Y Cyfarfod Llawn

Plenary

01/03/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yw'r eitem gyntaf. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Peredur Owen Griffiths.

Dyled

1. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i helpu teuluoedd yn Nwyrain De Cymru sydd wedi mynd i ddyled? OQ59162

Diolch yn fawr. Dydd Gŵyl Dewi hapus i chi i gyd y prynhawn yma.

Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol hon, defnyddiodd 16,553 o bobl wasanaethau ein cronfa gynghori sengl yn Nwyrain De Cymru, a chawsant gymorth i ddileu cyfanswm o £1.1 miliwn o ddyledion ac i hawlio incwm ychwanegol o £8.1 miliwn.

Diolch am yr ateb yna, Weinidog.

Yn y ddogfen a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Sefydliad Bevan, 'A snapshot of poverty in winter 2023', canfuwyd bod dyled yn broblem sylweddol. Roedd mwy na chwarter y bobl a holwyd wedi benthyca arian rhwng mis Hydref 2022 a mis Ionawr 2023, gydag 13 y cant mewn ôl-ddyledion ar o leiaf un bil. Yn ychwanegol at hynny, roedd mwy nag un o bob 10 hefyd yn poeni am golli eu cartref dros y tri mis nesaf, gyda deiliaid morgeisi yn dod yn fwyfwy pryderus. Gŵyr pob un ohonom pwy sydd ar fai am hyn i raddau helaeth. Mae hyd yn oed y Torïaid yn y Siambr hon yn gwybod hyn yn y bôn, ond y cwestiwn yw: beth a wnawn yn ei gylch?

Hoffwn wybod pa ddatblygiadau a wnaed yn yr ymgyrch i atal cwmnïau ynni rhag gosod mesuryddion rhagdalu gorfodol mewn aelwydydd. Mae'n warthus fod teuluoedd yn cael eu gorfodi i mewn i dlodi tanwydd ar adeg pan fo cwmnïau nwy a thrydan yn gwneud elw mwy nag erioed. A hoffwn wybod hefyd pa ddeialog a gafwyd a pha gynnydd a wnaed ar y cyd â'r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi i fynd i'r afael â'r cwmnïau casglu dyledion ofnadwy hyn ers imi godi'r mater fis diwethaf. Diolch.

Diolch yn fawr. Ni allwn fychanu'r heriau ariannol y mae cymaint o aelwydydd ledled Cymru yn eu hwynebu. Yn wir, mae'r ffigurau heddiw yn amcangyfrif yn y miliynau—2.5 miliwn arall yn mynd i mewn i dlodi tanwydd. Yr hyn rydym yn ei wneud yw targedu cymorth ariannol at aelwydydd er mwyn rhoi cymorth iddynt wneud y mwyaf o'u hincwm ac osgoi mynd i ddyled. Ond yn amlwg, mae rhai materion sy'n rhan o gyfrifoldebau Llywodraeth y DU, ac rwy'n arbennig o bryderus am yr effaith ar yr aelwydydd mwyaf agored i niwed, sef y rhai, fel y dywedwch, sy'n aml ar fesuryddion rhagdalu.

Credaf mai dyma ble mae'r gwaith y buom yn ei wneud ddoe—. A dweud y gwir, cyfarfûm â swyddogion Ofgem a chyfarfûm â bwrdd Ofgem ychydig wythnosau yn ôl, a phwysais ar Ofgem i ystyried yr aelwydydd mwyaf agored i niwed yng Nghymru wrth ddefnyddio eu pwerau rheoleiddio i adolygu arferion cyflenwyr ynni. Dywedais hefyd, o ran—. Gofynnais gwestiynau iddynt ynglŷn â'u hadolygiad o Nwy Prydain. Gofynnais iddynt am eu hadolygiadau o gyflenwyr ynni eraill. Dywedais hefyd, er eu bod yn gwahardd gosod mesuryddion rhagdalu tan ddiwedd mis Mawrth, y dylid ymestyn y cyfnod hwnnw. Galwais am iddo gael ei ymestyn, gan eu bod yn cynnal rhai adolygiadau o gyflenwyr eraill, yn ôl yr hyn a ddeallaf. A galwais am y tariff cymdeithasol.

A gaf fi ddweud fy mod yn falch iawn o fod wedi cyfarfod â’r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi, ac wedi codi hyn gydag Ofgem ac wedi awgrymu—ac rwy’n dweud hyn yn glir wrth Ofgem a Llywodraeth y DU—y dylai casglwyr dyledion a gyflogir gan gyflenwyr ynni fod wedi'u hachredu gan y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi?

Hoffwn ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus iawn i chi a fy holl gyd-Aelodau yma yn y Siambr a thu hwnt. Weinidog, gwn eich bod wedi clywed y llinell hon gan lawer o fy nghyd-Aelodau dros amser a thros y blynyddoedd mwy na thebyg, ond nid yw'n gyfrinach fod Llafur, yn anffodus, wedi bod yn dinistrio ein GIG, gyda bron i 600,000 o gleifion ar restrau aros. Mae gennym hefyd fwy na 45,000 o bobl yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth. Ni all llawer o'r rheini ar restrau aros fyw gyda'r boen mwyach, ac maent yn troi at ofal iechyd preifat. Mae cryn dipyn o fy etholwyr yn ne-ddwyrain Cymru mewn sefyllfaoedd ariannol eithriadol o anodd gan nad oes ganddynt ddewis ond mynd yn breifat. Bu’n rhaid i un etholwr dalu’n breifat am laparosgopi am fod eu hiechyd meddwl yn dioddef i'r fath raddau o ganlyniad i’r boen roeddent yn ei dioddef bob dydd. Mae'r claf wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu, 'Rwy'n ffodus fy mod wedi gallu gwneud hyn, er ei fod yn golygu fy mod mewn dyled o £4,000.' Cafodd unigolyn arall o dde-ddwyrain Cymru fenthyciad personol ar gyfer llawdriniaeth breifat, ac yna darganfuwyd bod ganddi endometriosis cam 4. Yn anffodus, ni allai fforddio unrhyw driniaeth bellach, ac mae'n dal i dalu ei benthyciad yn ôl. Felly, Weinidog, fy nghwestiwn yw: beth a ddywedwch wrth y cleifion sy'n mynd i ddyled a thrafferthion ariannol o ganlyniad uniongyrchol i fethiant Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag amseroedd aros y GIG? Diolch.

Wel, credaf fod hwn yn gwestiwn rhyfeddol, mae'n rhaid imi ddweud, Natasha—cwestiwn rhyfeddol—pan fo gennym wasanaeth iechyd gwladol rydym yn falch ohono, a anwyd yng Nghymru, sy'n rhad ac am ddim i'w ddefnyddio, ac sy'n darparu gofal a thriniaeth i filoedd o bobl ledled Cymru bob dydd, gan gynnwys eich etholwyr chi. Ydw, rwy’n pryderu am bobl sy’n mynd i ddyled, ac yn mynd i ddyled oherwydd polisïau Llywodraeth y DU, byddai’n rhaid imi ddweud. Ac a wnewch chi ymuno â mi, Natasha Asghar, a’ch cyd-Aelodau yma, i alw ar Lywodraeth y DU i beidio â chynyddu’r warant pris ynni o £2,500 i £3,000 ym mis Ebrill ac i sicrhau bod deiliaid tai sy’n agored i niwed yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu datgysylltu, fel sy’n digwydd yn y diwydiant dŵr? Mae hyn yn rhywbeth y gall eich Llywodraeth ei wneud, ac yna, wrth gwrs, byddai'n helpu pobl sy'n mynd i ddyled am ba reswm bynnag.

13:35
Yr Adolygiad Ffyrdd

2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd canlyniadau'r adolygiad ffyrdd yn ei chael ar hybu ffyniant a mynd i'r afael â thlodi yng ngogledd Cymru? OQ59168

Diolch am eich cwestiwn. Roedd 'Llwybr Newydd' a'n hymateb i'r adolygiad ffyrdd yn nodi gweledigaeth ar gyfer system drafnidiaeth sy'n dda i'r gymdeithas, yr amgylchedd a'r economi. Mae ein cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth wedi'i alinio â’r rhaglen lywodraethu, i hyrwyddo ffyniant a helpu i drechu tlodi.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae bron bob prosiect adeiladu ac uwchraddio ffyrdd mawr ledled gogledd Cymru wedi cael ei atal gyda'r adolygiad ffyrdd hwn, sy'n eithaf syfrdanol i fy nhrigolion yng ngogledd Cymru. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwneud tro gwael unwaith eto â'r cymunedau a'r trigolion rwy'n eu cynrychioli. Weinidog, trafnidiaeth breifat ar y ffordd yw’r unig opsiwn ymarferol i lawer o fy nhrigolion yn y gogledd oherwydd natur wledig yr ardal a’r diffyg opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus. Mae 85 y cant o bobl yn dibynnu ar geir neu feiciau modur i fyw eu bywydau bob dydd, gan gynnwys mynd i'r gwaith, trechu tlodi, sy'n rhywbeth y gwn eich bod yr un mor angerddol â minnau yn ei gylch. Ac mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru wedi nodi, wrth inni gefnogi ein hamgylchedd, fod angen inni sicrhau nad yw’r atebion yn niweidio’r economi, gan fod angen i'r penderfyniadau hyn ddiogelu ein hamgylchedd a hyrwyddo ffyniant a threchu tlodi, sy'n rhywbeth nad yw'r adolygiad ffyrdd hwn yn mynd i'w gyflawni. Felly, yng ngoleuni hyn, Weinidog, beth yw eich ymateb i bryderon dilys fy nhrigolion y bydd yr adolygiad ffyrdd hwn yn amharu hyd yn oed ymhellach ar bobl gogledd Cymru, ac yn cael effaith negyddol ar y gwaith o hybu ffyniant a threchu tlodi?

Diolch am eich cwestiwn. Hoffwn gyfeirio at y sylwadau a wnaed gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd pan wnaeth ei ddatganiad yr wythnos diwethaf. Fe ddywedodd, ac rydym ni'n cydnabod, wrth i bobl yrru mwy, fod llai o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gan arwain at lai o wasanaethau hyfyw, a gadael pobl â hyd yn oed llai o ddewisiadau amgen. Ac o ran trechu tlodi ac anghydraddoldeb, mae hyn yn rhoi menywod a phobl ar incwm isel dan anfantais anghymesur. Gwyddom o'r data mai hwy sy'n dibynnu fwyaf ar drafnidiaeth gyhoeddus. A gwyddom fod pobl yn aml yn cael eu gorfodi i fod yn ddibynnol ar geir i gael mynediad at waith, ac y gall hynny fod yn gosbol, o ran y gost. Felly, mae angen inni sicrhau ein bod yn gwneud y newid a fydd yn golygu ein bod yn rhoi’r gorau i wneud yr un peth drosodd a throsodd, gan nad yw hynny’n gweithio, ac mae angen inni fuddsoddi mewn dewisiadau amgen cynaliadwy go iawn—sef, wrth gwrs, trenau, bysiau, prosiectau beicio a cherdded—os ydym am gyflawni ein targedau sero net. Mae'n ymwneud â mynd i'r afael â newid hinsawdd wedi'r cyfan. Dyna'r ymrwymiad enfawr rydym ni, ar draws y Siambr, ond dan arweiniad Llywodraeth Cymru, am ei gyflawni.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.

Diolch, Lywydd. Weinidog, diolch am fynychu'r cyfarfod trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni ym mis Tachwedd, pan leisiwyd pryder gan swyddog tlodi tanwydd Cyngor Gwynedd fod lefelau uchel o'r stoc dai yng Ngwynedd nad yw’n cydymffurfio â safon ansawdd tai Cymru. Pan ofynnodd i chi a allech roi sylwadau ar y lefelau uchel o stoc dai nad yw’n cydymffurfio â safon ansawdd tai Cymru yng Ngwynedd, fe wnaethoch nodi'r pwynt er mwyn i swyddogion ei gyfleu i'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Pan godais hyn yn ddiweddarach gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd yn y Siambr hon, gofynnodd imi anfon rhagor o fanylion ati, a gwneuthum hynny. Ac yn ei hymateb, dywedodd,

'Ar 31 Mawrth 2022, roedd 100 y cant o anheddau tai cymdeithasol yn cydymffurfio â safon ansawdd tai Cymru, 78 y cant yn cydymffurfio’n llawn, ond roedd 22 y cant yn cydymffurfio yn amodol ar fethiant derbyniol yn unig'.

O ystyried eich cyfrifoldeb cyffredinol dros dlodi tanwydd yn Llywodraeth Cymru, sut rydych yn ymateb i ffigurau swyddogol sy’n dangos bod bron i 30 y cant o’r stoc dai cymdeithasol yng Ngwynedd yn cael eu galw'n ‘fethiannau derbyniol’, sy’n cyfateb i’r lefel yn sir y Fflint, gan godi i bron i 42 y cant yn sir Ddinbych; mai Ynys Môn sydd â’r lefel uchaf o fesuryddion rhagdalu yng Nghymru, ar bron i 29 y cant, ac yna Gwynedd ar bron i 22 y cant, ac i’r datganiad a wnaed gan swyddog tlodi tanwydd Cyngor Gwynedd, pan gyfarfûm ag ef yr wythnos diwethaf, fod y rhent yr un fath yng Ngwynedd ac Ynys Môn, ac eto, gall costau ynni fod yn sylweddol uwch, a'i bod yn ymddangos bod hyn yn gysylltiedig â materion ehangach yn ymwneud ag eiddo nad yw ar y grid nwy ac eiddo hŷn?

13:40

Yn amlwg, mae hwn yn fater lle rydym ni, yn drawslywodraethol, a thrwy weithio gyda fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, yn arwain ar y mater hollbwysig hwn gyda’n rhaglen Cartrefi Clyd, sydd, wrth gwrs, bellach yn agosáu at iteriad ar gyfer ei datblygiad nesaf, a fydd yn ymwneud ag ymagwedd sy'n seiliedig ar alw. Ac wrth gwrs, bydd hynny'n helpu i fynd i'r afael â'r materion hyn.

Rwy'n falch ichi godi'r pwynt am y ffaith bod llawer iawn o bobl ar fesuryddion rhagdalu yn agored iawn i niwed, ac rwy'n gobeithio y byddwch hefyd wedi clywed fy ngalwad eto, ac mae hyd yn oed Grant Shapps, rwy'n credu, wedi dweud ei fod yn cydymdeimlo, mewn gwirionedd, na ddylai Llywodraeth y DU gynyddu'r warant pris ynni o fis Ebrill ymlaen. Credaf fod hon yn alwad allweddol y mae’n rhaid inni ei gwneud ar draws y Siambr hon heddiw, gan fod angen inni sicrhau y gallwn gefnogi’r aelwydydd mwyaf agored i niwed sydd ar fesuryddion rhagdalu. Ac rwy'n gobeithio hefyd y byddwch yn cefnogi fy ngalwadau am dariff cymdeithasol hefyd, ac mae Llywodraeth y DU ac Ofgem yn wir wedi dweud eu bod yn dechrau edrych arno. Ond mae gennym fater difrifol yma gyda'r rhai mwyaf agored i niwed, a hefyd, wrth gwrs, mae'r gwaith sy'n cael ei wneud ar ôl-osod tai cymdeithasol yn mynd rhagddo'n gyflym gyda'r dyraniad cyllid ar gyfer eleni a'r flwyddyn nesaf.

Diolch. Wel, rwyf am adael y prif bwynt a wnaethoch ar gyfer y cwestiwn amserol yn nes ymlaen, sydd ar yr union bwnc hwnnw wrth gwrs. Ond mae briff Cyflwr Cymru Sefydliad Bevan y mis hwn yn nodi bod effeithlonrwydd ynni eiddo'n amrywio’n sylweddol ledled Cymru, ac er y nodwyd bod holl dai cymdeithasol Cymru yn cydymffurfio â safon ansawdd tai Cymru, mae mwy nag un o bob pump yn cynnwys o leiaf un methiant derbyniol. Unwaith eto, o ystyried eich cyfrifoldeb cyffredinol dros dlodi tanwydd yn Llywodraeth Cymru, ac wrth inni agosáu at safon ansawdd tai Cymru 2023, sut rydych yn ymateb i swyddog tlodi tanwydd Cyngor Gwynedd, a ofynnodd i mi,

'Sut y gallwn symud ymlaen os nad ydym wedi gorffen y gwaith cartref o'r fersiwn ddiwethaf o safon ansawdd tai Cymru, yn enwedig o ystyried cost ôl-osod eiddo a adeiladwyd cyn 1900’,

ac a ddywedodd,

'Cefais gipolwg sydyn arall ar safon ansawdd tai Cymru 2023. Ni welais y geiriau hud "methiant derbyniol", ond ymddengys bod tipyn go lew o gafeatau, heb unrhyw gydnabyddiaeth glir o'r gwahanol fannau cychwyn ar y grid, a'i bod braidd yn anodd cael un o hen fythynnod y Comisiwn Coedwigaeth a adeiladwyd ym 1910 nad yw ar y grid i fodloni SAP 80?'

Wel, rwy’n siŵr y bydd pob un o’r rheini rydych wedi ymgysylltu â hwy yn y gogledd, gan gynnwys awdurdodau lleol, wedi cyfrannu at yr ymgynghoriad diweddaraf ar safon ansawdd tai Cymru. Mae safon ansawdd tai Cymru wedi bod yn bwysig iawn o ran safonau tai cymdeithasol, y byddwch yn cydnabod eu bod wedi bod heb eu hail ledled Cymru. Ond bu’n rhaid eu diwygio a’u hadolygu o ran yr amgylchiadau, yn ogystal â'n huchelgeisiau o ran cyflawni sero net gyda’r targed o 20,000 o dai cymdeithasol sydd gennym. Ac wrth gwrs, golyga hynny fod safon ansawdd tai Cymru yn rhoi ystyriaeth i'r holl faterion a godwch.

Ond fel y dywedais, mae’r gyllideb wedi bod yno. Mae’r cyllid wedi'i ddarparu gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, a'r buddsoddiad i ôl-osod ein tai cymdeithasol, ac yn wir, bydd safon ansawdd tai Cymru yn symud ymlaen o ganlyniad i’r ymgynghoriad hwn.

Wel, diolch. Unwaith eto, rwy'n cofio trafod y materion hyn 20 mlynedd yn ôl yn y Siambr flaenorol, gydag ymatebion tebyg, er mewn cyd-destun ariannol gwahanol. Oni chaiff y pwyntiau a nodwyd gan swyddog tlodi tanwydd cyngor Gwynedd eu hateb, bydd safon ansawdd tai Cymru a rhaglen Cartrefi Clyd y Llywodraeth nesaf yn dechrau ar gynsail ffug, ac yn anelu at safonau na ellir eu cyflawni lle mae’r anghenion mwyaf, heb gyflwyno data mewn ffordd greadigol. O ystyried eich cyfrifoldeb cyffredinol dros dlodi tanwydd yn Llywodraeth Cymru, sut rydych yn ymateb i gynnig gan swyddog tlodi tanwydd Cyngor Gwynedd i raglen Cartrefi Clyd Llywodraeth nesaf Cymru uno cynllun Nyth Llywodraeth Cymru â chynllun rhwymedigaeth cwmnïau ynni Llywodraeth y DU? Ac o ystyried datganiad y Gweinidog Newid Hinsawdd ei bod yn disgwyl caffael cynllun newydd, sy'n seiliedig ar alw, ac sy'n mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a thlodi tanwydd cyn diwedd y flwyddyn—ni fydd unrhyw fwlch yn y ddarpariaeth rhwng y cynllun newydd a'r rhaglenni presennol—sut rydych yn ymateb i bryderon y Gynghrair Tlodi Tanwydd y bydd hyn yn caniatáu i gynllun presennol Nyth redeg hyd at, dyweder, mis Ebrill 2024, ar ôl y gaeaf nesaf, cyn i'r cynllun nesaf sy'n seiliedig ar alw ddechrau?

13:45

Yn wir, Mark Isherwood, credaf y byddech wedi gwerthfawrogi’r drafodaeth a’r craffu a wynebais ddydd Llun yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am yr union faterion hyn a’r sicrwydd a roddais na fyddai unrhyw fwlch rhwng y cynlluniau Cartrefi Clyd o ran y cynllun presennol a'r un nesaf, a fydd yn cael ei gaffael erbyn diwedd y flwyddyn. Ac wrth gwrs, bydd yn ystyried y gwersi a ddysgwyd, ond mae hefyd yn amlwg yn sicrhau ein bod yn cydweithio lle bynnag y bo modd, nid yn unig gyda'n hawdurdodau lleol, sy'n hanfodol er mwyn ei gyflwyno, ond gyda Llywodraeth y DU hefyd.

Llefarydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths, ac mae'r cwestiynau i'w hateb gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Peredur Owen Griffiths.

Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r sôn am y cyflog byw gwirioneddol mewn gofal cymdeithasol yn eich datganiad ar waith teg ddoe. Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu'n gryf ers blynyddoedd lawer dros godiad cyflog i’r staff ymroddedig a chwbl hanfodol sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Mae taliadau untro, fel yr un a welsom yn ystod y pandemig, i’w croesawu, ond nid ydynt yn gwneud y tro yn lle cael eich talu ar y lefel rydych yn ei haeddu. Fy mhryder yw ei bod yn bosibl na fydd hwb ariannol bob amser yn treiddio i lawr i staff ar lawr gwlad, gan gynnwys darparwyr trydydd sector sydd â chontractau awdurdod lleol. Pa fecanweithiau neu brosesau sy’n cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod unrhyw chwistrelliad o arian parod i awdurdodau lleol i wella cyflogau staff gofal cymdeithasol yn cael ei drosglwyddo i’r rheini y’i bwriadwyd ar eu cyfer, gan gynnwys partneriaid trydydd sector?

Rwy'n croesawu diddordeb yr Aelod yn y maes, ac rwy'n cytuno'n gryf â'r hyn a ddywedodd am—er bod taliadau untro i’w croesawu, mae'n ymwneud â thalu'r cyflog byw gwirioneddol, ond mewn gwirionedd, dim ond un rhan yw'r cyflog byw gwirioneddol o elfen o becyn gwaith teg a’r hyn rydym yn ceisio'i wneud drwy’r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol i gynnal y sector ymhell i’r dyfodol, yn ogystal â’r hyn a drafodwyd gennym, fel y dywedoch chi, yn y datganiad ar waith teg heddiw—ddoe, mae'n ddrwg gennyf; rwy'n cymysgu fy nyddiau.

Rwy'n gweithio'n agos iawn gyda fy nghyd-Ddirprwy Weinidog Julie Morgan i sicrhau, yn amlwg, fod gennym fynediad mwy uniongyrchol drwy awdurdodau lleol, ond hefyd ein bod yn gweithio drwy'r gwasanaethau comisiynu hynny a'r seilwaith sydd yn ei le i sicrhau bod y taliadau hynny'n cael eu gwneud yn brydlon. Ac ychydig cyn y toriad, fe fynychodd y Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol a minnau ddigwyddiad heb fod ymhell o'r fan hon yng Nghaerdydd, i ddathlu talu'r cyflog byw gwirioneddol a'r codiad newydd i weithwyr gofal cymdeithasol. Ond yn gwbl briodol, roedd grwpiau cymunedol yno a gweithwyr gofal yn rhoi pwysau arnom i fynd ymhellach ac i gefnogi'r cyflog byw gwirioneddol ledled Cymru, ond hefyd ar draws y sector yn ei gyfanrwydd, ac mae'n sicr yn rhywbeth rydym wedi ymrwymo i'w wneud mewn ffordd gynaliadwy.

Diolch yn fawr am yr ateb yna.

Fis diwethaf, datgelodd eich Llywodraeth gynllun gweithredu LHDTC+ newydd. Hefyd, fe wnaethoch nodi bwriad i ddechrau negodi gyda Llywodraeth y DU i ddatganoli pwerau sy’n ymwneud â chydnabod rhywedd. Mae hwn yn gam cadarnhaol ac mae’n rhywbeth y mae Plaid Cymru, mewn egwyddor, yn ei gefnogi’n llwyr. Y Llywodraeth Dorïaidd bresennol yw’r Llywodraeth fwyaf anflaengar a llawn casineb ers cenedlaethau. Po bellaf y gallwn ymbellhau oddi wrthynt, yn enwedig ar faterion cydraddoldeb, gorau oll. Yn anffodus, tanseiliwyd eich safbwynt ychydig ddyddiau’n ddiweddarach ar raglen Sharp End, nid yn unig gan y Tori David T.C. Davies, ond hefyd gan ei gyd-banelydd, a’ch cyd-bleidiwr, Jo Stevens. Dywedodd na fyddai’n cymeradwyo rhoi pwerau cydnabod rhywedd i Gymru oherwydd, a dyfynnaf,

'mae deddfwriaeth cydraddoldeb yn ddeddfwriaeth y DU gyfan'.

Ddirprwy Weinidog, beth yw safbwynt Llywodraeth Lafur Cymru ar ddatganoli pwerau ar gydnabod rhywedd? Pa mor siomedig oeddech chi wrth glywed y sylwadau hynny gan eich cyd-bleidiwr, gyda'i hetholaeth ond dafliad carreg o'n Senedd ni?

A gaf fi ddiolch yn gyntaf i Peredur Griffiths a Phlaid Cymru am y gwaith rydym wedi’i wneud ar y cyd ar y cynllun gweithredu LHDTC+ a’r undod a’r cydweithio hwnnw, sydd mor bwysig ar faterion hollbwysig cydraddoldeb a hawliau dynol ac urddas? Mae safbwynt Llywodraeth Lafur Cymru ynghylch cefnogi’r gymuned draws a datganoli pwerau cydnabod rhywedd yn parhau fel y bu; mae'r un fath. Mae’n ymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu ac yn y cytundeb cydweithio, ac mae hefyd yn un o’r 46 o gamau gweithredu yn y cynllun gweithredu LHDTC+ i sbarduno’r cais i ddatganoli’r pwerau hynny, a phe bai hwnnw'n llwyddiannus, byddai'n fater i’r Senedd hon benderfynu sut y defnyddir y pwerau hynny. Clywaf yr hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud o ran y—. Rwy’n gresynu at yr elfen bleidiol wleidyddol yn hynny o beth. [Torri ar draws.] Rydym yn anghytuno o fewn—[Torri ar draws.] Rydym—

13:50

Gallwch barhau â'ch atebion. Nid oes raid ichi gymryd unrhyw sylw o unrhyw un sy'n siarad yn y Siambr.

Diolch, Lywydd. Diolch am hynny. Credaf mai un o beryglon y drafodaeth hon—y pwnc—yw ein bod yn ymostwng i faterion a sgorio pwyntiau pleidiol wleidyddol. Pe bai Llywodraeth Lafur yn y DU yn y dyfodol yn mynd i ddeddfu ar hyn a diwygio cydnabod rhywedd, credaf y byddwn yn fwy na pharod i weithio ar y cyd â hynny i sicrhau ein bod yn cefnogi’r gymuned draws yma yng Nghymru a ledled y DU. A chredaf fod gan bob un ohonom heriau yn ein pleidiau ein hunain, boed hynny yn rhywle arall neu yn yr Alban ar hyn o bryd yn ystod gornest arweinyddiaeth yr SNP hefyd.

Safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr

3. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â'r prinder safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr ledled Cymru? OQ59178

Rydym yn adolygu’r asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol, a byddwn yn gweithio gyda hwy a’n cymunedau Sipsiwn a Theithwyr i gefnogi cynlluniau i fynd i’r afael â’r diffyg presennol ac i helpu i oresgyn unrhyw rwystrau, a allai fod yn atal cynnydd.

Diolch, Weinidog. Mynychais y digwyddiad rhagorol, a gynhaliwyd gan y Llywydd, a oedd yn dathlu sut mae pobl sy’n ffoi rhag erledigaeth wedi cael noddfa yng Nghymru. Ond ni allwn wadu bod rhai cymunedau’n cael mwy o groeso nag eraill, ac nid yw’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn teimlo bod croeso iddynt; maent yn teimlo eu bod yn cael eu herlid. Ac mae’n siomedig fod awdurdodau lleol yn mynd ati'n rhagweithiol i gynnig safleoedd newydd i gartrefi modur a cherbydau gwersylla barcio, ond nid ydynt yn cynhyrchu unrhyw gynigion i greu safleoedd newydd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, nac yn wir i uwchraddio’r rhai presennol.

Felly, Weinidog, diolch yn fawr iawn am y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gennych yn gynharach y prynhawn yma, lle rydych yn sôn am weithio gydag awdurdodau lleol a chymunedau Sipsiwn a Theithwyr i nodi'r gofynion a deall y rhwystrau sy’n dal i atal cynnydd. Hoffwn gwestiynu pam nad yw’r gwaith hwn wedi mynd rhagddo cyn hyn. Ond hoffwn amserlen hefyd ar gyfer cwblhau'r trafodaethau hynny, a'r trafodaethau manwl y mae angen eu cael gydag awdurdodau lleol ynglŷn â ble rydym yn mynd i wneud cynnydd nawr ar ddarparu’r safleoedd y mae eu hangen mor daer, yn enwedig yn wyneb Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd 2022, sy’n troseddoli pobl am stopio ar safleoedd anawdurdodedig.

Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone, am eich cwestiwn ac am eich arweiniad ar y mater hwn, sy’n hollbwysig, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol a hefyd fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. A gaf fi hefyd ddiolch i’r Llywydd am gynnal y digwyddiad ysbrydoledig hwn y prynhawn yma hefyd, lle clywsom gan ffoaduriaid, siaradwyr o Gyngor Ffoaduriaid Cymru a gwesteion a ffrindiau o Wcráin? Ac roedd yn ddigwyddiad gwych, ond hefyd yn gydnabyddiaeth na ddylem fod yn hunanfodlon yng Nghymru. Rydym yn ceisio bod yn genedl noddfa, ond mae'n rhaid inni beidio â bod yn hunanfodlon. Dyna pam fod gennym 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', sy'n cynnwys adran gyfan ar fynd i'r afael â'r mater hwn—y methiant i gyflawni ar ran ein cymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

A dim ond i gadarnhau, fel y dywedwch, fod hyn mewn deddfwriaeth, mae Deddf Tai (Cymru) 2014—roeddwn yma bryd hynny—yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru baratoi asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr, a hefyd adrodd ar yr angen am leiniau ychwanegol yn eu hardaloedd, megis lleiniau preswyl parhaol a lleiniau tramwy dros dro. Er gwybodaeth i’r Aelodau, cyhoeddais ddatganiad am 1 o’r gloch heddiw i egluro fy mod yn cynnal archwiliad o’r holl archwiliadau diweddaraf sy’n cael eu cyflwyno. Mae’n rhaid iddynt lunio asesiadau o ble maent, yr anghenion a’r bylchau yn y ddarpariaeth o safleoedd a lleiniau ledled Cymru ar gyfer cymunedau Teithwyr. Er bod heriau i ddod o hyd i’r safleoedd cywir ac ati, rwy’n disgwyl i bob awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau bod digon o safleoedd a lleiniau’n cael eu darparu, a’u bod yn nodi anghenion cymunedau Sipsiwn ledled Cymru. Ac rwy’n disgwyl iddynt fod yn asesiadau cywir o anghenion, gyda chamau clir i’w cymryd i fynd i’r afael â’r bylchau sy’n bodoli, a byddaf yn cyfarfod ag awdurdodau lleol. Fesul awdurdod lleol, byddaf yn cyfarfod â hwy eleni, o fewn yr ychydig wythnosau nesaf, i ofyn cwestiynau iddynt ynglŷn â'u hasesiadau a’u darpariaeth ar gyfer anghenion cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

13:55

Rwy’n falch fod y pwnc hwn wedi’i godi heddiw, a lle mae’r Aelod dros Ganol Caerdydd a’r Llywodraeth yn credu bod gennym brinder safleoedd Sipsiwn a Theithwyr, credaf fod gennym ormod ohonynt, yn enwedig yng ngogledd Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu oddi yma, ym Mae Caerdydd, fod angen i bob awdurdod lleol gael o leiaf un safle Sipsiwn a Theithwyr i fodloni eu hagenda woke, ond nid yw Teithwyr yn deithwyr yng ngwir ystyr y gair os yw arian trethdalwyr yn cael ei wario ar safleoedd sefydlog mewn mannau lle nad ydynt yn cyfrannu at gymdeithas nac yn talu eu ffordd.

Yn sir Ddinbych, rhoesant gynnig ar y dull hwn o weithredu yn ôl yn 2018, ac roeddent yn dymuno cael safle ar Fferm Green Gates yn Llanelwy, ac yna yn Rhuallt, ond fe’i gwrthodwyd dro ar ôl tro drwy gynllunio, ac yn gwbl briodol felly, gan bobl sir Ddinbych. A'r neges syml yw nad oes arnom eu heisiau. Felly, pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn callio, yn wynebu realiti, ac yn gweithredu er lles pobl sy'n talu eu trethi cyngor a'u ffioedd, gan fod safleoedd i'w cael eisoes yng Nghonwy, sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam, felly pam na allwn fabwysiadu ymagwedd fwy rhanbarthol a dweud, 'Mae digon ohonynt yng ngogledd Cymru yn barod'?

Wel, mae’r cwestiwn hwnnw wedi fy syfrdanu, mae’n rhaid imi ddweud. Mae'n wir nad oeddech yma yn 2014, ac rwy’n deall hynny, Gareth Davies. Cawsom ddeddfwriaeth a basiwyd gan y Cynulliad hwn, a basiwyd gan eich Aelodau chi, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru baratoi asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr. Dyna sydd angen iddynt ei wneud, a lle mae diffygion a lle nad ydynt ar gael, byddaf yn cyfarfod â phob un o'r awdurdodau hynny ac yn gofyn iddynt pam.

Credaf y dylech ailfeddwl y pethau rydych wedi’u dweud heddiw yn dilyn y digwyddiadau ysbrydoledig rydym wedi’u cael yr wythnos hon i nodi'r ffaith ein bod yn genedl noddfa ac yn cydnabod yr hiliaeth y mae Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru wedi’i hwynebu ers gormod o amser.

A gaf fi ddiolch i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai sydd wedi gwneud adroddiad rhagorol ar hyn gydag argymhellion heriol? Rwyf wedi derbyn pob un ohonynt. Nid wyf yn gwybod pa un o'ch Aelodau sydd ar y pwyllgor hwnnw, ond fe wnaethant hwythau eu derbyn hefyd.

Diogelwch Cymunedol

4. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi gwneud ynglŷn ag effeithiolrwydd polisïau Llywodraeth Cymru i sicrhau diogelwch cymunedol yng Nghaerdydd? OQ59173

Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Mae troseddu a chyfiawnder yn faterion sydd wedi'u cadw o fewn cyfrifoldebau Llywodraeth y DU, ond rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda'r heddlu a chyrff partner eraill i hyrwyddo diogelwch cymunedol ar draws Caerdydd a Chymru gyfan. Mae hyn yn cynnwys ein hymrwymiad i gyllido swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu i gadw ein strydoedd yn saff.

Fis diwethaf, cyhoeddodd Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid, Yvette Cooper, y byddai Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn cyflwyno gorchmynion parch, math newydd o orchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol a boblogeiddiwyd gan Tony Blair ar ddiwedd y 1990au. A yw’r Gweinidog yn cytuno â mi, felly, fod y cyhoeddiad gan Yvette Cooper yn debygol o olygu y bydd ymylon garw gwahanol ddulliau plismona a chyfiawnder yn parhau, hyd yn oed pe bai Llywodraeth Lafur yn cael ei hethol yn San Steffan?

Wel, rwy’n falch o gyflawniadau, ac yn wir, o ymrwymiadau maniffesto plaid Lafur Cymru, a arweiniodd at ymrwymo cyllid i gadw ein 500 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ac i gyflogi 100 o rai ychwanegol. Gwn fod y gwaith rydym wedi’i wneud a'r gwaith rydym yn ei wneud yn wir, er nad yw plismona wedi'i ddatganoli eto, gyda'n timau plismona yn y gymdogaeth, gyda swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, yn chwarae rhan hollbwysig yn helpu i gadw cymunedau'n ddiogel. Wrth gwrs, mae hyn yn ymwneud ag atal, onid yw? Mae'n ymwneud ag ymgysylltu â’n cymunedau, ac ie, gorfod cydnabod bod angen inni fynd i’r afael â materion sy'n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond ar sail dull ataliol a chydlyniant cymunedol. Hoffwn ddweud hefyd, wrth gwrs, ein bod yn rhannu â swyddogion cyfatebol ledled y DU ac yn gweithio mewn partneriaeth â'r heddlu ar y materion hyn, yn enwedig mewn perthynas â gweithio ar ein bwrdd cyfiawnder ieuenctid. Edrychwn ymlaen yn fawr at ddatganoli cyfiawnder ieuenctid, sy'n hanfodol i'r pwynt hwn, yn ogystal â'n gwaith ar fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Dyna rydym yn canolbwyntio arno yma yng Nghymru.

14:00

Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Rhys am ofyn cwestiwn mor bwysig. Weinidog, yn ddiweddar gwrandewais ar bodlediad Cymunedau Mwy Diogel gyda swyddog ymgysylltu â'r gymuned Prevent Cyngor Caerdydd lle cafodd ideoleg 'incel' ei grybwyll. Yn bryderus, mae themâu 'incel' cyffredin fel hunangasineb a chwyno yn arwain, yn amlach na pheidio, at drais misogynistaidd a diraddio menywod, ac maent yn gysylltiedig ag annigonolrwydd canfyddedig wrth ffurfio pherthnasoedd rhywiol. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol fod yr ideoleg hon yn cael ei hachosi’n arbennig gan ddiffyg eithafol o hunan-barch, unigedd, gorbryder a phroblemau'n ymwneud â delwedd y corff, sy'n cael eu gwaethygu gan raglenni cyfryngau prif ffrwd fel Love Island, sy'n atgyfnerthu'r gred 'incel' y bydd menywod yn eu gwrthod yn awtomatig am nad oes ganddynt gyrff cyhyrog cyffelyb. O ran diogelwch cymunedol, mae dynion 'incel' yn fygythiad credadwy i gymunedau yn y DU. Yn ddiweddar, cafodd merch ei saethu yn Plymouth gan aelod 'incel', Jake Davison, ac mae eraill wedi’u harestio mewn perthynas â throseddau terfysgol yn gysylltiedig ag ymwneud ag 'incel'. Weinidog, pa asesiad y mae'r Llywodraeth hon wedi'i wneud o'r mudiad 'incel' yng Nghymru, a pha sgyrsiau rydych wedi'u cael gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ynghylch yr angen i helpu i hyrwyddo delwedd corff gwell yn ysgolion Cymru ac i weithredu i helpu pobl ifanc i fod yn fwy gwydn mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â delwedd y corff? Diolch.

Wel, diolch yn fawr iawn, Joel James, am godi’r mater hwn. Mae ideolegau 'incel' yn cael effaith ddinistriol ar ein pobl ifanc a'n poblogaeth wrywaidd, lle mae angen mynd i'r afael ag ideolegau sydd wedi arwain at yr erchyllterau rydych wedi'u disgrifio, Joel James. Rwy'n credu bod cwestiwn Rhys ab Owen yn bwysig yn hyn o beth, oherwydd mae 'Sut rydym am ddatblygu'r perthnasoedd hyn?' yn mynd yn ôl i'r ysgol, addysg a'r cwricwlwm, ac yn enwedig ein thema addysg cydberthynas a rhywioldeb a fydd yn rhan o'r ffordd y byddwn yn cyflwyno'r cwricwlwm. Ond rwy'n falch eich bod wedi codi'r mater hwn, oherwydd dyma lle rydym yn gweithio eto ar atal trais. Rwy'n credu bod ein rhaglen ysgolion yn bwysig iawn, rhaglen rydym yn ei hariannu gyda'r heddlu. Rydym yn ariannu ein swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, ond hefyd, gyda chefnogaeth ariannol ein comisiynydd heddlu a throseddu yn ogystal, rydym yn ariannu rhaglen ysgolion lle mae'r heddlu'n ymweld ag ysgolion ac yn siarad â’r disgyblion, ac maent yn cysylltu'n fawr â'n cwricwlwm hefyd. Felly, rwy'n cytuno. Diolch i chi am godi hyn. Dyma lle mae angen inni weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod gennym gymunedau mwy diogel a bod ein haddysg yn cael yr effaith honno yn ein hysgolion.

Rwy'n falch iawn fod y mater hwn wedi'i godi, oherwydd er nad yw plismona wedi’i ddatganoli, rwy'n hollol siŵr fod yr heddlu yr un mor bryderus â ninnau am y ffordd y mae safbwyntiau atgas yn gwneud ein pobl ifanc yn agored i ddelweddau niweidiol a safbwyntiau asgell dde eithafol. Ydy, mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn bwysig iawn i wrthsefyll y delweddau atgas a hunan-niweidiol y mae pobl ifanc yn agored iddynt, ond yn amlwg mae angen peth rheoleiddio ar yr hyn sy'n digwydd ar-lein. Roeddwn yn meddwl tybed a ydych chi wedi cael sgwrs â Llywodraeth y DU ynglŷn â'r oedi cyn gweithredu'r Bil diogelwch ar-lein a niwed cysylltiedig fel bod gennym rywbeth i atal pobl rhag lledaenu'r holl negeseuon atgas hyn ar-lein.

Wel, diolch yn fawr iawn am y cwestiwn dilynol hwnnw, Jenny, oherwydd rydym wedi bod yn ymgysylltu â swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU wrth i’r Bil hwnnw symud ymlaen drwy'r Senedd. Rwy’n deall ei fod bellach yn ôl ar y trywydd cywir. Mae Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â’r Bil Diogelwch Ar-lein eto, ac yn arbennig—ac mae'r pwynt rydych chi'n ei wneud mor allweddol—mewn perthynas â’r amddiffyniadau gwell y mae'n eu cynnig i'n plant. Ond rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig cydnabod bod gennym ein rôl a'n cyfrifoldebau ein hunain. Mae cadw pobl yn ddiogel tra'u bod ar-lein yn hynod bwysig. Soniodd Joel James am rôl Gweinidog y Gymraeg ac Addysg. Wel, mae gennym ein cynllun gweithredu cadernid digidol mewn addysg. Mae'n bwysig sôn am hwnnw nawr. Rhaglen drawslywodraethol yw hi i ddiogelu pobl ifanc rhag niwed ar-lein. Felly, dyma lle rwy'n credu y dylem weithio i sicrhau amddiffyniadau ychwanegol, yn enwedig i fenywod a merched ar-lein, drwy gynnwys ymddygiad rheolaethol neu orfodaethol yn y rhestr o droseddau â blaenoriaeth yn y bil diogelwch ar-lein.

14:05
Casineb at Fenywod a Chamymddygiad Rhywiol

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar yr adroddiad am gasineb at fenywod a chamymddygiad rhywiol yn Heddlu Gogledd Cymru a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru? OQ59183

Diolch yn fawr. Nid oes unrhyw le i gasineb at fenywod na chamymddygiad rhywiol yng ngwasanaeth yr heddlu. Mae'n hanfodol fod Heddlu Gogledd Cymru yn parhau â'u gwaith brys i nodi swyddogion nad ydynt yn cadw at y gwerthoedd y mae'r cyhoedd yn eu disgwyl, ac i roi camau pendant ar waith.

Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb. Dwi'n siŵr roedd yn bryder i chi, fel fi, i ddarllen fod yna 24 aelod o staff, nid jest gweision heddlu, yn cael eu harchwilio oherwydd achosion o drais domestig, camymddwyn rhywiol neu drais yn erbyn menywod yn lluoedd Heddlu Gogledd Cymru. Rydym ni'n disgwyl adroddiadau lluoedd heddlu eraill yn gymharol fuan hefyd yng Nghymru. Wrth gwrs, cafodd yr adroddiad ei gomisiynu yn sgil achos erchyll David Carrick o'r heddlu Metropolitan, ond dydyn ni ddim yn mynd i anghofio am achos erchyll Sarah Everard hefyd. Mae'n dilyn cwyn arbennig a wnaed gan y Ganolfan dros Gyfiawnder i Fenywod a'r Biwro Newyddiadurwyr Ymchwiliadol nôl yn 2020 a oedd yn dangos nad oedd lluoedd heddlu yn ymchwilio yn llawn i achosion o drais domestig oedd yn ymwneud ag aelodau o'r heddlu. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu elfennau o waith yr heddlu yma yng Nghymru, megis swyddogion cynorthwyo cymunedol, PCSOs, felly pa gamau mae'r Llywodraeth yma yn eu cymryd er mwyn sicrhau bod y broses gyflogaeth yn gwbl drwyadl a thryloyw ac y gall menywod Cymru gael hyder yn yr unigolion sy'n cael eu cynrychioli yn ein heddluoedd?

Diolch yn fawr. Mae hwnnw'n gwestiwn mor bwysig i ni y prynhawn yma. Er nad yw plismona wedi'i ddatganoli—cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw—rydym yn ymgysylltu, fel y dywedwch chi, Mabon, ym mhob ffordd a allwn, i weithio gyda'r heddlu, i ddylanwadu ar y polisïau a'u cyflawniad, ac yn wir, i ariannu rhannau helaeth o'r ddarpariaeth diogelwch cymunedol yng Nghymru yn enwedig, ac yn ein hysgolion. Mae'n hanfodol fod ein heddlu'n dangos yr uniondeb a’r gwerthoedd y mae'r cyhoedd yn eu disgwyl ganddynt. Felly, rwy'n croesawu dull Heddlu Gogledd Cymru o weithredu'n fawr iawn. Maent wedi mabwysiadu ymagwedd dryloyw a phendant iawn tuag at y mater hwn, gan gydnabod yr angen i sicrhau nad oes lle i leiafrif o swyddogion nad ydynt yn cyrraedd y safonau uchel y mae'r cyhoedd yn eu disgwyl yn yr heddlu yng Nghymru.

A gaf fi ddweud ein bod wedi trafod hyn yn y bwrdd partneriaeth plismona, a gyd-gadeirir gennyf fi a'r Prif Weinidog? Fe wnaethom ei drafod ym mis Rhagfyr, a buom yn siarad am ymddiriedaeth mewn plismona, ac rydych wedi cyffwrdd â hynny wrth gwrs. Bydd hon yn eitem agenda sefydlog ar y bwrdd, oherwydd fe wnaeth arweinwyr plismona Cymru ymrwymo yn y cyfarfod hwnnw i sefyll yn erbyn ymddygiad amhriodol, gan sicrhau bod staff sydd wedi ymddwyn yn amhriodol yn cael eu nodi'n gyflym. Fel y bydd cyd-Aelodau'n gwybod ar draws y Siambr, mae pob heddlu ledled Cymru a Lloegr yn adolygu cofnodion eu holl staff ar frys, i weld a oes unrhyw achosion eraill y mae angen mynd i'r afael â hwy. Ac rwy'n falch iawn fod comisiynydd heddlu a throseddu gogledd Cymru a'r prif gwnstabl Amanda Blakeman wedi siarad am hyn yn gyhoeddus. Rhaid iddynt gael yr wybodaeth hon erbyn diwedd mis Mawrth. A gaf fi achub ar y cyfle i atgoffa cyd-Aelodau o'n llinell gymorth Byw Heb Ofn, gwasanaeth 24/7 am ddim i holl ddioddefwyr a goroeswyr trais yn erbyn menywod?

Ac yn olaf, hoffwn ddweud bod y comisiynydd heddlu a throseddu Dafydd Llywelyn a minnau'n cyd-gadeirio'r bwrdd partneriaeth cenedlaethol ar gyfer cyflwyno cam nesaf ein strategaeth genedlaethol, i gryfhau ein hymagwedd tuag at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'n gweithio'n weithredol iawn gyda'n heddluoedd, ein comisiynwyr heddlu a throseddu. Mae gennym ffrydiau gwaith, gan gynnwys aflonyddu yn y gweithle. Mae’r ffrwd waith aflonyddu yn y gweithle yn cael ei gyd-gadeirio gan Shavanah Taj o Gyngres Undebau Llafur Cymru a Mark Travis o Heddlu De Cymru. Rwy'n disgwyl y bydd yn arwain at argymhellion a chamau i fynd i'r afael â'r materion rydych chi wedi'u codi y prynhawn yma.

14:10

Mae gweithredoedd y treisiwr cyfresol, David Carrick, llofruddiaeth Sarah Everard gan Wayne Couzens a'r ffordd ffiaidd y cafodd cyrff y chwiorydd Bibaa Henry a Nicole Smallman eu trin gan gwnstabliaid yr heddlu Deniz Jaffer a Jamie Lewis wedi ein syfrdanu ni i gyd, gan ddinistrio enw da yr heddluoedd hynny. Wrth gwrs, fel y mae fy nghyd-Aelod wedi’i grybwyll, mae gan Heddlu Gogledd Cymru 27 o ymchwiliadau ymddygiad ar y gweill yn ymwneud â 24 o unigolion, ac mae 13 o’r achosion hyn yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod a merched, gan gynnwys camymddygiad rhywiol a cham-drin domestig a gafodd ei gyflawni gan aelodau o’r heddlu. Mae fy nghyd-Aelod Joyce Watson wedi gwneud cymaint yn y Siambr hon mewn perthynas â cham-drin domestig. Ar hyn o bryd, mae 21 o achosion yn cael eu hasesu fel camymddygiad difrifol a chwech achos yn cael eu hasesu fel camymddygiad. Nid yw diswyddo ond ar gael fel cosb os yw panel camymddygiad difrifol yn dyfarnu bod camymddygiad difrifol wedi digwydd. Yn bersonol, nid wyf yn credu y dylid caniatáu i unrhyw swyddog sy'n arddangos ymddygiad annerbyniol, camymddygiad neu ymddygiad amhriodol wasanaethu eto; bydd yr hyder wedi mynd. Felly, a wnewch chi, fel rhan o'ch trafodaethau bwrdd crwn, gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth y DU i weld a ellid gwneud camymddygiad yn sail dros ddiswyddo?

Diolch yn fawr iawn, Janet Finch-Saunders. Diolch am godi'r pwyntiau hyn yn dilyn y cwestiwn gan Mabon y prynhawn yma. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod Heddlu Gogledd Cymru wedi arwain ar hyn. Yn y cyfarfod bwrdd a gyd-gadeiriais gyda’r comisiynydd heddlu a throseddu, Dafydd Llywelyn, roedd Amanda Blakeman, sy’n newydd i’r rôl, yn hollol bendant y bydd hi'n drylwyr ynglŷn â sicrhau bod ei heddlu’n addas i’r diben. Rydym yn croesawu’r adroddiad a ryddhawyd gan Andy Dunbobbin, y comisiynydd heddlu a throseddu, ym mis Chwefror, oherwydd mae’n edrych ar ba mor gyffredin yw achosion o gasineb at fenywod yn yr heddlu hwnnw—niferoedd achosion ac ymchwiliadau, fel y dywedwch—y mesurau sydd ar waith i amddiffyn y cyhoedd, a sicrhau bod swyddogion yn cael eu fetio’n briodol.

Rwy’n ymuno â Sadiq Khan, maer Llundain, sydd wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref i ofyn iddi fynd ati ar frys i lunio deddfau newydd i ganiatáu i brif swyddogion yr heddlu ddiswyddo swyddogion tramgwyddus yn y fan a'r lle. Fe wyddom fod y Swyddfa Gartref yn adolygu prosesau diswyddo oherwydd y methiant i gael gwared ar Carrick fel swyddog gweithredol. Ond rwy'n cytuno â Sadiq Khan, maer Llundain, fod deddfau presennol yn golygu y gall yr Heddlu Metropolitanaidd a heddluoedd eraill gyflogi swyddogion sydd wedi cyflawni troseddau difrifol, ac mae angen inni newid hynny. Felly, rwy'n siŵr y byddwch i gyd yn fy nghefnogi yn yr alwad honno ochr yn ochr â Sadiq Khan.

Tlodi Tanwydd

7. Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi trigolion Canol De Cymru sy'n wynebu tlodi tanwydd? OQ59172

Diolch yn fawr, Heledd. Mae pecyn cymorth cyfredol Llywodraeth Cymru, sy’n werth £420 miliwn, yn cynnwys y rhaglen Cartrefi Clyd, sy'n gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi incwm is. Mae cartrefi incwm isel cymwys hefyd yn elwa o gynllun cymorth tanwydd £200 Llywodraeth Cymru a'n talebau Sefydliad Banc Tanwydd ar gyfer y rhai sy'n profi argyfwng tanwydd.

Diolch, Weinidog. Yn amlwg, rydych chi wedi cyfeirio eisoes yn eich ymateb i Peredur Owen Griffiths ac eraill o ran y mater hwn, ac rydych wedi amlinellu yn eich ymateb i fi nifer o bethau sydd yn cael eu gwneud. Y gwir amdani, wrth gwrs, ydy bod hyn ddim yn mynd yn ddigon pell, a bod yna unigolion a theuluoedd yn fy rhanbarth, a ledled Cymru, sy'n methu fforddio cynhesu eu tai. Fel mae ymchwil gan Cyngor ar Bopeth wedi dangos, mae 32 y cant o bobl sy’n defnyddio mesuryddion talu ymlaen llaw wedi dewis cael eu datgysylltu, gyda 29 y cant yn defnyddio blanced neu wresogydd personol yn lle defnyddio ynni yn eu cartref. Mae eraill yn parhau i fynd i ddyled, ac yn wynebu caledi ariannol difrifol, dim ond er mwyn cynhesu eu cartrefi. Felly, gyda phrisiau yn cynyddu eto ym mis Ebrill, pa gefnogaeth ymarferol fydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i drigolion yng Nghanol De Cymru, a pha drafodaethau mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â hyn oll? Mi wnaethoch chi gyfeirio yn gynharach ynglŷn â'r cyfarfodydd gydag Ofgem, ond beth oedd yn deillio o'r trafodaethau hynny?

14:15

Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod ein bod yn wynebu—. O 1 Ebrill, bydd pobl sydd mewn tlodi tanwydd yn wynebu amseroedd anhygoel o anodd ac ansicr, ond mae'r rhain yn bobl sydd eisoes mewn tlodi tanwydd.

Rwyf eisiau mynd i'r afael â rhai o'r materion ynglŷn â fy nghyfarfod ag Ofgem, ond rwyf hefyd eisiau dweud, o ran yr hyn rydym yn ei wneud, fel y gofynnwch, rwy'n credu ei bod yn bwysig mynd yn ôl, efallai, at gwestiynau cynharach a godwyd y prynhawn yma—fod gwella effeithlonrwydd ynni'r cartref yn hanfodol; dyna un rhan o'r gwaith rydym yn ei wneud drwy'r rhaglen Cartrefi Clyd. Ac mewn gwirionedd, hyd at ddiwedd mis Mawrth y llynedd, roedd £420 miliwn wedi'i fuddsoddi i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi, a £38 miliwn i gefnogi ein cynllun cymorth tanwydd y gaeaf hyd at y llynedd. Wedyn, wrth gwrs, rydym wedi cael ein taliad cynllun cymorth tanwydd y gaeaf diweddaraf o £200, sydd wedi cyrraedd cymaint o bobl. Ar gyfer eich rhanbarth chi, mae cyfanswm o 74,254 o aelwydydd Canol De Cymru wedi cael cymorth.

Rwyf hefyd eisiau dweud bod gennym bartneriaeth y Sefydliad Banc Tanwydd yn darparu'r cynllun talebau tanwydd, ac mae honno hefyd yn darparu cymorth mewn argyfwng i aelwydydd. Yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall, y mater rwy’n gobeithio y byddwn yn uno arno ar draws y Siambr, mater y mae angen inni fynd i'r afael ag ef nawr, yw cael Llywodraeth y DU i gydnabod na ddylent gynyddu'r warant pris ynni o £2,500 i £3,000 ym mis Ebrill. Mae ganddynt arian i'w wneud, fe wyddom hynny. Rydym yn gwybod beth yw’r sefyllfa gyda’r economi a chyllid cyhoeddus. Ni ddylent wneud hyn. Byddai hyn yn cael effaith enfawr. A phwysais ar Ofgem pan gyfarfûm â hwy ddoe; gofynnais beth maent yn ei wneud am yr aelwydydd mwyaf agored i niwed, ac a oes ganddynt bwerau i adolygu arferion cyflenwyr ynni, yn enwedig y ffordd gywilyddus y mae mesuryddion rhagdalu wedi cael eu gosod yn nhai pobl. Felly, rwy'n credu bod angen inni wneud yr hyn a allwn gyda'n cynlluniau a'n cyllid, er ein bod wedi cael setliad gwael iawn gan Lywodraeth y DU, ond hefyd mae angen i bawb ohonom alw heddiw ar Lywodraeth y DU i ddiogelu aelwydydd yn y ffordd hon yn enwedig, a pheidio â chynyddu'r warant pris ynni o £2,500 i £3,000 ym mis Ebrill.

Ffoaduriaid o Wcrain

8. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i ddarparu cefnogaeth ddigonol i ffoaduriaid o Wcráin? OQ59174

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a'r trydydd sector i groesawu pobl Wcráin i Gymru, eu helpu i symud ymlaen i lety mwy hirdymor a pharhau i gael eu cefnogi. Fel rhan o gyllideb ddrafft 2023-24, rydym yn buddsoddi £40 miliwn yn ein hymateb dyngarol Wcreinaidd.

Diolch, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi cyflwyno dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar Wcráin yn y Siambr yn ddiweddar, a bu’n rhaid imi ddweud bryd hynny fod ffoaduriaid Wcreinaidd sy’n gorfod gadael eu cartrefi nawdd wedi cael gwybod nad yw canolfannau croeso yn opsiwn ar gyfer llety diogel. Mewn achosion fel Abertawe, mae ffoaduriaid wedi cael eu gorfodi i adael gwesty penodol a’u gadael heb unman i fynd ar ôl cael gwybod eu bod yn anghymwys i gael tai cymdeithasol. Mae awdurdodau lleol yn cynghori Wcreiniaid i edrych ar y farchnad rhentu preifat, ond mae rhai landlordiaid bellach yn ymddangos yn amharod i dderbyn ffoaduriaid fel tenantiaid oherwydd pryderon ynghylch sefydlogrwydd enillion yn y dyfodol. Ni allwn ganiatáu i ffoaduriaid o Wcráin gael eu hanghofio a cholli eu cartrefi am yr eildro. Weinidog, os yw Cymru o ddifrif am fod yn genedl noddfa, pa drafodaethau rydych yn eu cael gydag awdurdodau lleol a'r Gweinidogion Newid Hinsawdd a thai i atal y sefyllfaoedd erchyll hyn rhag digwydd? Mae'r bobl hynny wedi ymddiried yn Nghymru a'i phobl i ddod yma a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi, felly mae'n bwysig ein bod yn dod o hyd i lety diogel a sefydlog ar eu cyfer. Diolch.

Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw. A gaf fi ei gwneud yn hollol glir nad oes unrhyw un, unrhyw westai Wcreinaidd, wedi cael ei orfodi i adael canolfan groeso? Ac ni fyddant yn cael eu gorfodi i wneud hynny. Mae'n bwysig iawn cydnabod ein bod wedi eu croesawu i Gymru—a chawsom ddigwyddiad gwych fore Llun lle cawsom Wcreiniaid yn rhannu eu barn a'u meddyliau, gan nodi'r garreg filltir ofnadwy honno, fel y gwnaethom ddydd Gwener diwethaf, sef blwyddyn ers goresgyniad Putin, lle gwnaethom gydnabod bod Cymru yn genedl noddfa. Ac rydym wedi croesawu ychydig dros 6,400 o Wcreiniaid o dan gynllun Cartrefi i Wcráin, ac mae bron i 3,400 wedi cael eu noddi gan aelwydydd yng Nghymru, a daeth llawer o'r gwesteion i'r digwyddiad ddydd Llun; roedd y Llywydd yno hefyd yn y croeso. Ac mae Llywodraeth Cymru wedi noddi dros 3,000.

Pan wnaethom edrych ar hyn flwyddyn yn ôl, erchyllterau'r goresgyniad, fe wnaethom ddweud ein bod yn meddwl y gallem, drwy ein cynllun uwch-noddwr, gefnogi 1,000, ond mewn gwirionedd, rydym wedi cefnogi 3,000. Mae gennym fwy gyda fisâu hefyd, ac os byddant yn dod, byddwn yn eu cefnogi a byddwn yn trefnu llety cychwynnol dros dro ar eu cyfer, sef ein canolfannau croeso yng Nghymru. Felly, nid oes unrhyw un wedi cael ei symud o ganolfan groeso, ni fydd unrhyw un yn cael ei wneud yn ddigartref o'r llety dros dro cychwynnol hwnnw. Yn wir, yr hyn sy'n newyddion da yw bod 1,300 o'r rhai y mae Llywodraeth Cymru wedi'u noddi wedi symud i lety mwy hirdymor, ac mae mwy nag 800 wedi ymgartrefu yng Nghymru.

14:20

Weinidog, rwy’n croesawu’r gefnogaeth sydd wedi’i rhoi gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol a chymunedau lleol, yn wir, a sefydliadau gwirfoddol i’n holl ffrindiau Wcreinaidd. Rhodd a gawn wrth ddarparu lletygarwch, nid baich. Mae fy nau westai hyfryd i—ein ffrindiau yn wir—a ffodd o'r gwrthdaro o ddwyrain Wcráin, ac wrth wneud hynny, a helpodd i hebrwng llawer o blant ifanc i ddiogelwch yng Ngwlad Pwyl bellach yn byw gyda ni ac yn mwynhau bywyd yma yng Nghymru, tra'n gweithio, yn talu treth ac yn dysgu hefyd.

Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi fod angen inni estyn croeso a noddfa i bawb sy'n ffoi rhag terfysgaeth ac erledigaeth? A fyddech chi hefyd yn cytuno â mi fod yr iaith a ddefnyddiwn yn bwysig iawn, gan gydnabod pobl fel pobl, unigolion a theuluoedd, nid 'nhw' a 'ni', nid 'mudwyr', a bod tosturi a goddefgarwch yn gyffredinol, nid yn ddetholus? Mae hyn hefyd yn ymestyn i'r rhai yng nghymuned y Teithwyr sydd wedi cael eu herlid a'u pardduo yn hanesyddol. Mae ein geiriau yn y Siambr hon yn bwysig, fel y mae geiriau'r Gweinidog Martin Niemöller yn ei waith sy'n dechrau, 'Yn gyntaf, fe ddaethant am...'. Dylem eu cofio, gan gynnwys yn y Siambr hon. Nid yw hawliau Teithwyr yn rhan o ryw fath o 'agenda woke', Lywydd. Nid yw’n fater o ‘nhw’ a 'ni'; nhw ydym ni. [Aelodau'r Senedd: Clywch, Clywch.]

Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr, Huw Irranca-Davies. Rwy'n credu eich bod yn siarad, yn sicr, dros y mwyafrif ohonom a phob un ohonom yma yn y Siambr hon, gobeithio.

Diolch, Weinidog. Rwyf wedi derbyn rhai cwynion am yr iaith a ddefnyddiwyd gan un Aelod, sydd bellach wedi gadael y Siambr, yn ystod ei gwestiynau yn gynharach. Rwyf wedi cael fy atgoffa gan Huw Irranca-Davies o'r arddangosfa sydd gennym i fyny'r grisiau ar hyn o bryd, yn sôn am y rhai a geisiodd loches rhag Natsïaeth yn y ganrif ddiwethaf. Mae ein cod ymddygiad yma yn mynnu nad ydym yn defnyddio iaith wahaniaethol, ac felly, ni allwn wahaniaethu rhwng pwy rydym yn ei groesawu a phwy nad ydym yn ei groesawu. Rwy’n ystyried bod sylwadau Gareth Davies y prynhawn yma wedi torri’r cod ymddygiad hwnnw. Byddaf yn disgwyl iddo ymddiheuro i mi ac i Aelodau yma a gwynodd wrthyf fod ei iaith yn wahaniaethol, a byddaf yn disgwyl yr ymddiheuriad hwnnw, ac rwy'n siŵr y byddaf yn ei gael.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf, a'r eitem nesaf yw—ac mae fy sgrin wedi rhewi. Cwestiynau—ie, diolch i chi am chwifio arnaf, Gwnsler Cyffredinol, eich cwestiynau chi ydynt—i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

Mae'r cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell.

Pensiynau Menywod

1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynglŷn â'r camau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i gynorthwyo menywod a anwyd yn y 1950au y gwrthodwyd eu pensiynau iddynt? OQ59187

Diolch am eich cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryderon dro ar ôl tro wrth Lywodraeth y DU am fenywod y mae eu hoedran pensiwn y wladwriaeth wedi cael ei godi heb hysbysiad effeithiol na digonol. Rydym yn aros am adroddiad llawn ymchwiliad yr ombwdsmon, a fydd yn argymell gweithredoedd i'r Adran Gwaith a Phensiynau i unioni'r anghyfiawnder a ganfuwyd.

14:25

Rwy'n datgan buddiant oherwydd mae fy mam yn rhan o’r ymgyrch menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth (WASPI). Mae menywod WASPI—menywod a amddifadwyd o'u pensiwn—wedi bod yn ymgyrchu ers saith mlynedd hir ac maent yn dal i aros am adroddiad penderfyniad yr ombwdsmon seneddol i ymdriniaeth yr Adran Waith a Phensiynau o’u sefyllfa. Disgwylir i'r adroddiad gael ei ryddhau yn fuan iawn, ond mae gwybodaeth sydd wedi cyrraedd y wasg wedi creu pryder sylweddol na fydd llawer o iawndal yn cael ei roi i’r menywod, ychydig gannoedd o bunnoedd yn unig i bob un o fenywod y 1950au yn ôl y sôn. Mae hynny'n llawer llai na'r hyn a gipiwyd oddi arnynt. Os bydd yr adroddiadau hyn yn wir, bydd anghyfiawnder trychinebus wedi'i wneud i'r menywod hyn, sydd wedi dioddef gwahaniaethu ac sydd wedi cael eu targedu oherwydd eu rhyw a'u hoedran.

A wnewch chi nodi beth fydd eich cyngor cyfreithiol i Lywodraeth Cymru o dan yr amgylchiadau hyn ynglŷn â sut y gallant gefnogi'r menywod WASPI yn eu hymgyrch? Pa lwybrau cyfreithiol sydd ar gael iddynt hawlio iawn? A allent herio canfyddiadau'r ombwdsmon yn gyfreithiol, ac a allech chi ryddhau'r holl ymatebion a gawsoch i lythyrau blaenorol rydych wedi'u hanfon at Lywodraeth y DU mewn perthynas â’r ymgyrch hon?

Diolch am y cwestiwn atodol hwnnw. Os caf wneud sylwadau cyffredinol mewn perthynas â'ch cwestiwn, rwy'n credu bod y ffordd y mae Llywodraethau Ceidwadol olynol wedi trin menywod a anwyd yn y 1950au yn parhau i fod yn sgandal genedlaethol. Ers lansio ymgyrch WASPI yn 2015, mae mwy na 200,000 o fenywod WASPI wedi marw heb weld na derbyn cyfiawnder pensiwn erioed, felly mae'r menywod sy'n parhau i gael eu heffeithio gan y mater hwn eisoes wedi bod dan anfantais o ganlyniad i ddau godiad i oedran pensiwn y wladwriaeth, a nawr rydym yn dysgu bod Llywodraeth gyfredol y DU yn ystyried ei wneud unwaith eto. A gaf fi ddweud, ers 2016, fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU i dynnu sylw at ein pryderon ynghylch cyfathrebu newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth menywod? Byddaf yn parhau i wneud y sylwadau hynny. Bydd yn rhaid imi gael mynediad at yr ohebiaeth mewn perthynas â'r atebion rydym wedi'u cael, a gallaf ysgrifennu atoch ar wahân am hynny.FootnoteLink

Yr hyn y gallaf ei ddweud hefyd, serch hynny, wrth gwrs, yw bod y canfyddiadau diweddaraf o Gam 2 adroddiad yr Ombwdsmon Seneddol a’r Gwasanaeth Iechyd yn nodi bod camweinyddiaeth yng nghyfathrebiadau'r Adran Waith a Phensiynau mewn perthynas â blynyddoedd cymhwyso yswiriant gwladol, a thrin cwynion. Ac i'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio mewn ffordd mor andwyol, rwy'n credu bod rhaid unioni'r niwed a bod yn rhaid digolledu pobl yn briodol; y miloedd lawer o bobl sydd wedi gorfod parhau i weithio flwyddyn ar ôl blwyddyn, er gwaethaf y ffaith bod y cytundeb y gwnaethant ei gytuno—flynyddoedd lawer yn ôl yn eu hieuenctid o ran eu hoedran pensiwn a beth fyddai eu hawliau—wedi cael ei dorri. Roedd yn dramgwydd anffodus a chredaf fod ganddynt hawl i gael eu digolledu'n briodol am hynny.

Cyngor Cyfreithiol i Weinidog

2. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd ynghylch Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022? OQ59181

Diolch yn fawr am y cwestiwn, Mabon. 

Mae'r rheoliadau hyn, a ddaeth i rym ym mis Rhagfyr 2022, yn gymhleth ac maent wedi bod yn destun drafftio brys. Rydym yn ddiolchgar iawn am waith adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y rheoliadau hyn ac rydym wedi cymryd camau i fynd i’r afael â’r pwyntiau a godwyd gan y pwyllgor, gan gynnwys offeryn diwygio a gaiff ei gyflwyno'n fuan.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw. Mi fyddwch chi yn cofio'r hyn a oedd yn ymddangos i mi, o leiaf, cyn y Nadolig, fel y ffars a welwyd yn y Siambr hon wrth inni gael ein gorfodi i bleidleisio ar ddeddfwriaeth a oedd yn gwbl fethedig. Fe ddywedwyd bryd hynny y buasai fo'n cael ei gywiro ar y cyfle cyntaf posibl. Rydyn ni newydd glywed rŵan ei fod o ddim wedi cael ei gywiro ac mi rydyn ni dros ddau fis i mewn i'r flwyddyn newydd. A ydych chi'n hapus y bydd y rheoliadau newydd yn dal dŵr yng ngolwg y gyfraith, ac a fedrwch chi roi dyddiad inni ynghylch pryd y byddan nhw'n cael eu cywiro?

Wel, rwy'n sicr yn fodlon y bydd y rheoliadau'n addas i'r diben, ac y bydd unrhyw addasiadau sydd angen eu gwneud yn cael eu gwneud yn y ffordd briodol. Mae'r rheoliadau eu hunain yn darparu, yn amlwg, ar gyfer parhau â'r fframwaith cyfreithiol presennol yng Nghymru a Phrydain ar gyfer mewnforio anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid, felly maent yn rheoliadau pwysig. Fe'u gwnaed ym mis Rhagfyr 2022. Fel y gwyddoch, gwnaeth eich pwyllgor nifer o argymhellion mewn perthynas â'r rheini. Ysgrifennais at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar 18 Ionawr 2023, ac eto ar 15 Chwefror 2023. Mae'r ohebiaeth yn gyhoeddus. Mae'n manylu ar y broses a fydd yn cael ei defnyddio wrth gywiro diffygion drafftio a'r defnydd o slipiau cywiro.

14:30
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

Diolch, Lywydd. Weinidog, a wnewch chi roi datganiad ar y gyllideb ar gyfer y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru?

Cafwyd datganiadau ac ymatebion blaenorol i gwestiynau sydd wedi nodi'r gyllideb—mae'r cyfan yn gyhoeddus. Nid wyf yn credu bod unrhyw ddadl nac unrhyw ddiffyg tryloywder ynglŷn â beth yw'r gyllideb honno.

A gaf fi eich croesawu yn ôl o'ch taith ddiweddar i Wcráin gydag Alun Davies, ein cyd-Aelod arall o'r Senedd, taith roeddem i gyd yn ei chefnogi, a dymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus iawn i chi?

Rwy'n gwerthfawrogi'r ymateb rydych chi wedi ei roi, ac rydym wedi croesi cleddyfau ar fater y gyllideb ar sawl achlysur yn y gorffennol. Ond rydym yn gwybod mai un o'r pethau rydych chi wedi gofyn i'r comisiwn cyfansoddiadol ei wneud yw ystyried sut y gall ddatblygu prif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Gymreig a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru. Nawr, yn y gyllideb ddrafft ar gyfer Llywodraeth Cymru am y ddwy flynedd nesaf, rydych chi wedi nodi £2.2 miliwn ychwanegol sy'n mynd i gael ei wario, ac mae llawer o bobl yn gofyn i mi—ac rwy'n siŵr eu bod yn gofyn i bobl ar eich meinciau chi hefyd, Weinidog—a yw hynny'n ddefnydd da o arian cyhoeddus, o ystyried yr heriau eraill y mae Cymru'n eu hwynebu ar hyn o bryd. Fel y gwyddoch yn iawn, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.20 am bob £1 a werir ar fater datganoledig yn Lloegr, ac mae'n ymddangos i mi fod y cyhoedd am weld yr arian yn cael ei wario ar faterion fel ysgolion, ysbytai, ffyrdd a blaenoriaethau eraill, ac mae'n ymddangos fel pe baech yn dadfuddsoddi ym mhob un o'r rheini. Rydych chi'n ei wario, wrth gwrs, ar y comisiwn hwn—comisiwn i gefnogi'r hyn a welwn ni fel ymgais i fachu grym o San Steffan. Felly, mae disgwyl i'r comisiwn gwblhau ei waith erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon—erbyn mis Rhagfyr eleni. Pam ar y ddaear rydych chi wedi rhoi mwy o arian yn y gyllideb honno, i'w barhau tan fis Mawrth 2025, os yw'n mynd i fod yn gorffen ei waith eleni?

Wel, a gaf fi ddiolch yn gyntaf am eich sylwadau am fy ymweliad diweddar ag Wcráin, a diolch, a hefyd i'r Aelodau eraill, am y gefnogaeth a roddwyd? Efallai eich bod wedi gweld o'r cyfryngau cymdeithasol fod y deunyddiau sylweddol a gafodd eu cludo drosodd ar y rheng flaen yn Wcráin o fewn 24 awr, ac mae hynny efallai yn amlygu'r brys ond pwysigrwydd cymorth, a hefyd y ffaith, wrth gwrs, fod mwy o faneri Cymreig yn hedfan ar reng flaen Wcráin ar hyn o bryd nag o unrhyw wlad arall. Ond rwy'n credu bod cydnabyddiaeth i'r cysylltiad hwnnw—. Gan gofio bod Donetsk, lle mae llawer o'r ymladd yn digwydd, wedi ei ddatblygu gan Gymro, wrth gwrs, ac enw'r lle yn flaenorol oedd Hughesovka, ar ôl John Hughes. Felly, mae gennym gysylltiad yno. Felly, diolch am y sylwadau hynny.

Mewn perthynas â'r comisiwn annibynnol, fel y dywedwch chi, mae ganddo 12 mis arall o waith i fynd. Mae'n rhaid iddo gyhoeddi adroddiad. Felly, yn amlwg, bydd cryn dipyn o wariant i gwblhau hynny, yn enwedig oherwydd, pan gyfarfûm ag aelodau'r comisiwn, roeddent yn amlinellu'n glir iawn y gwaith roeddent yn mynd i'w wneud, sef ceisio cyrraedd yr elfennau hynny ar gymunedau, pobl ac unigolion sy'n anodd iawn ymgysylltu â hwy. Nid wyf yn credu bod hyn yn wastraff. Aneurin Bevan a ddywedodd mai'r drafferth gyda'r Blaid Geidwadol yw eu bod yn gwybod pris popeth a gwerth dim byd. Rwy'n ystyried ein democratiaeth yn werthfawr iawn, ac rwy'n credu bod yna her gyda'n democratiaeth, o ran nifer y rhai sy'n pleidleisio, o ran ymgysylltiad, o ran canfyddiad pobl o wleidyddiaeth a'r ffordd y maent yn credu bod eu llais yn cyfrif mewn gwirionedd. Felly, rwy'n credu bod yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd, ac ar adeg o ansefydlogrwydd cyfansoddiadol—fod yr hyn a wnawn yn bwysig tu hwnt. Mae'n bwysig iawn edrych tuag at ddyfodol ein democratiaeth, ein ffordd o lywodraethu, sut yr ymgysylltwn â'n cymunedau, canfyddiad cymunedau ohonom a sut mae democratiaeth yn gweithio o fewn Cymru. Felly, rwy'n meddwl y gwelwch—. Rwy'n gwbl argyhoeddedig, erbyn diwedd hyn, y byddwch yn codi ar eich traed ac yn dweud, 'Wel, fe wnes i'r sylwadau hyn yn y gorffennol, ond rwy'n fodlon nawr fod hyn yn sicr wedi bod yn werth yr arian ar gyfer y dyfodol.'

14:35

Wel, rwyf bob amser yn myfyrio ar fy sylwadau, ond o ystyried bod y comisiwn i fod i gwblhau ei waith yn y flwyddyn galendr bresennol, rwy'n dal i fethu deall pam ar y ddaear eich bod wedi dyrannu gwariant sy'n mynd ag ef drwodd hyd at fis Mawrth 2025. Rydych chi'n dal i fod heb ateb y cwestiwn mawr hwnnw. Pam mae comisiwn sydd ar fin gorffen yn cael £1.1 miliwn pellach yn eich llinell gyllideb—yng nghyllideb ddangosol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25? Mae'n ymddangos i mi fod hynny'n wastraff ar adnoddau, ac yn enwedig pan fo gennym bobl ledled Cymru ar hyn o bryd yn cael trafferth gyda'r pwysau costau byw sy'n eu hwynebu, pan wyddom fod ein GIG yn parhau i fod o dan bwysau sylweddol, pan fo gan bobl, yn ôl y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr—nid fi, Joyce Watson—y system addysg waethaf yn y DU, a'r cyflogau isaf? Pam y byddech chi'n dyrannu £1.1 miliwn arall ar gyfer hyn, rhywbeth yr ystyriwn ei fod yn gomisiwn diangen, yn y flwyddyn ar ôl iddo gwblhau ei waith? Rydym yn dal i ddisgwyl ateb i'r cwestiwn hwnnw, a hoffwn ofyn am un unwaith eto. 

Wel, fe roddaf yr ateb i chi. Rwy'n credu mai'r ateb yw, pan fydd y comisiwn wedi llunio ei adroddiad a'i ganfyddiadau, nad yw hynny o reidrwydd yn ddiwedd ar y mater. Mae yna broses o ymgysylltu wedyn. Mae yna broses o ymroi i droi'r casgliadau mewn gwirionedd—wel, i esbonio'r casgliadau, i ymgysylltu â'r rhai sydd wedi cymryd rhan, ond hefyd, wedyn, i weld sut y gallwch chi drosi'r casgliadau hynny'n newid ymarferol. Ac rwy'n credu bod honno'n broses nad yw'n mynd i ddod i ben yn sydyn mewn un mis Ionawr, y foment y mae'r adroddiad yn cael ei gyflwyno mewn gwirionedd. 

Os ydym ni o ddifrif eisiau gweld yr adroddiad hwn yn bod yn fwy na dim ond un ddogfen arall sy'n dadansoddi'r holl broblemau a'r materion rydym wedi'u nodi ynghylch ein cyfansoddiad, rwy'n credu bod rhaid cael proses sy'n ymgysylltu. Wrth gwrs, os daw'r gwaith i ben cyn hynny—os yw'r gwaith hwnnw'n cael ei gwblhau'n gynharach—yna, yn amlwg, ni fydd yr arian hwnnw'n cael ei wario. Ond oni bai eich bod chi wedi cyllidebu ar ei gyfer, ni all ddigwydd, yn enwedig os oes angen iddo ddigwydd. 

Mae Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), a gyflwynwyd ym mis Medi y llynedd, wedi bod yn drychineb llwyr—Bil a gynlluniwyd i gael gwared ar yr holl gyfraith yr UE a ddargedwir sy'n weddill o lyfr statud y DU erbyn degfed pen-blwydd refferendwm Brexit fan bellaf. Mae'r Bil yn cyflwyno cymal machlud, lle bydd y mwyafrif o gyfraith yr UE a ddargedwir—miloedd o ddarnau o ddeddfwriaeth—yn cael ei datgymhwyso'n awtomatig ar ôl 31 Rhagfyr 2023, oni bai ei bod fel arall yn cael ei chadw fel cyfraith a gymhathwyd. 

Ar 18 Tachwedd, cyhoeddodd y Pwyllgor Polisi Rheoleiddio annibynnol ei farn nad yw asesiad effaith y Bil yn addas i'r diben. Graddiodd y pwyllgor agweddau ar yr asesiad effaith, megis ei resymeg a'r dadansoddiad cost a budd, fel naill ai 'gwan' neu 'wan iawn'. Ar ddechrau mis Ionawr, cyfaddefodd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ei bod wedi gwario £600,000 ar gostau staffio yn unig mewn deufis yn unig fel rhan o'i hadolygiad o'r Bil, er mai dim ond 318 darn o gyfraith yr UE a ddargedwir y mae ganddi gyfrifoldeb drostynt.

Yng ngoleuni'r cipolwg byr ar gost y Bil annoeth hwn i Lywodraeth y DU, beth yw amcangyfrif presennol Llywodraeth Cymru o'r gofynion adnoddau, yn gostau a staff, sy'n deillio o'r adolygiad parhaus o gyfraith yr UE a ddargedwir sy'n benodol i Gymru?

Diolch am y cwestiwn, ac mae'n gwestiwn pwysig iawn, ac yn un anodd iawn i'w ateb. Os caf ddechrau, efallai, gyda'r rhan am adnoddau yn gyntaf, mae'n anodd iawn dweud beth yw'r union adnoddau. Dyma sgyrsiau a thrafodaethau y byddaf yn eu cael. Rwyf wedi cael trafodaethau; maent yn parhau. Mae hi braidd yn anodd gwerthuso'r adnoddau sy'n angenrheidiol i ymdrin â'r hyn nad ydym yn ei wybod. Mae cymaint nad ydym yn ei wybod o safbwynt, yn gyntaf, beth mae Llywodraeth y DU yn mynd i'w wneud ynghylch yr agweddau hynny ar gyfraith a ddargedwir. Yn amlwg mae'n rhaid inni ddadansoddi ein hunain, ac yn amlwg rwyf wedi bod yn edrych ar restr o holl gyfraith yr UE a ddargedwir sy'n benodol i Gymru y byddem am ei hystyried. Mae'n anodd ystyried beth allai ddigwydd i hynny, oherwydd, i ryw raddau, mae'n dibynnu ar ba benderfyniadau a allai gael eu cymryd yn Lloegr, oherwydd bod cymaint o'r meysydd hyn yn ymwneud ag, er enghraifft, materion gorfodi, llywodraethu cyffredin ac yn y blaen.

Felly, mae yna lawer o ffactorau anhysbys ynghlwm wrth hyn. Felly, rydym yn ceisio gwneud y gwerthusiad hwnnw. Rydym hefyd yn ansicr beth fydd union natur y Bil. Barn Llywodraeth Cymru yw y dylai'r Bil gael ei dynnu nôl. Mewn gwirionedd nid yw'n cyflawni unrhyw bwrpas gwirioneddol o gwbl. Mae'n ffordd hynod o wael o ymdrin â deddfwriaeth. Mae'r syniad y gallwch chi ddileu miloedd o ddarnau o ddeddfwriaeth yn sydyn erbyn dyddiad penodol heb unrhyw amser go iawn i ystyried beth fydd y goblygiadau a beth yw'r goblygiadau i ddatganoli—.

Mae Tŷ'r Arglwyddi yn trafod y Bil ar hyn o bryd. Felly, mae yn y Cyfnod Pwyllgor; bydd yn mynd i'r Cyfnod Adrodd o fewn ychydig wythnosau. Yn amlwg mae yna feysydd lle byddem yn hoffi gweld gwelliannau'n cael eu gwneud iddo. Hoffem ddatrys mater pwerau cydredol yn enwedig, na fydd Llywodraeth y DU yn arfer pwerau mewn perthynas â meysydd datganoledig heb gydsyniad Llywodraeth Cymru. Rwy'n credu mai'r maes arall, wrth gwrs, yw'r cyfnod o amser. Os oes gan Lywodraeth y DU ryw ffordd o ymestyn y dyddiad machlud, byddwn yn gofyn am hynny hefyd. Pam na ddylem ni gael y cyfle hwnnw hefyd? Felly, mae yna lawer o ffactorau ynghylch y Bil hwn sydd heb eu penderfynu ar hyn o bryd, ac mae mater adnoddau yn mynd i fod yn un sylweddol. Rwy'n siŵr y bydd cwestiynau pellach i mi ar hynny. Fe roddaf yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd maes o law wrth gwrs, pan fyddaf yn gallu dweud mwy ynglŷn â beth yn union sy'n mynd i ddigwydd, ac mae'n ddigon posibl y bydd hi'n rhai wythnosau eto cyn inni wybod union fformat y Bil.

14:40

Diolch. Ie, fel y dywedwch, mae amser yn brin, oherwydd mae'n ddyddiad penodol, ac fel y dywedwch, hoffwn ddeall pa estyniad sy'n bosibl a'r hyn y gallem ei wneud yma i helpu gyda'r ymyl clogwyn hwnnw. Mae natur frysiog y Bil hwn yn codi'r posibilrwydd real iawn o reoliadau allweddol mewn ystod o feysydd polisi naill ai'n cael eu disodli gan ddewisiadau amgen o safon is neu'n cael eu hepgor yn llwyr o'r llyfr statud. Hefyd, mae'n rhaid inni gofio gallu cyfyngedig Llywodraeth Cymru i ystyried goblygiadau llawn diddymu, diwygio neu gymhathu cyfraith yr UE a ddargedwir sy'n benodol i Gymru. Fel y cyfryw, ac yng ngoleuni'r ffaith mai Gweinidog y DU yn unig sydd wedi gallu ymestyn y cymal machlud hwnnw ym mis Rhagfyr, efallai y bydd angen cael rhywfaint o flaenoriaethu pragmatig i reoli'r llwyth gwaith yn effeithiol yn y misoedd sy'n weddill i Weinidogion Cymru. Pa reoliadau penodol neu feysydd polisi eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu blaenoriaethu yn ei hadolygiad o gyfraith yr UE a ddargedwir sy'n benodol i Gymru? 

Diolch am y cwestiwn pellach. Os caf ddweud i ddechrau, mae'r holl faterion a'r pryderon, y cafodd llawer ohonynt eu nodi gan yr Aelod, wedi cael eu crybwyll yn y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol. Rwyf wedi codi'r materion hynny. Cadeiriais y cyfarfod diweddar, ac wrth gwrs, mae'r pethau hynny'n cael eu hystyried ar lefel Llywodraeth y DU, fel rhan o'r trefniadau rhynglywodraethol sydd gennym. Bydd yn rhaid inni aros i weld beth fydd canlyniad y rheini.

O ran blaenoriaethu pragmatig, mae'n dod yn ôl unwaith eto at fethu gwybod beth nad ydych chi'n ei wybod, ac yn amlwg un peth y byddem eisiau ei flaenoriaethu yw ein deddfwriaeth ein hunain—y ddeddfwriaeth sydd wedi'i chymeradwyo gan y Senedd hon. Ond wrth gwrs, yr anhawster gyda hynny yw ceisio deall hefyd pan fyddwn yn blaenoriaethu beth yw'r goblygiadau pan nad ydych chi'n gwybod yn union beth all ddigwydd ar yr ochr arall gyda deddfwriaeth debyg ar lefel Llywodraeth y DU hefyd, a'r ffordd y gallai honno ryngweithio neu gael effaith. Soniais am orfodaeth fel enghraifft yn gynharach, oherwydd, yn aml, ceir trefniadau gorfodi cyffredin ac yn y blaen, ac felly mae'n rhaid ystyried yr holl bethau hynny. Mae'n debyg na allaf ddweud llawer iawn mwy na hynny ar hyn o bryd. Yn amlwg rwyf wedi mynychu cryn nifer o gyfarfodydd Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar hyn. Mae'n waith sydd ar y gweill ar hyn o bryd, ac fe wnaf bopeth yn fy ngallu i ateb cwestiynau pellach a rhoi diweddariad pan fyddwn yn glir ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd. Mae llawer o waith ar y gweill ar hyn o bryd, i geisio deall y graddau, y 4,000 o ddarnau o ddeddfwriaeth eraill, ar wahân i'r ddeddfwriaeth Gymreig, y mae'n rhaid eu gwerthuso a beth yw'r rhannau rydym am eu blaenoriaethu, ac a oes unrhyw ffyrdd o geisio symleiddio'r broses honno mewn gwirionedd. Y naill ffordd neu'r llall, nid yw'n mynd i fod yn hawdd. Y naill ffordd neu'r llall, mae'n mynd i fod yn anhrefnus ac mae'n siŵr y bydd yn arwain at bob math o ganlyniadau annisgwyl, ond mae'n rhaid inni ymdrin â hyn fel y mae ar hyn o bryd. Hyd nes y gwyddom beth fydd ffurf derfynol y Bil, mae cryn dipyn o bethau'n ansicr o hyd.

14:45
Datganoli Cyfrifoldeb dros Lysoedd a Dedfrydu

3. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r costau sy'n gysylltiedig â datganoli cyfrifoldeb dros lysoedd a dedfrydu i Gymru? OQ59179

Diolch am eich cwestiwn. Nid ydym eto wedi cynnal asesiad o gostau datganoli rhannau penodol o'r system gyfiawnder, megis llysoedd a dedfrydu. Yn y pen draw, ein dyhead yw y byddai datganoli yn lleihau'r pwysau ar y system gyfiawnder ac yn arbed arian mewn rhai meysydd, yn anad dim drwy leihau poblogaeth y carchardai.

Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Yn amlwg, mae hwn yn waith sydd ar y gweill. Rwyf am dynnu eich sylw at y ffaith bod ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i fenywod sy'n rhan o'r system cyfiawnder troseddol wedi datgelu bod llai na hanner yr ynadon a arolygwyd gan y Gymdeithas Ynadon wedi clywed am y glasbrint cyfiawnder menywod, sydd â'r nod o leihau nifer y menywod yn y carchar. Mae'n destun pryder mawr clywed o garchar Eastwood Park fod menywod o dde Cymru yn llawer mwy tebygol o gael eu hanfon i'r carchar na menywod yn Nyfnaint a Chernyw. Felly, tybed a allech chi ddweud wrthym beth rydych chi'n ei wneud, a'ch swyddogion, i sicrhau bod pawb sy'n ymwneud â dedfrydu dynion a menywod yn ymwybodol o'r cynlluniau y mae Llywodraeth Cymru yn ymwneud â hwy, mewn partneriaeth â sefydliadau eraill.

Diolch. Rydych chi'n codi nifer o faterion pwysig iawn. Mae'r materion hynny'n mynd i graidd y rheswm pam mae angen i gyfiawnder gael ei ddatganoli i ni. Rwyf wedi gweithio'n agos iawn, fel y gwyddoch, gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac wrth gwrs, fe fuom yn ymweld â charchar Eastwood Park yn ddiweddar. Mae'n debyg mai'r hyn sy'n bwysig—. Mae ymwybyddiaeth yr ynadaeth o'r glasbrint yn destun pryder wrth gwrs. Ond nid ymwybyddiaeth o'r glasbrint yw'r prif ffactor ynddo'i hun. Yr hyn sy'n bwysig yw dealltwriaeth o'r gwahanol gyfleoedd a'r opsiynau a geir ar gyfer dedfrydu.

Yn amlwg, mae yna ymgysylltiad parhaus â'r farnwriaeth, rwy'n meddwl, i'w helpu i ddeall effaith dedfrydau byr di-fudd a diangen. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cyfeirio at hyn ac rwyf wedi ei ddweud sawl gwaith: pan oeddem yng ngharchar Eastwood Park, fe wnaeth cyfarwyddwr y carchar ein hysbysu bod pob menyw yn y carchar hwnnw'n ddioddefydd. Mae hynny ynddo'i hun, rwy'n meddwl, yn amlygu natur y ffordd rydym wedi dilyn llwybr carcharu yn hytrach na'r llwybr datrys problemau a llwybr cyfiawnder.

Mae arweinwyr y glasbrint cyfiawnder menywod wedi cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu ar gyfer dedfrydwyr, gan ganolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth a hyder yn yr opsiynau ar gyfer menywod o fewn y gymuned ymhlith dedfrydwyr, cynghorwyr cyfreithiol a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y llysoedd. Cyrhaeddwyd dros 270 o unigolion drwy'r gwaith hwn, sydd hefyd wedi cael cymorth gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ei Fawrhydi. Felly, mae'r broses o ymgysylltu yn parhau.

Proses Dendro

4. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y broses dendro ar gyfer y rhaglen prentisiaeth gyfreithiol lefel 7? OQ59170

Diolch am eich cwestiwn. Ym mis Rhagfyr, fe wnaethom gyhoeddi tendr i asesu'r angen am brentisiaethau cyfreithwyr yng Nghymru. Ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau pan gaeodd y tendr ym mis Ionawr, ac rydym yn ystyried y camau nesaf nawr.

Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. A wnewch chi amlinellu, efallai, y broses a ddefnyddiwyd gennych yn y broses dendro gyntaf a sut y gellir newid hyn er mwyn sicrhau cynulleidfa ehangach ar gyfer ail-dendro? Diolch yn fawr. 

Diolch am hynny. Rwy'n credu ei bod yn siomedig na ddaeth unrhyw geisiadau i law am y tendr. Rydym yn gwerthuso sut y cafodd ei gyflawni ac yn y bôn, sut y gellir ei ehangu. Rwy'n credu mai sylwedd yr hyn rydych chi'n ei awgrymu, mewn gwirionedd, yw bod angen inni edrych ar grŵp llawer ehangach ar gyfer proses y gwahoddiad i dendro. Mae hynny dan ystyriaeth.

Rwy'n credu bod mater prentisiaethau cyfreithwyr yn bwysig. Rydym wedi gwneud llawer o waith eisoes ar y prentisiaethau lefel 3 a lefel 5, ar gyfer y lefel baragyfreithiol, ac wrth gwrs, dechreuodd y garfan gyntaf o fyfyrwyr ym mis Medi 2022 yng Ngholeg Sir Gâr yng Nghaerfyrddin. Felly, dyma'r cam nesaf mewn gwirionedd, ond mae'n un sy'n fwy cymhleth, oherwydd os rhown arian cyhoeddus tuag at gefnogi prentisiaethau, rydym am iddo fynd tuag at lenwi'r bylchau hynny, y llefydd gwag sy'n bodoli o fewn y gwasanaethau cyfreithiol, a hefyd i edrych ar sut y gallem wella rhywbeth sy'n eithaf pwysig yn fy marn i, sef y canolfannau cyfraith—y ddwy ganolfan gyfraith sydd gennym ni nawr i bob pwrpas—a sut y gallem edrych ar ymestyn hynny a sut y gallai hyn fod yn rhywbeth a allai gefnogi hynny mewn gwirionedd, maes sy'n werth ei ddatblygu yn fy marn i. Wrth gwrs, byddaf yn rholi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd maes o law pan fyddwn wedi ail-werthuso sut i barhau neu sut i hyrwyddo'r broses dendro ac unrhyw ddatblygiadau pellach gyda'r amcanion sydd gennym ar gyfer prentisiaethau cyfreithwyr. 

14:50
Cyngor Cyfreithiol i Weinidog

5. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i'r Gweinidog Newid Hinsawdd cyn y penderfyniad i roi terfyn ar sawl prosiect ffordd mawr yng ngogledd Cymru? OQ59177

Diolch am eich cwestiwn. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y panel adolygu ffyrdd yn gam mawr ymlaen yn ein hymrwymiad i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Nid dyma ddiwedd adeiladu ffyrdd yng Nghymru. Byddwn yn dal i fuddsoddi mewn ffyrdd, ond dim ond lle maent yn ymateb priodol i'r broblem drafnidiaeth.

Diolch. Nawr, yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae'n rhaid i bob corff cyhoeddus gyflawni datblygu cynaliadwy, sef y broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy weithredu yn unol â'r egwyddorion datblygu cynaliadwy gyda'r nod o gyflawni'r nodau llesiant. Mae'r nodau hynny, wrth gwrs, yn cynnwys Cymru lewyrchus, Cymru iachach, Cymru o gymunedau cydlynus. Nawr, bydd y penderfyniad na ddylai 19 cynllun fynd rhagddynt, megis gwella coridor sir y Fflint, cyffyrdd 15 a 16 yr A55, a thrydedd croesfan y Fenai, yn siŵr o niweidio ffyniant, iechyd a chysylltedd cymunedau ledled gogledd Cymru. I bob pwrpas, yn fy marn i, mae dileu cynlluniau allweddol yng ngogledd Cymru yn dangos diffyg dealltwriaeth ar ran Lywodraeth Cymru o'n seilwaith, ein heconomi a'n cymunedau i'r pwynt fod rhaid gofyn y cwestiwn a fu tramgwydd yn erbyn y ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol mewn gwirionedd. Gwnsler Cyffredinol, a wnewch chi asesu a yw penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â chefnogi cynlluniau mawr yng ngogledd Cymru yn tramgwyddo yn erbyn y ddyletswydd hon? Diolch.

Wel, a gaf fi ddweud bod y materion rydych chi wedi'u codi yn fater i'r Gweinidog sydd â'r cyfrifoldeb portffolio i'w hateb, ond gallaf gadarnhau bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi gwneud datganiad llafar i'r Senedd ar 14 Chwefror ar adroddiad yr adolygiad ffyrdd, y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth a'n datganiad polisi ffyrdd newydd. Cafodd yr adroddiad, y cynllun a'n hymateb eu cyhoeddi ar yr un diwrnod i nodi sut rydym yn cyflawni yn erbyn strategaeth drafnidiaeth Cymru. Mae cwestiynau wedi'u rhoi, atebion wedi eu rhoi, ond mae'n rhaid imi bwysleisio fy mod yn credu ei bod yn bwysig i'r materion hyn gael eu cyfeirio at y Gweinidog priodol sydd â'r cyfrifoldeb portffolio priodol.

Cyngor Cyfreithiol i Lywodraeth Cymru

6. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i pholisi ynglŷn â hunanadnabod rhywedd yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i atal y Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd (yr Alban)? OQ59176

Rwy'n ailadrodd bod hon yn foment beryglus. Mae dull Llywodraeth y DU o weithredu wedi gosod cynsail pryderus. Byddwn yn gwneud popeth a allwn i amddiffyn ein setliad datganoli, y deddfau a basiwyd gan y Senedd hon, ac rydym yn parhau i fod yn benderfynol o gefnogi ein cymunedau trawsryweddol.  

Diolch. Rwy'n cyfeirio at sylwadau a wnaed gan y Prif Weinidog a'r Gweinidog cyllid mewn perthynas â defnydd Llywodraeth y DU o Orchymyn adran 35 i ddiogelu Deddf Cydraddoldeb 2010 rhag Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd (yr Alban) yr SNP. Mae'r Gweinidog cyllid wedi ailadrodd honiadau ffug Nicola Sturgeon fod y rhai sy'n beirniadu hunanadnabod rhywedd yn 16 oed rywsut yn defnyddio pobl drawsryweddol fel mater i greu rhaniadau. Felly, rwy'n gobeithio nawr, yng ngoleuni'r ymddiswyddiad—ac mae llawer yn credu bod y mater hwn wedi cwmpasu Nicola Sturgeon—y bydd yn gwneud i'ch Llywodraeth eich hun ailfeddwl. Wrth gwrs, dylai aelodau'r gymuned drawsryweddol gael eu trin gyda'r parch mwyaf bob amser. Ond nid yw'n ddigon da llethu dadl rydd ynghylch deddfau hunanadnabod rhywedd i blant mor ifanc â 16 oed drwy labelu unrhyw un sy'n feirniadol o'r cynigion hyn fel rhai sy'n ymladd yr hyn a elwir yn rhyfel diwylliant. Nid yw hwn yn bwynt pleidiol. Mae ASau Llafur, fel Rosie Duffield, eisoes wedi bod yn glir ynghylch y risgiau i ddiogelwch menywod, yn ogystal ag AS Llafur Cymru Gŵyr, Tonia Antoniazzi, ac maent hwy wedi dweud bod angen ymyrraeth Llywodraeth y DU. Felly, Gwnsler Cyffredinol, a ydych yn cytuno â'r sylwadau a wnaed gan yr aelodau hyn o'ch plaid, ac a wnewch chi ymrwymo i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cynnal yr amddiffyniadau i fenywod a nodir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010? Diolch.

14:55

Wel, diolch am eich cwestiwn. Yr hyn rwy'n ei wneud, wrth gwrs, a fy nghyfrifoldeb sylfaenol yw cynnal cyfansoddiad y Senedd hon, y sail y cawsom ein sefydlu arni a'r pwerau a'r cyfrifoldebau sydd gennym ni. A dyna pam roedd fy sylwadau cychwynnol yn ymwneud mewn gwirionedd â thanseilio'r egwyddorion cyfansoddiadol y caiff penderfyniadau eu gwneud ac y caiff deddfwriaeth ei phasio arnynt.

Nawr, fel y gwyddoch, mae'r safbwynt cyfreithiol yn yr Alban yn wahanol i'r safbwynt yng Nghymru. Nid yw'r pwerau sydd ar gael yn yr Alban wedi'u datganoli i Gymru ar hyn o bryd. Mae cydnabod rhywedd yn fater sydd wedi'i gadw yn ôl yn achos Cymru, ond rydym wedi dweud yn glir y byddwn yn ceisio'r pwerau hyn fel a nodwyd yn y rhaglen lywodraethu. Byddai defnydd deddfwriaethol o'r pwerau hyn yn fater i'r Senedd hon ei benderfynu, a phe bai hynny'n digwydd a bod y Senedd hon yn penderfynu ar safbwynt ar hynny, rwy'n siŵr y byddech chi, fel finnau a phawb arall yn y Senedd hon, yn parchu uniondeb cyfansoddiadol y lle hwn.

Dydd Gŵyl Dewi

7. Pa drafodaethau mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith Llywodraeth y DU ynglŷn â sicrhau bod gan Gymru'r pwerau dros wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl gyhoeddus? OQ59171

Wel, diolch am y cwestiwn. Nid yw creu gwyliau banc yn fater sydd wedi ei ddatganoli. Ar fwy nag un achlysur, rydym wedi gofyn i Lywodraeth y DU ddynodi'r diwrnod yn ŵyl y banc yng Nghymru neu roi'r pŵer i ni wneud hynny ein hunain. Yn anffodus, gwrthodwyd y ceisiadau hyn.

Ar Ddydd Gŵyl Dewi cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol, yn ôl yn 2000, fe gafwyd dadl yn cynnig bod Dydd Gŵyl Dewi yn dod yn ŵyl banc. Fel y ddadl y llynedd, cafodd hwn gefnogaeth gan bob Aelod o'r Cynulliad ar y pryd. Serch hynny, yn 2002, gwrthod y cais wnaeth Paul Murphy, a gwrthod unwaith eto wnaeth Peter Hain yn 2005. Fydd Ysgrifennydd Gwladol Llafur yn y dyfodol yn rhoi ateb gwahanol i Mr Murphy a Peter Hain?

Daeth Janet Finch-Saunders i’r Gadair.

Wel, diolch am hynny. Ni allaf ragweld beth y gallai Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn y dyfodol ei wneud. Ond rwy'n eithaf hyderus, serch hynny, y byddai cryn gydymdeimlad a chefnogaeth i'n huchelgais. Dylai Dydd Gŵyl Dewi, diwrnod cenedlaethol Cymru, fod yn ŵyl y banc, fel sy'n digwydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, sy'n cael gwyliau banc ar gyfer eu nawddseintiau hwy. Nid yw'r ffaith fod Llywodraeth y DU wedi gwrthod caniatáu hyn, gan ddweud bod gan Gymru hanesion gwahanol—systemau economaidd, cymdeithasol, diwylliannol a chyfreithiol—yn ddigon da yn fy marn i. Mae gennym ein hunaniaeth ein hunain sydd lawn mor gryf ag yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig ac yn fy marn i, mae'n bryd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig sylweddoli hynny.

Yn y DU y mae gennym lai o wyliau cyhoeddus nag yn unman arall yn Ewrop, felly mae gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl y banc yn gyfle gwirioneddol i fod yn gydradd â gweithwyr ar draws Ewrop. Felly, rwy'n cefnogi'r hyn a ddywedodd yr Aelod yn fawr. Rwy'n hapus i ategu ein cefnogaeth lwyr i greu Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl y banc, a byddaf yn parhau i ddadlau dros ddatganoli'r pwerau i'r Senedd.

Bandiau Treth Incwm

8. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â datganoli pwerau dros fandiau treth incwm i Gymru? OQ59182

Diolch am eich cwestiwn. Nid oes unrhyw drafodaethau wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU ar ddatganoli bandiau treth incwm i Gymru.

Diolch am yr ateb cryno yna. Mae'r Llywodraeth yma wedi gwrthod derbyn yr angen i gynyddu trethi yng Nghymru, sydd yn sicr o arwain at weld ein gwasanaethu cyhoeddus yn crebachu ac yn gwegian, a rhai gwasanaethau am ddiflannu. Wrth gwrs, mae gwleidyddiaeth yn golygu gwneud penderfyniadau anodd. Mae honno’n benderfyniad, felly, rydych chi fel Llywodraeth wedi'i gymryd, ac mi fydd yn rhaid i bob un ohonom ni fyw efo hynny. Rŵan, rydw i'n deall nad ydy'r Llywodraeth am weld y bobl hynny ar yr incwm isaf yn talu mwy—does neb yn dymuno gweld hynny, wrth reswm. Un ffordd o osgoi hynny ydy i ni gael y gallu i addasu'r bandiau treth er mwyn medru gwarchod y rhai ar incwm isel ond galluogi cynnydd graddol i eraill. Mi fyddai hyn yn dod â Chymru'n gyson efo'r Alban. Fedrwn ni felly ddisgwyl gweld Llywodraeth San Steffan o dan y Blaid Lafur yn datganoli'r gallu yma i Gymru? Neu, o gymryd eich ateb i'r cwestiwn blaenorol, a chithau'n dweud na fyddech chi'n gallu rhagweld beth fyddai Llywodraeth Lafur yn y dyfodol yn gwneud, a fyddwch chi a'ch cyd-Aelodau yma yn gwthio am hyn? Diolch.

15:00

Wel, yr hyn y gallaf ei ddweud yn sicr yw bod mater pwerau treth incwm yn faes hynod gymhleth; mae'n gymhleth yng nghyd-destun y trothwy treth sydd gennym yng Nghymru. Mae gwahaniaeth rhwng mater cynyddu cyfraddau trethiant a mater bandio trethiant, ac mae hwnnw'n sicr yn faes a fyddai'n llawer mwy buddiol i Gymru yn ôl pob tebyg nag y byddai o ran cyfraddau unigol. Yr un peth nad ydym am ei weld yw trethiant a fyddai i bob pwrpas yn gosod baich pellach ar gymdeithas lle mae gennym gymaint o bobl yn y categori cyflog isel a fyddai'n cario rhan sylweddol o faich y trethiant hwnnw. Felly, byddai unrhyw benderfyniad i geisio mwy o bwerau yn y dyfodol yn cael ei ystyried yn rhan o'n blaenoriaethau polisi treth strategol hirdymor ehangach, yn hytrach nag mewn ymateb i heriau ariannol penodol ac uniongyrchol. Ac rwy'n credu na ellir ysgaru unrhyw ddadl i geisio pwerau pellach oddi wrth yr angen i fynd i'r afael ag annigonolrwydd cyffredinol presennol y trefniadau datganoli sydd gennym ar hyn o bryd.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Symudwn yn awr at eitem 3, sef cwestiynau i Gomisiwn y Senedd, ac fe fydd y cyntaf yn cael ei ateb gan Joyce Watson, ond fe alwaf ar Peredur Owen Griffiths.

Ystad y Senedd

1. Beth mae'r Comisiwn yn ei wneud i sicrhau bod ystad y Senedd yn gwbl hygyrch i bobl anabl? OQ59165

Diolch am y cwestiwn hwnnw. Mae'r Comisiwn wedi ymrwymo i sicrhau bod ystad y Senedd yn hygyrch i bawb. Hygyrchedd oedd un o'r prif ystyriaethau yn ystod y gwaith o ddylunio adeilad y Senedd, ac fe wnaethom ystyried hygyrchedd hefyd wrth gwblhau asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer yr holl welliannau adeiladu diweddarach ar yr ystad hon. Yn ddiweddar, cyfarfu swyddogion â chynrychiolydd o Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall i drafod gwelliannau i'r amgylchedd allanol o amgylch y Senedd, ac roedd yr archwiliad a ddeilliodd o hynny'n gadarnhaol ac mae ei argymhellion yn cael eu hystyried ar gyfer eu gweithredu. Rydym wedi cael cydnabyddiaeth gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Chymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth am waith a wnaed i wella hygyrchedd, ond rydym yn ymwybodol, fodd bynnag, na allwn fyth fod yn hunanfodlon a byddwn yn parhau bob amser i ymdrechu i fod yn Senedd sy'n agored i bawb.

Mae hynny'n dda iawn. Diolch, Gomisiynydd, am yr ateb hwnnw. Mae'n dda clywed bod cynnydd yn cael ei wneud. Drwy Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, rwyf wedi bod yn ffodus o gael ymgyrchydd gwleidyddol brwd yn dod i fy swyddfa ar interniaeth. Mae Kevin, sydd ag uchelgais i fod yn gynghorydd, yn anabl ac mae angen defnyddio sgwter symudedd i deithio o gwmpas. Yn ystod ei gyfnod yn y swyddfa, rwyf wedi gweld o lygad y ffynnon sut nad yw ein hystad yn gwbl hygyrch i bobl mewn cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd. Er enghraifft, nid yw'r drysau i'r rhodfa rhwng Tŷ Hywel ac adeilad y Senedd yn awtomatig ar y ddau ben, ac mae angen eu gwthio tuag allan. Mae hyn yn ei wneud yn anhygyrch i ddefnyddwyr sgwter symudedd neu gadeiriau olwyn. Yn anffodus, mae hyn wedi golygu, os nad yw Kevin yn cael ei hebrwng, fod rhaid iddo deithio allan o'r prif adeilad yn Nhŷ Hywel i gyrraedd digwyddiadau, allan i flaen y Senedd a mynd y tu allan i'r adeilad. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno nad yw hyn yn ddelfrydol mewn tywydd oer a gwlyb, nac ar unrhyw adeg o gwbl. Ar ben hynny, wrth ddod allan o'r lifft i fynd lawr i'r rhodfa sy'n arwain i mewn i'r ffreutur, nid oes digon o le i sgwter symudedd neu gadair olwyn droi'n iawn, wrth ddod drwy'r drws. Ceir enghreifftiau pellach o gwmpas yr ystad. A oes modd edrych ar ba mor hygyrch yw ystad y Senedd ar unwaith er mwyn sicrhau bod y lle hwn yr un mor groesawgar i bobl anabl ag y dylai fod, a bod pobl anabl yn cael yr annibyniaeth y maent ei heisiau ac yn ei haeddu? Diolch.

15:05

Diolch am dynnu sylw at yr hyn rydych wedi ei nodi a'r diffygion sy'n dal i fodoli ar hyn o bryd. Gorffennais fy rhan gyntaf drwy eich ateb, gan ddweud nad ydym yn hunanfodlon ac y byddwn bob amser yn ymdrechu i fod yn gynhwysol, ac mae hynny wrth gwrs yn sefyll. Cafodd y Senedd ei dylunio i ddarparu mynediad da i bobl anabl, ac roedd gennym gynghorydd mynediad a gâi ei gyflogi yn ystod y camau dylunio hynny. Mae toiledau hygyrch i gadeiriau olwyn ar draws yr ystad ac mae lleoedd parcio hygyrch gerllaw'r Senedd ac ym maes parcio Tŷ Hywel, gan gynnwys cilfach barcio hygyrch i gerbydau trydan a gyflwynwyd yn ddiweddar. Gellir cael mynediad at fynedfa'r Senedd, fel rydych wedi nodi, drwy risiau, ramp a lifft, ac mae'n rhaid caniatáu mynediad i bob ci cymorth ar gyfer pobl anabl. Ac mae gennym fannau dynodedig i gadeiriau olwyn ym mhob oriel gyhoeddus, ac mae cadeiriau olwyn ar gael i aelodau o'r cyhoedd a digon o lefydd mewn mannau cyhoeddus i ddarparu ar gyfer cadeiriau olwyn.

Rwy'n credu mai'r hyn sy'n digwydd yma yw nad yw dyluniad yr adeilad yn diwallu gallu'r unigolyn hwn, ac eraill fel yr unigolyn hwn, i ddefnyddio math gwahanol o gerbyd i symud o gwmpas—yn wahanol i'r hyn a gafodd ei asesu'n glir wrth ddylunio'r adeilad hwn gyntaf. Rwy'n hapus iawn i weithio gyda chi, a gydag unrhyw un sydd eisiau, i weld a oes pethau y gallwn eu gwneud i gyfyngu ar anghyfleustra'r pethau hynny nad ydym yn gallu eu gwneud. Felly, edrychaf ymlaen at weithio gyda chi unwaith eto, i wneud yn siŵr y gallwn wella hygyrchedd yr adeilad hwn. Diolch.

Symudwn yn awr at gwestiwn 2, i'w ateb gan y Llywydd, ac fe alwaf ar Sioned Williams.

Y Tasglu Newyddion a Gwybodaeth Ddigidol

2. Pa gynnydd mae'r Comisiwn wedi ei wneud o ran cyflawni argymhellion adroddiad y tasglu newyddion a gwybodaeth ddigidol? OQ59164

Gwnaeth y tasglu 27 o argymhellion fis Mehefin 2017, yn seiliedig ar thema o roi'r dinesydd wrth wraidd ein gwaith a chreu cynnwys sy'n hawdd ei ddeall. Roedd yr adroddiad yn sail i'r strategaeth gyfathrebu ac ymgysylltu ar gyfer y chweched Senedd a gymeradwywyd gan y Comisiwn fis Ebrill 2022. Rydym bellach yn defnyddio profiadau'r cyhoedd o wasanaethau i dynnu sylw at waith ymchwiliadau'r pwyllgorau ac yn cynnwys eu straeon ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

Diolch am yr ateb, Llywydd. Yn amlwg, mae ein democratiaeth wedi symud ymlaen gryn dipyn, hyd yn oed ers 2016, gyda phobl ifanc 16 a 17 oed nawr wedi cael y bleidlais yn etholiadau'r Senedd, ond mae'n debyg bod agweddau eraill wedi symud am yn ôl—mwy o bapurau newydd lleol a swyddi newyddiadurol wedi'u colli. Ac ar sail arolwg mae'r grŵp yma wedi'i gynnal yn ddiweddar, mae'r ffigurau o ran dealltwriaeth ein dinasyddion o drefniadau llywodraethu Cymru yn bryderus, a dweud y lleiaf: 35 y cant o ymatebwyr yn credu bod gan y Ceidwadwyr Weinidogion yn Llywodraeth Cymru ers etholiad Mai 2021; 44 y cant yn meddwl bod gan Blaid Cymru Weinidogion; a 78 y cant o ymatebwyr yn methu ag enwi un polisi sydd wedi'i gyflwyno yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf pan fyddant yn meddwl am y Senedd ac am Lywodraeth Cymru.

Ydych chi'n cytuno ei bod hi'n allweddol i iechyd democratiaeth yng Nghymru fod yna ddealltwriaeth eang ymhlith y cyhoedd o hanfodion sut mae democratiaeth yn gweithio, megis sut y caiff grym sy'n effeithio ar eu bywydau ei arfer, pa blaid sydd mewn Llywodraeth a beth yw cyfrifoldebau gwahanol haenau o lywodraeth? Beth mwy, felly, gall y Comisiwn a'r Senedd ei wneud i ddatblygu eu rôl fel cynhyrchydd cynnwys a straeon, yn unol ag un o brif alwadau adroddiad y tasglu i ddylanwadu ar ddealltwriaeth ar lefel boblogaidd eang am waith y Senedd, a sut mae grym yn cael ei arfer a phwy sy'n ei arfer? Diolch.

Wel, ydw, dwi'n cytuno ei fod e'n bwysig o ran iechyd ein democratiaeth ni fod pobl sy'n ein hethol ni yma i'r Senedd yn gyfarwydd â'n gwaith ni ac yn gyfarwydd â'r Senedd yn fwy cyffredinol. Ac mae'n fy mhryderu i glywed rhai o'r canrannau rydych chi wedi sôn amdanynt o bobl sydd ddim yn ymwybodol o waith dydd i ddydd y Senedd, na gwaith y Senedd yn ehangach na hynny. Mae hynny'n wir am Gymru. Mae'n wir, siŵr o fod, am bron bob gwlad yn y byd hefyd i raddau mwy neu llai, ond gan ein bod ni'n ddemocratiaeth newydd hefyd, mae hwnna'n gosod problemau ychwanegol i ni.

Fel y sonioch chi yn eich cyfraniad, mae sut mae pobl yn derbyn cyfryngau erbyn hyn yn newid, ac wedi newid ers 2017 pan wnaethpwyd yr adroddiad. Mae cyfryngau cymdeithasol yn cynnig cyfle gwahanol i'r Senedd yma i fynd ati i gyfathrebu â phobl Cymru, ond mae'n cynnig ei heriau hefyd. Ac felly, mewn ymateb i chi, dwi'n hapus iawn fel Llywydd, fel y Comisiwn hefyd, i fod yn gwrando ar unrhyw brofiad a syniadau sydd gan Aelodau o fewn y Senedd yma ar sut gallwn ni ddatblygu, gwella a mireinio ein gwaith ni yn y maes yma ymhellach. Mae cyfrifoldeb arnom ni fel Senedd, mae cyfrifoldeb arnom ni i gyd hefyd fel Aelodau unigol o'r Senedd, i fynd ati i gyfathrebu'n uniongyrchol â phobl Cymru, ac mae angen i ni, yn ysbryd yr hyn ddywedodd Joyce Watson yn ei hateb hi, fod yn parhau i wella ac i feddwl am ffyrdd newydd o weithio drwy'r amser yn hyn o beth. A dwi'n barod iawn i gydweithio gydag Aelodau ar sut gallwn ni wneud hynny.

15:10

Cwestiwn 3, i'w ateb gan y Llywydd eto. Cefin Campbell.  

Dangosyddion Perfformiad Allweddol

3. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch i ba raddau mae'n cwrdd a'i ddangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer y chweched Senedd? OQ59186

Cafodd dangosyddion perfformiad allweddol y Comisiwn eu hadolygu ar ddechrau'r chweched Senedd. Mae'r data dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer y flwyddyn bresennol, sef Ebrill 2022 i Fawrth 2023, yn cael eu casglu ar hyn o bryd, a byddant yn cael eu cyhoeddi yn adroddiad blynyddol a chyfrifon 2022-23 yn yr haf.

Diolch yn fawr i chi am y cadarnhad yna. Mae'r ffigurau yna ar eu ffordd, felly edrych ymlaen i'w gweld nhw. Ac mae diddordeb penodol gen i, fel sawl un ohonom ni yn y Siambr, yn ymdrechion y Comisiwn i gynyddu canran gwariant y Comisiwn ar gyflenwyr o Gymru er mwyn defnyddio'r bunt gyhoeddus er lles ein cymunedau lleol, ac er lles pobl Cymru. Mae yna enghreifftiau lu o hyn, megis Castell Howell yn fy rhanbarth i yn y maes cyflenwi bwyd. Rwy'n croesawu'n benodol y targed gan y Senedd ddiwethaf i gynyddu'r ganran yma i 43 y cant, a'r ffaith bod y Comisiwn wedi llwyddo yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf i fynd y tu hwnt i'r targed yna, gyda 45 y cant o'i wariant yn cael ei ddarparu i gyflenwyr Cymreig.

A allwch chi, Llywydd, felly gadarnhau sut mae'r Comisiwn yn diffinio cyflenwr Cymreig, gan fod rhai sefydliadau wedi dadlau fod hyn yn astrus ac yn anodd i'w wneud? Yn amlwg, dydy'r Comisiwn ddim yn cael anhawster gosod a mesur targed o'r fath. A hefyd, o safbwynt y set o ddangosyddion perfformiad yn y chweched Senedd, a allwch chi gadarnhau beth yw'r uchelgais newydd sydd wedi'i osod o ran caffael Cymreig, fel y gallwn ni gefnogi hyd yn oed mwy o fusnesau a swyddi sydd yn gefn i'n heconomi a'n cymunedau?

Mi ofynnoch chi ddau gwestiwn fanna. Mi allaf ateb un ohonyn nhw a bydd rhaid i mi ysgrifennu atoch chi gyda'r ateb i'r llall. Yr ateb felly i'r cwestiwn ynglŷn â beth yw targed nawr y Comisiwn o ran gwariant y Comisiwn ar gyflenwyr o Gymru, gan ein bod ni wedi cwrdd â'n targed yn y Senedd ddiwethaf o 43 y cant, mae'r targed erbyn hyn yn 50 y cant ar gyfer y chweched Senedd, a dwi'n gobeithio y byddwn ni'n gallu adrodd ar hynna, fel y dywedais i, yn ein hadroddiad blynyddol ni. Felly, 50 y cant yw'r targed. 

Sut yn union rŷm ni'n diffinio cynnyrch a gwariant ar nwyddau o Gymru? Fe fydd yn rhaid i fi ysgrifennu atoch chi ar hynna, Cefin Campbell, achos dyw'r ateb ddim ar flaen fy meddwl i. Ac felly dwi'n hapus i gadarnhau hynny mewn llythyr atoch chi, gan obeithio y bydd hwnna'n rhoi esboniad eglur i chi ac i unrhyw un arall sydd am wybod sut mae'r Comisiwn a'r Senedd yma yn mynd ati i ddiffinio nwyddau a gwasanaethau sydd yn tarddu o Gymru.

15:15
4. Cwestiynau Amserol

Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol. Galwaf ar Jack Sargeant.

Y Cap Prisiau Ynni

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith cap prisiau newydd Ofgem ar drigolion yng Nghymru? TQ732

Diolch, Jack Sargeant. Ni fydd deiliaid tai Cymru yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y cap ar brisiau oherwydd y warant pris ynni, sydd wedi'i gosod ar £2,500 ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym yn pryderu'n fawr am yr effaith bosibl a fyddai'n deillio o Lywodraeth y DU yn codi'r warant pris ynni i £3,000 ym mis Ebrill ar aelwydydd Cymru os na fydd cymorth ehangach Llywodraeth y DU yn parhau.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw? Er y gostyngiad yn y cap ar brisiau ynni, rwy'n rhannu'ch pryderon am filiau ynni a'r ffaith bod disgwyl iddynt godi £500 ym mis Ebrill. Disgrifiodd Martin Lewis ei hun y cynnydd fel

'gweithred o niwed iechyd meddwl cenedlaethol'.

Wrth gwrs, mae Ofgem wedi cyhoeddi adolygiad marchnad i ymddygiad cyflenwyr, ond Lywydd dros dro, rwyf am gofnodi heddiw nad oes gennyf hyder yn yr adolygiad hwnnw. Mae Ofgem wedi treulio misoedd yn anwybyddu tystiolaeth ysgubol sy'n dangos bod cyflenwyr yn gorfodi pobl fregus i fod ar fesuryddion rhagdalu.

Mae arolwg a gynhaliwyd gan fy swyddfa yn datgelu enghreifftiau o ba mor eithafol yw'r broblem honno. Roedd un ymatebwr anhysbys yn manylu ar sut maent angen mynediad cyson at drydan ar gyfer dyfeisiau meddygol, ond eto maent ar fesurydd rhagdalu. Roedd un arall yn gyn-filwr a gafodd anafiadau wrth wasanaethu ei wlad ac mae bellach yn dioddef anhwylder straen wedi trawma ac fe'i gorfodwyd gan y cyflenwyr ynni hyn i fod ar fesurydd rhagdalu. Lywydd, roedd gan drydydd ymatebwr nam ar eu mesurydd rhagdalu. Pan wnaethant ffonio eu cyflenwr ynni, roedd yn rhaid iddynt ddal ar y lein am dros awr. Pan gawsant gyfle o'r diwedd i ofyn i gynghorydd beth oedd yn digwydd, fe wnaethant esbonio bod eu mab chwech oed yn amlwg wedi cynhyrfu, fe wnaethant esbonio eu bod yn eistedd yn y tywyllwch, ac fe wnaeth y cynghorydd ar ben arall y ffôn ar ran y cyflenwr ynni chwerthin. Rwy'n dweud yn glir yn y Siambr hon nawr nad yw'r rhain yn bethau i chwerthin yn eu cylch—bywydau pobl yw'r rhain, ac mae'n fater o fywyd a marwolaeth.

Weinidog, mae'r rhain yn bobl fregus, pobl fregus na ddylai fod ar fesuryddion rhagdalu yn y lle cyntaf. A gaf fi ofyn i chi, Weinidog, am eich barn ar adolygiad Ofgem i ymddygiad cyflenwyr ynni? A gaf fi ofyn hefyd i chi gyfarfod â mi i drafod canfyddiadau fy arolwg ymhellach, i anfon y neges gyson honno at Lywodraeth y DU fod rhaid iddynt fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau y mae'r sgandal hon wedi'u hachosi?

Diolch yn fawr, Jack Sargeant. Diolch am godi'r cwestiwn amserol hwn ac am godi'r materion hyn yn gyson dros y misoedd diwethaf, a'r blynyddoedd diwethaf yn wir, ynglŷn â thrafferthion pobl mewn tlodi tanwydd, a orfodwyd nawr, yn fwy diweddar, i fod ar fesuryddion rhagdalu heb ganiatâd—sy'n ymddygiad dychrynllyd gan gyflenwyr. Rwyf am ddweud y byddaf yn cyfarfod â chi. Rwyf am gyfarfod â chi i glywed mwy am eich arolwg. Fe rannaf yr arolwg hwnnw, ac fe godaf y materion hyn gydag Ofgem. Cyfarfûm ag Ofgem ddoe ac fe gyfarfûm â bwrdd Ofgem ym mis Chwefror. 

Rwy'n cydnabod hefyd, pan fydd pobl fel Martin Lewis yn ei ddisgrifio fel hyn, y cynnydd posibl—. Rwyf wedi bod yn galw drwy'r prynhawn, onid wyf, ar Lywodraeth y DU i beidio â gwneud y codiad o £500. Galwaf arnynt eto i beidio â gwneud y codiad o £500 i'r warant pris ynni. Pwysais ar Ofgem pan gyfarfûm â hwy ddoe ynghylch yr aelwydydd mwyaf bregus. Dyma'r rhai sydd ar fesuryddion rhagdalu a'r rhai sydd wedi cael eu gorfodi i fod ar fesuryddion rhagdalu. Pwysais arnynt ynglŷn â'u pwerau rheoleiddio—a oeddent yn ddigon cryf, a ydynt yn eu defnyddio. 

Ar yr adolygiad o Nwy Prydain, y gofynnais iddynt yn benodol amdano, fe wnaethant ddweud wrthyf fod ganddynt archwilydd annibynnol yn edrych ar gyhoeddi gwarantau ar gyfer mesuryddion rhagdalu, a hefyd, wrth gwrs, y newid o bell i fod ar fesuryddion rhagdalu clyfar sy'n digwydd i gwsmeriaid. Gofynnais iddynt am gyflenwyr eraill: 'Dylech allu dweud o warantau llys—a oes cyflenwyr eraill?' Fe wnaethant ddweud wrthyf eu bod yn cynnal adolygiad o 15 cyflenwr arall i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r rheoliadau. Yn amlwg, byddaf yn mynd yn ôl atynt i gael canlyniadau'r adolygiadau hyn. 

Hefyd, fe wneuthum y pwynt ddoe pan gyfarfûm â hwy fod ganddynt yr hyn roeddent yn ei alw'n waharddiad gwirfoddol wedi ei gytuno er mwyn atal gwarantau i osod mesuryddion rhagdalu yn orfodol tan ddiwedd mis Mawrth. Dywedais fod yn rhaid ymestyn hyn. Galwais am ei ymestyn hyd nes y ceir canlyniad eu hymchwiliadau i Nwy Prydain a'r 15 cyflenwr arall. Galwais am ei ymestyn cyhyd ag sy'n angenrheidiol.

Diolch eto am godi'r materion hyn. Wrth gwrs, fe godais nifer o bwyntiau eraill pan gyfarfûm â hwy ddoe. Galwais am weithredu ac am gynnydd ar y tariff cymdeithasol, ond hefyd, eto, i fynd yn ôl i'r pwynt hwn: 'Os nad oes gennych y pwerau, rydym am wybod.' Fe gefnogwn ymestyn pwerau, yn enwedig o gwmpas y materion sy'n ymwneud â diogelwch rhag datgysylltu, sydd, wrth gwrs, yn ôl y gyfraith yn rhywbeth na allwch ei wneud yn y diwydiant dŵr.

15:20

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae'r cwestiwn a gyflwynwyd yn ymwneud â chap prisiau Ofgem, ac er ei fod yn newyddion da fod y rheoleiddiwr ynni, Ofgem, wedi cyhoeddi y bydd ei gap ar brisiau'n gostwng bron i £1,000 o fis Ebrill ymlaen yn sgil gostyngiad mewn prisiau cyfanwerthol, mae disgwyl y bydd gwarant pris ynni Llywodraeth y DU yn cynyddu, fel y nodoch chi, o £2,500 i £3,000 y flwyddyn o'r un mis. Mae National Energy Action yn amcangyfrif y byddai 1.5 miliwn o aelwydydd yn y DU yn llithro i dlodi tanwydd o ganlyniad i hynny. Bydd cartrefi yng Nghymru yn cael eu taro'n arbennig o galed, o ystyried mai Cymru sydd â'r lefel ffyniant y pen isaf, y cyflogau isaf, y lefelau cyflogaeth isaf a'r tlodi plant uchaf yn y DU, ar ôl 24 mlynedd o Lywodraeth Cymru Lafur, meiddiaf ddweud. Fodd bynnag, dywedodd Gweinidog ynni'r DU, Grant Shapps, ddoe:

'Rwy'n cydnabod yn llwyr y ddadl dros gadw'r warant pris yn ei le, ac mae'r Canghellor a minnau'n gweithio'n galed iawn arno. Rwy'n gefnogol i wneud yn siŵr ein bod yn diogelu pobl. Rydym yn edrych ar hyn yn ofalus iawn.'

Gwn eich bod wedi cyfeirio at y datganiad hwnnw eich hun yn eich atebion yn gynharach heddiw. Yn y cyd-destun hwnnw, pa ymgysylltiad adeiladol rydych chi'n ei gael gyda Llywodraeth y DU yn unol â hynny?

Diolch, Mark Isherwood. O'r hyn rydych yn ei ddweud, rwy'n credu eich bod chi hefyd yn cefnogi'r alwad na ddylai Llywodraeth y DU gynyddu'r warant i £3,000. Ddoe, dywedodd Grant Shapps, Ysgrifennydd diogelwch ynni Llywodraeth y DU, ei fod yn cydymdeimlo â galwadau i ganslo'r cynnydd. Wrth gwrs, nid yw cydymdeimlad yn ddigon. Rhaid iddo ef a'r Canghellor weithredu nawr i amddiffyn y rhai mwyaf bregus yng Nghymru ac ar draws y DU.

Rwyf am ddweud hefyd fy mod i a fy nghyd-Aelodau Julie James a Vaughan Gething wedi ysgrifennu at Grant Shapps heddiw ynglŷn ag ystod o faterion, gan gynnwys, rhaid imi ddweud, y ddarpariaeth annomestig, yn ogystal â'r ddarpariaeth ddomestig, anghenion cyllid, a phontio mwy hirdymor mewn perthynas â'n holl gyfrifoldebau portffolio. Ond rwy'n credu bod rhaid inni gydnabod bod hwn yn gyfnod pan allwn uno ar draws y Siambr hon i ddweud ein bod yn galw ar Lywodraeth y DU i beidio â gwneud y codiad i £3,000. Gallant ei fforddio, a gadewch inni weld rhywfaint o weithredu nawr.

Weinidog, rŷn ni ar y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi clywed tystiolaeth hynod ddifrifol am ddyfnder dyled pobl yng Nghymru a bod costau ynni yn waelodol i hynny. Rwyf i wedi codi gyda chi o'r blaen y diffyg cynnydd tuag at gyflawni targedau tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru. Y targed oedd 5 y cant o aelwydydd Cymru ar y mwyaf yn byw mewn tlodi tanwydd erbyn 2035, tra bod 45 y cant o aelwydydd ar hyn o bryd yn byw mewn tlodi tanwydd. Tra bod prisiau cyfanwerthu yn dechrau syrthio, mae biliau aelwydydd yn mynd i godi o fis Ebrill os yw'r Llywodraeth yn San Steffan yn bwrw ymlaen â'r codiad yma yn y gwarant pris ynni, a beth bynnag, fe fydd biliau dal yn sylweddol uwch nag yr oedden nhw'n hanesyddol. Weinidog, ydych chi'n cytuno felly fod angen cyflymu gwella effeithlonrwydd ynni aelwydydd drwy raglen Cartrefi Clyd? Achos mae'n aneglur o'r hun rwyf i wedi ei glywed gynnych chi a'r Gweinidog Newid Hinsawdd a fydd y cynllun newydd fydd yn cael ei arwain gan alw yn weithredol cyn diwedd y flwyddyn. A wnewch chi roi ateb clir ar hynny i ni heddiw?

Diolch yn fawr iawn. Roeddwn yn falch iawn fod hyn yn destun craffu ac ymchwilio ddydd Llun gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. A gaf fi gadarnhau eto na fydd unrhyw fwlch wrth bontio o un i'r llall o ran y rhaglen Cartrefi Clyd? Ac a gaf fi ddiolch hefyd am eich cefnogaeth i'r galwadau rydym wedi bod yn eu gwneud, ac rwy'n gwybod eich bod wedi eu cefnogi hefyd, a chydnabod effaith niweidiol y cynnydd yn y warant pris ynni o £2,500 i £3,000?

Rwyf am wneud sylw ar eich pwynt am y rhaglen Cartrefi Clyd, oherwydd eto, fel y dywedais yn gynharach heddiw, mae'r rhaglen Cartrefi Clyd yn cynnwys y cynllun Nyth sy'n cael ei arwain gan y galw. Bydd hwnnw'n parhau tan fis Medi eleni. Daeth y cynllun ar sail ardal, Arbed, i ben, wrth gwrs, fel y gwyddoch, ym mis Tachwedd 2021, ond mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi cynyddu £3 miliwn yn 2022-23 i £30 miliwn. Daeth yr ymgynghoriad i ben gyda rhaglen Cartrefi Clyd, ac mae bellach yn symud yn ei blaen. Ac wrth gwrs, fe wnaeth y Gweinidog Newid Hinsawdd, sy'n gyfrifol am hyn fel y Gweinidog arweiniol, y datganiad ar 8 Tachwedd ynglŷn â sut yr awn i'r afael â'r heriau neu'r cyfleoedd i ymateb i'r argyfwng hinsawdd, ond sut mae'n effeithio ar bob math o ddeiliadaeth tai. Felly, rwy'n rhoi sicrwydd i chi ynglŷn â'r ffordd ymlaen i'r rhaglen Cartrefi Clyd, a hefyd yn eich sicrhau ynglŷn â'r cyllid sy'n cael ei ddarparu y flwyddyn nesaf.

15:25

Rwyf am ein hatgoffa i gyd fod pob un cartref sydd â mesurydd 'talu wrth fynd' eisoes wedi derbyn £400 gan Lywodraeth y DU i'r cyfrif sydd ganddynt gyda'r cwmnïau ynni, er ei bod yn gyfran lawer iawn llai o'r aelwydydd llawer mwy bregus at ei gilydd sydd ar fesuryddion rhagdalu ac sydd wedi derbyn naill ai taleb Llywodraeth y DU neu daleb Llywodraeth Cymru tuag at eu costau gwresogi. Yn eich trafodaethau gydag Ofgem, a oes modd i chi ofyn pam na ellir gwneud y cwmnïau ynni, sydd i gyd yn gwybod yn union ble mae'r holl gwsmeriaid rhagdalu hyn a llawer ohonynt yn gwneud pentwr o arian oherwydd y cynnydd mewn prisiau nwy, yn gyfrifol am roi cymorth i gwsmeriaid ar fesuryddion rhagdalu gyda'u costau ynni drytach, yn hytrach na'i adael i fympwyon y gwasanaeth post, yr heriau symudedd ac anghenion iechyd meddwl ein dinasyddion mwyaf bregus? Mae hyn yn gwbl annerbyniol, ac mae angen i Ofgem gamu i'r adwy neu gael eu disodli.

Diolch yn fawr, Jenny Rathbone. Ar y cwestiwn hwnnw, rwyf wedi cyfarfod â chyflenwyr ynni ar sawl achlysur, fel y gwyddoch. Rwyf wedi codi'r mater hwn ynglŷn â ffyrdd y mae angen iddynt estyn allan i sicrhau bod y talebau hynny'n cyrraedd y rhai sydd ar fesuryddion rhagdalu. Hynny yw, cafodd pawb arall eu £400, ac nid oedd y rhai mwyaf bregus yn cael eu £400. Cefais sicrwydd eu bod yn mynd i gael eu hailddosbarthu, eu bod yn rhoi cynnig ar bob dull arall—os nad drwy'r post neu wasanaeth danfon, yn sicr drwy gyswllt digidol, os na fu hynny'n llwyddiannus. Gofynnais am y nifer diweddaraf sy'n cael y taliad hwnnw; cefais wybod gan Lywodraeth y DU ei fod bellach yn 71 y cant, ond beth am y 29 y cant hwnnw sydd heb ei gael? Rwyf wedi galw arnynt i gael eu hailddosbarthu nes eu bod yn cael gwell niferoedd. Mae'n achubiaeth i aelwydydd bregus ar adeg, wrth gwrs, pan fo'r rhai sydd ar fesuryddion rhagdalu yn fwy bregus na neb.

Diolch i’r Gweinidog. Mae’r cwestiwn nesaf i’w ateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac i’w ofyn gan Adam Price.

Y Cynnig Cyflog i Weithwyr y GIG

2. A wnaiff y Gweinidog roi datganiad yn sgil RCN Cymru yn gwrthod cynnig cyflog ychwanegol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23? TQ734

Fe gyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ddoe i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, yn dilyn cyfarfod gyda fy swyddogion ac undebau llafur brynhawn ddoe. Rwy'n falch fod fforwm partneriaeth Cymru gyda'i gilydd, o drwch blewyn, wedi derbyn y cynnig cyflog uwch a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23.

Ydy'r Gweinidog yn derbyn bod y ffaith bod dros 80 y cant o aelodau’r RCN wnaeth gymryd rhan yn y bleidlais ar y cynnig yma wedi pleidleisio i’w wrthod yn dangos yr argyfwng morâl, mewn gwirionedd, sydd yn y proffesiwn nyrsio ar hyn o bryd? Ac wrth gwrs, nid dyna'r unig fesurydd, a dweud y gwir. Mae gyda ni'r cynnig sydd wedi cael ei weld yn niferoedd y swyddi gwag, mae gyda ni'r cynnydd yn lefelau salwch o fewn gweithlu'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol, mae gyda ni nifer cynyddol yn gadael, a'r nifer yn gostwng sy'n ceisio ar gyfer cyrsiau nyrsio, ac yn y blaen.

Ydy'r Llywodraeth yn fodlon edrych unwaith eto, ar yr unfed awr ar ddeg yma, ar ddefnyddio'r pwerau sydd gyda chi, o leiaf ar gyfer treth incwm, yn y bandiau uwch ac ychwanegol, er mwyn cynnig gwell setliad ar gyfer y nyrsys? Gaf i ofyn i'r Gweinidog hefyd: roeddech chi'n sôn am y fforwm partneriaeth, ac mi roedd mwyafrif wedi pleidleisio o blaid y cynnig; ydych chi'n gallu dweud, ar wahân i'r RCN, pa undebau eraill o fewn y gwasanaeth iechyd sydd dal mewn anghydfod cyflog gyda'r Llywodraeth ar hyn o bryd? Ac ydych chi'n cynnig nawr, drwy'r datganiad roeddech chi'n cyfeirio ato fe, gorfodi'r codiad cyflog, ei weithredu fe i bawb, neu dim ond ar gyfer yr undebau sydd wedi derbyn y codiad? Allwch chi hefyd ein diweddaru ni ynglŷn â'r elfennau heblaw cyflog y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw yn y datganiad ysgrifenedig ar 8 Chwefror? Oes yna gynnydd wedi bod o ran yr elfennau hynny o'r pecyn roeddech chi wedi eu trafod? Ac, a gaf i ofyn yn derfynol, mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, o edrych at y flwyddyn nesaf, wedi dweud wrth y corff adolygu cyflogau, y byddai 3.5 y cant o godiad cyflog y flwyddyn nesaf yn fforddiadwy, ac y byddai unrhyw beth dros 5 y cant yn anfforddiadwy. Ydych chi fel Llywodraeth Cymru'n cydsynio â'r hyn y mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi ei ddweud wrth y corff adolygu cyflogau, ac, os nad ydych chi, ydych chi hefyd yn bwriadu cynnig tystiolaeth ychwanegol i'r hyn dŷch chi eisoes wedi ei wneud i'r corff hynny?

15:30

Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cydnabod, er bod hon nawr yn sefyllfa lle mae'r undebau ar y cyd wedi cytuno i dderbyn y cynnig, dŷn ni'n deall bod y cynnig dim ond wedi cael ei dderbyn gan un bleidlais, a dŷn ni hefyd yn deall bod yna lot o bobl yn yr undebau yn dal i fod yn flin ynglŷn â'r sefyllfa. A dyna pam nawr, yn ystod yr wythnos nesaf, y byddwn ni'n ail-drafod â'r undebau ynglŷn â sut y byddwn ni'n gwneud yr implementation o'r arian yma, sydd nawr wedi cael ei gytuno. A beth y gallaf i ei ddweud wrthych chi yw bod pob un aelod o'r undebau yn hapus iawn i gario ymlaen â'r trafodaethau, a dyna y byddwn ni'n ei wneud yn ystod y dyddiau nesaf.

Jest o ran beth sy'n digwydd nesaf—ydyn ni'n mynd i godi treth incwm yn y bandiau uwch? Nac ydyn. Dŷn ni wedi egluro'n glir, os dŷn ni'n codi 1c yn y £1 i'r bobl sydd yn talu mwy na £150,000 y flwyddyn, fe godwn ni £3 miliwn. Os dŷn ni'n codi 1c yn y £1 i'r bobl sy'n talu'r higher rate, byddwn ni'n codi £33 miliwn. Dyw hwnna ddim yn ddigon o arian, hyd yn oed i gyfro 1 y cant o beth sydd ei angen, felly, fyddwn ni ddim yn mynd lawr y trywydd yna. Beth dŷn ni yn ei ddeall yw bod hawl gyda'r undebau i barhau â'u streics nhw—hynny yw, bod yr individual undebau yn gallu gwneud penderfyniadau, ond dŷn ni yn gobeithio, wrth gwrs, yn y trafodaethau, y byddwn ni'n parhau i sicrhau bod yna lygedyn o obaith i ni i'w weld, os y gallwn ni wneud rhywbeth ymhellach i weld y streics yma'n cael eu galw ymaith. Yn amlwg, dŷn ni mewn sefyllfa lle mae'r anghydfod yn dal i fod yn bresennol, a dyna pam y byddwn ni yn parhau i drafod. 

O ran yr elfennau heblaw cyflog, does dim byd ychwanegol wedi cael ei roi ar y bwrdd, ond, yn amlwg, mi fyddwn ni'n trafod yn ystod y dyddiau nesaf yr implementation o'r hyn sydd wedi cael ei gytuno.

Jest o ran yr independent pay review board, rŷn ni wedi roi tystiolaeth i'r bwrdd yna. Gwnaethon ni ddim rhoi swm ynglŷn â faint fyddai'n fforddiadwy, ac mi wnaethon ni danlinellu'r ffaith bod pobl wedi bod yn dioddef o chwyddiant, a thanlinellu'r ffaith bod yr argyfwng costau byw yn cael effaith ar bobl. Ond, hefyd, wrth gwrs, mae'n bwysig ein bod ni'n tanlinellu’r ffaith bod cyllideb y flwyddyn nesaf yn dynn tu hwnt pan fo'n dod i iechyd. 

15:35

A gaf fi ddiolch am eich atebion, Weinidog? Un peth yr hoffwn geisio ei ddeall yw eich bod wedi siarad am drafodaethau pellach dros yr wythnosau i ddod, a hoffwn ddeall beth yw'r cynllun nawr yn y trafodaethau hynny y cyfeirioch chi atynt. Credaf eich bod newydd ddweud yn eich ateb i Adam Price y gallwch edrych ar beth arall y mae angen i chi ei wneud, a bydd ymgysylltu a thrafodaethau pellach yn mynd rhagddynt, ond rydych hefyd wedi dweud mai’r cynnig cyflog diwethaf oedd yr olaf. Felly, rwy'n ceisio deall. Ymddengys bod hynny'n groesosodiad—efallai nad ydyw—ond rwy'n ceisio deall beth sydd y tu ôl i hynny. Ac efallai y gallwch esbonio pwy sy'n gyfrifol am agor y trafodaethau pellach hynny gyda'r undebau, a'r Coleg Nyrsio Brenhinol hefyd.

Ac a gaf fi ofyn: a ydych yn teimlo bod y Coleg Nyrsio Brenhinol—? Rydych yn amlwg wedi cael trafodaethau cynhyrchiol gyda rhai o'r undebau, ond o'r partïon hynny na dderbyniodd y cynnig, gan gynnwys y Coleg Nyrsio Brenhinol, a ydych chi'n credu, mewn rhyw ffordd, eu bod wedi bod yn afresymol i wrthod y cynnig? Rwyf bob amser wedi cael perthynas dda gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol, ond rwy'n ceisio deall a ydych chi'n credu bod y Coleg Nyrsio Brenhinol wedi bod yn afresymol, a beth yw eich perthynas, am wn i, gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol a'r partïon eraill na dderbyniodd y cynnig a roesoch iddynt o ganlyniad i’ch datganiad ddoe.

Diolch, Russell. Yn amlwg, rydym bob amser yn awyddus, yn Llywodraeth Lafur Cymru, i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, a byddwn yn awgrymu bod gennym berthynas dda iawn ac adeiladol gyda phob un o’r undebau. Yn amlwg, mae yna adegau pan ydym yn anghytuno ar agweddau ar fanylion, ac rydym yn cydnabod bod yna ymdeimlad gwirioneddol o annhegwch ar hyn o bryd. Dyna pam ein bod yn dymuno sicrhau ein bod yn parhau â’r trafodaethau hynny, gan edrych ar sut y byddwn yn gweithredu'r hyn sydd bellach yn rhywbeth y cytunwyd arno. Yr hyn na fyddaf yn ei wneud yw rhoi sylwebaeth barhaus ar beth yn union fydd yn digwydd yn y trafodaethau hynny.

Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw mai’r ffordd y mae’r system yn gweithio yw bod yna oddeutu 15 o undebau llafur iechyd cydnabyddedig, ac o ran y ffordd y cynhaliwyd y bleidlais, mae gan yr undebau hynny bleidlais sy’n gymesur â maint yr aelodaeth. A dyna pam eu bod wedi cyrraedd sefyllfa ble cafodd y cynnig ei dderbyn o un bleidlais. Ac yn amlwg, rydym yn falch ei fod wedi'i dderbyn, a chredaf ei bod yn bwysig eich bod yn gofyn i'r undebau llafur eu hunain a ydynt am ddatgelu pwy a wnaeth beth. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych, er enghraifft, yw bod y ffisiotherapyddion wedi derbyn y cynnig, a'u bod wedi dweud na fyddant yn streicio. Gwrthododd Coleg Brenhinol y Bydwragedd y cynnig, ond byddant yn anrhydeddu’r cytundeb, ac maent wedi dweud na fyddant yn streicio.

Felly, mae pobl yn ymateb yn wahanol. Dyna pam mai'r hyn y mae angen i ni ei wneud nawr, yn y dyddiau nesaf, yw eistedd i lawr a gweld beth arall sydd angen i ni ei wneud yn y gofod hwn i weld a allwn wneud unrhyw beth arall i osgoi streiciau yn y dyfodol.

5. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch i'r Gweinidog am yr atebion. Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad cyntaf heddiw gan Jenny Rathbone. 

Diolch yn fawr, Llywydd. Deallaf fod ein nawddsant, Dewi Sant, wedi dweud wrth filwyr Cymru am wisgo cenhinen ar eu helmedau fel y gallent wahaniaethu mewn brwydr rhwng eu cyd-Gymry a’r Sacsoniaid a oedd yn gwisgo arfwisgoedd tebyg. Awgryma hyn fod yn rhaid bod yna lawer mwy o gennin yn y ganrif gyntaf na sydd yn yr unfed ganrif ar hugain, os oeddent yn cael eu defnyddio fel addurniadau yn hytrach na bwyd.

Tra bo un o'r archfarchnadoedd yr ymwelais â hwy nos Lun wedi rhedeg allan o gennin, roedd cennin ar gael yn y ddwy arall. Ond roedd yr un a brynais yn yr archfarchnad, a'r llall gan fy ngwerthwr ffrwythau a llysiau lleol, wedi eu tyfu yn swydd Lincoln. Serch hynny, mae cynnydd wedi bod gyda thyfu’r llysiau Cymreig eiconig hyn yng Nghymru ers imi godi’r mater yn y Siambr ar Ddydd Gŵyl Dewi y llynedd. Er enghraifft, yn Morrisons, sy'n gwerthu cennin Blas y Tir a chennin swydd Lincoln ar hyn o bryd, o fis Gorffennaf eleni, bydd cennin Cymreig ar gael yn lle cennin swydd Lincoln ym mhob un o siopau Morrisons yng Nghymru. Ac fel llawer o archfarchnadoedd eraill, maent yn hyrwyddo cennin Cymreig a chynnyrch lleol arall, gan gynnwys cennin Pedr Cymreig, fel rhan o’u dathliadau Dydd Gŵyl Dewi.

Mae Puffin Produce a'u brand Blas y Tir yn parhau i arwain y farchnad gennin a llawer o lysiau eraill yng Nghymru, a byddant yn ehangu eu cynhyrchiant cennin o 1,600 tunnell y tymor hwn i 2,600 tunnell y tymor nesaf—byddant yn cael eu plannu yn y deufis nesaf. Nawr, mae’r datblygiad hwn, sydd i’w groesawu’n fawr, wedi'i gefnogi gan fuddsoddiad cyfalaf o £1.2 miliwn mewn cyfleusterau golchi a phacio cennin o’r radd flaenaf, gyda chynllun grant buddsoddi mewn busnesau bwyd Llywodraeth Cymru yn talu am 40 y cant ohono—

15:40

Er cymaint rwyf wedi fy swyno—[Chwerthin.]—gan y gwaith prosesu cennin newydd, datganiad 90 eiliad yw hwn.

Iawn. Rwyf am gloi drwy ddweud bod gennym bellach statws dynodiad daearyddol gwarchodedig ar gyfer cennin Cymreig ers mis Tachwedd diwethaf, felly mae llawer i'w ddathlu am y genhinen Gymreig.

Ac rwy’n siŵr y byddwch yn parhau â’ch ymgyrchu dros gennin Cymreig i’r dyfodol. Diolch, Jenny Rathbone, am eich achos. Sarah Murphy.

Diolch, Lywydd. Dydd Llun oedd dechrau Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta, amser i bwysleisio nad yw anhwylderau bwyta’n ymwneud â bwyd yn unig, ond â theimladau. Y thema eleni yw cydnabod a chodi ymwybyddiaeth fod dynion yn dioddef anhwylderau bwyta hefyd, gan i arolwg gan elusen Beat ganfod nad oedd un o bob tri erioed wedi cael triniaeth ac nad oedd un o bob pump erioed wedi siarad am eu trafferthion. Felly, hoffwn ofyn i fy holl gyd-Aelodau a phobl sy'n gwylio ymweld â gwefan Beat i ddarllen eu straeon ac i helpu dynion i gael cymorth hefyd. Bydd y grŵp trawsbleidiol ar gyfer anhwylderau bwyta yn cael ei ailsefydlu yr wythnos hon i drafod hyn a llawer o faterion eraill. Hoffwn ddiolch i Bethan Sayed, y cadeirydd blaenorol, yn ogystal â Jo Whitfield ac Amelia Holt o Beat, sydd wedi bod yn ysgrifenyddion rhagorol.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi estyn allan ers imi siarad yn y Senedd am fy mhrofiad fy hun gydag anhwylder bwyta, boed hynny drwy gynnig cefnogaeth neu rannu eu stori eu hunain, gan gynnwys Georgia Taylor o Ben-y-bont ar Ogwr, sy'n gweithio gyda mi nawr i rannu ein profiadau, fel y gall eraill ddeall a theimlo'n llai unig. Nid yw anhwylder bwyta byth yn fai ar y sawl sy’n ei ddioddef, ac mae unrhyw un sydd ag anhwylder bwyta yn haeddu cymorth tosturiol cyflym i’w helpu i wella, oherwydd fe allwn wella. Diolch.

6. Dadl Plaid Cymru: Cysylltiadau diwydiannol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Lesley Griffiths. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Yr eitem nesaf felly yw dadl Plaid Cymru ar gysylltiadau diwydiannol. Dwi'n galw ar Luke Fletcher i wneud y cynnig yma. Luke Fletcher. 

Cynnig NDM8210 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn mynegi undod â gweithwyr y sector cyhoeddus ledled Cymru sy'n gweithredu'n ddiwydiannol mewn ymateb i flynyddoedd o doriadau tymor real i'w cyflog.

2. Yn credu bod gallu gweithwyr i fynd ar streic i wella eu cyflog ac amodau yn hawl ddemocrataidd sylfaenol.

3. Yn credu bod Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) Llywodraeth y DU yn ymosodiad uniongyrchol ar bobl sy'n gweithio a'r undebau llafur y maent yn trefnu o fewn iddynt.

4. Yn gresynu at y ffaith y byddai'r Bil yn rhoi pŵer gorfodol sylweddol i Lywodraeth y DU gwtogi ar allu undebau llafur a gweithwyr i gymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol cyfreithlon.

5. Yn gresynu at y ffaith bod y Bil hefyd yn gwrthdaro ag amcanion y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus, yn enwedig ymrwymiad gwneud Cymru'n genedl gwaith teg.

6. Yn cefnogi pob undeb llafur ac holl weithwyr y sector cyhoeddus yn eu hymdrechion i wrthsefyll y Bil.

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i agor trafodaethau ynghylch datganoli cyfraith cyflogaeth er mwyn sicrhau hawliau cyfunol a phwerau bargeinio gweithwyr yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Gadewch inni fod yn glir, o’r cychwyn cyntaf, nad yw Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) Llywodraeth y DU yn ddim mwy nag ymosodiad ar bobl ddosbarth gweithiol, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU. Ymgais lem, ffasgaidd i erydu hawliau sylfaenol gweithwyr a’r undebau llafur sy’n eu cynrychioli, a gŵyr pob un ohonom pam fod hyn yn digwydd.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae gweithwyr ym mhob sector wedi gwrthod gwleidyddiaeth cyni, wedi gwrthod cyflogau nad ydynt yn codi a thoriadau mewn termau real i gyflogau, wedi gwrthod ymosodiadau ar amodau gwaith ac wedi gwrthod y syniad fod pethau cystal ag y gallant fod. A chan fod cymaint o ofn hynny arnynt, mae'r rhai sydd ar y brig, gyda chymorth eu partneriaid parod yn y blaid Dorïaidd, bellach yn ceisio ein rhoi yn ôl yn ein lle. Wel, pob lwc, gan fod undod y dosbarth gweithiol yn ei ôl, ac mae gennym lawer o waith dal i fyny i'w wneud. Yn wyneb brwydr gyffredin, mae gweithwyr ledled y wlad yn gwrthod cael eu rhannu yn ôl eu cefndiroedd, eu swyddi, eu hedrychiad, ac mae'n rhaid i ni, fel Senedd, chwarae ein rhan i gryfhau'r frwydr honno ac i rymuso gweithwyr yn erbyn gormes y Torïaid. Nid oes unrhyw weithiwr, unrhyw unigolyn yn haeddu gorfod defnyddio banc bwyd, yn haeddu gorfod meddwl am bob punt a cheiniog i benderfynu a allant fforddio gwresogi eu cartrefi tra bo cwmnïau'n gwneud elw ar raddfa anferthol.

Ond cyn inni drafod goblygiadau’r Bil a sut y dylem ymateb iddo yma yng Nghymru, mae’n werth atgoffa ein hunain o’r amgylchiadau sydd wedi arwain at hyn. Mae hyn yn dilyn un argyfwng ar ôl y llall: chwalfa ariannol 2008, yna'r cyni a'i dilynodd, yna'r pandemig, a nawr yr argyfwng costau byw. Rydym yng nghanol storm berffaith o brisiau ynni cynyddol, chwyddiant uchel a thon newydd o gyni Torïaidd sy’n pwyo ein cyllid cyhoeddus.

Yn y cyfamser, mae gweithlu’r sector cyhoeddus wedi gorfod ymdopi â dros ddegawd o gyflogau cyfyngedig, gyda chyflogau cyfartalog y sector cyhoeddus yng Nghymru 4 y cant yn is mewn termau real o gymharu â 2010. Mewn rhai proffesiynau, megis nyrsio ac addysgu, mae’r darlun hyd yn oed yn fwy enbyd—mae cyflogau nyrsys wedi gostwng o leiaf 20 y cant mewn termau real ers 2010; mae cyflogau athrawon wedi gostwng 23 y cant ers 2010, ochr yn ochr â thoriad syfrdanol o 27 y cant i staff cymorth.

Nawr, gan droi at y Bil a’i oblygiadau, mae’r Bil yn rhoi’r pŵer i Weinidogion y DU a chyflogwyr orfodi gweithwyr mewn chwe sector i weithio yn ystod streic. Drwy’r system hysbysiadau gwaith newydd, gall cyflogwyr ddiswyddo gweithwyr sy’n gwrthod cydymffurfio â’r gorchymyn i weithio yn ystod streic, gan osgoi'r hawliau statudol yn erbyn diswyddo annheg sydd wedi’u hymgorffori yn Neddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992. Mae hefyd yn ei gwneud yn orfodol i undebau orfodi’r hysbysiadau gwaith hyn i dorri streiciau, gan eu gwneud yn agored i hyd at £1 filiwn o golledion os na allant orfodi cydymffurfiaeth ymhlith eu haelodau. Mae hyn yn codi’r posibilrwydd gwirioneddol y gallai undebau llafur gael eu herlyn hyd at fethdaliad, rhywbeth nad yw wedi digwydd ers 1906.

Mae erthygl 8 o’r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol 1966, a lofnodwyd gan y DU, yn cadarnhau hawl pawb i ffurfio undebau llafur ac i ymuno ag undeb llafur o’u dewis. Mae hefyd yn cadarnhau hawl undebau llafur i weithredu'n rhydd. Fel y mae nifer o gynrychiolwyr undebau ac arbenigwyr cyfraith cyflogaeth wedi nodi, mae’r Bil gwrth-streiciau yn mynd yn gwbl groes i’r hawliau sylfaenol hyn. I ddyfynnu datganiad diweddar gan Gydffederasiwn Undebau Llafur Ewrop, byddai'n gwthio’r DU

'hyd yn oed ymhellach y tu hwnt i'r brif ffrwd ddemocrataidd'

ar hawliau llafur.

Wrth gwrs, nid yw’r Bil hwn ond y diweddaraf mewn cyfres hir o ddeddfau gan y Torïaid i danseilio hawliau gweithwyr. Roedd Deddf Cysylltiadau Diwydiannol 1971, a gyflwynwyd gan weinyddiaeth Heath, er enghraifft, yn gwanhau amddiffyniadau gweithwyr ac yn codi rhwystrau newydd yn erbyn cydfargeinio. Fe'i dilynwyd gan gyfres o Ddeddfau Cyflogaeth o dan Lywodraeth hynod wrth-undebol Thatcher, a oedd, ymhlith pethau eraill, yn cyfyngu ar allu undebau i bicedu ac yn gwahardd streiciau undod. Yn fwy diweddar, gosododd Deddf Undebau Llafur 2016 drothwyon uwch ar gyfer trefnu streiciau a gweithredu'n ddiwydiannol, tra bo diddymu’r Rheoliadau Ymddygiad Asiantaethau Cyflogaeth a Busnesau Cyflogaeth y llynedd wedi galluogi cyflogwyr i gyflogi gweithwyr asiantaeth dros dro er mwyn tanseilio streiciau.

Mae effaith hyn oll yn golygu mai'r DU sydd â’r cyfreithiau gwrth-undebol mwyaf gormesol yn Ewrop—pwynt a danlinellir gan y ffaith, er bod 60 y cant o weithwyr yn yr UE yn elwa o gytundebau cydfargeinio, mai dim ond 26 y cant o weithwyr y DU sy'n elwa o gytundebau o'r fath. Mae ffeithiau o’r fath yn amlygu pa mor wag yw rhethreg y Torïaid ar farwniaid undebau gor-rymus a’u hymgais i bortreadu'r Bil hwn fel mesur a fydd yn sicrhau bod y DU yn cydymffurfio â normau Ewropeaidd.

Ond wrth gwrs, mae ein cynnig heddiw'n mynd ymhellach na dangos undod yn unig. Mae ein cynnig yn galw ar y Senedd a’r Llywodraeth hon i gefnogi ac i ymgyrchu dros ddatganoli cyfraith cyflogaeth. Y ffaith syml amdani yw na allwn ddibynnu ar San Steffan i amddiffyn hawliau gweithwyr. Rydych yn disgwyl hynny pan fo'r Llywodraeth yn las, ond yn anffodus, gallech ddweud yr un peth os yw'r Llywodraeth yn goch. Rhwng 1997 a 2010, a wnaeth Blair neu Brown ddiddymu deddfau gwrth-undebol Thatcher? Naddo; mewn gwirionedd, wrth gyflwyno Deddf Cysylltiadau Cyflogaeth 1999, ysgrifennodd Blair yn The Times:

'Byddai'r newidiadau rydym yn eu cynnig yn golygu mai cyfraith Prydain yw'r mwyaf cyfyngol ar undebau llafur yn y byd gorllewinol.'

Nawr, rwy’n cyfaddef bod gennyf fwy o ffydd yn Llywodraeth Cymru i amddiffyn hawliau gweithwyr nag sydd gennyf yn Blair, Brown a Starmer, ond oherwydd y diffyg ffydd hwn, ac oherwydd y ffaith nad yw gwerthoedd Cymreig, mewn perthynas â chysylltiadau diwydiannol, bob amser yn cyd-fynd â rhai San Steffan, dylem fod yn hynod awyddus i ddod â'r pwerau hyn i'r lle hwn. Nawr, roedd gwelliant y Llywodraeth yn wirioneddol siomedig, yn yr ystyr ei fod wedi dileu ein galwad, ond rwy'n gobeithio, yn ystod y ddadl hon, y bydd y Dirprwy Weinidog yn newid ei meddwl.

15:50

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, ac, os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar Joel James i gynnig gwelliant 1. Joel James.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd i ddiwygio'r fframwaith cyfreithiol sy'n llywodraethu gweithredu diwydiannol i sicrhau bod lefelau gwasanaeth gofynnol yn cael eu gosod mewn sectorau allweddol yn ystod cyfnodau o streic.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Lywydd, a chynigiaf y gwelliant hwn yn enw Darren Millar. Mae’n amlwg ei bod yn ymddangos bod y cynnig a gyflwynwyd gan Blaid Cymru wedi cam-gyfleu polisi Llywodraeth y DU ar lefelau gwasanaeth gofynnol yn llwyr drwy honni ei fod yn ymgais gan Lywodraeth y DU i ennill digon o rym gorfodol i gwtogi ar allu undebau llafur a gweithwyr i weithredu'n ddiwydiannol mewn modd cyfreithlon, pan fo'n amlwg nad yw hynny'n wir o gwbl ac nad dyna yw diben y ddeddfwriaeth. Ond eto, Lywydd, mae gan aelodau Plaid Cymru eu sianeli cyfryngau cymdeithasol i feddwl amdanynt.

Mae’r Ceidwadwyr yn credu’n llwyr y dylai fod gan bawb hawl i streicio, ond gyda'r GIG a'r gwasanaeth tân ac achub, nid yw’n iawn na all y rheini y mae taer angen gofal brys arnynt gael ambiwlans neu wasanaeth achub oherwydd streic. Mae’r mesurau a gynigir yn y Bil lefelau gwasanaeth gofynnol wedi’u cynllunio i ddiogelu bywydau ac i sicrhau bod pobl sy’n wynebu bygythiad uniongyrchol i'w bywydau yn cael mynediad cyflym at ofal a thriniaeth. Ac ni allaf ddeall sut y gallai unrhyw un beidio â dymuno i ofal o'r fath gael ei roi. Ar hyn o bryd, mae'r lefelau gwasanaeth gofynnol ar gyfer diogelu bywydau yn cael eu negodi'n unigol gan wahanol wasanaethau ledled y wlad, sy'n arwain at anghysondeb sylweddol. Yng Nghymru, mae’n debygol y bydd yna lefelau gwasanaeth gofynnol gwahanol i Loegr a’r Alban, a bydd deddfu ar lefel ofynnol genedlaethol y cytunwyd arni ymlaen llaw ar draws y Deyrnas Unedig gyfan yn helpu i wella cysondeb.

Rheswm arall, fel y gŵyr llawer yn y Siambr hon yn iawn, yw nad yw’r ddeddfwriaeth bresennol ar wasanaethau sy'n streicio'n ei gwneud yn ofynnol i bobl ddweud a ydynt yn bwriadu streicio ai peidio, sy’n creu sefyllfaoedd lle nad oes gan bobl sy’n trefnu rotâu unrhyw wybodaeth ynghylch pwy fydd ar gael i weithio, gan ei gwneud yn anodd iawn cynllunio hyd yn oed lefelau gwasanaeth gofynnol ar gyfer sifftiau, ac mae'n hanfodol fod y sectorau iechyd, tân ac achub, trafnidiaeth ac addysg yn gallu cynllunio.

Yn fy marn i, nid oes unrhyw beth o'i le ar gyflwyno deddfwriaeth sy'n darparu lefelau gwasanaeth gofynnol yn ystod streiciau fel bod y rhai mwyaf agored i niwed—y rhai sydd mewn perygl lle mae bywyd yn y fantol—yn cael y gwasanaeth sydd ei angen arnynt. Mae’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol, y mae’r TUC yn ei gefnogi, yn argymell lefelau gwasanaeth gofynnol priodol mewn gwasanaethau hanfodol a gwasanaethau nad ydynt yn hanfodol, ac mae deddfwriaeth debyg ar lefelau gwasanaeth gofynnol eisoes yn gyffredin mewn sawl gwlad Ewropeaidd, megis Ffrainc, yr Almaen a’r Eidal.

Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wedi cyhoeddi ei hasesiad effaith o’r Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) ac wedi llunio darlun ffafriol at ei gilydd o’r ddeddfwriaeth hon—

—gan ddod i’r casgliad y byddai’n rhoi hwb i hyder y cyhoedd ynghylch mynediad at wasanaethau hanfodol yn ystod streiciau.

Ewch amdani.

Rydych yn dweud eich bod am inni ddilyn modelau Ffrainc a’r Eidal, ac mae’r fframwaith deddfwriaethol ynghylch cyfreithiau cyflogaeth yn wahanol yno. Nid yn unig fod ganddynt gyfreithiau gwahanol ynghylch streiciau, ond mae ganddynt well cynrychiolaeth i weithwyr ar eu byrddau. Felly, os ydych am inni gael yr un rheolau ynghylch cyflogaeth ag sydd ganddynt yn Ffrainc, pam nad oes gennym yr un rheolau i gael gweithwyr ar fyrddau’r cwmnïau hynny hefyd yma yng Nghymru?

Wel, rwy'n siŵr fod hwnnw'n gwestiwn y gallwch ei ofyn i'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol.

—darlun ffafriol, ar y cyfan, o’r ddeddfwriaeth hon, gan ddod i’r casgliad y byddai’n rhoi hwb i hyder y cyhoedd ynghylch mynediad at wasanaethau hanfodol yn ystod streiciau, a dywedodd y byddai buddion economaidd yn deillio o lai o darfu ar weithgarwch busnes o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod y bydd angen rhoi mwy o ystyriaeth i rai agweddau ar y gofynion gweithredu gofynnol: er enghraifft, yn y Rhyl, lle, er y gellir lleihau trenau i un yr awr yn lle tri, ceir rhai gwasanaethau megis bocsys signal sy'n ddeuaidd, ac yn y maes hedfan, mae'r gwasanaeth rheoli traffig awyr naill ai ar agor neu ar gau. Ond bydd hyn, rwy’n siŵr, yn cael sylw yn yr is-ddeddfwriaeth a fydd yn cyd-fynd â’r Bil.

Nid oes amheuaeth yn fy meddwl i fod y Bil hwn yn ymwneud â thegwch a chydbwysedd—dim mwy, dim llai. Os bydd undeb llafur yn hysbysu cyflogwr am streic yn unol â’r rheolau arferol presennol, mae’r Bil hwn yn golygu y bydd yn ofynnol i gyflogwyr ymgynghori â’r undeb llafur ynghylch y nifer gofynnol o weithwyr sydd eu hangen ac y caiff y gwaith hwnnw ei wneud, ac mae'n rhaid ystyried safbwyntiau'r undeb cyn rhoi unrhyw hysbysiadau gwaith. Felly, nid yw'r syniad fod y Bil hwn yn

'ymosodiad uniongyrchol ar bobl sy'n gweithio a'r undebau llafur'

yn ddim byd mwy na brygowthan gwleidyddol gan Blaid Cymru. A hoffwn annog pawb yma yn y Siambr i bleidleisio yn erbyn y cynnig hwn, ac i gefnogi ein gwelliant, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar, yn lle hynny. Diolch, Lywydd.

Galw ar y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol gwelliant 2.

Gwelliant 2—Lesley Griffiths

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod ac yn parchu cryfder y teimladau a ddangoswyd gan aelodau'r undebau llafur drwy bleidleisiau ar streicio a chynnal gweithredu diwydiannol.

2. Yn credu bod Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymosodiad ar undebau llafur a hawl sylfaenol gweithwyr i streicio.

3. Yn gresynu at y diffyg ymgysylltu llwyr gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar y ddeddfwriaeth hon cyn ei chyflwyno ac yn nodi safbwynt Llywodraeth Cymru fel y nodir yn ei Datganiad Ysgrifenedig a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.

4. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru, a’r holl undebau llafur a gweithwyr y sector cyhoeddus yn eu hymdrechion i wrthsefyll y Bil.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Lywydd. Fel y clywsom gan fy nghyd-Aelod, Luke Fletcher, mae deddfwriaeth wrth-streiciau Llywodraeth y DU yn ergyd drom yn erbyn gweithwyr sy’n ceisio cyflog teg am eu gwasanaethau. Yr hyn sydd hefyd yn amlwg yw bod gan y mesur hwn oblygiadau sy'n peri pryder i agenda ddeddfwriaethol y Senedd hon. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi dod yn gyfarwydd iawn â thuedd Llywodraeth San Steffan i ganoli, yn ogystal â’u dirmyg amlwg tuag at ddatganoli. Ymddengys bod Brexit wedi hybu math o unoliaetholdeb cyhyrog sy’n aml yn sathru ar feysydd cymhwysedd datganoledig. Mae cyflwyno mesurau fel Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a Bil cyfraith yr UE a ddargedwir yn enghraifft o hyn. Fel y soniodd y Prif Weinidog yn gynharach yn y flwyddyn, mae achosion o dorri confensiwn Sewel, nad oedd byth yn digwydd ar un adeg yng nghyd-destun cysylltiadau â Llywodraethau datganoledig y DU, wedi dod yn gyffredin dros y blynyddoedd diwethaf. Yn y cyfamser, mae'r defnydd o bwerau adran 83 i rwystro Bil diwygio cydnabod rhywedd Llywodraeth yr Alban yn tanlinellu mai ffug yw'r syniad o'r undeb fel partneriaeth gydradd.

Nawr, ymddengys y bydd deddfwriaeth gwrth-streiciau yn gwrthdaro â maes gwaith y mae’r Senedd wedi bod yn gweithio arno, sef Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), ac yn benodol, ei nod o wneud Cymru’n wlad o waith teg. Fel y gŵyr yr Aelodau, sefydlwyd y Comisiwn Gwaith Teg fel rhagflaenydd i ddatblygiad y Bil. Un o’i brif argymhellion oedd yr angen i ymgorffori arferion gwaith teg yn y fframwaith deddfwriaethol. Diffiniwyd arferion gwaith teg gan y comisiwn fel sefyllfa lle mae

'gweithwyr yn cael eu gwobrwyo, yn cael eu clywed ac yn cael eu cynrychioli’n deg, bod ganddynt sicrwydd a'u bod yn gallu dod yn eu blaen mewn amgylchedd iach a chynhwysol, lle mae hawliau’n cael eu parchu.'

Ar y sail y bydd y Bil yn cynnwys dyletswydd partneriaeth gymdeithasol statudol ar gyrff cyhoeddus i geisio consensws neu gyfaddawd ag undebau llafur, a oruchwylir gan y cyngor partneriaeth gymdeithasol, a fydd yn cynnwys cynrychiolaeth o'r undebau llafur, mae'n anodd rhagweld sut y gall y nodau gwaith teg hyn fod yn gydnaws mewn unrhyw ffordd â deddfwriaeth y Bil gwrth-streiciau, sydd wedi'i chynllunio i geisio gelyniaeth a gorfodaeth dros gonsensws a chyfaddawd. Fel rwyf eisoes wedi'i grybwyll, mae goruchafiaeth San Steffan a'r modd y mae'r Llywodraeth Dorïaidd yn diystyru datganoli yn golygu bod yr agenda gwaith teg yma yng Nghymru mewn perygl difrifol.

Er ein bod yn cydnabod y ffaith bod materion cyfraith cyflogaeth yng Nghymru wedi'u cadw'n ôl bron yn gyfan gwbl gan San Steffan, mae rhai camau y gellid eu cymryd i ddiogelu'r agenda gwaith teg yn y dyfodol rhag byrbwylltra San Steffan. Er enghraifft, yn ddiweddar, sefydlodd Llywodraeth yr Alban gronfa gwaith teg a moderneiddio undebau llafur, a ddefnyddir i ymgorffori arferion gwaith teg mewn cysylltiadau diwydiannol. Gyda gweithrediad y Bil partneriaeth gymdeithasol, dylai’r dull hwn o weithredu gael ei efelychu yng Nghymru i sicrhau bod yr uchelgais o roi llais cryfach i undebau llafur wrth ddatblygu polisïau economaidd a diwydiannol yn cael ei gydgrynhoi ar sail ymarferol, hirdymor. Byddai hyn hefyd yn cyfrannu at y gwaith o adfywio presenoldeb undebau yn ein sector preifat ac ymhlith gweithwyr ifanc. Ceir anghysondeb amlwg ar hyn o bryd rhwng aelodaeth o undebau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat yng Nghymru—ychydig dros 60 y cant yn y sector cyhoeddus, ac ychydig o dan 20 y cant yn y sector preifat. Yn ychwanegol at hynny, dim ond ychydig dros 30 y cant o weithwyr yng Nghymru rhwng 25 a 34 oed sy’n aelodau o undebau, o gymharu â 45.4 y cant o weithwyr 50 oed a hŷn. Yn amlwg, mae angen mynd i'r afael â'r anghydbwysedd hwn os yw amcanion yr agenda gwaith teg i fod o fudd i Gymru gyfan.

Yn olaf, dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno cynllun achredu, lle byddai safon gwaith teg Cymru sydd ar gael i'r cyhoedd ei gweld yn cymell cyflogwyr i gymryd rhan a chynnal amcanion yr agenda gwaith teg. Diolch yn fawr.

15:55

Daw unrhyw urddas sy’n gynhenid yn ein cymdeithas o’r dyheadau sydd gennym nid dros ein hunain ond dros eraill. Dyna ogoniant a mantais y mudiad undebau llafur: y ffaith ei fod yn cael ei gynnal nid gan farusrwydd unigolion ond gan ymdrech gyfunol, y penderfynoldeb y gellir sicrhau hawliau i bawb. Mae pob un ohonom wedi elwa o hawliau gweithwyr a enillwyd drwy frwydrau caled y cenedlaethau a fu: absenoldeb salwch â thâl, gwyliau, penwythnosau. Mae ein bywydau'n llawer cyfoethocach a hapusach oherwydd y brwydrau hynny. Ein dyletswydd i weithwyr heddiw ac yfory yng Nghymru yw gwrthod ymgais San Steffan i erydu’r hawliau hynny a brwydro dros y pwerau i’w hymgorffori yng nghyfraith Cymru.

Rwyf mor falch fy mod wedi cael fy ngeni yng Nghymoedd Cymru, ond mae’n dirwedd sy’n dal i wisgo creithiau gweithlu a gafodd ei ecsbloetio—y glowyr a gâi eu talu mewn llwch ac afiechyd a dirmyg. Ond nid trychinebau yn unig sy'n diffinio ein gorffennol—roedd yno frawdgarwch hefyd. Dyddiau Mabon, cefnogwr diflino'r glowyr, a sicrhaodd wyliau—dydd Llun cyntaf pob mis, a elwir yn Ddyddiau Mabon. Ac fe wnaeth yr un ysfa honno i sicrhau lles cyffredin roi bywyd newydd i'n trefi a'n pentrefi, lleoedd a oedd wedi'u hamddifadu o unrhyw fuddsoddiad, o unrhyw ofal.

Mae neuaddau'r glowyr sy'n dal i sefyll yn y Coed Duon a Bedwas yn cynrychioli atgofion y cymunedau hynny am adeg pan ddôi cyfarfodydd a chyngherddau â chynhesrwydd digwyddiadau cymdeithasol i deuluoedd. Roedd gerddi a pharciau lles y glowyr yn cael eu meithrin a'u tyfu. Rhoddodd ein corau a'n heisteddfodau gyfle i'r gweithwyr esgyn uwchben y bryniau duon drwy ganu. Cyflawnwyd cymaint yn ein Cymoedd drwy weithredu ar y cyd, nid yn unig mewn termau diwydiannol, ond yng ngwead ein cymdeithas. Dywedodd Nye Bevan ei fod ar ei hapusaf pan oedd yn gadeirydd pwyllgor dethol llyfrau llyfrgell y glowyr yn Nhredegar—llyfrgell a oedd, yn y 1930au, yn cylchredeg oddeutu 100,000 o lyfrau y flwyddyn. Ond mae'r llyfrgelloedd wedi cau, Lywydd. Mae cymaint o'r neuaddau hynny wedi mynd yn adfeilion. Mae gormod o gorau nad ydynt yn cyfarfod bellach am nad oes lleoedd ar gael i gyfarfod ac i ganu.

Ond gallwn ni yng Nghymru atgyfodi'r ethos cyfunol a fu gennym unwaith. Gallwn adeiladu ar yr hanes balch hwnnw a sicrhau na fydd rhagor o weithwyr yng Nghymru yn cael eu dibrisio, yn cael eu hecsbloetio, ac na fydd eu balchder yn cael ei ddwyn oddi arnynt, a hynny drwy ddatganoli cyfraith cyflogaeth a sicrhau hawliau cyfunol i bawb. Oherwydd mae hawliau gweithwyr yn y DU, fel y clywsom, eisoes gymaint yn is na'r norm Ewropeaidd. Yn yr Eidal, mae 97 y cant o weithwyr yn elwa o gydfargeinio. Yn Ffrainc, 90 y cant. Yn y DU, dim ond 26 y cant, 27 y cant o weithwyr sy'n elwa o'r fraint hon. Hyd yn oed yn Rwsia, mae'r ffigur yn uwch. Mae hawliau undebau ar yr ynysoedd hyn wedi cael eu herydu’n fwriadol ers Thatcher ac ers, mae’n ddrwg gennyf ddweud, i Lafur Newydd fethu adfer yr hawliau hynny yn ystod eu 13 mlynedd mewn grym.

Mae arnom angen yr hawliau hyn yng Nghymru i unioni camweddau ein gorffennol. Oherwydd yng Nghymru, dylai ein gorffennol fod yn ganllaw i ni. Mae’n deimlad cyfarwydd i’r mudiad undebau llafur. Rydych yn meddwl am y geiriau a ganwyd am Joe Hill, arwr gweithwyr mwyngloddio Nevada, a gafodd ei fframio drwy ei gyhuddo o fod yn llofrudd—mae adleisiau o Dic Penderyn a Merthyr Tudful yno, yn sicr. Ond dywed y gân:

'Pan fo gweithwyr yn streicio / mae Joe Hill wrth eu hymyl'.

Lywydd, pan fydd menywod a dynion ar streic, nid dros eu hawliau eu hunain, eu cyflogau eu hunain yn unig y maent yn streicio; maent yn streicio dros hawliau gweithwyr sydd eto i ymuno â'r gweithlu, maent yn streicio i gynnal hawliau pobl a chenedlaethau'r dyfodol. Ac mae’r gweithwyr hefyd yn sefyll mewn undod, Lywydd, â’r cenedlaethau a fu, oherwydd pan fo dynion a menywod sy’n gweithio allan yn streicio yng Nghymru, mae Dic Penderyn wrth eu hymyl, mae William Abraham wrth eu hymyl, neu'r corau o leisiau o'n gorffennol cyfoethog—maent yn benthyg eu lleisiau i'w cân. Ar linellau piced, yn union fel Joe Hill, maent yn sefyll mor fyw â chi a fi yn eu cof balch. Gadewch inni wneud hyn yn iawn er mwyn Cymru.

16:00

Dwi'n gwneud fy nghyfraniad heddiw hefyd efo fy rôl efo'r grŵp trawsbleidiol PCS. Diolch yn fawr iawn, Delyth, yn arbennig efo'r araith yna. Dwi'n meddwl bod yn rhaid inni gyd gofio ein bod ni i gyd wedi elwa o'r hyn sydd wedi dod drwy'r rhai sydd wedi brwydro o'n blaenau ni—pob un ohonom ni wedi elwa o hynny o gymharu efo'n cyndeidiau ni. A dyna sydd dan fygythiad yn y fan yma. Yn sicr, Joel James, ddim er mwyn cael unrhyw likes ar social media mae'r ddadl yma wedi dod ger bron, ond oherwydd ein bod ni yn mynd i'r llinellau piced, ein bod ni yn siarad efo gweithwyr, ein bod ni yn gwrando arnyn nhw ac yma i wneud dadleuon oherwydd bod ganddyn nhw'r hawl i streicio ar y funud, a nifer yn gwneud am y tro cyntaf erioed yn eu bywydau. Mae pobl fel yr RCN yn dewis gwneud am y tro cyntaf erioed yn hanes bodolaeth eu mudiad nhw oherwydd eu bod nhw wedi cael llond bol; wedi cael llond bol o beidio cael cyflog teg, o beidio cael eu trin—. Ac mae hynny oherwydd mesurau sydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond hefyd o ran Llywodraeth Cymru rŵan. Mae ganddyn nhw'r grym i wneud pethau'n wahanol, ac mae'n rhaid i ni ystyried beth mae'r Ddeddf yma a'r newidiadau yn Llywodraeth San Steffan yn eu golygu o ran gweithwyr yma yng Nghymru, a beth allwn ni ei wneud yn wahanol os oes gennym ni'r grymoedd yma.

Rydym eisoes wedi clywed am y gydberthynas rhwng lefelau uchel o aelodaeth undebol a chanlyniadau cadarnhaol ar ffurf cyflogau a chynhyrchiant uchel, a chaiff hyn ei ategu gan enghreifftiau rhyngwladol niferus—mae Mabon a Delyth eisoes wedi achub y blaen arnaf ar hyn. Ond ystyriwch Sweden, lle mae 88 y cant o weithwyr yn elwa o hawliau cydfargeinio, ac mae ganddi incwm cenedlaethol net wedi'i addasu fesul y pen o $44,552, o'i gymharu â $36,000 yn y DU. Mae hefyd yn seithfed allan o'r 146 gwlad ym mynegai hapusrwydd y byd, ac yn sgorio'n uchel ar fetrigau cydraddoldeb byd-eang. Yr allwedd i fodel llwyddiannus Sweden o gysylltiadau llafur yw gweithredu cydfargeinio ar lefel sector neu ddiwydiant. Mae hyn yn sicrhau cyfraddau uchel o weithwyr yn elwa o gydfargeinio, yn enwedig ar draws y sector preifat, sy'n gwrthgyferbynnu'n uniongyrchol â lefel cwmni neu lefel cyflogwr lle mae cytundebau'r DU fel arfer yn digwydd, sy'n arwain yn ddieithriad at gyfraddau isel o weithwyr yn elwa o gydfargeinio ac anghysondeb mawr rhwng y sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Mae modelau tebyg ar waith yn y gwledydd Nordig eraill, yng Ngwlad yr Iâ, Denmarc, y Ffindir a Norwy, ac mae ganddynt oll y lefelau uchaf o aelodaeth undebol yn y byd ac maent ymhlith y gwledydd cyfoethocaf, mwyaf cyfartal a hapusaf yn y byd. Mae 98 y cant o weithwyr Ffrainc yn elwa o gydgytundebau, ac yn mwynhau incwm gwario 10 y cant yn uwch na'r gweithiwr cyfartalog yn y DU, ac wythnos waith fyrrach. O'r herwydd, mae cydfargeinio sectoraidd yn fodel y mae gwledydd eraill yn ceisio ei efelychu, a chyda rheswm da. Er enghraifft, pasiodd Seland Newydd ei Deddf Cytundebau Cyflog Teg 2022 yn ddiweddar, sy'n hwyluso cydfargeinio ar gyfer cytundebau cyflog teg ar draws diwydiannau neu alwedigaethau cyfan. Hyn ar adeg pan fo Llywodraeth y DU am lethu undebau llafur. 

Gallwn ni ddim gwadu'r hyn mae Llywodraeth Prydain yn ceisio ei gyflawni efo hyn. Mae'n cymunedau ni wedi dioddef digon. Rydyn ni wedi clywed yn glir gan Delyth, gan Luke, gan Peredur ac eraill. Rydyn ni'n gwybod hynny o fod yn siarad â gweithwyr ar lawr gwlad. Rydyn ni'n gwybod bod pobl ddim yn hapus yn ein cymunedau ni. Maen nhw'n gweithio'n galed, ond eto yn methu fforddio prynu bwyd na chynhesu eu tai, yn gweithio'n galetach nag erioed, oriau hirach nag erioed, yn colli allan ar gyfleoedd i fod gyda'u teuluoedd, yn blant ifanc ac ati, ac yn gorfod gweithio pob awr o'r dydd ac eto'n methu fforddio bwyd ac ynni. Dyna'r sefyllfa ym Mhrydain heddiw ac yng Nghymru.

Mae'n rhaid i bethau newid; mae'n rhaid i ni gael y grymoedd yma yng Nghymru i newid pethau er mwyn gweithwyr Cymru. Mae yna fwy y gall Lywodraeth Cymru ei wneud, yn sicr, ac mae yna fwy y dylai Llywodraeth Prydain fod yn ei wneud. Mae hyn ynglŷn â hawliau pob un ohonom ni—pob un ohonom ni—ac, fel dywedodd Delyth, cenedlaethau'r dyfodol. Gwnaethom ni elwa'n fawr o frwydrau a fuodd yn y gorffennol. Mae'n rhaid i ni frwydro i gael yr hawliau yna wedi parhau.

16:05

Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol nawr i gyfrannu. Hannah Blythyn.

Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl hon, a diolch i'r rhan fwyaf o'r Aelodau am eu cyfraniadau. Mae'r Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) yn ymosodiad ar weithwyr, hawliau gweithwyr ac undebau llafur. Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu'r Bil yn bendant iawn, fel y nodir yng ngwelliant y Llywodraeth. Yn benodol, mae gwelliant y Llywodraeth yn tynnu sylw at y datganiad ysgrifenedig sy'n cynnwys llythyr Prif Weinidog Cymru at Lywodraeth y DU a'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a fydd yn cael ei osod ger bron y Senedd. Mae'r rhain yn ddatganiadau clir sydd ar gael yn gyhoeddus i nodi ein safbwynt a'n pryderon sylweddol ynglŷn â'r Bil hwn.

Rydym o'r farn bendant nad yr ymateb cywir i aflonyddwch diwydiannol yw cyflwyno deddfau newydd sydd nid yn unig yn sathru ar y setliad datganoli, ond yn ei gwneud hi'n anos byth i weithwyr weithredu'n ddiwydiannol. Credwn mai'r ymateb cywir yw gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr ac undebau llafur i ddatrys anghydfodau ar y cyd. Felly, ni ddylai fod yn syndod nad ydym yn cefnogi gwelliant 1 yn enw Darren Millar. Y ffordd i ddatrys anghydfodau diwydiannol yw drwy drafod a chytuno, waeth pa mor heriol y gallai hynny fod ar adegau i bawb sy'n gysylltiedig; nid drwy ddeddfwriaeth annoeth a fydd yn gwneud dim i helpu i ddatrys anghydfodau presennol, a fydd yn gwneud niwed parhaol i gysylltiadau diwydiannol ledled y DU, ac a fydd yn ymyrryd â gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Yr eironi yw bod yr un ddeddfwriaeth hon yn dod gan Lywodraeth Geidwadol sydd dro ar ôl tro wedi methu cynhyrchu'r Bil cyflogaeth a addawodd i ymestyn hawliau gweithwyr ac sydd bellach ar fin gwneud y gwrthwyneb yn llwyr. Mae'n ymddangos na ellir dod o hyd i amser seneddol i wella hawliau gweithwyr, ond nid oes unrhyw broblem gyda dod o hyd i amser seneddol i ddiddymu'r hawliau hynny.

Os caf droi at y pwynt a wnaeth Luke Fletcher ar ddatganoli cyfraith cyflogaeth yng Nghymru: fe fyddwch yn ymwybodol fod gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd gan TUC Cymru a chomisiwn ar hynny, ac rydym yn aros am y canfyddiadau hynny. A byddwn yn gweithio gyda TUC Cymru ar y canfyddiadau, a bydd unrhyw beth y byddem yn ei wneud yng Nghymru yn digwydd drwy weithio mewn partneriaeth, i edrych nid yn unig ar y cyfleoedd, ond yr heriau posibl a allai ddod yn y dyfodol.

Wrth ymateb i'r cynnig heddiw, rwyf am ailadrodd pam ein bod yn gwrthwynebu Bil Llywodraeth y DU. Yn gyntaf, rydym yn gwrthwynebu'r Bil ar egwyddor. Mae'n ymosodiad diangen a digyfiawnhad ar hawliau gweithwyr ac undebau llafur, ac mae'n gwbl groes i'n hagwedd at undebau llafur yng Nghymru, a'n huchelgeisiau ar gyfer Cymru a gwaith teg, fel y clywsoch. Yn ail, cafwyd diffyg ymgysylltiad llwyr â'r Llywodraethau datganoledig cyn i Lywodraeth y DU gyhoeddi eu bwriad drwy hysbysiad ar frys i'r wasg ar 5 Ionawr. Er bod dogfennau ymgynghori bellach yn cael eu cyhoeddi ar wasanaethau ambiwlans, y gwasanaethau rheilffyrdd a thân ac achub, mae hyn i gyd yn digwydd ar ôl i'r Bil gael ei gyflwyno a thra'i fod yn mynd drwy'r broses graffu seneddol.

Yn drydydd, rydym yn gwrthwynebu'r Bil oherwydd bod nifer o wasanaethau cyhoeddus datganoledig o fewn cwmpas y Bil ac mae'r Bil yn cynnwys pwerau Harri VIII, sy'n rhoi pwerau ysgubol i Ysgrifennydd Gwladol. Yn syml iawn, mae cefnogi'r Bil hwn yn golygu rhoi siec wag i'r Ysgrifennydd Gwladol. Pan fo hyd yn oed cefnogwyr y Bil, fel Jacob Rees-Mogg, yn ei feirniadu fel Bil 'wedi'i ysgrifennu'n wael' sy'n methu

'nodi'n glir beth mae'n ceisio ei gyflawni',

fe wyddom nad yw'r Bil mewn lle da o gwbl. Yn bedwerydd, rydym yn amlwg yn rhannu llawer o'r pryderon a leisiwyd gan undebau llafur ac eraill am effeithiolrwydd ac effaith y Bil hwn. Cafodd ein gallu ni, a gallu Senedd y DU yn wir, i graffu'n iawn ar y materion hynny eu llesteirio'n ddifrifol gan absenoldeb asesiad effaith. Cafodd yr asesiad effaith ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf; asesiad effaith a ddisgrifiwyd gan y Pwyllgor Polisi Rheoleiddio ar unwaith fel un 'nad yw'n addas i'r diben'.

16:10

Rwy'n falch o glywed eich bod chi'n dweud eich bod yn gwrthwynebu'r hyn sy'n digwydd yn San Steffan ar hyn o bryd, a geiriau cryf iawn yn cael eu dweud, ond a ydych chi'n rhannu fy siom nad yw eich cyd-Aelodau Llafur yma heddiw? A allwch chi ddweud wrthym ble maent? Oherwydd os ydym o ddifrif yn teimlo mor ddig am hyn a'n bod eisiau i'n lleisiau gael eu clywed, mae angen eich cyd-Aelodau yma i rannu eu lleisiau hefyd, fel bod llais y Senedd hon i'w glywed gyda'i gilydd a bod San Steffan yn clywed yr hyn sydd gennym i'w ddweud. A allwch chi ddweud wrthym ble mae eich cyd-Aelodau, os gwelwch yn dda?

Gallaf yn sicr siarad ar ran fy nghyd-Aelodau yn y grŵp Llafur a dweud ein bod yn gyfan gwbl, yn llwyr ac yn unol yn ein gwrthwynebiad iddo a byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid ar draws y mudiad Llafur yng Nghymru, a'r DU, i wrthwynebu ymosodiadau o'r fath ar hawliau gweithwyr.

Ac rydym yn gwrthwynebu'r Bil hwn oherwydd nad yw'r rhesymeg y mae Llywodraeth y DU wedi ceisio ei chyflwyno dros y Bil fel un sy'n sicrhau bod y DU gyfuwch â llawer o wledydd eraill yn Ewrop yn dal dŵr fel y clywsom oddi ar feinciau Plaid Cymru. Mae'r cymariaethau rhyngwladol yn gor-wneud y tebygrwydd rhwng y Bil hwn a gweithrediad lefelau gwasanaeth gofynnol mewn mannau eraill. Fel y clywsoch, mae lefelau gwasanaeth gofynnol fel arfer yn gynnyrch cytundeb rhwng cyflogwyr ac undebau llafur, gan ddefnyddio cyflafareddu annibynnol weithiau os metha popeth arall. Yn groes i hynny, mae'r Bil hwn yn agor y drws ar y posibilrwydd o osod lefelau gwasanaeth gofynnol drwy orchymyn wedi'i gynnal gan y bygythiad y bydd gweithwyr yn cael eu diswyddo os nad ydynt yn cydymffurfio. Ac nid ni'n unig sy'n dweud bod y cymariaethau rhyngwladol gyda gwledydd fel Ffrainc, yr Eidal a Sbaen yn ffug. Clywsom fod Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus Ewrop, sy'n gwarchod 8 miliwn o weithwyr gwasanaethau cyhoeddus ar draws Ewrop, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, mewn llythyr sydd ar gael yn gyhoeddus, i ddweud: 

'Mewn dadl yn Nhŷ'r Cyffredin, fe wnaethoch honni na ddylai Llywodraeth sy'n gwrthwynebu gwasanaethau gofynnol yn unochrog fod yn ddadleuol ac fe gyfeirioch chi at y fframwaith cyfreithiol mewn gwledydd eraill. Nid yw'r datganiad hwn yn gywir ac rydych yn tynnu'r ddeddfwriaeth mewn gwledydd eraill allan o'i chyd-destun.'

Mae'r llythyr yn egluro pam fod hynny'n wir ac yn rhagddo i ddweud:

'mae eich llywodraeth yn rhuthro i basio cyfraith newydd a fydd yn gosod lefelau gwasanaeth gofynnol mewn sectorau allweddol, gan gynnwys y posibilrwydd y bydd streicwyr yn cael eu diswyddo os ydynt yn methu cydymffurfio â hysbysiadau i weithio. Bydd hyn yn cael ei herio o dan gyfraith Ewropeaidd a chyfraith ryngwladol y mae'r DU yn barti iddynt.'

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi ceisio taflu llwch i'n llygaid fod y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO) yn cefnogi'r Bil. Mae cyfarwyddwr cyffredinol yr ILO ei hun wedi cadarnhau nad oedd yn ymwybodol o unrhyw drafodaethau rhwng yr ILO a Llywodraeth y DU am y ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, fe gadarnhaodd fod yr ILO wedi bod mewn trafodaethau gydag undebau llafur ynglŷn â gwneud cwyn am y Bil. Mae dweud bod yr ILO yn cefnogi'r Bil hwn yn anghywir ar y gorau. 

Dro ar ôl tro, mae honiadau Llywodraeth y DU am y Bil hwn a chefnogaeth ryngwladol a chymariaethau rhyngwladol wedi chwalu wrth ddod i gysylltiad â'r ffeithiau. Nid ydym am gael y Bil hwn yng Nghymru, ac nid oes ei angen arnom. Rwy'n falch fod mwyafrif yn gwrthwynebu'r ddeddfwriaeth hon yng Nghymru. Mae'n ddiangen, yn ddigyfiawnhad, ac yn anymarferol yn ôl pob tebyg. Rydym wedi ymrwymo i wrthwynebu'r ddeddfwriaeth ddinistriol hon a yrrir gan ideoleg, ac i weithio mewn partneriaeth i wneud hynny. 

Wrth gloi, Lywydd, rwyf am ddweud na fu erioed adeg bwysicach i ymuno ag undeb llafur. Nid yn unig mae undebau llafur yn dda i weithwyr—maent yn dda i weithleoedd, ac maent yn dda i Gymru. Diolch. 

16:15

Diolch, Lywydd. Wrth imi gloi'r ddadl hon, rwy'n atgoffa fy hun o'r hyn a ddywedais yn fy agoriad i'r ddadl ynglŷn â bod â ffydd yn y Llywodraeth i fod yn well na Llywodraethau Llafur a Cheidwadol y DU. Rhaid dweud, serch hynny, digon siomedig yw peidio â chael yr un cyfraniad gan yr Aelodau ar feinciau cefn Llafur. Roedd cynnig o undod ar ran y grŵp Llafur, ond fe ddylent fod yma i ddangos yr undod hwnnw eu hunain yn y Siambr, mewn dadl ar ymosodiad y mae aelodau'r blaid honno wedi ei wrthwynebu a'i gondemnio'n groch. 

Mae'r ddadl hon wedi dangos heddiw drwy Aelodau Plaid Cymru, a'r Dirprwy Weinidog hefyd a bod yn deg, yr achos a'r angen i amddiffyn hawliau gweithwyr. Nododd Heledd gymaint sydd arnom i'r mudiad undebau llafur a phethau rydym yn eu cymryd yn ganiataol: absenoldeb mamolaeth, isafswm cyflog, y penwythnos, yr holl bethau rydym yn eu cymryd yn ganiataol y dyddiau hyn. Pe bai'r Torïaid wedi ymrwymo'n wirioneddol i ddarparu economi twf uchel a chyflog uchel, fel y maent yn ei addo'n barhaus, byddent yn cefnogi'r achos hwn yn hytrach na pharhau â chrwsâd ideolegol, sydd fwyfwy allan o gysylltiad, o elyniaeth ac athreuliad yn erbyn gweithwyr. 

Mae'n ddrwg gennyf, Joel, eich bod wedi cael y gwelltyn byr yn y ddadl hon. Hynny yw, wyddoch chi, rydych chi'n dweud wrthyf eich bod yn aelod o'r Blaid Geidwadol heb ddweud eich bod yn aelod o'r Blaid Geidwadol mewn gwirionedd. Hoffwn annog Joel o ddifrif i fynd i siarad â'r Coleg Nyrsio Brenhinol, er enghraifft, ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd ar ddiwrnod streic, ac rwy'n credu y gwelwch yn gyflym iawn fod yr hyn a nododd ef yn ei gyfraniad yn ffeithiol anghywir. A bod yn deg, nid wyf yn meddwl bod llawer o bobl ar yr ochr honno i'r Siambr, os o gwbl, wedi bod o fewn milltir i linell biced, ond pe baech yn gwneud hynny un waith, rwy'n meddwl y gwelech chi fod llawer o'r pethau rydych chi'n credu eu bod yn digwydd yn anwiredd. 

Er bod Bil partneriaeth gymdeithasol Llywodraeth Cymru a'i hagenda gwaith teg yn sylfaen ddefnyddiol, rydym hefyd yn cydnabod cyfyngiadau cymwyseddau datganoledig dros gyfraith cyflogaeth yng Nghymru, sydd wedi'i chadw'n ôl bron yn llwyr i San Steffan. Ond am yr union reswm hwn rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu ei hymdrechion i geisio rhagor o bwerau datganoledig dros gyfraith cyflogaeth yma yng Nghymru. Fel sy'n amlwg drwy gymaint o agweddau ar bwerau'r setliad datganoli presennol er hynny, mae gan Lywodraeth Cymru ddigon o le i lunio polisïau mewn nifer o feysydd, gan gynnwys strategaeth ddiwydiannol ac economaidd, ond nid oes ganddi'r gallu a'r mecanweithiau i orfodi ac atgyfnerthu ei pholisi'n effeithiol. Mae hyn yn arbennig o broblemus pan fo priod flaenoriaethau Llywodraeth Cymru a San Steffan yn cael eu polareiddio fwyfwy, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd, ac fel y nododd Peredur.

Pan fydd undebau llafur yn gryf, rydym i gyd ar ein hennill. I mi, dylai ein heconomi ddeillio o'r math o gymdeithas rydym am ei chreu. I mi, mae hynny hefyd yn adlewyrchu'r hanes y cyfeiriodd Delyth ato—cymdeithas sy'n un dosturiol, undod, un lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Rwyf am fenthyg o'r ffilm Pride am eiliad. Maent yng Nghastell Carreg Cennen ac mae Dai'n dweud wrth Mark am faner y gyfrinfa, y symbol o ddwy law ar y faner honno. Dyna mae'r mudiad undebau llafur yn ei olygu: rwy'n dy gefnogi di, rwyt ti'n fy nghefnogi i, ysgwydd wrth ysgwydd, law yn llaw, undod. Mae hynny'n hollol groes i'r hyn sydd gan raniadau a thlodi San Steffan i'w gynnig. Bydd mwy o ofynion yn cael eu gwneud, bydd mwy o bleidleisiau'n cael eu cynnal, a bydd mwy o weithwyr ar hyd a lled Cymru'n ymuno. Bydd Plaid Cymru yno ochr yn ochr â hwy, mewn undod gyda phob gweithiwr sy'n brwydro am gyflogau ac amodau gwaith gwell, nid yn unig yng Nghymru, ond ym mhob rhan o'r byd.

16:20

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly gwnawn ni ohirio’r bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Gymraeg

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.

Yr eitem nesaf, felly, yw eitem 7. Yr eitem yma yw’r ddadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar y Gymraeg, a dwi’n galw ar Tom Giffard i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8212 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Cymraeg 2050: Rhaglen Waith 2021 i 2026.

2. Yn mynegi pryder am y ffaith bod Cyfrifiad 2021 wedi datgelu y bu gostyngiad o dros 20,000 yn nifer y bobl sy'n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

3. Yn credu bod y Gymraeg yn ased diwylliannol sy'n dod â llawer o fanteision i Gymru.

4. Yn cydnabod yr amrywiaeth mewn hyder ymhlith siaradwyr Cymraeg.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych i mewn i gyfleoedd i ehangu a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg o ddydd i ddydd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn ichi, Llywydd. Allaf i ddechrau gan ddymuno i bawb yn y Senedd heddiw, a phawb sy’n gwylio ar draws Cymru, Dydd Gŵyl Dewi hapus? Dwi’n falch o gael y cyfle i agor y ddadl hon heddiw a gyflwynwyd yn enw Darren Millar oherwydd mae’n ddadl bwysig iawn i’w chael yn y Senedd, yn enwedig ar Ddydd Gŵyl Dewi. Oherwydd mae’n bwysig ein bod ni’n rhannu’r neges o’r Senedd i bobl Cymru i ddweud nad yw ein hiaith Gymraeg ond yn perthyn i bobl sydd yn siarad Cymraeg yn rhugl; mae’n perthyn i bob person sydd yn byw yng Nghymru.

Ond nid ond iaith yn yr ystyr draddodiadol yw'r Gymraeg. I’r rhan fwyaf ohonom ni, mae’n stori—hanes ein taith gyda’r iaith Gymraeg. Bydd rhai ohonom ni wedi siarad Cymraeg gartref, yn yr ysgol, ac wedi byw mewn cymunedau Cymraeg yn bennaf ar hyd ein hoes. Efallai fod eraill yn dysgu siarad Cymraeg am y tro cyntaf, wedi datblygu diddordeb neu gariad at ein gwlad. Ac efallai mai dim ond ychydig o eiriau rydych chi’n eu gwybod, ond rydych chi’n eu defnyddio nhw gyda balchder pryd bynnag rydych chi’n teimlo’n gyfforddus i wneud hynny. Dyna pam dwi’n edrych ymlaen at glywed o gydweithwyr o bob rhan o’r Siambr heddiw, i glywed am eu stori Cymraeg.

I mi, mae’n ychydig mwy cymhleth. Es i i ysgol Gymraeg ail iaith, a ces i TGAU yn Gymraeg ail iaith, ac ar ôl hynny, gweithiais mewn ysgol Gymraeg fel cynorthwyydd dysgu yn y flwyddyn ar ôl i mi adael ysgol fy hun. Pan adawais i’r ysgol, nid oedd fy Nghymraeg o’r safon orau oherwydd nid oedd hi’n bwysig iawn i fi ei datblygu hi. Er bod y rhan fwyaf o fy nysgu yn Saesneg, gwnaeth y trochi o orfod siarad bob dydd gyda staff a disgyblion mewn lleoliad addysg ddod â fy sgiliau ymlaen yn sylweddol. Wedyn, trwy gydol fy mhrofiad prifysgol a’r degawd wedyn, doeddwn i braidd dim wedi siarad gair o Gymraeg, ac roeddwn i bron wedi anghofio fy mod i’n gallu siarad Cymraeg o gwbl.

Yna, yn 2021, ces i fy ethol i’r Senedd hon ym Mae Caerdydd, a gwnes i gadw yn dawel i ddechrau, a dweud y gwir, fy mod i’n gallu siarad Cymraeg o gwbl. Wedyn gwnes i gyfarfod â rhywun am y tro cyntaf o’r enw Samuel Kurtz. Wel, mewn gwirionedd, yr ail dro oedd hi, ond dŷn ni ddim yn siarad am y tro cyntaf. Ond er bod safon Sam yn well na fy safon i, roedd e’n teimlo’r un peth yr oeddwn i’n ei deimlo—nad oedd e wedi defnyddio ei sgiliau digon ar draws y blynyddoedd cynt. Roedd e’n teimlo, fel fi, ei fod e wedi rhydu. Felly, penderfynon ni i ddysgu Cymraeg gyda’n gilydd, gan ddefnyddio’r gwasanaethau sydd ar gael yma yn y Senedd, ac roedd hynny’n drobwynt i mi, i gael rhywun fy mod i’n gallu sgwrsio â nhw yn Gymraeg a dysgu hefyd—pwysig iawn i fi. Nawr dwi’n teimlo’n fwy abl i wneud cyfweliad teledu neu radio yn Gymraeg, a dwi’n edrych ymlaen at nos fory, gyda Heledd Fychan—rydyn ni’n gwneud Hawl i Holi gyda’n gilydd ar Radio Cymru.

Achos mae siarad Cymraeg yn gymaint i'w wneud â hyder ag ydyw i'w wneud â sgiliau. Does dim ots pa mor hen ydych chi, neu ba mor dda yw eich sgiliau Cymraeg; nawr yw’r amser gorau i ddysgu. Ond i ysbrydoli rhywun i dderbyn yr her, mae angen modelau rôl cryf yn y Gymraeg. Dyna pam ei bod hi'n braf gweld nifer o sefydliadau—yn fwyaf nodedig, yr FAW—yn manteisio ar y cyfle i normaleiddio siarad Cymraeg. Ond i mi, person yw fy model rôl Cymraeg, a’r person—a dwi’n gwybod y byddai fe wedi eisiau bod yma heddiw—sy'n fodel rôl i mi yn Gymraeg yw Paul Davies. Mae Paul yn rhywun sydd yr un mor falch o'i hunaniaeth Gymraeg a'r iaith Gymraeg ag ydyw o'i un Prydeinig hefyd. A dyna beth oeddwn i'n teimlo. Roedd e wedi dangos nad oedd gwrth-ddweud rhwng bod yn Gymro a siarad Cymraeg a bod yn Geidwadwr, achos y blaid Geidwadol sydd wedi bod yn gyfrifol am rai o'r datblygiadau mwyaf ym mholisi iaith Gymraeg erioed. Ceidwadwyr mewn Llywodraeth a ddechreuodd y Welsh Language Act 1993, gan ffurfio Bwrdd yr Iaith Gymraeg, datblygiadau mewn addysg Gymraeg ac, wrth gwrs, sefydlu'r sianel deledu gyntaf yn yr iaith Gymraeg, S4C.

Ond gwyddom fod llawer mwy i'w ddweud, a dyna pam rydym ni'n cyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Mae canlyniadau’r cyfrifiad diweddaraf sydd yn dangos gostyngiad yn nifer y bobl sy’n siarad Cymraeg dros y ddegawd ddiwethaf yn hynod siomedig. Ac mae’n rhoi strategaeth 'Cymraeg 2050' Llywodraeth Cymru mewn perygl sylweddol o beidio â chael ei chyrraedd. Ond yr hyn sy’n peri’r pryder mwyaf i mi yw’r gostyngiad o 6 y cant yn y siaradwyr Cymraeg rhwng pump ac 15 oed, y rhai a fydd yn dysgu Cymraeg mewn sefyllfa ffurfiol. Yn ogystal, rydyn ni wedi gweld gostyngiadau mewn ardaloedd traddodiadol yr iaith Gymraeg hefyd fel Ceredigion, sir Gaerfyrddin a Gwynedd. Mae llawer mwy i’w ddweud yn ystod y ddadl hon, dwi'n siŵr, gan Aelodau ar bob ochr, ac rwy'n siwr y bydd. 

Mae'r hyn yr ydyn ni'n bwriadu ei gyflawni yn ddeublyg. Yn gyntaf oll, rydyn ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu’r cyfleoedd y mae’n eu cynnig i bobl siarad Cymraeg yn y lle cyntaf, oherwydd rydyn ni yn gwybod y gall y profiadau hyn fod yn ffurfiannol ym mywydau pobl. Yn ail, dŷn ni'n cyflwyno'r ddadl hon heddiw oherwydd mae'n anfon neges glir i bobl ledled Cymru mai dyma eich iaith chi, beth bynnag eich lefel, felly siaradwch hi, defnyddiwch hi ac edrychwch ar ei hôl hi fel y gall cenedlaethau i ddod wneud yr un peth. Diolch.

16:25

Daeth Joyce Watson i'r Gadair. 

Rwyf wedi dewis y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths, yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod bod ffynonellau data eraill yn dangos bod nifer cynyddol o bobl yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg a bod niferoedd cynyddol o blant yn mynychu addysg cyfrwng Cymraeg.

Yn croesawu:

(a) bod pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi cyhoeddi Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg newydd i gynyddu mynediad at gyfleoedd dysgu Cymraeg ar draws ysgolion o bob categori iaith;

(b) gwaith y Comisiwn Cymunedau Cymraeg i gryfhau'r Gymraeg ar lefel gymunedol; ac

(c) gwaith ein sefydliadau partner megis Mudiad Meithrin, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, y Mentrau Iaith, ac eraill, i ddarparu cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

Gaf i ddiolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? A diolch, Tom, am rannu dy siwrnai di efo'r iaith. Mae'n hyfryd dy glywed di a dy hyder wedi cynyddu yn yr amser rwyt ti wedi bod yma. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr i fod ar Hawl i Holi, rhywbeth wnest ti ddweud y buaset ti byth yn ei wneud cwpwl o fisoedd yn ôl, ond rwyt ti'n ei wneud o nos yfory. Dwi'n meddwl bod hynna'n wych ac yn dangos ei bod hi'n bosib cael y gefnogaeth a'r gwahaniaeth mae'n ei gwneud wedyn o ran cymryd y cyfle yna i jest gymryd y siawns o siarad Cymraeg, a dim ots am wneud unrhyw fath o gamgymeriad. Mae'n hyfryd clywed mwy o Gymraeg yn fan hyn a mwy o bobl yn trio efo'r Gymraeg.

Yn sicr, mae'n hawdd i rywun fel fi, Heledd Fychan, wedi fy magu yn Ynys Môn i rieni oedd yn siarad Cymraeg, i fod yma'n siarad Cymraeg, wedi cael fy magu mewn cymuned lle prin oedd Saesneg o'm cwmpas i. Yn wir, pan es i i'r brifysgol gwnes i ddechrau siarad Saesneg o ddydd i ddydd, a dwi'n meddwl ei bod hi'n eithriadol o bwysig os ydyn ni o ddifrif eisiau gweld y Gymraeg yn parhau i'r dyfodol, nid pobl fel fi sy'n mynd i achub yr iaith, ond y rhai hynny sydd yn cymryd y siawns ac yn mynd ati i ddysgu a chefnogi'r iaith.

A hithau’n Ddydd Gŵyl Dewi, byddwn ni i gyd yn cofio heddiw eiriau Dewi Sant o ran gwnewch y pethau bychain. Yn sicr, o ran y Gymraeg a’i pharhad, gallwn oll, yn siaradwyr Cymraeg hyderus, yn ddysgwyr, neu’n rhai sy'n gefnogol i’r iaith—y rhai sydd efo'r Gymraeg yn y galon ond efallai ddim yn y pen—wneud y pethau bychain bob dydd i sicrhau dyfodol i’r iaith. Mae hefyd yn glir na fydd hyn yn ddigon a bod angen i’r Llywodraeth wneud y pethau mawr os ydym ni eisiau cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Mae hyn yn arbennig o wir yn dilyn canlyniadau’r cyfrifiad diweddar, gyda’r niferoedd o siaradwyr wedi gostwng i 17.8 y cant, y nifer isaf erioed.

Fel y gwelwn yng ngwelliant y Llywodraeth, mae hyn yn groes i rai ffynonellau data eraill, ond, fel rwyf wedi dweud droeon erbyn hyn, mae yn bryderus clywed y Llywodraeth dro ar ôl tro yn cwestiynu ffigyrau’r cyfrifiad a hwythau hyd at eleni wedi eu defnyddio fel sail i gynllunio twf yr iaith. Dyna pam, felly, er ein bod yn cytuno gyda gweddill y pwyntiau yn y gwelliant gan y Llywodraeth, y byddwn fel Plaid yn ymatal rhag cefnogi’r gwelliant, gan nad ydym yn credu bod cwestiynu dilysrwydd data’r cyfrifiad yn help mewn difrif o ran sicrhau parhad yr iaith.

Ond â rhoi’r mater o niferoedd i’r naill ochr am funud, gobeithio y gallwn oll fod yn gytûn bod newid wedi bod o ran agweddau tuag at yr iaith dros y blynyddoedd diwethaf, gyda mwy o bobl yn gynnes tuag at yr iaith ac eisiau ei dysgu. Allwn ni ddim gor-bwysleisio pwysigrwydd sefydliadau megis Cymdeithas Bêl-droed Cymru, yr Urdd ac eraill o ran sicrhau bod mwy a mwy o bobl yn dechrau teimlo bod yr iaith yn perthyn iddyn nhw, boed nhw’n siarad yr iaith neu beidio. Ac wnaf i byth, tra byddaf, anghofio gweld Gareth Bale a gweddill y tîm yn cyd-ganu 'Yma o Hyd' gyda Dafydd Iwan. Roedd hon yn foment fawr i’r iaith, ac yn un y gellid dadlau gyda’i gwreiddiau yn narlith 'Tynged yr Iaith' Saunders Lewis yn 1962, fu’n sbardun i sefydlu Cymdeithas yr Iaith.

O ran y cynnig gwreiddiol heddiw, dwi’n falch o weld y pwyslais gan y Ceidwadwyr ar y pwysigrwydd o ddefnyddio’r Gymraeg. Yn sicr, mae'n hanfodol darparu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth neu yn y gwaith, ond yn anffodus, mae’r cyfle i wneud hyn yn parhau i fod yn anghyson ledled Cymru. Cymerwch, er enghraifft, gwasanaethau yn y Gymraeg, neu’r cyfle i fwynhau drwy’r Gymraeg, neu ymwneud â gweithgareddau hamdden. Er bod y safonau wedi gwella mynediad at wasanaethau, yn aml iawn, mae gwasanaethau o’r fath wedi eu cyfyngu, a rhaid parhau i gryfhau’r elfen hon.

Mae’r un peth yn wir hefyd, wrth gwrs, o ran mynediad at  addysg Gymraeg, a’r anghysondeb o ran sut mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Un peth sydd wedi fy nhristáu i ers dod yn Aelod o’r Senedd yw’r nifer o bobl ifanc rwyf wedi eu cyfarfod sydd wedi dweud wrthyf am eu dicter ynglŷn â’r ffaith nad ydynt yn medru’r Gymraeg, er gwaethaf mynychu ysgolion yng Nghymru a derbyn gwersi Cymraeg, a chael TGAU mewn Cymraeg, yn aml iawn. Mae'r rhain yn bobl ifanc wedi eu geni ers i’r Senedd hon fodoli, a'n cyfrifoldeb ni—drwy’r Bil Addysg y Gymraeg sy’n rhan o’r cytundeb cydweithio—yw ein bod yn unioni’r gwall hwn ar gyfer y cenedlaethau i ddod. Dylai pob disgybl yng Nghymru adael yr ysgol yn medru’r Gymraeg a'r Saesneg yn hyderus—ynghyd â ieithoedd eraill—a byddai peidio gosod hynny fel nod a chymryd y camau i wireddu hynny yn fethiant ar ein rhan ni oll.

Yn amlwg, mae prinder athrawon yn rhywbeth arall rydyn ni'n ymwybodol iawn ohono, ac mae'n rhaid inni sicrhau gweld twf yn y fan yna. Mae rhaid hefyd sicrhau cynnwys a chyfleoedd digidol yn y Gymraeg. Gyda mwy a mwy ohonom yn defnyddio gwasanaethau ar-lein, neu’n gwylio cynnwys ar-lein, rhaid sicrhau bod rhain hefyd ar gael. Mae’r un mor bwysig o ran parhad yr iaith ag oedd cael beibl yn y Gymraeg yn dilyn cyfieithiad yr Esgob William Morgan yn 1588.

Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ond os ydyn ni eisiau i bawb gael y cyfle i’w dysgu a’i defnyddio, lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru, mae yna waith mawr yn parhau o’n blaenau. Efallai fod yr iaith ‘yma o hyd’, ac 'er gwaethaf pawb a phopeth', ond mae ei dyfodol yn parhau yn fregus os na welwn hefyd weithredu radical.

16:30

Rwyf am alw ar Gareth Davies nesaf, ac rwy'n deall ei fod wedi ymddiheuro i'r Llywydd am ei gyfraniad yn gynharach, ac felly, fe gaiff gymryd rhan yn y ddadl hon.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl yma y prynhawn yma, a lle dwi'n gallu siarad Cymraeg pan dwi'n rhoi fy meddwl iddo, dwi ddim fel arfer yn siarad cymaint o Gymraeg ag y dylwn i. Dwi'n meddwl yn Saesneg, felly rhaid meddwl dwbl, os ydw i'n clywed rhywun neu'n siarad Cymraeg.

Fel mae pawb wedi clywed drwy’r ddadl hon, mae’r Gymraeg wrth galon ein gwlad, mae’n bwysig ein bod ni'n gwarchod a hyrwyddo hi. Er ein bod ni i gyd eisiau i Gymru fod yn wlad ddwyieithog, yn anffodus, mae ffigurau—

Mae'n ddrwg gennyf. Bydd rhaid i chi fod ychydig yn amyneddgar gyda mi.

—cyfrifiad 2021 yn dangos gostyngiad mewn niferoedd o siaradwyr Cymraeg. Ac mae'n bwysig ein bod ni'n onest am yr achosion a'r datrysiadau i hyn. 

Llywodraeth y Ceidwadwyr, o dan reolaeth Margaret Thatcher, wnaeth greu S4C yn 1982, i ddod â'r iaith Gymraeg i gartrefi Cymru yn ogystal â gwneud yr iaith Gymraeg yn gyfartal i Saesneg. Dydy 25 mlynedd o reolaeth Llafur a Phlaid heb ddod â'r iaith Gymraeg yn agosach i'r Cymry ac maent wedi achosi iddi wneud cam yn ôl. Oherwydd hyn, dydy'r dymuniad o genedl ddwyieithog heb fod y realiti oherwydd aflwyddiant polisiau gan Lywodraethau olynol. Yn lle parhau gyda'r hen drefn, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw i'r iaith Gymraeg fod yn iaith dydd i ddydd yn hytrach na rywbeth sy'n cael ei rhedeg yn gyson gan gwangos sydd ddim fel arfer yn gweddu diwylliant llefydd fel Rhyl a Phrestatyn yn Nyffryn Clwyd. Dyma'r ffordd orau i ddysgwyr fagu hyder a gwneud i'r iaith Gymraeg fod yn rhan o hunaniaeth pawb yng Nghymru, nid jest y siaradwyr iaith gyntaf. Diolch yn fawr iawn. 

16:35

Mae'n flin gen i—yn Saesneg. 

Nid oeddwn yn bwriadu siarad yn y ddadl hon tan imi glywed dechrau'r ddadl, ac nid yw fy Nghymraeg yn agos at fod yn ddigon da i ysgrifennu araith Gymraeg yn y 10 munud neu chwarter awr ers dechrau'r ddadl, felly rwy'n gobeithio y bydd pobl yn derbyn hynny. 

Beth yw'r sefyllfa gyda'r iaith Gymraeg? A gaf fi sôn am rai pethau cadarnhaol? Pan fo'r Aelodau'n ymweld ag ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg, mae'n rhaid bod hyd a lled y Gymraeg achlysurol sy'n cael ei defnyddio yno wedi creu argraff arnoch, ac nid dim ond 'Bore da, prynhawn da' a chyfarchion cyffredinol, ond faint o Gymraeg achlysurol cyffredinol sydd i'w chlywed, a faint o Gymraeg sydd ar y waliau. Ac rwy'n siŵr nad yw rhieni'r un o'r plant hynny yn nodi eu bod yn siaradwyr Cymraeg, ond eto bob dydd, mae'r plant hynny'n siarad Cymraeg yn yr ysgol. Ac rwy'n credu mai dyna un o'r problemau gyda'r hunanasesiad, neu mewn llawer o achosion, asesiad rhieni, o'r gallu i siarad Cymraeg: mae'n rhoi niferoedd a bydd pobl yn eu defnyddio i feirniadu neu longyfarch y Llywodraeth—er rwy'n credu mai beirniadu sy'n digwydd amlaf mae'n debyg—ond rwy'n credu bod angen inni asesu beth yw'r sefyllfa mewn perthynas â'r Gymraeg.

O ran y twf ysgolion cyfrwng Cymraeg ledled Cymru—a gallaf siarad am Ddwyrain Abertawe. Pan aeth fy llysferch i'r ysgol, dim ond Ysgol Gyfun Gŵyr oedd yno. Erbyn hyn, o ran ysgolion uwchradd, mae gennym Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, ond hefyd roedd yn arfer bod gennym Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las fel yr unig ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg. Nawr, ac rwy'n canolbwyntio'n unig ar Ddwyrain Abertawe, mae gennym Ysgol Gymraeg y Cwm yn ogystal â Lôn Las, ac mae gennych Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-lan, lle mae fy ŵyr yn mynd, wedyn mae gennych Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw, lle mae aelodau o fy nheulu'n gweithio. Felly, mae twf enfawr wedi bod yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg. Rwy'n siŵr y bydd rhywun yn dweud yn nes ymlaen, os ydych yn creu ysgolion cyfrwng Cymraeg, y bydd rhieni'n anfon eu plant iddynt. Ac rwy'n siŵr y bydd rhywun arall yn dweud bod angen mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg. Nid wyf yn anghytuno â dim o hynny. Rwy'n credu y dylem gael strategaeth sy'n canolbwyntio ar ba lefel o ysgolion cyfrwng Cymraeg y credwn y dylai pob ardal ei chael, yn hytrach na chael ymagwedd o'r gwaelod i fyny gan yr awdurdod lleol. O gael, 'Rydym yn credu y dylai Abertawe gael...' ac ni allaf ond siarad am Ddwyrain Abertawe, mae'n debyg y gallem wneud gydag o leiaf un ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg arall, er bod yna anawsterau o ran dod o hyd i rywle. Rydym yn ardal adeiledig iawn, fel y bydd unrhyw un arall sy'n cynrychioli'r ardal yn gwybod. Felly, nid oes llawer o dir yn agos at lle mae pobl yn byw.

A gaf fi sôn am rai o'r problemau? Os siaradaf am Fro Cymru, cadarnle mawr y Gymraeg, a oedd yn arfer ymestyn o'r rhan fwyaf o Ynys Môn i lawr i Gwmllynfell, mae'n fwy clytiog erbyn hyn. Nid wyf wedi gweld canlyniadau llawn y cyfrifiad hwn, ond rwy'n dyfalu y bydd yn fwy clytiog byth bellach. Ymysg llawer o'r dadleuon a gefais gyda'r Prif Weinidog blaenorol, dywedais, 'Mae angen i 80 y cant o'r boblogaeth fod yn siarad Cymraeg mewn ardal i'r iaith honno gael ei hystyried yn iaith yr ardal', oherwydd os oes gennych chi 80 y cant yn siarad Cymraeg yno, os byddwch yn cwrdd â rhywun, bydd pedwar o bob pump person y siaradwch â hwy'n siarad Cymraeg—mae'n werth rhoi cynnig arni. Wrth fynd lawr i 50 y cant, mae'n un o bob dau, ac mae'n debyg nad yw'n werth rhoi cynnig arni. Pan ymwelaf â Chaernarfon—rwy'n siŵr fod pobl eraill yn adnabod Caernarfon yn well na mi; rwy'n siŵr fod Heledd Fychan o Ynys Môn yn adnabod yr ardal yn llawer gwell na fi—Cymraeg yw iaith y stryd. Os ewch i dafarn, maent yn disgwyl i chi archebu cwrw yn Gymraeg. Os ydych yn archebu bwyd, maent yn disgwyl i chi archebu bwyd yn Gymraeg. A phan ewch i mewn i siopau, maent yn disgwyl i chi brynu eitemau yn Gymraeg. Rwy'n dod o Dreforys lle mae tua un o bob pump o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg, ond mae yna ddiffyg disgwyliad. Mae rhai pobl yn siarad Cymraeg pan fyddant yn mynd i siopau ac yn y blaen, yn y gobaith y byddant yn deall, ond nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn trafferthu. Gallwn ddweud mai cwrteisi cyffredinol siaradwyr Cymraeg ydyw, ond gan fod fy ngwraig a fy merch ill dwy yn siaradwyr Cymraeg, ni fyddwn yn dweud hynny.

Rwy'n siarad Cymraeg bob dydd, ond rwy'n dewis gyda phwy rwy'n ei siarad. Rwy'n falch fod Delyth wedi dod i mewn i'r ystafell nawr, oherwydd mae hi'n un o'r ychydig bobl rwy'n siarad Cymraeg â hwy yma, ac os ysgrifennaf at Delyth, rwyf bob amser yn ysgrifennu ati yn Gymraeg. Ond rwy'n hyderus na fydd hi'n gwneud hwyl am fy mhen os gwnaf hynny, ac rwy'n credu mai dyna un o'r problemau a gawn gyda'r rhai ohonom nad ydym yn hyderus yn y Gymraeg, ac yn sicr y rhai ohonom nad ydym yn hyderus i siarad Cymraeg yn y Siambr.

Yn olaf, rydym angen gwybod pa mor aml y mae pobl yn siarad Cymraeg. Rwy'n adnabod pobl sy'n gallu siarad Cymraeg, ond byth yn gwneud hynny, ac rwy'n credu bod angen inni ddarganfod faint o bobl sy'n ei siarad yn ddyddiol neu'n wythnosol. Rwy'n credu ein bod angen hynny yn y cyfrifiad, ac efallai y byddem yn cael canlyniad mwy cywir, ond efallai'n bwysicach na hynny, efallai y byddem yn cael canlyniad mwy ystyrlon.

16:40

Heddiw, rwyf am roi cynnig ar siarad Cymraeg yn y Siambr am y tro cyntaf.

Fel ysgrifennodd y bardd Eifion Wyn:

'Cymru fach i mi— / Bro y llus a'r llynnoedd / Corlan y mynyddoedd / Hawdd ei charu hi.'

Mae'n wych cymryd rhan yn y ddadl hon a thynnu sylw at bwysigrwydd yr iaith Gymraeg. Fel Aelod Senedd Cymru dros Frycheiniog a Maesyfed, mae gennyf lawer o gymunedau ble mai Cymraeg yw’r iaith gyntaf a dwi'n deall pa mor bwysig yw'r iaith i nhw.

Rwyf am ddweud, Gadeirydd, mai dyna'r peth mwyaf brawychus i mi ei ddweud yn y Siambr hon erioed, ac fel dysgwr Cymraeg, mae'n anodd iawn weithiau i bobl wneud hyn. Fel y dywedodd Mike Hedges, weithiau, rydym yn teimlo y bydd pobl yn gwneud hwyl am ein pennau, nad ydym yn dweud pethau'n gywir. Yn bersonol, rwy'n teimlo tipyn o falchder am wneud hynny yn fy Senedd genedlaethol fy hun, a siarad yn fy iaith genedlaethol fy hun, ac rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn.

Nid wyf am grynhoi, ond mae'n debyg iawn i'r hyn a ddywedodd Heledd, mewn gwirionedd, am rywun a ddysgodd Gymraeg yn yr ysgol. Dyna wnes i; cefais B mewn TGAU Cymraeg, ac rwy'n dal i deimlo'n ddig iawn am y ffaith nad wyf yn gallu defnyddio a sgwrsio yn fy iaith naturiol, frodorol yng Nghymru, oherwydd nid wyf yn ddigon hyderus i wneud hynny. Rwy'n credu bod llawer o bobl ifanc fel fi, sydd yr un oedran â mi, tua 31, wedi cael y profiad hwnnw, ac nid wyf yn credu ein bod ni, yn yr ardal rwy'n hanu ohoni, ardaloedd yng nghanolbarth Cymru, wedi cael cyfle iawn i siarad yr iaith. Ychydig iawn o gymunedau a geir yn fy ardal i—Ystradgynlais yn y de, Pontsenni ac ambell i le yn y gogledd—sy'n siarad Cymraeg mewn gwirionedd, ac rwy'n teimlo trueni drostynt weithiau pan fyddaf yn mynd i gyfarfod ag etholwyr yno, am nad wyf yn gallu siarad â hwy yn yr iaith y maent yn eisiau ei siarad. Dyna pam rwy'n gefnogol iawn i'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud i geisio cael mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg ar draws pob rhan o Gymru, oherwydd rwyf eisiau gweld addysg cyfrwng Cymraeg mewn llefydd fel Brycheiniog a sir Faesyfed. Oherwydd os ydych chi am dyfu'r iaith Gymraeg ledled Cymru, mae angen i chi wneud yn siŵr ei bod hi'n cyrraedd llefydd lle mae'r iaith wedi cael ei hanghofio a'i gwthio allan, ac mae yna lefydd yn fy ardal i, o gwmpas ardal y Gelli Gandryll, yn sir Faesyfed yn enwedig, lle nad oes gennym unrhyw addysg cyfrwng Cymraeg. Os oes gennym addysg o'r fath, mae'n cael ei rhoi yn y brif ffrwd gydag addysg Saesneg ac mae disgyblion yn tueddu i wneud eu dewisiadau, ac maent yn tueddu i fod eisiau mynd i'r ffrwd Saesneg a gadael y ffrwd Gymraeg. Ac nid yw hynny'n ddigon da. Felly, rwyf eisiau gweld mwy o addysg Gymraeg yn cael ei darparu ledled Cymru, ond yn enwedig yn y llefydd lle mae'r iaith wedi mynd yn angof.

Ac nid wyf am siarad yn hir iawn heddiw, ond rwyf eisiau dweud wrth bob dysgwr Cymraeg: fe siaradais yn ein Senedd genedlaethol gyda'r holl nerfau a'r disgwyliadau o ran yr hyn y dylech ei ddweud a sut i'w ddweud yn gywir ac rwyf wedi ei wneud, felly rwy'n annog pob dysgwr Cymraeg ledled Cymru i siarad Cymraegsiarad yn Gymraeg—mwynhewch yr iaith. Ac os byddwn i gyd yn siarad Cymraeg, rwy'n siŵr y bydd yr iaith yn tyfu ac y cawn fwy o siaradwyr Cymraeg ar draws ein gwlad wych. Diolch, Gadeirydd.

16:45

Hoffwn i ddiolch i'r Ceidwadwyr am ddod â'r cynnig hwn gerbron; fe wnaf eu llongyfarch nhw ar eu cyfraniadau yn y Gymraeg. Mi oeddech chi'n sôn am y ffaith, ac yn ymfalchïo yn y ffaith, fod S4C wedi cael ei sefydlu gan Lywodraeth Geidwadol. Wrth gwrs, byddwn ni'n hoffi eich atgoffa chi am safiad Gwynfor Evans, wrth gwrs, cyn arweinydd Plaid Cymru, a wnaeth arwain mewn gwirionedd at y tro pedol wnaeth arwain at sefydlu S4C. A hefyd hoffwn dalu teyrnged i'r cannoedd o ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac eraill wnaeth frwydro mor hir—am ddegawdau—dros gael sianel Gymraeg, sydd wedi profi mor hanfodol at ddiogelu'r Gymraeg.

Mae canlyniadau'r cyfrifiad yn dangos dirywiad yn y ganran o siaradwyr Cymraeg ym mron pob ardal, gan gynnwys ar gyfer pob oed ac ymhlith plant tair i 15 oed ym mhob sir yn fy rhanbarth i. Ac mae'r frwydr rŷn ni wedi clywed amdani heddiw dros sicrhau mynediad at addysg Gymraeg wedi bod yn un hir a rhwystredig yn yr ardal rwy nawr yn ei chynrychioli, fel yn nifer o lefydd yng Nghymru. Ac mae'n frwydr dwi wedi byw yn bersonol, nid yn unig dros fy mhlant yn ardal Abertawe i geisio agor Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw, ond hefyd fel plentyn yn tyfu lan yng Ngwent, lle roedd y cyngor Llafur ar y pryd, yn y 1970au a'r 1980au, yn gwrthod agor ysgolion Cymraeg ac ond yn fodlon agor unedau a oedd yn sownd wrth ysgolion Saesneg. A fi a fy chwaer wedyn, achos doedd yna ddim ysgol gyfun—yn debyg i'r hyn y mae James Evans yn sôn amdano fe yn ei ardal e—yn gorfod teithio dros siroedd am oriau lawer ar fysus i gael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.

A rŷn ni'n gwybod hefyd bod nifer uchel o'r rhai sydd wedi derbyn addysg Gymraeg yn colli eu sgiliau a'u hyder wedyn i siarad Cymraeg ar ôl gadael yr ysgol yn 16 neu'n 18 oed. Fyddwn i ddim yn rhugl—Saesneg roedden ni'n ei siarad adref—achos dwi'n un o'r straeon nodweddiadol yna lle roedd y mam-gus a'r tad-cus yn siarad Cymraeg a mam a dad heb gael addysg Gymraeg, yn blant y 1930au a'r 1940au, ond yn benderfynol wedyn o ymgyrchu dros addysg Gymraeg fel doedd fy nghenhedlaeth i ddim yn colli trysor yr iaith.

Mae rhaid inni ddatblygu cyfleoedd hyfforddi ac astudio Cymraeg a dwyieithog yn ein colegau addysg bellach, yn y prifysgolion ac yn y gweithle, yn ogystal ag yn ein hysgolion oedran statudol. A hoffwn i dalu teyrnged i waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd yn cyfrannu'n uniongyrchol at y nod o sicrhau nad yw hyn yn digwydd, a bod pobl yn parhau i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg yn ystod y cyfnod ar ôl gadael yr ysgol. Mae parhad y gwaith hwn yn gwbl allweddol os ydym am ddyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg a chreu gweithleoedd ble mae pobl yn hyderus i ddefnyddio eu Cymraeg—creu gweithleoedd, creu cymunedau. Ac fe fues i'n ddiweddar yng Ngholeg Castell-nedd, lle mae gwaith ardderchog yn digwydd i geisio cyflawni hynny.

Mae cwm Tawe, lle dwi'n byw nawr, yn ardal o sensitifrwydd ieithyddol arbennig—y ffin yma roedd Mike Hedges yn sôn amdani hi. Mae sicrhau nid yn unig mynediad i addysg Gymraeg, ond hefyd y cyfleon yma i ddefnyddio'r iaith, wrth gwrs yn greiddiol i barhad yr iaith yn y cwm ac ardaloedd fel hi, sef yr hyn sy'n cael ei gydnabod yng nghymal olaf y cynnig.

Mae'n gydnabyddedig ei fod yn hollbwysig fod angen amrywiaeth o ffyrdd i hybu'r iaith er mwyn galluogi a chynyddu defnydd gan siaradwyr hen a newydd. Mae'n amlwg o'r cyfrifiad bod angen gwella ar yr hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol, ond rhaid hefyd warchod yn erbyn taflu'r llo a chadw'r brych wrth ddatblygu polisïau cryfach a mwy effeithiol. Mae angen sicrwydd y bydd y mentrau sydd wedi derbyn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, er enghraifft, ac wedi profi'n llwyddiannus wrth hybu defnydd o'r Gymraeg yn parhau i gael eu cefnogi. Yn achos cwm Tawe, mae'r papur bro, papur bro y Llais—a dwi'n datgan budd; dwi'n un o bwyllgor y papur bro—y fenter iaith, a'r Urdd yn gwneud gwaith arbennig. Rwyf wedi sôn yn flaenorol am waith Tŷ'r Gwrhyd, canolfan Gymraeg ym Mhontardawe a sefydlwyd â chefnogaeth grant Llywodraeth Cymru. Mae'n enghraifft dda o'r hyn sy'n bosib i sicrhau cefnogaeth anffurfiol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg i blant ac oedolion, i ddysgwyr, a sicrhau defnydd cymunedol o'r iaith. Felly, hoffwn i wybod heddiw gan y Gweinidog beth yw gweledigaeth y Llywodraeth o ran adeiladu ar fuddsoddiadau llwyddiannus fel hyn, sydd â thrac record lwyddiannus o gryfhau'r Gymraeg ar lefel gymunedol. Mae Tŷ Tawe hefyd, yn Abertawe, yn enghraifft o sefydliad sy'n llwyddo yn hyn o beth. A fydd y Llywodraeth yn cynnig mwy o gefnogaeth i ganolfannau fel Tŷ Tawe er mwyn eu galluogi i barhau â'u gwaith gwych, ond hefyd i fedru datblygu ymhellach?

Yn ogystal, o ran hybu a gwarchod yr iaith, mae'n rhaid inni wneud yn siŵr bod pob adran yn y Llywodraeth yn siarad gyda'i gilydd. Rŷn ni wedi cael enghraifft o hyn yn fy ardal i, lle dyw adran y Gymraeg a'r adran addysg, er eu bod nhw'n dod o dan yr un Gweinidog, efallai ddim yn siarad gyda'i gilydd, lle mae yna arian yn cael ei glustnodi, cyllid yn cael ei addo, i gyngor i gynllun a fyddai wedi cael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg.

Felly, hoffwn i jest ddiolch i'r Ceidwadwyr am ddod â'r ddadl bwysig yma gerbron. Mae wedi bod mor braf i glywed ein holl straeon ni ynglŷn â'n perthynas ni gyda'r iaith.

16:50

Galwaf yn awr ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles. 

Wel, Dydd Gŵyl Dewi hapus i bawb. A dyma gofio nid jest ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi mae'r Gymraeg, ond ar gyfer bob dydd, a faint bynnag o Gymraeg sydd gyda chi, defnyddiwch hi bob cyfle y gallwch chi: defnydd, defnydd, defnydd yw'r ateb. Gaf i ddweud, dwi ddim wedi clywed Tom Giffard, Gareth Davies na James Evans erioed yn siarad cymaint o Gymraeg, felly llongyfarchiadau iddyn nhw ar wneud eu cyfraniadau yn y Gymraeg? Braf oedd clywed hynny, os nad braf oedd clywed y ddadl wag mai Margaret Thatcher oedd cyfaill gorau'r Gymraeg.

Dwi'n dweud yn aml fod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, felly hefyd y cyfrifoldeb am ei dyfodol hi. Mae'n hiaith ni'n rhywbeth mae'n rhaid inni ei chynnwys ym mhob agwedd ar ein gwaith a'n bywydau bob dydd drwy gydol y flwyddyn. Ein nod yw ei gwneud hi'n rhan o bob agwedd ar ein gwaith ni yn Llywodraeth Cymru, fel roedd Sioned Williams yn sôn jest nawr. Yn yr un modd, rŷn ni am roi cyfleoedd i bobl Cymru ddefnyddio'r iaith yn eu bywydau pob dydd, oherwydd, yn y bôn, peth pobl yw iaith—dyw hi ddim yn bodoli heb gymuned o bobl i'w siarad hi. Dim ond ddoe fe wnaeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ddatganiad am allu'r Gymraeg i ddod â chymunedau ynghyd. 

O ran y cynnig sydd gerbron, er ein bod ni'n cytuno â byrdwn y peth, rwy'n credu bod angen ychwanegu eto er mwyn cydnabod y gwaith rydyn ni a'n partneriaid yn barod wedi'i wneud i roi 'Cymraeg 2050' ar waith. Yn gyntaf, gadewch i fi bwysleisio ein hymrwymiad tymor hir i'n hiaith ni. Mae 'Cymraeg 2050' yn rhaglen waith sylweddol sy'n weithredol nawr, ond sy'n rhedeg am ddegawdau. Nid dros nos mae gwneud cynnydd ym maes polisi iaith, a dim ond ers 2017 mae'r strategaeth wedi bod yn ei lle, ond, hyd yn oed yn y cyfnod byr yna, rŷn ni wedi sicrhau bod pob un awdurdod lleol yng Nghymru wedi cyhoeddi cynlluniau i gynyddu mynediad i'r Gymraeg ar draws pob categori o ysgol, fel roedd Mike Hedges yn sôn.

Cyn diwedd y mis, byddaf i'n cyhoeddi ein rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn newydd, ond cofiwch, ar ddiwedd y dydd, nid dogfennau sy'n bwysig, ond pobl, ac mae pobl Cymru gyda ni o ran y Gymraeg. Mae 86 y cant o oedolion yn meddwl bod ein hiaith ni'n rhywbeth i fod yn falch ohoni, felly dwi'n dal i fod yn optimistaidd am y daith sydd o'n blaenau ni. Nid esgusodi canlyniadau'r cyfrifiad ydw i, ond mae'n bwysig nodi nad ydyn ni'n gwybod gwir effeithiau ar y canlyniadau o ran ei gynnal ef yn ystod pandemig byd-eang. Dwi'n rhannu pryder Aelodau am y canlyniadau. Ers i ni gael gwybod, rŷn ni wedi cael amser i wneud dadansoddiadau cychwynnol o'r ystadegau, ac mae mwy o ganlyniadau a mwy o ddadansoddi i ddod. Mae'n bwysig gweithio ar sail ffeithiau. Mae'n werth nodi bod canlyniadau gwahanol arolygon ar y Gymraeg yn dweud pethau gwahanol wrthym ni. Mae arolwg blynyddol diweddaraf o'r boblogaeth yn dangos bod bron 900,000 yn gallu siarad Cymraeg, mewn cymhariaeth â'r 538,000 mae cyfrifiad 2021 yn ei nodi. Mae angen inni wybod pam mae hynny, a byddwn i'n annog Heledd Fychan i beidio ag anwybyddu'r data ehangach; mae'n rhaid gweld y darlun cyflawn. Dyna pam mae swyddogion yn cydweithio â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol er mwyn deall y sefyllfa yn well.

Ac o ran y ffeithiau, rŷn ni hefyd eisiau deall beth sy'n digwydd yn yr hyn sy'n cael ei alw'n draddodiadol yn gadarnleoedd y Gymraeg. Dyna pam roeddwn i'n falch o lansio'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg fis Awst diwethaf. Byddaf i'n talu sylw manwl iawn i'r argymhellion y bydd y comisiwn yn eu cyflwyno i mi, a dwi'n siŵr y bydd yr argymhellion hynny yn cynnwys gwaith i mi ac i lawer o bobl a sefydliadau eraill, gan gynnwys, gyda llaw, pob un ohonom ni yma heddiw. Mae'r Gymraeg yn perthyn—

16:55

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. A chithau wedi fy enwi, roeddwn i'n meddwl byddwn i jest eisiau gwneud y sicrwydd dwi ddim yn diystyru gweddill y data, ond, yn amlwg, cyfrifiad 2011 oedd y sail o ran strategaeth 'Cymraeg 2050' ac ati. Dwi jest yn poeni mai sampl llai ydy'r samplau eraill—er enghraifft, yr arolwg cenedlaethol; dwi'n meddwl 1,000 o bobl, ond cewch chi fy nghywiro i—o'i gymharu â'r holl boblogaeth yn gorfod cyfrannu i gyfrifiad. Felly, dwi yn sicr eisiau deall y data'n well, ond fy nadl i ydy dwi ddim yn deall y sifft gan y Llywodraeth o fod wedi pwysleisio pwysigrwydd y cyfrifiad yn y gorffennol i'w ddiystyru os nad ydy'r ffigurau yn gweddu i'r hyn rydych chi eisiau iddo fo fod yn ei ddweud y tro hyn.

Wel, does dim sifft, a does dim diystyru. Y llinyn mesur yw'r cyfrifiad, ond mae'n rhaid edrych ar y cyd-destun ehangach os ydyn ni'n moyn seilio'n polisi ar ffaith yn hytrach na'r hyn hoffem ni ei weld. Felly, dyna pam mae edrych ar y darlun ehangach mor bwysig.

Ond, fel roeddwn i'n dweud, mae'n bwysig hefyd ein bod ni'n edrych ar y gwaith fydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn ein helpu ni gyda fe, oherwydd bydd argymhellion polisi yn sicr yn dod yn sgil eu gwaith nhw, ac rwy'n siŵr bydd cyfle pellach inni drafod a dadlau am hynny.

Roedd yr Aelod yn sôn bod y Gymraeg yn ased diwylliannol pwysig; dwi'n cytuno. Wrth edrych ar sut mae pêl-droed wedi cofleidio'n hiaith ni yma yng Nghymru ac ar y llwyfan rhyngwladol dros y blynyddoedd diwethaf, mae modd, dwi'n credu, inni weld yn glir yr hyn mae chwaraeon yn gallu cyfrannu i'n hiaith ni ac i'n hysbryd cenedlaethol ni. Fe es i i ddigwyddiad Dydd Miwsig Cymru ychydig yn ôl. Roedd hi'n hyfryd gweld cymaint o frwdfrydedd tuag at y Gymraeg a'n diwylliant ni, nid jest yng Nghymru ond y tu hwnt hefyd—pobl yn dod at ei gilydd oherwydd y Gymraeg, diwylliant y Gymraeg, yn y Gymraeg. Fel roeddwn i'n dweud, peth pobl yw'n hiaith ni. Ac roedd y cydweithio gwelsom ni y diwrnod hwnnw rhwng ysgolion, mentrau iaith a llu o bobl a sefydliadau eraill yn wych. Diolch iddyn nhw ac i Ddydd Miwsig Cymru am eu gwaith trwy gydol y flwyddyn.

Gwnes i hefyd cyhoeddi cystadleuaeth grant newydd sbon i feithrin sgiliau a'r gallu i greu cyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd mewn digwyddiadau cerddorol a gigs Cymraeg, a dwi am weithio gyda Gweinidogion eraill, a Phlaid Cymru, trwy'r cytundeb cydweithio, i wreiddio'r Gymraeg yn ein strategaeth ddiwylliant newydd.

Rydym ni wedi clywed sôn gan Tom Giffard ar y cychwyn am lefelau hyder siaradwyr Cymraeg a phwysigrwydd cynyddu cyfleoedd i ddefnyddio'n hiaith ni. Rwy'n cytuno; dyna graidd fy ngwaith i. Dyna pam mae gyda ni Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a diolch iddyn nhw am eu gwaith. Mae galluogi a grymuso siaradwyr newydd, a'r rheini dyw'r Gymraeg ddim wedi bod yn rhan o'i rwtîn nhw ers sbel, i ddefnyddio'r Gymraeg sydd gyda nhw yn hollbwysig. Felly, fy neges i i bawb sy'n dysgu'r Gymraeg neu sy'n ei medru hi ond efallai bach yn ddihyder yw: ewch amdani. Defnyddiwch hynny o Gymraeg sydd gyda chi lle bynnag y gallwch chi, a byddaf i'n gweithio i greu mwy o gyfleoedd i chi. Fesul gair, fesul brawddeg, fe fyddwch chi'n magu hyder a hefyd yn ysbrydoli eraill. Mae ymrwymiad y Llywodraeth i'n hiaith ni yn gwbl glir: rŷn ni am weld dyfodol llewyrchus iddi. 

Diolch. Diolch, Weinidog, a Dydd Gŵyl Dewi Hapus. Roeddwn eisiau gofyn i chi am—. Mae pawb yma, rwy'n credu, eisiau gweld mwy o Gymraeg yn cael ei siarad ledled Cymru, ond rwy'n meddwl tybed sut y gallwn wneud hynny pan fo gennym argyfwng recriwtio a chadw athrawon ar hyn o bryd, sydd hefyd yn golygu na allwn ddenu athrawon Cymraeg eu hiaith, sy'n addysgu pynciau craidd, i'n hysgolion cyfrwng Cymraeg, ac os ydym eisiau datblygu'r ysgolion cyfrwng Cymraeg hynny, rhywbeth y mae pob plaid wedi dweud eu bod eisiau ei weld yn digwydd rwy'n credu, sut y gallwn ni wneud hynny pan na allwn ddenu'r athrawon i'r ysgolion cyfrwng Cymraeg hynny ar hyn o bryd, i siarad Cymraeg ac i addysgu'r pynciau craidd hynny? Diolch. 

17:00

Fel y gŵyr yr Aelod o'n trafodaethau blaenorol, rydym wedi bod yn gweithio gyda'n partneriaid mewn perthynas â'r her anodd i gynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Ac yn ffodus, fel y gŵyr, mae gennym gynllun 10 mlynedd rydym wedi bod yn gweithio arno gyda'n gilydd, ac sy'n ganlyniad i lawer o greadigrwydd ac ymrwymiad ledled Cymru, a diolch i'n holl bartneriaid am eu cyfraniad at hwnnw. Byddwn eisiau sicrhau bod popeth yn y cynllun hwnnw’n cael ei roi ar waith, fel y gallwn wneud y mwyaf o’r cyfle i ddenu pobl i’r proffesiwn. Mae gennym amrywiaeth o gymelliadau ariannol, ond ffyrdd eraill hefyd o gynyddu’r niferoedd sy’n dod i mewn i’r proffesiwn i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ac fel y gŵyr, byddaf yn adrodd yn rheolaidd i'r Senedd ar gynnydd yn erbyn y cynllun hwnnw, ac rwy'n sicr y byddwn yn parhau i adeiladu ar y pethau sy'n effeithiol ac y byddwn yn rhoi'r gorau i wneud y pethau nad ydynt yn effeithiol. Yr amcan yw cynyddu’r niferoedd, fel y gwn ei bod hi eisiau inni ei wneud hefyd, fel bod pob plentyn yng Nghymru sy'n dymuno cael addysg Gymraeg yn gallu ei chael.

Rŷm ni'n gobeithio y bydd pob un ohonoch chi, o ba bynnag blaid neu ba bynnag brofiad ieithyddol, yn ymrwymo heddiw ar Ddydd Gŵyl Dewi i weithio drwy'r flwyddyn i greu Cymru lle gall cenedlaethau'r dyfodol ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd. Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni gyd, ac fel byddai Dewi Sant rwy'n sicr yn dweud pe tasai e'n cyfrannu i'r ddadl hon: byddwch lawen, gwnewch y pethau bychain, a chadwch y ffydd.

Diolch yn fawr, Llywydd dros dro. Dwi'n cytuno â beth ddywedodd y Gweinidog ar y diwedd—mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb—a dyna pam roedd e'n braf clywed pobl dwi'n gwybod eu bod yn gallu siarad ambell air o Gymraeg yn ein grŵp ni, ond dŷn ni ddim wedi'u clywed yn y Siambr hyd yn hyn. Felly, a allaf ddechrau drwy ddweud fy mod i'n falch iawn o glywed James Evans a Gareth Davies heddiw yn siarad Cymraeg yn y Siambr hon? Da iawn i'r ddau ohonyn nhw. Ac mae'r Gweinidog yn gywir yn yr hyn ddywedodd e: mae 86 y cant o bobl yn meddwl bod yr iaith Gymraeg yn rhywbeth i fod yn falch ohono, ac mae e'n iawn nad oes angen becso os ŷch chi'n siarad yn Gymraeg neu'n Saesneg, neu os ydych chi'n gwybod ambell air o Gymraeg; mae'n bwysig eich bod chi'n datblygu yr iaith sydd gennych chi, a dyna, fel dywedais i ar y dechrau, fy stori i hefyd.

Fe wnaeth James Evans a Mike Hedges a'r Gweinidog sôn am hyder. Hyder yw'r peth mwyaf pwysig, dwi'n credu, pan fo'n dod i siarad Cymraeg a sgiliau siarad Cymraeg pob dydd. Ond mae'n bwysig hefyd fod pobl yng Nghymru yn gallu cael addysg Gymraeg hefyd, a dyna pam roedd hi'n braf clywed Sioned Williams a Mike Hedges yn sôn am bwysigrwydd ysgolion Cymraeg a'u bod nhw ar gael. Ac mae Mike yn iawn: mae'r ddau ohonom ni'n cynrychioli Abertawe, ac rydyn ni wedi gweld datblygiad yn ninas Abertawe o ran ysgolion Cymraeg dros y blynyddoedd diwethaf. Ond fel y gwnaeth Heledd Fychan sôn, mae 'Cymraeg 2050' yn darged uchelgeisiol—does neb yn cuddio o'r ffaith honno. Yr unig ffordd fyddwn ni'n gallu cyrraedd y targed hwn fydd drwy gydweithio, a phartneriaeth hefyd. 

Ac o'n rhan ni, y rheswm rydyn ni wedi rhoi'r ddadl yma heddiw yw ein bod ni eisiau bod yn ffrind beirniadol i'r Llywodraeth. Rydyn ni am annog y Gweinidog i ddyblu ei ymdrechion, dwi'n gobeithio, yn enwedig os ydym ni'n edrych nôl at gyfrifiad 2021. Dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn ymwybodol iawn o'r heriau sy'n wynebu'r sector addysg, ac rydym ni wedi clywed Laura Anne Jones yn sôn am y problemau mae'r sector addysg yn edrych arnynt, yn enwedig o ran recriwtio siaradwyr Cymraeg i ddysgu yn yr iaith Gymraeg hefyd mewn lleoliadau iaith gyntaf ac ail iaith. Ac mae canran uchel o athrawon yn nesáu at oedran ymddeol, ac mae nifer sylweddol yn gallu dewis ymddeol yn gynnar, ond, er gwaethaf hyn, dydyn ni ddim yn recriwtio digon o athrawon newydd yn yr iaith Gymraeg o hyd. Bydd hyn yn rhwystr mewn pum, 10, 15 mlynedd, ac yn amharu'n sylweddol ar allu'r Llywodraeth i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg, fel rŷn ni i gyd eisiau'u gweld. Yn ôl data Llywodraeth Cymru ei hun, er mwyn cyrraedd y targed hwnnw, dylen nhw fod yn recriwtio 550 o athrawon y flwyddyn, ond mae'r realiti yn llawer gwahanol—mae'r ffigur gwirioneddol yn 500 o athrawon yn brin o'r targed recriwtio angenrheidiol. Felly, o ystyried hyn, allaf i annog Gweinidog y Gymraeg i ddyblu lawr ar ei ymdrechion i sicrhau bod gennym ni ddigon o athrawon Cymraeg yn y dyfodol?

A gadewch i ni fod yn glir: mae'r heriau recriwtio hyn yn hynod o gymhleth. Nid oes un ateb unigol, ond dyna pam mae angen i ni weld cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, addysg uwch, addysg bellach ac awdurdodau lleol. Mae angen i bawb fod yn canu o'r un daflen. Dwi'n gwybod bod fy nghyd-Aelod Samuel Kurtz wedi codi gyda'r Gweinidog bwysigrwydd achrediad addysg gychwynnol athrawon fel ateb posibl i'r heriau rydyn ni wedi'u codi. Hoffwn i glywed mwy gan y Gweinidog am y wybodaeth ddiweddaraf ar y mater hwn ar ôl i'r consultation ddod i ben ddiwedd mis Ionawr. Dwi'n gobeithio bod pawb yn cytuno y gall partneriaeth addysg gychwynnol athrawon chwarae rhan allweddol i ddatblygu gweithlu addysg dwyieithog. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod y meini prawf yn cyd-fynd law yn llaw â pholisi'r Llywodraeth drwy ddatblygu ffyrdd ymarferol lle gall y Llywodraeth ddangos bod 'Cymraeg 2050' yn fwy na tharged yn unig, ond bwriad hefyd.

I gloi, Llywydd, hoffwn i ailadrodd fy mhwynt cychwynnol. Nid pwrpas y cynnig hwn yw canfod bai ar Lywodraeth Cymru, neu beth bynnag. Rŷn ni eisiau i chi lwyddo. Rydyn ni i gyd yn moyn eich gweld chi'n llwyddo. Rydyn ni i gyd eisiau gweld miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, ond er mwyn i hwnna fod yn wir, mae'n rhaid i ni fod yn barod, yn feiddgar ac yn uchelgeisiol gyda'n penderfyniadau. Gyda hynny, rwy'n annog pob Aelod i bleidleisio o blaid ein cynnig y prynhawn yma. Diolch.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, fe fyddwn ni'n symud yn syth i bleidlais. Dwi'n gweld tri Aelod yn gofyn i fi ganu'r gloch. Felly, bydd y gloch yn cael ei chanu a'r pleidleisio'n digwydd mewn pum munud. 

Canwyd y gloch i alw’r Aelodau i’r Siambr.

17:10

Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Felly, mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 6, sef dadl Plaid Cymru ar gysylltiadau diwydiannol. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. O blaid pedwar, neb yn ymatal—na, mae'n ddrwg gyda fi. O blaid 10, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 6. Dadl Plaid Cymru - Cysylltiadau diwydiannol. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 10, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 sydd nesaf. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os yw gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Pleidlais felly ar welliant 1. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Eitem 6. Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 12, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 sydd nesaf. Gwelliant 2 yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 21 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.

Eitem 6. Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 24, Yn erbyn: 21, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

17:15

Cynnig NDM8210 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod ac yn parchu cryfder y teimladau a ddangoswyd gan aelodau'r undebau llafur drwy bleidleisiau ar streicio a chynnal gweithredu diwydiannol.

2. Yn credu bod Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymosodiad ar undebau llafur a hawl sylfaenol gweithwyr i streicio.

3. Yn gresynu at y diffyg ymgysylltu llwyr gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar y ddeddfwriaeth hon cyn ei chyflwyno ac yn nodi safbwynt Llywodraeth Cymru fel y nodir yn ei Datganiad Ysgrifenedig a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.

4. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru, a’r holl undebau llafur a gweithwyr y sector cyhoeddus yn eu hymdrechion i wrthsefyll y Bil.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 32, neb yn ymatal, 13 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Eitem 6. Dadl Plaid Cymru - Cysylltiadau diwydiannol. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 32, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 7 ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y Gymraeg. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 23 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y Gymraeg. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 22, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, naw yn ymatal, 12 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi ei basio.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 24, Yn erbyn: 12, Ymatal: 9

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8212 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Cymraeg 2050: Rhaglen Waith 2021 i 2026.

2. Yn mynegi pryder am y ffaith bod Cyfrifiad 2021 wedi datgelu y bu gostyngiad o dros 20,000 yn nifer y bobl sy'n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

3. Yn credu bod y Gymraeg yn ased diwylliannol sy'n dod â llawer o fanteision i Gymru.

4. Yn cydnabod yr amrywiaeth mewn hyder ymhlith siaradwyr Cymraeg.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych i mewn i gyfleoedd i ehangu a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg o ddydd i ddydd.

6. Yn cydnabod bod ffynonellau data eraill yn dangos bod nifer cynyddol o bobl yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg a bod niferoedd cynyddol o blant yn mynychu addysg cyfrwng Cymraeg.

7. Yn croesawu:

(a) bod pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi cyhoeddi Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg newydd i gynyddu mynediad at gyfleoedd dysgu Cymraeg ar draws ysgolion o bob categori iaith;

(b) gwaith y Comisiwn Cymunedau Cymraeg i gryfhau'r Gymraeg ar lefel gymunedol; ac

(c) gwaith ein sefydliadau partner megis Mudiad Meithrin, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, y Mentrau Iaith, ac eraill, i ddarparu cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, neb yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y Gymraeg. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 45, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

9. Dadl Fer: Dydd Gŵyl Dewi—Hunaniaeth Gymreig yng Nghasnewydd

Rydyn ni'n mynd ymlaen nawr i'r ddadl fer. Mae'r ddadl fer y prynhawn yma gan John Griffiths.

Diolch, Lywydd. Bydd Jayne Bryant a Peredur Owen Griffiths yn siarad am un funud.

Lywydd, Ddirprwy Weinidog, dwi eisiau dechrau’r ddadl fer heddiw drwy ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus i chi ac i bawb yma yn y Senedd. Rwy’n falch o gael y ddadl yma ar y diwrnod pan ydym yn dathlu ein sant cenedlaethol. Fel llawer yn Nwyrain Casnewydd a ledled Cymru, byddaf yn nodi’r diwrnod. Rwy’n falch iawn o fod o Gasnewydd ac yn Gymro, ond, fel byddech chi'n siŵr o wybod, Weinidog, nid yw’r teimlad o Gymreictod yn fy ninas wedi bod yn syml. Mae hanes sir Fynwy—sy’n cynnwys Casnewydd—a’i le yng Nghymru wedi newid dros bedwar canrif. 

Cyn y Ddeddf Uno gyntaf ym 1535, pan gafodd Cymru ei chyfeddiannu gan Loegr, roedd sir Fynwy yn cael ei hystyried yn rhan o Gymru. Ar ôl yr ail Ddeddf Uno ym 1542, aeth pethau'n gymhleth. Cofrestrwyd deuddeg sir yng Nghymru, ond gwnaed sir Fynwy yn uniongyrchol atebol i lysoedd San Steffan. Roedd y Gymraeg yn ddadl allweddol ar ochr y rheini a honnai y dylai'r sir fod yn rhan o Gymru. Ysgrifennodd y teithiwr o Loegr, George Borrow, ym 1862:

'Ystyrir sir Fynwy ar hyn o bryd yn un o siroedd Lloegr, er heb fawr o reswm, oherwydd nid yn unig ei bod ar ochr orllewinol afon Gwy, Cymraeg yw enwau ei holl blwyfi bron, ac mae miloedd lawer o'i phoblogaeth yn dal i siarad Cymraeg.'

Roedd Casnewydd ei hun yn dref Gymraeg ei hiaith yn bennaf ar ddechrau'r 1800au. Fodd bynnag, fwy na 100 mlynedd yn ddiweddarach, roedd gan Gasnewydd a sir Fynwy boblogaeth Saesneg ei hiaith yn bennaf, ond roedd yn tyfu’n nes at Gymru yn ddiwylliannol ac yn economaidd.

17:20

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Hoffwn ddefnyddio’r ddadl heddiw i archwilio hunaniaeth Gymreig yn y ddinas ychydig ymhellach, i egluro'r sefyllfa ar hyn o bryd yn fy marn i, ond hefyd, sut y credaf y gall dyfu, yn enwedig ymhlith ein cenhedlaeth iau, ond hefyd yng nghyd-destun uchelgeisiau Llywodraeth Cymru i sicrhau 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Nôl ym mis Tachwedd ac ychydig cyn cwpan y byd, roeddwn yn Rodney Parade ar gyfer gêm Casnewydd yn erbyn Gillingham. Cyn y gic gyntaf, perfformiodd yr ymgyrchydd a’r canwr Cymraeg blaenllaw, Dafydd Iwan, ei gân ‘Yma o Hyd’, ac yn union fel y gwelsom gyda’r Wal Goch yn nifer o gemau Cymru yng nghwpan y byd, gwelsom cefnogwyr y tîm cartref yn canu mewn harmoni. Cyn y ddadl hon, fe wnaethom ofyn i Dafydd sut deimlad oedd canu yng Nghasnewydd, a dywedodd hyn wrthym:

'Gwnaeth cynhesrwydd, ac yn wir, natur Gymreig gref y croeso a gefais yn Rodney Parade ac yng nghanol y ddinas argraff fawr arnaf. Roedd yn achlysur llawen, a chefais fy synnu gan y nifer yn y gynulleidfa a siaradodd gyda mi yn Gymraeg. Nid oes unrhyw amheuaeth fod Casnewydd yn herio Caerdydd o ran ei Chymreictod.'

Dywedodd hefyd ei fod wedi mwynhau'r profiad yn fawr a'i fod yn gobeithio dychwelyd yn y dyfodol. Ddirprwy Weinidog, rwy’n sôn am hyn oherwydd ychydig flynyddoedd yn ôl, byddai’r syniad o gerddor Cymraeg yn perfformio mewn harmoni gyda'r cefnogwyr yn Rodney Parade wedi swnio'n obeithiol iawn, a dweud y lleiaf.

Os caf aros gyda phêl-droed am eiliad, hoffwn dalu teyrnged hefyd i un o hoelion wyth tîm Cymru Chris Gunter, a aned yn Nwyrain Casnewydd ac a fynychodd Ysgol St Julian. Roedd yn rhan o’r genhedlaeth aur ddiweddar o bêl-droedwyr Cymru, a than yn ddiweddar, ef oedd y pêl-droediwr â'r nifer fwyaf erioed o gapiau i Gymru, gyda 109 o gapiau rhyngwladol. Dim ond rhywun o'r enw Gareth Bale sydd â mwy erbyn hyn, gyda 111. Felly, dylem fod yn falch iawn o gyflawniadau Chris.

Wrth edrych ar hunaniaeth Gymreig yng Nghasnewydd, mae'r refferenda datganoli yn addysgiadol. I mi, maent yn arwydd o’r cynnydd a’r daith rydym wedi bod arni dros y blynyddoedd ac yn dangos y twf mewn Cymreictod ar draws y ddinas. Oddeutu 26 mlynedd yn ôl bellach, bûm yn cadeirio Newport Says Yes fel rhan o’r ymgyrch i Gymru gael ei chynulliad cenedlaethol ei hun, fel y’i gelwid bryd hynny. Ac er i’r ymgyrch ‘Ie dros Gymru’ lwyddo ledled y wlad, yng Nghasnewydd, pleidleisiodd mwyafrif clir dros ‘na’. Ond roedd y canlyniad hwnnw'n gynnydd sylweddol yn y gefnogaeth i ddatganoli o gymharu â’r refferendwm blaenorol ym 1979. Yn ardal gyfagos sir Fynwy, sy’n cynnwys rhan o fy etholaeth i, Dwyrain Casnewydd, gwelsom ganlyniadau tebyg. Bedair blynedd ar ddeg ar ôl y bleidlais a sicrhaodd ddatganoli, cawsom ail refferendwm ynglŷn ag a ddylid rhoi pwerau deddfu sylfaenol i’r Cynulliad ar y pryd, a phleidleisiodd 54 y cant o bleidleiswyr yng Nghasnewydd o blaid hynny, gan barhau â’r duedd o fwy o gefnogaeth i roi mwy o gyfrifoldeb a phwerau i Gymru i wasanaethu ein cymunedau.

Wrth inni weld y cynnydd yn y gefnogaeth i ddatganoli yng Nghasnewydd a Chymru, rydym hefyd wedi gweld twf mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Cyn 1999, nid oedd unrhyw ysgolion cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd. Mae gennym bump ohonynt yn yr awdurdod lleol bellach, y ddwy gyntaf yn agor yn 2008-09, ac yna un arall yn 2011-12, a dwy arall yn y chwe blynedd diwethaf. A hefyd, yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg, mae llawer mwy o hanes a diwylliant Cymru yn cael eu haddysgu, a bydd hynny, rwy’n siŵr, yn cael ei gryfhau gan y cwricwlwm newydd. Pan oeddwn yn yr ysgol yn y 1960au ac ar ddechrau’r 1970au yng Nghasnewydd, ychydig iawn a gâi ei ddysgu i mi am yr iaith Gymraeg, a diwylliant a hanes Cymru. Mae’n rhaid ein bod wedi dysgu’r anthem genedlaethol, ond fawr ddim mwy na hynny. Diolch byth, rydym wedi dod yn bell yn y 23 i 24 mlynedd diwethaf. Dylai ein plant ddysgu am hanes lleol a hanes Cymru, yn ogystal â hanes y DU, Ewrop a'r byd.

Wrth gwrs, yng Nghasnewydd, mae gennym hanes balch iawn, gan gynnwys Siartiaeth a’r rhan hollbwysig a chwaraeodd y ddinas yn hanes Cymru, gyda gwrthryfel y Siartwyr y tu allan i Westy Westgate yn y dref ar y pryd. Ganed un o'r arweinwyr, John Frost, yng Nghasnewydd yn nhafarn y Royal Oak ym 1784. Roedd Frost a'r Siartwyr eraill yn galw am chwe pheth: y bleidlais i bob dyn yn 21 oed, etholaethau cyfartal, talu ASau, cael gwared ar y gofyniad i ASau fod yn berchen ar eiddo, pleidlais gudd, a seneddau blynyddol. Dim ond yr olaf sydd heb ddod i fodolaeth. Y gwrthryfel yng Nghasnewydd ym mis Tachwedd 1839 oedd yr enghraifft gryfaf o Siartiaeth rymusol yn hanes y mudiad. Gorymdeithiodd cannoedd o ddynion ar westy'r Westgate, a arweiniodd at frwydr â'r milwyr a oedd wedi eu lleoli yno. Collodd o leiaf 22 o Siartwyr eu bywydau, a dilynwyd y brwydro gan achosion o fradwriaeth.

Ddirprwy Weinidog, hoffwn sôn hefyd am ddata cyfrifiad 2021, a chofnodi  rhai o’r canfyddiadau a gofnodwyd ar ein cyfer yn lleol. Mae 56.3 y cant o bobl yn Ringland, ardal o Ddwyrain Casnewydd sydd wedi’i dylanwadu’n drwm gan waith dur cyfagos Llan-wern ers y 1960au, yn nodi eu bod yn Gymry'n unig, ond o ran sgiliau iaith Gymraeg, dywedodd dros 90 y cant o’r bobl yno nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau iaith Gymraeg. Ac yn Beechwood ac ardaloedd eraill o’r etholaeth, mae’r sefyllfa'n debyg. Felly, er nad iaith yw’r unig ffactor, yn amlwg, pan fydd pobl yn meddwl am eu Cymreictod, mae’n ffactor pwysig y bydd pobl yn ei ystyried. O ystyried rhai o'r ffigurau rwyf newydd eu nodi, mae angen inni edrych yn fanylach ar rai o'r ffactorau sy'n sail i hynny.

Dyna pam rwy'n croesawu uchelgais Llywodraeth Cymru i gael 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn fawr. Mewn lleoedd fel Casnewydd, mae angen inni ddeall y sefyllfa, ac mae Casnewydd yn barod i chwarae ein rhan a helpu i wireddu’r targedau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Ddirprwy Weinidog, byddwn yn ddiolchgar pe gallech ddweud ychydig rhagor wrthym ynglŷn â sut y gallwch chi a Llywodraeth Cymru weithio gyda phobl yn yr ardaloedd hyn a manteisio ar yr ymdeimlad cryf o Gymreictod sydd gan bobl, er mwyn cynyddu sgiliau iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig yn yr ardal.

Mae gan Gyngor Dinas Casnewydd gynllun iaith Gymraeg, ac maent o ddifrif ynghylch y mater. Bydd yn dathlu’r Gymraeg fel rhan o’n hunaniaeth gyffredin ac yn cynyddu cyfleoedd i bawb weld, clywed, dysgu a defnyddio ein hiaith genedlaethol. Y dyhead hirdymor yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, codi ymwybyddiaeth, a chynyddu amlygrwydd yr iaith yn ein holl gymunedau. Maent yn awyddus i gynnig cyfleoedd i’r rheini sydd â phob lefel o Gymraeg i ymarfer a siarad yr iaith mewn amgylchedd diogel, cyfeillgar a chefnogol, ac i ymgysylltu â’r rheini nad ydynt efallai’n ymwybodol o’r iaith na’i manteision. Wrth lansio ymgyrch 'Many faces of Welsh-ness' y cyngor, dywedodd Janice Dent, y rheolwr polisi a phartneriaethau:

'Efallai ei bod yn cael ei hystyried yn iaith Brydeinig wen, ond rydym yn ceisio ymgysylltu â holl gymunedau Casnewydd.'

Dyma ddull o weithredu rwy'n ei groesawu’n fawr. Yn yr un lansiad, dywedodd y Cynghorydd Miqdad Al-Nuaimi, sy’n cynrychioli Stow Hill:

'Mae cryn dipyn o bobl o leiafrifoedd ethnig am i'w plant siarad Cymraeg.'

Dyma fy mhrofiad innau hefyd. Mae Shah Alom, un o gyd-sylfaenwyr Amar Cymru, grŵp cefnogwyr pêl-droed i Gymry de Asiaidd sydd â gwreiddiau cryf yng Nghasnewydd, wedi bod yn awyddus i ailddysgu a manteisio ar y Gymraeg yn ei amser hamdden.

Mae gennym wyliau yng Nghasnewydd gan gynnwys Gŵyl Newydd. Dyma ddigwyddiad newydd i bobl Casnewydd a thu hwnt, a gynhelir ym mis Medi yn theatr Glan yr Afon. Mae’n dod â nifer o sefydliadau a gwirfoddolwyr ynghyd i gynnal diwrnod o weithgareddau a pherfformiadau. Mae’r grwpiau’n cynnwys Cymdeithas Cymry Casnewydd, cymdeithas Gymraeg yng Nghasnewydd sy’n trefnu cyfarfodydd a dathliadau rheolaidd ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr fel ei gilydd. Mae ganddynt swyddfa ym marchnad Casnewydd ac maent yn cynnig arlwy eang iawn i bobl y ddinas. Un arall yw Merched y Wawr i fenywod o bob oed, yn Gymry Cymraeg a dysgwyr. Maent yn cyfarfod yn rheolaidd.

Dirprwy Weinidog, rwyf am orffen drwy sôn am fy etholwr a’m ffrind, Olwen, a oedd yn gyn-athro Cymraeg yma yn y Senedd. Roedd hi’n naw mlwydd oed pan symudodd i Gasnewydd o Gaerdydd, lle roedd hi’n ffodus i fynd i ysgol gynradd Gymraeg. Pan symudon nhw i Gasnewydd, ychydig iawn o Gymraeg oedd yn y dref, fel yr oedd bryd hynny, ac yn sicr ddim yn yr ysgolion.

Yn yr 1960au, gyda Lilian Jones, pennaeth cyntaf Ysgol Gyfun Gwynllyw, dechreuodd ei mam ysgol Gymraeg ar fore dydd Sadwrn. Brwydrodd hi, a llawer o bobl eraill, dros addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd. Sefydlwyd yr uned gyntaf yn ysgol Clytha yn y 1970au cynnar, ac roedd chwaer fach Olwen yn ddisgybl. Yn ddiddorol, daeth un o ddisgyblion yr ysgol fore dydd Sadwrn yn bennaeth cyntaf Ysgol Gyfun Gwent Is Coed.

Mae Olwen yn hapus ac yn falch aeth ei phlant i’r uned yn ysgol High Cross cyn i'r ysgol Gymraeg gyntaf—Ysgol Gymraeg Casnewydd—agor yn y 1990au. Oddi yno, aethant i Ysgol Gyfun Gwynllyw. Heddiw, mae plant teulu Olwen nawr mewn addysg cyfrwng Cymraeg, un yn Ysgol Gymraeg Ifor Hael ac un yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed. Cytunaf gydag Olwen pan ddywedai bod pethau’n sicr wedi newid yng Nghasnewydd.

Lywydd, fel rhywun sydd wedi ymrwymo i ddatganoli ac i Gasnewydd, mae’n braf iawn myfyrio ar y cynnydd rydym wedi’i wneud. Bellach, mae gennym Senedd i Gymru—rhywbeth y mae cenedlaethau wedi ymgyrchu drosto ac wedi gweithio i’w sicrhau. Mae gan Gasnewydd a Chymru hunaniaeth Gymreig gryfach a atgyfnerthir gan y setliad democrataidd newydd. Mae'n bwysig i bobl gael ymdeimlad clir o'u lle yn y byd, eu hanes a'u diwylliant, man cychwyn er mwyn camu ymlaen i addysg, gwaith a bywyd. Mae iaith yn rhan allweddol o hunaniaeth, ac mae pawb yng Nghymru, boed yn ddigon ffodus i siarad Cymraeg neu beidio, yn elwa o’n hiaith unigryw a’i rôl ganolog yn ein hanes a’n diwylliant. Diolch yn fawr.

17:30

Rwy’n ddiolchgar iawn i fy nghyfaill a fy nghyd-frodor o Gasnewydd am arwain y ddadl hon heddiw.

Diolch, John. Mae'n bleser cyfrannu heddiw. 

Nawr, hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy fynnu nad wyf mor hen â hynny, ac eto, pan euthum i'r ysgol gynradd yng Nghasnewydd, dysgais yr anthem genedlaethol yn Saesneg. Mae'n rhaid imi ddweud nad yw hynny erioed wedi bod yn ddefnyddiol, ond diolch byth, roedd fy rhieni, fy nhad-cu a fy mam-gu eisoes wedi ei dysgu i mi yn Gymraeg.

Nid oedd Casnewydd, oherwydd ei hanes fel rhan o sir Fynwy, yn cael ei hystyried yn rhan lawn o Gymru, a newidiodd hynny yn y 1970au, fel y dywedodd John, ac ers hynny, cafwyd ymdeimlad cynyddol o falchder yn ein hunaniaeth Gymreig. Cafodd hyn ei helpu gan y sîn gerddoriaeth Gymraeg yng Nghasnewydd o’r 1980au a’r 1990au, a’r defnydd o’r Gymraeg mewn ysgolion, ac yn ehangach yn y gymuned.

Nid yw wedi dod yn hawdd, ond mae’r newidiadau wedi digwydd oherwydd gwaith caled ac ymroddiad pobl fel Elin Maher, y mae ei hegni a’i hangerdd wedi helpu i sbarduno cynnydd y Gymraeg yng Nghasnewydd. Dros y penwythnos, mynychodd fy mam a’i ffrind ddigwyddiad ym marchnad newydd wych Casnewydd, lle gallai dysgwyr wrando ar y Mabinogi yn Gymraeg, a chredwch fi, ni fyddai hynny wedi digwydd 10, 15 mlynedd yn ôl.

Rwyf am gloi drwy dalu teyrnged i fy nghyfaill, y diweddar Paul Flynn, neu ei enw barddol, Paul y Siartwr. Roedd yn Gymro balch, ac ar ôl dysgu Cymraeg fel oedolyn, fe fu'n hyrwyddo'r Gymraeg, ac roedd yn eiriolwr brwd dros ei defnyddio. Dywedodd Paul fod dwy iaith yn cael eu siarad yng Nghaerllion yn oes y Rhufeiniaid—o fewn y waliau, roeddent yn siarad Lladin, a'r tu allan, roeddent yn siarad Cymraeg. Pe bai unrhyw un o'r canwriaid yng Nghaerllion wedi awgrymu mai Cymraeg fyddai'r iaith a fyddai'n goroesi hyd heddiw, byddai wedi bod yn broffwydoliaeth ryfedd iawn. Ond dyna'r gwir. Dywedodd,

'Mae ieithoedd yn cynrychioli hiwmor, ffraethineb ac angerdd cenedlaethau yn atseinio ar hyd y canrifoedd ac mae pob un ohonynt yn unigryw yn eu ffordd eu hunain. Rydym yn ddigon ffodus i fod wedi etifeddu iaith hynafol ogoneddus, gyda llenyddiaeth wych sy'n fyw, yn llawn egni, amrywiaeth a brwdfrydedd. Dylem ddathlu hynny'.

Rwy’n hyderus y byddai wrth ei fodd gyda’r cynnydd. Gobeithio y bydd yn parhau. Dydd Gŵyl Dewi hapus i chi i gyd.

17:35

Diolch yn fawr i John am ddod â'r ddadl yma. 

Mae’r ddadl hon wedi gwneud imi feddwl am sgwrs ddiweddar a gefais mewn digwyddiad, ac e-bost dilynol a gefais gan etholwr. Roeddwn mewn digwyddiad, a chawsom drafodaeth ynglŷn â beth mae bod Gymro yn ei olygu. Dywedais, yn fy marn i—a dim ond yn fy marn ostyngedig i—os ydych yn galw Cymru'n gartref, ac yn teimlo fel Cymro, yna o'm rhan i, rydych chi'n Gymro. Dyma'r e-bost a gefais, a'r teitl oedd, 'Diolch personol':

'Hoffwn ddiolch yn bersonol i chi am sgwrs a gawsom mewn digwyddiad yn ddiweddar. Soniais fod Brexit wedi dileu fy hunaniaeth Ewropeaidd, ac er fy mod wedi byw yng Nghymru ers dod yn oedolyn a bod fy nheulu yma, gan imi gael fy ngeni yn Llundain, roeddwn yn teimlo na allai rhywun ddod yn Gymro am nad oedd mecanwaith cyfreithiol ar gyfer gwneud hynny. Fe ddywedoch chi'n garedig nad oedd unrhyw beth o'i le ar hunanadnabod fel Cymro. Yr wythnos diwethaf, wrth lenwi’r gwaith papur ar gyfer symud tŷ, cefais fy nghyfle cyntaf i ddatgan fy mod yn Gymro ar ddogfen ffurfiol. Diolch yn fawr iawn am eich anogaeth'.

Weinidog, hoffwn wybod sut y gallwn annog mwy o bobl i deimlo’n hyderus ac i hunanadnabod fel Cymry, ni waeth ble y cawsant eu geni. Diolch yn fawr.

Galwaf yn awr ar Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip i ymateb i’r ddadl—Dawn Bowden.

Member
Dawn Bowden 17:37:06
Deputy Minister for Arts and Sport, and Chief Whip

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, John, am ddod â'r ddadl hon i'r Siambr. Diolch hefyd i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl fer y prynhawn yma. Mae'n wir teimlo fel dathliad o Gymreictod yma yn y Siambr yr wythnos yma, gyda nifer o ddatganiadau, cyfraniadau a sawl dadl i nodi Dydd Gŵyl Dewi. 

Mae'n ddrwg gennyf, roedd yna wich yn fy nghlust gyda'r cyfieithiad. Ymddiheuriadau.

Felly, ddoe soniodd fy nghyd-Aelod, Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ynglŷn â sut mae Cymru'n gymuned o gymunedau, ac yn ei datganiad i’r Senedd, soniodd am sut mae’r Gymraeg a diwylliant Cymreig yn bethau i’w dathlu a sut y dylem ni fel Llywodraeth a'n partneriaid ddathlu ein hunaniaeth Gymreig a’n hiaith fel rhywbeth a ddylai ddod â phobl Cymru a chymunedau ynghyd.

Lywydd, soniodd John Griffiths am ei hunaniaeth Gymreig a pherthynas ei ddinas â Chymreictod, ac fel y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros ddiwylliant a threftadaeth, rwy'n croesawu'r cwestiwn y mae John yn ei ofyn heddiw, sef: sut mae dysgu o’r gorffennol i sicrhau dyfodol llewyrchus i Gymru, Casnewydd a’r Gymraeg? A soniodd hefyd am bêl-droed, wrth gwrs, a chafodd fy sylw ar unwaith ar y pwynt hwnnw, gan fod hynny'n rhywbeth y gŵyr ei fod yn agos iawn at fy nghalon. Felly, hoffwn innau ychwanegu fy nheyrnged i gyfraniad rhagorol Chris Gunter i dîm pêl-droed Cymru dros y blynyddoedd—tîm sydd hefyd yn bwysig iawn i'n diwylliant cenedlaethol.

Lywydd, hoffwn dynnu sylw'n gryno at yr hyn rydym yn ei wneud yn ardal Casnewydd yn benodol, ond ledled Cymru gyfan. Dechreuaf drwy sôn am y strategaeth ddiwylliant, ac rydym yn gweithio gyda Phlaid Cymru ar ymrwymiad a rennir i ddatblygu strategaeth ddiwylliant newydd i Gymru y gobeithiwn y bydd ar gael yn ddiweddarach eleni. Ein gweledigaeth ar gyfer y strategaeth newydd honno yw y bydd yn cynnig cyfeiriad blaengar sy’n seiliedig ar werthoedd i’r sectorau sydd o fewn ei chwmpas, ac y bydd yn cryfhau cydweithio a chydlyniant ar draws ein sectorau diwylliannol, ac yn sail i bob rhan o gymdeithas. Bydd y cysyniad o ddemocratiaeth ddiwylliannol a datblygu’r cysylltiadau rhwng diwylliant a llesiant yn ystyriaethau pwysig ar gyfer y strategaeth newydd, ac wrth ddatblygu’r strategaeth honno, byddwn yn awyddus i sicrhau bod ein sectorau, ein casgliadau a’n gweithgarwch diwylliannol yn adlewyrchu Cymru fel cenedl hyderus, ddwyieithog, amrywiol, gynhwysol, fyfyriol a blaengar.

Mae diwylliant a hunaniaeth yn seiliedig ar amrywiaeth anfesuradwy o safbwyntiau a phrofiadau, fel y nodoch chi'n glir iawn yn eich cyflwyniad, John. Felly, nid lle’r Llywodraeth yw ceisio diffinio beth ddylai hynny fod ar lefel unigol neu gymunedol, ond fe allwn ac fe ddylem fod yn meddwl ynglŷn â sut rydym yn cynnwys, yn adlewyrchu, yn cefnogi, yn dathlu ac yn deall natur amlddimensiynol diwylliant a hunaniaeth Cymru yn well. Ac rwy'n gobeithio y bydd y strategaeth yn gatalydd i ddod â chymunedau ynghyd i ddathlu’r amrywiaeth gyfoethog honno o hunaniaethau sy’n bodoli nid yn unig yng Nghasnewydd, ond ledled y genedl gyfan.

Ond a gaf fi droi’n benodol nawr at Gasnewydd? Mae’n enghraifft wych o sut mae hanes bro yn effeithio ar hanes ehangach Cymru a’r DU, gan helpu i lunio nid yn unig hunaniaeth leol, ond hunaniaeth genedlaethol hefyd. Rydych eisoes wedi cyfeirio at y Siartwyr; ni all unrhyw un sôn am Gasnewydd heb sôn am y Siartwyr, ac mae casgliad Siartwyr yr amgueddfa, wrth gwrs, yn adrodd hanes cyfraniad Cymreig balch ac arwyddocaol i fudiad Prydeinig a sicrhaodd ddiwygiad gwleidyddol pwysig. Ac mae 20 mlynedd ers i long Casnewydd gael ei darganfod yn ystod gwaith adeiladu ar lan yr afon, ac mae estyll y llong honno o’r bymthegfed ganrif bellach wedi’u hadfer ac yn barod i’w rhoi yn ôl at ei gilydd. Mae hwn yn ddarganfyddiad o bwys yn rhyngwladol, ac mae’n adlewyrchu pwysigrwydd teithio a masnach forwrol i Gymru ar hyd y canrifoedd, sydd wedi dylanwadu’n fawr ar y Gymru a welwn heddiw.

Rwyf eisoes wedi sôn am yr hyn rydym yn mynd i’w wneud, ond credaf ei bod yn briodol imi dynnu sylw at ychydig o bethau rydym wedi’u gwneud yn barod, a’r hyn rydym yn parhau i’w wneud i sicrhau bod diwylliant Cymru yn ffynnu yng Nghasnewydd. Felly, mae amgueddfeydd Casnewydd yn dathlu sbectrwm eang o ddiwylliannau, cymunedau, diwydiannau a chyfnodau, sydd oll yn cyfrannu at ddatblygu hunaniaeth Gymreig Casnewydd heddiw. Mae amgueddfeydd yn bodoli wrth galon cymuned. Dyma ble mae pobl yn mynd i gysylltu â'i gilydd ac i rannu a phrofi ein hanes a'n diwylliant. Mae Llywodraeth Cymru, drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, yn ariannu nifer o weithgareddau yn ardal Casnewydd, ac mae’r rhain yn cynnwys sefydliadau Portffolio Celfyddydol Cymru, Ballet Cymru a chanolfan Glan yr Afon, y sonioch chi amdanynt hefyd. Ac mae nifer o sefydliadau eraill Portffolio Celfyddydol Cymru wedi ymgymryd â gweithgarwch o fewn ardal awdurdod lleol Casnewydd. Mae meysydd rhaglenni allweddol, fel dysgu creadigol a chelfyddydau mewn iechyd, hefyd yn gwasanaethu Casnewydd. Er enghraifft, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cyflwyno rhaglen helaeth Celf ar gyfer y Faenor yn ddiweddar fel rhan o ddatblygiad ysbyty newydd y Faenor.

I droi at y Gymraeg, mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn barod wedi siarad yn y Siambr y prynhawn yma am y gwaith sylweddol sy’n cael ei wneud i gefnogi’r Gymraeg a’i diwylliant ar draws Cymru.

Rwy’n ymwybodol o’r gwaith gwych y mae Menter Iaith Casnewydd yn ei wneud dros y Gymraeg yng Nghasnewydd. Mae’r £60,000 o arian grant rydym yn ei ddarparu i'r Fenter Iaith yn mynd tuag at hybu a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yng nghymunedau Casnewydd, a gwn mai un o’u blaenoriaethau yw cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ymhlith teuluoedd, a darparu mwy o gyfleoedd i blant a phobl ifanc ddefnyddio eu Cymraeg y tu allan i’r ysgol, yn ogystal â chynyddu cyfleoedd i’r gymuned ehangach a dysgwyr ddefnyddio’u Cymraeg. Mae'r Fenter Iaith wedi agor uned mewn safle blaenllaw yn y farchnad gyda’r bwriad o fod yn ganolbwynt i’r Gymraeg a diwylliant Cymru ar Stryd Fawr Casnewydd. Yn ogystal â chynnal nifer o weithgareddau a drefnir gan Fenter Iaith Casnewydd, megis clybiau ar ôl ysgol i blant, mae hefyd yn fan y gellir ei ddefnyddio gan grwpiau cymunedol lleol ac sy’n addas ar gyfer perfformiadau, cynnal cyfarfodydd hybrid, ac mae hefyd yn cynnwys ardal arddangos sydd yn agored i sefydliadau, ysgolion, artistiaid, busnesau a grwpiau lleol. Mae Menter Iaith Casnewydd hefyd wedi sefydlu nifer o grwpiau cymunedol lle daw pobl at ei gilydd i ddefnyddio’u Cymraeg, a chyda chymorth Menter Iaith Casnewydd, mae’r grwpiau hyn bellach yn gallu gweithredu ar eu pennau eu hunain.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, fel y dywedaf yn aml pan ofynnir i mi, cefais fy ngeni'n Saesnes, ond rwy'n Gymraes o ddewis, ac fel eraill, rwy'n falch iawn o'n treftadaeth a'n diwylliant Cymreig a'r Gymraeg, a'r ffordd mae hyn yn cyfrannu at ein hymdeimlad o hunaniaeth Gymreig, a welwn yng Nghasnewydd, ac sydd wedi’i fynegi mor angerddol gan Aelodau sy’n cynrychioli’r ddinas honno yma yn y Senedd, hunaniaeth sy’n cael ei chefnogi, ac a fydd yn parhau i gael ei chefnogi gan y Llywodraeth hon. Diolch yn fawr iawn.

17:40

Daeth y cyfarfod i ben am 17:44.