarth; dyna pam rydyn ni'n mynd ar drywydd y cyfleoedd mawr hynny a fydd yn dod o ynni adnewyddadwy morol ar hyd llain arfordirol y canolbarth a'r gorllewin.
O ran y pwynt penodol a wnaeth yr Aelod am Fferm Gilestone, daeth mwyafrif llethol y busnesau a'r buddsoddwyr yr ydym ni'n gweithio â nhw at y Llywodraeth gyda phroffesiynoldeb, uniondeb ac angerdd ynghylch y cyfraniad y maen nhw'n ei wneud at ein heconomi. Lle bo angen, yn anffodus, bydd Llywodraeth Cymru yn gadarn o ran ei gwneud yn eglur na fydd penderfyniadau gweinidogol yn cael eu newid o ganlyniad i bwysau gormodol neu, yn wir, bygythiadau. Ac mae'n bwysig, wrth gwrs, bod yr holl Aelodau yn ystyried ac yn profi difrifoldeb y cynigion a gyflwynir iddyn nhw i sicrhau bod yr achosion y maen nhw'n eu harddel yn ddilys a heb eu hysgogi gan gymhellion cudd.
Prif Weinidog, dywedir yn aml mai busnesau bach yw asgwrn cefn economi Cymru, ac ni allai hynny fod yn fwy gwir, wrth gwrs, yn y canolbarth. Mae'r weledigaeth ar gyfer cynllun Tyfu Canolbarth Cymru a'r fargen dwf yn cyfeirio at y ffaith fod 95 y cant o fusnesau yn y canolbarth yn fusnesau bach. Mae'r mater sy'n cael ei godi fwyaf gyda mi gan fusnesau bach, gan eu bod nhw'n teimlo ei fod yn rhwystr i dyfu eu busnes, yn ymwneud â'r broses gynllunio. Yn aml, maen nhw'n teimlo bod rhwystrau yn cael eu rhoi yn eu ffordd, ac yn aml mae costau enfawr yn gysylltiedig â chais cynllunio sy'n aml yn ormod o risg i fusnes ddatblygu neu geisio tyfu ei fusnes wedyn. Tybed, Prif Weinidog, a allech chi amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod y prosesau cynllunio yn cyd-fynd yn agosach â'r blaenoriaethau twf economaidd ar gyfer y rhanbarth.
Wel, Llywydd, mae'r prosesau cynllunio yno i gydbwyso cyfres lawn o wahanol fuddiannau. Mae gan fusnesau fuddiannau dilys a phwysig iawn pan fyddan nhw'n ceisio tyfu ac mae angen iddyn nhw fynd ar drywydd y rheini drwy'r broses gynllunio, ond felly hefyd pobl yn yr ardaloedd lle mae'r busnesau hynny yn ceisio ehangu. Ac mae'r broses gynllunio yno i wneud yn siŵr bod unrhyw un sydd â diddordeb mewn cynnig cynllunio yn cael cyfle i wneud yn siŵr bod ei lais yn cael ei glywed, a bod y penderfyniad terfynol yn benderfyniad cytbwys sy'n cymryd yr holl fuddiannau hynny i ystyriaeth. Weithiau, gall hynny ymddangos yn feichus, ond mae oherwydd yr angen i sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod nhw wedi cael cyfle priodol i wneud eu cyfraniad yn hysbys ac iddo gyfrif yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol, lle mae adnoddau cynllunio yn brin, i gyfuno'r adnoddau hynny yn gapasiti rhanbarthol ehangach fel y gellir mynd ar drywydd ceisiadau cynllunio mewn modd amserol ac nad yw pobl yn cael eu hoedi o ran gallu gwneud y datblygiadau y maen nhw'n ceisio eu gwneud, pa un a yw hynny mewn busnes neu unrhyw faes arall o fywyd. Oherwydd y straen diamheuol ar adnoddau awdurdodau lleol, mae cyfuno capasiti, gweithio ar ôl troed ehangach yn un o'r ffyrdd y gellir cynnal a chryfhau gwasanaethau bregus.
Cwestiynau gan arweinwyr y pleidiau nawr. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Yn eich atebion cynharach, Prif Weinidog, i gwestiynau, roedd yn ymddangos eich bod chi'n rhoi'r bai am holl ddiffygion Cymru ar Lywodraeth y DU. Roedd un o'r ffigurau a gyhoeddwyd ddydd Iau diwethaf yn amlwg yn faes y mae gennych chi reolaeth lwyr ohono, sef y cynnydd mewn amseroedd aros y GIG. Ychwanegwyd 6,000 o bobl ychwanegol at y rhestr lwybr; nawr, mae bron i 750,000 o bobl yng Nghymru ar lwybr. Gwelsom hefyd ostyngiad bach iawn yn nifer y rhai sy'n aros dwy flynedd neu fwy; mae dros 30,000 o bobl yn aros am ddwy flynedd neu fwy. Mae un o bob pump o bobl sydd ar lwybr GIG yma yng Nghymru yn aros blwyddyn neu fwy—blwyddyn neu fwy i weld eu hunain yn symud ymlaen ar y rhestrau aros hynny. Pa obaith allwch chi ei roi i'r unigolion hynny sy'n aros dwy flynedd neu flwyddyn, a'r rhai sydd wedi cael eu hychwanegu at y rhestrau aros dro ar ôl tro, wrth i bob mis fynd heibio, y bydd y rhestrau hyn yn lleihau ac y bydd yr arosiadau dwy flynedd yn cael eu dileu yma yng Nghymru erbyn diwedd y flwyddyn?
Y gobaith yr ydym ni'n ei gynnig i bobl yw cydnabod yr ymdrechion enfawr y mae'r gwasanaeth iechyd yn eu gwneud a'r llwyddiant y mae'r gwasanaeth iechyd yn ei weld yn yr ymdrechion hynny. Fe wnaeth arosiadau dwy flynedd ostwng eto'r mis diwethaf am y trydydd mis ar ddeg yn olynol, gostyngodd arosiadau 52 wythnos i gleifion allanol eto'r mis diwethaf, ac fe wnaeth perfformiad adrannau wella'r mis diwethaf. Yn y ffigurau, mor anodd ag yw'r sefyllfa, ceir arwyddion bod y buddsoddiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud, a'r cynllun sydd ganddi ar gyfer y GIG yn y cyfnod ar ôl COVID, yn llwyddo. Dim ond i feddwl amdano fel hyn, i helpu'r Aelod, yn y chwe mis hyd at fis Mawrth 2023, y flwyddyn lawn ddiwethaf, gostyngodd rhestrau aros yng Nghymru 2.6 y cant, a gwnaethant gynyddu 2.7 y cant yn Llundain—bwlch o 5 pwynt canran mewn perfformiad o blaid GIG Cymru.
Prif Weinidog, rwyf i eisiau gwybod beth sy'n digwydd yma yng Nghymru a pha obaith rydych chi'n ei gynnig i bobl yma yng Nghymru. Ond os ydych chi eisiau defnyddio ystadegau Lloegr, mae 5 y cant o bobl yn aros blwyddyn neu fwy yn Lloegr ac mae 20 y cant o bobl ar restr aros yn aros am flwyddyn neu fwy yng Nghymru. Rydych chi'n sôn am y gostyngiad i arosiadau dwy flynedd; daeth 261 o bobl oddi ar yr arhosiad dwy flynedd hwnnw. Mae dros 30,000 o bobl yn dal i aros dwy flynedd neu fwy yma yng Nghymru. Yn Lloegr, maen nhw fwy neu lai wedi cael eu dileu, ac yn yr Alban hefyd, felly mae hwn yn eithriad sy'n digwydd yma yng Nghymru o dan eich goruchwyliaeth chi. Nid fy sylw i yw hwn; dyma sylw Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, pan fyddan nhw'n dweud bod y ffigurau hyn yn 'ysgytwad' i weld beth all Llywodraeth Cymru ei wneud nawr er mwyn sicrhau y bydd ychydig o le ganddynt cyn i ni gyrraedd pwysau'r gaeaf.
Felly, eto, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau'r rhestrau aros ystyfnig o uchel hyn, ac a wnewch chi sefyll wrth ymrwymiad i ddweud y bydd arosiadau dwy flynedd yma yng Nghymru yn cael eu dileu erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon? Nid yw'n llawer i'w ofyn, oherwydd roedd gennych chi yn y gorffennol darged i gael gwared ar yr arosiadau dwy flynedd hynny. A ydych chi wedi cefnu arnyn nhw?
Rwy'n sylwi, pan fo'n siwtio arweinydd yr wrthblaid i gymharu'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru a Lloegr, ei fod yn gwneud hynny ar bob cyfle, a'r munud yr wyf i'n tynnu ei sylw at rywbeth arall, mae'n dweud wrthyf i nad oes ganddo ddiddordeb yn yr hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill—mae eisiau canolbwyntio ar yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru. Felly, gadewch i ni ganolbwyntio ar yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru am eiliad. Fel yr wyf i wedi ei ddweud wrtho, mae'r arosiadau hir hynny yn gostwng—maen nhw'n gostwng ymhlith cleifion mewnol ac maen nhw'n gostwng ymhlith cleifion allanol. Parhaodd arosiadau diagnostig ac arosiadau therapi i ostwng, yn enwedig o ran arosiadau therapi, y mis diwethaf. Ac 20 wythnos yw'r amser canolrif—yr amser safonol—y mae'n ei gymryd i gael eich trin yn y GIG yng Nghymru, o'r funud y mae eich meddyg yn eich cyfeirio i'r funud y daw eich triniaeth i ben. Dyna'r profiad safonol i glaf o Gymru: o'r funud y mae'n cael ei gyfeirio i'r funud mae ei driniaeth drosodd, mae'n cymryd 20 wythnos.
Dyna pam, pan ddaw'r Aelod yma bob amser i ddifrïo'r GIG, i ddweud wrthym ni nad oes unrhyw beth da y gall ddod o hyd iddo i'w ddweud amdano, nid yw'n taro tant ym mhrofiad pobl sy'n dibynnu ar y GIG, sy'n gwybod pa mor galed mae pobl yn gweithio ac sy'n gwybod pa mor flinedig yw ein staff o'r gofynion enfawr y maen nhw wedi eu hwynebu yn y cyfnod diweddar. Mae Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi nhw; mae'n eu cefnogi nhw gyda buddsoddiad, mae'n eu cefnogi nhw trwy ddatrys anghydfodau cyflog heb y streiciau yr ydym ni wedi eu gweld yn Lloegr ac y byddwn ni'n parhau i'w gweld yn Lloegr, ac mae'n gwneud hynny trwy fod ag ymrwymiad i'r gwasanaeth hwnnw dim ond Llywodraeth Lafur fydd fyth yn ei ddarparu.
Rydym ni'n gwario llai yng Nghymru fesul pen o'r boblogaeth ar iechyd nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig—Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Defnyddiais y ffigurau am arosiadau o flwyddyn a dileu arosiadau o ddwy flynedd yn Lloegr. Fe wnaethoch chi, ar ddau gwestiwn, fethu ag ateb a fyddech chi'n ymrwymo i ddileu'r arosiadau dwy flynedd hynny yma yng Nghymru. Pam na wnewch chi roi rhywfaint o obaith ac ysbrydoliaeth i gleifion y byddan nhw'n symud ymlaen, ac y gall y 32,000 hynny sy'n aros am ddwy flynedd neu fwy, neu'n wir yr oddeutu 150,000 o bobl sy'n aros am flwyddyn neu fwy, weld rhywfaint o gynnydd o ran eu hamseroedd aros?
Nid fy sylw i oedd y sylw a roddais i chi ei fod yn ysgytwad, sylw Coleg Brenhinol y Llawfeddygon ydoedd. Pobl yw'r rheini sydd ar y rheng flaen, sy'n ymdrin â'r cleifion hyn ddydd ar ôl dydd. Fe wnaf i gynnig y trydydd tro a'r olaf i chi heddiw, Prif Weinidog, i roi'r ymrwymiad hwnnw i gael gwared ar yr amseroedd aros o ddwy flynedd yn y GIG. Gallaf glywed rhywfaint o chwerthin yn dod o'r meinciau Llafur. I'r 31,000 o bobl sy'n aros am ddwy flynedd, nid yw hynny'n fater i chwerthin yn ei gylch. Nid yw'n annheg gofyn i'r Prif Weinidog, sy'n gyfrifol am y GIG yma yng Nghymru, ymrwymo i gael gwared ar yr arosiadau hynny o ddwy flynedd, sydd wedi digwydd yn yr Alban ac wedi digwydd yn Lloegr.
Yn gyntaf oll, gadewch i ni wneud yn siŵr bod y cofnod yn adlewyrchu gwariant yn gywir, oherwydd, yn syml, mae'r hyn a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid yn anghywir. Mae gwariant fesul pen o'r boblogaeth ar y GIG yng Nghymru, ac ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, yn uwch nag mewn rhannau eraill o—[Torri ar draws.] Dywedais iechyd hefyd. Mae'n uwch ar iechyd—iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n uwch yng Nghymru nag mewn mannau eraill, nid fel y dywedodd yr Aelod yn ei sylwadau agoriadol i mi.
Mae'r Gweinidog iechyd wedi cyflwyno ein huchelgeisiau i leihau arosiadau hir, gan gynnwys arosiadau o ddwy flynedd a llawer mwy hefyd. Wrth gwrs, rydyn ni'n cadw at yr ymrwymiadau hynny ac rydyn ni'n cymeradwyo'r holl bobl hynny sy'n gweithio mor galed bob dydd yn ein gwasanaeth iechyd i geisio gwneud yn siŵr bod yr ymrwymiadau hynny yn cael eu cyflawni.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Un o'r pethau sydd wedi bod yn braf ers dod yn arweinydd fy mhlaid ydy'r geiriau cynnes gan bobl sy'n falch o weld Aelod dros etholaeth yn y gogledd yn arweinydd yma yn y Senedd. Dwi'n credu’n gryf mewn uno Cymru, pob rhan o'r wlad, ond yn falch iawn o gynrychioli yr etholaeth fwyaf gogleddol. Mae o'n rhoi persbectif gwahanol i rywun mewn sawl ffordd, yn cynnwys o ran teithio rhwng y de a'r gogledd.
Yr wythnos diwethaf, roedd hi'n agosach at amser brecwast nag amser swper erbyn i mi gyrraedd adref o Gaerdydd ar ôl taith reilffordd chwe awr. Nid wyf i'n meddwl fy mod i erioed wedi gweld platfform gorsaf Bangor am 3 o'r gloch y bore o'r blaen. Ond nid wyf i yma i gwyno am fy nhaith fy hun. Mae'n drawiadol, fodd bynnag, pan fyddaf i ac eraill yn y Senedd hon yn codi ein rhwystredigaethau am drafnidiaeth, y llif o bobl sy'n codi eu pryderon eu hunain am oedi, am drenau wedi'u canslo, fel y pâr yn eu hwythdegau o fy etholaeth i yn ddiweddar y bu'n rhaid iddyn nhw sefyll am ddwy awr heb fynediad at y toiled ar y trên o'r gogledd i'r de. A yw'r Prif Weinidog yn credu bod y gwasanaeth rheilffordd presennol sy'n cael ei gynnig gan Trafnidiaeth Cymru yn dderbyniol?
Nac ydw, Llywydd, ac nid yw'r Gweinidog chwaith. Dywedodd y Gweinidog yn ddiweddar iawn bod yr heriau sy'n wynebu Trafnidiaeth Cymru yn golygu nad yw'r gwasanaeth sydd wedi cael ei ddarparu mewn rhai rhannau o Gymru wedi bod o safon y mae gan deithwyr hawl i'w disgwyl. Dyna pam mae'r Dirprwy Weinidog wedi bod yn cyfarfod â defnyddwyr y rheilffyrdd, yn enwedig yn y mannau hynny lle mae'r anawsterau hynny wedi bod fwyaf, i glywed yn uniongyrchol gan y teithwyr hynny, ac i weithio gyda nhw ac eraill i wella'r gwasanaeth sydd ar gael yma yng Nghymru. Ceir cyfres o resymau sy'n sail i'r anawsterau a gafwyd. Mae patrymau teithio wedi newid ers y pandemig—mae hynny'n sicr yn wir ar y rheilffyrdd, fel y mae wedi bod mewn gwasanaethau bysiau, fel yr ydym ni wedi ei drafod yma ar lawr y Senedd. Mae'r diwydiant rheilffyrdd ym mhobman yn gorfod ymdopi â newidiadau yn nifer y teithwyr ar y naill law a llai o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU ar y llaw arall. Dyna pam mae gwasanaethau prif reilffordd teithwyr yn ei ran ef o'r byd, ar arfordir y gogledd, wedi cael eu torri gan Avanti West Coast yn ddiweddar, sydd ynddo'i hun yn rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau lleol hynny a ddarperir gan Trafnidiaeth Cymru.
Rwy'n falch bod y Prif Weinidog yn cyfaddef bod problem—rwy'n credu ei bod hi'n gwbl amlwg bod problem—ac roedd yn dda clywed bod y Dirprwy Weinidog hefyd yn cyfaddef nad yw pethau'n ddigon da. Ond y pryder sydd gennyf i yw'r trywydd hwnnw yr ydym ni'n ei ddilyn. Mae'r rhain yn faterion difrifol: pedwar o bob 10 trên yng Nghymru wedi'u hoedi, a'r ffigurau 12 mis diweddaraf yn dangos darlun sy'n dirywio. Does bosib na ddylem ni allu disgwyl bod pethau'n gwella. Ym mis Ebrill, rwy'n credu, dywedodd y corff gwarchod annibynnol Ffocws ar Drafnidiaeth bod y sefyllfa'n anghynaladwy, gan alw ar Trafnidiaeth Cymru i roi cynllun cadarn ar waith yn amlinellu sut y byddan nhw'n adfer gwasanaethau ac yn cael pethau'n ôl ar y trywydd iawn i deithwyr. Pan gymerodd Trafnidiaeth Cymru, cofiwch, yr awenau oddi wrth Arriva yn 2018, fe wnaethon nhw ddweud y byddem ni'n cael addewid o wasanaeth rheilffordd wedi'i drawsnewid o fewn pum mlynedd. Nawr mae pum mlynedd wedi dod i ben; mae'n amlwg nad yw wedi digwydd yn unol â'r amserlen honno. Pryd all teithwyr ddisgwyl gweld gwelliannau gwirioneddol a pharhaus i'r gwasanaeth?
Nid wyf i eisiau dweud wrth yr Aelod y bydd llwybr hawdd i'r gwelliannau hynny. Fel yr ydym ni wedi ei drafod ar lawr y Senedd yma yn ddiweddar, mae Network Rail wedi cyhoeddi prosbectws buddsoddi sy'n rhoi Cymru ar waelod un y gynghrair fuddsoddi y maen nhw eu hunain yn dweud y bydd yn arwain at fwy o achosion o ganslo a mwy o oedi yn y dyfodol o ganlyniad i gynllun y maen nhw wedi ei gyhoeddi. Dyna'r cyd-destun hanfodol y mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn gweithredu ynddo.
Ond, mewn cyferbyniad llwyr â'r diffyg buddsoddiad yng Nghymru gan Lywodraeth y DU, rydyn ni'n buddsoddi dros £1 biliwn i drawsnewid rheilffyrdd craidd y Cymoedd yn y de yn unig, gyda threnau newydd ar rwydwaith Trafnidiaeth Cymru ym mhob rhan o Gymru, mwy o drenau newydd yn y gogledd nag yn unrhyw ran arall o Gymru, a mwy i ddod—trenau wedi'u hadeiladu yng Nghymru, trenau sy'n cael eu gweithredu yng Nghymru, a threnau a fydd yn arwain at well gwasanaeth i deithwyr. Ond mae'r cyd-destun y mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu ynddo yn gwbl wahanol i'r un a ragwelwyd bum mlynedd yn ôl, heb sôn am y profiad sydd wedi digwydd dros y pum mlynedd hynny. Nid wyf i'n mynd i sefyll yma a dweud wrth unrhyw Aelod y bydd y llwybr o ble’r ydym ni i le'r ydym ni'n dymuno bod yn un y gellir teithio ar ei hyd yn gyflym.
Mae'r Prif Weinidog yn cyfeirio'n briodol at y problemau seilwaith a'r diffyg buddsoddiad dros y blynyddoedd. Mae'r Aelod dros Aberconwy yn dweud ei fod yn ymwneud â'r cerbydau. Wel, bydd cerbydau yn gwella, ond mae gwir angen i ni wella'r trac, ac mae gennyf i ofn bod Llywodraethau Llafur a Cheidwadol olynol wedi methu dros gyfnod o ddegawdau i wneud yn siŵr bod gan Gymru ei chyfran deg, neu unrhyw le yn agos at ei chyfran deg, o fuddsoddiad mewn gwella seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Y diffyg seilwaith hwnnw sydd wedi arwain at ddiffyg rheilffyrdd wedi'u trydaneiddio—dim o gwbl tan yn ddiweddar—a'r diffyg cysylltiadau sylfaenol, fel o Bwllheli i Fangor. Roedd trên yn arfer bod yno. Mae trên yno o hyd, ond mae'n cymryd wyth awr. Nid dyna'r math o wasanaeth rheilffyrdd yr ydym ni ei eisiau yng Nghymru.
Yn y cyfamser, mae disgwyl i drethdalwyr gyfrannu at y rheilffordd cyflymder uchel 2. Dyna'r union ddiffiniad o anghyfiawnder economaidd. Mae hwn yn ddatblygiad rheilffordd sydd yn gyfan gwbl y tu allan i Gymru, ond mae Rishi Sunak a Keir Starmer yn ymddangos yn fodlon â'r anghyfiawnder hwnnw. Yng nghynhadledd ddiweddar Llafur Cymru, gwrthododd yr arweinydd Llafur ymrwymo i roi ei chyfran deg o gyllid HS2 i Gymru, pe bai'n cyrraedd Rhif 10. A wnaiff y Prif Weinidog ddefnyddio ei linell uniongyrchol i Keir Starmer i ofyn pam, o ran y tegwch economaidd sylfaenol hwn, ei fod yn dewis ochri â'r Llywodraeth Dorïaidd, ac nid pobl Cymru?
Rwy'n credu ei fod yn gamliwiad sylweddol i gymharu safbwyntiau Prif Weinidog y DU sydd yn y swydd, yn gwneud penderfyniadau heddiw i atal y cyllid i Gymru y dylai Cymru ei gael drwy fformiwla Barnett o ganlyniad i fuddsoddiad HS2, a llywodraeth nad yw hyd yn oed wedi cael ei hethol eto. Bydd Syr Keir Starmer yn pwyso a mesur yr opsiynau y bydd gan lywodraeth Lafur newydd o'i blaen pan fydd yn etifeddu trychineb economaidd record y Llywodraeth Geidwadol. Nid yw'n mynd i fod yn cynnig rhestr siopa hir o'r holl bethau y bydd neu na fydd yn eu gwneud ar y diwrnod y daw i mewn i'r swydd, ac ni ddylai neb gamgymryd hynny am benderfyniad cadarnhaol i beidio â gwneud rhywbeth. Y cwbl y mae'n ei ddweud, ar hyn o bryd, gyda blwyddyn i fynd tan etholiad, yw y bydd yn gorfod, mewn ffordd gyfrifol, gwneud penderfyniadau yn y cyd-destun y bydd yn cael ei hun ynddo. Mae safbwynt Llywodraeth Lafur Cymru a safbwynt y Senedd wedi bod yn eglur iawn, ac nid ein safbwynt ni yn unig ydyw, fel y gwyddom, dyma safbwynt llawer o sylwebyddion annibynnol ymhell y tu hwnt i'r Siambr hon: nid yw HS2 yn gynllun sydd o fudd i Gymru. Dylid bod cyllid canlyniadol Barnett i Gymru, yn y ffordd y bu i'r Alban. Nid oes amheuaeth o gwbl gan Keir Starmer ynghylch ein safbwynt ni ar y mater hwnnw, a byddaf yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n parhau i'w fynegi iddo.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ystâd y GIG yng Ngogledd Cymru? OQ59737
Llywydd, mae'r rhaglen gyfalaf ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn fwy na £375 miliwn yn y flwyddyn ariannol bresennol, ac yn codi eto y flwyddyn nesaf. Mae'n rhaid i fyrddau iechyd lleol flaenoriaethu eu cynigion eu hunain ar gyfer buddsoddi yn ystâd y GIG ac yna cyflwyno achosion busnes i Lywodraeth Cymru.
Prif Weinidog, ni fydd yn unrhyw syndod i chi fy mod i'n mynd i ofyn eto: ble mae'r buddsoddiad ar gyfer ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych? Rydym ni'n gwybod, i lawr y ffordd o leoliad arfaethedig ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych yn y Rhyl, bod gennym ni ysbyty ym Modelwyddan sydd wir yn ei chael hi'n anodd. A dweud y gwir, mae ganddo'r perfformiad damweiniau ac achosion brys gwaethaf o'i gymharu â'r targed wyth awr a'r perfformiad damweiniau ac achosion brys gwaethaf o'i gymharu â'r targed 12 awr yng Nghymru, ac mae hynny'n annerbyniol. Mae gennym ni un o bob pump o bobl yn aros dros 12 awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys i gael eu rhyddhau. Nawr, yn amlwg, mae angen gweithredu.
Un o'r atebion a gefnogwyd yn y gorffennol gan Lywodraeth Cymru fu sefydlu ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych newydd, ag uned mân anafiadau, i dynnu pwysau oddi ar Glan Clwyd, ond nid ydym ni wedi gweld rhaw yn y ddaear eto, ac mae wedi bod yn 10 mlynedd ers i'r ysbyty gael ei addo. Pryd all pobl fy etholaeth i, a phobl mewn mannau eraill yn y gogledd, a allent gael eu gwasanaethu gan yr ysbyty hwn, weld y gwaith hwnnw ar y gweill?
Diolch i Darren Millar am y cwestiwn. Wrth gwrs, fel y mae'n dweud, nid wyf i'n synnu o'i glywed yn codi'r mater, gan ei fod wedi ei godi'n gyson ac yn rymus ar lawr y Senedd. Fel yr wyf i wedi dweud wrtho o'r blaen, fodd bynnag, mae achos amlinellol strategol a nododd ffigur o £22 miliwn bellach yn achos busnes llawn a adroddwyd fel £72 miliwn, ac mae hwnnw'n newid mor sylweddol yn y cynnig fel bod yn rhaid i'r drafodaeth rhwng Llywodraeth Cymru a'r bwrdd barhau. Nawr, cafodd y Gweinidog iechyd gyfarfod gyda'r bwrdd a dywedodd wrthyn nhw bod yn rhaid iddyn nhw, gyda'u partneriaid, flaenoriaethu'r cynlluniau lawer sydd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar y gweill. A phan fyddwn ni'n derbyn y synnwyr hwnnw o flaenoriaethu, nad yw wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru eto, yna byddwn ni'n gallu gwneud penderfyniadau ynghylch ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych. Yn y cyfamser, rwy'n deall yn iawn pam mae'r Aelod lleol yn parhau i wneud y ddadl y mae'n ei gwneud.
Rwy'n cytuno bod angen taer i ni fuddsoddi yn ystâd ein GIG yng Nghymru—yn y gogledd yn arbennig. Ond rwy'n deall hefyd bod costau adeiladu wedi cynyddu 40 i 50 y cant, oherwydd pwysau chwyddiant. Mae llawer ohono wedi'i achosi gan gam-driniaeth Liz Truss o'r economi, Brexit, fel y soniwyd yn gynharach, a bod cyllid cyfalaf wedi gostwng mewn termau real gan Lywodraeth y DU. Nid yw terfyn benthyg Llywodraeth Cymru, na therfyn tynnu i lawr ei chronfeydd wrth gefn, wedi cael eu gweithredu ers 2016, rhywbeth y mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi dadlau y dylai fod wedi digwydd. A thrwy beidio â gwneud hyn, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gallu cael gafael ar y cyllid angenrheidiol o'r hyblygrwydd hwn i fynd i'r afael â'r heriau difrifol sy'n ein hwynebu yng Nghymru i'r graddau y dylai allu gwneud hynny. Mae ein cyllideb hefyd wedi lleihau mewn termau real ers iddi gael ei phennu yn 2021 yn rhan o adolygiad gwariant y DU, gan waethygu'r sefyllfa ymhellach.
Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi mai Llywodraeth y DU sy'n atal Cymru rhag cael y cyllid y dylai allu galw arno i fuddsoddi mwy mewn gwasanaethau cyhoeddus a'r ystâd gyhoeddus, fel ein hysbytai?
Wel, Llywydd, mae cyfres o Aelodau y prynhawn yma yn gwneud y ddadl dros fuddsoddiad ychwanegol mewn seilwaith yma yng Nghymru. Fe wnaethom ni ei glywed gan arweinydd Plaid Cymru o ran trafnidiaeth, ac mae Carolyn Thomas yn gwneud dadl rymus dros fuddsoddiad pellach yn seilwaith ein gwasanaeth iechyd. Ond dyma dair ffaith allweddol yn hynny i gyd, Llywydd: yn gyntaf oll, mae chwyddiant yn erydu gwir werth y cyllidebau sydd gennym ni ar hyn o bryd—ni fydd y £375 miliwn a oedd ar gael i'r GIG yn sicrhau'r effaith yr oeddem ni'n disgwyl iddo ei chael ar yr adeg y pennwyd y ffigur hwnnw yn wreiddiol.
Yn ail, nid yn unig y mae gwerth cyllideb Cymru yn cael ei erydu gan chwyddiant, ond mae'r arian parod sydd ar gael ar gyfer buddsoddiad cyfalaf yn gostwng. Yn 2024-25, bydd gostyngiad pellach o 11 y cant i'r cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru at yr holl ddibenion y mae'n rhaid i ni eu cyflawni. Yn wir, yn natganiad y gwanwyn, bydd yr Aelodau yma yn cofio mai £1 filiwn oedd cyfanswm y buddsoddiad cyfalaf ychwanegol a oedd ar gael i Lywodraeth Cymru ar gyfer yr ysbyty hwnnw yn Ninbych, ar gyfer trafnidiaeth yn y gogledd, ar gyfer y tai sydd eu hangen arnom ni ym mhob rhan o Gymru, fel y clywsom yn gynharach—£1 filiwn at yr holl ddibenion hynny y mae'n rhaid i ni eu cyflawni yma yn y Senedd hon. Dyna wraidd yr ateb i gynifer o'r cwestiynau a godwyd yma y prynhawn yma. Ni allwch fuddsoddi yn y ffordd y byddem ni'n dymuno ei wneud pan na fyddwn yn cael y buddsoddiad sydd ei angen arnom ni.
A fy nhrydydd pwynt, Llywydd, yw hyn, ac fe'i hadleisiwyd yn yr hyn a ddywedodd Carolyn Thomas: pennwyd y terfynau benthyg sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn 2016. Nid ydyn nhw wedi codi yr un geiniog ers hynny, er gwaethaf y ffaith bod gwir werth y benthyg hwnnw yn gostwng bob blwyddyn. Nid oes yr un person call y gwn i amdano, ac eithrio Prif Ysgrifenyddion olynol y Trysorlys—rwy'n credu bod fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog cyllid, ar ei seithfed neu wythfed Prif Ysgrifennydd ers iddi ddod i'r swydd—does neb call yn dadlau na ddylid cynyddu'r ffigurau hynny o leiaf yn unol â chwyddiant. Ac eto, er bod y ddadl yn cael ei gwneud dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU, maen nhw'n gwrthod cymryd hyd yn oed y cam bach a synhwyrol hwnnw i adfer ein gallu i fenthyg i'r lefel y cytunodd y Llywodraeth honno oedd yn angenrheidiol i Gymru yn ôl yn 2016.
4. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud o'r manteision o gyflwyno dyletswydd sifig i bleidleisio mewn etholiadau Cymreig? OQ59747
Diolch i Adam Price am y cwestiwn, Llywydd. Rydym ni’n benderfynol o leihau’r diffyg democrataidd yng Nghymru drwy ddiwygio gweinyddiaeth etholiadol, gwella mynediad at etholiadau ac annog pobl i gymryd rhan yn ein democratiaeth. Yn fy marn i, cyn cyflwyno dyletswydd sifig ffurfiol, byddai angen i bobl Cymru gefnogi newid o’r fath drwy’r broses maniffesto.
Mae 26 o wledydd wedi cyflwyno dyletswydd sifig i bleidleisio—Gwlad Belg ac Awstralia yn eu plith, lle mae'r ganran sydd yn pleidleisio yn gyson dros 90 y cant. Pe byddai Cymru yn medru efelychu'r lefel yna o gyfranogiad mewn etholiadau, byddai'n gweddnewid ein democratiaeth. A ydy'r Prif Weinidog yn cytuno gyda'r comisiwn cyfansoddiadol sydd ar y gweill, gyda Bil diwygio'r Senedd ar y gorwel, mai dyma'r amser delfrydol i ni gael y ddadl yna yng Nghymru? Ac a fyddai'r Llywodraeth yn fodlon cysidro comisiynu darn o waith ar y profiad rhyngwladol gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn edrych ar y dystiolaeth fel rhan o'r prosiect sydd wedi cychwyn gan y Cwnsler Cyffredinol yn edrych mewn i iechyd ein democratiaeth yng Nghymru?
Diolch i Adam Price am godi'r cwestiwn pwysig yma. Fel mae e'n ei ddweud, mae'r dystiolaeth yn amlwg. Yn y gwledydd ble mae pobl yn pleidleisio o dan y system mae e wedi awgrymu, mae lot fwy o bobl yn pleidleisio, ac mae hwnna'n rhywbeth pwysig, dwi'n meddwl, o ran iechyd ein system ddemocrataidd. Ac nawr yw'r amser i ddechrau cael y ddadl, achos bydd Bil o flaen y Senedd yn yr hydref ac mae gwaith yn mynd ymlaen gyda phobl eraill hefyd. Gallaf drafod gyda'r Cwnsler Cyffredinol a oes achos dros gael mwy o ymchwil i'n helpu ni yma yng Nghymru i gael y ddadl, ond fel dywedais i yn yr ateb gwreiddiol, i mi—dwi ddim yn siarad am fy marn bersonol—os rŷn ni yn mynd i symud i'r ffordd ble rŷn ni'n mynd i roi dyletswydd sifig ffurfiol ar bobl, bydd angen i ni gael y ddadl nid jest yn fan hyn, ond gyda phobl yng Nghymru, trwy'r broses o greu maniffesto a mynd mas i bobl i weld beth maen nhw'n ei feddwl. Ond nawr yw'r amser i gael y ddadl mae Adam Price wedi'i chodi mewn ffordd bwysig brynhawn yma.
A gaf i ddiolch i Adam Price yn gyntaf am y cwestiwn pwysig a gyflwynwyd ganddo, a dweud fy mod i'n cytuno'n llwyr ag ef ar y pwyntiau a gododd ynghylch y ddyletswydd ddinesig i bleidleisio? Prif Weinidog, rwyf i hefyd yn croesawu'r cynnydd mawr y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran cryfhau ein democratiaeth, yn enwedig drwy roi'r hawl i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio. Mae hyn yn hollol wahanol i'r hyn sy'n digwydd dros y ffin, wrth i Dorïaid y DU ei gwneud hi'n anoddach i bobl bleidleisio. Yn wir, gwrthodwyd yr hawl i tua 14,000 o bobl bleidleisio yn etholiadau lleol diweddar Lloegr. Mae hynny'n sicr yn anghywir, ac mae o ganlyniad i ddulliau newydd o brofi pwy ydych chi.
Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno y gallai pleidleisio gorfodol arwain at gyfranogiad torfol fel nad ydym ni erioed wedi ei weld o'r blaen o ran cyfranogiad democrataidd poblogaeth Cymru? Ac a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried cynllun treialu yng Nghymru?
Llywydd, diolch i Ken Skates am y pwyntiau pellach hynny. Mae yn llygad ei le mai polisi'r Llywodraeth hon, gyda chefnogaeth eraill yn y Siambr hon, yw annog cyfranogiad yn hytrach na chychwyn ar bolisi o atal pleidleiswyr. Rydyn ni wedi gweld y canlyniadau o etholiadau lleol Lloegr, lle gwrthodwyd y gallu i filoedd o bobl a oedd yn dymuno pleidleisio bleidleisio oherwydd mesurau yr wyf i'n credu a ddisgrifiwyd gan Jacob Rees-Mogg fel ymgais syml i jerimandro. Wel, dyna oedd hi erioed, a datgelwyd hynny yn eglur gan y Gweinidog a oedd yn gyfrifol am y mesurau hynny tra oedd yn y swydd.
Cyfranogiad gorfodol—roedd hwnnw'n wahaniaeth pwysig a wnaeth Ken Skates, Llywydd. Does neb yn dadlau—nid wyf i wedi clywed pobl yn dadlau—iddi fod yn orfodol i bobl bleidleisio. Cyfranogiad gorfodol yw hyn. Gallwch droi i fyny ac ysgrifennu 'dim o'r uchod' ar y papur pleidleisio. Y weithred o gymryd rhan fel arwydd o'ch dyletswydd ddinesig yr ydym ni'n ei thrafod yma. Bydd cyfle pellach i'r Aelodau ei drafod yn fwy trylwyr eto yfory, ac mae'r syniad o gynllun treialu yn rhywbeth yr wyf i'n credu sy'n werth ei ystyried. Pe baech chi'n cael newid o'r maint hwn, byddech chi eisiau rhywfaint o dystiolaeth leol yn ogystal â rhyngwladol i gyfeirio ati, ac rwy'n gobeithio y bydd y syniad hwnnw'n cael ei ddatblygu ymhellach yn y ddadl brynhawn yfory.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y cleifion sydd wedi cael mynediad at apwyntiadau gyda deintyddion y GIG yn 2022-23? OQ59734
Diolch i Jane Dodds am y cwestiwn yna, Llywydd. Darparwyd 1.3 miliwn o gyrsiau o driniaeth i dros filiwn o gleifion trwy wasanaethau deintyddol cyffredinol yn 2022-23. Roedd bron i 174,000 o'r cleifion hyn yn gleifion newydd.
Diolch yn fawr am yr ateb.
Rwy'n croesawu'r newid pwyslais a'r ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu mynediad at ddeintyddion y GIG. Rydyn ni wedi gweld newid gwirioneddol o ran rhai o'r argymhellion gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn eu hymchwiliad i fabwysiadu deintyddiaeth, fel therapyddion deintyddol a hylenwyr deintyddol yn gallu agor a chau triniaethau, fel rhestrau aros canolog—gwelliant gwirioneddol. Diolch am hynny, a diolch i Gadeirydd y pwyllgor hwnnw hefyd am fwrw ymlaen â hynny.
Ond atebion tymor canolig i hirdymor yw'r rheini efallai. Mae gennym ni broblem wirioneddol nawr. Mae llawer o bobl yn dweud wrthyf i nad ydyn nhw'n gallu cael gafael ar ddeintydd GIG o hyd, neu yn wir maen nhw'n cael eu gwrthod gan ddeintydd GIG, a dydyn nhw ddim mewn gwirionedd yn gwybod pryd y byddan nhw'n cael triniaeth nesaf. Felly, tybed a allech chi roi gwybod i ni sut rydych chi'n bwriadu caniatáu i bobl wybod pryd y gallan nhw gael deintydd GIG, bod gennym ni fwy o dryloywder a chyfathrebu i bobl sy'n dod atom ni drwy'r amser yn dweud eu bod nhw wedi eu gwrthod gan ddeintydd GIG ac nad ydyn nhw'n gwybod pryd maen nhw'n mynd i allu gweld un eto. Diolch yn fawr iawn.
Wel, diolch i Jane Dodds, a diolch am beth ddywedodd hi am y newidiadau rŷn ni wedi'u gweld yn barod.
Mae'r pwyntiau a wnaeth Jane Dodds am newidiadau yn yr amgylchedd rheoleiddio sy'n caniatáu nid deintyddion yn unig ond aelodau eraill o'r tîm deintyddol i agor a chau triniaethau yn un bwysig iawn—. Mae'n swnio'n dechnegol iawn; mewn gwirionedd, mae'n bwysig iawn i ni fwrw ymlaen â'n cynllun i arallgyfeirio'r proffesiwn a chaniatáu i fwy o weithgaredd gael ei gyflawni gan y gweithlu sydd gennym ni yno eisoes.
Mae Jane Dodds hefyd yn iawn y bydd rhestr aros ganolog yn rhoi atebion i'r cwestiynau y mae hi wedi eu codi y prynhawn yma, ond nid ar unwaith. Ond derbyniodd y Gweinidog yr argymhelliad hwnnw gan y pwyllgor, ac mae swyddogion yn gweithio'n galed nawr i geisio dod o hyd i'r ffordd fwyaf effeithiol o greu'r rhestr aros ganolog honno, gyda'r manteision y byddai'n eu cynnig. Yn y cyfamser, mater i fyrddau iechyd lleol yw gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw drefniadau ar waith sy'n caniatáu i bobl sy'n aros i gael eu neilltuo i ddeintydd GIG wybod sut mae hynny'n digwydd, pryd y bydd hynny'n digwydd iddyn nhw a phan geir pobl ag anghenion penodol na allan nhw aros i hynny ddigwydd, bod y gwasanaeth deintyddol cymunedol, y CDS, hefyd yn cael ei orfodi i chwarae ei ran effeithiol o ran sicrhau nad yw pobl sy'n aros o dan amgylchiadau pan nad yw aros yn opsiwn—bod gwasanaeth yn cael ei ddarparu iddyn nhw hefyd.
Prif Weinidog, fe wnaethoch chi ddweud wrth bwyllgor dethol ar faterion Cymreig Senedd y DU fod miloedd yn fwy o apwyntiadau yn y GIG ar gyfer cleifion deintyddol, gan gynnwys yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, lle gwnaethoch chi ddweud bod bron i 10,000 yn fwy o apwyntiadau ar gael o ganlyniad i'r contract newydd. Wel, nid dyna'r ddealltwriaeth sydd gennyf i a llawer o bobl eraill o ran y sefyllfa bresennol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a gallaf i eich sicrhau chi fod cael cyfle i fanteisio ar ddeintyddiaeth y GIG yn fy etholaeth i yn parhau i fod yn broblem sylweddol. Dim ond ddoe, cefais neges ddig gan etholwr a ddywedodd wrthyf ei fod wedi colli llenwad mawr dros y penwythnos, a phan ffoniodd ei ddeintydd GIG arferol, cafodd wybod nad oedd ganddyn nhw ddeintydd GIG mwyach ac y byddai'n rhaid iddo fynd yn breifat. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n dal i fod o'r farn bod bron i 10,000 yn fwy o apwyntiadau deintyddion y GIG wedi eu gwneud ar gael yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac, os felly, a fyddech chi'n fodlon rhannu'r dystiolaeth honno fel y gallwn ni roi gwybod i'n hetholwyr mai dyna yw'r sefyllfa?
Wel, Llywydd, roeddwn i'n anghywir i ddweud bod 10,000 o gleifion ychwanegol yn cael eu gweld yn ardal Hywel Dda, oherwydd 17,305 oedd y ffigwr gwirioneddol. Mae'r ffigurau hynny eisoes wedi'u cyhoeddi. Does dim angen i mi eu cyhoeddi, maen nhw eisoes yn cael eu cyhoeddi gan y GIG, ac maen nhw'n cael eu cyhoeddi ar gyfer oedolion ar wahân i blant, ac maen nhw'n cael eu cyhoeddi ar gyfer pob bwrdd iechyd yng Nghymru. Dyma'r ffigyrau ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: cafodd 10,063 o gleifion newydd sy'n oedolion eu trin y llynedd, ac fe gafodd 7,242 o gleifion newydd sy'n blant eu trin ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda y llynedd.
Nawr, nid yw hynny'n golygu, rwy'n deall, nad oes heriau sylweddol yn y rhan honno o'r byd o ran darparu deintyddiaeth. Oes mae heriau, ac mae cynlluniau gennym ni, buddsoddiad newydd y mae'r Gweinidog wedi'i wneud ar gael, ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau, ac, yn benodol, effaith y contract newydd sy'n golygu na fydd deintyddion yn treulio'u hamser ar waith di-fflach arferol, gwaith y dywedodd Cymdeithas Ddeintyddol Prydain nad oedden nhw'n ei werthfawrogi ac nad oedd angen ei wneud, gan ryddhau amser i drin cleifion newydd. Roedd yn weithredol yn Hywel Dda, ac, ar draws Cymru, y flwyddyn nesaf, mae mwy i'w gael o'r contract newydd mewn trafodaethau gyda'r proffesiwn, ac rwy'n credu y byddwn ni'n gweld hyd yn oed mwy o fanteision ohono y flwyddyn nesaf, ochr yn ochr â'r holl fesurau eraill y mae'r Gweinidog yn eu cymryd.
6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o lwyddiant treialu sesiynau cyfoethogi ychwanegol yn ysgolion Cymru? OQ59766
Diolch i Rhianon Passmore, Llywydd. Cafodd gwerthusiad o'r treialon ei gyhoeddi yn gynharach eleni. Canfu fod plant a phobl ifanc, rhieni a lleoliadau ysgol yn gadarnhaol am y cyfleoedd sy'n cael eu darparu. Rydyn ni'n ystyried y canfyddiadau yng nghyd-destun y rhaglen ehangach o bolisïau a diwygiadau addysgol.
Diolch, Prif Weinidog. Mae'r treial peilot gwerth £2 filiwn gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig gweithgareddau celf, cerddoriaeth a chwaraeon ychwanegol i ddisgyblion yn ogystal â gwersi wedi cael ei alw'n llwyddiant clir a chadarn. Dywedodd 91 y cant o blant a phobl ifanc eu bod wir wedi cael hwyl, ac mae hyn mor bwysig, a dywedodd 84 y cant fod yr oriau ysgol ychwanegol wedi'u helpu i gymdeithasu â chyfoedion, i gyd wedi'u gosod o fewn cyd-destun, ôl-COVID, o anghenion wedi'u nodi yma. Nododd y treial fod rhieni a gofalwyr yn gwerthfawrogi'r amrywiaeth eang o weithgareddau am ddim ac, yn hollbwysig, roedd yn caniatáu i blant roi cynnig ar weithgareddau na fydden nhw fel arall wedi'u gwneud oherwydd rhwystrau ariannol. Gwnaeth awduron yr adroddiad gofnodi bod yr oriau ychwanegol o weithgaredd hefyd yn helpu lles, ymddygiad, presenoldeb ysgol ac ymgysylltu. Felly, Prif Weinidog, a gaf i annog yn gyntaf a gofyn i Lywodraeth Cymru geisio cynnwys ysgolion Islwyn yn rhanbarth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn y rownd nesaf arfaethedig o dreialon? A hefyd sut fyddech chi'n disgrifio effaith y sesiynau cyfoethogi hyn ar fywydau plant Cymru? Ac onid yw hwn yn gyfle enfawr arall o bosibl i hyrwyddo system addysg gydraddol a chyfiawn Cymru?
Wel, Llywydd, byddwn i'n disgrifio effaith y treialon yn yr un ffordd ag y gwnaeth yr Aelod, a byddwn i'n gwneud hynny oherwydd roeddwn i'n ddigon ffodus i ymweld ag ysgol yn fy etholaeth fy hun a oedd yn cymryd rhan yn y treial lle disgrifiodd y pennaeth i mi y ffordd, ar y diwrnodau pan oedd y diwrnod ysgol estynedig yn cael ei gynnal, bod y ffigurau presenoldeb wedi mynd i fyny yn hytrach nag i lawr. Efallai na fyddech chi wedi disgwyl hynny; bod y plant nad ydyn nhw'n mynychu'r ysgol fel arfer yn bresennol ar y diwrnod pan oedd mwy o ysgol yn hytrach na llai o ysgol. Ond fe wnaethon nhw hynny am yr holl resymau y mae Rhianon Passmore wedi'u hamlinellu, oherwydd eu bod nhw'n gwybod, fel rhan o'r diwrnod ysgol estynedig hwnnw, y bydden nhw'n cael y cyfle i fanteisio ar brofiadau na fyddai ar gael iddyn nhw yng ngweddill eu bywydau. Ac roedd y rhain yn brofiadau y byddai llawer iawn o blant mewn sawl rhan o Gymru ond yn eu cymryd yn ganiataol. Cyfle i fanteisio ar weithgareddau chwaraeon ychwanegol, ar ddrama, ar ddarllen, oedd hyn, ac roedd plant eisiau dod i'r ysgol y diwrnod hwnnw oherwydd eu bod yn gwybod beth fyddai'r diwrnod ysgol estynedig hwnnw yn ei ddarparu ar eu cyfer.
Felly, yn y ffordd y mae Rhianon Passmore wedi'i ddisgrifio, Llywydd, bod effaith gydraddol sicrhau bod y profiadau hynny ar gael i gynifer o blant â phosibl yn rhan fawr iawn o'r treial hwnnw, sef dim ond un rhan o'r gyfres ehangach o gamau gweithredu y mae'r Gweinidog yn eu cymryd wrth fynd ar drywydd ymrwymiad y Llywodraeth hon i ddiwygio'r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol.
Ac o ran y diwrnod ysgol, ochr yn ochr â'r peilot penodol y mae Rhianon Passmore wedi tynnu sylw ato, wrth gwrs, roedd peilot ehangach y Gaeaf Llawn Lles dros y gaeaf diwethaf, £6.7 miliwn o bunnoedd ar gael ar gyfer hynny, rwy'n falch iawn o ddweud; gwnaeth ysgolion Islwyn gymryd rhan yn hynny mewn niferoedd da.
7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl â nam ar eu golwg? OQ59728
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu gwasanaethau hygyrch, ymatebol ac o ansawdd uchel sy'n diwallu anghenion yr holl bobl ddall a rhannol ddall yng Nghymru. Mae'r tasglu hawliau anabledd yn rhoi cymorth hanfodol i'r gwaith hwn.
Diolch. Mae'r fframwaith canlyniadau cenedlaethol gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth yn disgrifio'r canlyniadau llesiant pwysig y dylai pobl eu disgwyl er mwyn byw bywydau sy'n rhoi boddhad iddyn nhw, a rhaid i Weinidogion Cymru adrodd ar y cynnydd sy'n cael ei wneud tuag at gyflawni llesiant mewn adroddiad blynyddol. I bobl sydd wedi colli eu golwg, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddarparu dull ataliol ac ailalluogi, gan gynnwys lleihau'r rhwystrau sy'n wynebu pobl sydd wedi colli eu golwg. Mae hyn yn canolbwyntio ar gynyddu gwasanaethau ataliol i unigolion er mwyn lleihau cynnydd mewn angen critigol. Oherwydd y diffyg arweiniad, fel y cyfeiriwyd ato yng nghyflwyniad Ann James a Luke Clements i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mewn tystiolaeth gan yr Athro Luke Clements a'r Athro Fiona Verity a gafodd ei glywed ar y cyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch cyflwr gofal cymdeithasol yng Nghymru, a'r diffyg dealltwriaeth ymhlith comisiynwyr o'r hyn y dylai gael ei ddarparu, mae methiant ymhlith awdurdodau lleol i adrodd ar ganlyniadau llesiant oedolion a phlant â nam ar eu golwg. Felly, pa systemau sydd ar waith i sicrhau bod canlyniadau llesiant Llywodraeth Cymru yn cael eu hadrodd ar gyfer pobl sydd wedi colli eu golwg? Pa wersi sy'n cael eu dysgu a pha welliannau sy'n cael eu gwneud neu eu cynllunio?
Wel, Llywydd, byddai'n rhaid i mi ymgyfarwyddo fy hun â'r dystiolaeth benodol y mae'r Aelod wedi cyfeirio ati, ond mae'n iawn, wrth gwrs, i ddweud bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn gosod y dyletswyddau hyn ar awdurdodau lleol. Ac wrth baratoi ar gyfer y prynhawn yma, darllenais eto'r ddadl a gafodd ei chynnal yma ar 15 Chwefror ar welliannau i wasanaethau adsefydlu a sefydlu i bobl sydd wedi colli eu golwg yng Nghymru, ac nid oes amheuaeth o gwbl yn y ddadl honno fod y Senedd wedi cytuno bod yn rhaid i awdurdodau lleol wneud mwy i gyflawni'r cyfrifoldebau y mae'r Ddeddf honno'n eu gosod ar eu hysgwyddau. Dydw i ddim yn siŵr, fy hun—. Fel yr wyf i'n ei ddweud, fe wnaf i ddarllen y dystiolaeth, ond dydw i ddim yn siŵr fy hun mai diffyg dealltwriaeth neu ddiffyg arweiniad sydd wrth wraidd y bylchau mewn gwasanaethau sydd yn bendant yno a bod y ddadl honno wedi'u gwyntyllu. Mae Llywodraeth Cymru yn chwarae ein rhan ni. Gwnaethon ni noddi a thalu am yr adroddiad gan Cyngor Cymru i'r Deillion ar anghenion gweithlu'r dyfodol yn y sector hwn. Mae hynny'n cael ei weithredu drwy'r byrddau partneriaeth rhanbarthol. Mae'r diwygiadau optometreg y mae'r Gweinidog wedi cychwyn arnyn nhw—y diwygiadau optometreg mwyaf radical unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Bydd hynny, yn sicr, yn gwella gwasanaethau ar y lefel gymunedol honno, wrth i awdurdodau lleol barhau i gael eu dwyn i gyfrif am gyflawni cyfrifoldebau nad ydyn nhw'n rai i Lywodraeth Cymru ond iddyn nhw.
Yn olaf, cwestiwn 8, Altaf Hussain.
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cydraddoldeb mynediad at ddarpariaeth gofal iechyd? OQ59741
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n uniongyrchol ochr yn ochr â'r rhai sydd â phrofiad bywyd o anghydraddoldebau iechyd i wella mynediad at ddarpariaeth gofal iechyd. Mae'r gwaith hwnnw wedi'i wreiddio, er enghraifft, yn 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', ac yng nghyngor y tasglu hawliau anabledd.
Diolch am eich ymateb, Prif Weinidog, ond y gwir amdani yw ein bod ni'n methu yn ein dyletswyddau cydraddoldeb o ran gofal iechyd. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rydyn ni wedi cael adroddiad gan y grŵp trawsbleidiol ar ganser, wedi'i ategu gan dystiolaeth gan Cancer Research UK a Tenovus, sy'n tynnu sylw at brofiad y gymuned ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wrth gael mynediad at ofal. Nid yw data ethnigrwydd wedi'i gynnwys mewn ystadegau canser, gan arwain at dybiaethau ynghylch sut y bydd cleifion yn ymateb, er bod gwahaniaethau clir o ran sut mae rhai mathau o ganser yn effeithio ar wahanol grwpiau hil. Cawsom hefyd yr adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yn dangos tystiolaeth glir bod menywod du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu trin yn wahanol yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Prif Weinidog, nid yw'n ddigon da. Pryd all cymuned BAME Cymru ddisgwyl cael cydraddoldeb mewn gofal iechyd?
Diolch i Altaf Hussain am y pwyntiau pwysig iawn hynny. Rwyf i eisiau ei sicrhau ef bod Llywodraeth Cymru wir yn cymryd y pwyntiau hynny o ddifrif. Roeddwn i'n meddwl bod yr adroddiad ar wasanaethau mamolaeth yng Nghaerdydd yn adroddiad gwirioneddol ofidus, ac rwy'n siŵr y bydd wedi bod yn ofidus i lawer o'r bobl hynny sy'n gweithio yn y gwasanaeth hwnnw, nad ydyn nhw'n dod i mewn i'r gwaith yn y bore yn ceisio peidio â darparu gwasanaeth sydd wir ar gael i bob menyw sy'n ei ddefnyddio.
Mae gan 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' adran gyfan ynddo wedi'i neilltuo ar gyfer gofal iechyd, a hynny oherwydd, fel y dywedais i, y cafodd y cynllun ei gynhyrchu gan bobl a adroddodd eu profiadau eu hunain o ddefnyddio'r gwasanaeth hwnnw, ac o weithio ynddo hefyd. Yn sicr, mae hon yn her i'r gwasanaeth iechyd, o ran sicrhau bod talentau pobl o gymunedau BAME sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn cael eu cydnabod yn gywir, mae pobl yn gallu gwneud y cynnydd yn eu gyrfaoedd y mae eu galluoedd yn ei haeddu, ond hefyd bod y gwasanaeth iechyd, yn y miloedd ar filoedd o gysylltiadau hynny y mae'n eu gwneud â'r cyhoedd bob dydd, yn cyd-fynd â'r syniad nad yw trin pawb yr un fath ag ymdrin ag anghydraddoldeb. Mae'n rhaid i chi allu cydnabod anghenion penodol grwpiau gwahanol ac ymateb iddyn nhw mewn ffordd sy'n dangos eich bod yn cydnabod yr anghenion penodol hynny, a bod y gwasanaeth yn barod i ymdrin â nhw. Nid yw honno'n daith sydd wedi dod i ben o bell ffordd, ac nid ydw i'n credu am eiliad ei bod hi'n daith nad yw'r gwasanaeth iechyd, na'r bobl sy'n gweithio ynddi, wedi ymrwymo iddi. Rwy'n credu bod adroddiadau'r arolygiaeth iechyd, y camau sydd wedi'u nodi yn 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', yn ein helpu ni ar y daith honno, ac mae'n dda iawn cael y pwyntiau hynny wedi'u codi ar lawr y Senedd y prynhawn yma.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad busnes gan y Trefnydd. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r datganiad ar ymateb y Llywodraeth i'r ymgynghoriad 'Datblygu Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU' wedi'i ohirio, ac yn union cyn y ddadl Cyfnod 4 ar y Bil Amaethyddiaeth (Cymru), byddaf i'n gwneud datganiad o dan Reol Sefydlog 26.67 yn ymwneud â chaniatâd Ei Fawrhydi ar gyfer y Bil. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Trefnydd, heddiw, mae damwain beryglus arall eto wedi bod ar gefnffordd yr A494 yn fy etholaeth i fy hun, ar gyffordd y Lôn Fawr a ffordd Corwen. Roedd cynllun a oedd wedi'i gynllunio i wella diogelwch y gyffordd honno, ond, yn anffodus, gwnaeth Llywodraeth Cymru ddileu'r cynllun fel rhan o'i hadolygiad ffyrdd yn gynharach eleni. Cafodd y person oedd yn rhan o'r ddamwain ei gludo mewn ambiwlans awyr i'r ysbyty; dydw i ddim yn gwybod beth yw'r sefyllfa o ran iechyd yr unigolyn hwnnw, ond rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom eisiau iddyn nhw wella'n gyflym, iawn, iawn.
Yn amlwg, mae hon yn gyffordd sy'n parhau i fod yn beryglus, ac mae angen rhywfaint o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru arni o hyd, a hoffwn i gael datganiad brys gan y Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am y rhwydwaith cefnffyrdd i sicrhau bod y gwaith hwn yn cael ei wneud ar frys, o ystyried ein bod ni wedi cael damwain arall eto ar y ffordd hon.
Diolch yn fawr, ac ie, rydyn ni i gyd yn anfon ein dymuniadau gorau at yr unigolyn dan sylw. Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn ystyried mesurau diogelwch ar y ffordd y gwnaethoch chi gyfeirio ati hi, ac rwy'n siŵr, ar yr adeg fwyaf priodol, y bydd ef yn cyflwyno cyhoeddiad arall.
Trefnydd, eisiau dilyn ydw i o gwestiwn Altaf Hussain i'r Prif Weinidog rŵan, ac, yn benodol, o ran adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Mae nifer o bobl wedi cysylltu â mi yn eithriadol o bryderus o weld yr adroddiad hwnnw, nifer ohonyn nhw yn ferched beichiog, neu yn bartneriaid iddyn nhw, sydd yn pryderu o weld yr adroddiadau hyn.
Felly, eisiau gofyn am ddatganiad oeddwn i gan y Gweinidog iechyd er mwyn rhoi sicrwydd o ran y gwasanaeth hwnnw, a sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cydweithio'n agos â'r bwrdd iechyd i sicrhau bod pawb, beth bynnag fo'u cefndir, yn derbyn y gofal maen nhw ei angen ar adeg pan mi ydych chi'n teimlo yn wan iawn ac angen y gefnogaeth fwyaf.
Yn hollol. A byddwch chi wedi clywed ymateb y Prif Weinidog i Altaf Hussain pan gododd ef hyn yng nghwestiynau'r Prif Weinidog. Ac, yn amlwg, fel Llywodraeth, rydyn ni'n ymwybodol iawn o gyhoeddiad adroddiad AGIC ar wasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ac rydyn ni'n ymwybodol iawn o'r pryder yr ydyn ni'n gwybod y bydd hyn yn ei achosi i bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth ar hyn o bryd. Mae'r bwrdd iechyd wedi ymateb yn briodol i'r argymhellion. Maent yn ceisio tawelu meddyliau pobl am gynnydd a diogelwch y gwasanaeth, ac rydyn ni'n croesawu'n fawr benodiad cyfarwyddwr bydwreigiaeth gan y bwrdd iechyd, a fydd yn darparu'r arweinyddiaeth strategol honno, i ategu'r gwelliannau sydd wedi'u gwneud ers yr arolygiadau.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad os gwelwch yn dda? Byddai un yn dda i'w gael fel datganiad llafar, a'r llall fel datganiad ysgrifenedig, o bosibl. Mae'r datganiad llafar yr hoffwn i ei gael yn dilyn ymweliad y gwnes i’r wythnos diwethaf â gorsaf dân Maesteg fel rhan o Ddiwrnod y Gwasanaeth Cyhoeddus yn genedlaethol. Roeddwn i wrth fy modd yn treulio amser gyda'r criw i fyny yno, ond fel yr ydyn ni'n gwybod, mae'r criwiau ar draws y de yn arbennig, ond hefyd y canolbarth—. Ar un penwythnos, aeth Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i 70 o danau gwyllt wedi'u cynnau'n fwriadol. Maen nhw'n berygl i fywyd gwyllt a'r amgylchedd naturiol, yn amlwg, ond hefyd i fywydau, yn ogystal ag eiddo. Rydyn ni nawr yn arwain y byd yn y ffordd yr ydyn ni'n ymateb i'r tanau gwyllt hynny. Rydyn ni'n allforio ein harbenigedd i fannau eraill, ac yn hyfforddi pobl eraill i wneud hynny, ond ni ddylai hyn fod yn digwydd. Nid oes prinder dulliau gweithredu da gyda phobl ifanc—y Prosiect Myfyrio, Prosiect Phoenix, y Cadetiaid Tân a mwy—sy'n dda iawn, ond nid pobl ifanc yn unig yw hyn; rydyn ni'n clywed bod oedolion yn cymryd rhan mewn achosion o gynnau tanau bwriadol hefyd. Felly, byddwn i'n croesawu cyfle i drafod hyn yma ar lawr y Senedd, gyda datganiad llafar neu ddadl.
Yr ail eitem yr hoffwn i ei gael fel datganiad, yn enwedig gan ein bod ni yng nghanol Pythefnos Cydweithredol, yw datganiad ar berchnogaeth gan weithwyr, yn ogystal â'r gwaith ehangach y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn y maes cydweithredol. Roedd digwyddiad ardderchog y diwrnod o'r blaen, dan arweiniad Cwmpas, Canolfan Cydweithredol Cymru gynt, lle, yn wir, cawsom ni sylwadau agoriadol ar fideo gan y Gweinidog, gan ddangos y cynnydd yr ydyn ni wedi'i wneud. Roedd gennym ni'r uchelgais honno i ddyblu nifer y sefydliadau yn yr economi gydweithredol; rydyn ni ar y trywydd iawn i wneud hynny. Felly, mae'n debyg ein bod ni i gyd yn dweud nawr, 'Beth arall y byddai modd i ni ei wneud, oherwydd edrychwch ar hyn, mae Cymru o flaen y gad ar hyn?' Felly, byddwn i'n croesawu, yn ystod y Pythefnos Cydweithredol, yr wybodaeth ddiweddaraf yn ysgrifenedig ar yr hyn yr ydyn ni'n ei wneud gyda'r agenda gydweithredol, ond yn enwedig ar yr economi gydweithredol, a dyblu'r economi gydweithredol.
Diolch. Rwy'n hapus iawn i ymuno â chi i dalu teyrnged i sgil a dewrder ein diffoddwyr tân ledled Cymru, yn enwedig wrth ymdrin â thrychinebau tanau gwyllt. Fel y dywedwch chi, rydyn ni'n arwain y byd, mewn gwirionedd, o ran hyn, ac rydyn ni wedi gweithio gyda'n holl wasanaethau tân ac achub i gyflwyno prosiectau. Roeddech chi'n sôn am Brosiect Phoenix, ac rwyf i wedi ei weld ar waith fy hun—mae'n hynod bwerus. Ond hefyd, rydyn ni wedi buddsoddi'n helaeth gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru mewn sgiliau ac offer arbenigol ar gyfer y dasg benodol honno, ac rydyn ni wedi bod yn hapus iawn i'w cefnogi nhw yn y ffordd honno. Rydyn ni wedi darparu cyllid ychwanegol i brynu cerbydau diffodd tân oddi ar y ffordd, er enghraifft, a pheth offer amddiffynnol personol ysgafn. Ond, yn anffodus, er bod yr achosion o danau gwyllt drwyddi draw wedi lleihau'n sylweddol—nôl yn 2010-11, roedd dros 7,000 o danau, yn cynnwys glaswelltir, coetir a chnydau; y flwyddyn cyn y llynedd, roedd hi'n 2,500—fel y dywedwch chi, yn ystod y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld, yn anffodus, gynnydd yn nifer y rhain. Mae rhai ohonyn nhw'n cael eu dechrau'n fwriadol, ac mae rhai ohonyn nhw o ganlyniad, mae'n debyg, i fygythiad newid hinsawdd—yr effaith mae patrymau tywydd yn ei gael ar ein llystyfiant, er enghraifft.
O ran eich ail bwynt—ac mae'n dda cael ein hatgoffa ein bod ni yng nghanol y Pythefnos Cydweithredol—rwy'n siŵr y byddai Gweinidog yr Economi yn hapus iawn i gyflwyno datganiad ysgrifenedig. Fel y gwnaethoch chi ddweud, mae gennym ni lawer i'w ddathlu, rwy'n credu, yn y maes hwn; nawr mae gennym ni 64 o fusnesau sy'n eiddo i weithwyr ledled Cymru, ac mae hyn yn rhywbeth y mae'r Gweinidog wedi bod yn ei gyflwyno. Ac mae gennym ni dri busnes newydd sy'n eiddo i weithwyr ar gam cyfreithiol y broses bontio, sy'n gwneud cynnydd yn ein hymrwymiad rhaglen lywodraethu i ddyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru erbyn 2026.
Rwy'n sefyll i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar Trafnidiaeth Cymru. Ddydd Iau diwethaf, cafodd y rhai sy'n fy nilyn i ar Twitter eu trin i bennod arall o dyddiadur teithio Janet. Nawr, er bod Harry Styles wedi bod yn y brifddinas y noson gynt, roedd Trafnidiaeth Cymru yn meddwl ei bod yn addas bod â dim ond dau gerbyd ar y trên amser cinio o Gaerdydd yn ôl i Gaergybi. Cafodd pobl eu gwasgu at ei gilydd yn llythrennol fel sardîns; roedd hi'n annioddefol. Roedd plant yn crio, roedd yna doiledau nad oeddech chi'n gallu'u cyrraedd hyd yn oed, ac i ddweud bod y tymheredd—. O, roedd hi yn eithriadol o boeth. Roeddwn i'n teimlo'n flinedig awr i mewn i'r daith, ac rydych chi ar y trên hwnnw am ryw bedair awr. Dydy hyn wir ddim digon da.
Nawr, rwy'n deall bod rhyw sylw wedi'i wneud gan y Dirprwy Weinidog—neu efallai Trafnidiaeth Cymru eu hunain hyd yn oed—fod y saith trên 175 sydd wedi'u tynnu o wasanaeth oherwydd materion diogelwch tân i fod i gael eu rhoi yn ôl ddoe. A gawn ni rywfaint o gadarnhad ynghylch a yw hyn wedi digwydd? Mae'n rhaid i mi ddweud bod fy nhaith i lawr ddoe wedi bod yn iawn, ond mae'r tair wythnos ddiwethaf wedi bod yn erchyll, ac mae hi wir yn annerbyniol. Mae gennyf i fideo sy'n frawychus iawn, ac a dweud y gwir, fe wnes i ei anfon at y Dirprwy Weinidog. Ni fyddech chi'n cael caniatáu i wartheg na da byw deithio yn y mathau o dymheredd yr ydych chi'n disgwyl i bobl Cymru deithio ynddyn nhw, ac yn wir ymwelwyr â Chymru—. Roedd yna gyngerdd; roedd pawb yn gwybod bod yr holl westai yn llawn ar y noson arbennig hon. Dylai fod lle wedi bod ar y trenau, ac rwy'n dal y Llywodraeth Cymru hon yn gyfrifol. Roedd rhaid defnyddio'r cordyn tynnu, oherwydd bod rhywun yn teimlo'n wael iawn. Nid yw hwn yn wasanaeth trên boddhaol ac, a dweud y gwir, Dirprwy Weinidog, rwy'n credu y dylech chi, ar ryw adeg, ystyried eich sefyllfa, oherwydd nid yw'n gwella wythnos ar ôl wythnos, ar ôl wythnos, ar ôl wythnos. Gallwch chi wenu.
Na, na, rwy'n credu bod hynny'n ddigon nawr. Rwy'n credu y bûm yn hynod hael wrth ganiatáu i chi fynd ymlaen ar ôl i chi blygu'ch darn o bapur a'i roi heibio. Gofynnaf i'r Gweinidog busnes, y Trefnydd, ymateb i chi.
Diolch. Nid wyf i'n credu bod hynny'n fater i chi. Ond yr hyn y gallaf i eich sicrhau—. Mewn gwirionedd, ddoe, dim ond o bellter y gwelais i chi, ond roeddech chi'n amlwg yn cwrdd â phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru a swyddogion eraill. Mae'r Dirprwy Weinidog wedi bod yn onest iawn, rwy'n credu, am yr heriau sy'n wynebu'r rheilffordd yma yng Nghymru, ac mae'n gweithio'n agos iawn gyda Trafnidiaeth Cymru. Fel chi, rwy'n teithio bob wythnos ar y trên rhwng y gogledd a'r de, ac wrth gwrs rydyn ni eisiau gweld gwelliannau. Ac, unwaith eto, cymerais i'r cyfle, ddoe, mewn gwirionedd, i gael sgwrs gyda'r prif weithredwr, oherwydd dydw i ddim yn dal nôl os oes problemau; rwy'n dweud wrtho yn union sut beth ydyw. Ond rydych chi'n gwybod yr heriau yr ydyn ni'n eu hwynebu o ran diffyg buddsoddiad gan Lywodraeth y DU, ond byddwch yn dawel eich meddwl bod y Dirprwy Weinidog yn gweithio'n galed iawn gyda Trafnidiaeth Cymru ac mae ef wedi addo y bydd pethau'n gwella ar y system drafnidiaeth gyhoeddus.
Trefnydd, gawn ni ddatganiad ar bolisi cynllunio, os gwelwch yn dda? Bydd 6,000 o gartrefi yn cael eu hadeiladu yng ngogledd Caerdydd heb ystyried yn iawn sut i ymdrin â charthffosiaeth a fydd yn cael ei chynhyrchu o'r cartrefi. Mae caniatâd nawr wedi'i roi i adeiladu gorsaf bwmpio carthion ar Barc Hailey, parc a oedd yn rhodd i bobl Caerdydd, gan golli parcdir a phryderon hefyd ynghylch llifogydd. Mae grŵp lleol o'r Sgowtiaid wedi bod yn profi ffosffadau yn y Taf ger Parc Hailey yn ddiweddar ac maen nhw wedi gweld bod lefelau wedi cynyddu, gan ddangos pam mae angen gwell seilwaith carthffosiaeth arnom ni ac i'w drin, nid dim ond i'w symud o un rhan o'r ddinas i'r nesaf.
Yr wythnos hon, bydd grŵp cymunedol o'r enw Cymdeithas Trigolion Ystum Taf, ar ôl codi dros £40,000 o'u harian eu hunain, yn dod ag adolygiad barnwrol o benderfyniad cynllunio Cyngor Caerdydd ynghylch y safle trin carthion ym Mharc Hailey. Er fy mod i'n gwerthfawrogi na allwch chi wneud sylwadau ar yr adolygiad barnwrol hwn, sut y gall cymunedau, fel cymuned Ystum Taf a chymunedau ledled Cymru, gymryd mwy o ran yn y broses gynllunio heb orfod troi at frwydrau cyfreithiol costus sy'n cymryd llawer o amser? Diolch yn fawr.
Wel, mae'r pwynt olaf yr ydych yn ei godi yn bwysig iawn, ac yn sicr mae 'Polisi Cynllunio Cymru', fel y mae, rwy'n credu, yn sicr yn galluogi aelodau'r cyhoedd i gymryd rhan yn y ffordd rwy'n credu y bydden ni i gyd eisiau'i gweld. Mae polisi cynllunio yn cael ei ddiwygio'n rheolaidd. Mae'r Gweinidog yn cyflwyno datganiad ysgrifenedig, yn sicr, bob tro y bydd hynny'n digwydd. Mater i Gyngor Caerdydd yw'r mater yr ydych chi eisiau gael datganiad arno mewn gwirionedd.
Yn olaf, Natasha Asghar.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gweinidog, a gaf i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd am ddibynadwyedd a pherfformiadau presennol bysiau? Fy rheswm dros ofyn yw oherwydd bod llu o gwynion wedi dod gan drigolion sy'n byw yn Ynysddu, Wattsville a'r pentrefi cyfagos, pob un ohonyn nhw'n defnyddio bysiau 56, 55 ac R2 Stagecoach i fod yn benodol. Y broblem maen nhw'n ei chael yw nad yw bysiau'n ymddangos ar amser ac, mewn llawer o achosion, nid ydyn nhw'n ymddangos o gwbl. Mae teithwyr yn cael eu gadael mewn safleoedd bysiau ac, mewn rhai achosion, maen nhw'n gorfod cerdded yn bell iawn oherwydd bod y bysiau'n eu gollwng yn y lleoliad anghywir. Nid yw hyn yn dderbyniol mewn gwirionedd ac mae'n achosi aflonyddwch enfawr i bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny. Mae'r sefyllfa mor wael fel bod rhaid i un preswylydd archebu tacsis nawr pan fydd angen iddo fynd i apwyntiad pwysig, oherwydd ni all ddibynnu ar y gwasanaeth annigonol hwn. Hoffwn i wybod pa sgyrsiau y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'u cael gyda Stagecoach ynghylch beth sy'n achosi'r materion hyn a sut y mae modd ymdrin â nhw yn y dyfodol. Byddai i'w groesawu'n fawr pe gallai'r Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd cyn gynted â phosibl. Diolch.
Diolch. Wel, rydych chi'n cyfeirio'n glir at fater lleol iawn, ac yn amlwg mae'r Dirprwy Weinidog yn cael trafodaethau gyda gweithredwyr bysiau, ond, unwaith eto, mae'n bwysig bod awdurdodau lleol yn gweithio gyda'r gweithredwyr bysiau hynny, ac nid wyf yn credu bod angen datganiad llafar.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan y Prif Weinidog ar y rhaglen ddeddfwriaethol, ac felly, y Prif Weinidog.
Llywydd, diolch yn fawr. Yn y datganiad blynyddol heddiw, byddaf yn trafod trydedd flwyddyn ein rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol. Erbyn yr adeg hon o’r tymor, rwy'n gwybod bod y Senedd wedi arfer delio â baich gwaith deddfwriaethol trwm iawn, a bod hynny’n wir ers blwyddyn bellach.
Cafodd y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) Gydsyniad Brenhinol ar 24 Mai, ar ôl cael ei gyflwyno ym mlwyddyn gyntaf ein rhaglen ddeddfwriaethol.
Roedd cymryd camau ar y newid yn yr hinsawdd yn ganolog i ail flwyddyn ein rhaglen ddeddfwriaethol. Cafodd y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) ei basio'n gyflym, diolch i ymdrechion yr Aelodau ar bob ochr o'r Siambr. Cafodd y Bil Gydsyniad Brenhinol ddechrau'r mis hwn. Rydyn ni wedi cyflwyno Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau), a bydd y Senedd yn ystyried ei egwyddorion cyffredinol yn yr hydref.
Bydd rhai materion deddfwriaethol cymhleth yn para am dymor cyfan y Senedd hon. Heddiw, byddwn ni'n pleidleisio ar gyfnod terfynol y Bil Amaethyddiaeth (Cymru). Dyma'r cam cyntaf yn ein rhaglen diwygio amaethyddiaeth.
Cafodd y Bil Seilwaith (Cymru) ei gyflwyno yn gynharach y mis hwn. Hwn yw'r Bil olaf yn ail flwyddyn ein rhaglen ddeddfwriaethol. Bydd yn gwneud y broses ar gyfer cydsynio i wahanol fathau o brosiectau seilwaith mawr yn symlach. Bydd hefyd yn rhoi rhagor o sicrwydd i gymunedau a datblygwyr.
Rwy'n diolch i'r Aelodau am gytuno i gyflymu Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru). Heb y Bil hwnnw, byddai'r syniad o chwarae teg rhwng Cymru a Lloegr o ran caffael ar gyfer gwasanaethau’r NHS yn dod i ben.
Yn ystod yr ail flwyddyn hon, roedd y Senedd hefyd wedi dod ynghyd i gefnogi'r Bil cydgrynhoi cyntaf i Gymru, sef Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), sy'n dod â deddfau sy'n ymwneud â'r amgylchedd hanesyddol at ei gilydd.
Mae rhaglen bwysig o is-ddeddfwriaeth yn cyd-fynd â'n rhaglen ddeddfwriaethol ac yn ei hategu. Mae’n cynnwys offerynnau statudol i weithredu Deddfau pwysig a gafodd eu pasio gan y Senedd, gan gynnwys y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a'r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys is-ddeddfwriaeth i roi Deddfau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar waith, gan gynnwys mwy nag 20 o gynigion ar gyfer Biliau'r Deyrnas Unedig yn Araith olaf y Frenhines. Roedd pob un ohonyn nhw yn cynnwys darpariaethau'n ymwneud â meysydd datganoledig, a rhaid craffu ar bob un ohonyn nhw’n iawn.
Llywydd, rwy'n troi nawr at y Biliau hynny y bydd y Llywodraeth hon yn eu cyflwyno yn nhrydedd flwyddyn y rhaglen ddeddfwriaethol. Mae thema gref o ddiwygiad yn rhuddin i'r Biliau yr ydym ni'n bwriadu eu cyflwyno wrth i ni ddefnyddio'r gyfraith i ysgogi newidiadau cadarnhaol er mwyn pobl yng Nghymru.
Mae'r cyngor gwyddonol ynglŷn â newid hinsawdd mor eglur ag y mae'n gignoeth. Nid yw newid hinsawdd bellach yn rhywbeth ar gyfer y dyfodol; mae'n digwydd nawr ac mae'n digwydd yma. Os ydym ni'n dymuno trosglwyddo'r Gymru yr ydym ni'n ei charu i'n plant a'n hwyrion, mae'n rhaid i ni wneud newidiadau i'r ffordd yr ydym ni'n byw nawr. Mae trafnidiaeth yn cyfrif am bron i 15 y cant o'n hallyriadau carbon. Ar hyn o bryd mae gennym system fysiau sy'n rhoi elw o flaen pobl. Fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil bysiau i ddiwygio'r system aflwyddiannus o ddadreoleiddio i alluogi cydweithio ar bob lefel o lywodraeth i ddylunio'r rhwydwaith o wasanaethau bysiau sydd eu hangen ar ein cymunedau.
Yn y drydedd flwyddyn hon, fe fyddwn ni hefyd yn diwygio cyfreithiau ynghylch diogelwch tomenni glo a thomenni sborion yn fwy cyffredinol, gan roi mwy o ddiogelwch i gymunedau sy'n byw yng nghysgodion y tomenni hyn. Fe fydd ein Bil diogelwch tomenni nas defnyddir yn defnyddio adroddiad o bwys Comisiwn y Gyfraith ac ymatebion i'n Papur Gwyn ni i sefydlu awdurdod goruchwylio newydd a threfn reoli ar gyfer diogelwch tomenni yng Nghymru. Fel rhagwelwyd gan Gomisiwn y Gyfraith, fe fydd y drefn yn berthnasol i domenni glo a thomenni fel arall. Mae dylunio cyfundrefn gymesur sy'n bodloni'r olwg ehangach hon yn gymhleth, ac rydym ni'n benderfynol i wneud hyn yn iawn, oherwydd fe fydd ein cynigion ni'n sefydlu'r gyfundrefn gyntaf yn y byd ar gyfer rheoli tomenni nas defnyddir yn oes newid hinsawdd.
Llywydd, mae cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol i gefnogi gweithrediad yr ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i ddileu elw preifat drwy ofal plant sy'n derbyn gofal yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Fe fyddwn ni'n deddfu ar yr un pryd hefyd i gyflwyno taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus, i gefnogi'r ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu, ac fe fyddwn ni, yn yr un Bil, yn gwneud nifer o welliannau i helpu wrth reoleiddio a chynorthwyo gweithrediad effeithiol y gweithlu gofal cymdeithasol.
Fe fyddwn ni'n gweithredu gyda phenderfyniad i gynyddu nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg a diogelu ein cymunedau Cymraeg. Ein huchelgais ar gyfer 2050 yw y bydd pob un o'n disgyblion yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg gyda hyder erbyn iddyn nhw adael yr ysgol, ac mae cyfrifoldeb ar y system addysg gyfan i gydweithio tuag at y nod hwnnw. Bydd yr uchelgais hwn yn cael ei adlewyrchu yn ein Bil addysg Gymraeg, y byddwn yn ei gyflwyno yn y drydedd flwyddyn ddeddfwriaethol hon.
Ar yr un pryd, Llywydd, rydym ni am gyflwyno Bil i wireddu ymrwymiad y Llywodraeth i leihau'r diffyg democrataidd yng Nghymru, a datblygu system etholiadol sy'n addas i'r unfed ganrif ar hugain. Bydd y Bil hwn yn cryfhau gweinyddiaeth etholiadol hefyd drwy sefydlu bwrdd rheoli etholiadol, a chymryd camau i sicrhau bod pob pleidleisiwr sy'n gymwys yng Nghymru ar y gofrestr etholiadol, ac yn diwygio'r prosesau ar gyfer cynnal adolygiadau cymunedol ac etholiadol.
Caiff Bil i ddiwygio'r Senedd ei hun ei gyflwyno pan fyddwn ni'n dychwelyd ar ôl toriad yr haf. Bydd y Bil hwn yn creu Senedd fodern, sy'n adlewyrchu ehangder y cyfrifoldebau datganoledig a'r Gymru yr ydym ni'n byw ynddi heddiw. Bydd yn creu Senedd sy'n gallu cynrychioli a gwasanaethu pobl Cymru yn well, gyda mwy o allu i graffu, llunio deddfau a galw'r weithrediaeth i gyfrif. Ystyriodd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd sut y gallai ei gynigion gefnogi ac annog ethol deddfwrfa sy'n ceisio darparu deddfwrfa fwy cynrychioliadol a thrwy hynny ddeddfwrfa sy'n fwy effeithiol er mwyn ac ar ran pobl Cymru. Gan hynny, mewn mesur pellach i ddiwygio'r Senedd, fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil i gyflwyno cwotâu rhywedd ar gyfer ymgeiswyr a etholwyd i'r Senedd hon yng Nghymru.
Ac yn olaf, yn y rhaglen eang ac uchelgeisiol hon o ddiwygiadau radical, fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil cyllid llywodraeth leol a fydd yn cyfrannu at ddiwygio ein systemau ni o ran y dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Bydd y diwygiadau yn braenaru'r tir i'r systemau hyn addasu yn fwy cymwys at newidiadau yn amodau'r farchnad, yn fwy ymatebol i'r pwysau esblygol sy'n wynebu pobl a sefydliadau, ac yn cael eu teilwra yn nes at anghenion Cymru oherwydd iddyn nhw gael eu cynnal o fewn strwythurau sy'n ddatganoledig. Mae profiad yr ymchwil helaeth sydd wedi bod a'n profiad ninnau o weithredu'r systemau hyn dros nifer o flynyddoedd yn ei gwneud hi'n amlwg fod angen diwygiadau a dargedwyd yn fawr iawn yn y maes hwn.
Ac, wrth gwrs, Llywydd, bydd rhagor yn dod eto yn y blynyddoedd deddfwriaethol sy'n weddill yn ystod y tymor hwn wrth i ni gyflwyno mesurau i gyflawni ymrwymiadau pwysig eraill yn ein rhaglen lywodraethu ni a'n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Yn y blynyddoedd hynny sydd i ddod, fe fyddwn ni'n cyflwyno deddfwriaeth ar gyfer ardoll ymwelwyr a chynllun trwyddedu statudol ar gyfer pob llety i ymwelwyr, gan gynnwys gosodiadau byrdymor, cyn diwedd 2024.
Yn unol â'n rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth, fe fyddwn ni'n cyflwyno deddfwriaeth yn ystod tymor y Senedd hon i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol i Gymru a chyflwyno dyletswydd a nodau statudol i amddiffyn ac adfer bioamrywiaeth. Fe fyddwn ni'n deddfu i ddiwygio gwasanaethau digartrefedd ac yn cyflwyno Bil i ail-lunio'r system ar gyfer diogelwch adeiladau. Fe fyddwn ni'n moderneiddio'r sector tacsis a cherbydau hurio preifat hefyd, ac yn cyflwyno deddfwriaeth sy'n ymwneud â system tribiwnlysoedd Cymru.
Mae ein rhaglen i wella hygyrchedd y gyfraith yn agwedd bwysig arall ar ein rhaglen ddeddfwriaethol ni, ac rydym ni'n bwriadu cyflwyno Biliau pellach ar gyfer atgyfnerthu hynny yn ystod tymor y Senedd hon, gan gynnwys Biliau sy'n ymdrin â chynllunio a Bil i ddiddymu deddfwriaeth. Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn nodi mwy o fanylion ynglŷn â'r cynlluniau hyn yn rhan o'i adroddiad blynyddol ar gynnydd yn y rhaglen hygyrchedd.
O ganlyniad i hyn i gyd, Llywydd, erbyn diwedd y drydedd flwyddyn ddeddfwriaethol hon, sy'n rhychwantu pwynt hanner ffordd tymor y Senedd hon, fe fyddwn ni wedi: rhoi pobl o flaen elw yng ngofal ein plant ac yn ein system drafnidiaeth gyhoeddus; unioni'r ffordd at 'Cymraeg 2050'; rhoi sylw i ofnau ein cymunedau o ran tomenni glo; gwrthdroi petruster 20 mlynedd o ran rhoi Senedd i bobl yng Nghymru sy'n addas i'r dyfodol, Senedd sy'n adlewyrchu Cymru gyfoes a democratiaeth sy'n ymroddedig i ehangu cyfranogiad, nid ei rwystro; ac fe fyddwn ni wedi mynd i'r afael ag annhegwch dybryd yn system y dreth gyngor.
Rwy'n cymeradwyo'r rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol hon i'r Senedd, ac yn edrych ymlaen at weithio ar y cynigion hyn gydag Aelodau a'r rhai sydd â buddiant y tu hwnt i'r Siambr hon, a fydd yn helpu i lunio'r Gymru gryfach, decach a gwyrddach honno yr wyf i o'r farn fod pobl yng Nghymru yn troi atom ni i'w llunio hi. Diolch yn fawr.
Diolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad brynhawn heddiw. Mae hi'n hawdd anghofio pa mor arwyddocaol yw'r datganiad hwn oherwydd ei fod wedi dod yn rhan o galendr rheolaidd Senedd Cymru, ond, yn rhywun a ddaeth i mewn yn 2007, rwyf i'n gallu cofio eich rhagflaenydd chi'n dweud rhai o'r pethau mwyaf cyffrous a drafodwyd erioed ac fe drafodwyd rheoliadau tatws hadyd o Gyprus a'r Aifft yn y fan hon hefyd. Roedd hynny'n arfer bodloni brwdfrydedd y Senedd, neu'r Cynulliad fel ydoedd, am oriau lawer ar brynhawn Mawrth. Felly, mae'r gallu hwn i ddeddfu, a deddfu ar sail Cymru, yn hanfodol bwysig, ac ni ddylid anghofio hynny, er ein bod ni'n gallu anghytuno ar draws y Siambr hon yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, mai Llywodraeth y DU yn San Steffan yn 2011 a gyflwynodd y ddeddfwriaeth a ganiataodd y refferendwm hwnnw ar bŵer llawn i ddeddfu, y ddau adolygiad comisiwn Silk a edrychodd i mewn ac a greodd yr adroddiad a wnaeth ganiatáu i ddwy Ddeddf Cymru gael eu cyflwyno, ac yn amlwg y Deddfau hynny wedyn sy'n cael eu gweithredu i ganiatáu i lawer o'r ddeddfwriaeth hon y mae'r Prif Weinidog wedi sôn amdani heddiw gael ei chyflwyno gan y Llywodraeth yma ym Mae Caerdydd, mewn gwirionedd.
Os caf i grybwyll ychydig o ddarnau o fewn y ddeddfwriaeth y tynnodd y Prif Weinidog sylw atyn nhw, ac os caf i fod ychydig yn hunanol drwy godi'r ddeddfwriaeth diogelwch adeiladau rydych chi'n sôn amdani, oherwydd mae hynny'n fater sydd wedi hawlio cryn dipyn o fy amser yn Aelod rhanbarthol ac, rwy'n gwybod, amser Aelodau eraill yn y Siambr hon hefyd, a wnaiff y Prif Weinidog dynnu sylw at beth yn union a fyddai yn y Bil hwnnw? A fydd hwnnw'n datgan hawliau'r preswylwyr a pherchnogion tai a gwmpesir yn y ddeddfwriaeth a basiwyd yn San Steffan yr ydym wedi cael llawer i ddadl yn eu cylch yn y Siambr hon o'r blaen, ond adrannau 116 i 124 yn benodol, fel gall perchnogion tai, pe bydden nhw'n dymuno, geisio eu hunain am iawndal drwy'r llysoedd? Ar hyn o bryd, yn amlwg, nid yw trigolion Cymru yn gallu cyflawni hynny mewn gwirionedd drwy erlyn y datblygwyr sydd wedi eu rhoi nhw mewn sefyllfa mor ansicr.
A gaf i ofyn hefyd am eglurhad gan y Prif Weinidog o ran y Bil trafnidiaeth gyhoeddus y bydd ef yn ei gyflwyno ynglŷn â bysiau, a gofal plant yn arbennig? Rwy'n credu y bydd llawer o'r meysydd hyn yn canfod tir cyffredin rhyngom ni, ond mae hi'n bwysig bod y mentrau polisi sy'n rhedeg yn gyfochrog â'r mentrau hyn y bydd y Llywodraeth yn eu cyflwyno drwy ddeddfwriaeth yn gallu cyflawni er mwyn pobl mewn gwirionedd, boed hynny yn y system gofal plant neu, yn amlwg, y system gweithredwyr bysiau. Yn amlwg, mae hynny'n rhan o'r diwygiadau a gyflwynwyd yn sgil argymhellion Silk—ein bod ni'n gallu siarad am y ddeddfwriaeth hon yma'r prynhawn yma.
Felly, a wnaiff y Prif Weinidog roi sicrwydd, gyda'r ddeddfwriaeth y mae'r Llywodraeth am ei chyflwyno, y bydd y mentrau polisi a'r arian y bydd ei angen i gyflawni'r gwelliannau hyn yn cyd-fynd â'r ddeddfwriaeth, yn hytrach nag ein bod ni'n gweld deddfwriaeth yn gorwedd ar y llyfr statud na fyddai, yn y pen draw, yn cyflawni'r gwelliannau y dymunwn eu gweld yn y gwasanaethau cyhoeddus allweddol hynny?
A gaf i geisio deall oddi wrth y Prif Weinidog hefyd ym mha ffordd y mae'n credu y bydd y ddeddfwriaeth yn hyrwyddo amcanion 'Cymraeg 2050'? Rwy'n credu bod pob plaid yn y Siambr hon yn cefnogi'r nod ar gyfer miliwn o siaradwyr erbyn 2050; nid wyf yn credu y byddai unrhyw un yn disgwyl i'r Llywodraeth gyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n ceisio atal y Gymraeg. Ond, yn anffodus, dro ar ôl tro, fe welsom ni, yn fwyaf diweddar yn adroddiad y cyfrifiad a ryddhawyd, yn anffodus, fod llai o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, er gwaethaf llawer o ddarnau o ddeddfwriaeth sydd wedi cael eu cyflwyno a llawer o fentrau sydd wedi dod ymlaen, nid yn unig yn y fan hon, ond cyn datganoli yn Neddfau Cymru a basiwyd yn Senedd San Steffan, a'r darpariaethau o ran y Gymraeg a basiwyd yn Senedd San Steffan. Felly, a gaf i geisio deall yn union beth fydd y darn hwn o ddeddfwriaeth yn ceisio ei gyflawni, ac yn y pen draw, pa adnodd a fydd Llywodraeth Cymru yn ei roi ar waith i gefnogi'r ddeddfwriaeth hon er mwyn sicrhau ein bod ni'n cyflawni'r nod hwn o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
A gaf i geisio cael gwybod hefyd oddi wrth y Prif Weinidog, o ran deddfwriaeth tomenni glo y mae ef yn ei chyflwyno—unwaith eto, ystyriaeth bwysig ar gyfer fy ardal etholiadol i, ond fe wn i am lawer o Aelodau eraill—? Roedd y Prif Weinidog yn sôn am honno fel deddfwriaeth sy'n arloesol sy'n rhagori yn fyd-eang. Mae hi'n bwysig ceisio deall beth fydd y ddeddfwriaeth hon yn ei ddatgan o ran yr hawliau a fydd gan breswylwyr yn hen ardaloedd y maes glo, ac, yn benodol, pa waith adfer y bydden nhw'n gallu ei geisio, trwy ddefnyddio'r ddeddfwriaeth hon, o ystyried rhai o'r anawsterau sydd i'w gweld o ran tirwedd y cymunedau hynny. Felly, unwaith eto, a wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut yn union y bydd y darn hwn o ddeddfwriaeth yn effeithio ar y cymunedau hynny mewn ffordd sy'n ystyrlon a gwirioneddol?
Roedd y Prif Weinidog yn sôn am Fil diwygio'r Senedd y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gyflwyno. Fe fyddwn i'n falch o gael deall gan y Prif Weinidog beth yw'r cyngor cyfreithiol i Lywodraeth Cymru o ran y cwotâu rhywedd y mae'r Prif Weinidog yn eu crybwyll. Mae pawb ohonom ni'n dymuno gweld lluosogrwydd yn y Siambr hon—rwy'n falch o arwain grŵp sy'n cynrychioli'r lluosogrwydd hwnnw, er y gallem ni bob amser wneud mwy a mynd ymhellach—ond a wnaiff y Prif Weinidog nodi pam mae angen cyflwyno darn o ddeddfwriaeth ar wahân yn y maes arbennig hwn, os nad yw'r cyngor cyfreithiol y mae ef yn ei ddilyn yn rhoi sicrwydd iddo o ran ei ymgorffori ym mhrif gorff y ddeddfwriaeth y bydd ef yn ei chyflwyno ynglŷn â diwygio'r Senedd? Mae hi'n ddigon posibl y byddwn ni'n anghytuno ynghylch y niferoedd a fydd yn eistedd yn y Siambr hon, ond rwy'n credu ein bod ni i gyd yn awyddus i weld setliad democrataidd bywiog a chofleidiol yma yng Nghymru y bydd pobl yn gallu bod â hyder ynddo, er mwyn i ni allu cynyddu'r nifer sy'n pleidleisio yn etholiadau'r Senedd a phob etholiad ledled Cymru, yn enwedig wrth edrych ar y gwahaniaeth rhwng y bleidlais mewn etholiad cyffredinol a'r bleidlais mewn etholiad i'r Senedd.
A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog am wybodaeth hefyd ar gyfer deall, pan fydd ef yn sôn am ddeddfwriaeth y dreth gyngor y bydd yn ei chyflwyno—? A fydd hynny'n cael ei gyfyngu yn benodol i gynyddu cwmpas y bandiau ac ymarfer ailbrisiad yma yng Nghymru, neu a fydd hwnnw'n ddarn ehangach o ddeddfwriaeth a fydd yn ceisio cynnal diwygiad ar raddfa fwy eang i'r system dreth gyngor yma yng Nghymru?
Rwy'n gweld fy mod i'n rhoi prawf ar amynedd y Llywydd, oherwydd mae'r cloc wedi mynd yn goch. Fy nghwestiwn olaf i'r Prif Weinidog: mae hi'n hysbys iawn fod y Prif Weinidog wedi mynegi ei ddymuniad ef i ymddiswyddo o swydd y Prif Weinidog hanner ffordd drwy'r tymor Seneddol. A yw am roi ymrwymiad heddiw, ar ddiwedd y datganiad deddfwriaethol 12 mis hwn, y bydd ef yn ei swydd i gyflawni'r datganiad deddfwriaethol nesaf, er mwyn i ni, yn amlwg, gael deall cyfeiriad ac arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru?
Ymgais lew.
Rwy'n diolch i arweinydd yr wrthblaid am y cwestiynau yna. Roedd yn gwbl gywir i'n hatgoffa ni i gyd o'r daith y bu'r sefydliad hwn arni yn ystod ei oes fer. Mewn llai na 25 mlynedd, mae wedi mynd o drafod Gorchymyn tatws llai'r Aifft—rwy'n cofio hwnnw'n dda iawn—i'r mathau o ddarnau o ddeddfwriaeth a ddaw gerbron y Senedd yn y flwyddyn ddeddfwriaethol nesaf.
Ni fydd y Bil diogelwch adeiladu yn dod yn y drydedd flwyddyn ddeddfwriaethol. Fel nodais i, fe ddaw yn hanner olaf tymor y Senedd hon. Fe fydd yn gwneud y pethau y mae'r Gweinidog, sydd wedi ymuno â ni, rwy'n gweld, ar y sgrin, wedi dweud lawer gwaith: fe fydd yn sefydlu system reoleiddio gadarn a chydlynol, fe fydd yn creu llwybrau eglur o ran atebolrwydd, fe fydd angen asesiad risg tân blynyddol o'r adeiladau hynny yng nghwmpawd y Bil, ac fe fydd yn rhoi lle canolog i lais y trigolion yn yr adeiladau hynny lle mae diogelwch tân wedi bod yn bryder yn y drefn newydd honno.
Rwy'n rhoi sicrwydd i arweinydd yr wrthblaid, er ein bod ni'n deddfu o ran gweithredu gwasanaethau bysiau yn y dyfodol, ac yn dileu'r gallu i wneud elw preifat ar gefn gofal plant, y bydd y mentrau polisi sy'n rhedeg ochr yn ochr â hynny'n parhau, yn sicr iawn. Mae gennych chi tua £44 miliwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu yn ystod y flwyddyn ariannol hon i gefnogi'r broses o drosglwyddo'r diwydiant bysiau oddi wrth y drefn gyfredol i'r drefn a gaiff ei nodi yn y Bil. Ac rwy'n falch iawn o allu adrodd bod ein hawdurdodau lleol ni wedi cyflymu yn sylweddol tuag at y nod yn y rhaglen gwaith rhanbarthol o sefydlu safleoedd newydd ar gyfer plant sy'n derbyn gofal y tu allan i Gymru neu y tu allan i'w ffiniau lleol ar hyn o bryd, ac yn aml mewn cyfleusterau preifat, i ddod â'r plant hynny yn ôl yn nes adref ac mewn cyfleusterau a fydd yn cael eu rhedeg yn uniongyrchol gan awdurdodau cyhoeddus.
Bydd Bil y Gymraeg yn sicr yn cyfrannu at ein huchelgais ni o fod â miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Rwy'n credu bod mwy o anghydfod ynglŷn â'r dystiolaeth na'r hyn a awgrymodd arweinydd yr wrthblaid o ran nifer y siaradwyr Cymraeg sydd yng Nghymru heddiw. Yr hyn nad yw'n achosi anghydfod yn sicr yw'r cynnydd rhyfeddol yn nifer y bobl ifanc sy'n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Pan ddechreuais i gadeirio—llawer iawn o ddegawdau yn ôl erbyn hyn—pwyllgor addysg Gymraeg Cyngor Sir De Morgannwg, roedd un ysgol gynradd yng Nghaerdydd ac un ysgol uwchradd yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Os edrychwch chi o gwmpas y ddinas heddiw, ni allwch ddychmygu mwy—. Mae'n gas gennyf i ddefnyddio'r gair 'trawsnewidiad'—rydyn ni'n ei ddefnyddio'n rhy aml—ond yn yr achos hwn, rwy'n credu y byddai trawsnewidiad yn adlewyrchiad teg o'r hyn sydd wedi digwydd o ran addysg Gymraeg, ac fe fydd y Bil yn cefnogi hynny ar ran nesaf y daith honno.
O ran diogelwch tomenni glo, rwy'n dweud unwaith eto wrth yr Aelodau fod hyn yn golygu mwy na diogelwch tomenni glo; ceir tomenni sborion oherwydd diwydiannau eraill mewn rhannau eraill o Gymru—chwareli llechi yn y gogledd, mwyngloddio metel yng Nghwm Tawe, er enghraifft—mae angen dod â hynny o fewn i gyfundrefn sy'n adlewyrchu'r pryderon o ran diogelwch yn oes newid hinsawdd. Dim ond wythnos diwethaf, fe ymwelais i â'r gwaith sy'n cael ei wneud ar domen Tylorstown yng Nghwm Rhondda, tomen, fel gŵyr arweinydd yr wrthblaid, a symudodd yn ystod y cyfnod hwnnw o law trwm iawn ym mis Chwefror 2020. Mae angen cyfundrefn arnom ni yng Nghymru sy'n cydnabod nad yw'r safonau a oedd yn ddigonol o ran diogelwch flynyddoedd yn ôl yn ddigonol yn yr amgylchiadau hyn o ddigwyddiadau tywydd enbyd, boed hwnnw'n law trwm iawn neu, fel gwelsom ni yn haf y llynedd, gwres tanbaid, a effeithiodd mewn ffordd arall ar sefydlogrwydd rhai tomenni yng Nghymru. Bydd y Bil yn cyflwyno'r drefn newydd honno. Fe fydd yn rhoi'r ymdeimlad hwnnw i bobl sy'n byw yn y cymunedau hynny fod corff â chyfrifoldeb uniongyrchol am sicrhau eu bod nhw'n parhau i fod yn ddiogel i'r dyfodol.
O ran diwygio'r Senedd, roedd hynny'n destun trafodaethau manwl rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru, a'r cyngor a gawsom ni oedd y dylem ni ddod o hyd i ffordd o ymdrin ag unrhyw wendidau i sicrhau y gall y prif Fil fod yno a'i weithredu yn llwyddiannus ar gyfer etholiad 2026, ac y dylem ni ganfod ffordd o ymdrin ag unrhyw wendidau a allai fod a fyddai'n herio'r agwedd o ran cwotâu rhywedd. Rydym ni'n hyderus fod ganddom y cwmpas cyfreithiol yma yng Nghymru i ddeddfu yn y maes hwn, ac fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil gyda ffydd yn y sail yr ydym ni'n gwneud hynny arni. Ond mae hwn yn faes lle gallai safbwyntiau eraill fod yn bosibl, a lle gellid wynebu her. I sicrhau nad yw'r prif ddiwygiadau yn agored i her, rydym ni wedi rhannu'r ddwy agwedd. Nid wyf i'n gwbl sicr, Llywydd, y byddai arsylwr diduedd sy'n edrych ar feinciau'r Ceidwadwyr yn y Siambr yn eu hystyried nhw'n batrwm o luosogrwydd rhywedd, ac fe fydd y Bil cwotâu rhywedd yn ein helpu ni i gyd i fod—[Torri ar draws.] Rwyf i'n clywed yr Aelod; ni all rhai eraill y tu allan i'r Siambr ei glywed ef. Mae'n gofyn i mi am agweddau eraill ar amrywiaeth, ac rwyf i'n cytuno ag ef. Rwy'n cytuno yn llwyr ag ef fod gwaith gan bob plaid wleidyddol i'w wneud mewn Senedd estynedig i wneud yn siŵr bod agweddau eraill ar amrywiaeth—pobl ag anableddau, pobl o gymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol—mewn Siambr newydd ac estynedig yn adlewyrchu natur y Gymru gyfoes.
Bydd Bil y dreth gyngor, Llywydd, yn cwmpasu mwy na dim ond bandiau ac ailbrisiadau yn unig. Fe fydd yn ein galluogi ni i ddefnyddio dull mwy effeithlon o ymdrin â'r nifer o ffyrdd y mae eithriadau, gostyngiadau a diystyru wedi cronni dros y blynyddoedd heb edrych yn iawn ar y rhyngweithio rhwng yr elfennau amrywiol hynny i gyd. Felly, fe fydd yn ehangach na dim ond y ddau fater y soniodd yr Aelod amdanyn nhw'n unig.
Ac fe allaf i roi sicrwydd iddo ef na fydd unrhyw Fil yn cael ei roi gerbron yr Aelodau yn ystod y drydedd flwyddyn a fydd yn Fil y Prif Weinidog (diwedd tymor yn y swydd) (Cymru).
Gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am y datganiad cynhwysfawr yma? Mae llawer iawn o elfennau i gyfeirio atyn nhw yn yr ychydig funudau nesaf.
Dwi am ddechrau drwy gyfeirio at un Bil sy’n cyrraedd pen ei daith heddiw. Rydyn ni ar y meinciau yma bob tro yn ceisio dod â llais cymunedau gwledig a’r sector amaethyddol i’r Siambr am resymau economaidd a diwylliannol. Dwi’n falch iawn ein bod ni wedi gallu defnyddio ein dylanwad o fewn y cytundeb cydweithio mewn ffordd adeiladol iawn i gryfhau’r Bil amaeth, a dwi’n gwybod bod amaethwyr yn gwerthfawrogi hynny.
Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu yn hir am Fil awyr lân, a dwi’n edrych ymlaen at weld y cam yn cael ei gymryd i arbed miloedd o fywydau yng Nghymru. Mae’n amser gwneud hynny er mwyn arbed bywydau a gwarchod adnoddau’r NHS.
Mae yna gymaint o elfennau o’r rhaglen fyddwn ni’n delio â hi dros y blynyddoedd nesaf dwi'n arbennig o falch ohonyn nhw, a’r cyfraniad rydyn ni wedi’i wneud tuag atyn nhw, fel yr ymdrech i greu model twristiaeth mwy cynaliadwy, yn cefnogi’r sector dwristiaeth ac yn gwarchod y cymunedau yna mae twristiaeth yn digwydd o’u mewn nhw.
Dwi’n cyffroi yn meddwl am yr hyn y gallwn ni geisio ei gyflawni drwy Fil addysg Gymraeg, a dwi’n edrych ymlaen inni weithio ar draws y pleidiau yma yn y Senedd i wireddu hwnnw.
Dwi am droi at y cam sylweddol, pwysig a phositif rydyn ni ar fin cychwyn arno fo fel cenedl o ran datblygiad ein democratiaeth ni.
Bydd cyflwyno'r Bil hwn i ddiwygio'r Senedd yn foment nodedig yn hanes gwleidyddol Cymru, nid oes unrhyw amheuaeth gennyf i am hynny. Bron i chwarter canrif ar ôl i'n cenedl ni gymryd ei chamau petrus cyntaf i oes datganoli, mae democratiaeth Cymru ar fin cael ei huwchraddio, ac fe fyddwn ni'n adeiladu ar y gwaith a wnaethpwyd eisoes yn y cytundeb cydweithio i wireddu hynny. Mae cymwyseddau datganoledig Cymru wedi datblygu a newid y tu hwnt i bob adnabyddiaeth ers i mi ddechrau gweithio fel newyddiadurwr yma flynyddoedd lawer yn ôl, ac mae cynnydd wedi bod o ganlyniad i hynny, wrth gwrs, yng nghyfrifoldebau a dyletswyddau Aelodau etholedig, ond mae datganoli yng Nghymru a phroffil etholiadol datganoli wedi dal yn gadarn drwy'r cyfan.
Nid oes amheuaeth fod Senedd fwy yn hwyluso atebolrwydd a chraffu mwy effeithiol ar y Llywodraeth, ac mae hynny'n rhywbeth y dylai pob un ohonom yng Nghymru fod eisiau anelu ato. Rydym ni'n falch y bydd y Bil yn mynd i'r afael â'r angen amlwg am ddiwygio'r system bleidleisio, gan anwybyddu unwaith ac am byth y system hynafol cyntaf i'r felin sydd wedi ein llyffetheirio cymaint, sydd wedi effeithio ar ymgysylltiad â phleidleiswyr dros gynifer o flynyddoedd, ac wedi sugno brwdfrydedd o ddull San Steffan. Fe fydd symud tuag at system fwy cyfrannol yn sicrhau y bydd pob pleidlais a gaiff ei bwrw yn etholiadau'r dyfodol i'r Senedd yn cael effaith bendant ar ddosbarthiad y seddi. Nid ydym ni'n haeru bod y Bil fel cyflwynir ef yn cyflawni popeth yr oeddem ni'n bwriadu ei gyflawni. Polisi ein plaid ni o hyd yw cefnogaeth i'r bleidlais sengl drosglwyddadwy yn hytrach na'r system o restrau caeedig. Fe fyddwn ni'n dal ati i bwyso am ddiwygiadau pellach. Ond rydym ni'n cydnabod hefyd nad oes gan unrhyw blaid fwyafrif o ddwy ran o dair fel sydd ei angen i gyflawni diwygiad mor bwysig, ac felly rydym ni wedi dewis gweithio mewn ffordd ymarferol gyda'r Llywodraeth i ddatblygu cyfres o gynigion a fydd yn mynd dros y trothwy angenrheidiol hwnnw er mwyn pawb yng Nghymru.
Yn olaf, fe hoffwn i wneud sylwadau ar y mesurau deddfwriaethol i gyflwyno cwotâu rhywedd yn ein system etholiadol ni—yn rhy hwyr, unwaith eto. Er bu cynnydd mawr yn ystod blynyddoedd cynnar datganoli o ran cynrychiolaeth menywod yn y Senedd, a ddaeth yn ddeddfwrfa gyntaf y byd i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn 2003, rydym ni wedi gweld llithriad siomedig yn y cyfnod mwy diweddar. Mae sicrhau presenoldeb amlwg ac amrywiol menywod mewn gwleidyddiaeth yn hanfodol yn ddemocrataidd ac yn gymdeithasol, ac felly rwy'n croesawu'r mesurau a gynhwysir yn y Biliau wrth eu cymryd nhw gyda'i gilydd.
I gloi, bydd, mi fydd y Senedd yma yn adlewyrchu, fel dywedodd y Prif Weinidog, y Gymru gyfoes. Ar daith i annibyniaeth ydyn ni'n gobeithio arwain Cymru yn y blynyddoedd i ddod, ond, yn y cyfamser, mae angen sicrhau bod ein Senedd newydd ni yn mabwysiadau pwerau newydd er mwyn gwella bywydau pobl yng Nghymru. I gloi, dwi'n apelio ar ac yn gofyn i'r Prif Weinidog weithio efo ni er mwyn cael y grymoedd hynny, nid er mwyn eu hunain, ond er mwyn creu'r Gymru decach, werddach a mwy llewyrchus yr ydw i'n dyheu amdani hi.
Diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth. Diolch am beth y dywedodd e i ddechrau am y ffordd adeiladol rŷn ni wedi cydweithio gyda'n gilydd, a dwi'n edrych ymlaen i gydweithio gyda'r Aelodau ym mhob cwr o'r Siambr, ble mae pethau rŷn ni'n gallu eu gwneud gyda'n gilydd. Ond mae'r rhaglen uchelgeisiol sydd o flaen y Senedd yn y drydedd flwyddyn ddeddfwriaethol yn adlewyrchu'r gwaith caled sydd wedi mynd ymlaen rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru yn enwedig, yn enwedig y gwaith mae Siân Gwenllian, Cefin Campbell ac Adam Price wedi bod yn rhan ohono, i baratoi'r rhaglen dwi wedi amlinellu'r prynhawn yma. Dwi'n edrych ymlaen i gario ymlaen yn yr ysbryd yna.
Rwyf i am ganolbwyntio yn unig ar faterion ynglŷn â diwygio'r Senedd yr oedd Rhun ap Iorwerth yn canolbwyntio arnyn nhw yn ail hanner ei gyfraniad ef, Llywydd. A gaf i ddweud wrth Aelodau ym mhob rhan o'r Siambr ei bod dros 20 mlynedd ers i Arglwydd Ivor Richard lunio ei adroddiad ar dymor cyntaf y Senedd, adroddiad a oedd yn mynegi nad oedd gan y Senedd nifer ddigonol o Aelodau i gyflawni'r cyfrifoldebau a oedd ganddi hi bryd hynny? Yn y drafodaeth yr oedd rhai ohonom ni'n ymgysylltu â rhai pobl ifanc ynddi hi, fe ddywedodd rhywun wrthyf i, 'Nid oeddwn i wedi cael fy ngeni pan luniodd Arglwydd Richard yr adroddiad hwnnw, ac ar hyd fy oes gyfan, mae Cynulliadau a Seneddau olynol wedi methu â deall yr hyn sydd, heb os, yn fater heriol ac un sy'n gofyn am fwyafrif o ddwy ran o dair ar lawr y Senedd, yn gwbl briodol, i newid y system sydd gennym ni'.
Dyma'r amser i wneud hynny. Rwy'n dweud hynny wrth gydweithwyr ym mhob rhan o'r Siambr hon. Mae cyfrifoldeb gennym ni, tra bo'r cyfle hwn yn ein gafael ni, i wneud rhywbeth nad yw wedi bod yn bosibl ers dros 20 mlynedd, a phan roddir y Bil hwnnw gerbron y Senedd ym mis Medi, fe fydd honno'n foment nodedig. Fe fydd hi'n foment nodedig pan fyddwn ni'n cymryd y cyfrifoldeb hwnnw dros sicrhau bod y strwythurau democrataidd sydd gennym ni yng Nghymru yn ddigonol i ysgwyddo pwysau'r cyfrifoldebau sy'n gorwedd yn y Senedd a'r cyfrifoldebau yn y dyfodol y bydd llawer ohonom yn gobeithio y dônt i ran y sefydliad datganoledig hwn a gwneud hynny mewn ffordd sy'n sicrhau y bydd digon o Aelodau a'r sefydliad y tu ôl iddyn nhw i allu gwneud y gwaith caled o graffu ar y ddeddfwriaeth. System un siambr sydd gennym ni yma, nid oes gennym ni siambr arall i unioni unrhyw beth y gallem ni fod wedi ei wneud yn anghywir. Dyna pam mae'n rhaid i ni fod â'r grym ar lawr y Senedd yn y dyfodol i allu craffu ar y ddeddfwriaeth honno, a sicrhau ei bod cystal ag y gall fod, a dwyn y Weithrediaeth, pwy bynnag fydd yn honno, i gyfrif am y camau a gymerir er mwyn pobl yma yng Nghymru.
Wrth gwrs, mae Rhun ap Iorwerth yn iawn nad yw cyfansoddiad rhywedd y Senedd heddiw mor gytbwys ag a fu yn y Senedd ar adegau blaenorol. Rwy'n falch iawn wir o arwain grŵp Llafur lle mae menywod yn fwy niferus na'r dynion—a hynny o gryn dipyn. Rwy'n falch iawn wir fod mwy o fenywod yn fy Nghabinet i nag sydd yna o ddynion, fel, yn y Llywodraeth o leiaf, fod gennym ni ddull sy'n adlewyrchu natur Cymru heddiw, ac rydym ni'n awyddus i weld Senedd sy'n gwneud yr un peth, ac fe fydd y rhai ohonom ni sydd wedi ymrwymo gyda'n gilydd gyda'r fenter honno yn cael cyfle i wneud i hynny ddigwydd pan fydd y Bil cwotâu rhywedd hwnnw'n ymddangos gerbron y Senedd cyn diwedd y flwyddyn galendr hon.
A gaf i adleisio yn fy sylwadau agoriadol y sylwadau nawr ynglŷn â diwygio'r Senedd gan arweinydd Plaid Cymru a gan y Prif Weinidog? Ein cyfrifoldeb ni yw gwneud y Senedd hon, Senedd Cymru yn addas nid yn unig am y tro, ond i'r dyfodol ac ar gyfer gwasanaethu pobl Cymru. Ein cyfrifoldeb ni yw hwn; mae angen i ni fwrw ymlaen â hyn a gwneud felly.
Ond a gaf i ofyn ambell gwestiwn ar y rhaglen ddeddfwriaethol nawr? Yn gyntaf i gyd, y Bil bysiau: croeso mawr i hwnnw. Rydym ni wedi bod yn aros yn eiddgar iawn am ddyfodiad hwnnw. Sut fydd hyn yn cyd-fynd â'r syniad hwn ynglŷn ag amserlenni symlach, tocynnau symlach—un tocyn, un amserlen—a yw hyn yn mynd â ni gam yn nes at allu gwneud hynny, oherwydd honno yw ein gweledigaeth ni ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru?
Yn ail, y ddeddfwriaeth llywodraethu amgylcheddol yr ydych chi'n ei chyflwyno: a fydd honno'n ein galluogi ni i symud tuag at waith adfer sy'n cefnogi byd natur yng Nghymru, gan ailgyflenwi bioamrywiaeth, ein gwasanaethau ecosystem ni a byd natur ei hun, yn ogystal â chryfhau llywodraethu yn y cyfnod ar ôl gadael yr UE?
A dim ond un sylw terfynol, Dirprwy Lywydd, un peth yr ydym ni'n ei groesawu yn arbennig yn y fan hon—nid dim ond yn Llafur Cymru, ond Aelodau sy'n cydweithio â ni hefyd—yw'r cynnig ynghylch atal gallu gwneud elw o ofal i blant sy'n derbyn gofal, a chyflawni yn unol â'r flaenoriaeth honno. Ac yn ogystal â hynny, gan symud ymlaen hefyd, yn gysylltiedig â hynny, y cynigion ynghylch gofal iechyd parhaus, lle gallwch chi gyflwyno taliadau uniongyrchol mewn gwirionedd, oherwydd fe fyddai hynny'n caniatáu darpariaeth o wahanol fodelau o ofal iechyd, gan gynnwys modelau cydweithredol. Diolch i chi.
Rwy'n diolch i Huw Irranca-Davies. Ac wrth gwrs, fel Cadeirydd y pwyllgor pwrpas arbennig a sefydlwyd gan y Senedd, mae'n siarad ag awdurdod penodol ynglŷn â mater diwygio'r Senedd, ac adroddiad y pwyllgor hwnnw a gymeradwywyd gan y Senedd hon yng Nghymru a oedd yn sylfaen i'r Bil a'r holl waith sy'n mynd i'w baratoi ac fe fyddwch chi'n gweld hwnnw, rwy'n gobeithio, ym mis Medi.
Fe fydd y Bil bysiau yn gwneud budd y cyhoedd yn brawf allweddol o'r ffordd y darperir gwasanaethau bysiau yng Nghymru yn y dyfodol. Fe fydd yn golygu y bydd yr awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru, â'r pwerau angenrheidiol i sicrhau y bydd y buddsoddiad cyhoeddus sylweddol iawn hwn a gaiff ei wneud ar ran y cyhoedd i gynnal y system drafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei roi ar waith mewn modd priodol i weithio ar ran y cyhoedd. Honno yw egwyddor arweiniol y Bil hwn, ac rwyf i o'r farn y bydd yr Aelod yn gweld hynny'n cael ei adlewyrchu yn yr agenda ehangach honno yr oedd ef yn tynnu sylw ati hi.
Rwy'n falch o gadarnhau y bydd y Bil llywodraethu amgylcheddol, pan fydd yn dod i'r golwg, nid yn y drydedd flwyddyn ddeddfwriaethol ond y tu hwnt i hynny, yn cynnwys nodau bioamrywiaeth ac adferiad byd natur ynddo, yn ogystal â threfniadau llywodraethu ar ôl gadael yr UE.
Mae taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus yn bwnc sydd wedi mynd yn fwy dylanwadol ym mywydau llawer o ddefnyddwyr y gwasanaeth iechyd, gan fod y system taliadau uniongyrchol ym maes gofal cymdeithasol ei hun wedi aeddfedu, ac aeddfedu mewn llawer o'r ffyrdd y tynnodd Huw Irranca-Davies sylw atyn nhw. Mae anghysondeb yn y ffaith y gall unigolyn reoli ei gyllideb ei hun ar ddydd Llun, pan gaiff y gwasanaeth ei ddarparu gan ofal cymdeithasol, ond ar ddydd Mawrth, pan fydd anghenion yn golygu bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu wedyn drwy'r system gofal iechyd parhaus, mae'r unigolyn yn colli'r rheolaeth honno. Fe fydd y Bil yn sicrhau y gall y rheolaeth honno fod yn barhaus.
Ac a gaf i'n olaf adleisio'r hyn a ddywedodd Huw Irranca-Davies, Llywydd? Fe fydd y Bil yn ein helpu ni i ddiddymu'r gallu i wneud elw o wasanaethau plant sy'n derbyn gofal. Nid wyf i'n credu y gwnaf i fyth anghofio cwrdd â grŵp o bobl ifanc a ddygwyd at ei gilydd gan y comisiynydd plant ar y pryd, pan ddisgrifiodd menyw ifanc i mi ei theimladau hi pan welodd ei llun ar wefan lle'r oedd ei hawdurdod lleol hi, ei rhiant corfforaethol hi, yn gwahodd tendrau i mewn gan unrhyw un a oedd yn barod i ofalu amdani am y gost isaf posibl. Dychmygwch chi hynny—i feddwl mai fel yna y caiff eich dyfodol chi ei lunio. Fe fydd y Bil hwn yn sicrhau na fydd y ffordd honno o ddarparu ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru yn rhan o'u dyfodol nhw na'n dyfodol ninnau chwaith.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Yn yr un funud sydd gennyf i, rwy'n credu, ar gyfer sylwebu ar raglen ddeddfwriaethol enfawr, tri pheth yn gyflym iawn. Rwy'n croesawu diwygio'r Senedd, wrth gwrs, ond rwyf i'n awyddus iawn i ni symud yr agenda ymlaen oddi wrth y system gynrychioliadol leiaf cyfrannol sy'n cael ei chynnig, at bleidlais sengl drosglwyddadwy, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth y byddech chi'n ei ystyried. Fe fyddai hi'n dda gennyf glywed eich sylwadau chi ar hynny. Wrth Blaid Cymru, fe ddywedaf i'r hyn a ddywedais i'r tro diwethaf: peidiwch â chafflo hyn unwaith eto. Rydym ni'n dymuno gwneud yn siŵr mai pleidlais sengl drosglwyddadwy sydd gennym ni ac am wneud yn siŵr bod agenda agored a thrafodaeth agored gennym ni—[Torri ar draws.] Fe wnaethoch chi ein cafflo ni'r tro diwethaf, mae arnaf i ofn, felly os gwelwch chi'n dda—. Fe aethoch chi gyda'r cynnig am system rhestr gaeedig, ac mae'n ddrwg iawn gennyf i eich bod chi wedi gwneud hynny, felly rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cefnogi hyn.
Yr ail beth yw fy mod i'n llwyr groesawu'r hyn yr ydych chi wedi ei ddweud ynglŷn ag atal gallu gwneud elw o ofal plant. Yn weithiwr cymdeithasol amddiffyn plant gynt, rwy'n falch iawn o weld hynny.
A'r trydydd peth yw'r broblem ynghylch digartrefedd. Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n diddymu digartrefedd. Rwy'n gobeithio nad ei ddiwygio y byddwn ni; rwy'n gobeithio yn fawr mai ei ddiddymu a wnawn ni. Felly, rwy'n gobeithio yn fawr y byddwn ni'n clywed mwy oddi wrthych chi ynglŷn â sut yr ydych chi am ddiddymu digartrefedd ledled Cymru. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ynglŷn â'r pwynt am ddigartrefedd, polisi'r Llywodraeth yw, lle profir digartrefedd, fe ddylai fod yn anghyffredin, am gyfnod byr a heb ailadrodd hynny, a dyna'r hyn y mae deddfwriaeth—nid yn y drydedd flwyddyn—pan gaiff ei chyflwyno, fe fydd hi'n adlewyrchu'r egwyddorion hynny.
A gaf i ddweud wrth yr Aelod ynglŷn â diwygio'r Senedd eich bod chi wedi clywed Rhun ap Iorwerth yn dweud bod agweddau ar y Bil y byddai hi'n well gan ei blaid ef eu gweld nhw'n wahanol? Mae agweddau ar y Bil y byddai hi'n well gennyf innau eu gweld nhw'n wahanol hefyd, ond ni fyddwn yn gallu cario diwygio Seneddol drwy'r Senedd hon pe byddem ni i gyd yn benderfynol o gael popeth yr ydym ni'n ei ddymuno o'r Bil hwnnw. Ni fydd y Bil yn llwyddo heblaw ein bod ni i gyd yn barod i ddathlu bod â hanner torth, ac fel arall ni fyddai unrhyw dorth o gwbl, ac mae hynny'n golygu cyfaddawdu, ac mae'r Bil yn golygu cyfaddawdu, ac ni fyddai unrhyw un o Aelodau'r Senedd hon yn ei ystyried yn becyn perffaith o fesurau. Ond pe byddech chi'n dal eich gafael er mwyn ceisio perffeithrwydd, yn y pen draw ni fyddai'r un dim gennych chi o gwbl, a'r hyn a gredaf i yw nad hon yw'r foment i ganiatáu i'r ymgais am berffeithrwydd ymlid yr hyn sy'n bosibl. Mae diwygio'r Senedd wedi bod yn amhosibl am 20 mlynedd. Mae hi'n bosibl gwneud hynny nawr. Ond mae'r posibilrwydd hwnnw yn dibynnu ar gydnabyddiaeth gan bob un ohonom ni fod rhywfaint o gyfaddawd yn angenrheidiol i ennill mwyafrif o ddwy ran o dair a pheidio â cholli pleidlais gan unrhyw un ohonom ni sydd o blaid diwygio'r Senedd ar y daith honno.
Rwyf innau hefyd yn diolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Mae'n rhaid i mi ddweud bod rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru yn siomedig—yn siomedig i'm plaid i, ond yn fwy felly, yn siomedig i bobl Cymru. Pam nad yw'r ddeddfwriaeth yn mynd i'r afael â'r problemau mawr sy'n wynebu pobl Cymru nid yma? Ar wahân i'r Bil bysiau, yr addewid i fynd i'r afael â rheoli tomenni glo nas defnyddir a diwygio'r dreth gyngor, rhaglen ddeddfwriaethol yw hon sy'n ceisio prynu pleidlais Plaid Cymru unwaith eto.
Prif Weinidog, lle mae'r ddeddfwriaeth ar gyfer Deddf hawliau dynol i Gymru? Pan alwodd fy mhlaid i am gynnwys egwyddorion hawliau pobl hŷn y Cenhedloedd Unedig a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yng nghyfraith Cymru dro ar ôl tro, fe ddywedwyd wrthym ni y byddai eich Llywodraeth chi, yn hytrach nag ychwanegu hawliau bob yn damaid, yn cyflwyno deddfwriaeth hawliau dynol newydd. Rydym ni'n dal i ddisgwyl. Mae hawliau pobl hŷn yn dal i gael eu hanwybyddu, fel gwelwyd yn eglur yn ystod y pandemig. Felly, Prif Weinidog, am faint yn hwy y bydd angen i bobl hŷn aros, neu ai eich neges i boblogaeth oedrannus Cymru yw bod 36 yn fwy o wleidyddion yn bwysicach na'u hawliau dynol nhw? Diolch yn fawr.
Wel, Llywydd, mae'n ddrwg gennyf fod yr Aelod wedi darllen ei sgript yn dweud wrthym ei fod wedi ei siomi; rwy'n siŵr ei bod wedi'i hysgrifennu ymhell cyn iddo glywed y datganiad. Ac rwy'n anghytuno ag ef, wrth gwrs. Ac nid yw'r ffaith nad yw rhywbeth yn cael ei grybwyll yn y datganiad yn golygu na fydd yn digwydd, oherwydd mae yna lawer o bethau y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio arnyn nhw nad yw'n bosibl eu cynnwys mewn datganiad a oedd, ynddo'i hun, yn hir a chymhleth iawn y prynhawn yma.
Felly, nid wyf yn cytuno ag ef, wrth gwrs, bod y datganiad yn siomedig; rwy'n credu mai dyma'r rhaglen flwyddyn o hyd fwyaf heriol y gofynnwyd i'r Senedd hon fynd i'r afael â hi erioed. Bydd yn rhoi rhwymedigaethau enfawr ar ysgwyddau pob Aelod o'r Senedd i ddod o hyd i'r amser i wneud y gwaith a fydd yn angenrheidiol i droi'r cynigion hyn i mewn i'r gyfraith orau y gallan nhw fod ac, ar yr un pryd, ac yn y ffordd a nodais, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i baratoi deddfwriaeth ar gyfer ail hanner tymor y Senedd hon. 'Pa mor hir allwn ni aros?' gofynnodd yr Aelod, ac nid ydym hyd yn oed hanner ffordd drwy dymor y Senedd. Mae dwy flynedd a hanner a mwy o'r tymor hwn i fynd, a bydd darnau eraill o ddeddfwriaeth, ar ben y rhai y byddwn ni'n canolbwyntio arnyn nhw dros y 12 mis nesaf, a fydd yn dod ger eich bron cyn i'r tymor hwn ddod i ben.
Diolch, Brif Weinidog, am y datganiad heddiw. Yn sicr, adlewyrchu'r Bil bysiau, y Bil diogelwch tomenni nas defnyddir, yn eithriadol o bwysig, yn arbennig i'r rhanbarth dwi'n ei gynrychioli, ond hefyd i ardaloedd eraill.
Hoffwn gyfeirio at y pwynt a gododd Huw Irranca-Davies gyda chi, o ran yr hyn sydd wedi cael ei alw gan sefydliadau fel Climate Cymru yn 'Fesur positif o ran natur', a'r oedi unwaith eto yma. Bydd pobl yn siomedig. Fel y gwyddoch chi, ysgrifennodd dros 300 o sefydliadau atoch ym mis Mawrth yn gofyn i hyn gael ei gyflwyno. Yn eich datganiad, fe bwysleisioch chi eich ymrwymiad i'r argyfwng natur a'r hinsawdd, a'r ffaith na allwn ni aros. Wel, mae hynny'n wir o ran bioamrywiaeth. Rydym yn colli bioamrywiaeth bob dydd, bob wythnos sy'n mynd heibio heb fod y ddeddfwriaeth hon ar waith. Rydym eisoes ar ei hôl hi, ar ôl Brexit, o ran y llywodraethiant hwnnw, y fframwaith llywodraethu amgylcheddol hwnnw yma yng Nghymru. Nid oes gennym drefniadau dros dro hyd yn oed. Felly, a gaf i ofyn: pam mae hyn, unwaith eto, yn destun oedi, a sut y bydd yn cael ei ddatblygu er mwyn iddo ddod yn ddeddfwriaeth cyn gynted â phosibl, fel ein bod ni'n mynd ati go iawn i ymateb i argyfwng hinsawdd a natur?
Wel, diolch i Heledd Fychan am y sylwadau, Llywydd, a gallaf ddweud wrthi hi, bob tro pan fyddwn ni'n paratoi y rhaglen am y flwyddyn ddeddfwriaethol o'n blaenau, fod lot o sgyrsiau a dadleuon mewnol, ac mae pob aelod o'r Cabinet yn trio cael mwy o bosibiliadau i mewn i'r rhaglen.
A dyna sut mae'r system yn gweithio. Mae yna wastad mwy o geisiadau nag y gellir eu cynnwys. Mae yna wastad mwy o uchelgeisiau ymhlith cydweithwyr yn y Cabinet nag y gellir eu cynnwys mewn un flwyddyn. A gallaf sicrhau'r Aelod bod yr achos dros gynnwys y Bil llywodraethu amgylcheddol yn y drydedd flwyddyn wedi cael ei gyflwyno'n rymus yn ystod y dadleuon hynny. Yn y pen draw, byddwn ni'n cyflwyno Papur Gwyn erbyn mis Ionawr y flwyddyn nesaf. Yn y cyfamser, byddwn ni'n cryfhau'r trefniadau dros dro, ac yn sicr hoffwn dalu teyrnged i waith Dr Nerys Llewelyn Jones, sydd, rwy'n credu, wedi cyflawni ei dyletswyddau fel Asesydd Diogelu'r Amgylchedd Dros Dro i Gymru mewn ffordd sydd wedi rhoi hyder i bobl, er ein bod ni'n dal i ddatblygu'r trefniadau terfynol ar gyfer llywodraethu amgylcheddol, fod system yma yng Nghymru sy'n weithredol ac sy'n cael ei harwain yn rymus. Rydym yn mynd i recriwtio dirprwy i Dr Llewelyn Jones yn y cyfnod interim hwn, i gryfhau'r adnoddau sydd ganddi yn ystod y cyfnod hwn. A bydd Bil llawn, gan gynnwys adfer natur—Bil positif o ran natur—yn rhan o'r Bil hwnnw. Mae'n fwy na threfniadau llywodraethu yn unig, yn y ffordd yr esboniais i wrth Huw Irranca-Davies.
Diolch, Prif Weinidog. Mewn sawl ffordd, roedd yn ddatganiad ysbrydoledig, yn ddatganiad ysbrydoledig sy'n siarad nid yn unig am agenda ddeddfwriaethol, ond am ein gwerthoedd a'n huchelgeisiau a'n gweledigaethau ni ar gyfer Cymru. Rwy'n credu bod cymryd yr elw allan o ofal plant yn rhywbeth a all uno pobl ar hyd a lled y wlad—efallai nid ar feinciau'r Ceidwadwyr, ond ym mhob man arall yn y wlad hon. Mae sicrhau bod gennym wasanaethau bysiau sy'n addas i'r diben i bawb ledled y wlad hon yn rhywbeth, unwaith eto, y mae pobl ei eisiau ac mae pobl eisiau i ni eu darparu. Mae sicrhau bod plant ledled y wlad yma yn gallu cael mynediad i addysg Gymraeg yn gyson â'r uchelgais o sicrhau bod miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae sicrhau bod pobl yn gallu cysgu'n ddiogel yn eu cartrefi oherwydd bod gwaith yn cael ei wneud i ddelio â'r tomenni sy'n anharddu ein Cymoedd yn rheswm pam mae pobl yn pleidleisio dros ein Llywodraeth.
Ac rwy'n gobeithio, Prif Weinidog, wrth gyflwyno'r rhaglen ddeddfwriaethol hon, y gallwch chi hefyd sicrhau y gallwn ni ddiogelu ein hamgylchedd, diogelu ein hawliau cyflogaeth, a phan fydd y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain yn dileu amddiffyniadau cyfraith yr UE, y bydd y Senedd hon yn sicrhau bod ein lleisiau'n cael eu clywed ac y bydd amddiffyniadau y mae ein pobl eu heisiau, eu hangen ac y maen nhw wedi pleidleisio drostynt yn parhau i fod ar waith, ac y bydd y Llywodraeth hon yn deddfu lle bynnag y bo angen i ddiogelu'r hawliau cyflogaeth, yr hawliau amgylcheddol a'r hawliau eraill yr ydym wedi dod i'w disgwyl yn y wlad hon.
Diolch yn fawr iawn i Alun Davies am hynny, Llywydd. Rwy'n gobeithio y gall weld, ac y gall eraill weld hefyd, bod cyfres o themâu yn rhedeg drwy'r rhaglen ddeddfwriaethol. Yn gyntaf oll, rydym yn benderfynol mai'r budd i'r cyhoedd fydd yn llywio'r ffordd y mae polisïau a deddfwriaeth yng Nghymru yn gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl, yn enwedig pan fydd y cyhoedd yn gwneud buddsoddiad enfawr yn y gwasanaethau hynny yn y lle cyntaf. Ac rwy'n gobeithio hefyd y bydd yn gweld bod y rhaglen yn radical ac yn uchelgeisiol. A gallaf ddweud wrthych chi, Dirprwy Lywydd, y bydd rhai sydd â diddordebau personol allan yna a fydd yn dangos cryn wrthwynebiad i gyfres o'r mesurau y bydd gan y Senedd o'i blaen yn ystod y flwyddyn i ddod, ac mae'r mesur plant sy'n derbyn gofal yn un o'r rheini. Mae yna sector â digon o adnoddau allan yna sydd wedi gwneud llawer iawn o arian allan o fywydau plant sy'n agored i niwed. Mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd wedi adrodd ddwywaith yn ystod y 12 mis diwethaf ar yr elw ychwanegol y mae'r sector wedi'i gymryd o'r gwaith hwnnw. Bydd pob Aelod o'r Senedd, rwy'n rhagweld, yn clywed gan y sector hwnnw, yn protestio yn erbyn y ddeddfwriaeth a fydd o'n blaenau. Ac ar y pwynt hwnnw, a phwyntiau eraill, ac mae diwygio'r Senedd yn sicr yn un ohonyn nhw, rhaid i ni beidio â chynhyrfu. Gallwch chi ddim sicrhau newid radical, gallwch chi ddim newid y sefyllfa sydd ohoni, gallwch chi ddim herio'r rhai sydd â diddordebau personol, heb fod gennych chi'r dewrder gwleidyddol sydd ei angen i sicrhau newid. Ac rwy'n gobeithio y gall yr Aelod weld, yn y pecyn deddfwriaeth sydd o flaen y Senedd yn ystod y 12 mis nesaf, yr ymdeimlad hwnnw o fudd i'r cyhoedd ar y naill law a'r dewrder gwleidyddol i wneud i'r pethau hynny ddigwydd drwy'r rhaglen y bydd gan y Senedd hon o'i blaen dros y 12 mis nesaf.
Prif Weinidog, diolch am eich datganiad. Roeddwn i'n drist nad oedd y gair 'bwyd' yn ymddangos unwaith yn y datganiad, oherwydd rydym yn gwybod bod gordewdra a materion eraill sy'n gysylltiedig ag iechyd yn rhemp, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef. Rwy'n gwybod bod datganiad yn ddiweddarach heddiw ynghylch deddfwriaeth yr amgylchedd bwyd, ond byddwn i wedi gobeithio y byddai pwysigrwydd lles ein plant drwy ein system fwyd wedi ymddangos yn y datganiad mawr hwn rydych chi wedi'i wneud heddiw, er lles cenedlaethau'r dyfodol. Rydym yn gwneud datganiad mawr am y Gymraeg, a phobl ifanc yn dysgu Cymraeg, sy'n bwysig iawn, iawn, ond siawns bod eu deiet, y bwyd y maen nhw'n ei fwyta a'u lles o bwys sylfaenol, wrth symud ymlaen. Rwy'n credu i ni golli'r cyfle i gael darn da o ddeddfwriaeth yma—rwy'n gwybod fy mod i'n rhagfarnllyd. Ond rwy'n credu bod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn cytuno â mi, a gwnaeth sawl argymhelliad i'r Siambr hon. Prif Weinidog, ni fyddaf yn mynd drwy'r rheini—does gennyf i ddim amser—ond roeddwn i'n siomedig nad oedd unrhyw gyfeiriad at unrhyw un o'r rheini yn eich datganiad chi. Allwch chi roi rhywfaint rhagor o sicrwydd i mi—ac rwy'n gwybod bod rhywfaint wedi'i roi eisoes yn y Siambr hon—y bydd yr argymhellion y gallai'r Bil bwyd fod wedi eu cyflwyno, neu bwysigrwydd addysgu ein plant ynghylch bwyd, yn rhan o'r ffordd y byddwch chi'n meddwl wrth symud ymlaen, ac na fydd hyn yn enghraifft o ychydig o ddeddfwriaeth meinciau cefn sy'n cael ei rhoi o'r neilltu?
Wel, yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Peter Fox am yr hyn a ddywedodd. Rwy'n cydnabod ei ymrwymiad personol ei hun i'r agenda fwyd honno a'r gwaith a wnaeth i hyrwyddo ei Fil ei hun. Ond, yn y ffordd y cydnabu, bydd y Senedd y prynhawn yma yn clywed gan fy nghyd-Aelod Lynne Neagle am y pecyn sylweddol iawn o fesurau y mae hi wedi'i gyhoeddi heddiw, y mae pob un ohonyn nhw'n helpu i gyfrannu at y camau y mae angen i ni eu gweld i ddiogelu dyfodol ein plant. Cadeiriais gyfarfod fy hun, Dirprwy Lywydd, nid nepell o'r Siambr, gyda chyfres o gyd-Weinidogion, ar y strategaeth bwyd cymunedol. Pwrpas y cyfarfod oedd ysgogi'r system, gan na fyddai'r Bil bwyd ei hun yn cael ei gyflwyno, i sicrhau bod pob rhan o'r Llywodraeth a phob cyd-Weinidog yn cyfrannu popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod y strategaeth bwyd cymunedol honno mor bwerus ag y gall fod, a byddwn ni'n ailymgynnull cyn diwedd y tymor hwn i sicrhau bod y camau hynny'n cael eu datblygu'n gyflym.
A gaf i ddweud, mewn ffordd addfwyn, os caf i, nid wyf yn credu ei fod yn helpu i geisio gwrthbwyso'r camau yr ydym yn eu cymryd o ran y Gymraeg yn erbyn y camau y byddwn yn eu cymryd ar fwyd? Wrth gwrs, rydym eisiau i'n plant dyfu i fyny mewn amgylchedd bwyd iach ac rydym eisiau i'n plant dyfu i fyny mewn gwlad lle mae'r Gymraeg yn rhan arferol, gyffredin o'u profiad bob dydd, ac nid oes unrhyw wrthddweud na chystadleuaeth rhwng y ddau amcan hynny.
Diolch, Brif Weinidog. Mae'r gair 'tlodi' ar goll o'ch datganiad. Dylai ddileu tlodi bod yn sail i holl raglen y Llywodraeth, neu dŷ ar dywod fydd pob Deddf a Mesur. Mae'r lefelau annerbyniol presennol o dlodi yng Nghymru yn creithio ein plant, ac, yng ngeiriau prif weithredwr Faith in Families, elusen sy'n cefnogi plant yn Abertawe yn fy rhanbarth i, yn golygu ein bod yn storio problem enfawr i'r dyfodol—problem iechyd enfawr, enfawr, problem lles enfawr, problem dicter. Tra'n bod ni wedi ein clymu i undeb anghyfartal a Llywodraeth San Steffan sy'n blaenoriaethu rhai grwpiau o bobl a rhai ardaloedd dros eraill ar sail ideoleg a gwleidyddiaeth etholiadol yn hytrach nag angen, ni fyddwn ni yng Nghymru yn medru gweithredu mewn modd cyflawn i ddileu tlodi o'n tir. Ac, o weld y Blaid Lafur yn gwrthod ymrwymo i ddarparu prydau bwyd am ddim i blant ysgol, mae'n amlwg na allwn gael ffydd mewn llywodraeth o unrhyw liw i gymryd y camau cadarn sydd eu hangen.
Felly, Brif Weinidog, ydych chi'n cytuno bod angen inni gyflymu'r gwaith o gymryd y grymoedd sydd eu hangen i greu'r genedl a'r gymdeithas rŷn ni am eu gweld, a datganoli grymoedd dros les i greu rhwyd ddiogelwch sydd yn wirioneddol achub y rhai sydd angen eu dal rhag syrthio i ffos galedi a chors anobaith? Ac yn y cyfamser, a ydych chi'n cytuno bod yna fesurau y gallwn ni eu rhoi ar y llyfr statud yma i geisio sicrhau bod bob £1 o gymorth a chefnogaeth a ddaw i deuluoedd yn cyrraedd eu pocedi yn gyflym ac yn rhwydd drwy greu system fudd-daliadau Gymreig ar sail statudol? Diolch.
Wel, diolch, Sioned Wiliams, am y cwestiynau. Ac wrth gwrs, dwi'n cytuno â beth ddywedodd hi am bwysigrwydd tlodi; mae tlodi yn rhan o bob profiad pwysig ym mywydau teuluoedd, sy'n bwysig i ni. Yn y rhaglen ddeddfwriaethol, rŷn ni'n canolbwyntio ar ddau beth: pethau ble mae'n rhaid inni ddeddfu i wneud gwahaniaeth a ble mae'r pwerau i ddeddfu yn nwylo'r Senedd nawr. Ac mae lot o bethau rŷn ni'n gallu ei wneud ym maes tlodi sydd ddim yn dibynnu ar ddeddfu, fel dywedodd Sioned Williams. Mae popeth rŷn ni wedi'i wneud gyda'n gilydd am fwyd am ddim yn ein hysgolion—doedd dim rhaid inni ddeddfu i wneud hwnna. Ac yn y ddogfen y mae'r Gweinidog Jane Hutt wedi'i chyflwyno ar dlodi, beth sydd yn y ddogfen yw'r pethau rŷn ni'n gallu eu gwneud sydd ddim yn dibynnu ar ddeddfu ar lawr y Senedd, achos does dim lot o bwerau gyda ni ar hyn o bryd sy'n rhedeg at ddeddfu a'r ffordd orau i wneud hwnna. Yn y dyfodol, dwi eisiau gweld mwy o bwerau yn y Senedd hon i weinyddu'r system lles sydd gennym ni, achos dwi'n meddwl, os bydd y pwerau yna—ac mae adroddiad Gordon Brown yn dangos y ffordd i wneud hynny—gallwn ni wneud mwy i helpu bywydau plant a theuluoedd sy'n dioddef o dlodi ar hyn o bryd. Ond mae hynny'n rhywbeth at y dyfodol.
Diolch am y datganiad pwysig iawn hwn, Prif Weinidog, i'r lle hwn, ar y rhaglen ddeddfwriaethol i Gymru ac i bobl Cymru. Ac fel cynrychiolydd etholaeth Islwyn, rwy'n gwybod bod newid hinsawdd yn un o'r prif flaenoriaethau allweddol i bobl ifanc yng Nghymru, ac mae rôl trafnidiaeth gyhoeddus yn rhan annatod o hynny. Rwy'n gwybod y bydd fy mhreswylwyr yn croesawu, a byddaf yn annog Llywodraeth Cymru i weithredu gyda brwdfrydedd mawr ar y Bil bysiau arfaethedig sydd ar ddod. I lawer gormod o gymunedau yn Islwyn, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn dameidiog ac yn annibynadwy hefyd.
Rwyf hefyd yn croesawu'n llwyr gynnig ansoddol, nid er elw, y buddsoddir ynddo ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru, a gyflwynir yn gyson ledled Cymru.
Yn ogystal â hyn, bydd y Bil diogelwch tomenni segur yn diwallu angen uniongyrchol i Gymru reoli ein treftadaeth ddiwydiannol yn ddiogel a bydd yn berthnasol i safleoedd glo a safleoedd eraill. Caeodd chwarel Tŷ Llwyd yn Islwyn yn 1972, ac mae wedi dangos, 50 mlynedd yn ddiweddarach, bod angen gwneud mwy yn uniongyrchol i fonitro a rheoli etifeddiaeth ein gorffennol diwydiannol a mwyngloddio er diogelwch ein holl ddinasyddion.
Prif Weinidog, ymhellach i gyfoethogi democratiaeth Gymreig mewn ffordd drawsnewidiol gyda Bil i ddiwygio'r Senedd a chreu cydbwysedd rhwng y rhywiau, sut felly y byddwch chi'n crynhoi pa mor bwysig yw rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol a radical Llywodraeth Lafur Cymru a pha mor gyflym y mae angen ei rhoi ar waith i'r dinasyddion sy'n gwrando yn Islwyn a thu hwnt?
Wel, diolch i Rhianon Passmore, Dirprwy Lywydd. Yr hyn yr hoffwn i drigolion Islwyn wybod yw bod y Senedd hon yn benderfynol o amddiffyn y ddemocratiaeth y mae eu dyfodol yn dibynnu arni, ac i wneud yn siŵr bod ganddyn nhw Senedd sy'n gallu cyflawni'r cyfrifoldebau sydd gennym ar eu rhan, ac y bydd y Senedd honno, Senedd y dyfodol, gobeithio, yn parhau i fynd i'r afael â'r pethau hynny sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf ym mywydau dinasyddion Islwyn.
Ac i gymryd un enghraifft o blith y rhai y soniodd yr Aelod amdanyn nhw, yn ei rhan hi o Gymru, bydd llawer iawn o bentrefi a theuluoedd yn byw gyda'r creithiau a grëwyd gan ddiwydiant mwyngloddio'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Maen nhw'n byw gyda hynny bob dydd. Byddan nhw'n gwybod, yn sgil y Bil a ddaw gerbron y Senedd hon, y bydd system yn y dyfodol lle bydd y gwaith o reoli, monitro a goruchwylio'r tomenni segur hynny yng Nghymru yn cael ei wneud mewn ffordd sy'n addas ar gyfer yr amgylchiadau yr ydym yn byw ynddyn nhw heddiw.
Mae llawer iawn o waith wedi mynd rhagddo, Dirprwy Lywydd, o ganlyniad i'r tasglu yr wyf i'n ei gadeirio ar y cyd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, i sefydlu pethau sylfaenol iawn fel: faint o domenni glo segur sydd yna yng Nghymru? Yn syml, doedden ni ddim yn gwybod. Mae 2,566 ohonyn nhw yn ôl y wybodaeth fwyaf diweddar a chywir. Lle oedden nhw? Pwy oedd yn berchen arnyn nhw? Pa gyflwr oedd arnyn nhw? Daeth i'r amlwg nad oeddem yn gwybod cyfres gyfan o bethau cwbl sylfaenol yr oedd angen i ni ei wybod er mwyn cael trefn a fydd yn cadw pobl yn ddiogel yn y dyfodol. Bydd dros 1,000 o archwiliadau wedi cael eu cynnal gan yr Awdurdod Glo o ganlyniad i arian a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y tomenni risg uchaf wedi cael eu harchwilio'n rheolaidd, ac rydym yn awr ar fin cychwyn ar y gwaith o archwilio tomenni sydd ymhellach i lawr yr hierarchaeth risg honno. Bydd yr holl waith hwnnw'n arwain at y ddeddfwriaeth y byddwch chi'n ei gweld o'ch blaen y flwyddyn nesaf.
I Lywodraeth Lafur, Llywydd, o wybod hanes Cymru, o wybod y trychinebau y mae pobl yng Nghymru wedi gorfod eu profi mewn blynyddoedd blaenorol, ni allai'r ymdrech i sicrhau ein bod yn osgoi hynny yn y dyfodol fod yn fwy sylfaenol i'n cenhadaeth wleidyddol, ac ni allai fod yn fwy sylfaenol i'r bobl yn Islwyn y mae'r Aelod yn eu cynrychioli.
Prif Weinidog, cyflwynodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yr adroddiad ar newid radical i blant â phrofiad o ofal yng Nghymru, ac rwy'n gwybod bod hwn yn faes gwaith allweddol yr ydych wedi cymryd diddordeb personol ynddo. Roedd llawer o'r argymhellion hynny yn nodi bod angen newid deddfwriaethol i sicrhau'r diwygio radical sydd ei angen arnom yma yng Nghymru. Felly, ar ben yr hyn y gwnaethoch chi ei gyhoeddi heddiw yn y datganiad, a wnewch chi amlinellu unrhyw fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i weithredu rhai o'r argymhellion yn yr adroddiad, er mwyn i ni allu gwella bywydau plant â phrofiad o ofal yma yng Nghymru?
Dirprwy Lywydd, nid wyf yn credu y gallaf i wneud hynny y prynhawn yma. Gallaf roi sicrwydd, i'r Aelod ac i Gadeirydd y pwyllgor yn arbennig, bod Llywodraeth Cymru yn cymryd yr adroddiad hwnnw o ddifrif. Fel y bydd yr Aelodau yn ei wybod, mae gennym chwe wythnos bob amser i sicrhau bod gennym gyfle o leiaf i ddeall yr argymhellion hynny'n llawn a'u hystyried yn briodol am y tro cyntaf, a bydd y Gweinidog sy'n gyfrifol yn rhoi ymateb i'r adroddiad hwnnw, gan gynnwys barn Llywodraeth Cymru ar unrhyw ddeddfwriaeth bellach a deddfwriaeth yn y dyfodol yn y maes pwysig hwn. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am y gwaith y mae wedi'i wneud. Ni fydd yn cael ei adlewyrchu—ond rwy'n gwybod na fyddai'r Aelod yn disgwyl—yn y rhaglen 12 mis nesaf, ond bydd yn sicr yn cael dylanwad dros y ffordd y bydd y Llywodraeth yn meddwl wrth i ni gynllunio y tu hwnt i'r drydedd flwyddyn ddeddfwriaethol.
Ac yn olaf, Carolyn Thomas.
Diolch. Rwy'n croesawu'r Bil bysiau, yn enwedig gyda'r argyfwng bysiau presennol, ac rwy'n gwybod bod gweithredwyr hefyd yn croesawu masnachfreinio nawr, sy'n dda. Rwy'n poeni ychydig am y cyllid fydd ar gael ar ei gyfer, ac rwy'n edrych ymlaen at drafod hynny yn y grŵp trawsbleidiol ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Roeddwn i hefyd yn mynd i ofyn am ddiweddariad ar y Bil positif o ran natur, ac rwy'n deall nawr ei fod yn dod o dan y Bil llywodraethu amgylcheddol. Fe glywais i eich ymatebion yn gynharach, ond rydym mewn argyfwng, ac mae natur yn dirywio mor gyflym fel fy mod i'n gobeithio y gellir mynd i'r afael ag ef yn gyflym iawn. A allwch chi gadarnhau y bydd y Bil yn cael ei gyflwyno yn ystod tymor hwn y Senedd? Rwy'n credu imi eich clywed yn gywir y bydd y Papur Gwyn yn cael ei gyflwyno y flwyddyn nesaf. Os gallwch chi ymateb i'r rheini, os gwelwch yn dda. Diolch.
Wel, diolch i Carolyn Thomas. Gwnaf, rwy'n cadarnhau, Llywydd, mai bwriad Llywodraeth Cymru yw cyflwyno Papur Gwyn ar lywodraethu amgylcheddol ar ddechrau'r flwyddyn nesaf, ac mae Bil ar lywodraethu amgylcheddol yn sicr yn dal i fod yn rhan annatod o gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer ail hanner tymor y Senedd.
Dirprwy Lywydd, mae'r Aelod wedi bod yn eiriolwr pwerus dros wasanaethau bysiau, ac yn eiriolwr parhaus dros wasanaethau bysiau, ar lawr y Senedd. Rwy'n falch o glywed yr hyn y mae'n ei ddweud am y croeso y mae'r model masnachfreinio wedi'i gael. Rwy'n credu bod y Dirprwy Weinidog wedi gweithio'n galed iawn gyda'r diwydiant i greu dull cydweithredol o lunio'r dyfodol hwnnw. Bydd cyllid bob amser yn broblem; yn syml, nid oes gennym yr arian i wneud yr holl bethau yr hoffem eu gwneud. Ond, bydd y Bil bysiau yn darparu sail ddeddfwriaethol newydd i sicrhau bod pa bynnag gyllid sydd ar gael yn cael ei roi i mewn i'r system mewn ffordd sy'n hyrwyddo budd y cyhoedd, ac mae honno'n thema, fel y dywedais i, Dirprwy Lywydd, sy'n rhedeg drwy'r rhaglen yr wyf wedi gallu ei hamlinellu y prynhawn yma.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Mae'r eitem nesaf ar yr agenda wedi'i gohirio tan 4 Gorffennaf.
Felly, nesaf yw'r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar ddiwygio'r tribiwnlysoedd ac esblygiad y maes cyfiawnder yng Nghymru. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud y datganiad. Mick Antoniw.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. System gyfiawnder deg ac effeithiol a rheolaeth y gyfraith yw conglfeini ein democratiaeth ni. Aeth y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, sy'n cael ei gadeirio gan yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd, i wraidd y mater pan nododd:
'Cyfiawnder sydd wrth wraidd system llywodraeth ddemocrataidd unrhyw wlad: Nid yw'r system gyfiawnder yn bodoli ar ei phen ei hun. Mae'n rhan annatod o'r gwaith o sicrhau bod hawliau pobl Cymru yn cael eu diogelu, eu gwella a'u gorfodi ym mhob ffordd. Mae gorfodi'r gyfraith a dyfarnu ar
anghydfodau mewn ffordd gyfiawn yn hanfodol i gymdeithas deg a chyfiawn.'
Ym mis Mai y llynedd, fe wnaethom ni gyhoeddi'r ddogfen, 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru', sy'n nodi llawer o'r ffyrdd arloesol sy'n cael eu defnyddio i sicrhau cyfiawnder yng Nghymru. Roedd y cyhoeddiad hwn yn fan cychwyn pwysig o ran cyfathrebu'r weledigaeth bendant a phwerus ar gyfer dyfodol cyfiawnder yng Nghymru, nid drwy roi addewidion ar gyfer y dyfodol ond drwy roi tystiolaeth o'r ymarfer yn rhannau o'r system nawr.
Heddiw, dwi eisiau gwneud datganiad am rai o'r camau ymarferol pellach rŷn ni'n eu cymryd i ddatblygu'r weledigaeth honno.
Yn benodol, rydym yn gwneud cynnydd pwysig ym maes cyfiawnder lle mae gennym y rheolaeth fwyaf, sef y tribiwnlysoedd datganoledig. Bydd y rhan fwyaf o Aelodau'n gyfarwydd â'r ffaith bod gweithredu nifer o dribiwnlysoedd wedi'i ddatganoli i Gymru mewn meysydd fel iechyd meddwl, addysg, prisio'r dreth gyngor a'r Gymraeg, ymhlith eraill. Mae'r tribiwnlysoedd datganoledig hynny yn darparu gwasanaeth clodwiw i bobl Cymru, ond barn ddiamwys y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, yn ei adolygiad o gyfiawnder yng Nghymru, a Chomisiwn y Gyfraith, yn ei adolygiad o dribiwnlysoedd datganoledig, yw bod angen diwygio i ddiogelu'r system dribiwnlysoedd yn y dyfodol a'i gwneud yn well.
Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom gyhoeddi Papur Gwyn o'r enw 'System Dribiwnlysoedd Newydd i Gymru'. Mae'r prif gynigion yn cynnwys creu tribiwnlys haen gyntaf i Gymru, i ymgymryd â swyddogaethau'r holl dribiwnlysoedd datganoledig presennol, a chreu tribiwnlys apêl i Gymru, i wrando ar bob apêl o'r haen gyntaf honno. Hwn fydd y corff apeliadol cyntaf erioed i Gymru yn unig. Bydd y strwythur newydd yn caniatáu dull symlach a chydlynol o benodi aelodau'r tribiwnlys, ymdrin â chwynion a disgyblaeth, a chreu rheolau gweithdrefnol. Bydd yn fwy hygyrch. Yn hollbwysig, bydd hefyd yn rhoi annibyniaeth strwythurol, trwy greu corff hyd braich statudol i weinyddu'r ddau dribiwnlys newydd. Bydd y system dribiwnlysoedd newydd a gynigir gan y Papur Gwyn nid yn unig yn diwallu anghenion presennol cyfiawnder tribiwnlysoedd yn well, ond bydd hefyd yn gallu diwallu anghenion Cymru yn y dyfodol, o hyn allan.
I roi un enghraifft: mae'r penderfyniad i wahardd plentyn o ysgol yn ganolog i'w obeithion yn y dyfodol. Ni ddylai fod unrhyw amheuaeth, pan apelir yn erbyn y penderfyniadau hynny, dylent gael eu clywed yn annibynnol, gan arbenigwyr, a gyda dull gweithredu cyson, lle bynnag y mae'r gwaharddiad yn digwydd. Bydd ein diwygiadau yn trosglwyddo'r cyfrifoldeb am yr apeliadau hyn o baneli ad hoc a sefydlwyd yn lleol i siambr addysg y tribiwnlys haen gyntaf newydd. Mae diwygio'r tribiwnlysoedd yn bwysig ynddo'i hun, ond mae hefyd yn gosod y sylfaen ar gyfer dyfodol lle mae cyfiawnder wedi'i ddatganoli a Chymru yn gweinyddu ei system ehangach ei hun, gan gynnwys y llysoedd. Rwyf wedi credu ers tro bod datganoli cyfiawnder yn anochel.
Wrth gwrs, byddwn yn aros am ganfyddiadau'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, ond yn y cyfamser, yn sgil comisiwn Gordon Brown ar gyfer Plaid Lafur y DU, mae datganoli yn dod yn obaith gwirioneddol iawn, ac mae gennym ddyletswydd i baratoi. Mae'n hanfodol bod unrhyw gynlluniau'n cael eu cyd-gynhyrchu gydag arbenigwyr a'r rhai sydd â phrofiad bywyd o gysylltiad â'r system gyfiawnder. Dyna pam rydym wedi comisiynu amrywiaeth o waith ym meysydd cyfiawnder ieuenctid a phrawf i ddeall sut y gallai datganoli'r meysydd hyn ddigwydd yn ymarferol a sut y gallem sicrhau'r effaith gadarnhaol fwyaf posibl o ddatganoli'r gwasanaethau hyn i Gymru. Rydym hefyd yn gobeithio gwneud gwaith tebyg ar ddatganoli plismona yn y dyfodol agos.
O ran cyfiawnder ieuenctid, comisiynwyd Dr Jonathan Evans i arwain adolygiad anffurfiol o'r system yng Nghymru, a fydd yn dod i ben cyn bo hir. Mae hyn wedi cael ei ddatblygu drwy grŵp cynghori gydag ystod eang o aelodau. Hyd yn hyn, mae'r grŵp hwn wedi cynhyrchu mewnwelediadau allweddol i sut y gellid cryfhau gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru fel eu bod yn cyd-fynd yn well â pholisi cyfiawnder cymdeithasol Cymru. Mae'n gofyn cwestiynau cyffrous am sut y gall gwasanaethau cyhoeddus weithio gyda'i gilydd hyd yn oed yn fwy effeithiol wrth atal troseddau ieuenctid, yn ogystal â sut rydym yn trin y plant hynny sy'n cyflawni troseddau ac, yn wir, eu dioddefwyr. Rhan o'r gwaith hwnnw, hefyd, yw edrych ar weithrediad y llys ieuenctid ac a ellid gwella hwnnw, gan gynnwys a yw hwn yn faes arall lle gallai arbenigedd aelodau'r tribiwnlys addysg presennol chwarae rhan.
Rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi y bydd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn bwrw ymlaen â darn tebyg o waith ar brawf. Bydd y gwaith hwn yn plethu â gwaith y grŵp datblygu prawf, grŵp o academyddion a phobl sydd â phrofiad o ymarfer, sydd eisoes yn ymgymryd â gwaith sy'n ystyried rhai elfennau o weledigaeth ar gyfer gwasanaethau prawf yng Nghymru yn y dyfodol.
Bydd y prosiectau hyn yn gosod y sylfaen ar gyfer myfyrio a gweithgaredd pellach. Rydym yn gobeithio gallu defnyddio'r allbynnau fel sylfaen ar gyfer ymgynghori ehangach yn ystod y misoedd nesaf. Bydd ein cynghorydd arbenigol annibynnol, y Fonesig Vera Baird CB, yn chwarae rhan hanfodol yn hyn, gan ddarparu cefnogaeth arbenigol a sicrhau bod ein cynlluniau'n cael eu rhoi drwy'r broses graffu angenrheidiol.
Wrth gwrs, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo. Rydym hefyd yn disgwyl cyhoeddi adolygiad blynyddol o 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru' yn yr hydref, gan nodi ein cynnydd yn y meysydd hyn yr wyf wedi'u crybwyll heddiw, yn ogystal â'r rhaglen waith cyfiawnder ehangach. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi ein dull pragmatig o baratoi ar gyfer datganoli cyfiawnder, a'n cynigion ar gyfer diwygio tribiwnlysoedd fel rhan o hyn. Bydd y camau cychwynnol hyn yr wyf wedi'u hamlinellu, yn fy marn i, yn ein paratoi ar gyfer creu gwasanaeth cyfiawnder gwell i bobl Cymru. Diolch yn fawr.
Sefydlodd Deddf Cymru 2017 y DU swyddogaeth llywydd Tribiwnlysoedd Cymru i oruchwylio'r saith tribiwnlys datganoledig y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt ac y mae'r llywydd yn llywyddu drostynt. O ganlyniad, rydym yn cydnabod y rhesymeg wrth sefydlu un system gydlynol lle mae'r saith tribiwnlys hyn i gyd yn gweithredu o fewn yr un fframwaith, fel yn Lloegr o dan Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 y DU. Fodd bynnag, ni allwn gefnogi'r mater ar wahân o ddatganoli'r system gyfiawnder yn llawn am y rhesymau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a grynhoais yma eto yr wythnos diwethaf ac nid wyf yn bwriadu eu hailadrodd unwaith eto.
Hefyd, o ran canlyniadau, nid yw hanes Llywodraeth Cymru o ran y gwasanaethau datganoledig sy'n gysylltiedig â chyfiawnder ieuenctid a phrawf, i'w roi yn gwrtais, yn dda iawn. Fodd bynnag, pan ofynnais i chi yn flaenorol am ddiwygio'r tribiwnlysoedd, nodais fod adroddiad terfynol Comisiwn y Gyfraith ym mis Rhagfyr 2021 ar dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru yn cynnwys y canlynol:
'rydym wedi ein hargyhoeddi mai model yr adran anweinidogol yw’r un y dylid ei fabwysiadu ar gyfer gweinyddu’r system tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru yn y dyfodol.'
Dywedodd:
'Dylai’r gwasanaeth tribiwnlysoedd fod yn annibynnol yn weithredol ar Lywodraeth Cymru.'
Wrth ymateb i mi ynghylch hyn ym mis Mawrth, dywedoch chi:
'mae'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu codi yn gwbl sylfaenol, sef bod yn rhaid i'r rhan honno o'r system gyfiawnder fod yn annibynnol ar y Llywodraeth...mae'n rhaid iddo fod yn fodel sy'n sicrhau gweithrediad annibynnol uned Tribiwnlysoedd Cymru'.
Ond ychwanegoch, er bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhoi llawer mwy o annibyniaeth i uned Tribiwnlysoedd Cymru, nid yw wedi ymrwymo i greu adran anweinidogol i weinyddu tribiwnlysoedd Cymru.
Mae'r cysyniad o wahanu pwerau rhwng deddfwrfa—h.y. y Senedd—Gweithrediaeth—h.y. Llywodraeth Cymru—a'r farnwriaeth wedi'i hen gymhwyso yn y DU ac ar draws y DU i atal crynodiad pŵer trwy ddarparu proses o wirio a chydbwyso. Sut felly y bydd y cynnig yn y Papur Gwyn 'System Dribiwnlysoedd Newydd i Gymru' i greu corff newydd hyd braich strwythurol annibynnol i weinyddu tribiwnlys yr haen gyntaf i Gymru a thribiwnlys apeliadau i Gymru yn gweithredu yn y cyd-destun penodol hwn?
Mae eich Papur Gwyn hefyd yn cynnig creu tribiwnlys yr haen gyntaf i Gymru gyda strwythur siambr, a chreu tribiwnlys apêl i Gymru. I ba raddau y bydd hyn yn ailadrodd y strwythur a gyflwynwyd gan Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 y DU, lle rhennir tribiwnlysoedd yn fras yn dribiwnlys yr haen gyntaf i wrando achosion yn y lle cyntaf, a'r uwch-dribiwnlys i wrando apeliadau gan y tribiwnlys cyntaf, gyda thribiwnlys yr haen gyntaf a'r uwch-dribiwnlys wedi'u rhannu'n nifer o siambrau arbenigol? Mae'n ymddangos yn annaearol o debyg.
O dan Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 y DU, o'r uwch-dribiwnlys mae posibilrwydd o apelio i'r Llys Apêl ac oddi yno i'r Goruchaf Lys. A fydd y diogelwch hwn hefyd yn berthnasol i'r system dribiwnlysoedd newydd rydych chi'n ei chynnig ar gyfer Cymru? Rydych chi'n cynnig yr hyn rydych chi'n ei ddisgrifio fel dulliau symlach a chydlynol o benodi aelodau'r tribiwnlys a chwynion ar draws y system dribiwnlys newydd. Sut bydd y rhain yn sicrhau rhinwedd, trylwyredd ac annibyniaeth oddi wrth y weithrediaeth a'r ddeddfwrfa?
Yn olaf, rwyf wedi mynegi pryderon gyda chi yn flaenorol bod plant agored i niwed a'u teuluoedd yng Nghymru yn cael eu siomi oherwydd nad oedd gan Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn flaenorol, na'r corff sydd wedi ei olynu nawr, unrhyw bwerau gorfodi ac ni all gymryd camau gorfodi pellach pan fydd y cyrff cyhoeddus perthnasol yn methu â chyflawni eu cyfarwyddiadau. Gan ddyfynnu ym mis Medi 2021 o adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru bryd hynny, dywedais fod yr adroddiad yn cyfeirio at Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru, gan gyfeirio at
'yr angen clir i sicrhau na chaiff addysg plant sy’n agored i niwed ei rhoi yn y fantol'
ac at y newid o Dribiwnlys AAA Cymru i'r tribiwnlys addysg. Yn eich ateb, dywedoch:
'Credaf y bydd y materion sy'n ymwneud â'r tribiwnlysoedd, trefniadaeth y tribiwnlysoedd, a phenderfyniadau'r tribiwnlysoedd yn fater i'r hyn y credaf y bydd yn Fil tribiwnlysoedd, lle bydd yn rhaid edrych ar yr holl faterion hyn'.
Sut felly ydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â hyn nawr, pan fo hyn yn parhau i fod yn thema reolaidd yn fy ngwaith achos? Mae'r tribiwnlys wedi cadarnhau nad yw'r ddeddfwriaeth newydd yn newid sut yr ymdrinnir â chydymffurfio â gorchmynion tribiwnlysoedd. Er bod y gorchmynion wedi'u rhwymo mewn cyfraith, nid oes gan y tribiwnlys unrhyw bwerau gorfodi o hyd, ac er y gellid cynnal adolygiad barnwrol yn erbyn yr awdurdod lleol yn yr Uchel Lys, mae'n amlwg bod hynny y tu hwnt i'r hyn y gall y mwyafrif helaeth o deuluoedd yr effeithir arnynt ei fforddio. Diolch.
Diolch am yr amrywiaeth o gwestiynau, a diolch am y manylion a'r ystyriaeth rydych chi wedi'u rhoi i'r adroddiad. Rwy'n credu ei fod yn cydnabod pwysigrwydd y cynigion hyn, felly rwy'n ddiolchgar iawn am y ffaith eich bod yn cefnogi'r rhesymeg o ran y diwygiadau, ac mae gennych, yn briodol, nifer o gwestiynau i'w gofyn.
Os caf droi at y cwestiwn a ofynnoch chi am Ddeddf 2007 a'r diwygiadau yn Lloegr, rydych chi'n hollol gywir, maen nhw'n seiliedig ar y cynigion tebyg hynny. Adroddiad Leggatt yn 2007 a alwodd am ddiwygiadau ar draws y DU yn y bôn. Ni chafodd y tribiwnlysoedd datganoledig eu hymgorffori o fewn hwnnw, ond roedd yr adroddiad yn glir iawn, iawn bryd hynny. Dywedodd:
'Os yw am allu delio â’i lwyth gwaith yn effeithiol, ac i sicrhau bod y gyfraith yn datblygu’n gyson, rhaid i’r system dribiwnlysoedd gael strwythur cydlynol i’w gwneud yn bosibl rheoli llwyth gwaith yn effeithiol, hybu cysondeb, a hybu dull cyffredin o wneud penderfyniadau, o ddelio ag achosion, ac o reoli.'
Ers hynny, cafwyd amrywiaeth o adroddiadau. Wrth gwrs, gwnaeth y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ymdrin â'r mater hwn. Hefyd, roedd adroddiad Comisiwn y Gyfraith, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, ac roedd adroddiad hefyd yn ôl yn 2014 ar yr adolygiad o dribiwnlysoedd a oedd yn gweithredu yng Nghymru.
Y gwahaniaeth rwy'n credu yw, ar yr adeg benodol honno, oherwydd datganoli, ac oherwydd y gwahanol ffordd y mae tribiwnlysoedd, ar sail ad hoc, wedi datblygu a dod i fodolaeth yng Nghymru, gyda phob math o strwythurau gwahanol ar waith, roedd angen ystyried yn eithaf difrifol sut beth fyddai diwygio a sut y byddai'n digwydd mewn gwirionedd. Felly, mae'n seiliedig ar yr egwyddorion sylfaenol hynny, sef eich bod â siambr yr haen gyntaf, a'ch bod yn creu siambrau arbenigol o fewn hynny, a chyfeirir eto at y siambrau arbenigol yn y Papur Gwyn. Byddent yn caniatáu nid yn unig system gydlynol, ond datblygu arbenigeddau, a hefyd y gallu a'r hyblygrwydd i ymgymryd â meysydd eraill. Un o'r argymhellion yn y Papur Gwyn wrth gwrs yw siambr gyffredinol i ystyried meysydd ychwanegol y gellid eu datganoli iddi.
O ran gwasanaethau ieuenctid a chyfiawnder ieuenctid, wel, wrth gwrs mae hwn wedi bod yn fater lle mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac mae wedi bod yn effeithiol. Nid yw'n ymdrin â'r cysondeb hirdymor sydd ei angen, a pham mae achos mor gryf dros ddatganoli cyfiawnder ieuenctid, sef yr hyn yr ydym yn gweithio arno.
Mae'r datganiad heddiw yn ymwneud yn sylfaenol â diwygio'r system dribiwnlysoedd a'r Papur Gwyn a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. O ran y system apelio, wel, hon fydd y system apelio gyntaf mewn bodolaeth. System apelio i Gymru fydd hi sy'n efelychu'r system apelio, ac wrth gwrs y tu hwnt i hynny fe fydd y gallu arferol ar gyfer apeliadau o ran adolygiad barnwrol ac ati.
O ran llywydd y tribiwnlysoedd, anghenion addysgol arbennig a'r siambr addysg ac ati, rwy'n credu y dylai'r newid i hynny fod yn gymharol ddi-dor. Nid wyf yn gweld y bydd yn creu anawsterau. Rwy'n credu y bydd hefyd, serch hynny, yn creu siambr addysg lawer mwy arbenigol a fydd yn gallu ymgymryd â meysydd eraill fel y rhai a grybwyllwyd, er enghraifft y gwaharddiadau.
Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrth gloi'r holl bwyntiau a wnaethoch chi yw mai Papur Gwyn yw hwn wrth gwrs. Mae wedi mynd allan, mae yno ar gyfer ymgynghori, ac yn ddiau, bydd nifer o safbwyntiau penodol, yn enwedig ar, er enghraifft, y system ariannol y sonioch amdani, beth yw'r system orau. Yr hyn y gallaf ei ddweud yn bendant iawn yw fy mod eisiau gweld annibyniaeth gref iawn o fewn hynny. Fel y dywedais y tro diwethaf pan gododd hyn, mae yna farn wahanol, wrth gwrs, ynghylch hynny, ac rwy'n siŵr y bydd nifer o gyfraniadau ynghylch beth y dylai ffurf yr annibyniaeth fod mewn gwirionedd, p'un a yw'n gorff hyd braich, ac ati, neu beth allai'r union fformat fod. Felly, rwy'n credu bod hynny'n fater ar gyfer trafodaeth bellach, ond rwy'n mawr obeithio y byddwch nid yn unig yn rhoi eich cyflwyniad eich hun, eich sylwadau eich hun i mewn i ymgynghoriad y Papur Gwyn, ond hefyd yr holl gyrff eraill sydd â diddordeb.
Yn gyffredinol, mae'r ymatebion rydw i wedi'u cael i'r Papur Gwyn wedi bod yn gadarnhaol iawn, iawn. Mae pobl yn falch iawn o weld ei fod yno. Mae'n ddiwygiad sylweddol, a byddem yn ystyried yr holl ymatebion sy'n dod drwy'r Papur Gwyn hwnnw yn ofalus iawn, iawn, oherwydd rydym eisiau system sy'n annibynnol, sy'n effeithiol ac sy'n cynrychioli'n iawn y materion barnwrol o ran darparu gwasanaethau yng Nghymru.
Rydym yn croesawu lansiad yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn ar y ddeddfwriaeth newydd i ddiwygio system tribiwnlysoedd Cymru. Fel yr amlygwyd yn adroddiad Comisiwn y Gyfraith ym mis Rhagfyr 2021, mae'r system bresennol yng Nghymru yn gymhleth ac yn anghyson, ac, mewn rhai achosion, yn anaddas ar gyfer ymarfer. Rydym yn gobeithio y bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn arwain at system dribiwnlysoedd decach a mwy hygyrch i Gymru sy'n adlewyrchu'n llawn y dirwedd ddatganoli sydd ohoni.
Wrth gwrs, gallai'r ffordd y mae Comisiwn y Gyfraith yn nodweddu cyflwr presennol system tribiwnlysoedd Cymru fod yr un mor berthnasol i'r system gyfiawnder yng Nghymru gyfan. Fel y trafodwyd gennym yn y ddadl yr wythnos diwethaf, mae sefyllfa eithriadol Cymru fel yr unig genedl ddatganoledig heb bwerau dros gyfiawnder a phlismona wedi bod yn niweidiol iawn. Mae hyn wedi arwain at ganlyniadau gwaeth o ran y system cyfiawnder troseddol a mynediad at gymorth cyfreithiol. Cyfeiriodd datganiad y Gweinidog at yr angen i osod y sylfeini ar gyfer dyfodol pan fo cyfiawnder wedi'i ddatganoli, ac rwy'n galonogol bod Llywodraeth Cymru yn rhagweld y ddeddfwriaeth hon fel rhan o raglen ehangach o ddiwygio y mae mawr ei hangen. Mae'n hanfodol bod y dull rhagweithiol o gryfhau a gwella pensaernïaeth ddatganoledig Cymru yn cael ei gynnal ar draws pob maes polisi.
Fel rhan o'r broses hon o osod y sylfeini ar gyfer datganoli cyfiawnder yn y dyfodol, mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth effeithiol arweinyddiaeth Lafur y DU. O ystyried y tebygolrwydd y bydd Llywodraeth nesaf San Steffan yn un Llafur, mae'n arbennig o bwysig. Yn anffodus, nid yw'r arwyddion yn addawol o ran sicrhau'r gefnogaeth honno. Rydym wedi sôn o'r blaen bod adroddiad Gordon Brown ar ddyfodol cyfansoddiadol y DU wedi cefnu ar uchelgeisiau Llywodraeth Cymru o ddiwygio cyfiawnder ers amser maith. Rydych wedi tueddu i ymateb i hyn drwy dynnu sylw at y ffaith bod adroddiad Brown yn cyfeirio at y ffaith nad oes rheswm mewn egwyddor pam na ellir datganoli materion sydd wedi'u datganoli yn yr Alban yng Nghymru. Er bod y farn a fynegir i'w chroesawu wrth gwrs, mae'n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar yr hyn sy'n ddatganiad o egwyddor anymrwymol yn unig.
O ran cynigion pendant, y cyfan sydd ar y bwrdd i Gymru gan Blaid Lafur y DU ar hyn o bryd yw datganoli gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau prawf. Mae hyn yn brin iawn o'r hyn a argymhellodd adroddiad cynhwysfawr a chymhellol Comisiwn Thomas yn ôl yn 2019. Os ydym eisiau sicrhau bod sylfeini system gyfiawnder yng Nghymru yn y dyfodol yn gadarn, siawns na ddylem fod yn pwyso i gael yr ymrwymiad ar gyfer datganoli llawn nawr fel y gallwn mewn gwirionedd ddechrau'r broses o baratoi a chynllunio o ddifrif. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog, a gan gofio sylwadau'r Gweinidog sef bod datganoli cyfiawnder yn anochel, a yw'n cytuno mai'r ffordd orau o osod y sylfaen ar gyfer datganoli cyfiawnder yn llawn yw i arweinyddiaeth Lafur y DU ymrwymo'n weithredol i roi'r pwerau hyn i Gymru cyn gynted â phosibl, yn hytrach na'i sgubo o'r neilltu. Diolch yn fawr.
Diolch i chi am y gwahanol sylwadau rydych chi wedi'u gwneud, ac rwy'n cytuno â'r sylwadau cyffredinol rydych chi'n eu gwneud am y cysylltiad rhwng y system gyfiawnder yn ei chyfanrwydd, a bod ein tribiwnlysoedd mewn gwirionedd yn rhan annatod o hynny. Felly, gan gymryd un cam ar y tro, rwy'n credu bod diwygio ein tribiwnlysoedd ein hunain, creu ein fframwaith a'n strwythur a'n strwythur apeliadol ein hunain, ac wrth gwrs, fel y soniodd Mark Isherwood, creu swyddogaeth llywyddion tribiwnlysoedd wedi bod yn ddatblygiadau arwyddocaol iawn, iawn.
Mae'n debyg mai'r man cychwyn mewn gwirionedd yw hyn: gan adael y mater datganoli cyfiawnder yn ei gyfanrwydd am y tro, rydym eisiau sicrhau bod gennym system dribiwnlysoedd briodol ac effeithiol ac annibynnol. Mae rhai o'r newidiadau a wnaed, gwella swyddogaeth llywyddion tribiwnlysoedd, sy'n cael ei argymell, rwy'n credu yn rhywbeth sy'n bwysig iawn. Mae'r rhain yn swyddi barnwrol arwyddocaol—y bobl fydd mewn gwirionedd yn eistedd fel llywyddion ac aelodau o'r siambrau amrywiol. Maen nhw'n swyddi barnwrol arwyddocaol, ac mae hyn yn ddatblygiad arwyddocaol o'r rhan yma o'r system gyfiawnder sydd o fewn ein rheolaeth ni ac mae hynny'n rhan o'r broses ddatganoli ar hyn o bryd.
O ran adroddiad Brown, credaf mai'r hyn oedd yn bwysig yn adroddiad Brown hefyd oedd ei fod wedi cyfeirio'n benodol at y ffaith bod gennym ni ein comisiwn ein hunain ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, ac roedd yna barch at hynny, ac roedd hynny, fel y dywedais yn y Siambr hon o'r blaen, yn gwbl gywir. Byddai wedi bod yn hollol anghywir i'r adroddiad hwnnw fod wedi dweud yn y bôn, 'Dyma sydd ei angen ar Gymru a dyma ddylai Cymru ei gael mewn gwirionedd,' yn hytrach na dweud, 'Wel, mae gennych chi eich comisiwn ar y gweill. Dyma'r egwyddorion, mewn gwirionedd, ar gyfer diwygio cyfansoddiadol pellach y DU, ac mae bellach yn fater i chi ei ystyried, ac ymgysylltu'n adeiladol ag ef.'
Gadewch i mi ddweud hefyd, wrth gwrs, ni fydd dim yn digwydd—ni fydd unrhyw newid o ran datganoli cyfiawnder—os bydd Llywodraeth Geidwadol arall. Felly, mae hyn i gyd yn gwbl ddibynnol o ran datganoli cyfiawnder, ar ethol Llywodraeth Lafur ymhen rhyw flwyddyn. Rwy'n ffyddiog y bydd hynny'n digwydd. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud hefyd yw nad yw gwneud newidiadau i'r system gyfiawnder, a'i hymgorffori, yn dasg hawdd. Mae'n system gymhleth iawn gyda llawer o agweddau arni a pha bynnag ffordd y byddem yn bwrw ymlaen â hyn, mae'n mynd i gymryd amser i sicrhau parhad a sefydlogrwydd y system gyfiawnder, ond hefyd i sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ei wneud yn gwella'r system gyfiawnder bresennol, a dyna pam rwy'n credu bod y dull gweithredu rydym wedi'i fabwysiadu hyd yn hyn yn gwbl gywir. Nid ydym bellach yn siarad am yr achos dros ddatganoli cyfiawnder ieuenctid, na'r achos dros ddatganoli'r gwasanaeth prawf; rydym yn paratoi mewn gwirionedd ar ei gyfer, sut y gall ddigwydd, ym mha fformat y dylai fod, beth yw'r gofynion deddfwriaethol i wneud iddo ddigwydd mewn gwirionedd, ac mae hynny'n arwyddocaol, ac rwy'n credu y gallwch chi gymryd hynny fel arwydd o hyder bod y rhain yn bethau y credwn a fydd yn digwydd mewn gwirionedd. Rwy'n gobeithio fy mod wedi ateb eich holl bwyntiau.
Diolch yn fawr iawn am yr holl waith sylweddol rydych chi'n ei wneud i ddangos sut y gallem ddarparu system gyfiawnder yn agosach at bobl Cymru unwaith y bydd gennym y pwerau hynny. Rwy'n croesawu'n arbennig eich penderfyniad i sicrhau y dylai tribiwnlys weld unrhyw un sy'n cael ei eithrio o'r ysgol er mwyn archwilio a oedd hyn yn weithred briodol ai peidio, oherwydd mae'n ymddangos i mi fod gwahardd o'r ysgol yn fater mor ddifrifol, dylai fod yn ddigwyddiad prin sydd bron byth yn digwydd. Felly, rwy'n credu bod hynny'n arddangosiad rhagorol o sut y gall tribiwnlys graffu'n annibynnol iawn ar benderfyniad o'r fath.
Tybed a gaf i ofyn i chi am yr adolygiad o'r system cyfiawnder ieuenctid y mae Dr Jonathan Evans yn ei gynnal. A thybed a allech chi ddweud ychydig mwy wrthym am bwy sydd ar y grŵp cynghori sy'n gweithio gydag ef? Ydy e'n cynnwys pobl o fyd addysg a hefyd therapydd lleferydd ac iaith?
Diolch am y cwestiwn, ac rwy'n croesawu'r sylwadau rydych chi'n eu gwneud o ran gwaharddiadau, oherwydd cydnabyddir hynny'n fawr; mae gwaharddiad yn rhywbeth sy'n cael effaith sylweddol iawn ar berson ifanc, a chredaf ei bod yn gwbl briodol y dylai fod system gydlynol a chyson o ran gwaharddiadau.
Ymdrinnir â materion fel derbyniadau, wrth gwrs, yn lleol fel arfer, felly ni fyddant yn rhan o'r system dribiwnlys hon. O ran y gwaith sy'n mynd rhagddo ar y system cyfiawnder ieuenctid, yn y bôn, grŵp o academyddion ac arbenigwyr yn y maes addysg sy'n cael eu harwain yw e', a maes o law, pan fydd y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau mewn gwirionedd, mae'n debyg y bydd yn ein symud ni ymlaen yn sylweddol. Ond rwy'n fodlon bod y bobl yr ymgynghorir â nhw, sy'n ymgysylltu, a'r unigolion sy'n gweithio arno'n arbennig, yn rhai sydd ag arbenigedd yn y maes hwn. Nid hwn fydd yr unig waith, wrth gwrs. Mae angen i'r cwestiwn ynghylch y strwythur deddfwriaethol ddigwydd hefyd, ac, wrth gwrs, bydd gwaith y Fonesig Vera Baird rwy'n credu yn bwysig iawn yn hyn o beth. Y sgìl gwirioneddol a'r arbenigedd gweithredu ymarferol sydd ganddi—a chredaf fod eraill o gwmpas sydd hefyd â'r sgìl a'r arbenigedd yna y credaf y byddent eisiau cyfrannu tuag at lunio pecyn datganoli yn y pen draw, nad yw'n siarad am sut rydych chi'n gwneud pethau ond yn dweud, 'Dyma'r hyn yr ydym yn dymuno iddo digwydd a dyma sut y dylai ddigwydd,' ac er mwyn i ni allu gweithio'n gyflym o'r foment y mae'r cyfle'n codi.
Cwnsler Cyffredinol, mae'r ymgynghoriad yn dod i ben ar 2 Hydref. A allwch ddweud wrthym beth yw'r amserlen ar ôl hynny? Rwy'n falch, fel y soniodd Jenny Rathbone, fod paneli gwahardd o ysgolion wedi'u cynnwys yn y tribiwnlys, ond roeddwn yn siomedig i'ch clywed eto yn dweud nad yw paneli derbyn i ysgolion wedi'u cynnwys. Maent yn dioddef o'r un problemau â phaneli gwahardd. Maent hefyd yn ad hoc, gydag aelodau'r panel yn cael eu penodi gan y penderfynwr, sef yr awdurdod lleol, ac mae cynghorydd cyfreithiol y panel apêl yn un o gyflogai'r awdurdod lleol. Byddai eu cynnwys o fewn y system tribiwnlysoedd yn cynyddu llwyth gwaith y siambr addysg, sy'n bwysig iawn, oherwydd fel y dywedoch sawl gwaith, mae'r diffyg achosion o fewn tribiwnlysoedd Cymru yn bryder gwirioneddol. A oes gan y Cwnsler Cyffredinol farn gychwynnol ynghylch pam nad yw'r paneli derbyn wedi'u cynnwys? Ni allaf weld y bydd y ddadl leol yn un gref, oherwydd gellid ymgorffori hynny o hyd o fewn y system dribiwnlysoedd trwy aelodau di-dâl fel ynadon.
Rwyf hefyd yn falch o weld y gwaith ychwanegol sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru wrth ddatganoli gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid. Fodd bynnag, tybed, trwy ei gyfyngu i'r meysydd hynny, gan nad yw'r gwaith plismona wedi dechrau eto, a yw hyn yn gonsesiwn ar ran Llywodraeth Cymru, oherwydd adroddiad Brown, mai dyma'r unig ran debygol o'r system gyfiawnder a fydd yn cael ei datganoli i Gymru? Ac a ydych chi'n cytuno na fyddai datganoli tameidiog yn mynd i'r afael â'r mater bylchog hwn? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, Rhys, am y sylwadau yna. O ran yr amserlen, credaf eich bod wedi clywed y Prif Weinidog yn gynharach heddiw yn dweud, nid o fewn y drydedd flwyddyn, ond cyn y diwedd, y bydd Bil yn cael ei gyflwyno. Nid fy lle i yw dweud yn union ym mha flwyddyn y gallai hynny fod yn digwydd, ond fel y gwyddoch gyda deddfwriaeth, mae datblygiad parhaus gwaith polisi a'r cynllunio ar gyfer deddfwriaeth yn bethau sy'n digwydd dros gyfnod o amser cyn y cyhoeddiad a'r penderfyniad gwirioneddol i gyflwyno deddfwriaeth benodol mewn gwirionedd. Yr hyn yr wyf yn ffyddiog yn ei gylch yw, erbyn diwedd tymor y Senedd hon, y bydd gennym system dribiwnlysoedd ddiwygiedig a bydd deddfwriaeth wedi cael ei phasio. Ac, wrth gwrs, fel y gwyddoch, mae gennym bellach lywydd tribiwnlysoedd newydd, cyn-farnwr y llys apêl, Syr Gary Hickinbottom, yr wyf wedi cwrdd ag ef ac y mae'r Prif Weinidog wedi cwrdd ag ef, ac mae'n siŵr y byddwn eisiau ymgysylltu ag ef o ran cynigion ar gyfer y diwygio strwythurol.
O ran y mater paneli derbyn, wel, rydych chi'n iawn ei fod yn faes lle bu safbwyntiau gwahanol. Yn ystod yr ymgyngoriadau, yn sicr roedd anghytuno bod derbyniadau yn rhywbeth mor lleol, bod cymaint o nodweddion lleol, fel ei fod yn rhywbeth a ddylai aros lle mae ar hyn o bryd. Ac wrth gwrs, mae hwn, unwaith eto, yn Bapur Gwyn, felly mae cyfleoedd i safbwyntiau gael eu cyflwyno sy'n dweud mewn gwirionedd, 'Na, dylai'r dewis arall fod yn wir ac y dylai'r rhain fod—.' Rwy'n credu y teimlwyd o ran y Papur Gwyn fod y gwaharddiadau yn bethau a oedd yn bendant yn gorfod dod i mewn. Roedd arwyddocâd gwahardd o'r ysgol yn cael effaith mor sylweddol. Mae derbyniadau o ran dewis ysgolion penodol yn cynnwys cymaint o nodweddion lleol o ran yr ysgol, y capasiti, y ddaearyddiaeth, ac ati fel bod teimlad, yn sicr am y tro o leiaf, bod y rheini'n bethau a ddylai aros lle maen nhw. Ond, fel y dywedaf, o fewn y system, rydym eisiau system dribiwnlysoedd sydd â hyblygrwydd. Efallai y bydd meysydd eraill o ddeddfwriaeth yn ymwneud â chyfraith newydd Cymru a strwythurau apêl newydd y byddwn unwaith eto, efallai yn awyddus i'w hymgorffori o fewn ein system dribiwnlysoedd yn y dyfodol—system a fydd mewn gwirionedd yn tyfu ac yn adlewyrchu, yn gynyddol, cyfraith Cymru, a hefyd y gallu i ddefnyddio'r Gymraeg a datblygu arbenigedd ymhlith cyfreithwyr a'r rhai sy'n cymryd rhan o fewn strwythur y tribiwnlys hwnnw ei hun. Felly, mae pethau pwysig iawn yno.
O ran plismona, mae yna waith sy'n mynd ymlaen o ran plismona ac o ran datblygu polisi ynghylch hynny. Mae hynny'n parhau. Ond o ran adroddiad Brown, ac unrhyw gyfyngiad, wel, gwnaeth Gordon Brown hi'n gwbl glir—does dim terfynau. Sybsidiaredd yw'r peth allweddol, y dylid datganoli cymaint â phosibl ar wahân i'r pethau hynny sy'n angenrheidiol o ran y gyd-ddibyniaeth rhwng gwledydd. Felly, mae'r egwyddor yno, ond roedd yn llygad ei le wrth ddweud hefyd, yn dibynnu ar gasgliadau'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, ei fod yn rhywbeth lle dylai fod wedyn ymgysylltiad adeiladol â'r Llywodraeth nesaf. Rwy'n amau mai'r unig ymgysylltiad adeiladol fydd gyda'r Llywodraeth Lafur nesaf, a dyna pam mae mor bwysig y bydd, fel y gwn ein bod i gyd yn dymuno, Lywodraeth Lafur y DU ar waith cyn gynted â phosibl.
Ac yn olaf, Alun Davies.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud cymaint rwy'n croesawu'r datganiad a wnaed y prynhawn yma ac yn croesawu'r dull gweithredu y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ei fabwysiadu yn y materion hyn? Rwy'n credu y bydd cytundeb eang ar draws y Siambr ar y gwaith sydd wedi'i wneud i ddiwygio'r system dribiwnlysoedd, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth a all uno pob rhan o'r Siambr.
Fy mhryder y prynhawn yma—. A'r hyn rwy'n ei groesawu am y datganiad oedd dechrau'r gwaith o fapio llwybr ar gyfer datganoli plismona a chyfiawnder. Mae Bil dioddefwyr, wrth gwrs, ger bron Senedd San Steffan ar hyn o bryd, a byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog amlinellu unrhyw sgyrsiau y mae wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch sut y gellir defnyddio'r Bil hwnnw er mwyn dechrau'r gwaith o ddatganoli neu baratoi ar gyfer datganoli cyfiawnder ieuenctid a phrawf yn arbennig—y meysydd y mae wedi canolbwyntio arnynt y prynhawn yma.
Ond hefyd, yn ei ateb i Rhys ab Owen, dechreuodd hefyd, fe deimlais i, fapio llwybr ar gyfer y dyfodol o ran datganoli ehangach, sef plismona a chyfiawnder. Ac rwy'n rhannu'r cytundeb ag ef ar yr egwyddor y gall unrhyw bwnc sydd wedi'i ddatganoli i'r Alban er enghraifft, gael ei ddatganoli i Gymru hefyd. Ond beth mae hynny'n ei olygu yn ymarferol? Ble mae'n gweld yr amserlenni yn hyn, o ran y confensiwn cyfansoddiadol yn adrodd, rwy'n tybio, i Lywodraeth Cymru, sgyrsiau wedyn yn digwydd gyda Gordon Brown, ac yna sut mae hynny'n cyrraedd y llyfr statud o ran deddfwriaeth yn San Steffan? Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n gallu deall a dechrau mapio'r broses honno fel bod y gwaith y mae ef wedi'i ddechrau, a'r gwaith rwy'n ei groesawu'n fawr ar gyfiawnder ieuenctid a phrawf—a chredaf iddo ddweud plismona hefyd—yn dechrau o ddifrif i baratoi ar gyfer datganoli gwir gyfiawnder troseddol i'r lle hwn i sicrhau y caiff y bobl sy'n dioddef yn sgil diffygion y system honno ar hyn o bryd—
Mae angen i chi ddod i ben nawr.
—sylw haeddiannol.
Diolch am hynna. Mae'r Aelod yn iawn, wrth gwrs, i godi unwaith eto, fel y gwnaeth eraill, y mater o blismona. Mae plismona yn rhan annatod o'r system gyfiawnder. Mewn sawl ffordd, mae llawer o weithrediad plismona wedi'i ddatganoli mewn ffordd hybrid o ran y ffaith fod strwythurau wedi'u creu ar gyfer yr ymgysylltiad hwnnw, a thrwy'r comisiynwyr heddlu a throseddu ac ati. Ac mae camweithrediad anghymesur, onid oes, o fewn y DU, sef bod plismona wedi'i ddatganoli eisoes mewn rhai rhannau o'r DU. Nid yw hynny'n wir am Gymru, a does dim rheswm rhesymegol dros hynny. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sy'n anochel ac yn rhywbeth a fydd yn digwydd. Ac mae'n ddiddorol, pan fydd Gordon Brown yn siarad am ei adroddiad, ei fod yn cyfeirio at ddatganoli cyfiawnder ieuenctid, prawf a phlismona. Ond rydym yn gweithio ar y sail bod rhai cyfeiriadau penodol iawn at gyfiawnder ieuenctid ac at y gwasanaeth prawf. Dyma'r rhai yr ydym yn canolbwyntio ein gwaith arnynt. Nid ydym yn anwybyddu'r mater o blismona. Mae yna waith ac ymchwil ychwanegol yn digwydd ar hynny o ran sut y gallai weithio, sut y gallai'r pwerau gael eu harfer, y cydberthnasau ac ati. Felly, mae hynny ar y gweill.
O ran y comisiwn cyfansoddiadol gyda Rowan Williams a Laura McAllister, rwy'n deall y bydd yn adrodd erbyn diwedd eleni. Rwy'n gobeithio mai adroddiad yw hwnnw wedyn a fydd yn cael ei drafod yn synhwyrol, nid yn unig yn y Siambr hon, ond ym mhob plaid wleidyddol ac yn y gymdeithas ddinesig ychydig yn fwy cyffredinol hefyd. Y pwynt allweddol, rwy'n credu, yn adroddiad Gordon Brown sy'n ymwneud â hynny yw y dylid cael ymgysylltiad adeiladol wedyn â'r Llywodraeth Lafur nesaf.
Byddwn ni, wrth gwrs, os na fydd yr etholiad cyffredinol wedi digwydd erbyn hynny, yn ceisio ymgysylltu â Llywodraeth y DU, ond mae yna realiti o ran y sefyllfa sydd wedi'i mabwysiadu gan Lywodraeth y DU, ni waeth beth fo'r rhinweddau neu fel arall; yn y bôn, mae hon yn safbwynt ideolegol sydd wedi'i fabwysiadu o ran canoli pŵer, er y byddai rhinweddau mewn datganoli meysydd o'r system gyfiawnder beth bynnag. Felly, mae'r rheini'n drafodaethau a fydd yn digwydd bryd hynny, ac rwy'n credu y cawn gyfle go iawn i'w trafod ym mis Rhagfyr, pan gyhoeddir yr adroddiad hwnnw, yr wyf yn edrych ymlaen yn fawr i'w weld.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
Eitem 6 y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, rhaglen imiwneiddio genedlaethol i Gymru. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan, i wneud y datganiad.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn heddiw o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ddatblygiad y fframwaith imiwneiddio cenedlaethol a'r gwaith anhygoel sydd wedi bod yn digwydd yn ystod y misoedd diwethaf i greu system frechu i Gymru sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, brechu yw un o'r buddsoddiadau iechyd gorau y gall arian ei brynu ac mae'n helpu i atal hyd at 3 miliwn o farwolaethau'r flwyddyn ledled y byd.
Rydyn ni i gyd yn cofio'r llawenydd a'r rhyddhad a ddaeth gyda brechlyn COVID-19. Mae'n amhosibl gorbwysleisio'r effaith y mae'r rhaglen frechu wedi'i chael ar ein bywydau i gyd. Ond nid dyna ddiwedd arni. Heddiw, rwy'n falch iawn o adrodd y bydd rhaglen atgyfnerthu gwanwyn COVID-19 yn dod i ben yr wythnos hon. Mae hi wedi darparu dros 0.25 miliwn o frechiadau. Daeth rhaglen y gwanwyn yn fuan iawn ar ôl rhaglen frechu anadlol y gaeaf, a oedd yn rhedeg o fis Medi diwethaf tan 31 Mawrth. Felly, yr hyn mae hynny'n ei olygu yw ein bod ni wedi bod yn cynnig amddiffyniad brechu COVID-19 i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau am 10 mis yn olynol, a dyma'r drydedd flwyddyn yn olynol i'n GIG ni ddarparu rhaglen COVID yn ogystal â'r rhaglen ffliw, yn gyflym ac o dan bwysau. Mae dros 12 miliwn dos o frechiadau COVID-19 a'r ffliw wedi cael eu rhoi i bobl Cymru ers 2020, mewn poblogaeth o ychydig dros 3 miliwn o bobl. Mae hyn yn rhywbeth na allem ni fyth fod wedi'i ragweld cyn y pandemig, a hoffwn i ddiolch yn ddiffuant i bawb a gymerodd ran.
Mae ymgysylltu'r cyhoedd wrth ddod ymlaen am eu brechiadau wedi bod yn hanfodol i lwyddiant y rhaglen. Rwyf i mor ddiolchgar i bobl am hynny, ond ni allwn ni, ac ni ddylem ni gymryd yr ymgysylltu hwnnw yn ganiataol.
Llwyddiant ysgubol rhaglen frechu COVID-19 a wnaeth ein gosod ni ar y daith o ddiwygio sydd wedi'i disgrifio yn y fframwaith imiwneiddio cenedlaethol. Rwyf i eisiau i Gymru fod â dull gweithredu o ran brechiadau sy'n arwain y byd ac sy'n sicrhau bod ein dinasyddion, ar bob cam o'u bywydau, yn cael eu hamddiffyn rhag clefydau a allai arwain at salwch difrifol neu farwolaeth. Ond mae'n rhaid i mi fod yn glir: ni fydd un dull sy'n addas i bawb byth yn briodol ar gyfer brechiadau. Wedi dweud hynny, ein huchelgais ni yw creu system lle mae dull cenedlaethol yn cael ei fabwysiadu pryd a lle bo hynny'n briodol. Bydd hon yn system sy'n canolbwyntio'n ddygn ar ddileu annhegwch i sicrhau bod pob dinesydd yn mwynhau'r manteision diogelu iechyd sy'n cael eu darparu gan ein rhaglenni brechu.
Er mwyn datblygu'r system yr wyf i'n ei disgrifio, rwyf i wedi darparu cyllid i Weithrediaeth y GIG i sefydlu tîm i oruchwylio'r gwaith o gyflawni'r holl raglenni brechu. Mae gan y system newydd waith partneriaeth wrth ei chraidd. Mae'r cyflymder a welwyd wrth i ni sefydlu ein rhaglen frechu mpox mewn ymateb i'r achosion y llynedd yn enghraifft o sut y gall ein system sydd wedi'i thrawsnewid gyflawni'n gyflym i bobl Cymru.
Nod craidd y fframwaith imiwneiddio cenedlaethol yw datblygu'r seilwaith digidol sydd ei angen i ddarparu system frechu effeithiol ac effeithlon sy'n gweithio'n ddi-dor i ymarferwyr ac i gleifion fel ei gilydd. Bydd y gwaith hwn yn hanfodol i gyflawni'r fframwaith yn llwyddiannus, ac mae'n rhaid i mi fod yn onest gyda chi, mae gennym ni dipyn o ffordd i fynd. Ond rwy'n falch o ddweud bod y gwaith darganfod yn mynd rhagddo'n dda, ac rwy'n disgwyl gweld cynlluniau ar gyfer sut y mae modd datblygu'r gwaith hwn yn fuan iawn.
Gan ddefnyddio'r hyn a ddysgwyd o'r pandemig, a chydnabod lefel y risg y mae practis cyffredinol yn ei ysgwyddo ar gyfer caffael y brechlyn ffliw presennol, rwyf i wedi ymrwymo i gyflwyno model caffael canolog. Eto, bydd hwn yn ddarn cymhleth o waith, a fydd yn cael ei ddatblygu a'i gyflawni mewn partneriaeth, ond rwy'n gobeithio y bydd modd cyflwyno'r model newydd mewn pryd ar gyfer y tymor ffliw 2025.
Mae sicrhau mynediad teg at frechu yn flaenoriaeth sylfaenol ym mhob rhan o'r fframwaith imiwneiddio cenedlaethol. Mae'r byrddau iechyd yn datblygu cynlluniau i wireddu'r nod o leihau anghydraddoldeb a'i ddileu'n llwyr yn y pen draw—bydd hyn yn sicrhau bod pawb yn cael cyfle teg i gael eu brechu.
Fe wnaeth y pandemig amharu ar ein rhaglenni brechu, yn enwedig y rhai sy'n cael eu darparu mewn ysgolion. Dwi'n falch iawn o weld bod rhaglenni dal i fyny ar waith, a bod gwaith da iawn yn cael ei wneud i wneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc a fethodd frechiadau hanfodol tra roedd y cyfyngiadau mewn grym yn gallu eu cael nhw nawr.
Dwi'n siŵr y bydd Aelodau'n cytuno bod yna lawer i'w ddathlu, ond dwi'n ymwybodol iawn bod camwybodaeth a thwyllwybodaeth am frechu wedi cynyddu lot yn ystod y pandemig. Byddwn ni'n parhau i weithio gyda chyrff y gwasanaeth iechyd i sicrhau bod gwybodaeth glir, cywir a dibynadwy am ein rhaglenni brechu ar gael i bawb.
Ond hoffwn i gymryd y cyfle nawr i rannu newidiadau a fydd yn cael eu gwneud i rai o'n rhaglenni brechu yn nes ymlaen eleni. Yn ddiweddar, gwnes i dderbyn cyngor gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu sy'n argymell newid o ddau ddos i un wrth frechu yn erbyn y feirws papiloma dynol, neu HPV. Mae'r cydbwyllgor wedi cyfeirio at dystiolaeth gadarn bod un dos o'r brechlyn HPV yn ddigon i amddiffyn unigolion yn effeithiol am gyfnod hir o amser, os caiff y brechlyn ei gynnig yn gynnar yn ystod y cyfnod glasoed. Mae brechlyn HPV yn helpu i ddiogelu pobl rhag canser y geg a'r gwddf yn ogystal â chanser ceg y groth. Mae astudiaethau wedi dangos gostyngiad o bron i 90 y cant mewn achosion o ganser ceg y groth ymysg grwpiau sydd wedi'u brechu. Bydd y newid i un dos yn cael ei roi ar waith yn y flwyddyn academaidd nesaf.
Rŷn ni hefyd yn paratoi at newid arwyddocaol i'r rhaglen frechu rhag yr eryr. Nawr, pwy sy'n gwybod beth yw 'eryr'? [Torri ar draws.] O, da iawn; mae e'n cael 10 mas o 10. Shingles—da iawn. Mae yna frechlyn newydd ar gael, a bydd yna fwy o oedrannau'n gymwys i gael y brechiad. Gall shingles, neu'r eryr, achosi salwch difrifol, yn enwedig mewn pobl hŷn. Gall un o bob 1,000 o achosion arwain at farwolaeth. Trwy frechu pobl i'w hatal rhag dal y feirws rŷn ni'n diogleu unigolion a'r gwasanaeth iechyd.
Am y tro cyntaf erioed, diolch i'r strwythurau gafodd eu creu gan y fframwaith imiwneiddio cenedlaethol, fydd modd cyflwyno'r newidiadau hyn yn ddi-dor: byddwn yn gwneud hyn wrth i raglenni rheolaidd eraill barhau ac wrth i raglen frechu'r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol 2023 gael eu rhoi ar waith.
Unwaith eto, dwi eisiau diolch i bawb sy'n rhan o gynllunio a darparu ein rhaglenni brechu. Mae gwaith ein timau brechu yn anhygoel; mae'n sicrhau bod pobl Cymru yn gallu cael yr amddiffyniad gorau posibl rhag clefydau. Dwi'n ddiolchgar i wasanaeth iechyd Cymru am groesawu'r newidiadau gafodd eu cyflwyno gan y fframwaith imiwneiddio cenedlaethol ac am helpu i greu gwasanaeth brechu cynaliadwy, gan ddarparu buddion i unigolion a'n cymunedau, ac atgyfnerthu ein gwasanaeth iechyd. Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma? Nid wyf i'n credu bod llawer iawn i anghytuno ag ef ynddo. Rwy'n gefnogol iawn i lawer o'r hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud y prynhawn yma. Rwy'n cofio—. Soniodd y Gweinidog am y llawenydd pan gafodd y brechiad ei ddatblygu, ac, wrth gwrs, roeddem ni'n arbennig o dda yn y DU a Chymru wrth gyflwyno'r brechiad yn gyflym hefyd, a gafodd gymaint o effaith ar y ffordd y daethom yn ôl i normalrwydd eto.
Gweinidog, gwnaethoch chi sôn am raglen atgyfnerthu'r gwanwyn yn dod i ben yr wythnos hon a'ch bod chi wedi darparu 0.25 miliwn o frechiadau, ond mae'n debyg mai'r cwestiwn sydd yna yw asesu pa mor llwyddiannus oedd y rhaglen dros gyfnod y gwanwyn. A allwch chi ddweud wrthym ni faint o bobl oedd yn gymwys i gael y brechiad neu roi canran i ni o ran y nifer sydd wedi manteisio arno?
Wrth gwrs, rwy'n deall bod yna gamu lawr o ran cyllid ar gyfer canolfannau brechu. Rwy'n deall pam mai dyna oedd y sefyllfa—dyna oedd y dull gweithredu cywir, i ailgyfeirio cyllid i rywle arall—ond yr hyn mae hynny wedi'i olygu yw bod pobl, yn aml, mewn ardaloedd gwledig yn teithio llawer pellach, y rhai sy'n gymwys, ar gyfer eu brechiadau COVID nag o'r blaen—pobl efallai yn teithio dros awr. Felly, allwch chi ein helpu ni i ddeall ychydig am—? Meddygfeydd, ie, maen nhw'n cynnig yr hyn yr ydym ni'n cyfeirio ato fel y brechiad ffliw, ond, ie, mae pobl yn teithio dros awr am eu brechiad ar gyfer COVID, felly dywedwch chi ychydig wrthym ni efallai o ran sut yr ydych chi'n teimlo y gallwch chi gymell neu annog meddygfeydd i gynnig y brechiad COVID hefyd.
Gweinidog, rydych chi'n sôn am y rhestr aros ganolog—sori, model caffael canolog—felly, rwy'n gwrando ar hynny gyda diddordeb hefyd. Rwy'n credu eich bod chi wedi siarad am hynny y llynedd, ac ar y pryd roeddech chi'n sôn y byddai o bosibl yn barod ar gyfer 2023-24, ond mae'n edrych fel 2025 erbyn hyn. Rydych chi'n sôn am ddarn o waith sy'n gymhleth, felly efallai y byddai'n werth ehangu ar yr hyn sy'n gymhleth am y gwaith hwnnw. Rwy'n gallu dychmygu ei fod, ond efallai y gallwch chi amlinellu hynny i ni. A hefyd beth yw manteision model caffael canolog? Rwy'n gallu derbyn y bydd manteision, ond efallai y gallwch chi amlinellu beth ydyn nhw dros y system bresennol, ac a oes unrhyw anfanteision yr ydych chi'n eu rhagweld o ran model caffael canolog? Gwn i fod Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru wedi mynegi rhai pryderon o'r blaen ynghylch symud i system gaffael ganolog, oherwydd eu bod yn pryderu y gallai meddygfeydd gael eu hariannu'n llai a gallai hynny arwain at oblygiadau ar gyfer ailfuddsoddi mewn gwasanaethau eraill. Felly, a wnewch chi gadarnhau eich bod chi'n cael trafodaethau gyda BMA Cymru ynglŷn â hyn?
Rydych chi hefyd, Gweinidog, yn sôn am gamwybodaeth ynghylch y brechlyn. Mae camwybodaeth, rwy'n cytuno â chi, yn beryglus iawn, pan yr ydym ni'n gweld llawer o'r wybodaeth hon sy'n cael ei bostio, ac efallai y gallech chi ond amlinellu —. Rydych chi'n sôn am sut yr ydych chi'n mynd i weithio gyda sefydliadau'r GIG yn eich datganiad i sicrhau bod gwybodaeth glir a chywir a dibynadwy ar gael, ond sut ydych chi'n mynd i wneud hynny, neu sut mae sefydliadau'r GIG y gwnaethoch sôn amdanyn nhw'n mynd i gyflawni hynny?
Rydych chi hefyd wedi sôn am y rhaglenni brechu a oedd ar y gweill cyn COVID o ran y rhaglenni brechu cyffredinol, wedi'u cyflwyno yn arbennig mewn ysgolion hefyd. Felly, roeddech chi'n sôn am y rhaglenni dal i fyny. I ba raddau y mae Cymru wedi dal i fyny, ac i ba raddau y mae brechiadau yn digwydd nawr o'u cymharu â chyn COVID? A ydym wedi gweld pobl yn eu derbyn? Beth yw'r dadansoddiad? A oes teimlad bod mwy o bobl yn derbyn brechiadau cyffredinol, neu lai? Efallai y byddai'n dda cael rhywfaint o syniad ynghylch rhai o'r materion hynny hefyd. Rwy'n credu mai dyna fy nghwestiynau i gyd. Diolch yn fawr, Gweinidog.
Diolch yn fawr. Felly, gallaf i roi rhai manylion i chi am y sefyllfa ynghylch brechiad atgyfnerthu'r gwanwyn o ran ffigurau. Felly, yr hyn sydd wedi digwydd yw ein bod wedi darparu 277,000 o frechiadau atgyfnerthu—roedd hynny hyd at 22 o fis Mehefin—ac mae hynny'n cynnwys tua 76 y cant o breswylwyr cartrefi gofal, a 71 y cant o bobl dros 75 oed. Yr hyn sy'n dda iawn yw ein bod ni wedi cyflawni cynnig brechlyn i 100 y cant o'r bobl gymwys hynny, felly roedd ar gael iddyn nhw os oedden nhw'n dymuno ei dderbyn. Nid ydyn nhw'n ffigurau gwael. Yr hyn yr ydym ni wedi'i ddarganfod yw, bob tro yr ydym ni'n cynnig hyn, mae'n gostwng ychydig. Mae'n ymddangos bod hynny'n wir ar draws gweddill y Deyrnas Unedig. Felly, mae'n rhaid i ni gael y cydbwysedd yn iawn, ac ni allwn ni wneud hyn heb y cyhoedd. Mae perygl o flinder brechu, felly mae'n rhaid i ni barhau i wneud hyn o hyd, oherwydd dyma'r amddiffyniad gorau i'r unigolyn a'r GIG, felly dyna pam yr wyf yn credu bod y dull newydd hwn mor hanfodol.
Gwnaethoch chi ofyn am ddull sy'n addas i bawb. Wel, yr hyn sy'n amlwg yw, gall yr hyn sy'n iawn, efallai, mewn ardal drefol adeiledig fod yn wahanol iawn mewn ardal wledig, a dyna pam mae cydnabyddiaeth nad yw'n iawn cael un ateb sy'n addas i bawb. Efallai y bydd byrddau iechyd lleol eisiau ymateb yn wahanol, efallai y bydd cymunedau lleol eisiau ymateb yn wahanol, a'r hyn sydd gennym ni, er enghraifft, gyda meddygon teulu, yw mai mater i feddygon teulu yw hi i ba raddau y maen nhw eisiau cymryd rhan, ac yn sicr yr hyn yr ydym ni'n ei wneud o ran brechiadau ffliw yw sicrhau bod yna gymhelliant i feddygon teulu roi'r brechiad ffliw. Cyn belled ag y bo modd, rwy'n credu bod cyfleoedd gwirioneddol yma i gyd-gyflwyno'r brechiadau ffliw a COVID, ond bydd rhywfaint o hyn yn dibynnu ar amseru a sut yr ydym ni'n gwneud y mwyaf o amseriad gweinyddu'r brechlyn, fel ein bod ni'n amddiffyn pobl ar yr adeg pan fo'r angen mwyaf am yr amddiffyniad. Mae cryn dipyn o fanylion i'w penderfynu yma, ac nid yw'r logisteg yn hawdd. Dyna pam mae gennym ni dîm ardderchog iawn sydd wir wedi deall—gwnaethon nhw gymaint yn ystod y pandemig, ac maen nhw nawr yn gwthio hynny drwy'r system frechu gyfan. Felly, mae hynny'n dda.
Yna'r model caffael canolog: rwy'n credu, unwaith eto, mai'r hyn y gwnaethom ni ei ddysgu o bandemig COVID oedd bod caffael hynny'n ganolog yn golygu ein bod ni'n gwybod yn union beth oedd yn digwydd, pwy gafodd y brechiadau, pwy oedd heb eu cael, ac y gallem ni weithio'r system o gwmpas hynny. Y broblem gyda brechiadau ffliw yn aml iawn yw eu bod yn cael eu caffael gan y meddygon teulu eu hunain, ac weithiau maen nhw'n tan-gaffael, ac mae'n rhaid iddyn nhw ddod i ofyn i ni yn ganolog i wneud yn iawn amdano. Felly, rydyn ni'n gwybod y gallwn ni ei wneud yn ganolog nawr. Mae gennym ni lawer o ffydd a hyder yn y system honno, a'r pwynt yw bod hyn i gyd yn cael ei wneud mewn partneriaeth. Nid yw'n cael ei wneud i bobl; mae'n cael ei wneud gyda phobl, ar bob lefel o lywodraeth.
O ran camwybodaeth, rhan allweddol o hyn yw'r newid digidol sy'n mynd i ddigwydd. Nawr mae gennym ni ap y GIG, bydd cyfle i bobl weld ar yr ap pa frechiadau y maen nhw wedi'u cael, ac mae cyfleoedd gwirioneddol yn sgil hynny. Rwy'n credu bod cael diogelwch ap GIG y mae modd dibynnu arno, sydd wedi cymryd—. Mae pobl yn dal i ofyn i mi, 'Pam mae wedi cymryd cyhyd, yr ap hwn?' ac rydw i wedi bod yn gofyn hynny, rwy'n gallu dweud wrthoch chi—rydw i wedi bod yn gofyn y cwestiwn yna hefyd. Ac mae rhywfaint ohono oherwydd bod angen i bobl fod yn hollol sicr y gallan nhw ddibynnu ar hyn, a bod beth bynnag y maen nhw'n ei weld ar yr ap hwnnw yn ddibynadwy. Felly, mae hynny'n ffynhonnell wybodaeth ar gyfer y dyfodol lle y gall pobl droi ati heb gael camwybodaeth.
A dim ond o ran rhaglenni dal i fyny, wel, rydyn ni'n gwneud llawer gwell ar y rhaglenni dal i fyny sydd ar gael. Rwy'n credu os ystyriwch chi'r imiwneiddiadau arferol, mae gennym ni'r brechlyn chwech mewn un y mae plant yn ei gael yn ifanc iawn, gan amddiffyn rhag difftheria, tetanws, y pas, polio, ffliw math B, hepatitis B—mae rhestr gyfan yma. Yr hyn y byddaf i'n ei wneud, os nad oes gwahaniaeth gennych chi, yw y byddaf i'n anfon peth gwybodaeth atoch chi, fel y bydd syniad gennych o ble yr ydym ni ar y rhaglen dal i fyny honno.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad, ac am gael cipolwg arno fo rhag blaen. Mae'r cyhoeddiad yma i'w groesawu, ac wrth gwrs mae'n bwysig sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael eu himiwneiddio yma yng Nghymru. Mae o'n ffaith ddiymwad fod brechu ac imiwneiddio wedi arbed ac yn arbed miliynau o fywydau ar hyd y degawdau.
Rŵan, mae'r datganiad yn cyfeirio at gamwybodaeth sydd yn cael ei rhannu ynghylch brechiadau COVID. Ar yr un pryd, rydyn ni'n gwybod am gamwybodaeth yn parhau ynghylch brechiadau MMR, ac mae'n syndod faint o bobl sy'n parhau i fod yn amheus o frechiadau ffliw, hyd yn oed. Roeddech chi'n sôn rŵan am un ffordd roeddech chi'n gobeithio rholio allan dealltwriaeth oedd trwy ddefnyddio ap. Wrth gwrs, efo Rhun ap Iorwerth a Mabon ap Gwynfor, hwyrach y medrech chi droi at Blaid Cymru am wybodaeth am aps. [Chwerthin.] Ond sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod pobl yn lawrlwytho yr ap? A sut ydych chi'n mynd i daclo pethau fath â'r papur The Light yma, sydd yn rhoi newyddion ffiaidd o anwir ar hyd a lled y wlad, a sicrhau bod y prif lif newyddion yn cael gwybod am y pethau da yma a phwysigrwydd brechlynnau, yn ogystal â chael pobl i ddefnyddio aps? Sut ydyn ni'n mynd i gael y wybodaeth yna i dreiddio drwyddo i'r cyhoedd, felly?
Mi fydd y Gweinidog yn ymwybodol o bryderon meddygon teulu ynghylch y cynlluniau i ganoli caffael. Ddaru Russ sôn ynghynt am bryderon y BMA hefyd ynghylch hyn. Eu pryderon nhw, wrth gwrs, ydy eu hanallu nhw i negodi eu prisiau eu hunain ar gyfer brechiadau. Pan gyflwynwyd cynlluniau tebyg yn yr Alban, fe roddodd y Llywodraeth yno £5 miliwn o'r neilltu er mwyn cefnogi practisys meddygon teulu er mwyn medru trosi i'r drefn ganolog. Felly, tra bod datganiad y Gweinidog yn sôn am ariannu'r NHS i sefydlu tîm i oruchwylio delifero rhaglenni brechu, does yna ddim sôn am faint o arian nag ychwaith pa fath o gymorth fydd yna a pha fath o gyllideb a fydd ar gyfer meddygon teulu er mwyn eu helpu nhw yn y broses o drosi i'r drefn yma. Felly, tybed a wnaiff y Gweinidog ymhelaethu ychydig ar sut fydd meddygon teulu yn cael eu cynorthwyo i ymdopi â throsi i'r drefn newydd ganolog yma o gaffael a dilyn esiampl yr Alban.
Flwyddyn ddiwethaf, pan ofynnodd Plaid Cymru i'r Gweinidog ynghylch cefnogaeth ariannol i feddygon teulu pe byddai'r Llywodraeth yma'n mabwysiadau system gaffael brechiadau ganolog, fe soniodd y Gweinidog bryd hynny fod yna enghreifftiau o feddygon teulu oedd ddim yn archebu digon o frechiadau, efo'r Llywodraeth yn gorfod camu i mewn. Ddaru'r Gweinidog sôn am hynny yn ei hateb i Russell George ynghynt. Ond dydy pwyllgor Cymreig y BMA ddim yn ymwybodol o unrhyw brinder sylweddol mewn caffael brechiadau gan feddygon teulu. Dwi'n nodi, serch hynny, gyngor diweddar y Gweinidog i feddygon teulu i beidio â chaffael brechiadau ffliw ar gyfer pobl 50 i 64 mlwydd oedd y gaeaf yma. Mae'n rhaid cadw mewn cof pe byddai yna newid ym meddwl y Gweinidog rŵan ar y mater yma, yna mi fyddai yna brinder o frechiadau ffliw y gaeaf yma o ganlyniad i'r cyngor. Felly, a fedrith y Gweinidog fanylu ychydig ar sawl meddyg teulu mae hi'n ymwybodol ohonynt sydd wedi tangaffael brechiadau yn y gorffennol, a chydnabod hefyd, os oes yna brinder mewn brechlynnau ffliw am fod y gaeaf yma, fod hynny'n mynd i fod o ganlyniad i'w chyngor hi yn hytrach nag unrhyw beth arall?
Yna fe gyfeiriodd y Gweinidog at isadeiledd ddigidol, ac mae'n dda gweld hyn yn ganolog i'r fframwaith sydd yn cael ei gyflwyno heddiw. Mae hyn am fod yn ddatblygiad pwysig, nid yn unig fod technoleg fodern yn galluogi gwell trefn, ond mae'n andros o bwysig wrth fedru sicrhau bod cleifion yn derbyn y brechiadau cywir. Dwi wedi sôn yn y Siambr yma o'r blaen am y systemau cyfrifiadurol wahanol sydd ar waith o fewn yr NHS yng Nghymru. Felly, a wnaiff y Gweinidog ymhelaethu ychydig ar y system ddigidol newydd yma a rhoi'r sicrwydd i ni fod y system newydd yma ddim am gael ei dal i fyny yng nghanol y cymhlethdod o wahanol systemau digidol sydd ar waith yn yr NHS, a'i bod hi'n mynd i weithio yn—beth ydy'r term—seamlessly efo'r systemau digidol eraill sydd ar waith? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr. Dwi eisiau diolch nid yn unig am y jôc, roedd hwnna'n eithaf good, chwarae teg, ond hefyd am eich bod chi'n gwybod beth yw shingles yn Gymraeg. Roedd hwnna'n eithaf impressive a dweud y gwir.
O ran camwybodaeth, dwi yn meddwl bod hwn yn bwnc difrifol. Mae yn effeithio ar bobl, mae rhai pobl yn gwrando ar y dwli yma maen nhw'n ei weld ar-lein yn arbennig. Dyna pam mae'n bwysig bod pobl yn gallu mynd at lefydd a mannau ac at wefannau lle maen nhw'n gallu cael hyder bod y wybodaeth maen nhw'n ei chael yn wybodaeth ffeithiol, gwyddonol maen nhw'n gallu dibynnu arni. Felly, dyna pam dwi'n meddwl bod yna rôl amlwg nid yn unig i'r ap, ond hefyd i'r NHS yn lleol i wneud yn siŵr bod gan bobl hyder. Mae dal pobl sydd â lot o hyder yn yr NHS ac yn y bobl sy'n arwain yr NHS.
Felly, jest o ran y canoli caffael yma, mae'n amlwg i fi os ydych chi'n mynd i negodi pris, rŷch chi'n mynd i gael pris gwell os ydych chi'n negodi dros 3.1 miliwn o bobl o'i gymharu â 30,000 o bobl. Felly, mae'n gwneud synnwyr am lot o resymau. Ond nid jest arian yw hwn. Beth rydym ni wedi'i ddysgu o'r pandemig oedd yr oedd rhywun gennym ni yn Llywodraeth Cymru oedd yn gwybod yn union faint o vials oedd ar gael ym mhob rhan o Gymru, ac roedd cael y trosolwg yna yn golygu ein bod ni'n gallu symud pethau o gwmpas y system pan oedd angen. Felly, dwi'n gweld bod hynny'n golygu eich bod chi'n cymryd rhywfaint o bŵer i ffwrdd o'r GPs lleol, ond dwi'n meddwl bod y ddarpariaeth ar y cyfan ar gyfer Cymru, dwi'n meddwl ei bod hi'n gwneud synnwyr inni ddilyn y llwybr yna.
Jest o ran y ffliw a beth sy’n digwydd y flwyddyn nesaf, beth rŷn ni'n gwybod yw bod pobl, er enghraifft, sydd dros 50 ac o dan 65, bod y risg o gael ffliw yn is, neu'r effaith o gael ffliw arnyn nhw yn is. Yn amlwg, mae arian yn dynn ar hyn o bryd, ac mae’n rhaid inni ystyried y pethau hyn, ac mae’n rhaid inni sicrhau ein bod ni'n cael gwerth am arian. Pe byddai yna fwy o arian, efallai byddem ni'n dod i ganlyniad gwahanol, ond beth rŷn ni yn gwybod yw bod yn rhaid inni ganolbwyntio’r help rŷn ni'n rhoi ar y rheini sydd fwyaf bregus.
Jest o ran yr isadeiledd digidol, rŷn ni'n gwneud lot i drawsnewid systemau digidol yn yr NHS. Byddwn i'n licio gwneud lot, lot yn fwy pe bai mwy o arian gen i. Dwi'n meddwl ei bod hi'n ardal lle byddem ni'n cael gwerth ein harian ni, ond mae yna broblemau, yn amlwg, yn ariannol gennym ni ar hyn o bryd, felly beth rŷn ni yn trio ei wneud yw gwneud yn siŵr bod y systemau cyfrifiadurol mewn lle, ac mae'n tîm digidol ni yn truelio lot o amser yn sicrhau bod hwn yn y lle iawn.
Ac, yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf i eisiau diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad heddiw, ac rwy'n mynd i ganolbwyntio fy nghyfraniad i, fy munud gyfan i, ar y feirws papiloma dynol, y brechlyn HPV. Rydyn ni'n gwybod ei fod yn amddiffyn yn erbyn canserau sy'n cael eu hachosi gan HPV, gan gynnwys bron pob canser ceg y groth. Mae HPV yn haint feirws hynod gyffredin, a'r amcangyfrif yw y bydd 80 y cant o bobl yn cael eu heintio gan y feirws hwn ar ryw adeg yn ystod eu hoes. I'r rhan fwyaf o bobl, ni fydd hynny'n cael effaith fawr ar eu hiechyd, ond i rai, gall arwain at ganlyniadau dinistriol, ac at ganserau sy'n gysylltiedig â HPV, fel canser ceg y groth, sy'n dangos i ni y bydd y brechlyn hwn yn atal—ac mae'n debyg ei fod wedi atal—llawer o farwolaethau. Rwy'n falch o weld eich bod chi'n mynd i lawr i un dos, oherwydd gallai helpu i gynyddu'r nifer a fyddai'n manteisio arno, ac yr ydych chi wedi sôn bod y nifer wedi gostwng ers pandemig COVID.
Rwyf i eisiau canolbwyntio hefyd ar gydraddoldeb mynediad at y brechlyn hwn, gan ei fod yn cael ei gynnig ym mhob ysgol ym mhob ardal yng Nghymru, ac eto mae tystiolaeth yn dangos yn eithaf clir bod gan bobl o ardaloedd lle mae lefelau sylweddol o amddifadedd lefelau uwch o ganser ceg y groth yn yr ardaloedd hynny. Felly, mae cydraddoldeb mynediad at y brechlyn yn gwbl hanfodol.
Ac yn olaf gennyf i, rydw i'n mynd i ofyn beth yr ydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth i roi gwybod i bobl, pobl ifanc a'u rhieni, am fantais derbyn cynnig y brechlyn, oherwydd unwaith eto, mae llawer iawn o stigma wedi bod ynghylch y brechlyn penodol hwn, ac efallai nad yw rhai rhieni yn ymwybodol o'r manteision ac, felly, nid ydyn nhw'n trosglwyddo hynny i'r bobl ifanc.
Diolch yn fawr, Joyce Watson. Rydych chi'n hollol gywir—rwy'n credu ei fod yn gwneud synnwyr hefyd i ni ganolbwyntio ychydig ar y sefyllfa o ran HPV. Fel yr ydych chi wedi'i awgrymu, ar hyn o bryd rydyn ni'n ei roi mewn dau ddos, ond mae cyngor arbenigol gan Sefydliad Iechyd y Byd ac o'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi awgrymu eich bod chi'n cael yr un lefel o amddiffyniad os ydych chi'n ei roi i berson ifanc ag y gwnewch chi os ydych chi'n rhoi dau ddos, felly rydyn ni'n dilyn y cyngor arbenigol hwnnw. Mae hynny'n golygu bod pob merch 12 i 13 oed yn cael cynnig hynny, a bechgyn, yn amlwg. Yr hyn yr ydyn ni wedi'i ddarganfod yw mai tua 82 y cant yw'r nifer sy'n derbyn y cynnig cyntaf, ond tua 70 y cant ar gyfer yr ail un. Felly, byddwn ni'n cyrraedd y targed, ac mae'n rhaid i ni gadw hynny mewn cof, ond mae hynny'n dal i adael—ac rwy'n credu bod hyn yn ymdrin â'ch mater cydraddoldeb—cryn dipyn o bobl. Mae bron i 20 y cant heb eu diogelu. Yr hyn yr ydym ni wedi'i ddysgu yn ystod y pandemig yw bod yn rhaid i chi fynd ar ôl y bobl hyn, gan sicrhau eu bod nhw'n teimlo bod ganddyn nhw fynediad, eu bod nhw'n cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw, ac rydyn ni wedi datblygu rhywfaint o arbenigedd o ran hynny, o ran sut i gyrraedd y cymunedau hynny sy'n draddodiadol anoddach eu cyrraedd. Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod yw, os yw'n cael ei roi i ferched a bechgyn sy'n 12 a 13, rydych chi'n llai tebygol—. Mae 87 y cant llai o siawns y byddwch chi'n cael canser ceg y groth yn eich 20au o'i gymharu â phobl sydd heb eu brechu. Dyna'r peth i'w werthu, bod y dystiolaeth yn ei gefnogi mewn gwirionedd; os ydych chi eisiau amddiffyn eich hun, dyma beth yr ydych chi'n ei wneud. Ond, unwaith eto, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n cyfleu'r dystiolaeth honno ac yn cyfathrebu'n gywir.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 7 heddiw yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar seilwaith ieithyddol y Gymraeg. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. 'Etifeddiaeth werthfawr ydyw gair da', meddai'r ddihareb, a heddiw dwi yma i gyflwyno polisi sy'n ymdrin â geiriau, a sut i gael gafael arnyn nhw yn Gymraeg, sef polisi seilwaith ieithyddol y Gymraeg.
Pan fyddwn ni'n sôn am seilwaith ieithyddol, rŷn ni'n sôn am adnoddau sy'n ein helpu ni i ddefnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd—pethau fel geiriaduron, cronfeydd termau, corpora, a'r holl waith ymchwil a safoni sy'n digwydd er mwyn i'r adnoddau hyn dyfu a datblygu. Rŷn ni'n eu cymryd nhw'n ganiataol, ond mae'r pethau hyn yn bwysig ofnadwy i bobl sydd am ddefnyddio'r Gymraeg.
Fel nifer fawr ohonon ni, dwi weithiau'n defnyddio Microsoft Translator neu Google Translate i ddod o hyd i air neu derm Cymraeg yn gyflym. Maen nhw'n ddefnyddiol mewn rhai sefyllfaoedd, ond dwi hefyd yn gwybod bod perygl nad yw'r atebion dwi'n eu cael yn hollol gywir bob tro. A dyma'r broblem: mae gyda ni lawer o brosiectau ffantastig yng Nghymru, ond dydy pobl ddim wastad yn gwybod amdanyn nhw.
Dechreuodd y gwaith ar Geiriadur Prifysgol Cymru, er enghraifft, ym 1921, ac mae nawr yn sylfaen ar gyfer yr holl waith arall ar eiriau a thermau Cymraeg. Mae adnoddau eraill, fel Porth Termau Prifysgol Bangor, a BydTermCymru yn Llywodraeth Cymru, wedi codi'n fwy diweddar mewn ymateb i fylchau yn y galw am dermau cyfoes. Ond mae'r maes yn dal i fod yn ymatebol, gyda thermau ond yn cael eu comisiynu os bydd galw mawr.
Mae'r cwestiwn yn codi, felly: a yw hynny'n ddigon da? Os daw i'r amlwg bod gwaith yn cael ei gynllunio mewn maes polisi newydd, neu fod diwydiant penodol yn dod i Gymru a bod angen termau Cymraeg ar y gweithlu, pwy ddylai fod yn gyfrifol am sicrhau bod termau priodol ar gael mewn pryd? Dyma rai o'r pethau y gofynnon ni yn ein hymgynghoriad ar fersiwn ddrafft o'r polisi. Hoffwn i ddiolch i bawb am ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw.
Y prif negeseuon o'r ymgynghoriad: bod llawer o adnoddau ar gael, ond bod yna adegau pan fod hynny'n broblem yn hytrach na'i gwneud hi'n hawdd; dyw hi ddim yn amlwg bob amser pa adnodd sydd fwyaf addas, a bod angen neidio o un wefan i'r llall i chwilio am air neu derm; neu fod ateb mewn un man yn wahanol i ateb mewn man arall.
Mae'r cynigion yn y polisi seilwaith ieithyddol yn mynd i’r afael â hyn, gan gydnabod bod angen i rywun fod yn gyfrifol am gadw llygad ar y maes, nawr ac yn y dyfodol. Rŷn ni’n barod wedi dechrau camu ymlaen gyda rhai o’r pethau sydd yn y polisi, fel sefydlu uned yn Llywodraeth Cymru i gydlynu ein seilwaith ieithyddol a gwneud i’r gwahanol elfennau weithio’n well gyda’i gilydd. Rŷn ni hefyd wedi sefydlu panel safoni’r Gymraeg i ddechrau datrys problemau ieithyddol, gan ganolbwyntio i ddechrau ar faterion orgraffyddol.
Ar y cyd gyda Phrifysgol Bangor, rŷn ni wedi cynnal proses i safoni termau cydraddoldeb o ran hil ac ethnigrwydd, gan ymgynghori â rhanddeiliaid ac unigolion allweddol yn y maes i greu rhestr gyfoes o dermau. Gallwch chi weld y rhain ar wefan Llywodraeth Cymru. Ac rŷn ni wedi dechrau cynllunio gwefan i bawb sydd am ddefnyddio’r Gymraeg, gyda’r nod o helpu pobl i ganfod yr adnoddau sydd fwyaf addas iddyn nhw.
Bydd y camau yn y ddogfen newydd hon yn hollbwysig wrth i faes polisi’r Gymraeg yn ehangach barhau i ddatblygu. Er enghraifft, rŷn ni newydd ymgynghori ar Bapur Gwyn sy’n cynnwys cynigion a fydd yn sail i raglen o waith sy’n cynnwys Bil addysg Gymraeg. Yr hyn sydd tu ôl i’r cynigion yn y Papur Gwyn yw gwella deilliannau ieithyddol dysgwyr tair i 16 oed. Ond mae hefyd yn cynnig ehangu rôl y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, fel ei fod yn sefydliad arbenigol sy’n cefnogi caffael a dysgu’r Gymraeg i ddysgwyr o bob oed yng Nghymru. Mae gwneud yn siŵr, felly, fod geiriaduron a chronfeydd termau hawdd i’w defnyddio ar gael i ddysgwyr o bob oed, yn ogystal ag i athrawon, disgyblion ysgol a rhieni, yn hollbwysig ar gyfer llwyddiant y cynigion hyn, a llwyddiant y Cwricwlwm i Gymru yn ei gyfanrwydd.
Rŷn ni hefyd wedi sefydlu cwmni newydd o’r enw Adnodd i gynnal trosolwg o’r ddarpariaeth adnoddau addysgu a dysgu, a bydd yn comisiynu adnoddau sy’n addas i’r Cwricwlwm i Gymru a’r cymwysterau newydd. Mae angen termau cyson ar gyfer yr adnoddau addysg hyn er mwyn gallu eu cyhoeddi nhw ar yr un pryd yn Gymraeg a Saesneg. Felly, bydd y berthynas rhwng yr uned, yr uned technolegau iaith ym Mhrifysgol Bangor sy’n gyfrifol am brosiect y Termiadur Addysg, ac Adnodd yn hollbwysig yn hyn o beth. Bydd gan yr uned hefyd un cyfrifoldeb sy’n ychwanegol i’r hyn a gynigiwyd yn y polisi drafft: bydd ei swyddogion, ar y cyd gyda swyddogion Cadw, yn arwain ar ein hymrwymiad i warchod enwau lleoedd Cymru, sy’n deillio o’n rhaglen lywodraethu a’r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru. Rŷn ni wedi nodi ein camau cychwynnol mewn perthynas ag enwau lleoedd Cymraeg yn ein cynllun tai cymunedau Cymraeg, a byddwn yn cyhoeddi camau manylach ar sail canlyniadau ymchwil a fydd yn dod i law tua diwedd y flwyddyn.
Does dim amheuaeth bod angen gwella’r ffordd y mae seilwaith ieithyddol y Gymraeg yn gweithio. Gyda’r polisi hwn, mae gyda ni nawr sylfaen gadarn i fwrw ati i gydlynu gwahanol elfennau, comisiynu gwaith terminoleg yn ôl y galw, a sicrhau bod yr holl adnoddau’n cael eu marchnata’n effeithiol, fel eu bod nhw ar gael yn rhwydd i bawb. Rŷn ni’n ffyddiog y bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i bawb ddefnyddio’r iaith yn hyderus, p’un a ydyn nhw’n siaradwyr newydd, yn rhieni i blant ysgol, yn bobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn broffesiynol yn y gwaith, neu hyd yn oed yn Aelodau o'r Senedd sy’n ceisio dod o hyd i derm sydyn ar lawr y Siambr hon. O wneud hynny’n iawn, Dirprwy Lywydd, fe lwyddwn ni i wella’r ddarpariaeth i bawb sydd am ddefnyddio’r Gymraeg.
Weinidog, rwy'n falch o weld y datganiad hwn heddiw, a diolch i chi am adael i mi ei weld e ymlaen llaw.
Wrth i ni barhau â thaith 'Cymraeg 2050', mae'n bwysig bod y seilwaith yn ei le i gynnal a mynd â phoblogaeth Cymru ar y daith tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg. Mae'n bwysig bod porth adnoddau ar gael i'n helpu ni gyrraedd targed 'Cymraeg 2050', ac mae'n bwysig bod y porth hwn yn gyfleus i bawb ledled Cymru, boed ar ddechrau eu taith iaith neu ymhell ar hyd y ffordd. Rwy'n falch o weld, o lansiad y polisi heddiw, fod angen dod â'r holl adnoddau gwahanol at ei gilydd mewn ffordd y gall pawb eu defnyddio yn rhwydd, lle bynnag y maent ar eu taith gyda'r Gymraeg, boed yn siaradwyr newydd, yn blant a'u rhieni, myfyrwyr, a phobl sy'n defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.
Mewn datganiad yn ôl ym mis Rhagfyr 2018, amlinellodd Gweinidog y Gymraeg ar y pryd sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi nifer o gyrff sy'n ffurfio rhannau sylweddol o seilwaith ieithyddol Cymru. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd datganiad heddiw o ran dod â'r adnoddau hyn ynghyd mewn ffordd well a symlach. Roedd gennyf ddiddordeb mewn nodi ymatebion i ymgynghoriad 2021 ar y polisi cenedlaethol ar seilwaith ieithyddol Cymraeg. Roedd cefnogaeth i ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin â'r mater hwn, ond pwysleisiodd ymatebwyr yr angen i sicrhau bod adnoddau ar gael i ddysgwyr, yn ogystal â darparu gwybodaeth am eiriau tafodieithol, i adlewyrchu'r gwahanol Gymraeg a ddefnyddir mewn gwahanol rannau o Gymru. Weinidog, mae eich datganiad yn sôn am safonau'r Gymraeg a phwysigrwydd gweld mwy o gysondeb rhwng y ffordd y mae geiriau'n cael eu sillafu. Tra fy mod yn cydnabod gwerth diffinio ffurf safonol ar yr iaith, mae'n hanfodol bod y tafodieithoedd sy'n bodoli, rhwng Cymraeg sir Benfro dwi'n siarad—'gwlad y wes, wes'—a'r Gymraeg a siaredir mewn rhannau eraill o'r wlad, yn parhau i fodoli. Maen nhw'n ychwanegu at liw ein hiaith a'n diwylliant. Hefyd, Weinidog, byddwn yn awyddus i ddeall sut y bydd gwerth y seilwaith newydd yn cael ei asesu a pha fesurau KPI y gellir eu rhoi ar waith i sicrhau ei fod yn cynnig gwerth am arian ac yn llwyddiannus.
Yn olaf, Weinidog, mae creu seilwaith o'r fath yn colli rhywfaint o effeithiolrwydd os nad oes digon o gymorth ar gael i athrawon sy'n bwriadu addysgu rhywfaint o'r cwricwlwm yn Gymraeg. Mae hon yn broblem nad yw'n benodol i'r datganiad heddiw, ond yn broblem sy'n fy mhoeni i. Sut mae'r datganiad heddiw yn helpu ein hathrawon yn benodol? Fel chi, Weinidog, byddaf yn aml yn defnyddio Google Translate i'm helpu i ddod o hyd i air Cymraeg nad oedd ar flaen fy nhafod neu sydd wedi llithro o fy meddwl. Cyn i fi wneud unrhyw gyfweliad ar Radio Cymru, dwi'n ysgrifennu crib sheet, gyda geiriau ac ymadroddion allweddol yn y Gymraeg a'r Saesneg, i fy helpu i ddod o hyd i air Cymraeg pan fyddaf dan bwysau. Bydd go-to adnodd canolog yn ddefnyddiol, ac rwy'n meddwl bod hwn yn gam pwysig gan y Llywodraeth, a dwi'n ei groesawu. Diolch.
Diolch i Sam Kurtz am y sylwadau cefnogol hynny a'r cwestiynau mae e'n eu gofyn. Mae e wir yn bwysig, onid yw e, ein bod ni'n sicrhau ein bod ni'n cynnal yr amrywiaethau o ran tafodiaith rŷn ni'n eu defnyddio ledled Cymru. Roeddwn i lawr yn ei ran e o'r byd yn ddiweddar, yn clywed pobl yn sôn am agor yr 'iet' ac yn dweud 'wes', fel oedd e'n dweud. Mae yn braf clywed hynny mewn rhannau gwahanol o Gymru. Ond, ynghyd â'r gwaith hwnnw, mae cynnal safoni hefyd yn bwysig. Felly, dyna'r cyfraniad mae'r gwaith hwn yn gwneud, sef sicrhau bod argaeledd yn hygyrch i bawb, i weld beth yw'r term cywir neu'r term newydd, efallai, mewn rhai pethau. Pan fydd e'n dod i'w restr, ei checklist, neu beth bynnag oedd y gair ddefnyddiodd e—cheat sheet neu beth bynnag—
Crib sheet.
Crib sheet—diolch. Dwi ddim yn gwybod beth yw'r gair Cymraeg am 'crib sheet', gyda llaw, ond pan fydd e'n gwneud hynny'r tro nesaf, bydd ganddo fe ffynhonnell fwy cyfleus, efallai, i allu gwneud hynny.
O ran sut y byddwn ni'n gwybod a fydd hyn yn llwyddo, rwy'n credu ei bod hi'n glir o'r ymgynghoriad, ac roedd yr ymatebion—y mwyafrif llethol iawn ohonyn nhw—yn cyd-weld â ni, fod angen gwneud hyn a bod y galw yno'n sicr i sicrhau bod hyn yn digwydd. Felly, mae cymuned o bobl sydd yn ymwneud yn ddwfn iawn gyda'r maes hwn yn sicrhau ein bod ni'n cadw i arloesi, cadw i sicrhau bod yr iaith yn ateb datblygiadau newydd—yn gymdeithasol, yn economaidd ac ati. Felly, byddwn i eisiau sicrhau, dros y tymor hir, ein bod ni'n parhau â'r trafodaethau hynny, a hefyd yn darganfod ffyrdd i bobl allu ymateb i'r arlwy rŷn ni'n darparu. Felly, byddwn i eisiau gweld pa mor boblogaidd yw defnydd y wefan, er enghraifft. Mae hynny fel arfer yn arwydd eithaf da o ba mor addas yw'r ddarpariaeth. Felly, bydd y pethau yna ar waith.
A'r pwynt olaf gwnaeth yr Aelod ofyn amdano fe oedd beth yw gwerth hwn mewn ysgol. Wel, ynghyd â'r holl bethau rwyf newydd sôn amdanyn nhw—hynny yw, sicrhau bod geirfa ar gael ar gyfer pob mathau o ddefnyddiau yn yr ysgol—mae cyfraniad Adnodd, y cwmni newydd rŷn ni newydd ei sefydlu, yn mynd i fod yn rhan bwysig o'r arlwy ehangach. Un o'r elfennau pwysig yng ngwaith Adnodd yw sicrhau bod adnoddau ar gael ar gyfer addysgu'r cwricwlwm newydd, a'u bod nhw ar gael yn safonol, yn y ddwy iaith, ar yr un pryd. Mae'r elfen ddwyieithog yna, cyhoeddi yn y ddwy iaith, yn bwysig iawn. Rŷn ni wrth gwrs yn gwybod bod gaps yn y ddarpariaeth ar hyn o bryd, ac mae'r gwaith rŷn ni wedi bod yn ei wneud er mwyn sefydlu Adnodd yn dangos bod mwy y gallwn ni ei wneud i gydlynu’r gwaith sydd eisoes yn digwydd mewn amryw o gyrff, yn cynnwys Llywodraeth Cymru. Felly, mae'n ddyddiau cynnar yn hynny o beth—newydd gael ei sefydlu mae'r cwmni, ac maen nhw wrthi ar hyn o bryd yn recriwtio’r tîm gweithredol, ond, pan fydd y tîm hwnnw'n ei le, rwy'n ffyddiog y bydd cynnydd cyflym yn gallu digwydd.
Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw, a hefyd, hoffwn ategu fy niolch innau am gael gweld y datganiad ymlaen llaw. Os y gwnewch chi faddau i mi, dwi'n mynd i ddechrau drwy sôn am gysylltiad personol â'ch datganiad. Fe gyfeirioch at y ffaith bod y gwaith wedi dechrau ar Geiriadur Prifysgol Cymru yn 1921. Bu llu o bobl yn rhan o'r prosiect uchelgeisiol a phwysig hwn, ond y cyntaf i fod â rôl arweinyddol oedd y Parchedig John Bodfan Anwyl, brawd Syr Edward Anwyl. Cyn hyn, Bodfan fu'n gyfrifol am y chweched argraffiad o eiriadur Cymraeg-Saesneg Spurrell, a gyhoeddwyd yn 1914, a seithfed argraffiad yr un Saesneg-Cymraeg, a gyhoeddwyd yn 1916. Y rheswm pam bod hyn o ddiddordeb i mi ydy mai Anwyl ydy cyfenw fy mam, a fy mod i, yn ôl y goeden deuluol, yn perthyn i'r ddau. Beth doeddwn i ddim yn ei wybod tan yn ddiweddar iawn oedd bod y ddau wedi bod yn byw ym Mhontypridd, ac, yn wir, yn byw ym Mhontypridd tra'n gweithio ar y geiriaduron hyn, ychydig strydoedd yn unig o lle dwi'n byw rŵan. Byd bach yn wir. Ond oherwydd y cysylltiad teuluol, mae amryw o hen eiriaduron yn ein dwylo fel teulu, a difyr yng nghyd-destun datganiad heddiw yw adlewyrchu ar eiriau Syr Edward Anwyl yn rhagair un ohonynt, lle eglura pam bod rhai geiriau wedi eu cynnwys a rhai ddim:
'Ar y naill law roedd angen dileu o'r geiriadur yr holl eiriau hynny y mae eu bodolaeth yn eiriadurol yn unig, ond ar y llaw arall gwelwyd bod angen cynnwys llawer o eiriau, hynafol a modern, sydd, oherwydd eu defnydd gwirioneddol, â gwir le yn y Gymraeg.'
 ymlaen i ddweud:
'ystyrid hi o'r pwys mwyaf y dylai'r Geiriadur barhau i fod yn gyfrol gyfleus a chludadwy'.
Wel, beth fyddai Bodfan ac Edward yn ei wneud o’r ffaith ein bod ni’n sôn heddiw am ehangu’r hyn fydd ar gael drwy declynnau mor fach â hyn? Heb os, rydyn ni fel plaid yn cefnogi heddiw barhad buddsoddi mewn datblygu adnoddau sy’n helpu defnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd, a hynny mewn ffordd sy’n hawdd i bawb eu defnyddio nhw.
Cyfeirioch at y ffaith eich bod am sefydlu uned i arwain ar hyn. Hoffwn ofyn sut byddwch yn sicrhau bod y gwaith hwn yn atgyfnerthu a chydweithio â gwaith sydd eisoes yn digwydd yn y maes hwn, megis drwy ein prifysgolion—fe gyfeirioch chi at Brifysgol Bangor; yn amlwg, mae Canolfan Bedwyr yn allweddol o ran y gwaith hwn—a hefyd, wrth gwrs, swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, er mwyn i ni osgoi unrhyw ddyblygu o ran y gwaith.
Dwi’n siŵr na fydd hi'n sioc i chi, Weinidog, a hyn yn deillio o’r cytundeb cydweithio, ein bod hefyd yn croesawu’r ffaith bod gwaith manwl yn digwydd o ran enwau lleoedd Cymraeg. Ein gobaith yw mai penllanw y gwaith hwn fydd cyflwyno deddfwriaeth yn y maes yma, ac mae’n dda gweld bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i hynny. Mae’n glir o’r ffaith bod nifer o bobl yn cysylltu’n gyson â ni fel Aelodau o’r Senedd bod angen deddfu yn y maes hwn os ydym am sicrhau parhad yr iaith fel un weledol yn ein cymunedau hefyd, yn ogystal ag iaith fyw, fel rydyn ni'n sôn yn 'Cymraeg 2050'.
Yn eich rhagair i’r polisi, rydych yn cyfeirio at y defnydd Cymraeg yn unig gan barciau cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog fel datganiad cadarnhaol. Fe ddylem ni fod yn cymryd pob cyfle i normaleiddio defnydd y Gymraeg, ac ymfalchïo mewn cadw’r enwau Cymraeg ar lefydd yn fyw. Mae wedi bod yn siomedig iawn gweld rhai yn ymateb mor ffyrnig i’r newidiadau hyn. Gaf i ofyn felly a fydd y gwaith hwn yn cefnogi ac yn annog cyrff cyhoeddus eraill i ddilyn yr esiamplau hyn, ac, os felly, sut?
Ac yn olaf, Weinidog, gaf i ofyn, o ran seilwaith, pa waith sy’n digwydd i sicrhau bod technoleg megis Siri ac Alexa hefyd ar gael yn Gymraeg? Mae hi’n chwe blynedd bellach ers i Llyr Gruffydd siarad efo Siri yn Gymraeg yn y Siambr hon a Siri yn methu ei ateb, neu'n rhoi atebion od iawn, yn ôl y cofnod, ac Alun Davies ar y pryd fel y Gweinidog yn ymateb i ddweud pa mor bwysig oedd o ein bod ni'n gweld datblygiadau fel hyn. [Torri ar draws.] Oedd, mi oedd o'n Weinidog, os nad oedd pobl yn gwybod hynna. A gaf i ofyn felly a oes gwaith yn mynd rhagddo yn y maes hwn? [Torri ar draws.] Sori, roeddwn i'n ymateb i'r heclo. A oes yna waith yn mynd ymlaen yn y maes hwn er mwyn i ni weld datblygiadau? Roedd Alun Davies a Llyr yn sôn pa mor bwysig oedd o ein bod ni'n cael y dyfeisiadau sydd yn ein cartref ni—ie, chwe blynedd yn ôl—yn siarad Cymraeg.
Diolch i'r Aelod am y wers hanes i ddechrau, a'r cwestiynau. Mae'r ffaith bod testun y datganiad hwn yn gallu bod yn sbardun i'r math o tour de force hanesyddol hwnnw yn dangos pa mor ddiddorol mae polisi seilwaith y Gymraeg yn gallu bod mewn gwirionedd.
O ran y cwestiynau roedd yr Aelod yn eu gofyn, mae gofyn i'r uned arwain ar waith y Llywodraeth o ran enwau lleoedd yn bwysig o ran cydlynu'r holl waith sy'n digwydd yn y maes hwnnw. Ond fel bydd yr Aelod yn gwybod, mae ystod o bethau yn digwydd, yn cynnwys darn sylweddol o ymchwil o ran enwau daearyddol, ac mae hynny'n elfen bwysig o ddeall yr hyn sydd ei angen o ran deddfu a pa fath o approaches fyddai angen yn y cyd-destun ehangach hwnnw. Dwi ddim wedi manylu gormod ar y gwaith yn y datganiad hwn o ran enwau lleoedd, gan mai pwyslais y datganiad yw polisi seilwaith, ond bydd rhaid edrych ar yr ymchwil hwnnw cyn ein bod ni'n ystyried beth yw'r opsiynau o ran a oes angen deddfu. Yn y cyfamser, mae swyddogion y Llywodraeth yn gweithio ac yn cyfarfod yn rheolaidd gyda swyddogion, er enghraifft, ym Môn, Gwynedd, Ceredigion a sir Gâr i drafod arferion gorau a heriau cyffredin maen nhw'n dod ar eu traws nhw yn benodol, er mwyn bwydo i mewn i'r ddealltwriaeth ehangach honno.
O ran y berthynas rhwng gwaith yr uned a chyrff eraill, a gwaith yr amryw sefydliadau dwi wedi sôn amdanyn nhw yn y datganiad heddiw, dwi ddim yn credu bydd, er enghraifft, cynnwys enwau lleoedd o fewn cylch gwaith yr uned yn amharu ar waith y comisiynydd; fe wnaeth yr Aelod ofyn am hynny. Y comisiynydd, fel bydd yr Aelod yn deall, sydd â'r rôl arweiniol o ran safoni enwau lleoedd—trefi, pentrefi, dinasoedd—ac mae fy swyddogion i yn cynnal sgyrsiau parhaus gyda'r comisiynydd ynglŷn â hynny. Fe wnaeth y comisiynydd gael copi o'r polisi cyn inni ei gyhoeddi fe, ac mae wedi bod yn rhan o'r sgyrsiau am y polisi seilwaith yn ei gyfanrwydd. Felly, mae'r berthynas honno'n gweithio yn dda. Hefyd, mae'r un person yn cadeirio, er enghraifft, panel safoni'r Gymraeg a panel safoni enwau lleoedd y comisiynydd, felly bydd hi'n hawdd cyfathrebu rhwng y cyrff yma i sicrhau nad oes gwaith yn digwydd yn yr un maes, fel petai. Felly, mae hynny wedi ei weithio trwyddo fel rhan o'r gwaith cynllunio.
Rwy'n credu bod y datblygiadau yn Mannau Brycheiniog ac yn Eryri wedi bod yn ddatblygiadau calonogol iawn, ac mae'n grêt gweld hynny yn digwydd. Rŷm ni'n gwybod bod pobl wedi bod yn feirniadol, yn cynnwys rhai sydd wedi datgan eu balchder dros y Gymraeg yn y Siambr hon. Ar ddiwedd y dydd, mae'n rhaid gweithredu ar y pethau yma, nid jest gwneud datganiadau braf. Mae 'Bannau Brycheiniog', wrth gwrs, wedi bod yn enw Cymraeg ers cyfnod hir iawn, ac rwy'n credu bod y defnydd ohono yn gallu bod yn atyniadol i bobl. Mae pobl yn dod i Gymru nid jest am brydferthwch ein tirwedd ni, ond am brydferthwch ein hiaith ni a'n diwylliant ehangach ni hefyd, ac mae hynny'n ffordd dda o atgoffa pobl o'r ffaith bod hynny yn rhan o'r cynnig unigryw sydd gyda ni.
O ran y cwestiwn pwysig olaf y gwnaeth yr Aelod ei ofyn o ran technoleg, mae datblygiadau yn digwydd yn gyson yn y maes hwn. Wrth gwrs, rŷm ni wedi bod yn gweithio gyda Microsoft yng nghyd-destun Teams, a bues i ym Mangor yn ddiweddar yn edrych ar y datblygiadau sydd yn cael eu hariannu gennym ni fel Llywodraeth i fynd i'r afael gydag adnabod llais, a sut mae hynny yn cydweithio gyda ChatGPT, er enghraifft, i greu system sydd yn gallu ymateb ar-lein i gwestiynau llafar, ac yn darparu atebion mewn tecst. Felly, mae lot o waith arloesol iawn yn digwydd yn y maes hwn, a byddai'n grêt maes o law i weld hynny ar gael fel cynnig yn y farchnad ehangach, fel petai.
Ac yn olaf, Alun Davies.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n croesawu'r datganiad ac yn falch o glywed y Gweinidog yn gwneud datganiad clir. Mae'n rhaid i fi gyfaddef doeddwn i ddim cweit yn siŵr beth oeddwn i'n disgwyl pan welais i ddatganiad ar seilwaith ieithyddol y Gymraeg; doeddwn i ddim cweit yn siŵr beth fuasai hynny'n meddwl pan oedd y Gweinidog yn sefyll i fyny. Ond dwi’n croesawu beth rŷn ni wedi’i glywed.
Dwi’n falch iawn hefyd clywed beth mae’n dweud amboutu technoleg, a lle'r Gymraeg yn y byd technoleg rydyn ni’n ei ddefnyddio bob dydd. Dwi’n gweld aelod o’r pwyllgor diwylliant draw fanna, a dwi yn meddwl bod yn rhaid i ni fel pwyllgor ystyried beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud, achos ar hyn o bryd mae’r Llywodraeth yn symud ymlaen gyda’r gwaith yma, a dwi ddim yn siŵr ein bod ni fel Senedd cweit yn deall y cyfeiriad mae’r Llywodraeth yn mynd ynddo fe, a dwi yn meddwl y buasai’n well i ni fel pwyllgor, fel Senedd, deall hynny’n well, hefyd.
Liciwn i ofyn i’r Gweinidog—. Mi welais i luniau ohono fe ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod ei ymweliad e i Fangor. Roedd e’n edrych fel ei fod e’n mwynhau ei ymweliad. Ond beth ydych chi wedi’i ddysgu, Weinidog, a beth ydy'r weledigaeth? Beth ydy’r amserlen? Beth yw’r strategaeth ar gyfer y gwaith yma? Beth ydyn ni’n mynd i weld mewn dwy flynedd, mewn pum mlynedd? Sut ydy hyn yn mynd i ychwanegu at waith cyrraedd y miliwn? A beth ydyn ni’n ei wneud, a beth ydych chi’n ei wneud fel Llywodraeth, i siarad gyda’r corfforaethau cyfryngol byd-eang, megis Google neu Microsoft neu Amazon neu eraill, i sicrhau bod yna ofod a lle i’r Gymraeg yn beth maen nhw’n ei gynhyrchu fel hardware ac fel meddalwedd? Achos dwi yn meddwl bod y gwaith yma yn waith hynod o bwysig, a dwi’n meddwl fel Senedd ac fel Llywodraeth dylem ni weld beth ydyn ni’n ei wneud gyda’n gilydd i sicrhau bod lle i’r Gymraeg ym mhob un o’r technolegau newydd. Ambell waith, mae’n rhaid i fi gyfaddef, dwi ddim yn deall.
Byddwn i'n gwerthfawrogi'r cyfle, petasai'r pwyllgor yn penderfynu edrych yn ddyfnach yn hyn. Byddai'n gyfle gwych i allu cael y drafodaeth ehangach mae'r Aelod a chyn-Weinidog yn gofyn amdani hi. [Torri ar draws.] Mae mwy nag un cyn-Weinidog y Gymraeg yma.
Beth bynnag, mae'r pwynt mae'r Aelod yn ei wneud yn bwysig iawn o ran sicrhau bod y Gymraeg yn rhan o fyd cyfoes o ran y cyfryngau cymdeithasol, ond hefyd o ran teclynnau a darpariaeth arall. Felly, dwi'n credu bod y gwaith rydyn ni wedi'i wneud gyda Microsoft yn dangos y math o uchelgais sydd gyda ni. Dyna'r tro cyntaf, er enghraifft, iddyn nhw fod yn agored i wneud darpariaeth ddwyieithog lle mae'n bosib darparu cyfieithu ar y pryd, er enghraifft. So, mae'r gwaith rydyn ni wedi'i wneud gyda nhw yn hynny o beth wedi sicrhau bod y cynnig yn Teams, er enghraifft, wedi cael ei drawsnewid yn rhyngwladol. Felly, dyna'r math o uchelgais sydd gyda ni, ac mae'r gwaith y gwnes i weld ym Mangor yn cynnig y math hwnnw o arloesi fel ei bod hi'n bosib defnyddio'r dechnoleg honno mewn pob math o ryngweithio gyda thechnoleg.
Ar ddiwedd y dydd, y cyfraniad sydd gan hwn i'w wneud i'r miliwn yw'r cwestiwn sylfaenol hwnnw o ddefnydd. Hynny yw, dyw creu siaradwyr newydd ar ei ben ei hun ddim yn ddigon. Mae angen sicrhau bod pobl ifanc yn ein hysgolion ni, ond hefyd oedolion, yn gweld bod y Gymraeg yn berthnasol ym mhob rhan o fywyd. Mae sicrhau cynnydd ym maes technoleg, wrth gwrs, yn gwbl greiddiol i hynny.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 8 sydd nesaf, sef datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, diweddariad ar ddeddfwriaeth amgylchedd bwyd iach. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Lynne Neagle.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n cyhoeddi fy mwriad i gyflwyno is-ddeddfwriaeth yng Nghymru i gyfyngu ar leoli a hyrwyddo prisiau cynhyrchion sy'n cynnwys llawer o fraster, siwgr a halen mewn manwerthwyr sydd â dros 50 aelod o staff. Wrth wneud hyn, rydym yn gweithredu ar ein hymrwymiad fel rhan o'n hymgynghoriad amgylchedd bwyd iach, a ddaeth i ben ar 1 Medi y llynedd, i wella ein deiet a helpu i atal gordewdra.
Bydd y ddeddfwriaeth, a gaiff ei chyflwyno y flwyddyn nesaf, gyda chyfnod gweithredu o 12 mis arall o leiaf i fusnesau hyd at 2025, yn cynnwys lleoli cynhyrchion a gweithgarwch hyrwyddo prisiau cyfaint. Fodd bynnag, rwyf hefyd yn ystyried cynnwys hyrwyddo prisiau dros dro a bargeinion prydau bwyd o fewn y cwmpas. Nid yw'n ddigon cyfyngu ar hyrwyddo prisiau cyfaint yn unig fel cynigion disgownt amleitem, gan ein bod ni'n gwybod bod gostyngiadau dros dro mewn prisiau yn cyfrif am y rhan fwyaf o weithgarwch hyrwyddo bwyd a diod, ac mae pob math o hyrwyddo yn cael ei wyro tuag at gynhyrchion sy'n cynnwys llawer o fraster, siwgr a halen. Yn 2018, roedd gostyngiadau dros dro mewn prisiau yn cyfrif am 24 y cant o gyfanswm y gwariant ar fwyd a diod, o'i gymharu ag 8 y cant ar ddisgownts amleitem.
Mae ein deiet yn cael ei lywio gan y cyfleoedd a'r opsiynau sydd ar gael i ni. Pan fydd ein strydoedd mawr yn llawn siopau tecawê bwyd cyflym a silffoedd archfarchnadoedd yn llawn bwydydd sy'n llawn braster, siwgr a halen, nid yw'n syndod bod llawer ohonom yn ei chael hi'n anodd bwyta'n iach. Ar daith siopa bwyd nodweddiadol, rydym yn gwthio ein trolïau trwy eiliau cyfan sydd wedi'u neilltuo i greision a byrbrydau sawrus, rydym yn cerdded heibio miloedd o litrau o ddiodydd meddal pefriog ac yn syllu i mewn i rewgelloedd mawr sy'n llawn pizzas wedi'u prosesu a chynhyrchion mewn cytew. Rydym yn gwybod bod cynhyrchion sy'n cynnwys llawer o fraster, siwgr a halen yn llawer mwy tebygol o gael lle amlwg yn ein siopau ac o gael eu hyrwyddo i raddau helaeth. Gall bargeinion bwyd, p'un ai ar gyfer cinio neu bryd gyda'r nos, gynnig opsiwn cyflym a chyfleus i siopwyr sy'n brin o amser. Fodd bynnag, os edrychwn ni ar y dewisiadau sydd ar gael, mae gormod o eitemau sy'n cynnwys llawer o fraster, siwgr neu halen ac sydd heb fawr o werth maethol, ac mae siopwyr yn cael eu cymell i fwyta gormod ohonynt, i brynu bar siocled maint brenin gyda'u brechdan neu dwb o hufen iâ gyda'u pryd gyda'r nos.
Mae'r rhan fwyaf ohonom eisiau prynu a bwyta deiet cytbwys. Fodd bynnag, mae hollbresenoldeb llwyr opsiynau llai iach ynghyd â marchnata ymosodol yn gwneud hyn yn anodd. Mae gweithgarwch hyrwyddo prisiau yn cynyddu faint o gynhyrchion rydym yn eu prynu ac yn eu bwyta tua un rhan o bump ac mae'r cynhyrchion hyn yn aml yn cynnwys mwy o fraster a siwgr. Mae hyn yn golygu ein bod ni'n aml yn gwario arian ar eitemau nad oeddem yn bwriadu eu prynu ac nad oes eu hangen arnom mewn gwirionedd. Gan fod y rhan fwyaf o'r cynhyrchion hyn yn cynnwys llawer o fraster a siwgr, mae hyn yn golygu bod person cyffredin yn bwyta degau o filoedd o galorïau ychwanegol bob blwyddyn.
Gadewch imi fod yn glir ynghylch sut mae'r deiet cyffredin hwn yn effeithio ar ein hiechyd. Mae dros 60 y cant o oedolion yng Nghymru dros bwysau, ac mae dros chwarter plant dros bwysau neu'n ordew erbyn iddyn nhw ddechrau yn yr ysgol. Mae mwy na 200,000 o bobl yng Nghymru wedi cael diagnosis o ddiabetes, diabetes math 2 yn bennaf—sef 8 y cant o'r boblogaeth oedolion, y nifer mwyaf o achosion yn y DU. Mae dadansoddiad gan y British Heart Foundation wedi amcangyfrif bod dros 1,500 o farwolaethau oherwydd clefyd y galon a chylchrediad y gwaed bob blwyddyn yng Nghymru y gellir eu priodoli i fod dros bwysau a gordewdra. Ar wahân i'r risg uwch o gyflyrau iechyd difrifol, gall byw gyda gordewdra hefyd achosi anawsterau o ddydd i ddydd, fel diffyg anadl, diffyg egni, poen yn y cymalau a phoen cefn. Ar hyn o bryd mae GIG Cymru yn gwario tua £300 miliwn yn trin gordewdra a salwch sy'n gysylltiedig â gordewdra ac mae hyn yn rhoi ein GIG dan bwysau sylweddol.
Nid yw'r ddeddfwriaeth yr wyf yn ei chyflwyno yn berthnasol i bob cynnyrch sy'n cynnwys llawer o fraster, siwgr a halen, ond mae'n targedu bwyd a diod sy'n cyfrannu fwyaf at ordewdra oherwydd y calorïau sydd ynddyn nhw a'r ffordd y maen nhw'n cael eu hyrwyddo. Rydym am ystyried cysondeb â diffiniadau a nodir yn y deddfwriaeth yn Lloegr sy'n ymwneud â chyfyngu ar leoliad cynnyrch a phrisiau cyfaint, er mwyn sicrhau y gellir gweithredu ar draws ffiniau. Fodd bynnag, rydym hefyd yn ystyried y sylfaen dystiolaeth wyddonol, a fydd yn hanfodol. Mae'r rhain i gyd yn fwydydd nad oes eu hangen o gwbl fel rhan o ddeiet cytbwys iach a dim ond yn achlysurol y dylid eu bwyta. Mae llawer o'r cynnyrch hyn yn cael eu prynu ar fympwy yn anfwriadol, sy'n arwain at wariant ychwanegol sy'n gwasgu cyllideb defnyddwyr. Mae hyn yn arbennig o wir am yr aelwydydd sydd ar y cyflogau isaf sy'n gwario canran uwch o'u hincwm gwario ar fwyd.
Nid yw'r ddeddfwriaeth wedi'i chynllunio i gyfyngu ar ddewis pobl; bydd pobl yn dal i allu prynu'r cynhyrchion hyn. Fodd bynnag, nid yw'r rhan fwyaf o'n siopau bwyd yn rhoi dewis i ddefnyddwyr y gellir ei ystyried yn gytbwys, oherwydd nid oes digon o opsiynau iach ar gael, ac mae'r opsiynau iach hyn yn destun llawer llai o waith hyrwyddo. Mae'r newidiadau hyn wedi'u cynllunio i adfer cydbwysedd ein hamgylchedd bwyd fel ei bod hi'n haws i ddefnyddwyr wneud dewisiadau iachach. Rwy'n cydnabod bod rhai manwerthwyr a gweithgynhyrchwyr bwyd wedi gwneud newidiadau gwirfoddol tuag at amgylchedd bwyd iachach, er enghraifft, trwy beidio â gwerthu melysion wrth fannau talu, ac ail-lunio rhai llinellau cynnyrch i gynnwys llai o fraster neu siwgr. Fodd bynnag, nid yw newidiadau gwirfoddol yn deg i fusnesau.
Byddwn yn gweithio'n agos gyda'r diwydiant bwyd a phartneriaid i ddatblygu canllawiau cynhwysfawr i fanwerthwyr weithredu'r mesurau hyn. Byddwn hefyd yn helpu gweithgynhyrchwyr i ail-lunio cynhyrchion i leihau lefelau braster, siwgr neu halen. Byddwn hefyd yn cynnal ymgynghoriad ar fesurau gorfodi, gan gynnwys sut y dylid ymchwilio i gydymffurfiaeth a chosbau a gymhwysir mewn achosion o ddiffyg cydymffurfio. Byddaf yn hysbysu'r Senedd pan gaiff yr ymgynghoriad ei gyhoeddi.
Rwy'n cael fy nghalonogi gan ddadansoddiad cychwynnol sy'n dangos bod cyfyngiadau ar leoli cynnyrch yn Lloegr wedi arwain at newid yng ngwariant defnyddwyr i ffwrdd oddi wrth gynhyrchion sy'n cynnwys llawer o fraster, siwgr a halen tuag at ddewisiadau iachach. Rwy'n edrych ymlaen at weld gweithredu pellach gan ein cydweithwyr yn Whitehall o ran cyfyngiadau ar brisiau ac o ran cwtogi ar hysbysebion teledu a hysbysebion ar-lein ar gyfer cynhyrchion sy'n cynnwys llawer o fraster, siwgr a halen uchel i blant, sy'n gam hanfodol arall tuag at wella ein hamgylchedd bwyd.
Rwy'n dal i ystyried y dystiolaeth a'r opsiynau ar gyfer bwrw ymlaen â chynigion eraill a oedd yn rhan o'r ymgynghoriad ar amgylchedd bwyd iach. Mae hyn yn cynnwys ystyried tystiolaeth bellach ar labelu calorïau, a'r cyfleoedd i ddatblygu dull ehangach y tu allan i'r cartref i sicrhau bod unrhyw newidiadau yn cael yr effaith fwyaf bosibl. Rwyf hefyd yn ystyried tystiolaeth bellach ar wahardd gwerthu diodydd egni i blant. Byddaf yn gwneud datganiad pellach ar y cynigion hyn i'r Senedd maes o law.
Rwy'n gwybod bod achosion bod dros bwysau a gordewdra yn gymhleth, ac nid wyf yn honni y bydd deddfwriaeth i gyfyngu ar hyrwyddo bwydydd sy'n cynnwys llawer o fraster, siwgr neu halen ynddi'i hun yn ddigon i droi'r llanw ar y cynnydd mewn cyfraddau gordewdra. Fodd bynnag, mae hwn yn ddarn hanfodol o'r jig-so fel rhan o'n strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' i gyflawni polisïau, cyllid a deddfwriaeth o'r radd flaenaf sy'n helpu i atal a lleihau gordewdra. Mae ein cenhedlaeth nesaf yn haeddu 'normal' gwahanol lle mae bwydydd iachach ar gael yn haws, yn fwy fforddiadwy ac yn fwy deniadol a lle nad yw bwydydd sy'n cynnwys llawer o fraster, siwgr a halen yn rhan greiddiol o'n deiet. Mae'r genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol yn haeddu gwell. Diolch.
Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad heddiw. Hoffwn ddiolch i chi hefyd am gopi o'r datganiad a'r briff technegol y gwnaethoch chi eu cynnig i mi ac Aelodau eraill ymlaen llaw. Mae'r data go iawn y tu ôl i hyn wir wedi bod yn agoriad llygad, ac mae mynd i'r afael â gordewdra yng Nghymru yn rhywbeth yr wyf yn teimlo'n angerddol iawn yn ei gylch. Roedd rhai o'r ystadegau yn eich datganiad yn eithaf brawychus, Dirprwy Weinidog: mae 60 y cant o oedolion dros bwysau ac mae chwarter plant dros bwysau neu'n ordew cyn iddyn nhw ddechrau yn yr ysgol. Y data sydd gennyf i fy hun yw y gallai 70,000 o bobl, o bosibl, gael ymyrraeth lawfeddygol ar y GIG ar gyfer gordewdra. Mae diabetes math 2 ar gynnydd—cynnydd o 40 y cant mewn diabetes math 2—sy'n costio £82 miliwn y flwyddyn i'w drin. Mae hynny'n gost enfawr i'r trethdalwr. Ac, fel y dywedsoch chi, £300 miliwn y flwyddyn i fynd i'r afael â gordewdra. Un o'r pethau mwyaf syfrdanol yw'r marwolaethau diangen sy'n cael eu hachosi gan ordewdra. Mae'r rhain yn golygu bod yr amser i wneud dim ynghylch y mater hwn wedi dod i ben.
Ond, yr hyn na allwn ni ei anghofio yn hyn i gyd yw bod y broblem hon wedi digwydd o dan oruchwyliaeth y Llywodraeth hon. Rydych chi wedi bod mewn grym ers 25 mlynedd yma, ac fe allech chi fod wedi gweithredu'n gynt. Gallai Llywodraeth Cymru fod wedi gweithredu'n gynt ar y broblem hon. Rydym wedi cael adroddiad ar ôl adroddiad gan bwyllgorau'r Senedd yma, strategaeth ar ôl strategaeth, ond mae pethau wedi gwaethygu. Rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am y ffaith bod y mater hwn wedi cyrraedd pwynt argyfwng a chydnabod y dylai'r Llywodraeth yma fod wedi gwneud pethau'n gynt. Oherwydd rydym nawr mewn sefyllfa lle mae'n rhaid i ni gymryd y camau llym hynny i fynd i'r afael ag iechyd y genedl, oherwydd os na wnawn ni ddim, bydd pobl yn marw o ordewdra yn ddiangen, ac mae hynny'n rhywbeth na allaf sefyll o'r neilltu a'i weld yn digwydd.
Un elfen, Dirprwy Weinidog, o'r ymgynghoriad a'r cyfathrebu ynghylch hyn oedd y cyfyngiadau ar fargeinion prydau bwyd, ac mae hyn wedi achosi dryswch a gofid mewn rhai mannau ynghylch yr hyn y mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud. Dirprwy Weinidog, fel Ceidwadwr, rwy'n credu mewn cyfrifoldeb personol, rwyf hefyd yn credu bod gan bobl ddewis i ddewis yr hyn y maen nhw ei eisiau. Felly, yr hyn yr hoffwn i ei glywed gennych chi heddiw yw: a allwch chi amlinellu pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd o amgylch bargeinion prydau bwyd? A fydd bargeinion prydau bwyd, fel yr ydym yn eu hadnabod, yn newid, ac os felly, beth fydd y newidiadau hynny? A lle bydd dewis personol yn y rheoliadau newydd, wrth iddyn nhw gael eu cyflwyno? Rwy'n cytuno â chi ar eich datganiad bod angen i fanwerthwyr wneud mwy i hyrwyddo opsiynau iachach a sicrhau eu bod yn fwy amlwg ar silffoedd siopau, oherwydd ar hyn o bryd, maen nhw'n annog pobl i ddewis opsiynau afiach. Felly, ar hynny, a allwch chi amlinellu i mi pa drafodaethau rydych chi wedi'u cael gyda manwerthwyr am y cynigion hyn a pha adborth rydych chi wedi'i gael ganddyn nhw i Lywodraeth Cymru ar sut maen nhw'n mynd i weithredu hyn, wrth symud ymlaen?
Dirprwy Weinidog, yn eich datganiad, dywedoch chi hefyd nad yw'r ddeddfwriaeth yn berthnasol i bob cynnyrch sy'n cynnwys llawer o fraster, siwgr a halen, ond yn hytrach ei bod yn targedu'r bwydydd a'r diodydd sy'n cyfrannu fwyaf at ordewdra, felly a allwch chi roi mwy o wybodaeth am y mathau o fwydydd fydd wedi'u heithrio, a sut y bydd hyn hefyd yn cael ei reoleiddio a sut rydych chi'n mynd i gyfleu hynny i'r cyhoedd?
Mater arall yw gorfodaeth, oherwydd rydym yn gwybod bod ein cynghorau o dan bwysau mawr ar hyn o bryd, felly byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod sut rydych chi'n mynd i orfodi'r rheoliadau hyn. A yw'n rhywbeth y bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn ei orfodi, neu a yw'n rhywbeth a fydd yn cael ei wneud gan gynghorau lleol mewn gwirionedd?
Hefyd, o ran cynllunio, rydym wedi gweld llawer gormod o weithiau, lle mae ysgolion yn cael eu hadeiladu, neu lle mae gennym ysgolion, bod manwerthwyr bwyd cyflym yn cael eu lleoli gyferbyn â nhw. Ni ellir caniatáu i hynny ddigwydd mwyach, felly mae angen i ni weld mwy o gyfyngiadau cynllunio ynghylch ble y gall y mathau hynny o elfennau cyfleustra fynd, oherwydd nid oes angen i ni eu gweld y tu allan i'n hysgolion.
Mae yna gwestiwn hefyd am y 50 aelod o staff neu fwy. Yr hyn yr hoffwn ei glywed gennych chi heddiw yw sut rydych chi'n mynd i fynd i'r afael â nifer llai o bobl na hynny, oherwydd yr hyn sydd gennym yw siopau Spar and Londis a gwahanol fathau o gonsortiwm ledled y wlad, ac rwyf am wybod sut rydych chi'n mynd i ddelio â'r rheini i sicrhau nad yw cwmnïau'n ailstrwythuro fel eu bod yn gallu mynd o amgylch y rheolau hyn.
Mae labelu calorïau hefyd yn rhywbeth rydych chi'n gwybod fy mod i'n frwd iawn amdano, a hefyd, rwy'n gwybod bod Sarah Murphy yn gefnogol o'r ochr anhwylderau bwyta o hyn, a hoffwn wybod pa sgyrsiau rydych chi wedi'u cael gyda Beat ynghylch labelu calorïau wrth symud ymlaen, i sicrhau nad yw'r hyn rydym yn ei wneud o'i gwmpas yn cael unrhyw ganlyniadau anfwriadol. A hoffwn hefyd ddweud am yr ochr diodydd egni fy mod yn eich cefnogi ar hynny; nid wyf yn credu y dylem fod yn gwerthu diodydd egni i blant yn ein gwlad. Maen nhw'n llawn caffein ac ni ddylid eu rhoi i'n plant.
Mae'n gadarnhaol gweld y camau sydd wedi'u cymryd yn Lloegr, sy'n cael newidiadau cadarnhaol o ran symud pobl o'r opsiynau afiach hynny ac annog pobl i wneud dewisiadau bwyd gwell. Ond un mater sydd wedi cael ei godi gyda mi yw a fydd y cyfyngiadau hyn yn effeithio ar y bobl dlotaf yn ein cymdeithas, pobl na allan nhw fforddio'r dewisiadau bwyd gwell hynny neu fwydydd iachach. Ac a fydd hyn yn ychwanegu mwy o gost at fasgedi siopa llawer o'r bobl hynny ledled y wlad, gan ein bod ni mewn argyfwng costau byw? Ni allwn drosglwyddo'r holl gostau hynny i bobl eraill.
Felly, Dirprwy Weinidog, i gloi, rydych chi'n iawn bod y genhedlaeth nesaf yn haeddu cenedl fwy heini a bod angen iddi fod yn iachach, gan na fydd gwneud dim ond yn rhoi mwy a mwy o bwysau ar y GIG, ac ni allaf sefyll yma fel Aelod o'r Senedd hon a gweld ein GIG yn cael ei roi o dan fwy o bwysau oherwydd methiant i weithredu ar ordewdra. Mae angen taro cydbwysedd rhwng caniatáu dewis personol a chyfeirio pobl i fyw'r bywyd iachach hwnnw, yr ydym i gyd am ei weld. Ac edrychaf ymlaen at weld y rheoliadau hyn yn datblygu ac at weld sut y bydd hyn yn datblygu wrth symud ymlaen i'r dyfodol. Diolch, Llywydd.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
A gaf i ddiolch i James Evans am ei sylwadau, a diolch iddo am ei ymgysylltiad adeiladol â'r gwaith hwn? Rwy'n gwybod, fel fi, bod James yn teimlo'n gryf iawn am yr angen i fynd i'r afael â'r argyfwng cynyddol o ran gordewdra, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n gweithio'n drawsbleidiol ar faterion fel hyn, sy'n heriol iawn, felly rwy'n croesawu'n fawr yr ymagwedd adeiladol y mae wedi'i chymryd.
Ac fel y soniodd, mae'r ffigurau'n glir iawn ac yn agoriad llygad, ac mae'r rhain yn afiechydon y gellir eu hatal ac yn farwolaethau y gellir eu hatal, sydd, rwy'n credu, yn golygu bod gennym ddyletswydd foesol, mewn gwirionedd, i weithredu yn y maes hwn i atal yr argyfwng hwn rhag mynd yn waeth byth. Ac rydym yn gwybod, os byddwn ni'n parhau fel yr ydym ni, ei bod hi'n debygol y byddwn ni'n gweld 40 y cant o bobl yng Nghymru yn cael eu hystyried yn ordew, niferoedd enfawr o bobl yn byw gyda diabetes math 2 a chostau hyd yn oed uwch i'n GIG.
Fe wnaethoch chi rai sylwadau ynghylch a allem fod wedi gweithredu ynghynt; yn amlwg, mae iechyd y cyhoedd wedi bod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon erioed, ond rwy'n credu y byddwch chi'n gweld bod yr ymrwymiadau i strategaeth gordewdra yn rhywbeth a ddeilliodd o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, a gafodd ei phasio dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl. Ac fe wnaethom ddatblygu cynllun cyflawni 10 mlynedd ar unwaith ac rydym bellach yn yr ail gynllun dwy flynedd o hynny. Felly, mae hwn yn sicr yn ymrwymiad ac yn ymrwymiad ar draws y Llywodraeth.
Fe wnaethoch chi ofyn am fargeinion prydau bwyd, ac rwyf eisiau bod yn glir iawn gyda'r Siambr nad ydym yn gwahardd bargeinion prydau bwyd. Bydd pobl yn dal i allu mynd i brynu bargeinion prydau bwyd. Yr hyn yr ydym am ei wneud yw sicrhau eu bod yn iachach ac yn fwy cytbwys o ran maeth. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru—ac rwyf am ddiolch i Iechyd Cyhoeddus Cymru am y gwaith maen nhw wedi'i wneud i ni yn y maes hwn—wedi llunio proffil o 2 filiwn o fargeinion prydau bwyd yng Nghymru ac mae canlyniadau'r gwaith proffilio hwnnw'n anhygoel o drawiadol. Felly, rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o fargeinion prydau amser cinio yn cynnwys mwy na'r gofynion ynni cyfartalog, a'r senario gorau yw eu bod yn cynnwys 281 yn fwy o galorïau i ginio. Yn yr achosion uchaf, mae'r rhain—o, sori, rwy'n edrych ar fargeinion prydau amser swper nawr—yn cynnwys 1,000 yn fwy o galorïau na'r hyn y dylai rhywun ei gael ar gyfer pryd gyda'r nos. Ac mae'n union yr un patrwm gyda'r bargeinion prydau bwyd amser cinio. Mae tri chwarter ohonyn nhw'n cynnwys mwy na'r lefel calorïau a argymhellir ar gyfer cinio. Byddai'r opsiynau lleiaf iach yn darparu dwy ran o dair o'r calorïau dyddiol, dros 122 y cant o fraster dyddiol, 149 y cant o siwgr a 112 y cant o halen—dim ond amser cinio. Felly, rwy'n credu y gallwch chi weld o'r ffigurau hynny bod yn rhaid i ni weithredu.
Felly, yr hyn yr ydym am ei wneud yw symud y ffocws o ran bargeinion prydau bwyd tuag at opsiynau mwy iach. A James, fe wnaethoch chi sôn am gyfrifoldeb personol—mae'r holl dystiolaeth yn awgrymu ein bod ni ymhell y tu hwnt i'r cam nawr lle rydym yn mynd i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn drwy ddylanwadu ar ymddygiad unigol yn unig. Mae angen cynllun aml-gydran arnom, sef yr hyn sydd gennym, ac mae hynny'n cynnwys gwneud yr amgylchedd bwyd yn fwy iach. Oherwydd, ar hyn o bryd, nid oes gan bobl ddewis mewn gwirionedd, oherwydd maen nhw'n cael eu hamgylchynu gan fwyd afiach, sy'n cael ei hyrwyddo ac rydym yn cael ein cymell i'w brynu. Felly, rydym am roi mwy o ddewis i bobl, ond dewis o opsiynau mwy iach.
Rydym wedi gweithio'n agos gyda manwerthwyr, a gallaf eich sicrhau y bydd y gwaith hwnnw'n parhau. O ran sut y byddwn ni'n delio â pha gynhyrchion sydd o fewn y cwmpas, byddwn ni'n cyhoeddi canllawiau technegol ac rydym yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar hynny. Rydym yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn gyson iawn â'r gwaith y maen nhw wedi'i wneud yn Lloegr ynghylch eu cyfyngiadau ar gynhyrchion sy'n cynnwys llawer o fraster, siwgr a halen, ond rydym hefyd yn edrych ar ein dadansoddiad maethol ein hunain, ac rydym yn cytuno'n llwyr y bydd cyfathrebu yn bwysig iawn ac y bydd yn rhan allweddol o'n gwaith.
Fel yr ydych wedi'i ddweud, mae gan y broses gynllunio rôl i'w chwarae yn hyn, a dyna un o'r meysydd y gwnaethom ymgynghori arno fel rhan o'r ymgynghoriad ar yr amgylchedd bwyd. Yr hyn rydym wedi penderfynu, ar hyn o bryd, yw rydym yn credu y gallwn ni ddelio â rhai o'r materion cynllunio hynny drwy'r timau system presennol sydd ar waith ym mhob bwrdd iechyd, ac mae rhai enghreifftiau da o waith da yn cael ei wneud mewn byrddau iechyd i edrych ar rai o'r materion cynllunio hynny a cheisio atal y mathau o sefyllfaoedd rydych chi wedi'u disgrifio. Ond yna byddwn ni'n cynnal cynhadledd cynllunio ac iechyd y cyhoedd ym mis Hydref i benderfynu ar ddull gweithredu Cymru gyfan.
Mae labelu calorïau wedi bod yn rhywbeth y gwnaethom ei ystyried hefyd, ac rydym yn cymryd peth amser i edrych ymhellach ar hynny. Rydym am edrych yn benodol ar fanteision cyflwyno labelu calorïau yn y sector y tu allan i'r cartref, ar ôl i reoliadau tebyg gael eu cyflwyno yn Lloegr y llynedd. Ond rydym hefyd yn cydnabod y pryderon a godwyd am effaith labelu calorïau ar bobl ag anhwylderau bwyta. Felly, rydym yn awyddus iawn i adolygu canfyddiadau cychwynnol yr ymchwil a gomisiynwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal ar labelu calorïau a'i effaith ar bobl sydd â phrofiad bywyd o anhwylderau bwyta, ac mae disgwyl i'r ymchwil honno gael ei chwblhau y flwyddyn nesaf. Hoffwn eich sicrhau fy mod wedi cwrdd â Beat, mae swyddogion wedi ymgysylltu â Beat, a bydd gwrando ar bobl sydd â phrofiad bywyd o anhwylderau bwyta yn parhau i fod yn rhan allweddol iawn o'r hyn rydym yn ei wneud, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am hynny.
Yn olaf, o ran y bobl dlotaf, ar hyn o bryd mae'r dystiolaeth yn awgrymu nad yw teuluoedd incwm isaf o reidrwydd yn manteisio ar weithgarwch hyrwyddo prisiau beth bynnag, oherwydd maen nhw'n tueddu i fod ar gynhyrchion brand a byddai ein teuluoedd tlotaf yn fwy tebygol o brynu brand yr archfarchnad ei hun neu frand prisiau is. Ond yr hyn yr ydym hefyd yn ei wybod yw bod y gweithgarwch hyrwyddo prisiau hyn yn ein hannog i brynu pethau nad oes eu hangen arnom. Mae'n cynyddu ein gwariant o bumed, ac mae'r rheini'n eitemau nad oes eu hangen arnom sy'n cael eu prynu ar fympwy fel arfer. Felly, mae dadl gref iawn y bydd hyn yn atal gwariant diangen, ac, yn hollbwysig, yr hyn yr ydym am ei wneud yw—. Rydym yn hapus i weld cynigion yn y siopau a gostyngiadau mewn prisiau ar y bwyd iach. Dyna'r hyn yr ydym am ei wneud, i wneud hynny'n fwy fforddiadwy i deuluoedd sydd ar hyn o bryd yn bwyta bwydydd wedi'u prosesu sy'n llawn calorïau ac sy'n isel mewn maetholion. Diolch.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad. Cyn mynd ymlaen i graffu'r datganiad a chodi rhai cwestiynau sydd yn codi ohono, dwi am fynegi siom am y ddisgẃrs gyhoeddus sydd wedi arwain i fyny at y datganiad yma heddiw. Yn yr un modd â rydym ni wedi gweld camarwain ac, yn wir, celwyddau ynghylch addysg rhyw, ac, fel gwnaethom drafod ynghynt, ynghylch brechiadau, mae'r un patrwm i'w weld yma, yn bennaf o du'r wasg adain-dde Brydeinig. Mae'n rhaid i'r camwybodaeth yma ddirwyn i ben. Mae'n niweidio ein democratiaeth ac yn achosi pryderon cyhoeddus dianghenraid.
Rŵan, wrth edrych ar y datganiad o'n blaen heddiw, hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am gael golwg o'r datganiad rhagblaen. Mae'r uchelgais i fynd i'r afael â gordewdra a thaclo'r arferion sydd yn arwain at afiechydon sy'n gysylltiedig â deiet a diffyg maeth i'w groesawu, ond, tra bod y camau yma i'w croesawu, does yna ddim sôn am ba gamau neu gymorth sydd am cael eu cymryd i gynorthwyo teuluoedd ac unigolion o gefndir incwm isel er mwyn eu galluogi i wneud y dewisiadau iachach yma, fel y soniodd y Dirprwy Weinidog ynghynt o'r angen yn eu cylch. Gyda'r argyfwng costau byw presennol a'r camwybodaeth am y ddeddfwriaeth yma a soniais i amdano ynghynt, a wnaiff y Llywodraeth felly ymrwymo i ganfod strategaeth i hyrwyddo'r wybodaeth gywir ynghylch ei strategaeth bwyd a chynorthwyo pobl, yn benodol y rhai o'r cefndiroedd sosio-economaidd tlotaf, er mwyn gallu prynu bwyd iachach a gwneud dewisiadau iachach? Oherwydd y gwir ydy, tra fod yna ddadl gryf ynghylch fod bwyd yn rhad yma yn y Deyrnas Gyfunol, y gwir ydy fod bwyd anghynaladwy a bwydydd efo lefel uchel o halen ac ychwanegion eraill yn rhad, tra fo bwyd iach a chynaliadwy yn ddrud, yn enwedig i'r tlotaf yn ein plith. Byddai angen i'r 20 y cant tlotaf wario hanner ei hincwm gwario er mwyn prynu bwyd maethlon iach, heb sôn am y gost o ynni er mwyn paratoi'r bwydydd iach yn hytrach na, ddywedwn ni, microdon sydyn ar gyfer prydiau parod rhatach.
Roedd o'n ddifyr darllen yn ddiweddar fod plant a gafodd eu geni a'u magu o gefndir tlotaf ein cymdeithas yn ystod blynyddoedd llymder David Cameron a George Osborne dros 1 cm yn llai yn eu taldra na rhai a anwyd o gefndir mwy breintiedig. Mae tlodi felly yn cael effaith uniongyrchol a gweladwy ar iechyd ein plant. Dwi'n falch bod Plaid Cymru a'r Llywodraeth wedi dechrau rhaglen o gyflwyno prydiau ysgol am ddim i bob un plentyn cynradd Cymru, ond mae hyn yn dangos ei fod yn anodd i bobl llai breintiedig i wneud y dewisiadau mwyaf iach. Felly, pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i sicrhau bod bwyd iach yn gystadleuol o ran pris ac yn opsiwn cyntaf i bobl o bob cefndir i'w brynu?
Yn olaf, dwi am holi ynghylch calorïau. Mae'r Llywodraeth wedi sôn yn flaenorol am roi calorïau ar fwydlenni, ac mae'r datganiad y prynhawn yma, fel rydym ni wedi'i glywed, yn sôn am gymryd camau tuag at labeli efo calorïau. Ond, hyd y gwelaf i, does yna ddim tystiolaeth bod labeli calorïau yn arwain at fwyta iachach, ac, yn wir, fel y soniodd James ynghynt, mae yna dystiolaeth yn dangos ei fod o bosib yn niweidiol i bobl ag anhwylderau bwyta. Mae rhoi manylion am faeth bwyd yn gam i'r cyfeiriad cywir, ond nid am galorïau. Yn wir, yn dilyn rhoi labeli calorïau gorfodol yn Lloegr, mae'r NIHCR wedi cyhoeddi grant er mwyn ariannu ymchwil i fewn i effaith hyn ar bobl efo anhwylderau bwyta. Dwi'n falch o glywed y Dirprwy Weinidog yn sôn rŵan y bydd y Llywodraeth yn ystyried canlyniadau adolygiad yr NIHCR; mae hynny'n mynd i fod yn bwysig. Ond oes yna ymchwiliadau eraill ar draws y byd yn edrych i mewn i hyn, ac a wnaiff y Llywodraeth ystyried unrhyw waith ymchwil arall er mwyn bwydo i mewn i'r adroddiad? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn, Mabon ap Gwynfor, am eich sylwadau, ac am y croeso y mae'r camau rydym yn eu cymryd wedi'i gael gennych yn gyffredinol. Ac rwy'n ddiolchgar iawn hefyd am yr ymgysylltiad a gawsom gan Rhun ap Iorwerth cyn y datganiad hwn. Rwy'n cytuno â chi bod y drafodaeth gyhoeddus ynghylch bargeinion prydau bwyd wedi bod yn broblemus iawn, ac mae'n ymddangos ei fod yn rhan o dueddiad, onid ydyw, o wybodaeth anghywir yr ydym yn ei gweld cymaint y dyddiau yma, sydd wedyn yn cael ei hyrwyddo gan y cyfryngau cymdeithasol. Ac mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n sicrhau bod pobl yn cael y wybodaeth gywir, a dyna beth rydym yn ceisio'i wneud heddiw, ac y byddwn ni'n ceisio ei wneud wrth gyfathrebu.
Rydych chi wedi tynnu sylw, a hynny'n briodol, at yr heriau sy'n wynebu pobl yn y cymunedau tlotach o ran prynu bwyd iach, a dyna rydym yn ceisio mynd i'r afael ag ef, i raddau helaeth, trwy'r mentrau hyn. Ar hyn o bryd, y bwyd afiach iawn sy'n cael ei hyrwyddo, felly rydym am newid cydbwysedd yr amgylchedd bwyd yng Nghymru tuag at sicrhau bod bwydydd iach ar gael yn haws, yn rhatach, ac i sicrhau bod y dewis iach yn ddewis hawdd i bawb. Fe welais i'r erthygl y gwnaethoch chi gyfeirio ati yn The Guardian am daldra pobl, ac mae yn teimlo fel ein bod ni'n mynd am yn ôl, on'd ydyw, mewn sawl ffordd. A dyna pam mae'r gwaith rydym yn ei wneud gyda'n gilydd ar brydau ysgol am ddim yn bwysig iawn, ac rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol ein bod ni hefyd yn edrych ar safonau maethol y prydau ysgol am ddim hynny, oherwydd mae'n hanfodol bod plant yn cael cynnig maethol da iawn pan fyddan nhw'n cael eu pryd ysgol am ddim.
Fel y dywedais i ar labelu calorïau, mae'n rhywbeth yr ydym eisiau edrych arno ymhellach. Mae rhywfaint o dystiolaeth y gall wneud gwahaniaeth i iechyd y boblogaeth, ond rydym hefyd yn bryderus iawn am yr effaith ar bobl sy'n byw gydag anhwylderau bwyta. Mae gennym y fantais, mewn gwirionedd, o allu defnyddio'r hyn maen nhw wedi'i wneud yn Lloegr, a dysgu o'r gwaith maen nhw wedi'i wneud. Byddwn ni'n edrych yn ofalus ar ganlyniad ymchwil NIHCR i lywio ein penderfyniad, ac mae ymchwil yn mynd rhagddo yn yr Alban hefyd, ac rydym yn awyddus iawn i edrych ar unrhyw ymchwil sy'n ein helpu ni yn y maes hwn, a hefyd yn awyddus iawn i barhau i gael y ddeialog honno gyda phobl sydd â phrofiad bywyd o anhwylderau bwyta.
Diolch am y diweddariad hwn, Dirprwy Weinidog, a hefyd i James Evans am gyfeirio at Beat a'r rhai sydd ag anhwylderau bwyta, a Mabon ap Gwynfor. Rwyf am bwysleisio, er fy mod i'n rhannu uchelgais Llywodraeth Cymru mewn perthynas â labelu bwyd i hyrwyddo Cymru iachach, fy mod hefyd yn pryderu bod y ddeddfwriaeth arfaethedig yn cynnwys cynlluniau i fandadu labelu calorïau ar fwydlenni. Fi yw cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anhwylderau bwyta, y mae Beat, yr elusen anhwylderau bwyta, yn ysgrifenyddiaeth ar ei gyfer, ac maen nhw wedi datgan yn glir bod calorïau ar fwydlenni yn beryglus i bobl ag anhwylderau bwyta. Mae Beat yn cydnabod y gallai gwybodaeth am faetholion fod o fudd i'r rhai sydd â chyflyrau iechyd penodol, ac maen nhw'n llwyr gefnogi mwy o addysg gyhoeddus ar faeth. Fodd bynnag, nid ydynt yn credu bod gofyniad i ychwanegu labelu calorïau i fwydlenni yn cyd-fynd â'r nod hwn. Yn hytrach, mae'n ddull lleihaol o ymdrin â maeth, ac mae risg y bydd yn achosi niwed i'r rhai sy'n byw gydag anhwylderau bwyta. Canfuon nhw hefyd fod 98 y cant o'r bobl a gymerodd eu harolwg ar hyn yn teimlo y byddai labelu calorïau ar fwydlenni yn cael effaith negyddol neu negyddol iawn ar bobl ag anhwylderau bwyta.
Fel y sonioch chi, mae Llywodraeth yr Alban yn ystyried pryderon pobl ag anhwylderau bwyta, ac felly maen nhw wedi oedi cynlluniau i gyflwyno'r rhan hon o'r ddeddfwriaeth yn yr Alban. Felly, Gweinidog, a allwch chi egluro i mi beth ddywedoch chi wrth James Evans a Mabon ap Gwynfor? A fydd cyflwyno labelu calorïau ar fwydlenni yn cael ei oedi nes bod yr ymchwil ar effaith mesurau o'r fath ar y rhai ag anhwylderau bwyta yn cael ei chyhoeddi? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Sarah, ac rwy'n gwybod bod cymorth i bobl sy'n byw gydag anhwylderau bwyta yn rhywbeth rydych chi'n teimlo'n angerddol iawn amdano, ac rwy'n ddiolchgar i chi am fynegi'r pryderon rydych chi wedi'u clywed trwy'r grŵp trawsbleidiol. Rwy'n credu fy mod i wedi bod yn glir iawn ein bod ni eisiau edrych ar y dystiolaeth. Rydym eisiau aros i weld canlyniad yr ymchwil gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal, ac rydym hefyd eisiau edrych ar yr hyn y maen nhw'n ei wneud yn yr Alban cyn i ni wneud penderfyniad ar hyn. Dyna pam nad wyf wedi gwneud cyhoeddiad heddiw am labelu calorïau, oherwydd rydym eisiau gweld y gwaith ychwanegol hwnnw'n cael ei wneud. Rwyf wedi cwrdd â Beat, mae swyddogion wedi gweithio'n agos gyda Beat, ac rydym yn awyddus iawn i barhau â'r ddeialog honno ac i wneud yn siŵr, pan fyddwn ni'n gwneud penderfyniad ar hyn, y bydd yn rhywbeth na fydd yn rhoi pobl sy'n byw gydag anhwylderau bwyta dan anfantais. Fe fyddwch chi'n ymwybodol, fel rhan o'n hymgynghoriad, ein bod ni wedi ymgynghori ar wahanol opsiynau i geisio lliniaru'r effaith ar bobl ag anhwylderau bwyta. Felly, mae hyn wedi bod yn ganolog, mewn gwirionedd, i'n hymagwedd drwyddi draw. Felly, gallaf roi'r sicrwydd i chi y bydd yr hyn a wnawn yn seiliedig ar dystiolaeth ac y byddwn yn parhau â'r ddeialog honno gyda'r rhai sy'n byw gydag anhwylderau bwyta.
A dweud y gwir, gofynnwyd yr un pwynt yn union i mi, oherwydd yn eich datganiad rydych chi'n dweud y byddwch chi'n ystyried tystiolaeth bellach ar labelu calorïau. Wrth siarad yma fis Rhagfyr diwethaf, fe wnes i rybuddio am yr effaith negyddol y gallai cyflwyno labelu calorïau gorfodol ar fwydlenni ei chael ar y rhai sy'n byw gydag anhwylderau bwyta, gan ddyfynnu arolwg a gynhaliwyd gan Beat, elusen anhwylderau bwyta'r DU, a ofynnodd i'r rhai yng Nghymru, sy'n byw gydag anhwylderau bwyta neu y mae anhwylderau bwyta yn effeithio arnynt, roi eu barn ar y cynnig, lle roedd 98 y cant o'r ymatebwyr yn teimlo y byddai hyn yn cael effaith negyddol arnynt. Fodd bynnag, roedd deddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru, fel yr ydych chi wedi'i nodi, yn cynnwys cynlluniau i fandadu labelu calorïau ar fwydlenni. Ac mae Beat wedi dweud wrthyf, er mai ychydig iawn o dystiolaeth sy'n awgrymu bod labelu calorïau yn gwella iechyd ar lefel poblogaeth, fod tystiolaeth dda ei fod yn achosi niwed sylweddol i bobl ag anhwylderau bwyta. Ac rydym wedi clywed cyfeiriad at y ffaith bod Llywodraeth yr Alban wedi oedi cynlluniau i gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon yn yr Alban, ar ôl ystyried pryderon pobl ag anhwylderau bwyta. Felly, ailadroddaf y cwestiwn, ond rwy'n mynd i fod yn benodol iawn: sut y bydd y Dirprwy Weinidog, felly, yn ymateb i alwadau gan Beat, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion a'r Coleg Nyrsio Brenhinol i Lywodraeth Cymru ddilyn yn ôl traed Llywodraeth yr Alban ac oedi cyflwyno labelu calorïau ar fwydlenni yn ei his-ddeddfwriaeth arfaethedig, o leiaf nes y bydd ymchwil ar effaith mesurau o'r fath ar y rhai sy'n byw gydag anhwylderau bwyta yn cael ei chyhoeddi?
Diolch, Mark, am eich sylwadau, ac rwy'n ymwybodol bod hwn yn fater rydych chi wedi'i godi o'r blaen yn y Siambr. Nid wyf yn credu y gallaf fod yn fwy clir, mewn gwirionedd, am yr hyn yr ydym ni'n ei ddweud mewn perthynas â hyn. Nid ydym wedi gwneud cyhoeddiad fel rhan o'r hyn rydym yn ei gyhoeddi heddiw ein bod ni'n bwrw ymlaen â hyn, oherwydd rydym eisiau gweld canlyniad yr ymchwil sy'n digwydd yn Lloegr a'r Alban, ac rydym eisiau rhoi ystyriaeth bellach i'r mater hwn. Roedd y rhan fwyaf o'r rhai a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad yn gwrthwynebu gwneud labelu calorïau yn orfodol ar y pwynt dewis ar gyfer lleoliadau y tu allan i'r cartref, gyda 52 y cant yn erbyn, ac rwy'n ymwybodol bod Beat wedi gwneud eu harolwg eu hunain, a dyna pam rydym eisiau meddwl yn ofalus am y camau nesaf o ran hyn. Rydym hefyd eisiau ystyried dull ehangach a mwy strategol yn y sector y tu allan i'r cartref, ac mae fy swyddogion yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad a'r dystiolaeth bresennol yn y maes er mwyn ystyried y camau nesaf.
Mae cyfradd uchel gordewdra, yn enwedig ymhlith plant, a’i effaith ar iechyd yn fater o bwys cenedlaethol ac yn achosi straen ar y gwasanaeth iechyd, fel rŷn ni wedi clywed, ond mae angen i'r Llywodraeth fynd i'r afael â gordewdra mewn ffordd holistig, gan ddefnyddio dull iechyd y cyhoedd. Rŷch chi wedi cyfeirio’n barod at Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, sy'n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal asesiadau o'r effaith ar iechyd o dan amgylchiadau penodol, ac rwy'n deall y bydd y rhain yn cael eu cynnwys mewn rheoliadau statudol, yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weinidog. Dydyn ni ddim wedi'u cael nhw er bod sawl blwyddyn nawr ers cyhoeddi'r Ddeddf, ac rŷch chi wedi cyfeirio'r prynhawn yma at y ffaith bod hynny ddim yn mynd i ddigwydd eto fyth.
Byddai dyletswydd statudol i gynnal asesiad o'r effaith ar iechyd yn osgoi sefyllfa fel yr hyn sydd wedi codi'n ddiweddar yn fy rhanbarth i. Gwnes i godi pryderon gyda'r Llywodraeth nôl ym mis Mawrth ynghylch yr effaith andwyol ar iechyd y cyhoedd y byddai datblygiad McDonald's arfaethedig ym Mhontardawe, dafliad carreg o ysgol gyfun ac ysgol gynradd leol, yn ei gael. Yn ei hateb i'n llythyr, dywedodd y Gweinidog iechyd taw mater cynllunio i'r cyngor ydoedd. Dywedodd adran gynllunio'r cyngor nad oedd gofyn statudol iddyn nhw gynnal asesiad o'r effaith ar iechyd. Felly, rwy'n gobeithio eich bod chi'n cytuno bod hyn yn annerbyniol o ystyried nod polisi y Llywodraeth. Felly, pryd yn union y byddwch chi'n ystyried cyhoeddi rheoliadau i osod gofyniad statudol ar y rhai sy'n ymgeisio am ganiatâd cynllunio mewn achosion o'r fath i gyflwyno asesiad o'r effaith ar iechyd?
Diolch yn fawr iawn, Sioned, am eich cyfraniad, ac a gaf i sicrhau pawb ein bod yn ymdrin â hyn yn gynhwysfawr? Er ein bod yn siarad am ddeddfwriaeth heddiw, mae ein cynllun 'Pwysau Iach: Cymru Iach' yn gynllun aml-gydran sy'n ymdrin â'r blynyddoedd cynnar, ag addysg, â lefelau gweithgarwch corfforol, â'r GIG. Rydym ni wedi cyflwyno dull o reoli pwysau ar gyfer Cymru gyfan, mae gennym ni raglen atal diabetes ar gyfer Cymru gyfan. Mae hyn fel jig-so, ac mae angen i'r holl rannau ddod at ei gilydd. Rydym ni'n gwybod bod yn rhaid iddo fod yn aml-gydran i gyflawni'r math o newid y bydd ei angen arnom. Felly, hoffwn eich sicrhau bod hynny'n digwydd. Fe allwn i sefyll yma drwy'r dydd, pe bawn i'r siarad am bopeth rydym ni'n ei wneud yn y maes hwn, ac rwy'n siŵr nad oes ar neb eisiau hynny. [Chwerthin.]
O ran yr asesiadau effaith ar iechyd, nid wyf yn siŵr o ble gawsoch chi'r syniad nad ydyn nhw'n digwydd. Rydym ni wedi ymrwymo i gyflwyno'r ddeddfwriaeth ar asesu'r effaith ar iechyd, a byddant yn cael eu cyflwyno drwy ymgynghoriad erbyn diwedd y flwyddyn. Felly, roedd hynny'n ymrwymiad a wnaed yn y ddeddfwriaeth honno ynghylch iechyd y cyhoedd. Ac, mewn perthynas â chynllunio, fel y dywedais i, rydym yn dal i fod yn ymrwymedig iawn i wneud gwelliannau i gynllunio a fydd yn effeithio ar ble mae pethau fel siopau cludfwyd wedi'u lleoli. Rydym ni wedi ariannu timau system 'Pwysau Iach: Cymru Iach' ym mhob ardal bwrdd iechyd, fel bod hynny'n dwyn ynghyd y bwrdd iechyd, llywodraeth leol ac eraill, sy'n gweithio i wella a mynd i'r afael â gordewdra yn eu meysydd penodol, ac mae enghreifftiau eisoes ar gael. Felly, mae Betsi Cadwaladr yn bwrw ymlaen â gwaith i wneud bwyd fforddiadwy ac iach yn haws ei gael, ac mae hynny'n cynnwys ymgorffori asesiadau mewn cynigion a gyflwynwyd ar gyfer ceisiadau cynllunio newydd. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hefyd yn mynd i'r afael â hysbysebu a marchnata iachach, ac yna mae gennym ni gynhadledd wedi'i chynllunio rhwng cynllunio ac iechyd y cyhoedd yn yr hydref, lle byddwn yn ystyried canfyddiadau'r ymgynghoriad ymhellach, a bydd hynny'n rhoi safbwynt Cymru gyfan i ni ar gynllunio. Ond, dim ond i roi'r sicrwydd pendant hwnnw i chi: bydd yr asesiadau o'r effaith ar iechyd yn digwydd, a bydd hynny'n cael ei gyflwyno.
Rwy'n gwybod eich bod yn Weinidog cadarn, a bydd angen i chi fod, oherwydd mae hyn yn dalcen caled. Rydym ni wedi treulio'r ugeinfed ganrif yn ceisio perswadio'r diwydiant tybaco i roi'r gorau i werthu canser yr ysgyfaint i bobl, trwy sigaréts, a dim ond trwy reoleiddio y maen nhw wedi gadael ein glannau, ac maen nhw bellach yn gwerthu sigaréts ledled y byd mewn gwledydd llai datblygedig, ac erbyn hyn mae gennym ni 2 filiwn o bobl yn marw o ganser yr ysgyfaint bob blwyddyn, a'r niferoedd yn codi.
Felly, y diwydiant bwyd mawr, does arnom ni ddim eisiau treulio'r holl unfed ganrif ar hugain yn eu perswadio i newid eu ffyrdd a rhoi'r gorau i droi bwyd yn rhywbeth sy'n niweidiol i bobl mewn gwirionedd. Felly, bydd hynny'n anodd iawn, iawn, oherwydd maen nhw'n difwyno eu bwyd yn rheolaidd gydag emylsyddion a chemegau eraill i gynyddu eu hoes silff a'u proffidioldeb, ac mae'r rhain hefyd, mae'r ymchwil nawr yn dangos, hefyd yn gysylltiedig â chanser, clefyd y galon, strôc, yn ogystal â dementia ac afiechyd meddwl. Felly, mae hon yn ysgytwad go iawn. Rwy'n parchu'r saib ynghylch p'un a ydych chi'n mynd i labelu calorïau ai peidio, ond mae'r broblem yn llawer mwy, yn llawer mwy na hynny.
Felly, yn eich trafodaethau gyda'r diwydiant i ail-lunio cynhyrchion i leihau braster, siwgr a halen, a wnewch chi hefyd ystyried gofyn iddyn nhw gael gwared ar emylsyddion, sefydlogwyr a gymiau? Pryd wnaethoch chi erioed weld gwm ffa locust neu gwm gwar ar y silffoedd? Ni fyddwch wedi gwneud hynny, oherwydd rwy'n siŵr eu bod yn blasu'n ofnadwy ac nid oes ganddyn nhw unrhyw werth maethol o gwbl. Felly, mae gennym ni broblem enfawr yma, ac nid yw hyn yn ymwneud â chyfrifoldeb personol, oherwydd dyna'r dadleuon a ddefnyddiodd pobl gyda'r diwydiant tybaco. Mae gennym ni broblem fwy na hynny. Os nad oes arnom ni eisiau i bobl farw'n gynnar, a dioddef o'r diffyg twf a grybwyllwyd eisoes, mae'n rhaid i ni weithredu nawr.
Felly, fe hoffwn i wybod—. Nid yw chwech o bob deg o bobl byth yn coginio pryd o'r dechrau, a'r prydau parod hyn, y rheswm pam eu bod nhw mor niweidiol yw oherwydd eu bod yn cynnwys yr holl gynhwysion ffiaidd hyn, ac nid yw pobl yn sylweddoli hynny. Pwy sy'n darllen labeli sydd â sgrifen maint wyth? Neb. Felly, os nad yw o leiaf chwech o bob deg o bobl byth yn coginio pryd o'r dechrau, ac wedi colli'r arfer o goginio cawl llysiau syml, neu yn y tywydd hwn, paratoi salad cymysg, lle mae gwersi coginio yn eich cynlluniau, mewn ysgolion ac mewn canolfannau cymunedol, fel ein bod yn rhoi'r grym yn ôl i bobl fynnu nad ydyn nhw'n byw mewn anialwch bwyd, ac y gallan nhw gael bwyd ffres, fel y gallan nhw wneud pryd o fwyd priodol, yn hytrach na gorfod gweini pethau sy'n eu lladd mewn gwirionedd?
Diolch yn fawr iawn, Jenny. Rwy'n credu bod y gymhariaeth â thybaco yn un pwysig iawn, oherwydd rydym ni'n gwybod, pan ydym ni wedi cymryd camau beiddgar o ran iechyd y cyhoedd, ei fod wedi gwneud gwahaniaeth o ran pethau fel ysmygu. Ac rydym ni hefyd yn gwybod bod pethau fel y dreth siwgr wedi gweithio. Mae hynny wedi tynnu gwerth degau a degau o filoedd o dunelli o siwgr allan o ddeietau pobl sy'n byw yn y DU ac mae hefyd wedi gostwng gordewdra. Felly, rydym ni'n gwybod y gall cymryd camau beiddgar o ran iechyd y cyhoedd weithio.
Fe wnaethoch chi sôn am fwydydd wedi eu prosesu'n helaeth. Rwy'n gwybod bod pryder cynyddol am fwydydd wedi'u prosesu'n helaeth, ac rydym yn gwybod bod llawer o'r nwyddau y gallwch chi eu prynu nawr ar y prisiau hyrwyddol hyn yn uchel mewn braster, siwgr a halen, ac maen nhw'n yn cael eu prosesu'n helaeth, felly maen nhw'n cynnwys llawer o galorïau ond cynnwys fawr ddim maeth. Bu'r Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faeth yn ystyried bwydydd wedi eu prosesu'n helaeth ym mis Mehefin y llynedd, a nawr maen nhw'n cynnal adolygiad cwmpasu o'r dystiolaeth ynghylch iechyd a bwydydd wedi eu prosesu'n helaeth, gyda'r bwriad o gyhoeddi papur safbwynt yr haf hwn ynghylch hynny. Felly, yr hyn y byddwn yn ei wneud, fel y gwnawn ni bob amser, yw y byddwn ni'n gwrando ar y consensws gwyddonol diweddaraf o dystiolaeth sefydledig, er mwyn llywio ein hystyriaeth o fwydydd wedi'u prosesu'n helaeth, a byddwn yn ystyried canfyddiadau'r adolygiad unwaith y bydd y rheini ar gael. Rydym ni hefyd yn gwybod bod rhai cwmnïau'n ail-lunio, ond nid oes chwarae teg, ac fe hoffem ni i fwy o gwmnïau ail-lunio, i wneud eu bwydydd yn iachach. Ddoe, ymwelais ag Arloesi Bwyd Cymru—mae gennym ni dair o'u canolfannau yng Nghymru—ac maen nhw'n gweithio gyda chwmnïau i ail-lunio bwydydd, ymhlith pethau eraill, i'w gwneud yn iachach. Ac mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gweithgaredd hwnnw gyda chyllid.
Rydych chi'n iawn i dynnu sylw at bethau fel y sgiliau sylfaenol sy'n ymwneud â choginio. Rydym ni'n ariannu pethau fel Sgiliau Maeth am Oes. Mae'n amlwg bod addysg yn gwbl allweddol, ac mae gennym ni ein cwricwlwm newydd, gyda'r maes dysgu a phrofiad ar iechyd a lles, ac mae hynny hefyd yn canolbwyntio ar ddeiet iach a chytbwys. Rydym ni hefyd yn ariannu tri chynllun arbrofol gyda phlant a theuluoedd yng Nghymru—un ym Merthyr, un yn Ynys Môn, ac un yng Nghaerdydd—lle rydym ni'n edrych ar rai o'r materion hynny ynghylch pam mae teuluoedd yn ei chael hi'n anodd bwyta'n iach. Rydym ni wedi ariannu'r rheini, a byddwn yn edrych ar y dysgu sy'n deillio o'r rheini. Rwy'n credu eu bod i gyd yn gwneud pethau ychydig yn wahanol, a byddai croeso mawr i chi ymweld â'r un yng Nghaerdydd gyda mi, lle byddaf yn mynd yn y dyfodol agos. Diolch.
Ac yn olaf, Jayne Bryant.
Diolch, Llywydd. Hoffwn groesawu'r datganiad hwn gan y Dirprwy Weinidog heddiw. Mae hon yn garreg filltir bwysig arall sy'n dangos ymrwymiad y Llywodraeth i wneud yr hyn a all i fynd i'r afael â rhai o'r materion iechyd sylweddol yr ydym ni'n eu hwynebu nawr, ac a fydd yn cynyddu'n eithriadol yn y dyfodol heb weithredu. Mae hwn yn bolisi ataliol ar waith yn erbyn rhai o'r ffigurau brawychus y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'u crybwyll heddiw.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae bwydydd wedi eu prosesu'n helaeth wedi ymdreiddio i'n diet ar gyflymder brawychus. Mae'r bwydydd hynny fel arfer yn cynnwys siwgrau, halen, braster, lliwiau neu gadwolion artiffisial ychwanegol, ac nid ydyn nhw wedi'u gwneud o fwyd cymaint â sylweddau sy'n cael eu tynnu o fwyd, fel y dywedodd Jenny Rathbone. Mae llawer o'r bwydydd hynny wedi'u haddasu i gael y lefel berffaith o felyster neu halltrwydd i gadw defnyddwyr yn bwyta.
Er nad ydyn nhw wedi eu gyfyngu i fargeinion bwyd yn unig, bwydydd wedi'u prosesu'n helaeth yw sail bargeinion bwyd. Bydd edrych ar y print bach sydd wedi ei wasgu ar gefn unrhyw becyn yn dangos hynny i chi, ond faint ohonom ni sy'n edrych ar y pecynnau hynny mewn gwirionedd ac yn deall beth sydd yn hynny? Y llynedd, canfu astudiaeth gan Action on Salt fod saith o bob 10 byrbryd a werthwyd yn rhan o fargeinion prydau amser cinio mewn siopau ac archfarchnadoedd ar y stryd fawr yn y DU yn cynnwys symiau peryglus o fawr o halen, siwgr a braster dirlawn. Dangosodd darn arall o ymchwil nad ydyn nhw'n arbed arian; maen nhw'n annog pobl i wario mwy. Mae'r cynigion 'prynu un, cael un am ddim' bob amser yn ymwneud â phethau braster uchel, halen uchel, siwgr uchel, byth ynghylch dewisiadau iach.
Nid yw pob un o'r grymoedd sydd eu hangen i newid pethau yn nwylo Llywodraeth Cymru. Mae angen i Lywodraeth y DU weithredu ar frys ar faterion fel hysbysebu ac ar fwydydd wedi eu prosesu'n helaeth. Mae hyn yn fater rhy fawr i beidio â gweithredu yn ei gylch. Felly, a wnaiff y Dirprwy Weinidog argymell i Lywodraeth y DU a dweud bod angen i ni ddod o hyd i ffordd well o gyfleu gwerth maethol bwyd? Mae angen i ni feddwl yn radical am fwyd, sut mae'n cael ei gynhyrchu a sut rydym ni'n ei gyrchu. Nid yw newid yn amhosibl. Mae llawer o waith yn digwydd yma yn barod ac yn rhyngwladol, ond mae'r cyfan ar raddfa fach. Mae ar y rhan fwyaf ohonom ni eisiau bwyta'n iach, ond nid oes amheuaeth bod y diwydiant yn gwybod sut i annog a sut i hyrwyddo defnydd o'u cynnyrch, ac mae hyn yn mynd y tu hwnt i gyfrifoldeb personol. Felly, rwy'n credu bod hwn yn gam i'r cyfeiriad cywir yn wyneb argyfwng iechyd y cyhoedd.
Diolch yn fawr iawn, Jayne, am eich croeso i'r cynlluniau. Fel y dywedwch chi, atal ar waith yw hyn. Mae hyn yn ymwneud â rhoi iechyd y cyhoedd yn uwch nag elw. Ac rydych chi'n hollol iawn bod yr holl amgylchedd rydym ni'n byw ynddo wedi'i gynllunio i wneud i ni fwyta bwyd afiach. Nid wyf yn credu fy mod i wedi sylweddoli cyn ymgymryd â'r swydd hon pa mor dueddol yw'r amgylchedd rydym ni'n byw ynddo o'n gwneud yn ordew, a dyna rydym ni'n ceisio ei newid gyda'r gwaith rydym ni'n ei wneud. Mae arnom ni eisiau newid yr amgylchedd hwnnw fel bod modd gwneud dewisiadau iachach, dewisiadau mwy fforddiadwy, a gwneud y dewis iach yn ddewis hawdd.
Fel yr ydych chi wedi tynnu sylw ato, nid oes gennym ni rai o'r grymoedd, ac roeddem yn siomedig iawn bod Llywodraeth y DU wedi cymryd cam yn ôl o ran pethau fel hysbysebu bwydydd afiach. Rydym ni wedi cyfleu hynny i Lywodraeth y DU. Rydym ni wastad yn ceisio gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU a Llywodraethau eraill y DU ar y materion hyn, a bydd hynny'n parhau. Ac mae'n siomedig iawn eu bod wedi arafu rhywfaint o'r gwaith yr oedden nhw'n ei wneud yn hyn o beth. Yn amlwg, maen nhw wedi bwrw ymlaen â chyfyngiadau lleoliadau, ond maen nhw wedi cymryd cam yn ôl ar yr hyrwyddiadau prisiau ac ar yr hysbysebu. Ond byddwn yn sicr yn parhau â'r drafodaeth honno gyda nhw. Mae'n llawer gwell os yw'r mentrau hyn yn rhai ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd, ac mae'n haws i fusnesau eu deall. Felly, rwy'n hapus iawn i roi'r sicrwydd hwnnw i chi, a diolch yn fawr iawn am eich croeso. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog.
Yr eitem nesaf yw eitem 9, sef y Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cymreig Perthnasol) (Diwygio) 2023. Dwi'n galw ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i wneud y cynnig yma—Jeremy Miles.
Cynnig NDM8301 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cymreig Perthnasol) (Diwygio) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Mehefin 2023.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig ac yn croesawu'r cyfle i gyflwyno Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cymreig Perthnasol) (Diwygio) 2023 heddiw. Fel y bydd yr Aelodau yn cofio o'm datganiad yr wythnos diwethaf, bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn cael ei sefydlu ym mis Medi. Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio'r rhestr o awdurdodau perthnasol yng Nghymru yn Rhan 2 o Atodlen 19 Deddf Cydraddoldeb 2010, gan ychwanegu'r comisiwn a thrwy hynny ei rwymo i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Comisiwn roi sylw i sicrhau bod hyrwyddo cyfle cyfartal, dileu gwahaniaethu, a'r angen i feithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu yn ystyriaethau allweddol wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau. Bydd rhwymo'r comisiwn i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus o'r adeg y'i sefydlir yn sicrhau bod yr ystyriaethau hyn yn sail i swyddogaethau'r comisiwn o'r cychwyn cyntaf. Mae'r rheoliadau'n cynnwys darpariaeth drosiannol, ar yr amod bod y cyfeiriad at y comisiwn i'w ddarllen fel un sy'n cynnwys cyfeiriad at Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, hyd nes y diddymir y cyngor hwnnw gan adran 23 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) y flwyddyn nesaf. Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau. Bydd gan y comisiwn ran allweddol yn hyn o beth, gyda gwella cyfleoedd cyfartal mewn addysg drydyddol yn un o ddyletswyddau strategol y comisiwn.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd. Gwnaethom ystyried y rheoliadau hyn ar 19 Mehefin. Mae ein hadroddiad, ac ymateb dilynol Llywodraeth Cymru, ar gael o'r agenda heddiw er mwyn hysbysu'r Aelodau yn y ddadl y prynhawn hwn.
Mae ein hadroddiad ar y rheoliadau yn cynnwys tri phwynt adrodd technegol a dau bwynt rhinwedd. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ei ymateb i bob un o'r pwyntiau hynny, y bu inni allu eu hystyried yn ein cyfarfod brynhawn ddoe.
Roedd ein pwynt technegol cyntaf yn nodi'r anghysondebau rhwng prif nodynnau testunau Saesneg a Chymraeg y rheoliadau. Mae'r Gweinidog—rydym ni'n ddiolchgar—wedi cydnabod y materion, ac rydym ni'n croesawu ei ymrwymiad i sicrhau nad yw hyn yn digwydd, neu ein bod yn ceisio atal hyn rhag digwydd yn y dyfodol.
Mae ein hail a'n trydydd pwynt technegol yn nodi ein pryderon bod y drafftio o fewn y rheoliadau yn ymddangos yn ddiffygiol. Fe wnaethom ni dynnu sylw nad yw rheoliad 2(b) yr offeryn yn nodi'n sicr lle dylid cynnwys y cofnod newydd a ychwanegir gan y ddarpariaeth honno yn Rhan 2 o Atodlen 19 Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae'r Gweinidog wedi cytuno â ni, yn ddelfrydol, y byddai'r ddarpariaeth wedi nodi mwy o fanylion ynghylch lleoliad y mewnosodiad. Fodd bynnag, nid yw'r Gweinidog o'r farn bod effaith ar yr ystyr gyfreithiol, ac, ar y sail honno, nid yw Llywodraeth Cymru yn cynnig diwygio'r ddarpariaeth hon. Felly, ar y pwynt penodol hwnnw, Gweinidog, mae'n broc ysgafn, lle gallwn ni, i gael manwl gywirdeb mewn drafftio deddfwriaethol, yn enwedig wrth ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol.
Rydym ni hefyd yn tynnu sylw at y ffaith nad yw'n glir bod rheoliad 3 o'r offeryn yn diwygio Rhan 2 o Atodlen 19 Deddf 2010. Mae'r cyfeiriad at Ddeddf 2010 ar goll ac felly rydym yn pryderu ei bod hi'n bosibl y byddai rhywun sy'n darllen rheoliad 3 ar wahân yn cael ei ddrysu ynghylch ei ystyr. Unwaith eto, mae'r Gweinidog—ac rydym ni'n croesawu hyn—yn cytuno â'r sylw yr ydym ni wedi'i wneud ac y byddai cyfeiriad penodol at Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn gwella eglurder y ddarpariaeth, ac felly mae'n cynnig gwneud y gwelliant hwnnw cyn llunio'r rheoliad.
Mae'r cyntaf o'n pwyntiau adrodd ar rinweddau yn nodi bod y rheoliadau hyn yn dod i rym ar 4 Medi 2023, ac eto sefydlwyd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd ar 15 Rhagfyr 2022. Felly, fe wnaethom ni ofyn i Lywodraeth Cymru esbonio pam y llunnir y rheoliadau hyn i ddod i rym ym mis Medi 2023 yn hytrach na mis Rhagfyr 2022, neu yn wir ym mis Ebrill 2024, sef pan fydd y memorandwm esboniadol yn nodi y bydd adran 23 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yn dod i rym. Eglurodd y Gweinidog wrthym ni, er i'r comisiwn gael ei sefydlu fel endid cyfreithiol ym mis Rhagfyr 2022, roedd hyn er mwyn galluogi penodi'r cadeirydd a'r dirprwy gadeirydd, ond nid oedd yn gallu arfer unrhyw swyddogaethau bryd hynny. Bydd y comisiwn wedi'i sefydlu'n llawn ar 4 Medi eleni pan fydd y prif swyddog gweithredol a rhai aelodau cyffredin yn ymgymryd â'u swyddi, ac yn hynny o beth bydd y comisiwn, yn amodol ar wneud ail Orchymyn cychwyn dros yr haf, yn gallu arfer swyddogaethau penodol. Felly, daw'r rheoliadau hyn i rym ym mis Medi i sicrhau bod y comisiwn yn rhwym wrth ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus o'r adeg y gall arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.
Mae ein hail bwynt adrodd ar rinweddau yn ymwneud â pharagraff 2 o'r memorandwm esboniadol, sy'n cyfeirio at ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Mae'r disgrifiad yn y memorandwm esboniadol yn hepgor trydedd elfen dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, sef rhoi sylw dyledus i'r angen i feithrin perthynas dda rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rannu. Os yw darpariaeth o Ddeddf i'w disgrifio mewn memorandwm esboniadol, mae'n bwysig y gwneir hyn yn gywir er mwyn osgoi unrhyw gamddealltwriaeth. Mae'r Gweinidog—ac unwaith eto rydym ni'n croesawu hyn—wedi dweud wrthym ni ei fod yn ddiolchgar bod hyn wedi dod i sylw Llywodraeth Cymru, a nodwn fod y memorandwm esboniadol wedi ei ailgyflwyno, yn wir gyda'r gwelliannau angenrheidiol. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.
Y Gweinidog i ymateb i'r Cadeirydd.
Diolch i'r Cadeirydd am ei gyfraniadau yn y ddadl ac i'r pwyllgor am eu craffu ar y rheoliadau. Rwy'n cydnabod y pwyntiau mae'r Cadeirydd wedi eu codi yn ei gyfraniad heddiw, ac yn ddiolchgar iddo fe am esbonio ymateb y Llywodraeth a'i fod e'n hapus gyda'r ymatebion hynny. Felly, diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does dim gwrthwynebiad. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 10 sydd nesaf. Y cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) yw hwn, a dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8303 Lesley Griffiths
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:
a) Adrannau 2-5;
b) Adran 1;
c) Teitl hir.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Does gyda fi ddim siaradwyr ar y cynnig yma, ac felly y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, dim gwrthwynebiad. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 11 sydd nesaf: y datganiad gan y Gweinidog materion gwledig ar y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) a'r hysbysiad ffurfiol o gydsyniad Ei Fawrhydi. Felly, y Gweinidog, Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae gen i orchymyn gan Ei Fawrhydi y Brenin i ddweud wrth y Senedd bod Ei Fawrhydi, ar ôl cael gwybod am ddiben y Bil Amaeth (Cymru), wedi rhoi ei gydsyniad i'r Bil hwn.
Does gyda fi ddim siaradwyr ar y datganiad yna. Felly, diolch i'r Gweinidog am y datganiad.
Mae hynny'n ein harwain at eitem 12, sef Cyfnod 4 y Bil Amaethyddiaeth (Cymru), a'r Gweinidog, felly, i wneud y cynnig yma—Lesley Griffiths.
Cynnig NDM8308 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo'r Bil Amaethyddiaeth (Cymru).
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Heddiw, rwy'n falch o agor y ddadl Cyfnod 4 ar y Bil Amaethyddiaeth (Cymru). Rwy'n hynod falch o'r sector amaeth yng Nghymru a'r cydweithio a fu i greu'r Bil amaethyddiaeth cyntaf hwn i Gymru, Bil sydd wir yn gweithio i ffermwyr Cymru, y sector amaeth, ein tir a Chymru gyfan. Y canlyniad yw darn uchelgeisiol a thrawsnewidiol o ddeddfwriaeth sy'n diwygio degawdau o gefnogaeth amaethyddol yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n arwydd o newid sylweddol yn ein dull o gefnogi'r sector amaeth yma yng Nghymru, gan gydnabod y buddion economaidd, diwylliannol, cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol sy'n deillio o ffermio.
Ein blaenoriaethau yw cadw ffermwyr ar eu tir, sicrhau bod cefnogaeth yn cael ei thargedu tuag at y ffermwyr hynny sy'n rheoli tir Cymru, ac i wneud hynny'n gynaliadwy. Mae hyn yn creu busnesau fferm cydnerth, sy'n cyfrannu at gymunedau a diwylliant gwledig ffyniannus, gan gynnwys gwell mynediad i'n cefn gwlad a chynnal y Gymraeg. Mae'r Bil yn sefydlu rheolaeth tir cynaliadwy fel y fframwaith ar gyfer cymorth a rheoleiddio amaethyddol yn y dyfodol. Mae'n darparu cyfeiriad polisi clir ac uchelgeisiol i Weinidogion Cymru weithredu—er enghraifft, cefnogi ffermwyr Cymru i gynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy a chyfrannu yn erbyn yr argyfyngau hinsawdd a natur, ac, wrth wneud hynny, diwallu anghenion cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol a chyfrannu at nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Drwy'r ddeddfwriaeth hon, Cymru hefyd fydd y cyntaf o wledydd y DU i wahardd defnyddio maglau a thrapiau glud. Credaf ei bod hi'n bwysig nodi arwyddocâd ymrwymiad y rhaglen lywodraethu hon sy'n cael ei chyflawni, gan adlewyrchu'n wirioneddol y safonau lles anifeiliaid uchel yr ydym ni'n ymdrechu i'w cyrraedd yma yng Nghymru.
Mae'r Bil yn ganlyniad blynyddoedd o waith polisi, cyd-ddylunio, ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Mae gennyf lawer o bobl i ddiolch iddyn nhw sydd wedi helpu i lunio'r darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth: yn gyntaf, holl Aelodau'r Senedd a rhanddeiliaid sydd wedi craffu a thrafod mewn modd sylweddol a hanfodol wrth lunio'r Bil hwn yng Nghymru, a hefyd i Blaid Cymru, yn enwedig Cefin Campbell, am eu hymgysylltiad a'u cydweithrediad â'r Bil drwy'r cytundeb cydweithio, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda chi i gyd ar y trefniadau tymor hwy ar gyfer amaethyddiaeth Cymru. Credaf fod y gwelliannau a wnaed i'r Bil o ganlyniad i waith craffu'r Senedd wedi ei wella. Hoffwn ddiolch hefyd i'r miloedd o ffermwyr a choedwigwyr a ymatebodd i'n hymgynghoriadau, y rhai a weithiodd gyda ni drwy gyd-ddylunio a'r rhai sydd yn garedig wedi fy nhywys i a'u swyddogion o amgylch eu ffermydd ac wedi trafod eu barn ac, yn bwysig, wedi rhannu eu harbenigedd gyda mi.
Diolch i gyfreithwyr y Senedd, clercod pwyllgorau a staff eraill y Comisiwn am eu gwaith a'u cefnogaeth drwy gydol proses y Bil, ac, wrth gwrs, i'r llu o swyddogion Llywodraeth Cymru sydd wedi gweithio ar y darn hwn o ddeddfwriaeth dros y blynyddoedd diwethaf. Mae fy 'niolch' olaf i dîm y Bil, ynghyd â fy nghynghorydd arbennig, sydd i gyd yn yr oriel gyhoeddus. Rydych chi wedi dangos ymrwymiad anhygoel ac fe ddylech chi fod yn falch iawn o fod wedi chwarae rhan yn y ddeddfwriaeth nodedig hon, un a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n sector amaethyddol yng Nghymru a chenedlaethau o ffermwyr heddiw a rhai'r dyfodol. Mae arnaf i 'ddiolch' personol i chi am eich holl gefnogaeth i mi, am eich gwaith caled ac am fy helpu i a'n gilydd bob amser i ganfod ffordd drwy'r rhwystrau, yr heriau a'r maglau anochel sydd bob amser yn ymddangos yn ystod taith hir Bil. Diolch yn fawr iawn. Llywydd, rwy'n annog pob Aelod i gefnogi'r Bil Amaethyddiaeth (Cymru).
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog yn gyntaf am ei thrafodaethau â mi yn fy swyddogaeth yn Weinidog yr wrthblaid dros faterion gwledig drwy gydol proses y Bil hwn? Dyma, yn wir, y Bil cyntaf i mi weithio arno yn Aelod o'r Senedd, ac rwy'n cofio'n glir yr amser pan roddodd Andrew R.T. Davies fi i eistedd a chyflwyno fy mhortffolio o faterion gwledig a'r iaith Gymraeg imi. Ar unwaith, roeddwn i'n llawn cyffro ac ychydig yn anesmwyth, fel mab fferm, i sefyll ar fy nhraed a chynrychioli diwydiant rwy'n hynod angerddol amdano. Ond rwyf yn wir wedi gweld y berthynas yn gweithio gyda'r Gweinidog yn hynod werth chweil wrth gyflwyno'r hyn rwy'n credu sy'n Fil hynod bwysig ac amserol ar gyfer amaethyddiaeth yma yng Nghymru. Mae'n ddarn o ddeddfwriaeth a luniwyd yng Nghymru, sy'n hynod o bwysig, ac mae wedi dod yn bell o'r ymgynghoriad cychwynnol 'Brexit a'n tir' i'r fan lle rydym ni yma heddiw.
Rwyf hefyd yn talu teyrnged i Cefin Campbell, ac i Mabon hefyd, am y gwaith y maen nhw wedi'i wneud wrth gyflwyno rhai o'm gwelliannau a gyflwynais yng Nghyfnod 2, sydd wedi gwneud eu ffordd i'r Bil drwy'r cytundeb cydweithio yng Nghyfnod 3, sef y cynlluniau ariannol aml-flynyddol, adrodd cynhyrchiant, ynni adnewyddadwy ar ffermydd, yr wyf yn gwybod bod Jane Dodds, Aelod y Democratiaid Rhyddfrydol, wedi cyflwyno hefyd, a'r camau uwchgadarnhaol i newid y diffiniad o 'amaethyddiaeth'. Roedd y rhain yn alwadau allweddol gan y diwydiant a rhanddeiliaid o ran y Bil amaethyddol, ac rwy'n falch, pa bynnag ffordd y daethant, y byddant yn awr yn y llyfr statud yn rhan o'r Bil hwn.
Rwy'n credu mai'r hyn yr ydw i wedi ei ddysgu hefyd yw nad yw hwn bellach yn ddewis deuaidd rhwng amaethyddiaeth a'r amgylchedd. Sylwais yn Sioe Frenhinol Cymru y llynedd, o wrando ar y sefydliadau anllywodraethol amgylcheddol a'r undebau ffermio, bod cyfrifoldeb ar y cyd yma o fod eisiau gwneud yn well i'r amgylchedd ac eisiau cefnogi ein diwydiant amaethyddol hefyd wrth barhau i ddarparu bwyd o ansawdd uchel, wrth barhau i ddiogelu ein hamgylchedd, gwneud hynny'n well ac, yn wir, i ddiogelu ein cymunedau gwledig. Yr ymadrodd a ddefnyddiais yn nigwyddiad bwyd a ffermio Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yr wythnos diwethaf oedd, 'Amaethyddiaeth yw'r edau arian sy'n rhedeg trwy wead diwylliannol Cymru.' Rwy'n credu bod hynny'n hynod o bwysig.
Ond nawr, mae peth pryder o hyd na aeth y Bil yn ddigon pell o ran deall a chydnabod hyfywedd economaidd ffermydd teuluol mewn du a gwyn, ond rwy'n gwybod, trwy'r cytundeb cydweithio a'r gwelliant a gyflwynais fy hun, bod hynny wedi'i nodi a'i gryfhau yn un o'r amcanion rheoli tir cynaliadwy.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hefyd i longyfarch Llyr ar ei benodiad yn llefarydd Plaid Cymru ar faterion gwledig. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi, Llyr, i sicrhau fod y Llywodraeth yn onest o ran polisi amaethyddol yn y dyfodol.
Ond mae pwyslais nawr yn troi at y cynllun ffermio cynaliadwy, gan sicrhau ei fod yn cefnogi ffermwyr Cymru i fod yn gynhyrchiol, i fod yn amgylcheddol gynaliadwy, ac rwy'n credu bod hynny'n hynod o bwysig. Ond rhaid iddo fod yn hygyrch i holl ffermwyr Cymru, boed yn ffermwyr comin, ffermwyr iseldir, ffermwyr yr ucheldir neu, yn wir, ffermwyr tenantiaid. Rwy'n hynod falch ein bod wedi heibio'r Cyfnod hwn, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda'r Gweinidog ar y cynllun ffermio cynaliadwy, gan wybod bod datganiad yn cael ei gyflwyno yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwy'n credu bod hwn yn ddiwrnod pwysig i'r diwydiant amaethyddol yma yng Nghymru. Diolch, Llywydd.
Mae yn fraint cael cyfrannu am y tro cyntaf fel llefarydd newydd Plaid Cymru ar faterion gwledig. Dwi'n edrych ymlaen at gydweithio gyda rhanddeiliaid, gydag Aelodau ar draws y Siambr, ac, wrth gwrs, craffu ar a chydweithio gyda'r Gweinidog hefyd.
Dwi'n meddwl ei bod hi yn addas ein bod ni yn dechrau drwy gydnabod y cyfraniad mae pawb wedi ei wneud tuag at y Bil yma, wrth iddo fe fynd ar ei daith—ac mae e wedi bod yn dipyn o daith, onid yw e, os ŷch chi'n cofion nôl i gyhoeddiad 'Brexit a'n tir' nôl yn 2018, a'r teitl yna'n ein hatgoffa ni, efallai, pam fod y Bil yn digwydd o gwbl. Ond mae'r Bil sy'n ein cyrraedd ni heddiw yng Nghyfnod 4 yn eithaf gwahanol i'r cynnig gwreiddiol hwnnw a amlinellwyd yn y man cyntaf bum mlynedd yn ôl. Mae bellach yn rhoi cydnabyddiaeth llawer mwy uniongyrchol, cryf a chyhyrog i'r angen i amddiffyn a chryfhau amaeth a'r cymunedau gwledig sydd mor ddibynnol ar y diwydiant. Roedd hi'n anodd credu, a bod yn onest, ar y dechrau fod cynhyrchu bwyd ddim yn cael ei gydnabod fel nwydd cyhoeddus neu public good. I fi, y public good pwysicaf oll yw bwydo'r genedl, ond o leiaf nawr mae'r Bil yn cydnabod pwysigrwydd cynhyrchu bwyd fel un o rolau creiddiol y diwydiant yma yng Nghymru.
Mae'r Bil o'n blaenau ni heddiw hefyd, wrth gwrs, yn rhoi cydnabyddiaeth i gyfraniad pwysig y gymuned amaethyddol i’r economi wledig ac i'r angen i gryfhau cyfraniad y sector i hyfywedd yr economi wledig mewn ffordd efallai oedd ddim yn y Bil gwreiddiol. Yn yr un modd, wrth gwrs, mae cydnabod a chefnogi pwysigrwydd y sector amaeth i ddyfodol yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru hefyd yn nodwedd explicit yn y Bil mewn ffordd oedd ddim yno, efallai, ar y cychwyn. Mae’n bwysig, fel ŷn ni wedi clywed hefyd, cydnabod bod sicrhau cynllun cefnogi amlflwyddyn nawr yn nodwedd, mynd o dair blynedd i bum mlynedd. Mi fyddwn i yn atgoffa pawb ei bod hi'n saith mlynedd cyn inni adael yr Undeb Ewropeaidd, ond dwi yn croesawu'r ffaith ein bod yn symud i'r cyfeiriad iawn.
Mae wedi bod yn daith, a dyw hi ddim ond yn deg i fi, fel eraill, gydnabod gwaith rhai o’m cyd-Aelodau yng ngrŵp Plaid Cymru: Mabon ap Gwynfor, wrth gwrs, yn lefarydd y blaid wrth i’r Bil yma fynd ar ei daith drwy’r Senedd; i Luke Fletcher, aelod o’r pwyllgor fuodd yn craffu ar y Bil; ac fel ŷn ni wedi clywed hefyd, i Cefin Campbell fel yr Aelod dynodedig, sydd wedi llwyddo i gael dylanwad ar y Bil yma drwy ei waith fel rhan o’r cytundeb cydweithio. Diolch iddyn nhw. Diolch hefyd, wrth gwrs, i’r lleisiau cryf o gyfeiriad y sectorau perthnasol sydd wedi llwyddo eto i gael dylanwad helaeth ar y Bil yma.
Mi fydd Plaid Cymru yn cefnogi’r Bil yma heddiw. Efallai ei fod e'n Fil amherffaith, fydd yn rhywbeth y byddwn ni yn dal i weithio arno fe wrth inni symud ymlaen nawr i’r phase nesaf, ond fyddai dim modd darparu unrhyw gefnogaeth i’r sector oni bai bod y Bil yma yn cael ei basio, a dwi'n siŵr bod neb am weld hynny'n digwydd. Ond nid dyma ddiwedd y daith, wrth gwrs, achos yn natganiad rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth gan y Prif Weinidog yn gynharach heddiw, mi ddywedodd e mai dyma’r cam cyntaf yn rhaglen y Llywodraeth i ddiwygio amaethyddiaeth. Felly, megis cychwyn mae’r daith mewn gwirionedd, ond megis cychwyn hefyd mae’r frwydr i sicrhau’r canlyniad gorau i amaethyddiaeth, i'r amgylchedd ac i gymunedau gwledig, ac fel ŷn ni wedi clywed, maen nhw yn mynd law yn llaw. Maen nhw yn mynd law yn llaw, ac mae llwyddiant i'r tri yn gorfod bod yn ffocws i’n gwaith ni ar bob tro ar hyd y daith. Creu fframwaith mae’r Bil, ac felly, wrth gwrs, mae'r ffocws yn troi yn awr at y cynllun ffermio cynaliadwy. Yn fanna fydd y glo mân, a dwi a Phlaid Cymru yn edrych ymlaen yn fawr iawn i chwarae'n rhan wrth ddylanwadu ar ffurf a chynnwys y cynllun hwnnw yn y cyfnod nesaf sydd i ddod.
Wrth i unrhyw Fil fynd ar ei hynt, dylid tynnu Gweinidogion bob ffordd. Dylai fod gofynion arnyn nhw o un ochr a'r llall i geisio addasu'r Bil. Hoffwn eich canmol, Gweinidog, oherwydd yn wynebu safbwyntiau eithaf gwahanol o ran yr hyn y dylai'r Bil amaethyddiaeth fod, rydych chi wedi siarad â llawer o grwpiau, llawer o sefydliadau, llawer o aelodau meinciau cefn hefyd, yn ogystal â llefarwyr ar y meinciau blaen, ac rydych chi wedi gwneud addasiadau, ac mae'r Bil hwn yn well o'r herwydd. Rydym ni wedi clywed am rai o'r agweddau sy'n adlewyrchu'r gymuned wledig, y gymuned amaethyddol, ffermwyr sy'n gweithio, ac yn y blaen.
Hoffwn hefyd eich canmol, er na chyflwynwyd gwelliannau i'r graddau hyn, am annog dadl yn gynharach, lle gwnaethom ni ofyn am yr ymrwymiadau sy'n cael eu cyflawni, i ddiweddaru'r memorandwm esboniadol i gyfeirio'n benodol at fframwaith bioamrywiaeth fyd-eang COP 15 Kunming-Montréal, i sicrhau y bydd unrhyw gynllun yn y dyfodol a ddaw o'r Bil amaeth hwn yn ystyried strategaethau adfer natur a bioamrywiaeth a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y rhai sy'n deillio o'r cyfarfod COP 15 y bu Julie James ynddo, ac yn y blaen. Fe wnaethoch chi gyfres o ymrwymiadau. Pan gyrhaeddwn ni ddiwedd y darn hwn, dylai pawb ar un ystyr fod ychydig yn anfodlon, oherwydd nid yw pawb wedi cael yr union beth maen arnyn nhw ei eisiau, ond mae'r Bil hwn yn unigol well oherwydd yr ymgysylltiad rydych chi a'ch tîm o swyddogion wedi'i gael ar bob cam, ac rwy'n eich canmol am hyn.
A gaf i hefyd ddiolch i bwyllgor ETRA? Nid y pwyllgor newid hinsawdd oedd y prif bwyllgor yn ymdrin â hyn, ond fe wnaethoch chi ein gwahodd i un o'ch sesiynau y gwnaethom ni gymryd rhan ynddi. Bu i ni nid yn unig fwynhau hynny, ond rwy'n gobeithio ein bod ni wedi ychwanegu rhywbeth at y cyfuniad o rai agweddau yn ogystal â'ch trafodaethau, ac fe wnaethom ni barhau i ymwneud â hyn wrth iddo fynd ar ei hynt.
Gweinidog, mae hyn yn dda iawn mewn gwirionedd, ond nid yw'r Bil amaethyddiaeth yn ddiwedd popeth. Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy ar y gweill, y rheoliadau sy'n deillio o hyn, yr hyn yr ydym ni wedi'i glywed heddiw yn y rhaglen ddeddfwriaethol ar lywodraethu amgylcheddol yn y dyfodol a'r hyn a wnawn ni o ran adfer a thargedau natur. Nid dyma ddiwedd y daith, ond rwy'n credu mai'r hyn y gallwn ni gytuno arno yw'r sylw a wnaeth Sam gynnau: nid gêm o lwyddo neu fethu yw hon lle mae un ochr yn ennill, un arall yn colli; mae a wnelo hyn â phob un ohonom ni gyda'n gilydd yn darparu bywoliaeth dda mewn cymunedau da, mewn cymunedau gwledig gydag amaethyddiaeth yn ffynnu ac ar yr un pryd, yn adfer natur.
Yr un peth y byddaf yn ei ddweud—fe ddof yn ôl, Gweinidog, ond mae'n debyg na fydd a wnelo â chi'n uniongyrchol neu efallai fod rhywbeth y gallwn ni ei wneud yn y cynllun ffermio cynaliadwy ac yn y blaen—yw mai'r darn na wnaethom ni gau pen y mwdwl yn iawn arno oedd y mater ynglŷn â mynediad. Rwy'n gwybod y caiff Biliau eraill eu cyflwyno, ond mae rhai pethau y gellid eu tynhau yn y camau olaf, wrth i'ch tîm o swyddogion eistedd yn y fan yna gan edrych i lawr, gan feddwl, 'Rydym ni wedi darfod'. Dim peryg, bydd y person yma'n dod yn ôl atoch chi'n dweud, 'Mae rhai newidiadau bach y gallwn ni eu gwneud yn y fan yma i sicrhau bod mynediad hefyd yn cael ei adlewyrchu yn y ffordd yr ydym ni'n bwrw ymlaen â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ac agweddau eraill'. Ond bydd biliau eraill hefyd.
Gweinidog, da iawn yn wir, a diolch, o galon, am eich ymgysylltiad â hyn.
Y Gweinidog i ymateb? Na.
Rwy'n credu bod popeth wedi ei ddweud.
Felly, fe fydd yna bleidlais ar Gyfnod 4 y Bil yma o dan Reol Sefydlog 26.50C a bydd hynna'n digwydd ar ddiwedd y prynhawn yma. Rŷn ni'n prysur cyrraedd diwedd y prynhawn, ond ddim cweit eto.
Eitem 13 sydd nesaf, cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Ar-lein. Y Dirprwy Weinidog Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth i wneud y cynnig yma, Dawn Bowden.
Cynnig NDM8302 Dawn Bowden
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Diogelwch Ar-Lein i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig ac yn argymell bod y Senedd yn cydsynio i ddarpariaethau perthnasol y Bil Diogelwch Ar-lein, fel yr amlinellir yn y pum caniatâd deddfwriaethol a gyflwynwyd hyd yma. Drwy'r Bil hwn, mae Llywodraeth y DU yn ceisio sefydlu cyfundrefn reoleiddio i ddiogelu unigolion rhag niwed ar-lein, gan roi pwerau i Ofcom fel y rheoleiddiwr diogelwch ar-lein newydd.
Er bod diogelwch a lles yn gyfrifoldeb ar y cyd, Bil ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd yw'r cyfrwng deddfwriaethol mwyaf effeithiol a chymesur i ddarparu rheoleiddio cyson i amddiffyn pobl yng Nghymru. Mae amddiffyn plant rhag niwed yn rhan o arolygu a rheoleiddio o dan Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru. Felly, rydym ni wedi sicrhau bod darparwyr addysg a gofal plant yng Nghymru wedi'u heithrio o'r Bil.
Rwy'n cefnogi creu'r troseddau newydd o gynorthwyo neu annog hunan-niweidio ar-lein ac anfon neu ddangos delweddau sy'n fflachio i'r rhai ag epilepsi. Mae deddfwriaeth o'r fath yn cefnogi ein gwaith ataliol mewn perthynas â hunanladdiad a hunan-niweidio. Bydd achosion lle mae'r troseddau hyn yn cynnwys cyfathrebu all-lein ac felly byddant o fewn cymhwysedd y Senedd. O ganlyniad, mae angen cydsyniad deddfwriaethol.
Felly, er fy mod yn croesawu'r Bil yn gyffredinol, rwy'n siomedig na wnaeth Llywodraeth y DU gyflwyno'r gwelliant ynghylch hunan-niweidio tan yn ddiweddar, o ystyried iddo gael ei gyhoeddi'n wreiddiol fis Rhagfyr diwethaf. Ac er bod ymgysylltu'n gyflym â Llywodraeth y DU wedi ein galluogi i gyflwyno'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gofynnol yn gyflym iawn, gan alluogi fy swyddogion i graffu arno'n briodol, effeithiwyd ar allu'r Senedd i graffu ar ddarpariaethau'r Bil yn briodol unwaith eto.
Rwy'n ymwybodol bod llawer yn teimlo nad yw'r Bil yn mynd yn ddigon pell, yn enwedig wrth amddiffyn oedolion ifanc a bregus. Mae cael gwared ar ddarpariaethau cyfreithiol ond niweidiol i oedolion yn hytrach yn ei gwneud hi'n ofynnol i unigolion gymryd camau i'w diogelu eu hunain, ac mae hynny wedi cael ei feirniadu'n eang. Rwy'n gwybod nad yw llawer o bobl a grwpiau'n credu y bydd hyn yn mynd i'r afael â'r materion sy'n gysylltiedig â cham-drin ar-lein, casineb, hiliaeth a chasineb at fenywod. Mae'n hanfodol, felly, ochr yn ochr â'r Bil hwn, fod Llywodraeth Cymru yn parhau â'i hymdrechion i amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed yn ein cymdeithas.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Gweinidog yr economi gynllun gweithredu seiber ar gyfer Cymru, sy'n cynnwys camau i helpu i gadw pobl mor ddiogel a diogel â phosibl ar-lein. At hynny, mae ein cynllun gweithredu cadernid digidol mewn addysg yn gwella polisi ac ymarfer darpariaeth diogelwch ar-lein ledled Cymru. Felly, mae'n rhaid i ni adeiladu ar y gwaith fel hyn i helpu sicrhau bod pobl Cymru yn ddiogel ar-lein.
Er nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â'r memoranda cydsyniad deddfwriaethol a gyflwynwyd ar y Bil, rwyf hefyd yn siomedig nad yw ein cais i gynnwys Comisiynydd Plant Cymru fel ymgynghorai statudol Ofcom wedi'i ganiatáu. Rwy'n pryderu y gallai hawliau plant yng Nghymru gael eu tanseilio os na chaiff ein comisiynydd plant ei enwi'n benodol yn y Bil hwn. Ond byddwn yn parhau i bwyso am y gwelliant hwn.
Llywydd, i gloi, rwy'n argymell bod yr Aelodau'n cefnogi'r cynnig. Hoffwn ddiolch i'r pwyllgorau am ystyried y memoranda hyn ac rwy'n falch eu bod yn cytuno y dylid cydsynio. Diolch.
Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen ac fe ddywedaf eto: mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu defnyddio cynigion cydsyniad deddfwriaethol fel mater o egwyddor. Dylai'r Senedd wneud pob penderfyniad sy'n effeithio ar y meysydd cyfrifoldeb datganoledig.
Gan droi at y mater dan sylw, mewn oes lle mae'r cyfryngau cymdeithasol yn ddylanwad treiddiol yn ein cymdeithas, ni fu ein hangen am reoleiddio gofodau ar-lein yn fwy effeithiol a chadarn erioed mor fawr. Tanlinellwyd hyn gan yr astudiaeth ddiweddar gan yr NSPCC, a ganfu gynnydd o 66 y cant mewn troseddau yn ymwneud â delweddau o gam-drin plant a gofnodwyd gan heddlu'r DU dros y pum mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, o ystyried record alaethus, i fod yn blaen, Llywodraeth bresennol y DU wrth reoleiddio corfforaethau rhyngwladol, rydym yn parhau i fod yn amheus mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i gyflawni'r mesurau hyn.
Mae hefyd yn amlwg bod y Bil yn ddiffygiol mewn nifer o feysydd allweddol. Fel y nododd yr NSPCC, nid yw'r Bil yn gwneud unrhyw ddarpariaeth ar gyfer creu eiriolwr diogelwch plant arbenigol sy'n gwrando ar leisiau a phrofiadau plant. Byddai hyn yn rhoi i blant drefniadau defnyddwyr eiriolaeth statudol tebyg i'r rhai sydd eisoes ar waith ar draws y sector a reoleiddir. Mae swyddogaeth Cyngor ar Bopeth mewn perthynas â defnyddwyr ynni a phost yn un enghraifft. Ar ben hynny, er bod y Bil yn cynnwys ymrwymiad i ddwyn uwch reolwyr i gyfrif os yw eu cynnyrch yn cyfrannu at niwed difrifol i blant, nid yw'r mesurau'n mynd yn ddigon pell i ymestyn yr atebolrwydd troseddol hwn i'r penaethiaid technoleg eu hunain. Ar y sail hon, y ffordd orau a mwyaf effeithiol o sicrhau diogelwch plant Cymru ar-lein fydd drwy ddeddfwriaeth y Senedd. Diolch yn fawr.
Os oedd arnoch chi eisiau astudiaeth achos o ran sut i beidio â gwneud deddfwriaeth, yna edrychwch ddim pellach na Llywodraeth y DU a'r Bil Diogelwch Ar-lein hwn. Mae'r hyn a ddechreuodd fel ymgais wirioneddol i amddiffyn plant wedi dod yn ddryslyd, cymhleth, ac ar hyn o bryd, mae'n cynnwys popeth dan haul. Wrth gwrs, mae rhannau da i'r Bil hwn o hyd, ac mae'r gwelliant penodol hwn yn un ohonyn nhw, felly byddaf yn pleidleisio o blaid y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn am y rhesymau a nodwyd eisoes gan y Dirprwy Weinidog, ond byddaf yn manteisio ar y cyfle hwn i nodi rhai materion eraill gyda'r Bil.
Er ei fod yn methu â mynd i'r afael â materion allweddol fel model busnes problemus llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Mae hefyd yn ceisio atal rhyddid i lefaru ac yn bygwth y defnydd o amgryptio defnyddiwr-i-ddefnyddiwr sy'n hanfodol ar gyfer preifatrwydd personol. Amgryptio o'r dechrau i'r diwedd yw sylfaen ein rhyngrwyd presennol. Mae'n caniatáu nid yn unig i chi neu fi gael trafodaeth yn ddiogel, heb i wladwriaeth awdurdodol ysbïo ar ein negeseuon e-bost ac mae'n caniatáu inni wneud y trafodiad banc cyflym hwnnw heb i droseddwr gipio ein manylion. Mae'r pethau hyn mewn perygl os na fydd y Bil hwn yn cael ei herio, yn ôl yr Electronic Frontier Foundation. Llofnododd llawer o arbenigwyr yn y maes hwn lythyr agored at Lywodraeth y DU, yn amlygu eu pryderon am y cyfyngiadau hyn o ran amgryptio o'r dechrau i'r diwedd. Fe ddywedon nhw:
'Fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, gallai'r bil dorri amgryptio o'r dechrau i'r diwedd, gan agor y drws i wyliadwriaeth rheolaidd, cyffredinol a diwahân.'
Mewn gwirionedd, dim ond 14 y cant o weithwyr technoleg proffesiynol oedd yn credu bod y ddeddfwriaeth yn addas i'r diben. Yn ôl Liberty International, gallai hefyd effeithio ar ein rhyddid i lefaru a thorri erthygl 10 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, fel y'i diogelir gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998, oherwydd ei nod yw cyfyngu cynnwys cyfreithiol ond niweidiol heb unrhyw eglurder ynghylch yr hyn y byddai hynny'n ei gynnwys, pwy fyddai'n penderfynu, a sut y byddai'n cael ei weithredu nawr ac yn y dyfodol. Yn bwysicaf oll, byddai'r ddeddfwriaeth hon hefyd, o dan is-baragraff 6, yn caniatáu i ddefnyddwyr hidlo cyfrifon heb eu gwirio. Gweinidog, mae hwn yn ddull diffygiol sy'n trin anhysbysrwydd ar-lein fel rhywbeth anniogel yn ei hanfod. Nid oes llawer o dystiolaeth i gefnogi'r honiad bod anhysbysrwydd ei hun yn gwneud disgwrs ar-lein yn fwy ffyrnig, ac i'r gwrthwyneb, nid oes gan lawer o'r cam-drin yr wyf i ac Aelodau eraill o'r Siambr hon yn ei dderbyn unrhyw wahaniaeth amlwg naill ai o ran natur na thôn, yn seiliedig ar anhysbysrwydd neu hysbysrwydd cyfrif. Cynhaliodd y New Statesman ymchwil ar y pwnc hwn, sy'n nodi, er bod 32 y cant o drydariadau o gyfrifon anhysbys yn cael eu hystyried yn 'ddig', yn ôl eu metrigau, ystyriwyd hefyd bod 30 y cant o drydariadau tebyg o gyfrifon ag enwau llawn ynghlwm yn ddig neu'n ymosodol. Mae'n amlwg felly na fyddai'r ddeddfwriaeth hon yn cael cymaint o effaith ag yr honnir. Yn sylfaenol, ni fydd y Bil cyfan yn cyflawni'r hyn y mae'n bwriadu ei wneud, ac mae peidio â chynnwys Comisiynydd Plant Cymru yn profi hyn i mi.
Felly, byddaf, byddaf yn cefnogi'r un gwelliant hwn a'r eithriadau y mae Llywodraeth Cymru wedi galw amdanyn nhw, ond rwy'n credu ei bod hi'n chwerthinllyd bod Llywodraeth Cymru wedi cael cyn lleied o amser i ystyried hyn, ein bod ni fel seneddwyr wedi cael bron ddim, ac yn hollbwysig, nid yw'r cyhoedd yn cael unrhyw gyfle ystyrlon i ddweud eu dweud o gwbl. Diolch.
Y Dirprwy Weinidog i ymateb.
Diolch, Llywydd. Wrth gloi'r ddadl, yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i'r Aelodau hynny am eu sylwadau a'u barn y prynhawn yma? Mewn ymateb i'r pwyntiau a wnaed, yn enwedig gan Peredur Owen Griffiths, ac rwy'n cydnabod gwrthwynebiad egwyddorol Plaid Cymru i gynigion cydsyniad deddfwriaethol, ond a dweud y gwir, nid yw'r gwrthwynebiad egwyddorol hwnnw yn mynd i'n helpu ni o ran amddiffyn plant ar-lein mewn maes sydd wedi'i gadw'n ôl. Ac mae hwn yn faes lle mae'n synhwyrol i ni weithio gyda'n gilydd ar sail y DU, gan ei fod yn gam sylweddol i'r cyfeiriad cywir, a gallwn weithio ochr yn ochr â'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud sydd wedi'i ddatganoli, yr ydym ni'n ei ddatblygu ein hunain yng Nghymru, i eistedd ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth hon yn y DU.
I ymdrin â phwynt Sarah Murphy, rwy'n credu ei bod hi yn llygad ei lle i dynnu sylw at y ffordd y mae'r Bil hwn wedi mynd ar ei hynt drwy San Steffan. Mae'n gymhleth. Bu llawer o welliannau, ac rydym yn credu y gallai fod gwelliannau eraill yn y dyfodol. Ond rwy'n credu mai dim ond i'n hatgoffa nad deddfwriaeth Gymreig yw hon, felly rydym yn ymateb i'r meysydd hynny sy'n effeithio ar gymhwysedd datganoledig y ddeddfwriaeth honno, ac nid wyf yn gwneud unrhyw sylw penodol ar y ddeddfwriaeth ei hun.
Felly, i gloi, Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi egwyddor y Bil Diogelwch Ar-lein, a'r amddiffyniadau y credwn y bydd yn eu darparu i bobl rhag niwed y rhyngrwyd, ac felly gofynnaf i Aelodau'r Senedd gydsynio i'r Bil hwn. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, ac oni bai bod tri Aelod eisiau i fi ganu'r gloch, byddwn ni yn symud yn syth i'r bleidlais. Felly, fe fydd y bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar Gyfnod 4 y Bil Amaethyddiaeth (Cymru), a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 55, neb yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly, mae'r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) wedi ei gymeradwyo. [Cymeradwyaeth.]
Eitem 12. Cyfnod 4 y Bil Amaethyddiaeth (Cymru): O blaid: 55, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Y bleidlais nesaf, felly, fydd y bleidlais ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Ar-lein. A dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yma a gyflwynwyd yn enw Dawn Bowden. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, neb yn ymatal, 10 yn erbyn, ac felly, mae'r cynnig yna hefyd wedi ei dderbyn.
Eitem 13. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Ar-lein: O blaid: 45, Yn erbyn: 10, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Dyna ni, dyna ddiwedd ar y pleidleisiau. Diolch i bawb am eich gwaith y prynhawn yma.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:53.