Y Cyfarfod Llawn

Plenary

24/01/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jane Dodds. 

Amseroedd Ymateb Ambiwlansys

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys? OQ59013

Diolch i Jane Dodds, Llywydd, am y cwestiwn yna. Mae'r lefelau uchaf erioed o alw wedi rhoi pwysau gwirioneddol ar amseroedd ymateb ambiwlansys, gydag oediadau hir i rai cleifion. Serch hynny, ym mis Rhagfyr—y mis anoddaf—ymatebodd y gwasanaeth i'r nifer uchaf erioed o alwadau coch o fewn y targed o wyth munud.

Diolch am yr ateb.

Mae'n 13:30. Os yw rhywun yn ffonio 999 nawr oherwydd bod ganddo boenau yn ei frest, pryd fyddech chi'n disgwyl i ambiwlans gyrraedd? Rwy'n siŵr y gwnewch chi adnabod y cwestiwn hwnnw gan arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan, Keir Starmer, i Brif Weinidog y DU. Gwrthododd y Prif Weinidog ateb yn blaen, felly rwy'n gobeithio y gallwn ni gael ateb plaen gennych chi y prynhawn yma. Ond, o ystadegau GIG Cymru, rydyn ni'n gwybod, i'r sawl sydd newydd alw 999 gyda'r poenau hynny yn y frest—nad yw'n alwad goch, sy'n syndod, ond yn alwad oren—bydd yn debygol o aros dros awr i ambiwlans gyrraedd. Pe bai'r sawl oedd newydd alw 999 mewn sefyllfa sy'n bygwth ei fywyd—galwad goch—gallai aros cyhyd â 15 munud ym Mhowys. Wyth munud yw'r targed, fel y gwyddoch, ar gyfer y galwadau coch hynny, a Gorffennaf 2020 oedd y tro diwethaf y bodlonwyd y targedau hynny, ac mae'r ffigurau wedi gostwng yn gyflym ers hynny. Mae ein staff ambiwlans yn gweithio'n hynod o galed o dan amgylchiadau anodd iawn. Diolch iddyn nhw i gyd. Felly, a allech chi ddweud wrthyf i pryd rydych chi'n disgwyl i'r targedau hyn gael eu bodloni? A fydd hi'n ddwy flynedd a hanner arall cyn gallu bodloni'r targedau galwadau coch? Diolch. 

Wel, Llywydd, gadewch i mi, yn gyntaf oll, ateb y cwestiwn penodol a ofynnodd Jane Dodds wrth gyflwyno ei chwestiwn atodol. Mae'r wybodaeth reoli a ddarperir yn GIG Cymru yn awgrymu, yr wythnos ddiwethaf, yr wythnos a ddechreuodd ar 16 Ionawr, pe bai wedi bod yn alwad goch, mai saith munud, 43 eiliad oedd yr amser aros safonol—yr amser aros canolrifol—o'r funud y caiff galwad ei hanfon i gyrraedd gyda chlaf. Mae hynny'n golygu, o ystyried yr amser y mae cwestiwn cyntaf ar ddydd Mawrth yn ei gymryd fel rheol, erbyn i'r cwestiwn ddod i ben, byddai'r ambiwlans wedi gadael a chyrraedd. Ac os oedd yn alwad oren, fel yr awgrymodd Jane Dodds, yna 38 munud, 52 eiliad oedd yr amser ymateb cyfartalog yr wythnos diwethaf—yr amser ymateb safonol.

Ar y pwynt ehangach, pan fodlonodd y gwasanaeth ambiwlans y targed yr ydym wedi ei osod ar ei gyfer ddiwethaf, roedd wedi gwneud hynny am 48 mis yn olynol. A'r hyn a ddigwyddodd oedd, ym mis Gorffennaf 2020, fe wnaeth effaith y pandemig ddadwneud y pedair blynedd hynny o fodloni'r targedau a osodwyd yn gwbl gyson. Mae'n adferiad araf o hynny i gyd. Ond, Llywydd, fel y dywedais, nid yw o reidrwydd oherwydd bod cyflenwad y gwasanaeth wedi lleihau; mae oherwydd bod y galw am y gwasanaeth wedi cynyddu. Ym mis Rhagfyr, atebwyd mwy o alwadau nag ar unrhyw adeg arall—mwy nag unrhyw fis yn y cyfnod hwnnw o 48 mis—atebwyd mwy o alwadau o fewn yr amser targed. Y ffaith syml yw bod nifer y galwadau yn llawer uwch nag unrhyw beth a ddigwyddodd yn unrhyw un o'r misoedd hynny, ac er gwaethaf, fel y dywedodd Jane Dodds yn deg iawn, ymdrechion enfawr staff ambiwlans, pan fydd gennych chi gynnydd i alw o'r math hwnnw, ni ellir cynnal canran y galwadau sy'n cael eu hateb o fewn yr amser targed. Y cyfuniad o fuddsoddiad ychwanegol ac, yn benodol, staff ychwanegol, yw'r ffordd y byddwn yn llwyddo i ddychwelyd yr ambiwlans i lefel y cyflawniad y byddai ef ei hun yn dymuno ei weld i'w gleifion. 

Prif Weinidog, ym mis Rhagfyr, derbyniodd llai na 40 y cant o alwadau lle'r oedd bygythiad i fywyd amser ymateb ambiwlans o fewn targed wyth munud eich Llywodraeth—y lefel isaf erioed. Ac os nad yw hynny'n argyfwng, yna tybed beth yw argyfwng. Ond, o ystyried y pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans, ac yr wyf i'n deall y rhesymau amdanyn nhw, mae gwasanaeth ambiwlans awyr Cymru, wrth gwrs, yn fwy hanfodol fyth i etholwyr fel fy rhai i yn y canolbarth. Felly, o ystyried cyflwr y gwasanaeth ambiwlans cyffredinol yng Nghymru, a gaf i ofyn a fydd y lefelau gwasanaeth presennol yn cael eu cymryd i ystyriaeth yn adolygiad ambiwlans awyr Cymru, sydd ar y gweill ar hyn o bryd, ac, os na fyddant, a ydych chi'n credu y dylen nhw? Fel y gwyddoch, ceir parch a chefnogaeth fawr i ambiwlans awyr Cymru, ac mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr gan bobl y canolbarth. Ceir pryder ar hyn o bryd ymhlith pobl sy'n aros am ambiwlans, a'u teuluoedd hefyd, ond mae hyd yn oed mwy o bryder yn y canolbarth, ac rwy'n gobeithio y gallwch chi ddeall sut mae'r cynigion presennol yn achosi pryder sylweddol ar draws fy etholaeth.

13:35

Llywydd, fel y gwn y bydd Russell George yn ymwybodol, mae prif gomisiynydd y gwasanaeth ambiwlans yn arwain adolygiad ar ran y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys. Mae'r adolygiad hwnnw bellach yn y cyfnod ymgysylltu ffurfiol; nid oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud ar y canlyniad. A bydd y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud, ac yn gwneud yn rymus ar ran ei etholwyr, yn cael eu clywed yn yr adolygiad hwnnw wrth gwrs, ochr yn ochr â'r holl dystiolaeth arall. Nod gwasanaeth ambiwlans awyr Cymru, sy'n sicr yn wasanaeth uchel iawn ei barch ac effeithiol iawn, yw defnyddio'r adnoddau sydd ganddo mewn ffordd sy'n cyrraedd y nifer fwyaf o gleifion ac yn darparu'r gwasanaeth effeithiol hwnnw iddyn nhw. Dyna fydd sail yr adolygiad.

Mae yna gymaint o bethau, wrth gwrs, yn cyfrannu at y pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans, y math o bwysau a orfododd etholwraig i fi i aros 24 awr am ambiwlans a hithau wedi torri ei chlun. Rŵan, mae'r cynllun pum pwynt ar gyfer y gwasanaethau iechyd a gofal, a gafodd ei gyhoeddi gan Blaid Cymru heddiw mewn partneriaeth efo nifer o gyrff iechyd, yn cyffwrdd â rhai o'r elfennau a allai helpu yn y tymor byr a'r tymor hir i ymateb i'r pwysau yna: yr angen i setlo'r anghydfod cyflog, i gefnogi'r gweithlu, i wella llif cleifion drwy'r system,  a gweithredu mewn ffordd fwy ataliol er mwyn lleihau pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans a gwasanaethau eraill. Mae'r cyfan yn plethu at ei gilydd. Ydy'r Prif Weinidog yn cytuno efo fi mai beth rydyn ni'n gweld yn y pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans ydy'r enghraifft orau, o bosib, o'r system iechyd anghynaliadwy sydd gennym ni, a system iechyd mewn creisis, a bod yn rhaid cydnabod hynny er mwyn gallu dechrau rhoi atebion mewn lle?

Llywydd, diolch i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn. Dwi wedi cael cyfle byr i gael golwg dros y cynllun y mae Plaid Cymru wedi ei gyhoeddi heddiw. Beth mae'r pwysau yn y maes ambiwlans yn ei olygu yw'r ffaith bod y galw am wasanaethau iechyd dros y gaeaf wedi bod yn un mawr iawn—yn fwy nag ar unrhyw amser erioed yn hanes y gwasanaeth iechyd cenedlaethol. Mae cynllun gyda ni'n barod. Wrth gwrs, rŷn ni'n fodlon ystyried y pwyntiau sydd yn plan Plaid Cymru i weld a oes mwy rŷn ni'n gallu ei wneud. Ond drwy'r buddsoddiadau rŷn ni'n eu gwneud—ariannol, ond hefyd, fel y dywedais i yn yr ateb i Jane Dodds, mewn mwy o bobl i weithio yn y maes—dyna'r ffordd i drio'n helpu ni i wneud yn well yn y dyfodol.

Prif Weinidog, mae'n bwysig bod pob un ohonom ni yma yn Senedd Cymru yn onest am yr heriau go iawn sy'n wynebu ein gwasanaeth iechyd gwladol annwyl ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig. Yn Lloegr, ym mis Rhagfyr, cafwyd amser ymateb ambiwlans o 10 munud a 57 eiliad i alwadau gan bobl â salwch neu anafiadau a oedd yn bygwth eu bywydau. Yng Nghymru, ym mis Rhagfyr, 10 munud oedd yr amser ymateb cyfartalog, gyda'r ymateb cyfartalog yn flaenorol, dros y pedair blynedd hyd at y mis hwnnw, yn chwe munud. Felly, dwy wlad gyfagos ag amseroedd ymateb ambiwlans bron yr un fath ym mis Rhagfyr ar gyfer y galwadau mwyaf brys. Ac eto, mae un gwahaniaeth sylfaenol rhwng Cymru a Lloegr: mae Cymru'n cael ei harwain gan y Blaid Lafur, a greodd y gwasanaeth iechyd gwladol ac a fydd yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau am byth ei fod yn parhau i fod am ddim ar bwynt gofal i'r rhai sy'n galw ar ei wasanaethau, ond yn Lloegr, mae Llywodraeth Dorïaidd y DU a chyn-ysgrifennydd iechyd Lloegr, Sajid Javid, yn damcaniaethu'n agored am gyflwyno newidiadau a thaliadau i hyd yn oed weld meddyg teulu—preifateiddio drwy'r drws ffrynt. Prif Weinidog, pa sicrwydd, felly, allwch chi ei roi i bobl Islwyn a Chymru y bydd ein GIG yn cael blaenoriaeth yng Nghymru fel gwasanaeth iechyd cyhoeddus gwirioneddol genedlaethol, am ddim sy'n gweithredu yn unol â'i etifeddiaeth ddisglair, yn addas i'r diben ac yn cynnig tawelwch meddwl, pan fydd 999 yn cael ei ddeialu, y bydd ambiwlans yn cyrraedd yn brydlon?

13:40

Wel, Llywydd, mae'r ambiwlans galwad brys a gafodd ei anfon pan ofynnodd Jane Dodds ei chwestiwn i mi bellach wedi bod yn y fan a'r lle am y tri munud diwethaf. Rwy'n dweud hynny dim ond i roi rhywfaint o synnwyr o'r gwasanaeth sy'n parhau i gael ei ddarparu ym mhob rhan o Gymru i gyd-Aelodau yma. Rhoddaf sicrwydd i Rhianon Passmore, wrth gwrs, nad oes cynlluniau yma yng Nghymru i ddefnyddio'r pwysau sy'n cael eu hwynebu gan y gwasanaeth iechyd gwladol fel esgus i gael gwared ar y gwasanaeth hwnnw. Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl, nac oes, bod elfennau yn y Blaid Geidwadol yn genedlaethol sy'n credu bod y pwysau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd yn esgus i ddadwneud y gwaith y mae'r gwasanaeth hwnnw yn ei ddarparu ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Wnawn ni fyth wneud hynny yma yng Nghymru, lle mae'r Gweinidog iechyd a'r Prif Weinidog, sy'n gyfrifol am y gwasanaethau yma yng Nghymru, yn gallu rhoi'r union sicrwydd i Rhianon Passmore yr oedd hi'n gofyn amdano. 

Hygyrchedd Trafnidiaeth Gyhoeddus

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ba mor hygyrch yw trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer pobl â nam ar eu golwg? OQ59018

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Rydym ni'n cydnabod pwysigrwydd gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn ddiogel, yn groesawgar ac yn hygyrch i bawb. Byddwn yn parhau i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol a'r darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu dylunio a'u darparu gyda chyfraniad y rhai sydd â phrofiad uniongyrchol o nam ar y golwg.

Diolch. Fel rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi, mae'r profiad y mae rhai pobl anabl yng Nghymru yn ei gael wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn dal i fod yn druenus o bell o'r safonau yr ydym ni'n eu disgwyl ac y maen nhw'n eu haeddu. Rwy'n derbyn gohebiaeth reolaidd gan drigolion yn fy rhanbarth yn achwyn am y diffyg ystyriaeth a'r gofal tuag atyn nhw a'u hanghenion, ac mae e-bost diweddar gan breswylydd sydd newydd golli ei golwg yn dangos pa mor frawychus a pheryglus y gall teithio ar y rheilffordd o'r Cymoedd i mewn i Gaerdydd, ac yna ymlaen i rywle arall, fod. Nid oedd unrhyw gymorth ar gael iddyn nhw wrth fynd ar unrhyw un o'r trenau na'u gadael, a oedd yn frawychus iawn iddyn nhw oherwydd y bwlch mawr rhwng y trên a'r platfform. Ni chawson nhw unrhyw gymorth o gwbl chwaith wrth geisio mynd drwy'r clwydi tocynnau, a achosodd gryn banig wrth iddyn nhw gael trafferth wrth geisio dod o hyd i'r slot tocynnau. Ar ben hynny, nid yn unig nad oedden nhw'n gallu prynu tocyn cyn teithio, gan nad oedd swyddfa docynnau ac nad oedd y peiriannau yn addas i'r rhai â nam ar eu golwg, ond fe'u rhwystrwyd rhag defnyddio eu cerdyn rheilffordd hyd yn oed gan y casglwr tocynnau ar y trên gan nad oedden nhw wedi prynu eu tocyn cyn teithio, sef y peth anghywir i'w wneud mewn gwirionedd. Felly, Prif Weinidog, hoffwn wybod pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r problemau y mae'r rhai hynny sydd â nam ar eu golwg neu sy'n dioddef o ddallineb yn eu cael wrth ddefnyddio gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru? A pha sicrwydd allwch chi ei roi y trefnir bod cymorth ar gael i'r rhai sydd â nam ar y golwg ac anableddau eraill wrth ddefnyddio system fetro newydd de Cymru? Diolch.

Diolch i Joel James am hynna. Nid yw byth yn dda clywed am y math o brofiad y mae wedi ei rannu, ond gallaf ddweud wrtho ac wrth y Siambr bod y pwnc hwn yn gwbl flaenllaw yng nghyfarfod diweddar y fforwm cydraddoldeb anabledd gweinidogol, dan gadeiryddiaeth fy nghyd-Weinidog Jane Hutt, ddiwedd mis Tachwedd—cyfarfod a oedd yn canolbwyntio ar brofiad pobl ag anableddau, gan gynnwys cynrychiolaeth dda o bobl sydd eu hunain â nam ar eu golwg, ynghyd â phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru ac uwch staff trafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Bydd y cyfarfod hwnnw yn cael ei ddilyn gyda chyfarfod arall ym mis Chwefror. Fe wnaeth y cyfarfod archwilio rhai o'r rhwystrau y mae pobl sy'n wynebu anawsterau wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wedi eu cael wrth leisio'u barn yn rymus gyda darparwyr y drafnidiaeth honno. Ond roedd y ffeirio geiriau yn llawn a gonest iawn ynghylch y safbwyntiau hynny, a daethpwyd i'r casgliad ei fod wedi agor y ffordd i wneud yn siŵr, i'r bobl hynny sy'n rhoi o'u hamser yn wirfoddol i fod yn rhan o'r panel hygyrchedd y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei gynnal, y gall y gwaith fod yn fwy effeithiol i wneud yn siŵr bod gwasanaethau ar gael yn briodol i bobl sydd â nam ar eu golwg neu sydd ag anableddau eraill yn y dyfodol. Mae'r panel anabledd hwnnw wedi bod yno ers cryn amser; mae eisoes wedi cael effaith ar waith Trafnidiaeth Cymru. Rwy'n siŵr, o ystyried yr hanes a ddarllenwyd gan Joel James, y bydd yn dymuno llongyfarch Trafnidiaeth Cymru ar ei benderfyniad i beidio â chau swyddfeydd tocynnau yng Nghymru fel y cyhoeddwyd ar gyfer pob gorsaf yn Lloegr.

13:45

Prif Weinidog, gan droi at wasanaethau bysiau, sef, wrth gwrs, y rhan o'n system trafnidiaeth gyhoeddus sy'n cael ei defnyddio fwyaf, ac, yn amlwg, yng ngoleuni'r ffaith fod Llywodraeth Cymru yn datblygu ei chynigion ar gyfer newid deddfwriaethol a model newydd ar gyfer rhedeg gwasanaethau bysiau, mae arwyddion llafar yn un ateb i alluogi pobl sydd wedi colli eu golwg gael gafael ar wybodaeth deithio ar safleoedd bws. A roddwyd unrhyw ystyriaeth i gyflwyno cynlluniau tebyg yma yng Nghymru yng ngoleuni'r cynigion ynghylch dyfodol ein gwasanaethau bysiau?

Llywydd, diolch i Vikki Howells am hynna. Cyflwynodd y Papur Gwyn a gyhoeddwyd gennym ni cyn y Bil bysiau gynlluniau i gynnwys lleisiau teithwyr ar lefel uchaf un system fysiau newydd, i wneud yn siŵr bod adborth uniongyrchol gan bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwnnw, ac yn enwedig y rhai sydd angen cymorth ychwanegol i wneud hynny, yn cael ei glywed yn rymus yn y system yr ydym ni'n bwriadu ei chreu. Mae'r syniad y mae Vikki Howells wedi ei awgrymu sef safleoedd bws yn gallu darparu gwybodaeth y gallwch chi ei chlywed yn ogystal â gwybodaeth y gallwch chi ei gweld yn rhywbeth y byddwn ni'n ei drafod gydag awdurdodau lleol yn rhan o raglen waith ehangach i wneud safleoedd bws yn fwy hygyrch i amrywiaeth ehangach o bobl. Bydd y cynigion deddfwriaethol y byddwn ni'n eu cyflwyno gerbron y Senedd yn sicr yn ei gwneud hi'n haws i rannu gwybodaeth o ansawdd uchel a chyfredol am wasanaethau bysiau ac, felly, eu gwneud yn fwy hygyrch i deithwyr.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, byddai llawer ohonon ni wedi gwylio'r rhaglen deledu neithiwr a'i chael hi'n anghyfforddus iawn, y datgeliadau ar BBC Cymru am y diwylliant, a'r anawsterau wythnosol a misol y mae menywod ym myd chwaraeon, ym myd rygbi Cymru, yn eu hwynebu. Yr honiadau hyn, yn amlwg, mae rhai wedi'u profi ac mae rhai heb eu profi. Nid wyf i'n gwneud unrhyw honiadau uniongyrchol yn erbyn unrhyw unigolyn, ond cyflwynodd y rhaglen gyfres o ddigwyddiadau sy'n peri gofid mawr a gadarnhawyd gan sawl tyst a oedd wedi bod ar y rheng flaen yn Undeb Rygbi Cymru.

Rwy'n deall bod Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon wedi siarad ag Undeb Rygbi Cymru heddiw, neu'n ddiweddar iawn yn sicr. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ba gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymgysylltu ag Undeb Rygbi Cymru yng ngoleuni'r honiadau hyn? Ac ydych chi'n bwriadu, ar sail yr hyn rydych chi wedi ei weld hyd yma, ymgysylltu ymhellach fel y gellir datrys yr honiadau hyn, a gwneud yn siŵr bod pwy bynnag sy'n dewis chwarae rygbi yma yng Nghymru, boed yn ddynion neu'n fenywod, yn chwarae mewn amgylchedd diogel, amgylchedd sy'n gwerthfawrogi'r cyfraniad y maen nhw'n ei wneud at y gamp ac, yn bwysicaf oll, y lle cenedlaethol sydd gan Undeb Rygbi Cymru yn ein gwlad ardderchog?

Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â'r safbwyntiau y gwnaeth arweinydd yr wrthblaid wrth orffen ei gwestiwn. Cynhaliwyd y cyfarfod rhwng Dawn Bowden ac Undeb Rygbi Cymru brynhawn ddoe. Yn y cyfarfod hwnnw, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ei gwneud yn eglur i Undeb Rygbi Cymru ein bod ni angen gweld gweithredu brys a thryloyw sy'n helpu i adfer hyder yn URC ei hun, ac mae hynny'n gofyn am gydnabyddiaeth gyhoeddus ar ran Undeb Rygbi Cymru o faint a natur y materion a drafodwyd yn y rhaglen honno. Byddwn yn sicr yn parhau i ymgysylltu ag URC. Fel y dywed Andrew Davies, mae ganddo le ym mywyd cyhoeddus Cymru ac mae angen iddo gydnabod yr arwyddocâd hwnnw ei hun. Byddwn yn parhau i fod mewn sgwrs heriol â nhw, pan fo angen, i wneud yn siŵr bod dyfodol yn cael ei gyflwyno ar gyfer Undeb Rygbi Cymru sy'n sicrhau hyder pawb sy'n chwaraewyr y gêm ac sy'n gysylltiedig â'r dymuniad i'w gweld yn cael dyfodol llwyddiannus.

13:50

Diolch am yr ymateb yna, Prif Weinidog. Rwyf i wedi ysgrifennu heddiw at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol yma yn y Senedd, gan wahodd y pwyllgor hwnnw i roi ystyriaeth i ba ran y gallai ei chwarae i gynorthwyo'r rhai hynny sy'n amlwg wedi dioddef y driniaeth hon, ond hefyd i weithio gydag Undeb Rygbi Cymru i, yn amlwg, roi mesurau diogelu ar waith a gwneud yn siŵr bod arferion gorau yn dod i'r amlwg i'n sefydliad cenedlaethol, y mae gan lawer ohonom ni feddwl mawr ohono.

Os caf i godi pwnc arall gyda chi, sydd, fel y dywedoch chi mewn ymateb i gwestiwn cynharach gan yr Aelod o Islwyn, yn gyfrifoldeb i chi, a'r Gweinidog iechyd, sef adeiladwaith ein hysbytai yma yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth adroddiad dynnu sylw at adeiladwaith gwael adeiladau yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac ysbyty Abergele yn benodol, lle ystyrir bod 85 y cant o ystâd ysbyty Abergele yn weithredol beryglus ac nad yw'n bodloni gofynion y rheoliadau iechyd a diogelwch y byddai'n rhaid i unrhyw le arall eu bodloni. Ar draws ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, dim ond 62 y cant o'r ystâd sy'n bodloni'r cafeat neu'r gofyniad hwnnw o ran bod yn weithredol ddiogel. Fel y dywedoch chi mewn ymateb yn gynharach i'r Aelod o Islwyn, chi sy'n gyfrifol, mae eich Gweinidog iechyd yn gyfrifol, mae'r bwrdd iechyd hwn wedi bod mewn mesurau arbennig ers chwe blynedd o dan reolaeth uniongyrchol y Llywodraeth, pam mae'r sefyllfa hon wedi datblygu, ac a wnewch chi ymddiheuro amdani?

Gadewch i mi ddechrau am eiliad, Llywydd, drwy gytuno â'r hyn a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid wrth agor yr ail gwestiwn hwn, sef fy mod i'n credu fod swyddogaeth bosibl i un o bwyllgorau'r Senedd o ran helpu i sicrhau llwybr i URC at well dyfodol trwy ddefnyddio'r pwerau sydd gan bwyllgor yma i ymchwilio i'r honiadau ac i gynorthwyo, fel y dywedais, i ddod o hyd i well ffordd ymlaen. 

O ran yr ail gwestiwn a ofynnodd yr Aelod, rydym ni wedi ymrwymo mwy na £335 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon, mewn gwariant cyfalaf, i GIG Cymru. Byddwn yn ymrwymo £375 miliwn arall y flwyddyn nesaf at yr un dibenion. Rydym ni'n wynebu safleoedd sy'n 30 oed ac yn hŷn, lle mae problemau cydymffurfio yn cael eu nodi, wrth i sefydliadau wneud gwaith arolygu. Ac mae'r gofynion ar y cyfalaf hwnnw yn enfawr. Yr wythnos diwethaf, atebais gwestiwn gan gyd-Aelod arweinydd yr wrthblaid, Darren Millar, a wnaeth achos y mae wedi ei wneud yn rheolaidd ar lawr y Senedd, dros fuddsoddiad mewn ysbyty newydd a fyddai'n gwasanaethu pobl yn ei etholaeth. Dywedais bryd hynny y byddai'n rhaid i'r bwrdd asesu'r cynllun hwnnw, ochr yn ochr â'i flaenoriaethau niferus eraill. Y ffaith syml yw bod y galw am wariant cyfalaf yn GIG Cymru yn fwy na'n gallu i fodloni'r galw hwnnw—a rhai o'r ffigurau, mewn gwirionedd, mae'n rhaid i chi eu trin nhw ychydig yn fwy gofalus nag yr wyf i'n credu yr oedd arweinydd yr wrthblaid yn eu trin nhw yn ei gwestiwn—ac mae'n rhaid i chi ddod o hyd i ffordd o fodloni'r gofynion mwyaf brys o'r cyfalaf sydd gennym ni at y dibenion hynny.

Prif Weinidog, mae'r ffigurau yr wyf i wedi eu dyfynnu i chi yn dod yn syth o bapurau'r bwrdd gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Dydyn nhw ddim yn ffigurau yr wyf i wedi eu gwneud i fyny. Yn ysbyty Abergele, dim ond 15 y cant o'r ysbyty hwnnw sy'n cael ei ystyried yn weithredol ddiogel. Fel y dywedais, ar draws ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, dim ond 62 y cant o'r ystâd iechyd sy'n cael eu hystyried yn weithredol ddiogel. Ar draws Cymru gyfan, mae'r ffigur hwnnw'n codi rhyw fymryn bach i 72 y cant.

Os ydym ni'n mynd i gael rheolaeth dros yr amseroedd aros fyth, os ydym ni'n mynd i gynnig amgylchedd unfed ganrif ar hugain i staff a chleifion weithio ynddo, siawns na ddylai gwneud yn siŵr bod yr ystâd iechyd ledled Cymru—heb sôn am ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr—yn weithredol ddiogel fod yn flaenoriaeth i'ch Llywodraeth, sydd, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, yn gyfrifoldeb i chi, ac yn gyfrifoldeb i'ch Gweinidog iechyd. Felly rwy'n gofyn i chi eto: a wnewch chi ymddiheuro i'r staff sy'n gorfod gweithio yn yr amgylchedd yr wyf i wedi ei ddisgrifio yn fy nghwestiwn i chi? Ac a allwch chi roi syniad i ni pryd y byddwn ni'n dechrau gweld gwelliant gwirioneddol yn yr ystâd iechyd yng Nghymru, fel nad ydym ni'n canfod ysbytai lle mae 85 y cant o'u safle yn weithredol anniogel?

13:55

Mae'r cyllidebau cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn gostwng bob blwyddyn; maen nhw 8 y cant yn is y flwyddyn nesaf nag y maen nhw eleni. O ble mae'r Aelod yn meddwl y mae'r arian yn dod i wneud y pethau y mae'n eu hawgrymu? Nid yn unig hynny, ond nid yw ein terfyn benthyg cyfalaf wedi newid ers 2016. Nid penderfyniadau Llywodraeth Cymru yw'r rhain; penderfyniadau'r Llywodraeth y mae ef yn ei chefnogi ydyn nhw.

Byddwn yn dweud wrtho eto—ac fe wnaf hynny'n araf, fel y gall feddwl amdano—mai'r swm o arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yw—[Torri ar draws.] Byddai'n well gennyf i pe na bai'n pwyntio ataf i o ble mae'n eistedd. Mi roddaf gynnig arall arni, oherwydd nid yw'n gwrando, ond rwy'n mynd i roi cynnig arall ar geisio egluro iddo os yw eich cyllideb gyfalaf yn gostwng bob blwyddyn ac mae eich gallu i fenthyg yn cael ei gapio ar y lefel yr oedd saith mlynedd yn ôl, erbyn hyn, yna mae ein gallu i wneud y pethau yr hoffem eu gwneud yn cael ei gyfyngu gan benderfyniadau nad ydyn nhw yn nwylo Llywodraeth Cymru, ond yn nwylo ei ffrindiau a'i gydweithwyr, a dyna ni. Gadewch iddo feddwl am hynny ac efallai y bydd ganddo gwestiwn gwell i mi y tro nesaf.

Diolch, Llywydd.

'Felly am un wythnos a wnaiff roi'r gorau i feio pobl eraill, cymryd rhywfaint o gyfrifoldeb, a chyfaddef bod y GIG o dan ei oruchwyliaeth ef mewn argyfwng, onid yw?'

Rwy'n dyfynnu arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer, i Rishi Sunak yr wythnos diwethaf yng nghwestiynau i Brif Weinidog y DU, ond maen nhw'n eiriau a allai fod yr un mor berthnasol i chi, Prif Weinidog. Mae Llafur yn yr Alban wedi disgrifio'r sefyllfa yn y GIG fel un sydd mewn argyfwng yno hefyd. Pam ydych chi, fel plaid, yn barod i ddatgan bod y GIG mewn argyfwng ym mhobman arall heblaw yma yng Nghymru, lle'r ydych chi'n gyfrifol ac wedi bod yn gyfrifol ers dros 25 mlynedd?

Wel, Llywydd, rwyf wedi colli cyfrif o'r nifer o weithiau yr wyf i wedi dweud yn y Siambr hon bod y GIG yng Nghymru o dan bwysau aruthrol ac nad yw'n gallu gwneud yr holl bethau yr hoffem iddo eu gwneud yn y ffordd yr hoffem iddo eu gwneud nhw. Os yw arweinydd Plaid Cymru yn credu bod rhoi label ar hynny rywsut, ar ei ben ei hun, yn gwneud hynny i gyd rhyw fymryn yn well, yna nid yw hwnnw'n safbwynt yr wyf i'n ei rannu.

Wel, mae geiriau'n bwysig oherwydd mae cyfaddef mewn gwirionedd ei fod yn argyfwng yn gydnabyddiaeth bwysig o'r raddfa, difrifoldeb a brys yr heriau sy'n ein hwynebu. Rwy'n credu mai'r rheswm nad ydych chi eisiau defnyddio'r gair hwnnw yw oherwydd bod yr argyfwng wedi datblygu a dwysau o dan eich arweinyddiaeth chi a'ch Llywodraeth. Mae iechyd wedi'i ddatganoli. Mae pum Gweinidog yn eich Llywodraeth—mwyafrif yn y Cabinet—wedi bod yn Weinidogion iechyd, ac mae'n bryd i chi gymryd cyfrifoldeb ar y cyd am y llanast y mae'r GIG ynddo.

O wrthod rhoi codiad cyflog teilwng i weithwyr iechyd, rydych chi, y Blaid Lafur, yn troi eich cefn ar weithwyr iechyd, a ni, yn y blaid hon, sy'n sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â nhw ar y llinell biced. Rydych chi'n briodol falch yn y Blaid Lafur eich bod chi yno ac yn gyfrifol am enedigaeth y GIG, ond os na fyddwch chi'n newid eich polisi yn sylfaenol yna byddwch yn gyfrifol am ei farwolaeth.

Mae Llywodraeth y DU hefyd yn gwrthod cydnabod bod argyfwng; dydyn nhw ddim wedi cynnal unrhyw gyfarfodydd COBRA yn ystod argyfwng y GIG yno. Yn yr Alban, mae'r sefydliad cyfatebol wedi cyfarfod dair gwaith dros y misoedd diwethaf i drafod y problemau yn y GIG. Pa mor aml mae'r sefydliad cyfatebol yng Nghymru wedi ymgynnull dros y gaeaf hwn i adlewyrchu'r argyfwng cenedlaethol yr ydym ni'n ei wynebu erbyn hyn?

Wel, Llywydd, cyhoeddwyd ffigurau yr wythnos diwethaf ar berfformiad yn GIG Cymru. Dyma'r gwasanaeth argyfwng a ddisgrifiodd yr Aelod: gostyngodd yr holl arosiadau yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ym mis Tachwedd. Gostyngodd cyfanswm y bobl a oedd yn aros; gostyngodd nifer y bobl a oedd yn aros dros 26 wythnos, gostyngodd dros 52 wythnos, gostyngodd dros ddwy flynedd. Gostyngodd nifer y bobl sy'n aros am apwyntiad therapi; gostyngodd nifer y bobl sy'n aros am—[Torri ar draws.] Dyma ffeithiau'r mater. Os ydych chi eisiau disgrifio gwasanaeth sydd wedi llwyddo ym mhob un o'r pethau hynny fel argyfwng, mae hynny'n iawn i chi ei wneud.

Roedd hwn yn wasanaeth a oedd, ym mis Tachwedd, wedi adfer achosion cleifion mewnol a dydd i 93 y cant o'r lefel cyn y pandemig. Mae wedi bod yn uwch na 90 y cant yn nhri o'r pedwar mis diwethaf. Fe wnaeth gweithgarwch cleifion allanol adfer i 114 y cant o'r mis yn union cyn i'r pandemig ddechrau. Mae wedi bod dros 100 y cant yn nhri o'r pedwar mis diwethaf. 

Mae'r gwasanaeth o dan bwysau aruthrol. Mae mwy o bobl yn gweithio ynddo nag erioed o'r blaen. Mae mwy o arian yn cael ei fuddsoddi ynddo nag erioed o'r blaen. Ac er gwaethaf yr holl bethau ychwanegol y mae'n rhaid iddo ymdrin â nhw—COVID, ffliw, streptococws grŵp A, streiciau—mae'r gwasanaeth yn llwyddo bob dydd i gyrraedd miloedd ar filoedd o bobl na fydden nhw byth, pe na bai'r gwasanaeth iechyd yno, yn cael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw. Os yw ef eisiau ei ddisgrifio fel argyfwng ac mae'n meddwl mai ateb seicodrama rywsut yw'r hyn sydd ei angen ar y gwasanaeth iechyd, nid dyna fy safbwynt i.

14:00

Mae hynny islaw urddas y Prif Weinidog, a bod yn onest gyda chi. Nid fy ngeiriau i yw'r rhain; dyma eiriau gweithlu'r GIG yr ydym ni wedi bod yn siarad â nhw ac yn gwrando arnyn nhw ar y llinellau piced. Mae gennym ni nyrsys, meddygon ac eraill, trwy orweithio, sy'n crio ar wardiau, a chleifion a'u perthnasau oherwydd y profiad y maen nhw'n ei wynebu. Mae gen i ofn bod yr agwedd o wadu yr ydym ni newydd ei glywed gan y Prif Weinidog yn adlewyrchu eich camddealltwriaeth lwyr, eich datgysylltiad llwyr o'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad.

Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod chi'n fodlon edrych ar ein syniadau yn gadarnhaol yn y cynllun pum pwynt. Yn ganolog iddyn nhw y mae cael cynllun gweithlu hirdymor i fynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio, cadw ac ysbryd hwn, a'r broblem o orweithio yn y gwasanaeth iechyd. A all bod yn fwy hyblyg fod yn rhan o'r ateb? Wel, fe allech chi edrych nid yn unig ar ein syniadau ni, ond y syniadau ym mhwyllgor y Senedd a gyflwynwyd heddiw o ran wythnos waith pedwar diwrnod. A allai hynny fod yn rhywfaint o ateb o ran, yn ogystal â gwella cynhyrchiant, lleihau gorweithio a blinder, ond hefyd darparu budd deuol gweithlu hapusach, iachach, â llai o straen ac sydd wedi'u hamddifadu o gwsg yn llai? Rydych chi wedi ymrwymo, meddech chi, fel Llywodraeth i fod yn arloesol ac i bolisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth; beth am edrych ar y syniad hwn yn rhan o'r ateb posibl i'r argyfwng recriwtio a chadw staff yn ein gwasanaeth iechyd?

Yn gyntaf oll, mae llawer o bobl yn y gwasanaeth iechyd yn gweithio llai nag wythnos pum diwrnod. Mae'n rhan o natur newidiol y ffordd y mae pobl sydd yn y swyddi hynny lle ceir pwysau mawr yn dewis gwneud eu dyfodol eu hunain. Mae'n rhan o'r rheswm pam mae gennym ni fwy o bobl yn gweithio yng ngwasanaeth iechyd Cymru, ym mhob un agwedd arno, nag erioed o'r blaen.

Rydyn ni bob amser yn barod i edrych ar ffyrdd y gellir gwella amodau gwaith pobl ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n rhan o'r drafodaeth y mae'r Gweinidog iechyd wedi bod yn ei chael gyda'n hundebau llafur yn y gwasanaeth iechyd. Mae wythnos waith pedwar diwrnod yn rhywbeth yr ydym ni'n gwybod bod rhai busnesau yng Nghymru eisoes wedi ei ddechrau gan eu bod nhw'n credu ei fod yn sicrhau gwell cynhyrchiant a gweithle mwy bodlon nag a fyddai fel arall yn wir. Byddwn yn edrych yn ofalus ar y gwersi o hynny. Bydd arbrawf yn yr Alban. Nid yw wedi cychwyn eto, ond rwyf i wedi ei drafod gyda Phrif Weinidog yr Alban a byddwn yn edrych i weld a oes unrhyw beth y gallwn ni ei ddysgu o hynny. Mae'r syniad y byddai newid yn gyflym ac yn gyfan gwbl i weithio pedwar diwrnod yn y gwasanaeth iechyd yn debygol o arwain at well canlyniadau i gleifion yn rhywbeth y byddai angen ei archwilio'n drylwyr iawn, rwy'n credu.

Ynni Adnewyddadwy

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy yng Nghymru? OQ59021

Yr wythnos diwethaf cafodd les gwely'r môr ei dyfarnu i'r prosiect Mona, ac mae hynny’n garreg filltir. Os bydd yr amodau'n iawn, bydd modd denu buddsoddiad mawr o’r sector preifat i greu dyfodol ynni adnewyddadwy i Gymru. 

Mi ddywedodd y Brenin Siarl wythnos diwethaf ei fod yn awyddus i weld cyfran o elw Ystâd y Goron yn cael ei ddefnyddio at les cyhoeddus ehangach. Byddai nifer ohonom ni'n dadlau y dylai holl arian Ystâd y Goron gael ei ddefnyddio at les cyhoeddus ehangach. Mae'n bolisi bellach gan nifer ohonom ni i ddatganoli Ystâd y Goron. Byddwn i'n falch iawn i glywed pa waith mae'r Llywodraeth yn ei wneud ar hyn o bryd i symud yr agenda yna yn ei flaen. Ond hefyd, ydych chi'n cytuno â fi na ddylai incwm sy'n cael ei greu gan Ystâd y Goron fod yn sail i'r grant sofran sydd yn cynnal y teulu brenhinol? 

14:05

Polisi'r Llywodraeth yw cael Ystâd y Goron wedi ei ddatganoli i ni yma yng Nghymru. Rŷm ni wedi cael mwy nag un sgwrs gydag Ystâd y Goron ac rŷm ni wedi rhoi yr un syniad i Lywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd. Fel dwi'n gwybod y bydd Llyr Gruffydd yn gwybod, gyda Llywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig, bydd dim cyfle, dwi ddim yn meddwl, i symud ymlaen gyda'r syniad yna. Ond ym marn y Llywodraeth, dyna yw'r ffordd orau i wneud pethau. Drwy ei gwneud hi fel yna, bydd yr arian o'r pethau naturiol yma yng Nghymru yn nwylo pobl yng Nghymru, a honno yw'r ffordd orau i symud ymlaen. 

Cynlluniau datblygu, ac, yn wir, ein cynllun datblygu cenedlaethol, yw'r asgwrn cefn pan fyddwn ni'n edrych ar gynllunio yn y dyfodol ar dir. Rydym ni wedi gofyn, am sawl rheswm, pam nad oes yr un dull manwl allan ar y môr. Mae hwn yn bwynt rydym ni wedi siarad amdano ers sawl blwyddyn. Roeddwn i'n falch o weld mwyafrif yn y Senedd Cymru hon yn cefnogi ein cynnig deddfwriaethol i greu cynllun datblygu morol cenedlaethol i Gymru. Nid ydych chi wedi bwrw ymlaen â'r cynigion hyn eto, ac maen nhw wedi'u cefnogi gan RSPB Cymru, sefydliadau anllywodraethol eraill a llawer o gadwraethwyr. A fyddech chi'n cytuno â mi bod dull gofodol yn allweddol?

Gan droi at gyllideb 2023-24, fel y mae Cyswllt Amgylchedd Cymru wedi ei amlygu, mae'n peri gofid mawr gweld y gwrthgyferbyniad rhwng llinellau cyllideb tystiolaeth a chyllid polisi morol, sydd oddeutu £1.9 miliwn, ac ynni morol, sydd wedi'i osod ar £7 miliwn. Mae hwnnw'n gryn fwlch. A wnewch chi egluro'r bwlch o £5.1 miliwn? Gwn fod angen ynni adnewyddadwy arnom ni, Prif Weinidog, ond mae'n rhaid i chi gydbwyso hyn, ac rydyn ni wedi bod yn galw ar y Gweinidog i wneud hyn drwy gael y cynllun yma. Oni fyddech chi'n cytuno bod mwy o dystiolaeth yn bwysig nawr, os yw Llywodraeth Cymru yn parhau i gynllunio i gyflymu datblygiadau ynni adnewyddadwy ar y môr, fel nad yw'r rhain yn dod ar draul ein bioamrywiaeth naturiol a'n cadwraeth? Diolch.

Mae gennym ni gynllun morol. Cyhoeddwyd cynllun morol cyntaf Cymru ym mis Tachwedd 2019 a gosodwyd yr adolygiad tair blynedd gyntaf o'r cynllun hwnnw gerbron y Senedd ar 10 Tachwedd. Felly, nid wyf i'n hollol siŵr beth mae'r Aelod yn gofyn amdano pan fo'r cynllun hwnnw yn bodoli ac wedi cael ei adrodd yma i Aelodau'r Senedd. Ar fater penodol y gyllideb, mae'r Gweinidog gerbron y pwyllgor yfory ac rwy'n siŵr y bydd yn gallu ymateb i'r pwynt hwnnw. Fodd bynnag, Llywydd, mae'n anodd i mi wybod yn iawn sut i ymateb i'r negeseuon anghyson yr wyf i'n eu cael gan aelodau o'r Blaid Geidwadol. Rwy'n derbyn llythyrau gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn fy annog i fwrw ymlaen â datblygiad ac i beidio â chaniatáu i ystyriaethau amgylcheddol oedi gwaith angenrheidiol ynni adnewyddadwy, ac mae gen i'r Aelod yma o'r un blaid yn fy annog i beidio â rhuthro ymlaen â datblygiad ynni fel y gallwn ni ddiogelu'r amgylchedd.

Y gwir amdani yw bod yn rhaid i chi gydbwyso'r ddwy ystyriaeth hynny, ac maen nhw'n anodd eu cydbwyso. Fel y dywedais yr wythnos diwethaf wrth ateb Sam Kurtz, rwyf i eisiau i Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn sefydliad sy'n galluogi. Rwyf i eisiau iddo allu rhoi hyder i ddatblygwyr ynni adnewyddadwy, gan gynnwys datblygiadau ynni morol. Rwyf i eisiau i'r datblygwyr hynny fod yn ffyddiog bod y system yn bodoli yng Nghymru i gael y cydsyniadau sydd eu hangen arnyn nhw. Ar yr un pryd, mae'n rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru gyflawni ei gyfrifoldebau fel rheoleiddiwr amgylcheddol. Yng Nghymru, ni wnawn ni aberthu amgylchedd gwerthfawr y môr mewn rhuthr byrdymor i weld datblygiadau nad oes modd cydsynio iddyn nhw. Ond mae cydbwyso'r ddau beth hynny yn beth anodd. Ac rydym ni'n ei drafod; gwn i'r Gweinidog ei drafod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru dim ond yr wythnos diwethaf.

Rwy'n croesawu datganiad y Prif Weinidog wrth ymateb i Llyr Gruffydd yn cefnogi datganoli Ystâd y Goron. Rwy'n credu bod hwnnw'n gam pwysig iawn o ran darparu cyflenwadau ynni adnewyddadwy i Gymru, ac rwy'n edrych ymlaen at ddatganiad y Gweinidog Newid Hinsawdd yn ddiweddarach y prynhawn yma ar y targedau hynny. Ond, Prif Weinidog, yn ogystal â sicrhau bod y gallu gennym ni i ddarparu'r datblygiadau graddfa fawr sydd eu hangen i gyrraedd targedau sero net, a yw hefyd yn bosibl cydbwyso hynny â mwy o bwyslais ar gynhyrchu adnewyddadwy lleol sy'n eiddo i'r gymuned? Oherwydd pan fyddaf yn siarad â'm hetholwyr, mae ganddyn nhw ofnau am rai o'r datblygiadau ar raddfa fwy a allai ddigwydd ar bennau'r cymoedd sydd o amgylch Blaenau Gwent, ond yr hyn y maen nhw ei eisiau yw ymrwymiad i sero net, ac maen nhw eisiau chwarae eu rhan i sicrhau sero net. Ac mae hynny'n golygu cynlluniau lleol, y gallwn ni deimlo'n gyfrifol amdanyn nhw ac yr ydym ni'n teimlo y gallwn ni fod yn rhan ohonyn nhw, i sicrhau bod gan bob rhan o'n cymuned fynediad at gynhyrchiad ynni adnewyddadwy am gost resymol.

14:10

Rwy'n sicr yn cytuno ynghylch pwysigrwydd ynni cymunedol lleol. Yn y datganiad y bydd y Gweinidog yn ei wneud yn ddiweddarach y prynhawn yma, rwy'n rhagweld y bydd ganddi rywbeth i'w ddweud am dargedau newydd a mwy uchelgeisiol yn y rhan honno o'r hyn rydyn ni'n ei wneud.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu ein cefnogaeth i Ynni Cymunedol Cymru yn sylweddol. Ein cyn gyd-Aelod Leanne Wood sy'n cadeirio y dyddiau yma, ac roeddwn i'n ddiolchgar am drafodaethau diweddar gyda hi am rai datblygiadau ynni cymunedol posibl yn etholaeth Gorllewin Caerdydd. Felly, rwy'n credu, fel mae Alun Davies wedi dweud am ei etholwyr, ym mhob rhan o Gymru mae unigolion a sefydliadau sydd eisiau gweld, yn ogystal â'r ymrwymiad graddfa fawr hollol angenrheidiol i ynni adnewyddadwy, y gallu i wneud pethau yn yr ystyr leol honno. Rydyn ni wedi ymrwymo i gynhyrchu cyfran sylweddol iawn o ynni adnewyddadwy yng Nghymru drwy'r llwybr lleol hwnnw, ac mae cefnogaeth cymunedau ledled Cymru iddo yn rhan o'r cryfder y mae Cymru yn ei gynnig i'r agenda hon.

Cefnogaeth ar gyfer Dibyniaeth ar Gyffuriau

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl sy'n dioddef o ddibyniaeth ar gyffuriau yng Ngorllewin De Cymru? OQ58991

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gynorthwyo pobl sydd â phroblemau defnyddio cyffuriau ac alcohol. Rydym ni'n buddsoddi bron i £64 miliwn yn ein hagenda camddefnyddio sylweddau yn y flwyddyn ariannol hon, a bydd hynny'n cynyddu i bron i £67 miliwn yn 2023-24.

Diolch, Prif Weinidog. Mae'n ddrwg gen i ddweud bod Abertawe yn dioddef o'r nifer fwyaf o farwolaethau yn gysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru, gyda bron i 200 o bobl wedi marw o gamddefnyddio cyffuriau dros y pum mlynedd diwethaf. Mae'r sefyllfa bellach wedi ei gwaethygu gan lif enfawr o bensodiasepinau ffug i strydoedd Abertawe. Yr wythnos diwethaf, adroddwyd hefyd bod un o bob 10 o'r rhai ar raglen adsefydlu cyffuriau yn ardal bwrdd iechyd Bae Abertawe yn aros dros 40 wythnos am driniaeth. Gwn y byddwch chi'n debygol o roi'r bai ar COVID—ac, ydy, mae wedi cael effaith ar wasanaethau—fodd bynnag, mae'r problemau yn Abertawe yn dyddio'n ôl cyn y pandemig. Yn gyffredinol yng Nghymru, mae marwolaethau yn gysylltiedig â chyffuriau wedi cynyddu 44 y cant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Felly, pa fesurau brys ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod pobl yn Abertawe yn cael y driniaeth sydd ei hangen arnyn nhw, ac a ydych chi'n cydnabod bod y cynllun cyflawni ar gamddefnyddio sylweddau yn methu â chyflawni ar gyfer y rhai sydd ei angen fwyaf?

Rwy'n anghytuno'n sylfaenol â'r pwynt olaf a wnaeth yr Aelod. Mae'n iawn i ddweud bod marwolaethau yn gysylltiedig â chyffuriau yn y flwyddyn ddiwethaf y mae'r ffigurau ar gael ar ei chyfer wedi cynyddu yng Nghymru, fel y gwnaethon nhw ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, ond fe wnaethon nhw ostwng yn Abertawe. Felly, mae hynny'n beth pwysig i'w gydnabod hefyd. Rwy'n derbyn bod heriau penodol yn ardal Bae Abertawe, ac rydyn ni angen ymrwymiad llawn gan holl aelodau bwrdd cynllunio'r ardal yn yr ardal honno i sicrhau gwelliant. Mae comisiwn gwirionedd Bae Abertawe, sydd wedi'i gadeirio gan gyn-feddyg ymgynghorol iechyd cyhoeddus uchel iawn a chyn-brif gwnstabl cynorthwyol yr heddlu, ei hun yn dod â ffigyrau lleol a phobl sydd â phrofiad uniongyrchol o'r materion hyn ynghyd, i geisio gwneud yn siŵr bod llwybr at welliant, ac edrychwn ymlaen at eu hadroddiad terfynol ym mis Medi eleni.

Mae amseroedd aros yn rhy hir yn ardal Bae Abertawe, ac fe allan nhw fod yn well. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a oedd tan yn weddol ddiweddar yn rhan o fwrdd iechyd Bae Abertawe, mae'r amseroedd aros bellach yn 10 diwrnod ar gyfer triniaeth. Os gallwch chi ei wneud ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gellir ei wneud yn Abertawe hefyd, ac mae'n bwysig bod gwersi'n cael eu dysgu o arferion da mewn mannau sydd wedi cael trafferth i fod yn yr un sefyllfa.

Rydyn ni'n parhau i weithio'n agos ar draws dannedd miniog gwasanaethau sydd wedi'u datganoli a heb eu datganoli yn y maes hwn, ac rydyn ni wedi bod yn falch o weithio'n agos, drwy'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu Alun Michael, gyda phrosiect ADDER—Addiction, Diversion, Disruption, Enforcement and Recovery—y Swyddfa Gartref, sy'n ceisio dod â grymoedd plismona a thriniaeth ynghyd i wneud gwahaniaeth yn ardal Abertawe. Gwn fod fy nghyd-Weinidog, Lynne Neagle, wedi ymweld â'r prosiect hwnnw ym mis Hydref y llynedd, a thrwy ddod â'r gwahanol wasanaethau a all wneud gwahaniaeth yn y maes hwn ynghyd y byddwn ni'n gallu gwneud y cynnydd yr ydym ni eisiau ei weld ym Mae Abertawe.

14:15

Wrth siarad am Ben-y-bont ar Ogwr, cyn cael fy ethol, roeddwn i'n ymddiriedolwr i ganolfan cyffuriau ac adsefydlu Brynawel, sydd yn etholaeth fy nghydweithiwr Huw Irranca-Davies yn Aberogwr. Maen nhw'n cynnig amrywiaeth eang o ddulliau cyfannol i gefnogi pobl gyda'u hadsefydlu o gaethiwed. Rwyf wedi gweld y gefnogaeth wych sydd ar gael, a'r rhwystrau y gall pobl eu goresgyn pan fydd ganddyn nhw gyfle i fanteisio ar y gefnogaeth gywir.

Mae ymchwil gan y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol yn dadlau bod mwy ohonom ni, a dweud y gwir, yn agored i gaethiwed nag erioed o'r blaen, gydag arferion gor-bresgripsiynu, diwylliant cyffuriau yn ymdreiddio i'r cyfryngau cymdeithasol, twf y we dywyll, marchnata gamblo ymosodol, a chyflyrau fel gorbryder yn cael eu hecsploetio gan werthwyr meddyginiaeth anghyfreithlon. Yn eu hadroddiad, 'Road to Recovery: addiction in our society – the case for reform', maen nhw'n galw am ddull person cyfan o helpu unigolion gydag adferiad. Fel mae nhw'n ei ddweud, mae adferiad yn dechrau gyda'r unigolyn, ond mae'n cymryd cymuned dosturiol a phenderfynol i wireddu hynny.

Felly, Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi, er gwaethaf yr her barhaus i ymdrin â chamddefnyddio sylweddau, mae'r gwaith partneriaeth sydd gennym ni yma yng Nghymru drwy strwythur y byrddau cynllunio'r ardal a'r £67 miliwn o gyllid sy'n cael ei warchod a'i gynyddu o fewn ein cyllideb, ynghyd â'n hymrwymiad hirsefydlog i ddull o leihau niwed, wedi bod yn sail i ymateb cryf Cymru i fynd i ymdrin â mater cymhleth ac amlochrog iawn? Diolch.

Wel, Llywydd, rwy'n dechrau drwy dalu teyrnged i'r gwaith sy'n digwydd ym Mrynawel—prosiect sy'n uno pobl ar draws y Siambr hon yn y gwaith sydd wedi'i fuddsoddi i'w wneud yn llwyddiant. Mae'r dull yr ydym ni wedi'i ddefnyddio yng Nghymru yn ddull lleihau niwed, un sy'n cydnabod y pwysau sy'n bodoli ac sy'n gwthio pobl i'r anawsterau hyn, ac sy'n ystyried camddefnyddio sylweddau fel mater iechyd cyhoeddus, nid un sy'n gysylltiedig â chyfiawnder troseddol yn unig. Mae'r dull partneriaeth yn gwbl sylfaenol i hynny, ac felly mae'n defnyddio cyfleoedd newydd wrth iddyn nhw ddod ein ffordd ni.

Pan oeddwn i'n cadeirio bwrdd plismona Cymru ddiwethaf, ymunodd gweinidog plismona ar y pryd Llywodraeth y DU, Kit Malthouse, â ni a gwnaethon ni drafod y ffordd, yr ydym ni, yng Nghymru, wedi arwain y ffordd o wneud math newydd o driniaeth, buvidal, ar gael. Mae dros 1,200 o ddefnyddwyr gwasanaeth ledled Cymru nawr yn elwa ar y math yna o driniaeth, gyda 172 yn ardal bae Abertawe. Dywedodd Kit Malthouse yn y cyfarfod hwnnw bod y buddsoddiad y mae Cymru'n ei wneud yn y driniaeth newydd ac arloesol honno yn arwain y ffordd ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Felly, mae'n gyfuniad, on'd yw, o ddefnyddio'n cryfderau, y partneriaethau sydd gennym ni ar lawr gwlad, tra bod, ar yr un pryd, yn fodlon buddsoddi mewn cyfleoedd newydd a all wneud daioni ym mywydau pobl sydd fel arall wedi wynebu niwed mor sylweddol.

Gwasanaethau Fasgiwlar

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am wasanaethau fasgiwlar i gleifion yn Arfon? OQ58981

Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn, Llywydd. Dros yr wythnosau nesaf, bydd sawl adroddiad yn helpu’r bwrdd gyda’r gwaith angenrheidiol o wella’r gwasanaeth fasgiwlar i gleifion yn Arfon. Bydd hynny'n cynnwys yr ail-arolygiad diweddar o’r gwasanaeth gan Arolygiaeth Iechyd Cymru, archwiliad cynaliadwyedd annibynnol, a'r adroddiad a gafodd ei gomisiynu drwy banel ansawdd fasgiwlar y bwrdd ei hun.

Unwaith eto, dwi'n cefnogi etholwr o Arfon sydd wedi dioddef yn enbyd yn sgil camgymeriadau sylfaenol a difrifol iawn gan yr uned fasgiwlar yn Ysbyty Glan Clwyd. Dwi wedi dadlau'n gyson fod y bwrdd iechyd wedi datgymalu uned o safon uchel ym Mangor am y rhesymau anghywir. Dyma ond un o benderfyniadau gwael a wnaed efo sêl bendith eich Gweinidogion chi dros y blynyddoedd, diwethaf sydd wedi golygu dirywiad mewn gwasanaethau i bobl yn y gogledd orllewin.

Tanfuddsoddi arian cyfalaf yn Ysbyty Gwynedd ydy un arall o'r penderfyniadau gwael hynny sydd wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar. Mae cyfres o benderfyniadau disynnwyr ac o gamreoli wedi cyfrannu yn fawr at yr argyfwng iechyd yn y rhan yma o Gymru. Dydy'r trefniadau fasgiwlar presennol ddim yn gweithio ar gyfer fy etholwyr i. Rydych chi wedi rhestru nifer o adroddiadau—mwy o adroddiadau—ond beth ydych chi’n mynd i'w wneud i stopio’r sefyllfaoedd torcalonnus sydd yn parhau i ddigwydd yng Nglan Clwyd?

14:20

Wel, Llywydd, rŷn ni wedi bod ar ôl hanes gwasanaethau fasgiwlar yn y gogledd yn fwy nag unwaith ar lawr y Senedd. Dwi ddim yn cytuno, dydy’r bwrdd iechyd ddim yn cytuno a dydy’r colegau brenhinol ddim yn cytuno gyda beth mae'r Aelod wedi awgrymu dros y blynyddoedd. Llywydd, mae'r Gweinidog iechyd wedi derbyn bod dal pryderon gyda'r gwasanaeth fasgiwlar yn y gogledd a'r cynnydd wrth weithredu'r cynllun gwella fasgiwlar. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn monitro’r cynnydd hwnnw yn agos. Mae'r arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau fasgiwlar, sydd newydd ei benodi, eisoes wedi ymweld â gogledd Cymru, a bydd ymgynghorwyr fasgiwlar sy'n gweithio yn y gogledd yn cymryd rhan yng nghynhadledd fasgiwlaidd cyntaf Cymru gyfan ym mis Chwefror. Drwy gydweithio fel yna, gydag arweinyddiaeth y Gweinidog—dyna’r ffordd orau i weld gwasanaethau yn y gogledd yn y lle gorau ar gyfer y dyfodol.

Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU

6. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud o effaith rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar Gymru? OQ59005

Wel, Llywydd, mae Llywodraeth y DU yn parhau i ddefnyddio ei rhaglen ddeddfwriaethol mewn ffyrdd sy'n diystyru confensiwn Sewel ac yn tanseilio'r setliad datganoli yn llechwraidd. O'r Biliau presennol, mae'r Bil Cyfraith yr UE (Dirymu a Diwygio) mympwyol ac sydd wedi'i lywio gan ideoleg yn peri risgiau sylweddol iawn i Lywodraeth Cymru ac i'r Senedd hon.

Prif Weinidog, diolch am yr ateb hwnnw. Os bydd Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) yn mynd yn ei flaen fel y mae ar hyn o bryd, ac yn ôl yr amserlen fympwyol sydd wedi'i gosod gan Lywodraeth y DU, yna erbyn mis Rhagfyr y flwyddyn nesaf, byddwn ni'n gweld miloedd ar filoedd o reoliadau sy'n cynnwys diogeliadau amgylcheddol a chyflogaeth hanfodol a llawer mwy, y mae llawer ohonyn nhw'n disgyn yn uniongyrchol o fewn cymhwysedd datganoledig, yn cael eu dileu yn unochrog a heb unrhyw ymgysylltu ystyrlon â Llywodraeth Cymru, ac a allai, o'r haf ymlaen, beri risg o lethu'n ddifrifol capasiti Llywodraeth Cymru a'r Senedd hon. Ac, yn wir, oherwydd y brys amhriodol a'r diffyg dadansoddi manwl gan y DU, gallai osgoi craffu i bob pwrpas ac arwain at dagfa ddeddfwriaethol yma yng Nghymru.

Felly, pa mor obeithiol ydy'r Prif Weinidog y gallai Llywodraeth y DU ddod at eu coed yn wyneb gwrthwynebiad yn Nhŷ'r Arglwyddi, gan nifer cynyddol o aelodau'r meinciau cefn Ceidwadol yn Nhŷ'r Cyffredin, yn ogystal ag ar draws meinciau'r gwrthbleidiau, a gan y cyhoedd a sefydliadau sy'n bryderus ledled y DU? Ac os nad yw'r Llywodraeth yn dod at eu coed, a fyddai ef yn gweithio gyda'r Senedd hon i ddod o hyd i ffyrdd deddfwriaethol o fewn ein cymhwysedd i roi amser i'n Llywodraeth a'n pwyllgorau wneud y gwaith yn gywir i bobl Cymru, hyd yn oed os yw Llywodraeth y DU am gymryd Lloegr yn bendramwnwgl dros ddibyn y maen nhw eu hunain wedi'i greu?

Wel, Llywydd, mae'r rheiny wir yn bwyntiau pwysig iawn y gwnaeth Huw Irranca-Davies y prynhawn yma. Y gobaith gorau sydd gennym ni o Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn camu'n ôl o'r dibyn y mae wedi'i greu ei hun yw y bydd yn gwrando, nid yn unig ar leisiau yma yng Nghymru neu yn yr Alban, ond ar y llu o leisiau hynny mewn bywyd academaidd, grwpiau amgylcheddol, ac yn arbennig ym maes busnes. Ac mae Huw Irranca-Davies yn iawn i ddweud ei bod hi'n amlwg bod pryderon cynyddol ar feinciau cefn y Blaid Geidwadol yn Nhŷ'r Cyffredin. Rydw i'n gweld bod cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Syr Robert Buckland, yn arwain ymdrechion gan Aelodau Ceidwadol i roi'r holl fusnes hwn mewn sefyllfa well nag y mae ar hyn o bryd. A allwn ni fod yn obeithiol am hynny? Rwy'n credu ei bod hi'n anodd bod yn obeithiol pan fo gennym ni Brif Weinidog sydd wedi'i ei ddal gan nifer fach o eithafwyr Brexit yn ei rengoedd ei hun. Er hynny, roedd cyfarfod yn gynharach heddiw rhwng y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Felicity Buchan, o'r adran ffyniant bro, a gwnaeth hi gynnig cyfleu ein pryderon mewn ffordd adeiladol i Lywodraeth y DU, a byddwn yn parhau i ddilyn y dadleuon hynny gyda nhw.

Un o'r gwahaniaethau mawr iawn rhwng y pwerau sy'n cael eu cynnig i Gymru yn y Bil hwn a'r pwerau y mae Gweinidogion y DU yn eu cadw drostyn nhw eu hunain yw'r pŵer i ymestyn y dyddiad machlud. Felly, ar hyn o bryd, mae Gweinidogion y DU, wrth weld ymyl y dibyn yn dod, yn gallu ymestyn y dyddiad cau eu hunain. Nid yw'r pwerau hynny ar gael i'r Senedd hon nac i Weinidogion Cymru. Dylen nhw fod, oherwydd bydd yr un anawsterau yn ein hwynebu ni hefyd. A phan ddywedais i yn fy ateb gwreiddiol, Llywydd, fod risgiau sylweddol nid yn unig i Lywodraeth Cymru ond hefyd i'r Senedd, o ran y gallai'r amser sydd gennym ni ar gael i basio'r ddeddfwriaeth angenrheidiol, yn syml, gael ei oddiweddyd gan swmp y gwelliannau y bydd eu hangen os bydd gennym ni lyfr statud na fydd, yn syml, yn weithredadwy ar ôl diwedd y flwyddyn galendr hon. Ac, wrth gwrs, rwy'n gwbl hapus i roi sicrwydd i Gadeirydd y pwyllgor deddfwriaethol y byddwn ni'n gweithio gyda'r Senedd i liniaru'r peryglon hynny y gorau oll y gallwn ni.

14:25
Yr Argyfwng Costau Byw

7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw yng Ngorllewin Casnewydd? OQ59015

Llywydd, mae pobl ledled Cymru, gan gynnwys yng Ngorllewin Casnewydd, yn wynebu'r cwymp mwyaf a mwyaf serth mewn safonau byw y cafodd eu cofnodi erioed. Y flwyddyn ariannol hon, byddwn ni'n gwario £1.6 biliwn ar gymorth costau byw wedi'i dargedu a rhaglenni cyffredinol i ymdrin â thlodi ac i adael arian ym mhocedi pobl.

Diolch, Prif Weinidog. Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi awgrymu y gallai bron i un o bob pedwar o gwmnïau bach y DU gael eu gorfodi i gau, lleihau, neu ailstrwythuro, diolch i Lywodraeth y DU yn torri cymorthdaliadau ar gyfer biliau ynni cwmnïau. Maen nhw wedi amcangyfrif y bydd llawer o gwmnïau bach yn cael cyn lleied â £50 y flwyddyn o gefnogaeth gan y Llywodraeth yn y dyfodol, tra bod rhagolygon safonau byw y Resolution Foundation 2023 yn awgrymu, er bod prisiau ynni cyfanwerthu yn gostwng, y bydd biliau ynni'n codi eto ym mis Ebrill, a bydd cymorth gyda'r costau hynny yn gostwng. Bydd aelwyd arferol yn talu £850 yn fwy mewn biliau ynni yn 2023-24 nag yn y flwyddyn ariannol bresennol. Yn ogystal â hyn oll, gwrthododd Llywodraeth y DU adfer y cynnydd mewn credyd cynhwysol o £20, ac maen nhw'n rhoi diwygiadau gofal plant pwysig o'r neilltu ar adeg pan fo'r rhieni eu hangen fwyaf. Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â'r casgliad a ddaeth gan y Resolution Foundation mai Senedd y DU hon fydd y Senedd waethaf erioed o ran safonau byw ar gyfer bron pob rhan o'r dosbarthiad incwm?

Wel, Llywydd, nid wyf i'n credu bod unrhyw amheuaeth; rwy'n credu ei fod yn ddatganiad o ffaith y bydd safonau byw yn disgyn yn y flwyddyn ariannol hon a'r flwyddyn ariannol nesaf, i raddau nad ydym ni erioed wedi'u gweld o'r blaen.

Llywydd, rwy'n credu bod Jayne Bryant yn gwneud dau bwynt pwysig iawn. Mae'n ymddangos i mi weithiau bod y graddau y mae Llywodraeth y DU wedi ymbellhau o'r cymorth sydd ar gael i fusnesau gyda'r biliau ynni ar hyn o bryd wedi'i guddio ychydig yn yr adrodd cyhoeddus a'r trafodaethau ar y cymorth gyda'r biliau hynny. Yn ôl Ffederasiwn y Busnesau Bach, yn y flwyddyn ariannol nesaf, bydd busnesau bach yn cael £47 ar gyfartaledd o gymorth gyda'u biliau ynni. Mae ffigyrau Llywodraeth y DU eu hunain yn dweud hyn: y bydd tafarn sydd, ar hyn o bryd, yn cael £3,100 y mis hyd at ddiwedd Mawrth, yn cael £190 y mis o 1 Ebrill ymlaen. Ond bydd siop fanwerthu fach arferol, y mae'r Llywodraeth wedi credu bod angen £500 y mis mewn cymorth arni ar hyn o bryd a hyd at ddiwedd Mawrth, yn cael £33 y mis o hynny ymlaen. Nid yw'n fawr syndod, felly, bod Siambrau Masnach Prydain yn rhagweld y bydd miloedd o fusnesau bach yn llythrennol yn mynd i'r wal o ganlyniad i'r ffactor hwnnw'n unig, a bydd hynny'n sicr o effeithio ar fusnesau yng Ngorllewin Casnewydd a rhannau eraill o Gymru. 

O ran y pwyntiau ehangach y gwnaeth yr Aelod, mae adroddiad rhagolygon safonau byw y Resolution Foundation yr wythnos ddiwethaf yn ddeunydd darllen erchyll iawn, iawn. Bydd aelwyd arferol yn talu £850 yn fwy mewn biliau ynni yn y flwyddyn ariannol nesaf nag yn y flwyddyn ariannol bresennol, a llawer llai o gymorth ar gael iddyn nhw. Bydd yr aelwyd gyffredin â morgais y mae angen iddyn nhw ei adnewyddu yn 2023, yn wynebu cynnydd blynyddol o £3,000 mewn costau morgais. Nid oes syndod bod y Resolution Foundation yn dweud y bydd safonau byw o dan bwysau eleni a'r flwyddyn nesaf fel na fuon nhw erioed o'r blaen. 

14:30
Y Berthynas Waith rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU

8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y berthynas waith rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU? OQ59022

Llywydd, mae ansefydlogrwydd Llywodraeth y DU a newidiadau gweinidogol aml yn y DU wedi'i gwneud hi'n anodd ffurfio cysylltiadau dibynadwy a chynhyrchiol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rydyn ni'n parhau i bwyso am weithredu'r peirianwaith cysylltiadau rhyng-lywodraethol diwygiedig a'r system ragweladwy, barchus y mae'n ei awgrymu.

Diolch, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf ceisiodd Downing Street wadu adroddiadau bod Aelodau Seneddol Torïaidd mewn seddi ymylol wedi cael cyfarwyddyd i roi'r gorau i ddefnyddio'r ymadrodd 'codi'r gwastad' cyn yr etholiad nesaf, oherwydd nad oedd pleidleiswyr yn gwybod beth oedd yn ei olygu, ac yn hytrach i ddefnyddio 'camu ymlaen' neu 'gwella cymunedau'. Prif Weinidog, nid oes syndod na all neb ddeall cysyniad gwael codi'r gwastad Boris Johnson erbyn hyn, gan fod Rishi Sunak wedi cael ei ddal mewn magl yn amddiffyn sut y cafodd de-ddwyrain cyfoethocach Lloegr, neu sut y mae yn cael, mwy o arian nag ardaloedd tlotach y gogledd-ddwyrain.

Prif Weinidog, pa drafodaethau wnaethoch chi a'ch Llywodraeth Cymru eu cael gyda'r Prif Weinidog Rishi Sunak a'i Lywodraeth Dorïaidd yn y DU cyn y cyhoeddiadau mympwyol hyn am rai darnau ychwanegol o arian i Gymru? Prif Weinidog, onid yw'n amlwg i bawb nad yw Llywodraeth Dorïaidd y DU flinedig, dreuliedig hon yn gweithio dros Gymru, yn gweithio er budd cenedlaethol y DU, ond yn hytrach, mae'n gweithio'n ddiflino dros un peth ac un peth yn unig, y Blaid Geidwadol, beth bynnag yw'r difrod, yr annhegwch a'r anghydraddoldeb y mae'n amlygu pobl Islwyn a Chymru iddo? 

Wel, Llywydd, dim ond i wneud yn siŵr bod hyn ar y cofnod yn gywir, mae'r swm o arian sydd ar gael i Gymru gyfan o'r gronfa ffyniant bro yn llai na'r arian sydd ar gael i dde-ddwyrain Lloegr. Nawr, a ddylen ni synnu at hynny? Wel, nid ydw i'n credu y bydden ni, oherwydd roedd y Prif Weinidog presennol ar gofnod yn ystod ei ymgyrch i fod yn Brif Weinidog wedi dweud ei fod ef ei hun—ef ei hun—wedi sicrhau bod arian yn cael ei ddargyfeirio i ffwrdd o ardaloedd trefol difreintiedig fel y bod modd  ei wario mewn llefydd fel Tunbridge Wells. Roedd ef yn Tunbridge Wells pan ddywedodd ef hynny. Gobeithio bod ei blaid yn falch o hynny. Rwy'n edrych ymlaen at eu clywed nhw'n amddiffyn y ffaith bod mwy o arian yn mynd i dde-ddwyrain Lloegr nag i Gymru gyfan. 

Gadewch i ni roi hynny yn ei gyd-destun ychydig am eiliad hefyd—[Torri ar draws.]

Nid ydw i'n gallu clywed y Prif Weinidog. Nid ydw i'n gallu clywed y Prif Weinidog, felly os gall pobl fod yn dawel i wrando ar yr ychydig frawddegau sy'n weddill o ymateb y Prif Weinidog. 

Diolch, Llywydd. Er mwyn ei roi yn ei gyd-destun am eiliad, derbyniodd Cymru 22 y cant o ddyraniad DU yr Undeb Ewropeaidd o'r rownd olaf o gronfeydd strwythurol—22 y cant. Cawsom ni 10 y cant o'r gronfa ffyniant bro. Cofiwch, Llywydd—cofiwch—nid oeddem ni i fod un geiniog yn waeth ein byd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Nonsens oedd hynny yn y pen draw. 

I ateb pwynt yr Aelod yn uniongyrchol, Llywydd, ni chafodd Lywodraeth Cymru unrhyw ran yn natblygiad y gronfa ffyniant bro, ac ni chafodd unrhyw ran yn ei strategaeth na'i chyflawniad, ni chawsom unrhyw rybudd ymlaen llaw o'r ceisiadau y cafodd eu cyhoeddi'r wythnos diwethaf. Mae pob un peth am y gronfa hon yn arian sy'n cael ei gymryd oddi ar Gymru, penderfyniadau sy'n cael eu cymryd oddi ar Gymru. Mae popeth amdano wedi'i gynllunio yn Whitehall, ac mae'r pellter hwnnw'n bwysig iawn. Nid yw'r arian yn cael ei ddefnyddio i wneud y pethau y mae eu hangen ar Gymru, ac ni allai unrhyw un sy'n edrych arno'n wrthrychol ddod i unrhyw gasgliad arall.

14:35
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Lesley Griffiths.

Member
Lesley Griffiths 14:35:51
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon. Mae'r amser sy'n cael ei neilltuo i gwestiynau Comisiwn y Senedd yfory wedi ei leihau i 10 munud. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

Yr wythnos hon, yn amlwg, yw Wythnos Cofio'r Holocost, ac efallai fod y Gweinidog yn ymwybodol—efallai fod y Trefnydd yn ymwybodol—fod gwaith yn digwydd yn y gogledd i geisio olrhain hanes cymunedau Iddewig yn y rhanbarth. Nathan Abrams, athro ym Mhrifysgol Bangor, sy'n arwain y gwaith hwnnw, ac mae ef eisoes wedi cyflawni llawer iawn o waith yn Ynys Môn, Gwynedd a rhannau eraill o'r gogledd. Er mwyn symud ymlaen a chwblhau'r gwaith hwnnw, mae angen tua £50,000, sydd yn swm sylweddol o ran ymchwil rwy'n gwybod, ond nid yw'n swm sylweddol o ran pwysigrwydd y gwaith hwn. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog priodol yn Llywodraeth Cymru ar ein treftadaeth Iddewig yma yng Nghymru a pha gamau sy'n cael eu cymryd er mwyn ei hyrwyddo, yn enwedig yn rhanbarth y gogledd?

Yn ogystal â hynny, ni ddylai fod wedi dianc sylw unrhyw un a oedd yn edrych ar fy ffrydiau cyfryngau cymdeithasol dros y penwythnos ein bod ni wedi nodi Diwrnod Gwerthfawrogi'r Wiwer Goch y penwythnos hwn. Ac fel hyrwyddwr y wiwer goch yn y Senedd hon, nid ydw i eisiau colli'r cyfle i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'r gwaith cadwraeth sy'n digwydd i wiwerod coch. Fe wnes i gymryd rhan mewn gweminar ddoe gyda UK Squirrel Accord i siarad am y gwaith da sy'n cael ei wneud, ar y cyd, yng Nghymru, er mwyn hyrwyddo a hybu niferoedd y gwiwerod coch yn y wlad. Ond un mater o bryder a gafodd ei godi oedd y ffaith bod Deddf Atal Difrod gan Blâu 1949 yn ôl pob tebyg ond yn cynnwys cnofilod, ac yn rhoi cyfrifoldebau i gynghorau ac awdurdodau lleol weithredu i leihau cnofilod fel plâu yng nghartrefi a busnesau pobl. Ond nid oes darpariaeth ar gyfer difrod pla y gall gwiwerod llwyd, wrth gwrs, ei achosi—stripio gwifrau trydanol, a thyllu i eiddo pobl ac achosi difrod i'r pren. Rwy'n gwybod fy mod i'n rhygnu ymlaen, ond os caf i ond gorffen—

Mae'n drwg gen i. Mae'n gyfleus eich bod chi'n rhygnu ymlaen, oherwydd roeddwn i'n chwerthin yn y fan yna ar y syniad ohonoch chi yng ngweminar y wiwer ddoe. [Chwerthin.]

Fi yng ngweminar y wiwer, oeddwn. Nid dim ond gwiwerod oedd yn bresennol, mae'n rhaid i mi ddweud. [Chwerthin.]

Ond yn amlwg, mae difrod sylweddol wedi'i wneud i bren, sy'n cael ei wneud i goed, gan eu bod yn stripio'r rhisgl oddi ar coed hefyd, ac mae gennym ni raglen plannu coed uchelgeisiol  yma yng Nghymru. Ac felly, rwy'n gofyn a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf am waith cadwraeth gwiwerod coch yng Nghymru gennych chi fel Gweinidog, ac a allwch chi gynnwys rhai myfyrdodau ynghylch a fyddai'n syniad da i ehangu'r Ddeddf Atal Difrod gan Blâu er mwyn cwmpasu'r difrod sy'n cael ei achosi gan wiwerod llwyd yn benodol. Diolch.

Diolch. O ran eich gwestiwn cyntaf, rwy'n ymwybodol o'r gwaith y gwnaethoch chi gyfeirio ato sy'n digwydd yn y gogledd, ac yn sicr, fe wnaf i siarad â fy nghyd-Aelod Jane Hutt, sef y Gweinidog a fyddai'n gyfrifol, i weld a yw hi a'i swyddogion yn ymwybodol o'r gwaith hwnnw. Mae'n swnio'n fel gwaith ardderchog, a gwnaf i'n siŵr bod y Gweinidog yn ymwybodol o hynny.

O ran eich ail gwestiwn, sy'n amlwg yn gofyn am ddatganiad gennyf i fy hun, mae'n rhaid i mi ddweud, ers i mi fod yn y swydd, mae'n amlwg iawn—ac rydych chi newydd gyfeirio at Ddeddf o 1949—bod llawer o'r ddeddfwriaeth ynghylch hyn, ac rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn cytuno, wedi dyddio'n fawr iawn. Felly, yn sicr, byddaf i'n hapus iawn i ystyried hynny yn ei gyfanrwydd, ac yna os ydw i'n credu ei fod, yn amlwg, yn deilwng o ddatganiad, byddwn i'n hapus i gyflwyno un.

Hoffwn i ddatganiad, os gwelwch yn dda, ynghylch hawl y gymuned i brynu. Cafodd ased lleol hardd, sef coedwig clychau'r gog, ger Llanbradach ei ddifetha ychydig fisoedd yn ôl, ac fe gyhoeddodd y cyngor orchymyn i'w adfer. Mae'r safle'n cael ei arwerthu, a bydd rheidrwydd ar y perchennog newydd i adfer y tir. Mae grŵp o drigolion lleol yn ceisio codi arian i brynu'r tir ar gyfer y gymuned, ond rwy'n siŵr y byddai trigolion ledled Cymru yn croesawu cyfleoedd eraill a ffyrdd eraill o warchod safleoedd lleol sy'n annwyl iddynt. Rwy'n gwybod bod y Llywodraeth yn ystyried sefydlu comisiwn newydd ynghylch grymuso cymunedau. A fyddai modd i ddatganiad fynd â hyn ymhellach, os gwelwch yn dda, gan gynnwys egluro sut y gallai grwpiau lleol, fel yr un hwnnw y soniais i amdano yn Llanbradach, gyfrannu at broses, gan fod cymaint o adeiladau a hyd yn oed caeau gwyrdd yn ein cymoedd yn dal cof cyfunol, ymdeimlad o'n cysylltu ni â'n gorffennol. Byddai'n wych helpu i sicrhau y gallai mannau fel hyn, sydd mor bwysig, gael eu diogelu ar gyfer y dyfodol. Diolch. 

14:40

Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn, a fel i chi gyfeirio ato, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn sicr yn arwain ar ddarn sylweddol o waith o ran hynny. Rwy'n credu, yn yr achos cyntaf, y gallai fod yn well os ydych chi'n ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pwynt penodol hwnnw, ac rwy'n siŵr, wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen, bydd y Gweinidog yn hapus i gyflwyno datganiad. 

Yn y tywydd oer iawn hwn, roeddwn i eisiau tynnu sylw at sefyllfa etholwr i mi y mae ei foeler wedi methu: teulu o bedwar gyda dau blentyn anabl, nid oes ganddyn nhw'r arian i newid y boeler hwn, gydag incwm cyfunol o £19,000 a dau blentyn anabl. Felly, nid oes ganddyn nhw unrhyw gynilion i ddibynnu arnyn nhw ac mae Nyth wedi dweud wrthyn nhw nad ydyn nhw'n gallu'u helpu nhw, oherwydd ei fod yn defnyddio ei gartref yn gyfeiriad busnes. Felly, pe bai wedi bod yn berson trin gwallt symudol, mae'n debyg y gallai fod wedi cael help, ond oherwydd ei fod yn beiriannydd TG symudol, sy'n gwneud rhan fach o'i waith o bell, gan helpu ei gleientiaid i gael eu systemau TG i weithio eto, a dim ond rhan o'i waith sy'n cael ei wneud mewn swyddfeydd a chartrefi pobl, maen nhw wedi dweud wrtho nad yw'n gymwys. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â'r prosesau gwneud penderfyniadau y mae Nyth i fod i gadw atyn nhw, oherwydd mae'n ymddangos bod rhai anghysonderau enfawr yma, nad ydyn nhw'n dygymod â'r ffaith bod pobl yn aml yn gweithio o bell, fel rydyn ni'n ei wneud yn achlysurol. A hefyd, pryd allwn ni weld golau dydd ar y rhaglen Cartrefi Clyd newydd, a allai fod y ffordd orau a mwyaf cain o unioni'r sefyllfa anghyson hon i bobl sy'n anobeithio'n fawr? 

Oni bai eich bod chi eisoes wedi gwneud hynny, byddwn i'n eich cynghori chi i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd, oherwydd gallai fod rhywfaint o hyblygrwydd o fewn y meini prawf a fyddai'n caniatáu i'ch etholwr—. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn, yn enwedig ar ôl pandemig COVID, pan fyddai llawer o bobl wedi gweld newid yn eu harddull gwaith, ac mae llawer mwy o bobl yn gweithio gartref. Felly, byddwn i'n awgrymu eich bod chi'n gwneud hynny, yn y lle cyntaf, os nad ydych chi wedi gwneud hynny'n barod. 

A gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Economi y prynhawn yma ar gau HSBC yn Ninbych sydd ar fin digwydd ym mis Awst? Nawr, rwy'n deall ei fod yn rhan o gau 114 o fanciau ledled y wlad, rwy'n credu, ond rydw i wir yn credu bod HSBC wedi bod yn gibddall yn ei strategaeth o gau banciau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Tref wledig yw Dinbych yng nghanol Dyffryn Clwyd, ac mae HSBC yn un o'r banciau olaf yn y dref, wedi i Barclays a Nat West adael rai blynyddoedd yn ôl, ac ni all llawer o bobl yn y dref a'r pentrefi cyfagos deithio cyn belled â Rhuthun neu'r Rhyl i wneud eu bancio, yn enwedig os nad oes ganddyn nhw gyfle i ddefnyddio cerbyd preifat neu drafnidiaeth gyhoeddus. Sefydlais i ddeiseb ar-lein ym mis Rhagfyr, ac rwyf i wedi dosbarthu copïau papur o amgylch tafarndai a busnesau lleol, ac rwyf i hyd yma wedi derbyn dros 200 o lofnodion, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn cynyddu yn ystod yr wythnosau nesaf. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth y prynhawn yma mewn ymateb i'r bwriad i gau'r banciau yn Ninbych, a pha gymorth all fod ar gael i helpu fy etholwyr sy'n ei chael hi'n anodd teithio o gwmpas ardaloedd gwledig i gynnal eu busnes? Diolch. 

Wel, mae bancio yn fater a gedwir yn ôl, felly nid ydw i'n credu y byddai'n briodol ar gyfer datganiad.

A gaf i ofyn am gyhoeddiad brys, os gwelwch yn dda, gan y Dirprwy Weinidog dros drafnidiaeth ynghylch cyhoeddiad a wnaed wythnos diwethaf gan gwmni bysiau Llew Jones, sydd yn mynd i ddirwyn i ben y gwasanaeth T19 o Flaenau Ffestiniog i Landudno mewn pythefnos ar 11 Chwefror? Cafodd y gwasanaeth T19 ei lansio flwyddyn a hanner yn ôl, i gymryd lle'r X19. Mae nifer fawr o bobl bro Ffestiniog yn ei ddefnyddio ar gyfer apwyntiadau meddygol, dibenion addysg, siopa a hamddena, ac mae'n allweddol iddyn nhw ar gyfer eu bywyd dyddiol. Mae bywydau pobl am gael ei amharu yn dilyn y cyhoeddiad. Wrth gwrs, mae yna wasanaeth trên, ond mae tocyn trên i Landudno dros £9, tra bod tocyn bws yn £5, ac mae'r trên wedi bod yn anghyson. Mae'r cyhoeddiad yma am fod yn ergyd i fro Ffestiniog, ac mae'n anghyson efo uchelgais a chynlluniau'r Llywodraeth o ran cynyddu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus. A gawn ni, felly, gyhoeddiad brys gan y Dirprwy Weinidog ynghylch pa gamau mae'r Llywodraeth am eu cymryd er mwyn sicrhau ailgyflwyno'r gwasanaeth bws yma, boed yn fws Fflecsi neu wrth addasu'r amserlen, neu'n fuddsoddiad ariannol, os gwelwch yn dda?

14:45

Diolch. Roedd yn anffodus iawn bod Llew Jones Coaches wedi cyflwyno rhybudd eu bod yn bwriadu tynnu'n ôl o weithredu gwasanaeth bws T19 TrawsCymru, a hynny o ddydd Sadwrn 11 Chwefror. Fel y gwnaethoch chi gyfeirio ato, mae dewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus eraill ar gael i deithwyr yn nyffryn Conwy, ac mae Llywodraeth Cymru'n gweithio'n agos iawn gyda'n partneriaid i sicrhau bod y cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus hanfodol hynny'n cael eu cynnal ar gyfer ein cymunedau gwledig ar hyd y llwybr hwnnw. Rwy'n ymwybodol bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn disgwyl diweddariad arall o fewn yr wythnos i 10 diwrnod nesaf, rwy'n credu, ac mae'n parhau i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru, Defnyddwyr Bysiau Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. 

Trefnydd, yr wythnos hon yw Wythnos Atal Canser Serfigol. Mae tua 160 diagnosis o achosion o ganser serfigol bob blwyddyn. Dyma'r math mwyaf cyffredin o ganser i fenywod o dan 35 oed. Rwyf i wedi bod yn gweithio gydag Jo's Cervical Cancer Trust i gynyddu'r nifer sy'n dewis cael brechlyn HPV a sgrinio serfigol, gan ein bod ni'n gwybod bod sgrinio rheolaidd yn lleihau'r risg hyd at 70 y cant. A gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Iechyd ar ymyriadau Llywodraeth Cymru i ddileu canser serfigol?

A hefyd mae arweinydd a dirprwy arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU, gan alw arnyn nhw i egluro pa wasanaethau cyngor fydd yn gymwys ar gyfer cynllun disgownt y bil ynni. Mae hyn yn bwysig fel y gall ein cynghorau gael sicrwydd y bydd asedau cymunedol pwysig, fel canolfannau hamdden, yn cael cymorth tuag at eu costau ynni. Felly, a gaf i ofyn hefyd am ddatganiad llafar gan Lywodraeth Cymru ynghylch ei thrafodaethau gyda'i hadran gyfatebol yn y DU i sicrhau bod y gefnogaeth hanfodol hon i'n cynghorau yn cael ei rhoi ar waith?

Rwy'n credu ei bod hi'n dda iawn eich bod chi wedi codi Wythnos Atal Canser Serfigol yma yn y Siambr. Mae'n bwysig iawn ein bod ni bob amser yn parhau i godi ymwybyddiaeth ac, fel y gwyddoch chi, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella canlyniadau canser serfigol drwy gyfuniad o sgrinio a brechu HPV, a mynediad at driniaeth hefyd. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod y rhaglen sgrinio serfigol wedi adfer yn llwyr o effaith y pandemig erbyn hyn, ac mae nifer sylweddol o bobl gymwys wedi cymryd rhan yn y rhaglen. Cafodd y rhaglen glasoed HPV ei heffeithio gan y pandemig oherwydd i ysgolion gau, ac mae'r timau brechu wir wedi gwneud ymdrech sylweddol i adfer a chynyddu'r nifer sy'n derbyn y cynnig, ac rwy'n credu y dylem ni fel Aelodau wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r rhaglen frechu honno. 

O ran eich ail bwynt, rwy'n ymwybodol o'r llythyr gan CLlLC at Lywodraeth y DU ar y cynllun gostyngiadau biliau ynni. Rydym ni wedi mynegi pryderon ar lefel weinidogol, ac mae ein swyddogion wedi gwneud hynny, ynglŷn â chefnogaeth i ddefnyddwyr ynni annomestig yn y dyfodol, yn arbennig o ran yr angen am y gefnogaeth barhaus honno pan fo gennym ni ymyl y clogwyn hwnnw'n dod ddiwedd mis Mawrth. Rydym ni'n disgwyl y bydd holl wasanaethau'r cyngor yn cael eu cynnwys yn y cynllun gostyngiadau biliau ynni pan fydd yn cael ei gyflwyno ym mis Ebrill. Ac, fel y soniais i ar y dechrau, mae ein swyddogion yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU i bwysleisio pwysigrwydd cefnogaeth gynhwysfawr i bawb, ochr yn ochr â'r lefel uwch o gefnogaeth i'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan newidiadau ym mhrisiau ynni.

Yn y tymor hirach, rydym ni'n credu bod angen i Lywodraeth y DU ddiwygio'r farchnad i ddatgysylltu cost ynni adnewyddadwy o brisiau nwy byd-eang i ddefnyddwyr, ac rydyn ni i gyd wir eisiau gweithio gyda'n gilydd i ddatblygu system ynni mwy lleol, adnewyddadwy i ddisodli ein dibyniaeth ar danwydd ffosil wedi'i fewnforio. 

Gweinidog busnes, mae tymor cyfan wedi mynd heibio ers dechrau gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru mewn ysgolion, ac mae timau arolygu Estyn, wrth gwrs, wedi bod yn brysur iawn. Am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer, y broses arolygu yw'r unig ddull sy'n cael ei ddefnyddio i ddwyn ysgolion cynradd i gyfrif. Mae gan ysgolion uwchradd ac ysgolion pob oed bwysau ychwanegol yr arholiadau allanol, wrth gwrs, gyda chanlyniadau yn 16 oed, ond cyn hir, bydd y rhain hefyd, yn newid. O ystyried pwysigrwydd y newidiadau hyn, a gaf i ofyn i'r Gweinidog busnes am ddatganiad llafar gan y Gweinidog addysg ar sut mae'r broses arolygu wedi newid ers i'r cwricwlwm newydd ddod i'n hysgolion? Diolch.

14:50

Yn sicr, fe wnaf i ei godi'n uniongyrchol gyda'r Gweinidog addysg. Rwy'n credu y gallai fod ychydig yn gynnar yn amserlen y newidiadau i gael datganiad llafar ar hyn o bryd, ond yn sicr, fe wnaf i ei godi gydag ef.

Mae'n dda gweld bod cyd-Aelodau eisoes heddiw wedi bod yn codi mater effaith ymyl y dibyn ddiwedd mis Mawrth o ostyngiad y gefnogaeth i brisiau ynni ar fusnesau. Mae Vikki a Jayne Bryant wedi codi hyn. Rwy'n credu eu bod nhw'n iawn i godi effaith hyn ar bethau fel siopau manwerthu, tafarndai a chlybiau lleol, ac yn y blaen—mae hynny'n hollol iawn. Ond byddwn i'n croesawu datganiad, Trefnydd, ar y mater hwn sydd hefyd yn canolbwyntio ar rai o'r busnesau economi sylfaenol leol ar raddfa fach a chanolig hynny sy'n ymwneud â gweithgynhyrchu bwyd. Yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, mae yn dal gennym ni nifer o'r busnesau hyn, ac rydw i wedi siarad â nhw. Mae ganddyn nhw, pan ddywedaf i, ofnau sylweddol, maen nhw wir yn poeni y byddan nhw'n cau ym mis Ebrill neu fis Mai, a'r rheswm yw eu bod wedi llwyddo hyd yn hyn gyda chefnogaeth, ar lyfrau archebion da, gyda llaw, ac, a dweud y gwir, gallai llawer ohonyn nhw ymgymryd â mwy. Mae'r rhain yn fusnesau da, teuluol, rhai ohonyn nhw'n mynd yn ôl tair, pedair neu bum cenhedlaeth. Ond mae'r costau ynni nawr yn eu gwthio dros y dibyn, ac maen nhw'n disgwyl talu 70c neu 80c yr uned am drydan, ond, flwyddyn yn ôl, roedden nhw'n talu 30c. Gallen nhw dalu ychydig yn fwy, ond ni allan nhw dalu 70c neu 80c. Mae'n golygu y bydd eu llif arian yn mynd â nhw i'r wal. Ni all eu banciau eu helpu mwyach, ac ni all unrhyw fanc datblygu Cymru nac unrhyw un arall eu helpu nhw. Bydd ymyl y dibyn ynni yn eu gwthio drosodd.

Nawr, mae'r rhain yn swyddi lle mae pobl yn cerdded i'r gwaith. Efallai nad ydyn nhw'n swyddi â chyflog uchel, ond maen nhw'n cyflogi cannoedd ar gannoedd o bobl ym mhob cymuned yn fy nghymoedd i, a hefyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac ardal Rhondda Cynon Taf hefyd. Efallai y gallwn i, wrth ofyn am ddatganiad, adlewyrchu barn un o'r busnesau hyn—busnes teuluol sydd wedi bod yno ers sawl cenhedlaeth—a ddywedodd, 'Byddwn i'n croesawu'r Gweinidog nid yn unig yn galw ar Lywodraeth y DU i ymestyn y gefnogaeth, ond i ddod â'r cwmnïau ynni i mewn i ystafell a chloi'r drws nes iddyn nhw ail-drafod, peth o hyn wedi'i gyflawni drwy froceriaid, sef costau ynni pris yr uned.' Mae rôl i Lywodraeth y DU, ond mae rôl i'r cwmnïau ynni wrth i ni weld costau cyfanwerthu yn disgyn, i eistedd yn yr ystafell honno a rhoi yn ôl i rai o'r cwmnïau yma, oherwydd nid yw'n dda i'r cwmnïau ynni hynny os yw'r cwmnïau yma'n mynd i'r wal, ac rwy'n poeni'n ddifrifol y gallem ni fod yn wynebu swnami o golli swyddi a busnesau'n cau.

Diolch. Byddwch chi wedi fy nghlywed i'n dweud yn fy ateb cynharach wrth Vikki Howells mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n gyfrifol am y cynllun rhyddhad biliau ynni sy'n darparu cefnogaeth i fusnesau i'w helpu i ymdopi â'r cynnydd yn y costau ynni maen nhw'n eu hwynebu. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi paratoi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU y gwnaethon nhw ei gael ar ddyfodol y cynllun rhyddhad ar filiau ynni, ac roedd hynny'n cynnwys sylwadau ar ran nid yn unig y cwmnïau yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw, ond hefyd y sectorau ynni-ddwys hefyd, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn ymwybodol iawn o bryderon rhanddeiliaid ac yn parhau i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU. Rwy'n siŵr bod cael uwchgynhadledd yn rhywbeth y bydd yn ei ystyried, nawr ei fod wedi'ch clywed chi'n gofyn iddo wneud hynny.

Prynhawn da, Gweinidog. Rwy'n mynd i barhau â'r thema ambiwlansys ac amseroedd aros. Roedd adroddiad yn ein papur lleol, y County Times, bod cleifion o Gymru sy'n cyrraedd ysbytai Lloegr, o gofio bod y rhan fwyaf o'r cleifion ar y ffin â Lloegr yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn defnyddio'r ysbytai hynny, o bosibl yn aros yn hirach oherwydd eu bod yn dod o Bowys. O ystyried bod gan yr ardal yr wyf i'n ei chynrychioli yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru y ffin hir honno â Lloegr a bod nifer o etholwyr i mi yn defnyddio gofal meddygol brys, mae hyn, wrth gwrs, yn bryder, ar ben y materion sy'n ymwneud ag amseroedd aros ambiwlansys beth bynnag. Am y rheswm hwnnw, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â'r honiadau hyn ac ymchwilio iddyn nhw i weld a yw cleifion mewn cymunedau ar y ffin o Bowys yn wynebu canlyniadau gwaeth o ran gofal brys? Diolch.

Diolch. Fy nealltwriaeth i yw nad yw ymddiriedolaethau Lloegr yn trin trigolion Cymru yn wahanol, yn y ffordd yr ydych chi wedi awgrymu, ac rwy'n credu mai'r ffordd orau ymlaen, y ffordd orau o weithredu, mae'n debyg fyddai gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gael ei swyddogion hi i fonitro hynny. Yn sicr, byddai ei swyddogion hi'n monitro unrhyw drefniadau comisiynu yr oedd ganddyn nhw ag ysbytai Lloegr. Nid ydw i'n siŵr a yw amseroedd aros am ambiwlans yn rhywbeth a fyddai'n cael ei ystyried fel rhan o'r trefniadau comisiynu hynny, ond, yn sicr, rwy'n credu y byddai'n beth da i'r Gweinidog ofyn i'w swyddogion i edrych ar hyn ac ysgrifennu atoch chi.

14:55

Trefnydd, dywedodd y Prif Weinidog yng ngwestiynau'r Prif Weinidog, wrth ateb Andrew R.T. Davies, ei fod o'r farn bod angen 'gweithredu brys a thryloyw' gan URC er mwyn sicrhau ei bod yn ymateb yn gywir i gywiro'r honiadau erchyll a gafodd eu gwneud yn rhaglen arbennig BBC Cymru neithiwr. Ond, fel un o brif gyfrannwyr cyllid URC, mae angen i ni ddeall y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yma hefyd, a dyna pam rwy'n galw am ddatganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon i egluro hynny. Er enghraifft, gwnaethon ni glywed ei bod hi wedi cyfarfod ag Undeb Rygbi Cymru ddoe, ond mae angen i ni ddeall goblygiadau'r cyfarfod hwnnw ac a oedd hi'n codi materion cysylltiedig hefyd—er enghraifft, mae Undeb Rygbi Cymru wedi gwrthod y galwadau i gyhoeddi ei hadolygiad o'r gêm i fenywod yn 2021. Ble mae hwnnw a pham mae hwnnw wedi'i ohirio? Siawns ei bod hi'n ymwybodol o'r adolygiad hwn ac, os nad yw hynny ar y ffordd, pam nad ydyw? Ac yn olaf, mae angen i ni ddeall yn well i ba raddau y mae'r gwaith pwysig y mae URC yn ei wneud gydag arian Llywodraeth Cymru yn ddibynnol ar newid diwylliannol o fewn y sefydliad. Felly, byddai croeso mawr i ddatganiad, i egluro'r materion hynny. Diolch. 

Diolch. Wel, wrth gwrs, mae'r Dirprwy Weinidog yn ymwybodol o'r adroddiad yr ydych yn cyfeirio ato ac wedi galw ar URC i'w gyhoeddi, nid ar un achlysur, ond ar sawl achlysur, rwy'n credu, ac yn parhau i wneud hynny. Fel y clywsoch chi'r Prif Weinidog yn ei ddweud, gwnaeth Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon gyfarfod ag Undeb Rygbi Cymru cyn i'r rhaglen honno gael ei darlledu neithiwr. Mae hi'n parhau i ymgysylltu â nhw ar gamau gweithredu di-oed y mae'n rhaid eu cymryd i ymdrin â'r honiadau y cafodd eu nodi yn yr ymchwiliad. Rwy'n credu bod y manylion a gafodd eu darparu yn y tystiolaethau yn ddinistriol, ac rydym ni'n cydnabod yn llwyr y dewrder y mae'n ei gymryd i bobl gamu ymlaen ar ôl wynebu unrhyw fath o aflonyddu, bwlio neu gam-drin. Bydd y Dirprwy Weinidog yn parhau i gyfarfod ag Undeb Rygbi Cymru, ac mae ei swyddogion hefyd yn cymryd rhan yn hyn. Mae'n fater uniongyrchol i Undeb Rygbi Cymru, gan ei fod yn ymwneud â'u harferion cyflogaeth fel sefydliad annibynnol, ond, wrth gwrs, mae yna fuddiant cyhoeddus clir iawn, ac rwy'n credu bod arweinydd yr wrthblaid yn cyfeirio at hyn, gan fod URC wir wrth wraidd ein bywyd chwaraeon a dinesig. Felly, bydd angen iddyn nhw egluro ymhellach sut y maen nhw'n cymryd y materion hyn o ddifrif. Mae'r Dirprwy Weinidog eisiau gwybod pa gamau y byddan nhw'n eu cymryd i wella'r arferion a'r diwylliant presennol, a sut maen nhw'n mynd i ddarparu amgylchedd diogel a chroesawgar i'w staff a'i rhanddeiliaid ehangach. 

Yn sgil yr achosion diweddar a adroddwyd o honiad o aflonyddu rhywiol a/neu gam-drin domestig gan swyddogion sy'n gwasanaethu yn yr Heddlu Metropolitan, Heddlu Gwent a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, mae angen sicrhau'r cyhoedd fod pob gwasanaethau cyhoeddus yn lle diogel i weithio ynddynt. Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar ba gamau y mae hi wedi'u cymryd neu'n mynd i'w cymryd i sicrhau bod pobl sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus a sefydliadau mawr yn rhydd o aflonyddu rhywiol yn eu gweithle, a bod modd sicrhau'r unigolion hynny sy'n camu ymlaen i adrodd am ddigwyddiadau y byddan nhw'n cael eu clywed a'u cymryd o ddifrif ar bob lefel o'r sefydliad hwnnw. Ar ben hynny, beth sy'n cael ei wneud i sicrhau bod archwilio manwl yn cael ei gyflawni i ddod o hyd i ddrwgweithredwyr cam-drin domestig ac aflonyddu rhywiol a phwy wedyn fydd yn gyfrifol am sicrhau diogelwch yr unigolion hynny sy'n dioddef?

Diolch. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol bob amser wedi bod yn glir iawn am ei hymrwymiad i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched. Mae'n broblem gymdeithasol ac yn amlwg mae angen ymateb cymdeithasol. Mae'r Gweinidog yn gwbl bendant bod yn rhaid i ni newid agweddau sydd wedi'u llywio gan gasineb at fenywod strwythurol hirsefydlog a gwneud newidiadau parhaol er mwyn ymdrin ag ymddygiadau treisgar, sarhaus a rheoli. Byddwch chi'n ymwybodol iawn, Joyce Watson, o'n hymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu i gryfhau'r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac mae hynny'n cynnwys canolbwyntio'n arbennig ar drais yn erbyn menywod yn y gweithle, yn ogystal ag yn y cartref ac yn ogystal ag mewn mannau cyhoeddus, er mwyn gwneud Cymru y lle mwyaf diogel i fod yn fenyw. 

Mae'r Gweinidog yn cyflwyno'r strategaeth drwy ddull glasbrint cydweithredol, sy'n dod â'r holl awdurdodau perthnasol ynghyd, fel sydd wedi'i amlinellu yn y Ddeddf, gyda sefydliadau heb eu datganoli. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn cyd-gadeirio'r bwrdd partneriaeth cenedlaethol gyda Dafydd Llywelyn, prif gomisiynydd yr heddlu a throseddu Cymru. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn hapus iawn i gyflwyno datganiad ysgrifenedig i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni.

15:00

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, fe fyddwn i'n ddiolchgar iawn o gael datganiad am statws prosiect Porth Wrecsam o ystyried methiant Llywodraeth y DU i gefnogi'r cynllun drwy broses cyflwyno ceisiadau ffyniant bro. Mae hwn yn gynllun hynod bwysig i'r gogledd. Cafodd ei lunio gan Lywodraeth Cymru; a chaiff ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, gan yr awdurdod lleol, gan y brifysgol a chan y clwb pêl-droed, ond yn anffodus nid gan Lywodraeth y DU hyd yn hyn. Fe fyddai pobl y rhanbarth yn gwerthfawrogi'r wybodaeth ddiweddaraf yn fawr o ran sefyllfa gyfredol y prosiect a chael cadarnhad o gefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru i brosiect Porth Wrecsam, o ran cefnogaeth weinyddol ac, wrth gwrs, gyda chefnogaeth ariannol hefyd.

Diolch. Yn sicr roedd hi'n siomedig iawn, am yr eildro, i'r cais ffyniant bro, fel roeddech chi'n sôn, gan grŵp o bartneriaid ym mhartneriaeth Porth Wrecsam, gael ei wrthod gan Lywodraeth y DU. Yn amlwg, rwy'n datgan buddiant gan mai fi yw Aelod yr etholaeth, ac yn sicr roedd hynny'n siomedig i drigolion Wrecsam, oherwydd mae partneriaeth y porth, a'r prosiect, yn agwedd mor bwysig o'r uchelgeisiau ar gyfer y ddinas newydd.

Rwy'n gwybod bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cwrdd â phartneriaeth Porth Wrecsam wythnos diwethaf, yn dilyn y newyddion am wrthod y cais. Cytunwyd yn unfrydol bod yr ymrwymiad i gyflawni prosiect Porth Wrecsam yn parhau i fod yn gadarn, ac mae hynny, yn amlwg, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, ac y byddai dewisiadau eraill ynglŷn â chyllid yn cael eu hystyried o ran datblygu'r Kop. Mae'r trafodaethau hynny'n parhau gyda Chlwb Pêl-droed Wrecsam. Fe wn i fod cyfarfod arall am gael ei gynnal rhwng y clwb a'r bartneriaeth yr wythnos hon. Yn amlwg, fe geir elfennau eraill pwysig iawn o Borth Wrecsam, ac fe gaiff y rhain eu hystyried yn barhaus wrth i'r prosiect fynd rhagddo.

3. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diwrnod Cofio’r Holocost 2023

Eitem 3 y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost 2023. Galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ddydd Gwener yr wythnos hon, fe fyddwn ni'n cofio'r miliynau o bobl a gafodd eu herlid a'u lladd yn ystod yr Holocost a hil-laddiadau eraill wedi hynny. Y thema ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost 2023 yw 'Pobl Gyffredin'. Yn ystod yr Holocost a'r hil-laddiadau sydd wedi dilyn, pobl gyffredin a brofodd erledigaeth ac a  lofruddiwyd am eu bod nhw'n aelodau o gymuned o bobl. Pobl gyffredin a oedd yn gweithredu ac yn helpu'r rhai a oedd yn cael eu herlid. Pobl gyffredin hefyd oedd y rhai na wnaeth unrhyw beth ac a lyncodd y propaganda atgas. Mae'r thema yn tynnu sylw at wirionedd cignoeth hil-laddiad: mewn llawer o achosion, fe hwyluswyd yr erchyllterau hyn gan bobl gyffredin.

Yn eu cyflwyniad i thema eleni, mae'r ymddiriedolaeth yn tanlinellu sut mae pobl gyffredin wedi gwneud gweithredoedd erchyll yn bosibl:

'Pobl gyffredin oedd y plismyn a oedd â rhan wrth gasglu'r dioddefwyr at ei gilydd, a'r ysgrifenyddion a oedd yn teipio cofnodion yr hil-laddiad, a'r deintyddion a'r meddygon a oedd yn dewis a dethol, pobl gyffredin oedd y cymdogion a arfogwyd â machetes yn Rwanda, athrawon ysgol a aeth yn warchodwyr y gwersylloedd crynhoi yn Bosnia.'

Mae i'r thema hon neges rymus sy'n berthnasol i bawb ohonom ni. Rydym ni i gyd yn 'bobl gyffredin' sydd â'r gallu i wneud gwahaniaeth â'n gweithredoedd ni, er gwell neu er gwaeth. Mae gennym ni, fel unigolion, ddewis i wrthsefyll casineb a rhagfarn. Fe allwn ni i gyd herio naratifau rhwygol a fwriadwyd i ddarnio ein cymunedau a difenwi grwpiau o bobl.

Ar gyfer 2023, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i gyflogi gweithiwr cymorth yng Nghymru i ysgogi cyfranogiad ledled y genedl. Mae'r gweithiwr cymorth wedi bod yn ymgysylltu â chymunedau, gan eu hannog i gyfranogi, a helpu i gefnogi digwyddiadau coffáu lleol drwy ganllawiau a darparu adnoddau.

Bydd nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ledled Cymru, gan gynnwys gwasanaeth coffa yn Nhŷ Pawb yn Wrecsam ar 27 Ionawr, ac fe fyddaf i'n mynd i hwnnw. Y prif siaradwr yw'r bardd Adam Kammerling, sydd wedi ysgrifennu barddoniaeth yn seiliedig ar ei dreftadaeth Iddewig ef ac am ei daid a oroesodd yr Holocost. Bydd yr arddangosfa, 'Sophie Scholl and the White Rose', i'w gweld yn oriel Art Central, Y Barri, ac ym mhafiliwn pier Penarth. Mae'r arddangosfa yn adrodd hanes Sophie Scholl a'i brawd Hans, a ddaeth yn ymgyrchwyr, gan beryglu eu bywydau trwy ddosbarthu taflenni gwrth-Natsïaidd ledled yr Almaen. Yr wythnos hon, mae Canolfan Gelfyddydau'r Chapter yng Nghaerdydd a Sefydliad Celf Josef Herman yn Abertawe yn cynnal dangosiadau cyhoeddus o ffilmiau am yr Holocost. Mae Canolfan Cymorth Casineb Cymru yn cynnal gweminar ar-lein am yr Holocost ar 26 Ionawr.

Rydyn ni'n falch o allu gweithio ochr yn ochr â'r ymddiriedolaeth unwaith eto, i gefnogi'r gwaith hwn ar lawr gwlad yn ogystal â threfnu'r coffáu cenedlaethol. Fe fydd seremoni genedlaethol Cymru ar gael ar-lein o 11 a.m. ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost. Fe fydd hwnnw'n gyfle i glywed tystiolaeth ddirdynnol gan oroeswraig yr Holocost, Joan Salter MBE, ac Antoinette Mutabazi, un o oroeswyr yr hil-laddiad yn Rwanda. Rydym ni'n ddiolchgar i Joan ac Antionette, a llawer o oroeswyr hil-laddiadau eraill, sy'n rhoi oriau o'u hamser i rannu eu straeon a sicrhau nad yw dioddefwyr y digwyddiadau barbaraidd hyn yn mynd yn angof.

Am 4 p.m. ar 27 Ionawr, bydd pobl ledled y DU yn cymryd rhan mewn moment genedlaethol i gofio'r rhai a laddwyd yn ystod yr Holocost a hil-laddiadau eraill. Rwy'n gobeithio y byddwch chi i gyd yn gallu ymuno â'r foment 'goleuo'r tywyllwch' drwy gynnau cannwyll a'i gosod hi yn y ffenestr. Mae'r ymddiriedolaeth yn gofyn i ni ymuno hefyd gyda'r sgwrs genedlaethol a rhannu llun o'n canhwyllau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Bydd adeiladau a thirnodau hefyd ledled y DU yn cael eu goleuo yn borffor yn ystod y foment genedlaethol hon o goffadwriaeth ac undod. Bydd llawer o leoedd ledled Cymru yn cymryd rhan, gan gynnwys swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, a Chastell Cyfarthfa ym Merthyr.

Mae'r ymddiriedolaeth wedi gweithio gyda'r Ysgol Arlunio Frenhinol hefyd i drefnu'r gystadleuaeth (Extra)Ordinary Portraits, a oedd yn agored i unrhyw un yn y DU dan 25 oed. Gofynnwyd i'r cyfranogwyr lunio portread o unigolyn yr effeithiwyd arno gan yr Holocost, hil-laddiad, neu erledigaeth ar sail ei hunaniaeth. Dewisodd panel beirniadu arbenigol 30 o bortreadau i'w harddangos ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost, a phump o'r ymgeiswyr buddugol yn dod o Gymru, sydd ar gael i'w gweld ar wefan Diwrnod Cofio'r Holocost erbyn hyn.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau i ariannu Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost i ddarparu'r rhaglen Gwersi o Auschwitz yng Nghymru. Ers 2008, mae'r rhaglen wedi estyn cyfle i fyfyrwyr ledled Cymru ymweld ag Auschwitz-Birkenau a chlywed gan oroeswyr yr Holocost. Ar ôl dwy flynedd o'i chyflwyno ar ffurf rithwir, rwy'n falch y bydd y myfyrwyr yn cymryd rhan wyneb yn wyneb eleni unwaith eto. Mae'r holl gyfranogwyr yn dod yn llysgenhadon ifanc ac fe ofynnir iddyn nhw barhau i rannu eu gwybodaeth ac annog eraill i gofio am yr Holocost. Bydd un llysgennad ifanc yn siarad yn seremoni genedlaethol Cymru ddydd Gwener.

Rydym ni'n croesawu adroddiad diweddar yr Arglwydd Mann ar fynd i'r afael â gwrthsemitiaeth yn y DU. Cyfrannodd Llywodraeth Cymru at ddatblygu'r adolygiad, ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gydag ef ar y mater pwysig hwn. Fel roedd Arglwydd Mann yn tynnu sylw ato yn ei adroddiad ef, mae mynd i'r afael â gwrthsemitiaeth yn mynd y tu hwnt i addysg am yr Holocost.

Mae hi'n bwysig bod ein system addysg yn arfogi ein pobl ifanc i ddeall a pharchu hanes, diwylliannau a thraddodiadau pobl eraill ynghyd â'u rhai eu hunain. Mae ein cwricwlwm newydd yn adlewyrchu gwir amrywiaeth ein poblogaeth a bod dysgwyr yn deall sut mae amrywiaeth wedi ffurfio Cymru fodern, drwy wneud dysgu am hanes, cyfraniadau a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn orfodol. Mae honno'n rhan allweddol o'n 'Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol', sy'n ein hysgogi ni tuag at newid sy'n ystyrlon.

Mae'r Holocost yn ddarn hynod boenus a gofidus o hanes, ond mae'n ddarn o hanes na ddylem ni na chenedlaethau'r dyfodol anghofio amdano. Fe ddigwyddodd oherwydd naratifau rhwygol a chamddefnydd o awdurdod. Ni ddylem fyth â phallu yn ein hamddiffyniad rhag naratifau gwenwynig o'r fath sy'n parhau i fod yn bresennol heddiw.

Mae eleni yn nodi saith deg a phump o flynyddoedd ers Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig. Mae honno'n garreg filltir hanesyddol a phwysig i'r ddynoliaeth, a ddatblygwyd mewn ymateb i erchyllterau ac annynoldeb yr ail ryfel byd. Mae'r datganiad cyffredinol yn dweud:

'Caiff pob bod dynol ei eni â rhyddid a chydraddoldeb o ran urddas a hawliau.'

A bod yr hawliau hyn yn

'sylfaen i ryddid, cyfiawnder a heddwch yn y byd'.

Mae hi'n werth cofio ffynhonnell yr ymagwedd hon mewn cyfnod o gynnydd yn y rhethreg yn fyd-eang yn erbyn hawliau dynol.

Felly, rwyf i am gloi'r datganiad hwn trwy ddiolch i Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost ac Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost am eu gwaith pwysig. Rwy'n parhau i fod yn ddiolchgar iddyn nhw am ddodi gwersi hanes ger ein bron ac am ddal ati i wrthsefyll casineb a rhagfarn. Diolch yn fawr.

15:10

Mae gen i wyth Aelod sy'n dymuno siarad ynghylch datganiad heddiw, ac rwy'n gobeithio galw arnyn nhw i gyd. Felly, pe byddech chi'n sicrhau eich bod chi'n cadw at eich dyraniadau amser gyda'ch cyfraniadau, byddem yn gwerthfawrogi eich cymorth yn fawr.

Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae dydd Gwener yn nodi saith deg wyth o flynyddoedd ers y diwrnod i Auschwitz, gwersyll marwolaeth mwyaf y Natsïaid, gael ei ryddhau gan luoedd arfog Sofietaidd; llofruddiwyd 1.1 miliwn o bobl yn y gwersyll hwnnw, naw o bob 10 ohonynt yn Iddewon. Dyma pam y dewisir 27 Ionawr i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost. Pam rydym ni'n yn cofio'r Holocost hwn bob blwyddyn? Am fod hynny'n ein hatgoffa ni i ddysgu gwersi o'r gorffennol, a chofio am hanesion 6 miliwn o Iddewon a lofruddiwyd a'r miliynau hynny o Sipsiwn, Roma a Theithwyr, pobl LHDT, pobl anabl a phobl ddu a gafodd eu llofruddio hefyd mewn gwersylloedd marwolaeth Natsïaidd. Dywedodd y byd, 'Byth eto', ond eto mae hil-laddiad wedi parhau i ddigwydd ers yr erchyllterau ofnadwy hynny a gyflawnwyd gan yr Almaen Natsïaidd.

Mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost yn ein dysgu ni hefyd i gofio am y rhai a ddienyddiwyd yn hil-laddiadau Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur, ond hyd yn oed ar ôl y digwyddiadau ofnadwy hyn i gyd, rydym ni'n methu â dysgu. Yn sobr o drist, yn yr unfed ganrif ar hugain mae hil-laddiad yn parhau i ddigwydd ledled y byd. Mae Mwslimiaid Rohingya yn cael eu lladd ym Myanmar, Mwslimiaid Uighur yn nhalaith Tsieineaidd Xinjiang yn cael eu rhoi mewn gwersylloedd crynhoi yn nwylo Plaid Gomiwnyddol Tsieina, ac efallai yn fwyaf trist, rydym ni'n gweld disgynyddion y milwyr arwrol a ryddhaodd Auschwitz yn 1945 yn cyflawni troseddau rhyfel ac, yn bur bosibl, hil-laddiad yn Wcráin. Ni all y byd eistedd yn ôl a chaniatáu i'r erchyllterau hyn ddigwydd.

Fe hoffwn i ddiolch i Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost yn ogystal ag Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost am eu gwaith amhrisiadwy wrth addysgu cenedlaethau'r dyfodol am yr Holocost ac am droseddau mwy diweddar yn erbyn y ddynoliaeth. Yn anffodus, nid pawb sy'n gwrando ar y gwersi hyn, ac rydym ni wedi gweld cynnydd trist iawn mewn gwrthsemitiaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roedd hyn yn destun pryder mawr wrth ddarllen yr adroddiad annibynnol i Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, a oedd yn canfod bod Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr wedi methu â herio yn ddigonol gwrthsemitiaeth a gelyniaeth tuag at yr Iddewon yn ein strwythurau ni ein hunain. Gweinidog, pa drafodaethau sy'n cael eu cynnal rhyngoch chi a'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet gydag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yma yng Nghymru ynglŷn â'r camau y maen nhw'n eu cymryd i ddileu gwrthsemitiaeth ar ein campysau prifysgol?

Fel gwnaethoch chi ei nodi yn eich datganiad, thema Diwrnod Cofio'r Holocost eleni yw 'Pobl Gyffredin'. Mae hil-laddiad yn cael ei hwyluso gan bobl gyffredin. Wrth wylio achos llys Adolf Eichmann, fe fathodd un oroeswraig i'r Holocost yr ymadrodd 'cyffredinedd camwedd', sy'n golygu nad yw gweithredoedd drwg o reidrwydd yn cael eu gwneud gan bobl ddrwg. Yn hytrach, maen nhw'n digwydd o ganlyniad i bobl gyffredin sy'n ufuddhau i orchmynion. Gweinidog, sut mae cyfleu'r neges i bobl am gyfrifoldeb pawb i wrthsefyll casineb, a bod dyletswydd ar bob un ohonom ni i dynnu sylw at anghydraddoldebau?

Yn olaf, Gweinidog, fe wnaethoch chi gyfeirio at adroddiad yr Arglwydd Mann a'r ffaith bod mynd i'r afael â gwrthsemitiaeth yn mynd y tu hwnt i addysg am yr Holocost. Rydych chi'n nodi yn gywir bod eleni yn nodi 75 mlynedd ers mabwysiadu Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig. A ydych chi am nodi'r digwyddiad trwy gyflwyno eich Bil hawliau dynol chi i Gymru? Diolch yn fawr. 

Diolch yn fawr, Altaf Hussain, a diolch yn fawr iawn i chi am eich cefnogaeth i'r datganiad hwn, gan ein hatgoffa ni unwaith eto am yr ystadegau erchyll hynny ynghylch y niferoedd a laddwyd mewn gwersylloedd a'r erchyllter a welodd 6 miliwn o Iddewon, ond pobl y Sipsiwn, Roma a Theithwyr hefyd. Roeddem ni'n sefyll ysgwydd wrth ysgwydd yn yr wylnos gannwyll—yn ddirdynol iawn heddiw, ac yn drawsbleidiol—a gynhaliwyd gan Julie Morgan, fel mae hi'n ei wneud flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan glywed hefyd oddi wrth ein cymuned ni o Deithwyr yma yng Nghymru, ond gan gydnabod y ffaith hefyd fod pobl anabl wedi cael eu lladd—Aktion T4, nid anghofiwn am hynny—a phobl LHDTQ+, ond yn ein hatgoffa ni o'r hil-laddiadau eraill ledled y byd hefyd.

Pobl gyffredin yw'r thema, ac fe hoffwn i ymateb i'ch pwynt chi am UCM a'r prifysgolion. Fe wnaeth Gweinidog y Gymraeg ac Addysg gwrdd â chyn-lywydd UCM Cymru'r llynedd. Cynhaliodd gyfarfod rhagarweiniol gyda llywydd newydd UCM Cymru ym mis Hydref. Ond fe gwrddodd â'r Arglwydd Mann hefyd—rydych chi wedi sôn, wrth gwrs, am yr adroddiad ar wrthsemitiaeth—ymgynghorydd Llywodraeth y DU ar wrthsemitiaeth. Fe wnaeth ef gwrdd y llynedd ag ef i drafod y gwaith a chodi ymwybyddiaeth o wrthsemitiaeth. Bu mewn cyfarfod â chynrychiolwyr Undeb y Myfyrwyr Iddewig ym mis Chwefror hefyd, ac fe drafododd brofiad myfyrwyr Iddewig mewn addysg uwch. A chydnabod hefyd ein bod ni'n disgwyl, gan UCM—. Rydym ni'n parhau i ymgysylltu yn rheolaidd yn hyn o beth, ond rydym ni'n disgwyl, o ran yr ymchwiliad a'r adroddiad dilynol i wrthsemitiaeth, bod ag ymgysylltiad agored a thryloyw â nhw.

Rwy'n dymuno gorffen trwy ddiolch yn fawr iawn i chi am gydnabod bod hyn yn ymwneud â hawliau dynol, ac yn ymwneud â dysgu'r gwersi. Mae coffáu'r Holocost mor bwysig i sicrhau nad ydym ni'n anghofio, fyth yn anghofio, pa mor beryglus y gall casineb o naratifau rhwygol fod a beth sy'n gallu digwydd pan fydd pobl a chymunedau yn cael eu targedu a'u annynoli oherwydd eu hunaniaethau. Rwy'n croesawu yn fawr—ac rwy'n gobeithio y caiff hyn ei groesawu gan eich cydweithwyr chi—Bil hawliau dynol i Gymru.

15:15

Rwy'n sicr yn adleisio'r alwad honno, Gweinidog. Mae Diwrnod Cofio'r Holocost wedi ei neilltuo i gofio'r rhai a gafodd eu herlid a'u lladd am eu bod nhw ar y cyrion a'u gwneud yn wrthun gan rai a oedd mewn awdurdod. Mae thema Diwrnod Cofio'r Holocost, sef pobl gyffredin, yn un sydd â llawer i'n haddysgu ni heddiw, fel rydych chi wedi sôn, yn fyd-eang, ac yma yng Nghymru. Oherwydd er bod Diwrnod Cofio'r Holocost yn sicrhau ein bod ni'n cofio pobl, pobl gyffredin, sydd wedi dioddef erchyllterau, a thystio i'r fath annynoldeb, mae hynny hefyd yn mynnu, wrth wneud hynny, ein bod ni'n dwyn y ffaith i gof mai pobl gyffredin a achosodd yr erchyllterau hynny hefyd, gan fynd gyda llif rhagfarn, celwyddau, casineb a gweithredoedd ffiaidd o drais. Mae'n ein gorfodi ni i wynebu'r hyn sy'n arwain at gasineb o'r fath, yr hyn sydd wedi hwyluso'r fath erchyllterau bryd hynny ac yn yr oes bresennol. Dywedodd yr awdur a'r goroeswr i'r Holocost, Primo Levy, yn ei lyfr The Reawakening:

'Mae angenfilod yn bodoli, ond maen nhw'n rhy ychydig mewn nifer i fod yn wirioneddol beryglus. Yn fwy peryglus yw'r bobl gyffredin, y swyddogion sy'n barod i gredu a gweithredu heb holi cwestiynau.'

Sut ydym ni am sicrhau bod y cwestiynau hynny'n cael eu holi bob amser yng Nghymru? Yn ei hadroddiad ar achos llys troseddau rhyfel Adolf Eichmann, yn enwog iawn, fe alwodd yr athronydd Hannah Arendt Eichmann, sef un o swyddogaethau'r peirianwaith Natsïaidd, yn 'frawychus o normal'. Fe ddaeth hi i'r casgliad yn ei hastudiaeth enwog a ddilynodd, 'Eichmann yn Jerwsalem: A Report on the Banality of Evil', bod ei gamwedd ef yn deillio o'i

'anallu i feddwl o safbwynt rhywun arall'.

Felly, roedd hi'n awgrymu, fe all unigolyn, ac felly rai sy'n gweinyddu Llywodraeth neu sy'n gweithredu ar ran gwladwriaeth, wneud drwg heb fod yn gynhenid ddrygionus yn ei hanfod. Y diffyg hwnnw o gydymdeimlad, sef y gallu i weld pobl eraill yn llai gwerthfawr, i ymwrthod â dynoliaeth gyffredin pobl, yw'r hyn y mae'n rhaid i ni ei ochel yn ei erbyn drwy'r amser yn y gymdeithas, yn y Llywodraeth ac yn y cyfryngau. Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â mi felly fod tosturi a chydymdeimlad gyda rhai sy'n frodyr a chwiorydd i ni'n hollbwysig a'i bod hi'n rhaid mynegi tosturi a chydymdeimlad y Llywodraeth drwy'r iaith y mae hi'n ei defnyddio a'i gweithgarwch? O ystyried eich sylwadau chi ynglŷn â rhethreg yn erbyn hawliau dynol, Gweinidog, a ydych chi felly hefyd yn cytuno bod angen i ni ddatganoli rhagor o bwerau oddi wrth San Steffan i sicrhau bod ein nod ni o fod yn genedl noddfa yn cael ei wireddu?

Yn ddiweddar, rhododd Freedom from Torture, elusen eiriolaeth ar gyfer goroeswyr artaith, fideo ar-lein yn dangos goroeswraig i'r Holocost, Joan Salter, yn wynebu rhethreg annynol Ysgrifennydd Cartref y DU, Suella Braverman, ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Gan ddyfynnu geiriau fel 'heidiau' ac 'ymosodiadau', fe ofynnodd Ms Salter gwestiwn pwysig iawn i'r Ysgrifennydd Cartref:

'Rwy'n cael fy atgoffa o'r iaith a ddefnyddir i annynoli a chyfiawnhau llofruddiaeth aelodau o fy nheulu i a miliynau o bobl eraill. Pam ydych chi o'r farn fod angen defnyddio iaith o'r fath?'

Eto i gyd, fe wrthododd yr Ysgrifennydd Cartref ymddiheuro am yr iaith a ddefnyddiwyd ganddi. Wrth i ni nodi Diwrnod Cofio'r Holocost yr wythnos hon, a wnewch chi, Gweinidog, achub ar y cyfle hwn i ymuno â mi a fy mhlaid i gondemnio ar goedd y rhethreg a ddefnyddiodd yr Ysgrifennydd Cartref i ddisgrifio pobl, pobl gyffredin, sy'n ffoi rhag amgylchiadau anghyffredin ac yn chwilio am noddfa, a'r geiriau awgrymog megis y sylwadau ynghylch cychod bach a wnaeth rhai yn y blaid Dorïaidd yn San Steffan ac, ysywaeth, rai sy'n eistedd yn y Siambr hon?

15:20

Diolch yn fawr, Sioned Williams. A gaf i ddiolch unwaith eto am eich datganiad grymus yn ogystal â'ch cwestiynau a'ch cefnogaeth chi i'r datganiad hwn heddiw? Fel rydych chi'n dweud, ni ddigwyddodd yr Holocost dros nos; fe ddechreuodd gydag erydiad graddol o hawliau dynol a rhethreg rwygol yn erbyn pobl a oedd yn wahanol, a oedd yn cael eu hystyried yn wahanol i bobl eraill. Unwaith eto, mae hyn yn ymwneud â'r ymrwymiad yr ydym ni'n ei roi yn Llywodraeth Cymru—ac fe ddylai gael ei hybu a'i ddatgan ar draws y Siambr hon—ein bod ni'n dymuno diddymu gwaradwydd a chasineb a sicrhau bod pobl yn teimlo yn ddiogel. Rwy'n credu bod yr hyn sy'n digwydd dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf hyn o ran gwaith Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost yn hanfodol o ran sicrhau bod hynny'n sail nid yn unig i ni yn Llywodraeth Cymru ond drwy ein gwasanaethau cyhoeddus ni i gyd, yn wir ar bob sector ac agwedd o'n bywyd. Felly, rwy'n falch iawn bod yr awdurdodau a sefydliadau lleol hyn i gyd yn cyflwyno amrywiaeth o ddigwyddiadau a chyfathrebu ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost, ac yn ymuno yn y foment genedlaethol 'goleuo'r tywyllwch'.

Yn gryno iawn, fe hoffwn i ddweud pa mor bwysig yw hi ein bod ni wedi ariannu Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost ers 2008 i gynnal rhaglen Gwersi o Auschwitz yng Nghymru, fel gŵyr llawer ohonoch chi, gan eich bod chi wedi cwrdd â disgyblion sydd wedi bod â rhan wirioneddol yn hynny. Eleni nawr maen nhw'n gallu bod â rhan bersonol ynddi mewn gwirionedd. Yn 2023, bydd prosiect Gwersi o Auschwitz yn cael ei gynnal ym mis Chwefror a mis Mawrth gyda 110 o ddisgyblion o 55 o ysgolion yng Nghymru wedi ymrwymo eisoes. Bydd hynny'n cynnwys chwe ysgol sydd â rhan yn y rhaglen am y tro cyntaf—y prosiect wyneb yn wyneb cyntaf yng Nghymru ers y pandemig. A hefyd, mae'r prosiect ar-lein yn cynnwys 131 o ddisgyblion o 43 o ysgolion.

O ran y pryder yr ydych cyn ei fynegi am ddatganiadau gan yr Ysgrifennydd Cartref yn ôl ym mis Rhagfyr, fe godais i'r mater hwn y bore yma mewn tasglu lloches a ffoaduriaid yr oeddwn i'n ei gadeirio, ac roedd swyddog o'r Swyddfa Gartref yn bresennol. Fe godais i'r pryderon ar ein rhan ni yn Lywodraeth Cymru, ac mae eich cefnogaeth chi'n werthfawr ynglŷn â'r rhethreg ac am yr effaith a gaiff hynny ar fywydau pobl. Beth mae hyn yn ei olygu i ni fel cenedl noddfa? Mewn gwirionedd mae'n mynd yn gwbl groes i bopeth yr ydym ni'n ei gredu. Mewn gwirionedd, fe ysgrifennais i at y Gweinidog, Robert Jenrick, ynglŷn â hyn hefyd. Felly, diolch i chi am y pwyntiau hyn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n edrych at y gwaith yr ydym ni'n ei wneud gyda'r pwyllgor cynghori ar hawliau dynol, gan edrych tuag at ein galluogi i—. Rydym ni wedi sefydlu'r grŵp cynghori newydd hwn ar hawliau dynol. Rydych chi'n cadeirio grŵp hawliau dynol trawsbleidiol pwysig iawn hefyd er mwyn i ni allu symud tuag at sicrhau ein deddfwriaeth ni o ran Bil hawliau dynol. Yn hyn o beth, mae pryderon enfawr gennym ni ynglŷn â Bil Hawliau Llywodraeth y DU, sy'n ceisio diddymu Deddf Hawliau Dynol 1998. Mae hyn yn gyfan gwbl groes i'r hyn yr ydym ni am fwrw ymlaen ag ef o ran ein hymrwymiad ni yng Nghymru, rwy'n credu, yn Llywodraeth Cymru, ac rwy'n diolch am eich cefnogaeth chi gyda'r mater hwn.

15:25

Rwy'n cytuno â geiriau'r Arglwydd Mann bod mynd i'r afael â gwrthsemitiaeth yn mynd y tu hwnt i addysg am yr Holocost. Fodd bynnag, fe fyddai hi'n gamgymeriad i ni feddwl nad oes gwaith aruthrol i'w wneud eto o ran cael disgrifiad llawn o ba bethau yn union a ddigwyddodd yn ystod yr Holocost a'r pethau a gafodd eu cuddio wedyn. Cafwyd polisi bwriadol wedi'r ail ryfel byd o dynnu gorchudd dros derfysg y Natsïaid yng ngorllewin yr Almaen. Roedd fy ewythr yn gyrnol yn y fyddin feddiannol, ac fe ddywedodd ef wrthyf i, gyda pheth manylder, am yr holl Natsïaid na chafodd eu rhoi ar brawf ond yn hytrach a gafodd eu gwahodd i ailgydio yn eu swyddogaethau fel gweinyddwyr, barnwyr, ac yn heddweision yn y weinyddiaeth newydd wedi'r rhyfel. Mae gan gyfeillion i mi o dras Almaenig-Iddewig, sydd wedi ymchwilio i'r gorffennol, lawer iawn o straeon i'w hadrodd am y rhai ohonyn nhw a lwyddodd i ffoi o'r Almaen. Ond mae'n rhaid i ni gofio am y rhai na lwyddodd i gyrraedd yma—yr holl Kindertransport y gwrthodwyd eu mynediad i'r wlad hon—yn hytrach na dim ond cofio am y rhai yr ydym ni'n falch o allu dweud ein bod ni wedi eu derbyn. Mae gennym ni gymaint o waith i'w wneud eto o ran ystyried ein rhan ni ein hunain. Beth oeddem ni'n ei wybod am y gwersylloedd crynhoi a beth allem ni fod wedi ei wneud i fomio'r rheilffyrdd a oedd yn cludo pobl i'w tranc? Felly, Gweinidog, tybed pa sgyrsiau y gallech chi fod wedi eu cael gyda'r Gweinidog addysg ynglŷn â sut y gallwn ni sicrhau nad yw'r Holocost fyth yn cael ei anghofio a'n bod ni'n myfyrio ar ymagwedd o'r newydd, bwrw golwg o'r newydd ar y pethau y mae gwir angen i ni gofio amdanyn nhw, oherwydd os anghofiwn ni, fe fyddwn, yn syml, yn ailadrodd hanes.

Diolch yn fawr iawn wir, Jenny Rathbone, am gydnabod bod cymaint wedi cael ei guddio, cymaint yn ein cenhedlaeth ni—mewn gwirionedd, mewn llawer o hanesion teuluol ar draws y Siambr hon. Mae angen i ni edrych o'r newydd ar yr hanes hwnnw.

Efallai fydd rhai Aelodau wedi cael cyfle—os na chawsoch chi, fe fyddwn i'n ei argymell—i wylio How the Holocaust Began, sef y ffilm a ddarlledwyd neithiwr a gyflwynwyd gan James Bulgin. Roedd hi'n ymwneud â'r erchyllterau a arweiniodd at yr Holocost. Unwaith eto, mae'n dirwyn hanes y pethau a arweiniodd at yr Holocost—yr ideoleg wenwynig a gafodd ei ddatblygu fel bod pobl gyffredin yn bradychu eu cymdogion. Arweiniodd hyn i gyd at sefydlu'r gwersylloedd oherwydd roedd saethu tyrfaoedd o bobl yn mynd yn rhy anodd ei gynnal—pobl Iddewig yn cael eu llofruddio. Rwyf i wedi crybwyll T4 o ran pobl anabl. Rwy'n credu mai un o'r pethau erchyll a gafodd ei ddweud yw eu bod nhw'n cyfeirio at bobl anabl fel 'bywydau anhaeddiannol o fywyd'.

Fe allaf i eich sicrhau chi ein bod ni'n cymryd adroddiad yr Arglwydd Mann o ddifrif, ond mae hyn yn ymwneud â'r hyn y gallwn ni ei wneud o ran yr hanes hwnnw. Fe fyddwn i'n dweud bod hynny'n bwysig iawn, rwy'n credu, gyda'r cyfleoedd newydd gyda'r cwricwlwm. Mae amrywiaeth yn thema drawsbynciol yng nghwricwlwm Cymru. Rydym ni wedi arwain y ffordd hefyd o fod y rhan gyntaf o'r DU i'w gwneud hi'n orfodol i addysgu hanesion, cyfraniadau a phrofiadau pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn rhan o stori Cymru yn y cwricwlwm, gyda chanllawiau statudol sy'n ei gwneud hi'n eglur iawn o ran y cyfleoedd i'n dysgwyr, ond hefyd ar gyfer helpu ein proffesiwn addysgu hefyd o ran amrywiaeth a dysgu proffesiynol ynghylch gwrth-hiliaeth. Ac fe fydd hyn, wrth gwrs, o gymorth gydag ehangu ein dealltwriaeth ni o'r hyn y mae hanes yn ei olygu mewn gwirionedd—hanes byw—i'n dysgwyr ni yng Nghymru.

Mae hi mor anodd, onid yw hi, siarad am hyn, ac, eto, mae hi'n gwbl hanfodol. Mae hi mor bwysig ein bod ni'n dwyn y digwyddiadau hyn i gof, y digwyddiadau erchyll hyn, a ddylai dreiddio drwy ein bywydau ni, ac ni ddylem fyth â'u hanghofio. Un peth na wnaf i fyth mo'i anghofio yw sefyll yn Kigali yn Rwanda, ar y safle lle claddwyd 125,000 o bobl.  Mae hi'n anodd dychmygu bod pobl gyffredin yn Rwanda, mewn cyfnod o ddim ond 100 diwrnod, wedi gweld Hutus yn cael eu llofruddio gan Tutsis—llofruddiwyd 800,000, ac fe safodd y byd cyfan i'r naill ochr heb wneud dim o gwbl.

Rwyf i wedi gweithio gyda ffoaduriaid, ac rwyf i wedi gwirfoddoli yn Calais. Fe wn i pa mor bwysig yw'r ieithwedd yn ein trafodaethau ni, ac rwy'n cysylltu fy hun â'r holl sylwadau a wnaethpwyd ynghynt, yn enwedig y sylwadau a wnaeth Sioned o ran ieithwedd ein Gweinidogion Ceidwadol. Mae'n gwbl annerbyniol. Mae'n rhaid i ni ystyried ein hieithwedd ni. Mae'n rhaid i ni beidio â galw pobl yn 'fudwyr'; pobl ydyn nhw—maen nhw'n bobl sy'n chwilio yn ddyfal am ffordd amgen o fyw. Ac, ym mhopeth a wnawn ni, mae'n rhaid inni gofio'r hyn a ddigwyddodd yn yr Holocost. Mae'n rhaid inni gofio'r hyn a ddigwyddodd dros y blynyddoedd mewn gwledydd ledled y byd, ac mae'n rhaid inni bob amser herio'r hyn sy'n digwydd heddiw yn y wlad hon, oherwydd mae hynny'n ymwneud ag iaith, mae'n ymwneud â herio anghyfiawnder, a herio casineb. Diolch am eich sylwadau chi, a diolch am y gwaith yr ydych chi'n ei wneud, Gweinidog. Diolch yn fawr iawn. 

15:30

Diolch yn fawr, Jane. Ac mae hi mae mor anodd, ond mor hanfodol, fel dywedwch chi. Ac roeddwn i'n dymuno ymateb hefyd i'r pwynt sy'n dilyn yr hyn a ddywedodd Sioned am gryfder a dewrder pobl sydd wedi lleisio eu pryderon. Ac rwy'n credu bod y ffaith i Joan Salter gael ei ffilmio yn wynebu'r Ysgrifennydd Cartref, Suella Braverman, ym mis Ionawr, oherwydd yr iaith a ddefnyddiwyd i ddisgrifio ffoaduriaid—. Ac fe ddywedodd Joan Salter wrth yr Ysgrifennydd Cartref,

'Pan fyddaf i'n eich clywed chi'n defnyddio geiriau am ffoaduriaid fel "heidiau" ac "ymosodiad", rwy'n cael fy atgoffa o'r iaith sy'n cael ei defnyddio i annynoli a chyfiawnhau llofruddiaethau fy mherthnasau i a miliynau o bobl eraill'.

Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n rhoi hynny ar gofnod heddiw. 

Rwy'n ddiolchgar iawn o gael cyfle i gyfrannu at y datganiad heddiw ac ymateb iddo. Fel nodwyd eisoes, mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn ddiwrnod yr ydym ni'n cofio am bob un o'r bywydau hynny a gollwyd yn yr Holocost yn drist iawn. Am mai'r thema eleni yw 'pobl gyffredin', mae hi'n werth cofio am y bobl gyffredin hynny a phwy oedden nhw. Roedd tua chwe miliwn o Iddewon, hanner miliwn o bobl Romani, 270,000 o bobl anabl a hyd at 15,000 o bobl LHDT, a llawer o rai eraill o lawer o wahanol grwpiau, yn ddioddefwyr—pob un yn unigolyn cyffredin a aeth i'w dranc dan law drygioni o'r mwyaf. 

Yn ddisgybl yn yr ysgol, fe gefais i'r cyfle i fynd ar daith gyda fy nghyfoedion i ymweld â gwersylloedd crynhoi a marwolaeth Auschwitz-Birkenau—profiad a fydd yn byw gyda mi am weddill fy nyddiau. Ni allai edrych ar unrhyw ffilm na darllen unrhyw lyfr greu cymaint o argraff na gweld y safle drosom ni ein hunain lle'r oedd cymaint o bobl gyffredin wedi dioddef a marw oherwydd eu hil, cyfeiriadedd rhywiol neu gefndir crefyddol. Gwnaeth y daith honno gymaint o argraff arnaf i fel fy mod o'r farn ei bod hi'n hanfodol i eraill ymweld a dysgu yn uniongyrchol am yr hyn a ddigwyddodd, oherwydd, wrth i bob blwyddyn fynd heibio, mae'r rhai sydd wedi goroesi'r Holocost yn cael eu colli i ni yn anffodus wrth iddyn nhw farw.

Felly, fe hoffwn i ofyn i chi, Gweinidog, os ydych chi'n barod i weithio gyda mi, a sefydliadau fel Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost, i sefydlu ymweliad trawsbleidiol ag Auschwitz-Birkenau cyn diwedd y chweched Senedd, i roi'r un cyfle a gefais i 15 mlynedd yn ôl i'n cyd-seneddwyr ni yng Nghymru. Diolch. 

Diolch. A gaf i ddiolch yn fawr iawn i'r Aelod am ei—? Wel, mae e'n dystiolaeth heddiw o'r effaith a gafodd y profiad arnoch yn berson ifanc yn tyfu fyny yng Nghymru. Ac roedd hwnnw'n gyfraniad grymus iawn i'r datganiad y prynhawn yma.

Rwyf eisoes wedi tynnu sylw at y ffaith bod hyn wir yn symud ymlaen yn 2023, o ran ein hymweliadau, yn ôl yn bersonol, o ran prosiect Gwersi o Auschwitz Cymru. Ac mae hi'n bwysig bod hyn—. Wrth edrych ar y prosiect Gwersi o Auschwitz, lle byddech wedi elwa ar gwrs unigryw sydd mewn pedair rhan, gyda dau seminar, ymweliad undydd â Gwlad Pwyl a'r prosiect camau nesaf. Mae hi'n daith o ddysgu ac archwilio am hanes yr Holocost a'r byd yr ydym ni'n byw ynddo. Ond, hefyd, mae'r ffaith y byddwch chi, rwy'n siŵr nawr, bob amser yn llysgennad ar hyd eich oes, yn llysgennad Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, fel dywedais i, y bydd person ifanc, sy'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun, Penywaun, yn cymryd rhan yn y seremoni ar ddiwrnod y cofio, ddydd Gwener. Felly, yn sicr fe fyddwn i'n hapus iawn i ystyried y cynnig hwnnw. Rwy'n credu bod hyn yn bwysig iawn, ein bod ni'n ymuno ar draws y Senedd o ran ein cefnogaeth. Ac rwy'n edrych ymlaen at y digwyddiad yfory, sydd, wrth gwrs, yn cael ei gynnal yn drawsbleidiol, gan Jane Dodds, Darren Millar, Jenny Rathbone, a Llŷr Gruffydd hefyd. Ac fe wnawn ni'n siŵr, unwaith eto, ein bod ni'n mynegi'r gefnogaeth honno, rwy'n siŵr, yn y digwyddiad hwnnw, ac yn cael clywed tystiolaeth bersonol gan un oroeswraig, yn wir.

15:35

Ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost, fel mor aml, fe fyddaf i'n meddwl am Zigi Shipper, un a oroesodd Auschwitz, a fu farw'r wythnos ddiwethaf, ar ei ben-blwydd yn naw deg a thair oed. Fe gefais i'r fraint o gyfarfod â Zigi yn San Steffan, ac fe'i clywais ef yn siarad, nid yn unig am yr erchyllterau a wynebodd ef yn ystod y cyfnod hwnnw, pan ganiatawyd i gasineb dyn at fodau dynol eraill goncro pob ymdeimlad arall o'i ddynoliaeth, ond hefyd am y bywyd bendigedig yr oedd ef wedi ei fyw yn y blynyddoedd ers hynny, oherwydd roedd lwc wedi caniatáu iddo oroesi. Roedd ei stori ef yn fy llorio i, a phan oeddwn i'n ymadael â'r ystafell, fe afaelodd yn fy llaw i, a dywedodd, 'Fe sylwais i eich bod chi'n wylo. Pam ydych chi'n wylo? Rwyf i mor hapus'. Gweinidog, rwy'n gofidio, wrth i fwy o oroeswyr ymadael â'r bywyd hwn, y gellid colli uniongyrchedd eu tystiolaeth nhw, y gellid gwanio'r cysylltiad uniongyrchol hwnnw sy'n ein hatgoffa ni o ganlyniadau casineb dilyffethair. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, os gwelwch chi'n dda, i gynnal y dystiolaeth honno, gan weithio gydag Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocaust ac eraill, i addysgu nid yn unig plant yn yr ysgol ond rai yn eu hoed a'u hamser hefyd ynghylch pa mor hawdd yr oedd hi i fodau dynol lithro i'r hyllter hwnnw, a pha mor hawdd y gallai hynny ddigwydd eto?

Diolch yn fawr iawn i chi am ein hatgoffa ni am y gŵr hwnnw a oroesodd yr holocost, a wnaethoch chi gyfarfod ag ef yn Nhŷ'r Cyffredin, a fu farw'r llynedd. Ac fel dywedais i, mae hi'n anrhydedd i ni gael cyfarfod a chlywed oddi wrth oroeswraig yfory, ac, yn wir, yn ystod y coffáu cenedlaethol hefyd. Dyma pam mae'r digwyddiad hwn, y diwrnod hwn a'r datganiad hwn mor bwysig—nid peth untro ydyw; mae hyn yn ymwneud â'r ffordd yr ydym ni'n byw. Rwy'n credu bod hyn yn mynd â ni'n ôl at y pwynt a wnaeth Sioned Williams—sef bod hwn yn brawf ein bod ni'n gymdeithas dosturiol.

Rwyf i am ymdrin yn gryno iawn ynglŷn â'r ffaith mai ni sy'n ariannu canolfan cymorth casineb Cymru, sy'n cael ei rhedeg gan Victim Support Cymru. Ac mae hi'n bwysig iawn bod y ganolfan honno'n ymestyn allan mewn gwirionedd, i sicrhau ein bod ni'n mynd i'r afael â throseddau casineb, ac yn arbennig felly, yn canolbwyntio ar ymgyrch gyfathrebu gwrth-gasineb, a fydd, wrth gwrs, yn rhedeg gydol y flwyddyn eleni, o'r enw Mae Casineb yn Brifo Cymru. Mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n cyfleu'r neges honno. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn cydnabod gwaith yr Arglwydd Mann, o ran mynd i'r afael â gwrthsemitiaeth yn y DU. Rwy'n credu, nawr, mai'r hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw cysylltu rhwng, ie, yr adroddiad pwysig hwnnw, ond sefyll wedyn dros yr hyn yr ydym ni'n ei gredu yng Nghymru o ran y bobl yr ydyn ni'n eu croesawu i Gymru—gan fynd yn ôl at bwynt Jane: dyma'r bobl yr ydym ni'n eu croesawu nhw i Gymru. Ac mae'n rhaid adlewyrchu hynny, nid yn unig gydag addysg, mae'n rhaid adlewyrchu hynny yn y gwaith yr ydym ni'n ei wneud, nid yn unig o ran mynd i'r afael â throseddau casineb, nid yn unig o ran addysg a chefnogi'r ymddiriedolaeth, ond yn ein gwaith ni hefyd i ddatblygu, cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei datganiad hi'r prynhawn yma, ac rwyf innau hefyd yn croesawu'r undod trawsbleidiol a welwn ni ar y pwnc hwn. Rwy'n falch ei bod hi wedi cyfeirio at raglen gan y BBC neithiwr, How the Holocaust Began, oherwydd rwy'n credu bod honno'n agwedd bwysig i ni ddeall—sut yr oedd pobl gyffredin yn ddioddefwyr ac yn gyflawnwyr yn yr Holocost. Ac rwy'n credu i'r rhaglen honno olrhain datblygiad hil-laddiad yn yr ail ryfel byd a chyn yr ail ryfel byd, ac ailfynegi hanes y mae angen i ni wybod amdano a'i ddeall. Rwyf innau wedi bod yn dyst i hil-laddiad ddwywaith yn fy mywyd i: yn Rwanda ac yn yr hen Iwgoslafia, ac rwy'n credu bod hynny'n creu ymwybyddiaeth wirioneddol iawn o sut y gall drygioni fod bob amser yn bresennol, ac nad oedd yr hyn a ddigwyddodd yn y 1940au yn bennod unigryw o ddrygioni, ond mae hynny'n rhywbeth sy'n gallu bod rownd y gornel, hyd yn oed yn yr oes bresennol.

Gweinidog, rydym ni'n colli'r genhedlaeth a dystiodd i'r Holocost a'r ail ryfel byd; rydym ni'n colli'r cyswllt dynol, y cysylltiad dynol gyda gwersylloedd marwolaeth yr Ail Ryfel Byd; ac rydym ni'n colli tystiolaeth y bobl hynny, y lleisiau sy'n gallu siarad yn uniongyrchol â ni. A'r hyn yr hoffwn i ei ofyn i chi'r prynhawn yma yw: sut y gallwn ni, yng Nghymru heddiw, sicrhau bod pobl ifanc sy'n tyfu i fyny, yn arbennig felly, yn deall dwyster yr hyn a ddigwyddodd dros 70 mlynedd yn ôl? Fe hoffwn i ein gweld ni'n archwilio ffyrdd i alluogi pobl ifanc i ymweld ag Auschwitz i ddeall anferthedd yr hyn a ddigwyddodd yno, ond bod yr Holocost yn rhan o'r cwricwlwm hefyd, lle gall pobl gael deall nid yn unig am y manylion technegol a'r niferoedd, ond effaith ddynol hil-laddiad Iddewon a phobloedd eraill yn Ewrop, er mwyn i ni obeithio y bydd y bobl sy'n cael eu haddysg heddiw yng Nghymru, er y byddan nhw wedi colli'r cysylltiad dynol, yn meddu ar y ddealltwriaeth ddynol honno o hil-laddiad ac o'r hyn y gwnaeth yr Holocost i bob un ohonom ni heddiw.

15:40

Diolch yn fawr, Alun Davies. Diolch i chi, unwaith eto, am dynnu sylw at thema arbennig pobl gyffredin: y dioddefwyr a'r cyflawnwyr, a fynegwyd mor eglur yn y darllediad hwnnw neithiwr. Ond, hefyd, rydym ni wedi gweld hynny ym mhob hil-laddiad; a'i weld, fel soniwyd am hynny, yn Rwanda, a'r profiad a gafodd Jane Dodds. Diolch i chi am rannu eich profiad personol o effaith hil-laddiad eich hun, yn unigol. Rwy'n credu mai dyma lle—nid wyf am ailadrodd fy hun o ran y gwaith a wnawn ni gydag Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocaust. Mewn gwirionedd, mae hyn yn ymwneud â blaenoriaethau, on'd yw e? Mae hyn yn ymwneud ag ariannu Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost ers 2008, ac rwy'n cofio cydnabod, pan oeddwn yn Weinidog Addysg ar y pryd, pa mor bwysig yr oedd hi, hyd yn oed mewn cyllideb dan bwysau mawr, i honno fod yn flaenoriaeth bwysig. Oherwydd, mewn gwirionedd, fel rydych chi'n dweud, Alun, mae hyn yn ymwneud â'r hyn yr ydym ni'n ei ddysgu i'n plant, beth maen nhw'n ei ddysgu a beth yw'r cyfleoedd sydd gennym ni gyda'r cwricwlwm newydd. Ac fe fyddaf i'n rhannu gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg y ffaith fy mod i'n credu bod hyn yn wirioneddol bwysig i'w ddysgu, a'r pwyntiau yr ydych chi'n eu gwneud nhw ynglŷn â'r prosiect dysgu proffesiynol amrywiaeth a gwrth-hiliaeth. Mae hwnnw'n cael ei ysgogi gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd a rhwydwaith BAMEed Cymru. Mae angen sicrhau y gallwn ni groesawu'r ddealltwriaeth ehangach hon o'r hanes, ac fe wn i y bydd pobl ifanc yn elwa ar yr wythnos hon wrth iddyn nhw glywed hanesion gan yr ychydig rai a oroesodd sydd ar ôl. 

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad. Mae camwedd aruthrol yr Holocost yn parhau i fod yn rhy ddyrys i'w amgyffred. Rwyf innau hefyd wedi cael yr anrhydedd a'r fraint o siarad â nifer o oroeswyr yr Holocost erbyn hyn: plant, pobl, bodau dynol, a roedd ac mae'n parhau i fod yn gamwedd o'r fath waethaf. Mae nifer o Aelodau wedi siarad ynghylch erchyllterau hil-laddiad Rwanda, ond fe hoffwn i ddatgysylltu fy hunan hefyd oddi wrth sylwadau'r Ysgrifennydd Cartref ynghylch 'heidiau'.

Peth grymus yw mai'r thema ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost yw pobl gyffredin. Mae hi'n rhy gyfleus ac yn rhy gyfforddus i ni ein twyllo ni ein hunain mai'r hyn a achosodd erchyllter yr Holocost oedd grŵp eithafol ac annormal o gefnogwyr gwleidyddol, ac, fel roedd y rhaglen ddogfen gymhellol ar BBC2 gan James Bulgin yn ei ddangos, yr hyn sy'n achos gwir arswyd i'r ddynoliaeth gyfan yw parodrwydd dynion a menywod cyffredin i fod â rhan yn y camwedd hwnnw: proses o annynoli pobl, derbyn casineb, defnydd o iaith gan wleidyddion a phobl yn llyncu propaganda. Un o'r golygfeydd mwyaf ysgytwol a gyflwynwyd yn y rhaglen ddogfen oedd ffilm gartref milwr o'r Almaen, a oedd yn dangos dynion yn cael eu taflu i ffos yn Lithwania cyn cael eu saethu, ond y cyfan yn digwydd o flaen tyrfa fawr a ddaeth yno i wylio, a oedd yn ysu am gael gweld. Wrth sylwebu ar hyn, fe ddywedodd Bulgin, 'Mae hi bron fel pe bai saethu Iddewon wedi mynd yn rhywbeth i'w wylio fel chwaraeon'—roedd mor wirioneddol arswydus i'w wylio, wyth degawd wedi'r digwydd. Ac fe efelychwyd y golygfeydd erchyll hyn hefyd yn yr Unol Daleithiau a'r Holocost, a oedd yn dangos lluniau i ni o dyllau yn y ddaear yn llawn o rai a saethwyd yn gelain, menywod noeth a babanod, a'r rhai a oedd yno'n helpu ac yn ffilmio yn chwerthin wrth i'r plant gael eu dienyddio. Felly, Gweinidog, beth all Llywodraeth Cymru a chymdeithas wâr ei wneud i sicrhau na fydd cenedlaethau'r dyfodol fyth yn anghofio'r fath arswyd a drygioni? Pa wersi mae hyn yn eu dysgu i ni am rym unigolion i effeithio ar ein brodyr a'n chwiorydd ni er gwell neu er gwaeth?

15:45

Diolch i Rhianon Passmore am ei chyfraniad. Mae'n gyfraniad—. Mae pawb a siaradodd wedi cael eu symud gymaint gan y ffaith ein bod yn gwneud y datganiad hwn, a dwyn i gof holl erchylltra'r Holocost. Ddylen ni byth anghofio hynny. Mae'n ymwneud â'r bobl gyffredin hynny, ac mae'n rhaid i ni wylio'r rhaglenni hynny—mae'n rhaid i ni ddysgu ganddyn nhw. A hefyd mae'n rhaid i ni fod yn glir iawn beth hoffem ni ei wneud yng Nghymru. Wna i ailadrodd eto beth rwyf wedi ei ddweud am y cyfleoedd drwy addysg, drwy ein rhaglenni cydlyniant cymunedol, ein rhaglenni gwrth-gasineb hefyd. Ond hefyd mae'n rhaid i mi ddweud ein bod ni wedi sôn wrth Lywodraeth y DU, yn enwedig nid am iaith yn unig, ond Deddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022—y gwir amdani yw ei bod yn wrthbwynt llwyr i'n cenedl noddfa a nod cyffredinol Llywodraeth Cymru yw cael Cymru sy'n fwy cyfartal—a gwahaniaethu ffoaduriaid trwy sut maen nhw'n cyrraedd yma. Mae'n rhaid i ni hefyd barhau, a byddwn ni'n gwneud fel Llywodraeth, ac mae llawer ohonom ni o amgylch y Siambr hon yn codi'r pryderon hyn gyda Llywodraeth y DU, i fod yn glir iawn beth rydym ni'n ei gredu a'r hyn rydym ni'n ei olygu wrth genedl noddfa, a, gobeithio, yn dod â ni at ein gilydd o ran deall yr hanes. Felly, rwy'n falch iawn o ddweud diolch, Altaf Hussain, am ddechrau'r prynhawn yma gyda'r cyfraniad pwerus yna, oherwydd rwy'n credu bod hynny wir wedi dangos bod llawer sy'n ein huno ar y materion hyn.

4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Targedau Ynni Adnewyddadwy

Eitem 4 sydd nesaf, datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, targedau ynni adnewyddadwy. Galwaf ar y Gweinidog, Julie James.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rydw i'n cyhoeddi ein hymgynghoriad ar ddiwygio targedau ynni Llywodraeth Cymru. Ochr yn ochr â hyn, rwyf hefyd yn falch iawn o gyhoeddi rhywfaint o fuddsoddiad pwysig yr ydym ni'n ei wneud i ysgogi'r gadwyn gyflenwi adnewyddadwy, gan ysgogi twf economaidd ochr yn ochr â lleihau allyriadau a diogelwch ynni.

Roedd ein targedau presennol yn arwydd o uchelgeisiau uchel Cymru ar gyfer ynni adnewyddadwy a blaenoriaeth y Llywodraeth hon i gefnu ar danwydd ffosil. Rydym yn gwneud cynnydd tuag at y targedau hynny, ac mae angen gwthiad terfynol cryf ar y prosiectau sy'n cael eu datblygu os ydym ni'n mynd i gyrraedd ein targed yn 2030 i ynni adnewyddadwy gyflenwi 70 y cant o'n defnydd blynyddol.

Ond mae'r argyfwng hinsawdd ac ymchwydd diweddar prisiau ynni wedi rhoi pwyslais amlwg ar yr angen am newid sylweddol pellach yn ein huchelgeisiau. Cyflenwad lleol o ynni adnewyddadwy diogel, fforddiadwy, yng nghyd-destun rhwydwaith Prydain Fawr gref, yw'r sylfaen i gymdeithas ffyniannus, ddi-garbon.

Gallaf, felly, gyhoeddi ein bod yn cynnig targed penodol i Gymru gynhyrchu'r hyn sy'n cyfateb i 100 y cant o'n defnydd trydan blynyddol o drydan adnewyddadwy erbyn 2035. Ar ben hynny, cynigiwn ein bod yn parhau i gadw i fyny gyda'r defnydd, sy'n debygol o ddyblu o leiaf erbyn 2050.

Mae'r dystiolaeth a gyhoeddir ochr yn ochr â'n cynigion yn dangos y gyfres o brosiectau mewn datblygiad a llwybr darluniadol at gyrraedd y targed hwn. Mae'n amlwg y bydd angen amrywiaeth o dechnolegau a graddfeydd datblygu arnom i gyflawni ein huchelgeisiau. A bydd angen i ni fod yn hyblyg o ran yr atebion cywir i'n cymunedau, a sicrhau bod ynni adnewyddadwy yn gydnaws ag asedau amgylcheddol eithriadol Cymru.

Yr hyn sy'n amlwg, serch hynny, yw'r swyddogaeth y mae disgwyl i wynt ar y môr ei chwarae i gyrraedd ein nod. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Ystâd y Goron eu bod wedi cyhoeddi prydlesi gwely'r môr i 8 GW o brosiectau gwynt ar y môr. Mae hyn yn cynnwys prosiect 1.5 GW Mona oddi ar arfordir y gogledd. Dyma garreg filltir bwysig tuag at y nod o gyflawni'r prosiectau hyn erbyn diwedd y degawd hwn.

Mae cynlluniau sefydlog gwynt ar y môr eisoes yn cefnogi'r economi leol yn y gogledd, gan gynnal 240 o swyddi o ansawdd da ym mhorthladd Mostyn. Rydym yn benderfynol o adeiladu ar hyn gyda'r prosiectau sydd i ddod, gan weithio gyda'r datblygwyr i nodi cyflenwyr lleol ac adeiladu gweithlu medrus. Rhaid i ni hefyd ddysgu gwersi o'r rhai cyfleoedd a fethwyd i ddal cyfran fwy o'r gadwyn gyflenwi ar gyfer cynlluniau ynni gwynt sefydlog ar y môr, yn enwedig mewn gweithgynhyrchu, integreiddio a defnyddio gwerth uchel. Rydw i'n falch iawn felly o gyhoeddi ein bod yn rhoi hyd at £1 miliwn o gefnogaeth i Bort Talbot. Bydd y grant hwn yn cyfateb i ariannu'r gwaith paratoi y mae Associated British Ports yn ei wneud er mwyn galluogi prosiectau gwynt ar y môr arnofiol yn y dyfodol i gychwyn eu taith yng Nghymru. Mae'r buddsoddiad hwn yn arwydd o'r diwydiant ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'r sector cynlluniau ynni gwynt arnofiol. Mae hefyd yn darparu cyllid pwysig i'r seilwaith y bydd ei angen arnom i gyflawni cynlluniau ynni gwynt arnofiol i gyflawni ein huchelgeisiau. Wrth gwrs, nid dyma ddiwedd ein cefnogaeth, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Phort Talbot, Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau a chydweithwyr yn y gynghrair môr Celtaidd i sicrhau'r buddion mwyaf posibl o gynlluniau ynni gwynt arnofiol i Gymru.

Ochr yn ochr â chynhyrchu trydan glân, a'r gadwyn gyflenwi a'r cyfleoedd gwaith y gall ei greu, mae hefyd yn bwysig bod cymunedau'n elwa'n uniongyrchol ac yn teimlo cysylltiad â'r ynni maen nhw'n ei ddefnyddio yn y dyfodol o ran ynni adnewyddadwy. Mae Llywodraeth Cymru wedi eiriol ers amser maith dros berchnogaeth leol a chymunedol ar draws ystod eang o dechnolegau adnewyddadwy a graddfeydd datblygu. I gyflawni hyn, rydyn ni wedi cynyddu'r gefnogaeth rydyn ni'n ei gynnig i gymunedau yn sylweddol. Rydyn ni wedi rhoi hwb i'r cynnig gwasanaeth ynni yr ydyn ni, Llywodraeth Cymru, yn ei gynnig, a rhoi mwy o gefnogaeth sylweddol i Ynni Cymunedol Cymru i'w galluogi i gynyddu eu gweithgareddau. Mae cynllun grant ynni lleol ar gyfer prosiectau cymunedol yn helpu i lenwi'r bwlch a adawyd gan benderfyniad Llywodraeth y DU i ddod â'r cynllun tariff cyflenwi trydan i ben. Ac mae ein canllawiau ar gydberchnogaeth leol yn helpu cymunedau i drafod cydberchnogaeth o brosiectau ar raddfa fwy. Ac wrth gwrs, mae sefydlu ein datblygwr ynni adnewyddadwy newydd yn y sector cyhoeddus yn agwedd bwysig, a fydd yn cadw mwy o werth yn uniongyrchol yn lleol.

Mae adnewyddu ein targed yn dangos ein huchelgais parhaus ar gyfer y berchnogaeth leol honno. Rydym yn cynnig targed ar gyfer o leiaf 1.5 GW o gapasiti ynni adnewyddadwy i fod dan berchnogaeth leol erbyn 2035, gan wella ein targed presennol o 1 GW erbyn 2030. Yn ogystal, gan gydnabod pwysigrwydd datgarboneiddio gwres, rydym yn cynnig 5.5 GW ychwanegol o gapasiti ynni adnewyddadwy i'w gynhyrchu gan bympiau gwres erbyn 2035, yn ddibynnol ar ragor o gymorth gan Lywodraeth y DU a gostyngiadau yn y gost o ddefnyddio'r dechnoleg hon. Wrth gynnig y targed hwn, rydym yn croesawu unrhyw dystiolaeth ategol a all fod yn sail i hynny drwy ymgynghori. Yn sail i'n holl gynigion a'n targedau mae'r seilwaith, y gadwyn gyflenwi a'r hyblygrwydd a fydd yn sicrhau bod ein cyfres o brosiectau datblygu adnewyddadwy a'n diogelwch ynni yn llwyddiannus.

Rwyf eisoes wedi siarad am ein cefnogaeth i ddatblygu seilwaith porthladdoedd. Drwy ein cynllun gweithgynhyrchu, rydym yn cynnal ymarfer i fapio cadwyn gyflenwi'r sector ynni morol. Rydym yn edrych yn benodol ar gapasiti, gallu a chydnerthedd y cadwyni cyflenwi presennol a nodi lle gallwn fanteisio ar gyfleoedd fel cynlluniau ynni gwynt sefydlog ac arnofiol ar y môr. Rydym yn gweithio gyda gweithredwyr rhwydwaith ac Ofgem i ddeall a hyrwyddo anghenion Cymru ar gyfer rhwydweithiau ynni sy'n gallu cefnogi cymdeithas sero net. Ac rydym yn annog defnyddio datrysiadau storio i gefnogi system ynni mwy cydnerth. Mae gennym ni eisoes bartneriaethau sgiliau rhagorol, yn enwedig yr hyfforddiant a ddarperir yng Ngholeg Llandrillo Menai i ddatblygu arbenigwyr ym maes gwynt ar y môr. Ond hoffem adeiladu ar hynny, a bydd ein cynllun gweithredu sero net yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd i ddatblygu gweithlu o'r radd flaenaf ar gyfer ein prosiectau lleol a chyfleoedd gwych i bobl sy'n gadael yr ysgol, graddedigion a'r rhai sy'n chwilio am lwybr gyrfa newydd.

Rwyf wedi dweud yn aml fod yn rhaid i Gymru deimlo budd ein chwyldro adnewyddadwy ac na allwn wneud yr un camgymeriadau o'r gorffennol a chaniatáu i'r budd a'r elw o'n hadnoddau lifo allan o'r wlad. Gwnaed y datganiad hwn o fwriad yn glir yn ein harchwiliad dwfn i ynni adnewyddadwy, a oedd yn darparu gweledigaeth i Gymru cynhyrchu ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion ynni yn llawn o leiaf ac i sicrhau bod cymaint o berchnogaeth leol â phosibl, gan gadw buddion economaidd a chymdeithasol yng Nghymru. Bydd ein huchelgeisiau sero net yn cael effaith fawr ar economi Cymru a'n cymunedau wrth i'r newid yn y galw am nwyddau, gwasanaethau a sgiliau esblygu. Hoffem sicrhau pontio teg sy'n darparu cyfleoedd economaidd ledled Cymru, gan sicrhau budd i fusnesau, cymunedau a dinasyddion.

Mae'r cyfleoedd o ran cynlluniau ynni gwynt arnofiol ar y môr yn y môr Celtaidd yn unig yn cynnig cyfleoedd i filoedd lawer o swyddi o ansawdd da a degau o filiynau o bunnau o fudd economaidd lleol. Gan weithio mewn partneriaeth â datblygwyr yn y sector preifat, cyhoeddus a chymunedol, gweithredwyr seilwaith, darparwyr sgiliau a busnesau, gallwn adeiladu diwydiant ynni adnewyddadwy o'r radd flaenaf yma yng Nghymru. Mae gosod y targedau hyn yn arwydd o'n huchelgais, ac rwy'n eich gwahodd chi i gyd i weithio gyda ni i wireddu'r weledigaeth hon. Diolch.

15:50

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Rydym i gyd yn cytuno mai cyflenwad lleol o ynni adnewyddadwy diogel, fforddiadwy o fewn cyd-destun rhwydwaith Brydeinig gref yw'r sylfaen i gymdeithas ddi-garbon ffyniannus. Mae angen i ni fod yn uchelgeisiol i gyflawni'r gymuned honno yr ydym eisiau i Gymru fod, felly rwy'n croesawu eich penderfyniad, Gweinidog, i osod targed i Gymru gynhyrchu cyfwerth â 100 y cant o'n defnydd trydan blynyddol o drydan adnewyddadwy erbyn 2035. Erbyn 2050, rhagwelir y bydd y defnydd o drydan yn cynyddu rhwng 200 y cant a 300 y cant. Mae hyn yn debygol o fod yn bennaf oherwydd bod mwy o ddefnydd yn y sectorau gwres a thrafnidiaeth. Felly, cwestiwn, Gweinidog: ochr yn ochr â dilyn cyflwyno technolegau adnewyddadwy newydd, pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd i geisio annog ein cymuned, lle gallant, i ddefnyddio llai o drydan?

Nawr, rydych chi wedi cynnig targed ar gyfer o leiaf 1.5 GW o gapasiti ynni adnewyddadwy i fod yn eiddo lleol erbyn 2035—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf am fy llais. O'r bron i 73,000 o brosiectau trydan adnewyddadwy a gwres sydd dan berchnogaeth leol yng Nghymru, mae bron i 90 y cant yn ddomestig. Mae'r mwyafrif o'r prosiectau domestig hyn yn bympiau solar PV a gwres, a all fod yn gost ddrud ymlaen llaw i berchnogion cartrefi, ac, yn ein hymchwiliad am ôl-osod cartrefi, trodd hyn yn dipyn o rwystr. Nawr er bod 2020 wedi gweld 20 allan o 22 awdurdod lleol yn cynyddu faint o drydan adnewyddadwy maen nhw'n ei gynhyrchu, dim ond pump welodd gynnydd o fwy na 5 y cant. Felly, er, yn amlwg, bod rhywfaint o gynnydd, yn syml, nid yw'n ddigon cyflym i gyrraedd targedau tymor byr eich Llywodraeth. Felly, pa gymhellion, Gweinidog, mae eich Llywodraeth yn darparu i rymuso perchnogion cartrefi domestig ac awdurdodau lleol i gyflymu cyfradd cynhyrchu ynni adnewyddadwy?

Er enghraifft, rydyn ni'n gwybod bod trethi busnes yn rhwystr i gynlluniau ynni dŵr preifat. Cost darparu rhyddhad ardrethi busnes i brosiectau ynni dŵr dan berchnogaeth breifat yn ystod blwyddyn ariannol 2021, pan welsom ni gynifer yn cofrestru ar y cynllun yma, y flwyddyn ddiwethaf roedden nhw'n gymwys ar gyfer y cynllun, oedd £380,000. Felly, er mwyn helpu'r ymgyrch tuag at gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy a sicrhau bod cynlluniau ynni dŵr ar gael ar ffermydd, a fyddwch chi'n ystyried ailgyflwyno'r cymorth trethi busnes i dirfeddianwyr wrth symud ymlaen at 2023-24?

Er mwyn i'r uchelgeisiau hyn fod yn werth rhywbeth, mae'n rhaid cael fframwaith diriaethol ar gyfer cyflawni. Mae hyn yn cynnwys datblygu swyddi gwyrdd, buddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant i ddarparu cyfleoedd sy'n talu'n dda i'r gweithlu y bydd eu hangen i wneud y prosiectau adnewyddadwy hyn yn llwyddiant. Felly, roedd hi'n siomedig bod oedi cyn cyhoeddi cynllun sgiliau sero net Cymru yn hydref 2022. Mae hyn yn golygu mai Cymru yw'r unig Lywodraeth ar draws y DU gyfan i beidio â chyhoeddi unrhyw beth ar sgiliau sero net. Felly, a fyddwch yn ymrwymo, Gweinidog, i gyhoeddi cynllun cydlynol ar gyfer hyfforddiant addysg a sgiliau fel y gall y swyddi gwyrdd â chyflogau da hyn ddod yn realiti mewn gwirionedd?

Yn olaf, cynhaliais gyfarfod ag Ystâd y Goron yn ddiweddar. Maen nhw'n canolbwyntio'n llwyr ar gyflawni. Mae ganddyn nhw hanes gwych o brydlesu gwely'r môr yn llwyddiannus, i'r graddau mai'r DU yw'r ail farchnad fwyaf llwyddiannus yn y byd. Fel y maen nhw wedi egluro i mi, mae cyfle i Gymru ei hun fod yn arweinydd byd-eang os ydyn ni'n symud yn gyflym ac yn annog busnesau i fuddsoddi. Felly, Gweinidog, a wnewch chi gadarnhau eich bod yn canolbwyntio'n llwyr ar gyflawni a gweithredu'n gyflym, ac, o'r herwydd, a wnewch chi ddiystyru dilyn yr hyn na ellir ond ei alw'n obsesiwn Plaid Cymru gyda datganoli Ystâd y Goron? Os nad ydych chi'n cytuno â mi, a allech chi ddweud wrthyf beth rydych chi'n credu byddai buddion datganoli Ystâd y Goron? Ond rydyn ni fel grŵp yn parhau i wrthwynebu hynny'n gadarn. Diolch, Dirprwy Lywydd.

15:55

Diolch, Janet. Gobeithio y bydd eich gwddf yn gwella yn fuan; mae gen i bob cydymdeimlad. Fel y gwyddoch, rwyf wedi cael problem debyg iawn fy hun, felly mae gen i lawer o gydymdeimlad yn hynny o beth.

Dim ond o ran Ystâd y Goron, yn amlwg, rydyn ni o blaid datganoli Ystâd y Goron, ac mae manteision hynny yn amlwg iawn. I ddechrau, mae'r refeniw ei hun yn werth ei gael, dim ond i ddweud hynny'n blwmp ac yn blaen. Felly, hyd yn oed os nad oedden ni eisiau gwneud unrhyw beth arall, mae'n amlwg y byddai'r refeniw yn werth ei gael. Ond, mewn gwirionedd, yr hyn sy'n llawer, llawer gwell o ran y datganoli yr hoffem ei weld yw'r hyn y byddem wedyn yn gallu ei wneud gyda sicrhau bod y gadwyn gyflenwi leol a chyflogaeth leol wedi'u cynnwys yn y rownd ocsiwn. Nawr, mae'n ddrwg iawn gen i ddweud nad oedd y rownd ocsiwn ddiwethaf, er ein bod yn falch iawn o'i gweld yn cael ei chaniatáu ac yn mynd rhagddi, heb y mathau o fesurau diogelu y byddem wedi hoffi eu gweld ar gyfer cyflenwad a pherchnogaeth leol. Roedd yn drefniant llwyddo/methu yn unig, ac nid yw'n rhan o amodau'r contract.

Mae'n ddrwg iawn gen i am hynny, oherwydd yr hyn sydd gennym ni yn y fan yna yw ras i'r cynigydd uchaf, ac yna pan ryddheir y cytundebau am rowndiau gwahanol gan y Llywodraeth, bydd hynny'n ras i'r pris isaf. A'r bobl sy'n cael eu gwasgu yng nghanol y ddwy gystadleuaeth wrthwynebus hynny, sy'n cael eu rhedeg gan yr un Llywodraeth, yw'r cyflenwyr, tra bod y prif gwmnïau ynni sydd wedi cael budd yr ocsiwn ar gyfer prydlesi yn gwasgu eu cadwyn gyflenwi er mwyn cael y gost am y contractau am wahaniaeth i lawr cyn belled ag y bo modd. Ac fel y dywedais dim ond yn ddiweddar iawn yn y Senedd mewn datganiad arall, y gwir broblem sydd yna yw sicrhau nad yw'r cwmnïau rhyngwladol mawr sydd wedi ennill, oherwydd y ffordd y cafodd yr ocsiwn ei rhedeg, yn dychwelyd i'w cadwyni cyflenwi eu hunain gartref fel y ffordd gyflymaf a rhwyddaf o gael y pris hwnnw i lawr, ac mae hynny'n broblem wirioneddol i ni.

Pe bai Ystâd y Goron wedi'i datganoli, byddem wedi gallu dylanwadu'n uniongyrchol ar hynny, ac mae'n ddrwg iawn gen i nad oeddem yn gallu. Mae'r cyflenwad hwnnw mewn gwirionedd yn werth mwy na'r pris neu'r goblygiad refeniw, ac os edrychwch chi beth sydd wedi digwydd yn yr Alban, dyna'n union maen nhw wedi gallu ei wneud. Felly, rwy'n gresynu nad oedd Ystâd y Goron yn gweld yn dda i wneud hynny, a byddwn yn parhau i weithio gyda nhw ar gyfer rowndiau'r dyfodol i wneud yn siŵr y gall cwmnïau llai, consortiwm cwmnïau llai, a chynlluniau cymunedol ac ynni adnewyddadwy sydd dan berchnogaeth leol, fod yn gysylltiedig yn uniongyrchol â'r ocsiwn, ac nid yn rhan o'r gadwyn gyflenwi. Felly, rwy'n credu bod hynny'n esiampl uniongyrchol iawn i chi o pam y byddai'n bwysig i ni. Rwy'n gwybod nad yw eich plaid yn cytuno â'r peth, ond rwy'n methu'n lân â deall pam, i fod yn onest, oherwydd mae'r manteision mewn gwirionedd, yn amlwg iawn, iawn.

O ran effeithlonrwydd ynni, mae gennym ni effeithlonrwydd ynni yn ein cynlluniau. Mae'n rhan o'n cyllideb garbon, ac mae'n rhan o argymhellion y pwyllgor hinsawdd i ni. Rydym yn disgwyl i bawb yng Nghymru chwarae eu rhan. Nid yw'n rhan o'r datganiad penodol hwn, ond rwy'n argymell i chi'r dogfennau cyllideb carbon eu hunain, sy'n nodi'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl o ran effeithlonrwydd ynni. Wrth gwrs mae arnom ni eisiau defnyddio'r ynni sydd ei angen yn unig; wrth gwrs mae arnom ni eisiau'r grid mwyaf effeithlon, ac mae hynny'n rhan o'r un sgwrs yr wyf wedi'i hail adrodd, Dirprwy Lywydd, ar lawr y Siambr hon lawer gwaith. Mae angen i'r grid fod mor effeithlon ac effeithiol â phosibl, mae angen i bobl fod mor effeithlon ac effeithiol â phosibl yn eu defnydd o ynni, ar lefel busnes a diwydiannol, ac ar lefel leol, ond, rydym yn gwybod, ac fe wnaethoch chi amlinellu hynny eich hun, oherwydd y sefyllfa o ran gwres, ar gyfer cerbydau trydan, ar gyfer ystod eang o bethau eraill, rydym yn gwybod y bydd y defnydd o ynni'n cynyddu ac, fel y dywedais yn fy natganiad, rydym yn ffyddiog y bydd ein cynllun i gael 100 y cant o ynni adnewyddadwy yn cyd-fynd â'r uchelgais honno, oherwydd y cyfle gwirioneddol sydd gennym ni yma yng Nghymru. Mae mor gyffrous gweld hynny.

Popeth roeddech chi'n ei ddweud am berchnogaeth leol rwy'n cytuno â nhw, heblaw am y trethi busnes. Mae problem wirioneddol yn y fan yna, Dirprwy Lywydd, na wna i fanylu arni nawr, oherwydd bydd yn cymryd llawer gormod o amser. Ond mae gwir fater yno ynglŷn â'r lefel gywir o drethu lleol ar gyfer y lefel gywir o elw, y bydd gennym ni, mae'n siŵr, gyfle i'w drafod dro arall.

16:00

Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Roeddwn i'n falch iawn i glywed beth roeddech chi'n ei ddweud am Ystad y Goron. Os ydyn ni'n mynd i gael obsesiwn, buaswn i'n dweud bod cael obsesiwn am sicrhau dyfodol gwell a mwy llewyrchus i Gymru yn lle eithaf da i ddechrau, i fod yn onest. Felly, buaswn i'n 'associate-io' fy hunan gyda nifer o'r pethau roeddech chi'n eu dweud am hwnna, achos mae gennym ni yng Nghymru gymaint o adnoddau—wel, mae cymaint o botensial o ran adnoddau adnewyddadwy, ond mae hefyd nifer o rwystrau hirsefydlog sydd angen eu cydnabod cyn i Gymru wireddu'r potensial yna, ac rŷn ni wedi clywed yn barod am un ohonyn nhw.

Dros ddegawd yn ôl, addawodd y Llywodraeth y bydden nhw—wel, y byddech chi—yn gweithredu. Dŷn ni'n dal i ddisgwyl gweld ffrwyth rhai o'r addewidion. Mae lot o bethau i'w clodfori, ond mae yna rwystredigaeth am yr oedi hefyd. Mae gan Lywodraeth Cymru darged i weld Cymru yn ateb 70 y cant o'i galw trydanol o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030. Ond yn ôl adroddiad blynyddol 'Energy Generation in Wales' y Llywodraeth y llynedd, mae maint y trydan rŷn ni'n ei ddefnyddio wedi cynyddu'n gyflymach na'r trydan adnewyddadwy sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru. Mae canran y trydan sy'n cael ei ddefnyddio yng Nghymru sy'n cael ei greu drwy ffynonellau adnewyddadwy wedi gostwng o 56 y cant yn 2020 i 55 y cant yn 2021. Pan dŷn ni'n edrych i'r flwyddyn ganlynol, 2022, o ystyried y ffaith ein bod ni wedi wynebu sgil-effeithiau'r pandemig, yn ogystal â'r creisis costau byw ac effeithiau'r creisis rhyngwladol yn Wcráin, pa effaith ydych chi'n meddwl y bydd y newidiadau mawr hyn yn eu cael ar ein defnydd ni o drydan? Pa effaith fydd hyn yn ei gael ar ein gallu i gyflawni ein targedau ni?

Rŷn ni, fel plaid, wedi beirniadu’r Llywodraeth yn y gorffennol am yr arafwch, yr oedi gyda'r cynnydd sydd wedi bod yn y maes hwn. Pryd ydych chi’n meddwl y bydd y trend yma yn newid neu'n troi o gwmpas? Buaswn yn hoffi pe gallech chi, Weinidog, osod mas ychydig o gerrig milltir y byddech chi'n rhagweld y byddwn ni'n gallu eu pasio ar y siwrne yna tuag at y targedau hynny, os gwelwch yn dda.

Efallai’r rhwystr mwyaf oll sydd gennym ni ydy ein grid ynni. Rydych chi wedi sôn am hyn yn barod: y rhwydwaith o beilonau, llinellau pŵer a chysylltiadau sy’n gwasanaethu’r system ynni Brydeinig. Wythnos diwethaf, awgrymodd y Prif Weinidog y byddai’n hoffi gweld y grid cenedlaethol yn dod o dan reolaeth gyhoeddus. Fe soniodd am yr arian anferth sy’n mynd i gyfranddalwyr a'r backlog o bron i 700 o brosiectau ynni adnewyddadwy sy'n dal i aros i’r grid ffeindio capasiti iddyn nhw. Ydy Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud yr achos am reolaeth gyhoeddus o’r grid cenedlaethol? Ydych chi neu'ch swyddogion wedi cynnal trafodaethau â Llywodraeth San Steffan am genedlaetholi’r grid? Pa effaith, yn olaf, ydych chi’n meddwl y byddai hynny'n ei gael ar ein gallu i gyflawni'r targedau ynni adnewyddadwy? Diolch.

16:05

Diolch, Delyth. Rwy'n credu bod llawer i gytuno arno yna, ac wedyn fe alla i egluro ychydig o ran y sefyllfa yr ydym ni ynddi. Felly, dim ond o ran y grid ei hun, mae'r grid cenedlaethol yn un o'r darnau ohono a gafodd ei enwi waethaf, mewn gwirionedd, oherwydd nid yw'n ddim o'r fath; mae'n gyfres o wahanol sefydliadau sy'n defnyddio darnau gwahanol o'r grid. Bu'n ymatebol iawn yn y gorffennol. Nid yw ond wedi ymateb i alwadau cwsmeriaid am gysylltiad grid mewn lle penodol cyn iddo gael ei ddefnyddio. Mae absenoldeb cynllunio wedi bod—wel, rydym ni yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi oherwydd absenoldeb cynllunio ac absenoldeb diogelu i'r dyfodol, oherwydd rwy'n credu y bu hi'n amlwg ers amser maith bod angen y grid, hyd yn oed ar gyfer pethau fel band eang a gwefru cerbydau trydan, heb sôn am unrhyw strategaeth ddiwydiannol, ac yn syml, nid yw wedi cael ystyriaeth.

Rydym ni wedi bod yn galw amdano, fel plaid, ers ymhell cyn datganoli a byth ers datganoli—y dylai fod naill ai'n wasanaeth cenedlaethol, yr ydym yn dal i gredu, neu, o leiaf, y dylid ei gynllunio ac y dylai'r grid cenedlaethol ystyried strategaeth fuddsoddi o flaen llaw, hyd yn oed pe byddid yn adfer costau wedyn. Rydym o'r diwedd wedi cario'r dydd o ran sefydlu dyluniad rhwydwaith cyfannol ar gyfer Cymru bellach, ac mae hynny'n gam enfawr ymlaen o ran yr hyn y gallwn gynllunio ar ei gyfer, ac mae hynny'n broses sy'n parhau i raddau helaeth; mae fy swyddogion yn ymwneud yn fawr â llawer o'r glo mân. Ond, wyddoch chi, byddai'n llawer gwell pe na bai'n cael ei wneud er mewn creu elw i gyfranddalwyr, ac rwy'n credu mai athroniaeth wleidyddol yn unig yw hynny ei bod yn annhebygol y bydd y meinciau gyferbyn yn ei rhannu, ond rydyn ni'n sicr yn ei rhannu. O leiaf, hoffwn ei weld fel cwmni nid-er-elw.

Ond, mewn gwirionedd, y peth mawr yma yw'r cynllunio. Felly, rydym yn falch eu bod, o'r diwedd, wedi gweld rhywfaint o synnwyr ac yn edrych ar ddylunio rhwydwaith cyfannol. Mae hynny wedi cael ei ysgogi'n rhannol gan y datblygwyr ynni adnewyddadwy mawr, sy'n amlwg yn sgrechian am y ffaith—dywedodd y Prif Weinidog ei hun—y byddant yn cael yr ynni i'r traeth ac yna y byddant yn chwilio am blwg. Ble mae'r plwg? Mae hynny'n fater mawr iawn i ni; mae'n rhaid i ni fwrw ymlaen â hynny ac mae'r cynlluniau hynny'n mynd rhagddynt ar gyflymder. Mae llawer o fanylion ynghylch hynny, Dirprwy Lywydd, yr wyf wedi manylu arnynt sawl gwaith yn y Siambr, ac ni fyddaf yn eu hailadrodd.

O ran y targedau rydym ni wedi'u gosod, mae rhai materion yn ymwneud â'r ganran o ynni a gynhyrchir. Mae gennym ni gyfran chwerthinllyd o ynni nwy'r DU a gynhyrchir yma yng Nghymru drwy ddamwain hanesyddol flaenorol, yr hoffwn weld ei waredu, ac mae hynny, yn amlwg, yn effeithio ar y ganran, ond rydym yn gwneud cynnydd da tuag ato. Mae'r data diweddaraf sydd gennym ni yn dangos bod ynni adnewyddadwy wedi cynhyrchu'r hyn sy'n cyfateb i 55 y cant o'n defnydd o drydan, o gymharu â tharged o 70 y cant erbyn 2030. Felly, y rheswm rwy'n gwneud hyn heddiw yw oherwydd ein bod ni'n credu y bydd y targed hwnnw'n cael ei gyrraedd ac rydyn ni'n ceisio cynyddu ein huchelgais. Rwy'n credu mai dyna'r peth iawn i'w wneud, felly rydyn ni'n wirioneddol gredu y bydd y 70 y cant yn cael ei fodloni a nawr gallwn ni fynd ymhellach. Rydyn ni hefyd wedi cyflawni tua 90 y cant o'n targed o 1 GW o gapasiti ynni adnewyddadwy i fod dan berchnogaeth leol erbyn 2030. Amcangyfrifir bod hynny'n 0.9 GW o gynhyrchu erbyn 2021, felly mae hynny hefyd yn dda iawn. Ond, yr hyn sy'n ein dal ni'n ôl yw'r grid. Dyna'r pwynt: byddai gennym ni lawer mwy o'r prosiectau hyn yn dod ymlaen. Llawer mwy o fusnesau domestig, ffermydd neu beth bynnag fyddai eisiau cysylltu ynni adnewyddadwy pe bai'r grid yn addas i'r diben, ac mae hynny'n llestair go iawn i ni, ac felly mae angen i ni weithio ar hynny.

Byddwn yn datblygu fel rhan o'n cytundeb cydweithredu, gwmni rwy'n siŵr eich bod i gyd yn ymwybodol ohono, Ynni Cymru. Rwy'n gobeithio'n fuan iawn y byddwn yn gallu gwneud rhai cyhoeddiadau am allu'r cwmni hwnnw i ymyrryd wrth gynorthwyo pobl i gynhyrchu mwy o ynni cymunedol. Mae yna gryn uchelgais ar draws y wlad ar gyfer hynny, ac rwy'n siŵr y gallwn ni weithio gyda phobl. Er hynny, bydd yn rhaid i ni edrych ar gridiau caeedig, oherwydd allwn ni ddim cael y cysylltiadau grid. Ond mae'n rhaid i ni sicrhau bod y gridiau caeedig hynny'n abl i weithredu, fel y gallwn ni gysylltu pan gawn ni'r grid sydd ei angen arnom. Felly, byddwn ni'n meddwl yn greadigol yn hynny o beth, i wneud yn siŵr y gall bobl wneud hynny.

A'r darn olaf wnaethoch chi ofyn i mi amdano oedd y darn am ddatgarboneiddio. Yn amlwg, rydw i wedi dweud nifer o weithiau beth rydyn ni'n ei wneud am y dechnoleg gywir ar gyfer y tŷ cywir. Byddwn, ar ôl i ni gael hynny'n barod, yn dechrau edrych ar ddefnyddio cymorth grant ac yn y blaen, ar gyfer yr aelwydydd tlotaf a gwaethaf eu deunydd yn gyntaf, i wneud yn siŵr y gallwn ni gyflawni hynny. Rydyn ni bellach yn gweithio gydag awdurdodau lleol, a gallai fod yn rhan o Ynni Cymru—mae'n cael ei drafod. Byddwn ni'n gweithio i weld a allwn ni wneud prosiectau datgarboneiddio cymunedol—felly, byddai'r holl dai mewn cymuned benodol, oherwydd eu bod nhw'n aneffeithlon iawn o ran ynni, yn dod at ei gilydd i wneud darnau o waith, sy'n ei wneud yn fwy fforddiadwy i bob un ohonyn nhw. Mae hynny'n golygu eich bod chi'n cael cymunedau cyfan yn ymuno ar yr un pryd. Felly, mae nifer o gynlluniau ar y gweill gyda hynny.

16:10

Rwy'n croesawu'r datganiad rydyn ni wedi'i glywed gan y Gweinidog y prynhawn yma, ac rwy'n croesawu'r weledigaeth a amlinellwyd gennych yn fawr, Gweinidog. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i chi am yr hyn rydych chi newydd ei ddweud wrth ateb y cwestiwn blaenorol, oherwydd rwy'n credu bod nifer ohonom yn chwilfrydig, os mynnwch chi, am yr hyn y byddai Ynni Cymru yn ei wneud mewn gwirionedd.

Rwy'n credu bod rhwystrau eraill y tu hwnt i'r rhai rydych chi wedi'u disgrifio yn nhermau cynhyrchu ynni wedi'i gyflenwi'n gymunedol. Rwy'n credu mai'r rhwystrau eraill yw cyllid sydd ar gael i grwpiau lleol er mwyn eu galluogi i fuddsoddi mewn creu'r math o gapasiti cynhyrchu sydd ei angen arnom ar gyfer cymuned fach. Mae yna hefyd rwystr o ran y dechnoleg sy'n cael ei defnyddio orau mewn gwahanol leoedd, a'r rhwystrau, wrth gwrs, o greu'r endid corfforaethol a fyddai wedyn yn rheoli'r prosiect hwnnw. Felly, mae nifer o rwystrau gwahanol yn bodoli, ac rydych chi eisoes wedi disgrifio cynllunio, wrth gwrs. Pan oeddwn i'n eistedd yn eich sedd fel Gweinidog oedd yn gyfrifol am hyn, roeddwn i'n gweld bod y rhan fwyaf o fy nghyllideb yn cael ei defnyddio yn ymladd rhannau eraill o'r sector cyhoeddus, ac roedd yn un o'r swyddi mwyaf rhwystredig rwyf wedi ei gwneud. Felly, credaf fod angen i ni ddadwneud hynny, ac i sicrhau bod cynhyrchu cymunedol yn rhywbeth y gallwn ni ganolbwyntio arno.

Y sylw olaf a wnaf i, heb drethu amynedd y Dirprwy Lywydd yn ormodol, yw'r dewis arall, oherwydd ym Mlaenau Gwent, un o'r etholaethau lleiaf yn y wlad, mae gennym ni gais am gynlluniau ynni gynt ym Manmoel, Mynydd Carn-y-Cefn yn Abertyleri, Mynydd Llanhiledd, Abertyleri, a dau yn Rasa. Mae hynny'n ormod i gymuned fach, a'r perygl yw, os ydych chi'n amgylchynu pobl â thyrbinau 185m, yr hyn rydych chi'n ei wneud yw nid cynhyrchu mwy o ynni, ond colli ewyllys da'r boblogaeth, ac ewyllys da'r boblogaeth yw beth sy'n mynd i'n helpu ni i gyrraedd y targedau rydych chi wedi'u hamlinellu i ni'r prynhawn yma.

Diolch, Alun. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt olaf. Y broblem fawr yn y fan yna yw sicrhau bod gan y gymuned yr ynni adnewyddadwy y mae hi ei heisiau a'i hangen, ond hefyd mae elfen enfawr yn y fan yna am nid dim ond buddion cymunedol, ond perchnogaeth gymunedol briodol. Felly, rydym ni'n awyddus iawn yn wir i hwyluso unrhyw gwmni sy'n adeiladu fferm wynt ar y tir—rwy'n gobeithio y gallwn ni wneud hyn gyda chynlluniau ynni gwynt arnofiol hefyd, ond yn sicr ar y tir—i adeiladu tyrbinau yn uniongyrchol ar gyfer perchnogaeth gymunedol mewn gwirionedd. Felly, gallwn hwyluso, trwy Fanc Datblygu Cymru, bod gan bobl leol gyfran go iawn yn hynny. Bydd hynny'n golygu eu bod yn cael budd uniongyrchol yn eu biliau ynni, nad yw'n cael ei ganiatáu o dan y cynllun buddiannau cymunedol, ac mae hefyd yn golygu y gallwn hyrwyddo agenda datgarboneiddio, fel y gallwn ni gael biliau pobl yn iawn mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod hynny'n cael effaith sylfaenol ar faint o ynni adnewyddadwy y mae pobl eisiau ei weld o'u cwmpas, os ydw i'n onest.

Y darn mawr arall i mi yw ein bod ni'n aml wedi—dydw i ddim yn gwybod a yw eich cymuned yn y sefyllfa benodol hon—cymunedau sy'n gallu gweld un neu ddau neu fwy o ffermydd gwynt o'u ffenestri sydd ar olew oddi ar y grid. Mae angen i ni ddod o hyd i ffordd o gael y cymunedau hynny i allu cysylltu'n uniongyrchol â'r trydan adnewyddadwy: (a) i ddatgarboneiddio, (b) i gael y gefnogaeth gymunedol honno roeddech chi'n sôn amdani, ac (c) pa mor rhwystredig yw hynny—fod gennych chi'r cyfoeth yna o gyfle ar garreg eich drws a fedrwch chi ddim cyrraedd y peth? Mae llawer o'r cymunedau yr ydw i'n eu gwasanaethu ac y mae Rebecca Evans yn gwasanaethu yn yr union sefyllfa honno, a byddwn i'n dychmygu bod nifer o gyd-Aelodau o gwmpas y Siambr yn y sefyllfa honno, felly rydyn ni'n awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod ni'n lledaenu'r buddion, os mynnwch chi, ac mae'r agwedd perchnogaeth gymunedol yma'n rhan fawr iawn o hynny. Felly, rydyn ni'n awyddus iawn yn wir i wneud yn siŵr, wrth i'r datblygwr sy'n eiddo i'r wladwriaeth gyflwyno'r safleoedd enghreifftiol hyn—lle rydym ni'n adeiladu tyrbinau yn benodol i'r gymuned fod yn berchen arnyn nhw ac rydyn ni'n rhoi'r pris yn gyntaf, a'n bod ni'n caniatáu i'r gymuned brynu cyfranddaliadau yn y cynllun dros gyfnod hir iawn, iawn fel ei fod yn hygyrch i bob lefel incwm—wir yn gwneud gwahaniaeth wrth i'r elw hynny ddechrau dod i gymunedau.

Ac yna ar y ddau beth arall, rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynghylch mynediad at gyllid, mynediad at gyngor technoleg a mynediad at gyngor corfforaethol. Does arnaf i ddim eisiau cyhoeddi rhag blaen y trafodaethau cydweithredu yr ydym ni'n eu cael gydag Ynni Cymru, ond maen nhw'n symud ymlaen yn dda iawn a gobeithiaf allu gwneud cyhoeddiad cyn bo hir fydd yn cwmpasu nifer o'r agweddau hynny. 

16:15

Hoffwn godi dau bwynt a gofyn dau gwestiwn, os caf. Er mwyn cyflawni ein nodau a chyrraedd ein targedau, yn amlwg, mae angen prosiectau ar raddfa fawr, ond gallwn ni i gyd chwarae rhan hefyd, a bydd prosiectau ar raddfa lai gyda'i gilydd yn chwarae rhan sylweddol. Yn Lloegr, caniateir tyrbinau gwynt bach wedi'u gosod ar do o dan ddatblygiad a ganiateir. Ond nid yw hawliau datblygu a ganiateir yn berthnasol i dyrbinau gwynt yma yng Nghymru. A fyddwch yn edrych ar hyn ac yn ystyried cymhwyso hawliau datblygu a ganiateir i dyrbinau gwynt bach yma yng Nghymru os gwelwch yn dda, Gweinidog? 

Rwy'n gwybod eich bod wedi sôn nad oeddech chi am ailadrodd eich hun, ond fe wnaf i, ac mae'n bwysig ar gyfer y cofnod. Cefais fy siomi'r wythnos diwethaf i dderbyn e-bost gan Nova Innovation, a roddodd wybod i mi fod eu cynlluniau ar gyfer prosiect llanw Enlli yn cael eu rhoi o'r neilltu. Fe gyfeirion nhw at dri phrif reswm am hyn, ond yn bwysicaf oll, fel y clywsom yn gynharach, y diffyg cysylltiad grid. Mae'r mater hwn yn wynebu eraill, gyda ffermwyr, er enghraifft, ym Mhen Llŷn yn methu datblygu prosiectau gwynt neu solar oherwydd y diffyg capasiti grid yma. Yn ôl adroddiad diweddar Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin ar gapasiti'r grid yng Nghymru, gall sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer atgyfnerthu'r grid gymryd mwy o amser na llunio'r prosiect ynni ei hun. Felly, heb gynyddu'r capasiti hwn yn sylweddol, does dim pwynt trafod creu galluoedd cynhyrchu newydd. Felly, a fydd y Gweinidog yn cefnogi'r alwad i ddatganoli cynhyrchiant ynni yn llwyr a chwalu monopoli'r grid cenedlaethol, fel y gall Cymru ddatblygu ei gallu ei hun i symud trydan o amgylch y genedl a buddsoddi yn y cymunedau hynny sydd ei angen? Diolch.   

Diolch, Mabon. Byddem, hoffem gael llawer mwy o reolaeth dros y grid cenedlaethol, yn hollol, oherwydd yr holl faterion rydym ni wedi'u trafod yn ddiddiwedd—yr angen i gynllunio, yr angen am fuddsoddiad gwell, ac ati. Felly, credaf fod hynny wedi ei gymryd yn ganiataol, mewn gwirionedd. Y gwir broblem gyda nifer o brosiectau o amgylch Cymru—ar y tir, ar y lan, ar y môr—fu cysylltiad grid, a'r problemau go iawn gyda hynny. Felly, rydym yn gobeithio gallu gwneud cynnydd sylweddol gyda hynny gyda'r broses newydd o ddylunio rhwydwaith gyfannol ac, yn wir, gyda'r cytundeb cydweithredu ag Ynni Cymru a nifer o ymyriadau eraill rydyn ni'n gobeithio y bydd yn gwneud gwahaniaeth. Felly, rwy'n gobeithio gallu adrodd newid sylweddol gyda hynny unwaith y bydd gennym yr ymyriadau hynny ar waith ac rydym yn deall i le bydd y broses ddylunio rhwydwaith gyfannol yn mynd â ni.

O ran y tyrbinau bach sydd wedi'u gosod ar y to, oes, mae gen i ddiddordeb mawr mewn archwilio hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer nifer o brosiectau ynni adnewyddadwy posibl. Mae gennym ni gymhlethdod bach mewn rhai rhannau o Gymru sydd yn dirluniau dynodedig. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y gymuned yn ein cefnogi ni yn hyn o beth, ac mae angen i ni wneud yn siŵr eu bod yn cael eu gwneud mewn cydymdeimlad â rhai o'n hamgylcheddau. Ond ydym, mewn egwyddor rydym yn edrych yn fanwl iawn i weld beth y gellir ei ganiatáu. Mae rhai materion eraill hefyd y mae pobl wedi'u codi yn y Siambr ynghylch pa mor agos y gall pwmp gwres ffynhonnell aer fod i annedd arall a'r holl fath yna o bethau, yr ydym yn cael golwg dda arno i wneud yn siŵr bod gennym y cyngor mwyaf effeithiol, diweddaraf ar nifer o'r pethau hyn. Felly, mae gen i ddiddordeb mawr mewn edrych ar hynny, ond rydyn ni eisiau gwneud pethau'n iawn fel bod y gymuned yn gefnogol, ac nid cynnwrf cymunedol gyda hynny.

Mae a wnelo'r peth olaf â'r pwynt cynllunio hwnnw a'r cysylltiadau grid. Byddwn gyflwyno Bil cydsynio seilwaith i'r Senedd yn fuan, fydd yn tynnu rhai o'r prosiectau mawr o'r system bresennol. Ond eto, mae'r pwynt prynu cymunedol hwn yn un pwysig iawn. Does arnaf i ddim eisiau i bobl orfod cael peilonau foltedd uchel yn dod ar draws eu tir oherwydd bod gennym ni fferm wynt yn union drws nesaf iddyn nhw heb iddyn nhw gael barn lafar iawn am ble a sut y dylid tynnu'r ynni hwnnw. Yn aml, mae'n wir nad y fferm wynt ei hun yw'r hyn sy'n peri problem i bobl—ond y ffordd y cymerir yr ynni ohoni.

Byddwch yn ymwybodol iawn bod angen i ni gyfuno hyn â'r holl waith rydyn ni'n ei wneud ar fioamrywiaeth a chadw tirwedd. Ar gyfer rhai tirweddau, does arnoch chi ddim eisiau ceblau o dan y ddaear. Dydw i ddim eisiau palu mawndir er mwyn gwneud hynny. Ond, ar gyfer tirweddau eraill, gall ceblau tanddaearol fod yn ddewis. Mae ymwneud â llwybrau unigol i raddau helaeth iawn. Felly, mae angen i ni wneud yn siŵr bod y cynllunio wedi'i raddnodi, yn union fel ar gyfer y caniatâd morol, i daro'r cydbwysedd rhwng yr amddiffyniad cywir ar gyfer ein tirweddau a'r cyflymder cywir ar gyfer y cysylltedd, i wneud yn siŵr bod y cymunedau sy'n byw ym mhob un o'r ardaloedd lle gallai hyn ddigwydd gael yr holl fuddion sy'n gysylltiedig â hynny a chyn lleied o'r anfanteision ag y gallwn eu rheoli.

16:20

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Y newyddion mawr yn fy rhanbarth i yw'r buddsoddiad enfawr gan QatarEnergy yn South Hook LNG. Bydd hyn yn golygu y bydd y derfynfa yn gallu trin tua 25 y cant yn fwy o nwy naturiol hylifol sy'n cael ei fewnforio o bob cwr o'r byd. Does dim dwywaith y bydd hyn yn hwb enfawr i sir Benfro, a does gen i ddim amheuaeth fod Prif Weinidog Cymru a'r Gweinidog economi wedi gwneud gwaith gwych yn hyrwyddo Cymru fel canolfan ynni yng nghwpan pêl-droed y Byd. Rwy'n gwybod ei fod yn swnio fel nad yw'n ymwneud â'r un pwnc, ond rydyn ni'n trafod ynni adnewyddadwy a'r pontio. Felly, mae angen i ni wneud hynny, ac mae wedi cael ei grybwyll eisoes, drwy gadw a buddsoddi yn yr asedau, y gweithlu, y sgiliau a'r dechnoleg a all gyflawni'r trawsnewid hwnnw. Bydd Aberdaugleddau, wrth gwrs, yn hanfodol yn y daith honno. Dim ond yr wythnos diwethaf, noddodd Samuel Kurtz, Cefin Campbell, Jane Dodds a minnau dderbyniad ar gyfer Clwstwr Ynni Dyfodol Dyfrffordd Haven. Yr uchelgais mawr yw cyflawni'r 20 y cant o darged cynhyrchu hydrogen carbon isel Llywodraeth y DU erbyn 2030, ac o leiaf 10 y cant o wynt arnawf ar y môr erbyn 2035. Soniwyd am gapasiti grid, wrth gwrs, y drefn gydsynio, a'r holl ffyrdd eraill y gall Llywodraeth Cymru gefnogi'r sector, a'r ffyrdd y mae'n cefnogi'r sector, a gwyddwn eich bod yn ymwybodol iawn ohonynt, Gweinidog. Ond a gaf i ofyn i chi sut rydych chi'n meddwl y gallai buddsoddiad South Hook gael ei ddefnyddio i ymwreiddio a denu buddsoddiad pellach i sector ynni'r gorllewin, yn bennaf ein sector ynni adnewyddadwy, wrth symud ymlaen?

Diolch yn fawr, Joyce. Mae'n bwynt da iawn. Rydyn ni wedi bod yn gweithio ers cryn amser nawr gydag ystod o randdeiliaid—ac rwy'n gwybod eich bod chi'n gwybod hyn—i sicrhau ein bod ni'n gwneud ystod lawn o bethau. Yn gyntaf oll, rydyn ni'n denu'r math cywir o fuddsoddiad, ac mae problemau enfawr gyda hynny. Dydyn ni ddim eisiau gwyrddgalchu, er enghraifft, ond rydyn ni eisiau buddsoddiad priodol mewn ynni adnewyddadwy ac mewn bioamrywiaeth hefyd. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod gennym ni'r offerynnau ariannol cywir ar waith i wneud hynny. Dyma oedd un o'r pethau gorau i ddod allan o COP15—faint o ddysgu oedd yn cael ei wneud yn fyd-eang ar sut i gael y rheini'n iawn. Roedd yn rhyddhad mawr i mi weld nad oeddem ar ein pennau ein hunain wrth geisio gwahaniaethu rhwng y ddau beth hynny.

Yr ail yw ein bod ni wedi bod yn gwneud llawer iawn o waith, gyda'n hawdurdodau porthladdoedd a'r seilwaith o'u cwmpas, a gyda'n cadwyni cyflenwi, i wneud yn siŵr bod y cadwyni cyflenwi mor barod ag y gallant fod i fodloni'r her sydd i ddod o'r gwynt arnawf newydd, ond hefyd y gwynt parhaus ar y tir a mathau eraill o ynni adnewyddadwy, ac y gallwn fanteisio ar y prosiectau ymchwil hydrogen newydd ledled Cymru, i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu cael cymaint o hydrogen gwyrdd allan o'r ynni adnewyddadwy newydd ag y gallwn ni. Mae Aberdaugleddau mewn sefyllfa dda i fanteisio ar beth o hynny ac wedi bod yn gweithio'n galed iawn arno.

Y darn olaf yw y byddwn ni'n gwneud y dadansoddiad o'r gadwyn gyflenwi, fel y gallwn ni, lle mae bylchau, weithio'n rhagweithiol, gyda'n hawdurdodau porthladdoedd yn benodol, i wneud yn siŵr eu bod nhw hefyd yn estyn allan at bobl a allai ddod i mewn a llenwi'r bylchau yn y gadwyn gyflenwi hynny, gan ddal buddsoddiad mewnol a buddsoddiad sgiliau i wneud yn siŵr ein bod ni'n manteisio yn y ffordd orau ar hyn.

Bydd fy nghydweithiwr, Vaughan Gething a minnau yn cyflwyno cynllun sgiliau sero-net. Mae hynny'n cael ei dreialu gyda diwydiant ar hyn o bryd i wneud yn siŵr ei fod yn addas i'r diben a'i fod yn cael ei ddiogelu rhag y dyfodol. Mae angen i ni ddal yr holl sgiliau gwyrdd rydyn ni eu hangen ar gyfer y dyfodol i sicrhau bod gennym ni un o'r gwledydd economaidd mwyaf cynaliadwy yn y byd; rwy'n awyddus iawn ar yr uchelgais hwnnw. A bydd eich ardal chi yn ganolog iawn yn hynny, oherwydd ei chlystyrau diwydiannol, ond, mewn gwirionedd, wrth gwrs, oherwydd ei hadnoddau naturiol toreithiog o amgylch yr arfordir ac ar y tir. Felly, wrth i ni fynd ymlaen, rwy'n siŵr y byddwn ni'n parhau i weithio yn agos gyda'r diwydiannau gweithgynhyrchu ac awdurdod Haven ei hun, wrth i ni wneud hynny. Mae'n ddrwg iawn gen i na allwn wneud y cyfarfod y noson honno, ond rwyf wedi cwrdd â nhw ar sawl achlysur. Ac os ydych chi am fy ngwahodd i lawr yno, byddwn i'n hapus iawn i ddod eto. Diolch.

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gwella Ysgolion a’r Sylfaen Wybodaeth

Fe wnawn ni symud ymlaen i eitem 5, datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar wella ysgolion a'r sylfaen wybodaeth. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ddiwygio'n sylfaenol yr hyn rŷn ni'n ei addysgu a'n ffordd ni o wneud hynny, er mwyn i ni gefnogi cynnydd addysgol ein dysgwyr, eu lles nhw, a'u cyfleoedd bywyd nhw hefyd. 

Ond, i wireddu hyn, mae angen i'r diwygiadau gydgysylltu gyda'i gilydd. Rhaid i bob rhan o'n rhaglen ddiwygio fod yn gwbl gyson er mwyn i ni allu sicrhau safonau uchel a dyheadau uchelgeisiol i bawb. Rhaid i'r ffordd rŷn ni'n mynd ati i werthuso a gwella ysgolion newid, sy'n cynnwys newid y system atebolrwydd hefyd. Yn anad dim, rhaid i ni roi ein hysgolion yn y sefyllfa orau bosib i wireddu'r weledigaeth honno ar gyfer addysg i ddysgwyr. Mae hyn yn golygu symud i system atebolrwydd sy'n helpu ysgolion i wella'r hyn maen nhw'n ei gynnig i ddysgwyr, yn lle profi eu hunain i eraill.

Yr haf diwethaf, cyhoeddwyd canllawiau newydd ar wella ysgolion sy'n hoelio sylw ein holl ffordd o feddwl a'n cefnogaeth i ysgolion ar y dysgwr. Byddwn yn ymgyngori ar y canllawiau hyn yn ystod y flwyddyn yma, gyda'r bwriad o'u gwneud nhw'n statudol yn 2024. Mae athrawon ac arweinwyr ledled Cymru'n parhau i weithredu yn ôl eu hymrwymiad i'n dysgwyr ac i gefnogi ein disgyblion i fod y gorau y gallant fod, er gwaethaf y cyfnod anodd hwn. Rhaid i'n dull o wella ysgolion ganolbwyntio ar y dysgwr a'r athro a rhaid i'r dull hwnnw gydnabod mai'r ffordd y mae'r ddau'n rhyngweithio yn yr ystafell ddosbarth yw'r hyn sy'n gwneud y gwahaniaeth i wella ysgolion a chyrhaeddiad ein dysgwyr.

Heddiw, rwyf am siarad drwy ein camau nesaf i gefnogi ysgolion sy'n cynnal proses hunanwerthuso a gwella fel rhan o'u prosesau rheolaidd. Fy mlaenoriaeth yw sicrhau dull o wella ysgolion sy'n rhoi'r lle canolog, wrth gwrs, i ddysgwyr. I gyflawni hynny, mae'n rhaid i ni wybod pa wybodaeth am ysgolion a dysgwyr sydd ei angen arnom ni i sicrhau bod y system honno'n gweithio. Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom ni gyhoeddi adroddiad ar ddatblygu'r 'ecosystem gwybodaeth' newydd hon, ac mae'r derminoleg honno'n cydnabod y cydbwysedd sydd ei angen yn y system a'r ffaith bod gweithgareddau mewn un maes yn cael effaith ar faes arall. Roedd yr ymchwil hon yn cynnwys trafodaethau manwl gydag ysgolion, gydag awdurdodau lleol, partneriaid cyflenwi, rhieni a dysgwyr, oherwydd ein bod ni'n cydnabod bod gan wahanol bartneriaid ofynion gwahanol, bod gwybodaeth yn cael ei defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol, a hefyd bod gan ddata rôl glir i'w chwarae wrth fagu hyder y cyhoedd. 

Mae'n gwbl glir i mi, Dirprwy Lywydd, bod defnyddio ystod eang o wybodaeth yn hanfodol i gefnogi gwerthuso a gwella. Ni ddylid defnyddio darnau ynysig o ddata, neu ddarnau allan o gyd-destun, i farnu perfformiad na chymharu ysgolion. Rwy'n croesawu ymateb Estyn i fy natganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf, gan gadarnhau na fyddant hwythau chwaith yn defnyddio darnau o wybodaeth ynysig i asesu gwelliant ysgolion nac ar gyfer atebolrwydd.

Yn yr un modd, dylai unrhyw ofynion ar ysgolion i ddarparu gwybodaeth fod â diben clir. Y diben hwnnw, wrth ei wraidd, yw helpu athrawon i gefnogi dysgu. Dylai gwybodaeth am sut mae dysgwyr yn dod yn eu blaen, a dilyniant gwahanol garfannau mewn cyd-destunau gwahanol, helpu ysgolion ac awdurdodau lleol i werthuso eu hunain a gwella eu cynnig eu hunain, gyda chefnogaeth gwasanaethau gwella ysgolion. Er hynny, rhaid i ni beidio ag anghofio pwysigrwydd hanfodol rhieni a'r angen am dryloywder gwybodaeth i'w galluogi i wneud penderfyniadau ar addysg eu plentyn ac ymgysylltu ag ysgol eu plentyn.

Bydd yr adroddiad yn ein helpu i ddatblygu ein dull diwygiedig o ymdrin â gwybodaeth i gefnogi gwelliant ysgolion. Er mwyn sicrhau ein bod ni’n amlwg yn rhoi dysgwyr ac athrawon wrth wraidd hyn, bydd fy swyddogion yn cynnull grŵp ymarferwyr i ddechrau datblygu'r dirwedd wybodaeth newydd yng nghyd-destun argymhellion yr adroddiad. Er y gallai gwahanol rannau o Gymru fod ag anghenion gwahanol, mae yna faterion sylfaenol a ddylai fod yn ganolbwynt i bawb. Mae'r wyth ffactor sy'n cefnogi gwireddu'r cwricwlwm, a nodir yn y canllawiau gwella ysgolion, yn ymgorffori'r blaenoriaethau cenedlaethol craidd hyn.

Ni fydd yn syndod i'r Siambr fy mod i’n gwbl glir bod rhaid canolbwyntio'n benodol ar wella hynt ein dysgwyr mwyaf difreintiedig. Yn ogystal â dysgwyr ac athrawon, byddaf yn gwrando ar leisiau rhieni, er mwyn sicrhau bod y wybodaeth maen nhw’n ei chael yn eu helpu yn y ffordd orau i ddeall profiad addysgol eu plant. Byddwn ni'n ceisio symleiddio a hyrwyddo cysondeb mewn dulliau gwybodaeth ar draws ysgolion ac ar draws Cymru. Bydd dull mwy cydlynol a symlach yn gofyn i ni i gyd weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth. Bydd angen cyfaddawdu, ac weithiau, penderfyniadau anodd i roi'r gorau i ofyn am rywfaint o wybodaeth lle nad yw'n cefnogi dysgwyr ac athrawon. Ond rhaid i ni fachu ar y cyfle yma.

O ran deall sut mae dysgwyr yn cyflawni'n genedlaethol, mae p'un a ydym ni’n cyflawni ein hamcan o godi safonau ledled Cymru yn rhan allweddol o'r dirwedd wybodaeth hon, sy'n hanfodol i lywio ein cefnogaeth i ysgolion ac i dryloywder a hyder yn y system. I gefnogi hyn, rwyf wedi gwneud y penderfyniad y byddwn ni’n cyflwyno rhaglen uchelgeisiol o fonitro cenedlaethol i asesu gwybodaeth a sgiliau ar draws ehangder y Cwricwlwm i Gymru. Nid yw hyn yn ymwneud â phrofi pob dysgwr. Yn hytrach, byddwn yn defnyddio samplu i ddeall a monitro cyrhaeddiad dysgwyr a chynnydd dros amser ar lefel system. Bydd y dull hwn yn lleihau baich ar ysgolion a'r system addysg yn ei chyfanrwydd, yn helpu i ddarparu'r wybodaeth rydym ni ei hangen i ddeall ein cynnydd fel cenedl yn well ac yn ein helpu i ddeall effaith tlodi ar gyflawniad dysgwyr yn well a chefnogi ein dulliau o fynd i'r afael â hyn. Rydym ni’n bwriadu dechrau cyflwyno'r asesiadau sampl hyn ar sail treialu yn y flwyddyn academaidd 2025-26.

Dirprwy Lywydd, yn olaf, mae cyflawni cymwysterau yn parhau i fod yn hanfodol bwysig i ddysgwyr a bydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Yn 2019, fe wnaethom gyflwyno mesurau pontio dros dro newydd ar gyfer ysgolion uwchradd oedd yn sicrhau bod mwy o bwyslais ar godi ein dyheadau ar gyfer pob dysgwr gyda dangosyddion oedd yn dal cyflawniad ein holl ddysgwyr yng nghyfnod allweddol 4 yn well. Cafodd y mesurau hyn, fel y bydd Aelodau yn ymwybodol, eu hoedi yn ystod y pandemig. Am gyfnod dros dro, byddwn ni'n ailgychwyn adrodd canlyniadau cyfnod allweddol 4 ar lefel ysgol, gan gynnwys y polisi o gyfrif dyfarnu cymwysterau cyntaf yn unig. Mae hyn yn rhywbeth dros dro, wrth i ni symud tuag at system fwy cyfannol sy'n hyrwyddo dysgu ac yn rhoi dysgwyr, athrawon a rhieni wrth ei gwraidd. Ni fydd yn berthnasol i ddysgwyr nawr sy'n dysgu o dan y Cwricwlwm i Gymru.

Rydw i wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion i ddatblygu tirwedd wybodaeth newydd, gan gynnwys gwybodaeth am gymwysterau, yn barod ar gyfer y TGAU newydd o 2025, ac rwy'n bwriadu darparu diweddariadau pellach i'r Siambr wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.

16:30

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Er eich bod chi wedi ceisio rhoi rhywfaint o eglurder ar y mater, sy'n cael ei werthfawrogi, mae gen i rai pryderon o hyd sy'n cael eu hategu gan rieni ac ymarferwyr fel ei gilydd. Mae eich datganiad yn amlinellu na ddylid defnyddio data ar wahân i farnu perfformiad neu gymharu ysgolion. Yn draddodiadol, wrth gwrs, defnyddir gwybodaeth am berfformiad ysgolion yng Nghymru a gweddill y DU i feirniadu perfformiad a chymharu ysgolion. Ar ben hynny, mae data cymharol ond yn gwasanaethu i godi safonau ymarfer a chaniatáu i ysgolion weithio ar y cyd ar feysydd priodol o gryfderau a gwendidau. Sut ydych chi'n mynd i sicrhau na fydd colli'r data tryloyw hwnnw'n arwain at ostwng safonau o fewn y proffesiwn? A sut mae'r system fonitro genedlaethol newydd hon yn mynd i helpu anghenion hynod amrywiol ysgolion ledled Cymru?

A, Gweinidog, yn eich datganiad yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi ddweud,

'Byddwn yn datblygu syniadau pellach i gyd-fynd â chyflwyno cymwysterau newydd o 2025 wrth inni ddatblygu ein tirwedd wybodaeth newydd.'

Mae ansicrwydd eisoes ynghylch arholiadau a chymwysterau, sy'n cael ei ddangos drwy'r thema gyson drwy adroddiad Estyn 2021-22. Mae'r rhan fwyaf o leoliadau'n wynebu pryderon difrifol am yr ansicrwydd ynglŷn â'r cymwysterau newydd, fydd yn asesu'r Cwricwlwm i Gymru. O'r herwydd, ni wnaeth llawer o flwyddyn 11 symud ymlaen yn ôl y disgwyl. Er mwyn dwysáu hyn, mewn ysgolion pob oed, roedd y rhai rhwng blynyddoedd 6 a 7 yn gweld fod pontio addysgol wedi'i ddifrodi gan y diffyg sicrwydd hwn. Felly, mae'r fframwaith yn anghyflawn, ochr yn ochr â'r set anghyflawn o gymwysterau sy'n cael eu hisosod o fewn cwricwlwm nad yw'n cael ei weithredu'n llawn. Felly, Gweinidog, sut yn union mae ysgolion i fod i baratoi ac addasu, gyda marciau cwestiwn o'r fath yn dal i fod yn weddill, a phryd byddan nhw'n cael rhywfaint o sicrwydd?

Ac yn olaf, Gweinidog, ein pryder olaf yw pwyslais hunan-werthuso'r fframwaith newydd hwn. Wrth adolygu adroddiadau Estyn eleni, mae'n ymddangos bod yna anhafaledd llwyr rhwng y derminoleg newydd a osodwyd yn nulliau'r gorffennol. Wrth edrych yn fanwl ar yr adroddiadau, mae nodweddion penodol o wahaniaethau unigol rhwng arolygwyr, yn seiliedig ar ddiddordebau, ideolegau a ffyrdd o fynegi eu hargymhellion, a fydd, heb os, yn cael eu hadlewyrchu mewn unrhyw ysgol neu hunan-werthusiad ALl. Roedd arolygwyr yn gofyn i ysgolion rannu rhywfaint o ddata asesu fel rhan o'r broses arolygu gyda nhw. Fodd bynnag, os yw pob ysgol yn asesu ei chwricwlwm ei hun, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, ac mae gan bob ysgol ei chwricwlwm lleol unigryw ei hun, mae hynny hefyd yn golygu y bydd eu data asesu hefyd yn unigryw. O ystyried nad oes graddfa na dull o gymharu, dim fframwaith llac i fesur gwelliant, sut mae ysgolion ac ALl yn gallu dangos i arolygwyr bod disgyblion yn gwneud cynnydd yn eu sgiliau llythrennedd, rhifedd, digidol a Chymraeg, er enghraifft, heb fudd y safon genedlaethol honno ar gyfer llefaredd, ysgrifennu, sgiliau digidol na Chymraeg? Diolch.

16:35

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Mi wnaf i geisio ateb cymaint ohonyn nhw ag y galla i. Rwy'n credu mai'r pwynt allweddol yw bod gwahaniaeth rhwng data am atebolrwydd ar y naill law a data ar gyfer asesu a hunan-wella ar y llaw arall. Mae'n bwysig iawn ein bod ni’n sicrhau bod y ddau beth hynny'n cael eu cadw ar wahân, oherwydd eu bod yn gwasanaethu dibenion gwahanol iawn, iawn. Y rheswm dros symud i ffwrdd o gategoreiddio ysgolion oedd oherwydd bod hynny mewn gwirionedd yn pylu'r ffin rhwng y ddau mewn ffordd oedd yn creu cymhellion gwrthdro, i bob pwrpas, ar lefel ysgol, mewn perthynas â rheoli data a'r dewisiadau a wnaed yn ogystal â mewn perthynas ag arholiadau, o bosibl, mewn rhai achosion hefyd. Gallaf sicrhau'r Aelod ei bod yn sylfaenol bwysig i'n system fod llinell atebolrwydd glir mewn perthynas ag ysgolion.

Yn bennaf, y corff llywodraethu sy’n gyfrifol am atebolrwydd ar lefel ysgol yn amlwg, ond yn amlwg, yn allanol, i Estyn fel yr arolygiaeth ysgolion. Ac fel y bydd yr Aelod yn ymwybodol, o 2024, bydd arolygiadau amlach o ganlyniad i raglen newydd Estyn, a fydd yn darparu, yn amlwg, wybodaeth fwy rheolaidd i'r system am berfformiad ysgolion. Fel y bydd hi hefyd yn ymwybodol o'r pwynt olaf yn ei chwestiwn, mae dull newydd o arolygu, gan gael gwared ar ddyfarniadau crynodol a darparu adroddiadau addas i rieni, pob un ohonynt, yn fy marn i, yn rhoi gwell gwybodaeth ansoddol mewn ffordd llawer mwy agored i rieni. A hefyd, yn amlwg, mae cyfleu hynny mewn ffordd y gall rhieni ei ddeall yn haws yn bwysig iawn, a dyna pam rwy'n croesawu'r gwaith sydd wedi bod yn digwydd mewn perthynas â'r adroddiadau addas ar gyfer rhieni.

Y profiad hyd yma, fel rwy'n ei ddeall gan Estyn, o gael gwared ar y dyfarniadau crynodol yw bod y trafodaethau ar lefel ysgol wedi canolbwyntio llawer yn fwy ar y mathau o bethau roedd yr Aelod yn gofyn amdanyn nhw yn ei chwestiwn hi, sef: sut y gall yr ysgolion hynny wybod ble maen nhw ar y daith i hunanwella, gweithredu'r cwricwlwm, a chanolbwyntio mewn gwirionedd ar y camau ymarferol o ran cryfderau a gwendidau, yn hytrach na chanolbwyntio ar gwestiwn y ffin rhwng gwahanol ddyfarniadau crynodol? Felly, dyna'r profiad hyd yn hyn. Yn amlwg, mi fyddaf yn cadw llygad barcud ar hynny gydag Estyn. Mae'n amlwg yn bwysig iawn ar gyfer llwyddiant ein system bod hynny wedi'i wreiddio'n iawn yn y dull o atebolrwydd. O ran y rhaglen fonitro genedlaethol, byddwn ni nawr mewn proses o nodi hynny, gan brofi rhai o'r dulliau o ymdrin â hynny—pa mor aml? Carfan o ba faint? Mae pob math o gwestiynau dylunio, os mynnwch chi, sydd angen mynd i mewn i hynny.

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn, rwy’n credu, ac mae'n un rwyf i wedi bod yn profi fy hun gyda swyddogion, am yr ystod o ysgolion sydd gennym ni yng Nghymru, a'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu. Sut ydyn ni'n sicrhau bod yr wybodaeth rydyn ni'n ei chael yn darparu set ddefnyddiol o negeseuon i ni? Mae hynny'n gwestiwn da. Mae'n bwynt pwysig o farnu. Felly, mae’r dewis sydd i'w wneud yn y cyd-destun hwn fel a ganlyn: naill ai rydych chi'n dewis mecanwaith manwl iawn sy'n dweud wrthych chi, gyda llawer mwy o fanylder, yr hyn sy'n digwydd ar lefel ysgol neu awdurdod lleol—mae hynny'n dod gyda dewisiadau am y baich ar y system, ac ar ddysgwyr unigol ar draws y system—neu rydych chi'n penderfynu mai’r hyn rydych chi'n chwilio amdano yw ffordd o fonitro perfformiad y system yn gyffredinol. A bryd hynny, byddwn ni angen y data hwnnw i wybod, er mwyn i chi fy nal i gyfrif am berfformiad y cwricwlwm maes o law. Felly, dyna fydd y ffynhonnell gwybodaeth, neu un ffynhonnell o wybodaeth, y gallwch ei defnyddio, a gallwch brofi p’un a yw'r dulliau yr ydym ni’n eu dilyn yn cyflawni'r gofynion llythrennedd a rhifedd, yn cyflawni'r meysydd dysgu a phrofiad. Felly, byddai hynny'n darparu sylfaen o ddata i seilio'r heriau hynny, y mae’n amlwg angen i ni ei wneud.

Dydw i ddim yn cydnabod y pwynt mae'r Aelod yn ei wneud ynglŷn â sut mae ansicrwydd am gymwysterau yn effeithio ar y pontio rhwng blynyddoedd 6 a 7. Dydw i ddim yn gwybod sut all hynny fod ar hyn o bryd, os byddaf yn gwbl onest. Fel y bydd hi'n gwybod, mae Cymwysterau Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd ynglŷn â diwygio cymwysterau. Bydd y cymwysterau hynny'n cael eu haddysgu yn gyntaf yn 2005, ac felly bydd y rhaglen rydw i’n ei disgrifio heddiw yn barod mewn pryd ar gyfer y garfan honno. Felly, mae'n amlwg yn bwysig bod y pethau hyn yn digwydd mewn ffordd sy'n systematig, a dyna fwriad yr hyn rydw i’n ei ddisgrifio heddiw. Gobeithio bod hynny'n cwmpasu’r rhan fwyaf o'r cwestiynau a ofynnodd yr Aelod o leiaf.

16:40

Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw, gan ehangu wrth gwrs ar y datganiad ysgrifenedig wythnos diwethaf. Dwi'n croesawu, yn amlwg, y pwyslais o ran sut rydyn ni'n canolbwyntio ar y dysgwyr hynny lle, ar y funud, rydyn ni'n gwybod bod tlodi yn effeithio ar eu cyrhaeddiant nhw. Does dim angen i fi ailadrodd—rydyn ni'n gwybod hynny'n barod. Ond, yn sgil yr argyfwng costau byw yn benodol, rydyn ni'n gweld mwy a mwy o ddysgwyr yn cael eu heffeithio felly.

Byddwch chi'n gwybod o'ch ymweliadau chi ag ysgolion, ac ati, bod ysgolion yn bryderus dros ben o ran disgyblion yn methu cyrraedd yr ysgol oherwydd costau bws—mae hwnna'n rhywbeth sydd wedi cael ei rannu gyda ni—y ffaith bod teuluoedd yn methu fforddio trydan, ac ati, ac yn methu fforddio bwyd, a'r ymyrraeth hefyd y mae ysgolion yn gorfod ei roi o ran y problemau sydd gennym ni o ran system CAMHS o ran efallai eu bod nhw yn defnyddio peth o'u harian i roi'r gefnogaeth ymarferol hynny mewn ysgolion ar y funud. A dwi'n meddwl bod mesur lles ein dysgwyr ni, yr amgylchedd, yr un mor bwysig â'r holl bethau eraill rydyn ni angen eu mesur. Ond dwi'n meddwl un o'r pethau y buaswn i'n hoffi ei ofyn ydy: beth fydd y cysylltiad rhwng y system yma a'r ymyraethau y byddwch chi'n eu gwneud fel Llywodraeth o ran taclo tlodi, ac ati, gan ein bod ni'n gwybod bod hwnnw'n effeithio ar gyrhaeddiant? Ac a ydych chi'n gweld bod hyn yn mynd i roi mwy o hyblygrwydd, oherwydd os ydych chi'n mynd efo'r peth o ran sampl yn hytrach, fel rydych chi'n dweud, na rhyw system fiwrocrataidd, ydy hwnna'n golygu wedyn eich bod chi'n mynd i allu bod yn fyw ystwyth fel Llywodraeth yn eich ymateb, wrth i'r argyfwng costau byw effeithio ar fwy a mwy o fyfyrwyr? Mae jest gen i ddiddordeb i wybod o ran hynny.

Hefyd, un o'r pethau rydyn ni'n clywed, wrth gwrs, gan athrawon yn aml ydy o ran byrdwn llwyth gwaith. Sut ydych chi'n gweld y newidiadau hyn yn effeithio er gwell o ran y system yma, oherwydd yn amlwg, efo hunanasesu, ac ati, mae hwnna'n gallu bod yn bositif o ran ysgolion, oherwydd mae wastad yn system, os oes yna lot o bobl angen dod i mewn i ysgolion a bod y math yna o sgrwtini a chraffu, le mae'r llwyth gwaith yn aruthrol? Ydych chi'n gweld bod hyn yn mynd i fod yn rhan o leihau llwyth gwaith neu ychwanegu ato fo? A pha hyfforddiant ychwanegol bydd yn cael ei rhoi o ran yr athrawon a chefnogaeth o ran hyn?

Ac yn olaf, os caf i, mi fuasai gen i ddiddordeb, wrth ichi ddatblygu'r system ymhellach, cael mwy o wybodaeth ac ati. Ond, o ran yr ymyraethau, a gwnes i sôn am ymyraethau a chefnogaeth ac ati, o ran deilliant pob dysgwr, sut byddwn ni hefyd yn dysgu, os mai sampl ydy hyn, o ran yr arfer da sy'n digwydd mewn ysgolion? Oherwydd, yn aml, efallai fyddai'r ysgol yna ddim yn cael ei dewis ond yn gwneud gwaith aruthrol o dda yn y maes yma. Wedyn, sut fyddwn ni'n dal i barhau i sicrhau ein bod ni'n dysgu o'r gorau, felly? Mae yna lu o enghreifftiau da. Mi fues i ar ymweliad i Ysgol Nantgwyn yn fy rhanbarth yn ddiweddar, ac os ydych chi heb gael cyfle fe fuaswn i wir yn eich annog chi i fynd. Maen nhw'n adnabod pob un plentyn yn yr ysgol yna a'u teuluoedd ac yn gallu rhoi'r gefnogaeth a'r ymyriadau ond yn poeni'n ddirfawr oherwydd y sefyllfa ariannol, gan eu bod nhw wedi gwario pob ceiniog oedd ganddyn nhw i gefnogi dysgwyr yn ystod y pandemig ac yn parhau i wneud hynny. Felly, dydyn nhw ddim yn un o'r ysgolion lwcus yma sydd efo llwyth o arian wrth gefn, ond yn sicr, arfer da o ran y gefnogaeth honno. Felly sut ydych chi'n gweld, efo ysgolion fel yna, ein bod ni'n dal i ddysgu o'r gwaith gwych sy'n digwydd os mai sampl rydyn ni'n mynd ar ei ôl? Diolch i chi.

16:45

Cwestiynau pwysig, os caf i ddweud. So, mae'r cwestiwn yma o samplo yn un pwysig. Dim ond un rhan yw'r broses o samplo. Felly, mae'r cynllun monitro cenedlaethol yn un rhan o'r ecosystem newydd, jest i roi rhywfaint, efallai, o gysur i'r Aelod. Ar hyn o bryd, o ran cynllunio hynny, beth dŷn ni ddim yn darogan bydd hynny'n ei roi yw'r math o specificity ar lefel ysgol o'r ymyraethau mae'r Aelod yn sôn amdanyn nhw. Ond beth mae e'n golygu yw bydd e'n dangos perfformiad cenedlaethol a bydd hynny'n dangos os oes angen pwysleisio approaches mewn gwahanol elfennau yn y cwricwlwm, er enghraifft. Felly, os nad ydyn ni'n gwneud y cynnydd rŷn ni'n disgwyl ei weld fel system, dyweder, o ran llythrennedd, wedyn beth fyddwn ni'n ei wneud fel Llywodraeth, beth fydd y cynghorau lleol a'r consortia yn ei wneud, yw edrych ble mae'r arfer da yn digwydd o ran llythrennedd a defnyddio hwnnw fel sail i gryfhau'r system yn gyffredinol. Mae dewisiadau yn hyn o ran ei ddylunio fe, ond dyna'r un rwyf i'n credu sydd fwyaf ymarferol.

O ran y cwestiwn arall roedd yr Aelod yn ei ofyn, sut rŷn ni'n gwybod sut mae'r approaches yn mynd i weithio ar lawr gwlad, mae hynny'n rhan o'r gwaith ecosystem ehangach. Os ydy'r Aelod wedi cael cyfle i edrych ar yr adroddiad—mae'n eithaf helaeth, felly rwy'n deall efallai os nad ydych chi wedi—mae sdwff yn hwnnw sy'n esbonio sut rŷn ni efallai yn mynd i'r afael gyda phethau, impact newidiadau polisi ac ati, ar lefel ysgol. Felly, bydd hynny'n rhan o'n hymateb ni fel Llywodraeth i hynny sydd yn yr adroddiad.

Ar y cwestiwn o lwyth gwaith, mae'r hunan asesu, wrth gwrs, yn digwydd fel rhan o'r system newydd. Mae hynny wedi cael ei gyhoeddi ers haf diwethaf. Y tîm arweinyddol, ar y cyfan, wrth gwrs, fydd yn arwain ar hynny, ond mae'r balans wedi newid yng nghyd-destun y berthynas gydag Estyn, ac mae'r approaches hynny yn lot fwy integredig ym mywyd yr ysgol.

O ran yr hyn rŷn ni'n sôn amdano heddiw, un o'r cyfleoedd sydd gyda ni, rwy'n credu, wrth edrych ar y data rŷn ni'n ei chasglu, yw'r cwestiwn, fel rôn i'n sôn amdano fe yn y datganiad, o gysoni sut mae hyn yn digwydd ar draws Cymru. Mae lefelau o wahaniaeth sylweddol iawn yn digwydd rhwng cynghorau lleol, ac efallai hefyd gwahanol rannau o'r system yn gofyn am yr un wybodaeth. Felly, beth hoffwn i weld ein bod ni'n gallu delifro fel rhan o hwn yw cysondeb a symleiddio hynny, ei fod e'n glir beth yw pwrpas y data rŷn ni'n gofyn amdano fe; os gallwn ni fod mewn sefyllfa lle mae'r data'n cael ei ofyn amdano fe unwaith, fod y system yn cyfathrebu yn well gyda'i gilydd yn y ffordd mae'r data yna'n cael ei ddefnyddio. Felly, mae wrth gwrs yn uchelgeisiol iawn i wneud hynny, ond rwy'n credu ei fod e'n deg fel quid pro quo i ysgolion os ŷn ni'n mynd i ddweud, 'Rŷn ni'n gofyn am y mathau yma o ddata, ond, ar y llaw arall, bydd cysondeb yn sut rŷn ni'n gofyn am hynny.' Felly dyna nod yr hyn rŷn ni'n sôn amdano heddiw.

Ac o ran y pwynt diwethaf, o ran yr hyn rŷn ni'n bwriadau ei wneud o ran cyhoeddi canlyniadau, mae rhai wedi dweud, 'Wel, onid yw hwn jest yn creu mwy o lwyth gwaith?' Ond y dewis oedd gennym ni oedd naill ai dylunio system newydd ar gyfer cyfnod rhwng nawr a 2025—. Wel, doedd e ddim yn gwneud lot o synnwyr i wneud hynny, ffeindio proses hollol newydd o fewn y system jest er mwyn newid hynny mewn tair mlynedd. Roedd e'n teimlo i fi mai'r peth cyfrifol i wneud oedd defnyddio'r system data oedd gennym ni jest am yr un flwyddyn cyn COVID, gan fod pobl yn gyfarwydd â hynny, a'i fod e, fel hynny, yn creu llai o waith. Y Llywodraeth fydd yn cyhoeddi'r wybodaeth honno, gyda llaw, nid yr ysgolion fydd yn gorfod ei chasglu hi, felly mae hynny hefyd yn bwysig i gadw mewn cof.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Rwy'n cytuno â'ch sylwadau am ddiben gwerthuso, gwella ac atebolrwydd o fewn y broses addysg. Maen nhw i gyd yn weithdrefnau pwysig er mwyn i ysgolion allu gwella yr hyn y maen nhw'n ei gynnig i ddysgwyr a'u deilliannau. Rwyf eisiau canolbwyntio ar eich sylwadau ynghylch monitro a samplu cenedlaethol. Fel cyn-athro ysgol uwchradd, rwy'n gyfarwydd â sut mae hyn wedi gweithredu mewn ystafelloedd dosbarth yn y gorffennol, ac mae eich datganiad sy'n cyfeirio at asesiadau samplu a defnyddio'r rhain i fonitro cynnydd yn awgrymu, efallai, model gwahanol i'r hyn y gallai ysgolion fod yn gyfarwydd ag ef. Allwch chi ddweud ychydig mwy am sut rydych chi'n disgwyl i'r samplu hwn weithio'n ymarferol a pha drafodaethau y gallech chi fod wedi'u cael gyda'r sector cyn eich cynlluniau ar gyfer cynllun treialu yn 2025-26?

Ar gyfer fy ail gwestiwn a'r olaf, roedd gen i ddiddordeb darllen yr astudiaeth ymchwil ariannu cymdeithasol. Un o'r llinellau yno wnaeth daro tant gyda fy nghyn-yrfa yw'r sylw nad yw Llywodraeth Cymru yn casglu unrhyw ddata am lesiant dysgwyr mewn ffordd safonol. Felly, a gaf i ofyn pa waith sy'n cael ei wneud i gywiro hyn?

16:50

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Ar yr ail bwynt, rwy'n glir iawn bod angen i ni symud i ffordd fwy safonol o wneud hynny, ac mae hynny'n sicr yn un o'r blaenoriaethau y byddaf eisiau eu gweld yn cael eu symud ymlaen yn ein hymateb i'r adroddiad cyllid cymdeithasol a gwaith Ymchwil Arad hefyd. Rwy'n credu bod hynny'n rhan bwysig iawn o hynny.

O ran y cynnig monitro cenedlaethol, mae yna—. Mae Ymchwil Arad a'r gwaith cyllid cymdeithasol wedi amlygu'r angen i ddeall, yn well nag yr ydym ni, ar draws y system, y cwestiynau o ran cyrhaeddiad a chynnydd. Wrth i ni ddileu'r asesiadau diwedd cyfnod allweddol yn raddol, mae hynny, yn amlwg, yn dod yn bwysicach fyth. Yn amlwg, dim ond rhai ysgolion a dysgwyr fydd yn rhan o'r asesiadau. Pwynt hynny yw nad ydyn nhw'n penderfynu'n ormodol ar ddulliau unigol ysgolion o gynllunio'r cwricwlwm, a'u bod yn cadw'r beichiau ar ysgolion mor isel â phosib. Felly, chwilio am ddarlun ar draws y system yr ydym ni. Bydd yn cael ei gynllunio mewn ffordd sy'n cyd-fynd yn agos iawn â'r ecosystem wybodaeth ehangach honno yr oeddwn i'n sôn amdani. Bydd hynny'n cael ei ddatblygu gan y grŵp ymarferwr yr oeddwn yn sôn amdano yn fy natganiad cynharach. Felly, bydd rôl arweinwyr ysgolion ac ymarferwyr wrth ddylunio'r ecosystem hon a'r system fonitro sy'n eistedd ynddi yn gwbl hanfodol. Rwyf eisiau sicrhau y byddwn ni'n gallu deall sut mae gwahanol grwpiau o ddysgwyr yn cyflawni, pa gymorth cenedlaethol arall y mae angen i ni ei ddarparu i'r system lle gallai grwpiau unigol o ddysgwyr, carfannau o ddysgwyr, dysgwyr a ddiffinnir gan nodweddion penodol, er enghraifft, fod angen cymorth ychwanegol. Ac rwy'n credu y bydd y pwynt y daeth yr Aelod i ben arno yn y fan yna, o ran llesiant a sut rydyn ni'n ymateb i gwestiynau am anfantais, yn bwysig—. Bydd hynny'n ddata pwysig iawn i ni ei gasglu fel rhan o'r rhaglen fonitro genedlaethol honno.

6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynyddu Nifer y Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd mewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol

Eitem 6 y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, cynyddu nifer y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd mewn gofal sylfaenol a chymunedol. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Eluned Morgan.

Diolch yn fawr. Mae 'Edrych Ymlaen Gyda'n Gilydd: Fframwaith Proffesiynau Perthynol i Iechyd Cymru' yn nodi'r newidiadau sy'n ofynnol gan weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a'u cyflogwyr i sicrhau bod iechyd a gofal cymdeithasol yn sicrhau'r ansawdd a'r gwerth uchaf o'r proffesiynau pwysig hyn. Mae 'Cymru Iachach' yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer galluogi pobl i fyw gartref, mor annibynnol â phosib, cyhyd ag y bo modd. 

Mae'r gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, neu AHPs, yn rhagori wrth ddarparu triniaethau sy'n arbennig o werthfawr wrth gefnogi anghenion cymhleth pobl sy'n fregus neu sy'n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor. Maent yn grŵp o 13 o broffesiynau unigryw, fel ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, dietegwyr a seicolegwyr. Ar hyn o bryd, mae cyfran rhy fach o AHPs yn hygyrch yn y gwasanaethau sylfaenol a chymunedol a ddisgrifir yn y model gofal sylfaenol i Gymru.

Ni all llawer o bobl sydd angen arbenigedd AHPs gael mynediad uniongyrchol iddyn nhw'n ddigon cynnar i wneud y gorau o'u hiechyd a'u lles neu wella adferiad. Gall hyn olygu bod pobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty pan allen nhw fod wedi cael eu trin gartref, neu nad oes modd eu rhyddhau o'r ysbyty pan fydd eu triniaeth acíwt wedi'i gwblhau. Heb wasanaethau AHP cymunedol, gall pobl symud i ofal preswyl neu nyrsio yn gynharach nag y gallai fod wedi digwydd fel arall, gan ychwanegu at y pwysau ar ein gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Heddiw, rwy'n cyhoeddi y bydd £5 miliwn ar gael o fis Ebrill 2023 i greu swyddi AHP ychwanegol mewn gwasanaethau sylfaenol a chymunedol i helpu i ddarparu dewisiadau amgen i dderbyn cleifion i'r ysbyty a lleihau'r ddibyniaeth ar ofal cymdeithasol hirdymor. Mae'r buddsoddiad rheolaidd hwn yn cefnogi ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu ym maes gofal sylfaenol a chymunedol, gan gynnwys gwella mynediad at weithwyr iechyd proffesiynol a dod â gweithlu ehangach ynghyd mewn system gofal sylfaenol diwygiedig. Bydd yn creu swyddi ar gyfer AHPs cofrestredig a gweithwyr cymorth. Er enghraifft, bydd staff ychwanegol mewn timau adnoddau cymunedol yn helpu i weithredu'r rhaglen seilwaith cymunedol neu ehangu gwasanaethau megis ysbyty yn y cartref.

Mae cynyddu adsefydlu cymunedol a therapi yn y gymuned yn sicrhau bod modd rhyddhau pobl gyda'r gefnogaeth gywir i'w galluogi i gwblhau eu hadferiad gartref. Mae adsefydlu neu ailalluogi cymunedol yn helpu pobl i adennill eu gallu a'u hyder i wneud y pethau sy'n bwysig iddyn nhw yn eu bywyd bob dydd, gan alluogi mwy o bobl i fyw'n annibynnol heb orfod dibynnu ar ofal cymdeithasol hirdymor diangen. Bydd hynny'n ein helpu i ddarparu'r gwasanaethau hollbwysig hyn i'r bobl sydd eu hangen fwyaf.

Gellir defnyddio'r buddsoddiad hwn hefyd i ddatblygu neu ehangu gwasanaethau i atal derbyniadau i ysbytai. Er enghraifft, gallai hyn alluogi parafeddygon i atgyfeirio'n uniongyrchol i dimau cymunedol i ymateb i gwympiadau neu therapi yn hytrach na mynd â phobl i'r ysbyty os nad oes ei angen arnynt.

Mae llawer o enghreifftiau o wasanaethau AHP arloesol sy'n darparu mynediad uniongyrchol, cynnar at ymyrraeth, adsefydlu ac ailalluogi cymunedol a thriniaethau cymhleth eraill yn y gymuned. Mae angen i ni ddarparu'r rhain yn fwy cyson ledled Cymru yn unol â'n holl raglenni cenedlaethol. Mae gwasanaethau therapi galwedigaethol awdurdodau lleol a llawer o wasanaethau ffisiotherapi'r GIG eisoes yn hygyrch yn uniongyrchol. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, mae podiatreg, therapi iaith a lleferydd plant a gwasanaethau therapi galwedigaethol plant yn hygyrch yn uniongyrchol.

Rŷn ni wedi buddsoddi'n sylweddol yn barod mewn gwasanaethau cymunedol arloesol. Mae ein cronfa integreiddio rhanbarthol yn darparu dros £144 miliwn i gefnogi chwe model cenedlaethol o ofal integredig. Mae'r modelau hyn yn cynnwys trefniadau i atal a chydlynu yn y gymuned, gofal cymhleth yn nes at adref a gwasanaethau gartref o'r ysbyty.

Dwi'n cymryd y cyfle heddiw i nodi eto fy mod i'n disgwyl i'r buddsoddiad rŷn ni wedi ei ddarparu eisoes i'r gwasanaeth iechyd, yr awdurdodau lleol a'r byrddau partneriaeth rhanbarthol gael ei ddefnyddio hefyd i ddod â'r holl wasanaethau lleol sy'n ymwneud ag iechyd a gofal at ei gilydd, ac mae hynny'n cynnwys AHPs.

Rhaid i ofal sylfaenol a chymunedol ddod yn lleoliad arferol i AHPs weithio. Dylai'r gweithlu yma gael ei drefnu drwy wasanaethau cymunedol sydd wedi'u hintegreiddio'n dda ac sy'n cynnwys yr holl ystod o sgiliau AHP. Er mwyn gweithredu'r rhaglen garlam i ddatblygu'r clystyrau, mae'n hollbwysig bod cyfran uwch o'r gweithlu AHP yn gweithio mewn timau a hybiau integredig mewn gwasanaethau sylfaenol a chymunedol.

Rŷn ni'n gwybod bod llawer o bobl hŷn sy'n fregus neu sydd â mwy nag un cyflwr yn gadael yr ysbyty gyda llai o allu i symud ac yn llai annibynnol na phan aethon nhw i mewn. Dyna pam mae'r canllaw diweddar ar wella llif cleifion mewn ysbytai yn nodi y dylai'r gwasanaeth iechyd a gofal ddefnyddio egwyddorion 'gartref yn gyntaf' a discharge to recover then assess. Bydd hyn yn helpu pobl i fynd adref cyn gynted â phosibl, gyda'r gwasanaeth asesu ac ailalluogi cywir ar gael iddyn nhw yn y gymuned.

Mae'r timau adnoddau cymunedol sy'n bodoli yn barod yn rhanbarthau pob un o'r byrddau iechyd, yn ogystal â'r timau ailalluogi a'r gwasanaethau adsefydlu, yn asgwrn cefn i'r strwythur cymunedol sydd ei angen i wella gofal i'n poblogaeth. Os ydyn ni'n gallu cael pethau yn iawn i bobl ag anghenion cymhleth, rŷn ni'n gallu eu cael yn iawn i bawb.

Pwrpas y buddsoddiad yma yw cynyddu capasiti AHP mewn gwasanaethau adsefydlu ac ymyrraeth gynnar yn y gymuned. Bydd hyn yn golygu bod dewisiadau ar gael sy'n saff yn glinigol, yn lle mynd â phobl i'r ysbyty. Fe fydd hefyd yn hwyluso'r broses o ryddhau cleifion yn ddiogel ac effeithiol.

Bydd amseriad y cyhoeddiad yma yn helpu cyflogwyr iechyd a gofal cymdeithasol i wneud yn siŵr bod cymaint o swyddi â phosibl ar gael ar gyfer y graddedigion newydd a fydd yn ymuno â'r gweithlu yn yr haf. Wrth gynyddu capasiti'r gwasanaeth cymunedol drwy greu'r rolau gweithwyr iechyd ychwanegol hyn, fe fyddwn ni’n gallu darparu gofal sylfaenol a chymunedol sydd wedi’u hintegreiddio’n dda. Bydd hyn yn ein helpu hefyd i daclo rhywfaint o’r pwysau sydd ar ein system iechyd a gofal ar hyn o bryd.

17:00

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw? Rwyf wir yn croesawu'r cyhoeddiad heddiw. Yn sicr, rwy'n cefnogi'r cyllid cynyddol ar gyfer nifer y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd o fewn y lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol. Yn sicr rwy'n credu mai dyna'r cam cywir, yn enwedig am y rhesymau yr ydych chi wedi'u hamlinellu. Rwy'n credu y bydd yn rhyddhau adnoddau ac yn caniatáu i bobl gael eu trin yn llawer agosach at adref.

Mae nifer o gwestiynau y byddwn i'n eu gofyn yn dilyn eich datganiad heddiw, Gweinidog. Dim ond i roi dealltwriaeth i ni o sut bydd y cyllid yn cael ei ddyrannu ledled Cymru, sut mae'n mynd i gael ei ddyrannu ar draws y rhanbarthau neu'r byrddau iechyd. Dim ond i roi rhywfaint o sicrwydd nad yw'r arian yn mynd i gael ei glustnodi ar gyfer un rhan o Gymru, a'i fod wedi'i wasgaru'n deg, yn briodol ar draws y wlad. Hefyd i gael ymdeimlad o faint o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd y bydd hyn yn ei ariannu. Rwy'n tybio mai cronfa fydd yn ariannu yn flynyddol yw hon. Yn amlwg, rydyn ni'n creu'r swyddi hyn, a byddai'n rhaid iddo fod yn gyllid blynyddol wedi hynny, rwy'n tybio. Felly, dim ond i gael y cadarnhad hwnnw.

A hefyd i ddeall lle byddai gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd newydd wedi'u lleoli. Rwy'n gwybod yn sicr, fel rhan o gynllun mynediad meddygon teulu y Ceidwadwyr Cymreig, gwnaeth iechyd a gofal cymdeithasol rai argymhellion ynghylch gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd wedi'u lleoli mewn meddygfeydd. Felly, dim ond i gael ymdeimlad o'ch dealltwriaeth o ble y byddai'r gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn cael eu lleoli. A fydden nhw mewn meddygfeydd, ysbytai cymunedol, cymysgedd? I gael dealltwriaeth o hynny.

Y pryder mwyaf i mi yw bod diffyg gweithwyr proffesiynol wedi'u hyfforddi yn gweithio o fewn y proffesiynau perthynol i iechyd yng Nghymru, felly eisoes mae rhai adroddiadau ynghylch marchnadoedd mewnol, lle mae byrddau iechyd yn gorfod cystadlu â'i gilydd i ddenu AHPs, gan nad oes digon i ddiwallu anghenion gofal iechyd corfforol a meddyliol cymhleth y wlad. Felly, dim ond i gael eich barn ar hynny, Gweinidog. Rwy'n sylweddoli bod cynnydd mewn cyllid ar gyfer lleoliadau hyfforddiant, ond mae hynny'n eithaf bach, felly dim ond i ddeall sut rydych chi'n bwriadu trwsio'r bwlch staffio o fewn y gweithlu er mwyn cyrraedd y mathau o lefelau y mae Cymru eu hangen.

Rwyf hefyd wedi codi—rwy'n credu yr wythnos diwethaf yn y ddadl, mewn gwirionedd, Gweinidog—rwyf wedi codi'r materion yn rheolaidd ynghylch moderneiddio systemau digidol y GIG hefyd. Felly, byddai hynny'n angenrheidiol, rwy'n credu, yn hyn o beth, i sicrhau bod ffyrdd diogel i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd gyfathrebu â'i gilydd, yn enwedig os ydyn nhw'n symud o gartref i gartref. Rwy'n credu mai'r hyn sydd ei angen yw gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n gweithio ar astudiaethau achos cleifion, gan ddeall cynlluniau triniaeth y cleifion ar gyfer eu canlyniadau. Felly, a fydd unrhyw gyllid i uwchraddio'r systemau hyn i greu gwasanaeth mwy effeithlon a fydd yn helpu gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd?

Diolch yn fawr iawn. Felly, sut mae'n cael ei ddyrannu, yn amlwg bydd hyn yn gymesur â'r boblogaeth, felly byddwn ni'n sicrhau bod hynny'n adlewyrchu anghenion y boblogaeth, yn amlwg. O ran faint o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sydd gennym ni yng Nghymru, mae gennym ni tua 9,267 ar hyn o bryd. Dim ond i roi syniad i chi, mae gennym ni tua 2,000 o therapyddion galwedigaethol, mae gennym ni 2,455 o ffisiotherapyddion, mae gennym ni 159 o therapyddion celfyddydol, sydd yn wych yn fy marn i, ac mae gennym ni 530 o ddietegwyr. Felly, mae yna lawer iawn ohonyn nhw'n barod, ond yr hyn sy'n amlwg yw y gall hyn gymryd llawer o bwysau oddi ar nid yn unig ein gwasanaethau sylfaenol, ond hefyd ein gwasanaethau eilaidd.

Mae'n gyllid aml-flynyddol, felly bydd y £5 miliwn hwn yn cael ei gynnwys yn y dyfodol. Byddan nhw yn sicr wedi'u lleoli yn y gymuned. Mae lle yn y gymuned yn dibynnu ar ba strwythurau sy'n bodoli yn y gymuned honno, yn amlwg. Felly, bydd rhai hybiau cymunedol bywiog iawn, bydd eraill lle bydd meddygfeydd, felly mae'n dibynnu ar beth sy'n iawn i'r gymuned honno.

Dim ond o ran pobl sydd wedi'u hyfforddi, yn amlwg fe wnaethom ni gyhoeddi cynllun gwella hyfforddiant Addysg a Gwella Iechyd Cymru yr wythnos diwethaf, a dim ond i roi gwybod i chi, er enghraifft, bydd lleoedd hyfforddi ffisiotherapyddion yn cynyddu'r flwyddyn nesaf i 180, lleoedd hyfforddi therapyddion galwedigaethol i 197 a pharafeddygon i 120. Mae hynny i gyd yn golygu bod y rheiny i gyd yn bobl newydd fydd yn dod yn eu blaenau, ac, yn amlwg, mae hwnnw'n llif sydd eisoes wedi'i ddatblygu, felly rydyn ni'n ategu yr hyn sydd yno. Y peth gwych yw y byddan nhw'n dod wedi'u hyfforddi a nawr gallwn ni roi swyddi iddyn nhw, oherwydd dyna mae'r cyllid yma yn ei wneud.

Ac yna, dim ond o ran moderneiddio systemau digidol, rydych chi'n ymwybodol fy mod i'n treulio llawer o amser ar dechnoleg ddigidol; cefais gyfarfod arall gyda'r tîm digidol yr wythnos hon. Rwy'n credu y bydd cael llwyfan ar gyfer gwaith yn y gymuned yn rhywbeth. Mae llawer o lwyfannau gwahanol ar hyn o bryd a'r hyn sydd angen i ni ei wneud yw sicrhau eu bod nhw i gyd yn cysylltu, felly mae'n debyg bod ychydig o waith i'w wneud ynghylch hynny. Ond mae gennym ni gymaint yn cael ei wneud yn y maes digidol yn barod, hoffwn i lanio'r hyn sydd gennym ni yn gyntaf cyn mynd ymlaen i'r darn nesaf.

17:05

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad? Yn ei hanfod, dwi innau hefyd yn croesawu'r bwriad yn y fan hyn i wneud buddsoddiad yn y gweithlu. Mae'r gweithlu iechyd, wrth gwrs, yn eang iawn, mae o'n amrywiol iawn, ac mae gwasanaeth iechyd a gofal cynhwysfawr a chynaliadwy yn gorfod tynnu at ei gilydd yr ystod eang yna o weithwyr iechyd proffesiynol. Mae'n dda ein bod ni rŵan yn siarad am yr allied health professionals, rhywbeth fyddai ddim wedi digwydd flynyddoedd yn ôl—doctors a nyrsys fyddai hi wedi bod flynyddoedd mawr yn ôl. Erbyn hyn, rydyn ni yn gwerthfawrogi'r gweithlu ehangach yna. Mae'n dda gweld, ynghanol y pwysau sydd ar y gwasanaeth iechyd a gofal, y buddsoddiad yma yn cael ei wneud. 

Dwi'n meddwl yn nhermau'r cynllun pum pwynt yma rydyn ni'n mynd i fod yn ei drafod yma yn y Senedd yfory—y cynllun rydyn ni fel plaid wedi'i gyhoeddi heddiw yma ar gyfer dyfodol yr NHS—a dwi yn gweld yn y cyhoeddiad yma nifer o elfennau yn cael eu hadlewyrchu. Y pwynt cyntaf rydyn ni'n ei wneud ydy ynglŷn â'r angen am gyflog teg. Tybed lle mae'r Gweinidog yn ystyried rôl cyflog, achos mae yna weithwyr allied health professionals sydd yn rhan o anghydfodfeydd cyflog ar hyn o bryd. Mi fyddwn i'n gwerthfawrogi sylwadau'r Gweinidog ynglŷn â lle i osod lefel cyflog teg yn y broses yna o greu gweithlu bodlon sydd yn barod ar gyfer heriau'r dyfodol. 

Dwi'n croesawu'r sylwadau rydyn ni newydd eu clywed ynglŷn â hyfforddi mwy o weithwyr. Mi fyddwn i'n gwerthfawrogi sylwadau hefyd ynglŷn â rhoi hyfforddiant proffesiynol pellach i'r rheini sydd o fewn y gweithlu yn barod. Mae caniatáu i weithwyr weithio o fewn eithaf eu competence yn bwysig iawn, ac un o'r cwynion yn aml iawn ydy bod pobl yn teimlo eu bod nhw ddim yn cael y rhyddid i wneud yr hyfforddiant ychwanegol sydd ei angen er mwyn gwella o hyd, ac ymestyn eu sgiliau. Mi fyddwn i'n gwerthfawrogi sylwadau ar hynny.

Mi fydd y Gweinidog yn gwybod gymaint o bwyslais dwi'n licio ei roi ar yr ataliol. Dwi'n tynnu sylw at y ffaith bod yr ataliol yn gallu golygu pethau ymhell yn y dyfodol, ond hefyd paratoi heddiw ar gyfer heriau yfory a'r wythnos nesaf, ac mae gan yr AHPs rôl allweddol yn y fan yna yn paratoi pobl ar gyfer triniaeth, trio atal damweiniau, ac ati. Mae'n bosibl y gallai'r Gweinidog adlewyrchu ar y rôl ataliol yna.

Ac yn olaf, mae yna lawer o sylw, wrth gwrs, wedi cael ei roi yn ddiweddar i'r junction yna rhwng iechyd a gofal—y delayed transfers of care rydyn ni wedi rhoi llawer sylw iddynt yn ddiweddar. Mae angen cynyddu'r capasiti yna ar gyfer tynnu pobl allan o'r lleoliadau acíwt, tynnu nhw o'r ysbytai. A gaf i awgrym gan y Gweinidog lle mae hi'n gweld rôl yr allied health professionals mewn creu'r capasiti yna er mwyn helpu tynnu pobl, nid eu rhoi nhw yn eu cymuned heb becyn gofal—mae yna bryderon am hynny—ond i wneud yn siŵr bod y gweithwyr penodol yma yn gallu helpu i ganiatáu i bobl symud allan o'r ysbytai ac i mewn i leoliadau gofal eraill, yn cynnwys eu cartrefi eu hunain?

17:10

Diolch yn fawr, Rhun, ac mae'n rili lyfli i gael ymateb positif pan ŷn ni'n sôn am iechyd, so diolch am hynny. Mae'r rhain yn bobl newydd ŷn ni'n croesawu i'r system. Pan ŷch chi'n sôn am arian, mae'n rhaid inni wneud dewisiadau, onid oes e, ac rŷn ni wedi dewis nawr dod â mwy o bobl mewn i'r rôl yma. Ac felly, yn amlwg, mae'n rhaid ichi wneud dewis pan ŷch chi'n gwneud y dewis hwnnw, a gallem ni wedi rhoi'r arian yna at gynyddu eu cyflogau nhw, so mae'r pethau yma yn rili anodd, ond allwch chi ddim cael y ddau. A dyna yw'r gwahaniaeth rhwng llywodraethu a pheidio â llywodraethu; mae'n rhaid inni wneud y dewisiadau anodd hynny.

O ran hyfforddi mwy o weithwyr, mae yna hyfforddiant, fel ŷch chi wedi'i glywed, o ran HEIW. Mae hwnna eisoes—mae pipeline yn dod. Hyfforddiant ychwanegol: ŷn ni mewn trafodaethau, fel ŷch chi'n ei wybod, gyda'r undebau ar hyn o bryd, ac un o'r pethau maen nhw'n keen iawn i'w weld yw creu amser fel eu bod nhw yn gallu parhau â'u hastudiaethau nhw, ac yn amlwg bydd hwnna'n rhan o'r trafodaethau. Dwi'n meddwl ei fod e'n bwysig hefyd ein bod ni yn tanlinellu mai nid jest allied health professionals ŷn ni'n sôn amdanyn nhw fan hyn; mae support workers yr un mor bwysig. Felly, mae'n rhaid ichi gael pobl broffesiynol i wneud yn siŵr bod y support workers yn gweithio yn y ffordd iawn. Felly, mae hwnna, i fi, yn mynd i fod yn elfen rili bwysig.

Roedd diddordeb gen i i weld eich pump pwynt chi, a dwi jest wedi nodi bod hwn yn cyffwrdd â lot o'r pwyntiau hynny, yn sicr o ran atal—mae hwnna yn rhan, fel ŷch chi yn ei ddweud, o atal problemau. Mae treial gweld pwy sydd yn debygol o fod angen help yn yr ysbyty, mae rhoi'r help yna mewn cyn iddyn nhw fynd i'r ysbyty, i fi, yn mynd i fod yn hollbwysig o ran ble ŷn ni'n mynd yn y dyfodol. Felly, mae atal, ac mae'r bobl yma yn mynd i fod yn allweddol.

Rhyngweithio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, wel, dyma'r maes ŷn ni'n sôn amdano fe. Mae'n rhaid i ofal cymdeithasol—. Mae eisiau inni adeiladu timau yn ein cymuned, a bydd yn rhaid i'r rhain gydweithio. Ac maen nhw eisoes yn cydweithio. Felly, mae yna £144 miliwn eisoes yn cael ei wario ar y cyd rhwng iechyd a gofal. A sôn am yr angen i fod yn cael gofal gwydn sy'n addas ar gyfer y dyfodol, wel, os ŷch chi'n edrych ar broffil demograffig ein gwlad yn y dyfodol, bydd angen lot o help yn y maes yma ac, i fi, mae hwn yn mynd i fod yn gam allweddol i wneud yn siŵr ein bod ni'n paratoi ar gyfer y dyfodol yna sy'n mynd i fod yn heriol dros ben.

Ac un o'r pethau eraill dwi'n meddwl sy'n werth ei nodi yw, os ydy pobl yn cael help reablement, ŷn ni'n gwybod, o dystiolaeth, fod y gofyn am ofal am yr hirdymor yn gostwng 70 y cant, a bod y pecyn gofal yn gostwng. So, i fi, hwn yw'r golden ticket; hwn yw'r ffordd allan, ac mae'n rhaid inni wneud lot mwy yn y maes yma. Dyna beth yw rhan o'r cynllun yma.

Rwy'n ymuno â galwadau gan Aelodau'r gwrthbleidiau wrth groesawu'r cyhoeddiad a'r datganiad heddiw gan y Gweinidog a'i fwriadau a ddymunir, gyda chanlyniadau lleihau'r pwysau ar ein hysbytai. Gweinidog, rydych chi wedi sôn am gyllid o fewn eich datganiad heddiw, ond er mwyn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir yr ydym ni i gyd eisiau eu gweld, rhaid i becyn ariannu cynaliadwy fod ar waith. A allwch chi amlinellu i'r Siambr sut rydych chi'n gweld gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn cael eu hariannu'n iawn yn y dyfodol, er mwyn i ni allu cyflawni'r canlyniadau hynny a ddymunir yr ydym ni i gyd am eu gweld yn digwydd?

Diolch yn fawr, Jack. A gallaf gadarnhau bod y £5 miliwn hwn yn rheolaidd, ac mae hynny'n golygu ei fod yn gynaliadwy, sy'n golygu y gall rheolwyr gynllunio ymlaen llaw yn hyderus, ac mae hynny'n golygu y bydd pobl yn gallu teimlo'n hyderus, unwaith y byddan nhw'n cael eu penodi, y bydd ganddyn nhw ddyfodol tymor hir.

Yn ogystal â'r buddsoddiad ehangach yr ydym yn ei gyflawni wrth drawsnewid, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n deall bod hyn yn rhan o'r pecyn ehangach hwnnw yr ydym ni'n ceisio ei ddatblygu o fewn y gymuned. Am y nawfed flwyddyn yn olynol, o ran hyfforddi a buddsoddi, y cyhoeddiadau a wnes i yr wythnos diwethaf, a phrin y cododd neb nhw—. Mae'n bwysig iawn bod pobl yn deall ein bod yn gwneud buddsoddiadau enfawr mewn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o'r gweithlu: £281 miliwn bob blwyddyn. Mae hyn yn arian enfawr, enfawr, sy'n hyfforddi'r gweithlu nesaf. Mae hynny, eleni, yn cyfateb i gynnydd o 8 y cant, oherwydd rydyn ni'n gwybod pa bwysau sydd ar y system ac rydyn ni'n gwybod bod angen i ni fod â llif o weithwyr yn dod. Felly, gobeithio y byddwch chi'n falch o glywed hynny.

17:15

Diolch yn fawr iawn am y datganiad, Gweinidog. Rwy'n credu fy mod yn ymuno â'r gefnogaeth drawsbleidiol i'r cyhoeddiadau rydych chi wedi'u gwneud heddiw.

Dim ond dau bwynt byr gen i, os caf i. Mae'n ymddangos yn bwysig iawn bod hyn yn ataliol ac yn adweithiol fel bod gennym yr opsiwn o ddarparu cymorth i bobl cyn, ac, yn wir, gobeithio osgoi, unrhyw dderbyniadau i'r ysbyty. Rwy'n siŵr mai dyna'r bwriad, yn ogystal ag ymateb i'w helpu nhw i adael yr ysbyty a chael eu rhyddhau. Ar gyfer hynny, mae hefyd yn ymddangos ei bod yn bwysig gweithio gyda gofalwyr awdurdodau lleol, oherwydd mae'r tîm o amgylch y person yn cynnwys meddygon ond hefyd y gweithwyr proffesiynol perthynol a'r gofalwyr hefyd. Pan oeddwn i ym maes gwaith cymdeithasol, roedd gennym dîm o amgylch y teulu, y TAFs, ac mae'n ymddangos yn bwysig bod y tîm hwnnw yno. Mae'n swnio fel taw dyna'r cyfeiriad, felly mae'n bwysig iawn clywed hynny. Diolch yn fawr iawn.

Mae'r cwestiwn sydd gen i ynghylch cyflog ac amodau, oherwydd mae angen i ni gadw'r bobl yma, mae angen iddyn nhw aros yn eu proffesiynau, gobeithio yma yng Nghymru. Felly, byddai'n ddiddorol clywed pa feddyliau sydd gennych ynghylch sut rydyn ni'n sicrhau eu bod yn cael cyflog da, bod cyflog cyfartal, a'i fod yn cyfateb i gyflog Lloegr hefyd, oherwydd rydyn ni wir eisiau iddyn nhw aros yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr. Hoffwn i gadarnhau fy mod yn cytuno â chi na all hyn fod yn adweithiol yn unig; ni all fod am, 'Sut ydyn ni'n cael pobl allan o'r ysbyty?' Mae'n ymwneud ag osgoi mynd i'r ysbyty. Mae hynny'n allweddol i fi. Ond, os ydyn nhw'n mynd mewn i'r ysbyty, mae yna enghreifftiau gwych eisoes o amgylch Cymru lle mae gennym ni ysbyty i'r cartref, felly mae cefnogaeth yno ac maen nhw'n cael eu monitro'n ddigidol. Felly, wyddoch chi, mae'r unfed ganrif ar hugain yma. Rwy'n gwybod bod gennym ni ambell i beiriant ffacs, ond mi fydda i'n cael gwared ar y rheiny cyn bo hir. Mae peth o hyn yn digwydd yn barod, a'r hyn sydd angen i ni ei wneud yw cyflwyno'r arfer gorau, ac yna'r monitro hwnnw. Os ydych chi'n gweld bod pethau'n newid, gallwch anfon rhywun i mewn ac mae modd ei drwsio. Felly, mae'n rhaid bod yn adweithiol hefyd, ond, i fi, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n meddwl am atal hefyd. Mae yna lawer o dystiolaeth i ddangos ein bod ni'n rhyw fath o adnabod y bobl sy'n mynd i gymryd y gwelyau. Yn gyffredinol, maen nhw'n bobl yr ydyn ni'n gwybod amdanyn nhw, ac os ydyn nhw'n mynd i'r ysbyty, byddan nhw'n aros yno am gyfnod hir. Felly, pam na wnawn ni roi'r gefnogaeth o'u hamgylch yn y gymuned i atal hynny rhag digwydd o'r dechrau?

Mae'n rhan o'r rhaglen chwe nod. Felly, mae llawer o hyn yn digwydd yn barod, ond mae hyn i gyd yn rhan o gryfhau hynny. Rydym wedi creu'r chwe nod yma gyda'r gweithwyr proffesiynol. Nid rhywbeth yr ydyn ni wedi'i greu yn y Llywodraeth yw hwn; mae hwn yn ymateb sy'n cael ei arwain yn glinigol i'r hyn y maen nhw'n credu y mae angen iddo ddigwydd. Rydyn ni wedi bod yn systematig iawn amdano, ac mae hyn yn rhan o adeiladu'r jig-so hwnnw. O ran adeiladu'r tîm, mae hyn yn digwydd mewn llawer o lefydd yn barod, ond, weithiau, rwy'n credu bod y system ychydig yn or-gymhleth. Felly, yr hyn nad ydw i ei eisiau yw bod â thimau o 20 o bobl yn eistedd o gwmpas yn trafod anghenion Mrs Jones. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni allu ymddiried yn ein gilydd yn broffesiynol hefyd. Felly, mae angen i chi wneud asesiad ac yna mae'n cael ei rannu â phawb. Ond, rwyf hefyd yn credu bod llawer i'w ddweud amdano mewn gwirionedd—. Mae gweithio ar wahân yn eithaf anodd, felly, mewn gwirionedd, bydd gweithio mewn tîm, rwy'n credu, yn ein helpu i gadw pobl yn rhai o'r meysydd hynny, gan gynnwys gofalwyr. Felly, mae hynny'n bwysig iawn. Ac o ran cyflog ac amodau, fe fyddan nhw'n cael y cyfraddau cyflog safonol ar gyfer y proffesiwn hwn.

17:20

Diolch am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog. Cyn i mi gael fy ethol i'r Senedd, roeddwn i'n gweithio ym maes ffisiotherapi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, felly rydw i yn ymwybodol iawn o'r problemau sy'n wynebu AHPs wrth ddarparu gofal o ansawdd da yn y gymuned. Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw a chyhoeddi'r £5 miliwn, oherwydd mae wir yn gam i'r cyfeiriad cywir. Ni allaf gofio faint o weithiau y byddwn i'n dweud wrth gleifion, 'Edrychwch, rwy'n hapus i'ch atgyfeirio i ffisio cymunedol, ond wyddoch chi efallai na fyddwch chi'n cael eich gweld am bythefnos, ac mae hynny os byddwch chi'n lwcus.' Felly, mae'n gam i'r cyfeiriad cywir, a byddwn i'n ailadrodd yr hyn a grybwyllodd Russell George o ran sut y bydd yn cael ei wario ledled Cymru fel bod neb ar eu colled, p'un a ydyn nhw'n byw yn Y Rhws neu yn Y Rhyl.

Hoffwn ganolbwyntio'n benodol ar gartrefi gofal, os caf i, ac ansawdd y rhyddhau, gan fod hynny'n chwarae rhan hanfodol o ran llif cleifion a sicrhau ein bod yn atal blocio gwelyau mewn cyfleusterau cam-i-lawr. Mae llawer o'r problemau y mae AHPs yn eu hwynebu yn y gymuned oherwydd diffyg capasiti i drin preswylwyr cartrefi gofal oedrannus, gan arwain at risg uwch o waethygu'r cyflwr, aildderbyn i'r ysbyty a diffyg cyfleusterau adsefydlu o ansawdd da. Felly, pa sicrwydd y gall y datganiad heddiw ei roi y bydd y cyhoeddiad o £5 miliwn yn rhoi pwyslais penodol tebyg ar gynyddu capasiti i AHPs ymweld yn rheolaidd â chartrefi gofal yn y gogledd yn benodol, a darparu'r gofal hanfodol y mae ein pobl oedrannus leol yn ei haeddu cymaint? Diolch.  

Diolch yn fawr, Gareth. Roeddwn i'n ymwybodol fy mod i'n siarad gydag arbenigwr AHP yn ein plith ni heddiw, felly roeddwn i braidd yn nerfus gyda chi yn y gynulleidfa yn y fan yma. Felly, dyna ni.

Mae ffisiotherapi yn rhan allweddol o'r driniaeth yr ydym yn gobeithio ei chynnig yma. I mi, un o'r pethau allweddol sydd angen i ni ganolbwyntio arno yw rhagsefydlu cyn llawdriniaeth—ac mae gen i arbenigwr arall a fydd yn deall hynny—oherwydd yr hyn yr ydyn ni'n ei wybod yw, mewn gwirionedd, drwy baratoi ar gyfer llawdriniaeth, bydd eich canlyniadau gymaint yn well os ewch chi i mewn yn y cyflwr iawn. Felly, rwy'n credu bod hwn yn faes lle rwy'n gobeithio y gallwn ni fod yn gwneud llawer mwy o waith ynddo. Ac, yn amlwg, bydd rôl i AHPs yn y maes hwnnw hefyd. O ran ymweld â chartrefi gofal, yn amlwg, mae cartrefi gofal yn y gymuned. Felly, byddan nhw yn bendant yn cael eu cynnwys yn yr hyn y byddai ein disgwyliadau o ran y rhaglen hon.

Diolch yn fawr iawn. Ymwelais â'r cyfleuster arbennig o'r radd flaenaf yn Glyndŵr Wrecsam—y cyfleuster gwerth miliynau o bunnau. Rwy'n credu bod diwrnod agored wythnos i ddydd Gwener yno lle maen nhw'n cynnig cyrsiau nyrsio a perthynol i iechyd, sy'n wych. Rwyf eisoes yn gwybod am gwpl o bobl sydd wedi newid gyrfa a throi at nyrsio a pharafeddygaeth, gan gynnwys fy nith, a wir yn mwynhau dysgu yno yn y gogledd-ddwyrain.

Rwyf hefyd wedi dysgu y bydd Coleg Llandrillo yn ogystal yn darparu cyrsiau ar gyfer gweithwyr cymorth a gweithwyr gofal—y lefel honno, ychydig o dan nyrsio—sy'n wych iawn. Meddwl oeddwn i, a wnewch chi eu hannog i weithio hefyd gyda'r cyfleuster meddygol newydd sy'n cael ei adeiladu ym Mangor, a helpu i hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i'r swyddi a'r gyrfaoedd newydd hyn sy'n digwydd yn y gogledd? Yn aml iawn, rwy'n teithio ar draws y gogledd, ac rwy'n meddwl, 'Does dim swyddi yma.' Rydyn ni'n siarad am swyddi diwydiant, ond mae swyddi yno i bobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus ac iechyd a deintyddiaeth, nyrsys—y rhain i gyd sy'n tyfu. Felly hoffwn i chi weithio gyda'r Gweinidog addysg a Gweinidog yr Economi i hybu'r swyddi gwych hyn sy'n cael eu creu yn y gogledd. Diolch.

Diolch yn fawr. Mae'n wych clywed bod y cyfleuster hwnnw yn Wrecsam yn weithredol, a'u bod yn hyfforddi'r bobl hynny yn Llandrillo hefyd. Fel y soniais i yn gynharach, rwy'n credu bod gweithwyr cefnogol yn mynd i fod yn gwbl allweddol, a phan fyddwch chi'n eu cael ar y llwybr, yna efallai y byddan nhw eisiau uwchraddio a beth bynnag, ond gadewch i ni eu cael nhw i'r maes hwnnw yn gyntaf. Felly, rwy'n credu bod hynny'n gyffrous iawn.

Holl bwynt y rhaglen hon yw na ddylid ei chysylltu ag ysbyty nac ysgol feddygol na beth bynnag. Mae hyn yn ymwneud â chefnogaeth yn y gymuned, ym mha bynnag gymuned ydyw. Mae hyn yn ymwneud â chael y gefnogaeth honno allan o'r ysbytai, gan sicrhau ein bod ni'n deall nad yw pobl, yn gyffredinol, eisiau mynd i'r ysbyty—maen nhw eisiau cael eu cefnogi yn eu cymunedau. Dyna beth rydyn ni'n ceisio ei wneud gyda hon.

O ran hyrwyddo swyddi, ydw, rwy'n credu bod hynny'n deg. Mae angen i ni weithio gyda'n gilydd i geisio hyrwyddo'r swyddi hyn, a hefyd gyda Gweinidog yr Economi, jest i wneud yn siŵr bod pobl yn gwybod beth sydd allan yna. Mae'n anhygoel cyn lleied o bobl sy'n gwybod pa swyddi sydd ar gael, felly mae yna waith i'w wneud. Fodd bynnag, mae gan AaGIC borth gwych iawn ar hyn, lle gallwch chi fynd i mewn ac mae'n fath o fersiwn 3D—gallwch fynd i mewn a chael profiad o sut beth yw gwneud swyddi gwahanol yn y GIG. Byddwn i'n eich annog i fynd i gael golwg ar hwnnw.

17:25
7. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cyfrifiad 2021—Y Canlyniadau o ran y Gymraeg

Symudwn ymlaen yn awr i eitem 7, datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar gyfrifiad 2021 a'r canlyniadau o ran y Gymraeg. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi wedi dweud yn barod fod penawdau’r cyfrifiad yn siomedig, ac nad dyna roedden ni'n gobeithio gweld. Wedi dweud hynny, mae'n bwysig nodi bod mwy i'r stori na jest y pennawd, ac mae yna fwy i bolisi iaith na jest y cyfrifiad.

Yn gyntaf i gyd, gadewch i ni atgoffa'n hunain o'r canlyniadau. Ar ddiwrnod y cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, roedd tua 538,000 o breswylwyr arferol Cymru tair oed ac yn hŷn wedi nodi eu bod nhw'n gallu siarad Cymraeg. Mae hynny jest o dan 18 y cant o'r boblogaeth. Ond mae hwnna bron i 24,000 yn llai o bobl nag yng nghyfrifiad 2011. O ran plant tair i 15 oed, roedd yna leihad o tua 6 phwynt canran yn y gyfran a gafodd ei nodi eu bod nhw'n medru'r Gymraeg. Ond yn yr un cyfnod, roedd twf o dros 11,000 wedi bod ers cyfrifiad 2011 yn y niferoedd mewn addysg cyfrwng Cymraeg.

Mi oedd yna gynnydd bach yn yr oedolion iau sy'n medru'r Gymraeg—hynny yw y grŵp oedran 16 i 44—o 17.2 y cant yn 2011 i 17.9 y cant yn 2021, ac mae yna fwy o ddata ar y ffordd. Bydd hwn yn cynnwys gwahanol lefelau daearyddol, data am ethnigrwydd, a syniad o faint o blant sy'n gallu siarad Cymraeg mewn cartrefi lle mae yna oedolion sy'n gallu siarad Cymraeg hefyd—trosglwyddo'r Gymraeg rhwng y cenedlaethau, i ddefnyddio'r term technegol. Rŷn ni'n gobeithio y bydd y data newydd yma yn cael ei ryddhau o fewn y misoedd nesaf, a dwi'n cael ei weld e ar yr un pryd â phawb arall—dwi ddim yn ei gael e unrhyw funud ynghynt, yn union fel roedd hi yn nôl ym mis Rhagfyr. Dyma ni wedi cael cyfle cychwynnol, felly, i gnoi cil ar y canlyniadau. Y peth sy'n gyfan gwbl amlwg yw bod angen i ni edrych yn fanwl iawn ar y grŵp oedran tair i 15 oed. Heb os, fe fydd angen dadansoddiadau pellach, a byddwn ni'n gweithio ar hyn drwy gydol y flwyddyn.

Mae’n werth nodi, wrth i ni edrych ar wahanol ganlyniadau a gwahanol arolygon ar y Gymraeg, ein bod ni'n gweld eu bod nhw'n dweud pethau gwahanol wrthym ni, ac mae angen i ni wybod pam mae hynny. Mae'r arolwg blynyddol diweddaraf o'r boblogaeth yn dangos bod bron i 900,000 yn gallu siarad Cymraeg, mewn cymhariaeth â'r 538,000 mae cyfrifiad 2021 yn ei nodi. Mae'n harolwg cenedlaethol ni yn dangos cynnydd sylweddol yng nghanran yr oedolion 16 mlwydd oed neu'n hŷn sydd â rhywfaint o allu i siarad Cymraeg. Pam? Mae cwestiwn y cyfrifiad yn eithaf binary a moel, a dwi'n nabod lot o bobl—fel chi, siŵr o fod, hefyd—sy'n dweud wrthyf i, yn Gymraeg, nad ydyn nhw'n ddigon hyderus i dicio bocs Cymraeg y cyfrifiad.

Mae siaradwyr newydd yn hollbwysig i ddyfodol ein hiaith ni. Byddwn i'n hoffi gweld cydnabyddiaeth bod siaradwyr goddefol yn rhan bwysig o'r ateb ar gyfer y dyfodol, sy'n golygu mwy o sgyrsiau dwyieithog a newid diwylliant. Rŷn ni'n adeiladu ar ddegawdau o orfod dewis rhwng Saesneg a Chymraeg lle mai'r realiti i'r rhan fwyaf ohonom ni ydy bywydau dwyieithog. Mae'r Prif Weinidog wedi ysgrifennu at yr ystadegydd gwladol yn gofyn iddo fe edrych ar sut a pham mae gwahanol arolygon am yr un testun yn gallu dangos canlyniadau sy'n amrywio. Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio er mwyn deall mwy am hyn. Mae bwlch rhwng yr arolygon; dyw hynny, a dweud y gwir, ddim yn anarferol. Yr hyn sydd yn anarferol yw i'r naill un fynd am i fyny, a’r llall fynd am i lawr. Pan gawn ni’r ateb, a phan gawn ni weddill data’r cyfrifiad, fe wnawn ni ddiweddaru taflwybr ystadegol—y trajectory—ar gyfer 'Cymraeg 2050', yn union fel y gwnaethon ni addo nôl yn 2017.

17:30

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae’n eithaf naturiol, wrth gwrs, i bobl holi beth yw goblygiadau’r canlyniadau diweddaraf yma i’n gwaith ni. Yn gyntaf i gyd, dwi am i chi fod yn siŵr ein bod ni'n dal wedi ymrwymo’n llwyr i filiwn o siaradwyr a hefyd i ddyblu’r nifer ohonon ni sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd. Ac mae’n bwysig nodi hefyd bod 'Cymraeg 2050' ond wedi bod yn ei lle am lai na phedair blynedd adeg cynnal cyfrifiad 2021. Mae hefyd yn bwysig pwysleisio bod cyfnod sylweddol o’r cyfnod yna wedi cael ei darfu gan bandemig COVID-19. Er gwaethaf y pandemig, rŷn ni wedi gweithio’n galed i greu sylfaen angenrheidiol i’r strategaeth, yn arbennig ym myd addysg, a byddaf i’n gwneud datganiad bellach am addysg a’r Gymraeg yr wythnos nesaf.

Er mwyn cyrraedd y nod, mae wedi bod yn glir erioed bod angen lot mwy na jest ni yn Llywodraeth Cymru. Mae angen i ni i gyd—penaethiaid ysgolion, busnesau, gwleidyddion, awdurdodau lleol, arweinwyr sefydliadau—gymryd mwy o gyfrifoldeb am Gymraeg 2050 a’i gwneud hi’n fwy o flaenoriaeth fel rhan ganolog o bopeth rŷn ni'n ei wneud. Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ond felly hefyd y cyfrifoldeb am ei dyfodol hi. Mae hynny’n golygu efallai fod angen newid y ffordd mae’r 'ni' ehangach yn gweithio a’r pethau rŷn ni’n eu gwneud. Ac yn ystod y misoedd sy’n dod, fe fyddaf i’n gwneud tipyn o bethau fy hun. Er enghraifft, dwi am edrych yn galed ar sut mae’r Gymraeg yn gweithio yn ein hysgolion Saesneg ni.

Mae dirywiad pellach yn ein cymunedau Cymraeg. Mae’r comisiwn cymunedau Cymraeg, a wnes i lansio fis Awst diwethaf, wedi estyn galwad am dystiolaeth. Mae gen i ddiddordeb cael gwybod beth yw’r hyn sy'n dod i law. A dwi’n arbennig o awyddus i ddeall mwy am ddiboblogi a'r normal newydd, ac a oes yna gyfleoedd newydd i’r ardaloedd hynny ffynnu mewn ffordd wahanol. Mae mentrau cymdeithasol yn ffordd i gymunedau afael yn eu dyfodol ac mae yna enghreifftiau gwych yn barod. Dyna pam dwi wedi rhoi £400,000 eleni i fudiad Cwmpas weithio mewn partneriaeth gyda ni i gynyddu nifer y rhain sy’n gweithio drwy’r Gymraeg.

Maes arall sy’n bwysig i ni yw’r oedran sero i bedair oed. Mae tyfu addysg cyfrwng Cymraeg yn mynd i barhau i fod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon, felly mae gweithio gyda theuluoedd i roi llwybr i bawb i mewn i’r Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar yn hollbwysig i ddyfodol y Gymraeg. Ond mae’n werth nodi hefyd fod y grŵp yma o blant yn mynd yn llai o ran nifer, felly mae’n bwysig i ni wneud yn siŵr bod cynifer ag sy’n bosibl yn manteisio ar yr hyn sydd ar gael.

Bydd cohort arall ar ein rhaglen Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog. Mae’r rhaglen yma i uwch arweinwyr drafod sut mae gwneud 'Cymraeg 2050' yn eu sefydliadau nhw. Mae hyn am werthoedd personol a sefydliadol, a sut mae dod â chalonnau a meddyliau gyda ni. Mae hefyd yn golygu gwrando’n ddwfn ar straeon pobl am eu profiad eu hunain o’r Gymraeg. Mae cynllunio gweithlu digonol i alluogi defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle yn hollbwysig, ac yn bwysicach fyth i’r bobl ifanc sy’n dod drwy’r system addysg. Bydd ein partneriaid ni mor bwysig ag erioed i sicrhau bod cyfleoedd i ni i gyd ddefnyddio'r Gymraeg. Dyna pam dwi newydd gymeradwyo dros £260,000 yn ychwanegol iddyn nhw yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. 

Hoffwn i, dros y flwyddyn nesaf, ddeall mwy am y meysydd canlynol: yn gyntaf, pam nad yw cynifer o blant sy’n derbyn addysg Gymraeg yn hyderus i’w defnyddio hi ar ôl gadael ysgol? Ai diffyg cyfle yw’r broblem neu ffurfioldeb iaith addysg, neu’r ddau, efallai? Ond, i fynd nôl at ffurfioldeb y Gymraeg, mae hwn yn rhywbeth dwi eisiau edrych arno fe’n fwy manwl. Mae sawl un wedi codi gyda fi bod y Gymraeg wedi troi i fod yn iaith cyfieithu, a ddim iaith sy’n eu cyffwrdd nhw fel pobl. A dwi eisiau gwybod beth ymhellach sydd gan dechnoleg i’w gynnig i wneud y Gymraeg yn haws ei defnyddio ac i wneud y Gymraeg yn gyfredol i blant a phobl ifanc. Dwi felly am gadarnhau y byddaf i’n parhau i fuddsoddi yn y maes pwysig yma, a dwi am weld ein cyfrifiaduron yn gallu bod yn siaradwyr Cymraeg yn y dyfodol.

Felly, fy neges heddiw yw bod rhaid i ni barhau i fod yn optimistaidd am ein hiaith ni. Dwi’n teimlo bod siom y canlyniadau wedi sbarduno brwdfrydedd newydd i weithio mewn ffyrdd gwahanol er lles y Gymraeg. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac eraill wedi dangos yn glir bod y Gymraeg yn rhywbeth sy’n gallu dod â ni at ein gilydd, pa faint bynnag ohoni hi rŷn ni’n ei siarad. Mae mwy o falchder yn ein hiaith a’n hunaniaeth ni nag erioed o’r blaen, a dwi’n hyderus bod modd i ni gynyddu nifer ein siaradwyr, bod modd i bawb fod ar daith iaith a bod modd i ni roi cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob rhan o’n bywydau bob dydd.

17:35

Diolch i'r Gweinidog am roi golwg o'r datganiad imi o flaen llaw—diolch yn fawr. Roedd canlyniadau cyfrifiad 2021 yn siom, o ystyried uchelgais y Llywodraeth Cymru hon: miliwn o siaradwyr erbyn 2050, rwy'n ei gweld fel setback sylweddol bod Cymru wedi mynd yn ôl ar gyrraedd ein targed. Felly mae'n bwysig nad ydyn ni'n gadael i'r setback yma danseilio'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni.

Nawr, rydym ni i gyd yn ymwybodol iawn o'r heriau o fewn recriwtio athrawon, yn benodol wrth sicrhau ein bod yn recriwtio digon o addysgwyr Cymraeg eu hiaith i addysgu yn ein hysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog—pwynt yr wyf yn meddwl sy'n cael ei amlygu gan ddata'r cyfrifiad. Mae canran uchel o athrawon sy'n siarad Cymraeg yn nesáu at oedran ymddeol tra bod rhai yn dewis gwneud y penderfyniad i adael y proffesiwn yn gynnar. O ystyried nad oes digon o athrawon newydd gymhwyso Cymraeg eu hiaith yn ymuno â'r proffesiwn, mae hyn yn fudiad sylweddol o'n hymdrechion i gyflawni 'Cymraeg 2050'. Yn ôl data Llywodraeth Cymru ei hun, er mwyn cyrraedd targed 'Cymraeg 2050' a gweithredu pob cynllun strategol Cymraeg mewn addysg mewn ffordd effeithiol, dylai Llywodraeth Cymru fod yn recriwtio a hyfforddi 550 o athrawon y flwyddyn. Mewn gwirionedd, mae'r ffigwr hwn yn 250—300 o athrawon yn brin bob blwyddyn. O ystyried hyn, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod sut mae'r Gweinidog yn bwriadu mynd i'r afael â'r diffyg hwn. Rwy'n siŵr ei fod yn cytuno â mi bod angen gwelliant mawr mewn polisïau recriwtio pe baem ni i gael unrhyw obaith o ran cyrraedd ein targedau.

Yn ogystal â hyn, gwyddom hefyd na fydd addysg Cymraeg a dwyieithog yn unig yn cyflawni niferoedd y siaradwyr Cymraeg sydd eu hangen i gyrraedd targed 2050. Fel y dywedais yn flaenorol, dylen ni ddefnyddio pob offeryn sydd ar gael i ni er mwyn cyrraedd y targed, ac felly, o ystyried y cyfleoedd sydd ar gael i ni o fewn addysg cyfrwng Saesneg, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno bod ganddyn nhw rôl gynyddol bwysig i'w chwarae. Mae'r drefn newydd o gategoreiddio ysgolion a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn gofyn i bob ysgol cyfrwng Saesneg ddarparu 15 y cant o weithgareddau dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, sef cynnydd ar y lefelau presennol, ond nid oes gan ddigon o athrawon y lefel iawn o sgiliau iaith Gymraeg i gyflawni'r cynnydd hwn, ac adlewyrchwyd hyn o fewn data'r cyfrifiad. Yn y meysydd lle cyflwynir addysg yn bennaf trwy'r Saesneg, yna gwelodd y nifer a gafodd eu defnyddio yn yr iaith Gymraeg ddiffygion sylweddol.

Mae'n rhaid inni fod yn glir bod y problemau ynghylch y gweithlu addysg yn gymhleth iawn ac mae angen cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, prifysgolion, colegau ac awdurdodau lleol i'w datrys. Un maes lle gallai Llywodraeth Cymru leddfu'r broblem hon yn sylweddol yw o fewn ymgynghoriad presennol sy'n asesu'r meini prawf o ran achrediad addysg gychwynol i athrawon, AGA, yng Nghymru, a daeth yr ymgynghoriad i ben yr wythnos ddiwethaf. Mae gan bartneriaethau addysg gychwynnol athrawon y rôl o ddatblygu gweithlu addysg ddwyieithog, ac felly mae meini prawf i'w achredu yn ffordd glir iawn i Lywodraeth Cymru nodi ei disgwyliadau am y Gymraeg i ddarparwyr AGA. Mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod meini prawf sydd wedi eu hadnewyddu yn mynd yn ddigon pell ac yn gyson â pholisi cyfredol y Llywodraeth o gwmpas y Gymraeg ac addysg Gymraeg—ffordd glir ac ymarferol i'r Llywodraeth ddangos y polisi o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn darged ac yn uchelgais.

Pwynt olaf ar y cyfrifiad: o ystyried bod dau gyfrfiad i ddod cyn y flwyddyn 2050, hoffwn wybod os yw'r Llywodraeth wedi cyfrifo beth ddylai cyfanswm y siaradwyr Cymraeg fod ar gyfer y ddau gyfrifiad hynny er mwyn sicrhau ein bod ar y llwybr cywir i filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Cytunaf â chi, Weinidog, mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, fel y mae'r cyfrifoldeb am ei dyfodol, ond eich Llywodraeth chi sy'n gosod y polisïau ar gyfer ei dyfodol. Felly, pob lwc. Diolch, Llywydd.

17:40

Diolch i Samuel Kurtz am yr amryw gwestiynau. Fe wnaf i fy ngorau i ddelio gyda'r rhan fwyaf ohonyn nhw, os caf i. Dwi ddim yn mynd i ailddweud yr hyn ddywedais i ynglŷn â'r pwysigrwydd o edrych ar y data yn ei gyd-destun ac edrych ar y ffynonellau eraill o ddata hefyd wrth ddadansoddi lle'n union mae'r rhifau siaradwyr ar hyn o bryd. Dwi ddim fy hunan yn y feddylfryd o edrych ar hyn fel setback. Mae dewis gyda ni: naill ai i edrych arno fe fel setback neu edrych arno fel sbardun. Dwi'n credu, ar y cyfan, fod pobl wedi edrych arno fe fel sbardun. Mae'n sicr bod y ffigurau'n siomedig, ond y dasg nawr yw edrych tua'r dyfodol ac edrych ar beth mae hynny'n dweud wrthym ni, ac ailymrwymo ar draws y genedl. 

O ran y gweithlu addysg, mae'r Aelod yn gwybod fy mod i'n gweld hwn yn faes heriol iawn. Mis Mai y llynedd, fe wnaethom ni gyhoeddi 'Cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg'. Mae'r cynllun hwnnw'n nodi'r camau y byddwn ni'n cymryd mewn partneriaeth gydag amryw o rai eraill i gynyddu nifer yr athrawon, ond hefyd arweinwyr a chynorthwywyr yn y sector cyfrwng Cymraeg, a hefyd—ac mae hyn yn bwysig yng nghyd-destun rhan arall cwestiwn yr Aelod—i ddatblygu sgiliau Cymraeg pob ymarferydd. Mae'r cyfnod 10 mlynedd hwnnw yn cyd-fynd â'r cylch 10 mlynedd ar gyfer y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg newydd, a bydd arian ychwanegol yn cael ei fuddsoddi dros y tair blynedd nesaf i weithredu'r cynllun 10 mlynedd. Felly, mae hynny'n arwydd clir o'n hymrwymiad ni i fod yn greadigol ac yn uchelgeisiol. Byddwn ni'n ailedrych ar y lefelau recriwtio yn gyson ac yn adrodd yn swyddogol i'r Senedd hon bob dwy flynedd, ond bydd y data ar gael, wrth gwrs, yn fwy aml na hynny.

O ran dysgu'r Gymraeg yn y system addysg Saesneg, mae'r Aelod yn gwybod ein bod ni wedi cyhoeddi fframwaith ar gyfer hyn yn ddiweddar. Fe wnaeth e sôn am gategoreiddio. Mae hynny'n ffordd bwysig iawn o gynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg yn y system addysg Saesneg. Am y tro cyntaf, mae gyda ni, fel rhan o'r cwricwlwm newydd, ei fod e'n ofynnol fod y Gymraeg ym mhob ysgol. Felly, mae hynny'n gam mawr o'n blaenau ni. Rwy'n credu mai'r peth pwysig, y cyfle sydd gyda ni, yw uno'r system Gymraeg a Saesneg fel bod gan bob plentyn sy'n mynd drwy'r system, pa bynnag un, gyfle teg i adael y system yn medru'r Gymraeg. Dyna'r her. Nid ein bod ni'n edrych arno fel bod y ddwy system ar wahân, ond ei bod hi'n un system sy'n darparu hynny i bob dysgwr. Mae angen sicrhau ein bod ni'n deall sgiliau'r gweithlu yn well nag yr ŷm ni ar hyn o bryd, gan gynnwys sgiliau goddefol a sgiliau pobl sy'n medru'r Gymraeg ond yn ddihyder yn ei defnyddio hi yn eu gwaith. 

Mae'r pwynt mae'r Aelod yn ei wneud am addysg gychwynnol yn bwysig. Rwyf wedi bod yn trafod hyn gyda'r partneriaethau wrth inni edrych ar y cohort o fyfyrwyr sydd gyda nhw ar hyn o bryd. Mae edrych ar y criteria ar gyfer cymhwyso yn rhan o hynny, fel mae'r Aelod yn awgrymu.

Yn olaf, os caf i, o ran y taflwybr ar gyfer 2050 yn gyffredinol, rŷn ni wedi ymrwymo i ailedrych ar hwnnw yn sgil y canlyniadau. Roedden ni'n bwriadu gwneud hynny beth bynnag, felly byddwn ni'n gwneud hynny dros y flwyddyn nesaf.

Diolch, Weinidog, am y datganiad pwysig hwn heddiw. Dwi'n derbyn y pwynt rydych chi'n ei wneud yn llwyr o ran rydyn ni i gyd yn adnabod pobl sydd ddim wedi ticio'r bocs o ran y Gymraeg. Ond, mae'n rhaid i mi ddweud, dwi yn pryderu o'ch clywed chithau, amryw o weithiau rŵan, a'r Prif Weinidog—fe wnaethoch chi ddefnyddio’r geiriau 'jest' y cyfrifiad. Ond, yn amlwg, mae'r cyfrifiad yn eithriadol o bwysig. Yn 2011, dywedodd y Llywodraeth, yn sgil y canlyniadau hynny, y byddai canlyniadau'r cyfrifiad yn llywio eich gwaith ar yr iaith Gymraeg nawr ac yn y dyfodol.

Yn sicr, dwi ddim eisiau i ni roi yr argraff fod y cyfrifiad ddim yn arf pwysig tu hwnt. Os ydyn ni'n meddwl bod 96.4 y cant o breswylwyr wedi ymateb o gymharu efo'r 12,000 sydd yn cymryd rhan yn arolwg cenedlaethol Cymru, efallai fod yna gwestiynau i'w gofyn o ran yr arolwg cenedlaethol a'r ffurf hwnnw, yn fwy, felly, na'r cyfrifiad. Beth fyddwn i'n hoffi gweld ydy ein bod ni ddim yn difrïo neu diystyru'r canlyniadau hyn, ond ein bod ni'n cymryd y rhybudd amlwg hwnnw, y rhybudd cawsom ni yn 2011, ac mi oedd y Llywodraeth yn cydnabod pa mor bwysig oedd y cyfrifiad o ran hynny. Oherwydd, yn amlwg, mae'r cyfrifiad yn edrych i sicrhau bod yr ystadegau hynny yn edrych ar yr holl ddata sydd ar gael er mwyn rhoi'r sicrwydd bod yr ystadegau hyn o'r ansawdd a'r gwerth gorau posib i ddefnyddwyr. Felly, gaf i ofyn pam, felly, mae yna newid wedi bod ers 2011 i rŵan o ran sut mae Llywodraeth Cymru yn ystyried canlyniadau'r cyfrifiad, a pha reswm sydd yna i gwestiynu'n arbennig, felly, y data y tro yma? Buaswn i jest yn hoffi deall, yn enwedig os oedd y pwyslais mor bwysig yn y gorffennol, pam y newid rŵan, os ydych chi'n cyfeirio at sampl o 12,000 yn yr arolwg cenedlaethol mae Llywodraeth Cymru yn ei arwain arno fo.

Ond dydy hyn ddim yn ein helpu ni o ran—. Rydyn ni'n gwybod o brofiadau pobl rydyn ni'n siarad efo nhw. Mi oedd yna ddisgyblion o ysgol cyfrwng Saesneg mewn heddiw, yn 13 a 14 oed, yn dweud, 'Rydyn ni'n barod wedi colli'r cyfle o ran cael y Gymraeg.' Mae'r rhain yn ein system addysg ni ers i'r Senedd hon fodoli, wedi mynd i'r ysgol uwchradd ers i'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg fodoli, felly rydyn ni'n gwybod am bobl sydd yn colli allan ar y cyfleon yn ein system addysg ni rŵan. Roeddwn i'n falch o'ch clywed chi'n dweud bod hwnna'n flaenoriaeth i chi, wrth ystyried yr ymateb—beth ydy profiadau pob disgybl yng Nghymru, pa bynnag ysgol maen nhw ynddi? Dwi'n sicr yn meddwl bod hwn yn gwestiwn oedd yn cael ei ofyn ddegawd yn ôl, ond, os ydyn ni o ddifrif am sicrhau bod y targed yna o filiwn o siaradwyr yn darged, yn hytrach na dim ond uchelgais, yna mae'n rhaid inni weld y gweithredu. Ac yn sicr, dwi ddim eisiau gweld y targed hwn yn digwydd yn yr un modd ag yr oedd y targed o ddileu tlodi plant erbyn 2020, lle mae gennym ni'r sefyllfa bod tlodi plant yn uwch nag erioed. Mae'n rhaid i hwn fod yn darged. Dyna pam rydyn ni wedi bod yn cael y cynlluniau strategol yma. Ac mae yna dargedau yn y rheini sydd wedi cael eu colli dro ar ôl tro, ac mi oedd Sam Kurtz yn berffaith iawn o ran y targed yna. Dim jest y canlyniadau hyn sydd yn bryderus, ond y targedau sydd o dan y strategaeth miliwn o siaradwyr sydd yn cael eu colli yn barod, hyd yn oed ym mlynyddoedd cynnar hynny. 

Mae'r pwynt o ran nifer yr athrawon yn un eithriadol o bwysig oherwydd—. Rydyn ni wedi cwestiynu hyn nifer o weithiau ac mae o'n gwestiwn eithriadol o bwysig o ran, os ydyn ni'n dweud bod angen hyfforddi tua 550 bob blwyddyn, a'n bod ni'n cyrraedd 250, yna, wrth gwrs, dydyn ni ddim yn mynd i gyrraedd y targed—mae hynny'n berffaith amlwg. Pan oeddwn i'n gynghorydd ar gyngor Rhondda Cynon Taf, roeddwn i'n gweld flwyddyn ar ôl blwyddyn ein bod ni'n methu nifer o'r targedau, os ydyn ni am gyrraedd y filiwn o siaradwyr, o ran y sir o ran nifer y disgyblion mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Felly, dwi'n meddwl bod yn rhaid i'r ymyriadau rydyn ni'n eu gwneud fod yn rhai llawer mwy radical oherwydd, yn amlwg, os ydyn ni'n gwybod bod y targedau, ein bod ni'n mynd ar ei hôl hi'n barod, wel sut mae hynny wedyn yn cyd-fynd â chanlyniadau'r cyfrifiad ac ati?

Yr hyn hoffwn i ei ofyn hefyd ydy—. Rydych chi'n cyfeirio at ymdeimlad, ac mae'n eithriadol o bwysig bod yr ymdeimlad a'r balchder cenedlaethol yma yn rhan o hynny, ond dydy hynny ddim yn mynd i gadw'r iaith Gymraeg yn fyw, ac mae angen sicrhau bod y cyfleoedd hynny y tu hwnt i'r dosbarth. Beth sydd yn fy mhryderu i ydy, efo'r argyfwng costau byw, mai dyna'r math o weithgareddau rydyn ni'n mynd i weld yn cael eu colli os nad oes defnydd ohonyn nhw, os dydy cynghorau sir ac ati ddim yn gweld eu gwerth nhw, neu'n meddwl eu bod nhw'n wasanaethau sydd ddim yn statudol. Dwi'n meddwl bod yn rhaid inni edrych o ddifrif. 

Mi oeddech chi'n sôn yn eich datganiad ynglŷn â rôl pawb, ond, yn amlwg, mae yna rôl flaenllaw i'r Llywodraeth o ran hyn, gan darged y Llywodraeth. Felly'r hyn byddwn i'n hoffi ei gael yn glir heddiw ydy beth ydy'r newid o ran agwedd tuag at ystadegau'r cyfrifiad. Pam nid jest y cyfrifiad rydych chi'n cyfeirio ato fo? A sut o ddifrif ydyn ni am sicrhau ein bod ni ddim yn colli'r targedau hynny, ein bod ni'n cydweithio efo'n gilydd, yn lle dod at ein gilydd mewn 10 mlynedd i ddweud bod angen gweithredu radical pan fo'r cyfle gennym ni rŵan? 

17:45

Ambell gwestiwn teg fanna. Y peth i gadarnhau ydy dydyn ni ddim wedi newid o gwbl ein safbwynt tuag at y cyfrifiad—hwnnw sydd yn dangos inni'r ffigurau o fewn y strategaeth. Rŷn ni wedi dweud hwnna ar y cychwyn cyntaf, a dyw hynny ddim wedi newid, ond gallwch chi ddim jest edrych ar hyn yn unllygeidiog. Mae dwy ffynhonnell ddata sydd yn dweud pethau gwahanol iawn wrthych chi—a, gyda llaw, nid Llywodraeth Cymru sydd yn arwain ar hyn; mae'r ONS yn gwneud y ddau. Dyna pam rôn i wedi ysgrifennu at yr ystadegydd gwladol i ofyn iddyn nhw i'n helpu ni ddeall y gwahaniaeth rhwng y ddau er mwyn edrych ar ymyriadau polisi sydd yn ymarferol ac yn uchelgeisiol yn y ffordd rwy'n cytuno gyda'r Aelod yw'r ateb ar gyfer hyn. Mae'n rhaid edrych ar y cyd-destun yn llwyr; dyw jest un darn o ddata ddim yn ddigonol. Ond jest i fod yn glir, dŷn ni ddim yn diystyru beth mae’r cyfrifiad yn ei ddweud, ond mae’r ffaith ei fod wedi digwydd yn yr amser mae wedi digwydd, yng nghanol COVID, yn amlwg yn rhywbeth na allwch chi jest ei anwybyddu. Allwch chi byth fod yn unllygeidiog am hyn. Mae’n rhaid edrych ar y cyd-destun i gyd. Byddwn ni’n edrych ar y taflwybr eto yn sgil beth rŷn ni wedi'i weld yn y cyfrifiad.

O ran yr ymyriadau rŷch chi’n sôn amdanyn nhw, mae gyda ni ddewis, os hoffech chi—dewis ar un lefel, efallai, sy’n ddewis gwleidyddol. Hynny yw, mae ystod o bethau y gellid wedi eu dal yn ôl fel ymateb i’r cyfrifiad rŷn ni wedi bod yn eu gwneud dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwyf wedi sôn am rai ohonyn nhw yn barod heddiw—y cynllun iaith strategol, y cynllun gweithlu addysg, a lot o bethau eraill o ran gwersi am ddim i bobl. Gallem ni fod wedi dal y rheini nôl, ond, ar ddiwedd y dydd, petasai’r ffigurau yma wedi dangos cynnydd sylweddol, byddai dal angen gwneud y pethau yna a'u gyrru yn eu blaenau. Felly, dyna’r penderfyniad strategol i’w gymryd. Mae angen cynyddu’r nifer hyd yn oed o’r 900,000 sy’n cael ei ddangos yn yr adolygiad. Felly, dyna’r dewis y gwnes i—bwrw ati yn hytrach nag aros, ac rwy’n sicr eich bod chi’n cytuno mai dyna’r peth iawn i’w wneud, wrth gwrs.

Ond mae yna bethau i’w dysgu sy'n dod allan o’r cyfrifiad. Rwyf wedi sôn amdanyn nhw eisoes heddiw. Mae eisiau edrych o ddifrif ar gyfraniad dysgu Cymraeg yn y system addysg Saesneg. Rwyf eisiau edrych ar y rhanbarthau hynny lle mae’r cwymp wedi bod yn sylweddol, fel sir Gaerfyrddin, sydd, am yr ail dro, dros ddau gyfrifiad, yn dangos gostyngiad. Mae hynny yn wir yn peri gofid. Felly, mae angen edrych ar lefel gymunedol, neu fwy o ymchwil gymunedol, i weld beth yn union sy’n digwydd. Rwy’n bwriadu gwneud cyfres o gyfarfodydd lleol i edrych i mewn i'r ffactorau lleol sydd wedi bod, efallai, yn berthnasol i hyn hefyd.

Ond rwyf wedi sôn mewn cyd-destun arall, o flaen y pwyllgor yn ddiweddar, ein bod ni’n edrych eto ar y cynllun grantiau i weld ydy e’n wir yn gyrru’r nod sydd gennym ni. Felly, dwi ddim yn mynd i jest ddweud, ‘Wel, mae gennym ni un set o ffigurau sy’n dangos cynnydd, felly dyna ni’; mae angen gweithio a bwrw yn ein blaenau. Mae gyda ni bethau rŷn ni wedi’u gwneud dros y flwyddyn ddiwethaf, ond mae ystod o bethau mwy y gallen ni eu gwneud, ac rŷn ni’n bwriadu eu gwneud, dros y flwyddyn nesaf hefyd.

17:50

Mae'r cyfrifiad yn fesur gwael iawn o nifer y siaradwyr Cymraeg. Wrth gwrs, yn y cyfrifiadau cynnar, y cwestiwn oedd 'Cymraeg, Saesneg neu'r ddau'. Mae'n hunan-ddewis. Mae rhieni hefyd yn gwneud penderfyniad ar ran eu plant, felly nid yw'n ddull cywir o gasglu gwybodaeth. Rwy'n siarad Cymraeg bob dydd, ond yn anaml iawn mewn dadleuon, ac rwyf dim ond yn siarad â phobl rwy'n ffyddiog na fyddan nhw'n ceisio fy maglu i gyda fy niffyg rhuglder.

Dwi ddim yn hyderus yn siarad Cymraeg.

Fe wnes i dicio'r blwch 'siarad Cymraeg', ond gallwn i fod wedi ticio'r blwch 'nid wyf yn siarad Cymraeg'. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi, mewn cyfrifiadau yn y dyfodol, ar ôl 'Ydych chi'n siarad Cymraeg?', dylech fod â chwestiwn yn gofyn, 'Pa mor aml? A yw'n ddyddiol, fwy nag unwaith yr wythnos neu fwy nag unwaith y mis?' Rwy'n disgwyl am y data ychwanegol fydd yn nodi'r ardaloedd lle mae'r rhan fwyaf o bobl yn siarad Cymraeg. Lle mae mwy na thri o bob pedwar o bobl yn siarad Cymraeg, fel Caernarfon, mae'n dod yn iaith sy'n cael ei defnyddio mewn cymdeithas, mewn siopau ac mewn tafarndai. Ydy'r Gweinidog yn cytuno â mi, gyda thwf mewn Cymraeg achlysurol mewn ysgolion cynradd, y gellir dweud bod bron pob plentyn mewn ysgolion cynradd yn siarad rhywfaint o Gymraeg? Fydd y cyfrifiad ddim yn nodi hynny, ond ydych chi'n credu y dylem ni fod yn dod i wybod mwy am safon Cymraeg plant mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg sy'n codi llawer iawn o Gymraeg cymdeithasol?

Diolch i'r Aelod am hynny. Mae hynny’n bwysig; mae jest yn taflu rhywfaint o oleuni, rwy’n credu, ar y sgwrs rwyf newydd ei chael gyda Heledd Fychan. Mae’n rhaid edrych ar a deall beth mae’r ffigurau yma yn ei ddweud wrthym ni. Rwyf yn cytuno, os ŷch chi’n gofyn y cwestiwn ‘Ydych chi’n medru’r Gymraeg?’ ar yr un llaw, a’r llall, ‘Faint o’r Gymraeg ydych chi’n gallu siarad?’ rŷch chi’n debygol o gael canlyniadau gwahanol. Mae cynnydd wedi bod yn nifer y plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg, ac mae’r ffigurau hynny’n uwch na nifer y plant yr oedd eu rhieni yn datgan eu bod yn medru’r Gymraeg. Felly, mae rhywbeth yn sicr y mae’n rhaid edrych arno fe yn hynny o beth. Rwyf yn cytuno bod yr adolygiad blynyddol yn gofyn cwestiynau tebycach i ‘Ba mor aml ydych chi’n siarad y Gymraeg?’, ac felly mae hynny’n debygol o ddangos darlun mwy cymhleth, rwy’n credu.

Os edrychwch ar ble mae’r ffigurau o ran tair i 15 oed wedi gostwng, mae yn yr ardaloedd hynny o Gymru lle mae dwysedd y siaradwyr ar ei hisaf, efallai, er enghraifft, llefydd fel Torfaen, Casnewydd, Blaenau Gwent, ac rwy’n credu bod hynny yn gyd-destun pwysig hefyd i ymwybyddiaeth neu ganfyddiad rhieni am allu eu plant i siarad Cymraeg mewn cyfnod pan oedden nhw wedi bod allan o’r ysgol am gyfnodau oherwydd COVID. Rwy’n credu bod jest yn rhaid i ni ddeall y cyd-destun i hwnnw hefyd.

Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae canlyniadau’r cyfrifiad yn dangos dirywiad yn y ganran o siaradwyr Cymraeg yn bron bob ardal, gan gynnwys ar gyfer pob oed, ac ymhlith plant tair i 15 oed ym mhob sir yn fy rhanbarth i. Felly, mae’n hollbwysig bod yr amrywiaeth o fentrau lleol sy'n hybu’r iaith, yn enwedig rhai sydd wedi derbyn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, yn parhau i gael eu cefnogi, fel gwnaethoch chi sôn.

Mae Tŷ’r Gwrhyd, fel rŷch chi'n gwybod, yn ganolfan Gymraeg ym Mhontardawe, a sefydlwyd â chefnogaeth grant buddsoddi cyfalaf Bwrw Mlaen, ac mae'n enghraifft dda o’r hyn sy'n bosib i sicrhau cefnogaeth anffurfiol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg i blant ac oedolion a sicrhau defnydd cymunedol yr iaith, ac yn gwneud y gwaith hollbwysig yna o godi hyder y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Mae'r ganolfan, trwy ei siop lyfrau, yn cynhyrchu incwm sy'n cael ei fuddsoddi'n llwyr yn y ganolfan a'i gweithgareddau, gan gynnwys hefyd darparu cyflogaeth i ddau siaradwr Cymraeg lleol, ond dyw’r incwm ddim yn ddigon i gynnal y fenter i’r hirdymor ar ôl i daliadau yr adeilad gyda grant Bwrw Mlaen orffen yn 2026. Beth felly mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi mentrau fel Tŷ’r Gwrhyd, sydd â thrac record llwyddiannus o gryfhau’r Gymraeg ar lefel gymunedol, ond sy'n wynebu dyfodol ansicr yn sgil y wasgfa economaidd fel y darluniwyd gan Heledd Fychan?

17:55

Mae Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot yn un o'r mentrau sydd wedi cael dyraniad cyllideb fel rhan o'r datganiad gwnes i heddiw ar gyfer edrych ar y pwysau cyfredol sydd o ran costau ychwanegol, felly bydd cyllideb bellach yn mynd i'r fenter honno. Roeddwn i yno wythnosau nôl mewn noson ddiddanol iawn gan Cleif Harpwood yn lansio ei lyfr e. Roedd hi'n noson hwylus iawn, ac mae hynny'n enghraifft o'r pethau cymunedol grêt sy'n digwydd gyda'n mentrau ni. Yr her, rwy'n credu, yw ein bod ni'n sicrhau ein bod ni'n symud y lens i ymrymuso cymdeithasol—hynny yw, beth yw rôl y fenter yn creu capasiti yn y gymuned i allu defnyddio'r Gymraeg, a chreu gofodau eraill lle mae'r Gymraeg hefyd yn gallu cael ei defnyddio.

Dyna pam roeddwn i'n falch o allu dyrannu rhyw £400,000 i Cwmpas i allu gweithio gyda'r mentrau i ddatblygu gofodau cymdeithasol Cymraeg. Rŷm ni wedi gweithio gyda phedair menter, rwy'n credu, sydd wedi gwneud hynny o fewn eu strwythurau nhw eu hunain. Mae hynny'n dangos bod creadigrwydd ac arloesi'n digwydd o fewn y sector. Felly, mae'r gwaith mae amryw o fentrau yn ei wneud yn bwysig iawn, ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn ein hymrwymiad ni fel Llywodraeth. 

Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Gweinidog y prynhawn yma, a dwi'n meddwl ei fod e'n bwysig bod y Gweinidog yn ymateb i ganlyniadau'r cyfrifiad a dwi'n falch ei fod e wedi, a dwi'n croesawu'r gweithgareddau mae wedi eu datgan y prynhawn yma. Dwi'n credu ei fod e'n bwysig ei fod e'n ymateb yn y ffordd mae wedi. Mae yna dri pheth hoffwn i ddweud wrtho fe heddiw—tair blaenoriaeth, efallai, yn ffordd well o esbonio fy hun. 

Yn gyntaf, addysg. Rydyn ni wedi trafod addysg yn barod yn y sesiwn yma. Mae addysg yn hollbwysig pan ŷm ni'n dod i sicrhau ein bod ni'n creu siaradwyr newydd, yn rhoi cyfle i bobl sydd yn dod o deuluoedd di-Gymraeg i ddysgu'r iaith a magu hyder yn y Gymraeg, a hefyd dysgu'r plant amboutu'r iaith a rhoi cyfle i blant gael gafael ar yr iaith. So, mae addysg yn hollbwysig. 

Yr ail beth yw cymunedau. Rydyn ni yn gwybod am y pwysau sydd ar y Gymraeg mewn sawl un o'r cymunedau lle mae'r Gymraeg yn draddodiadol wedi bod y brif iaith, yn iaith gref, ac mae'n bwysig ein bod ni'n amddiffyn dyfodol y cymunedau Cymraeg. 

Y trydydd peth—dwi ddim eisiau torri ar draws y Llywydd fan hyn—yw hybu'r Gymraeg, achos mae yna sawl person dwi'n ei adnabod—mae Mike wedi trafod hyn—sydd â'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg ond sydd ddim â'r hyder ambell waith i ddefnyddio'r Gymraeg. Mae yna sawl cyd-destun hefyd lle mae pobl wedi dod i arfer defnyddio'r Saesneg, a dwi yn meddwl bod yn rhaid inni greu y math o ddiwylliant lle mae pobl yn teimlo'n ddigon cyfforddus i ddefnyddio'r Gymraeg lle maen nhw wedi defnyddio Saesneg o'r blaen, ond hefyd rhoi cyfleoedd gwahanol a newydd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg. A dwi'n lot fwy hyderus nag efallai rai pobl yn y Siambr fan hyn, a dwi wedi gweld newid trwy fy mywyd i mewn agweddau tuag at y Gymraeg. Dwi'n hollol sicr ein bod ni'n gallu cyrraedd targed o filiwn o siaradwyr, a hefyd ein bod ni'n gallu creu'r Cymru ddwyieithog mae pob un ohonom ni'n cytuno rydyn ni eisiau ei gweld, ond dydyn ni erioed wedi ei gweld yn y gorffennol. So, daliwch ati, Weinidog—dwi'n hyderus iawn yn eich gallu.

18:00

Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod o ran ei flaenoriaethau. Rŷn ni wedi sôn eithaf lot am addysg, ond jest i wneud dau bwynt am hynny—yn gyntaf, pa mor bwysig yw'r cynllun trochi i ganiatáu bod unrhyw un sy'n symud i Gymru sydd eisiau cael mynediad at addysg Gymraeg yn llwyddo i wneud hynny. Mae gyda ni gronfa nawr, o nawr tan ddiwedd tymor y Senedd, o tua £6.6 miliwn i'w gwario ar hynny. Mae pob rhan o Gymru, pob awdurdod lleol, wedi cael dyraniad o'r gronfa honno. Mae hynny yn ei hunan yn beth calonogol iawn. Fe wnes i gael fy nghyfweld lan llofft yn gynharach heddiw gan ferch chwe blwydd oed, a oedd wedi symud o Loegr, o deulu o Fecsico, i Gymru ym mis Medi, ac fe wnaeth hi fy nghyfweld i yn Gymraeg, ar ôl bod drwy'r system drochi. Mae'r peth yn fwy nag effeithiol; mae e, ar un lefel, yn wyrthiol, i weld pa mor gyflym y mae'r broses drochi'n gallu cael canlyniadau. Dyna'r peth cyntaf. A'r ail beth yw'r ymwybyddiaeth yn yr ysgol o'r Gymraeg fel cyd-destun diwylliannol i addysg pobl ifanc—yn y cwricwlwm, gwaith y siarter iaith, ac ati. Rwy'n cytuno'n llwyr bod hynny'n bwysig.

O ran y pwyslais ar y cymunedau, rŷn ni wedi trafod hynny, wrth gwrs, eisoes mewn amryw o gwestiynau, ond, jest i ddweud, mae hi wir yn bwysig, ynghyd â chwestiwn rhifau, ein bod ni'n edrych ar ddaearyddiaeth yr iaith hefyd. Mae'r Gymraeg mewn sefyllfa lle mae hi'n iaith genedlaethol ond hefyd yn iaith gymunedol, ac mae'r ddau beth yna'n hollbwysig o ran ymateb polisi'r Llywodraeth ac yn ehangach.

Jest ar ei bwynt ynglŷn â hybu, rwy'n cytuno mai un o'r heriau o'n blaenau ni yw her hyder. Mae plant yn gadael ysgol addysg Gymraeg efallai ddim â'r hyder i'w siarad. Mae pobl fel Mike, sy'n medru'r Gymraeg, ond, fel mae e ei hunan yn dweud, ddim â digon o hyder. Dyna'r her nesaf sydd gyda ni—dod o hyd i ble mae pobl yn gallu'r Gymraeg ond bod angen mwy o gefnogaeth arnyn nhw i'w defnyddio hi, ac mae angen pwyslais cliriach ar hynny, efallai, yn y dyfodol.

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad—mae yna dipyn o waith cnoi cil yn y fan honno. Mae hi'n bryder, wrth gwrs, gweld y cwymp yng Ngwynedd, er enghraifft. Mae'n rhaid i fi, ar yr adeg yma, rŵan, gymryd y cyfle i dalu teyrnged i waith rhagorol Cyngor Gwynedd dros gyfnod o ddegawdau er mwyn sicrhau bod yn agos i bob plentyn sy'n mynd drwy'r system addysg yno yn rhugl yn y Gymraeg. Ond sut, felly, mae sgwario hynny efo canlyniad y cyfrifiad, sy'n dangos niferoedd y siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd yn disgyn? Mae'n rhaid bod yna rywbeth arall ar waith yma.

Mae'n demograffeg ni yn dangos ein bod ni'n heneiddio, ac mi rydyn ni'n gwybod bod mudo yn chwarae rhan bwysig, yn enwedig allfudo ein pobl ifanc o gadarnleoedd y Gymraeg. A dyma, o bosib, yr agoriad i ddatrys y broblem yma, ac rydych chi wedi sôn amdano fo yn eich cyflwyniad agoriadol. Mae'n rhaid edrych i mewn i hynny mewn dyfnder, felly. Ymhlith yr holl elfennau sy'n chwarae rhan yn hyn, mae elfen tai—diffyg fforddiadwyedd tai, diffyg argaeledd tai, ac, yr un mor bwysig, mae diffygion isadeiledd er mwyn cynnal economi hyfyw. Felly, dwi am ofyn i chi sicrhau bod y comisiwn rydych chi'n ei gynnal yn cynnal deep-dive—ymchwiliad trylwyr, manwl—i mewn i allfudo: pam nad yw pobl ifanc yn aros yn y cymunedau hynny, a pha rôl y mae tai a diffyg isadeiledd yn ei chwarae yn hynny?

Yn olaf, mae'n rhaid hefyd sôn am faes technoleg. Dwi'n gweld fy mhlant i, o bump i 15 oed, ac maen nhw'n byw ar Netflix, YouTube, TikTok, ac yn y blaen, a does nemor ddim cynnwys Cymraeg ar y platfformau hynny. Mae'n rhaid edrych i weld sut y gallwn ni ddefnyddio'r platfformau hynny er mwyn hyrwyddo'r Gymraeg yn well a sicrhau bod y Gymraeg yn iaith fyw ar y platfformau modern yma. Diolch.

Diolch i Mabon ap Gwynfor am y cwestiynau hynny. Rwy'n credu ei fod e'n iawn i ddweud bod elfennau o ran symud, o ran mudo, o ran demograffeg, o ran cyfleoedd, ac mae'r comisiwn, yn sicr, yn mynd i fynd i'r afael â'r mathau hynny o bethau—dadansoddiad sosio-economaidd yw rhan o'r gwaith y maen nhw wrthi'n ei wneud ar hyn o bryd. Mae'r galw wedi bod am dystiolaeth ac mae hynny'n dod i law, ac rwy'n disgwyl y gwnawn ni glywed pethau heriol yn sgil hynny—clywed yr ateb onest, gyda'r dystiolaeth go iawn ar lawr gwlad, yw'r hyn sydd ei angen yn sail i bolisi. Felly, rwy'n croesawu hynny.

O ran yr her economaidd, rwy'n credu bod gyda ni—. Os edrychwch chi ar y dosbarthiad o ran cymunedau, mae rôl bwysig iawn, rwy'n credu, gan ein prifysgolion ni fel gyrwyr economaidd mewn rhannau o Gymru lle mae hyn yn her. Mae angen edrych ar beth mwy y gallem ni ei wneud yn y maes hwnnw. Mae rhaglen Arfor, wrth gwrs, eisoes yn gwneud ei gwaith, ond rwy'n ffyddiog iawn bod y gwaith wnaiff y comisiwn yn mynd i fod yn arwyddocaol iawn o'r safbwynt hwnnw.

O ran buddsoddiad mewn technoleg, rŷn ni fel Llywodraeth eisoes yn buddsoddi mewn ffyrdd cyfredol, er enghraifft, y buddsoddiad mewn VR ar gyfer trochi pobl ifanc, fel eu bod nhw'n gallu gwneud hynny mewn cyd-destun virtual reality—felly, pethau mae pobl ifanc yn eu hadnabod fel cyfle, yn defnyddio hynny i ledaenu'r iaith hefyd. Ond rwyf yn credu bod yr Aelod yn iawn i sôn am bethau fel YouTube a Netflix hefyd nawr. Mae'r streamers, y cwmnïau fel Netflix ac Amazon Prime, yn gyfle pwysig iawn. Mae Dal y Mellt, wrth gwrs, ar Netflix nawr, sydd yn grêt—gobeithio'r cyntaf o lot o gynnwys Cymraeg yn mynd ar y rhwydweithiau hynny.

18:05

Diolch, Llywydd. Mae'r Gymraeg wedi profi nifer o heriau dros y canrifoedd, ac mae hi wedi dyfalbarhau, ond beth rŷn ni angen gweld ydy’r iaith nid yn unig yn goroesi, ond yn blodeuo. Fydd hynny ddim yn dod o fyd y plant yn unig, wrth gwrs; mae'n rhaid ffeindio ffyrdd gwell o normaleiddio dysgu’r iaith ymysg pobl hŷn, oedolion. Mae canolfannau gwych fel Canolfan Soar ym Merthyr yn bodoli. Pa gefnogaeth sydd yna i alluogi cymunedau i gymryd risg, i annog awdurdodau i fuddsoddi mewn canolfannau fydd yn gwneud mwy na chreu enillion economaidd, gan greu enillion diwylliannol, enillion i enaid ein cymdeithas? Achos soniodd Waldo Williams am obaith fel meistr, ac mae gobaith yn angenrheidiol. Ond rhaid i’r gobaith wreiddio; mae'n rhaid iddo fagu gwraidd yn rhywbeth. Felly, fe wnaf i ofyn, Weinidog: sut bydd Llywodraeth Cymru yn ymgorffori'r gobaith hwnnw yn ein cymunedau?

Diolch yn fawr am hynny. Wel, o ran y dilyniant i ddysgu gydol oes, mae hynny wir yn bwysig, ac un o'r pethau rŷn ni eisiau gwneud yw sicrhau ein bod ni'n deall sut mae'r holl ffyrdd sydd gyda ni o ddysgu'r Gymraeg yn eistedd ar gontinwwm yn erbyn ei gilydd, os hoffwch chi—hynny yw, cymwysterau TGAU a lefel A, ond hefyd gymwysterau addysg oedolion. Mae dangos y llwybr a dangos y dilyniant yna yn ffordd bwysig o ysgogi pobl i barhau â'u dysgu o'r Gymraeg neu i ddechrau o'r cychwyn cyntaf, os nad ydyn nhw wedi cael cyfle yn yr ysgol. Felly, mae'r gwaith yna yn waith pwysig.

Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â'r gofodau cymdeithasol hynny lle gall y Gymraeg gael ei defnyddio, ac rwy'n credu bod capel Soar yn fetaffor da am hyn, rwy'n credu. Mae'r capeli, ar y cyfan—. Nid y rheini sydd yn gyrru defnydd cymdeithasol o'r Gymraeg yn ein cymunedau ni, am resymau y byddwn ni i gyd yn eu deall. Ond yr her i ni yw beth yw'r gofodau sydd yn gwneud hynny. Os ydych chi yma yng Nghaerdydd, mae gyda chi lefydd fel Chapter, lle mae pobl yn gallu jest dod a bod gyda phobl eraill. Dyw hynny ddim yn bodoli ym mhob cymuned, felly beth yw'r cyfle inni wneud hynny? Felly, mae hynny yn rhan o'r feddylfryd hefyd, a dwi'n cytuno'n llwyr gyda'r weledigaeth optimistaidd sydd gan yr Aelod yn ei chwestiwn.

8. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn ddiweddariad ar Wcráin. Y Gweinidog i wneud y datganiad—Jane Hutt.

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein gwaith parhaus i gefnogi pobl o Wcráin sy'n chwilio am noddfa yng Nghymru. Pan roddais yr wybodaeth ddiweddaraf am gyraeddiadau i Aelodau'r Senedd nôl ym mis Tachwedd, roedd Cymru wedi croesawu ychydig dros 6,100 o Wcreiniaid o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin, gan gynnwys ein llwybr uwch-noddwr. Mae cyraeddiadau wedi arafu yn ystod y misoedd diwethaf, gydag ychydig dros 6,300 o Wcreiniaid, a noddir gan Lywodraeth Cymru ac aelwydydd Cymru, yn cyrraedd Cymru erbyn 17 Ionawr. Bu cyraeddiadau ychwanegol o dan y Cynllun Teuluoedd o Wcráin, ond nid ydym yn cael y data hwnnw gan Lywodraeth y DU.

Treuliodd pob un o'r 6,300 o Wcreiniaid hynny Nadolig 2022 ymhell o anwyliaid ac ymhell o'u mamwlad. Efallai eu bod wedi colli cartrefi, ffrindiau neu hyd yn oed berthnasau, ac, i rai, byddant wedi dathlu'r Nadolig mewn ffordd hollol wahanol, hyd yn oed dathlu ar 25 Rhagfyr, yn ogystal â'r 7 Ionawr mwy traddodiadol, am y tro cyntaf. Allwn ni ddim dechrau dychmygu sut roedd hi'n teimlo i nodi'r Nadolig fel hyn. Ond mae'r 6,300 hynny yn ddiogel yma yng Nghymru. Maen nhw wedi dod o hyd i noddfa, a diolch i bawb sydd wedi gweithio gyda ni fel cenedl noddfa yn ystod 2022 i sicrhau bod hyn yn wir. Mae cyfanswm o tua 8,700 o fisâu wedi'u rhoi bellach i bobl o Wcráin sydd â noddwyr yng Nghymru, felly gallwn ddisgwyl i'r nifer sy'n cyrraedd barhau i dyfu'n gyson.

Rydym yn ymwybodol y gall digwyddiadau yn Wcráin gael effaith uniongyrchol ar nifer yr Wcreiniaid a allai gyrraedd Cymru. Er ein bod wedi gweld nifer fach o unigolion yn ceisio dychwelyd i Gymru ar ôl cyfnod nôl yn Wcráin, rydyn ni'n dal heb weld newid sylweddol ar hyn o bryd.

Ym mis Rhagfyr, fe wnes i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau trwy ddatganiad ysgrifenedig am gyhoeddiadau ariannol Llywodraeth y DU mewn cysylltiad â'r cynllun Cartrefi i Wcráin. Rydym yn siomedig iawn gyda'r penderfyniad i haneru'r tariff integreiddio bron i £5,900 ar gyfer newydd-ddyfodiaid o 1 Ionawr ymlaen, yn ogystal â'r penderfyniad i beidio â darparu tariff integreiddio blwyddyn 2. Nid yw'r penderfyniadau hyn yn cyd-fynd â chynlluniau adsefydlu eraill ac maen nhw'n lleihau cyllid hanfodol i awdurdodau lleol ar adeg o bwysau cyllidebol aruthrol. O dan gynlluniau adsefydlu eraill, ar y cyfan mae awdurdodau lleol wedi derbyn tua £20,000 y pen dros gyfnod o dair i bum mlynedd. Ar gyfer y rhai yn cyrraedd o Wcráin o 1 Ionawr 2023, bydd hwn ychydig yn llai na £6,000. Rydym wedi galw dro ar ôl tro am gydraddoldeb ariannu rhwng cynllun Cartrefi i Wcráin a Chynllun Teuluoedd o Wcráin a'r Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin. Yn anffodus, unwaith eto, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu peidio â gweithredu'r cydraddoldeb hwn, sy'n dwysáu'r pwysau ar awdurdodau lleol.

Roeddem yn falch o weld cadarnhad y bydd taliadau 'diolch' i'r gwesteiwyr yn cael eu hymestyn am yr ail flwyddyn. Mae hyn yn bwysig iawn oherwydd, pan fo lleoliadau lletya'n gweithio'n dda, gall hyn leddfu'r galw am dai a chreu rhwydwaith o gymorth. Mae'r penderfyniad i godi'r taliadau 'diolch' i £500 y mis hefyd i'w groesawu, er ein bod yn siomedig na fydd hyn yn digwydd tan ar ôl 12 mis ar ôl i'r person sy'n cael ei letya gyrraedd.

Oherwydd y pwysau tai ehangach ar draws Cymru, rydym yn gweithio'n ddwysach i ddod o hyd i fwy o westeiwyr sy'n gallu cefnogi Wcreiniaid sydd angen llety. Rydym yn parhau i annog gwesteiwyr posibl i ddod ymlaen a chofrestru diddordeb yn www.llyw.cymru/cynnig-cartref-yng-nghymru-i-ffoaduriaid-o-wcrain a mynd i un o'r sesiynau 'Cyflwyniad i Westeio' a hwylusir gan Housing Justice Cymru. Mae lletya yn darparu llety hyblyg a chost-effeithiol sy'n galluogi pobl i adennill rhywfaint o annibyniaeth ac i integreiddio â chymunedau lleol. Nid yw gwesteiwyr ar eu pen eu hunain a gallant gael cefnogaeth wych gan wasanaeth cymorth i westeiwyr Housing Justice Cymru, sy'n cynnig popeth o gyngor ymarferol neu glust i wrando, i gefnogi lleoliadau lletya cadarn a hapus ar gyfer y gwesteiwr a'r gwestai, yn ogystal â chyfeirio at ein gwefan noddfa Llywodraeth Cymru. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan rai a allai letya teuluoedd neu rai sydd ag anifeiliaid anwes.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd cronfa newydd werth £150 miliwn ar gyfer cymorth tai i Wcreiniaid yn ystod 2023-24, ond mae'r manylion yn brin ar hyn o bryd. Rydym yn awyddus i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol Cymru i sicrhau ein bod yn gallu tynnu'r cyllid mwyaf posibl i lawr ar gyfer Cymru a'i ddefnyddio'n effeithiol i leddfu rhywfaint o'r pwysau yr wyf eisoes wedi'i grybwyll. Byddwn ni'n gweithio gyda llywodraeth leol i ddeall effaith lawn ar lawr gwlad y cyhoeddiadau cyllid gan Lywodraeth y DU. Mae ein cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn cynnwys £40 miliwn i gefnogi'r ymateb o ran Wcráin yn 2023-24, gyda'r mwyafrif o hynny ar gyfer cefnogi'r llwybr uwch-noddwr. Byddwn yn edrych ar opsiynau hyfyw o ran llai o gyllid yn yr wythnosau nesaf gan Lywodraeth y DU.

O ran y gefnogaeth yr ydym yn ei darparu ar hyn o bryd, gweithredwyd ein dull diwygiedig o gefnogi llety cychwynnol o 9 Ionawr, gyda gwesteion yn cael gwybod am newidiadau sydd ar y gorwel ar 1 Rhagfyr. Hyd yma, rydym wedi cael adborth cadarnhaol am y newidiadau yr ydym wedi'u gwneud, gyda gwesteion yn mynd ati i ymgysylltu â'r prosesau 'symud ymlaen' sydd gennym ar waith. Yn wir, rydym bellach wedi gweld mwy na 1,200 o bobl a ddaeth drwy'r llwybr uwch-noddwr yn symud ymlaen, ac mae dros 800 ohonyn nhw wedi ymgartrefu mewn llety mwy hirdymor yng Nghymru, fel trefniadau gwesteiwyr neu'r sector rhentu preifat. Rwy'n ddiolchgar am waith awdurdodau lleol a phartneriaid yn y trydydd sector i gefnogi ein gwesteion Wcreinaidd i symud ymlaen a gosod gwreiddiau o fewn ein cymunedau lleol.

Ers fy natganiad diwethaf am Wcráin, cynhaliwyd hefyd ein digwyddiad coffáu'r Holodomor cyntaf yng Nghaerdydd ar 26 Tachwedd. Roeddwn i eisiau nodi pwysigrwydd y digwyddiad hwnnw a'r diolchgarwch a ddangosodd y 60 o Wcreiniaid a ymunodd â ni, mewn glaw trwm, i'w goffáu gyda ni. Cawsom gyfranogiad gan ddirprwy lysgennad Wcráin i'r DU, sefydliadau cymorth Wcráin, yr eglwys uniongred Wcreinaidd, Archesgob Caerdydd, y Dirprwy Arglwydd Raglaw, arweinydd Awdurdod Llywodraeth Leol Cymru Andrew Morgan, a Gweinidogion Cymru, gan gynnwys y Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol. Arweinydd y digwyddiad oedd caplan anrhydeddus Cyngor Caerdydd, y Parchedig Ganon Stewart Lisk. Cyflawnodd y coffáu ymrwymiad a wnaed yn y Siambr hon ym mis Mai 2022 i goffáu'r Holodomor, ac rydym yn bwriadu parhau â'r gwaith hwnnw yn 2023.

18:15

Mae'n amlwg bod y digwyddiadau erchyll parhaus yn Wcráin, yn dilyn goresgyniad anghyfreithlon Putin, yn cael effaith uniongyrchol ar nifer yr Wcreiniaid sy'n cyrraedd Cymru, a byddant yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol, gyda ffigurau Llywodraeth y DU ym mis Ionawr yn dangos bod 8,700 o fisâu wedi'u rhoi i'r rheiny sydd â noddwyr yng Nghymru, a gyda 6,300 o bobl â noddwyr yng Nghymru wedi cyrraedd Cymru, y mae gan bron i hanner ohonyn nhw Lywodraeth Cymru yn uwch-noddwr.

Fodd bynnag, dim ond yr wythnos diwethaf, gwelsom hanes yn y cyfryngau am y fam a'r ferch a wnaeth ffoi rhag yr ymladd yn Wcráin, ond sydd bellach yn wynebu digartrefedd gan i'w noddwr yng Nghymru dynnu'n ôl, a bellach mae ganddyn nhw tan 20 Chwefror i ddod o hyd i noddwr newydd, ond maen nhw'n methu fforddio rhent preifat ac yn ofni y gallen nhw ddiweddu'n byw ar y stryd. Adroddwyd hefyd nad oedd llawer o noddwyr wedi rhagweld y bydden nhw'n lletya pobl o Wcráin am fisoedd a blynyddoedd heb ddiwedd mewn golwg, ac felly'n gadael y cynllun, ac ar hyn o bryd mae'n rhaid i unrhyw ffoadur y gofynnir iddo adael gan eu noddwr gyflwyno ei hun fel rhywun digartref i'w awdurdod lleol. Pa gamau penodol a rhagweithiol ydych chi felly yn eu cymryd i ddiwallu'r angen hwn, Gweinidog?

Wrth gwrs, mae hyn ar wahân i gynllun uwch-nodddwr Llywodraeth Cymru, sy'n gweithredu fel gwesteiwr yn lle noddwr teulu neu aelwyd, gan roi ffoaduriaid yn uniongyrchol mewn canolfannau croeso fel gwestai. Sut mae Llywodraeth Cymru, felly, yn lletya'r niferoedd mwy o bobl sy'n cyrraedd o dan y cynllun uwch-noddwr nag a gynlluniwyd yn wreiddiol, a mynd i'r afael â'r effaith y mae hyn yn ei chael ar wasanaethau a chymunedau lleol?

Mae Llywodraeth Iwerddon wedi cyhoeddi y bydd yn darparu 700 o gartrefi modiwlar ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin eleni, gan gynnwys 200 gyda lle i 800 o westeion Wcreinaidd i'w hadeiladu erbyn y Pasg, wrth iddi ymgiprys i ddod o hyd i dai. O ystyried bod gan Gymru argyfwng cyflenwad tai fforddiadwy hirsefydlog, pa waith, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar yr opsiwn hwn, yn annibynnol a gyda Llywodraeth y DU?

Yn ystod fy ymweliad â chanolfan gwaith y Wyddgrug yr haf diwethaf, roedd y gwaith maen nhw'n ei wneud i gefnogi ffoaduriaid Wcreinaidd wedi creu argraff arnaf, a doeddwn i ddim yn synnu o ddeall nad yw'r ffoaduriaid eisiau bod yn ddibynnol a'u bod yn awyddus i weithio a chyfrannu. Pa waith, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru felly yn ei wneud gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau bod gwesteion Wcreinaidd hefyd yn gallu cael mynediad at wasanaethau datganoledig perthnasol drwy un pwynt mynediad, gan gynnwys trosglwyddo cymwysterau a chyrsiau Saesneg fel ail iaith neu ESOL, neu Gymraeg os ydyn nhw'n byw yn yr ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn brif iaith?

Roedd yr adroddiad ar ymateb Wcráin gogledd Cymru, a gyhoeddwyd gan elusen Link International yn gynharach yn y mis, yn myfyrio ar eu taith ynghyd â'u gwesteion Wcreinaidd dros y 10 mis blaenorol. Mae hyn yn cynnwys cyfeirio at y cyfarfodydd amrywiol y maen nhw wedi cymryd rhan ynddyn nhw gyda Llywodraeth Cymru ac at y diweddariadau rheolaidd y maen nhw wedi eu rhoi i Lywodraeth Cymru ac arweinwyr lleol ynghylch eu gwaith. Mae hyn hefyd yn cyfeirio, er enghraifft, at y ffaith eu bod wedi cael gwybod am wahanol faterion diogelu sydd wedi achosi pryder, ac at eu gwaith gyda'r elusen Haven of Light, yn tynnu sylw at y risgiau ynghylch camfanteisio, caethwasiaeth fodern a masnachu pobl. Gweinidog, ydych chi wedi darllen ac ymateb i'r adroddiad hwn, yr ydych wedi ei dderbyn neu beidio efallai? Ac os nad ydych, a fyddwch chi'n gwneud hynny, nawr fy mod i wedi eich gwneud chi'n ymwybodol ohono?

Wrth ymateb i'ch datganiad am Wcráin yma fis diwethaf, cyfeiriais eto at drafodaethau yr ydych chi'n eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynnydd posibl i'r taliad misol o £350 i bobl sy'n lletya Wcreiniaid yn eu cartrefi eu hunain. Felly, croesawais gadarnhad y diwrnod canlynol bod Llywodraeth y DU wedi bod wrthi'n gweithio ar hyn pan gyhoeddwyd pecyn cymorth newydd i Wcreiniaid o dros £650 miliwn, gan gynnwys cynnydd mewn taliadau i £500 mis i westeiwyr Cartrefi i Wcráin. Roedd eich datganiad ysgrifenedig wythnos yn ddiweddarach yn cydnabod hyn, ond galwodd hefyd am eglurder am dariffau ariannu ar gyfer deiliaid fisa Wcreinaidd, neu gronfeydd eraill i barhau i gefnogi pobl o Wcráin tra byddan nhw yn y DU. Pa ymgysylltu pellach ydych chi felly yn ei gael gyda'r DU ynghylch hyn?

Gofynnodd cyfarfod briffio Cynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr ar oresgyniad Wcráin, i Aelodau barhau i godi argyfwng dyngarol Wcráin yn y Senedd, peidiwch â chaniatáu iddo gael ei anghofio, a chefnogi Llywodraethau Cymru a'r DU i weithio tuag at ddiwedd i'r gwrthdaro trwy ddulliau heddychlon. Sut mae Llywodraeth Cymru felly yn ymgysylltu â grwpiau ffydd ynghylch eu hymateb i'r argyfwng dyngarol ac o bosibl argyfwng bwyd byd-eang, a achosir gan yr ymosodiad ar Wcráin, fel yr amlygwyd gan Gynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr?

Ac, yn olaf, dim ond sylw bach, edrychaf ymlaen at eich gweld yn y ganolfan gymorth integreiddio Pwylaidd ddydd Gwener, pan fydd modd trafod eu cymorth i ffoaduriaid Wcreinaidd hefyd. Diolch yn fawr. 

18:20

Diolch yn fawr, Mark Isherwood, ac edrychaf ymlaen hefyd at fy ymweliad ddydd Gwener â'r ganolfan integreiddio Pwylaidd. Hefyd, o ran cysylltiadau â'r trydydd sector a'r grwpiau ffydd, rwy'n edrych ymlaen yn fawr hefyd at gwrdd â Link International yn y gogledd yn ystod fy ymweliad yn ddiweddarach yr wythnos hon. Hefyd, byddaf yn cynnal cyfarfod yr wythnos nesaf gyda'r trydydd sector, sy'n cynnwys y grwpiau ffydd.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod ein bod yn falch o fod yn darparu noddfa i gymaint o bobl. Bu ymateb enfawr gan dîm Cymru i'r gwrthdaro parhaus ofnadwy, fel y dywedoch chi. A'r dull partneriaeth hwn fydd yn parhau wrth i ni gefnogi pobl i symud ymlaen i lety mwy hirdymor, naill ai at letywyr neu i dai preifat neu gymdeithasol ledled Cymru. Rwyf eisoes wedi nodi'r newyddion da iawn bod 1,200 wedi symud ymlaen, 800 at westeiwyr eraill neu, yn wir, i lety rhent preifat.

Rydych yn gofyn am y ffyrdd yr ydym yn cefnogi gweithio gydag awdurdodau lleol i ddarparu llety dros dro a llety mwy hirdymor. Mae hyn yn ymwneud â phawb sydd angen tai yng Nghymru, gan sicrhau ein bod yn defnyddio'r rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro. Rydym yn buddsoddi £89 miliwn drwy'r rhaglen honno i ddarparu mwy o lety tymor hirach o ansawdd da, a bydd yn helpu pawb sydd angen tai. Rydym hefyd yn buddsoddi dros £197 miliwn mewn digartrefedd a chymorth tai. Ond rydym wedi gwneud y penderfyniad, fel y dywedais, i gynnwys y £40 miliwn hwnnw yn ein cyllideb ddrafft, i barhau â'n cefnogaeth i bobl o Wcráin yn y flwyddyn ariannol hon sydd i ddod. Ac mae'r dyraniadau hyn yn tanategu ac yn amlygu ein hymrwymiad i gefnogi gwesteion o Wcráin wrth iddyn nhw ddod i Gymru. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig, o ran yr £89 miliwn hwnnw, fod hyn yn galluogi awdurdodau lleol i ddatblygu ffyrdd arloesol o gefnogi'r rhai sydd angen tai.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud o ran Llywodraeth y DU ein bod yn siomedig iawn gyda'r cyhoeddiadau ariannu y mae wedi eu gwneud; rwyf wedi gwneud hynny'n glir yn fy natganiad. Credwn fod y penderfyniadau i dorri cyllid tariff integreiddio ar gyfer newydd-ddyfodiaid, i gael gwared ar gyllid blwyddyn 2 yn gyfan gwbl, yn gibddall ac yn wrthgynhyrchiol, oherwydd bod awdurdodau lleol yn gweithio'n ddiflino i gefnogi Wcreiniaid a'u gwesteiwyr, ond mae'r toriadau cyllid hyn yn tynnu cyllid hanfodol yn ôl ar adeg o bwysau aruthrol ar wasanaethau cyhoeddus. Cwrddais â Gweinidog y DU, Felicity Buchan, cyn y Nadolig, gyda'r Gweinidog dros ffoaduriaid o'r Alban, Neil Gray, ac, yn wir, mae gennym ni gyfarfod yr wythnos nesaf gyda Felicity Buchan. Felly, rwy'n falch ein bod ni, unwaith eto, Mark, yn symud ymlaen ar sail deirochrog i godi'r materion hyn. Ond does dim eglurder, fel y dywedais i yn fy natganiad, ynghylch y £150 miliwn o gymorth tai a gyhoeddwyd cyn y Nadolig.

O ran torri neu ddiweddu lleoliadau, os, am unrhyw reswm, bod angen dod â threfniadau noddi i ben yn gynnar, yr awdurdod lleol yw'r un y dylid rhoi gwybod iddo. Mae angen rhoi gwybod i'r awdurdod cyn gynted â phosib. Byddan nhw'n helpu Wcreiniaid. Maen nhw i gyd yn gweithio fel lladd nadroedd ar draws Cymru i helpu Wcreiniaid yn y sefyllfaoedd hyn. Ond hefyd, rydyn ni'n ariannu Cyngor Ffoaduriaid Cymru i roi cymorth i'r rhai sydd angen cymorth yn uniongyrchol, ac mewn gwirionedd maen nhw'n gallu cysylltu â Chyngor Ffoaduriaid Cymru. Os edrychwn ar wefan Cenedl Noddfa, rhoddir y rhifau, a gallant gysylltu a byddant yn cael cyngor a chymorth pwrpasol ar sail aelwyd deuluol unigol. Ond mae hyn yn ymwneud â phartneriaeth sydd gennym ni gyda Housing Justice Cymru ac Asylum Justice Cymru, sydd hefyd yn helpu gwesteion o Wcráin gyda phroblemau mewnfudo a chwestiynau hefyd.

Felly, fel y gwyddoch chi, mae hyn yn ymwneud â dull Tîm Cymru, cydweithio, cefnogi pawb sy'n dod i aros a byw gyda ni yma yng Nghymru, a rhoi'r gefnogaeth iddyn nhw yr ydym yn teimlo bod ganddyn nhw hawl iddi. Ac, wrth gwrs, mae llawer nawr yn symud i swyddi, i addysg bellach ac addysg uwch, ac rydyn ni, ac yn wir y Gweinidog addysg yn glir yn mynd i'r afael â llawer o'r materion yr ydych chi wedi'u codi o ran mynediad at addysg. Ond hefyd, rydym yn mynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â chymwysterau hefyd. Mae hyn yn rhywbeth, rwy'n credu, o ran y pwerau sydd gennym ni—. Rydym wedi diweddaru canllawiau cymhwysedd ar gyfer cyllid ôl-16 ar gyfer y rhai sy'n cyrraedd o dan gynlluniau fisa Wcráin y Swyddfa Gartref, ac mae pob prifysgol yn awyddus i gynnig lloches i academyddion a myfyrwyr, a hefyd yn gweithio ar y materion sy'n ymwneud â throsglwyddo cymwysterau.

18:25

Diolch am y datganiad, Weinidog. Er bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi datgelu pecyn newydd o gymorth milwrol Prydeinig ar gyfer Wcráin, mae'r cymorth, fel ŷch chi wedi sôn, y maen nhw'n ei ddarparu ar gyfer y rhai sydd wedi gorfod ffoi rhag y rhyfel—menywod a phlant yn bennaf—gan chwilio am noddfa yma, yn druenus o annigonol, a'r lefelau ar gyfer y flwyddyn nesaf yn bryderus, ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio llenwi'r bylchau yn y cyllid ar gyfer awdurdodau lleol, ar gyfer gwersi iaith, trafnidiaeth am ddim, ac yn y blaen. Felly, yn ystod sesiwn craffu gweinidogol ein Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi sôn, Weinidog, am sut oeddech chi'n gobeithio cael cyfarfod gyda Llywodraeth San Steffan ynghylch y cymorth yma, ac ŷch chi newydd sôn yn eich ateb chi i Mark Isherwood y bydd hynny'n digwydd yr wythnos nesaf. Felly, a gaf i ofyn beth yn union ŷch chi'n gobeithio ei godi yn benodol yn y cyfarfod hwn, a pha fylchau sydd yna yn y cymorth sy'n tanseilio ein dyhead ni yma yng Nghymru i fod yn genedl noddfa?

Weinidog, fe'ch cwestiynwyd chi yn y pwyllgor hefyd ynghylch y gallu cyllidebol i ddarparu cymorth pe bai pawb o Wcráin a gafodd fisa dan nawdd Llywodraeth Cymru yn dod draw. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r gyllideb wedi'i dyrannu ar gyfer nifer y ffoaduriaid o Wcráin y disgwylir iddynt droi lan ac nid y nifer sydd â fisas, ac mae hyn wrth gwrs yn amodol, fel rŷn ni wedi clywed y prynhawn yma, ar unrhyw ddirywiad neu newid mawr newydd yn yr hynt neu natur y rhyfel. Felly, a allech chi roi rhywfaint mwy o eglurder i ni o ran sut y byddwch chi'n ymdrin â'r pwysau cyllidol os bydd Llywodraeth Cymru yn canfod bod eu cyfrifiadau nhw yn anghywir? Beth yn union yw'r ffigwr hwn? A fydd cyllid ar gael os bydd mwy na'r disgwyl yn cyrraedd?

Ac yn olaf, cyn y Nadolig, fe wnaethoch chi ddatganiad yn mynegi eich bwriad i annog ffoaduriaid o Wcráin i symud ymlaen o'u llety cychwynnol dros dro—y canolfannau croeso, wrth gwrs, dan nawdd Llywodraeth Cymru. Ac roeddech chi'n sôn yn eich datganiad heddiw fod 1,200 wedi symud ymlaen; 800 nawr mewn llety preifat neu gyda noddwyr yng Nghymru. Felly, beth yw sefyllfa y 400 arall? Ydyn ni'n monitro lle maen nhw wedi mynd? A hefyd, beth yw'r cynnydd o ran y ffoaduriaid eraill sy'n dal i fod yn y canolfannau croeso ac sydd heb fedru symud ymlaen? Beth yw'r hyn sy'n eu rhwystro nhw rhag symud ymlaen? Diolch.

Diolch yn fawr, Sioned Williams, a diolch eto am gydnabod yr heriau yr ydym yn eu hwynebu ond hefyd y cyfrifoldebau yr ydym yn eu cymryd fel cenedl noddfa, ac fel uwch-noddwr. Mae hwn wedi bod yn gyfrifoldeb pwysig, a dyna pam, yn wir, yr ydym yn darparu'r gefnogaeth gofleidiol honno, sef yr hyn a oedd bob amser yn un o amcanion allweddol y llwybr uwch-noddwr, ac rydym yn darparu'r gefnogaeth gofleidiol honno o'r eiliad y mae gwestai yn cyrraedd o Wcráin, ac mae wedi bod yn ein canolfannau croeso. Ond hefyd, mewn cyfnod mwy diweddar, rydym wedi gweld rhai ffoaduriaid yn cyrraedd o Wcráin, rhai gwesteion, yr ydym hefyd wedi llwyddo i ddod o hyd i westeiwyr iddyn nhw, oherwydd fel y dywedais i yn fy natganiad, mae'r llwybr lletya wedi profi'n fuddiol iawn i lawer o westeion o Wcráin sydd wedi dod i Gymru, gan ffoi rhag goresgyniad ac erchyllterau Putin, sydd, wrth gwrs, yn parhau. Mae gennym ni y cyfrifoldeb hwnnw.

Fel y nodais yn fy natganiad, rydyn ni'n gwybod bod mwy o fisâu wedi'u cymeradwyo—mae 8,700 o fisâu wedi'u caniatáu, fel y dywedais i, i gyd, i bobl o Wcráin sydd â noddwyr yng Nghymru, ac mae gennym 6,300 o Wcreiniaid drwy gynllun Cartrefi i Wcráin gyda ni nawr. Felly, rwy'n credu ein bod yn ymwybodol iawn, a dyna pam, yn wir, o ran y gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae'r £40 miliwn, yn seiliedig ar ein hymrwymiad. Nid yw hyn yn rhywbeth oedd gennym yn ein cyllideb o'r blaen; mae'r cyllid rydym wedi'i roi i'r cynllun uwch-noddwr a'r cyllid rydym wedi'i roi i mewn i ddarparu'r holl wasanaethau hynny, y gwasanaethau cofleidiol hynny, wedi bod yr hyn yr ydym ni fel Llywodraeth Cymru wedi ei weld fel blaenoriaeth. Rydym wedi costio ac amcangyfrif y gost o ran y rhai ychwanegol yr ydym yn rhagweld y bydd yn cyrraedd. Mae wedi bod yn araf iawn, y nifer yn cyrraedd. Mewn gwirionedd, rydym hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i wirio'r data ynghylch y niferoedd sy'n dod, oherwydd efallai na fydd rhai yn dod o ganlyniad i'r llwybr uwch-noddwr. Ond mae'n drysau ni ar agor. Rydym yma i gefnogi'r rhai fydd yn cyrraedd.

Rydym yn cael tariff integreiddio gan Lywodraeth y DU i helpu gyda'r gefnogaeth gofleidiol honno, ac wrth gwrs mae hyn ynghylch yr amser sy'n cael ei dreulio yn ein canolfannau croeso. Ond mae mwyafrif llethol y tariff hwnnw'n cael ei drosglwyddo i awdurdodau lleol i roi cymorth. Fel y dywedais i, hefyd, mewn ymateb i Mark Isherwood, ar ôl i bobl symud ymlaen i lety tymor hwy, bydd gweddill y tariff yn symud gyda nhw, ymlaen i'r awdurdod lleol perthnasol. Rwy'n credu bod gostyngiad tariff o £10,500, sef yr hyn oedd e' pan gyrhaeddon nhw yn 2022, i £5,900, fel y dywedais i, yn gibddall, mae'n wrthgynhyrchiol, bydd yn lleihau cyllid hanfodol tra bod gwasanaethau cyhoeddus dan straen. Bydd y taliad o £350 y mis sef y 'diolch' i'r gwesteiwyr ar gael i Lywodraeth Cymru ar gyfer pob aelwyd Wcreinaidd sy'n cael ei llety o dan y llwybr uwch-noddwr, ond mae'n rhaid i mi ddweud bod y materion hyn o ran y toriadau, y ffaith nad yw'r £500 yn cael ei dalu tan fydd 12 mis o'r trefniant lletya wedi mynd heibio, dyma'r eitemau sy'n mynd i fod ar yr agenda ar gyfer ein cyfarfod yr wythnos nesaf gyda Gweinidog Llywodraeth y DU, Felicity Buchan. 

18:30
9. Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022

Yr eitem nesaf, felly, yw'r Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022. Y Gweinidog i wneud y cynnig yma. Rebecca Evans.

Cynnig NDM8186 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Rhagfyr 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Mae Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022 yn ymwneud â gosod cyfraddau treth 2023-24 ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi. Fe'u gwnaed gan ddefnyddio'r weithdrefn gadarnhaol. Mae'r rheoliadau hyn yn gosod y cyfraddau gwaredu safonol, is ac anawdurdodedig ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi, a fydd, yn amodol ar ganlyniad y ddadl heddiw, yn berthnasol i warediadau trethadwy a wneir ar 1 Ebrill 2023 neu ar ôl hynny. 

Yn unol â fy nghyhoeddiad yn y gyllideb ddrafft ar 13 Rhagfyr, bydd y cyfraddau safonol ac is ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi yn cynyddu yn unol â chwyddiant mynegai prisiau manwerthu, fel y rhagwelwyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn hydref 2021. Mae'r dull hwn yn sicrhau bod y gyfradd yn parhau i fod yn gyson â threth tirlenwi Llywodraeth y DU ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, gan ddarparu'r sefydlogrwydd y mae busnesau wedi dweud wrthym eu bod ei angen. Trwy osod cyfraddau treth sy'n gyson â threth tirlenwi'r DU, bydd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i elwa ar refeniw trethi gan sicrhau bod y risg o symud gwastraff dros y ffin yn gostwng.

Bydd rhagor o waith yn cael ei wneud eleni i ystyried yr agenda tymor hwy ar gyfer cyfraddau treth gwarediadau tirlenwi. Rwyf hefyd wedi comisiynu adolygiad annibynnol o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017, a fydd yn dod i ben yn ddiweddarach yn y gwanwyn. Bydd unrhyw ganfyddiadau'r adolygiad yn cyfrannu at ddatblygiad polisi yn y dyfodol. Bydd y gyfradd safonol yn cynyddu i £102.10, a bydd y gyfradd is yn £3.25 y dunnell. Bydd y gyfradd anawdurdodedig, sy'n cael ei chynnal ar 150 y cant o'r gyfradd safonol er mwyn annog pobl i beidio ag ymgymryd â gweithgarwch gwastraff anghyfreithlon, yn £153.15 y dunnell. Gofynnaf i Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn. 

Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths, sydd yn ymddangos fel ei fod e mewn rhywfaint o sioc i fi ei alw e. Does dim rhaid cyfrannu, wrth gwrs. Felly, fe wnaf i ofyn i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad—ydy e'n disgwyl i fi ei alw e? Ydy. Felly, Huw Irranca-Davies.

18:35

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fe wnaethon ni drafod y rheoliadau hyn ar 16 Ionawr ac mae ein hadroddiad wedi cael ei osod er gwybodaeth i'r Aelodau yn y ddadl y prynhawn yma.

Mae ein hadroddiad ar y rheoliadau hyn yn cynnwys tri phwynt rhinwedd, a diolch yn fawr i'r Gweinidog am ddarparu ymateb amserol. Rwy'n mynd i ganolbwyntio ar ein trydydd pwynt rhinwedd, ac rwy'n mynd i'w nodi fel darn bach ond pwysig iawn o gynnydd o ran y Gymraeg ac mewn gwirionedd o ran cael deddfwriaeth a rheoliadau Cymraeg a Saesneg ar yr un pryd. Oherwydd nododd bod Llywodraeth Cymru wedi dibynnu ar Reol Sefydlog 15.4 i gyfiawnhau gosod memorandwm esboniadol Saesneg yn unig, ar y sail bod, mewn dyfyniadau,

'nid yw'n cael ei ystyried yn briodol o dan yr amgylchiadau neu'n rhesymol ymarferol i'w osod yn Gymraeg a Saesneg'.

Yn ein hadroddiad, dadleuwyd y byddai memorandwm esboniadol Cymraeg yn wir yn helpu unrhyw siaradwyr Cymraeg sydd â diddordeb yn y rheoliadau hyn. Ac felly, gwnaethom ofyn i Lywodraeth Cymru esbonio pam nad yw'n cael ei hystyried yn briodol neu'n rhesymol ymarferol i osod y memorandwm esboniadol yn Gymraeg. Mae hyn wedi bod yn dipyn o thema barhaus i fy mhwyllgor ers tro. Roedd yr ymateb a gawsom yn wreiddiol, unwaith eto, yn nodi Rheol Sefydlog 15.4 a nododd fod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori â chanllawiau a ddarparwyd gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, a

'Gan fod y Rheoliadau o natur dechnegol a byddant yn effeithio ar gyfran hynod fach yn unig o'r boblogaeth, nid yw'r Memorandwm Esboniadol wedi cael ei ystyried yn flaenoriaeth ar gyfer ei gyfieithu'.

Fodd bynnag—arhoswch eiliad—rydyn ni'n nodi bod yr ymateb hwn yn wir bellach wedi ei ddisodli gan ymrwymiad yr ydym ni wedi'i gael gan Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, ac rydyn ni'n croesawu hynny mewn gwirionedd. Soniais yn gynharach bod y diffyg memoranda esboniadol Cymraeg sydd ar gael yn rhy aml ar gyfer is-ddeddfwriaeth a wnaed gan Gymru wedi bod yn bryder i'n pwyllgor. Felly, ysgrifennom ni at yr Ysgrifennydd Parhaol ychydig cyn y Nadolig, gyda chytundeb holl aelodau'r pwyllgor, a datgan ein cred eto nad ydyn ni wedi ein perswadio—ni chawsom ein perswadio bryd hynny nac yn awr—y dylid defnyddio Rheol Sefydlog 15.4 fel modd i beidio â chynhyrchu memoranda esboniadol Cymraeg, yn enwedig yng ngoleuni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hygyrchedd cyfraith Cymru. Dywedon ni hefyd y dylai memoranda esboniadol sy'n gysylltiedig ag unrhyw ddeddfwriaeth fod ar gael yn Gymraeg bob amser, a chredwn y byddai hyn yn dilyn ysbryd y safonau Cymraeg.

Fel pwyllgor, rydym wedi bod yn pryderu y gall fod problemau o ran sicrhau adnoddau yn Llywodraeth Cymru a gofynnom am asesiad yr Ysgrifennydd Parhaol ynghylch pa un a oes gan y Llywodraeth ddigon o gapasiti i gynhyrchu'r holl femoranda esboniadol i is-ddeddfwriaeth yn Gymraeg. Rydym yn ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Parhaol am ateb prydlon ac rydym yn croesawu'n fawr yr ymrwymiad y bydd Llywodraeth Cymru, yn dilyn cyfnod byr o ymsefydlu, yn llunio memoranda esboniadol i is-ddeddfwriaeth Cymru yn ddwyieithog.

Tynnaf hyn i sylw'r Aelodau y prynhawn yma ac fe'i nodaf fel llwyddiant bach o gydweithio da gyda Llywodraeth Cymru a'r pwyllgor. Diolch yn fawr iawn.

Rwy'n deall fod Peredur Owen Griffiths wedi dod dros y sioc o gael ei alw nawr a'i fod yn barod i gyfrannu.

Felly, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffths.

Diolch, Llywydd, ac ymddiheuriadau am beidio â bod yn barod yn fanna.

Rwy'n falch o gael siarad yn y ddadl. Fe wnaeth y pwyllgor ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ddydd Iau diwethaf ar ôl i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad osod ei adroddiad. Nid oes gennym unrhyw bwyntiau adrodd pellach i'w gwneud ar wahân i'r rhai sydd eisoes yn dod o dan y pwyllgor hwnnw ac felly rydym yn ei ystyried yn briodol ac yn gymesur ar yr achlysur hwn i beidio â chynhyrchu ein hadroddiad ar wahân ein hunain. 

Ond hoffwn bwysleisio pwysigrwydd y ffaith fod y Pwyllgor Cyllid, fel porthor craffu ariannol yn y Senedd, yn cael cyfle i graffu ar reoliadau o'r fath. Er nad oes gennym unrhyw faterion polisi i'w codi yn yr achos hwn, rydym yn llwyr ddisgwyl i unrhyw offerynnau treth yn y dyfodol gael eu cyfeirio atom gan y Pwyllgor Busnes.

Hoffwn hefyd roi sicrwydd i Aelodau y byddwn, fel pwyllgor, yn parhau i gadw llygad barcud ar y fframwaith cyfreithiol sy'n llywodraethu'r gwaith o weithredu trethi datganoledig yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru yn y maes hwn a chanlyniad yr adolygiad annibynnol o'r dreth gwarediadau tirlenwi, fel y cyfeirir ato yn adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Diolch yn fawr.

18:40

Fe wnaf fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r ddau bwyllgor am eu gwaith. Rwy'n credu bod y pwyntiau pwysig y mae'r ddau gadeirydd wedi'u gwneud y prynhawn yma yn sicr yn mynd ymhell y tu hwnt i gwmpas y rheoliadau cul yr ydym yn eu trafod y prynhawn yma, ond rwy'n credu bod y pwyntiau a wnaed yn bwysig iawn, ac rwy'n falch ein bod ni wedi gallu dod i gasgliad da gyda'r gwaith o ran y pwyllgor deddfwriaeth, cyfiawnder a'r cyfansoddiad yn dangos rhywfaint o waith cydweithredol da rhwng Llywodraeth Cymru a phwyllgorau.

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2023

Eitem 10 sydd nesaf, Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2023. Y Gweinidog Newid Hinsawdd sy'n cynnig rhain, Julie James.

Cynnig NDM8185 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Rhagfyr 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rydym wedi gwneud y fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2023 er mwyn diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014, a elwir yn rheoliadau 2014, fel bod dioddefwyr a goroeswyr caethwasiaeth a masnachu pobl a gafodd ganiatâd dros dro i aros yn y DU yn gallu cael mynediad at dai neu at gymorth tai yng Nghymru. Bydd pobl sy'n cael y caniatâd dros dro hwn i aros yn gallu aros yn y DU am hyd at 30 mis. Mae'r hawl hwn yn rhoi'r hawl iddyn nhw weithio, astudio a chael mynediad at arian cyhoeddus, yn arbennig tai a chymorth tai.

Rwy'n gobeithio y bydd Aelodau yn cymeradwyo'r cynnig, gan y bydd hwn yn rhoi hawliau pwysig i ddioddefwyr a rhai sydd wedi goroesi caethwasiaeth a masnachu pobl a sicrhau bod cyfreithiau tai yng Nghymru yn cael eu gwneud yn gyson â deddfau mewnfudo'r Deyrnas Unedig, sydd i fod i newid yr wythnos nesaf. Mae gan ddioddefwyr a goroeswyr caethwasiaeth a masnachu pobl eisoes hawl i aros dros dro yn y DU trwy bwerau disgresiwn y Swyddfa Gartref. Bydd y gwelliannau a gyflwynwyd heddiw yn sicrhau bod rheoliadau 2014 yn ffurfioli cymhwysedd dioddefwyr a goroeswyr caethwasiaeth a masnachu pobl o fewn yn hytrach na thu allan i'r rheolau mewnfudo presennol.

Gobeithio y bydd Aelodau'n cydnabod y bydd eu cefnogaeth i'r rheoliadau yn helpu i gryfhau ymrwymiad Cymru i fod yn genedl noddfa, wedi ymrwymo i hawliau dynol a hyrwyddo heddwch. Diolch.

Diolch eto, Llywydd. Fe wnaethon ni drafod hefyd y rheoliadau hyn ar 16 Ionawr, ac mae ein hadroddiad wedi'i gynnwys ar agenda'r prynhawn yma i lywio'r ddadl hon.

Mae ein hadroddiad ar y rheoliadau hyn yn cynnwys dau bwynt rhinweddau. Fe ddechreuaf gyda'r ail, a nododd na fu unrhyw ymgynghoriad ar y rheoliadau. Yn benodol, nodwyd paragraff yn y memorandwm esboniadol sy'n gysylltiedig â'r rheoliadau sy'n nodi, gan fod caniatâd dros dro i aros yn gynnyrch polisi Llywodraeth y DU a gedwir yn ôl—sef mewnfudo—nid oedd Llywodraeth Cymru yn ystyried yn yr achos hwn ei bod yn bosibl cynnal ymgynghoriad ystyrlon ar ddulliau amgen, gan mai effaith y rheoliadau—fel y dywedodd y Gweinidog yn wir—yw sicrhau cysondeb rhwng cyfraith tai Cymru a chyfraith mewnfudo. Felly, rydyn ni'n nodi hynny.

Fodd bynnag, mae ein pwynt adrodd rhinweddau cyntaf, yn ailadrodd yr un pwynt a wnes i yn y ddadl flaenorol. Gosodwyd memorandwm esboniadol y rheoliadau yn Saesneg yn unig. Cyn i ni dderbyn y llythyr perthnasol gan yr Ysgrifennydd Parhaol, y cyfeiriais ato yn fy nghyfraniad blaenorol, fe ofynnom ni i Lywodraeth Cymru esbonio pam nad oedd fersiwn Gymraeg o'r memorandwm esboniadol wedi'i gosod ar gyfer y rheoliadau hyn. Roedd yr ymateb a gawsom eto yn nodi Rheol Sefydlog 15.4, ac yn datgan bod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori â chanllawiau a ddarparwyd gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, ac ati, i gyfeirio at drawsgrifiad y ddadl flaenorol. Ond fel y nodwyd o'r blaen, ac yn unol â'r ymrwymiad gan yr Ysgrifennydd Parhaol, bydd Llywodraeth Cymru nawr yn cynhyrchu memoranda esboniadol i is-ddeddfwriaeth Cymru yn ddwyieithog, yn dilyn cyfnod byr o ymsefydlu. Felly, rydyn ni'n ddiolchgar iawn am yr eglurhad hwnnw.

Diolch am y datganiad y prynhawn yma; mae o i'w groesawu yn fawr iawn. Mae o'n dangos dyhead ac uchelgais Cymru i fod yn wlad ac yn genedl o noddfa, ac mae'r datganiad yma'n sicr yn gam pwysig i'r cyfeiriad hwnnw.

Fel y gŵyr y Gweinidog, mae'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn cynnal ymgynghoriad i ffoaduriaid o Wcráin sydd yn dod i Gymru er mwyn dianc troseddau Putin ar hyn o bryd. Mae'r dystiolaeth wedi bod yn ddirdynnol, ac mae'n deg dweud bod gweithredoedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn llawer iawn gwell na'r hyn sydd i'w weld gan Lywodraeth San Steffan.

Ond erys y pwynt fod yna ddiffyg tai yma, a gwersi i'w dysgu o'r profiadau diweddar. Felly, a gawn ni sicrwydd fod anheddau addas i bwrpas yn cael eu paratoi yn ddi-oed er mwyn sicrhau bod gennym ni'r adnoddau angenrheidiol i groesawu a chartrefi y bobl yma sydd ddirfawr angen ein cymorth, a bod gennym ni'r cyfrifoldeb i'w llochesi nhw?

Ac yn olaf, rydyn ni wedi clywed dros y dyddiad diwethaf y newyddion brawychus am 200 o blant oedd yn ceisio lloches yn diflannu o westai lloches y Swyddfa Gartref yn Lloegr. A fydd y newid yma i TPS yn sicrhau mwy o ddiogelwch i'r bobl fregus iawn yma, a pha gamau sy'n cael eu cymryd, wrth gyflwyno'r rheoliadau yma, i sicrhau na fydd plant ac eraill sy'n cael eu croesawu yma yng Nghymru yn mynd ar goll? Diolch.

18:45

Diolch, Llywydd. Ar y pwynt ymgynghori a gododd Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder, fe wnaf ailadrodd yr hyn a ddywedais: mae'r gwelliannau a gyflwynwyd gan y rheoliadau drafft yn adlewyrchu'n glir newidiadau i gyfraith mewnfudo, sy'n faterion a gedwir yn ôl. Mae'r newidiadau'n eithaf cyfyngedig, gan adael ychydig neu ddim effaith ar wasanaethau cyhoeddus, o'u cymharu â'r sefyllfa bresennol. Byddai gwerth cyfyngedig i unrhyw ymgynghoriad, gan nad oes gennym y pwerau i gynnig unrhyw ddulliau gweithredu amgen perthnasol. Rwy'n credu bod hynny'n gwneud y pwynt yn eithaf cryno. Yn amlwg, does gen i ddim gwrthwynebiad i'r materion Cymraeg—rydyn ni'n hapus i wneud hynny, wrth gwrs.

O ran y materion diogelwch a chyflenwad tai, mae hyn yn unioni'r sefyllfa. Roedd hyn yn arfer bod yn ôl disgresiwn y Swyddfa Gartref, ond mae nawr yn rhoi'r hawl i bobl gael eu hystyried ar gyfer gwasanaethau tai a'u bod nhw, wedyn, yn cael yr un hawl â phawb arall i gael y gwasanaethau hynny. Ac, wrth gwrs, bydd yn helpu i gynyddu diogelwch, oherwydd mae cael yr hawl, yn hytrach na gorfod gwneud cais am y disgresiwn, yn amlwg yn sefyllfa well i fod ynddi. 

Rwy'n croesawu'r cyfle a gawsom i drafod y rheoliadau, Llywydd, a diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau. O ystyried y budd clir a ddaw yn sgil y rheoliadau, rwy'n gobeithio y bydd Aelodau'n cefnogi'r cynnig. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, does yna ddim gwrthwynebiad, felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Sy'n golygu nad oes gyda ni bleidleisiau i'w cymryd heno. Dyna ddiwedd ein busnes ni am y dydd heddiw, felly. Diolch yn fawr.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:47.