Y Cyfarfod Llawn

Plenary

31/01/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad y Llywydd

Prynhawn da a chroeso i'r cyfarfod y prynhawn yma. Wrth i ni gychwyn y prynhawn yma, rydyn ni i gyd yn boenus ymwybodol am golled sydyn y Prif Weinidog dros y penwythnos, ac, ar ein rhan ni i gyd, rydw i'n cydymdeimlo gyda fe a’i deulu.

Anaml y mae pobl y tu allan i'r Siambr hon yn sylweddoli y gall yr hyn sy'n achosi poen i un ohonom, achosi poen i bob un ohonom. Yn yr achos hwn, mae'r hyn sy'n achosi poen i'r Prif Weinidog wedi cyffwrdd â llawer o bobl ledled Cymru. Pan dorrodd y newyddion ddydd Sadwrn, y person cyntaf i ofyn i mi estyn ei chydymdeimlad i'r Prif Weinidog, drwy anfon neges ataf, oedd nyrs ym Mronglais. 

Mae Mark a'i deulu yn ein calonnau a'n gweddïau y prynhawn yma. Bydd llawer wedi adnabod Clare yn dda. Fe godwn ni nawr i gofio am Clare, ac mewn cariad a chefnogaeth i'n Prif Weinidog a'i deulu.

Cynhaliwyd munud o dawelwch.

Diolch. Y Trefnydd fydd yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog y prynhawn yma, ac rwy'n gofyn i'r Trefnydd ddweud ychydig eiriau. 

Member
Lesley Griffiths 13:31:46
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Llywydd. Diolch i chi i gyd am y foment yna o fyfyrdod er cof am Clare Drakeford ac i gydnabod ei bywyd. Rwy'n gwybod bod meddyliau pawb yn y Senedd, ac ar draws Cymru, gyda'n Prif Weinidog a'i deulu ar yr adeg drist iawn hon, ac rwy'n gwybod y bydd yn gwerthfawrogi hyn yn fawr. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

A'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma fydd gan Buffy Williams. 

Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

1. Pa drafodaethau mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch y strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ers ei chyhoeddi'r llynedd? OQ59068

Member
Lesley Griffiths 13:32:23
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Dim ond gweithredu unedig o bob rhan o gymdeithas all ddod â chamdriniaeth i ben a sicrhau bod pawb yng Nghymru wir yn gallu byw heb ofn. Mae ein strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, VAWDASV, yn nodi ein nodau, a bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn parhau i weithio'n agos gyda holl gyd-Weinidogion y Cabinet i sicrhau ei bod yn cael ei chyflawni.

Diolch, Trefnydd. Mae'r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, i mi, yn un o'r darnau pwysicaf o waith mae Llywodraeth Cymru wedi'i gyhoeddi'r tymor hwn, yn enwedig i fy nghymunedau yn y Rhondda. Yn syfrdanol, mae nifer y digwyddiadau o drais a cham-drin domestig sydd yn cael eu hadrodd i Heddlu De Cymru yn Rhondda, yn amlach na pheidio, ddwywaith cymaint â'r nifer ar gyfer Cynon, Taf a Merthyr gyda'i gilydd. Gwyddom hefyd fod y ffigurau hyn yn cynyddu ar ddyddiau gemau rygbi rhyngwladol. Ar ddechrau gemau'r chwe gwlad, rwyf yn ymgyrchu, ym mis Chwefror, gyda phartneriaid, i godi ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth leol a chenedlaethol sydd ar gael i ddioddefwyr a chyflawnwyr. Rwy'n gwybod bod y gefnogaeth ar gael diolch i'r strategaeth, ond mae angen i bobl fod yn manteisio arni. Trefnydd, ers cyhoeddi'r strategaeth, pa waith sydd wedi'i wneud i sicrhau bod pobl yn gwybod ble a sut y gallan nhw gael y gefnogaeth hon? Ac ydyn ni'n dal i allu ariannu gwasanaethau yn llawn yn ystod yr hinsawdd ariannol bresennol?

Wel, fel y mae Buffy Williams wedi amlinellu, yng Nghymru, rydym yn gwybod bod gormod o bobl yn dal i brofi cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac mae ein strategaeth yn rhoi atal yn gwbl ganolog iddi, gan symud y pwyslais o symptom i achos trwy ddull gweithredu iechyd y cyhoedd. Cyfeiriodd Buffy Williams at ein Deddf arloesol nôl yn 2015, ac fe greodd hynny ddyletswyddau ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd yng Nghymru i gyhoeddi a gweithredu strategaethau ar gyfer mynd i'r afael â'r materion hyn yn ein cymunedau lleol, ac mae hynny wir yn sicrhau bod mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched yn cael blaenoriaeth ledled Cymru. 

Fe wnaethoch chi sôn am ymgyrch y chwe gwlad sydd ar ddechrau, a thrwy ein hymgyrchoedd Byw Heb Ofn, mae hwnnw'n gyfnod pan ydym yn rhoi mwy o gyhoeddusrwydd i'r rheini. A byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth o stelcian, o aflonyddu, o gam-drin a thrais yn erbyn menywod ym mhob agwedd ar fywyd, ac mae hynny'n cynnwys y stryd a mannau cyhoeddus eraill. A'r hyn y mae'r ymgyrchoedd hyn yn ei wneud mewn gwirionedd yw rhoi cyngor ymarferol i'r rhai a allai fod yn dioddef camdriniaeth, a hefyd tynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael i alluogi ffrindiau a theulu, a'r gymuned ehangach, i adnabod camdriniaeth a chymryd camau diogel, a dangos y ffordd i bobl sy'n cyflawni, sydd eu hunain yn poeni am eu hymddygiad. Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i ariannu cynghorwyr rhanbarthol a gwasanaethau arbenigol, gan gynnwys llinell gymorth 24/7 Byw Heb Ofn. Mae hynny'n cefnogi dioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac yn gweithio'n ddiflino i sicrhau nad oes unrhyw ddioddefwr yn disgyn drwy fylchau yn y ddarpariaeth o wasanaethau, yn enwedig y rhai sydd mewn mwy o berygl. Ac rydym yn croesawu cydweithio a gweithio mewn partneriaeth hirdymor rhwng y gwasanaethau, a hefyd y gwasanaethau cyfiawnder troseddol, gan gydweithio mewn gwirionedd i ymdrin â chymhlethdodau'r trawma y gall pobl eu profi.

13:35

Gweinidog, mewn datganiad ysgrifenedig dyddiedig 19 Ionawr ar ddiogelwch menywod mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru, cyfeiriodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol at strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, Llywodraeth Cymru. Dywedodd y Gweinidog y bydd y strategaeth yn cael ei chyflawni drwy

'"ddull glasbrint" ar y cyd, ochr yn ochr â grŵp o sefydliadau partner allweddol, gan gynnwys yr heddlu a’r sector arbenigol.' 

Un o'r ffrydiau gwaith glasbrint yw aflonyddu ar y stryd a diogelwch mewn mannau cyhoeddus, gan ddarparu pwyslais ac arbenigedd ar gyfer dull arloesol o ymdrin â'r materion hyn. Ar hyn o bryd yng Nghasnewydd—ardal rwy'n ei chynrychioli yn Nwyrain De Cymru—mae pob yn ail olau LED yn y ddinas yn cael ei ddiffodd o hanner nos tan 6 y bore. Ond mae cyngor Llafur Casnewydd yn ystyried diffodd y 19,000 o oleuadau, ac eithrio mewn 'safleoedd allweddol o ran diogelwch', dros nos, mewn ymgais i dorri costau. Ar ben hynny, ers diwedd 2019, mae goleuadau stryd ar draws bwrdeistref sirol Caerffili wedi eu diffodd bob nos rhwng hanner nos a 5.30 y bore. Felly, ydych chi'n cytuno â mi, Gweinidog, bod diffodd goleuadau stryd yn y nos yn gwrthdaro'n uniongyrchol â nodau strategaeth eich Llywodraeth i helpu menywod a merched i deimlo'n ddiogel ar ein strydoedd? Ac a fyddwch chi'n codi'r mater hwn gyda'r awdurdodau lleol dan sylw, wrth symud ymlaen? Diolch.

Diolch. Wel, rwy'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod y sefyllfa anodd iawn y mae ein hawdurdodau lleol ynddi, wrth geisio arbed arian, hyd yn oed gyda'r cyllidebau rydyn ni wedi gallu eu rhoi iddyn nhw gan Lywodraeth Cymru. Ond, fel y dywedwch, gwnaeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ddatganiad, yn dilyn cais—rwy'n credu ei fod gan Delyth Jewell—yn y datganiad busnes, oherwydd mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cydnabod yn llwyr ei bod yn bwysig iawn sut mae menywod a phlant—wel, pawb—yn teimlo'n ddiogel, yn enwedig ar ein strydoedd. Fe wnaethoch chi sôn am y glasbrint, ac mae hynny'n gweithio'n agos iawn nid yn unig gyda'n partneriaid yma yng Nghymru, ond hefyd gyda sefydliadau heb eu datganoli. Fel rhan o'r strwythur hwnnw, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol sy'n cadeirio'r bwrdd partneriaeth cenedlaethol, gyda Dafydd Llywelyn, sef y prif gomisiynydd heddlu a throseddu yma yng Nghymru. Mae'n rhywbeth rwy'n siŵr y bydd y bwrdd yn edrych arno, i weld pa gefnogaeth y gallan nhw ei rhoi i awdurdodau lleol, ond, fel rwy'n dweud, mae'n rhaid i ni gydnabod sefyllfa ein hawdurdodau lleol o safbwynt ariannol.

Cafodd cwmpas y strategaeth ei ymestyn i gynnwys aflonyddu yn y gweithle, oherwydd, fel y dywed, dim ond yn sgil newid mewn diwylliant sy'n methu mynd i'r afael â gwrywdod gwenwynig y gellir cyflawni diogelwch menywod. Yn anffodus, rydym wedi gweld sawl enghraifft o'r diwylliant hwnnw mewn gwahanol sefydliadau yn ystod yr wythnosau diwethaf. Felly, ydych chi'n cytuno â mi, Gweinidog, bod undebau llafur yn allweddol i ddwyn gweithleoedd i gyfrif, a sicrhau bod penaethiaid yn gwneud popeth o fewn eu gallu i atal aflonyddu rhywiol? Mae angen dynion da yn yr ystafell a chyflogwyr i edrych ar systemau a gweithdrefnau sy'n galluogi a hwyluso heriau diogel. Ac a fyddech chi'n ymuno â mi wrth groesawu'r gwaith y mae TUC Cymru wedi'i wneud gyda Cymorth i Ferched Cymru i ddatblygu pecyn cymorth, y byddaf yn ei lansio yma ym mis Mawrth, a fydd yn helpu cynrychiolwyr undebau i wneud y gwaith hwnnw?

Diolch. A diolch i Joyce Watson am ddod â'r pecyn cymorth aflonyddu rhywiol yn y gweithle i'n sylw ni heddiw. Rwy'n credu y bydd yn adnodd defnyddiol dros ben, wedi iddo gael ei lansio, ac mae wedi'i ddatblygu ar y cyd gyda Cymorth i Fenywod Cymru a TUC Cymru. Ac mae'n cyd-fynd yn dda â'n nod, yn amlwg, i sicrhau bod gweithleoedd yn ddiogel i weithwyr, ond hefyd i sicrhau bod gan gyflogwyr yr offer sydd eu hangen arnyn nhw i ymdrin ag unrhyw doriadau pan fyddant yn digwydd. Mae gan Lywodraeth Cymru hanes hir o weithio gyda Cymorth i Ferched Cymru, a chredaf fod y pecyn cymorth hwn yn enghraifft arall o'u hangerdd a'u hymroddiad i wneud yn siŵr ein bod yn dileu trais yn erbyn menywod a merched. Ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn croesawu'r pecyn cymorth yn fawr hefyd.

Adnewyddu Economaidd

2. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i helpu adnewyddu economaidd yn dilyn y pandemig yn Islwyn? OQ59069

Mae ein cenhadaeth economaidd yn nodi blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru. Rydyn ni'n cryfhau'r sectorau ledled economi Cymru drwy ganolbwyntio ar gymorth i gwmnïau arloesi ac arallgyfeirio, cyflymu datgarboneiddio busnesau, a buddsoddi mewn seilwaith sy'n gydnerth o ran yr hinsawdd.

Diolch, Trefnydd. Roedd gan gaffi annibynnol poblogaidd, o'r enw Marmajo's, safle ar stad ddiwydiannol Pen-y-fan yng Nghrymlyn nes iddo gau yn ddiweddar iawn, ac fe wnaeth y perchennog, Charlie Allcock, benderfyniad anodd iawn yn groes i'r graen, ar ôl gwylio ei biliau ynni yn cynyddu deirgwaith i bron i £1,800 y mis. Hefyd, ym Mhontllanfraith, ailagorodd clwb bowlio Islwyn yn dilyn cyfyngiadau'r pandemig, ond mae'r bar a'r ystafell ddigwyddiadau hefyd yn dal i fod ar gau wrth i'r awdurdod lleol geisio dod o hyd i rywun i gymryd yr awenau, ac mae angen sicrhau ochr fasnachol y clwb yn y dyfodol. Ac yn y Coed Duon, mae HSBC wedi cyhoeddi eu bwriad i gau eu cangen ym mis Gorffennaf eleni. Felly, mewn cymunedau ledled Islwyn, mae canlyniadau 13 mlynedd oer o gyni'r Torïaid a'r pandemig, ac erbyn hyn argyfwng costau'r Torïaid, yn cael gwared ar wead pwysig bywyd cymunedol neu yn ei beryglu. Trefnydd, mae pobl Islwyn yn ddiolchgar am Lywodraeth Lafur Cymru sy'n ceisio, o fewn ei swyddogaethau datganoledig ac o fewn ei hamlen ariannol lem, i annog gweithgarwch economaidd. Un maes o'r fath weithgarwch gan Lywodraeth Cymru yw'r celfyddydau creadigol. Dywedodd swyddogion gweithredol Netflix yr wythnos diwethaf wrth y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig bod eu sioeau, fel Sex Education, a welodd ffilmio yng nghanol tref Newbridge ac ar draws Gwent, wedi cyfrannu £200 miliwn at economi Cymru dros y pum mlynedd diwethaf. Pa lwybrau llawn dychymyg eraill, Trefnydd, sy'n agored i Lywodraeth Cymru i geisio dod â bywyd ac egni i fywyd economaidd Islwyn?

13:40

Diolch yn fawr, ac mae'n ddrwg iawn gen i glywed am y busnesau a'r sefydliadau yn eich etholaeth sydd wedi gorfod cau yn anffodus. Fel y gwyddoch chi, yma yng Nghymru, mae gennym Busnes Cymru, ac mae hwnnw ar fin dathlu ei ddegfed pen-blwydd, ac maen nhw wedi darparu un gwasanaeth integredig i gefnogi busnesau drwy'r cyfnod economaidd anodd ac ansicr iawn hwn. Mae hynny'n cynnwys yn ystod y pandemig, wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac yn amlwg yr argyfwng costau busnes presennol. Cefnogwyd bron i 32,000 o fusnesau drwy'r gronfa cadernid economaidd yn ystod y pandemig, ac mae cymorth uniongyrchol ar gael i fusnesau sy'n parhau i wynebu ansicrwydd oherwydd yr argyfwng costau byw, yr argyfwng busnesau ac, wrth gwrs, y dirwasgiad. Mae llawer o fusnesau yn eich etholaeth wedi cael cymorth ac, fel y gwyddoch chi, rydym wedi cyflwyno'r rhaglen gwella cynhyrchiant busnes yn ddiweddar. Bwriad honno yw cefnogi busnesau gweithgynhyrchu bach a chanolig hefyd.

Gweinidog Busnes, mae pobl yn Islwyn, ers 2019, wedi gweld cynnydd mewn termau real o ddim ond £2.59 yn eu henillion wythnosol. Yn amlwg, nid yw hyn yn ddigon i gynyddu ar yr un raddfa â chwyddiant, a'r unig ffordd i frwydro yn erbyn hyn yng Nghymru yw drwy wirioneddol gefnogi ein sector preifat a gwneud Cymru'n lle mwy deniadol i fuddsoddi ynddo fel y gallant gyflogi mwy o bobl ar gyflogau gwell. Yn amlwg, nid yw hyn yn digwydd ar hyn o bryd, gyda Chymru wedi gweld y cwymp mwyaf mewn cyflogaeth yn y DU dros y blynyddoedd diwethaf. Gweinidog Busnes, sut ydych chi'n bwriadu rheoli'r duedd bryderus hon?

Rwy'n anghytuno â'r Aelod yn ddirfawr nad yw Cymru'n lle deniadol i wneud busnes ac i ddod â busnesau newydd yma. Rwy'n credu bod angen i chi edrych ar ein hanes blaenorol a hefyd y gwaith mae Banc Datblygu Cymru wedi ei wneud. Soniais am y rhaglen gwella cynhyrchiant busnes sydd wedi'i chyflwyno'n ddiweddar sy'n denu busnesau newydd. Unwaith eto, cyfanswm nifer y swyddi sydd wedi'u creu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn etholaeth Rhianon Passmore oedd 621 o swyddi, gyda 220 o fusnesau newydd yn cychwyn, ac wedi darparu cefnogaeth bwrpasol i 1,102 o fusnesau yng Nghaerffili.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.

Diolch. Cyn i mi ddechrau, gyda'ch caniatâd chi, Llywydd, hoffwn uniaethu â'r sylwadau rydych chi a'r Trefnydd wedi eu rhoi ar y cofnod mewn cysylltiad â'r newyddion ysgytwol fod y Prif Weinidog wedi colli'i wraig dros y penwythnos. Ar ôl cwrdd â Clare ar sawl achlysur yn fy swyddogaeth yn arweinydd yma ac fel AS hefyd, rwy'n sylweddoli mai unigolyn hynod o garedig a thrugarog oedd hi a pha mor ymroddedig oedd y ddau i'w gilydd. Rwy'n gobeithio'n fawr fod y teimladau y mae pawb yn eu mynegi yn fath o gysur, ac rwy'n defnyddio'r gair 'fath' o gysur oherwydd ni fydd unrhyw beth byth yn gwneud yn iawn am golli eich partner bywyd. Estynnaf gydymdeimlad, gweddïau a dymuniadau gorau'r Ceidwadwyr Cymreig i deulu'r Prif Weinidog ac i'r Prif Weinidog ei hun.

Trefnydd, yn eich swyddogaeth flaenorol yn Weinidog adeiladu a Gweinidog cynllunio, byddwch yn ymwybodol iawn o'r materion sy'n ymwneud â diogelwch adeiladau yma yng Nghymru. Roedd llawer o ddyfalu a siarad yn y wasg ar y penwythnos mewn cysylltiad â'r mesurau adfer sydd wedi cael eu rhoi ar waith ar draws y Deyrnas Unedig, ond yn arbennig yma yng Nghymru. Drwy Ddeddf Diogelwch Adeiladu 2022 sydd wedi'i phasio yn San Steffan, mae mesurau i wneud yn siŵr y gellir adfer adeiladau pobl sy'n byw yn yr hyn a elwir yn 'adeiladau amddifad', sef adeiladau a gafodd eu codi gan gwmnïau sydd wedi chwalu ar ôl i'r prosiect ddod i ben, gyda  rhwymedigaethau gwaith adfer yn disgyn ar y cwmnïau hynny. A fyddwch chi, fel Llywodraeth, yn codi'r mesurau hynny a'u hymgorffori yng nghyfraith Cymru yma, fel y gall trigolion sy'n eu cael eu hunain mewn adeiladau tebyg gael yr amddiffyniadau hynny? Rwy'n sylwi bod Mike Hedges wedi codi'r union fater gyda chi mewn cwestiynau busnes dim ond pythefnos yn ôl. 

13:45

Diolch. Wel, fel sy'n digwydd yn Lloegr, mae'r Gweinidog yn gweithio'n agos iawn gyda datblygwyr, er enghraifft, ac rwy'n gwybod, ynghylch cytundeb y datblygwyr, mae'r Gweinidog wedi bod yn gwneud hynny. Mae hi hefyd wedi sicrhau bod Aelodau'n cael yr wybodaeth ddiweddaraf, felly rwy'n gwerthfawrogi y bydd gennych yr wybodaeth honno eisoes hefyd. Mae'n amlwg bod y Gweinidog yn cydweithio'n agos â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i weld pa agweddau o'r ddeddfwriaeth y gallwn ni edrych arnyn nhw, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni. 

Arweinydd, mae sawl blwyddyn bellach, yn amlwg, ers trychineb Grenfell. Mae'r ymchwiliad i drasiedi Grenfell wedi dod â'i waith i ben, ac rydym yn aros am ei adroddiad. Fel y dywedais i, yn Senedd y DU, pasiwyd y ddeddfwriaeth i roi cysur i drigolion sy'n byw yn yr adeiladau amddifad hyn—mae un yn llythrennol ychydig i fyny'r ffordd o'r lle hwn—sy'n eu cael eu hunain yn y sefyllfa erchyll o beidio â gwybod a fydd gwaith cyweirio yn cael ei wneud, ac maen nhw'n byw mewn eiddo sy'n anwerthadwy nawr ac mewn ofn am eu bywydau yn y bôn, oherwydd y gweithgarwch tân a allai ddigwydd yn yr adeiladau hynny o bosib. Roeddwn wedi gobeithio cael ateb mwy sylweddol gennych, o ystyried yr amser a aeth heibio ers trychineb tân Grenfell, ond rwy'n erfyn arnoch chi a'r Llywodraeth i ystyried y mesurau hynny er mwyn rhoi sicrwydd i'r trigolion hynny y byddant yn cael iawndal i drwsio'r difrod.

Ond peth arall a ddywedwyd gan Weinidog y DU, Michael Gove, oedd, pryd mae cwmnïau'n gwrthod anrhydeddu eu hymrwymiadau i gyweirio’r adeiladau hyn, y bydden nhw'n gosod mewn cyfraith y gallu i atal y cwmnïau hynny rhag gweithio, adeiladu adeiladau'r dyfodol, yn y gymdogaeth honno. A fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried mabwysiadu mesurau o'r fath yma ar frys, er mwyn rhoi mwy o rym i chi pan fyddwch chi'n trafod â'r cwmnïau hyn, er mwyn— os nad oedden nhw'n gallu adeiladu i safon dda yn y gorffennol, sut allwn ni fod yn ffyddiog y byddan nhw'n adeiladu i safon dda yn y dyfodol? Ac mae angen y newid deddfwriaethol hwnnw yma i roi'r gallu i'r Gweinidog fynd i'r trafodaethau hynny ac atal y cwmnïau hyn rhag gwneud yr hyn a wnaethant o'r blaen. 

Felly, mewn cysylltiad â rhan gyntaf eich cwestiwn ynghylch cyweirio, rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi bod yn gweithio'n galed iawn i sicrhau rhaglen waith y gellir ei hamlinellu, fel bod pobl yn ffyddiog, oherwydd ni allaf ddychmygu dim byd gwaeth na bod yn berchen ar gartref a gwybod am y drychineb posibl a allai ddod i'w ran. Ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog hefyd yn gweithio'n agos iawn, fel y dywedais i, gyda Llywodraeth y DU, ac wedi bod yn cael trafodaethau gyda Michael Gove ynghylch yr amddiffyniad hwnnw, fel y cyfeirioch chi ato, gyda datblygwyr nad ydyn nhw'n ystyried y gofynion fydd arnyn nhw, pan fyddant yn adeiladu yn y dyfodol. Felly, ie, yr ateb byr i'ch cwestiwn yw 'byddwn'.  

Diolch am hynny. Rwy'n falch o glywed hynny, ac rwy'n siŵr y bydd trigolion a grwpiau gweithredu ledled Cymru, yr effeithir arnyn nhw gan hyn yn falch hefyd o glywed yr ymateb yna. Gair nad yw wedi cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, ond, ddydd Sul, a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth y DU, oedd ymddiheuro am y diffygion yn yr amgylcheddau rheoleiddio adeiladu a oedd yn caniatáu i'r adeiladau hyn gael eu codi yn y lle cyntaf, ac, yn y pen draw, arwain at y sefyllfa yr ydym ynddi ar hyn o bryd. O ystyried eich safle yn y Llywodraeth, a fyddwch yn ymddiheuro heddiw, yn debyg i'r modd yr ymddiheurodd Llywodraeth y DU ar y penwythnos, drwy Michael Gove? Oherwydd, er na fydd yn cyweirio'r adeiladau, bydd yn rhoi llawer iawn o gysur i'r unigolion a'r trigolion hynny sy'n cael eu hunain yn y sefyllfa anffodus hon heb fod yna unrhyw fai arnyn nhw. 

Wel, wrth gwrs, mae'n ddrwg iawn gennym fod unrhyw un yn gorfod byw gyda'r pryderon hynny. Ond, fel rwy'n dweud, roedd hi'n bwysig iawn ein bod ni wedi cymryd cam yn ôl ac edrych ar ba waith y gellid ei wneud, ac, fel rwy’n dweud, mae gan y Gweinidog raglen waith i gynorthwyo'r bobl yma. 

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A gaf innau, ar ran grŵp Plaid Cymru yn y Senedd, ond hefyd ar ran y blaid yn fwy eang, estyn ein cydymdeimladau dwysaf ni hefyd i'r Prif Weinidog ar ei golled? Mae'n ergyd y mae'n anodd amgyffred â hi, a dweud y gwir, ac rŷn ni eisiau gwneud yn sicr ei fod e'n ymwybodol faint o gefnogaeth rŷn ni eisiau dangos iddo fe yn y cyfnod anodd yma, ac mae hynny, fel sydd wedi cael ei ddweud eisoes, yn cael ei rannu mor eang. Mi oeddwn i yng nghynhadledd Melin Drafod ar y penwythnos, ac mi oedd pobl yno hefyd wedi teimlo yr ergyd o'r golled yma a'r ing y mae'r Prif Weinidog yn ei wynebu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau'r broses rownd gyflogau'r GIG yn ffurfiol ar gyfer 2023-24 drwy anfon llythyr cylch gwaith at gorff adolygu cyflogau'r GIG. Cafodd tystiolaeth Llywodraeth Cymru i'r corff adolygu cyflogau, ynghyd â'r llythyr, ei anfon ar 11 Ionawr, yr un diwrnod pan ddywedodd yr undebau iechyd nad oedden nhw bellach yn barod i ymgysylltu â phroses corff adolygu nad oedden nhw'n ymddiried ynddi bellach, gan alw yn hytrach am drafodaethau uniongyrchol gyda'r Llywodraeth ar gyfer y flwyddyn nesaf. Pam dechrau anghydfod newydd gyda'r undebau dros gyflog y flwyddyn nesaf hyd yn oed cyn i'r anghydfod cyflog eleni gael ei ddatrys? Sut mae hynny'n mynd i ailadeiladu ymddiriedaeth y gweithlu?

13:50

Diolch. Fel y gwyddoch chi, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i ymgysylltu ag undebau llafur. Rwy'n gwybod bod ei swyddogion hi wedi cwrdd â'r undebau llafur heddiw ac rwy'n credu eu bod nhw'n bwriadu cwrdd eto'r wythnos nesaf. Rydyn ni eisiau cadw ein drws ar agor; rydyn ni eisiau parhau i gael trafodaethau, yn amlwg, i gefnogi ein staff GIG. Fel y dywedoch chi, mae'r Gweinidog nawr yn edrych at y flwyddyn nesaf, oherwydd yn y broses, mae'n rhaid i chi wneud hynny. Ond, rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig iawn yw ein bod, yn wahanol i Loegr, wedi cadw'r ymgysylltu hwnnw â'n hundebau llafur i sicrhau eu bod yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnyn nhw.

Hefyd, dylwn i ddweud, ar draws Llywodraeth Cymru, fod pob Gweinidog yn edrych i weld pa gyllid ychwanegol y gallwn ni ei gyflwyno—rydyn ni'n edrych ar ein tanwario ac rydyn ni'n edrych ar ein cronfeydd wrth gefn—i geisio rhoi mwy o arian i'r pot hwnnw o arian rydyn ni eisiau ei roi nid yn unig i'n staff yn y GIG, ond i'n hathrawon a'n gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus. Os bydd hynny'n digwydd, fyddwn ni ddim yn gallu gwneud pethau eraill. Felly, dydw i ddim eisiau tanbrisio'r gwaith yr ydym yn ei wneud, fel Llywodraeth Cymru, i geisio datrys hyn.

Rydych chi'n dweud eich bod wedi mabwysiadu dull gwahanol i Lywodraeth y DU, ond mae'r llythyr cylch gwaith rydych chi wedi'i anfon yn adlewyrchu un Llywodraeth y DU yn union, wrth bwysleisio fforddiadwyedd. Rydych chi hefyd yn diffinio beth mae fforddiadwyedd yn ei olygu—y swm yr ydych chi, fel Llywodraeth, yn gallu fforddio ei dalu—oherwydd rydych chi'n dweud yn y llythyr:

'Yn absenoldeb cynnydd mewn cyllid gan Lywodraeth y DU, bydd angen i unrhyw newidiadau i delerau ac amodau staff y GIG ddod o gyllidebau sy'n bodoli eisoes.'

Y broblem yw nad yw hynny'n wir, gan y gallech gynyddu trethi incwm, a fyddai'n golygu y gallech fforddio cynnig cyflog tecach. Pam na wnaethoch chi gynnwys yr opsiwn hwnnw i'r corff adolygu cyflogau ei ystyried, os yw hon yn broses wirioneddol annibynnol?

Wel, yn anffodus, byddai hyd yn oed cynnydd o 1 y cant dim ond yn rhoi—rwy'n credu ei fod tua £55 miliwn, sydd, yn amlwg, ddim yn agos at fod yn ddigon o arian ar gyfer yr hyn sydd ei angen arnom. Yr hyn sydd ei angen arnom yw cynnydd yn ein cyllideb. Byddwch chi'n gwybod beth yw'r holl anawsterau—o fod yn y cytundeb cydweithredu, byddwch chi'n gwybod yr holl ffeithiau a'r ffigurau sy'n ymwneud â'n cyllideb. Rydyn ni'n gwybod bod angen rhagor o gyllid arnom gan Lywodraeth y DU i'n galluogi ni i fodloni nid yn unig galwadau o ran cyflog gweithlu'r GIG ond eraill hefyd. 

Rydym ni'n deall pam mae pobl nad ydynt, mae'n debyg, erioed wedi mynd ar streic o'r blaen yn teimlo'r angen i wneud hynny, oherwydd, ar ôl degawd o gyni—ac mae gennym ni'r argyfwng costau byw erbyn hyn, mae gennym ni ragfynegiadau o chwyddiant a rhagfynegiadau pellach o ddirwasgiad—rydyn ni'n deall yn llwyr bryderon ein gweithlu am eu safonau byw; maen nhw'n credu y gallen nhw gael eu herydu neu eu bod yn cael eu herydu nawr. Felly, fe wnaethom yn glir, heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU, fod cyfyngiadau ar ba mor bell y gallwn fynd. Ond ni fyddai eich awgrym chi'n sicrhau maint y cyllid sydd ei angen arnom.

Rwy'n credu efallai fod y Trefnydd wedi camsiarad yma, oherwydd byddai cynnydd o 1 y cant, yn ôl eich ffigurau chi'ch hun, yn lefel treth incwm ym mhob band yn codi £273 miliwn. Mae'r hyn rydych chi'n cyfeirio ato—y £55 miliwn—yn gynnydd o 1 y cant ym mil cyflog y GIG. Felly, mewn gwirionedd, gan ddefnyddio'ch pwerau treth incwm, gallech gyflawni cynnig cyflog sylweddol uwch na'r un rydych chi'n ei gynnig ar hyn o bryd. 

Nawr, yn eich tystiolaeth i'r corff adolygu cyflogau, rydych chi'n adrodd bod nifer swyddi gwag staff y GIG wedi cynyddu o 1,925 yn haf 2020 i 3,305 ddwy flynedd yn ddiweddarach—cynnydd o dros 70 y cant. Ac mae hyd yn oed hynny, rydych chi'n cyfaddef, yn amcangyfrif rhy isel o'r gwir ffigur. Mae gwariant asiantaeth, rydych chi'n cadarnhau, wedi mwy na threblu dros y saith mlynedd diwethaf i'r ffigur uchaf erioed o £271 miliwn, sy'n cyfateb i fwy na 5 y cant o gyfanswm bil cyflog y GIG. O fis Mehefin 2021 i fis Mehefin 2022, mae cyfraddau salwch yn y GIG, yn ôl eich tystiolaeth eich hun, wedi codi o 5.7 y cant o'r holl staff i 7.1 y cant. Yn y cyfamser mae cyfran y nyrsys a'r bydwragedd sy'n gadael y GIG wedi codi o 6.5 y cant i 7.6 y cant. Swyddi gwag, cyfraddau salwch i fyny, gwariant asiantaeth i fyny, cyfraddau gadael i fyny. Yr unig beth sy'n mynd i lawr, Trefnydd, yw morâl y staff a'u hymddiriedaeth yn y Llywodraeth Lafur yma. Beth yw eich cynllun i wella'r sefyllfa hon? 

13:55

Wel, yn ôl y ffigurau sydd gen i o fy mlaen ynghylch ystadegau gweithlu'r GIG—ac mae hyn yn ymwneud â staff sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol—mae'r gweithlu bellach ar y lefelau uchaf erioed. Mae gennym fwy na 105,000 o bobl, 90,943 cyfwerth ag amser llawn, yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan sefydliadau GIG Cymru. Mae'r holl staff—rydych chi'n sôn am nyrsys, rydych chi'n sôn am staff meddygol a deintyddol, meddygon ymgynghorol, nyrsys cofrestredig, bydwragedd cofrestredig, staff gwyddonol, therapiwtig, technegol—gallwn fynd ymlaen—yr holl therapyddion, maen nhw i gyd i fyny dros y tair blynedd diwethaf. Mae gen i'r ffigurau i gyd o fy mlaen.

Rydyn ni'n gweithio'n galed iawn i recriwtio. Gyda fy het AS ymlaen, cwrddais â phrif weithredwr dros dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddydd Gwener diwethaf a gwrando ar yr hyn maen nhw'n ei wneud fel bwrdd iechyd i geisio denu mwy o staff. Roedd llawer o staff nyrsio yn arbennig wedi rhoi eu cynlluniau ymddeol ar stop, er enghraifft, pan wnaeth y pandemig ein taro, a nawr rydym yn gweld mwy o bobl eisiau bwrw ymlaen â'r cynlluniau ymddeol hynny. Felly, roedd yn dda clywed gan y bwrdd iechyd arbennig hwnnw am y cynlluniau y maen nhw'n eu llunio. Byddwch yn ymwybodol o'r ysgol feddygol yr ydym yn ei chael yn y gogledd—felly, i fyny yn y gogledd, mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud i ddenu staff newydd. Ond mae'n bwysig ein bod ni'n edrych yn rhyngwladol hefyd, cyn belled â'i bod hi'n foesegol gywir recriwtio staff yno, ac eto, rwy'n gwybod bod byrddau iechyd yn gwneud hynny, hefyd.

Safbwyntiau Eithafol Ymysg Pobl Ifanc

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â safbwyntiau eithafol ymysg pobl ifanc? OQ59064

Gan weithio mewn partneriaeth â phlismona gwrthderfysgaeth, rydym wedi cynhyrchu fideos ac adnoddau ar atal radicaleiddio ac eithafiaeth, a gyflwynir mewn ysgolion gan ein swyddogion SchoolBeat. Mae ein bwrdd Prevent yn dod â phartneriaid at ei gilydd i oruchwylio gweithgareddau yng Nghymru sydd wedi'u cynllunio i amddiffyn y rhai sydd fwyaf agored i radicaleiddio.

Diolch. Roeddwn i'n teimlo'n anesmwyth iawn wrth ddarllen sylwadau'r Ditectif Uwcharolygydd Gareth Rees, arweinydd adran derfysgaeth adain dde plismona gwrthderfysgaeth, a ddywedodd fod cynnydd anhygoel o frawychus wedi bod ymysg pobl ifanc yn eu harddegau sy'n ymwneud â grwpiau neo-Natsïaidd ac eithafiaeth adain dde. Daeth ei sylwadau ar ôl i ddyn o Gaerdydd gael euogfarn am berthyn i grŵp adain dde eithafol waharddedig a recriwtio eraill at yr achos. Cafwyd llanc arall yn ei arddegau o Brydain hefyd yn euog yn ystod y dyddiau diwethaf am recriwtio ac annog pobl ifanc yn eu harddegau yn yr Unol Daleithiau i gyflawni ymosodiadau terfysgol yn UDA. Gweinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod y cynnydd hwn mewn casineb adain dde eithafol ymhlith ein pobl ifanc yn hynod bryderus. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio gydag asiantaethau partner er mwyn atal bechgyn ifanc yn eu harddegau rhag cael eu radicaleiddio?

Diolch i chi, ac yn sicr fe fyddwn i'n cytuno â'r Aelod ei fod yn bryderus iawn, a dedfrydu'r person ifanc o Gaerdydd y cyfeirioch chi ato—roedd yn ystod o droseddau, gan gynnwys troseddau o dan ddeddfwriaeth derfysgol. Beth mae hynny'n ei wneud mewn gwirionedd yw ein hatgoffa bod eithafiaeth yn fater real iawn, iawn ar draws y DU. 

Yn amlwg, mae ein sector addysg yn chwarae rhan hynod bwysig o ran diogelu ein pobl ifanc drwy ddarparu gwrth-naratifau, cefnogaeth ac ymgysylltu â phlismona gwrthderfysgaeth yn yr awdurdodau perthnasol pan fo angen. Mae gennym ni ein rhaglen ysgolion heddlu Cymru—mae honno wedi ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru, rwy'n credu, nawr ers bron i 20 mlynedd, ac rydyn ni'n buddsoddi ychydig o dan £2 filiwn bob blwyddyn, ac mae cyllid cyfatebol hefyd yn cael ei ddarparu gan heddluoedd ledled Cymru. Mae plismona gwrthderfysgaeth yn darparu sesiynau briffio rheolaidd i bob un o'n swyddogion cyswllt ysgolion er mwyn eu galluogi i ddarparu mewnbynnau ledled Cymru. 

Soniais am swyddogaeth bwysig addysg, ond hefyd, rwy'n credu mai ein cyfle gorau i ddiogelu'r rhai sydd fwyaf agored i radicaleiddio yw mabwysiadu dull system gyfan, ac mae hynny'n cynnwys staff rheng flaen yn ein gwasanaethau iechyd a hefyd yn ein gwasanaethau llywodraeth leol. 

14:00
Diogelwch Bwyd

4. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gryfhau diogelwch bwyd yng Nghymru? OQ59061

Mae'r system fwyd yn gweithredu ar sail y DU gyfan. Felly mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig i nodi risgiau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i'w rheoli. Yng Nghymru, rydym ni'n hyrwyddo diogelwch bwyd trwy fuddsoddi yn y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd, cefnogi amaethyddiaeth, a darparu cefnogaeth sylweddol i amrywiaeth eang o brosiectau cymunedol.

Diolch, Trefnydd. Fyddwch chi ddim yn synnu o wybod fy mod yn canolbwyntio ar ein cyflenwadau bwyd a llysiau. Rwy'n ymwybodol iawn mai dim ond dwywaith yn ystod y tri mis diwethaf yr wyf wedi gallu cael gafael ar y bocsys o ffrwythau a llysiau yr wyf i eisiau eu rhoi i'n banc bwyd lleol. Mae hynny'n adlewyrchu'r diffyg bwyd fforddiadwy sy'n cyrraedd y farchnad gyfanwerthu, y mae'r holl fanwerthwyr annibynnol, siopau cornel, siopau cyfleus a llawer o'r sector lletygarwch yn dibynnu arno. Rwy'n gwerthfawrogi bod gan yr archfarchnadoedd eu rhwydweithiau eu hunain. Prin iawn yw'r bwyd sy'n dod i'r farchnad gyfanwerthu sydd wedi'i dyfu yng Nghymru. Nawr, rwy'n llwyr werthfawrogi'r gwaith yr ydych chi, Gweinidog, wedi'i wneud fel Gweinidog materion gwledig i geisio ehangu'r sector garddwriaeth yng Nghymru, ond nid yw'n ddigon mewn gwirionedd. Ac o ystyried colli arian cyhoeddus yn sylweddol i'r economi sylfaenol, a'r goblygiadau mawr sydd ganddo i'n rhaglen uchelgeisiol prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd, gyda thraean o bryd plentyn i fod yn llysiau a ffrwythau i'w galluogi nhw i dyfu a dysgu, yn sgil y goblygiadau cyllidebol a pholisi hyn i'ch holl Weinidogion ar y meinciau blaen, ac eithrio'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu mynd i'r afael â'r mater strategol arwyddocaol hwn?

Diolch. Fel y dywedais i, mae cyflenwad bwyd wedi'i integreiddio'n llwyr ar draws y DU. Mae gennym gadwyni cyflenwi rhyngwladol amrywiol iawn hefyd ar gyfer mewnforion ac allforion. Nid wyf yn credu bod prinder cyffredinol o ffrwythau a llysiau. Maen nhw ar gael yn eang. Felly, nid wyf yn credu bod risg i naill ai'r polisi prydau ysgol am ddim nac i iechyd y cyhoedd. Rydym yn ceisio mynd i'r afael â'r mater hwn. Fe wnaethoch chi sôn am y gwaith rydw i wedi bod yn ei wneud mewn cysylltiad â garddwriaeth. Rwy'n cael gwybod bod garddwriaeth yn faes lle rydyn ni eisiau gweld ehangu'r sector amaethyddol mewn gwirionedd, ac rwy'n defnyddio cyllid rhaglenni datblygu gwledig, er enghraifft, i gael ffenestri newydd er mwyn i bobl wneud cais am gyllid mewn cysylltiad â gwneud mwy ynghylch garddwriaeth a thyfu ffrwythau a llysiau. 

Mae angen i ni barhau i drafod gyda Llywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig eraill, fel y dywedais i, ynghylch y gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth. Ac rwy'n ei wneud fel Gweinidog—mae swyddogion yn sicr yn ei wneud, ond rwy'n ei wneud fel Gweinidog. Rwy'n cwrdd ag ystod o bartneriaid—ffermwyr, proseswyr, gweithgynhyrchwyr, manwerthwyr—i gael yr wybodaeth sydd ei hangen arnom. Rydym yn adolygu hynny'n gyson i wneud yn siŵr nad oes prinder ffrwythau a llysiau. 

Mae'r Gweinidog wedi crybwyll yn y gorffennol ei strategaeth bwyd cymunedol, mater yr ydym wedi ei drafod yn y pwyllgor. Nawr, rydyn ni'n dal i aros am ddatblygiad y strategaeth, ac, fel mae'n sefyll, nid oes ganddi ddyfnder na sylfaen go iawn. Sylwaf fod dymuniadau clodwiw Jenny Rathbone yn cyd-fynd yn berffaith â Bil Bwyd (Cymru) Peter Fox, sydd ar ei hynt drwy'r broses ddeddfwriaethol ar hyn o bryd. Fel y mae Peter wedi amlygu yn y Siambr ac yn y pwyllgor, mae'n creu'r amgylchedd perffaith i wireddu gweledigaeth Jenny Rathbone ar gyfer diogelwch bwyd. Gweinidog, rydych chi wedi dweud bod yr arian ar gyfer eich strategaeth bwyd cymunedol wedi ei neilltuo, ond eto mae oedi o ran ei gweithredu. Felly, o ystyried hyn, pryd y gallwn ni ddisgwyl i'r strategaeth hon gael ei chyflwyno? Diolch. 

Wel, mae'r strategaeth bwyd cymunedol yn ymrwymiad maniffesto yr oeddwn yn sefyll arno. Rydyn ni'n cyflwyno'r strategaeth bwyd cymunedol fel rhan o'r cytundeb cydweithredu gyda Phlaid Cymru, ac, yn amlwg, mae gennym bum mlynedd i gyflwyno'r strategaeth honno a bydd yn cael ei chyflwyno yn ystod tymor y Senedd hon. Fe wnaethoch chi sôn am Fil bwyd Peter Fox. Mae'n rhaid i mi ddweud bod y Bil bwyd yna yn cymryd fy holl adnoddau, mae'n debyg, ar lefel swyddogol a allai fod yn gweithio ar y strategaeth bwyd cymunedol. Rydw i'n anghytuno â chi wrth ddweud bod Bil Peter Fox yn amgylchedd perffaith, ac mae Peter a minnau wedi cael trafodaethau. Fe wnes i roi tystiolaeth i'r pwyllgor yr wythnos diwethaf arno, ac rwy'n gwybod bod gan y ddau ohonom mwy o sesiynau craffu i ddod. Rwy'n credu bod modd cyflawni llawer o'r hyn y mae Peter Fox yn ei gyflwyno yn ei Fil bwyd gyda pholisïau a deddfwriaeth sydd gennym ar hyn o bryd. Rwy'n poeni'n fawr, er enghraifft, am y comisiwn y mae Peter Fox yn ei gynnig yn ei Fil. Rwy'n credu y bydd yn costio swm sylweddol o arian ac fe fydd hefyd yn mynd ar draws Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Rwy'n credu mai'r hyn mae Peter wedi'i wneud yw ceisio rhoi model yr Alban, os mynnwch chi, a'u Bil Bwyd i mewn—ac os ydych chi'n dweud ei fod yn grwn, yma yng Nghymru mae ein fframwaith yn sgwâr ac mae'n anodd iawn peidio â thorri ar draws Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.

14:05

Mae'n hanfodol er mwyn diogelwch bwyd ein bod ni yn hybu a gwarchod cynhyrchiant bwyd, ond hefyd yn hybu a gwarchod prosesu bwyd. A dwi'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog, yn ei rôl fel Gweinidog materion gwledig a bwyd, ynghyd â Gweinidog yr Economi, am gytuno i'm cyfarfod i yn ddiweddarach heddiw yma i drafod y camau brys sydd eu hangen yn wyneb y cyhoeddiad ar yr ymgynghoriad ar gau gwaith 2 Sisters Food Group yn Llangefni. Mae angen camau brys. Mi ydw i'n glir bod angen camau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn hynny o beth, ac mae'n frawychus gweld, o San Steffan heddiw, dyw'r Exchequer Secretary to the Treasury yn amlwg ddim hyd yn oed yn gwybod bod yna 700 o swyddi dan fygythiad yn Llangefni, sy'n dangos bod Ynys Môn wedi cael ei anwybyddu dros yr wythnos diwethaf yno. Ond ydy'r Gweinidog yn cytuno â fi bod angen sicrhau bob modd o ddod â buddsoddiad rŵan i mewn i gynhyrchu bwyd yn Ynys Môn, helpu busnesau presennol i dyfu, hefyd gwneud y math o fuddsoddiad dwi wedi gwthio amdano fo am barc cynhyrchu bwyd, er enghraifft, er mwyn gwneud yn siŵr bod y sector yma yn cael yr hwb mae o ei angen? Mae hwn yn gryfder gennym ni y gallem ni adeiladu arno fo yn Ynys Môn.

Ie, mewn cysylltiad â rhan olaf eich cwestiwn, rwy'n cytuno'n llwyr, ac rwy'n credu ein bod ni wedi cael trafodaethau cynhyrchiol iawn ynghylch hynny i weld beth allwn ni ei wneud. Yn sicr, roedd y cyhoeddiad ynglŷn â chau—neu'r bwriad i gau—safle dofednod 2 Sisters yn Llangefni yn ddinistriol, ac mae'n ddinistriol i'ch etholaeth chi. Roedd yn gwbl annisgwyl. Doedd gennym ni ddim gwybodaeth flaenorol amdano. Nid wyf yn credu y bu unrhyw ymgais i gysylltu â Llywodraeth Cymru o gwbl cyn gwneud y cyhoeddiad, a oedd yn siomedig iawn yn fy marn i, yn enwedig yn dilyn y gefnogaeth yr oeddem wedi ei rhoi iddyn nhw a'r gwaith roedden ni wedi ei wneud gyda nhw, yn enwedig yn ystod y pandemig COVID. Felly, fe wnaeth ein dal ni yn gwbl ddiarwybod; doedd gennym ni ddim syniad o gwbl. Rwy'n gwybod i Weinidog yr Economi a finnau, fe gwrddon ni, ac yna cawsom gyfarfod gydag arweinydd cyngor Ynys Môn; rwy'n credu bod yna un arall wedi'i gynllunio. Oherwydd rwy'n credu ei bod yn iawn fod angen i bob un ohonom weithio gyda'n gilydd, ac yn sicr mae angen i Lywodraeth y DU gymryd sylw o hyn. Ond byddwn ni'n hapus iawn, yn amlwg, i gael trafodaethau pellach gyda chi yn ddiweddarach y prynhawn yma.

Diolch, Llywydd. Ac rwy'n deall, gyda'ch caniatâd chi, fel arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, gan ymuno â'r ddau arweinydd arall, Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr, yr hoffem estyn ein cydymdeimlad dwysaf i'r Prif Weinidog a'i deulu. Mae colli rhywun mor agos yn anodd iawn, ac mae ein cariad a'n gweddïau ni gydag ef. Diolch yn fawr iawn.

Gan droi at fater diogelwch bwyd, mae agwedd arall yn ymwneud â chefnogi ein ffermwyr i gynhyrchu bwyd. Roedd rhai ohonom yn ddigon ffodus i fod, neithiwr, gydag Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, ac rwy'n gwybod bod nifer ohonom ni wedi mwynhau a goroesi brecwast gwych Undeb Amaethwyr Cymru yr wythnos diwethaf hefyd. Rhai o'r rheini efallai yn fwy nag unwaith, ac efallai yn fwy nag oedd yn llesol i ni, dywedwn ni, ond, serch hynny, roedd yn canolbwyntio ar fwyd o Gymru. Ac rwy'n gwybod, gyda'r Bil amaeth ar ei ffordd, hoffwn ofyn i chi, os caf i, yn eich swyddogaeth chi hefyd: pa fesurau ydych chi'n eu cymryd i edrych ar gynhyrchu bwyd domestig o ran sicrhau hynny a gwella hynny? Oherwydd mae ffermwyr yn gynhyrchwyr bwyd yn anad dim. Diolch yn fawr iawn.

Yn bendant. Os gofynnwch chi i unrhyw un, 'Beth mae ffermwyr yn ei wneud?', dyna'r peth cyntaf y byddan nhw'n ei ddweud, 'Maen nhw'n cynhyrchu ein bwyd.' A bydd Jane Dodds yn gwybod wrth wraidd y Bil mae'r amcan i sicrhau cynaliadwyedd ein ffermydd ac mae'n cydnabod amcanion cydategol cefnogi ffermwyr wrth gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, a hynny ochr yn ochr â'r ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur. Unig ddiben y Bil amaeth ac, yn amlwg, y cynllun ffermio cynaliadwy, sy'n cael ei gynhyrchu ochr yn ochr, yw sicrhau bod ein ffermwyr yn aros ar y tir a bod y tir hwnnw yno ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Gwasanaethau Arbenigol Meddygol

5. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru i ddatblygu gwasanaethau arbenigol meddygol ymhellach ledled Cymru? OQ59055

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei disgwyliadau mewn cyfres o ddatganiadau o safon sy'n disgrifio ffurf gwasanaethau clinigol da. Rydyn ni hefyd yn buddsoddi yng ngweithlu'r GIG yng Nghymru drwy gynyddu lleoedd hyfforddi ar gyfer nifer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

14:10

Diolch am yr ateb yna, Gweinidog. Bythefnos yn ôl, cwrddais ag un o fy etholwyr iau, Elliot, a'i fam, Lucy. Mae'r ddau yma yn y Senedd heddiw yn yr oriel gyhoeddus yn gwylio'r trafodion. Mae Elliot yn bum mlwydd oed ac yn dioddef o gyflwr prin o'r enw nychdod cyhyrol Duchenne, anhwylder genetig sydd â'r nodwedd o golli cyhyrau yn raddol. Fel rhan o'i driniaeth, Gweinidog, mae Lucy yn awyddus iawn bod Elliot yn cael cyfle i gael mynediad at dreialon clinigol. Ar hyn o bryd, does dim capasiti yng Nghymru i gynnal treialon clinigol o'r fath. Does dim arbenigwr niwrogyhyrol yn ne Cymru. Mae treialon yn cael eu cynnal yng ngogledd Lloegr, ond yn aml iawn plant yn y rhan honno o'r wlad sy'n elwa, oherwydd logisteg teithio a thriniaeth a ffactorau eraill. Gweinidog, mae Lucy yn gweithio'n galed i helpu i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr hwn a'r angen am fwy o ymchwil a thriniaeth well. Felly, sut gallai Llywodraeth Cymru weithio gyda Lucy i helpu Elliot, ac yn wir, i gefnogi teuluoedd a phobl ifanc eraill yng Nghymru sydd â'r cyflwr hwn?

Diolch. Mae'n hyfryd gweld Lucy ac Elliot i fyny yn yr oriel gyhoeddus. Rwy'n gobeithio bod Elliot yn cael y gofal sydd ei angen arno a'n bod yn gweld cynnydd o ran datblygu triniaethau yn y maes hwn. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi penodi arweinydd arbenigol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer clefydau niwroleg a niwroddirywiol, ac mae hynny er mwyn gallu agor astudiaethau ar draws ystod o glefydau niwrolegol a niwroddirywiol. Gall cymryd rhan mewn treialon ymchwil roi mynediad at ofal a thriniaeth na fyddai efallai ar gael fel arall, felly gallaf ddeall yn llwyr pam mae Lucy eisiau i Elliot gyfrannu at dreialon clinigol a chymryd rhan mewn treialon clinigol. Os nad yw'r treialon ymchwil hyn ar gael yng Nghymru, gall Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru hwyluso mynediad cleifion i dreialon mewn rhannau eraill o'r DU. Yr hyn rwy'n credu byddai o fudd fyddai i Lucy gyfarfod ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i drafod y materion hynny a'i phryderon. 

Mae cwestiwn 6 [OQ59058] wedi'i dynnu yn ôl. Felly, cwestiwn 7, Sarah Murphy.

Lleihau Amseroedd Aros yn y GIG

7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio technoleg ddigidol i leihau amseroedd aros y GIG i gleifion ar draws Pen-y-bont? OQ59062

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, yn yr un modd â byrddau iechyd eraill yng Nghymru, yn mabwysiadu ac yn defnyddio technoleg fodern ar draws ei holl safleoedd, gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, i weld a chefnogi cleifion yn y ffordd fwyaf priodol.

Felly, rhywfaint o newyddion da: rwy'n falch iawn o ddweud bod yr adran trawma ac orthopedig yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi ennill gwobr arloesedd MediWales ar ddiwedd 2022 yng nghategori gwobr 'gweithio gyda diwydiant' GIG Cymru. Enillwyd y wobr gan mymobility, sy'n ap digidol gofal iechyd y mae cleifion yn ei lawrlwytho i'w ffonau clyfar, ac yna mae'n anfon fideos a chanllawiau rhagsefydlu ac adsefydlu ôl-lawdriniaeth y gellir eu haddasu pan fo pobl yn cael clun a phen-glin newydd.

Nid yn unig y llwyddodd ein tîm yn Ysbyty Tywysoges Cymru Pen-y-bont ar Ogwr i ennill y wobr, ond mae mymobility yn rhan o gwmni byd-eang sy'n arwain mewn technoleg feddygol sef Zimmer Biomet, sydd â'i ffatri gyflenwadau meddygol hefyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac sy'n cynnig swyddi medrus, gwaith teg, swyddi sy'n cydnabod undebau llafur i'r etholwyr ar draws fy nghymuned, yn ogystal ag etholaeth Ogwr Huw Irranca-Davies. Hefyd, roeddwn i eisiau dweud 'diolch' i'n Gweinidog iechyd, wnaeth ymweld â nhw gyda ni'r llynedd. Yn ôl Dr Kotwal, sy'n llawfeddyg orthopedig ymgynghorol fu'n arwain y prosiect, mae adborth cleifion wedi bod yn 'wych'.

'Mae gennym ni gleifion...rhai yn eu 80au, sy'n defnyddio'r ap ac yn ei hoffi'n fawr iawn.'

Mae'r ap hefyd yn lleihau'r nifer o ymweliadau â'r ysbyty a galwadau ffôn, oherwydd eu bod nhw'n gallu cyfathrebu gan ddefnyddio'r ap yn unig, ac maen nhw eisiau ei ehangu i lawdriniaeth ar yr ysgwydd. Felly, Gweinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn gwerthuso mentrau arferion da fel mymobility, ac ehangu ledled Cymru i leihau rhestrau aros a chynyddu capasiti? Diolch.

Diolch. Hoffwn longyfarch Cwm Taf ar ennill eu gwobr. Mae nifer o wasanaethau digidol tebyg ar gael yn y farchnad, ac rwy'n gwybod bod byrddau iechyd yn gweithio gyda nifer o ddarparwyr i ddeall sut y gallant effeithio ar ddarparu gwasanaethau, ac mae hynny'n cynnwys teclyn sydd wedi ei dreialu o dan y fenter ymchwil busnesau bach, sy'n cael ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ar draws tri bwrdd iechyd ac ar draws nifer o arbenigeddau clinigol. Rydym yn cydnabod yn llwyr y gwerth y gall y gwasanaethau digidol hyn ei gynnig wrth drawsnewid gofal wedi'i gynllunio ar gyfer ein cleifion, ac mae hynny, yn amlwg, hefyd yn cyfrannu at ein nod o ofal yn agosach at gartref.

Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig iawn yw bod yr offer digidol rydyn ni'n eu mabwysiadu yn cael eu trosoli ar sail Cymru gyfan, fel eu bod yn gallu cyfnewid data yn ddiogel. Rwy'n credu bod rhannu data mor bwysig ar draws ein gwasanaethau iechyd yma yng Nghymru. Dydym ni ddim eisiau i ddata gael ei gloi o'r neilltu a pheidio cael ei rannu, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod y data hwnnw'n hygyrch, wrth symud ymlaen. Mae angen i ni hefyd sicrhau bod gwasanaethau ar gyfer cleifion yn hygyrch drwy un llwybr, a dyna ap GIG Cymru, fel arall mae risg—doeddwn i ddim yn gwybod bod y fath beth â niwl ap yn bodoli, pan fydd gennych chi ormod o apiau, pob un at ddiben gwahanol.

14:15
Gweithwyr Ambiwlans

8. Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i weithwyr ambiwlans yn Nwyrain De Cymru?  OQ59065

Rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein gweithlu yn y GIG i wella profiad i gleifion a staff, gan gynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer lleoedd hyfforddi ychwanegol i barafeddygon ac ystod o broffesiynau iechyd eraill yn 2023-24. Dyma'r nawfed flwyddyn yn olynol i gyllidebau addysg a hyfforddiant proffesiynol iechyd gynyddu yng Nghymru.

Diolch, Trefnydd. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn falch o sefyll ar y llinell biced gyda gweithwyr ambiwlans ym Merthyr Tudful. Doedd dim un o'r parafeddygon a gweithwyr ambiwlans hynny eisiau bod ar streic—roedden nhw eisiau gweithio, oherwydd bod eu bywydau'n troi o gwmpas achub bywydau pobl eraill. Ond roedden nhw'n teimlo nad oedd ganddyn nhw ddewis gan fod eu cyflog yn mynd i lawr ac mae'r pwysau'n codi. Ond, i ffwrdd o gyflog ac amodau, roedden nhw'n siarad â mi am straen iechyd meddwl, sut mae trawma wedi dod yn gyffredin iddyn nhw, gweld pobl yn marw, a gweld gofid a phoen a galar pobl eraill, o ddydd i ddydd. Roeddwn i'n bryderus iawn o glywed nad yw'r cymorth rheoli risg trawma bob amser yn ddigon. Fe wnaeth un o'r parafeddygon ddisgrifio peth gwirioneddol ofnadwy oedd wedi digwydd ar ei shifft, a oedd yn cynnwys rhywun yn marw, a doedd rywsut ddim yn gymwys ar gyfer y gefnogaeth drawma honno. Felly, a allai Llywodraeth Cymru edrych ar frys eto ar y gefnogaeth sy'n cael ei chynnig i'r bobl sydd â'r swydd o'n cefnogi ni pan fyddwn ni mewn angen dirfawr? Sut allwn ni sicrhau ein bod ni'n rhoi digon o help i'r helpwyr?

Diolch. Rydych yn codi pwynt pwysig iawn. Os meddyliwn ni amdano, parafeddygon yn aml, neu fel arfer, yw'r cyntaf ar y lleoliad ar ôl yr alwad 999 honno, ac rwy'n deall yn llwyr y pwynt rydych chi'n ei wneud. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn hapus iawn i edrych ar beth arall y gallwn ni ei wneud.

Cyllid Ffyniant Bro

9. Pa drafodaethau mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU yn dilyn cyhoeddi cyllid ffyniant bro ar gyfer rheilffyrdd yng Nghaerdydd? OQ59036

Rydym ni'n cefnogi'r datblygiad hwn yng Nghaerdydd ac mae'n cyd-fynd â buddsoddiad Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, nid oedd Llywodraeth Cymru yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r gronfa ffyniant bro ac nid yw wedi cael unrhyw rôl yn ei strategaeth na'i chyflawniad.

Diolch yn fawr, Trefnydd. Yn ddiweddar dywedodd yr arbenigwr ar drafnidiaeth gyhoeddus, Mark Barry, fod y cyfraniad o £50 miliwn tuag at linell cledrau croesi Caerdydd dim ond yn ddiferyn yn y môr o gymharu â'r £500 miliwn sydd ei angen er mwyn i'r llinell cledrau croesi fynd o Fae Caerdydd i Lantrisant. Dyw e ddim chwaith yn helpu gydag annigonolrwydd y gwasanaeth—dim bod â phedwar trên yr awr o hanner gorsafoedd Caerdydd oherwydd diffyg seilwaith. Fel y gwyddoch chi Gweinidog, mae Trafnidiaeth Cymru yn darparu'r gwasanaethau hynny, ond wrth gwrs maen nhw'n cael eu cyfyngu gan y seilwaith, gan Network Rail. Mae'n amlwg, hyd yn oed i fy ffrindiau, fy nghyd-Aelodau o'r Ceidwadwyr Cymreig, bod Cymru ar ei cholled pan ddaw hi i seilwaith y rheilffyrdd. A all Llywodraeth Cymru, os gwelwch yn dda, ofyn i Lywodraeth y DU ddarparu arian digonol ar gyfer cwblhau'r llinell cledrau croesi o Fae Caerdydd i Lantrisant a'r arian sydd ei angen er mwyn cynyddu lefel y gwasanaethau sydd eu hangen ym mhob gorsaf yng Nghaerdydd? Diolch yn fawr.

Rydych chi'n hollol gywir, dim ond y cam cyntaf yw'r cyllid, mewn gwirionedd, o uchelgais llinell cledrau croesi Caerdydd. Felly, fel Llywodraeth, byddwn ni'n parhau i weithio gyda Chyngor Caerdydd a Trafnidiaeth Cymru. Fe fyddwch chi'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r tanfuddsoddi hanesyddol yn seilwaith y rheilffyrdd ym mhob rhan o Gymru. Fel Llywodraeth, rydym ni'n hapus iawn i barhau i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru. Ddydd Iau diwethaf, yn fy swydd fel Gweinidog dros ogledd Cymru, roeddwn yn hapus iawn i lansio'r cyntaf o drenau newydd dosbarth 197 yn Llandudno, unwaith eto gyda chefnogaeth £80 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru, a bydd y trenau hyn yn cael eu cyflwyno ledled Cymru dros y 18 mis nesaf.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf fydd y cyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd, unwaith eto, sy'n cyflwyno'r eitem yma. Lesley Griffiths.

Member
Lesley Griffiths 14:19:58
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Llywydd. Does dim newidiadau i'r busnes yr wythnos hon. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

14:20

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Trefnydd, ddydd Gwener diwethaf oedd Diwrnod Cofio'r Holocost, ac roedd yn anrhydedd i mi gael croesawu i'r Senedd yr wythnos diwethaf, ynghyd â llawer o gyd-Aelodau eraill, Hedi Argent, sydd wrth gwrs yn oroeswr yr Holocost, a rannodd ei phrofiadau â ni. Fel y mae'n ddigon posibl eich bod yn ymwybodol, cyhoeddwyd adroddiad diffiniad gwaith Cynghrair Ryngwladol Cofio’r Holocost, IHRA, 2022 y mudiad Combat Antisemitism, ac edrychodd ar 1,116 o endidau, gan gynnwys 39 o wledydd a 464 o wladwriaethau rhanbarthol a chyrff llywodraeth leol. Yma yn y DU, cofnododd fod 150 adroddiad o ddigwyddiadau gwrthsemitiaeth yn effeithio ar fyfyrwyr Iddewig, academyddion, staff prifysgolion a chyrff myfyrwyr ar draws y DU yn ystod 2021 a 2022. Felly, mae'n frawychus iawn, Trefnydd, fod yna brifysgolion yma yng Nghymru sydd eto i fabwysiadu diffiniad gwaith yr IHRA o wrthsemitiaeth. Gweinidog, byddwn i'n ddiolchgar iawn am ddatganiad gan Weinidog Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am addysg, i'w gwneud yn gwbl, gwbl glir na ddylai unrhyw brifysgol neu le addysg arall yng Nghymru dderbyn unrhyw gyllid pellach gan Lywodraeth Cymru, unrhyw gyllid trethdalwyr o gwbl, oni bai eu bod yn mabwysiadu diffiniad gwaith yr IHRA. A fyddwch yn cadarnhau y bydd datganiad ar y ffordd?

Diolch. Rwy'n siŵr bod llawer ohonom wedi coffáu Diwrnod Cofio'r Holocost. Roeddwn i'n ffodus iawn i fod â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn fy etholaeth, ac fe aethom ni i ddigwyddiad gyda'n gilydd. Ar y pwynt a godwyd gennych, mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu diffiniad IHRA fel diffiniad gwaith, fel y gwyddoch chi, mater i bob prifysgol yw ei fabwysiadu wedyn. Gwn fod Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cael y trafodaethau hynny gyda nhw.

Hoffwn gael datganiad, os gwelwch yn dda, yn amlinellu pa sgyrsiau brys sydd wedi eu cynnal rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am y cymorth sydd ar gael i bobl mewn anobaith sy'n methu fforddio eu biliau ynni. Rydym ni'n byw mewn cyfnod o eithafion anfoesol. Yr wythnos diwethaf, adroddwyd bod cewri olew fel BP a Shell yn gwneud elw o £5,000 yr eiliad, ar adeg pan fo miliynau mewn diflastod, eisoes yn methu â chynhesu eu cartrefi, oherwydd bod aros yn fyw wedi dod yn argyfwng. Mae costau byw bron yn amhosib eu rheoli. Mae Climate Cymru yn rhybuddio bod 0.5 miliwn o oedolion Cymru wedi treulio'r Nadolig dan amodau Dickensaidd, mewn cartrefi oer, llaith, ac mae disgwyl i daliadau cymorth Llywodraeth y DU ddod i ben ymhen deufis. Felly, all datganiad amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi pwysau ar Lywodraeth San Steffan i estyn cefnogaeth i aelwydydd, cefnogaeth i fusnesau, a'u hannog i newid y system ofnadwy hon sy'n gwobrwyo cwmnïau cyfoethog ac yn gadael i'r bobl dlotaf rewi?

Diolch. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol eisoes yn gwneud hynny. Rwy'n gwybod ei bod hi wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU heddiw, i Grant Shapps, gan wneud y pwynt hwnnw. Bydd y Gweinidog yn rhannu'r llythyr hwnnw gyda ni, a gobeithio pan fydd hi'n cael ymateb bydd hi hefyd yn rhannu'r llythyr hwnnw gydag Aelodau.

Gan barhau â'r thema ynni, rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar gynnydd sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru ynghylch dod â thaliadau sefydlog i ben ar ddiwrnodau pan nad yw ynni'n cael ei ddefnyddio. Pan fo pobl yn bwyta eu pryd poeth cyntaf ers dyddiau, sy'n debygol o fod yn dun o gawl, a chanfod eu bod wedi defnyddio hyd at chwarter eu credyd ynni, i mi mae hyn yn sylfaenol anghywir. Byddwn i'n ychwanegu'r gair 'creulon' hefyd. Gan wrthwynebu, mewn egwyddor, daliadau sefydlog, sy'n taro'r tlotaf galetaf, fel cam cyntaf mae'n hanfodol nad yw taliadau sefydlog yn cael eu gwneud ar ddyddiau pan nad oes ynni'n cael ei ddefnyddio.

Hoffwn hefyd ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar ddyfodol papurau bro yng Nghymru. Papurau newydd Cymraeg, lleol, cymunedol yw'r rhain a gynhyrchir gan wirfoddolwyr ac a gyhoeddir yn gyffredinol yn fisol. Yn Abertawe, mae gennym ni Wilia, sy'n dda iawn, ac sydd bellach ar-lein yn unig. Mae'n rhoi cyfle gwerthfawr i wybod y diweddaraf am yr hyn sy'n digwydd mewn ysgolion Cymraeg, y cymdeithasau Cymraeg lleol, a chapeli Cymraeg. Rwy'n gofyn am gynllun gan y Llywodraeth ar gyfer parhau â'r adnoddau hanfodol hyn.

Diolch. Wel, rwy'n siŵr na fyddwch yn synnu o glywed bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cytuno'n llwyr â chi ar y mater sylweddol rydych chi'n ei godi. Rwy'n gwybod ei bod hi wedi cael sawl cyfarfod gyda chwmnïau ynni a hefyd gydag Ofgem. Rwy'n credu mai'r tro diwethaf i ni gwrdd ag Ofgem oedd ddoe, pryd y cododd y mater hwn gyda nhw. Rydym yn credu na ddylai fod unrhyw daliadau sefydlog ar gyfer cwsmeriaid sy'n rhagdalu. Maen nhw'n gwneud cam go iawn â chwsmeriaid sy'n rhagdalu.

O ran eich ail gwestiwn, mae papurau bro yn ffynonellau cwbl unigryw yma yng Nghymru ar gyfer ein newyddion yn y gymuned Gymraeg. Rydym yn ddiolchgar iawn am waith nifer o wirfoddolwyr sy'n gweithio'n galed iawn i sicrhau eu bod yn cael eu cyhoeddi bob mis. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod COVID-19 wedi bod yn fygythiad gwirioneddol iddyn nhw. Roedd nifer ohonyn nhw'n parhau i gael eu cyhoeddi ac addasodd rhai ar gyfer eu cyhoeddi ar-lein, fel y cyfeirioch chi ato. Rwy'n gwybod yr wythnos diwethaf cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg gymorth chwyddiant un tro i sefydliadau sy'n cael eu hariannu gan grantiau Cymraeg, a bydd y rhwydwaith o bapurau bro yn cael £6,000 ychwanegol.

14:25

Gweinidog, heddiw hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch pa mor aml maen nhw'n archwilio a chynnal a chadw cyfarpar trydanol mewn ysbytai ledled Cymru? Ddydd Mercher diwethaf, fel rwy'n siŵr eich bod yn gwybod, oherwydd tân roedd rhaid gwacáu Ysbyty Brenhinol Gwent a chanslo nifer o apwyntiadau cleifion allanol, gan achosi amhariad ac anghyfleustra sylweddol i gleifion a staff fel ei gilydd. Felly, a gaf i ddatganiad gan y Gweinidog ynglŷn â pha un a yw'r drefn arolygu bresennol a'r gwaith cynnal a chadw offer trydanol yn ein hysbytai yn ddigonol i osgoi digwyddiadau o'r fath yn y dyfodol?

Yn ail, a gawn ni ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynghylch cyflwyno tollau ffyrdd a thaliadau atal tagfeydd yng Nghymru y mae tipyn o sôn amdanyn nhw? Roedd modurwyr yng Nghymru yn gynddeiriog, a hynny'n briodol, pan wnaethant ddarganfod bod y cynlluniau hyn wedi'u nodi yng nghynllun cyflawni ar gyfer trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, ac fe fyddai trigolion a chymudwyr yng Nghaerdydd wedi eu siomi ymhellach o glywed Aelod Llafur o'r Senedd yn dweud yn y Siambr hon bythefnos yn ôl ei bod hi'n fodlon ei bod hi'n gynyddol anodd i bobl ddod â'u ceir i ganol y ddinas ac yna galw am gynnydd sylweddol yng nghost parcio yng nghanol y ddinas. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog yn amlinellu ei gynlluniau i gosbi modurwyr ymhellach mewn ymgais i'w gorfodi oddi ar y ffyrdd ac i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus anghyfleus ac annibynadwy, lle mae'n bodoli? Diolch.

Wel, rwy'n credu bod eich ail gais yn 'na' ar ei ben. Yn sicr, nid yw'r Dirprwy Weinidog yn mynd i ddod i siarad ynghylch sut mae'n cosbi gyrwyr neu berchnogion ceir. Y peth pwysicaf—rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn cydnabod hyn—yw ein bod ni'n wynebu'r argyfwng hinsawdd nad yw ar y ffordd ond sydd yma nawr. 

O ran eich cais cyntaf, mae pob bwrdd iechyd yn adrodd ar ystadau a rheoli cyfleusterau bob blwyddyn. Mae'r Gweinidog yn cael y data perfformiad yn flynyddol. Ac rwy'n gwybod, er enghraifft, fod ôl-groniad wedi bod, rwy'n gwerthfawrogi hynny, ond mae hwnnw fwy neu lai wedi ei ddatrys nawr. Rwy'n siŵr ei bod hi'n ymwybodol o'r digwyddiad y cyfeirioch chi ato a bydd yn gofyn i'w swyddogion sicrhau y cedwir at yr amser arolygu cywir.

Os caf i barhau ar yr hyn sy'n sgandal cenedlaethol a fy ymgyrch i ddod â'r sgandal cenedlaethol hwnnw i ben, sef gorfodi mesuryddion rhagdalu ar bobl, Trefnydd, byddwch yn ymwybodol, allan o 500,000 o warantau y gwnaethpwyd ceisiadau amdanyn nhw drwy'r llysoedd, mai dim ond 72 a wrthodwyd. Mae'n ymddangos i mi fod rhywbeth amlwg o'i le ac yn anghyfiawn. Dros wythnos yn ôl bellach, roedd Grant Shapps yn cydnabod bod yr wybodaeth hon yn peri pryder mawr. Ysgrifennodd at y cyflenwyr ynni, ond mae eto i wneud unrhyw beth ystyrlon. Mae hynny'n gwbl groes i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, sydd wedi dangos arweiniad go iawn ar y mater hwn. A gaf i ofyn am ychydig mwy o waith ymchwilio gan Lywodraeth Cymru ac yna am ddatganiad yn sgil hynny, yn gyntaf ar faint o warantau sy'n cael eu cyhoeddi, sy'n peri pryder, yn enwedig yn llysoedd Abertawe, lle mae'n ymddangos bod degau o filoedd o warantau yn gysylltiedig ag un asiant casglu dyledion penodol a hurir gan nifer o gyflenwyr ynni, ac yna, yn ail, ar lefel y ddyled sy'n sbarduno cais am warant ac a yw honno'n mynd yn is? Mae hwn yn sgandal cenedlaethol go iawn ac mae angen i ni roi diwedd ar hyn nawr. 

Diolch, ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Mae hwn yn fater pwysig iawn, ac yn amlwg mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, fel y dywedoch chi, wedi dangos arweiniad go iawn mewn cysylltiad â hyn. Soniais mewn ateb cynharach iddi gyfarfod ag Ofgem ddoe—rwy'n credu eich bod wedi eu cyfarfod sawl gwaith o'r blaen—yn ogystal â chyflenwyr ynni, i wir fynegi ei phryderon difrifol ynghylch y nifer fawr o warantau llys sydd wedi'u cyhoeddi o lysoedd ynadon. Ysgrifennodd y Gweinidog hefyd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn mynegi'r pryderon hyn. Mae yna wir berygl ynghylch diogelwch a chyfiawnder cymdeithasol i aelwydydd sy'n agored i niwed, gan gynnwys y rhai sydd ag aelodau â chyflyrau meddygol. Maen nhw'n cael eu gorfodi i gael mesuryddion rhagdalu yn erbyn eu hewyllys, neu hyd yn oed heb iddyn nhw wybod. Mae'r system yn esgeuluso pobl agored i niwed yn ein cymdeithas ar hyn o bryd, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi annog Llywodraeth y DU i roi diwedd ar yr arfer ffiaidd o orfodi gosod mesuryddion rhagdalu, a chryfhau rheolau a rhwymedigaethau cyflenwyr i sicrhau eu bod yn cefnogi yn hytrach na chosbi eu cwsmeriaid. Yng nghyfarfod Ofgem ddoe, cwestiynodd y Gweinidog mewn gwirionedd a oes ganddyn nhw'r pwerau a'r ymyraethau digonol i ddiogelu ein deiliaid tai yma yng Nghymru ac a yw'r rheoliadau'n mynd yn ddigon pell i ddiogelu aelwydydd. Rwy'n deall bod Ofgem yn cynnig adolygu'r polisi ynghylch mesuryddion rhagdalu yn ffurfiol yn ddiweddarach eleni a bydd yn cael trafodaethau gyda grwpiau defnyddwyr a diwydiant ar welliannau arfaethedig. Yn amlwg, bydd y Gweinidog a'i swyddogion yn parhau i ymgysylltu â nhw. 

14:30

A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y prynhawn yma ar gyflwr ffyrdd gwledig yn sir Ddinbych? Mae pobl leol yn y sir wedi cysylltu â mi sy'n poeni am y cynnydd yn y tyllau yn y ffordd a'r holltau dwfn sy'n achosi llawer o gur pen i ddefnyddwyr y ffordd a thraffig fferm, a rhai yn cael eu disgrifio fel rhai o'r trydydd byd. Yn y cabinet blaenorol, fe wnaethon nhw roi £4 miliwn o'r neilltu yn benodol ar gyfer gwella ffyrdd yn sir Ddinbych, a nawr mae'r cabinet presennol yn dweud nad yw'n ddigon. Felly, sut ydym ni'n ennill yma, Trefnydd? A gaf i, felly, ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru am y cyngor y gallwch chi ei roi i arweinwyr sir Ddinbych ar sut i ail-flaenoriaethu eu gwariant, neu yn wir ddarparu cyllid ychwanegol fel bod fy etholwyr yn gallu teithio o amgylch y lle yn ddiogel?

Unwaith eto, mae'r Aelod yn gofyn i mi am ddatganiad ar ardal, mewn gwirionedd, mae hynny—. Nid ein rôl ni yw dweud wrth Gyngor Sir Ddinbych sut i atgyweirio eu tyllau yn y ffordd na sut mae ail-flaenoriaethu ei gyllideb; eu cyfrifoldeb nhw yw hynny. Maen nhw'n ateb i'r boblogaeth leol, ac mae'n fater iddyn nhw yn llwyr. 

Diolch. Yn dilyn y craffu ar y gyllideb a gynhaliwyd yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ysgrifennais at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ofyn faint o'r dyraniad cyfalaf ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr—£3.7 miliwn yn y flwyddyn ariannol bresennol hon—oedd wedi'i wario. Yn anffodus, mae'r Gweinidog wedi ymateb nad oes dim ohono wedi'i wario, ac ni ragwelir y bydd dim ohono'n cael ei wario cyn 31 Mawrth. Hoffwn godi hyn oherwydd mae hyn yn golygu nad oes yr un awdurdod lleol wedi gweld yn dda i fuddsoddi yn y safleoedd Teithwyr y mae mawr eu hangen eleni, er bod Deddf yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a Llysoedd 2022 bellach yn ei gwneud yn drosedd i unrhyw un sy'n stopio ar safle nad yw wedi ei gofrestru. Mae hyn yn gwbl annerbyniol i'r gymuned fregus hon, ac rwyf eisiau gofyn am ddatganiad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud am fater mor arwyddocaol i gymuned fregus ac ymylol.

Rwy'n deall bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn ymwybodol o'ch pryderon ac yn rhannu'r farn bod gwir angen sicrhau'r buddsoddiad mwyaf posibl mewn safleoedd newydd a gwelliannau i safleoedd sy'n bodoli eisoes. Rwy'n deall bod swyddogion y Gweinidog wedi cwrdd â thrigolion ar safleoedd yn y gogledd ddiwedd y llynedd, a bod ymgysylltu'n mynd rhagddo ledled Cymru dros y misoedd nesaf. Rwy'n credu y byddai'r Gweinidog yn hapus i wneud datganiad ysgrifenedig yn nodi'r camau sy'n cael eu cymryd i wneud cynnydd ar y mater hwn. Rwy'n deall ei fod hefyd yn cael ei drafod gydag arweinwyr cabinet awdurdodau lleol am gydraddoldeb heddiw. 

3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi

Eitem 3 yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Andrew R.T. Davies. 

Cadernid Economaidd

1. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella cadernid economaidd yng Nghanol De Cymru? OQ59046

Mae ein cenhadaeth economaidd yn amlinellu ein blaenoriaethau economaidd a sut y gallwn ni helpu i wneud Cymru yn genedl fwy cadarn a ffyniannus. Rydyn ni'n cryfhau sectorau bob dydd yn economi Cymru, ynghyd â phwyslais ar gefnogi cwmnïau i arloesi ac arallgyfeirio, cyflymu datgarboneiddio busnesau, a buddsoddi mewn seilwaith sy'n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd.

Mae'n amlwg bod Canol De Cymru, Gweinidog, yn gartref i ddau barth menter—un ym Mro Morgannwg a'r parth menter ariannol yng nghanol Caerdydd. Sefydlwyd nhw gan Weinidog blaenorol ac maen nhw wedi bod yn rhan ganolog o Lywodraethau olynol yma ym Mae Caerdydd o ran cyfleoedd gwaith a chyfleoedd i fuddsoddi. Pa rôl, wrth symud ymlaen, sydd gan y parthau menter o ran gwella cydnerthedd economaidd, wrth symud ymlaen â'r weledigaeth sydd gennych chi fel y Gweinidog? Ydych chi'n gallu ein diweddaru ni ynglŷn â'r canlyniadau o'r ddau barth menter sydd wedi'u lleoli yng Nghanol De Cymru, o ran cyfleoedd cyflogaeth—cynnydd y gallem ni fod wedi'i weld—ac arian mewnfuddsoddiad a allai fod wedi dod oherwydd creu yr ardaloedd hyn?

Ni allaf roi ffigyrau i chi oddi ar dop fy mhen ar gyfer y ddau barth, ond mi fyddaf i'n fwy na hapus i ymateb i Aelodau ar y ddau bwynt yna. Ond yn ehangach, os edrychwch chi ar Gaerdydd fel ardal, os edrychwch chi ar wasanaethau proffesiynol, rydych chi wedi gweld twf go iawn a buddsoddiad parhaus. Yn ddiweddar, cwrddais â nifer o gwmnïau gwasanaethau proffesiynol gydag ôl troed yn y DU ac yn rhyngwladol sydd eisoes â safle yma yn y brifddinas-ranbarth ac sy'n gobeithio buddsoddi ymhellach. Yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud mewn gwirionedd yw adolygu rôl parthau menter yn y dyfodol, y rhai y byddwn ni'n parhau â nhw, ac, mewn gwirionedd, sut rydym ni'n gweithio ochr yn ochr â'n rhanbarthau economaidd. Rydyn ni'n edrych i gael meysydd a rennir o gydweithio gyda'r rhanbarthau hynny. Ac mewn gwirionedd, mae arian y fargen dwf—mae Llywodraeth y DU hefyd wedi buddsoddi yn rhan o hynny—wrth helpu i gael ystod o sectorau, lle gall pob rhanbarth edrych ar yr hyn y gallant ei wneud a phrofi twf sylweddol ynddo, a sut y gall Llywodraeth Cymru weithio mewn partneriaeth â nhw. Ond bydda i'n sicr yn hapus iawn i ddod nôl atoch chi am y ddau barth menter sydd wedi bodoli yn y Fro ac yma yng Nghaerdydd hefyd.

14:35

O ystyried adroddiadau y gall Gweinidogion Llywodraeth y DU lacio rheolau i fyfyrwyr tramor, er mwyn eu caniatáu i weithio mwy o oriau, a oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i drafod hyn gyda Llywodraeth y DU, fel y gall myfyrwyr tramor sydd eisiau gweithio helpu i lenwi'r prinder llafur a brofwyd gan ddiwydiant lletygarwch Caerdydd?

Nid ydym wedi cael gwybod yn uniongyrchol gan Lywodraeth y DU y byddant yn bwrw ymlaen â'r hyn sydd wedi'i friffio ynghylch y potensial o lacio'r rheolau i fyfyrwyr o dramor weithio mwy o oriau. Fodd bynnag, byddwn i'n dweud mai'r man cychwyn yw ein bod ni wir yn gwerthfawrogi myfyrwyr rhyngwladol sy'n dod i Gymru—maen nhw'n cyfoethogi campysau, ystafelloedd dosbarth a'r cymunedau maen nhw'n byw ynddyn nhw, yn economaidd ac yn ddiwylliannol. Un o'r pethau wnes i ei fwynhau fwyaf am fynd i'r brifysgol a dweud y gwir oedd cwrdd â phobl o wahanol rannau o'r byd—roedd yn rhan o'r cyfoethogi ehangach. Ond er y bydd rhai o'r bobl hynny'n gweithio ym maes lletygarwch, mewn gwirionedd, mae eu gwerth economaidd yn llawer, llawer mwy na hynny. Rydym ni'n ffodus iawn ein bod ni'n llwyddo nid yn unig i ddenu myfyrwyr i ddod yma i astudio, ond mae nifer ohonyn nhw'n aros, mae ganddyn nhw gyfleoedd gwaith, ac maen nhw'n sicr yn cyfoethogi ystod gyfan o'n sectorau economaidd hefyd. Rwy'n falch iawn bod y Llywodraeth hon yn parhau i gefnogi symudedd rhyngwladol myfyrwyr, yn benodol drwy ein rhaglen Taith, ond hefyd prosiectau fel Cymru Fyd-eang. Rwyf i a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn parhau i gynnal deialog gyda'n cynghorwyr mewnfudo, ac rwy'n parhau i ddadlau dros ddull mwy synhwyrol o fewnfudo'n fwy cyffredinol, oherwydd y buddion economaidd y mae'n eu darparu. Rwy'n gobeithio y bydd yn rhoi rhywfaint o synnwyr cyffredin o ran myfyrwyr rhyngwladol, yn hytrach na pheth o'r briff amgen y gallech chi ei glywed gan ddeiliad presennol y Swyddfa Gartref.

Prosiect Porth Wrecsam

2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chefnogi prosiect Porth Wrecsam yn ei chael ar economi Cymru? OQ59032

Rydyn ni'n parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gyflawni buddion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd prosiect Porth Wrecsam. Rydym ni'n cynnal trafodaethau brys gyda'n partneriaid i asesu effaith penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chefnogi'r Porth yn y rownd ariannu ffyniant bro ddiweddaraf, a nodi ffyrdd amgen o sicrhau'r manteision y gallai prosiect y Porth eu darparu ac y dylai eu darparu.

Diolch yn fawr iawn i chi am y neges gadarnhaol honno i bobl Wrecsam a'r rhanbarth. Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam, wrth gwrs, wedi bod yn sôn yn ddiweddar am gynllun B, ac mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi clustnodi, rwy'n credu, £25 miliwn i'r prosiect hwn. A fyddwch chi'n ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflawni prosiect Porth Wrecsam yn llawn, ac ymrwymo i ymgysylltu â'r clwb a rhanddeiliaid eraill y prosiect i helpu i ddatblygu Cynllun B a sicrhau bod y prosiect hwn yn dwyn ffrwyth i bobl Wrecsam?

Mae'r dyraniad yr ydym ni eisoes wedi'i ddarparu yn 2021, y £25 miliwn y gwnaethoch chi ei grybwyll, ar gael o hyd. Fe wnaeth fy swyddogion gyfarfod gyda phartneriaeth Porth Wrecsam yr wythnos ddiwethaf, yn dilyn y cyhoeddiad fod y cais am gyllid ffyniant bro wedi ei wrthod. Wrth gwrs, mae'n siomedig na chafodd Wrecsam a sir y Fflint unrhyw beth yn sgil y ceisiadau ffyniant bro. Mae amrywiaeth o brosiectau na allech chi ddweud sy'n cyfateb i ffyniant bro, fel cynllun tagfeydd ffyrdd gwerth £45 miliwn yn Dover—nid oes gan hynny unrhyw beth i'w wneud â ffyniant bro—neu'r £19 miliwn a ddaeth o hyd i'w ffordd i etholaeth wledig gyfoethog iawn y Prif Weinidog. Byddwn ni'n parhau i weithio gyda phrosiect Porth Wrecsam, gyda'n partneriaid, i edrych ar opsiynau ariannu amgen—fel y dywedwch chi, cynllun B—a bydd hynny wrth gwrs yn cynnwys trafodaethau gyda'r clwb pêl-droed. Byddaf yn hapus i ddiweddaru Aelod yr etholaeth ar y trafodaethau hynny wrth iddyn nhw symud ymlaen.

Diolch, Ken Skates, am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn yma heddiw. Rwy'n sicr yn rhannu rhywfaint o siom ynghylch penderfyniadau i beidio â gallu cefnogi'r cais am gyllid ffyniant bro ar gyfer prosiect Porth Wrecsam. Ond rwy'n falch o glywed ymateb cadarnhaol y Gweinidog o ran y trafodaethau parhaus gyda phartneriaeth Porth Wrecsam, a'r ymgysylltu hwnnw gyda'r clwb pêl-droed yn Wrecsam, i weld y prosiect pwysig hwnnw yn dod yn llwyddiant i ddinas Wrecsam. Rwy'n falch hefyd o nodi bod Cymru wedi cael gwerth dros £200 miliwn o gyllid ffyniant bro, yn cefnogi prosiectau ar hyd a lled Cymru, gyda bron i £50 miliwn o hynny yn fy rhanbarth i, Gogledd Cymru. Rydw i hefyd yn falch o weld mai Cymru gafodd y swm uchaf o arian y pen, o'i gymharu â gweddill Prydain Fawr, trwy'r cyllid ffyniant bro. Rwy'n falch hefyd o weld bod Wrecsam, drwy'r gronfa ffyniant a rennir, wedi derbyn £22.5 miliwn, yn ogystal â denu diddordeb mawr o'r fargen dwf yn y gogledd hefyd. Yng ngoleuni hynny i gyd, Gweinidog, ac yn sgil yr holl bositifrwydd y gallwn ni ei weld yn Wrecsam a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau yn Wrecsam, pa gynlluniau penodol sydd gennych chi i sicrhau bod Wrecsam yn gallu cydio yn y cyfleoedd hynny dros y blynyddoedd nesaf, i wneud yn siŵr bod Wrecsam yn gallu bod y pwerdy economaidd y dylai fod?

14:40

Rydyn ni'n parhau i weithio'n adeiladol gyda chynrychiolwyr Wrecsam. Dyna pam ein bod ni'n parhau i ymwneud â phrosiect Porth Wrecsam ac yn wir y trafodaethau a rennir sy'n digwydd ar y Gynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy ehangach hefyd. Ni wnaf ymuno â'r Aelod i ddathlu rownd 2 y Gronfa Ffyniant Bro. Roedd oedi eithriadol mewn prosiectau. Efallai y bydd yr Aelod yn dymuno ystyried a yw dathlu a gofyn i eraill ymuno i ddathlu canlyniadau'r gronfa ffyniant bro yn wirioneddol briodol pan fyddwch chi'n ystyried bod Cymru wedi cael 10 y cant o'r rownd ariannu ddiwethaf. Ar y llaw arall, roeddem ni'n arfer derbyn 22 y cant o ddyraniad y DU o raglenni cronfa strwythurol flaenorol yr UE. Rydym ni'n dal i gael cam, ac mae'r ffordd y mae arian newydd yn cael ei ddyrannu yn gwbl groes i addewidion maniffesto clir iawn a ailadroddwyd sy'n nodi na fyddai Cymru ar ei cholled o un geiniog. Mae gwir angen i'r Ceidwadwyr benderfynu a ydyn nhw am ddathlu bod Cymru yn cael llai neu ymuno â'r ymgyrch dros sicrhau bod Cymru yn cael ei chyfran deg, oherwydd mae'r gronfa ffyniant bro yn gwneud unrhyw beth ond hynny.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf nawr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog. Yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, ddechrau'r mis, fe wnaethoch chi gyhoeddi y byddech chi'n lansio cynllun gweithredu gweithgynhyrchu wedi'i adnewyddu sy'n nodi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector gweithgynhyrchu. Allwch chi gadarnhau pryd y bydd y cynllun gweithredu hwnnw'n cael ei gyhoeddi?

Rwy'n cael amrywiaeth o sesiynau ymgysylltu â rhanddeiliaid o fewn y misoedd nesaf gyda busnesau yn yr ardal. Rydym ni wedi cynnal adolygiad o'r cynllun gweithredu gweithgynhyrchu blaenorol. Rydym ni wedi rhannu ymgynghoriad â busnesau yn ymwneud â hynny. Rwy'n edrych ymlaen at gymryd rhan yn uniongyrchol gyda chynrychiolwyr busnes dros y deufis nesaf. Yna, byddaf yn fwy na pharod i lansio hynny a chymryd cwestiynau gan Aelodau, naill ai yn y fan hyn neu, yn wir, yn y pwyllgor mae'r Aelod yn ei gadeirio.

Mae'n ymddangos i mi nad yw'r Gweinidog yn gwybod pryd y bydd yn lansio'r adnewyddiad hwn, ond rwy'n gobeithio'n fawr y bydd yn fuan iawn, iawn.

Rhan allweddol o'r cynllun gweithredu gweithgynhyrchu presennol yw adeiladu cydnerthedd y gadwyn gyflenwi. Wrth gwrs, gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r pwerau sydd ganddi i ddiwygio'r system gynllunio er mwyn cryfhau a datblygu ein cadwyn gyflenwi. Un o'r pwyntiau sy'n cael eu hamlygu yn y cynllun presennol yw sicrhau bod anghenion gweithgynhyrchu yn cael eu hystyried wrth gynllunio darparu adeiladau busnes, er enghraifft. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym ni a yw Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd yr amcan hwn, ac a wnewch chi hefyd ddweud wrthym ni pa gamau pellach rydych chi'n bwriadu eu cymryd i ddiwygio'r system gynllunio er mwyn cefnogi datblygu busnes yng Nghymru?

Mae dau beth, fe fyddwn i'n dweud. Y cyntaf yw fy mod i wedi rhoi arwydd o ble rydyn ni o ran adnewyddu'r cynllun, ac nid yw'n bell iawn o gwbl. Mae'r syniad nad oes gen i unrhyw syniad yn gamliwiad—rwy'n siŵr, yn ddiniwed—o'r ateb a roddais i'r Aelod. Mewn gwirionedd, y bore yma, fe wnes i ymweld â busnes gweithgynhyrchu ym Mhont-y-pŵl gydag arweinydd Torfaen, oedd yn dathlu ei ben-blwydd heddiw. Cafodd y fraint o dreulio peth amser gyda mi wrth wneud hynny yn etholaeth fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Torfaen. Roeddem ni'n edrych yno ar fusnes gweithgynhyrchu llwyddiannus, yn weithredol am bron i 10 mlynedd, yr hyn y mae wedi'i wneud i wella'r hyn mae'n ei wneud a sut mae wir wedi gweithio gyda'r awdurdod lleol, yn ogystal â Llywodraeth Cymru i fynd trwy ystod o amodau cynllunio i wella ei hamgylchedd busnes. Fe fyddwch chi'n gwybod nad fi yw'r Gweinidog cynllunio, ond mae'n rhywbeth rydyn ni'n ei ystyried. Mae'r ffordd mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn rhyngweithio â'r strategaeth weithgynhyrchu ac amryw o bethau eraill yn ystyriaethau allweddol i ni. Felly, pan fyddwn ni'n lansio'r cynllun gweithredu gweithgynhyrchu, gallwch ddisgwyl i ni fod wedi ystyried yr holl ryngweithio hynny. Ond ni fyddaf yn esgus at ddibenion y cwestiynau yma mai fi yw'r Gweinidog cynllunio hefyd, gan fod yr Aelod yn gwybod nad ydw i.

Fel y dywedais i, rwy'n edrych ymlaen at yr adnewyddiad hwnnw cyn gynted â phosibl. Gweinidog, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r pwerau sydd ganddi i helpu i gefnogi ein sector gweithgynhyrchu, ac mae adnewyddu'r cynllun gweithredu hwnnw, wrth gwrs, yn ddechrau i'w groesawu. Yn gynharach yn y mis, dywedodd Steve Dalton, cyn-reolwr gyfarwyddwr ffatri Sony Pen-y-bont ar Ogwr, fod yna ddyfodol i weithgynhyrchu yng Nghymru pe bai arloesi, datblygu technolegau gwyrdd a phwyslais ar farchnadoedd byd-eang. Wrth gwrs, yn allweddol i hynny y mae datblygu sgiliau a buddsoddi mewn ymchwil a datblygu. Mae'r cynllun presennol yn dweud bod angen dull mwy cydgysylltiedig i helpu i gynhyrchu llif o dalent, a dylai partneriaethau sgiliau rhanbarthol fod yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod Cymru'n datblygu'r sylfaen sgiliau sydd ei hangen arni ar gyfer y dyfodol. Felly, wrth symud ymlaen, Gweinidog, a wnewch chi roi gwybod i ni sut mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu gweithgynhyrchu, drwy gadarnhau y bydd yna adnoddau ychwanegol ar gael i gefnogi'r sector? Ac a wnewch chi ddweud wrthym ni pa gamau penodol mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno i sicrhau bod gan y sector y sgiliau mae eu hangen ar gyfer y dyfodol? 

14:45

Wel, mae yna nifer o bethau rwy'n cytuno gyda'r Aelod arnyn nhw, ond mae pwynt yr ydym yn anghytuno arno hefyd am yr amgylchedd rydym ni'n gweithredu ynddo, wrth gwrs. Felly, rwy'n cytuno—mae arloesi a marchnadoedd byd-eang yn allweddol i lwyddiant ystod o fusnesau gweithgynhyrchu. Roeddwn i gyda'r Aelod dros Ogwr ar safle Sony ym Mhencoed yr wythnos diwethaf, yn edrych ar—. Maen nhw'n dathlu 50 mlynedd, ac maen nhw'n gwerthfawrogi'r berthynas maen nhw wedi'i chael gyda Llywodraeth Cymru, a'r newid yng ngweithrediad y ffatri honno dros amser, nid dim ond er mwyn i'r ymgyrch Sony barhau, ond mae'n ymwneud â'r busnesau eraill sydd ar y safle hwnnw hefyd. Ac, mewn gwirionedd, o ran allforion o Gymru, rydym ni bellach wedi cyrraedd ac wedi mynd y tu hwnt i lefel yr allforion a oedd gennym ni cyn y pandemig—y rhan gyntaf o'r DU i adfer yn hynny o beth. Felly, mewn gwirionedd, rydyn ni'n gwneud yn gymharol dda o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU.

Yr her yw bod yr amgylchedd rydyn ni ynddo wedi newid yn sylweddol, a byddwch chi wedi gweld ac, mae'n siŵr, yn pryderu am ragolygon diweddaraf y Gronfa Ariannol Ryngwladol am economi'r DU. Mae'r ffaith ein bod ni mewn sefyllfa wahanol o fewn y DU i weddill y G7, mae hynny'n rhan o'r her rydym ni'n ei hwynebu. Yr her sydd yma yng Nghymru yn benodol, wrth gwrs—ac fe wnaethoch chi grybwyll partneriaethau sgiliau a'r angen i fuddsoddi mewn sgiliau ac arloesi—yw ein bod wedi ein hamddifadu o'n cronfeydd yn fwriadol. Mae'r ffordd y gwnaeth Llywodraeth y DU ddewisiadau ynghylch cronfeydd newydd yr UE, gan wybod yn iawn sut yr ydym ni'n defnyddio'r rheini i gefnogi a buddsoddi mewn sgiliau gweithluoedd, wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae'r arian hwnnw wedi cael ei leihau ac mae wedi cael ei newid i bwrpas gwahanol mewn maes cyfleu magwraeth wahanol gan Lywodraeth y DU. Nawr, mae canlyniad termau real i'r gostyngiad hwnnw mewn arian. A byddwch chi wedi gweld yn y gyllideb ddrafft na allwn ni lenwi'r holl dyllau ynglŷn â Llywodraeth y DU yn gwneud y dewisiadau hynny, ac, unwaith eto, mae'n gyrhaeddiad bwriadol ac yn ymosodiad ar ddatganoli. Mae'r rhain yn feysydd sydd wedi'u datganoli'n blaen, ond mae Llywodraeth y DU yn gwneud dewisiadau eraill. Efallai nad yw'r Aelod yn hoffi ei glywed, ond dyma wirionedd y mater, a, phe byddech chi'n siarad gyda busnesau, y sector addysg uwch ac eraill ac yn gwrando ar yr hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud, maen nhw i gyd yn cydnabod hynny hefyd. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dirprwy Weinidog, fe wnaeth adroddiad gan Sefydliad Materion Cymreig gafodd ei gyhoeddi y llynedd ddisgrifio mai cymunedau yng Nghymru oedd â'r lleiaf o rym ym Mhrydain. Dywedodd ymhellach fod pobl yn wynebu proses lafurus a digalon i arbed asedau, fel canolfannau hamdden, llyfrgelloedd a thir, a'i bod yn hynod debygol bod llyfrgelloedd a thir wedi'u colli oherwydd nad yw Gweinidogion Cymru yn grymuso cymunedau. Fel y gwyddoch chi, mae awdurdodau lleol ledled Cymru wedi bod yn ymgynghori ar eu cynigion cyllidebol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ac ymhlith y cynigion mae newidiadau neu doriadau i ganolfannau hamdden, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd. Pa drafodaethau sydd wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ynglŷn â dyfodol gwasanaethau o'r fath? A pha gymorth sy'n cael ei ddarparu i sicrhau nad yw'r gwasanaethau hanfodol hyn yn cael eu colli? Mae rhai o'r toriadau hyn ar fin digwydd, o 1 Ebrill, felly mae amser yn ffactor hollbwysig. 

Member
Dawn Bowden 14:48:13
Deputy Minister for Arts and Sport, and Chief Whip

Rwy'n ymwybodol iawn o'r pwysau sydd ar lawer o'n hawdurdodau lleol a'n cyrff cyhoeddus. Rydym ni wedi gwneud beth bynnag y gallwn ni i gefnogi sefydliadau cenedlaethol a'r awdurdodau lleol. Mae'r awdurdodau lleol, fel y gwyddoch chi, wedi cael y setliad ariannol gorau ers amser maith, ac yn llawer uwch nag yr oedden nhw wedi'i ragweld, ac mae sut maen nhw'n defnyddio'r gyllideb honno yn fater iddyn nhw. Mae ganddyn nhw eu mandadau democrataidd eu hunain ac mae'n rhaid iddyn nhw wneud y penderfyniadau hynny. Gobeithio mai'r penderfyniadau maen nhw'n dod iddyn nhw, yn dilyn eu trafodaethau a'u hymgynghoriadau, fydd eu bod yn cymryd pethau fel canolfannau hamdden ac amgueddfeydd yn eu cyfanrwydd a'u bod yn sylweddoli eu bod yn rhan o'r agenda llesiant ehangach ar gyfer eu poblogaeth. Rwy'n credu bod yn rhaid i chi edrych ar hynny mewn ffordd gyfannol yn hytrach na fesul darn, ond yn sicr rydyn ni wedi darparu ar gyfer sefydliadau unigol—llyfrgelloedd, Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn y blaen—cyllid ychwanegol i'w cael drwy'r argyfwng uniongyrchol hwn, ac, fel rwy'n ei ddweud, gyda'r awdurdodau lleol a'u cyllidebau cynyddol, gobeithio y byddan nhw'n gallu gwneud rhywbeth. Ond un o'r pethau rwy'n poeni amdano, ac rwy'n parhau i bryderu amdano, yw cynllun rhyddhad Llywodraeth y DU sydd wedi dal wedi eithrio pyllau nofio, er enghraifft, o'u cynigion, ac rydym ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio eu pwerau i gefnogi pyllau nofio, sef y rhai sydd wedi cael eu taro waethaf mae'n debyg, ac a gafodd eu taro waethaf yn y broses hon o bosibl. 

Diolch, Dirprwy Weinidog. Ond rydyn ni'n gwybod y bydd cynghorau'n torri'r gwasanaethau hanfodol hyn—gwasanaethau sydd, fel rydych chi'n amlinellu, yn gwbl bwysig o ran Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol, iechyd a lles ac yn y blaen. Rydyn ni'n gwybod bod y toriadau yma'n dod o 1 Ebrill oni bai bod rhywbeth yn newid yn ddirfawr. Rydyn ni'n gwybod nad yw setliad ariannol wedi bod yn ddigonol i sicrhau bod y gwasanaethau anstatudol hynny yn cael eu gwarchod. Felly fy nghwestiwn i yw: beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi awdurdodau lleol? Rwy'n gwybod yn ddemocrataidd ei bod hi fyny iddyn nhw, ond mae'r dewisiadau maen nhw'n gorfod eu gwneud yn anhygoel o anodd. Felly, pa gefnogaeth sy'n cael ei darparu? Fe wnaethoch chi gyfeirio at byllau nofio, er enghraifft, a gwelsom dros y penwythnos Fergus Feeney o Nofio Cymru yn rhybuddio y gallai bron i draean o'r 500 o byllau nofio cyhoeddus yng Nghymru gau. Ac maen nhw'n gofyn hefyd—ie, wrth gwrs, mae'r pwerau gan Llywodraeth y DU—am weithredu gan Lywodraeth Cymru hefyd. Felly, fel Dirprwy Weinidog sydd â chyfrifoldeb am chwaraeon, fyddai'n cynnwys nofio, beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau nad yw hynny'n wir?

14:50

Yn gyntaf, rwy'n credu bod yn rhaid i mi fynd yn ôl at fy mhwynt gwreiddiol a phwynt rydych chi wedi'i gydnabod: mae gan awdurdodau lleol eu mandad democrataidd eu hunain. Allwn ni ddim cyfeirio awdurdodau lleol i wneud yr hyn maen nhw eisiau ei wneud gydag arian sydd ganddyn nhw o fewn eu grant cynnal ardrethi. Bydd yn rhaid iddyn nhw wneud eu penderfyniadau eu hunain a gwneud eu blaenoriaethau eu hunain. Allwn ni ddim eu cyfeirio nhw yn y maes hwnnw. Yr hyn rydyn ni wedi'i wneud yw rydyn ni wedi rhoi cynnydd sylweddol i awdurdodau lleol yn eu grant cynnal ardrethi ac rydym ni wedi rhoi cymaint ag y gallwn ni o fewn ein cyfyngiadau. Rwy'n credu eich bod chi'n dod o bwynt bod gennym ni bot o arian rhywsut y gallwn ni ei ddefnyddio a'i ddyrannu nad ydym eisoes wedi'i ddyrannu, ac rwy'n credu bod y Gweinidog cyllid a'r Prif Weinidog wedi egluro droeon ar lawr y Siambr hon sut rydym ni wedi blaenoriaethu iechyd ac rydym ni wedi blaenoriaethu llywodraeth leol. Mae'r ddau wasanaeth hynny yn benodol wedi cael y setliadau uchaf yr ydym ni wedi gallu eu darparu, ac, o fewn y setliadau hynny, mae'n rhaid i'r cyrff hynny wneud eu penderfyniadau gwariant, yn enwedig awdurdodau lleol sydd â'u mandad democrataidd eu hunain. Ac wrth gwrs mae'r dewisiadau hynny'n anodd; mae'r dewisiadau hynny hefyd yn anodd i Lywodraeth Cymru o ran ble rydyn ni'n dyrannu ein hadnoddau. Nid oes unrhyw ddewisiadau hawdd. Rwyf i wedi cwrdd â Nofio Cymru ac rwyf wedi dadlau droeon gyda Nofio Cymru. Maen nhw'n deall safbwynt Llywodraeth Cymru, ac wrth gwrs maen nhw'n galw am fwy o arian, gan fod pob sefydliad yr ydym ni'n ei helpu ac yn ei ariannu ac yn ei gefnogi yn gofyn am fwy o arian. Ond allwn ni ond darparu'r cyllid y gallwn ni o fewn yr amlen sydd ar gael i ni, ac rwy'n gobeithio y bydd awdurdodau lleol a sefydliadau hamdden yn gallu gwneud y penderfyniadau gorau y gallan nhw i warchod cymaint o'n cyfleusterau hamdden â phosib. 

Darpariaeth Bancio Gwledig

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella darpariaeth bancio gwledig yn sir Ddinbych? OQ59049

Mae'r penderfyniadau ynglŷn â lleihau bancio ar y stryd fawr yng Nghymru yn rhai sydd yn nwylo'r prif fanciau manwerthu. Rydw i'n cymeradwyo'r ymdrechion sy'n cael eu gwneud gan nifer o bobl, gan gynnwys y rhai yn Ninbych, i gadw cangen banc. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy i wireddu ein huchelgais o ran bancio cymunedol yng Nghymru.

Rwy'n gwerthfawrogi eich ymateb, Gweinidog, a'r rheswm rwy'n gofyn y cwestiwn hwn heddiw yw am yr union reswm hwnnw, oherwydd bydd HSBC yn Ninbych yn cau yn yr haf fel rhan o 114 o ganghennau yn cau ar draws y DU. Ond yr hyn nad ydw i'n ei gredu yw bod y diwydrwydd dyladwy wedi cael ei ystyried ar gyfer pobl mewn ardaloedd gwledig, ac yn arbennig pobl Dinbych, lle na all rhai deithio cyn belled â'r Rhyl neu Rhuthun i gyflawni eu materion ariannol os ydyn nhw'n oedrannus, yn anabl, ddim yn gallu gyrru neu nad oes ganddynt fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus. Pan holais am hyn yn y datganiad busnes yr wythnos ddiwethaf, dywedodd y Trefnydd wrthyf nad oedd y mater wedi ei ddatganoli i Gymru ac felly nad oedd angen datganiad. Ond fe wnaethoch chi eich hun, Gweinidog, yn 2021 ryddhau datganiad am gynllun Llywodraeth Cymru i gefnogi trefi sydd wedi colli eu banciau. Felly pa un ydyw, Gweinidog, a beth ydych chi'n mynd i'w wneud i gefnogi pobl yng nghefn gwlad sir Ddinbych?

Nid yw gwasanaethau ariannol yn fater sydd wedi ei ddatganoli. Ond mae gennym ni uchelgais i helpu i wella mynediad at wasanaethau lleol, a dyna pam rydyn ni'n ymwneud â Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy ar raglen i geisio adfywio bancio cymunedol mewn amrywiaeth o gymunedau yng Nghymru.

Rwy'n cydnabod, o fewn y dros 100 o fanciau i gau ledled y DU, y bydd 12 o'r canghennau HSBC hynny sy'n cau yng Nghymru. Mae'n rhan o'r duedd rydyn ni wedi gweld, rhan o'r ffordd sy'n newid mae defnyddwyr yn dewis bancio, a beth mae hynny'n ei olygu yw bod rhaniad yn y ffordd mae gwahanol bobl yn cael mynediad at fancio. Felly, mae'n fater gwledig yn rhannol, ac mae hefyd yn broblem mewn cymunedau trefol yn ogystal â chael mynediad at arian parod. Nawr, fy nealltwriaeth i yw, er yn achos Dinbych, bod HSBC wedi creu adroddiad dadansoddi effaith, nid ydym eto wedi gweld yr adroddiad ymgysylltu â rhanddeiliaid yn cael ei gyhoeddi ac ar gael ar-lein er mwyn deall y gost uniongyrchol. Nawr, byddwn ni'n parhau i weithio gyda phartneriaid eraill mewn ardaloedd nad ydym ni'n uniongyrchol gyfrifol amdanynt, ond rydym ni'n gwneud hyn oherwydd ein bod ni'n cydnabod y dylai fod budd gwirioneddol i gael mynediad at wasanaethau ariannol fforddiadwy mewn cymunedau na fydd efallai'n eu gweld fel arall. Felly, byddwn ni'n parhau i weithio gyda'n partneriaid yng Nghymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, byddwn ni'n cynnal ein sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU, ac edrychwn ymlaen at weld a fydd canolfannau bancio mewn gwirionedd yn darparu graddfa a chyflymder cyflwyno i geisio paru cyflymder a nifer o ganghennau sy'n cau. Nid wyf yn obeithiol y byddwn ni'n gweld paru rhwng y ddau, ond byddwn yn parhau i ymgysylltu mor adeiladol ag y gallwn ni ac y dylen ni fod.

14:55

Rwy'n ddiolchgar, Dirprwy Lywydd, i gael cyfle unwaith eto i godi'r mater o ddarpariaeth bancio yn y Senedd. Rwy'n credu ei fod yn un sydd wedi'i drafod droeon ar lawr y Siambr yma. Mae'n un sy'n effeithio ar bob cornel o Gymru. Bydd y Gweinidog yn llwyr ymwybodol o fy ymgyrch hirsefydlog i ddod â changen banc cymunedol cyntaf Cymru i Fwcle yn fy etholaeth fy hun. Yr hyn sy'n amlwg, Gweinidog, yw bod consensws a chefnogaeth drawsbleidiol amlwg dros sefydlu cynnig beiddgar Llywodraeth Cymru o fanc cymunedol, ond mae'n bwysig ein bod ni nawr yn darparu'r cynnig beiddgar hwnnw. A gaf i ofyn i'r Gweinidog a fydd yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau y bydd Banc Cambria yn cael ei symud ymlaen cyn gynted â phosib?

Yn sicr, rydyn ni'n edrych i symud ymlaen cyn gynted â phosib, a dyna'r her, oherwydd mae'r amgylchedd sy'n ymwneud â hyn wedi newid. Mae'r amgylchedd o ran y farchnad morgeisi mewn lle gwahanol nawr, mae gen i ofn. Rydyn ni'n debygol o weld newid mewn prisiau tai dros y flwyddyn nesaf, gyda dirwasgiad yn cael ei ragweld ar y cyfan. Felly, rwy'n cyfarfod â'm swyddogion a Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy ar y prosiect bancio. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol hefyd bellach yn ymgysylltu, oherwydd mae gen i'r dasg o geisio cael y banc wedi'i sefydlu ac yna byddai'n newid i bortffolio'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar gyfer ei ymgysylltiad parhaus â Gweinidogion yma. Mae'r Aelod yn codi Bwcle yn rheolaidd, ac rwy'n meddwl ei fod hefyd yn cytuno'n hael y gallen ni alw'r banc cymunedol yn fanc Bwcle pe byddem ni eisiau. Er nad ydw i'n credu y byddwn ni'n gwneud hynny, byddwn yn parhau i roi cymaint o wybodaeth â phosibl i'r Aelodau, ac rwy'n gobeithio y bydd gennym ni ddiweddariad yn y misoedd nesaf ar gyflymder y gwaith sy'n cael ei wneud. Rwyf i hefyd yn awyddus iawn bod Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy a Banc Cambria eu hunain yn ymgysylltu'n uniongyrchol ag Aelodau, oherwydd, rydych chi'n iawn, mae cefnogaeth drawsbleidiol i hyn. Mae'n bwysig ei fod yn parhau i gael ei weld yn y ffordd honno gydag ymgysylltu'n uniongyrchol ag Aelodau ar draws y sbectrwm gwleidyddol.

Strategaeth Chwaraeon Elît

4. A oes gan Lywodraeth Cymru strategaeth chwaraeon elît? OQ59052

Chwaraeon Cymru yw'r sefydliad cenedlaethol sy'n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon ac ymarfer corff yng Nghymru ac mae'n gwneud hynny yn unol â'i weledigaeth a'i strategaeth.

Diolch, Dirprwy Weinidog. Fe allech chi fod wedi fy nhwyllo, gan nad yw'r strategaeth wedi'i diweddaru ers y datganiad cychwynnol yn 2015, wyth mlynedd yn ôl. Mae hanner y nodau hynny'n ymwneud â chyrff chwaraeon eu hunain, fel rydych chi newydd ddweud. Roedd y gweddill angen cyllid uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, sydd, wrth gwrs, wedi bod yn ddiffygiol. Nod y strategaeth ddiwethaf i Gymru oedd bod y brif genedl chwaraeon Gemau'r Gymanwlad a chynyddu nifer ac ansawdd yr athletwyr ar raglenni o'r radd flaenaf yn y DU. Nid yw hyn wedi digwydd.

Gweinidog, mae'r Llywodraeth yn methu chwaraeon elît. Nid yw Llafur wedi buddsoddi ers degawdau. Nid oes gweledigaeth wedi bod ac nid oes unrhyw weledigaeth o hyd gan y Llywodraeth hon yng Nghymru. Nid ydym ni'n gweld pwll nofio rhyngwladol yn y gogledd, dim lleoliad rygbi yn y gogledd, ac nid oes gennym ni gydraddoldeb o ran darpariaeth ar draws Cymru pan fo'n dod at gyfleusterau o hyd. Wrth i ni weld athletwyr elît a thimau iau yn gorfod hunan-ariannu a theithio i Loegr i ddefnyddio'r cyfleusterau sylfaenol, dydyn nhw ddim yn cael eu cefnogi fel y dylen nhw gael eu cefnogi. Nid yw athletwyr elît a thimau yn cael y buddsoddiad y maen nhw ei angen ac yn ei haeddu, ac eto rwy'n gweld y Dirprwy Weinidog, wrth gwrs, yn gyflym i ddathlu unrhyw lwyddiant pan fo llwyddiannau i'n mabolgampwyr yn amlwg er gwaethaf y Llywodraeth hon yng Nghymru a'r diffyg cyllid, nid o'u herwydd. Pryd fydd y strategaeth yn cael ei diweddaru a gweledigaeth wirioneddol ar gyfer chwaraeon elît yng Nghymru?

Wrth gwrs, y weledigaeth ar gyfer chwaraeon yw'r strategaeth newydd, felly nid yw'r strategaeth rydych chi'n sôn amdano wedi'i diweddaru, mae wedi cael ei disodli. Mae gennym ni'r weledigaeth nawr ar gyfer chwaraeon sy'n ceisio hyrwyddo Cymru i'r byd drwy berfformiad ein hathletwyr elît a'n rhagoriaeth ym myd chwaraeon. Nod strategaeth chwaraeon Chwaraeon Cymru yw sicrhau'r llwyddiant hwnnw i Gymru ar lwyfan y byd trwy ddull cyfannol o ddatblygu athletwyr a chreu amgylcheddau lle maen nhw'n gallu ffynnu. Fel rwy'n siŵr bod Laura Jones yn ymwybodol iawn, mae Cymru'n rhan annatod o system perfformiad uchel y Deyrnas Unedig, felly nid ydym ni ar ein pennau ein hunain yn hyn o beth ac rydyn ni'n rhan o raglen athletwyr Chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd Cymru i dîm Prydain Fawr ar y llwyfan chwaraeon uchaf. Fe fyddwch chi'n gwybod eich hun faint o athletwyr o Gymru sy'n cyfrannu at dîm Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd a'r llwyddiant maen nhw wedi'i gael drwy'r rhaglen honno. Yn syml, nid yw'n wir dweud nad oes buddsoddiad mewn chwaraeon yng Nghymru. Roedd ein cyllideb refeniw i Chwaraeon Cymru yn £23 miliwn yn y flwyddyn ddiwethaf. Bydd yn £24 miliwn arall yn y flwyddyn ariannol nesaf, ac mae gennym ni gyllideb gyfalaf flynyddol i chwaraeon yng Nghymru o £8 miliwn y flwyddyn. Rydym ni wedi darparu dyraniad cynyddol yn y flwyddyn eleni ar fuddsoddiad cyfalaf mewn chwaraeon o £1.54 miliwn.

Nawr, mae'r llwybrau elît ar gyfer chwaraeon yn cael eu datblygu drwy'r cyrff llywodraethu cenedlaethol. Nid cyfrifoldeb uniongyrchol Chwaraeon Cymru ydyn nhw; maen nhw'n cael eu datblygu drwy'r cyrff llywodraethu cenedlaethol. Nid yw'n wir chwaith dweud nad yw Chwaraeon Cymru yn cefnogi ac yn ariannu athletwyr elitaidd unigol, oherwydd maen nhw'n gwneud trwy'r Loteri Genedlaethol ac maen nhw'n derbyn cefnogaeth trwy Elite Cymru, sy'n rhan o Chwaraeon Cymru. Byddant yn derbyn cyllid drwy'r llwybr hwnnw pan fyddant yn cael eu cyfeirio gan eu cyrff llywodraethu cenedlaethol. Felly, yn rhannol trwy'r loteri mae'r buddsoddiad mewn chwaraeon ac mae'n rhannol trwy'r arian uniongyrchol mae Chwaraeon Cymru'n ei gael. Fel rwyf i wedi'i ddweud, rydyn ni'n rhan o sefydliadau a chyrff rhyngwladol hefyd.

15:00

Ni allwn orbwysleisio pwysigrwydd arian loteri i unigolion. Ar gyfer y prif chwaraeon tîm, fel pêl-droed a rygbi, mae datblygiad chwaraewyr yn cael ei wneud gan glybiau amatur a phroffesiynol, gydag academïau yn rhan o glybiau pêl-droed proffesiynol. Lle mae angen cymorth ar gyfer chwaraewyr iau mewn chwaraeon fel tenis; chwaraewyr sydd angen teithio i dwrnameintiau cenedlaethol a rhyngwladol ac sydd angen hyfforddiant o safon uchel. Pa gymorth sy'n cael ei ddarparu, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, i'r bobl ifanc hyn?

Mae'r gefnogaeth i chwaraeon tîm yn mynd trwy'r cyrff llywodraethu cenedlaethol. Gall cefnogaeth unigol gael ei gynnig, fel rwyf i wedi'i ddweud, i unigolion os ydyn nhw'n cael eu cyfeirio trwy eu corff llywodraethu cenedlaethol at Chwaraeon Cymru.

Y Diwydiant Dur

5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidogion cyfatebol Llywodraeth y DU ar ddiogelu dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru? OQ59034

Mae'r Prif Weinidog a minnau'n parhau i ymgysylltu â'n cymheiriaid allweddol yn Llywodraeth y DU. Fe wnes i gyfarfod â Gweinidogion o'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yr wythnos ddiwethaf, pan godais ddur fel mater. Rydym ni hefyd yn ymgysylltu ag uwch gynrychiolwyr y sector dur yng Nghymru, ar ochr busnes ac undebau llafur. Rydym ni'n parhau i gredu, yn Llywodraeth Cymru, ym mhwysigrwydd sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r sector dur strategol bwysig yng Nghymru fel rhan o'r hyn y dylid ei weld fel gallu sofran y DU.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb ac, hefyd, i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth barhaus i'r diwydiant dur yng Nghymru. Mae'r Gweinidog wedi ymuno â mi droeon yn Shotton Steel yn fy etholaeth fy hun, sy'n profi eich bod yn deall pwysigrwydd dur Cymru ac rydych chi'n deall pwysigrwydd bod Shotton yn cael cyflenwad o ddur gwyrdd.

Gweinidog, mae partneriaid y diwydiant fel Tata Steel a'r undebau llafur, fel Unite the Union a'r undeb Community—ac rwy'n datgan fy mod i'n aelod o'r ddau undeb llafur, Dirprwy Lywydd—ill dau wedi bod yn galw ar Lywodraeth y DU i fuddsoddi yn y sector drwy sicrhau bod prisiau ynni'n gystadleuol â chenhedloedd sy'n cystadlu ac, hefyd, i fuddsoddi mewn datgarboneiddio ffatrïoedd. Nawr, yn syml, nid yw'r £600 miliwn a gynigir gan Lywodraeth y DU yn ddigon; dyna oedd y neges glir o bryder yn ystod y grŵp trawsbleidiol ar ddur neithiwr. Rydyn ni'n gwybod y byddwch chi'n ymuno â'r grŵp trawsbleidiol ar ddur rhywbryd yn y dyfodol. Rydyn ni eto i glywed gan y Prif Weinidog, neu'r tri Phrif Weinidog olaf, mewn ymateb i'n llythyrau, sydd, efallai, ddim yn syndod. Ond, Gweinidog, a fyddwch chi'n parhau i arwain galwadau am fuddsoddiad ystyrlon gan Lywodraeth y DU yn niwydiant dur Cymru?  

Byddaf, mi fyddaf yn sicr o wneud hynny. Ac nid yw'n ymwneud â buddsoddiad ystyrlon yn unig, ond rydych chi'n iawn i dynnu sylw at y ffaith bod y diwydiant ei hun yn cydnabod bod angen iddo olrhain llwybr i ddatgarboneiddio ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Ond, i wneud hynny, ni ddylem ddymchwel ein capasiti ein hunain o fewn y DU yn unig a gorffen mewnforio dur heb ddeall ôl troed carbon dur a gynhyrchir mewn rhannau eraill o'r byd. Dyma set o gwestiynau a fydd yn effeithio ar Aelodau eraill yn y Siambr. Rwy'n gweld y ddau Aelod etholaeth Casnewydd â diddordeb yn yr hyn sy'n digwydd gyda Liberty; ni all y Dirprwy Lywydd siarad, ond mae'n amlwg fod ganddo ddiddordeb sylweddol hefyd.

Yr hyn rydyn ni wedi bod yn galw amdano yw ein cael ni i'r dyfodol gwyrddach hwnnw ar gyfer cynhyrchu dur, a chydnabod ei fod yn bwysig i ystod o ddiwydiannau heddiw. Mae hynny'n golygu gweithredu ar gostau uchel ynni o'i gymharu â chymheiriaid yn Ewrop. Mae hynny hefyd yn golygu gweithredu ar allforion sgrap. Rydym ni'n allforio miliynau o dunelli o fetel sgrap bob blwyddyn; dylem fod yn cadw mwy o hynny yn y DU ar gyfer ein sector dur. Rydym ni hefyd am i Lywodraeth y DU ffurfio partneriaeth â'r diwydiant i nodi rhai o'r heriau dros fuddsoddi cyfalaf. Rydyn ni hefyd eisiau gweld buddsoddiad mewn hydrogen fel dewis arall ar gyfer technolegau dur chwyth yn y dyfodol, yn hytrach na gweld hynny i gyd yn digwydd mewn rhannau eraill o'r byd.

Felly, mae swyddi uniongyrchol, mae swyddi dibynnol yn y gadwyn gyflenwi, ac, wrth gwrs, diwydiannau mawr, boed yn adeiladu neu'n weithgynhyrchu, sy'n ddibynnol ar ddur, gan gynnwys y cyfleoedd mawr sy'n bodoli mewn ynni morol a gwynt arnawf ar y môr. Rydw i eisiau gweld dur Prydain a Chymru yn y cynhyrchion hynny yn y dyfodol, ac mae hynny'n gofyn am ddull gwahanol gan Lywodraeth y DU. Nid yw cynnig gwerth £600 miliwn rhwng dau gwmni yn mynd i'n cael ni lle mae angen i ni fod, ond o leiaf mae cynnig i ni weithio gyda nhw, a gobeithio gweld canlyniad terfynol y gall pob un ohonom ni ddathlu a bod yn bositif amdano. 

15:05

Gweinidog, rydyn ni i gyd yn derbyn yr angen i ddatgarboneiddio ein diwydiant dur. Er bod croeso i'r arian sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU i Tata i symud i ffwrneisi arc trydan, mae dewis arall wedi dod i'r amlwg yn ystod y dyddiau diwethaf. Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Birmingham wedi datblygu proses i leihau allyriadau o ffwrnais chwyth draddodiadol yn sylweddol. Mae'r dechnoleg hon yn trosi carbon deuocsid yn garbon monocsid y gellir ei ailddefnyddio yn yr adwaith mwyn haearn. Yn y broses hon, mae'r carbon deuocsid sydd wedi'i ddifrodi fel arfer yn cael ei droi'n rhan ddefnyddiol o'r adwaith, gan ffurfio dolen carbon caeedig bron yn berffaith, ac yn lleihau allyriadau o tua 90 y cant. Gweinidog, a wnewch chi weithio gyda Llywodraeth y DU, Tata a Phrifysgol Birmingham i archwilio ymhellach a allai'r dull hwn alluogi Cymru i gadw ei gweithgarwch cynhyrchu dur sofran? Diolch.

Mae gen i wir ddiddordeb mewn cynnal y gallu hwnnw o fewn y DU, a bydd hynny'n bodoli yma. Yr her yw bod y cynnig gwerth £300 miliwn i Tata gyfateb y cynnig o £300 miliwn i British Steel—maen nhw mewn gwirionedd yn wahanol raddfeydd gweithredu. Ac mewn gwirionedd, mae hynny'n ymwneud â symud tuag at gynhyrchu arc trydan yn hytrach na chynnal math amgen o weithgynhyrchu dur chwyth. Mae'r her mewn gwirionedd yn ymwneud â buddsoddiad cyfalaf, a pha mor gyflym y gellir defnyddio hynny, ac nid yw'r ffenestr ar gyfer gwneud hynny yn ddi-ben-draw. Mae wedi bod yn sgwrs reolaidd, fel y dywedais i mewn ymateb i Jack Sargeant, rydw i wedi'i chael yn uniongyrchol â Gweinidogion y DU, mae'r Prif Weinidog wedi'i chael yn uniongyrchol gyda Gweinidogion y DU ac yn uniongyrchol gyda chwmnïau dur a'r ochr undebau llafur hefyd. Mae angen ymdeimlad o frys gan Lywodraeth y DU ar hyn, ac rwy'n gobeithio bod y Canghellor yn defnyddio'r gyllideb sy'n dod ym mis Mawrth fel cyfle i gyhoeddi a chytuno ar rywbeth ystyrlon i roi cyfle i'n sector dur fuddsoddi yn ei ddyfodol ei hun a'n dyfodol ni, ac fel y dywedais i, i weld hyn fel gallu sofran yn y DU. Os yw'n gwneud hynny, dylai fod newyddion da i'r gweithwyr yma yng Nghymru. 

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am eich cadeiryddiaeth o'r grŵp trawsbleidiol.

Y gwir yw bod yn rhaid i lawer o'r buddsoddiad ar gyfer y diwydiant dur ddod gan Lywodraeth y DU, ac fe fyddai'n rhaid i mi ymuno a Jack Sargeant wrth ddweud ei bod yn siomedig bod amharodrwydd gan Weinidogion Llywodraeth y DU i ymwneud â'n grŵp trawsbleidiol. Er tegwch i chi, Gweinidog, rwy'n credu mai dyma fydd yr eildro i chi ddod i'r grŵp trawsbleidiol nawr, ac rwy'n gwybod bod yr Aelodau yn werthfawrogol iawn o hynny.

Rydyn ni'n gwybod bod dur yn bwysig ar gyfer cyrraedd sero-net, felly, i'r perwyl hwn—ac fe wnaethoch chi sôn am ddefnyddio hydrogen mewn ffwrneisi chwyth—hoffwn archwilio ymhellach sut  mae dur yn rhan o agwedd Llywodraeth Cymru tuag at hydrogen. Wrth gwrs, gall hydrogen gynnig ffordd o gynhyrchu dur carbon isel a sicrhau dyfodol y diwydiant, a'r risg yw, wrth gwrs, os nad ydym ni'n edrych ar hydrogen yn fwy, efallai y byddwn ni'n canolbwyntio'n ormodol ar ddur a ailgylchwyd.

Mae dewisiadau buddsoddi yn cael eu gwneud yn yr Iseldiroedd—nid yw'n gyfrinach—ynghylch hydrogen fel dewis arall yn lle technoleg ffwrnais chwyth yno. Yr her yw, os na welwn ni gamau yn cael eu cymryd gan Lywodraeth y DU i gymryd rhan yn y sgwrs honno, oherwydd bydd angen iddynt fod yn bartner i wneud i hynny weithio, yna byddem ni yn y diwedd yn mewnforio'r dur hwnnw o rannau eraill o'r byd. Nawr, nid yw'n golygu nad yw'r sector dur yn bodoli heb dechnoleg ffwrnais chwyth. Mae rhan o'r sector na fyddai'n bodoli, a'r her wedyn yw, a allech chi berswadio Llywodraeth y DU yn y dyfodol a busnesau yn y dyfodol i fuddsoddi mewn mewnforio'r dechnoleg honno sy'n cael ei phrofi yn rhywle arall? Mae risg gwirioneddol i ni wrth wneud hynny. Rwyf i hefyd yn meddwl ei fod yn bwysig ar gyfer ein huchelgeisiau ar gyfer dur ei hun, sut rydyn ni'n ei weld fel gallu go iawn, a byddai'n gwneud gwahaniaeth mawr i weithwyr yn y sector. Felly, rydyn ni wedi bod yn glir iawn ac yn gyson iawn ein bod ni eisiau i Lywodraeth y DU fod yn rhan o hyn. A phetai'n gwneud hynny, a phe bai'r buddsoddiad mawr hwnnw yn cael ei wneud yn y dechnoleg amgen honno, byddai'n helpu gyda defnydd hydrogen a phiblinellau, a'r cymhelliant i gynhyrchu hydrogen gwyrdd— [Anghlywadwy.]—i glystyrau diwydiannol sylweddol, boed yn y de neu'r gogledd. Felly, dylai fod enillion amgen i'w gwneud, ond mae angen dewis sylweddol gan Lywodraeth y DU ar hynny. 

15:10

Fe wnaethoch chi sôn am Liberty Steel, Gweinidog, ac mae cau'r ffatri honno dros dro yn ddealladwy wedi creu llawer iawn o bryder. Fe fyddwch chi'n gwybod, Gweinidog, bod y gweithrediad diwydiannol hwnnw'n helaeth iawn, a bod llawer o gyfleoedd o'i fewn, rwy'n meddwl. Mae gennych chi'r orsaf bŵer yno, y cysylltiadau rheilffordd a phen y rheilffordd, ei doc ei hun a graddfa'r safle; mae ganddo botensial mawr, ac mae yna gryn rwystredigaeth nad yw'r potensial yna'n cael ei wireddu ar hyn o bryd. Felly, a wnewch chi, Gweinidog, weithio gyda Liberty Steel ac o bosib eraill yn y dyfodol i wneud yn siŵr bod y potensial yn y safle hwnnw yn cael ei wireddu'n llawn ar gyfer datblygiad economaidd a thwf swyddi? 

Gwnaf. Rwy'n hapus iawn i barhau i gydweithio gyda'm swyddogion, a'r cwmni, a'r swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU os gallwn ni ddod o hyd i ateb ar gyfer y safleoedd yng Nghasnewydd a Thredegar. Rydyn ni eisiau gweld fod gan y sector dur ddyfodol iach. Os na allwn ni greu a chynhyrchu'r dur hwnnw ein hunain, byddwn ni yn y diwedd yn ei fewnforio o rannau eraill o'r byd, gyda mwy o risg o ran anwadalwch pris, cyflenwad, ac, wrth gwrs, ein dealltwriaeth o ôl troed carbon y cynhyrchiad dur hwnnw. Un o'r pethau positif yw bod y gweithlu'n deyrngar i'r safle ac i'w gweithle. Mae her yno am gynnal yr ymdeimlad hwnnw o undod. Os gallwn ni helpu i sicrhau dyfodol economaidd a chynaliadwy i'r safle, yna rwy'n sicr yn hapus i barhau i weithio mor galed ag y gallwn ni i wneud hynny. 

Canolfan Awyrofod Eryri

6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Ganolfan Awyrofod Eryri yn Llanbedr? OQ59050

Diolch am y cwestiwn. 

Rydyn ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi'r ganolfan awyrofod. Rydyn ni'n parhau i weithio'n agos gyda Chyngor Gwynedd, gweithredwr y safle a phartneriaid eraill i helpu i ddenu buddsoddiad i'r safle. Rydym ni'n cydnabod ei botensial byd-eang i'r sector gofod yng Nghymru, ac o ran denu gweithgarwch economaidd i Wynedd wledig.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Mae'r Llywodraeth, wrth gwrs, wedi buddsoddi miliynau i mewn i ddatblygu canolfan awyrofod Eryri yn Llanbedr, ac mae gan y Llywodraeth uchelgeisiau arallfydol ar gyfer datblygu Cymru fel cenedl sy'n arwain mewn technoleg ofod. Ond, dywed arbenigwyr yn y maes, a'r tenantiaid sydd ar y safle, fod gwireddu'r uchelgeisiau yma am fod yn amhosibl heb wella'r isadeiledd i gyrraedd y safle. Yn absenoldeb unrhyw arian cyhoeddus i adeiladu'r ffordd gyswllt, mae'n anodd iawn gweld sut nad ydy uchelgeisiau'r Llywodraeth yn ddim byd ond breuddwyd gwrach. Pa gynllun credadwy sydd gan y Llywodraeth ar gyfer maes awyr Llanbedr felly, ynteu ydy'r Gweinidog yn hapus i weld arfordir Meirionydd yn ddim byd mwy na maes chwarae ar gyfer ymwelwyr? Diolch. 

Na, nid dyna'r weledigaeth sydd gen i'n unigol, nac, yn wir, y Llywodraeth. Rydyn ni wedi gweld dros £3.5 miliwn o fuddsoddiad cyhoeddus yn y safle ers 2012. Rydyn ni hefyd wedi gweld ystod o weithgarwch, gan gynnwys systemau awyrennau wedi'u peilota o bell a rhaglenni profi a gwerthuso awyrennau di-griw o ganlyniad. Rydyn ni'n chwilio am lesddalwyr y safle i weithio gyda ni i ddylunio'r dyfodol mewn gwirionedd, oherwydd mae rhannau eraill o'n sector gofod cynyddol sydd â diddordeb yn y defnydd o Lanbedr yn y dyfodol fel safle iddyn nhw. Nid yw'n ymwneud â Spaceport Cernyw. Fe fyddwch chi wedi gweld yr hediad na wnaeth lwyddo i fynd i'r gofod, ond roedd un o'r cwmnïau oedd yno yn gwmni Cymreig. Maen nhw hefyd yn edrych ar y potensial, nid yn unig yng Nghernyw, ond beth allen nhw wneud yn Llanbedr hefyd. Felly, rwy'n credu mai'r her yw sut rydyn ni'n cyrraedd y pwynt hwnnw, gyda'r partner buddsoddi cywir, i weld y potensial hwnnw'n cael ei wireddu mewn gwirionedd. Felly, dydw i ddim yn cymryd y farn negyddol sydd gan yr Aelod yn ei ymateb. Rwy'n credu bod dyfodol cadarnhaol iawn o hyd ar gyfer gweithgarwch datblygu economaidd sylweddol o amgylch y safle hwnnw i'w etholwyr a thu hwnt. 

Busnesau Bach a Chanolig eu Maint

7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau bach a chanolig ar draws Dwyrain Casnewydd? OQ59054

Rydym ni'n parhau i wneud popeth posibl i gefnogi'r sector BBaCh ledled Cymru drwy ein polisïau economaidd blaengar. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar sgiliau gwell, swyddi gwell a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb gyda'r offer sydd ar gael i ni. Mae hynny'n cynnwys gweithio gyda'n rhanddeiliaid, ac wrth gwrs, byddwn yn dathlu 10 mlynedd o'n rhaglen cymorth busnes Busnes Cymru yn fuan.

Ie. Yn aml, rwy'n credu, Gweinidog, mae mentrau bach a chanolig mor brysur yn rhedeg eu busnesau nes ei bod hi'n anodd bod yn ymwybodol o'r help a'r gefnogaeth sydd ar gael, ac, yn wir, treulio'r amser i fanteisio arnyn nhw. Ond mae'n rhaid i mi ddweud bod Busnes Cymru yn amhrisiadwy yn Nwyrain Casnewydd, ac fe weithiodd fy swyddfa etholaeth yn dda iawn gyda nhw yn ystod y pandemig, pan oedden nhw'n gallu gwneud yn siŵr bod amrywiaeth o fusnesau'n cael mynediad i'r gefnogaeth oedd ar gael. Ac rwy'n gwybod bod gan Busnes Cymru arlwy cryf mewn meysydd lle mae Llywodraeth Cymru yn gallu gweithredu, er enghraifft, y gronfa cadernid economaidd, a dyna oedd y gwir i raddau helaeth ar y pryd. Roedd yn gyferbyniad sydyn, meddai'r Gweinidog, rhaid i mi ddweud, wrth Lywodraeth y DU, a adawodd lawer o fylchau yn y gefnogaeth i fusnesau, ac rwy'n credu bod hynny'n parhau nawr, a gormod o fusnesau ddim yn cael eu cefnogi gan Lywodraeth y DU gyda biliau ynni cynyddol. Dyma rywbeth yn wir mae Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi ei godi gyda mi hefyd. Felly, Gweinidog, trwy Busnes Cymru a dulliau eraill, pa gymorth ychwanegol y gallai Llywodraeth Cymru ei ystyried i helpu busnesau bach a chanolig trwy'r argyfwng busnes cost-gwneud-busnes?

15:15

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Rydych chi'n iawn am y gronfa cadernid economaidd. Roeddwn i mewn rôl wahanol yn ystod y pandemig, ond y realiti yw, oherwydd na wnaethom ni wario'r un arian ar ein rhaglen profi, olrhain, amddiffyn a'r ffordd y gwnaethom ni ddefnyddio arian ar ein rhaglen cyfarpar diogelu personol, roedd yn golygu ein bod ni'n darparu mwy o olrhain cysylltiadau llwyddiannus am bris is nag a wnaeth Llywodraeth y DU, ac fe wnaethom ddarparu gweithrediad mwy llwyddiannus o ddarparu cyfarpar diogelu personol i weithwyr rheng flaen. Roedd hynny'n golygu y gallem ni fod yn fwy hael wrth gefnogi busnesau bach a chanolig a gweithwyr llawrydd drwy'r pandemig.

Yr her nawr, oherwydd y gostyngiadau i'n cyllideb—nid yn unig yn y setliadau prif ffrwd, ond hefyd pethau fel y gronfa ffyniant a rennir ac eraill, lle mae arian wedi'i dynnu i ffwrdd o Gymru, dros £1 biliwn a gollwyd yn y tair blynedd hynny—rydyn ni wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd iawn. Ond rwyf i wedi dewis cynnal gwasanaeth Busnes Cymru oherwydd ei werth. Felly, bydd busnesau bach a chanolig yn parhau i gael mynediad at yr holl gymorth a'r cyngor sydd ar gael, gyda'i gilydd, wrth gwrs, gyda chyfleoedd buddsoddi gan Fanc Datblygu Cymru hefyd. Rwy'n gwerthfawrogi bod etholaeth yr Aelod yn cymryd rhywfaint o sir Fynwy hefyd, ond, yng Nghasnewydd, hyd at ddiwedd Rhagfyr y llynedd, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, roedd Busnes Cymru wedi helpu i gefnogi dros 1,000 o swyddi mewn mentrau bach a chanolig, gyda chefnogaeth bwrpasol wedi'i darparu i 659 o fusnesau a bron i 200 o fusnesau newydd newydd. Mae'n dangos y gweithgarwch parhaus y gallwn ni ei gynnig, ac rydym ni'n ei gynnig i fusnesau bach a chanolig, a byddwn i'n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod gyda mwy o fanylion am weithgarwch ar draws holl rannau ei etholaeth.

Y Sector Twristiaeth

8. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i sector twristiaeth Cymru? OQ59044

Mae ein strategaeth 'Croeso i Gymru: Blaenoriaethau ar gyfer yr economi ymwelwyr 2020-2025' yn nodi ein gweledigaeth a'n huchelgais ar gyfer twristiaeth. Rydyn ni'n cefnogi'r sector drwy hyrwyddo Cymru gartref a thramor, trwy fuddsoddi cyfalaf a'n cronfa buddsoddi twristiaeth Cymru, sy'n werth £50 miliwn. 

Rwy'n ddiolchgar i chi, Gweinidog, am eich ateb. Fel y gwyddoch chi, pan fo pobl yn dod i ymweld â Chymru, nid ymweld ag un safle yn unig maen nhw; maen nhw'n hoffi dod i ymweld â nifer o atyniadau i weld nifer o bethau sydd gan Gymru i'w cynnig. Un o'r pethau sydd wedi bod yn ddiffygiol, serch hynny, ydi tocyn ymwelwyr Cymru gyfan, os mynnwch chi, ar gyfer cyrchfannau twristiaeth yng Nghymru. Cafodd ei dynnu'n ôl ychydig cyn y pandemig, ond nid ydym wedi'i weld yn ail-ymddangos. Mae bron i dair blynedd wedi bod nawr. Rydym ni'n adnabod sefydliadau unigol, fel Cadw a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn gweithredu eu tocynnau eu hunain, a byrddau twristiaeth rhanbarthol unigol, megis Great Days Out UK Twristiaeth Canolbarth Cymru a Thwristiaeth Gogledd Cymru, hefyd yn eu cynnig. Ond mae yna ddiffyg strategaeth cyffredinol wedi bod gan Lywodraeth Cymru a diffyg cynnydd, rwy'n meddwl, ar hyn. Fel rwy'n ei ddweud, mae bron i dair blynedd bellach ers i ni weld y tocyn hwn. Felly, a gaf i ofyn am ddiweddariad ynghylch ble yn union mae'r tocyn twristiaeth cenedlaethol cyffredinol hwn ar gyfer Cymru?

Wel, mae'n sgwrs gawson ni gyda'r sector am beth sydd orau i'w wneud i'w cefnogi nhw i wneud dewisiadau, sut maen nhw'n hyrwyddo eu hunain. Mae peth o hyn yn cael ei wneud yn rhanbarthol yn llwyddiannus. Er enghraifft, efallai y bydd yn gwneud mwy o synnwyr i ymwelydd wybod am wyliau sy'n seiliedig ar weithgarwch os ydyn nhw, er enghraifft, yn mynd i BikePark Cymru, yn etholaeth y Dirprwy Weinidog, ac os oedden nhw, ar hap, eisiau dod i ganolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, sy'n digwydd bod yn fy un i—ond mae eraill ar gael hefyd—a meddwl sut gallwch chi gael gweithgareddau ar thema sy'n gwneud synnwyr i'r busnesau ac i ymwelwyr. A fyddwn i ddim eisiau dweud y byddai hyn ond yn gweithio os oes cynllun cenedlaethol y mae'n rhaid i bawb ffitio i mewn iddo. Byddwn ni'n parhau i weithio gyda'r sector i ddeall sut y gallwn ni eu cefnogi orau, wrth i ni edrych ymlaen at 2023 lle byddwn yn disgwyl y byddwn ni'n gweld twf sylweddol yn nifer yr ymwelwyr i Gymru i'r sector twristiaeth, ond rydym ni hefyd yn gwybod y bydd heriau o'n blaenau. Wrth i ni weld y dirwasgiad tebygol am y rhan fwyaf o'r flwyddyn nesaf, bydd pobl yn gwneud dewisiadau gwahanol am eu gwariant dewisol, felly rydyn ni'n barod i barhau i gefnogi'r sector twristiaeth. Dyna pam rydw i a'r Gweinidog cyllid wedi gwneud dewisiadau ynghylch cymorth ardrethi ar gyfer ystod o wahanol sectorau yn yr economi.

Mentrau Bach a Chanolig eu Maint

9. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth ariannol sydd ar gael i fentrau bach a chanolig sy'n ceisio ehangu yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr? OQ59053

15:20

Diolch am y cwestiwn.

Mae ein gwasanaeth Busnes Cymru yn rhoi mynediad i fusnesau at ystod eang o wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth, yn ariannol a heb fod yn ariannol, i helpu i dyfu busnesau. Mae cymorth ariannol rhwng £1,000 a £10 miliwn ar gael trwy Fanc Datblygu Cymru i helpu busnesau Cymru gael y cyllid maen nhw ei angen i ehangu.

Diolch, Weinidog. Ces i'r pleser o ymweld â chwmni NappiCycle yng Nghapel Hendre yn ddiweddar, lle cefais i gyflwyniad hynod o ddiddorol ar ailgylchu cewynnau. Nawr, rwy'n derbyn efallai nad yw hyn yn swnio'n brynhawn cynhyrfus, ond roedd y lefel o arloesedd gan y cwmni'n wych. Trwy brosesau amrywiol, mae NappiCycle yn defnyddio cewynnau brwnt a deunyddiau tebyg a'u troi i mewn i asphalt ar gyfer palmentydd a hewlydd. Mae'r busnes yn rhan o glwstwr ailgylchu yng Nghymru sy'n arwain y byd, a dweud y gwir, yn rhyngwladol, ac wedi gwneud ers rhai blynyddoedd. Wedi i'r busnes dderbyn cyllid o ran 1 y small business research initiative, menter ymchwil y busnesau bach, mae'r cwmni, fel sawl un arall sydd wedi tyfu dros y cyfnod, yn edrych ymlaen at gyllid i ehangu'r busnes ymhellach. Felly, a all y Gweinidog ddatgan a fydd rhan 2 o SBRI yn mynd yn ei flaen, a rhoi gwybodaeth am unrhyw gyfleoedd eraill i gefnogi'r sector yma?

Yn rhyfedd ddigon, roeddwn i'n ymwybodol o gewynnau yn cael eu troi'n asffalt. Nid rhywbeth y byddai rhiant cymharol newydd arall â diddordeb ynddo, o ystyried bod gan yr Aelod ddau blentyn ifanc yn ei dŷ; rwy'n cofio'r dyddiau'n dda, a ddim cystal ar wahanol adegau, realiti newid cewynnau. Ond mae cyfle i feddwl sut y gallwn ni ddefnyddio cynnyrch i'w troi'n rhywbeth defnyddiol a gyda phwrpas gwahanol yn y dyfodol, ac mae hyn, efallai, yn esiampl amlwg a diddorol. Bydden i'n fwy na hapus i ddod yn ôl at hyn. Mae disgwyl i mi wneud penderfyniad ar SBRI 2 a'r dewisiadau i'w gwneud ynghylch hynny. Rydym ni'n gweithio ar y cyd, wrth gwrs, ar strategaeth arloesi hefyd. Fe wnaf ysgrifennu at yr Aelod am gyfleoedd i'r cwmni y mae'n sôn amdano yn ei etholaeth yn ogystal â'r pwynt ehangach ar sut rydym ni'n helpu busnesau bach i gael mynediad at gyfleoedd i dyfu ac i arloesi yn y dyfodol.FootnoteLink

4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Eitem 4 heddiw yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn gyntaf, Adam Price.

Gwasanaethau Deintyddol y GIG

1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau darpariaeth ddigonol o wasanaethau deintyddol y GIG yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr? OQ59048

Diolch. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, nhw sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau deintyddol yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Ar hyn o bryd, mae 92 y cant o gyllid contract deintyddol yr NHS yn y bwrdd iechyd yn mynd i bractisys sy'n gweithio dan amrywiad diwygio'r contract. Mae hyn yn golygu bod bron i 12,000 o gleifion newydd wedi cael eu gweld ar draws y bwrdd iechyd yn ystod naw mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon.

Diolch am yr ateb hwnnw, Gweinidog. Mae hwn yn fater rŷn ni wedi'i drafod sawl gwaith, ac wedi bod yn destun gohebiaeth rhyngom ni hefyd. Mae'n rhaid pwysleisio difrifoldeb y broblem yma, gan fod miloedd o bobl yn ardal Rhydaman yn benodol yn ddibynnol ar y gwasanaeth a oedd yn cael ei ddarparu gan ddeintydd Stryd Margaret yno. Fe godais i'r mater yma gyda chi ym mis Tachwedd eto llynedd, ac, er tegwch i chi, Weinidog, fe wnaethoch chi roi ateb cadarnhaol cyn y Nadolig fod y bwrdd iechyd yn ail-gomisiynu gwasanaethau deintyddol yn yr ardal, a bod disgwyl i wasanaeth newydd ddechrau'r mis yma. Yn anffodus, y neges dwi wedi'i chael gan nifer o etholwyr yw does dim cyfathrebiad wedi bod gyda nhw, a bod y gwasanaeth heb ddechrau wrth i ni gyrraedd mis Chwefror yfory. Felly, a allwch chi nawr roi'r sicrwydd hwnnw i fy etholwyr i fod y gwasanaeth newydd yma yn dod, a hynny cyn gynted ag sy'n bosib?

Wel, dwi'n falch o ddweud bod y bwrdd iechyd wedi bod yn llwyddiannus i roi cytundeb newydd i bractis newydd ar gyfer Rhydaman. Un o'r problemau sydd wedi bod oedd bod y premises oedd yna, dyw e ddim yn functional, a hynny sydd yn creu problem ar hyn o bryd. Mae'n mynd i gymryd amser i wneud yn siŵr bod y premises yn iawn ar gyfer triniaeth pobl. Felly, fydd hwnna ddim yn barod tan fis Medi. Ond beth fydd yn digwydd yw mae yna mobile dental unit a hwb ar gael, a bydd yna urgent care ar gael o fis Chwefror ymlaen.

15:25

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae hi'n hynod o anodd, wrth gwrs, sicrhau bod y Llywodraeth yn gallu cynllunio yn effeithlon, o ran y gallu i ymdrin â'r niferoedd sydd ag angen gofal deintyddol yng Nghymru, os nad yw'r Llywodraeth na'r byrddau iechyd yn gwybod faint o bobl sy'n aros am apwyntiad GIG. Rwy'n gwybod y byddech chi'n cytuno â'r safbwynt hwnnw, Gweinidog. Mae hi'n annerbyniol hefyd, wrth gwrs, y gallai pobl, pan fyddan nhw ar restr aros, fod yn aros hyd at 26 mis cyn cael apwyntiad hefyd. Felly, tybed, Gweinidog, a wnewch chi roi ystyriaeth i'r dewisiadau sydd yna ar gyfer rhestr aros ganolog i Gymru gyfan? Rwy'n gwerthfawrogi y byddai hynny'n cymryd peth amser i'w roi ar waith, felly, fel mesur dros dro, a fyddech chi'n ystyried sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn tynnu rhestr aros ganolog ar gyfer ei ddalgylch ei hun? Ac os ydych chi'n cytuno â hynny, pryd ydych chi'n credu y gellid rhoi hynny ar waith?  

Diolch yn fawr iawn. Wel, fe wn i fel ffaith fod cryn dipyn o waith wedi digwydd eisoes o ran datblygu'r cylch gwaith y byddai ei angen ar gyfer comisiynu rhestr aros ganolog fel hon. Rydym ni, fel gwyddoch chi, dan bwysau ariannol difrifol iawn ar hyn o bryd, felly, er bod y gwaith hwnnw yn barod i'w gychwyn erbyn hyn, fe gawsom ni ein cyfyngu yn ariannol o ran ein gallu ni i fynd gam ymhellach. Felly, mae hon yn sefyllfa anodd i ni. Yn amlwg, rydyn ni'n awyddus i fwrw ymlaen gyda hynny cyn gynted ag y cawn ni'r arian ychwanegol hwnnw, ond mae hi'n anodd iawn dan yr amgylchiadau ariannol ar hyn o bryd. Yr hyn y byddwn ni'n ei ddweud, yn arbennig wrth yr Aelod sy'n gadeirydd y pwyllgor hefyd, yw bod cynifer o'r argymhellion yn y gwaith a wnaethpwyd ganddyn nhw'n ddiweddar wedi bod yn hynod ddefnyddiol i ni ac, yn sicr, mae rhestr aros ganolog fel hon yn rhywbeth yr ydym ni'n ei hystyried yn wirioneddol o ddifrif.

Cwynion Hanesyddol yn y GIG

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar sut mae'r GIG yng Nghymru yn ymdrin â chwynion hanesyddol? OQ59035

Fe ddylai pobl sy'n dymuno cofnodi cwyn gyda chorff y GIG wneud hynny o fewn 12 mis. Mae gan gyrff y GIG ddisgresiwn i ystyried cwynion am faterion a ddigwyddodd dros 12 mis yn ôl ond ni allan nhw ystyried cwynion am faterion a ddigwyddodd dros dair blynedd yn ôl oni bai bod y rhain yn bodloni meini prawf penodol.  

Diolch, Gweinidog, am yr ateb yna. Rydych chi'n ymwybodol o achos un o fy etholwyr i, Barry Topping-Morris. Fe gafodd ei hun yn rhan o ddigwyddiadau ynghlwm â rhyddhau claf o glinig Caswell ym Mhen-y-bont ar Ogwr a aeth ymlaen wedyn i gyflawni dynladdiad. Mae Mr Topping-Morris wedi codi pryderon ers tro am yr ymchwiliad i'r digwyddiadau hyn a'r effaith a gafodd hynny ar ei yrfa ef yn dilyn hynny. Pa sicrwydd y gallwch chi ei roi iddo ef fod y gwersi wedi cael eu dysgu o ddigwyddiadau blaenorol ac y bydd ymchwiliadau i unrhyw ddigwyddiad tebyg heddiw yn cael ei gynnal yn ôl safonau cyfredol? Ac a fyddech chi'n barod, Gweinidog, i ymddiheuro i Mr Topping-Morris a'i deulu am yr holl ofid dros y blynyddoedd lawer ers cofnodi'r gŵyn hon yn y lle cyntaf?

Wel, fe hoffwn i ddweud, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud, nad oes unrhyw beth pwysicach na diogelwch a gofal ein cleifion ni yn y GIG. Rwy'n cydnabod y canlyniadau sylweddol a all ddod yn sgil gofal sy'n annigonol. Mae hi'n wir ddrwg gennyf i, nid wyf i'n credu ei bod hi'n briodol i mi wneud unrhyw sylw ar achosion unigol, ond yr hyn y byddwn ni'n ei ddweud yw bod y broses gwynion wedi newid bron y tu hwnt i unrhyw adnabyddiaeth ers cyfnod yr achos arbennig hwn. Felly, mae 'Gweithio i Wella' gennym ni nawr, lle mae'r pwyslais yn drwm ar yr angen i fod yn agored a gonest, gyda thema ganolog o fod yn agored ac ymchwiliadau ar sail 'ymchwilio un waith yn unig a hwnnw'n ymchwiliad trylwyr'. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n rhaid i ni barhau â'n gwelliant ni gan gyflwyno dyletswyddau o ran ansawdd a gonestrwydd, ac fe fydd hynny'n dod ar y llyfr statud yn fuan iawn.

Gweinidog, mae llawer o bobl yn y gogledd yn bryderus iawn, wrth gwrs, o ddarllen adroddiad fasgwlar heddiw i'r gwasanaethau a ddarperir gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, ac yn enwedig o ddysgu na chafodd y crwner wybodaeth gyflawn ynglŷn â phedwar achos o farwolaethau cleifion o'r 47 a adolygwyd. Achosion hanesyddol, wrth gwrs—rhai ohonyn nhw'n mynd yn ôl cyn belled â 2014, hyd at 2021. Nawr, mae hynny'n teilyngu'r cwestiwn ynglŷn â faint o farwolaethau eraill, yn y gwasanaeth fasgwlaidd ac mewn disgyblaethau clinigol eraill, na anfonwyd ymlaen mewn ffordd briodol efallai at y crwner i'w hystyried. Ac wrth gwrs, rydym ni'n darllen yn yr adroddiad hwnnw hefyd am gofnodion anniben am achosion cleifion—a hynny er gwaethaf yr adroddiadau eraill sydd wedi nodi'r broblem honno dros nifer o flynyddoedd—ynghyd â methiant i weithredu'r argymhellion yn llawn o adroddiadau brathog blaenorol. Mae hi'n ofnadwy, Gweinidog, ac mae pobl yn dymuno cael gwybod pa gamau a fydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y gwersi yn cael eu dysgu pan fydd pethau wedi mynd o chwith, ac y bydd camau yn cael eu cymryd ar gyflymder a bydd gweithredu unrhyw argymhellion yn dilyn.

15:30

Wel, diolch yn fawr. Rwyf i wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau i gyd am gyhoeddiad yr adroddiad hwnnw heddiw. Fe wn i y bydd y cyhoeddiad hwnnw'n achosi anesmwythyd i nifer o'r teuluoedd dan sylw, a'r rhai sy'n defnyddio gwasanaethau fasgwlar y bwrdd iechyd. Mae'r achosion a gaiff eu cynnwys yn yr adroddiad yn ymwneud â chyfnodau cyn ac wedi'r ad-drefnu a fu yn y gwasanaeth. Fe wn i fod y bwrdd iechyd wedi ymddiheuro i'r rhai a effeithiwyd gan yr adroddiad, a'r teuluoedd na dderbyniodd y gwasanaeth yr oedden nhw'n ei haeddu. Edrychodd yr adroddiad hwn yn fanwl ar yr achosion sydd dan sylw yn adroddiad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon a gafodd ei gyhoeddi'r llynedd, felly nid achosion newydd mo'r rhain; ond mae hwn yn ymchwiliad mwy trylwyr. 

Cafwyd nifer o argymhellion. Rydyn ni, yn amlwg, wedi rhoi'r gwasanaeth fasgwlaidd yn arbennig dan arolygiaeth fwy manwl, i wneud yn siŵr y caiff yr ymyrraeth ei monitro'n rheolaidd. Fe geir cynllun ar gyfer gwelliant. Rwy'n cael diweddariad yn rheolaidd, ac mae Llywodraeth Cymru yn cael diweddariad yn rheolaidd. Fe wn i fod fy swyddogion i wedi siarad â chrwner y gogledd ddoe, oherwydd, yn amlwg, roeddwn i'n bryderus iawn o glywed nad oedd y crwner wedi cael ei hysbysu.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau llefarwyr nawr. Y cyfan heddiw i'w hateb gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Y cyntaf yw llefarydd y Ceidwadwyr, James Evans. 

Diolch, Llywydd. Dirprwy Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi bod sicrhau bod data iechyd meddwl ynglŷn â phob cyflwr iechyd meddwl ar gael i'r cyhoedd yn hanfodol ar gyfer gwella gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru?

Ydw, rwy'n cytuno â chi bod sicrhau bod data ar gael yn hanfodol bwysig. Dyna pam mae gwneud yn siŵr ein bod ni'n gallu cynyddu ein cyfres greiddiol o ddata iechyd meddwl yn flaenoriaeth allweddol i ni, ac fe fydd honno'n ategu'r wybodaeth yr ydym ni eisoes yn ei chyhoeddi yn rheolaidd ynglŷn ag amseroedd aros iechyd meddwl.

Diolch i chi, Dirprwy Weinidog. Mae gallu cael gafael ar yr wybodaeth yn bwysig, fel rydych chi newydd ei amlygu, i'r bobl yr ydym ni'n eu gwasanaethu, ac mae hynny'n taflu goleuni ar berfformiad Llywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd hefyd. Er enghraifft, mae gwybodaeth a ryddhawyd drwy geisiadau rhyddid gwybodaeth i fyrddau iechyd yn unig yn dangos bod 7,258 o blant yn aros i gael diagnosis awtistiaeth. Mae 40% o'r plant hynny yn aros dros flwyddyn, mae 22 y cant o'r rhain yn aros dros 18 mis, ac mae 804 o blant yn aros dros ddwy flynedd. Ac fe wrthododd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ateb y cais rhyddid gwybodaeth hyd yn oed.

Felly, fe hoffwn i wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r arosiadau hyn a sicrhau, pan ofynnir i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr am wybodaeth, ei fod yn darparu'r wybodaeth er mwyn i ni allu craffu ar ei berfformiad.

Diolch i chi am y cwestiwn yna, James, ac mae'n debyg y byddai hi o fudd pe byddwn i'n egluro mai fy nghyd-Weinidog Julie Morgan sydd â chyfrifoldeb am wasanaethau niwroddatblygiadol, er ein bod ni'n gweithio yn agos iawn gyda'n gilydd gan fod yna, yn amlwg, gysylltiadau cryf â gwasanaethau iechyd meddwl, yn enwedig i blant a phobl ifanc. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod Julie Morgan wedi cymryd camau pendant yn y maes hwn. Rydych chi'n ymwybodol bod £12 miliwn wedi cael ei gyhoeddi yn yr haf i ymdrin â'r ôl-groniad o amseroedd aros niwroddatblygiadol, a chefnogi'r gwaith o wella gwasanaethau niwroddatblygiadol hefyd. Yn ogystal â hynny, mae Julie Morgan wedi sefydlu grŵp cynghori niwroddatblygiadol hefyd ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys pobl sydd â phrofiad bywyd, ac fe geir cynllun gweithredu i wella'r amseroedd aros hynny. 

Fy hun, rwy'n cydnabod hefyd fod ein fframwaith ni NEST/NYTH yn ddull allweddol i gefnogi'r plant a'r bobl ifanc hynny, oherwydd rydyn ni'n awyddus i'r gwasanaethau cofleidiol hynny fod ar gael, ac ni ddylai plant a phobl ifanc fod angen label diagnosis er mwyn cael y gefnogaeth. Felly, mae NYTH yn faes allweddol i ni yn hynny o beth hefyd, ac yn rhywbeth yr ydym ni'n gweithio yn agos arno. 

Diolch yn fawr iawn am hynna, Dirprwy Weinidog. Ar ôl cyfarfod ag elusennau, mae llawer ohonyn nhw wedi sôn wrthyf i nad yw data ar gael yn rheolaidd, ac mai un ffordd y gallem ni gryfhau'r maes hwn yw drwy edrych unwaith eto ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 i wneud yn siŵr y ceir rhagor o dargedau y gall y Llywodraeth weithredu arnyn nhw mewn gwirionedd ac y gellir eu hadrodd nhw'n ôl i'r Senedd hon. 

Felly, a ydych chi'n cytuno gyda'r elusennau hyn sy'n weithredol yn y sector bod angen i ni gael Mesur iechyd meddwl sy'n fwy cadarn, ac a fydd hwnnw'n rhywbeth y byddwch chi'n ei ystyried yn y Llywodraeth, i sicrhau y gallwn ni wneud ein gwaith ni yn y gwrthbleidiau yn y fan hon, i wneud yn siŵr bod gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu gwella ledled Cymru i fod â gwell canlyniadau i boblogaeth Cymru?

Diolch. Mae'n debyg eich bod chi'n ymwybodol, James, fod dyletswydd i adolygu'r Mesur Iechyd Meddwl. Nid oeddem ni'n gallu bwrw ymlaen â hynny oherwydd y pwysau yn ystod y pandemig, ac roedd yr oedi cyn adolygu'r Mesur iechyd meddwl yn rhywbeth y cytunwyd arno gyda Chynghrair Iechyd Meddwl Cymru—y cyrff trydydd sector yr ydym ni'n cwrdd â nhw. Felly, roedden nhw'n cefnogi'r penderfyniad hwnnw i ohirio hynny. Rydyn ni'n ailddechrau gwaith ynghylch y ddyletswydd i adolygu'r Mesur iechyd meddwl, felly rydyn ni'n bwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw.

Ond yr hyn a fyddwn i'n ei ddweud hefyd yw bod gennym Lywodraeth y DU sy'n diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983. Ar hyn o bryd, rydyn ni'n aros iddyn nhw fwrw ymlaen â hynny; fe fydd hynny'n golygu ein bod ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU ar sut mae hynny'n cael ei weithredu yng Nghymru. Rydyn ni'n aros i Lywodraeth y DU fwrw ymlaen â'u deddfwriaeth ar ddiogeliadau amddiffyn rhyddid hefyd—mae'r terfynau amser ar gyfer hynny wedi parhau i symud. Felly, ar hyn o bryd, rydyn ni'n barod i fynd ar amrantiad yn hyn o beth; neilltuwyd symiau mawr o gyllid gennym ni ar gyfer rhoi hyn ar waith. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn ymwybodol o'r pwysau deddfwriaethol eraill yr ydym yn eu hwynebu, a'r gallu o fewn y system i ymdrin â hynny.

Yr hyn yr wyf i'n ei gredu hefyd yw ei bod hi'n hanfodol bwysig i ni ganolbwyntio ar gyflawni, a'r peth pwysicaf i mi yw sicrhau bod pobl yn cael gafael ar wasanaethau, ac rwy'n credu bod rhaid i ni gofio hynny pan fyddwn ni'n ystyried unrhyw adolygiadau pellach.

15:35

Diolch, Llywydd. Mae'r argyfwng costau byw yn cael effaith sylweddol ar ein gwasanaeth iechyd ni. O gynyddu anghydraddoldebau iechyd hyd at rwystro pobl rhag cadw'n gynnes a chael bwyta y gaeaf hwn, mae'r GIG yn dangos arwyddion o bwysau eithafol ac argyfwng. Mae'r straen yn amlwg hefyd ymhlith y rhai sy'n gweithio ym maes iechyd y cyhoedd. Mae streic y nyrsys, a gefnogir gan Blaid Cymru, yn hysbys iawn yn y Senedd hon. Fe hoffwn i achub ar y cyfle hwn i dynnu sylw at effaith hyn ar y rhai hynny sy'n gweithio yn y sector defnyddio sylweddau a thrin dibyniaeth. Yn gynharach y mis hwn, adroddodd ITV Cymru ar drafferthion costau byw pobl sy'n gymheiriaid y gwasanaeth cyffuriau ac alcohol. Fe wnaethon nhw siarad â Vinnie, a oedd yn un o gymheiriaid gwasanaeth ac sydd wedi gwella ar ôl bod yn gaeth, ac wedi ymatal am dair blynedd, am ei frwydr i fyw ar ei gyflog. Meddai,

'Rwy'n dibynnu ar fanciau bwyd, mae hi'n anodd iawn, 'does gen i ddim gwres yn y tŷ. Rwy'n llythrennol yn ofni cynnau'r tân, a thanio'r nwy am fy mod i'n arswydo rhag y bil nesaf, am nad yw'r (arian) gen i.'

Nid yw Vinnie yn unigryw. Oherwydd ei hanes ef o ddefnyddio cyffuriau, mae ef a llawer tebyg iddo yn agored i niwed. Rwy'n ofni y bydd straen yr argyfwng costau byw yn gwthio llawer o bobl fel ef oddi ar lwyfan sobrwydd. A ydych chi'n cydnabod y problemau sy'n bodoli yn y sector hwn, ac a oes gennych chi gynlluniau i'w cywiro gyda thelerau ac amodau gwell? Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cytuno, yn enwedig o ystyried y cynnydd brawychus mewn marwolaethau oherwydd cyffuriau ac alcohol, na allwn ni fforddio caniatáu i wasanaethau cyffuriau ac alcohol gael eu rhedeg ar y nesaf peth i ddim.

Diolch yn fawr i chi, Peredur. Ac a gaf i achub ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolchgarwch i'r bobl sy'n gweithio fel cymheiriaid cefnogol yng Nghymru? Maen nhw'n gwneud gwaith anhygoel. Yn sicr, nid wyf i o'r farn y gallen ni gael ein cyhuddo o redeg gwasanaethau cyffuriau ac alcohol ar y nesaf peth i ddim. Fel gwyddoch chi, nid yn unig ein bod wedi gwarchod cyllid gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yng Nghymru, ond rydyn ni wedi cynyddu'r cyllid mewn gwirionedd, ac mae hynny'n cynnwys i'n gwasanaethau ni a arweinir gan gymheiriaid, bu'n rhaid i ni ddod o hyd i arian ychwanegol o fewn cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer hynny, oherwydd roedd rhywfaint o'r arian hwnnw'n dod o'r Undeb Ewropeaidd, ac yn amlwg fe wnaethon ni golli'r arian hwnnw. Rwy'n cydnabod, wrth gwrs, fod hwn yn gyfnod anhygoel o anodd i bawb, gan gynnwys pobl sy'n gweithio yn y trydydd sector, yr ydym ni'n ddiolchgar iawn iddyn nhw. Dyna pam mae'r Llywodraeth wedi canolbwyntio cymaint ar ddefnyddio pa ysgogiadau bynnag sydd ar gael i ni wrth fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, a dyna pam rydym ni'n parhau, er gwaethaf yr amgylchiadau dyrys iawn yr ydym yn eu hwynebu, i fuddsoddi yn y gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, i fod o gymorth wrth dywys pobl drwy'r cyfnod anodd iawn hwn.

Diolch. Rydyn ni'n dal i aros am gynllun gweithlu'r Gweinidog, a addawyd y mis hwn; o ystyried fod yna ychydig oriau yn weddill, rydyn ni'n parhau i obeithio y daw maes o law. O, gwych, mae arwydd cadarnhaol i'w weld fan acw, felly dyna beth da. A wnewch chi gadarnhau y byddwch chi a'ch swyddogion â rhan fawr yng nghyfansoddiad y cynllun hwn? Mae hwn yn gwestiwn allweddol, oherwydd yn aml, mae cymorth iechyd meddwl wedi cymharu yn wael â meysydd eraill o'r GIG o ran blaenoriaethau a chyllid. Roedd ei gwneud hi'n haws i gael therapïau seicolegol i fod yn nod allweddol i'r strategaeth wreiddiol 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', ac mae honno wedi bod yn flaenoriaeth o fewn pob un o'r cynlluniau cyflenwi, ac eto dros y 10 mlynedd diwethaf, mae nifer o adroddiadau wedi codi pryderon ynghylch sut i gael gafael ar therapïau seicolegol oherwydd effeithiau camddefnyddio sylweddau a chaethiwed a'r rhai sy'n agored i'r rheini. Mae hwnnw'n bryder gwirioneddol.

Er gwaethaf rhai gwelliannau, mae cannoedd o bobl yn parhau i aros mwy na'r targed 26 wythnos i gael cymorth. Yn aml, pobl yw'r rhain sydd ag angen am driniaeth frys i'w hatal rhag colli rheolaeth ar eu hiechyd meddwl. A yw'r Gweinidog yn bwriadu gostwng y targed 26 wythnos a pha gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â sefyllfa'r rhai sy'n aros cryn amser mewn rhai ardaloedd byrddau iechyd? Diolch i chi.

15:40

Diolch i chi, Peredur. Rwy'n credu eich bod wedi gweld y Gweinidog yn rhoi arwydd cadarnhaol nawr oherwydd bod pethau yn mynd yn dda o ran y cynllun gweithlu y mae hi'n ei ddatblygu. Mae gennym ni gynllun gweithlu ar wahân hefyd ar gyfer iechyd meddwl, sy'n cael ei ddatblygu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru. Cafodd hwnnw ei lansio ym mis Tachwedd. Rwy'n falch iawn, oherwydd y £75 miliwn o gyllid ychwanegol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru eleni ar gyfer iechyd meddwl, gan gynnwys camddefnyddio sylweddau, rydym yn gallu ariannu'r cynllun gweithlu hwn, y mae crocbris i'w dalu amdano i gyd. Fe fydd hwnnw'n ein galluogi i gymryd rhai camau byrdymor yn syth ynghylch y pwysau ar y gweithlu yr ydym yn eu hwynebu, gan gynnwys pethau fel hyfforddiant a chyflogi cymdeithion clinigol mewn seicoleg, nad ydyn nhw wedi cymhwyso yn llawn gyda doethuriaeth mewn seicoleg, ond sy'n gallu cynnig rhai therapïau seicolegol, ac mae mynediad at seicoleg yn rhan allweddol o'r cynllun gweithlu hwn.

Rwy'n nodi o'r sylwadau a wnaethoch chi am amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau seicoleg ac, yn amlwg, mae mwy o waith i'w wneud eto ar y mater hwnnw. Mae uned gyflawni'r GIG yn cynnal adolygiad o therapïau seicolegol i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Mae disgwyl i'r adroddiad hwnnw gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth, ac fel yn achos eu hadroddiadau eraill nhw ar iechyd meddwl, fe fydd yn rhoi cyfres o argymhellion i ni i wneud yn siŵr y gallwn ni wella'r gwasanaethau mewn ffordd sy'n gynaliadwy.

Y pwynt arall y byddwn i'n ei wneud, Peredur, yw ein bod ni'n gwario symiau aruthrol o arian yng Nghymru ar gymorth Haen 0 a Haen 1 Mynediad Agored. Mae therapi ymddygiad gwybyddol ar-lein ar gael ledled Cymru ar gyfer ystod o broblemau iechyd meddwl lefel is. Mae gennyn ni linell gymorth sydd ar gael 24 awr y dydd ar gyfer gwneud galwadau, ac rydyn ni'n gwneud cynnydd da iawn o ran ein gwasanaeth 111 'pwyswch 2 ar gyfer iechyd meddwl', sydd ar waith ym mhob man nawr yng Nghymru ac a fydd ar gael 24/7 erbyn y gwanwyn. Rwy'n credu y bydd hynny drawsnewidiad gwirioneddol o ran y dull 'dim drws anghywir' ar gyfer iechyd meddwl.

Rhyddhau Cleifion o Ysbytai

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut mae darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd i reoli'r broses o ryddhau cleifion o ysbytai yn effeithiol? OQ59043

Mae gweithio yn effeithiol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yn hanfodol wrth reoli rhyddhau cleifion o'r ysbyty mewn modd effeithiol. Mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn nodwedd wirioneddol o'n hymagwedd ni tuag at yr heriau y mae'r system yn eu hwynebu y gaeaf hwn ac mae wedi arwain at 595 o welyau cymunedol ychwanegol, sydd o gymorth wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ymateb yna. Mae hi'n sicr yn wir dweud bod gweithio mewn partneriaeth yn nodwedd o ymateb Llywodraeth Cymru. Ni chefais fy argyhoeddi ei bod hi'n nodwedd lwyddiannus iawn, mae'n rhaid i mi ddweud. Mae'r niferoedd bron â bod yn cyfateb i niferoedd ysbyty cyfan yn llawn cleifion yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan y gallen nhw, ar unrhyw adeg, gael eu rhyddhau i'r gymuned, ond nid ydym ni'n gallu gwneud hynny. Fy nheimlad i yw ein bod ni, yn rhy aml, yn rhoi pwysau enfawr ar aelodau o staff ac arweinwyr gwasanaethau i weithio o amgylch strwythurau a luniwyd, yn hytrach na llunio strwythurau sy'n cynnig cydlyniad o ran darparu gwasanaethau.

Mae hi'n ymddangos i mi, ac rydw i wedi bod yn eistedd yma ers gormod o flynyddoedd erbyn hyn efallai, ond, mae hi'n ymddangos i mi—[Torri ar draws.] [Chwerthin.] Fe af yn fy mlaen. Mae hi'n ymddangos i mi ei bod hi'n hen bryd i ni ddod â'r gwasanaethau hyn at ei gilydd i greu un sefydliad gofal cymdeithasol cydlynol sy'n gallu darparu'r gofal sydd ei angen ar bobl ac sy'n gallu cefnogi ein gweithwyr proffesiynol ni yn y ffordd maen nhw'n cyflawni eu gwaith. A ydy hi'n rhy hwyr i gydnabod, Gweinidog, nad yw niferoedd y byrddau a phartneriaethau a strwythurau eraill y gwnaethom ni eu rhoi ar waith, yn syml, yn darparu'r gofal y mae gan bobl yr hawl i'w gael ac yn ei haeddu?

15:45

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Fe hoffwn i bwysleisio pa mor agos y mae'r Gweinidog a minnau wedi bod yn gweithio i ddod ag iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd. Mae gennym ni gyfarfodydd bob pythefnos—y pwyllgor gweithredu gofal—lle rydym ni'n ysgogi datblygiadau ar y cyd rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae hynny wedi arwain at 595 o welyau cymunedol, sy'n cael eu creu gan yr awdurdodau lleol, gan y byrddau iechyd, drwy roi cyllid i mewn—cyfuno cyllid. Mae'r 595 o welyau wedi cael effaith wir anferthol o ran caniatáu i bobl gael eu rhyddhau o'r ysbyty. O ran i le awn ni nesa o ran gofal cymdeithasol, rwy'n credu eich bod yn gwybod bod gennym ni ymrwymiad i wasanaeth gofal sy'n genedlaethol. Rydyn ni'n cymryd y camau cyntaf yn hynny o beth drwy greu swyddfa genedlaethol, a fydd, gobeithio, ar waith nawr o fewn y flwyddyn nesaf, ac fe fydd gennym ni fframwaith cenedlaethol hefyd. Dyna'r camau cyntaf tuag at greu gwasanaeth gofal cenedlaethol, ac rwy'n cytuno bod taer angen amdano.

Gweinidog, mae'r ffaith nad yw'r pontio bob amser yn rhwydd rhwng gofal iechyd a gofal cymdeithasol ac mae hynny wedi rhoi ein GIG o dan faich echrydus. Nid yw hynny'n fwy amlwg yn unman nag ym maes gofal diwedd oes. Yn y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol yr wythnos diwethaf, fe glywsom ni fod cael gafael ar wasanaethau y tu allan i oriau yn drybeilig. Cymerodd gofalwr dros 20 awr i gysylltu â'r gwasanaeth 111 un penwythnos dim ond er mwyn trafod meddyginiaeth. Nid oes fawr o ryfedd, felly, fod un o bob 14 claf sy'n mynychu adrannau damweiniau ac achosion brys yn glaf diwedd oes. Gweinidog, pa gamau mae eich Llywodraeth chi'n eu cymryd i wella gwasanaethau diwedd oes yn y gymuned, fel nad yw cleifion, gofalwyr na chartrefi gofal yn cael eu gorfodi i ddefnyddio gwasanaethau iechyd acíwt?

Rwy'n diolch i Altaf Hussain am y cwestiwn hynod bwysig yna. Mae hi'n hanfodol, wrth gwrs, nad yw pobl sydd ag angen gwasanaethau diwedd oes yn cael eu rhoi mewn sefyllfa o fod â thaer angen am wybodaeth, yn arbennig dros benwythnos. Rwy'n ymwybodol o sefyllfaoedd o'r fath, mae gennyf i brofiad o hynny. Dylid sefydlu rhaglen sy'n caniatáu i bobl, dros benwythnosau, er enghraifft, sy'n derbyn gofal diwedd oes—bod gofal arbennig ar gael yn y cyfnodau hynny. Rwy'n gwybod i hynny fod ar gael mewn llawer o achosion. Ni ddylid gadael pobl mewn sefyllfa felly. Fel gwyddoch chi mae Llywodraeth Cymru yn rhoi arian tuag at hosbisau a chymorth yn y gymuned, canran benodol. Mae'r sector gwirfoddol yn darparu llawer o arian hefyd, ac mae'r gwasanaethau hynny'n wasanaethau trawiadol iawn. Rwy'n ymwybodol iawn o'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, er enghraifft, ar gyfer gofal diwedd oes yn y cartref. Ond yn amlwg, rwy'n credu bod rhaid i ni wneud mwy bob amser i ymdrechu i wella'r sefyllfa honno.

Cyflwr Ystadau Ysbyty

5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gyflwr ystadau ysbyty ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OQ59042

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am gyflwr ei ystadau ei hun. Fe all gyflwyno achosion busnes i Lywodraeth Cymru am gyllid cyfalaf ar gyfer ei flaenoriaethau asesedig, y mae'n rhaid eu hystyried nhw gan gofio'r pwysau sylweddol sydd yn bodoli o ran cyfalaf ar draws GIG Cymru.  

Diolch i chi am eich ymateb, Gweinidog. Rwy'n siŵr eich bod chi'n gallu rhagweld yr hyn yr wyf i am ei ddweud, oherwydd cafodd ei nodi gan y BBC wythnos diwethaf mai dim ond 62 y cant o'r adeiladau sy'n eiddo i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n cael eu hystyried fel rhai sy'n ddiogel i'w gweithredu. Yn ysbyty Abergele, sy'n rhoi gwasanaeth da i fy etholwyr i, dim ond 15 y cant o'r adeiladau sy'n cydymffurfio â safonau iechyd a diogelwch cyfredol. Y rheswm am hyn yn bennaf yw bod gan y bwrdd lawer o hen adeiladau gyda chostau rhedeg uchel a hen seilwaith nad yw wedi datblygu gyda'r oes nac anghenion iechyd cyfredol. Fy nghwestiwn i yw: os edrychwch chi ar hyn yn wrthrychol, Gweinidog, a ydych chi'n credu y byddai hi o gymorth i'r bwrdd o ran arbed arian gyda'r ystadau yn yr hirdymor pe byddech chi'n buddsoddi mwy nawr mewn seilwaith adeiladau newydd, fel ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych yn y Rhyl, er mwyn i ni allu sicrhau gofal iechyd gwell i bobl leol mewn ffordd sy'n lleihau costau rhedeg hefyd ac yn fwy caredig i'r amgylchedd, gan ganiatáu i ni fuddsoddi mwy mewn gwasanaethau rheng flaen?

15:50

Diolch yn fawr iawn. Fe fyddwn i wrth fy modd yn buddsoddi mwy yn ein hystad cyfalaf ni, ond yn anffodus nid yw ein cyllid ni oddi wrth Lywodraeth y DU, o ran cyllidebau cyfalaf, wedi cynyddu, ac mae hynny'n gwneud bywyd yn anodd iawn i ni. Yr hyn a fyddwn i'n ei ddweud yw bod Betsi wedi cael £455 miliwn mewn gwariant cyfalaf dros y 10 mlynedd diwethaf, sef tua 14 y cant o'r cyfanswm i Gymru. Mae hynny'n cynnwys tua £170 miliwn ar Ysbyty Glan Clwyd; £20 miliwn ar adran babanod newydd-anedig yn Ysbyty Glan Clwyd; yn Ysbyty Gwynedd, £14 miliwn i'r adran frys; £5 miliwn yn y Fflint; £4 miliwn ym Mlaenau Ffestiniog; a £5 miliwn yn Nhywyn. Fe allwn i fynd ymlaen ac ymlaen. Y pwynt yw, rydym ni'n ceisio gwneud ein gorau. Mae'n rhaid i chi flaenoriaethu yn yr amgylchiadau anodd hyn, ond mae'n amlwg fod cynnydd wedi bod yn y ffigurau ol-groniad, oherwydd, fel rydych chi'n dweud, oedran llawer o'r safleoedd mawr ac acíwt hynny, a dyna pam rydym ni wedi gofyn i'r bwrdd iechyd ei hun ystyried beth ddylai'r blaenoriaethau fod, ac yna'n amlwg fe fyddwn ni yn y Llywodraeth yn gwneud dyfarniad wedi hynny.

Gwasanaethau Iechyd ym Mhreseli Sir Benfro

6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd ym Mhreseli Sir Benfro? OQ59024

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd o safon uchel, sy’n ddiogel a chynaliadwy, i'w phoblogaeth leol, a hynny ar sail y dystiolaeth a'r cyngor clinigol gorau a diweddaraf.

Diolch am yr ymateb yna, Gweinidog. Fel gwyddoch chi, fe geir pryderon ynglŷn â gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol yn Solfach yn fy etholaeth i, yn dilyn y newyddion bod y partner yn y practis meddyg teulu wedi cyhoeddi ei bod hi'n ymddeol. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cynnal rhywfaint o ymgysylltu â'r cyhoedd am y datblygiad hwn ac wedi ysgrifennu at yr holl gleifion sydd wedi cofrestru yn y feddygfa, ac mae hynny'n hynod bwysig, gan ei bod hi'n rhaid ymgynghori â'r gymuned leol ynglŷn â'i barn am y ffyrdd y gellir parhau i gyflwyno'r ddarpariaeth yn y dyfodol. Mae hyn wrth gwrs yn dilyn meddygfa Neyland a Johnston yn fy etholaeth i, sydd dan reolaeth y bwrdd iechyd erbyn hyn oherwydd ymddeoliad yn y practis hwnnw hefyd. Gweinidog, mae pobl yn fy etholaeth i yn poeni bod gallu gweld y meddyg teulu yn mynd yn gynyddol anodd mewn rhannau o sir Benfro. A wnewch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r mater hwn? Pa waith a ydych chi'n ei wneud gyda'r bwrdd iechyd lleol i sicrhau bod pobl yn gallu gweld meddyg teulu yn lleol ble bynnag y maen nhw'n byw yn sir Benfro?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n ymwybodol iawn o'r sefyllfa yn Solfach. Nid wyf i'n gallu mynd ymhell iawn o gartref heb i rywun godi'r mater gyda mi pan fyddaf i yno. Rwy'n falch o ddweud fy mod i wedi cyfarfod â chadeirydd a phrif weithredwr bwrdd iechyd Hywel Dda ddydd Iau, ac fe lwyddais i drafod y mater hwn gyda nhw. Fel nodwyd, bu ymgysylltu â'r gymuned yn barod. Mae hi'n anodd iawn, oherwydd yn amlwg fe allem ni roi'r holl fesurau yr ydym ni'n eu dymuno ar waith, ond y peth allweddol yw sut byddwch chi'n denu meddyg teulu yno. Mae yna her wirioneddol o ran meddygfeydd un meddyg. Mae'n rhaid i ni, efallai, feddwl yn greadigol ynglŷn â sut i fynd ati i lenwi'r swyddi hyn sy'n beth anodd iawn. Rwy'n gwybod i ni fod â her wirioneddol yn y gorffennol o ran denu rhywun, er enghraifft, i Wdig, pan wnaethon ni gynnig gwobr ariannol gwerth £20,000 i rywun am ddod ond ni ddaeth neb wedyn. Nid yw hi'n hawdd datrys pethau fel y rhain. Nid ydych chi'n gallu gorfodi pobl i fynd i'r mannau hyn. Ond yn amlwg, ein dull ni yw ceisio sicrhau nad yw'r meddygon unigol yn gweithio ar eu pennau eu hunain a bod ganddyn nhw dîm o'u cwmpas nhw. Ond hyd yn oed wedyn, yr hyn yr ydym ni'n ei ganfod sy'n gweithio orau yw pan fydd gennych chi gymuned o feddygon teulu yn gweithio gyda'i gilydd. Yn amlwg mae hynny'n anodd mewn lleoedd fel Solfach, felly mae'n rhaid i ni geisio bod yn greadigol a gweithio gyda'r gymuned. Ond rwy'n gwybod y bydd y bwrdd iechyd yn gwneud pob ymdrech i weld beth all ei roi yn ei le erbyn dyddiad y terfyniad sef 31 o fis Mawrth.

Gofal Deintyddol y GIG

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau amseroedd aros ar gyfer gofal deintyddol y GIG? OQ59040

O dan drefniadau diwygio'r contract, mae practisys deintyddol yn canolbwyntio ar ofal ataliol ac ymateb i angen, yn hytrach na rhoi archwiliad rheolaidd bob chwe mis i bob claf. Yn sgil y newid yma, mae mwy na 123,000 o gleifion newydd yng Nghymru wedi cael gweld deintydd NHS hyd yma eleni.

Diolch am yr ateb yna.

Rydych chi'n gwybod bod deintyddiaeth y GIG yn rhywbeth yr ydw i wedi ei godi gyda chi dro ar ôl tro yn y Siambr hon. Rwy'n pryderu o glywed eto ein bod ni'n clywed am yr apwyntiadau ychwanegol hyn—120,000 a glywsom ni'n flaenorol, a 130,000 rwy'n credu y dywedoch chi'r tro hwn—

15:55

Cant dau ddeg tri mil, mae'n ddrwg gen i. Diolch i chi am fy nghywiro. Yn fy sgyrsiau gyda deintyddion a Chymdeithas Ddeintyddol Prydain, rwy'n clywed na allan nhw gynnig yr apwyntiadau hynny ar gyfer cleifion newydd mewn gwirionedd gan nad oes gan y deintyddfeydd y gallu i wneud hynny. Mae cleifion presennol, medden nhw, yn wynebu oediadau pellach oherwydd mae hi'n debygol y bydd angen gwaith dilynol sylweddol ar gleifion newydd. Rwy'n cael gwybod bod llawer o ddeintyddfeydd, sy'n methu â chyrraedd nodau eu cytundebau nhw, yn gweld eu cyllid nhw'n cael ei grafangio yn ei ôl gan fyrddau iechyd ac, o ganlyniad i'r ansicrwydd, yn lleihau eu hymrwymiad nhw neu hyd yn oed yn achosi iddyn nhw ymadael â gwaith deintyddol y GIG yn gyfan gwbl. Tybed a gaf i ofyn i chi, pan ydych chi'n dweud bod 120,000 o apwyntiadau newydd, ai apwyntiadau newydd yw'r rhain mewn gwirionedd neu'r cyllid cyfatebol yn unig? A wnewch chi ymrwymo i gyfarfod â Chymdeithas Ddeintyddol Prydain i drafod hyn ymhellach? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn. 123,000 o apwyntiadau newydd yw'r rhain sydd wedi digwydd mewn gwirionedd. Bu llawer o siarad ynghylch hyn, ond dyma'r ffeithiau, mae gennym ni 74,000 o gleifion newydd sy'n oedolion sydd wedi cael eu gweld mewn gwirionedd, a 49,000 o blant newydd sydd wedi cael eu gweld nad oedden nhw wedi cael eu gweld o'r blaen. Wrth gwrs, pan fyddwch chi'n cyflwyno rhywbeth newydd, fe fydd yna ychydig o anhawster a straen ar y system. Yn amlwg, os ydym ni am dalu pobl i wneud gwaith, mae angen iddyn nhw gyflawni'r gwaith hwnnw, ac os nad ydyn nhw'n cyflawni'r gwaith hwnnw, ydym, rydym ni am gael ein harian yn ei ôl. Nid wyf i am ymddiheuro am hynny, gan mai ni sydd â chyfrifoldeb am arian trethdalwyr hefyd. Honno yw'r fargen. Rydych chi'n talu am wasanaeth, os nad ydych chi'n darparu'r gwasanaeth hwnnw, 'chewch chi ddim mo'ch talu. Felly, efallai nad ydyn nhw'n hoffi hynny, ond dyna'r sefyllfa, mae arnaf i ofn. Y ffaith yw bod llai na 20 cytundeb, mewn gwirionedd, wedi cael eu rhoi yn eu holau allan o'r 413 sy'n bodoli yng Nghymru. Felly, fel dywedais i, fe geir llawer o siarad, ond mewn gwirionedd, mae'r rhan fwyaf o bobl—y mwyafrif llethol o ddeintyddion—wedi trosglwyddo i'r cytundeb newydd hwn.

Wrth gwrs, mae hi'n haws archwilio rhywun sydd â dannedd iach bob chwe mis na gweld rhywun o'r newydd sydd efallai heb gael ei weld ers amser maith ac yna'r angen i'w weld gyda gwaith mwy manwl wedyn. Ond rydym ni'n gwneud hyn yn fwriadol iawn. Mae angen i bobl sydd heb weld deintydd ers amser maith fynd i weld deintydd. Felly, nid wyf i am ymddiheuro am y cytundeb y gwnaethom ni ei roi ar waith. Yr hyn a ddywedwn i yw fy mod i, wrth gwrs, yn hapus i gyfarfod â Chymdeithas Ddeintyddol Prydain—rwy'n gwybod bod gennych chi gysylltiadau cryf iawn â nhw. Ond efallai fod angen i ni wneud yn siŵr bod gwir ddealltwriaeth o'r hyn yr ydyn ni'n ceisio ei gyflawni yn hyn o beth. Rydyn ni'n ceisio cyflawni hyn yn wyneb cyfyngiadau ariannol difrifol iawn ac mae'n rhaid i ni wneud y mwyaf o allu'r trethdalwr i gael cymaint ag sy'n bosibl o'r system.

Darpariaeth Gofal Llygaid

8. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella'r ddarpariaeth gofal llygaid yng Nghymru? OQ59029

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru, ac mae gwella'r ddarpariaeth i bobl ag iechyd llygaid gwael yn flaenoriaeth. Mae'r gwaith hwn ar y gweill eisoes trwy weithredu telerau gwasanaeth optometreg newydd a gontractiwyd, a gyhoeddais i mewn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ym mis Medi'r llynedd.

Diolch, Gweinidog. Fe hoffwn i ofyn i chi am gynlluniau i leihau cymorth ariannol i rai o bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed Cymru tuag at gost eu sbectol GIG nhw. Rwy'n deall mai'r cynnig yw gostwng y cyfraniad presennol o £39.10 i blant ac oedolion ynglŷn â rhai budd-daliadau i £22. Rydych chi'n honni bod y swm wedi ei gytuno gyda'r grŵp sy'n cynrychioli optometryddion yng Nghymru, ond mae Optometreg Cymru yn dweud nad oedden nhw, yn y tîm trafod, o blaid cefnogi'r newidiadau i'r system dalebau a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru. Yn wir, mewn datganiad, roedden nhw'n dweud bod y cynlluniau wedi achosi pryder sylweddol ymhlith ymarferwyr sy'n gofidio am lefel y gefnogaeth y bydd cleifion sy'n derbyn budd-dal sy'n dibynnu ar brawf modd yn ei chael o dan y contractau newydd. Mae Ffederasiwn yr Optegwyr Offthalmig a Chyflenwi wedi mynegi pryderon hefyd y bydd cleifion sy'n dibynnu ar fudd-dal sy'n dibynnu ar brawf modd mewn sefyllfa waeth o ran cael gwaith hanfodol i gywiro eu golwg ac yn rhybuddio am leihad sylweddol o ran gallu i fynd i weld pobl yn eu cartrefi, ac fe fydd hynny'n gwaethygu'r canlyniadau o ran iechyd llygaid i'r dyfodol. Felly, pa asesiad a wnaethoch chi, Gweinidog, ynghylch effaith y penderfyniad hwn ynglŷn â pholisi gofal llygaid cleifion, o ystyried yr amgylchiadau economaidd presennol yr ydym ni i gyd yn eu profi? Diolch i chi.

Diolch yn fawr iawn. Mae gwerth talebau gwasanaethau offthalmig cyffredinol newydd Cymru yn adlewyrchu gwir gost darparu gwasanaethau a sbectolau drwy gyflwyno ffioedd sydd wedi costio'n briodol. Yr hyn y gwnaethom ni ei sicrhau yw bod y rhai mwyaf anghenus yn parhau i dderbyn y gwasanaeth mwyaf priodol, ac fe fyddwn i'n annog yr Aelod i edrych unwaith eto ar wefan Optometreg Cymru oherwydd mewn gwirionedd, fe wnaethon nhw roi datganiad, a'i dynnu yn ôl wedyn—rwy'n credu i'r datganiad hwnnw gael ei roi ar-lein gan gorff y DU yn hytrach na chorff Cymru, y mae gennym ni berthynas dda iawn ag ef ac rydym ni wedi gweithio drwy'r pethau hyn gydag ef. Rydym ni'n wir ar flaen y gad o ran gwasanaethau offthalmig yn y Deyrnas Unedig, ac yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud pethau mewn ffordd wahanol iawn mewn partneriaeth, ac felly fe gawsom ni ein synnu yn fawr o weld y datganiad a gyhoeddwyd, ond maen nhw wedi tynnu'r datganiad hwnnw'n ei ôl, yn dilyn sgyrsiau.

16:00
Recriwtio a Chadw Staff yn y GIG

9. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella recriwtio a chadw staff yn y GIG? OQ59056

Rŷn ni’n cynyddu nifer y staff drwy amryw o ddulliau recriwtio a denu, gan gynnwys recriwtio rhyngwladol a buddsoddi mwy nag erioed mewn rhaglenni addysg a hyfforddi. Mae gwella lefelau cadw staff yn y gwasanaeth iechyd a gwneud ein gweithlu’n fwy cynaliadwy yn hollbwysig.

Diolch, Weinidog. Wrth ymweld ag ysbytai a llinellau piced yn fy rhanbarth, mae staff wedi rhannu gyda mi, dro ar ôl tro, y straen aruthrol sydd arnyn nhw, a’r ffaith bod nifer o'u cydweithwyr profiadol yn gadael yn wythnosol. Dŷn nhw'n methu dygymod mwyach gyda’r pwysau sydd arnynt, y straen o fethu rhoi’r gofal gorau posibl i bob claf oherwydd maint y galw a’r straen, ynghyd â’r patrwm gwaith o ddydd i ddydd. Fe glywsoch chi a minnau dystiolaeth ddirdynnol mewn digwyddiad yma yn y Senedd gan staff yn ein hadrannau brys yn disgrifio’r profiad bob dydd o fynd i’r gwaith a sut maen nhw'n arwyddo cardiau gadael i staff yn wythnosol.

Dro ar ôl tro, rydych chi'n dweud bod yna fwy o staff yn gweithio i’r gwasanaeth iechyd nag erioed o’r blaen, ond, yn amlwg, ar lawr gwlad, mae’r stori yn un wahanol. Felly, pam fod y gwahaniaeth hwn o ran y profiadau o ddydd i ddydd gan y staff sy'n gweithio ar y rheng flaen yn dweud wrthon ni am gydweithwyr profiadol yn gadael, ond rydych chi'n dweud bod yna fwy a mwy o staff yn y gwasanaeth iechyd nag erioed o'r blaen? Beth sydd yn cael ei wneud i fynd i'r afael efo'r sefyllfa ddirdynnol hon? Oherwydd rydyn ni'n dweud bod yna fwy o staff, ond dydyn ni ddim yn cydnabod faint o arbenigedd sy'n cael ei golli'n wythnosol. A beth ydy'r cynllun i fynd i'r afael â hyn?

Diolch yn fawr iawn. Wel, mae hi'n wir fod gennym ni fwy o staff nag a gyflogwyd erioed o'r blaen yn y GIG yng Nghymru. Yr hyn yr ydych chi'n ymwybodol ohono yw, mewn gwirionedd, na welson ni erioed alwadau fel hyn ar y gwasanaeth, ac os byddwn ni'n onest, ni wnaiff y galw hwnnw ond mynd i un cyfeiriad gan fod gennym ni boblogaeth sy'n heneiddio. Cynyddu a wna'r galw. Felly, rwy'n credu bod rhaid i ni fod yn onest iawn am y straen ar y system ar hyn o bryd, ond mewn gwirionedd, mae angen i ni gael sgwrs go iawn ymysg ein gilydd, a chyda'r cyhoedd hefyd, ynglŷn â goblygiadau hynny i'r dyfodol.

Yr hyn a wnes i oedd datblygu cynllun gweithredu'r gweithlu cenedlaethol, ac rwy'n falch o ddweud y byddaf i'n gorffen erbyn y dyddiad a roddais i mi fy hun, felly fe gaiff hwnnw ei gyhoeddi heddiw. O fewn hynny, fe fydd cyfres gyfan o gamau yr ydym yn bwriadu eu rhoi ar waith i sicrhau y gallwn ni wneud mwy i gadw'r staff sydd gennym ni; ac ystyried sut y gallwn ni recriwtio nyrsys o dramor yn foesegol; ac ystyried sut y gallwn ni ddefnyddio gweithlu wrth gefn yng Nghymru; ac ystyried sut y gallwn ni feithrin a datblygu'r rhwydwaith presennol o wirfoddolwyr; a sut y gallwn ni greu banc cydweithredol i Gymru gyfan er mwyn gwneud yn siŵr y gallwn ni greu mwy o gymorth i osgoi talu am nyrsys asiantaeth sy'n gostus iawn.

Cwestiwn 10, Vikki Howells. Cwestiwn 10, Vikki Howells. 

A, iawn, rydych chi wedi'ch dad-dawelu nawr. Ymlaen â chi, Vikki.

Gwasanaethau Optometreg

10. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella gwasanaethau optometreg yng Nghymru? OQ59030

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i wella gwasanaethau optometreg. Bydd y manteision arfaethedig a gyflwynir gan y telerau gwasanaeth newydd dan gytundeb optometreg yn rhoi fframwaith i'r gwasanaeth sy'n addas i'r dyfodol. Tanategir hyn gan addysg a hyfforddiant parhaus ein gweithlu gofal sylfaenol optometreg.

16:05

Diolch i chi am yr ateb yna, Gweinidog. Yn ddiweddar, ymwelais ag Optegwyr Gwynn yn Aberdâr i ddysgu mwy am ragnodwyr annibynnol a'r cytundeb optometreg newydd. Roeddwn wedi rhyfeddu o glywed am y 70 o ragnodwyr annibynnol a'r gwaith y maen nhw'n gallu ei wneud eisoes o ran trin a rhoi diagnosis o gyflyrau fel glawcoma a dirywiad maciwlaidd, diolch i raglen hyfforddi a ariannir yn llawn gan Lywodraeth Cymru. Rydyn ni'n gwybod bod diwygio'r GIG i leddfu pwysau ar ein hysbytai ni drwy hwyluso darparu gwasanaethau ychwanegol o fewn cymunedau lleol yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, felly a wnewch chi roi diweddariad i ni ar y paratoadau cyn lansiad swyddogol y contract yn yr haf eleni?

Diolch yn fawr. Mae'r maes hwn yn un o'r meysydd yr wyf i'n credu y dylem ni fod yn fwyaf balch ohono oherwydd ein gwaith arloesol iawn ni yng Nghymru. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw defnyddio sgiliau gweithwyr medrus iawn yr oedd y sgiliau cynhenid hynny ganddyn nhw; pobl sydd wedi cael hyfforddiant da iawn yw'r rhain, ond nid oeddem ni'n defnyddio rhai o'u sgiliau nhw. Rydyn ni wedi eu huwchsgilio hyd yn oed ymhellach i sicrhau eu bod nhw'n gallu, fel rydych chi'n dweud, fel yn Optegwyr Gwynn, roi'r rhagnodi annibynnol hwn i'r boblogaeth. Mae hynny'n rhoi cefnogaeth yn y gymuned. Un o'n prif gamau ni yn ein maniffesto oedd sicrhau ei bod hi'n haws cael gafael ar ofal sylfaenol—mae hyn yn rhan o hynny.

Felly, yr hyn a wyddom ni yw y bydd y galw am wasanaethau offthalmig yn cynyddu yn sylweddol dros yr 20 mlynedd nesaf. Mae hyn yn mynd yn ôl at ein poblogaeth sy'n heneiddio. Ni all neb ohonom ni osgoi hyn; fe fydd yn rhaid i ni wynebu hyn ac fe fydd yn rhaid i ni drafod hyn. Fe fydd yn rhaid i ni ddeall y bydd y galwadau ar y gwasanaeth yn cynyddu yn aruthrol, ac mae angen i ni gael sgwrs ynglŷn â hynny. Ond, yr hyn yr wyf i'n falch o'i ddweud yw, yn dilyn trafodaethau'r contract optometreg, y ceir modelau gwasanaeth newydd a chostau cysylltiedig a gytunwyd ar gyfer gweithredu'r telerau gwasanaeth newydd a gafodd eu cytuno ar gyfer optometreg, a fydd yn cael eu cynyddu nawr dros y tair blynedd nesaf. Fe fydd rhai agweddau ar y diwygiad hwn yn gofyn am newidiadau i reoliadau cyn y gallan nhw ddod i rym, felly fe fydd hi'n rhaid gwneud rhywfaint o newidiadau bychain ar gyfer gwneud rhywfaint o hyn yn bosibl yn gyfreithiol, ond rydyn ni'n gwneud hynny, ac rydyn ni'n gobeithio sicrhau y bydd hynny'n bosibl, fel gall Optegwyr Gwynn a rhai eraill ein helpu ni hyd yn oed yn fwy yn y dyfodol.

5. Cwestiynau Amserol
6. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Adroddiad interim y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Felly, eitem 6 sydd nesaf, sef y datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar adroddiad interim y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Dwi'n galw ar Weinidog y Cyfansoddiad i wneud y datganiad—Mick Antoniw.

Diolch, Llywydd. Ddeunaw mis yn ôl, fe wnaethom ni sefydlu'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Gofynnon ni i'r comisiwn ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio trefn gyfansoddiadol y Deyrnas Unedig yn sylfaenol ond gyda Chymru yn dal i fod yn rhan annatod ohoni. Gofynnon ni hefyd iddyn nhw ystyried a datblygu pob opsiwn blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a gwneud pethau'n well i bobl Cymru. Tasg y comisiwn oedd llunio adroddiad interim erbyn diwedd y llynedd, gydag adroddiad llawn erbyn diwedd eleni.

Cyn y Nadolig, roeddwn i'n falch o roi gwybod i'r Aelodau bod y comisiwn wedi bodloni'r amcan cyntaf ac wedi cyhoeddi adroddiad interim. Heddiw, hoffwn i groesawu'r adroddiad hwnnw gan ddiolch i ddau gadeirydd y comisiwn, Dr Rowan Williams a'r Athro Laura McAllister, a holl aelodau'r comisiwn am eu gwaith ar yr adroddiad. Mae'r adroddiad interim yn un sylweddol. Mae'n ddogfen awdurdodol gyda thystiolaeth dda. Roedd proses wych o drafod ac ymgynghori gyda'r cyhoedd. Efo gwaith y comisiwn yn parhau, mae e wedi dod i gasgliad pwysig: nid yw'r statws cwo bellach yn sail sefydlog i'r dyfodol.

Llywydd, mae'r comisiwn yn bwrw ymlaen â'i waith mewn cyfnod o densiynau cynyddol yn strwythurau cyfansoddiadol ehangach y Deyrnas Unedig a phrawf yn cael ei roi ar ein perthynas ryng-lywodraethol ni. Yn y cyd-destun hwnnw, nid yw hi'n syndod o gwbl fod y comisiwn wedi dod i'r farn nad yw'r sefyllfa gyfredol na datod datganoli yn ddewisiadau hyfyw i roi unrhyw ystyriaeth bellach iddyn nhw. Nid yw hi'n syndod chwaith fod gwaith y comisiwn yn cyfrannu at fomentwm gwirioneddol a chynyddol i alwadau am newidiadau cyfansoddiadol. Mae'r aelodau yn ymwybodol o'r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan gomisiwn Gordon Brown ar ddyfodol y DU, a wnaeth gyfres o gynigion radical ar gyfer diwygiadau cyfansoddiadol, ac sy'n cyfeirio at waith y comisiwn annibynnol.

Llywydd, rwyf i o'r farn fod newid yn anochel, ac rwy'n credu bod gwaith y comisiwn, ac y bydd eto, yn gyfraniad hanfodol i'r drafodaeth sy'n digwydd eisoes. Yn fy natganiad ysgrifenedig i, roeddwn i'n annog Aelodau, ac yn wir unrhyw un sydd â diddordeb yn ein cyfansoddiad ni, i ystyried yr adroddiad, ac rwy'n gobeithio bod yr Aelodau wedi gwneud hynny.

Ar y pwynt hwnnw, fe hoffwn i dynnu sylw at waith y comisiwn wrth ymgysylltu â'r cyhoedd. O ystyried yr effaith uniongyrchol a gaiff ein trefniadau llywodraethu ni ar fywydau pobl, fe ofynnwyd i'r comisiwn ymgysylltu yn eang â'r gymdeithas ddinesig a'r cyhoedd yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth a meithrin sgwrs genedlaethol wirioneddol. Arweiniodd eu hymgynghoriad cychwynnol nhw at dros 2,000 o ymatebion, ac rwy'n arbennig o ddiolchgar i'r comisiwn am y ffordd arloesol y maen nhw wedi ymgysylltu â chymunedau drwy eu cronfa ymgysylltu â'r gymuned.

Os yw atebion y comisiwn am fod yn ymarferol a bod yn deilwng o gefnogaeth, fe fydd rhaid iddyn nhw fod ar sail profiad bywydau'r rhai y bydd yr atebion hynny yn effeithio ar eu bywydau nhw. Yn wir, mae'r comisiwn wedi datgan eu bwriad, yn ystod cyfnod nesaf eu gwaith nhw, i ymestyn eu sgwrs gyda phobl Cymru. Wrth i'r comisiwn gychwyn ar y cam nesaf hwn, byddwn i'n annog Aelodau o bob plaid yn y Siambr hon i ymgysylltu â'r comisiwn ac annog ymgysylltiad â'u cymunedau nhw i sicrhau y bydd casgliadau'r comisiwn yn wirioneddol adlewyrchu holl bobl Cymru. Diolch, Llywydd.

16:10

Fel yr unig blaid, i bob golwg, sy'n credu yn nyfodol y Deyrnas Unedig gyfan, a lle annatod Cymru ynddi, fy mhleser i yw gallu gofyn rhai cwestiynau am eich datganiad, Gweinidog. Rydyn ni'n ystyried y comisiwn, fel y gwyddoch chi, yn ddiangen. Mae'n ddiangen oherwydd mae'n fater o Gymru ond yn edrych ar un rhan unigol o'r Deyrnas Unedig a heb ystyried yn briodol barn pobl mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, sy'n gamgymeriad mawr yn fy marn i.

Mae'n gomisiwn drud—£1.1 miliwn bob blwyddyn dros dair blynedd. Mae i fod i orffen ei waith ym mis Rhagfyr eleni, ond eto rydych chi eisoes wedi dyrannu ar gyfer cyllidebau yn y dyfodol yn y blynyddoedd ariannol canlynol, hyd yn oed y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol bresennol hon, am ddwy flynedd, £1.1 miliwn arall. Allwch chi egluro i ni pam mae'r comisiwn, hyd yn oed ar ôl cwblhau ei waith, yn dal i fod angen £1.1 miliwn y flwyddyn yn y flwyddyn ariannol 2024-25?

Rydw i wedi rhoi cryn sylw i waith y comisiwn; rydw i wedi darllen yr adroddiad. A dweud y gwir, cefais i fy syfrdanu ei fod yn edrych ar yr hyn yr oedd yn ei ystyried yn y system bŵer ganolog yn Lloegr, ond nid oedd yn ystyried o gwbl ganoli pwerau yma yng Nghymru. Nid oedd sôn am unrhyw botensial am ddatganoli i ranbarthau Cymru—fy rhan i o Gymru, gogledd Cymru, sy'n teimlo, er enghraifft, wedi'i datgysylltu cymaint o fywyd yma ym Mae Caerdydd ac, yn arbennig, ym Mharc Cathays, oherwydd anwybodaeth Llywodraeth Cymru tuag at y rhanbarth arbennig hwnnw. A gaf i ofyn, a fyddwch chi'n rhoi rhywfaint o gyfarwyddyd i'r comisiwn i ystyried datganoli o fewn Cymru er mwyn i ni gael dull gweithredu datganoledig priodol tuag at lywodraethu'r wlad hon, yn hytrach na'r dull canolog y mae eich Llywodraeth wedi'i gymryd yn ystod y ddau ddegawd diwethaf?

Yn ogystal â hynny, mae'r adroddiad yn sôn yn gwbl briodol am bwysigrwydd atebolrwydd uniongyrchol mewn democratiaeth. Wrth gwrs, rydyn ni i gyd yn gwybod bod y Blaid Lafur, law yn llaw â Phlaid Cymru, yn ceisio cael gwared ar yr atebolrwydd uniongyrchol hwnnw drwy gyflwyno diwygiadau'r Senedd a fydd yn grymuso pleidiau gwleidyddol dros aelodau'r cyhoedd o ran pwy y gallan nhw ethol yn uniongyrchol i'w cynrychioli yn y Siambr hon. Rwy'n gwybod bod aelodau'r meinciau cefn ar feinciau Llafur yn cytuno â mi yn hynny o beth, oherwydd mae systemau rhestr-gaeedig yn tynnu grym oddi wrth y bobl a'i roi ym mhocedi arweinwyr y pleidiau gwleidyddol. Dyna'r dull gweithredu anghywir, o'n rhan ni, ac rwy'n credu y dylech chi ofyn i'r comisiwn archwilio a rhoi ei farn ar y cynigion ar gyfer diwygio'r Senedd sydd wedi'u cynllunio rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru, oherwydd nid wyf i'n credu, a dweud y gwir, y bydden nhw'n eu gweld nhw'n fuddiol i bobl Cymru

Gwnaethoch chi gyfeirio at gomisiwn Gordon Brown ar ddyfodol y DU—dogfen gan y Blaid Lafur, nid dogfen sydd ag unrhyw fwy o bwysigrwydd y tu hwnt i'r Blaid Lafur na'r pwysigrwydd yr ydych chi'n ei roi iddi, yn ôl pob golwg. Ôl-ystyriaeth oedd Cymru, wrth gwrs, yn y ddogfen honno. Roedd yn sôn yn faith am y sefyllfa yn yr Alban. Roedd yn sôn am ranbarthau Lloegr. Prin y soniwyd am Gymru yn y ddogfen, ac mewn gwirionedd mae'r sôn y cafodd yn anghytuno'n llwyr â barn y Blaid Lafur yma yng Nghymru, a oedd eisiau gweld y system gyfiawnder troseddol yn cael ei datganoli'n llwyr. Wrth gwrs, roedd Gordon Brown yn anghytuno â chi. Ni wn i pam eich bod chi'n ei gymeradwyo nawr yn y Siambr hon ac yn dweud dyna ddarn gwych o waith y mae ef wedi'i wneud, pan, a dweud y gwir, yn amlwg, nad oedd ef wedi rhannu'r darn yna o waith â chi cyn iddo gael ei gyhoeddi. Gwnaeth gyfeiriadau at 'Lywodraeth Cynulliad Cymru' hyd yn oed. Ni wnaeth sôn am 'Lywodraeth Cymru'. Mae 'Llywodraeth Cynulliad Cymru' yn derm y gwnaethon ni ei adael dros 10 mlynedd yn ôl. Mae hyn yn dangos pa mor hen ffasiwn yw Gordon Brown a chymaint y mae wedi colli gafael ar bethau, a dweud y gwir, gyda phobl Cymru a'r bobl yn y Senedd hon, gan gynnwys ei gydweithwyr ei hun yn y Blaid Lafur.

Yna, rydych chi'n sôn am ymgysylltu â'r cyhoedd. Ar fy ngwir—maen nhw wedi cael 2,000 o ymatebion hyd yn hyn sydd wedi cyfrannu, drwy'r holiaduron, at waith y comisiwn. Roedd 55% o'r rheini, mae'n debyg, yn cefnogi annibyniaeth. Nawr, mae'n amlwg nad yw hynny'n adlewyrchu barn pobl Cymru, oherwydd rydyn ni'n cael gwybod yn gyson fod y gefnogaeth i annibyniaeth ymhell o dan 55 y cant, yn rhyfeddol is na hynny. Felly, mae gennyf i ofn bod y comisiwn hwn i'w weld ond yn siarad â'r bobl hynny y mae rhai o'i aelodau eisiau gwrando arnyn nhw. A wnewch chi ddweud wrthym ni sut y byddwch chi'n annog y comisiwn i ymestyn y tu hwnt i'r rhan honno o'r gymdeithas sydd wedi ymgolli ynddyn nhw eu hunain ac yn ôl pob golwg sydd ag obsesiwn ag ailwampio cyfansoddiadol yma yng Nghymru fel y gallwn ni sicrhau bod yna farn gynrychioliadol iawn yn cael ei rhoi iddo o farn pobl ar draws y wlad hon?

Ac yn olaf, rwyf i eisiau dweud wrthoch chi, Gweinidog, fy mod i'n credu ei bod hi'n bryd i ni fuddsoddi'r adnoddau sy'n mynd i'r comisiwn hwn yn ein GIG, yn ein hysgolion ac yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Rydych chi'n dal i honni nad oes gennych chi arian i fuddsoddi mewn rhai o'r pethau hyn, rydych chi'n dal i honni nad oes gennych chi i allu i'w roi ym mhocedi ein nyrsys a gweithwyr eraill y sector cyhoeddus. Dyma rywfaint o arian. Os yw'n llosgi twll yn eich poced, gwariwch e' ar bethau eraill.

16:15

Wel, hoffwn i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad, ac roedd yn debyg iawn i'r cyfraniad y gwnaeth ryw 18 mis, ddwy flynedd yn ôl. Nid yw wedi newid o gwbl. Mae'n ymddangos i mi nad ydych chi wedi sylweddoli bod y ddadl wedi symud ymlaen. Rydyn ni wedi cael y ddadl dros rinweddau'r comisiwn a'i bwrpas, a'r hyn yr ydyn ni'n ei gael nawr yw comisiwn sydd wir yn ymgysylltu â phobl am ei waith. Byddwn ni wedi gobeithio y byddai cyfraniad ychydig yn fwy adeiladol i'r gwaith. Rwy'n deall eich bod chi'n anghytuno â'r comisiwn ac nad oeddech chi eisiau'i weld yn cael ei sefydlu. Nid ydych chi'n credu bod diben ei waith yn bwysig. Ond nid dyna farn mwyafrif y Senedd hon.

A gaf i ond dweud, yn gyntaf, o ran eich sylwadau cychwynnol o ran y DU gyfan, mae'r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru a Phlaid Lafur Cymru wedi'i gwneud hi'n gwbl glir beth yw safbwynt Llafur Cymru? Sef ei fod o blaid yr undeb. Mae'n credu bod Cymru ar ei hennill yn yr undeb, mewn undeb lewyrchus, ond mae'n credu bod dirfawr angen diwygio'r undeb. Mae'r diwygiad hwnnw, yn eironig, yn cael cryn gydnabyddiaeth— yr angen am y diwygiad hwnnw—ar draws y pleidiau gwleidyddol yn San Steffan, a, pan ydych chi'n sôn am ailwampio cyfansoddiadol, wel, os mai ailwampio yw hwn, y cyfan sydd angen i ni edrych arno yw'r pentwr ar ôl pentwr o ddeddfwriaeth sy'n mynd drwy San Steffan sy'n effeithio ar y lle hwn—Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), sydd i gyd yn ymwneud â diwygio cyfansoddiadol; Bil Protocol Gogledd Iwerddon, sydd, eto, yn y bôn, yn ymwneud â diwygio; yr awgrym nawr eu bod yn mynd i atgyfodi'r bil hawliau, sydd, eto, yn ddiwygiad cyfansoddiadol; Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig, sy'n ymwneud â thanseilio datganoli a diwygio cyfansoddiadol; mae gan hyd yn oed y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf) oblygiadau cyfansoddiadol sylweddol.

Mae'r cyfansoddiad yn bwysig i fywydau pobl oherwydd ei fod yn ymwneud â sut mae pŵer yn cael ei arfer, a sut mae'n cael ei ddosbarthu a'r math o lywodraethiant sydd gennym ni, ac os nad ydych chi'n cydnabod bod yna ddibyn gwirioneddol i'n democratiaeth o ran cred pobl mewn systemau democrataidd, yna rwy'n credu eich bod chi'n methu hyd yn oed y rhai yr ydych chi'n eu cynrychioli o ran yr angen am newid. Rwy'n credu bod angen y comisiwn, oherwydd rwy'n credu bod yn rhaid i Gymru fod â llais yn y broses hon. Mae'n rhaid craffu ar, archwilio'r materion sy'n bwysig i Gymru, ac mae'n rhaid i ni allu mynegi'r rheini ein hunain, a dyna yw pwrpas gwaith y comisiwn. 

Rwy'n deall y pwyntiau yr ydych chi'n eu gwneud ac mae gennych chi berffaith hawl i wneud y pwyntiau penodol hynny; a dweud y gwir, gobeithio eich bod chi wedi'u gwneud nhw i'r comisiwn, oherwydd rwy'n deall eich bod chi wedi mynychu'r comisiwn i roi tystiolaeth. Rwy'n deall o'r comisiwn y gwnaethon nhw yn wreiddiol ofyn am gyfarfod ag arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies, ac wedi cael eu cyfeirio at Mark Isherwood i ddechrau ond ers hynny maen nhw wedi cwrdd â chi. Ond yn yr un modd felly, mae Simon Hart, fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi rhoi tystiolaeth i'r comisiwn, ac mae Gweinidog Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, Neil O'Brien, hefyd wedi'i rhoi. Felly, rwy'n credu ei bod yn gydnabyddiaeth bwysig, ar ôl yr ormodiaith, fy mod i'n credu bod yna bobl ar ochr y Ceidwadwyr sy'n cymryd y comisiwn o ddifrif ac sy'n ymgysylltu ag ef, oherwydd, os nad oedden nhw'n credu ei fod yn ddigwyddiad pwysig, os ydyn nhw'n cytuno ag ef ai peidio, nid ydw i'n credu y bydden nhw wedi eisiau cymryd rhan ynddo. 

Dim ond i ddweud bod y comisiwn, wrth gwrs, yn annibynnol. Cafodd ei gylch gorchwyl ei drafod yn dda yn y Siambr hon. Nid ein lle ni, ar ôl sefydlu comisiwn annibynnol, yw cyfarwyddo'r comisiwn hwnnw a dweud wrtho yr hyn y mae i fod i'w wneud. Ond, ar ôl darllen yr adroddiad ac wedi cael cyfarfod gyda'r comisiwn, mae'r gwaith sydd nawr yn mynd rhagddo wedi creu argraff arnaf i, sy'n ymgysylltu'n ddifrifol a manwl iawn. Fe wnaeth yr adroddiad interim argraff fawr arnaf i, oherwydd pwysigrwydd yr adroddiad interim, yn wahanol i'r sefyllfa yn aml gydag adroddiadau interim, yw nad yw'n dweud, 'Adroddiad interim yw hwn a dyma'r casgliadau yr ydyn ni'n mynd i ddod atyn nhw maes o law.' Yn y bôn, mae wedi nodi'r amrywiaeth barn sydd yno ac mae'n mynd ati i wir ymgysylltu â phobl, ac rwy'n credu bod ymgysylltu â phobl yn bwysig. Rwy'n credu'n eich bod chi, yn ddwfn yn eich calon, ar ôl i chi wneud y datganiadau cyhoeddusrwydd yr oeddech chi eisiau eu gwneud, eich bod chi, yn ddwfn iawn, wir yn credu ym mhwysigrwydd y comisiwn hwn a phwysigrwydd wir ymgysylltu ag ef, hyd yn oed os nad ydych chi'n credu y dylai fod yma. 

16:20

Rwy'n cytuno gyda chi, Cwnsler Cyffredinol, fod bodolaeth a gwaith y comisiwn yn adlewyrchu, dwi'n credu, y bwrlwm newydd sydd yng Nghymru o gwmpas ein sgwrs genedlaethol o ran ein dyfodol cyfansoddiadol ni, ac mae hefyd yn cyfrannu tuag at y momentwm hwnnw. Ac mae hynny i'w weld mewn amrediad o ffyrdd ac yn adlewyrchu amrediad o farn, hwyrach. Un enghraifft dros y penwythnos diwethaf—fel dwi eisoes wedi cyfeirio ato fe yn gynharach y prynhawn yma, mi oeddwn i yn uwchgynhadledd y Felin Drafod ar annibyniaeth; 200 o bobl yn cynrychioli pleidiau gwahanol, gwahanol rannau o gymdeithas ar draws Cymru, yn trafod annibyniaeth ac yn cyhoeddi, fel rhan o'r gynhadledd, eu hastudiaeth newydd nhw ar y cwestiwn cyllidol mor belled ag y mae annibyniaeth yn y cwestiwn, sef un o'r cwestiynau mae'r adroddiad interim a'r comisiwn yn codi yng nghyd-destun asesu hyfywedd annibyniaeth, a'r astudiaeth honno yn ymateb i gyflwyniad Plaid Cymru i'r comisiwn, a gwaith yn benodol yr Athro John Doyle o Dublin City University, a oedd yn dangos bod modd i Gymru fforddio annibyniaeth, doedd yna ddim cymaint o fwlch cyllidol ag y rhagdybiwyd cyn hynny, a gwaith y Felin Drafod yn cadarnhau hynny ac yn gwneud gwaith pellach ar sail hynny. 

Felly, mae yna fwrlwm sifig, mae yna egni o gwmpas cwestiwn dyfodol cyfansoddiadol Cymru nawr, sydd yn ymdebygu, rwy'n credu, i'r cyfnod cyn y refferendwm yn 1997. Ac mae e'n ddiwedd un cyfnod a dechrau cyfnod newydd, a'r sgwrs rydyn ni'n ei chael, wrth gwrs, yw: beth yw'r cyfnod newydd, beth yw'r bennod newydd, ac i ba gyfeiriad? Dwi'n credu fod e'n gyfle i ni adfywhau ein democratiaeth ni wrth i ni wynebu, wrth gwrs, y creisis cyfansoddiadol, y creisis democrataidd ehangach ar draws y Deyrnas Gyfunol. Mae'r adroddiad interim yn cynnig tri opsiwn posib i'w harchwilio ymhellach ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru: diogelu a chryfhau datganoli yn gyntaf, ffederaliaeth yn ail, a, wedi hynny, annibyniaeth. Mae'n glir, wrth gwrs, pa un o'r opsiynau mae fy mhlaid i yn ffafrio, ond a gaf i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol ddweud pa un o'r tri mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi fel yr opsiwn gorau nawr? Ac yn y cyd-destun hwnnw, oes yna wahaniaeth rhwng safbwynt Llywodraeth Lafur Cymru, Llafur Cymru fel plaid, fel rhan o'r Blaid Lafur Brydeinig yng Nghymru, a pholisi y Blaid Lafur Brydeinig? Neu oes yna ddisgwyl y bydd polisi Llywodraeth Lafur Cymru, Llywodraeth Lafur, yn penderfynu polisi y Blaid Lafur yn gyffredinol? A beth yw cyd-berthynas—? Roeddech chi wedi sôn am gomisiwn Gordon Brown a'i argymhellion e i arweinyddiaeth y Blaid Lafur Brydeinig. Beth yw'r cyd-berthynas rhwng y broses honno o wneud polisi ar raddfa Brydeinig o ran y Blaid Lafur a gwaith y comisiwn? Yn achos yr Alban, yn y confensiwn cyfansoddiadol yna, oedd wedi cael cymaint o ddylanwad ar y broses datganoli yn yr Alban, mi oedd canlyniad y confensiwn, yr adroddiad terfynol, wedi cael effaith uniongyrchol ar bolisi y Blaid Lafur, oedd wedi cael ei fabwysiadu fel polisi. Ai dyna'r math o gyd-berthynas dŷch chi'n ei rhagweld gydag adroddiad terfynol y comisiwn yma, fod hwnnw wedi hynny yn cael ei barchu gan arweinyddiaeth y Blaid Lafur ar y lefel Brydeinig? Ac a ydych chi yn annog hynny fel y ffordd ymlaen, gan wrth gwrs gyfeirio at y ffaith doedd adroddiad y comisiwn ddim yn dweud llawer am Gymru ac yn cyfeirio at y ffaith bod gwaith y comisiwn cyfansoddiadol yn dal yn mynd ymlaen?

Mae'r comisiwn cyfansoddiadol yn nodi nifer o feysydd lle mae yna alwadau wedi bod am ddatganoli. Dŷn ni wedi clywed cyfeiriad tuag at gyfiawnder a phlismona, er enghraifft, ond mae e'n rhestru rhai eraill: cyflogaeth, lle mae gwaith yn mynd rhagddi gan y TUC; gweinyddu lles; darlledu; Ystad y Goron; rheilffyrdd ac yn y blaen. Ydych chi yn bwriadu, fel rhan o'ch cyflwyniad i'r cyfnod nesaf, rhestru y meysydd hynny, fel Llywodraeth nawr, rŷch chi am weld Llywodraeth San Steffan nesaf yn datganoli i Gymru? Ac ydych chi, fel Llywodraeth sydd wedi dweud eich bod chi'n arddel hawl hunanbenderfyniad, am gynnwys yn y rhestr honno yr hawl i alw refferendwm ar annibyniaeth neu ar ddyfodol cyfansoddiadol, i ba bynnag gyfeiriad, fod yr hawl hwnnw ddim yn gadwedig yn San Steffan ond hefyd yn dod fan hyn, lle y dylai fe fod, wrth gwrs, yn nwylo cynrychiolwyr etholedig pobl Cymru?

16:25

Diolch yn fawr i'r Aelod am y cwestiynau manwl iawn hynny—nifer fawr o gwestiynau. Gwnaf i fy ngorau i geisio eu hateb. Efallai y gaf i roi rhagair iddyn nhw drwy—. Wrth gwrs, rydw i wir eisiau aros i weld beth yw canlyniad adroddiad y comisiwn annibynnol. Yn ein pleidiau gwleidyddol priodol, yn ein cymunedau, yn ein sefydliadau, wrth gwrs mae gennym ni i gyd farn. Rydyn ni i gyd wedi bod ar y daith ddatganoli hon ers blynyddoedd lawer mewn gwahanol ffyrdd. Roeddwn i'n ymwneud cryn dipyn â refferendwm datganoli 1979, yr un nad oes neb i'w weld yn sôn amdano, ac roedd canlyniad hynny'n dorcalonnus. Roedd yn—. Ac roeddem ni'n meddwl efallai na fyddem ni byth yn cael refferendwm arall neu efallai na fyddem ni byth yn cyflawni sefydlu'r Senedd, y Cynulliad bryd hynny. Felly, rydyn ni wedi dod yn bell iawn. Ac mae'n deg dweud rwy'n credu, o fewn pob plaid wleidyddol, hyd yn oed o fewn Plaid Cymru, o fewn Llafur Cymru, o fewn Llafur y DU, fod yna amrywiaeth eang o safbwyntiau gwahanol o ran egwyddorion datganoli, datganoli grym, sut y dylai ddigwydd a beth y dylai'r strwythur fod, yn union fel mae yna wahaniaethau o ran sut y dylai'r DU edrych yn y dyfodol. Yr hyn y gallaf i ei ddweud yw, ers i mi ddod i Gymru yn 1973, mae yna hyder yng Nghymru, mae yna drawsnewidiad yng Nghymru, hyder yn yr hunaniaeth, yn yr iaith, yn lle Cymru yn y DU ac yn y byd, mae hynny wedi tyfu y tu hwnt i unrhyw beth, rwy'n credu, ni chafodd hynny erioed ei ddychmygu nôl yn yr amseroedd penodol hynny. Mae llawer o hynny yn ymwneud a'r hyn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd.

Cyn belled â'r mater o—. Hynny yw, rwy'n deall y safbwynt sydd gennych chi o ran annibyniaeth. I mi, y prif fater bob tro yw mater sybsidiaredd. Mae gan bob gwlad ac economi rywfaint o gyd-ddibyniaeth; dyna un o swyddogaethau'r Undeb Ewropeaidd. Ac, mewn sawl ffordd, pan fyddwch chi'n dechrau tynnu'r derminoleg allan o dermau, mae cryn dipyn o dir cyffredin mewn gwirionedd. Rwy'n credu, ar draws pob plaid wleidyddol mae'n debyg, ein bod ni eisiau gweld penderfyniadau yn cael eu gwneud mor agos at bobl â phosibl. Gwnaeth Darren Millar bwynt dilys iawn, hynny yw, nad yw datganoli yn ymwneud â chreu seneddau yn unig; mae'n ymwneud â grymuso pobl a chymunedau, ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni edrych yn gyfartal felly ar sut y mae datganoli yn digwydd o fewn ein cymunedau ein hunain ac o fewn ein Llywodraeth ein hunain. Beth yw rôl seneddau—rwy'n credu bod cwestiwn difrifol iawn yno i San Steffan, ac yn yr un modd i Holyrood ac i'r lle hwn hefyd. Rwy'n credu mai un o fanteision y comisiwn annibynnol yw fy mod i'n credu y bydd yn dechrau ymdrin â hyn; bydd yn ymgysylltu â phobl am y rheini. A bydd yn rhaid i bob plaid wleidyddol unigol a phobl yn unigol ystyried â pha gasgliadau a pha farn y daw'r adroddiad er mwyn llunio, yn y pen draw, eu barn eu hunain ynglŷn â'r ffordd y maen nhw'n ei gweld yn ffordd ymlaen, nid yn unig yn ymwneud â dyhead, ond o ran sut yr ydych chi'n cyflawni newid yn ymarferol a beth ddylai'r newid hwnnw fod.

Gwnaethoch chi godi'n briodol iawn fater cyllid a materion hyfywedd, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r gwaith a gafodd ei wneud gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru hefyd. Wrth gwrs, mae safbwyntiau pwysig i'w hystyried o ran, o fewn y DU, rhan trethi, rhan lles, ond y materion yn ymwneud ag ailddosbarthu cyfoeth. Mae Barnett, wedi'r cyfan, yn ailddosbarthu. Gall fod yn ffordd annigonol, hen ffasiwn ac aneffeithiol iawn o ailddosbarthu, ond mae ganddo'r rhan benodol honno; dyna un o'r nodweddion cyffredin o ran un o swyddogaethau'r DU.

Yn yr un modd, o ran fy marn i fy hun am hyn, wel, nid ydw i yma mewn gwirionedd i roi fy marn bersonol fy hun. Rydych chi'n ymwybodol iawn o'r gwaith yr oeddwn i'n ymwneud ag ef o ran ffederaliaeth radical ac yn y blaen, o ran beth allai'r dyfodol a'r dewisiadau fod. Ond, rwy'n credu, yr hyn yr ydw i yma i'w wneud yw siarad am bwysigrwydd y comisiwn a sut mae'n rhaid i ni gymryd y gwaith hwnnw o ddifrif a sut mae'n rhaid i ni ymgysylltu ag ef, ac rwy'n credu,sut mae'n rhaid i ni asesu'r gwaith mae'n ei wneud, gwrando ar beth yw ei gasgliadau, i ymgysylltu ag ef, ac yna rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r canlyniad terfynol.

A gaf i ond dweud, o ran y—? Byddwch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, ynglŷn â'r hyn y mae safbwynt Llywodraeth Cymru wedi bod ynghylch dogfennau 'Diwygio'r Undeb'. Mae'r ddwy fersiwn sydd wedi'u cyhoeddi mewn gwirionedd yn nodi'r math o dystiolaeth a roddodd y Prif Weinidog i'r comisiwn, ac fe arhoswn ni i weld beth maen nhw'n ei wneud o hynny.

O ran adroddiad Gordon Brown, a gaf i ddweud beth oeddwn i'n meddwl oedd y ddau beth pwysicaf yn hwnnw? Yn gyntaf, nad oedd unrhyw ddrysau ar gau o ran newid. Dywedodd nad oes unrhyw reswm o gwbl pam na ddylai Cymru gael union yr un pwerau â'r Alban. Mae hefyd yn dweud bod sybsidiaredd yn golygu y dylai penderfyniadau gael eu gwneud mor agos at bobl â phosibl. Ac mae ef hefyd yn amlinellu o fewn hynny, ac yn cydnabod, rwy'n credu, y dibyn democrataidd yr ydyn ni wedi bod yn agosáu ato wrth i fwy a mwy o bobl golli hyder yn y system etholiadol. Ond roedd hefyd, o fewn hynny, ymostyngiad pwysig iawn i'r ffaith bod gennym ni'r comisiwn annibynnol, na fyddai'n briodol iddyn nhw, yn adroddiad Gordon Brown, restru'r holl wahanol bethau yr oedd ef yn credu y dylen nhw benderfynu ar gyfer Cymru, ond yn hytrach y ffaith y dylai fod ymgysylltu adeiladol â'r Senedd a gyda Llywodraeth Cymru ar ôl i'r comisiwn annibynnol gwblhau ei waith. Rwy'n credu mai dyna oedd yr union beth priodol i'w wneud. Byddai wedi bod yn gwbl anghywir i fod wedi dweud yn y bôn, 'Mae beth bynnag y mae'r comisiwn annibynnol yn ei wneud yn amherthnasol gan mai dyma'r pethau sy'n dda i chi.' Rwy'n credu fy mod i wedi dweud droeon na ddylai dyfodol Cymru a rhan Cymru o fewn y Deyrnas Unedig neu ble bynnag gael ei phenderfynu gan gomisiwn mewn man arall y tu hwnt i Gymru. 

O ran y mater hawl i gael refferendwm, rwy'n cefnogi'n gryf y farn sydd wedi cael ei rhoi gan y Prif Weinidog dros y blynyddoedd: y dylai unrhyw blaid sy'n dweud o fewn ei maniffesto ei bod yn bwriadu galw refferendwm a'i bod yna'n cael ei hethol gael yr hawl i gynnal y refferendwm hwnnw. Diolch.

16:35

Rwy'n croesawu'r ddadl y prynhawn yma. Ni fydd o unrhyw syndod fy mod i, fel Cadeirydd pwyllgor sydd â materion cyfansoddiadol yn rhan greiddiol o'i gylch gwaith, yn cyfrannu heddiw. Fel pwyllgor, nid ydym wedi ystyried yr adroddiad yn fanwl, ond rydym wedi ei drafod yn fyr yr wythnos diwethaf cyn y datganiad heddiw. Fy ffocws y prynhawn yma fydd tynnu sylw at faterion o fewn yr adroddiad interim sy'n debygol o fod o ddiddordeb i fy mhwyllgor yn y misoedd nesaf. 

Rwy'n nodi casgliad y comisiwn bod,

'problemau mawr gyda’r ffordd mae Cymru yn cael ei llywodraethu ar hyn o bryd',

a'i fod wedi nodi 10 elfen sy'n creu pwysau uniongyrchol ar y setliad presennol. Nawr, mae'n ddiddorol bod y rhain yn ymwneud yn bennaf â'r

'berthynas rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru'—

barn sy'n wir yn cyd-fynd â rhai o'n sylwadau ni fel pwyllgor yn ystod ein craffu ar memoranda cydsyniad deddfwriaethol. Felly, mae i'w groesawu, yng ngham nesaf gwaith y comisiwn, bydd yn archwilio sut y mae modd ymdrin â'r pwysau hyn, a byddwn ni'n gwylio hynny â diddordeb.

Mewn gwirionedd, un o'r 10 elfen sy'n creu pwysau yw breuder y cysylltiadau rhyng-lywodraethol hyn. Felly, rwy'n croesawu bwriad y comisiwn i gymryd tystiolaeth ynglŷn ag a oedd y peirianwaith newydd, a gafodd ei sefydlu ond y llynedd—ac yn wir, rydyn ni'n cofio, ar y pwyllgor, y Cwnsler Cyffredinol yn dod o'n blaenau ni ac roedd yn un o'r achlysuron prin hynny lle gwnaethon ni weld gwenu ac optimistiaeth fod hyn yn ffordd dda ymlaen, ond nid ydyn ni eto wedi gweld sut y bydd yn sefydlu ei hun a pha mor effeithiol y bydd—y byddan nhw'n derbyn tystiolaeth ynghylch a yw'r peirianwaith newydd hwn, a gafodd ei sefydlu y llynedd, wir yn gwella'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Yn wir, Cwnsler Cyffredinol, rydyn ni'n bwriadu hefyd gwneud rhywfaint o waith ar y maes hwn o gysylltiadau rhyng-lywodraethol ein hunain cyn toriad yr haf. Ond fel y gwyddoch chi, mae llawer o'n hamser nawr yn canolbwyntio ar graffu ar waith memoranda cydsyniad deddfwriaethol a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, felly mae ein cyfleoedd i fod yn rhagweithiol yn y maes hwn yn llawer mwy cyfyngedig nag yr hoffen ni ei weld. Yn nes ymlaen eleni, efallai y bydd yn rhaid i ni hefyd ymdopi, wrth gwrs, â chraffu ar offerynnau statudol sy'n deillio o Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio). Felly, rydyn ni'n croesawu'r ffaith bod y comisiwn yn mynd i ystyried hwn.

Rwy'n sylwi hefyd y bydd cam nesaf gwaith y comisiwn yn cynnwys ystyried dewisiadau ar gyfer diwygio strwythurau cyfansoddiadol, ac archwilio gyda phobl Cymru sut y maen nhw'n credu y dylai eu gwlad gael ei llywodraethu yn y dyfodol. Ac yn ddiddorol iawn, mae pwynt Darren yma ar ddatganoli a grymuso pobl, yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r Senedd, yn bwynt sydd wedi'i wneud yn dda. Felly, byddwn ni'n edrych gyda diddordeb ar ba gynigion y gallen nhw eu cyflwyno yn hynny o beth. Felly, gwnaf i edrych ymlaen at ystyried adroddiad terfynol y comisiwn a rhai o'r pwyntiau hyn yn benodol, sy'n fy arwain i at y cwestiynau canlynol, y Cwnsler Cyffredinol.

Yn gyntaf oll, sut mae gwaith y comisiwn hwn, wrth iddo fynd rhagddi, yn cyd-fynd ag agenda polisi cyfansoddiadol Llywodraeth Cymru? Mae'n debyg fy mod i'n gofyn i chi edrych i'r dyfodol ychydig ac awgrymu i ni pa effaith y gallai hyn ei gael wrth lunio eich bwriad polisi, wrth symud ymlaen.

Yn ail, sut gallai gwaith y comisiwn helpu i wireddu gwelliannau yr ydym ni'n gwybod y mae eu hangen ar allu Llywodraeth Cymru i ddeddfu wrth i ni ymgymryd â phwerau ychwanegol, wrth i ni ddatblygu mwy o ddeddfwriaeth, wrth i ni ddeddfu hefyd, neu geisio llywio deddfwriaeth ar ben arall yr M4, felly, mewn gwirionedd, gallwn ni ddibynnu'n llai ar hynny, llai ar San Steffan, a felly bod deddfwriaeth mewn meysydd datganoledig yn bennaf yn cael ei gwneud yng Nghymru, gan y Senedd, ar gyfer y dinasyddion sy'n ein hethol at y diben hwnnw? Ydych chi'n rhagweld mewn gwirionedd y bydd y comisiwn yn ystyried sut y gallwn ni wneud mwy o 'ddeddfu yng Nghymru, ar gyfer Cymru'?

Ac yn drydydd, sut mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar y materion yma? Dyma'r cwestiwn mawr sy'n eistedd o dan hyn, yn enwedig o ystyried pryderon ynghylch cysylltiadau rhyng-lywodraethol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. A Chwnsler Cyffredinol, efallai y gallwn ni ofyn i chi ddyfalu pa mor agored ydych chi'n meddwl y bydd Llywodraeth y DU i chi'n dod ymlaen gan ddweud, 'Mae gennym ni rai syniadau da sydd wedi cael eu cyflwyno; beth yw'ch barn chi? Allwn ni gydweithio ar hyn?'

Fy mhwynt olaf, yn syml, fyddai i mi sylwi yn eich datganiad eich bod chi'n cyfeirio at y ffaith y dylai'r dadansoddiad cyfansoddiadol hwn gael ei atal, ac mae'r comisiwn eu hunain wedi dweud y dylai gael ei atal, ym mywydau'r bobl hynny y mae effaith wedi bod ar eu bywydau. Rwy'n cytuno'n llwyr, oherwydd dyna y dylai gwaith cyfansoddiadol ganolbwyntio arno bob tro: mae'n ymwneud â sut y gallwn ni a'r sefydliadau sydd gennym ni wasanaethu'r etholwyr yn well, yn hytrach na rhyw ddadl ddirgel. Wedi'i wreiddio ym mywydau pobl. Diolch yn fawr iawn.

16:40

Diolch, Huw, am y sylwadau hynny, a hefyd am y gwaith y mae eich pwyllgor wedi'i wneud a'r gwaith y bydd yn ei wneud. Wrth gwrs, mae llawer o ymgysylltiadau cyfansoddiadol yn digwydd rhwng pedair gwlad y DU ar hyn o bryd, gan gynnwys ar fater fframweithiau cyffredin, gyda rhai ohonyn nhw'n cael eu hystyried gan bwyllgorau yn y Senedd hon, a chafodd y fframweithiau hyn, wrth gwrs, eu creu ar sail gydweithredol er mwyn galluogi'r pedair cenedl i gydweithio yn yr amgylchedd ôl-Brexit. Roedd yn anffodus bod Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 wedi dod i'w tanseilio, ond mae'r gwaith fframweithiau cyffredin yn parhau, ac rydyn ni'n gobeithio y bydd hynny'n dechrau cymryd rhyw fath o ragwelediad.

Nid yw'r ffaith bod problemau cyfansoddiadol sylweddol a rhagwelediad yn syndod i ni. Roedd y rhai ohonon ni a wnaeth fynychu'r fforwm rhyng-seneddol, yr wyf yn gwybod eich bod chi'n ei fynychu nawr ac rwyf i wedi'i fynychu o'r blaen, ar sail drawsbleidiol—rwy'n credu mai cadeirydd y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol bryd hynny oedd Syr Bernard Jenkin—rydyn ni'n dweud yn gyson ac yn unfrydol nawr nad yw'r perthnasoedd presennol yn gweithio, bod problemau cyfansoddiadol mawr y mae angen ymdrin â nhw. Felly, nid yw hyn yn rhywbeth o natur bleidiol. Y cwestiwn yw sut ydych chi'n datrys y rheini mewn gwirionedd, a dyna wrth gwrs lle mae safbwyntiau gwahanol yn dod i mewn, ac eto, rwy'n credu mai dyna pam mae gwaith y comisiwn mor bwysig.

Os ydyn ni'n cymryd ein democratiaeth yn y wlad hon o ddifrif os ydyn ni'n cymryd o ddifrif y bygythiadau iddo, yr her iddo, yr heriau o gymryd rhan neu o beidio â chymryd rhan neu sut mae pobl yn gweld y llywodraethu gwleidyddol sydd gennym ni yn y wlad hon, os ydyn ni'n methu ag ymdrin â hynny, rydyn ni wir yn siomi cenedlaethau o bobl y dyfodol yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig. Nid yw'r rheswm fod gennym ni gomisiwn Cymru penodol yn ymwneud  â math o broses genedlaetholgar neu ynysig, ond oherwydd ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n archwilio ein hunain ein rhan ein hunain o fewn hynny, ac yn cydnabod ble mae Cymru'n ffitio o fewn hynny a beth yw'r dewisiadau penodol hynny, mewn amgylchedd sy'n newidiol iawn, yn enwedig ar ôl Brexit.

Rydych chi'n codi nifer o faterion o ran cysylltiadau rhynglywodraethol sy'n bwysig iawn. Yn sicr mae'n wir bod llawer o oedi wedi bod am amrywiaeth eang o resymau, yr ydyn ni i gyd yn gyfarwydd â nhw, o ran y Llywodraeth, yn enwedig yn San Steffan, yn gallu bwrw ymlaen â'i swydd, ac nid ydw i'n credu ein bod ni wedi goresgyn pob un o'r rheini eto. Ond mae cyfarfodydd rhynglywodraethol, rhyngweinidogol yn digwydd ar hyn o bryd. Cyfarfod y Prif Weinidogion a Phrif Weinidog y DU, fe ddigwyddodd hynny ac maen nhw wedi cytuno ar nifer o feysydd gwaith. Mae'r corff o dan hynny, y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol, yn gorff a fydd yn cyfarfod, mewn gwirionedd, yfory, a byddaf i'n cadeirio hynny y tro hwn. Byddwn ni'n ystyried llu o'r rheini, felly byddwn ni'n adolygu cyflwr cysylltiadau a'r materion amrywiol sy'n ymwneud â Sewel, ynghylch cysylltiadau rhynglywodraethol, o ran goblygiadau pethau fel cyfraith yr UE a ddargedwir ac yn y blaen. Rwy'n credu bod yr hysbysiad hwnnw yn amlwg wedi mynd atoch chi, fel Cadeirydd eich pwyllgor, i roi gwybod i chi bod hynny'n digwydd.

Y pwynt y gwnaethoch chi a oedd yn bwysig iawn oedd ei bod yn ymwneud ag archwilio gyda phobl Cymru, ac rydych chi'n hollol gywir. Bydd ansawdd a chryfder y gwaith y mae'r comisiwn annibynnol yn ei wneud yn ddibynnol, i ryw raddau, ar ba raddau y mae'n gallu gwneud yr ymgysylltiad hwnnw. Cefais i fy nghalonogi ychydig gan y ffyrdd arloesol a'r gwahanol gynulliadau a grwpiau ac ati sy'n cael eu sefydlu i gyflawni hynny. Rydyn ni'n gwybod nad yw hi'n hawdd. Ond mae'n bwysig i mi ei bod yn digwydd

Sut fydd Llywodraeth y DU yn ymateb? Wel, mae'n debyg ei bod yn dibynnu ar ba Lywodraeth y DU yr ydyn ni'n sôn amdani. Gyda Llywodraeth bresennol y DU, mae'n anodd cysylltu yn yr ystyr nad yw'r trefniadau o ran prosesau da ar gyfer deddfwriaeth ar waith o hyd. Mae gormod o ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno lle nad oes ymgysylltu â ni. Mae'r Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf) yn enghraifft glasurol: goblygiadau enfawr i ni ac ychydig iawn o ymgysylltu. Mae Bil cyfraith yr UE a ddargedwir—effaith sylweddol arnon ni, ar filoedd o ddarnau o ddeddfwriaeth, safonau, materion amgylcheddol, a materion safonau bwyd a llawer o feysydd eraill hefyd—yn un lle cafodd y byd ei addo i ni o ran ymgysylltu â ni, ond roedd yr ymgysylltu â ni cyn lleied â phosibl Nid oes gennym ni unrhyw arwyddion clir o hyd o ran y maint. Mae gwaith sy'n digwydd rhwng swyddogion, felly mae'n gwella. Ond yr holl faterion y gwnaethon ni eu codi o ran y cymal machlud, o ran pwerau cydamserol, ac yn y blaen, codais i nhw flwyddyn yn ôl, ac nid ydyn nhw wedi cael sylw o hyd. Byddaf i'n pwyso ar y materion penodol hynny. 

Sut bydd Llywodraeth y DU yn ymateb? Wel, rwy'n credu bod yn rhaid i Lywodraeth sy'n cymryd lywodraethiant y DU a'r hegemoni o fewn y DU o ddifrif gymryd y rhain i gyd o ddifrif, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n digwydd. Mae'n amgylchedd anodd, yn amlwg, ond byddwn ni'n parhau i weithio mor gydweithredol ag y gallwn ni, gan nodi'r safbwyntiau sydd gennym ni gan Lywodraeth Cymru o ran cyfeiriad y diwygio, beth yw prosesau seneddol da, sut y dylai democratiaeth weithio'n well, a byddwn ni'n rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn, fel y rwy'n gwybod y bydd eich pwyllgor chi, ar ôl i adroddiad y Comisiwn Annibynnol gael ei gyhoeddi.

16:45

Mae ein hamser ar fin dod i ben gyfer y datganiad hwn. Mae gen i nifer o Aelodau sy'n awyddus i ofyn cwestiynau, felly os gallwn ni gadw cwestiynau ac atebion mor gryno â phosib, yna gallaf glywed gan gynifer o Aelodau â phosibl. 

Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad gan y comisiwn, neu'r hyn rwy'n hoff o'i alw'n gomisiwn annibynnol ar gyfer cydymdeimlwyr annibyniaeth, a barnu yn ôl pwy yw'r comisiynwyr. Dydw i ddim yn meddwl fy mod i erioed wedi darllen dogfen mor rhagfarnllyd yn erbyn Llywodraeth y DU ac yn erbyn undeb y Deyrnas Unedig. Rwy'n credu, Gweinidog, fod pob un ohonom yn cytuno ac yn cydnabod bod angen gwneud rhai newidiadau cyfansoddiadol ledled y Deyrnas Unedig. Rydym wedi edrych ar hynny yn y pwyllgor deddfwriaeth, ac mae angen edrych arno. Ond fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Darren Millar, mae angen gwneud hyn gyda dull gweithredu ledled y DU, gyda phob Llywodraeth ddatganoledig a phob Senedd ddatganoledig yn bwydo i mewn i'r broses honno, oherwydd ni fydd ei wneud ar wahân yn mynd i unman. Felly, rwyf eisiau gwybod pa sgyrsiau rydych chi wedi eu cael gyda llywodraethau eraill ledled y Deyrnas Unedig am gael comisiwn gwirioneddol sy'n edrych ar bopeth yn ei gyfanrwydd, i ddod ag ef at ei gilydd er mwyn i ni gael newid ystyrlon, ac nid comisiwn yn y fan yma sydd dim ond yn cadw pobl yn Plaid Cymru yn hapus yn gwthio naratif annibyniaeth, sy'n mynd i unman, mae gen i ofn. 

Diolch am y sylwadau a'r ffordd y cawsant eu cyflwyno. Rydych chi'n dweud ei fod yn un o'r dogfennau mwyaf rhagfarnllyd hyd yn hyn, ond mae'n adroddiad interim. Doeddwn i ddim yn rhy sicr mewn gwirionedd bod cymaint â hynny ynddo y gallech chi ddarllen mor rhagfarnllyd â hynny, ond mae'n debyg pan ddywedwch chi mai dyma'r ddogfen fwyaf rhagfarnllyd yn erbyn Llywodraeth y DU, mae'n debyg mai'r hyn y gallwch ei ddweud yw ei bod yn adlewyrchiad eithaf cywir o farn boblogaidd gyfredol Llywodraeth y DU. Ond dyna fy sylw hyperbolig allan o'r ffordd. Mae'r comisiwn yn ymgysylltu, a gobeithio y byddwch chi. Rwy'n gwybod bod Darren Millar wedi ymgysylltu, ac yn amlwg mae uwch Weinidogion Llywodraeth y DU wedi ymgysylltu. Felly, mae'n cael ei gymryd o ddifrif. Rwy'n credu mai dyna lle mae Llywodraeth y DU yn cyfrannu. Os yw uwch Weinidogion Llywodraeth y DU yn cymryd rhan gydag ef ac yn rhoi eu tystiolaeth, ac mae hynny'n cael ei ystyried yn briodol fel rhan o'r sylfaen dystiolaeth a'r broses ymgysylltu, yna nid wyf yn credu ei fod yn rhoi ymdeimlad bod llawer iawn o sail i'r beirniadaethau rydych chi'n eu gwneud. 

Yn fwy cyffredinol, rydym wedi bod yn dadlau yn y Siambr hon byth ers i mi fod yma, sef 12 mlynedd erbyn hyn, ond rwy'n gwybod iddo fynd ymlaen ymhell cyn hynny, am gonfensiwn cyfansoddiadol. Rwy'n gwybod, ar sail drawsbleidiol, bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi bod yn dadlau ac yn dweud y dylai fod confensiwn cyfansoddiadol. Mae Llywodraeth y DU yn gyson wedi gwrthod popeth ar hyd y ffordd i fynd i'r cyfeiriad hwnnw i gael confensiwn cyfansoddiadol. Rwy'n credu, rhywbryd, y gallai fod yn rhywbeth sy'n gorfod digwydd. Ac rydych yn hollol gywir, mae angen diwygio'r holl bleidiau sy'n rhan o'r broses. Ond nid wyf yn credu y gallwch feirniadu'r comisiwn hwn am y gwaith y mae'n ei wneud a'r mandad sydd ganddo, oherwydd ei fod yn fandad rydym wedi'i osod yn benodol ar gyfer Cymru ond gyda'r rhyddid llwyr i'r comisiwn hwnnw ddewis ymwneud â phwy y mae'n ei ddewis mewn gwirionedd. O'r hyn y gallaf ei weld, mae wedi gwneud hynny ar sail drawsbleidiol lwyr heb ragfarn. 

Rwy'n croesawu'r adroddiad interim ac yn adleisio rhai, nid pob un, o'r sylwadau yr ydym wedi'u clywed yn y Siambr hon y prynhawn yma. Hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad ar agwedd fach o'r hyn yr ydych wedi'i ddweud y prynhawn yma, Gweinidog.

A allwn wahardd y defnydd o'r geiriau 'blaengar' a 'radical' wrth gyfeirio at gynigion Gordon Brown? Maent bopeth ond radical neu flaengar. Yn syml, nid yw rhoi rheolaeth i ni dros gyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf yn unig yn ddigon da. Ni fydd yn newid yr hyn y mae Dr Rob Jones a'r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru wedi ei alw'n 'the jagged edge'. Dim ond datganoli llawn o'r system gyfiawnder troseddol fydd yn caniatáu inni wneud y newidiadau sylweddol sydd wir eu hangen.

Mae'r cam hwn yn ôl gan Brown a Llafur yn fyd o wahaniaeth rhwng uchelgais datganedig y cytundeb cydweithredu ar gyfer datganoli holl faterion cyfiawnder a phlismona yng Nghymru. Efallai eich bod yn cofio hyn nid yn unig yn dilyn argymhellion comisiwn Thomas a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, ond hefyd ym maniffestos y Blaid Lafur yn 2017 a 2019 yn yr etholiadau cyffredinol. Beth sydd wedi newid? Ydy Gordon Brown yn cymryd Cymru o ddifrif, neu ai ôl-ystyriaeth ydyn ni?

16:50

Diolch am eich sylwadau, Peredur. Mewn gwirionedd, rwy'n credu bod adroddiad Gordon Brown yn flaengar. Mae'n flaengar gan ei fod yn sôn am bwerau ychwanegol yma; mae'n sôn am ddarparu fframwaith cyfansoddiadol i ddiogelu datganoli ac i warchod y broses Sewel; mae'n sôn am egwyddor ddiderfyn fel egwyddor sylfaenol—y dylai pŵer fod mor agos at y bobl â phosibl a dim ond oherwydd graddau'r gyd-ddibyniaeth y mae'n rhaid i ni gael trefniadau llywodraethu democrataidd; a'r ffaith nad oes drysau caeedig. Ymddengys i mi fod hyn yn eithaf blaengar, ac ymddengys i mi ei fod yn eithaf radical. Os ydych yn mabwysiadu'r hyn fyddwn i'n ei alw'n rhyw fath o 'ddull rhestr siopa' i ddatganoli, lle mae gennych restr gyfan o bethau ac rydych yn eu ticio ac yn y blaen, wel, efallai fod yna rai na fyddai'n hapus gyda'r dull hwnnw. Mae'n debyg mai'r hyn fyddwn i'n ei ddweud yw, ar ôl bod yn rhan o'r broses o geisio trefnu a chefnogi datganoli pŵer a datganoli ers dechrau'r 1970au, rwy'n gweld beth sy'n digwydd fel rhywbeth sydd o newid sylweddol os yw'n ein symud ni yn ein blaenau. Efallai nad yw'n ein symud ymlaen mor gyflym ag y byddai rhai yn ei hoffi, efallai nad yw hyd yn oed yn symud mor gyflym ag yr hoffwn, ond rwy'n credu bod y cynigion o fewn y broses yn eithaf sylfaenol, a phe baent yn cael eu rhoi ar waith, rwy'n credu y byddai'n arwain at newid sylweddol o ran y setliad datganoli, a mwy o sefydlogrwydd a chydlyniad datganoli.

Mae'n rhaid i ni symud i ffwrdd o ddatganoli tameidiog, gyda Phlaid Cymru'n credu y gallwn wneud toriadau tameidiog tuag at annibyniaeth, y Ceidwadwyr y gallwn ni ei atal rhag mynd ymhellach, a llawer yn ceisio symud datganoli tuag yn ôl. Un enghraifft yw plismona: wedi ei ddatganoli i'r Alban, Gogledd Iwerddon, Manceinion a Llundain, ond nid i Gymru. Rydym wedi ethol meiri yn uniongyrchol yn Lloegr; a dweud y gwir, mae gan Fryste faer wedi'i ethol yn uniongyrchol, a Gorllewin Lloegr hefyd, gan gynnwys Bryste. Er bod pŵer a chyfrifoldeb yn yr UDA a'r Almaen yn glir—mae'r un peth ym mhob gwladwriaeth neu Länder—ym Mhrydain, mae'n gymhleth. Roeddwn i'n mynd i ddefnyddio'r gair 'anhrefnus', ac rwy'n meddwl bod yn well gen i'r gair hwnnw, yn ôl pob tebyg. Nid yw datganoli anghymesur yn gweithio; edrychwch ar beth ddigwyddodd yn Sbaen, yr unig wlad arall sydd wedi mynd ati gyda datganoli anghymesur—mae ganddi'r union broblemau â ni. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen creu model cydlynol ar gyfer y DU gyfan, fel sydd wedi'i greu yn yr UDA a'r Almaen, a bod angen i ni ei wneud ar fyrder? Ni allwn barhau fel hyn.

Diolch, Mike. Rwy'n sicr yn cytuno gyda'r pwynt olaf hwnnw na allwn barhau fel hyn. Dyna'n union pam rwy'n meddwl ein bod ni wedi bod yn mynd i'r cyfeiriad presennol, yn union pam mae gennym ni'r comisiwn. Rwy'n credu mai un o'r pethau pwysicaf—p'un a ydych yn ei alw'n datganoli, datganoli pwerau, sybsidiaredd neu beth bynnag—yw'r egwyddorion y mae'n seiliedig arnynt, beth yw'r sail, beth yw'r newid rydych am ei wneud a pham rydych chi eisiau gwneud y newidiadau hynny. Os yw'n ymwneud â grymuso pobl a chymunedau a threfniadau llywodraethu gwell, yna mae'n fater o ba newidiadau fydd yn cyflawni hynny mewn gwirionedd.

Dydw i ddim yn anghytuno â chi o ran cyfiawnder a phlismona, ond yr hyn rydw i'n ei wybod yw os nad oes Llywodraeth Lafur yn yr etholiad cyffredinol nesaf, ni fyddwn yn cael y newidiadau y byddem eu heisiau. Ni chawn unrhyw newidiadau ac efallai y byddwn ni hyd yn oed yn gweld y sefyllfa bresennol yn gwrthdroi, a dyna pam, rwy'n credu, o fewn y cyd-destun, bod rhai o'r cynigion sy'n cael eu cyflwyno yn bwysig iawn yn gyfansoddiadol. Maen nhw'n bwysig iawn ar gyfer dyfodol Cymru, ond maen nhw hefyd yn fframwaith lle mae angen cynnal dadl gyfansoddiadol ehangach, sy'n gorfod cynnwys Lloegr a'r Alban a Gogledd Iwerddon hefyd. Rwy'n credu ar ryw adeg yn y dyfodol, bydd confensiwn cyfansoddiadol, oherwydd rwy'n credu mai dyma'r unig ffordd y gallwch roi'r holl nodweddion gwahanol at ei gilydd yn gydlynus. Os yw'r confensiwn cyfansoddiadol hwnnw byth yn digwydd, yr hyn y gallwn ei ddweud yw ein bod wedi chwarae ein rhan yng Nghymru i sicrhau ein bod wedi ymgysylltu â phobl yng Nghymru, a bod ein cyfraniad at hynny yn gynnyrch y sgyrsiau a'r trafodaethau hynny ar ran pobl yng Nghymru.

16:55

Gweinidog, rydw i wedi clywed nifer o ddatganiadau pendant gennych chi heddiw o ran yr adroddiad interim hwn a'r comisiwn, o ran yr hyn y mae'n ei olygu i bobl Cymru. Ond, mewn gwirionedd, rwy'n credu bod y comisiwn hwn wedi'i sefydlu ac mae'r adroddiad wedi'i seilio ar ystod o safbwyntiau wedi'u camystumio, yn anffodus. Rydym yn gwybod bod 55 y cant o'r bobl a ymatebodd i'r arolwg yn cefnogi annibyniaeth, ond o'r arolwg diwethaf ar Ddydd Gŵyl Dewi, dim ond 14 y cant o'r bobl yng Nghymru oedd yn ei gefnogi. Mae'n nifer bach iawn, ond mewn gwirionedd mae'n llai na nifer y bobl sy'n pleidleisio dros Blaid Cymru, felly os na all Plaid hyd yn oed argyhoeddi eu pleidleiswyr eu hunain i gefnogi annibyniaeth, sut ar y ddaear y byddai'n argyhoeddi gweddill Cymru, wnaf i fyth ddeall.

Ond, serch hynny, yr hyn y mae'r ymarfer ymgynghori hwn wedi'i ddangos yw ei fod wedi methu ag ymgysylltu'n iawn â chymunedau ledled Cymru. Gwnaethoch chi ei alw'n sgwrs wirioneddol genedlaethol, ond, mewn gwirionedd, rhagamcaniad yw hi o Gymru a'r Gymru y dymunai'r comisiwn hwn iddi fodoli, yn hytrach na'r Gymru sy'n bodoli mewn gwirionedd heddiw. Mae'n camystumio'r ymarfer ymgynghori cyfan. Dywedoch chi ei fod yn nodi'r amrywiaeth o ran safbwyntiau. Wel, rydym yn gwybod bod yr un nifer o bobl sydd eisiau annibyniaeth yng Nghymru, yn ôl arolygon, hefyd eisiau diddymu'r lle yma yn gyfan gwbl, ac nad yw'n rhywbeth sy'n cael ei ystyried o gwbl gan y comisiwn hwn. Felly, ydych chi'n cytuno â mi, Gweinidog, os na ellir gwneud yr ymgynghoriad hwn mewn ffordd ddibynadwy, na ddylid ei wneud o gwbl?

Yn gyntaf, a gaf i ddweud fy mod i'n meddwl bod eich cynrychiolaeth chi o'r adroddiad interim a'r gwaith hyd at y cam hwnnw, yn wir, yn gamgyflead? Oherwydd yr hyn a wnaed yw cyflwyno cyfres gyfan o sesiynau tystiolaeth. Unwaith eto, rydych chi'n iawn o ran yr ymgynghoriad ar-lein, ac, i fod yn onest, mae hynny'r un peth gyda phob ymgynghoriad ar-lein sy'n digwydd, bod gennych nifer mawr o bobl sydd â safbwynt rhagderfynedig, ac maen nhw wedi bod yn gwbl onest am hynny. Dywedwyd hynny'n syth ymlaen llaw, ond dywedwyd hefyd nad yw hynny'n sail i'r ymgynghoriad, mai holl bwrpas cynhyrchu'r adroddiad interim oedd darparu fframwaith ar opsiynau craidd—ac rydych wedi gweld y tri opsiwn a nodwyd—y maen nhw bellach yn mynd drwy broses ymgysylltu llawer mwy manwl ac ar lawr gwlad. Felly, rwy'n credu ei bod yn annheg beirniadu gweithgarwch ymgysylltu pan fo'r gweithgarwch ymgysylltu hwnnw yn digwydd ar sail yr adroddiad interim mewn gwirionedd.

Rwy'n deall eich safbwynt, ac rwy'n deall, o fewn y Siambr hon, pan fydd safbwyntiau'n cael eu cyflwyno, weithiau maen nhw'n safbwyntiau sy'n cael eu gor-ddweud am resymau gwleidyddol pleidiau ac yn y blaen. Yr hyn rwyf yn ei obeithio yw eich bod chi, yn y bôn, yn cydnabod bod proses ymgysylltu difrifol iawn bellach ar y gweill gyda'r comisiwn, nad yw Llywodraeth Cymru yn cyfarwyddo nac yn rheoli hynny, ei fod yn gomisiwn annibynnol go iawn, ac rydych yn rhydd i sicrhau bod eich barn ar yr holl bwyntiau penodol a ystyrir yn cael eu hateb a'ch bod yn rhoi tystiolaeth. Gobeithio y byddwch yn dilyn esiampl enghreifftiol Darren Millar, cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart, a Gweinidogion Llywodraeth y DU sydd wedi dewis rhoi'r dystiolaeth honno, fel yn wir y deallaf y mae Gordon Brown wedi'i wneud hefyd. Rwy'n credu bod eich barn yr un mor ddilys, ac rwy'n edrych ymlaen nawr at ddarllen y dystiolaeth rydych chi eich hun yn ei chyflwyno o ran eich barn o ran y gwahanol bwyntiau sy'n cael eu gwneud yn yr ymgynghoriad sy'n mynd rhagddi.

Mae Darren Millar a Tom Giffard yn gwneud rhai pwyntiau pwysig am lefel yr ymgysylltu â'r boblogaeth gyfan. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael y sgwrs honno, ond ein bod yn sicrhau bod pob rhan o'r boblogaeth yn rhan o'r broses lle bo hynny'n bosibl.

Mae tri mater y mae'r adroddiad interim yn ei amlygu sydd wir ddim yn gweithio ar hyn o bryd: plismona a chyfiawnder, seilwaith rheilffyrdd, a lles. Rwy'n meddwl bod angen i'r Torïaid dalu pwyll i'r ffaith bod cynifer o bobl yn ein gwlad sydd mewn gwaith llawn amser ac yn ei chael hi'n anodd bwyta a gwresogi. Mae hynny'n dweud wrthych, mae'n rhaid bod rhywbeth o'i le ar ein system les. Rydym eisoes wedi adrodd y problemau gyda'r seilwaith rheilffyrdd yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, felly rydw i am godi'r mater o blismona a chyfiawnder.

Mae diffyg hyder llwyr yn yr heddlu ledled y Deyrnas Unedig. Mae ein gallu i sicrhau bod y diwylliant yn yr heddlu yn briodol ac nid yn fan lle y gall pobl na ddylai fyth fod yn blismyn guddio—. Nid oes gennym y pwerau hynny, ac mae hynny'n bryderus iawn. Ond yn fwy na hynny, mae'r ffordd rydym yn gwastraffu arian o fewn y system cyfiawnder troseddol, ledled y Deyrnas Unedig, yn rhywbeth sy'n hynod anodd inni ei ddatrys oni bai bod gennym y pwerau. Mae gennym berthynas ardderchog ar hyn o bryd â phobl yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, y mae pob un ohonynt yn gweithio gyda'i gilydd ar y glasbrint cyfiawnder menywod hwn, ond gall hynny newid heb i Lywodraeth Cymru allu gwneud unrhyw beth amdano. Os bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu'n sydyn ei bod am fynd i gyfeiriad gwahanol, yna gall yr holl waith da fynd yn wastraff.

Felly, rwyf am ddeall beth yw'r berthynas rhwng y Llywodraeth a chylch gwaith y comisiwn hwn, oherwydd mae'r rhain yn faterion difrifol ac mae angen ymchwilio'n iawn iddynt. Does bron dim byd yn yr adroddiad interim ar fater pwysig plismona a chyfiawnder, yn wir, nac ar y system les a sut y gallem ei redeg yn well, pe bai gennym reolaeth dros ei weinyddu, yn union fel y maent yn y gwledydd eraill—yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Maen nhw'n gallu ei wneud, felly dylen ni allu dangos ein bod ni'n gallu gwario arian yn well a chael canlyniad mwy cyfiawn ohono. Felly, tybed a allwch chi dynnu sylw at hynny i ni.

17:00

Diolch. Roedd cylch gorchwyl y comisiwn yn drefnus ac rydym wedi bod yn eu trafod droeon o fewn y Siambr hon. Cwrddais â'r comisiwn yn ddiweddar, fel y mae'r Prif Weinidog wedi gwneud, ac rwy'n credu ei fod wedi egluro, nawr, y broses o ymgysylltu y mae am ei wneud a rhai o gyfarwyddiadau'r materion y mae am edrych arnynt. Efallai y bydd yn edrych ar y materion hyn—materion ariannol, materion cyfansoddiadol, materion llywodraethu ac yn y blaen. 

Cyfrifoldeb y comisiwn, mewn gwirionedd, yw pennu'r meysydd y mae'n credu sy'n bwysig, lle mae'r dystiolaeth y mae'n dod i'r casgliad a'r sylwadau mae'n eu cael o fewn y fframwaith, lle mae hynny'n ei arwain. Byddwn i'n synnu'n fawr os nad yw'r holl faterion hynny'n rhai sy'n cael eu hystyried, ac yn edrych ar ryw fanylder ac yn cael sylw. Gyda'r math o broses ymgysylltu a geir, mae'n anochel y bydd hynny'n wir. Mewn gwirionedd, rwy'n credu y byddai'n gamgymeriad mawr i gyfeirio a dweud, 'Dyma sy'n rhaid i chi ei wneud, dyma sut mae'n rhaid i chi ei wneud', ac ati. Rwy'n credu bod yn rhaid i chi gael hyder o'r ystod eang o bobl o bob rhan o bleidiau gwleidyddol, gwahanol berswâd a sgiliau'r gwahanol gomisiynwyr ac arbenigwyr sydd yno mai dyna fyddan nhw'n ei wneud.

Mae'r pwyntiau rydych chi'n eu codi o ran lles, plismona, yr argyfwng costau byw, cyfiawnder ac yn y blaen yn gwbl gywir. Es i i Garchar menywod Eastwood Park ym Mryste gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Dywedodd y llywodraethwr yno wrthym fod pob un fenyw yno yn y carchar hwnnw wedi dioddef cam-drin, tlodi, camfanteisio mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Pan aethon ni i garchar Berwyn i fyny yn y gogledd, dim ond y diwrnod o'r blaen, mae 10 y cant o'r carcharorion yn gyn-ymadawyr gofal. Cawsom gyfarfod â'r ymadawyr gofal, y mae llawer ohonynt eu hunain wedi dod yn fentoriaid i ymadawyr gofal sy'n dod i mewn i'r system garchardai. Yn ystod trafodaethau rydym wedi'u cael gyda Phrifysgol Caerdydd ynghylch yr ymchwil a chyhoeddiadau diweddar y maent wedi’u cael, yr awgrym yw mai Cymru sy'n carcharu ei dinasyddion fwyaf ledled Ewrop, ac mae rhywbeth fel dwy ran o dair neu fwy o'r rhai sydd ar brawf neu yn y carchar yn dod o gefndiroedd du neu leiafrifoedd ethnig. Mae'r holl bethau hynny'n dweud wrthych fod yna broblemau difrifol iawn o ran ein system gyfiawnder. Mae edrych ar y rheini, a sut y gellir ei gyflwyno'n well, wrth gwrs, eisoes yn rhan o'n polisi.

Nawr, mae ein barn ar hynny wedi ei chyfrannu i'r comisiwn mewn sesiynau tystiolaeth, fel yr wyf yn siŵr y mae barn pob unigolyn arall sydd â diddordeb yn y comisiwn. Dyna pam rwy'n parhau i ddweud, p'un a ydych yn cytuno ag ef ai peidio—p'un a ydych yn meddwl y dylai fod yn mynd yn ei flaen ai peidio—mae yno ac mae'n bwysig iawn eich bod yn ymgysylltu ag ef, a'n bod ni'n ystyried ac yn ymgysylltu â'r holl faterion hynny sydd mor bwysig i ddyfodol Cymru a phobl Cymru yn y ffordd fwyaf adeiladol. Mewn gwirionedd, mae'n ffordd o ymchwilio i feddylfryd a barn pobl Cymru.

Mae'r pwynt y gwnaethoch chi, Jenny, hefyd yn hollol gywir: yr ansawdd, i ryw raddau, yw graddfa ac ansawdd y dystiolaeth, ond hefyd ansawdd yr ymgysylltu sy'n digwydd. Dyna pam mae'n bwysig, nid a ydym am gytuno neu anghytuno â'r canlyniad, ac nid ydym yn meddwl mai ein safbwyntiau rhagderfynedig fydd y farn rydym am ei chael bob amser a dydyn ni ddim yn mynd i ystyried unrhyw beth arall mor anhyblyg, ac ati—rwy'n siŵr nad yw hynny'n wir. A dyna pam rwy'n credu bod yr hyn sy'n digwydd yn amserol, ond rwy'n credu ei fod hefyd yn sylfaenol bwysig. Dywedodd Aneurin Bevan mai'r broblem, weithiau, yw bod pobl yn gwybod pris popeth ond gwerth dim, ac rwy'n meddwl bod gwerth ein democratiaeth yn uchel iawn, a dyna'r cyfeiriad rydym yn ei gymryd. Diolch. 

17:05

Mae'n amlwg, Cwnsler Cyffredinol, o'r adroddiad interim fod y setliad datganoli presennol yn gamweithredol ac yn gwbl annigonol ar gyfer anghenion pobl Cymru. Yr hyn sy'n amlwg hefyd yw y bydd y comisiwn yn wynebu tasg anodd o berswadio Llywodraeth San Steffan o unrhyw liw bod angen gwneud newidiadau sylfaenol. Darllenais eich cyfweliad gyda'r Law Society Gazette yr wythnos diwethaf a chefais fy synnu mai dim ond pump o'r 78 o argymhellion adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Gyfiawnder yng Nghymru sydd wedi'u derbyn gan San Steffan. Sut ydych chi'n goresgyn yr her wirioneddol bod Cymru'n ôl-ystyriaeth ar y gorau yn Whitehall bob amser? Sut gall y rhai sy'n falch o amddiffynwyr y status quo yno ar y meinciau Ceidwadol a gyda chi, gyda Llafur, yn San Steffan—sut y gallant amddiffyn y status quo, bod yr undeb hwn yn gweithio i bobl Cymru, pan ydym yn un o rannau tlotaf y Deyrnas Unedig, fel y crybwyllwyd gan Jenny Rathbone? Nid yw ein tlodi yn anochel. Mae gennym yr adnoddau, mae gennym y sgiliau. Beth sydd ei angen arnom yw'r chwarae teg, Cwnsler Cyffredinol. Dywedodd y diweddar Tom Nairn fod y wladwriaeth Brydeinig

'wedi mynd i ffordd bengaead hanesyddol heb ffordd amlwg allan'.

Wel, mae gan y comisiwn hwn gyfle i'n harwain tuag at ffordd allan. Fodd bynnag, rwy'n credu ei bod yn addas iawn mai un o gyd-gadeiryddion y comisiwn hwn yw cyn-Archesgob Caergaint, oherwydd bydd angen yr holl gefnogaeth yn y byd a thu hwnt i berswadio unrhyw Lywodraeth San Steffan bod angen newid go iawn. Diolch yn fawr.

Wel, diolch am y sylw olaf hwnnw. Os oes modd troi dŵr yn win, yna rwy'n eithaf sicr y gellir troi comisiynau yn ddiwygiad cyfansoddiadol. Gwrandewch, mae'r pwynt rydych chi'n ei wneud yn un dilys, onid yw? Mae cydnabyddiaeth—ac rwy'n gobeithio bod tir cyffredin bod cydnabyddiaeth nad yw ein strwythurau cyfansoddiadol, y status quo, yn dderbyniol, nid yn ymarferol, ac mae angen gwneud newidiau. Dyna pam mae angen i bawb wneud cyfraniad ar beth ddylai'r newid hwn fod yn eu barn nhw. 

Fodd bynnag, pryd mae datganoli wedi bod yn hawdd? Pryd mae diwygiad cyfansoddiadol, pryd mae newid, wedi bod yn hawdd? Does ond rhaid i ni edrych drwy hanes i weld y camau sydd wedi eu cymryd a'r hyn sydd wedi digwydd. Yn Lloegr, bu'n rhaid cael rhyfel cartref i gael rhywfaint o ddiwygiad cyfansoddiadol sylfaenol; wel, does dim angen i ni fynd mor bell â hynny, ond mae'n gydnabyddiaeth o'r ffaith bod angen, nad yw pethau'n gweithio ac mae'n rhaid i ni eu gwella. Rwy'n gwerthfawrogi'r sylwadau a'r cyfraniad rydych wedi'u gwneud i hyn yn fawr, ond mae hon yn ddadl bwysig ac mae'n ddadl barhaus.

Diolch yn fawr, ac rwyf hefyd yn croesawu'r datganiad heddiw. Yn gynharach y mis hwn, siaradais ag aelodaeth fy Mhlaid Lafur yn Islwyn ynglŷn â gwaith y comisiwn a'r adroddiad interim, a'm synnwyr o'r cyfarfod hwnnw a thrafodaethau ehangach yw bod llawer i'w wneud o hyd yn gyfan gwbl i gyfleu gwaith y comisiwn annibynnol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Gan fod pobl yn naturiol yn ceisio cael dau ben llinyn ynghyd yn yr argyfwng costau byw a'r pandemig, nid oes llawer o le i lawer o ran deall manylion diwygiad cyfansoddiadol damcaniaethol. Fodd bynnag, mae hyn yn effeithio ar bob un ohonom ledled Cymru, a byth yn fwy o effaith ar ddinasyddion Cymru gyda'i gasgliad terfynol—ni allwn danbrisio pwysigrwydd hynny. 

Nodais fod dryswch rhwng gwaith y comisiwn annibynnol a thrafodaeth dda Llywodraeth Cymru ar ddiwygio'r Senedd, a nawr adroddiadau Gordon Brown. Nodaf fod 2,000 o ymatebion wedi bod, sy'n ddechrau iach, ond mae Cymru sydd â phoblogaeth o dair miliwn yn mynnu'r cwestiwn: sut mae sicrhau bod hon yn sgwrs leol a chenedlaethol ystyrlon? Rwy'n gwybod bod y Llywydd yn edrych arnaf.

Dywedoch chi fod y comisiwn wedi nodi mai ei fwriad, yn y cyfnod nesaf yn ei waith, yw ymestyn y sgwrs honno i bobl Cymru, ac mae hynny i'w groesawu, ond mae'n rhaid i hynny fod yn sgwrs wirioneddol a phwysig sy'n ymestyn ledled Cymru a ledled ein cymoedd. Felly, Cwnsler Cyffredinol, sut y bydd hyn yn dod i'r amlwg mewn gwirionedd, gan fod angen mwy o gyfathrebu, ar gyfer yr ymgysylltiad y mae pob un ohonom ei eisiau ac y mae Cymru'n ei haeddu?

Diolch, Rhianon, am y sylwadau hynny. Mae'r comisiwn wedi nodi rhaglen o ymgysylltu llawer mwy trylwyr, o ymgynghori llawer mwy trylwyr, a sefydlu grwpiau o fewn cymunedau y bydd yn ymgysylltu â nhw, ac rwy'n gwybod mai dyna un o'r pwyntiau a godais, ymhlith pwyntiau eraill a godwyd pan gwrddon ni â'r comisiwn—'Sut ydych chi'n mynd i fynd ati?' Roedd yn amlwg bod llawer o waith a llawer o feddwl yn cael ei wneud am y peth. Ac mae pob un ohonom yn gwybod o'n hymgysylltiad ein hunain â'n cymunedau nad yw'n broses hawdd. Mae pobl sydd wedi'u hymddieithrio rhag cymdeithas ddinesig yn y ffordd honno yn anodd ymgysylltu â nhw—maen nhw wedi rhoi'r gorau iddi am reswm penodol—ond rwy'n hyderus eu bod yn mynd i'r afael â hi'n glir, ac y byddant yn gwneud rhai pethau gwahanol iawn, iawn a ffyrdd gwahanol o'i wneud. 

O ran ein trafodaethau, mae hyn yn her i bob un ohonom, onid yw? Sut mae troi'r dadleuon hyn, sy'n ymwneud â sut y gall pobl ddylanwadu ar faterion, dylanwadu ar y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau, yn fwy na thrafodaethau technegol? Wel, edrychwch, mae wedi digwydd—. Nid oes ond rhaid i ni edrych drwy hanes. Mae wedi digwydd o'r blaen. Y Siartwyr—beth oedd hynny? Roedd hynny'n ymwneud â diwygiad cyfansoddiadol; nid oedd yn ymwneud â bron dim arall heblaw diwygiad cyfansoddiadol. Mae sefydlu democratiaeth yn ymwneud â diwygio cyfansoddiadol. Bu Keir Hardie, ar y Pwyllgor Cynrychiolaeth Llafur cyn sefydlu'r Blaid Lafur, yn sôn am reol gartref, pethau cyfansoddiadol, oherwydd eu bod yn cydnabod y pwysigrwydd o ran nodi lle'r oedd pŵer a sut y gallech ei arfer a'i ddemocrateiddio. 

Felly, dyna yw craidd y ddadl rydym yn ei chael a'r ddadl y mae'n rhaid i ni gael, yn fy marn i, ac rwy'n meddwl y bydd yn sail i lawer o'r trafodaethau ar y mater pwysig iawn hwn. Rwy'n falch ein bod ni wedi gallu cael yr awr hon. Rwy'n ddiolchgar am haelioni'r Llywydd am ganiatáu i'r ddadl hon ddigwydd fel hyn, ond dim ond dechrau'r gwaith hwnnw yw hwn mewn gwirionedd, rwy'n credu.

17:10

Rwy'n ddigon hael hyd yn oed i alw Alun Davies. [Chwerthin.]  

Dyna ni. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi, Llywydd, ac felly hefyd y Siambr. [Chwerthin.] Rheolaeth gartref, wrth gwrs, oedd un o egwyddorion sefydlu'r Blaid Lafur fodern, a bydd y bobl hynny sydd heb ddarllen 'In Place of Fear' yn dilyn chwiliad Aneurin Bevan am ddemocratiaeth a phŵer o borthdy'r glowyr yng nglofa Pochin, drwy gyngor tref Tredegar a Chyngor Sir Fynwy hyd at Balas San Steffan. A phŵer yw'r hyn y mae sosialaeth amdano, a'r defnydd o bŵer a rheoli pŵer democrataidd, sef yr hyn nad yw Waldorf a Statler yn ei hoffi am y ddadl hon mewn gwirionedd, oherwydd mae hyn yn ymwneud â democrateiddio pŵer gwleidyddol. Yr hyn rydw i am ei weld gan y comisiwn hwn, Cwnsler Cyffredinol, yw sefydlu cydnabyddiaeth bod democratiaeth seneddol yn gyfartal yn y fan yma â'r hyn sy'n bodoli yn San Steffan. 

Rwyf wedi darllen drwy statudau San Steffan ym 1931, ac mae'n ddigon posibl y byddai hynny'n darparu bloc adeiladu ar gyfer sofraniaeth gyffredin democratiaeth seneddol ledled yr ynysoedd hyn, oherwydd  hyd nes y byddwn yn colli'r cysyniad o ddemocratiaeth seneddol sy'n byw yn San Steffan a San Steffan yn unig, ni fyddwn byth yn gallu diogelu'r pwerau y mae pobl Cymru am gael eu cynnal yma. Felly, mae angen i ni allu gwneud hynny. 

A'r pwynt arall y byddaf yn ei wneud, os bydd y Llywydd yn caniatáu i mi wneud hynny, yw democrateiddio arian. Yn rhy aml, mae penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan Drysorlys y DU yn cael eu gwneud er budd Llundain a de-ddwyrain Lloegr, ac un man lle roedd Liz Truss yn gwbl gywir oedd bod uniongrededd y Trysorlys wedi methu'r Deyrnas Unedig. Mae uniongrededd y Trysorlys wedi methu Cymru. Mae uniongrededd y Trysorlys wedi amharu ar y Deyrnas Unedig, a'r hyn yr hoffwn ei weld yw model sy'n seiliedig, efallai, hyd yn oed ar fodel Awstralia, lle mae gennych ddyraniad annibynnol o arian ac ailddosbarthu cyfoeth ar draws yr ynysoedd hyn er mwyn sicrhau bod pob rhan o'r ynysoedd hyn yn cael budd o'r cyfoeth a grëwyd yn yr ynysoedd hyn. 

Diolch am hynny, ac eto, rwy'n ddiolchgar i'r Llywydd am ei haelioni, neu a ddylwn i ddweud gormodiaith? [Chwerthin.] Mae'r pwynt rydych yn ei wneud am sofraniaeth yn un pwysig, ac rwyf wedi bod yn dweud ar bob cyfle a gaf fod y cysyniad o sofraniaeth San Steffan wedi diflannu gryn amser yn ôl. Efallai nad yw'n cael ei gydnabod yn llwyr ac efallai na fydd ein strwythur cyfansoddiadol wedi dal i fyny â hi, ond lle mae gennych bedair Senedd sy'n ethol ac sydd â phwerau deddfu sylfaenol, gyda mandadau gan y bobl y cawsant eu hethol, yna ni all fod unrhyw beth heblaw sofraniaeth a rennir. A methiant ein system gyfansoddiadol yw addasu i hynny sydd wedi arwain at y trafferthion rydym yn eu hwynebu'n barhaus bob dydd, yn fy marn i, ac un o'r rhesymau pam fod yn rhaid diwygio. O ran democrateiddio cyllid, atebolrwydd y Trysorlys, rwy'n cytuno eu bod yn gwbl sylfaenol, a dweud y gwir. Mae dadl HS2 yn enghraifft berffaith o hynny. Ni ddylai allu digwydd mewn ardal lle mae darlun clir o'r confensiynau a'r pwerau a'r cyfrifoldebau. Felly, y tu hwnt i hynny, rwy'n credu fy mod yn cytuno â'r rhan fwyaf o'r pwyntiau eraill a wnaethoch hefyd.

17:15
7. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynllunio’r Gymraeg mewn Addysg

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar gynllunio'r Gymraeg mewn addysg, ac rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Jeremy Miles.

Diolch, Llywydd, ac mae'n bleser gen i fod yma heddiw i ddiweddaru Aelodau ar ein gwaith cynllunio'r Gymraeg mewn addysg.

Ers fy natganiad diwethaf, rwy'n falch o ddweud bod holl gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg 10 mlynedd awdurdodau lleol wedi cael eu cymeradwyo, eu cyhoeddi ac yn weithredol. Nid yn unig hynny, rwyf wedi derbyn 22 o gynlluniau gweithredu sydd yn manylu sut y bydd awdurdodau lleol yn gweithredu'r CSCAs yn ystod y pum mlynedd cyntaf. Hoffwn ddiolch i bawb ar lefel awdurdod lleol a rhanddeiliaid am eu cefnogaeth barhaus a'u cyfraniad i’r agenda hwn. Mae'n dangos i mi ymrwymiad a dealltwriaeth go iawn o'r angen i barhau i symud ymlaen, gyda'n gilydd, gyda gweledigaeth glir.

A gweithredu ar eu hymrwymiadau yw'r union beth maen nhw'n bwriadu ei wneud. Dyma’r neges glir gan arweinwyr y cyngor a chyfarwyddwr addysg yn ystod ein cyfarfodydd i drafod y CSCAs y tymor diwethaf. Rŷn ni i gyd yn gwybod nad yw addysg a chynllunio iaith yn hawdd, yn enwedig gan fod man cychwyn pob awdurdod lleol yn wahanol. Mae angen inni barhau, felly, i weithio gyda'n gilydd i wneud yn siŵr bod y penderfyniadau rydyn ni'n eu gwneud a'r camau rydyn ni'n eu cymryd yn dod â ni'n agosach at ein huchelgais 'Cymraeg 2050' o filiwn o siaradwyr Cymraeg. O'm rhan i, rwyf am wneud yn siŵr bod canllawiau a gyhoeddir i awdurdodau lleol yn adlewyrchu ein hymrwymiadau 'Cymraeg 2050'. Mae canllawiau newydd eisoes wedi'u cyhoeddi ynglŷn â grantiau cyfalaf cymunedau dysgu cynaliadwy a'r CSCA, fel bod cynlluniau buddsoddi'n cael eu hasesu yn erbyn y CSCA, i sicrhau’r gallu i gyrraedd targedau'r CSCA. Rŷn ni hefyd yn bwriadu adolygu'r cod trefniadaeth ysgolion, gyda gwaith eisoes ar y gweill i adnabod pa newidiadau sydd eu hangen.

Roeddwn i'n falch o allu dyrannu £7 miliwn arall o gyllid cyfalaf yn ystod tymor yr hydref i gefnogi ymrwymiadau CSCA awdurdodau lleol. Mae hyn ar ben yr £105 miliwn a gymeradwywyd ers 2018. Mae'r £6.6 miliwn i ehangu darpariaeth drochi hwyr ledled Cymru yn ystod tymor y Senedd hon yn ennill momentwm, gyda phob cais gan awdurdodau lleol yn weithredol ers mis Medi. Bydd yr arian yn galluogi awdurdodau lleol i gyflogi dros 60 o arbenigwyr trochi hwyr dros y blynyddoedd nesaf. Er enghraifft, ym Mro Morgannwg, maen nhw wedi gallu agor eu canolfan drochi gyntaf yn Ysgol Gwaun y Nant trwy'r grant hwn. Rŷn ni hefyd yn cefnogi rhaglen drochi rithiol yng Ngwynedd, gan ddefnyddio technoleg VR, adnodd fydd o fudd i Gymru gyfan.

Lansiwyd ein rhwydwaith i gefnogi addysg drochi ym mis Rhagfyr y llynedd i ddod ag awdurdodau lleol, ysgolion ac arbenigwyr trochi hwyr at ei gilydd i sicrhau bod datblygiadau mewn arferion trochi hwyr yn seiliedig ar wybodaeth ac ymchwil. Rwy'n falch iawn o'r hyn rŷn ni wedi'i gyflawni yn y maes hwn. Mae ein darpariaeth drochi hwyr ni yn unigryw i ni yng Nghymru, ac mae'r potensial i ni fynd hyd yn oed ymhellach yn glir i'w weld.

Allwn ni ddim, fodd bynnag, anwybyddu canlyniadau'r cyfrifiad ar y Gymraeg, a gyhoeddwyd ar 6 Rhagfyr. Roedd y ffigurau ynglŷn â phlant tair i 15 oed yn siomedig, gan ein bod yn gwybod bod mwy o ddysgwyr mewn addysg Gymraeg heddiw nag oedd 10 mlynedd yn ôl—dros 11,000 yn fwy. Fe wnes i sôn yn fy natganiad ar ganlyniadau'r cyfrifiad ar y Gymraeg ar 24 Ionawr, fod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gwbl ymroddedig i'n nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu'r nifer ohonom sy'n defnyddio'r Gymraeg bob dydd erbyn 2050.

Mae cynnal gwell dealltwriaeth o'r data yn rhan allweddol o gynllunio’r Gymraeg mewn addysg. Darparwyd proffil data Cymraeg lleol i awdurdodau lleol wrth baratoi eu CSCA, fydd yn cael ei ddiweddaru'n flynyddol. Byddaf hefyd yn cyhoeddi trosolwg cenedlaethol yn seiliedig ar adroddiadau adolygu’r CSCA.

Ers cyhoeddi ein cynllun gweithlu addysg 10 mlynedd ym mis Mai 2022, rŷn ni hefyd wedi bod yn gweithio gyda rhai awdurdodau lleol i ddatblygu dull cyson o ddadansoddi data sy'n cael ei gasglu gan ysgolion ac awdurdodau lleol. Bydd hyn yn galluogi dealltwriaeth fanylach o’r nifer o athrawon ychwanegol sydd eu hangen i gyflawni cynlluniau awdurdodau lleol i gynyddu nifer y dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg, a bydd hefyd yn galluogi rhanddeiliaid i dargedu ein cefnogaeth yn well i gefnogi pob ymarferwr i ddatblygu ei sgiliau Cymraeg.

Rŷn ni am sicrhau bod pob dysgwr ym mhob ysgol yn cael y cyfle gorau i fod yn siaradwr Cymraeg hyderus. Rŷn ni wedi ymrwymo i sefydlu a gweithredu continwwm o ddysgu Cymraeg fel bod gan ddysgwyr, athrawon, rhieni a chyflogwyr ddealltwriaeth gyffredin o'r daith i ddysgu'r Gymraeg a'r canlyniadau ieithyddol disgwyliedig ar bob cam o'r daith honno. Rhan hanfodol o'r gwaith hwn fydd sicrhau bod y continwwm yn gallu cael ei ddefnyddio o fewn y system addysg statudol i gefnogi Cwricwlwm i Gymru yn ogystal ag wrth ddysgu ôl-16 a dysgu oedolion. Rŷn ni wedi bod yn archwilio gyda rhanddeiliaid cyfleoedd i ddefnyddio’r fframwaith cyfeirio Ewropeaidd cyffredin o ran lefelau iaith, neu the common European framework of reference for languages, CEFR, fel y'i gelwir, fel sail i ddatblygu continwwm Cymraeg. Bydd gwreiddio'r continwwm yn cymryd amser, ond rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod y cyfle i ddysgu Cymraeg ar gael i bawb.

Byddwn ni'n parhau i weithio ar draws pob ysgol a lleoliad i sicrhau bod y ffordd rŷn ni'n dysgu Cymraeg yn arloesol ac yn cael ei chefnogi gan ddysgu proffesiynol ac adnoddau. Mae'n rhaid inni ailffocysu ein hymdrechion yn y sector cyfrwng Saesneg. Rwy'n ymfalchïo yn y gwaith caled sy'n digwydd mewn ysgolion ac rwy'n gwybod bod awydd a brwdfrydedd ymhlith athrawon Cymru i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael trwy’r cwricwlwm newydd. Rŷn ni eisoes wedi cyhoeddi'r fframwaith ar gyfer y Gymraeg mewn addysg cyfrwng Saesneg, a’r gwersi Cymraeg am ddim trwy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddysgwr 16 i 25 a hefyd y gweithlu addysg, sy’n enghraifft wych o'r cydweithio sy’n digwydd gyda’n partneriaid.

Ers mis Medi, rŷn ni wedi ariannu'r ganolfan a chwmni Say Something in Welsh i ddatblygu ap i atgyfnerthu sgiliau Cymraeg dysgwyr a datblygu eu hyder. Mae gan ddatblygiadau fel hyn y potensial i gynyddu'r defnydd o’r Gymraeg ym mhob un o'n hysgolion. Rŷn ni'n bwriadu cyflwyno'r peilot hwn i 10 ysgol Saesneg arall, ac mae'r cynllunio ar gyfer hynny'n dechrau nawr. Byddwn ni hefyd yn datblygu mwy o adnoddau i sicrhau bod ein dysgwyr Cymraeg yn cael cefnogaeth cryf i ddod yn siaradwyr hyderus, balch. Wrth gwrs, nid yw’r un dull yn gweddu i bawb, a rhaid inni barhau i ddod o hyd i gyfres o ymyraethau gwahanol i gefnogi pob dysgwr, lle bynnag y maen nhw ar eu taith iaith.

Mae'r rhain i gyd yn gamau bach ond arwyddocaol, ac mae angen i ni eu dathlu. Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac rwy'n hyderus y gallwn ni gyflawni mewn partneriaeth.

17:20

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am roi golwg ymlaen llaw i mi o'r datganiad y prynhawn yma.

Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod bod yn rhaid inni ddatblygu strategaeth bolisi integredig er mwyn cyflawni 'Cymraeg 2050' a fydd yn gweld Llywodraeth Cymru'n cydweithio ag awdurdodau lleol, a vice versa, nid mewn seilos ar wahân. Er nad oes gen i wrthwynebiad i'r hyn y mae'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn gobeithio ei gyflawni, mae gen i bryderon o ran sut mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gweithio i ddarparu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. Bydd y Gweinidog yn cofio i mi godi pryderon ynghylch ei anallu presennol i graffu ar awdurdodau lleol a gweithrediad eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. 

Fel y dywedais yn y Siambr hon o'r blaen, os yw 'Cymraeg 2050' am gael ei gyflawni, yna mae'n rhaid i bob lluniwr polisi yma neu yn neuaddau sir ledled Cymru fod yn atebol am gyflawni ar gyfer y Gymraeg. Yn bwysig iawn, mae yna rôl y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ei chwarae i sicrhau bod pob awdurdod lleol yn gwireddu'r cynllun strategol maent wedi'i addo. Fodd bynnag, yn ymarferol, nid yw hyn yn wir.

Fel sydd wedi ei sefydlu, mae Cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg yn ddull gan Lywodraeth Cymru o sicrhau bod pob un o'r 22 o awdurdodau lleol yn gwneud penderfyniadau er budd amcanion a thargedau Llywodraeth Cymru ei hun, yn yr achos hwn, 'Cymraeg 2050'. Mae awdurdodau lleol yn cyflwyno eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg i Lywodraeth Cymru, sy'n penderfynu os ydyn nhw'n foddhaol neu beidio. Pan y'u hystyrir yn foddhaol, mae'r awdurdod lleol yna'n gweithredu'r cynllun hwnnw. Ond pe bydden nhw'n methu â darparu'r cynllun, yna nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw allu i ymyrryd a chyfeirio'r awdurdod hwnnw i'r cyfeiriad cywir. Oherwydd hyn, pa obeithion sydd gan Lywodraeth Cymru o gyflawni 'Cymraeg 2050' os ystyrir y cynlluniau hyn, weithiau, yn ymarfer ticio bocsys gan awdurdodau lleol, heb unrhyw rwymedigaeth i gyflawni arnynt?

Rwy'n gwerthfawrogi, Gweinidog, eich bod yn bwriadu cyflwyno Deddf Iaith Gymraeg a'ch bod yn cael trafodaethau gweithredol gyda Phlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithredu, ond nid yw'r berthynas bresennol rhwng Llywodraeth Cymru, ei pholisïau na'i hawdurdodau lleol yn cynhyrchu'r canlyniadau rydyn ni i gyd eisiau eu gweld. Tra bod awdurdodau lleol yn cynnig Cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, does dim modd i Lywodraeth Cymru sicrhau bod taith y cynllun hwnnw'n cael ei chwblhau.

Wrth bennu targedau fel 'Cymraeg 2050' a pholisïau fel y Cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, mae'n rhaid i ni sicrhau bod awdurdodau lleol, colegau addysg bellach, dysgu yn y blynyddoedd cynnar a sefydliadau'r trydydd sector i gyd yn ffitio ar lwybr cyfan o gefnogaeth ac ymgynghori. Yn rhannol, mae hyn eisoes yn cael ei wneud rhywfaint. Mae'r Coleg Cymraeg eisoes yn gweithio ar sicrhau bod darpariaeth addysg bellach ac addysg uwch yn cael ei darparu drwy gyfrwng y Gymraeg o fewn sectorau penodol a sectorau sydd wedi eu targedu. Ond nid yw hyn yn cael ei nodi mewn Cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg awdurdodau lleol oherwydd bod y Coleg Cymraeg ond yn goruchwylio'r ddarpariaeth ôl-16 gyfan. O ganlyniad i hyn, a fydd y Gweinidog yn ailasesu fframwaith y cynlluniau hyn i sicrhau ei fod yn crisialu holl ddarpariaeth Gymraeg gyfan y 22 o awdurdodau lleol, gan gynnwys pob sector o addysg?

Weinidog, mae'n ymddangos fy mod yn ailadrodd hyn ymhob datganiad ynghylch y Gymraeg. Rwy'n rhannu eich uchelgais ar gyfer ein hiaith. Rwyf am ei gweld yn ffynnu ymhob lleoliad ledled Cymru, boed hynny yn yr ystafell ddosbarth, ar hyd y stryd fawr, neu wrth ddesg y swyddfa. Ond, i wneud hyn, mae'n rhaid inni ddod â phawb ar y daith gyffredin hon, a gallwn wneud hynny drwy ddatblygu polisïau sy'n gweld bod pob lefel o lywodraeth, y trydydd sector ac addysg yn gweithio fel un. Mae angen inni sicrhau bod polisïau Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu hyn. Diolch.

17:25

Wel, rwy'n cytuno bod yr Aelod yn ailadrodd hyn. Mae e jest yn naratif diog ac ystrydebol, a does dim unrhyw dystiolaeth yn cefnogi'r hyn mae e wedi ei ddweud heddiw o ran perfformiad awdurdodau lleol. Mae gennym ni gynlluniau strategol newydd ers mis Medi yn unig, a does dim unrhyw frawddeg o dystiolaeth bod awdurdodau lleol yn syrthio tu ôl o ran eu dyletswyddau. Mae fy mhrofiad i o drafod hyn gydag arweinwyr yn un calonogol mor belled. Dwi wedi dweud sawl gwaith, mewn ateb i'r hyn mae'r Aelod wedi ei ddweud yn y gorffennol, fy mod i'n mynnu bod cynghorau yn ateb yr hyn maen nhw'n addo ei wneud yn y cynlluniau, a byddwn ni'n gwneud popeth y gallwn ni i sicrhau bod hynny'n digwydd. Ond rwyf hefyd wedi dweud, yn y sgyrsiau rwyf wedi eu cael gyda'r cynghorau, un-wrth-un gydag arweinwyr, fod ymrwymiad arweinwyr yn glir i'r cynlluniau, ac felly mae hynny i'w groesawu ac mae'n rhywbeth calonogol.

O ran craffu, mae'r Aelod jest yn anghywir yn hyn o beth. Mae gennym ni system graffu ar gyfer cynlluniau strategol. Gwnes i ddweud yn fy natganiad bod cynlluniau pum mlynedd eisoes wedi'u cyhoeddi sy'n dangos y cynnydd maen nhw'n bwriadu ei wneud dros y pum mlynedd nesaf. Bydd monitro blynyddol yn digwydd. Mae fframwaith monitro wedi'i ddatblygu sy'n adeiladu ar y fframwaith asesu. Mae gyda ni reoliadau yn 2019 sydd yn ei wneud e'n ofynnol i awdurdodau adrodd ar eu cynnydd yn flynyddol. Bydd y dogfennau hynny yn rai cyhoeddus. Gwnes i ddweud yn fy natganiad fy mod i'n bwriadu cyhoeddi trosolwg o'r cynnydd yn erbyn y cynlluniau. Felly, mae'r naratif hon—does dim unrhyw sail iddi. Mae gennym ni gynllun, mae gennym ni strategaeth, mae gennym ni gynlluniau gweithredu. Rŷn ni'n gweithio drwyddyn nhw. Mae gofynion ar yr awdurdodau lleol. Ein swyddogaeth ni fel Llywodraeth yw sicrhau eu bod nhw'n cadw’r hyn maen nhw'n addo ei wneud mewn golwg ac yn delifro ar hynny. Ac os ydy'r Aelod yn moyn edrych gyda ni ar ffyrdd o gryfhau pwerau Llywodraeth Cymru i wneud hynny drwy ddeddfwriaeth, byddwn i'n croesawu ei gefnogaeth e i'r Bil.

Diolch, Weinidog, am y diweddariad heddiw, ac am gael gweld y datganiad ymlaen llaw. Dwi'n croesawu'n benodol fod y Gweinidog yn nodi ymrwymiad i sicrhau bod pob dysgwr ym mhob ysgol yn cael y cyfle gorau i fod yn siaradwr Cymraeg hyderus. Mae hon yn egwyddor bwysig, ac yn mynd â ni'n bellach na'r ymrwymiad sydd yn strategaeth 'Cymraeg 2050', sy'n dweud mai nod y Llywodraeth yw sicrhau bod o leiaf 70 y cant o'r holl ddysgwyr yn datblygu eu sgiliau Cymraeg a'u bod yn gallu defnyddio'r iaith yn hyderus ym mhob agwedd o'u bywydau erbyn iddynt adael yr ysgol. Dwi'n sicr yn croesawu'r newid hwn ac o'r farn os ydym ni o ddifrif o ran sicrhau bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, yna mae'n rhaid i bob dysgwr gael cefnogaeth i ddysgu'r iaith ym mhob ysgol yng Nghymru.

Mae hwn yn newid arwyddocaol, a'r hyn yr hoffwn ofyn, Weinidog, ydy: sut mae'r egwyddor hon yn cael ei chefnogi gan y CSCAau? Wedi'r cyfan, dengys tystiolaeth o Wlad y Basg mai trochi, a derbyn addysg drwy gyfrwng Basgeg, heb os yw'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod dysgwyr yn dod yn siaradwyr Basgeg hyderus. Os nad ydych yn cefnogi'r egwyddor hon, pa fethodoleg fyddech chi'n ei hargymell ar gyfer sicrhau bod pob disgybl yng Nghymru yn datblygu sgiliau dwyieithog hyderus?

Rydych chi'n cyfeirio yn eich datganiad at y camau sydd wedi eu cymryd i gefnogi addysg drochi, a heb os, mae hyn i'w groesawu. Rydyn ni i gyd wedi gweld pethau anhygoel ar y newyddion o bobl yn dod yn hollol, hollol rugl mewn dim o beth. Ond mewn nifer helaeth o achosion, os nad ym mhob achos, bwriad addysg drochi yw cefnogi dysgwyr sydd eisiau mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, a prin yw'r cyfleon i ddysgwyr mewn ysgolion eraill fanteisio ar gynlluniau o'r fath. Gwyddom fod trochi'n gweithio—rydyn ni wedi gweld hynny. Rydych chi a mi wedi cyfarfod pobl sydd wedi bod drwy'r system. Felly, gyda'r ymrwymiad i sicrhau bod pob dysgwr yn mynd i gael y cyfle gorau i fod yn siaradwr Cymraeg hyderus, pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i ehangu cyfleon trochi a chynyddu'r defnydd o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ysgol? Onid dyma'r unig ffordd i sicrhau ein bod yn cyrraedd y nod?

Yn amlwg, un peth sy’n rhwystr o ran hyn oll ydy'r gweithlu—rydych chi'n cyfeirio at hynny yn y datganiad—ac yn benodol nad oes gennym ddigon o athrawon gyda'r Gymraeg i ddiwallu anghenion y CSCAau fel y maen nhw. Gyda nifer o athrawon ar streic yfory, a nifer yn dweud wrthym eu bod yn gadael y proffesiwn neu'n ystyried gwneud, pa mor bryderus ydych chi nad oes gennym y gweithlu yn ei le o ran cyrraedd y nodau presennol, yn benodol o ran dysgu Cymraeg, dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, a hefyd o ran anghenion dysgu ychwanegol?

Dwi'n croesawu'r cyfeiriad at y cytundeb cydweithio yn eich datganiad hefyd, ac yn benodol o ran y gwersi Cymraeg am ddim i ddysgwyr 16 i 25 oed, a hefyd yn y gweithlu addysg. Gaf i ofyn faint o bobl sydd wedi manteisio ar y gwersi hyn ers i'r cynlluniau gael eu lansio? Ydych chi'n gweld bod pobl yn manteisio a bod ganddynt yr amser i wneud hynny?

Yn olaf, fel y soniwyd, un o'r heriau sydd wedi bod efo'r CSCAau ydy o ran yr atebolrwydd hwnnw. Dwi'n derbyn y pwynt eich bod chi wedi cael ymrwymiad, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr, gan arweinwyr ym mhob awdurdod lleol. Yn amlwg, mi fuodd yna dipyn o drafod rhyngoch chi a'r awdurdodau o ran y CSCAau, efo nifer yn gorfod ailedrych arnyn nhw. Ond, o ran y cwestiwn o ran atebolrwydd, mi ydyn ni yn y gorffennol wedi gweld rhai awdurdodau lleol ddim yn cyrraedd y nodau maen nhw wedi'u gosod, a ddim wastad yn cynnig eglurhad o ran hynny. Felly, er fy mod yn croesawu bod yna ymrwymiad eu bod nhw'n mynd i wneud yn well, efallai, yn yr awdurdodau hynny, sut ydyn ni'n mynd i sicrhau yr atebolrwydd hwnnw? Ac felly pa mor bwysig fydd sicrhau bod Bil addysg y Gymraeg yn cryfhau gallu'r Llywodraeth i sicrhau bod cynlluniau addysg yn cael eu gweithredu mewn ffordd fydd yn cefnogi'r uchelgais o weld pob plentyn yn dod yn siaradwr hyderus?

17:30

Diolch i'r Aelod am y croeso mae hi'n ei roi i'r datganiad. Rwy'n cytuno â sawl pwynt mae hi wedi'u gwneud yn ei chwestiwn. O ran y buddsoddiad mewn trochi, mae gennym ni gynlluniau uchelgeisiol yn hynny o beth. Mae gennym ni gyllideb o jest o dan £7 miliwn ar gyfer y cyfnod rhwng nawr a diwedd tymor y Senedd hon i fuddsoddi mewn trochi hwyr. Beth sydd yn grêt—. Gwnes i roi enghraifft yn y datganiad o ysgol newydd ym Mro Morgannwg sydd wedi sefydlu uned drochi hwyr. Mae pob awdurdod mewn man gwahanol ar hyd y llwybr o ran trochi wrth gwrs, ond mae pob un wedi dangos diddordeb mewn ehangu darpariaeth ledled Cymru, felly rwy'n credu bod hynny yn galonogol iawn. Ac mae'r gyllideb ar gael dros amryw o flynyddoedd, felly mae cyfle i ehangu hynny hyd yn oed ymhellach. Rwy'n credu gwnes i sôn, efallai wythnos diwethaf, ces i fy nghyfweld gan ddisgybl chwe blwydd oed oedd wedi bod mewn canolfan drochi ers mis Medi. Roedd hi'n dod Loegr, o dras Mecsicanaidd—o Fecsico roedd y teulu'n dod—a gwnaeth hi fy nghyfweld i yn Gymraeg. Roedd yr holl beth yn drawiadol, a dweud y gwir. Felly, mae buddsoddi mewn trochi yn bwysig iawn. Ond, fel rŷch chi'n dweud, pwrpas hynny yn y pen draw yw sicrhau mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg, ar y cyfan.

Felly, y nod arall yw sicrhau bod pobl yn gallu gadael addysg o unrhyw gyfrwng yng Nghymru yn siaradwyr hyderus. Mae hwnna'n uchelgeisiol iawn, ond mae'r cysyniad hwnnw'n bwysig fel ffordd o uno'r system addysg at ei gilydd, rwy'n credu, ein bod ni ddim yn cael y gwahaniaeth hwnnw o ran medru'r Gymraeg rhwng y system cyfrwng Cymraeg a'r system Saesneg. Ac mae'r heriau, wrth gwrs, yn wahanol yn y cyd-destun hwnnw. Mae lot mwy gennym ni i'w wneud yn hyn o beth. Rydyn ni wedi cyhoeddi'r fframwaith eisoes, ond mae angen adnoddau a hyfforddiant i gyd-fynd â hynny i sicrhau'r ddarpariaeth. Ac mae'n gynllun uchelgeisiol a thymor hir. Dyw hwn ddim yn rhywbeth sy'n gallu digwydd dros nos, ond yn sicr rwy'n credu bod hwn yn un o'r canfyddiadau o ganlyniadau'r cyfrifiad, fod angen ffocysu ar ddarpariaeth mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Mae gennym ni gynllun ar gyfer 23 ysgol newydd cyfrwng Cymraeg a symud 25 ar hyd y continwwm tuag at gategori 3, ond bydd gennym ni am ddegawdau niferoedd mawr iawn o ysgolion cyfrwng Saesneg, a allwn ni ddim bod mewn sefyllfa lle mae plant yn gadael cyfrwng Saesneg a ddim yn hyderus yn y Gymraeg. Felly, mae'n rhaid inni sicrhau pwyslais yn hynny o beth hefyd.

Mae hi'n iawn i ddweud bod y gweithlu'n her. Rwyf wedi bod yn glir iawn am hynny. Mae gennym ni gynllun 10 mlynedd, sy'n cyd-fynd â 10 mlynedd y CSCAau, ond mae angen cynnydd bob blwyddyn, nid jest cynnydd dros y tymor hir. Felly, dwi wedi bod yn dweud ein bod ni'n ymarferol iawn yn hynny o beth. Mae amryw o bethau, amryw o gamau yn y cynllun hwnnw. Y pethau sydd yn gweithio, gwnawn ni fwy ohonyn nhw; y pethau sydd ddim yn gweithio, gwnawn ni stopio eu gwneud nhw. Felly, tasg hollol ymarferol yw hwn i gynyddu'r rhifau.

Ac o ran y cwestiwn olaf, o ran atebolrwydd, mae gwendidau o ran y gallu i orfodi'r amcanion hyn, rŷn ni'n gwybod hynny, ac mae hynny'n un o'r pethau, wrth gwrs, rŷn ni'n trafod â Phlaid Cymru yng nghyd-destun y Bil addysg Gymraeg.

17:35
8. Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoli BVD mewn gwartheg a’r clafr mewn defaid yng Nghymru

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, ar reoli BVD mewn gwartheg a'r clafr mewn defaid. Y Gweinidog, felly, i wneud y datganiad. Lesley Griffiths. 

Member
Lesley Griffiths 17:37:27
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Llywydd. Mae effaith negyddol dolur rhydd feirysol buchol, BVD, a'r clafr ar les anifeiliaid a chynaliadwyedd ein ffermydd gwartheg a defaid yn destun pryder mawr. Ni allaf bwysleisio digon bwysigrwydd bod ein sector da byw yn bwrw ymlaen a chydweithio i ddileu'r ddau glefyd hyn o Gymru. Mae rheoli, yn lleol ac, yn y pen draw, yn genedlaethol, a dileu BVD a'r clafr yn flaenoriaethau yn ein fframwaith iechyd a lles anifeiliaid ac maen nhw wedi'u cynnwys yn ei gynllun gweithredu ar gyfer 2022-24.

Fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru, y mae'r ddau glefyd hyn yn effeithio ar y cyfan ohono: mae gan Gymru anifeiliaid cynhyrchiol iach; mae gan anifeiliaid yng Nghymru ansawdd bywyd da; mae pobl yn ymddiried ac yn hyderus yn y ffordd y mae bwyd yn cael ei gynhyrchu; mae gan Gymru economi wledig lewyrchus; mae gan Gymru amgylchedd o safon. Mae dileu'r ddau glefyd yma yn ein symud ni'n nes at gyflawni'r nodau hyn, a bydd o fudd mawr i les gwartheg a defaid yng Nghymru.

Nid yw BVD na'r clafr yn effeithio ar bobl, ond rydym yn arddel agwedd un iechyd at eu rheoli a'u dileu. Mae hyn yn golygu mynd i'r afael ag iechyd anifeiliaid, amgylcheddol a dynol yn gyfannol ym mhopeth a wnawn. Felly, bydd ein gwaith o fudd i iechyd a lles defaid a gwartheg, a bydd hefyd yn arwain at wella iechyd yr amgylchedd ac yn cael effaith gadarnhaol ar les ein ceidwaid defaid a gwartheg. Mae'r dull un iechyd yn bwysicach nawr nag erioed wrth i Gymru symud yn nes at lansio'r cynllun ffermio cynaliadwy.

Fe ddechreuaf gyda BVD. Rhaid i ni wneud pob ymdrech i ddileu BVD o'n gwartheg. Mae llawer o wledydd Ewrop yn dileu'r afiechyd, ac rwyf eisiau i Gymru gadw ei statws fel cynhyrchydd iechyd uchel ac ni allwn gael ein gadael ar ôl. Mae'r clefyd hwn yn achosi i anifeiliaid yr effeithir arnyn nhw ddioddef yn fawr oherwydd ei fod yn imiwnoataliedig, ac yn cynyddu amlygiad i glefydau. Pan gaiff BVD ei ddileu, mae pob agwedd ar iechyd gwartheg yn gwella, gan gynnwys eu lles a'r angen i ddefnyddio gwrthfiotigau. Mae nodweddion y clefyd yn golygu er y gall ei reoli ac y dylid ei reoli ar lefel fferm, mae angen cydlynu cenedlaethol ar gyfer dileu eang. Mae hyn yn pwysleisio'r angen am weithio mewn partneriaeth, ac er mai ceidwaid gwartheg sydd â'r cyfrifoldeb, mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r diwydiant er mwyn llwyddo i'w ddileu.

Rwyf eisiau tynnu sylw at waith rhagorol y prosiect Gwaredu BVD. Lansiwyd y cynllun gwirfoddol hwn, sy'n cael ei arwain gan y diwydiant yn Sioe Frenhinol 2017, gyda £9 miliwn o gyllid wedi'i sicrhau gan raglen datblygu gwledig Llywodraeth Cymru. Drwy gynnal profion ar stoc ifanc, mae'r rhaglen wedi nodi'r buchesi sydd wedi'u heintio â BVD ac wedi cefnogi'r ffermwyr hynny i ddod o hyd i anifeiliaid sydd wedi'u heintio a'u tynnu oddi yno. Mae'n bleser dweud bod y rhaglen bum mlynedd wedi sgrinio dros 9,163 o fuchesi yn llwyddiannus, sef dros 83 y cant o'r buchesi gwartheg yng Nghymru. Mae'r rhaglen hefyd wedi nodi dros 1,000 o anifeiliaid sydd wedi'u heintio'n barhaol dros ei chwrs.

Un o brif egwyddorion fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru yw gweithio mewn partneriaeth. Mae'r rhaglen Gwaredu BVD yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio mor llwyddiannus. Hoffwn gydnabod pwysigrwydd y partneriaid cyflawni milfeddygol a'r llawfeddygon a helpodd i gyflawni'r cynllun hwn ar lawr gwlad.

Yn dilyn llwyddiant y cynllun Gwaredu BVD, sy'n cael ei arwain gan y diwydiant, fe wnaeth ei grŵp llywio rhanddeiliaid argymell cyflwyno rhaglen orfodol, yn seiliedig ar ddeddfwriaeth. Prif her y cynllun gwirfoddol oedd tynnu anifeiliaid wedi'u heintio o fuchesi gwartheg er mwyn atal BVD rhag lledaenu. Mae hwn yn gam hanfodol tuag at ddileu BVD, ac rwyf bob amser wedi bod yn glir: byddai deddfwriaeth yn cael ei hystyried yn dilyn cyfnod gwirfoddol llwyddiannus ac yn amodol ar dystiolaeth briodol sy'n cael ei darparu i lywio a chyfiawnhau rheolaeth ddeddfwriaethol.

Rydym wedi casglu safbwyntiau'r diwydiant ar y cynnig ar gyfer cynllun dileu gorfodol yng Nghymru. Gan weithio mewn partneriaeth ochr yn ochr â Gwaredu BVD a grŵp llywio BVD, lansiwyd ein hymgynghoriad fis Mehefin diwethaf, yn gofyn am farn gan y gymuned cadw gwartheg a rhanddeiliaid ehangach. Cawsom dros 100 o ymatebion gan wahanol gynrychiolwyr y diwydiant gwartheg yng Nghymru, gan gynnwys ceidwaid, milfeddygon, undebau ffermio ac arwerthwyr. Rwy'n falch o nodi cefnogaeth ysgubol y diwydiant ar y mater pwysig hwn, a chadarnhaodd yr ymgynghoriad awydd am fesurau llymach, gyda'r mwyafrif yn cefnogi cyflwyno deddfwriaeth a gofynion gorfodol i ddileu BVD yng Nghymru yn effeithiol. Fe wnaethom wrando ar yr adborth, ac wrth i ni fynd i mewn i'r cyfnod pontio a pharatoi ar gyfer deddfwriaeth yn y dyfodol, mae'n hanfodol bod ceidwaid yn parhau i brofi eu buchesi am BVD a chael gwared ar anifeiliaid sydd wedi'u heintio'n gyson cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol bosibl.

Y bwriad ar gyfer cynllun yn y dyfodol o hyd yw darparu set o ofynion i ganiatáu i geidwaid dynnu BVD o'u buchesi a'i gadw allan drwy fioddiogelwch da. Byddai gofynion gorfodol yn sicrhau bod egwyddorion dileu BVD effeithiol yn cael eu dilyn a gall y fuches genedlaethol elwa ar ganlyniadau hirdymor cyflawni rhyddid rhag BVD. Byddwn yn parhau i adeiladu ar gynnydd a llwyddiannau cam gwirfoddol y cynllun, ac wrth i ni fynd ymlaen i'w gam nesaf, hoffwn ddiolch i'r diwydiant gwartheg, partneriaid cyflenwi a cheidwaid ledled Cymru am eu gwyliadwriaeth a'u hymdrechion hyd yma tuag at ddileu BVD.

Gan droi at y clafr: un o glefydau mwyaf heintus defaid, mae'r clafr yn fygythiad sylweddol i'n diwydiant defaid. Y rheswm dros hyn yw nifer fawr a maint y diadellau, patrymau symudiadau defaid a defnydd helaeth o bori cyffredin yng Nghymru. Rhaid i bob ceidwad defaid gydnabod ei gyfrifoldeb i sicrhau bod ei anifeiliaid yn cael eu cadw'n rhydd o'r clafr. Rwyf wedi ymrwymo £4.5 miliwn o gyllid cynllun buddsoddi gwledig i'w ddefnyddio i helpu i gefnogi'r diwydiant i fynd i'r afael â'r clefyd. Bydd dileu'r clefyd difrifol hwn yn diogelu lles defaid yng Nghymru, yn diogelu enw da 'brand Cymru' ac yn sicrhau manteision economaidd sylweddol i'r sector, a hynny ar adeg arbennig o heriol wrth i ni bontio o'n hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd.

Yn 2021 a 2022, comisiynais ddau brosiect prawf-o-gysyniad y clafr i nodi bylchau gwybodaeth. Fe wnaethon nhw dreialu tri pheth yn llwyddiannus: yn gyntaf, prawf diagnostig gwaed ELISA newydd ac arloesol i nodi'r clafr mewn diadellau cyfagos sydd mewn risg; yn ail, trin diadellau yr effeithiwyd arnynt gan ddipio symudol proffesiynol i ddileu'r clefyd gan sicrhau nad oedd perygl o'r niwed amgylcheddol o lygredd dip; ac yn drydydd, hwylusodd y prosiectau grwpiau rheoli clefydau lleol i gymryd perchnogaeth o achosion pan oeddynt yn digwydd a grymuso ceidwaid defaid i weithio ar y cyd i ddileu'r clefyd yn eu hardal. Yn ogystal â hyn, rydym yn ariannu profion crafu croen trwy gydol y flwyddyn am ddim ar gyfer y clafr, trwy Ganolfan Ymchwil Filfeddygol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yng Nghaerfyrddin ar gyfer diadellau Cymru.

Yn dilyn y cynlluniau treialu hyn, ym mis Gorffennaf 2022, aeth tendr i'r diwydiant i gyflwyno cais i gyflawni rhaglen dileu y clafr Cymru gyfan gwerth £4.5 miliwn. Mae'r prosiect yn cynnig cefnogaeth sylweddol gan Lywodraeth Cymru i'r diwydiant defaid a'n milfeddygon defaid i fynd i'r afael â'r clafr a'i ddileu. Rydym yn gobeithio ac yn disgwyl y bydd y diwydiant defaid yn defnyddio'r cyfle hwn i roi'r mesurau angenrheidiol ar waith i atal y clafr rhag lledaenu rhwng diadellau.

Mae amcanion strategol y rhaglen yn seiliedig ar egwyddorion rheoli clefydau heintus: ei gadw allan—drwy wella bioddiogelwch yn sylweddol o fewn y sector defaid; ei ganfod yn gynnar—drwy ddefnyddio'r prawf ELISA newydd, sy'n canfod y clafr bythefnos cyn bod arwyddion clinigol yn dangos; ei atal rhag lledaenu—drwy annog prynu defaid gwybodus a thrwy gymryd y rhagofalon bioddiogelwch angenrheidiol pryd bynnag y bydd defaid yn cael eu symud; a'i ddileu—drwy drin defaid sydd wedi'u heintio yn effeithiol ac mewn ffordd amgylcheddol gynaliadwy. 

Mae disgwyl i'r rhaglen gael ei lansio yng ngwanwyn 2023. Mae Llywodraeth Cymru'n gwneud ei rhan, a nawr mae'n rhaid i ni weithio mewn partneriaeth â'n ffermwyr defaid, contractwyr, arwerthwyr, cludwyr a'n sector defaid i gadw ein 9.5 miliwn o ddefaid a'n hŵyn yn ddiogel rhag y clafr. Diolch.

17:45

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Rwy'n sicr yn croesawu'r cyfle i siarad ar BVD a'r clafr, dau glefyd dinistriol sy'n gofyn yn haeddiannol am sylw Llywodraeth Cymru. Rwy'n falch o glywed nifer y cyhoeddiadau yr ydych chi wedi'u gwneud y prynhawn yma, Gweinidog, ac yn croesawu'r rhai a fydd yn helpu i gefnogi'r gymuned amaethyddol yn eu hymdrechion eu hunain i frwydro yn erbyn yr anhwylderau hyn, felly diolch.

Mae eich datganiad yn tynnu sylw'n berffaith at pam mae'n rhaid i ni drin y materion hyn â'r pwysigrwydd mwyaf, a pham mae angen dull bioddiogelwch cyfannol ac wedi'i dargedu os ydym ni am fodloni eich uchelgeisiau ac uchelgeisiau'r diwydiant a chael unrhyw obaith o leihau a dileu trosglwyddiad BVD a'r clafr ymhlith gwartheg a defaid Cymru. Mae'r ddau glefyd hyn yn fygythiad cynyddol i'n buarthau fferm, o'r baich economaidd yn sgil y clafr ar ein heconomi amaethyddol, i'r gost unigol fesul buwch y caiff BVD ar ein ffermydd. Maen nhw'n ddau fater difrifol sydd â goblygiadau allweddol ar allu'r diwydiant amaethyddol i weithredu, masnachu a dod yn fodel busnes fferm hyfyw.

Gan ganolbwyntio ar BVD, mae hwn yn feirws endemig o ran maint, ac rydych chi'n iawn i ddweud bod yn rhaid gwneud pob ymdrech i ddileu BVD o'n gwartheg. Mae gwartheg sy'n rhydd o BVD yn iachach, yn llai agored i afiechydon a chlefydau eraill, ac, fel y gwnaethoch chi ddweud yn briodol, Gweinidog, yn lleihau'r angen am wrthfiotigau. Mae rhan o'r llwyddiant diweddar yn deillio o brosiect Gwaredu BVD, dull cydweithredol sydd wedi'i fabwysiadu gan y Llywodraeth yn gweithio gyda'r holl bartneriaid—undebau ffermio, ffermwyr gwartheg unigol, arwerthwyr a milfeddygon, fel y gwnaethoch chi sôn—i ddatblygu strategaeth sydd wedi'i thargedu ac sy'n achub y blaen yn ei dull o weithredu. A, Gweinidog, gallaf i ddweud wrthych chi, rwyf wedi bod yn ei chanol hi, yn tagio stoc ifanc gyda thagiau meinwe i'w hanfon i ffwrdd i gael eu dadansoddi.

Rwy'n credu bod, yn sicr, wersi y gellir eu dysgu o'n llwyddiannau yn y strategaeth hon, yn enwedig y ffordd y mae'r diwydiant cyfan wedi chwarae rhan uniongyrchol yn ei datblygiad a lefel perchnogaeth sydd gan y diwydiant wrth fynd i'r afael â BVD. Dangosir hynny gan y ganran uchel o fuchesi sy'n cael eu sgrinio yn y prosiect pum mlynedd. Nodais yn eich datganiad eich bod yn cyfeirio at baratoi deddfwriaeth yn y dyfodol, gan sicrhau bod ffermwyr da byw yn parhau i brofi eu buchesi am BVD ac i gael gwared ar anifeiliaid sydd wedi'u heintio'n barhaol cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog: a fydd ffermwyr yn cael iawndal am gael eu gorfodi i dynnu yr anifeiliaid sydd wedi'u heintio o'r fuches? Gyda'r symudiad o brofion gwirfoddol i brofion gorfodol, a methiant profion gorfodol yn gysylltiedig â thwbercwlosis mewn gwartheg, pa sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi na fydd y profion BVD gorfodol hefyd yn faich ychwanegol hirdymor i ffermwyr ac un a fydd yn sicrhau canlyniadau diriaethol yn y tymor byr a'r dyfodol agos?

Gan symud y pwyslais i'r clafr, rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn cydnabod graddfa'r clefyd parasitig hwn. Mae'n effeithio ar dros ddwy fil o ffermydd ledled Cymru, dros 3 miliwn o ddefaid, sy'n costio £78 miliwn i economi wledig y DU, £208 miliwn y flwyddyn. Ond nid y colledion economaidd yn unig ddylai ein pryderu ni. Mae'r clafr yn cael effaith sylweddol ar les a chysur defaid ac, o'r herwydd, yn broblem amlwg i amaethyddiaeth Cymru gyfan.

Rwy'n falch o nodi eich bwriad i lansio rhaglen dileu'r clafr trwy Gymru gyfan yn ddiweddarach eleni. Dylai'r amcanion strategol y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw yn eich datganiad ddarparu sail glir i ddatblygu strategaeth ddileu gydlynol a chydweithredol sy'n ceisio darparu cefnogaeth sylweddol i'n diwydiant defaid. Fodd bynnag, rwy'n anghytuno, ychydig, gyda'r syniad y dylai'r sector da byw fwrw ymlaen a bodloni'r heriau a gyflwynir gan y clafr. Rwyf wedi cwrdd â chynrychiolwyr diwydiant defaid Cymru, ac rwy'n credu ei bod yn amlwg eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i leihau ei drosglwyddiad ymysg y ddiadell, waeth beth yw'r beichiau yn eu ffordd.

Un baich y bydd y Gweinidog yn siŵr y byddwn i'n ei godi yn y datganiad hwn yw'r cynnydd arfaethedig yn ffioedd a thaliadau rheoleiddio Cyfoeth Naturiol Cymru—cam sydd ar fin niweidio yn sylweddol gallu Cymru i drechu'r clafr. Mae eu bwriad i gynyddu deg gwaith cost ceisiadau newydd ar gyfer gwasgaru dip defaid sydd wedi ei ddefnyddio a heb ei ddefnyddio ar dir yn draul enfawr, ac yn ddi-os bydd yn lleihau ein gallu i wella iechyd anifeiliaid. Felly, a gaf i annog y Gweinidog, unwaith eto, i weithio gyda'i chyd-Weinidog y Gweinidog newid hinsawdd i sicrhau nad yw'r ffioedd hyn yn rhwystro ymdrechion iechyd anifeiliaid y sector amaethyddol?

Gweinidog, rwy'n rhannu eich cydnabyddiaeth o bwysigrwydd mynd i'r afael â'r ddau fater hyn. Mae'n hanfodol ein bod yn cadw llygad barcud ar lwyddiant yr ymyraethau hyn, fel y gallwn eu haddasu a'u newid os ydym yn methu â chyflawni ar unrhyw un man ar hyd y daith. I'r perwyl hwnnw, a gaf i ofyn i chi sut y byddwch chi'n rhoi gwybod i ni fel Senedd, y diwydiant hefyd—yn bwysicaf oll—a pha gyfleoedd fydd i adolygu'r llwyddiannau, neu fethiannau o bosibl—pa un bynnag y gallant fod—wrth inni symud ymlaen? Edrychaf ymlaen yn fawr at eich ymateb. Diolch, Dirprwy Lywydd. 

17:50

Diolch yn fawr iawn am groesawu'r datganiad y prynhawn yma a'r cyhoeddiadau ynghylch dileu BVD a'r clafr.

Rwy'n credu, o ran BVD, y bu'n dda rhoi rhywfaint o amser sylweddol i'r cynllun gwirfoddol. Rwy'n credu bod galw gwirioneddol wedi bod i fynd am ddeddfwriaeth, ac rwy'n deall hynny'n llwyr, oherwydd rwy'n credu mai'r hyn nad oedd y sector ei eisiau oedd colli'r enillion a wnaed. Yn amlwg, roedd problem sylweddol gydag ychydig o ffermydd yn unig—canran fach o ffermydd—heb ymgymryd â rhan wirfoddol y cynllun. Weithiau, dydych chi ddim eisiau defnyddio deddfwriaeth i ymdrin â phroblem fach—mae'n rhy lawdrwm. Roeddem ni eisiau i'r cynllun gael y pum mlynedd i edrych ar y data, ac roeddwn i'n hollol glir mai dim ond pe bai'r dystiolaeth yno i ddangos bod angen deddfwriaeth y byddem ni'n gwneud hynny. Rwy'n credu ein bod wedi gwneud enillion o'r fath mewn cysylltiad â dileu BVD, ac yn wir byddai'n drueni colli hynny, yn enwedig, fel y soniais i yn y datganiad, oherwydd y cyfnod heriol yr ydym yn ei wynebu, yn enwedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Dydych chi ddim eisiau i wledydd eraill fynd o'n blaenau ni o ran dileu.

O ran y clafr, mae'n debyg mai'r hyn rwy'n ei olygu wrth 'bwrw ymlaen' yw rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod y diwydiant ei hun yn cael rheolaeth arno, perchnogaeth ohono. Rwy'n hapus iawn i weithio mewn partneriaeth. Roeddwn i wedi gobeithio cyflwyno'r cynllun hwn ychydig yn ôl. Rwy'n credu mai nôl yn 2019 wnes i gyhoeddi'r cyllid, a bu'n rhaid ailbwrpasu'r cyllid hwnnw yn ystod pandemig COVID am gwpl o flynyddoedd. Ond roeddwn i wedi addo cyflwyno'r cyllid i gael y rhaglen dileu'r clafr Cymru gyfan honno, er ei bod hi wedi bod ychydig yn hirach nag yr oeddwn i wedi gobeithio. Dydyn ni ddim wir wedi gweld llawer o gynnydd. Felly dyna, mae'n debyg, yw'r hyn rwy'n ei olygu. Rwy'n hapus iawn i weithio mewn partneriaeth. Rwy'n credu, os ydyn ni'n mynd i wneud unrhyw beth, mae angen i ni weithio mewn partneriaeth.

Rwy'n clywed yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am yr ymgynghoriad parhaus ynghylch ffioedd rheoleiddio a thaliadau Cyfoeth Naturiol Cymru. Byddwch chi wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen mai'r hyn y mae'r adolygiad hwnnw yn ceisio ei sicrhau yw bod CNC yn sicrhau adferiad costau llawn, oherwydd nid yw'r ffioedd hynny wedi'u hadolygu am nifer o flynyddoedd. Ond mae CNC yn disgwyl y bydd y cynnydd mewn costau dim ond yn effeithio ar nifer fach iawn o ffermydd. Ar hyn o bryd, maen nhw'n cyflwyno, ar gyfartaledd, tua 37 trwydded y flwyddyn, felly gallwch chi weld nad yw'n fater sylweddol i lawer o bobl. 

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Mae'n ddatganiad hirddisgwyliedig, a thra bod yna lawer o bethau yno i'w groesawu, mae'n flin gen i ddweud fy mod i hefyd yn siomedig.

Os caf i gychwyn efo BVD. BVD, fel rydyn ni wedi clywed, ydy un o'r heintiau a'r heriau mwyaf sydd yn wynebu'r sector gwartheg yng Nghymru, ac yn wir, yn y Deyrnas Gyfunol. Mae yna lawer gormod o wartheg yn dioddef o'r haint erchyll yma, ac mae'n arwain at bryderon ynghylch lles anifeiliaid, lles busnesau bach cefn gwlad, a lles ein ffermwyr a'u teuluoedd. Ond y gwir anffodus ydy bod y sector milfeddygol yn dweud wrthyf i ei fod hefyd yn rhywbeth cymharol hawdd i fynd i'r afael ag e. 

Mae yna £10 miliwn eisoes wedi cael ei wario er mwyn mynd i'r afael â'r haint yma. Fel y soniodd y Gweinidog, mae canran fawr—dros 80 y cant—o'r gyrrod—beth bynnag yw lluosog 'gyr' yn y Gymraeg—wedi cael eu trin. Ond dwi'n meddwl mai'r Athro George Gunn, sy'n arbenigo mewn epidemioleg milfeddygol, ddywedodd mai'r allwedd i lwyddiant unrhyw bolisi i fynd i'r afael â BVD ydy momentwm. Yn anffodus, yn ôl beth welaf i yma heddiw, mae'r momentwm hwnnw a oedd wedi dechrau yma yng Nghymru am ddirwyn i ben. Bydd y £10 miliwn o bres Ewropeaidd a wariwyd yn wastraff heb fod yna barhad efo hyn. Yr unig ffordd go iawn o sicrhau parhad llwyddiant y rhaglen yma ydy trwy ddeddfu, fel rydym ni wedi clywed. Mae'n rhaid deddfu er mwyn sicrhau bod ffermwyr yn parhau i brofi. Dyna beth roeddwn i, y milfeddygon a'r ffermwyr yn gobeithio ei glywed heddiw. Ac er fy mod yn croesawu'r uchelgais tuag at hyn, mae yna beryg go iawn y byddwn yn colli momentwm os nad ydym yn gweld Bil yn cael ei gyflwyno. 

Mi oeddech chi'n sôn am adeiladu ar lwyddiant phase gwirfoddol y cynllun BVD ac am fynd ymlaen i'r phase nesaf. Ond mae'r datganiad yn gorffen yn sydyn yn fanno. Dwi'n gwybod y bydd milfeddygon a ffermwyr sy'n gwrando yn gwbl rhwystredig heddiw, oherwydd ble mae'r manylion am y phase nesaf? Dydyn ni ddim yn gwybod. Tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym ni beth ydy manylion y phase nesaf. Sut ydyn ni am adeiladu ar y gwaith yma? Sut mae'r Gweinidog yn disgwyl i ffermwyr barhau i brofi yn wirfoddol? Mae profi yn costio, wrth gwrs. O ble ddaw'r pres ar gyfer y profion yma? Am ba hyd mae'r phase nesaf am fod? Ond, yn bwysicach fyth, pryd fedrwn ni ddisgwyl Bil er mwyn gorfodi hyn? Fan leiaf, a gawn ni amserlen glir ar gyfer deddfwriaeth, os gwelwch yn dda?

Yn olaf, efo'r clafr, mae hwn yn ddatblygiad cadarnhaol, a dwi'n ei groesawu. Ond, unwaith eto, mae yna wendid sylfaenol, sef y diffyg mewn cefnogaeth statudol i gynlluniau i fynd i'r afael â'r clafr. Mewn ateb i gwestiwn gen i rai misoedd yn ôl ynghylch yr addewid i roi £5 miliwn i gynllun er mwyn mynd i'r afael â'r clafr, fe ddywedodd y Gweinidog yn ei hymateb ei bod hi wedi rhoi swm sylweddol, ond bod COVID wedi amharu ar y rhaglen. Rwy'n deall nad oedd hwnnw ar y pryd yn gwbl gywir, ac efallai i'r Gweinidog gamsiarad. Felly, a all y Gweinidog heddiw gadarnhau os mai'r un pres ydy'r £4.5 miliwn yma sy'n cael ei gyhoeddi heddiw a gafodd ei gyhoeddi'n flaenorol, ac felly nad pres newydd ydy o, ond ailddatgan rhywbeth a wnaed yn flaenorol ydy hwn, ynteu ai pres newydd ydy hwn?

Yn olaf, mae cyhoeddiad diweddar Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod am gynyddu'r ffi o gael gwared ar ddip defaid i 10 gwaith y pris presennol wedi codi braw ar ffermwyr, ac, yn wir, mewn peryg o arwain at lai o ddipio, a fydd yn niweidio ffermwyr, busnesau gwledig a lles anifeiliaid. Mi fuasai hyn yn mynd yn groes i unrhyw uchelgais gan y Llywodraeth i fynd i'r afael â'r clafr. Yn yr ymgynghoriad, roedd yna sôn bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn barod i ganiatáu hepgor peth o'r ffioedd, efo ffioedd llai, hwyrach, er mwyn rheoli heintiau. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddwyn perswâd ar Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud ar draws y bwrdd, i bob fferm sy'n delio efo defaid, er mwy galluogi ffermwyr i barhau i ddipio yn ddiogel, a sicrhau lles eu hanifeiliaid? Diolch. 

17:55

Diolch. Rwy'n siomedig o glywed eich siom, Mabon, oherwydd, fel y dywedais i, rydyn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol—mae dros 80 y cant o fuchesi wedi cael eu profi trwy'r cynllun gwirfoddol. Ac er bod galwad wedi bod am ddeddfwriaeth, fe glywsoch chi fi'n dweud yn fy ateb cynharach i Sam Kurtz ei bod hi'n bwysig iawn bod gennym ni'r dystiolaeth honno oedd ei hangen i fwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth, a'n bod yn wir yn cael y ddeddfwriaeth honno. Rydych chi'n gofyn am amserlen, a bydd hi o fewn y flwyddyn ariannol nesaf pan fyddwn yn cyflwyno'r ddeddfwriaeth. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n croesawu hynny.

Byddwn i'n annog pob ceidwad gwartheg i barhau i brofi sampl fach o'u gwartheg. Amcangyfrifir bod y gost rhwng £50 a £150 y flwyddyn, felly nid yw'n swm sylweddol o gyllid sydd ei angen. Yn amlwg, mae'r gymhareb cost a budd o ddileu BVD yn hynod gadarnhaol, ac, rwy'n credu, yn fuddsoddiad gwerth chweil mewn unrhyw fusnes ffermio. 

O ran cyllid y rhaglen dileu'r clafr, yr un cyllid ydyw, fel y dywedais i yn fy ateb cynharach i Sam Kurtz. Fe wnes i'r cyhoeddiad nôl yn 2019 ac roeddwn i wedi gobeithio cyflwyno'r cynllun yn llawer cyflymach nag yr ydym ni, ond fe wnaethon ni ailbwrpasu'r cyllid yn ystod COVID, felly cafodd yr arian ei ddefnyddio bryd hynny. Felly, yr un arian ydyw, os ydych chi'n gwybod beth rwy'n ei olygu, yn y cyhoeddiad hwnnw nôl yn 2019.

Unwaith eto, byddwch wedi fy nghlywed yn ateb y pryderon ynghylch Cyfoeth Naturiol Cymru. Maen nhw'n disgwyl i'r cynnydd hwnnw effeithio ar nifer fach o ffermydd yn unig. Fyddwn i ddim eisiau i hynny gael ei ddefnyddio fel esgus i beidio â thrin y clafr, a gwneud yn siŵr bod pawb yn cymryd rhan yn y rhaglen dileu'r clafr Cymru gyfan hon. Dydy'r Llywodraeth ddim yn gallu gwneud hyn ar ei phen ei hun, ac rwy'n gallu gweld nad yw'r diwydiant yn gallu gwneud hyn ar ei ben ei hun, ond mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gweithio mewn partneriaeth. 

18:00
9. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser

Eitem 9 y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cynllun gwella gwasanaethau canser. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Eluned Morgan. 

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw hoffwn gyhoeddi cynllun gwella gwasanaethau canser gan GIG Cymru. Mae'r cynllun yn nodi sut y bydd y GIG, ar y cyd, yn ymateb i'r datganiad ansawdd ar gyfer canser a'n hymrwymiadau ehangach i wella gofal diagnostig a diwedd oes i bobl y mae canser yn effeithio arnyn nhw. Mae'n dilyn ymlaen o sawl dadl bwysig rydym wedi eu cynnal dros y flwyddyn ddiwethaf ar y mater o wella canlyniadau canser a fy ymrwymiad i i gyflwyno cynllun o'r fath.

Rydym yn nodi yn y fframwaith clinigol cenedlaethol y byddem yn disgrifio sut olwg ddylai fod ar wasanaethau clinigol da mewn datganiadau o ansawdd, ac y byddem yn disgwyl i'r GIG gynllunio ar sail y disgwyliadau hynny. Mae byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yn gwneud hyn drwy fframwaith cynllunio'r GIG, sy'n canolbwyntio ar wasanaethau canser, ymhlith blaenoriaethau gweinidogol eraill, ac ar hyn o bryd maen nhw'n datblygu'r rhain yn eu cynlluniau tymor canolig integredig, gan nodi eu hymateb. Felly, rwyf wedi nodi chwe maes blaenoriaeth—canser yw un o'r meysydd blaenoriaeth hynny. Mae'r cynllun gwella gwasanaethau canser a gyhoeddwyd heddiw yn cefnogi'r broses honno. Mae'n disgrifio sut mae'r GIG yn bwriadu cyflawni ein bwriadau polisi.

Un o'r meysydd allweddol yn y datganiad ansawdd yw sicrhau gofal yn unol â'r amser aros am ganser. Mae hyn yn golygu y dylai 75 y cant o gleifion sydd angen triniaeth canser ddechrau triniaeth benodol o fewn 62 diwrnod i'r adeg pan gafodd canser ei amau gyntaf. Mae'r disgwyliad hwn wedi bod yn heriol iawn i'w gyflawni ac mae tri phrif reswm am hyn. Y cyntaf yw cyflwyno'r llwybr amheuaeth o ganser newydd, a ailwampiodd sut roeddem ni'n cyfrif pobl ar y llwybr canser—sy'n unigryw yn y DU—gan ddal mwy o bobl yn gynharach ar eu llwybr heb oedi'r cloc amser aros. Yr ail yw'r twf hanesyddol yn y galw am ymchwiliad i ganser a thriniaeth, a achosir gan ffactorau ein poblogaeth a gostwng y trothwy risg ar gyfer atgyfeirio, i sicrhau nad ydym yn colli unrhyw ganserau posib. Ac, yn drydydd, mae cyflawni wedi'i gyfyngu gan gapasiti ein gwasanaeth i atgyfeirio, ymchwilio, trin a gofalu am bobl y mae canser yn effeithio arnyn nhw. Yn fyr, mae'r galw'n tyfu, mae ein capasiti'n ei chael hi'n anodd cadw'i fyny, ac rydym bellach yn llawer gwell wrth gyfrif pawb ar lwybr canser yn gywir. Mae hynny'n trosi i'r perfformiad canser a welwn yn cael ei adrodd, sydd wedi bod yn llawer is na'n holl ddisgwyliadau ers cyflwyno'r llwybr amheuaeth o ganser newydd. Ac mae'n deg dweud bod y pandemig wedi cael ei effaith hefyd. Mae COVID wedi ystumio mynediad a chreu pwysau enfawr yn y system ehangach sydd wedi bod â goblygiadau i ymchwiliadau canser a mynediad i theatrau a gofal critigol.

Cynhaliais uwchgynhadledd o arweinwyr gwasanaethau canser ym mis Hydref i atgyfnerthu ein disgwyliadau cynllunio ein bod yn adfer y nifer ar y rhestr aros canser, ein bod yn lleihau nifer y bobl sy'n aros dros 62 diwrnod, ac yn bwrw ymlaen tuag at y targed hwnnw o 62 diwrnod. Mae pethau'n anodd iawn, iawn, a gwasanaethau'n gweithio'n galed iawn i ddiwallu anghenion cleifion. Ond, rwy'n falch o ddweud bod data rheoli'r GIG yn dangos gostyngiad yn nifer y bobl sy'n aros dros 62 diwrnod i'w triniaeth ddechrau rhwng mis Hydref a dechrau Rhagfyr, ac mae'n dangos gostyngiad yn y nifer cyffredinol o bobl sy'n aros ar y llwybr canser a gwelliant bach ym mherfformiad canser yn y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer mis Tachwedd. Mae hyn yn dangos bod y GIG yn rhoi'r pwyslais y maen nhw'n ei haeddu i lwybrau canser, er bod y Nadolig, gweithredu diwydiannol ac afiechydon anadlol wedi tarfu ar hynny ac wedi achosi rhagor o heriau i ni yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Fe wnaethon ni ofyn hefyd am ffocws ar weithredu'r 21 o lwybrau sydd wedi eu cytuno'n genedlaethol ar gyfer Cymru. Mae hynny'n sylfaenol i'r ffordd y byddwn ni'n gwneud yn siŵr bod cleifion yn cael y gofal iawn lle bynnag y maen nhw yng Nghymru. Mae'r llwybrau sydd wedi'u safoni yn ein helpu ni i ganolbwyntio ar wella cysondeb ac ansawdd y gofal, ac maen nhw'n cynnwys y llwybr symptomau amhenodol newydd sy'n gysylltiedig â'r canolfannau diagnosis cyflym—y rapid diagnosis centres. Bydd y canolfannau hyn yn dod ar gael i wasanaethu holl boblogaeth Cymru yn ystod y misoedd nesaf, sy'n gam ardderchog ymlaen. Mae llawer ohonyn nhw eisoes yn bodoli, a bydd y rhain mewn lle flwyddyn gyfan cyn Lloegr.

Mae'r datganiad ansawdd yn rhoi pwyslais ar ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac, yn gynharach y mis yma, mi wnes i siarad am ganlyniadau'r arolwg profiad cleifion canser. Roedd hwn yn dangos, hyd yn oed yn ystod y pandemig, fod 92 y cant o gleifion wedi dweud bod eu gofal yn 'dda' neu'n 'dda iawn'. Roedd yr arolwg hefyd yn rhoi gwybodaeth bwysig am fynediad at weithwyr allweddol a chyngor ar fudd-daliadau, a bydd hyn nawr yn rhan o waith lleol ar wella profiad cleifion.

Dwi hefyd wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn ddiweddar ar y system gwybodaeth canser. Dyma'n buddsoddiad o £11 miliwn mewn system i gymryd lle'r cofnod digidol o gleifion canser. Fe gyrhaeddon ni garreg filltir bwysig cyntaf y rhaglen gyffredinol ym mis Tachwedd, wrth i Ganolfan Ganser Felindre ddechrau defnyddio system gweinyddu cleifion Cymru i reoli clinigau, a dechrau defnyddio'r cofnod digidol newydd ar gyfer cleifion sy'n cael gofal canser. Mae hyn wedi datrys risg fawr o ran parhad gwasanaethau, sy'n rhywbeth roedd y pwyllgor cyfrifon cyhoeddus wedi tynnu sylw ato.

Rŷn ni i gyd yn gwybod pa mor hanfodol yw datblygu'r gweithlu, a dyna pam rŷn ni wedi ymrwymo i gynllunio'r gweithlu i gwrdd â'r angen am ofal canser yn y dyfodol. Felly, rôn i'n falch, ar 18 Ionawr, i gyhoeddi'r cynllun addysg a hyfforddiant gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Roedd hwn yn cynnwys cynnydd, am y drydedd flwyddyn yn olynol, yn y swyddi hyfforddi uwch mewn oncoleg glinigol a meddygol, yn ogystal â chynnydd pellach mewn hyfforddi radioleg glinigol a gofal lliniarol, sy'n rolau hanfodol mewn llwybrau canser.

Mae yna nifer fawr o feysydd eraill i'w nodi neu eu dathlu, gan gynnwys rhaglen llawfeddygaeth robotig Cymru gyfan, y canolfannau rhagoriaeth newydd ar gyfer canser y fron, gostwng oed sgrinio'r coluddyn, a mwy o bobl yn cymryd rhan yn y rhaglen. Ond, dwi am gloi trwy gyfeirio at ein cyhoeddiad yr wythnos diwethaf o fwy na £86 miliwn ar gyfer offer a chyfleusterau radiotherapi newydd, gan gynnwys canolfan radiotherapi ategol newydd yn y Fenni. Gyda'i gilydd, mae'r datblygiadau yma, sy'n cael eu disgrifio yn y cynllun gwella gwasanaethau canser, yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi gwell gwasanaethau a chanlyniadau canser. Dwi'n gobeithio y byddan nhw'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r bobl sy'n darparu ac, wrth gwrs, i'r rheini sy'n derbyn gofal canser yma yng Nghymru. Diolch. 

18:05

Diolch, Gweinidog, am y datganiad heddiw. Mae croeso mawr iddo, ac mae croeso mawr i'r cynllun canser yn wir hefyd. Tan y bore yma, Cymru oedd yr unig ardal o Brydain oedd heb gynllun canser, ac mae'n hen bryd cyflwyno'r cynllun canser. Ond, ar nodyn cadarnhaol, mae gennym ni'r cynllun canser heddiw, ac mae croeso mawr iddo.

Yr hyn yr oeddwn i'n hoff iawn ohono, wrth i mi edrych drwy'r cynllun gweithredu canser, oedd bod llawer iawn o amserlenni a nodau, a dyddiadau ynghlwm â'r nodau a'r targedau hefyd. Mae hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Mae'n debyg mai'r cwestiwn amlwg yw: ydych chi'n credu bod yr amserlenni sydd ynddo, a'r dyddiadau sy'n cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â'r nodau, Gweinidog, yn rhesymol? Ac ydych chi'n credu eu bod nhw'n rhesymol i'w cyflawni, am wn i, yw'r cwestiwn amlwg i'w ofyn?

Yn rhyfedd iawn roeddwn i'n edrych yn ôl, Gweinidog, a blwyddyn yn ôl i ddydd Mercher nesaf wnes i arwain dadl Senedd ar wasanaethau canser yng Nghymru. Ar y pryd, gwnaethom ni siarad am—fe wnes i yn sicr siarad am—y sgil effeithiau negyddol i lawer o gleifion a'r pwyslais a oedd ei angen ar adferiad, a llawer o bobl yn poeni am gostau ychwanegol hefyd. Ac, ar y pryd, gofynnais am rai mesurau, fel gofal deintyddol am ddim i gleifion canser, ac awgrymais y gellid cynnig hynny fel rhan o'u hadferiad, yn enwedig nawr o ystyried y pwysau costau byw yr ydym ni i gyd yn ymwybodol ohonyn nhw. Doeddwn i ddim yn gallu gweld dim byd yn y cynllun am hynny, a tybed a yw hynny'n rhywbeth y gellid ei archwilio, Gweinidog. 

Ar y pryd, soniais hefyd bod nifer y bobl sy'n mynd i'r ysbyty yng Nghymru am driniaeth canser wedi gostwng dros 40,000 ym mlwyddyn gyntaf y pandemig. Felly, byddai gen i ddiddordeb pe gallech siarad ar y pwynt hwnnw, mewn gwirionedd, am sut mae'r cynllun yn benodol yn helpu'r rhai sydd wedi colli cyfle, o bosib, ar ddiagnosis hefyd.

Cyn y pandemig, gwnaeth uned gwybodaeth canser Cymru ddangos mai Cymru oedd â'r cyfraddau goroesi isaf ar gyfer chwe chanser, a'r ail isaf ar gyfer tri yn y DU. Roeddem ni eisoes y tu ôl i Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ym maes canserau benywaidd, y fron, yr ysgyfaint, y colon, y rectwm a'r stumog. Felly, byddwn i'n gofyn i chi, Gweinidog, yn hynny o beth, a ydych chi'n ffyddiog y bydd Cymru mewn sefyllfa llawer gwell pan ddaw'r cynllun hwn i ben. Mae'n debyg y dylwn i ofyn i chi am amserlen y cynllun. Mae'r cynllun am dair blynedd. Byddwn i'n gofyn pam tair blynedd. Dydw i ddim yn awgrymu ei fod yn anghywir; dim ond gofyn pam ydw i, yn benodol, amserlen tair blynedd, mae'n debyg. Ond, hefyd, gallaf weld rhai rhanddeiliaid, tra eu bod yn croesawu'r cynllun, ac fe wnaethon nhw groesawu'r cynllun tair blynedd, hefyd yn awgrymu y dylai fod cynllun mwy hirdymor. Felly, gallaf eich gweld chi'n edrych ar hynny, Gweinidog, a meddwl 'O, na mae'n gofyn am gynllun arall nawr', ond, na, dim ond i gael dealltwriaeth ar beth fyddai eich ymateb chi i randdeiliaid sy'n dweud bod angen rhywbeth mwy hirdymor hefyd.

Hefyd, hoffwn holi am gyfranogiad byrddau iechyd wrth ddatblygu'r cynllun. Ydych chi'n fodlon y bydd byrddau iechyd lleol yn gallu cyflawni'r nodau a nodir yn y cynllun, ac yn enwedig, am wn i, rwy'n gofyn y cwestiwn hwnnw yng nghyd-destun materion y gweithlu yr ydym i gyd yn ymwybodol ohonyn nhw hefyd.

Roeddwn i hefyd eisiau crybwyll profiad cleifion canser yng Nghymru. Yn eich datganiad, rydych chi'n honni bod 92 y cant o gleifion wedi dweud bod eu gofal yn 'dda' neu'n 'dda iawn'. Eto i gyd, mae'r canlyniadau a gyhoeddwyd o arolwg elusennol yn amlygu bod gwasanaethau canser yn dal i wneud tro gwael â chleifion yn aruthrol. Roedd cael gwybodaeth allan i gleifion yn faes y dangoswyd ei fod yn annigonol i raddau helaeth, gyda 30 y cant o'r ymatebwyr yn dweud nad oedd sgil-effeithiau posibl wedi'u hesbonio'n llawn iddyn nhw, neu doedden nhw ddim yn cael eu hesbonio'n llawn iddyn nhw. A dywedodd 52 y cant nad oedden nhw'n derbyn yr holl wybodaeth angenrheidiol am sut i reoli eu hiechyd a'u llesiant yn dilyn eu triniaeth. Felly, Gweinidog, rwyf eisiau deall gennych chi pa mor hyderus ydych chi y bydd pawb yn derbyn eu hasesiad anghenion personol a addawyd yn y cynllun gofal gwella canser, pan ddywedodd 70 y cant o'r ymatebwyr na wnaethon nhw hyd yn oed dderbyn cynllun gofal ysgrifenedig ar ôl eu diagnosis yn 2021-22? Diolch.

18:10

Diolch yn fawr, Russell. Rwy'n falch eich bod yn cytuno ei fod yn beth da bod gennym ddyddiadau a nodau a thargedau, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig dwyn pobl i gyfrif; rydych yn fy nwyn i gyfrif, rydw i'n dwyn y byrddau iechyd i gyfrif. Felly, mae'n bwysig cynnwys hynny, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n nodi bod gan y cynllun gweithredu gweithlu sydd wedi'i gyhoeddi heddiw dargedau clir iawn o gymharu â'r amserlen hefyd.

Mae hwn yn gynllun sydd wedi'i ddatblygu ac sy'n eiddo i'r GIG. Nid cynllun Llywodraeth Cymru mohono; mae'n eiddo i'r GIG. Ac, felly, os ydyn nhw wedi datblygu'r cynllun hwn, rwy'n llwyr ddisgwyl iddyn nhw allu cyflawni'r cynllun. Felly, maen nhw'n credu ei fod yn gyraeddadwy. Rwy'n credu bod llawer iawn o waith wedi mynd i mewn i hyn, a hoffwn dalu teyrnged i'r holl bobl sydd wedi gweithio dros gyfnod hir i gael hyn i'r sefyllfa gywir, oherwydd nid ysgrifennu cynllun yn unig mohono; mae'n rhaid i chi gael cefnogaeth o bob cwr o Gymru gyfan wrth sôn am fod angen safonau o ansawdd cyson. Allwch chi ddim gwneud datganiad am hynny yn unig; mae'n rhaid i chi gael cefnogaeth i wneud yn siŵr bod pawb yn cytuno ar hynny.

Ar y gofal deintyddol am ddim, edrychwch, ar hyn o bryd, rydych chi'n gwybod gymaint o bwysau sydd ar ein cyllidebau, felly mae unrhyw beth sy'n cynnwys unrhyw arian ychwanegol mewn gwirionedd, yn anodd iawn. Er cymaint y byddem wrth ein boddau yn mynd i lawr y llwybr hwnnw, byddai hynny'n heriol iawn ar hyn o bryd. Ond, yn amlwg, gallwn bwyntio, fel y dywedais yn fy natganiad, at y math o rwydweithiau cymorth a ffrydiau ariannu sydd ar gael, yn enwedig i bobl sy'n ei chael hi'n anodd. 

Roedd COVID wrth gwrs yn taflu pethau allan am gyfnod. Rydyn ni'n mynd yn ôl ar y trywydd iawn nawr o ran sgrinio. Mae wedi cymryd amser, yn enwedig mewn perthynas â chanser y fron, oherwydd roedd angen i ni gael ardaloedd lle na fyddai pobl yn dod i gysylltiad â'i gilydd. Felly, rydyn ni wedi gorfod addasu cryn dipyn, a dim ond newydd fynd yn ôl ar y trywydd iawn gyda rhai o'r rheini ydyn ni o hyd. Ond mae'n bryder, wrth gwrs, bod gennym gyfraddau goroesi isel yng Nghymru, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ni ddeall bod pethau wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf, mewn gwirionedd.  Rydym mewn sefyllfa lle mae'r canlyniadau i bobl lawer gwell nag y buon nhw yn y gorffennol. Felly, mae'r gyfradd oroesi blwyddyn wedi mynd o 66 y cant i 73 y cant yn y ddau ddegawd diwethaf, felly, dwi'n credu, ein bod ni'n mynd i'r cyfeiriad cywir. Rydyn ni bron â dyblu faint o arian sydd wedi mynd mewn i gefnogaeth canser, felly dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod hynny.

Mae gennym gyfraddau goroesi is. Mae peth o hyn yn ymwneud â gwneud yn siŵr ein bod yn deall yr agenda ataliol. Mae'n rhaid i ni fynd i'r lle iawn. Rydyn ni'n dal ati i siarad am bwysigrwydd yr agenda ataliol, Yn ôl pob tebyg, mae modd atal rhwng 30 a 50 y cant o ganserau, felly mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i chwarae ein rhan os ydym am roi cynnig arni—. Nawr, dydy hynny ddim yn wir i bawb; mae'n bwysig iawn i ddatgan hynny, ond, mewn gwirionedd, mae yna bethau y gallwn ni eu gwneud i helpu ein hunain. Rwy'n hyderus y byddwn mewn sefyllfa well ar ddiwedd y rhaglen hon. 

O ran y tymor hirach, wel, ein datganiad ansawdd canser yw ein cynllun ar gyfer y tymor hirach. Dyna'r datganiad sydd, unwaith eto, wedi ei ddatblygu gan a gyda'r GIG. Ac roedd y byrddau iechyd, fel y dywedaf i, yn allweddol i ddatblygu'r cynlluniau yma, yn enwedig, ymddiriedolaeth canser Felindre. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn i'w nodi yna—y buddsoddiad enfawr, enfawr a'r gwaith sydd wedi mynd i mewn i hyn. 

Ac, wrth gwrs, pan ddaw hi at y gweithlu, y byrddau iechyd a'r ymddiriedolaethau sy'n dweud wrth AaGIC lle mae'r bylchau, ac, wedyn, maen nhw'n comisiynu'r gwaith hwnnw. A, dim ond o ran eich asesiad anghenion personol, erbyn 2024, bydd gan bob claf canser weithiwr achos, felly gobeithio y bydd hynny'n rhoi rhywfaint o gysur i bobl. 

18:15

Am wn i, y peth cyntaf i'w ddweud ydy fy mod i'n falch bod gennym ni gynllun canser erbyn hyn, a dwi'n edrych ymlaen, gobeithio, i'w weld o'n gwneud gwahaniaeth. Dŷn ni'n gwybod bod ein cyfraddau goroesi ni ddim yn ddigon da. Dŷn ni'n gwybod bod yna bobl—rôn i'n siarad efo un ffeindiodd allan yn rhy hwyr dros y penwythnos yma fod canser arno fo—mae gormod o bobl yn methu â chael y driniaeth y gallen nhw fod wedi ei chael. Mae gormod o staff sydd eisiau gwneud mwy wedi methu gwneud mwy, ac mae hynny'n torri eu calonnau nhw.

Mae gennym ni gynllun, rŵan, ac edrych ymlaen sydd yn bwysig. Ond mae hi'n bwysig iawn cofio am yr oedi sydd wedi bod cyn i ni gyrraedd at y pwynt yma heddiw. Dau gynllun canser diwethaf—2012 i 2016, wedyn 2016 i 2020—a dŷn ni bron i dair blynedd yn ddiweddarach yn cael y cynllun yma. Dydy o ddim yn ddigon da. A chyn i'r Gweinidog ddweud, 'Wel, COVID oedd y broblem fawr o 2020 ymlaen', mi ddylai fod y cynllun 2020 ymlaen yn barod cyn i COVID daro. Beth gawsom ni, wrth gwrs, oedd y datganiad ansawdd, ond mi oedd hi'n berffaith amlwg nad oedd hynny'n cael ei ystyried i fod yn ddigon da gan bob corff a oedd yn ymwneud â'r frwydr yn erbyn canser yng Nghymru. Ydy, mae wedi cymryd tair blynedd i gyrraedd y pwynt yma. 

Mae nifer o'r cwestiynau sydd gen i rŵan yn adlewyrchu'r rhai sy'n cael eu codi gan gyrff sydd wedi bod yn rhan o lunio hwn, ond sydd dal yn gweld ambell i gap yn y wybodaeth allweddol—Tenovus, er enghraifft, yn gofyn am ragor o wybodaeth o gwmpas monitro perfformiad ac atebolrwydd. Sut ydyn ni'n mynd i fod yn gallu adnabod a ydyn ni ar y trywydd iawn? Ydy'r cynllun yma'n gwneud yr hyn y mae o i fod i'w wneud? Tybed all y Gweinidog ddweud mwy wrthon ni am hynny?

Y gweithlu wedyn—mae natur y cwestiynau wedi newid rywfaint yn ystod y dydd, oherwydd ein bod ni, yn y llai na dwy awr diwethaf, wedi cael y cynllun gweithlu addawyd i ni erbyn diwedd mis Ionawr. Ryw bump awr a 40 munud o fis Ionawr sydd ar ôl. Nid fel hyn mae gweithredu, mae gennyf i ofyn. Mi ddylem ni fod mewn sefyllfa lle gallem ni fod â datganiad i’r Senedd ar y cynllun gweithlu. Mi ddefnyddiaf i’r cyfle i ofyn cwestiynau am y gweithlu oherwydd bod y datganiad wedi cael ei roi i ni, ond dydw i, a dwi’n siŵr y rhai sy’n ymwneud â’r frwydr yn erbyn canser, ddim yn hapus mai yn y ffordd yma mae pethau wedi cael eu gwneud.

Dwi wedi cael cyfle sydyn i fwrw golwg dros y cynllun gweithlu newydd. Roeddwn i’n bryderus y bore yma—roedd y BBC yn adrodd ar sylwadau gan y Gweinidog yng nghyd-destun y ffaith bod y gweithlu canser yn flinedig, bod yna ormod o swyddi gwag, a’r hyn a ddywedodd y BBC oedd bod y Gweinidog yn dweud bod gan y byrddau iechyd yr arian a’i bod hi i fyny iddyn nhw i flaenoriaethu. Nid dyna sy’n cynrychioli cynllun gweithlu, mae gennyf i ofyn. Ond, rŵan, mae gennym ni gynllun gweithlu, ac mae o’n dweud bod ymateb i’r heriau cynllun canser sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yma yn un o’r blaenoriaethau ar gyfer y cynllun gweithlu newydd hwnnw, ond dwi’n methu gweld beth ydy’r cynllun ar gyfer y cynllun, ar gyfer cryfhau’r gweithlu canser. Mae yna sôn am amserlenni ar gyfer gwahanol elfennau o gryfhau’r gweithlu; dwi’n methu gweld cyfeiriad at y gweithlu canser yn benodol yn yr amserlen honno. O bosibl, gall y Gweinidog egluro rhagor wrthym ni am sut yn union mae’r cynllun sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yma'n mynd i fod yn helpu i weithredu’r cynllun canser. Oherwydd, heb y gweithlu, does gennym ni ddim modd i wella’r cyfraddau goroesi, a does gennym ni ddim modd i dynnu pwysau oddi ar y gweithlu sydd gennym ni. Felly, mi edrychaf i ymlaen at ymateb ar hynny.

Ac mi ofynnaf i, os caf i, un cwestiwn ynglŷn â rhan fawr o’n tirlun canser ni, sef, Felindre. Dwi wedi bod yn ymwybodol dros yr wythnosau diwethaf fod mwy o bobl eto, fel dwi wedi gwneud yn y gorffennol, wedi awgrymu’n gryf mai cydleoli’r gwasanaethau canser efo gwasanaethau brys eraill sydd yn gwneud synnwyr, yn hytrach na'u datblygu nhw fel canolfannau canser ar eu pennau nhw eu hunain. Ydy’r Gweinidog iechyd wedi cael cyfle i ystyried y sylwadau diweddaraf gan bobl sydd yn flaenllaw iawn ym maes canser sydd yn dal i awgrymu bod y penderfyniad anghywir yn cael ei wneud? Rydyn ni eisiau’r gwasanaethau canser gorau posibl, ond dydyn ni ddim eisiau gweld penderfyniadau'n cael eu gwneud y byddwn ni’n eu difaru mewn blynyddoedd i ddod.

18:20

Diolch yn fawr. Dwi’n meddwl bod lot o bobl, yn anffodus, yn ffeindio mas bod canser gyda nhw wrth iddyn nhw fynd i’r emergency departments—dyw’r symptomau ddim yn dangos tan y funud olaf, ac mae hwnna’n amlwg yn rhywbeth sydd yn anodd iawn iddyn nhw. Rhan o beth rŷn ni’n sôn amdano yn y cynllun yma yw gwneud yn siŵr bod yna acute oncology services ar gael yn ein hunedau brys ni.

Cynllun, fel dwi wedi dweud, yr NHS yw hwn, ac mae hwn yn ymateb i’r system ansawdd sydd gyda ni. Ac o ran atebolrwydd, wrth gwrs, mae’r byrddau iechyd yn atebol i fi drwy’r cadeiryddion, ond bydd yr NHS executive gyda rôl benodol i wneud yn siŵr bod hwn yn cael ei ddelifro, felly, dwi’n gobeithio—. Ac wrth gwrs, trwy’r integrated medium-term plans, y broses IMTPs, fel rŷch chi’n gwybod, mae canser yn un o’r chwech o flaenoriaethau sydd gen i. Felly bydd monitro’r rheini a gwneud yn siŵr bod y rheini'n cael y sylw sydd ei angen yn golygu bod hwn yn un o’r blaenoriaethau.

O ran y gweithlu, mae’n anodd, onid yw e? Achos mae cymaint ar yr agenda ar hyn o bryd, mae cymaint yn mynd ymlaen, a phetasem ni ddim wedi cyhoeddi’r adroddiad HEIW heddiw, byddech chi wedi cwyno am hynny. So, roedd e'n well geni i actually gwneud beth oeddwn i’n dweud fy mod i’n mynd i’w wneud. Allaf i ddim ffitio mwy o bethau ar yr agenda—dim ond un diwrnod sydd gyda ni yr wythnos yma. Dwi eisoes wedi bod ar fy nhraed i ddwywaith heddiw. Felly, diffyg lle yw’r broblem. Rŷn ni wedi’i wneud e. Gwnes i addo y byddwn ni’n ei gael e erbyn diwedd y mis, ac mae e wedi’i delifro.

O ran cydleoli, mae'r penderfyniad ar Felindre wedi cael ei wneud. Rŷm ni wedi clywed pob ochr o'r ddadl, ac mae yna gwestiwn, wrth gwrs, o ran amseru a ble mae'r lleoliad gorau, ac ati. Mae'r penderfyniad wedi cael ei wneud, fyddwn ni ddim yn newid y penderfyniad yna, ac mi fydd y gwaith yn dechrau cyn bo hir. Ond roeddwn i'n falch iawn o weld yr £86 miliwn rŷm ni wedi gyhoeddi ddydd Gwener ar gyfer offer radiotherapi newydd. Mae hyn yn 10 peiriant newydd, dau ohonyn nhw yn mynd i fynd i'r Fenni, sy'n golygu fydd pobl ddim yn gorfod teithio cweit mor bell o ochr yna Cymru. Felly, dwi yn falch ein bod ni yn mynd i symud ymlaen a bod yr offer newydd gyda ni mewn lle.  

18:25

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad gonest a hefyd am eich cyflawniadau, er gwaethaf popeth rydych chi'n gorfod ei wneud yn y maes iechyd.

Roeddwn i eisiau rhannu gyda'r Aelodau drafodaeth a gynhaliwyd yng ngrŵp trawsbleidiol iechyd menywod ym mis Rhagfyr, lle gwnaethom ni drafod y pum canser gynae. Roedd un o'r siaradwyr yn ymgyrchydd cleifion cwbl ardderchog efallai eich bod chi wedi clywed amdano o'r enw Jim Sweet, y bu farw ei wraig o ganser yr ofari, ac ers hynny mae wedi datblygu'n arbenigwr go iawn mewn canser yr ofari, oherwydd iddi farw bythefnos ar ôl cael diagnosis cywir, ar ôl cael diagnosis anghywir o fod â syndrom coluddyn llidus a chael ei hanfon i'r clinig gastroenteroleg. Rwy'n credu nad yw hyn yn anarferol.

Roedd hefyd yn arbenigwr gwych o ran cymharu'r ffordd y mae'r system gofal iechyd yn trin dynion o'u cymharu â menywod, a gwn fod hyn yn rhywbeth yr ydych chi'n poeni'n fawr amdano. Cymharodd y gwasanaeth rhagorol a gafodd ar gyfer canser y prostad gyda'r gwasanaeth darniog iawn a gafodd ei wraig. Sut mae gwella hynny, oherwydd mae'n amlwg bod rhagfarn yn erbyn menywod sy'n cwyno am symptomau penodol, sydd ddim yn cael eu clywed yn ddigon eglur? A sut mae gwella ymwybyddiaeth o symptomau ar draws pob arbenigedd clinigol fel bod gastroenteroleg, er enghraifft, yn gweithio'n agos iawn gyda gwasanaethau canser, oherwydd nid yn anaml y ceir diagnosis anghywir o'r mathau hyn o bryderon gan bobl y mae'n debyg ddylai wybod llawer mwy am ganser yr ofari, a hefyd rhai o'r mesurau ataliol ynghylch bwydo ar y fron, beichiogrwydd lluosog, y bilsen atal cenhedlu, a all, yn amlwg, leihau eich tebygolrwydd o gael canser yn aruthrol, yn ogystal â'r ffaith bod wyth o bob 10 achos yn digwydd mewn menywod dros 50 oed?

Diolch yn fawr. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn ymwybodol bod un o bob dau berson yn debygol o gael canser, ac felly mae canser yn effeithio arnom bob un ohonom ni mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Ac felly, mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud ein gorau glas i gael gwell dealltwriaeth. Bob dydd, ceir datblygiadau newydd, technolegau newydd a gwelliannau genetig newydd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr holl bethau hyn yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n parhau i wella'r perfformiad yn y maes hwn.

Mae diagnosis cynnar yn gwbl allweddol. Mae hynny'n wir, wrth gwrs, ar gyfer canserau gynae, ac rwy'n poeni'n arbennig am y cyfraddau o ran canserau gynae. Gwn y bydd hyn yn rhywbeth y bydd y tîm ledled Cymru yn edrych arno ac yn canolbwyntio arno. Mae sgrinio, wrth gwrs, yn gwbl allweddol o ran gwneud yn siŵr bod pobl yn manteisio ar y cyfle hwnnw o sgrinio, a'n bod ni'n mynd ar drywydd—yn yr un ffordd ag yr ydym ni wedi mynd ar drywydd pobl sydd heb gael eu brechiadau, mae angen i ni feddwl am wneud hynny o ran sgrinio hefyd.

Rydych chi yn llygad eich lle—rwy'n bryderus iawn bod angen i'r system gofal iechyd wneud yn siŵr eu bod nhw'n trin menywod yn deg, yn gywir, ac mewn ffordd sy'n parchu menywod yn ogystal â dynion. Dyna pam rydym ni eisoes wedi llunio'r datganiad ansawdd iechyd menywod, ac rydych chi'n hollol iawn, rwy'n credu bod llawer mwy y gallem ni i gyd ei wneud o ran dysgu beth i gadw llygad amdano o ran ymwybyddiaeth o symptomau. Mae rhai o'r elusennau sy'n sicr wedi bod yn siarad â mi wrth i ni ddatblygu'r cynllun hwn, maen nhw'n dda iawn am godi ymwybyddiaeth, ond rwy'n credu bod gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i geisio dysgu ychydig mwy am yr hyn y ddylem ni fod yn cadw llygad amdano. Ond y pwynt yw ein bod ni, mewn gwirionedd, yn adnabod ein cyrff ein hunain; os oes newid, mae angen i ni fod yn sensitif i'r newid hwnnw a gwneud yn siŵr ein bod ni'n mynd i gael cymorth.

18:30

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n falch o weld datganiad a chynllun heddiw o'r diwedd, gan fod fy etholwyr wedi bod yn aros am amser maith iawn i hyn ddwyn ffrwyth. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig, a fy nghyd-Aelod yma, Russell George wedi bod yn galw am gynllun canser ers amser maith bellach, a Chymru oedd yr unig wlad yn y DU lle nad oedd y Llywodraeth wedi cyhoeddi cynllun canser am lawer rhy hir. Felly, rwy'n croesawu hynny heddiw.

Ond, Gweinidog, roeddwn i eisiau trafod canserau y mae'n fwy anodd eu goroesi. Cyfeirir at y rhain yn y cynllun, sydd i'w groesawu, ond rwy'n ymwybodol bod ymgyrchoedd cyfathrebu Llywodraeth Cymru, yn y gorffennol, wedi bod yn wael. Felly, o ran ymwybyddiaeth o symptomau, a fyddwch chi'n sefydlu ymgyrch ymwybyddiaeth o symptomau canser i helpu aelodau'r cyhoedd a meddygon teulu? Ac o ran un o'r canserau sy'n peryglu bywyd fwyaf, canser yr ysgyfaint, a fyddwch chi'n cynyddu ac yn gweithredu archwiliadau iechyd yr ysgyfaint wedi'u targedu, a allai achub dros 100 o fywydau'r flwyddyn ar ôl eu cyflwyno yng Nghymru? Ac a fydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu argymhellion Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Wel, wrth gwrs, mae llawer o ymgyrchoedd sydd eisoes ar y gweill o ran canserau y mae'n fwy anodd eu goroesi gan rai o'r sefydliadau hynny. Yr hyn nad wyf i'n mynd i'w wneud yw—. Rwyf i newydd gyhoeddi cynllun; dydyn ni ddim yn mynd i ddechrau ychwanegu pethau newydd at y cynllun. Datblygwyd hwn gan bobl, gweithiwyd arno gan sefydliadau ledled Cymru, gan y GIG. Felly, yr hyn sydd yna yw'r hyn yr ydym ni'n mynd i'w gyflawni, ac nid ydym ni'n mynd i ychwanegu unrhyw beth newydd ato, oherwydd mewn gwirionedd mae wedi cael ei gynllunio yn ofalus iawn. Ond mae pethau o ran sgrinio'r ysgyfaint, er enghraifft, ac mae cynllun peilot yr ydym ni'n ei gynnal yn hynny o beth, ac yn amlwg byddwn ni'n gweld sut mae'r cynllun peilot hwnnw'n mynd. A nod hwnnw yw targedu pobl sydd wedi bod yn smygwyr ac ati mewn ardal benodol. Felly, rydym ni'n mynd i weld sut mae hynny'n mynd, ac, yn amlwg, byddwn yn adeiladu ar hwnnw os yw hwnnw'n gweithio.

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae gen i ddiddordeb go iawn mewn gwybodeg y GIG a sut y gellir ei defnyddio i wella gwasanaethau. Felly, nodaf eich sylwadau ynghylch systemau digidol a Chanolfan Ganser Felindre yn symud i system gweinyddu cleifion Cymru, ac roedd yn ddiddorol gen i ddarllen eich datganiad ysgrifenedig ddoe ar y rhaglen gwybodeg canser. Felly, mae gen i ambell gwestiwn am hynny, ac, yn benodol, am gam nesaf y cyflwyniad. A allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y garreg filltir arwyddocaol nesaf sy'n cael ei hanelu ato ar y daith hon o welliant, a phryd ydych chi'n rhagweld y gallem ni gyrraedd y garreg filltir nesaf honno? Roedd yn ddiddorol gen i hefyd weld eich sylwadau ar gasglu data ychwanegol drwy'r system hon. Felly, pa wybodaeth benodol fyddai Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei chasglu yn ystod camau nesaf hyn y cyflwyniad?

Diolch yn fawr iawn. Wel, rwy'n awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod ni'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i geisio gwella ein systemau. Dyna pam rydym ni eisoes wedi gwario £86 miliwn ar y peiriannau radiotherapi newydd hyn; dyna pam rydym ni wedi gwario £3 miliwn ar system cofnodion electronig; ac mae gennym ni hefyd dechnoleg llawfeddygaeth robot newydd eisoes yn weithredol ac yn gweithio ac yn cyffroi llawer o lawfeddygon ledled Cymru. Felly, mae gwneud yn siŵr ein bod ni'n defnyddio'r peiriannau a'r therapïau ddiweddaraf yn gwbl hanfodol. Rydym ni hefyd wedi gwario £4 miliwn ar rwydwaith canser Cymru, a chefais fy holi'n gynharach am sut rydym ni'n monitro hyn. Wel, mewn gwirionedd, mae'r rhwydwaith canser yn mynd i fod yn allweddol i wneud yn siŵr bod y cynllun hwn, mewn gwirionedd, yn cael ei ddarparu. O ran gwybodeg a chasglu data, wel, mae'r manylion a'r amserlenni wedi'u nodi yn y cynllun o'r hyn a ddisgwylir a phryd. Ond, o ran casglu gwybodaeth, y peth allweddol i mi yw ein bod ni'n parhau i ddysgu gan bobl a'u profiadau, a'n bod ni'n rhoi adborth ar sail gylchol a fydd yn gwella ein gwasanaethau yn gyson, o ran gofal canser.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Cyflawniad gwych, Gweinidog. Nawr, mae pobl o ardaloedd difreintiedig yng Nghymru yn wynebu canlyniadau gwaeth o ran canser yr ysgyfaint, canser yr ofari neu ganserau eraill, ac mae fy mhryder i, a godwyd gan Laura hefyd, ynglŷn â'r sgrinio—sgrinio wedi'i dargedu—rhwng 55 a 74 oed, fel yr ydym ni'n ei wneud gyda chanser y coluddyn. Ac mae'n hanfodol deall a mynd i'r afael ag achos anghydraddoldebau iechyd, a sut ydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â hynny?

18:35

Diolch yn fawr iawn. Wel, rydych chi'n iawn, ac rwy'n credu fod yn rhaid i ni geisio dysgu yn barhaus o'r hyn sy'n gweithio. Felly, er enghraifft, rydym ni bellach yn targedu sgrinio o ran canser y coluddyn, ac anfonir prawf imiwnocemegol ar ysgarthion i bobl, ac mae wedi bod yn ddiddorol iawn gweld ei bod yn ymddangos bod pobl yn fwy parod i ddefnyddio'r prawf FIT y gallan nhw ei wneud gartref, yn hytrach na dod i feddygfa ac ati. Felly, mae'n rhaid i ni ddefnyddio mwy o'r hyn sy'n gweithio a gwneud yn siŵr ein bod ni'n targedu, fel rydych chi'n dweud, rhai o'r ardaloedd difreintiedig hynny. Ac mae gwaith gwych yn cael ei wneud, er enghraifft, rwy'n credu, yn etholaeth Dawn Bowden o ran ceisio annog dynion yn arbennig i fanteisio ar y cyfle i sgrinio am ganser y coluddyn, ac mae Sefydliad Moondance wedi bod yn gwthio hyn ac yn ceisio gwneud yn siŵr ein bod ni, mewn gwirionedd, yn ymgysylltu â phobl, yn cael pobl i fanteisio ar y cyfleoedd pan y'u rhoddir iddyn nhw. Ac felly rwy'n credu ein bod ni wedi dysgu cryn dipyn drwy'r rhaglen frechu o adael neb ar ôl, ac mae'n rhaid i ni barhau i ddefnyddio'r technegau hynny nawr o ran mynd ar drywydd pobl sydd ddim yn manteisio ar y cyfleoedd hynny pan ddaw i sgrinio. 

10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd)

Eitem 10 y prynhawn yma yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd). Galwaf ar Weinidog yr Economi i wneud y cynnig. Vaughan Gething.

Cynnig NDM8190 Vaughan Gething

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig o'n blaenau. Rwy'n ei chael hi'n anodd, neu'n siomedig wrth fynd i'r afael â'r cynnig hwn, sy'n ymwneud â Bil yn gweithredu'r cytundebau masnach rydd gydag Awstralia a Seland Newydd, ein bod ni unwaith eto yn gorfod trafod achos arall lle mae Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad gan y Senedd i Fil sy'n cynnwys pwerau cydredol na wnaiff Llywodraeth y DU gynnwys pwerau cyfatebol ar eu cyfer i Weinidogion Cymru. Rydym ni wedi cyflwyno'r cynnig i sicrhau y gall y Senedd archwilio'r materion yn ymwneud â'r Bil a gwneud penderfyniad ar gydsyniad. Bydd yr Aelodau'n gweld, yn y memorandwm, ein bod ni'n argymell gwrthod cydsynio. Ceir rhesymau cyfreithiol a chyfansoddiadol da dros hyn.

Bydd yr Aelodau yn gweld bod Llywodraeth Cymru o'r farn bod cymal 1 yn ganolog i'r Bil ac yn rhoi pwerau i bob un o bedair Llywodraeth y DU. I'r graddau y rhoddir y grym i Weinidogion Cymru, mae'r Bil hwn o fewn cymhwysedd y Senedd ac mae'n fater datganoledig yn unol ag ystyr adran 107(6) Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'r holl ddarpariaethau eraill yn y Bil yn dilyn o'r pwerau a nodir yng nghymal 1, ac, o'r herwydd, mae bron i holl ddarpariaethau'r Bil angen cydsyniad.

Mae swyddogaeth y Bil ei hun yn weddol gul a thechnegol ei natur gan y byddai'n rhoi'r grym i Lywodraeth y DU, yn ogystal â Gweinidogion Cymru, wneud newidiadau i ddeddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o rwymedigaethau caffael Llywodraeth y DU o dan y cytundebau ag Awstralia a Seland Newydd. Mae'n rhaid i'r Bil hwn gael ei basio a derbyn Cydsyniad Brenhinol cyn i'r cytundebau ddod i rym i sicrhau nad yw'r DU yn mynd yn groes i'w rhwymedigaethau a nodir yn y cytundebau hynny. Fodd bynnag, bydd y Bil hwn wedyn yn cael ei ddiddymu gan Fil arall sy'n mynd drwy Senedd y DU ar hyn o bryd—y Bil Caffael. Mae'r ail Fil hwn hefyd angen cydsyniad deddfwriaethol y Senedd. Ac mae memorandwm cydsyniad deddfwriaethol i'r Bil hwnnw eisoes wedi'i gyflwyno i'r Senedd ac wrth gwrs bydd yn destun ei ddadl ei hun maes o law. Fel y dywedais, er gwaethaf y teitl, mae swyddogaeth y Bil yn gul.

Mae'r newidiadau sydd eu hangen i'n system gaffael o ganlyniad i gytundebau masnach rydd Awstralia a Seland Newydd yn fach a thechnegol eu natur a chawsant eu trafod yn llawn gyda swyddogion cyn iddyn nhw gael eu cyflwyno yn ystod trafodaethau. Gwn fod gan rai Aelodau safbwyntiau ehangach ar y cytundebau masnach hyn, ond o ran y newidiadau sydd eu hangen o ran caffael nid oes gen i unrhyw faterion sy'n peri pryder. Mae fy mhryderon am y Bil hwn yn ymwneud yn llwyr â natur y pwerau y mae'n eu cynnwys. Er gwaethaf trafodaethau helaeth ar lefel weinidogol a swyddogol, mae Llywodraeth y DU wedi parhau i wrthod ein galwadau i bwerau cyfatebol gael eu cynnwys ar wyneb y Bil ac mae'n amharod i roi pwerau cyfatebol neu gydredol plws.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ymgynghori â'r Llywodraethau datganoledig cyn defnyddio'r pwerau, ond, fel y clywodd y ddadl yn ystod yr Ail Ddarlleniad yn Nhŷ'r Arglwyddi, nid materion i ymgynghori arnyn nhw'n unig yw materion datganoledig. Rydym ni'n credu nad oes unrhyw reswm pam na ellid fod wedi cynnwys pwerau cyfatebol neu gydredol plws, o leiaf, yn y Bil hwn. Nid yw dull presennol Llywodraeth y DU yn gyson ag egwyddor datganoli, ac, fel y mae'r Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei gwneud yn eglur, pwerau cyfatebol ddylai fod yr opsiwn diofyn pan fydd materion sy'n effeithio ar ddatganoli yn codi.

Er bod gen i bryderon ynghylch rhywfaint o gynnwys y cytundebau hyn, fel yr ydym ni wedi ei drafod o'r blaen, a'i effaith bosibl ar rai o'r sectorau, rydym ni wedi ei gwneud yn eglur i Lywodraeth y DU na fyddem ni'n ceisio arafu na rhwystro gweithrediad y cytundebau masnach a sicrhawyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i chwarae ei rhan i gydymffurfio â rhwymedigaethau cytundebau rhyngwladol o'r fath.

Dyma'r ail Fil a gyflwynwyd yn benodol i weithredu polisi masnach newydd Llywodraeth y DU yn dilyn ein hymadawiad â'r UE. Yn achos y Bil Masnach gwreiddiol, fe wnaethom ni argymell y dylid rhoi cydsyniad y Senedd. Fodd bynnag, roedd y Bil hwnnw'n ymwneud â pharhau cytundebau masnach presennol yr oeddem ni'n rhan ohonyn nhw fel aelod o'r UE yn unig. Cawsom reswm i gredu ar y pryd gan Lywodraeth y DU na fyddai hyn yn gosod cynsail ar gyfer deddfwriaeth yn y dyfodol. Nid ydym yn dymuno i'r cynsail tybiedig hwn barhau yn achos y Bil hwn. Gwn fod y pryder hwn yn cael ei rannu gan y pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Ysgrifennodd y pwyllgor ataf ym mis Gorffennaf 2022 i amlinellu eu pryderon bod y dull a fabwysiadwyd i ddefnyddio pwerau cydredol yn y Bil hwn mewn perygl o osod cynsail ar gyfer deddfwriaeth yn y dyfodol ac ar gyfer cytundebau masnach. Rwy'n cytuno â'u hasesiad. Nid ydym yn disgwyl y bydd unrhyw welliannau i'r Bil a fyddai'n cynnwys newid i'r pwerau cydredol a gynigir. Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor am eu gwaith parhaus yn craffu ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a'r Bil a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi argymhelliad y Llywodraeth a, pan ddaw'n amser pleidleisio, gwrthod cydsyniad.

18:40

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca Davies.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni gyflwyno ein hadroddiad ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn ar 23 Tachwedd 2022. Fe wnaethom ni ddod i ddau gasgliad a gwneud tri argymhelliad, ac rydym ni'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ei ymateb i'n hadroddiad. Fel y dywedodd y Gweinidog, mae'r Bil yn diwygio deddfwriaeth gaffael i fodloni gofynion cytundebau masnach rydd y DU-Awstralia a'r DU-Seland Newydd, ond bydd yn cael ei ddiddymu gan Fil Caffael Llywodraeth y DU, os caiff y Bil hwnnw ei ddeddfu.

Nawr, roeddem ni'n cytuno ag asesiad Llywodraeth Cymru bod yr holl gymalau ac Atodlenni a restrir yn y memorandwm o fewn diben sy'n cyd-fynd â chymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, fel y disgrifiwyd yn Rheol Sefydlog 29. Fodd bynnag, argymhellwyd gennym hefyd y dylid gofyn am gydsyniad y Senedd i gymal 4 a pharagraff 4 Atodlen 2 hefyd. Ni dderbyniodd y Gweinidog ein barn ar gymal 4, gan ei fod yn honni ei fod yn ddarpariaeth dechnegol. Fodd bynnag, dim ond i nodi, ar y pwynt penodol hwnnw, mae memorandwm cydsyniad sydd wedi'i gyflwyno gerbron y Senedd ar hyn o bryd ar gyfer Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), sydd yn wir yn rhestru cymalau technegol fel y'u gwelir fel cymalau sydd angen cydsyniad y Senedd. Felly, rydym ni'n parhau i fod o'r farn y dylai cydsyniad ar gyfer cymalau o'r fath fod yn ofynnol. Mae'n destun anghytundeb.

Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd gennym, dywedodd y Gweinidog wrthym ni ei fod yn rhannu ein pryderon, fel y mae newydd sôn yn ei sylwadau, am y defnydd cynyddol o bwerau cydredol ym Miliau'r DU. Dywedodd wrthym hefyd y byddai Llywodraeth Cymru, o leiaf, angen i bwerau cydredol plws gael eu cynnwys yn y Bil TANZ, fel y byddaf yn cyfeirio ato, cyn y gallem ni argymell y dylai'r Senedd gydsynio. Nawr, rydym ni'n credu yn wir mai cynnwys pwerau i Weinidogion Cymru yn y Bil TANZ sy'n cyfateb i'r rhai a ddarperir i Weinidogion y DU fyddai'r opsiwn gorau sydd ar gael. Fodd bynnag, i oresgyn y mater o gynnwys pwerau cydredol yn y Bil, fe wnaethom ni archwilio gyda'r Gweinidog pam na allai gyflwyno Bil sy'n cyfateb i Fil Llywodraeth y DU gerbron y Senedd. Hefyd, o ystyried rhesymeg y Gweinidog amser yn hollbwysig o ran y ddeddfwriaeth—ac rydym ni'n deall hynny—fe wnaethom ni ofyn beth oedd y rhwystrau i geisio cyflwyno Bil brys i'r Senedd hon.

Nawr, o gofio'r dyddiad terfyn y mae Llywodraeth y DU yn gweithio yn unol ag ef, dywedodd y Gweinidog wrthym nad oedd yn credu bod digon o amser ar gael i gyflwyno Bil brys, nac y byddai hwn yn ddull cymesur o ystyried cwmpas y darpariaethau yn y ddeddfwriaeth hon. Ond mae'n mynd â ni at fater o egwyddor i'n pwyllgor. Nid ydym yn credu ei bod hi'n briodol i Lywodraeth Cymru ddefnyddio dadleuon—fel y gwnaeth yn y memorandwm hwn yn wir—yn ymwneud ag amserlen y Senedd ar gyfer craffu, na'r capasiti, er mwyn cyfiawnhau defnyddio Bil y DU i ddeddfu mewn maes datganoledig. Mae hwn yn bwynt yr ydym ni wedi ei wneud sawl gwaith o'r blaen. Rydym ni'n cadw ato. Rydym ni'n ail-bwysleisio'r pwynt hwnnw heddiw

Dywedodd y Gweinidog wrthym ni hefyd na fyddai Bil Senedd, ohono'i hun, yn goresgyn cynnwys pwerau cydredol yn y Bil TANZ, gan na allai Bil Senedd atal Bil TANZ rhag rhoi pwerau i Weinidogion y DU weithredu newidiadau deddfwriaethol yng Nghymru. A dywedodd y Gweinidog wrthym y gallai hyn arwain felly at bwerau cydredol, er y bydden nhw wedi'u cynnwys mewn gwahanol Ddeddfau.

Fodd bynnag, mae hyn yn fy arwain at bwynt egwyddor arall pwysig iawn, yr hoffwn dynnu sylw ato eto, y mae'r pwyllgor hwn yn glynu wrtho. Trwy fynd ar drywydd Bil ar wahân i Gymru, byddai Gweinidogion Cymru, yn amodol ar safbwyntiau'r Senedd hon, wedi gallu creu'r pwerau sydd eu hangen arni, yn hytrach na gorfod cytuno ar eu cynnwys yn y Bil TANZ. Ac er ein bod ni'n derbyn na allai Bil Cymru atal Bil TANZ rhag rhoi pwerau i Weinidogion y DU weithredu newidiadau deddfwriaethol yng Nghymru, byddai, fodd bynnag, yn newid natur y sgwrs rhwng Llywodraethau. Hefyd, ac yn arwyddocaol, byddai hefyd yn newid natur y cwestiwn sy'n cael ei ofyn i'r Senedd hon ar fater cydsynio. Nawr, gall y mater hwn fod o fawr o bwys mewn gwirionedd, o ystyried diddymiad arfaethedig y Bil TANZ os caiff ei ddeddfu, ond, fel pwynt egwyddor, mae'n dal i fod yn ddilys, felly rydym ni'n tynnu sylw'r Senedd ato.

Ac, yn olaf, ar y trydydd argymhelliad, rydym ni'n ddiolchgar iawn am yr ymateb a gawsom ni ym mis Rhagfyr, yn nodi bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod deialog yn parhau ynghylch yr anghytuno ar y Bil. Nawr ein bod ni wedi cyrraedd y drafodaeth, fodd bynnag, byddai wedi bod o gymorth i ni—nid wyf i'n gwybod a all y Gweinidog gyfeirio at hyn fel fel ymateb—cyn trafodion heddiw, darganfod a oedd y materion hynny y cyfeiriodd atyn nhw ynghylch y pwerau cydredol wedi cael eu datrys er boddhad y Gweinidog. Rydym ni'n clywed heddiw nad yw hynny'n wir.

Felly, Gweinidog, dim ond dau rwy'n meddwl tybed a allech chi gyfeirio atyn nhw yn eich sylwadau yn y fan yna. Yn gyntaf oll, beth yw'r goblygiadau heddiw os yw'r Senedd yn gwrthod cydsynio, ac, a yw'r Gweinidog wedi myfyrio o gwbl ar y penderfyniad i beidio â chyflwyno ei Fil ei hun fel llwybr amgen? Diolch yn fawr iawn.

18:45

Bydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw. Gwn fod y Senedd wedi trafod rhinweddau cytundeb masnach rydd Awstralia a Seland Newydd ar sawl achlysur. Ac, fel y dywedodd y Gweinidog, mae'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn ymwneud â Bil sy'n sicrhau bod mesurau perthnasol yn cael eu cyflwyno fel bod modd gweithredu'r cytundeb masnach. Fel yr wyf i'n deall, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cael trafodaethau gyda swyddogion Llywodraeth y DU ynghylch y newidiadau sydd eu hangen i'r penodau caffael, sydd i'w groesawu, er fy mod i'n nodi nad oedden nhw'n rhan o ddatblygiad y Bil ei hun. O'r herwydd, Dirprwy Lywydd, byddai gen i ddiddordeb mewn holi'r Gweinidog yn ehangach ynghylch pa newidiadau oedd eu hangen i reolau caffael Cymru. A sut mae'r Gweinidog yn rhagweld defnyddio'r pwerau y darperir ar eu cyfer yn y Bil i Lywodraeth Cymru mewn blynyddoedd i ddod?

Dirprwy Lywydd, rydym ni'n gwybod bod y Gweinidog yn gwrthwynebu cydsyniad ar hyn o bryd oherwydd cynnwys pwerau cydredol yng nghymal 1, fel y mae eisoes wedi ei egluro. Fodd bynnag, mae llythyr y Gweinidog at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, dyddiedig 14 Rhagfyr, yn nodi ei fod ef a'i swyddogion wedi cael cyfarfod adeiladol yn ddiweddar gyda Nigel Huddleston, y Gweinidog dros Fasnach Ryngwladol, ac y cytunwyd y byddai mwy o gyfarfodydd yn cael eu cynnal am y Bil. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog a godwyd y materion ynghylch defnyddio pwerau cydredol yn y cyfarfod hwnnw, a wnaeth y Gweinidog dros Fasnach Ryngwladol roi unrhyw gyfiawnhad ychwanegol dros ei gynnwys, ac a oedd y Gweinidog yn fwy parod i ddod o hyd i ateb a oedd yn dderbyniol i'r ddwy Lywodraeth?

Wel, ni ddylai'r Senedd yma gefnogi'r LCM yma ar unrhyw gyfrif. Byddai cefnogi'r cynnig yn bradychu ffermwyr Cymru, ac yn gadael ein sector amaethyddol yn agored i gael ei thanseilio'n llwyr gan gynhyrchwyr cig coch o ben draw'r byd.

Mae gan y Llywodraeth yma sawl polisi blaengar, megis targedau uchelgeisiol amgylcheddol, polisïau caffael lleol, heb sôn am ddeddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol, ymhlith eraill. Byddai galluogi'r cydsyniad deddfwriaethol yma heddiw yn mynd yn groes i bob un o'r polisïau yma. O siarad efo bwtsieriaid Cymru, mae yna gynnydd sylweddol yn y cig oen sydd yn dod yma o Aotearoa eisoes, ac mae canlyniad hyn yn amlwg heddiw wrth inni weld pris ŵyn i lawr yn sylweddol ar ble roedden nhw flwyddyn yn ôl. Mae'r cytundeb yma am arwain at gwymp sylweddol yn GVA amaeth Cymru—£50 miliwn o bunnoedd yn ôl amcangyfrifon Undeb Amaethwyr Cymru, heb sôn am y miliynau sydd wedi cael eu colli wrth i Lywodraeth San Steffan beidio â chadw at ei gair ynghylch digolledion amaeth yn sgil Brexit.

Yn wir, mae amaethwyr rwy'n siarad â nhw yn Awstralia ac yn Aotearoa yn methu â chredu eu lwc fod y Deyrnas Gyfunol wedi cytuno ar gytundeb sydd mor unochrog o'u plaid nhw. Ein ffermydd bach ydy asgwrn cefn economi wledig Cymru—dyna ddywedodd Samuel Kurtz neithiwr. Dwi'n cytuno'n llwyr efo fo. Ond yn fwy na hynny, maen nhw'n greiddiol i barhad yr iaith a'n diwylliant. Fedrwn ni ddim â throi ein cefnau arnyn nhw. Mae'n rhaid cefnogi'r sector a sicrhau bod ffermydd bach Cymru yn parhau i frithio tirwedd godidog Cymru wrth iddyn nhw warchod a meithrin ein tirwedd. Fedrwn ni ddim bradychu ein ffermwyr drwy ddangos unrhyw fath o gefnogaeth i'r cytundeb rhwng y Deyrnas Gyfunol ac Awstralia ac Aotearoa. Felly, a wnaiff y Llywodraeth ddod â'u Bil eu hunain ymlaen? Diolch yn fawr iawn.

18:50

Rwy'n croesawu'n fawr araith y Gweinidog heno wrth ofyn ac argymell nad yw'r Senedd hon yn rhoi cydsyniad i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Rwy'n credu y dylem ni fod yn gwneud hynny am ddau reswm: am y rhesymau cyfansoddiadol, ond hefyd am resymau polisi. Cytunaf gyda fy ffrind, Cadeirydd ein pwyllgor. Rwy'n cadw anghofio enw'r pwyllgor, ond mae'n bwyllgor da iawn. [Chwerthin.] Deddfwriaeth, cyfiawnder a'r cyfansoddiad. Rwy'n dymuno—. Rwy'n llawer gwell gyda geiriau unigol na byrfoddau, ond mae'n dda iawn—[Torri ar draws.] Efallai mai fy oedran i ydyw. Mae'n fwy tebygol o fod yn bethau eraill, ond awn ni ddim yno.

Felly, rwy'n ddiolchgar iawn iddo, ac rwy'n cytuno gyda'r pwyntiau mae'n eu gwneud am bwerau cydredol a'r pwyntiau mae'n eu gwneud am Lywodraeth Cymru yn cyflwyno ei deddfwriaeth ei hun. Ond rwy'n credu bod pwynt mwy sylfaenol ynghlwm wrth y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, sef natur craffu seneddol. Mae'r Seneddau, ble bynnag rydych chi'n digwydd bod, yn San Steffan, yma, Holyrood, neu ble bynnag, yn bodoli i graffu ar weithredoedd y Gweithrediaeth, ac mae hynny'n rhan allweddol, sylfaenol o'n rôl. Neithiwr yn San Steffan, cafodd deddfwriaeth ei phasio sy'n caniatáu i Weinidogion ddeddfu. Ni ddylai hynny fyth ddigwydd, ac fel deddfwrfa, ddylen ni byth ganiatáu i hynny ddigwydd. Ddylen ni byth ganiatáu i Weinidogion Cymru gael yr hawl i ddeddfu yn ein henw ni, ac ni ddylai ddigwydd yn San Steffan chwaith. Ond beth mae hyn yn ei wneud yw galluogi Gweinidogion San Steffan i drafod, heb graffu seneddol, cytundebau masnach fydd yn cael effaith ddofn ar fywoliaeth pobl, ble bynnag maen nhw'n digwydd bod yn y Deyrnas Unedig. Dylai hynny fod yn destun rheolaeth seneddol a chraffu seneddol cyn i'r trafodaethau ddechrau, ac nid yn unig Bil fydd yn cael ei ruthro drwodd yn hwyr yn y nos, ar ôl i'r trafodaethau ddod i ben. Mae angen i ni allu dweud, yn glir iawn, iawn, y dylai pob bargen o'r math yma fod yn destun craffu seneddol clir ar bob cam, ac fe ddylen ni oll, ar bob ochr i'r Siambr, gytuno â hynny, oherwydd eich bod chi ar y meinciau Ceidwadol yn mynnu craffu ar Weinidogion Cymru. Rwy'n croesawu eich craffu. Rwy'n croesawu'r craffu hwnnw. Ond hoffwn weld yr un craffu yn Llundain ag sydd gennym ni yma.

Yr ail fater yw polisi, ac mae'r pwyntiau sydd eisoes wedi'u gwneud yn wir ac yn deg iawn. Yr hyn sy'n fy mhoeni'n fawr am y ddeddfwriaeth hon yw ei bod yn dangos bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn troi eu cefnau ar y gymuned ffermio ac yn croesawu'r pobl pres yn Ninas Llundain. Gallai hyn fod yn fasnach rydd, ond nid yw'n fasnach deg, a'r hyn sydd ei angen arnom yw cytundebau masnach sy'n cyfateb i'n gwerthoedd. Ychydig flynyddoedd yn ôl, cwrddais ym Mrwsel â llysgennad Seland Newydd i'r UE ac i Frwsel. Cawsom sgwrs hir am natur cytundebau masnach, ac roedd yn glir iawn: nid yw cytundebau masnach yn ymwneud â masnach yn unig. Maen nhw'n ymwneud â phwy ydym ni a beth fydd ein cyfraniad ni i'r byd. Siaradodd yn helaeth am werthoedd Seland Newydd—gwerthoedd Llywodraeth Seland Newydd—gan hysbysu'r hyn roedden nhw eisiau ei wneud a pha fath o gytundebau yr oedden nhw'n chwilio amdanyn nhw pan oedden nhw'n trafod. A'r hyn sydd gennym ni yma yw Llywodraeth y DU sydd ddim yn ymddangos bod ganddyn nhw unrhyw werthoedd heblaw gwneud arian i'w ffrindiau yn Ninas Llundain, a does dim ots pwy sy'n dioddef o ganlyniad i hynny. Ac mae ffermwyr defaid Cymru yn haeddu gwell na hynny. Maen nhw'n haeddu gwell na hynny, oherwydd eu bod wedi ffermio'r bryniau a'r mynyddoedd yma ers cenedlaethau. Dyma un o'r swyddi anoddaf yn y wlad yma heddiw, ac maen nhw'n haeddu cefnogaeth pobl sy'n dweud eu bod yn siarad ar eu rhan. Ac yn y cytundeb hwn, maen nhw wedi cael eu siomi a'u siomi'n wael, ac mae cefnau wedi'u troi gan Lywodraeth sydd â mwy o ddiddordeb mewn dim ond ceisio ennill ewyllys da rhoddwyr Torïaidd. [Torri ar draws.] Rydw i wedi dweud digon amdanoch chi, felly dylwn i dderbyn ymyriad.

18:55

Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Edrychwch, pryd bynnag y trafodir cytundeb masnach, bydd buddiannau o hyd yn cystadlu ym mhob cenedl sy'n gwneud y trafodaethau, yn fanteision ac anfanteision. Yr hyn sy'n rhaid i Lywodraeth y DU ei wneud yw ceisio cael y fargen orau bosib i'r Deyrnas Unedig yn gyffredinol, fel y byddwn i'n disgwyl y byddai Llywodraeth Cymru yn ceisio ei wneud os oedd yn gorfod trafod—byddai'n ceisio cael y fargen orau i Gymru gyfan, a gallai hynny fod o fantais i rai rhannau o Gymru ac anfantais i eraill. Rwy'n credu mai'r realiti yw bod hon yn fargen fasnach sy'n fargen fasnach dda, y dylem ni i gyd fod yn ei chefnogi er budd y DU gyfan. Ac wrth gwrs mae'n rhan—[Torri ar draws.]  

O, dewch o'na, mae'n ceisio amddiffyn Llywodraeth y DU; rhowch gyfle iddo. [Chwerthin.]

Dim ond un pwynt arall, os caf i, oherwydd rwy'n credu bod hon yn drafodaeth ddiddorol. Mae hyn yn rhan annatod o ddatgloi cyfleoedd i bartneriaethau masnach ehangach gyda gwledydd yn ardal Asia y Môr Tawel. 

Wel, rydych chi'n sicr wedi cefnogi fy achos ynglŷn â'r angen am graffu seneddol, os dim byd arall. A dydw i ddim yn anghytuno â chi, fel mae'n digwydd, Darren. Mae'n iawn ac yn briodol bod y llywodraeth yn ymwneud â dewis a gwneud dewisiadau, a'r pwynt rwy'n ei wneud yw bod Llywodraeth y DU wedi dewis y bobl sy'n gwneud arian yn Ninas Llundain dros ffermwyr Cymru, a dyna'r union bwynt rwy'n ei wneud. Ac, wrth wneud hynny, maen nhw wedi siarad mwy amdanyn nhw eu hunain na gwerthoedd pobl, boed y bobl hynny a'r ffermwyr hynny yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Ac am y rheswm hynny, y Senedd hon, ac fel pobl sy'n ceisio cynrychioli pobl Cymru, dylen ni ddweud 'na'.

Diolch i'r Aelodau am yr holl sylwadau a chwestiynau amrywiol sydd wedi eu codi yn y ddadl.

O ran y polisi drwy'r gwahanol gytundebau masnach, mae ein hanghytundeb â Llywodraeth y DU yn glir. Ac rwy'n parchu a deall pam y gwnaeth Mabon ap Gwynfor ac Alun Davies sylwadau am hynny; nid dyna'r pwynt mewn gwirionedd yn ystyr y bleidlais heddiw ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ond nid ydym wedi adfer o'n hanghytundebau ar y polisïau a luniwyd gan Lywodraeth y DU. Roedden ni'n glir am hynny ar y pryd. Roedd George Eustice, ar ôl iddo adael y Llywodraeth, hefyd yn hynod o glir am yr elfennau o ran cael y cytundeb penodol yma a'r effaith y byddai'n ei gael. Roedden ni'n deall bod y tueddiadau hynny'n bodoli yn Llywodraeth y DU, ond fe wnaeth ddweud hynny mewn termau clir iawn, iawn.

Yr hyn y gofynnir i Aelodau ei wneud mewn gwirionedd, fel y mae'r Ceidwadwyr eisiau i ni, yw cytuno y dylai Aelodau etholedig yn y Senedd hon bleidleisio dros gymryd pwerau oddi wrth Weinidogion Cymru i'w rhoi yn nwylo Llywodraeth y DU fel y gallant, yn syml, weithredu drosom, ac yn wir beth mae hynny'n ei wneud i graffu ar y Senedd hon. Ac mae Alun Davies yn iawn am hynny. Dydw i ddim yn gweld sut y gallai Aelodau yma ddweud mai dyma'r camau cywir i Lywodraeth y DU eu cymryd yn y Bil y mae'n ei gynnig. Ac ni ddylai fod yn safbwynt plaid-wleidyddol. Ni ddylai fod am deyrngarwch i Geidwadwyr y DU, gan ddweud y byddem yn dathlu a gofyn i eraill wneud hynny yma.

A'r her yw—ac rwy'n deall y pwynt a wnaed gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad—pwerau amgen mewn deddfwriaeth wahanol ar yr un pwnc, pe baen ni'n cymryd Bil amgen, a byddem mewn trafodaethau nôl ac ymlaen posibl rhwng gwahanol Lywodraethau ar yr un pwnc. Ac mewn gwirionedd, dylai'r Bil hwn gael hyd oes gymharol fyr. Rydym yn wirioneddol bryderus, ac mae'n bwynt sgwrsio rheolaidd gyda'r Cwnsler Cyffredinol, am sut i fynd i'r afael â'r mater. Ac fe fyddwn i'n atgoffa'r Aelodau o'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yr wythnos ddiwethaf: unwaith y bydd Sewel yn cael ei dorri, y tro nesaf mae'n dod yn haws, ac wrth iddo gario ymlaen ac ymlaen nid yw'n rhyfeddol bellach. A'r pryder yw bod y dewis i ddiystyru datganoli, pwerau Gweinidogion Cymru a'r Senedd yma yn dod yn fwy arferol ac nid ar ddamwain o fewn y Llywodraeth hon. [Torri ar draws.]

19:00

Rydym yn cael sgyrsiau adeiladol gyda Gweinidogion y DU. Dydyn ni ddim bob amser yn cytuno yn y pen draw a dydyn ni ddim wedi dod i gytundeb ar y pwynt hwn. Rwyf yn ailadrodd, ac i gloi: ni allwn gefnogi cydsyniad ar gyfer y Bil hwn. Felly, gofynnaf i Aelodau atal cydsyniad ar gyfer y Bil hwn a phleidleisio yn erbyn y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwyf wedi clywed gwrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

That brings us to voting time. Unless three Members wish for the bell to be rung, I will proceed directly to voting time. 

11. Cyfnod Pleidleisio

Cyn i mi fynd i'r bleidlais, hoffwn wneud yn siŵr bod pawb sy'n pleidleisio o bell â'u camera wedi troi ymlaen, os gwelwch yn dda, achos mae'n bwysig ein bod ni i'n gweld wrth bleidleisio.

Dim ond un eitem sydd i bleidleisio arno heddiw, eitem 10. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Vaughan Gething. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. 

Dim ond gwirio ydw i, oherwydd wythnos diwethaf, roedd gennym ni rywun na lwyddodd i fewngofnodi. Wnaeth pawb fewngofnodi a phleidleisio? Iawn.

O blaid 15, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Eitem 10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd): O blaid: 15, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 19:01.