Y Cyfarfod Llawn

Plenary

28/03/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jayne Bryant. 

Rhagnodi Cymdeithasol

1. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddefnyddio rhagnodi cymdeithasol yn ne-ddwyrain Cymru? OQ59374

Llywydd, diolch i Jayne Bryant am y cwestiwn. Mae sawl enghraifft o wasanaethau rhagnodi cymdeithasol yn y de-ddwyrain, gan gynnwys prosiect Ffrind i Mi, sy'n cefnogi'r rheiny sy'n unig neu'n ynysig. Mae ymchwil diweddar yn dangos cynnydd clir o flwyddyn i flwyddyn yn nifer yr atgyfeiriadau a'r defnydd o ragnodi cymdeithasol ym mhob rhan o Gymru.

Diolch, Prif Weinidog. Ac mae'n dda eich bod chi wedi sôn am Ffrind i Mi—sefydliad gwych. Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn llawn i ddatblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer rhagnodi cymdeithasol. Ar adeg pan fo adrannau damweiniau ac achosion brys a meddygfeydd o dan bwysau, mae'n hanfodol ein bod yn bachu ar bob cyfle o ran gofal ataliol. Un enghraifft o le mae hyn yn digwydd yw yng ngardd y golchdy yn Nhŷ Tredegar, sy'n cael ei rhedeg gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae aelodau o Growing Space, elusen iechyd meddwl, yn helpu i ofalu am yr ardd, tra bod aelodau Llwybrau Lles Coetiroedd yn defnyddio'r ardd i feithrin sgiliau a gwella lles meddyliol a chorfforol pobl. Ac fe ges i'r pleser o'ch gwahodd chi, Prif Weinidog, i weld Growing Space nôl yn 2021, felly rwy'n gwybod eich bod chi wedi gweld o lygad y ffynnon y gwaith ardderchog maen nhw'n ei wneud. 

Mae'r prosiect hwn yn fy etholaeth yn enghraifft ardderchog o ddefnyddio ein gorffennol a'n treftadaeth i wella lles y presennol. Fel gwlad, rydym yn ymfalchïo yn ein cestyll, ystadau a thirluniau; byddai'n wych gweld mwy ohonynt yn cael eu defnyddio fel hyn. Prif Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â phartneriaid fel Cadw, Amgueddfa Cymru, Cyfoeth Cenedlaethol Cymru a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i hyrwyddo prosiectau rhagnodi cymdeithasol a sut mae cyrff fel hyn yn gallu gweithio gyda byrddau'r GIG i sicrhau bod staff rheng flaen yn ymwybodol o'r cyfleoedd lleol fel eu bod yn gallu cyfeirio trigolion yn y ffordd orau?

Wel, Llywydd, diolch i Jayne Bryant am hynna. Ac mi fues i'n ddigon ffodus i gael nifer o gyfleoedd i ymweld â Chasnewydd ac i weld y mathau o brosiectau y cyfeiriodd Jayne Bryant atyn nhw. A dweud y gwir, roeddwn i gyda John Griffiths ddydd Sadwrn yn Nhriongl Maendy, lle mae prosiect Ffrind i Mi yn gweithredu, ac nid yn unig yr oeddwn i'n ddigon ffodus i fod yn Nhŷ Tredegar ar gyfer prosiect Growing Space, ond, wrth gwrs, gwahoddodd yr Aelod dros Orllewin Casnewydd fi i brosiect Road to Nature, enghraifft arall lle mae rhagnodi cymdeithasol—y rhai nad ydynt yn glinigol, prosiectau yn y gymuned—yn cysylltu pobl â byd natur mewn ffordd yr ydym yn gwybod eu bod mor dda i'w hiechyd corfforol a meddyliol eu hunain. 

Llywydd, mae tua 20 y cant o'r holl ymgynghoriadau â meddygon teulu yn ymwneud â phobl sydd ag angen cymdeithasol yn bennaf yn hytrach nag angen meddygol am gymorth. A'r hyn y mae rhagnodi cymdeithasol yn ei wneud yw ei fod yn rhoi'r bobl hynny mewn cysylltiad â'r ystod eang honno o wahanol wasanaethau—cyfeillio, clybiau llyfrau, corau, clybiau rhedeg, gerddi cymunedol, y cynllun ymarfer corff a chyfeirio cenedlaethol. Mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen o bethau y gall pobl ddod i gysylltiad â nhw, ac, os ydyn nhw'n gallu manteisio ar y cyfleoedd hynny, yna mae'n gwneud y gwahaniaeth tymor hir hwnnw. Yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio'i wneud yw creu fframwaith cenedlaethol lle mae gennym fodel y cytunir arno, dealltwriaeth gyffredin, ac iaith gyffredin sy'n hyrwyddo rhagnodi cymdeithasol hyd yn oed ymhellach.  Mae ymgynghoriad wedi bod ar hynny i gyd, a'r bwriad yw cyhoeddi'r fframwaith terfynol, a chynllun gweithredu i'w gefnogi, yn ddiweddarach yr haf hwn. 

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod am ofyn y cwestiwn pwysig hwn. Nawr, rwy'n cytuno'n llwyr â'r angen am ragnodi cymdeithasol, gan y bydd y gwasanaeth yn sicr o helpu unigolion tra bydd hefyd yn lleihau'r pwysau ar feddygon teulu. Yn ddiweddar, cefais y pleser o gyfarfod â'r cwmni o Gaerffili, Signum Health, sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial a thechnoleg gwmwl i ddarparu gofal iechyd o bell a rhagnodi cymdeithasol o fewn cymunedau anoddach eu cyrraedd. Mae'r cwmni hwn o Gymru eisoes wedi defnyddio ei dechnoleg i leihau amseroedd aros yn Lloegr, gan lwyddo i glirio ôl-groniad dermatoleg yn Swindon mewn dim ond chwe mis. Yn bwysicaf oll, mae cleifion, meddygon teulu, fferyllfeydd a gwasanaethau iechyd amgen eraill yn gallu cysylltu'n uniongyrchol a rhannu gwybodaeth, sy'n golygu bod cleifion yn gallu cysylltu â darparwyr cymunedol lleol heb apwyntiad meddyg teulu. O ystyried ein bod ni'n ceisio lleihau rhestrau aros, Prif Weinidog, a lleihau'r pwysau ar wasanaethau gofal sylfaenol, yn ogystal â chynyddu mynediad at wasanaethau pwysig fel rhagnodi cymdeithasol, pa sgyrsiau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda chwmnïau fel Signum Health i gynorthwyo yn y maes hwn, Prif Weinidog? Diolch. 

Wel, diolch i Natasha Asghar, Llywydd, oherwydd, mae hi'n gwneud pwynt pwysig, ac mae'n un sydd wedi'i wneud sawl gwaith ar lawr y Senedd, sef bod yn rhaid i ddyfodol gwasanaethau iechyd fod yn seiliedig ar ddefnydd uwch o'r cyfleoedd cyfoes hynny y mae datblygiadau ym maes technoleg a deallusrwydd artiffisial yn eu rhoi i ni. Dysgom lawer iawn am hyn yn ystod pandemig COVID, ac, fel y gwyddoch chi, mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais y bydd llawer mwy o ymgynghoriadau, yn y dyfodol, yn digwydd o bell, gan ganiatáu i bobl osgoi teithiau anodd, ac i gynyddu effeithlonrwydd yn y system. Rwy'n credu bod yr enghreifftiau ymarferol, trwy gwmni yng Nghymru, y mae'r Aelod wedi'i codi'r prynhawn yma yn swnio'n gyson iawn â'r dull cyffredinol hwnnw. Ac rwy'n gwybod bod gan y Gweinidog ddiddordeb uniongyrchol iawn mewn sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hynny, fel bod y gwasanaeth iechyd yn gallu darparu mewn ffordd sy'n manteisio ar gyfleoedd nad oeddent yno yn y gorffennol y mae angen iddyn nhw fod yn rhan o'r dyfodol yma yng Nghymru yn bendant.

13:35
Ymchwiliad COVID-19 y DU

2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymgysylltiad Llywodraeth Cymru ag ymchwiliad COVID-19 y DU? OQ59377

Diolch i Heledd Fychan am y cwestiwn. Llywydd, mae gan Lywodraeth Cymru statws cyfranogwr craidd ym modiwlau 1, 2, 2B a modiwl 3 o’r ymchwiliad cyhoeddus i COVID-19. Drwy ein statws cyfreithiol fel darparwyr deunyddiau, mae Llywodraeth Cymru yn cyflenwi llawer iawn o dystiolaeth fel y gall yr ymchwiliad graffu’n briodol ar y camau a gafodd eu cymryd yng Nghymru.

Diolch, Prif Weinidog. Yn dilyn ymweliad â'r Senedd yr wythnos diwethaf gan COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru, mae nifer o etholwyr o Ganol De Cymru a gollodd anwyliaid i COVID-19 wedi cysylltu â mi ynglŷn â'r ymchwiliad nosocomiaidd. Rwy'n deall bod yr adroddiad interim ar fin digwydd, ond mae llawer o deuluoedd mewn profedigaeth yn bryderus, gan nad ydyn nhw wedi clywed unrhyw beth o gwbl mewn cysylltiad â'u hanwyliaid o hyd, tra bod eraill wedi cael llythyrau yn dweud wrthyn nhw nad COVID oedd achos y farwolaeth, er ei fod ar y dystysgrif marwolaeth. Eu dealltwriaeth yw mai dim ond crwner fyddai'n gallu newid achos marwolaeth, ond eto mae teuluoedd yn cael gwybod hyn heb gael unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r newid. Felly, yn hytrach na derbyn atebion ynghylch sut y gwnaeth eu perthynas ddal COVID-19 yn yr ysbyty, maen nhw nawr yn gorfod ymladd, unwaith yn rhagor, er mwyn cydnabod achos y farwolaeth. A allwch gadarnhau beth yw diben yr ymchwiliadau hyn: dysgu gwersi a rhoi atebion i deuluoedd, neu a yw'n ymarferiad i geisio lleihau nifer swyddogol y marwolaethau COVID yng Nghymru? Siawns nad yw hyn unwaith eto yn dangos yr angen am ymchwiliad COVID sy'n benodol i Gymru.

Wel, Llywydd, mae honiad yr Aelod yn sarhaus ac yn hurt. Wrth gwrs nid rhyw ymdrech gynllwyngar ydi'r ymdrechion sy'n cael eu gwneud i newid nifer y bobl fu farw o COVID yma yng Nghymru. Am honiad hollol, hollol hurt i'w wneud yma ar lawr y Senedd. Mae'r ymdrechion sy'n cael eu gwneud yn cael eu harwain gan glinigwyr—ydyn nhw'n rhan o'ch cynllwyn hefyd? Pwrpas y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud, yr ymdrechion y mae'r clinigwyr hynny yn ei wneud, yw darparu dealltwriaeth i aelodau o'r teulu o'r ffordd y cafodd aelodau eu teuluoedd eu trin a'r hyn a ddigwyddodd iddyn nhw tra oedden nhw yng ngofal y gwasanaeth iechyd. Erbyn diwedd Chwefror, roedd 5,765 o achosion wedi'u hadolygu, a 2,301 o rai eraill ar y gweill; mae 10,320 o achosion eraill i'w hymchwilio o hyd. Bellach, yn unol â phopeth a ddywedwyd yma ar lawr y Senedd, mae disgwyl i adroddiad cenedlaethol ar ddysgu o'r rhaglen hon gael ei gyhoeddi erbyn diwedd y mis hwn, a bydd hynny'n arwain mewn pryd at adroddiad dysgu cenedlaethol cynhwysfawr, a gyhoeddir yn 2024, ar ddiwedd y rhaglen. Bydd sefydliadau unigol hefyd yn cyhoeddi eu hadroddiadau eu hunain, yn unol â'r gofynion adrodd a nododd y Gweinidog ar eu cyfer pan ddaethpwyd o hyd i'r cyllid ychwanegol i'w cefnogi yn y gwaith hwn. Mae Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, Llywydd, yn cwrdd â COVID-19 Bereaved Families for Justice; cyfarfu â nhw ddiwethaf ar 16 Mawrth. Pan geir bryderon am y ffordd y mae'r system yn gweithio, mae yna ffyrdd y gellir codi hynny'n gyfreithlon, a gall y pryderon hynny, nad ydynt wedi eu sylfaenu ar y mathau o honiadau a wnaeth yr Aelod, gael eu hymchwilio'n iawn, ac os oes pethau y mae angen eu gwella, yna, wrth gwrs, byddwn eisiau gweld hynny'n digwydd. 

13:40

Fel y bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol, mae COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru wedi cyflwyno cryn bryderon i ymchwiliad COVID-19 y DU ynghylch gallu GIG Cymru yn ystod y pandemig. Mae'r rhestr yn eithaf sylweddol, ac un pwynt penodol yr hoffwn ei godi yw eu pryder ynghylch diffyg buddsoddiad hirdymor yn seilwaith TG a digideiddio GIG Cymru. Rydym yn gwybod bod GIG Cymru ar ei hôl hi'n sylweddol o'i gymharu â'r gwasanaeth cyfatebol yn Lloegr o ran ei seilwaith TG, ac yn y pen draw mae hyn yn cael effaith mewn sawl ffordd wahanol. Er enghraifft, mae gennym broblemau penodol o ran y gallu i ryngweithredu systemau rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd a rhwng systemau iechyd a'r heddlu, sy'n hanfodol o ran helpu i fynd i'r afael â materion iechyd meddwl. Gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, a oes gan y Llywodraeth hon unrhyw gynlluniau nawr i neilltuo adnoddau ar gyfer trawsnewid digidol er mwyn cael systemau TG wedi'u huwchraddio a rhai newydd? Ac ydych chi'n credu y dylem ni fod â safon ofynnol genedlaethol ar gyfer offer TG yn GIG Cymru? Diolch.

Wel, Llywydd, rwy'n sicr yn cytuno ynghylch pwysigrwydd buddsoddi digidol yn y gwasanaeth iechyd, ac, yma yng Nghymru, mae gennym wasanaeth digidol cenedlaethol, yno ers blynyddoedd lawer. Dydw i ddim yn derbyn yr hyn a ddywedodd yr Aelod yn un o'i sylwadau ffwrdd-â-hi sef bod Cymru 'ar ei hôl hi'. Mewn gwirionedd, rydym wedi dangos y ffordd yng Nghymru o ran sut y gall gwasanaeth cenedlaethol go iawn fynd i'r afael â rhai o'r materion real iawn sydd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, lle mae'r gwasanaeth wedi cael ei atomeiddio, lle nad oes dull cenedlaethol a lle ceir gwendidau gwirioneddol o ganlyniad. Hoffwn i pe byddai gennym fwy o arian i'w fuddsoddi yn y maes hwn, Llywydd, wrth gwrs yr hoffwn i, ond, fel y bydd Joel James yn gwybod, yn ail flwyddyn cyfnod datganiad y gwanwyn, mae gennym £1 miliwn ar gyfer pob angen cyfalaf sydd gennym yng Nghymru. Rydym yn buddsoddi, rwy'n credu, yn sylweddol ac mewn ffordd barhaus wrth sicrhau bod y cyfleoedd digidol hynny y soniodd Natasha Asghar amdanyn nhw ar gael yma yng Nghymru. Pe bai gennym fwy o gyfleoedd, trwy setliad cyfalaf priodol, yna byddem yn gallu gwneud mwy yn y maes hwnnw fel mewn llawer o rai eraill. 

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies. 

Diolch. Yr wythnos diwethaf, ysgrifennodd cyn-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddatganiad o'i farn i'r wasg. Mae hefyd wedi ysgrifennu atoch chi, ac mae'n dweud nad yw wedi cael ymateb; efallai y bydd wedi cael yr ateb hwnnw erbyn i mi ofyn y cwestiwn hwn i chi. Ond mae rhai o'r honiadau o fewn y datganiad hwnnw yn haeddu ateb cyhoeddus gennych chi, fel arweinydd Llywodraeth Cymru, yn arbennig y pryderon a godwyd ganddo ef ac aelodau'r bwrdd gyda'r Gweinidog iechyd a chyfarwyddwr cyffredinol y GIG yma yng Nghymru nôl ym mis Medi, pan gododd bryderon a materion hirsefydlog a oedd, yn syml, heb eu datrys—ei eiriau ef, nid fy ngeiriau i. Pam na wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb i'r pryderon hyn a chefnogi'r bwrdd ar y pryd? 

Wel, Llywydd, dydw i ddim yn derbyn o gwbl na chafodd y pethau hynny sylw, oherwydd roedd y Gweinidog a'r swyddogion yn cael trafodaethau rheolaidd iawn â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gan gynnwys y bwrdd. Mae gan y bwrdd gyfrifoldebau. Dydych chi ddim yn cyflawni eich cyfrifoldebau dim ond drwy ddweud wrth rywun arall bod gennych chi broblem. Mae gennych rwymedigaeth, fel bwrdd, i fynd i'r afael â'r materion sydd o fewn eich maes cyfreithiol o gyfrifoldebau. Felly, er bod trafod heb os, ac er bod y Gweinidog a'r swyddogion yma bob amser yn ymateb i bryderon a godwyd gyda Llywodraeth Cymru, mae dweud yn syml, 'Dywedom wrth Lywodraeth Cymru am hynny', fel pe bai dyna oedd pendraw eich cyfrifoldeb, nid wyf yn credu mai dyna'r ffordd y bwriadwyd i'r system weithredu erioed. 

Dydw i ddim yn credu mai dyna'r pwynt yr oedd y cadeirydd yn ei wneud yn ei ddatganiad o'i farn. Gan gofio, roedd hwn yn gadeirydd a oedd yn gyn-brif gwnstabl, wedi gwasanaethu'r cyhoedd am 30 mlynedd a mwy, ac yna dewisodd swyddogaeth gwasanaeth cyhoeddus arall drwy fod yn gadeirydd y bwrdd iechyd sy'n cwmpasu'r gogledd yn gyfan. Ac fe wnaeth, yn ei golofn yn y wasg yr wythnos diwethaf, y categoreiddio clir hwnnw nad oedd yn cael y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Cododd hyn fel cadeirydd gyda Llywodraeth Cymru, sef corff noddi unrhyw fwrdd iechyd, oherwydd eu bod yn anfon yr arian ac yn gosod blaenoriaethau'r bwrdd iechyd. Rwy'n cymryd eich bod yn dweud nad yw'r cyn-gadeirydd yn siarad y gwir pan ddywed nad ymatebwyd i'w bryderon ef na rhai'r bwrdd yn ôl ym mis Medi, oherwydd mae hynny'n dipyn o haeriad gennych chi, Prif Weinidog, os ydych yn credu fod y cyn-gadeirydd yn ceisio camarwain barn y cyhoedd trwy ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi sefyll yn ôl ac nad oedden nhw'n cefnogi'r bwrdd pan godwyd y pryderon hynny a'r problemau hirsefydlog gyda'r Gweinidog a'r cyfarwyddwr cyffredinol hefyd.

13:45

Wel, Llywydd, rwy'n credu bod yn rhaid i arweinydd yr wrthblaid ganiatáu i mi ateb ei gwestiynau, yn hytrach na dweud wrthyf yn ei gwestiwn beth rwyf wedi'i ddweud. Fy atebion i sydd ar y cofnod, yn hytrach na'i ddehongliad ef ohonyn nhw. Yn gyntaf oll, gadewch i mi ddweud fy mod yn rhannu'r hyn a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid am y blynyddoedd lawer o wasanaeth cyhoeddus nodedig yr oedd cyn-gadeirydd y bwrdd wedi'u cyflawni yn y gogledd, ac rwy'n cynnwys y gwasanaeth a roddodd fel cadeirydd y bwrdd.

Asesiad y Gweinidog a Llywodraeth Cymru oedd nad oedd yr adroddiadau yr oeddem wedi eu cael gan gyrff annibynnol ynghylch natur gamweithredol y bwrdd yn gallu gorwedd yno heb i gamau gweithredu gael eu cymryd. Dyna benllanw deialog hir rhwng y bwrdd a Llywodraeth Cymru, deialog pan fu i Lywodraeth Cymru weithredu dro ar ôl tro er mwyn cefnogi'r bwrdd: buddsoddiad ychwanegol sylweddol y tu hwnt i'r hyn fyddai ei chyfran o'r boblogaeth wedi'i gyfiawnhau drwy'r fformiwla arferol, ymyrraeth trwy raglenni cenedlaethol, gan roi cyngor, ceisio cefnogi'r bwrdd yn yr ymdrechion yr oedd yn eu gwneud i wella gwasanaethau. Ni ddylid ystyried dim yn yr hyn a benderfynodd y Gweinidog fel awgrym nad oedd y bwrdd a'i gadeirydd yn gwneud ymdrechion i gywiro pethau. Yn syml, casgliad trosolwg annibynnol oedd nad oedd yr ymdrechion hynny'n llwyddo ac y byddai wedi bod yn amhosib rhoi'r bwrdd yn ei ffurf bresennol neu yn ei ffurf bryd hynny, mewn sefyllfa lle gallai fynd i'r afael â'r heriau hynny yn llwyddiannus. Dyna pam y cymerwyd camau. Roedd yn angenrheidiol gweithredu a bydd yn arwain, rwy'n credu, at lwyfan gwell ar gyfer gwella yn y dyfodol. 

Roedd fy nghwestiwn i, yn gymharol syml: pam na wnaeth Llywodraeth Cymru gynnig y gefnogaeth pan ofynnwyd amdano nôl ym mis Medi diwethaf? Rydw i wedi defnyddio dau o fy nhri chwestiwn ac nid wyf yn teimlo ein bod ni wedi symud ymlaen wrth geisio darganfod pam na wnaeth y Gweinidog na'r cyfarwyddwr cyffredinol ymateb i hwnnw'n uniongyrchol—a dyma eiriau'r cadeirydd—yr uwchgyfeirio hwnnw o faterion yn uniongyrchol at Lywodraeth Cymru. Mae hynny ar y cofnod, dyna'i sylwadau, nid fy sylwadau i. Rydw i wedi eu trosglwyddo i chi, ac nid yw'n ymddangos ein bod wedi gwneud llawer o gynnydd o ran dod o hyd i esboniad pam na wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb i'r sylwadau hynny. Ond, rydych chi wedi nodi mai'r adroddiad archwilio oedd y fflachbwynt ar gyfer ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru gan sicrhau bod y bwrdd yn newid ac yna cael gwared â'r cadeirydd. Yn yr un erthygl, amlygodd y cadeirydd fod yna, yn ei eiriau ei hun, symudiadau dirgel i recriwtio aelodau'r bwrdd newydd i ffurfio bwrdd newydd o leiaf bedair wythnos cyn cyhoeddi'r adroddiad archwilio. Felly, os oedd y recriwtio dirgel hwn yn digwydd, a allwch chi heddiw ddweud wrthym pryd ddechreuodd y broses recriwtio ddod o hyd i aelodau newydd y bwrdd, er bod y bwrdd presennol yn dal yn ei le? A beth fyddai hynny'n ei wneud i greu hyder bod y Llywodraeth yn gweithio gyda'r bwrdd ar y pryd i gywiro materion yn y gogledd?

Wel, Llywydd, gadewch i mi ddychwelyd at gwestiynau cyntaf arweinydd yr wrthblaid, oherwydd gofynnodd pa gefnogaeth yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r bwrdd. Felly, gadewch i mi gofnodi eto. Cefnogodd Llywodraeth Cymru y bwrdd drwy gymorth ariannol—£82 miliwn yn fwy na'r hyn a fyddai ar gael i'r bwrdd fel arall. Yn ail, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ategu cyfres o gyngor proffesiynol, oedd ar gael i'r bwrdd drwy ein rhaglenni cenedlaethol, i wneud yn siŵr y gallai'r ymdrechion a oedd yn cael eu gwneud dynnu ar arbenigedd o'r tu hwnt i'r bwrdd ei hun.

Yn drydydd, roedd patrwm o fonitro'r bwrdd yn barhaus. Dyna natur y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a'r bwrdd, ac roedd uwch weision sifil yma'n ymwneud â'r ddeialog barhaus honno.

Yn bedwerydd, yr uned gyflawni—cangen Llywodraeth Cymru sy'n cynorthwyo byrddau ledled Cymru i fynd i'r afael â'r materion anodd hynny sy'n wynebu byrddau. Roedd adnoddau'r uned gyflawni ar gael i'r bwrdd hefyd. Ni fyddai unrhyw awgrymiadau bod Llywodraeth Cymru wedi sefyll yn ôl a chaniatáu i'r bwrdd golli trywydd yn cael eu cadarnhau gan y gyfres barhaus honno o ymgysylltiadau [Torri ar draws.] Wel, rwy'n egluro i arweinydd yr wrthblaid pam nad ydw i'n derbyn y gadawyd y bwrdd i wneud fel y mynnai. Doedd hynny ddim yn wir o gwbl yn amlwg.

O ran y camau cyfrifol a gymerodd y Gweinidog wrth asesu ei hopsiynau, o ystyried y cyngor a oedd wedi dod o'r ffynonellau annibynnol hynny, pan oedd y Gweinidog yn ystyried a ddylid cael gwared ar rai aelodau o'r bwrdd ai peidio, byddai wedi bod yn gwbl anghyfrifol i wneud hynny heb roi rhywfaint o ystyriaeth i'r hyn fyddai'n dilyn. Dychmygwch beth fyddai arweinydd yr wrthblaid yn ei ddweud wrthyf i heddiw pe bai'r Gweinidog wedi dileu'r bwrdd heb gynllun o gwbl ar gyfer sut oedd y cyfrifoldebau cyfreithiol hynny i'w cyflawni. Wrth gynllunio ymlaen llaw ac asesu'r opsiynau a oedd ar gael i Lywodraeth Cymru, fe ofynnodd y Gweinidog y cwestiwn yn hollol gywir, 'Os nad yw'r swyddogion presennol i fod yno, a oes gennym unigolion eraill credadwy sy'n gallu cyflawni'r cyfrifoldebau cyfreithiol hynny?' Byddai wedi bod yn esgeulustod ar ei rhan pe na bai wedi gwneud hynny.

13:50

Diolch, Llywydd. Ddydd Iau, mae disgwyl i Ofwat gyhoeddi ei benderfyniad drafft ynghylch a yw'r cynllun i dynnu hyd at 180 miliwn litr o ddŵr y dydd o Lyn Efyrnwy ym Mhowys a'i drosglwyddo i dde-ddwyrain Lloegr yn mynd ymlaen i gam nesaf ei raglen fuddsoddi gyflym. Ydych chi'n meddwl ei bod hi'n iawn, Prif Weinidog, y dylai rheoleiddiwr dŵr sy'n atebol i Ysgrifennydd Gwladol y DU fod yn gwneud penderfyniadau ynghylch beth ddylai ddigwydd i ddŵr yng Nghymru? Ydych chi'n meddwl y dylai Thames Water, sy'n colli 635 miliwn litr y dydd trwy ollyngiadau, allu gwneud yn iawn am ei fethiannau ei hun trwy gael mynediad at ein hadnoddau dŵr ni ein hunain? Ac ydych chi'n meddwl ei bod hi'n iawn fod Thames Water yn bwriadu talu ychydig dros £5 miliwn am ddefnyddio'r adnodd gwerthfawr hwn pan fyddwn ni yng Nghymru yn talu ymhlith y biliau dŵr uchaf yn unrhyw le yn y DU?

Wel, Llywydd, credaf efallai fod y sefyllfa wedi symud ymlaen ychydig heddiw. Rwy'n dibynnu'n syml ar adroddiad papur newydd o ddiwedd y bore 'ma. Mae The Guardian yn adrodd bod Asiantaeth yr Amgylchedd wedi gwrthod cynllun Thames Water a'i gyfarwyddo i ddychwelyd i'r bwrdd darlunio ac i gyflwyno cynllun gwell, gan gynnwys y cynllun i dynnu dŵr o Gymru drwy Afon Hafren. Dywed The Guardian fod Asiantaeth yr Amgylchedd wedi dweud wrth Thames Water nad yw wedi ei argyhoeddi bod hwn yn ateb hyfyw ac na fydd yn barod i gymeradwyo'r cynllun y mae Thames Water wedi'i ddatblygu hyd yn hyn. Ac am y rhesymau niferus a nodwyd gan arweinydd Plaid Cymru yn ei gwestiwn ef. Yn lle llunio cynllun oedd yn dibynnu ar syniadau rhyfeddol, fel roedd yn ymddangos i mi, sef tynnu dŵr o'r afon Tafwys ei hun a rhoi dŵr wedi ei lygru gan garthion yn ei le, a chymryd dŵr o Lyn Efyrnwy, dylai Thames Water wneud dau beth. Yn gyntaf oll, dylai ganolbwyntio ar leihau'r galw am ddŵr. Mae gennym ni, yn y Deyrnas Unedig, rai o'r defnyddiau dyddiol uchaf o ddŵr y pen o'r boblogaeth mewn unrhyw le. Rydyn ni'n defnyddio 141 litr y dydd ar gyfartaledd. Yng Ngwlad Belg, gwlad ar draws y sianel, mae'r cyfartaledd yn 95 litr y dydd. Felly, y peth cyntaf y dylai Thames Water ei wneud yw cyflwyno cynlluniau credadwy i leihau'r defnydd o ddŵr, adnodd gwerthfawr nad ydym yn ei ystyried yn ddigon gwerthfawr. Ac yna, fel y dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd yn ôl yr hyn a adroddir, mae angen iddo drwsio'r gollyngiadau yn ei system ei hun—gollyngiadau a fyddai, pe baen nhw'n cael eu trwsio, bron yn cyfateb yn llwyr â'i gynllun ar gyfer tynnu dŵr allan o afon Hafren ac ôl-lenwi hynny drwy dynnu dŵr allan o adnoddau Cymru. Mae'n ymddangos fel pe bai rhywfaint o synnwyr wedi gorchfygu, a byddai croeso mawr i hynny.

O ran yr hyn a fyddai wedi digwydd petai'r cynllun wedi mynd rhagddo, yna, wrth gwrs, mae gan Weinidogion Cymru hawliau yn hyn i gyd—hawliau i ymyrryd, hawliau mewn cysylltiad â chymeradwyo unrhyw gynllun, a byddai Gweinidogion Cymru yma wedi arfer yr hawliau hynny'n gryf iawn gan ystyried y pwyntiau a wnaeth arweinydd Plaid Cymru.

13:55

Am wn i, os maddeuwch i mi, Prif Weinidog, dyma un gollyngiad, rwy'n credu, y byddem ni yn ei groesawu, onid yw e? Ond, wrth gwrs, dyna un o'r tri rheoleiddiwr sydd wedi cael eu dyfynnu. Mae yna'r Arolygiaeth Dŵr Yfed, ac Ofwat fydd yn cyhoeddi'r ymateb ffurfiol ddydd Iau. Rydyn ni'n aros i weld beth fydd y ddau gorff arall yna—. Ond mae'r pwynt yn sefyll, wrth gwrs, bod gennym dri rheoleiddiwr yma, sy'n atebol i'r Ysgrifennydd Gwladol, yn gwneud penderfyniad, a gobeithio y byddan nhw'n gwneud y penderfyniad cywir, ond nid yw'n benderfyniad a wneir yma yng Nghymru. Nawr, mae Cymru eisoes yn allforio 320 miliwn litr y dydd o ddŵr i Loegr o Gwm Elan, ac mae Dŵr Cymru'n cael £7 miliwn yn unig gan gwmni Severn Trent Water am hynny fel rhan o gytundeb roedd yn rhaid iddyn nhw ei dderbyn ym 1984. Mae'n gytundeb fydd yn para am bron i 100 mlynedd ac o bosib 100 mlynedd ar ôl hynny. Does gan Lywodraeth Cymru, meddai'r Gweinidog, ddim pwerau ffurfiol i newid telerau'r cytundeb hwnnw, ond rydych chi'n ystyried sut y gellir diwygio cytundebau masnachu er mwyn adlewyrchu'n well amgylchiadau presennol ac yn y dyfodol. Beth mae hynny'n ei olygu yn ymarferol, Prif Weinidog, i bris dŵr sy'n cael ei gyflenwi i Loegr o Gymru ar hyn o bryd?

Wel, dydw i ddim yn credu ei fod, mae'n debyg, yn golygu unrhyw beth yma mewn gwirionedd heddiw oherwydd bod perthnasoedd masnachol, cytundebol presennol ar waith sy'n rheoli pris dŵr heddiw. Mae arweinydd Plaid Cymru'n iawn i ddweud bod gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb uniongyrchol mewn sut mae'r cytundebau hynny'n cael eu llunio ar gyfer y dyfodol. Nid oes gennyf i safbwynt cenedlaetholgar ynghylch dŵr; dydw i ddim yn gwrthwynebu pobl o Loegr yn yfed dŵr o Gymru. Ond yr hyn a ddywedaf yw bod yn rhaid dangos buddion economaidd, amgylcheddol ac ehangach i Gymru mewn unrhyw berthynas lle defnyddir adnoddau naturiol Cymru er budd dinasyddion eraill yn y Deyrnas Unedig, ac mewn unrhyw ail-negodi'r trefniadau cytundebol hynny, yna rhaid i'r pris a delir am yr adnodd naturiol gwerthfawr hwnnw adlewyrchu gwerth yr adnodd hwnnw i Gymru yn ogystal â chaniatáu ei ddefnydd buddiol ar gyfer dinasyddion eraill y DU.

Dyna'r pwynt, onid yw e? Mae'n ymwneud â thegwch, onid yw e? Dyw'r cytundeb presennol ddim yn adlewyrchu pris teg, yn enwedig pan fo cwsmeriaid Dŵr Cymru yn wynebu'r biliau uchaf ond un yng Nghymru a Lloegr. Nawr, mae hi'n chwe blynedd ers i Lywodraeth y DU addo trosglwyddo'r pŵer i Gymru dros ein holl adnoddau dŵr a'n seilwaith, nid dim ond y rhai dan reolaeth y ddau gwmni dŵr Cymreig. Ond hyd yma, nid yw'r darpariaethau yn Neddf Cymru 2017, a fyddai wedi rhoi grym i hyn, nid wedi dod i rym gan Ysgrifennydd Gwladol y DU. Pam felly? Ac ai effaith ymarferol hyn yw na all Llywodraeth Cymru, ar hyn o bryd, ddeddfu er enghraifft, i reoleiddio'r defnydd o ddŵr Cymru gan United Utilities, sy'n berchen ar Lyn Efyrnwy? Felly gallai'r dŵr gael ei drosglwyddo yn y dyfodol, ond nid y pŵer.

Ac o ran y pwynt a wnaethoch chi'n gynharach, a allwch chi ddweud ychydig am y pŵer feto fyddai gan Lywodraeth Cymru o dan yr amgylchiadau hynny, o ystyried nad yw trosglwyddo grym a gafodd ei addo chwe blynedd yn ôl wedi digwydd eto?

Wel, Llywydd, mae'n gwestiwn da iawn yn wir y mae arweinydd Plaid Cymru yn ei godi, gan mai Deddf Llywodraeth Geidwadol oedd Deddf 2017. Nid Deddf a wnaed yma, nid Deddf oedd yn adlewyrchu dewisiadau polisi Llywodraeth Cymru; roedd yn Ddeddf a aeth Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol â hi drwy Dŷ'r Cyffredin a'i rhoi ar y llyfr statud. Yr hyn ddigwyddodd, rwy'n credu, yw etholiad cyffredinol 2019 a dyfodiad trefn wahanol iawn yn San Steffan. Hanes datganoli yw, o 1999 i 2019, o dan Lywodraethau o wahanol berswâd gwleidyddol yn San Steffan, roedd modd cael trafodaethau rhesymegol ynglŷn â lle roedd pwerau'n gorwedd orau, a dyna pam roedd Deddf 2017, canlyniad trafodaethau sylweddol iawn dros fater y dŵr, yn caniatáu trosglwyddo'r cyfrifoldebau hynny. Ers 2019, rydym wedi wynebu Llywodraeth yn San Steffan nad yw'n ymateb i faterion ar y sail resymegol honno; mae'n ymateb iddyn nhw ar y sail gwbl ideolegol mai camgymeriad oedd datganoli ac mai gwaith Llywodraeth San Steffan yw ei wrthdroi i'r cyfeiriad arall ble bynnag y gall, ac yn ddigon sicr, byth i drosglwyddo pwerau newydd i'r Alban na Chymru, hyd yn oed pan mai Llywodraeth Geidwadol oedd wedi gwneud y trefniadau a fyddai wedi caniatáu i hynny ddigwydd.

Felly, dyna fy ateb i gwestiwn arweinydd Plaid Cymru: pan oeddem yn ymdrin â Llywodraeth resymol a rhesymegol, er o natur Geidwadol, gwnaethom y cynnydd yr oedd Deddf 2017 yn ei ymgorffori; mae hynny i gyd wedi bod ar stop dros y pedair blynedd diwethaf.

O ran hawliau Gweinidogion Cymru, rhaid i gwmnïau dŵr sy'n gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru ddilyn egwyddorion arweiniol Llywodraeth Cymru, egwyddorion yr ydym wedi eu cyhoeddi a'u nodi, ac yna mae gan Weinidogion Cymru rôl statudol yn y broses arwyddo ar gyfer unrhyw gynlluniau. Felly, er nad yw'r pwerau yn ein dwylo yn y ffordd gydlynol y byddem wedi dymuno ei gweld ac y byddai Deddf 2017 wedi cynorthwyo hynny, nid ydym heb bwerau yn y maes hwn, ac, os nad yw'r adroddiadau o'r bore 'ma yn troi allan i fod yn wir ac mae rheoleiddwyr pellach yn cymryd safbwynt gwahanol, yna bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r pwerau sydd gennym i amddiffyn buddiannau Cymru yn y maes hwn.

14:00
Darpariaeth Ddeintyddol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at ddarpariaeth ddeintyddol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ59370

Wel, diolch i Cefin Campbell, Llywydd. Diwygio contractau, buddion ariannol, mwy o fuddsoddi ac amrywio’r proffesiwn yw rhai o’r camau sy’n cael eu cymryd i wella mynediad i bobl yn rhanbarth yr Aelod.

Diolch. Llandeilo, Hwlffordd, Abergwaun—enghreifftiau o ddeintyddion yn fy rhanbarth i lle mae darpariaeth NHS wedi dod i ben dros y misoedd diwethaf. Mae'r sefyllfa ddeintyddol yng Nghymru wledig yn argyfyngus ar hyn o bryd, a'r newid, fel roeddech chi'n cyfeirio atyn nhw, yn y cytundebau diweddar, wedi achosi pryderon sylweddol, fel cafodd eu mynegi i mi mewn gohebiaeth ddiweddar gan bwyllgor deintyddol Dyfed Powys. Mae hyd yn oed deintyddion sy'n llwyddo cwrdd â gofynion y cytundebau newydd wedi nodi eu bod nhw'n gwneud hynny ar draul trin eu cleifion presennol, ac mae'r newidiadau hyn yn achosi straen, sy'n golygu bod nifer fawr o ddeintyddion bellach yn ystyried eu dyfodol fel partneriaid NHS. Ym Mhowys yn unig, mae dros 4,500 ar y rhestr aros am ddeintyddion NHS—10 y cant ohonyn nhw'n blant—ac mae mwy a mwy o deuluoedd yn wynebu dewisiadau anodd, gyda nifer yn mynd tramor i gael triniaeth.

Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â'r farn a fynegwyd yn natganiad diweddar y Llywodraeth ar ddiwygio deintyddol bod deintyddiaeth breifat yn ddewis arall derbyniol, neu a welwn wir ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r proffesiwn i sicrhau gwasanaeth deintyddol sy'n gweithio i bawb yng Nghymru?

Wel, Llywydd, mae 20 y cant o'r practisau deintyddol yng Nghymru yn bractisau preifat; mae hynny'n ffaith, ac mae wedi bod yn ffaith ers sefydlu'r GIG. Does dim byd newydd yn hynny o gwbl. Rwy'n gweld yn rheolaidd o ddiddordebau deintyddol y thema hon bod contractau'n cael eu trosglwyddo'n ôl ledled Cymru. Siaradais â Phrif Swyddog Deintyddol Cymru fy hun neithiwr am hyn. Mae'n dweud wrthyf fod 20 o gontractau allan o 400 wedi'u trosglwyddo'n ôl mewn gwirionedd. Contractau bychain yw llawer ohonyn nhw, ac mae byrddau iechyd, a byrddau iechyd mewn rhannau gwledig o Gymru, yn llwyddo pan fo nhw'n rhoi'r cytundebau hynny allan ar gyfer ail-dendro. Felly, yn ardal yr Aelod ei hun, mae contract mawr yn Rhydaman—contract gwerth £1 miliwn—wedi cael ei ail-lenwi'n llwyddiannus. Ym Mhowys, y cyfeiriodd ato, mae contract a gafodd ei drosglwyddo'n ôl yn Y Drenewydd wedi cael ei ail-dendro'n llwyddiannus. Bydd yn darparu triniaeth gan y GIG i rhwng 2,000 a 2,500 o gleifion yn y rhan honno o Gymru.

Y llynedd, Llywydd, cafodd ychydig o dan un filiwn o bobl yng Nghymru driniaeth ddeintyddol y GIG. Roedd yna ymhell dros un filiwn o driniaethau o dan y GIG, ac roedd hynny'n cynnwys 155,000 o gleifion ychwanegol y GIG oherwydd diwygio contractau, Rhannwyd 20,000 o'r rheiny rhwng Hywel Dda a bwrdd iechyd Powys. Felly, er bod heriau heb os ym maes deintyddiaeth, a llawer mwy o dir y mae angen i ni ei ennill, mewn gwirionedd, mae'n llai a llai, nid mwy a mwy, o ddinasyddion Cymru sydd angen dod o hyd i driniaeth mewn mannau eraill. Ac wrth i ni symud ymlaen â'r contract, mewn ymgynghoriad a thrafod â'r proffesiwn deintyddol, byddwn yn gallu gwneud mwy fyth, a bydd hynny'n cynnwys, Llywydd, y codiad cyflog o £5,000 yr ydym yn ei gynnig i hyfforddeion deintyddol yn y dyfodol sy'n fodlon cwblhau eu blwyddyn sylfaen mewn practisau deintyddol yng nghefn gwlad Cymru yn hytrach na manteisio ar gyfleoedd yn yr ardaloedd trefol mwy poblogaidd. Mae'r cyfuniad hwnnw o ddiwygio contractau, buddsoddiad ariannol pellach, ystwytho'r proffesiwn—mae ffordd i fynd, ond mae yna fformiwla yng Nghymru rydyn ni wedi dechrau ei roi ar waith ac sy'n dechrau llwyddo.

14:05

Diolch, Prif Weinidog. Yn y gorffennol rwyf wedi codi'r pryder difrifol sydd ymhlith deintyddion lleol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro ynglŷn â chyfeiriad polisi presennol Llywodraeth Cymru. Ac fel Cefin, rhannodd uwch aelod o bwyllgor deintyddol lleol Dyfed Powys ei farn bod y cosbau ariannol mawr a oedd yn cael eu bygwth ar ddeintyddion pe baen nhw'n methu â chyrraedd yr hyn a ddisgrifiwyd fel 'targedau diwygio contract amhrofedig ac anghyflawnadwy'—dyfyniad—'a oedd yn gyrru darpariaeth deintyddiaeth y GIG yng Nghymru tuag at ymyl clogwyn'—dyfyniad arall. Ond ateb posib i hyn, a roddwyd i mi gan ddeintydd ac orthodontydd lleol yn fy etholaeth, yw gwobrwyo'r deintydd pan fydd triniaeth yn dechrau, gan gymell practisau i weld cleifion. Felly, a fyddai Llywodraeth Cymru'n archwilio'r awgrym hwn, a allai helpu i gadw deintyddion yn y GIG a chefnogi cleifion ledled Cymru? Diolch.

Wel, Llywydd, rydyn ni bob amser yn barod i edrych ar syniadau a gyflwynir gan ymarferwyr. Y gwir amdani yw bod deintyddiaeth, sy'n unigryw ymhlith proffesiynau gofal sylfaenol, yn cael ei dalu am y gwaith cyn iddo gael ei wneud, nid ar ei ôl. Ar ddiwedd y flwyddyn, bu ar hyd yr amser, o dan y contract blaenorol yn ogystal â'r contract presennol, gysoni yn digwydd, pan edrychwch i weld beth mae practis wedi gallu ei gyflawni mewn gwirionedd. Os nad yw wedi gallu cyflawni telerau ei gytundeb, ni all neb ddisgwyl i arian cyhoeddus gael ei gynnig i rywun am wasanaeth na chafodd ei ddarparu.

Nawr, rydym bob amser wedi cael dull o weithredu pragmataidd o ran y cysoni diwedd blwyddyn hwnnw, ac rwy'n gwybod, o fy nhrafodaethau gyda'r prif swyddog deintyddol neithiwr, mai dyna'r union ddull fydd yn cael ei weithredu eleni hefyd, ac yn enwedig oherwydd, gyda chontract newydd, mae rhai o'r metrigau sy'n cael eu defnyddio yn anochel yn cael eu defnyddio am y tro cyntaf ac mae angen eu profi'n yn y practis. Nid yw'r system wedi'i chynllunio o gwbl i gosbi practisau pryd y gellir dod i ddealltwriaeth resymol gyda nhw. Os oes syniadau eraill a gwell ynglŷn â sut y gellir llywio hynny, yna wrth gwrs bydd y system a'r bobl sy'n gweithio ynddi yn barod iawn i'w hystyried.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Heddiw cyhoeddodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru adroddiad yn edrych ar ddeintyddiaeth, gan ganolbwyntio yn arbennig ar ein pryder ynghylch deintyddiaeth ddwy haen—ac nid wyf yn ymddiheuro wrth ddefnyddio'r term hwnnw. Mae gennym system ar hyn o bryd sy'n golygu, os gallwch chi dalu am ddeintyddiaeth, yna does dim rhaid aros; os na allwch chi, yna mae'n rhaid i chi aros. A dyna'r gwir sylfaenol.

Rwyf eisiau canolbwyntio fy nghwestiwn, os caf, ar blant a phobl ifanc. Rwy'n siŵr y byddem i gyd yn cytuno y dylen nhw gael mynediad i ddeintyddiaeth y GIG. Ym Mhowys fel mae Cefin wedi sôn, mae dros 800 o blant yn aros am ddeintydd y GIG, ac er mwyn bod yn deg i Bowys, maen nhw'n un o ddim ond dau fwrdd iechyd sy'n cadw data ar blant sy'n aros am ddeintyddiaeth y GIG. Tybed a allech chi ddarparu diweddariad, amlinelliad o'r cynllun sydd gan y Llywodraeth er mwyn helpu plant sy'n aros am ddeintyddiaeth y GIG ledled Cymru. Diolch yn fawr iawn.

14:10

Diolch i Jane Dodds am y cwestiwn ychwanegol.

Nododd y Gweinidog yn ei datganiad llafar yma ar lawr y Senedd y camau ymarferol sy'n cael eu cymryd i gynyddu'r ddarpariaeth o ddeintyddiaeth y GIG i blant, gan gynnwys y cynllun treialu mewn ysgolion uwchradd a nododd y Gweinidog—cynllun treialu sy'n cael ei gynnal yn y gogledd yn y lle cyntaf, a gobeithiwn, os yw'n llwyddiannus, y gallwn wneud mwy o hynny mewn mannau eraill. Ym Mhowys y cyfeiriodd Jane Dodds ato'n uniongyrchol, rwy'n credu fy mod wedi gallu dweud wrth ateb cwestiwn yr wythnos diwethaf bod y bwrdd iechyd wedi llwyddo i recriwtio deintydd arbenigol pediatrig sy'n gallu cynnal mwy o'r driniaeth arbenigol sy'n angenrheidiol heb fod angen i blant adael y sir, a therapydd deintyddol ychwanegol sy'n canolbwyntio'n llwyr ar blant. Deallaf fod y ffigur o 800 y cyfeiriodd Jane Dodds ato eisoes wedi gostwng mwy na 100 o ganlyniad i'r adnodd ychwanegol hwnnw sydd gan y bwrdd iechyd, a phan siaradais â phrif weithredwr bwrdd iechyd Powys cyn cwestiynau yr wythnos diwethaf, dywedodd wrthyf ei bod yn teimlo bod y bwrdd iechyd wedi llwyddo'n dda i recriwtio staff newydd yn y proffesiwn deintyddol, o amrywiaeth o gyfraniadau y gallen nhw ei wneud, i allu nawr sicrhau bod oedolion, a phlant hefyd, yn cael y math o wasanaeth y byddem ni'n dymuno ei weld yn y rhan honno o Gymru. 

Gofal Lliniarol a Hosbisau

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gefnogi gofal lliniarol a hosbisau ledled Cymru? OQ59361

Llywydd, mae cam 1 ein rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth i ofal lliniarol wedi'i gwblhau. Adroddodd cam 2 ddiwedd Ionawr. Daw'r rhaglen lawn i ben erbyn mis Ionawr y flwyddyn nesaf, fel rhan o'n buddsoddiad parhaus mewn gwasanaeth o ansawdd uchel ar draws Cymru.

Diolch. Prif Weinidog. Yn gynharach y mis hwn cefais y pleser o ymweld â chanolfan hunangymorth Sandville, sydd yn Nhon Cynffig yn fy etholaeth, ac maen nhw wedi darparu cefnogaeth sy'n newid bywyd i'r rhai sy'n cael diagnosis o ganser, clefyd Parkinson, sglerosis ymledol, dementia a chyflyrau difrifol eraill sy'n cyfyngu ar fywyd a chyflyrau sy'n newid bywyd ers dros 40 mlynedd. Mae Sandville yn dibynnu ar haelioni codwyr arian, ac yn ddiweddar maen nhw wedi gwneud y gwaith adnewyddu mwyaf anhygoel i'r ganolfan gyfan, ac mae'n cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i bwll hydrotherapi, ystafelloedd cwnsela, campfa ac ystafell symudedd, a hefyd, ar hyn o bryd, maen nhw'n gweithio tuag at gael caban y gellir ei ddefnyddio gan deuluoedd pan fydd gan blentyn ganser, er mwyn i'r teulu cyfan gael seibiant gyda'i gilydd. 

Gweinidog, nid fi yw'r unig un, chwaith, sy'n cydnabod y gwaith mae Sandville yn ei wneud. Fe wnaeth Callum Hughes, ymgynghorydd gwella gwasanaethau yn Parkinson's UK, ymweld â'r safle yn ddiweddar a dywedodd nad oes unrhyw beth tebyg i hyn yng Nghymru na gweddill y DU, yn enwedig gyda'u sesiynau therapi galw heibio am ddim, agored i unrhyw un, i bobl â Parkinson's bob wythnos. Fel y gallwch ddweud, rwy'n hynod falch o ganolfan Sandville, a hoffwn i bobl o bob cwr o Gymru allu elwa ar y gefnogaeth anhygoel, a dysgu hefyd o'u model o ofal, fel y gallwn gael y gwasanaeth hwn ledled Cymru i bawb sydd ei angen.

Felly, Prif Weinidog, rwy'n gofyn i chi heddiw, mewn gwirionedd, i ymuno â mi i longyfarch y tîm a'r ymddiriedolwyr a'r gwirfoddolwyr, yn ogystal â chymaint o bobl o bob rhan o Gymru sydd wedi codi arian ar gyfer Sandville. Diolch. 

Llywydd, rwy'n adleisio'n llwyr yr hyn y mae Sarah Murphy wedi'i ddweud wrth longyfarch Hosbis Sandville. Mae'n enghraifft wych o'r gwaith mae hosbisau'n ei wneud ym mhob rhan o Gymru. Bu bob amser yn enghraifft ragorol o ymdrech wirfoddol ac ymroddedig y mae pobl yn ei gwneud wrth wella gwasanaethau yn y ffordd y mae'r Aelod wedi'i nodi, ac mae'r ffaith bod hosbis Sandville wedi gallu cynnig y gwasanaeth hwnnw i bobl Pen-y-bont ar Ogwr a'r cyffiniau ers dros 40 mlynedd yn gamp anhygoel, a rhywbeth rwy'n gwybod y mae Sarah a llawer o bobl eraill yn y rhan honno o Gymru yn hynod falch ohono. Yn y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, wrth gwrs, rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'r hosbis a hosbisau eraill yng Nghymru i sicrhau bod unrhyw un sydd â salwch sy'n newid bywyd neu'n cyfyngu ar fywyd yn gallu cael mynediad at y gofal gorau posibl.

14:15
Twristiaeth

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twristiaeth yng nghanolbarth Cymru? OQ59353

Llywydd, mae strategaeth 'Croeso i Gymru' yn nodi ein tri uchelgais allweddol ar gyfer y sector: cynyddu gwariant economi ymwelwyr, lledu manteision i bob rhan o Gymru ac ymestyn y tymor twristiaeth gan hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i'w hymweld â hi trwy gydol y flwyddyn.

Diolch i chi, Prif Weinidog, ac rwy'n falch bod y strategaeth yn cynnwys mwy o wariant. Ond fy mhryder i yw bod pryderon enfawr yn parhau o ran newidiadau Llywodraeth Cymru sy'n gofyn i fusnesau llety gwyliau osod am 182 diwrnod y flwyddyn, a gwneud iddyn nhw symud o'r system ardrethi busnes i'r system y dreth gyngor, a fyddai wedyn yn cynyddu eu baich treth ac yn gwneud llawer o'r busnesau hynny yn anhyfyw.

A gaf i ddweud, Prif Weinidog, wrth gwrs, fod llawer o'r busnesau hyn hefyd yn cael eu hannog i arallgyfeirio—mae busnesau ffermio'n cael eu hannog i arallgyfeirio i'r sector llety gwyliau hwnnw? Mae llawer o fusnesau'n dweud wrthyf, ac rwy'n credu hynny o'r gwaith achos a welaf, y byddant yn mynd i'r wal os na chyflwynir eithriadau pellach. Mae gen i ofn, hyd yn hyn, fy mod i'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi sylw arwynebol yn unig i'r pryderon sydd wedi eu codi. Rwy'n croesawu'n fawr yr eithriad sydd wedi ei gyflwyno o ran materion cynllunio—croeso mawr yn wir—ond pryd rydyn ni'n mynd i weld eithriadau pellach yn cael eu cyflwyno?

Yr enghreifftiau penodol y byddwn i'n eu cyflwyno fyddai pan fo adeiladau llety gwyliau yn cael eu cydleoli, felly yn yr un lleoliad â lle mae'r perchennog yn byw efallai, neu lle mae llety gwyliau'n rhannu cyfleustodau. Ni ellir defnyddio'r mathau hynny o eiddo at unrhyw bwrpas arall heblaw fel llety gwyliau, neu byddai'n sicr yn ei gwneud hi'n anodd iawn, iawn newid o'r sefyllfa honno. Felly, a gaf i ofyn, Prif Weinidog: pryd ydyn ni'n mynd i weld eithriadau pellach sy'n egluro'r materion hyn a gwneud yn siŵr nad yw'r busnesau hyn yn mynd i'r wal?

Wel, Llywydd, rwy'n credu bod y Gweinidog wedi dangos ei pharodrwydd i wrando ar achosion a wnaed yn y diwydiant yn y ffordd—ac rwy'n gwybod bod Russell George wedi ei groesawu—y mae hi wedi darparu eithriad ar gyfer eiddo na ellir ond ei feddiannu ar adegau penodol yn ystod y flwyddyn. Ond gadewch i ni fod yn glir beth yw diben y newidiadau yna. Maen nhw yno i wneud yn siŵr bod busnesau priodol yn gallu manteisio ar ryddhad ardrethi busnesau bach, a phan fyddant yn eiddo sy'n cael eu gosod allan yn anaml ac nad ydynt yn fusnesau yn yr ystyr hwnnw, yna maen nhw'n talu'r dreth gyngor fel unrhyw un arall.

Os ydych chi'n fusnes, yna nid wyf yn credu ei fod yn afresymol dweud y dylech sicrhau bod eich eiddo ar gael i'w osod am 252 diwrnod ac y dylech ei osod am 182 diwrnod mewn gwirionedd; wedyn rydych chi'n fusnes. Os nad ydych chi'n gweithredu fel busnes, nid yw'n golygu bod yn rhaid i chi fynd i'r wal; mae'n golygu eich bod yn talu'r dreth gyngor fel unrhyw un arall. Rwy'n credu bod honno'n sail deg y gellir ymdrin â phobl arni. Mae'r Gweinidog wedi dangos ei hyblygrwydd lle gellir gwneud achos, ond yr egwyddor sylfaenol yw bod pobl sy'n ceisio cael eu trin fel busnesau, yn gweithredu fel busnesau, ac mae pobl nad ydyn nhw'n gweithredu mewn ffordd fusnes yn cael eu trin fel unrhyw un arall, dyna'r egwyddor sylfaenol a dydw i ddim yn credu ein bod ni'n mynd i wyro o hynny.

Cyllideb Llywodraeth y DU

6. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r effaith y bydd cyllideb Llywodraeth y DU yn ei chael ar allu awdurdodau lleol Cymru i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus? OQ59337

Llywydd, Diolch i Carolyn Thomas am y cwestiwn yna. Roedd cyllideb Llywodraeth y DU yn cynnwys bron dim ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Yn dilyn degawd o gyni Torïaidd, mae'r gyllideb ddiweddaraf yn parhau i siomi'r bobl, cymunedau a busnesau ledled Cymru sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hanfodol y mae awdurdodau lleol yn eu darparu.

Diolch am yr ateb yna Prif Weinidog. Mae awdurdodau lleol yn ddibynnol ar y staff ymroddedig sy'n rheoli ac yn darparu gwasanaethau rheng flaen, ddydd ar ôl dydd. Ond dydyn nhw ddim yn ddiogel rhag yr argyfwng costau byw rydyn ni i gyd yn ei wynebu. Mae'r Resolution Foundation wedi dweud bod diffyg twf cyflog dros y 15 mlynedd diwethaf yn golygu bod cartref cyfartalog yn y DU bellach £11,000 yn waeth ei fyd diolch i Lywodraethau Ceidwadol olynol. Prif Weinidog Cymru, a ydych yn cytuno â mi y dylai Llywodraeth y DU fod yn tyfu'r economi drwy roi arian ym mhocedi ein gweithlu, annog pobl i swyddi yn y sector cyhoeddus, a chreu amodau gwaith gwell gydag oriau gwell? Wedi'r cyfan, ni all yr economi dyfu heb wasanaethau cyhoeddus, cynllunio, tai, trafnidiaeth a'r holl wasanaethau cymorth y maen nhw'n eu darparu, sydd hefyd yn tynnu'r pwysau oddi ar ein GIG. Diolch.

14:20

Diolch i Carolyn Thomas am y cwestiwn atodol pwysig iawn yna, oherwydd mae hi'n rhoi ei bys yn union ar y diffyg sydd wrth wraidd prosbectws presennol Llywodraeth y DU. Dywedodd y Canghellor mai cyllideb ar gyfer twf oedd hon, ond methodd â gwneud y pethau mwyaf sylfaenol y mae twf yn dibynnu arnyn nhw. Mae'n dweud wrthym pam, ers 2010 a'r rhediad presennol o Lywodraethau Ceidwadol, bod twf yn economi'r Deyrnas Unedig wedi dymchwel o'i gymharu ag unrhyw beth a gyflawnwyd yn y 60 mlynedd blaenorol.

Dwy elfen sylfaenol strategaeth dwf go iawn, Llywydd, yw buddsoddiad mewn pobl a buddsoddiad yn y seilwaith sy'n caniatáu economi i dyfu. Ymhell, ymhell o fuddsoddi mewn pobl, fel y dywed Carolyn Thomas, mae teuluoedd ym mhob rhan o Gymru filoedd o bunnau yn waeth eu byd na fydden nhw fel arall pe na bai polisïau aflwyddiannus a gwallus cyni wedi'u dilyn. Doedd dim byd i'r bobl hynny yn y gyllideb, datganiad y gwanwyn 10 diwrnod yn ôl.

O ran buddsoddi mewn seilwaith, mae'r un filiwn o bunnau gwawdlyd o fuddsoddiad cyfalaf sydd wedi'i gynnig yma yng Nghymru yn golygu bydd y pethau hynny a fyddai'n creu twf yn yr economi—buddsoddi mewn seilwaith digidol, er enghraifft—i gyd yn llawer anoddach. Mae Carolyn Thomas wedi tynnu sylw ac amlygu'r prynhawn yma, Llywydd, y diffygion oedd wrth wraidd strategaeth Llywodraeth y DU, a'r ffaith bod presgripsiwn ar gael iddyn nhw pe baen nhw o ddifrif ynglŷn â gwrthdroi 13 mlynedd o ddirywiad dan y Torïaid.

Gofal Cymdeithasol

7. Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i awdurdodau lleol ynglŷn â gwneud penderfyniadau am ofal cymdeithasol? OQ59336

Diolch i'r Aelod am hynna, Llywydd. O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae Llywodraeth Cymru'n rhoi canllawiau i awdurdodau lleol ar ffurf codau ymarfer a chanllawiau statudol. Ymhlith y pynciau dan sylw mae gwasanaethau awtistiaeth, atal, asesu, cymhwysedd a chynllunio gofal, codi tâl ac asesu ariannol, plant sy'n derbyn gofal, diogelu a gweithio mewn partneriaeth.

Diolch. Mae canfyddiadau adroddiad diweddar y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 'Herio penderfyniadau gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru a Lloegr' yn cynnwys y canlynol: mae awdurdodau lleol yn gwneud penderfyniadau dyddiol ynghylch mynediad pobl at ofal cymdeithasol ac mae gan bobl yr hawl i'w herio, ond nid yw pobl yn cael gwybodaeth hanfodol am sut i herio penderfyniadau. Maen nhw'n ofni pe baen nhw'n herio penderfyniadau, y byddan nhw'n wynebu canlyniadau negyddol ac yn colli mynediad at ofal, a bod y system, o ganlyniad, yn methu'r rhai sydd ei angen. Mae pobl yn cael eu rhwystro rhag gofyn am gymorth ac yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu a'u datgysylltu. Mae rhai pobl mewn argyfwng ac yn ysu am gymorth.

Mae hyn yn sicr yn cael ei adlewyrchu yn fy ngwaith achos etholwyr fy hun, yn enwedig mewn rhai siroedd. Sut fyddwch felly yn ymateb i argymhelliad yr adroddiad bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol ac eraill i wella'r gwaith o gasglu a dadansoddi data cydraddoldeb gan ddefnyddwyr gofal cymdeithasol, gan gynnwys y rhai sy'n herio penderfyniadau? Maen nhw'n nodi y dylai'r data yma

'gael ei ddefnyddio i nodi a mynd i'r afael â chanlyniadau gwael'

pryd maen nhw'n cael eu profi gan bobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig penodol.

Rwy'n sicr yn cytuno y dylai pobl, pan wneir penderfyniadau mewn cysylltiad â'u gofal eu hunain, gael yr hawl i herio'r penderfyniad hwnnw, ac y dylai'r hawl i herio fod ar gael iddyn nhw mewn ffordd sy'n real, sy'n hygyrch, a'u bod nhw'n teimlo bod eu llais wedi cael ei glywed yn iawn. Felly, wrth fwrw ymlaen ag unrhyw argymhelliad, un o'r ffyrdd y byddwn eisiau sicrhau yma yng Nghymru ein bod yn gwella'r system yw sicrhau bod llais y defnyddiwr wrth wraidd unrhyw gasglu data neu unrhyw welliant yn y system honno yn y dyfodol.

O dan delerau'r canllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu darparu, mae Rhan 10 o'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant—adran eiriolaeth y Ddeddf—yn golygu bod cod ymarfer wedi cael ei ddarparu i awdurdodau lleol, a phwrpas eiriolaeth yw gwneud yn siŵr bod y bobl hynny sy'n teimlo nad yw eu llais eu hunain wedi cael ei glywed yn llawn o ran y ffordd y cafodd gwasanaethau eu darparu, bod modd cefnogi ac ymhelaethu ar y llais hwnnw, ac mae'r arlwy gweithredol o eiriolaeth i blant a phobl ifanc yn nodwedd arbennig o'r modd y darperir y gwasanaeth hwnnw yma yng Nghymru.

Ond rwy'n cytuno â'r pwynt sylfaenol a wnaeth yr Aelod. Pobl sy'n teimlo nad ydyn nhw wedi derbyn y gwasanaeth yr oedd ganddyn nhw hawl iddo, mae ganddyn nhw hawl i herio'r penderfyniadau hynny a dylai'r ffordd y maen nhw'n gwneud hynny gael ei hadlewyrchu'n iawn wrth gipio data, a phan fo angen gwneud gwelliannau, dylai llais y defnyddiwr fod yn ddylanwadol yn y penderfyniadau hynny.

14:25
Gwrthsemitiaeth

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo mabwysiadu diffiniad Cynghrair Ryngwladol Cofio'r Holocost o wrthsemitiaeth gan sefydliadau sy'n derbyn arian gan Lywodraeth Cymru? OQ59334

Wel, Llywydd, diolch i Darren Millar am hynna. Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu diffiniad Cynghrair Cofio'r Holocost Rhyngwladol o wrthsemitiaeth yn llawn ac yn ddi-amod. Mae ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' yn darparu'r fframwaith y byddwn yn ei ddefnyddio i gymryd camau ar y cyd i fynd i'r afael â gwrthsemitiaeth, gan gynnwys ein cefnogaeth barhaus i ddioddefwyr troseddau casineb.

Rwy'n ddiolchgar iawn am yr ymateb yna, ac rydw i'n cymeradwyo'r arweinyddiaeth yr oedd Llywodraeth Cymru wedi ei dangos yn ôl yn 2017 pan wnaeth fabwysiadu diffiniad yr IHRA yn llawn, ond rydym chwe blynedd yn ddiweddarach, ac mae sefydliadau o hyd ledled Cymru sydd yn derbyn arian sylweddol gan Lywodraeth Cymru sydd eto i fabwysiadu diffiniad yr IHRA; ac yn wir, mae rhai ohonynt wedi ei wrthod yn llwyr.

Mae hyn yn arbennig o bryderus, rwy'n credu, yn ein sector addysg uwch. Mae gennym wyth prifysgol yng Nghymru; dim ond un, Prifysgol Bangor, sydd wedi mabwysiadu diffiniad yr IHRA, ac mae hynny'n cymharu'n eithriadol o wael â'r system addysg uwch mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. A gaf ofyn i chi, fel amod o'r cyllid sy'n cael ei roi i sefydliadau fel ein prifysgolion, colegau, mannau dysgu eraill, ac yn wir, y sector cyhoeddus ehangach, eich bod yn ei gwneud yn ofynnol i'r sefydliadau hynny fabwysiadu'r diffiniad pwysig iawn hwn o wrthsemitiaeth, a fydd yn helpu i roi terfyn ar rai o'r erchyllterau a welsom yn ein cymdeithas yn ystod y blynyddoedd diwethaf?

Wel, rwy'n rhannu barn yr Aelod am erchylltra gwrthsemitiaeth a does dim amheuaeth o gwbl fod cynnydd wedi bod mewn digwyddiadau o'r fath, a bod rhwymedigaeth ar bob un ohonom i chwarae ein rhan i wrthsefyll hynny. Mae prifysgolion, yn y pen draw, Llywydd, yn gyrff ymreolaethol. Ni all Llywodraeth Cymru gyfarwyddo, ond mae'r Gweinidog wedi ei gwneud yn eglur wrth ymwneud â phrifysgolion bod Llywodraeth Cymru yn awyddus iddynt fabwysiadu diffiniad yr IHRA o wrthsemitiaeth er ei fod yn parchu eu hymreolaeth.

Nid ydym yn bwriadu mynd ar ôl hyn drwy'r llwybr ariannu y cyfeiriodd Darren Millar ato, ond dyma sut rydym yn bwriadu mynd â'r sgwrs honno ymhellach ymlaen: mae rhwymedigaeth ar sefydliadau addysg uwch yng Nghymru i gyflawni eu swyddogaethau i gydnabod eu rhwymedigaethau'n llawn o'u rhwymedigaethau o dan eu dyletswydd cydraddoldeb yn y sector cyhoeddus. Byddwn ni'n cynnal adolygiad o'r ddyletswydd honno yma yng Nghymru, ac yn yr adolygiad hwnnw, byddwn ni'n sicrhau ein bod ni'n ymgysylltu â'r sefydliadau hynny yng Nghymru sy'n derbyn arian Llywodraeth Cymru—gan gynnwys y sector prifysgol—i wneud yn siŵr bod yr adolygiad o'r ddyletswydd cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru yn cynnwys ystyriaeth o ddiffiniadau perthnasol fel yr IHRA, er mwyn i'r diffiniad hwnnw fod yn rhan o'r adolygiad, mae'n ofynnol i brifysgolion o dan ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus roi sylw i'w cyfrifoldebau, a byddwn ni'n archwilio hynny gyda nhw fel rhan o'r adolygiad hwnnw.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Lesley Griffiths.

Member
Lesley Griffiths 14:29:56
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Llywydd. Mae tri newid i'r busnes yr wythnos hon. Yn gyntaf, bydd Gweinidog yr Economi yn gwneud datganiad ar y rhaglen porthladd rhydd yng Nghymru. Er mwyn darparu ar gyfer hyn, mae'r datganiad ar y Papur Gwyn ar dacsi a cherbyd hurio preifat wedi'i dynnu'n ôl. Yn olaf, bydd y ddadl cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Caffael yn cynnwys dau gynnig yn hytrach nag un. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. 

14:30

Trefnydd, a gaf i alw am ddau ddatganiad yr wythnos yma? Y cyntaf gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â'i gyfrifoldebau trafnidiaeth ac i ofyn am ddiweddariad ar y cynllun bathodynnau glas yng Nghymru. Rwyf wedi bod â nifer o etholwyr sydd wedi bod yn nodi pryderon am y broses adnewyddu ar gyfer y cynllun bathodyn glas. Rwy'n gwerthfawrogi ei bod hi ond yn iawn fod y pethau hyn yn cael eu hadolygu yn gyfnodol, o bryd i'w gilydd, ond mae rhywfaint o'r dystiolaeth y mae'n rhaid iddyn nhw ei darparu yn ymddangos ychydig yn hurt. Roedd gen i un etholwr y gofynnwyd iddi dynnu llun o'i chymorth cerdded er mwyn gweld a oedd hi'n gymwys i gael bathodyn glas. Wrth gwrs, fe wnaeth hi dynnu sylw y person a oedd wedi gofyn iddi am lun at y ffaith y gallai hi dynnu llun o gymorth cerdded unrhyw un ac anfon hwnnw, ond, am ba bynnag reswm, dyna oedd yn rhaid iddi ei wneud. Yn amlwg, mae angen rhywfaint o arweiniad llymach, gyda rhywfaint o synnwyr cyffredin, i wneud yn siŵr bod modd goresgyn y rhwystrau hyn.

Yr ail ddatganiad yr hoffwn i ei gael, os gwelwch yn dda, yw un gan Ddirprwy Weinidog y lluoedd arfog ar les cyn-filwyr yng Nghymru. Rwy'n gwybod bod hwn yn fater y mae Llywodraeth Cymru yn ei gymryd o ddifrif. Fe wnes i gyfarfod â'r Lleng Brydeinig Frenhinol yr wythnos diwethaf, ac fe ges i fraw o glywed bod nifer y cyn-filwyr sy'n gofyn am gefnogaeth gan eu swyddogion lles wedi gostwng yn eithaf sylweddol ar ôl y pandemig. Ymddengys nad oes eglurhad pam y mae hynny'n wir. Wrth gwrs, efallai fod y galw hwnnw ar y cyfan yn is, ond o ystyried y pwysau costau byw yr ydym yn eu gweld ledled Cymru ar hyn o bryd, dydw i wir ddim yn credu bod hynny'n wir, ac rwy'n credu bod angen ymchwilio ymhellach iddo. Rydym yn gwybod bod gan y Lleng Brydeinig Frenhinol adnoddau y mae eisiau eu darparu, ac mae gan SSAFA a sefydliadau eraill adnoddau y maen nhw eisiau eu darparu i gefnogi cyn-filwyr, yn enwedig yn eu henaint. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ymrwymo i weithio gyda'r sefydliadau hynny i geisio gwneud yr hyn a allant i hyrwyddo'r cyfleoedd sydd yno. 

Diolch. O ran eich ail bwynt, mae'r Dirprwy Weinidog yn ei sedd ac wedi clywed eich cwestiynau. Rwy'n siŵr ei bod hi, a bydd yn parhau i fod, wedi ymrwymo i weithio gyda'r trydydd sector ac unrhyw ddarparwr gwasanaeth neu sefydliad arall wrth gefnogi ein cyn-filwyr.

O ran y cynllun bathodyn glas, rwy'n ymwybodol yr edrychwyd ar y system, yn amlwg, yn gyfannol—mae'n debyg mai tua thair blynedd yn ôl oedd hi nawr—a daeth cynllun newydd. Rwy'n cydnabod rhai o'r pwyntiau a wnaethoch chi o fy mag post yn fy etholaeth fy hun. Byddaf yn sicr yn gofyn i'r Dirprwy Weinidog ein diweddaru os oes rhywbeth arall y mae'n gallu ei ddweud wrthym. Rwy'n credu bod yna wahaniaeth rhwng awdurdodau lleol a'r meini prawf y maen nhw'n eu defnyddio, a gallai fod angen edrych arno i wneud yn siŵr bod chwarae teg ar draws Cymru. 

Hoffwn ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn nodi sut y bydd y Llywodraeth yn cynyddu'r capasiti ar frys mewn ysbytai cymunedol. Ychydig wythnosau yn ôl, fe wnes i godi pryderon gyda'r Prif Weinidog bod ambiwlansys mewn gwirionedd yn cael eu defnyddio fel ystafelloedd aros oherwydd diffyg gwelyau ysbyty. Mae etholwr wedi cysylltu â mi yr wythnos hon, y mae ei stori, rwy'n credu, wedi tynnu sylw at ffordd arall y mae'r diffyg gwelyau hwnnw'n effeithio ar gleifion, sef bod diffyg capasiti mewn ysbytai cymunedol yn golygu bod pobl yn cael eu cadw mewn ysbytai ymhellach o'u cartrefi am gyfnod hirach nag sy'n angenrheidiol. Cwympodd gwraig fy etholwr, sydd â chanser yr ysgyfaint, yn eu cartref, a doedd dim ambiwlansys, felly fe wnaeth ei gyrru hi i'r Faenor. Ar ôl aros am oriau ar droli, cafodd ei symud i uned arall, ond hyd yn oed ar ôl iddi gael ei hasesu ac roedd hi'n sefydlog, doedd dim modd ei rhyddhau, oherwydd dywedwyd wrthyn nhw nad oedd gwelyau ar gael yn Ystrad Mynach nac yng Nglyn Ebwy ar gyfer ei thriniaeth barhaus a'i hadferiad. Dywedodd fy etholwr, 'Bywydau pobl go iawn sy'n cael eu difetha gan y sefyllfa yma', ac rwy'n cytuno ag ef. A allai datganiad nodi sut y bydd y Llywodraeth yn mynd i'r afael â'r diffyg capasiti difrifol mewn ysbytai cymunedol sy'n achosi oedi i bobl gyrraedd lle mae angen iddyn nhw fod?

Diolch. Rydyn ni'n gwybod, nid yn unig yn ein hysbytai cymunedol, ond yn ein hysbytai cyffredinol dosbarth hefyd, bod oedi cyn trosglwyddo gofal yn achosi llawer iawn o bryder o ran capasiti gwelyau. Yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth y mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn edrych arno ar draws y maes. 

14:35

Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar ddyfodol rheilffordd Calon Cymru. Rwy'n cael gwybod gan etholwyr bod trenau'n cael eu canslo'n rheolaidd, a'u bod nhw, yn ystod yr haf, yn orlawn. A wnaiff y Llywodraeth amlinellu ei chynlluniau ar gyfer rheilffordd Calon Cymru?

Hoffwn hefyd gael datganiad gan y Llywodraeth ar sut mae'r Llywodraeth yn penderfynu ar gyllid i gefnogi busnesau twristiaeth. Heb os nac oni bai, os oes gan weithredwr twristiaeth syniad masnachol da, dylai allu codi arian o'r marchnadoedd ariannol. Fy mhryder i yw bod arian Llywodraeth Cymru y gellid ei wario'n well yn cefnogi'r busnesau yma. Yn Nwyrain Abertawe, mae £4 miliwn yn cael ei roi i gwmni gwifren wib, ar gost o £40,000 fesul swydd.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ddatganiad ysgrifenedig am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella trafnidiaeth wledig. Cadarnhawyd yn hwn y byddem yn cyflwyno cynnig yn fuan i gronfa cysylltedd undeb Llywodraeth y DU i ddatblygu cynlluniau i gynyddu capasiti ar linellau rheilffyrdd y Cambrian a Chalon Cymru, ac, wrth wneud hynny, cynyddu cysylltedd trawsffiniol. Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog, yn ddiweddar, wedi cwrdd â Trafnidiaeth Cymru a Chymdeithas Teithwyr Rheilffordd Calon Cymru ynglŷn â pherfformiad y rheilffordd a phwysigrwydd Trafnidiaeth Cymru yn gwneud yn siŵr eu bod yn darparu gwybodaeth glir iawn i deithwyr ynglŷn ag unrhyw amharu ar y gwasanaethau.

Mae'r fethodoleg a ddefnyddir wrth benderfynu ar fuddsoddiadau mewn cysylltiad â thwristiaeth yn gynhwysfawr iawn, ac mae'n dilyn cod llywodraethu llym. Mae'r broses diwydrwydd dyladwy yn cynnwys cyfuniad o ddadansoddiad buddsoddi Llywodraeth Cymru a chyngor a chefnogaeth arbenigol a gomisiynir gan gorff allanol.

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad am delerau ac amodau grantiau ariannu Llywodraeth Cymru? Y rheswm pam rwy'n gofyn am hwn yw oherwydd bod cyngor Blaenau Gwent ar ei golled o £250,000 o gyllid, yr oedd yn mynd i'w ddefnyddio ar gyfer prosiect seilwaith bysiau. Nid oedd contractwr y prosiect wedi gallu cyflawni'r prosiect o fewn yr amserlen ariannu, oherwydd amgylchiadau annisgwyl, sy'n golygu bod yn rhaid anfon yr arian yn ôl at Lywodraeth Cymru yn awr. Mae bellach yn gadael y cyngor mewn sefyllfa eithaf anodd, a'r prosiect, yn y pen draw, mewn limbo. Un o'r pethau y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i atal rhywbeth tebyg rhag digwydd eto yw cael cymal 'amgylchiadau eithriadol' efallai—fel esiampl. A gawn ni ddatganiad am ba gamau all Llywodraeth Cymru eu cymryd i wneud y broses arian grantiau ar gyfer cynghorau Cymru yn haws? Oherwydd byddai'n drueni gweld prosiectau mawr yn methu oherwydd prosesau caeth a fydd dim ond yn rhoi pobl Cymru dan anfantais yn yr hirdymor.

Mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu llawer iawn o gyllid i awdurdodau lleol, ar nifer fawr o gynlluniau, felly dydw i ddim yn ymwybodol o'r grant penodol rydych chi'n cyfeirio ato. Ond rwy'n siŵr y byddai'r Aelod yn disgwyl—ac, yn sicr, mae'n wir—bod meini prawf llym iawn, ac nid yw'n rhywbeth y gallwch chi ei adael i hap a damwain. Byddwn i'n meddwl mae'n debyg mai'r peth gorau yw ysgrifennu at y Gweinidog yn uniongyrchol am y grant penodol hwnnw yr ydych yn cyfeirio ato.

Mae'r clociau wedi eu troi ymlaen ac mae'r gwanwyn o'n blaenau ni. Mae hynny'n destun llawenydd, ac yn rhywbeth sy'n codi calon nifer ohonom ni. Mae'n ddechrau'r tymor twristiaeth traddodiadol, ac wrth gwrs mae hynny'n dod â phob math o fuddiannau a chyfleoedd i rannau helaeth o Gymru. Ond mae yna rai cymunedau lle mae'r adeg yma o'r flwyddyn yn golygu cychwyn ar drafferthion parcio, problemau sbwriel, gwersylla anghyfreithlon, a phwysau difrifol ar isadeiledd lleol. Yr wythnos diwethaf, mi ges i gyfarfod â chynghorau cymuned Capel Curig a Betws-y-coed, ynghyd â phartneriaid yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, parc cenedlaethol Eryri, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac eraill, i drafod rhai o'r heriau a'r gofidiau yma. Gaf i ofyn felly am ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am dwristiaeth ynglŷn â beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi'r cymunedau yma, efallai drwy helpu i wella isadeiledd, sicrhau bod gan y partneriaid perthnasol adnoddau angenrheidiol i ddelio â'r problemau, a hefyd help i amddiffyn ecoleg yr ardaloedd yma? Oherwydd mae hynny'n rhywbeth sy'n cael ei ddifrodi gan rai ymwelwyr anghyfrifol, sydd nid yn unig ddim yn parchu'r rheolau ond yn aml iawn yn torri'r gyfraith. 

Diolch. Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn. Yn amlwg, er ein bod ni eisiau gweld twristiaeth yn ffynnu yn sicr yma yng Nghymru, yn anffodus, fel sy'n digwydd yn aml, mae'r lleiafrif yn ei ddifetha i'r mwyafrif. Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog wedi derbyn twristiaeth i'w phortffolio yn ddiweddar ac yn edrych ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud â thwristiaeth, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n hapus iawn i'n diweddaru trwy ddatganiad ysgrifenedig.

Prynhawn da, Gweinidog. Adroddir y bydd prif weithredwr Dŵr Cymru yn derbyn taliad bonws o bron i £0.25 miliwn. Mae hyn er bod carthion yn ein hafonydd a'n moroedd, a'n traethau mewn cyflwr ofnadwy. Tybed a gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog perthnasol ar berfformiad Dŵr Cymru, yn ogystal â thalu taliadau bonws i uwch staff yn y sector cyhoeddus. Diolch yn fawr iawn. 

14:40

Diolch. Nid oes gan Weinidogion Cymru rôl ffurfiol wrth benderfynu ar gyflog swyddogion gweithredol cwmnïau dŵr Cymru, ond mae Llywodraeth Cymru yn monitro cyflog a pherfformiad, ac rydyn ni'n disgwyl i'r pwyllgorau cydnabyddiaeth ariannol perthnasol fyfyrio'n ofalus iawn ynghylch perfformiad a chyflawniad o'u cymharu â'r holl heriau i'r sector dŵr a heriau amgylcheddol ar hyn o bryd y mae angen mynd i'r afael â nhw—ac fe wnaethoch chi nodi un ar unwaith. Rwy'n credu y dylem ni hefyd gofio sut y cafodd Dŵr Cymru ei sefydlu. Rwy'n credu y dylen nhw gofio hynny wrth bennu'r bonysau hyn y cyfeirioch chi atyn nhw. 

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Mae'r cyntaf ar y gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer pyllau nofio i'n helpu ni drwy'r costau diddiwedd y maen nhw'n eu hwynebu ar hyn o bryd. Mae pyllau nofio yn dueddol o fod yn dipyn o ddraen ar arian i'w gweithredu ar adegau arferol; ar hyn o bryd, maen nhw dan bwysau dwys. Mae rhai o'r pyllau cyhoeddus yn fy ardal i wedi cysylltu â mi i ofyn y cwestiwn, sy'n gwestiwn dilys—. Mae'n debyg bod arian ychwanegol—arian newydd, yn ôl y Canghellor—wedi ei gyhoeddi i'w ddosbarthu drwy Chwaraeon Lloegr i byllau yn Lloegr am y 12 mis nesaf. Felly, maen nhw'n gofyn—mae'n rhaid i mi ddweud eu bod nhw'n eithaf amheus o hyn—a allwn ni glywed gan Lywodraeth Cymru a oes unrhyw symiau canlyniadol y byddwn ni'n gallu eu trosglwyddo i byllau yma. Dydw i ddim yn disgwyl y gallwch chi ateb nawr, Trefnydd, ar hynny, ond byddai croeso mawr i ddatganiad amdano. 

Yr ail ddatganiad yr hoffwn ofyn amdano yw un ar yr arian sydd bellach wedi ei gymryd yn ôl gan Drysorlys y DU—y £155.5 miliwn. Rwy'n gwybod bod y pwyllgor wedi adrodd ar hyn, ond y cynsail mewn blynyddoedd blaenorol oedd bod yn hyblyg yn hyn. Rwy'n deall bod y Gweinidog cyllid wedi gwneud awgrymiadau i'r Trysorlys i newid hwn mewn gwirionedd yn gyfalaf o wariant refeniw. Gwrthodwyd hyn, a gwrthodwyd sawl opsiwn. I bob pwrpas, rydyn ni wedi colli £155.5 miliwn. Fe hoffwn i weld datganiad ar hynny, sut y gallwn ni osgoi hyn yn y dyfodol, a pham y cafodd ei gymryd yn ôl o Gymru, pan oedd y swm, mewn gwirionedd, yn llawer mwy mewn rhai adrannau o Lywodraeth y DU. Hoffwn weld datganiad ar hynny. Diolch, Trefnydd. 

Diolch. O ran y cyllid ychwanegol ar gyfer pyllau nofio, fel y dywedwch chi, fe wnaeth cyllideb Llywodraeth y DU gyhoeddi rhagor o arian ar gyfer hynny. Fel Cabinet, rydyn ni'n edrych ar y cyllid ychwanegol a ddaeth o gyllideb y gwanwyn, ac yn amlwg bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud ar y cyd.

O ran y £155 miliwn, yn amlwg ein harian ni oedd hwnnw. Fel Llywodraeth, roedd gennym ni gynlluniau ar gyfer sut i wario'r arian hwnnw, a newidiwyd y rheolau. O ran yr hyn yr oeddech chi'n ei ddweud am adrannau Llywodraeth y DU, rydych chi yn llygad eich lle: fe wnaeth adrannau yn Whitehall ddychwelyd tua £25 biliwn i'r Trysorlys. Os edrychwch chi ar yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Lloegr yn unig, fe wnaethon nhw ddychwelyd £18.6 biliwn i'r Trysorlys. Os ydych chi'n meddwl am yr hyn y byddai ein cyfran o gyllid canlyniadol Barnett wedi bod o'r cyllid hwnnw, byddem wedi cael £1 biliwn yn ychwanegol. Ond wnaethom ni ddim dychwelyd yr £1 biliwn hwnnw, oherwydd fe warion ni fwy yng Nghymru. Roedd ein cynnig ni i fusnesau yn ystod pandemig COVID yn llawer mwy hael, er enghraifft, ac fe wnaethom ni hefyd wario'n well, gan osgoi sgandalau'r contractau PPE amheus hynny. 

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad y prynhawn yma gan y Llywodraeth mewn ymateb i arolwg diweddar y Daily Telegraph ar dref Y Rhyl, a honnodd ei bod yn un o'r trefi glan môr lleiaf dymunol ym Mhrydain i ymweld â nhw, gan ei disgrifio fel un â 'dim gorffennol, dim celfyddydau nac adloniant, dim hwyl'? Hyd yn oed yn y gorffennol, mae wedi cael ei disgrifio fel 'Costa del Dole' a 'Blackpool ar ôl bom niwtron', sydd yn ffordd eithaf cas o ddisgrifio'r Rhyl, mewn gwirionedd. Gan fy mod i o'r ardal leol, rwy'n anghytuno'n llwyr â llawer o'r datganiadau hynny, gan fod llawer o nodweddion deniadol yn y dref. Byddwn yn annog unrhyw un i ymweld â'r dref ei hun i weld beth sydd ar gael, gan gynnwys tair milltir o draethau godidog, canolfan bywyd môr, SC2, 1891, i enwi ond ychydig. Ond yn gyffredinol, sut ydyn ni byth yn mynd i newid ffawd y Rhyl gyda'r math yma o agwedd? Rwy'n gwybod y bu ganddi ei phroblemau dros y blynyddoedd, ond mae yna lawer o waith wedi bod yn lleol i drio newid pethau. Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i'r erthygl yma? Ydych chi'n derbyn nad yw straeon o'r fath yn helpu'r Rhyl o gwbl? Pa waith partneriaeth mae Llywodraeth Cymru yn ymgymryd ag ef gyda sefydliadau fel Cyngor Sir Ddinbych, byrddau twristiaeth lleol a'r cyhoedd i ddenu pobl i ymweld â'r dref? A pha ymdrechion sy'n cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn trefi glan môr fel y Rhyl i sicrhau economi fwy bywiog a chreu swyddi cynaliadwy, â chyflog da yn yr ardal i roi cyfleoedd i bobl leol? Diolch.

14:45

Wel, dydw i ddim yn darllen y Daily Telegraph, a byddwn i'n cynghori'r Aelod i beidio â gwneud hynny chwaith. Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt difrifol am Y Rhyl, ac fel rhywun o'r gogledd-ddwyrain, rwy'n adnabod Rhyl yn dda iawn. Ac rydych chi yn llygad eich lle—mae swm sylweddol o gyllid wedi'i fuddsoddi i adfywio'r Rhyl, ac yn sicr fe wnaeth eich rhagflaenydd, Ann Jones, wneud yn siŵr bob amser, fod y Rhyl, am beth bynnag yr oedd yr arian ar ei gyfer, ar frig rhestr pob Gweinidog pan oedden nhw'n cael golwg. Fe ymwelais i â Chyngor Sir Ddinbych y llynedd. Gwnaethom ddiwrnod o ymweliadau, a threuliais ran sylweddol o'r diwrnod hwnnw yn y Rhyl, a braf iawn oedd gweld y buddsoddiad oedd wedi'i wneud i nifer o fuddsoddiadau sylweddol—gan edrych ar y farchnad, er enghraifft, a'r cynlluniau eraill sydd gan Gyngor Sir Ddinbych ar ei gyfer. Ac, ochr yn ochr â hynny, nid dim ond ei wneud yn lle dymunol i ymweld, os edrychwch chi ar y cyllid sydd wedi'i fuddsoddi, er enghraifft, mewn amddiffynfeydd llifogydd, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn pan fyddwn ni'n siarad am drefi glan môr. 

Trefnydd, hoffwn i ddatganiad ysgrifenedig, os gwelwch yn dda, ar gyllid seilwaith y rheilffyrdd. Hoffwn wybod faint o arian y mae Cymru wedi'i golli dros y blynyddoedd oherwydd yr oedi cyn trydaneiddio llinell reilffordd y Great Western, y ffaith bod HS2 a rheilffordd Pwerdy'r Gogledd, mae'n debyg, yn cael eu dosbarthu fel prosiectau Cymru-a Lloegr. Yr wythnos diwethaf, yn ystod sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog, codais uwchraddio cyffordd gorllewin Caerdydd yn Nhreganna er mwyn galluogi pedwar trên yr awr i redeg drwy holl orsafoedd Caerdydd. Cyfrifoldeb Network Rail a Llywodraeth y DU yw hyn. Ers hynny, mae fy swyddfa wedi cael gwybod bod hyn wedi'i gynnwys yn wreiddiol ym mhrosiect ail-signalu ac adnewyddu ardal Caerdydd yr Adran Drafnidiaeth a Network Rail 2012-15, ond, am ba bynnag reswm, ni ddigwyddodd hynny. Dywedon nhw eu bod nhw'n mynd i'w wneud rhwng 2012 a 2015, ond rydyn ni'n dal i aros yn 2023. A allwn ni os gwelwch chi'n dda gael gwybod faint rydyn ni wedi ei golli a pham ein bod ar ein colled o ran yr arian hwn? Mae'r atebion rydyn ni'n eu cael yn ôl gan Lywodraeth y DU yn mynd yn fwy a mwy gwan, a dweud y lleiaf. Diolch yn fawr, Trefnydd.

Diolch. Wel, fel y gwyddoch chi, mae Llywodraeth Cymru'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i alw rheilffordd Pwerdy'r Gogledd yn union beth ydy o, sef prosiect i Loegr yn unig, a'r un peth gyda HS2. Rwy'n credu y byddai'n ddiddorol i'r Aelodau weld yr arian sylweddol nad ydym wedi ei gael yng Nghymru, ac fe wnaf yn sicr ofyn i'r Dirprwy Weinidog, os oes ganddo'r holl wybodaeth honno wrth law, i ddiweddaru Aelodau mewn datganiad ysgrifenedig.  

Hoffwn gael datganiad gan y Gweinidog materion gwledig, os gwelwch yn dda. Ar hyn o bryd, fel y mae hi'n ymwybodol, rydyn ni yn y tymor wyna ac rydyn ni'n dal i gael llawer gormod o ymosodiadau gan gŵn ar ddefaid. Rwy'n gwybod, yn ddiweddar, bod Dan Jones o'r Gogarth yn Llandudno a ffermwyr eraill wedi dod ataf ynghylch y golygfeydd a'r sefyllfaoedd erchyll yr ydych yn eu gweld. Mae angen mwy o addysg, mewn gwirionedd, ar berchnogion cŵn. Mae angen mwy o addysg. Rwy'n gwybod, yn y dyddiau pan oedd gennym ni wardeniaid cŵn, y bydden nhw'n mynd i mewn ac yn cyd-gysylltu gyda disgyblion fel eu bod nhw'n gallu mynd adref a dweud, 'Mae angen i'n cŵn ni fod ar dennyn bob amser.' Meddwl oeddwn i—. Mae adran troseddau gwledig y gogledd yn anhygoel, ond dim ond hyn a hyn o adnoddau sydd ganddyn nhw a dydyn nhw ddim yn gallu bod ym mhob man. Beth ydych chi'n ei feddwl o ran mwy o gamau gweithredu y gallwn ni eu cymryd fel bod pobl yn sylweddoli nad ydych chi'n crwydro o amgylch defaid gyda'ch cŵn yn rhedeg yn rhydd, a hefyd os yw'ch cŵn ar goll ac nad ydynt gartref, nad ydynt o bosib yn blino ac yn hel defaid tan, yn y pen draw, mae'r defaid yn marw, ac weithiau, yn aml, yr ŵyn? Diolch.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch. Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn a rhywbeth sy'n fy mhryderu i'n fawr, ac rydyn ni wedi gwneud gwaith sylweddol yn gysylltiedig ag o. Fe wnaethoch chi sôn am dîm troseddau gwledig y gogledd, ac rwy'n cytuno'n llwyr, ynghyd â'r ddau arall ledled y wlad, eu bod yn gwneud gwaith rhagorol. Ac wrth gwrs, mae gennym ni Rob Taylor, ein comisiynydd troseddau bywyd gwyllt gwledig, a oedd dim ond ddoe—dydw i ddim yn gwybod a fydd Aelodau wedi ei weld ar y cyfryngau cymdeithasol—yn gwneud darn sylweddol o waith ar fferm ym Mro Morgannwg, ac mae'n hapus iawn i fynd i unrhyw le i helpu i addysgu pobl mewn cysylltiad â pherchnogaeth gyfrifol ar gŵn, rhywbeth yr wyf i yn amlwg yn rhoi cyhoeddusrwydd iddo hefyd. Rwy'n dal i gael trafodaethau gyda fy ngweinidogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU i weld pa ddeddfwriaeth y gallen nhw ei diweddaru efallai, oherwydd mae peth o'r ddeddfwriaeth cŵn sydd gennym yn hynod hen ffasiwn ac yn sicr, rwy'n credu, Deddf Cŵn Peryglus 1991, ond nid yw pob ci sy'n ymosod ar ŵyn, wrth gwrs, yn beryglus, felly mae'n bwysig iawn ein bod yn defnyddio pob offeryn sydd gennym yn y bocs.

14:50
3. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Rhaglen Porthladdoedd Rhydd Cymru

Eitem 3 y prynhawn yma yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi ar raglen porthladdoedd rhydd Cymru. Galwaf ar y Gweinidog, Vaughan Gething.

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Ar 23 o fis Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y cyd y bydd y porthladd rhydd Celtaidd a phorthladd rhydd Ynys Môn yn mynd ymlaen i gam nesaf proses y rhaglen porthladdoedd rhydd yng Nghymru. Daethpwyd i'r canlyniad hwn drwy broses ymgeisio dryloyw a chystadleuol, gyda'r dewis yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y cyd.

Rwy'n falch fod ein trafodaethau ni wedi sicrhau'r amodau pwysig a nodwyd gan Lywodraeth Cymru. Roeddem ni'n eglur y byddai hi'n rhaid i borthladdoedd rhydd yng Nghymru fod â chydraddoldeb ariannol gyda cheisiadau llwyddiannus yn Lloegr, ac y byddai hi'n rhaid datblygu'r broses ar draws partneriaeth o bobl gydradd â'i gilydd gan barchu datganoli, a bod y prosbectws yn darparu amddiffyniadau o ran ein blaenoriaethau ni o waith teg, cynaliadwyedd a dyfodol sero net. Dirprwy Lywydd, fe wnaethom ni weithio hefyd i ddadlau'r achos dros borthladd rhydd ychwanegol, gan sicrhau'r cyfle i gais cryf allu ennill y dynodiad y tu hwnt i gynnig dechreuol Llywodraeth y DU o un safle. Ac rwy'n credu ei bod hi'n iawn i Weinidogion Cymru ddal at yr amodau hynny i sicrhau cyllid teg i borthladdoedd rhydd Cymru, eglurder ar lywodraethu, yn ogystal â gweld cynnydd o ran cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol. Rwy'n croesawu'r symudiadau cadarnhaol sydd wedi bod mewn ymateb i mi oddi wrth Lywodraeth y DU i gydnabod pwysigrwydd y materion hyn. Rwy'n ddiolchgar hefyd am y gwaith a wnaeth swyddogion yn y ddwy Lywodraeth sydd wedi caniatáu inni ddod at y canlyniad cadarnhaol hwn.

Cafodd cryfder y ceisiadau ei ategu gan gytundeb rhwng y ddwy Lywodraeth a arweinodd at brosbectws ar y cyd a'r llwybr eglur i fusnesau a chymunedau gynllunio yn unol ag ef. Mae Prif Weinidog Cymru wedi galw unwaith eto ar Lywodraeth y DU i ddysgu o'r broses gadarnhaol ac adeiladol hon. Roedd yn cynnig cyfradd o eglurder y mae angen taer amdano mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd fel hwn.

Dirprwy Lywydd, mae ceisiadau'r porthladd rhydd Celtaidd a phorthladd rhydd Ynys Môn yn amlwg yn cyd-fynd â'n cenhadaeth economaidd ni ac mae'r posibilrwydd ganddyn nhw i fod â rhan allweddol yn lluniad economi gryfach, decach, wyrddach Cymru. Bydd y model a wnaethom ni ei ddatblygu i Gymru ar gyfer porthladdoedd rhydd yn sicrhau nad yw Cymru yn cael ei rhoi dan anfantais o gymharu â safleoedd yn Lloegr a'r Alban wrth symud ymlaen. Ar yr un pryd, fe ddylai gryfhau ein buddsoddiadau hirdymor ni ar draws y ddau safle.

Lleolir y porthladd rhydd Celtaidd o amgylch porthladd Port Talbot a phorthladd Aberdaugleddau. Roeddwn i ym Mhort Talbot ddoe, yn etholaeth y Dirprwy Lywydd—rwy'n deall gan y cadeirydd na fydd ef yn gofyn cwestiynau heddiw—ac mae'r cynlluniau yno'n canolbwyntio ar dechnolegau carbon isel, fel gwynt arnofiol ar y môr, hydrogen, dal, defnyddio a storio carbon, a biodanwyddau i helpu i gefnogi'r gostyngiad cyflym o ran allyriadau carbon. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymyrryd eisoes i gefnogi safleoedd treth arfaethedig Parc Gwyddoniaeth a Thechnoleg Sir Benfro a Pharc Ynni Baglan oherwydd ein bod ni'n cydnabod swyddogaeth hirdymor yr asedau hyn o ran cefnogi swyddi o ansawdd uchel.

Caiff porthladd rhydd Ynys Môn ei leoli o amgylch porthladd Caergybi, parth ffyniant Môn, Rhosgoch ac M-Sparc. Bydd y porthladd rhydd yn datblygu rhaglen ynni'r ynys drwy ganolbwyntio ar brofion technoleg ynni morol ar wely'r môr—dyna ynni llanw a gwynt. Mae'r cais yn canolbwyntio ar Morlais ac M-Sparc fel blaenoriaethau o ran arloesi, gyda chefnogaeth i'r ddau beth, wrth gwrs, gan fuddsoddiad mawr oddi wrth Lywodraeth Cymru yn y blynyddoedd diwethaf.

Dirprwy Lywydd, nid prosiectau amheus mo'r rhain sy'n seiliedig ar incwm rhent o werth isel. Mae'r ceisiadau yn dangos sut y bydd y model y gwnaethom ni ei ddatblygu yng Nghymru yn ategu, yn hytrach na chymryd oddi wrth, y cynlluniau hirdymor yr ydym ni'n eu meithrin i bontio teg sy'n cynnig y difidend swyddi y mae Cymru yn eu haeddu.

Rwy'n falch iawn fod y ddau gais wedi dangos achosion digon cryf a oedd yn caniatáu i Weinidogion yma yn Llywodraeth Cymru ac yn San Steffan ddynodi dau borthladd rhydd yng Nghymru ar gyfer mynd ymlaen i'w camau nesaf. Roedd y ddau gais y rhoi naratif grymus o sut y bydden nhw'n rhoi hwb i'r cryfderau amrywiol amlwg sydd gan y ddau safle, gan harneisio'r cyfleoedd unigryw o ynni gwynt arnofiol ar y môr ac ynni'r môr ar gyfer gweithgynhyrchu uwch ac arloesi. Gyda safleoedd yn y gogledd a'r de, mae bwrw ymlaen â dau borthladd rhydd yn fuddugoliaeth wirioneddol i Gymru ac, yn wir, i'r DU gyfan, gyda'r cyfleoedd i adfywio, gwreiddio gwaith teg, sefydlu canolfannau ar gyfer masnach fyd-eang, a meithrin amgylchedd o arloesi a gaiff ei deimlo yng ngogledd a de ein cenedl ni.

Byddai pob porthladd rhydd yn cael ei gefnogi gan hyd at £26 miliwn o gyllid sbarduno buddsoddiad. Mae hynny wedi cadarnhau cydraddoldeb gyda safleoedd porthladd rhydd Lloegr. Fe fyddai pob safle yn gallu cael gafael ar ystod o fuddion tollau a rhyddhad treth. Mae'r cam nesaf yn un pwysig, gyda datblygiad achos busnes amlinellol y mae'n rhaid i'r ddwy Lywodraeth gytuno arno unwaith eto. Bydd pecyn o gymorth masnach ac arloesi ar gael i bob porthladd rhydd hefyd. Trwy eu hachosion busnes amlinellol nhw, fe fydd angen i'r ceisiadau sy'n llwyddiannus ar hyn o bryd fynegi eu gweledigaeth strategol gyffredinol. Fe fydd hyn yn golygu datblygu cynnwys y cais gwreiddiol yn sylweddol.

Dirprwy Lywydd, yn anffodus, bu cais porthladd rhydd Casnewydd yn aflwyddiannus. Fe wn i y bydd hyn yn newyddion siomedig iawn i bawb sy'n gysylltiedig, ac rwy'n gwerthfawrogi'r swm enfawr o adnoddau a aeth i ddatblygu eu cais nhw. Rydym ni'n awyddus i adeiladu ar hynny mewn unrhyw ffordd y gallwn ni'r tu allan i broses y porthladdoedd rhydd. Rwy'n parhau i gydnabod swyddogaeth bwysig y diwydiant lled-ddargludyddion yn yr ardal a pha mor hanfodol yw'r sector hwnnw i economi Cymru a'r DU, nawr ac i'r dyfodol. Roedd hwnnw'n ganolbwynt arbennig yn ystod yr amser a dreuliais i yr wythnos diwethaf yng Nghaliffornia, ac fe fyddaf i'n dadlau'r achos hwn unwaith eto gyda Llywodraeth y DU, y mae angen iddi gyflwyno strategaeth a ariennir ar frys i'r sector lled-ddargludyddion. Fe fyddai honno'n rhoi hwb enfawr i Gasnewydd, dinas sydd ag enw drwy'r byd yn y sector hwn.

Dirprwy Lywydd, mae pobl a busnesau ledled y DU yn parhau i fod o dan bwysau mawr oherwydd yr argyfwng costau byw a thwf economaidd gwan. Mae hyn i gyd yn ychwanegol at yr anghydraddoldeb daearyddol sy'n bresennol bob amser, a dyna pam mae polisi ar sail lleoedd fel porthladdoedd rhydd yn sbardun pwysig i Lywodraeth Cymru yn rhan o'n pecyn ni o offer economaidd. Rydym ni wedi gweithio llawer gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod rhaglen Porthladdoedd Rhydd Cymru wedi ei chynllunio i helpu i wireddu ein huchelgeisiau ni ar gyfer gwaith teg. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu â llais gweithwyr a'u hundebau llafur mewn trefniadau llywodraethu yn y dyfodol, ochr yn ochr ag ysgogi dyfodol economaidd ffyniannus, gwyrdd i Gymru. Gall porthladdoedd rhydd fod yn ysgogyddion i dwf a chyflogaeth yn eu hardaloedd nhw a, gyda'i gilydd, mae'r cynigwyr yn amcangyfrif y gallai eu cynigion nhw greu cymaint â 20,000 o swyddi newydd o ansawdd uchel.

Yn ogystal â sicrhau'r potensial gorau o ran twf yr ardal leol, rydym ni'n nodi'r angen hefyd i gynigion ymgorffori'r gwerthoedd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a sicrhau urddas a thegwch gan mai pobl sy'n graidd iddynt. Roedd blaenoriaethu anghenion cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru a chodi economi llesiant mwy llewyrchus a chydnerth yn hanfodol. Dyna pam y cafodd contract economaidd Llywodraeth Cymru ei gynnwys yn y prosbectws. Mae honno'n nodwedd arbennig arall o'r model Cymreig, sydd wedi'i seilio ar ein gwerthoedd a'n blaenoriaethau ni.

Dirprwy Lywydd, fe hoffwn i nodi unwaith eto'r berthynas o ymgysylltiad a gwaith adeiladol a ddatblygwyd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ynglŷn â phorthladdoedd rhydd. Drwy'r ymgysylltiad hwnnw â Llywodraeth y DU, rydym ni wedi bod yn eglur y dylai unrhyw gynigion ar gyfer parthau buddsoddi yng Nghymru ddilyn yr un egwyddorion a'r dyluniad a amlinellwyd ar gyfer porthladdoedd rhydd Cymru. Byddai angen i'r parthau buddsoddi ymagweddu â'n polisïau ni ar waith teg a sero net, yn ogystal â chynrychioli gwerth am arian i bobl Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r holl bartneriaid wrth i ni symud i'r cam nesaf o waith ac archwilio'r cyfle i wneud y dewis presennol a cham nesaf y cynnig yn gatalyddion ar gyfer buddsoddiad aruthrol mewn swyddi o ansawdd uchel ac, wrth gwrs, ar gyfer pontio teg.

14:55

A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad heddiw? Mae hyn yn wir yn newyddion ardderchog fod Cymru am fod â dau borthladd rhydd, nid dim ond un yn unig, ac rwy'n falch iawn fod gweithio mor agos ac effeithiol wedi bod rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU wrth gyflawni'r amcan hwn y mae pob un ohonom ni yn y Siambr hon, fe wn i, mor eiddgar i'w gyflawni. Mae hi'n rhaid i mi ddweud hefyd, nid yw fy nghyd-Aelod Paul Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig, yma heddiw, ond fe wn i ei fod yn neidio mewn gorfoledd hefyd oherwydd y cyhoeddiad am lwyddiant y ceisiadau am borthladdoedd rhydd, yn arbennig felly, wrth gwrs, yr un sy'n effeithio ar ei etholaeth ef, y cais am y porthladd rhydd Celtaidd, ac mae Aberdaugleddau yn ei etholaeth ef.

Mae ganddyn nhw gyfle enfawr i ysgogi twf sylweddol ledled Cymru, a chael yr effaith enfawr honno hefyd ar economi'r DU gyfan, gan ddenu gwerth biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad a chreu o leiaf 20,000 o swyddi i gyd. Roedd hi'n amlwg yn siom i Gasnewydd nad oedd eu cais nhw am borthladd rhydd yn llwyddiannus, ond roeddwn i'n falch iawn o'ch clywed yn cyfeirio at yr angen i chwilio am gyfleoedd eraill i gefnogi Casnewydd, yn enwedig y diwydiant lled-ddargludyddion holl bwysig, ac rwy'n credu y byddwch chi'n sicr yn cael cefnogaeth ar yr ochr hon i'r Siambr i'r perwyl hwnnw, oherwydd fe fydd hynny'n bwysig ar gyfer meithrin twf, yn enwedig yn y de-ddwyrain.

Rwy'n credu mai'r hyn y mae hyn i gyd yn ei amlygu i ni o ran gallu sicrhau dau gais am borthladd rhydd yw, pan fydd Llywodraethau Cymru a'r DU yn gweithio mewn ffordd adeiladol gyda'i gilydd ac mewn ffordd gydweithredol, fe allwn ni gyflawni pethau gwych i'n cenedl ni mewn gwirionedd, ac yn fy marn i, mae hi'n felys i'w ryfeddu i glywed Gweinidog yn y Llywodraeth, yn lle beirniadu Llywodraeth y DU, yn rhoi bonllef i'r berthynas waith mor agos sydd wedi bod.

Nawr, fel byddech chi'n ei ddisgwyl, mae gen i ambell gwestiwn yr hoffwn ei ofyn i chi am y camau nesaf ymlaen, oherwydd fe wyddom ni, wrth gwrs, fod gan Lywodraeth Cymru ei menter ardaloedd menter a bod parth menter eisoes yn yr Hafan—Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau—a bod gan Ynys Môn ei hardal fenter ei hun, ochr yn ochr â'r math o ganolbwyntio ar yr ynys ynni. Felly, i mi, mae hi'n bwysig iawn nawr fod y rhain yn cyd-fynd yn strategol â'r porthladdoedd rhydd er mwyn i ni wneud y mwyaf o gyflawniad y rhaglenni hynny i gyd. Felly, a gaf i ofyn i chi, pa waith a fyddwch chi'n ei wneud i sicrhau eu bod nhw'n cyd-fynd yn iawn, fel nad ydyn nhw'n gweithio yn groes i'w gilydd ond eu bod nhw'n gweithio ar y cyd i gyflwyno a gwasgu'r buddion mwyaf posibl o'r cyfleoedd hyn am fod y porthladdoedd rhydd hyn gennym ni nawr yma yng Nghymru?

Yn ogystal â hynny, wrth gwrs, fe fydd angen i ni fod â'r sgiliau cywir ar gyfer yr unigolion a fydd am weithio ac elwa ar fanteision y swyddi newydd anhygoel hyn, ac rwy'n gobeithio y bydden nhw'n swyddi sy'n talu yn dda ledled Cymru, o ganlyniad i'r parthau hyn. Ac, felly, fe fydd angen perthynas waith agos iawn gyda'r sector addysg uwch a'r sector colegau addysg bellach hefyd. Felly, tybed pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wneud yn siŵr bod deialog a chydweddiad gyda'n system addysg ni er mwyn gwneud yn siŵr ei bod hi'n adlewyrchu anghenion y porthladdoedd rhydd newydd hyn wrth symud ymlaen.

Fe wnaethoch chi sôn am dechnoleg werdd; mae gennym ni gynlluniau uchelgeisiol i gyrraedd sero net erbyn 2050, ac yn amlwg, bydd y cyfraniad y gall y porthladdoedd rhydd hyn ei wneud, yn enwedig o ystyried eu canolbwyntio ar ynni gwyrdd ac ynni adnewyddadwy, yn enfawr. Ond o ystyried eich bod chi wedi cyhoeddi eich strategaeth sero net cyn cyhoeddi'r porthladdoedd rhydd, a fyddwch chi'n adolygu'r strategaeth honno nawr i wneud yn siŵr ei bod hi'n adlewyrchu ychydig yn fwy eang, efallai, y cyfleoedd y gall y porthladdoedd rhydd eu cyflwyno i gyfrannu at gyrraedd y nod hwnnw yn 2050?

Yn olaf, os caf i, a gaf i ofyn hefyd beth sydd am ddod nesaf o safbwynt Llywodraeth Cymru? Rydych chi wedi awgrymu'r ffaith bod gwaith i'w wneud eto, yn amlwg, i ddatblygu'r strategaeth drosfwaol ym mhob ardal lle bydd porthladd rhydd, ond beth mae Llywodraeth Cymru am ei wneud ar y cyd â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i olrhain cynnydd, i wneud yn siŵr nad yw'r cyfleoedd hyn yn cael eu colli, ein bod ni'n pwyso ar bobl mewn gwirionedd i gyflawni o gymharu â'r addewidion y mae pobl yn disgwyl gweld eu gwireddu ynglŷn â thwf, buddsoddiad, a swyddi? Diolch i chi.

15:05

Diolch i chi am y sylwadau a'r cwpl o gwestiynau yna hefyd. Fe ddylwn i ddechrau drwy ddweud fy mod i eisiau dymuno yn dda i Paul Davies. Rwy'n edrych ymlaen at ei weld yn dychwelyd i'r Siambr. Rwy'n amau hefyd ei fod wedi anfon map at arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Fe welais i'r fideo ym Mae Caerdydd a oedd yn awgrymu mai yn sir Gaerfyrddin yr oedd y porthladd rhydd; rwy'n credu mai yn sir Benfro y mae Aberdaugleddau o hyd.

Ond mewn gwirionedd, rwy'n siŵr fod llawer i fod yn bositif yn ei gylch, ac ar hynny, mae hynny'n dangos, pan fyddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd, fod yna bethau y gallwn ni eu gwneud, sef yr hyn yr wyf i wedi bwriadu ei wneud ym mhob un o'r sgyrsiau a gefais i gyda Gweinidogion y DU. Rydyn ni'n dymuno sgwrs bragmataidd ynglŷn â'r hyn y gallwn ni ei wneud, a'r hyn y gall Llywodraeth y DU ei wneud, boed hynny o ran dur, boed hynny o ran lled-ddargludyddion neu fel hyn, o ran porthladdoedd rhydd. Yr hyn sy'n heriol yw'r ffaith fod Llywodraeth y DU yn gweithio fel hyn weithiau a thro arall mae yna ymagwedd lai cydweithredol yn cael ei chymryd. Fe wnaethom ni siarad am y gronfa ffyniant gyffredin a rhai eraill, ac rwy'n siŵr y byddwn ni'n treulio amser yn siarad am y rhain ar achlysuron eraill.

O ran porthladdoedd rhydd, rwy'n bositif y bydd y broses nawr yn mynd â ni i alinio ymhellach gyda'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud eisoes. Mae hynny'n rhan o'r hyn yr oeddem ni'n ei ddisgwyl yn y prosbectws, dyna pam y cafodd ei ddylunio yn y ffordd honno, ac os edrychwch chi ar yr hyn y mae pob un o'r consortia porthladd rhydd wedi bod yn awgrymu eu bod yn dymuno ei wneud, mae hynny'n cyd-fynd â'r hyn yr ydym ninnau'n ei wneud ac, yn wir, â'r hyn y mae ardaloedd bargen dwf yn bwriadu ei wneud hefyd. Roedd hwnnw'n un o'r amodau y bu'n rhaid iddyn nhw, ynglŷn ag unrhyw gais, sicrhau cefnogaeth ardal y fargen dwf a oedd yn lleol iddyn nhw. Mae'r prosbectws porthladd rhydd y gwnaethom ni gytuno arno a'i gyhoeddi, a'r achos busnes a amlinellwyd gyda mwy o fanylion ynddo, yn cyd-fynd â'n cenhadaeth economaidd ni. Felly, rwy'n cydnabod y pwyntiau a wnaethoch chi a'r cwestiwn y gwnaethoch chi ei ofyn am yr hyn y bydd angen i ni ei adolygu eto o ran yr hyn a wnawn i gydweddu â phorthladdoedd rhydd; rwy'n credu mai i'r gwrthwyneb y mae hi, mewn gwirionedd. Mae'r broses borthladdoedd rhydd wedi cael ei llunio mewn ffordd fel y dylai ceisiadau llwyddiannus gyd-fynd â'r hyn yr ydym ni eisoes yn bwriadu ei wneud. Ac fe fydd yn adeiladu ar waith yr ymgymerwyd ag ef eisoes. Er enghraifft, eich cwestiwn chi ynglŷn â sgiliau; mae gwaith ar y gweill eisoes gyda chonsortia busnesau a chynigwyr ynni'r môr, ac maen nhw wastad wedi cynnwys y porthladdoedd, sy'n cydnabod bod buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith porthladdoedd yn hanfodol i ddatgloi nid yn unig y cyfleoedd i gynhyrchu pŵer carbon isel, ond y swyddi a ddylai ddod yn sgil hynny hefyd. Felly, fe fyddwn ni'n adeiladu ar y gwaith hwnnw, a'r gwaith y gwnaethom ni ei nodi eisoes gyda darparwyr addysg bellach ac addysg uwch.

Un o'r pethau y mae busnesau yn ei wneud yn barod yw edrych ar y mannau y maen nhw o'r farn fod bylchau a chyfleoedd a sylfaen sgiliau lle cânt eu lleoli, yn ogystal â'r niferoedd o bobl a allai ddod yno i weithio. Felly, fe allai peth o hynny gael ei drosglwyddo i weithwyr mewn sectorau eraill, gallai peth o hynny fod yn bobl sydd eisoes yn y sector a'u hailsgilio nhw i wneud y mathau o swyddi y bydd eu hangen yn y tair, pump a deng mlynedd nesaf, ac fe fydd peth o'r gwaith hwnnw hefyd gyda phobl sydd heb fynd i mewn i fyd gwaith hyd yn hyn. Felly, fe fydd cyfnod pan fyddwn ni'n datblygu rhwydwaith gyda'r cynigwyr, gyda'r busnesau, nid dim ond o ran y ddau borthladd rhydd, a deall yn lle mae'r bylchau a chynllunio wedyn sut y gallwn ni ymdrin â'r rhain. Felly, unwaith eto, nid wyf i'n credu bod y strategaeth sero net yn gwrthdaro â'n sefyllfa ni o ran porthladdoedd rhydd chwaith; mae hi'n ychwanegu at ein hamcanion ni yn y pen draw.

Mae'r porthladdoedd rhydd yn ymwneud â cheisio cymell mwy o weithgaredd a mwy o gyflymder. Ni fydden nhw'n ceisio darganfod cyfeiriad cwbl wahanol, nid honno yw'r ffordd y maen nhw wedi cael eu dylunio yng Nghymru. A'n her ni fydd, ar gam nesaf y datblygiad, sef eich pwynt chi am bwyso yn wirioneddol ar bobl. Rydym ni'n disgwyl gweld mwy o fanylion yn y modd y bydd y prif addewidion, y prif ddisgwyliadau, yn cael eu cyflawni yn ymarferol mewn gwirionedd. Pan fyddwn ni wedi mynd drwy'r cam hwnnw a phan fyddwn ni wedi gwneud penderfyniad ynglŷn â'r achos busnes amlinellol, fe fyddaf i'n disgwyl rhoi datganiad pellach i Aelodau, yn dilyn penderfyniad ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a minnau.

Rwy'n diolch i'r Gweinidog am y datganiad, ac fe hoffwn innau ddiolch ar goedd am ymagwedd y Gweinidog ynglŷn â'r mater hwn. Rydym ni wedi teithio ffordd bell iawn, rwy'n credu. Pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU ei phrosbectws porthladdoedd rhydd, roedd hi'n amlwg yn annerbyniol eu bod nhw am gynnig £26 miliwn i borthladdoedd rhydd Lloegr, ond £8 miliwn yn unig i un yng Nghymru, ac efallai y byddai rhai wedi bod yn ddigon hapus i ildio ar unwaith a dweud, 'Cymerwch yr hyn a gynigir i chi a byddwch ddiolchgar am hynny'. Fe allai eraill o'n plith ni weld ei bod hi'n rhaid mynd i'r afael â diffyg cydraddoldeb fel hyn, y gwahaniaeth hwn heb unrhyw gyfiawnhad iddo, ac rwy'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am fod o'r unfarn honno, a'r farn fod angen sicrwydd hefyd ynglŷn â hawliau gweithwyr a rheoliadau amgylcheddol.

Y canlyniad, fel dywedodd y Gweinidog—fe gawsom ni degwch ariannu fel hyn. Fe fyddem ni wedi bod £18 miliwn yn brin o dan gynlluniau gwreiddiol y Llywodraeth Geidwadol. Fe gawsom ni'r sicrwydd pellach hwnnw hefyd. Felly, pan roddodd Cyngor Môn dan arweiniad Plaid Cymru a Stena eu cynllun at ei gilydd—ac nid oeddwn i ond yn rhy hapus i weithio gyda nhw a'u cefnogi—roedden nhw'n gweithio o brosbectws llawer cryfach, rwy'n credu, sef prosbectws porthladdoedd rhydd Cymru. Roeddem ni mewn sefyllfa lawer gwell.

Nawr, fe glywodd y Gweinidog hefyd fy apeliadau niferus am ystyried cael dau borthladd rhydd. Unwaith eto, rwy'n llongyfarch y trafodwyr ar y ddwy ochr am beri i hynny ddigwydd. Pam oeddwn i o'r farn y byddai dau yn werthfawr? Achos rwy'n credu bod synergedd gwirioneddol rhwng y cynigion i ddatblygu cynigion ynni ar y môr yn benodol, cynlluniau datgarboneiddio mawr yn y gogledd-orllewin a'r de-orllewin, ac rwy'n credu y gall economi Cymru gyfan elwa ar hynny.

Felly, nawr fe symudwn ni ymlaen; mae angen i ni wneud hynny gyda phwrpas, ond gyda gofal hefyd. Felly, nifer o gwestiynau. Sut mae'r Gweinidog yn bwriadu gweithio gyda'r ceisiadau buddugol i sicrhau bod y swyddi sy'n cael eu creu yn wirioneddol gynaliadwy, oherwydd mae'n rhaid i hynny ddigwydd, a hefyd, y bydd ein gwerthoedd cymdeithasol ac economaidd yn cael eu parchu a'u gwthio ymlaen, wrth i'r swyddi hynny gael eu creu? Hefyd, pa gyfleoedd—? Neu, sut mae sicrhau, yn hytrach, y gwneir y mwyaf o'r cyfleoedd i'r gweithlu lleol drwy'r agenda sgiliau a thrwy uwchsgilio yn effeithiol? Oherwydd mae'n rhaid bod a wnelo hyn â chyflogi ein gweithlu lleol ni. A hefyd, a yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen gonestrwydd ynghylch effaith hyn? Mae hwn yn arf economaidd gwerthfawr, ond nid yw unrhyw ysgogiad unigol fyth yn ddigonol ynddo'i hunan, felly mae'n rhaid i ni fod yn gyrru ymlaen gyda chyfleoedd eraill hefyd, ac yn hyn o beth, mae'n rhaid i'r Llywodraeth weithio ar draws ffiniau adrannol.

Byddwn i'n gwahodd y Gweinidog i annog edrych unwaith eto ar sut y gallai arian weithio i gryfhau achos pont arall dros y Fenai mewn ymateb i'r dynodiad o borthladd rhydd. Fe ddylai hwnnw fod yn gyfle arall i edrych arno. A hefyd, mae'n rhaid i ni weld pwysau gan Lywodraeth Cymru ar Lywodraeth y DU i edrych eto ar fater cyllid canlyniadol yn sgil prosiectau rheilffyrdd yn Lloegr. Mae'r ffaith bod gennym ni HS2 a nawr Rheilffordd Pwerdy'r Gogledd yn cael eu dynodi yn brosiectau i Gymru a Lloegr pan eu bod nhw'n amlwg yn brosiectau i Loegr yn unig, sy'n arwain at golli llawer, miliynau lawer o bunnau—cannoedd o filiynau o bunnau y gellid eu gwario ar wella rheilffyrdd Cymru ac a allai fwydo i mewn i'r prosiect hwn o borthladdoedd rhydd—fe fyddwn i'n awgrymu ein bod yn defnyddio'r dynodiad hwn fel sbardun i annog Llywodraeth Geidwadol y DU i edrych unwaith eto ar hynny, yn hytrach na gwneud i Gymru fodloni ar lai.

15:10

Diolch i chi am y sylwadau a'r cwestiynau. Edrychwch, ynglŷn â'ch pwynt chi o ran yr ymagwedd y gwnaethom ni ei gymryd, roeddem ni'n eglur iawn ei bod hi'n rhaid i ni sicrhau cydraddoldeb i Gymru neu ni fyddem ni'n barod i gyd-fynd â'r rhaglen porthladdoedd rhydd. Rwy'n credu i ni wastraffu'r flwyddyn gyntaf mewn dadl braidd yn gylchol pryd roedd un o Ysgrifenyddion Gwladol blaenorol Cymru yn dweud y byddai yna borthladd rhydd pe byddai Llywodraeth Cymru yn hoffi hynny neu beidio, ac y byddai'n rhaid i ni dderbyn yr arian a gynigiwyd. Nid oeddwn i'n barod i wneud felly, ac yn sicr fe allaf i ddweud wrthych chi fod y Gweinidog cyllid yn rhoi anogaeth sylweddol i mi beidio â chytuno i unrhyw beth a fyddai'n llai na'r setliad ariannu llawn y byddai porthladdoedd rhydd Lloegr yn ei gael hefyd.

Wedi cyrraedd y fan nawr, mae angen i ni weld y bydd y manylion yn y cynllun cyflawni yn darparu cyflogaeth sy'n gynaliadwy, ond mewn gwirionedd, mae'r arian, y cyfalaf sbarduno a'r rhyddhau yn eu lle i geisio datblygu ac ehangu cyfradd y twf mewn sector yr ydym ni o'r farn bydd angen buddsoddiad mewn unrhyw achos. Os ydych chi am fanteisio ar ynni llanw ac ynni'r môr yn ehangach, gan gynnwys gwynt arnofiol ar y môr, nid yw'r swyddi yr ydym ni'n siarad amdanyn nhw yn swyddi bychain na chyfyngedig o ran amser. Fe fydd yna swyddi, wrth gwrs, yn y cyfnod adeiladu, ond rydym ni'n siarad mewn gwirionedd, er hynny, am ddefnyddio gweithgynhyrchu yn yr hirdymor yn y môr Celtaidd. Felly, nid yw'r swyddi hyn am fod am ddwy neu dair blynedd o hyd os byddwn ni'n gwneud hyn yn iawn, ac mewn gwirionedd, roedd y ddau gais am borthladd rhydd yn golygu manteisio ar fod yn symudwr cyntaf sy'n dal i fod yn bosibl mewn sectorau sy'n datblygu a heb aeddfedu eto fel ynni gwynt arnofiol a llanw. Mae gan y gogledd a'r de rywbeth amlwg i'w gynnig yn hynny o beth, ac fe fydd hynny'n helpu i sicrhau y bydd mwy o enillion economaidd ar gael i ni, gyda mwy o swyddi yn cael eu creu yno yn hytrach na phethau yn cael eu cynhyrchu mewn rhannau eraill o Ewrop ac yn cael eu rhoi at ei gilydd yng Nghymru wedyn, yn llawer diweddarach.

O ran sgiliau, mae angen gweld o hyd—mae'r sector adeiladu yn gydnerth iawn, mewn gwirionedd, mae llawer o gyfle yn parhau yno, ond meddyliwch chi am y gwaith adeiladu y bydd ei angen o ran y ddau gais presennol am borthladd rhydd pe bydden nhw'n mynd ymlaen i'r cam olaf, ac yna, hefyd, y sgiliau ar gyfer y swyddi hynny. Rwy'n credu fy mod i wedi ymdrin â hynny'n rhannol mewn ateb i Darren Millar hefyd, ond yn bendant mae hwnnw'n ganolbwynt allweddol wrth i ni ddeall mwy am y sgiliau sydd eu hangen a gallu cynllunio a chyflawni'r rhain hefyd. Fe fyddai dull mwy cydlynol a gallu i weithio gyda gwahanol ranbarthau yng Nghymru yn helpu yn hynny o beth. Felly, fe fydd angen ceisio ymblethu'r ffordd y mae peth o'r dirwedd sgiliau wedi cael ei thynnu yn ddarnau o ran y ffordd y mae gwahanol ffrydiau ariannu yn cael eu rhoi ar waith. Nid yw'r gronfa ffyniant gyffredin yn caniatáu'r math hwnnw o ddull cydgysylltiedig strategol mewn rhanbarthau, heb sôn am ledled y wlad, felly, yn bendant, mae yna waith i'w wneud i fanteisio ar hynny'n llawn. Fe welwn ni eisoes, yn y maes hwn, fod gan nifer o Weinidogion ddiddordeb—felly, nid y Gweinidog cyllid yn unig—o ran y math o ryddhad treth a'r hyn a gynigir gan Gymru yn ogystal â'r DU. Mae gan y Gweinidog newid hinsawdd ddiddordeb amlwg yn hyn hefyd, fel Gweinidog gogledd Cymru, yn wir. Felly, mae gennym ni nifer o adrannau ac rydym ni eisiau gweld sut y gallwn fanteisio yn iawn ar y cyfle sydd yno. Nid oes gwahaniaeth beth yw statws porthladd rhydd, rwyf i'n dymuno gweld y buddsoddiad hwnnw'n cael ei wneud yn nyfodol yr economi ac yn yr economi carbon isel, ac mae hyn, yn fy marn i, yn ein helpu ni ar y daith.

Yn olaf, rwy'n cytuno yn llwyr â chi am gyllid canlyniadol HS2 a Phwerdy Gogledd Lloegr. Nid wyf i'n credu y gallai'r Llywodraeth hon fod wedi bod yn fwy eglur: prosiectau i Loegr yn unig ydyn nhw, felly fe ddylai fod cyllid canlyniadol i Gymru, ac fe fyddai hynny'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i'n gallu ni i fuddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth. A bod yn deg, rwy'n credu bod cnewyllyn o bobl wedi cydnabod hynny ac yn cytuno ag ef. Mae hyd yn oed y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig wedi cytuno bod HS2 yn amlwg yn brosiect i Loegr yn unig, a phwyllgor gyda mwyafrif o aelodau Ceidwadol yw hwnnw. Rwy'n edrych ymlaen at weld mwy o Geidwadwyr yn ymuno â'r achos yn y ddwy Senedd i'w gwneud hi'n amlwg i Lywodraeth y DU ein bod ni'n dymuno gweld y rheolau yn cael eu parchu yn ogystal â'r cyllid canlyniadol sydd gan Gymru'r hawl amlwg iddo. 

15:15

Cyn i mi alw'r siaradwr nesaf, rwy'n atgoffa'r Aelodau bod y rhan fwyaf o'r amser a ddyrannwyd wedi cael ei ddefnyddio eisoes. Mae gen i saith siaradwr sy'n awyddus i siarad. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gofyn eich cwestiwn o fewn eich amser, fel arall, efallai na fydd gennych chi amser i'w ofyn. Mike Hedges.

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu datganiad heddiw. Fe fyddwn i'n cefnogi unrhyw beth sy'n helpu economi dinas-ranbarth bae Abertawe. Fe fydd defnyddio safle Port Talbot i adeiladu tyrbinau cyn mynd â nhw allan ar y môr o fudd i'n brwydr ni yn erbyn cynhesu byd eang ac yn creu swyddi a fydd yn talu'n dda. Rwy'n cytuno â'r Gweinidog, yn ogystal â sicrhau'r potensial mwyaf o ran twf yr ardal leol, mae angen i gynigion ymgorffori gwerthoedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a sicrhau urddas a thegwch i bobl. Mae'n rhaid i ffyniant bro olygu cynyddu cyflogau cyfartalog. Sut mae Llywodraeth Cymru am sicrhau y bydd hawliau cyflogaeth, safonau amgylcheddol a rheolau iechyd a diogelwch yn cael eu dilyn yn y porthladd rhydd?

Rydyn ni wedi bod yn eglur iawn yn y broses gynnig, ac wrth fynd drwy'r holl gamau hyn, bod rhaid i'r ceisiadau allu cydweddu â hynny—rydyn ni wedi bod yn eglur iawn. Dyna pam mae ystyriaeth i'r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn y broses gynnig—ni fyddwch ni'n gweld hynny yn Lloegr—dyna pam mae'r pwyntiau ynglŷn â gwaith teg—ni fyddwch yn dod o hyd i'r rheiny yn Lloegr—ni fyddwch yn dod o hyd i'r pwyntiau am y contract economaidd yn yr Alban chwaith—mae hwnnw'n gyfnod unigryw yma yng Nghymru—a fforwm cyfunol y gweithwyr hefyd. Felly, rydym ni'n eglur iawn o ran y math o weithgaredd porthladd rhydd yr ydym ni'n barod i'w gefnogi neu beidio, a dyna pam rydyn ni ar y pwynt hwn a pham nad yw'r un amlinelliad gennym ni yma o gymharu â'r hyn a allai ddigwydd yn Lloegr.

Er enghraifft, DP World, sef y cwmni a oedd y tu ôl i ddiswyddo'r holl bobl hynny yn P&O Ferries—y diswyddo anghyfreithlon—wel, mae'n debyg eu bod nhw'n am fod yn rhedeg porthladd rhydd yng Nghymru. Nid wyf i'n credu y gallen nhw ddangos y bydden nhw'n bodloni'r holl feini prawf sydd gennym ni ar gyfer proses porthladdoedd rhydd yma yng Nghymru. Fe fyddwn ni hefyd yn meincnodi ein sefyllfa ni o ran gweithgarwch economaidd, er mwyn i ni allu deall lle mae twf gwirioneddol ac nid dadleoli swyddi a chyfleoedd eraill yn unig.

Rwy'n cydnabod ac yn croesawu'r datganiad cadarnhaol iawn hwn, ond fe hoffwn atgoffa'r Aelodau nad yw hyn, wrth gwrs, yn cymryd lle'r mynediad didramgwydd a oedd gennym ni i farchnad sengl fwyaf y byd cyn i ni adael yr UE. Ond mae hwn yn ddechrau o'r newydd i rai o'n cymunedau arfordirol ni sydd wedi ei chael hi'n anodd iawn. Tybed a gaf i ganolbwyntio ar ddim ond un cwestiwn penodol i chi, Gweinidog. Fe geir pryderon sylweddol ynglŷn â'r cyfle a'r risgiau sylweddol ynghylch gwyngalchu arian a masnachu nwyddau a phobl. A gaf i ofyn i chi pa drafodaethau ydych chi'n eu cael chi gyda Llywodraeth y DU ac asiantaethau eraill i leihau'r risgiau hyn? Diolch yn fawr iawn.

Wel, bydd trefniadau tollau ar waith o hyd; ni fydd y rhain yn fannau heb dollau. Rhan o'r her fydd, fel dywedais i, o ran rhyddhad a chymhellion, yn hytrach na dweud yn syml nad yw rheolau yn berthnasol. Yn ffodus, y fi sydd â chyfrifoldeb o fewn Llywodraeth Cymru o fod â ffiniau yn rhan o fy nghyfres i o gyfrifoldebau. Felly, rwy'n edrych yn fanwl iawn ar drefniadau gydag ynys Iwerddon, ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu cymryd cam ymlaen yn hynny o beth yn y dyfodol agos hefyd, ac mae hynny'n bwysig iawn i'r posibiliadau economaidd a'r gallu i oroesi sy'n parhau i fod yn bwysig i nifer o'n porthladdoedd ni hefyd. Mae gennym ni ddiddordeb arbennig mewn porthladdoedd sy'n wynebu'r gorllewin yma yng Nghymru. Felly, fe fydd hynny'n rhan o'r trafodaethau am yr hyn y byddwn ni'n ei ystyried o ran y ceisiadau terfynol a'r broses a ddylai fod ar waith.

Fe ddylwn ei gwneud hi'n glir nad wyf erioed wedi argymell porthladdoedd rhydd fel rhywbeth yn lle'r ffordd yr oeddem ni'n gallu masnachu ynddi hi gyda'n partneriaid Ewropeaidd agosaf. Mae hi'n fater o ffaith, nid barn, fod gan Gymru fwy o fasnachwyr sy'n adrodd am fasnach gyffredinol gyda'r Undeb Ewropeaidd nag am rannau eraill o'r DU, ac, wrth gwrs, roedd yna borthladdoedd pan oeddem ni'n aelodau o'r Undeb Ewropeaidd. Fersiwn newydd yw hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at weld yr hyn y gallwn ni ei wneud i gyflawni'r addewidion sydd wedi cael eu gwneud a'r meini prawf y mae Llywodraeth Cymru wedi eu pennu ar gyfer beth y dylai ffurf a natur porthladd rhydd llwyddiannus fod.

15:20

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd, a diolch hefyd, Gweinidog, am eich datganiad chi heddiw, ac rwy'n ymuno â chi, yn sicr, i groesawu'r newyddion bod Llywodraeth y DU yn bwriadu sefydlu'r ddau borthladd rhydd yng Nghymru, ac yn ymuno ag Aelod Ynys Môn hefyd i dynnu sylw at y porthladd rhydd ym Môn, a hefyd i ganmol gwaith yr awdurdod lleol a Stena Line, a chanmol hefyd ymdrechion fy nghyd-Aelod Ceidwadol, Virginia Crosbie, AS Ynys Môn, wrth hyrwyddo cais porthladd rhydd Caergybi yn San Steffan. Gweinidog, fe wyddoch chi, wrth gwrs, y bydd cysylltiadau trafnidiaeth da yn hanfodol i sicrhau bod y porthladdoedd rhydd newydd yn cyflawni eu potensial nhw, a chreu swyddi newydd, a denu'r buddsoddiad newydd yr ydym ni'n awyddus i'w weld a ffyniant yn ymledu hefyd. Felly, yn sgil cyhoeddi'r porthladdoedd rhydd, yn benodol i Ynys Môn, pa asesiad a wnaethoch chi o'r adolygiad ffyrdd a'r cysylltiadau trafnidiaeth presennol ac i'r dyfodol rhwng Ynys Môn a gweddill Cymru? Hefyd, nid wyf i'n siŵr y gwnaethoch chi ateb cwestiwn Rhun ap Iorwerth yn gynharach ar drydedd bont dros y Fenai, felly pa asesiad a fyddwch chi'n ei wneud, hefyd, ynghylch trydedd bont dros y Fenai yn sgil cyhoeddiad wythnos diwethaf?

Ni fyddwn ni'n gallu gwneud cyhoeddiad ffurfiol gan fod y cais porthladd rhydd yn symud yn ei flaen i'r cam nesaf. Gan ddeall cyfradd y gweithgarwch economaidd y gall y porthladd rhydd ei gyflawni—fe fydd gennym ni fwy o eglurder ynglŷn â hynny pan fydd yr achos busnes amlinellol yn cael ei ddychwelyd. Felly, rydym ni am wneud yr union beth y gwnaethom ni ei ddweud y byddem ni'n ei wneud, o ran deall a yw'n symud drwy'r cam nesaf yn llwyddiannus, fel rwy'n gobeithio y bydd yn digwydd, a'r math o weithgarwch economaidd a fydd yn cael ei gynhyrchu, y ffrâm amser ar gyfer hynny, ac fe fydd, wrth gwrs, angen i ni wneud dewisiadau o ran seilwaith yn y cyswllt hwnnw. Fe fyddem mewn sefyllfa well i wneud dewisiadau o ran seilwaith, wrth gwrs, pe byddai'r cyllid canlyniadol gennym ni yn sgil HS2 a Phwerdy Gogledd Lloegr y cyfeiriwyd atyn nhw'n gynharach. Rwy'n edrych ymlaen at weld Sam Rowlands yn ymuno ac yn ychwanegu ei lais ef i'r alwad honno hefyd ynglŷn â'r porthladdoedd rhydd newydd sydd am gael eu sefydlu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac rwy'n edrych ymlaen at wneud penderfyniadau yng ngham nesaf y broses honno.

Rwy'n siŵr na fydd y Gweinidog yn synnu o glywed nad yw fy marn wedi newid o ran porthladdoedd rhydd. Nid yw hyn yn ddim mwy nag ildio grym i gwmnïau drwy greu parthau wedi'u dadreoleiddio—economeg diferu ar ei ffurf buraf, yn echdynnol drwy ddyluniad. Nawr, mae nifer o gwestiynau yn gofyn am ateb manwl. Fe hoffwn yn fawr gael gwybod sut mae'r Llywodraeth am fonitro'r porthladdoedd rhydd wrth symud ymlaen. Er enghraifft, rydym ni wedi siarad am ddiogelu hawliau gweithwyr a chyflog byw. Sut mae'r Llywodraeth am sicrhau y bydd cwmnïau sy'n gweithredu ym mharth unrhyw borthladd rhydd yn bodloni'r gofynion yn y lle cyntaf, ond, yn yr un modd, yn yr hirdymor, pan fydd y rhain wedi cael eu sefydlu, beth yw'r mecanweithiau sydd ar gael i'r Llywodraeth i orfodi hyn?

Rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig i'r Llywodraeth ymhelaethu ymhellach ar swyddogaeth yr undebau llafur. Yn ei ddatganiad ef, fe gyfeiriodd y Gweinidog at ymgysylltu â llais gweithwyr ac undebau llafur mewn trefniadau llywodraethu yn y dyfodol. A fydd ganddyn nhw bŵer a gallu gwirioneddol—i wneud penderfyniadau gwirioneddol—neu ai swyddogaeth ymgynghorol yn unig a fydd ganddyn nhw? Oherwydd, os hynny, fe wyddom ni sut mae'r stori honno'n mynd.

Fel dywedais i, mae fy marn i ynglŷn â'r cysyniad o borthladdoedd rhydd yn aros yn ddigyfnewid, ond rwy'n herio'r Gweinidog, Llywodraeth Cymru ac Aelodau eraill i ddangos fy mod i'n camgymryd a phrofi cymunedau yn anghywir. Oherwydd dro ar ôl tro, mae gweithwyr Cymru wedi clywed addewidion am adfywiad ond, dro ar ôl tro, nid oes fawr ddim wedi newid.

Gyda pharch, rwy'n credu bod yr Aelod yn amlygu cysondeb yn ei amheuaeth gyffredinol ynglŷn â phorthladdoedd rhydd, ond rwy'n credu ei fod yn eu barnu ar sail model sydd wedi bodoli yn flaenorol, ac nid hwnnw yw'r un yr ydym ni wedi bod yn sôn amdano, yr un a gawsom ni i mewn i'r prosbectws sef bod yn rhaid i bawb wneud cais yn unol ag ef a llwyddo yn unol â bod yn ddigyfaddawd o ran gwaith teg, mae hynny'n rhan o'r disgwyliad sy'n rhaid i chi ei gyflawni; pan nad yw cilio yn ôl oddi wrth ein safonau amgylcheddol ni'n rhan o'r hyn sy'n rhaid ei gyflawni. Mae'r contract economaidd y bydd yn rhaid i bawb ymrwymo iddo yn rhan o'r hyn y mae'n rhaid cytuno i'w wneud. Felly, mae hwn yn offeryn gwahanol iawn i gael datblygiad economaidd, ac, yn y cam nesaf, fe fydd gennym ni fwy ar sut rydym ni'n mesur llinell sylfaen gweithgaredd ac yn deall, o bob un o'r ceisiadau, sut y gallan nhw ddangos y byddan nhw'n tyfu, ac nid yn dadleoli'r economi. Dyna un o'r pryderon a oedd gennym ni ar ddechrau'r broses hon, ac mae hwnnw'n un teg, hefyd. Ond, wrth gwrs, mae'r cyfalaf sbarduno a'r rhyddhadau datganoledig sy'n cael eu cyflwyno mewn gwirionedd wedi gorfod helpu i gyflawni buddsoddiad llawer mwy sylweddol—nid dim ond o ran symiau o arian a wariwyd, ond beth fydd hynny'n ei olygu o ran nifer y swyddi ac ansawdd y swyddi yr ydyn ni'n awyddus i'w gweld yn cael eu creu.

Nawr, fe fydd hynny'n rhannol ym meysydd ysgogiadau datganoledig—felly, ardrethi annomestig a'n dealltwriaeth ni mewn sgyrsiau gyda'r ceisiadau porthladdoedd rhydd ynghylch sut y caiff hynny ei ddefnyddio, sut olwg fydd ar hynny, a'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl yn gyfnewid. Felly, bydd sgwrs weithredol i'w chynnal y byddwn ni'n mynd drwyddi yn ystod camau nesaf y broses.

Ac o ran yr undebau llafur, roedd hwnnw'n faes penodol yr oeddem ni'n dymuno ei fewnosod i'r prosbectws, felly mae fforwm cyfunol gweithwyr yn cael ei grybwyll—cyngor gwaith yw hwnnw wrth unrhyw enw arall—a'r her a'r cryfder yn llais yr undebau llafur yw pa mor llwyddiannus y maen nhw'n recriwtio a threfnu. Gadewch i ni fod yn eglur iawn mai'r math o weithgareddau i chwalu undebau, y math o arferion cyflogaeth ofnadwy, a welsom ni gyda DP World pan wnaethon nhw ddiswyddo staff P&O Ferries i gyd yw'r union beth na fyddwn ni'n ei oddef yng Nghymru. Yr her yw a yw'r partneriaid yn Llywodraeth y DU yn barod i ddilyn yr un trywydd, oherwydd roedden nhw'n ymddangos, yn gyhoeddus, wedi gwylltio pan gafodd y gweithwyr hynny i gyd eu diswyddo yn anghyfreithlon. Mae yna her nawr o ran sut bydden nhw'n dewis ymddwyn, ond rwyf i am fod yn eglur iawn y bydd yr holl ysgogiadau datganoledig sydd gennym ni'n cael eu defnyddio i wneud yn siŵr bod pobl yn gwneud cais yn unol â'r hyn a fynegwyd yn y prosbectws, ac y byddwn ni'n edrych i weld sut y gallwn ni ddal pobl at y pethau hyn, gan gynnwys o ran y ffordd y defnyddir ysgogiadau a chymhellion datganoledig.

15:25

Diolch i chi am egluro i Aelodau Ceidwadol mai Llywodraeth Lafur Cymru a weithiodd yn galed i sicrhau ein bod ni â chydraddoldeb gyda Lloegr o ran y cyllid sbarduno o £26 miliwn—nid yr £8 miliwn a gynigiwyd yn flaenorol—yn ogystal â diogelwch ar gyfer hawliau gweithwyr a diogelu'r amgylchedd. Rwy'n dweud hyn gan mai'r amodau hyn a luniwyd yng Nghymru yw'r rheswm y cytunais i, yn y diwedd, i gefnogi cais porthladd rhydd Ynys Môn. Rwy'n falch iawn y bydd canolbwyntio ar ynni adnewyddadwy gwyrdd. Mae Coleg Llandrillo Menai yn gweithio gydag RWE ar hyn o bryd i  hyfforddi prentisiaid ym maes ynni a chynnal a chadw tyrbinau gwynt, ac maen nhw'n pryderu a fydd ganddyn nhw ddigon o brentisiaid, felly a wnewch chi helpu i hyrwyddo'r sector hwn? Ac rwyf i wedi gwneud awgrymiadau hefyd, os bydd yna 106 o gyfraniadau o werth cymdeithasol yn tarddu o gynllunio, y gellid ei ddefnyddio ar gyfer amddiffyn gwarchodfa natur Penrhos yng Nghaergybi. A fyddech chi'n cefnogi hynny hefyd?

Ac yn olaf, Gweinidog, os gwelwch chi'n dda, a wnewch chi sicrhau y bydd pob cynrychiolydd yn y gogledd â chyfranogiad, ac nid dim ond y rhai etholedig, gan fy mod i wedi derbyn sylwadau pwysig oddi wrth fusnesau, y sector cyhoeddus ac etholwyr? Diolch i chi.

Gwnaf. O ran eich pwynt olaf, wrth gwrs fe fyddaf i'n sicrhau bod gan Aelodau'r gogledd ymgysylltiad. Dyma fu un o'r nodweddion, mewn gwirionedd, sef bod ystod o bartneriaid o fwy nag un blaid wedi bod â diddordeb yn y ddau gais, ac rwy'n awyddus i geisio cynnal y gefnogaeth drawsbleidiol honno a'r disgwyliad y bydd y cynigwyr yn cyflawni'r hyn a addawyd o ran y difidend swyddi ac ansawdd y gwaith, sy'n cyfeirio yn ôl at eich pwynt chi—ac fe gafodd ei wneud gan eraill—ynglŷn â'r telerau a'r amodau. Nid i Aelodau Llafur yn unig y mae hynny'n bwysig, ond rwyf i'n fwriadol wedi sicrhau, yn y prosbectws, ein bod ni'n eglur ynglŷn â hawliau gweithwyr a sut wedd ddylai fod ar waith teg.

O ran y posibilrwydd o gytundebau adran 106 yn y broses gynllunio, nid fi yw'r Gweinidog cynllunio nawr, ond nid wyf i'n siŵr a ddylwn i fynegi cefnogaeth cwbl gadarn, ond rwy'n cydnabod y pwynt a wnewch chi o ran yr hyn y gellir ei gyflawni drwy'r broses gynllunio, nid yn unig wrth gydsynio, ond yr hyn y mae'n ei olygu o ran talu yn ôl i gymunedau cyfagos gyda chais y gogledd a'r cais Celtaidd hefyd. Yn sicr, fe fyddaf i'n parhau i hyrwyddo'r sector fel cyfle i brentisiaid, i bobl newydd ddod i mewn i'r gweithlu. Ac rwy'n falch i ni ddal at ein hymagwedd, fel sydd wedi cael ei gydnabod. I ddechrau, fe ddywedwyd wrthym ni mai £8 miliwn fyddai ar gael ac fe fyddai disgwyl i Lywodraeth Cymru dalu'r gwahaniaeth. Roeddwn i'n eglur iawn na fyddai porthladd rhydd yn cael ei gyflwyno mewn ffordd grintachlyd. Pan wnaethom ni fwrw drwy hynny, gan gynnal sgyrsiau rhwng y rhai a oedd yn gwneud y penderfyniadau uniongyrchol yn Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, roeddem ni'n gallu gwneud cynnydd, a dyna'r hyn yr hoffwn ei weld yn parhau mewn ffordd bragmataidd, adeiladol, ac rwy'n edrych ymlaen at weld yr holl Aelodau ar draws y gogledd yn cyfranogi wrth roi cefnogaeth i gam nesaf y broses.

A gaf i ymuno â chyd-Aelodau ar draws y Siambr i longyfarch Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran y ddarpariaeth o ddau borthladd rhydd a gynlluniwyd ar gyfer Ynys Môn a'r porthladd rhydd Celtaidd, a leolir yn rhannol yn fy rhanbarth i? Ac nid oes unrhyw angen i mi ailadrodd ystadegau, ond fe all hyn fod yn wirioneddol drawsnewidiol, nid yn unig i Bort Talbot, ond i ranbarth y de-orllewin i gyd. Ond, gyda'r hwb economaidd hwnnw, un o'r pethau yr wyf i'n obeithiol y byddwn ni'n ei weld yw cynnydd o ran cludo nwyddau ar draws y de, ac felly aeth fy meddwl yn ôl yn syth at ymweliad a wnaeth Altaf Hussain a minnau'r llynedd ar gyfer Wythnos Genedlaethol y Lorïau gyda gweithwyr yn y diwydiant cludo nwyddau, ac roedden nhw'n codi dau fater mawr: yn gyntaf i gyd, roedden nhw'n sôn am ddiffyg arosfannau gorffwys lorïau digonol ar hyd y darn sydd yng Nghymru o goridor yr M4. Felly os byddwn ni'n gweld mwy o nwyddau, a fyddai Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i edrych ar bosibiliadau i wella hynny?

Ac, yn ail, y broblem arall a nodwyd ganddyn nhw oedd, yn anffodus, oedi mewn traffig yn nhwneli Brynglas ar yr M4, a bod hynny weithiau yn achosi iddyn nhw fynd dros eu horiau dynodedig. Felly, rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad ynglŷn â'r ffordd liniaru—nid wyf i'n dymuno mynd dros hynny unwaith eto—ond a yw Llywodraeth Cymru wedi comisiynu unrhyw astudiaeth i'r effaith y bydd y porthladd rhydd yn ei gael ar yr M4 a'r problemau traffig a gaiff eu hachosi yno? Diolch i chi. 

15:30

Wel, mae gennym ni yn unig strategaeth cludo nwyddau yr ydym yn ei datblygu, ond fe hoffwn i atgoffa'r Aelod unwaith eto bod angen i ni fynd trwy gam nesaf y broses. Mae angen inni ddeall a yw'r prif hawliadau a wnaethpwyd yn y ceisiadau—ac maen nhw'n geisiadau da y buom ni'n hapus i'w cefnogi drwy'r cam nesaf—i weld y manylion hynny, ar gyfer deall mwy am y manylion cyn i ni wneud cynlluniau ar sail rhagdybiaethau.

Felly, beth bynnag fyddo statws y porthladd rhydd, rwy'n hyderus y byddwn ni'n gweld rhagor o fuddsoddiad mewn datblygu a darparu ynni'r môr ar hyd ein harfordir hir a gwyntog ni, sy'n fantais naturiol, nid dim ond o ran cynhyrchu pŵer, ond o ran economi'r dyfodol. Ac fe fyddwn ni, wrth gwrs, yn dymuno ystyried yr hyn y bydd y datblygiad economaidd hwnnw'n ei olygu i'n seilwaith ni'n fwy eang, ac rwy'n siŵr y byddaf i, a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, yn fwy na pharod i ystyried hynny yn y dyfodol.

Diolch, Dirprwy Lywydd. A, Gweinidog, roedd hi'n bleser o'r mwyaf i mi weld Prif Weinidog Cymru hapus a siriol iawn ddydd Iau, a Phrif Weinidog y DU hapus a siriol iawn yng Nghaergybi, a chwithau'n gwenu ochr yn ochr ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ym Mhort Talbot ddoe, i ddathlu'r cais am borthladd rhydd Celtaidd. A'r hyn a fu'n drawsnewidiol iawn ynglŷn â hyn—ac rwy'n dweud hynny—yw'r gwaith trawsbleidiol sydd wedi bod i gefnogi'r ceisiadau yn y gogledd, a'r porthladd rhydd Celtaidd yn y de-orllewin hefyd. Ac er nad yw ef yn cael siarad, gan ei fod ef yng nghadair y Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid i mi roi teyrnged i Dai Rees am ei eiriolaeth yn y rhan honno o'r byd, gan gynnwys Stephen Kinnock, Simon Hart, Stephen Crabb, Tom Giffard, Paul Davies hefyd, nad yw yma. 

Ond un o'r pethau ynglŷn â'r sôn am y cais am borthladdoedd rhydd, nawr, yw eich asesiad chi o gam nesaf y broses. O ystyried cyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth Cymru, faint o berthynas a fydd gennych chi â'r ddau gais nawr wrth symud ymlaen, fel eich bod chi, wrth gyflawni'r manteision sydd i'r ceisiadau hyn, yn ymwneud â'r trafodaethau hynny o ran yr hyn y mae angen i chi gyflawni yn y cyswllt hwnnw o fewn y cyfrifoldebau a ddatganolir i Lywodraeth Cymru? Diolch.

Wel, mae yna sgwrs fwy ymarferol i'w chynnal nawr. Felly, fi yw'r Gweinidog arweiniol yn y maes hwn, ond, fel dywedais i'n gynharach, mae hyn yn cynnwys ystod o bortffolios gweinidogol eraill hefyd—y Gweinidog newid hinsawdd a'r Gweinidog cyllid yw'r rhai mwyaf amlwg, yn ogystal â Gweinidog gogledd Cymru—oherwydd y rhyddhadau a'r pwerau datganoledig y byddwn ni'n bwriadu eu hymarfer, fe fydd hi'n rhaid i ni ddeall dyluniad y rheiny o ran pob un o'r ceisiadau. Felly, fe fydd hi'n angenrheidiol i Weinidogion a'n swyddogion ni fod â rhan ac ymgysylltiad yn hynny, yn ogystal â chynllunio wedyn ar gyfer canlyniadau posibl y rhain hefyd. Os ydych chi'n meddwl am y sgiliau y gwnaethom ni siarad amdanyn nhw'n gynharach, y cwestiynau am isadeiledd, yr hyn yr ydym ni'n dymuno ei gyflawni mewn gwirionedd yw difidend swyddi gwirioneddol i Gymru—difidend swyddi gwirioneddol o ran swyddi cynaliadwy a fydd yn ein helpu ni ar hyd ein llwybr at ddyfodol sero net. 

Fe ddylai olygu hefyd, os gwnawn ni hyn yn iawn, y bydd mwy o hyder yn y sector dur hefyd. Nid yn unig Tata ym Mhort Talbot, ond, mewn gwirionedd, os ydym ni am ddod o hyd i'n gallu i adeiladu rhai o'r llwyfannau arnofiol ar y môr, fe fyddai hi'n llawer gwell gen i weld dur o Brydain yn mynd i mewn i'r rhain, ac os dur o Brydain fydd hwnnw, yna mae cyfran sylweddol o gynhyrchiant dur Prydain yn digwydd yng Nghymru, a dyna'r hyn yr wyf i'n dymuno ei weld hefyd. Felly, dyna ran o'r rheswm y soniais i amdano'n gynharach am yr angen i gynnal sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU am ystod o'r pethau hyn hefyd. Fe fydd cwblhau pecyn buddsoddi ar gyfer dyfodol y sector dur yn golygu mwy o hyder, ac rwy'n gobeithio y bydd y ffaith bod y ceisiadau am borthladdoedd rhyddion yn mynd drwy eu cam nesaf yn rhoi mwy o ysgogiad i'r penderfyniad hwnnw gael ei wneud.

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Mynediad at Wasanaethau Gofal Sylfaenol

Eitem 4 yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol. A galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan. 

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n falch o roi diweddariad ar ein rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth i ddarparu gwell mynediad at feddygon, nyrsys, deintyddion a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill y gwasanaethau gofal sylfaenol.

Ar y cychwyn cyntaf, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod bod y galw am wasanaethau gofal sylfaenol yn fwy na'r gallu i'w darparu, sydd, yn ddiamau, yn cyflwyno her o ran cyflawni ein hymrwymiad ni i wella mynediad at weithwyr iechyd proffesiynol, yn enwedig pan fo gymaint o bwysau ar ein cyllidebau o ganlyniad i gyni hirdymor a phwysau chwyddiant.

Mae'r ôl-groniad a greodd pandemig COVID-19 yn dal i effeithio ar amseroedd aros. Ond er hynny, fe wyddom ni i gyd fod niferoedd y bobl yng Nghymru y mae ein gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol yn eu cefnogi bob wythnos yn syfrdanol. Maen nhw'n ymroddedig i ddarparu'r ansawdd gofal gorau i bawb sydd ei angen, gan flaenoriaethu ar sail angen clinigol lle byddo'r angen. Ond fe wyddom ni fod angen gwneud rhagor.

Ystyr ein model gofal sylfaenol i Gymru yw rhoi'r gofal priodol i bobl, gan y gweithiwr proffesiynol cymwys ar gyfer eu hanghenion penodol nhw, mor agos at yr aelwyd â phosibl. Mae gwasanaethau gofal sylfaenol yn integreiddio, gan ddod â meddygon teulu, nyrsys, fferyllwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol perthynol, deintyddion, optometryddion, a gwasanaethau lleol eraill at ei gilydd, i gydlynu mynediad yn effeithiol gan ddefnyddio arbenigedd ac amser pob un.

Wrth weithio gyda'n gilydd i ddarparu gwasanaethau, rydym ni awyddus hefyd i weithwyr iechyd proffesiynol rheng flaen gydweithio trwy'r clystyrau gofal sylfaenol i helpu i gynllunio gwasanaethau sy'n ateb anghenion penodol eu cymunedau nhw'n well. I gryfhau eu lleisiau nhw, cafodd cydweithredwyr proffesiynol eu sefydlu dros y misoedd diwethaf ar gyfer meddygon teulu, nyrsys, fferyllwyr, optometryddion a gweithwyr iechyd proffesiynol perthynol, a chydweithredwyr proffesiynol deintyddol sydd nesaf. Yn sail i'r trawsnewidiad hwn y mae'r rhaglen o ddiwygio contractau, sy'n rhoi sylfaen deddfwriaethol i gyflymu mynediad cleifion at weithwyr iechyd gofal sylfaenol proffesiynol. Mae hyn yn cydredeg â 'Chymru Iachach', ac ar sail egwyddorion allweddol gofal iechyd darbodus.

Yng Nghymru, rydym ni'n hyrwyddo dull digidol yn gyntaf, ac rwy'n ffyddiog y byddwn ni'n cymryd camau breision yn y maes hwn yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Fe all cleifion gael ystod o gyngor a gwybodaeth ar wefan GIG 111 Cymru, gan gynnwys mynediad at 76 o holiaduron ar gyfer gwirio symptomau. Yn ystod mis Ionawr, ymwelwyd â gwefan GIG 111 Cymru 423,600 o weithiau, gyda 18,600 o holiaduron symptomau wedi eu llenwi. Ac rwy'n arbennig o falch fod y gwasanaeth 111 yn cael ei ymestyn erbyn hyn i gymorth iechyd meddwl, gyda'r gwasanaeth 111 diweddaraf, gwasanaeth pwyso 2 wedi ei roi ar waith ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yr wythnos diwethaf.

Lle bod angen i gleifion gysylltu â'u meddygfeydd nhw, mae yna fentrau ar waith ar gyfer sicrhau cysondeb mynediad ledled Cymru. Ond fe wyddom ni fod llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd cael apwyntiad o hyd i weld meddyg teulu mewn amser rhesymol. Dyna pam mae ein hymrwymiad ni i fynediad, a gyflwynwyd ym mis Ebrill y llynedd, yn ei gwneud hi'n ofynnol i feddygfeydd fabwysiadu dull gweithredu a gynlluniwyd o ddiwallu angen cleifion, gan symud i ffwrdd oddi wrth ryddhau pob apwyntiad am 8am. Rydym ni'n awyddus i weld y ffordd hon o weithio yn mynd yn ofyniad contractiol i feddygon teulu yn y dyfodol, ac rwy'n falch o ddweud y bydd ein cam cychwynnol ni o ran safonau mynediad yn cael ei fandadu'n gontractiol o'r wythnos nesaf ymlaen.

O ran deintyddiaeth, rydym ni'n dymuno cyrraedd sefyllfa lle gall pawb yng Nghymru sydd eisiau mynediad at ofal deintyddol y GIG ei gael ef, ond nid yw hyn am ddigwydd dros nos. Ar y cyfan, darparwyr annibynnol yw deintyddion. Rydym ni'n hyrwyddo ffordd newydd o weithio, ac mae hi'n cymryd amser i hyfforddi'r gweithlu perthnasol. Rydym ni'n gweithio gyda'r byrddau iechyd, sydd â chyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau deintyddol y GIG, i fynd i'r afael â'r bylchau yn narpariaeth gwasanaethau trwy eu cynlluniau gweithredol nhw. Mae mwyafrif llethol y practisau deintyddol yn gweithio gyda'r egwyddorion ar gyfer diwygio deintyddiaeth, gan ganolbwyntio ar ataliaeth a thriniaeth ar sail anghenion. Mae hyn yn rhoi'r gallu i fwy o gleifion gael mynediad at ddarpariaeth ddeintyddol y GIG. Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, mae dros 155,000 o gleifion sydd wedi ei chael hi'n anodd cael apwyntiad yn y gorffennol wedi cael triniaeth erbyn hyn. O 1 Ebrill y llynedd, roedd £2 filiwn ychwanegol o gyllid rheolaidd ar gael i wella mynediad at ddeintyddiaeth y GIG ledled Cymru. Mae'r byrddau iechyd yn buddsoddi'r cyllid hwn yng ngwasanaethau deintyddol y GIG i fynd i'r afael ag anghenion lleol.

Yn rhan o'r contract diwygiedig ar gyfer ein fferyllfeydd cymunedol ni yng Nghymru, ers mis Ebrill y llynedd, mae fferyllwyr wedi gallu rhagnodi a chyflenwi meddyginiaethau ar gyfer ystod estynedig o gyflyrau, gan ddarparu mwy o fynediad i'r cyhoedd at wasanaethau, ac ysgafnu'r pwysau ar wasanaethau meddygon teulu a gwasanaethau eraill y GIG. Fe all fferyllwyr roi triniaeth nawr ar gyfer mân anhwylderau cyffredin, fe allan nhw roi mynediad at feddyginiaethau rheolaidd mewn argyfwng, fe allan nhw gynnig brechiadau ffliw blynyddol, atal cenhedlu brys, a rhai ffurfiau cyffredin o atal cenhedlu. Ac mae'r gwasanaethau hyn ar gael yn 99 y cant y fferyllfeydd ledled Cymru, ac maen nhw i gyd yn cael eu darparu yn rhad ac am ddim pryd a lle bynnag y bo’u hangen.

Ym maes optometreg, rydym ni eisoes yn ehangu'r ddarpariaeth â ffocws clinigol mewn gofal sylfaenol. Mae hynny'n cael ei wneud drwy symud rhai gwasanaethau gofal llygad o'r ysbyty i'r gymuned, lle mae gweithlu medrus ar gael i ateb y galw cynyddol. Cyn bod rhai elfennau o'r diwygio yn gallu dod i rym, bydd angen gwneud newidiadau i'r rheoliadau, ac, wrth gwrs, fe fyddwn ni yn ymgynghori ar y cynigion. Yn y cyfamser, mae'r broses ar y gweill i gyflwyno gwasanaethau gan optometryddion â chymwysterau uwch, fel rhagnodi annibynnol, glawcoma a retina meddygol, gan ddefnyddio'r cyfarwyddiadau deddfwriaethol presennol. Rŷn ni'n sylweddoli mai'r llwybrau gwasanaeth hyn fydd yn cael yr effaith fwyaf o ran cefnogi gwasanaethau gofal llygad arbenigol mewn ysbytai.

Rydym ni hefyd yn gwneud cynnydd da wrth alluogi cleifion i gael mynediad uniongyrchol at lwybrau awdioleg heb gael eu cyfeirio gan feddyg teulu neu weithiwr proffesiynol arall yn y maes iechyd neu ofal cymdeithasol. I hwyluso'r newid yma, rydyn ni'n ymwneud mwy â'r trydydd sector a'r cynghorau iechyd cymuned, gan greu capasiti mewn gwasanaethau awdioleg drwy gamau cadarn i gynllunio'r gweithlu.

Mae mynediad at weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd mewn gofal sylfaenol yn flaenoriaeth hefyd, ac mae hyn yn dal i gael ei symud ymlaen drwy'r rhaglen strategol gofal sylfaenol. Ym mis Ionawr, gwnes i gyhoeddi £5 miliwn yn ychwanegol i gynyddu nifer y gweithwyr proffesiynol hyn ac i wella mynediad at wasanaethau adsefydlu yn y gymuned i helpu pobl i ddal i fod yn actif ac yn annibynnol.

Bydd yr ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i fuddsoddi mewn cenhedlaeth newydd o hybiau iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn bwysig wrth helpu i greu capasiti cymunedol. Drwy ein cronfa buddsoddi cyfalaf newydd, rŷn ni'n dechrau gweld cynigion yn dwyn ffrwyth, gan gynnwys hyb lles Rhiwbeina, sydd newydd gael ei gwblhau. Mae hwn yn galluogi pobl i gael gafael ar amrywiaeth fwy eang o wasanaethau iechyd, gofal a lles yn nes at adref.

Mae buddsoddiad pellach wedi ei wneud mewn nyrsio cymunedol, sef ychydig o dan £3 miliwn ers 2021. Mae hwn er mwyn datblygu ar yr hyn a gafodd ei ddysgu drwy'r cynlluniau peilot nyrsio yn y gymdogaeth. I gefnogi hyn mae'r system amserlenni electronig yn galluogi timau nyrsio ardal i wneud yn siwr bod eu gwasanaeth i gleifion yn cael ei ddarparu gan y nyrs gywir â'r sgiliau cywir bob tro.

Ar draws yr holl wasanaethau hyn mae sicrhau tegwch mynediad yn hanfodol. Mae'r Llywodraeth yma yn cydnabod yr angen i roi pwyslais penodol ar sicrhau bod grwpiau bregus yn gallu cael gafael ar wasanaethau, gan gynnwys pobl sydd yn cael eu hystyried yn fregus.

Yn ddiweddar, rydym wedi comisiynu ymchwil annibynnol i gael safbwyntiau'r cyhoedd yng Nghymru ynglŷn â mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol a beth mae mynediad da yn ei olygu iddyn nhw. Mae barn y cyhoedd yn hynod o bwysig wrth inni weithio i ddatblygu polisi sy'n cefnogi eu hanghenion gofal sylfaenol.

Yn olaf, dwi eisiau cydnabod fy niolch i i'r gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio mewn gofal sylfaenol. Heb eu hymroddiad a'u hyblygrwydd nhw, fyddai dim modd darparu'r gwasanaethau dwi wedi cyfeirio atyn nhw a thrawsnewid y gwasanaethau hynny er lles pobl Cymru. Diolch.

15:40

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y copi ymlaen llaw o'r datganiad ar beth sy'n bwnc pwysig iawn, oherwydd rydyn ni'n gweld llawer o dystiolaeth anecdotaidd sy'n dangos y drafferth wrth geisio cael mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol, a sut mae hynny'n creu pwysau, wrth gwrs, ar ofal brys gyda llawer o bobl wedyn yn troi at yr adrannau damweiniau ac achosion brys? Yn wir, dyna un o'r rhesymau pam y gwnes i gyflwyno cynllun mynediad at feddygon teulu y Ceidwadwyr Cymreig.

Un o'r elfennau hynny oedd uwchraddio a moderneiddio systemau ffôn meddygon teulu—nad ydyn nhw'n aml, byddwn i'n ei awgrymu, yn gweithio i lawer o gleifion—gan helpu i leddfu arosiadau hir wrth gysylltu â meddygfa. Rydw i wedi colli cyfrif o'r adegau yr wyf i wedi cael gohebiaeth gan etholwyr ynghylch y dulliau hen ffasiwn o geisio gwneud apwyntiad. Mae gennym ni'r rhuthro adnabyddus hwnnw am 8am, er enghraifft. Felly, sut ydych chi'n mynd i gefnogi meddygfeydd i mewn i'r byd modern yn hynny o beth, Gweinidog? Gallai un o'r ffyrdd hynny fod drwy ap GIG Cymru, fel y gallai cleifion yng Nghymru, fel y rhai yn Lloegr eisoes, gael mynediad at gofnodion iechyd, archebu presgripsiynau, cysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol ac, ie, wrth gwrs, rheoli apwyntiadau hefyd. Ble ydym ni gyda hyn, sy'n dechnoleg hanfodol y byddwn i'n ei awgrymu? Efallai y gallwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch hynny. 

Unwaith eto, ar y cynllun yr wyf i wedi'i gyflwyno fy hun o'r blaen, Gweinidog, ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i'r awgrym ynghylch torri biwrocratiaeth ar gyfer meddygon teulu fel y gallan nhw weld mwy o gleifion, drwy ganiatáu i amrywiaeth ehangach o weithwyr proffesiynol allu darparu tystiolaeth a thystysgrifau meddygol, fel nodiadau ffitrwydd ac arolygon DVLA? Pe bai eraill yn gallu gwneud hynny, byddai wir yn rhyddhau amser meddygon teulu. A beth am y gwelliannau mewn tryloywder ac atebolrwydd drwy gynyddu goruchwylio meddygfeydd a gwneud i fyrddau iechyd gasglu gwybodaeth am gleifion? Yn sicr, byddai modd gwneud hynny mewn ffordd nad yw'n feichus, gan ddefnyddio TG, byddwn i'n ei awgrymu. Ac wrth gwrs, mae'n rhwystredig iawn i wleidyddion fel fi, gyda'i gwaith nhw o graffu ar y Llywodraeth, i ganfod nad yw gwybodaeth yn cael ei chasglu ar faterion sy'n wirioneddol bwysig i'r Cymry a'n helpu ni i lunio dyfarniadau polisi. 

Cyn i mi symud i ffwrdd o feddygon teulu, byddai'n dda gwybod, Gweinidog, os ydych chi'n hapus gyda phenderfyniad y Canghellor i ddiddymu'r lwfans di-dreth pensiwn oes, oherwydd y gwnaeth, yn fy marn i, ymdrin ag un o'r ffactorau ysgogi sy'n gwthio meddygon teulu i ymddeol yn gynnar. Roedd croeso i hyn, sylwais i, gan Gymdeithas Feddygol Prydain, a adroddodd y diwrnod canlynol bod meddygon eisoes yn canslo eu hymddeoliadau i gyfrannu ymhellach at y GIG. Ond gwnes i sylwi ar ddarn yn The Times yn adrodd ar ruthro i ymddeol cyn i Lafur wyrdroi hyn, er i Wes Streeting alw am hyn yn ôl ym mis Medi mewn gwirionedd. Felly, byddai'n dda gwybod beth yw safbwynt y Gweinidog a Llywodraeth Cymru yn hyn o beth, yn enwedig yn y cyd-destun bod cymunedau Cymru wedi colli 20 y cant o'u meddygfeydd yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf. 

Ar e-ragnodi, byddai'r wybodaeth ddiweddaraf ar hynny yn cael ei werthfawrogi. Eto, yn Lloegr a'r Alban, rydyn ni wedi gweld hynny'n digwydd yno ers 2005 a 2009 yn y drefn honno. A gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd yn hynny o beth?

Tybed a yw'r Gweinidog hefyd yn rhannu fy mhryder i mai un o'r heriau sydd angen i ni eu goresgyn yng Nghymru yw'r diffyg gwybodaeth am wahanol wasanaethau gofal sylfaenol—diffyg gwybodaeth ynghylch yr hyn y gall fferyllfeydd ac unedau mân anafiadau ei wneud. Ac ar y nodyn hwnnw, beth yw'r canllawiau i unedau damweiniau ac achosion brys ynglŷn â chyfeirio pobl sy'n amlwg angen un o'r gwasanaethau hyn yn hytrach na gofal brys mewn modd amserol? Yn y bôn, yr hyn rwy'n ei ddweud yw, os bydd rhywun yn ymddangos, efallai, yn uned damweiniau ac achosion brys Ysbyty Athrofaol Cymru gyda phigwrn wedi'i hysigo, ni ddylai gael ei adael i fynd trwy'r system, gan gymryd amser ac adnoddau; byddwn i'n awgrymu y dylai wedyn gael ei anfon i ffwrdd i'r adran fwy priodol yn syth. Tybed a yw'r Gweinidog yn rhannu'r farn honno. 

Deintyddion, rydych chi wedi sôn amdanyn nhw, Gweinidog. Rwy'n gwybod yn yr wybodaeth ddiweddaraf y gwnaethoch chi ei rhoi ar hyn, y gwnaethoch chi sôn am gyfarfod gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain yn ystod yr wythnosau nesaf, ar y pryd. Ydych chi wedi cael y cyfarfod hwnnw? A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar yr hyn a ddilynodd y cyfarfod hwnnw, os yw wedi digwydd? 

Ac yn olaf, gwnaethoch chi ddod â'ch datganiad i ben drwy gyfeirio at gomisiynu ymchwil annibynnol ynghylch cael mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol. Mae hynny'n dda iawn, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr. Fe wnaethoch chi sôn bod barn y cyhoedd yn hynod o bwysig, ac rwy'n cytuno â hynny hefyd. A allwch chi roi unrhyw fanylion i ni ar linell amser y gwaith hwnnw a sut gall y cyhoedd ymgysylltu?

15:45

Diolch yn fawr. Byddwch chi'n gwybod, o ran mynediad at feddygon teulu, ein bod ni wedi gwneud llawer iawn o waith ar hynny dros y blynyddoedd diwethaf. Mewn gwirionedd, roedd gennym ni rai safonau mynediad wedi'u nodi, ac rwy'n falch o ddweud bod 89 y cant o feddygfeydd meddygon teulu eisoes yn cyflawni'r safonau mynediad a gafodd eu nodi gennym ni. Mae'r safonau mynediad hynny'n cynnwys ymrwymiad i sicrhau bod yr hyn sy'n cael ei gynnig gan feddygfeydd, er enghraifft, yn fodel cyfunol o wahanol ffyrdd o gael mynediad. Mae'n bosibl y bydd cyfle i archebu ar frys ar y diwrnod, bydd apwyntiadau y mae modd eu harchebu o flaen llaw, bydd ymgynghoriadau ffôn ar gael, bydd cyswllt digidol ar gael. Yr holl bwynt yw bod ffordd ehangach o gael mynediad at feddygfeydd teulu, ac y byddai cyswllt wyneb yn wyneb yn dibynnu ar farn glinigol y meddyg teulu. Hyd at hyn, mae hynny wedi bod yn ddull gwirfoddol i bob pwrpas, ond ymhen tridiau bydd hynny'n dod yn ofyniad. Rwy'n gobeithio, i'r rhai hynny sydd ar ei hôl hi a heb gael gwared â'r dagfa 8am, er enghraifft, gwelwn ni rywfaint o symudiad yn y rheiny o 1 Ebrill.

O ran ap GIG Cymru, mae wedi cael ei brofi'n ofalus iawn. Mae'n fyw yn barod, ond i grŵp bach o bobl yn unig. Yr hyn nad oeddem ni eisiau'i wneud yw gweld beth wnaethon nhw yn Lloegr, sef lansio'r ap a gwylio pob un o'r meddygfeydd yn ei ddiffodd, felly mewn gwirionedd roedd eich gallu i'w ddefnyddio yn eithaf cynnil. Rydyn ni'n ei gymryd yn ofalus iawn, iawn, ond bydd gennyf i rywfaint o newyddion ar hynny yn fuan.

O ran gwelliannau a thryloywder a gwneud yn siŵr bod llais y claf yn cael eu clywed, wrth gwrs mae mynediad nawr i'r cynghorau iechyd cymuned. Dyna lais y claf, ac wrth gwrs, y bydd, o 1 Ebrill, yn troi at y cyfleuster newydd llais y claf, Llais, felly gobeithio y bydd pobl yn gwybod y gallan nhw gael mynediad at hynny fel ffordd o adael i'r GIG wybod os ydyn nhw'n anfodlon â'r gwasanaeth.

O ran diddymu'r lwfans pensiwn i feddygon, gwnaethom ni lobïo dros hyn a dweud y gwir. Roedden ni'n glir iawn bod rhaid i ni wneud rhywbeth i geisio atal y llif o feddygon sy'n ymddeol yn gynnar, felly rydyn ni'n falch o weld hynny. P'un ai oedd angen ei ymestyn i bawb yn y fraced dreth benodol honno, nid ydw i'n siŵr am hynny, ond yn sicr rydyn ni wedi'i groesawu o ran y GIG.

Mae gennym ni fwy o feddygon teulu nag erioed. O ran e-ragnodi, fe welwch chi rai newidiadau ar hynny yr haf hwn, ar lefel y meddyg teulu. Ac wrth gwrs mae yna wahanol ffyrdd, fel y dywedwch chi, o gael mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol. Un o'r pethau y byddwch chi wedi'i weld, a byddwch chi wedi'i weld, oherwydd fe fyddwch chi wedi bod yn byw mewn ogof os nad ydych chi wedi'i weld, yw'r ymgyrch 'Helpwch Ni i'ch Helpu Chi', sy'n ceisio cyfeirio pobl at y cyfleuster cywir ar eu cyfer. Ac yn amlwg mae hefyd y gwasanaeth 111 sy'n cyfarwyddo pobl. Ychydig iawn o'r bobl sy'n ffonio 111 sy'n cael eu cyfeirio at wasanaeth ddamweiniau ac achosion brys.

Fe gefais i gyfarfod â Chymdeithas Ddeintyddol Prydain. Mae'n amlwg bod nifer o faterion y mae dal angen eu datrys gyda nhw. Mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni efallai'n rhoi darlun llawer cliriach o'r hyn sy'n dod eu ffordd nhw a'n bod ni'n trafod hynny gyda nhw yn gynharach yn y broses. Rydw i wedi gofyn i bennaeth deintyddiaeth Llywodraeth Cymru i barhau gyda'r drafodaeth honno ac rydw i wedi gofyn am ddilyniant, dim ond i weld pa mor bell yr ydyn ni'n dod ymlaen â hynny yn ystod yr wythnos nesaf.

15:50

Gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad yna? O bosib y peth mwyaf arwyddocaol ydy'r ffaith bod darn o waith ymchwil wedi cael ei gomisiynu gan y Gweinidog yn ddiweddar er mwyn trio dod i ddeall yn well beth ydy profiadau pobl o gael mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol, a beth mae mynediad da yn ei olygu iddyn nhw. Mae'n wirioneddol yn bwysig, dwi'n meddwl, ein bod ni'n deall hyn, achos mor aml mae profiad claf fel mae'n cael ei adrodd i fi ac i lawer ohonom ni, dwi'n siŵr, fel Aelodau o'r Senedd yma, yn wahanol iawn i'r hyn sy'n cael ei ddweud wrthym ni yn swyddogol.

Er enghraifft, mi wnaiff etholwyr i fi ofyn yn aml, 'Pam nad ydy meddygon teulu yn gweld pobl wyneb yn wyneb?' Wel, wrth gwrs, mae meddygon teulu yn gweld pobl wyneb yn wyneb, ac yn wir mi wnaeth meddygon teulu barhau i weld pobl wyneb yn wyneb drwy gyfnod COVID. Ond mae yna'r canfyddiad yma ei bod hi'n anoddach i gael mynediad at apwyntiad wyneb yn wyneb erbyn hyn. Felly mi hoffwn i glywed gan y Gweinidog am y gwaith sy'n cael ei wneud er mwyn rhoi eglurder i bobl am y math o wasanaethau y gallan nhw eu disgwyl wyneb yn wyneb gan eu meddygfa, fel eu bod nhw'n gallu cael syniad realistig o beth yn union ydy'r safonau mae'r Llywodraeth yn eu disgwyl ar hyn o bryd.

Dwi'n cyd-fynd yn llwyr efo'r hyn mae'r Llywodraeth yn trio ei wneud o ran siarad am ofal sylfaenol yn ei ddiffiniad mwyaf eang. Mae pobl yn dal i drafod 'mynd i weld y doctor', ond go iawn mynd i gael gwasanaeth iechyd mae angen i bobl ei wneud, a dyna pam ei bod hi mor bwysig bod pobl yn deall am y gwasanaethau sydd ar gael drwy fferyllfeydd ac yn y blaen. Mi fyddwn i'n hoffi clywed gan y Gweinidog am y math o fuddsoddiad mae'r Llywodraeth yn ei wneud neu'n ystyried ei wneud er mwyn mynd i'r afael â’r her addysgu yna sydd yn amlwg angen ei gwneud, oherwydd dim ond os ydy pobl yn deall y gwahanol ffyrdd y gallan nhw gael mynediad at wasanaethau iechyd y byddan nhw yn dechrau mynd i drio cael mynediad at wasanaethau mewn ffyrdd gwahanol a ffyrdd mwy cynaliadwy.

Un pryder arall sydd gen i, wrth droi at yr elfen ddeintyddol yn natganiad y Gweinidog, ydy bod y Llywodraeth, tra yn cyfaddef bod yna heriau, yn trio rhoi yr argraff bod gwasanaethau, ar y cyfan, yn dda mewn deintyddiaeth ar hyn o bryd. Dydw i ddim yn teimlo, o siarad efo deintyddion a llawer o gleifion deintyddol chwaith, bod hynny yn adlewyrchiad realistig. Dwi yn wirioneddol gredu bod yna argyfwng mewn deintyddiaeth yng Nghymru ar hyn o bryd. Rydym ni wedi gallu cyffwrdd ar hynny yma yn Siambr y Senedd droeon dros yr wythnosau ac yn wir y blynyddoedd diwethaf. Dwi yn gofyn am dôn wahanol gan y Llywodraeth wrth drafod deintyddiaeth. Roedd y Prif Weinidog, unwaith eto, yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw, yn pwysleisio’r miliwn o bobl sydd wedi cael mynediad at ofal deintyddol dros y flwyddyn ddiwethaf. Wrth gwrs bod yna ystadegau positif mae modd cyfeirio atyn nhw o hyd, ond oni bai ein bod ni'n sylweddoli ein bod ni mewn cyfnod o argyfwng, dwi'n ofni na fydd y brys yna yn ymateb y Llywodraeth i'r argyfwng.

Ac yn olaf, yn dilyn y cyfeiriad gan y Gweinidog at y cynghorau iechyd cymuned yn ei hateb i lefarydd y Ceidwadwyr, mae gen i un cwestiwn penodol ynglŷn â Chyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru. Rydym ni'n gwybod ein bod ni mewn cyfnod heriol tu hwnt o ran darpariaeth iechyd a gofal ar draws y gogledd, a bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi cael ei roi yn ôl mewn mesurau arbennig. Mi fyddwn i yn dadlau ei bod hi’n fwy pwysig nag erioed bod gennym ni gyngor iechyd cymuned sydd wirioneddol yn deall y gymuned honno ac yn gallu ymateb yn gyflym, er enghraifft yn gwneud ymweliadau dirybudd ac ati. Felly, onid oes yna ddadl gref dros alluogi cyngor iechyd cymuned y gogledd i barhau am y tro tra’n bod ni yn dal yn wynebu'r heriau yma efo Betsi Cadwaladr?

15:55

Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig i ni ystyried beth mae access yn ei olygu i bobl, beth yw eu profiad uniongyrchol nhw, felly diolch am gydnabod bod y gwaith ymchwil yna yn mynd ymlaen. Dwi'n meddwl bod rhaid inni efallai helpu pobl i ddeall bod beth sydd wedi digwydd yn hanesyddol o ran cael access at GP ddim o reidrwydd y ffordd bydd pethau’n gweithio yn y dyfodol, yn rhannol achos dyw hi ddim yn ddefnydd da o’n GPs ni. Dyna pam mae'n rhaid inni eu harallgyfeirio nhw at bobl sydd, efallai, yn mynd i'w trin nhw gyda mwy o arbenigedd mewn un maes sydd yn fwy priodol iddyn nhw. Mae hynny yn newid, a dwi'n deall bod e’n newid sydd yn anodd i rai pobl, ond dwi yn meddwl mai dyna’r newid sydd angen inni ei weld.

Beth rŷn ni'n gobeithio ei weld yw mwy o gydlynu ar lefel clwstwr, felly bydd y GPs ac ati yn gweithio gydag allied health professionals ac eraill sy'n gweithio yn y maes, gyda fferyllfeydd, a bydd y rheini i gyd yn dechrau cydweithio lot yn well nag y maen nhw wedi yn y gorffennol. Mae hynny yn gweithio’n dda mewn rhai llefydd, ond yn amlwg mae'n rhaid inni fynd ymhellach.

O ran access, dwi'n meddwl ei bod hi'n ddiddorol, achos yn aml iawn rŷn ni'n clywed lot o sŵn am bobl sydd ddim yn cael triniaeth dda, ond mae lot o bobl yn dod lan ataf i a dweud cymaint maen nhw'n hoffi, er enghraifft, yr e-consult model sydd yn gweithio i lot o bobl, yn arbennig pobl, efallai, sydd yn gweithio. Does dim amser gyda nhw i fynd i weld GP ac maen nhw'n hoffi cael yr access yna. Felly, mae pethau’n gweithio’n well i rai pobl nag eraill, a dwi'n meddwl bod rhaid inni gydnabod hynny.

Rŷn ni wedi gwario miliynau ar dreial cael pobl i ddeall bod yna ffyrdd eraill i gael access at gael triniaeth. Dyna pam mae'r 'Help Us to Help You' campaign i'w weld ym mhobman. Mae hi wedi bod yn weladwy. Mae'n anodd i fynd i ffwrdd ohoni. Dwi'n meddwl bod hwnna'n rhywbeth sydd wedi gweithio. Mae hwnna'n rhoi gwybod i bobl bod pharmacies ar gael, bod 111 ar gael, bod urgent primary care centres ar gael, bod lot o lefydd eraill rŷch chi'n gallu mynd iddyn nhw heblaw am y GP. Dwi'n meddwl bod hynny wedi dechrau gweithio, ond mae'n rhaid i ni jest atgoffa pobl. Unwaith bydd pobl yn deall e am y tro cyntaf, byddan nhw wedyn, gobeithio, yn dilyn hynny yn y dyfodol.

O ran dentistry, dwi'n cydnabod bod yna le i wella, ond dwi jest yn meddwl bod pethau yn gwella. So, mae yna ffordd bell i fynd, ond rŷn ni ar y trywydd, a dwi'n meddwl bod hynny'n bwysig. Ond, beth sy'n glir yw gallwn ni ddim jest troi hwn ymlaen dros nos; mae'r bobl yma'n cymryd amser i ni hyfforddi. Dyna pam dwi'n meddwl bod e'n anodd, yn arbennig pan ŷn ni'n trio newid y system. Felly, beth rŷn ni eisiau gwneud yw defnyddio mwy o'r bobl yma, y dental therapists ac ati. Dyna pam rŷn ni'n agor mwy o ganolfannau mewn llefydd fel yn y gogledd.

Jest o ran y community health councils a'r grŵp newydd, Llais, dwi yn meddwl bod e'n bwysig bod llais y bobl sy'n defnyddio'r NHS yn cael ei glywed yn glir. Mae yna lot o baratoi wedi cael ei wneud o ran symud o'r community health councils i Llais. Felly, mae yna lot o baratoi wedi'i wneud. Bydd y rhan fwyaf o'r bobl a oedd yn gweithio i'r community health councils yn cael eu TUPE-io drosodd, felly yr un bobl ydyn nhw, ond mae'r system yn mynd i fod ychydig yn wahanol. Felly, dwi'n cydnabod a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod pobl yn gwybod bod y system yn mynd i newid ac fe fydd yna ymgyrch i sicrhau bod pobl yn deall bod system newydd mewn lle.

16:00

Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw yn fawr. Mae'r ymrwymiad i fynediad a gafodd ei gyflwyno ym mis Ebrill y llynedd, sy'n ei gwneud yn ofynnol i feddygfa fabwysiadu dull wedi'i gynllunio o gwrdd ag anghenion cleifion, gan symud i ffwrdd o, 'Rhyddhau pob apwyntiad am 8am, ac os ydych chi'n digwydd bod yn rhif wyth deg un, a'u bod ond yn cymryd 80 apwyntiad, yna dim gobaith, beth bynnag oedd yn bod arnoch chi'—. Ond sut mae hyn yn cael ei weithredu? Beth yw rôl y bwrdd iechyd o ran sicrhau ei fod yn cael ei weithredu?

Yr wythnos diwethaf, codais broblem yr oedd etholwr wedi'i chael wrth geisio cael mynediad at ofal sylfaenol. I ddyfynnu, 'Rydyn ni wedi galw meddygon Llansamlet i gael apwyntiad i fy nhad-cu bob dydd, ddwywaith y dydd, ers 27 Chwefror, ar gyfer apwyntiad oherwydd haint ar y frest gan fod ganddo glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Ar 10 Mawrth, cafodd fynediad at feddyg teulu, a chafodd ei anfon yn syth i'r ysbyty'. A yw'r Gweinidog yn cytuno, tan y byddwn ni'n cael gofal sylfaenol yn gweithredu'n dda ym mhob meddygfa, y bydd derbyniadau i'r ysbyty yn codi? Hefyd, a fydd y Gweinidog yn ymuno â mi i longyfarch meddygfeydd fel Clydach yng nghlwstwr Cwmtawe yn Abertawe sy'n darparu gwasanaeth ardderchog i'w holl gleifion?

O ran deintyddiaeth, ar ôl Brexit, gwnaethom ni golli deintyddion Undeb Ewropeaidd yn Abertawe. Oedd hynny'n wir am weddill Cymru?

Diolch yn fawr, Mike. Rydych chi'n hollol gywir; mae rhai meddygfeydd sy'n perfformio llawer, llawer gwell na'i gilydd o ran cael mynediad atyn nhw. Un o'r pethau yr ydw i wedi gofyn i fy swyddogion wneud nawr yw dechrau cael llawer mwy o fanylder o ran lle yr ydyn ni'n clywed y cwynion drosodd a throsodd. Oherwydd mae rhai yn perfformio'n dda iawn, ac fel yr ydw i'n ei ddweud, mae 89 y cant ohonyn nhw'n derbyn yr ymrwymiad mynediad nawr, ond mae hynny'n golygu bod rhaid i ni fynd ar ôl y gweddill ohonyn nhw. Ond, o fis Ebrill, fel yr ydw i'n dweud, fydd e ddim yn ddull gwirfoddol; bydd yn rhan o'u rhwymedigaethau contractiol. Felly, bydd hi'n llawer haws wedyn gwthio pobl i gyflawni'r hyn rydyn ni'n ei ddisgwyl ganddyn nhw.

Rydych chi'n hollol gywir o ran deintyddion yr UE. Yn sicr, gwelsom ni lawer ohonyn nhw'n dychwelyd ar ôl Brexit, ac mae wedi gadael bwlch; mae'n waddol arall Brexit. Ac, eto, nid yw hynny'n helpu o ran ceisio cael pobl i lenwi'r bylchau hyn. Nid ydyn nhw'n bodoli; ni allwch chi greu deintydd dros nos, a'r rhai oedd gennym ni, mae llawer ohonyn nhw wedi mynd adref. Ni alla i fod yn gyfrifol am hynny. Rwy'n gallu bod yn gyfrifol am lawer o bethau, ond y darn yna, ni alla i fod yn gyfrifol amdano, ac mae'n mynd i gymryd tipyn o amser i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf.

16:05

Mae perfformiad gofal sylfaenol yn amlwg yn fater cymhleth iawn, oherwydd os ydych chi'n gwasanaethu poblogaeth ddifreintiedig, mae'n debygol bod y galw ar eich gwasanaethau yn mynd i fod yn llawer mwy nag mewn ardal lle y gall pobl fforddio mynd i'r fferyllydd a phrynu beth bynnag sydd ei angen arnyn nhw. Felly, rwy'n credu—. Rwy'n gwerthfawrogi bod y galwad 8 o'r gloch y bore yn straen aruthrol ar bobl sy'n agored iawn i niwed, yn enwedig y rhai sy'n ei chael hi'n anodd defnyddio'u ffonau symudol. Ond gwelais i feddygfeydd ardderchog yn un o fy nghanolfannau iechyd, lle ymrwymodd yr uwch dderbynnydd i ffonio'r claf am 8 o'r gloch y bore, gan wybod bod angen ei flaenoriaethu ar gyfer rhai o'r llefydd prin sydd ar gael. Ni allwn ddisgwyl i feddygon teulu redeg yn gyflymach fyth ar felin droed—dyna'r llwybr i ludded. Felly, yn bendant mae angen i fodau dynol fod yn rhan o'r broses o flaenoriaethu'r angen brys dros y rhai iach sy'n gofidio am eu hiechyd. Ond rwy'n credu bod gwaith rhagorol yn amlwg yn cael ei wneud, Gweinidog, a'r defnydd gwell o fferyllwyr ac optometryddion ar y stryd fawr. A'r gwasanaeth 111—onid oedd hi'n wych nad oeddem ni wedi rhuthro i geisio efelychu'r hyn yr oedden nhw'n ei wneud yn Lloegr?

Felly, mae fy nau gwestiwn yn ymwneud â nyrsio cymunedol mewn gwirionedd. Rwy'n gweld eich bod chi'n ymrwymo tua £3 miliwn iddo, ac mae'r system amserlennu electronig yn bwerus iawn wrth arbed amser uwch arweinwyr tîm. Ond onid oes angen timau amlddisgyblaethol sy'n ymwneud â nyrsio cymunedol, oherwydd nid oes modd i ni gael yr holl nyrsys ardal sydd eu hangen arnon ni, felly mae'n rhaid i ni wneud pethau'n wahanol? Felly, dyna fy mhrif gwestiwn. Diolch.

Diolch yn fawr, ac rydych chi'n hollol gywir, ac rwy'n mynd i dalu teyrnged i'r derbynyddion sydd yn aml iawn yn cael amser caled iawn gan y cyhoedd. Ac, mewn gwirionedd, rwy'n gobeithio y bydd y cyhoedd yn barchus tuag at dderbynyddion sydd â swydd anodd iawn, yn enwedig pan ydych chi'n ystyried, ym mis Rhagfyr, roedd 400,000 o gysylltiadau mewn un wythnos, rwy'n credu, i feddygfeydd. Felly, mae hyn yn swm enfawr, enfawr o gysylltiadau sy'n cael eu gwneud i feddygon teulu.

Ond dim ond o ran fferyllwyr, wel, rydyn ni ymhell ar y blaen i'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill yng ngweddill y DU pan fo'n dod at fferyllfeydd, ac, wrth gwrs, mae gennym ni'r contract fferylliaeth gymunedol hwnnw. A'r hyn sy'n wych yw bod gennym ni 704 o fferyllfeydd erbyn hyn yn darparu triniaeth ar gyfer anhwylderau cyffredin, dulliau atal cenhedlu brys a materion eraill. Y peth allweddol i ni ei ddeall yw ein bod ni nawr yn cymryd hynny hyd yn oed ymhellach. Felly, rydyn ni'n ceisio eu cael nhw i ragnodi ar ben hynny. Oherwydd bod y bobl hyn yn fedrus iawn, ac mae hi nawr yn fater o ddefnyddio eu sgiliau i dynnu rhywfaint o'r pwysau hwnnw oddi ar feddygon teulu. Felly, erbyn diwedd eleni, rydyn ni'n disgwyl y bydd un o bob tair fferyllfa yng Nghymru yn gallu darparu'r gwasanaeth rhagnodi hwnnw, felly rydw i'n credu bod hynny'n newyddion eithaf da. Mae'r gwasanaeth 111 wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus a gobeithio, nawr, y bydd pobl yn deall bod gwasanaeth 111 'pwyso 2' ar gyfer iechyd meddwl hefyd ar gael.

Dim ond o ran nyrsio cymunedol—a diolch, eto, am hyrwyddo hyn, oherwydd rwy'n gwybod eich bod chi'n wir bencampwr pan ddaw at hyn—rydych chi'n hollol iawn, yr hyn sydd ei angen arnom ni yw timau amlddisgyblaeth, a'r flaenoriaeth gyntaf yr wyf i wedi'i rhoi i fyrddau iechyd eleni yw dweud, 'Mae'n rhaid i chi symud mwy o adnoddau o ofal eilaidd, i bob pwrpas, i ofal sylfaenol, i mewn i'n cymunedau'. Mae'n rhaid i ni fod yn cydweithio, gydag awdurdodau lleol, yn datblygu'r timau amlddisgyblaethol hynny o amgylch y claf a sicrhau eu bod yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. Felly, rwy'n credu ein bod ni'n mynd i weld tipyn o gyflymu yn y man hwnnw yn ystod y misoedd nesaf.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad. Mae mor bwysig bod pobl yn gallu cael mynediad at ofal iechyd sylfaenol mewn modd amserol. Felly, byddwn i'n croesawu ychydig mwy o wybodaeth am y gofynion mynediad ar gyfer practis cyffredinol wrth i hyn bontio i sail orfodol. O siarad â meddygon teulu yn fy etholaeth i, rwy'n cael gwybod bod y systemau brysbennu bore cynnar hynny yn caniatáu iddyn nhw ychwanegu llawer mwy o apwyntiadau mewn diwrnod nag a fyddai'n wir fel arall, ond hefyd, wrth gwrs, rwy'n ymdrin â llawer o ymholiadau gan etholwyr sy'n rhwystredig gan yr hyn a elwir yn dagfa 8am, ac sy'n dymuno gallu archebu llawer mwy o wasanaethau o flaen llaw, fel archwiliadau rheolaidd a phrofion gwaed. Felly, pa gymhareb—pa fath o gymhareb o apwyntiadau—a fyddech chi'n disgwyl byddai'n cael ei dal yn ôl gan feddygfeydd? A sut fyddech chi'n gweld hyn yn gweithio'n ymarferol?

Ac yn olaf, fel yr wyf i wedi sôn amdano o'r blaen yn y Siambr, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gyflwyno 111 'pwyso 2' ledled Cymru, a allai hefyd leddfu'r pwysau ar ofal sylfaenol. Pa wersi y mae Llywodraeth Cymru wedi'u dysgu hyd yn hyn ers cyflwyno'r gwasanaeth ar y decharu?

16:10

Diolch yn fawr. Wel, dim ond i nodi rhai o'r gofynion mynediad, rhai o'r pethau yr ydyn ni'n disgwyl iddyn nhw eu gwneud yw symud o'r un dull hwnnw sydd wedi bod yno yn y gorffennol, sef y dull wyneb yn wyneb. Felly, rydyn ni'n ystyried modelau cyfunol. Rydyn ni'n ceisio gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu cynnig apwyntiadau brys, ar y diwrnod, ac y dylen nhw hefyd fod yn rhoi apwyntiadau y mae modd eu harchebu ymlaen llaw, felly, pan fyddwch chi'n ffonio, gallwch drefnu apwyntiad ar eu cyfer yn y dyfodol. Felly, dyma rai o'r pethau yr ydyn ni'n disgwyl iddyn nhw eu gwneud, er nad o reidrwydd ar yr un diwrnod.

Mae ymgynghori dros y ffôn yn ddull arall yr ydym ni'n amlwg yn ei annog ac yn disgwyl iddo ddigwydd. Mae hynny, yn amlwg, yn rhywbeth sy'n digwydd tipyn nawr. Nid oes llawer o ddefnydd yn cael ei wneud—er i ni wario cryn dipyn o adnoddau arno yn ystod y pandemig—o'r ymgynghori fideo sydd ar gael i feddygon teulu; mae'n ymddangos eu bod nhw'n dal yn fwy cyfforddus â'r dull ffôn. Ond hefyd, nid yw'r cyswllt digidol hwnnw, yr e-ymgynghori, ar gael ym mhobman ar hyn o bryd. Byddwn i'n gobeithio gweld hynny'n cael ei gyflwyno hefyd, gan gynnwys, yn ychwanegol, hefyd efallai, apwyntiadau'n cael eu rhyddhau deirgwaith y dydd, felly nid dim ond pob apwyntiad yn cael eu rhoi am 8 o'r gloch y bore, ond mewn gwirionedd mae'n rhaid i chi eu gwasgaru nhw drwy gydol y diwrnod.

Ac yna, dim ond o ran 111 'pwyso 2', mae'n dal i fod yn ddyddiau cynnar iawn. Mae e wedi bod yn llwyddiannus, ond y peth allweddol i ni—un o'r pethau allweddol i ni—yw sicrhau ein bod ni'n gallu darparu'r gwasanaeth hwnnw dros 24 awr. Oherwydd yr hyn yr ydyn ni eisiau'i wneud yw sicrhau bod pobl yn deall ei fod ar gael, ac i dynnu'r pwysau, unwaith eto, oddi ar bobl sy'n dod at y gwasanaethau damweiniau ac achosion brys. Felly, mae ymyrraeth yn gynnar o ran iechyd meddwl yn gwbl allweddol, a pheidio â gadael i'r materion hynny gynyddu, a dyna pam rwy'n gobeithio y bydd y gwasanaeth hwnnw'n llwyddiannus. Fel rwyf i'n ei ddweud, mae wedi cael ei gyflwyno mewn sawl man yn barod.

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar y Papur Gwyn ar Dacsis a Cherbydau Hurio Preifat
6. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad

Felly, symudwn ymlaen at eitem 6, datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ddeuddeg mis yn ôl, fe gyflwynais i gyfres o gamau i'n rhoi ni ar ben ffordd wrth daclo effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Mae bylchau cyrhaeddiad rhwng plant a phobl ifanc mewn ysgolion cynradd ac yng nghyfnod allweddol 3 sy'n cael eu heffeithio gan dlodi wedi lleihau dros amser. Mae'r cynnydd hwnnw wedi bod yn llai cyson ar gyfer dysgwyr ar lefel TGAU, ac mae effaith y pandemig yn debygol o fod wedi gwaethygu'r bylchau. Ond does dim un ateb syml. Allwn ni ddim delio gyda’r mater hwn drwy un fenter neu drwy ddiwygio un rhan o'r system; mae angen i ni weithredu ar sail system gyfan.

Yr wythnos diwethaf, fe roddais i’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd ar ein map trywydd newydd ar gyfer addysg, sef, ‘Safonau a Dyheadau Uchel i Bawb’. Mae’r map trywydd hwnnw yn nodi'r camau rŷn ni’n eu cymryd ar y cyd ar gyfer addysg. Mae’n rhaid i ni edrych ar bob cam gweithredu yn fanwl i sicrhau ein bod ni’n taclo effaith tlodi ar ddeilliannau addysgol. Heddiw, rwyf am roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar y camau a gyflwynais i 12 mis yn ôl, sydd bellach yn rhan o’r map trywydd.

Y ffactor pwysicaf mewn perthynas â mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad mewn ysgolion yw sicrhau addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Rydyn ni wedi cymryd camau ar draws y system i sicrhau ein bod ni’n rhoi sylw i’r ffactor hwnnw gan fanteisio ar dystiolaeth ryngwladol o'r hyn sy'n gweithio. Mae deall effaith tlodi eisoes yn rhan o hyfforddiant cychwynnol athrawon, a byddwn ni’n cryfhau'r ffocws hwnnw. O fis Medi ymlaen, mae cymhwyster cenedlaethol ar radd Meistr mewn addysg ar gyfer athrawon sydd eisoes yn cael eu cyflogi yn cynnwys modiwl sy'n canolbwyntio ar leihau effaith tlodi, ac fe gafodd adnoddau newydd eu darparu yn ddiweddar i athrawon a chynorthwywyr addysgu. 

Mae'r dasg o gefnogi'r ymgyrch hon wedi'i rhoi i'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru ac Estyn. Mae Estyn wedi bod yn rhoi mwy o sylw i'r hyn y mae darparwyr yn ei wneud i leihau effaith tlodi ac wedi cyhoeddi arweiniad ategol newydd ar beth maen nhw'n ei arolygu. Mae gan yr academi genedlaethol rôl i sicrhau bod arweinyddiaeth ledled Cymru yn cydnabod effeithiau tlodi ac yn mynd i'r afael â'r effeithiau hynny.

Ym mis Ionawr, gyda chymorth yr academi genedlaethol, fe benodais saith pennaeth eithriadol i fod yn bencampwyr cyrhaeddiad. Maen nhw'n gweithio gydag ysgolion sy'n bartneriaid ledled Cymru i rannu eu profiad o daclo effaith tlodi mewn ysgolion yn llwyddiannus. Rwyf wedi cwrdd â nhw ddwywaith erbyn hyn, yn fwyaf diweddar ar 9 Mawrth, i gael clywed eu canfyddiadau nhw, a fydd yn llywio ein datblygiad polisi ni.

Dirprwy Lywydd, mae bob amser mwy i'w ddysgu. Yn ystod y 12 mis diwethaf, rydyn ni wedi edrych ar draws y DU ac yn rhyngwladol i lywio polisi, gan dynnu ar arbenigedd sefydliadau fel y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a'r Sefydliad Gwaddol Addysgol. Fel y nodais i'r llynedd, rydyn ni'n gwybod o dystiolaeth ymchwil ac arolygu bod ysgolion sy'n cyplysu dysgu ac addysgu effeithiol gan ganolbwyntio ar ymgysylltu â'r teulu sydd fwyaf effeithiol wrth oresgyn effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol.

Yn gynharach yn y mis, cyhoeddais i gyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned er mwyn gwella hygyrchedd a defnydd cymunedol ysgolion. Byddwn ni'n buddsoddi £40 miliwn yn ystod y ddwy flynedd nesaf, gan ychwanegu at y £20 miliwn a gafodd ei ddarparu yn 2022-23. Byddwn ni'n parhau i ddarparu cefnogaeth i reolwyr ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Rwyf i hefyd wedi cyhoeddi cynnydd yn y cyllid ar gyfer swyddogion ymgysylltu â theuluoedd o £3.84 miliwn i £6.5 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Drwy weithio gyda theuluoedd, mae'r rolau hyn yn cael effaith wrth helpu i ymdrin â'r rhwystrau y mae dysgwyr yn eu hwynebu, fel presenoldeb, cyrhaeddiad neu iechyd meddwl gwael a phroblemau llesiant. Rydyn ni wedi datblygu a diwygio ein canllawiau ar ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned ac rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid addysg i gwblhau canllawiau presenoldeb ac ymgysylltu diwygiedig.

Rydw i wedi ymrwymo i'r grant datblygu disgyblion, sy'n darparu tua £130 miliwn y flwyddyn o gymorth ychwanegol i ysgolion. Rydyn ni wedi paratoi canllawiau diwygiedig, wedi'u llywio gan waith y Sefydliad Gwaddol Addysg ac Estyn, i gefnogi ysgolion i dargedu'r cyllid hwn yn well ar yr hyn sy'n gweithio a gwella monitro a gwerthuso effaith. Caiff hyn ei gyhoeddi yn nhymor yr haf.

Rwy'n cydnabod yr anawsterau o ran recriwtio athrawon i feysydd mwy heriol. Mae'r Sefydliad Polisi Addysg yn cynnal adolygiad cyflym o'r dystiolaeth ryngwladol yn y maes hwn a byddan nhw'n adrodd i mi dros yr haf. Rwy'n ymroddedig i gynnal y cymorth o £13.6 miliwn i'n grant hanfodion ysgolion. Bydd hyn yn parhau i sicrhau nad yw dysgwyr yn mynd heb wisgoedd nac offer ysgol ac yn gallu cymryd rhan lawn mewn addysg.

Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn adrodd dros yr haf ar ymchwil gwmpasu gychwynnol i ddeall defnydd ac effaith addysgu cyrhaeddiad cymysg yng Nghymru fel y gallwn ni sicrhau nad yw dysgwyr sy'n wynebu tlodi yn cael eu dal yn ôl yn eu dilyniant a'u dyheadau.

Rydyn ni wedi ehangu ein dulliau ysgol gyfan, gan gynnwys pecyn cymorth i gefnogi ysgolion a lleoliadau i ddatblygu a gwreiddio eu dull ysgol gyfan eu hunain o gyflawni safonau uchel o lefaredd a darllen. Mae ein dull ysgol gyfan o lesiant emosiynol a meddyliol a chyfle i fanteisio ar brydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd yn arbennig o bwysig i'r rhai sy'n wynebu effeithiau tlodi.

Rwyf i eisiau rhoi mwy o gyfleoedd ar gyfer cyfoethogi ehangach i blant a phobl ifanc o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is. Rydyn ni'n parhau i fuddsoddi mewn cefnogaeth i fanteisio ar y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol, iaith a gwyddoniaeth, technoleg, tiwtoriaid peirianneg a mathemateg, a'r celfyddydau mynegiannol. Mae ein rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol yn darparu buddsoddiad o £4.85 miliwn ar gyfer gweithgareddau hwyl ac addysgol dros wyliau'r haf, wedi'u targedu at ardaloedd lle mae tlodi wedi effeithio arnyn nhw fwyaf.

Rhaid i degwch barhau drwodd i addysg drydyddol. Mae'r dyletswyddau craidd yr ydyn ni wedi'u nodi ar gyfer y comisiwn ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil yn cynnwys hyrwyddo cydraddoldeb ac ehangu cyfranogiad i'r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, rwyf i eisiau edrych ymlaen at y 12 mis nesaf a thu hwnt. Er mwyn adeiladu ar y sylfeini yr ydyn ni wedi'u rhoi ar waith erbyn hyn, rwyf eisiau tynnu sylw at dair blaenoriaeth. Yn gyntaf, mae'n rhaid i ni ddal ati i ddysgu oddi wrth eraill. Byddwn ni'n datblygu ein rhwydweithiau yn y DU ac yn rhyngwladol i nodi a rhannu arferion gorau o'r hyn sy'n gweithio ledled y byd. Byddwn ni'n parhau i ddatblygu ein perthnasoedd â'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a'r EEF, yn ogystal â chreu perthnasoedd newydd, fel memorandwm o ddealltwriaeth gyda Fflandrys.

Yn ail, byddwn ni'n symud o ymchwil i ddatblygu polisi mewn meysydd blaenoriaeth. Mae hyn yn cynnwys datblygu polisi ar gyfer cymell athrawon i mewn i feysydd heriol, a gwell dealltwriaeth o effaith addysgu cyrhaeddiad cymysg yng Nghymru.

Yn drydydd, bydd angen i ni allu nodi lle mae angen cefnogaeth ychwanegol ac i'w dargedu'n effeithiol, gan olrhain ein cynnydd drwyddi draw. Cyhoeddais wybodaeth fanwl am ein camau nesaf ar gyfer ecosystem wybodaeth ym mis Ionawr.

I gloi, hoffwn i ailadrodd yr ymrwymiad a wnes i'r llynedd: mae pob un plentyn yng Nghymru yn haeddu safonau a dyheadau uchel. Cyhoeddais i'r map trywydd i gyflawni hynny'r wythnos diwethaf, a heddiw, rwyf i wedi rhoi diweddariad i chi ar rai camau penodol i fynd i'r afael gydag effaith tlodi. Fyddwn ni ddim yn dewis rhwng tegwch a rhagoriaeth yn ein hysgolion ni—rhaid inni gyflawni'r ddau beth.

16:20

Diolch. Fel y gwyddoch chi, mae'r bwlch anfantais yng Nghymru yn waeth o lawer nag yn Lloegr, gyda'r bwlch anfantais gwaethaf yn Lloegr yn dal i rancio'n uwch na rhan helaeth o Gymru. Felly, mae'n rhaid gofyn y cwestiwn: pam, ar ôl dau ddegawd, mai dim ond meddwl am hyn yr ydych chi nawr? Pa fuddugoliaethau cyflym ydych chi'n gobeithio eu cyflawni gyda'r pencampwyr hyn, yn ogystal â chynllun hirdymor i newid y bylchau chwithig yma yn llwyr o ran cyrhaeddiad rhwng y bobl dlawd yng Nghymru a'r rhai mwy cyfoethog?

Mae Sefydliad Joseph Rowntree wedi amlygu ar hyd y blynyddoedd bod perfformiad addysgol plant o gefndiroedd tlotach o'i gymharu â'u cyfoedion o gefndiroedd mwy llewyrchus, yn rhoi tystiolaeth glir o effaith tlodi ar gyflawniad. Felly, Gweinidog, onid ydych chi mewn gwirionedd yn credu bod torri'r grant datblygu disgyblion, hynny yw, cefnogaeth i'r myfyrwyr tlotaf yng Nghymru, yn mynd yn erbyn y datganiad yr ydych chi newydd ei ddarllen heddiw ac y bydd hyn mewn gwirionedd yn niweidio cyrhaeddiad?

Nawr, rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn comisiynu gweithgareddau ymchwil a threialu i ymdrin â bylchau o ran dealltwriaeth a datblygu dulliau newydd, ac rwy'n gwybod bod hyn yn cynnwys penodi'r saith pencampwr cyrhaeddiad. Fodd bynnag, rydyn ni eisoes yn gweld ysgolion ar hyd a lled Cymru'n ei chael hi'n anodd rhannu arferion gorau ar amrywiaeth eang o faterion. Efallai eich bod chi wedi sefydlu gwefan newydd ar gyfer rhannu arferion gorau o'r fath, ond, mewn gwirionedd, mae athrawon yn dweud ei fod yn feichus ac nad ydyn nhw'n ei defnyddio. Felly, pan fydd y cyngor newydd gan y pencampwyr cyrhaeddiad yn cael ei drosglwyddo nôl i ysgolion, sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod yr arfer gorau yn cael ei rannu'n well nag y mae ar hyn o bryd?

Ac fel y gwyddoch chi, yn y pen draw, y ffordd orau y gall Llywodraeth Cymru leddfu effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol yw lleddfu tlodi yng Nghymru a dyna ben arni. Mae angen buddsoddiad priodol mewn cymunedau yng Nghymru, yn enwedig ardaloedd gwledig, yn ogystal ag ymagwedd fwy rhagweithiol sy'n cymell gweithwyr medrus i fyw yng Nghymru ac i aros yma hefyd. Mae'r rhain i gyd yn gamau angenrheidiol i godi mwy o bobl yng Nghymru o dlodi cymharol. Mae hon hefyd yn ffordd hanfodol o leihau'r bwlch cyrhaeddiad a chynyddu cyfleoedd bywyd ein dysgwyr.

Fy nghwestiwn olaf i: sut mae eich adran yn mynd i weithio'n draws-adrannol i sicrhau bod hyn yn digwydd? Pa gynlluniau sydd gennych chi yn eu lle i sicrhau bod gan Gymru ddull gweithredu lluosog ar gyfer cyrhaeddiad addysgol? Diolch.

Diolch i'r Aelod am ei sylwadau a'r cwestiynau y mae hi wedi'u gofyn. Mae hi'n gwneud pwynt pwysig, rwy'n credu, am allu ysgolion ar eu pennau eu hunain i ymdrin ag effaith lawn tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Mae ysgolion yn eu cymunedau, maen nhw yn eu cymdeithas, ac mae yna bethau y gall ysgolion eu gwneud, ac mae yna bethau na all ysgolion eu gwneud, o ran ymdrin â'r amrywiaeth ehangach honno o heriau.

Ond yr hyn y mae'r datganiad yr ydw i wedi'i ddisgrifio heddiw yn ei wneud—i ateb cwestiwn yr Aelod, rwy'n credu—yw gosod dull system gyfan sy'n dechrau yn y blynyddoedd cynnar ac sy'n ymestyn drwy'r ysgol, coleg, dysgu yn y gwaith, addysg uwch, ac, yn bwysig, dysgu gydol oes hefyd, i ddod â phwyslais system gyfan ar sut yr ydym ni'n ymdrin ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad.

Gwnaeth hi'r pwynt bod y grant datblygu disgyblion, wedi'i dorri. Mae hynny'n ffeithiol anghywir; mae wedi cael ei gynyddu yn nhermau arian parod ac yn nhermau gwirioneddol, a hynny am y rheswm syml iawn ei fod yn ffordd effeithiol iawn o dargedu cyllid mewn ysgolion i adlewyrchu'r garfan o ddisgyblion sy'n byw dan anfantais.

Mae hi'n gwneud pwynt ymarferol pwysig am y ffordd orau o ledaenu arferion gorau drwy'r system. Mewn gwirionedd, nid yw i'n adnabod y pwynt a wnaeth—soniodd am wefan; nid ydw i'n siŵr at ba wefan yr oedd hi'n cyfeirio, ond nid ydw i'n deall yn hollol y pwynt yr oedd hi'n ei wneud. Er, fel mae'n digwydd, yn y trafodaethau y cefais i fwyaf diweddar gyda'r pencampwyr cyrhaeddiad yr wyf i wedi'u penodi, un o'r materion yr oedden ni'n eu harchwilio yw sut y gallwn ni sicrhau bod penaethiaid mewn ysgolion ledled Cymru sydd eisiau mynediad cyflym at astudiaethau achos da o'r hyn sydd wedi bod yn effeithiol mewn ysgolion eraill—sut ydyn ni'n gwneud yn siŵr bod y rheiny'n hygyrch a'i bod yn hawdd gwneud defnydd cyflym ohonyn nhw. Felly, yn bendant mae yna waith y byddwn ni eisiau'i wneud, ynghyd â'n pencampwyr cyrhaeddiad a hefyd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, yn y man hwnnw. Ond gofynnodd i mi pa fesurau a fyddwn ni'n eu cymryd; yr oeddwn i wedi cymryd, rwy'n meddwl, tua 10 munud i fanylu ar yr amrywiaeth eang o fesurau yr ydym ni'n eu cymryd, felly rwy'n credu na allaf i wneud yn well na'i chyfeirio at fy natganiad.

16:25

Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw. Yn amlwg, mae hyn yn dilyn trafodaeth gawson ni yr wythnos diwethaf o ran hyn, lle roedden ni yn pwysleisio pa mor angenrheidiol ydy o ein bod ni yn edrych i sicrhau bod cyfle cyfartal i bawb, lle bynnag bo nhw yng Nghymru a beth bynnag fo’u cefndir nhw, ac rydyn ni'n gwybod dyw hynny ddim yn wir ar y funud, ac mae yna nifer o fesurau fan hyn i'w croesawu heb os. Rydyn ni'n gwybod hefyd, wrth gwrs, o ran yr holl dystiolaeth, ein bod ni'n gwybod o ran absenoldeb fod yna gysylltiad rhwng tlodi ag absenoldeb, ac un o’r pethau dwi'n ei groesawu’n fawr ydy'r parhad o ran yr arian efo'r swyddogion fydd yn ymgysylltu efo teuluoedd. Byddwn i yn hoffi gofyn—. Dwi'n gweld bod yna gynnydd wedi bod o ran hynny—jest eisiau gwybod sut byddwch chi'n monitro o ran effeithiolrwydd y cynlluniau hynny. Yn sicr, mae’r ymateb wedi bod yn dda, gan ysgolion dwi wedi bod yn ymweld â nhw, lle maen nhw wedi galluogi hyn, a dwi'n meddwl y bydd hyn yn cael ei groesawu yn fawr ganddyn nhw.

Os caf i ganolbwyntio ar y buddsoddiad o £40 miliwn y gwnaethoch chi ei grybwyll o ran yr ysgolion â phwyslais ar y gymuned i wella hygyrchedd a defnydd cymunedol o ysgolion, yn amlwg, mae'r buddsoddiad hwnnw i'w groesawu, ond dydw i'n dal ddim yn deall sut yn union maen nhw'n mynd i helpu o ran cyrhaeddiad, yn enwedig wrth edrych ar y cysylltiad rhwng absenoldeb o'r ysgol a chyrhaeddiad, oherwydd, yn amlwg, os na allwn ni hyd yn oed gael ein plant a'n pobl ifanc i'r ysgol, yna, yn amlwg, nid ydyn nhw'n mynd i allu manteisio ar unrhyw gyfleusterau ychwanegol yno, ac mae'n ymddangos bod hwn yn bwynt sylfaenol.

Dydw i ddim yn gweld, o ran eich cyhoeddiad heddiw, er enghraifft, pwy yn union fydd yn elwa ar y buddsoddiad hwnnw, oherwydd nid oes unrhyw sôn am gostau cludiant, rhywbeth yr ydyn ni wedi ei drafod sawl gwaith nawr fel rhwystr, rhywbeth a fynegwyd yn ymchwiliad y pwyllgor plant a phobl ifanc i absenoldebau ysgolion. Dydw i'n dal ddim yn deall yn iawn, o ran y buddsoddiad cyfalaf hwnnw, sut mae hynny'n mynd i helpu i ymdrin â'r broblem sydd gennym ni nawr, a tybed a fydd rhywfaint o'r arian hwn neu arian yn cael ei wneud ar gael i'r swyddogion ymgysylltu teuluol tuag at gludiant o gwbl.

Mater arall yr hoffwn i ei grybwyll yw ein bod ni, yn amlwg, yn gwybod bod tlodi yn effeithio ar bob agwedd ar fywyd plentyn ac, yn yr ysgol, gall rhwystro plant rhag cael cyfleoedd i gymryd rhan, dysgu a ffynnu, ac mae ymchwil yn dangos bod plant a phobl ifanc o gartrefi llai cefnog yn fwy tebygol o adrodd lefelau uwch o unigrwydd, bodlonrwydd bywyd is a dim mwynhad wrth fynd i'r ysgol. Felly, rydyn ni'n gwybod bod cludiant yn gallu bod yn rhwystr i rai, ond, i rai, nid yw'r ysgol yn lle da i fod. Yn bryderus, mae'r allgáu cymdeithasol y mae yn ei deimlo dysgwyr incwm isel yn cael ei ddwysáu'n aml gan fathau eraill o anghydraddoldeb, gyda phlant incwm is o grwpiau Sipsiwn, Roma a Theithwyr a grwpiau du yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn unig ac yn anhapus yn yr ysgol o'i gymharu â phlant gwyn Cymreig neu Brydeinig o statws economaidd-gymdeithasol debyg. A wnaiff y Gweinidog felly roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar gynllun Llywodraeth Cymru i dargedu'r grwpiau hyn sy'n teimlo gwaharddiad cymdeithasol yn gryf, ac efallai egluro sut bydd y cynnydd hwn mewn cyllid neu fuddsoddiad yn eu cefnogi nhw?

Yn sicr, fel y dywedais i ar y dechrau, rydyn ni'n cefnogi'n fawr unrhyw fuddsoddiad sy'n helpu i sicrhau ein bod ni'n lleihau'r bwlch cyrhaeddiad hwnnw sy'n bodoli ar hyn o bryd. Wrth gwrs, drwy'r cytundeb cydweithredu, mae pethau fel prydau ysgol am ddim yn gwbl hanfodol, ac rydyn ni'n eu croesawu'n fawr. Ond, o ran ysgolion uwchradd, yn amlwg, mae hynny'n disgyn y tu allan i'r cytundeb cydweithredu, ac felly bydden ni'n dal i ofyn, lle bod cyfle, i edrych ar ehangu'r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yn yr oedran uwchradd.

Mae angen i ni gydweithio. Mae angen system sydd yn mynd i drawsnewid pethau. Rydyn ni'n gweld y ffigurau pryderus gan Sefydliad Bevan hefyd o ran y gwahaniaethau rhwng bechgyn a merched a'r gwahaniaethau sydd yna o ran cyrhaeddiad o ran hynny. Felly, gaf i ofyn pa gynlluniau yn benodol sydd i sicrhau bod gwahaniaethau fel yna hefyd yn cael eu taclo? Mae'n rhaid inni sicrhau cyfle cyfartal i bawb, ac fel y dywedais i ar y dechrau, nid dyna'r realiti ar y funud. Mae hyn i'w groesawu, ond dwi'n meddwl bod yna'n dal cwestiynau o ran sut rydyn ni'n mynd i sicrhau'r gorau i bawb. Diolch.

16:30

Wel, gwnaeth yr Aelod bwynt pwysig ynglŷn â beth yw'r heriau mwyaf, ac rwy'n credu o bosibl mai'r her fwyaf sy'n wynebu ysgolion yw sicrhau bod pobl ifanc yn yr ysgol. Mae'n amlwg bod lefelau uchel iawn o absenoldeb, mae llawer, iawn, iawn o ysgolion yn ei adrodd. A gofynnodd yr Aelod gwestiwn pwysig ynglŷn â beth fydd y buddsoddiad i ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned a'r swyddogion ymgysylltu teuluol y cyhoeddais yn ddiweddar yn ei wneud o ran hynny. Dylwn i ddweud, fel y soniais i yn fy natganiad, ar y cwestiwn o absenoldeb ac ymgysylltu yn ehangach, rydyn ni'n adolygu'r canllawiau sydd ar gael i ysgolion ar rai o'r strategaethau y gall ysgolion eu mabwysiadu. Ac mae un o'r materion allweddol yn ymwneud â'r trothwy ar gyfer ymyrraeth ychwanegol—y diffiniad 'absenoldeb parhaus'. Rwy'n credu bod achos cryf iawn dros adolygu hynny er mwyn sicrhau bod mwy o gefnogaeth ar gael yn gynt i deuluoedd na'r hyn sy'n digwydd yn aml ar hyn o bryd. Ac mae'r cyllid ar gyfer swyddogion ymgysylltu â theuluoedd a swyddogion lles addysg yn ogystal yn helpu i ddarparu capasiti ychwanegol yn y system.

Gofynnodd hi i mi a ydw i wedi fy mherswadio bod yr arian yna'n cael ei wario'n dda, i bob pwrpas. Nid ydw i'n credu y bydd Aelod yn y Siambr na fydd wedi ymweld ag ysgol gyda gallu ymgysylltu â theuluoedd nad yw'n gweld manteision hynny'n syth. Mae'n aml yn swydd 24/7, mewn gwirionedd, ac yn aml mae'n cynnwys gwaith ar y penwythnosau ac yn sicr gyda'r nos, yn ogystal â'r gwaith angenrheidiol yn ystod y diwrnod ysgol o gysylltu â'r teulu ac ymweld â'r teulu, ac yn y blaen. Mae'n rôl bwysig iawn, rwy'n credu, mewn ysgolion sydd ag angen am hynny. Ac rwy'n gobeithio y bydd yr arian yr ydyn ni wedi'i wneud ar gael yn gallu cyfrannu ymhellach at hynny. 

O ran y cwestiwn ynghylch y cyllid a sut mae hynny'n ymwneud ag absenoldeb a phresenoldeb, mae'n debyg na allaf i wneud yn well na'i chyfeirio hi at adroddiad heddiw ar WalesOnline, sy'n disgrifio'r £46 miliwn yr ydyn ni wedi'i fuddsoddi fel rhan o strategaeth bresenoldeb, ac mae'n cofnodi trafodaeth y cefais i ddoe mewn ysgol yng Nghaerdydd, sy'n gwneud gwaith eithriadol o ran partneriaethau gyda sefydliadau eraill, gan gynnwys y cyngor lleol ond hefyd y timau prifysgol a chwaraeon ac ati. Yr hyn yr oedden nhw'n ei ddweud wrtha i yn yr ysgol ddoe oedd ei fod yn helpu'r bobl ifanc i ymwneud â'r ysgol yn wahanol. Felly, roedd nifer o'r bobl ifanc—a gafodd eu cyfweld â nhw ar gyfer y darn hwn, gyda llaw, hefyd—yn dweud wrth y newyddiadurwr eu bod yn teimlo 100 y cant yn fwy ymroddedig i'r ysgol yn rhinwedd hefyd yn gallu gwneud y gweithgareddau ychwanegol hyn fel rhan o fod yn ysgol sy'n canolbwyntio ar y gymuned.

Clywson ni hefyd am rieni yn dod i mewn i helpu gwirfoddoli i gefnogi rhai o'r gweithgareddau hynny yr oedden nhw eu hunain yn elwa arni o ran datblygu eu sgiliau. Ond, efallai—roeddwn i'n teimlo o leiaf—yn bwysicach fyth, roedd yn ail-lunio perthynas rhieni i'r ysgol ac ailddatblygu'r berthynas honno o ymddiriedaeth, sydd wir yn rhan bwysig o'r her i gael pobl ifanc yn ôl i'r ysgol. Felly, rwy'n ei hannog hi i edrych ar hynny, achos rwy'n credu mai dim ond esiampl fyw iawn o'r math o beth yr ydyn ni'n gobeithio ei gyflawni yma.

Mae mwy o fanylion ar gael yn y canllawiau y gwnaethon ni eu cyhoeddi. Mae dau iteriad o ganllawiau, y gwnaethon ni eu cyhoeddi ddiwedd y llynedd, sydd wir yn manylu ar sut beth yw'r rhaglen ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned, sut y gall helpu gyda phresenoldeb a chyrhaeddiad. Yr hyn fyddwn i'n ei ddweud, serch hynny, yw mai'r peth allweddol yw y bydd yn wahanol i bob ysgol, a'r holl bwynt yw: beth yw'r berthynas rhwng yr ysgol arbennig hon a'r gymuned arbennig hon? A bydd hynny'n wahanol iawn mewn gwahanol lefydd, yn amlwg.

16:35

Mae'r dull system gyfan, rwy'n cytuno, yn un pwysig iawn pan ydyn ni'n ceisio mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Nid yw plant llwglyd yn dysgu'n dda iawn, ac rydyn ni'n gwybod gan Gordon Brown bod 4 miliwn o blant ledled y DU yn mynd yn llwglyd. Ond mae yna fater diwylliannol hefyd o ran bod chwech o bob 10 o bobl byth yn coginio bwyd ffres, felly mae hyn yn mynd ymhell tu hwnt i bobl sy'n cael trafferth gyda'r argyfwng costau byw.

Sylwais ar eich buddsoddiad bron i £5 miliwn yn y rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol, a meddyliais tybed pa ystyriaeth ydych chi wedi'i roi i ddysgu pobl ifanc a'u teuluoedd i goginio yn ystod y rhaglenni gwyliau haf hynny, oherwydd yn amlwg nid oes amser yn ystod y diwrnod ysgol, ond mae hynny'n ymddangos i mi yn ffordd wirioneddol effeithiol o frwydro yn erbyn goruchafiaeth y diwylliant bwyd wedi'i brosesu sy'n mynd i fethdalu'r GIG.

Fel arall, rwy'n chwilfrydig i glywed beth yw'r penaethiaid eithriadol hyn rydych chi wedi'u dynodi'n bencampwyr cyrhaeddiad—. Beth yw'r geiriau o ddoethineb y gwnaethon nhw rannu gyda chi, yn fwyaf diweddar ar 9 Mawrth, ar sut i fynd i'r afael â'r materion gwirioneddol gymhleth ynghylch tlodi a chyrhaeddiad?

Rwy'n credu bod yr Aelod yn hollol gywir i sôn am bwysigrwydd bwyd fel rhan o'r rhaglen bwyd a hwyl yr haf—sy’n cael ei galw weithiau yn ‘bwyd a hwyl', mewn rhai rhannau o Gymru. Rwy'n rhannu ei hangerdd dros wneud yn siŵr bod ysgolion yn dysgu pobl ifanc am holl amrywiaeth dibenion bwyd, felly maeth, yn amlwg, ond bwyta gyda'i gilydd. Gallech chi hefyd ddysgu rhannau helaeth o'r cwricwlwm drwy fwyd, ac yn fwyaf diweddar cefais gyfle i ymweld ag ysgol yn etholaeth yr Aelod dros Wrecsam, fy ffrind Lesley Griffiths, a gweld yno bobl ifanc yn cael eu dysgu i goginio pethau a mynd â ryseitiau adref, er mwyn iddyn nhw eu coginio eto gartref, ac roeddwn i’n meddwl bod hynny'n enghraifft bwerus iawn o'r math o beth mae'r Aelod yn sôn amdano. Rydyn ni'n gweithio—. Mae Julie Morgan a minnau'n gweithio ar hyn o bryd ar alinio'r gwahanol raglenni mae'r Llywodraeth yn eu hariannu dros wyliau'r haf, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni’n amlwg yn sicrhau cymaint o sylw â phosibl, ond hefyd i edrych ar wneud yn siŵr bod y mathau o gyfleoedd mae'r Aelod yn cyfeirio atyn nhw ar gael yn ehangach. Bydd hi'n gwybod bod maeth eisoes yn rhan bwysig o'r ddarpariaeth gwyliau haf hwnnw, ac mae hynny'n aml ar ffurf coginio gyda phobl ifanc, ond beth allwn ni ei wneud i sicrhau bod hynny'n brofiad mwy cyffredinol?

Ar yr ail gwestiwn, 'Beth ydyn ni'n ei glywed gan bencampwyr cyrhaeddiad?', mae ganddyn nhw ddwy rôl. Un yw gweithio gydag ysgolion penodol. Ar hyn o bryd mae'n dal i fod yn rhaglen beilot, rhaglen beilot chwe mis, gan weithio gydag ysgolion penodol ar ddulliau penodol yn seiliedig ar eu profiadau eu hunain. Ond mae'r cwestiwn mae hi'n ei ofyn ar ran arall eu rôl, sef: sut maen nhw'n llywio datblygiad a datblygu polisi ar draws y system? Mae yna rai themâu eithaf clir, rwy'n meddwl, am bwysigrwydd a strategaethau i ddatblygu llais disgyblion, y mae tystiolaeth yn awgrymu sy'n arbennig o bwysig yng nghyd-destun ail-ymgysylltu â rhai pobl ifanc a allai ei chael yn fwy heriol. Ond hefyd fe glywsom am bwysigrwydd addysgu cyrhaeddiad cymysg a defnydd da o'r grant datblygu disgyblion. Dyna pam mae cynyddu hynny, fel y soniais wrth Janet Finch-Saunders, mor bwysig.

Soniais, yn ei hanfod, mai addysgu a dysgu o ansawdd uchel sydd wrth wraidd hyn, ond beth yw'r strategaethau sy'n galluogi hynny i gyrraedd plant a phobl ifanc a allai fod angen math gwahanol o ddull gweithredu? Cysylltiadau â rhieni, cysylltiadau â gofalwyr, a phwysigrwydd arweinyddiaeth ar lefel ysgol hefyd mewn perthynas â hyn. Siaradais â nhw ac roeddwn i'n ceisio canfod beth yw hi sy'n gwahaniaethu ysgolion sydd wedi bod yn llwyddiannus yn hyn a'r rhai sydd efallai wedi cael ychydig mwy o her. Dywedodd un ohonyn nhw wrthyf i, 'Wel, mae rhai penaethiaid oedd wedi ymrwymo'n fawr i hyn wedi colli'r ymdeimlad y gallen nhw allu gwneud unrhyw beth ystyrlon am y peth,' os mynnwch chi, oherwydd mae'n her mor fawr. Ni does diffyg ymrwymiad. Nid oes un pennaeth yng Nghymru nad yw wedi ymrwymo'n llwyr i hyn, ond weithiau mae'n her gweld sut y gallwch chi wneud y gwahaniaeth hwnnw, a dyna pam mae hyn mor bwysig, oherwydd gallwn ni rannu'r arfer gorau hwnnw ar draws y system a gwneud yn siŵr bod gan benaethiaid fynediad parod at bethau sy'n gweithio'n dda mewn mannau eraill, fel y gellir rhoi’r holl strategaethau hynny ar waith.

Rwy'n croesawu'r cyllid newydd yn fawr ac yn canolbwyntio ar ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned, Gweinidog, ac rwy'n gwybod ein bod ni wedi trafod o'r blaen. Mae gen i enghreifftiau da, rwy'n meddwl, yn fy ardal i, gan gynnwys Ysgol Gynradd Maendy, sy'n amlddiwylliannol ac yn gwneud gwaith da iawn, ac yn dweud wrthyf i eu bod nhw'n gorfod buddsoddi'n helaeth mewn staff i gefnogi rhieni a theuluoedd gyda materion ehangach, fel bwyd, tai, materion meddygol, budd-daliadau a materion di-addysg ehangach eraill. Felly, mae'n wych, rwy'n meddwl, y bydd ysgol fel yna yn elwa o'r pwyslais a'r cyllid newydd yma.

Mae gweinyddiaeth newydd Cyngor Sir Fynwy yn bwrw ymlaen â mentrau diddorol. Mae ganddyn nhw wasanaeth newydd yn mynd i'r afael ag effaith anfantais wrth ei wraidd, ac maen nhw wedi dod ag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol at ei gilydd, o seicoleg addysg, cyfeirio disgyblion, cefnogaeth teuluol, a chreu swydd newydd o fewn y tîm i ddarparu arweinyddiaeth. Ac yn ogystal â hynny, Gweinidog, mae ganddyn nhw fentrau da iawn sy'n cysylltu â'r trydydd sector, gan ddarparu grantiau i gefnogi profiadau dysgu i ddisgyblion, fel darparu pebyll i alluogi ysgolion i ddarparu profiadau gwersylla, ac maen nhw hefyd yn ceisio darparu cyllid clybiau brecwast i ddisgyblion ysgolion uwchradd. Felly, gyda hynny i gyd yn mynd ymlaen yn fy ardal i, Gweinidog, rwy'n croesawu'n fawr y pwyslais newydd yna a'r cyllid newydd hwnnw.

16:40

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch i John Griffiths, ac rwy'n gwybod am ei ymrwymiad i'r egwyddor o ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned, yn bennaf oherwydd y llwyddiannau yn ei ardal arbennig ef o lawer o ysgolion wrth gyflawni hynny, ac rwy'n credu ei fod yn tynnu sylw at ddwy thema bwysig yn yr hyn mae newydd ei ddweud. Yn gyntaf, mae'r rôl honno o staff ysgol yn cysylltu â theuluoedd mewn perthynas ag ystod o faterion, nad ydynt o bosibl yn ymwneud yn uniongyrchol ag addysg eu plant, ond mae'n cadarnhau'r berthynas honno o ymddiriedaeth rhwng yr ysgol a theuluoedd. A'r ail thema, sydd mor bwysig, yw cysylltu gwahanol wasanaethau, boed hynny'n gyd-leoli ffisegol yn yr ysgol neu'n rhwydwaith o gysylltiadau, fel bod yr ysgol, ond hefyd gwasanaethau tai, gwasanaethau plant, gofal iechyd sylfaenol—yr holl wasanaethau hynny'n rhan o gynnig di-dor. Mae rhai ysgolion yn gwneud hynny'n dda iawn. Mae llawer o ysgolion am wneud mwy o hynny, ac rwy'n credu bod llawer mwy y gallwn ni ei wneud ar draws y system i wneud hynny'n brofiad mwy cyffredin i lawer o'n hysgolion.

Diolch, Gweinidog. Mae gen i ddau gwestiwn heddiw. Mae fy nghwestiwn cyntaf yn ymwneud â hyfforddiant cychwynnol athrawon. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod athrawon dan hyfforddiant yn cael cymysgedd o leoliadau ysgol, fel eu bod nhw'n gallu ennill profiad wrth weithio gyda disgyblion o gefndiroedd mwy difreintiedig. Ac mae hyn i feithrin eu sgiliau a'u harbenigedd, ond hefyd, yn hollbwysig, i feithrin angerdd am yr hyn sydd, mae'n debyg, yn un o'r agweddau mwyaf gwerth chweil ar addysgu. Pa waith ydych chi'n ei wneud gyda phrifysgolion yng Nghymru i sicrhau eu bod yn darparu lleoliadau ar y sail hon?

Yn ail, rwy'n nodi eich sylwadau ynghylch sicrhau ein bod ni'n mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad drwy gydol y flwyddyn ac nid yn ystod y tymor ysgol yn unig. O ymweld â phrosiectau yn fy etholaeth fy hun, gan gynnwys, er enghraifft, ym Mhenywaun, rwy'n gwybod pa waith da mae'r rhaglen gyfoethogi gwyliau ysgol yn ei wneud, nid dim ond i blant, ond hefyd eu teuluoedd a staff yr ysgol. Felly, gan ddatblygu eich ateb i fy nghyd-Aelod Jenny Rathbone, hoffwn ddweud fy mod i'n gwerthfawrogi'r pwysau ar gyllidebau, ond hoffwn ofyn ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i a ellid ymestyn y ddarpariaeth hon, yn ddaearyddol ac o ran y flwyddyn ysgol.

Diolch i Vikki Howells am y ddau gwestiwn yna. Ar y cwestiwn cyntaf, un o agweddau'r swydd, sy'n bleser mawr mewn gwirionedd, yw gallu ymweld â'r partneriaethau addysg gychwynnol athrawon ledled Cymru, o bell yn y gorffennol, ond erbyn hyn hefyd yn bersonol, a siarad â'r garfan o fyfyrwyr sy'n mynd drwy'r dystysgrif ôl-raddedig mewn addysg am eu profiadau ac ateb cwestiynau ganddyn nhw. Rwyf i bob amser yn manteisio ar gyfle'r cyfarfodydd gwych hynny i dynnu sylw at ba mor bwysig rwy'n credu yw hi fod gan bob plentyn hawl, beth bynnag fo'u cefndir, i'r ystod lawn o ofal ac ymrwymiad gan bob un athro, ac mae hynny'n egwyddor ac angerdd cyffredin yn eang iawn, rwy'n meddwl, ymhlith athrawon sy'n cymhwyso yng Nghymru.

Ond mae'r cwestiwn mae hi'n ei ofyn yn bwysig: beth ydyn ni'n ei wneud yn strwythurol i wneud yn siŵr bod hynny'n nodwedd gref o addysg a lleoliad cychwynnol athrawon? Bydd hi'n gwybod efallai o drafodaethau blaenorol ein bod ni ar hyn o bryd yn adnewyddu'r meini prawf ar gyfer achredu rhaglenni ITE wrth baratoi ar gyfer y rownd nesaf o ail-achredu, felly mae hon yn drafodaeth amserol yn yr ystyr honno, ac rydym ni'n cryfhau'r gofyniad i bob athro sy'n fyfyriwr fod yn ymwybodol ohono a chael profiad o fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad a sut y gallant fynd i'r afael â hynny drwy strategaethau. Yn amlwg, mae cwestiynau ynghylch lleoliad yn bwysig yn yr ystyr yna. Yn amlwg, mae hynny eisoes yn ddisgwyliad gan ITE, ond rydym ni'n bwriadu cynyddu hynny yn y rownd nesaf o achrediad.

Yn ail, ydyn, rydym ni'n gwneud yn siŵr y gallwn ni fodloni ein hunain bod yr arian sydd ar gael ar gyfer y ddarpariaeth gwyliau ysgol yn cael ei wario mor effeithiol â phosib. Rwy'n ariannu peth o hynny o fy mhortffolio i; mae Julie Morgan yn ariannu ymyriadau cysylltiedig o'i phortffolio hi. Ar gyfer yr haf hwn sy'n dod, rydyn ni'n gwneud yn siŵr bod y ddwy raglen, os mynnwch chi, yn siarad gyda'i gilydd ac yn gallu cydlynu, ond yn y dyfodol byddwn ni'n ystyried a allwn ni wneud rhywbeth mwy systematig i sicrhau bod cwmpas ehangach, llai o ddyblygu a chynnig cyson mewn cymaint o Gymru ag y gallwn ni.

16:45

Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu ymatebion y Gweinidog i'r Siambr, felly diolch am wneud y datganiad. Un o'r prif ysgogiadau sy'n mynd i mewn i wleidyddiaeth weithredol yw ceisio mynd i'r afael â melltith ac effeithiau tlodi, gan roi cyfle cyfartal i bawb, nid yn seiliedig ar gyfoeth rhieni, mewn addysg a'r celfyddydau. Nid oes fawr o amheuaeth mai addysg yw un o'r offer mwyaf dwys y gallwn ni ei ddefnyddio i arfogi dinasyddion er mwyn eu diogelu orau rhag profi tlodi. Ond nid yw'n negydu'r angen i'r wladwriaeth ehangach ddarparu rhwydi diogelwch lles digonol, polisi tai cymdeithasol o ansawdd da, na thwf economaidd cadarn. Rwy'n croesawu'r rhaglen £46 miliwn i daclo anghyfartaledd ac absenoldeb mewn ysgolion, ac rwy'n gwybod y bydd croeso cynnes iawn iddo mewn cymunedau ar draws Islwyn. Felly, diolch yn fawr. Diolch yn fawr ichi.

Er hynny, gwyddom i gyd mai un o gynhwysion craidd llwyddiant i blant yn ystod eu blynyddoedd ysgol yw gallu mynychu yn y lle cyntaf. Mae gormod o'n myfyrwyr tlotaf nawr yn wynebu pwysau enfawr, digynsail sy'n sicr o effeithio ar y gallu hwnnw. Mae'r data'n dangos bod cyfraddau presenoldeb ar gyfer y flwyddyn academaidd hon yn 83.9 y cant i'r rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, o'i gymharu â 91.4 ar gyfer y disgyblion hynny sy'n well eu byd. Mae'n ymwneud â chludiant, iechyd gwaelach, ddim yn berchen ar got, dim esgidiau, tlodi mislif, costau gwisg ysgol, chwaraeon, cerddoriaeth, costau bwyd, gofalu ac iechyd meddwl—mae'r rhain i gyd yn effeithio, fel mae'r arian ychwanegol sydd ei angen ar gyfer teithiau ysgol, ac rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn ceisio dylanwadu ac effeithio mewn sawl ffordd. Mae tlodi yn aml yn endemig o genhedlaeth i genhedlaeth, Gweinidog, ac nid yw'r heriau sy'n wynebu pob un ohonom i sicrhau cydraddoldeb cyfle yn un hawdd.

Os af i yn syth at fy nghwestiwn, felly. Gweinidog, mae'r plant eu hunain, yn ogystal ag addysgwyr, wedi tynnu sylw at bwysigrwydd ysgolion sy'n cael eu gweld wrth galon eu cymunedau—ysgolion sy'n wirioneddol canolbwyntio ar y gymuned. Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud, gan weithio gydag awdurdodau lleol, i sicrhau bod cyfleusterau ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ar gael yn ymarferol i'r gymuned ehangach fel bod plant yn teimlo'r ymdeimlad hwnnw o berthyn gwirioneddol i'w cymuned a hefyd i'w hysgol? Diolch, Llywydd.

Mae'r Aelod yn gwneud cyfres o bwyntiau pwysig iawn. Roedd hi'n sôn am bwysigrwydd profiad plant eu hunain o ysgolion, ac rwy'n meddwl bod gwrando a chlywed lleisiau pobl ifanc yn hyn yn bwysig iawn, iawn. Bwriad y cyfalaf £40 miliwn y gwnes i ei gyhoeddi yn ddiweddar yw galluogi ysgolion i wneud y mathau o addasiadau mae ysgolion weithiau'n eu gwneud—i neilltuo ardaloedd, i wneud ardaloedd yn haws eu cyrraedd, i ad-drefnu tir ac yn y blaen—fel bod yr ystod o gyfleusterau ym mhob un o'n hysgolion, nid yn unig y rhai sydd wedi'u hariannu drwy'r rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu, ar gael i'r gymuned. Mae hynny'n edrych yn wahanol mewn ysgolion gwahanol. Gwelais enghraifft dda iawn ddoe o sut roedd gwahanol rannau o'r ysgol yn cael eu defnyddio mewn ffyrdd gwahanol i gefnogi'r gymuned leol. Y rheswm mae hyn mor bwysig yw oherwydd ei bod yn helpu pobl ifanc i gael perthynas wahanol gyda'r ysgol, ac i'r rhai sy'n teimlo eu bod nhw wedi eu hymddieithrio, mae hefyd yn gyfle, yn ogystal â bod yn y dosbarth, i fod yn gwneud y taekwondo neu'r rygbi neu beth bynnag ydy e, y dawnsio, yr ystod o bethau drwy eu clybiau lleol maen nhw wedyn yn gallu mwynhau yn yr ysgol. Mae hynny'n newid ac yn cadarnhau'r berthynas honno gyda'r ysgol, sy'n sylfaenol iawn i'r pwynt y dechreuodd arni, yr her o sicrhau presenoldeb.

7. Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Y Rhaglen Ddiwygiedig ar gyfer Dileu TB

Yr eitem nesaf, felly, bydd y datganiad gan y Gweinidog materion gwledig ar y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer dileu TB. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Lesley Griffiths. 

Member
Lesley Griffiths 16:49:48
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Llywydd. Y tro diwethaf i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd ar y rhaglen dileu TB oedd ym mis Gorffennaf 2022, gan nodi ein cyfeiriad teithio a chynnydd ar ôl ymgynghori ar ddull gwell ddiwedd 2021. Fe wnes i amlinellu fy mwriad i ddechrau gweithredu mewn sawl maes cyn lansio cynllun cyflawni TB wedi'i adnewyddu, gan gynnwys trefniadau llywodraethu newydd ar gyfer y rhaglen a gwaith rhagarweiniol ar brosiect i fynd i'r afael â heintiau endemig yn sir Benfro. Fe wnes i ymrwymo i ymgysylltu â rhanddeiliaid ar daliadau TB a phrynu gwybodus, ac fe ddenodd y ddau ddiddordeb sylweddol yn yr ymgynghoriad. Mae angen rhagor o waith o hyd i gael hyn yn iawn i'r Llywodraeth a'r diwydiant. Rydw i hefyd wedi ymrwymo i weithio gyda'r partneriaid cyflenwi milfeddygol i dreialu'r defnydd o brofwyr TB lleyg yng Nghymru, yn yr ymdrechion i gynyddu nifer y milfeddygon. Dechreuodd y peilot hwn ym mis Hydref ac mae'n parhau, a bydd gwerthusiad llawn yn digwydd i lywio'r camau nesaf.

Mae darlun TB buchol yng Nghymru yn newid drwy’r amser, ond mae'r tueddiadau tymor hir pwysig yn dangos cynnydd da. Rhwng 2009 a mis Rhagfyr 2022, gostyngodd nifer yr achosion o TB newydd 49 y cant mewn buchesi yng Nghymru, tra bod cyffredinrwydd wedi gostwng 32 y cant. Yn rhanbarthol, mae amrywiaeth, yn bennaf oherwydd pocedi o glefyd lle rydym ni’n datblygu neu eisoes wedi symud ymlaen gyda mesurau gwell, er enghraifft trefn brofi gyffiniol fwy trylwyr ar gyfer buchesi cyfagos sy’n profi TB.

Heddiw, rwy'n lansio cynllun cyflawni wedi'i adnewyddu sy'n amlinellu ein dull o ddileu TB dros y pum mlynedd nesaf. Mae'r cynllun yn adeiladu ar yr arfogaeth gynhwysfawr o fesurau sydd ar y gweill ac yn gosod ein llwybr i wneud cynnydd pellach tuag at Gymru sydd heb TB erbyn 2041. Y thema sydd wrth wraidd y cynllun cyflawni adnewyddedig hwn yw gweithio mewn partneriaeth. Rwyf i bob amser wedi dweud na all y Llywodraeth ddileu TB ar ei phen ei hun. Rydym ni angen cefnogaeth, ymgysylltu a pherchnogaeth y diwydiant ffermio a'r proffesiwn milfeddygol. Mae'n rhaid i ni gyd chwarae ein rhan. Mae hyn yn cael ei gadarnhau yng nghanfyddiadau'r grŵp gorchwyl a gorffen ar ymgysylltu â ffermwyr, sy'n awgrymu y gall lefel fwy o weithio mewn partneriaeth, trwy gyd-ddylunio a chyd-gyflwyno, adeiladu ymddiriedaeth, chwalu gwybodaeth anghywir a grymuso ceidwaid i gymryd rheolaeth o'u sefyllfa TB a diogelu eu busnes.

Byddwn yn archwilio buddion y dull hwn trwy brosiect yn sir Benfro, lle mae TB yn cyflwyno her barhaus. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar nodi risg clefyd gweddilliol wrth brofi gwartheg yn glir a lliniaru risg trosglwyddo gwartheg i wartheg. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy wella perthnasoedd gweithio cydweithredol ar lefel leol, grymuso milfeddygon a ffermwyr i wneud penderfyniadau gwybodus a dangos arweiniad wrth reoli clefydau. Bydd hyn yn llywio ein dull o gyfathrebu ac ymgysylltu, gan gynnwys y ffurflen adrodd am glefyd, Cymorth TB a chynlluniau gweithredu mewn achosion cronig. Yn y tymor canolig, byddwn ni'n archwilio gweddill argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen, gan ystyried ymarferoldeb a chostau cyflwyno.

Rydym ni’n gwneud cynnydd wrth sefydlu trefniadau llywodraethu newydd ar gyfer ein rhaglen. Bydd hysbysebion ar gyfer bwrdd y rhaglen a'r grŵp cynghori technegol, a benodwyd yn gyhoeddus, yn cael eu cyhoeddi erbyn yr haf. Bydd y grŵp cynghori technegol yn darparu arbenigedd ar sawl maes polisi allweddol, a fydd hefyd yn cynnwys adolygu rheolaeth gwartheg cyflo sy'n cael eu heffeithio gan TB. Rydym ni’n adeiladu ar ein dull o fynd i'r afael â chlystyrau o achosion o TB, gyda dehongliad difrifol o brofion cyffiniol ac ôl-haint mewn ardaloedd sy’n cael eu heffeithio yn y gogledd sy'n ardal TB isel a chanolradd o fis Ebrill.

Mae tîm epidemioleg yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn monitro lefelau a thueddiadau clefydau yn barhaus i nodi ardaloedd sy'n peri pryder a chlystyrau clefydau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg ac yn llywio camau angenrheidiol. Un ardal o'r fath sy'n peri pryder yw Ynys Môn, lle cyrhaeddodd nifer yr achosion blynyddol ei uchaf mewn with mlynedd yn 2021. Er mwyn atal TB rhag sefydlu ei hun, mae sawl gweithred yn cael ei chyflwyno ac eraill yn cael eu hystyried. Yn gyntaf, rwy'n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i ailgyflwyno profion cyn-symud ar gyfer symudiadau gwartheg o fewn ac o'r ardal TB isel. Roedd y rhan fwyaf o'r rhai a ymatebodd i'n hymgynghoriad o blaid y dull gweithredu hwn, a bydd ganddo'r fantais ychwanegol o ddiogelu Cymru gyfan.

Nid oes moch daear positif gyda TB wedi eu nodi ar Ynys Môn drwy'r arolwg ‘moch daear wedi’u canfod yn farw’ rhwng 2014 a 2022. Er bod hyn yn galonogol, mae angen i ni atal TB rhag lledu i'r boblogaeth moch daear. Felly, cynhaliwyd arolwg gweithgaredd moch daear a bioddiogelwch fferm ar ynys Gybi, lle cafwyd hyd i'r rhan fwyaf o'r moch daear a gyflwynwyd i'w harchwilio. Yn amodol ar ganlyniadau'r gwaith hwn, ein bwriad yw brechu moch daear ar ynys Gybi cyn ystyried y dull gweithredu ar draws Ynys Môn gyfan. Fe wnaeth ceidwaid yn Ynys Môn hefyd dderbyn llythyr yn gynharach y mis hwn yn rhoi rhagor o wybodaeth am gamau y gallan nhw eu cymryd i warchod eu buches rhag TB, gan gynnwys prynu gwartheg yn gyfrifol a chodi safonau bioddiogelwch ar y fferm.

Yn ogystal ag ailgyflwyno profion cyn-symud, rwyf hefyd yn bwriadu gwneud newidiadau deddfwriaethol eraill i gryfhau ein dull gweithredu ymhellach yng Nghymru, er enghraifft ymestyn y gofyniad am brofion ôl-symud yn yr ardaloedd TB canolradd a galluogi arddangos gwybodaeth fuchesi di-TB ar ibTB i gefnogi ffermwyr i brynu'n gyfrifol. Edrychwyd unwaith eto ar y newidiadau hyn yn ffafriol gan ymatebwyr i'n hymgynghoriad. Bydd y rhain, ynghyd â newidiadau pellach, yn cael eu harchwilio drwy ddiwygio Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010. Bydd y diweddariadau yn cael eu darparu maes o law.

Bydd ymgysylltu ar daliadau TB a phrynu gwybodus yn dechrau dros y misoedd nesaf i archwilio opsiynau polisi gyda rhanddeiliaid a chytuno ar ffordd ymlaen, gan wneud y cysylltiadau angenrheidiol gyda'r cynllun ffermio cynaliadwy. Bydd gofyn i newidiadau deddfwriaethol pellach ddod â pholisïau newydd i mewn yn y meysydd hyn. Byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda Llywodraethau'r DU a'r Alban ar ddatblygu brechlyn gwartheg, ac mae ail gam y treialon bellach wedi dechrau. Bydd brechu gwartheg yn arf pwerus yn ein brwydr yn erbyn y clefyd hwn, a byddwn yn ystyried opsiynau defnyddio penodol ar gyfer Cymru unwaith y bydd cynnyrch trwyddedig ar gael.

Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd blynyddol ar y rhaglen dileu TB ac adrodd yn erbyn ymrwymiadau yn ein cynllun cyflawni. Rwy’n galw nawr ar y diwydiant ffermio a'r proffesiwn milfeddygol i uno â Llywodraeth Cymru a'r partneriaid cyflenwi i gymryd camau pellach tuag at ein cenhadaeth gyffredin, Cymru sy'n rhydd o TB. Diolch.

16:55

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am gael gweld datganiad y prynhawn yma ymlaen llaw? Rwyf hefyd yn cyfeirio Aelodau at fy nghofrestr buddiannau.

Yn gyntaf, hoffwn i ddechrau drwy dalu teyrnged i bob ffermwr ledled Cymru. Er gwaethaf y baich corfforol, meddyliol ac economaidd mae'r clefyd hwn yn ei achosi, mae ein ffermwyr yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r dasg dan sylw. Mae'r data mae'r Gweinidog wedi'i ddisgrifio'r prynhawn yma i'w groesawu i raddau helaeth. Am y tro cyntaf ers amser maith, mae achosion buches newydd, cyfraddau lladd a setiau data eraill yn dechrau dangos cychwyn tuedd bositif. Fodd bynnag, er gwaethaf gostyngiadau ledled y wlad, mae nifer o gymunedau o hyd lle mae'r clefyd yn parhau ac yn gyffredin. Mewn ardaloedd fel Gwent, Gwynedd a chanolbarth Powys, mae achosion o fuchesi newydd yn parhau i godi. Yn Ne Morgannwg, sir Benfro a de Powys, mae cyfraddau lladd yn parhau i gynyddu o flwyddyn i flwyddyn, ac mae cyfraddau achosion am yr ail waith mewn buchesi yn uchel yn gyson yn arwain at fethiannau dro ar ôl tro yn ein cymunedau.

Er gwaethaf y prif ystadegau, mae gennym ni ffordd bell, bell i fynd o hyd. Ond y tu ôl i bob ystadegyn mae ffermwr, eu teulu a chymuned o dan y pwysau a'r pryder aruthrol sy'n dod yn sgil cyfyngiadau TB. Dyna pam na allwn ni laesu dwylo. Yn fras, rwy'n croesawu cynllun darparu rhaglenni dileu TB Cymru, Mawrth 2023 i fis Mawrth 2028, sy'n cyd-fynd â'r datganiad heddiw. Hoffwn hefyd groesawu penodiad Dr Richard Irvine fel prif swyddog milfeddygol newydd Cymru. Fel rydych chi’n ei bwysleisio yn eich datganiad, Gweinidog, mae’r dull gweithredu ledled y DU yn ganolog i'n llwyddiant, ac rwy'n obeithiol y bydd profiad blaenorol Dr Irvine fel dirprwy brif swyddog milfeddygol a dirprwy gyfarwyddwr polisi'r DU ar gyfer iechyd anifeiliaid byd-eang yn DEFRA yn sicrhau bod hyn yn wir.

Mewn sesiwn ddiweddar gan y Pwyllgor Amgylchedd, Masnach a Materion Gwledig, fe wnaethoch chi ddweud mai'r oedi cyn cyhoeddi strategaeth TB wedi'i hadnewyddu, oedd caniatáu i'r prif swyddog milfeddygol newydd gyfrannu at y rhaglen hon. Yn sicr, byddai gen i ddiddordeb deall pa sgyrsiau rydych chi wedi'u cael am wella polisi TB yng Nghymru gyda Dr Irvine, a pha wersi y gellir eu dysgu o rywle arall er mwyn sicrhau bod polisi dileu TB Cymru mor effeithiol â phosibl.

Mae nifer o bwyntiau o fewn cynllun darparu'r rhaglen dileu TB ar ei newydd wedd, sef y thema gwaith partneriaeth a chydweithio rhwng diwydiant a'r llywodraeth, sydd i'w croesawu. Fel mae tudalen 16 o'r cynllun yn nodi, mae cyfathrebu gwell yn hanfodol i'w gyflwyno'n llwyddiannus. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod hyn yn gadarnhaol, ond allwn ni, os gwelwch yn dda, ddod ag elusennau iechyd meddwl i mewn fel Tir Dewi neu Sefydliad DPJ i gynnig cymorth ar sut mae llythyrau gan Lywodraeth Cymru neu APHA wedi'u drafftio, a'r iaith a ddefnyddir, i leihau unrhyw effaith emosiynol negyddol?

Hoffwn hefyd groesawu derbyn manteision profwyr TB lleyg neu brofion twbercwlin cymeradwy. Yn sicr, mae hwn yn bolisi sydd angen ei fabwysiadu ar sail genedlaethol a pharhaol, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed eich ystyriaeth o'r mater hwn. Rydych chi’n sôn yn ogystal am y lefel uwch o brofion cyn-symud, ond byddwn i’n annog pwyll ar ddibynadwyedd y prawf caliper croen, ac yn wir lefel dehongli'r prawf hwnnw. Hoffwn glywed mwy gan y Gweinidog ar y drefn brofi honno.

Wrth symud ymlaen, hoffwn gyffwrdd yn fyr ar y posibilrwydd o gael brechlyn gwartheg. Er gwaethaf yr hyn sy'n teimlo fel ei fod deng mlynedd i ffwrdd am y 30 mlynedd diwethaf, rydym ni’n cymryd camau breision i'r cyfeiriad cywir. Mae treialon maes wedi'u cyflwyno ar draws Lloegr, ond eto, nid yw cyfraniad Cymru yn dal i fod, yn anffodus, yn bodoli. Mewn cwestiwn ysgrifenedig diweddar, nodwyd nad yw treialon BCG gwartheg cam 1 a cham 2 wedi gweld unrhyw ffermydd Cymru yn optio i mewn i'r rhaglen. O ystyried hyn, pa sgyrsiau ydych chi wedi eu cael gyda DEFRA ynghylch sicrhau y gall Cymru chwarae rhan hanfodol wrth ymchwilio a defnyddio brechlynnau treial yn ein cymunedau gwledig?

Gweinidog, tra rydym ni ar y pwnc cyfranogiad ffermydd yng Nghymru, hoffwn roi sylw i gynllun peilot TB sir Benfro. Rwy’n nodi bod sôn am hyn yn y cynllun cyflwyno. Fodd bynnag, fy nealltwriaeth i yw ei bod yn dal i fod wedi'i oedi o ganlyniad i reolau caffael. Felly, o ystyried pa mor frys yw'r prosiect hwn, byddai unrhyw ddiweddariad ar y mater hwn yn cael ei dderbyn yn ddiolchgar a gwerthfawrogol.

Pwynt olaf, Gweinidog, os caf i, yw lladd gwartheg a heffrod cyflo. Dangosodd datganiad heddiw, efallai, ychydig o olau i ganiatáu ychydig mwy o hyblygrwydd yn y polisi hwn, gan roi dewis i ffermwyr. Os gwelwch yn dda, a allwn ni gadw pwysau ar y pwynt hwn, gan fy mod i'n gwybod y byddai newid bach yma yn enfawr i'r diwydiant a'i les?

I ailadrodd, Gweinidog, dim ond trwy gydweithio a gweithio fel un y byddwn ni’n llwyddo i gael gwared ar y clefyd hwn o'n buchesi. Mae cymryd perchnogaeth, a chydnabod bod gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae, yn hollbwysig i'n llwyddiant. Am gyfnod rhy hir, roedd ein diwydiant wedi cael ei adael heb fawr o obaith erioed o weld TB yn cael ei ddileu yng Nghymru. Mae angen i'r Llywodraeth weithio gyda'r diwydiant i roi'r gobaith hollbwysig hwnnw i'r diwydiant, a phob un ohonom ni i gydweithio. Diolch.

17:00

Diolch yn fawr, Sam Kurtz, am groesawu'r datganiad a'r cynllun cyflawni, a hefyd, am eich geiriau o gefnogaeth, ac rwy'n ddiolchgar am y gwaith a wnaethoch chi yn sir Benfro ar ein rhan. Dim ond i dawelu meddwl Sam Kurtz a phob Aelod arall, ac, yn wir, pob ffermwr yng Nghymru, fyddwn i byth yn llaesu dwylo. Er eich bod chi'n hollol iawn bod yr ystadegau clefyd hirdymor yn dangos cynnydd, sydd, wrth gwrs, i'w groesawu, yn amlwg mae gennym ni ffordd bell i fynd o hyd. Rwyf i wastad wedi cydweithio; ers i mi fod yn y portffolio yma, mae wastad wedi bod yn faes rwyf i wedi gweithio tuag at ei wella, oherwydd, fel y dywedais i, ni all y Llywodraeth wneud hyn ar ei phen ei hun.

Rwy'n croesawu penodiad Dr Richard Irvine, sydd wedi ymuno â ni yn yr oriel gyhoeddus heddiw. Fel rydych chi’n ei ddweud, mae'n dod â llawer iawn o brofiad ym maes dileu TB, felly roeddwn i'n meddwl ei fod yn bwysig iawn, er mai dim ond am gwpl o wythnosau mae wedi bod gyda ni—rydyn ni wedi cael, yn amlwg, cyfarfodydd a chwpl o sgyrsiau yn ei gylch, ac mae wedi cael mewnbwn sylweddol i'r datganiad heddiw. Ond, yn amlwg, mae hwn yn ddarn o waith y byddwn ni’n ei ddatblygu wrth i ni edrych ar y cynllun cyflawni. Y tro nesaf rwy'n diweddaru Aelodau, rwy'n siŵr y bydd llawer mwy o fewnbwn gan Richard, wrth symud ymlaen.

Mae'n bwysig iawn ein bod ni’n dysgu gwersi o lefydd eraill, ac, fel rydych chi’n ei ddweud, roedd Dr Irvine yn gweithio yn DEFRA o'r blaen. Ond, mae'n faes bach iawn o brif swyddogion milfeddygol—dim ond y pedwar ohonyn nhw—ac roedden nhw’n gweithio'n agos iawn gyda'i gilydd, felly rwy'n gwybod ein bod ni eisoes wedi dysgu gwersi gan DEFRA ac yn gweithio'n agos iawn gyda'n gilydd.

Rydych chi'n sôn am gyfathrebu gwell, ac roedd hwn yn faes oedd yn amlwg angen edrych arno'n sylweddol. Yn fy natganiad llafar, cyfeiriais at lythyr oedd wedi mynd allan at ffermwyr yn sir Fôn, ac rwy'n credu y gallwch chi weld o hynny, os ydych chi wedi gallu gweld un o'r rheiny—mae'n llawer mwy syml nag, efallai, o'r blaen. Ond, er mwyn tawelu meddyliau pawb, rwy'n cwrdd â'r elusennau iechyd meddwl yng Nghymru a byddant wedi cael mewnbwn i hyn, oherwydd pryd bynnag y byddaf yn cyfarfod â nhw, ac rwy'n cyfarfod â nhw’n rheolaidd, yn amlwg mae gan fferm sy'n cael profion TB bryderon sylweddol. Nid wyf yn tanbrisio pa mor ofidus a faint o straen yw hi i ffermwr wrth iddyn nhw nesáu at yr amser hwnnw.

Yn sicr, mae profwyr lleyg yn faes yr ydw i wir eisiau ei wella, oherwydd rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n cael trafferth gyda chapasiti milfeddygon am amryw o resymau, sydd wedi cael eu hailadrodd. Felly, rwy’n meddwl y mwyaf y gallwn ni ei wneud mewn perthynas â hynny y gorau.

Brechu gwartheg—fel y dywedais i yn fy natganiad agoriadol, rydym ni bellach yng ngham 2. Rwy'n credu ei bod yn hynod siomedig nad ydym ni wedi gallu cael unrhyw ffermydd yng Nghymru i gymryd rhan. Rydyn ni'n dibynnu ar ffermydd Lloegr, ac rwy’n credu bod hynny'n siomedig iawn. Rydw i wedi gofyn i fy swyddogion wneud rhywfaint o ymgysylltu sylweddol rhwng cam 1 a cham 2 gyda'n ffermwyr i geisio sicrhau rhai ffermydd yma yng Nghymru i fod yn rhan o'r treial, oherwydd rwy’n credu y byddai o fudd. Rwy'n deall bod gennym ni nawr nifer o ymgeiswyr posib sydd wedi cyrraedd y rhestr fer am gymryd rhan a allai wneud hyn.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at brosiect sir Benfro, ac rydych chi'n llygad eich lle, oherwydd materion caffael, dydyn ni ddim wedi gallu bwrw ymlaen â hyn mor gyflym ag y byddwn i yn sicr wedi bod eisiau, a phawb arall hefyd mae'n debyg. Yn anffodus, mae yna reolau caffael mae'n rhaid i ni gadw atyn nhw, ac rwy'n gwybod y byddwch chi'n gwerthfawrogi hynny. Mae'n rhaid i ni ddilyn y broses ddyledus honno cyn i ni allu symud prosiect yn ei flaen. Mae'n rhaid i ni gael y gystadleuaeth agored a theg honno.

O ran lladd ar y fferm, mae'n rhaid i ni edrych ar hyn eto. Nôl yn 2019, rwy’n meddwl, fe wnaethon ni dreialu ewthanasia ar y fferm ar gyfer gwartheg beichiog iawn ac, yn anffodus, roedd y nifer wnaeth  fanteisio arno yn eithaf isel. Roedd anawsterau logistaidd eithaf anodd wrth gael gwared ar anifeiliaid sy'n cael eu heffeithio gan TB o fewn y 10 diwrnod gwaith, a daeth y peilot i ben. Felly, byddaf yn cael trafodaethau gyda Dr Irvine i weld a oes unrhyw beth y gallwn ni ei wneud. Os oes gennych chi wartheg wedi’u heintio â TB, fel rwy’n ei ddweud, mae'n ofidus iawn; mae'n drychinebus. Os ydym ni am osgoi cymaint o ofid â phosibl, yn sicr mae hwn yn faes sydd angen i ni barhau i weithio gydag ef. Fel rwy’n dweud, fe wnaethon ni ddarn sylweddol o waith gyda'r diwydiant mae'n debyg bedair neu bum mlynedd yn ôl, ond mae'n rhywbeth rwyf i wedi gofyn i Dr Irvine edrych arno eto, oherwydd, yn amlwg, mae'n rhywbeth sy'n peri gofid mawr. Rwyf i wedi derbyn gohebiaeth gan ffermwyr, felly rwy'n meddwl bod angen i ni gael golwg ar hynny eto.

17:05

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad yma heddiw a'r cynllun sydd wedi cael ei gyflwyno. Dwi'n arbennig o falch o weld yr elfen gydweithredol sydd yn rhan o'r datganiad, sydd mor bwysig os ydyn ni'n mynd i fynd i'r afael â'r her o gael gwared ar TB. Ond dwi'n sefyll ger eich bron chi heddiw i drafod y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer dileu TB gyda chalon drom, oherwydd dwi’n boenus ymwybodol o gyfeillion annwyl sydd yn mynd trwy wewyr meddwl dychrynllyd heddiw oherwydd eu bod nhw wedi cael gwybod bod yna TB naill ai yn eu gyrr neu ar fferm gyfagos. Yn wyneb hyn, maen nhw’n teimlo yn gwbl ddiymadferth, ac yn ofni'r gwaethaf.

Mae’r poen meddwl yn ddychrynllyd gan arwain at rai yn ystyried cymryd y weithred eithafol o gymryd eu bywydau eu hun. Mae yna deuluoedd, cyfeillion a chymunedau yn dioddef yn sgil hynny. Dyma lefel y poen y mae ein ffermwyr yn gorfod mynd drwyddo wrth wynebu’r haint dychrynllyd yma. Fe bwysleisiodd llywydd NFU Cymru, Aled Jones, y neges yma yn ddiweddar gan ymbilio ar y Llywodraeth i ddefnyddio'r holl offer sydd gan y Llywodraeth er mwyn dileu'r clefyd hwn. Felly, mae'r datganiad yma i'w groesawu heddiw.

Ond mae llythyrau swyddogol sy’n cael eu gyrru allan yn cael eu hysgrifennu mewn modd oeraidd a bygythiol, gan gael effaith andwyol ar iechyd meddwl y teuluoedd sy’n eu derbyn. Felly dwi’n croesawu'n gynnes argymhelliad 3 yn y cynllun sy’n sôn am wella cyfathrebu. A gawn ni sicrwydd gan y Gweinidog y bydd dulliau'r llythyrau newydd yn fwy empathetig a bod unrhyw gyfathrebiad yn ystyried yr effaith ar iechyd meddwl y teuluoedd hynny, os gwelwch yn dda?

Tra ein bod ni'n gweld niferoedd yr achosion yn lleihau mewn rhai ardaloedd, mae’n bryder anferthol gweld yr haint yn lledaenu o’r gogledd-ddwyrain i'r gogledd-orllewin ac yn fwy amlwg yn ardaloedd Cymru a ystyrir yn draddodiadol fel risg isel ac yn parhau i fod yn styfnig mewn rhannau o’r de-orllewin. Beth ydy asesiad y Llywodraeth am y rheswm y tu ôl i hyn, os gwelwch yn dda?  

Mae gorstocio a ffermydd dwys yn cyfrannu at ddwysedd yr haint, fel gydag unrhyw feirws arall, megis COVID, mae bTB yn cael ei ledu mewn amgylchedd dwys. Un dull o weithredu ydy gwella mesurau bioddiogelwch ar ffermydd. Mae hyn yn cynnwys gwella awyru mewn ysguboriau a siediau, a sicrhau bod ffynonellau bwyd anifeiliaid a dŵr yn cael eu cadw'n lân ac yn rhydd o halogiad. Faint o gyllid sy'n cael ei fuddsoddi gan y Llywodraeth i mewn i’r mesurau hyn ar hyn o bryd a pha gynnydd mewn cyllid fydd yn dod yn sgil y cyflwyniad yma heddiw? 

Ond pa faint o haint sydd mewn ardal, y ffaith ydy, yn ddiymwad, ei fod yn cael ei ledaenu gan foch daear pan fo'r haint yn yr ardal honno, yn ogystal ag o fuwch i fuwch. Felly, mae o’n ffôl i ddiystyru difa moch daear mewn ardaloedd lle mae'r haint yn bresennol. Mae difa moch daear, felly, yn gorfod bod yn rhan o'r datrysiad. Pa bynnag ffordd mae rhywun yn edrych ar y mater, mae anifeiliaid am orfod cael eu difa, boed yn ddwsinau o foch daear, neu'n gannoedd o wartheg. Mae'r cynllun yma yn sôn mai bwriad y Llywodraeth ydy buddsoddi mewn brechlyn ar draul difa, ond does yna ddim amserlen yn cael ei roi ar gyfer datblygu brechlynnau.

Yn dilyn cyhoeddiad gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, yr APHA, mae treialon maes ar gyfer brechlyn gwartheg a phrawf croen newydd ar gyfer twbercwlosis gwartheg wedi symud ymlaen i’r cam nesaf, yn dilyn cyhoeddiad gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Os bydd yr ail gam yma'n llwyddiannus, yna mi fyddwn ni'n agosach at allu brechu gwartheg yn erbyn y clefyd endemig hwn. Ond dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw gamau mawr sylweddol i ddod â ni’n agosach at y lan yn ddiweddar, felly tan inni weld y brechlyn, ac yn wyneb tystiolaeth wyddonol fod difa yn erfyn pwysig mewn ardaloedd ble mae'r haint yn bodoli, a wnaiff y Gweinidog ganiatáu rhaglen ddifa wedi ei rheoli yn yr ardaloedd hynny? Mae angen gweithio ar raddfa a chyflymder llawer iawn cynt na beth sy'n digwydd ar hyn o bryd os ydym ni o ddifrif am fynd i'r afael â'r haint. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni beth ydy'r amserlen ar gyfer y brechlyn, er mwyn i ni gael sicrwydd bod y Llywodraeth ac eraill yn cymryd hyn o ddifrif?

Yn olaf, dwi'n croesawu’r prosiect ym Mhenfro, ond yn pryderi ei fod yn gyfyng iawn. Mae ffermwyr yn parchu dealltwriaeth a barn ffarier lleol, a bydd y prosiect yma yn helpu i ddatblygu’r berthynas hynny rhwng y ffarier a’r ffermwr. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth, felly, i sicrhau bod milfeddygon ar draws Cymru yn cael eu cefnogi er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf allan i ffermydd cyn gynted â phosib? Diolch yn fawr iawn.

17:10

Diolch, Mabon, am y cwestiynau a'r pwyntiau hynny. Rwy'n deall eich sylwadau agoriadol yn llwyr ynghylch y gofid a'r straen a achoswyd, ac rwy'n credu eich bod chi newydd egluro'n glir iawn pam mae gwir angen i ni i gyd weithio gyda'n gilydd i sicrhau ein bod ni’n gwireddu ein huchelgeisiau o fod â Chymru heb TB; ar yr hwyraf, 2041, ond yn amlwg, y cynharaf y gallwn ni ei wneud, y gorau fydd hi i ni i gyd.

Rwy'n credu bod y pwyntiau rydych chi'n eu gwneud ynghylch y llythyrau’n bod yn fwy empathig yn bwysig iawn, oherwydd os ydych chi dan straen beth bynnag ac rydych chi'n derbyn llythyr rydych chi'n ystyried yn fygythiol neu'n ddigydymdeimlad iawn, yna mae hynny ond yn mynd i ychwanegu at y gofid hwn. Ac yn y gweithdy wnaethon ni gynnal y llynedd yn y Sioe Frenhinol, rwy'n meddwl mai dyna oedd un o'r pethau a fynegwyd go iawn, ac rwy’n gwybod ein bod ni wedi bod yn edrych ar hynny. Fel y dywedais i yn fy ateb i Sam Kurtz, os edrychwch chi ar y llythyr aeth at ffermwyr yn Ynys Môn, rwy'n credu y gallwch chi weld gwelliant yno. Ond wrth gwrs, gallwn ni bob amser barhau i wella, ac mae gennych chi fy ymrwymiad i edrych ar hynny. Rwy'n credu, drwy dderbyn argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen ar ymgysylltu â ffermwr, mai'r hyn yr oeddwn i am ei wneud oedd rhoi arwydd go iawn bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n sicr i wella'r ymgysylltiad wyneb yn wyneb, ond hefyd mewn gohebiaeth yn y ffordd y gwnaethoch chi gyfeirio ato, oherwydd rwy'n credu mai dyna'r ffordd i adeiladu mwy o ymddiriedaeth, wrth symud ymlaen, ac i geisio canfod y tir cyffredin hwnnw, mewn gwirionedd.

Fel y gwnaethoch chi ddweud, yn anffodus, rydym ni wedi gweld sefyllfa sydd wedi dirywio ar Ynys Môn wedi i mi nodi hynny, ac fe fyddwch chi wedi fy nghlywed yn dweud yn fy natganiad cychwynnol ein bod ni wedi cynnal yr arolwg hwn ar Ynys Gybi i geisio asesu lefelau gweithgarwch moch daear yno. Ac yna, byddwn yn edrych ar y canfyddiadau o hynny a gweld beth yw'r camau nesaf. Dyma pam mae prynu gwybodus mor bwysig, ac fel y byddwch chi’n ymwybodol o ddatganiadau blaenorol rydw i wedi'u gwneud, fe wnaethom ni roi cyllid sylweddol i'n marchnadoedd i wneud yn siŵr bod gan bobl y wybodaeth honno yr oedd ei hangen arnynt i wneud y pryniannau gwybodus hynny. Mae bioddiogelwch yn bwysig iawn, iawn hefyd, yn amlwg.

Rydych chi'n gofyn am ddifa moch daear, ac mae'n rhoi'r cyfle i mi ddweud eto fy mod i wedi diystyru cynllun difa eang tebyg i’r hyn sy’n Lloegr yn gyson, ac mae hynny bellach yn rhan o'n rhaglen ar gyfer llywodraeth—yr ymrwymiad hwnnw i beidio â gwneud hynny. Felly, ni fydd difa wrth symud ymlaen, ac mae brechu moch daear wedi bod yn rhan o'n rhaglen ers blynyddoedd lawer, cyn fy amser i; rwy’n meddwl ei fod tua 10 mlynedd bellach—mae'n ddrwg gen i, y brechu gwartheg. A phan siaradais ag academyddion yr haf diwethaf ynghylch—. Rwy'n credu eich bod chi wedi cyfeirio, Sam Kurtz, at 10 mlynedd; mae hi wastad wedi bod yn 10 mlynedd, 10 mlynedd, ond cefais wybod, mewn gwirionedd, y tro hwn, y bydden ni yn bendant yn ei gael o fewn 10 mlynedd, a gobeithio y bydd yn llawer cynt na hynny. Dyna pam roeddwn i'n siomedig iawn nad oedd gennym ni unrhyw ffermwyr o Gymru yn manteisio ar gymryd rhan yn y treial, oherwydd rwy'n credu na allwn ni edrych ar Loegr i fod yn gwneud hyn; mae angen i ni ddangos ein bod ni'n awyddus iawn i'w wneud hefyd.

Fe wnaethoch chi sôn am sir Benfro a'r trafferthion yno. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod ein milfeddygon yn ymwybodol iawn o bopeth, ac eto bydd Dr Irvine yn parhau i weithio gyda'n milfeddygon i wneud yn siŵr bod gan bawb y wybodaeth a'r offer maen nhw eu hangen. Ac mae sir Benfro yn rhywbeth y gallwn ni edrych arno wrth i ni gaffael y prosiect. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud pethau'n iawn. Felly, eto, os oes unrhyw beth mae unrhyw un yn meddwl bod angen i ni edrych arno, oherwydd rydyn ni'n mynd i'r afael â rhai lefelau dwfn iawn o ran yr haint mewn rhannau o sir Benfro—roedd cefndir pob man arall i'w weld yn gwella, ond yn sir Benfro roedd hi'n ymddangos nad oedd yn gwella, ac mewn gwirionedd roedd yn gwaethygu mewn sawl ardal. Felly, mae'r prosiect hwnnw i gydweithio â diwydiant, gyda'n milfeddygon a gyda ni ein hunain, yn bwysig iawn wrth symud ymlaen. Rwy’n gobeithio y gallwn ni ddysgu o'r prosiect pan fydd yn mynd rhagddo, ac annog ardaloedd eraill i edrych ar beth rydyn ni'n ei wneud yn sir Benfro a chael yr ymgysylltiad tebyg yna mewn rhannau eraill o Gymru.

17:15

Gweinidog, diolch am y diweddariad hwn heddiw ar raglen dileu TB. Fel y gwyddoch chi, Gweinidog, mae'r gogledd yn rhanbarth mor bwysig i'r diwydiant amaethyddol ac i deuluoedd amaethyddol, sy'n chwarae rôl mor bwysig, yn ein heconomi leol ond yn ehangach wrth sicrhau bod ein hiaith a'n diwylliant yn cael eu gwella ac yn ffynnu'n dda iawn yn y gogledd. Dyna pam mae hi mor bwysig eich bod chi, fel Llywodraeth Cymru, yn gallu creu'r amodau cywir i'n busnesau ffermio ffynnu.

Pan fyddaf i'n siarad â ffermwyr yn fy rhanbarth, dileu TB yn aml yw'r prif bwynt sgwrsio, fel rwy'n siŵr, gyda chi, Gweinidog, mae'n debyg iawn. Yn anffodus, ar hyn o bryd, maen nhw'n aml yn teimlo nad ydyn nhw'n gallu cymryd yr holl gamau sydd eu hangen i ddiogelu eu da byw a'u busnesau rhag lledaenu TB, a disgwylir iddyn nhw fyw gyda'r pryder o gael buchesi cyfan wedi'u dileu gan y clefyd hwn, a dyna pam rwy'n sicr yn cefnogi'r sylwadau a wnaed gan Aelod Dwyfor Meirionnydd ar y pryder a'r straen mae llawer o'n ffermwyr yn ei brofi.

Felly, yng ngoleuni hyn, Gweinidog, pa ran o'r rhaglen ydych chi'n meddwl sy'n rhoi'r sicrwydd mwyaf i ffermwyr yn y gogledd y gallen nhw fod ei angen er mwyn iddyn nhw deimlo'n hyderus y bydd y rhaglen ei hun yn diogelu eu da byw, eu busnesau teuluol a'u cymunedau?

Diolch. Wel, byddwn i'n gobeithio y bydd y rhaglen i gyd. Rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn. Allwch chi ddim cymryd un darn o'r jig-so, ac mae wir yn jig-so, ac rwy'n mynd yn ôl at beth oeddwn i'n ei ddweud am bawb â'u rhan i chwarae. Felly, yn amlwg, rydyn ni'n cyflwyno'r polisi. Mae'n bwysig iawn bod y ffermwr yn edrych ar brynu gwybodus. Mae'n bwysig iawn bod y ffermwr yn edrych ar ei fioddiogelwch; os oes ganddo unrhyw bryderon, ei fod yn siarad â'i filfeddyg ei hun yn y lle cyntaf, ac yna yn amlwg gallwn ni hefyd gynorthwyo gyda hynny. Rwy'n meddwl bod y gwell gwyliadwriaeth yr ydyn ni wedi ei gael yn y gogledd, ac mae'n debyg fy mod i'n cyfeirio at y gogledd-ddwyrain yn benodol, ond yn amlwg nawr mae'n mynd drosodd i'r gogledd-orllewin, wedi bod yn dda iawn. Mae wedi gallu canfod yr haint yn gyflymach o lawer, ac mae wedi arafu cyfradd achosion TB newydd dros y tymor hir. A dyna beth rydyn ni am ei wneud. Rydym ni am wthio'r clefyd i lawr cyn iddo gael ei sefydlu mewn ardaloedd TB uchel. Felly, dyna beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n parhau i dawelu meddyliau ffermwyr y gogledd.

8. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Adnodd—Cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru

Yr eitem nesaf, felly, yw eitem 8. Hwn yw'r datganiad gan y Gweinidog addysg ar Adnodd—cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Jeremy Miles.

Diolch, Llywydd. Mae cael mynediad at adnoddau addysgol a deunyddiau ategol dwyieithog o safon uchel yn ganolog i'n gweledigaeth a'n cenhadaeth ar gyfer addysg yng Nghymru. Bydd adnoddau addysgol o ansawdd uchel a wnaed yng Nghymru i Gymru yn gwella ansawdd y dysgu ac yn hybu dilyniant dysgwyr.

Dyna pam, fis Mawrth y llynedd, y cyhoeddais fy mwriad i sefydlu cwmni yn benodol i oruchwylio'r ddarpariaeth o adnoddau a deunyddiau dysgu pwrpasol, o ansawdd uchel ac amserol. Dwi'n falch o ddweud heddiw bod Adnodd wedi'i sefydlu ac y bydd yn weithredol o 1 Ebrill.  

Bydd Adnodd yn darparu platfform i gydweithio a chyd-awduro, fydd yn cefnogi ffordd fwy strategol o ddarparu a chomisiynu adnoddau addysgol. Bydd yn sicrhau cydraddoldeb ac ecwiti yn y ddarpariaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg. Bydd yn gwarantu adnoddau o ansawdd, ac yn gwneud y mwyaf o’r arbenigedd sydd ar gael yn genedlaethol.

Mae gweithio gyda rhanddeiliaid o'r sectorau addysg, creadigol a chyhoeddus wedi bod, a bydd yn parhau i fod, yn hanfodol i ddarparu adnoddau addysgol a deunyddiau ategol 'gwnaed yng Nghymru'.

Cynhaliwyd sgwrs rhwydwaith genedlaethol yn 2021, gyda ffocws ar ymarferwyr. Canlyniad hyn oedd athrawon yng Nghymru yn cyd-awduro canllaw adnoddau a gyhoeddwyd gennym ni fis Gorffennaf diwethaf. Bydd y canllaw hwn yn fan cychwyn ar gyfer gwaith Adnodd. Mae'n nodi’r egwyddorion allweddol ar gyfer datblygu adnoddau. Dylai'r datblygu ac argaeledd o adnoddau adlewyrchu anghenion ysgolion a lleoliadau fel rhan o'u gwaith o ddylunio a datblygu’r cwricwlwm. Felly, mae ymgysylltu gydag ymarferwyr yn elfen hanfodol o ran datblygu adnoddau 'gwnaed yng Nghymru'. Mae'r ymgysylltu hwnnw hefyd yn ymestyn i sefydliadau rhanddeiliaid allanol a mewnbwn arbenigol. Dylai'r broses hefyd gynnwys dysgwyr, i sicrhau bod yr adnoddau yn briodol ac yn atyniadol.

Mae hefyd yn hanfodol bod Adnodd yn cynnig llwyfan i ymgysylltu gyda dysgwyr ac ymarferwyr ar sut i wneud y defnydd gorau o adnoddau. Bydd Adnodd yn darparu'r lle hwnnw ar gyfer hybu ac ymgysylltu, er mwyn sicrhau bod y profiad o ddefnyddio'r adnoddau yn gadarnhaol ac yn gynhyrchiol i bawb.

Adnodd fydd y gwasanaeth go-to hawdd ei adnabod, fydd yn hwyluso cydweithio rhwng ymarferwyr a rhanddeiliaid eraill i greu adnoddau o ansawdd, sy’n cyd-fynd ag egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru a sydd gyda rhesymeg dysgu clir. Dwi’n glir bod yn rhaid parhau i sicrhau bod adnoddau sy’n deillio o hynny ar gael drwy blatfform Hwb, fel bod gan ysgolion a lleoliadau y gofod amlwg ac unigryw hwnnw i gael adnoddau addas, o ansawdd, wedi’u gwneud yng Nghymru.

Mae’n bleser gen i gyhoeddi penodiad Owain Gethin Davies yn gadeirydd dros dro ar fwrdd Adnodd. Fel Pennaeth Ysgol Uwchradd Dyffryn Conwy, mae’n arweinydd profiadol yn maes addysg, a chanddo gefndir o ddatblygu’r cwricwlwm, cynllunio strategol y Gymraeg mewn addysg, arolygu a datblygu arweinyddiaeth. Dwi’n hyderus y bydd ei brofiad a’i arbenigedd yn ei alluogi i sefydlu corff cenedlaethol fydd yn deall a bodloni anghenion ymarferwyr.

Dwi hefyd wedi penodi pump aelod anweithredol i’r bwrdd—Huw Lloyd Jones, Nicola Wood, Sioned Wyn Roberts, Dr Lucy Thomas a Lesley Bush. Mae’r unigolion hyn yn dod ag amrywiaeth o sgiliau a phrofiad i’r bwrdd, yn cynnwys llywodraethiant, cyfreithiol, awdit a risg, comisiynu cynnwys addysgol a chyhoeddi, yn ogystal â phrofiad ac arbenigedd addysgol ac anghenion addysgol ychwanegol. Byddwn ni'n chwilio am ddau aelod arall i'r bwrdd yn y chwe mis nesaf, yn benodol er mwyn sicrhau bod gennym ni gynrychiolaeth o’r cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Bydd y bwrdd yn ymgynghori gyda chynrychiolwyr o'r cymunedau hyn yn y cyfamser, er mwyn sicrhau bod ystyriaeth lawn o leisiau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn rhan annatod o’i waith o'r dechrau.

Bydd gwaith yn mynd rhagddo yn ystod y misoedd nesaf i adeiladu’r cysylltiadau, y systemau, a’r sylfeini angenrheidiol i’r cwmni allu gweithredu’n effeithlon. Yn ei flwyddyn gyntaf, dwi am i Adnodd ymgysylltu gyda rhanddeiliad i ofyn eu barn a chael adborth ar pa adnoddau sydd eu hangen, y dull gorau a mwyaf cynhwysol o gomisiynu adnoddau, sut i gydweithio i ddatblygu adnoddau, a sut y dylai proses o sicrhau ansawdd edrych.

Mae yna amrywiaeth enfawr o adnoddau allan yna, ac mae angen i ymarferwyr wybod bod yr adnoddau maen nhw'n buddsoddi eu hamser ynddyn nhw, a'r hyn rydyn ni'n buddsoddi adnoddau cyhoeddus prin ynddo, yn adnoddau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sy'n gweithio ac sy'n adlewyrchu egwyddorion a rhesymeg y Cwricwlwm i Gymru. Dyna pam byddaf yn gofyn i Adnodd ddatblygu fframwaith sicrhau ansawdd adnoddau.

Yn y dyfodol, bydd Adnodd hefyd yn datblygu ac yn buddsoddi mewn sgiliau a’r capasiti i greu, rhannu a chyhoeddi adnoddau addysgol yng Nghymru. Gan weithio gyda'r rhwydwaith cenedlaethol, er enghraifft, bydd cyfleoedd i rannu arbenigedd a phrofiad, a datblygu gallu ysgolion ac ymarferwyr wrth greu adnoddau sy'n cefnogi eu cwricwlwm lleol.

Mae dros £4 miliwn ar gael yn flynyddol i adnoddau a deunyddiau ategol Cymraeg a dwyieithog. Bydd cynllun pontio yn sicrhau trosglwyddiad di-dor o’r gwaith i Adnodd, gan sicrhau nad oes bylchau mewn comisiynu, a bydd yn darparu lle i Adnodd ddatblygu model fydd yn gyfan gwbl 'gwnaed yng Nghymru i Gymru'.

Dwi wedi ymrwymo i weledigaeth Adnodd ac yn falch o fod yn bartner allweddol wrth iddo gychwyn ar y daith gyffrous hon. Dwi'n hyderus y bydd yn gwneud gwahaniaeth ac y bydd Adnodd yn elfen bwysig o lwyddiant Cwricwlwm i Gymru wrth iddo gael ei gyflwyno. Byddaf i wrth gwrs yn diweddaru Aelodau ar ddatblygiadau yn fy adroddiad blynyddol ar ddiwygio'r cwricwlwm.

Edrychaf ymlaen at weithio gydag Owain Gethin ac aelodau'r bwrdd i wireddu'r uchelgais hon i gefnogi'r system addysg yng Nghymru.

17:25

Diolch yn fawr, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Wrth gwrs, rydyn ni i gyd eisiau gweld y Gymraeg yn cael cefnogaeth briodol, yn enwedig ar ôl yr hyn na ellir ond eu hystyried yn ganlyniadau trychinebus y cyfrifiad. Er ein bod ni yn y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi sefydlu Adnodd, onid ydych chi'n credu y gallai gael ei ystyried yn ddisynnwyr i fod â'r cwmni sydd i arwain y deunyddiau dysgu hollbwysig ar gyfer y cwricwlwm newydd yn eu cyflwyno mor hir ar ôl i'r gwaith o gyflwyno'r cwricwlwm ei hun ddechrau? Heb os nac oni bai, mae gennym ni bellach garfan arall o fyfyrwyr sydd wedi colli'r cyfle hwn gyda'r oedi hwn.

Nawr, er eich bod wedi canolbwyntio ar sefydlu cwmni i reoli deunyddiau dysgu, onid ydych chi'n cydnabod eich bod wedi methu â sicrhau bod digon o athrawon Cymraeg, yn enwedig athrawon Cymraeg mewn pynciau craidd, i ddefnyddio'r deunyddiau hyn mewn gwirionedd? Mae gennym argyfwng staffio yng Nghymru, ond eto rydych chi'n cynhyrchu deunyddiau heb yr athrawon i'w dysgu nhw mewn gwirionedd. Felly, Gweinidog, sut fydd y deunyddiau hyn yn cael eu defnyddio'n iawn heb y nifer digonol o athrawon Cymraeg yng Nghymru?

Nid dim ond y diffyg athrawon i ddefnyddio'r deunyddiau sy'n fy mhryderu. Mae'n hanfodol, gyda thoriadau i'r gyllideb addysg sydd wedi'u cyhoeddi bellach gan eich Llywodraeth, eich bod yn sicrhau bod y cwmni hwn yn cyflawni ei genhadaeth ddatganedig ac yn profi ei hun yn ddefnydd da o gyllid ac ymdrechion Llywodraeth Cymru. Rydyn ni bob amser yn clywed am fyrddau newydd yn cael eu sefydlu ar gyfer portffolios amrywiol ar draws y Llywodraeth hon ac, yn aml iawn, wrth edrych i mewn iddyn nhw, nid oes llawer o dryloywder, dydych chi byth yn gwybod pa mor aml y maen nhw'n cyfarfod, lle mae cofnodion y cyfarfodydd hyn yn mynd. Felly, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi y bydd hwn yn fwrdd tryloyw ac y byddan nhw'n atebol? A allwn ni fod yn sicr bod y dull hwn yn gost-effeithiol? Os felly, pa ddulliau ydych chi wedi'u rhoi ar waith i sicrhau nad yw'r trethdalwr yn ysgwyddo bil sy'n tyfu'n barhaus?

Roedd y gostyngiad yn nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n gallu siarad Cymraeg yn elfen hollbwysig yng nghanlyniadau hynod wael y cyfrifiad diweddaraf, sy'n dangos bod strategaeth bresennol darpariaeth addysg Gymraeg yn amlwg yn methu, ac wedi bod felly ers dechrau datganoli. Cwestiwn sydd gen i i chi hefyd: rydych chi'n gwybod bod gennym ni GwE yn y gogledd—sut bydd y bwrdd hwn yn gweithredu ac yn gweithio gyda'r mathau hynny o sefydliadau, y sefydliad hwn? Mae'n debyg, i mi—. Fydd yna ddim dyblygu, gobeithio. Felly, pa ddulliau sydd gennych chi ar waith i sicrhau bod y deunyddiau hyn yn cael eu defnyddio'n briodol mewn ysgolion ac y gall dysgwyr wneud y mwyaf ohonyn nhw? Ac a oes digon o hyfforddiant yn mynd i fod i athrawon presennol gyflwyno'r deunyddiau hyn a gwneud y mwyaf ohonyn nhw? Diolch.

Diolch i'r Aelod am yr ystod yna o gwestiynau. Rwy'n credu bod rhai yn fwy perthnasol i'r datganiad nag eraill. Rwy'n credu ei bod yn bwysig osgoi dyblygu. Rwy'n credu ein bod ni'n cyflawni hynny yn bennaf oherwydd bod gan y cwmni hwn swyddogaeth gwbl wahanol i'r consortia, er enghraifft, y soniodd hi amdanyn nhw yn ei chwestiwn. Ond mae'n amlwg yn bwynt dilys iddi hi ei godi. Gallaf ei sicrhau nad yw'r gweithgaredd y bydd y corff hwn yn ei wneud yn dyblygu. Yn wir, y bwriad yw ymgymryd â swyddogaethau sy'n cael eu cyflawni ar hyn o bryd, byddwn i'n awgrymu, yn llai na strategol ar draws y rhwydwaith o ddarparwyr. Felly, holl bwynt hyn yw dod â'r ystod o weithgareddau comisiynu at ei gilydd, gan gynnwys, gyda llaw, o Lywodraeth Cymru, oherwydd mae'n bwysig, fel y mae hi'n ei ddweud, i sicrhau bod hyn yn syml ac â phwyslais. Rwy'n credu mai'r cyfle mae sefydlu Adnodd yn ei gynrychioli yw ei fod yn ganolbwynt i grewyr, ymarferwyr a chyrff eraill yn y system addysg i edrych at y corff hwn er mwyn rhoi cyfeiriad ac yn amlwg hefyd i gomisiynu adnoddau. Yr hyn y mae athrawon wedi'i ddweud yw eu bod eisiau gweithio gyda sefydliad lle mae modd clywed eu llais a lle gall eu profiad helpu i lunio'r adnoddau sydd ar gael, felly mae hi'n iawn i wneud y pwynt bod llais athrawon yn bwysig yn hyn, ac fe alla i ei sicrhau yn fy llythyr cychwynnol at y bwrdd ac yn fy nhrafodaeth gyda'r cadeirydd rydw i wedi pwysleisio pa mor bwysig yw hi i'r corff newydd gael ei weld fel y corff i ymarferwyr fynd ato pan fo nhw'n chwilio am adnoddau.

Un o'r manteision allweddol o ran sut yr ydym ni wedi strwythuro rolau a chyfrifoldebau Adnodd yw gwneud yn siŵr, sydd ymhlyg yn ei chwestiwn hi, bod gennym yr ystod eang honno o ddeunyddiau sy'n gyson â'r cwricwlwm, fel nad oes gennym ni gyhoeddwyr sy'n ceisio manteisio ar gyfle newydd yng Nghymru, ond nad ydyn nhw efallai mewn gwirionedd yn deall egwyddorion y cwricwlwm. Rydyn ni eisiau symud i ffwrdd o hynny, ac i wneud yn siŵr bod adnoddau ar gael yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg.

17:30

Mabon—. Nage, dim Mabon ap Gwynfor. Sori, Mabon, i roi ofn i ti. Heledd Fychan. O, dyw e ddim yna hyd yn oed. [Chwerthin.]

Diolch, Llywydd, a diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw. Yn amlwg mae hyn i'w groesawu'n fawr iawn, iawn, iawn, a dwi'n meddwl bod y manteision rydych chi wedi'u hamlinellu'n sicr yn mynd i fod yn cael eu croesawu gan athrawon. Un o'r pethau rydych chi wedi'u clywed, a finnau hefyd, drwy siarad efo athrawon, ydy eu bod nhw'n croesawu'r cwricwlwm newydd yn fawr ond bod y syniad efo adnoddau a'r pryder bod gennym ni ddim yr adnoddau, yn arbennig yn y Gymraeg, yn bryderus. Yn sicr, o rai o'r ymweliadau dwi wedi bod arnynt i ysgolion Cymraeg yn fy rhanbarth yn ddiweddar, dwi'n gweld athrawon wrth eu boddau efo'r cwricwlwm newydd, ond hefyd yn treulio lot fawr o amser ar y funud yn cyfieithu gyda'r nosau, yn y gwyliau ac ati, er mwyn sicrhau bod yna ddeunydd newydd ac addas ar gael, a bod hynny, wrth gwrs, yn ychwanegu at lwyth gwaith. Felly, dwi'n credu bod hyn i'w groesawu'n fawr iawn, iawn.

Mae o hefyd i'w groesawu, wrth gwrs, efo'r cyhoeddiad drwy'r cytundeb cydweithio o ran hanes Cymru. Rydyn ni'n sicr bod yna ddiffyg. Dwi'n cofio pan oeddwn i yn yr ysgol, amser maith yn ôl erbyn hyn, ond roedd yna ddiffyg adeg hynny, ac mae gweld mai'r un deunyddiau sy'n cael eu defnyddio hyd yn oed heddiw mewn ysgolion, a'r rheswm weithiau pam nad ydy ysgolion wedi bod yn dysgu hanes Cymru ydy oherwydd diffyg adnoddau yn rhywbeth. Mae wedi bod yn effeithio ar amryw o bynciau, gan gynnwys gwyddoniaeth ac ati, o gael y diffyg. Fel rydych chi'n pwysleisio, cael adnoddau addysgol dwyieithog ond o ansawdd uchel ydy'r hyn rydyn ni'n ceisio'i ddatrys.

Rhai cwestiynau ymarferol, efallai, sydd gen i—dau yn benodol: yr amserlen o ran sicrhau pryd bydd yr adnoddau ar gael. Dwi'n deall, wrth gwrs, dechrau—rydych chi'n cyhoeddi heddiw—deall y cyfnod ymgynghori, ond i'r athrawon hynny sydd wrthi rŵan yn gweithredu'r cwricwlwm newydd ac sydd, efallai, yn gorfod defnyddio deunyddiau eraill ar y funud ac yn gorfod cyfieithu, sut fath o gefnogaeth sydd yn yr interim? Oherwydd mi wnaiff hi gymryd amser i gael yr adnoddau angenrheidiol, a deall hynny'n iawn.

Hefyd, o ran argaeledd y deunyddiau ar gyfer pobl sydd yn addysgu o gartref. Yn amlwg, mae Hwb yn paratoi rhai deunyddiau, ond ai'r bwriad ydy y bydd y deunyddiau hyn drwy Hwb ar gael yna felly? Felly, gobeithio ymateb cadarnhaol. Dwi'n edrych ymlaen at weld sut mae pethau'n mynd. Ond jest i ni gael deall rhwng rŵan a phryd bydd yr adnoddau yma ar gael sut rydyn ni'n mynd i sicrhau bod y gefnogaeth yna.

Wel, diolch i'r Aelod am y croeso mae hi wedi'i roi i'r datblygiad hwn. Dwi'n credu beth sy'n bwysig i gofio yw mai nid dyma gychwyn y broses i gomisiynu; mae comisiynu'n digwydd eisoes, ond byddwn i'n dweud, i fod yn gwbl onest, ei fod e'n digwydd mewn ffordd sydd yn anstrategol ar draws y system. Ond mae gennym ni gynllun i sicrhau ein bod ni'n symud dros amser o'r comisiynu sy'n digwydd, er enghraifft, o fewn Llywodraeth Cymru, i'r corff newydd mewn ffordd sydd yn esmwyth.

Blaenoriaeth gyntaf y corff fydd sefydlu strwythur o ran staffio ac ati. Felly, y brif flaenoriaeth yw sicrhau bod prif weithredwr yn cael ei gyflogi. Y gobaith yw y bydd hynny'n digwydd erbyn, dywedwch, mis Medi, ac wedyn cynllun staffio o amgylch hynny, yn cynnwys, dros dro, secondiadau fel bod corff o bobl sydd yn brofiadol ar gael er mwyn gweithio ar y strategaeth. Mae'n iawn i ddweud mai un o'r prif bryderon ymhlith rhanddeiliaid yw'r diffyg adnoddau Cymraeg ar gyfer y cwricwlwm newydd, ac mae'r profiad o adnoddau digonol yn ystod COVID-19 fel rhan o'r pethau digidol hefyd wedi bod yn ystyriaeth wrth sefydlu y corff hwn.

Fel gwnes i sôn yn y datganiad, fe wnaethon ni glywed lleisiau ymarferwyr yn y rhwydwaith genedlaethol, ond hefyd wedi trafod gyda grŵp o randdeiliaid i edrych ar amryw opsiynau er mwyn deall sut orau i strwythuro'r corff yma, ac rwy'n credu dyma'r ffordd orau bosib o wneud hynny. Mae'n endid hyd braich o'r Llywodraeth ond wedyn yn diwallu anghenion rhanddeiliaid yn fwy hyblyg, byddwn i'n dweud, nag y mae unrhyw Lywodraeth yn gallu ei wneud. Felly, rwy'n gobeithio byddaf i'n gallu rhoi datganiad maes o law ar gynnydd yn y maes hwn, ond jest i roi sicrwydd i'r Aelod fod cynllun eisoes yn bodoli i barhau i gomisiynu, ond pan fydd y corff yn fwy gweithredol, bydd mwy o gyfle i wneud hynny mewn ffordd strategol ac sydd yn fwy deniadol i gyhoeddwyr a dylunwyr a phobl sy'n creu cynnwys ar draws y sector.

17:35
9. Rheoliadau Diodydd Alcoholaidd (Diwygio) (Cymru) 2023

Yr eitem nesaf fydd y Rheoliadau Diodydd Alcoholaidd (Diwygio) (Cymru) 2023. Dwi'n galw ar y Gweinidog materion gwledig i gyflwyno'r rheoliadau yma. Lesley Griffiths.

Cynnig NDM8233 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diodydd Alcoholaidd (Diwygio) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 07 Mawrth 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Lesley Griffiths 17:36:16
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Diodydd Alcoholaidd (Diwygio) (Cymru) 2023.

Cytunodd Llywodraeth Cymru i gymryd rhan mewn ymarferiad wedi'i dargedu ar y cyd â Llywodraethau'r DU a'r Alban, a ddaeth i'r casgliad ar 23 Tachwedd 2022, ynghylch tri mân newidiadau arfaethedig i gyfraith yr UE a ddargedwir ar sut mae gwin yn cael ei ddisgrifio a'i farchnata fel rhan o gytundeb masnach rydd y DU gyda Seland Newydd. Byddai'r newidiadau deddfwriaethol yn dod i rym ar 28 Ebrill 2023 ac yn ychwanegu hyblygrwydd heb fawr o effaith ar y diwydiant diodydd alcoholaidd. Gall busnesau barhau i ddefnyddio eu trefniadau labelu presennol os ydyn nhw'n dymuno. Bydd y gwelliannau hyn yn cyd-fynd yn agos â deddfwriaeth sy'n cael ei chyflwyno gan Lywodraethau'r DU a'r Alban, gan gyfyngu ar unrhyw ymwahaniadau rhwng y ffordd y mae'r cyfreithiau'n berthnasol yng Nghymru a gweddill Prydain Fawr. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei ystyriaethau o'r rheoliadau, ac rwy'n gofyn i Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau heddiw. Diolch.

Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am y cyhoeddiad yna. Does yna ddim rheswm gennym ni i wrthwynebu'r cyhoeddiad, ac rydyn ni'n meddwl ei fod o'n ddatblygiad doeth yn yr hinsawdd yma, felly diolch yn fawr iawn.

Dim ond Mabon oedd yn cyfrannu. Ydy'r Gweinidog yn moyn ymateb i hynna? Na. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly mae'r cynnig yna o dan eitem 9 wedi cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio)

Eitem 10 sydd nesaf, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio). Y Gweinidog Newid Hinsawdd sy'n gwneud y cynnig yma.

Rydych chi fel danfoniad o archfarchnad, Julie James—rydych chi mewn pryd. Julie James, ydych chi'n gallu cyfrannu? Allwch chi godi eich llaw? Codwch ei llaw os—

Gallwn, fe allwn ni, ond dydych chi ddim yn dweud dim. Rwy'n eich galw a gallwch chi nawr gynnig y cynnig cydsyniad deddfwriaethol.

Ymddiheuriadau, Llywydd. Rhowch un eiliad i mi. Mae'n ymddangos fy mod i'n cael problem TGCh. Rhowch un eiliad i mi. Ymddiheuriadau.

Dyna ni. Mae'n ddrwg gen i. Ymddiheuriadau, Llywydd.

Iawn. Felly cynigiwr y cynnig disgwyliedig iawn, Julie James.

Cynnig NDM8234 Julie James

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Bil y DU yw hwn gyda'r bwriad o ddiwygio'r modd y caiff darparwyr tai cymdeithasol eu rheoleiddio yn Lloegr. Rwyf wedi galw dadl arall heddiw, oherwydd ar 9 Mawrth, gosodais memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol terfynol yn dilyn gwelliannau ychwanegol a gynigiwyd gan Lywodraeth y DU ychydig cyn ein dadl olaf.

Mae'r ddadl a'r bleidlais heddiw mewn cysylltiad â rhoi cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer fersiwn derfynol y Bil yn ei gyfanrwydd. Er bod y Bil yn effeithio ar nifer gymharol fychan o bobl sy'n byw yng Nghymru—tenantiaid o'r tua 500 o unedau yng Nghymru sy'n eiddo i ddarparwyr tai cymdeithasol Lloegr neu sy'n cael eu rheoli ganddyn nhw—mae angen caniatâd deddfwriaethol y Senedd pan fo deddfwriaeth y DU yn darparu ar gyfer unrhyw ddiben o fewn cymhwysedd y Senedd. Gan fod tai yn fater datganoledig, mae'r gofyniad am gydsyniad yn cael ei sbarduno.

Rwyf bellach wedi gosod chwe memoranda sy'n nodi ac yn egluro pam rwy'n credu bod angen cydsyniad. Mae'r un olaf hwn yn ymdrin â gwelliannau i'r Bil sy'n cyflwyno gofynion newydd ar gyfer rhai amodau mewn rhai rolau rheoli tai sefydliadau tai cymdeithasol yn Lloegr. Yn dilyn y gwelliannau hyn, mae fy argymhelliad bod cydsyniad deddfwriaethol yn cael ei roi yn aros yr un fath. Nod y newidiadau arfaethedig i'r drefn yn Lloegr yw sicrhau bod landlordiaid yn fwy atebol i'w tenantiaid am eu perfformiad, a dydw i ddim yn credu y byddai unrhyw un yma yng Nghymru yn dadlau nad yw hynny'n nod cadarnhaol.

Rwy'n ddiolchgar iawn, iawn i'r pwyllgorau sydd wedi ystyried y memorandwm ar y Bil hwn, gan gynnwys yr adroddiadau ar y chweched memorandwm, a gyhoeddwyd ddoe. Rwy'n deall eu pryderon ynglŷn â'r angen i roi gwybodaeth mor amserol â phosib i'r Senedd am ddeddfwriaeth y DU o fewn y cymhwysedd sydd wedi'i ddatganoli, a'r angen i roi cymaint o gyfle i graffu â phosib. Rwyf wir wedi ymdrechu i fodloni gofynion y Gorchymyn Sefydlog, a ddangoswyd gan y gwelliannau i'r amseroedd gosod ar gyfer memoranda cydsyniad deddfwriaethol diweddarach a luniwyd mewn cysylltiad â'r Bil hwn. Ond, Llywydd, bu amgylchiadau y tu hwnt i fy rheolaeth i, sydd wedi effeithio'n ddifrifol ar weithrediad llyfn y Senedd wrth ystyried y cydsyniad deddfwriaethol hwn.

Yn ystod y ddadl ddiwethaf, addewais ysgrifennu at Michael Gove i fynegi fy anfodlonrwydd bod gosod gwelliannau yn hwyr, gyda chyn lleied o rybudd cyn dyddiad y ddadl gydsynio, wedi cyfyngu ar allu'r Senedd yn ddifrifol i ystyried y Bil yn ei ffurf derfynol yn llawn, cyn penderfynu a ddylid rhoi cydsyniad. Wrth ateb fy llythyr, fe wnaeth Mr Gove fy nghynghori ei fod wedi oedi camau seneddol olaf y Bil i sicrhau y gallai'r ddadl hon heddiw fynd yn ei blaen yn gyntaf.

Er gwaethaf yr anawsterau gweithdrefnol hyn, Llywydd, rwyf yn dal o'r farn bod cydsyniad yn briodol yn yr achos hwn, ac rwy'n argymell i Aelodau gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol o ran y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) heddiw. Diolch.

17:40

Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, John Griffiths.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n clywed beth mae'r Gweinidog wedi'i ddweud am yr anawsterau o ran amseru, Llywydd, ac mae'r rhain wedi plagio'r Bil penodol hwn, mae gen i ofn. Unwaith eto roeddem fel pwyllgor yn methu rhoi'r math o ystyriaeth a fyddem wedi ei hoffi i'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol diweddaraf hwn, ac nid ydym yn credu ein bod wir wedi gallu deall yn iawn effaith y darpariaethau ar fywydau pobl yng Nghymru, er ein bod yn derbyn y nifer gymharol fach o eiddo tai cymdeithasol yng Nghymru yr effeithir arnyn nhw a'r newidiadau cadarnhaol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u nodi ar gyfer tenantiaid Cymru yr effeithir arnyn nhw.

Hoffwn ailadrodd pryderon y pwyllgor, Llywydd, y dylem gael mwy o amser os ydym am chwarae rhan ystyrlon yn y broses cydsyniad deddfwriaethol hon. Er y pryderon, mae rhan fwyaf o aelodau'r pwyllgor yn teimlo y gallant argymell bod y Senedd yn rhoi ei chydsyniad i ddeddfu ar y materion datganoledig yn y memorandwm atodol hwn. Mae un aelod o'r pwyllgor, Mabon ap Gwynfor, yn anghytuno â barn y mwyafrif, ac yn credu na ddylid rhoi cydsyniad.

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad nawr, Huw Irranca-Davies.

Diolch, Llywydd a'r Gweinidog.

Rwy'n mynd i gadw fy sylwadau'n fyr ar yr eitem hon y prynhawn yma, ac rwy'n credu bod rhai o fy sylwadau mewn gwirionedd wedi cael eu rhagddweud gan sylwadau'r Gweinidog, ac, yn wir, fy nghyd-gadeirydd, John Griffiths.

Pan siaradom ni fis diwethaf, yn ystod y ddadl gyntaf a gawsom ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn, canolbwyntiais ar y nifer fawr o femoranda a osodwyd gan Lywodraeth Cymru—mae'n rhywbeth y soniodd y Gweinidog amdano hefyd. Rydym, fel y dywed y Gweinidog, hyd at rif chwech ar y Bil hwn, ac rwy'n ailadrodd bod hyn yn dangos i ba raddau y mae'r Bil a gyflwynwyd i Senedd y DU wedi newid ers ei gyflwyno, ac i ba raddau y mae newidiadau o'r fath yn effeithio ar feysydd datganoledig hefyd. Ac rwy'n credu bod y Gweinidog wedi cydnabod hynny.

Rydym wir wedi croesawu camau'r Gweinidog i osod memorandwm Rhif 6 ger bron y Senedd. Er ein bod yn cydnabod ei fod, wrth gwrs, yn ofyniad ein Rheolau Sefydlog, mae hefyd yn cynorthwyo pob un ohonom i sicrhau bod mwy o dryloywder yn cael ei roi i broses o ddeddfu sydd, wel, mae'n is-optimaidd—mae'n llawn diffygion o safbwynt deddfwrfa ddatganoledig. Fodd bynnag, mae'r ffaith bod y Senedd eisoes wedi cael cais i wneud penderfyniad ynghylch a ddylid rhoi cydsyniad i ddarpariaethau perthnasol y Bil oherwydd, fel y dywedodd y Gweinidog, am y pwynt lle roedd y Bil ym mhroses graffu Senedd y DU, unwaith eto yn tynnu sylw at annigonolrwydd galluogi Senedd wahanol i ddeddfu ar gyfer Cymru ar faterion o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Rwy'n swnio fel record sydd wedi torri, ond mae at bwrpas. A tybed, Gweinidog—. Roedd yn dda clywed eich bod wedi ysgrifennu at Michael Gove ar y materion hyn, ac rwy'n siŵr y byddwch wedi ei godi gydag ef, ond byddai'n ddefnyddiol clywed unrhyw fyfyrdodau eraill sydd gennych ar hyn a'r ffordd yr awn ymlaen.

Ond, wrth gloi, a gaf i dynnu sylw yn fyr at y ffaith bod y gwelliannau a sbardunodd osod memorandwm Rhif 6 yn ymwneud â chymwysterau proffesiynol, ac, fel yr ydym yn ei ddeall, gall safonau cymwysterau proffesiynol newydd yn Lloegr ddisgyn o dan gwmpas Rhan 3 o Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020? Mae hynny'n reit ddiddorol. Diolch yn fawr iawn.

17:45

Fel plaid, rydym yn hapus iawn i fod yn cefnogi'r cynnig cydsyniad er mwyn y tenantiaid a'r mwyafrif helaeth o landlordiaid cyfrifol. Mae'n bwysig bod gennym fframwaith a fydd yn mynd i'r afael â safonau gwael, pan fydd angen. Mae'r Bil yn ceisio sefydlu dull rhagweithiol newydd o reoleiddio tai cymdeithasol. Mae materion o'r fath yn cynnwys diogelwch ac ymgysylltu â thenantiaid, yn ogystal â chreu pwerau gorfodi newydd i fynd i'r afael â landlordiaid sy'n methu yn eu dyletswydd.

Nododd Llywodraeth y DU fod gan y Bil dri phrif amcan: hwyluso trefn reoleiddio defnyddwyr rhagweithiol newydd; i fireinio'r drefn reoleiddio economaidd bresennol; ac i gryfhau pwerau'r Rheoleiddiwr Tai Cymdeithasol i orfodi'r cyfundrefnau defnyddwyr ac economaidd. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd yr amcanion ar gyfer y Rheoleiddiwr Tai Cymdeithasol yn cynnwys diogelwch a thryloywder. Bydd y rhwystr deddfwriaethol rhag camau gweithredu'r rheoleiddiwr—y prawf niwed difrifol—yn cael ei ddileu. Ar ben hynny, bydd yn orfodol i landlordiaid enwebu person dynodedig ar gyfer materion iechyd a diogelwch.

Bydd y Bil hwn yn sicrhau bod darparwyr yn cael eu llywodraethu'n dda ac yn hyfyw yn ariannol er mwyn diogelu cartrefi a chyflenwi buddsoddiad. Mae Llywodraeth y DU yn ceisio annog buddsoddi parhaol yn y sector, yn ogystal â datblygu cartrefi newydd a gwarchod tenantiaid rhag risg ansolfedd darparwr. Bydd Bil Llywodraeth y DU yn sicrhau y gall y rheoleiddiwr ymyrryd i bob pwrpas, pan fydd ei angen, trwy bwerau gorfodi newydd, a bydd y Bil hefyd yn sicrhau bod gan y rheoleiddiwr yr arfau priodol i ymdrin â diffyg cydymffurfio.

Er bod y rhan fwyaf o'r darpariaethau yn y Bil yn ymwneud â rheoleiddio tai cymdeithasol gan gyrff o Loegr, bydd yn dal yn cael effaith ar rai tenantiaid yma yng Nghymru. Mae darpariaethau'r Bil yn ymestyn i Gymru i'r graddau eu bod yn ddarparwyr cofrestredig yn Lloegr sy'n berchen ar, neu'n rheoli rhywfaint o stoc tai cymdeithasol yng Nghymru. Mae tua 530 eiddo yng Nghymru sy'n eiddo i ddarparwr cofrestredig o Loegr ac/neu o dan ei reolaeth, a fydd yn amodol ar y newidiadau hyn a ddisgrifir yn y Bil. Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ei fod yn briodol i ymdrin â'r darpariaethau o fewn Bil Senedd y DU, oherwydd y niferoedd bychan o stoc tai cymdeithasol yng Nghymru sy'n eiddo i, neu'n cael ei reoli gan ddarparwr cofrestredig sydd wedi'i leoli yn Lloegr. Wrth gwrs, rydym yn cytuno, ac rydym hefyd yn gobeithio bod hyn yn golygu bod Llywodraeth Cymru'n cydnabod yr angen am gydweithrediad cryf Cymru a Lloegr, fel y gallwn sicrhau bod yr amddiffyniadau hyn mor gryf â phosibl.

Mae'r Gweinidog wedi argymell y bydd y Senedd yn cydsynio i'r darpariaethau, gan ddisgrifio'r cymalau fel rhai cadarnhaol i'n tenantiaid yng Nghymru. Rydym yn hapus iawn i gytuno â'r Gweinidog ar hyn. Er y croesawyd y ffaith i'r Senedd roi cydsyniad yn y bleidlais memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ym mis Chwefror, mae'n siomedig, fodd bynnag, fod Plaid Cymru wedi pleidleisio yn erbyn. Rwy'n ei chael hi'n anodd gweld y rhesymeg tu ôl i hyn. Mae'r Bil, fel y cydnabyddir gan Lywodraeth Cymru, yn cryfhau hawliau tenantiaid, a, lle bo hynny'n berthnasol, bydd yn dwyn landlordiaid i gyfrif pan fyddant yn methu yn eu rôl fel landlord. Pa ran o'r dull hwn fyddai Plaid Cymru yn ei erbyn?

Mae un cymal sydd wedi cael ei gyflwyno yn ystod Cyfnod Adrodd Tŷ'r Cyffredin sydd angen cydsyniad y Senedd arno. Mae'r ddarpariaeth, gafodd ei chyflwyno gan Lywodraeth y DU, yn cyflwyno adran newydd i'r Ddeddf Tai ac Adfywio 2008. Byddai'r cymal yn galluogi'r rheoleiddiwr i osod safonau i sicrhau bod gan y rhai sydd â chyfrifoldebau rheoli, gymwysterau priodol neu eu bod yn gweithio tuag at y cymwysterau hynny, yn ôl eu rôl. Mae hyn i'w groesawu'n fawr, a gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gallu ymgysylltu'n adeiladol er mwyn cryfhau hawliau tenantiaid.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i argymell bod y Senedd yn rhoi ei chydsyniad i'r Bil. Rydym yn hapus iawn i fod yn ymuno â'r galwadau hyn, a byddwn yn pleidleisio fel hyn. Diolch.     

Fe geisiaf ymateb i rai o gwestiynau Janet yn fy ymateb nawr. Mae'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol hwn, fel pob cynnig cydsyniad deddfwriaethol arall, yn tanseilio egwyddorion datganoli ac yn methu â mynd i'r afael yn ddigonol â materion sy'n gysylltiedig â thai cymdeithasol yma yng Nghymru. Rydw i, felly, yn gwrthwynebu'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, a byddwn yn annog fy nghyd-Aelodau i wneud hynny hefyd.

Mae'r Bil yn ymyrryd ym mhwerau Llywodraeth Cymru i reoleiddio tai yn ein gwlad ni. Mae tai yn fater datganoledig, ac mae'r Bil hwn yn amharu ar ein gallu i ddatblygu a gweithredu polisïau sy'n diwallu anghenion penodol ein cymunedau. Yn hytrach, mae'n ceisio gosod un ateb sy'n addas i bawb na fydd efallai'n gweithio i ni yng Nghymru. Nid yw'r Bil hwn wedi bod yn destun ymgynghoriad digonol gyda phobl Cymru. Dylem fod yn ymgysylltu â thenantiaid, cymdeithasau tai a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod unrhyw newidiadau a wneir i reoleiddio tai cymdeithasol er budd gorau'r bobl sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hyn.

Er bod y chweched cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn yn edrych ar faterion penodol iawn yn ymwneud â chymwysterau rheolwyr o fewn tai cymdeithasol yn Lloegr, mae'n ymwneud â Lloegr. Nid ydym yn gwybod a yw'n cyd-fynd â chyfraith Cymru, na chwaith os yw'n briodol i denantiaid yng Nghymru. Does dim modd gwybod hyn oherwydd nad ydym wedi gweld unrhyw ymgynghoriad, ac mae craffu wedi bod yn frawychus o annigonol. Mae'r ffaith bod cymaint o gynigion cydsyniad deddfwriaethol wedi bod, yn dangos sut mae'r Bil arfaethedig wedi cael ei newid a'i addasu, a sut mae Aelodau etholedig San Steffan, ac yn wir, datblygiadau ym maes tai yn Lloegr, yn gallu dylanwadu ar y Bil—oherwydd mai eu Bil nhw yw e. Ond rydym ni wedi cael bron dim llais yma yng Nghymru. Bydd yn effeithio ar fywydau bob dydd tenantiaid sy'n byw yng Nghymru, ar y bobl rydyn ni'n eu cynrychioli, ac eto nid ydym na nhw wedi cael unrhyw ddylanwad arno. Mae'r diffyg amser i graffu a deall y ddeddfwriaeth arfaethedig yn gwbl annerbyniol.

Pwrpas datganoli, er mor wan yw e, yw rhoi'r grym i ni osod polisi mewn meysydd penodol yma yng Nghymru, fel iechyd, addysg, yr amgylchedd a thai. Mae trosglwyddo'r pwerau hynny yn ôl i San Steffan yn groes i ewyllys pobl Cymru. Mae'n gwbl annerbyniol. Bwriad y ddeddfwriaeth hon yn San Steffan yw diwallu anghenion Lloegr, ond rydym yn wynebu heriau gwahanol yma, a rhaid i Gymru ymateb i'r heriau hyn gyda'n fframwaith polisi ein hunain. Os nad ydym yn gallu datrys y problemau yma gyda'r pwerau cyfyngedig sydd gennym, yna'r ateb yw mynnu rhagor o bwerau er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn, nid eu hildio i San Steffan.

Un o'r pryderon yr wyf i wedi eu mynegi o'r blaen ynglŷn â'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yma yw'r ffaith bod tai cymdeithasol yng Nghymru sy'n dod o dan reolaeth cymdeithasau tai yn Lloegr, yn atebol i ddeddfwriaeth San Steffan yn lle bod yn atebol i ddeddfwriaeth Cymru. Ar hyn o bryd mae hyn yn effeithio ar tua 500 eiddo, dydi hynny ddim yn ddibwys. Diolch byth fod y gofynion a'r safonau yng Nghymru yn uwch nag yn Lloegr, ac mae'n rhaid llongyfarch Llywodraeth Cymru am sicrhau hynny. Ond rhaid sicrhau bod pawb yma yng Nghymru yn gallu disgwyl yr un safonau yna. O alluogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw mae'n golygu y bydd rhai tai cymdeithasol yng Nghymru yn parhau i gyrraedd safonau gwahanol, ac is. Ni ddylai hynny ddigwydd, ac mae'n rhaid i ni gael cysondeb o ran ein disgwyliadau yma yng Nghymru.

I gloi, rwy'n annog fy nghyd-Aelodau i ymuno â mi i wrthwynebu'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio). Mae angen i ni warchod pwerau Llywodraeth Cymru i reoleiddio tai yng Nghymru a datblygu atebion sy'n diwallu anghenion ein cymunedau. Diolch yn fawr iawn. 

17:50

Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch yn fawr i Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw, ac yn wir ailadrodd fy niolch i'r Cadeiryddion am eu gwaith craffu ar y memoranda cydsyniad deddfwriaethol dros y cyfnod. Rwy'n gwybod na lwyddodd John Griffiths i wneud yr un olaf yma, ond rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith blaenorol y mae'r pwyllgor wedi'i wneud. Hoffwn ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr ynghylch y terfynau amser sydd wedi'u gosod gan Lywodraeth y DU, ac rwy'n hapus iawn i barhau i ymgysylltu â Michael Gove yn yr achos penodol hwn ynghylch amseru hyn. Rwy'n credu ei bod wedi bod yn ddefnyddiol fod y ddadl wedi gallu digwydd cyn y bleidlais yn San Steffan, ond er hynny, mae'r amserlenni yn annigonol ar gyfer craffu priodol.

Hoffwn ddweud ychydig o bethau am gyfraniadau Janet Finch-Saunders a Mabon ap Gwynfor, dim ond er eglurhad, Llywydd. Bydd y rheoliadau hyn yn effeithio ar landlordiaid cymdeithasol Lloegr sy'n digwydd bod ag eiddo yng Nghymru neu'n eu rheoli—mae hynny oddeutu 500 eiddo. Dim ond i fod yn glir iawn, mae yna landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o Gymru sy'n berchen ar eiddo yn Lloegr neu'n eu rheoli ac mae'r tai hynny'n ddarostyngedig i drefn Cymru, felly mae hyn yn gyfatebol. Felly, nid Lloegr yn cael dylanwad rywsut yng Nghymru nad yw'n gyfatebol yw hyn—mae'n ymwneud â'r ffaith bod y ffin yn hynod o fandyllog ac mae rhai eiddo'n cael eu rheoli gan bobl o ochr arall y ffin. Felly, dim ond i fod yn glir iawn, rwyf eisiau i Aelodau ddeall hynny'n llwyr, os ydych chi'n ddarparwr cofrestredig yng Nghymru, yna byddech yn cael eich rheoleiddio gan drefn Cymru. Fel y nododd Mabon ap Gwynfor, dyma enghraifft o Lywodraeth Lloegr yn dal i fyny efo ni ac nid fel arall. Rwyf eisiau sicrhau Aelodau o'r pwynt hwnnw. Serch hynny, mae'n golygu bod angen i ni gael trefn sy'n addas i'r diben a bod gan denantiaid y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig penodol hynny yr amddiffyniad mwyaf y gellir ei ddarparu. Felly, Llywydd, rwy'n argymell bod Aelodau yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Diolch. 

17:55

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly gwnawn ni ohirio'r bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Eitemau 11 a 12 sydd nesaf. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, os nad oes yna Aelod sy'n gwrthwynebu, fe fydd y ddau gynnig yma o dan eitemau 11 a 12 yn cael eu grwpio i'w trafod ond bydd y pleidleisiau ar wahân.

11. & 12. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caffael: Cynnig 1, a Chynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caffael: Cynnig 2

Gan nad oes gwrthwynebiad i hynny, fe wnaf symud i alw ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynigion. Rebecca Evans. 

Cynnig NDM8235 Rebecca Evans

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Caffael, sef Rhan 1 'Diffiniadau Allweddol', Rhan 2 'Egwyddorion ac Amcanion', Rhan 3 'Dyfarnu Contractau Cyhoeddus a Gweithdrefnau', Rhan 4 'Rheoli Contractau Cyhoeddus', Rhan 5 'Gwrthdaro Buddiannau', Rhan 6 'Contractau Is Na'r Trothwy', Rhan 8 'Gwybodaeth a Hysbysiadau: Darpariaeth Gyffredinol', Rhan 9 'Rhwymedïau ar gyfer Torri Dyletswydd Statudol', Rhan 10 'Goruchwylio Caffael', Rhan 11 'Awdurdodau Priodol a Chaffael Trawsffiniol', Rhan 12 'Diwygiadau a Dirymiadau', Rhan 13 'Cyffredinol' a darpariaethau cysylltiedig yn Atodlenni 1 i 8, 10 ac 11, i'r graddau y dônt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Cynnig NDM8236 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Caffael, sef 'Treaty state suppliers', 'Trade disputes' a darpariaethau cysylltiedig yn Atodlen 9, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch. Rwy'n cynnig y cynigion. Mae dros £8 biliwn yn cael ei wario ar gaffael cyhoeddus bob blwyddyn yng Nghymru. Gall gwella'r ffordd yr ydym yn caffael sbarduno arloesedd a chydnerthedd a manteision ledled Cymru drwy gefnogi ein heconomi leol ac arbed arian i'r trethdalwr. Drwy'r Bil hwn, mae cyfle i symleiddio'r dirwedd gaffael gymhleth sy'n bodoli ar hyn o bryd i brynwyr a chyflenwyr ledled Cymru, a datblygu cyfundrefn gaffael fwy tryloyw.

Mae'r holl faterion sy'n peri pryder a godais yn fy memoranda cydsyniad deddfwriaethol wedi eu datrys nawr, ar wahân i faterion y cytundeb rhyngwladol, y byddaf yn mynd i'r afael â nhw yn ddiweddarach. Mae datrys y pryderon hyn yn arwyddocaol, ac mae'n ganlyniad cydweithio da rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion yn Llywodraeth y DU. Rydym wedi cyflwyno dau gynnig i sicrhau y gall y Senedd ymchwilio i'r materion sy'n ymwneud â'r Bil a dod i'w phenderfyniad ar gydsynio.

Bydd aelodau'n gweld ym memorandwm Rhif 5 fy mod yn argymell cydsyniad i elfennau caffael craidd y Bil, ond mae'r cydsyniad hwnnw'n cael ei ddal yn ôl ar gyfer darpariaethau penodol y Bil sy'n ymwneud â masnach ryngwladol. Fel y bydd yr Aelodau'n gweld, mae rhesymau cyfansoddiadol da dros yr argymhelliad i atal cydsyniad.

Fe wnaf ymdrin yn gyntaf â'r dadleuon dros argymell cydsyniad ar gyfer darpariaethau caffael craidd y Bil, sy'n cynrychioli'r rhan fwyaf o'r Bil. Mae Brexit, y pandemig a, nawr, yr argyfwng economaidd presennol wedi gadael ein busnesau yng Nghymru yn crefu am sefydlogrwydd a sicrwydd. Mae cyfle drwy'r Bil i ddiwygio'r rheolau a'r prosesau presennol sy'n sail i gaffael cyhoeddus yng Nghymru, a sicrhau eu bod yn symlach ac yn cael eu symleiddio ar gyfer yr holl ddefnyddwyr, gan osgoi dryswch, anghysondeb ac ansicrwydd ar yr un pryd i sefydliadau sy'n cynnal busnes dros y ffin.

Mae fy swyddogion wedi gweithio'n agos ac yn adeiladol gyda swyddogion yn Llywodraeth y DU i sicrhau bod amcanion Cymru wedi'u cynnwys yn y Bil Caffael a sicrhau'r alinio mwyaf posibl rhwng y Bil Caffael a'n Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Gyda'i gilydd, bydd y Biliau hyn yn sefydlu trefn gaffael effeithiol ac effeithlon yng Nghymru, sy'n sicrhau'r cyfleoedd gorau i sicrhau mwy o werth am arian a sicrhau canlyniadau cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol i Gymru.

Un o fanteision mwyaf arwyddocaol y Bil Caffael yw y bydd yn ymgorffori mwy o dryloywder trwy gydol y cylch bywyd masnachol. Rwy'n siŵr y gallwn ni i gyd gytuno bod croeso i unrhyw fesurau i wella tryloywder, a byddaf yn rhoi sicrwydd i drethdalwyr Cymru bod cyfleoedd i sicrhau mwy o werth am arian yn cael eu sicrhau i'r eithaf trwy ein gweithgarwch caffael. Bydd y tryloywder cynyddol hwn yn rhoi'r gallu i gasglu data caffael mwy tryloyw, dibynadwy ac ystyrlon, a fydd yn cefnogi dadansoddiad o'r ffordd y mae arian cyhoeddus Cymru'n cael ei wario. Bydd yn rhoi mynediad i ni at wybodaeth fanwl i fonitro i ganfod arwyddion o wastraff ac aneffeithlonrwydd ac i nodi llygredd posibl.

Bydd hefyd yn rhoi'r data sydd ei angen ar awdurdodau contractio i gydweithio'n well, annog gwerth am arian, a nodi a monitro gwerth cymdeithasol a buddion cymunedol yn eu caffaeliadau. Bydd y data hwn hefyd yn helpu gyda gwneud penderfyniadau mwy cadarn ar sail tystiolaeth ar gyfer polisi caffael yn y dyfodol. Yn olaf, ac yn bwysicaf oll, rydym wedi sicrhau pwerau annibynnol i wneud rheoliadau cyfatebol yn y Bil, sy'n golygu y bydd y Senedd yn gallu craffu'n llawn ar fanylion y ddeddfwriaeth eilaidd wrth iddi ddatblygu. Bydd yn caniatáu i unrhyw newidiadau deddfwriaethol yn y dyfodol gael eu gwneud yma yng Nghymru.

Roeddwn yn ddiolchgar am ddiwydrwydd a chefnogaeth amryw o bwyllgorau'r Senedd wrth iddynt graffu ar y memoranda a'r Bil. Tynnodd y pwyllgorau sylw at feysydd pwysig a oedd yn peri pryder, megis mewn cysylltiad â'r darpariaethau cychwyn a geir yn y Bil. Er mwyn cychwyn darpariaethau'r Bil sy'n rheoleiddio caffael gan awdurdodau contractio Cymru, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU gael cydsyniad Gweinidogion Cymru, sy'n golygu bod gan Weinidogion Cymru lais pan fydd darpariaethau'r Bil yn cychwyn mewn cysylltiad â Chymru. Os yw Gweinidogion Cymru yn gwrthod cydsyniad, yna bydd y goblygiadau ariannol yn cael eu penderfynu bryd hynny.

Un budd nodedig o ymuno â'r Bil Caffael a chychwyn darpariaethau'r Bil ar yr un pryd â Lloegr a Gogledd Iwerddon yw'r sicrwydd, cysondeb a'r parhad y bydd hyn yn cyflawni ar gyfer awdurdodau contractio Cymru, yn ogystal â sicrhau y gall ein cyflenwyr o Gymru sy'n cynnal busnes ar draws y ffiniau barhau i wneud hynny heb ymyrraeth neu gostau ychwanegol. Er fy mod yn gresynu bod gan y pwyllgorau rai pryderon ynghylch rhai agweddau o'r memoranda cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil, roeddwn yn falch bod adroddiadau'r pwyllgor ar y memoranda yn cytuno i raddau helaeth â'r buddion y bydd y Bil hwn yn eu cynnig i Gymru.

Trof nawr i ymdrin â'r dadleuon dros argymell atal cydsyniad i rai o ddarpariaethau'r Bil sy'n ymwneud â chytundebau rhyngwladol. Mae'r ddau fater o bryder sy'n weddill yn fygythiad i egwyddorion cyfansoddiadol sylfaenol a'n setliad datganoli. Maent yn ymwneud â dau gymal yn y rhan o'r Bil sy'n ymdrin â gweithredu rhwymedigaethau caffael mewn cytundebau masnach rhyngwladol ac yn ymwneud â'r pŵer i ychwanegu cytundebau rhyngwladol at y rhestr yn Atodlen 9 i'r Bil, a'r pŵer i ymdrin ag anghydfodau masnach sy'n gysylltiedig â chaffael sy'n ymwneud â chytundebau rhyngwladol. Nid yw'r newidiadau y byddai'r pwerau hyn yn eu gwneud yn ddadleuol. Fodd bynnag, mae'r ddau bŵer wedi'u cynnwys fel rhai cydamserol, sy'n golygu nad oes unrhyw ofyniad i Weinidogion y DU gael cydsyniad Gweinidogion Cymru pan fyddant yn arfer y pŵer hwn mewn cysylltiad â meysydd datganoledig.

Mae hyn yn adlewyrchu'r safbwynt a gymerwyd gyda'r Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd), a drafododd y Senedd yn ddiweddar a gwrthod cydsyniad iddo. Mae dull parhaus Llywodraeth y DU i gynnwys pwerau cydamserol mewn deddfwriaeth yn ymwneud â chytundebau masnach yn unig yn annerbyniol, ac, er gwaethaf y trafodaethau cynhwysfawr ar lefel swyddogol a gweinidogol, nid yw Llywodraeth y DU yn fodlon gwneud unrhyw welliannau i'r pwerau hyn. Mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo dro ar ôl tro i weithredu cytundebau rhyngwladol yn brydlon.

Mae'n bwysig i Aelodau nodi bod y cymalau yn y Bil sy'n cynnwys y pwerau hyn yn ymwneud â sicrhau bod cyflenwyr o wledydd y mae gan y DU gytundebau masnach â nhw yn gallu cael mynediad at farchnad gaffael y DU. Nid ydynt yn ymwneud â phrif bwrpas y Bil, sef diwygio'r rheolau caffael yn y DU, rheolau fydd yn berthnasol i gyflenwyr yn y DU a thu allan iddi. Dyma beth rwy'n ei olygu pan fyddaf yn cyfeirio at elfennau caffael craidd y Bil. Felly, er gwaethaf ein pryderon sy'n weddill mewn cysylltiad â rhai o'r darpariaethau ar weithredu cytundebau rhyngwladol, gobeithio y bydd yr Aelodau'n rhannu fy nghred gref y bydd y newidiadau sy'n cael eu cyflwyno o ganlyniad i'r Bil Caffael yn gwneud caffael cyhoeddus yn fwy hygyrch i fusnesau, gan gynnwys ein busnesau bach a chanolig, yn annog mwy o werth am arian i drethdalwyr Cymru, a bydd yn sicrhau'r cyfleoedd gorau i gyflawni canlyniadau cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol i Gymru. Diolch.

18:00

Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Cyhoeddus, Mark Isherwood.

Diolch, Llywydd, am y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, neu PAPAC. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, neu'r pwyllgor LJC, a PAPAC adrodd ar femorandwm cydsyniad deddfwriaethol, neu LCM, Rhif 1 erbyn 6 Hydref 2022. Ar 11 Gorffennaf 2022, gosododd y Gweinidog gerbron y Senedd LCM atodol, Rhif 2, a gyflwynwyd ar 27 Mehefin 2022. Fe wnaethom ni adrodd ar LCMs 1 a 2 ar 22 Tachwedd 2022. Fe wnaethom ni weithio'n agos gyda'r pwyllgor LJC ar graffu ar yr LCMs hyn, gan ysgrifennu ar y cyd at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. Gwahoddwyd aelodau o'r pwyllgor LJC i ddod i'n sesiwn dystiolaeth, ac fe wnaethom ni ysgrifennu ar y cyd at y Gweinidog, fel y nodwyd, am ein sesiwn dystiolaeth ar y cyd gyda'r Gweinidog ym mis Medi 2022. Aethom ati hefyd i gynnal ymarfer ymgynghori a chawsom wybodaeth werthfawr gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Cartrefi Cymunedol Cymru, a diolchaf iddyn nhw am gyflwyno tystiolaeth. Ers hynny, gosodwyd LCMs atodol yn ymwneud â'r Bil hwn ar 19 Rhagfyr 2022 a 7 Chwefror 2023. Bob tro y gosodwyd LCM atodol, estynnwyd ein dyddiad cau ar gyfer adrodd. Yn olaf, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r pwyllgor LJC a PAPAC adrodd ar femoranda atodol 3, 4 a 5 erbyn 23 Mawrth 2023. Yn anffodus, dim ond un cyfarfod oedd gan PAPAC wedi'i drefnu yn ystod y cyfnod amser hwnnw. Cawsom ein siomi gan yr amserlen fer a ddarparwyd i ystyried ac adrodd ar yr LCMs atodol gan nad oedd hyn yn rhoi unrhyw gyfle i ni naill ai godi pryderon gyda'r Gweinidog cyn ein hadroddiad na'u hystyried yn fwy manwl.

Roeddem ni wedi tynnu sylw at bryderon difrifol yn ein hadroddiad ar LCMs 1 a 2 am y cyfleoedd cyfyngedig ar gyfer craffu manwl ac fe wnaethom ni ailadrodd y rhain yn ein hadroddiad ar LCMs atodol 4, 5 a 6. Rydym ni'n cytuno â'r pwyllgor LJC ac yn anghytuno ag awgrym y Gweinidog bod y broses yn gyfystyr â'r gwaith craffu deddfwriaethol manwl ar Fil y Senedd. Fe wnaethom ni chwe argymhelliad yn ein hadroddiadau ar LCMs atodol 1 a 2 ac LCMs 3, 4, a 5, a chododd ein hadroddiad ar LCMs atodol 4, 5, a 6 sawl mater pellach.

Roeddem ni'n pryderu a yw gwelliant i gymal 123—cychwyn—yn cyflawni bwriad polisi'r Gweinidog. Nid yw'n eglur a oes asesiad o'r goblygiadau ariannol posibl o beidio â rhoi cydsyniad i un o Weinidogion y Goron i gychwyn darpariaethau yn y Bil wedi cael ei gynnal, a beth fyddai'r goblygiadau ariannol i Lywodraeth Cymru neu'r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru o beidio â rhoi cydsyniad. Mae goblygiadau ariannol posibl dileu darpariaethau wedi hynny o ran awdurdodau contractio Cymru o'r Bil yn aneglur yn yr un modd, yn ogystal ag unrhyw gamau y gallai fod yn ofynnol i Lywodraeth Cymru eu cymryd i gyflwyno ei deddfwriaeth ei hun i'w disodli.

Rydym ni'n nodi, pe na bai Cymru yn rhoi cydsyniad i Lywodraeth y DU gychwyn darpariaethau'r Bil o ran awdurdodau contractio Cymru, a bod Cymru yn cael ei hepgor o'r Ddeddf, y byddai'r goblygiadau ariannol yn fwy na'r hyn y darperir ar eu cyfer ar hyn o bryd yn yr asesiad ariannol, o ran y gost colli cyfle sy'n gysylltiedig â datblygu'r Bil presennol, a chost ychwanegol unrhyw ddeddfwriaeth amgen yng Nghymru. Fe wnaethom ni argymell y dylai'r Gweinidog roi ystyriaeth bellach i'r goblygiadau ariannol posibl o beidio â rhoi cydsyniad i gychwyn darpariaethau yn y Bil, o ystyried y manylion annigonol yn adran ariannol memorandwm Rhif 5. Roeddem ni hefyd yn pryderu bod lefel y manylion ym memorandwm Rhif 5 yn annigonol o ran effaith gwelliannau a wnaed i'r Bil. Nododd ein hadroddiad ar LCMs 1 a 2 bod memorandwm Rhif 2 yn cynnwys cyfeiriadau bod gwelliannau yn 'fân ac yn rhoi mwy o eglurder'. Rydym ni'n credu bod hwn yn grynodeb gor-syml o'r gwelliannau, gan nad yw rhai crynodebau ym memorandwm Rhif 5 yn nodi sut a pham mae'r memorandwm newydd yn wahanol i'r memorandwm blaenorol.

Rydym ni'n cefnogi casgliad y pwyllgor LJC sy'n pwysleisio i'r Gweinidog a holl Weinidogion Cymru bwysigrwydd darparu digon o fanylion i Aelodau'r Senedd mewn memoranda cydsyniad deddfwriaethol, yn enwedig pan fo amserlenni ar gyfer craffu'r Senedd yn cael eu cywasgu. Er nad oedd y pwyllgor yn gwrthwynebu'r memoranda cydsyniad deddfwriaethol hyn, roedd Mabon ap Gwynfor AS yn dymuno cofnodi ei farn ei fod yn gwrthwynebu'r memoranda cydsyniad deddfwriaethol o ran Bil Caffael y DU. Bydd y pwyllgor yn parhau i fynd ar drywydd y materion hyn gyda Llywodraeth Cymru.

18:05

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.

Diolch, Llywydd, a phrynhawn da, Gweinidog.

Fe wnaethom ni lunio dau adroddiad yn cwmpasu'r pum memorandwm cydsyniad a osodwyd gan y Gweinidog ar y Bil hwn, ac fe wnaethom ni osod yr adroddiad cyntaf ym mis Hydref 2022, a'n hail adroddiad ar 14 Mawrth eleni.

Gweinidog, rwy'n credu fy mod yn iawn i ddweud ein bod ni'n dal heb dderbyn ymateb ysgrifenedig ffurfiol i'r tri argymhelliad a wnaed gennym ni yn ein hail adroddiad i hysbysu'r ddadl hon yn well heddiw. Ond diolchaf i chi am y sylwadau agoriadol manwl yr ydych chi eisoes wedi eu gwneud, a drodd rhai o'n pryderon sy'n weddill ac, yn wir, mae'n rhaid i mi ddweud, rhai o'ch pryderon chi a oedd yn weddill, fel yr ydych chi newydd eu mynegi—. Ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n gallu ymateb ymhellach i'r pwyntiau y byddaf yn eu cyflwyno i chi nawr.

Fel pwyllgor, rydym ni wedi bod yn dilyn yn ofalus dull Llywodraeth Cymru o ddeddfu i ddiwygio'r gyfraith gaffael fel y mae'n berthnasol yng Nghymru, gan gynnwys y Bil hwn, y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) ac, yn fwy diweddar, Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru). Mae'r Bil hwn yn deddfu yn helaeth mewn meysydd sydd wedi'u datganoli. Roedd y memorandwm cyntaf yn cynnwys 103 o gymalau, sef, rwy'n credu, y nifer fwyaf o gymalau mewn un Bil a gynigiwyd gan Lywodraeth y DU sy'n gwneud darpariaeth mewn meysydd datganoledig o gryn dipyn. 

Nawr, derbyniodd Llywodraeth Cymru gynnig Llywodraeth y DU i gynnwys darpariaethau ar gyfer Cymru yn y Bil hwn. Fodd bynnag, o'n safbwynt ni fel y Pwyllgor Cyfiawnder, Deddfwriaeth a'r Cyfansoddiad, rydym ni'n credu bod y penderfyniad hwn wedi arwain at ddull o ddeddfu ar gyfraith gaffael yng Nghymru sy'n llai na delfrydol. Mae'n llai na delfrydol o ran craffu gan y Senedd a'r gallu i ddiwygio a llunio deddfwriaeth yma yn y Siambr hon. Fel y nodwyd gennym ni yn ein hadroddiad cyntaf, roedd dewis arall eglur ar gael yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, sydd wedi pasio nawr, ar ffurf Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), lle gallem ni ddeddfu yn gyfochrog â Llywodraeth y DU ar y prosesau sy'n sail i gaffael, gan gynnwys darpariaethau ar ganlyniadau caffael hefyd. Nawr, byddai mabwysiadu dull o'r fath wedi sicrhau llyfr statud llawer mwy hygyrch yn Gymraeg a Saesneg, a mwy o gyfleoedd i'r Senedd graffu yn fanwl ar ddarpariaethau ar brosesau caffael. Byddai hefyd wedi caniatáu i Lywodraeth Cymru, mae'n rhaid i mi ddweud, adlewyrchu ei gwerthoedd yn llawn mewn deddfwriaeth ar gaffael sy'n berthnasol yng Nghymru.

Nawr, byddai hefyd wedi osgoi'r sefyllfa anfoddhaol hon, yr ydym ni'n cael ein hunain ynddi heddiw, lle gofynnir i Aelodau'r Senedd roi cydsyniad i rai o ddarpariaethau'r Bil hwn gan ddal cydsyniad i eraill yn ôl. Nawr, bydd yr Aelodau'n gwybod bod hyn wedi digwydd o'r blaen. Nid yw hyn yn rhoi penderfyniad digamsyniol i Senedd y DU o ba un a yw'r Senedd wedi rhoi ei chydsyniad i ddeddfu mewn meysydd datganoledig ai peidio.

Nawr, rydym ni'n gwybod bod y Gweinidog wedi mynegi pryderon â drafftio pwerau sy'n caniatáu ychwanegu cytundebau rhyngwladol at y rhestr yn Atodlen 9 at y Bil, ac ar gyfer gwneud rheoliadau i ymdrin â chanlyniadau caffael anghydfod masnach o dan gytundeb rhyngwladol. Yn wir, cododd y Gweinidog bryderon gyda Llywodraeth y DU o ran y grym i ganiatáu ychwanegu cytundebau rhyngwladol gyntaf yn ôl ym mis Mai 2022. Fodd bynnag, ein dealltwriaeth ni yw bod y ddarpariaeth honno yn parhau i gael ei chynnwys yn y Bil. Felly, rydym ni wedi gofyn i chi ar sawl achlysur, Gweinidog, pryd y byddech chi'n defnyddio'r broses osgoi a datrys anghydfod cysylltiadau rhyng-lywodraethol, sydd bellach wedi'i nodi, i ddatrys unrhyw rai o'r pryderon hyn. Rydych chi wedi dweud wrthym ni na ragwelir y byddai hynny'n angenrheidiol. Ond, Gweinidog, o dan yr amgylchiadau, byddwn yn ddiolchgar iawn, ar ran y pwyllgor, pe gallech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni o ran a yw'r pryderon hyn bellach wedi cael eu codi drwy'r broses honno, ac, os nad ydyn nhw, eich rhesymau am beidio â gwneud hynny.

Gweinidog, am gyfnod, roeddech chi hefyd wedi mynegi pryderon am absenoldeb pwerau cychwyn i Weinidogion Cymru o fewn y Bil. Rydych chi sôn am hyn yn eich sylwadau agoriadol. Ym memorandwm Rhif 5, fe wnaethoch chi ddweud eich bod chi bellach yn fodlon â'r sefyllfa o ran pwerau cychwyn, gan y bydd cychwyn agweddau ar y Bil sydd wedi eu datganoli i Gymru yn destun cydsyniad Gweinidogion Cymru bellach. Ond mae'n rhaid i ni ofyn y cwestiwn pam mae'r sefyllfa hon yn foddhaol, gan fod Gweinidogion Cymru yn parhau i fod heb bwerau o gwbl i gychwyn darpariaethau'r Bil yng Nghymru. Felly, eto, Gweinidog, byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech chi esbonio i ni pam eich bod chi bellach, felly, yn fodlon gyda'r sefyllfa hon.

Yn olaf, Gweinidog, rydych chi hefyd yn dweud ym memorandwm Rhif 5, os yw Gweinidogion Cymru yn gwrthod rhoi cydsyniad i Weinidogion y DU gychwyn darpariaethau'r bil yng Nghymru, y byddai Llywodraeth y DU yn gallu diwygio'r Ddeddf sy'n deillio o'r Bil hwn fel nad yw'n berthnasol mwyach o ran caffael datganoledig yng Nghymru. Nawr, mae'n ymddangos i ni ei bod hi'n anfoddhaol iawn y gallai anghytundeb ynghylch pryd i gychwyn pwerau arwain i Lywodraeth y DU ddatgymhwyso'r darpariaethau yn y Ddeddf fel y maen nhw'n berthnasol i Gymru. Felly, Gweinidog, fel yr ydym ni wedi ei amlygu a'i argymell yn ein hadroddiad, byddai'n ddefnyddiol iawn pe gallech chi nodi yn eich ymateb asesiad Llywodraeth Cymru o oblygiadau gwrthod cydsynio i gychwyn darpariaethau'r Bil gan Lywodraeth y DU o ran awdurdodau contractio Cymru, a hefyd asesiad Llywodraeth Cymru o oblygiadau penderfyniad dilynol gan Lywodraeth y DU i ddileu'r darpariaethau hynny o'r Bil. Ac edrychaf ymlaen at eich ymateb, Gweinidog. Diolch yn fawr.

18:15

Mae'r grŵp Ceidwadol yn falch o gefnogi'r ddau gynnig sydd wedi'u gosod yn ymwneud â'r LCM heddiw, a fydd yn cyflwyno deddfwriaeth ddiwygiedig ar gyfer prosesau a gweithdrefnau caffael cyhoeddus y Llywodraeth. Bydd y Bil hwn yn manteisio ar y cyfleoedd ar ôl Brexit, gan ganiatáu i'r Deyrnas Unedig lunio ei rheolau caffael ei hun gan gydymffurfio â'n rhwymedigaethau rhyngwladol, gan gynnwys cytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar gaffael Llywodraeth, gan roi mynediad gwarantedig i fusnesau ar draws y DU at werth £1.3 triliwn o gaffael cyhoeddus dramor.

Bydd y Bil Caffael hefyd yn cael gwared ar dros 350 o reolau cymhleth a biwrocrataidd sy'n rheoli gwariant cyhoeddus yn yr UE. Bydd cael gwared ar y rhain a chreu rheolau mwy synhwyrol nid yn unig yn lleihau costau i fusnesau a'r sector cyhoeddus ond hefyd yn ysgogi arloesedd trwy ganiatáu i brynwyr deilwra caffael i'w hunion anghenion. Nid yn unig y bydd y Bil hwn yn cyflymu ac yn symleiddio prosesau caffael cyhoeddus, bydd yn gwneud gwerth am arian yn ganolog i gaffael ac yn creu mwy o gyfleoedd i fusnesau bach a mentrau cymdeithasol arloesi ym maes darparu gwasanaethau cyhoeddus. 

Bydd y Bil Caffael hefyd yn ei gwneud hi'n haws i fusnesau bach ennill mwy o'r gwerth £300 biliwn o nwyddau a gwasanaethau sy'n cael eu prynu gan Lywodraethau, ledled Cymru—yn wir, mynediad at yr £8 biliwn yng Nghymru, fel y soniodd y Gweinidog. Bydd hefyd yn cyflwyno rheolau newydd i helpu Llywodraeth y DU gaffael, mewn sefyllfaoedd brys, fel yn ystod pandemigau iechyd, gan sicrhau y gall awdurdodau contractio ymateb yn gyflym i fynd i'r afael ag unrhyw argyfyngau, yn debyg i'r rhai i ni eu dioddef gyda COVID-19. Ac yn amlwg, mae hynny o fudd i Gymru. Felly, Llywydd, gofynnaf i bob Aelod ymuno â ni a Llywodraeth Cymru i gefnogi'r LCM hwn a'i ddau gynnig.

A gaf i ddechrau trwy ddatgan yn eglur gwrthwynebiad cryf Plaid Cymru i ddefnyddio LCMs fel mater o egwyddor? Dylai penderfyniadau sy'n effeithio ar faterion datganoledig yng Nghymru gael eu gwneud yn y lle hwn bob amser. Mae'r defnydd cynyddol a phryderus o LCMs gan Lywodraeth y DU yn symbol o'u diffyg parch at weinyddiaethau datganoledig ac yn arwydd o'u bwriad i fwrw ymlaen â chanoli cynyddol gwleidyddiaeth y DU.

Fel rhywun a fu'n ymwneud yn agos â deddfwriaeth partneriaeth gymdeithasol a chaffael dros y misoedd diwethaf, mae'n siomedig na wnaeth Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r cyfle a roddwyd gan y Bil hwnnw i wneud darpariaethau cryfach ar weithdrefnau caffael cyhoeddus. Ar ran fy mhlaid, ceisiais ar sawl achlysur sefydlu egwyddorion a meincnodau o ran caffael cyhoeddus drwy ddeddfwriaeth y Senedd, yn hytrach na dibynnu ar Fil wedi'i ysgogi gan Lywodraeth y DU. Yn anffodus, nid oedd y Llywodraeth Lafur am droi. O ganlyniad i'r penderfyniad hwn, bydd amrywiaeth eang a phellgyrhaeddol o ddarpariaethau sy'n effeithio ar Gymru yn cael eu gweithredu ag ychydig iawn o oruchwyliaeth wirioneddol gan y Senedd. Ni ellir ailadrodd digon o weithiau bod craffu o fewn y broses cydsyniad deddfwriaethol yn opsiwn llawer gwaeth na'r hyn a ddarperir gan Fil Senedd. Nid yn unig y mae'r dull hwn yn adlewyrchiad gwael o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli ei hagenda ddeddfwriaethol, mae hefyd yn tanseilio hygrededd y Senedd fel corff deddfu. Dylai Llywodraeth Cymru roi mwy o ystyriaeth yn y dyfodol i'r diffyg democrataidd a achosir gan y broses LCM.

Gan droi at fanylion yr LCMs dan sylw, un maes penodol sy'n peri pryder yw'r ffaith bod y Gweinidog fel pe bai wedi newid ei meddwl ynghylch amcanion blaenorol Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio'r Bil. Fel y nodwyd gan adroddiad diweddar y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, nid yw gwelliant i gymal 123 y Bil, sy'n gwneud cam Gweinidogion y DU o gychwyn agweddau ar y Bil sydd wedi eu datganoli i Gymru yn destun cydsyniad Gweinidogion Cymru, mewn gwirionedd yn cyflawni'r nod a nodir gan y memorandwm cyntaf i roi'r pwerau cychwyn perthnasol eu hunain i Weinidogion Cymru. Mae hyn yn golygu nad oes gan Weinidogion Cymru y grym o hyd i gychwyn darpariaeth y Bil o ran awdurdodau contractio Cymru. A allai'r Gweinidog esbonio felly pam mae hi'n fodlon â'r gwelliant hwn, er iddi gyflawni llawer llai nag uchelgais cychwynnol Llywodraeth Cymru yn y maes hwn?

Mae'r gwelliant dan sylw hefyd yn caniatáu i Lywodraeth y DU hepgor darpariaeth sy'n gysylltiedig â Chymru o'r Bil i bob pwrpas, os bydd Gweinidogion Cymru yn gwrthod cydsyniad, wrth gymhwyso'r pwerau cychwyn a grybwyllwyd. A allai'r Gweinidog gadarnhau felly a fyddai angen i Lywodraeth Cymru, yn y senario hon, gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol i fynd i'r afael â'r bylchau sy'n deillio o hynny?

Yn olaf, mae'n werth myfyrio ar oblygiadau'r Bil o ran lleihau hygyrchedd y gyfraith, yn enwedig ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â gwaith i wella hygyrchedd y gyfraith ym meysydd amgylchedd hanesyddol a chynllunio. Ar y sail hon, a wnaiff y Gweinidog newid ei safbwynt ar gynnal adolygiad mewnol o'i dull o ddeddfu ar gyfraith gaffael, er mwyn hysbysu arferion y dyfodol, fel yr argymhellwyd gan adroddiad yr LJC ar yr LCM cyntaf? Diolch yn fawr.

18:20

Yn absenoldeb unrhyw reolaethau ar fwyd sy'n cael ei fewnforio i Brydain, byddwn yn parhau i ddenu troseddwyr sydd â'u bryd ar gyflwyno bwyd nad yw yr hyn y mae'n ei ddweud ar y label, boed yn gig wedi'i fewnforio, ei fagu i safonau lles anifeiliaid is neu allyriadau carbon y gellir eu hosgoi, neu'n fêl sydd wedi'i lastwreiddio â dŵr neu suropau siwgr rhad. Mae ymadael â'r UE wedi ein gadael ni'n ddiamddiffyn i dwyll gan droseddwyr, a'r cwestiwn yw a yw'r Bil caffael hwn yn llenwi'r bylchau hynny ai peidio. Rwy'n sylweddoli bod llawer iawn o werth mewn galluogi busnesau i fasnachu ledled Prydain heb orfod cael haen arall o reoliadau. Mae tryloywder yn hanfodol, ond oni bai fod y rheoliadau'n cael eu gorfodi, yna dydyn nhw ddim werth y papur y maen nhw wedi eu hysgrifennu arno. Felly, er enghraifft, bydd ein llwyddiant i sicrhau statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig ar gyfer amrywiaeth o gynnyrch Cymreig, boed yn gig oen morfa heli, cennin Cymreig, cocos neu fêl, yn golygu dim oni bai fod gennym ni orfodaeth syml a thryloyw o reoliadau.

Nodaf y pwynt bwled cyntaf yn adroddiad y pwyllgor deddfwriaethol ar bwnc cytundebau rhyngwladol yn cael eu hychwanegu at y rhestr yn atodlen 9, sy'n golygu na fyddai unrhyw ofyniad i gael cydsyniad Gweinidogion Cymru, naill ai pe bai Llywodraeth y DU yn penderfynu newid rheoliadau dros nos, a allai gael effaith aruthrol ar gynhyrchwyr o Gymru, neu gallai benderfynu gwneud dim yn wyneb newid sylweddol i drefniadau masnachu rhyngwladol. Rydym ni i gyd wedi gweld effaith y rhyfel yn Wcráin, sydd wedi achosi anrhefn i gyflenwadau bwyd o Wcráin i wledydd datblygol ac mae newyn ar y gorwel i rai gwledydd. Ond y pryder sydd gen i yw nad yw'r cytundeb rhyngwladol a gafodd ei lofnodi gydag Awstralia a Seland Newydd gan Liz Truss, er enghraifft, wedi cael llawer o effaith ar ffermwyr Cymru eto, gan eu bod nhw'n gwerthu popeth y maen nhw'n ei gynhyrchu i Tsieina ar hyn o bryd. Ond pe bai tarfu ar fasnach ryngwladol gyda Tsieina ar raddfa enfawr, gallai'r canlyniad fod yn gwbl drychinebus i gynhyrchwyr Cymru. Ac os nad yw'r pwerau gan Weinidogion Cymru i weithredu a sicrhau bod yn rhaid i Weinidogion y DU ymgynghori â Gweinidogion Cymru, yna nid wyf i'n gweld sut mae Gweinidogion Cymru yn mynd i allu cymryd camau priodol, sydd wedi eu darparu o fewn y Bil amaeth, i weithredu pan fydd risgiau diogeledd bwyd i'n gwlad. Mae'r holl dirwedd hon yn dameidiog iawn yn fy marn i.

Mae gennym ni'r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus. Mae gennym ni'r Bil caffael hwn, ac yna mae gennym ni'r Bil amaeth. Dylai'r holl bethau hyn gydblethu â'i gilydd mewn gwirionedd, ac nid wyf i'n hyderus eu bod nhw. Felly, rwy'n deall ac rwyf i wedi clywed o'r hyn yr oedd Rebecca Evans yn ei ddweud am bwysigrwydd bod ag eglurder i gynhyrchwyr allu gwerthu i wledydd eraill, ond rwy'n credu y dylem ni fod yn bryderus dros ben am y potensial i wledydd eraill ddadlwytho pethau arnom ni, neu i lastwreiddio pethau a cheisio gwerthu pethau i ni nad ydyn nhw mewn gwirionedd yr hyn y mae'n ei ddweud ydyn nhw ar y tun. Felly, rwy'n edrych ymlaen at glywed sylwadau'r Cwnsler Cyffredinol ar y mater pwysig hwn, oherwydd mae'n ymddangos bod hyn yn eithaf difrifol.

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ymateb. Rebecca Evans.

18:25

Diolch yn fawr iawn i'm cyd-Aelodau am eu cyfraniadau, ac, eto, diolch i'r pwyllgorau am y gwaith y maen nhw wedi ei wneud. Rydym ni wedi ymrwymo yn llwyr i hwyluso gwaith craffu'r Senedd, ac, fel yr wyf i'n credu y cydnabuwyd, roedd y cyfnodau craffu ar gyfer y memorandwm yn fyrrach yn wreiddiol oherwydd amseru disgwyliedig diwedd cyfnod pwyllgor y Bil yn San Steffan, ond cafodd y terfynau amser adrodd ar gyfer memoranda 3, 4 a 5 eu hymestyn o sawl wythnos pan ddaeth yn amlwg bod yr amserlen ar gyfer y Bil wedi newid. Felly, ar unrhyw gyfle, rydym ni wedi cynnwys mwy o amser. Ac mae'r gwahanol estyniadau a argymhellwyd ar gyfer pob un o'r memoranda hyn, ac aildrefnu'r ddadl cynnig cydsyniad heddiw, rwy'n credu, wedi bod o ganlyniad i'n hymdrechion i sicrhau bod gan y Senedd gymaint o amser craffu â phosibl.

Ond, rwy'n credu, un o'r pethau pwysicaf i'w gydnabod yw bod Gweinidogion Cymru wedi sicrhau pwerau gwneud rheoliadau annibynnol, cyfatebol ar gyfer y mwyafrif llethol o'r pwerau yn y Bil caffael, felly bydd y Senedd yn cael cyfle i graffu'n llawn ar fanylion y rheoliadau hynny maes o law.

Gan droi at y materion yn ymwneud â chychwyn, rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr i gychwyn ar yr un pryd â Llywodraeth y DU, er mwyn osgoi'r effaith niweidiol ar gyflenwyr a phrynwyr trawsffiniol o beidio â gwneud hynny, ac mae Llywodraeth y DU yn sicr o'r un farn â ni; rydym ni'n bwriadu cychwyn yn llawn ar yr un pryd. Fodd bynnag, pe baem ni'n gwrthod cydsynio i ddyddiad cychwyn darpariaethau penodol yn y Bil, gallai fod oedi posibl cyn cychwyn i awdurdodau contractio Cymru. Ni fyddai'n wir eu bod nhw'n cael eu tynnu o'r Bil yn gyfan gwbl, ac nid yw'n bosib cynnal asesiad ariannol ar hyn o bryd, gan y byddai'r effaith ariannol yn ddibynnol ar hyd yr oedi. Ond, fel y dywedais, rydym ni wedi ymrwymo yn llwyr i beidio â chael ein hunain yn y sefyllfa honno, ac, i dawelu meddyliau cyd-Aelodau, rwyf i wedi siarad â swyddogion yn gynharach heddiw, ac maen nhw'n fy sicrhau ein bod ni'n sicr ar yr un cam o ran paratoi'r rheoliadau y bydd angen i ni eu rhoi ar waith. Felly, mae'r gwaith yn sicr ar yr un cam ar y naill ochr i'r ffin a'r llall.

Felly, o ran y cwestiwn hwnnw, mewn gwirionedd, ynglŷn â pham mae mwy nag un Bil, wel, mae swyddogion wedi gweithio'n agos iawn ar draws y sefydliad hwn i wneud yn siŵr bod cymaint o aliniad â phosibl rhwng y Bil caffael, ein Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) ein hunain, a hefyd, y gwaith, wrth gwrs, y mae fy nghyd-Weinidog, Eluned Morgan, yn bwrw ymlaen ag ef o ran Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru). Ac rwy'n credu eu bod nhw'n cydblethu yn dda iawn, ac rwy'n hyderus bod y dull a fabwysiadwyd yn rhoi sicrwydd ac eglurder i brynwyr a chyflenwyr ledled Cymru, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod eto mai dyma'r dull y mae cyflenwyr ac awdurdodau contractio yma yng Nghymru yn ei ffafrio. Fe wnaethom ni ymgynghori â nhw cyn penderfynu deddfu—neu ofyn i Lywodraeth y DU ddeddfu ar ein rhan—ac yn sicr hwn oedd y dull yr oedden nhw'n ei ffafrio, gan eu bod nhw'n cydnabod manteision gwneud hyn yn y modd hwn.

Fodd bynnag, rydym ni wedi llwyddo i ddiogelu buddiannau Cymru o ran y ddeddfwriaeth. Roedd y gwelliannau yr ydym ni wedi eu sicrhau—gwn eu bod nhw'n feysydd yr oedd gan y pwyllgorau ddiddordeb ynddyn nhw—yn ymwneud â'r diffiniad o awdurdod yng Nghymru. Felly, cafodd gwelliant ei dderbyn a'i gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin ar 25 Ionawr, a oedd yn rhoi eglurder ynghylch hynny. Fe wnaethom ni ofyn am welliant o ran y pwerau cychwyn a geir o fewn y Bil—rwyf i wedi disgrifio hynny, a chyflwynwyd hwnnw ar 2 Chwefror—a gwelliant i bwerau i wneud darpariaethau canlyniadol i adlewyrchu Gweinidogion Cymru ym meysydd y Bil, ac eto, rwyf i wedi cyfeirio at y rheini, a chyflwynwyd hwnnw yn Nhŷ'r Cyffredin ar 25 Ionawr. A hefyd, wedyn, roedd diddordeb gan bwyllgorau mewn gwelliant sy'n cael yr effaith o sicrhau na fydd modd gorfodi dyletswydd awdurdod contractio yng Nghymru i roi sylw i ddatganiad polisi caffael cyhoeddus Cymru mewn achosion sifil; dylai fod modd eu gorfodi drwy adolygiad barnwrol yn unig. Eto, roedd hwnnw'n welliant a dderbyniwyd ac a gyflwynwyd yn Nhŷ'r Arglwyddi. 

Felly, rwy'n credu y byddwn i'n cytuno â'r hyn y mae fy nghyd-Aelod Ceidwadol wedi ei ddweud, mewn gwirionedd—bod y Bil hwn yn cynnig manteision sylweddol i fusnesau yng Nghymru, yn yr ystyr y bydd dyletswydd ar awdurdodau contractio i roi sylw i'r rhwystrau y gallai busnesau bach a chanolig fod yn eu hwynebu, ac i ystyried sut y gellir cael gwared arnyn nhw. Bydd mwy o fesurau tryloywder, sy'n golygu y bydd cyflenwyr yn gweld yr holl gyfleoedd, gan gynnwys y llif o gyfleoedd yn y dyfodol a chaffaeliadau islaw'r trothwy wedi'u hysbysebu, i gyd mewn un lle, a bydd y weithdrefn hyblyg gystadleuol newydd yn rhoi mwy o gyfle ar gyfer caffael arloesol. Ac rwyf i eisoes wedi siarad am y gwelliannau o ran tryloywder. 

Ac, yna, dim ond i orffen, oherwydd rwy'n sylweddoli fy mod i dros amser, mae gan y Bil gyfleoedd i rai cyflenwyr trwy gytundebau sydd wedi eu cadw'n ôl, sy'n amlwg yn bwysig i ni yng Nghymru. Felly, mae wedi cadw'r darpariaethau presennol sy'n caniatáu i awdurdodau contractio gadw caffael ar gyfer darparwyr cyflogaeth â chymorth, er enghraifft. Felly, ceir ystod lle bydd cwmnïau nid-er-elw a chydfuddiannol yn gallu elwa hefyd. Felly, rwy'n credu bod y ddeddfwriaeth yn gyfle newydd pwysig i awdurdodau contractio a chyflenwyr yma yng Nghymru. Mae'r math o gysondeb dros y ffin yn bwysig, ond gadewch i ni gofio pa mor bwysig yw'r Bil caffael cyhoeddus, y mae fy nghyd-Weinidog Hannah Blythyn yn ei arwain, o ran ysgogi ein gwerthoedd Cymreig ein hunain trwy gaffael hefyd.

18:30

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 11? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i hynny. Felly, bydd y bleidlais ar eitem 11 yn cael ei gohirio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Ac wedyn y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 12? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, gohirio, unwaith eto, y bleidlais ar yr eitem yna.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

13. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)

Eitem 13 sydd nesaf, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), a dwi'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud y cynnig yma—Mick Antoniw.

Cynnig NDM8226 Mick Antoniw

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig.

Nid oes gan y Bil hwn unrhyw rinwedd deddfwriaethol mewn democratiaeth seneddol fodern, gyfrifol. Yn wahanol i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), a oedd yn ceisio sicrhau parhad a chysondeb deddfwriaethol, mae hwn yn Fil terfynu y mae iddo gymhelliant ideolegol. Nid yw'n cyflawni unrhyw ddiben adeiladol ac mae'n tanseilio blynyddoedd o gonfensiwn seneddol a deddfwriaethol a phroses ddemocrataidd. Ni fydd yn gwella'r fframwaith deddfwriaethol nac yn gwella dealltwriaeth a hygyrchedd deddfwriaethol, yn hytrach i'r gwrthwyneb. Os yw'n parhau yn ei ffurf bresennol bydd yn creu dryswch ac yn arwain at ganlyniadau annisgwyl ac y ceir dealltwriaeth wael ohonyn nhw ar hyn o bryd. Mae'n tanseilio hygrededd a statws democratiaeth seneddol, gan roi grym aruthrol yn nwylo Gweinidogion y Llywodraeth i osgoi craffu seneddol ac atebolrwydd democrataidd. Mae'n fygythiad i ddatganoli ac yn ei danseilio. I grynhoi, mae'n rysáit ar gyfer anhrefn deddfwriaethol. Beth bynnag yw safbwynt gwleidyddol rhywun—chwith, dde, canol—nid yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth; y cwbl yw hwn yw Bil gwael, annoeth, awdurdodol sy'n tanseilio'r Senedd.

Yn y misoedd diwethaf, mae Gweinidogion Cymru wedi dweud dro ar ôl tro wrth Weinidogion y Deyrnas Unedig fod angen atal y Bil yma, neu o leiaf ei newid yn fawr. Hyd yma, dydy Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim wedi gwneud yr un o'r ddau beth. Mae Llywodraeth Cymru yn anghytuno'n llwyr â holl fwriad y Bil. Yn gyffredinol, rydyn ni'n credu bod cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a gedwir, neu retained EU law, yn gweithio'n dda, fel yr oedd cyfraith yr Undeb Ewropeaidd cyn hynny. Wrth gwrs, byddai ei diwygio yn raddol dros amser, yn y ffordd arferol, yn gwneud synnwyr. Ond mae’r Bil yma'n creu proses frysiog o ddiwygio neu ddirymu. Mae'n gwneud hyn mewn ffordd annerbyniol: does dim ymgynghori, dim asesu effaith go iawn, a dim craffu priodol ar ddarnau unigol o'r gyfraith. Mae'n golygu y bydd darnau o retained EU law yn dod i ben heb graffu o gwbl oni bai bod camau'n cael eu cymryd i atal hynny. Dyma wastraffu amser pwysig Llywodraethau a Seneddau dim ond i gadw pethau hanfodol y byddai'r Bil fel arall yn eu dileu o'r gyfraith yn otomatig.

Yn y chwe mis ers iddo ymddangos, mae'r Bil wedi creu risg ac ansicrwydd mawr i bawb. Dydy Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig dal ddim wedi dweud yn glir pa ddarnau o'r gyfraith maen nhw am eu cadw a pha rai maen nhw am eu dileu. Mae'n bosib y bydd Gweinidogion y Deyrnas Unedig yn dileu pob darn o retained EU law erbyn diwedd eleni. Byddai hynny'n cael effaith ofnadwy yn sgil colli mesurau cymdeithasol ac amgylcheddol hanfodol. Yn lle hynny, dylem ni weld proses mwy pwyllog a chall i adolygu pob darn o retained EU law yn araf. Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig weithio gyda Llywodraethau eraill fel partneriaid cyfartal i wneud yn siŵr bod pethau'n gyson ar draws y Deyrnas Unedig, ond rydyn ni dal ddim yn gwybod sut yn union bydd hyn yn esblygu.

Yr hyn y gallaf ei ddweud yw nad oes gan Weinidogion Cymru unrhyw awydd i ddiwygio cyfraith yr UE a ddargedwir mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i leihau safonau gan ddefnyddio pwerau a roddir i ni gan y Bil hwn. Rydym ni'n bwriadu cynnal yr amddiffyniadau sy'n deillio o gyfraith yr UE a ddargedwir. Byddwn yn gweithio gyda'r Senedd ac yn adeiladu ar gydweithrediad presennol gyda rhanddeiliaid i fynd i'r afael â chyfraith yr UE a ddargedwir fel sy'n briodol.

Ond gadewch i mi eich tywys trwy rai o'r prif bryderon sylweddol am ddarpariaethau'r Bil, fel y gwnaethom ni nodi yn ein memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gwreiddiol ar 3 Tachwedd 2022. Ceir amrywiaeth o fesurau yn y Bil sy'n ansefydlogi ac yn peryglu'r setliad datganoli. Yn gyntaf, rydym ni'n credu y dylai unrhyw bwerau i ddiwygio cyfraith yr UE a ddargedwir mewn meysydd datganoledig fod yn gyntaf oll yn nwylo Gweinidogion Cymru. Os oes modd i Weinidogion Llywodraeth y DU arfer pwerau o dan y Bil mewn meysydd sydd wedi'u datganoli, yna dylai hyn, o leiaf, fod yn destun gofyniad cydsyniad cadarnhaol Gweinidogion Cymru ymlaen llaw, a dylai hyn fod ar wyneb y Bil. Mae hwn yn bwynt sylfaenol o onestrwydd cyfansoddiadol, y mae angen mynd i'r afael ag ef fel blaenoriaeth. Byddai arfer y grym hwnnw mewn unrhyw fodd a allai olygu bod Llywodraeth y DU yn deddfu mewn maes datganoledig heb gydsyniad Gweinidogion Cymru yn annerbyniol, i Lywodraeth Cymru ond hefyd i'r Senedd. Rydym ni wedi pwysleisio hyn i Weinidogion y DU. Maen nhw wedi gwrthod cytuno i'r safbwynt hwn, na hyd yn oed i fynegi barn. Rydym ni'n parhau i wthio am welliannau addas i'r Bil.

Yn ail, mae'r trefniadau ar gyfer terfynu cyfraith yr UE a ddargedwir yn annerbyniol, gan y bydden nhw'n caniatáu i Lywodraeth y DU geisio terfynu deddfwriaeth a wnaed gan y Senedd. Hefyd, mae'r dyddiad terfyn, 31 Rhagfyr 2023, wrth gwrs, yn gwbl afresymol ac mae peryglon enfawr yn gysylltiedig â hynny. Yn drydydd, os na ellir cwblhau'r holl waith hwn erbyn y dyddiad terfyn, mae'n rhaid i'r Bil roi pwerau i Weinidogion Cymru ymestyn y dyddiad cau er mwyn osgoi bylchau annymunol a allai fod yn drychinebus yn y llyfr statudau, yn union fel y mae'n eu rhoi i Weinidogion y DU. Mae'n gyfansoddiadol annerbyniol i Weinidogion Cymru orfod gofyn i Weinidogion y DU arfer y grym hwn ar eu rhan.

Yn olaf, o ran y setliad datganoli, ni allwn dderbyn unrhyw sefyllfa lle gellid cyfyngu newidiadau mewn meysydd datganoledig o dan ddarpariaethau'r Bil. Ar hyn o bryd, ceir gofyniad annheg ac amhendant na ddylai newidiadau i gyfraith yr UE a ddargedwir gynyddu'r baich rheoleiddio. Mae'n hanfodol bod gan Lywodraethau a deddfwrfeydd datganoledig y rhyddid i reoleiddio yn y ffordd y maen nhw'n ei gweld sy'n addas, heb ymyrraeth gan Lywodraeth y DU mewn materion datganoledig. Byddai unrhyw gyfyngiadau yn y Bil ei hun neu drwy ei ryngweithio ehangach â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a fyddai'n atal Llywodraethau datganoledig rhag gallu newid cyfraith yr UE a ddargedwir i gynnal neu godi safonau yn anghydnaws â datganoli.

Yn fwy cyffredinol, mae gennym ni bryderon pellach ynghylch darpariaeth y Bil a'i effeithiau ehangach. Yn gyntaf, mae'r Bil wedi ei ruthro ac mae'n creu baich gweinyddol mawr a digroeso i Lywodraeth Cymru, ac yn creu gwaith craffu ychwanegol yn y Senedd. Erbyn hyn, dim ond naw mis sydd ar ôl tan i gorff enfawr o gyfraith bwysig gael ei ddiddymu o bosibl. Mae'n drwblus iawn; nid oes safbwynt eglur gan Weinidogion y DU ynghylch sut y maen nhw'n bwriadu defnyddio'r pwerau y mae'r Bil yn eu rhoi iddyn nhw i gadw'r darpariaethau hyn. Ychydig iawn o amser sydd gennym ni, nid yn unig i gymryd camau i sicrhau bod cyfraith yr UE a ddargedwir yr hoffem ei chynnal mewn meysydd datganoledig yn cael ei chadw, ond hefyd i ystyried effaith penderfyniadau Llywodraeth y DU ar ein cyfrifoldebau datganoledig.

Yn ail, fel y gwyddoch chi, mae sefydliadau busnes, undebau a llawer o gyrff eraill wedi mynegi pryder ynghylch dull Llywodraeth y DU, yn enwedig y diffyg eglurder a'r amserlen frysiog. Rydym ni'n annog Llywodraeth y DU i wrando ar bryderon dilys rhanddeiliaid sy'n adnabod y system reoleiddio yn dda. Maen nhw'n awyddus i gynnal ei manteision i fusnesau, i ddinasyddion ac i'r amgylchedd naturiol, ac rydym ni fel Llywodraeth Cymru yn hapus i wneud hynny gyda grwpiau rhanddeiliaid yng Nghymru cyn gynted ag y bo safbwynt y DU yn eglur a'n bod ni'n ymwybodol o'r hyn sy'n ein hwynebu.

Yn olaf, rydym ni'n disgwyl, lle mae polisi o fewn cwmpas setliadau datganoledig a bod fframwaith cyffredin priodol ar waith, y bydd Llywodraeth y DU yn cyflawni ei hymrwymiadau ac y bydd y drefn rhyng-lywodraethol yn cael ei dilyn yn llawn. Rwy'n siŵr bod y Senedd yn rhannu ein pryderon sylfaenol am y Bil hwn. Diolch, Llywydd.

18:40

Mae'n ddrwg iawn gen i glywed naws cyfraniad y Llywodraeth ar y mater pwysig iawn hwn, oherwydd mae'n ymddangos i mi nad yw'n ddim mwy nag ymgais i geisio ailagor hen glwyfau—hen glwyfau a oedd yn iacháu—dros fater Brexit. A gwn eich bod chi eisiau parhau i ail-ymladd yr hen frwydrau hynny, ond, a bod yn blaen, rydych chi eisoes wedi colli. Pleidleisiodd fwyafrif o bobl Cymru—a gwn ei fod yn wirionedd anghyfleus nad ydych chi'n hoffi ei gofio, ond—pleidleisiodd fwyafrif pobl Cymru dros adael yr UE, ac un o'r pethau y mae pobl wedi mynegi pryder amdano oedd y rhwystrau diangen yr oedd yr UE yn eu gorfodi weithiau ar fusnesau, ffermwyr a phobl ledled Cymru. Ac mewn gwirionedd, mae'n amser newid y gân. Rwyf i wedi cael llond bol o dôn gron Llywodraeth Cymru yn paldaruo yn gyson am Brexit. Mae angen i ni ddechrau bod ychydig yn fwy cadarnhaol, a'i fframio'n gadarnhaol—gadewch i mi fod yn eglur am hyn, oherwydd rwyf i eisiau dileu rhai o'r chwedlau rydych chi wedi eu lledaenu ymhellach heddiw ac a fydd, mae'n siŵr, yn cael eu hadleisio gan eraill yn y Siambr hon yn ddiweddarach—y gwir yw na fydd y Bil hwn yn gwanhau yr un iot unrhyw un o'r amddiffyniadau amgylcheddol yr ydym ni eisoes yn eu mwynhau yn y wlad hon.

Yn ogystal, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gwbl eglur ei bod hi wedi ymrwymo i gynnal y sefyllfa bresennol o ran hawliau gweithwyr yma yng Nghymru a ledled y DU. A dim ond i roi hyn mewn rhyw fath o bersbectif, gadewch i ni beidio ag anghofio bod gennym ni eisoes well hawliau na'r rhan fwyaf o bobl ar draws yr UE gyfan o ran absenoldeb a thâl mamolaeth a thadolaeth, o ran cyflog byw cenedlaethol ac isafswm cyflog cenedlaethol, ac o ran mater holl bwysig gwyliau blynyddol, sy'n hwy yma fel gofyniad na'r hyn a bennir yng nghyfraith yr UE. Rwy'n hapus i dderbyn yr ymyriad.

Rwy'n falch eich bod chi'n hapus i dderbyn ymyriad. Rydych chi'n ceisio ein sicrhau ni, neu dawelu ein meddyliau, bod Llywodraeth y DU yn cymryd hawliau gweithwyr o ddifrif, ac eto, pan oedd gweithwyr yn protestio yn erbyn cyflogau ac amodau gwael, y peth cyntaf un y gwnaethon nhw geisio ei wneud oedd cael gwared ar yr hawl i fod yn rhan o undeb llafur a'r hawl i fynegi eu teimladau. Felly, os ar y cynsail hwnnw eich bod chi'n meddwl ein bod ni'n mynd i gymryd hynny'n ganiataol, nid wyf i'n credu ei fod yn llawer o addewid.

Edrychwch, rwy'n gwybod ein bod ni'n clywed llawer o rwdl-mi-ri yn y Siambr hon, ond roedd hynna'n nonsens llwyr, a bod yn onest. Nid yw Llywodraeth y DU wedi atal unrhyw un rhag ymuno ag undeb llafur mewn unrhyw ffordd, dull na modd, ac nid yw wedi atal unrhyw un rhag gallu streicio; yr hyn y mae wedi ei wneud yw cyflwyno llwybr eglur iawn i ddiogelu safonau gofynnol yn ein gwasanaethau cyhoeddus pwysig y dylid eu cynnal o safbwynt diogelwch y cyhoedd.

Y trydydd peth, wrth gwrs, y mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo yn eglur i'w wneud yw cymryd y camau angenrheidiol i ddiogelu sylwedd unrhyw ddeddfau UE pwysig, fel y gellir parhau i gynnal effeithiau cyfreithiol y rhwymedigaethau hynny o dan bethau fel cytundeb ymadael yr UE, er enghraifft. Nawr, mae'r broses o ddiwygio eisoes wedi dechrau ac mae eisoes ar y gweill. Mae deunaw y cant o gyfraith yr UE wedi cael ei hadolygu eisoes ac mae 18 y cant o gyfraith yr UE eisoes wedi cael ei dargadw, ei dirymu neu ei diwygio'n llwyr. Dyna'r wybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus i bawb yn y Siambr hon ar ddangosfwrdd cyfraith yr UE a ddargedwir, sydd ar gael gan Lywodraeth y DU i bawb ei gweld. Gallwch weld yr holl ddeddfau yno sy'n cael eu hadolygu, statws pob un ohonyn nhw. A gwn fod Llywodraeth Cymru eisiau gwneud dim ac aros tan ddiwedd y flwyddyn, fel y gall greu argyfwng ynghylch hyn. Mae angen i chi roi tân arni, mewn gwirionedd, a dechrau edrych ar y deddfau yr ydych chi eisiau gallu eu cadw, fel y gallwch chi drafod gyda Llywodraeth y DU a'i gwneud yn eglur pa rannau o gyfraith yr UE sy'n bwysig i chi, fel y gallan nhw wneud yn siŵr eu bod nhw'n cymryd y pethau hynny i ystyriaeth.

Rydym ni eisoes, wrth gwrs, wedi gweld rhai o'r manteision yn cael eu trafod yn y Siambr hon o ddirymu rhywfaint o gyfraith yr UE o ran pethau fel caffael. Rydym ni wedi bod yn trafod caffael y prynhawn yma. Mae gennym ni gyfleoedd enfawr o ganlyniad i ymadawiad Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig o'r UE o ganlyniad i hynny. Felly, hoffwn eich annog chi: rhowch y gorau i fod mor negyddol, edrychwch ar y dangosfwrdd, cymerwch olwg, fesul adran, ar gyfraith yr UE sy'n effeithio ar Gymru yr hoffech chi weld yn cael ei chadw, gwnewch eich safbwyntiau yn eglur i Lywodraeth y DU, ac yna gellir eu cymryd i ystyriaeth. Ond rhowch y gorau i godi bwganod, rhowch y gorau i'r lol, rhowch y gorau i'r nonsens.

18:45

Anghofiais alw Cadeirydd pwyllgor y cyfansoddiad—mae'n rhaid bod y gic gyntaf am chwarter i wyth ar fy meddwl. Cadeirydd pwyllgor y cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.

Diolch, Llywydd. Mae ein pwyllgor wedi llunio un adroddiad ar y tri memorandwm cyntaf ar gyfer y Bil hwn. Nid oeddem ni'n gallu adrodd ar femorandwm Rhif 4 a llunio rhywbeth a allai fod wedi cynorthwyo Aelodau mewn modd ystyrlon yn ystod y ddadl y prynhawn yma. Er bod hyn yn anffodus, mae'n ganlyniad uniongyrchol i wneud gwelliannau hwyr i Filiau mewn Senedd arall sy'n effeithio arnom ni yma yng Nghymru.

Llywydd, mae ein prif adroddiad yn nodi'n eglur lle'r ydym ni wedi mabwysiadu safbwynt pwyllgor cyfan, a lle'r ydym ni wedi cytuno ar safbwynt fel mwyafrif. Ond fel pwyllgor cyfan, rydym ni wedi mynegi pryderon dwys am y Bil a'r goblygiadau i'r Senedd hon, a hoffwn ei gwneud hi'n eglur i'r Senedd bod hyn yn seiliedig ar y dystiolaeth yr ydym ni wedi ei chasglu a'r dadansoddiad cyfreithiol a chyfansoddiadol yr ydym ni wedi ei gymhwyso'n ddiwyd. Mae'n deg dweud hefyd nad yw'r dadansoddiad hwn yn unigryw i ni, ond caiff ei adleisio gan bwyllgorau awdurdodol eraill yn San Steffan ac yn yr Alban.

Nid yw'r Bil hwn yn debyg i rai eraill. Mae'n ddifrifol ddiffygiol o ran darparu trosolwg priodol a chyfansoddiadol dderbyniol gan Seneddau o weithredoedd y Llywodraeth, ac rydym ni wedi dod i'r casgliad ei fod yn galluogi anghydbwysedd grym annerbyniol rhwng y Weithrediaeth a'r ddeddfwrfa. Dylai hynny beri pryder i ni. Mae'r Bil yn peri risg wirioneddol y bydd y Senedd yn cael ei hosgoi o ran penderfyniadau sy'n cael eu gwneud mewn meysydd datganoledig. Hoffwn ailadrodd hynny: gallai gael ei hosgoi o ran penderfyniadau mewn meysydd datganoledig. Ac yn fwy cyffredinol, rydym ni'n bryderus iawn y byddai'r Bil yn galluogi Gweinidogion, yn hytrach na Seneddau, i newid tirwedd reoleiddio a chyfreithiol y DU yn sylweddol. Ac ar ben hynny, gofynnir i ni lofnodi siec wag, oherwydd ni all Llywodraeth y DU na Llywodraeth Cymru nodi yn llwyddiannus ac yn hyderus yr hyn sy'n gyfraith yr UE a ddargedwir. Myfyriwch ar y frawddeg honno am eiliad. Felly, gallai deddfau ddiflanu o'r llyfr statud heb i'r Llywodraethau hyd yn oed roi gwybod i'r Seneddau bod hyn wedi digwydd. Ni fyddai gennym ni, fel y Senedd, unrhyw ffordd o benderfynu a oedd hyn ar ddamwain neu'n fwriadol.

Felly, gadewch i mi roi sylw cryno i nifer o argymhellion yn ein hadroddiad. Mae argymhelliad 3 yn ymwneud â'r ail ddyddiad terfynu yn y Bil, sef 23 Mehefin 2026. Os yw'r dyddiad terfynu hwn yn aros yn y Bil, fe wnaethom ni ddweud y dylai Llywodraeth Cymru, fel mater o frys, godi gyda Llywodraeth y DU fater unigryw etholiad Senedd 2026 a'r gwrthdaro â'r dyddiad terfynu hwn. Mae hwn yn bryder perthnasol. Rydym ni'n croesawu ymrwymiad y Cwnsler Cyffredinol i wneud hyn, a byddwn yn croesawu diweddariad gan y Cwnsler Cyffredinol ar ba un a yw hyn wedi cael ei drafod eto.

Mae argymhellion 7 ac 8 yn ymdrin â dangosfwrdd Llywodraeth y DU o gyfraith yr UE a ddargedwir. Rydym ni wedi dweud y dylai Llywodraeth Cymru rannu ei rhestr ei hun o gyfraith yr UE a ddargedwir a wnaed yng Nghymru gyda'n pwyllgor a chyda Llywodraeth y DU cyn gynted â phosibl, ac y dylai ofyn i'w rhestr gael ei hychwanegu at y dangosfwrdd. Eto, rwy'n croesawu cytundeb y Cwnsler Cyffredinol i'r argymhellion hyn.

Yn argymhelliad 9, rydym ni wedi dweud y dylid diwygio'r Bil i'w gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion gyflwyno gerbron deddfwrfeydd y DU erbyn 30 Medi fanylion cyfraith yr UE a ddargedwir y maen nhw'n bwriadu iddi ddiflannu ar 31 Rhagfyr. Ceir cronoleg allweddol yma, meddaf wrth gyd-Aelodau. Nawr, rwy'n croesawu ymrwymiad y Cwnsler Cyffredinol i fynd ar drywydd hyn gyda Llywodraeth y DU. Eto, Cwnsler Cyffredinol, byddwn yn croesawu unrhyw ddiweddariadau a allai fod gennych chi.

Yn argymhelliad 10, rydym ni wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymru yn parhau i gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol, fel sy'n ofynnol o dan y setliad datganoli, ac, yn wir, cod gweinidogol Llywodraeth Cymru. Ac mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'm pwyllgor ar ôl trafodaeth bellach ar hyn gyda Llywodraeth y DU. 

Yn argymhelliad 11, rydym ni wedi gofyn i Lywodraeth Cymru gadarnhau gyda Llywodraeth y DU sut y bydd yn cymryd safbwyntiau'r Senedd i ystyriaeth o ran newidiadau i gyfraith yr UE a ddargedwir. Ac eto, rwy'n croesawu cytundeb y Cwnsler Cyffredinol i hyn. Yn argymhelliad 15, fe wnaethom ni ddweud y dylai Llywodraeth Cymru asesu effaith y Bil ar Gymru fel mater o frys.

A dywedodd ein hargymhelliad olaf—argymhelliad 17—y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno asesiad gonest o oblygiadau adnoddau a chapasiti gweithredu'r Bil i Lywodraeth Cymru, a nodi pa weithgarwch deddfwriaethol fydd yn cael ei ddisodli er mwyn sicrhau cyflawni'r tasgau y bydd angen iddi eu cwblhau erbyn diwedd 2023. Ac mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ymrwymo i ddarparu'r asesiadau hyn.

Aelodau, gallai'r Senedd wynebu llwyth gwaith digynsail yr hydref hwn. Byddwch yn cofio, ym mis Medi 2022, y rhoddwyd y Senedd mewn sefyllfa anodd pan ofynnodd Llywodraeth Cymru i'r Aelodau gymeradwyo rheoliadau â diffygion hysbys oherwydd bod grym dirprwyedig yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 ar fin cael ei ddileu. Felly, gyda'r profiad diweddar hwn yn fyw yn ein meddyliau, rydym ni'n credu, fel pwyllgor, ei bod hi'n hanfodol bod y Senedd yn barod i drefnu ei bod yn ymgynnull am wythnosau ychwanegol yr hydref hwn, ac yn ymateb gydag ystwythder pe bai ei angen. Ni allwn orbwysleisio ein pryderon ynghylch yr effaith y gallai'r Bil hwn ei chael ar sicrwydd ac ansawdd y gyfraith fel y mae'n berthnasol yng Nghymru.

Mae mwyafrif eglur o'n pwyllgor yn cytuno â'r Cwnsler Cyffredinol y dylai'r Senedd atal ei chydsyniad i'r Bil; nid yw holl aelodau'r pwyllgor yn rhannu'r farn honno. Ond, i gloi, rwy'n gwahodd y Cwnsler Cyffredinol i gadarnhau beth yw ei gynlluniau ar gyfer memoranda yn y dyfodol ac o ran dadl gydsyniad bellach, os caiff y Bil ei ddiwygio eto yng Nghyfnod Adroddiad Tŷ'r Arglwyddi. Diolch yn fawr iawn.

18:50

Mewn maes cystadleuol, efallai mai Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) yw un o'r darnau gwaethaf o ddeddfwriaeth i ddod o San Steffan o fewn cof. Trwy bennu amserlenni mympwyol ac afrealistig ar gyfer dileu cyfraith yr UE a ddargedwir o'r llyfr statud domestig, waeth beth fo'i effeithiolrwydd ymarferol gwirioneddol, mae'r Llywodraeth y DU hon unwaith eto wedi blaenoriaethu ei chymhellion ideolegol byrbwyll cyn llywodraethu cyfrifol. Mae wedi ei ddylunio'n wael, mae'n anymarferol, a bydd yn costio degau o filiynau o bunnoedd i drethdalwyr, y cwbl oherwydd casineb afresymol y blaid Dorïaidd at unrhyw beth sy'n gysylltiedig â'r UE.

Mae rhuthro'r adolygiad o gyfraith yr UE a ddargedwir yn creu'r perygl sylweddol o ganiatáu i amrywiaeth eang o reoliadau hanfodol ar feysydd fel hawliau cyflogaeth, safonau amgylcheddol, ansawdd bwyd, iechyd a diogelwch, a lles anifeiliaid, ddiflannu o'r llyfr statud heb eu disodli'n briodol. Dyma'r ras ddadreoleiddio i'r gwaelod yr oeddem ni i gyd, ar y meinciau hyn, yn ofni y byddai Brexit yn ei hachosi. A yw'r canlyniadau hyn yn fwriadol neu yn ddim ond smonach hen-ffasiwn gan y blaid Dorïaidd? Gallwch wneud eich penderfyniad eich hyn am hynny.

Fel mater o egwyddor, mae Plaid Cymru yn llwyr wrthwynebu defnyddio LCMs. Dylai penderfyniadau sy'n effeithio ar ddatganoli yng Nghymru bob amser, yn ddieithriad, gael eu gwneud yn llawn gan y Senedd. Beth yw goblygiadau llawn y Bil hwn? Y gwir amdani yw nad ydym ni'n gwybod eto. Yn ystod ei ymddangosiad gerbron y Pwyllgor Craffu Deddfwriaeth Eilaidd y llynedd, fe wnaeth yr Arglwydd Callanan o Lywodraeth y DU gyfaddef na fyddai gwir raddau'r Bil yn dod i'r amlwg cyn ei basio. Er bod Llywodraeth Cymru bellach yn ymgymryd â'i hymarfer ei hun i nodi cyfraith yr UE a ddargedwir penodol i Gymru, mae'n anochel y bydd y dasg yn cymryd cryn dipyn o amser, egni ac adnoddau y gellid eu defnyddio'n well o lawer yn mynd i'r afael â blaenoriaethau pobl Cymru.

Daeth syniad o faint y goblygiad adnoddau i'r gwasanaeth sifil gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, a gyfaddefodd iddi wario £600,000 ar gostau staffio yn unig mewn dim ond dau fis yn rhan o'r adolygiad o'r Bil, er ei bod yn gyfrifol am ddim ond 318 darn o gyfraith yr UE a ddargedwir. Gyda hyn mewn golwg, hoffwn wybod amcangyfrif presennol Llywodraeth Cymru o'r gofynion adnoddau, o ran cost a staffio, sy'n deillio o'r adolygiad parhaus o gyfraith yr UE a ddargedwir penodol i Gymru.

Un agwedd drwblus arall ar y Bil hwn yw ei grynodiad o bwerau yn nwylo Gweinidogion ar draul craffu seneddol priodol. Mae hyn, wrth gwrs, yn amlwg o ran y berthynas rym rhwng San Steffan a Llywodraeth Cymru, o ystyried y ffaith bod y Bil yn agor y drws i Weinidogion y DU ddeddfu'n unochrog mewn meysydd datganoledig. Gyda rheswm da, felly, gellir ystyried bod y Bil hwn yn dystiolaeth bellach o dueddiadau canoli'r Llywodraeth Dorïaidd hon a'i thuedd o drin y setliad datganoledig â dirmyg.

Unwaith eto, mae adfer rheolaeth yn golygu, mewn gwirionedd, cipio grym yn ôl gan Gymru a thuag at San Steffan. Felly, nid y cyllid cyhoeddus yn unig y mae'r Llywodraeth Dorïaidd yn ceisio ei gymryd oddi wrthym ni. Er ein bod ni'n cydnabod y ffaith na cheisiwyd y pwerau hyn gan Lywodraeth Cymru yn y lle cyntaf, mae'n hanfodol serch hynny bod Llywodraeth Cymru yn gwneud pob ymdrech i sicrhau nad yw'r arferion gwael sydd wedi dod yn arferol i'r Llywodraeth Dorïaidd hon yn ymgripio i'n democratiaeth ni yma yng Nghymru.

I gloi, gofynnaf hyn: a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw argymhellion i Lywodraeth y DU ynghylch cryfhau trosolwg y Senedd dros y pwerau a roddwyd i Weinidogion drwy Fil cyfraith yr UE a ddargedwir? Diolch yn fawr.

18:55

Does gan hyn ddim i'w wneud ag ailagor hen glwyfau. Does dim i'w wneud ynglŷn â pheidio â derbyn canlyniad Brexit. Mae'r Bil hwn yn rysáit ar gyfer deddfu ofnadwy. Bydd yn creu ansicrwydd ar beth yw'r gyfraith, bydd yn osgoi craffu seneddol ar draws y Deyrnas Unedig, ac mae'n enghraifft arall eto o Fil y DU sy'n tanseilio'r setliad datganoli.

Sut ar y ddaear y mae unrhyw Lywodraeth yn meddwl ei bod hi'n syniad da dirymu'r gyfraith cyn hyd yn oed gwybod beth yw'r gyfraith honno? I wneud cymhariaeth, mae fel pe bawn i'n agor llyfr statud mawr iawn, gyda gorchudd dros fy llygaid, yn ceisio dyfalu fy mod i yn y lle iawn, ac yna'n dechrau rhwygo tudalennau allan o'r llyfr hwnnw a dim ond gobeithio am y gorau fy mod i wedi dirymu'r gyfraith briodol, y gyfraith iawn. A pheidiwch â chymryd fy ngair i am hynny: fel y soniodd Peredur Owen Griffiths, pan gafodd yr Arglwydd Callanan ei herio am hyn, pan ofynnwyd iddo faint o gyfraith Ewropeaidd arwyddocaol fyddai'n cael ei chadw, ei newid neu ei haddasu cyn pasio'r Bil, dywedodd nad oedd yn gwybod. Nid yw Llywodraeth y DU yn gwybod yr ateb. Nid oes gen i unrhyw hyder bod y Llywodraeth y DU hon wedi ystyried goblygiadau'r Bil gwael hwn. Mae hwn yn gam sydd wedi'i ysgogi gan ideoleg yn hytrach na deddfu da.

Fel y nododd Huw Irranca-Davies, mae'r ffaith y gellir oedi'r cymal terfynu tan 23 Mehefin 2026 yn dangos bod y Senedd a'i hetholiad yn gwbl angof neu yn gwbl ddibwys, neu'r ddau, yn Whitehall. Yn amlwg, penderfynwyd ar y dyddiad fel rhyw fath o ddathliad 10 mlynedd o Brexit yn hytrach na deddfu difrifol sy'n dangos parch at ddeddfwrfeydd datganoledig y Deyrnas Unedig.

Fe af i gam ymhellach na'm cyd-Aelod Peredur Owen Griffiths pan ddywedodd am adfer rheolaeth. Roedd honno'n un o fonllefau Brexit, onid oedd? Adfer rheolaeth. Ond mae'n fwy nag adfer rheolaeth i San Steffan; mae'n adfer rheolaeth i ddwylo Gweinidogion y DU. Nid i'r Senedd genedlaethol, ond i Lywodraeth y DU ei hun. Yn ffodus—yn ffodus—bu cefnogaeth drawsbleidiol ar draws Seneddau'r DU i gael mwy o graffu seneddol. Mae'n gymaint o drueni nad yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn adlewyrchu barn arglwyddi Torïaidd yn Nhŷ'r Arglwyddi. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â'r alwad honno, a pha gamau y gwnaiff ef eu cymryd i gryfhau swyddogaeth y Senedd hon i graffu ar y pwerau sy'n cael eu harfer gan Weinidogion Cymru?

Nid rhyw fath o ddadl gyfansoddiadol arbenigol yw'r Bil hwn; mae'n effeithio ar hawliau dynol sylfaenol. Fel y soniwyd gan gyd-Aelodau eisoes, gellid colli meysydd pwysig mewn cyfraith gyflogaeth, cyfraith amgylcheddol a diogelu defnyddwyr, fel hawliau y brwydrwyd yn galed i'w cael i dâl gwyliau blynyddol, absenoldeb rhieni ac amddiffyniad rhag cael eich diswyddo ac yna'ch ailgyflogi. Ac eto, peidiwch â chymryd fy ngair i am hyn, gan fod yr elusen gyfreithiol annibynnol uchel ei pharch, y Prosiect Cyfraith Gyhoeddus, wedi dweud hyn: mae pwerau gweinidogol y Bil yn gyfystyr â

'siec wag i ailysgrifennu neu ddiddymu hawliau ac amddiffyniadau gwerthfawr.'

Nid dadl â chymhelliad gwleidyddol yw hon o'n safbwynt ni. Mae hyn yn ddifrifol. Does gan Lywodraeth y DU ddim syniad beth maen nhw'n ei wneud, dim syniad o'r meysydd cymhleth y maen nhw'n mynd iddyn nhw trwy gymryd y cam hwn a ysgogir gan ideoleg.

Cwnsler Cyffredinol, un cwestiwn olaf: sut gwnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau ei bod hi'n cydymffurfio â'i dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a diogelu hawliau dinasyddion Cymru? Diolch yn fawr.

Y Cwnsler Cyffredinol nawr i ymateb i’r ddadl yma. Mick Antoniw.

I gloi, Llywydd, hoffwn yn gyntaf oll ddiolch i bedwar pwyllgor y Senedd a ddangosodd gymaint o ddiddordeb yn y Bil ac sydd wedi ysgrifennu ataf i a Gweinidogion eraill Cymru. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am graffu ar yr LCM a'r LCMs atodol a'u hadroddiad manwl, yr wyf i'n cytuno â llawer ohono, fel y nodwyd eisoes yn fy ymateb ar 9 Mawrth.

Fel y ceisiais esbonio, rydym ni mewn sefyllfa annymunol iawn nad yw o'n gwneuthuriad ein hunain. Fel Llywodraeth Cymru, rydym ni'n parhau i esbonio i Lywodraeth y DU yr hyn sydd o'i le ar y Bil ac i geisio'r newidiadau mwyaf effeithiol y gallwn ni, ac rydym ni'n dal i frwydro i sicrhau lliniaru rhai o'r effeithiau gwaethaf. Byddaf yn diweddaru'r Senedd os a phan fydd unrhyw gynnydd. Hefyd, fel Llywodraeth gyfrifol, ein blaenoriaeth yw ymdrin â'r Bil er mwyn sicrhau bod y niwed y bydd yn ei achosi i Gymru cyn lleied â phosibl. Gwnaed y pwynt hwnnw, ac rwy'n cadarnhau y byddwn ni'n gwneud popeth y gallwn ni, wrth i'r Bil fynd rhagddo trwy Dŷ'r Arglwyddi, o ran sylwadau ynghylch y math o newidiadau sydd angen eu gwneud. Eto, byddaf yn parhau i rannu syniadau manwl gyda'r Senedd. 

Hoffwn wneud sylwadau cryno iawn ar ambell un o'r pwyntiau a wnaed. I bwyntiau Darren Millar: Darren, mae hyn yn ymwneud â democratiaeth seneddol. Mae'n ymwneud ag osgoi'r Senedd, mae'n ymwneud â thanseilio'r Senedd, ac mae'n ymwneud â rhoi pwerau yn nwylo Gweinidogion heb unrhyw atebolrwydd na chraffu. Rwy'n siŵr eich bod chi i gyd yn cytuno yn eich calonnau eich bod chi'n gwybod bod hynny'n annemocrataidd. 

19:00

Mae'n bwysig bod gennym ni ddemocratiaeth seneddol ac y creffir ar bethau'n iawn. Mae Senedd y DU, wrth gwrs, yn craffu ar y darn yma o ddeddfwriaeth, lle mae 40 o Aelodau yn cael eu hanfon o Gymru. Ond ni chlywais, ar unrhyw adeg, tra roeddem ni'n aelodau o'r Undeb Ewropeaidd, unrhyw gŵyn neu rwgnach am y ffaith nad oeddech yn gallu craffu ar lawer o ddeddfau'r Comisiwn, ac roedd hynny'n effeithio ar bobl Cymru. Pam mae gennych chi agwedd wahanol nawr, er bod Senedd y DU yn gallu craffu ar faterion?  

Yn gyntaf oll, gyda deddfwriaeth yr UE, wrth gwrs, roedd yna graffu a chraffwyd arni yn Senedd y DU. Ond yn ail, y pwynt a wnawn yn arbennig yma yw nad yw Llywodraeth y DU yn craffu ar yr holl ddeddfwriaeth hon, mae'n rhoi pwerau awdurdodol i Weinidogion Llywodraeth y DU, ac, yn wir, i Weinidogion Cymru, a siawns bod hynny'n annerbyniol. Yn sicr, nid yw'n adfer rheolaeth. Dyma ddywedodd David Davis, ymgyrchydd Brexit a chyn Ysgrifennydd Brexit:

'Gofynnir inni arwyddo siec wag—efallai y byddai rhywun bron â dweud cath mewn cwd— oherwydd nid ydym ni hyd yn oed yn gwybod am sawl darn o ddeddfwriaeth a gânt eu pasio ar gefn y Bil hwn, heb sôn am yr hyn ydyn nhw. Dyw hynny, wrth gwrs, ddim yn ddemocrataidd.'

Fe ddywedoch chi fod Llywodraeth y DU eisoes wedi edrych ar 18 y cant o'r Biliau. Beth am y 3,800 darn o ddeddfwriaeth sy'n weddill nad oes gan neb syniad beth maen nhw'n ei olygu, beth yw'r cynnwys a sut y byddan nhw'n berthnasol? Mae'n rhaid gwneud hynny erbyn diwedd Rhagfyr.

O ran y sylwadau a wnaed gan Rhys ab Owen a Huw, rwyf, wrth gwrs, wedi ymateb yn fanwl yn ysgrifenedig i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ac mi fyddaf, wrth gwrs, yn rhoi sesiynau pellach. Ond, wrth gwrs, un o'r pryderon sydd gennym ni yw effaith hyn i gyd ar ein gallu deddfwriaethol ein hunain, ar y galwadau fydd ar y Senedd. Mae'n rhaid i mi ddweud bod y dasg, fel y'i mynegir gan Lywodraeth Cymru a gan Lywodraeth yr Alban, yn dasg bron yn amhosibl, ac mae hynny hefyd yn rhywbeth sy'n cael ei chydnabod yn Senedd y DU. 

Yn anffodus, pa bynnag newidadau rydym ni wedi gofyn amdanyn nhw hyd yma, does dim arwydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ei bod yn agored i wneud newidadau sylweddol. Heb newid cyfeiriad yn llwyr gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, gallaf i ddim gweld unrhyw fersiwn o'r Bil yma y byddai Llywodraeth Cymru yn argymell bod y Senedd yn cydsynio iddo. Llywydd, felly, rwy'n gofyn i'r Aelodau atal cydsyniad ar gyfer y Bil yma. 

Felly, rwy'n gofyn i Aelodau atal cydsyniad i'r Bil hwn. Diolch. 

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly gwnawn ni ohirio'r bleidlais. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

14. Dadl: Cyfnod Terfynol Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)

Eitem 14 sydd nesaf, dadl ar Gyfnod Terfynol Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Dwi'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud y cynnig yma hefyd. Mick Antoniw. 

Cynnig NDM8242 Mick Antoniw

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26C.58:

Yn cymeradwyo Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Heddiw, ar ôl naw mis o graffu, mae Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yn dychwelyd i'r Senedd i gael ei ystyried am y tro olaf. Pan gyflwynais i'r Bil, fis Gorffennaf diwethaf, tynnais sylw at ei bwysigrwydd hanesyddol fel y Bil cydgrynhoi cyntaf yn rhaglen uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Mae'r Bil yn cyfuno'r prif Ddeddfau a chyfraith perthnasol ar yr amgylchedd hanesyddol. Mae wedi trefnu'r gyfraith a'i hailddatgan mewn iaith bob dydd syml. Am y tro cyntaf, mae'r gyfraith ar gael ar ffurf gwbl ddwyieithog, ond, yn bwysig, fel sy'n ofynnol gan ein Rheolau Sefydlog, mae'r gwaith cydgrynhoi wedi sicrhau nad yw effaith sylfaenol y gyfraith wedi newid.

Yn ei adroddiad a oedd i'w groesawu, ar ôl ystyriaeth fanwl, argymhellodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y dylai'r Bil fynd ymlaen i'r Cyfnod Terfynol. Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor, holl aelodau'r pwyllgor a staff y pwyllgor am y sylw manwl a roddwyd ganddyn nhw i'r Bil sylweddol iawn hwn. Cafodd trafodaethau'r pwyllgor eu llywio gan dystiolaeth gan Gomisiwn y Gyfraith a chan randdeiliaid, a diolchaf i bawb a roddodd o'u hamser i gyfrannu. Mewn nifer o achosion, gellir canfod eu cyfraniadau yn narpariaethau'r Bil. Mae fy niolch terfynol i dîm y Bil, sydd wedi gweithio am flynyddoedd lawer i ddod â'r ddeddfwriaeth gyfunol ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru i'r pwynt hwn. Bydd eu gwaith yn parhau gyda datblygu'r is-ddeddfwriaeth a'u hymgysylltiad â rhanddeiliaid.

Mae Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) nid yn unig yn atgyfnerthu deddfwriaeth, mae hefyd yn rhan o god cyfraith Cymru. Ochr yn ochr â chydgrynhoi, mae codeiddio yn rhoi arf pwysig i ni greu a chynnal trefn yn llyfr cyfraith Cymru. Os caiff ei basio gan y Senedd, bydd y Bil, ynghyd â'r is-ddeddfwriaeth sydd ei hangen i'w chefnogi, yn ffurfio cod cyfraith Cymru ar yr amgylchedd hanesyddol ac yn cael eu cyhoeddi gyda'i gilydd. Wrth godeiddio cyfraith i Gymru, rydym yn dilyn ôl troed un o ddeddfwyr cynharaf hysbys Cymru, Hywel Dda, a godeiddiodd gyfraith Cymru yng nghanol y ddegfed ganrif yn ôl traddodiad. Rydym ni hefyd yn mynd â chyfraith Cymru yn ei blaen i gyfnod newydd o drefn, hygyrchedd ac addasu. Dim ond y cam cyntaf ymlaen yw Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) mewn cynllun eang i foderneiddio a diwygio'r gyfraith i Gymru.

Bydd y Bil diddymu deddfwriaeth (Cymru), sy'n diddymu darpariaethau segur nad ydynt bellach o gyfleustod neu fantais ymarferol, yn cael ei gyflwyno i'r Senedd yn fuan. Mae gwaith hefyd yn parhau i foderneiddio a symleiddio'r gyfraith gynllunio, ymgymeriad mwy arwyddocaol fyth na Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Hyderaf, felly, y caiff Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) eich cymeradwyaeth, yn ogystal â'n hymdrechion pellach i atgyfnerthu, codeiddio a gwella hygyrchedd cyfraith Cymru. Diolch, Llywydd.

19:05

Mae'n bleser gennyf siarad yng Nghyfnod Olaf y Bil cydgrynhoi hwn. Hoffwn ategu'r Cwnsler Cyffredinol a diolch i'r rheiny sydd wedi gweithio mor galed ar y Bil gan ei fod wedi teithio ar ryw gyflymder drwy'r Senedd dros yr wythnosau diwethaf. Yn benodol, hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am eu gwaith ar y Bil cydgrynhoi. Yn ail, efallai y bydd yn synnu'r Siambr y byddwn ni y Ceidwadwyr Cymreig yn hapus i gefnogi'r Bil hwn heddiw hefyd. Er ein bod yn siomedig na chafodd ein gwelliannau blaenorol eu cefnogi, rydym yn ddiolchgar bod y Cwnsler Cyffredinol yn barod i wrando ac ystyried amryw safbwyntiau.

Roedd nifer o'r gwelliannau yn ymwneud â llongddrylliadau, a hoffwn dawelu meddyliau'r Siambr nad oedden nhw'n dryllio gwelliannau, ond yn welliannau ar ddrylliadau. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Cwnsler Cyffredinol yn agored i awgrymiadau ar ddiogelu'r amgylchedd morol hanesyddol ac y bydd yn cynnal adolygiad yn y maes hwn, ond hoffwn ei sicrhau y byddwn yn cadw llygad barcud ar sut mae'n cynnal yr adolygiad a'i ymlyniad wrth yr amserlen a nododd i'r pwyllgor diwedd 2024. Rwy'n edrych ymlaen at asesu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig o ran Bil amgylchedd morol hanesyddol a'r amddiffyniadau i longddrylliadau yn y dyfodol. Fodd bynnag, hyd nes y gwelwn y Bil hwnnw, byddwn yn ymatal rhag rhoi barn.

Mae'n bleser gennyf gefnogi'r Bil heddiw ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, y byddwn yn parhau i fod yn gyfaill beirniadol iddo. Diolch.

Rwyf wedi ei wneud eto, ac wedi anghofio Cadeirydd pwyllgor y cyfansoddiad. Tybed pam. Huw Irranca-Davies.

Diolch, Llywydd. Y rheswm am hynny yw nad ydw i yn y Siambr yn chwifio fy mreichiau atoch chi. Credaf mai dyna'r rheswm. Dim ond ychydig o sylwadau byr sydd gen i, ond rwyf yn croesawu'r cyfle i ddweud ychydig o sylwadau byr heno, wrth i ni orffen ystyried y Bil cydgrynhoi Cymreig cyntaf un. Ar ddiwedd nos Fawrth hwyr yn y Senedd, mae'r ddadl Cyfnod Olaf hon ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) ei hun yn foment ddeddfwriaethol hanesyddol.

Mae'r broses o graffu ar y Bil cydgrynhoi yn wahanol iawn i'r hyn y bydd Aelodau'n fwyaf cyfarwydd ag ef o ran craffu ar Filiau yma yn y Senedd. Un prif wahaniaeth yw, ar ôl i'r Pwyllgor ystyried Bil yn fanwl, sy'n cynnwys ystyried a gwaredu gwelliannau, yn union fel Cyfnod 2 ar gyfer Biliau cyhoeddus arferol, bu'n rhaid i fy mhwyllgor adrodd i'r Senedd ac argymell a ddylai'r Bil gael cam diwygio pellach yn y Siambr hon, neu a ddylai fynd ymlaen i'r Cyfnod Terfynol. Dyna'r gwahaniaeth gyda Bil cydgrynhoi. Fe wnaethom ni argymell y dylai'r Bil allu dod yn syth i'r Cyfnod Terfynol.

Mae ein hadroddiad hefyd yn nodi dau fater yr oeddem yn eu hystyried cyn gwneud yr argymhelliad hwn. Yn gyntaf, wrth ystyried y Bil am y tro cyntaf, fe dynnon ni sylw'r Cwnsler Cyffredinol at nifer o faterion gyda'r Bil, ac rydym yn credu bod y materion hyn wedi cael sylw gan y Cwnsler Cyffredinol yn ystod ein hystyriaeth fanwl fel pwyllgor. Yn ail, yn ystod yr ystyriaeth fanwl, cyflwynodd fy nghyd-aelod o'r pwyllgor, James Evans, welliannau, sydd newydd gael eu cyfeirio atynt, yn ymwneud â diogelu safleoedd llongddrylliadau hanesyddol—er nad yw'n welliant dryllio, fel y dywedwyd wrthym ni. Ni chytunwyd ar y gwelliannau hyn, ond fel pwyllgor rydym yn fodlon â'r wybodaeth ddilynol a ddarparwyd gan y Cwnsler Cyffredinol am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn wir yn bwrw ymlaen â chynlluniau i adolygu'r holl ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â diogelu safleoedd o longddrylliadau hanesyddol ac amserlenni disgwyliedig ar gyfer gwneud gwaith o'r fath.

Pan siaradais yn ystod yr ystyriaethau cychwynnol yn ôl ym mis Ionawr, dywedais ar ran y pwyllgor—[Anghlywadwy.]

19:10

Mae arna i ofn ein bod ni'n colli'r cysylltiad gyda chi, Huw Irranca-Davies. Oni bai bod modd ei adfer yn sydyn iawn, rwy'n mynd i symud ymlaen. Rwy'n siŵr bod y rhan fwyaf o'r pwyntiau yr oeddech chi ar fin eu gwneud ar gof a chadw yn eich adroddiad fel pwyllgor. Gofynnaf i'r Cwnsler Cyffredinol, felly, a oes ganddo unrhyw sylwadau i'w gwneud i grynhoi'r ddadl. 

Dim ond ambell sylw sydd gen i wrth gloi. Mae'r pwyntiau a wneir o ran yr amgylchedd morol yn rhai dilys. Credaf mai'r broblem oedd, gyda'r amgylchedd morol, bod sawl agwedd iddo. Nid llongddrylliadau yn unig sy'n bwysig; mae'n amrywio o dirluniau cynhanesyddol tanfor i dystiolaeth o weithgarwch diwydiannol a milwrol modern. Mae rhai meysydd sydd o bosib wedi eu cadw'n ôl. Mae adolygu'r holl faes yn ei grynswth a'i wneud yn iawn yn dipyn o ymgymeriad. Mae'n un sydd angen ei wneud, mae'n faes sydd angen ei gydgrynhoi, ac mae'n faes lle bydd adolygiad i asesu'r hyn sydd ei angen er mwyn cynnal y broses benodol honno. Felly, nid rhywbeth wedi'i anghofio ydi e. Byddwn i hefyd yn atgoffa'r Aelodau nad yw cydgrynhoi a chodeiddo, wrth gwrs, yn ras; mae'n broses hirdymor o ran rhai o feysydd y gyfraith. Rwyf wedi sôn am y Bil cyfraith statud (diddymu), ond hefyd y Bil cynllunio, ac mae'n siŵr y bydd eraill maes o law.

Rwy'n falch o gyflwyno Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Os byddwch yn pasio'r ddeddfwriaeth heddiw, bydd perchnogion henebion cofrestredig neu adeiladau rhestredig yn unrhyw gornel o Gymru, am y tro cyntaf, yn gallu dod o hyd i'r ddeddfwriaeth sydd ei hangen arnynt mewn un lle, yn Gymraeg neu'n Saesneg, ac mewn iaith sy'n glir ac yn hawdd ei deall. Bydd hyn yn trawsnewid y ffordd y caiff amgylchedd hanesyddol Cymru ei ddiogelu a'i reoli. Rwy'n eich annog i gefnogi'r ddeddfwriaeth hon. Diolch, Llywydd.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, bydd rhaid cynnal pleidlais ar gynigion y Cyfnod Terfynol yma, felly dwi'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem yma hefyd tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi i ganu'r gloch, dwi'n symud yn syth at y bleidlais gyntaf.

15. Cyfnod Pleidleisio

Mae’r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i gymeradwyo.

19:15

Eitem 10—Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio): O blaid: 39, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Caffael, cynnig 1, sydd nesaf, a'r cynnig yma yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i gymeradwyo.

Eitem 11—Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caffael, cynnig 1: O blaid: 39, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Caffael, cynnig 2, sydd nesaf. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei wrthod.

Eitem 12—Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caffael, cynnig 2: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Y bleidlais nesaf yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Mick Antoniw. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais, felly. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei wrthod. 

Eitem 13—Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio): O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Mae'r bleidlais olaf ar y ddadl ar Gyfnod Terfynol Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Galwaf am bleidlais ar y cynnig i gymeradwyo Bil yr amgylchedd hanesyddol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 51, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo. 

Eitem 14—Dadl: Cyfnod Terfynol Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): O blaid: 51, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Dyna ddiwedd ar ein pleidleisio ni. Dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am y dydd heddiw.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:19.