Y Cyfarfod Llawn

Plenary

08/03/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi

Prynhawn da, a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi, ac mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, ac i'w ofyn gan John Griffiths.

Y Diwydiant Teledu a Ffilm

1. Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a'r Prif Chwip i hybu'r diwydiant teledu a ffilm sy'n tyfu yng Nghymru? OQ59221

Member
Dawn Bowden 13:30:24
Deputy Minister for Arts and Sport, and Chief Whip

Diolch am y cwestiwn, John. Mae Gweinidog yr Economi a minnau wedi ymrwymo i weithio gyda'n gilydd i sicrhau enw da cynyddol Cymru yn y sector ffilm a theledu, ac wrth hyrwyddo Cymru ar y llwyfan byd-eang.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn ddiweddar, ymwelais â chwmni diwydiannol lleol, cwmni diwydiannol teuluol, yng Nghasnewydd, sef GD Environmental. Maent yn arallgyfeirio ar hyn o bryd, ac fe wnaethom ymweld â'u stiwdio ffilm, yn Nhrefonnen yng Nghasnewydd, lle mae Urban Myth yn ffilmio'r gyfres Sex Education. Mae'r cyfan yn mynd yn dda iawn, ac mae'r berthynas gyda Cymru Greadigol wedi bod yn ddefnyddiol iawn, Weinidog, ac rwy'n siŵr y byddwch yn falch o wybod hynny. Ond mae ganddynt gynlluniau nawr i adeiladu stiwdio ffilm arall, ochr yn ochr â'r un sydd eisoes yn bodoli, a hefyd mae ganddynt ddiddordeb mewn adeiladu hyb ffilm a theledu, a fyddai'n ysgol ffilm mewn gwirionedd, ar y cyd ag addysg uwch ac addysg bellach. Felly, maent yn uchelgeisiol, Weinidog, ac rwy'n credu bod hynny'n deillio o'r cryfder cynyddol sydd gennym yng Nghymru ym maes teledu, ffilm a'r cyfryngau. Tybed a allech edrych i weld pa gefnogaeth bellach y gallech ei chynnig i'r cwmni i ehangu yn y ffordd y maent yn cynllunio, ac ymweld â hwy eich hun rywbryd, efallai.

Diolch am y cwestiwn atodol, John. Yn gyntaf, mae'n siŵr y byddai'n werth imi nodi rhywfaint o'r cymorth y mae Cymru Greadigol wedi bod yn ei roi i'r sector. Mae gennym amcan strategol i sicrhau bod cyflenwad da o ofod stiwdio ym mhob rhan o'r wlad ar gyfer cynyrchiadau allanol a chynyrchiadau Cymreig. Ac yn ddiweddar rydym wedi cefnogi prosiectau buddsoddi cyfalaf yn stiwdios Aria ar Ynys Môn, stiwdios Wolf yng Nghaerdydd, a stiwdios Seren, hefyd yng Nghaerdydd. Yn ogystal, mae cyllid cynhyrchu Cymru Greadigol yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd ar y cyd â phrosiectau a gyflawnwyd o safleoedd stiwdios yng Nghasnewydd, fel rydych eisoes wedi nodi. Ac roeddwn yn meddwl ei bod yn arbennig o ddiddorol eich bod chi'n sôn am y cysylltiad ag addysg, ac mae hynny'n cyd-fynd yn fawr â'n cymorth i'r stiwdios ffilm a theledu cenedlaethol sydd gennym yng Nghaerdydd hefyd. Mae sgiliau a hyfforddiant yn gwbl hanfodol ac yn ganolog i bopeth y mae Cymru Creadigol yn ceisio ei wneud. Yn ddiweddar rydym wedi cefnogi 17 o brosiectau drwy ein cronfa sgiliau Cymru Greadigol. Un o'r prosiectau hynny yw cefnogi tair academi sgrin newydd, ochr yn ochr ag adeiladau stiwdio.

Ond os caf ymdrin yn benodol â'r gefnogaeth y gallem ei rhoi i'r sefydliad rydych chi'n sôn amdano, sef GD Environmental, yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw bod Cymru Greadigol yn ystyried achosion busnes ar gyfer buddsoddiadau newydd ac yn hapus i adolygu'r rheini'n fanwl pan gânt eu cyflwyno. Felly, gellir mynd atynt am drafodaethau cychwynnol, ac mae'n swnio'n debyg, o'r hyn rydych chi'n ei ddweud, mai dyna'n union sydd wedi digwydd hyd yma. Yn amlwg, byddai'n rhaid asesu unrhyw gais ffurfiol am gymorth ar sail ei gryfderau a'r effaith ar y diwydiant, ac mae angen achos busnes cychwynnol, ac achos busnes llawn wedi hynny—ac rwy'n siŵr y byddech chi a GD Environmental yn deall hyn oll yn iawn. Ond mae gennym uchelgais enfawr ar gyfer y diwydiant hwn yng Nghymru. Dyma un o'r sectorau sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru. Mae'n cael effaith enfawr ar yr economi. Ac fe fyddwn i'n fwy na pharod i ddod draw i ymweld â GD Environmental, i siarad â hwy am eu cynlluniau a gweld beth y bwriadant ei wneud, oherwydd dyma'n sicr y math o fuddsoddiad rydym yn awyddus i'w weld yn tyfu.

Darparodd y pwyllgor diwylliant weithdy ar gyfer pobl yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru fel rhan o'i ymchwiliad i rwystrau o fewn y sector. Roedd cyfranogwyr yn nodi bod mynediad at arian Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau bach sydd yn y diwydiant yn heriol ac yn or-fiwrocrataidd, gydag un yn nodi bod oedi'n gallu andwyo busnesau bach. Dywedodd un arall, ac rwy'n dyfynnu,

'Mae llwybrau mynediad at gyllid yn anodd yng Nghymru, yn enwedig pan nad yw'r rhai sydd yn y diwydiannau creadigol yn enwog am eu gallu i drin gwaith papur technegol. Yn aml, mae sefydliadau mawr yn ei chael hi'n haws gwneud cais am arian os oes ganddynt staff penodedig, sy'n wahanol iawn i fusnesau bach'.

Roedd un arall yn poeni bod pob cais yn cael ei weld fel un newydd. Felly, bob tro y gwnânt gais, mae angen iddynt brofi eu hunain o'r newydd. Ar ben hynny, pwysleisiwyd bod angen buddsoddiad hirdymor gan Lywodraeth Cymru a chynllunio i'r dyfodol i weld twf sylweddol yn y diwydiant. Ymhlith yr awgrymiadau, roedd buddsoddiad wedi'i dargedu a'r posibilrwydd o fynd â diwydiannau gyda Llywodraeth Cymru i ffeiriau byd-eang i chwyddo'r sylw i'r diwydiant creadigol yng Nghymru. Felly, Weinidog, pa gamau brys rydych chi'n eu cymryd i hwyluso'r broses o wneud cais am gyllid i fusnesau bach, a pha gamau rydych chi'n eu cymryd i alluogi'r rhai yn y diwydiannau creadigol i gael buddsoddiad hirdymor, fel y gallant gael sylw'n fyd-eang?

13:35

Rwy'n meddwl bod honno'n her deg, Tom. Rydym wedi gweld nifer o fusnesau bach, diwydiannau bach, sydd am dyfu yng Nghymru, ac mae rhai ohonynt yn gweld y broses o wneud cais am grant yn anodd iawn. Mae natur y broses yn golygu bod rhaid iddi fod yn drylwyr. Rydym yn sôn am ymdrin ag arian cyhoeddus yn y pen draw. Ni allwn roi arian yn ddifeddwl i sefydliadau nad ydym yn dilyn camau diwydrwydd dyladwy arnynt. Felly, rwy'n siŵr y byddech chi a'r ymgeiswyr rydych chi'n siarad â nhw yn deall ac yn derbyn hynny. Ond rwyf bob amser yn agored i sgwrs gydag unrhyw un o'r sefydliadau hyn ynglŷn â sut y gallwn symleiddio a gwneud y broses yn haws i'w defnyddio. Yn sicr, dyma'r dull o weithredu rydym wedi'i fabwysiadu gyda'r adolygiad buddsoddi gyda Chyngor Celfyddydau Cymru—bydd ceisiadau i Gyngor Celfyddydau Cymru yn cael eu hystyried erbyn diwedd mis Mawrth, ond roedd rhan fawr o'r adolygiad hwnnw'n ymwneud â sut rydym yn estyn allan at rai o'r sefydliadau llai, a sut mae gwneud y broses o wneud cais am grant yn llawer llai beichus nag a fu o'r blaen. Felly, rwy'n hapus iawn i gael y sgwrs honno gydag unrhyw sefydliadau sy'n teimlo bod eu hymwneud neu'r broses ymgeisio drwy Cymru Greadigol yn rhy anodd. Ac os oes unrhyw un ohonynt eisiau ysgrifennu ataf i egluro eu profiadau, byddwn yn hapus i edrych ar hynny.

Pobl Ifanc ym Myd Busnes

2. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog mwy o bobl ifanc i ddechrau eu busnesau eu hunain? OQ59203

Diolch. Mae gwasanaeth entrepreneuriaeth ieuenctid Busnes Cymru yn annog y genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid yng Nghymru. Mae'n cefnogi uchelgais entrepreneuraidd, ac yn rhoi cyngor ymarferol er mwyn iddynt allu bwrw ymlaen â'u syniadau. Ers 2016, mae 5,000 o bobl ifanc wedi cael cymorth gan gyngor ar ddechrau busnes, ac mae bron i 700 wedi dechrau busnes. Mae'r cyngor hwn bellach yn cael ei ategu gan y warant i bobl ifanc wrth gwrs.

Diolch. Fel y gwyddoch, mae 95 y cant o fusnesau'r DU yn ficrofusnesau neu'n unig fasnachwyr. Gyda llawer o ffocws polisïau datblygu economaidd ar ddenu cyflogwyr mawr, a pharatoi pobl ifanc ar gyfer gweithleoedd, mae'n rhaid inni holi a ydym yn gwneud digon i annog hunangyflogaeth. Roeddwn yn falch felly o weld cynllun sy'n cael ei redeg gan Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr, ar y cyd ag Ysgol Fusnes Rebel, i gynnig hyfforddiant am ddim i bobl ifanc ynghylch sut i ddechrau busnes. Weinidog, a fydd Llywodraeth Cymru yn monitro'r cynllun ac yn edrych ar ffyrdd naill ai o'i efelychu ar draws Cymru neu hyd yn oed ymgorffori'r gwersi yn y cwricwlwm ysgol? Diolch. 

Byddwn i'n hapus iawn pe bai'r Aelod yn ysgrifennu ataf gyda manylion y cynllun y mae wedi'i nodi. Fel y dywedais yn fy ateb cychwynnol, mae gennym amrywiaeth o wasanaethau cymorth ar gael. Busnes Cymru yw'r drws blaen o hyd, felly os oes unrhyw un yn poeni neu ddim yn deall y cynllun unigol, gallant droi at Busnes Cymru a gallant hwy helpu i arwain pobl drwy'r broses, a'r bobl sy'n cymryd rhan yn uniongyrchol yn y gwaith a ariennir ar y warant i bobl ifanc hefyd.

Mae gennym amrywiaeth o fodelau rôl Syniadau Mawr—dros 400 ohonynt—sy'n mynd allan i annog pobl sydd eisiau dechrau eu busnes eu hunain. A'r hyn sy'n galonogol am y warant i bobl ifanc yn hyn o beth yw bod 28 y cant o bobl ifanc wedi nodi, fel rhan o'r sgwrs genedlaethol, y byddent yn hoffi ystyried dod yn hunangyflogedig neu redeg eu busnes eu hunain, ac yn wir, roedd 25 y cant ohonynt eisiau mwy o wybodaeth am ddod yn hunangyflogedig. Felly, rhan o'n her, gyda'r brwdfrydedd sy'n bodoli, yw sut i sicrhau bod gennym y gefnogaeth gywir ar gael i helpu'r rhai sy'n gallu mynd o syniad ac awydd i allu cael cynllun busnes ac i ddechrau eu busnes. A dyna pam hefyd, wrth gwrs, fod gennym ystod o'n grantiau dechrau busnes sydd eisoes ar gael i gefnogi pobl gyda'r uchelgais hwnnw. Ond rwy'n edrych ymlaen at gael gohebiaeth yr Aelod. 

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Natasha Asghar. 

Diolch o galon, Lywydd. Weinidog, amcangyfrifir nad yw tua 7 y cant o oedolion yng Nghymru ar y rhyngrwyd. Mae talp mawr o'r 7 y cant hwnnw'n bobl 75 oed neu hŷn sydd heb gysylltiad â'r rhyngrwyd. Ychydig o dan 80 y cant o bobl sydd â salwch, anabledd neu wendid cyfyngus, hirsefydlog sy'n defnyddio'r rhyngrwyd, o'i gymharu â 93 y cant o bobl heb gyflyrau o'r fath. Felly, rwy'n chwilfrydig i wybod, Weinidog, sut y bydd strategaeth ddigidol Llywodraeth Cymru yn helpu i leihau allgáu digidol.

Mae mynd i'r afael ag allgáu digidol yn un o brif nodau ein strategaeth, a cheir nifer o elfennau gwahanol. Ceir ein gwaith gyda Llywodraeth y DU ar y cyfrifoldeb a gadwyd yn ôl dros seilwaith. Rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd gyda fy swyddogion, a chyda Gweinidog presennol y DU yn wir—rwy'n credu mai'r Gweinidog Lopez ydyw, yn yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon fel y'i gelwir bellach—ac rydym yn edrych ar sut maent yn mynd i gyflawni eu rhwymedigaethau eu hunain, ac mewn gwirionedd bydd yna fwlch, oherwydd eu bod yn disgwyl cyrraedd 85 y cant o'r boblogaeth. Nawr, mae'n rhaid inni siarad ynglŷn â sut y cawn wasanaethau a gwasanaethau gwell i'r 15 y cant ychwanegol hyn.

Yn ogystal â'r cysylltedd a lled band, mae gennym ystod o gynlluniau ar waith wedyn i fynd i'r afael â mynediad ymarferol, ac mae rhywfaint o hynny'n ymwneud ag agwedd. Mae gan fy mam gysylltiad yn ei thŷ a droeon, rwyf wedi ceisio ei chael i'w ddefnyddio, ond dim ond un o'r pethau hyn yw hynny. Nid yw'n ei wneud, tra bod pobl eraill yn fwy awyddus i'w wneud. Ac mewn gwirionedd, nid pwynt am adloniant yn unig yw hwn. Fel y gwyddom i gyd, mae pwynt yma ynglŷn â gwaith, ac mae hefyd yn ymwneud â mynediad at wasanaethau. Mae llawer o'n gwasanaethau yn symud i fodel digidol yn gyntaf, sy'n beth da yn fy marn i, ond mae'n golygu bod angen inni feddwl yn barhaus ynglŷn â sut i arfogi defnyddwyr, y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth, i allu gwneud hynny'n effeithiol. Mae a wnelo hynny â mwy na'r cyhoedd yn unig, wrth gwrs; mae nifer o'r bobl sydd angen cymorth i sicrhau eu bod yn cael eu galluogi'n briodol ac yn gallu defnyddio'r system yn staff hefyd. Felly, dyna rai o'r heriau rydym yn ceisio eu datrys, ac rwy'n awyddus iawn i weld cynnydd pellach yn cael ei wneud dros weddill y tymor hwn. 

13:40

Gwych, diolch, Weinidog. Rwy'n gwerthfawrogi'r ateb manwl.

Nawr, gan symud ymlaen at fy ail gwestiwn, mae cynllun talebau band eang gigadid Llywodraeth y DU yn fenter wych, sy'n helpu pobl i fynd i'r afael â chyflymder band eang araf mewn ardaloedd gwledig. Mae talebau gwerth miloedd o bunnoedd yn cael eu rhoi i gartrefi a busnesau i helpu i dalu am y gost o osod band eang gigadid. Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod am roi'r gorau i'w chyllid ychwanegol ar gyfer y cynllun am eich bod chi, ac rwy'n dyfynnu, wedi dweud 'nad oes gennych arian'. Sut y gall fod, Weinidog, nad oes gennych arian i'w roi tuag at y cynllun gwych hwn, ond bod Llywodraeth Cymru'n hapus i wario dros £100 miliwn ar fwy o wleidyddion yn y lle hwn? Felly, a wnewch chi roi mwy o wybodaeth ynghylch pam nad yw hyn yn digwydd mewn gwirionedd? Diolch.

Edrychwch, nid wyf yn meddwl ei bod yn arbennig o ddefnyddiol nac yn synhwyrol i geisio cymharu mater cwbl wahanol gyda'r ffordd y defnyddiwn gyllidebau Llywodraeth Cymru. Os ydych chi am gael sgwrs am faint a gallu'r lle hwn, gallem wneud hynny. O ran realiti ein cyllideb, ni ellir gwadu—y realiti yw bod ein cyllideb yn werth llai mewn termau real, yn nhermau arian parod. Mae hefyd yn alw am ddefnyddio cronfeydd Llywodraeth Cymru ar faes sy'n amlwg wedi ei gadw'n ôl hefyd. Mewn gwirionedd, cefais sgwrs yn gynharach heddiw gydag un o'ch cyd-bleidwyr am yr hyn a wnawn a'r hyn y byddwn yn ceisio ei wneud i lenwi rhan o'r cyfrifoldeb hwnnw a gedwir yn ôl lle nad yw Llywodraeth y DU yn bwriadu diwallu anghenion pobl. Mae yna ddewisiadau ymarferol i'w gwneud, fel erioed. Hoffwn fod yn adeiladol wrth ymateb i gwestiynau, ond mae gwir angen ichi gydnabod bod hon yn sefyllfa a grëwyd gan eich plaid chi sy'n llywodraethu ar lefel y DU. 

Iawn, diolch yn fawr am hynny, Weinidog. Ond y Llywodraeth hon hefyd a anfonodd £155 miliwn yn ôl at Lywodraeth y DU am nad oeddent wedi gwneud eu gwaith cartref ar y cyllid. Felly, gadewch inni beidio â dilyn y trywydd hwnnw. Rwyf am barhau gyda fy nhrydydd cwestiwn. 

Mae Ofcom yn credu na all tua 15,000 o adeiladau gael gwasanaeth band eang gydag o leiaf 10 Mbps o gyflymder lawrlwytho a chyflymder uwchlwytho o 1 Mbps. Mae Openreach yn credu y bydd cyfarparu'r 15,000 o safleoedd hynny'n briodol yn her, ac mae'n dweud y bydd angen i'r diwydiant a Llywodraethau ddod at ei gilydd i ddod o hyd i ateb. Felly, Weinidog, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo Llywodraeth y DU i sicrhau bod y 15,000 eiddo yn cael cyflymder band eang derbyniol a digonol? Diolch.

Wel, rwy'n dod yn ôl at hyn: mae hwn yn gyfrifoldeb a gadwyd yn ôl. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am hynny. Rydym yn gweithredu am nad ydym yn credu ei bod hi'n dderbyniol i gefnu ar y bobl hyn. Uchelgais datganedig Llywodraeth y DU yw darparu mynediad i 85 y cant o'r boblogaeth. Byddai amryw o bobl yn cael eu heithrio pe na baem yn gwneud unrhyw beth yn y maes cyfrifoldeb hwn a gadwyd yn ôl. Os ydych chi eisiau edrych ar y bobl sy'n gyfrifol am beidio â gweithredu yn y maes hwn, Gweinidogion Ceidwadol yn Llywodraeth y DU ydynt. Ni ellir gwadu hynny. Dyna'r setliad, dyna'r realiti. Byddaf yn gweithredu gyda'r adnoddau sydd ar gael. Byddaf yn adeiladol gyda Gweinidogion y DU am yr hyn y gallwn ei wneud, ond mae angen i Aelodau gydnabod, ym mhob plaid, y bydd pob cam a gymerwn yn y maes hwn, pob punt a wariwn, yn darparu budd i bobl yng Nghymru, ond bydd yn arian na allwn ei wario ar feysydd rydym yn gyfrifol amdanynt mewn gwirionedd. Ond rydym yn gwneud hyn oherwydd ein bod yn cydnabod y gwerth i'r gymdeithas a'r gwerth economaidd o wneud hynny. Gallem wneud cymaint mwy, wrth gwrs, pe bai'r Llywodraeth Geidwadol yn cyflawni eu cyfrifoldebau eu hunain. 

Diolch, Lywydd. Mae Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru wedi cyhoeddi ail argraffiad o'u hagenda cynhwysiant digidol, 'O Gynhwysiant i Wydnwch', gan adeiladu ar yr argraffiad cyntaf o'r agenda a gyflwynwyd yn gynnar yn 2021, ac a oedd yn amlinellu pum blaenoriaeth allweddol i wneud Cymru'n genedl gynhwysol yn ddigidol. Nawr, er bod yr adroddiad yn amlinellu'r cynnydd da iawn sydd wedi'i wneud gan Lywodraeth Cymru, er gwaethaf y diffyg cymorth gan Lywodraeth y DU, ers ei gyhoeddi gyntaf—a gweld ehangu, wrth gwrs, i gynnwys dros 90 o aelodau yn cynnal chwe chyfarfod chwarterol gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru—mae'n amlwg fod rhywfaint o waith i'w wneud eto.

Os caf ddechrau gyda'r flaenoriaeth gyntaf: gwreiddio cynhwysiant digidol ar draws pob sector. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr angen i ymwneud mwy â'r sector preifat, yn enwedig busnesau bach a chanolig a microfusnesau, er mwyn sicrhau bod cynhwysiant digidol yn cael ei ddosbarthu'n gyfartal ledled Cymru. Felly, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i annog y sector preifat, a busnesau bach a chanolig a microfusnesau yn benodol, i ymwneud â'r agenda cynhwysiant digidol? Ac wrth gwrs, tynnodd y Gweinidog sylw yn briodol at y ffaith bod hyn i gyd yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru er gwaethaf diffyg cefnogaeth Llywodraeth y DU ar yr agenda hon.

13:45

Wel, mewn gwirionedd, mae'r pandemig wedi gorfodi nifer o bobl i feddwl am y ffordd y maent yn gweithio, ac mewn gwirionedd, rydym i gyd yn gwybod bod nifer o fusnesau wedi gorfod mynd i mewn i'r byd ar-lein pan nad oeddent yno o reidrwydd. Wedyn roedd yn rhaid iddynt feddwl am y cwsmeriaid a fydd eisiau defnyddio hynny, oherwydd roedd rhaid i fwy o gwsmeriaid ddefnyddio pethau ar-lein. Ac felly, mae pwynt yma am angen a chyflawniad busnesau a'r ffaith, mewn gwirionedd, fod yna duedd gyffredinol—ac wedi bod—o fwy o weithgaredd ar-lein. Ac mae honno'n her i beth o'n seilwaith ffisegol, a chael strydoedd mawr a llefydd bywiog, ond mae'r duedd honno wedi cyflymu'n fawr o ganlyniad i'r pandemig.

Ac rwy'n gwybod ein bod wedi siarad am hyn o'r blaen; mae yna gyfle yn ogystal â risg, a'r cyfle yw eich bod chi'n dod i arfer â'r ffordd y mae gweithrediadau llwyddiannus, masnachol ar gael. Mae angen ichi wneud yn siŵr fod eich staff yn gallu ymdrin â hynny; mae angen ichi sicrhau bod eich cyfleuster eich hun yn gallu ymdopi â'r galw a ddaw i mewn, ac yna meddwl ynglŷn â sut rydych chi'n gwasanaethu anghenion eich cwsmeriaid wrth wneud hynny, a sicrhau bod eich gwybodaeth i gwsmeriaid a'ch gwybodaeth fusnes yn ddiogel mewn gwirionedd. Ac mae'n un o'r pethau rydym yn siarad amdano gydag ystod o grwpiau busnes, sy'n cynrychioli busnesau bach a chanolig—un o'u risgiau allweddol yw sicrhau eu bod yn gallu gweithredu yn y meysydd hynny a'u bod yn gallu deall ble mae'r cymorth a'r gefnogaeth.

Nawr, pan ystyriwch Busnes Cymru, mae hynny'n rhywbeth y gallwn siarad â busnesau amdano, ac rydym yn gwneud hynny. Gwyddom hefyd fod yna ddiwydiant seiberddiogelwch cynyddol yng Nghymru. Mae rhai o'r rheini, os mynnwch, yn enwau mawr ac yn chwaraewyr mawr, boed yn PricewaterhouseCoopers neu'n Airbus neu eraill. Ond mae gennym ystod o gwmnïau seiberddiogelwch hefyd sy'n edrych yn benodol ar helpu'r cwmnïau bach a chanolig hynny i wneud yn siŵr eu bod yn gallu manteisio ar y cyfleoedd, ac ar yr un pryd, yn cadw eu hunain a'u cwsmeriaid yn ddiogel.

Diolch am yr ateb, Gweinidog.

Wrth gwrs, mae'r gwaith hwn yn mynd i fod yn hanfodol, yn enwedig wrth ystyried yr heriau sy'n wynebu busnesau bach a chanolig ar hyd a lled y wlad, ac wrth gwrs, sut mae cydbwyso hynny, felly, â'n hangen am stryd fawr fywiog ar yr un pryd? Os edrychwn ar y sector manwerthu fel enghraifft, er gwaethaf rhai arwyddion o adferiad dros y 12 mis diwethaf, cyhoeddodd Consortiwm Manwerthu Cymru fod nifer yr ymwelwyr â'r sector manwerthu yng Nghymru yn parhau i fod 10 y cant yn is o'i gymharu â'r adeg hon y llynedd. Nawr, ychwanegwch hynny at y ffaith bod y sector, fel sectorau eraill wrth gwrs, wedi cael eu taro gan chwyddiant uchel a chostau ynni uchel, ac mae hyn i gyd yn arwain at lesteirio'r sector manwerthu'n fawr.

Nawr, rydym wedi trafod bwriad y Llywodraeth i gyflwyno strategaeth ar gyfer y sector yn flaenorol yn y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig. Pryd y gallem ddisgwyl iddi gael ei chyhoeddi, ac yn bwysicach fyth, sut y byddai'r strategaeth yn cael ei gweithredu? Sut y bydd yn ystyried yr elfen ddigidol ac a fydd ganddi'r adnoddau a'r cyllid angenrheidiol i sicrhau ei bod yn llwyddo?

Ie, rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf—ac mewn gwirionedd, pan gawsom ddigwyddiad ymgynghori, a fynychais gyda'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, â Chonsortiwm Manwerthu Prydain a Chonsortiwm Manwerthu Cymru, ac yn wir, gydag ochr yr undebau llafur, dan arweiniad USDAW, roedd yn ymgysylltiad pellach bwriadol â'n ffordd o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol. Felly, fe wnaethom edrych ar beth fyddai hyn yn ei olygu i weithwyr yn ogystal ag i fusnesau. ac roedd yr arolwg a oedd ganddynt ar y pryd yn tynnu sylw at rai o'r pwyntiau rydych chi wedi'u gwneud. Mae yna her yn dal i fod o ran nifer ymwelwyr. Ond nid yw hynny wedi ei wasgaru'n gyfartal. Felly, roedd canol dinas Caerdydd wedi gwneud yn well o gymharu â chanolfannau eraill yng Nghymru. Roedd adferiad llawer mwy sylweddol yn rhai o'r canolfannau ar gyrion trefi hefyd.

Felly, unwaith eto, mae'n tynnu sylw at rai o'n heriau polisi a'n heriau ynglŷn â bod eisiau cael canol dinasoedd a strydoedd mawr bywiog, ac mae hynny'n cysylltu â rhai o'r sylwadau a gawn ynglŷn â ble rydym yn lleoli gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n un o'r rhesymau—dim ond un o'r rhesymau—pam roeddwn yn awyddus, fel Gweinidog Iechyd, i fuddsoddi mewn fferylliaeth gymunedol ac optometreg: mae'n rhoi mwy o fynediad i gleifion, a mwy o ymwelwyr â'r canolfannau hynny hefyd. O ran y cynllun cyflawni ar gyfer y strategaeth fanwerthu, rwy'n disgwyl cyhoeddi hwnnw'n fuan ar ôl y Pasg, felly'n fuan ar ôl toriad y Pasg, gallwch ddisgwyl ei weld wedi'i gyhoeddi, a bydd yn nodi sut rydym yn disgwyl cyflawni a sut rydym yn disgwyl mesur llwyddiant y strategaeth a gynhyrchwyd ar y cyd rhwng y Llywodraeth, busnesau eu hunain ac undebau llafur hefyd.

13:50
Fferm Gilestone

3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y caiff Fferm Gilestone ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol? OQ59204

Diolch am y cwestiwn. Mae diwydrwydd dyladwy ar y cynnig a ddaeth i law gan gynrychiolwyr Green Man yng nghamau olaf yr asesiad. Rwy'n disgwyl cyngor gan swyddogion ar y camau nesaf cyn diwedd mis Mawrth.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Rydych chi wedi dweud, ac mae Gweinidogion eraill wedi dweud, ar sawl achlysur fod y Llywodraeth wedi prynu'r safle er mwyn sicrhau dyfodol Gŵyl y Dyn Gwyrdd. Fodd bynnag, mae wedi dod i'r amlwg nad gyda'r Green Man Trust Ltd y mae'r cytundeb y mae eich Llywodraeth wedi ymrwymo iddo, ond cwmni ar wahân o'r enw Cwningar Ltd, yn enw un unigolyn. Mae'r cwmni hwnnw wedi'i gofrestru a gyfer prynu neu werthu eiddo tirol, ac mae hefyd wedi'i gofrestru ar gyfer gweithredu eiddo tirol ar brydles. Felly, a wnewch chi egluro sut mae dod i gytundeb â chwmni ag enw sy'n golygu 'twll cwningen' yn diogelu dyfodol Gŵyl y Dyn Gwyrdd? I mi a sawl un arall, Weinidog, mae'n edrych fel pe bai Llywodraeth Cymru wedi dianc i lawr twll cwningen gyda'r pryniant hwn.

Rwy'n edmygu gwiriondeb cyson ymateb yr Aelod i gwningod, ond edrychwch, o ran y cyfleoedd sydd ynghlwm wrth y darn hwn o dir, rydym wedi bod yn glir pam ein bod wedi bwrw iddi gyda'r pryniant. Rydym hefyd wedi bod yn glir iawn ynghylch y ffaith, fel y dywedais yn fy ateb cychwynnol, y byddaf yn disgwyl cyngor terfynol cyn diwedd mis Mawrth, a gallaf wneud penderfyniad wedyn. Mae'r Aelod yn sôn am beth a allai ddigwydd; bydd gennyf benderfyniad i'w wneud pan fydd diwydrwydd dyladwy wedi ei gwblhau, ac yna, yn ogystal â gwneud penderfyniad, byddaf hefyd yn disgwyl wynebu cwestiynau pellach yn y Siambr hon wrth gyhoeddi unrhyw ddewis a wnaf. Ond datblygu economaidd yn y rhan hon o Gymru yw prif ddiben y pryniant, ac fe fydd hynny yn fy meddwl pan fyddaf yn gwneud y penderfyniad.

Diolch yn fawr iawn i James am roi'r cwestiwn yma ymlaen. Rŵan, rydyn ni'n gwybod, wrth roi pres cyhoeddus i unrhyw sefydliad, mai'r bwriad ydy sicrhau budd cyhoeddus. Rydyn ni'n gwybod bod Gilestone ei hun yn gasgliad o anheddau gwyliau, efo'r potensial o ddatblygu llawer iawn mwy o unedau gwyliau. Dwi ddim yn gwbl hyderus bod yr ateb ddaru i chi ei roi yn ateb cwestiwn James, felly os cawn ni fynd ar ôl y trywydd yna ychydig eto. Ar 22 Chwefror 2022, fis yn unig cyn i'r Gweinidog gytuno i'r Llywodraeth brynu y fferm, fe sefydlodd perchennog Green Man Festival gwmni, fel rydyn ni wedi clywed, o'r enw Cwningar Ltd. Mae'r cwmni yma yn cael ei ddisgrifio fel cwmni sydd yn: 

'Prynu a gwerthu ein heiddo tirol ein hunain',

ac ymhellach,

'Gosod eiddo fel arall a gweithredu ein heiddo tirol ein hunain neu eiddo ar brydles.'

Ydy'r Gweinidog felly'n credu mai cyd-ddigwyddiad anffodus ydy o efo amserlennu y prynu yma, ynteu ydy'r Gweinidog, neu ei adran, yn gwybod am unrhyw gynlluniau pellach ar gyfer defnydd Gilestone sydd yn ymwneud â real estate a chwmni Cwningar?

Wel, diben terfynol defnyddio'r tir hwnnw yw datblygu economaidd. Mae gennym ddiddordeb yn y ffordd y byddwn yn sicrhau cynnydd mewn gweithgarwch economaidd yn y rhan hon o Gymru. Mae'n cyd-fynd â'r uchelgeisiau sydd gan Gyngor Sir Powys ar gyfer digwyddiadau, a'r budd economaidd y byddant yn ei ddarparu i bobl leol hefyd.

Pan fyddaf yn gwneud penderfyniad, rwy'n disgwyl diwydrwydd dyladwy, nid yn unig o ran y cynnig a'r cynllun busnes ond o ran y strwythur cwmni y tu ôl i unrhyw un sydd eisiau gwneud hynny. Ac fel sy'n digwydd fel arfer, os ydym yn edrych wedyn ar brydles neu drefniant gwahanol, byddaf yn disgwyl y bydd yna dargedau a mesurau wedyn i wneud yn siŵr fod y budd hwnnw'n cael ei wireddu'n iawn. Felly, ni allaf wneud sylw llawer pellach ar hynny oherwydd, wrth gwrs, nid wyf wedi cael cyngor terfynol gan fy swyddogion; mae angen imi weld beth fydd hwnnw, ac efallai y bydd gennyf gwestiynau fy hun wedyn ar y cyngor, a bydd rhaid imi wneud penderfyniad wedyn. Ac nid oes sicrwydd y ceir un penderfyniad diffiniol. Efallai y penderfynaf beidio â bwrw ymlaen â'r hyn a ddaw ger fy mron; efallai y penderfynaf wneud hynny. Beth bynnag a wnaf, rwy'n rhagweld, o ystyried y diddordeb sylweddol yn y safle hwn, y bydd angen i mi nid yn unig wneud datganiad i gadarnhau pa ddewis a wneuthum, ond hefyd, yn anochel, fe fydd yna gwestiynau pellach. Rwy'n fwy na pharod i wneud hynny.

Diweithdra

4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth am ffigyrau diweithdra yn Ne Clwyd? OQ59225

13:55

Gwnaf. Y gyfradd ddiweithdra ar gyfer De Clwyd yn y 12 mis hyd at fis Medi 2022 oedd 3.7 y cant. Mae hynny i lawr 2.7 pwynt canran ar yr un cyfnod yn 2013.

Diolch, Weinidog. Mae'n anhygoel ac yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi bod wrthi'n ddi-baid yn creu cyfleoedd gwaith i bobl yn Ne Clwyd, ac ar draws Cymru yn wir. Ond Weinidog, pa mor bryderus ydych chi ynglŷn â cholli miliynau ar filiynau o bunnoedd o gyllid yr UE a'r effaith y gallai ei chael ar greu swyddi medrus gwerthfawr yng Nghymru? 

Rwy'n bryderus iawn o hyd am y dewisiadau a wnaed gan Lywodraeth y DU, nid yn unig am eu bod wedi torri addewidion maniffestos olynol, ond am eu bod yn gadael Cymru'n brin o ymhell dros £1 biliwn dros dair blynedd. Mewn gwirionedd, cynhaliodd Newsnight ymchwiliad yn ddiweddar lle'r oeddent yn credu y gallai'r bwlch fod cymaint â £1.4 biliwn. Nid pwysau cyllidebol yn unig yw'r bwlch y mae hynny'n ei greu i Gymru; mae yna gymaint o bethau y mae'n ein hatal rhag gallu eu gwneud.

Ac mae'n fwy na'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud, nid yw Llywodraeth y DU wedi gwrando arnom, nid ydynt wedi gwrando ar fusnesau ynghylch y gostyngiad yn yr arian, nac am gynlluniau dosbarthu'r gronfa honno. Mae'n tynnu arian oddi wrth sgiliau, oddi wrth fuddsoddi yn nyfodol yr economi. Nid yw awdurdodau lleol wedi cael eu clywed ynghylch cynllun y cronfeydd, gan eu gorfodi i gystadlu â'i gilydd, nid i weithio ar y cyd gyda'i gilydd. Nid ydynt wedi gwrando ar undebau llafur, addysg bellach nac addysg uwch. Os meddyliwch am yr hyn y mae prifysgolion yn ei ddweud, mae is-ganghellor Prifysgol Abertawe wedi bod yn glir iawn y bydd cannoedd o swyddi o safon uchel yn cael eu colli o Gymru os na cheir tro pedol uniongyrchol yn y gyllideb yr wythnos nesaf. Er hynny, rwy'n dal i gredu mai'r dull rydym wedi ei weithredu wrth fod eisiau dod â gwahanol weithredwyr mewn gwahanol ranbarthau yng Nghymru at ei gilydd yw'r un iawn i'w ddefnyddio. Pe bai gennym Lywodraeth y DU ar yr un donfedd yn barod i fuddsoddi yn y dyfodol mewn ffordd gydweithredol, gallem sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd pellach fyth ar greu cyflogaeth o ansawdd da yn Ne Clwyd, ac yng ngweddill Cymru yn wir. 

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai Cymru, o dan Lywodraeth Lafur Cymru yn yr achos hwn, sydd â'r gyfradd gyflogaeth isaf ymhlith gwledydd y DU, mai Cymru oedd unig wlad y DU i weld gostyngiad mewn cyflogaeth, ac mai Cymru a welodd y cynnydd mwyaf yn y gyfradd anweithgarwch o gymharu â'r un cyfnod y llynedd. Ond ar 2.8 y cant, roedd cyfradd ddiweithdra De Clwyd yn is na'r ffigur ar gyfer Cymru gyfan. A wnewch chi ymuno â mi felly i groesawu gwaith caled Aelod Seneddol De Clwyd, Simon Baynes, yn cynrychioli anghenion a diddordebau cwmnïau, sefydliadau ac etholwyr De Clwyd yn San Steffan, ag yntau wedi bod yn ymgyrchu'n llwyddiannus, er enghraifft, dros sicrhau bod cwmnïau gwrtaith fel Neatcrown Corwen Ltd yn Ne Clwyd yn cael eu cynnwys yn y cymorth a roddwyd gan Lywodraeth y DU i fusnesau ynni-ddwys. Ac wrth weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sicrhaodd grant o £13.3 miliwn o gronfa ffyniant bro y DU i Dde Clwyd gan Lywodraeth y DU, sy'n cynnwys gosod y to newydd yng ngorsaf Rheilffordd Llangollen Corwen, gyda'r to wedi ei gynhyrchu gan gwmni yn Ne Clwyd, Plant & Robinson Construction Limited.   

Wel, edrychwch, rwy'n croesawu arian sy'n cael ei wario yn unrhyw ran o Gymru er mwyn sicrhau dyfodol economaidd gwell, ond rwy'n credu bod angen i'r Aelod edrych eto ar gynllun y gronfa ffyniant gyffredin a'r gronfa ffyniant bro. Roedd hanner awdurdodau lleol Cymru ar eu colled yn eu ceisiadau—proses geisiadau gystadleuol a fu'n draul ar amser, egni ac ymdrech. Ac efallai y carai siarad ag awdurdodau eraill yng Nghymru, gan gynnwys Wrecsam, a fu'n aflwyddiannus yn eu ceisiadau, neu Gyngor Sir y Fflint yn wir, nad oes unrhyw un o'u ceisiadau wedi'u derbyn. Mae hon yn broses gystadleuol sy'n gwastraffu amser, egni ac ymdrech. Byddem i gyd yn llawer gwell ein byd pe bai Llywodraeth y DU yn mabwysiadu ymagwedd lawer mwy cydweithredol, yn rhoi'r gorau i gystadlu a cheisio bachu pwerau oddi wrth Gymru. Rydym yn haeddu cael cyfleoedd i ddal gafael ar ein cyfrifoldebau, y pleidleisiodd pobl Cymru drostynt mewn dwy refferendwm, a chyllideb yr un faint ag o'r blaen, yn hytrach na cholli mwy na £1 biliwn. A byddai'n gadarnhaol iawn pe bai'r Torïaid yn y lle hwn yn gallu sefyll dros Gymru mewn gwirionedd, yn hytrach na gwneud esgusodion dros yr hyn sy'n cael ei wneud i Gymru gan eu meistri yn Llywodraeth y DU. 

Busnesau'r Stryd Fawr

5. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi busnesau'r stryd fawr yn ne-ddwyrain Cymru? OQ59198

Mae gennym nifer o raglenni a mentrau ar gyfer cefnogi ein strydoedd mawr, gan gynnwys cymorth busnes, rhyddhad ardrethi busnesau bach ac ardrethi annomestig. Nod ein rhaglen Trawsnewid Trefi, sy'n darparu £100 miliwn dros dair blynedd, yw mynd i'r afael â rhywfaint o'r dirywiad yng nghanol ein trefi a'n dinasoedd.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn anffodus mae'n ymddangos bod dull gwrth-fusnes y Llywodraeth Lafur, sydd wedi bod yno ers cryn amser, wedi dylanwadu ar rai o'ch cynghorwyr sir. Rydym ni ar y meinciau hyn yn credu bod y busnesau ar y stryd fawr sydd allan yno yn anadl einioes ein cymunedau a dylem wneud popeth yn ein gallu i'w helpu i ffynnu. Ond yn lle helpu busnesau, roedd Cyngor Sir Fynwy wedi bod yn bygwth eu busnesau lleol gyda chynnydd o £3,000 yn y ffioedd i sefydlu darpariaethau bwyta al fresco. Ar ôl gwrthwynebiad enfawr, gwrthodwyd cyllideb y cyngor yr wythnos diwethaf—y tro cyntaf yn hanes yr awdurdod, mae'n debyg—ac rwy'n deall bod y cynnig hwn bellach wedi'i dynnu'n ôl. Felly, Weinidog, a ydych chi'n cytuno na ddylai'r cynnig hwn a allai fod yn niweidiol fod wedi'i gynnig yn y lle cyntaf? Ac a wnaiff ymuno â mi i annog y weinyddiaeth Lafur yn sir Fynwy i weithio gyda busnesau'r sir ac nid yn eu herbyn yn y dyfodol? Diolch. 

14:00

Rwy'n falch iawn o'r gwaith rydym wedi'i wneud gyda busnesau yn y ddau ddegawd o ddatganoli sydd wedi bod. Nid ydych chi erioed wedi clywed Prif Weinidog neu Weinidog yr economi yma yng Nghymru yn cyfeirio at anghytundebau gyda busnesau drwy ddweud, fel y dywedodd un o Brif Weinidogion blaenorol y DU, sydd eisiau bod yn Brif Weinidog eto, 'i'r diawl â busnes' os nad ydych yn cytuno â hwy. Nid ydym erioed wedi mabwysiadu'r agwedd honno yma yng Nghymru. Rydym yn llawer mwy cydweithredol. Rydym yn cydnabod, fel plaid gwaith, y gallem ac y dylem gael perthynas adeiladol gyda busnesau a chydag undebau llafur. Ac wrth gwrs roedd y cynnig o sir Fynwy yn gynnig. Maent hwy hefyd eisiau gweld dyfodol llwyddiannus i fusnesau a swyddi yn sir Fynwy, ac edrychaf ymlaen at gydweithio gyda'r cyngor i gyflawni hynny. 

Cyfyngiadau Cyflymder Diofyn o 20 mya

6. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â'r effaith y bydd cyfyngiadau cyflymder diofyn o 20 mya yn ei chael ar economi Cymru? OQ59212

Rwy'n cael cyfarfodydd a sgyrsiau rheolaidd gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Mae 'Llwybr Newydd', ein cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth, yn cyflwyno gweledigaeth ar gyfer system drafnidiaeth sy'n dda i gymdeithas, yr amgylchedd a'r economi. Fe fydd yn gymorth pellach i gefnogi llesiant economaidd drwy drefi, dinasoedd a phentrefi ffyniannus.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwy'n siŵr fod y sgyrsiau rheolaidd hynny'n bleserus. Rydych yn sôn am fanteision 20 mya i fusnesau a'r economi, ond wrth gwrs fe fyddwch yn gwbl ymwybodol o'ch memorandwm esboniadol eich hun ar y Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022, ac ar dudalen 32 o'r memorandwm esboniadol hwnnw, Weinidog, mae'n dweud:

'Yn gyffredinol, amcangyfrifir bod amcangyfrif canolog dangosol o werth presennol net ariannol y polisi yn £4.5bn negyddol.'

Felly, yn fyr, Weinidog, mae memorandwm esboniadol Llywodraeth Cymru ei hun i'r Bil yn dweud y bydd y terfyn cyflymder diofyn hwn o 20 mya yn costio £4.5 biliwn i economi Cymru. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn effeithio ar swyddi pobl, ar fusnesau pobl, a bywoliaeth pobl. Mae'n amlwg, wrth gwrs, ein bod yn cefnogi cyfyngiadau cyflymder 20 mya y tu allan i'r mannau hynny lle mae'n gwbl angenrheidiol, fel ysgolion ac ysbytai, ardaloedd lle ceir llawer o gerddwyr. Ond bydd y terfyn diofyn hwn yn cael effaith mor niweidiol ar yr economi, ac fel Gweinidog yr Economi, byddwn wedi meddwl y byddech yn poeni'n sylweddol am yr effaith y bydd yn ei chael. Felly, yn eich rôl chi, Weinidog, beth a ddywedwch wrth drigolion ar hyd a lled Cymru, a beth a ddywedwch wrth drigolion a busnesau yn fy rhanbarth i yng ngogledd Cymru, sy'n credu y bydd y terfyn cyflymder diofyn o 20 mya yn arafu economi Cymru? A ble rydych chi'n gweld economi Cymru yn adennill y diffyg hwnnw o £4.5 biliwn?

Wel, wrth gwrs cafodd ymgyrch 20's Plenty ei ffurfio yn seiliedig ar welliant i ansawdd aer a gwelliant i ddiogelwch hefyd. Rwy'n credu bod cerddwyr bum gwaith yn fwy tebygol o farw os cânt eu taro gan gerbyd sy'n teithio 30 mya o'i gymharu â 20 mya. Felly, nid un penderfyniad mohono, ac wrth gwrs, nid wyf yn credu eich bod yn Aelod ar y pryd, ond yn 2020, mewn dadl, pleidleisiodd mwyafrif y grŵp Ceidwadol o blaid hyn, a dywedodd eich cyd-Aelod, Janet Finch-Saunders, ei fod yn synnwyr cyffredin ac yn newid diogel ar y pryd. Felly, roedd yna gefnogaeth eang cyn ei fod yn cael ei weithredu. A newid diofyn yw hwn. Mae awdurdodau lleol, sy'n adnabod eu cymunedau orau, mewn sefyllfa i newid terfynau cyflymder ar rai o'r ffyrdd hynny, ac rwy'n credu, pan edrychwch ar yr un funud ychwanegol mewn amseroedd teithio, dyna sydd wedi cael ei foneteiddio a'i roi i mewn yn y ffordd rydym yn cyflawni'r memoranda esboniadol ar hyn o bryd. Mewn gwirionedd mae gennyf ddiddordeb yn rhai o'r heriau mwy yn y cwestiynau a gawsom yn gynharach heddiw. Os ydych yn meddwl am y £1 biliwn a mwy sydd wedi cael ei golli dros dair blynedd, os ydych yn meddwl am realiti beth mae hynny'n ei wneud o ran mygu twf a chyfleoedd i dyfu rhannau o economi Cymru, mae heriau llawer mwy yn wynebu economi Cymru heddiw a'r hyn rydym am allu ei wneud yn y dyfodol. Byddaf yn parhau i weithio'n adeiladol gyda'r holl bartneriaid ar yr hyn y mae'n ei olygu i ddyfodol cymunedau Cymru sy'n gwneud hwn yn lle gwych i fyw, i weithio ac i fuddsoddi ynddo.

Economi Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r economi leol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ59222

14:05

Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gefnogi busnesau Cymru. Wrth inni ddod allan o gysgod hir y pandemig, un o'n blaenoriaethau yw parhau i gefnogi adferiad economaidd Cymru. Byddwn yn mabwysiadu dull tîm Cymru o greu Cymru decach, gwyrddach a mwy ffyniannus ym mhob cwr o'r wlad, gan gynnwys, wrth gwrs, yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.

Lywydd, yn gynharach yr wythnos hon, cyfarfûm â Chynghrair Wlân Cymru a'r gwneuthurwr dillad gwau lleol o sir Benfro, Monkstone, i drafod y potensial enfawr sydd i ddiwydiant gwlân Cymru. Fel mae'n sefyll, diwydiant gwlân y DU yw'r pedwerydd mwyaf yn y byd, gyda Chymru'n cyfrannu dros draean o wlân i'r ffigur hwnnw. Drwy gefnogaeth 6,000 o ffermwyr Cymru, rydym yn cynhyrchu tair gwaith yn fwy o wlân na'r UDA a Chanada gyda'i gilydd. 

Mae Cynghrair Wlân Cymru, Monkstone ac eraill yn gweithio gyda'i gilydd i sefydlu deunydd traddodiadol a'i ddatblygu'n frand cenedlaethol, gan ffurfio rhywbeth sy'n cyfateb i nod barcud ar gyfer gwlân Cymru, manteisio ar ei dreftadaeth, ei gyflwyno mewn ffordd fodern ac ychwanegu gwerth i'r cynnyrch crai. O ystyried y berthynas rhwng gwlân a Chymru, a wnewch chi ymrwymo i gyfarfod â Chynghrair Wlân Cymru i archwilio pa gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei chynnig i'w helpu i sefydlu'r nwydd hwn a chyflawni ei botensial marchnata? Diolch.

Wel, mae gennyf ddiddordeb, ac rwy'n meddwl am fy ngorffennol fy hun, mewn perthynas â gwlân. Roedd fy mam yn arfer gwau ein siwmperi ysgol ac roedd fy nhad yn filfeddyg gwledig, felly treuliais amser go faith yn gweld fy nhad yn trin defaid; roedd yn hwyl gweld fy nhad yn mynd drwy broses ddipio defaid ar y pryd hefyd. Felly, rwy'n deall ychydig am hyn a beth mae'n ei olygu i'r ffermwyr eu hunain hefyd. Pe bai'r Aelod yn ysgrifennu ataf gyda mwy o fanylion, byddwn yn falch iawn o ystyried beth fyddai'r camau rhyngweithio priodol. Hoffwn weld dyfodol ffyniannus a chadarnhaol i'r diwydiant gwlân, ac yn wir, yr amrywiaeth o ddefnyddiau posibl ar gyfer gwlân a gynhyrchir yma yng Nghymru. Felly, unwaith eto, edrychaf ymlaen at dderbyn gohebiaeth yr Aelod.

Ie, ond os nad ydych yn dymuno gwneud hynny, mae hynny'n iawn—gallaf symud ymlaen.

Croeso Cymru

8. Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i ddiwygio Croeso Cymru? OQ59197

Diolch am y cwestiwn, Janet Finch-Saunders. Nid oes unrhyw gynlluniau ar y gweill i ddiwygio Croeso Cymru. Mae gennym strategaeth gyffrous ac uchelgeisiol, 'Croeso i Gymru: Blaenoriaethau i'r Economi Ymwelwyr 2020-2025', ar gyfer datblygu twristiaeth. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r sector i gyflawni'r nodau cyfunol hynny.   

Diolch. Wel, wrth siarad am y sector, y sector mewn gwirionedd sydd wedi dod ataf i ddweud, 'Mae angen rhywfaint o ddiwygio ar Croeso Cymru yn bendant.' Nawr, mae budd economaidd twristiaeth i sir Conwy oddeutu £900 miliwn, wedi'i gynhyrchu gan 9.5 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae ein busnesau twristiaeth a lletygarwch lleol wedi dioddef cymaint o ganlyniad i'r pandemig ac maent yn dal i wella nawr, ond maent yn credu eu bod yn colli refeniw posibl. Mae nifer yn cael trafferth gyda chostau ynni uwch a phrinder staff wedi'u hyfforddi.

Un peth a nodwyd, pan ddaw pobl i aros yng Nghymru, neu pan fyddant yn ystyried aros yng Nghymru, yw eu bod yn aml yn defnyddio safleoedd fel Booking.com—nid wyf fi'n gwneud hynny; rwyf bob amser yn archebu gyda'r busnes ei hun pan fyddaf yn mynd i unrhyw le, oherwydd mae'r taliadau'n eithaf uchel i fusnesau yn yr oes sydd ohoni. Rwy'n cwestiynu pam nad yw Croeso Cymru yn gwneud yr hyn y mae VisitScotland a Discover Northern Ireland yn ei wneud, drwy fod ganddynt blatfform lle gallwch archebu drwy VisitScotland neu Discover Northern Ireland, ac maent yn hyrwyddo dod i Gymru mewn gwirionedd—neu'r Alban a Gogledd Iwerddon. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n gyfle a gollwyd.

Ond hoffwn gofnodi pa mor ffodus rydym ni yng ngogledd Cymru i gael Jim Jones a'i dîm yn Go North Wales. Maent yn gwneud cymaint dros y diwydiant twristiaeth yng ngogledd Cymru. Yr unig beth y byddwn yn ei ofyn, rwy'n credu, yw: yn hytrach na dim ond dweud, 'Dim cynlluniau i ddiwygio', a wnewch chi ystyried ehangu cylch gwaith Croeso Cymru a chyflwyno'r platfform hwn efallai lle gall ymwelwyr sy'n dod i Gymru archebu drwy hwnnw, gan y byddai'n cael ei ariannu gan y trethdalwr, yn cael ei ariannu gan y wladwriaeth, yn hytrach na'r cwmnïau hyn, fel Booking.com, nad ydynt, a bod yn onest, yn gwneud unrhyw beth i gefnogi'r diwydiant lletygarwch yng Nghymru? Diolch.

A gaf fi ddiolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn atodol, oherwydd rwy'n credu ei bod yn codi pwynt pwysig a diddorol? Rwyf wedi ei gwneud yn glir iawn fod Croeso Cymru, o'n safbwynt ni, fel rhan o Lywodraeth Cymru, yn caniatáu llawer mwy o atebolrwydd i ni am y gwaith y mae Croeso Cymru yn ei wneud. Maent yn atebol yn uniongyrchol i mi, a thrwy Croeso Cymru, mae gennyf gysylltiad uniongyrchol â'n diwydiant twristiaeth a lletygarwch, rhywbeth nad oes gan VisitBritain, VisitEngland, VisitScotland fel asiantaethau y tu allan i'r Llywodraeth. Felly, rwy'n credu bod y strwythur sydd gennym yn gywir. Mae gennym adran farchnata o fewn Croeso Cymru, sy'n gwneud llawer o'r hyn rydych yn awgrymu y gallem fod yn edrych arno, o ran ceisio denu mwy o ymwelwyr i Gymru—dyna'r pwynt cyffredinol yn amlwg. Ond mae'r pwynt rydych wedi'i godi am blatfform ar gyfer llety yn rhywbeth y byddwn yn hapus i'w archwilio, a byddwn yn hapus i gael sgwrs, sgwrs bellach, gyda chi am hynny, Janet, oherwydd, yn amlwg, os oes yna ffordd inni ddenu mwy o bobl i Gymru am gost is, mae hynny'n rhywbeth y byddem yn hapus i'w archwilio. 

14:10
Prentisiaethau

9. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gynyddu cyfleoedd prentisiaethau? OQ59224

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu nifer y prentisiaethau a gyflawnir drwy godi ymwybyddiaeth o'r rhaglen. Rydym yn hyrwyddo'r manteision i gyflogwyr a dysgwyr drwy ystod o weithgareddau marchnata a chyfathrebu drwy gydol y flwyddyn, ac wrth gwrs, mae yna bynciau a chwestiynau rheolaidd yn y Siambr a thu hwnt sy'n helpu i godi proffil y rhaglen. 

Diolch. Yng Nghymru, mae gradd-brentisiaethau yn dal i fod yn eu cyfnod peilot, ac nid ydynt ond ar gael ym maes TG, peirianneg a gweithgynhyrchu uwch o hyd. Yn yr Alban, maent yn cynnig llawer mwy. Yn Lloegr, maent yn cynnig dros 100 o radd-brentisiaethau. Mae'r Llywodraeth hon yn gwneud cam â dysgwyr sydd eisiau aros yng Nghymru. Nid yw gradd-brentisiaethau lefel 7 NVQ wedi cael eu cyflwyno o hyd, yn wahanol i'r Alban a Lloegr. Felly, pam bod rhaid i Gymru fod y tu ôl i weddill y DU yn barhaus? Rydych yn dweud eich bod yn gweld yr angen a'r awydd am radd-brentisiaethau, felly lle mae'r cynigion? Nid yw ychwanegu dau arall ar ôl y peilot hwn yn ddigon da. Pryd y gallwn ddisgwyl i'r Llywodraeth hon ddal i fyny â Lloegr a'r Alban o'r diwedd yn hyn o beth? 

Mewn gwirionedd, o ran ein rhaglen brentisiaethau, rydym mewn sefyllfa gadarnhaol iawn o'i chymharu â Lloegr, gyda'r niferoedd yn gymharol, a hefyd gyda'r niferoedd sy'n cwblhau, ac mewn gwirionedd, rydym yn ehangu ein rhaglen. Mae'n bwnc sgwrsio rheolaidd pryd bynnag y byddaf yn mynd ger bron y pwyllgor yn rhan o'r broses graffu. Gallwch warantu y bydd Hefin David yn fy holi am radd-brentisiaethau; gallwch warantu y byddaf yn cadarnhau unwaith eto ein bod wedi ymrwymo i ehangu ein rhaglen, ond yn fwy na hynny, mae'r gradd-brentisiaethau'n bodoli ochr yn ochr â rhaglenni astudio eraill, gan gynnwys cefnogi pobl i lefel gradd o fewn busnesau Cymru, ac mae'n nodwedd go iawn. Gwelais hyn, heddiw, mewn cwmni gweithgynhyrchu yr ymwelais ag ef yn Islwyn, pan oeddent yn edrych ar yr hyn y maent eisoes yn ei wneud a sut maent yn cefnogi eu gweithlu presennol. Ond yn fwy na hynny, mae'r prentisiaethau yn rhan o'r rhaglen. Maent yn mynd i fuddsoddi mewn prentisiaethau yn ystod y flwyddyn hon. Maent hefyd wedi manteisio ar gyfleoedd yn y rhaglen fyrrach rydym yn ei chynnig ar gyfer busnesau yma yng Nghymru. Maent hwy eu hunain yn cynorthwyo pobl i gyrraedd lefel gradd ar gyfer eu busnes hefyd, ac mewn gwirionedd, mae hwn yn faes allweddol ar gyfer ehangu a gwella ar draws yr economi. Ble mae'r lefel briodol o sgiliau ac adnoddau? Sut rydych chi'n gwneud hynny ar gyfer staff newydd sy'n dod i mewn? Ond yn allweddol, a dyma'r ffordd yn aml, sut rydych chi'n sicrhau eich bod yn cefnogi ac yn ailsgilio ac yn gwella sgiliau eich gweithlu presennol? Felly, rwy'n llawer mwy gobeithiol am yr hyn a wnawn ym mhob maes prentisiaeth yma yng Nghymru, ac rwy'n edrych ymlaen at adrodd ar lwyddiant ein camau i ehangu gradd-brentisiaethau a'r meysydd a'r sectorau y byddant yn ehangu iddynt. 

Twristiaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

10. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i helpu i ddenu twristiaid i Ganolbarth a Gorllewin Cymru? OQ59226

Mae ein strategaeth, 'Croeso i Gymru: blaenoriaethau i'r economi ymwelwyr 2020-2025', yn nodi ein cyfeiriad a'n huchelgais ar gyfer twristiaeth, ac mae Croeso Cymru yn hyrwyddo cyrchfannau'n gyfartal ledled Cymru. Mae Canolbarth Cymru a gorllewin Cymru yn rhan annatod o'r gweithgarwch hwnnw.

Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Wrth gwrs, mae gan ein rhanbarth bopeth i'w gynnig, o draethau godidog i'r warchodfa awyr dywyll ryngwladol ym Mannau Brycheiniog, a fydd, wrth gwrs, yn dathlu ei degfed pen blwydd eleni. A dyna'r rheswm pam, rwy'n siŵr, y bydd Cymru, eleni, yn croesawu'r nifer mwyaf erioed o longau mordeithio, a disgwylir i 91 llong alw yn ein porthladdoedd yn 2023, a bydd y gyntaf yn hwylio i mewn i Abergwaun fis nesaf. Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn seilwaith wedi bod yn allweddol i sicrhau'r busnes ychwanegol hwn. Felly, fy nghwestiwn i yw: sut y gallwn ni adeiladu ar y llwyddiant hwnnw a gwneud y gorau o'r manteision economaidd a ddaw yn sgil yr ymweliadau ychwanegol hyn? 

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn, Joyce. Ac rydych yn hollol gywir, oherwydd mae'r strategaeth rydym yn sôn amdani, strategaeth yr economi ymwelwyr, yn ymwneud â phwysleisio pwysigrwydd mynd i'r afael â lledaenu manteision, gan annog mwy o wariant yn ein heconomi, a hynny ledled Cymru. Dyna yw hanfod y strategaeth farchnata, ac mae hynny wedi arwain at y cynnydd y byddwn yn ei weld yng ngweithgarwch llongau mordeithio ledled Cymru, ac fel y dywedwch yn hollol gywir, bydd un yn dod i Abergwaun ar 6 Ebrill. Rydym yn mynd i farchnadoedd nawr lle rydym yn ceisio marchnata Cymru ar y raddfa fyd-eang honno, drwy fynychu digwyddiadau fel Seatrade yn fyd-eang a Seatrade Europe. Mae'r prif gwmnïau mordeithio a chynllunwyr teithiau yn mynychu'r digwyddiadau hyn i gyd, ac mae'n siŵr fod hynny'n allweddol, ac wrth i'r llongau mordeithio ddod i mewn, nid ydym eisiau gweld pobl yn aros yn y porthladd, yn cael ychydig o ddiodydd ac yn eistedd yn y bariau a'r bwytai ar y llong, rydym eisiau iddynt ddod oddi ar y llong, symud i mewn i'r tir, ac mae'r teithiau sydd ynghlwm wrth yr arosfannau mordeithio hynny'n bwysig ac yn rhan annatod o'r gwaith hwnnw. Felly, mae hynny i gyd wedi'i gynnwys yn y strategaeth hefyd.

14:15
2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Russell George.

Ambiwlans Awyr Cymru

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am benderfyniad diweddar Ambiwlans Awyr Cymru i gynnal gwasanaethau yng nghanolbarth Cymru am y tair blynedd nesaf? OQ59209

Rwyf wedi nodi'r cyhoeddiad a wnaed gan wasanaeth ambiwlans awyr Cymru. Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn sefydliad annibynnol, ac nid yw'n derbyn unrhyw arian uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. O'r herwydd, mae penderfyniadau ynghylch cyfluniad a gweithrediad ei gwasanaethau a'i chanolfannau yn fater gweithredol i'r elusen a'i bwrdd ymddiriedolwyr.

Diolch, Weinidog, ond nid wyf yn cytuno â hynny. Mae ambiwlans awyr Cymru yn gweithredu drwy wasanaeth yr elusen ei hun a hefyd GIG Cymru, a'ch cyfrifoldeb chi fel y Gweinidog iechyd, wrth gwrs, yw sicrhau bod gennym ddigon o ddarpariaeth ledled Cymru, rhywbeth rwy'n gwybod y byddwch yn cytuno yn ei gylch. Roeddwn yn falch iawn fod Elusen Ambiwlans Awyr Cymru wedi cyhoeddi y byddent yn parhau i ddefnyddio canolfan y Trallwng hyd at 2026, ac mae'r ymgyrch yng nghanolbarth Cymru, a Chaernarfon hefyd yn wir, bellach yn symud i sicrhau bod y canolfannau hynny'n aros tu hwnt i 2026 ac i'r dyfodol. Ond rydym ar hyn o bryd yn aros i'r broses ymgysylltu ffurfiol ddechrau.

Mae'r cyfathrebu wedi bod yn eithaf difrifol ar hyn, mae'n rhaid imi ddweud, yn ystod hanner olaf y llynedd. Gwelsom bob sefydliad sy'n gysylltiedig, ac rwy'n cynnwys Llywodraeth Cymru yn hynny, yn gwadu cyfrifoldeb, yn diystyru pryderon cyfiawn ac yn achosi pryder difrifol hefyd. Ond rwy'n credu bod hynny wedi cael ei gydnabod yn rhannol, a dyna pam y penodwyd y prif gomisiynydd ambiwlans i arwain adolygiad, i arwain wedyn at broses ystyrlon ac ymgysylltu priodol.

Wrth gwrs, rydych yn deall bod hwn yn wasanaeth mor amhrisiadwy i bobl canolbarth Cymru, fel y mae i bobl gogledd Cymru yn wir, ond Weinidog, mae gwir angen dyddiad i'r ymgynghoriad ffurfiol ddechrau. Mae fy etholwyr eisiau rhoi eu barn ar y cynnig hwn. Roedd i fod i ddechrau ddiwedd y llynedd, ac yna mis Ionawr, ac rwyf wedi cael e-bost gan y prif gomisiynydd ambiwlans heddiw, rwy'n disgwyl y bydd yn cynnwys y dyddiad pan fydd ymgysylltu'n dechrau, ac ychydig iawn sydd yn y diweddariad newyddion hwnnw hyd yma. Mae'n dweud wrthyf eu bod yn dal i weithio ar gynlluniau a'r deunydd ymgysylltu.

Felly, a gaf fi ofyn i chi, Weinidog, beth yw eich asesiad o pam ein bod wedi gorfod aros sawl mis i'r broses ymgysylltu ffurfiol ddechrau, ac yn y pen draw, pryd y credwch y gall fy etholwyr gyflwyno eu safbwyntiau'n ffurfiol ar gynigion i gau'r ganolfan yn y Trallwng, ac yng Nghaernarfon hefyd?

Diolch yn fawr. Yn amlwg, rwy'n gwybod y byddwch yn falch y bydd cyfluniad presennol y sefydliad yn weithredol tan 2026 a bod contract saith mlynedd wedi'i gyhoeddi i Gama Aviation, ond rydych yn hollol gywir, o fewn y contract, mae posibilrwydd o ad-drefnu os credir bod hynny'n angenrheidiol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn parhau gyda'r adolygiad, oherwydd mae'n arfer da i wneud yn siŵr ein bod yn dal ati i edrych i weld a ydym yn cael yr hyn sydd ei angen arnom o'r gwasanaeth. Felly, rwy'n disgwyl i'r broses ymgysylltu ffurfiol ddechrau erbyn diwedd mis Mawrth. Felly, erbyn diwedd y mis hwn, rwy'n gobeithio y bydd eich etholwyr yn cael cyfle i ddweud eu barn. Rwy'n gwybod pa mor angerddol y teimlant am hyn, ac rwy'n credu ei fod yn bwysig. Rwyf wedi bod yn edrych eto i sicrhau bod—. Mewn gwirionedd, mae angen i'r meini prawf rydym yn edrych arnynt fod yn rhai cywir, felly rwyf wedi bod yn cael sgyrsiau ynghylch hynny hefyd.

Diolch i Russell George am y cwestiwn pwysig yma. Yn yr ymateb a’r ymgyrch ar lawr gwlad, mae hynny wedi dangos yn glir y pwysigrwydd mae'r elusen yma yn ei ddal yng nghalonnau pobl ein cymunedau ni. Fe wnes i fynychu amryw o gyfarfodydd cyhoeddus yn Nhywyn, Porthmadog, Pwllheli a Chaernarfon, gyda channoedd o bobl yn troi allan yng nghanol gaeaf er mwyn gwrando a rhannu profiadau. Y bobl yma a'r bobl ddaru drefnu'r ymgyrch a rhoi miloedd o oriau o'u hamser nhw, rhwng y dwsinau o'r bobl yna, ddaru sicrhau bod newid barn yn mynd i fod a bod yr ambiwlans awyr yn gwrando. Felly, a wnaiff y Gweinidog ymuno efo fi i ddiolch i'r ymgyrchwyr yma am eu gwaith? Ond ymellach, a wnaiff y Gweinidog weithio efo'r rhanddeiliaid eraill er mwyn sicrhau na fydd y canolfannau ambiwlans awyr yn cael eu canoli i ffwrdd o'n cymunedau ac yr ydym ni'n medru sicrhau eu dyfodol nhw yn y cymunedau hynny yn edrych ymlaen? Diolch.

14:20

Diolch yn fawr iawn, a dwi'n gwybod bod pobl yn eich ardal chi hefyd yn teimlo'n gryf dros ben ynglŷn â'r mater yma, ac mae'n amlwg bod eu lleisiau nhw wedi cael eu clywed, a dwi'n siŵr y byddan nhw'n awyddus i ymateb i'r ymgynghoriad fydd yn dechrau ddiwedd y mis hefyd. Ar ôl y drafodaeth ddiwethaf a gawsom yn y Siambr yma, mi wnes i ofyn i gadeirydd yr emergency ambulance services committee i wneud yn siŵr ei fod e'n darllen beth a ddywedwyd yn y Siambr yma, achos dwi'n meddwl bod yna teimladau cryf, a dwi'n meddwl bod yn rhaid inni wneud yn siŵr bod y criteria am beth ŷn ni eisiau mas o'r gwasanaeth yma yn y lle iawn.

Dechrau'n Deg

2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Dechrau'n Deg? OQ59206

Mae Dechrau'n Deg yn ehangu darpariaeth blynyddoedd cynnar yn raddol i bob plentyn dwy oed. Mae cam 1 bron â gorffen gyda gwasanaethau'n cael eu cynnig i dros 2,500 o blant ychwanegol. Mae cam 2 yn dechrau ym mis Ebrill a dros y ddwy flynedd nesaf, bydd yn cefnogi dros 9,500 yn fwy o blant dwy oed i gael mynediad at ofal plant o ansawdd drwy Dechrau'n Deg.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb? Rwy'n frwd fy nghefnogaeth i Dechrau'n Deg. Nid yw'n bosibl gorbwysleisio pwysigrwydd dechrau da mewn bywyd i blentyn. Mae yna blant yn dechrau mewn dosbarthiadau meithrin yn dair oed gydag oedran datblygiad sy'n agosáu at bedair, tra bod gan eraill oedran meddyliol o ychydig dros ddwy oed. Mae'n eu digalonni. Oherwydd y ffordd y mae gwybodaeth sensitif yn cael ei chasglu mewn ardaloedd cynnyrch ehangach haen is, mae llawer o blant yn rhai o'r ardaloedd sydd â'r angen mwyaf ar eu colled. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol ddarparu Dechrau'n Deg i blant, ac a yw argaeledd Dechrau'n Deg yn mynd i gael ei newid yn sgil canlyniadau cyfrifiad 2021?

Diolch i Mike Hedges am ei gwestiwn ac am ei frwdfrydedd dros Dechrau'n Deg. Mae ardaloedd Dechrau'n Deg wedi cael eu nodi gan ddefnyddio mynegai Cymru o ddata amddifadedd lluosog gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau EF, a chânt eu dadansoddi yn ôl ardaloedd cynnyrch ehangach haen is. Rwy'n credu bod y dull lefel uchel hwn o dargedu yn parhau i fod yn addas i'r diben, ond mae cyfle i roi mwy o hyblygrwydd i'r awdurdodau lleol. O dan y rhaglen lywodraethu, a gweithio gyda Phlaid Cymru drwy ein cytundeb cydweithio, rydym yn ehangu Dechrau'n Deg, a dechreuodd yr ehangu ym mis Medi gyda dros 2,500 o blant ychwanegol sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig wedi dod yn rhan o'r rhaglen eisoes.

Ond mae allgymorth Dechrau'n Deg yn elfen allweddol o'r rhaglen, sy'n caniatáu i awdurdodau lleol fod yn hyblyg yn y ffordd y maent yn darparu Dechrau'n Deg, oherwydd yn amlwg mae angen iddo fod yn seiliedig ar wybodaeth ac angen lleol. Mae allgymorth Dechrau'n Deg yn ei gwneud hi'n bosibl darparu gwasanaethau craidd Dechrau'n Deg i blant a theuluoedd mewn angen mawr sy'n byw y tu allan i ardaloedd cydnabyddedig Dechrau'n Deg. Ond fel y dywedais, ein huchelgais yw sicrhau bod Dechrau'n Deg yn cyrraedd pob plentyn dwy oed.

Diolch, Weinidog, ac rydym yn croesawu'r ehangu, oherwydd ar hyn o bryd, mae Dechrau'n Deg yn loteri cod post, a cheir pocedi o amddifadedd difrifol mewn ardaloedd gwledig sy'n cael eu gweld fel rhai cefnog, fel sir Fynwy, ac ni all hynny fod yn dda pan fo teuluoedd mewn angen yn colli cyfle, ac rwy'n siŵr y byddech yn cytuno gyda hynny, Weinidog. Felly, a fydd y rhaglen ehangu'n cyrraedd ardaloedd fel y rhai rwyf newydd eu hamlinellu? Diolch.

Fel y dywedais mewn ymateb i Mike Hedges, yn y pen draw, rydym yn gobeithio y bydd pob plentyn dwy oed yn elwa o Dechrau'n Deg, ond wrth gwrs mae'n rhaid gwneud hyn fesul cam. Felly, mae pob awdurdod lleol yn cyflwyno eu cynlluniau ar gyfer ehangu Dechrau'n Deg, felly bydd sir Fynwy wedi cyflwyno cynllun, ac rwy'n credu ein bod yn y broses o gymeradwyo'r cynllun hwnnw. O fis Ebrill ymlaen, bydd ehangu cam 2 yn dechrau yn yr ardaloedd o amddifadedd mewn ardaloedd gwledig, ardaloedd o amddifadedd mewn etholaethau nad ydynt wedi cael Dechrau'n Deg yn draddodiadol, fel fy etholaeth fy hun, lle na cheir darpariaeth Dechrau'n Deg, ond fel y dywedwch, ceir pocedi o amddifadedd, a'n nod yw cyrraedd yr holl ardaloedd hynny, a bydd cam 2 yn mynd â hyn ymhellach. Ac wrth gwrs, elfen bwysig arall o'r ehangu yw ein bod eisiau rhoi pwyslais ar ddatblygu lleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg.

14:25
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Gareth Davies, i ofyn cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog. Gareth Davies.

Diolch, Lywydd, a hoffwn ofyn fy nghwestiwn i'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol y prynhawn yma. Y pwnc rwyf am ei godi heddiw yw marwolaeth drist a thrasig Kaylea Titford o'r Drenewydd ym Mhowys yn 2022. Fel y byddwch yn gwybod, mae'n debyg, Ddirprwy Weinidog, yn ddiweddar cafwyd ei rhieni'n euog o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol. I roi ychydig o gefndir, roedd Kaylea yn ferch 16 oed a oedd yn dioddef gyda spina bifida a bu farw oherwydd esgeulustod dros gyfnod estynedig o amser, a chafodd ei gadael mewn amodau aflan na fyddai'n addas i gi, heb sôn am ferch ifanc ag anableddau. Yn anffodus, nid dyma'r tro cyntaf inni glywed am achosion mor ofidus. Rydym yn gwybod fod yna risg uchel nad dyma fydd y tro olaf i amgylchiadau trasig o'r fath ddigwydd, oherwydd ein bod yn gweld achosion o'r fath yn rhy aml.

Felly, beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i farwolaeth drist Kaylea, ac a ydych chi'n credu, Ddirprwy Weinidog, fod diwydrwydd dyladwy wedi'i wneud yn achos Kaylea, a bod gan adran gwasanaethau cymdeithasol Powys adnoddau digonol i nodi a gweithredu ar beryglon posibl i blant a gweithredu arnynt cyn ei bod hi'n rhy hwyr?

Diolch i Gareth Davies am y cwestiwn hwnnw, ac yn amlwg rwyf eisiau mynegi fy nhristwch mawr ynglŷn â'r hyn a ddigwyddodd i Kaylea, ac rwy'n credu ein bod i gyd wedi dilyn y disgrifiad o'r hyn a arweiniodd at ei marwolaeth, ac yn amlwg rydym yn cydymdeimlo'n fawr.

Mae adolygiad ymarfer plant wedi'i sefydlu, sef y ffordd arferol o fwrw ymlaen â'r achosion hyn, gyda'r sefyllfaoedd hyn sy'n codi, a bydd hwnnw'n dilyn ei gwrs. Mae cadeirydd wedi'i benodi, rwy'n credu, a phan fydd yr adolygiad o'r achos yn cyflwyno'i adroddiad, byddwn yn edrych ar yr hyn y maent yn ei argymell ac yn sicr byddwn yn ystyried hynny'n ddifrifol iawn. Ond adolygiad ymarfer plant yw'r cam arferol yn dilyn achos mor drasig.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Yr hyn sy'n siomedig yw'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn amharod i gynnal adolygiad o wasanaethau plant ledled Cymru. Rydym yn dechrau gweld tuedd, Ddirprwy Weinidog, oherwydd gwelsom achos trasig marwolaeth Logan Mwangi ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a marwolaeth Kaylea Titford ym Mhowys. Rhieni anfad a achosodd farwolaeth Logan, a rhieni esgeulus a achosodd farwolaeth Kaylea, mewn dau awdurdod lleol gwahanol yng Nghymru. Felly, a yw'r Gweinidog yn sylweddoli'r angen o'r diwedd am adolygiad plant ledled Cymru ar draws y 22 awdurdod lleol, i sicrhau bod gan ein holl gynghorau allu i ymdrin ag achosion fel rhai Logan Mwangi a Kaylea Titford?

Wel, ni allaf ddweud wrthych chi, Gareth, pa mor ddifrifol yw'r holl achosion hyn i ni, ac wrth gwrs rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i atal pethau fel hyn rhag digwydd, ond trafodwyd a ddylid cael adolygiad o wasanaethau plant yng Nghymru yma yn y Senedd ar 7 Rhagfyr, ac fe bleidleisiwyd yn erbyn cynnal adolygiad o'r fath am nifer o resymau, a gafodd eu trafod yn llawn yma ar y dyddiad hwnnw. Rydym eisoes yn ystyried canfyddiadau'r adolygiad annibynnol o ofal cymdeithasol plant yn Lloegr, a gadeiriwyd gan Josh MacAlister ac a gyhoeddwyd ym mis Mai 2022, ac mae ystod eang o waith ymchwil, gwerthusiadau ac adolygiadau annibynnol wedi cael eu gwneud yng Nghymru. Ac wrth gwrs, mae gennym argymhellion yr ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol hefyd, sydd ag argymhellion penodol ar gyfer Llywodraeth Cymru, ac rydym yn bwrw ymlaen â hwy ac yn ystyried sut y byddwn yn gwneud hynny. Wrth gwrs, rydych chi wedi sôn eisoes am Logan Mwangi, ac fe wnaethom drafod yr adolygiad ymarfer plant a thrafod y cynigion yn y Siambr hon, ac mae gennym argymhellion penodol i fwrw ymlaen â nhw oddi yno. Felly, mae llawer o waith ar y gweill gennym. Mae yna lawer o argymhellion, a gallaf eich sicrhau ein bod yn gweithio'n galed i ddilyn yr argymhellion hynny.

Diolch eto am eich ymateb, Weinidog, ond rwyf ychydig yn siomedig, a bod yn onest, Ddirprwy Weinidog, gan na allwn barhau i gladdu ein pennau yn y tywod mwyach ac esgus nad yw'r problemau hyn yn bodoli.

Roedd Kaylea Titford yn byw mewn amodau aflan, gyda chynrhon, ysgarthion, llieiniau gwely wedi'u staenio gan wrin a chathetrau heb eu gwacau. Roedd hi'n gaeth i'r gwely oherwydd iddi dyfu'n rhy fawr i'w chadair olwyn, ac ni wnaeth ei rhieni gael un arall yn ei lle, a bu farw ar ei phen ei hun yn ei hystafell wely a oedd yn llawn pryfed. Aeth ei phwysau o 16 stôn i 22 stôn mewn cyfnod byr. Un o'r manylion mwyaf erchyll, pan wnaeth hi gwyno am y pryfed yn ei hystafell wrth ei mam, oedd i honno ymateb drwy neges destun, yn gellweirus, gan ddweud, 'Maent yn dy hoffi di'. Mae'n ddrwg gennyf fod mor graffig, Ddirprwy Weinidog—nid wyf eisiau peri gofid—ond rwy'n credu bod rhaid i chi sylweddoli maint y broblem mewn rhannau o Gymru, a gofyn i chi'ch hun fel Llywodraeth beth sy'n digwydd yma, pam ei fod yn digwydd, a beth y gallwch chi ei wneud fel Llywodraeth i weithredu er budd ein pobl a diogelu ein plant a'n dinasyddion mwyaf agored i niwed. Sut y gwyddoch nad yw'r achos trasig diweddaraf yn datblygu o dan ein trwynau wrth inni siarad yn y Siambr hon nawr?

Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar y Llywodraeth i gomisiynu adolygiad o wasanaethau plant ar draws y 22 awdurdod lleol, i weld beth allai fod yn mynd o'i le, i wneud yn siŵr ein bod yn lleihau'r achosion trasig hyn a sicrhau nad oes neb yn cwympo drwy'r rhwyd. Felly, pa sgyrsiau y mae'r Dirprwy Weinidog yn eu cael gydag awdurdodau lleol, arweinwyr gofal plant a'r holl asiantaethau perthnasol ynglŷn â sut y gallwn ddiogelu plant sy'n agored i niwed ymhellach yng Nghymru, er mwyn lleihau'r risg y bydd achosion trasig o'r fath yn digwydd eto?

14:30

Diolch yn fawr iawn. Mae'n ofnadwy fod rhaid ichi dynnu sylw at y pethau ofnadwy a ddigwyddodd i Kaylea, ac unwaith eto, rwyf am fynegi fy nhristwch dwysaf fod hyn wedi digwydd. Ond rwy'n credu y dylai ymateb y Llywodraeth fod yn bwyllog, a dylem roi ystyriaeth i'r holl bwyntiau sydd wedi'u gwneud, yn enwedig yr hyn a ddywedodd y barnwr wrth grynhoi, ac rwy'n siŵr y byddwch wedi ei ddarllen. Y drefn arferol yw cael adolygiad ymarfer plant. Dyna a wnawn. Fe fydd yna adolygiad ymarfer plant. Cawn weld beth fydd yr adolygiad ymarfer plant yn ei godi. Oherwydd mae'r adolygiad ymarfer plant yn edrych yn fanwl iawn ar bopeth a ddigwyddodd, yr holl gysylltiadau a wnaed, ac mae'n weithdrefn drylwyr iawn. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno ei bod hi'n gwbl hanfodol fod y broses honno'n digwydd cyn inni ddechrau rhoi ein barn ar yr hyn y dylai'r Llywodraeth ei wneud neu'r hyn na ddylai ei wneud. Mae gennym lawer iawn o bethau y mae angen inni eu gwneud yn y maes hwn. Rwyf wedi cyfeirio atynt eisoes yn fy ateb blaenorol—y nifer o gynlluniau rydym yn eu gweithredu gyda gwahanol awdurdodau lleol ynghylch amddiffyn plant. Felly, gallaf eich sicrhau'n llwyr ein bod o ddifrif ynglŷn â'r achos trasig hwn, ac y byddwn yn mynd i'r afael â'r mater. Ar ôl yr adolygiad ymarfer plant, byddwn yn edrych ar beth yw eu hargymhellion.

Diolch, Llywydd. Os oedd yr hyn wnaeth y Gweinidog efo bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yr wythnos diwethaf i fod i roi gobaith newydd i bobl, mae gen i ofn nad dyna ddigwyddodd. Beth sydd gennym ni ydy poblogaeth a gweithlu efo'u pennau yn eu dwylo. Rydyn ni wedi bod yma o'r blaen. Yn 2015, mi ddywedodd Mark Drakeford ei fod o'n rhoi'r bwrdd mewn mesurau arbennig oherwydd pryderon am arweinyddiaeth. Yr wythnos diwethaf, roedd y Gweinidog yn dweud bod yna bryderon difrifol am arweinyddiaeth a diwylliant y sefydliad. Buaswn i'n licio bod yn garedig a dweud bod Betsi Cadwaladr wedi bod yn troedio dŵr am yr wyth mlynedd diwethaf, ond, gyda phroblemau iechyd meddwl, fasgwlar, adran frys Glan Clwyd, dydy'r bwrdd ddim wedi bod yn cadw ei ben uwchben y dŵr.

Pam y mae'r Gweinidog mor benderfynol mai'r bwrdd iechyd diffygiol, camweithredol hwn yw'r model gorau sydd ar gael i'r cleifion yng ngogledd Cymru? Pam ar y ddaear na fyddai'n rhannu fy nymuniad i ddechrau eto, gyda dau neu dri bwrdd iechyd llai? A chyn iddi ddweud wrthyf y byddai hyn yn tynnu sylw oddi wrth y ffocws ar wella'r bwrdd, a wnaiff hi sylweddoli nad oes gennyf i na phobl gogledd Cymru unrhyw ffydd yng ngallu'r Llywodraeth hon i wella pethau bellach, a hithau a'i rhagflaenwyr wedi methu cynifer o weithiau o'r blaen?

Diolch yn fawr, Rhun. Yn amlwg, rydych yn siarad â phobl wahanol iawn i'r rhai y bûm innau'n siarad â nhw, oherwydd, mewn gwirionedd, rwyf wedi cael llawer o bobl yn dweud mai'r cam a gymerais oedd y cam yr oedd angen ei gymryd. A dweud y gwir, ddoe, fe siaradais â grŵp cyfan o feddygon ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd, a nododd eu bod yn deall bod yr hyn a oedd yn digwydd yn gam eithaf radical. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nawr ein bod yn canolbwyntio ar y gwaith dan sylw, ein bod yn deall bod llawer iawn o waith i'w wneud. Byddaf yn cyfarfod â'r cadeirydd newydd ddydd Gwener yn y gogledd, i sicrhau bod dealltwriaeth o'r dasg anferth sydd o'n blaenau i wella'r bwrdd iechyd hwn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod pobl yn deall bod problemau gwirioneddol gydag arweinyddiaeth a rheolaeth, problemau gwirioneddol gydag effeithiolrwydd a dull llywodraethu'r bwrdd, problemau gwirioneddol gyda diwylliant sefydliadol a diogelwch cleifion, a dyna'r mesurau a fydd yn cael y ffocws gyda'r bwrdd newydd yn ei le. 

14:35

Wrth gwrs, mae'r Gweinidog yn hollol iawn fod hyn—ei wneud yn destun mesurau arbennig—yn gam roedd angen ei gymryd nawr. Wrth gwrs, fe ddylai fod wedi bod mewn mesurau arbennig. Ond y cwestiwn yw pam fod gennym fwrdd sydd, ers wyth mlynedd, wedi bod angen bod mewn mesurau arbennig. Os na fydd y Gweinidog yn rhannu fy uchelgais i edrych ymlaen at ddechrau newydd, gyda byrddau iechyd newydd, beth am edrych yn ôl yn iawn i ddysgu mwy am y gwersi sydd angen eu dysgu? Mae un cyn-aelod annibynnol o'r bwrdd, a gafodd ei ddiswyddo i bob pwrpas yr wythnos diwethaf, unigolyn uchel ei barch, wedi awgrymu bod mwy na digon o sail i gael ymchwiliad annibynnol nawr—yr ymchwiliad i dwyll, y camweinyddu, yr oruchwyliaeth wael ar gontractau mawr gwerth miliynau o bunnoedd. Maent yn dweud eu bod yn argyhoeddedig fod adroddiad diweddar Archwilio Cymru ynddo'i hun yn cynnig digon o sail dros hynny. Mae bwrdd iechyd sy'n methu ers wyth mlynedd yn golygu wyth mlynedd o forâl isel staff, ac rwy'n teimlo dros bob un ohonynt. Mae'n golygu wyth mlynedd o wasanaeth gwael i'r boblogaeth. Mae angen inni wybod beth sydd wedi bod yn digwydd dros yr wyth mlynedd a mwy hynny, er mwyn inni allu diogelu'r cyhoedd. A wnaiff y Gweinidog gytuno â fy ngalwad am ymchwiliad cyhoeddus?

Yn sicr, nid wyf am gytuno â galwad am ymchwiliad cyhoeddus, oherwydd rwy'n meddwl bod angen inni fwrw ymlaen â'r gwaith. Mae ymchwiliad cyhoeddus yn mynd i dynnu sylw pobl oddi ar y gwaith sydd angen ei wneud. Yr hyn y byddwn i'n dadlau yw bod hyn yn ddechrau newydd mewn gwirionedd. Am y tro cyntaf erioed yn hanes Cymru, rydym wedi gwneud bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig, ac rydym hefyd wedi cymryd y cam digynsail o roi cyfle i aelodau annibynnol ymddiswyddo. Yn amlwg, eu gwaith nawr fydd darllen adroddiad Archwilio Cymru, a oedd yn feirniadol iawn o'r swyddogion gweithredol, yn ofalus iawn. Ond mae angen inni sicrhau bod eu hawliau fel gweithwyr yn cael eu parchu, ac mae'n rhaid inni ddilyn y drefn briodol. 

Mynediad at Ddiagnosteg

3. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau sy'n cael eu cymryd i wella mynediad at ddiagnosteg yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe? OQ59201

Mae gennym darged diagnostig na ddylai unrhyw un aros dros wyth wythnos. Mae'r bwrdd iechyd yn ei chael yn arbennig o anodd sicrhau hyn yn Abertawe, lle mae 70 y cant o'r rhai sy'n aros dros wyth wythnos yn aros am endosgopi diagnostig. Mae'r bwrdd iechyd yn cael cymorth gan yr uned gyflawni ac yn gweithio gyda Hywel Dda ar hyb diagnostig rhanbarthol.

Diolch. Bydd y ganolfan diagnosteg a thriniaeth arfaethedig yng Nghwm Taf yn ased enfawr i'r rhai sy'n byw yn nwyrain fy rhanbarth, ond ni fydd y rhai sy'n byw yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn gweld unrhyw fudd o'r fath. Fodd bynnag, un datblygiad cadarnhaol yn Abertawe oedd cyflwyno profion gwaed arloesol i gymryd lle archwiliadau colonosgopi i'r rhai sy'n gwella o ganser y coluddyn. Mae tua 4,000 o gleifion ym Mae Abertawe wedi bod yn aros blynyddoedd am golonosgopi dilynol wedi iddynt gael gael tynnu canser y coluddyn neu bolypau. Bydd y profion gwaed hyn yn lleihau'r galw am wasanaethau colonosgopi ar draws y bwrdd iechyd. Weinidog, mae hwn yn wasanaeth gwych, ond ni fydd ond yn cael ei ddarparu i tua 200 o gleifion yn unig, diolch i gyllid gan fenter canser Moondance. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i ehangu'r gwaith o gyflwyno'r profion newydd arloesol hyn?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn croesawu datblygiadau arloesol newydd lle ceir arwydd clinigol eu bod o fudd. Yn amlwg, mae angen inni gydbwyso hynny â'n gallu i dalu amdanynt. Ond yn y maes hwn, rydym wedi gwario llawer o arian ar ddiagnosteg—£51 miliwn i ar gyfarpar diagnostig newydd, £25 miliwn ar gyfarpar delweddu newydd a £25 miliwn ar bedwar sganiwr PET newydd. Byddwn yn cyhoeddi cynllun diagnostig cenedlaethol newydd ym mis Ebrill. Cefais gyfarfod â'r bobl a oedd wedi datblygu'r cynllun yn ddiweddar, ac nid yng Nghymru yn unig. Roeddwn am fod yn glir iawn beth sy'n digwydd mewn mannau eraill, ac felly, siaradais ag arbenigwyr o weddill y DU hefyd, 'Sut mae hyn yn cymharu â'ch un chi? I ble mae angen inni fynd? A ydym ymhell ar ei hôl hi? A ydym ar y blaen?' Felly, mae yna sgyrsiau manwl iawn yn digwydd. Yn amlwg, rydych wedi clywed y cynigion i adeiladu canolfan ddiagnosteg newydd yng Nghwm Taf. Fel y soniais mewn ymateb i'ch cwestiwn, byddwn yn gweld rhywfaint o gefnogaeth ac yn gweithio i weld a allwn ddatblygu canolfan ddiagnosteg ranbarthol rhwng Abertawe a Hywel Dda.

14:40
Osteoporosis

4. Pa gymorth sydd ar gael i bobl yng Nghymru gydag osteoporosis? OQ59195

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r rheini sy'n byw gyda chyflyrau iechyd yr esgyrn yng Nghymru, ac mae gwella'r ddarpariaeth i bobl sydd ag osteoporosis yn flaenoriaeth. Mae fy natganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ym mis Chwefror yn nodi ein disgwyliadau fod yn rhaid i wasanaethau cyswllt toresgyrn fod ar gael a chael eu cryfhau yn yr holl fyrddau iechyd ledled Cymru.

Diolch. Ar Ddiwrnod Osteoporosis y Byd fis Hydref diwethaf, cyfarfûm â'r Gymdeithas Osteoporosis Frenhinol yn y Senedd. Clywais fod pobl yng Nghymru yn dioddef 27,000 o doriadau osteoporotig bob blwyddyn; fod yna 100,000 amcangyfrifedig o doriadau asgwrn cefn na wnaed diagnosis ohonynt yng Nghymru; fod chwarter y bobl yn cael tri neu fwy o doriadau cyn iddynt gael diagnosis; fod problemau iechyd meddwl yn codi o'r boen gyson; a bod cymaint o bobl yn marw o achosion sy'n gysylltiedig â thorri esgyrn ag sy'n marw o ganser yr ysgyfaint neu ddiabetes. Clywais hefyd fod y therapïau a'r meddyginiaethau cywir yn bodoli, ond bod y loteri cod post o ran diagnosis yn golygu bod degau o filoedd o Gymry sydd angen gofal yn cael eu hesgeuluso.

Y mis hwn, anfonodd y Gymdeithas Osteoporosis Frenhinol e-bost yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru eu bod yn ymrwymo i ddarparu 100 y cant o wasanaethau cyswllt toresgyrn ym mhob bwrdd iechyd—er fy mod yn meddwl i chi ddweud bod hynny'n fwy o ddyhead nag ymrwymiad yn eich ymateb; rwy'n gobeithio y gwnewch chi egluro hynny yn eich ymateb—a fyddai'n golygu bod pob claf dros 50 oed gydag asgwrn wedi torri ar ôl cwymp yn cael ei archwilio a'i reoli er mwyn gostwng eu risg o dorri esgyrn yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, er hynny, pam mai dim ond 66 y cant o bobl dros 50 oed yng Nghymru sydd â mynediad at wasanaethau cyswllt toresgyrn pan fo'r ffigwr eisoes yn 100 y cant yn yr Alban a Gogledd Iwerddon? Sut yr ewch chi i'r afael â'r angen cudd presennol a ddisgrifiais yng Nghymru?

Diolch yn fawr iawn. Fe fyddwch yn ymwybodol fod osteoporosis yn gyflwr cyffredin a gwanychol iawn. Mae tua 18 y cant o boblogaeth Cymru yn byw gydag ef, sy'n nifer uchel tu hwnt. Yn wir, mae un o bob dau o'r rhai ohonoch chi sydd dros 50 yn y fan hon yn debygol o dorri asgwrn yn y dyfodol—y rhai ohonoch chi sy'n fenywod—ac mae un o bob pump dyn dros 50 oed â risg uwch o dorri asgwrn. Mae'n rhaid i bawb ohonom fod yn ymwybodol fod hyn yn rhywbeth sy'n bosibl, a dyna pam ei bod hi'n gwneud synnwyr inni roi mesurau ataliol ar waith os gallwn. Yr hyn a wyddom yw ein bod wedi gweithio'n agos iawn â'r Gymdeithas Osteoporosis Frenhinol er mwyn datblygu'r rhaglen genedlaethol honno. Yn amlwg, cawsom y gynhadledd honno yn ôl ym mis Hydref, lle cawsom y gynhadledd genedlaethol gyntaf ar gyfer y gwasanaeth cyswllt toresgyrn, ac yn wir dyhead y gynhadledd honno a bwriad y gynhadledd honno oedd nodi ein disgwyliad y bydd y loteri cod post yn dod i ben ac y bydd darpariaeth o wasanaethau ar gael ledled Cymru gyfan.

Caethiwed i Gamblo

5. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r heriau iechyd y mae gaethiwed i gamblo yn eu cyflwyno yn Islwyn? OQ59228

Cafodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ei gomisiynu i lunio asesiad o anghenion iechyd gamblo yng Nghymru, a gafodd ei gyhoeddi y mis diwethaf. Tynnodd yr adroddiad sylw at raddau'r heriau iechyd posibl a achosir gan gaethiwed i gamblo ledled Cymru, gan gynnwys Islwyn. Mae'r rhain yn cynnwys straen, gorbryder, camddefnyddio sylweddau, ac yn yr achosion mwyaf trasig, hunanladdiad.

Diolch. Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth rhaglen wleidyddol ITV Cymru, Sharp End, dynnu sylw at broblemau gamblo yng Nghymru, ac mae'r elusen GambleAware yn amcangyfrif bod 1.4 miliwn o bobl Prydain â phroblem gamblo, sy'n syfrdanol. Nid yw argaeledd a hygyrchedd gamblo erioed wedi bod yn fwy. Heddiw, nid oes angen ymweld â siop fetio yng nghanol trefi bellach, ac mae gan bob unigolyn sydd â ffôn clyfar fynediad a rhwydd hynt i gamblo drwy wthio botwm. Mae hysbysebion gamblo bellach yn hollbresennol, ac mae ei gyrhaeddiad i'w weld ar blatfformau gemau fideo hyd yn oed, sy'n peri pryder o ran cenedlaethau'r dyfodol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud eu bod yn credu bod angen dybryd am addysg gynnar ar gamblo problemus. Mae'n amlwg fod cysylltiad pendant rhwng chwarae gemau fideo a gamblo. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi galw am ddull o weithredu system gyfan sy'n chwalu rhwystr cywilydd a stigma, addysg gynnar mewn ysgolion, a grymuso meddygon teulu a gwasanaethau rheng flaen eraill i adnabod ac atgyfeirio at wasanaethau arbenigol. Felly, Ddirprwy Weinidog, beth mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu ei wneud i asesu ein gallu presennol yng Nghymru i roi diagnosis o gamblo problemus i bobl, eu hatgyfeirio at lwybrau cymorth priodol, a pha sylwadau y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud i Lywodraeth y DU ynglŷn â'r Papur Gwyn ar ddyfodol gamblo yn y Deyrnas Unedig y bu llawer o ddyfalu yn ei gylch?

14:45

A gaf fi ddiolch i Rhianon Passmore am y cwestiwn atodol ac am godi'r mater pwysig hwn yn y Siambr? Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi pobl yr effeithir arnynt gan niwed sy'n gysylltiedig â gamblo, ac yn parhau i arddel ymagwedd integredig a chydweithredol tuag at bolisi gamblo. Rydym wedi ymrwymo i ddull iechyd cyhoeddus o fynd i'r afael â'r niwed a achosir gan gamblo i amddiffyn pobl, yn enwedig plant a phobl ifanc, a phobl fregus. Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gyda swyddogion addysg ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddeall sut i gyfleu niwed cynnyrch gamblo yn fwyaf effeithiol i bobl ifanc drwy ddull dadnormaleiddio.

Yn dilyn trafodaethau gyda rhanddeiliaid, fe wnaethom gomisiynu Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynnal asesiad o anghenion gamblo i lywio ein gwaith. Fe wnaeth yr asesiad hwnnw, a gyhoeddwyd ar 1 Chwefror, adolygu anghenion pobl sy'n dioddef niwed gamblo er mwyn llywio dull iechyd cyhoeddus o leihau niwed gamblo yng Nghymru. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn ei gwneud mor hawdd â phosibl i gyfeirio'r rhai sydd angen cymorth ar y cyfle cyntaf, ac un o'n hargymhellion o'n grŵp gorchwyl a gorffen ar gamblo oedd edrych ar y llwybr atgyfeirio a'r potensial ar gyfer gwasanaeth triniaeth gamblo arbenigol yng Nghymru. Mae'n hanfodol fod llwybrau'n glir ac yn cael eu deall gan weithwyr proffesiynol a chan unigolion sy'n hunanadnabod fel rhai sydd angen cymorth. Byddwn yn edrych ar hynny eleni, yn ogystal â gweithio gyda Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i ddeall pa ran y gallai gwasanaeth triniaeth arbenigol ei chwarae yma yng Nghymru.

Ac wrth ddod at eich pwynt olaf, Rhianon, fel y gwyddoch, mae rhai o'r ysgogiadau mwyaf dylanwadol i leihau niwed gamblo yn nwylo Llywodraeth y DU. Rydym wedi bod yn aros ers cryn dipyn o amser am Bapur Gwyn arfaethedig a fyddai'n mynd i'r afael â rhai o'r materion allweddol, fel cyfyngiadau ar hysbysebu ac ardoll ar y diwydiant. Rydym wedi cael addewid ei fod ar y ffordd ar sawl achlysur, ac rydym yn siomedig iawn nad oes cynnydd wedi'i wneud hyd yn hyn. Byddwn yn parhau i lobïo Llywodraeth y DU ar y pwynt hwn.

Meddygon Teulu

6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y meddygon teulu yng Nghymru? OQ59223

Mae ystadegau am y gweithlu meddygon teulu yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru. Mae'r cipolwg diweddaraf, ar 30 Mehefin, yn dangos bod 2,301 o feddygon teulu sydd wedi cymhwyso'n llawn. Mae hwn yn cyfateb i gyfanswm amser llawn o 1,562. Mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr, meddygon cyflogedig, meddygon wrth gefn a meddygon locwm gweithredol.

Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb yna. Fe wnes i gynnal cyfarfod cyhoeddus yn Nhywyn fis yn ôl i drafod y problemau sylweddol mae pobl yr ardal yn eu dioddef yn sgil diffyg gwasanaethau iechyd yno. Roedd neuadd Pendre yn orlawn, sydd yn dyst i'r teimladau cryfion yn yr ardal. Roedd gan yr ardal wasanaeth a darpariaeth iechyd rhagorol tan tua phedair blynedd yn ôl. Rŵan maen nhw wedi mynd o gael pedwar meddyg mewn partneriaeth i gael meddygfa o dan reolaeth y bwrdd iechyd gyda dim ond hanner meddyg teulu. Mae gweddill de Meirionnydd yn wynebu dyfodol tebyg, efo nifer o feddygon teulu ar fin ymddeol. Os nad ydyn ni'n ofalus, yna mae yna berygl mai dim ond dau feddyg teulu llawn amser fydd yna ar gyfer de Meirionnydd gyfan yn fuan. Yn wir, mae bron i chwarter o holl feddygon teulu Cymru dros eu 60 ac nid nepell o ymddeol. Mae angen o leiaf dri meddyg teulu arall ar fro Dysynni a Thywyn, ac, wrth gwrs, rhagor ar gyfer gweddill Meirionnydd. Fe hoffwn yn gyntaf, felly, wahodd y Gweinidog i ymweld â Thywyn efo fi, sydd wrth gwrs yn ei rhanbarth, os gwelwch yn dda, ac, yn ail, ofyn iddi a wnaiff hi weithio gyda'r bwrdd iechyd i ddatblygu cynllun recriwtio effeithiol ar fyrder er mwyn denu meddygon teulu i fro Dysynni a de Meirionnydd. Diolch.

14:50

Diolch yn fawr. Wrth gwrs, rŷn ni yn gobeithio y bydd pethau fel datblygu yr ysgol feddygol yn y gogledd yn helpu, ac, wrth gwrs, bydd cyfle wedyn i bobl wneud eu gwaith ymarferol nhw mewn llefydd fel Tywyn. Ac mae'n dda i weld bod yna gynnydd sylweddol yn nifer yr is-raddedigion meddygol yng Nghymru. Mae 47 y cant o bobl sy'n astudio yng Nghymru nawr yn byw yng Nghymru, ac mae 55 y cant i 60 y cant ohonyn nhw'n aros yng Nghymru. Felly, rŷn ni wedi gweld newid mawr yn ddiweddar, ac felly dwi'n meddwl bod hwnna'n beth da. Ond wedyn, mae'n rhaid inni feddwl am le mae pobl eisiau mynd i ymarfer, ac wedyn mae'n rhaid inni sicrhau ein bod ni'n rhoi timau o'u cwmpas nhw. Mae'r un sefyllfa gyda ni yn Solfach, yn agos i ble dwi'n byw—yn union yr un sefyllfa—ond dwi'n meddwl mai beth sydd angen wedyn yw i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu gweithio mewn timau, lle mae hwnna'n briodol. Ond, wrth gwrs, ar ddiwedd y dydd, mae'n rhaid ichi gael meddygon teulu sydd â'r cymhwyster i wneud y gwaith yna. Mae'n bwysig bod pobl yn deall bod yna bosibilrwydd iddyn nhw fynd i bobl eraill, ond, wrth gwrs, yn y pen draw, mae angen meddyg teulu arnoch chi os oes angen y help meddygol sbesiffig y mae dim ond meddyg teulu yn gallu ei roi.

Weinidog, nid oes amheuaeth ein bod yn wynebu argyfwng ym maes gofal sylfaenol, gydag un o bob pum practis meddyg teulu yn cau yn y 10 mlynedd diwethaf. Ar yr olwg gyntaf, mae'n ymddangos bod cynnydd wedi bod yn nifer y meddygon teulu yn ystod y cyfnod hwnnw, ond mae'n amlwg fod practisau yn ei chael hi'n anodd recriwtio meddygon teulu ac felly'n cael eu gorfodi i gau. Ar ben hynny, canfu arolwg gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol y llynedd nad oedd traean o'r meddygon teulu yng Nghymru yn disgwyl bod yn y proffesiwn ymhen pum mlynedd. Dangosodd data blynyddol diweddaraf Llywodraeth Cymru ar feddygon teulu cyfwerth ag amser llawn mai dim ond hanner y meddygon teulu sy'n gweithio amser llawn mewn gwirionedd. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, nid yw 40 y cant o'r meddygon teulu yn gweithio amser llawn, sy'n syfrdanol. Ym mis Tachwedd, gofynnais i'r Prif Weinidog am etholwyr ym Mhorthcawl yn methu cael apwyntiadau, er bod y practis yn gweithio'n galed i weld cleifion. Fe wnaeth fy sicrhau y byddai mwy o amser clinigwyr yn cael ei ryddhau i helpu meddygon teulu, ond mae fy etholwyr yn dal i'w chael hi'n anodd cael apwyntiad ym Mhorthcawl. Felly, Weinidog, pa fesurau brys rydych chi'n eu rhoi ar waith i sicrhau bod meddygon teulu yn cael eu denu i waith amser llawn yn eu practisau a bod cleifion, fel fy etholwyr i, yn rhydd i'w gweld wyneb yn wyneb?

Wel, diolch yn fawr, ac yn amlwg, roedd y pandemig yn golygu bod meddygon teulu wedi dechrau gweithio mewn ffordd wahanol, ac rwy'n meddwl bod llawer o'r cyhoedd wedi croesawu'r ffordd newydd hon a'r dull newydd o weithredu. Felly, nid ydym yn mynd i ddychwelyd i sefyllfa lle'r ydym yn mynnu bod pawb yn cael eu gweld wyneb yn wyneb gan feddyg teulu, ond yr hyn rwyf am ei ddweud yw bod gennym gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol newydd ar waith, sy'n golygu, er enghraifft, fod hygyrchedd meddygon teulu wedi'i nodi yn y contract. Mae yna rai sy'n perfformio'n well na'i gilydd, ac yn amlwg, mae angen inni edrych ar yr arferion gorau. Ond gallaf ddweud wrthych nad wyf yn credu fy mod erioed wedi gweld meddygon teulu yn gweithio'n galetach nag y maent yn ei wneud nawr. Roedd yna adeg ym mis Rhagfyr lle cafwyd 400,000 o gysylltiadau gan feddygon teulu yng Nghymru mewn wythnos—mae hwnnw'n swm rhyfeddol o waith sy'n cael ei wneud ganddynt. A gallaf ddweud bod mwy o feddygon teulu yng Nghymru nag sydd yn Lloegr fesul y pen o'r boblogaeth, a'r hyn a welsom yw cynnydd o 15 y cant rhwng 2017 a 2021. Ac mae'n anodd iawn; ni allwch orfodi pobl i weithio amser llawn. Yn wir, rhan o'r hyn sydd angen inni ei wneud yw sicrhau bod pobl yn teimlo y gallant weithio'n hyblyg, oherwydd y peth olaf rydym eisiau ei wneud yw colli pobl sy'n barod i weithio'n hyblyg a rhoi unrhyw gyfran o'u hamser. Rwy'n meddwl y byddai'n well gwneud yn siŵr ein bod yn eu cadw yn y system mewn rhyw ffordd yn hytrach na'u colli yn gyfan gwbl.

Mynediad at Ddeintyddion

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at ddeintyddion yng ngogledd Cymru? OQ59211

Mae mynediad at ddeintyddiaeth y GIG yng ngogledd Cymru wedi gwella'n sylweddol ers cyflwyno mesurau gweithgarwch amgen ym mis Ebrill 2022. Mae 96% o ddeintyddfeydd sy'n cynnig gwasanaethau'r GIG wedi dewis y mesurau diwygiedig hyn, sy'n cynnwys cymelliadau i dderbyn cleifion deintyddol GIG newydd, ac mae hyn wedi caniatáu i 26,000 o gleifion newydd gael mynediad at wasanaethau deintyddol yn y 10 mis cyntaf.

14:55

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Fel un o'r bobl sydd heb gofrestru gyda deintydd GIG yng ngogledd Cymru, yr wythnos diwethaf, penderfynais gysylltu â phob deintyddfa yn y gogledd ar wefan y bwrdd iechyd i weld a fyddent yn fodlon derbyn claf newydd fel fi. Cysylltais â 69 o ddeintyddfeydd, siaradais â 57 o'r practisau hynny, ac yn syfrdanol, dim ond pedwar o'r practisau yng ngogledd Cymru gyfan a oedd yn derbyn cleifion newydd, ond roedd y pedwar a oedd yn fodlon eu derbyn ond yn fodlon fy rhoi ar restr aros am hyd at ddwy flynedd. Yn ogystal â hyn, roedd un grŵp adnabyddus o ddeintyddion yn dweud wrth alwyr nad oeddent, oherwydd rhaglen diwygio deintyddiaeth Llywodraeth Cymru, yn gallu gweld cleifion y GIG i gael archwiliadau arferol, ac roeddent yn dweud hyn yn agored. Mae pwyllgor deintyddol gogledd Cymru wedi lleisio pryderon hefyd, gan ddweud eu bod ar fin cyrraedd pen eu tennyn gyda deintyddiaeth y GIG. Felly, o gofio hyn, Weinidog, pa sicrwydd y gallwch ei roi, pan fyddwch yn gwneud eich datganiad yr wythnos nesaf ar ddiwygio deintyddiaeth, y bydd yn gosod llwybr i drigolion gogledd Cymru gael mynediad at ddeintyddiaeth y GIG yn y dyfodol agos iawn? 

Wel, Sam, rwy'n eich canmol ar y gwaith ymchwil anhygoel rydych wedi'i wneud, oherwydd mae'n llawer iawn o waith ymchwil. Gallaf ddweud bod yna 26,000 o gleifion newydd. Nawr, yn amlwg, rydym yn cyrraedd diwedd y flwyddyn ariannol ac fe fyddwn mewn sefyllfa wahanol ym mis Ebrill eto. O ran y sefyllfa gydag archwiliadau—. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod pobl yn deall bod y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal wedi dweud ychydig flynyddoedd yn ôl, os oes gennych ddannedd iach, na ddylech fod angen mynd am archwiliad am ddwy flynedd, ac eto yr hyn sy'n digwydd yw ein bod i gyd ar y felin draed hon lle'r ydym yn mynd at ddeintyddion, ac yna, mae'n rhaid ichi eu talu i weld dannedd iach. Gadewch imi fod yn glir fy mod yn dilyn canllawiau NICE ar hyn, ac yn amlwg, mae hynny'n llawer haws i ddeintyddion na gweld cleifion cymhleth newydd. Felly, rwy'n deall bod yna ychydig o wrthwynebiad, a dyna pam y byddaf yn cyfarfod â Chymdeithas Ddeintyddol Prydain yn ystod yr wythnosau nesaf i wrando ar eu pryderon yn uniongyrchol. 

Prynhawn da, Weinidog, ac mae gwaith ymchwil Sam Rowlands wedi creu argraff fawr arnaf innau hefyd. A gaf fi adleisio rhai o'r sylwadau y mae Sam wedi eu gwneud? Mae'n anodd iawn i bobl allu cael mynediad at ddeintyddion y GIG, ac rwy'n ymwybodol, Weinidog, eich bod yn edrych ar opsiynau ynghylch hyn. Ond roeddwn am ganolbwyntio ar wasanaethau deintyddol cymunedol yng ngogledd Cymru ac mewn mannau eraill yng Nghymru hefyd. Rydym i gyd yn deall y gwerth enfawr y maent yn ei ddarparu i'n cymunedau drwy ddiwallu anghenion deintyddol rhai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau, ac rwy'n adleisio fy niolch am waith y gweithwyr proffesiynol hynny sy'n darparu'r gwasanaeth hwnnw. Mae dwy ran i'r hyn yr hoffwn ei ofyn, os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, a wnewch chi gadarnhau eich bod yn bwriadu clustnodi'r cyllid ar gyfer gwasanaethau deintyddol cymunedol fel y gall yr adnoddau ganolbwyntio'n iawn ar anghenion y defnyddwyr mwyaf bregus? A hefyd, a wnewch chi gadarnhau—ac rwyf wedi codi hyn gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol hefyd, y gallaf weld ei bod yn y Siambr y prynhawn yma—fod y gwasanaethau deintyddol cymunedol yno hefyd i ddiwallu anghenion ffoaduriaid yng Nghymru? Diolch yn fawr iawn. 

Diolch yn fawr. Wel, gallaf wisgo cnawd am ychydig o hyn yn y datganiad yr oeddwn wedi gobeithio ei wneud yr wythnos diwethaf ond y byddaf yn ei wneud, rwy'n meddwl, yr wythnos nesaf ar ddeintyddiaeth. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod yn gwerthfawrogi, fel y dywedwch, y gwaith y mae'r gwasanaeth deintyddol cymunedol wedi'i wneud, ac yn amlwg mae ganddynt rôl yn darparu gofal i bobl sy'n fregus ac oherwydd y bregusrwydd hwnnw, na ellir eu gweld mewn gwasanaethau deintyddol cyffredinol. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig bod rhaid gweld bregusrwydd fel rhywbeth aml-ffactor, a dylid ei ystyried ar sail anghenion unigolion. Er enghraifft, byddem yn ystyried pobl sydd ag anabledd dysgu yn fregus, ond nid yw hynny o reidrwydd yn golygu eu bod yn cael gofal gan wasanaeth deintyddol cymunedol. Felly, rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod yn ystyried ac yn trin pob achos ar sail unigol.  

Endometriosis

8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi menywod ag endometriosis yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ59227

Dwi wedi ymrwymo i’r blaenoriaethau sydd wedi’u gosod yn y datganiad ansawdd iechyd menywod a merched, ac mae NHS Cymru yn datblygu cynllun iechyd menywod 10 mlynedd ar ei gyfer. Mae hyn yn cynnwys y disgwyliad y bydd pob bwrdd iechyd yn sicrhau mynediad teg ac amserol i driniaeth briodol a chefnogaeth ar gyfer endometriosis.

15:00

Diolch yn fawr iawn. Wel, gan ei bod hi heddiw yn Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod, ac yn Fis Ymwybyddiaeth Endometriosis, fel rŷch chi wedi fy nghlywed i'n dweud o'r blaen yn y Siambr, dwi'n cael llawer iawn o ohebiaeth gan ferched yn y gorllewin sydd yn dangos nad yw'r ddarpariaeth ar gyfer menywod sy'n dioddef o endometriosis yn hanner digon da.

O ran y cynllun iechyd menywod, ar draws y 29 cyflwr lle mae anghydraddoldeb rhywedd yn bodoli, gan gynnwys endometriosis, rŷch chi wedi sôn bod NHS Cymru yn mynd i ddatblygu'r cynllun iechyd menywod yma, ond dwi'n synnu braidd gan ystyried y ffaith bod iechyd menywod yn bodoli mewn cyd-destun llawer ehangach na jest iechyd yn unig. Mae'n ymwneud â thlodi, mae'n ymwneud â deiet, mae'n ymwneud â chyflwr tai, ac yn y blaen. Dwi'n synnu mai nid chi fel Llywodraeth sydd yn arwain ar hyn, fel sydd yn digwydd yn yr Alban ac yn Lloegr. Allech chi gadarnhau i ni y bydd y cynllun iechyd menywod yma yn mynd i'r afael â chau'r bwlch o ran anghydraddoldeb rhywedd, fel bod merched yng Nghymru yn derbyn llawer gwell cefnogaeth?

Diolch yn fawr. Dwi'n gobeithio bod y Siambr wedi deall pa mor committed ydw i i'r achos yma. Dwi eisiau hefyd nodi ei bod hi'n Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod, a dwi eisiau cymryd y cyfle yma yn arbennig i ddiolch i'r holl fenywod sy'n gweithio yn yr NHS ac yn ein gwasanaeth gofal ni. Maen nhw'n fwyafrif mawr o ran y nifer sy'n gweithio yna ac, felly, dwi eisiau cymryd y cyfle ar y diwrnod arbennig yma i ddiolch iddyn nhw.

Fel rŷch chi'n dweud, mae gyda ni equality statement ar fenywod sydd wedi dangos yn union ble rŷn ni eisiau mynd, a beth yw ein disgwyliadau ni, ond, o ran perchnogaeth, mae'n bwysig iawn mai'r NHS sydd biau hwn fel eu bod nhw'n teimlo'r cyfrifoldeb i wneud yn siŵr eu bod nhw'n delifro arno fe. So, dwi wedi gwneud yn siŵr mai nhw sydd yn berchen arno fe. Ac rŷn ni'n deall, pan fo'n dod i iechyd, fod yn rhaid edrych ar bob math o bethau, fel tai a thlodi, ond dwi'n meddwl ei bod yn bwysig i wneud yn siŵr, y tu fewn i'r NHS, ein bod ni'n cael y ffocws mewn lle lle dwi ddim yn meddwl ei bod hi wedi bod yn y gorffennol. Felly, gwneud yn siŵr, er enghraifft, pan fo'n dod i astudiaethau, ein bod ni'n edrych ar sut mae'r cyffur yma yn effeithio ar fenyw, sut mae pobl yn cael eu trin pan fyddan nhw'n mynd i GP. Mae'n amlwg ac mae lot o dystiolaeth yn dangos bod menywod a dynion, efallai, yn cael eu trin tipyn bach yn wahanol. Felly, dwi eisiau gwneud yn siŵr mai nhw sydd yn berchen arno fe, achos dwi'n meddwl bod mwy o siawns y bydd pethau'n newid os mai nhw sy'n berchen arno fe, a nhw sy'n ei ddatblygu fe, yn hytrach na fi jest yn rhoi comisiwn iddyn nhw. 

3. Cwestiynau Amserol

Cyn imi alw'r cwestiynau amserol heddiw, rwy'n siŵr fod ein meddyliau gyda theuluoedd y tri unigolyn ifanc a laddwyd yn Llaneirwg dros y penwythnos. Rwy'n cofio gwylio un ohonynt, Rafel, yn chwarae rygbi yn yr un tîm â fy nai yn yr ysgol gynradd, yn chwarae i Glwb Rygbi Cymry Caerdydd—talent mor ifanc a chyflym ar y cae rygbi. Ar ein rhan ni oll yn y Senedd, cydymdeimlwn â ffrindiau a theuluoedd Eve, Darcy a Rafel, a dymunwn wellhad llwyr i Sophie a Shane. 

Peredur Owen Griffiths, felly, i ofyn y cwestiwn amserol.

Diolch. Hoffwn adleisio sylwadau'r Llywydd, a chydymdeimlo â ffrindiau, teuluoedd ac yn wir, â'r gymuned yr effeithiwyd arni gan y digwyddiad trasig hwn. 

Y Ddamwain Angheuol yn Llaneirwg

1. A yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru yn dilyn y ddamwain angheuol yn Llaneirwg? TQ740

Diolch yn fawr, Peredur Owen Griffiths, a diolch yn fawr, Lywydd, am eich sylwadau chi hefyd.

Mae hon yn drasiedi enfawr, ac mae fy meddyliau gyda theuluoedd a ffrindiau'r bobl ifanc a oedd yn y ddamwain ar yr A48. Bydd hwn yn gyfnod eithriadol o anodd i bawb yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad ofnadwy hwn. Rwy'n deall bod Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru wedi cyfeirio'r achos at sylw Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu. 

15:05

Diolch am yr ateb yna, Weinidog.

Achosodd y ddamwain a hawliodd fywydau tri o bobl ifanc yn dilyn noson allan yng Nghasnewydd gryn ofid i'r cyhoedd, ac mae dau unigolyn arall yn parhau i fod yn yr ysbyty yn ymladd am eu bywydau. Mae ymateb yr heddlu bellach yn destun ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu. Byddai'n anghywir achub y blaen ar unrhyw ganfyddiadau a allai ddeillio o ymchwiliad o'r fath, ond ni allwch anwybyddu’r anniddigrwydd cyhoeddus ymhlith teuluoedd a ffrindiau'r rhai a oedd yn y ddamwain.

Y bore yma, adroddodd y BBC fod Winston Roddick, cyn-Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, wedi gwneud sylw am ymateb yr heddlu. Roedd yn synnu ynghylch y diffyg gweithredu, o ystyried adroddiadau bod ffonau a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol y bobl ifanc a oedd yn y ddamwain wedi bod yn segur rhwng eu diflaniad yn ystod yr oriau mân ddydd Sadwrn hyd nes iddynt gael eu darganfod bron i ddeuddydd yn ddiweddarach.

Er bod plismona'n swyddogaeth a gadwyd yn ôl yn San Steffan, mae hwn yn fater a ddylai gynnwys y Llywodraeth hon oherwydd ei oblygiadau i ddiogelwch cymunedol. Pa fewnbwn y gallwch chi ei roi i broses flaenoriaethu ac uwchraddio'r heddlu mewn perthynas ag unigolion coll er mwyn sicrhau bod modd osgoi digwyddiadau o'r fath yn y dyfodol ac fel bod modd gwella diogelwch cymunedol? Diolch.

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw. Gydag achos mor eithriadol o drasig, mae'n sefyllfa lle rydym yn edrych ar hyn ac yn gobeithio y gallwn wneud popeth i gefnogi teuluoedd a ffrindiau'r rhai yr effeithiwyd arnynt. A gawn ni ddweud hefyd ein bod yn anfon ein dymuniadau gorau, ar draws y Siambr hon rwy'n gwybod, at y rhai a gafodd eu hanafu'n ddifrifol yn y ddamwain? Gobeithiwn y cânt wellhad llwyr.

A gaf fi ddweud bod cyswllt rheolaidd wedi bod gyda'r heddlu ynglŷn â'r mater hwn? Wrth gwrs, nid yw cyfiawnder troseddol wedi'i ddatganoli i Gymru a Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol amdano, ond rwy'n deall bod Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru, fel y dywedais, wedi cyfeirio'u hunain at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu. Byddant yn edrych ar beth yn union a ddigwyddodd, a'r hyn a ddigwyddodd o ran amgylchiadau'r drasiedi ofnadwy hon, gan ystyried y pwyntiau rydych chi wedi'u codi y prynhawn yma.

Rwyf hefyd yn credu bod rhaid inni gydnabod y galar cyhoeddus eithriadol a fynegwyd yn yr wylnos i'r dioddefwyr a ddigwyddodd ar safle'r ddamwain neithiwr. Aeth cannoedd i'r cyfarfod trist a dwys, a orffennodd gyda dau funud o dawelwch i gofio am y rhai a fu farw. Ond rwy'n credu bod angen inni aros nawr am ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, sydd ar y gweill. 

Rwy'n uniaethu â'r datganiad a wnaeth y Llywydd, ac mae fy ngrŵp innau hefyd yn uniaethu â'r datganiad hwnnw, ac mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda'r teuluoedd i gyd.

Rwyf eisiau gofyn i chi, Weinidog, os caf—yn amlwg, rwy'n deall pam y cafodd ei gyfeirio at awdurdod cwynion yr heddlu, ond mae'r ffordd, yr A48, yn rhan o'r asiantaeth gefnffyrdd, yn agos at yr M4. Pan gaiff hysbysiad am unigolion coll ei gyhoeddi gan yr heddlu, pa asiantaethau dan nawdd Llywodraeth Cymru a fyddai'n cael gwybod am yr hysbysiad am unigolion coll? Rwy'n meddwl yn benodol am y swyddogion priffyrdd sydd, yn amlwg, yn cael eu talu a'u darparu gan Lywodraeth Cymru, ac sy'n teithio ar hyd y rhan hon o'r ffordd, i wneud cysylltiadau â'r M4. Wrth edrych ar y lluniau, maent yn dangos yn glir fod damwain wedi bod ar y safle, gyda choed yn gorwedd ar y llawr a bod y cerbyd wedi gadael y ffordd ac wedi mynd ar yr arglawdd. Felly, a yw'r swyddogion priffyrdd sy'n rhan o'r asiantaeth draffyrdd a chefnffyrdd yn cael eu hysbysu pan fydd yr heddlu'n gwneud hysbysiad am unigolion coll? Ac os ydynt yn cael eu hysbysu, pa gamau a roddwyd ar waith ganddynt? 

Diolch, Andrew R.T. Davies. Yn amlwg, yn fy ymateb, dywedais y bydd holl amgylchiadau'r drasiedi ofnadwy hon yn cael eu hystyried gan Swyddfa Annibynnol Cwynion yr Heddlu. Rydym yn gwybod bod Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r ddamwain angheuol hon ar yr A48 yn ardal Llaneirwg, Caerdydd. Yn amlwg felly, bydd yr holl amgylchiadau'n cael eu hystyried yn yr ymchwiliad hwnnw. 

Mae'r newyddion hwn wedi bod yn gwbl dorcalonnus, ac mae fy nghydymdeimlad dyfnaf a mwyaf diffuant â theulu a ffrindiau Eve, Darcy a Rafel ar yr adeg wirioneddol erchyll hon, ac mae fy meddyliau gyda Sophie a Shane, sydd mewn cyflwr difrifol, ac rwy'n dymuno gwellhad buan iddynt. Mae'r digwyddiad trasig hwn wedi brawychu pobl ar draws y wlad, ac mae'n cael ei deimlo'n ddwfn yng Nghasnewydd. Mae cymuned Maesglas yn fy etholaeth, sef cartref Eve, Darcy a Sophie, yn un glos.

Fe wnaeth Heddlu Gwent, fel y dywedoch chi, a Heddlu De Cymru gyfeirio'r achos at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, a mater iddynt hwy nawr yw cyflawni eu gwaith a cheisio gweld beth a ddigwyddodd. Mae'n bwysig ein bod yn parchu dymuniadau'r teuluoedd drwy roi'r preifatrwydd a'r gofod y maent eu hangen ar adeg gwbl erchyll. Weinidog, cynhaliwyd gwylnos neithiwr, ac roedd llawer o'r gymuned leol yng Nghasnewydd a Maesglas yn bresennol. Fe helpodd i ddangos cymaint y mae colli'r bobl ifanc hyn yn ei olygu i'r gymuned. A wnaiff y Gweinidog fy sicrhau y byddwch yn cadw llygad barcud ar waith Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, ac yn gweithio gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu a'r gymuned drwy gydol y broses hon?  

15:10

Diolch yn fawr iawn, Jayne Bryant, am gydnabod yn union beth mae hyn yn ei olygu i chi a'ch cymuned, y bobl rydych chi'n eu cynrychioli ym Maesglas ac ar draws de Cymru, ond yn enwedig i'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt mewn modd mor drasig. Ac fe gafodd hynny ei gydnabod a'i fynegi yn yr wylnos, oni chafodd? Mae hyn yn rhywbeth sy'n mynd i fod gyda ni yng Nghymru, yn y cymunedau, ac yn wir, yn y Senedd hon, wrth inni weithio drwy'r ymchwiliad ac wrth inni ddysgu beth fydd ei ganlyniad. Byddaf yn sicr yn cadw llygad barcud ar y gwaith, a thrwy fy nghysylltiad â'r comisiynwyr heddlu a throseddu sy'n ein cynrychioli yng Nghymru, byddwn yn gofyn am unrhyw ddiweddariadau y gallwn eu cael ar yr amgylchiadau.

Hoffwn ddweud hefyd ei bod hi'n bwysig i'r teuluoedd ein bod yn parchu eu preifatrwydd a'u galar, ond rwy'n gwybod, er mwyn cydnabod y gefnogaeth eang a'r galar a'r cariad at y rhai sy'n galaru a chariad at y teuluoedd a'u ffrindiau, cefais sicrwydd fod swyddogion cyswllt teuluol yn gweithio gyda'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt. 

4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiadau 90 eiliad. Mae'r datganiad cyntaf gan Natasha Asghar. 

Diolch o galon am roi cyfle imi gyfrannu heddiw, Lywydd. Wrth inni nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod heddiw, rwy'n gobeithio y bydd yr holl Aelodau yn ymuno â mi i ddathlu'r grwpiau, y sefydliadau a'r busnesau yng Nghymru sy'n gweithio'n galed i greu gweithlu mwy cytbwys a blaengar, ac rwy'n canmol yr holl fenywod a dynion allan yno sy'n gynghreiriaid, pan ddaw'n fater o greu mwy o gydraddoldeb i fenywod. Mae gweld menywod yn goresgyn rhwystrau ac yn chwalu drwy nenfydau gwydr mewn gwahanol feysydd ledled Cymru yn llenwi fy nghalon â llawenydd.

Mynychais dderbyniad Openreach Cymru yn y Senedd fis diwethaf, ynghyd â phrentisiaid a pheirianwyr, i glywed am ymrwymiad y cwmni i adeiladu gweithlu amrywiol a chynhwysol. Mewn diwydiant sydd wedi cael ei ddominyddu'n draddodiadol gan ddynion, gwelwn fwy a mwy o fenywod ar fyrddau, ac fel cyfarwyddwyr yma yng Nghymru, menywod tra galluog a phrofiadol a menywod tra chymwys yn y byd busnes hefyd.

Heddiw, roeddwn yn ddigon ffodus i fod yn rhan o drafodaeth banel Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Tata Steel, ac roedd yn wych gweld cymaint o ddynion, mewn gwirionedd, sy'n gweithio'n galed i helpu menywod i lwyddo. Wrth gwrs, mae ffordd bell i fynd eto, ond mae'n wych clywed enghreifftiau cadarnhaol o ddiwydiannau, gan gynnwys ein Senedd ein hunain yng Nghymru, sy'n gwneud cynnydd ar wella mynediad cyfartal at gyflogaeth, hyfforddiant a datblygu gyrfa. Hefyd rhaid canmol yr holl arwresau allan yno, sy'n dewis herio stereoteipiau a helpu i greu newid cadarnhaol i fenywod ym mhob man. 

Byddaf bob amser yn dweud wrth bob menyw sydd eisiau gwireddu breuddwyd benodol, 'Peidiwch byth â gadael i sylwadau, beirniadaeth ac adborth negyddol rhywun eich rhwystro rhag y bywyd rydych chi'n ei ddymuno, yn breuddwydio amdano ac yn dyheu am ei gyflawni'. Dywedodd dyn doeth wrthyf unwaith, 'Pam y dylai Sul y Mamau ddigwydd ar un diwrnod o'r flwyddyn yn unig? Dylid ei ddathlu bob diwrnod o'r flwyddyn.' A gobeithio y bydd menywod yn cael eu dathlu bob dydd o bob mis o bob blwyddyn yn y dyfodol. Felly, Diwrnod Rhyngwladol y Menywod hapus i chi. 

Yr wythfed o Fawrth yw Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, ac rwy'n falch iawn fod Hyb Treftadaeth Canolbarth Cymru yn nodi'r digwyddiad yn fy etholaeth drwy dalu teyrnged i waddol Laura Ashley yng nghanolbarth Cymru.

Yn 2015, daeth yr hyb â 175 o aelodau o gwmni Ashley at ei gilydd mewn aduniad mawreddog, ac o'r digwyddiad hwn gwnaed ymdrech i gadw archifau ac atgofion y rhai a fu'n gweithio gyda'r teulu Ashley. Gwnaeth un ohonynt gwiltiau o'r printiau gwreiddiol yn yr 1970au, a bydd rhai ohonynt i'w gweld yn arddangosfa gwiltiau Laura Ashley yn llyfrgell y Drenewydd, arddangosfa sy'n dechrau heddiw ac a fydd yn para tan 1 Ebrill, ac edrychaf ymlaen at ei mynychu. Mae cadeirydd Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched wedi derbyn eu gwahoddiad, ynghyd â Sefydliadau'r Merched eraill o bob rhan o Gymru a sir Drefaldwyn. Mae'r hyb yn gobeithio y bydd Cymru ryw ddydd yn gartref i amgueddfa Laura Ashley a fydd yn dod yn atyniad byd-eang, lle bydd ei bywyd a'i gwaith yn cael eu curadu i'r holl fyd ei weld. Laura Ashley yw un o enwau enwocaf sir Drefaldwyn. Agorodd ei siop gyntaf ym Machynlleth, a bu'n byw uwch ei phen gyda'i theulu cyn symud i lawr y lôn i Garno.

Fel sylfaenydd yr hyb treftadaeth a'r pŵer y tu ôl i'r genhadaeth uchelgeisiol i ddiogelu gwaddol Laura Ashley yng nghanolbarth Cymru, hoffwn longyfarch a diolch i Ann Evans, sydd bellach wedi cael caniatâd i ddefnyddio a benthyg archifau ar gyfer y dyfodol. Fel menyw fusnes lwyddiannus iawn ym Mhrydain wedi'r rhyfel, mae Laura Ashley yn cael ei hystyried yn eicon benywaidd, a hynny'n haeddiannol. Felly, rwy'n falch iawn o gael cyfle i goffáu ei gwaddol, gwaith yr hyb treftadaeth a Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, i gyd gyda'i gilydd.

15:15

Yr wythnos hon fe wnaeth Helen Ward, sydd wedi sgorio mwy o goliau na neb dros Gymru, gyhoeddi ei hymddeoliad o'r byd pêl-droed. Gwnaeth Helen gyfraniad enfawr i bêl-droed gan chwarae 105 o gemau dros Cymru, a sgorio 44 o goliau. Mae'n un o ddim ond naw o bobl a gynrychiolodd Gymru ar y cae pêl-droed dros 100 o weithiau. Daeth Helen â chymaint o atgofion arbennig i bawb ohonom fel cefnogwyr pêl-droed yn ystod ei gyrfa, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddi am hynny.

Lywydd, pa ffordd well na Diwrnod Rhyngwladol y Menywod i ddathlu cyflawniadau rhyfeddol Helen a chydnabod y rhan enfawr a chwaraeodd fel esiampl i gynifer o bobl nawr ac mewn blynyddoedd i ddod? Fe wnaeth Helen i bawb ohonom deimlo'n falch o fod yn Gymry, ac rwy'n gwybod ei bod hi'n falch o wisgo'r crys hwnnw. Lywydd, os caf, fe wnaf orffen drwy ddyfynnu geiriau Helen ei hun:

'Ni fydd y balchder rwy'n ei deimlo bob tro y clywaf y geiriau; "Mae Hen Wlad Fy Nhadau" a'r ymdeimlad o berthyn byth bythoedd yn fy ngadael.'

Helen, oddi wrthym ni yma yn Senedd Cymru, diolch yn fawr.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)—Data biometrig mewn ysgolion

Eitem 5 sydd nesaf, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, data biometrig mewn ysgolion. Galwaf ar Sarah Murphy i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8131 Sarah Murphy, Jane Dodds

Cefnogwyd gan Carolyn Thomas, Jack Sargeant

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod yr arfer cyffredinol o gasglu a defnyddio data biometreg mewn ysgolion ledled Cymru yn peryglu data personol a phreifatrwydd plant.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n:

a) sicrhau bod Erthygl 16 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sef hawl plentyn i breifatrwydd, yn cael ei gadarnhau o fewn Cymru;

b) sicrhau bod ysgolion a lleoliadau gofal plant yn defnyddio technolegau nad ydynt yn fiometrig ar gyfer gwasanaethau, yn hytrach na defnyddio systemau biometrig a allai beryglu diogelwch data biometreg plant;

c) sicrhau bod asesiadau risg priodol a phrosesau caffael cwmnïau technoleg mewn lleoliadau addysgol yn cael eu rhoi ar waith;

d) cydnabod y niwed posibl o'r defnydd anrheoledig o ddata biometreg;

e) cydnabod diffyg caniatâd pobl ifanc a phlant o fewn y defnydd cyfredol o ddata biometreg o fewn ysgolion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr i Jane Dodds, a gyd-gyflwynodd y cynnig hwn, ac i Carolyn Thomas a Jack Sargeant a'i cefnogodd. Rwy'n gwneud y cynnig.

Gofynnais am ddadl ar ddata biometrig mewn ysgolion ar sawl achlysur ers cael fy ethol, felly mae hwn yn ddiwrnod arwyddocaol, ac rwy'n falch ac yn obeithiol y gallwn drafod yr agweddau ar y gyfraith, rheoleiddio a chydraddoldeb a hawliau dynol gyda'n gilydd heddiw. Hoffwn ddiolch i Pippa King a Jen Persson o Defend Digital Me a Madeleine Stone yn Big Brother Watch am eu hymchwil a'u help cyson gyda hyn, a byddaf yn pwyso ar y gwaith hwnnw heddiw.

Rwy'n galw ar ein Gweinidog addysg i ysgrifennu at bob ysgol yng Nghymru am foratoriwm ar dechnoleg fiometrig a defnydd o ddata corfforol mewn ysgolion hyd nes y bydd y Comisiynydd Gwybodaeth yn cynnal asesiad o'r defnydd o ddata plant ar draws systemau addysgol y DU—byddai hyn yn cynnwys wyneb, olion bysedd, sganiau llygaid, sganiau gwythiennau a chledrau dwylo, cerddediad a chanfod a phrosesu emosiynol—yn ogystal ag ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ofyn pa asesiad a wnaed bod y technolegau hyn yn cyd-fynd â Deddf Diogelu Data y DU 2018 i amddiffyn plant ar raddfa fawr rhag gor-ddefnydd o ddata biometrig yn y sector hwn, a byddaf yn nodi pam.

Fel gyda'r rhan fwyaf o newidiadau i dechnoleg data yn ein mannau cyhoeddus, deuthum yn ymwybodol fod casglu data olion bysedd yn digwydd mewn ysgolion yn anecdotaidd. Cefais wybod gan rieni ei fod wedi cael ei gyflwyno gan ysgolion yn fy etholaeth, ac yna, pan ofynnais yn ehangach i rieni a myfyrwyr os oedd hyn yn digwydd mewn ysgolion eraill, a ble, cefais fy synnu wrth ddarganfod ei fod yn hynod gyffredin. Gofynnais wedyn a ofynnwyd am ganiatâd i gyflwyno hyn mewn ysgolion, a dangoswyd un llythyr i mi a gafodd ei anfon at rieni i ofyn am eu llofnod i ganiatáu i ddata olion bysedd eu plant gael ei gasglu a'i storio i'w ddefnyddio'n gyfnewid am dâl am brydau ysgol. Dywedai, ac rwy'n dyfynnu, 'Os ydych chi'n dewis peidio â chael eich plant ar system fiometrig, bydd angen dyrannu cod PIN pedwar digid. Sylwch nad oes gan y codau PIN yr un lefel o ddiogelwch, a chyfrifoldeb eich plentyn fydd cofio'r cod a'i gadw'n ddiogel bob amser.'

Weinidog, ni allaf bwysleisio hyn ddigon: nid yw data biometrig yn fwy diogel na chod PIN neu gyfrineiriau. Gellir ailosod cyfrineiriau a chodau PIN. Ar ôl i'ch data biometrig gael ei beryglu, mae'n cael ei beryglu am oes. Mae'n bosibl y bydd yn atal y plant am weddill eu bywydau rhag gallu defnyddio eu holion bysedd am resymau diogelwch neu beth bynnag a ddymunant. Mae hyn yn rhannol oherwydd nad yw hacio data'n ddigwyddiad anghyffredin. Rydym wedi ei weld yn GIG Lloegr, yr Heddlu Metropolitanaidd a grŵp bancio Lloyds. Mae cyrff cyhoeddus sydd â lefelau uchel o ddiogelwch wedi gweld eu data'n cael ei ddatgelu, yn aml gyda chanlyniadau na ellir eu rhagweld. Y gwir amdani yw nad yw ysgol gynradd neu uwchradd yn mynd i allu fforddio na goruchwylio'r lefel hon o ddiogelwch, ac felly ni allant ymrwymo i sicrhau bod data personol plant yn ddiogel. Nid rhagdybio y gallai hyn ddigwydd rwyf i; mae wedi digwydd. Ym mis Medi 2022, nododd rhieni yn yr Unol Daleithiau eu bod wedi cael delwedd anweddus mewn memyn ar ôl i hacwyr dargedu'r ap ysgol Seesaw, sydd â 10 miliwn o ddefnyddwyr, gan gynnwys athrawon, myfyrwyr ac aelodau teuluol. Cefais wybod yr wythnos hon fod yr ap Seesaw yn cael ei gyflwyno mewn ysgol gynradd yn fy etholaeth, fel y mae ar draws pob un o'ch etholaethau chi hefyd, rwy'n siŵr.

Mae rhai pobl wedi cwestiynu rôl amgryptio ac a all hyn gynnig y diogelwch sydd ei angen i ddiogelu data myfyrwyr sy'n cael ei gasglu mewn ysgolion, drwy sicrhau na all hacwyr wyrdroi cyfrinair neu allwedd. Ond mae'n rhaid inni ystyried bod rhaid i ddata biometrig plentyn fod yn ddiogel am ei oes—felly, chwech i wyth degawd—ac mae'n amhosibl dweud o dan ein system bresennol y gall data biometrig plentyn fod yn ddiogel am y 70 mlynedd a mwy nesaf. Gall y Swyddfa Gartref a'r heddlu wneud hyn nawr mewn gwirionedd.

O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, GDPR, dylid dileu data myfyrwyr pan fyddant yn gadael yr ysgol, ond mae myfyrwyr sy'n dychwelyd i'w hysgolion ar ôl graddio wedi sylweddoli bod systemau biometrig yn dal i adnabod eu holion bysedd mewn llawer o achosion.

Felly, beth a wnaethom hyd yma yng Nghymru? Nôl yn 2021, cysylltais â Llywodraeth Cymru, nad oedd yn ymwybodol fod ysgolion yn defnyddio'r dechnoleg yma na phwy oedd yn gwerthu'r dechnoleg i'n hysgolion. Mewn ymateb, bu Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru Jeremy Miles yn gweithio gydag ysgolion a phobl ifanc i egluro canllawiau anstatudol i ysgolion yng Nghymru, ac nad oes amgylchiadau lle caiff ysgol neu goleg brosesu data biometrig dysgwyr yn gyfreithlon heb hysbysu pob rhiant i blentyn a chael y caniatâd angenrheidiol. Aeth Llywodraeth Cymru ymhellach hefyd gan gynhyrchu fersiwn hawdd i blant ei deall fel adnodd i bobl ifanc allu deall sut mae eu data'n cael ei gasglu, eu hawl i gydsynio, ac yn hollbwysig, eu hawl i ddweud na. Roedd yn wych cyflwyno hyn yn Ysgol Gyfun Bryntirion ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda'n Gweinidog addysg, ac rwy'n gwerthfawrogi'r dull rhagweithiol a chydweithredol hwn o egluro'r canllawiau. Fodd bynnag, dim ond ateb dros dro oedd hwn yn mynd i fod wrth ddisgwyl am y sgwrs ehangach sydd ei hangen ar frys yn y Siambr hon ac yn ein cymunedau, ac rwy'n gobeithio y gallwn ei dechrau heddiw. Oherwydd canfu arolwg barn gan Survation a gynhaliwyd yn 2018 ar ran Defend Digital Me, grŵp ymgyrchu dros hawliau plant a phreifatrwydd, i rieni ar draws Lloegr yr oedd ysgolion eu plant yn defnyddio technoleg fiometrig, fod 38 y cant wedi dweud nad oeddent wedi cael cynnig unrhyw ddewis, ac nad oedd dros 50 y cant wedi cael gwybod pa mor hir y byddai'r olion bysedd neu ddata biometrig arall yn cael eu cadw, neu pryd y byddent yn cael eu dinistrio. Nid oes gennym unrhyw astudiaethau cyfatebol yma yng Nghymru.

Mae Defend Digital Me hefyd wedi canfod enghreifftiau o ysgolion lle mae defnyddio technolegau biometrig yn orfodol i bob disgybl, neu lle mae'n rhaid i ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ddefnyddio system fiometrig i gael eu cinio, tra bod pobl eraill yn cael dewis peidio. Yn 2022, fe wnaethant ofyn i 10 undeb llafur ar draws y DU gydag aelodau yn y byd addysg, a ddywedodd nad oes ganddynt unrhyw god ymarfer ar hyn i gynorthwyo staff gyda'u defnydd eu hunain a'u hawliau, nac ar gyfer disgyblion.

Mae hefyd yn mynd yn erbyn erthygl 28 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sy'n dweud bod gan blant a phobl ifanc hawl i addysg ni waeth pwy ydynt; o dan erthygl 16 y confensiwn, ni fydd unrhyw blentyn yn destun ymyrraeth fympwyol neu anghyfreithlon â'i breifatrwydd, a hefyd mae gan y plentyn hawl i ddiogelwch y gyfraith rhag ymyrraeth o'r fath; ac erthygl 8 o'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol hefyd, sef yr hawl i breifatrwydd.

Yn seiliedig ar yr holl dystiolaeth hon, deuthum i'r casgliad fod casglu data biometrig mewn ysgolion yn ymwthiol, yn ddiangen, yn anghymesur, ac nid yw'n cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol na chonfensiynau hawliau dynol. Mae technoleg fiometrig mewn ysgolion yn fwy cyffredin nag a sylweddolwn. Fe'i cyflwynwyd yn gyntaf oddeutu 2000, a dros y degawd diwethaf, mae'r defnydd o'r technolegau hyn wedi cynyddu'n aruthrol, gyda thua 75 y cant o ysgolion uwchradd ledled y DU bellach yn defnyddio technoleg olion bysedd, yn ogystal â bod yn gyffredin iawn mewn ysgolion cynradd. Rydym yn gwybod, yn y 2000au cynnar, fod llawer o'r technolegau hyn ar un adeg yn gwmnïau o'r DU a werthai dechnoleg a arferai fod yn dechnoleg filwrol i'r sector cyhoeddus a phreifat, ond erbyn hyn dengys ymchwil fod y rhan fwyaf o ddarparwyr yn gwmnïau o'r Unol Daleithiau, Canada ac Israel. Fodd bynnag, mae i bwy, sut a pham mae cwmnïau preifat yn gwerthu'r data technoleg fiometrig i ysgolion yn parhau i fod yn aneglur. Mae'r ymchwilydd Pippa King, ymgyrchydd ar ddefnyddio data biometrig mewn ysgolion, ynghyd â Defend Digital Me, wedi gofyn am geisiadau rhyddid gwybodaeth. Ymatebodd rhai ysgolion, ond nid oes eglurder o hyd ynghylch pa adran o'r Llywodraeth neu gyrff eraill sy'n monitro a yw ysgolion yn cadw at Ddeddf Diogelu Rhyddid 2012, faint o ysgolion sy'n defnyddio technoleg fiometrig, faint o ddisgyblion sydd â'u data biometrig yn cael ei storio ar gronfeydd data ysgolion neu gyflenwyr, neu a yw'r data'n hygyrch ac yn cael ei rannu y tu allan i'r ysgol. Ar ben hynny, mae sylw cyffredinol Rhif 16 Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn dweud:

'Ni ddylai gwladwriaethau fuddsoddi cyllid cyhoeddus ac adnoddau eraill mewn gweithgareddau busnes sy'n tramgwyddo hawliau plant.'

Er mwyn cydymffurfio â'r safon hon, mae angen asesiad effaith ar hawliau dynol. Nid wyf yn credu bod y rhain yn cael eu gwneud.

Mae gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ran i'w chwarae yn hyn o beth, ac fe wnaethant geryddu Adran Addysg y DU yn ddiweddar, yn dilyn camddefnydd hir o wybodaeth bersonol hyd at 28 miliwn o blant. Canfu ymchwiliad Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fod diwydrwydd dyladwy gwael yr Adran Addysg wedi golygu bod cronfa ddata o gofnodion dysgu disgyblion wedi cael ei defnyddio yn y pen draw gan Trust Systems Software UK i wirio a oeddent yn 18 oed ai peidio pan oeddent eisiau defnyddio cyfrif gamblo. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi ymateb o ddifrif i'r tramgwydd hwn, ond rwy'n galw arnynt yn awr i sicrhau bod asesiadau risg priodol a phrosesau caffael cwmnïau technoleg mewn lleoliadau addysgol yn cael eu rhoi ar waith i reoleiddio biometreg eang mewn ysgolion. Oherwydd, fel y mae Big Brother Watch wedi nodi, mae'n annerbyniol fod y dechnoleg casglu data biometrig yn cael ei gwerthu i ysgolion a rhieni gan gwmnïau diegwyddor fel opsiwn mwy diogel. Cyfarfûm â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn ddiweddar i leisio fy mhryderon a chynnig anfon y dystiolaeth a gyflwynais heddiw atynt, ac rwy'n gobeithio y gallwn gydweithio ar hyn yn y dyfodol.

Rwyf hefyd wedi cyfarfod â chomisiynydd plant blaenorol a chyfredol Cymru, a hoffwn ofyn i'r swyddfa fabwysiadu hyn fel rhan allweddol o'u hagenda hawliau plant i ofyn iddynt sut maent yn teimlo ynglŷn â defnydd o'r technolegau hyn yn eu hysgolion. Mae'n fwy na chasglu olion bysedd yn unig; gall data biometrig gynnwys gwybodaeth am batrwm y croen, nodweddion corfforol neu fysedd neu gledrau unigolyn, nodweddion iris neu unrhyw ran arall o'r llygad, neu lais neu lawysgrifen unigolyn. Ym mis Hydref 2021, cofrestrwyd mwy na 2,000 o ddisgyblion mewn naw ysgol yng Ngogledd Ayrshire i dalu am eu cinio drwy ymddangos o flaen camera a weithredwyd gan y staff wrth y til. Roedd y system, a osodwyd gan CRB Cunninghams, yn cymharu'r plant â lluniau a gofrestrwyd ac yn didynnu gwariant y dydd o'u cyfrif. Ymatebodd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn gyflym, cafodd yr holl ddata ei ddileu, ac fe wnaeth yr ymchwiliad a ddeilliodd o hynny ddatgelu sut nad yw sefydliadau fel cynghorau lleol wedi'u paratoi'n ddigonol ar gyfer y dasg o gasglu, prosesu a chadw data personol. Fodd bynnag, dim ond drwy lens torri GDPR y llwyddwyd i graffu ar yr achos yn hytrach nag edrych i weld a ddylid cyflwyno hyn yn y lle cyntaf ai peidio. Mae Big Brother Watch wedi tynnu sylw at y ffaith bod gwledydd eraill, fel Ffrainc, Sweden a rhannau o'r Unol Daleithiau wedi gwahardd hyn oherwydd pryderon ynghylch preifatrwydd.

Felly, nid oes amwysedd. Fel gwleidyddion, rwy'n credu bod gennym rwymedigaeth foesol a moesegol i drafod y mater hwn ac a ydym am gael hyn yma yng Nghymru neu'r DU ai peidio. Mae'r comisiynydd biometreg a chamerâu gwyliadwriaeth, yr Athro Fraser Sampson, wedi rhybuddio bod angen ystyried a goruchwylio gwyliadwriaeth fiometrig mewn ysgolion yn ofalus. Dywedodd:

'Yn eironig braidd, mae gwyliadwriaeth fiometrig yn galw am wyliadwriaeth gyson. Er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei llywodraethu'n briodol, osgoi canlyniadau anfwriadol ac erydu rhyddid yn ddi-droi'n-ôl, mae'r maes hwn yn galw am gydnabyddiaeth ofalus—ac nid yw unrhyw un sy'n credu ei fod yn ymwneud â diogelu data yn unig wedi bod yn talu sylw.'

Unwaith eto, mae gennym gyfrifoldeb fel seneddwyr ac yn y Llywodraeth i graffu ar hyn. 

Yn olaf, beth mae hyn yn ei wneud i lais ein plant yn ein cymdeithas? Rwyf am orffen drwy ofyn y cwestiynau ehangach hyn: pa neges y mae hyn yn ei rhoi i fyfyrwyr, fod modd defnyddio eu data biometrig, eu cyrff, yn gyfnewid am drafodiad ariannol? Fel oedolion, nid oes raid inni roi ein holion bysedd i gael bwyd, gwybodaeth, hawliau i addysg, a gobeithio y byddem yn protestio pe bai raid inni wneud hynny, ond mae'n rhaid i'n plant wneud hynny. Sut mae hyn yn dylanwadu ar y ffordd y mae ein plant yn gweld eu hawliau sifil? Oherwydd, fel y gwnaeth un person a ysgrifennodd ataf nodi, gall yr heddlu, o dan awdurdod Ei Fawrhydi a Deddf Seneddol, gasglu olion bysedd oedolion heb ganiatâd os ydynt wedi cael eu harestio, eu cyhuddo neu eu cael yn euog, ond mae'n rhaid i'n plant wneud hyn yn ddyddiol. A sut mae casglu data biometrig mewn ysgolion yn parhau'r ideoleg, os nad oes gennych unrhyw beth i'w guddio, nad oes gennych ddim i'w ofni—ideoleg beryglus sy'n deillio o fraint ac sydd bob amser yn cael ei defnyddio gan ormeswyr? Efallai na ddylai'r cwestiwn heddiw ofyn a yw adnodd yn ddigon cyfreithlon i'w ddefnyddio mewn lleoliadau addysgol ai peidio, ond yn hytrach, a yw'n parchu urddas pobl a nodau addysg, ac yn cydymffurfio â'r ystod lawn o hawliau dynol, rhyddid mynegiant, rhyddid barn a nodau'r hawl i addysg. Diolch.

15:25

Diolch o galon i Sarah Murphy am gychwyn y ddadl hon. Gwn fod Sarah wedi rhoi llais go iawn i'r pryderon ynghylch data biometrig a hawliau digidol, felly diolch am y cyfle i gefnogi hyn ac i gymryd rhan yn y ddadl hon. Diolch yn fawr iawn. 

Mae casglu a defnyddio data biometrig mewn ysgolion yn codi pryderon gwirioneddol am hawliau, cyfreithlondeb a defnydd priodol o ddata mor allweddol. Yn benodol, mae angen inni fod yn sicr fod ysgolion yn cydymffurfio â disgwyliadau Llywodraeth Cymru a'r gyfraith hefyd. I mi, mae dau gwestiwn yma: a yw'r ddeddfwriaeth yn ddigon da i warchod hawliau ein plant, ac a yw ysgolion yn gweithredu o fewn y ddeddfwriaeth a'r canllawiau gan Lywodraeth Cymru. Mae'n hynod bryderus clywed hanesion ynglŷn â sut mae ysgolion yn peryglu disgwyliadau Llywodraeth Cymru a data plant. Nid wyf yn credu eu bod yn gwneud hyn o unrhyw fwriad maleisus, ond yn hytrach o ddiffyg ymwybyddiaeth ynglŷn â beth yw'r disgwyliadau, sy'n gallu arwain at ganlyniadau pryderus. Wrth wneud hynny, maent yn creu amgylchedd lle mae pobl ifanc yn dod i arfer â'r syniad fod eu data biometrig yn rhywbeth i'w drosglwyddo fel mater o drefn. Mae angen inni gofio nad yw systemau ond cystal â'r bobl sy'n eu defnyddio, ac mae angen inni fod yn ymwybodol o'r risgiau y byddant yn ymgorffori rhagfarn anymwybodol.

Er bod diogelu data yn fater sydd wedi ei gadw'n ôl, mater i Lywodraeth Cymru yw sut mae'r rheolau'n cael eu cymhwyso mewn ysgolion, fel y clywsom gan Sarah, ac mae'n galonogol iawn clywed am y gwaith sydd wedi ei wneud hyd yma. Felly, mae angen inni adeiladu ar ganllawiau a disgwyliadau Llywodraeth Cymru, a roddwyd i ysgolion i ddiogelu data ein plant, ac wrth greu'r disgwyliadau ynglŷn â'i gasglu hefyd.

Yn Ewrop, rydym yn gweld cyfraith achosion yn ei gwneud yn glir fod anghydraddoldeb statws rhwng yr ysgol a'r disgybl yn ffactor wrth benderfynu a yw defnyddio data biometrig yn gyfreithlon ai peidio. Yn fy marn i, dyma egwyddor a ddylai lywio sut mae ysgolion yn gweithredu yng Nghymru hefyd. Yn fwy cyffredinol, mae angen inni fod yn wyliadwrus ynghylch ddeddfwriaeth diogelu data. Ar hyn o bryd mae Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol Llywodraeth San Steffan wedi ei oedi unwaith eto yn y Senedd. Mae'r Bil Deddfwriaeth yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), sydd ar hyn o bryd yn Senedd San Steffan unwaith eto, yn golygu, ymhlith pethau eraill, fod adolygiad o'r ddeddfwriaeth diogelu data yn y DU, sydd i ddod, yn seiliedig ar gyfraith diogelu data'r UE. Rwy'n deall bod disgwyl i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi ei chynigion ar gyfer GDPR y DU yn fuan. Mae angen inni fod yn ymwybodol o'r risg y bydd yn cael ei ddefnyddio fel cyfle i lastwreiddio cyfraith diogelu data.

Rwy'n hyderus y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod i'r Senedd am ddatblygiadau yn y maes hwn, ac y bydd yn sicrhau bod yr angen i ddiogelu data plant a phobl ifanc yn yr ysgol, a mannau eraill, yn cael ei gydnabod ac y gweithredir arno. Unwaith eto, diolch enfawr i Sarah am godi'r mater hwn, a gobeithio y byddwn yn parhau i drafod hyn ac yn cadw llygad ar unrhyw ddatblygiadau. Diolch yn fawr iawn.

15:30

A gaf fi i ddechrau fy nghyfraniad hefyd, Ddirprwy Lywydd, drwy ddiolch i'n cyd-Aelod Sarah Murphy am gyflwyno'r cynnig hwn i'r Senedd heddiw, ond hefyd drwy dalu teyrnged i'r ymgyrchu diflino y mae hi wedi'i wneud yn y maes hwn? Rwy'n credu y gallai'r Senedd hon fod wedi anghofio am y mater hwn yn hawdd iawn pe na bai Sarah wedi dod yn Aelod o'r Senedd hon a bwrw ymlaen â'r gwaith hwn.

Wrth i dechnoleg lifo drwy bob rhan o'n bywydau, rydym wedi dod yn ymwybodol iawn o'r angen i ddiogelu ein data personol ein hunain. Ac am resymau amlwg, nid yw rheoleiddio bob amser wedi dal i fyny â datblygiad technoleg yn y maes hwn, ac mae gennym nifer o enghreifftiau o sut mae hyn wedi gadael pobl yn agored i niwed. Mae hyn yn arbennig o beryglus yn achos data biometrig—y mater rydym yn ei drafod y prynhawn yma. Fel egwyddor arweiniol, rwy'n credu y dylem fod yn ofalus yn y ffordd rydym yn caniatáu defnyddio data biometrig yng Nghymru, yn enwedig yn ein hysgolion. Oherwydd, wedi'r cyfan, yr egwyddor bwysig wrth gasglu data yw cydsyniad: cydsyniad i ddefnyddio'r data gan rywun sy'n gwbl wybodus, ond sydd hefyd yn ymwybodol o'r peryglon posibl.

Sut y gall ein pobl ifanc roi cydsyniad i hyn pan nad ydynt yn deall y risg? Ac os ydych yn cyplysu hynny â'r ffaith bod angen llawer iawn o ffydd i allu ymddiried mewn cwmnïau technoleg i wneud y peth iawn gyda'n data, rydych yn deall pam fod cymaint ohonom yn cynghori pobl i fod yn ofalus a pham bod Sarah Murphy yn arwain ar y mater hwn. Ac rwy'n dweud hynny, Ddirprwy Lywydd, fel rhywun sy'n gredwr mawr mewn technoleg ac fel rhywun sy'n defnyddio technoleg bob dydd. Ond y gwir amdani yw mai arian yw data, a phan fo arian yn ffactor cymhellol, nid yw ymddiriedaeth yn unig yn ddigon.

Yng Nghymru, rydym yn falch o'n hanes o hyrwyddo hawliau'r plentyn, ac mae'n briodol ein bod yn falch o hynny. Ond mae angen bod yn wyliadwrus wrth barchu'r hawliau hynny—y math o wyliadwriaeth a drafododd Jane Dodds, ein cyd-Aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol, yn gynharach.

Felly, Ddirprwy Lywydd, i gloi, dyna'r rhesymau pam roeddwn i mor awyddus i gefnogi cynnig Sarah. Rwy'n falch ei fod wrth galon democratiaeth Cymru y prynhawn yma. Rwy'n falch o'r gwaith y mae'r Gweinidog wedi'i wneud gyda Sarah ar hyn. Rydym yn lwcus i gael Sarah, oherwydd ni fyddai neb wedi sylwi ar hyn hebddi hi, a dylem gydnabod hynny, a dylem ddefnyddio'r wybodaeth a'r cyfoeth o brofiad sydd ganddi. Ac yn olaf, i gloi, rwy'n annog Aelodau meinciau cefn pob plaid wleidyddol yn y Siambr hon heddiw i bleidleisio o blaid y cynnig sydd ger ein bron. Diolch.

15:35

Diolch yn fawr iawn, Sarah, am gyflwyno'r ddadl hon, sydd, fel mae eraill wedi'i ddweud, yn rywbeth pwysig iawn y mae angen inni ei ystyried, oherwydd, fel arall—. Mae technoleg yn beth gwych ar sawl ystyr; mae'n gallu achub bywydau. Os yw rhywun wedi mynd i goma gyda diabetes math 1, nid ydynt mewn sefyllfa i ddweud wrthych pa driniaeth fydd ei hangen arnynt, ond mae'n rhaid inni ddefnyddio'r dull rhagofalus. Ond rwy'n credu, ar yr un pryd, na ddylem gael gwared ar y pethau da gyda'r pethau gwael.

Cyn y ddadl hon, fe wneuthum ymgynghori ag un o'r ysgolion uwchradd yn fy etholaeth a gofyn am hyn, oherwydd nid oeddwn yn gwybod i ba raddau roedd hyn yn cael ei ddefnyddio na pha safbwynt y dylwn fod yn ei arddel. Felly, roedd yn ddefnyddiol iawn clywed eu bod yn defnyddio ôl bawd biometrig yn y ffreutur, oherwydd ni fyddwch yn synnu clywed bod pobl ifanc yn colli'r cardiau sy'n dangos faint o gredyd sydd ganddynt, ac felly, ni fyddant yn colli eu bawd. Os gallwch ddychmygu'r cyflymder y mae'n rhaid gweini i bobl ifanc yn ystod yr egwyl ginio, yn ogystal â'r cyfrinachedd hynod bwysig y mae angen ei sicrhau ynglŷn â phwy sy'n cael prydau ysgol am ddim, nid yw bawd yn dweud dim mwy wrthych na bod yr unigolyn eisiau talu am eu bwyd gyda faint bynnag o gredyd sydd ganddynt yn eu cyfrif.  

Felly, i fod ychydig yn fwy technegol, mae'r ôl bawd biometrig hwn yn trosi'n god—nid ffotograff, nid enw. Cyfres o rifau ydyw, sydd, i'r gweddill ohonom, yn ddarn diystyr o wybodaeth. Ond mae'n dweud wrth weithredwr y til, sy'n rheoli'r arian, pa eitemau sydd angen eu didynnu a brynwyd gan yr unigolyn. Felly, hyd yn oed pe bai cyfrif yr ysgol yn cael ei hacio, ni fyddai'r wybodaeth a gafwyd drwy'r ôl bawd yn dweud wrthych pa unigolion a gafodd ginio y diwrnod hwnnw. Mae'n annhebygol y byddai haciwr yn hacio cyfrif yr ysgol a chyfrif rheolwr y til ar yr un pryd. 

Ceir llawer o fanteision, felly. Ceir cyfrinachedd ynglŷn â phwy sy'n cael prydau ysgol am ddim, sy'n aml yn anodd i'w sicrhau mewn ysgolion uwchradd eraill lle maent yn defnyddio cardiau, a lle mae gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda'r unigolyn sy'n rheoli'r til, sy'n gwbl amhriodol weithiau. Ac mae hefyd yn ymwneud â chyflymder y broses, oherwydd nid oes gennych yr holl weinyddiaeth na'r drafferth o ddweud, 'Rwyf wedi colli fy ngherdyn', 'Rwyf wedi ei adael gartref', a'r holl bethau eraill sy'n mynd o'i le.

Felly, rwy'n credu bod hyn yn bwysig iawn, ond rwy'n rhyw fath o herio'r ffaith bod y cynnig yn gofyn inni sicrhau bod pob ysgol a lleoliad gofal plant yn defnyddio technoleg nad yw'n fiometrig ar gyfer y math hwn o wasanaeth, oherwydd pa wasanaeth nad yw'n fiometrig a fyddai'n gallu cynnig rhywbeth mor gywir a chyflym â defnyddio ôl bawd? Rydym i gyd yn defnyddio ôl bawd, neu rydym yn gwneud hynny mewn theori, i gael mynediad at ein iPads, ond rwyf angen deall beth yw'r pryderon. Rwy'n cytuno'n llwyr â Jack a Jane Dodds fod angen inni fwrw ymlaen yn ofalus ar hyn, ac mae angen inni gael yr holl ddata, ond mae gennyf rai pryderon ynglŷn â rhuthro i mewn i hyn a chael gwared ar y pethau da wrth gael gwared ar y pethau gwael a pheidio â chael manteision technoleg i reoli data pwysig yn effeithiol mewn modd cyfrinachol. Diolch.

15:40

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl bwysig hon heddiw? Yn benodol, gaf i ddiolch i'r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr am ei gwaith parhaus i godi ymwybyddiaeth o'r materion sy'n ymwneud â chasglu a defnyddio data biometrig pobl ifanc?

Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn maddau i mi am ddweud bod y Senedd, rwy'n credu, ar ei gorau pan fo Aelodau'n cyflwyno materion nad oes ganddynt y proffil y maent yn ei haeddu bob amser i'r Siambr ac yn dilyn y cwestiynau hynny gyda mesur cyfartal o arbenigedd ac angerdd, yn y ffordd y mae Sarah Murphy wedi mynd ar drywydd mater data biometrig a phobl ifanc yn gyson.

Mae yna farn wahanol, Ddirprwy Lywydd, ynghylch defnyddio technolegau biometrig ar draws pob agwedd ar gymdeithas. Mae'n fater cymhleth ac mae'n fater sensitif. Mae technoleg yn datblygu'n gyflym yn ein bywydau bob dydd, ac o'i defnyddio yn y ffordd gywir, gall gynnig manteision diamheuol, gan wneud agweddau ar ein bywydau yn haws, yn fwy effeithlon ac yn fwy diogel. Ond mae'n bwysig bod y defnydd o dechnoleg yn cael ei ystyried yn iawn a bod y cyfrifoldebau cyfreithiol yn cael eu deall yn iawn gan bawb sy'n casglu ac yn defnyddio data personol.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen am wiriadau a chydbwysedd priodol mewn system lle mae gwybodaeth bersonol a sensitif yn cael ei defnyddio i alluogi dysgwyr, ac yn wir unrhyw ddinesydd, i ymgymryd â gweithgareddau bob dydd. Yn 2022, fel soniodd Sarah Murphy, lansiais i ganllawiau diwygiedig diogelu gwybodaeth biometrig mewn ysgolion a cholegau yn Ysgol Gyfun Bryntirion, gyda Sarah, ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae'r canllawiau yn rhoi gwybodaeth glir i ysgolion a cholegau am eu rhwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â gweithredu a defnyddio systemau adnabod biometrig. Mae hyn yn cynnwys rhwymedigaethau cyfreithiol cynhwysfawr o dan Ddeddf Diogelu Rhyddid 2012, Deddf Diogelu Data 2018, rheoliad cyffredinol y Deyrnas Unedig ar ddiogelu data, a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Wrth ddiweddaru'r canllawiau, ymgynghorwyd â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, y comisiynydd biometrig, Comisiynydd Plant Cymru, a Defend Digital Me. Rwy'n ddiolchgar iddyn nhw i gyd am eu mewnbwn gwerthfawr.

Mae'r canllawiau'n nodi'n glir y dylai ysgolion a cholegau, cyn gweithredu system fiometrig, ystyried yn ofalus a oes opsiynau eraill llai ymwthiol ar gael a allai ddarparu'r lefel gyfatebol o wasanaeth i ddysgwyr. Pan fydd ysgol yn ystyried system fiometrig, rhaid i'r ysgol fod yn glir ynghylch y gofynion cyfreithiol a fydd yn cael eu gosod arni.

Ddirprwy Lywydd, fel y nodwyd yn y cynnig, rhaid i ysgolion a cholegau ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, ac mae hwnnw hefyd wedi'i nodi'n glir yn ein canllawiau. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i fynegi eu barn, eu teimladau a'u dymuniadau ym mhob mater sy'n effeithio arnynt; i'w barn gael ei hystyried a'i chymryd o ddifrif; a'r hawl i breifatrwydd. Felly, mae'n hanfodol fod dysgwyr yn deall nad yw cymryd rhan mewn system fiometrig yn orfodol. Ochr yn ochr â'r prif ganllawiau, fe wnaethom gynhyrchu fersiwn yn benodol ar gyfer plant, fel y nododd Sarah Murphy yn ei haraith, er mwyn helpu pobl ifanc i ddeall eu hawliau mewn perthynas â'r maes hwn. Cafodd y ddogfen ei datblygu gyda chymorth dysgwyr ifanc, gan gynnwys y grŵp cynghori ar hawliau plant a Cymru Ifanc, a hoffwn ddiolch iddynt hwy hefyd am eu cyfraniad gwerthfawr.

Mae gofyn i ysgolion a cholegau gael cydsyniad ysgrifenedig gan riant neu ofalwr cyn y gellir casglu unrhyw ddata biometrig. Mae ganddynt hwy, neu'r dysgwr yn wir, hawl i optio allan ar unrhyw adeg. Rhaid i ysgolion a cholegau fod yn dryloyw yma, gan ei gwneud yn glir fod cymryd rhan yn ddewisol, a darparu gwybodaeth glir am y defnydd arfaethedig a gweithdrefnau diogelu data. Pan fo naill ai rhiant, gofalwr neu ddysgwr yn dewis optio allan, rhaid i ysgolion a cholegau ddod o hyd i ffordd arall resymol o ddarparu'r gwasanaeth. Mae hwn yn bwynt arbennig o bwysig. Ni ddylai dysgwyr fod o dan anfantais ac ni ddylent gael mynediad at lai o wasanaethau neu wasanaethau gwahanol oherwydd penderfyniad ysgol i gyflwyno biometreg.

Mae ysgolion yn gyfrifol yn gyfreithiol am unrhyw ddata y maent yn ei gasglu a'i ddefnyddio. Rhaid iddynt sicrhau bod unrhyw ddata biometrig yn cael ei storio'n ddiogel, nad yw'n cael ei gadw'n hwy na'r angen, nad yw ond yn cael ei ddefnyddio at y diben y caiff ei gasglu ar ei gyfer ac nad yw'n cael ei ddatgelu'n anghyfreithlon i drydydd parti. Dylid ystyried hyn fel rhan o asesiad effaith diogelu data, y dylid ei gynnal ar y dechrau. Rhaid i ysgolion a cholegau sicrhau nad ydynt ond yn dyfarnu contractau i gyflenwyr biometrig sy'n darparu gwarant ddigonol i weithredu mesurau priodol yn unol â'r rheoliad cyffredinol ar ddiogelu data. Mae erthygl 28 yn pennu'r gofynion cytundebol gofynnol, sydd, yn ei hanfod, yn sicrhau nad yw cyflenwyr ond yn gallu gweithredu ar sail cyfarwyddiadau'r ysgol neu'r coleg, ac ni chânt ddefnyddio'r data at unrhyw ddibenion eraill. Pe bai ysgol neu goleg yn caffael system heb gontract sy'n cydymffurfio'n llawn, byddent yn debygol o ysgwyddo atebolrwydd cyfreithiol llawn am weithredoedd y darparwr system.

Pan fydd systemau biometrig yn cael eu gweithredu, dylai'r ysgol neu'r coleg fonitro ac adolygu eu heffeithiolrwydd yn ôl eu pwrpas gwreiddiol. Bydd hyn yn sicrhau bod y dechnoleg yn parhau i gael ei defnyddio am y rheswm a fwriadwyd, a'i bod yn cyflawni'r dyletswyddau cyfreithiol, y gofynion a'r cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth diogelu data. Gallai unrhyw fethiant i fodloni'r gofynion diogelu data arwain at atgyfeiriad at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, fel y soniodd Sarah Murphy yn ei haraith. Gall Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ddarparu cyngor a chyfarwyddyd i helpu i sicrhau bod ysgolion yn cael hyn yn iawn, ac yn  amlwg, gall tramgwydd ddifrifol arwain at gamau gorfodi.

Rwy'n fodlon fod gan ysgolion a cholegau gefnogaeth a chyngor ar gael iddynt i sicrhau eu bod yn gallu gweithredu'r safonau data gofynnol yn briodol wrth fabwysiadu'r defnydd o systemau biometrig. Ar hyn o bryd, nid oes bwriad penodol i gyflwyno deddfwriaeth gyffredinol ar gyfer defnyddio data biometrig mewn ysgolion oherwydd bodolaeth fframwaith cyfreithiol ehangach gyda phrosesau gwirio ac archwilio perthnasol. Mae'r penderfyniad i gyflwyno system fiometrig yn un i ysgolion unigol ei wneud ar sail anghenion gweithredol, asesiadau effaith, ac mewn ymgynghoriad â staff, dysgwyr, rhieni a gofalwyr. Mae hyn yn gyson ag egwyddor ymreolaeth ysgolion, ond o fewn fframwaith rheoleiddio clir.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu'r cynnig er mwyn ymatal arno, yn ôl y confensiwn, ond mae'r Aelod wedi dwyn pwyntiau pwysig i fy sylw yma yn y Siambr heddiw. Gan ei bod wedi gwneud hyn o'r blaen, mae wedi caniatáu inni edrych gyda'n gilydd ar beth arall y gallwn ei wneud. Fel y cydnabu, ac rwy'n ddiolchgar am hyn, mae'r Llywodraeth wedi gweithredu. Rwy'n rhoi sicrwydd iddi y byddaf yn ymdrin â'r cais y mae wedi'i wneud heddiw yn yr un ffordd adeiladol a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddi hi a'r Senedd yn unol â hynny. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i atgoffa ysgolion o'u rhwymedigaethau cyfreithiol ac yn cadw ein canllawiau dan adolygiad parhaus i adlewyrchu datblygiadau yn y maes hwn sy'n newid yn gyflym.

15:45

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr, Weinidog, am y sicrwydd hwnnw. Rwy'n ei werthfawrogi'n fawr. Rwyf hefyd eisiau dweud diolch yn fawr iawn i Jane Dodds. Rwy'n cytuno'n llwyr, nid yw ysgolion yn gwneud hyn ar bwrpas—nid oes ganddynt unrhyw ganllawiau. Mewn gwirionedd, pe bai'r hyn a ddigwyddodd gyda'r Adran Addysg yn digwydd nawr, byddent wedi cael dirwy o £10 miliwn gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, felly rydym yn gadael ein hysgolion yn agored iawn i ddirwyon enfawr. Maent yn dargedau hawdd i'r gwledydd tramor enfawr hyn eu targedu a gwerthu'r dechnoleg hon iddynt gan ddweud wrthynt ei bod yn fwy diogel.

Jenny, euthum i'r afael â'r cwestiynau dilys iawn y gwnaethoch chi eu gofyn ar y dechrau, ond fe golloch chi ddechrau fy araith. Carwn ofyn i chi fynd yn ôl i'w darllen, os gwelwch yn dda, cyn ichi wneud eich penderfyniad heno. Er hynny, fe ategaf fod unrhyw un sydd â phlentyn bach yn gwybod eu bod yn gallu cofio'r cod pedwar digid i'ch ffôn. Gall plant gofio cod pedwar digid i gael eu prydau ysgol; nid yw'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gyfaddawdu eu data personol am weddill eu bywydau. A Jack, diolch o galon i chi am siarad am y cydsyniad—nid yw plant yn gwybod beth maent yn cydsynio iddo. Nid oes ganddynt unrhyw syniad, ac nid oes gan lawer o oedolion syniad ychwaith. Rwy'n credu ei bod hi'n hollol iawn fod rhaid inni glywed eu llais, rhywbeth nad yw'n digwydd nawr.

Rwyf eisiau dweud hefyd imi gael sgwrs hynod ddiddorol am gyfiawnder gyda fy nghyd-Aelod Cefin Campbell y diwrnod o'r blaen a'r ffordd rydym yn siarad yn aml iawn yn y Siambr hon am y pethau cyfreithiol, y pethau ymarferol, y canlyniadau, y trothwyon, y targedau, ond ychydig iawn a siaradwn am ideoleg weithiau. Yn aml iawn, mae'n cael ei ddiystyru fel rhyfel diwylliant efallai, a dyna ydyw weithiau, ond mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar y mater hwn drwy lens ein gwerthoedd, ein diwylliant a'n hawliau dynol—hawliau dynol y plant, a'r deinameg pŵer a'r cyfnewid pŵer sy'n digwydd yma o flaen ein llygaid, lle nad oes gan ein plant, fel y clywsom, unrhyw ymreolaeth nac unrhyw hawl i addysg yn rhydd o wyliadwriaeth. Yng ngeiriau'r Manic Street Preachers,

'Os goddefwch hyn, eich plant fydd nesaf.'

Ond yn yr achos hwn, fel rydym wedi'i glywed, mae ein plant yn cael eu targedu'n gyntaf ac rydym yn ei oddef. Mae'r cyfle i rannu eu data biometrig personol iawn ar gyfer beth bynnag y mynnant wedi ei gymryd oddi arnynt oherwydd bod diffyg ymwybyddiaeth, diffyg dealltwriaeth, diffyg ewyllys, diffyg ymgysylltiad â phobl ifanc, a diffyg llythrennedd data sylfaenol i ymgodymu â goblygiadau hyn mewn gwirionedd: sut mae hyn yn newid ein cymdeithas, canfyddiad ein plant o'r byd, eu canfyddiad ohonynt eu hunain yn y byd, a'u dyfodol yn bendant iawn.

Yn seiliedig ar bopeth a glywsom heddiw, nid wyf yn credu y dylid parhau i gasglu data biometrig mewn ysgolion. Mae gan blant hawl i addysg a hawl i breifatrwydd o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ac ar hyn o bryd nid ydynt yn gallu gwneud y ddau beth ar yr un pryd. Credaf hefyd y bydd hyn yn arwain at gyflwyno technoleg adnabod wynebau byw mewn ysgolion, fel y gwelsom eisoes mewn rhannau eraill o'r wlad. Credaf hefyd na fyddem yn ymwybodol ei fod yn cael ei gyflwyno hyd yn oed. Pan fydd yno, bydd bron yn amhosibl ei ddad-wneud. Felly, rwyf wedi cyflwyno'r ddadl hon heddiw a hoffwn ddiolch i bawb am gymryd rhan ynddi. Rwy'n gobeithio ei bod wedi codi rhywfaint o ymwybyddiaeth. Rwy'n gobeithio nawr y gallwn roi'r mater ar yr agenda o ddifrif, nid dim ond ar gyfer plant, ond ar gyfer holl ddinasyddion Cymru, ac rwy'n gobeithio y gallwn weithio ar y cyd â gwledydd datganoledig eraill ar hyn ac y gallwn ddechrau cymryd hyn o ddifrif. Mae'n bryd inni benderfynu drosom ein hunain a yw hyn yn rhywbeth rydym eisiau ei weld yn digwydd fel cymdeithas ai peidio. Felly, os gwelwch yn dda, pleidleisiwch dros fy nghynnig heddiw er mwyn inni allu dechrau gwneud hyn. Diolch.

15:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi wedi clywed gwrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau, 'Y Troad Terfynol? P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru'

Eitem 6 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau, 'Y Troad Terfynol? P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Jack Sargeant.

Cynnig NDM8216 Jack Sargeant

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Y Troad Terfynol? P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Rhagfyr 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Bum deg tair wythnos yn ôl, ar Ddydd Gŵyl Dewi y llynedd, caewyd deiseb gyda dros 35,000 o lofnodion, ac roedd 18,777 o'r llofnodion hynny'n dod o Gymru. Roedd y ddeiseb honno, a gafodd ei chyflwyno gan Hope Rescue, yn galw am weithredu syml: galwai am wahardd rasio milgwn yng Nghymru. Gallaf weld bod y prif ddeisebydd, Vanessa, o Hope Rescue yma'n gwylio gyda chefnogwyr heddiw, ac rwy'n eu croesawu i'w Senedd.

Cytunodd y Pwyllgor Deisebau i gynnal ymchwiliad byr, gan ganolbwyntio ar les milgwn sy'n rasio. Fe wnaethom dderbyn tystiolaeth gan ymgyrchwyr, Bwrdd Milgwn Prydain, ynghyd â pherchennog unig drac rasio milgwn Cymru. Wedi hynny, fe wnaethom gyhoeddi ein hadroddiad, 'Y Troad Terfynol?', a'r adroddiad hwnnw sy'n cael ei drafod heddiw. Gwnaeth ein hadroddiad bum argymhelliad, ond y prif gasgliad oedd bod mwyafrif clir o'r pwyllgor o blaid cyflwyno gwaharddiad graddol ar rasio milgwn yng Nghymru. Rwy'n hyderus y bydd y ddadl heddiw'n dangos y bydd mwyafrif o'r Siambr hon hefyd yn ymuno â'r galwadau hynny.

Rhaid i mi ddweud, Ddirprwy Lywydd, roeddwn yn siomedig fod trac Valley wedi brolio ar ei wefan yn flaenorol am y troad siarp eithriadol ar y trac. Roedd yn rhan o dystiolaeth a ddangoswyd i ni gan Hope Rescue lle gwnaethant egluro mai dyma lle digwyddai'r rhan fwyaf o anafiadau yn eu profiad hwy. Mae'r Llywydd yn gwybod fy mod yn hoff iawn o gŵn, ac fel rhywun sy'n hoff o gŵn fy hun, mae'r lluniau o gŵn yn dioddef anafiadau a newidiodd eu bywydau wrth iddynt rasio ar y trac hwn wedi aros gyda mi, gan gynnwys y lluniau o Sienna, a dorrodd ei choes yn wael ar drac Valley ac yn anffodus bu'n rhaid torri ei choes i ffwrdd. 

Mae'r ffaith bod rhaglen Amazing Greys wedi gorfod camu i'r adwy i helpu dros 200 o filgwn rasio yn Valley mewn cyfnod o dair blynedd yn wirioneddol dorcalonnus, ac mae'n dangos nad yw stori Sienna yn ddigwyddiad anarferol. Mae sut y gall unrhyw un sydd wedi bod yn dyst i gŵn mewn poen o'r fath, a brolio wedyn am natur beryglus eu trac ar eu gwefan, y tu hwnt i mi. Dylai Cymru fod yn arwain y ffordd ar les anifeiliaid, ac mae'r ddadl hon heddiw yn gyfle inni wneud hynny.

Rydym eisoes wedi cael awgrym o beth yw barn y cyhoedd yn ehangach yng Nghymru. Mae arolwg barn a gafodd ei gynnal gan Panelbase ym mis Chwefror eleni, a'i rannu gyda mi gan y sefydliad ymgyrchu GREY2K USA Worldwide, yn awgrymu y byddai mwyafrif clir yng Nghymru yn cefnogi gwaharddiad. Daeth canfyddiadau'r arolwg i'r casgliad fod 57 y cant yn credu y dylai'r Senedd bleidleisio i wahardd rasio milgwn yn raddol, a dim ond 21 y cant sy'n gwrthwynebu; byddai 50 y cant yn pleidleisio 'ie' mewn refferendwm i wahardd rasio milgwn yn raddol yng Nghymru, a dim ond 21 y cant a fyddai'n pleidleisio 'na'; ac mae 43 y cant yn edrych yn anffafriol ar rasio milgwn, a dim ond 21 y cant sy'n edrych yn ffafriol arno.

Yn ei hymateb i'n hadroddiad, mae'r Gweinidog wedi cadarnhau bod Llywodraeth Cymru'n bwriadu ymgynghori ar gynigion ar gyfer trwyddedu gweithgareddau sy'n cynnwys anifeiliaid eleni. Bydd yr ymgynghoriad hwnnw hefyd yn gofyn am farn ar sut i wella lles milgwn rasio yng Nghymru. Ac yn allweddol, bydd yn cynnwys cwestiwn sy'n ystyried gwaharddiad graddol, fel yr argymhellodd y pwyllgor. Yn ein hadroddiad, roeddem yn glir y byddai dod yn drac trwyddedig yn rhoi amddiffyniad ychwanegol i filgwn, ond byddai'n arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y cŵn sy'n rasio bob wythnos. Bydd mwy o rasys yn arwain at fwy o anafiadau a mwy o anifeiliaid yn dioddef.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae nifer o sefydliadau wedi ystyried eu safbwynt ar rasio milgwn. Mae'r rhain yn sefydliadau sydd wedi gweithio gyda'r diwydiant o'r blaen i gefnogi'r anifeiliaid, ac maent wedi newid eu polisi. Maent bellach wedi penderfynu, yn yr unfed ganrif ar hugain, nad yw'n iawn i filgwn orfod dioddef er ein difyrrwch ni. Roedd eu safbwynt newydd yn hollbwysig i mi'n bersonol ac i lawer o aelodau'r pwyllgor. Nid oeddent yn teimlo mwyach y gallent liniaru a gwella; maent wedi dweud eu bod o blaid gwaharddiad, ac maent yn galw ar Gymru i arwain y ffordd yn y DU.

Mae gan Gymru enw da yn ddiweddar mewn perthynas â lles anifeiliaid, ac mae'r Gweinidog wedi bod yn glir yn ei hymateb ei bod bob amser yn bwriadu ystyried trwyddedu rasio milgwn fel rhan o ymrwymiad maniffesto Llafur. Rwy'n falch fod y Gweinidog hefyd wedi cytuno i gynnwys y gwaharddiad graddol a gynigiwyd gan y pwyllgor fel cwestiwn yn yr ymgynghoriad sydd i ddod. Ond rwy'n gwybod y bydd gan nifer o bobl yma yn y Siambr, nifer o bobl yn y gynulleidfa, a nifer o bobl sy'n gwylio gartref un cwestiwn pwysig iawn, Weinidog: pa mor hir y bydd yn ei gymryd i gynnal yr ymgynghoriad hwnnw, ac os yw'r dystiolaeth ar ben draw'r ymgynghoriad hwnnw'n awgrymu y dylid gwahardd, pa mor hir y bydd yn ei gymryd i gyflwyno'r gwaharddiad hwnnw?

Lywydd, nid ydym yn gwahardd pethau ar chwarae bach. Mae yna brosesau y mae angen eu dilyn, ac mae'n rhaid i ymgynghori trylwyr gyda'r holl randdeiliaid fod yn rhan o hynny ar y ddwy ochr i'r stori. Rwy'n deall hynny, ac mae ymgyrchwyr yn deall hynny hefyd. Ond lle ceir consensws dros newid, lle nad yw'r mwyafrif o bobl yn ystyried bod rasio cŵn yn fath derbyniol o adloniant mwyach, rydym yn disgwyl gweld camau gweithredu. Weinidog, fe wnaethom alw ein hadroddiad yn 'Y Troad Terfynol' oherwydd ein bod yn credu mai dyna lle rydym—credwn fod y gamp honedig hon ar ei lap olaf. Weinidog, rwy'n gobeithio y gallwch roi mwy o eglurder heddiw ynglŷn â phryd y byddwn yn croesi'r llinell derfyn. Diolch.

16:00

Ar y cychwyn, hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd, cyd-aelodau'r pwyllgor a'r clercod yn arbennig am eu gwaith yn rhoi hyn at ei gilydd. Hoffwn ddiolch hefyd i'r rhai a roddodd dystiolaeth o ddwy ochr y ddadl.

Nawr, rwy'n dychmygu bod clercod y Siambr wedi fy nodi i siarad yn y ddadl hon heddiw cyn imi hyd yn oed nodi fy mod am siarad, felly, heb os, nid oes syndod fy mod ar fy nhraed yn awr. Ac un o'r ymweliadau cyntaf imi eu gwneud pan gefais fy ethol i'r Senedd oedd ag Achub Milgwn Cymru, elusen yr oeddwn eisoes yn aelod ohoni cyn cael fy ethol. Nawr, er fy mod wedi eistedd ar y ffens ynglŷn â rasio cyn yr ymweliad hwnnw, er fy mod yn tueddu tuag at yr ochr a oedd am ddod ag ef i ben, rhaid cyfaddef, gwnaeth yr ymweliad ei hun imi feddwl ymhellach am y pwnc. Ac ers yr ymweliad hwnnw bron i ddwy flynedd yn ôl, er ei fod yn teimlo fel ddoe, rwyf wedi parhau i ofyn cwestiynau i'r Gweinidog yn y pwyllgor a'r Cyfarfod Llawn, ac wedi cynnal sawl digwyddiad ochr yn ochr â Jane Dodds yn y Senedd i godi ymwybyddiaeth o les milgwn. Rwyf am fod yn glir: rwy'n cefnogi'r ddeiseb yn llwyr. Ond rwyf hefyd yn ei chefnogi gan gydnabod bod hon yn ddadl anodd i lawer.

Nawr, fe fydd Aelodau yn dadlau o blaid ac yn erbyn yr hyn sydd yn y ddeiseb, ond mi fyddaf i'n edrych i ffocysu ar bwynt penodol. Fel y nodwyd gan y Cadeirydd, nid yw rasio milgwn yn cael ei reoleiddio yma yng Nghymru, felly, yn naturiol i lawer, dylai'r ddadl hon ddechrau a gorffen gyda rheoleiddio'r diwydiant yn gyntaf. Wel, does dim ond angen inni edrych dros y ffin i weld sut olwg sydd ar reoleiddio. Nid yw rheoleiddio'n datrys y mater sydd wrth wraidd y diwydiant, ac ni allwn ni amddiffyn cŵn rhag y risg cynhennid o rasio.

Mae ffigurau'r sector reoledig ei hun yn dangos bod dros 2,000 o filgwn wedi marw neu wedi'u rhoi i gysgu, a bod bron i 18,000 o anafiadau wedi eu cofnodi o rasio milgwn rhwng 2018 a 2021. Mae'r sector reoledig yn cynnig £400 i dalu costau milgwn sydd wedi ymddeol, ond, mewn llawer o achosion, dydy hyn ddim yn ddigon i dalu am y gost go iawn o adsefydlu ac ailgartrefu milgwn rasio. Er enghraifft, mae data y Dogs Trust ar y costau milfeddygol i drin 14 milgwn wedi'u hanafu rhwng Tachwedd 2018 ac Ebrill 2021 yn dangos bod triniaeth filfeddygol ar ei phen ei hun wedi amrywio o £690 i £4,800 ar gyfer pob ci. Hyd yn oed os oedd y gallu gyda ni i sicrhau bod pob milgi rasio yng Nghymru yn cael bywyd da, gyda'r ffigurau yma, bydd yn anodd iawn sicrhau hynny. Mae'n bwysig hefyd nodi bod y diwydiant yn croesi pum gwlad wahanol i gyd, gyda gwahanol ddarpariaethau o reoleiddio, a bod 85 y cant o filgwn sy'n rasio yn y Deyrnas Gyfunol yn deillio o Iwerddon. Felly, mae'r gallu i amddiffyn cŵn o'r crud i'r bedd yn eithriadol o anodd—bron â bod yn amhosib.

Wrth ganolbwyntio ar Gymru, mae'r dystiolaeth a roddwyd gan berchennog y trac yma yng Nghymru yn awgrymu nad yw'r trac yn fwy peryglus nag unrhyw drac arall, a bod gwelliannau ar y gweill er mwyn dod yn drac trwyddedig GBGB, sy'n gwella diogelwch. Ond, drwy wneud hynny, y bwriad fyddai cynyddu maint y rasio sy'n digwydd yng Nghymru. Hyd yn oed gyda gwelliant mewn lefelau diogelwch, mae'n debygol y byddai cynnydd sylweddol mewn rasys yn arwain at gynnydd yn nifer y cŵn sy'n cael eu hanafu. 

Dirprwy Lywydd, wrth imi gymryd rhan yn yr ymchwiliad hon, ac wrth imi ymchwilio’n bellach ar fy liwt fy hun, roedd yn amhosib i fi beidio â dod at benderfyniad a oedd ddim yn blaenoriaethu lles y cŵn. Allaf i ddim cefnogi digwyddiad sydd yn rhoi cŵn mewn sefyllfa ble y gallan nhw anafu eu hunain, ac felly dyna pam dwi'n cefnogi'r ddeiseb ac yn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn gweithredu ar hyn.

16:05

Hoffwn ddiolch i gymaint o bobl; hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau a hoffwn ddiolch i'r sefydliadau y cyfarfûm â hwy, gan gynnwys Bwrdd Milgwn Prydain. Os ydynt yma neu'n gwrando, rwy'n meddwl o ddifrif eu bod yn malio am gŵn a hoffwn ddiolch ichi am eich amser, ond hoffwn yn arbennig dalu teyrnged i'r elusennau anifeiliaid hynny. Ni allwn wneud yr hyn rydych chi'n ei wneud. Rwy'n credu y byddai'n fy ngofidio cymaint nes y byddwn yn mynd adref â dwsin o anifeiliaid bob nos. Hoffwn ddiolch, hefyd, i'r gwirfoddolwyr yn y trac rasio hefyd. Rydych yn cyflawni'r rôl honno gyda chymaint o urddas pan fo'n rhaid ei fod yn achosi llawer o ofid ichi. 

Mae hyn, i mi, yn ymwneud â'r math o Gymru rydym ei heisiau. Nid wyf eisiau'r math o Gymru lle mae anifeiliaid yn cael eu cynhyrchu ar raddfa ddiwydiannol ar gyfer chwaraeon. Nid wyf am fod mewn Cymru lle mae hyn yn hyrwyddo ac yn annog betio a gamblo. Nid wyf am fod mewn Cymru lle mae anifeiliaid yn cael eu hanafu. Nid wyf am fod mewn Cymru lle, ar ddiwedd gyrfaoedd rasio anifeiliaid, maent yn mynd i gartref cŵn lle maent yn aros i bobl alw heibio i fynd â nhw adref. Mae hynny'n dibynnu ar elusennau, ac mae'r elusennau hynny yma heddiw. Nid ydynt yn cael unrhyw arian ar gyfer hynny, ar wahân i arian bond ailgartrefu Bwrdd Milgwn Prydain. A gadewch imi ddweud ychydig wrthych chi am hyn. Bydd bond ailgartrefu Bwrdd Milgwn Prydain ond yn mynd i gartrefi nad ydynt yn siarad allan yn erbyn rasio milgwn. Golyga hynny mai dim ond un lle yng Nghymru sy'n cael bond ailgartrefu Bwrdd Milgwn Prydain.

Rwyf am ymdrin ag ambell fater arall hefyd. Pam ddim rheoleiddio? Wel, oherwydd bod rheoleiddio yn dal i ymwneud â rasio. Mae rheoleiddio'n dal i ymwneud â chenhedlu cŵn ar ddiwedd y ras sydd angen mynd i gartref cŵn, ac yna angen eu hailgartrefu. Ac mewn gwirionedd, bydd rheoleiddio yn dal i olygu bod cŵn yn cael eu rasio mewn tymheredd a oedd, y llynedd, ar 12 Awst, yn 32 gradd, pan oedd y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid yn dweud wrth berchnogion cŵn am beidio â mynd â'u cŵn allan am dro. Ac eto, ar drac rheoledig yn Harlow yn Essex, roeddent yn rasio milgwn. 

Yn seiliedig ar les anifeiliaid, ac rydych chi'n sôn am les anifeiliaid, rwyf wedi siarad â chryn dipyn o gynghorwyr ynglŷn â cheisiadau cynllunio a'u rhwystredigaeth ynghylch methu gwrthod cais cynllunio ar sail rhesymau lles anifeiliaid. Hoffwn ofyn i'r Llywodraeth a fyddent yn ystyried newid deddfau cynllunio fel y gallai rhesymau lles anifeiliaid fod yn rheswm dros wrthod cais cynllunio. 

Diolch. Mae hwnnw'n bwynt da iawn, ac mae'n tynnu sylw at faterion lles anifeiliaid. Ac rydym yn gwybod bod yr unig drac rasio yng Nghymru yn gobeithio ehangu nifer y cŵn sydd ganddynt, er nad oes ganddynt ganiatâd cynllunio eto. Maent wedi cael eu gwrthod ddwywaith, ac eto, maent yn adeiladu ar hyn o bryd; maent yn adeiladu mwy na chytiau cŵn hyd yn oed, maent yn adeiladu raciau i 200 o gŵn fynd i mewn iddynt. Ac felly, rwy'n gobeithio bod yr amodau cynllunio yn cynnwys lles anifeiliaid. Rwy'n gwybod bod rhaid imi symud ymlaen, Ddirprwy Llywydd. 

Yr ail fater yw y gall pobl fod yn gofyn: ai dim ond dechrau yw hyn? Os ydym yn gwahardd rasio milgwn, a ydym yn mynd i symud ymlaen at rasio ceffylau? A byddwn i'n dweud 'Nac ydym—mae'n endid hollol wahanol'. Cynhyrchir cŵn ar gyfer rasio milgwn ar raddfa ddiwydiannol. Nid oes ganddynt berchnogion sy'n gofalu amdanynt, a dyna, i mi, yw'r gwahaniaeth gyda milgwn. 

Ni allaf adael i'r amser hwn fynd heibio heb sôn am Arthur. Mae pawb ohonoch yn gwybod am Arthur—mae'n debyg mai dyma'r tro olaf y byddwch yn clywed am Arthur. Gadewch imi ddweud wrthych am brofiad Arthur cyn belled ag y gwyddom, oherwydd nid ydym yn gwybod llawer iawn. Roedd Arthur o fferm gŵn bach yn Iwerddon. Sut ydym yn gwybod hynny? Oherwydd bod ganddo datŵs yn y ddwy glust. Dim ond cŵn o Iwerddon sy'n mynd i gael eu rasio sydd â thatŵs yn y ddwy glust. Os ydynt yn dod o Loegr, mae ganddynt datŵ mewn un glust yn unig. Gadewch imi ddweud wrthych pa mor dyner a phoenus yw hynny. Fel ci llawndwf, pe bai unrhyw un yn mynd yn agos at glustiau Arthur, byddai'n iepian mewn poen. Roedd mor boenus iddo. Rydym yn gwybod bod Arthur wedi cael anaf ar y trac rasio—fe gwympodd ar ei wddf. Ni allai gael unrhyw beth o gwmpas ei wddf, ac yn wir, byddai'n iepian mewn poen pe bai unrhyw un yn cyffwrdd â'i wddf mewn unrhyw ffordd. Treuliodd Arthur chwe blynedd ar drac rasio, a chafwyd hyd iddo mewn amodau digon aflan gan y cartref cŵn.

Treuliodd ddwy flynedd yn y cartref cŵn cyn i ni ei weld. Ar yr adeg y gwnaethom gasglu Arthur, roedd 65 milgi arall yn aros am gartref. Arhosodd Arthur gyda ni, fel y gwyddoch, am dair blynedd. Roedd blwyddyn gyntaf ei gyfnod gyda ni yn anodd iawn. Câi ei ddychryn a'i drawmateiddio gan lawer iawn o bethau. Byddai mynd ag ef am dro—taith pum munud—yn cymryd tua awr, oherwydd byddai'n rhewi wrth glywed unrhyw sŵn neu weld unrhyw beth a oedd yn peri pryder iddo. Rwy'n gwybod bod rhaid imi orffen, Ddirprwy Lywydd, ond gadewch imi ddweud hyn wrthych: byddwn i'n croesawu cael Arthur nôl yfory nesaf, ond nid wyf am weld rhagor o gŵn a gafodd yr un profiadau ag Arthur yn cael eu cynhyrchu. Felly, gobeithio y gwnewch chi gefnogi'r gwaharddiad heddiw. Diolch yn fawr iawn.

16:10

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelod Jack Sargeant, am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, gan fy mod yn credu ei bod hi'n hynod bwysig fod deisebau fel hyn yn cael eu cyflwyno i'r Siambr i'n helpu i ganolbwyntio ein sylw'n iawn ar y materion sy'n effeithio ar les anifeiliaid yng Nghymru.

Yng nghwrs y ddeiseb hon, rwyf wedi ymweld â Hope Rescue, rwyf wedi siarad â Bwrdd Milgwn Prydain ac rwyf wedi cyfarfod â sawl sefydliad arall, ac mae pob un ohonynt yn cynrychioli dwy ochr y ddadl. Ond nid yw'r mater, fel gyda'r rhan fwyaf o bethau, mor syml ag yr hoffem iddo fod. Mae elusennau, fel Hope Rescue ac Achub Milgwn Cymru, wedi gweithio'n eithriadol o galed dros y blynyddoedd i ymwneud â thrac milgwn Valley, er mwyn gwella safonau lles milgwn sy'n rasio yno, a heb fawr o lwyddiant. Maent wedi nodi agweddau ar y trac sy'n beryglus ac yn gallu achosi anafiadau difrifol i filgwn. Maent wedi galw dro ar ôl tro am bresenoldeb milfeddygol ar gyfer pob ras, ac wedi gofalu, weithiau ar draul enfawr i'w hunain, am filgwn sydd wedi eu hanafu'n ddifrifol neu wedi cael eu gadael. Rwy'n deall yn iawn felly pam y byddent yn galw am waharddiad llwyr ar rasio milgwn yng Nghymru. 

Fodd bynnag, yr hyn sy'n fy mhryderu, pe bai gwaharddiad llwyr, yw nad yw hyn yn gwella lles milgwn yn awtomatig. Mewn gwirionedd, mae yna ddadl nad yw'n gwella lles milgwn o gwbl. Ni fyddai'r holl berchnogion neu fridwyr sy'n cam-drin anifeiliaid, neu sydd â safonau lles gwael ar gyfer eu hanifeiliaid, yn weladwy mwyach a byddent yn mynd yn danddaearol. Ni fyddent yn poeni o gwbl chwaith ynglŷn â difa eu hanifeiliaid—

Roeddwn am wneud y pwynt am y gamp yn mynd yn danddaearol, roeddwn yn meddwl tybed a yw'r Aelod yn sylweddoli beth yw maint y trac a maint y tir y byddai ei angen arnoch i allu rasio milgwn, yn y bôn, ac a fyddai'n gallu egluro sut y byddai modd cuddio hynny. 

Gallaf, yn y paragraff nesaf. Mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd. Felly, ble rwyf i nawr? Felly, nid oes unrhyw beth yn eu hatal rhag cael rasys anghyfreithlon, o ddefnyddio warysau segur i sefydlu traciau dros dro, boed yn gyrsiau syth neu'n rhai â throadau, mewn caeau anghysbell, a fydd hyd yn oed yn waeth i'r anifeiliaid sy'n rasio, a bydd eu natur anghyfreithlon yn golygu na fydd eu perchnogion byth bythoedd yn gofyn am ofal milfeddygol ar eu cyfer. Ac er efallai y bydd rhai'n dweud na fydd hyn byth yn digwydd, mae edrych ar faint o ymladd cŵn anghyfreithlon sydd yna yn y DU yn dweud wrthym fel arall. Mae ymladd cŵn yn dal i ddigwydd ar raddfa fawr yn y wlad hon, er iddo gael ei wahardd ym 1835. Yn wir, rhwng 2015 a 2020, cafodd yr RSPCA dros 9,000 o adroddiadau am ymladd cŵn wedi'i drefnu yn y Deyrnas Unedig, ac er mai chwe blynedd a phum mis yw'r ddedfryd uchaf o garchar, nid yw'r bobl sy'n cynnal y gornestau ymladd cŵn hyn yn poeni, ac rwy'n ofni ei bod yn bosibl y byddai rasio milgwn yng Nghymru yn dilyn yr un trywydd.

Wrth siarad â chynrychiolwyr o Fwrdd Milgwn Prydain, rwyf wedi dysgu sut mae cofrestru trac yn gwella lles milgwn sy'n rasio, oherwydd mae'n orfodol i bob ras gael gofal milfeddygol, mae gan berchnogion mewn rasys ddyletswydd i gydymffurfio â safonau lles, sy'n cael eu monitro, a cheir rhaglenni ailgartrefu sydd wedi'u hariannu'n dda os yw anifeiliaid yn cael eu hanafu neu os na allant rasio mwyach. Nid wyf yn dweud bod y model hwn yn berffaith, neu y dylai trac Valley gael ei gofrestru gyda Bwrdd Milgwn Prydain, yn lle cael ei gau. Yn hytrach, rwy'n credu bod angen ymchwiliad priodol i bob agwedd ar rasio milgwn yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, i gynnwys perchnogaeth, bridio, cludiant, rasio ac ôl-ofal hyd yn oed. Mae angen mwy o ymgysylltiad gyda Bwrdd Milgwn Prydain, ac mae'n rhaid cael dadansoddiad annibynnol o oblygiadau gwaharddiad graddol neu waharddiad llwyr, yn enwedig mewn perthynas â lles anifeiliaid.

Fy mhryder arbennig ynglŷn â hyn yw nad yw'r Pwyllgor Deisebau, yr wyf yn aelod ohono, wedi gwneud digon o ddiwydrwydd dyladwy er mwyn gwneud yr argymhellion y maent wedi'u gwneud yn eu hadroddiad. Fel pwyllgor sy'n argymell gwaharddiad graddol, nid ydym hyd yn oed wedi ymweld â thrac rasio milgwn, cofrestredig nac anghofrestredig, ac nid ydym wedi cymryd unrhyw dystiolaeth o gwbl gan y gwledydd neu Lywodraethau sydd eisoes wedi gwahardd rasio milgwn, a fyddai wedi rhoi gwell syniad inni o'r canlyniadau anfwriadol.

16:15

A ydych chi'n deall bod Cymru a'r Deyrnas Unedig yn eithriad yn fyd-eang, a bod hyd yn oed yr Unol Daleithiau, mewn 41 talaith, wedi gwahardd rasio milgwn? Ac onid ydych chi'n deall, drwy wahardd rasio milgwn, y byddwch yn cael gwared ar ddioddefaint ar unwaith ac y byddwch hefyd yn mynd lawer iawn o'r ffordd tuag at ddileu masnach anghyfreithlon o Ogledd Iwerddon?

Wel, fy mhryder, fel y soniais yn gynharach, os ydym yn gwahardd rasio milgwn—. Y pryderon sydd gennym ynghylch y safonau lles yw eu bod yn cael eu gwneud gan rai nad ydynt yn malio o gwbl am eu hanifeiliaid. Felly, os ydym yn gwahardd rasio milgwn, y pryder sydd gennyf yw y byddwn yn gweld llawer o gŵn yn cael eu rhoi i gysgu, a dyna pam fy mod yn dweud bod angen gwneud llawer mwy i ymchwilio i oblygiadau gwaharddiad o'r fath, a pham y byddai casglu tystiolaeth gan y gwledydd sydd wedi gwahardd y gamp wedi bod yn allweddol wrth wneud argymhelliad.

Rwy'n cydnabod y bydd hwn yn bwnc emosiynol ac y caiff barn ei llywio yn dibynnu ar brofiad. Mae rhai aelodau o'r pwyllgor wedi cael y profiad uniongyrchol hwnnw, boed drwy fabwysiadu cŵn a arferai rasio neu drwy dyfu i fyny mewn amgylchedd rasio milgwn, ac rwy'n deall ac yn parchu eu safbwyntiau'n llwyr. Fodd bynnag, wrth drafod mater fel hwn, mae angen i farn fod yn wrthrychol ac yn annibynnol, ac rwy'n deall yn iawn efallai na fyddai rhai Aelodau yma'n hoffi clywed hynny, ond mae'n wir.

Felly, Ddirprwy Lywydd, beth bynnag fydd yn digwydd yma heddiw, a beth bynnag fydd y canlyniad, rwy'n gobeithio y bydd Aelodau a'r Llywodraeth yn deall, o safbwynt lles anifeiliaid, fod angen gwneud llawer mwy o waith. Diolch.

Diolch i'r deisebydd am ddod â'r mater hwn i'n sylw. Fel aelod o'r Pwyllgor Deisebau, rwyf wedi cael cyfle i glywed tystiolaeth gan nifer o randdeiliaid. Hoffwn ddiolch i bob un ohonynt, yn ogystal â'r clercod a fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor am sicrhau bod adroddiad 'Y Troad Terfynol?' yn cynnwys cydbwysedd o leisiau y rhai sydd o blaid a'r rhai sy'n gwrthwynebu rasio milgwn yng Nghymru.

Gan gredu'n gryf bod rhaid i les anifeiliaid ddod yn gyntaf, rwy'n cymeradwyo pob un o bum argymhelliad yr adroddiad. Nid oes gennyf amheuaeth fod yna berchnogion cyfrifol, gofalgar a balch sy'n gwneud eu gorau glas i sicrhau lles eu cŵn. Ond mewn amgylchedd rasio, nid oes unrhyw sicrwydd, ac yn anffodus ceir tystiolaeth glir o berchnogion cŵn na allai boeni llai am les eu cŵn. Nid oes gan drac Valley, trac heb ei drwyddedu, unrhyw ofynion i sicrhau safon lles anifeiliaid. Mae gan Fwrdd Milgwn Prydain gynlluniau ar gyfer trwyddedu o 2024 ymlaen, ond y gwir amdani, hyd yn oed ar draciau Bwrdd Milgwn Prydain sydd wedi'u trwyddedu, gyda milfeddygon, mae'n dal  fod angen rhewgelloedd sy'n addas ar gyfer storio carcasau milgwn. Oherwydd, rhwng 2017 a 2020, bu farw 3,153 o filgwn a chofnodwyd 18,345 o anafiadau i filgwn. Rydym hefyd yn gwybod bod milgwn yn cael eu hewthaneiddio ar sail economaidd ac mewn achosion lle nad oes modd eu hailgartrefu. Ni waeth beth yw nifer y rasys sy'n digwydd heb anaf neu farwolaeth, faint o anafiadau a marwolaethau y mae'n rhaid inni eu cyrraedd cyn bod y lles yn gorbwyso'r adloniant, cyn bod bywyd yn gorbwyso marwolaeth?

Mae cynllun lles anifeiliaid Cymru yn cyfeirio at y ffaith bod trwyddedau'n ofynnol ar gyfer arddangosfeydd a sefydliadau anifeiliaid, gan gynnwys rasio milgwn o bosibl. Gyda'r wybodaeth ynglŷn â nifer y cŵn sy'n cael eu hanafu, yn marw neu'n cael eu gadael, hyd yn oed ar draciau trwyddedig, nid wyf yn gweld sut mae hyn yn cyd-fynd ag uchelgais y cynllun i bob anifail yng Nghymru gael ansawdd bywyd da.

Rydym yn ymfalchïo yng Nghymru mewn bod yn arloeswyr, gan gydnabod lle mae angen i newid ddigwydd a gosod ein hunain ar flaen y gad—gyda'r argyfwng hinsawdd, er enghraifft. Ond o ran rasio milgwn, rydym yng nghwmni llai na dwsin o wledydd ledled y byd. Byddai'n well gennyf ein gweld yng nghwmni gweddill y byd, ac elusennau anifeiliaid fel Dogs Trust, RSPCA, Blue Cross, Hope Rescue ac Achub Milgwn Cymru, sydd i gyd wedi ymbellhau oddi wrth y dull y rhoddwyd cynnig arno o weithio gyda stadia a'r diwydiant rasio er mwyn lleihau niwed a bellach yn ffafrio gwaharddiad llwyr.

Fel mae'r adroddiad yn nodi, nid oes modd gwadu bod yna draddodiad hir o rasio milgwn yng Nghymru, ond rhaid bod amser a lle i ddadlau a yw traddodiad a ddechreuodd nôl yn y 1920au yn werth yr anafiadau a'r marwolaethau, ac amddifadu cŵn diniwed. Yn bersonol, rwy'n falch ein bod yn gallu cael y ddadl honno heddiw, a byddaf yn parhau i ymgyrchu dros les anifeiliaid yng Nghymru. Diolch.

16:20

Mae rasio milgwn yn greulon. Mae'n niweidio cŵn; mae'n achosi dioddefaint aruthrol iddynt; yn eu hanafu, weithiau'n ddi-droi'n-ôl, y tu hwnt i unrhyw obaith o adferiad; ac mae'n lladd cŵn, weithiau'n syth, weithiau flynyddoedd yn ddiweddarach—cŵn sydd wedi dod yn anifeiliaid anwes teuluol annwyl, sy'n byw bywydau byrrach nag y dylent oherwydd y trawma a'r toriadau a'r poen cronig sy'n eu plagio. Fel mae Hope Rescue, yr RSPCA, y Gynghrair yn erbyn Chwaraeon Creulon ac eraill wedi ein hatgoffa, mae'r ddadl hon heddiw yn ein Senedd yn cynnig cyfle inni ddechrau newid hynny, i roi momentwm i'r syniad y dylid gwahardd rasio milgwn yma yng Nghymru ac na ddylai rhagor o gŵn orfod dioddef fel hyn.

Nid marwolaeth yn unig sy'n wynebu'r cŵn hyn. O'r adeg pan gânt eu geni, elw sy'n llywio eu tynged. Ni chânt eu cymdeithasoli'n iawn; cânt eu cadw mewn cytiau cyfyng; caiff cŵn bach eu tatŵio pan gânt eu magu; defnyddir atalyddion estrws i'w galluogi i rasio; cânt eu cludo o gwmpas mewn cerbydau nad ydynt yn addas ac maent yn aml yn dioddef clefyd deintyddol. Yn fwyaf dirdynnol o bosibl, ceir straeon am y cŵn bach sy'n mynd ar goll rhwng cofrestriad geni a rasio; cyfeirir atynt yn y diwydiant fel 'gwastraff', gair creulon ac arfer barbaraidd, oherwydd ystyrir y cŵn bach hyn fel gornifer, a naill ai— 

Hoffwn ddiolch i Delyth Jewell am ei chyfraniad, ond hoffwn atgoffa pobl yn y Siambr ynglŷn â gwneud datganiadau cyffredinol am bobl sy'n cadw milgwn. Nid yw pob perchennog milgwn yn berchennog gwael; mae rhai pobl yn poeni go iawn am eu cŵn, ac rwy'n credu nad yw gwneud datganiadau cyffredinol yn helpu'r ddadl hon o gwbl.

Diolch am y cyfraniad hwnnw. Yn amlwg, hoffwn adleisio'r pwynt a wnaeth Buffy yn gynharach, fod yna lawer iawn o berchnogion milgwn sy'n gofalu am eu cŵn. Nid wyf yn ceisio awgrymu mewn unrhyw ffordd fod hyn yn ddisgrifiad o bob perchennog milgwn. Diolch am y cyfraniad hwnnw. Ond rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi fod unrhyw gi sy'n gorfod mynd drwy'r anafiadau erchyll hyn—mae hynny'n ormod a dyna pam mae angen inni gael newid go iawn, newid sylfaenol, a dyna pam rwyf i, o leiaf, yn meddwl y dylai fod gwaharddiad. Ond diolch am yr ymyriad hwnnw.

Felly, os dychwelwn at y syniad o gŵn bach sy'n cael eu hystyried fel gornifer, naill ai oherwydd gor-fridio neu danberfformio wrth hyfforddi, maent yn aml yn cael eu lladd; maent yn diflannu, a chânt eu galw'n wastraff, fel pe baent yn dameidiau o gig neu'n gydrannau diffygiol—yn sbwriel sy'n cael ei daflu.

Dylai chwaraeon fod yn adloniant; dylai ymwneud â thalent a dathlu ac egni a chyffro. Ni allaf ddeall o gwbl sut y gall unrhyw un edrych ar luniau o garcasau cŵn a meddwl mai chwaraeon yw hynny. Mae angen dileu'r creulondeb hwn, mae angen mynd at wraidd y mater, ac mae angen inni wahardd rasio milgwn yng Nghymru.

Fe ddywedaf air, os caf, Ddirprwy Lywydd, am stadiwm milgwn Valley ger Ystrad Mynach. Fel rydym eisoes wedi clywed, maent wedi cyflwyno dau gais cynllunio i ddatblygu eu safle: gwrthodwyd y cyntaf ym mis Tachwedd; gwrthodwyd yr ail fis diwethaf. Nawr, ni all penderfyniadau cynllunio fod yn seiliedig ar gwestiynau ynghylch creulondeb, wrth gwrs. Fel rwy'n ei ddeall, cawsant eu gwrthod oherwydd diffyg asesiadau o ganlyniadau llifogydd a phroblemau gyda'r datganiad trafnidiaeth—hynny yw, byddai'r safle'n newyddion drwg i'r gymuned o dan y cynlluniau hyn am resymau eraill, cwbl ar wahân i gwestiynau ynghylch creulondeb.

Rwy'n deall bod y risg o lifogydd wedi'i fychanu, ac wedi'i wadu hyd yn oed efallai, yn y cais cyntaf a gafodd ei gyflwyno. Byddai'r wybodaeth honno, pe bai wedi cael ei chynnwys, yn anghywir wrth gwrs, ac rwyf wedi siarad â thrigolion ger yr ardal honno a gafodd lifogydd yn 2020.

Ond mae yna bryder fod perchennog y trac wedi parhau gyda datblygu'r safle, gan weithio, mae'n debyg, ar gytiau cŵn, bocs dyfarnwyr, ac ymestyn gofod bwcis. Mae cwestiynau'n codi hefyd ynglŷn â pham y cynlluniwyd ar gyfer cymaint o gytiau cŵn—200—os mai'r bwriad yw cartrefu'r milgwn ar nosweithiau rasys yn unig, pan na fyddai mwy na 60 neu 70 milgwn yn rasio ar unrhyw noson benodol. Beth yn union mae'r perchnogion yn cynllunio ar ei gyfer?

Mae Cymru, fel y clywsom, yn eithriad gyda hyn, Ddirprwy Lywydd. Rydym yn un o 10 gwlad yn unig lle mae rasio milgwn wedi'i ganiatáu i barhau. Rwy'n credu bod angen inni gael gwared ar yr anghysondeb hwn sy'n ein nodweddu. Gadewch inni roi diwedd ar yr arfer o roi elw o flaen lles y creaduriaid gosgeiddig ac addfwyn hyn. Ac rwy'n derbyn eto y pwyntiau a wnaed mewn ymyriad a chan Joel yn ei gyfraniad. Wrth gwrs, bydd yna gymaint o bobl yn caru ac yn gofalu am eu milgwn, ond mae unrhyw gi sydd, oherwydd yr arfer hwn, yn cael eu geni i ddioddefaint, rwy'n credu bod hynny—. Mae'n warth, ac oherwydd hynny, rwy'n annog yr Aelodau'n gryf i roi arwydd gyda'r cynnig hwn ac i ddechrau proses y mae pawb ohonom—. Wel, bydd llawer ohonom, gobeithio, am weld diwedd ar rasio milgwn yng Nghymru.

16:25

Unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau ac i'r Cadeirydd, Jack Sargeant, am eu gwaith, a phawb sydd wedi cyfrannu at yr adroddiad hwn, a dyna beth rydym yma i'w drafod heddiw. Rwy'n gwybod nad yw canfyddiadau adroddiad pwyllgor bob amser yn unfrydol, a bod rasio milgwn ei hun yn bwnc sy'n ennyn barn gref a barn angerddol iawn. Fel Aelod o'r Senedd, mae'n deg dweud fy mod yn teimlo'n angerddol iawn am les anifeiliaid, ac fel cyn-Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, rwy'n gyfarwydd â mesurau a deddfwriaeth a ddeilliodd o'r Pwyllgor Deisebau—cyfreithiau newydd a wnaed yma yng Nghymru. Ond hoffwn hefyd ei gwneud yn glir fod heddiw, fel y soniodd Delyth, yn ddechrau proses, fe dybiwn, oherwydd heddiw rydym yma i bleidleisio dros gefnogi neu nodi canfyddiadau'r adroddiad. Dyna pam ein bod ni yma heddiw. Nid ydym yma heddiw i bleidleisio dros wahardd rasio milgwn, nac i gefnogi rasio milgwn. Nid wyf am gael fy ngweld yn siomi'r ymgyrchwyr sydd wedi brwydro mor galed i'n cael lle'r ydym heddiw.

Nawr, mae'r pwyllgor wedi derbyn tystiolaeth gan nifer eang o sefydliadau lles anifeiliaid. Ers mis Ebrill 2018, mae Hope Rescue a'u partneriaid achub wedi cymryd bron i 200 o filgwn dros ben o'r un trac yng Nghymru, gyda 40 ohonynt wedi cael anaf. Er bod y trac yng Nghymru'n dewis peidio â datgelu data am anafiadau a marwolaethau i'r cyhoedd, cafodd 22,767 o anafiadau eu dogfennu, gan gynnwys 1,026 o farwolaethau ar draciau, mewn cyfleusterau trwyddedig yn y DU rhwng 2017 a 2021.

A phan siaradwn am anifail byw, ymdeimladol, onid yw'n ofnadwy ein bod yn sôn am 'wastraff'? Ac mae lefelau o wastraff o'r diwydiant, yn y diwydiant rasio trwyddedig—. Erbyn eu bod yn dair a hanner oed yn unig, mae 50 y cant o filgwn a gofrestrwyd i rasio wedi gadael. Nid yw 90% o filgwn yn rasio erbyn eu bod yn bump oed, ac mae tua 6,000 o filgwn yn gadael y diwydiant trwyddedig bob blwyddyn, gyda llawer ohonynt angen cartrefi newydd wedyn. Mae hyn yn gadael elusennau a sefydliadau achub anifeiliaid i gasglu'r darnau—

Diolch yn fawr iawn. A fyddech yn cytuno, felly, mewn perthynas â'r ystadegau rydych newydd eu rhannu ac sy'n wybodaeth gyffredin i bawb yn y Siambr hon, po hiraf yr arhoswn am waharddiad, y mwyaf o anifeiliaid a gaiff eu niweidio?

Yn bendant. Mewn gwirionedd, mae Cymru'n un o 10 gwlad yn unig yn y byd lle mae rasio milgwn masnachol yn dal i ddigwydd yn gyfreithlon. Mae'r gamp, fel y'i gelwir, wedi'i gwahardd yn y rhan fwyaf o daleithiau'r Unol Daleithiau, 42, a rhoddwyd diwedd ar rasio mewn gwledydd fel De Affrica, Jamaica ac Ynysoedd y Philipinau.

Nawr, rwy'n credu bod y pryderon yn y lle cyntaf yn ymwneud â'r trac annibynnol hwn sydd bellach am ddod yn drac ardystiedig drwy drwydded gan Fwrdd Milgwn Prydain. Ac wrth gwrs, nodwyd y bydd nifer y rasys yn cynyddu i bedair ras yr wythnos—mwy o gŵn, mwy o botensial. Ac mae'n ofnadwy clywed eu bod eisoes yn adeiladu nifer o gytiau cŵn sy'n—. Wel, mae'n fy ngofidio.

Nawr, mae gennyf bryderon am argymhelliad 3, Gadeirydd. Mae'n ymwneud â chludo cŵn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwahaniaethu rhwng sefyllfa cŵn sy'n teithio drwy Gymru i rasys a'r llu o ddibenion dilys y gellir cludo cŵn ar eu cyfer. Yr un rhan sy'n gwanhau'r adroddiad hwn yn fy marn i yw argymhelliad 5, sy'n agor y drws ar archwilio chwaraeon eraill sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid. Gallai hyn effeithio ar ebolgampau, sioeau cŵn, neidio ceffylau, ac unrhyw weithgareddau eraill sy'n cynnwys anifeiliaid, ac rwy'n siŵr fod rhai o'r rheini—roeddwn yn arfer cystadlu mewn ebolgampau—[Torri ar draws.]

16:30

Diolch yn fawr iawn. Ac ar y pwynt rydych chi'n ei wneud, nid oes unrhyw awgrym yn yr adroddiad hwn o gwbl y bydd hyn yn mynd yn ehangach, nac yn agor y drws. Mewn gwirionedd, mae wedi canolbwyntio'n gwbl briodol ar y ddeiseb, sy'n ymwneud â chyflwyno gwaharddiad graddol ar rasio milgwn yng Nghymru. A chan ein bod yn ei drafod, mae'n rhaid inni fod yn gytbwys—

—ac rydym wedi clywed bod yna bobl sy'n berchnogion da a phobl sy'n berchnogion ofnadwy, ond fe fyddwch i gyd yn gwybod am y gân 'Another One Bites the Dust', ac un arall, ac un arall, ac mae hynny'n berthnasol yma; nid oes ots pa mor dda ydych chi fel perchennog, y gwir amdani yw bod milgwn yn marw ar y traciau rasio yn enw adloniant.

Na, na, rwy'n cytuno'n llwyr â fy nghyd-Aelod Joyce Watson, ond mae'n rhaid imi ddod â ni'n ôl i realiti, a heddiw, rydym yma—[Torri ar draws.]—na, na, na, rydym yma heddiw i nodi'r adroddiad, Ddirprwy Lywydd.

Mae arolwg barn wedi canfod bod 57 y cant o bobl yng Nghymru yn teimlo y dylai Senedd Cymru bleidleisio i wahardd rasio milgwn yn raddol, a dim ond 21 y cant sy'n gwrthwynebu, felly mae hwnnw'n fesur eithaf da. Yn bersonol, buaswn yn cefnogi gwaharddiad graddol heddiw, yma, ond fel y dywedais, nid oes gennym opsiwn i wneud hynny.

Felly, Ddirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio y daw'r amser pan allwn ni ddod â dadl i'r Siambr hon, dadl lawn i'r holl Aelodau yma, i weld a ddylai gwaharddiad fod yn sail i ddeddfwriaeth Gymreig. Rwy'n edrych ymlaen at y ddadl honno mewn gwirionedd. Ond yn y cyfamser, hoffwn ddiolch i'r holl ddeisebwyr, pawb sy'n gysylltiedig â'r adroddiad hwn, a byddaf yn sicr yn pleidleisio o blaid nodi'r adroddiad hwn. Diolch.

Rwy'n falch o weld y ddeiseb hon yn cael ei thrafod yn y Senedd heddiw, ac rwyf innau hefyd am ddweud diolch wrth bob un ohonoch yn yr oriel sydd wedi gwneud cymaint o waith ar hyn; gwaith aruthrol.

Ers ei sefydlu yn gynharach y llynedd, rwyf wedi cefnogi'r ddeiseb hon a gwaith Blue Cross, Dogs Trust—yr ymwelais â hwy yn fy etholaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr—Achub Milgwn Cymru, Hope Rescue yn Ogwr a'r RSPCA yn codi ymwybyddiaeth o'r amodau presennol y mae llawer o filgwn yn eu dioddef ar hyn o bryd. Rwyf hefyd eisiau diolch i Jane a Luke; rydych chi wedi bod yn wych am ein cadw ni ar y trywydd iawn gyda hyn, a gwthio hyn ymlaen. Rwyf hefyd am ddiolch i'r 44 o fy etholwyr a ysgrifennodd ataf i godi ymwybyddiaeth o'r ymgyrch hon a'r rhai sydd wedi arwyddo'r ddeiseb hon yn ogystal. Felly, dyna'n fyr beth oeddwn i eisiau ei ddweud heddiw: cefais fy synnu cymaint o etholwyr a gysylltodd â mi i ddangos cefnogaeth gref iawn i hyn, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn i'w nodi.

Cefais sioc o gael gwybod gan fy etholwyr fod cymaint â 6,000 o filgwn yn cael eu gadael gan y diwydiant bob blwyddyn ac yn cael eu gorfodi i ddod o hyd i gartrefi newydd, ac er bod prosiect Amazing Greys Hope Rescue wedi helpu dros 200 o filgwn rasio drwy'r DU, yn dorcalonnus, roedd 40 o'r cŵn hyn wedi dioddef anafiadau difrifol a roddodd ddiwedd ar eu gyrfa rasio.

Ac yn olaf, rwyf eisiau crybwyll y cyfle unigryw sydd gan Gymru i ddod â'r arfer hwn i ben, oherwydd yng Nghymru, dim ond un trac rasio milgwn sydd gennym, sef stadiwm milgwn Valley. Nid yw'r arfer hwn yn digwydd yn unman arall yng Nghymru, yn wahanol i weddill y DU, sydd â 29 stadiwm. Felly, heddiw yw ein cyfle i gamu ymlaen ac arwain y ffordd ar gyfer gweddill y DU. Rwy'n cefnogi'r adroddiad heddiw, rwy'n cefnogi'r ddeiseb. Os oes angen ymgynghoriad i ystyried pethau eraill, iawn, ond rwy'n gobeithio'n fawr ein bod o'r diwedd, a chyn hir fe fyddwn ni yno, ar y daith tuag at wahardd rasio milgwn yng Nghymru yn gyfan gwbl. Diolch.

Nid wyf yn mynd i arddel safbwynt heddiw heblaw am safbwynt y Llywodraeth, a safbwynt y Llywodraeth yw bwrw ymlaen ag ymgynghoriad, sef y llwybr cywir i'w ddilyn yn fy marn i. Rwy'n meddwl ein bod wedi clywed llawer o deimladau cryfion ar y mater hwn heddiw, ac rwy'n credu mai ymgynghoriad yw'r ffordd iawn ymlaen, ac rwy'n siarad o safbwynt etholwyr sy'n byw yn fy etholaeth i, sy'n byw yn Ystrad Mynach, ac yr effeithir arnynt gan yr hyn sy'n digwydd i'r trac. Felly, y cyfan rwyf eisiau ei wneud yw gofyn i'r Senedd a'r Llywodraeth ystyried effaith unrhyw benderfyniad ar yr etholwyr hynny.

Fe ysgrifennais at y pwyllgor cynllunio, pan ddaeth y cais cynllunio i mewn, gyda fy mhryderon am y cais, a gofrestrwyd fel rhan o'r broses gynllunio, ac yn enwedig y ffaith bod yr unig drac rasio yng Nghymru wedi ei adeiladu ar orlifdir—ac mae Delyth eisoes wedi crybwyll hynny. Rwy'n credu bod canlyniadau ehangach i'r gwaharddiad a fydd yn effeithio'n uniongyrchol ar hynny, neu unrhyw reoleiddio a fydd yn effeithio'n uniongyrchol ar hynny. Mae'r gweithgaredd sy'n digwydd ar y trac ar hyn o bryd yn cynnwys gwaith cyweirio anffurfiol ar yr afon, er eu lles eu hunain, er mwyn atal dŵr rhag dod ar y trac. Felly, mae gwaith atal llifogydd o ryw fath yn digwydd yno.

Rwyf wedi bod yn ymweld â'r trac, rwyf wedi cyfarfod â Hope Rescue ac rwyf wedi cyfarfod â'r Dogs Trust ac wedi cael y sgyrsiau hyn. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn fod unrhyw Aelod sy'n pleidleisio ar hyn ar unrhyw adeg yn y dyfodol yn ymweld â'r trac hwnnw i gael golwg ar beth sy'n digwydd yno. Ac rwy'n pryderu y byddai cau'r trac yn arwain at berygl posibl o lifogydd yn yr ardal honno, a hefyd yr hyn y byddai'n ei adael ar ôl fyddai tir diffaith, ac mae tir diffaith yn rhywbeth nad ydych chi ei eisiau ger gorlifdir ac nad ydych chi ei eisiau yn y gymuned honno.

Dyna fy mhryder i, nid yw'n ymwneud â'r rasio'n uniongyrchol—

16:35

Hoffwn ddiolch i Hefin David am wneud y pwynt y gall cau'r trac effeithio ar drigolion. Felly, a fyddai'n cytuno â mi, yn lle mynd am yr opsiwn niwclear o wahardd rasio cŵn yng Nghymru, y dylem edrych ar reoleiddio yn gyntaf, oherwydd mae honno'n ffordd o ddiogelu'r bobl yn yr ardal honno hefyd yn ogystal â'r cŵn sy'n rasio ar y trac?

Diolch i James Evans am yr ymyriad. Rwy'n credu ei fod yn gwneud ei farn yn hysbys, ac rwy'n meddwl ei fod yn bwynt a fydd yn cael ei glywed gan y Senedd. Yn y ddadl hon heddiw, nid wyf yn mynd i arddel safbwynt, ond mae'n werth clywed gan bob ochr, yn cynnwys gan Jane Dodds a Joel James hefyd. Felly, rydym wedi cael y safbwyntiau hynny wedi'u mynegi, ac rwy'n credu y bydd barn James yn cael ei chlywed hefyd, ond rwy'n aros am yr ymgynghoriad. Ond yr hyn rwy'n ei nodi heddiw yw'r canlyniadau i fy etholwyr. 

Felly, cafodd y cais cynllunio a aeth i mewn ei wrthod oherwydd mai penderfyniad y cyngor oedd na ellid dangos, yn absenoldeb asesiad o ganlyniadau llifogydd, y gellid rheoli canlyniadau datblygiad llai bregus o fewn parth 2 yn dderbyniol dros oes y datblygiad. Nawr, yr hyn y mae hynny'n ei amlygu yw bod perygl gwirioneddol o lifogydd yno, ond mae hefyd yn cadarnhau fy nadl i ei bod er budd y perchnogion presennol i atal llifogydd cyn belled ag y bo modd. Pe na baent yno, ni fyddai neb i atal llifogydd.

Felly, fy nadl i heddiw, fy ngalwad i heddiw, yw i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â'r ymgynghoriad, a bod y Llywodraeth hefyd yn ystyried pa gamau adferol y byddent yn eu cymryd pe bai'r ymgynghoriad yn gwneud naill ai rheoleiddio pellach neu waharddiad yn ofynnol. Mae rheoleiddio pellach i bob pwrpas yn golygu mai Bwrdd Milgwn Prydain fyddai'r rheoleiddiwr. Oni bai eu bod yn gallu cael y cais cynllunio hwnnw drwodd, ni fydd rasio'r Valley yn gallu parhau, pe baech yn cyflwyno mwy o reoleiddio. Ac nid yw'r cais hwnnw ond yn mynd i lwyddo os rhoddir sylw i'r broblem llifogydd. Felly, mae honno'n ystyriaeth bendant i'r penderfyniad sy'n cael ei wneud. I bob pwrpas, os ydych chi'n rheoleiddio, rwy'n credu y bydd yna 90 y cant o debygolrwydd y byddwch yn gwahardd rasio milgwn yng Nghymru beth bynnag. Yr hyn y byddwn yn gofyn i'r Llywodraeth ei wneud yn yr amgylchiadau hynny yw bod yn barod i adfer y tir hwnnw, rhoi arian tuag at waith i adfer y tir yn llawn, drwy Cyfoeth Naturiol Cymru, er mwyn ei atal rhag mynd yn ddiffaith. A hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru edrych hefyd ar ba ganlyniadau a fydd i ddyfodol y tir hwnnw a thrigolion Ystrad Mynach, yr effeithir yn uniongyrchol arnynt.

Felly, mae'r ymgynghoriad yn bwysig. Mae'n amlwg fod yna awydd amdano ymhlith y cyhoedd, ac rwy'n meddwl y bydd hynny'n digwydd fel y dylai. Rwy'n credu y bydd y safbwyntiau a fynegwyd ar bob ochr heddiw yn cael eu clywed, ond ar hyn o bryd rwyf am gadw fy nadl yn llwyr—yn llwyr—ar gyfer pobl Ystrad Mynach a'r canlyniadau y gallent hwy eu gweld.

Galwaf nawr ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, Lesley Griffiths.

Member
Lesley Griffiths 16:39:41
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch yn fawr i chi, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r ddadl hon. Er mai dim ond un trac milgwn a geir yng Nghymru, mae'r ddadl heddiw a'r ddeiseb wedi tynnu sylw at y teimladau cryf iawn ymhlith y cyhoedd ynglŷn â lles milgwn rasio a'r ffordd y cânt eu trin. Fy uchelgais i yw i bob anifail yng Nghymru gael ansawdd bywyd da. Mae gan bobl sy'n berchen ar anifeiliaid gyfrifoldebau o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, ac mae dyletswydd arnom i sicrhau ei bod yn cael ei gorfodi.

Cyn mynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â'r ddeiseb, hoffwn nodi peth o'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gennym y safonau iechyd a lles anifeiliaid uchaf yn y byd. Ar ddechrau'r tymor Llywodraeth hwn, nodais ein cynllun lles anifeiliaid pum mlynedd. Mae'n nodi ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu ac yn ategu ein fframwaith iechyd a lles anifeiliaid. Gyda'i gilydd, maent yn gosod y cyfeiriad ac yn gyrru ystod eang o welliannau lles anifeiliaid rwyf am eu gweld.

Mae gwaith ar orfodi lles anifeiliaid wedi mynd rhagddo, gyda galwad am dystiolaeth ar y gweill i ganfod a yw'r rheoliadau presennol yn parhau i fod yn ddigonol. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ariannu prosiect gorfodaeth ar gyfer awdurdodau lleol gydag 11 o swyddogion newydd yn dechrau ar eu gwaith, ac mae dros 40 wedi cael hyfforddiant dros y tair blynedd ddiwethaf.

Caeodd ein hymgynghoriad ar deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai ym mis Chwefror, gyda chrynodeb o'r ymatebion i'w gyhoeddi'n fuan. Rydym wedi bod yn gweithio gyda gweinyddiaethau eraill i archwilio'r defnydd o gewyll wedi'u cyfoethogi ar gyfer ieir dodwy, llociau porchella ar gyfer moch, a chewyll bridio ar gyfer adar hela. Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban, rhanddeiliaid a sefydliadau lles anifeiliaid ar gynigion i wella lles anifeiliaid sy'n cael eu cludo.

Mae'r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) yn gwneud darpariaethau i ddarparu diwygiadau pwysig. Yn anffodus, mae wedi'i oedi ar hyn o bryd, ac rwyf wedi bod yn annog Llywodraeth y DU i ailafael ynddo. Rydym wedi diweddaru canllawiau statudol ar gyfer y rheoliadau bridio cŵn, ac mae cyflwyno rheoliadau newydd ar werthu anifeiliaid anwes wedi ei gwneud yn drosedd i werthu ci bach neu gath fach na chânt eu bridio ar y safle lle cânt eu gwerthu. Rwy'n credu bod yr holl gamau hyn yn atgyfnerthu'r neges: mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth bendant yma yng Nghymru.

Ar sicrhau ansawdd bywyd da i anifeiliaid, mae'r Aelodau wedi cwestiynu a yw hyn yn wir am filgwn rasio ar hyn o bryd. Mae adroddiadau diweddar ac adborth ar y trefniadau presennol yn dangos yn amlwg fod lle i wella neu i sicrhau newid ehangach. Yn 2019, fe wnaethom sicrhau cyllid o dan y rhaglen gyflawni mewn partneriaeth i alluogi cyngor Caerffili i gynnal archwiliadau lles anstatudol yn stadiwm milgwn Valley. Cynhaliodd swyddogion iechyd anifeiliaid wyth arolwg mewn rasys rhwng mis Chwefror 2020 a mis Awst 2022. Ar dri achlysur, roedd milfeddyg yn bresennol gyda swyddogion. Er nad adroddwyd am unrhyw faterion lles difrifol yn yr arolygiadau hyn, nid yw'r trac yn gweithredu yn ôl safonau Bwrdd Milgwn Prydain a gafodd eu datgan yn arferion gorau gan gynrychiolwyr y diwydiant y cyfarfûm â hwy. Rwyf am i'r arolygiadau hyn barhau, ac rwy'n gwneud darpariaethau ar gyfer hynny. Maent yn cynnig amddiffyniad allweddol i'r milgwn a mewnwelediad i'r amodau yn ystod rasys, gan nodi mai cipolwg yn unig ar fywydau a lles y cŵn yw hwn.

Gwnaed cymariaethau â'r diwydiant rasio ceffylau. Mae rasio ceffylau ym Mhrydain ymhlith y gweithgareddau anifeiliaid sy'n cael eu rheoleiddio orau yn y byd. Mae Awdurdod Rasio Ceffylau Prydain, ynghyd â'r RSPCA a Lles Ceffylau'r Byd, yn un o gefnogwyr y protocol lles ceffylau cenedlaethol. Mae o leiaf un swyddog milfeddygol Awdurdod Rasio Ceffylau Prydain ar ddyletswydd ym mhob ras, ac mae'n goruchwylio lles ceffylau ac yn sicrhau bod y safonau a osodwyd gan yr awdurdod yn cael eu cynnal.

Mae llawer o ffactorau i'w hasesu wrth inni geisio gwella lles milgwn rasio, ac rwy'n ymroddedig i archwilio pob cyfle i weld sut y gellir cyflawni hyn. Fel y soniodd Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau yn ei sylwadau agoriadol, rwyf wedi ymrwymo i ymgynghori ar gynigion, a fydd yn cynnwys ceisio safbwyntiau ar drwyddedu a gwahardd rasio milgwn yng Nghymru. Byddwn yn archwilio pob opsiwn a byddwn yn ystyried barn y cyhoedd a'r holl randdeiliaid. Er bod angen trafodaethau ynghylch gwaharddiad llwyr ac wrth gwrs fe fydd yn creu penawdau, mae'n hanfodol ein bod yn ystyried y pwnc mewn ffordd resymol a phriodol.

Rhaid i'n hymgynghoriad fod yn seiliedig ar y dystiolaeth orau a bydd angen cymorth gan y rhai yn y diwydiant, yn ogystal, wrth gwrs, â'n sefydliadau iechyd a lles anifeiliaid ni. Mae hyn yn hanfodol fel bod y cyhoedd yn cael barn wybodus ar y sefyllfa bresennol a sut y gellid dod â newid cadarnhaol i wella lles a chreu bywyd gwell i filgwn rasio ar bob cam o'u bywydau, nid yn ystod rasys yn unig. Rwyf am wneud hyn cyn gynted â phosibl, a bydd gwaith ar sylfaen dystiolaeth gryfach yn dechrau eleni, gyda'r bwriad o gyhoeddi ymgynghoriad tua diwedd 2023.

Fe wnaeth fy sylwadau i'r Pwyllgor Deisebau adael pob opsiwn ar y bwrdd, gan gynnwys trwyddedu a gwaharddiad graddol, ac ni fydd y Llywodraeth hon yn arddel safbwynt ar ddyfodol rasio milgwn hyd nes y bydd wedi ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Diolch.

16:45

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hymgysylltiad cadarnhaol â'r pwyllgor, nid yn unig heddiw ond drwy gydol y broses? Mae'r Gweinidog yn hollol gywir: mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth bendant, a dyna safbwynt y pwyllgor yn ei waith ymchwiliol. Roeddwn yn falch o glywed y Gweinidog yn cyfeirio at y gwahaniaeth rhwng rasio milgwn a'r awdurdodau rasio ceffylau yng Nghymru. Rwy'n meddwl bod honno'n wers bwysig i'w dysgu.

A gaf fi ddiolch i bob un o'r cyfranwyr yn y ddadl heddiw? Mae'n bwnc emosiynol; fe wyddom ei fod yn bwnc emosiynol. Fe wnaeth Jane Dodds fynegi'n dda iawn, fel y mae'n gwneud bob amser yn y Siambr hon, ei chof am ei hannwyl Arthur. Nid yw Jane am weld Arthur arall yn mynd drwy brofiadau tebyg. Nid wyf eisiau gweld unrhyw gi yn mynd drwy'r profiadau hynny. Ond roedd yna gymysgedd o deimladau. Fe wnaeth nifer o gyd-Aelodau gefnogi dull o wahardd yn raddol; roedd nifer o gyd-Aelodau'n anghytuno. Roedd nifer o gyd-Aelodau eisiau aros. Nid oedd Hefin David, er enghraifft, am arddel safbwynt hyd nes y bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus wedi ei gwblhau. Ond roedd yn gwbl briodol yn fy marn i ei fod wedi sôn, fel yr Aelod o'r Senedd dros Gaerffili, am ganlyniadau a phryderon ynghylch yr hyn a all ddigwydd nesaf i'w etholwyr. Roedd yn gywir i wneud hynny ac wrth gwrs, mae angen ateb y cwestiynau hynny.

Rwy'n credu mai'r hyn a glywsom heddiw oedd pa mor bwysig yw'r ymgynghoriad hwnnw. Rwyf am droi at ddau bwynt, rwy'n credu, a wnaed gan fy nghyd-Aelodau ar fy llaw chwith. Cyfeiriodd James Evans, yn gyntaf, at yr opsiwn niwclear o wahardd. Fe wnaethoch chi gyfeirio at y canlyniadau i'r economi ac yn y blaen. Wel, mewn gwirionedd, ystyriodd y Pwyllgor Deisebau y canlyniadau hynny a'r hyn a benderfynwyd gennym oedd nad oedd yna opsiwn niwclear i wahardd yfory—os oedd tystiolaeth o blaid gwaharddiad, dylai fod yn ddull graddol, fel y gellir lliniaru'r canlyniadau hynny. Ac os caf droi at fy nghyd-Aelod Joel James, rwy'n credu mai'r hyn y ceisiodd ef ei bwysleisio oedd pwysigrwydd yr ymgynghoriad hwnnw. Fe wnaeth holl aelodau'r pwyllgor gefnogi ymgynghoriad cyhoeddus. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwnnw, ac edrychwn ymlaen at glywed canlyniad hynny.

Fe fyddwn i'n dweud, wrth fyfyrio ar y cyfraniadau, fy mod i'n credu mewn gwirionedd fod y pwyllgor wedi cael tystiolaeth gadarn gan y ddwy ochr. Cynhaliwyd dwy sesiwn dystiolaeth lafar yn ein pwyllgor. Clywsom gan gadeirydd Premier Greyhound Racing, clywsom gan berchennog trac rasio Valley yng Nghymru, a chlywsom gan gadeirydd ac aelod annibynnol o Fwrdd Milgwn Prydain. Ac ar yr ochr arall, clywsom gan Hope Rescue—y deisebydd—Achub Milgwn Cymru a sefydliad achub cŵn Almost Home. Roedd y dystiolaeth ger bron y pwyllgor ar y pryd yn ddigon i berswadio mwyafrif o aelodau'r pwyllgor i alw am waharddiad graddol. Ond rwy'n credu ei fod yn ein hatgoffa'n bwysig fod yna broses gywir fel y nodais wrth agor y ddadl hon. Bydd yna ymgynghoriad cyhoeddus. Cyfeiriodd y Gweinidog at hynny hefyd, a bydd yn cynnwys y cwestiwn pwysig, rwy'n meddwl, i aelodau'r pwyllgor, ar wahardd rasio milgwn yn raddol.

Ddirprwy Lywydd, nid wyf yn credu bod angen imi ddweud llawer mwy na hynny. Rwy'n credu, mewn gwirionedd, fod mwyafrif yr Aelodau yn y Senedd yn cefnogi gwaharddiad graddol. Mae yna rai sy'n cefnogi rheoleiddio. Yr hyn sy'n gwbl glir yw na all rasio milgwn yng Nghymru barhau fel y mae heddiw. Mae hynny'n gwbl glir. Diolch i'r ymgyrchwyr a'r deisebydd, oherwydd heb y deisebydd, ni fyddem wedi cael y ddadl hon heddiw; ni fyddem wedi cael yr ymchwiliad. Rwy'n edrych ymlaen at yr ymgynghoriad. Rwy'n edrych ymlaen at ei ganlyniad ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chyd-Aelodau yn rhinwedd fy swydd fel Aelod o'r Senedd, ac nid fel Cadeirydd, i barhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i gyflawni argymhellion yr adroddiad a chau'r llen ar rasio milgwn yng Nghymru. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

16:50
7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Yr adolygiad ffyrdd

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Siân Gwenllian.

Eitem 7 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar yr adolygiad ffyrdd, a galwaf ar Natasha Asghar i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8218 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad panel adolygu ffyrdd Llywodraeth Cymru, Dyfodol Buddsoddiad Ffyrdd yng Nghymru.

2. Yn gresynu at y diffyg ymgysylltu gan y panel adolygu ffyrdd gyda'r cyhoedd, cynrychiolwyr etholedig, awdurdodau lleol, busnesau a'r trydydd sector ac eraill yn ystod yr adolygiad.

3. Yn credu bod argymhellion y panel adolygu ffyrdd i roi'r gorau i fuddsoddi mewn prosiectau ffyrdd hanfodol sydd wedi'u cynllunio i wella diogelwch ar y ffyrdd, mynd i'r afael â thagfeydd, lleihau llygredd aer a sicrhau buddion economaidd yn methu â chyflawni'r seilwaith trafnidiaeth y mae pobl Cymru yn eu haeddu.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch o galon, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o wneud y cynnig hwn heddiw fel y gall yr holl Aelodau yma drafod adolygiad ffyrdd y Llywodraeth Lafur a'i pholisïau trafnidiaeth yn iawn. Roedd y ffordd y gwnaed y cyhoeddiad diweddar ar yr adolygiad ffyrdd yn draed moch. Datganiad y Dirprwy Weinidog yn y Siambr hon ychydig cyn y toriad oedd un o'r datganiadau gwaethaf i mi eu clywed hyd yma—datganiad am gasgliad yr adolygiad ffyrdd nad oedd yn amlinellu pa ffyrdd sydd wedi cael sêl bendith a pha rai sydd wedi'u diddymu. Yn hytrach, dewisodd y Dirprwy Weinidog ddatgelu pa brosiectau a oedd wedi'u hachub tra bod llawer ohonom eisoes yn y Siambr, yn mynd ati fel lladd nadroedd i fynd drwy'r ddogfen roeddem newydd ei chael. Mae'n debyg na fyddwn ni byth yn gwybod a oedd hynny'n ymgais fwriadol i osgoi craffu priodol neu'n gamgymeriad diffuant ar ran y Dirprwy Weinidog. Ond o leiaf nawr rydym wedi cael amser i dreulio canlyniad yr adolygiad, ac wedi cael digon o amser heddiw i graffu arno fel y mae'n ei haeddu.

Yn fy marn i, nid yw'r adolygiad ffyrdd yn diwallu anghenion economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru fodern a deinamig. Efallai fod y Dirprwy Weinidog yn credu bod ei waith yn torri tir newydd, yn ddewr, ac yn arwain y byd, ond yn sicr nid yw'r rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan hyn yn rhannu'r farn hon. Mae rhai wedi galw cyhoeddiad y Dirprwy Weinidog yn 'gyflafan ffyrdd Dydd San Ffolant', gydag eraill yn cynnal protestiadau ar raddfa fawr. Cymerwch gymuned Llanbedr, er enghraifft. Roedd pentrefwyr yn credu bod eu diflastod yn dod i ben pan roddwyd sêl bendith i gynlluniau ar gyfer ffordd osgoi Llanbedr yn 2020. Yna, yn fuan ar ôl rhoi stop ar brosiectau adeiladu ffyrdd yng Nghymru, fe wnaethom ddarganfod bod ffordd osgoi Llanbedr yn mynd i gael ei rhoi heibio, er bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwario oddeutu £14 miliwn ar y cynllun. Nid yw trigolion Llanbedr yn gallu symud o gwmpas eu pentref yn ddiogel oherwydd problemau traffig, gyda'r ardal yn aml yn dod i stop yn llwyr. Byddai ffordd osgoi wedi rhoi diwedd ar eu hunllef, ac wedi adfer ansawdd bywyd y pentrefwyr. Maent mor ddig, mae'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan ymateb difeddwl y Llywodraeth Lafur yn cynllunio protest fawr yn yr ardal yn ddiweddarach y mis hwn, ac a bod yn onest nid wyf yn eu beio.

Mae'n amlwg o edrych ar ganlyniad yr adolygiad ffyrdd fod gogledd Cymru yn cael cam go iawn, fel sy'n digwydd yn aml gyda'r Llywodraeth Lafur hon. Rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelodau'n edrych ar hyn yn fanylach mewn perthynas â ffyrdd penodol yn eu rhannau hwy o'r wlad sydd wedi cael eu hatal, ond gadewch imi gyffwrdd ar ambell un. Mae'r drydedd bont dros y Fenai a llwybr coch sir y Fflint, dau gynllun mawr eu hangen, wedi'u rhoi heibio. Yn ddiweddar, gwelsom pa mor fregus yw Ynys Môn pan fu'n rhaid cau pont Menai oherwydd pryderon ynghylch diogelwch. Arweiniodd hynny at anhrefn traffig mawr yn yr ardal, gan gynnwys tagfeydd trwm, heb sôn am y niwed economaidd a achoswyd i'r ardal o ganlyniad. Byddai trydedd groesfan Menai wedi helpu i wella amseroedd teithio, diogelwch ar y ffyrdd a chadernid. Rwy'n siŵr y bydd nifer o Aelodau gogledd Cymru yma, ynghyd â'u hetholwyr, yn siomedig iawn ynghylch y penderfyniad wrth i bawb ohonom aros yn eiddgar i weld pa ddewisiadau eraill a gaiff eu llunio. Mae trydedd groesfan Menai yn ymuno â llu o brosiectau eraill sy'n cael eu rhoi heibio, gan gynnwys llwybr coch sir y Fflint, gyda rhai'n dadlau y byddai'n lleihau tagfeydd ac yn gwella ansawdd aer yn sylweddol. Mae'r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd, sefydliad y mae gennyf y parch mwyaf ato ac y gweithiais yn agos gydag ef ers amser hir, wedi rhoi eu dyfarniad i mi ar yr adolygiad ffyrdd, ac mae braidd yn ddamniol a dweud y lleiaf. Meddai Geraint Davies, aelod o fwrdd y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd:

'Dyma ergyd enfawr i fusnesau'r gadwyn gyflenwi sydd angen rhwydwaith ffyrdd modern, gweithredol i gadw pobl a nwyddau i symud yn effeithlon.'

Aeth Mr Davies rhagddo i ddweud

'Ffyrdd yw'r unig opsiwn i lawer o fusnesau a chymunedau yng Nghymru. Mae tagfeydd ar lwybrau allweddol yn gwneud trafnidiaeth yn ddrutach nag y mae angen iddo fod. Rhaid i Weinidogion gydnabod y gwirioneddau hyn ac ymrwymo i welliannau i ffyrdd fel Ffordd Liniaru'r M4 y mae ei hangen arnom yn ddirfawr.'

Ychwanegodd y gymdeithas, 'Mae cludo nwyddau ar y ffordd nid yn unig yn darparu gwasanaethau hollbwysig i gymunedau anghysbell ac i bobl fregus, mae hefyd yn sbardun i economi'r DU. Drwy beidio â buddsoddi mewn ffyrdd a seilwaith, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud Cymru'n lle anos ar gyfer gwneud busnes.'

Mae fy mewnflwch yn llawn o e-byst gan etholwyr, a phobl ymhellach i ffwrdd hyd yn oed, yn mynegi eu rhwystredigaeth ynghylch penderfyniad Llafur i atal prosiectau adeiladu ffyrdd. Mae un etholwr, sy'n teithio o'r Coed Duon i Gasnewydd bob dydd ar gyfer gwaith, taith a arferai gymryd ychydig dros 30 munud yn unig—. Mae bellach yn cymryd dros awr i fy etholwr gyrraedd y gwaith, oherwydd mae'r Llywodraeth Lafur yn dod â Chymru i stop drwy fethu mynd i'r afael â thagfeydd. Er ei fod yn croesawu cynlluniau i gyflawni sero net, mae fy etholwr yn dweud ei fod yn credu y bydd y dull presennol o gael gwared ar adeiladu ffyrdd yn amddifadu Cymru o fuddsoddiad yn y dyfodol ac yn mynd â phawb ohonom yn ôl i'r oesoedd tywyll. Mae'n dweud, 'Byddwn bob amser angen ffyrdd ac angen economi iach i ddiwallu anghenion poblogaeth sy'n tyfu. Nid wyf yn credu bod gan unrhyw un yng Nghynulliad Cymru unrhyw syniad sut beth yw teithio i'r gwaith ar yr adegau prysuraf bob dydd. Maent yn gwneud penderfyniadau wrth beidio â byw ym myd go iawn bodau dynol cyffredin.' Hyn gan etholwr, cofiwch.

Mae etholwr arall i mi wedi cael ei orfodi i ganslo ei aelodaeth o ganolfan ddringo dan do boblogaidd yng Nghaerdydd oherwydd faint o amser mae'n cymryd iddo gyrraedd yno o'i gartref. Mae'r hyn a ddylai fod yn daith 35 munud bellach yn cymryd hyd at awr, ac ni all wynebu eistedd mewn traffig drwy'r amser. Ar ôl brwydro gyda thraffig ers cryn dipyn o amser i gyrraedd y ganolfan ddringo, mae bellach wedi penderfynu canslo ei aelodaeth yn llwyr gan nad yw'n gallu dioddef hyn mwyach. Oherwydd methiant y Llywodraeth hon i roi rhwydwaith trafnidiaeth ddigonol i ni, mae gennym fusnesau'n colli arian, ac yn yr achos hwn, mae ffitrwydd, mwynhad ac iechyd meddwl trigolion yn dioddef.

16:55

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Wel, dyna chi. Nid fy safbwyntiau i yw'r rhain; dyma safbwyntiau rhai o'r bobl ar lawr gwlad, y bobl sy'n defnyddio ein rhwydwaith trafnidiaeth bob dydd. Dyma'r bobl y dylai Llywodraeth Cymru wrando arnynt. Yn anffodus, nid yr etholwyr rwyf newydd eu nodi yw'r unig rai; mewn gwirionedd, fe gollodd gyrwyr yng Nghasnewydd, Caerdydd ac Abertawe 107 awr oherwydd tagfeydd yn 2022 yn unig.

Yn sgil gwaharddiad Llafur ar adeiladu ffyrdd, rydym wedi cael gwybod y bydd y Llywodraeth yn buddsoddi, ac rwy'n dyfynnu, 'mewn dewisiadau amgen go iawn' yn lle hynny, ac yn rhoi mwy o ffocws ar y rhwydwaith trafnidiaeth. Ond fel sy'n digwydd yn aml gyda'r Llywodraeth hon hyd yma, ofnaf mai rhethreg yn unig yw hyn yn hytrach na gweithredu ystyrlon. Rwy'n dweud hyn oherwydd, hyd yma, nid ydym wedi gweld unrhyw ddewisiadau amgen go iawn gan Lywodraeth Cymru. Yn hytrach, mae Gweinidogion yn torri cyllid hanfodol i fysiau ledled y wlad, yn dileu cyllid ar gyfer teithio llesol, ac yn torri cyllid ar gyfer teithio cynaliadwy. Hefyd, dim ond 47 dyfais gwefru cerbydau trydan sydd gan Gymru i bob 100,000 o'r boblogaeth, sy'n wael iawn o'i gymharu â 699 yn yr Iseldiroedd, 399 yn Lwcsembwrg a 112 yn Ffrainc. Mae angen mynd i'r afael â hyn ar frys, gan ein bod yn mynd i weld mwy o gerbydau trydan ar ein ffyrdd wrth symud ymlaen, yn enwedig yn dilyn gwaharddiad Llywodraeth y DU ar werthu ceir petrol a diesel newydd erbyn 2030. Yn ôl proffwydoliaethau Llywodraeth Cymru ei hun, bydd angen rhwng 30,000 a 50,000 o fannau gwefru cyflym ar Gymru erbyn 2030. Afraid dweud, mae amser yn brin.

Rwyf fi a fy nghyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig yn llwyr gefnogi arloesedd teithio cynaliadwy a theithio gwyrddach. Mae angen i bob un ohonom chwarae ein rhan wrth wneud dewisiadau teithio mwy gwyrdd, ond rhaid i Lywodraeth Cymru beidio â cheisio newid drwy gosbi modurwyr. Cosbi modurwyr yw'r union beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, gyda thaliadau atal tagfeydd ar y gorwel, cyfyngiadau cyflymder 20 mya cyffredinol yn cael eu cyflwyno nawr, a rhoi'r gorau i adeiladu ffyrdd. Mae angen i Lywodraeth Cymru fynd ati o ddifrif i ailystyried ei pholisi trafnidiaeth, oherwydd ar hyn o bryd nid yw'n addas i'r diben.

Gall bysiau chwarae rhan ganolog i gael mwy o bobl allan o'u ceir, ond nawr dywedir wrthym y dylem ddisgwyl toriadau llym i wasanaethau o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddod â'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau i ben—sgwrs a gafodd llawer ohonom mewn dadl ychydig wythnosau yn ôl. Mae Gweithredwyr Bysiau a Choetsys Cymru, sy'n cynrychioli cwmnïau bach yng Nghymru, yn ofni bod rhwng 65 a 100 y cant o'r gwasanaethau mewn perygl o gael eu torri. Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y byddai'n hoffi'n fawr pe bai'n gallu dod o hyd i'r arian i gadw'r cynllun cyllido yn ei le. Wel, pe na bai'r Llywodraeth yn gwastraffu miliynau o bunnoedd ar gynnal maes awyr sy'n methu neu'n prynu Fferm Gilestone, efallai y byddai arian ychwanegol ar gael i'w wario ar y pethau pwysig allan yno. A pheidiwch â sôn am y problemau gyda threnau yma yng Nghymru—mae honno'n ddadl hollol ar wahân ar gyfer diwrnod arall.

I lawer o bobl yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, mae'n ffaith mai ceir yw'r unig ddewis go iawn ar hyn o bryd oherwydd trafnidiaeth gyhoeddus wael. Mae ffyrdd yn gwbl angenrheidiol ar gyfer pobl yn yr ardaloedd hynny. Mae pobl Cymru angen ac yn haeddu rhwydwaith drafnidiaeth sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ac wedi'i ddiogelu ar gyfer y dyfodol, ac mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn cyflawni hynny, gan y bydd unrhyw beth llai na hynny'n annerbyniol. Fodd bynnag, gyda phrosiectau ffyrdd yn cael eu dileu a chyllid ar gyfer teithio cynaliadwy a thrafnidiaeth gyhoeddus yn lleihau, ynghyd â'r holl bolisïau trafnidiaeth anflaengar eraill a welais ers imi fod yn Weinidog trafnidiaeth yr wrthblaid, rwy'n methu gweld sut y gallwn gyflawni hyn yma yng Nghymru. 

Rwy'n annog pob Aelod sy'n poeni o ddifrif am drafferthion eu hetholwyr, eu busnesau a'u cymunedau i bleidleisio o blaid ein cynnig heddiw. Diolch, Lywydd.

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Delyth Jewell i gynnig gwelliant 1.

Gwelliant 1—Siân Gwenllian

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod yr angen am weithredu beiddgar a radical yn y sector trafnidiaeth i helpu i gyflawni allyriadau sero net cyn 2050.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i fuddsoddi mwy brys mewn trafnidiaeth gyhoeddus ac isadeiledd cerbydau trydan fel bod gan gymunedau ledled Cymru fwy o fynediad at opsiynau trafnidiaeth carbon isel neu di-garbon.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Llywydd. Mae'n bleser gen i gynnig ein gwelliant.

Mae angen inni wneud pethau'n wahanol os ydyn ni am gyrraedd net zero erbyn 2050—yn sicr os ydyn ni am fod yn fwy uchelgeisiol a'i chyrraedd erbyn 2035, fel rŷn ni ym Mhlaid Cymru yn datgan. Mae'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Cyn imi fanylu ar y pwyslais rŷn ni eisiau ei weld ar wella dewisiadau pobl o ran darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus, dwi jest eisiau datgan yn glir unwaith eto bod yr uchelgais a'r sbardun tu ôl i'r penderfyniad yma gan Lywodraeth Cymru yn un dwi'n ei groesawu. Dyw e ddim yn benderfyniad sydd yn mynd i fod yn boblogaidd ym mhobman, ond os ydyn ni dim ond yn gwneud penderfyniadau hawdd a phoblogaidd, bydd dim planed ar ôl i ni. Felly, dwi eisiau jest gwneud hwnna'n glir.

Wrth ddweud hyn, mae'n rhaid inni hefyd gydnabod pwysigrwydd cymryd pobl Cymru ar y daith i'r dyfodol newydd o'n blaenau. Pwrpas ein gwelliant ni yw ailffocysu'r drafodaeth ar yr angen am fwy o fuddsoddiad a sicrwydd i'n darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn, unwaith eto, gwella a chryfhau dewis pobl, cynnig mwy o agency, fel byddwn ni'n dweud yn Saesneg. Achos dwi'n meddwl bod lot o bobl yn teimlo'n ofnus neu'n bryderus am y newidiadau hyn. Rŷn ni angen ffeindio ffyrdd o esmwytho pryderon pobl, o fodloni'r rhai sy’n poeni, ac i roi hyder iddyn nhw am beth fydd hyn yn ei olygu iddyn nhw.

Ar hyn o bryd, mae nifer o lefydd yng Nghymru lle dydy'r opsiwn o gymryd bws neu drên jest ddim ar gael, neu dydy’r opsiwn ddim yn realistig yng nghyd-destun bywydau pobl. Mae hyn yn arbennig o wir yn y cymoedd ac yn ardaloedd cefn gwlad Cymru, ac mae angen sicrhau na fydd y dyfodol newydd angenrheidiol yma yn arwain at arwahanu ac unigrwydd. Eto, rhaid inni fynd â’r bobl ar y siwrnai gyda ni. Ac mae'n rhaid inni wneud yr opsiwn o deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn hawdd ac opsiwn sy'n haws i bobl ei wneud. Rhwng 2019 a 2020, cynyddwyd prisiau bysys 3.5 y cant ac, yn yr un cyfnod, collwyd rhyw 690 o arosfannau bysiau, sy'n ei gwneud hi'n anoddach fyth i ddal bws. Gwnaeth etholwraig gysylltu â mi wythnos hon yn pwyntio mas ei fod e'n costio £2.20 i fynd ar y bws o yrion Caerffili i mewn i'r dref. Mae hwnna'n siwrnai o 1.5 milltir. A dywedon nhw hefyd, os oedden nhw eisiau mynd i gyngerdd yng Nghaerdydd gyda'r nos, dydy e ddim yn bosibl iddyn nhw gyrraedd adref ar y bws, achos mae’r bws olaf am 9 o'r gloch y nos, a dydy’r etholwraig ddim yn teimlo’n saff yn cerdded adref o'r orsaf drenau. Dwi'n meddwl bod yn rhaid inni edrych ar realiti bywydau pobl a'i wneud e’n bosibl i bobl newid eu ffyrdd nhw o fyw, achos, eto, dydyn ni methu jest cario ymlaen yn cael mwy a mwy a mwy o ffyrdd i ddifancoll. Eto, dwi eisiau inni gyrraedd dyfodol lle mae pobl yn gweld bod hyn ddim dim ond yn bosibl ond yn normal.

Cyn imi orffen, Llywydd, gwnaf i jest dweud gair am drenau, achos mae hwnna wedi cael ei grybwyll yn barod yn y ddadl yma. Mae diffyg buddsoddiad yn ein rheilffyrdd yn ein dal ni nôl fel cenedl, a'r Ceidwadwyr yn San Steffan sydd ar fai. Does dim cyfiawnhad am y penderfyniad i wrthod Cymru y biliynau sy'n ddyledus inni am HS2. Mae'n cynrychioli ymosodiad cyfansoddiadol, amgylcheddol a moesol, a does dim cyfiawnhad am hynny. Mae'n rhaid inni ffeindio ffyrdd newydd o fyw, ond mae’n rhaid inni ffeindio ffyrdd o gyrraedd y dyfodol gwyrddach, gyda phawb ar yr un daith gyda'n gilydd, dim neilltuo neu amddifadu cymunedau sydd ddim yn ffitio'r model, ond gwneud y buddsoddiad, mynnu pwerau ychwanegol gan San Steffan, a chreu realiti newydd. Dyna'r ffordd o greu unrhyw lwybr newydd. Dyna'r ffordd i wneud yn siŵr bod hyn yn newid ar gyfer pobl Cymru gyfan.

17:00

A gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod, Darren Millar, am gyflwyno'r drafodaeth heddiw ar yr adolygiad ffyrdd, a hefyd i Natasha Asghar am agor y ddadl heddiw? Mae'n amlwg, o'n hochr ni i'r meinciau yma, ein bod ni'n credu bod adolygiad ffyrdd Llywodraeth Cymru yn un difeddwl a dweud y lleiaf.

Yn fy nghyfraniad heddiw, hoffwn dynnu sylw yn gyntaf at yr effaith y bydd yr adolygiad hwn yn ei chael ar drigolion rwy'n eu cynrychioli yng ngogledd Cymru. Fel y gwyddom, gwaetha'r modd, mae gogledd Cymru yn mynd i fod ar eu colled yn aruthrol oherwydd yr adolygiad hwn. Rydym yn gwybod bod 16 o brosiectau wedi'u cynllunio ar gyfer gogledd Cymru, a bydd 15 o'r rhain naill ai'n cael eu hoedi neu eu diddymu'n gyfan gwbl. Mae pob prosiect adeiladu ac uwchraddio ffyrdd mawr ar draws fy rhanbarth yng ngogledd Cymru wedi dod i stop. Mae'r adolygiad hwn yn gwbl syfrdanol i fy nhrigolion. Ymhlith y prosiectau a ddiddymwyd mae cynlluniau i uwchraddio'r A483 ffordd osgoi Wrecsam, yr A494 Lôn Fawr, ffyrdd Rhuthun a Chorwen, cylchfan yr A483 yn Halton, yr A55 ar gyffyrdd 15 i 16 a 32 i 33, yn ogystal â thrydedd bont y Fenai.

Bydd Llywodraeth Lafur Cymru'n dweud wrthym eto heddiw fod y gwaharddiad hwn ar adeiladu ffyrdd yn hanfodol i ddiogelu'r amgylchedd a lleihau allyriadau carbon, ond yr hyn y maent yn methu ei ddeall eto yw mai trafnidiaeth breifat ar y ffyrdd yw'r unig opsiwn trafnidiaeth ymarferol i lawer o fy nhrigolion yng ngogledd Cymru, gyda thua 84 y cant o bobl yng Nghymru yn dibynnu ar gar neu feic modur i fyw eu bywydau bob dydd, ac mae'r cerbydau hyn yn mynd yn lanach ac yn wyrddach gyda'r newid cyflym oddi wrth y peiriant tanio mewnol. Fel y mae pwynt 3 y cynnig heddiw yn nodi, nid yw'r adolygiad ffyrdd hwn yn gwneud dim i ddarparu'r seilwaith trafnidiaeth y mae pobl Cymru, a'r trigolion rwy'n eu cynrychioli yng ngogledd Cymru, yn ei haeddu.

Wrth gwrs, byddai canlyniad yr adolygiad ffyrdd wedi cael derbyniad llawer mwy cynnes pe bai gennym lefelau digonol a phriodol o drafnidiaeth gyhoeddus yn fy rhanbarth i yng ngogledd Cymru. Ond mae pobl y gogledd yn gwybod nad yw hyn yn wir, ac fel tystiolaeth o hyn, rydym yn gwybod bod 11,000 o wasanaethau trên wedi'u canslo gan Trafnidiaeth Cymru dros y tair blynedd diwethaf, ac fe gafodd dros £2 filiwn ei dalu mewn iawndal i'r teithwyr hynny ers 2018. Ac fel y gwyddom, cyhoeddwyd prosiect metro gogledd Cymru saith mlynedd yn ôl bellach, ac eto, mae'r gobaith o gael rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig ar gyfer gogledd Cymru gyfan yn ymddangos mor bell ag erioed i'r trigolion rwy'n eu cynrychioli. A hyn oll tra bôm yn parhau i weld symiau sylweddol o fuddsoddiad yn cael ei sianelu tuag at y cynlluniau metro yn ne Cymru—mae hynny mor bell i ffwrdd o'r hyn a welwn yn y gogledd. 

Fel yr amlinellir gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru, wrth edrych ar gefnogi ein hamgylchedd, mae angen inni weithio ar atebion nad ydynt yn niweidio economi Cymru ar yr un pryd. Gall y ddau beth weithio gyda'i gilydd. Mae angen inni weld cynlluniau sy'n cefnogi'r amgylchedd yn bod o fudd i swyddi hefyd, gan sicrhau bod gan bobl swyddi y gallant fod yn falch o'u gwneud. 

17:05

Diolch. Rwy'n cael ychydig bach o drafferth gyda'ch awgrym na fydd unrhyw ffyrdd eraill yn cael eu hadeiladu byth. Mae'n ddigon posibl y bydd y prosiectau sydd wedi'u diddymu'n digwydd mewn ffordd arall. Mae'n ddigon posibl y byddant yn cael eu datblygu mewn cynnig amgen. Felly, mae ceisio cyfleu mai dyma ddiwedd ar adeiladu ffyrdd yng Nghymru braidd yn anonest. Ac fe gyfeirioch chi at ddatblygu economaidd; mae yna waith ar y gweill nawr i edrych ar greu eithriadau o feini prawf amrywiol ar gyfer safleoedd arwyddocaol o safbwynt datblygu economaidd. Felly, peidiwch â lledaenu'r nonsens ynglŷn â dim mwy o ffyrdd yn cael eu hadeiladu byth, oherwydd mae hynny'n gwbl gamarweiniol. 

Wel, rwy'n credu bod yr adolygiad ffyrdd ar gyfer y rhanbarth y mae'r ddau ohonom yn ei gynrychioli yng ngogledd Cymru yn eithriadol o niweidiol. Mae 15 o'r rhaglenni hynny'n cael eu diddymu neu eu hoedi—

Ar eu ffurf bresennol—yn union. Felly, beth yw'r cynllun? Mae angen inni weld cynllun ar gyfer gogledd Cymru. Saith mlynedd yn ôl, Llyr Gruffydd, fe gafodd prosiect metro gogledd Cymru ei gyhoeddi, fel y gwyddoch. Nid ydym wedi gweld hwnnw'n digwydd yno hyd yma. Mae angen ei ddatrys. 

Y pwynt olaf yr hoffwn ei godi heddiw, a amlinellir ym mhwynt 2 o'n cynnig, yw'r diffyg ymgysylltiad llwyr rhwng y panel adolygu ffyrdd a'r cyhoedd, cynrychiolwyr etholedig, awdurdodau lleol, busnesau, y trydydd sector ac eraill yn ystod yr adolygiad. Fel y mynegir gan Ffederasiwn y Busnesau Bach yng Nghymru, mae busnesau bach Cymru yn chwarae rhan hanfodol yn cefnogi cymunedau lleol, yn creu cyfoeth a chyflogaeth, yn sbarduno arloesedd, ac yn helpu Cymru i addasu ac ymateb i'r heriau sydd o'n blaenau. Wrth inni symud tuag at sero net, mae'n hanfodol bwysig sicrhau bod eu llais hwythau'n cael ei glywed hefyd, ac nid yw'n cael ei ystyried yn briodol ar hyn o bryd yn fy marn i. 

A chlywsom gyfraniad gan Alun Davies ar y meinciau ar yr ochr draw ddoe, yn nodi bod y buddsoddi mewn adeiladu ffyrdd yn ei etholaeth wedi tynnu nifer o fusnesau i mewn a chreu nifer o swyddi yn ei ardal. Mae'n amlwg y gall adeiladu ffyrdd gael effaith gadarnhaol enfawr ar ysgogi buddsoddiad, gan ddenu'r busnesau hynny, creu'r swyddi hynny, a chodi pobl allan o dlodi. 

Felly, wrth gloi, Lywydd, gallai cael gwared ar y prosiectau adeiladu ffyrdd sydd wedi'u cyhoeddi yn yr adolygiad ffyrdd gael effaith beryglus ar bobl Cymru. Mae'n gam yn ôl yn y ffordd rydym yn byw ein bywydau bob dydd. Yn lle arafu Cymru, dylai Llywodraeth Cymru afael yn yr olwyn a chael Cymru i symud eto gyda rhaglen o blaid twf, o blaid busnes, o blaid gweithwyr, sy'n gweithio i yrwyr. Galwaf ar bob Aelod i gefnogi ein cynnig yma heddiw. Diolch yn fawr iawn. 

Gwers hanes fechan. Ni ddyfeisiwyd ffyrdd i ddarparu ar gyfer y peiriant tanio. Dyfeisiwyd ffyrdd i gael pobl o A i B, ymhell cyn i'r peiriant tanio gael ei ddyfeisio, a diben hyn yw addasu ein ffyrdd at ddibenion gwahanol i sicrhau bod sawl ffordd o deithio, ac i gyd-fynd â'n rhwymedigaethau newid hinsawdd. Fe wnaethom i gyd bleidleisio dros leihau ein hallyriadau hinsawdd i gefnogi cenedlaethau heddiw a'r dyfodol, ond rwy'n ofni mai'r cyfan a glywsom hyd yma gan y Ceidwadwyr yw 'Gwnewch beth rwy'n ei ddweud, nid yr hyn rwy'n ei wneud'. Felly, mae'n rhaid inni gysoni ein polisi ffyrdd â'n 'Llwybr Newydd', ein cynlluniau sero net, ac yn wir, ein polisïau cynllunio yn 'Cymru'r Dyfodol'. Felly, yn syml, ni allwn barhau fel rydym wedi'i wneud o'r blaen, oherwydd dyna'r ffordd rydym yn mynd i ddinistrio ein byd yn llwyr. 

Felly, mae yna lawer o—

Onid yw'r ymagwedd 'Gwnewch yr hyn a ddywedaf, nid yr hyn a wnaf' wedi'i chyfleu i'r dim yn y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn berchen ar faes awyr? 

Nid oes a wnelo hyn â'r maes awyr—[Torri ar draws.] Wel, nid oes gennym awyrennau'n rhedeg ar ffyrdd, ac mae a wnelo hyn â ffyrdd. Mae'n ymwneud â chael meini prawf mwy cydlynol ar gyfer pam ein bod yn mynd i fuddsoddi yn yr allyriadau carbon sy'n cael eu creu gan ffyrdd. Felly, y meini prawf newydd: newid trafnidiaeth yn drafnidiaeth gynaliadwy. Felly, blaenoriaethu—hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy yw blaenoriaethu teithio llesol a beicio; lleihau nifer yr anafiadau a'r marwolaethau ar y ffyrdd, nid oes neb yn mynd i ddadlau yn erbyn hynny, ac addasu ffyrdd i effaith newid hinsawdd. Felly, lle rydym yn gorfod newid y rhwydwaith ffyrdd, sicrhau ein bod yn gwella'r strategaeth perthi ac ymylon ffyrdd o amgylch bywyd gwyllt a lleihau unrhyw effaith y maent yn ei chael ar fyd natur. A chefnogi ffyniant drwy sicrhau bod safleoedd a ddatblygwyd yn cyflawni cyfran uchel o ddulliau trafnidiaeth gynaliadwy. A dyna'r rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniad i gymeradwyo 17 o'r prosiectau yr edrychodd yr arbenigwyr hyn arnynt ac i gael gwared ar lawer o rai eraill sydd ond yn ailadrodd yr hen ffordd o wneud pethau. 

Felly, er enghraifft, roedd yna gynnig i adeiladu ffordd osgoi, gwella ffordd osgoi o amgylch Wrecsam er mwyn gallu darparu ar gyfer datblygiad preifat o dai newydd a oedd yn amlwg wedi ei osod yn y lle anghywir, gan nad oedd yno gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus. Yn yr un modd, cefais fy mrawychu wrth weld y cynnig gan Gyngor Caerdydd i gytuno i adeiladu 2,500 o gartrefi yng ngogledd Caerdydd, i'r gogledd o fy etholaeth i, heb ddim o'r cysylltiadau trafnidiaeth ar hyn o bryd y byddai eu hangen er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu mynd i'r gwaith ac at ddibenion hamdden naill ai drwy deithio llesol neu drwy drafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy. A'r dewis arall yw y byddant yn gwneud yn union yr un fath â'r hyn sy'n digwydd ar safle Redrow gerllaw, sef bod pobl yn mynd i mewn i'w ceir ac yn tagu'r ffyrdd gyda llygredd aer a gwneud bywyd yn uffern i bobl sydd heb gar, heb opsiynau, ac yn byw lle maent yn byw am nad oes ganddynt ddewisiadau, ac yn sicr yn effeithio ar iechyd ein plant. Felly, mae'n rhaid inni sicrhau bod awdurdodau lleol yn gwneud penderfyniadau sy'n cyd-fynd â'r rhwymedigaethau hinsawdd y maent hwythau hefyd wedi'u gwneud i sicrhau na fydd gennym fyd na fydd ein cenedlaethau yn y dyfodol eisiau byw ynddo. 

Rwyf am wrthwynebu pwynt 2 yng nghynnig y Torïaid, sef y syniad y dylai'r arbenigwyr hyn fod wedi bod yn gwneud ymarfer ymgysylltu â'r cyhoedd. Na. Gwaith Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru yw hwnnw. Gwaith Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru, nid arbenigwyr trafnidiaeth. Yn amlwg, mae angen inni barhau i ymgynghori â phobl, ond mae cael ymgynghoriadau i wneud popeth yn gwneud i Lywodraethau ymddwyn fel plant ac yn eu gwneud yn analluog i wneud y penderfyniadau cywir. Felly, yn bendant mae angen inni newid, ac rwy'n credu bod yna bob math o drysorau yn adroddiad yr adolygiad ffyrdd, nad yw'n ymddangos bod Natasha Asghar wedi'i ddarllen, sy'n siomedig. Mae ynddo argymhellion gwych ac rwy'n edrych ymlaen at ddadl arall lle bydd gennym ffocws gwahanol yn lle 'Peidiwch â gwneud unrhyw beth. Gadewch inni barhau fel o'r blaen'. 

17:10

Gallaf ddweud fy mod i wedi'i ddarllen—nid wyf yr holl ffordd drwodd, rhaid imi gyfaddef, ond bron â bod.

Nawr, hoffwn ddweud, Weinidog—ac rwyf wedi ei godi gyda'r Dirprwy Weinidog—pa mor siomedig wyf fi o weld prosiectau mawr eu hangen yn dod i stop, a hyn ar ôl £9 miliwn ar y cylchfannau hynny ar yr A55. I ni yng ngogledd Cymru, unwaith eto, rydym yn gweld ein hunain yn cael cam. Ond rwyf eisiau gofyn cwestiwn i chi gan fy mod yma, a cheisio ei gael ar glawr. Ar y posibilrwydd o gael gwared ar y gylchfan, yn yr adroddiad, tudalen 22, mae'n sôn bod nodau Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â chael y cylchfannau hynny yno o ran hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy, ac y gellir eu datblygu mewn astudiaethau ffres gan ddefnyddio'r ffordd amlfoddol ranbarthol o weithio. Felly efallai y gallwch chi esbonio ychydig i mi, oherwydd efallai na fyddai'r prosiect penodol hwnnw wedi'i ddiddymu am byth. 

Nodwyd bod saith o brosiectau yn rhai 'na ddylid bwrw ymlaen â nhw', y nifer mwyaf mewn unrhyw ranbarth yng Nghymru. Nodwyd pedwar prosiect fel rhai 'na ddylid bwrw ymlaen â nhw ac eithrio rhai elfennau', a nodwyd bod phedwar prosiect arall 'heb ddigon o wybodaeth i'w hadolygu'. Felly, a fyddwch chi'n dod yn ôl at y rhai sydd 'heb ddigon o wybodaeth i'w hadolygu'? Os oeddent yno, mae'n amlwg fod rhywfaint o ystyriaeth wedi'i rhoi iddynt cyn hynny. Nawr, mae hyn yn ychwanegol at y swm enfawr o £21 miliwn a wariwyd ar ffyrdd a gafodd eu hadolygu yng ngogledd Cymru, sef y swm mwyaf o bell ffordd yn unrhyw ranbarth yng Nghymru, ac felly, y rhanbarth gyda'r mwyaf i'w golli. Mae hwnnw'n swm anhygoel o arian a fyddai, o'i roi tuag at ofal cymdeithasol, dyweder, yn talu ar ei ganfed ar ffurf gwell gofal i fy nhrigolion oedrannus a bregus.

Felly, gyda'i gilydd, mae'n ymddangos bod gogledd Cymru wedi cael mwy o gam na'r rhan fwyaf o ardaloedd. Hyn mewn rhan o'r wlad a chanddi boblogaeth wledig sylweddol sy'n dibynnu ar gysylltiadau traffig da. Roedd amodau targed yn anelu i geisio sicrhau bod 67 y cant o rwydwaith ffyrdd Cymru mewn cyflwr da. A sylwais ar rywbeth arall yn yr adroddiad hefyd. Rydym yn siarad am allyriadau carbon, ac mae'n nodi'n eithaf clir fod allyriadau carbon yn uwch o dan 35 mya, felly rwy'n poeni braidd ynglŷn â'r ffordd rydym yn rhuthro yn ein blaenau gyda'r terfynau 20 mya i leihau allyriadau carbon. Wrth symud ymlaen ar hynny, mae rhywun heb ddarllen ei adroddiad ei hun.

Cymru sydd â'r ganran isaf o ffyrdd mewn cyflwr da; mae 57 y cant o'r rhwydwaith ffyrdd yn cael ei ddisgrifio fel 'da', o'i gymharu â 63 y cant dros y ffin, o dan Lywodraeth Geidwadol y DU. Nid yw'n ymddangos bod Llywodraeth Lafur Cymru, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, fel petai wedi sylwi bod yna chwyldro cerbydau trydan yn digwydd, ac mae'n ysgubo drwy'r byd. Yn hytrach na cheisio cofleidio'r dechnoleg hon, mae'r Llywodraeth yn gwneud addewidion gwag am wella trafnidiaeth gyhoeddus. Felly, dylai'r Gweinidog esbonio uchelgeisiau i fy etholwyr yn Aberconwy—wyddoch chi, rydych chi'n siarad am wella trafnidiaeth gyhoeddus ac yna'n cael gwared ar brif lwybr bysiau, y T19, sy'n golygu bod myfyrwyr a disgyblion yn methu mynychu eu lleoedd dysgu.

Fel sy'n cael ei brofi yn Aberconwy, mae Llywodraeth Cymru'n methu darparu'r system drafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy sydd angen i chi ei sefydlu cyn i chi hyd yn oed sôn am rai o'r pethau niwlog a gwirion sy'n cael eu cynllunio yma ym Mae Caerdydd. Mae eich agenda gwrth-gar mor llym nes ei bod yn ymddangos bod dyfodiad ceir awtonomaidd yn y dyfodol wedi cael ei anwybyddu'n llwyr, ac mae'n deg dweud nad atebodd y Dirprwy Weinidog mewn pwyllgor, pan ofynnais iddo, ac fe wnaeth y Cadeirydd fy atgoffa fy mod wedi gofyn iddo dair gwaith, 'A ydych chi wedi ystyried ceir awtonomaidd, neu geir di-yrrwr, yn eich adolygiad?' Nid oedd unrhyw tystiolaeth i awgrymu eu bod hyd yn oed wedi meddwl am y peth.

Felly, er bod y Gweinidog yn ceisio honni nad yw hyn yn golygu diwedd ar adeiladu ffyrdd yng Nghymru, mae'r broses o wneud penderfyniadau gan Lywodraeth Lafur Cymru yn mynd i fod yn wrth-gar a gwrth-ffyrdd. Mae busnesau'n poeni. Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi tynnu sylw at y ffaith mai'r realiti i'r rhan fwyaf o fusnesau bach o hyd yw dibyniaeth angenrheidiol ar drafnidiaeth ffyrdd. Nid gosod y baich mwyaf ar y tlodion, y bregus a'n perchnogion busnesau bach yw'r ffordd o fynd ati i ymladd newid hinsawdd.

Nawr, fe godais hyn gyda'r Cwnsler Cyffredinol: fel y gwyddoch, mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn gofyn i bob corff cyhoeddus gyflawni datblygiad cynaliadwy gyda'r nod o gydymffurfio â'r nodau llesiant. Rwyf am atgoffa pobl beth ydynt: Cymru lewyrchus, Cymru iachach a Chymru o gymunedau cydlynus. Bydd y penderfyniad na ddylai 19 cynllun fynd rhagddynt, cynlluniau fel coridor sir y Fflint, cyffyrdd 15 ac 16 yr A55 a'r drydedd bont dros y Fenai, yn niweidio ffyniant, iechyd a chysylltedd cymunedau ledled Cymru. Felly, Weinidog, oherwydd bod y Cwnsler Cyffredinol wedi sôn bod hwn yn fwy o gwestiwn i chi, hoffwn i chi egluro a ydych chi efallai wedi torri eich nodau llesiant eich hun? Diolch.

17:15

Diolch yn fawr iawn. Fel y gallwch chi ddyfalu, dwi eisiau canolbwyntio ar un prosiect yn benodol, sef croesiad y Fenai. Rwy'n dweud 'croesiad y Fenai' achos cofiwch nad gofyn am drydedd bont dros y Fenai ydw i yn angenrheidiol, ond gofyn am groesiad gwydn ydw i. Gwnewch o mewn ffordd arall, heb bont arall, os liciwch chi. Ac mae yna sawl ymchwiliad wedi edrych ar opsiynau eraill—cael gwared ar y tyrrau a lledu'r lôn, rhoi system tair lôn mewn lle, rhoi lonydd newydd ar cantilevers ar ochr pont Britannia. Ond y casgliad dro ar ôl tro ydy mai rhyw fath o bont newydd ydy'r ateb.

Ond, fel dwi'n dweud, gwytnwch yr wyf i'n chwilio amdano fo. Mae'n groesiad bregus, lle mae gwynt neu ddamwain yn gallu cau'r bont am gyfnodau estynedig, ac mae pont y Borth yn annigonol fel rhywbeth i ddisgyn yn ôl arno, ac mi welson ni hynny am gyfnod o dri mis yn ddiweddar. Un storm, un ddamwain, un digwyddiad roedden ni i ffwrdd o gael ein hynysu yn llwyr, a dydy hynny ddim yn sefyllfa dwi'n barod i'w goddef.

Mae yna ddwy ran i beth rydyn ni'n chwilio amdano fo: deuoli y Britannia, yr A55—sicrhau llif traffig, nid mwy o draffig. Mae gweddill y ffordd, cofiwch, i gyd wedi ei ddeuoli'n barod am gannoedd o filltiroedd, o Iwerddon i ddwyrain Ewrop, o ran y ffordd strategol Ewropeaidd bwysig yna. Dydyn ni ddim yn gofyn am ryw special case ar draws y Fenai, jest bod fel gweddill yr A55. A'r rhan arall ydy caniatáu teithio llesol. Wn i ddim a ydy'r Gweinidog wedi seiclo dros y Britannia—dwi wedi gwneud ambell dro, a dydy o ddim yn braf. Dwi'n reit siŵr dyw'r Gweinidog ddim wedi cerdded drosti, achos dydych chi ddim yn cael cerdded drosti, a chanlyniad hyn ydy bod ardal boblog fawr Llanfairpwll a'r cyffiniau heb unrhyw gyswllt teithio llesol i ardaloedd gwaith Parc Menai ac Ysbyty Gwynedd. Dwi wedi bod yn gweld os oes modd rhoi llwybr cerdded a beicio ar ddec isaf pont Britannia, wrth y rheilffordd. Mae'n bosib, mewn egwyddor, mae'r lle yno, ond mae'r adolygiad ffyrdd wedyn yn cyfeirio at y posibilrwydd bod angen y dec yna ar gyfer lein rheilffordd ychwanegol—

17:20

Gaf i dorri ar draws, Rhun ap Iorwerth? Mae rhywun yn moyn ymyrryd arnoch chi. Ydych chi'n cymryd ymyrraeth oddi wrth Jenny Rathbone?

Diolch. Roeddwn eisiau gofyn a ydych chi wedi rhoi llawer o ystyriaeth i ddefnyddio'r bont hŷn dros y Fenai ar gyfer teithio llesol, ar gyfer beicio a cherdded, oherwydd rwy'n derbyn y byddai pont Britannia yn brofiad beicio brawychus? Ac fe wyddom fod rhai problemau gyda'i strwythur, ac fe allai honno fod yn ffordd well o wahanu'r ddwy ran hon o drafnidiaeth, gyda thrafnidiaeth gyhoeddus ynghlwm wrth hynny hefyd o bosibl?

Rwy'n derbyn bod Canol Caerdydd ar ben arall y wlad. Un gymhariaeth fyddai fel gofyn i rywun feicio o Grangetown i Lan yr Afon drwy Lanrhymni: gallwch ei wneud, ond nid yw'n ymarferol. Mae angen inni sicrhau bod y cysylltiadau teithio llesol hynny'n ymarferol ac yn ddeniadol i bobl. Ni wnewch chi gerdded na beicio o Lanfairpwll i Barc Menai, ddau gan llath i ffwrdd, drwy fynd ychydig filltiroedd i'r cyfeiriad arall dros bont Menai.

Mae'r adolygiad ffyrdd, fel rôn i'n dweud, yn cyfeirio at y posibilrwydd o ddefnyddio'r dec isaf ar gyfer ehangu rheilffordd ar gyfer y dyfodol, er mwyn ehangu trafnidiaeth gyhoeddus, a dyna ichi enghraifft yn fanna o'r dryswch yn yr adroddiad ac yn ymateb y Llywodraeth. 'Does dim angen pont,' rydyn ni'n ei glywed, 'Mae angen annog defnydd trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol.' A dwi'n cytuno'n llwyr, wrth gwrs, ond does yna ddim awgrym o sut i ehangu trafnidiaeth gyhoeddus heblaw efallai dwyn llwybr posib ar gyfer teithio llesol.

Rwy'n meddwl ei bod hi'n drawiadol fod adroddiad yr adolygiad ffyrdd ar y drydedd groesfan yn darllen fel achos dros y groesfan honno. Fe ddyfynnaf yma. Y prif achosion dros newid yw tagfeydd—nid yw hynny ar frig fy rhestr i, mewn gwirionedd, ond—

'tagfeydd a diffyg cadernid'

pont Britannia a phont Menai. Byddai'r

'cynllun yn gwella dibynadwyedd cludo nwyddau.'

'Byddai mynediad drwy ddulliau teithio llesol hefyd yn cael ei wella.'

'Mae'r cynllun yn cynnwys gwell llwybrau ar gyfer cerddwyr a beicwyr'.

Mae diffyg cadernid yn gwneud

'Ynys Môn yn gyrchfan llai deniadol ar gyfer buddsoddi'.

'Byddai trydedd groesfan yn goresgyn... pryderon diogelwch.'

'Byddai gwella mynediad lleol ar gyfer teithio llesol'—

unwaith eto—'yn fanteisiol.'

'Mae’r amcan o wella hygyrchedd i gerddwyr a beicwyr yn cyd-fynd â’r polisi cyfredol.'

'Mae’r amcan i hyrwyddo diogelwch yn cyd-fynd â’r polisi cyfredol'.

Byddai'n gwella 'dibynadwyedd bysiau'.

'Byddai’r tarfu a achosir gan ddigwyddiadau, cyfyngiadau ar y pontydd neu gau’r pontydd presennol yn digwydd yn llai aml.'

Gallwn barhau. Mae'n dweud wrthym

'Mae’r dadansoddiad cost a budd yn awgrymu y byddai’r cynllun yn darparu gwerth canolig neu uchel am arian'.

Ond dyma'r anhawster: mae'n ymddangos bod y budd hwnnw'n seiliedig ar gyfrifiad economaidd sy'n gysylltiedig, mae'n ymddangos, â chynyddu traffig, nad yw'n rhywbeth rydym ei eisiau, ac sydd, yn sicr, yn gysylltiad ag ynys sydd â phoblogaeth gyfyngedig, a chyda diwedd y lôn yn llythrennol 20 milltir i'r cyfeiriad acw, nid yw'n debyg i'r cynnydd mewn traffig y gallech fod yn ei ysgogi drwy adeiladu ffordd rhwng dwy ganolfan boblogaeth fawr.

Rwy'n ailadrodd eto fod a wnelo hyn â chadernid sylfaenol. Beth am fesur y prosiect o ran gwerth cymdeithasol, gwerth diogelwch, gwerth iechyd hefyd, ac unwaith eto, o ran llesiant economaidd sylfaenol ardal? Roedd dioddefaint busnesau pan gaewyd pont Menai yn real iawn.

I gloi, Weinidog, rwy'n paratoi cyflwyniad i gomisiwn Burns. Gobeithio y byddant hwy hefyd yn gweld bod angen adolygu hyn, ac rwy'n apelio arnoch i gofio pam fod cryfhau croesfannau'r Fenai ar y bwrdd yn y lle cyntaf. Y rheswm am hynny oedd bod angen gwneud hynny. Mae'r achos mor gryf ag erioed.

17:25

Diolch i Natasha Asghar am ddod â'r ddadl hon i'r Senedd heddiw yn enw Darren Millar. Rwyf wedi ei ddweud o'r blaen—ac mae llawer o fy nghyd-Aelodau wedi gwneud hynny sawl gwaith—seilwaith ffyrdd a thrafnidiaeth gweddus yw'r allwedd sylfaenol i economi fywiog. Ac fe fyddech chi'n meddwl bod hwnnw'n ddatganiad amlwg i'w wneud, ac eto mae gennym Lywodraeth sy'n mynnu rhwystro cynnydd Cymru ar bob gafael. Rydym wedi dod i ddisgwyl hynny, wrth gwrs, gan Lywodraeth sosialaidd aflwyddiannus sy'n benderfynol o wahardd pethau a mynd â ni'n ôl i'r oesoedd tywyll. Ble mae'r weledigaeth a'r awydd i agor Cymru i fusnes, i swyddi, i dwristiaeth? Fe allem ac fe ddylem fod wedi gweld ffordd liniaru'r M4 erbyn hyn a llu o brosiectau seilwaith eraill, fel yr A470 yng Nghaerffili, cyffordd yr M4 ym Merthyr. Dylem fod yn gweld Llywodraeth uchelgeisiol yn agor Cymru, yn ei gwneud yn hygyrch ac yn fwy agored yn economaidd. Yn anffodus, mae gennym Lywodraeth sy'n benderfynol o gosbi pobl sy'n gyrru ceir, yn cau'r drws ar ddenu mewnfuddsoddiad ac yn dod â Chymru i stop. Mae'n dangos y bydd y Llywodraeth hon yn gwario miliynau ar unrhyw beth ar wahân i wella ein seilwaith ffyrdd.

Nid am hwyl yn unig y bydd pobl yn gyrru. Gallaf eich gweld yn ysgwyd eich pen. Mae angen iddynt gael gwaith, mae angen iddynt gyrraedd apwyntiadau ysbyty, ysgol—llu o resymau. Os ydych chi'n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd gwledig fel rwyf i a llawer o bobl ledled Cymru, heb lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus sylweddol yn eu lle, mae'n rhaid i chi yrru. Efallai mai dyna pam fod y Dirprwy Weinidog dros y pedair blynedd diwethaf wedi hawlio treuliau am bron i 12,000 milltir o deithiau ceir, a dim ond tair taith trên. Mae hyn yn dweud wrthyf fod y Gweinidog yn gwybod yn y bôn fod angen ceir a ffyrdd ac mae'n dangos sut mae ef—a'r Llywodraeth hon, eich Llywodraeth chi—wedi methu gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y ddau ddegawd diwethaf.

Mae Llywodraeth Cymru unwaith eto wedi dewis rhoi ideoleg o flaen blaenoriaethau pobl. Nid yw Plaid Lafur y DU hyd yn oed eisiau cefnogi'r adolygiad ffyrdd hwn. Maent yn gweld ei fod yn hurt ac yn wenwynig. Mae'r rhan fwyaf o aelodau plaid y Dirprwy Weinidog ei hun wedi eu cythruddo gan hyn, fel y gwelwn o'r Siambr wag yma heddiw. Mae'n hen bryd i'r Gweinidog fwrw ati o'r diwedd i wneud rhywbeth cadarnhaol yn ei rôl, fel adeiladu'r ffyrdd sydd eu hangen ar Gymru. Ar ôl dau ddegawd, mae gennym seilwaith trafnidiaeth nad yw'n addas i'r diben ac rwy'n annog pawb i gefnogi ein cynnig heddiw.

Ffordd, neu gyfres o ffyrdd, wedi'u cysylltu gan gylchfannau oedd y cynnig gwreiddiol ar gyfer ffordd osgoi Llanharan, gan ei gwneud yn bosibl agor safle strategol fesul cam, a chysylltu cartrefi a chyfleusterau meddygol newydd ac ysgol newydd â chymuned bresennol yr hen Lanharan ar hyd y prif lwybr o ben gorllewinol yr A473 y tu hwnt i Lanharan, a chaniatáu mynediad i gyfeiriad Tonysguboriau, Llantrisant. Fodd bynnag, dros nifer faith o flynyddoedd—cymerais ran ar bob cam—o ddatblygu'r cynnig hwn, mae newidiadau mewn polisi yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol wedi adlewyrchu newidiadau mawr yn ein gwybodaeth a'n tystiolaeth o effeithiau adeiladu ffyrdd. Efallai fod gan bobl farn wahanol am hyn, wrth gwrs, ond mae'r dystiolaeth—ni waeth beth yw'r farn neu'r safbwyntiau—yn glir iawn ac yn newid y ffordd y mae Llywodraethau pellweledol yn ymateb yn nhermau polisi, a hynny'n briodol.

Dyma rai o'r newidiadau mawr hynny. Yr argyfwng hinsawdd: rydym naill ai'n credu bod yna argyfwng hinsawdd neu nid ydym yn credu hynny. Mae'r holl bleidiau gwleidyddol yn y Senedd hon wedi ei gefnogi ar bapur; yn wir, Llywodraeth Cymru oedd y Llywodraeth gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddatgan argyfwng hinsawdd—a hynny'n briodol—a chafodd ei dilyn yn fuan iawn gan yr Alban a Lloegr wedyn. Er mwyn ein plant a'n hwyrion—hyd yn oed os nad ni ein hunain—golyga hyn fod angen inni feddwl yn sylfaenol wahanol am y ffordd rydym yn byw a'r ffordd rydym yn gweithio ac yn teithio a llawer mwy. Rydym hefyd yn unigryw ymhlith gwledydd y Deyrnas Unedig o ran bod gennym gyfrifoldeb statudol i ystyried nid yn unig y genhedlaeth hon ond cenedlaethau'r dyfodol.

Pen draw di-droi'n-ôl yr adeiladu ffyrdd di-baid rydym newydd glywed amdano: ers sawl cenhedlaeth, rydym wedi derbyn y 'doethineb' confensiynol y gallwn adeiladu ein ffordd allan o dagfeydd traffig. Pan fydd ffyrdd yn llenwi, rydym yn adeiladu lôn arall, dwy lôn, ffordd osgoi, ffordd liniaru, ac un arall ac un arall, ac eto mae'r dystiolaeth yn erbyn hyn yn rymus ac yn anwadadwy bellach. Ar yr egwyddor a'r arfer o alw wedi'i ysgogi, pan adeiladir lôn arall neu ffordd osgoi arall, gwelwn fod y traffig yn ehangu'n ddi-baid i'w lenwi. Nid yw ffyrdd newydd a luniwyd yn bennaf ar gyfer trafnidiaeth cerbydau unigol, yn hytrach na thrafnidiaeth gyhoeddus, yn lleihau tagfeydd a llygredd aer, maent yn ei gynyddu. Yn y pen draw, mae cymunedau'n cael eu hamgylchynu gan darmac sy'n ehangu'n barhaus.

Llygredd aer, y lladdwr distaw: nid yn unig o allyriadau egsôst y daw llygredd aer yn sgil mwy o draffig; mae'r cyfuniad o allyriadau egsôst o beiriannau tanio a gronynnau yn amharu ar iechyd anadlol ac yn byrhau hyd oes ar gyfartaledd. Yn fyr, ar gyfer yr hinsawdd, ond hefyd ar gyfer iechyd a bywydau hirach, mae angen inni ailystyried y cynnydd di-baid mewn cerbydau unigol a'r ffyrdd i ddarparu ar gyfer y twf hwnnw. Mae'n lladd pobl ac yn byrhau eu bywydau. 

Mae gan bolisi trafnidiaeth gwell lawer o fanteision. Mae'r dystiolaeth wedi tyfu'n rhyngwladol, pan fydd polisi trafnidiaeth yn canolbwyntio ar fuddsoddiad uchel mewn trafnidiaeth gyhoeddus well—ar y ffyrdd, rheilffyrdd a thramiau—a hefyd lle gwneir teithiau byr drwy deithio llesol—beicio, cerdded, ac ati—mae ansawdd bywyd yn gwella, mae canlyniadau i iechyd a chyfraddau marwolaeth yn gwella, mae cymunedau'n teimlo'n fwy diogel, mae ansawdd bywyd i bobl yn y cymunedau hynny'n well, a cheir buddion ychwanegol ond rhesymegol iawn, megis datblygiad siopau a gwasanaethau lleol, y cymdogaethau 15 munud fel y'u gelwir. A cheir llawer mwy o ddadleuon, yn seiliedig ar ddadleuon clir a chymhellol, sy'n cefnogi newidiadau radical Llywodraeth Cymru—radical yn y DU, ond nid yn fyd-eang—i bolisi trafnidiaeth a theithio. 

Ond dim ond un rhan o hyn yw'r adolygiad ffyrdd. Mae'r polisi trafnidiaeth cynhwysfawr wedi'i nodi yn 'Llwybr Newydd: strategaeth trafnidiaeth Cymru 2021'; ceir cynigion ar gyfer trafnidiaeth bysiau trawsnewidiol yn 'Un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn'; ceir gwaith parhaus yn y cynigion metro ar gyfer dinas-ranbarth Caerdydd, de-orllewin Cymru ac ar gyfer gogledd Cymru; a cheir y buddsoddiad mwyaf erioed, er gwaethaf yr hyn a glywsom, mewn teithio llesol yng Nghymru hefyd. Ond Weinidog, yr amseru a'r bwlch ariannu rhwng gwireddu'r uchelgeisiau hyn ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol a newid dulliau teithio a chyhoeddi'r adolygiad ffyrdd yw'r perygl mwyaf. Mae 'Mind the gap' yn rhywbeth y dylem fod yn ymwybodol ohono yn nhermau polisi, cyflawni ac ariannu, nid yn unig pan fyddwn yn mynd ar y trên.

Rwyf wedi ysgrifennu atoch eisoes, Weinidog, i ofyn am gyfarfod brys, ynghyd ag arweinydd Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan, a Chris Elmore AS ac Aelodau lleol. Rwy'n credu y gallwn ddatblygu cynnig newydd ar gyfer safle Llanilid sy'n tynnu traffig a theithiau diangen oddi ar y rhwydwaith ffyrdd lleol, ac sy'n cysylltu'r rhannau coll, gan gynnwys ar gyfer teithio llesol a llwybrau bws i Donysguboriau a Llantrisant, ac sy'n creu cymunedau haws i fyw ynddynt ac ansawdd bywyd gwell i bobl leol. Ond Weinidog, bydd hyn yn galw am eich cymorth uniongyrchol—ar fysiau a threnau, ar reoli galw, ar deithio llesol, ar newid ymddygiad, a darparu gwelliannau go iawn nawr o ran y tagfeydd gormodol ar yr A473 drwy'r hen dref. Gallai Llanharan a Llanilid fod yn dref enghreifftiol yng Nghymru ar gyfer gwell cymunedau a newid dulliau teithio os ydych chi'n fodlon gweithio gyda ni a'n helpu'n uniongyrchol. Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain, felly rwy'n eich gwahodd chi, Weinidog, i ddod allan i gyfarfod â ni yn Llanharan, i weld yr heriau a wynebwn â'ch llygaid eich hun, ac i'n helpu i wneud y newidiadau sydd eu hangen arnom i wneud Llanharan yn well i drigolion a busnesau lleol ac yn gymuned enghreifftiol ar gyfer newid dulliau teithio a ffyrdd gwell o greu cymunedau cyflawn, iach a chynaliadwy. Diolch yn fawr iawn.

17:30

Yr argyfwng hinsawdd yw'r her bwysicaf sy'n ein hwynebu. Dyna pam rwy'n cefnogi casgliadau'r adolygiad ffyrdd. Rwyf hefyd yn cefnogi safbwynt y Ceidwadwyr, os mai dyna yw eich safbwynt, ynghylch cau Maes Awyr Caerdydd. Fy her i chi yw: os mai dyna'n wir yw eich safbwynt, cyflwynwch ddadl dros gau Maes Awyr Caerdydd. Rwy'n edrych ymlaen at gyfrannu ati, oherwydd mae'n gyson â'r farn am yr argyfwng hinsawdd. [Torri ar draws.] Wrth gwrs y gwnaf. 

Er eglurder, nid ydym yn argymell cau Maes Awyr Caerdydd. Mewn gwirionedd, rydym wedi cyflwyno dwy strategaeth sydd wedi tynnu sylw at yr hyn yr hoffai'r Ceidwadwyr Cymreig ei weld yn digwydd gyda Maes Awyr Caerdydd, sef ei fod yn dod yn faes awyr proffidiol gyda chysylltiadau rhyngwladol ond yn cael ei redeg yn y sector annibynnol. 

Diolch o galon am egluro. Felly, mae'n safbwynt ychydig yn annidwyll, onid yw, pan ydych yn dweud wrth y Blaid Lafur, 'Caewch Faes Awyr Caerdydd'. Fy her i'r Blaid Lafur yw: os ydych chi wir yn credu mewn lleihau allyriadau carbon, caewch Faes Awyr Caerdydd. 

Mae'n rhaid inni leihau ein hallyriadau carbon, galluogi newid dulliau teithio a gwella diogelwch ar y ffyrdd, a bydd y rhain yn cael eu gwneud yn rhan annatod o'n cynlluniau ffyrdd. Nod yr adolygiad, fel rwy'n ei ddeall, yw seilio penderfyniadau am ffyrdd ar ystod ehangach o feini prawf. Nonsens yw dweud bod yr adolygiad ffyrdd yn golygu bod Cymru ar gau i fusnes. Mae'r dewis rhwng yr economi a'r amgylchedd yn gysyniad deuaidd ffug. Gwyddom y bydd effeithiau economaidd newid hinsawdd yn drychinebus. Ni allwch gynllunio economi yn y tymor hir heb ddeall bod angen i bethau newid, ac mae'r rhan fwyaf o fusnesau arloesol yn gwybod hynny mewn gwirionedd. Rydym yn gwybod, mewn sawl rhan o Gymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel y rhai yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru rwy'n eu cynrychioli, mae diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn broblem enfawr. Ond hyd yn oed yn ein dinasoedd, rwy'n gwybod bod cost trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn ormodol. Rwy'n edrych ymlaen at ganlyniad cynllun peilot y bysiau Fflecsi. Rwy'n gobeithio bod y rhan fwyaf o bobl yma wedi gweld y bysiau Fflecsi. Rwy'n gwybod eu bod wedi cael eu treialu mewn sawl rhan o Gymru, ac rwy'n gwybod eu bod yn cael eu defnyddio'n dda yn sir Benfro.

Rwyf eisiau gweld trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i rai dan 25 oed. Dyna lle mae angen y newid. Mae'n gynnig radical a fyddai'n helpu i gael pobl allan o'u ceir a newid i ddulliau teithio mwy cynaliadwy. Byddai'n helpu i gyrraedd targedau newid hinsawdd, yn rhoi hwb i wasanaethau, a byddai'n rhoi cymorth i'n pobl ifanc yn enwedig. Rydym i gyd yn wynebu costau byw cynyddol, ond maent yn taro ein pobl ifanc yn fwy na neb. Mae angen inni feddwl hefyd pa fath o ddyfodol economaidd rydym ei eisiau. Buaswn yn dadlau bod angen un sy'n canolbwyntio ar ffyniant a llesiant yn eu hystyr ehangaf, nid yn unig ar un metrig twf, ac fel rhan o hynny, mae angen inni feddwl am gysylltedd yn hytrach na theithio.

I gloi, rwy'n sefyll yma gyda fy helmed dun ar fy mhen. Rwy'n croesawu casgliad yr adolygiad ffyrdd, nid fel diwedd y ddadl, ond fel dechrau dadl lawer ehangach. Rhaid i honno gynnwys darpariaeth well o lawer o drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig yn ein hardaloedd gwledig. Ond yn y pen draw, mae'r cyfan yn ymwneud â sut y gallwn siapio system yng Nghymru sy'n ein cysylltu, sy'n cefnogi ffyniant, yn annog llesiant, ac yn bwysicaf oll, sy'n mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Diolch yn fawr iawn.

17:35

Dwi'n mynd i ymateb, mewn gwirionedd, yn fy nghyfraniad, i araith huawdl Huw. Roedd Huw yn sôn, wrth gwrs, am yr angen i newid, a dwi'n cytuno'n llwyr efo'r hyn roedd o'n ei ddweud, ond roedd yr hyn roedd Huw yn ei ddweud yn dod o bersbectif ar sbectrwm trefol a dinesig. Mae'r byd yn wahanol iawn yng nghefn gwlad.

Fel y gŵyr pawb, cynllun ffordd osgoi Llanbedr oedd y cyntaf i glywed am ei ffawd. Mi ddaeth y newyddion fel sioc anferthol i bobl leol, a'r bobl yna yn flin. Yn wir, roedd yr awgrymiadau cyn y cyhoeddiad yn sôn y byddai'r cynllun yn mynd rhagddo. Roedd y trigolion a'r gymuned a chymunedau cyfagos wedi bod yn aros am dros 50 mlynedd am ddatblygiad a datrysiad i'w problemau, dim ond i gael eu siomi ar y munud olaf. Ac yn wir, roedd y Llywodraeth wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd i mewn i baratoi Mochras ar gyfer datblygiad economaidd hefyd.

Felly, pam fod trigolion Llanbedr mor awyddus am ffordd osgoi? Wel, i'r rhai hynny ohonoch chi sydd ddim yn adnabod y gymuned yna, mi wnaf i baentio darlun i chi. Llanbedr, yn ddi-os, ydy un o bentrefi harddaf Cymru, ac mae'n cael ei rannu gan yr Afon Artro. Dim ond un ffordd sy'n mynd drwy Lanbedr, sef yr A496, y briffordd sy'n cysylltu y Bermo a Harlech, ac er mwyn croesi'r Artro yna mae'n rhaid mynd dros bont fach gul sydd yn dyddio nôl i oes Cromwell. Pan fo lori neu dractor neu hyd yn oed fan yn teithio drosti, yna mae'r pentref i gyd yn dod i stop, ac mae hyn yn digwydd yn rheolaidd. Canlyniad hyn ydy ciwiau hir am hydoedd wrth i gerbydau aros yn amyneddgar er mwyn croesi'r bont, gan ollwng allan eu nwy gwenwynig.

Mae yna sawl ambiwlans wedi methu â chyrraedd cleifion ar amser oherwydd hyn, ac wedi gorfod gofyn am ambiwlans awyr i gyrraedd. Mae yna fusnesau lleol wedi gadael neu yn ystyried gadael oherwydd yr amser drudfawr sy'n cael ei wastraffu yn dadlwytho stoc oherwydd eu bod nhw'n ciwio. Mae rhieni plant bach neu bobl â thrafferthion symudedd yn dewis gyrru rhai cannoedd o lathenni yn unig er mwyn mynd i'r ysgol feithrin neu'r siop, oherwydd bod y bont yn rhy beryglus i gerdded drosto. Ac afraid dweud fod y bont yn heneb gofrestredig gradd II ac nad oes posib gwneud dim byd iddo.

Dwi'n deall y rhesymeg y mae'r Dirprwy Weinidog yn ei ddweud dros beidio ag adeiladu mwy o ffyrdd—mi ddaru Huw sôn am hyn ynghynt—sef y ffaith ei bod hi'n golygu mwy o gerbydau yn mynd ar fwy o ffyrdd, a mwy o ffyrdd, a mwy o gerbydau, a'r cylch seithug yna. Mae hyn yn rhesymeg gwbl, gwbl wir, ond nid ym mhob achos, ac yn sicr nid yn achos Llanbedr. Yn wir, yn Llanbedr, mae gan bawb gar oherwydd y trafferthion yma. Yn wir, mae yna le i ddadlau, o gael y ffordd osgoi, y buasai hynny yn tynnu ceir a cherbydau oddi ar y ffordd fawr, gan alluogi'r rhieni hynny i gerdded i'r ysgol feithrin a galluogi pobl i fynd i'r digwyddiadau yn y neuadd bentref neu fynd i'r siop ger y bont.

Dywed y Dirprwy Weinidog bod angen modal shift, gan ddefnyddio mwy o drafnidiaeth gyhoeddus. Wel, wnaiff y Gweinidog ddim ffeindio cefnogwr mwy brwd na fi yn hynny o beth. Ond does yna ddim buddsoddiad wedi bod yn ein trafnidiaeth gyhoeddus ac, yn wir, fel y saif pethau, mae'n debygol y bydd y llwybrau bysiau sydd yn bodoli'n barod yn y cael eu torri oherwydd y diffyg buddsoddiad yma. Rwy'n cydnabod bod y cynlluniau gwreiddiol wedi bod yn edrych i baratoi ffordd osgoi oedd yn caniatáu cario cerbydau am hyd at 60 mya, ond mae'r cymunedau yno a'r awdurdod lleol, Cyngor Gwynedd, wedi edrych a lliniaru hyn a newid y cynlluniau er mwyn newid y cyflymder i 40 mya er mwyn lleihau allyriadau.

Mewn ymateb blaenorol, fe ddywedodd y Dirprwy Weinidog, yn eithaf dilornus wrthyf i, nad oes neb wedi dweud fod disgwyl i bobl oedrannus seiclo i bob man, ond y gwir ydy, os ydych chi'n darllen yr adroddiad adolygiad ffyrdd i Lanbedr, a gafodd ei gyhoeddi yn ôl yn 2021, mae'n dangos mai’r flaenoriaeth ar gyfer Llanbedr ydy active travel. Mewn cymuned ynysig fel Llanbedr, mae'n agos at amhosib i weithredu active travel er mwyn mynd i'r feddygfa neu er mwyn mynd i negesu. Ond, o gael ffordd osgoi, yna mi fyddai hynny yn galluogi pobl i gerdded a mynd i'r digwyddiadau cymunedol fel roeddwn i'n sôn ynghynt. Ac yn wir, yn ei dystiolaeth i'r pwyllgor amgylchedd yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd y Dirprwy Weinidog:

'bydd yna deithiau car bob amser, fel yr unig ffordd ymarferol o deithio o gwmpas...yn enwedig mewn ardaloedd gwledig iawn, y car fydd y prif ddull teithio bob amser.'

Mae hynny yn hollol wir am Lanbedr. Felly, dwi'n galw unwaith eto ar y Llywodraeth i gydweithio efo Cyngor Gwynedd er mwyn datblygu'r cynllun i wneud ffordd osgoi arafach yn Llanbedr a buddsoddi'n gynhwysfawr yn ein trafnidiaeth gyhoeddus yng nghefn gwlad Cymru.

17:40

Fel y bydd y Gweinidog yn ei ddweud yn ei hymateb, rwy'n siŵr, ni fydd y gwaith o adeiladu ffyrdd yn dod i ben yn gyfan gwbl. Ond eto, edrychwn ar bob achos ar wahân. Mae angen i adolygiad ffyrdd fod yn rhan o adolygiad trafnidiaeth. Mae cynllun bysiau yn arbennig o bwysig oherwydd mae diffyg cynllun bysiau a gwasanaethau bysiau digonol yn golygu'n aml nad oes dewis arall yn lle gyrru heblaw symud o'r ardal rydych yn byw ynddi ar hyn o bryd. Cofiwch hefyd fod bysiau'n gyrru ar ffyrdd, a thu allan i ardaloedd trefol mawr, mae lonydd bysiau'n brin. Mae bysiau hefyd yn cael eu dal mewn tagfeydd traffig ac mae hynny'n effeithio ar eu hamserlenni. Rwy'n cofio adeg pan oedd polisi'r Blaid Lafur yn cefnogi strategaeth drafnidiaeth integredig. Nid wyf yn siŵr pa bryd y daeth hynny i ben.

Mae tywydd a thopograffi Cymru yn golygu bod beicio a cherdded yn opsiynau anymarferol ar gyfer sawl taith. Nid yw adolygiad trafnidiaeth ond yn gwneud synnwyr o'i gyfuno â chynllun datblygu lleol a strategaeth datblygu economaidd. Maent oll yn ffitio gyda'i gilydd. Ni ellir eu trin ar wahân. Os byddwch yn cael trafnidiaeth yn anghywir, byddwch yn ei gwneud hi'n anodd byw mewn ardal, ac yna byddwch yn dioddef diboblogi demograffig. Bydd yr henoed a'r tlawd yn cael eu gadael ar ôl, bydd y rhai iau a'r rhai mwy cefnog yn gadael—dyma'r realiti wedi'r rhyfel i rai o gymunedau ein Cymoedd a rhai o'n cymunedau gwledig. Nid wyf eisiau gwneud y sefyllfa'n waeth.

Nid yw adeiladu ffordd yn ateb y broblem. Edrychwch ar yr M25. Roedd yr M25 yn ddrud iawn—ffordd fawr yn amgylchynu'r rhan fwyaf o Lundain fwyaf, 117 milltir o draffordd. Er bod yr M25 yn boblogaidd yn ystod y gwaith adeiladu, daeth yn amlwg yn gyflym nad oedd digon o gapasiti traffig. Oherwydd yr ymchwiliad cyhoeddus, nid oedd sawl cyffordd ond yn gwasanaethu ffyrdd lleol lle adeiladwyd datblygiadau swyddfa a manwerthu, gan ddenu hyd yn oed mwy o draffig i'r M25 nag y'i cynlluniwyd ar ei gyfer. Mae'r tagfeydd wedi arwain at gynlluniau rheoli traffig ac ers agor mae'r M25 wedi cael ei lledu'n gynyddol, yn enwedig ger maes awyr Heathrow. Ond eto, mae'r broblem yn parhau. Cafodd ei disgrifio fel maes parcio mwyaf Ewrop. Problem yr M25 yw'r M4 yn ne Cymru—gormod o gyffyrdd yn rhy agos at ei gilydd, mae traffig lleol yn ei defnyddio fel ffordd liniaru leol. Y perygl o adeiladu ffyrdd lliniaru yw bod datblygiadau'n clystyru o'u cwmpas a chyffyrdd, ac mae traffig yn cynyddu'n sylweddol. Rydych yn cyrraedd nôl lle dechreuoch chi yn y pen draw.

Wrth gwrs, yn achos rhai llefydd, nid yw un ffordd osgoi'n ddigon. Fel y mae llawer o Aelodau wedi'i nodi, mae'r A40 yn mynd heibio i'r gogledd o Landeilo, gan fynd heibio ochr ogleddol ystad Parc Dinefwr sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol cyn mynd yn ei blaen i Gaerfyrddin. Nid dim ond unrhyw ffordd yw hon, dyma'r A40, un o'r prif ffyrdd yng Nghymru. Ond rydym am gael ail ffordd osgoi Llandeilo nawr, neu mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer adeiladu ail ffordd osgoi Llandeilo. Felly, mae Llandeilo yn cael ffordd osgoi ddeheuol i gyd-fynd â'i ffordd osgoi ogleddol. Tra bo sawl rhan o Gymru sydd angen ffyrdd newydd yn cael eu gadael ar ôl, mae tref Llandeilo'n cael dwy. Mae ganddi wasanaeth bws rheolaidd hefyd ac mae ar reilffordd Calon Cymru, ac mae Abertawe ac ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin o fewn cyrraedd.

Wrth gwrs, fel y dywedodd Mabon ap Gwynfor, mae yna bentref ar arfordir Meirionnydd o'r enw Llanbedr. Mae Llywodraeth Cymru wedi dod â'r cyfan i ben, yn dilyn cyngor gan bwyllgor a ddewisodd o arbenigwyr trafnidiaeth a hinsawdd. Mae'r galwadau am ffordd fynediad un filltir i Lanbedr yn dyddio'n ôl dros ddegawdau. Y gobaith oedd y byddai'r ffordd yn torri 90 y cant o'r traffig drwy'r pentref yn Eryri. Mae wedi bod yn cyfrannu'n uniongyrchol at fwy o draffig. Mae gan Lanbedr drên bob pedair awr; yn sicr nid yw'n rhedeg mor fynych â threnau Calon Cymru. Nid oes llwybr bysiau i Ysbyty Gwynedd a hwnnw yw'r ysbyty lleol.

Rwy'n gobeithio—er nad wyf yn disgwyl—y gall y Gweinidog egluro pam mae adeiladu ffordd yng ngogledd Meirionnydd yn achosi cynnydd mewn traffig a llygredd, ond nad yw ail ffordd osgoi Llandeilo yn gwneud yr un peth.

17:45

A fyddech chi'n cytuno â mi mai gwleidyddiaeth 'casgen borc' yw ail ffordd osgoi Llandeilo, a dim byd arall?

Ni allaf ddweud hynny, oherwydd, fel y nodoch chi, neu fel y nododd Darren Millar yn gynharach, nid wyf wedi bod yn rhan o hyn o gwbl; cynhelir y drafodaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ac mae llawer ohonom ar ein meinciau ni'n cael ein gadael allan ohoni.

Fodd bynnag, os yw'r Llywodraeth yn credu bod ffyrdd ychwanegol yn creu mwy o draffig a llygredd, pam na allent gau ffordd gyswllt bae dwyreiniol Caerdydd i geir, lorïau a beiciau modur, a chaniatáu i fysiau a beicwyr yn unig ei defnyddio, os mai dyna'r ateb? Rydym angen strategaeth drafnidiaeth integredig sy'n gysylltiedig â thai, datblygu masnachol a diwydiannol. Nid ffyrdd newydd yw'r ateb ym mhob man, ond mae eu hangen mewn rhai llefydd. Yr hyn sy'n gweithio yw'r hyn sy'n bwysig.

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.

Rwy'n aros i feicroffon Julie James gael ei agor. Ie, dyna chi. Diolch.

Diolch, Lywydd.

Lywydd, mae'n gwbl amlwg fod yna rai gwirioneddau economaidd sylfaenol sy'n anhysbys i feinciau'r Torïaid. Nid yw twf economaidd a gweithredu ar yr hinsawdd yn amcanion sy'n gwrth-ddweud ei gilydd; byddai'r niwed economaidd mwyaf yn deillio o fethiant i atal newid hinsawdd direolaeth. Mae'r cydbwysedd y mae'n rhaid inni geisio ei sicrhau yn un sy'n osgoi polisïau sydd, drwy beidio ag ystyried ffactorau economaidd ac amgylcheddol, yn hunandrechol.

Dyma'r adolygiad gwraidd a brig cyntaf o adeiladu ffyrdd yng Nghymru ers cenedlaethau, a daw yng nghanol argyfwng natur a hinsawdd, argyfwng costau byw, ac ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru yn wynebu pwysau ariannol digynsail. Felly, er cymaint y gallai'r Torïaid fod eisiau troi'r cloc yn ôl, ni allwn barhau fel rydym wedi'i wneud dros y 60 neu 70 mlynedd diwethaf, a ninnau'n gwybod y bydd rhaid inni wneud toriadau carbon dyfnach yn y 10 mlynedd nesaf nag y llwyddasom i'w gwneud yn y 30 mlynedd diwethaf; pan ydym yn gwybod bod trafnidiaeth, hyd yma, wedi llusgo'i draed ar y llwybr i ddatgarboneiddio; a phan fo cymaint o rywogaethau yng Nghymru—un o bob chwe rhywogaeth yn ôl yr adroddiad diweddaraf ar gyflwr byd natur—mewn perygl difrifol o ddiflannu.

Rydym yn gweithredu yma yng Nghymru er mwyn ceisio cyflawni ein hymrwymiadau sero net a'n cyfrifoldebau amgylcheddol ehangach. Pa mor aml y clywais eiriau cynnes gan y Torïaid yn y Siambr hon ynglŷn â mynd i'r afael â newid hinsawdd a gwarchod bioamrywiaeth? Ond er gwaetha'r geiriau cynnes hynny, ni allaf gofio unrhyw awgrym difrifol neu adeiladol gan y Ceidwadwyr Cymreig mewn ymateb i heriau mawr ein hoes. Felly, efallai y gallent ddechrau gosod eu llwybr amgen tuag at sero net gyda rhywbeth y maent wedi ymrwymo iddo go iawn. A thra'u bod wrthi, byddai'n dda gwybod a ydynt yn cytuno gyda'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, sydd hefyd yn cynghori Llywodraeth San Steffan wrth gwrs, ac sydd wedi nodi y bydd diffyg gweithredu ar newid hinsawdd yn costio tua 4 y cant i 6 y cant o gynnyrch domestig gros bob blwyddyn. Hyd yn oed pe byddem wedi bod eisiau parhau i ddatblygu pob un o'r 55 cynllun yr edrychwyd arnynt yn rhan o'r adolygiad ffyrdd, y gwir amdani yw nad oes gennym arian i wneud hynny.

A gaf fi dorri ar draws y Gweinidog a gofyn a yw'n fodlon derbyn ymyriad gan Mark Isherwood?

Lywydd, hoffwn ddatblygu fy nadl ymhellach, ac yna efallai, os hoffai Mark ymyrryd ychydig yn nes ymlaen, byddaf yn hapus iawn i dderbyn.

Roeddwn eisiau tynnu sylw at y ffaith bod yr adolygiad ffyrdd yn edrych ar gost derfynol cynlluniau datblygu arfaethedig nad ydynt wedi cael cymeradwyaeth adeiladu a lle na chafodd chyllid cyfalaf ei ddyrannu ar gyfer eu cyflawni. A dyna holl bwynt llwybr buddsoddi: rhywbeth y mae'n ymddangos nad yw'r Torïaid yn ei ddeall. Mae cynlluniau'n cael eu datblygu, mae rhai'n mynd yn eu blaenau a cheir eraill nad ydynt yn mynd yn eu blaenau, a chyda'n cyllideb gyfalaf bellach 8 y cant yn is mewn termau real oherwydd anllythrennedd economaidd Llywodraeth bresennol y DU a'r rhai a ragflaenodd y Llywodraeth Dorïaidd benodol hon, nid oes gennym y buddsoddiad cyfalaf sydd ei angen i wneud yr holl ymyriadau economaidd y mae angen i bob Llywodraeth eu gwneud, ac oherwydd y penderfyniadau byrbwyll hynny a wnaed yn San Steffan, mae'n rhaid inni flaenoriaethu nawr.

Felly, beth am edrych ar esiampl llwybr coch sir y Fflint. Roedd y gwaith datblygu y mae ymgynghorwyr wedi'i wneud i gefnogi'r prosiect yn dangos y byddai tagfeydd lleol wedi dychwelyd i'r lefelau presennol o fewn 15 mlynedd i'w adeiladu, yn debyg iawn i enghraifft yr M25 a grybwyllwyd gan Mike Hedges.

17:50

A wnewch chi dderbyn ymyriad nawr, Weinidog? Gofynnwyd i mi eto.

Pam nad ydych chi wedi cydnabod bod y 'Llywodraeth Dorïaidd bresennol' wedi gwahardd gwerthu ceir a faniau petrol a diesel newydd o 2030 ymlaen, ac y bydd pob car a fan newydd heb unrhyw allyriadau yn y bibell fwg erbyn 2035, sy'n golygu bod angen rhwydwaith ffyrdd ar gyfer y dyfodol, cynllunio nawr a darparu ar gyfer y rhwydwaith hwnnw, o ystyried y nifer o geir technoleg newydd a fydd ar y ffyrdd erbyn hynny yn sicr?

Wel, rwy'n anghytuno'n sylfaenol â hynny, Mark. Os ydych chi'n cyfnewid yr holl geir presennol sydd ar y ffordd am gerbydau trydan neu gerbydau allyriadau isel, bydd gennych argyfwng hinsawdd gwahanol i edrych arno. Yr hyn sydd ei angen arnom yma yw ateb gwahanol i drafnidiaeth nad yw'n dibynnu ar drafnidiaeth ceir unigol.

Beth bynnag, gadewch i mi droi'n ôl at fy enghraifft o lwybr coch sir y Fflint. Byddai £300 miliwn o bunnoedd wedi'i wario—arian nad yw ar gael wedyn i'w wario ar ddewisiadau amgen—i adeiladu ffordd ddeuol drwy goetir hynafol yn ystod argyfwng natur; £300 miliwn ar brosiect a fyddai wedi cynyddu allyriadau carbon 423,000 tunnell yn ystod argyfwng hinsawdd, ac eto o fewn degawd a hanner i'w adeiladu byddai lefelau tagfeydd wedi codi'n ôl i'r lefelau a welwn heddiw. Nid wyf yn gallu deall sut y gall unrhyw un feddwl bod honno'n ffordd gall o fuddsoddi arian. Tra wyf wrthi, mae gwir angen i'r Torïaid sy'n paldaruo am y swm o arian nad yw'n cael ei fuddsoddi yng ngogledd Cymru wneud eu symiau; rwy'n credu bod angen ichi gael golwg ar yr hyn a gafodd ei gynnig ar gyfer yr M4 yn ne Cymru, os ydych chi am wneud y gymhariaeth mewn gwirionedd.

Yn hytrach, byddwn yn buddsoddi'n gynaliadwy yng ngogledd Cymru. Nid oedd y buddsoddiad a gynigiwyd yno yn gyson â'n hymrwymiadau o dan Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol, nac ychwaith yn cyd-fynd â'r hyn y dywedasom y byddem yn ei wneud yn strategaeth trafnidiaeth Cymru ac nid yw'n gyson â'n targedau statudol ar newid hinsawdd. Y rheswm pam y sefydlwyd y panel adolygu ffyrdd annibynnol oedd i brofi cynlluniau fel y llwybr coch, a gafodd eu rhoi ar y gweill cyn inni gytuno ar y polisïau hyn, yn erbyn ein hymrwymiadau ac yn erbyn egwyddorion cyfundrefnol Llywodraeth Cymru. Nid yw'n waharddiad ar adeiladu ffyrdd, yn gwbl amlwg, a byddwn yn gweithio gyda chomisiwn Burns i weithredu dewis arall o gynllun cynaliadwy, a dyna yw'r peth cywir i'w wneud yn amlwg. 

Felly, i fod yn glir, Lywydd, ymarfer polisi technegol yw hwn, ac nid rhywbeth y byddai unrhyw Lywodraeth yn ymgynghori arno'n uniongyrchol. Y cam strategaeth, a'r cam cynllunio, yw'r amser i ymgysylltu â'r cyhoedd a rhanddeiliaid, ac wrth gwrs, rydym wedi gwneud hynny a byddwn yn gwneud cymaint o hynny ag y gallwn. Yn wir, mae comisiwn Burns yng ngogledd Cymru bellach yn ymgynghori fel rhan o'i waith, a phan fydd awdurdodau lleol wedi cynhyrchu eu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol newydd byddant hwythau hefyd yn ymgynghori arnynt, a hynny'n gwbl briodol.

Mae cynnig y Ceidwadwyr yn dweud bod angen inni,

'gyflawni'r seilwaith trafnidiaeth y mae pobl Cymru yn ei haeddu.'

Rydym yn cytuno'n llwyr. Mae angen inni ddiogelu ein seilwaith ar gyfer y dyfodol i ymdrin â'r heriau y gwyddom eu bod ar y ffordd. Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein seilwaith ffyrdd. Byddwn yn gwneud mwy i gynnal a chadw'r ffyrdd sydd gennym a byddwn yn adeiladu ffyrdd newydd sy'n bodloni ein pedwar prawf polisi. Byddwn yn gweithio gyda'n hawdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau a all fynd i'r afael â'n problemau trafnidiaeth heb ychwanegu at yr heriau eraill, ac rydym yn hyderus iawn fod hynny i gyd yn ymarferol iawn.

Gadewch inni edrych ar hyn yn gymesur. Er mwyn dechrau ar lwybr tuag at sero net erbyn 2050, mae angen i ni leihau'r defnydd o geir 10 y cant, felly y cyfan rydym yn ei wneud mewn gwirionedd— 

Weinidog, mae yna gais arall am ymyriad, y tro hwn gan Huw Irranca-Davies.

Weinidog, diolch yn fawr iawn am dderbyn yr ymyriad. Os bydd arweinwyr awdurdodau lleol yn cysylltu â chi yn yr ardaloedd hynny lle dywedwyd wrth lunwyr cynlluniau i feddwl eto ynglŷn â'u cyflwyno, lle mae angen ichi ddangos bod cynllun hefyd yn arwain at ostyngiad yn lefelau trafnidiaeth cerbydau unigol, a wnewch chi gadarnhau y byddwch yn mynd ati i drafod cynigion gyda nhw er mwyn gwneud i hyn weithio, ac y byddwch yn gweld sut y gall Llywodraeth Cymru eu helpu i wneud hynny hefyd?

Byddwn, Huw, wrth gwrs y byddwn, a byddwn yn mynd ati'n rhagweithiol i wneud hynny; rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'n hawdurdodau lleol, ac wrth gwrs y byddwn yn gweithio gyda nhw ar eu cynlluniau trafnidiaeth lleol wrth iddynt eu cyflwyno.

Mae angen inni edrych ar hyn yn gymesur. Er mwyn cyrraedd sero net erbyn 2050, mae angen i ni leihau'r defnydd o geir 10 y cant. Felly, y cyfan rydym yn sôn amdano yw newid un o bob 10 taith mewn car preifat i ddull teithio cynaliadwy. Rwy'n gwybod bod hynny'n drysu uchelgeisiau Natasha Asghar, ond mewn gwirionedd, nid gwahardd ffyrdd mohono. Mae gwir angen inni edrych ar hyn yn gymesur. Yn ogystal â lleihau allyriadau, bydd y gostyngiad yn lleihau tagfeydd, yn lleihau llygredd aer, yn gostwng llygredd sŵn ac yn rhoi mwy o ddewis i bobl mewn perthynas â sut maent yn teithio. Ar hyn o bryd, mae llawer gormod o bobl yn cael eu hamddifadu o'r dewis hwnnw; mae pobl sy'n dibynnu ar fysiau yn cael eu hamddifadu o well gwasanaethau oherwydd bod ein buddsoddiad wedi cael ei luchio tuag at lif ddiddiwedd o ffyrdd newydd. Yn y cyfamser, mae eraill yn teimlo eu bod yn cael eu gorfodi i fod yn berchen ar gar ar ôl car am nad oes ganddynt ddewis arall. Os ydym eisiau gwella dewis, ac os ydych eisiau cynyddu rhyddid, os ydym eisiau cryfhau cymunedau, mae angen inni symud buddsoddiad tuag at system drafnidiaeth gyhoeddus integredig a modern.

Rydym yn gwybod nad oes gennym arian i wneud yr holl fuddsoddiadau trafnidiaeth gyhoeddus sydd eu hangen arnom nawr, ond fel mae ein rhaglen metro £1.6 biliwn a'n buddsoddiad uchaf erioed mewn teithio llesol yn dangos, rydym yn gwneud cynnydd. Felly, Lywydd, rydym yn rhoi £60 miliwn y flwyddyn tuag at docynnau teithio consesiynol gorfodol. Mae hyn yn darparu teithio am ddim i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Rydym yn rhoi £2 filiwn y flwyddyn tuag at y cynllun FyNgherdynTeithio, sy'n cynnig traean oddi ar gost tocynnau bws i bobl ifanc rhwng 16 a 21 oed. Drwy'r grant cynnal gwasanaethau bysiau, rydym yn darparu £25 miliwn o gyllid grant i awdurdodau lleol, i gyd-fynd â chost gwasanaethau bysiau ar dendr, ynghyd â chymorth i drafnidiaeth gymunedol, ac yn ychwanegol at hynny, rydym wedi gwario £3.2 miliwn y flwyddyn—

17:55

Bydd angen ichi ddod â'ch cyfraniad i ben nawr, Weinidog. Rwyf wedi rhoi amser ychwanegol ar gyfer yr ymyriadau, felly os gallwch ddirwyn i ben nawr.

Diolch, Lywydd. Mae'n anodd iawn, onid yw, i ateb yr holl bwyntiau a godwyd mewn dadl o'r math hwn yn yr amser byr iawn sydd gennym ar gael i ni. Felly, byddwn yn cyflwyno dadl yn ystod amser y Llywodraeth i gael mwy o amser i drafod hyn.

Ond Lywydd, i grynhoi, diau mai newid dull o weithredu yw'r peth iawn i'w wneud, ond er mwyn bod yn effeithiol mae angen inni wneud y peth iawn i'w wneud yn beth hawsaf i'w wneud, fel y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i ddweud droeon, oherwydd mae pobl yn fwy tueddol o wneud yr hyn sy'n hawdd ei wneud. Ond yn fyr, Lywydd, rydym yn symud ymlaen at ddyfodol disglair, sy'n gynaliadwy yn economaidd ac yn amgylcheddol, ond fel mae'r ddadl hon yn dangos, mae'r Torïaid yn gaeth i weledigaeth ffug, or-hiraethus o'r gorffennol, ac maent eisiau gweld dyfodol dystopaidd lle mae mwy a mwy o'n cefn gwlad yn cael ei ddifetha gan draffig, a lle mae ein hinsawdd a'r byd natur hanfodol sy'n ei gynnal yn cael eu dinistrio. Rwy'n gwybod pa ddyfodol rwy'n ei gefnogi, ac rwy'n gwybod pa ddyfodol mae pobl Cymru, fel y dengys yr holl arolygon barn, yn ei gefnogi hefyd. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau a gyfrannodd at ein dadl heddiw? Cyfrannodd nifer o Aelodau, mewn gwirionedd, felly fe fyddwch yn falch o glywed nad wyf am enwi pawb ac ymateb i'w pwyntiau yn unol â hynny. Ond roeddwn eisiau crybwyll datganiad agoriadol Natasha Asghar a'i hangerdd am drafnidiaeth yng Nghymru. Rwy'n credu bod ei gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru yn amlwg iawn yn ei chyfraniad hi.

Rydym wedi clywed o bob rhan o'r Siambr heddiw pa mor ddibynnol yw pob ardal o Gymru ar seilwaith ffyrdd da. Mae llawer o'r cynlluniau adeiladu ffyrdd hyn yn hanfodol i helpu economïau a chymunedau lleol i ffynnu, ac efallai ein bod wedi clywed yn y ddadl fod hynny'n fwy amlwg yng ngogledd Cymru nag yn unman arall, wrth i Sam Rowlands a Janet Finch-Saunders dynnu sylw at y prosiectau mawr y rhoddwyd stop arnynt yno. Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â Rhun ap Iorwerth, sydd wedi gorfod cydbwyso cefnogaeth lawn ei blaid i gynlluniau diweddaraf Llafur, fel maent yn ei wneud mor aml, gydag awydd clir ei etholwyr am drydedd croesfan i Ynys Môn.

Wrth gwrs, fe fydd yn gwybod bod ei etholwyr yn cefnogi'r drydedd groesfan honno ac nid oes raid i'w Haelod Seneddol, Virginia Crosbie, gerdded y rhaff dynn ar hynny.

Wel, mae'n gweithio'r ddwy ffordd, oherwydd mae angen ichi gofio hefyd fod Aelodau o'ch meinciau chi wedi gwrthwynebu'r llwybr coch.

Rwy'n credu inni glywed gan Sam Rowlands fel Aelod dros Ogledd Cymru ei fod yn cefnogi'r llwybr coch i fynd drwy sir y Fflint yn fawr iawn.

Fel rydym hefyd wedi clywed, mae'r Dirprwy Weinidog a'r panel a greodd wedi methu gwrando ar unrhyw un o bryderon y cymunedau ac wedi diystyru eu holl bryderon, gan fwrw ymlaen â'u hagenda gul eu hunain yn lle hynny heb gynnig unrhyw ddewisiadau amgen addas. Clywsom gan Delyth Jewell ac eraill ein bod yn wynebu moment dyngedfennol lle mae Cymru, yn ogystal â chanslo prosiectau ffyrdd hanfodol, yn wynebu argyfwng yn ei system drafnidiaeth. Mae'n cynnwys pryderon ynghylch y 65 y cant i 100 y cant o wasanaethau bysiau sy'n wynebu cael eu torri gan gwmnïau bach oherwydd diffyg cyllid, fod nifer y teithiau bws yn gostwng, fod 11,000 o deithiau trên wedi'u canslo dros y tair blynedd diwethaf, a bod un o bob chwech o deithwyr trên yn anfodlon â gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru.

Os mai dyma yw ymateb Cymru i newid hinsawdd, fel y clywsom gan bobl fel Jenny Rathbone, Huw Irranca-Davies a Jane Dodds, onid yw'n rhyfedd na fu unrhyw ysgogiad o gwbl i gynyddu'r defnydd o gerbydau trydan, a fydd yn ffactor o bwys i leihau allyriadau? Pam nad oes gennym fwy nag ychydig dros 1,400 o fannau gwefru cyhoeddus yma yng Nghymru, ymhell islaw'r 50,000 man gwefru cyflym y mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi rhagweld y bydd eu hangen erbyn 2030? A pham mai dim ond 94 o fysiau di-allyriadau sy'n weithredol a hynny mewn pedwar awdurdod?

Yr awdurdodau sydd wedi cael bysiau trydan yw'r rhai sydd wedi gwneud cais llwyddiannus am gyllid gan Lywodraeth y DU, ac fe ddylem fod yn ddiolchgar iawn am hynny. Ond mewn perthynas â mannau gwefru trydan, rhaid imi eich atgoffa nad llywodraethau sy'n gyfrifol am orsafoedd petrol, ac yn yr un modd, nid llywodraethau sy'n gyfrifol am fannau gwefru trydan ychwaith. Mae yna gyfrifoldeb, rwy'n cytuno, i ni sicrhau bod cymunedau'n manteisio ar gyfleoedd i osod mannau gwefru trydan yn eu pentrefi a'u trefi fel y gallant wneud rhywfaint o arian o hynny, gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy yn eu hardal, ond nid gwaith y Llywodraeth yw trosglwyddo i fannau gwefru trydan.

18:00

Mae gan y Llywodraeth rôl i annog gosod pwyntiau gwefru. Nid yw'n gyd-ddigwyddiad, Jenny, fod 39 pwynt gwefru i bob 100,000 o'r boblogaeth yng Nghymru. Yn Lloegr, mae'n 52. Mae gwahaniaeth amlwg ar hyd ein ffin yma yng Nghymru hefyd, a hynny oherwydd natur ragweithiol Llywodraeth y DU nad ydym yn ei gweld yma yng Nghymru. Ac os yw'n ymwneud ag arbed arian, mae'n rhyfedd fod rhewi adeiladu ffyrdd yn yr adolygiad hwn wedi dechrau cyn i unrhyw bwysau chwyddiant ddod i'r amlwg. Os mai mantoli'r llyfrau yw'r nod, mae'n syfrdanol fod Llywodraeth Cymru wedi gwario £180 miliwn ar brosiectau adeiladu ffyrdd na chawsant eu dechrau, ffyrdd i unman yn llythrennol, y gellir ei ddiystyru mor hawdd. Os yw hi mor anodd dod o hyd i arian, un arbediad da fyddai'r £30 miliwn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wario ar derfyn cyflymder o 20 mya. Mae 10 mlynedd wedi mynd heibio ers Deddf Teithio Llesol (Cymru), Lywydd, ond mae'n edrych yn debyg ein bod wedi mynd wysg ein cefnau: llai o deithiau bws, o leiaf 30 y cant o'r boblogaeth ym mhob un o ranbarthau Cymru mewn tlodi trafnidiaeth, a chynlluniau peilot trafnidiaeth gynaliadwy, gan gynnwys e-feiciau ac e-feiciau cargo, nad ydynt yn dangos unrhyw gynnydd, a'r cyfan oherwydd diffyg buddsoddiad a pholisi sy'n newid yn barhaus. Fodd bynnag, mae'r panel a'r Dirprwy Weinidog yn dibynnu'n llwyr ar deithio llesol a system drafnidiaeth gyhoeddus sydd angen eu diwygio'n enbyd.

Mae cymudwyr a busnesau Cymru'n cael eu gwthio'n barhaus tuag at yrru fel ffurf ddibynadwy ar drafnidiaeth oherwydd bod system trafnidiaeth gyhoeddus Cymru'n methu cyflawni. Fodd bynnag, yn hytrach na chael system drafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy sy'n cael defnydd da cyn gwahardd prosiectau adeiladu ffyrdd, bellach cawn ein gadael yn y sefyllfa hurt hon lle bydd defnyddwyr ffyrdd yn achosi mwy o allyriadau oherwydd terfyn cyflymder o 20 mya, lle byddant yn talu mwy fyth os caiff rhwydwaith codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd ei gyflwyno yng Nghymru—syniad y nododd y Dirprwy Weinidog fod ganddo ddiddordeb ynddo—ac ni fyddant yn gallu gwneud defnydd effeithlon o'r ceir trydan y gofynnir iddynt newid iddynt erbyn 2030 oherwydd prinder pwyntiau gwefru. [Torri ar draws.] Rwyf wedi derbyn digon o ymyriadau.

Mae'n eithaf eironig fod y gyllideb derfynol wedi'i phasio ddoe, gan ei bod yn dangos toriadau sylweddol i drafnidiaeth, hyd yn oed mewn meysydd lle mae'r Dirprwy Weinidog eisiau canolbwyntio arnynt. Nid yn unig y bu gostyngiad o 17 y cant mewn cyllid cyfalaf ar gyfer teithio cynaliadwy o'i gymharu â'r gyllideb ddangosol, gwelwyd toriad o £10 miliwn i deithio llesol a thoriad o £22 miliwn i gymorth ar gyfer bysiau. Ni all honno fod yn sefyllfa y gellir goddef iddi barhau ochr yn ochr â thoriad i brosiectau ffyrdd.

Felly, mae byrdwn y cynnig yn syml, Lywydd: mae'r adolygiad ffyrdd wedi methu darparu'r seilwaith trafnidiaeth sydd ei angen ar Gymru. Yn hytrach, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru yn gallu darparu ar gyfer y galw. Drwy fethu gwneud hynny, efallai y dylai geiriau enwog y Dirprwy Weinidog, 'Nid ydym yn gwybod yn iawn beth rydym yn ei wneud ar economi Cymru' gael eu diweddaru nawr i, 'Nid ydym yn gwybod beth rydym yn ei wneud ar system drafnidiaeth Cymru ychwaith.' Oherwydd oni bai ei fod yn dod o hyd i ateb, nid am y ffyrdd y bydd rhaid iddo boeni, ond yn hytrach, am yr Aelodau anhapus ar feinciau cefn Llafur yn dweud wrtho am ei hel hi oddi yma.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu?

Edrychwch, nid wyf am wneud eich gwaith drosoch chi, felly canolbwyntiwch os gwelwch yn dda.

Dwi'n credu ein bod ni wedi clywed gwrthwynebiad oddi wrth Blaid Cymru. Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma, oni bai bod Aelodau eisiau i fi ganu'r gloch, ar eitem 5, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar ddata biometrig mewn ysgolion. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Sarah Murphy. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, 14 yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)—Data biometrig mewn ysgolion: O blaid: 38, Yn erbyn: 1, Ymatal: 14

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 6, sef y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau, sef 'Y Troad Terfynol? Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru'. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, yn enw Jack Sargeant. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, chwech yn ymatal, pedwar yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

18:05

Eitem 6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau—Y Troad Terfynol? P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru: O blaid: 44, Yn erbyn: 4, Ymatal: 6

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar yr adolygiad ffyrdd. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Yr adolygiad ffyrdd. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 15, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 54, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei gymeradwyo.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 54, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM4340 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad panel adolygu ffyrdd Llywodraeth Cymru, Dyfodol Buddsoddiad Ffyrdd yng Nghymru.

2. Yn gresynu at y diffyg ymgysylltu gan y panel adolygu ffyrdd gyda'r cyhoedd, cynrychiolwyr etholedig, awdurdodau lleol, busnesau a'r trydydd sector ac eraill yn ystod yr adolygiad.

3. Yn cydnabod yr angen am weithredu beiddgar a radical yn y sector trafnidiaeth i helpu i gyflawni allyriadau sero net cyn 2050.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i fuddsoddi mwy brys mewn trafnidiaeth gyhoeddus ac isadeiledd cerbydau trydan fel bod gan gymunedau ledled Cymru fwy o fynediad at opsiynau trafnidiaeth carbon isel neu di-garbon.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 53, neb yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn. Dyna ddiwedd ar y pleidleisio.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Yr adolygiad ffyrdd. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 53, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

9. Dadl Fer: Cenedl sy'n cydsefyll: Cymru'n sefyll gyda phobl Armenia

Yr eitem nesaf, felly, fydd y ddadl fer. Mae'r ddadl fer y prynhawn yma gan Llyr Gruffydd, a dwi'n galw ar Llyr Gruffydd i gyflwyno'r pwnc.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch am y cyfle i gyflwyno fy mhwnc i yn y ddadl fer yma y prynhawn yma.

Mi allwn ni fod yn ddigon balch o’r ymagwedd ryngwladol sydd wedi bod yn rhan amlwg o'n hanes ni fel Cymry dros y blynyddoedd. Yn ôl yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, roedd gennym ni ein Cynghrair Cymreig y Cenhedloedd Unedig a ymgyrchodd dros heddwch a chydweithrediad rhyngwladol ar ôl y rhyfel byd cyntaf. Dyna yrrodd ddeiseb heddwch merched 1923, a lofnodwyd gan dros 390,000 o ferched yn annog America i ymuno â, ac arwain, Cynghrair y Cenhedloedd. Hefyd, wrth gwrs, ers dros ganrif mae neges heddwch flynyddol yr Urdd wedi’i hanfon ar draws y byd gan ledaenu neges o heddwch ac ewyllys da gan blant a phobl ifanc Cymru i bob rhan o’r byd ac i holl bobloedd y byd.

Fe ddaeth yr enghreifftiau penodol hyn i fod, wrth gwrs, yn y cyfnod cyn datganoli. A’r hyn oedden nhw, mewn gwirionedd, oedd cyfrwng i Gymru siarad mewn undod, gydag un llais, ar adeg pan nad oedd gennym ni ein senedd genedlaethol ein hunain i fynegi’r teimladau hynny o solidariaeth ryngwladol gydag eraill a oedd yn wynebu anghyfiawnder a gormes ar draws y byd.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Nawr, yn fwy diweddar, wrth gwrs, mae'r Senedd hon wedi sicrhau bod Cymru'n genedl noddfa, sy'n ymwneud â chroesawu'r rhai o bob cwr o'r byd sydd wedi'u dadleoli gan ryfel a gwrthdaro a'r rhai sydd eisiau lle diogel i fyw ynddo. A mawredd, yng ngoleuni peth o'r naratif a ddaw o Lywodraeth San Steffan ar hyn o bryd, mae gwir angen inni ystyried ein cyfrifoldeb i ddarparu'r noddfa honno. Gan fod gennym ein Senedd ein hunain bellach—er nad oes gennym lawer o bwerau na chymhwysedd mewn cyd-destun rhyngwladol—mae gennym ddyletswydd i ddefnyddio'r platfform hwn ac i godi ein llais cyfunol i dynnu sylw at anghyfiawnder lle bynnag y'i gwelwn. Er bod llawer o'r pwerau i sicrhau newid gwirioneddol wedi eu cadw'n ôl i San Steffan, mae gennym ddyletswydd foesol i ddefnyddio ein statws fel Senedd genedlaethol, fel Llywodraeth genedlaethol, i siarad a chodi llais i gondemnio cam-drin hawliau dynol, i gondemnio rhyfel ac ymddygiad ymosodol ac i estyn allan at bobl ar adeg o angen. Rydym yn gwneud hynny gyda rhyfel ymosodol Putin yn erbyn Wcráin. Rydym wedi gwneud hynny drwy roi cymorth i'r bobl sy'n ffoi rhag erledigaeth y Taliban yn Affganistan. Rydym wedi gwneud hynny wrth gondemnio'r modd y caiff hawliau dynol menywod Iran eu cam-drin yn barhaus. Nid yn unig ein bod yn genedl noddfa, rydym yn genedl o undod. A dyna pam, heddiw, yn y Senedd, mae'n rhaid inni hefyd godi llais a chondemnio'r erchyllterau parhaus a anwybyddwyd i raddau helaeth sy'n digwydd yn erbyn y bobl Armenaidd yn Nagorno-Karabakh.

Gwlad gymharol fechan yw Armenia, gyda phoblogaeth debyg i un Cymru. Ac ers eu hannibyniaeth, yn gyntaf yn 1918 ac eto yn 1991, maent wedi wynebu rhyfel a hil-laddiad gan eu cymdogion. Llofruddiwyd rhwng 600,000 ac 1.5 miliwn o Armeniaid yn systematig gan y Tyrciaid Ifanc yn yr hyn y mae llawer o wledydd yn dal i fethu ei ddisgrifio'n gywir fel hil-laddiad. A chyn hynny, digwyddodd hil-laddiad arall dan yr Ymerodraeth Ottomanaidd, yn ôl ym 1895, pan lofruddiwyd 300,000 o Armeniaid. Mae hyd yn oed Llywodraeth y DU, dros ganrif ar ôl i'r erchyllterau hyn ddigwydd yn erbyn y bobl Armenaidd, yn dal heb fod yn ddigon dewr i'w alw yr hyn ydoedd—sef hil-laddiad. Nid tan yn ddiweddar y gwnaed hynny gan wledydd eraill rydym yn eu cyfrif yn wledydd sy'n arddel egwyddorion rhyddid a hawliau dynol. Ni wnaeth yr Almaen gydnabod yr hil-laddiad Armenaidd tan 2016, ac fe wnaeth UDA yr un peth yn 2019. Ac mae'n hen bryd i Lywodraeth y DU wneud hynny hefyd.

Yng Nghymru, dechreuodd y daith tuag at gydnabod hil-laddiad yn 2001, wrth gwrs, pan osododd Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru ar y pryd, flodau er cof am ddioddefwyr hil-laddiad 1915. Yn ddiweddarach, yn 2010, cafwyd cydnabyddiaeth benodol i hil-laddiad yr Armeniaid gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones, pan dalodd wrogaeth i ddioddefwyr Armenaidd yn ystod digwyddiadau coffáu'r Holocost. Dilynodd yr Eglwys yng Nghymru eu hesiampl yn fuan wedyn, gan ddatgan 24 Ebrill yn Ddiwrnod yr Hil-laddiad Armenaidd. Nawr, mae'r rhain i gyd wedi cael eu croesawu, er mai camau graddol ydynt. Ond mae amgylchiadau heddiw yn golygu na all ddod i ben gyda hynny.

Tra oedd yn rhan o'r Undeb Sofietaidd, cynhaliwyd nifer o etholiadau a refferenda yn Nagorno-Karabakh i uno'r oblast ag Armenia, ond gwrthodwyd y rhain gan Moskva (Moscow). Ym 1988, pasiodd Senedd Ewrop benderfyniad yn cefnogi galwadau'r Armeniaid ethnig yn y rhanbarth am ailuno ag Armenia, ond gyda gwactod pŵer yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd, cymerodd Azerbaijan yr ardal dan reolaeth filwrol, ac ers hynny, wrth gwrs, mae'r ardal wedi ei phlagio gan ryfel a gwrthdaro.

Ac fel ym mhob rhyfel, y gwir ddioddefwyr yw'r sifiliaid. Nid yn unig yn y gorffennol y mae'r erchyllterau sy'n wynebu pobl Armenia. Rhaid inni beidio â gadael i bobl Armenia gael eu hanwybyddu unwaith eto wrth i erchyllterau a cham-drin hawliau dynol ddigwydd yn eu herbyn yn Nagorno-Karabakh. Mae'r sefyllfa yno'n enbyd. Mae Azerbaijan wedi cau'r briffordd rhwng Goris a Stepanakert, yr unig ffordd sy'n cysylltu Nagorno-Karabakh â'r byd tu allan drwy goridor Lachin. I Armeniaid yn Artsakh, mae hwn yn goridor hollbwysig sy'n eu cysylltu â chyflenwadau, â masnach, a gweddill Armenia. Mewn llythyr diweddar wedi'i lofnodi gan y Farwnes Cox, Arglwydd Alton o Lerpwl, Rowan Williams, cyn-Archesgob Caergaint, Christopher Cocksworth, Esgob Coventry, Dr John Eibner, a Tim Loughton AS disgrifiwyd y blocâd ar goridor Lachin gan Azerbaijan fel 'gwarchae canoloesol'.

Fis diwethaf, gorchmynnodd y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol, prif gorff barnwrol y Cenhedloedd Unedig, fesurau dros dro i sicrhau bod Azerbaijan yn dod â'r gwarchae ar goridor Lachin i ben. Yn ôl y llys, mae'r sefyllfa wedi golygu nad oes gan 120,000 o drigolion Armenaidd ethnig yn Nagorno-Karabakh fynediad at nwyddau a gwasanaethau hanfodol, gan gynnwys meddyginiaeth a gofal iechyd sy'n achub bywydau. Mae un cardiolegydd mewn ysbyty yno yn dweud eu bod ond yn gwneud 10 y cant o'r llawdriniaethau y byddai disgwyl iddynt eu gwneud fel arfer, a hynny'n syml oherwydd nad oes ganddynt yr offer sydd ei angen arnynt. O ganlyniad, mae'n dweud, 'Bob dydd rydym yn colli llawer o bobl, llawer o gleifion.'

Mae'r undod y gallwn ei ddangos i bobl Armenia yn golygu llawer, yn amlwg, er ei fod yn costio cyn lleied i ni. Bûm mewn cysylltiad â'r gymuned Armenaidd yma yng Nghymru, ac yng ngogledd Cymru yn arbennig, ac rwyf am ddarllen ambell ddatganiad byr gan Anna, a symudodd o Armenia i Gymru rai blynyddoedd yn ôl ond sydd â theulu dan warchae yn Nagorno-Karabakh. Mae'n dweud hyn:

'Mae gennyf ffrindiau a theulu sydd wedi'u dal yn yr hyn sy'n digwydd ac mae'n anodd iawn oherwydd pan ydych chi'n adnabod pobl, mae gymaint yn fwy personol. Mae fy nghalon yn gwaedu dros fy ngwlad, dros bawb, ond wedyn mae gennych chi bobl rydych chi'n eu hadnabod ac rydych chi'n poeni amdanynt yn gyson. Mae'n anodd.'

Nawr, mae'n sôn am ei chyfnither Rita a'i theulu sydd bellach yn byw yn Stepanakert, sydd yn yr ardal dan warchae. Roeddent yn arfer byw yn nhref Shusha, ond oherwydd bod Azerbaijan wedi cymryd rheolaeth, bu'n rhaid iddynt symud oddi yno yn ystod y rhyfel. Dywedodd Anna wrthyf,

'Fe wnaethant ffoi oddi yno oherwydd bod yna fomio ddydd a nos. Pan ddaeth y rhyfel i ben, fe wnaethant benderfynu mynd i Stepanakert. Mae gan ei mab glwyfau o'r rhyfel. Cafodd dynnu un ysgyfaint, mae niwed i un o'i arennau, ac mae niwed i'w asgwrn cefn hefyd. Mae ganddo dri o blant.'

Dywedodd ei chyfnither Rita wrthi,

'Wyddost ti beth, Anna, nid prinder bwyd na thrydan na chyflenwadau yw'r peth gwaethaf. Fe wnaethom fyw drwy ryfel gyntaf Nagorno-Karabakh dan yr amgylchiadau hynny. Nid dyna ydyw, ond yn hytrach, yr ofn o beidio â gwybod beth maent am ei wneud nesaf'.

Aiff yn ei blaen i ddweud,

'Yng Nghymru, hoffwn weld Aelodau'r Senedd yn arwyddo'r datganiad barn sydd wedi ei gyflwyno. Mae cyn lleied o bobl wedi ei arwyddo. Mae'n brifo. Nid ydym yn gofyn am ormod. Nid oes ond angen iddynt ddangos eu bod yn deall ein poen. Rydym eisiau cydnabyddiaeth ac undod... Hoffwn weld Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a Llywodraeth Cymru yn codi llais ar hyn.'

Mae'n dweud

'Rwy'n siomedig iawn nad ydynt wedi gwneud hynny.'

Nawr, mae'n ddyletswydd arnom i gondemnio'r gweithredoedd hyn, ac er efallai nad oes gennym bŵer wedi'i ddatganoli i'r Senedd hon i wneud llawer mwy na hynny, mae'n rhaid inni o leiaf ddefnyddio'r llais sydd gennym, nid yn unig i fynegi undod â phobl fel Anna a'i theulu yn Armenia, ond hefyd i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i gynorthwyo'r bobl Armenaidd ac i gondemnio gweithredoedd Azerbaijan.

Yn 2019, fel y soniais yn gynharach, datganodd Cymru ei hun yn genedl noddfa gyntaf y byd, sef ymagwedd drugarog a phragmatig tuag at dderbyn ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac ers hynny, rydym wedi haeddu'r disgrifiad hwnnw i raddau helaeth, yn gyntaf, fel y soniais, drwy gefnogi a chartrefu ffoaduriaid o Affganistan ac yn fwy diweddar, wrth gwrs, gyda'n cefnogaeth i ffoaduriaid Wcreinaidd. Dywed y Llywodraeth hon yng Nghymru wrthym ei bod yn credu bod angen ymateb unigryw Gymreig tuag at gymorth rhyngwladol, ac rwy'n cytuno. Ond mae geiriau a gweithredoedd yn aml yr un mor bwysig, ac nid yw'n iawn inni flaenoriaethu condemnio rhai mathau o ymddygiad ymosodol rhyngwladol yn erbyn gwladwriaethau sofran tra bôm yn anwybyddu eraill.

Ydym, rydym yn genedl noddfa, nid oherwydd ein bod eisiau bod yn boblogaidd, nid oherwydd ei fod yn hawdd—mae ymhell o fod—ond oherwydd ein bod eisiau i'r rhai sydd angen noddfa a chymorth wybod ein bod ni'n deall, hyd yn oed yn ystod erchyllterau rhyfel, fod angen i bobl deimlo'n ddiogel, ein bod ni, fel brawdoliaeth a chwaeroliaeth ddyngarol yma i'n gilydd pan fo pobl yn ffoi rhag erledigaeth, cam-drin hawliau dynol, rhyfel a hil-laddiad. Mae ein polisi cenedl noddfa yn dangos i'r byd beth sy'n ein gwneud ni'n falch o fod yn Gymry; rydym yn garedig ac yn hael ac rydym yn cynnig ein breichiau agored i'r byd pan fyddant angen ein cymorth. Dyna pam rwy'n galw ar y Senedd hon heddiw, ac ar Lywodraeth Cymru, i gondemnio'r rhyfel erchyll yn erbyn y bobl Armenaidd yn Nagorno-Karabakh, i fod yn rhagweithiol wrth annog Llywodraeth y DU i wneud yr un peth a hefyd i ddarparu cymorth er mwyn atal yr argyfwng dyngarol sy'n wynebu 120,000 o bobl Armenaidd yno. A gadewch i'n gweithredoedd gael eu hysgogi nid yn unig drwy gydnabod yn briodol a chofio am erchyllterau hil-laddiad Armenaidd 1915-23, ond hefyd drwy gydnabod yn benodol fod yna fygythiad o hil-laddiad arall nawr, eleni, ganrif yn ddiweddarach, yn 2023, oherwydd os na chodwn ein lleisiau, os na ddefnyddiwn y llais sydd gan y Senedd hon a Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at yr erchyllterau hyn, bydd gennym oll waed ar ein dwylo. Diolch.

18:15

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch am gyflwyno'r ddadl y prynhawn yma.

Rydym yn sefyll gyda'n holl gymunedau rhyngwladol sy'n gorfod gwylio a gweld eu pobl, ac fel rydych chi'n dweud, pobl—teulu a ffrindiau—sy'n dioddef. Rydym yn dangos undod fel unigolion, fel cymunedau, ac fel ffrindiau â'r rhai sy'n dal i ddioddef erledigaeth bob dydd. Mae Llywodraeth Cymru'n condemnio erledigaeth a thrais o bob math yn unrhyw ran o'r byd, a lle mae cynnen yn bodoli neu wedi bodoli, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r ymdrechion i hyrwyddo cymod rhwng pobl a Llywodraethau.

Mae Cymru'n mwynhau cysylltiadau â llawer o genhedloedd ar draws y byd, gyda llawer ohonynt wedi penderfynu gwneud Cymru'n gartref iddynt, ac mae Cymru, ac fe fydd bob amser, yn genedl groesawgar, yn lle sy'n hyrwyddo ac yn dathlu heddwch. Mae ein hanes yn tystio i hyn, fel rydych wedi ein hatgoffa heddiw, o Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru ac apêl heddwch menywod rhyfeddol y 1900au cynnar, i Urdd Gobaith Cymru, creu'r Academi Heddwch, i'r ymrwymiad heddiw i wneud Cymru'n genedl noddfa. Ac fel rydych chi wedi dweud, Llyr, mae cenedl noddfa yn golygu helpu unrhyw un sydd wedi ei ddadleoli neu sy'n ailgartrefu yng Nghymru i gael mynediad at wasanaethau ac integreiddio gyda chymunedau o'r diwrnod cyntaf ar ôl cyrraedd. Mae'n ymwneud â gweld y person cyn gweld eu statws mewnfudo. Mae'n ymwneud â chydnabod bod gan unigolion sgiliau a phrofiadau ac nid dim ond anghenion i'w diwallu. Mae'n ymwneud â harneisio'r cyfleoedd y mae mudo yn helpu i'w cyflwyno i'n heconomi ac i'n cymunedau, ac rydym yn genedl o undod, fel y dywedwch. Dyna oedd fy neges y bore yma mewn digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, a drefnwyd gan Hwb Cymru Affrica, a oedd yn disgrifio rhai o'r prosiectau rydym yn eu cefnogi yn Affrica is-Sahara ar rymuso rhywedd.

Rwy'n ymwybodol fod gwrthdaro Nagorno-Karabakh yn gymhleth iawn, a dros y 30 mlynedd diwethaf, mae pobl wedi parhau i ddioddef oherwydd y gwrthdaro, sydd wedi bod yn gefndir i gysylltiadau rhanbarthol yn ystod y cyfnod hwn. Wel, fel rydym wedi dweud, ac fel rydym yn gwybod, Llywodraeth y DU sy'n dal yr awenau ar faterion tramor—mae wedi ei gadw'n ôl—ac mae Llywodraeth y DU wedi mabwysiadu rôl weithredol. Ac rwy'n deall bod eu safbwynt ar densiynau rhwng Armenia ac Azerbaijan ynghylch sefyllfa Nagorno-Karabakh heb newid. Ond mae Llywodraeth y DU, gyda llawer o'r gymuned ryngwladol, wedi bod yn glir fod cau coridor Lachin nawr, sy'n wythïen hollbwysig i mewn i Nagorno-Karabakh, yn gwbl annerbyniol, ac maent wedi galw dro ar ôl tro am agor y coridor. 

Yr wythnos diwethaf, ar 2 Mawrth, dywedodd pennaeth dirprwyaeth y DU i'r Sefydliad Diogelwch a Chydweithredu yn Ewrop (OSCE) fod Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn bryderus iawn ynghylch y tarfu parhaus ar goridor Lachin, ac anogodd weithredu ar unwaith i adfer llif nwyddau a phobl. Mae'r coridor wedi cael ei drafod yng Nghyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, ac mae'r ffaith bod hyn bellach wedi'i ddwyn ger bron y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol, a dyfarniad wedi'i basio, yn atgyfnerthu'r angen i roi camau brys ar waith. 

Nawr, fy nealltwriaeth i yw bod Llywodraeth y DU yn parhau i gefnogi ymdrechion rhyngwladol, gan gynnwys y rhai dan arweiniad yr UE ac OSCE, ac mae'n parhau i alw ar Lywodraeth Armenia a Llywodraeth Azerbaijan i weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â'u pryderon, ac i gyflawni'r ymrwymiadau y mae'r ddwy ochr wedi'u gwneud. A thrwy gydol mis Chwefror, cyfarfu Gweinidogion y DU â chynrychiolwyr o Azerbaijan ac Armenia i drafod cynnydd ar drafodaethau heddwch, ac roedd hyn yn cynnwys teithio allan i Baku. 

A diolch am godi pwysigrwydd cymorth dyngarol ar ôl y trais yn 2020. Y DU oedd y genedl gyntaf i ddarparu cymorth dyngarol ar ffurf £1 filiwn i Bwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch, a nawr, drwy Gronfa Start, mae wedi dyrannu £350,000 i gefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan gau'r coridor. Mae'r DU wedi ymrwymo i barhau i fonitro'r sefyllfa drwy eu hymgysylltiadau helaeth â gweithredwyr dyngarol, i barhau i adolygu'r angen am gymorth dyngarol pellach yn y dyfodol pe bai'r sefyllfa'n parhau i ddirywio. Ac mae'r adroddiadau fod troseddau rhyfel wedi'u cyflawni yn peri pryder mawr, ac rwy'n gwybod bod nifer o bobl yn poeni am y risg o hil-laddiad yn y rhanbarth. 

O ran y confensiwn hil-laddiad, a lle mae tystiolaeth fod trothwyon wedi'u cyrraedd, rhaid i Lywodraeth y DU sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd, a lle mae gan Lywodraeth y DU bryderon ynghylch ymddygiad milwyr, bydd y materion hyn yn cael eu codi'n uniongyrchol gyda'r Llywodraeth briodol.

Yn anffodus, Ddirprwy Lywydd, rydym yn gweld gwrthdaro mewn gormod o leoedd ar draws y byd. Caiff llawer ohono ei achosi gan gasineb, hiliaeth, diffyg addysg, ac amharodrwydd i wrando a gweithio gyda phobl. Mae Cymru bob amser wedi bod, ac yn parhau i fod yn genedl sy'n falch o agor ei drysau, yn enwedig i'r rhai sy'n ffoi rhag trais a chasineb, ac rydym yn falch o werthoedd cydraddoldeb, cydweithredu ac undod sy'n nodweddu'r Gymru rydym yn byw ynddi heddiw. Ond mae'n rhaid i hyn fod yn realiti i bobl, ac mae'n rhaid inni wrando ar y pryderon rydych chi wedi'u codi heddiw ynghylch y materion hyn. 

So, unwaith eto, diolch yn fawr, Llyr Gruffydd. 

Diolch am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw.

18:20

Diolch i Llyr Gruffydd, a diolch i'r Gweinidog. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben. 

Daeth y cyfarfod i ben am 18:23.