Y Cyfarfod Llawn

Plenary

26/04/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi

Prynhawn da a chroeso i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi. Mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, ac i'w ofyn gan Altaf Hussain.

Denu Ymwelwyr i Orllewin De Cymru

1. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddenu ymwelwyr i mewn i Orllewin De Cymru? OQ59396

Member
Dawn Bowden 13:30:26
Deputy Minister for Arts and Sport, and Chief Whip

A gaf fi ddiolch i Altaf Hussain am ei gwestiwn? Mae Croeso Cymru yn sicrhau bod gweithgarwch rhyngrwyd, cyfryngau cymdeithasol, cysylltiadau cyhoeddus a'r diwydiant teithio yn darparu cyfleoedd i hyrwyddo pob rhan o Gymru. Amlygir cyrchfannau a chynnyrch yn rhanbarth Gorllewin De Cymru i ddenu ymwelwyr yn rheolaidd.

Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Mae twristiaeth yn sector hanfodol o’r economi yn fy rhanbarth, a phwy na fyddai eisiau ymweld? Mae gennym rai o'r traethau gorau yn y byd. Fodd bynnag, mae hynny oll o dan fygythiad o ganlyniad i benderfyniadau polisi a wnaed gan eich Llywodraeth chi. Mae newidiadau i’r rheol defnydd ar gyfer llety gwyliau a’r dreth dwristiaeth sydd ar y ffordd yn gorfodi llawer o berchnogion eiddo i adael y farchnad a gwerthu eu heiddo. Ddirprwy Weinidog, sut y gallwn ddenu ymwelwyr os nad oes unman iddynt aros? A wnewch chi ailystyried y polisïau hyn o ystyried pwysau'r dystiolaeth gan y sector a’r bygythiad y mae’n ei greu i dwristiaeth yn fy rhanbarth i a ledled Cymru? Diolch.

Diolch am eich cwestiwn atodol. Ac mae'n rhaid imi ddechrau drwy ddweud, Altaf, nad wyf yn derbyn cynsail y sylwadau na'r cwestiwn a ofynnwch. Mewn gwirionedd, gofynnwyd yr union gwestiwn hwn i’r Prif Weinidog ddoe, a gallwch ofyn y cwestiwn gynifer o weithiau ag y dymunwch ac rydych yn mynd i gael yr un atebion bob tro. Cafodd y rheoliadau ar ail gartrefi a newidiadau i reolau llety hunanddarpar eu trafod ar lawr y Senedd i ddirymu’r rheoliadau hynny, ac ewyllys y Senedd oedd y dylem barhau â’r rheoliadau hynny. A hoffwn eich atgoffa bod y taliadau ar lety hunanddarpar yn rhan o faniffesto Llafur. Fe wnaethom ennill yr etholiad yn 2021, ac rydym bellach yn rhoi’r addewidion maniffesto a oedd gennym ar waith.

Ond credaf ei bod hefyd yn werth dweud ac ailadrodd pam ein bod yn gwneud y newidiadau hyn. Eu diben yw sicrhau bod llety hunanddarpar yn cael ei ddefnyddio at ddibenion busnes am y rhan fwyaf o’r flwyddyn ac yn gwneud cyfraniad o sylwedd i’r economi leol. Felly, o dan y meini prawf newydd, mae'n rhaid i eiddo fod ar gael i'w osod am o leiaf 252 diwrnod y flwyddyn, ond mae'n rhaid iddo fod wedi'i osod am 182 diwrnod o'r flwyddyn. Ac rydym yn glir iawn: barn Llywodraeth Cymru yw y dylai eiddo sy'n cael ei osod fel llety hunanddarpar ar sail anfynych yn unig orfod talu'r dreth gyngor. Ond os ydynt yn fusnes dilys, ac yn llety sy'n cael ei osod am 182 diwrnod neu fwy, byddant yn cael eu trin fel busnes bach a byddant yn talu’r ardrethi perthnasol i fusnesau bach. Mater i’r awdurdod lleol, wrth gwrs, yw pennu lefel yr ardrethi mewn perthynas ag unrhyw lety nad yw'n bodloni’r gofyniad 182 diwrnod.

Nid yn unig fod gan Orllewin De Cymru y traethau y mae Altaf wedi sôn amdanynt, ond mae ganddo gymoedd hardd hefyd. Felly, Weinidog, yn rhanbarth Gorllewin De Cymru, mae cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi ailymrwymo i’w arweinyddiaeth ar fenter parc y cymoedd, ac mae gennym gynnig Wildfox ar gyfer cyrchfan antur ar ben uchaf cwm Dave Rees a'm cwm innau—pen uchaf cwm Llynfi a chwm Afan, ger Croeserw—sy'n gobeithio adeiladu ar fantais naturiol y bryniau a’r dyffrynnoedd ysblennydd hynny ar gyfer cerdded, beicio mynydd ac antur hefyd. Felly, pa gymorth ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru ei roi i'r rheini sydd am ddatblygu'r cymoedd fel cyrchfan ar gyfer antur, hwyl yn yr awyr agored a gweithgarwch gwych?

Wel, a gaf fi ddweud fy mod yn cytuno’n llwyr â’r holl sylwadau a wnaed gan yr Aelod dros Ogwr? A threuliais lawer o flynyddoedd hapus yn byw yn Ogwr, wrth gwrs, pan oedd yr Aelod yn AS i mi ac yn Aelod o’r Senedd ar y pryd. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr fod nifer o ardaloedd yng Nghymru, gan gynnwys eich etholaeth chi, Huw, lle gall pob un ohonom weithio ochr yn ochr â'r amgylchedd naturiol gwych hwnnw, oni allwn, ac rydym yn gweld llawer o enghreifftiau rhagorol yn ein cymoedd—BikePark Cymru yn fy etholaeth i, wrth gwrs, a Skyline, y gobeithiwn ei ddatblygu yn Abertawe. Ac mae fy nhîm bob amser yn barod i drafod unrhyw gyfleoedd datblygu neu fuddsoddi gwerth chweil gydag awdurdodau lleol neu arweinwyr prosiectau arfaethedig. Mae gennym gronfa'r Pethau Pwysig, wrth gwrs, ac mae gennym y gronfa buddsoddi cyfalaf strategol drwy gronfa buddsoddi mewn twristiaeth Cymru, sydd ar gael, ac y gallwn ei chefnogi drwy ein gweithgarwch marchnata a hyrwyddo.

Byddwch yn falch o glywed, wrth gwrs, fod gan fforwm twristiaeth de-ddwyrain Cymru gynrychiolwyr o’ch awdurdod lleol, o Ben-y-bont ar Ogwr, ac mae ganddo hefyd weithredwyr lleol fel Hugh Murray, perchennog Ysgol Syrffio Porthcawl, ac mae ef wedi mynychu'r fforwm yn y gorffennol, ynghyd â gweithredwyr twristiaeth eraill yn yr ardal. Felly, yr hyn rwy'n ei ddweud wrthych chi yw bod gennym ddigon o gefnogaeth bosibl i'r cynlluniau cywir, ac edrychwn ymlaen at barhau i gefnogi Pen-y-bont ar Ogwr, Ogwr yn gyffredinol, a chyfleoedd twristiaeth eraill amrywiol yn eich etholaeth.

13:35
Tyfu Sgiliau Pobl Ifanc

2. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i dyfu sgiliau pobl ifanc? OQ59411

Rydym yn gwneud cynnydd cadarn ar gyflawni ein gwarant i bobl ifanc, gyda dros 12,000 o bobl ifanc yn dechrau ar raglenni sgiliau a chyflogadwyedd ers lansio’r warant i bobl ifanc ym mis Tachwedd 2021.

Hoffwn ddiolch i’r Gweinidog am ei ateb. Weinidog, mae Llywodraeth y DU wedi llofnodi cytundeb masnach newydd â Seland Newydd, ac roedd rhan o hynny'n cynnwys ymestyn y fisa gwyliau gwaith i bobl hyd at 35 oed. Credaf yn gryf fod tyfu sgiliau pobl ifanc yn rhoi cyfleoedd iddynt fynd dramor i ddysgu sgiliau newydd a dod â phrofiadau newydd adref i wella eu cyfleoedd gwaith yn ôl yma yn y DU. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo’r cyfleoedd y mae’r cytundeb masnach hwnnw wedi’u rhoi i bobl ifanc yng Nghymru fynd i weithio dramor fel y gallant dyfu’r sylfaen sgiliau yma yng Nghymru?

Wel, wrth gwrs, roedd y cytundeb masnach â Seland Newydd, fel y cytundebau masnach eraill yn wir, yn cynnwys ystod o feysydd. Ac rydym bob amser wedi bod â safbwynt cytbwys ar y ffaith bod potensial ar gyfer mwy o fasnach a gweithgarwch economaidd. Mae potensial i bobl fynd i weithio a dysgu mewn gwledydd eraill, a hoffem weld pobl yn dychwelyd ac yn gwella’r economi yma yng Nghymru. Wrth gwrs, mae'n rhan o'r rheswm pam fod Llywodraeth Cymru wedi ariannu rhaglen Taith, i sicrhau bod pobl ifanc yn cael cyfle i astudio mewn gwledydd eraill ar ôl i Lywodraeth y DU ddod â'n cyfranogiad yn rhaglen Erasmus i ben. Ond mae’r cytundebau masnach hynny’n gytbwys, ac mae heriau mewn rhannau eraill ohonynt. Mae'n destun sgwrs barhaus rhyngof fi, fy swyddogion a Llywodraeth y DU, a byddaf yn parhau i adrodd yn ôl yn dryloyw i'r pwyllgor craffu perthnasol, ac yn wir, i'r Senedd.

Weinidog, ddoe cynhaliais ddigwyddiad gydag Airbus a chydweithwyr o’r mudiad undebau llafur, yn ogystal â llysgennad Ffrainc, yr oeddwn yn falch iawn o’i chroesawu i’n Senedd. Teitl y digwyddiad ei hun oedd 'Y Llwybr i Ddatgarboneiddio Awyrofod', a rhoddodd siaradwyr yn y digwyddiad y wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau a gwesteion eraill am y gwaith sy'n mynd rhagddo i ddatblygu tanwyddau hedfan carbon niwtral, ac wrth gwrs, prosiect blaenllaw Adain Yfory ym Mrychdyn. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi fod angen i Gymru barhau i arwain ar dechnoleg newydd o'r fath, a pho fwyaf y byddwn yn buddsoddi mewn uwchsgilio pobl ifanc, fel y bobl ifanc o genedlaethau’r dyfodol sy’n gwylio yn yr oriel heddiw, y mwyaf y gallwn achub ar y cyfle sydd ger ein bron?

Ydw, rwy'n cytuno. Ac mewn gwirionedd, buom yn siarad llawer am ddyfodol yr economi yng Nghymru pan oeddwn ym Mrwsel ddoe, sef y rheswm pam nad oeddwn yn y digwyddiad gydag Airbus, yn anffodus. Ond mae gennyf gysylltiadau da â’r cwmni, ac yn wir, â’r undeb llafur cydnabyddedig yn Airbus, ond yn fwy cyffredinol hefyd ar draws y sector gweithgynhyrchu ehangach. Ac wrth inni greu cynllun newydd ar gyfer y sector gweithgynhyrchu, ochr yn ochr â’r camau rydym yn eu cymryd gyda'n cynllun sgiliau sero net, byddwn yn parhau i fod yn awyddus i fuddsoddi yn sgiliau pobl ifanc, a’r cyfle iddynt dyfu a datblygu yma yng Nghymru.

Ar y naill law, ceir cyfleoedd i weithio mewn rhannau eraill o'r byd. Serch hynny, rydym am i bobl fod yn wirioneddol hyderus ynglŷn â chael dyfodol llwyddiannus a boddhaus yma yng Nghymru. Dyna pam ein bod yn edrych am eglurder, nid cystadleuaeth, yn ein polisi sgiliau. Rydym wedi gweld mentrau polisi gwahanol gan Lywodraeth y DU. Hoffem weld buddsoddiad parhaus mewn termau real i gynyddu sgiliau pobl ifanc ar gyfer y dyfodol—dyna'n union rydym wedi ymrwymo iddo—ac yn y meysydd a grybwyllwyd yn benodol gennych, Adain Yfory, nid yn unig o ran y deunyddiau a ddefnyddir, ond y broses weithgynhyrchu ei hun. Ac o ran y tanwyddau newydd a fydd yn ein galluogi i barhau i hedfan mewn ffordd fwy cynaliadwy yn y dyfodol, ceir cryn dipyn o gyfleoedd ymchwil a datblygu ac arloesi. Felly gallwch weld y cynllun gweithgynhyrchu uwch, y cynllun sgiliau gwyrdd a'n strategaeth arloesi oll yn gweithio gyda'r warant i bobl ifanc ac ystod o raglenni eraill. Ac mae'n rhaid inni gael cynllun cydlynol, lle mae gennym bartneriaid i wneud hynny gyda hwy—y mudiad undebau llafur a busnesau hefyd—a hoffwn weld partneriaeth fwy cydlynol gyda Llywodraeth y DU na'r un sydd gennym ar hyn o bryd.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies. 

Diolch, Lywydd. Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol o gyfarfod Cyngor Caerdydd yfory i drafod y posibilrwydd o gyflwyno tâl atal tagfeydd er mwyn mynd i’r afael â lefelau traffig yng Nghaerdydd. Er mai mater i’r awdurdod lleol yw hwn yn bennaf, gallai fod canlyniadau economaidd pwysig pe bai’r cynlluniau hyn yn cael eu rhoi ar waith, ac felly, fel Gweinidog yr Economi, a wnewch chi ddweud wrthym beth yw eich asesiad chi o effaith economaidd y cynlluniau hyn ar ein prifddinas? Ac a wnewch chi gadarnhau safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater hwn?

Wel, nid yw'n bosibl cynnal asesiad economaidd o'r cynlluniau am nad oes cynnig llawn i'w asesu, ac yn ogystal â'r effaith ar yr economi, mae angen ichi ystyried y manteision i'r amgylchedd, y manteision cymdeithasol, ac yn wir, y manteision i iechyd y cyhoedd. Pan gyhoeddodd Cyngor Caerdydd eu bod yn ystyried ystod o gynigion, roedd hynny'n ymwneud â mwy na’r potensial o godi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd yn unig; roedd hefyd yn ymwneud â’u cynllun i fuddsoddi yn nyfodol trafnidiaeth gyhoeddus, ac roedd y cyngor yn glir iawn eu bod am gyflawni gwelliannau trafnidiaeth gyhoeddus cyn codi unrhyw fath o dâl. Ac rwy’n siŵr y byddwch hefyd wedi clywed cyfarwyddwr iechyd y cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn sôn am y manteision posibl i iechyd y cyhoedd. Nawr, mae hynny'n newyddion mawr i mi fel Aelod etholaethol. Yn amlwg, rwy’n cynrychioli rhan o ddinas Caerdydd, a cheir heriau sylweddol o ran llygredd aer. Ac rwyf am weld fy etholwyr ac etholwyr eraill ledled Cymru yn cael cyfleoedd i fyw mewn amgylchedd lle nad yw’r ffordd rydym yn symud o gwmpas yn peryglu eu hiechyd a’u cyfle i lwyddo’n economaidd, ac edrychaf ymlaen at weld cynnig llawn. Ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y cyngor yn cael y sgwrs hon, ac rwyf am ystyried y dystiolaeth yn hytrach na sloganau camarweiniol neu anghywir y mae rhai pobl wedi’u rhannu.

Wel, yn amlwg, Weinidog, nid ydych yn gwybod beth fydd canlyniadau economaidd y cynlluniau hyn, ac rwy’n siŵr y bydd pobl Caerdydd wedi clywed yr hyn sydd gennych i’w ddweud ar y mater ac yn dod i’w casgliadau eu hunain.

Nawr, adroddwyd yn ddiweddar fod nifer y cwmnïau sy'n cofnodi ansolfedd ledled Cymru a Lloegr wedi neidio fis diwethaf i 16 y cant, wrth i gwmnïau barhau i'w chael hi'n anodd gyda chostau cynyddol a gwariant isel gan ddefnyddwyr. Felly, mae'n hanfodol fod llywodraethau ar bob lefel yn gweithio i gefnogi canol ein trefi a'n dinasoedd a helpu ein busnesau yn ystod y cyfnod hwn. Nawr, fe fyddwch yn ymwybodol o adroddiad Archwilio Cymru 2021, a wnaeth chwe argymhelliad i helpu Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i reoli a chefnogi canol trefi a dinasoedd ledled Cymru yn well, ac felly a wnewch chi ddweud wrthym faint o’r argymhellion a gyflawnwyd a pha waith pellach fydd yn mynd rhagddo yn y flwyddyn ariannol hon i feithrin a datblygu canol trefi a dinasoedd yng Nghymru?

Iawn. Felly, ni allaf roi ymateb uniongyrchol i bob un o'r chwe maes hynny i chi. Rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod i nodi hynny mewn mwy o fanylder—y manylder y credaf y bydd am ei weld. Rydym yn parhau â’n rhaglen buddsoddi mewn trefi—ein rhaglen Trawsnewid Trefi. Mae'r rhaglen honno’n gweithio ochr yn ochr â rhaglenni y mae'r awdurdodau lleol eu hunain yn eu datblygu, eu harwain a’u rheoli, a byddwn yn parhau i gael partneriaeth aeddfed ar hynny.

Ar ei gwestiwn cyntaf a’r sylwadau a wnaeth wedyn, dylwn wneud y pwynt pan fydd taliadau'n cael eu codi ar ddefnyddwyr ffyrdd mewn dinasoedd eraill yn y DU a ledled y byd, nid ydym wedi gweld yr economi’n dod i stop. Rydym wedi gweld newidiadau yn ymddygiad pobl, ac mewn gwirionedd, credaf fod dyfodol bywiog iawn i ganol dinas Caerdydd, a gallwch weld hynny yn y ffordd y mae nifer o gwmnïau gwasanaethau proffesiynol yn edrych ar eu dyfodol yn y ddinas ac o’i chwmpas. Rwy'n disgwyl newyddion cadarnhaol dros y flwyddyn neu ddwy nesaf ar fwy o dwf a datblygiad, ac nid yw'r polisïau hyn yn atal y bobl hynny rhag dymuno buddsoddi yn nyfodol swyddi a swyddi o ansawdd da iawn. Fel y dywedaf, rwy'n credu y byddai dos o realiti a thystiolaeth yn ddefnyddiol wrth drafod dyfodol dinasoedd ffyniannus, a threfi yn wir, ledled y wlad.

Wel, edrychaf ymlaen at eich llythyr ynghylch argymhellion adroddiad Archwilio Cymru, a fydd yn dweud wrthym a yw’r argymhellion hyn wedi’u cyflawni ai peidio gan eich Llywodraeth.

Nawr, 12 mis yn ôl, cyhoeddodd y Ffederasiwn Busnesau Bach eu gweledigaeth ar gyfer trefi Cymru, a oedd yn edrych ar rai o’r heriau y mae canol ein trefi wedi’u hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn nodi’r hyn sydd ei angen yn eu barn hwy i adeiladu dyfodol llwyddiannus i ganol trefi a'r stryd fawr yng Nghymru. Dywedodd yr adroddiad hwnnw wrthym mai 3 y cant yn unig o bobl sy’n credu bod canol eu tref yn ffynnu, a dylai hynny fod yn rhybudd gwirioneddol i’r Llywodraeth y dylid blaenoriaethu adeiladu canol trefi gwydn, gan helpu busnesau i dyfu ac ailgylchu’r bunt Gymreig yn ein cymunedau. Mae’r raddfa’n enfawr, ac mae’r heriau’n cynnwys popeth o newid arferion defnyddwyr, i bwysau costau ar fusnesau, i drafnidiaeth gyhoeddus, fel rydych newydd fod yn ei drafod. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym pa gyllid ychwanegol sy’n cael ei ddyrannu i gefnogi busnesau yng nghanol trefi ledled Cymru o gofio rhai o’r heriau y maent yn parhau i’w hwynebu? Ac a wnewch chi hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau rydych wedi'u cael gydag awdurdodau lleol am y mesurau y maent hwy'n eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau nad yw ymyriadau lleol yn niweidio'r uchelgais i greu canol trefi cynaliadwy ar gyfer y dyfodol?

13:45

Iawn. Edrychwch, fel bob amser, rydym yn gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill ar ddyfodol canol trefi. Ond mae'n ymwneud hefyd ag amrywiaeth o feysydd polisi ar draws y Llywodraeth—felly, mabwysiadu agwedd 'canol y dref yn gyntaf' o ran y ffordd rydym yn datblygu. Felly, mae hynny'n cynnwys pan fyddwn yn gwneud dewisiadau ynghylch buddsoddi mewn tai ac yn y gwasanaeth iechyd; pan fyddwn yn meddwl am ddulliau adfywio hefyd. Gallwch weld ein bod yn gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol i wneud yn union hynny. Rwyf wedi ymweld â’r Rhyl a Phrestatyn yn y gorffennol, er enghraifft, i weld rhywfaint o’r gwaith hwnnw fy hun ac mae hynny'n ymwneud â sut rydych yn creu stryd fawr fywiog. Daw nifer o'r heriau a wynebant o nifer o ffactorau gwahanol. Mae’r argyfwng costau byw hefyd yn argyfwng cost gwneud busnes—heriau chwyddiant pan edrychwch ar rai o’r heriau mewn perthynas â manwerthu, ac fe sonioch chi fod tueddiadau yn y ffordd y mae pobl bellach yn ymddwyn fel defnyddwyr.

Felly, pan wnaethom ddatblygu ein cynllun gweithredu ar gyfer y sector manwerthu, pan oeddem yn mynd i mewn i’r cyfnod cyflwyno, roedd hynny’n golygu gweithio ochr yn ochr ag undebau llafur dan arweiniad yr Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol; roedd yn golygu gweithio ochr yn ochr â busnesau dan arweiniad Consortia Manwerthu Cymru. Ac mae'n golygu deall yr holl bethau gwahanol y gallwn eu gwneud i sicrhau dyfodol cadarnhaol i'r sector manwerthu, ac mae'n rhan o'r hyn sy'n gwneud stryd fawr fywiog ac effeithiol.

Rwy'n edrych yn ôl ar ddewisiadau eraill rydym wedi'u gwneud eisoes. Er enghraifft, gwn y bydd Aelodau eraill wedi bod mewn digwyddiadau heddiw gyda chydweithwyr ym maes fferylliaeth a Marie Curie, ac mewn gwirionedd, mae'r dewis rydym wedi’i wneud yn gyson i fuddsoddi mewn fferylliaeth gymunedol yn hynod bwysig i sicrhau ymwelwyr ar y stryd fawr mewn trefi o bob lliw a llun. Mae’n ymwneud hefyd â’r economi bob dydd y mae Hefin David wedi siarad amdani’n rheolaidd, i sicrhau bod polisi caffael a’r ffordd y gweithiwn ochr yn ochr â busnesau bach a chanolig yn cael effaith uniongyrchol, fel nad yw hyn yn ymwneud â ble mae llinellau'r gyllideb yn unig, ond hefyd â chydlynu polisi a deall yr hyn y gall pob un ohonom ei wneud i gefnogi canol ein trefi lleol, nid yn unig ar benwythnosau busnesau bach, ond drwy gydol y flwyddyn, a'r dewisiadau polisi a wnawn yn y Llywodraeth.

Diolch, Lywydd. Dylai ymagwedd at brentisiaethau ganolbwyntio ar ganlyniadau terfynol yn hytrach na niferoedd cyffredinol yn unig. Nawr, mae'n wych fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu 125,000 o brentisiaethau ychwanegol yn nhymor y Senedd hon, ond nid yw hynny'n golygu fawr ddim os na chânt eu cwblhau. Mae tueddiad diweddar, sy'n dangos gostyngiad o 14.6 y cant yng nghyfraddau llwyddiant prentisiaethau ers 2019, yn peri cryn bryder. Nid yw dros draean o brentisiaethau yng Nghymru yn cael eu cwblhau.

Nawr, gwyddom fod uwchsgilio ein gweithlu'n hollbwysig er mwyn mynd i'r afael â gwendidau sylfaenol yn economi Cymru, yn enwedig mewn perthynas â'r bwlch cynhyrchiant. Ac yn ychwanegol at hyn, mae’r data diweddaraf hefyd yn dangos bwlch cynyddol yn y gyfradd lwyddiant rhwng dysgwyr sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a’r ardaloedd lleiaf difreintiedig. Felly, pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i wrthdroi’r llithro diweddar yng nghyfraddau llwyddiant prentisiaethau, yn enwedig ymhlith unigolion o ardaloedd difreintiedig?

Rydym wedi bod yn edrych ar weithio gyda nifer o bobl nad ydynt wedi cwblhau'r canlyniadau hynny, yn ogystal â'r darparwyr eu hunain, i ddeall y gwahanol resymau am hynny. Nawr, mae sefyllfaoedd ariannol pobl yn rhan o hynny, ond mae hefyd yn sgwrs, nid yn unig i'r unigolion hynny, ond i'r busnesau y maent yn gweithio ynddynt hefyd. Ac mae'n ymwneud â'r ystod o wahanol lwybrau tuag at gwblhau prentisiaeth. Daw rhai o’r heriau o fod pobl yn gwneud dewisiadau gwahanol ac o rai o’r heriau rydym yn dal i’w gweld yn cael effaith ar brentisiaid o ran iechyd meddwl a lles ar ôl y pandemig. Mae'n her sylweddol iawn, a dyna pam fy mod wedi cyhoeddi mwy o arian ar gyfer cymorth iechyd meddwl i'n prentisiaid—gwneuthum y cyhoeddiad hwnnw fis diwethaf—a'r hyn a wnawn ochr yn ochr â'r gwaith ehangach rydym yn ei wneud gyda'r warant i bobl ifanc.

Yr hyn rwy'n canolbwyntio arno yw nid yn unig cynyddu nifer y prentisiaid—ac rydych yn iawn i ganolbwyntio ar gyfraddau cwblhau; mae gennym gyfradd gwblhau well na thros y ffin o hyd, ac mae'n ymwneud â sicrhau ein bod yn parhau i wella hynny—ond mae a wnelo hefyd ag ansawdd y prentisiaethau. Gallem fod wedi dewis israddio lefel y prentisiaethau i geisio sicrhau niferoedd mwy; fe wnaethom ddewis peidio â gwneud hynny. Dyna pam ein bod wedi cynnal y lefelau gwahanol a pham fod gennym ymrwymiad o hyd i gynyddu'r rhaglen gradd-brentisiaethau hefyd. Ond credaf fod cydnabyddiaeth mewn rhannau helaeth o’r gymuned fusnes fod angen iddynt barhau i fuddsoddi yn eu prentisiaethau hefyd. Mae’n ddigon posibl y bydd gwahaniaeth rhwng y swm cyfreithiol y mae’n rhaid iddynt ei dalu a’r hyn y maent yn ei dalu mewn gwirionedd, ac mae llawer o’n cyflogeion—. Pe baech yn nigwyddiad Airbus, byddech wedi gweld bod gweithwyr Airbus yn cael gofal da iawn; maent yn gwmni mawr a byddech yn disgwyl hynny. Mae hynny’n wir ar draws y gadwyn gyflenwi ehangach hefyd, ac mae angen gwneud hynny, gan fod pob un o’r busnesau hynny’n cydnabod ei bod o fudd iddynt hwy i’r bobl hynny gwblhau eu prentisiaethau, gan fod her ynglŷn â chael digon o lafur, gyda’r sgiliau cywir, i'r busnesau hynny allu manteisio ar yr holl gyfleoedd. Felly, unwaith eto, nid ymyrraeth un ergyd yw hi, ond rwy'n fwy na pharod, pan ddof yn ôl nid yn unig atoch chi, ond at y pwyllgor hefyd, ar yr hyn rydym yn ei wneud nid yn unig ar draws y warant i bobl ifanc, ond yr hyn a wnawn yn benodol ar gyfraddau cwblhau, i roi dealltwriaeth fwy manwl i chi, os mynnwch, o pam y credwn fod cyfraddau cwblhau wedi gostwng a beth a wnawn ynglŷn â hynny wedyn.

13:50

Byddem yn croesawu’r eglurder hwnnw yn y pwyllgor. Wrth gwrs, mae cyfraddau cwblhau wedi gostwng yn is na chyfraddau cwblhau'r Alban. Mae'r ystadegau hefyd yn dangos cynnydd eithaf clir mewn prentisiaethau heb eu cwblhau o ganlyniad i brentisiaid yn chwilio am waith cyn diwedd eu cwrs. Nid oes ond angen ichi eistedd o gwmpas y bwrdd gyda myfyrwyr mewn colegau ledled Cymru i wybod eu bod naill ai wedi ystyried gadael addysg eu hunain neu’n adnabod rhywun sydd wedi gwneud hynny, ac mae hyn yn wir am oddeutu 15 y cant o’r holl brentisiaethau heb eu cwblhau yn yr ystadegau diweddaraf. Mae'n sicr yn arwydd clir o effaith pwysau costau byw ar bobl sy’n ymgymryd â phrentisiaethau, ac nid yw’n iawn fod unigolion sy’n ceisio gwella eu rhagolygon cyflogaeth drwy hyfforddiant yn methu gwneud hynny yn y pen draw oherwydd cyfyngiadau ariannol ac yn cael eu gwthio wedyn i mewn i waith sgiliau isel a chyflog isel i gael deupen llinyn ynghyd.

Pan siaradom â Chymdeithas Genedlaethol y Prentisiaid ynglŷn â hyn, gwnaethant gadarnhau bod fforddiadwyedd, wrth gwrs, yn bryder allweddol i’w haelodau ar hyn o bryd. Felly, os ydym am greu economi Gymreig wedi'i chynnal gan weithlu sgiliau uchel a chyflogau uchel, mae’n hollbwysig cael gwared ar bob rhwystr i addysg. Felly, i'r perwyl hwn, pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith ar hyn o bryd i gefnogi pobl dan hyfforddiant i ymdopi â phwysau costau byw, ac a wnaiff y Gweinidog ystyried cyflog byw ar gyfer prentisiaethau fel ffordd o gyrraedd y nod?

Wel, rydym wedi buddsoddi £36 miliwn o arian ychwanegol i geisio cynnal y cynnydd y gallwn ei wneud ar y lefel uchaf bosibl drwy'r cyfnod hwn, ac mae hynny o ganlyniad uniongyrchol i heriau cyllidebol. Rydym hefyd wedi cymryd rhai camau i geisio helpu i gefnogi pobl drwy ystod o'n rhaglenni hyfforddi. Rydym wedi cynyddu rhai o'r lwfansau, er enghraifft, mewn rhannau o'n gwarant i bobl ifanc. Mae’r her o ddweud a allwch sicrhau cyflog byw gwirioneddol ar gyfer prentisiaethau fel safon ofynnol yn ymwneud nid yn unig â’n cymhwysedd, ond â’r cyllidebau sydd gennym i wneud hynny hefyd. Fe fyddwch yn gwybod, o fynd drwy’r hyn a oedd yn ymarfer cyllidebol anodd iawn, na allwn roi sicrwydd i chi y gallem ddod o hyd i’r arian i wneud hynny. Dyna pam fod yn rhaid cael sgwrs gyda'r busnesau hynny sy'n gweld prentisiaethau'n dod drwy eu busnesau. Dyna pam ein bod yn edrych fwyfwy ar yr ystod o sgiliau sydd eu hangen ar bobl drwy brentisiaethau a rennir a beth mae hynny'n ei olygu o ran y llwybrau i gael y brentisiaeth honno, faint o amser y gallant ei dreulio yn y gwaith a'r cydbwysedd rhwng hynny a bod gyda darparwr. Felly, ni allaf ddweud wrthych ar hyn o bryd fod yna ateb pendant a chyllideb derfynol a all wneud yr hyn y byddech am ei wneud, ac yn wir, yr hyn y credaf y byddai llawer o Aelodau yn y lle hwn am ei wneud. Rwy’n fwy na pharod nid yn unig i ysgrifennu at y pwyllgor, ond i fynd drwy rai o’r heriau hynny gydag ef a’r hyn rydym yn ei wneud i geisio gwneud i hynny weithio.

Gardd Goffa Mwyngloddio

3. Pa gefnogaeth fydd Llywodraeth Cymru yn ei darparu ar gyfer gardd goffa mwyngloddio cenedlaethol Cymru a Glofa Universal yn Senghennydd? OQ59408

Diolch am eich cwestiwn, Hefin David. Wrth gwrs, rydym yn cydnabod arwyddocâd cofeb Senghennydd i deuluoedd a chymunedau yr effeithiwyd arnynt gan drychinebau glofaol ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i weithio gydag eraill, gan gynnwys gwirfoddolwyr sy'n rhedeg y safle, i archwilio opsiynau ar gyfer gofalu amdano yn y dyfodol.

Roeddem yn ddiolchgar iawn am ymweliad y Prif Weinidog yn ôl ym mis Ionawr, rwy'n credu, pan ddaeth i weld yr ardd a’r angen i’w chynnal. Gwelodd â'i lygaid ei hun y gwirfoddolwyr lleol a Grŵp Treftadaeth Cwm Aber, a'r gwaith a wnânt i gynnal a chadw'r ardd. Mae'n fan cymunedol sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr, ac nid yw'r gwirfoddolwyr yn mynd yn iau ac mae'n her anferth. Roeddem wrth ein boddau fod Cadw a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cytuno i ystyried ffyrdd o gynnal yr ardd ac i helpu. Mae cyngor Caerffili wedi cytuno—mae’r Cynghorydd Jamie Pritchard, y dirprwy arweinydd, wedi cytuno—i ddarparu cymorth ar unwaith er mwyn cynnal a chadw'r tir, a ariennir yn rhannol gan y gronfa ffyniant gyffredin. Mae Cadw wedi dweud y gall eu tîm gwaith maen mewnol, sydd wedi’u lleoli yng nghastell Caerffili, gynnal a chadw waliau cerrig yr ardd goffa, ond oherwydd rhaglen waith lawn, ni allant ddechrau tan y flwyddyn nesaf. Mae rhai o aelodau’r pwyllgor wedi mynegi siom wrthyf ynglŷn â hynny. Credaf y gall Cadw wneud mwy. Felly, a wnaiff y Dirprwy Weinidog roi pwysau ar Cadw i ddarparu cymorth ychwanegol gyda thirlunio, yn ogystal â gwaith maen, ac i'r gwaith hwnnw ddechrau eleni, os gwelwch yn dda?

13:55

Diolch am eich cwestiwn atodol. Credaf y byddai’n esgeulus ohonof i beidio â sôn, cyn imi fynd i’r afael â’r cwestiwn hwnnw, am arwyddocâd cofeb Senghennydd fel safle cofeb sy’n cynrychioli’r trychineb mwyngloddio gwaethaf, nid yn unig yng Nghymru, ond yn y DU, a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i etholaethau fel eich un chi a fy un i, sy'n etholaethau glofaol yn y bôn, a’r cymunedau a luniwyd gan y diwydiant hwnnw yn yr ardaloedd hynny.

Felly, yr hyn y byddwn yn ei ddweud mewn ymateb i'r pwyntiau rydych wedi'u codi heddiw, yw y byddwn yn sicr yn croesawu'r cyfle i gyfarfod â chi ac eraill, ynghyd â swyddogion Cadw, ger y gofeb, i drafod y materion hyn ymhellach, oherwydd, fel rydych eisoes wedi nodi, mae Cadw wedi awgrymu bod ganddynt arbenigedd mewnol a allai helpu gyda'r gwaith cynnal a chadw. Mae pwysau cyllidol—wrth gwrs. Mae pwysau cyllidol ar yr awdurdod lleol, mae pwysau cyllidol arnom ninnau, a hoffem wneud ymrwymiad i allu gwneud mwy yn hyn o beth, ond credaf mai’r man cychwyn fyddai inni gael y cyfarfod hwnnw gyda chi, gyda'r awdurdod lleol, gyda gwirfoddolwyr, a gweld beth yw celfyddyd yr hyn sy'n bosibl mewn gwirionedd.

Diolch i Hefin am godi'r cwestiwn yma.

Rwy'n falch o glywed bod ymrwymiad i gefnogi a'i fod wedi'i roi i'r gwirfoddolwyr o'r diwedd. Dan arweiniad cadeirydd Grŵp Treftadaeth Cwm Aber, Lindsay Whittle, cynghorydd a chyn-Aelod Plaid Cymru yn y lle hwn, mae’r grŵp wedi bod yn gofyn am gymorth gyda'r gwaith o gynnal a chadw’r ardd ers peth amser bellach, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt, fel y dywedodd Hefin, yn bensiynwyr. Mae’r ardd hon yn ein hatgoffa o’n treftadaeth ddiwydiannol a’r tristwch a’r drasiedi enfawr sydd ynghlwm wrth y bennod honno yn ein hanes fel cenedl. Mae’n un o nifer o safleoedd hanesyddol y gallem ac y dylem wneud y gorau ohonynt. Mae’n drueni mawr na wneir mwy o lefydd fel ogof y Siartwyr ym Mlaenau Gwent neu Warcheidwad y Cymoedd yn Six Bells, nad yw llawer o bobl sy’n byw yn y rhanbarth yn ymwybodol ohonynt, heb sôn am ddenu ymwelwyr rhyngwladol. A roddwyd unrhyw ystyriaeth i greu llwybr treftadaeth ar gyfer de-ddwyrain Cymru er mwyn hybu twristiaeth ac efallai i roi cyfle i athrawon ysgol sydd am ddod â hanes yn fyw a dathlu ein hanes cyfoethog a hynod ddiddorol?

Diolch i Peredur Owen Griffiths am ei gwestiwn atodol. Credaf fod hwnnw'n bwynt pwysig iawn, ac mewn gwirionedd, rwyf wedi trafod hyn gyda chyngor Caerffili mewn perthynas â llwybrau eraill. Ac mae'n ymwneud â mwy na chyngor Caerffili yn unig, mae gennym hanes a threftadaeth mor gyfoethog ledled Cymru gyfan y gallai awdurdodau lleol fod yn ei ddatblygu ac yn gwneud mwy ag ef, yn sicr, o ran eu cynnig twristiaeth a'r hyn y gallant ei werthu, nid yn unig i'w trigolion lleol, ond i ymwelwyr a ddaw i'r ardal. A dweud y gwir, rwyf wedi cael sgwrs gyda Wayne David, yr AS, ynglŷn â sut y gallem wneud mwy i ddenu pobl i gastell Caerffili ac a ddylem fod yn gwneud mwy i ddarparu gwasanaethau dehongli yng nghastell Caerffili mewn ieithoedd heblaw'r Saesneg a’r Gymraeg. Oherwydd rydym yn cael ymwelwyr o bob rhan o'r byd, wrth gwrs, ac os ewch i safleoedd ymwelwyr a safleoedd o bwysigrwydd cenedlaethol, fel castell Caerffili, mewn rhannau eraill o'r byd, fe welwch wasanaethau dehongli amlieithog. Felly, dyna'r mathau o bethau y credaf y gall awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, gyda Cadw a'n timau treftadaeth, weithio arnynt. A byddwn yn sicr yn fwy na pharod i gael sgyrsiau pellach gyda chyngor Caerffili ynglŷn â sut y gallent weithio i ddatblygu hynny.

Hyrwyddo'r Sector Twristiaeth

4. Sut mae Llywodraeth Cymru'n hyrwyddo'r sector twristiaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ59383

Diolch i Sam Kurtz am ei gwestiwn. Mae’r rhanbarth yn cael sylw amlwg drwy gydol y flwyddyn yng ngweithgarwch marchnata Croeso Cymru, ac mae hefyd yn elwa o gymorth ariannol ar gyfer digwyddiadau proffil uchel, fel Ironman Sir Benfro. Ac mae cynlluniau buddsoddi cyfalaf sylweddol hefyd wedi cefnogi datblygiadau ym Mhentywyn a Saundersfoot.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Weinidog. Mae sir Benfro yn cael ei henw, wrth gwrs, o dref Penfro yn fy etholaeth, lle mae castell gwych Penfro, man geni Harri Tudur, y Cymro a fyddai’n Frenin, a rhyfeloedd Penfro. Ac roeddwn yn falch iawn o ymuno â’r cynghorwyr Jonathan Grimes ac Aaron Carey i ymweld â datblygiad Cei’r De, ychydig ddrysau i lawr o gastell Penfro. Ac er bod buddsoddiad ynddo, sy'n cael ei groesawu gan gymuned Penfro a chymuned ehangach de sir Benfro, ceir rhywfaint o bryder ynglŷn â beth y gallai'r cynnyrch terfynol hwnnw fod. Ond maent wrth eu boddau fod yr adeiladau hanesyddol adfeiliedig hyn yn cael eu hatgyfodi. Ond mae Penfro yn enghraifft wych o dref ganoloesol draddodiadol. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau, drwy Croeso Cymru a thrwy bob dull arall sydd ar gael iddi, i hyrwyddo’r asedau hanesyddol gwych sydd gennym sy’n unigryw i Gymru ac yn unigryw i fy rhan i o’r byd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

14:00

Ac fe dreuliais sawl awr hapus, Sam, yn sir Benfro pan oeddwn yn swyddog Unsain ifanc, diniwed ar y pryd, a sir Dyfed oedd fy ardal i, ac roeddwn yn arfer mynd o gwmpas gyda'r llysenw 'y swyddog dros gyrchfannau glan môr' am fy mod yn treulio cymaint o amser mewn llefydd fel sir Benfro. Mae'n rhan hynod brydferth o'r byd, ac rwy'n falch iawn o weld y buddsoddiad rydym wedi'i wneud mewn nifer o brosiectau cyfalaf yn yr ardal. Un o'r pethau rydym yn ceisio'i wneud yn ein strategaeth dwristiaeth yw edrych ar dair elfen, fel nad ydym yn gweld pobl yn pentyrru i ardal yn ystod chwe wythnos yr haf yn unig. Felly, rydym yn edrych ar natur dymhorol twristiaeth, rydym yn edrych ar wariant, rydym yn edrych ar ledaeniad. Rydym yn edrych ar gynnal ymgyrchoedd i ddenu pobl i Gymru ar unrhyw adeg o'r flwyddyn, ac mae cynigion gwahanol ar unrhyw adeg o'r flwyddyn. Rydych chi wedi sôn am gastell Penfro a Harri Tudur; fel plentyn yn tyfu i fyny, roedd oes y Tuduriaid yn hynod ddiddorol i mi, yn hynod ddiddorol, a thaniwyd y diddordeb hwnnw ynof pan ddaeth yr amgueddfa i fy ysgol gyda gwisgoedd Tuduraidd, ac fe wnaethant adael i ni wisgo'r gwisgoedd Tuduraidd. Rwyf wedi bod wrth fy modd gyda hanes byth ers hynny, a phan fo gennym henebion mor arwyddocaol, cestyll, beth bynnag, sy'n adrodd hanes ein cenedl—ac rwy'n derbyn bod dadlau ynghylch rhai agweddau arno, ond er hynny mae'n hanes y gallwn fod yn falch ohono, ac y gallwn ei werthu, a gallwn ei ymgorffori yn ein cynnig i dwristiaid a'n cyrchfannau i dwristiaid—. Fe welwch chi hynny i gyd yn ein strategaeth Croeso Cymru o ran sut rydym yn denu pobl i Gymru. 

Os oes yna brosiectau penodol yn eich ardal chi y byddech yn hoffi i mi gael golwg arnynt, fe fyddwn yn hapus i gyfarfod â chi, Sam, a chyda'r awdurdod lleol i drafod hynny. Ond yn bendant, rwy'n credu ein bod yn cytuno ynglŷn â'r hyn rydym eisiau ei wneud mewn ardaloedd fel sir Benfro.

Ystâd y Goron

5. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith Ystâd y Goron ar economi Cymru? OQ59409

Rydym yn credu y byddai'r buddion o Ystad y Goron yn fwy i Gymru pe bai Ystad y Goron wedi'i datganoli. Er ein bod am ei gweld wedi'i datganoli, rydym yn parhau i weithio gydag Ystâd y Goron i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd presennol i economi Cymru.  

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb. 

Gyda chyfleoedd ar gyfer cynhyrchiant sylweddol ar hyd arfordir Cymru mewn ynni adnewyddadwy morol ac ynni gwynt ar y môr, mae gan Gymru botensial gwirioneddol i sicrhau mantais o'r cychwyn cyntaf a dod yn arweinydd byd-eang mewn perthynas â gweithgynhyrchu cydrannau ac allforio sgiliau ac arbenigedd i farchnad fyd-eang sy'n tyfu. Er mwyn sicrhau bod y buddion yn cael eu cadw yng Nghymru, bydd angen inni ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol cadarn sy'n caniatáu cynhyrchu a chydosod cydrannau gwynt arnofiol ar y môr yma yng Nghymru. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod Ystad y Goron yn mandadu gofynion cadwyni cyflenwi llym ar gyfer datblygwyr? Ac a fyddant yn gweithio gydag Ystad y Goron i ddatblygu mecanwaith i ddwyn datblygwyr i gyfrif mewn perthynas â'r ymrwymiadau hyn?

Dyna'n union—. Yr hyn y mae'r Aelod yn galw amdano yw'r union beth rwyf fi a'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi galw amdano, nid yn unig yn gyhoeddus ar sawl achlysur, ond hefyd yn ein hymgysylltiad uniongyrchol ag Ystad y Goron. Oherwydd mae'r holl gyfleoedd hynny, ar draws gwely'r môr—. Yng ngogledd Cymru, mae yna gyfleoedd sylweddol, yn ogystal â'r de-orllewin, cyn i'r rhai sy'n cefnogi ceisiadau sy'n cystadlu am borthladd rhydd ddechrau neidio i fyny ac i lawr dros eu rhan benodol hwy o'r wlad; mae'n gyfle cenedlaethol go iawn. Ac rwyf bob amser wedi dweud nad yw hyn yn ymwneud yn unig â'r cyfle i gyflawni a datblygu pŵer ar sail adnewyddadwy—mae'n ymwneud hefyd â'r swyddi sy'n deillio o hynny. Nid yn unig y gwaith cynnal a chadw a'r gwaith adeiladu terfynol, ond yr holl waith adeiladu mawr, y gwaith gweithgynhyrchu sy'n digwydd ochr yn ochr yn llawer cynt ac yn uwch i fyny yn y gadwyn werth. Dyna'n union rydym yn awyddus i'w sicrhau, yn ogystal â'r cyfleoedd posibl sydd wedyn yn deillio o gael cyflenwad pŵer rhagweladwy. Dyna pam ein bod wedi parhau, ar bwynt gwahanol, i siarad am y gofyniad i ddiwygio'r ffordd y mae'r Grid Cenedlaethol yn gweithio, fel y gellir manteisio o ddifrif ar y cyfleoedd hynny. Ond byddwn yn parhau i alw, yn ein cyfarfodydd ac yn gyhoeddus, am yn union hynny: gofyniad cadwyn gyflenwi priodol ar gyfer ceisiadau pan ddarperir y ceisiadau hynny, a sicrhau bod pobl yn cyflawni'r hyn a nodwyd yn y ceisiadau hynny—felly, rheoli cytundebau'r ceisiadau hynny, yn fyw, yn hytrach na dim ond ysgrifennu cais da na fydd yn debyg o gwbl i'r hyn a fydd yn digwydd. Felly, ar y pwynt hwnnw, nid oes unrhyw anghytundeb a byddwn yn parhau i hyrwyddo hynny mor gadarn â phosibl.  

14:05

Ym mis Ionawr, seliodd Ystad y Goron gytundebau nodedig ar gyfer ynni gwynt ar y môr i bweru 7 miliwn o gartrefi. Mae un o'r chwe phrosiect gwynt ar y môr wedi'i leoli yng ngogledd Cymru. Yn sgil y cytundeb daeth rownd 4 o brydles gwynt ar y môr Ystad y Goron i ben, gan ychwanegu cryfder pellach i gyflawniad y sector gwynt ar y môr yn arwain trawsnewidiad y DU i ynni sero net. Nawr, ar ôl cyfarfod â swyddog, gwn fod eu ffocws ar gyflawni, ac mae ganddynt hanes o lesio gwely'r môr yn llwyddiannus, i'r graddau fod y DU bellach yn ail farchnad fwyaf llwyddiannus y byd erbyn hyn. Diolch yn rhannol, wrth gwrs, i Ystad y Goron, mae Cymru bellach ar fin dod yn arweinydd byd-eang yn y sector. Yn hytrach na pheryglu hynny drwy achosi ansicrwydd drwy ddatganoli, onid ydych yn cytuno gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd y dylem barhau i weithio gydag Ystad y Goron, gan gynnwys manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd cyflogaeth ar draws y gadwyn gyflenwi bwysig iawn hon? 

Nid wyf yn credu bod galw am ddatganoli Ystad y Goron yn tynnu oddi ar y cyfleoedd economaidd hynny nac yn eu rhoi mewn unrhyw berygl o gwbl. Wrth gwrs, mae Ystad y Goron wedi'i datganoli yn yr Alban. Rwy'n credu y gallwn ddysgu o'r hyn y mae'r Alban wedi'i wneud, ac rwy'n obeithiol y gallwn wneud gwaith gwell fyth ar ddarparu mwy o fudd economaidd. Yn sicr, dyna yw fy uchelgais: gwneud y gorau sy'n bosibl er mwyn cyflawni'r budd economaidd mwyaf.

Mae'n newyddion da wrth gwrs fod Ystad y Goron wedi rhoi mwy o arwydd o'r cyflenwad yn y dyfodol, gan gynnwys y prosiect 1.5 GW Mona hynod arwyddocaol oddi ar arfordir gogledd Cymru. Ond mae'r hyn rwyf fi a'r Gweinidog newid hinsawdd yn ei ddweud heddiw yn gwbl gyson. Wrth gwrs y byddwn yn parhau i weithio gydag Ystad y Goron i fanteisio i'r eithaf ar y budd economaidd a'r gwerth i Gymru o ddatblygiadau Ystad y Goron i wely'r môr yng Nghymru, a byddwn yn parhau ar yr un pryd i alw am fwy o ddatganoli. Nid wyf yn gweld bod unrhyw anghysondeb o gwbl yn hynny, a gallaf ddweud wrthych, o safbwynt y diwydiant, nad oes ganddynt hwy unrhyw broblem gyda hynny chwaith.   

Taliadau Defnyddiwr Ffyrdd

6. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd taliadau defnyddwyr ffyrdd yn ei chael ar yr economi?  OQ59394

Diolch am y cwestiwn, a nodaf ei fod yn debyg i'r cwestiynau a ofynnwyd gan Paul Davies. Yn unol â 'Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru' a'n cynllun cyflawni ar gyfer trafnidiaeth, byddwn yn ystyried cefnogi systemau taliadau teg a chytbwys ar gyfer defnyddwyr ffyrdd sy'n sicrhau manteision i'n cymdeithas, ein hamgylchedd a'n heconomi.

Gwych, diolch yn fawr, Weinidog. Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth eich cyd-aelodau Llafur yng Nghyngor Caerdydd ddatgelu cynlluniau i osod tâl atal tagfeydd yn y ddinas. Daw hyn wythnosau'n unig ar ôl datgelu syniad gwrth-yrwyr eich Llywodraeth i ddechrau codi tâl ar bobl am yrru ar hyd yr M4 a'r A470. Afraid dweud, mae llawer o drigolion yn anhapus iawn ynglŷn â'r cynlluniau ar gyfer taliadau defnyddwyr ffyrdd am nifer o resymau, ac un rheswm yn benodol yw'r gost ychwanegol y bydd yn ei gosod ar drigolion sydd eisoes dan bwysau aruthrol gyda chostau byw.

Bydd gwasgu mwy o arian allan o bobl yn golygu bod ganddynt lai o arian yn eu pocedi i'w wario mewn siopau, caffis a bwytai, ac mae pob un o'r rheini'n chwarae rhan ganolog yn yr economi. Mynegodd un preswylydd wrthyf eu bod yn ofni'n fawr y bydd taliadau ffyrdd yn lladd canol ein trefi ac yn gwthio pobl i barciau manwerthu y tu allan i'r dref. Mae trafnidiaeth gyhoeddus mor wael yng Nghymru, a gyrru, yn aml, yw'r unig opsiwn mewn gwirionedd. Felly, Weinidog, a ydych yn rhannu fy mhryderon, a phryderon nifer fawr o bobl eraill, y gallai'r cynigion hyn, yn enwedig yn yr hinsawdd bresennol, gael effaith niweidiol ddifrifol, nid yn unig ar gyllid trigolion, ond hefyd ar ein busnesau gweithgar? A wnewch chi alw ar eich cyd-aelodau yn Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd i ailfeddwl o ddifrif am y cynlluniau hyn? 

Wel, wrth gwrs, bydd yr Aelod wedi clywed am y gost i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i dagfeydd. Mae'n broblem yn fy etholaeth i; mae'n broblem mewn rhannau eraill o Gymru hefyd. Rwy'n credu ei bod yn od dweud ar y naill law eich bod o blaid Deddf aer glân, ac ar y llaw arall eich bod yn mynnu bod tagfeydd yn parhau heb unrhyw ymateb effeithiol iddynt.

Yn ogystal â'r gost i iechyd y cyhoedd, mae yna gost economaidd i dagfeydd. Diau eich bod wedi nodi—rwy'n siŵr nad y penawdau'n unig a ddarllenoch chi—yn yr adroddiad a ddarparwyd gan Gyngor Caerdydd, yn y dystiolaeth allanol, fod yna gost o £109 miliwn yn 2019—cost economaidd tagfeydd yn y ddinas. Mae angen gwneud rhywbeth am dagfeydd yn nifer o'r trefi a'r dinasoedd rydym yn byw ynddynt. Mae Cyngor Caerdydd yn edrych ar gynigion ac maent yn ystyried ymgynghori ar gynigion a allai gynnwys codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd, ac mae hynny'n beth iawn i'w wneud. Yna bydd gennym gynnig wedi'i ddiffinio'n iawn y gallai'r cyngor fod eisiau ei ddatblygu. Yna, bydd yna sgwrs bellach gyda Llywodraeth Cymru. 

Rwyf hefyd yn credu ei bod hi'n werth atgoffa ein hunain nad yw'r economi mewn rhannau eraill o'r byd a rhannau eraill o Brydain wedi dod i ben ar ôl cyflwyno elfen o godi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd. Fel y clywsoch chi, efallai, roedd rhywun o'r enw Boris Johnson yn Faer Llundain ac ni ddaeth â thaliadau defnyddwyr ffyrdd i ben pan oedd yn faer. Ni ddaeth economi Llundain i ben o'i herwydd ac erbyn hyn mae manteision diffiniadwy a dealledig i iechyd y cyhoedd, ac mae trafnidiaeth gyhoeddus yn gweithio'n fwy effeithiol byth. Felly, mae yna her o ran deall y math o gamau rydym yn barod i'w cymryd, deall beth fydd yr effaith ar yr economi, deall beth fydd yr effaith ar y gymdeithas ehangach, ac iechyd y cyhoedd, ac mae honno'n sgwrs rydym yn edrych ymlaen at ei chael gyda Chyngor Caerdydd. Maent yn gwneud y peth cywir drwy gael ymgynghoriad, a thrwy fod yn glir iawn mai'r hyn y maent yn ceisio ei wneud yw gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn gyntaf, i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddinasyddion yn y ddinas a'r rhai sy'n cymudo i mewn ac allan o'r ddinas at ddibenion cymdeithasol, ac economaidd yn wir.

14:10
Hysbysebu a Noddi Gamblo

7. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o briodoldeb hysbysebu a noddi gamblo ym myd chwaraeon Cymru? OQ59387

Diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn hwnnw. Mater i Lywodraeth y DU yw nawdd y diwydiant gamblo ym myd chwaraeon wrth gwrs. Yn ystod adolygiad Llywodraeth y DU o Ddeddf Gamblo 2005, roeddem wedi dadlau'n gryf dros gryfhau'r fframwaith deddfwriaethol, sicrhau cyfyngiadau cadarn ar hysbysebion gamblo yn ogystal â sicrhau mwy o amddiffyniadau rhag niwed sy'n gysylltiedig â gamblo ar gyfer pobl fregus.

Mae hynny'n dda i'w glywed. Edrychwch, nid wyf yn biwritan. Rwyf wedi cael ambell fet fach fy hun, yn fwyaf diweddar 10 punt ar Gymru i guro Ffrainc yn y chwe gwlad ym mis Mawrth. Ni ddaeth unrhyw ddaioni ohoni. [Chwerthin.]

Ond mae'n mynd yn fwyfwy hawdd gamblo y dyddiau hyn, mae'n fwy deniadol, mae'n fwy caethiwus i'w chwarae—yn enwedig ar-lein—ac mae adroddiadau wedi dangos diffyg diwydrwydd gan weithredwyr, gwiriadau fforddiadwyedd yn cael eu hosgoi, a bod y terfynau ar fetiau, sydd eisoes yn rhy uchel, yn cael eu hosgoi neu eu hanwybyddu hyd yn oed, fel y gwelsom mewn adroddiadau diweddar, a dirwyon hyd yn oed.

Ac rydym yn gwybod fod pobl yn dioddef yn sgil gamblo: mae Cyngor ar Bopeth wedi rhybuddio'r Pwyllgor Technoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn San Steffan am gylch gwenwynig rhwng gamblo ar-lein a bregusrwydd ariannol cynyddol, ac mae mwy na thraean o gynghorwyr Cyngor ar Bopeth yn dweud eu bod yn ymwybodol o bobl yn gamblo i wella eu sefyllfa ariannol. Ac fe wyddom o ffigurau iechyd cyhoeddus ledled y DU fod cannoedd o bobl yn cyflawni hunanladdiad bob blwyddyn oherwydd dyledion gamblo, ac mae eu teuluoedd a'u cymunedau hefyd yn dioddef y sgil-effeithiau.

Felly, a gaf fi ofyn: ynghylch pêl-droed yn enwedig, oherwydd mae chwaraewyr pêl-droed yn eiconau chwaraeon yng Nghymru, mae'r Uwch Gynghrair wedi dweud—ac rydych yn iawn, mater i Lywodraeth y DU yw hwn—y bydd y noddi crysau'n dod i ben erbyn diwedd 2025-26, ond gall yr hysbysebion baner barhau; beth allwn ni ei wneud yma yng Nghymru o ran eich ymgysylltiad, nid yn unig â chlybiau pêl-droed ar bob lefel, ond pob camp, i geisio gweithio gyda hwy i roi diwedd ar y berthynas afiach hon, y caethiwed hwn i nawdd gamblo yng Nghymru ac ar draws y DU?

Rwy'n credu bod Huw Irranca-Davies yn gwneud pwyntiau pwysig iawn, ac wrth gwrs mae gamblo ac effaith gamblo yn cyffwrdd â llawer o bortffolios gweinidogol. Bydd fy nghyd-Aelod yma, y Dirprwy Weinidog, yn edrych arno o fewn ei phortffolio hithau hefyd. Mae effaith nawdd a hysbysebu gamblo chwaraeon ar gymdeithas yn faes rydym yn annog Llywodraeth y DU yn gryf i fynd i'r afael ag ef a'i gryfhau ar frys fel rhan o'u hadolygiad o Ddeddf Gamblo 2005 yr ydym yn debygol o'i weld, rwy'n credu, erbyn diwedd yr wythnos hon. Bydd yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd yr wythnos hon.

Ac fel y nodoch chi'n gwbl briodol, rydym yn gwybod bod plant ac oedolion iau yn fwy tebygol o gamblo ar-lein ac felly hwy sydd fwyaf tebygol o fod yn agored i hysbysebion gamblo a welir ar-lein. Mae amlygrwydd hysbysebion yn allweddol felly i bennu'r math o berthynas sydd gan genedlaethau'r dyfodol gyda gamblo. Ond fel y bydd cyd-Aelodau'n gwybod, rwy'n gefnogwr pêl-droed enfawr, ac rwyf wedi gweld fy hun sut mae pêl-droed yn enwedig wedi'i gysylltu'n agos iawn â nawdd gamblo, oherwydd gall gweithredwyr gamblo gynnig symiau enfawr o arian i glybiau pêl-droed mewn nawdd o gymharu ag unrhyw gwmnïau eraill sy'n cynnig nawdd, ac rwy'n ymwybodol fod ymgyrchwyr dros ddiwygio gamblo yn dadlau dros wahardd pob nawdd hysbysebu chwaraeon, ac fel chi, rwy'n ymwybodol fod clybiau'r Uwch Gynghrair wedi cytuno gyda'i gilydd i dynnu nawdd gamblo o flaen eu crysau ar ddiwrnod gêm erbyn diwedd tymor 2026, ac er bod hynny wrth gwrs yn gam i'w groesawu, o'm safbwynt i, byddwn yn annog pob clwb pêl droed i wneud hyn, nid clybiau'r Uwch Gynghrair yn unig, ond holl glybiau cynghrair Cymru hefyd, a gwneud hynny'n gynt, yn enwedig ar gitiau pêl-droed plant, pobl iau a ieuenctid. Nid oes unrhyw reswm i'r hysbysebion hynny fod ar eu dillad hwy hefyd. Felly, byddwn yn annog sefydliadau i gael gwared ar nawdd gamblo o bob rhan arall o gitiau chwaraeon hefyd, o hysbysebion baner, ac awgrymu bod clybiau chwaraeon yn edrych yn fanwl ar yr effaith ehangach y mae hysbysebu gamblo yn ei chael ar eu camp. 

14:15

A gaf fi gytuno'n llwyr â'ch sylwadau, Weinidog? Mae angen inni fynd i'r afael â'r bygythiad hwn i iechyd y cyhoedd. Rydym yn gwybod bod problemau gamblo wedi bod ar gynnydd yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae gormod o bobl agored i niwed yn syrthio'n ysglyfaeth i'r diwydiant gamblo a'r niwed y gall ei wneud. Yn amlwg, rwy'n derbyn mai San Steffan sydd â nifer o'r ysgogiadau i ymdrin â hysbysebu gamblo, ond mae yna faterion y gellir mynd i'r afael â hwy yma yng Nghymru, ac rwy'n gwybod, drwy weithio gyda'ch cyd-Aelodau, y byddwn yn hoffi gweld camau gweithredu, er enghraifft, ar y system gynllunio, sy'n caniatáu canolfannau gamblo lluosog ar ein stryd fawr, gyda siopau betio ar ein strydoedd mawr; mae angen camau gweithredu yn ein system addysg i wneud yn siŵr fod pobl ifanc yn cael eu rhybuddio am y niwed, nid yn unig o gamblo ar chwaraeon ond o hapchwarae, sy'n dod yn broblem fawr; ac wrth gwrs mae angen mwy o fuddsoddiad yn ein gwasanaethau dibyniaeth, ar hyn yn enwedig. Felly, a gaf fi ofyn pa waith cydweithredol sy'n mynd rhagddo yn Llywodraeth Cymru, o gofio bod hwn yn gyfrifoldeb mor wahanol rhwng sawl portffolio, i wneud yn siŵr fod y pethau hynny yn enwedig yn cael sylw gyda'r pwerau sydd gennych eisoes?

A gaf fi ddiolch i Darren Millar am y cwestiwn hwnnw a'r pwyntiau dilys iawn y mae'n eu gwneud yn ei sylwadau? Rwy'n credu ei bod yn werth atgoffa ein hunain, mae'n debyg, fod gennym dasglu Llywodraeth Cymru, grŵp gorchwyl a gorffen, a sefydlwyd i edrych ar niwed sy'n gysylltiedig â gamblo, ac y bydd y gwaith hwnnw'n bwydo i mewn i ddatblygu'r cynigion ynglŷn â sut rydym yn ymateb i bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan niwed sy'n gysylltiedig â gamblo. Daeth gwaith y grŵp gorchwyl a gorffen i ben yn 2022, ac un o'r pedwar argymhelliad allweddol a wnaeth oedd y byddai'n parhau i ddadlau dros ddiwygio Deddf Gamblo 2005 am yr holl resymau rydych wedi'u hamlinellu. Nid yw'r rhan fwyaf o'r problemau a wynebwn gyda niwed sy'n gysylltiedig â gamblo o fewn ein meysydd cymhwysedd, ac mae'n rhaid inni edrych ar gefnogi system yn y dyfodol sy'n mabwysiadu dull iechyd cyhoeddus ar lefel poblogaeth, a byddaf yn sicr yn cael y sgwrs honno gyda fy nghyd-Aelod Lynne Neagle, ac mae angen inni edrych arno ar draws portffolios gweinidogol eraill hefyd, lle mae gennym y diddordeb trawsbynciol hwnnw.

Y Diwydiant Twristiaeth

8. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gryfhau'r diwydiant twristiaeth yn etholaeth Mynwy o safbwynt economaidd? OQ59399

Diolch i Peter Fox am y cwestiwn hwnnw. Mae Croeso Cymru wedi buddsoddi mewn asedau rhanbarthol, fel abaty Tyndyrn, ac mae'r rhanbarth yn elwa o'n marchnata drwy gydol y flwyddyn, sy'n amlygu cynnig unigryw a safonol sir Fynwy i ymwelwyr.

Diolch. Mae gan Gymru nifer o gryfderau economaidd, fel y gwyddoch, yn enwedig y diwydiant twristiaeth. Mae'n cyflogi dros 10 y cant o'r boblogaeth sy'n gweithio. Ond yr wythnos diwethaf, dangosodd ymchwil fod Cymru yn un o'r ddau ranbarth uchaf yn y DU i brofi'r gostyngiad mwyaf mewn cyflogaeth yn ogystal â'r gyfradd gyflogaeth isaf, ar ôl Gogledd Iwerddon yn unig. Mae'r canfyddiad pryderus hwn yn ein hatgoffa bod busnesau angen mwy o gefnogaeth yn hytrach na chael eu dal yn ôl gan rwystrau. Ac rwy'n gwybod fy mod am siarad am faes rydych yn awyddus i beidio â sôn amdano. Un rhwystr posibl y maent yn parhau i leisio pryderon yn ei gylch yw eich treth dwristiaeth arfaethedig, ac maent wedi rhybuddio y bydd yn taro'r swyddi a'r busnesau hynny, yn enwedig yn fy etholaeth i ym Mynwy ac etholaethau eraill ar y ffin, oherwydd bydd pobl yn dewis peidio ag aros dros nos ac yn dewis ymweld am y dydd yn lle hynny. Weinidog, pa gyngor fyddech chi'n ei roi i fusnesau sy'n teimlo dan gymaint o fygythiad yn sgil yr hyn y mae eich Llywodraeth yn ei argymell?

Wel, a gaf fi ddiolch i Peter Fox am y cwestiwn atodol hwnnw? Ac eto, fel y dywedais yn fy ateb i Altaf, nid wyf yn rhannu eich safbwynt ynghylch yr effaith y byddai ardoll ymwelwyr yn ei chael ar dwristiaeth. Roedd yna ymgynghoriad sylweddol ar yr ardoll ymwelwyr. Mae'r sector ei hun yn helpu i lywio a chynllunio'r ardoll honno a sicrhau ei bod yn gweithio i Gymru. Mae'n ardoll a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i godi refeniw, mae'n ymwneud ag ymwelwyr yn cefnogi cyrchfannau, maent yn mwynhau gwneud cyfraniad bach i'r gymuned, ac yn y blaen. Eto, fel y dywedais yn fy ymateb i Altaf, roedd hyn yn elfen allweddol o'r maniffesto Llafur yn etholiad 2021. Mae'n elfen allweddol o'r cytundeb cydweithio sydd gennym gyda Phlaid Cymru. Rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith o weithredu ymrwymiad y maniffesto, gan mai dyna'r peth iawn i'w wneud.

Nid ydym wedi cael ein hargyhoeddi gan y dadleuon ei fod yn rhywbeth sy'n debygol o effeithio'n andwyol ar yr economi dwristiaeth. Nid oes unrhyw dystiolaeth o unrhyw wlad arall yn y byd sydd ag ardoll ymwelwyr i ddangos bod hynny'n cael effaith sylweddol. Roeddwn i dramor ar wyliau fy hun dros y Pasg—cefais amser bendigedig—ac fe delais ardoll dwristiaeth yn y dinasoedd yr ymwelais â hwy, ac ni fyddai'n fy rhwystro rhag ymweld â'r ardal honno eto. Os oes rhywle rydych chi eisiau ymweld ag ef, fe wnewch chi fynd. Ac rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig am hyn i gyd yw y bydd yr ardoll ymwelwyr yn cael ei chynllunio gyda'r sector i ddatblygu ardoll a fydd yn briodol ar gyfer y math o lety y mae pobl yn aros ynddo a gwerth y llety hwnnw, ac yn y blaen. Felly, byddwn yn parhau i weithio gyda'r sector. Byddwn yn parhau i ddatblygu'r ardoll, ac rwy'n argyhoeddedig y bydd o fudd i ardaloedd awdurdodau lleol lle mae twristiaeth yn ffactor sylweddol yn yr economi i'w helpu i ddatblygu eu cynnig twristiaeth yn yr ardaloedd hynny.

14:20
2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac i'w ofyn gan Hefin David.

Unigrwydd ac Ynysigrwydd Cymdeithasol

1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol? OQ59406

Diolch, Hefin. Roedd cyhoeddi ein strategaeth yn gam pwysig tuag at adeiladu cysylltiadau cymdeithasol cryfach yng Nghymru. Rydym yn parhau i wneud cynnydd da gyda'r gwaith o weithredu'r strategaeth ac rydym wedi gweithio gydag aelodau o'n grŵp cynghori ar unigrwydd ac ynysigrwydd i sicrhau darpariaeth o ansawdd ac i ystyried beth arall y gellir ei wneud.

Diolch am eich ateb.

Ddydd Gwener, 31 Mawrth, ymwelais â Chanolfan Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned, sef hen ysbyty'r glowyr, wrth gwrs, sydd wedi ei droi'n ganolfan gymunedol drwy waith Katherine Hughes a'i thîm, ac mae bellach yn gyfleuster cymunedol lleol. Yn y cyfarfod hwnnw, soniodd Katherine am 'Cysylltu cymunedau', strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol a meithrin cysylltiadau cymdeithasol cryfach. Mae'r ganolfan yn darparu dosbarthiadau a gweithgareddau i bobl sydd angen y gweithgareddau hynny ac yn gwneud gwaith enfawr ar fynd i'r afael ag unigrwydd cymdeithasol, ond cyllid yn y tymor byr iawn yn unig yw'r cyllid y mae'n ei gael, ac felly mae'n ei gweld hi'n anodd cynnal staff, ac mae'n ansicr a oes modd darparu'r ddarpariaeth honno yn y flwyddyn sydd i ddod. Er mwyn sicrhau bod cyllid digonol ar gael mewn pryd, mae'r ganolfan yn teimlo bod angen i'r gefnogaeth fod yn fwy cynaliadwy a bod angen ei hariannu ar sail fwy hirdymor. Felly, a wnaiff y Dirprwy Weinidog drafod gyda'i chyd-Aelodau, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Gweinidog cyllid, i weld sut y gellir hwyluso hyn, fel bod modd cynnal y gwasanaethau gwirfoddol gwerthfawr hyn?

Diolch am y cwestiwn atodol, Hefin. Byddaf yn sicr yn mynd ar drywydd hynny, fel yr awgrymwch. Rwy'n falch iawn fod y ganolfan wedi cael arian o'r gronfa unigrwydd ac ynysigrwydd. Ac yn wir, rwy'n credu ei bod wedi cael cymorth tuag at glwb darllen i blant Wcrainaidd a phrosiect Gobaith Wcráin, sy'n ardderchog, ac mae hefyd wedi derbyn cyllid canolfannau clyd a'r gronfa cymorth i aelwydydd. Felly, hoffwn ddiolch iddynt am yr hyn y maent yn ei wneud. Mae'n amlwg eu bod yn gryfder enfawr yn y gymuned.

Diben y gronfa unigrwydd ac ynysigrwydd gwerth £1.5 miliwn yw adeiladu gallu a chynaliadwyedd sefydliadau gwirfoddol a chymunedol rheng flaen ar lawr gwlad fel Canolfan Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned. Cronfa dair blynedd yw hon, felly nid yw'n arian tymor byr yn yr ystyr nad am flwyddyn yn unig y caiff ei ddarparu—mae'n gronfa dair blynedd. Rhoddwyd arian i awdurdodau lleol a chynghorau gwirfoddol cymunedol sy'n gweithio mewn partneriaeth i'w ddosbarthu i sefydliadau cymunedol yn eu hardaloedd. Ac rwy'n gwybod bod galw cynyddol go iawn wedi bod am wasanaethau gwirfoddol ers y pandemig ac yn ystod yr argyfwng costau byw, felly rwy'n gwerthfawrogi'r hyn y maent yn ei wneud yn fawr. Yn ogystal, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw'r canolfannau clyd y maent hefyd yn eu darparu. Felly, rwy'n cydnabod yr alwad i sicrhau bod cyllid y sector gwirfoddol ar sail fwy cynaliadwy a hirdymor, a phan allwn wneud hynny, rydym yn darparu cyllid tair blynedd, ond fe af ar drywydd y pethau penodol a nodwyd gennych.

Weinidog, un o'r pethau sy'n cyfrannu fwyaf at unigrwydd ac ynysigrwydd i bobl hŷn, ar wahân i'r pandemig, yw'r cynnydd a welwyd gyda digidoleiddio cymdeithas. Wrth i fwyfwy o wasanaethau symud ar-lein, ac wrth i wasanaethau ffisegol gael eu hawtomeiddio, mae i lawer o bobl hŷn mae rhyngweithio rhwng pobl wedi lleihau'n sylweddol. Yn amlwg, ni all Llywodraeth Cymru droi'r cloc yn ôl i fyd wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, mae angen inni edrych ar yr effaith ar iechyd a llesiant pobl hŷn. Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gydag awdurdodau lleol a'r trydydd sector am wella cyfleoedd cymdeithasu i'r rhai sy'n dioddef unigrwydd ac ynysigrwydd? Gwn eich bod wedi siarad am rai o'r rhain; os oes rhywbeth arall, efallai y gallech roi gwybod i ni.

14:25

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw. Rydym wedi trafod gydag awdurdodau lleol. Un o ganlyniadau gofidus y pandemig oedd bod llawer o weithgareddau lleol, er enghraifft lle mae gennych gyswllt wyneb yn wyneb, wedi dod i ben dros dro, ac nid yw rhai ohonynt wedi ailagor ers hynny, felly rydym wedi cael llawer o drafod ac wedi annog awdurdodau lleol i geisio agor y cyfleusterau hynny. Rwyf wedi ymwneud yn fynych â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, sy'n pryderu'n fawr am ddatblygiad digidoleiddio, lle bydd yn golygu na fydd unrhyw gyfathrebu wyneb yn wyneb, sydd mor bwysig i bobl, ac yn enwedig i rai pobl oedrannus. Felly, rydym yn bendant yn ceisio sicrhau, yn ogystal â digidoleiddio, fod yna fodd o gyfathrebu wyneb yn wyneb neu dros y ffôn neu'n fwy personol. Rwy'n derbyn y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn llwyr, ac mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn ymwybodol iawn ohono.

Ysbyty Athrofaol y Faenor

2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd aros yn adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Athrofaol y Faenor? OQ59405

Nid wyf fi, y bwrdd iechyd, na'r cyhoedd yn fodlon gyda perfformiad adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Athrofaol y Faenor. Mae gan y bwrdd iechyd gynllun brys ar gyfer gwella gofal brys, cynllun sydd wedi'i gefnogi gan gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n gweithio'n agos gyda phartneriaid i sicrhau canlyniadau a phrofiadau gwell ar safle'r Faenor.

Diolch. Rwy'n falch o glywed hynny. Yn anffodus, bu'n rhaid imi fynd i'r adran ddamweiniau ac achosion brys ddwywaith yr wythnos diwethaf, yn Ysbyty Athrofaol y Faenor yn fy rhanbarth. Bu'n rhaid i mi ac eraill aros am 17¾ awr, i ddim ond gweld meddyg—17¾ awr. Gadewch imi nodi nawr fod yr holl staff, yn gwbl ardderchog, yn broffesiynol ac yn hyfryd pan fyddech yn eu gweld, ond nid yw'r adran ddamweiniau ac achosion brys yn ysbyty'r Faenor yn addas i'r diben mewn unrhyw fodd. Nid oedd y rheolaeth yn iawn. Nid oedd pethau'n llifo. Siaradais â pharafeddyg y tu allan. Roedd y 21 ambiwlans y tu allan am y rhan fwyaf o'r amser yr oeddwn i yno. Siaradais ag un o'r parafeddygon a ddywedodd fod pobl yn cael eu gweld o fewn awr yn ysbyty athrofaol Caerdydd. Yn ysbyty'r Faenor, roedd cleifion yn aros am wyth i 10 awr. Mae rhywbeth o'i le yno. Mae'n rhaid gwneud rhywbeth ynglŷn â hyn. Mae hwnnw'n wahaniaeth amlwg. Ai'r rheswm am hyn yw nad oedd yr adran ddamweiniau ac achosion brys yn ysbyty'r Faenor i fod yn adran ddamweiniau ac achosion brys? Fe'i pennwyd ar gyfer gofal critigol. Fel mae'n digwydd, yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys gyda fi ar y pryd, roedd yna ddau gyn aelod cabinet dros ofal cymdeithasol ar Gyngor Sir Fynwy, y ddau wedi'u syfrdanu a'u brawychu gan y golygfeydd a welsant. Hyd at ddiwedd y cam datblygu ar gyfer ysbyty'r Faenor, roedd yr ardal honno i fod ar gyfer gofal critigol yn unig. Nid yw'n addas i'r diben ar gyfer adran ddamweiniau ac achosion brys. Mae'n llawer rhy fach. Nid oedd unrhyw fwyd a diod. Nid oedd ei lleoliad yn yr ysbyty'n iawn. Nid oedd dim ohono'n addas ar gyfer adran ddamweiniau ac achosion brys. Roedd yno gleifion a oedd yn gorfod sefyll ar eu traed yn llewygu. Roedd yn rhaid i gleifion eraill guro ar ddrysau i gael cymorth. Nid oedd unrhyw ofal yn ystod yr holl amser yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys. Fe benderfynodd gŵr 82 oed wrth fy ymyl â thorgest yn gwthio allan ohono fynd adref ar ôl aros am 14 awr.

Fy ail drip: 13 awr. Mae'n ddrwg gennyf, mae fy amser ar ben. Tair awr ar ddeg yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys i weld meddyg. Yna cefais fy symud i ofal argyfwng yr un diwrnod, a oedd yn wych, ond roedd tri o bobl yno ar yr ochr arall i'r ysbyty—

Pam nad oedd hwnnw'n cael ei ddefnyddio i leddfu'r baich ar yr adran ddamweiniau ac achosion brys, Weinidog? Ac mae angen i'r Llywodraeth fynd i'r afael â'r sefyllfa hon. Pa gamau brys y mae eich Llywodraeth a bwrdd iechyd Aneurin Bevan yn eu cymryd i sicrhau nad yw golygfeydd fel y rhai a welais i ac eraill yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys yn ysbyty'r Faenor ddoe yn cael eu hailadrodd?

Wel, diolch yn fawr. Yn amlwg, cyfrifoldeb bwrdd iechyd Aneurin Bevan yw gwneud i hyn weithio. Ers i'r adran ddamweiniau ac achosion brys gael ei chreu, yn amlwg, yr hyn a welsom—y gwahaniaeth rhwng pan ddigwyddodd y cynllunio a'r hyn sy'n digwydd nawr—yw cynnydd enfawr yn y galw ar hyd a lled Cymru. Rydym wedi ceisio cefnogi newidiadau yn ysbyty'r Faenor, gan gynnwys £3.5 miliwn o gyfalaf, sydd wedi eu galluogi i sefydlu gwasanaeth gofal argyfwng yr un diwrnod. Rwy'n credu eu bod yn dal i gael problemau cychwynnol gyda hynny. Yn amlwg, mae angen iddynt ddatrys sut i ddefnyddio hwnnw'n well. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod bron i dri chwarter y cleifion sy'n mynychu'r adran ddamweiniau ac achosion brys yn ysbyty'r Faenor yn treulio llai na phedair awr mewn adrannau. Mae hynny—[Torri ar draws.] Wel, roedd hynny'n wir ym mis Mawrth. Ffeithiau yw'r rhain. [Torri ar draws.] Mae—[Torri ar draws.] Ffeithiau yw'r rhain, felly ni allwch anghytuno â'r ffeithiau. Gallaf ddweud wrthych hefyd fod Aneurin Bevan, rwy'n credu, yn bwriadu cyflwyno achos dros gyllid cyfalaf er mwyn galluogi rhagor o waith adeiladu i ymestyn yr adran ddamweiniau ac achosion brys, ac rydym yn disgwyl i'r cais hwnnw ein cyrraedd yn yr hydref.

14:30
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Llefarwyr y pleidiau nawr. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.

Diolch, Lywydd. Os yw GIG Cymru sy'n cael ei redeg gan Lafur yn weithredol, fel y dywedodd Prif Weinidog Cymru ddoe, pam y dywedodd cadeirydd Cymdeithas Feddygol Prydain nad oedd yn weithredol?

I fod yn hollol onest gyda chi, nid wyf yn gwybod pam y gwnaeth hi'r sylwadau hynny. Mae'n fy synnu'n fawr y gallai cadeirydd y BMA ddweud y fath beth a hithau'n ymwybodol fod 2 filiwn o gysylltiadau'r mis yn digwydd mewn poblogaeth o 3.1 miliwn o bobl. Rydym wedi ymrwymo i wario dros £1 biliwn ychwanegol yn ystod tymor y Senedd hon i helpu i gael y GIG yn ôl ar ei draed ar ôl un o'r cyfnodau mwyaf trawmatig ac anodd yn ystod y pandemig COVID. Rydym yn gweld gwelliant sylweddol mewn amseroedd aros; nid ydynt mor gyflym ag y byddem yn ei ddymuno, ond mae ein rhestrau aros yn lleihau, er eu bod yn tyfu yn Lloegr. Felly, mae sylwadau cadeirydd y BMA yn peri penbleth i mi. Rwy'n siomedig iawn yn eu cylch a dweud y gwir, ac yn amlwg, mae'n amser sensitif i bawb.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n tybio mai fy nadansoddiad i fyddai fod gan weithwyr iechyd proffesiynol, fel cadeirydd y BMA, farn wahanol iawn i chi ynglŷn â sut mae GIG Cymru yn perfformio. Os ydych chi eisiau datrys problem, y peth cyntaf y mae'n rhaid ichi ei wneud yw derbyn bod yna broblem yn y lle cyntaf. Mae'r ystadegau ar gyfer mis Chwefror yn dangos i ni fod gennym bron i 40,000 o bobl yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth. Pan gyhoeddir ffigyrau mis Mawrth, rwy'n amau'n fawr y byddant i lawr i sero, a fydd yn golygu fod Llywodraeth Cymru wedi methu cyrraedd ei tharged ei hun wrth gwrs. Yn yr Alban ac yn Lloegr, gwyddom fod arosiadau dwy flynedd wedi cael eu dileu fwy neu lai yr haf diwethaf. Ni ddylai pobl sy'n aml mewn poen neu'n methu byw'r bywyd y maent eisiau ei fyw, fod yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth. Byddent yn gofyn, yn briodol, 'Pam ei bod yn wir na fyddwn yn y sefyllfa hon pe bawn i'n byw yn yr Alban neu Loegr?' A gaf fi ofyn, Weinidog, pryd fyddwch chi'n cyhoeddi eich targed newydd? Dywedwch wrthym pryd y credwch y bydd yr arosiadau dwy flynedd yn cael eu dileu yng Nghymru. Pa hyder y gall y degau o filoedd o bobl sy'n aros ei gael yn yr ymrwymiadau a wnewch?

Fel rwy'n dweud, mae'r niferoedd sy'n aros am driniaeth wedi gostwng yng Nghymru am y pumed mis yn olynol, tra bod y niferoedd sy'n aros yn Lloegr yn codi, ac wedi bod yn codi am y pum mis diwethaf. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig nodi hefyd, yng Nghymru, ein bod ni'n cyfri diagnosteg a therapi, ac nad ydynt yn gwneud hynny yn Lloegr. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych mewn gwirionedd yw y bydd y rhan fwyaf o arbenigeddau ar sero erbyn y dyddiad targed, ond ceir saith maes arbenigol lle rydym yn gweld problemau go iawn wrth geisio lleihau'r rhestrau aros, a dyna pam fy mod yn cael uwchgyfarfodydd rheolaidd sy'n canolbwyntio ar rai o'r meysydd hynny, gan gynnwys orthopaedeg er enghraifft, y gwyddom ei fod yn heriol iawn. Rwy'n siŵr eich bod wedi clywed rhywun o felin drafod iechyd yn dweud dros y penwythnos mai rhan o'r rheswm am hyn yw oherwydd bod dewisiadau gwahanol yn cael eu gwneud—i fod yn onest, nid y dewisiadau rwyf eisiau iddynt eu gwneud o reidrwydd bob amser—gyda'r byrddau iechyd. Oherwydd gofynnais iddynt flaenoriaethu'r arosiadau hiraf, ond yn amlwg, mae'n rhaid i glinigwyr wneud penderfyniadau am achosion brys, ac mae'r rheini'n mynd i flaen y ciw. Dyna pam, os edrychwch chi ar nifer y bobl, mae ein niferoedd ni'n gostwng, mae eu rhai hwy'n cynyddu, ond rydym yn gweld mwy o'r achosion brys. 

14:35

Rwy'n sicr yn derbyn bod gennych chi swydd anodd, Weinidog. Wrth gwrs, mae'r bwlch rhwng Cymru a gweddill y DU yn dal yn sylweddol gyda'r arosiadau dwy flynedd, ac nid oes modd gwadu hynny. Efallai'n wir ei bod yn iawn ac yn gywir—rwy'n falch fod yr arosiadau hynny'n lleihau—ond maent yn dal i fod yn sylweddol. Dyma syniad ar gyfer lleihau'r rhestrau aros—ac nid wyf yn mynd i sôn am hybiau llawfeddygol y tro hwn chwaith: gwneud mwy o lawdriniaethau a thriniaethau ar y penwythnos. Mae cleifion ddwywaith a hanner yn llai tebygol o gael eu rhyddhau ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul nag ar ddiwrnod o'r wythnos. Os caf ychwanegu, nid yw hyn ond yn cyfrannu at y sefyllfa sydd gennym gyda blocio gwelyau sy'n achosi cymaint o broblemau eraill o fewn GIG Cymru wrth gwrs. Mae'n dangos yn glir nad oes gennym wasanaeth saith diwrnod go iawn yn GIG Cymru, i'r graddau rydym ei angen. I glirio'r ôl-groniad o driniaethau, a'r arosiadau hir hynny'n arbennig, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog sicrhau bod mwy yn cael ei wneud ar y penwythnos fel bod cleifion yn cael y driniaeth sydd ei hangen arnynt pan fydd ei hangen arnynt? Wrth gwrs, bydd hynny yn y pen draw yn helpu i leihau'r rhestrau aros. 

Diolch yn fawr. Rwy'n gwybod bod yr Aelod yma ddoe ar gyfer y cyhoeddiad am ein strategaeth ddiagnostig newydd, ac ynddi nodwyd yn glir iawn ein bod yn bwriadu ehangu'r ffrâm amser pan all triniaeth ddiagnostig ddigwydd, i gynnwys oriau hirach yn ystod y dydd ac i gynnwys penwythnosau. Yn amlwg, os gwnawn hynny, mae'n rhaid inni ddod o hyd i arian ychwanegol i dalu pobl i wneud y gwaith hwnnw, ac fe fyddwch yn gwybod mai'r hyn a gawsom yw toriad mewn termau real i'n cyllideb eleni. Felly, nid yw'n hawdd dod o hyd i'r arian ychwanegol. Byddwn wrth fy modd yn gallu talu pobl i weithio mwy ar y penwythnosau, ond yn onest, mae'r sefyllfa ariannol yn hynod heriol ar hyn o bryd. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn falch iawn o nodi'r cyhoeddiad am yr hybiau llawfeddygol mewn perthynas â diagnosteg, ac mae'n bwysig pwysleisio pa mor hanfodol yw hynny i lwybr y rhestr aros, oherwydd mae angen rhyw fath o ddiagnosis ar 85 y cant o'r bobl sydd angen triniaeth. Felly, bydd cael llif cleifion ar hyd y llwybr hwnnw, a cheisio cael pobl i gael eu gweld mor gyflym ag y gallwch o ran diagnosteg, yn helpu i leihau'r rhestrau aros, ond yn hollbwysig, bydd yn arwain at ganlyniadau gwell i gleifion. 

Ers 2010, mae'r GIG wedi colli bron i 25,000 o welyau ar draws y DU. Yng Nghymru, oherwydd prinder gwelyau, mae uwch staff y GIG wedi cael cyngor gan Lywodraeth Cymru i ryddhau pobl sy'n ddigon iach i adael yr ysbyty. Gall y cyngor hwn ddod hyd yn oed os na fydd pecyn gofal yn ei le ar gyfer cleifion sy'n cael eu rhyddhau. Ymddengys hefyd nad oes fawr o ystyriaeth i'r goblygiadau y gallai hyn eu cael ar y sector gofal, sy'n dod o fewn fy mhortffolio i. Mae meddygon wedi rhybuddio y gallai'r canllawiau hyn ar ryddhau arwain at weld cleifion yn marw. Mae hyn yn dweud cyfrolau am y diffyg meddwl cydgysylltiedig ynglŷn â'r rhyngweithio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n un o'r rhesymau pam fod Plaid Cymru wedi mynd ar drywydd uno iechyd a gofal cymdeithasol ers amser maith. A allwch chi ddarparu diweddariad i ni, Ddirprwy Weinidog, am y grŵp arbenigol sydd i fod i ddarparu cynllun gweithredu erbyn diwedd y flwyddyn ar gyfer integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol? Diolch. 

Diolch yn fawr i Peredur am y cwestiwn. Mae'r grŵp arbenigol, fel y byddwch yn gwybod, wedi cyflwyno ei adroddiad erbyn hyn, ac rwy'n falch iawn o gael gweithio gyda Phlaid Cymru, fel rhan o'r cytundeb cydweithio, ar yr hyn rydym yn mynd i'w wneud o ganlyniad i'r grŵp arbenigol. Rydym yn ei wneud fesul cam. Y cam cyntaf fydd gweithredu swyddfa genedlaethol, fframwaith cenedlaethol, a rhoi'r blociau adeiladu yn eu lle a fydd yn y pen draw yn arwain at wasanaeth gofal cenedlaethol. Rwy'n cytuno'n llwyr â Peredur ei bod yn hanfodol fod iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio'n agos, ac mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau wedi bod yn gweithio gyda'n gilydd i geisio sicrhau ein bod yn gwneud y cydgysylltiad rhwng y ddau mor hawdd a chyn gynted ag sy'n bosibl. Mae gennym enghreifftiau da iawn o sut mae hynny wedi gweithio. 

Diolch. Mae'n dda clywed bod cynnydd yn cael ei wneud, felly diolch am y diweddariad. Un o'r pethau sy'n cyfrannu'n allweddol at oedi cyn rhyddhau i ofal yw'r nifer mawr o welyau sy'n cael eu defnyddio. Fel y soniais yn y cwestiwn blaenorol, mae hyn yn aml yn digwydd am nad yw'r sector gofal cymdeithasol yn gallu ymdopi â faint o gleifion sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty ac sy'n dal i fod angen cymorth gartref. Mae cleifion yn parhau i wynebu arosiadau hir, a gall hyd yn oed yr oedi lleiaf cyn rhyddhau i ofal arwain at ganlyniadau difrifol i'w gobaith o wella'n iawn. A all y Dirprwy Weinidog amlinellu cynllun Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd y sector gofal cymdeithasol yn cael ei gefnogi a'i wneud yn fwy cadarn i ymdopi â phwysau'r gaeaf a ddisgwylir eleni, gan ddysgu rhai o'r gwersi o'r gaeaf diwethaf?

14:40

Yn sicr. Roedd y gaeaf diwethaf yn anodd, ond fe wnaethom gydweithio'n agos iawn gyda'r pwyllgor gweithredu gofal, sef pwyllgor a oedd yn cynnwys pobl o awdurdodau lleol ac o'r byrddau iechyd—pobl allweddol yn gweithio gyda'i gilydd. Yr hyn a wnaethom oedd creu capasiti ychwanegol yn y system. Mewn gwirionedd, fe wnaethom greu 687 o welyau neu welyau cyfatebol—gwelyau gofal llai dwys neu becynnau gofal cymunedol—a gafodd effaith fawr ar y sefyllfa yn yr ysbytai. Rwy'n gwybod ei fod yn aeaf anodd, ond pe na baem wedi cydweithio mor wirioneddol wych rwy'n credu y byddai wedi bod yn llawer iawn gwaeth. Fe wnaethom hynny y gaeaf diwethaf, ac rydym yn gweithio nawr i baratoi ar gyfer y gaeaf nesaf. Mewn gwirionedd, bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud cyhoeddiad ym mis Mai, rwy'n meddwl, am rai o fanylion ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Yr hyn rydym eisiau ei wneud—nid yw'n rhywbeth newydd mewn gwirionedd—yw cefnogi a rhoi mwy o bwyslais ar gael help lleol yn y gymuned er mwyn sicrhau nad yw pobl yn mynd i'r ysbyty. Rydym am geisio atal pobl rhag mynd i'r ysbyty o gwbl a cheisio rhoi cefnogaeth yn y gymuned gyda thimau amlddisgyblaethol, iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio ar lawr gwlad, a chyda llawer o waith gyda gwirfoddolwyr. Byddwn yn cyhoeddi hynny ym mis Mai, ond rydym yn gweithio nawr er mwyn ceisio gwella'r sefyllfa y gaeaf nesaf. 

Hygyrchedd Safleoedd Ysbytai

3. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod safleoedd ysbytai yn Nwyrain De Cymru yn hygyrch i bawb? OQ59412

Dylai pobl claf sydd angen mynediad i ysbytai allu gwneud hynny. Nid yw'r NHS yn gwahaniaethu wrth ymdrin â chleifion, gan gynnwys pobl anabl, pobl hŷn, pobl fregus ac eraill. Mae gan yr NHS yng Nghymru ddyletswydd gyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau bod gwasanaethau yn hygyrch neu yn accessible i bawb.

Diolch yn fawr am yr ateb yna. 

Weinidog, un o'r prif ystyriaethau ar gyfer lleoli ysbyty newydd yw a yw'n hygyrch i bob claf, ac i staff ac ymwelwyr fel ei gilydd. Efallai fod ysbyty'r Faenor, ger Cwmbrân, yn ysbyty modern, ond mewn gwirionedd nid yw'n hygyrch iawn i lawer o'r cymunedau y mae i fod i'w gwasanaethu. Gwelsom hyn pan wnaeth fy nghyd-aelodau o Blaid Cymru Steve Skivens a'r Cynghorydd Charlotte Bishop, y ddau'n gynghorwyr sy'n cynrychioli Caerffili—un ym Mhenyrheol ac un yng nghwm Aber—geisio cyrraedd yr ysbyty o Abertridwr gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Fe gymerodd ddau fws a mwy na dwy awr ac ar gost o fwy na £9 yr un iddynt gyrraedd yno. Gyda'r Llywodraeth yn tynnu arian pandemig i gwmnïau bysiau yn ôl yn ddiweddarach eleni, a'r rhagfynegiadau o ganlyniadau trychinebus i lawer o wasanaethau bws, gallai fod yn anos byth i unrhyw un nad yw'n teithio mewn cerbyd preifat gyrraedd ysbyty'r Faenor. Pa ystyriaeth a roddwyd gennych i wella hygyrchedd ysbytai i bobl sydd heb gar? A ydych chi'n rhannu pryderon Plaid Cymru ynglŷn â chanlyniadau tynnu'r arian i gwmnïau bysys yn ôl o safbwynt hygyrchedd gwasanaethau iechyd?  

Diolch yn fawr. Rydym wedi ymrwymo i geisio sicrhau hygyrchedd i bawb. Rydym wedi bod yn pryderu am hygyrchedd ysbyty'r Faenor yn enwedig, a hoffwn ddiolch yn arbennig i fy nghyd-Aelod Hefin, sydd wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar brosiect penodol. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno'n ddiweddar i gynnig ariannu treial cychwynnol ar gyfer gwasanaeth bws rhwng y Coed Duon, Trecelyn, Pont-y-pŵl ac ysbyty'r Faenor. Y nod yw cael y gwasanaeth bws newydd hwnnw'n weithredol erbyn canol mis Mehefin, ac mae hynny, wrth gwrs, yn ychwanegu at y llwybrau bysiau sydd eisoes yn mynd i ysbyty'r Faenor o ardal Gwent—llwybr 29 o Gasnewydd, 29A o Gas-gwent, X1 o Fryn-mawr, X24 o Flaenafon. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod y bwrdd iechyd wedi addo £114,000 ar gyfer helpu trafnidiaeth gymunedol, ac maent bellach yn cydlynu cynllun i wneud yn siŵr y gallwn gael cymaint o ddarparwyr cymunedol i helpu i ddarparu'r gwasanaethau trafnidiaeth sydd eu hangen o dan y cynllun hwnnw.

14:45

Diolch, Lywydd. Weinidog, mae sawl ffurf ar hygyrchedd ysbyty. Ddoe, cafodd pobl eu hannog gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i beidio â mynychu adran ddamweiniau ac achosion brys ysbyty'r Faenor oni bai bod ganddynt gyflwr a oedd yn peryglu eu bywydau neu fod ganddynt anaf difrifol. Clywsom yn hwyr iawn neithiwr fod y neges frys wedi'i rhoi ar ôl i'r safle wynebu dau ddiwrnod o broblemau TG. Rwy'n siŵr y byddai pawb yn cytuno ei bod yn annerbyniol i ysbyty gau gwasanaethau hanfodol. Byddai rhywun wedi meddwl y byddai gan bob ysbyty gynlluniau wrth gefn i ymdopi â phroblemau o'r fath pe baent yn digwydd. Weinidog, pa sicrwydd y gallwch ei roi i fy hetholwyr fod gan ysbytai yn ne-ddwyrain Cymru gynlluniau wrth gefn priodol i sicrhau eu bod bob amser yn hygyrch, ac nad amharir ar wasanaethau hanfodol yn y ffordd a ddigwyddodd yn ysbyty'r Faenor, neu sy'n dal i ddigwydd yn ysbyty'r Faenor?

Diolch yn fawr. Roedd y broblem hon yn ysbyty'r Faenor yn broblem fyd-eang a effeithiodd ar nifer o gyrff GIG Cymru yn ne Cymru yn enwedig a oedd yn defnyddio gwasanaeth cydgasglu band-eang sector cyhoeddus Llywodraeth Cymru. Dyna'r gwasanaeth sy'n cael ei reoli gan BT. Rwy'n falch iawn o ddweud ei fod wedi'i ddatrys i raddau helaeth bellach. Mae BT a'i bartneriaid wedi darparu ateb dros dro tra'u bod yn cynllunio datrysiad parhaol, ac mae disgwyl i hynny gael ei gwblhau mewn pythefnos. 

Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod holl gyrff y GIG wedi rhoi gwybod i ddinasyddion ynglŷn â'r perygl o arosiadau hir am driniaethau lle nad oedd bywyd yn y fantol. Yn amlwg, yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw fy mod yn bryderus iawn ynglŷn â'r sefyllfa. Cefais gyfarfod gyda fy nhîm digidol y bore yma. Rydym yn mynd i weithio ar nodi unrhyw broblemau sy'n parhau yn gyflym ac yn amlwg, bydd ymarfer dysgu gwersi yn cael ei gynnal i wneud yn siŵr y gallwn atal digwyddiad tebyg rhag digwydd eto.

Camddefnyddio Botox

5. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu eu cymryd i fynd i'r afael â chamddefnyddio Botox er mwyn gwneud elw? OQ59407

Mae chwistrelliadau o botulinum tocsin—rwy'n siŵr fy mod wedi'i gam-ynganu, ond rwy'n gobeithio y gallwch ddweud nad wyf yn ei ddefnyddio—fel Botox, yn llacio cyhyrau yn yr wyneb i lyfnhau crychion a rhychau. Nawr, nid yw'r effaith yn barhaol, ac fel arfer mae'n para am oddeutu tri i bedwar mis. Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn darparu'r gallu i ychwanegu triniaethau at gofrestr o driniaethau arbennig ac i awdurdodau lleol roi trwyddedau i ddarparwyr yn sgil hynny. Nawr, rydym yn dechrau'r broses honno gyda thatŵio, aciwbigo, electrolysis a thyllu'r corff, ond byddwn yn ystyried ychwanegu triniaethau cosmetig eraill yn y dyfodol yn seiliedig ar dystiolaeth o risg.

Diolch am yr ateb. Canfu ymchwil gan Goleg Prifysgol Llundain o glinigau yn Llundain fod naw o bob 10 yn diystyru’r rheoliadau a fwriadwyd ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd, sy'n gwahardd hysbysebu'r cyffur hwn a chynhyrchion botulinum tocsin eraill, neu'n wir, unrhyw feddyginiaeth arall a roddir ar bresgripsiwn er mwyn gwneud elw. Mae'n anodd credu bod ymarferwyr yng Nghymru yn glynu'n well at y rheolau. Yn amlwg, ceir sefyllfaoedd lle gellir dirprwyo rhywun i bresgripsiynu meddyginiaeth, ond yn yr achos hwn, dyma ymgais i wneud arian o bryder pobl am wahanol rannau o'u cyrff—dim i'w wneud ag iechyd y cyhoedd. A chaiff y pethau hyn eu presgripsiynu i bobl heb iddynt gael eu gweld hyd yn oed. Rydym yn gwybod y gall y mathau hyn o chwistrelliadau achosi poen, cur pen, chwyddo, cleisio, parlys rhannol i'r wyneb, a hyd yn oed anffurfiad, felly mae ymarfer presgripsiynu diogel yn elfen hanfodol o ddiogelu'r cyhoedd. Ni wyddom beth rydym yn ei wynebu o ran y ffordd y gall ddod yn ôl i'n taro yn y GIG. Felly, byddai'n ddefnyddiol iawn gwybod pam na allwn dalu mwy o sylw i'r camddefnydd o feddyginiaethau presgripsiwn yn y ffordd hon sy'n digwydd ar hyn o bryd gan glinigau preifat lle na cheir fawr ddim goruchwyliaeth.

14:50

Diolch yn fawr. Rwy'n credu bod hwn yn faes y dylem fod yn bryderus yn ei gylch. Byddwn yn annog unrhyw un sy'n ystyried cael un o'r triniaethau hyn i wirio cymwysterau'r bobl sy'n rhoi Botox oherwydd efallai na fyddant bob amser yn gymwys neu'n brofiadol. Ceir rheoliadau'n ymwneud â hyn ac mae'r rheoleiddwyr proffesiynol yn ei gwneud yn ofynnol i bob ymarferydd sy'n presgripsiynu Botox—. Mae Botox yn un o oddeutu saith gwahanol—. Mae'n fath o enw am fath arbennig o driniaeth. Ond yr hyn sy'n digwydd yw eu bod yn aml yn dirprwyo'r gwaith o'i roi i rywun arall, ac nid yw'r person sy'n rhoi'r presgripsiwn o reidrwydd yn meddu ar yr wybodaeth na'r sgiliau, nac wedi cael hyfforddiant addas i allu ei ddarparu. Felly, byddwn yn disgwyl i reoleiddwyr proffesiynol roi camau ar waith yn erbyn unrhyw un sydd wedi cofrestru ond nad yw'n cydymffurfio â safonau proffesiynol priodol ar ddirprwyo'r cyfrifoldeb hwnnw i eraill. Ond yn amlwg, mae materion o'r fath wedi'u cadw yn ôl a heb eu datganoli i Weinidogion Cymru.

Gwasanaethau Tynnu Cwyr Clust

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau tynnu cwyr clust diogel o fewn y GIG? OQ59388

Mae llwybr newydd GIG Cymru, gyda safonau clinigol cenedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau tynnu cwyr clust yn ddiogel, ar waith ym mhob bwrdd iechyd, ac mae byrddau Iechyd Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bae Abertawe wedi gwneud cynnydd da yn hyn o beth. Mae arferion da'n cael eu rhannu gyda'r byrddau iechyd eraill i gefnogi'r broses o'u gweithredu.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae llawer o etholwyr wedi cysylltu â mi am eu bod yn poeni am yr effaith y bydd torri gwasanaethau tynnu cwyr y GIG yn ei chael arnynt hwy. I lawer o bobl, mae'r gwasanaeth hwn yn gwbl hanfodol, ond dywedir wrthynt bellach nad yw'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu mewn gofal sylfaenol mwyach. Dywedodd un etholwr wrthyf fod gan ei mab lawer o gŵyr clust a bod ei ysgol wedi cysylltu â hi sawl gwaith i ddweud ei fod yn effeithio ar ei glyw, a hynny'n ei dro yn effeithio ar ei ddysgu. Gwrthodwyd triniaeth GIG iddo ac mae'r fam bellach yn rheoli'r mater yn aneffeithiol gartref heb unrhyw syniad pa mor ddiogel yw hynny mewn gwirionedd. Dywedodd etholwr arall wrthyf nad yw bellach yn gallu fforddio talu'n breifat am driniaeth oherwydd y pwysau costau byw ac nad yw'n gallu cael y driniaeth drwy'r GIG mwyach. Gan fod triniaeth breifat yn costio rhwng £50 a £100, mae llawer o drigolion yn methu fforddio'r gost ychwanegol hon. Yn bersonol, ni allaf weld unrhyw reswm pam na ellir darparu triniaeth mewn gwahanol leoliadau yn y gymuned. Felly, Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch chi gyda bwrdd iechyd Aneurin Bevan ynglŷn â hyn? Ac a fyddwch chi'n ymrwymo i edrych ar ffyrdd newydd o ddarparu'r driniaeth hanfodol hon i drigolion ledled Cymru? Diolch.

Wel, diolch yn fawr. Ac rwyf am ei gwneud yn glir na ddylai neb ddisgwyl gorfod talu am y gwasanaeth hwn. Felly, mewn gwirionedd, mae gennym lwybr awdioleg nawr sy'n wahanol iawn i'r hyn sy'n digwydd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Rydym yn ceisio symud i wasanaeth yn y gymuned, ond rwy'n cydnabod nad yw amseroedd aros lle rydym am iddynt fod ac mae mynd i'r afael â'r ôl-groniad hwnnw'n flaenoriaeth allweddol i mi. Mae'r pwyslais ar ddarparu gofal yn y gymuned yn hollbwysig. Rwyf wedi gofyn i'r holl fyrddau iechyd edrych ar arferion gorau. Felly, fe wyddom ei fod yn gweithio'n dda yn Betsi Cadwaladr ac mae'n gweithio'n dda yn Abertawe. Os hoffech ysgrifennu ataf am yr achos penodol hwn imi allu edrych i weld ble mae'r bwlch, efallai y byddai'n ddefnyddiol pe bawn yn pwyso rhywfaint i'r perwyl hwnnw. Diolch.

Recriwtio Nyrsys

6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am recriwtio nyrsys? OQ59397

Rŷn ni’n recriwtio a hyfforddi mwy o nyrsys nag erioed. Rŷn ni’n defnyddio ffyrdd amrywiol o recriwtio a denu staff, gan gynnwys recriwtio'n rhyngwladol a mwy o fuddsoddi nag erioed mewn addysg a hyfforddiant. Mae ein cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer y gweithlu yn cynnwys nifer o gamau gweithredu. Fe fydd y camau hyn yn cael eu cymryd ar y cyd, gan ddarparu gweithlu cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb. Fe glywodd y Gweinidog fi wrth gwrs yn gofyn cwestiwn i’r Prif Weinidog ddoe ynghylch Ysbyty Tywyn. Yn ei ymateb, fe ddywedodd y Prif Weinidog fod staff yn cael eu trosglwyddo i Ddolgellau er mwyn sicrhau gwasanaethau yn yr ardal. Doedd o ddim yn glir pa ardal yr oedd y Prif Weinidog yn cyfeirio ati gan fod Tywyn dros hanner awr i ffwrdd o Ddolgellau mewn car, heb sôn am mewn bws. Felly, erys y pwynt fod Bro Dysynni wedi colli gwasanaeth hanfodol yn ddiweddar. Rŵan, mae Bro Dysynni yn ardal odidog. Mae’n lle gwych i weithio ynddo, efo safon bywyd uchel ac addysg ragorol yn yr ardal. Os oes yna unrhyw nyrs allan yno am brofi gweithle gwych mewn ardal hyfryd, yna mi fuaswn i'n argymell ystyried gweithio yn Nhywyn. Ond bob tro rydyn ni'n codi'r cwestiwn am niferoedd nyrsys, fel rŵan, rydych chi, y Gweinidog, ac eraill, yn sôn bod yna fwy o nyrsys nag erioed yn gweithio i'r gwasanaeth iechyd. Efallai fod hynny'n wir, ond mae yna brinder dybryd mewn rhannau o Gymru. Dim ond pedwar nyrs ar fandiau 6 a 7 sydd eu hangen er mwyn galluogi ailagor ward Dyfi yn Nhywyn. Mi drïodd y bwrdd recriwtio nyrsys o asiantaethau nyrsio gan ddiogelu llety iddyn nhw, ond fe fethodd yr asiantaethau â darparu'r nyrsys hynny. Mae hyn yn ei hun yn gywilyddus. Felly, pa gamau mae'r Gweinidog yn eu cymryd er mwyn sicrhau bod yna ddigon o nyrsys ar gael i ailagor ward Dyfi ac uned mân anafiadau Tywyn? Ydy'r Gweinidog yn medru gweithredu i sicrhau bod asiantaethau nyrsys yn darparu'r nyrsys sy'n cael eu haddo?

14:55

Diolch yn fawr. Rŷch chi'n ymwybodol bod y bwrdd iechyd wedi mynd ati yn arw i wneud ymgais i recriwtio i'r ardal yna. Un o'r pethau sydd gyda ni mewn lle yw'r national workforce implementation plan ac, fel rhan o hynny, rŷn ni'n gosod mewn lle incentives i dargedu nid yn unig y grwpiau rŷn ni eisiau gweld mwy ohonyn nhw, ond i ble yn union rŷn ni eisiau anfon y bobl yma. Rŷn ni'n gwneud hynny, er enghraifft, gyda deintyddion—yn ceisio anfon deintyddion i ardaloedd lle, yn draddodiadol, mae hi wedi bod yn anodd recriwtio iddyn nhw. Mae gwaith yn cael ei wneud gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru ar hynny.

Ond, mae 446 mwy o nyrsys yn gweithio, er enghraifft, yn Betsi na 10 mlynedd yn ôl. Felly, mae'r gyfran wedi mynd i fyny, ond mae'r galw wedi mynd i fyny. Dyna ran o'r broblem—mae'r galw yn uwch nag erioed. Byddwch chi'n ymwybodol ein bod ni'n gwario dros £0.25 biliwn yn flynyddol ar hyfforddiant ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Rŷn ni yn amlwg yn ceisio recriwtio. Fe wnaethon ni recriwtio 400 o nyrsys y llynedd, ac mae lot o waith ar y gweill ar hyn o bryd i recriwtio mwy o nyrsys rhyngwladol. Rhan o'r sialens ar hyn o bryd yw, hyd yn oed os ŷn ni'n gallu eu recriwtio nhw, ble i'w rhoi nhw. Mae yna broblem o ran ble rŷn ni'n rhoi'r bobl yma unwaith inni eu recriwtio nhw. Mae hwnna hefyd yn sialens y mae'n rhaid inni feddwl amdani ac ymdrin â hi, yn arbennig yng nghefn gwlad Cymru. 

Weinidog, mae recriwtio nyrsys yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i mi, ac rwyf wedi siarad â chi ar sawl achlysur am gael mwy o fynediad i nyrsys allu dod i mewn i'r GIG. Pan oedd fy mam yn nyrs yn dechrau yn y GIG, aeth o lwybr galwedigaethol, a dod i mewn ar y gwaelod a dysgu yn y swydd, cael mwy a mwy o gymwysterau, yr holl ffordd i fyny at fod yn brif nyrs ward. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod mwy o lwybrau i mewn i nyrsio heblaw am y rhai sydd ar gael drwy'r brifysgol ar hyn o bryd?

Diolch yn fawr. Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi 41 y cant ar gyfer nyrsys. Ond rydych chi'n hollol iawn, mae'n rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd newydd o gael pobl i mewn, ac yn arbennig i rai o'r meysydd y mae'n anos recriwtio iddynt. Dyna pam mae gennym lwybrau prentisiaeth nyrsio er enghraifft. Gwn fod hynny wedi'i ddefnyddio'n helaeth mewn rhai lleoliadau gofal iechyd. Ceir llawer mwy o ddysgu o bell lle gall pobl ddechrau ar y llwybr a mynd i wneud eu lleoliadau gwaith yn nes ymlaen. Dyna lle maent yn hyfforddi hefyd, a dyna pam, er enghraifft, ein bod ni wedi agor cyfleuster newydd yn Aberystwyth—roeddwn yn falch o weld y Llywydd yn y digwyddiad hwnnw—fel ein bod yn hyfforddi pobl ac yna bydd y lleoliadau gwaith yn lleol. Fel rydych chi'n awgrymu, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn inni ddod o hyd i lwybrau newydd i bobl allu dod i mewn, yn enwedig ers iddo ddod yn gwrs lefel gradd bellach. Yr hyn rydym yn awyddus i'w weld yw pobl sydd efallai heb fynd i'r brifysgol fel hynny. Mewn gwirionedd, mae'n debyg mai tosturi yw un o'r pethau allweddol sydd eu hangen arnoch i fod yn nyrs, ac rwy'n meddwl bod cyfleoedd go iawn i bobl. Un o'r pethau rydym yn awyddus i'w wneud, wrth gwrs, yw gweithio gyda'r sector gofal i ddarparu llwybr i bobl fynd i mewn i'r gweithlu hefyd, i weithlu'r GIG, fel bod y llwybrau hynny'n fwy eglur i bobl. 

Trin Canser

7. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyflymu'r llwybr trin canser? OQ59380

Rydym wedi amlinellu ein disgwyliadau ar gyfer y GIG yn natganiad ansawdd 2021 ar gyfer canser a chyfres o gamau gweithredu cenedlaethol yn rhaglen 2022 ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd. Ym mis Ionawr eleni, cyhoeddais ymateb y GIG hefyd, fel y nodwyd yn y cynllun gwella gwasanaethau canser.

15:00

Diolch, Weinidog. Ym mis Chwefror, dim ond 58 y cant o ddynion a 57 y cant o fenywod yng ngogledd Cymru oedd yn dechrau triniaeth o fewn y targed o 62 diwrnod. Roedd hynny'n waeth na mis Rhagfyr 2022. Y tu ôl i'r ffigyrau hynny mae rhai o fy etholwyr mewn gofid difrifol. Bu farw un o fy nhrigolion cyn cael unrhyw driniaeth ar gyfer canser y stumog yn Lerpwl. Mae un arall o fy etholwyr wedi aros tua phedwar mis am driniaeth canser yr ysgyfaint yn Lerpwl, ond mae bellach newydd gael y driniaeth, diolch i'r ffaith iddynt ddod i fy ngweld i. Ac mae meddyg ymgynghorol yn ysbyty Christie wedi nodi bod un arall o fy nhrigolion, a gafodd wybod gan Ysbyty Gwynedd ei bod hi'n glir, bellach wedi canfod, ers iddi fynd yn breifat, fod ganddi bedwar tiwmor canser yn yr abdomen a chrychion yr afu. Mam ifanc iawn yw hon. Nawr, mae Richard Pugh, Cymorth Canser Macmillan Cymru, wedi dweud:

'Mae triniaeth canser yng Nghymru bellach yn fater o hap - nid yw pobl â chanser yn wynebu tebygolrwydd gwell na 50/50 o gael eu trin mewn pryd'.

Nawr, rwy'n cysylltu â'r bwrdd iechyd a'r ombwdsmon ar hyn o bryd mewn perthynas â'r enghreifftiau y bu'n rhaid i mi eu darparu i chi, ac nid oedd yn hawdd rhoi'r enghreifftiau hynny i chi. Mae'r rhain yn unigolion a chanddynt deuluoedd. Ond yn yr achos hwn, maent yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwasanaethau arbenigol yn Lloegr i ogledd Cymru. Felly, fy mhrif gwestiwn i chi heddiw, Weinidog, yw: pa gamau rydych yn eu cymryd i gyflymu'r broses i gleifion Aberconwy, a phobl ledled Cymru, yn enwedig pan fo'r cleifion hyn angen triniaeth y tu allan i Gymru? Mae'r ceisiadau am arian yn broblematig iawn ac mae yna oedi enfawr. Ni allwch oedi pan fydd rhywun yn cael diagnosis o ganser sy'n peryglu bywyd. Diolch.

Diolch, Janet, ac rwyf am gydymdeimlo â'r bobl sy'n dioddef. Mae un o bob dau unigolyn yn mynd i gael canser yn ystod eu hoes, felly rydym yn siarad am niferoedd enfawr o'r boblogaeth, ac er mwyn cael diagnosis o ganser, i gyrraedd y 5 y cant, mae angen inni brofi 95 y cant o'r cyhoedd. Ac yn amlwg, rydym eisiau cyrraedd yno'n gynnar, cyn gynted ag y gallwn.

Felly, nid oeddech yma ar gyfer fy natganiad ddoe, pan gyhoeddais ein strategaeth adfer a thrawsnewid diagnosteg newydd, ac mae diagnosteg yn gwbl allweddol i fynd i'r afael â chanser. Felly, os yw'r broses ar ddechrau'r system yn cael ei dal yn ôl mewn unrhyw ffordd, mae'n anos cyrraedd yr amser aros o 62 diwrnod. Felly, mae gennym ffordd bell i fynd gyda chanser. Mae'n sicr yn y chwe blaenoriaeth uchaf a osodais i'r byrddau iechyd. Mae rhai yn fwy heriol nag eraill. Rwy'n cael uwchgyfarfodydd rheolaidd ar ganser. Fe fyddwch wedi clywed hefyd fod datblygiadau newydd iawn mewn technoleg, ac rwy'n gobeithio sicrhau ein bod yn manteisio ar y rheini. Felly, er enghraifft, fe euthum i Brifysgol Caerdydd ddydd Iau i edrych ar sut maent yn defnyddio biopsïau hylifol i gymryd samplau gwaed sy'n gallu canfod canser, ac os gwnewch chi hynny, nid oes angen y peiriannau enfawr hyn a'r holl straen; daw'r canlyniadau yn eu holau'n llawer cyflymach.

Nawr, nid yw'r broses hon ond megis dechrau ac rydym yn gwneud pethau blaengar tu hwnt yma yng Nghymru. Ond rwy'n gobeithio, mewn blynyddoedd i ddod, y byddwn yn mynd ar y trywydd hwnnw'n amlach, a bydd hynny'n cyflymu'r holl broses. Felly, rwyf wedi gofyn iddynt ganolbwyntio, am y tro, ar y rhai sy'n aros am fwy na 62 diwrnod, oherwydd dyna'r bobl y mae gwir angen inni eu cyrraedd, ac yn amlwg, wrth inni wneud hynny, bydd y targed o 62 diwrnod yn codi ychydig bach. Felly, rydym yn y sefyllfa honno nawr, ond maent yn dechrau gostwng. Rwy'n falch o ddweud bod 12,700 o gleifion yng Nghymru wedi cael gwybod nad oedd ganddynt ganser ym mis Chwefror. Felly, mae yna lawer o bobl yn cael newyddion da, ond rwy'n pryderu am y rhai sy'n aros am y newyddion drwg, fel bod modd iddynt ddechrau eu hadferiad yn gynt.

15:05
Gwasanaethau Deintyddol Plant

8. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ddigonolrwydd gwasanaethau deintyddol plant yn y GIG? OQ59398

Mae dros 277,000 o blant wedi cael eu trin mewn gwasanaethau deintyddol cyffredin ers Ebrill 2022. Mae dros 60,000 o’r rhain yn gleifion newydd.

Mae yna deulu wedi cysylltu â fi yn tynnu sylw at sefyllfa eu merch. Mae hi wedi bod yn disgwyl cael triniaeth gan orthodeintydd ers yr oedd hi’n 11 oed. Erbyn hyn, mae’n 14 oed. Dyw hi ddim wedi derbyn unrhyw apwyntiad yn y dair blynedd y mae hi wedi bod yn aros am un. Pythefnos yn ôl, mi gafodd hi wybod bod yr orthodeintydd yn ei chyfeirio hi yn ôl at ei deintyddfa leol. Nawr, yn y cyfamser, wrth gwrs, dyw’r ddeintyddfa leol yna bellach ddim yn cynnig gwasanaethau NHS, ac hefyd, mae’r rhestr ar gyfer triniaeth breifat yn llawn—hynny yw, mae’r gofrestr breifat yn llawn. Nawr, yn amlwg, mae dirywiad deintyddol wedi digwydd dros y dair blynedd y mae hi wedi bod yn aros. Does dim golwg o hynny yn cael ei ddatrys. Ond mae hefyd, bellach, wrth gwrs, yn dechrau cael effaith ar iechyd meddyliol unigolyn sydd yn aros gyhyd mewn oed mor ifanc. Nawr, dwi’n gwybod allwch chi ddim gwneud sylw ar achos unigol, a dwi ddim yn gofyn i chi wneud hynny. Yr hyn dwi’n gofyn yw: beth yn y byd, yn eich barn chi, yw’r opsiynau sydd yna i blant sydd wedi’u cau allan o’r gwasanaeth iechyd pan fo’n dod at ddeintyddiaeth?

Dwi yn meddwl bod yn rhaid i ni ddeall, yn amlwg, bod pethau wedi newid ers COVID. Rŷn ni nôl at sefyllfa lle mae 70 y cant o bobl a oedd yn cael triniaeth cyn COVID nawr yn cael triniaeth, ond fyddwn ni byth yn mynd nôl i 100 y cant heb gynyddu’r capasiti, achos mae rheolau mwy llym nawr sy’n ymwneud â sicrhau ein bod ni ddim yn gweld yr un math o safonau a oedd cyn y pandemig.

Felly, beth rŷn ni wedi’i wneud yw newid y cytundeb i sicrhau bod mwy o blant yn cael eu gweld, ac yn ardal Betsi, er enghraifft, mae 12,900 mwy o blant wedi cael eu gweld. Maen nhw’n newydd—mae’r rhain yn apwyntiadau newydd, ac mae’r rheini wedi digwydd dros y flwyddyn diwethaf. Yn amlwg, rŷn ni nawr yn negodi ar gyfer y cytundeb nesaf, ac mae’n anodd achos, wrth gwrs, beth rŷn ni’n ei weld yw bod rhai deintyddion yn gadael y gwasanaeth iechyd ac yn mynd yn breifat. Wel, maen nhw’n unigolion; dŷn nhw ddim yn gweithio yn uniongyrchol i’r NHS—dyw deintyddion byth wedi gweithio yn uniongyrchol i’r NHS—a gallwn ni ddim ond mynd mor bell ag y gallwn ni fforddio i dalu’r bobl yma i weithio yn ein system ni.FootnoteLink Felly, mae hwnna yn creu problem i ni, a dyna pam dwi’n falch o weld yn ddiweddar bod y rheolau wedi newid, felly, mae pobl fel dental technicians a dental therapists yn cael agor a chau achosion nawr. Mae hwnna’n rhywbeth sydd wedi digwydd yn ystod y pythefnos diwethaf, a bydd hwnna, gobeithio, yn golygu bod y model yn gallu newid ac fe fydd yn fwy hyblyg na’r un sydd ar gael ar hyn o bryd.

3. Cwestiynau Amserol
4. Datganiadau 90 Eiliad

Datganiadau 90 eiliad sydd nesaf, felly, a’r un cyntaf heddiw gan Mabon ap Gwynfor.

Diolch, Llywydd. Dwi am gymryd y cyfle yma i longyfarch Ynys Enlli a phawb sydd yn rhan o gynnal y darn bach yna o'r nefoedd ar ennill y gydnabyddiaeth o gael yr awyr tywyllaf yn Ewrop, yn ôl y Gymdeithas Awyr Dywyll Rhyngwladol.

Mae'r dynodiad yma yn cydnabod yr awyr unigryw sydd uwchben Enlli a'i phwysigrwydd i bobl, bywyd gwyllt a chenedlaethau'r dyfodol yno. Bydd noddfa awyr dywyll Enlli yn cael ei ddathlu trwy gydol eleni, a hithau yn rhan o rwydwaith cynyddol o lefydd sydd ag awyr dywyll ar draws Cymru, gyda digwyddiadau i bobl fedru rhannu yn y dathliadau ar Enlli ac ar draws gogledd Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd y dynodiad yma yn cynyddu ymwybyddiaeth o’r angen i nid yn unig gwarchod yr awyr dywyll ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ond hefyd yn pwysleisio safle unigryw Enlli fel yr unig ynys fach yng Nghymru sydd â chymuned byw arni drwy gydol y flwyddyn ac sydd yn trio rheoli ei hadnoddau dynol er lles yr ynys, ei natur a'i phobl.

Mae gan Enlli bysgodfa byrlymus, ffermio sydd yn gweithio yn unol â natur, arsyllfa adar hynaf Cymru, ac mae'n gartref i gymuned fechan, ynghyd â'r ffaith ei bod yn croesawu ymwelwyr yn ystod y gwanwyn a'r haf. Llongyfarchiadau mawr i Ynys Enlli.

15:10

Mae ymgyrchwyr yn hanfodol i unrhyw genedl iach, ond yr un mor bwysig, byddwn i'n ei ddweud, yw’r gwladgarwyr hynny sy’n gweithio oddi fewn y system i’w newid a’i gwella. Un yn perthyn i’r ail gategori oedd Illtyd Rhys Lloyd, a fuodd farw wythnos a hanner yn ôl.

Yn frodor o Gwmafan, roedd wedi ei drwytho yn y traddodiadau Cymreig, sosialaidd ac anghydffurfiol. Wedi cyfnod fel dirprwy bennaeth yn un o ysgolion mawr Caerdydd, fe’i apwyntiwyd i’r arolygiaeth addysg ym 1964 a buodd yno tan ei ymddeoliad fel prif arolygydd ysgolion ym 1990. Yn ei gyfnod fel prif arolygydd, fe weithiodd y sosialydd yma o Gwmafan yn agos ac yn effeithiol iawn gyda Syr Wyn Roberts, Nicholas Edwards a hyd yn oed Margaret Thatcher, o bawb.

Dyma ddywed y cyn-brifathro Dr Huw Thomas yn ei lyfr, Brwydr i Baradwys, ar dwf addysg Gymraeg yn y de-ddwyrain, am Illtyd Lloyd:

'Ni chollai gyfle i hybu’r Gymraeg ac addysg ddwyieithog, weithiau drwy godi sgwrs broffesiynol mewn ysgol er mwyn gwthio’r ffiniau, bryd arall drwy weld potensial deddf newydd ac awgrymu ffyrdd ymarferol ymlaen. Gweithredu bob tro y deuai cyfle oedd un o’i nodweddion.'

Pan wnaeth Illtyd ymddeol, fe wnaeth e roi gwybod i’r awdurdodau yn Whitehall nad oedd diddordeb ganddo mewn derbyn gong, ond roedd yn ddigon hapus i gael ei anrhydeddu gan yr Orsedd a chan Undeb Bedyddwyr Cymru. Mae byd addysg, yr iaith Gymraeg a’r Bedyddwyr wedi colli cyfaill mawr ym marwolaeth Illtyd Lloyd. Braint heddiw yw ei goffau ar lawr y Senedd. Diolch yn fawr.

Mae mis Ebrill yn Fis Ymwybyddiaeth Anhwylder Cyn Mislif. I nodi hyn, hoffwn godi ymwybyddiaeth yn benodol o anhwylder dysfforig cyn mislif, neu PMDD. Mae PMDD yn effeithio ar un o bob 20 o fenywod a'r rhai a bennwyd yn fenywod ar adeg eu geni, sy'n profi symptomau trwm iawn yn yr wythnosau cyn eu mislif. Mae PMDD yn fath o anhwylder cyn mislif, cyflyrau cymhleth ar y ffin rhwng iechyd meddwl a iechyd mislif sy'n gysylltiedig â gorsensitifrwydd i newidiadau hormonaidd arferol ar draws y gylchred fislifol. Gallant achosi neu gyfrannu at symptomau emosiynol a chorfforol sylweddol yn yr wythnosau cyn, a hyd yn oed yn ystod mislif, megis iselder neu hwyliau gwael iawn, newid cyflym mewn hwyliau, teimlo fod pethau'n mynd yn drech ac anhawster i ganolbwyntio. Fel y disgrifiwyd i mi, gall hyn arwain at fenywod yn chwalu eu bywydau, drwy adael swyddi, addysg, perthnasoedd, ac arwain at feddyliau hunanladdol hyd yn oed.

Weithiau caiff PMDD ei ddiagnosio'n anghywir fel iselder, gorbryder neu anhwylder deubegynol, ac mae hyn yn digwydd oherwydd diffyg dealltwriaeth o'r cyflwr. Heddiw, roeddwn yn falch o noddi digwyddiad yn y Senedd i godi ymwybyddiaeth o PMDD, gyda chefnogaeth y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Anhwylderau Cyn Mislif, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ac ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, ac rwyf am ddiolch i sawl un ohonoch am ei fynychu.

Yr ymgyrchydd Becci Smart, un o fy etholwyr o Ben-y-bont ar Ogwr, oedd wedi trefnu'r digwyddiad. Mae Becci wedi byw gyda PMDD er pan oedd yn 14 oed. Mae wedi dweud wrthyf sut y bu'n rhaid aros 18 mlynedd am ddiagnosis a thriniaeth, ac yn anffodus, dyma yw'r norm yng Nghymru ac ar draws y DU. Mae'n dweud ei bod yn aml yn anodd dod o hyd i'r geiriau cywir sy'n gallu esbonio'n llawn y profiad o fyw gyda PMDD ac fe wnaeth siarad â mi am y trafferthion a'r torcalon y mae anhwylderau cylchredol sy'n gysylltiedig â'r hormonau yn eu hachosi. Mae hwn yn gyflwr sy'n gallu dinistrio bywydau, mae hwn yn gyflwr y mae'n rhaid inni ddysgu mwy amdano ac mae'n gyflwr nad yw wedi cael ei gydnabod yn ddigonol na'i drin yn effeithiol. Rhaid inni wneud yn siŵr fod Cymru'n wlad lle gall pobl â PMDD oroesi a ffynnu. 

5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Y rheolau ynghylch gweithredu Grwpiau Trawsbleidiol

Eitem 5 sydd nesaf. Yr eitem yma yw'r datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar y rheolau ynghylch gweithredu grwpiau trawsbleidiol. Rwy'n galw ar y Cadeirydd, Vikki Howells.

Prynhawn da a diolch i chi, Lywydd, am y cyfle i wneud y datganiad hwn heddiw. Heddiw, mae'r pwyllgor wedi gosod ei adroddiad ar y rheolau diwygiedig ar gyfer gweithredu grwpiau trawsbleidiol. Bydd y rheolau'n cael eu cyhoeddi ac yn dod i rym ar 2 Mai.

Ystyrir yn eang fod grwpiau trawsbleidiol yn rhan werthfawr o'r broses ddemocrataidd ac maent yn cynnig fforwm i Aelodau o wahanol grwpiau gwleidyddol ystyried diddordebau cyffredin mewn meysydd pwnc sy'n berthnasol i'r Senedd. Mae'r rheolau ar gyfer gweithredu grwpiau trawsbleidiol yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar Aelodau a chyrff allanol i sefydlu grŵp a sicrhau bod ei weithgareddau'n dryloyw. Rwy'n falch felly o allu gwneud y datganiad hwn heddiw, yn amlinellu sut mae'r pwyllgor wedi diweddaru a gwella'r rheolau i'w symleiddio a'u gwneud yn haws i bawb eu deall ac i gydymffurfio â hwy.

Lluniwyd yr iteriad blaenorol o'r rheolau gan Bwyllgor Safonau Ymddygiad y pedwerydd Cynulliad, wedi iddo adolygu'r trefniadau ar gyfer grwpiau trawsbleidiol fel rhan o ymchwiliad i lobïo yn 2013. Ar ôl bod ar waith ers bron i ddegawd, roedd yn ymddangos yn amserol i adolygu'r rheolau ochr yn ochr ag ymchwiliad parhaus cyfredol y pwyllgor i lobïo, o ystyried y gorgyffwrdd yn y maes pwnc. Cytunodd y pwyllgor i ystyried a oedd y rheolau fel yr oeddent yn darparu digon o arweiniad, ac a oeddent yn glir, yn hygyrch ac yn dryloyw i randdeiliaid allweddol.

Gofynnodd y pwyllgor gwestiwn ar grwpiau trawsbleidiol fel rhan o'i ymgynghoriad i lobïo, a gynhaliwyd rhwng 13 Mai a 23 Mehefin 2022, ac aeth rhagddo i gyhoeddi ymgynghoriad penodol ar grwpiau trawsbleidiol, a gynhaliwyd rhwng 11 Gorffennaf a 2 Medi 2022. Atebodd 11 o ymatebwyr y cwestiwn yn yr ymchwiliad i lobïo, ac roedd chwe ymatebydd i'r ail ymgynghoriad. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r sefydliadau a'r unigolion a gyfrannodd at yr ymgynghoriadau hyn.

Roedd y pwyllgor yn falch o ganfod bod y rheolau wedi bod yn gweithio'n dda ar y cyfan, a bod ymatebwyr i'r ymgynghoriadau yn gadarnhaol am rôl a gwerth grwpiau trawsbleidiol. Roedd yr ymatebwyr yn teimlo bod y trefniadau cyfredol yn gadarn ac yn parhau i daro'r cydbwysedd cywir rhwng tryloywder ac ymarferoldeb. Fodd bynnag, roedd lle i wella o hyd, ac ymdrechodd y pwyllgor i ddiweddaru'r rheolau a hefyd i'w symleiddio lle bo modd. Gwnaethom hefyd gynhyrchu taflen grynhoi i fod ar flaen y rheolau a darparu'r wybodaeth bwysig i randdeiliaid allweddol mewn amrantiad.

Er mwyn sicrhau bod grwpiau trawsbleidiol yn parhau i gydymffurfio â busnes y Senedd a'u bod yn gallu parhau i ddenu lefelau uchel o gyfranogiad heb gynyddu'r angen i'r cyfranogwyr deithio, ffurfiolodd y pwyllgor y gallu i grwpiau trawsbleidiol gael eu cynnal ar ffurf cyfarfodydd rhithwir a hybrid.

Yn dilyn y newid i dirwedd grwpiau yn ystod y bumed Senedd, a chan fod y chweched Senedd ond yn cynnwys tri grŵp gwleidyddol, cytunodd y pwyllgor nad oedd gofyniad aelodaeth y grwpiau trawsbleidiol i gael tri grŵp gwleidyddol yn briodol mwyach. Felly, newidiwyd y gofyniad i dair plaid wleidyddol, er mwyn ei gwneud yn haws i Aelodau sy'n cynrychioli plaid wleidyddol nad yw'n cyrraedd trothwy'r Senedd ar gyfer ffurfio grŵp gwleidyddol. Er mwyn cynyddu tryloywder, cytunodd y pwyllgor hefyd i gyflwyno gofyniad yn y rheolau i o leiaf un Aelod o'r Senedd fod yn bresennol drwy gydol pob cyfarfod grŵp trawsbleidiol.         

Er mwyn annog Aelodau i gymryd rhan lawn yng ngwaith y grwpiau trawsbleidiol, eglurodd y pwyllgor y rheolau ariannol mewn perthynas â'r grwpiau hynny. Pan fo pwnc y grŵp trawsbleidiol yn benodol berthnasol i etholaeth neu ranbarth yr Aelod, neu os yw'r grŵp yn trafod materion a all gael eu trafod gan y Senedd, mae'n amlwg bellach y gall Aelodau hawlio yn unol â'r rheolau a'r canllawiau ar ddefnyddio adnoddau'r Senedd.

Y tu hwnt i'r rheolau eu hunain, bu'r pwyllgor yn ystyried sut i wneud cyfarfodydd grwpiau trawsbleidiol yn fwy hygyrch ac i ennyn diddordeb cynulleidfa ehangach, a daethant i'r casgliad y dylid cyhoeddi pob cyfarfod ar un calendr ar wefan y Senedd. Roeddem o'r farn fod hwn yn newid cymharol syml a fyddai'n cael effaith fawr heb wneud newid sylfaenol i'r ffordd y mae grwpiau'n gallu cael mynediad at adnoddau'r Senedd. Ar hyn o bryd, mae swyddogion yn gweithio ar y ffordd orau o gyflwyno'r wybodaeth hon.

Gwnaeth y pwyllgor newidiadau pellach i'r rheolau i'w symleiddio a dileu cyfeiriadau sydd wedi dyddio i bolisïau. Mae'r newidiadau hyn wedi'u nodi yn ein hadroddiad, ac yn creu dogfen sy'n llawer haws i'w deall ac sy'n ystyried newidiadau a wnaed dros y 10 mlynedd diwethaf.

Hefyd, ystyriodd y pwyllgor effeithiau posibl diwygio'r Senedd, a chytunodd i edrych eto ar y rheolau cyn diwedd y chweched Senedd, pan fydd y rhain yn fwy eglur. Yn benodol, penderfynodd y pwyllgor adolygu'r gofyniad i o leiaf un Aelod o'r Senedd fod yn bresennol drwy gydol pob cyfarfod grŵp trawsbleidiol.

Unwaith eto, hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr ymchwiliad hwn am roi amser i roi tystiolaeth werthfawr i ni a sicrhau ein bod wedi gallu gwneud y rheolau'n addas i'r diben. Edrychaf ymlaen at ateb unrhyw gwestiynau sydd gan yr Aelodau yma nawr. 

15:20

Rwy'n croesawu'r datganiad a roddwyd y prynhawn yma yn y Siambr, ac rwyf am ddiolch i Vikki am gadeirio'r pwyllgor, ac i'm cyd-Aelodau, ac rwyf hefyd am ddiolch i'r tîm clercio am eu cymorth yn yr ymgynghoriad hwn a'r adroddiad. Rwy'n aelod o nifer o grwpiau trawsbleidiol ac rwyf hefyd yn cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar gamddefnyddio sylweddau a dibyniaeth, a sefydlais gyda'r elusen gyffuriau Kaleidoscope. Rwyf o'r farn gadarn y gall clywed profiad byw gael effaith barhaol ar ddatblygu polisi, ac mae grwpiau trawsbleidiol yn gyfrwng i'r straeon personol hynny gael eu clywed. 

O ran y diweddariad heddiw, rwy'n croesawu'r canllawiau ar gyfleusterau hybrid a chyfieithu. Mae'n bwysig hefyd fod y cyfleusterau cyfieithu hyn yn cael parch haeddiannol yn unol â'n hymdrech i fod yn genedl gwbl ddwyieithog. Mae'n dda gweld casgliadau'n tynnu sylw at y gwahanol ffyrdd o gynnal cyfarfodydd. Rwy'n falch hefyd o weld y cafeat y bydd gweithgaredd yn digwydd yn ôl disgresiwn y grŵp sy'n cynnal y cyfryw gyfarfodydd, oherwydd mai hwy sydd yn y sefyllfa orau i wybod beth yw'r fformat delfrydol ar gyfer y cyfarfodydd penodol hynny. Yn fy mhrofiad i, gall grwpiau trawsbleidiol gynnig cyfleoedd gwerthfawr i sicrhau dyfnder ychwanegol a chraffu ar faterion sy'n berthnasol i fywyd yma yng Nghymru. Maent yn cynnig lle gwerthfawr i drafodaethau sy'n gyfeillgar a chynhwysol; hir y parhaed hynny. Diolch yn fawr. 

Hoffwn ddiolch i Peredur Owen Griffiths am ei gyfraniad ac rwy'n adleisio ei ddiolch hefyd i'r tîm clercio. Mae wedi bod yn bleser gweithio fel pwyllgor trawsbleidiol ar yr ymchwiliad pwysig hwn. Ac rwy'n cytuno â chi, Pered, fod grwpiau trawsbleidiol yn gyfryngau pwysig iawn yma yn y Senedd, ac maent yn caniatáu fforwm lle gall pobl roi eu straeon personol eu hunain, a'r effaith bersonol ar wahanol faterion yw cryfder ein system grwpiau trawsbleidiol yn fy marn i. 

Rwy'n falch hefyd eich bod wedi codi mater cyfieithu, y gwn ei fod yn bwysig i chi ar ddechrau'r ymchwiliad hwn, a chawsom sicrwydd fel pwyllgor fod cyfleusterau cyfieithu ar gael ym mhob cyfarfod grŵp trawsbleidiol, boed yn rhai wyneb yn wyneb, hybrid neu rithwir. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn lledaenu'r neges honno ym mhobman. Gadewch inni fynd â'r neges honno yn ôl i'n grwpiau gwleidyddol i wneud yn siŵr fod pob cadeirydd grŵp trawsbleidiol yn manteisio ar y cyfleusterau cyfieithu hynny. 

Felly, i gloi, rwyf hefyd yn cytuno â phopeth a ddywedoch chi ynglŷn â bod grwpiau trawsbleidiol yn ychwanegiad gwerthfawr i'n Senedd, ac rwy'n obeithiol y bydd y rheolau wedi'u diweddaru y buom yn gweithio arnynt fel pwyllgor yn ein cynorthwyo i gynnal hynny. Diolch, Lywydd. 

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus—Craffu ar Gyfrifon Llywodraeth Cymru 2020-21

Yr eitem nesaf, felly, fydd y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar graffu ar gyfrifon Llywodraeth Cymru 2020-21. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Mark Isherwood. 

Cynnig NDM8246 Mark Isherwood

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar ei ymchwiliad, Craffu ar Gyfrifon Llywodraeth Cymru 2020-21, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mawrth 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Ymddiheuriadau. Nid oedd gennym ddarllenfwrdd.

Wel, mae craffu ar gyfrifon sefydliadau sy'n cael eu hariannu'n gyhoeddus yn rhan greiddiol o waith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, ac mae wedi'i wneud yn flynyddol ers 2014. Mae'r gwaith hwn yn sbardun pwysig i adrodd ariannol tryloyw ac yn rhoi cyfle i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus archwilio materion llywodraethu a rheoli ariannol drwy dynnu sylw at unrhyw faterion cyhoeddus sy'n codi, gan gynnig tryloywder a didwylledd. 

Roedd craffu ar gyfrifon cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 yn unrhyw beth ond cyffredin. Wedi'u gohirio a'u llofnodi naw mis yn ddiweddarach na'r amserlen a gytunwyd yn wreiddiol, roedd y cyfrifon hefyd yn cynnwys barn amodol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar dri mater gwahanol. Roedd y rhain yn cynnwys taliad a wnaed i'r cyn Ysgrifennydd Parhaol, rhwymedigaethau treth pensiwn clinigwyr, a gwariant ar rai grantiau busnes COVID-19. Golygai hyn fod craffu wedi'i gynnal gan y pwyllgor hwn yn sylweddol hwyrach na'r bwriad gwreiddiol, gyda chyfle cyfyngedig i wneud argymhellion effeithiol cyn paratoi cyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ganlynol, 2021-22. Mae'r rhain yn faterion difrifol a chymhleth.

Rwyf am gofnodi fy niolch am yr amser a roddodd Archwilio Cymru i archwilio'r cyfrifon hyn yn drylwyr er mwyn sicrhau bod y materion hyn yn cael eu harchwilio a'u hadrodd yn briodol. Rydym yn croesawu ymgysylltiad cadarnhaol a rhagweithiol Archwilio Cymru â'r pwyllgor drwy gydol y broses hon. Diolch hefyd i swyddogion Llywodraeth Cymru am eu hymgysylltiad â'n gwaith craffu.

Prif ganfyddiadau ein hadroddiad yw bod arian sylweddol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol wedi'i golli oherwydd diffygion yng nghyfrifyddu Llywodraeth Cymru. Gwelsom lawer o enghreifftiau lle mae arferion cadw cofnodion gwael a chamreoli cyfrifon cyhoeddus wedi costio i bobl Cymru. Mae hyn yn cynnwys £155.5 miliwn a gollodd Cymru oherwydd rheolaeth wael ar gyfrifon; pryderon difrifol ynglŷn â chadw cofnodion yn ymwneud â thaliad o £80,000 a wnaed i'r cyn Ysgrifennydd Parhaol; a phryderon ynglŷn â lefel twyll a gwall yn y cynllun grantiau busnes COVID-19.

Mewn perthynas â'r taliad a wnaed i'r cyn Ysgrifennydd Parhaol, mae'r pwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion ar yr angen i Lywodraeth Cymru wella'i thryloywder wrth wneud penderfyniadau'n gysylltiedig â rôl a threfniadau gweithio'r Ysgrifennydd Parhaol. Arweiniodd diffygion yn y broses o gadw cofnodion ynghylch y ffordd y gwnaed penderfyniadau pwysig at ddiffyg eglurder a dim digon o gyfle i'r pwyllgor hwn graffu ar y taliad hwn. Methodd Llywodraeth Cymru ddarparu digon o dystiolaeth gyfoes i'r archwilydd cyffredinol sefydlu'r newid yn nhrefniadau gwaith y cyn Ysgrifennydd Parhaol ac i gyfiawnhau'r taliad a wnaed ar ei hymadawiad.

Mae ein hadroddiad hefyd yn codi pryderon ynghylch proses benodi'r Ysgrifennydd Parhaol presennol, sy'n parhau ar secondiad o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Roedd y swydd wedi cael ei hysbysebu gyda chyflog o rhwng £162,500 a £180,000, ond cadarnhaodd Dr Goodall wedi ei benodiad ei fod yn parhau ar fframwaith tâl prif weithredwr y GIG, sy'n golygu bod ei gyflog presennol yn uwch na'r cyflog a hysbysebwyd. Mae hyn yn codi cwestiwn ynglŷn ag a allai Llywodraeth Cymru fod wedi denu ymgeiswyr gwahanol pe bai'r swydd wedi ei hysbysebu ar raddfa gyflog uwch.

Roedd y broses ar gyfer ôl-lenwi swydd flaenorol yr Ysgrifennydd Parhaol, sef cyfarwyddwr cyffredinol y grŵp iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a phrif weithredwr GIG Cymru, hefyd yn aneglur. Clywsom awgrym fod y broses ar gyfer penodi Judith Paget i'r rôl—secondai arall o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan—wedi'i chynnal heb unrhyw ymarfer recriwtio cystadleuol.

Bu'r pwyllgor hefyd yn ystyried y diffyg tryloywder ynghylch parhau â secondiad yr Ysgrifennydd Parhaol ar ôl ei benodi i rôl yr Ysgrifennydd Parhaol, yn enwedig gan mai dim ond yn ystod ein proses o gasglu tystiolaeth y gwnaed y trefniadau hyn yn glir. Teimlai'r pwyllgor fod y trefniadau hyn yn rhai dros dro ac yn ddryslyd.

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu ei harferion adrodd a chadw cofnodion er mwyn sicrhau bod penderfyniadau mewnol ynghylch rôl yr Ysgrifennydd Parhaol, ynghyd ag unrhyw rolau eraill ar lefel cyfarwyddwr cyffredinol neu uwch, wedi'u cofnodi'n glir.

Gan symud tuag at y tanwariant o £155.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru, mae'r pwyllgor yn siomedig fod Cymru wedi colli arian sylweddol o ganlyniad i danwariant Llywodraeth Cymru yn 2020-21. Teimlai'r pwyllgor ei bod hi'n rhwystredig y gallai £155.5 miliwn fod wedi'i ddefnyddio yng Nghymru i ariannu gwasanaethau hanfodol ar adeg pan fo'r gwasanaethau hynny dan bwysau ariannol difrifol.

15:25

Mark, tybed a wnaeth y pwyllgor droi ei sylw, yn ogystal, at y penderfyniad y gellid bod wedi'i wneud gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ar lefel y DU i ganiatáu hyblygrwydd i ddefnyddio hwnnw a'i dynnu'n ôl, a'i ddefnyddio at ddibenion eraill. Mae wedi cael ei wneud o'r blaen. Ni cheir rheswm pam na ellid bod wedi'i wneud nawr, yn enwedig mewn blwyddyn anodd iawn, a blwyddyn heriol hefyd. Felly, rwy'n deall eich bod yn pwyntio bys yn fawr at 'dylai Llywodraeth Cymru fod wedi ei ddefnyddio', ond roedd yr arian a adfachwyd ganddynt yn fach iawn o'i gymharu â'r hyn a gâi ei adfachu oddi wrth adrannau eraill yn y DU, ond fe allai fod wedi bod yn wahanol. Mae hyn yn nwylo Prif Ysgrifennydd y Trysorlys. Fe allai fod wedi caniatáu i Lywodraeth Cymru gadw'r arian hwnnw.

Os darllenwch ein hadroddiad, fe welwch ein bod yn mynd i'r afael yn llawn â hynny ac yn cynnwys rhai o'r materion penodol yr ydych yn tynnu sylw atynt a gyflwynwyd fel tystiolaeth. Yn wir, byddaf yn datblygu rhai o'ch pwyntiau yn fy araith nawr.

Mae'n anodd deall pam y bu i Lywodraeth Cymru aros cyhyd i gael clywed na allai wneud fel y mynnai gyda'r tanwariant, a pham y cafodd cais i ddefnyddio'r tanwariant ei wneud yn ôl-weithredol. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi tybio, ar sail penderfyniadau blaenorol Trysorlys Ei Fawrhydi, y byddai'n cael yr hyblygrwydd i ddefnyddio'r cyllid. Mae'n codi cwestiynau ynglŷn ag a allai gwneud cais yn gynt fod wedi galluogi'r arian i gael ei ddefnyddio. [Torri ar draws.] Gwelaf y Gweinidog yn ysgwyd ei phen yn wrthwynebus; cofiwch, pwyllgor trawsbleidiol yw hwn a chytunwyd ar y geiriad yn unfrydol, ar ôl derbyn tystiolaeth helaeth, mewn sesiynau cyhoeddus a phreifat. Felly, fe wnaethom ystyried yr holl faterion hyn. Rhaid dysgu'r gwersi er mwyn sicrhau na fydd Cymru'n colli arian mor hanfodol eto.

15:30

Wel, mae amser yn brin, wyddoch chi—dim ond 15 munud sydd gennyf i gyd.

Yn wir—rwy'n ddiolchgar i chi am ildio. Ond a wnaethoch chi nodi, naill ai yn ystod yr adroddiad neu ers hynny, unrhyw dystiolaeth fod y Gweinidog wedi cymryd rhan mewn trafodaethau gyda Thrysorlys y DU, gyda’r Prif Ysgrifennydd, a gwneud y pwynt hwn yn gyson, ac mewn gwirionedd, mai methiant Prif Ysgrifennydd y Trysorlys i egluro i'r Gweinidog ydoedd?

Mae hyn yn yr adroddiad. Y broblem yw’r dystiolaeth a gawsom gan lefel uchaf Llywodraeth Cymru: roedd hyn yn ôl-weithredol.

Argymhellodd y pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn rhoi rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor am yr amserlenni a'r trafodaethau a ddigwyddodd rhwng Llywodraeth Cymru a Thrysorlys EF—felly rydym yn barod i edrych ar unrhyw dystiolaeth bellach a allai fodoli—ynghylch cais Llywodraeth Cymru i gario ymlaen swm sy'n fwy na'r hyn a ganiateir ar gyfer cronfa wrth gefn Cymru ar 31 Mawrth 2021. Fe wnaethom ofyn y cwestiynau. Nid yw’r pwyllgor yn disgwyl y bydd Cymru'n colli rhagor o gyllid, ac mae'n argymell ei bod yn gofyn am gymeradwyo hyblygrwydd gan Drysorlys EF cyn gynted â phosibl cyn diwedd y flwyddyn ariannol fel y gellir defnyddio cyllid yn ystod y flwyddyn os gwrthodir ei chais.

Yn olaf, mewn perthynas â'r cynllun grantiau busnes COVID, codwyd pryderon gennym ynghylch sut y defnyddiwyd y disgresiwn a roddwyd i awdurdodau lleol ddefnyddio'r cynllun grant ardrethi annomestig COVID-19. Canfuom fod defnydd anghyson o'r canllawiau diwygiedig a gyhoeddwyd ar gyfer busnesau hunanddarpar wedi arwain at rai awdurdodau lleol yn rhoi taliadau cymorth i fusnesau dilys, hyd yn oed pan nad oeddent yn bodloni’r meini prawf disgresiynol, ond mewn awdurdodau lleol eraill a roddodd y meini prawf ar waith yn llym—yn enwedig un—ni chafodd rhai busnesau dilys y cymorth roeddent ei angen. Nid oedd yn glir o'r dystiolaeth a roddwyd i ni i ba raddau roedd disgresiwn wedi'i ddefnyddio a pha iawn sydd ar gael i fusnesau dilys a amddifadwyd o gymorth yr oedd hawl ganddynt iddo fel arall.

Mae ein hadroddiad hefyd yn tynnu sylw at bryder nad yw Llywodraeth Cymru wedi bodloni’r amserlenni a bennwyd ganddi ar gyfer cyflawni ei gwaith monitro ar ôl cwblhau, gyda’r nod o sicrhau y cedwir at delerau ac amodau grant a mynd i'r afael ag achosion o ddyfarniadau anghywir. Mae'r broses hon yn debygol o barhau am gryn dipyn o amser. Yn ogystal â hynny, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau'n benodol y byddai'n diwygio ei methodoleg ar gyfer cyfrifo'r amcangyfrif o dwyll a gwall yn y cynlluniau grant COVID yn sgil canfyddiadau archwilwyr a sylwadau'r archwilydd cyffredinol yn ei dystysgrif archwilio ar gyfrifon 2020-21. Amlygodd y canfyddiadau hyn fod ansicrwydd yn yr amcangyfrif hwn o ganlyniad i gyfyngiadau data a sut y cyfrifwyd y gyfradd.

Mae’r pwyllgor wedi gwneud argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru roi rhagor o eglurder ar y safbwynt ddiweddaraf ar adfer arian o'r cynlluniau cymorth COVID-19 i fusnesau y mae wedi'u gweinyddu, gan gynnwys esboniad o sut mae'r ffigurau hyn yn cysylltu â'r symiau a adlewyrchir ym memorandwm yr archwilydd cyffredinol a'r rhai a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod tystiolaeth lafar i’r pwyllgor. Rydym yn nodi bod Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU, neu BEIS, wedi nodi manylion ynghylch cyfrifo ei hamcangyfrifon twyll a gwall mewn perthynas â grantiau COVID-19 Llywodraeth y DU yn ei hadroddiad blynyddol a'i chyfrifon ar gyfer 2020-21, rhywbeth nad yw Llywodraeth Cymru wedi’i wneud.

Rydym yn arbennig o bryderus fod twyll a gwall gwerth £570,000 wedi'i nodi mewn un awdurdod lleol lle cynhaliwyd gwiriadau ychwanegol gan y Fenter Twyll Genedlaethol. Mae hyn yn codi pryderon y gallai awdurdodau lleol nad ydynt wedi dewis cynnal gwiriadau ychwanegol y Fenter Twyll Genedlaethol fethu canfod twyll a gwall heb yr archwiliadau ychwanegol hyn. Mae’r pwyllgor yn siomedig i nodi nad oedd cyfrifon cyfunol Llywodraeth Cymru 2021-22, a osodwyd gerbron y Senedd ar 13 Rhagfyr 2022, yn cynnwys amcangyfrif diweddaraf o dwyll a gwall, er inni gael gwybod ymlaen llaw y byddent.

Bydd y pwyllgor yn parhau i fynd ar drywydd y materion hyn gyda Llywodraeth Cymru, ac mae'n edrych ymlaen at drafodaethau pellach ar y pwnc. Byddwn yn monitro gweithrediad ein hargymhellion yn fanwl. Diolch yn fawr.

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

15:35

A gaf gofnodi fy niolch, gyda’r Cadeirydd, i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, y clercod a phawb a fu’n gysylltiedig â'r gwaith o lunio’r adroddiad hwn? Roedd yn ymdrech tîm ym mhob ystyr. Mae cyhoeddi'r cyfrifon hyn wedi bod yn daith hir a llafurus, ac rwy'n falch iawn eu bod yn gweld golau dydd o'r diwedd. Mae sawl agoriad llygad difrifol ac ysgytwol yng nghyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21. Meiddiaf ddweud bod rhai o'r materion yn rhai y gellid bod wedi eu hosgoi yn ôl pob tebyg. Mae un peth yn sicr, serch hynny: mae digon o wersi i Lywodraeth Cymru eu dysgu wrth symud ymlaen. Efallai mai’r mwyaf ysgytwol—a dyma’r un sy'n fy ngwylltio fwyaf—yw’r ffaith bod £155 miliwn wedi’i anfon yn ôl i San Steffan oherwydd camreolaeth Llywodraeth Cymru. Yng nghanol pandemig byd-eang, byddai £155 miliwn wedi mynd yn bell i gadw gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yng Nghymru ar waith.

Diolch am ildio, gan ei fod yn bwynt y mae gennyf broblem gydag ef: rhoddwyd £80.6 biliwn yn ôl i’r Llywodraeth gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a byddai rhywfaint ohono wedi arwain at gyllid canlyniadol ar gyfer y DU, gyda llaw. Nawr, yng Nghymru, roedd yn 1 y cant. Roedd yn 6 y cant ar gyfer yr adran honno, ac yn 6 y cant ar draws adrannau’r DU. Pam y digwyddodd hynny ar draws Whitehall?

Huw, a gaf fi ofyn cwestiwn i chi? A ydych chi wedi darllen yr adroddiad?

Ond nid yw'n ymddangos eich bod chi'n adlewyrchu'r adroddiad.

A bod yn deg, roedd eich dau Aelod sy’n cynrychioli’r grŵp Llafur yn y cyfarfod gyda ni. Fe aethom drwy bopeth fesul linell, a chafodd popeth ei gymeradwyo ganddynt.

Nac ydych, ac rwy'n rhoi gwybod i chi fod popeth wedi'i wneud gyda'r gymeradwyaeth, gyda'r holl waith ymchwil cysylltiedig, a rhoddwyd yr holl atebion i ni drwy'r rheini a oedd yn—

Roedd y ffigur hwnnw yn yr adroddiad. Mae yn yr adroddiad, y ffigur hwnnw.

Roedd yn yr adroddiad, Huw, ac mae arnaf ofn mai dyna’r ffordd rydym yn mynd i fynd gyda hyn.

A gaf fi atgoffa’r Aelodau nad trafodaeth yw hon, ond dadl? Felly, Natasha Asghar.

Diolch yn fawr iawn. Gallwn feddwl am filiwn o wahanol ffyrdd y gallai’r arian fod wedi’i wario yma yng Nghymru ar gyfer pobl Cymru, fel meddygon ychwanegol, nyrsys ychwanegol, ffyrdd o leihau’r rhestrau aros, neu i gael athrawon ychwanegol hyd yn oed. Neu gymorth i ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus efallai. Gwariodd Llywodraeth y DU £155 miliwn ar gapio prisiau tocynnau bws ar £2 mewn ymgais i ddenu mwy o bobl. Mae’r opsiynau’n ddiddiwedd o ran ble gellid bod wedi gwario’r arian mewn gwirionedd. Ond na, oherwydd rheolaeth ariannol wael gan y Llywodraeth Lafur hon, amddifadwyd pobl Cymru o £155 miliwn. Nid ydym yn sôn am gwpwl o bunnoedd yma, na hyd yn oed yn sôn am ddod o hyd i ychydig o newid mân i lawr cefn soffa. Mae hynny'n ddigon o arian i roi codiad cyflog o 1.5 y cant am flwyddyn i bob gweithiwr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, neu fel y mae grŵp COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru wedi'i nodi, gallai'r arian hwnnw fod wedi talu am lawer o hidlyddion HEPA ar gyfer ysbytai.

Dro ar ôl tro, mae Gweinidogion Llafur prudd wedi sefyll o flaen yr union Siambr hon yn cwyno am dlodi a chyni, gan ddweud wrth bawb sy'n gwrando nad oes ganddynt ddigon o arian yn eu pocedi ôl. Neu maent yn dweud eu bod yn dymuno gallu gwneud mwy, ond mae eu dwylo wedi'u clymu oherwydd prinder arian. Maent bob amser yn barod i bwyntio bys at San Steffan, gan gyhuddo Llywodraeth y DU o beidio â phwmpio digon o arian i goffrau Llywodraeth Cymru, a’r nifer o weithiau rwyf wedi eistedd yma yn llythrennol yn rholio fy llygaid, am fod rhyw Weinidog neu’i gilydd yn dweud 'Pam na wnewch chi ofyn i'ch cymheiriaid yn Llundain am fwy o arian i Gymru?' Mae'n hurt. Wel, yn sicr, ni wnaiff hynny mo'r tro mwyach, gan fod pob un ohonom yn gallu gweld mai’r realiti yw bod gan Lywodraeth Cymru ddigon o arian ar y pryd, cymaint mewn gwirionedd fel na allent ei wario hyd yn oed.

Na, Huw, gyda phob parch, rydych wedi cael digon o gyfleoedd. Ac rwy'n adleisio'r hyn a ddywedodd Dawn yn gynharach: gallwch barhau i ofyn yr un cwestiwn dro ar ôl tro, ond rydych yn mynd i gael yr un ateb. Nid wyf am glywed yr un gwleidydd Llafur yn sefyll yn y Siambr hon yn y dyfodol yn sôn am ba mor brin o arian ydynt. Mae camreolaeth ariannol y Llywodraeth hon wedi costio’n ddrud i bobl Cymru, ac ni all ddigwydd eto.

Pwynt arall yr hoffwn sôn yn benodol amdano yma yw lefel twyll a gwall yn y cynllun grantiau busnes COVID-19, a weinyddwyd drwy awdurdodau lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn credu y gallai cyfanswm twyll a gwall fod rhwng £700,000 a £37 miliwn. Mae hwn yn amcangyfrif anhygoel o eang. Yr hyn nad wyf yn ei ddeall yw pam na roddodd Llywodraeth Cymru fwy o bwysau ar awdurdodau lleol i nodi achosion o dwyll a gwall. Mae rhai cynghorau'n dweud nad ydynt wedi dod o hyd i unrhyw achos o dwyll a gwall. Nid yw'n bosibl fod hynny'n wir.

Ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw hi fod gwersi’n cael eu dysgu o’r saga druenus hon, fel nad yw pobl Cymru yn cael cam eto oherwydd analluogrwydd pur y Llywodraeth Lafur hon. Mae pobl Cymru o leiaf yn haeddu ymddiheuriad gan Lywodraeth Cymru a sicrwydd y bydd canlyniadau difrifol os bydd y math hwn o esgeulustod llwyr yn digwydd eto. Diolch yn fawr iawn.

Diolch am y cyfle i gael cymryd rhan yn y ddadl yma y prynhawn yma ar gyfer y drafodaeth am gyfrifon y Llywodraeth. Mae'n amlwg bod yr ymchwiliad yma wedi bod yn un trylwyr; mae'r ystod o ganfyddiadau yn dyst i hynny.

Yr elfen gyntaf dwi am edrych arni ydy'r £155 miliwn a ddychwelwyd i'r Trysorlys yn Llundain. Mae'n rhaid cyfaddef fy mod i wedi bod yn syfrdan wrth glywed hyn yn gyntaf. Yn wir, mae'n parhau i fy syfrdanu. Drosodd a thro, rydym ni'n clywed Gweinidogion o'r Llywodraeth yma, heb sôn am Aelodau meinciau cefn y Blaid Lafur, yn dadlau nad ydy Cymru yn cael ei hariannu'n gywir. Yn ddiweddar, mae Gweinidogion wedi bod yn dweud nad oes yna bres i gynnal y grantiau bysiau, er enghraifft, a bod yn rhaid torri'r got yn ôl y brethyn. Yna, rydym ni'n cael ar ddeall eu bod nhw'n gyrru £155 miliwn yn ôl i'r Trysorlys.

Rŵan, dwi'n clywed dadleuon y Llywodraeth—y dadleuon ddaru Huw Irranca ddweud rŵan—eu bod nhw wedi gwneud cais i'r Llywodraeth Geidwadol i gario pres ymlaen o un flwyddyn i'r llall, ac mai bai'r Ceidwadwyr ydy hyn. Ond, o ddifrif, oeddech chi'n disgwyl i'r Ceidwadwyr yn Llundain, yn enwedig wrth ystyried y berthynas wael efo Boris Johnson ar y pryd, i gydymdeimlo? Beth ydych chi'n ei ddisgwyl gan ful ond cic? Mae'n rhaid i'r Llywodraeth yma ddechrau cymryd cyfrifoldeb am ei methiannau ei hun. Drosodd a thro, maen nhw'n gwadu cyfrifoldeb ac yn gwrthod cymryd y bai, er gwaethaf eu bod nhw wedi bod mewn Llywodraeth ers 24 mlynedd.

15:40

Diolch yn fawr iawn, Mabon. Ac nid yr un pwynt ydyw, er gwaethaf yr hyn a ddywedwyd ynghynt. A gaf fi ddweud: yr hyn y byddwn yn ei ddisgwyl gan Lywodraeth y DU yw ymgysylltu cyfrifol â Llywodraeth Cymru, pe bai yna Lywodraeth gyfrifol, er mwyn negodi'r hyblygrwydd hwnnw? Ond beth yw ei farn am y 6 y cant o gyllidebau Whitehall a roddwyd yn ôl, y swm o £1 biliwn? Mae'n fach iawn, y £155 miliwn. Byddai hynny wedi bod yn £1 biliwn o gyllid canlyniadol i Gymru—£1 biliwn.

Dwi'n cytuno'n llwyr efo'r Aelod ar y pwynt yna. Ac mae'r ffordd mae Llywodraeth y Ceidwadwyr yn San Steffan yn trin Cymru ac yn trin pobl y wladwriaeth hon yn gywilyddus, ond, yn yr achos yma, rydym ni'n edrych ar £155 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn mynd nôl i Drysorlys San Steffan fuasai wedi talu am y bus emergency scheme bedair gwaith, bum gwaith drosodd. Felly, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb am eu methiannau nhw, yn yr un modd ag y mae'n rhaid i'r Ceidwadwyr gymryd cyfrifoldeb am eu methiannau hwythau yn San Steffan.

Os edrychwch chi ar y straeon ynghylch yr SNP yn yr Alban a'r Ceidwadwyr yn San Steffan, mae'r sylwebyddion yn unfrydol bod y ffaeleddau sy'n cael eu hadrodd yn y newyddion yn ganlyniad i bleidiau gwleidyddol sydd wedi treulio gormod o amser mewn llywodraeth ac wedi mynd yn ddiog. Dyna meddai nhw. Eu bod nhw wedi colli'u sbarc a'u gweledigaeth, meddai nhw, ac wedi colli cyfeiriad. Wel, os ydy hynny'n wir am blaid sydd wedi bod mewn grym ers 15 mlynedd, beth am blaid sydd wedi bod yn llywodraethu yma am 24 mlynedd? Os nad ydyn nhw'n gallu ffeindio achos i wario £155 miliwn yn un o wledydd tlotaf gogledd Ewrop, pan eu bod nhw'n byw drwy argyfwng tai, argyfwng iechyd a methiannau addysg, heb sôn am broblemau lu eraill, yna Duw a'n gwaredo.

Yna mae'r mater o daliadau i'r cyn-Ysgrifennydd Parhaol a'r gyfres o gwestiynau a ddaw yn sgil hynny. Sut gall taliadau sylweddol gael eu gwneud am waith na wnaed, heb fod yn gyntaf fod wedi derbyn cyngor cyfreithiol? Sut bod trefniadau cyflogaeth ac ymddeoliad yn cael eu gwneud sydd ddim yn rhan o reolau adnoddau dynol cyflogaeth y Llywodraeth? A sut nad oedd y wybodaeth yma am y newidiadau i gyflogaeth wedi cael eu cyfathrebu'n glir i'r gwahanol reolwyr llinell? Mae'r cyfan yn rhoi'r awgrym o un rheol i un a rheol arall i eraill. Ond, yn fwy na hyn oll, mae wedi cael ei amlygu eto fyth nad ydy'r Llywodraeth yma yn hoff o dryloywder ac yn methu â chadw cofnodion clir o benderfyniadau. Sawl gwaith mae'n rhaid i'r Llywodraeth gael ei beirniadu am hyn cyn iddyn nhw weithredu? Mae'r adroddiad i mewn i'r cytundeb cyflogaeth i'r cyn-Ysgrifennydd Parhaol yn dangos yn glir nad oedd cofnodion clir wedi cael eu cadw. Rydym ni'n gwybod, o achos Fferm Gilestone, fod cyfarfodydd wedi'u cynnal heb fod cofnodion yn cael eu cadw, a, nôl yn 2020, fe ysgrifennodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus bryd hynny i'r Ysgrifennydd Parhaol yn mynegi pryderon am fethiant y Llywodraeth i gadw cofnodion cywir.

Pam y cyfrinachedd? Pam y cyndynrwydd i fod yn dryloyw? Mae'r Llywodraeth yn ffodus nad oes yna lawer o graffu cyhoeddus ar ei gwaith yma yng Nghymru, a hynny o ganlyniad i wasg Gymreig fach a straeon gorffwyll San Steffan yn cymryd yr holl bandwidth gwleidyddol Prydeinig, neu efallai fod y Llywodraeth yma yn deall yn iawn fod yna ddiffyg craffu cyhoeddus. Ond gall pethau ddim parhau fel yma. Mae'n rhaid cael tryloywder a dwi'n erfyn ar y Llywodraeth i ddysgu gwersi o'r adroddiad yma a sicrhau bod pobl Cymru yn gwybod yn union sut mae'u pres yn cael ei wario a sut mae'r bobl yma yn cael eu cyflogi. Diolch yn fawr iawn. 

Rwy’n ddiolchgar, Lywydd dros dro. Mae'n hyfryd eich gweld yn y gadair heddiw. Hoffwn achub ar y cyfle, os caf, Gadeirydd, i nodi cyd-destun arian cyhoeddus ar draws y Deyrnas Unedig, gan ei bod yn bwysig iawn nodi'r cyd-destun yma heddiw: y gwastraff arian gwarthus hwn yn San Steffan; penderfyniad Llywodraeth y DU i wrthod biliynau, fel y gwyddom—fel rydym wedi’i drafod droeon yma—o gyllid cyfalaf i Gymru. Os edrychwn yn ôl, roedd llawer ohonom yma yn ystod cyfnod y pandemig. Gadewch inni edrych ar rai o'r pethau a ddigwyddodd bryd hynny gyda chyllid cyhoeddus. Rwy'n credu bod pob un ohonom yn cofio Matt Hancock, efallai o'i ddyddiau ar I'm a Celebrity, ond yn sicr, o'i ddyddiau fel Gweinidog iechyd—y gwerth £40 miliwn o waith COVID y Llywodraeth a enillwyd gan gyn-landlord ei dafarn leol. Yr un Matt Hancock y gwnaeth ei adran iechyd ar y pryd danwario dros 10 y cant o’u cyllid adrannol, y bu’n rhaid ei roi yn ôl i’r Trysorlys, yn debyg i’r hyn rydym yn sôn amdano heddiw.

Gadewch inni edrych ar danwariant adrannau. Fe wnaethom sôn am danwariant adrannau yn Llywodraeth Cymru o 1 y cant yn unig, ond gadewch inni edrych ar yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, er enghraifft. Roedd gan Alok Sharma a’r trychinebus Kwasi Kwarteng £4.1 biliwn—mae hwnnw’n danwariant o 16 y cant. 'Yr adran godi'r gwastad fel y'i gelwir', fel y byddwn yn ei galw, o dan Robert Jenrick, £1 biliwn—dyna danwariant o 4 y cant yn yr adran honno. Yr Adran Drafnidiaeth, unwaith eto, 4 y cant; yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, fel yr oedd, tanwariant adrannol o 19 y cant. Dyna rydym yma i’w drafod yn y ddadl hon. Os ydym yn ystyried ac yn cyferbynnu’r ddau ddull o weithredu, sef cynllun profi ac olrhain GIG Lloegr o gymharu â chynllun profi ac olrhain GIG Cymru, yn GIG Lloegr, gwariwyd swm sylweddol o arian ar hynny, a gwastraffwyd swm sylweddol hefyd. Gadewch inni edrych ar effeithlonrwydd y ddwy raglen—dwy raglen wahanol. Cafodd system Cymru ei harwain gan y sector cyhoeddus a oedd yn llawer mwy effeithlon na system Lloegr a gâi ei harwain gan y sector preifat a chyfeillion y Llywodraeth honno.

Mae yna enghreifftiau dirifedi, Lywydd, ond hoffwn gyffwrdd ar un cyn cloi. Gadewch inni gyffwrdd eto ar yr enghraifft o dwyll a lefelau twyll. Soniodd Natasha Asghar, aelod o’r pwyllgor, am hyn yn y ddadl, yn gywir ddigon, ac rwy’n falch fod y pwyllgor wedi edrych arno. Mae adroddiad y pwyllgor ei hun yn nodi bod lefelau isel iawn o dwyll a gwall yn ein grantiau i fusnesau o ganlyniad i’r dull o weithredu yng Nghymru. Mae honno’n wers i Lywodraeth y DU ei dysgu pan fyddant yn edrych ar eu cyllidebau adrannol. Gadewch inni geisio deall realiti ein sefyllfa: rhoddodd Llywodraeth Cymru lai nag 1 y cant o gyfanswm ei therfyn gwariant yn ôl. Mae Huw Irranca-Davies, yn ei nifer o ymyriadau y prynhawn yma, eisoes wedi egluro am y £155 miliwn hwnnw a sut y gallai ac y dylai Llywodraeth y DU fod wedi bod yn hyblyg yn eu hymagwedd, fel y maent wedi bod ar sawl achlysur yn y gorffennol. Ond y gwir amdani unwaith eto yw bod Cymru a Llywodraeth Cymru yn parhau i fod, fel y maent wedi bod yn gyson, ar frig tabl gwariant holl adrannau Llywodraeth y DU. Rwyf wedi sôn eisoes am yr adrannau mawr—BEIS, yr adran godi'r gwastad fel y'i gelwir, llwyth o rai eraill, yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon—ac unwaith eto, mae Cymru, Llywodraeth Cymru, ar frig y tabl.

Credaf mai'r gwir amdani, Lywydd, yw oes, mae yna £155 miliwn, ond mae'n £155 miliwn sy'n perthyn i bobl Cymru. Mae'n ddyledus i bobl Cymru, ac mae'r penderfyniad i'w gymryd yn ôl—ni chafodd ei roi yn ôl; cafodd ei gymryd yn ôl gan Lywodraeth Geidwadol y DU—yn anffodus, ac mae'n drist dweud hyn, yn un sydd â chymhelliad gwleidyddol yn sail iddo. Diolch.

15:45

Yn amlwg, mae craffu trylwyr yn peri peth anesmwythyd, craffu a gyflwynwyd yn yr adroddiad hwn. Diolch i’r PCC am wneud gwaith mor drylwyr a llywio'r ddadl hon heddiw. Ni ddylem byth ofni craffu, er y gallai fod yn feirniadol ohonom. Mae’n rhaid inni ddysgu o’r craffu hwnnw, ac yn amlwg, mae Huw wedi cael trafferth gyda rhywfaint o’r craffu hwnnw heddiw, ac yn ceisio herio rhai o’r pethau yn hyn dro ar ôl tro. Ond mae Cymru angen i'w Llywodraeth fod yn agored ac yn dryloyw gyda’i materion ariannol. Nid yw’r arian yma i’r Llywodraeth wneud fel y mynno heb fod yn atebol i neb. Yn hytrach, mae gweithwyr Cymru'n ymddiried ynddynt i'w wario'n ddoeth. Mae’n hollbwysig, felly, fod yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio’n briodol, gan sicrhau bod trethdalwyr Cymru'n cael gwerth am arian.

Yn gyntaf, hoffwn dynnu sylw at y ffaith ei bod yn peri cryn bryder fod y broses o osod cyfrifon cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021 wedi’i gohirio’n sylweddol a’i llofnodi naw mis yn ddiweddarach na’r amserlen y cytunwyd arni’n wreiddiol. Ac i wneud y materion hynny'n waeth—a gwn fy mod yn ailadrodd pethau eto—rhoddwyd barn amodol gan yr archwilydd cyffredinol ar dri mater gwahanol yn y cyfrifon, gan gynnwys y taliad i'r cyn-Ysgrifennydd Parhaol, rhwymedigaethau treth pensiwn clinigwyr a gwariant ar rai grantiau busnes COVID-19. Un o’r prif bryderon, fel y clywsom, sydd gan yr archwilydd cyffredinol oedd y taliad i’r cyn Ysgrifennydd Parhaol o £80,500 ar ddiwedd eu contract. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod innau'n rhannu pryderon yr archwilydd cyffredinol. Mae hefyd yn peri pryder i mi fod Llywodraeth Cymru wedi methu rhoi digon o dystiolaeth briodol i’r archwilydd cyffredinol allu penderfynu a oedd y taliad hwn yn gywir ac wedi’i awdurdodi’n briodol.

Hefyd, hoffwn fynegi pryderon a amlygwyd gan yr archwilydd cyffredinol ynghylch y posibilrwydd o dwyll, unwaith eto, fel y clywsom, mewn perthynas â grantiau COVID Llywodraeth Cymru. Digwyddodd hyn am fod y corff gwarchod gwariant cyhoeddus wedi canfod nad oedd rhai cynghorau wedi nodi unrhyw achosion o dwyll a gwall—casgliad a oedd yn hynod annhebygol ym marn Archwilio Cymru, yn enwedig pan ddarganfu un awdurdod, ar ôl gwiriadau ychwanegol, y gallai fod gwerth £570,000 o dwyll a gwall wedi digwydd, fel y nodwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor.

Yn olaf, rwyf am fynegi'r pryderon unwaith eto ynghylch y golled sylweddol o £155.5 miliwn o refeniw o ganlyniad uniongyrchol i benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â’i wario, gan wybod yn iawn na ellid cario’r cyllid hwn ymlaen, a dim ond gofyn am fwy o hyblygrwydd wedi i'r flwyddyn ariannol ddod i ben. Nid yw pobl Cymru yn dymuno gweld Llywodraeth Cymru yn cecru o hyd ac o hyd gyda Llywodraeth y DU ynghylch prosesau sefydledig—mae arnynt angen un sy’n fodlon gwario arian cyhoeddus yma yng Nghymru mewn modd amserol a phriodol. Rwy’n sicr yn gobeithio na chaiff y camgymeriad hwn ei ailadrodd eto. Wrth symud ymlaen, mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn ystyried yr hyn y mae’r archwilydd cyffredinol wedi’i ddweud, gan sicrhau bod adroddiadau fel y rhain yn cael eu cyhoeddi a’u trafod yn gyflymach er mwyn gallu craffu’n effeithiol ar y defnydd o arian trethdalwyr. Rwy'n croesawu'r gwaith craffu a wnaed ac a drafodwyd yma y prynhawn yma—mae’n gwbl briodol, a dyma ddylem fod yn ei wneud yma.

15:50

Dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans.

Diolch. Rwy'n croesawu gwaith craffu parhaus y pwyllgor ar ein cyfrifon blynyddol. Mae'n helpu Llywodraeth Cymru yn ei hymdrechion i wella'n barhaus yr wybodaeth sydd ar gael i ddarllenwyr y cyfrifon. Mae swyddogion yn parhau i weithio’n agos ac yn adeiladol gyda’r pwyllgor a chydag Archwilio Cymru, a bydd yr Ysgrifennydd Parhaol yn ymateb i argymhellion yr adroddiad.

Un maes o ddiddordeb yw rheolaeth diwedd blwyddyn. Bydd yr Aelodau’n cofio fy mod, ym mis Awst 2022, wedi darparu adroddiad ysgrifenedig i’r Pwyllgor Cyllid ar alldro terfynol 2020-21 ar gyfer Llywodraeth Cymru, wedi’i osod yn erbyn cynlluniau gwariant a gymeradwywyd yn y drydedd gyllideb atodol, yn unol â fy ymrwymiad i arferion da a thryloywder. Rwyf wedi nodi’r ffeithiau yn y Siambr hon ar sawl achlysur bellach, ac yn y Pwyllgor Cyllid, ond fe wnaf hynny eto heddiw.

Roedd y pandemig a’r cyllid a ddarparwyd ar gyfer ein hymateb yn golygu bod blwyddyn ariannol 2020-21 yn flwyddyn eithriadol. Darparwyd cyllid sylweddol gan Lywodraeth y DU yn hwyr iawn yn y flwyddyn ariannol. Er mwyn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o’r cyllid hwn a sicrhau’r gwerth gorau am arian i’r trethdalwr, fe wnaethom benderfyniadau i sicrhau’r gwariant mwyaf lle bynnag y bo modd, gan gynnwys bwrw ymlaen yn gynharach â’n cynlluniau cyfalaf. I fod yn gwbl glir, fe wnaethom weithredu o fewn y rheolaeth gyllidebol gyffredinol a osodwyd gan Drysorlys EF ar y pryd ar gyfer y terfyn gwariant adrannol, a dylem fod wedi cael rhywfaint o hyblygrwydd mewn perthynas â'r rheolaethau refeniw a chyfalaf unigol. Cafodd ein penderfyniadau i sicrhau’r gwariant cyfalaf mwyaf eu gwneud gan ystyried y rheolau yng nghanllawiau cyllidebu cyfunol y Trysorlys, sef bod modd newid cyllidebau refeniw yn gyfalaf. Mae'n arfer a ddefnyddiwyd gennym yn y gorffennol.

Yn dilyn trafodaeth hir gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ar y pryd, a swyddogion y Trysorlys, gwrthodwyd yr hyblygrwydd inni newid refeniw yn gyfalaf, a hynny er inni gael deall y byddai modd i’r anghydbwysedd o ran refeniw a chyfalaf gael ei reoli ar ôl diwedd y flwyddyn drwy addasu alldro. O ganlyniad, cafodd cyllid ei hawlio’n ôl gan y Trysorlys oherwydd defnydd cwbl fympwyol o'r canllawiau cyllidebu cyfunol, nad oedd yn cydnabod yn llawn y trefniadau y cytunwyd arnynt gyda'r Llywodraeth hon yn ein fframweithiau ariannol. Pwysais dro ar ôl tro ar Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ar y pryd i ganiatáu'r hyblygrwydd hwn fel y gallem gael yr arian wrth symud ymlaen, gyda nifer o awgrymiadau pragmatig ynglŷn â sut y gellid gwneud hynny. Fodd bynnag, gwrthodwyd pob un o’r ceisiadau hyn, ac mae honno’n amlwg yn sefyllfa annerbyniol. Ond mae patrwm o afresymoldeb ym mhenderfyniadau'r Trysorlys ac maent wedi costio’n ddrud i Gymru. Mae'r bennod hon yn dangos unwaith eto fod ganddynt ddull anghyfrifol ac anghynaliadwy o reoli cyllid cyhoeddus ledled y DU. Mae ein hargymhellion yn 'Diwygio ein Hundeb' yn ceisio datrys y materion cwbl osgoadwy hyn.

Felly, beth allai egluro ymagwedd y Trysorlys? Fel y clywsom, cyfanswm y tanwariant yn 2020-21 gan holl adrannau Llywodraeth y DU oedd £29 biliwn. Ac rydym wedi clywed rhai enghreifftiau: cafwyd tanwariant o dros 10 y cant o'i chyllideb gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a rhoddodd Matt Hancock £20.2 biliwn yn ôl i'r Trysorlys. Rhyngddynt, rhoddodd Alok Sharma a Kwasi Kwarteng yn BEIS £4.1 biliwn yn ôl—aeth 16 y cant o’r cyllid a oedd ar gael ganddynt yn ôl i’r Trysorlys. Rhoddodd Robert Jenrick yn yr adran ffyniant bro £1 biliwn yn ôl, 4 y cant o'i gyllideb. Rhoddodd Grant Shapps yn yr Adran Drafnidiaeth £0.75 biliwn yn ôl, unwaith eto, 4 y cant o’i gyllideb. A rhoddodd Oliver Dowden—[Torri ar draws.]—na wnaf—yn yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon £700 miliwn, 19 y cant o'i gyllideb, yn ôl i'r Trysorlys. Yn gyffredinol, rhoddodd adrannau Llywodraeth y DU bron i 7 y cant o’u cyllid yn ôl i’r Trysorlys y flwyddyn honno.

Yng Nghymru, roedd yr arian a gymerwyd yn ôl yn 1 y cant o’r adnoddau a oedd ar gael i ni. Byddai cyfran Barnett o’r cyllid a roddwyd yn ôl i’r Trysorlys gan adrannau’r DU wedi bod ymhell dros £1 biliwn, yn hytrach na’r ffigur llawer is o £155 miliwn. Ond gadewch inni gofio na fyddai wedi bod yn ddim byd o gwbl pe bai'r newid o refeniw i gyfalaf wedi'i ganiatáu. Er bod Gweinidogion y DU wedi rhoi rhannau helaeth o’u cyllidebau yn ôl heb eu gwario, gwariwyd pob ceiniog o’n cyllideb ni, ond gwrthododd Llywodraeth y DU y newid o refeniw i gyfalaf. Ond ni allai unrhyw un ddadlau y dylem fod wedi dilyn dull Llywodraeth y DU o reoli arian cyhoeddus yn ystod y pandemig. Dywedodd Nick Macpherson, cyn Ysgrifennydd Parhaol Trysorlys y DU, fod y rhaglen profi ac olrhain gwerth £37 biliwn yn Lloegr

'yn ennill y wobr am y rhaglen wariant cyhoeddus fwyaf gwastraffus ac anobeithiol erioed'.

Y gwir amdani yw bod gan Lywodraeth Cymru hanes hir o berfformio’n well nag adrannau gorau'r DU a’r Llywodraethau datganoledig o ran defnyddio ein cyllideb, ac roedd hynny’n dal yn wir yn 2020-21. Dyna'r stori go iawn yma. Rwy’n gresynu’n fawr at barodrwydd anwybodus, diog, wedi'i gymell yn wleidyddol, rhai Aelodau yn y Siambr hon i gamarwain y cyhoedd am y sefyllfa a ddigwyddodd yn y flwyddyn ariannol honno. Golygodd ein rheolaeth well ar arian cyhoeddus yma y bu modd inni wneud mwy yng Nghymru i gefnogi pobl a busnesau drwy’r pandemig. Roedd cymorth busnes yng Nghymru'n fwy hael o lawer. Cafodd tafarn neu fwyty canolig eu maint gyda 10 aelod o staff £82,500 yma yng Nghymru, ond dim ond £26,000 yn Lloegr. Cafodd siop goffi gyda phedwar aelod o staff £33,000 yma yng Nghymru, a dim ond £18,000 yn Lloegr, ac mae hynny oherwydd y penderfyniadau a wnaed yma yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru geisio cymeradwyaeth gynnar am hyblygrwydd gan Drysorlys Ei Fawrhydi cyn diwedd y flwyddyn ariannol a darparu rhagor o fanylion am yr amserlen ar gyfer trafodaethau ynglŷn â diwedd blwyddyn 2020-21 gyda’r Trysorlys. Rwy'n gobeithio fy mod wedi rhoi sicrwydd eto i fy nghyd-Aelodau ein bod wedi gwneud popeth yn ein gallu, cyn ac ar ôl diwedd y flwyddyn, i ddatrys y mater, ond bydd yr Ysgrifennydd Parhaol yn darparu manylion ychwanegol yn ei ymateb. Mae gennyf restr yma o drafodaethau a gawsom gyda Thrysorlys Ei Fawrhydi ynglŷn â diwedd blwyddyn 2020-21, trafodaethau a ddechreuodd ym mis Chwefror 2021 ac a barhaodd tan fis Mehefin 2022. Mae nifer y trafodaethau hynny'n cyrraedd ffigurau dwbl.

Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus hefyd wedi gwneud nifer o argymhellion ynghylch yr ystod eang o gymorth COVID a ddarparwyd i fusnesau yn ystod cyfnod 2020-21. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cafodd 260,000 o grantiau eu darparu i fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan y pandemig, gwerth cyfanswm o £1.6 biliwn. Cyflwynwyd y pecyn cymorth digynsail hwn yn gyflym i gefnogi busnesau a oedd ar gau neu a gafodd eu heffeithio’n ddifrifol gan y pandemig, ac a oedd mewn perygl gwirioneddol o roi’r gorau i fasnachu, gan arwain at golli miloedd o swyddi. Yn gyffredinol, cytunodd 85.8 y cant o’r derbynwyr fod cymorth Llywodraeth Cymru wedi bod yr un mor bwysig â'r cynllun ffyrlo i ddiogelu’r busnesau hynny, a chytunodd 91.9 y cant fod y cyllid wedi helpu i ddiogelu swyddi. Dim ond oherwydd y cydweithio agos ag awdurdodau lleol a phartneriaid, megis Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Banc Datblygu Cymru, y bu hyn yn bosibl.

Wrth gwrs, daeth lefel a chyflymder ein hymyrraeth â risg o dwyll a gwall yn ei sgil, ond roedd ein dull o weithredu yn benodol i Gymru ac yn cynnwys mesurau gwirio ac archwilio ar bob cam. Er enghraifft, roedd ein cyllid gwarantu benthyciadau drwy Fanc Datblygu Cymru, yn wahanol i fenthyciadau adfer y DU, yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau gadarnhau eu manylion ar gyfer cymorth ardrethi annomestig i’n galluogi i gymharu â gwybodaeth am drethdalwyr hysbys. Defnyddiwyd gwiriadau deallusrwydd artiffisial hefyd yn erbyn cronfeydd data a oedd ar gael i ddilysu'r manylion. Gwiriwyd ymgeiswyr yn erbyn ffynonellau a oedd yn cynnwys cofnodion TAW Tŷ’r Cwmnïau, cofrestrau ardrethi busnes a chronfeydd data mewnol, tra bo taliadau wedi'u gwirio yn erbyn cofnodion ariannol mewnol a chyfrifon banc i sicrhau bod taliadau’n cael eu gwneud i’r busnesau cywir. Mae hyn wedi arwain at gyfradd sylweddol is o dwyll a gwall yng Nghymru, gyda 99 y cant o ddyfarniadau ar hyn o bryd yn dangos cydymffurfiaeth. Mewn cymhariaeth, roedd gan grantiau cymorth busnes Llywodraeth y DU lefelau twyll o hyd at 8.4 y cant, felly er gwaethaf y lefelau llawer is o dwyll yma, rydym yn parhau i ganolbwyntio ar adfachu a mesurau priodol ar gyfer pob achos o dwyll a gwall a ganfuwyd. Ac wrth 'gwall', rwy'n golygu gwall ar ran busnes wrth wneud y cais.

Felly, rydym wedi sefydlu tîm pwrpasol ar gyfer gwaith ar ôl cwblhau ac rydym yn coladu'r cyfraddau twyll a gwall fel rhan o'n gweithgarwch parhaus yn monitro ar ôl cwblhau. Ac unwaith eto, rwy'n falch nad ydym wedi dilyn esiampl Llywodraeth y DU. Dywedodd yr Arglwydd Agnew, Gweinidog y Trysorlys a Swyddfa’r Cabinet ar y pryd, fod goruchwyliaeth Llywodraeth y DU ar yr amrywiol gynlluniau wedi bod yn ddifrifol o annigonol, a bod gwallau sylfaenol wedi’u gwneud.

Felly, i gloi, Gadeirydd, mae argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn ystyried adroddiad blaenorol ar gadernid prosesau cadw cofnodion a chyfathrebu gofynion i staff. Mae’r ysgrifennydd parhaol, fel yr argymhellwyd gan y pwyllgor, wedi cymryd camau i sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol o’r gofynion hynny, ac eitemau eraill y gwn y bydd yn eu darparu yn ei ymateb ysgrifenedig i’r pwyllgor. Mae sawl agwedd ar yr adroddiad yn ymwneud â rheolaeth y gwasanaeth sifil a chyflogi staff gan Lywodraeth Cymru. Yr Ysgrifennydd Parhaol yw'r person mwyaf priodol i fynd i'r afael â hwy a bydd yn gwneud hynny yn ei ymateb ysgrifenedig i’r pwyllgor.

16:00

Dwi’n galw ar Mark Isherwood i ymateb i’r ddadl.

Diolch i bawb a gyfrannodd, gan ddechrau gyda Natasha Asghar, a ddywedodd fod digon o wersi i Lywodraeth Cymru eu dysgu wrth symud ymlaen. Nododd nifer o anghenion cyllid allweddol y gallai'r tanwariant o £155.5 miliwn fod wedi eu diwallu, a dywedodd y gallai lefel twyll a gwall fod rhwng £700,000 a £30 miliwn—ond nad ydym yn gwybod. Dywedodd Mabon ap Gwynfor ei fod wedi synnu pan glywodd fod y £155.5 miliwn wedi cael ei anfon yn ôl i Drysorlys y DU, a byddai wedi talu, meddai, am y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau bedair neu bum gwaith drosodd. Dywedodd nad yw Llywodraeth Cymru yn hoff o dryloywder ac na chedwir cofnodion clir. Roedd yn gywir i ddweud na allwn barhau heb atebolrwydd cyhoeddus yng Nghymru.

Siaradodd Jack Sargeant am ddefnydd Llywodraeth y DU o arian yn San Steffan, ac eto, mae'r drafodaeth hon yn ymwneud â chyfrifon Llywodraeth Cymru, ac mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn ystyried materion sy'n ymwneud ag economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y defnydd o adnoddau i gyflawni swyddogaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac mae'n ofynnol i Lywodraeth Cymru ymateb yn wrthrychol ac yn dryloyw i'n canfyddiadau a'n hargymhellion sydd wedi'u seilio ar dystiolaeth.

Dywedodd Peter Fox fod yn rhaid i drethdalwyr yng Nghymru gael gwerth am arian. Tynnodd sylw eto at y ffaith bod y cyfrifon yn hwyr iawn, a bod yr Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi rhoi barn amodol arnynt. Rhannodd yr holl bryderon a nodwyd gan Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Cyfeiriodd y Gweinidog at reolaeth diwedd blwyddyn. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn gweithredu gyda'r mesurau rheolaeth ariannol a osodir gan Drysorlys y DU. Ni chlywais hi'n sôn bod y swm y gwnaethant ofyn am gael ei gario ymlaen yn fwy na'r terfyn ar gronfa wrth gefn Cymru, er enghraifft. Yna aeth yn ôl i siarad am Lywodraeth y DU pan fo cylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, unwaith eto, yn berthnasol yn y cyd-destun hwn i'w ddyletswydd i graffu ar Lywodraeth Cymru. Mae'n ymddangos y gellid bod wedi dehongli ei hymagwedd hi—ac rwy'n gobeithio fy mod yn anghywir—tuag at ganfyddiadau Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus Senedd Cymru, a'r dystiolaeth y seiliwyd hyn arni, fel un sy'n peri pryder, ac rwy'n gobeithio na chaniateir i hynny osod cynsail pe bai'n cael ei barhau.

Fel y dywedais, mae'r pwyllgor yn ystyried materion sy'n ymwneud ag economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y defnydd o adnoddau i gyflawni swyddogaethau cyhoeddus yng Nghymru. Cynhyrchwyd yr adroddiad gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd, sy'n gweithredu'n annibynnol ac sydd, yn briodol, yn cynnwys cynrychiolaeth o'r holl brif bleidiau, a gadewch imi sicrhau'r Gweinidog fod yr holl Aelodau'n cytuno'n unfrydol ar y geiriad yn yr adroddiad, ar ôl clywed y dystiolaeth a glywsom gyda'n gilydd.

Tynnodd ein hadroddiad sylw at nifer o faterion difrifol sy'n codi yn y cyfrifon, a chafodd nifer ohonynt eu nodi gan siaradwyr. Credwn fod hysbysu hwyr, ynghyd â phroses annigonol ar gyfer cadw cofnodion ac arferion adrodd a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru, wedi cymhlethu'r broses o archwilio'r cyfrifon yn sylweddol. Cyfeiriwyd at y tanwariant gan nifer o siaradwyr; Huw Irranca-Davies, edrychwch ar baragraffau 173-175 o'r adroddiad, sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r pwyntiau a wnaethoch.

Rwy'n deall mai un pwynt bach yw bod adrannau gwladwriaethol Llywodraeth y DU a dderbyniodd flociau o arian wedi gorfod gwario'r arian hwnnw ar y pwrpas penodedig, ac os nad oeddent yn gwneud hynny, roeddent yn gwybod bod yn rhaid iddynt ei roi yn ôl, tra bod gan Lywodraeth Cymru ddisgresiwn, fel Llywodraeth Cymru, o fewn ei phwerau ei hun. Roedd y pwyllgor yn ei chael hi'n anodd deall, fel y dywedais, pam fod Llywodraeth Cymru wedi aros cyhyd i gael gwybod na allai wneud fel y mynnai gyda'r tanwariant a pham y gwnaed cais o'r fath yn ôl-weithredol, gan godi cwestiynau ynglŷn ag a fyddai gwneud cais yn gynt wedi ei gwneud hi'n bosibl i'r arian i gael ei ddefnyddio.

Ar benodiad yr Ysgrifennydd Parhaol, un o'r prif gwestiynau oedd a fyddai Llywodraeth Cymru wedi gallu denu gwahanol ymgeiswyr pe bai'r swydd wedi'i hysbysebu ar y raddfa gyflog uwch sy'n cael ei thalu i'r Ysgrifennydd Parhaol presennol erbyn hyn. Mae llawer o faterion yn parhau i fod heb eu datrys mewn perthynas â phenodi'r Ysgrifennydd Parhaol. I bwy mae'r Ysgrifennydd Parhaol yn atebol? Ble maent yn atebol? Maent yn atebol i Ysgrifennydd Cabinet y DU, ond nid yw'n glir a oedd ganddynt ran yn y penodiad. Maent hefyd yn atebol i Brif Weinidog Cymru, felly pwy oedd yn rheoli'r broses recriwtio a phwy ddylai fod yn atebol am hynny? Rydym yn gobeithio y bydd ymateb ffurfiol y Gweinidog a Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad yn mynd i'r afael â'r pwyntiau hyn.

16:05

Fe ddof i ben drwy ddweud y bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn parhau i fynd ar drywydd y materion hyn a byddwn yn monitro'n fanwl y modd y gweithredir ein hargymhellion. Gwn y bydd pob un o'i aelodau'n gwarchod ein henw da am wrthrychedd, adroddiadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac ymgysylltu cadarnhaol â'r cyrff cyhoeddus yr ydym yn gweithio gyda hwy. Diolch. 

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl Plaid Cymru: Ailddynodi HS2

Fe symudwn ni ymlaen nawr at eitem 7, sef dadl Plaid Cymru ar ailddynodi HS2. Dwi'n galw ar Luke Fletcher i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8245 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i ailddynodi HS2 fel prosiect i Loegr yn unig, a rhoi'r symiau canlyniadol sy'n ddyledus i Gymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd dros dro. Heddiw, rydym yn mynnu bod Llywodraeth y DU yn cydnabod y modd anghyfiawn y mae'n esgeuluso Cymru ac yn rhoi i ni'r cyllid canlyniadol sy'n ddyledus i ni. Am gyfnod rhy hir, mae San Steffan wedi anwybyddu anghenion a dyheadau Cymru. Rydym wedi gweld Llywodraethau olynol yn buddsoddi biliynau o bunnoedd yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr, gan adael ein gwlad ni gyda seilwaith sy'n dadfeilio a gwasanaethau cyhoeddus heb ddigon o arian.

Dim ond un enghraifft o'r ffordd y mae San Steffan yn blaenoriaethu Lloegr ar draul Cymru yw llwybr cyflym HS2. Mae Llywodraeth y Torïaid yn dangos unwaith eto fod Cymru'n ôl-ystyriaeth yn Whitehall, ond y gwir trist yw y gallai Cymru wynebu'r un dynged o dan Lywodraeth y DU sy'n cael ei harwain gan Lafur. Er i Brif Weinidog Cymru gefnogi ein galwadau i HS2 gael ei ailgategoreiddio fel prosiect ar gyfer Lloegr yn unig, mae Starmer wedi gwrthod cytuno â'r Prif Weinidog. Gadewch inni wneud hyn yn glir iawn: ni waeth pa blaid sydd mewn grym yn San Steffan, boed yn Lafur neu'r Ceidwadwyr, nid oes yr un ohonynt wedi ymrwymo i ailgategoreiddio HS2 fel prosiect i Loegr yn unig, gan amddifadu Cymru o £5 biliwn.

Heddiw, rydym yn disgwyl i'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru ymrwymo i alw ar weinyddiaeth Lafur yn y dyfodol i gywiro'r penderfyniad hwnnw, a heddiw, rydym yn disgwyl i'r Blaid Dorïaidd yma wthio eu Llywodraeth i wneud hynny nawr. Er nad yw Cymru wedi'i chysylltu'n uniongyrchol â'r llwybr arfaethedig, mae gennym hawl o hyd i dderbyn ein cyfran deg o gyllid, yn unol â fformiwla Barnett. Fel y gwyddom i gyd, mae'r fformiwla'n datgan bod yn rhaid i unrhyw gyllid a ddyrannwyd i Loegr gael ei adlewyrchu mewn cyllid ar gyfer y gwledydd datganoledig. Ond mae dynodi bod HS2 yn brosiect ar gyfer Cymru a Lloegr yn golygu ein bod yn cael ein hamddifadu o'r biliynau o bunnoedd y mae hawl gennym i'w gael, yn wahanol i'r Alban a gogledd Iwerddon.

Fel Senedd, dylem uno a mynnu bod Llywodraeth y DU yn ailddynodi HS2 yn brosiect ar gyfer Lloegr yn unig, gan roi cyllid canlyniadol hanfodol i Gymru. Arian y gellid ei ddefnyddio i atgyweirio a moderneiddio ein rhwydwaith rheilffyrdd diffygiol. Gellid ei ddefnyddio i gysylltu ein cymunedau, gan wneud teithio'n fwy hygyrch, yn fwy fforddiadwy ac yn fwy cynaliadwy. Mae'n ffaith hysbys iawn fod ein rheilffyrdd yn hen ffasiwn a heb eu hariannu'n ddigonol, gan arwain at wasanaethau arafach, cysylltiadau gwael a dim digon o gapasiti, ac roedd y Dirprwy Weinidog yn onest ynglŷn â hyn yn ddiweddar. Ond gyda'r cyllid hwn, gallem wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ein system reilffyrdd yn sylweddol. Yn sgil hynny, gallem annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a thrwy hynny leihau tagfeydd ar ein ffyrdd, torri allyriadau carbon ac ymladd newid hinsawdd. Mae'r tanfuddsoddi cronig yn seilwaith rheilffyrdd Cymru wedi'i gofnodi'n dda a chafwyd llawer o drafod ar y mater yn y Siambr hon.

Ond gadewch inni ddefnyddio'r cyfle hwn heddiw i atgoffa ein hunain ynglŷn â graddau'r tanfuddsoddi annheg a diymatal sy'n ein hwynebu. Mae trybestod HS2 yn rhan o'r trafferthion ehangach sy'n wynebu Cymru, sydd wedi arwain at gymhareb 200:1 rhwng buddsoddiad Llywodraeth y DU mewn rheilffyrdd yn Lloegr o gymharu â Chymru. Mae'n warth cyfansoddiadol. Gadewch inni ei ddadansoddi: y llynedd, dangosodd dadansoddiadau fod cyfraniad £180 miliwn yr Adran Drafnidiaeth i drawsnewid rheilffyrdd craidd y Cymoedd sydd bellach yn cael ei ddarparu gan Trafnidiaeth Cymru yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth y DU o lai na £500 miliwn i fuddsoddi mewn gwella rheilffyrdd yn y dyfodol yng Nghymru. Mewn cyferbyniad, mae ymhell dros £100 biliwn o welliannau rheilffyrdd wedi'u nodi gan yr Adran Drafnidiaeth yn Lloegr, yn fwyaf arbennig y cynllun rheilffyrdd integredig, sy'n cynnwys cyllid ar gyfer HS2 a Northern Powerhouse Rail. Cymharwch hynny â chymhareb poblogaeth o tua 20:1 a hyd llwybr sydd ond yn 10:1. Lladrad noeth yw hyn; mae'n syfrdanol ac nid oes modd ei gyfiawnhau. Diffinnir HS2 a gwelliannau rheilffyrdd cenedlaethol gan Drysorlys y DU fel gwariant Cymru a Lloegr. Penderfynodd Trysorlys y DU fod ffactor cymharedd yr Adran Drafnidiaeth ar gyfer symiau canlyniadol Barnett i Gymru bellach ond yn 36 y cant o'i gymharu â 90 y cant yn 2015. Mae hyn yn berthnasol i unrhyw newidiadau y gellid eu Barnetteiddio i gyllideb yr Adran Drafnidiaeth, nid rheilffyrdd yn unig.

Os nad ydych yn buddsoddi yn eich rhwydwaith i ehangu capasiti, lleihau amseroedd teithio, a gwella dibynadwyedd, mae eich gweithgarwch yn mynd yn llai effeithlon ac yn fwy costus ac felly'n denu llai o deithwyr. Mae'n amlwg fod y diwydiant rheilffyrdd ac ecosystem gysylltiedig yr Adran Drafnidiaeth drwy ei darpariaeth ar gyfer gwella'i rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol a pholisi Barnett y Trysorlys yn parhau i wneud cam systematig â Chymru. Mae Cymru wedi, ac yn parhau i gael ei hamddifadu o biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad angenrheidiol ar y rheilffyrdd. Mae'n annerbyniol yn wleidyddol, yn gyfansoddiadol, yn economaidd ac yn amgylcheddol.

Lywydd dros dro, mae Cymru'n haeddu gwell. Rydym yn haeddu cyfran deg o gyllid sy'n adlewyrchu ein hanghenion a'n dyheadau. Mae'n bryd i San Steffan gydnabod yr anghyfiawnder hanesyddol a buddsoddi yn ein seilwaith, felly rwy'n annog y Siambr i gefnogi cynnig Plaid Cymru. Gyda'n gilydd, fel Senedd wedi'i huno ar draws y pleidiau, gallwn fynnu hawliau Cymru yn hyderus ac anfon neges glir i San Steffan.

16:10

Diolch o galon, Lywydd dros dro. Ac a gaf fi ddiolch hefyd i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? Nawr, gadewch imi fod yn glir: barn y Ceidwadwyr Cymreig yw y dylai Cymru gael arian canlyniadol o ganlyniad i HS2. Fodd bynnag—a gadewch i mi bwysleisio'r 'fodd bynnag'—mae yna un pwynt pwysig sy'n rhaid imi ei bwysleisio: nid ydym eisiau gweld yr un geiniog yn mynd yn uniongyrchol i ddwylo'r Llywodraeth Lafur hon, a gadewch imi egluro pam. Dylai unrhyw arian—[Torri ar draws.]—dylai unrhyw arian sy'n dod i Gymru fynd yn uniongyrchol i Network Rail, oherwydd nid oes gennym unrhyw hyder o gwbl y byddai'r Llywodraeth hon yn gwario'r arian yn ddoeth ar gyflawni prosiectau seilwaith mawr. Rwyf wedi rhannu fy marn ar y mater ar achlysuron dirifedi, ac fe'i dywedaf eto heddiw: mae gan Lafur yng Nghymru hanes erchyll o wastraffu miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr ar eu prosiectau porthi balchder. Fe wnaethant wastraffu £150 miliwn ar brosiect ffordd liniaru'r M4 cyn rhoi'r gorau iddo, fe wnaethant chwistrellu dros £200 miliwn i faes awyr sy'n methu, ac fel rydym i gyd newydd glywed, maent wedi anfon £155 miliwn yn ôl i San Steffan am na wnaethant ei wario. A da chi, peidiwch â gadael imi gychwyn ar fetro de Cymru a'r gost sydd bellach wedi chwyddo i £1 biliwn.

Mae'r rhestr o enghreifftiau o wastraffu arian trethdalwyr yn mynd ymlaen ac ymlaen. A yw hon o ddifrif yn swnio fel Llywodraeth sy'n gyfrifol yn ariannol y gallwn ymddiried ynddi i gyflawni dros bobl Cymru? Nid wyf yn credu hynny, ac mae'r hanes yn siarad drosto'i hun. Felly, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cytuno y dylai Cymru gael arian o HS2, ond ni ddylai fynd yn agos at y Llywodraeth Lafur anghyfrifol yn ariannol. Ac nid yw hynny'n dweud na fydd HS2 yn creu buddion i Gymru, oherwydd, er gwaethaf yr hyn y bydd Llafur a Phlaid Cymru yn ei ddweud, fe fydd yn sicr o wneud hynny. 

16:15

Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr iawn am hynny, Natasha. Rydych chi'n dweud eich bod yn cytuno y dylai arian ddod drosodd o HS2; rydym yn anghytuno na ddylai ddod i Lywodraeth Cymru, sef Llywodraeth etholedig Cymru. Ond wedi dweud hynny, a ydych chi'n meddwl felly—? Neu a wnaiff Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig roi'r arian i ogledd Cymru ar gyfer trydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, a phryd fydd hynny'n digwydd, oherwydd nid yw wedi digwydd eto?

Jack, mae gennych chi'r Dirprwy Weinidog dros drafnidiaeth yn eistedd o'ch blaen—pam nad yw'n gofyn y cwestiwn hwnnw a gwneud yr alwad honno a gwneud y galwadau hynny? Mae angen iddo allu cyfathrebu yn y ffordd honno. Dyma y bûm yn ei ddweud. Ym mhob cyfraniad a wneuthum, rwyf wedi gofyn i'ch holl Weinidogion yn gyson: cyfathrebwch ar hynny, gwnewch yn siŵr fod gennych y berthynas honno â San Steffan. Ond mae'n ymddangos nad ydynt yn ei wneud, felly rydym mewn penbleth. Nid ni sydd mewn grym; pe baem mewn grym, byddwn yn hapus i godi'r ffôn a gwneud yr alwad honno. 

Felly, i fynd yn ôl at yr hyn roeddwn yn ei ddweud, nid yw hynny'n golygu na fydd HS2 yn arwain at unrhyw fuddion i Gymru, oherwydd, er gwaethaf yr hyn y bydd Llafur a Phlaid Cymru'n ei ddweud, mae'n sicr y bydd. Bydd HS2 yn darparu gwasanaethau trên cyflymach ac amlach i Gymru, bydd hefyd o fudd i fusnesau gan y bydd rhai o gwmnïau ein gwlad yn gweithio ar y prosiect. Mewn gwirionedd, a wyddech chi fod 44 o gyflenwyr HS2 yn fusnesau bach a chanolig Cymreig? Bydd gwleidyddion Llafur yn y Siambr hon yn aml yn beirniadu cynllun HS2 ac yn mynnu arian ychwanegol i Gymru o ganlyniad i'r prosiect ac yn tynnu wynebau—fel mae un yn ei wneud yr eiliad hon—ond eto, yn ddigon diddorol, cafodd HS2 ei ymchwilio am y tro cyntaf o dan Lywodraeth Lafur Gordon Brown yn ôl yn 2009. Ac rwy'n teimlo ei bod hi'n werth eich atgoffa bod yr arweinydd Llafur presennol wedi gwrthod gwarantu y byddai'n rhoi cyfran deg i Gymru o gyllid HS2 pe bai, Duw a'n gwaredo, yn cael ei wneud yn Brif Weinidog. Felly, byddai'n ddiddorol clywed beth sydd gan Weinidogion Llafur yma i'w ddweud am wrthodiad Keir Starmer. Un peth yw cyflwyno'r ddadl hon heddiw, ond beth mae Plaid Cymru'n mynd i wneud am hyn wrth symud ymlaen? Rydych chi yma gyda Llafur. A ydych chi'n mynd i fod yn pwyso am weithredu y tu ôl i'r llenni heddiw, neu a yw'r ddadl heddiw'n ddim byd ond sioe?

Rydym yn byw ar blanedau gwahanol, Natasha Asghar a mi, oherwydd mae'r syniad fod gan Lywodraeth y DU hanes o gyflawni ar y mater hwn yn rhyfeddol. Ffeithiau a ffigyrau HS2 yw hyn. Roedd y gost a amlinellwyd yn wreiddiol yn 2010 ar gyfer prosiect a fyddai'n costio £33 biliwn. Erbyn 2015, roedd wedi codi i £56 biliwn, ac mae bellach wedi chwyddo i rywle rhwng £72 biliwn a £98 biliwn ar brisiau 2019, am brosiect sydd wedi cael gwared ar y rheilffordd i Leeds. Mae'n sicr yn mynd i gostio dros £100 biliwn—bron yn sicr—a beth mae Cymru'n mynd i'w gael amdano? Dim byd o gwbl. Mae'n amlwg fod y bobl hyn yn y Trysorlys a'r Adran Drafnidiaeth sy'n ceisio dadlau bod hwn yn brosiect i Gymru a Lloegr angen gwers ddaearyddiaeth, oherwydd, pan edrychais i ddiwethaf, nid yw'r rheilffordd sy'n mynd o Birmingham i Old Oak Common yn agos at Gymru—nid yw'n dod unman yn agos. Yn wir, mae'n ei gwneud yn llai deniadol i fuddsoddi yng Nghymru, oherwydd ei fod yn gwella atyniad Birmingham ac nid yw'n rhoi dim i Gymru. Mae'n gamddefnydd go iawn o'r setliad datganoli ac yn tanseilio ffydd pobl yn y broses ddemocrataidd. 

Clywais y syniad gwirioneddol ddiddorol y dylai'r arian a ddylai fod yn ddyledus i Gymru gael ei roi i Network Rail. Wel, fe fyddai hynny'n well na pheidio ei roi i Gymru o gwbl, oherwydd mae ôl-groniad enfawr o waith atgyweirio i'w wneud ar orsaf Caerdydd Canolog, sef yr unig orsaf yng Nghymru sy'n gyfrifoldeb i Network Rail, rhag ofn nad yw rhai ohonoch yn sylweddoli hynny; nid yw'n ddim byd i'w wneud gyda Trafnidiaeth Cymru. A'r penwythnos diwethaf, cefais gŵyn gan deulu a oedd yn sownd yn un o'r lifftiau hyn—lifftiau hen iawn; rwy'n eu defnyddio'n eithaf aml am fy mod yn mynd â beic i fyny yno. Ac roeddent yn sownd ynddi am sawl awr. Ac mae'r math hwn o beth yn mynd i barhau, ynghyd â signalau'n torri. Mae hynny'n cael sgil-effaith ar rediad llyfn ein system drenau. Felly, mae'n gwbl siomedig mewn gwirionedd nad yw Llywodraeth y DU yn gallu sylweddoli bod gan Gymru anghenion trafnidiaeth hefyd. Nid yw hyn—. Ni ddylent fod yn rhedeg Llywodraeth y DU ar ran Lloegr yn unig. Mae'n rhaid iddynt ystyried y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, ac nid ydym ni'n cael unrhyw beth o ganlyniad i hyn, ac mae'n mynd gyda'r addewid toredig a gawsom yn ôl yn 2018, pan wnaethant benderfynu nad oeddent yn mynd i drydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe, ac o ganlyniad i hynny rydym yn gorfod rhedeg llwyth o drenau anaddas ar y rheilffyrdd, pan allem fod yn defnyddio trenau wedi'u trydaneiddio. Felly, mae hanes Llywodraeth y DU yn hyn o beth yn gwbl gywilyddus, ac nid dadl sydd ond yn digwydd ymysg ein gilydd yw hon. Gallaf ddweud wrthych fod etholwyr i mi yn ei godi ac yn dweud bod hyn yn ffuglen lwyr. Dyma'r math o beth lle maent yn cymryd Cymru'n ganiataol.

Os ydych chi am wneud yn well, Geidwadwyr, a chael pobl i bleidleisio drosoch, byddai'n well ichi ddechrau hyrwyddo anghenion Cymru.

16:20

Diolch am ildio, Jenny. A fyddech chi'n derbyn, serch hynny, mai cyfrifoldeb Llywodraeth Lafur Cymru yw rhai o'r trenau, yn enwedig yng ngogledd Cymru? Mae fy etholwyr yn dal i orfod teithio ar drenau 30 neu 40 oed, ac maent mor hen â hynny. Beth mae fy etholwyr yn ei weld yw Caerdydd a'r Cymoedd yn cael trenau newydd a Llywodraeth Cymru yn hysbysebu hynny'n dda, sy'n wych, ond mae pobl gogledd Cymru'n gorfod dibynnu ar hen drenau er mwyn mynd o A i B. A fyddech chi'n derbyn mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw hynny?

Wel, mae'n rhaid i ni ddechrau yn rhywle, ac yn amlwg mae mwyafrif y boblogaeth yn byw yn ne-ddwyrain Cymru, ond nid wyf yn diystyru'r ffaith bod angen trenau newydd yn lle'r rhai yng ngogledd Cymru, yn bendant, oherwydd rwyf wedi'i weld fy hun. Ond y rheilffyrdd rhwydwaith—[Torri ar draws.] Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y rheilffyrdd. Llywodraeth y DU a Network Rail sy'n gyfrifol am y prif reilffyrdd seilwaith cenedlaethol hyn. Yn lle hynny, mae Network Rail yn cael ei amddifadu o adnoddau ar draws holl rwydwaith y DU, sy'n golygu bod yr holl system reilffyrdd ar draws y DU yn mynd i ddod i stop oherwydd yr oedi, signalau'n torri, a fydd yn digwydd ym mhobman, sy'n golygu eu bod yn llythrennol yn ceisio sicrhau bod y diwydiant rheilffyrdd yn marw ar ei draed. Mae'n drasiedi lwyr, a dim ond un enghraifft o hynny yw hwn.

Wrth amddiffyn y penderfyniad i beidio â rhoi'r arian sydd yn ddyledus i Gymru yn sgil y prosiectau yma, mae Llywodraeth San Steffan wedi dadlau y bydd o fudd i ogledd Cymru, oherwydd y gall pobl y gogledd, credwch chi neu beidio, gyrraedd Llundain ynghynt. Dyma yn ei hanfod ddangos feddylfryd y wladwriaeth Brydeinig; boed yn Geidwadwyr neu'n Llafur, Llundain ydy canol y byd. Bwydo Llundain ydy'r flaenoriaeth, nid hyrwyddo economi ardaloedd eraill.

Ond nid cysylltu pobl efo Llundain ydy ein blaenoriaeth ni. Yn ôl datganiad cynnydd comisiwn trafnidiaeth y gogledd, mae dwy ran o dair o holl siwrneiau pobl y gogledd yn 15 km neu lai. Felly, mae angen buddsoddi i ddatblygu cysylltedd rhwng ein cymunedau ni yma. Dyma ein blaenoriaeth ni.

Ddoe a heddiw, dwi wedi sôn am y ffaith bod ward Dyfi yn Ysbyty Tywyn wedi cael ei gau oherwydd diffyg nyrsys. Un ffaith sydd heb gael y sylw teilwng yn gyhoeddus ydy bod y bwrdd iechyd wedi gofyn i asiantaeth nyrsio ddarparu nyrsys. Byddai hyn wedi cadw'r ward ar agor. Ond, yn anffodus, methodd yr asiantaeth â sicrhau bod y nyrsys yma yn troi i fyny. Pam? Oherwydd bod Tywyn yn rhy bell a bod yna ddiffyg trafnidiaeth ac isadeiledd gwael. Mae'r ffyrdd yma yn droellog ac yn hir, ac mae trafnidiaeth gyhoeddus yn anodd.

Mae gen i etholwr yn cysgu mewn pabell yn ystod yr wythnos yn hytrach na mynd adref i'w gartref gan nad oes yna drafnidiaeth gyhoeddus ar gael i'w gymryd adref ar ôl i'w sifft waith orffen yn y ffatri. Mae gen i etholwr sydd yn gorfod symud o Flaenau Ffestiniog i fyw i Landudno oherwydd bod y gwasanaeth fws wedi gorffen a does dim modd iddyn nhw wneud eu siopa ac ymweld â'r teulu ar adegau cyfleus. Mae gen i fyfyrwyr sydd yn gorfod teithio dwy awr un ffordd ar drên neu gyfres o drenau er mwyn cyrraedd coleg. Mae yna gleifion sydd yn gorfod aros am oriau am gysylltiadau bysys er mwyn cyrraedd eu hapwyntiad yn Ysbyty Alltwen. Sut aflwydd mae trên sy'n cyrraedd Llundain chwarter awr ynghynt yn mynd i helpu'r bobl yma? Mae angen y pres yma arnom ni yma i wella isadeiledd Cymru.

Yna, fe ddywed Llywodraeth San Steffan fod HS2 am fod o fudd economaidd i ni yma. Nonsens llwyr ydy hyn, wrth gwrs. Mae'n wir i ddweud bod buddsoddi mewn isadeiledd yn hwb economaidd. Fe wnaeth Adam Smith hynny'n glir yn ei lyfr, The Wealth of Nations. Dyma ddywedodd yr Institute for Public Policy Research yn eu hadroddiad am y Northern Powerhouse nôl yn 2017:

'Mae nifer fawr iawn o astudiaethau o bob cwr o'r byd wedi dangos cydberthynas glir a chadarnhaol rhwng buddsoddiad seilwaith y sector cyhoeddus a thwf economaidd, gyda'r lluosydd yn amrywio o wlad i wlad ac o fuddsoddiad i fuddsoddiad, ond bob amser yn gadarnhaol'.

Ond er mwyn gweld y budd economaidd mae'n rhaid gweld y buddsoddiad yma, nid mewn gwlad arall. Dydy arbed chwarter awr ar daith trên ddim yn mynd i ychwanegu at GDP pendraw Llŷn neu arfordir Ardudwy. Os ydym ni am weld twf economaidd go iawn yma, yna mae angen galluogi rheilffyrdd y gogledd a'r canolbarth i gario ffreit, er enghraifft. Bydd hyn yn golygu y gall gweithgynhyrchwyr gynhyrchu nwyddau yn y gogledd orllewin a'u cael i'r farchnad yn hawdd. 

Mae angen edrych i ailagor ein rheilffyrdd yma, nid o reidrwydd fel rheilffordd trwm, ond efallai rheilffordd ysgafn i gysylltu cymunedau mewn modd ecolegol a fforddiadwy.

Sy'n dod â fi at y budd mawr olaf, sef y gall buddsoddi yn ein hisadeiledd a'n trafnidiaeth gyhoeddus ni yma olygu bod Cymru'n arwain y gad o ddatgarboneiddio, gan chwarae ein rhan yn llawn yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Byddai derbyn y gyllideb sydd yn ddyledus i ni o HS2 a rheilffordd y Northern Powerhouse yn gallu gweddnewid Cymru er gwell, a chyfoethogi ein cymunedau, helpu i atal diboblogi gwledig, a chyfrannu'n adeiladol at sicrhau nad ydy'r byd am gynhesu dros 1.5 gradd yn fwy na'r tymheredd cyn-ddiwydiannol. Ar sail hyn oll, felly, dwi'n eich annog chi i gyd i gefnogi'r cynnig.

16:25

Diolch, Lywydd dros dro, neu Lywydd interim—nid wyf yn hollol siŵr sut i'ch cyfarch. A gaf fi ddweud fy mod yn siomedig iawn gyda'r ddadl hon oherwydd roeddwn i'n meddwl y byddai'n ddadl dda, gydsyniol lle gallem gefnogi'r cynnig ar y papur trefn ar sail drawsbleidiol yma yn y Senedd? Ond mae'n hollol amlwg fod yma anghydweld. Felly, gadewch imi fwrw iddi. 

Gadewch inni siarad—[Torri ar draws.] Gadewch inni siarad am y rhagrith ofnadwy ar ran y Blaid Lafur yn y Siambr hon heddiw sy'n cwyno am yr annhegwch y maent yn awgrymu bod Llywodraeth y DU yn ei ddangos tuag at Gymru. Am bob £1 sy'n cael ei wario ar drafnidiaeth yn Lloegr, ac eithrio HS2 a rhai prosiectau eraill—[Torri ar draws.]—yn bendant, ac rwy'n cefnogi hynny i chi—fe wyddom fod £1.20 yn dod i Gymru. Ond yr hyn nad yw'n digwydd yw'r ffordd rydych chi—. Yr hyn nad yw'n deg yw'r ffordd rydych chi'n rhannu'r arian hwnnw o fewn Cymru.

Gadewch inni gael golwg ar eich hanes o wario ar drafnidiaeth, oherwydd mae'n gwbl druenus i ogledd Cymru. Rydych chi wedi gwario, neu rydych chi'n mynd i wario, £1 biliwn ar fetro de Cymru, a dim ond £50 miliwn—un rhan o ugain o'r swm hwnnw—ar gyfer chwarter y boblogaeth yng ngogledd Cymru, a ddyrannwyd gennych ar gyfer metro gogledd Cymru, metro nad yw'n ymddangos ei fod yn mynd i unman ar hyn o bryd, ac rydych wedi'i leihau ers i'r cyhoeddiad gwreiddiol gael ei wneud. Dof atoch mewn eiliad, Jenny. Dof atoch mewn eiliad.

Gadewch inni siarad am y ffaith eich bod wedi deuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd ar gost aruthrol. Roedd cost derfynol y prosiect ddwywaith cymaint â'r gyllideb wreiddiol ac fe gymerodd ddwywaith mor hir ag y dylai fod wedi cymryd i gyflawni'r prosiect hwnnw. Yn wir, roedd bron i dair gwaith mor hir â'r dyddiad cwblhau gwreiddiol a ragwelwyd. Fe gostiodd £190 miliwn yn fwy na'r gyllideb. Mae hwnnw'n swm aruthrol o arian. 

Fe wyddom hefyd eich bod chi wedi taflu dros £200 miliwn—dros £200 miliwn o arian trethdalwyr—at faes awyr sy'n gwneud colledion yn gyson, ac sydd, yn gwbl onest, fel tref heb bobl ym Mro Morgannwg, yn wag bron bob tro yr af yno. Dyn a ŵyr beth rydych chi'n ei wneud, ond yn sicr nid oes gennych unrhyw syniad sut i redeg maes awyr. Ac yna rydych chi'n cyhoeddi adolygiad ffyrdd—adolygiad ffyrdd sy'n diddymu prosiectau ar hyd a lled y wlad, ar wahân i rai prosiectau allweddol mewn ambell etholaeth Lafur a Phlaid Cymru mewn mannau eraill, yn enwedig yn y de. Dyna yw eich syniad chi o degwch. Ble mae'r swm canlyniadol ar gyfer gogledd Cymru? Pryd y cawn ein cyfran deg o fuddsoddiad yng ngogledd Cymru i ymdopi â'n problemau seilwaith traffig? Oherwydd rwy'n dweud wrthych, Jenny, nid ydych chi wedi profi dim o'i gymharu. Efallai eich bod wedi eistedd ar hen drên da i ddim yn y gorffennol, ond pe bai'n rhaid ichi yrru ar hyd y ffyrdd y mae'n rhaid i mi yrru ar hyd-ddynt bob wythnos er mwyn cyrraedd y Senedd hon, neu fynd ar y trenau rwy'n mynd arnynt pan fydd yn rhaid imi ddod i lawr yma, fe fyddech yn arswydo. Ac a dweud y gwir, mae angen i bobl agor eu llygaid a dechrau edrych tua'r gogledd a gwneud ychydig o fuddsoddi yn fy ardal i a fy rhanbarth i. Mae gennyf brosiectau diogelwch ffyrdd hanfodol sydd wedi cael eu diddymu ar sail newid hinsawdd. Nid oes ots os yw pobl yn marw ar gyffordd beryglus. Nid yw'n mynd i gael unrhyw effaith ar newid hinsawdd, ond maent yn dal i gael eu diddymu a'u rhoi o'r neilltu gan y Llywodraeth hon. Nid yw hynny'n ddigon da. Fe dderbyniaf yr ymyriad.

16:30

Diolch yn fawr iawn. Hoffwn eich atgoffa bod yr A470 yn un o'r teithiau mwyaf braf rwy'n eu gyrru. Rwyf wrth fy modd yn mynd o'r gogledd i'r de ar yr A470. Ni allaf ddweud wrthych am eich prosiectau penodol ar—[Torri ar draws.] Rwy'n sicr yn mwynhau'r daith honno. Yr hyn roeddwn eisiau eich atgoffa amdano'n gynharach—[Torri ar draws.] Yr hyn roeddwn eisiau eich atgoffa amdano'n gynharach yw mai'r rheswm fod gennym £1 biliwn ar gael ar gyfer metro de Cymru yw oherwydd na wnaethom wario £2 biliwn ar 12 milltir o ffordd ar yr M4. Dyna pam ein bod yn mynd i gael system drafnidiaeth llawer gwell a llawer mwy cydgysylltiedig ar gyfer de-ddwyrain Cymru.

Hoffwn nodi, mewn gwirionedd, fod Llywodraeth y DU wedi cynnig ariannu cost ffordd liniaru'r M4. Do, fe wnaeth, ac fe wnaeth yn hollol glir ei bod yn barod i wneud hynny, ac wrth gwrs fe wnaeth Llywodraeth Cymru droi ei chefn ar y cynllun—ffordd £100 miliwn i unlle, ac mae gennych eiddo ar eich dwylo nad ydych yn gwybod beth i'w wneud ag ef nawr. Felly, edrychwch, os ydym eisiau siarad am degwch, mae angen tegwch yng Nghymru yn ogystal ag o fewn y Deyrnas Unedig. Felly, rhowch ein cyfran deg i ni ym mhob rhan o Gymru—gogledd, de, dwyrain a gorllewin—a gadewch inni sicrhau bod pawb yn gallu elwa o fuddsoddiadau seilwaith trafnidiaeth, nid y de yn unig.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae'r cyhoeddiad bod cymal Birmingham i Crewe o'r cynllun HS2 wedi'i oedi ac mai'r lein o Lundain i Birmingham, sef cymal 1, fydd yn mynd ymlaen, mae hyn wedi rhoi sylw newydd. Ond mae'r broblem yn mynd yn ôl 30 o flynyddoedd, a'r broblem hynny, y camgymeriad enbyd hynny, oedd dynodi'r cynllun HS2 yn gynllun Cymru a Lloegr yn hytrach nag yn un Lloegr yn unig, gan amddifadu Cymru o symiau anferth o arian. Roedd penderfyniad y Trysorlys yn un cwbl wallus, ac a dweud y gwir, yn gwbl anghrediniol i unrhyw un sydd wedi edrych ar fap o wledydd Prydain a lle y bwriedir adeiladu'r rheilffordd newydd. Does yna ddim modfedd ohoni hi yng Nghymru, yr Alban nag yng Ngogledd Iwerddon, ond dim ond Cymru sy'n colli allan yn ariannol. Ac, yn y cyfamser, mae ein gwlad ni yn dioddef o danfuddsoddi ar raddfa eang.

Mae'n system trenau ni yn gwegian. Dwi yn gwybod hyn o brofiad. Dwi'n treulio wyth awr o fy mywyd ar drên bob wythnos dwi'n dod i'r Senedd. A Jenny, mae hynna yn well gen i na theithio ar yr A470, er gwaethaf yr amgylchiadau. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi newid pethau er gwell rhyw fymryn; dwi yn gweld gwahaniaeth ers i fi ddod i'r Senedd yn 2016. Mae pethau'n dechrau newid yn gan bwyll bach. O leiaf mae yna well cynllunio gwasanaethau. Mae yna well telerau gwaith i weithwyr Trafnidiaeth Cymru nag i'r cwmnïau preifat. Mae gorsaf Bangor yn fy etholaeth i ymhlith y prysuraf yn y gogledd, ac mae yna gynlluniau ar y gweill i wella'r cyfleusterau. Ond, fel mae nifer o etholwyr yn Arfon yn dweud wrthyf fi bob wythnos: mae angen gwelliannau pellgyrhaeddol er mwyn eu hannog nhw i fod yn deithwyr trên cyson.

Mi fyddai'r £5 biliwn o arian cyfatebol HS2, sy'n perthyn i Gymru, yn amhrisiadwy er mwyn gwella gwasanaethau. Ond, yn ogystal â'r tanfuddsoddiad, mae yna broblem arall sy'n milwrio yn erbyn creu system rheilffordd i fod yn falch ohoni, a hynny ydy'r sefyllfa wallgof fod cyfrifoldeb dros y rheiliau, yr isadeiledd, gyda chorff sy'n dod o dan San Steffan. Mae Network Rail wedi tanfuddsoddi ar raddfa eang yng Nghymru ers blynyddoedd, ac mae angen datganoli’r cyfrifoldeb dros yr isadeiledd a’r arian dilynol i’r Senedd hon. Wedyn, mi fedrwn ni fwrw ati o ddifrif i greu system sy’n cysylltu Cymru gyfan â'i gilydd, ac allan o Gymru i weddill y byd.

Un o’r projectau sydd angen ei flaenoriaethu ydy trydaneiddio rheilffordd y gogledd. Mae prif lein y gogledd yn rhedeg am bron 170 km o hyd, ac yn mynd ar draws arfordir y gogledd—golygfeydd prydferth iawn—ond does yna ddim ohoni hi wedi cael ei thrydaneiddio. Trydaneiddio ydy’r allwedd ar gyfer trenau cyflymach, glanach a mwy rheolaidd ar gyfer teithwyr a nwyddau. Ac yn ôl Growth Track 360—[Torri ar draws.] Gwnaf ddod atoch chi mewn dau funud. Yn ôl Growth Track 360, sydd wedi bod yn hybu hyn, mi fyddai rhaglen o drydaneiddio lein y gogledd yn costio £1 biliwn, chweched rhan o’r arian sydd angen dod i ni yn sgil y cynlluniau Lloegr yn unig.

16:35

Rwy'n cefnogi cynigion Growth Track 360 wrth gwrs, ond er gwaethaf yr oedi o ddwy flynedd i lwybr HS2 Birmingham i Crewe, a ydych chi'n cytuno y bydd canolfan Crewe HS2 yn hanfodol nid yn unig i fynediad cyffredinol ar y rheilffyrdd at welliannau gogledd Cymru, ond yn enwedig i drydaneiddio yn y dyfodol?

Y broblem ydy fy mod i ddim yn meddwl bod hwnna’n mynd i ddigwydd, byth, ac na welith hynny mo golau dydd. Mae yna oedi o ddwy flynedd. Faint o grediniaeth ydyn ni’n mynd i'w roi y byddwn ni yn gweld unrhyw gam pellach? A hyd yn oed wedyn, dwi ddim wedi cael fy argyhoeddi bod y newidiadau yma yn Crewe yn mynd i fod yn wirioneddol o fudd i weddill ein gwlad ni.

Dwi’n meddwl bod angen i Lafur a’r Torïaid gydnabod bod angen datganoli’r seilwaith reilffyrdd i Gymru. Hynny yn y pen draw sydd yn mynd i wneud y gwahaniaeth mawr. Ond, yn y cyfamser, heddiw, beth am i ni i gyd ddod at ein gilydd, er gwaethaf y gwahaniaethau ynglŷn ag agweddau o hyn? Mae yna un peth rydyn ni yn cytuno arno fo, a beth am i ni anfon neges glir i San Steffan heddiw fod Senedd Cymru yn mynnu ei chyfran deg o’r arian sy’n ddyledus i ni o gynllun HS2?

Rwyf am ddechrau drwy geisio adleisio'r alwad ar bob un ohonom i ddod at ein gilydd a dweud bod yr hyn sydd gennym ar hyn o bryd yn anghywir, gyda chyllid HS2 a chyllid arall, dros nifer o flynyddoedd, a chynlluniau Northern Powerhouse Rail hefyd. Mae hynny i gyd yn anghywir, ac ni ddylai ddibynnu ar newid Llywodraeth, gyda llaw. Mae angen inni naill ai edrych ar fater datganoli'r buddsoddiad rheilffyrdd yma i Gymru, a byddwn yn anghytuno'n gryf â phwynt Natasha—byddai ei ddyrannu i gorff lle nad oes unrhyw fewnbwn democrataidd yn ofnadwy. Cawsom ddadl yn gynharach y prynhawn yma ynglŷn â chraffu ar benderfyniadau a gwario arian. Rydym yn datganoli'r gwaith o wneud penderfyniadau, daw'r arian yma ac rydym yn ei ddyrannu, ac yna gall pwyllgorau craffu feirniadu'r modd y caiff ei ddyrannu i'r gogledd neu'r de neu'r dwyrain neu'r gorllewin neu beth bynnag. Dyna'r ffordd i wneud hyn.

Ni ddylai ddibynnu ar ba Lywodraeth sydd mewn grym yn San Steffan. Nawr, mae yna ffyrdd o wneud hyn. Gallai fod yn ddatganoli; gallai ddigwydd drwy ymgysylltiad â'r Trysorlys mewn gwirionedd. Y drwg yn hyn i gyd, mae'n rhaid imi ddweud, yw'r Trysorlys. Mae'r Trysorlys yn gwneud penderfyniadau o'r brig i lawr ac yn dweud, 'Dyna fel mae pethau.' Ac maent yn cael cyfarwyddyd gan Rif 10, ond maent yn cael cyfarwyddyd gan y Canghellor hefyd, ac os yw'r Canghellor yn penderfynu bod cyllid HS2 yn wariant ar Loegr a Chymru, neu fod Northern Powerhouse Rail yn wariant ar Loegr a Chymru, dyna ni. Nid oes unrhyw fewnbwn yma gan Weinidogion Cymru o gwbl, nac unrhyw un arall. Nawr, mae'n rhaid i hynny newid. Mae'r cam datganoli rydym arno'n golygu bod yn rhaid i'r Trysorlys fod yn agored.

Nawr, byddwn yn awgrymu y gallai'r peirianwaith rhynglywodraethol sydd wedi'i gyflwyno dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, sy'n dal i ymwreiddio, fod yn un ffordd ymlaen. Ond wrth gwrs mae yna eithriadau o fewn y peirianwaith rhynglywodraethol hwnnw ar gyfer penderfyniadau'r Trysorlys. Am syndod. Felly, oni bai y gall y Gweinidogion y prynhawn yma fy argyhoeddi fel arall, nid wyf yn credu bod ffordd ymlaen o fewn y peirianwaith rhynglywodraethol i godi hyn a dweud, naill ai ar hyn o bryd neu'r tro nesaf y bydd yna HS2, neu setliad ariannol y flwyddyn nesaf, gadewch inni fwrw iddi a gadewch inni gytuno ar y gyfran. A ddylem gael swm canlyniadol llawn ohono neu a ddylai fod cytundeb? Er enghraifft, fel y mae Llywodraethau'r Deyrnas Unedig wedi dadlau'n draddodiadol, os ydych yn buddsoddi mewn rheilffyrdd yn y de-ddwyrain, mae yna fudd i bobl sy'n teithio o ogledd Cymru a de Cymru. Wel, gadewch inni drafod hynny mewn gwirionedd a thrafod pa fudd sy'n dod i Gymru, ac yna dweud, 'Ond nid dyna'r cyfan; rydym eisiau 80 y cant yma neu rydym eisiau 90 y cant yn dod yn ôl.'

Realiti ymarferol hyn—. Luke, rwy'n falch eich bod wedi cyflwyno'r ddadl, oherwydd fe fyddwch yn gwybod am rai o'r gwirioneddau anodd sy'n ein hwynebu ar lawr gwlad. Rydym wedi bod yn aros am rywbeth fel 15 mlynedd am y buddsoddiad mewn signalau electronig ar gyfer dolen Maesteg. Mae wedi cael ei addo dro ar ôl tro; dro ar ôl tro, mae wedi cael ei dynnu'n ôl, ac mewn gwirionedd rwy'n cofio cael gwybod, 'Ar gyfer buddsoddiad yn ne-ddwyrain Lloegr.' Ac rwy'n meddwl, 'Wel, gwych, fe wnaf ymweld â de-ddwyrain Lloegr, fe af yno i San Steffan ar gyfer fy mhwyllgorau ac fe gaf fudd ohono', ond mae fy—roeddwn ar fin rhegi—mae fy etholwyr ym Maesteg eisiau trydaneiddio. Mae gennym ddyn sy'n mynd i fyny ac i lawr y grisiau gydag allwedd Fictoraidd hen ffasiwn i newid y signalau i ganiatáu i'r trên fynd heibio. Pam fod hynny'n bwysig? Oherwydd mai dim ond un trên yr awr y gallwn ei gael ar y trac. Hyd nes yr awn i'r afael â hynny, a mater sythu'r ddolen o gwmpas Ton-du, sydd wedi cael ei addo i ni hefyd, ni allwn gael trên bob hanner awr. Mae'n rhaid inni fynd i'r afael â chroesfan rheilffordd Pencoed. Nid ydym wedi cael unrhyw fuddsoddiad yn hynny fel rhan o ffyniant bro.

Dyma'n union pam mae angen i ni naill ai allu trafod â'r Trysorlys a dweud, 'Gadewch inni gytuno ar yr hyn a ddylai ddod i Gymru a'r hyn a ddylai aros yn Lloegr', neu fel arall, ein bod yn datganoli'r cyllid. Ond rwy'n croesawu'r ddadl heddiw. Rwy'n credu y byddai'n dda cael barn unfryd o'r lle hwn fod angen inni newid hyn un ffordd neu'r llall, oherwydd rydym yn edrych ar £5 biliwn o wariant HS2 yng Nghymru—y swm canlyniadol—a £1 biliwn o Northern Powerhouse Rail, o bosibl, a hynny heb ystyried y tanwariant hanesyddol yma yng Nghymru a fydd yn effeithio ar bob un ohonom yn ein hetholaethau mewn gwahanol ffyrdd.

Mae Mark Barry—yr Athro Mark Barry o Brifysgol Caerdydd—a chwaraeodd ran allweddol yn natblygiad metro de Cymru ac sy'n cael ei gydnabod fel rhywun sy'n siarad gydag awdurdod ar hyn, wedi amcangyfrif bod Llywodraeth y DU bellach yn buddsoddi 200 gwaith yn fwy yn rhwydwaith rheilffyrdd Lloegr nag yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru. Ni allwch ddadlau yn erbyn hynny ar sail poblogaeth nac unrhyw sail ffeithiol arall o gwbl; mae'n annheg. Daeth adroddiad gan Brifysgol Caerdydd yn 2021 i'r casgliad y byddai Cymru wedi cael £514 miliwn ychwanegol o fuddsoddiad yn ei seilwaith rheilffyrdd pe bai rheilffyrdd wedi'u datganoli. Nawr, mae hwnnw'n arian sylweddol; mae'n enfawr i ddolen Ton-du, i Faesteg, i ogledd Cymru ac i bobman arall.

Ond yn y bôn, mae'n rhaid inni gytuno bod yn rhaid i hyn newid bellach. Nid yw penderfyniadau o'r brig i lawr sy'n dweud wrthym beth a gawn ar gyfer y rheilffyrdd a beth nad ydym yn ei gael yn gynaliadwy o gwbl mwyach. Felly, rwy'n gofyn i Aelodau'r Senedd gefnogi hyn yn gryf heddiw ac i edrych ar yr opsiynau sydd gennym ar gyfer symud ymlaen, ac i Weinidogion ddadlau dros yr opsiynau hynny gyda'r Trysorlys, sy'n ymddangos fel pe bai'n dilyn rheolau gwahanol i bawb arall ar hyn o bryd.

16:40

Mae'r ffaith nad ydyn ni'n cael y £5 biliwn yma yn ddim byd mwy na sgandal, a bod yn honest, a dwi eisiau esbonio pam y byddai buddsoddiad o'r math yna yn gallu trawsnewid y ddarpariaeth drafnidiaeth gyhoeddus yn fy rhanbarth i ac ar draws Cymru. Mae'r rhanbarth dwi'n ei gynrychioli, fel rydych chi gyd yn gwybod, yn ardal wledig sydd yn bennaf dioddef gan ddiffyg gwasanaethau rheilffordd a bysys.

Nawr, pan rwy’n mynd mas i gwrdd â phobl ar draws y rhanbarth, ac yn siarad â nhw am y materion sydd o bwys mawr iddyn nhw, dro ar ôl tro maen nhw’n codi’r mater o ddiffyg trafnidiaeth gyhoeddus. I ormod o gymunedau gwledig, breuddwyd gwrach yw’r syniad o gael mynediad at gyswllt rheilffordd cyfleus. Yn aml, dyma’r un cymunedau sy’n wynebu colli eu gwasanaethau pan fydd y cynllun BES yn dod i ben cyn bo hir.

Nawr, fel y gwyddom i gyd, mae diffyg cronig o gysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus yn cael effaith ddofn ar yr economi, gan ei gwneud hi'n anos i fusnesau ffynnu ac i bobl gael mynediad at addysg, hyfforddiant a gwasanaethau hanfodol eraill. Mae hefyd yn ffactor allweddol ym mhatrymau ehangach tlodi gwledig ac allgáu cymdeithasol yng nghefn gwlad canolbarth a gorllewin Cymru.

Lle mae gwasanaethau rheilffordd yn bodoli, fel y bydd unrhyw un sydd wedi teithio ar reilffordd Calon Cymru yn ddiweddar, er enghraifft, yn tystio, mae yna oedi a chanslo rheolaidd, yn aml heb fawr o rybudd os o gwbl. Roeddwn yn digwydd teithio ar reilffordd Calon Cymru yn ddiweddar, ond yn anffodus ni chefais y pleser o deithio ar y rheilffordd yr holl ffordd oherwydd roedd rhaid i mi ddal bws o Landeilo i Landrindod ar y ffordd yno ac o Landrindod i Landeilo ar y ffordd yn ôl. 

Yn aml, nid yw amserlennu'n ystyried anghenion pobl. Er enghraifft, mae'r trên olaf o Ddinbych-y-pysgod i Ddoc Penfro'n gadael ymhell cyn y byddai unrhyw un sydd ar shifft hwyr yn unrhyw un o fwytai, tafarndai neu fariau Dinbych-y-pysgod yn gallu ei ddal i gyrraedd adref. Mae hyn yn rhwystro pobl, yn enwedig pobl ifanc, rhag manteisio ar gyfleoedd gwaith lleol, ac mae'n enghraifft o fethu meddwl yn ddigon cydgysylltiedig.

Ond nid oes rhaid iddi fod fel hyn. Gallai'r cyllid canlyniadol sy'n ddyledus i Gymru o HS2 helpu i drawsnewid y ddarpariaeth reilffyrdd yng nghanolbarth a gorllewin Cymru. Drwy fuddsoddi yn ein rheilffyrdd, gallai hefyd wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ein gwasanaethau, gan ddarparu cysylltiadau cyflymach, mwy mynych a mwy dibynadwy ar draws y rhanbarth. Byddai gwella cysylltedd yn cefnogi busnesau ac yn helpu i oresgyn rhwystrau allweddol i fuddsoddi yn y rhanbarth, gan gefnogi creu swyddi a hybu twf. Gallai hyn, yn ei dro—ac mae hyn yn bwysig iawn—helpu i leihau tlodi ac anghydraddoldeb yn fy rhanbarth. 

Yn syml iawn, nid oes unrhyw ffordd y bydd pobl canolbarth a gorllewin Cymru'n gallu newid o ddefnyddio ceir preifat ar y raddfa a'r cyflymder sydd ei angen i ymladd newid hinsawdd os yw trafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i fod mor annibynadwy ac anghyfleus.

Byddai ailddynodi HS2 fel prosiect i Loegr yn unig a darparu’r cyllid canlyniadol i Gymru yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ledled Cymru. Yn wir, ar bwynt o egwyddor, pa genedl wâr fyddai ddim eisiau cysylltu ei phobl â’i gilydd? Mae gyda ni gysylltiadau o'r gorllewin i'r dwyrain, ond dim o'r gogledd i'r de. A dyna'r pwynt. Rwy'n cytuno gyda Darren Millar: mae angen inni wella'r cyswllt o'r de i'r gogledd. Mae'r sefyllfa'n warth, a hynny ar ôl i Lywodraethau Torïaidd a Llafur gael digon o gyfle i unioni'r cam yma dros ddegawdau. Mae pobl yng nghanolbarth a gorllewin Cymru yn haeddu buddsoddiad yn eu heconomi leol sy'n creu swyddi a lleihau tlodi. Ond yn bennaf oll, maen nhw'n haeddu'r hawl i drafnidiaeth gyhoeddus gyfleus ac effeithiol. Byddai sicrhau'r arian sy'n ddyledus iddyn nhw gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynd gam yn nes i ddarparu'r gwasanaethau sylfaenol hyn. Diolch. 

16:45

Fy thema y prynhawn yma yw cysylltu Cymru, gan ddilyn yr hyn y mae Cefin Campbell newydd ei ddweud. Mae'r rhai sy'n siarad o blaid y cynnig hwn heddiw eisiau cysylltu Cymru, rhyddhau potensial ein cenedl, uno Cymru yn hytrach na rhannu ein gwlad. Rydym ni i gyd yn gwybod nad yw'r ffaith bod San Steffan yn amddifadu Cymru o arian yn unrhyw beth newydd a gwyddom fod toriadau'n aml yn cael eu gorfodi ar Gymru.

Mae'r tanfuddsoddiad hwn a thorri'n ôl ar gyllid i seilwaith rheilffyrdd Cymru yn digwydd ers degawdau. Yng ngeiriau'r Athro Phil Williams, 'Os edrychwch ar y meini prawf a ddefnyddiwyd gan yr Arglwydd Beeching a'i olynwyr i gyfiawnhau cau rheilffyrdd unigol, mae'r fethodoleg gyfrifyddu'n ddiffygiol tu hwnt.' Aeth Phil Williams yn ei flaen i ddweud, 'Yr hyn sydd hyd yn oed yn fwy arwyddocaol yn achos Cymru yw'r ffordd ddi-glem y caewyd rheilffyrdd unigol heb unrhyw asesiad gwirioneddol o'r sgil-effeithiau ar reilffyrdd eraill ac ar y rhwydwaith cyfan.' Ac roedd yn gywir yn hynny o beth. I swyddog yn Whitehall, roedd cau'r rheilffyrdd rhwng Pwllheli a Chaernarfon ac Aberystwyth a Chaerfyrddin yn gau cymharol fach, ond fe wnaeth hynny ddinistrio'r unig gysylltiad rhwng y gogledd a'r de a oedd ar ôl yng Nghymru. Gydag ychydig eiriau ar bapur yn Whitehall, gwnaeth cau'r rheilffyrdd hyn ddrwg i unrhyw obaith o ddatblygu rhwydwaith rheilffyrdd Cymru gyfan.

Pan fo pobl yn canmol yr undeb, efallai y dylent ystyried y materion hyn: er gwaethaf rheolaeth San Steffan ar ein rhwydwaith rheilffyrdd, rydym yn dal yn yr un sefyllfa heddiw yn dilyn toriadau Beeching. Rwy'n falch o weld bod gan y cynghorydd o Wynedd, Elfed Wyn ap Elwyn, ddeiseb i'r Senedd sy'n tyfu'n gynyddol dros ailagor rheilffyrdd sy'n cysylltu gogledd a de Cymru. Mae'r oedi diweddaraf ar reilffordd HS2 yn golygu bod mwy o arian yn cael ei wario, mwy o arian yn cael ei wastraffu, mwy o arian yn cael ei gymryd oddi wrth Gymru. Mae ymchwil gan Mark Barry wedi datgelu bod Cymru'n talu am HS2 i bob pwrpas. Mae hyn yn arwain at lai o welliannau o'i gymharu â gweddill rhwydwaith y DU, rheilffordd lai effeithlon, sy'n cludo llai o deithwyr, gyda chymhorthdal uwch am bob teithiwr.

Fis diwethaf, cytunodd y Trefnydd i fy ngalwad am ddatganiad ysgrifenedig ar gyllid seilwaith rheilffyrdd a gollwyd i Gymru. Pryd y gallwn ni gael y datganiad ysgrifenedig hwnnw i Aelodau'r Senedd, Weinidog? Oherwydd rwy'n siŵr yr hoffai Aelodau ar draws y Senedd hon wybod faint o arian y mae Cymru wedi'i golli dros y blynyddoedd oherwydd yr oedi cyn trydaneiddio rheilffordd y Great Western a'r ffaith bod HS2, a Northern Powerhouse Rail yn ôl pob tebyg, yn cael eu categoreiddio fel prosiectau ar gyfer Lloegr a Chymru. Cafodd trydaneiddio o Gaerdydd i Abertawe ei wrthod gan Lywodraeth y DU yn 2017. Er bod galwadau i ailddechrau'r cynllun, nid yw Llywodraeth y DU wedi rhoi unrhyw arwydd ei bod yn bwriadu gwneud hynny. Felly, Weinidog, pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth San Steffan a chyd-aelodau Llafur y DU ynghylch trydaneiddio o Gaerdydd i Abertawe?

Yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog yn ddiweddar, codais fater uwchraddio cyffordd Gorllewin Caerdydd yn Nhreganna er mwyn ei gwneud hi'n bosibl i bedwar trên yr awr redeg drwy orsafoedd ar reilffordd y Ddinas. Cyfrifoldeb Network Rail a Llywodraeth y DU yw hyn. Cafodd ei gynnwys yn wreiddiol ym mhrosiect adnewyddu signalau ardal Caerdydd 2012-15 yr Adran Drafnidiaeth a Network Rail. Ond am ba reswm bynnag, sy'n parhau'n ddirgelwch i mi, ni ddigwyddodd hynny. Dywedasant eu bod yn bwriadu ei wneud rhwng 2012 a 2015, ond rydym yn dal i aros yn 2023. A all y Gweinidog a'i swyddogion ymchwilio i'r oedi hwn gyda Network Rail a'r Adran Drafnidiaeth? Mae cost y buddsoddiad oddeutu £30 miliwn, felly swm bach o arian o'i gymharu â'r gwariant enfawr ar brosiect HS2. Ac os bydd Llywodraeth San Steffan yn talu am hyn, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo £20 miliwn drwy Trafnidiaeth Cymru i wella rheilffordd Coryton yng ngogledd Caerdydd, fel bod pedwar trên yr awr yn gallu rhedeg ar y rheilffordd honno hefyd?

Fel y soniodd Siân Gwenllian tuag at ddiwedd ei haraith, y peth pwysig yma, y peth hollbwysig yma, yw, oni fyddai'n ffordd gymaint gwell o wneud pethau yn y dyfodol pe bai gan Gymru bwerau llawn dros reilffyrdd, gan gynnwys seilwaith? A wnaiff y Gweinidog drafod gyda'i gymheiriaid yn Llundain felly er mwyn sicrhau y byddai Llywodraeth San Steffan yn y dyfodol yn agored i'r ffordd hon ymlaen? Diolch yn fawr.

16:50

Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd nawr i gyfrannu at y ddadl. Lee Waters.

Diolch, Lywydd. Bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig hwn y prynhawn yma, ac rwy'n ddiolchgar i Blaid Cymru am ei gyflwyno. Roeddwn yn drist iawn wrth wrando ar y ddadl hon ac fe wrandewais yn ofalus iawn, ac nid wyf yn gweld unrhyw un yn anghytuno â'r cynnig, ond byddai'n anodd dod i'r casgliad hwnnw o wrando ar y ddadl o'r oriel gyhoeddus. Rydym yn canolbwyntio yn hytrach ar y pethau rydym yn anghytuno yn eu cylch, yn hytrach na'r consensws rydym wedi'i gyrraedd o'r diwedd—ar ôl i'r Ceidwadwyr benderfynu cefnogi'r alwad yn y pen draw—fod gennym gefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd hon bellach i'r buddsoddiad hwn yng Nghymru. Fe fyddwch yn cofio mai'r tro diwethaf inni gael cefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd hon i fuddsoddiad rheilffyrdd oedd dros drydaneiddio prif reilffordd Abertawe a Chaerdydd, ac er clod i'r Ceidwadwyr, fe ddaethant ynghyd â phleidiau eraill i lobïo eu Llywodraeth eu hunain a llwyddo i gael penderfyniad a oedd er budd i Gymru. Felly, mae wedi cael ei wneud o'r blaen a gallwn ei wneud eto. Yn anffodus, yn yr achos hwnnw, fe wnaeth Llywodraeth y DU dro pedol ar ei pholisi ac nid ydym wedi cael trydaneiddio.

Cefais fy synnu, rhaid i mi ddweud, gan agoriad Darren Millar, lle galwodd am ddadl gydsyniol dda a gresynu at y ffaith nad oedd yna un. Dadleuodd yn chwyrn yn yr hyn a oedd yn amlwg yn araith wedi'i pharatoi ymlaen llaw, gan ddatblygu ei destun cynnen arferol o geisio gwahanu'r gogledd a'r de, sef ei alwad groch arferol, sydd braidd yn ddiflas bellach. Pe bai'n ddiffuant ynglŷn â hyrwyddo buddiannau gogledd Cymru, yn hytrach na sgorio pwyntiau, fe fyddai'n dadlau dros drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru ac yn gwneud hynny'n uchel ac yn gyson. Nid yw'n gwneud hynny—cyfrifoldeb heb ei ddatganoli ydyw—a byddai'n well ganddo chwarae gemau gwirion. Mewn gwirionedd, mae'r Llywodraeth hon wedi buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd sbon, y rhan fwyaf ohonynt wedi'u gwneud yng Nghymru, ac maent yn cael eu defnyddio a'u treialu ar hyn o bryd yng ngogledd Cymru. 

16:55

Nid wyf am dderbyn ymyriad. [Torri ar draws.] Nid wyf am dderbyn ymyriad, na.

Nid yw'n wir nad ydym yn buddsoddi yng ngogledd Cymru. Rydym wedi sefydlu Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru, sy'n cael ei arwain, unwaith eto, gan yr Arglwydd Burns, sydd wrthi'n datblygu llif o gynlluniau ar gyfer buddsoddi ledled gogledd Cymru—rhai trefol a gwledig—a bydd angen buddsoddiad Llywodraeth y DU ar beth o hynny oherwydd bydd yn fuddsoddiad mewn seilwaith rheilffyrdd. Ac rwy'n gobeithio, bryd hynny, y gall Darren Millar roi ei gariad at destunau cynnen i'r naill ochr er mwyn canolbwyntio ar yr hyn yr ydym yn cytuno arno, a dadlau dros wneud y buddsoddiad hwnnw yng Nghymru gan nad yw wedi'i ddatganoli. Rydym wedi gweld yr un peth yng nghomisiwn Burns de Cymru, lle cyflwynwyd cyfres o argymhellion ar gyfer llif o gynlluniau, ac rydym yn gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU ar ddod o hyd i gyllid ar eu cyfer—bydd trydaneiddio'r rheilffyrdd lliniaru drwy Gasnewydd yn hanfodol er mwyn gwireddu gweledigaeth comisiwn Burns. Ac rwy'n gobeithio y gallwn gael cefnogaeth drawsbleidiol i hynny. 

Mae arnaf ofn fod Natasha Asghar yn gwbl anghywir i ddweud y bydd HS2 yn dod â buddion i Gymru. Pe bai'n mynd i'r drafferth i ddarllen yr achos busnes dros fuddsoddiad HS2, byddai'n gweld, yn achos busnes yr Adran Drafnidiaeth ei hun, ei fod yn dangos y bydd HS2 yn cymryd £200 miliwn o economi Cymru bob blwyddyn. Nid oes unrhyw wasanaethau'n dod i Gymru, nid oes yr un filltir o drac yn dod i Gymru. Dadleuodd David T.C. Davies, a Robert Buckland o'i flaen, a phwy bynnag oedd yn Ysgrifennydd Cymru o'i flaen ef—mae'n anodd cofio—y byddai HS2 o fudd i ogledd Cymru am y byddai trenau'n dod i Crewe, ond ni allant ddadlau hynny nawr hyd yn oed, oherwydd mae'r Adran Drafnidiaeth wedi gohirio'r datblygiad hwnnw. Ac rwy'n credu bod Siân Gwenllian yn iawn i amau y gwelwn ni'r rhan hon o HS2 yn cael ei datblygu byth. Felly, mae arnaf ofn fod Natasha Asghar, unwaith eto, yn gosod galwadau seiren o flaen y budd cenedlaethol. Maent yn dweud eu bod yn cefnogi'r polisi, maent yn dweud eu bod eisiau menter drawsbleidiol, ac yna mae'n rhaid iddynt ei fychanu drwy wneud galwad blentynnaidd dros roi'r arian, nid i Lywodraeth Cymru, ond i Network Rail, corff nad yw'n atebol i'r Senedd hon, fel y nodwyd, corff nad yw'n atebol i bobl Cymru a chorff nad yw wedi'i ddatganoli. Ac ni fydd yn cyflawni unrhyw beth. Mae arnaf ofn nad yw'n ddim ond arwydd o falais, ar ôl cymryd cyhyd i gytuno bod hyn yn gamwedd yr oedd angen ei unioni, roedd hi'n ormod iddynt ymddwyn fel oedolion ynglŷn â'r peth. 

I ychwanegu halen at y briw agored hwn, rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau wedi darllen y cyhoeddiad am gynlluniau cynnal a chadw diweddaraf Network Rail, gyda'r setliad cyfnod rheoli 7 fel y'i gelwir, sy'n dangos bod Network Rail, dros y pum mlynedd nesaf, yn cynllunio i dorri gwariant ar gynnal a chadw'r rheilffyrdd yng Nghymru. Felly, mae'r corff hwn y mae'r Torïaid eisiau rhoi arian ychwanegol iddo yn cynllunio i danfuddsoddi yng Nghymru, a fydd yn cael yr effaith uniongyrchol o waethygu perfformiad y rheilffyrdd yng Nghymru—dirywiad wedi'i gynllunio yn rheilffyrdd Cymru. Asedau sy'n dirywio, mwy o wasanaethau'n methu, perfformiad y rhagwelir y bydd yn gwaethygu neu a fydd prin yn gwella—dyna mae Llywodraeth y DU yn ei gyflawni i Gymru mewn maes heb ei ddatganoli: perfformiad trenau sy'n gwaethygu. Felly, pan fyddant yn gwneud cyhuddiadau ynglŷn â diffyg buddsoddiad, mae angen iddynt fwrw'r bai lle mae'r bai yn gorwedd. Mewn gwirionedd, yr unig beth da am setliad cyfnod rheoli 7 yw y bydd yn sicrhau budd ymylol iawn i berfformiad ar-amser Cymru, sy'n newyddion da. Y rheswm pam mae hynny'n digwydd yw oherwydd y buddsoddiad rydym ni wedi'i wneud mewn gwasanaethau gwell: mewn trenau newydd, mewn mwy o staff sydd wedi'u hyfforddi'n well, a gwelliannau i'r fflyd etifeddol a pherfformiad. Felly, pan fo Gareth Davies yn sôn am berfformiad trenau, dylai gofio bod ein buddsoddiad ni mewn gwirionedd yn gwrthbwyso'r dirywiad bwriadol yn y gwasanaethau yng Nghymru dan reolaeth Llywodraeth y DU drwy Network Rail. Mae ganddynt hanes gwarthus i'w amddiffyn a'r hyfdra pur i'n beirniadu ni. 

Na wnaf.

Dywedodd Luke Fletcher yn gywir ar y dechrau mai lladrad noeth yw hwn, rydym yn cael ein hamddifadu o fuddsoddiad. Mae hon yn sefyllfa syml iawn, mewn gwirionedd. Prosiect i Loegr yn unig yw hwn, a dylem fod yn cael swm canlyniadol datganoledig o hynny. Mae'n sgandal nad ydym yn ei gael. Yn ddiddorol, nid pwynt pleidiol yn unig yw hwn. Dywedodd yr Arglwydd Peter Hendy, cadeirydd Network Rail, cyn bennaeth Transport for London Boris Johnson a ffigur trawsbleidiol sydd bellach yn aelod trawsfeinciol yn Nhŷ'r Arglwyddi, gŵr uchel ei barch ar draws y sbectrwm gwleidyddol, yn ei araith gyntaf—. Mae'n werth ei darllen, mae'n araith fer, ac yn arwyddocaol, o'r holl bynciau y gallai fod wedi'u dewis yn yr araith agoriadol honno i'w gyfarch i Dŷ'r Arglwyddi, dewisodd y penderfyniad rhyfedd iawn i beidio â rhoi swm canlyniadol Barnett i Gymru. Rwy'n credu bod hynny'n arwyddocaol. Defnyddiodd iaith ofalus a phwyllog iawn. Dywedodd fod y ffordd roedd swm canlyniadol HS2 i Gymru yn gweithio yn 'rhyfedd', a bod 'rhywbeth o'i le' yn y ffordd y caiff fformiwla Barnett ei chymhwyso. Felly, os na fydd Llywodraeth y DU yn gwrando ar y Ceidwadwyr Cymreig, yn gwrando ar y Senedd hon, dylent o leiaf wrando ar gadeirydd Network Rail, yr Arglwydd Hendy, sy'n tynnu sylw'n briodol at y diffyg rhyfedd iawn yn y ffordd y caiff y fformiwla allweddol hon ei chymhwyso. 

Rydym yn gwneud yr hyn a allwn gyda'r adnoddau sydd gennym i fuddsoddi mewn rheilffyrdd ledled Cymru. Mae'n rhan allweddol o'n targedau newid hinsawdd a'n gweledigaeth ar gyfer strategaeth drafnidiaeth Cymru. Mae cael adnoddau ychwanegol i'w gwario ar reilffyrdd a bysiau, i sicrhau system drafnidiaeth wirioneddol integredig, yn rhywbeth rydym ei angen yn daer. Nid ydym yn brin o uchelgais. Nid ydym yn brin o gynlluniau. Ond rydym yn brin o arian, a byddai unioni'r cam hwn yn helpu. Diolch.

17:00

Fe wnaf i gychwyn drwy ddiolch i bawb am eu cyfraniadau. Dwi ddim yn mynd i redeg drwy bob un cyfraniad, fyddwch chi'n falch o glywed, ond dwi jest eisiau tynnu sylw at un neu ddau o bethau. Roedd Luke, wrth agor y ddadl, yn berffaith iawn i amlygu sut mae blaenoriaethu Lloegr dros Gymru wedi digwydd yn fan hyn, ond fyddwn i'n dweud, wrth gwrs, un o'r problemau yw bod blaenoriaethu Llundain wedi digwydd dros bob man arall dros y blynyddoedd. Efallai, yn ei hanfod, mai dyna yw un o'r problemau sylfaenol yn fan hyn. Mae'r ratio gwariant yma o 200:1 pan fo'n dod i wariant yn Lloegr o'i gymharu â Chymru—ac roedd Luke a Huw Irranca-Davies ac eraill yn cyfeirio at hynny—mae hynny jest yn amhosib i'w gyfiawnhau. Mae'n amhosib credu bod unrhyw un yn meddwl ei bod hi'n iawn i drio cyfiawnhau hynny hefyd, yn fy marn i.

Dywedodd Darren ei fod yn siomedig ynghylch naws y ddadl. Rwy'n cytuno. Efallai na chafodd hyd yn oed Aelodau ei feinciau ei hun y memo, ond dyna ni, ac rwy'n cytuno bod angen inni weld buddsoddiad tecach yn cael ei wasgaru ledled Cymru. Rwyf fi ac eraill wedi bod yn rhygnu ymlaen am hynny ers blynyddoedd lawer. Ond wrth gwrs, mae ffocws y cynnig yma—nid y ddadl, efallai, ond y cynnig—yn ymwneud â faint o'r cyllid hwnnw sydd gennych i'w wasgaru ledled Cymru, sy'n fater gwahanol. Fel y dywedaf, dyna mae'r cynnig yn galw amdano, nid o reidrwydd, efallai, yr hyn a drafodwyd ar adegau.

Mi wnaeth y Dirprwy Weinidog, wrth gwrs, efelychu Darren ychydig bach, os caf i ddweud. Hynny yw, yn dechrau bant yn dweud bod eisiau consensws, wedyn fe wnaeth Darren dynnu ei fenig bant. Wel, rwy'n credu efallai fod y Dirprwy Weinidog wedi slipio cwpwl o bwniadau i mewn o dan y belt hefyd, ond dyna ni. Dyna pam maen nhw'n ei galw'n ddadl, onid yw e, ac yn enwedig os yw gwleidyddion yn involved, dwi ddim yn meddwl ein bod ni wastad yn mynd i gael pawb yn cytuno ar bopeth.

Ond mae'n rhaid imi ddychwelyd at rai o'r sylwadau a wnaeth Natasha Asghar yn ei chyfraniad. Hynny yw, i bob pwrpas, rydych yn ailysgrifennu'r setliad datganoli yn eich cyfraniad pum munud, ac mae'n codi'r llen, rwy'n credu, ar holl hanfod llanast HS2. Mae’n ymwneud â Llywodraeth y DU yn tanseilio fformiwla Barnett yn fwriadol. Dyna sy'n digwydd yma. Nawr, rwy’n sylweddoli bod safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig yn wahanol, er nad yw mor wahanol ag y credwn ei fod cyn y ddadl hon, oherwydd yr hyn rydych chi'n ei ddweud yw y gall Cymru gael yr arian cyhyd â bod Llywodraeth y DU yn penderfynu sut y caiff ei wario. Dyna ddatganiad enfawr yno am eich diffyg dylanwad yn y lle hwn, yn un peth, ac mae braidd fel groser yn dweud, 'Fe werthaf y tatws i chi ar yr amod fy mod yn cael dweud wrthych sut i ddefnyddio'r tatws hynny.'

Gyda phob parch, a wnaethoch chi wrando ar yr hyn roeddwn yn ei ddweud? Roeddwn yn datgan ein bod yn fwy na bodlon i’r arian ddod yma, ond mae'n rhaid iddo beidio â mynd i ddwylo’r Llywodraeth hon; mae'n rhaid iddo fynd tuag at y rheilffyrdd, sef yr hyn y mae pawb yma'n ei ddymuno. Mae pob un ohonom am weld y gwasanaethau rheilffyrdd yn gwella—gogledd, de, dwyrain, gorllewin—ond nid oes gennym ffydd yn y Llywodraeth hon. Gadewch iddo fynd yn uniongyrchol i'r gwasanaethau rheilffyrdd fel bod pobl yn cael y gwasanaeth y maent ei angen ac yn ei haeddu.

Ac mae hynny'n dweud llawer am eich diffyg dylanwad yn y lle hwn—y byddech yn dymuno i eraill wneud y penderfyniadau. Dyna'r union bwynt roeddwn yn ei wneud, Natasha, felly nid wyf yn deall beth rydych yn ceisio'i ddweud yno.

Mae yna gonsensws, ni waeth beth mae unrhyw un yn ei ddweud—rwy'n mynnu bod yna gonsensws. [Chwerthin.]

Na. Edrychwch, mae e'n arwyddocaol—peidiwch â gadael i ni anghofio hyn—mae e yn arwyddocaol, dwi'n meddwl, bod y Ceidwadwyr ar lefel y Deyrnas Unedig, drwy Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn dweud un peth, ond bod y Ceidwadwyr Cymreig â barn gwahanol, er efallai ddim y farn y byddwn i eisiau, ond dwi'n parchu ac yn cydnabod hynny. Ond, dwi hefyd yn cydnabod bod y Llywodraeth neu'r blaid Lafur ar lefel y Deyrnas Unedig ddim wedi rhoi unrhyw sicrwydd i ni y byddan nhw'n gwneud unrhyw beth yn wahanol i'r Ceidwadwyr ar lefel y Deyrnas Unedig petaen nhw mewn Llywodraeth. Ond eto, dwi'n cydnabod bod yna farn wahanol ar y meinciau yma.

Felly, mae yna dir cyffredin, a dwi'n falch, gobeithio, y byddwn ni'n symud tuag at gefnogaeth gan yr Aelodau yn gyfan yn fan hyn. Dwi yn eich annog chi, felly, ar draws y ffiniau pleidiol, i gefnogi cynnig Plaid Cymru'r prynhawn yma. Gadewch i ni anfon neges unfrydol i Lywodraeth San Steffan o ba bynnag liw, nawr ac yn y dyfodol, nad ŷn ni fel Senedd ac nad ŷn ni fel Cymry yn fodlon ar gael ein hesgeuluso yn hyn o beth, yn fodlon ar gael ein hanwybyddu, nac yn fodlon gyda'r anghyfiawnder yma o ddiffyg cyllido canlyniadol i Gymru. A gadewch i ni ddangos ein bod ni'n barod i godi'n llais ac ymladd am ein cyfran deg ni o'r hyn sy'n ddyledus i ni. Does bosib y gallwn ni gyd gytuno'n unfrydol bod Cymru, yn y cyd-destun hyn, yn haeddu gwell.

17:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Sy'n golygu nad oes angen cyfnod pleidleisio y prynhawn yma. 

9. Dadl Fer: Y ffordd wledig o fyw: Saethu a'i fudd i'r amgylchedd a'r economi

Felly, byddwn ni'n symud ymlaen i eitem 9, sef y ddadl fer. Mae'r ddadl fer y prynhawn yma gan James Evans.

Diolch am eich cymorth, Sam Rowlands. Diolch, Lywydd. Hoffwn roi munud o fy amser i Laura Anne Jones, Sam Kurtz a Mabon ap Gwynfor. Hoffwn ddiolch i chi am y cyfle i gael y ddadl hon heddiw ar yr agweddau ar y ffordd wledig Gymreig o fyw, saethu a’i fanteision i’r economi a chadwraeth. Edrychaf ymlaen at glywed barn y Gweinidog ac Aelodau ar draws y Senedd a chyd-Aelodau ar y pwnc pwysig hwn. Fel rhywun a ddechreuodd saethu yn ddiweddar, ac fel aelod o'r grŵp trawsbleidiol ar saethu a chadwraeth, mae'n fater pwysig iawn i mi ac i lawer o bobl ledled Cymru.

Mae saethu'n hollbwysig i gymunedau gwledig Cymru. Mae'n darparu cyfleoedd i bobl o bob math o gefndir ddod at ei gilydd yn yr awyr agored a mwynhau cwmni ei gilydd. Rwy'n cytuno â Syr Gareth Edwards CBE sydd wedi datgan yn gyhoeddus ei fod yn credu o ddifrif fod saethu yng nghefn gwlad Cymru yn rhan annatod o ddiwylliant a thraddodiadau ein gwlad.

Mae’n amlwg fod saethu cynaliadwy a’r gweithgareddau cadwraeth cysylltiedig yn darparu ystod eang o fanteision amgylcheddol ac economaidd, ac yn cyflawni pob un o’r saith nod llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae bron i chwarter y bobl yn rhannau mwyaf gwledig Cymru yn teimlo’n ynysig, a gall saethu fod yn fuddiol iawn i fynd i’r afael â hyn, a darparu manteision iechyd corfforol a meddyliol. Mae saethu'n rhan hanfodol o ddod â phobl at ei gilydd, ac ar gyfartaledd, mae pobl yn gwneud 20 o ffrindiau pan fyddant yn cymryd rhan yn eu digwyddiadau saethu lleol.

Mae gan saethu fanteision cadwraeth hefyd, megis rheoli 380,000 o hectarau yng Nghymru, sef 90 y cant o dir Cymru. Mae arferion rheoli cysylltiedig yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddiogelu ecosystemau a helpu bywyd gwyllt i ffynnu. Mae saethu’n cyfrannu £7.4 miliwn o wariant blynyddol ar gadwraeth ledled Cymru—sy’n cyfateb i 490 o swyddi amser llawn, neu 120,000 o oriau o ddiwrnodau gwaith cadwraeth. Mae ymchwil wedi dangos y gall rheolaeth dda ar anifeiliaid hela arwain at fanteision sylweddol i fywyd gwyllt a bioamrywiaeth. Er enghraifft, mae coetir a reolir ar gyfer saethu anifeiliaid hela yn tueddu i gynnal mwy o adar cân a gloÿnnod byw a gwenyn ar ymylon coetiroedd.

Mae ymarferwyr a chymunedau saethu ar draws fy ardal i ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed a thu hwnt yn meddu ar y sgiliau unigryw i helpu i fynd i’r afael â’r heriau sy’n gysylltiedig â’r argyfyngau hinsawdd a natur yn uniongyrchol. Mae'r rheini sy'n ymwneud â saethu yn angerddol am y tir a'i fywyd gwyllt. Maent hefyd yn gwneud gwaith gwych yn rheoli ysglyfaethwyr i helpu i adfer poblogaethau adar sy’n nythu ar y ddaear rhag ysglyfaethwyr, megis y gylfinir, a gwn y byddai fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, sef hyrwyddwr y gylfinir yn y Senedd hon, yn cytuno â hynny.

Yn wir, saethu sydd wedi sicrhau bod ffermydd ledled y wlad yn parhau i ffynnu, gyda gwrychoedd, coetiroedd bychain, llynnoedd a phyllau a hyd yn oed ardaloedd syfrdanol o rug a rhostiroedd. Mae dyhead ffermwyr i gyfoethogi a gwella cefn gwlad Cymru yn rhoi cymhelliad iddynt, ac yn aml, y cyllid sydd ei angen i gynnal cynefinoedd a fyddai fel arall wedi cael eu pori neu eu haredig o bosibl. Mae ein ffermwyr yn gwneud gwaith gwych yn gwarchod a chynnal yr amgylchedd, ac mae saethu'n helpu i wneud hynny. Yr amrywiaeth o gynefinoedd a geir ar ystadau saethu a’r angerdd am fywyd gwyllt ymhlith pobl sy’n saethu sy’n gwneud saethu mor werthfawr yn y frwydr i warchod rhywogaethau adar sy’n dirywio.

Nid yn unig hyn, ond mae saethu'n cyfrannu at y ffordd wledig o fyw ac yn mynd ymhellach fyth i mewn i'r byd economaidd. Gadewch inni gael golwg ar y ffigurau: mae gweithgareddau saethu yng Nghymru yn cyfrannu £75 miliwn i’r economi, ac mae ymchwil yn dangos bod yna 2,900 o fusnesau’n gysylltiedig â saethu ledled y wlad, ac maent yn cyflogi 2,400 o bobl llawn amser i gefnogi’r economïau gwledig a chymunedau gwledig ledled Cymru.

Yr ystod o weithgareddau saethu sydd gan Gymru i’w chynnig i dwristiaeth chwaraeon ac maent yn fusnesau lletygarwch drwy gydol y flwyddyn, sy’n denu ymwelwyr o bob rhan o’r DU, ac yn bwysicach, o bob rhan o’r byd, ac rwy’n siŵr y gall Aelodau yn y Siambr hon gytuno y byddai'n rhaid i rai lleoliadau lletygarwch gau dros y gaeaf oni bai am grwpiau o bobl a ddaw i'r ardal honno i fwynhau cefn gwlad a mynd i saethu. Mae hyn yn rhoi’r rhaff achub economaidd honno i’n cymunedau gwledig drwy ymestyn y tymor twristiaeth i mewn i fisoedd y gaeaf, pan fydd yn anoddach i’r busnesau hynny oroesi. Twristiaeth yw calon llawer o gymunedau, ac mae saethu'n rhoi swyddi a chyfleoedd i bobl ifanc yn y sector lletygarwch a thwristiaeth er mwyn cadw ein pobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru.

Mae saethu'n faes sy'n agored i bawb, ac mae'n agored i bobl o bob cefndir; nid yw saethu'n elitaidd. Mae yna bobl, o reolwyr ystadau, ffermwyr, cynorthwywyr, cadwraethwyr, bridwyr, trinwyr cŵn, dynion sbwriel, hyd yn oed gwleidyddion fel fi nad aeth i'r brifysgol hyd yn oed, sy'n mwynhau saethu, gan fod pob un ohonom yn rhan o dîm ehangach. A hoffwn sôn am saethu colomennod clai, gan fod saethu'n ymwneud â mwy na hela'n unig; mae saethu colomennod clai yn gyfle gwych i ymgymryd â'r gamp. Mae'n cynyddu mewn poblogrwydd hefyd. Mae'n rhoi cyfle i saethwyr newydd—gwn fod rhai yn y Siambr hon sydd wedi gwneud rhywfaint o saethu colomennod clai—i ddysgu saethu, a gallaf gadarnhau ei fod yn ddiwrnod allan da iawn, iawn, ac os oes unrhyw un yn dymuno mynd i barti 'stag' neu 'hen', mae hefyd yn gyfle gwych arall i fynd allan a mwynhau saethu a'r awyr agored.

Mae saethu a’r gweithgareddau cadwraeth cysylltiedig yn dod â chymunedau ynghyd, ac maent yn annog pobl o bob oed a chefndir i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored. Yn wir, mae llawer o’r gweithgareddau hynny, fel y dywedais, yn digwydd yn ystod misoedd y gaeaf. Gall hwn fod yn gyfnod pan fydd llawer o bobl yn teimlo'n ynysig, ac mae saethu'n rhoi cyfle i’r bobl hynny fynd allan, a chymdeithasu'n rheolaidd a mwynhau natur. Mae hefyd yn rhoi cyfle i'r rhai sy'n cymryd rhan wneud ymarfer corff yn rheolaidd drwy gynnig cyfle i gerdded yng nghefn gwlad, i fynd â’u cŵn am dro ac i ailgysylltu â byd natur, gyda manteision iechyd corfforol a meddyliol, sydd, unwaith eto, yn cyd-fynd ag agenda Llywodraeth Cymru. Mae’r rhain oll yn bethau y dylem fod yn awyddus i'w hannog yn y boblogaeth, felly mae saethu o ddifrif yn cyd-fynd â phopeth y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio ei wneud.

Ac efallai mai fy hoff fantais o ddiwydiant saethu cynaliadwy Cymru yw’r helgig gwych y mae’n ei ddarparu. Caiff ei ystyried yn elfen graidd o saethu cynaliadwy: rydych yn bwyta'r hyn rydych yn ei saethu; nid oes unrhyw beth yn aros ar lawr. Mae gan helgig gwyllt ôl troed carbon is na'r rhan fwyaf o gigoedd a gynhyrchir ar raddfa eang, ac mae'r diwydiant saethu anifeiliaid hela'n hanfodol i reoli a chynnal a chadw amgylcheddau cefn gwlad. Mae'r rhan fwyaf o helgig yn cael ei werthu'n lleol yn yr ardal lle caiff ei gynhyrchu i siopau, cigyddion, gwestai a bwytai lleol. Ac wrth gwrs, rwy'n siŵr fod llawer o bobl—ac mae fy nghyd-Aelod, Sam Kurtz, wedi noddi digwyddiad yma ar helgig—. Helgig Cymreig yw'r gorau a'r mwyaf blasus yn y byd i gyd.

Felly, i gloi, hoffwn ofyn i fy nghyd-Aelodau gytuno â mi yn y Siambr hon fod saethu cynaliadwy a’r gweithgareddau cadwraeth cysylltiedig y mae’n eu darparu yn wych i Gymru—y budd economaidd y mae’n ei ddarparu a’r cyfleoedd ar gyfer swyddi a gweithgareddau sy’n gysylltiedig ag iechyd. Ac yn olaf, i gloi, hoffwn ddiolch i Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain, y Gynghrair Cefn Gwlad a'u holl aelodau gwych sy'n gwneud gwaith hollol ardderchog yn cynrychioli saethu ledled Cymru, a byddant yn parhau i ymladd dros y diwydiant hynod bwysig hwn, hyd yn oed pan nad yw’n edrych fel pe bai'r Llywodraeth ar eu hochr weithiau. Mae 6,000 o bobl yn dibynnu ar saethu am eu swyddi, a hoffwn ddweud wrth y Gweinidog fod gan y bobl hynny forgeisi, fod gan y bobl hynny fywoliaeth, a'i bod yn hen bryd i Lywodraeth Cymru gefnogi ein cymunedau gwledig. Diolch yn fawr iawn.

17:15

Hoffwn ddiolch i James, yn gyntaf, am roi munud i mi yn y ddadl bwysig hon heddiw, ond diolch iddo hefyd am ei gyfraniad—roedd yn gyfraniad gwych, yn fy marn i. Roeddech yn llygad eich lle, ac rwy'n cytuno’n llwyr â chi ar y llu o fanteision y mae saethu'n eu darparu i’n hardaloedd gwledig, a’r angen am saethu yn ein hardaloedd gwledig hefyd. Yr hyn a welwn ar hyn o bryd yw'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn cychwyn ar agenda wrth-saethu drwy fod o blaid newidiadau i reoliadau rhyddhau adar hela. Mae'r agenda ymrannol hon yn enghraifft arall o ymyrraeth ar raddfa fawr gan y wladwriaeth, gyda biwrocratiaeth gynyddol mewn perthynas â thrwyddedu. Mae’r Llywodraeth hon yn benderfynol o ddefnyddio arian trethdalwyr i gyfyngu ar ryddid yn hytrach na defnyddio’r fframwaith cyfreithiol sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio’n llwyddiannus ledled y DU. Pam fod angen inni fod yn wahanol? Mae'n enghraifft arall eto o Lywodraeth Cymru yn ceisio gwneud newidiadau er mwyn gwneud newidiadau yn hytrach na mabwysiadu ymagwedd fwy pwyllog a phragmatig. Byddai'r cynnig yn arwain at amodau ychwanegol a heb eu datgelu, gan gynnwys ar drwyddedau. Oherwydd hyn, mae perygl y bydd trwyddedau'n agored i gael eu herio gan bobl sy'n gwrthwynebu saethu. Yn fy ardal i, gwn fod llawer o etholwyr ar draws de-ddwyrain Cymru yn gwrthwynebu’r syniad chwerthinllyd hwn. Mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â’u gwaith bob dydd ar geisio mynd i'r afael ag amseroedd aros y GIG a system addysg sy’n methu yn hytrach nag ymyrryd yn ein ffordd wledig o fyw.

Hoffwn ddiolch i James Evans o Frycheiniog a Sir Faesyfed am roi munud o'i amser i mi. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar saethu a chadwraeth, braint wirioneddol yw cael cyfrannu yn y ddadl hon y prynhawn yma. Un peth a’m trawodd wrth gyfarfod â Chymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain yn ddiweddar oedd eu bod wedi dweud, a dyfynnaf, fod 'Cadwraeth' eu henw yr un mor bwysig â’r 'Saethu'. Mae'r elfen gadwraethol sy'n gysylltiedig â saethu yr un mor bwysig, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni ei ddeall yn iawn—effeithiau amgylcheddol a chadwraethol saethu a'r rheolaeth dda ar anifeiliaid hela, y rheolaeth dda ar fywyd gwyllt sy'n deillio o hynny. Rwyf wedi bod allan mewn digwyddiadau saethu fel codwr yn edrych ar fanteision y digwyddiad saethu, ac fe wnaeth argraff gref arnaf: ble arall yn ein cymdeithas y byddai gennym gamp lle mae gennym daid a'i wyres yn mynd allan am ddiwrnod, yn treulio amser gyda’i gilydd yn yr awyr agored yng nghefn gwlad, yn gallu enwi’r adar yn y coed, y planhigion ar y ddaear, a’r coed sy’n tyfu, a’u gwreiddiau yn y rhan honno o’r byd? Credaf ei fod yn gyfle gwych i weld drosof fy hun, ac fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol, roeddwn yn siomedig pan anfonwyd gwahoddiad—ac nid wyf am enwi’r unigolyn—ond daeth ymateb yn ôl gan Aelod yn dweud, 'A ydych chi o ddifrif yn rhoi saethu a chadwraeth yn yr un teitl?' O na fyddai'r Aelod wedi mynychu un neu ddau o gyfarfodydd ein grŵp trawsbleidiol i weld drostynt eu hunain y budd sydd gan saethu a chadwraeth i'w gynnig i'w gilydd.

Mae’n rhaid imi dalu teyrnged hefyd i’r Gynghrair Cefn Gwlad a Chymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain, oherwydd, fel y soniodd James, noddais, gyda Llyr Gruffydd, ddigwyddiad Aim to Sustain yn adeilad y Pierhead, a oedd yn wych, yn dangos gwerth maethol helgig, a pha mor garbon niwtral ydyw yn yr ystyr honno, a sut mae'n ticio cymaint o'r blychau hynny. Mae’r GIG yn Lloegr wedi sylwi ar fanteision helgig, gan ei gyflwyno i’r bwydlenni mewn ysbytai dros y ffin. Pan ysgrifennais at y Gweinidog iechyd, byddwn wedi hoffi pe bai hi wedi achub ar y cyfle hwnnw hefyd, fel y gallem gefnogi ein diwydiant helgig yma yng Nghymru drwy sicrhau ei fod yn cael ei gaffael drwy ein hysbytai hefyd.

Felly, diolch yn fawr iawn, James, am gyflwyno’r ddadl hon. Diolch yn fawr.

Diolch i James am ddod â’r ddadl yma ymlaen. Dwi jest eisiau dangos fy nghefnogaeth iddo fo. Dwi’n byw mewn cymuned lle mae yna chwech shoot o fy amgylch i, ac mae’n flin gen i ddweud ein bod ni wedi colli dau yn ddiweddar oherwydd yr amgylchiadau economaidd, ac mae hynny wedi cael effaith economaidd andwyol ar yr ardal. Ond dwi’n gweld gwerth economaidd, gwerth diwylliannol a gwerth cymdeithasol y shoots drwy’r amser. Mae’n hyfryd gweld y tafarnau yn llawn o’r bore, efo’r brecwastau, drwyddo i’r cymdeithasu yn yr hwyr, a’r impact economaidd hynny.

Mae o’n bwysig pwysleisio yn y fan yma hefyd, dwi’n teimlo, fod cig gêm yn cael ei ddefnyddio drwyddo draw; mae pob rhan ohono fo yn cael ei ddefnyddio—nid y cig yn unig, ond y carcas cyfan. Mae’r cyfan yn mynd mewn i’r gadwyn fwyd mewn rhyw ffordd neu gilydd. Ac ar adeg pan ydyn ni’n gweld pryder ynghylch y cynnydd cig gwyn cyw iâr yn benodol, felly, mae eisiau i ni weld hyrwyddo mwy o gig gêm hefyd. Mae o'n gig sydd yn flasus, mae'n gig maethlon ac mae e ar gael mewn amrywiaeth eang ar hyd a lled y wlad. Mae eisiau inni, felly, weld hyrwyddo hyn, heb anghofio'r hyn mae Sam yn ei ddweud hefyd, rôl a chydnabod rôl gadwriaethol saethu gêm yn ein cymunedau gwledig, sydd mor, mor bwysig. Felly, diolch am ddod â'r ddadl ymlaen, a gobeithio byddwn ni'n gweld pobl yn gwrando ar y ddadl. 

17:20

Y Gweinidog Newid Hinsawdd nawr i ymateb i'r ddadl. Julie James. 

Diolch, Lywydd. Bydd yr Aelodau’n gwybod pa mor bwysig yw mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur i mi a’r Llywodraeth hon. Rwyf am achub ar y cyfle hwn i nodi ambell enghraifft o’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd dros natur, yr economi wledig ac i gefnogi ein cymunedau gwledig. Mae amgylchedd naturiol Cymru yn adnodd gwerthfawr, ac mae gennym ddyletswydd foesol a chyfreithiol i’w warchod. Dylai lles y bywyd gwyllt sy’n dibynnu ar ein hamgylchedd naturiol fod yn bryder allweddol i bob un ohonom bob amser.

Mae James Evans wedi sôn am bwysigrwydd saethu yn ei farn ef i economi Cymru. Mae wedi tynnu sylw at y manteision awgrymedig i natur pan fydd tir yn cael ei reoli ar gyfer saethu. Rwyf fi a fy nghyd-Weinidogion, fodd bynnag, wedi dweud yn glir iawn: yn wyneb yr heriau a amlinellais, mae llawer o ddefnyddiau hanfodol i’n hadnoddau cyfyngedig. Af ymlaen i amlinellu ychydig o enghreifftiau o sut rydym yn defnyddio’r adnoddau hynny i gefnogi economïau gwledig a’r amgylchedd. Fodd bynnag, i fod yn glir iawn, nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi saethu anifeiliaid byw nac adar fel gweithgaredd hamdden. Mae ein hadnoddau naturiol—.

A gaf fi ofyn am rywfaint o eglurhad ar hynny, Weinidog? Rwyf wedi gweld nifer o ymatebion ysgrifenedig i fy nghyd-Aelodau sy’n nodi nad ydych yn cefnogi gweithgareddau sy’n gysylltiedig â saethu. Fodd bynnag, gwn fod nifer o ddigwyddiadau rydych yn eu cefnogi nawr ac eleni. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth ariannol i ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â saethu anifeiliaid hela byw. Felly, a gaf fi ofyn am rywfaint o eglurhad—os nad heddiw, efallai ar ffurf datganiad ysgrifenedig, i egluro beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar roi cymorth i ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â saethu anifeiliaid hela byw?

Wel, efallai pe baech yn gadael imi ddweud mwy na phedair brawddeg, efallai y byddech yn clywed. Mae ein hadnoddau naturiol yn hollbwysig i gefnogi cymunedau a bywoliaeth pobl yng Nghymru. Mae tirwedd lân, werdd Cymru, ochr yn ochr â’n hiaith a’n diwylliant, yn gwneud Cymru’n lle unigryw o ryfeddol i ymwelwyr—ymwelwyr sy’n dod yma i fwynhau cefn gwlad yn dawel a heb ddim i darfu arnynt. Ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth mai cefn gwlad heddychlon a hardd Cymru sy'n helpu i ddenu buddsoddiad. Mae’n rhan o’r hyn sy’n gwneud Cymru yn lle mor wych i fyw, gweithio a gwneud busnes ynddo.

Mae ein heconomi wledig hefyd yn darparu cymaint o’r bwyd o safon rydym yn ei fwyta a’r adnoddau naturiol rydym yn eu mwynhau. Mae’n cefnogi cymunedau a bywoliaeth pobl ledled Cymru. Mae bwyd ac adnoddau lleol a gynhyrchir yma yng Nghymru yn wirioneddol bwysig i gyflawni ein targedau sero net, ac mae cyflawni’r targedau hynny'n gwbl hanfodol er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n bygwth ein hamgylchedd naturiol. Felly, mae’n gwbl hanfodol nad ydym yn gadael unrhyw gymuned ar ôl wrth inni symud i Gymru lanach, gryfach, decach. Mae arnom angen degawd o weithredu i gefnogi sgiliau gwyrdd ar gyfer swyddi’r dyfodol. Mae angen inni ddeall effeithiau newid a sicrhau eu bod yn cael eu dosbarthu'n deg yn ein cymdeithas. Ein gwerthoedd sy'n sail i hyn oll. Nid ydym yn credu y gallwn ddefnyddio adnoddau'n dragwyddol nac y bydd technoleg newydd yn ein hachub, nac y dylai'r rhai tlotaf mewn cymdeithas ysgwyddo baich y newid ychwaith. Drwy gydweithio a gweithredu ar y cyd, credwn y gallwn sicrhau Cymru gryfach, decach a glanach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Hoffwn droi at rai o'r ffyrdd ymarferol yr awn ati i gyflawni ar gyfer ein heconomi wledig a'n hamgylchedd a nodi'r hyn rydym yn ei gefnogi a pham ei bod yn bwysig ein bod yn gwneud hynny. Y llynedd, yn 2022, cyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd y byddai £227 miliwn ar gael dros dair blynedd i gefnogi cadernid economi wledig Cymru. Felly, rwy'n falch o ddweud ein bod, yn wir, yn cefnogi ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig eraill. Rydym yn eu cefnogi i weithredu mesurau rheoli tir yn gynaliadwy ar ffermydd, gwelliannau i effeithlonrwydd bwyd anifeiliaid a thanwydd a diffyg maethynnau ar ffermydd. Mae defnyddio'r hyn sydd ei angen arnom yn unig a lleihau gwastraff yn un o'r enghreifftiau o'r newid ymddygiad sydd angen inni ei weld. Mae’n helpu ffermwyr a busnesau gwledig i fod yn fwy gwydn; mae'n eu helpu i liniaru'r effeithiau costau byw enfawr sy'n wynebu pob un ohonom. Rwy'n cydnabod bod angen buddsoddiad ymlaen llaw yn aml er mwyn bod yn fwy effeithlon, a dyna pam ein bod yn sicrhau bod y cymorth ar gael.

Mae'r cyllid yn ategu datblygiad y cynllun ffermio cynaliadwy. Bydd y cynllun yn gwobrwyo ffermwyr a rheolwyr tir am y gwaith y maent yn ei wneud i helpu i adfer ein bioamrywiaeth. Bydd yn eu gwobrwyo wrth iddynt barhau i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy yng Nghymru. Ac mae'n hanfodol fod y cynllun yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd yn ogystal â chynnal busnesau fferm. Bydd gan y cynllun gyfres o gamau gweithredu cyffredinol, a fydd yn ei gwneud yn ofynnol cael gorchudd coed o 10 y cant a 10 y cant o gynefinoedd lled-naturiol fan lleiaf. Byddai hefyd yn cynnwys elfen gydweithredol, gan alluogi ffermwyr i gydweithio i greu cynefinoedd rhyng-gysylltiedig ar draws tirweddau. Rwy’n wirioneddol benderfynol o'n gweld yn meithrin dull tîm Cymru o sicrhau’r canlyniadau iawn ar gyfer ein hamgylchedd a’n ffermwyr, gan weithio ar y cyd. Ein nod yw creu sector amaethyddol cynaliadwy yng Nghymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, un sy’n ffyniannus ac yn wydn. Fodd bynnag, mae angen newid er mwyn i’r sector ffermio chwarae ei ran wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae’r her sy’n ein hwynebu yn sylweddol, a nawr yw’r adeg i weithredu. Mae colli bioamrywiaeth a chwymp ecosystemau yn fygythiadau mawr i'r ddynoliaeth. Mae ein perthynas â'r amgylchedd naturiol yn gwbl anghynaliadwy, ac mae'n rhaid ei newid. Mae angen inni gyflymu’r camau rydym yn eu cymryd i atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth. Mae ein hamgylchedd yn gwbl ganolog i bwy ydym fel cenedl yma yng Nghymru. Peidiwch â dychmygu am un eiliad fod colli bioamrywiaeth a chwymp ecosystemau'n rhywbeth sy'n digwydd ymhell i ffwrdd neu'n raddol yn unig. Mae’n digwydd yma yng Nghymru ac mae’n digwydd nawr. Mae ein rhaglen lywodraethu'n ymrwymo i sefydlu targedau natur statudol i warchod ac adfer bioamrywiaeth, ond nid yw hynny’n ddigon; mae'n rhaid inni barhau i feithrin ein gallu i newid a gwneud y newid hwnnw’n effeithiol.

Rhai enghreifftiau nawr o’r math o newid rydym yn ei gefnogi ar gyfer effeithlonrwydd ar ffermydd: mae angen inni ymestyn hynny a deall yn well beth sydd ei angen er mwyn i bawb ymddwyn yn gynaliadwy. I fod yn glir, mae hynny’n golygu ymddwyn yn wahanol, dysgu sgiliau newydd a’u haddysgu i eraill a chyflawni ar ran byd natur yn gyflymach o lawer. Rwyf wedi ymrwymo i adnewyddu ein polisi adnoddau naturiol a'n strategaeth fioamrywiaeth genedlaethol. Mae angen i’r rhain newid i adlewyrchu’r fframwaith bioamrywiaeth byd-eang newydd a’r targed 30x30 rydym wedi cytuno arno, yn ogystal ag argymhellion ein partneriaid a’n rhanddeiliaid yn yr archwiliad dwfn bioamrywiaeth. Mae angen i Gymru gyflawni degawd o weithredu os ydym am ddod yn gadarnhaol o ran natur. Ac yn bwysig, gwyddom yn iawn na allwn ni yn Llywodraeth Cymru wneud hyn ar ein pennau ein hunain. Ni fyddwn yn cyflawni sero net nac yn adfer bioamrywiaeth os mai ychydig o bobl neu fusnesau yn unig sy'n gweithredu. Mae ymagwedd tîm Cymru yn golygu'r gymdeithas gyfan yn chwarae eu rhan. Rydym yn sicrhau bod gennym y polisïau cywir ar waith, gan roi cydweithredu wrth wraidd ein cynllun ffermio cynaliadwy. Rydym yn dod â sefydliadau ynghyd ac yn darparu cymorth uniongyrchol i alluogi’r dull tîm Cymru hwnnw o weithio.

Lansiwyd ein hymgyrch addewidion yn ein cynhadledd newid hinsawdd yn 2019. Ers hynny, rydym wedi derbyn 139 o addewidion gan sefydliadau, pob un ohonynt wedi ymrwymo i chwarae eu rhan dros yr hinsawdd. Mae’r rhain yn cynnwys camau i adfer coetiroedd a rhostiroedd hynafol, adfer mawndiroedd a chreu mannau lleol ar gyfer natur. Dros y pum mlynedd nesaf, ein nod yw cynyddu gwaith adfer mawndiroedd sydd wedi dirywio o darged o 600 i 800 hectar y flwyddyn i 1,800 hectar, drwy ein rhaglen weithredu genedlaethol ar fawndiroedd.

O ganlyniad i'r archwiliad dwfn bioamrywiaeth, darparodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd a minnau £2.4 miliwn y llynedd ar gyfer adfer mawndiroedd, a dros y ddwy flynedd nesaf, rydym wedi ymrwymo £8 miliwn i’r rhaglen weithredu genedlaethol ar fawndiroedd.

Mae arnom angen i bob dinesydd, grŵp cymunedol a busnes yng Nghymru ymwreiddio’r argyfwng hinsawdd yn y ffordd y maent yn meddwl, yn gweithio, yn chwarae ac yn teithio. Gan weithio mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri, rydym yn buddsoddi £15 miliwn i gefnogi’r gwaith o gyflawni'r rhaglen rhwydweithiau natur. Bydd hyn yn sicrhau bod ein cynefinoedd a’n rhywogaethau mwyaf gwerthfawr yn cael cyfle i adfer ac i ffynnu. Ac fel rhan o hyn, yn gynharach eleni, cyhoeddais y dyraniad o dros £3.5 miliwn—[Torri ar draws.] Yn sicr, Mabon.

17:25

Rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch am warchod natur a sicrhau bod gennym fioamrywiaeth ffyniannus. A ydych yn derbyn bod saethu hefyd yn chwarae rhan mewn cadwraeth a'r broses o sicrhau bod gennym natur amrywiol yn y wlad?

Wel, rwyf wedi bod yn glir iawn am hynny. Gall saethu chwarae rhan yn hynny, ac yn sicr, gan fod gennym rywogaethau ysglyfaethus ac ati, mae hynny'n angenrheidiol weithiau. Ond mae arnaf ofn nad wyf yn ei gefnogi mewn unrhyw ffordd fel gweithgaredd hamdden. Nid wyf yn credu bod lladd unrhyw beth at ddibenion chwaraeon neu hamdden yn rhywbeth y dylai unrhyw gymdeithas wâr ei gefnogi, mae arnaf ofn, ac rwyf wedi dweud hynny'n glir iawn.

Mae angen i'r pethau hyn newid, yn unol â'r ffordd rydym yn gweithio. Yn sicr, mae angen inni amddiffyn ein ffordd o fyw ac mae angen inni amddiffyn ein cymunedau, ond mae angen inni newid ein hymddygiad hefyd. Beth bynnag, fel roeddwn yn dweud, bydd hyn yn darparu rhwng £30,000 a—[Torri ar draws.] Gwrandewais yn dawel iawn ar bob un ohonoch chi; a ydych am ddangos yr un—? Gwrandewais yn dawel iawn ar bob un ohonoch. [Torri ar draws.] Felly, dangoswch yr un cwrteisi i mi.

Rydych yn gwneud fy ngwaith drosof nawr, Weinidog. A ydych yn derbyn yr ymyriad gan Russell George?

Nac ydw. Rwyf eisoes wedi derbyn un gennych, Russell.

Fel rhan o hyn, yn gynharach eleni, cyhoeddais ddyraniad o dros £3.5 miliwn o dan y gronfa rhwydweithiau natur. Bydd hyn yn darparu rhwng £30,000 a £250,000 i brosiectau sy'n cefnogi ein cynefinoedd a’n rhywogaethau sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf. Rwy’n falch o ddweud y byddaf yn cadarnhau’r naw prosiect a fydd yn cael y cyllid yfory i helpu i greu rhwydweithiau ecolegol gadarn. Bydd ein safleoedd gwarchodedig yn cael lle canolog yn y prosiectau hyn. Ac nid dyna’r cyfan: mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £800,000 dros y pedair blynedd nesaf ym mhrosiect Natur am Byth! a arweinir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Ei nod yw gwrthdroi’r dirywiad yn ein rhywogaethau mwyaf eiconig a'r rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf yng Nghymru. [Torri ar draws.]

17:30

A gawn ni wrando ar y Gweinidog, os gwelwch yn dda? Mae pob un ohonoch—. Mae’r Torïaid eu hunain am wrando arnoch hefyd, neu mae rhai ohonynt am wneud hynny, felly, parhewch, Weinidog.

Nod prosiect Natur am Byth! yw gwrthdroi’r dirywiad yn ein rhywogaethau mwyaf eiconig a'r rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf yng Nghymru, gan gyfrannu at y targed 30x30, a chysylltu pobl â byd natur. Mae gan y prosiect naw maes ffocws sy'n integreiddio materion rheoli tir a môr, cefnogi rhywogaethau morol bregus yn ogystal â rhywogaethau ar y tir ac mewn dŵr croyw. Bydd hyn hefyd yn ategu’r rhaglen Rhwydweithiau Natur ac yn targedu ac yn gwrthdroi dirywiad rhai o’n rhywogaethau sy'n wynebu'r perygl mwyaf ac yn cysylltu pobl â byd natur.

Felly, i gloi, mae mynd i’r afael â’r argyfwng a achosir gan hinsawdd sy’n ansefydlogi, colli bioamrywiaeth a chwymp ecosystemau yn ganolog i’n gwaith fel Llywodraeth. Mae’r economi wledig ac economïau gwledig yn gyfranwyr hanfodol i’r ymdrech honno, ond mae angen newid ymddygiad a newid ffyrdd o fyw er mwyn gwneud hyn. Rydych wedi cytuno bod yna argyfwng hinsawdd a natur. Ni allwch barhau i ddweud wrthyf y bydd gwneud popeth rydych bob amser wedi'i wneud yn y ffordd rydych bob amser wedi'i wneud yn cyflawni hynny, oherwydd nid yw hynny'n wir. Diolch.

Dyna ni, dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am y dydd heddiw. Diolch yn fawr.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:31.