Y Cyfarfod Llawn

Plenary

10/01/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da i chi i gyd a blwyddyn newydd dda i bawb.

Blwyddyn newydd dda i chi gyd.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma, yn 2023, a'r cyfarfod cyntaf, yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf yn 2023 gan Peter Fox.  

Argyfwng Costau Byw

1. Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru'n ei rhoi i sefydliadau'r trydydd sector i'w helpu drwy'r argyfwng costau byw? OQ58917

Wel, Llywydd, blwyddyn newydd dda i chi a phawb hefyd. 

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru yn darparu cymorth hanfodol i eraill yn yr argyfwng costau byw ac mae'n effeithio'n uniongyrchol arnyn nhw hefyd. Rydym wedi cynyddu cyllid i'r sector ar gyfer y ddau beth hyn, gan amlaf ochr yn ochr â'n partneriaid awdurdod lleol.

Diolch, Llywydd. Ac a gaf i ddymuno blwyddyn newydd dda i chi, Prif Weinidog, ac Aelodau eraill hefyd? Yn ddiweddar, cysylltodd elusen â mi gyda phryderon ynghylch yr effaith mae'r argyfwng costau byw yn ei gael ar ei staff. Fe wnaethon nhw dynnu sylw at y ffaith bod eu staff yn fedrus iawn wrth gwrs ac maen nhw'n darparu gwasanaeth gwerthfawr i bobl o bob rhan o Gymru. Mae llawer o'r sefydliadau hyn hefyd yn darparu cyflogaeth i bobl a oedd yn agored i niwed, gan roi cyfle iddyn nhw gymryd rhan lawn yn eu cymuned. Fodd bynnag, nododd yr elusen nad ydyn nhw'n gallu darparu cymorth ariannol ychwanegol i'w gweithwyr i'w helpu drwy'r cyfnod anodd hwn. Er gwaethaf y cynnydd yng nghyllid Llywodraeth Cymru, fel y cyfeirioch chi, Prif Weinidog, maen nhw wedi defnyddio'r arian i ehangu gwasanaethau yn hytrach nag i helpu i wella cyflogau ac amodau staff. Mae yna bryderon wedyn, am lesiant staff a'u teuluoedd, yn ogystal â chyfraddau cadw staff, ar adeg pan fo'r galw am wasanaethau'r trydydd sector yn cynyddu'n barhaus. Prif Weinidog, rwy'n sylweddoli bod galwadau niferus ar adnoddau Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, ond tybed pa drafodaethau yr ydych wedi eu cael gyda'ch cyd-Aelodau ac eraill ynghylch sicrhau bod byrddau cynllunio yn ystyried eu swyddogaeth yn llawn o ran gwella amodau i staff y trydydd sector wrth gomisiynu gwasanaethau. Diolch.

Llywydd, rwy'n cydnabod y ddilema y mae Peter Fox yn cyfeirio ato. Rwyf i'n dymuno, fel y gwnaeth ef, dalu teyrnged i'r gwaith gwych y mae mudiadau gwirfoddol a'r trydydd sector yn ei wneud yma yng Nghymru. Ac nid yw'n syndod clywed bod llawer o'r sefydliadau hynny, pan oedd rhywfaint o gyllid ychwanegol ar gael, eisiau rhoi hwnnw i ehangu'r gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu, o ystyried arwyddocâd y camau hynny mewn cymunedau lleol.

A dylai gweithio yn y trydydd sector gael ei wobrwyo'n iawn; ni ddylai pobl deimlo, oherwydd eu bod yn gweithio yn y sector hwnnw na ddylen nhw gael taliadau digonol eu hunain. Byddaf yn gwneud yn siŵr ein bod yn codi'r pwynt y mae'r Aelod wedi'i wneud yn y gwahanol fforymau sydd gennym. Rwy'n falch o ddweud, Llywydd, bod pwyllgor y Cabinet ar gostau byw a oedd yn cwrdd bob wythnos yn nhymor yr hydref wedi cael cynrychiolaeth o'r trydydd sector ar y pwyllgor hwnnw—Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, Cyngor ar Bopeth. Clywsom ganddyn nhw i gyd dros y cyfnod hwnnw. Felly, mae gan y trydydd sector lais yng nghanol Llywodraeth Cymru. Ond mae'r pwysau ar y sector yn sicr yn real. Bydd cyhoeddiad ddoe gan Lywodraeth y DU am y gostyngiad yn y gefnogaeth i'r trydydd sector mewn costau ynni yn golygu y bydd mwy o ddilema yn wynebu'r sector, ac ni all Llywodraeth Cymru fod yr ateb i bob dilema y mae pob rhan o gymdeithas Cymru yn ei wynebu. 

Prif Weinidog, mae gan undebau credyd ran hanfodol i'w chwarae wrth gefnogi pobl yn ein cymunedau, rhan sydd wrth gwrs yn fwy allweddol yn ystod yr argyfwng costau byw. Yng nghyfarfod olaf y grŵp trawsbleidiol ar fentrau cydweithredol a chydfuddiannol, cawsom gyflwyniad ynglŷn â sut mae undebau credyd wedi dod at ei gilydd i ddatblygu eu cynllun Moneyworks Wales, gyda'r nod o helpu cyflogwyr i helpu eu staff. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn gwneud llawer i gefnogi undebau credyd, fel yr amlygwyd dim ond yr wythnos diwethaf, ond sut mae'n gallu sicrhau bod cyflogwyr yn ymwybodol o'r fenter hon a'u hannog nhw i gymryd rhan? 

Diolch i Vikki Howells am hynna, Llywydd. Roedd yn dda iawn yr wythnos diwethaf cael cyfle yno, gyda thri chyd-Weinidog arall, i dynnu sylw at waith undeb credyd Caerdydd a'r Fro. Roedd cyd-Aelodau eraill, fe wn i, allan ar yr un diwrnod yn tynnu sylw at y gwasanaethau y mae undebau credyd bellach yn gallu eu darparu, ac rydym yn gwybod, pryd bynnag y bydd undebau credyd yn y newyddion, neu'n cael cyhoeddusrwydd ychwanegol, yna mae mwy o aelodau'n dod ymlaen i ymuno. Rhoddodd Llywodraeth Cymru gefnogaeth i'r sector yn y cyfnod cyn y Nadolig i wneud yn siŵr bod ei wasanaethau yn cael eu hysbysebu cystal â phosib. Ac mae canlyniadau cynnar yr ymgyrch honno'n awgrymu y cafwyd 7,000 o aelodau ychwanegol ar gyfer y mudiad undeb credyd yn y cyfnod cyn y Nadolig. O edrych o gwmpas, Llywydd, gwelaf dri Aelod arall a oedd yn aelodau o'r undeb credyd cyflogwyr cyntaf erioed yng Nghymru, pan sefydlodd Cyngor Sir De Morgannwg undeb credyd a oedd yn gweithio trwy ddidyniad o'r gyflogres. A dyna'r union system y mae Vikki Howells yn cyfeirio ati—mae'r ymgyrch Moneyworks Wales yn ymgyrch i annog cyflogwyr ledled Cymru i gynnig cyfleusterau didyniad o'r gyflogres i'w gweithwyr, fel y gallant ymuno ag undebau credyd yn y ffordd honno. Rwy'n falch o ddweud, fel un o 13 prosiect gwahanol undeb credyd, y bydd Llywodraeth Cymru'n ariannu Moneyworks o fis Ebrill eleni fel y gallant fynd ymlaen i annog cymaint o gyflogwyr â phosibl, mewn cymaint o gymunedau â phosibl, i sicrhau bod y ffordd honno o ddod yn aelod o undeb credyd ar gael i bobl sy'n gweithio iddyn nhw.

13:35
Arosiadau am Driniaeth yn y GIG

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddileu arosiadau aml-flwyddyn am driniaeth yn y GIG? OQ58907

Prynhawn da Dr Hussain. Llywydd, yn y chwe mis ar ôl cyhoeddi'r rhaglen adfer ar gyfer gofal a gynlluniwyd, mae arosiadau hir yn GIG Cymru wedi gostwng 23 y cant. Mae hynny o ganlyniad i fuddsoddiad ychwanegol sylweddol, cyfleusterau estynedig, diwygio gwasanaethau ac, yn bennaf oll, ymdrech enfawr staff y GIG eu hunain.

Diolch yn fawr Prif Weinidog. Wrth gwrs, rydym i gyd yn cydnabod y straen aruthrol sydd ar ein GIG ar hyn o bryd, ond mae arosiadau aml-flwyddyn wedi bod o gwmpas ers ymhell cyn y pandemig, yn enwedig mewn orthopedeg. Mae un o fy etholwyr wedi bod yn aros am ben-glin newydd ers 2019. Mae wedi bod yn aros mewn poen dros dair blynedd a hanner, a'r cwbl y mae'r bwrdd iechyd lleol yn ei ddweud wrthyf i yw bod y rhestr aros dros bedair blynedd o hyd ac y dylai'r claf weld ei feddyg teulu er mwyn rheoli'r boen. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi ei bod yn gwbl annerbyniol i gleifion orfod aros mor hir â hynny, neu fod gofal eilaidd yn rhoi'r beichiau ychwanegol hyn ar sector gofal sylfaenol sydd eisoes wedi'i or-ymestyn? Rwy'n cofio codi cwestiynau tebyg yn ystod fy nhymor cyntaf yn y Senedd, ac eto, dyma ni bron i ddegawd yn ddiweddarach yn cael yr un hen drafodaeth am orthopedeg. Prif Weinidog, pryd fydd cleifion Cymru yn cael y gwasanaeth y maen nhw'n ei haeddu o'r diwedd?

Llywydd, nid wyf yn derbyn y darlun cyffredinol y mae'r Aelod yn ei bortreadu, sef bod hwn yn gyflwr sydd wastad wedi bod yn broblem yn GIG Cymru. Roedd amseroedd aros yn GIG Cymru wedi bod yn gostwng dros bedair a phum mlynedd yn olynol hyd at fis Mawrth 2019 a thu hwnt. Effaith y pandemig sydd wedi creu'r rhestrau aros hir hynny, ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, mae'r arosiadau hiraf, sef yr arosiadau hiraf yn y GIG yng Nghymru, wedi gostwng 23 y cant rhwng diwedd mis Mawrth a diwedd mis Hydref y llynedd, ac mae hynny'n cynnwys enillion ym maes orthopedeg, sef un o'r arbenigeddau anoddaf o ran gweld ffordd o ddatrys yr ôl-groniad a'r gweithgarwch cynyddol, oherwydd yr effaith mae COVID yn parhau i'w chael, yn y ffordd y caiff theatrau llawdriniaeth a gweithdrefnau eraill eu cynnal yn y GIG yng Nghymru. Wrth gwrs rydym eisiau gweld yr arosiadau hynny'n cael eu lleihau ymhellach, a thra bod pobl yn aros, rwy'n credu y gall clinigwyr gofal sylfaenol chwarae rhan yn helpu pobl i reoli eu cyflyrau yn y ffordd orau bosibl.

Ym Mae Abertawe yn enwedig, bydd yr Aelod yn ymwybodol bod y bwrdd iechyd yn bwriadu canolbwyntio gofal orthopedig arfaethedig yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, gan ryddhau capasiti yn Nhreforys, cadw 10 gwely yn Nhreforys ar gyfer yr achosion mwyaf cymhleth, ac, wrth wneud hynny, cael gwelyau pwrpasol fydd yn caniatáu ailddechrau hyd yn oed mwy o driniaethau mor gyflym â phosib.

13:40

Prif Weinidog, ydych chi'n cytuno â mi ei bod hi'n cymryd tipyn o wyneb i Geidwadwr feirniadu'r gwasanaeth iechyd gwladol? Un o'r problemau yr ydym ni wedi'u gweld dros y degawd diwethaf yw sut mae cyni wedi rhwygo'r galon allan o'n gwasanaethau cyhoeddus. Fe rwygodd Brexit y galon allan o'n heconomi. Yr hyn sydd angen i ni ei wneud i ddathlu 75 mlynedd ers i Aneurin Bevan sefydlu'r gwasanaeth iechyd gwladol yw rhoi'r math o arian sydd ei angen arno er mwyn cyflawni ar gyfer pobl heddiw ac yn y dyfodol. Mae hynny'n golygu bod angen i chi fod yn gwbl glir yn eich cyfarfod nesaf gyda Phrif Weinidog y DU, bod cyni wedi methu ers degawd, nid yw'n mynd i lwyddo yn ystod y degawd nesaf, ac os ydym eisiau gweld y gwasanaeth iechyd gwladol yn llwyddo fel y mae wedi gwneud, ac fel yr oedd Aneurin Bevan yn dymuno iddo wneud, yna mae angen buddsoddi ynddo ar gyfer heddiw ac ar gyfer y dyfodol.

Diolch i Alun Davies am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae'n ein hatgoffa ni o ba mor ffyrnig yr oedd y Blaid Geidwadol ar y pryd yn gwrthwynebu Aneurin Bevan. Ni fyddai gennym wasanaeth iechyd gwladol petai'r blaid honno wedi cael ei ffordd. Yr hyn sy'n sicr yn wir yn yr hyn a ddywed yw hyn: Llywydd, os edrychwch chi ar lefelau boddhad o ran y gwasanaeth iechyd gwladol, roedd y lefelau ar eu hanterth yn y flwyddyn 2010, ac maen nhw wedi bod ar eu hisaf yn ystod y misoedd diwethaf. Pam felly? Y rheswm am hynny, yn 2010, yw y bu degawd o fuddsoddiad yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Roedd lefel y buddsoddiad yn ein GIG wedi cyrraedd y lefel oedd ar gael ymhlith ein cymdogion Ewropeaidd. Mae degawd o gyni wedi erydu'r holl enillion hynny. Mae hyn wrth wraidd yr anawsterau yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd—yr anawsterau yr ydym ni'n eu hwynebu gyda phobl yn teimlo rheidrwydd i fynd ar streic i fynegi eu hanfodlonrwydd ynghylch yr effaith y mae cyflog sydd wedi ei ddal yn ôl dros ddegawd wedi'i gael ar eu bywydau, ac rydym yn ei weld yn y buddsoddiad sydd wedi bod ar gael ar draws y Deyrnas Unedig i gadw'r gwasanaeth hwnnw mewn trefn dda. Byddaf yn sicr yn gwneud y pwynt hwnnw pan fyddaf yn gweld y Prif Weinidog nesaf, ond mae'n bwynt yr ydym ni'n ei wneud yn fwy cyffredinol i bobl ar draws y Deyrnas Unedig: mae angen Llywodraeth ar y wlad hon sy'n barod i fuddsoddi yn y GIG ac i atgyweirio'r difrod a wnaed gan y 12 mlynedd diwethaf.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Diolch Llywydd. Mae'n rhyfeddol bod y Prif Weinidog yn dweud bod angen Llywodraeth ar y wlad hon i fuddsoddi yn y GIG pan bleidleisiodd ef a'i gyd-Aelodau i dorri cyllideb y GIG yn 2011 a 2012. Mae'r cofnod yn dangos mai chi yw'r unig wleidyddion yn y Siambr hon sydd erioed wedi pleidleisio o blaid torri cyllideb y GIG, Prif Weinidog. 

Y pwynt arall o wahaniaeth rhwng rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig sydd wedi digwydd dros yr wythnos diwethaf yw eich bod wedi cyflwyno cynnig ac wedi cyfarwyddo'r GIG i ryddhau cleifion heb gynlluniau gofal a darpariaeth addas o fewn y gymuned pan fyddan nhw'n cael eu rhyddhau. Mae meddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol wedi dweud y gallai cleifion, o bosib, farw neu gael niwed difrifol. Ydych chi'n cytuno gyda'r meddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol o ran eu hasesiad o'ch cynlluniau chi?

Llywydd, rwy'n gwrthod yn llwyr y cymeriadu a wnaeth arweinydd yr wrthblaid, a dylai wybod yn well. Mae'n gwbl anghyfrifol yn camgyfleu'r cyngor, nid gan Lywodraeth Cymru, ond gan Ddirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru a Phrif Swyddog Nyrsio Cymru. Mae gennyf eu llythyr yma o fy mlaen i ac nid yw mewn unrhyw ffordd yn cadarnhau'r cyhuddiadau y mae arweinydd yr wrthblaid newydd eu gwneud. Mae'n cyfeirio drwyddo draw at ryddhau diogel. Ond, yr hyn y mae'n ei wneud yw dweud wrth y system bod yn rhaid i'r system ymdrin â'r cydbwysedd risg ar draws yr holl bobl hynny y mae'n ceisio darparu gofal ar eu cyfer. Mae gennym ni bobl, fel mae e'n gwybod yn iawn ac fel mae'n fy atgoffa i ar lawr y Senedd yn aml, sy'n ei chael hi'n anodd cael mynediad at ddrws ffrynt y system hon, yn aml, pobl ag anghenion sylweddol iawn. Ar ben arall y system, cyn y Nadolig, roedd gennym 1,200 o gleifion mewn gwelyau gwasanaeth iechyd yng Nghymru a oedd yn ddigon iach yn feddygol i gael eu rhyddhau. Nawr, yr hyn y mae llythyr y dirprwy brif swyddog meddygol a phrif swyddog nyrsio Cymru yn ei wneud yw dweud wrth y byrddau iechyd bod yn rhaid iddyn nhw gydbwyso'r risgiau hynny. Os oes cleifion mewn gwelyau ysbyty sy'n aros am brofion, gallent gael eu rhyddhau'n ddiogel a'u galw'n ôl i mewn pan fydd y profion hynny ar gael. Efallai nad yw pob elfen o becyn gofal yn ei le, ond mae'r pecyn gofal sydd yno'n ddigon diogel i ganiatáu rhyddhau cleifion. Yn hytrach na diwylliant o berffeithrwydd ynghylch rhyddhau, a diwylliant o argyfwng wrth ddrws ffrynt ysbyty, mae'r llythyr yn ceisio ailgydbwyso hynny a'i wneud mewn ffordd glinigol gyfrifol.

Roedd hwnnw'n gyngor da i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru; fe welwch gyngor cyfochrog yn cael ei baratoi mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Rwy'n cefnogi'r hyn y mae'r prif swyddog nyrsio a'r dirprwy brif swyddog meddygol wedi ei ddweud wrth y gwasanaeth, ac rwy'n credu y bydd yn arwain at well gofal i lawer o gleifion, sydd fel arall—ag anghenion critigol iawn—yn cael eu hunain yn aros yn rhy hir i gael mynediad at ddrws ffrynt ysbyty.

13:45

Prif Weinidog, nid wyf yn camgyfleu cyngor unrhyw un. Roedd y Gymdeithas Feddygol Brydeinig, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, ymarferwyr ar y rheng flaen, wythnos ar ôl wythnos, ddydd ar ôl dydd, yr wythnos diwethaf, yn dweud mai cyngor gwael yw'r cyngor hwn, ac yn y pen draw mae'n rhoi cleifion mewn perygl o niwed. Nid fi sy'n dweud hyn. Byddai chwilio drwy Google yn gyflym ar unrhyw un o'r cyfrifiaduron y mae pawb yma heddiw yn eu defnyddio yn gweld hynny yn y straeon newyddion a oedd yn cyd-fynd â'r cyhoeddiad penodol hwn. Os ydych chi'n dweud ei fod yn camgyfleu, pam na chawsoch chi'r gweithwyr iechyd proffesiynol i mewn cyn i'r cyhoeddiad hwn gael ei wneud, er mwyn rhoi'r sicrwydd y byddai angen arnyn nhw i gefnogi'r cyngor a roddodd eich dirprwy brif swyddog meddygol a'ch prif swyddog nyrsio yr wythnos diwethaf, yn hytrach na rhuthro i roi'r cyngor ac achosi pryder, achosi poendod, ac achosi gofid?

Llywydd, ni frysiwyd y cyngor mewn unrhyw ffordd; cafodd ei gyhoeddi ar 30 Rhagfyr. 27 Rhagfyr oedd y diwrnod unigol prysuraf yn hanes 75 mlynedd y GIG yng Nghymru. Ar y diwrnod unigol hwnnw, cafodd 550 o gleifion eu derbyn i welyau yn y GIG yng Nghymru. Roedd pump y cant o gapasiti gwelyau'r GIG i gyd yn cael eu defnyddio mewn un diwrnod, gydag ambiwlansys yn dal yn gorfod aros i ryddhau cleifion i adrannau damweiniau ac achosion brys a phobl yn gorfod aros am driniaeth ar ôl cyrraedd. Ymatebodd y llythyr mewn ffordd sobr a chyfrifol i'r gyfres honno o amgylchiadau, gan gynghori clinigwyr ynghylch sut y gallent wneud trefniadau yn ddiogel ar gyfer pobl a oedd yn addas yn feddygol i gael eu rhyddhau—1,200 o bobl mewn gwelyau ysbyty pan oedd y gwasanaeth iechyd eisoes wedi cwblhau popeth yr oedd y gwasanaeth iechyd yn bwriadu ei ddarparu i'r cleifion hynny. Yn syml, nid wyf yn credu y gall fod yn gyfrifol i nodweddu'r cyngor hwnnw yn y ffordd y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ceisio ei wneud y prynhawn yma.

Nid wyf ond wedi cymryd sylwadau a dyfyniadau ac arsylwadau gweithwyr iechyd proffesiynol, Prif Weinidog. Nid wyf wedi ychwanegu dim o fy ngeiriau fy hun. Fel y dywedais i, mae'r dystiolaeth yno i bobl ei gweld. Rydych chi'n dweud na ruthrwyd y dystiolaeth hon. Y seithfed ar hugain o Ragfyr i'r degfed ar hugain o Ragfyr, dyna 72 awr. Newidiwyd egwyddor sylfaenol yn y broses ryddhau, sef cael cynlluniau gofal ar waith ar gyfer pobl a oedd yn cael eu rhyddhau. Yr hyn y mae pobl eisiau gwybod yw, a allwch chi roi sicrwydd, pan fydd pobl yn cael eu rhyddhau y bydd y cymorth hwnnw yno, y gefnogaeth honno, a'r arweiniad hwnnw, fel nad yw pobl yn cael eu haildderbyn yn y pen draw oherwydd nad yw'r amgylchiadau y maen nhw wedi'u rhyddhau i mewn iddyn nhw yn ddigon da i sicrhau gofal am y cyflwr yr aethant i'r ysbyty o'i herwydd yn y lle cyntaf? Oherwydd fel arall, byddwch yn bradychu eu hymddiriedaeth yng ngallu'r system iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru i'w rhoi yn ôl ar y llwybr i adferiad ac yn y pen draw diogelwch mewn bywyd.

Llywydd, mae'r cyngor yn ymdrin yn uniongyrchol â sicrhau nad yw pobl yn cael eu rhyddhau o dan amgylchiadau a fyddai'n arwain at eu haildderbyn yn gyflym. Mae'n siarad am bobl sydd, er enghraifft, yn aros am asesiad, ac yn awgrymu ei bod hi'n well i rywun aros am asesiad gartref, yn hytrach nag aros mewn gwely ysbyty—gwely ysbyty nad yw ar gael wedyn i rywun nad yw mewn cyflwr meddygol sefydlog yn aros am asesiad, ond sy'n aros i fynd i mewn drwy ddrws yr ysbyty i gael y driniaeth sydd ei hangen arno. Mae cydbwysedd risg yn rhywbeth y mae'r gwasanaeth iechyd yn ymdrin ag ef o ddydd i ddydd, ac wedi gwneud erioed.

Beth wnaeth y llythyr oedd sicrhau bod y clinigwyr yn gwybod bod ganddyn nhw, wrth wneud y penderfyniadau hynny, gefnogaeth eu cydweithwyr uchaf yn y gwasanaeth yng Nghymru wrth wneud y penderfyniadau anodd hynny. Nid oes dim yn y llythyr o gwbl sy'n awgrymu y dylai unrhyw un gael eu rhyddhau'n anniogel, y dylid rhyddhau unrhyw un mewn amgylchiadau lle byddai'n hysbys y byddai angen i'r person hwnnw geisio aildderbyniad. Yn syml, fe geisiodd, mewn ffordd gyfrifol, ymateb i amgylchiadau'r gwasanaeth iechyd drwy ddweud y gellid cyflymu taith y bobl y gellid gofalu amdanyn nhw yn ddiogel gartref er mwyn gwneud yn siŵr, fel un o egwyddorion mwyaf sylfaenol y GIG cyfan, bod y rhai sydd â'r angen mwyaf yn gallu mynd i flaen y ciw. 

13:50

Diolch, Llywydd. O ran cyflog y GIG, Prif Weinidog, rydym wedi amcangyfrif, yn seiliedig ar ffigurau yr ydych chi wedi'u rhannu â ni, y gallech fforddio o leiaf 3 y cant o ddyfarniad cyflog ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon. Nawr, rwy'n deall bod y Gweinidog iechyd wedi dweud nad yw'n cydnabod y ffigurau hynny, felly a allwn ni gymryd yn ganiataol y bydd y dyfarniad cyflog yr ydych chi'n bwriadu ei gynnig yn llai na'r ffigur hwnnw? Fe ddywedoch chi fis yn ôl nad oedd arian ychwanegol ar gael yn y flwyddyn ariannol hon, a nawr rydych chi wedi dod o hyd iddo. Rydych chi nawr yn dweud na fydd arian ychwanegol y flwyddyn nesaf, felly dim ond taliad untro y gall hwn fod. Ond pam na allwch chi ddefnyddio'r un broses yr ydych chi wedi'i defnyddio ar gyfer y gyllideb eleni ar gyfer y gyllideb y flwyddyn nesaf? A hyd yn oed os nad yw hynny'n ddigonol, ydych chi'n derbyn bod gennych chi bwerau codi trethi a allai gynhyrchu refeniw ychwanegol? Felly, nid yw'n iawn i ddweud bod eich gallu i droi taliad untro yn godiad cyflog rheolaidd yn cael ei benderfynu'n llwyr gan San Steffan; mae'n ddewis gwleidyddol.

Wel, mae yna ddewisiadau gwleidyddol yma, Llywydd, ac mae ffeithiau caled hefyd, ac mae'n ffaith galed na allwch wario arian untro i dalu am filiau rheolaidd. Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at ein cydweithwyr yn yr undebau llafur yn sicrhau ein bod yn gallu parhau i siarad â nhw. Rydym wedi rhoi pecyn o fesurau at ei gilydd. Rwy'n falch y byddwn yn cael cyfarfod gyda'n hundebau llafur ddydd Iau yr wythnos hon.

Mae un elfen o'r pecyn hwnnw'n cynnwys cynnig taliad anghyfunol untro yn y flwyddyn ariannol hon. Mae'r swm o arian sydd wedi ei gasglu ar  gyfer hwnnw wedi ei ennill drwy fawr ymdrech dros gyfnod y Nadolig, pan oedd cyd-Weinidogion yn y Cabinet i gyd wedi gorfod edrych ar gynlluniau gwario yn chwarter olaf eleni a chytuno ar ffyrdd y gellid aildrefnu hynny i ryddhau arian i gefnogi'r cynnig hwnnw. Ond dim ond yn y flwyddyn ariannol hon y mae'r arian ar gael.

Byddwn yn trafod gyda'n cydweithwyr yn yr undebau llafur; dyna'r lle iawn i ni drafod cwantwm yr arian y gellir dod o hyd iddo, ac yna byddwn yn trafod gyda nhw y ffordd orau y gellid gwasgaru'r arian hwnnw ymhlith ein gweithwyr yn y sector cyhoeddus.

Felly mae'n ddiddorol bod Plaid Cymru wedi ymuno â'r Ceidwadwyr Cymreig wrth awgrymu mai'r ffordd i ariannu cyflogau'r sector cyhoeddus yng Nghymru yw codi trethi hyd yn oed ymhellach nag y maen nhw ar boblogaeth Cymru eisoes. Mae arweinydd Plaid Cymru'n iawn yn dweud mai dewis gwleidyddol yw hwnnw, a dyna ddewis gwleidyddol wnaeth y Cabinet hwn ei drafod yn fanwl yn y cyfnod cyn y gyllideb ddrafft. Roedd yna eiliad—eiliad fer, fel y gwyddoch, pan oedd Liz Truss yn Brif Weinidog—pryd yr oedd cynlluniau i leihau lefel y dreth incwm ar draws y Deyrnas Unedig, ac fe wnaeth hynny, rwy'n credu, agor posibilrwydd realistig y gallem fod wedi codi cyfraddau treth incwm yng Nghymru heb roi dinasyddion Cymru o dan anfantais y flwyddyn nesaf y tu hwnt i'r sefyllfa y maen nhw ynddi eleni.

Bydd dinasyddion Cymru yn talu trethi uwch y flwyddyn nesaf, Llywydd, nag yr oedden nhw dros y 70 mlynedd diwethaf. Gofynnir iddyn nhw wneud hynny yn nannedd argyfwng costau byw a hwythau eisoes yn ei chael hi'n anodd talu biliau tanwydd, biliau ynni, biliau bwyd a biliau eraill hefyd. Edrychodd y Cabinet hwn i weld a ddylem ni dynnu mwy o arian o'u pocedi drwy godi trethi, a phenderfynu nad oedd hynny'n ffordd synhwyrol o weithredu. Dyna ein barn ni o hyd, ac felly nid yw'n gam gweithredu y byddwn ni yn ei dilyn, i ddod o hyd i arian untro eleni ac i ddod o hyd i arian rheolaidd y flwyddyn nesaf, sef drwy godi lefelau treth hyd yn oed yn uwch yng Nghymru.

13:55

Ond mae'r defnydd cynyddol o dreth incwm er mwyn amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus rhag cyni Torïaidd yn safbwynt sosialaidd hirsefydlog yr ydym yn ei arddel yn y blaid hon, ac mae'n rhywbeth yr oeddech chi'n arfer credu ynddo hefyd.

Fe wnaethoch gydnabod, yn eich sylwadau ddoe, y cwymp mewn ymddiriedaeth ym mhroses y corff adolygu cyflogau. Sut ydych chi'n bwriadu ailadeiladu'r ymddiriedaeth hon? Ydych chi'n bwriadu newid natur y cylch gwaith drwy ganolbwyntio'n llwyr ar ba lefelau cyflog sy'n angenrheidiol i recriwtio, cadw a chymell staff, a gadael y cwestiwn o fforddiadwyedd i wleidyddion benderfynu arno? Ac a allwch chi hefyd ddweud a ydych chi'n agored i awgrym yr undeb bod unrhyw gynnydd a gytunir ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cael ei ôl-ddyddio i fis Ionawr eleni? Dyna egwyddor yr ydych chi wedi ei derbyn yn eich trafodaethau cyflog gyda Trafnidiaeth Cymru. Ac ydych chi'n agored i ofyn i'r corff adolygu cyflogau ailedrych ar ei argymhellion ar gyfer eleni, a wnaed cyn y cynnydd enfawr mewn costau byw, ac adlewyrchu unrhyw ddyfarniad uwch mewn codiad cyflog parhaol?

Wel, Llywydd, bydd y Llywodraeth yn cynnal ein trafodaethau gydag undebau llafur, gyda'r undebau llafur. Dyna'r ffordd gywir i ddatrys y materion hyn, a dyna, mewn gwirionedd, yw'r ffordd rwy'n credu sy'n barchus i'n cydweithwyr yn yr undebau llafur, sef ein bod yn trafod y materion hyn yn uniongyrchol gyda nhw, yn hytrach na thrwy ddirprwy ar lawr y Senedd. A dyna a wnawn ni.

Byddwn ni, wrth wneud hynny, yn siarad â nhw, fel yr wyf i'n ei ddweud, ynghylch sut y gellir gwasgaru unrhyw swm o arian y gallwn ei sefydlu yn y flwyddyn ariannol hon ymhlith aelodau'r undebau llafur. Yn sicr, byddwn eisiau siarad â nhw am ffyrdd y gellid ailsefydlu ymddiriedaeth yn y broses adolygu cyflogau. Bydd syniadau y byddwn eisiau eu rhoi ar y bwrdd o ran sut y gellid gwneud hynny, ac rwy'n awyddus iawn yn wir i glywed gan ein cydweithwyr undebau llafur ynglŷn â sut maen nhw'n credu y gellir adfer ffydd yn y broses honno.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, o safbwynt gweithiwr yng Nghymru, ein bod ni'n gallu gwneud hynny, Llywydd. Dros 20 mlynedd, ac yn enwedig yn y 12 mlynedd diwethaf, rydym wedi bod wrthi yn ceisio ymladd yn erbyn cyfres o ymdrechion gan Gangellorion Ceidwadol i symud tuag at gyflogau rhanbarthol mewn gwasanaethau cyhoeddus. Does dim y bydden nhw'n hoffi mwy na gweld gweithwyr Cymru yn cael llai o gyflog na gweithwyr mewn mannau eraill. Mae'r broses adolygu cyflogau yn diogelu gweithwyr Cymru rhag rhanbartholi cyflogau, a dyna pam yr wyf yn credu bod ymdrech wirioneddol i ailsefydlu ymddiriedaeth yn y broses honno'n werth ei gwneud.

Ond mae'r broses adolygu cyflogau wedi arwain at doriad degawd o hyd, mewn termau real yng nghyflogau staff ein GIG. Felly, mae'r system wedi torri, ac nid wyf yn ymddiheuro am ddal y Llywodraeth i gyfrif a gofyn iddi ddatgan beth yw eich egwyddorion democrataidd eang. A ni yma yw llais staff y GIG. Rydym ni wedi bod ar y llinellau piced yn siarad â nhw. Rydym ni'n gwneud y pwyntiau maen nhw wedi gofyn i ni eu rhannu â chi.

Mae'n dda gweld eich bod yn barod i ymdrin o'r diwedd, â'r cynnydd enfawr yn y defnydd o staff asiantaeth y sector preifat wrth ddarparu gwasanaethau'r GIG. Ydy hyn yn golygu eich bod chi'n ymbellhau o sefyllfa'r Blaid Lafur yn Lloegr, sy'n galw am fwy o ddefnydd o'r sector preifat yn y GIG—preifateiddio trwy ddirprwy, yn y bôn? Ydych chi, fel Llywodraeth, yn barod i ailymrwymo i'r egwyddor a arddeloch chi 16 mlynedd yn ôl, sef dileu'r defnydd o'r sector preifat yn y GIG yn llwyr? Neu a yw'r addewid hwnnw am fynd yr un ffordd ag addewid arweinyddiaeth Keir Starmer yn 2020, sef rhoi diwedd ar allanoli yn y GIG?

Wel, Llywydd, rwy'n credu mai'r BMA a ddisgrifiodd GIG Cymru fel y GIG agosaf at egwyddorion gwasanaeth iechyd sefydlol mudiad Bevan o unrhyw un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig, ac mae hynny'n safbwynt y byddwn yn dymuno ei weld yn cael ei gynnal. Roedd effaith y pandemig yn golygu ein bod wedi gwneud mwy o ddefnydd o gyfleusterau yn y sector preifat nag a byddem cyn hynny, a doedd dim beirniadaeth ar hynny, fel rwy'n cofio, yn ystod cyfnod y pandemig, oherwydd roedd angen i ni ddefnyddio'r holl gyfleusterau y gallem ni roi ein dwylo arnyn nhw i wneud yn siŵr bod pobl a oedd yn dioddef o coronafeirws yn cael y driniaeth yr oedd ei hangen arnyn nhw. Yn dilyn COVID, byddwn yn gwneud defnydd o rai cyfleusterau yn y sector preifat i leihau'r ôl-groniad o bobl sy'n aros am ofal y buom yn siarad amdano yn gynharach y prynhawn yma. Mewn gwirionedd, nid wyf i'n ymddiheuro am wneud hynny. Rwy'n ei ystyried yn fesur tymor byr i ymdrin ag ôl-groniad. Ond pan fydd gennym ôl-groniad o'r math yr ydym wedi'i weld—ac rydym ni wedi clywed y prynhawn yma am bobl sy'n aros mewn poen i gael y driniaeth sydd ei hangen arnyn nhw—nid wyf yn ymddiheuro am y ffaith y byddwn yn defnyddio cyfleusterau yn y sector preifat yma yng Nghymru yn y ffordd tymor byr i leihau'r ôl-groniadau hynny. Ar yr un pryd, rydym ni eisiau meithrin gallu'r gwasanaeth iechyd ei hun, fel ei fod yn y tymor hir yn gallu darparu ar gyfer yr holl anghenion sydd yna yng Nghymru o fewn y gwasanaeth cyhoeddus.

14:00
Llifogydd Tir yng Nghanolbarth Cymru

3. Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru'n ei darparu i Gyfoeth Naturiol Cymru er mwyn lliniaru llifogydd tir yng nghanolbarth Cymru? OQ58916

Diolch i Russell George am y cwestiwn, Llywydd. Rydym wedi darparu mwy na £71 miliwn i weithgareddau rheoli risg llifogydd ledled Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Mae hyn yn cynrychioli ein cyllideb fwyaf erioed. Mae'r £39.5 miliwn sy'n cael ei ddarparu i CNC ar gyfer gwaith rheoli risg llifogydd yn cynnwys darpariaeth benodol ar gyfer cynlluniau yn y canolbarth. 

Diolch i chi, Prif Weinidog, am eich ateb. Byddwch yn gwybod fy mod i wedi codi materion gyda chi a Gweinidogion eraill yn rheolaidd o ran llifogydd tir ar draws y canolbarth. Efallai eich bod yn cofio'r mater o lifogydd mewn cartrefi yn Llandinam a godais gyda chi fis Chwefror diwethaf, ac yn wir ardaloedd eraill. Wrth gwrs, mae pryder a phryder mawr, fel y byddwch chi'n gwybod, gan bobl y mae eu cartrefi wedi dioddef llifogydd, ond maen nhw'n poeni y gallai eu cartrefi ddioddef llifogydd hefyd. Ar hyn o bryd rydym ni mewn sefyllfa yn y canolbarth lle mae afonydd yn gorlifo. Mae disgwyl rhagor o lifogydd ar dir isel heddiw o ganlyniad i lefelau yn Afon Efyrnwy ac Afon Hafren. Ar hyn o bryd, mae nifer o rybuddion y Swyddfa Dywydd mewn grym.

Un o'r prif ysgogiadau o ran atal a lleihau'r risg o lifogydd yw gwell rheolaeth dros gronfeydd dŵr Clywedog ac Efyrnwy. Tybed a allwch chi ddarparu diweddariad, Prif Weinidog, ynglŷn â'r gweithiau yr wyf yn gwybod eich bod chi a CNC yn ymwneud â nhw, yn enwedig o ran y posibilrwydd o wella argae Clywedog i ddarparu mwy o gydnerthedd. Fy marn i hefyd, ers blynyddoedd lawer, yw bod angen archwilio rheolau gweithredu'r ddau argae ac edrych arnyn nhw er mwyn caniatáu mwy o gapasiti storio ym misoedd y gaeaf. Rwy'n gwybod mai'r hyn sy'n gwrthbwyso hynny yw bod angen cadw'r argaeau hynny'n uchel mewn cyfnodau o sychder, ond rwy'n sicr o'r farn bod y rheolau hynny'n hen ac mae angen eu harchwilio. Tybed a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi, Prif Weinidog ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran rheolau gweithredu'r ddau argae a'r trafodaethau a gawsoch.

Ac yn olaf, iawndal i dirfeddianwyr pan fo tir tirfeddianwyr dan ddŵr, weithiau mewn ffordd a gynlluniwyd, er mwyn osgoi llifogydd mewn cartrefi i fyny'r afon. Bydd y tirfeddianwyr penodol hynny dan anfantais sylweddol. Tybed pa ystyriaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi o ran cefnogi'r tirfeddianwyr penodol hynny.

Llywydd, Diolch i Russell George am y nifer o gwestiynau pwysig y mae wedi'u codi. Mae'n iawn i dynnu sylw at y ffaith, ar draws Cymru heddiw, gyda maint y glaw yr ydym ni wedi'i gael yn ystod yr wythnosau diwethaf a gyda maint y glaw sy'n cael ei ragweld ar gyfer heddiw ac ar gyfer dydd Iau ac i mewn i'r penwythnos hefyd, bydd cymunedau'n bryderus ynghylch beth fydd hyn yn ei olygu iddyn nhw. Mae cyngor da i unigolion ar gael drwy CNC—ei wefan ei hun a ffynonellau gwybodaeth eraill. Mae Russell George, fel y dywedodd, Llywydd, wedi codi materion sy'n peri pryder yn rheolaidd mewn cymunedau yn ei etholaeth ei hun. Bydd yn gwybod y bu cyfarfod cyhoeddus diweddar yn Llandinam, a gwn ei fod ef ei hun wedi bod yn rhan o drafodaethau pellach gyda CNC ynglŷn â mesurau y gellid eu rhoi ar waith yn y pentref hwnnw. Ar hap a damwain, Llywydd, roeddwn i'n teithio o'r de i'r gogledd ddechrau'r wythnos diwethaf ac wedi stopio yn Llandinam, yn rhannol er mwyn cael golwg ar rai o'r pethau yr oeddem wedi'u trafod yma. Mae'n hawdd iawn gweld drosoch eich hun, os ydych chi yno, pa mor agos mae Afon Hafren yn dod i'r pentref a natur gwastad y tir amaethyddol sy'n gwahanu'r afon a chartrefi pobl.

Mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud am gronfeydd dŵr Efyrnwy a Clywedog yn un pwysig iawn, oherwydd pryder rhai pobl, ymhellach i lawr yr afon, yw bod dŵr sy'n cael ei ollwng o'r cronfeydd dŵr yn ychwanegu at y risg o lifogydd, yn enwedig ar adegau o law mawr. Asiantaeth yr Amgylchedd sy'n gyfrifol am reoli'r gollyngiadau a lefelau'r dŵr yn y cronfeydd dŵr hynny, ac mae wedi bod yn gollwng dŵr allan o'r ddwy gronfa ddŵr ddechrau eleni. Mae gennym sicrwydd y byddant yn camu'n ôl o hynny yn sgil rhagolygon y tywydd yr wythnos hon. Ond mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i fod mewn trafodaethau rheolaidd gydag Asiantaeth yr Amgylchedd ynglŷn â'r trefniadau gweithredu sydd ganddi ar gyfer y ddwy gronfa ddŵr, ac rwy'n hapus iawn i wneud yn siŵr bod y pwyntiau a wnaed gan yr Aelod y prynhawn yma yn cael sylw ymhellach yn y trafodaethau hynny. 

14:05

Rwy'n credu y gallai fod yn werth, Prif Weinidog, annog pobl i edrych ar y map o fuddsoddiad cyfalaf llifogydd ac arfordirol sydd ar gael ar-lein. Rydych eisoes wedi crybwyll y bu buddsoddiad o £71 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Rwy'n deall y bydd map rhyngweithiol sy'n darparu mwy o fanylion am y cynlluniau hyn yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir. Byddwn yn croesawu, os ydych chi'n gallu ei ddarparu, unrhyw ddiweddariad ar hynny, oherwydd byddai'n ddefnyddiol iawn, yn enwedig i berchnogion a thrigolion y 45,000 eiddo ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'w diogelu dros y tymor nesaf hwn. 

Diolch i Joyce Watson am y pwynt pwysig yna, Llywydd. Rydym wedi ymrwymo, ochr yn ochr â'n partneriaid, i sicrhau bod mwy o wybodaeth ar gael i drigolion yng Nghymru fel eu bod, os yw pobl yn bryderus am gyflwr yr afonydd neu'r perygl o lifogydd, yn gwybod ble i fynd i gael yr wybodaeth honno. Mae llawer ohoni, yn anochel, y dyddiau hyn, Llywydd, yn wybodaeth ar-lein ac fe wyddom nad yw hynny ar gael i bawb yn yr un modd. Dyna pam mae'r ymgynghoriad yr ydym yn rhan ohono ar hyn o bryd yn bwysig, i sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn ffordd sy'n hygyrch i bawb. Roedd yr wyth eiddo a orlifwyd yn Llandinam, yn etholaeth Russell George, fel mae'n digwydd wedi eu meddiannu gan bobl a oedd yn eithaf oedrannus ac mae'n debyg nad oedd mynediad at mathau o rybuddion a gwybodaeth ar-lein y ffordd orau o'u cyrraedd nhw. Felly, mae'r ymgynghoriad, a fydd yn fyw ar 23 Ionawr, yn ffordd i ni sicrhau nid yn unig y gellir rhoi'r mathau newydd o wybodaeth y mae Joyce Watson wedi tynnu sylw atynt ar waith ond ein bod yn sicrhau bod ffyrdd o gyrraedd eraill y gallai ffyrdd mwy confensiynol o dderbyn gwybodaeth fod yn angenrheidiol ar eu cyfer nhw.

Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd

4. A yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu dilyn ôl traed Llywodraeth yr Alban gyda Bil diwygio cydnabod rhywedd? OQ58937

Nid yw'r pwerau sydd ar gael yn Yr Alban wedi'u datganoli i Gymru ar hyn o bryd. Byddwn ni'n ceisio'r pwerau hynny, fel y nodir yn y rhaglen lywodraethu. Wrth gwrs, bydd defnydd deddfwriaethol o unrhyw gymhwysedd newydd yn rhywbeth i'r Senedd ei hun ei bennu.

Diolch Prif Weinidog. Mae pryderon amlwg, cyfiawn yn dilyn rhuthro'r ddeddfwriaeth yn yr Alban drwodd ac, oherwydd natur y Deyrnas Unedig, sut y bydd yn effeithio ar fenywod yma yng Nghymru, yn enwedig o ran pobl ifanc 16 ac 17 oed a throseddwyr rhyw sydd bellach yn cael hunan-ddiffinio heb ddiagnosis meddygol, a'r risgiau clir ac amlwg a ddaw gyda hynny. Pa sgyrsiau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraethau'r Alban a'r DU ynghylch sut bydd y ddeddfwriaeth hon yn effeithio arnom ni, ac a fyddwch felly yn diystyru deddfwriaeth o'r fath yng Nghymru?

Wel, yn sicr ni fyddaf yn diystyru unrhyw ddeddfwriaeth o'r fath, Llywydd, nac ychwaith yn derbyn bod Bil yr Alban wedi'i ruthro drwy Senedd yr Alban. Rwy'n wir wedi cael cyfle i glywed yn uniongyrchol gan Brif Weinidog yr Alban am hynt y Bil hwnnw, ac fe'i trafodwyd yn drylwyr iawn ac yn ofalus iawn trwy weithdrefnau Senedd yr Alban ei hun. Cafodd ei gefnogi, yn y diwedd, gan Aelodau o bob plaid wleidyddol yn Senedd yr Alban, gan gynnwys Aelodau'r blaid Geidwadol, ac nid wyf yn derbyn y cymeriadu mae'r Aelod wedi'i wneud. Byddwn yn gwneud fel yr wyf wedi dweud, Llywydd: byddwn yn ceisio'r pwerau. Os cawn ni'r pwerau hynny, byddwn ni'n eu rhoi nhw ar waith yma yng Nghymru, a byddwn ni'n rhoi cynigion ger bron Senedd Cymru, fel bod y bobl hynny sy'n chwilio am gydnabod rhywedd yn gallu gwneud hynny mewn ffordd nad yw wedi'i stigmateiddio ac nad yw'n golygu eu bod yn gorfod mynd ar hyd lwybr meddygol hir er mwyn sefydlu eu hunain yn y ffordd y bydden nhw eu hunain yn dymuno.

14:10

Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno y dylid cynnal sgyrsiau ar faterion sensitif fel cydnabod rhywedd gyda pharch a thosturi? Nid yw'n helpu o gwbl pan fydd grwpiau dienw a rhyfelwyr bysellfwrdd anoddefgar yn ymfflamychu trafodaeth gydag anwireddau ac iaith anoddefgar. Prif Weinidog, byddwn â diddordeb mawr yn eich barn am ymateb uniongyrchol Llywodraeth y DU gan fygwth rhwystro'r gyfraith rhag cael Cydsyniad Brenhinol.

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn mae Ken Skates wedi ei ddweud. Mae hon wedi bod yn ddadl sydd wedi polareiddio tu hwnt. Y swyddogaeth briodol i wleidyddion etholedig, rwy'n credu, yw annog deialog, yn hytrach na cheisio dwysáu gwrthdaro. Cefais fy synnu gan ymateb Llywodraeth y DU. Maen nhw'n bygwth defnyddio grym sydd erioed wedi cael ei ddefnyddio yn holl hanes datganoli. Mae'n ymddangos eu bod yn dweud na fyddan nhw'n derbyn tystysgrif cydnabod rhywedd a gafwyd yn yr Alban a hwythau eisoes yn cydnabod tystysgrifau o'r fath sydd i'w cael yng Ngwlad Belg, Denmarc, Gwlad yr Iâ, Lwcsembwrg, Malta, Norwy, Seland Newydd a'r Swistir. Mae nifer o'r gwledydd hynny'n defnyddio'r un broses hunanddatgan sydd i'w defnyddio yn yr Alban. Pan fo gennym system sy'n cydnabod tystysgrifau o rannau eraill o'r byd, mae'n ymddangos yn od iawn yn wir nad yw Llywodraeth y DU yn barod i gydnabod tystysgrif sydd wedi ei chreu mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig. Dywedaf hyn er mwyn bod yn gwbl glir, Llywydd: os oes unrhyw un yn cael tystysgrif cydnabod rhywedd yn yr Alban ac yna'n dod i Gymru, bydd y dystysgrif honno yn cael ei chydnabod yma ar gyfer yr holl ddibenion y byddech yn disgwyl iddi gael ei chydnabod ar eu cyfer.

Amseroedd Aros

5. Beth mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i gwtogi amseroedd aros yn y gwasanaeth iechyd yng Ngorllewin De Cymru? OQ58932

Rydym wedi ymrwymo i leihau amseroedd aros ledled Cymru gyfan, gan fuddsoddi £170 miliwn yn rheolaidd i gefnogi gwelliant, a £15 miliwn i gefnogi trawsnewid gwasanaethau. Mae data mis Hydref yn dangos bod nifer yr arosiadau dros ddwy flynedd wedi gostwng 26 y cant ers mis Mawrth 2022, ym mwrdd iechyd Bae Abertawe. 

Diolch, Prif Weinidog. Mae etholwr i mi o Dreforys wedi bod yn dioddef problemau gyda'i phen-glin ers 15 mlynedd, ac wedi bod yn aros ers pum mlynedd, bron i'r diwrnod, am driniaeth i ailosod dau ben-glin yn rhannol, ac wedi bod mewn poen cyson yr holl amser, ac wedi gorfod rhoi'r gorau i'w thafarn o ganlyniad. Pan dynnais sylw at achos fy etholwr mewn llythyr at Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, fe ddywedon nhw fod amseroedd aros am lawdriniaethau orthopedig yn Abertawe bellach yn fwy na phedair blynedd. Mae'n ddrwg gennyf nad yw'n cyd-fynd â'ch dealltwriaeth chi o'r sefyllfa, ond fe wnaethon nhw hefyd gyfeirio at ddiffyg adnoddau hanesyddol ar gyfer llawdriniaeth orthopedig. Mae'r ffaith bod dau gwestiwn wedi eu gofyn y prynhawn yma ynghylch yr un mater gan Aelodau yng Ngorllewin De Cymru yn dangos pa mor llawn yw ein mewnflwch o'r achosion hyn.

Ydy, mae tanariannu Cymru gan San Steffan a thoriadau gan y Torïaid i wasanaethau cyhoeddus yn amlwg yn rhan enfawr o'r broblem yma, ond cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw iechyd. Felly, a fydd y Prif Weinidog yn addo yn 2023 i gydnabod gallu i weithredu a chyfrifoldeb ei Lywodraeth ei hun, a dweud wrthym beth y mae'n mynd i'w wneud i sicrhau bod pobl Cymru, gan gynnwys fy etholwr, yn derbyn gofal priodol o'r crud i'r bedd a pheidio â chael ei gadael mewn poen ac anobaith am flynyddoedd?

Rwyf eisoes wedi nodi y prynhawn yma gyfres o bethau mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod y gwasanaeth iechyd mewn sefyllfa i drin pobl yn amserol. Dyna ein huchelgais, ac rwy'n siŵr mai dyna uchelgais Aelodau ar draws y Siambr. Fel yr wyf wedi dweud, roedd arosiadau dwy flynedd ym mwrdd iechyd Bae Abertawe 26 y cant yn is ar ddiwedd mis Hydref nag yr oedden nhw ddiwedd Mawrth y llynedd. Mae hynny'n dangos bod cynnydd yn cael ei wneud, er bod yna bobl yn aros yn hwy na fyddem ni'n ei ddymuno. Tynnais sylw yn fy ateb i Altaf Hussain bod gan y bwrdd ei hun gynllun i ganolbwyntio llawdriniaethau orthopedig a gynlluniwyd yn ysbyty Port Talbot, gan allu amddiffyn y capasiti hwnnw at y diben hwnnw, gan gadw 10 gwely yn Nhreforys ar gyfer yr achosion mwy cymhleth hynny. Mae gwahanu gofal a gynlluniwyd ac argyfwng yn rhywbeth yr ydym wedi siarad amdano'n rheolaidd ar lawr y Senedd, ac mae hon yn enghraifft, ac mae enghreifftiau eraill mewn rhannau eraill o Gymru, o'r ymdrech y mae'r gwasanaeth iechyd yn ei gwneud i wahanu'r ddwy ffrwd hynny yn ei waith i allu diogelu capasiti dewisol ac felly gallu gwneud cynnydd o ran yr arosiadau hir hynny mewn ffordd rwy'n gobeithio, y bydd yn dod â rhyddhad i etholwr Sioned Williams.     

14:15
Cefnogaeth i Allforwyr

6. Pa gefnogaeth fydd y Llywodraeth yn ei chynnig i allforwyr nwyddau o Gymru yn 2023? OQ58935

Diolch i Joyce Watson, Llywydd. Mae amodau masnachu byd-eang yn parhau i fod yn anrhagweladwy wrth i ni fynd i mewn i 2023. Yn ogystal â'r cythrwfl a grëwyd gan ymosodiad Rwsia ar Wcráin, mae allforwyr o Gymru yn wynebu rhwystrau newydd rhag masnachu gyda'n marchnad agosaf a phwysicaf. Rydym yn cynnig cymorth ymarferol i bartneriaid i addasu i amgylcheddau masnachu newydd a dod o hyd i gyfleoedd newydd ar gyfer y dyfodol.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yr adeg yma y llynedd, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrth y Senedd hon y byddai Llywodraeth Cymru'n cynnal neu'n gwella safonau'r UE. Mae'r ymrwymiad hwnnw'n hanfodol os ydym am ddileu'r baich Brexit parhaus sy'n wynebu allforwyr o Gymru. Ar lefel y DU, mae'n rhaid i ni wneud i Brexit weithio, ac mae rhyw fath o aliniad rheoleiddio ar gyfer cynhyrchion bwyd a rhoi trefn ar brotocol Gogledd Iwerddon yn angenrheidiol ar frys. Mae'r Blaid Lafur wedi nodi sut y byddai'n gwneud hynny. Ond heddiw, a wnewch chi roi sylwadau ar y newyddion cadarnhaol bod gwerthoedd allforio gan fusnesau Cymru wedi adfer y tu hwnt i lefelau cyn y pandemig, a nodi sut bydd Llywodraeth Cymru yn helpu allforwyr i barhau yn yr un modd eleni?

Llywydd, a gaf i ddechrau drwy groesawu'r adroddiadau a welwyd heddiw o gynnydd mewn trafodaethau rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r Comisiwn Ewropeaidd ar fater protocol Gogledd Iwerddon? Wrth wraidd hynny bydd mater aliniad rheoleiddiol, y mae Joyce Watson wedi cyfeirio ato. Er mwyn gallu gwneud yn siŵr bod allforion Cymru'n cael mynediad dilyffethair i farchnad yr Undeb Ewropeaidd, bydd angen i'n cymdogion ni yn yr Undeb Ewropeaidd wybod nad yw safonau'r nwyddau hynny'n tanseilio gweddill y farchnad sengl. Felly, os yw cynnydd wedi'i wneud yn y ffordd sydd wedi'i adrodd, rwy'n sicr yn croesawu hynny, a byddai, gobeithio, yn rhagddarlunio ymagwedd wahanol at yr holl berthynas y mae angen i'r Deyrnas Unedig ei chael gyda'n marchnad agosaf a phwysicaf.

O ran allforion Cymru, diolch i Joyce Watson am dynnu sylw at y ffaith bod gwerth allforion Cymreig wedi adfer y tu hwnt i lefelau'r pandemig. Mae'n deyrnged go iawn i weithgaredd y rhai sy'n gweithio yn y maes hwn, oherwydd mae'r rhwystrau wedi bod yn rhai go iawn ac mae'r rhwystrau'n parhau i fodoli. Un gair o rybudd yn unig ynghylch y ffigurau eu hunain, Llywydd, sef, wrth gwrs, mae gwerth arian allforion wedi ei ysgogi gan chwyddiant yn ogystal â maint yr allforion. Felly, efallai y bydd angen i ni ystyried bod ychydig o sglein ar y ffigurau hynny.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi ein hallforwyr yn hanner cyntaf eleni; mae 15 o deithiau masnach gwahanol wedi'u cynllunio rhwng nawr a diwedd Mehefin. Bydd rhai o'r rheiny ar gyfer sectorau penodol; mae teithiau masnach bwyd, mae teithiau masnach ym maes datblygu gemau, sydd wedi dod yn rhan mor bwysig o economi'r DU, mae teithiau masnach ym maes awyrofod yn ogystal â theithiau aml-sector. Byddant yn mynd i Dubai, i'r Unol Daleithiau, i Dde America, i Japan, i Dde Corea ac i gyfres o gyrchfannau yn Ewrop. A bydd cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'n hallforwyr yno i wneud yn siŵr bod modd parhau â'r llwyddiant y mae Joyce Watson wedi tynnu ein sylw ato o'r llynedd i mewn i hanner cyntaf eleni.

14:20
Cysylltedd Trafnidiaeth Gyhoeddus

7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus o Abertawe? OQ58897

Diolch i Mike Hedges, Llywydd. Mae creu Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin yn allweddol er mwyn gwella cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus rhwng Abertawe a'i hawdurdodau partner. Mae'r pwyllgor hwnnw wedi cwrdd yn rheolaidd yn 2022, a bydd swyddogion Llywodraeth Cymru'n cwrdd ag arweinwyr y pwyllgor yr wythnos nesaf i fwrw ymlaen â datblygu cynllun trafnidiaeth rhanbarthol.

Diolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Nid oedd y gwasanaeth 15:12 o Lansamlet yn yr amserlen reilffordd a gyhoeddwyd ar gyfer Rhagfyr 2022—ychwanegwyd hwn ar ôl i mi godi pryderon o dan gwestiynau busnes. Un mater yr wyf wedi'i godi'n flaenorol yw bod First Cymru wedi trefnu bod y bws 33 yn terfynu yn Frederick Place, sy'n 300 llath o orsaf Llansamlet, sydd, yn Abertawe, yn gallu bod yn bell yn y glaw. Pa drafodaeth mae Llywodraeth Cymru wedi ei chael ar ailgyflwyno gwasanaeth bws X10 Abertawe i Gaerdydd ac ar wasanaeth trên a bws integredig gydag un tocyn ar gyfer trafnidiaeth bysiau a threnau?

Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, rwy'n llongyfarch Mike Hedges ar lwyddiant ei ymdrechion lobïo ar ran ei etholwyr yn Llansamlet. Rwy'n gwybod bod Trafnidiaeth Cymru, sy'n gyfrifol am y gwasanaeth rheilffyrdd, wrth gwrs, yn gweithio'n galed i geisio sicrhau bod yna ystod uwch a mwy o docynnau integredig ar gael i'w gwneud hi'n haws i bobl deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Yn y pen draw, gweithredwyr unigol sy'n gyfrifol am wasanaethau bysiau unigol o dan y system bresennol. Gwyddom fod y system, dros nifer o flynyddoedd, wedi rhoi elw o flaen angen teithwyr, a dyna pam y bydd y Llywodraeth hon yn cyflwyno Bil bysiau ger bron y Senedd i wneud yn siŵr bod gennym ddull gwahanol i drefnu gwasanaethau bysiau yng Nghymru, un sy'n caniatáu i ni roi pobl o flaen elw a gwneud yn siŵr bod y symiau helaeth o arian y mae'r cyhoedd yn eu buddsoddi mewn gwasanaethau bysiau yng Nghymru yn adlewyrchu budd y cyhoedd. Yna, efallai y gwelwn ni lai o'r mathau o anawsterau y mae Mike Hedges wedi tynnu ein sylw atyn nhw y prynhawn yma. 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y digwyddiad mewnol difrifol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OQ58933

Ar 19 Rhagfyr, cafodd digwyddiad mewnol difrifol ei ddatgan yn y bwrdd. Roedd hyn oherwydd pwysau cynyddol COVID, cynnydd mewn achosion o ffliw, pryder y cyhoedd am strep A, streic nyrsys ar 20 Rhagfyr a streic ambiwlans ar 21 Rhagfyr. Mae datgan digwyddiad fel hyn yn arwain at gamau i leihau'r pwysau ar y system, fel y gwelwyd mewn mannau eraill yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig.

Rydyn ni wedi cael dau ddigwyddiad o'r math yma mewn pythefnos yn y gogledd—dau ddigwyddiad mewnol critigol. Ac mi allaf roi sicrwydd i'r Prif Weinidog ei bod hi'n teimlo ei bod hi'n gritigol ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ddydd ar ôl dydd, i gleifion sy'n aros yn hir am driniaeth, i staff sydd yn gweithio dan bwysau rhyfeddol ac i weithwyr ambiwlans sydd wedi cael llond bol ar aros tu allan i'n hysbytai ni. Ac os mai'r amddiffyniad gan y Prif Weinidog ydy bod y rhain yn broblemau sydd i'w cael ym mhob rhan o Gymru, gadewch inni atgoffa'r Senedd fod y bwrdd iechyd penodol yma wedi bod mewn rhyw lefel o ymyrraeth uwch ers bron wyth mlynedd. Rŵan, oes, mae angen mynd i'r afael â phroblemau'r NHS ar draws Cymru, ond dwi'n gofyn eto i'r Prif Weinidog, tra'i fod o'n trio gwneud hynny ar y cyd efo'i Weinidog iechyd, a wnaiff o edrych ar batrwm newydd o ddelifro gofal iechyd yn y gogledd? Mae'r bwrdd yn rhy fawr, mae o'n rhy anhylaw; mae pobl wedi colli ffydd yn y bwrdd, ac mae angen pwyso reset er mwyn gallu darparu gofal iechyd mewn ffordd dwi'n ofni na all bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr fel y mae o ei wneud.

Wel, dwi'n clywed beth mae'r Aelod yn ei ddweud, wrth gwrs. Yr unig bwynt sydd gyda fi i’w ddweud yw’r unig bwynt rydw i wedi’i wneud pan dwi wedi ymateb i’r awgrym yn ôl yn y flwyddyn ddiwethaf. I ailystyried popeth yn y gogledd, i roi y gogledd i mewn i gyfnod o amser pan fydd ansicrwydd am bopeth sydd y tu ôl i’r gwasanaeth iechyd—dydw i ddim yn meddwl bod hynny’n mynd i helpu unrhyw berson sy’n gyrru ambiwlans neu unrhyw berson sy’n aros am driniaeth yn y gogledd.

Mae yna bethau pwysig sydd angen eu gwneud yn y gogledd. Nid ydw i'n anghytuno â hynny. Nid ydw i'n anghytuno y gallai hynny olygu bod mwy o gyfrifoldebau'n cael eu cyflawni ar y gwahanol lefelau bro yn y gogledd. Ond y syniad mai ad-drefnu llwyr yw'r hyn sydd ei angen ar wasanaethau iechyd yn y gogledd, ac y byddai hynny'n arwain at ddatrys y problemau yr amlinellodd yr Aelod yn ei gwestiwn atodol—. Rwy'n credu bod hynny'n sicr o wneud pethau'n anoddach, yn hytrach na datrys y problemau hynny, ac nid yw'n llwybr y byddwn i'n cychwyn arno.  

14:25
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw, Lesley Griffiths.

Member
Lesley Griffiths 14:26:23
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Llywydd. Mae un newid i'r busnes yr wythnos hon. Rwyf i wedi ymestyn yr amser sydd wedi'i ddyrannu i'r datganiad ar bwysau'r gaeaf ar y GIG i 45 munud. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig. 

Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan eich cyd-Weinidog, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o ran y sefyllfa ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? Bydd yr aelodau'n ymwybodol bod rhywfaint o drafodaeth yn y cyfryngau ynglŷn ag ymchwiliad i dwyll gwerth £122 miliwn sy'n cael ei gynnal gan wasanaeth wrth-dwyll y GIG ar hyn o bryd, ochr yn ochr ag adolygiad gan Archwilio Cymru—adolygiad lefel uchel—o effeithiolrwydd y bwrdd. Nawr, yn amlwg, mae'r rhain yn faterion o bryder i fwrdd iechyd yr ydym ni'n gwybod ei fod eisoes yn ei chael hi'n anodd perfformio a darparu ei wasanaethau o safon y mae pobl y gogledd yn ei haeddu, ac rwy'n credu bod angen cyfle i holi'r Gweinidog yn y Siambr hon am y camau sy'n cael eu cymryd, er mwyn i ni fod yn hyderus ei fod yn briodol.

A gaf i hefyd alw am ddatganiad gan Weinidog priodol o ran diwydiant gofod Cymru? Roeddwn i'n falch iawn ddoe o weld lloeren gyntaf Cymru yn cael ei lansio i'r awyr, o leiaf. Ond ni lwyddodd yn llwyr i fynd i'r gofod. [Chwerthin.] Ni lwyddodd yn llwyr i fynd i'r gofod, ond roedd yna lansiad llwyddiannus o Gernyw o roced o waelod awyren, a aeth i'r atmosffer allanol. Fel y dywedais i, nid y  llwyddiant ysgubol yr oeddem ni i gyd wedi gobeithio amdano, o ran ForgeStar-0 wir yn cael ei rhyddhau, ond rwy'n credu bod diddordeb cynyddol yn y gofod fel cyfle i'n heconomi ni yma yng Nghymru. Rydym ni'n gwybod bod cynlluniau ar y gweill yn Llanbedr yn y gogledd gyda Spaceport Snowdonia hefyd, ac rwy'n credu bod y diddordeb cynyddol hwn yn rhywbeth y dylai Cymru fanteisio arno cyn gynted â phosibl er mwyn gwneud yn siŵr bod ein heconomi ni'n elwa arni. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bryd i ni gael, o ystyried digwyddiadau neithiwr, cyfle i'w ystyried ymhellach yn y Siambr. 

Dylwn i nodi i mi weld meteor yn yr awyr neithiwr hefyd, dros Gaerdydd, a oedd yn eithaf cyffrous. Dydw i ddim yn gwybod a wnaeth unrhyw un arall sylwi arno, ond os ydych chi'n mynd ar Twitter ac yn rhoi 'meteor Cardiff', fe welwch chi, ar glychau drysau pobl a thebyg, bod llawer o bobl wedi gallu bod yn dyst i'r bêl yma o dân yn yr awyr, a oedd yn eithaf cyffrous i mi ei dystio ar fy ffordd i Wetherspoon's neithiwr, tua 8 p.m. [Chwerthin.]  

Diolch, Darren Millar. O ran y mater cyntaf y cyfeirioch chi ato, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, byddwch chi'n ymwybodol bod proses i fynd drwyddi, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar yr adeg fwyaf priodol, ond nid wyf i'n credu y bydd hynny cyn mis nesaf.

O ran eich ail gais, byddai'n dod gan Weinidog yr Economi. Yn sicr, gwnaf i ofyn iddo a oes unrhyw beth sy'n deilwng, yn ei farn ef, datganiad llafar i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar fater gofod Cymru. Rydych chi'n hollol gywir—ni welais i'r meteor oherwydd roeddwn i'n gwylio'r newyddion, lle'r oedd llawer o bobl yng Nghernyw wedi'u cynhyrfu'n lân am y roced yma'n mynd i fyny. Fel y dywedwch chi, ni aeth pethau fel y byddem ni wedi'i ddymuno. 

Meddwl oeddwn i, beth welsoch chi ar eich ffordd yn ôl o Wetherspoon's os oeddech chi wedi llwyddo i weld meteor ar eich ffordd i Wetherspoon's? [Chwerthin.] Beth bynnag, fe wnaf i adael hynny i'r dychymyg. Delyth Jewell. 

14:30

Diolch, Llywydd. Hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, yn amlinellu a yw deddfwriaeth yng Nghymru sy'n ymdrin â digartrefedd yn ddigon tosturiol. Ychydig ar ôl y Nadolig, cefais wybod am ddyn digartref a oedd wedi gofyn am gymorth gan eglwys Gatholig yn fy rhanbarth i. Roedd y dyn wedi'i ryddhau o'r carchar ac roedd wedi colli ei fflat. Roedd wedi cysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol a Cornerstone, ac fe gafodd babell a sach gysgu gan ddweud wrtho y bydden nhw'n ei weld ef ar ôl gwyliau'r Nadolig. Rhoddodd offeiriad y plwyf gartref iddo dros y Nadolig mewn gwesty ar draul ei hun cyn i'r dyn ddod yn ôl i aros yn sied yr eglwys. Nawr, gofynnodd yr offeiriad, rwy'n gwybod, i'r awdurdodau a yw pabell dros y Nadolig wir yn cyflawni dyletswydd gofal cymdeithas ar gyfer y rhai agored i niwed, ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n rhannu ei fraw. Ai dyna'r gymdeithas yr ydym ni mewn gwirionedd? A oes modd i ddatganiad amlinellu pa gefnogaeth y mae disgwyl ei rhoi i bawb sy'n cyflwyno eu hunain yn ddigartref ac yn nodi'r hyn y byddai angen ei wneud i godi ymwybyddiaeth ac i atgoffa awdurdodau lleol a chefnogi gwasanaethau ledled Cymru o'r cyfrifoldebau hynny os gwelwch yn dda, ac i sicrhau nad oes mwy o bobl ddiobaith, yn nyfnderoedd y gaeaf, yn cael eu gadael i ymdopi â dim ond pabell?

Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn am dosturi. Ac fe wnes i hefyd, yn fy etholaeth fy hun, fynd at grŵp o bobl ddigartref a oedd yn poeni'n fawr y bydden nhw'n cael pabell. Ac roeddwn i'n falch iawn o gael fy sicrhau na fyddai hynny'n digwydd, ond, yn amlwg, rydych chi'n rhoi enghraifft o bryd mae hynny wedi digwydd. Yn amlwg, mae'r ddeddfwriaeth ynghylch digartrefedd, yn enwedig o ran pobl sy'n gadael y carchar, wedi'i cael ei diwygio dros y blynyddoedd. Nid wyf i'n credu bod unrhyw beth newydd i'r Gweinidog roi gwybodaeth i ni arno, ond fe wnaf i, yn sicr, ofyn os mai dyna'r sefyllfa bresennol. 

Trefnydd, hoffwn i glywed gan y Gweinidog addysg am yr hyn sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael ag ideoleg casineb at fenywod yn yr ystafell ddosbarth. Mae achos Andrew Tate wedi amlygu diwylliant treiddiol, gwenwynig a pheryglus sy'n targedu bechgyn agored i niwed yn arbennig. Ac mae'n rhemp. Rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i wedi clywed amdano tan yr achos cyfreithiol presennol, oherwydd nid wyf i ar y llwyfannau na'r algorithmau sy'n hyrwyddo ei iaith casineb. Ond mae ei ddylanwad ymhlith dynion a bechgyn iau yn syfrdanol. Ef oedd y trydydd person y cafodd ei chwilio fwyaf amdano ar-lein y llynedd, ar ôl y diweddar Frenhines a Donald Trump. Mae ei fideos wedi cael eu gweld mwy na 12 biliwn o weithiau ar TikTok. Rwy'n hynod bryderus o wybod beth sy'n cael ei wneud yn ein hysgolion i ddiogelu merched ac annog pob myfyriwr i gwestiynu a herio'r cynnwys casineb at fenywod y maen nhw'n dod i gysylltiad ag ef. Oherwydd os nad yw cymdeithas yn ymdrin â'r problemau sy'n wynebu bechgyn a dynion ifanc heddiw a'u helpu nhw i ateb cwestiynau o ran beth mae'n ei olygu i fod yn ddyn da, yna bydd pobl rheibus fel Andrew Tate yn gwneud hynny. 

Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn, ac, fel chi, nid oeddwn i wedi clywed am y dyn hwn. Roedd yr hyn a oedd i'w weld yn y newyddion ar yr adeg y gwnaeth y stori hon daro'r cyfryngau yn hollol erchyll. Rwy'n credu bod angen i ni fod yn glir iawn, iawn bod angen i ni sicrhau ein bod ni'n amddiffyn pob plentyn a pherson ifanc, ac, yn arbennig, bechgyn, rhag niwed a dylanwad gan unigolion o ran perthynas ymosodol ac afiach. Mae dyletswydd gyfreithiol ar bob lleoliad addysg yng Nghymru i sicrhau bod gan blant fynediad at amgylchedd dysgu diogel, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog addysg yn disgwyl i'r cyfrifoldebau diogelu hynny gael eu cymryd o ddifrif. Byddwch chi'n ymwybodol o ardal bwrpasol Hwb 'Cadw'n ddiogel ar-lein', ac mae'r canllawiau a'r adnoddau a'r hyfforddiant ar amrywiaeth o faterion diogelwch ar-lein ar gael i ysgolion gael mynd atyn nhw. 

Diolch, Llywydd. Blwyddyn newydd dda i chi ac i bawb.

Dau ddatganiad, os caf i, Llywydd. Yn dilyn gohebiaeth ysgrifenedig gennych chi'ch hun, Gweinidog, rwy'n gofyn am ddatganiad am gynnydd syfrdanol mewn ffioedd a thaliadau rheoleiddiol Cyfoeth Naturiol Cymru. Fel y gwyddoch chi, bydd y tâl arfaethedig ar gyfer gwaredu dip defaid yn codi deg gwaith, gydag CNC yn darparu dim tystiolaeth yn sail i'r cynnydd hwn. Hefyd, bydd y tâl am drwyddedau rheolau safonol ar gyfer treulio anaerobig ar y fferm yn dyblu, a bydd ffioedd adnoddau dŵr yn cynyddu o £135 i dros £6,000—cynnydd canran o dros 4,500 y cant.

Yr hyn sydd ar goll o'r cynnydd mewn prisiau hyn yw tryloywder ynglŷn â sut y cyfrifwyd y ffigurau hyn. Ydy CNC yn ceisio gwneud elw o ffioedd a thaliadau, neu ydyn nhw'n gost-niwtral? Bydd canlyniadau anfwriadol y taliadau hyn yn ffrwyno datblygiad technoleg newydd, yn rhwystro darpariaeth sero net y diwydiant ac yn effeithio'n sylweddol ar iechyd anifeiliaid. O ystyried y pryderon hyn a rhai'r sector amaethyddol, byddai datganiad llafar neu ysgrifenedig ar y mater hwn yn cael ei werthfawrogi'n fawr.

Yn ail, gan nodi busnes Llywodraeth Cymru a gafodd ei gyflwyno hyd at 7 Chwefror, mae'r datganiad dileu TB mewn gwartheg yn dal heb ei gyflwyno. Felly, hoffwn i ailadrodd fy ngalwad o fis Tachwedd am ddatganiad wedi'i ddiweddaru ar raglen dileu TB mewn gwartheg Llywodraeth Cymru. Diolch.

14:35

Diolch. Nid ydw i wedi gweld eich gohebiaeth, ond fe allai hynny fod oherwydd bod CNC yn dod o fewn portffolio fy nghyd-Aelod y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, felly efallai ei fod wedi cael ei drosglwyddo draw ati hi. Ond yn amlwg rwy'n ymwybodol iawn o'r ymgynghoriad parhaus gan Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch eu ffioedd rheoleiddio a thaliadau ar gyfer 2023-24. Rwy'n credu mai holl nod yr adolygiad hwnnw yw sicrhau bod CNC yn llwyddo i adfer costau llawn, gan nad yw rhai o'r taliadau presennol wedi cael eu hadolygu ers blynyddoedd lawer. Ond yn amlwg, rwy'n llwyr werthfawrogi bod hwn yn gyfnod heriol iawn i'n ffermwyr i gyd ac rwy'n ymwybodol o'r pryderon yn y sector amaethyddol. Felly, yr hyn a fydd yn digwydd ar ôl yr ymgynghoriad yw y bydd y cynigion hynny yn mynd o flaen y Gweinidog Newid Hinsawdd cyn eu gweithredu. Ond cyfrifoldeb CNC yw argymell y strwythur ffioedd priodol i Weinidogion Cymru.

O ran y rhaglen dileu TB,  a dweud y gwir, mae gennyf i gyfarfod yfory, a byddaf i'n cyflwyno datganiad cyn gynted â phosibl.

Trefnydd, fel y gwyddoch chi, fis nesaf bydd yn nodi tair blynedd ers y llifogydd dinistriol o ganlyniad i storm Dennis, a effeithiodd yn arbennig ar Ganol De Cymru. Roedd yr adroddiad dilynol gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn amlinellu mai un o'r heriau mwyaf iddyn nhw eu hwynebu wrth ymateb i lifogydd oedd gallu, a hynny oherwydd nad oedd ganddyn nhw ddigon o adnoddau o ran staff. Roedd adroddiad a gafodd ei gyhoeddi gan Archwilio Cymru ychydig cyn y Nadolig yn amlinellu bod hyn yn broblem barhaus, a nododd bod angen mwy o frys i ymdrin â'r heriau sy'n wynebu rheoli perygl llifogydd. Felly, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn ymateb i adroddiad Archwilio Cymru, yn amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar yr argymhellion sydd wedi'u gwneud.

Diolch. Rwy'n tybio y bydd y Gweinidog yn ystyried yr adroddiad yr ydych chi'n cyfeirio ato ar hyn o bryd. Byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud yn ei sesiwn holi ac ateb ein bod ni wedi rhoi arian sylweddol unwaith eto yn ein rhaglenni rheoli risg llifogydd, ac mae'n hynod bwysig bod gan ein hawdurdodau lleol a CNC y staff i allu gweithredu pob cynllun.

Prynhawn da, Gweinidog. A hefyd

pen blwydd hapus i chi hefyd.

Dim ond i godi cywilydd arnoch chi. [Chwerthin.]

A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â'r mesurau sy'n cael eu cymryd i leihau llygredd yn Afon Gwy, a beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar alw i mewn penderfyniadau ar unedau dofednod dwys? Fel un o drigolion Y Gelli Gandryll, fel y gwyddoch chi, rwy'n angerddol iawn am yr afon, ac rwy'n gwybod bod llawer o bobl eraill hefyd. Rydym ni'n gwybod bod tri rheswm dros y llygredd yn Afon Gwy. Ffermio ac amaethyddiaeth, llygredd diwydiannol a'r materion yn ymwneud â gorlifoedd storm ydyn nhw. Er fy mod i'n cefnogi ffermydd a ffermwyr i arallgyfeirio, ym Mhowys, yn sicr mae pryder cynyddol ynghylch yr unedau dofednod dwys a'r rhai sy'n tyfu o ran niferoedd. Ac mae un sy'n cael ei gynnig, fel rwy'n deall, nawr yn Llanfair-ym-Muallt, ar gyfer 100,000 o ieir. Felly, byddai gennyf i ddiddordeb mawr o ran y prosesau yn ymwneud â chynllunio a hefyd ynghylch y galw am benderfyniadau gan Lywodraeth Cymru. Diolch. Diolch yn fawr iawn.

Diolch. Fel y gwyddoch chi, fe wnaeth Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd ar 5 Ionawr yn gysylltiedig â chais cynllunio penodol ar fferm ddofednod, ac mae'r cyfarwyddyd hwnnw yn atal rhoi caniatâd cynllunio tan y bydd Gweinidogion Cymru wedi gallu asesu a ddylai cais cynllunio gael ei alw i mewn ai peidio, a chyfarwyddiadau o'r fath, fel y gwyddoch chi, yn cael eu cyhoeddi'n rheolaidd pan fo Gweinidog Cymru yn ystyried galw i mewn. Ar hyn o bryd, yn amlwg, nid oes modd dweud dim byd arall am yr un penodol hwnnw, ond rwy'n gwybod bod hwn yn fater y mae'r Gweinidog yn ei ystyried yn fanwl iawn, yn benodol ar gyfer Powys.

Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad—un gennych chi'ch hun, ar y rheoliadau diffygiol y gwnaethom ni eu cyflwyno yma ar 13 Rhagfyr, Rheoliadau Masnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Cysylltiedig (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael a'r UE) 2022. Dywedoch chi ar 13 Rhagfyr y byddech chi'n dod ymlaen cyn gynted â phosibl i ddiwygio'r rheiny i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael deddfwriaeth dda ar y llyfr statud. Allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni o ran pryd yr ydych chi'n bwriadu gwneud hynny?

Fy ail ddatganiad Llywodraeth Cymru yr hoffwn i ofyn amdano yw gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar y newidiadau anhrefnus ar gyfer trafnidiaeth cartref i ysgol yn ne fy etholaeth gan Gyngor Sir Powys. Mae plant wedi'u gadael yn y glaw, wedi'u gadael ar ochr y ffordd, wedi cael gwybod i ddal bysiau gwasanaeth sy'n cyrraedd yn hwyr neu'n rhy gynnar. Rydym ni wedi bod â phlant ifanc yn cael gwybod i aros y tu allan i'r ysgol am awr ac i wneud y gorau ohoni, ac mewn rhai achosion maen nhw wedi cael eu rhoi ar fysiau gwasanaeth sy'n mynd y ffordd anghywir i ble maen nhw i fod i fynd adref oherwydd amserlenni gwael. Trefnydd, mae y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghyngor Sir Powys wedi colli rheolaeth, felly hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i gael rheolaeth dros Gyngor Sir Powys i wneud yn siŵr nad oes mwy o blant ifanc yn cael eu gadael ar ochr y ffordd yn fy etholaeth i.

14:40

O ran eich pwynt cyntaf, byddaf i'n diwygio'r ddeddfwriaeth cyn gynted â phosibl. Byddwch chi'n gwerthfawrogi mai dyma'r wythnos gyntaf yr ydym ni nôl ar ôl gwyliau'r Nadolig, ond rwy'n bwriadu parhau i gyflwyno'r ddeddfwriaeth ddiwygiedig honno cyn gynted â phosibl. 

Yn sicr, nid ydw i'n credu bod hynny'n wir am Gyngor Sir Powys, ond rwy'n awgrymu eich bod chi'n ysgrifennu atyn nhw ynghylch eich pwynt penodol chi.

Bore 'ma, roedd y tywydd yn erchyll. Yn y gawod fawr, cerddais i'r orsaf drenau. Yn ffodus, dim ond ryw bum munud i ffwrdd o fy nhŷ i. Ond, mewn rhannau eraill o sir Pen-y-bont ar Ogwr, bu'n rhaid i ormod o blant gerdded dros awr i fynd i'r ysgol, gan gyrraedd, mae'n siŵr wedi'u gwlychu'n llwyr. Gwnes i godi hwn gyntaf ym mis Medi 2021. Nid oes unrhyw beth wedi newid. Mae'r rhwystr hwn i addysg yn dal ar waith. Felly, hoffwn i ofyn am ddatganiad brys gan y Llywodraeth yn amlinellu eu cynlluniau i ymdrin â hyn. Mae gan y Llywodraeth bwerau dewisol y gall eu defnyddio. Yn syml, mae rhieni wedi cael llond bol.

Diolch. Fel y dywedais i, mater i awdurdodau lleol yw hwn. Nid ydw i'n gweld bod hwn yn fater i Lywodraeth Cymru. Byddwn i'n rhoi'r un cyngor i chi ag yr wyf newydd ei roi i James Evans; rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn eich bod chi'n ei godi gyda'ch awdurdod lleol.

Gaf i ofyn i'r Gweinidog addysg a'r iaith Gymraeg ddod â datganiad ger ein bron ynghylch sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu sicrhau asesiadau cyfrwng Cymraeg amserol i blant sydd angen asesiad awtistiaeth? Mae gen i ambell i achos yn fy etholaeth o blant sydd angen asesiadau awtistiaeth cyfrwng Cymraeg ond yn gorfod aros blynyddoedd. Er enghraifft, cafodd Rhodri—nid ei enw iawn— sy'n wyth oed ei gyfeirio ym mis Chwefror am asesiad awtistiaeth. Rhoddwyd yr opsiwn o wneud yr asesiad ar-lein gyda chwmni Healios, a ddoe cynhaliwyd yr asesiad cyntaf. Cymraeg yw mamiaith y plentyn a barnodd yr aseswyr y dylid cynnal yr asesiad yn Gymraeg er mwyn cael canlyniad teg ac y byddai modd trefnu hynny yn fuan. Heddiw, fodd bynnag, deallaf fod yr unig asesydd oedd ar gael i wneud y gwaith i ffwrdd ar famolaeth, ac ailgyfeiriwyd yr achos i'r gwasanaeth niwroddatblygol lleol. Canlyniad hyn yw y bydd e'n rhaid aros am ddwy neu hyd yn oed dair blynedd i gael asesiad wyneb yn wyneb yn Gymraeg. Mae'r gwahaniaeth yn y gwasanaeth a gynigir i bobl sy'n dymuno gwasanaeth Cymraeg yn gwbl annerbyniol. Felly, mi fyddwn yn ddiolchgar am ddatganiad ar sut mae'r Gweinidog am wella'r sefyllfa mor fuan â phosib, os gwelwch yn dda.

Diolch. Rwy'n credu bod y sefyllfa yr ydych chi'n ei nodi yn wir yn gwbl annerbyniol. Os mai dim ond un aelod o staff sydd, a'i bod ar gyfnod mamolaeth, yna yn amlwg rwy'n gwerthfawrogi na allan nhw gael rhywun i mewn ar fyr rybudd. Fodd bynnag, mae aros am ddwy i dair blynedd am asesiad mor bwysig yn amlwg yn rhy hir. Yn sicr, fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog os yw'n ymwybodol o'r mater yr ydych chi'n ei godi—rwy'n tybio ei bod i fyny ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr—a chael trafodaeth gyda'r Gweinidog iechyd i weld a oes unrhyw beth arall y gallwn ni ei wneud.FootnoteLink

A gawn ni ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog Newid Hinsawdd i'n diweddaru ni ynglŷn â ffordd osgoi arfaethedig a hir-ddisgwyliedig Llandeilo? Mi oedd y dudalen sydd yn crynhoi statws y prosiect ar wefan y Llywodraeth yn addo y byddai'r Llywodraeth yn argymell opsiwn a ffafrir o blith y pedwar opsiwn oedd yn weddill fel rhan o ymgynghoriad WelTAG cam 2 erbyn gaeaf y llynedd. Ond, ddydd Gwener, fe newidiwyd hyn i gwanwyn eleni. Mae'r oedi pellach yma o rai misoedd yn dod ar ôl oedi ar ôl oedi. Hynny yw, mae'r broses WelTAG cam 2 i edrych mewn i bedwar opsiwn yn unig wedi cymryd pedair blynedd. Mi oedd yr addewid cychwynnol, gwreiddiol, i adeiladu ffordd osgoi yn mynd yn ôl saith mlynedd, ac mae pobl Llandeilo nawr wedi colli pob ffydd ac ymddiriedaeth yn yr addewid hynny. Felly, a gawn ni ddatganiad ar fyrder gan y Gweinidog gyda rheswm am yr oedi pellach yma? 

14:45

Diolch i chi. Wel, mater i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd fyddai hwnnw, ac, fel gwyddoch chi, fe roddwyd ystyriaeth fanwl iawn i'r adolygiad ffyrdd yn ei gyfanrwydd a'r rhaglenni adeiladu ffyrdd, ond fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog—y Dirprwy Weinidog, mae'n ddrwg gennyf—i roi datganiad ysgrifenedig. 

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Pwysau Gaeaf y GIG

Yr eitem nesaf, felly, yw eitem 3. Yr eitem honno yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pwysau gaeaf ar y gwasanaeth iechyd, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Eluned Morgan.  

Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch i chi am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am bwysau gaeaf y GIG. Mae Aelodau yn debyg iawn o fod yn deall yr her benodol sydd ar wasanaethau iechyd a gofal ledled y Deyrnas Unedig y gaeaf hwn. Hwn yw'r trydydd gaeaf y buom ni'n byw gyda COVID. Er ein bod ni'n gwybod y byddai firysau anadlol yn dod yn fwy cyffredin eleni, mae'r amharu a fu ar batrymau tymhorol wedi gwneud effaith debygol y firysau hyn yn llawer anos i'w rhagweld. Er hynny, rydym ni'n parhau i ddarparu tua 376,000 o ymgynghoriadau a gweithdrefnau bob mis o ran gofal eilaidd, mewn ysbytai. Ym mis Rhagfyr, fe gyrhaeddom ni tua 400,000 o gysylltiadau â gwasanaethau meddygon teulu a gofal sylfaenol. Felly, bob dydd, bob wythnos, mae yna filoedd o bobl yn cael gofal ardderchog yn y GIG yng Nghymru, ond yr hyn yr ydym ni'n ei dderbyn yw bod llawer o bobl eraill nad ydyn nhw'n cael y gofal y maen nhw'n ei haeddu.

Rydym ni wedi gofyn llawer oddi wrth ein staff dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf, ac rydym ni'n gwybod bod pwysau yn aml wedi golygu nad yw staff wedi gallu darparu'r lefel o ofal y bydden nhw wedi dymuno trwy'r amser. Rydym ni'n cydnabod maint yr angerdd ymhlith ein gweithlu ni hefyd, fel mae cyhoeddi rhagor o streiciau arfaethedig ymhlith yr undebau ambiwlans yn ei ddangos hefyd, yn ogystal â'r camau gweithredu parhaus gan y Coleg Nyrsio Brenhinol. Mae hi'n bwysig nodi'r effaith ar allu'r Gwasanaeth o ganlyniad i weithredu diwydiannol diweddar, ac mae hynny wedi rhoi pwysau ychwanegol ar ein systemau ni oherwydd llai o staffio ac, mewn rhai achosion, roedd gwasanaethau penodol yn ystod y cyfnodau hyn yn gyfyngedig neu ddim ar gael o gwbl.

Rydym ni'n ymdrin â chymysgedd o achosion cynyddol gymhleth o ran y cleifion. Mae gennym ni fwy na 500 o gleifion y cadarnhawyd bod COVID arnyn nhw yn ein hysbytai ni ac rydym ni'n gweld cynnydd sydyn mewn feirysau anadlol eraill. Yn ogystal â hynny, mae grwpiau eraill o gleifion yn ymgyflwyno gyda lefelau uwch o salwch difrifol, ac, er bod y sefyllfa wedi gwella ers y Nadolig, mae dros 900 o bobl o hyd mewn gwelyau ysbyty sy'n barod i adael ond yn profi oedi cyn eu rhyddhau am wahanol resymau. Mae cyfraddau absenoldeb salwch ymhlith staff wedi cynyddu hyd at 6.9 y cant hefyd. Y canlyniad yw fwy o achosion o oedi hir i bobl sy'n ceisio cael gofal, ac mae'r risgiau o niwed rydym ni'n gwybod yn gysylltiedig ag oedi o'r fath. O ganlyniad, nid yw profiadau pobl sy'n ceisio gofal brys ac argyfwng ledled Cymru bob amser wedi bod i'r safon y maen nhw'n ei haeddu, ac am hynny mae'n wirioneddol ddrwg gennyf i.

Fe aethom ni i mewn i'r gaeaf wedi gweld y cyfraddau uchaf erioed o alw ar y gwasanaethau 111 ac ambiwlans ym misoedd Hydref a mis Tachwedd, gyda phob disgwyliad y byddai'r pwysau hyn yn cynyddu eto trwy gydol y gaeaf. Ond gadewch i mi roi enghraifft i chi o'r pwysau eithafol a welsom ni ar ein gwasanaethau ar 27 o fis Rhagfyr: derbyniodd y gwasanaeth ffôn 111 y nifer uchaf o alwadau ar gofnod erioed ar gyfer un diwrnod; derbyniodd y gwasanaeth ambiwlans 210 o alwadau gyda pherygl einioes uniongyrchol, rhai o'r ffigyrau dyddiol uchaf ar gofnod. Rydym ni'n ystyried 100 yn rhif mawr, ac fe gawsom ni 210 ar y diwrnod arbennig hwnnw. Fel dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, cafodd dros 550 o bobl eu derbyn i'r ysbyty mewn un diwrnod. Mae hynny'n cyfateb i tua 5 y cant o nifer y gwelyau sydd ar gael yng Nghymru. Roedd 551 o gleifion COVID mewn gwelyau acíwt mewn ysbytai, sef dros 5 y cant o gyfanswm nifer y gwelyau, ac roedd tua 3 y cant o welyau eto yn cael eu meddiannu gan gleifion yn yr ysbyty a oedd â'r ffliw. Roedd cyfwerth â 12 y cant o gyfanswm y gwelyau yng Nghymru hefyd yn cael eu defnyddio oherwydd oediadau cyn rhyddhau cleifion.

Nawr, mae pwysau o'r fath, mewn cyfnod o effaith sylweddol oherwydd salwch ac absenoldeb staff, wedi creu heriau enfawr i'r system. Dechreuodd y cynllunio ar gyfer y gaeaf mor gynnar â mis Ebrill. Rydym ni wedi gweithio yn galed, yn cyfarfod bob pythefnos ag awdurdodau lleol i sicrhau dros 500 o welyau cymunedol ychwanegol ar gyfer gofal cam-i-lawr, ac rydym ni'n gweithio tuag at fwy dros y misoedd nesaf, a fydd yn helpu i wella'r llif trwy'r system iechyd yn ei chyfanrwydd.

Rhaid i ni ddysgu o'r wythnosau a'r misoedd diwethaf, ac rydym ni wedi ymrwymo i weithio gydag arweinwyr clinigol a chyrff proffesiynol i gefnogi ailgynllunio gwasanaethau ystyrlon. Fe wyddom ni mai un o'r heriau mwyaf y mae'r system iechyd yn ei wynebu yw helpu pobl i adael yr ysbyty cyn gynted ag y bydd hi'n ddiogel iddyn nhw wneud felly. Fis diwethaf, fe wnes i lansio adroddiad newydd ar gyfer y canllawiau cynllunio rhyddhau, sy'n pennu disgwyliadau eglur i fyrddau iechyd a byrddau partneriaeth rhanbarthol, ac fe gefnogir hynny gan raglen lif genedlaethol. Ym mis Ebrill, fe wnaethom ni ymrwymiad pum mlynedd o £145 miliwn drwy'r gronfa integreiddio rhanbarthol i alluogi byrddau partneriaeth rhanbarthol i adeiladu ar fodelau gofal a ddatblygwyd i gefnogi rhyddhau cyflym ac osgoi derbyniadau.

Rŷn ni hefyd wedi buddsoddi yn sylweddol mewn gofal brys ac argyfwng eleni—os na fyddem ni wedi gwneud hynny, fe fyddai’r sefyllfa wedi bod lawer yn waeth. Diolch i fuddsoddiad cynnar a oedd ar gael ym mis Mehefin, mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi gallu rhoi nifer o gamau ar waith i gynyddu capasiti cyn y gaeaf. Mae hyn yn cynnwys recriwtio 100 o staff rheng flaen ychwanegol, a fydd yn ymateb i alwadau o fewn y pythefnos nesaf; trefniadau rota newydd fydd y cyfateb i 72 o staff cyfwerth ag amser cyflawn; a buddsoddiad mewn technoleg triage ac ymgynghori fideo i helpu i wneud penderfyniadau mwy hyderus ynglŷn â’r angen i fynd â’r claf i’r ysbyty.

Rŷn ni hefyd wedi buddsoddi i gynyddu capasiti mewn canolfannau gofal sylfaenol brys, urgent primary care centres, ac i ehangu’r gwasanaethau gofal brys yn yr un diwrnod, same-day emergency care services. Mae hyn yn rhoi dewis arall i bobl yn lle mynd i adrannau brys prysur neu gael eu derbyn i’r ysbyty. Mae’r camau hyn wedi helpu tua 7,000 o bobl bob mis i gael gwasanaethau gofal brys heb fynd i adran brys ac wedi helpu i leihau a sefydlogi derbyniadau brys.

Rŷn ni’n gwybod bod llawer mwy i’w wneud ac nad oes datrysiadau cyflym i hyn. Rŷn ni’n rhannu pryder y cyhoedd bod ein gwasanaethau dan straen eithriadol a pharhaus. Dyna pam rŷn ni’n sefydlu rhaglen bum-mlynedd i drawsnewid gwasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng gyda chymorth £25 miliwn y flwyddyn, ac mi gafodd y byrddau iechyd £3 miliwn o hynny ym mis Ebrill. Yn ogystal â’r camau gweithredu hyn, ac wrth i’r gaeaf fynd yn ei flaen, rŷn ni wedi darparu canllawiau pellach i’r byrddau iechyd drwy fframwaith opsiynau lleol wedi’i ddiwygio, sy’n debyg i’r dull a ddefnyddion ni pan oedd achosion COVID ar eu hanterth. Rŷn ni hefyd wedi ysgrifennu at arweinwyr clinigol y byrddau iechyd i’w hannog i wneud pob ymdrech i gadw pobl gartref a pheidio â derbyn pobl i’r ysbyty oni bai bod hynny’n hollol angenrheidiol. Wythnos diwethaf, fe gynhalion ni gynhadledd genedlaethol ar ryddhau cleifion. Rŷn ni hefyd wedi gofyn i dimau clinigol fynd â phobl sydd yn yr ysbyty nôl i’w cartrefi neu i le diogel arall cyn gynted ag sy’n bosibl, i helpu i gadw capasiti yn ein hysbytai ar gyfer y rhai sydd mewn mwy o risg, ac sydd â’r siawns fwyaf o gael budd.

Gallwn ni ddisgwyl i'r misoedd nesaf fod yn rhai caled dros ben, ond dwi eisiau pwysleisio pa mor ddiolchgar ydw i i’r staff am eu hymdrechion cyson yn ystod yr hyn sy’n dal i fod yn gyfnod anodd iawn. Diolch yn fawr hefyd i’r teuluoedd sydd wedi cefnogi eu perthnasau i gael eu rhyddhau o'r ysbyty. Mae hyn yn mynd i’n helpu ni i ryddhau gwelyau i bobl sydd angen y gofal arbenigol sydd dim ond yn gallu cael ei ddarparu gan ysbytai.

Rŷm ni wedi gwneud paratoadau helaeth ar gyfer y gaeaf, ac er ein bod wedi gweld pwysau aruthrol dros yr wythnosau diwethaf, ar lefelau na welon ni erioed o'r blaen, mae'r camau gweithredu sydd wedi eu rhoi ar waith wedi galluogi'r sefyllfa i sefydlogi'n fras ers cyfnod y Nadolig. Rŷm ni bellach yn paratoi ar gyfer cam nesaf y pwysau wrth i blant ddychwelyd i'r ysgol a bywyd yn dechrau dychwelyd i normal ar ôl gwyliau'r Nadolig, yn ogystal â newidiadau yn y tywydd. Rŷm ni'n ymwybodol iawn ein bod yn aml yn gweld ymchwydd newydd yn y galw yn ystod y cyfnod yma o'r flwyddyn. Diolch. 

14:55

Blwyddyn newydd dda i chi, Gweinidog, a diolch i chi am eich datganiad heddiw, ac fe hoffwn i ddechrau drwy ategu'r diolch a'r gwerthfawrogiad o'r staff a gweithwyr proffesiynol hynod ymroddedig a gweithgar sydd yn y GIG yng Nghymru. Gweinidog, dros y degawd diwethaf mae eich Llywodraeth wedi methu â buddsoddi mwy na £400 miliwn yn GIG Cymru o gymharu â Llywodraethau eraill ledled y DU. Tra bod COVID wedi achosi difrod sylweddol i'n GIG ni, eich Llywodraeth chi, wrth gwrs, sydd wedi bod yn gyfrifol am y GIG yng Nghymru ers bron i 25 mlynedd. Felly, a ydych chi'n derbyn, pe byddech chi wedi defnyddio'r cyllid yn briodol, y byddem ni mewn sefyllfa well nag yr ydym ni ynddi hi nawr? A chan ddefnyddio ystrydeb nad wyf i'n hoff o'i defnyddio, ond fe ddefnyddiaf i hi yn hyn o beth, pam na wnaethoch chi drwsio'r to tra oedd yr haul yn tywynnu?

Gweinidog, rydych chi'n honni bod cynllunio ar gyfer pwysau'r gaeaf wedi dechrau—[Torri ar draws.] Rwy'n gallu clywed y Prif Weinidog yn clebran. Y Prif Weinidog a ddywedodd wrthym ni yn ei ddatganiad i'r wasg ddoe pa mor wych fu 10 mlynedd gyntaf datganoli dan Lywodraeth Lafur y DU. Felly, os dyna'r achos, pam na wnaethoch chi drwsio'r to bryd hynny? Pam ydym ni'n gweld y problemau hyn sy'n bodoli nawr?

Gweinidog, rydych chi'n honni bod cynllunio ar gyfer pwysau'r gaeaf wedi dechrau ym mis Ebrill, ond rwy'n bryderus, fel mynegais i ar y pryd, y bu cyhoeddi'r cynllun hwn i fynd i'r afael â'r pwysau yn hwyr yn dod. Ac mae hi'n amlwg nad yw'r broses, fe fyddwn i'n awgrymu, yn gweithio. Felly, a gaf i ofyn i chi beth fydd hi'n ei gymryd i fyrddau iechyd a'ch Llywodraeth chi adolygu effaith pwysau'r gaeaf, a pha gamau allwch chi eu cymryd ar unwaith ar gyfer defnydd llawn o fisoedd yr haf i baratoi am aeaf arall?

Gweinidog, rwy'n croesawu eich pwyntiau chi ynglŷn â'r gwasanaeth ambiwlans—mae hynny i'w groesawu yn fawr—ond rwy'n teimlo nad ydyn nhw'n mynd yn ddigon pell. Yn eich diweddariad diwethaf chi, roeddech chi'n dweud wrthyf i y byddwch chi'n sicrhau y bydd yr oedi o ran trosglwyddiadau o ambiwlans yn cael ei leihau, ond fe ddywedodd prif weithredwr gwasanaeth ambiwlans Cymru, Jason Killens, nad yw hi'n anghyffredin erbyn hyn i fwy na 30 y cant o'r criwiau sydd ar gael gennym ni orfod aros tu allan i ysbyty cyn trosglwyddo cleifion i ofal, sy'n golygu nad ydyn nhw'n gallu mynd yn ôl allan i gynorthwyo cleifion yn y gymuned, sy'n arwain at amseroedd hwy wrth aros iddyn nhw gyrraedd. Felly, pa gynnydd a wnaethoch chi yn y maes hwn, Gweinidog, oherwydd mae Cymru yn dal i weld, fel gwyddom ni, yr amseroedd ymateb ambiwlansys arafaf erioed a'r arosiadau hwyaf o ran adrannau damweiniau ac achosion brys, a'r rhestrau triniaeth hwyaf yn y GIG drwy Brydain?

Fe awgrymais i nifer o bethau i chi, Gweinidog, o ran datblygu gwahanol feysydd. Mae bod ag ystafelloedd rhyfel y gaeaf yn un ohonyn nhw, ac fe fyddwn i'n awgrymu ein bod angen ystafelloedd rhyfel y gaeaf sydd â chanolfannau rheoli 24/7 ar sail data ar gyfer darparu gwybodaeth gywir ynglŷn â niferoedd y gwelyau sydd ar gael mewn ysbytai a chartrefi gofal, i'w rhedeg gan glinigwyr ac arbenigwyr sy'n gallu nodi gwasgfeydd a gweithredu i leihau'r perygl oherwydd oediadau ambiwlans ac arosiadau hir yn yr adran damweiniau ac achosion brys. Pa ystyriaeth, tybed, a wnaethoch chi ei rhoi i'r polisi hwn, Gweinidog.

Rydych chi'n sôn am gynllun trawsnewid pum mlynedd. Mae hynny'n gwneud i mi ochneidio i ryw raddau pan fyddaf i'n clywed am gynlluniau trawsnewid. Nid fy mod i'n anghytuno â chynlluniau ar gyfer trawsnewid, ond, ers i mi fod yn y fan hon, rwyf i wedi clywed am gynlluniau trawsnewid dros y 10 mlynedd diwethaf, ond nid ydym ni'n gweld y canlyniadau a ddaw oherwydd y cynlluniau trawsnewid hynny wedyn. Tybed a oes diffyg newid diwylliannol yn Llywodraeth Cymru a diffyg ymddiriedaeth mewn arloesedd ac ni wnaiff hynny ddim ond ychwanegu eto at y problemau yr ydym yn eu hwynebu yn GIG Cymru.

Gweinidog, fe wyddoch chi fy mod wedi galw yn gyson am ganolfannau llawfeddygol. Mae gennym ni dros 50 o ganolfannau i ddod eto yn Lloegr, yn ogystal â'r 91 sydd ar waith eisoes. Rydym ni'n cwympo ymhellach ar ei hôl hi yn hyn o beth. Rwy'n croesawu'r ychwanegiad yn eich datganiad chi, eich bod chi'n ymddiheuro i gleifion am ansawdd y gwasanaeth y maen nhw'n ei dderbyn, serch hynny, nid wyf i'n gallu peidio â meddwl y dylem ni fod yn paratoi—fe ddylech chi fod yn paratoi—yn ystod y pandemig ar gyfer cynnydd ar ôl y pandemig, ac a wnewch chi, tybed, roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni, Gweinidog, am eich cynlluniau chi i ddechrau adeiladu'r canolfannau y bu fy ngyd-Aelodau a minnau'n galw amdanyn nhw. Nid dim ond fi sy'n dweud hynny; mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn croesawu cyhoeddi'r canolfannau llawfeddygol hynny i roi terfyn ar yr ansicrwydd y mae cleifion yn ei wynebu. Gweinidog, rwyf i am orffen fy nghwestiynau i yn fanna. 

15:00

Wel, diolch yn fawr, Russell, a blwyddyn newydd dda i chwithau hefyd. O ran sut yr ydym ni'n cymharu â Lloegr, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, gadewch i ni edrych ar y ffigurau yma, oherwydd mae Ymddiriedolaeth Nuffield—nid ni yn Llywodraeth Cymru sy'n dweud hyn—mae Ymddiriedolaeth Nuffield yn dweud wrthym ni ein bod ni'n gwario mwy ar iechyd a gofal nag y maen nhw yn Lloegr, iawn? Felly, os edrychwch chi ar y ffigurau yng Nghymru, rydym ni'n gwario 5 y cant yn fwy na Lloegr—cyn COVID oedd hynny—a 30 y cant yn fwy na Lloegr os ydych chi'n cynnwys gofal cymdeithasol. Felly, peidiwch â dechrau sôn wrthym ni am wario mwy o gymharu â Lloegr. Rydym ni'n gwneud hynny; ac mae angen i ni wneud hynny oherwydd mae gennym ni boblogaeth sy'n hŷn ac yn waeth ei hiechyd. Ond y ffaith yw ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n siarad, nid yn unig yn gyffredinol, ond gadewch i ni edrych ar y ffeithiau, nid ni a'u cynhyrchodd nhw ond grŵp arbenigol annibynnol, cydnabyddedig. Rhan o'r rheswm yr ydym ni yn y sefyllfa hon—ac os ydych chi am ddechrau chwarae gemau gwleidyddol, fe chwaraeaf innau hefyd—yw ein bod ni wedi gweld 10 mlynedd o gyni ac mae hynny wedi ein llwgu ni, o'i gymharu â'r hyn oedd yn digwydd cyn hynny dan Lywodraeth Lafur. Polisi oedd hwnnw. Polisi bwriadol oedd hwnnw. Polisi oedd cyni. A wyddoch chi beth, y rhwystredigaeth wirioneddol y mae'r bobl sydd ar y rheng flaen yn ei theimlo heddiw—[Torri ar draws.] Y rhwystredigaeth mewn gwirionedd yw iddyn nhw gael adduned, fe ddywedwyd wrthyn nhw, 'Cymerwch ddos o gyni, ond fe fydd hi'n iawn ar ôl hynny', a'r broblem yw i'r fargen honno gael ei thorri yn ddiweddar, a dyna ran o'r rheswm pam yr ydym ni yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi hi heddiw. Ac os edrychwch chi ar nifer y meddygon teulu sydd gennym ni yng Nghymru, mae gennym ni fwy. Yn ôl Ymddiriedolaeth Nuffield, mae gennym ni 63 fesul 100,000 o'i gymharu â 57 fesul 100,000 yn Lloegr.

Ac roeddech chi'n sôn am baratoi. Bobl annwyl, fe wnaethom ni baratoi ar gyfer y gaeaf hwn. Fe wnaethom ni dreulio misoedd ar fisoedd yn paratoi ar gyfer hyn. Ac rydych chi'n sôn am gynllunio: rydym ni wedi cynllunio. Roedd gennym ni gynllun trawsnewid, roedd gennym ni'r chwe nod ar gyfer gofal brys ac argyfwng, ac o ganlyniad i hynny, mae gennym ni wasanaeth 111 a gyflwynwyd ledled Cymru erbyn hyn, sy'n dargyfeirio 20 y cant yn unig o'r bobl sy'n galw am wasanaethau brys. Dychmygwch chi faint ohonyn nhw a fyddai wedi mynd yn uniongyrchol i adrannau damweiniau ac achosion brys cyn hynny. Mae gennym ni ganolfannau gofal sylfaenol brys ledled Cymru, mae gennym ni ganolfannau gofal brys un diwrnod, mae gennym ni fferyllfeydd ac mae gennym ni—. Ac rydym ni wedi gwneud hyn wythnos ar ôl wythnos. Bob pythefnos, mae Julie Morgan a minnau wedi bod yn cwrdd ag arweinwyr yr awdurdodau lleol i baratoi ar gyfer y 500 o welyau ychwanegol hyn sydd yn y gymuned. Nid rhywbeth yr ydym ni newydd ddechrau meddwl amdano nawr yw hwn. Fe wnaethon nhw gyhoeddiad ddoe yn Lloegr ynglŷn â hyn. Ddoe. Ni fydd hynny'n barod am fisoedd, oherwydd fe allaf i ddweud wrthych chi ein bod wedi gweithio yn wirioneddol galed iawn i beri i hyn ddigwydd. Mae'r pethau hyn ar waith yng Nghymru. Yn gymesur, nid ydyn nhw'n agos at fod yr un mor uchelgeisiol ag y buom ni yng Nghymru. Nid dim ond o ran uchelgais ychwaith, ond rydym ni wedi eu cyflawni nhw eisoes ac fe fyddwn ni'n cyflawni mwy eto. A wyddoch chi beth arall? A wyddoch chi beth sy'n fwy na hynny, mewn gwirionedd, fe welwn ni ymddiriedolaethau iechyd yn Lloegr yn gofyn erbyn hyn am gael dod i weld a dysgu o'n chwe nod ni ar gyfer gofal brys ac argyfwng? Dyna'r sefyllfa wirioneddol o ran ein paratoadau ni, ac mae gennym ni gynllun trawsnewid. Ni fydd hwnnw'n cychwyn dros nos, ond mae'n gwneud gwahaniaeth yn barod.

Ac rydych chi'n holi ynglŷn â rhestrau aros: wel, yn union cyn y Nadolig, rwy'n siŵr eich bod chwithau'r un mor falch ag yr oeddwn i oherwydd bod y rhestrau aros yn byrhau yng Nghymru, o'r diwedd. Roedden nhw wedi byrhau am y tro cyntaf ers y pandemig, ac maen nhw'n ymestyn yn Lloegr. Gadewch i ni fod yn hollol eglur—[Torri ar draws.] Gadewch i ni edrych ar y ffeithiau—ac fe fyddwn i'n awgrymu i chi fynd i wneud hynny.

Rydych chi'n sôn am ystafelloedd rhyfel y gaeaf, wel, fe ddywedaf i wrthych chi, rwy'n teimlo fy mod i mewn ystafell ryfel y gaeaf bob amser o ran y GIG. Rydym ni wedi bod yn cwrdd bob pythefnos i nodi ble yn union yn y system y ceir y rhwystrau, beth ydym ni am ei wneud ynghylch hynny, a beth ydym ni am ei roi ar waith. Fe wnes i dreulio'r diwrnod yn Ysbyty Athrofaol Cymru ddydd Gwener diwethaf. Roedd hi'n hynod ddiddorol eu gwylio nhw'n nodi yn union, 'Iawn, lle mae'r broblem, sut mae cael y bobl yma allan, beth sy'n rhwystro hynny?' Felly, mae yna lawer o hynny'n digwydd eisoes, ac rwy'n gallu dweud wrthych chi fod data soffistigedig iawn yn cael eu defnyddio i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwella'r sefyllfa.

Rydych chi'n dal ati i refru am ganolfannau llawfeddygol. Fe fûm i yn y ganolfan lawfeddygol sydd eisoes yn bodoli yn Abergele; bûm yn y ganolfan lawfeddygol sydd eisoes yn bodoli yn Llanelli; a bûm yn y ganolfan lawfeddygol sydd eisoes yn bodoli yng Nghaerdydd, yng nghanolfan Vanguard lle maen nhw'n cynnig offthalmoleg. Mae'r rhain yn cael eu sefydlu, maen nhw'n bodoli, ac maen nhw'n trin cleifion yn barod. Felly, rydym ni ar gerdded; mae hynny'n digwydd. Mae 'na ffordd bell i fynd eto, ond mae hi'n bwysig iawn, yn fy marn i, fod pobl yn deall ein bod ni'n mynd trwy'r rhestrau aros hyn, ac mae ein rhai ni'n byrhau wrth i rai Lloegr ymestyn.

15:05

Blwyddyn newydd dda i bawb. Yn amlwg, dydy hi ddim wedi bod yn ddechrau da i'r flwyddyn i'r NHS. Does gen i ond diolch i'r staff am eu gwaith nhw mewn amgylchiadau sy'n mynd yn fwy a mwy amhosib.

Nid hwn oedd y datganiad yr oeddwn i'n ei ddisgwyl heddiw; nid hwn oedd y datganiad yr oedd angen i bobl Cymru ei glywed yn fy marn i. Nid cynllun yw hwn; adroddiad ar sefyllfa yw hwn. Adroddiad yw hwn ar yr hyn y mae'r Llywodraeth wedi bod yn ei wneud i geisio paratoi'r GIG ar gyfer y gaeaf, i geisio ymdrin â'r pwysau presennol, ond a dweud y gwir rydym ni'n gwybod nad yw'r hyn a wnaeth y Llywodraeth Lafur hon wedi gweithio. Yr hyn yr ydym ni eisiau ei wybod yw beth fyddan nhw'n ei wneud yn wahanol. Mae canlyniadau'r argyfwng i'w gweld yn eglur i gleifion; maen nhw i'w gweld yn eglur i staff. Ond ble mae'r newid cyfeiriad? Mewn gwirionedd, ble mae'r math o weithredu sy'n dangos bod y Llywodraeth yn ceisio ymdrin yn wirioneddol â'r argyfwng hwn? Oherwydd trafodaeth o hanner awr yn unig oedd hon am fod—hanner awr ynglŷn â'r hyn sy'n amlwg o fy ngohebiaethau i, ac, rwy'n siŵr, o rai pawb arall sydd yma, yr argyfwng iechyd mwyaf yn ddiamau, heblaw am COVID ei hun, wrth gwrs, a welsom ni.

Yr hyn yr wyf i'n ei weld yw Gweinidog Llafur yn chwilio am rywun i'w feio am yr argyfwng yn hytrach nag awgrymu datrysiadau newydd. Mae hi'n ddigon digywilydd, a dweud y gwir, i weld bai ar y nyrsys, mae'n ymddangos, wrth ddweud bod eu gweithredu diwydiannol nhw wedi rhoi pwysau ychwanegol ar systemau, er bod y pwysau sydd arnyn nhw, ar y nyrsys a rhai eraill, ynghyd â degawd o wasgfa ar gyflogau, sydd wedi arwain at eu pleidlais nhw i streicio. Ac er fy mod i'n cytuno yn llwyr â'r Gweinidog ar yr anghyfiawnder yn sgil blynyddoedd o gyni'r Ceidwadwyr, mae'n rhaid iddi hi gydnabod mai ar Lywodraeth Cymru y mae'r bai am hyn. A yw'r Gweinidog yn cydnabod mai diffyg Llywodraeth Lafur Cymru o ran cefnogi staff yn arbennig felly sydd ar fai yn hyn o beth?

Mae hi'n cyfeirio at ffigurau oedi wrth drosglwyddo i ofal fel rhywbeth sy'n achosi colli capasiti yn y system, ond ei gwaith hi yw creu'r capasiti hwnnw. Yr hyn sydd ei angen arnom ni yw cynllun mwy uchelgeisiol, a dweud y gwir, i gyflymu llif cleifion drwy'r system iechyd a gofal. Roedd hi'n sôn heddiw am greu 500 o welyau cymunedol ychwanegol. Mae hwnnw'n rhywbeth cadarnhaol, ond rydym ni wedi colli miloedd o welyau. Fe ysgrifennais i ati hi rai wythnosau yn ôl, gan ofyn am waith i'w wneud ynglŷn â'r posibilrwydd o sefydlu cyfleusterau cam-i-lawr cymunedol dros dro ar ddull a welsom ni gyda COVID. Fe ddywedodd y Prif Weinidog ddoe—braidd yn nawddoglyd, yn fy marn i—fod gan y rhai sy'n awgrymu hynny fwriadau da, ond mai diffyg staff yw'r broblem, nid diffyg gwelyau. Wel, (a), mae'r ddau beth yn wir, a (b), Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y ddau beth: niferoedd y gwelyau a niferoedd y gweithwyr. Ac, a dweud y gwir, mae'r cynllunio wedi bod yn druenus o ran y gweithlu, ynghyd â'r diffyg o ran ymgysylltu ystyrlon ar hyn o bryd i ddatrys yr anghydfodau diwydiannol, sy'n gwaethygu prinder staff. A yw'r Gweinidog yn cydnabod mai ar y Llywodraeth Lafur y mae'r bai am y methiant i ddatrys yr oedi wrth drosglwyddo i ofal?

Mae gen i ambell i bwynt arall dwi angen gofyn amdanyn nhw'n sydyn. Mae hi'n amlwg bod y cyfuniad o COVID a'r ffliw yn achosi problemau. Mae yna darged o frechu 75 y cant o bawb sy'n cael cynnig y brechiad. Dim ond rhyw 41 y cant, dwi'n deall, o staff gofal iechyd sydd wedi derbyn y brechiad—41 y cant o'r rhai sydd fwyaf agored i niwed. Ydy'r Gweinidog yn derbyn bod y Llywodraeth yn methu o bell ffordd â chyrraedd eu targedau ar faint o bobl sydd angen cael eu brechu ar gyfer COVID a'r ffliw?

Mae'n rhaid i fi droi at yr ataliol eto. Mae'r Gweinidog yn cyfeirio eto at waith sy'n cael ei wneud ar hyn: £145 miliwn, rhaglen pum mlynedd er mwyn ceisio osgoi pobl yn gorfod mynd i'r ysbyty. Ond, y ffordd o osgoi hynny yn yr hir dymor, wrth gwrs, ydy ein gwneud ni'n genedl fwy iach. Ble mae'r buddsoddiad? A thra rydw i, wrth gwrs, yn gwerthfawrogi bod arian yn dynn heddiw, ble mae'r cynlluniau i wneud y buddsoddiad mawr yna er mwyn trawsnewid ein hagwedd ni tuag at yr ataliol a thynnu'r pwysau oddi ar y gwasanaeth iechyd yn y ffordd honno?

Ac yn olaf, Llywydd, er mai pwysau gaeaf ydy testun y datganiad yma heddiw, rydym ni'n gwybod bellach, onid ydym, mai pwysau cydol y flwyddyn ydy hyn bellach. Mae'n rhaid sicrhau bod yna le o fewn y gwasanaeth iechyd i 'flex-io', os liciwch chi. Mi ddylai'r gwasanaeth iechyd fod yn rhedeg ar rywbeth fel 85 y cant o gapasiti. Mae o fel petai'n rhedeg ar 100 y cant, 110 y cant, 120 y cant o'i gapasiti drwy'r amser. A all y Gweinidog ddweud wrthym ni pa bryd oedd yr NHS yng Nghymru yn rhedeg ar tua 85 y cant o'i gapasiti ddiwethaf? Ac ydy hi yn derbyn mai bai Llywodraeth Lafur Cymru ydy'r methiant i greu y capasiti yna o fewn y system?

15:10

Diolch yn fawr iawn i chi. Yn gyntaf i gyd, rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod nid yn unig yr hyn a wnaethom ni, ond yr hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud. Ac rydych chi'n hollol iawn, dim ond er mwyn rhoi rhai syniadau i chi o'n camau nesaf ni, fe fyddwn ni'n sicrhau ein bod ni'n ceisio ehangu nifer yr oriau y mae'r canolfannau gofal sylfaenol brys hynny ar agor, felly fe all hynny ddargyfeirio mwy o bobl o'r oriau sy'n arferol yn y cyswllt hwn. Yn sicr, yr hyn yr oeddwn i'n ei glywed gan bobl mewn adrannau damweiniau ac achosion brys wythnos diwethaf yw mai'r amser anodd, mewn gwirionedd, yw pan fydd popeth arall ar gau. Felly, fe fyddai agor y canolfannau gofal sylfaenol hynny am oriau hwy yn beth pwysig. Yr un peth o ran canolfannau gofal mewn argyfwng ar yr un diwrnod. Felly, dyna rywbeth arall yr ydym ni'n gweithio arno.

Mae gennym ni 100 o weithwyr ambiwlans newydd ar ddod yr wythnos hon a'r wythnos nesaf. Felly, fe fydd hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr. Ac, wrth gwrs, fe fyddwn ni'n bwrw ymlaen â cheisio creu mwy o'r gwelyau cymunedol hynny ar ben y 500 a gawsom ni eisoes. Nid pethau rhwydd mohonyn nhw, oherwydd mae'n rhaid i chi barhau i ddod o hyd i bobl. Staffio yw'r her fawr, yn enwedig o ran gofal, a dyna pam yr ydym ni wedi ymrwymo i sicrhau ein bod ni'n cadw i fyny â'r cyflog byw gwirioneddol fel prif flaenoriaeth yn ein cyllideb ni o ran iechyd a gofal cymdeithasol.

Gweithredu diwydiannol. Gadewch i ni fod yn eglur: fe fydd gweithredu diwydiannol yn arwain at bwysau ar y GIG. Dyna bwrpas unrhyw streic, gwneud yn siŵr bod pobl yn teimlo ychydig o densiwn ac yn lleisio barn. Felly, nid wyf i o'r farn y dylwn i ymddiheuro am hynny—rwy'n credu y bydden nhw braidd yn anfodlon pe bydden nhw'n teimlo nad oedden nhw'n cael unrhyw effaith. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn mai un o'r materion y byddwn ni'n eu trafod, rwy'n gobeithio, gyda'r undebau yn ddiweddarach yr wythnos hon yw'r drafodaeth ynghylch y corff adolygu cyflogau, annibyniaeth y corff adolygu cyflogau, a'r hyn y gallwn ni ei wneud i fagu mwy o ffydd yn hwnnw. Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn yn hyn o beth, oherwydd os byddwn ni'n gwyro oddi wrth hynny, yna fe fyddwch chi'n gweld cyflogau rhanbarthol ac efallai na fyddai hynny'n gweithio allan yn y ffordd y byddai rhai pobl yn dymuno yng Nghymru. Ond rwy'n cydnabod, rwy'n credu bod rhai materion y mae angen i ni edrych arnyn nhw o ran y corff adolygu cyflogau: o ystyried cyfradd bresennol chwyddiant, er enghraifft. Felly, fe welsom ni chwyddiant yn saethu i fyny ar ôl rhyfel Wcráin, a ni ddigwyddodd hynny tan tua mis Chwefror. Ystyriwyd sefyllfa gyfredol y GIG o ran cyflogau a chwyddiant, ym mis Mawrth/Ebrill, a thua 6 y cant oedd hi bryd hynny. Wel, nawr, wrth gwrs, rydym ni'n gwybod bod chwyddiant wedi codi ymhell dros 10 y cant, ac felly rwy'n credu bod problemau i'w cael pryd y mae angen i ni weld beth arall y gellir ei wneud o ran y corff adolygu cyflogau.

O ran gwelyau, cyfleusterau cam-i-lawr, mae arnaf ofn fy mod i o'r un farn â'r Prif Weinidog: nid oes unrhyw ddiben creu gwelyau os nad oes gennych chi ddigon o staff i fod wrth erchwyn y gwelyau. Un o'r heriau gwirioneddol a welsom ni wrth ddarparu'r 500 o welyau ychwanegol hyn yw, cyn gynted ag y byddwn ni'n penodi pobl, mae rhai ohonyn nhw'n gadael. Felly, rydym ni'n colli pobl cyn iddyn nhw gyrraedd y swydd mewn gwirionedd. Honno yw'r her. Felly, dyma pam rwy'n ei chael hi'n hynod ddiddorol, ddoe neu heddiw yn unig, bod Llywodraeth y DU yn credu eu bod nhw am adfer y sefyllfa hon ar gyfer y gaeaf. Ni fydd hynny'n digwydd, oherwydd rydym ni wedi gweld hynny'n heriol tu hwnt, o ran cyflawni'r 500 o welyau ychwanegol hynny, hyd yn oed.

Ond fe geir pethau eraill y gallwn ni eu gwneud, ac un o'r pethau, rwy'n credu, y gallwn ni ddysgu oddi wrthyn nhw yw'r modelau sy'n digwydd ynglŷn ag ysbyty yn y cartref. Felly, mae hi'n wych gweld bod hynny'n digwydd eisoes yng Nghaerdydd: monitro 60 o bobl yn eu cartrefi a fyddai mewn ysbyty fel arall, a gwneud yn siŵr bod popeth ar gael iddyn nhw ac, os oes problem, rydych chi'n gallu anfon rhywun allan atyn nhw. Fe fydd rhaid i ni gofleidio technoleg newydd. Fe fydd rhaid i ni wneud pethau yn wahanol wrth i ni fynd yn boblogaeth sy'n heneiddio gydag anghenion mwy cymhleth.

Rydym ni'n cyflogi mwy o staff nag a gyflogwyd erioed o'r blaen yn y GIG. Erbyn hyn rydym ni'n cyflogi 105,000 o bobl yn y GIG yng Nghymru. Rydym ni'n cyflogi mwy o nyrsys nag erioed o'r blaen, ac felly rydym ni'n recriwtio mwy nag yr ydym yn eu colli. Rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn i bobl gydnabod: ein bod ni mewn gwirionedd yn recriwtio mwy na'r hyn yr ydym yn eu colli, ond nid yw hynny'n ddigonol. Rydym ni'n gwybod nad yw hynny'n ddigonol, ac rydym ni'n gwybod bod angen i ni wneud mwy, a dyna pam rydym ni wedi gweld cynnydd aruthrol yn nifer y bobl yr ydym ni'n eu hyfforddi gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru ac eraill. A dyna pam rydym ni wedi rhoi swm ychwanegol i AaGIC yn y gyllideb: £265 miliwn i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr iechyd.

O ran y nodau brechu, rwy'n falch iawn. Roedd gennym ni nod o gyrraedd 75 y cant o ran COVID a rhai dros 65 oed. Rydym ni wedi cyrraedd 80 y cant. O ran ffliw, rydym ni ar 74.6 y cant, felly rydym ni bron â chyrraedd, ac rydym ni'n ffyddiog iawn y byddwn ni'n cyrraedd 75 y cant yn ystod y dyddiau nesaf. Mae hi'n siomedig gweld cyn lleied o weithwyr y GIG a gweithwyr gofal sydd wedi manteisio ar y cyfle hwn, ac o ran y brechlyn ffliw yn arbennig felly. Mae hwnnw'n rhywbeth yr wyf i wedi holi droeon yn ei gylch er mwyn i'r byrddau iechyd hybu hyn yn wirioneddol gyda'u haelodau nhw. Mae hi'n siomedig eithriadol fod hynny'n wir, ac unwaith eto fe fyddem ni'n dal ati i'w holi nhw ynglŷn â manteisio ar y cyfle hwn.

Roeddech chi'n sôn am atal. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn deall bod gennym ni i gyd ran i'w chwarae o ran atal. Fe all pawb ohonom ni wneud yr hyn a allwn ni i gadw'n heini, a bwyta'n iach, ymarfer corff, a rhoi'r gorau i ysmygu. Mae'r holl bethau hyn yn bethau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n gallu ni i ddarparu'r hyn a allwn ni yn y GIG i'r dyfodol. Rydym ni i gyd yn gwybod am argyfwng gordewdra, ac mae hyn yn rhywbeth y mae gwir angen i ni fynd i'r afael ag ef, oherwydd mewn gwirionedd fe fydd yn trosi i ofal cymhleth sy'n angenrheidiol mewn pethau fel diabetes math 2.

Y peth arall, rwy'n credu, dim ond i fod yn eglur, yw fy mod i wedi gosod canllawiau eglur iawn o ran yr hyn yr wyf i'n ei ddisgwyl gan y GIG y flwyddyn nesaf, a blaenoriaethau hefyd. Fe fyddan nhw'n flaenoriaethau llawer mwy penodol ar gyfer gwneud yn siŵr ein bod yn canolbwyntio ein sylw ni ar y pethau pwysicaf i bobl Cymru, yn fy marn i. Un o'r pethau a wnaethom ni'n eglur iawn yn ein hadroddiad ac yn ein strategaeth ni, 'Cymru Iachach', yw bod angen i ni weld mwy o ofal yn y gymuned mewn gwirionedd. Mae angen i ni fod â rhagor o gymorth ar gael y tu allan i'n hysbytai ni ac yn ein cymunedau ni. Pan ydym ni'n sôn am ryddhau cleifion o ysbytai, er enghraifft, mae llawer o'r asesiadau hynny ar hyn o bryd yn cael eu gwneud mewn ysbytai. Mae'r dystiolaeth glinigol yn awgrymu y dylech chi fod yn gwneud hyn yng nghartrefi pobl. Felly, mae'r newid hwnnw'n rhywbeth y byddwn ni'n rhoi pwyslais mawr arno gyda'r GIG o ran datblygu eu strategaethau nhw i'r dyfodol.

15:15

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei datganiad llawn y prynhawn yma. Rwy'n credu bod pob un ohonom ni, ar bob ochr i'r Siambr a beth bynnag fo ein gwahaniaethau gwleidyddol ni, yn ddiolchgar iawn i bawb sy'n gweithio yn yr amgylchiadau presennol ledled y gwasanaeth iechyd gwladol ac mewn llywodraeth leol wrth ddarparu gofal cymdeithasol hefyd. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod y pwysau enfawr sydd ar y gwasanaeth iechyd cenedlaethol. Fe fuom ni'n trafod yn gynharach, yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog, effaith cyni ar y gwasanaeth iechyd gwladol a gallu'r gwasanaeth i ymateb, o ystyried materion olynol yn ymwneud â chyllid yn ystod y degawd diwethaf. Ond roeddech chi'n dweud hefyd, wrth ateb Rhun ap Iorwerth, rwy'n credu, bod y gwasanaeth ei hun wedi gorfod newid i adlewyrchu newidiadau yn y gymdeithas a newidiadau o ran anghenion. Fe fyddai hi'n dda gennyf i wybod, ym mhenllanw'r argyfwng gaeaf hwn, pe gallech nodi'r materion yr ydych chi'n ymdrin â nhw heddiw sy'n faterion hirdymor hir ac nid y materion byrdymor yr ydym ni'n eu gweld yn y penawdau, a sut rydych chi'n credu y dylem ni fod yn mynd i'r afael â'r materion strwythurol sylfaenol hynny yn y gwasanaeth iechyd cenedlaethol wrth iddo nesáu at ei ben-blwydd yn saith deg pump oed.

Diolch yn fawr iawn, Alun. Yn sicr, rwy'n credu bod heriau anferthol i'r GIG. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod ac yn siarad amdanyn nhw a bod honno'n sgwrs y mae angen i ni ei chynnal â'r cyhoedd. Nid rhywbeth a ddylai aros yn y Siambr hon mohono, oherwydd fe fydd y rhain yn benderfyniadau anodd iawn y bydd yn rhaid i bawb fyw gyda nhw. Felly, os meddyliwch chi am y cyfleoedd sydd ar gael i ni heddiw nad oedden nhw ar gael yn y gorffennol, sy'n anhygoel, fe welais i faban yn Ysbyty Athrofaol Cymru ddydd Gwener diwethaf a aned ar ôl 21 wythnos—cwbl wyrthiol. Ac nid oes unrhyw amheuaeth y byddai baban o'r oedran hwnnw wedi trengi yn y gorffennol. Mae'n rhaid i ni ddeall bod honno'n wyrth, yn wych, oherwydd y gwaith a wna'r GIG y mae'r baban hwnnw'n fyw heddiw, ond fe ddaw rhai dewisiadau gyda hynny y mae'n rhaid i ni eu gwneud. Ac felly rwyf i o'r farn bod rhaid i ni gynnal sgwrs o ran ein blaenoriaethau ni yn y GIG.

Fe geir datblygiadau newydd drwy'r amser hefyd. Fe fydd rhan o hynny o gymorth mawr i ni. Mae ymgynghoriadau o bell digidol yn bethau cadarnhaol iawn yn fy marn i sydd eisoes wedi digwydd ac wedi trawsnewid y ffordd yr ydym ni'n darparu gofal eisoes. Ond rwy'n credu mai'r peth allweddol o ran lle bydd heriau yn y dyfodol—. Rwy'n credu bod rhai materion yn ymwneud â chyfalaf ac fe fydd yn rhaid i ni ymdrin â nhw, yn ogystal â'n dulliau ni o gyflawni gyda'r cyfleusterau sydd gennym ni, ond rwy'n credu hefyd y bydd rhaid i ni gael y drafodaeth hon am newidiadau yn y gymdeithas. Pan sefydlodd Aneurin Bevan y GIG yn 1948, roedd pobl yn gweithio tan eu bod tua 65 oed ac yn marw pan oedden nhw tua 68 oed. A dyna'r sefyllfa wirioneddol. Mae'r ffaith fod pobl yn byw'n hŷn o lawer erbyn hyn yn beth rhagorol, ond nid yw ein strwythur ni wedi newid yn sylfaenol i adlewyrchu'r gwahaniaeth hwnnw.

Y bwlch coll yw'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yn y maes hwn o ofal. Yn amlwg, mae awdurdodau lleol yn gwneud eu gorau glas yn y maes hwnnw, ond yn amlwg mae cyfyngiadau arnyn nhw hefyd o ran eu gallu economaidd. Felly, hwnnw yw'r maes, yn fy marn i, y mae angen sgwrs heriol iawn gyda'r cyhoedd yng Nghymru amdano: beth ydym ni am ei wneud i gefnogi pobl mewn poblogaeth sy'n heneiddio gydag anghenion gofal mwy cymhleth. Oherwydd ynghyd â phoblogaeth sy'n heneiddio fe ddaw sefyllfa fwy heriol o ran pa fath o achosion cymhleth sydd raid i chi ymdrin â nhw. Felly, nid ymdrin yn unig â rhywun yn mynd i'r ysbyty yr ydym ni gyda chanser, dyweder; efallai bod ganddyn nhw ganser a diabetes a chlust dost, neu lawer o bethau ar yr un pryd. Ac mae'n rhaid i ni ddeall mai dyna'r math o heriau y byddwn ni'n eu hwynebu yn y dyfodol. 

15:20

Mae gennyf nifer o Aelodau sy'n awyddus i holi'r Gweinidog am y datganiad hwn. Pe byddech chi'n cadw eich cwestiynau yn gryno ac yn effeithiol, fe fyddai hynny'n fy ngalluogi i alw Aelodau eraill yn eich grwpiau yn nes ymlaen hefyd. Felly, rwyf i am ddechrau gyda chi, Gareth Davies, i mi weld a allwch chi fod yn gryno ac yn effeithiol.

Fel pob amser. Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog. Fe hoffwn i ddymuno blwyddyn newydd dda i chi, a Aelodau'r Senedd i gyd. Unwaith eto, rydym ni—

Un peth yn unig: diolch i chi am ddymuno blwyddyn newydd dda i ni gyd; dyna'r tro olaf y mae angen i ni glywed hynny. Diolch yn fawr iawn i chi am wneud, ond fe arbedwn ni amser pe bawn ni i gyd yn dymuno blwyddyn newydd dda i'n gilydd nawr, a gwenu ar ein gilydd, a bod yn garedig â'n gilydd, chwedl Jack Sargeant bob amser yn y lle hwn, a bwrw ymlaen gyda'n cwestiynau ni. Peidiwch â phoeni, ni wnaf i gynnwys y 30 eiliad yna yn eich dyraniad amser chi. Ymlaen â chi, Gareth.

Unwaith eto, rydym ni mewn sefyllfa o fod yn siarad am bwysau'r gaeaf yng nghanol gaeaf noethlwm, sef ymagwedd adweithiol yn hytrach na bod yn rhagweithiol, Gweinidog. Fe fyddai unrhyw Lywodraeth ddoeth yn gwneud y math yma o ddatganiad pan fo'r haul yn tywynnu, pryd maen nhw yn eu siorts a'u sandalau. Ond rwyf i eisiau canolbwyntio fy nghwestiwn ar sut mae pwysau'r gaeaf yn effeithio ar gartrefi gofal. Bûm yn ymweld â Chartref Gofal Sandford ym Mhrestatyn ddydd Gwener diwethaf, lle mae Sean, Nicky a'r tîm yn gwneud gwaith rhagorol o ofalu am ein pobl fwyaf agored i niwed a'r rhai hynaf un. Ond mae llawer o'r problemau y maen nhw'n eu hwynebu o ganlyniad i bwysau'r GIG—amseroedd aros hir am ambiwlans, oedi wrth gael eu rhyddhau—a methu llenwi eu nifer llawn nhw o 40 gwely oherwydd prinder staff, gyda'r problemau recriwtio a chadw staff yr ydym ni i gyd yn rhy gyfarwydd â nhw. Felly, a wnaiff y Gweinidog amlinellu'r prynhawn yma pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â sgil-effeithiau pwysau'r GIG ar y system gofal cymdeithasol a sicrhau nad yw ein pobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael eu gadael ar ôl? Diolch i chi.

Diolch yn fawr iawn i chi. Roedd hynny'n ardderchog; da iawn. Rwy'n credu bod hyn yn bwysig. Rwy'n gobeithio eich bod chi wedi gwrando ar yr araith, sy'n dangos ein bod ni wir wedi bod yn rhagweithiol iawn yn ystod misoedd yr haf o ran y paratoi. Yn amlwg, mae'r galw a welsom ni dros y gaeaf hwn wedi bod yn ddigynsail.

O ran cartrefi gofal, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n rhoi teyrnged i'r gwaith anhygoel y maen nhw'n ei wneud wrth ofalu am ein henoed. Yn amlwg, maen nhw mewn sefyllfa hefyd o fod yn wynebu amseroedd aros hir am ambiwlansys. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod y bydd adegau mewn gwirionedd pan fydd angen i ni geisio cefnogi pobl yn y cartrefi. Rydw i wedi gweld rhai ystadegau diddorol ynghylch hyn, er enghraifft, wedi i chi fynd i'r ysbyty am gyfnod o fwy na nifer arbennig o ddyddiau, pa mor debygol ydych chi o farw os ydych chi dros oedran arbennig. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, iawn fod pobl yn deall hynny, mewn gwirionedd—. Ac nid yw'r rhan fwyaf yn dymuno marw mewn ysbyty; nid oherwydd eu bod nhw'n mynd i'r ysbyty y maen nhw'n marw, mae hynny oherwydd yr oedden nhw'n mynd i farw beth bynnag. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n ceisio deall yr hyn sy'n bwysig i'r claf, ymhle bydden nhw'n dymuno cael y gofal tosturiol hwnnw. Yn aml iawn, yn eu cartrefi eu hunain fyddai hynny.

Rwy'n deall, ac rwy'n gwybod bod fy nghyd-Weinidog Julie Morgan yn deall yn dda iawn, yr anawsterau o ran recriwtio pobl mewn cartrefi gofal, a dyna pam yr ydym ni wedi cydnabod unwaith eto y byddwn ni'n anrhydeddu'r cyflog byw gwirioneddol yn y gyllideb ym mis Ebrill. Mae hynny'n bwysig iawn, rwy'n credu, i ni ddeall bod problem yn hyn o beth y mae angen i ni fynd i'r afael â hi. Ni fydd hi'n hawdd, oherwydd mae llawer o gystadleuaeth yn y gymdeithas gyfan o ran swyddi, ond rwy'n credu bod hwnnw'n faes y mae angen i ni weithio yn agos dros ben ynddo gyda'n partneriaid llywodraeth leol ni i wneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi'r cynnig gorau posibl, a'n bod ni'n ystyried nid yn unig y cyflogau, ond yr amodau ynghylch cyflogau hefyd.

15:25

Rŷch chi'n dweud yn eich datganiad, Weinidog, bod 12 y cant o gapasiti gwelyau yr NHS nawr wedi ei lenwi oherwydd delayed discharges, ac mewn ymateb i hynny, wrth gwrs, rŷch chi'n dweud eich bod chi wedi sicrhau 500 gwely cymunedol ar gyfer step-down care. Yn amlwg, mae hynny i'w groesawu. Mi fyddai'n dda gwybod ble mae'r rheini, gyda llaw. Fel Aelod yn y gogledd, mi fyddwn i â diddordeb mewn gwybod faint o'r rheini sydd yn y gogledd. Ond wrth gwrs, mi oedd gennym ni rwydwaith o ysbytai cymunedol a oedd yn arfer darparu'r union wasanaeth step-down yna ar draws Cymru. Mi gollwyd y capasiti yna—capasiti ŷch chi nawr yn trio ail-greu ac ailadeiladu—pan gaewyd ysbyty cymunedol y Fflint, pan gaewyd ysbyty cymunedol Blaenau Ffestiniog, ysbyty Prestatyn, ysbyty Llangollen, ac yn y blaen.

Fe wnaeth nifer ohonom ni eich rhybuddio ar y pryd y byddech chi'n difaru gwneud hynny, oherwydd mae wastad angen y ddarpariaeth step-down yna o fewn y system, neu—fel ŷn ni'n gweld—mae'r system yn mynd i flocio, ac ŷn ni'n mynd i orffen lan mewn sefyllfa lle mae 12 y cant o gapasiti gwelyau wedi dioddef oherwydd delayed discharge. Felly, ydych chi'n derbyn mai camgymeriad oedd cau’r ysbytai cymunedol yna, yn enwedig y rhai ar draws y gogledd? Ydych chi'n difaru bod hynny wedi digwydd? Oherwydd does dim amheuaeth bod hynny o leiaf yn cyfrannu peth tuag at y crisis mae ysbytai cyffredinol nawr yn ei wynebu. 

Diolch yn fawr. Dwi'n barod i roi rhestr ichi ynglŷn â ble yn union ŷn ni wedi ffeindio'r capasiti yna. Mae'r capasiti, wrth gwrs, yn ddibynnol ar ein gallu ni i gydweithio gyda llywodraeth leol yn yr ardal, felly dyna pam ŷn ni wedi bod yn gweithio gyda nhw yn ddiwyd, a gyda'r NHS yn yr ardal hefyd. Pan fo'n dod i step-down facilities, dwi'n meddwl yn gyffredinol mae'n well gan bobl gael y gofal maen nhw eisiau ac angen yn eu cartrefi nhw, a dyna ble ŷn ni'n ceisio mynd. Mae'n rhaid cofio hefyd, pan fo'n dod at ysbytai cymunedol, maen nhw'n ddrud tu hwnt i'w rhedeg. Mae hynny'n rhywbeth dwi wedi'i ddysgu. Ac os ŷch chi'n edrych ar faint o ysbytai sydd gyda ni yng Nghymru yn gymharol i'r boblogaeth, dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n deall ein bod ni mewn sefyllfa lle mae’n ddrud iawn i ni redeg ysbytai, a dyna pam mae camu i mewn i’n cymunedau ni yn rhywbeth ŷn ni'n ceisio cael yr NHS i'w wneud, i wneud lot mwy o ddarpariaeth yn ein cymunedau, yng nghartrefi pobl, lle mae'r rhan fwyaf o bobl eisiau cael y gofal yna.

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi. Ac fel gwnaethoch chi gyfeirio ato eisoes, mae gan bob dinesydd ran i'w chwarae wrth ysgafnu'r pwysau sydd ar y GIG, boed hynny o ran ein rheolaeth ar ein hiechyd ni ein hunain neu wrth geisio'r gwasanaethau sy'n briodol. Ond beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi dinasyddion yn hynny o beth, a beth allem ni Aelodau'r Senedd ei wneud yn ein hetholaethau ni ein hunain i annog pobl i gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu canlyniadau nhw eu hunain o ran eu hiechyd?

15:30

Diolch yn fawr. Wel, mae hwn yn faes lle mae fy nghydweithiwr, Lynne Neagle, yn cymryd rhan flaenllaw o ran iechyd y cyhoedd. Wrth gwrs, mae gennym raglen o weithgarwch clir iawn—'Pwysau Iach: Cymru Iach'—lle rydyn ni'n ceisio annog pobl i sicrhau eu bod yn cymryd rhan, ac maen nhw'n deall beth yw bwyd iach a sut maen nhw'n ei ddefnyddio a sut maen nhw'n ei goginio. Rydyn ni wedi rhoi llawer o gefnogaeth, wrth gwrs, yn ein hysgolion. Felly mae prydau ysgol am ddim bellach wedi mynd i ysgolion cynradd; mae gwneud yn siŵr mai dyna'r math cywir o fwyd yn bwysig iawn.

Felly, mae yna lawer iawn y gall pobl ei wneud ac, wrth gwrs, rydyn ni hefyd yn rhoi swm sylweddol o arian i Chwaraeon Cymru i wneud yn siŵr ei fod yn helpu yn ein cymunedau, yn enwedig gyda phobl ifanc, i fabwysiadu'r syniad hwnnw o ymarfer corff mor fuan â phosib. Ac mae'n wych nawr fod gennym ni berthynas â Chymdeithas Bêl-droed Cymru i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu cyflwyno hynny ledled Cymru gyfan, gan sicrhau bod pobl yn deall eu cyfrifoldebau o ran iechyd hefyd. 

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n gwerthfawrogi bod hwn yn gyfnod heriol ac, wrth gwrs, mae pob un ohonom ni yn diolch i staff gwych y GIG sy'n gweithio mor ddiflino. Fodd bynnag, Gweinidog, mae gan saith bwrdd iechyd yng Nghymru bron i 1,800 o gleifion sydd, yn feddygol, yn ddigon iach i gael eu rhyddhau o'r ysbyty. Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn fy etholaeth i wedi dweud bod ganddo tua 400 o gleifion a allai gael eu rhyddhau, ond na all wneud hynny. Dyma'r nifer uchaf ond un o'r saith bwrdd iechyd. Mae'n dod yn amlwg mai'r unig ffordd rydym yn mynd i atal un argyfwng ar ôl y llall yw diwygio a gwella gofal cymdeithasol yng Nghymru yn sylweddol. 

Gweinidog, mae ysgrifennydd iechyd Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi pecyn gaeaf a fydd yn caniatáu symud miloedd o gleifion y GIG i gartrefi gofal, er mwyn galluogi rhyddhau gwelyau ysbyty ar gyfer cleifion brys. Rwy'n deall bod £250 miliwn wedi'i ddyrannu i uwchraddio'r ysbytai hyn a phrynu gwelyau mewn cartrefi gofal i gleifion sy'n ddigon cadarn yn feddygol i gael eu rhyddhau. Ydy hwn yn rhywbeth y byddwch chi'n ystyried ei wneud yng Nghymru? Ac, ar ddiwedd eich datganiad, roeddech chi'n sôn am atal ac roeddech chi'n cydnabod y gallai fod mwy o bwysau nawr bod ysgolion wedi dychwelyd. O'r hyn rwy'n ei ddeall heddiw, o'r hyn rydw i wedi'i glywed, mae nifer uchel o absenoldebau ymhlith staff a disgyblion yn ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr eisoes oherwydd salwch heintus. Sut ydych chi'n gweithio gyda'r Gweinidog addysg ac awdurdodau lleol i fabwysiadu cyngor awdurdodau lleol ar gyfer ysgolion o bosibl, er mwyn sicrhau bod disgyblion yn aros gartref pan fyddant yn dioddef o salwch heintus? Diolch. 

Diolch yn fawr. Wel, rwy'n falch eich bod yn cydnabod bod llawer o bobl sy'n barod i'w rhyddhau. Mae'n ddiddorol iawn bod eich arweinydd yn dweud yn gynharach, 'A dweud y gwir, byddwch yn ofalus iawn ynghylch pryd rydych chi'n gofyn i bobl sy'n iach yn feddygol i'w rhyddhau adael.' Felly, mae'n ymwneud â risg, onid yw? Mae'n ymwneud â lle mae'r risg, a beth sy'n bwysig i ni yw ein bod ni'n cael pobl allan sy'n barod i'w rhyddhau ac sydd â'r gefnogaeth honno gartref, fel y gallwn ni gael pobl sydd angen cymorth ar frys i mewn drwy'r drws ffrynt. Ac, wrth gwrs, rwy'n credu bod pob un ohonom ni yn cydnabod bod angen diwygio sylfaenol o ran gofal cymdeithasol.

O ran pecynnau gaeaf, wel, croeso i'r parti, Llywodraeth y DU. Rydyn ni wedi bod yn gwneud hyn ers misoedd—rydyn ni wedi bod yn gwneud hyn ers misoedd. Gwnaethon ni roi £25 miliwn ar y bwrdd fis Ebrill diwethaf i baratoi ar gyfer hyn, oherwydd yr hyn a ddywedwyd wrthym dro ar ôl tro oedd: 'Peidiwch â rhoi'r arian hwnnw inni—' . Yr hyn sy'n digwydd fel arfer yw ei fod yn cael ei roi ym mis Medi, sy'n rhy hwyr—mae mis Medi yn rhy hwyr. Rhoddwyd yr arian hwnnw ar y bwrdd ddoe. Does dim ffordd ei bod yn mynd i gael pobl—. Ac rydych chi'n ceisio dod o hyd i'r gwelyau yna, achos, clywch, rydyn ni wedi bod yn ei wneud wythnos ar ôl wythnos ar ôl wythnos. Rydyn ni wedi bod yn prynu'r capasiti hwnnw mewn gofal yn barod, mewn cartrefi gofal. Dyna beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud—y 500 o welyau hyn yn y gymuned. Dyna'n union beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud. Felly, mae'n syniad hyfryd; mae'n drueni nad oedd wedi meddwl amdano'n gynharach, oherwydd rydyn ni'n effro, rydyn ni'n ei gyflawni, ac rwy'n credu ei bod yn mynd i gymryd llawer mwy o amser—. Mewn gwirionedd, gwnaeth gyhoeddiad ym mis Medi ei fod yn mynd i gynhyrchu 7,000 o'r rhain. Go brin ei bod wedi crafu wyneb hynny, felly mae hwn wir yn ailwampiad o gyhoeddiad gan Lywodraeth y DU a wnaeth ym mis Medi. 

Syrthiodd un o fy etholwr yn ddiweddar a thorrodd ei migwrn, ac mae hi'n byw ger uned ddamweiniau ac achosion brys mawr yn Ysbyty Treforys ac uned mân anafiadau yn ysbyty Castell-nedd Port Talbot. Aeth i Uned Mân Anafiadau, gan feddwl y byddai'r amseroedd aros yn llai. Dyna yw'r canllawiau ar nifer o wefannau, ond apwyntiad yn unig ydoedd. Dywedwyd wrthi y byddai'n rhaid iddi fynd i Dreforys a dywedwyd wrthi y byddai'r amser aros am belydr-x rhwng 48 a 72 awr. Mae ganddi imiwnedd ataliedig, felly roedd hi'n gwybod na fyddai aros mewn adran damweiniau ac achosion brys orlawn yn nhymor y ffliw yn syniad da iawn ac y byddai'n beryglus i'w hiechyd mewn gwirionedd. Mae hi nawr yn mynd i gael ei migwrn wedi'i dorri unwaith eto a chael llawdriniaeth arno—problem a allai fod wedi'i datrys gyda chast, mae'n debyg. Felly, mae'n amlwg nad yw'r cynllun wedi gweithio. Gwnaethoch chi sôn yn eich datganiad y byddwch chi'n dysgu gwersi'r wythnosau a'r misoedd diwethaf. Felly, beth yw'r gwersi i Lywodraeth Cymru?

15:35

Diolch yn fawr. Wel, wrth gwrs, mae'n ddrwg iawn gen i glywed am yr achos unigol yna. Mae yna enghreifftiau lle mae pobl yn cael y gefnogaeth yn rhai o'n canolfannau gofal brys un diwrnod, lle maen nhw'n mynd i mewn, maen nhw'n cael apwyntiad, maen nhw'n gwybod pryd maen nhw'n mynd i mewn, maen nhw'n cael y cast ar yr un diwrnod. Mae'n ddrwg gen i nad yw hynny wedi digwydd yn yr achos hwn, ond gallaf eich sicrhau chi ei fod yn digwydd dros wahanol rannau o Gymru.

Yn sicr, rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n dysgu gwersi. Roedd dechrau'n gynnar yn syniad da. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni ddeall bod ein proffilio o'n disgwyliadau mewn perthynas â'r galw, ar ôl y pandemig, mae'n debyg nad oedden ni wedi trefnu i gynifer o bobl ag yr oedden ni'n meddwl fynd yn sâl o ganlyniad i'r ffliw. Daeth yn gynt nag oedden ni'n ei ddisgwyl, felly mae'n debyg bod yn rhaid i ni fod yn barod ychydig yn gynt. A gwnaethom ni gael ein 100 o weithwyr ambiwlans allan, ac maen nhw'n barod, ond maen nhw'n barod yr wythnos hon—byddai wedi bod yn wych pe bydden ni wedi eu cael nhw'n barod ychydig cyn y Nadolig. Felly, byddai wedi bod yn dda cael yr holl bethau hynny, i fod wedi cael eu cyflwyno ychydig yn gynt, ond y modelu hwnnw, bydd yn ddiddorol, pan fydd gennym amser, i edrych yn ôl ar ble aeth ein modelu o'i le a beth sy'n digwydd. Eto, er hynny, rydym ni newydd ddod allan o bandemig, dydyn ni erioed wedi bod yma o'r blaen, felly yn amlwg mae systemau imiwnedd pobl i lawr ar ôl cwpl o flynyddoedd o beidio â chael eu hamlygu. Ac mae'n debyg nad oedd yr un ohonom yn gwybod yn iawn faint o bobl fyddai'n mynd yn sâl dros y cyfnod penodol hwn. Wn i ddim amdanoch chi, ond mae bron pawb rwy'n ei adnabod wedi cael rhyw fath o ffliw dros y Nadolig—mae wedi effeithio'n fawr ar niferoedd fawr iawn o bobl. Ac yn amlwg, er bod pobl fel fi wedi llwyddo i ddod drwyddi, fwy neu lai, mae yna bobl sy'n llawer hŷn sydd wedi dioddef go iawn ac wedi cael eu hunain yn ein hysbytai.

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Bob blwyddyn, mae'r gaeaf yn dod, bob blwyddyn, mae pwysau'r gaeaf arnom, a dydyn ni ddim wedi dysgu unrhyw wersi. Mae'r cyhoeddiad a wnaed yr wythnos ddiwethaf, a oedd yn dweud y gallai cleifion gael eu rhyddhau heb fod angen pecyn gofal arnynt, yn codi pryderon moesegol, cydraddoldeb a hawliau dynol difrifol. Mae meddygon wedi condemnio'r polisi hwn fel un peryglus, ac nid oes rhyfedd. Pa asesiadau o'r effaith ar hawliau a wnaed cyn y newid polisi newydd hwn? Gweinidog, gwnaeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gyfres o argymhellion yn ei adroddiad 'Cydraddoldeb a Hawliau Dynol mewn gofal preswyl yng Nghymru yn ystod y coronafeirws'. Pam ydych chi wedi anwybyddu'r argymhellion hynny ac wedi peryglu bywydau pobl hŷn a phobl anabl?

Yn olaf, Gweinidog, pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod hyn ac unrhyw benderfyniadau polisi yn y dyfodol ynglŷn â gofal cymdeithasol yn cael eu hasesu'n llawn o ran eu heffaith ar hawliau dynol cleifion yng Nghymru, a mesurau a roddwyd ar waith i atal unrhyw achos o dorri'r rheolau? Diolch.

Diolch yn fawr. Wel, fel rwy'n dweud, rwy'n meddwl ein bod ni wedi dysgu llawer o wersi yn y gorffennol, a dyna pam y gwnaethom ni'r holl waith paratoi hwnnw llawer yn gynharach. Ac rwy'n credu y byddai'r sefyllfa wedi bod yn llawer gwaeth pe na fyddai'r canolfannau gofal sylfaenol brys ar gael i ni, pe na fyddai'r gwasanaeth 111 ar gael i ni, pe na fyddai'r SDEC ar gael i ni, pe na fyddai'r fferyllfeydd ar gael i helpu pobl, pe na fyddem ni wedi bod â'r 500 o welyau ychwanegol yna yn y gymuned. Felly, gwnaethom ni wneud llawer iawn o waith paratoi; roedd y galw lawer yn fwy nag yr oeddem ni'n ei ddisgwyl.

O ran pecynnau gofal, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, os edrychwch chi ar y dystiolaeth academaidd a chlinigol, mae'n awgrymu y dylid gwneud yr asesiadau hynny, o ran pecynnau gofal, yng nghartrefi pobl, nid mewn ysbytai. Nid fi sy'n dweud hyn—mae'n dystiolaeth glinigol. Ac felly, yr hyn sy'n bwysig yw bod pobl yn deall nad yw hyn yn ceisio symud problem oddi ar ein system i rywle arall, mae'n well i'r claf mewn gwirionedd. Ac ar ben hynny, gadewch i ni gofio bod llawer o achosion o'r ffliw yn ein hysbytai ar hyn o bryd. Mae pobl hen a bregus yn yr ysbyty, ac mae rhai ohonyn nhw'n dal y ffliw yn yr ysbyty. Mae angen i ni eu rhyddhau fel nad ydyn nhw'n dal y ffliw. Felly, mae'r pethau hyn i gyd yn bwysig iawn.

Pan ydych chi'n siarad am hawliau dynol, rwy'n credu bod rhaid i ni siarad am hawliau dynol y bobl hynny sy'n cael trafferth cael ambiwlans. Mae llawer o'r bobl hynny'n hen, cofiwch. Mae'r bobl sy'n ffonio am ambiwlansys ac sydd ddim yn cael y gwasanaeth y dylen nhw fod yn ei gael o fewn amser priodol yn hen bobl hefyd. Felly, does dim gwahaniaethu yma. Pobl hŷn yw'r bobl sy'n dioddef gan amlaf. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn deall bod hyn yn ymwneud â'r risg ar draws y system gyfan. Ac mae sicrhau'r cydbwysedd yna o risg ychydig yn fwy wedi'i rannu ar draws y system gyfan, rwy'n meddwl, yn gwneud synnwyr.

15:40

Dwi am wneud dau bwynt a gofyn dau gwestiwn, os yn bosib. Fe ddaru'r Gweinidog ddweud ynghynt fod gan Gymru fwy o feddygon teulu yng Nghymru nag yn Lloegr. Dwi'n ofni bod hyn yn dangos diffyg dealltwriaeth, mewn gwirionedd, o'r sefyllfa rydyn ni'n wynebu. Hynny ydy, mae dwysedd poblogaeth Lloegr yn llawer iawn fwy dwys na Chymru. Mae'n haws iawn cael access i feddyg pan fo gennych chi 1,000 o bobl y filltir sgwâr nag yn ne Meirionnydd, er enghraifft, pan fo gennych chi ddim ond 20 o bobl y filltir sgwâr ac mae'n anos cael mynediad i'r gwasanaethau hynny. Felly, dyna'r pwynt dwi am ei godi a gofyn i chi, felly: ydych chi'n derbyn bod angen fwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd yn ein hardaloedd gwledig er mwyn i bobl gael mynediad i'r gwasanaethau hynny?

Hefyd, dwi'n nodi eich bod chi wedi sôn ambell i waith erbyn hyn am y ffaith bod ffliw a COVID yn yr ysbytai. Ond, fel ddaru Rhun ddweud ynghynt, os ydy cyfradd deiliadaeth gwelyau ysbytai yn mynd dros 82 y cant, yna, mae'r hospital-acquired infections yma, fel ffliw, fel COVID, yn mynd i gael eu rhannu. Ond, mae deiliadaeth yn ein hysbytai ni bellach dros 100 y cant; wrth gwrs eu bod nhw'n mynd i gael eu rhannu, felly. Wrth gwrs fod pobl yn dioddef, ac mae hynny oherwydd eich bod chi heb fuddsoddi yn y nyrsys ac wedi torri ar y gwelyau. Mae'n ymddangos fel bod y gwersi ddim yn cael eu dysgu. Un ffordd amlwg o ddysgu'r gwersi yma ydy drwy gynnal ymchwiliad swyddogol i COVID yng Nghymru er mwyn i ni wybod y ffordd ymlaen a sut mae peidio â gwneud pethau yn y dyfodol. A wnewch chi rŵan dderbyn bod yna angen ddi-wad am ymchwiliad o'r fath yma yng Nghymru?

Diolch yn fawr. Jest i'w wneud yn glir, beth rŷn ni'n ceisio'i wneud pan fo'n dod i GPs yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n deall bod yna lot o bobl sy'n gallu helpu, nid jest GPs. Felly, mae cynyddu'r niferoedd o bobl sy'n ffisiotherapyddion, sy'n fferyllwyr yn ein cymunedau ni, a mwy o advanced nurse practitioners—. Dwi'n gwybod bod enghreifftiau da iawn ym Mhen Llŷn, er enghraifft, o advanced ambulance practitioners yn helpu yn ein cymunedau ni fan yna. Felly, does dim angen wastad—. Er ein bod ni'n gwneud yn well o ran niferoedd y GPs na Lloegr, dwi'n meddwl ei fod e'n bwysig ein bod ni'n deall ein bod ni'n ceisio creu system lle rŷn ni'n defnyddio sgiliau pob un yn y tîm. Dwi'n meddwl ei fod yn rili bwysig fy mod i'n gwneud yn glir, dydyn ni ddim wedi torri ar niferoedd y nyrsys; mae mwy o nyrsys gyda ni nag erioed o'r blaen, ac rŷn ni dal yn recriwtio mwy nag ydyn ni'n colli. Felly, dyw hynny jest ddim yn wir. O ran yr ymchwiliad, wel, rŷch chi'n gwybod ein hateb ni i hynny.

Rwy'n teimlo rheidrwydd i ddweud stori wrthych chi sy'n gadarnhaol. Rwy'n byw mewn ardal wledig iawn. Ar 17 Rhagfyr, bu'n rhaid i mi roi fynd at fenyw a oedd wedi syrthio a chael anaf difrifol i'w phen. Gwnaethon ni ffonio'r gwasanaeth ambiwlans. Cawson ni wybod y byddai'n rhaid aros am ddwy awr. Felly, dychmygwch ein syndod pan drodd un i fyny o fewn 15 munud. Mae'n rhaid siarad am y straeon cadarnhaol hynny hefyd, ac mae yna lawer. Hoffwn i ddiolch i bawb sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd.

Hoffwn hefyd siarad am fater risg uchel, y mae ein Llywodraeth Geidwadol yn y DU ar fin ei orfodi ar ein gweithwyr iechyd: y ddeddfwriaeth gwrth-streic gywilyddus, sy'n portreadu ein gweithwyr iechyd fel rhai esgeulus. Ni fydd hynny'n gwneud dim i'w helpu i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. O bosibl, pe bawn i yn eu sefyllfa nhw, byddwn i'n gadael. Buaswn i'n meddwl, 'Dydw i ddim yn cael fy ngwerthfawrogi yn fy rôl'. 

Mae mater yr hoffwn ei godi gyda chi, os caf i, Gweinidog, yn ymwneud â chyfuno cyllidebau o fewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Rydyn ni wedi clywed llawer am y materion gofal cymdeithasol sy'n wynebu ein gwasanaethau iechyd, a hoffwn ddweud wrthoch chi bod gennym awdurdod lleol cydffiniol gyda'r awdurdod iechyd, ym Mhowys. Meddwl ydw i, os ydych chi'n gallu meddwl ymhellach a rhoi ychydig o wybodaeth i ni ynghylch sut y gallen ni fod yn edrych ar y rheini, o bosibl yn treialu mentrau da iawn ym Mhowys, er enghraifft. Diolch. Diolch yn fawr iawn. 

15:45

Diolch yn fawr. Diolch am hynny, achos rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod pobl yn deall, er bod yna rai enghreifftiau o bethau nad ydynt yn wych yn digwydd yn y GIG ar hyn o bryd, mae yna gannoedd ar filoedd o bethau gwych yn digwydd yn ein GIG ni hefyd, ac mae 376,000 o ymgynghoriadau'r mis yn ffigwr eithaf da; 400,000 o gysylltiadau mewn gwasanaethau meddygol cyffredinol mewn wythnos. Mae'r rhain yn ffigyrau anhygoel, ac yn sicr pan wy'n mynd yma ac acw, yn aml iawn rwy'n clywed pobl yn dweud, 'Wel, yn bersonol, dwi wedi cael gwasanaeth gwych', ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n sôn am y gwasanaeth gwych yna, oherwydd, a dweud y gwir, mae'n rhaid ei bod hi'n dorcalonnus iawn, yn amlwg nid yn unig i mi, ond i'r bobl sy'n gweithio yn y GIG, os mai'r cyfan a glywch yw negyddoldeb.

O ran yr undebau, rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Rwy'n credu bod y ddeddfwriaeth gwrth-streic sy'n cael ei chyflwyno yn gwbl ddiangen, ac rwy'n credu ei fod yn bryfoclyd iawn, y drafodaeth ddoe, pan oedden nhw'n sôn am gynhyrchiant. Rydych chi'n meddwl, 'Mawredd mawr, pa blaned y mae'r bobl yma'n byw arni?' Oes ganddyn nhw unrhyw syniad pa mor flinedig yw'r bobl yma? Yn fy marn i, roedd yn sarhad enfawr, yn arbennig, i ddechrau trafodaethau gyda hynny. Fodd bynnag, pan fyddwch chi'n siarad am gyfuno cyllidebau, wel, byddwch chi'n ymwybodol, rydyn ni eisoes wedi cyfuno £144 miliwn y flwyddyn drwy'r gronfa integreiddio rhanbarthol, na all pobl ei defnyddio oni bai bod iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd, hefyd gyda'r sector gwirfoddol. Felly, mae hwnnw wedi'i glustnodi gennym yn barod. Rwy'n credu y gallwn ni ac rwy'n credu y dylen ni fynd ymhellach, ac yn sicr fy mlaenoriaeth gyntaf, o ran fy nghanllawiau i'r GIG am yr hyn y dylai fod yn ei wneud y flwyddyn nesaf, yw y dylai fod yn ystyried yr hyn y gallwn ni ei wneud wrth weithio gyda'n gilydd mewn perthynas â gofal, gydag awdurdodau lleol, a sicrhau ein bod ni'n rhoi mwy o gefnogaeth gan y GIG yn ôl yn ein cymunedau. 

Gweinidog, diolch yn fawr am eich datganiad y prynhawn yma. Nawr, heb os, mae technoleg yn datblygu'n gyflym iawn, gyda chwmnïau'n cyflwyno datblygiadau mawr i wella canlyniadau iechyd. Felly, byddai gen i ddiddordeb gwybod, Gweinidog, pa ddyfeisiau technoleg, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru yn ymchwilio iddynt i leddfu'r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd y gaeaf yma ac wrth symud ymlaen. Y rheswm pam fy mod i'n gofyn y cwestiwn hwn yn benodol yw oherwydd i mi fynd i CES, sef cynhadledd dechnoleg fwyaf y byd, a llwyddais i weld rhai o'r datblygiadau enfawr hyn yn digwydd mewn technoleg feddygol. Nawr, heb swnio fel cynrychiolydd meddygol sydd wedi dod yn ôl o'r Unol Daleithiau, un cwmni a oedd wir yn sefyll allan oddi wrth y gweddill oedd cwmni o'r enw MedWand Solutions, sydd wedi lansio ei ddyfais MedWand yn ddiweddar, dim mwy na maint llygoden, sydd wedi'i chysylltu â'ch cyfrifiadur. Fodd bynnag, mewn gwirionedd, mae'r ddyfais ddefnyddiol hon yn darparu system barod ei defnyddio, sy'n cynnwys teclyn sy'n eich galluogi i gysylltu gliniadur â, mewn gwirionedd, dyfais fach, gyda synwyryddion a all wrando ar eich calon, mesur cyfradd curiad y galon, perfformio electrocardiogram, gwrando ar eich ysgyfaint, mesur pwysedd gwaed, lefelau ocsigen, cadarnhau tymheredd, a hyd yn oed gwrando ar eich abdomen. Gall hyd yn oed edrych i mewn i'ch trwyn, eich gwddf, eich ceg a'ch clustiau, yn ogystal ag archwilio'ch croen. Nawr, mae gan y ddyfais hon ei hun, Gweinidog, y potensial i newid y dirwedd o ddifrif o ran darparu gofal iechyd yn agos ac yn bell, yn ogystal â lleddfu'r pwysau ar ein staff sy'n gweithio'n galed ar draws y sector, gan gynnwys mewn ysbytai, meddygfeydd, a hyd yn oed gwneud bywyd yn haws i barafeddygon hefyd.

Nawr, byddai hwn wir o fudd i gleifion sydd â phroblemau iechyd lluosog, yr henoed, y rhai sydd ag anableddau, ochr yn ochr â'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd mynd allan. Rwy'n siŵr ei fod yn amlwg yn llawer mwy cywrain na'r hyn rydw i wedi'i ddisgrifio yma o'ch blaen chi i gyd heddiw, ond y prif bwynt rwy'n ceisio ei wneud, Gweinidog—. Ac efallai fy mod i'n swnio, fel dywedais i, fel cynrychiolydd meddygol nawr, ond byddai dyfeisiau tebyg i hyn nid yn unig yn gwella canlyniadau i gleifion ledled Cymru, ond hefyd yn lleddfu'r pwysau ar ein GIG, sy'n rhywbeth rydych chi eisiau ei wneud ac rydyn ni eisiau ei weld hefyd, nid dim ond ar gyfer y gaeaf, ond drwy gydol y flwyddyn hefyd.

Fel rydych chi wedi dweud, Gweinidog, mae ein staff iechyd o dan bwysau aruthrol, ac mae'n mynd i barhau i fod yn fwy heriol i bob un ohonom. Felly, gallai fod yn broses hir a chymhleth i gyflwyno rhywbeth o'r fath yma yng Nghymru, ond, Gweinidog, a fyddwch chi'n ymrwymo i ymchwilio i'r cynnyrch hwn a chynnyrch tebyg? Ac fel y gofynnais ynghynt, fyddech chi mor garedig ag amlinellu pa ddyfeisiau neu atebion technolegol eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried i leddfu'r pwysau ar y GIG? A byddwn i wir yn croesawu'r cyfle i siarad â chi eto am hyn yn fanylach a rhoi manylion cyswllt i chi, os ydych chi'n dymuno hynny. Diolch. 

Diolch yn fawr, Natasha, oherwydd rwy'n gwbl argyhoeddedig, os ydyn ni'n mynd i drawsnewid y ffordd rydyn ni'n darparu gofal, yn benodol, yna rydyn ni'n mynd i orfod dibynnu mwy ar dechnoleg, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fynd i weld sut mae'r system Delta'n gweithio yn Hywel Dda wythnos nesaf. Felly, mae rhywfaint o'r dechnoleg hon eisoes yn cael ei defnyddio yn ein cymunedau, ac yn sicr, o ran gofal yn y dyfodol a darparu gofal yn y gymuned, rwy'n credu bod rhaid i ni ddechrau drwy ddweud ei fod yn ddigidol yn ddiofyn, ac os na allwch chi ei wneud gyda thechnoleg ddigidol yna rydych chi'n symud i feysydd eraill. Felly, rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn. Nid yw dim o hyn yn rhad, nac yn hawdd, ond rydw i wedi ymrwymo'n llwyr i hyn.

Os edrychwch chi ar dechnoleg ddigidol, yna rydyn ni'n buddsoddi mwy y pen o'i gymharu â Lloegr. Rydyn ni'n buddsoddi £18 y pen o'i gymharu â £11.50 y pen yn Lloegr. Felly, mae gennym ni'r gronfa buddsoddi mewn blaenoriaethau digidol, sef £60 miliwn. Mae gennym bortffolio trawsnewid meddyginiaethau digidol hefyd, ac mae hynny'n mynd i sicrhau ein bod wedi cyflwyno trawsnewid mewn perthynas â phresgripsiwn meddygaeth mewn gofal sylfaenol erbyn haf 2023. Mae gennym ni ofal eilaidd—gwaith anhygoel yn cael ei wneud yn barod, ond mae angen cyflwyno hynny, ac yna bydd gennym storfa ganolog ar gyfer pob presgripsiwn, fel bod pawb yn gallu gwybod beth sy'n digwydd ar draws y gwasanaeth. Mae gennym system gwybodaeth gofal cymunedol Cymru. Mae hynny wedi ei chyflwyno yn y rhan fwyaf o fyrddau iechyd erbyn hyn, a dyna oedd un o'r amcanion a osodais ar gyfer cadeiryddion y byrddau iechyd. Mae gennym yr adnodd data cenedlaethol, mae gennym gofnod mamolaeth ddigidol, mae gennym gofnod gofal nyrsio Cymru. Mae Technology Enabled Care, TEC, Cymru yn rhoi cyngor i ni ar hyn i gyd. Mae gennym ni'r gwasanaeth ymgynghori fideo cenedlaethol rydyn ni wedi rhoi arian iddo. Mae gennym ni system adrannau brys Cymru, mae gennym ni'r rhaglen gwybodeg canser—mae'r rhestr yn ddiddiwedd. Felly, mae pob un ohonom yn effro i'r mater. Un o'r cyfyngiadau yw bod pawb eisiau'r technegwyr hyn, felly rydyn ni'n cystadlu mewn marchnad anodd iawn o ran hyn, oherwydd mae pawb eisiau'r arbenigwyr digidol hyn, ac mae'r GIG yn gorfod cystadlu yn y maes hwnnw.

15:50

Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw. Wrth gwrs, mae yna waith rhagorol yn digwydd bob diwrnod gan y gwasanaeth iechyd, ond mae'n bwysig inni gydnabod heddiw y pwysau aruthrol sydd ar staff. Dwi wedi derbyn cymaint o ohebiaeth torcalonnus dros y Nadolig, fel pawb yma dwi'n siŵr, gan etholwyr sydd yn gleifion, yn aelodau o deulu cleifion, ond hefyd gan weithwyr sy'n dweud, 'Fedrwn ni ddim ymdopi. Ydyn, dŷn ni'n gwneud ein gorau, ond dydyn ni ddim yn gallu parhau ar y lefel yma', ac yn sôn am adael y gwasanaeth iechyd, a fedrwn ni ddim fforddio eu colli nhw. Hefyd, mae'r straeon torcalonnus am y bobl sydd yn marw wrth aros am ambiwlans, neu'r rheini sydd yn derbyn eich cyngor chi, fel y sonioch chi ar Radio Cymru, o ran cymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd eu hunain, ond sydd yn anwybyddu wedyn symptomau sydd yn ddifrifol dros ben ac yn cyrraedd y pwynt wedyn o farw yn eu cartrefi neu farw pan fyddan nhw ar y pwynt o greisis. Felly, gawn ni hefyd sicrhau ein bod ni'n gyrru neges i bobl i fod yn parhau i gysylltu pan fo angen hynny?

Y pwynt arall hoffwn i ei wneud—mi wnaethoch chi gyfeirio hefyd ar Radio Cymru y bore yma ynglŷn â diabetes. Mae'n rhaid inni gydnabod hefyd fod y cyswllt cryf yna rhwng tlodi a diabetes. Os ydych chi'n dlawd, dŷch chi dwywaith yn fwy tebygol o fod gyda diabetes, felly mae'r hyn yr oedd Rhun yn cyfeirio ato fo, o ran yr ochr ataliol mor, mor bwysig. Ond sut ydyn ni'n mynd i fod yn cefnogi pobl sydd rŵan efo'r argyfwng costau byw, yn methu â fforddio bwyta'n iach, yn methu â fforddio ymarfer corff ac ati? Sut ydyn ni'n mynd i fod yn sicrhau—? Mae hon yn broblem i'r holl Lywodraeth, ac mae'r cyfrifoldeb ar y Llywodraeth Lafur. Chi sy'n rheoli iechyd, chi sydd efo'r cyfrifoldeb. Mae'n rhaid inni weld gweithredu.

Os yw'r cyfrifoldeb yn llwyr arnom ni ac mae yna ddisgwyl inni ofalu am bopeth, heb fod pobl yn cymryd cyfrifoldeb drostyn nhw eu hunain, dŷn ni ddim yn mynd i ymdopi. Os ŷch chi'n edrych ar y sefyllfa—[Torri ar draws.] Os ŷch chi'n edrych ar y sefyllfa o ran heneiddio yn y boblogaeth, fydd hi ddim yn bosibl yn y dyfodol inni roi'r ddarpariaeth sydd ei hangen. Felly, mae'n rhaid i ni ofyn i bobl Cymru i'n helpu ni yn fan hyn.

Ac rŷn ni wedi rhoi pethau mewn lle, fel yr help rŷn ni'n ei roi gyda Help us Help you, fel yr help rŷn ni wedi ei roi trwy 'Healthy Weight: Healthy Wales'. Mae lot o arian wedi mynd i mewn i'r rhain, fel yr arian pre-diabetes rŷn ni wedi ei roi i mewn i'r system, sydd yn gwneud gwahaniaeth. Felly, rŷn ni yn ceisio sicrhau ein bod ni'n rhoi'r help lle rŷn ni'n gallu. Rŷn ni'n deall bod y problemau costau byw yn mynd i effeithio ar bobl, ac rŷn ni'n ymwybodol mai'r bobl sy'n mynd i dalu'r pris mwyaf yw'r bobl tlotaf yn ein cymdeithas. Dyna pam rŷn ni wedi bod yn anelu ein harian ni tuag at y rheini. Rŷn ni wedi rhoi lot fawr o arian mewn lle i helpu pobl trwy'r cresis yma ac, mewn gwirionedd, cyfrifoldeb San Steffan yw hi i roi'r arian yna, ac i gynnig yr arian, ond rŷn ni wedi camu i mewn i'r twll yna achos bod y Llywodraeth yn San Steffan heb wneud eu gwaith nhw. 

15:55

Diolch, Llywydd. Gweinidog, rydych chi wedi dweud wrthym ni fod gennym ni broblem gyda pheidio â gallu denu digon o staff—rwy'n derbyn hynny—ond nid yw'n ymddangos eich bod yn cydnabod bod gennym ni broblem gyda bod â digon o welyau. Nawr, rwyf wedi codi'r mater yma ambell waith yn y Senedd o'r blaen, ond rwy'n mynd i wneud hynny eto. Pryd gaiff gogledd sir Ddinbych yr ysbyty cymunedol yr addawyd iddi? Gwelsom welyau yn cael eu dileu yn y Rhyl, ym Mhrestatyn, yn Llanelwy ac yn Ninbych gerllaw—ugeiniau o welyau. Ac o ganlyniad i golli'r gwelyau hynny, erbyn hyn mae yna bwysau ychwanegol ar Ysbyty Glan Clwyd. Does dim gwadu hynny. Mae hynny'n ffaith. Nawr, rydych chi'n dweud wrthym ni fod gennym ni fwy o staff yn gweithio yn y GIG nag erioed o'r blaen. Felly, os oes gennym ni fwy o staff a llai o welyau, pam na allwn ni gael rhai gwelyau ychwanegol?

Nawr, clywais i ymateb y Prif Weinidog i mi, ac rwyf wedi clywed eich ymatebion i mi ar y mater hwn o'r blaen. Rydych chi'n dweud nad oes gennych chi'r cyfalaf i allu buddsoddi ac y bu costau cynyddol ar y prosiect penodol hwnnw. Nawr, rwyf wedi gwirio'r ffigyrau, iawn. Rwyf wedi gwirio'r ffigyrau. Yn y cyfnod y gwnaethoch chi gyhoeddi y byddech chi'n darparu'r ysbyty hwnnw, oedd yn ôl yn 2013, bron i ddegawd yn ôl, fe wnaethoch chi adeiladu ysbyty, ond fe wnaethoch chi adeiladu un yn y de, ysbyty'r Faenor, iawn. Cost yr ysbyty hwnnw oedd £360 miliwn. Roedd y gyllideb wreiddiol yn £172 miliwn, iawn. Felly, cost ychwanegol enfawr o £188 miliwn. Nawr, nid wyf yn gwarafun darparu'r ysbyty hwnnw i'r bobl y mae'n eu gwasanaethu yng Ngwent; mae'n fuddsoddiad pwysig. Ond ble mae'r buddsoddiad yn y gogledd? Rydych chi wedi cau ysbyty ar ôl ysbyty ar ôl ysbyty, a dydym ni'n dal heb weld ein hysbyty ni. Amcangyfrifir bod y gost ar hyn o bryd yn £64 miliwn—mae hynny'n ffracsiwn o'r buddsoddiad rydych chi wedi'i wario yn y de. Pryd welwn ni ein hysbyty ni er mwyn i ni allu darparu'r mathau o welliannau o ran mynediad at ofal y mae ar bobl yng ngogledd sir Ddinbych ei angen?

A allwn ni orffen y cwestiwn nawr, ac a allwn ni ofyn i'r Gweinidog ymateb?

Diolch yn fawr. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn cydnabod bod yr her staffio o ran gofal iechyd yn her fyd-eang, felly mae pobl ledled y byd yn chwilio am yr un bobl, yn enwedig pobl fel anesthetyddion. Felly, rydym ni mewn amgylchedd anodd a chystadleuol iawn.

O ran buddsoddi yn y gogledd, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn eich bod chi'n deall ein bod ni, mewn gwirionedd, wedi buddsoddi yn y gogledd. Mae Ysbyty Gwynedd wedi cael yr adran damweiniau ac achosion brys yna. Rwyf wedi cadarnhau £70 miliwn yn ddiweddar ar gyfer uned iechyd meddwl newydd yn y gogledd. Mae hynny er gwaetha'r ffaith bod yr heriau cyfalaf, yn enwedig i ni ym maes iechyd, yn anodd iawn ar hyn o bryd. Ond, yn amlwg, os ydym ni'n gweld rhai cynigion lle byddwn ni'n gweld trawsnewid—. Oherwydd dyna sydd angen i ni chwilio amdano nawr, trawsnewid. Nid yw mwy o'r un peth yn mynd i wneud y tro mwyach. Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn edrych am drawsnewid o ran buddsoddiad cyfalaf yn y GIG yn y dyfodol. 

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Datblygu Clystyrau Technolegol yng Nghymru—Cynhyrchu radioisotopau meddygol ac arbenigedd meddygaeth niwclear

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi ar ddatblygu clystyrau technolegol. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw yn gyson at bwysigrwydd manteisio ar wyddoniaeth, ymchwil ac arloesedd i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol. Er mwyn bodloni'r rhain a manteisio ar gyfleoedd, mae angen dull cydlynol, cydgysylltiedig a chydweithredol. 

Mae strategaeth arloesi newydd i Gymru yn cael ei datblygu yn unol â'n hymrwymiadau yn y cytundeb cydweithredu a'r rhaglen lywodraethu. Rydym yn bwriadu cyhoeddi yn gynnar yn 2023. Bydd yn cynnig gweledigaeth ar gyfer arloesi a all helpu i dynnu ein meysydd o gryfderau a chyfleoedd at ei gilydd. Gwyddom fod manteision clir, trosglwyddadwy i'r economi o ddatblygu clystyrau o arbenigedd ymchwil a manteisio ar fasnacheiddio a sgiliau sy'n deillio o ymchwil.

Ers 2012, mae rhaglen Sêr Cymru wedi helpu i ddatblygu a chynnal gallu ymchwil Cymru. Rydym yn ddiweddar wedi gorffen ymgynghoriad ar y cam nesaf. O'r blaen, defnyddiwyd cronfeydd strwythurol yr UE i helpu'n sylweddol i gefnogi ymchwil ac arloesi. Yn anffodus, mae Llywodraeth y DU wedi torri ei haddewid na fyddai Cymru'n derbyn ceiniog yn llai mewn cronfeydd newydd yn eu lle. Y gwir plaen amdani yw nad oes gennym ni'r arian i gefnogi'r cam nesaf gyda'r un faint o gyllid cyhoeddus ag o'r blaen. Mae angen i geisiadau ymchwil yn y dyfodol fod yn benodol ac yn ymwneud â themâu priodol. Rwy'n disgwyl gwneud cyhoeddiad pellach ar ddyfodol Sêr Cymru cyn bo hir.

16:00

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Yn bwysig iawn, ni all cenedl fach fod ag arbenigedd ym mhob maes. Ond gallwn gyfeirio at glystyrau o dechnoleg yng Nghymru sy'n arwain eu maes. Mae clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd De Cymru yn un. Gan gyfuno rhagoriaeth ddiwydiannol ac ymchwil sy'n arwain y byd, mae'r clwstwr hwn yn darparu'r cydrannau sy'n gwneud i'n byd modern weithio.

Heddiw, rwy'n cadarnhau ein huchelgais clir i Gymru ddatblygu clwstwr technoleg arall, gan fynd i'r afael ar yr un pryd â her sy'n prysur agosáu o ran triniaeth feddygol ledled y byd. Mae hyn yn ymwneud â pharhau i gynhyrchu radioisotopau meddygol, sy'n hanfodol i ddiagnosis a thriniaeth canser. Mae'r offer mewn cyfleusterau sy'n gwneud y sylweddau ymbelydrol achub bywyd hyn yn dod i ddiwedd ei fywyd defnyddiol ac yn cau. Heb weithredu, rydym yn wynebu posibilrwydd gwirioneddol yn y dyfodol tymor canolig o beidio â bod â radioisotopau meddygol, neu'r hunllef foesegol o orfod eu dogni.

Y weledigaeth sydd gennym ni yw creu toreth hanfodol o wyddoniaeth niwclear—ymchwil, datblygu, ac arloesi. Nid yn unig y gall Cymru ddod yn brif le yn y DU o ran cynhyrchu isotopau radio meddygol, ond, gyda hyn, gallwn ddenu swyddi gyda sgiliau uwch; creu seilwaith o gwmpas y maes; cefnogi cymunedau lleol; ac adeiladu cadwyni cyflenwi lleol. Byddai cyflogaeth o ddarparu'r prosiect hwn yn cwmpasu amrywiaeth o sgiliau a galwedigaethau: gyrwyr, gweithrediadau, cynhyrchu, staff technegol, staff swyddfa, gwyddonwyr ymchwil a pheirianwyr. Gallai ddarparu cyflogaeth gynaliadwy, ddeniadol sy'n talu'n dda yn ystod y gwaith adeiladu a gweithredu.

Fel yn achos ein clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd, mae Sêr Cymru eisoes wedi ysgogi'r broses, drwy ariannu cadair ymchwil technoleg niwclear yn Sefydliad Dyfodol Niwclear Prifysgol Bangor. Mae hyn, a hanes o weithio gyda thechnolegau ynni niwclear, yn dangos mai gogledd Cymru yw'r lle mwyaf addas i ddatblygu clwstwr o'r fath. Bydd ymchwil gyflenwol, arbenigedd diwydiant a gweithgarwch yng Nghymru a'r DU yn ehangach yn cyfrannu at ac yn chwarae eu rhan wrth greu'r clwstwr newydd hwn.

Ein nod cychwynnol yw sicrhau cyflenwi radioisotopau meddygol i Gymru a'r DU trwy dechnoleg radioisotopau uwch ar gyfer adweithydd cyfleustodau iechyd, y byddaf yn awr yn cyfeirio ato fel ARTHUR. Mae'r prosiect treialu ARTHUR yn cyfrannu at sawl agwedd ar y rhaglen lywodraethu bresennol. Mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i feithrin ein gallu ymchwil, datblygu ac arloesedd mewn gwyddorau iechyd a bywyd, gan sicrhau bod Cymru yn bartner llawn wrth ddarparu 'Gweledigaeth Gwyddorau Bywyd' y DU.

Bydd hon yn fenter strategol fawr yng Nghymru a'r DU gyfan. Bydd yn datblygu cyflenwad cynaliadwy o radioisotopau meddygol ar gyfer diagnosteg a thriniaethau. Ynghyd â datblygiad ysgol feddygol gogledd Cymru, bydd yn helpu i ysgogi economi ehangach y gogledd. Mae hyn yn cynrychioli datblygiad cydweithredol mawr rhwng yr adran iechyd a gwyddorau cymdeithas ac adran economi Llywodraeth Cymru. Potensial ysgol feddygol newydd, cydnaws â phrosiect ARTHUR a thechnolegau iechyd eraill, sy'n cynnig yr ateb rhanbarthol gorau i sicrhau gallu radio-ddiagnostig a radio-feddyginiaeth cynaliadwy a diogel yng ngogledd Cymru.

Yn fwy na hynny, bydd GIG Cymru a'i bartneriaid gwasanaeth yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gwsmeriaid a rhanddeiliaid allweddol. Er mwyn llwyddo, rhaid i ni sicrhau cyllid o wahanol ffynonellau i greu labordy cenedlaethol sector cyhoeddus ar gyfer cyflenwi a defnyddio radioisotopau meddygol. Rydym ni i gyd wedi gweld canlyniadau ymyrraeth cyflenwi o brofiadau diweddar, megis colli isotopau dros dro o ganolfan ddelweddu PET Prifysgol Caerdydd. Effeithiodd hyn ar sganiau diagnostig ar gyfer sawl clefyd, yn enwedig canserau. Mae hyn yn dangos pa mor arwyddocaol fyddai effaith colli cyflenwad yn fwy cyffredinol ar ganlyniadau cleifion.

Byddai Prosiect ARTHUR yn ymdrech dros sawl degawd, ymrwymiad o ryw 60 i 70 mlynedd. Byddai swyddi sy'n cael eu creu, yn uniongyrchol ac yn y gadwyn gyflenwi gysylltiedig, yn rhai hirdymor a chynaliadwy. Byddai ein cyfleuster wedyn, o'i sefydlu, yn un o ddim ond hanner dwsin ar draws y byd. Ac yn lleol, byddai cyflawni prosiect ARTHUR yn llwyddiannus yn helpu i gynnal a gwella'r economi, yn enwedig yng ngogledd orllewin Cymru, ardal, wrth gwrs, â hanes hir o gyflogaeth yn y diwydiant niwclear.

Mae gweledigaeth ARTHUR yn cynnwys creu campws technoleg yn y gogledd fel sydd gan campysau eraill yn y DU gydag elfen niwclear. Mae'r rhain yn cynnwys Harwell, sef labordy Rutherford Appleton, a Culham, Awdurdod Ynni Atomig y DU yn Swydd Rhydychen, ac yn Daresbury yn Swydd Gaer.

Ni fyddai elfen ymchwil ARTHUR yn cyfyngu ei hun i ymchwil iechyd yn unig, ond gallai hefyd ymwneud ag ymchwil deunyddiau i'w cymhwyso gydag ymasiad—sef asio isotopau hydrogen—ac egni o hollti atomau, sef yr egni niwclear confensiynol. Gallai'r ymchwil hon helpu i ddarparu ynni carbon isel dibynadwy, cynaliadwy a fforddiadwy, a gwell technolegau niwclear gyda llai o wastraff ac effaith amgylcheddol a hynny'n fwy effeithlon.

Mae maint y cyflawniad sydd ei angen i ddarparu hyn yn sylweddol. Byddaf yn parhau i gyflwyno'r achos gyda Llywodraeth y DU i gydweithredu i gefnogi ein hymdrechion. Mae'r datblygiad hwn yn elwa ac yn cefnogi'r gwaith o roi diagnosis a thrin achosion o ganser yn y dyfodol ledled y DU. Rwyf wedi codi'r mater gyda nifer o Weinidogion gwyddoniaeth yn Llywodraeth y DU, ac mae fy swyddogion yn cynnal deialog adeiladol gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU. Mae cydnabyddiaeth helaeth o'r her o gyflenwi radioisotopau meddygol a'r cyfle i gael adweithydd ymchwil. Dyma'r amser am beth gweithredu ac ymrwymiad pendant. Bydd goblygiadau peidio â gweithredu i'w weld mewn canlyniadau gwaeth i gleifion y gellid bod wedi eu hosgoi, a cholli cyfle economaidd.

Fel y gŵyr pawb, rydym ni bellach yn profi pwysau economaidd sylweddol, ond nid yw hynny'n rheswm nac yn esgus dros fethu â chynllunio ar gyfer yr angen clir hwn yn y dyfodol. Rhaid i ni atal argyfwng iechyd ac economaidd yn y dyfodol. Rwyf felly wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb technegol a datblygu cynllun busnes amlinellol. Bydd y cynllun hwn yn adeiladu ar y gwaith technegol sydd eisoes wedi'i wneud yn y cynllun busnes amlinellol strategol cynharach.

Ein huchelgais yw darparu clwstwr technoleg hollbwysig yn y gogledd. Byddai'n cynnig cyfle sylweddol mewn technoleg hanfodol a chyfleoedd cydweithredol sylweddol gyda gwledydd o'r un anian, gan gynnwys Awstralia a Chanada. Gallai hyn yn amlwg ddod yn ganolfan ragoriaeth fyd-eang ac yn destun balchder i Gymru a'r DU yn ehangach am ddegawdau i ddod. Gobeithio y gallwn ni ennill cefnogaeth drawsbleidiol a thraws-Lywodraethol i wneud hynny'n union.

16:05

Diolch i'r Gweinidog ac rwy'n croesawu ei ddatganiad yn fawr heddiw. Mae defnyddio radioisotopau meddygol yn rhan bwysig o ymarfer meddygol modern. Mae eu defnydd mewn technegau delweddu diagnostig anfewnwthiol yn gynnar yn ystod triniaeth yn helpu i adnabod a dosbarthu cyflyrau difrifol a chyffredin fel clefyd y galon, ac yn y pen draw, canser. Mae tarfu ar y gadwyn gyflenwi radioisotopau, sydd wedi digwydd yn rheolaidd, mewn gwirionedd yn tarfu ar faint o brofion meddygol sydd ar gael i bobl ym mhob man, felly rwy'n wirioneddol groesawu'r datganiad hwn, a fydd yn gwneud Cymru'n arweinydd o ran cynhyrchu'r sylweddau hyn sy'n achub bywydau drwy drin canser. Fodd bynnag, bydd angen buddsoddiad ariannol sylweddol ar y cynllun hwn, gan gynnwys gan Lywodraeth y DU, fel y dywedodd y Gweinidog. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog pa drafodaethau sydd wedi'u cynnal gyda Gweinidogion y DU yn hyn o beth, a gyda pha adrannau yn benodol mae'r Gweinidog wedi cael sgyrsiau i geisio cefnogaeth i ddatblygu'r safle a chael yr arian priodol sydd ei angen.

O ran Cwmni Egino—rwy'n ymddiheuro am fy ynganiad—adroddwyd tua diwedd y llynedd eu bod yn datblygu cynllun busnes ar gyfer y safle gyda'r nod o ddechrau adeiladu yn 2027. Felly, allwch chi gadarnhau, Gweinidog, bod y cynllun busnes bellach wedi'i gwblhau a bod y prosiect mewn gwirionedd yn unol â'r amserlen? A gaf i ofyn i'r Gweinidog hefyd am ragor o fanylion ynghylch buddion economaidd y buddsoddiad hwn yn Nhrawsfynydd? Adroddir y bydd y cynllun hwn yn creu tua 200 o swyddi, sydd bob amser i'w croesawu, ond a allwch chi gynghori faint o'r swyddi hyn fydd yn swyddi sgiliau uchel? Ac a ydych chi'n rhagweld y bydd y safle hwn yn cael ei ehangu i gynnwys sectorau eraill i gefnogi datblygiadau yn y gwyddorau ffisegol, gan wneud Ynys Môn yn ganolbwynt i'r diwydiant niwclear, nid yn unig yng Nghymru, ond ar gyfer y Deyrnas Unedig hefyd?

Yn olaf, Gweinidog, byddwch yn ymwybodol o'r problemau y mae pobl sy'n byw ar Ynys Môn, neu'n teithio yno ac yn ôl gyda'u gwaith, yn eu hwynebu ar hyn o bryd oherwydd y gwaith atgyweirio ar bont Menai. Felly, pa ystyriaethau ydych chi wedi'u rhoi, a pha drafodaethau ydych chi wedi'u cael, gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynghylch digonolrwydd y cysylltiadau seilwaith trafnidiaeth presennol â'r ynys, ac a allent o bosibl lesteirio unrhyw ddatblygiadau pellach ar safle Trawsfynydd? Diolch yn fawr iawn.

16:10

Fe rof i sylw i'r hyn a'm drysodd braidd, bron fel petai Wylfa a Thrawsfynydd ar yr un safle yn rhai o'r pwyntiau. Mae safle Traws yn ymgeisydd amlwg ar gyfer y cynnig yr ydym yn siarad amdano heddiw, ond wrth symud ymlaen â'r cynllun busnes, bydd yn safle all weithio ag unrhyw ddyfais. Mae gan Drawsfynydd drwydded niwclear i'w ddatblygu, a'r safle arall ydy Wylfa, ond bydd angen i ni edrych ar beth sydd orau o ran datblygu'r safle. Mae datblygiad Cwmni Egino yn canolbwyntio ar y potensial i gynhyrchu adweithydd modiwlar bach, fel rydw i wedi egluro mewn datganiadau blaenorol. Nawr, mae maint yr adweithydd rydym ni'n siarad amdano ar gyfer ARTHUR yn ddigon bach y gallech chi wneud y ddau ar y naill safle neu'r llall, oherwydd yr hyn rydym ni'n sôn amdano yw adweithydd a fyddai yn ei hanfod yn 1 y cant o faint cynnig blaenorol Horizon ar Wylfa.

Rwy'n credu bod hynny'n dangos y gallwch chi wneud rhywbeth bach gyda chwestiynau diogelwch cwbl wahanol o ran y raddfa, ond mae'n hanfodol ar gyfer y ffordd y mae gwasanaeth iechyd modern yn gweithio. Os edrychwch chi ar y datblygiad yn Awstralia, nid yn unig maen nhw wedi gwneud rhywbeth sy'n ymdrin â'u hanghenion gofal iechyd eu hunain ar gyfer y rhan honno o'r byd, nid yn unig yn Awstralia ond ar gyfer gwledydd partner hefyd, ond hefyd y gweithgaredd economaidd ac ymchwil ychwanegol sylweddol o amgylch y safle. A dyna lle rwy'n credu bod potensial, nid yn unig ar gyfer darpariaeth uniongyrchol y radioisotopau sydd eu hangen arnom ni—rydym ni'n gwybod bod y cyflenwad yng ngorllewin Ewrop yn dod i ben—ond mae cyfle ehangach ar gael i sefydlu clwstwr technoleg. Dyna lle mae gen i ddiddordeb gweld beth allwn ni ei wneud.

Rwyf wedi cael sgyrsiau uniongyrchol gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU. Fel y dywedaf, rwyf wedi cael y sgwrs yma gyda nifer o Weinidogion gwyddoniaeth. Rwyf wedi siarad â George Freeman am hyn yn un o'i gyfnodau blaenorol yn Weinidog Gwyddoniaeth. Ac fel y dywedais i yn fy natganiad, cafwyd sgyrsiau adeiladol a rheolaidd rhwng fy swyddogion fy hun a'r rhai yn Llywodraeth y DU.

Rydym ni yn y sefyllfa ffodus lle rydw i a'r adran iechyd yn gytûn ac eisiau gweld achub ar y cyfle. Mae angen i ni gael sgwrs debyg yn ddelfrydol gyda'r adran iechyd ac, yn wir, Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU, ac yna mae cwestiynau am gyllid y dyfodol. Hoffem i Lywodraeth y DU fod yn bartner wrth wneud hyn. Mae hefyd yn bosibl y gallech gyflawni rhywfaint o hyn gyda buddsoddiad yn y sector preifat. Fy newis i fyddai y bydden ni'n gweld hyn yn rhan o allu sofran ar gyfer y DU, gyda'r safle delfrydol, yn fy marn i, yma yng Nghymru. Fodd bynnag, mae amrywiaeth o ddewisiadau a chyfleoedd, oherwydd fel y gwelsom ni mewn rhannau eraill o'r byd, mae elw ar fuddsoddiad cyfalaf a dychweliad posibl ar gost weithredu safle o'r fath, os caiff ei gyflawni'n llwyddiannus.

Ar ôl i ni ymdrin â'r hyn rydw i wedi'i amlinellu heddiw, bydd gennym ni syniad llawer gwell o'r cyfleusterau technegol a'r galluoedd y byddem yn bwriadu eu hadeiladu, ac amcanion buddsoddi llawer gwell i allu datblygu hyn. A byddwn yn gobeithio y byddai Llywodraeth y DU o unrhyw liw gwleidyddol penodol yn cydnabod y cyfle sylweddol y mae hyn yn ei gynnig a beth fyddai hynny'n ei olygu o ran datblygiad economaidd gwirioneddol mewn swyddi hir dymor yma yng Nghymru. 

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad.

Rydym yn cytuno bod manteisio ar ymchwil ac arloesedd gwyddoniaeth er mwyn mynd i'r afael â heriau cymdeithasol yn bwysig, a hefyd gwella buddsoddiad mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg ac ymchwil a datblygu, a fydd yn fanteisiol tu hwnt i economi Cymru, a rhaid i ni barhau i ddatblygu ein gweithgynhyrchu ac allforio yn y meysydd hyn. Wrth gwrs, rydym ni'n cefnogi'r uchelgais o sefydlu clystyrau technolegol newydd ledled Cymru. Fodd bynnag, os dymunwn ni mewn gwirionedd roi hwb i'r sectorau ymchwil a dylunio, gweithgynhyrchu ac allforio technoleg Cymru, mae'n rhaid i ni gael sylfaen ymchwil, datblygu ac arloesi cryf, ond bu gan Gymru lefelau ymchwil a datblygu hanesyddol isel ers degawdau.

Yn ôl Sefydliad Prydeinig y Galon, roedd cyfanswm y gwariant ar ymchwil a datblygu yng Nghymru yn £794 miliwn yn 2019, neu 1.2 y cant o'r gwerth ychwanegol gros. O dair gwlad ddatganoledig y DU a phob un o naw rhanbarth Lloegr, mae gan Gymru'r gwariant ymchwil a datblygu isaf fel cyfran o werth ychwanegol gros. Fe wnaethon nhw hefyd ddarganfod bod 82 y cant o bobl yn credu ei bod hi'n bwysig fod Cymru yn cynnal ymchwil feddygol, ac mae 34 y cant o bobl yn credu nad oes digon o ymchwil yn digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd.

Ni fydd sefyllfa ddiddatrys barhaol Llywodraeth y DU ynglŷn â Horizon na'r toriad sy'n dod drwy gronfa ffyniant gyffredin y DU yn helpu'r sefyllfa ariannu hon yng Nghymru, wrth gwrs. Fodd bynnag, ychwanegodd Llywodraeth y DU gyllid at ymchwil yn Lloegr i helpu gyda'r sefyllfa gyda Horizon a golygai hyn swm canlyniadol drwy Barnett. Gofynnais i chi, Gweinidog, ym mis Rhagfyr i gadarnhau'r swm a geid drwy Barnett a gofyn a gai ei ychwanegu at ymchwil prifysgolion, ond fe wnaethoch chi wrthod ymrwymo i'r swm canlyniadol a gai ei drosglwyddo. Mae'n deg i Lywodraeth Cymru feirniadu'r sefyllfa ddiddatrys gyda Horizon, y gronfa ffyniant gyffredin a'r difrod a achoswyd, ond mae'n amheus wedyn peidio â dyrannu symiau canlyniadol Barnett o'r cyllid cyfamserol.

I weld effaith lawn rhaglenni fel y clystyrau technoleg a chynllun allforion Llywodraeth Cymru, rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein sylfaen ymchwil yma yng Nghymru. Cadarnhaodd yr Alban ei swm a'i drosglwyddo yn fuan wedi i mi ofyn y cwestiwn hwn i chi ym mis Rhagfyr, a olygai £24.6 miliwn yn ychwanegol ar gyfer ymchwil i'r Alban. A fyddwch chi'n dilyn eu hesiampl? Pe baech chi'n gwneud hynny, byddai hynny'n mynd rhywfaint o'r ffordd i wneud ein prifysgolion yn fwy cystadleuol. Dylai cyllid ymchwil sy'n gysylltiedig ag ansawdd yng Nghymru fod yn £100 miliwn; mae diffyg o £18 miliwn. Ar y lleiaf, a wnewch chi ymrwymo i gynyddu cyllid yn ymwneud ag ansawdd ymchwil £18 miliwn erbyn diwedd tymor y Senedd hwn?

16:15

Mae yna ddau gwestiwn penodol. O ran y £18 miliwn erbyn diwedd tymor y Senedd hon, rydym ni eto i basio'r gyllideb yr ydym ni newydd ei phennu ar ffurf ddrafft, ac wrth gwrs mae'n rhaid craffu ar honno a chael pleidlais derfynol arni. Mae gennym ni gyllidebau eraill wedyn, ac wrth gwrs byddwn yn ystyried dyfodol y maes ariannu ymchwil yn y cyllidebau hynny yn y dyfodol. Mae'r cyfan yn dibynnu nid yn unig ar y setliad cyffredinol a gaiff Llywodraeth Cymru ond y blaenoriaethau a osodwyd gennym ni yn rhan o hynny. Yn ein cyllideb ddrafft, rydym ni wedi dynodi iechyd a llywodraeth leol, gan gynnwys addysg o fewn hynny, fel ein blaenoriaethau mawr, ac mae hynny'n arwain at ganlyniadau i'r ffordd rydym ni'n dyrannu'r gyllideb nid yn unig i'r adrannau hynny, ond i bob un arall hefyd.

Rwy'n cydnabod y pwynt rydych chi'n ei wneud am Horizon. Byddaf yn gallu cyhoeddi cyn bo hir beth sy'n digwydd, felly bydd eglurder ar hynny. Rwyf newydd fod yn gwirio gyda fy nghyd-Aelod y Gweinidog cyllid, ond rydym ni'n disgwyl gallu gwneud cyhoeddiad ynghylch hynny yn y dyfodol agos iawn, felly fydd dim llawer hirach i aros. Bydd eglurder am yr arian, beth sydd gennym ni, a sut gaiff ei ddefnyddio ar ôl Horizon. Rwy'n gobeithio y bydd y sgyrsiau cadarnhaol eang sy'n ymddangos fel petaent wedi digwydd ynghylch rannu data rhwng yr UE a'r DU yn ddefnyddiol ar gyfer rhyddhau mwy ar gyfer y dyfodol. Mae Horizon ond un agwedd o hynny, yn rhan o brotocol Gogledd Iwerddon a chysylltiadau ehangach rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd. Rydym yn parhau i fod eisiau bod yn adeiladol yn hynny a chan wneud yn glir fod gan Gymru ddiddordeb uniongyrchol iawn yng nghanlyniad y trafodaethau hynny.

Fel y dywedais yn y datganiad, y gwir diymwad amdani yw na fydd yr hyn a ddaw yn lle'r cronfeydd strwythurol gymaint ag a oedd gennym ni'n flaenorol, ac rydym ni wedi defnyddio swm sylweddol o hynny mewn cyllid ymchwil, datblygu ac arloesi yn y gorffennol. Mae'r ffordd y mae'r gronfa ffyniant gyffredin yn benodol wedi'i sefydlu wedi eithrio ymchwil addysg uwch ac addysg bellach yn y bôn. Mae hynny'n broblem sylweddol. Mae'n siŵr eich bod chi ac Aelodau eraill wedi clywed yn uniongyrchol gan Brifysgolion Cymru am y problemau uniongyrchol iawn y bydd hyn yn eu hachosi, a'r ffaith pan ddaw'r ffrydiau ariannu hynny i ben, rwy'n ofni y byddwn yn disgwyl y bydd rhai pobl yn gweld eu gwaith a'u prosiectau ymchwil yn dod i ben. Dydy hynny ddim yn ganlyniad rwy'n credu bod unrhyw un yn y Siambr hon wedi ymgyrchu drosto, ond dyna realiti uniongyrchol y dewisiadau sy'n cael eu gwneud. Dyna'r cefndir yr ydym ni'n ceisio datblygu nid yn unig y prosiect hwn ynddo, oherwydd mae gan y cynnig rwy'n credu botensial economaidd sylweddol mewn maes penodol y gobeithiaf y bydd cryn gefnogaeth iddo, ond y pwyntiau ehangach ynghylch y strategaeth arloesi yr ydym yn ei datblygu.

Rhan o hynny yw—ac mae'n un o'r heriau y mae angen i ni eu gosod i'n hunain ar gyfer y dyfodol—ychydig dros 3 y cant o geisiadau cyllid cystadleuol y DU sy'n dod i Gymru, felly rydym ni'n tangyflawni mewn gwirionedd o ran caffael o'r potiau ariannu hynny ledled y DU. Mae hynny'n her fawr i ni fynd i'r afael â hi. Ar yr un pryd, un o'r pethau cadarnhaol y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn ei wneud yw dweud ei bod am roi mwy o arian yn y dyfodol i wariant ar ymchwil, datblygu ac arloesedd. Mae angen sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran o hynny. Rwy'n credu bod hwnnw'n gwestiwn ar wahân o'i gymharu ag a allwn ni ganfod y cyllid cyfalaf i gyflawni'r prosiect hwn gyda beth rwy'n credu y bydd hynny wedyn yn ei wneud wrth ddenu lefel benodol a math arbennig o ariannu ymchwil a gweithgarwch economaidd i Gymru. Rwy'n credu bod ARTHUR ychydig yn wahanol, ond mae pwynt llawer ehangach rwy'n ei gydnabod o ran yr hyn y gallwn ni ei wneud gyda dyfodol cyllid arloesi yn ogystal â'r strategaeth yr wyf yn edrych ymlaen at allu ei lansio yn y dyfodol agos, yn dilyn yr hyn rwy'n gobeithio y bydd yn sgyrsiau adeiladol gyda'n partneriaid yn rhan o'r cytundeb cydweithredu.

Rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr. Dyma sut mae ffyniant bro yn edrych. Dyma beth sydd gan glystyrau technolegol a beth sydd gan economïau llwyddiannus. Bydd hefyd yn helpu i ysgogi'r economi drwy ddenu swyddi medrus iawn a chreu seilwaith o'i amgylch. Does gan y DU ddim cyflenwad domestig o lawer o radioisotopau, gan ddibynnu ar fewnforion o gyfleusterau Ewropeaidd. Dyma gyfle i gael cyfleuster o'r fath. Mae radioisotopau meddygol yn hanfodol i ddiagnosis a thrin clefydau fel canser, a gellir eu defnyddio hefyd i ddiheintio offer meddygol. Mae gen i ddau gwestiwn. Soniodd y Gweinidog am Fangor; pa brifysgolion eraill y mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â nhw ar y prosiect hwn? Ai dyma ddechrau datblygu diwydiant ffiseg feddygol yng Nghymru y tu allan i ysbytai, a sut fydd yn gweithio gyda'r Labordy Ffisegol Cenedlaethol yn Teddington?

16:20

Rwy'n credu bod y ddau gwestiwn manwl mewn gwirionedd ynghylch rhai o'r pwyntiau yr ydym ni'n ceisio mynd i'r afael â nhw yn y manylebau technegol o ran yr hyn yr hoffem ni ei wneud ar y safle, ond yna'r alwad ehangach i bobl gymryd rhan nid yn unig wrth greu cyfleuster cynhyrchu radioisotopau, sy'n debygol o fod yn y gogledd-orllewin oherwydd y safleoedd tebygol a fydd yn ymgeisio, ond beth mae hynny'n ei olygu wedyn o ran ymchwil a chydweithio â phrifysgolion eraill Cymru a sefydliadau eraill o gwmpas y DU. Nid oes cyfleuster fel hyn yn y DU, ac os ydym yn llwyddo i'w greu, rwy'n rhagweld yn llawn y bydd diddordeb sylweddol ledled y DU yn y potensial ar gyfer clwstwr technoleg ac ymchwil a chyllid sylweddol yn y DU i gyd-fynd ag ef.

Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig am ein cyflenwadau presennol o radioisotopau. Dydym ni ddim yn cynhyrchu unrhyw rai yn y DU mewn unrhyw ffordd o bwys. Yr hyn rydym ni'n ei wneud yw ein bod ni'n dibynnu ar gynnyrch o wledydd yr Undeb Ewropeaidd, yn y bôn. Mae'r holl broses o'u cludo hefyd yn rhan o'r hafaliad. Rwy'n cofio o'r anawsterau o ystyried sut beth allai Brexit heb gytundeb edrych ar fwy nag un achlysur bod y gallu i fewnforio radioisotopau yn llwyddiannus yn ffactor sylweddol o fewn hynny. Gwyddom, ac fe wyddem ni ar y pryd, y byddai'r cynhyrchu hwnnw'n dod i ben rhywbryd yng Ngorllewin Ewrop, yr ydym yn dibynnu arno ar hyn o bryd. Felly, mae'n tynnu sylw at y ffaith ein bod ni wedi gwybod bod hyn yn her, rydym yn cynllunio ar ei gyfer, ac mae gennym ni gynllun yng Nghymru ynghylch sut i fynd i'r afael â hi, nid yn unig i ni, ond i'r DU yn ehangach, ac, yn wir, i wledydd gerllaw lle mae potensial i allforio, oherwydd, ar hyn o bryd, nid oes cynigion eraill i geisio llenwi'r bwlch hwn mewn systemau gofal iechyd tebyg eraill. Wrth i ni fynd trwy'r cam hwn ohono, byddaf yn fwy na pharod i ddod yn ôl at y manylion a'r potensial.

Soniodd y Gweinidog am brosiect adweithydd pwll agored dŵr ysgafn Awstralia. Mewn gwirionedd rwyf wedi siarad â rhai o'r arbenigwyr yn Awstralia ym maes niwclear meddyginiaethol; rwyf wedi siarad ag arbenigwyr yng Nghanada hefyd, ac mae disgwyl i mi gael cyfarfod gydag adweithydd ymchwil Jules Horowitz yn Ffrainc ac adweithydd ymchwil München cyn hir. Soniodd y Gweinidog nad oes datblygiad tebyg. Wel, mae'r Jules Horowitz yn ddatblygiad tebyg, ac mae'r DU yn bartner allweddol yn natblygiad Jules Horowitz, a fyddai'n sicrhau radioisotopau ar gyfer y DU ar ôl Brexit.

Ond serch hynny, ym mis Ionawr 2015, dangosodd Dr François Bénard a'i gydweithwyr ym Mhrifysgol British Columbia y gallai cyclotronau ddisodli adweithyddion niwclear mawr fel prif ffynhonnell radioisotopau. Dywedodd Dr Bénard, arbenigwr blaenllaw'r maes hwn:

'Gyda'r ateb hwn, byddwn yn gallu gwneud isotopau sydd wedi'u tyfu'n llwyr yn lleol, heb unrhyw wastraff ymbelydrol tymor hir'.

Erbyn mis Rhagfyr 2020, roedd corff rheoleiddio iechyd Canada wedi rhoi cymeradwyaeth i gynhyrchu cyclotron o technetium-99m i'w ddefnyddio yn eu gweithdrefnau iechyd. Mae wedi cael ei ganmol fel ffordd werddach, fwy dibynadwy o wneud technetium-99m, ac mae'n agor y drws i bosibiliadau enfawr, yn bennaf oherwydd bydd llawer o seiclotronau mwyaf cyffredin y byd nawr yn gallu cynhyrchu technetium-99m.

Felly, a yw'r Gweinidog yn derbyn nad oes angen felly i ddatblygu adweithydd niwclear a'r holl wastraff ymbelydrol peryglus a difrod amgylcheddol a ddaw yn sgil hyn, ac y dylem ni estyn allan a gweithio gyda TRIUMF a phrifysgol British Columbia fel y gallwn ni ddatblygu'r cyclotronau hyn yn Nhrawsfynydd er mwyn eu cyflwyno ledled y DU?

Mewn gwirionedd, roedd y seiclotron ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n darparu'r sganwyr PET yng Nghaerdydd yn un yr oedd gennym ni broblem benodol ag ef. Felly, ein her ni yw, ym mhob rhan o'r DU, dydym ni ddim yn cynhyrchu digon. Rydym ni'n mewnforio llawer o'r rheiny fel y mae ar hyn o bryd. Ac er holl botensial cyclotronau, dydyn ni ddim yn meddwl—. Y cyngor sy'n cael ei roi i mi, y sylfaen yr ydym yn ei gynllunio arno, yw nad yw hynny ynddo'i hun yn ddigon i ymdrin â'n holl anghenion. A dyna'r pwynt: sut mae ymdrin â'n holl anghenion ar gyfer system gofal iechyd fodern? Rydym ni'n siarad am raddfa sylweddol wahanol iawn o gynnig o'i gymharu â chynnig blaenorol Horizon ar gyfer Wylfa. Felly, dyw e ddim byd tebyg i'r un raddfa.

O ran nodweddion adweithydd Jules Horowitz yn Ffrainc, ein dealltwriaeth ni yw na fydd yn barod erbyn yr adeg yr hoffem iddo fod, ac yn wir nad yw'n cael ei adeiladu'n bennaf ar gyfer cynhyrchu radioisotopau meddygol. Ymddengys y cafwyd sawl sgwrs wahanol, ond rwyf wedi cael sgyrsiau uniongyrchol gyda swyddogion gwyddonol yn swyddfa Llywodraeth Cymru, yn y GIG a datblygu economaidd, ac rydym yn credu bod angen a bwlch i'w lenwi. Rydym yn credu mai'r gogledd-orllewin yw'r ardal fwyaf tebygol o'r DU i hynny ddigwydd, a lle yr hoffem iddo ddigwydd, oherwydd y potensial i sicrhau'r cyflenwad ar gyfer defnydd y gwasanaeth iechyd, ond hefyd ar gyfer y potensial datblygu economaidd a ddeuai ochr yn ochr â hynny hefyd.

Rwy'n cydnabod bod gan yr Aelod farn gwbl agored, pur amheus i ystod o'r materion hyn, a phryderon ynghylch diogelwch a'r hyn fyddai'n digwydd. Rwy'n credu ei bod yn gwbl ddilys dal ati i ofyn y cwestiynau hynny. Byddwn yn parhau i ddatblygu'r cynnig a bydd angen i ni wneud dewisiadau o ran sicrhau cyllid yn y dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen at drafod ag ef a phartneriaid yn adeiladol am hynny, hyd yn oed os nad ydym ni bob amser yn cytuno ar bob un agwedd ohono.

16:25

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cydnabyddiaeth barhaus o'r gweithlu medrus iawn sydd gennym ni yn y gogledd ac am y buddsoddiadau sy'n cael eu gwneud yn y sector iechyd, gan gynnwys yr ysgol feddygol ym Mangor. Bellach gall radioisotopau meddygol gael eu creu gan adweithyddion gronynnau, fel y soniwyd amdano yn gynharach, yn hytrach nag adweithyddion niwclear, fel y gwnaed ers peth amser mewn gwledydd eraill. Mae'r cyflymyddion diweddaraf a'r genhedlaeth nesaf yn llawer llai ac yn rhatach na chenedlaethau blaenorol. Rwy'n deall mai'r lleoliadau gorau efallai ar gyfer y rhain, nad ydyn nhw o bosib yn para mor hir, yw cyfleusterau meddygol o bosib a hynny mewn ardaloedd sydd â seilwaith trafnidiaeth dda. Felly, meddwl oeddwn i beth mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn barod a pha ymchwil sydd wedi'i wneud i'r dewis technoleg diweddaraf yn hytrach na niwclear, sydd ag anfanteision amlwg, fel y soniwyd amdano'n gynharach gan Mabon? A pha ystyriaeth mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi i fuddsoddi yn y rhain, a hefyd yr asesiad ynglŷn â chludo o'r ardal wledig? Mae'r drafnidiaeth yn hynny o beth yn eithaf anodd hefyd os nad yw'r cynnyrch hwn yn para mor hir.

Un o'r heriau yw'r ffaith bod oes silff fer i'r cynnyrch hwn. Roedd yn un o'r pryderon am Brexit digytundeb. Roedd yn rhaid i mi wynebu, rwy'n credu, tri chyfnod gwahanol o gynllunio am Brexit digytundeb, ac yn ogystal â heriau i gyflenwyr fferyllol a llwyth o bethau eraill, roedd cyflenwadau radioisotopau wastad yn agos at frig y rhestr o ran beth fyddai'n digwydd. Yn wir, yn y Senedd flaenorol, roedd Mike Hedges yn gofyn cwestiynau yn rheolaidd ynghylch a fyddem yn gallu, ar sail trwydded, y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, cael cyflenwad isotopau. Cafodd peth o hynny ei ddatrys, ond roedd yr her yn ymwneud mewn difrif ag a fyddai oedi oherwydd y pwynt am oes silff. O ran sut rydym ni'n mewnforio'r rhan fwyaf o'r isotopau a ddefnyddiwn ar hyn o bryd, rydym yn rheoli hynny'n llwyddiannus. Ond byddai cael cyfleuster cynhyrchu yng Nghymru, gan gynnwys yn y gogledd-orllewin, yn ddigonol o ran oes silff a'n gallu ni i'w gael o ble gaiff ei gynhyrchu i le mae ei angen. Ond o ran craffu'n fanylach ar y gwaith hwn, dylai ymdrin â'r materion trafnidiaeth hynny ac yn wir y pwynt yr ydych chithau a Mabon ap Gwynfor wedi'i wneud ynghylch a oes technolegau amgen ar gael, pa mor bell y gallant lenwi'r bwlch, ac yna'r angen sy'n dal i fodoli am, fel y dywedais i, rhywbeth a fydd yn 1 y cant o gynnig blaenorol Horizon a graddfa wahanol iawn o weithredu sy'n cael ei gynnig gyda'r holl faterion perthnasol i hynny. Rwy'n cydnabod y pryderon y bydd gan bobl am weithredu cyfleusterau fel hyn yn ddiogel, yn ogystal â gweld y potensial am fuddsoddiad. Rwy'n falch iawn ein bod yn parhau i wneud cynnydd ar ysgol feddygol gogledd Cymru. Rwy'n gweld cyn Weinidog gogledd Cymru ar y sgrin o'm blaen—roedd yn rhan o'r sgwrs gawsom ni yn y Llywodraeth ddiwethaf, ac rydym ni'n gobeithio parhau a chyflawni yn y tymor hwn hefyd.  

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, diolch yn fawr am eich datganiad cyffrous. Rwy'n credu bod gan raglen ARTHUR yr holl botensial i ddod yn rhan anhygoel o bwysig, strategol o economi y gogledd ac, yn wir, y bwa niwclear ehangach ar draws y gogledd a gogledd-orllewin Lloegr. Wrth gwrs, fel y dywedoch chi, mae gogledd Cymru mewn sefyllfa unigryw o fod yr unig ran o'r DU sydd wir yn paratoi i gofleidio'r cyfle hwn a'r cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi y gallai arwain o hynny.

Roeddwn i'n pendroni, o ran prosiectau eraill rydych chi'n arwain arnyn nhw, sut mae hyn yn cyd-fynd â'ch gwaith o ran blaenoriaethu prosiectau sy'n denu buddsoddiad, yn seiliedig ar fanteision cymharol sydd gennym ni yng Nghymru, er enghraifft y ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch a'r ganolfan ymchwil technoleg uwch? A hefyd, fel rydych chi wedi amlinellu, mae'r rhaglen hon wedi dod o ganlyniad i Weinidogion a swyddogion ar draws adrannau Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos iawn dros gyfnod eithaf sylweddol. Yn wir, pan oeddech chi yn eich swydd flaenorol a phan oeddwn yn y swydd sydd gennych chi nawr, gwnaethom weithio'n agos iawn wrth ddatblygu'r syniadau amlinellol ar gyfer yr hyn rydych chi wedi'i gynnig heddiw. Pa mor bell ydych chi'n credu y byddem wedi dod erbyn hyn pe bai Gweinidogion ac adrannau ar lefel Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio mor agos â Llywodraeth Cymru, yn enwedig BEIS a'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol?

16:30

Diolch am y pwyntiau a'r cwestiynau. O ran eich pwynt am ddatblygiadau magnet, dyma enghraifft dda o'r hyn y gallech ei wneud, oherwydd pe bai gennych chi weithrediad cyfleuster a fyddai, mae'n debyg, yn debygol o fod â 200 o bobl neu fwy wedi'u cyflogi'n uniongyrchol yn y cyfleuster ARTHUR, byddai'n rhyfeddol peidio â bod â gweithgaredd arall o'i gwmpas. Ac mae'r cyfleuster OPAL yn Awstralia yn enghraifft dda o hynny. Rydych chi wedi gweld rhywbeth lle mae gwariant cyfalaf sylweddol ond gyda'r cyfle i weld y gwariant cyfalaf yn dychwelyd ymhen 15 i 20 mlynedd, i gael elw gweithredu, ac i weld mwy o swyddi'n cael eu creu o gwmpas hynny, byddai'n rhaid iddyn nhw gael eu sefydlu o amgylch y cyfleuster ei hun. Felly, byddech chi'n wirioneddol yn denu swyddi o ansawdd da, nid yn unig i bobl ddod i mewn a byw yn yr ardal, ond y cyfle i bobl yn yr ardal leol fod yn rhan o'r ymgysylltu uniongyrchol â'r gweithgaredd hwnnw a'r cadwyni cyflenwi y byddem yn dymuno'u gweld mor lleol â phosibl. Ac rwyf yn gwybod bod arweinwyr y ddau awdurdod lleol, Ynys Môn a Gwynedd, yn weddol gadarnhaol ynghylch y cyfleoedd i wneud hyn, ac rwy'n edrych ymlaen at siarad ag arweinwyr y gogledd amdano yn y dyfodol i drafod mwy o'r manylion am hyn.

Ac yn union yr un modd gyda'r AMRC a'r ATRC rydych chi'n siarad amdanyn nhw hefyd, oherwydd bod cyfleoedd gwirioneddol i gael cyfanwaith llawer mwy o'r prosiect yn hytrach na dim ond y rhannau unigol ohono yn y canol. Ac rwy'n credu—ac mae'n gryn amser yn ôl bellach—yn y cyfnod cyn COVID, fe wnaethom ddechrau trafod hyn yn ein swyddogaethau gweinidogol blaenorol, ac i weld yr amser y mae wedi'i gymryd i gyrraedd yma, gallem yn bendant fod wedi cyrraedd yma'n gynt yn hytrach nag yn hwyrach pe bai mwy o bwyslais ar hyn a llai o bwyslais ar faterion eraill sydd wedi achosi'r ansefydlogrwydd yn Llywodraeth y DU yr ydym wedi'i weld yn y gorffennol mwy diweddar. Er hynny, rwyf yn chwilio am sgwrs adeiladol â Gweinidogion yn Llywodraeth bresennol y DU ac unrhyw un yn y dyfodol, oherwydd fy mod i'n credu'n wirioneddol y dylai hyn fod yn gyfle i fuddsoddi heb edifar i sicrhau budd economaidd sylweddol ac i ymdrin ag angen gofal iechyd gwirioneddol a difrifol, ac rwy'n edrych ymlaen at yr hyn rwy'n gobeithio bydd yn ymateb adeiladol a chadarnhaol gan Lywodraeth bresennol y DU a llywodraethau y DU yn y dyfodol.

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Costau Byw

Eitem 5 y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar gostau byw. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad, Jane Hutt.

Dirprwy Lywydd, wrth i ni ddechrau'r flwyddyn newydd, rydym yn cydnabod bod y pwysau costau byw yn parhau i fod yn ddi-baid. Mae gormod o bobl yn poeni'n enbyd am gadw'n gynnes a bod â digon o fwyd i'w fwyta, ac i lawer o bobl, mae'r heriau'n fwy llwm.

Mae'r argyfwng costau byw wedi taflu goleuni llym ar allu gwahanol grwpiau i ymdopi â phrisiau sy'n codi'n gyflym. Yn ddiweddar, dywedodd y Resolution Foundation fod y bwlch incwm gwario sylfaenol rhwng y boblogaeth anabl a rhai nad ydynt yn anabl yn y DU yn 44 y cant. Maen nhw hefyd yn dweud bod cyfraddau ansicrwydd bwyd yn llawer uwch ymhlith teuluoedd sydd â thri neu fwy o blant, teuluoedd un rhiant, ac ymhlith rhai grwpiau ethnig nad ydynt yn wyn. Rwy'n dymuno rhoi sicrwydd i bobl ledled Cymru mai costau byw yw ein blaenoriaeth o hyd. Rydym yn cynnig cefnogaeth drwy ein cynllun cymorth tanwydd, drwy ein rhaglen Cartrefi Clyd a'n cynllun Nyth, trwy dalebau tanwydd Sefydliad y Banc Tanwydd a'r gronfa wres, ac, wrth gwrs, drwy'r rhwydwaith o fwy na 300 o ganolfannau clyd, sydd wedi eu sefydlu mewn cymunedau ledled Cymru gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.

Mae canolfannau clyd yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth yn dibynnu ar eu lleoliad a'u cyfleusterau. Mae hyn yn cynnwys man cynnes syml gyda lluniaeth, bwyd mwy sylweddol, gweithgareddau, mynediad am ddim i gyfrifiaduron a Wi-Fi a phwyntiau gwefru ar gyfer ffonau a thabledi. Mae nifer hefyd yn cynnig cyfle i gyfarfod â chynghorwyr ariannol a lles. Cyn y Nadolig, ymwelais â nifer o ganolfannau clyd i weld o lygad y ffynnon y gwaith gwerthfawr y mae'r canolfannau hyn yn ei wneud yn ein cymunedau ac i gefnogi pobl trwy'r argyfwng costau byw hwn.

Mae ein cynllun cymorth tanwydd eisoes wedi sicrhau bod bron i 290,000 o aelwydydd wedi derbyn y taliad o £200 eleni, a byddwn yn annog yr aelwydydd cymwys hynny i sicrhau eu bod yn gwneud cais am y cymorth hanfodol hwn y gaeaf hwn. Rydym yn parhau i ddarparu'r gefnogaeth sydd ei hangen i helpu pobl i gynyddu eu hincwm i'r eithaf a chael mynediad i'r buddion y mae ganddyn nhw hawl iddyn nhw trwy ein cronfa gynghori sengl a'n hymgyrchoedd 'Yma i helpu' a 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'. Rydym yn gweithio gyda llywodraeth leol er mwyn cysoni a symleiddio mynediad at ein buddion yng Nghymru.

Rwy'n falch bod cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn cynnwys £18.8 miliwn yn ychwanegol i barhau â'r gefnogaeth i'r gronfa cymorth dewisol yn 2023-24, yn ogystal â chyllid ychwanegol i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol a chymorth ychwanegol i gynllun treialu incwm sylfaenol i bobl ifanc sy'n gadael gofal. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod ein cyllideb werth hyd at £1 biliwn yn llai y flwyddyn nesaf.

Byddwn yn parhau i ddarparu cymorth i aelwydydd drwy ein cefnogaeth i gyflog cymdeithasol mwy hael. Mae hyn yn cynnwys mentrau fel ein cynnig gofal plant, ein cynllun lleihau treth gyngor, prydau ysgol am ddim a mynediad i PDG, grant hanfodion yr ysgol a chymorth gyda chostau iechyd. Mae'r holl raglenni hyn yn gadael arian ym mhocedi pobl. Y flwyddyn ariannol hon, byddwn yn gwario £1.6 biliwn ar gynlluniau sy'n rhoi cymorth uniongyrchol i bobl gyda chostau byw ac sy'n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl.

Yr wythnos diwethaf, ymwelodd Gweinidogion Llywodraeth Cymru ag undebau credyd ledled Cymru i hyrwyddo'r gefnogaeth hanfodol y maen nhw'n ei chynnig i'r rhai sy'n cael trafferth gyda'u harian. Ac rydym yn parhau i fuddsoddi mewn undebau credyd i sicrhau eu bod yn gallu darparu mynediad i gredyd teg a fforddiadwy. Mae is-bwyllgor costau byw'r Cabinet yn rhoi cyfeiriad strategol i'n hymateb, gan sicrhau dull cydgysylltiedig ar draws portffolios a dod â phobl â phrofiadau bywyd, arbenigwyr, darparwyr gwasanaethau a sefydliadau ynghyd sy'n cefnogi pobl sy'n cael trafferth gyda chostau cynyddol.

Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi aelwydydd yr effeithir arnynt gan yr argyfwng di-baid hwn, ond mae'r ysgogiadau allweddol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi, pwerau dros y systemau treth a lles, yn nwylo Llywodraeth y DU. Rydym wedi galw ar Lywodraeth y DU i sefydlu nifer o gamau ymarferol a fydd yn cael effaith uniongyrchol a chadarnhaol i'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan yr argyfwng. Ym mis Ebrill, bydd Llywodraeth y DU yn lleihau lefel y cymorth sydd ar gael trwy ei gwarant am bris ynni domestig. Yn y cyfamser, clywodd busnesau, elusennau a sefydliadau'r sector cyhoeddus ddoe y bydd y gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw yn cael ei leihau'n sylweddol, gan wasgu eu cyllidebau ymhellach ac effeithio ar wasanaethau yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt. Rydym wedi galw ar Weinidogion y DU i godi'r taliad disgresiwn at gostau tai a lwfansau tai lleol. A'r disgwyl pum wythnos mympwyol am daliadau credyd cynhwysol yw achos sylfaenol caledi ariannol difrifol a gofid i lawer o bobl. Mae pobl sy'n aros yn cael eu gorfodi i droi at gefnogaeth o'r gronfa cymorth dewisol i'w cael nhw drwy'r caledi hwn. Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i edrych eto ar hyn, yn enwedig ar yr adeg hon o'r argyfwng costau byw.

Ar 21 a 29 Tachwedd a 7 Rhagfyr, cwrddais â chynrychiolwyr o nifer o gyflenwyr ynni i drafod y materion sy'n ymwneud â mesuryddion rhagdalu a'r argyfwng costau byw. Rwy'n pryderu'n fawr, wrth i fwy o gartrefi ddisgyn ar ei hôl hi gyda thalu eu biliau trydan a nwy, y gallen nhw gael eu harwain yn annheg at fesuryddion rhagdalu. Dylid ystyried symud deiliaid tai i system fesuryddion rhagdalu fel dewis olaf. Dylai cwmnïau ynni amsugno cost taliadau sefydlog ar gyfer cwsmeriaid rhagdalu sy'n wynebu risg arbennig o gael eu datgysylltu o ganlyniad i gost gynyddol tanwydd. Ni ddylai hyn fod yn gost i'r Llywodraeth ymgymryd â hi; mae Llywodraeth Cymru wedi galw'n gyson ar Lywodraeth y DU ac Ofgem i gyflwyno tariff cymdeithasol er mwyn gwarchod yr aelwydydd mwyaf agored i niwed ac i gael gwared ar daliadau sefydlog ar gyfer cwsmeriaid ar fesuryddion rhagdalu. Rwy'n dal i bryderu nad yw nifer pryderus o uchel o ddeiliaid tai ar fesurydd rhagdalu traddodiadol wedi defnyddio eu talebau oherwydd bod gan y rhain ddyddiad dod i ben o 90 diwrnod. Mae'n bwysig bod y cartrefi hyn yn casglu eu talebau Llywodraeth y DU ac yn eu defnyddio.

Dirprwy Lywydd, rydym wedi bod yn glir y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl trwy'r argyfwng costau byw hwn. Ni all Llywodraeth Cymru ddatrys y broblem hon ar ei phen ei hun, dim ond trwy ymdrech ac uchelgais gydgysylltiedig y gallwn fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw hwn a phenderfynyddion ehangach tlodi. Ond, hoffwn ddiolch i'n partneriaid a'n rhanddeiliaid ledled Cymru am eu cefnogaeth barhaus i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw hwn. Ac yn olaf, wrth i ni ddechrau'r flwyddyn newydd hon, rwy'n annog pobl i sicrhau eu bod yn cael gafael ar y cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw ac y mae hawl ganddyn nhw iddyn nhw.

16:35

Diolch am eich datganiad. Yn dilyn ymosodiad anghyfreithlon Rwsia ar Wcráin, a'i effeithiau enfawr ar brisiau bwyd a thanwydd byd-eang, a'r pwysau ar yr economi a achoswyd gan y pandemig, mae Llywodraeth y DU wedi cymryd camau eithriadol i gefnogi pobl gyda chostau byw. Yn ogystal â'r cynllun gostyngiad Cartrefi Cynnes sy'n bodoli eisoes, taliadau tanwydd gaeaf a thaliadau tywydd oer, mae hyn yn cynnwys gostyngiad o £400 i bawb sy'n talu biliau ynni; £650 ar gyfer 8 miliwn o'r aelwydydd incwm isaf yn 2022, gan godi i £900 yn 2023; £300 ar gyfer 8 miliwn o aelwydydd pensiynwyr yn 2022 a 2023; £150 ar gyfer 6 miliwn yn cael budd-daliadau anabledd heb brawf modd yn 2022 a 2023; cap â chyfyngiad amser ar bris uned ynni ar gyfer aelwydydd; a chyllid canlyniadol ychwanegol i gyllideb Llywodraeth Cymru. Felly, gwnaethom groesawu cefnogaeth bellach a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y cynllun cymorth tanwydd gaeaf, cyllid ychwanegol ar gyfer y gronfa cymorth dewisol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon i'w chefnogi gyda chost tanwydd oddi ar y grid, a'r cynllun talebau tanwydd wedi'i dargedu at aelwydydd sydd â mesuryddion rhagdalu a'r rhai nad ydynt yn gysylltiedig â'r prif gyflenwad nwy.

Wrth siarad yma fis Chwefror diwethaf, croesawais ddyblu'r taliad cynllun cymorth tanwydd gaeaf i £200, ac wrth siarad fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni, galwais am ymestyn meini prawf cymhwysedd y cynllun ac roeddwn yn ddiolchgar pan wnaethoch chi hyn wedyn. Yn y cyd-destun hwn, sut ydych chi bellach yn cyfiawnhau cynllun Llywodraeth Cymru i ddileu'r taliad tanwydd gaeaf £200, er gwaethaf yr £1.2 biliwn o gyllid ychwanegol sy'n dod i Gymru dros ddwy flynedd yn dilyn datganiad Canghellor y DU yn yr hydref? Ac yn fwy penodol, a fydd hyn yn cael ei ddileu'n gyfan gwbl, a fydd yn cael ei ddisodli gan y taliad gwreiddiol o £100, neu a fydd rhywbeth arall yn ei le?

Ar ôl i mi ysgrifennu atoch ar ran etholwr paraplegig anabl, yn methu â chael mynediad at grantiau ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn y cartref o dan ofynion cymhwysedd grant i'w helpu gyda'i gostau byw, fe wnaethoch ymateb gan ddweud y byddech yn gofyn i'ch swyddogion ymchwilio. Wedi hynny, rhannais â chi'r newyddion da fod ei gyngor sir wedi cymeradwyo ei grant. Fodd bynnag, pa fesurau ydych chi wedi'u cymryd neu a fyddwch chi'n eu cymryd i sicrhau nad yw pobl anabl eraill yn colli allan mewn amgylchiadau tebyg?

Yn eich datganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf yn dilyn eich cyfarfodydd gyda chyflenwyr ynni, lle gwnaethoch chi nodi, er bod canfyddiadau Ofgem wedi nodi rhywfaint o arferion da ymhlith cyflenwyr ynni, gan helpu cwsmeriaid drwy'r cyfnod hwn o argyfwng ynni uchel, canfuwyd gwendidau difrifol mewn pum cyflenwr, a bod angen i'r holl gyflenwyr wneud gwelliannau. O ran arfer da, rwy'n nodi, er enghraifft, fod Nwy Prydain yn rhoi 10 y cant o elw i'r elusen annibynnol British Gas Energy Trust i helpu cwsmeriaid sy'n cael trafferth gyda biliau. Ond dysgais yn nigwyddiad Senedd 'Cynnes Gaeaf yma' yr amser cinio hwn gyda'r British Gas Energy Trust, fod y nifer yng Nghymru sy'n manteisio ar hyn wedi bod yn arbennig o isel. Felly, pa gamau y gallwch chi eu cymryd i helpu i hyrwyddo'r cynlluniau o'r fath sydd ar gael i bobl yng Nghymru, ochr yn ochr â'ch gwaith hybu arall?

Yn eich datganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi hefyd ddweud bod cyflenwyr ynni wedi cytuno i rannu data â chi ar nifer yr aelwydydd sy'n cael eu cefnogi a'r rheswm dros drosglwyddo aelwydydd i fesuryddion rhagdalu, ac y byddwch yn cynnal cyfarfod dilynol â chyflenwyr ynni yn y flwyddyn newydd, ac yna cyfarfodydd chwarterol. Felly pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd er mwyn sicrhau bod y data rydych chi'n eu derbyn yn cael eu rhannu â'r Senedd hon, y Senedd hon, a bod y Senedd hon yn cael gwybod y diweddaraf am y pethau negatif a'r pethau positif sy'n deillio o'r cyfarfodydd hyn? Yn ogystal, pa ymgysylltu ydych chi'n ei gael ag ymgyrch Bwyd a Thanwydd yr Eglwys yng Nghymru, sy'n galw am gydweithio â'r Llywodraeth?

Mae hwn yn argyfwng costau byw rhyngwladol, gyda chyfraddau chwyddiant presennol yn uwch mewn 23 o wledydd Ewropeaidd a 15 o 27 o aelod-wladwriaethau'r UE nag yn y DU, a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol yn rhagweld bod o leiaf hanner gwledydd Ewrop yn symud tuag at ddirwasgiad. Fodd bynnag, mae pobl yng Nghymru wedi'u taro'n arbennig o galed, oherwydd Cymru sydd wedi gweld y twf isaf o ran ffyniant y pen o holl wledydd y DU ers 1999. Y pecynnau cyflog yng Nghymru yw'r isaf yn y DU ac yng Nghymru mae'r gyfradd gyflogaeth isaf ym Mhrydain Fawr, a phob un er gwaethaf eu bod wedi derbyn biliynau mewn cyllid dros dro tybiedig â'r bwriad o gefnogi datblygiad economaidd a lleihau anghydraddoldeb rhwng gwledydd a rhanbarthau.

Yn olaf, felly, pa gamau, os o gwbl, y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddiogelu ar gyfer y dyfodol trwy newid trywydd, ceisio a mabwysiadu canllawiau o'r sectorau busnesau mawr a bach a chyrff y trydydd sector, gan gefnogi gweithredu cymunedol a menter gymdeithasol o'r gwaelod i fyny? Diolch.

16:40

Diolch yn fawr, Mark Isherwood. Fel y dywedais yn fy natganiad, mae'n amlwg iawn ein bod yn cymryd cyfrifoldeb, a diolch am gydnabod hynny, ac, yn wir, am gadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd, a mynychais fwy neu lai bob sesiwn a gynhaliwyd y llynedd. Ond hefyd, gan gydnabod hynny'n glir, mae cyfrifoldebau allweddol i Lywodraeth y DU o ran treth a budd-daliadau, a byddaf yn gwneud sylw ar y rhai mewn eiliad mewn ymateb i'ch cwestiynau.

Mae wedi bod yn bwysig iawn ein bod wedi gallu defnyddio arian sydd wedi bod ar gael i ni eleni ar gyfer cynllun tanwydd Llywodraeth Cymru, gyda chymhwyster estynedig. Cost sylweddol, ond i glywed bod 290,000 o daliadau o £200 yn gwneud cymaint o wahaniaeth, gan gael arian i bocedi pobl—. Ond yn amlwg, doedd datganiad diweddar yr hydref yn y DU ddim wedi rhoi digon o arian i ni er mwyn i Lywodraeth Cymru helpu'n ddigonol y Cymry sy'n wynebu'r argyfwng costau byw gwaethaf mewn cof. Rydym yn parhau, ac rwy'n gobeithio y byddwch yn ymuno â ni, i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddarparu cyllid ychwanegol i gefnogi aelwydydd gyda'r argyfwng costau byw hwn.

Roeddwn i'n teimlo ei fod yn flaenoriaeth lwyr, o ran helpu pobl drwy'r argyfwng costau byw yn y flwyddyn ariannol nesaf, ein bod yn cynnal cefnogaeth i'r gronfa cymorth dewisol. Roedd y £18.8 miliwn ychwanegol yn ychwanegiad pwysig i'r gyllideb ddrafft, gan sicrhau y gall pobl yr effeithir arnynt fwyaf difrifol gan yr argyfwng costau byw barhau i gael mynediad at y cymorth brys hwn. Mae'n gymorth yr ydym wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn yn ystod y pandemig, gan gynyddu hyblygrwydd a chynyddu dyrannu'r cyllid hwnnw. Rwy'n credu, dim ond os edrychwch chi ar yr argyfwng costau byw o ran mynediad i'r gronfa cymorth dewisol, mae'n bwysig dim ond cydnabod beth mae hyn wedi ei olygu mewn gwirionedd, ac a fydd, wrth gwrs, wedi golygu i lawer o'ch etholwyr. Os ydych yn edrych, hyd yma yn 2022-23, y flwyddyn ariannol hon, mae dros 200,000 o bobl wedi cael eu cefnogi gan y gronfa, gyda dros £23 miliwn mewn grantiau, a'r rheini'n cael eu dyfarnu i'r rhai sy'n dangos gwendidau ariannol acíwt. Dros gyfnod y Nadolig, mae ffigurau'n dangos yn ystod mis Rhagfyr yn unig fod 33,531 o unigolion wedi cyrchu'r DAF, gyda £2.36 miliwn arall yn cael ei ddyfarnu mewn taliadau arian parod. Felly, mae'r £18.8 miliwn ychwanegol yn y gyllideb ddrafft yn hanfodol bwysig i ddiwallu'r anghenion hynny.

Rwy'n pryderu am y ffaith, ddoe fel y gwyddoch, o ran newidiadau Llywodraeth y DU, bod y trefniadau newydd o ran y cynllun rhyddhad biliau ynni, sy'n symud i'r trefniadau newydd, sy'n cael ei ddisodli gan gynllun gostyngiad bil ynni, ar lefel llawer is. Y materion allweddol a godwyd gan randdeiliaid, oherwydd bod cyfle i ymateb i'r ymgynghoriad cyn belled ag yr oedd hyn yn y cwestiwn, ac, yn wir, ysgrifennodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn amlinellu ein pryderon: cwmpas a hyd y cynllun, cymariaethau â chefnogaeth mewn gwledydd eraill a hefyd, gan edrych ar hyn, pa effaith y bydd yn ei gael, gan fynd yn ôl i gwestiynau cynnar yn y Siambr gan un o'ch cyd-Aelodau am yr effaith ar elusennau a'r sector gwirfoddol hefyd. Felly, mae'n allweddol ein bod yn symud ymlaen ac yn gwneud yr hyn y gallwn o fewn ein hamlenni cyllido a hefyd edrych ar ffyrdd y gallwn gynyddu'r nifer sy'n manteisio arnynt.

Nawr, fe wnaethoch godi cwestiwn am gyfarfodydd gyda'r darparwyr ynni a beth allwn ni ei wneud o ran cefnogaeth. Roedd rhai ymatebion cadarnhaol gan ddarparwyr ynni. Dywedodd rhai ohonyn nhw y bydden nhw'n rhannu data gyda ni o ran effaith pobl yn symud i sefyllfa agored i niwed ac na fydden nhw ychwaith yn symud i fesuryddion rhagdalu heb ganiatâd. Pwyswyd yn galed, unwaith eto, y dylent dalu'r costau taliadau sefydlog, ac, yn wir, mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn ei ddatblygu pan fyddaf yn cyfarfod â'r darparwyr ynni hynny ar 23 Ionawr.

16:45

Diolch am y datganiad, Weinidog. Rwy'n falch o'r pwyslais a roesoch chi ar allu neu ddiffyg gallu grwpiau gwahanol i ymdopi â'r argyfwng costau byw a phrisiau cynyddol, ac mae menywod, wrth gwrs, yn un o'r grwpiau hynny: 46 y cant yw nifer yr aelwydydd rhieni sengl sy'n byw mewn tlodi—mae'n ffigur syfrdanol, ddwywaith yn uwch na'r gyfradd tlodi cyffredinol yng Nghymru, sef 23 y cant—ac mae 86 y cant o rieni sengl Cymru yn fenywod. Mae cyfrifoldebau gofalu menywod ynghyd â diffyg gofal plant fforddiadwy yn golygu eu bod yn aml yn llai abl na dynion i gynyddu eu horiau gwaith a thâl er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd.

Mae diffyg darpariaeth gofal plant fforddiadwy yn golygu y byddai llawer o fenywod ar eu colled pe baent yn cynyddu eu horiau gwaith, gan fod costau gofal plant yn uwch na'r enillion ychwanegol posibl, ac, o gyfuno â chyflogau sydd, wrth gwrs, yn fflat, mae hyn yn aml yn gadael llawer heb unrhyw fodd o gwbl i gadw i fyny â chostau cynyddol, a, heb weithredu brys, bydd yn arwain at lawer mwy o fenywod a phlant yn mynd i dlodi. Dim ond i blant tair a phedair oed y mae gofal plant am ddim ar gael ar hyn o bryd, gyda darpariaethau cyfyngedig iawn, 12.5 awr yr wythnos, ar gyfer rhai plant dwy oed mewn ardaloedd Dechrau'n Deg. Mae hyd yn oed y rhai sy'n gymwys yn aml yn methu â chael gofal plant am ddim, a dangosodd arolwg gofal plant 2022 yr Ymddiriedolaeth Teuluoedd a Gofal Plant fod gan lai na thraean o awdurdodau lleol ddigon o ofal plant o dan y cynnig gofal plant. Mae gwaith, wrth gwrs, yn mynd rhagddo i ehangu gofal plant am ddim, diolch i'r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, ond pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o gyflymu'r gwaith o ehangu mynediad i ofal plant fforddiadwy fel modd o amddiffyn menywod a phlant yng Nghymru o brisiau cynyddol a thlodi?

Gan droi yn awr at gynllun cymorth biliau ynni Llywodraeth y DU, rwy'n rhannu eich pryder, Gweinidog, fod ystadegau diweddaraf BEIS yn awgrymu nad yw 33 y cant o'r talebau a ddarparwyd hyd at fis Rhagfyr wedi eu defnyddio eto. Mae hyn yn destun pryder mawr, gan mai'r aelwydydd hyn yw rhai o'r rhai mwyaf agored i niwed, fel arfer ar incwm isel, ac yn gallu bod mewn dyled i'w cyflenwr eisoes. A yw BEIS wedi cyhoeddi dadansoddiad wedi ei ddadgyfuno o'r nifer sy'n eu defnyddio fesul gwlad, ac os felly, beth yw'r darlun yng Nghymru? Ac o ystyried ein bod yn agosáu at ddiwedd y cynllun, Gweinidog, beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i annog Llywodraeth y DU i ddod o hyd i ffordd o sicrhau bod unrhyw arian nad yw wedi ei wario neu nad yw wedi ei ddefnyddio yn cael ei ddefnyddio neu ei ailgylchu i gefnogi'r aelwydydd hyn, yn enwedig yng Nghymru, lle mae gennym gyfran uwch o aelwydydd, wrth gwrs, ar fesuryddion rhagdalu? A fydd y Llywodraeth yn gofyn i Lywodraeth y DU i unrhyw danwariant yng Nghymru gael ei roi iddyn nhw i'w wario ar gefnogi'r aelwydydd hynny? Hoffwn i ofyn hefyd beth sy'n cael ei wneud i fonitro effeithiolrwydd a chysondeb cyflwyno talebau tanwydd Sefydliad y Banc Tanwydd i'r rhai mewn angen ledled Cymru. Fe wnes i ymweld â banc bwyd mawr yn fy rhanbarth i cyn y Nadolig, ac roedden nhw'n gwbl anymwybodol o'r cynllun.

Mae hefyd, byddwn i'n ei ddweud, yr unfed awr ar ddeg o ran symleiddio a chysoni mynediad at daliadau cymorth Cymru—rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi ei godi lawer gwaith gyda chi. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y gwaith hwn y tu hwnt i'r hyn y gwnaethoch ei ddweud yn eich datganiad, bod gwaith yn digwydd? Sut mae'n gwneud gwahaniaeth, ble ac i bwy? Mae'r gwaith hwn mor wirioneddol ar frys. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod pob punt sydd ar gael, yn enwedig yn yr amseroedd economaidd cyfyngedig hyn, yn cyrraedd pocedi pobl.

Ac yn olaf, o ran eich pwyntiau ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru sy'n cynnwys cyllid ychwanegol i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol, a fydd y codiad cyflog hwn i weithwyr gofal cymdeithasol, yn ogystal ag unrhyw daliad ychwanegol untro i staff y GIG a gofal cymdeithasol y cytunwyd arno, yn berthnasol i weithwyr y trydydd sector sy'n gwneud gwaith i'r GIG neu awdurdodau lleol? Os felly, a fydd Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn glir i awdurdodau lleol ei fod yn berthnasol i'r trydydd sector hefyd? Gan ein bod ni'n cofio anghysondeb canllawiau Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â'r taliad untro o £500 i weithwyr gofal cymdeithasol yn ystod COVID—cafodd ei roi i rai ac nid i eraill. Ac ar ben hynny, mae cyngor anghyson Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ar gynnydd i gontractau, yn ymarferol yn golygu bod cyflog y trydydd sector yn llai nag i weithwyr gofal y GIG. Rhoddodd rhai awdurdodau lleol gynnydd contract, ac eraill ddim. Ac fel pawb arall yn y sector, mae staff hollbwysig y trydydd sector yn ei chael hi'n anodd recriwtio a chadw staff, er gwaethaf eu gwasanaethau sy'n atal pobl rhag gorfod mynd i leoliadau gofal sefydliadol drud. Rwy'n gobeithio eich bod yn cytuno eu bod yn wynebu'r un caledi ariannol â gweithwyr gofal cymdeithasol a'u bod yn weithwyr hanfodol, gwerthfawr, amhrisiadwy. Diolch.

16:50

Diolch yn fawr, Sioned Williams, a diolch yn fawr iawn i chi yn arbennig am dynnu sylw at y rhai y mae'r argyfwng costau byw yn effeithio'n arbennig arnyn nhw. Fe'i gwnes i'n glir yn fy sylwadau agoriadol, o ran y datganiad, y dystiolaeth ddiweddar, fy mod i, yn arbennig, yn canolbwyntio ar y bwlch incwm rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn y DU a'r effaith y mae hynny'n ei chael, yn enwedig o ran costau ynni—rydym wedi gweld hynny—ond hefyd yn cydnabod materion sy'n ymwneud â phlant teuluoedd un rhiant a theuluoedd â thri neu fwy o blant. Rwy'n credu bod eich cwestiynau am yr effaith ar fenywod yn ymwneud â menywod fel gofalwyr hefyd—yn bennaf fel gofalwyr. Ond rwy'n credu bod eich cwestiwn am ofal plant yn bwysig, gan fod hyn yn rhywbeth lle mae'n bwysig ein bod yn bwrw ymlaen, trwy'r cytundeb cydweithredu, ag ehangu'r cynnig gofal plant a Dechrau'n Deg, sy'n mynd i fod yn lleoedd diogel i blant ac yn hanfodol o ran mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw.

Pan es i i ymweld â'r hwb cynnes yng Nghaerffili yn hen ysbyty'r glowyr—Canolfan Glowyr Caerffili—cwrddais â rhai menywod yr oedden nhw eu hunain yn helpu i weithio i ddatblygu canolfan i blant a theuluoedd yn ystad Lansbury. Dywedon nhw eu hunain, 'I ni, wrth ddod i mewn i'r ganolfan, rydym hefyd yn gallu elwa ar bryd o fwyd a gwres a chefnogaeth i'n plant yn yr hwb cynnes hwnnw.' Ond yn amlwg roedd hynny'n gysylltiedig â Dechrau'n Deg hefyd, sydd wrth gwrs yn ehangu ac yn darparu ar gyfer ac yn cyrraedd mwy o blant rhwng dwy a thair oed o ran yr elfen gofal plant.

Ond mae'n bwysig ein bod yn gweld y bydd y meini prawf cymhwysedd ar gyfer y cynnig gofal plant yn golygu y bydd mwy o rieni'n gallu estyn allan am y gofal plant hwnnw—y rhai sydd wedi cofrestru mewn dosbarthiadau addysg uwch ac addysg bellach. Rydym yn gwybod mai gwaith sy'n talu'n dda yw'r llwybr gorau allan o dlodi a'r amddiffyniad mwyaf yn erbyn tlodi, felly bydd y buddsoddiad sylweddol hwnnw o bron i £120 miliwn yn gwella'r gofal plant hwnnw sydd ar gael, ac ymestyn Dechrau'n Deg hefyd.

Rwy'n credu bod hynny'n bwysig, ac mae'r Gweinidog addysg—. Mae hyn yn draws-Lywodraethol iawn. Ddoe, cawsom gyfarfod is-bwyllgor y Cabinet ac roedd pob Gweinidog mewn gwirionedd yn adrodd ar ffyrdd yr oedd mentrau yr oedden nhw'n eu cymryd yn cael effaith, a'r lledaeniad hwnnw o addysg i dai i'r cynllun lleihau treth gyngor—yr holl feysydd lle mae mentrau'n bwysig.

Yn wir, rwy'n credu bod y prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgolion cynradd—sydd unwaith eto yn rhan o'r cytundeb cydweithio—yn cael effaith o ran cyrraedd 45,000 o ddisgyblion ychwanegol sy'n gymwys ar unwaith i gael pryd o fwyd am ddim yn y dosbarthiadau derbyn hynny ymhob ysgol yng Nghymru, a hefyd y ffaith bod y prydau ysgol am ddim cyffredinol hynny, a hefyd rydym yn gobeithio, yn wir, dros y cyfnodau gwyliau hefyd, i ddarparu'r gefnogaeth honno.

A gadewch i ni beidio ag anghofio pwysigrwydd brecwast ysgol am ddim, ac rwy'n gwybod eich bod chi wedi codi cwestiynau ar hynny o'r blaen, Sioned, ac am y ffaith ein bod ni bellach yn gweithio i sicrhau ein bod ni'n gallu cael mwy o bobl yn manteisio ar y cynnig. Lleihaodd rywfaint yn ystod y pandemig, ond mewn gwirionedd roedden ni'n gwybod—ac rwyf i wedi dweud erioed am ein cynllun brecwast am ddim—eich bod chi mewn gwirionedd yn darparu gofal plant am ddim hefyd, oherwydd gall plant fynd i'r ysgol fel arfer am 8.15 y bore, ac mae'n rhan bwysig iawn o'n cyflog cymdeithasol, ac yn hanfodol i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw.

I'ch diweddaru ar faterion yn ymwneud â'r Sefydliad Banc Tanwydd a'r talebau sy'n cael eu darparu, mae gen i ddiddordeb mawr mewn clywed am y banc bwyd y buoch yn ymweld ag ef, nad oedd yn ymwybodol o hwn. Cynllun talebau tanwydd yw hwn yr ydym wedi ei gychwyn gyda'r Sefydliad Banc Tanwydd, sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda banciau bwyd, fel y gwyddoch chi. Mae'n gynllun talebau tanwydd cenedlaethol. Ers mis Awst, mae'r Sefydliad Banc Tanwydd wedi ennyn cefnogaeth 69 o bartneriaid sy'n gallu cyfeirio cartrefi i gael talebau. Mae hynny'n cynnwys wyth partner cenedlaethol, ochr yn ochr â phartneriaid lleol o fewn pob awdurdod lleol. Mae talebau tanwydd eisoes wedi bod o fudd i dros 14,000 o bobl sy'n byw mewn cartrefi sy'n ei chael hi'n anodd. Mae'n bwysig ein bod yn cael y neges allan, o ran y talebau tanwydd, os oes gennych chi gysylltiadau yn eich etholaethau chi â phartneriaid, â banciau tanwydd. Mae'r holl awdurdodau lleol yn ymwybodol ohono hefyd, a Chyngor ar Bopeth. Rydym yn awyddus i wneud yn siŵr ei fod yn estyn allan, gan ei fod yn bwysig iawn. Ac wrth gwrs, mae hefyd yn cyrraedd aelwydydd oddi ar y grid hefyd, fel y gronfa cymorth dewisol.

Cyfrifoldeb y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, wrth gwrs, yw'r cyflog byw real a'r ffordd y mae'n cael ei dalu i weithwyr gofal cymdeithasol. Felly, mae'r sylwadau a'r pwyntiau hynny rydych chi wedi bod yn eu gwneud am estyniad y cyflog byw gwirioneddol yn bwysig, rwy'n gwybod, ac, ar sail traws-Lywodraethol, rydym yn mynd i'r afael â'r materion hyn gyda'n gilydd. Ond hefyd, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod sefyllfa gofalwyr. Roeddwn i'n bryderus iawn eto wrth weld nad yw newidiadau Llywodraeth y DU i'r gefnogaeth maen nhw'n ei rhoi ar gyfer costau byw eleni yn cynnwys unrhyw gymorth ychwanegol i ofalwyr. Ac er bod nifer o ofalwyr yn gallu cymhwyso ar gyfer budd-daliadau eraill, a gwnaethom sicrhau eu bod am fod yn gymwys ar gyfer ein cynllun cymorth tanwydd gaeaf eleni, rydym yn gwybod bod 28,000 o ofalwyr yng Nghymru nad ydynt yn gymwys. Felly, mae hyn yn rhywbeth, unwaith eto, yr ydym yn ei godi gyda Llywodraeth y DU, ac mae angen i ni wneud hynny'n glir.

Rwy'n bryderus iawn ein bod yn sicrhau, o'r diwedd, ein bod yn cael y neges hon allan am dderbyn y £400. Mae Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod aelwydydd wedi derbyn hynny, ond nid yw pobl oddi ar y grid wedi ei dderbyn. Mewn gwirionedd rwyf wedi cael rhywfaint o adborth gan etholwyr yn dweud y bu'n fwy cymhleth na hynny o ran ei dderbyn pan fo nhw wedi eu symud—mae rhywfaint o arian wedi ei dynnu oddi ar filiau trydan a rhai oddi ar filiau nwy. Ond rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog sy'n gyfrifol, yr Ysgrifennydd Gwladol sy'n gyfrifol, ac wedi gosod hyn i gyd allan, ac rwy'n hapus iawn i rannu'r llythyr yna â'r Aelodau heddiw.

17:00

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am gyflwyno datganiad heddiw, a hefyd am ddatganiad ysgrifenedig y Gweinidog yn ystod cyfnod y Nadolig, gan roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am ei chyfarfodydd â chyflenwyr ynni. Mae tlodi yn mynd â'r holl sylw ym mywydau pobl. Mae'n achosi straen, mae'n achosi afiechyd, ac mae'n gadael creithiau sy'n para am oes. A bod yn hollol onest, Dirprwy Lywydd, mae gormod o wleidyddion, yn enwedig rhai Plaid Geidwadol y DU, yn credu ei bod yn briodol darlithio trigolion sy'n ei chael hi'n anodd. Dylen nhw geisio cerdded milltir yn eu hesgidiau cyn gwneud sylwadau am p'un a ddylen nhw fod angen defnyddio banc bwyd ai peidio.

Gweinidog, os byddwn ni'n canolbwyntio ar fesuryddion rhagdalu ar gyfer y cwestiynau penodol hyn, rwyf wedi bod yn arwain yr ymgyrch dros wahardd gosod mesuryddion rhagdalu mewn eiddo, ond o dan y rheolau presennol, gall darparwyr ynni orfodi preswylwyr ar fesuryddion rhagdalu pan na allan nhw dalu eu biliau. Yn y pen draw, mae hyn yn golygu eu bod nhw'n talu mwy. Rwy'n ddiolchgar i chi, Gweinidog, yn galw am ddileu taliadau sefydlog, ond ydych chi'n cytuno â mi fod angen gwahardd gosod y mesuryddion rhagdalu hyn? Ac a fyddwch chi'n cwrdd â mi i drafod canfyddiadau fy ymchwiliadau fy hun sy'n dangos nad yw'r Blaid Geidwadol yn hollol barod pan ddaw hi'n fater o ddatrys yr argyfwng hwn?

Diolch yn fawr, Jack Sargeant, a diolch am godi'r mater hwn yn gyson o ran anghyfiawnder y trefniadau mesuryddion rhagdalu. Bydd eisiau atgoffa'r Aelodau, rwy'n siŵr, fod tua 200,000 o aelwydydd yng Nghymru yn dibynnu ar fesuryddion rhagdalu am eu prif gyflenwad nwy a thrydan—sef tua 15 y cant o'r holl aelwydydd. Mae dau ddeg pedwar y cant o denantiaid yn y sector rhentu preifat yn defnyddio mesuryddion rhagdalu ac mae bron i hanner ein tenantiaid tai cymdeithasol yn dibynnu ar fesuryddion rhagdalu. Dyna'r rhai sydd wedi eu taro waethaf gan y cynnydd yn y taliadau sefydlog sy'n cael eu cymhwyso i filiau cartrefi o fis Ebrill ymlaen. Yn wir, yn y gogledd oedd y cynnydd mwyaf ym Mhrydain—hyd at 102 y cant—ac rwy'n gwybod mai dyna pryd, Jack Sargeant, y gwnaethoch chi godi hyn, a dyna pryd gwnaethom ni feithrin partneriaeth â'r Sefydliad Banc Tanwydd. Yn wir, yn y banc bwyd yn Wrecsam yr ymwelais ag ef a lle gwnes i'r cyhoeddiad hwnnw y llynedd, lle'r oedd rhai banciau bwyd eisoes wedi bod yn codi eu cronfeydd eu hunain i ddarparu'r talebau tanwydd rhagdalu hyn. Mae'n cael effaith anghymesur o negyddol ar aelwydydd incwm isel i'r rhai ar fesuryddion rhagdalu.

Nawr, rwyf wedi dweud fy mod i wedi cwrdd â—ac mae fy natganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf yn dangos fy mod i wedi cwrdd â—chyflenwyr ynni, ac rwyf wedi cael rhywfaint o sicrwydd nad yw aelwydydd yn cael eu symud i fesuryddion rhagdalu pan fydd ôl-ddyledion. Rwyf wedi ei gwneud hi'n gwbl glir y dylen nhw gael gwared ar daliadau sefydlog ar gyfer cwsmeriaid rhagdalu, a dyna rydym yn gweithio gyda nhw i'w archwilio—beth arall y gellir ei wneud. Ond rwyf wedi cael sicrwydd gan gyflenwyr ynni na fydd pobl yn cael eu symud i fesuryddion rhagdalu yn erbyn eu hewyllys, ond rydym yn gwybod bod hynny'n digwydd—yn enwedig i'r rhai sydd eisoes ar fesurydd clyfar. Rwy'n bryderus iawn o glywed bod 64 y cant o ddefnyddwyr mesuryddion clyfar wedi'u newid i'r dyfeisiau rhagdalu drytach yn hanner cyntaf y llynedd, felly rwy'n mynd i godi hynny eto gyda darparwyr ynni ar 23 Ionawr. Ond hefyd, Ofgem, mae'n hollbwysig eu bod nhw'n cydnabod hyn, ac mae gennym ni gyfarfodydd, mewn gwirionedd, ag Ofgem. Rwyf wedi cael cyfarfodydd; mae fy nghyd-Weinidog Julie James yn cyfarfod ag Ofgem yn rheolaidd, ac mae yna gyfarfod y prynhawn yma. Rwyf wedi gofyn i swyddogion godi'r mater o bobl yn cael eu gorfodi i fynd ar fesuryddion rhagdalu yn erbyn eu hewyllys yn y cyfarfod hwn ag Ofgem.

17:05

Diolch yn fawr iawn. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud yn eich datganiad, mae'r holl ysgogiadau allweddol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi drwy'r system dreth a lles yn eistedd gyda Llywodraeth y DU, ac mae hynny'n cynnwys y sefyllfa wirioneddol warthus lle mae'n rhaid i bobl aros pum wythnos am daliadau credyd cynhwysol, sydd mewn gwirionedd yn eu gwthio i ddwylo'r siarcod benthyg, oherwydd beth arall maen nhw i fod i fyw oddi arno—awyr iach?

Felly, roeddwn i eisiau canolbwyntio'n syml ar un o'r meysydd y gallwn ni wneud rhywbeth yn ei gylch, sef y gwahaniaeth y gellid ei wneud drwy fynd i'r afael â thlodi bwyd. Yr wythnos diwethaf, ymwelais â Can Cook/Well-Fed yn Shotton yn etholaeth Jack Sargeant, ac fel y gwyddoch chi, Gweinidog, mae gan fudiad Robbie Davison, strategaeth sy'n gweithio'n dda ar gyfer dileu tlodi bwyd yn sir y Fflint a'r ardaloedd cyfagos eraill. Ar y wal mae'n dweud, 'Os yw pobl yn bwyta'n dda, maen nhw'n ymdopi'n dda', a dyna un o'r problemau rwy'n eu gweld wrth fynd o amgylch fy etholaeth i—nad yw pobl yn bwyta'n dda ac nad ydyn nhw'n ymdopi â'r problemau anodd maen nhw'n eu hwynebu o fyw mewn tlodi. Felly, yn dilyn eich trafodaethau eich hun gyda Mr Davison y llynedd, tybed pa ystyriaeth y mae is-bwyllgor costau byw y Cabinet wedi ei rhoi i fesurau i ddileu tlodi bwyd, gan adeiladu ar brofiad y sefydliad Well-Fed, yn ychwanegol, wrth gwrs, at y fenter wirioneddol bwysig i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd.

Yn ail, o ran diffyg defnydd rhai pobl o'r talebau hyn am ynni, p'un a ydyn nhw gan Lywodraeth y DU neu gan Lywodraeth Cymru, un o'r pryderon difrifol sydd gen i yw bod llawer o sgamwyr yn defnyddio hyn fel esgus i geisio casglu data personol pobl, a dyna un o'r rhesymau pam y gallai pobl fod ag ofn gwirioneddol i fynd at y pethau hyn. Mae'r system mor gymhleth i bobl, pan ddylai fod yn hawl awtomatig yng nghyfrif budd-daliadau pobl, gan fod y wladwriaeth yn gwybod pwy sy'n derbyn y budd-daliadau hyn. Pam nad ydyn nhw'n talu'r symiau hyn o arian yn syml?

Diolch yn fawr, Jenny Rathbone, a diolch am godi'r mater o dlodi bwyd. Rydym wedi darparu £2.4 miliwn i gefnogi sefydliadau bwyd cymunedol i fodloni'r cynnydd hwnnw yn y galw am fwyd brys o ganlyniad i gostau byw. Ond hefyd, yn ychwanegol at hynny, £2.5 miliwn arall i gefnogi datblygiad partneriaethau bwyd traws-sector yng Nghymru i helpu i gefnogi cadernid yn y tymor hwy, a chysylltiadau llawer ehangach. Byddwch chi'n gwybod am gynllun Bwyd Caerdydd a'r mentrau maen nhw wedi eu cymryd. Rydym yn adeiladu ar hynny mewn ffordd a chynllun Big Bocs Bwyd, sy'n gysylltiedig ag ysgolion, i gael partneriaethau i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd a'r pwyslais, fel rydych chi wedi ei ddatgan yn glir iawn erioed, fod angen i ni ganolbwyntio ar atal, cynaliadwyedd a hefyd cydlynu hyn ar lawr gwlad.

Rwyf hefyd yn falch iawn fy mod wedi ymweld â Well-Fed yn Shotton, yn yr un modd â Gweinidogion eraill, a gweld beth y gellir ei gyflawni, ond maen nhw hefyd wedi gweithio mewn partneriaeth â'u hawdurdod lleol, Cyngor Sir y Fflint, a hefyd â chymdeithasau tai. Maen nhw'n darparu prydau bwyd, fel y clywsoch chi mae'n debyg, i bob aelod o staff un o'r cymdeithasau tai yn y gogledd-ddwyrain. Ac rydych chi'n hollol gywir o ran pwysigrwydd cefnogi plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, gyda buddsoddiad o dros £100 miliwn i gyd. Ond, mewn gwirionedd, dim ond i ddweud y llynedd, y bu'n rhaid i Ymddiriedolaeth Trussell brynu tair gwaith yn fwy o fwyd nag y gwnaethon nhw yn y cyfnod cyfatebol y flwyddyn flaenorol drwy fanciau bwyd, ac rydym yn gwybod nad oedd hynny'n gynaliadwy.

Mae yn bwysig, y pwynt rydych chi'n ei godi ynghylch derbyn yr hawliau hyn yn awtomatig, ac mae hyn yn rhywbeth rwy'n gweithio gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol arno. Rydym yn gwybod bod pobl wedi derbyn eu taliad o £200 yn awtomatig mewn 11 o'n 22 o awdurdodau. Mae hyn yn ymwneud â ni yn cymryd cyfrifoldeb gyda'n hawdurdodau lleol. Fe gwrddais â'r Cynghorydd Anthony Hunt, sef yr aelod cabinet arweiniol ar gyllid Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Felly, rydym yn gweithio ar sut y gallwn ni gyflwyno hynny, ac rwy'n gwybod, ar draws y Siambr, y bydd pawb yn cefnogi'r llwybr hwnnw. Ond hefyd, mae'n rhaid i chi gydnabod y sgamiau a'r bobl sy'n awgrymu eich bod chi'n gwneud hawliadau.

Hynny yw, rwy'n credu bod problem fwy cymhleth yn ymwneud â Llywodraeth y DU, y bobl hynny nad ydyn nhw'n cael eu taliadau—y taliad o £400. Fel y dywedais i mewn ymateb i Sioned Williams, ysgrifennais mewn gwirionedd at Grant Shapps ynghylch hyn ar 23 Rhagfyr, oherwydd bod gennym ni ddata—gofynnwyd i mi am ddata yn gynharach—nad yw 34 y cant o dalebau wedi eu defnyddio ers i'r cynllun gael ei lansio. Ond byddaf yn mynd ar drywydd hyn o ran sut y gallan nhw gyhoeddi mwy o wybodaeth am gyfraddau defnyddio talebau ac, os oes angen, ymestyn y 90 diwrnod hefyd.

17:10
6. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Amrywiaeth mewn Democratiaeth—Canlyniadau Arolwg

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar amrywiaeth mewn democratiaeth—canlyniadau arolwg. Galwaf ar y Gweinidog, Rebecca Evans.

Diolch. Fel cynrychiolwyr etholedig, rydym ni mewn sefyllfa freintiedig. Mae'r bobl yr ydym ni'n eu gwasanaethu yn ymddiried ynom ni i wneud ein gorau glas drostynt. Ac er fy mod i'n sôn am lywodraeth leol heddiw, mae'r materion yn berthnasol i bob rhan o'n democratiaeth.

Mae'r penderfyniadau y mae ein cynghorwyr yn eu gwneud yn cael effeithiau gwirioneddol ar ein cymunedau ledled Cymru. Mae ein cymunedau'n cynnwys pobl sy'n wahanol—cefndiroedd gwahanol, diwylliannau gwahanol a dyheadau gwahanol. Ac mae gwahanol genedlaethau'n cael eu llunio gan newidiadau yn yr amgylchedd, gan ddatblygiadau technolegol, a gan eu profiadau beunyddiol. A dyna pam mae amrywiaeth mewn democratiaeth mor bwysig. Rhaid i unigolion fod yn hyderus bod y penderfyniadau sy'n cael eu cymryd, a bod yr effaith ar eu bywydau bob dydd a'u dyfodol, yn cael eu llunio drwy ystyried pob barn a safbwynt yn eu cymunedau.

Yn ôl canlyniadau diweddaraf y cyfrifiad, rhwng 2011 a 2021, cynyddodd cyfran y bobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru o 4.4 y cant i 6.3 y cant. Fodd bynnag, dangosodd arolwg ymgeiswyr llywodraeth leol 2017 mai dim ond 1.8 y cant o'r prif gynghorwyr etholedig, a 1.2 y cant o gynghorwyr tref a chymuned etholedig, a oedd yn dod o grŵp ethnig lleiafrifol, a bydd gennyf i ddiddordeb gweld canlyniadau arolwg llywodraeth leol 2022, a fydd ar gael yn fuan.

Rydym ni eisoes wedi cymryd camau i gefnogi amrywiaeth mewn democratiaeth yng Nghymru. Rydym ni wedi gostwng yr oedran ar gyfer pleidleisio yn etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol i 16. Rydym ni wedi cyflwyno mwy o hyblygrwydd i gyfarfodydd y cyngor gael eu cynnal drwy amrywiaeth o wahanol ddulliau, gan gynnwys yn gwbl o bell a hybrid. Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno absenoldeb teuluol i brif gynghorwyr. Ac rydym ni'n cydnabod y costau ychwanegol y gall ymgeiswyr anabl eu talu ac rydym ni wedi treialu mynediad at gronfa swyddfa etholedig, ac mae chwech o'r unigolion sy'n cael eu cefnogi drwy'r gronfa nawr yn gynghorwyr cymuned. Rydym ni wedi cyflwyno trefniadau rhannu swyddi ar gyfer swyddi gweithredol, ac mae gan bedwar cyngor y trefniadau hyn ar waith ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, rydym ni'n credu bod rhagor i'w wneud, a dyna pam yr ydym ni wedi comisiynu nifer o ddarnau ymchwil, gan gynnwys adolygu tystiolaeth o sut mae taliadau cydnabyddiaeth cynghorwyr yng Nghymru yn cymharu â gwledydd eraill; arolwg o agweddau'r cyhoedd; ac arolwg ar-lein o gynghorwyr yng Nghymru. Cafwyd dros 1,600 o ymatebion gan brif gynghorwyr a chynghorwyr tref a chymuned i'r arolwg ar-lein, ac mae cyfoeth o wybodaeth wedi'i chasglu ar bynciau fel dylanwad canfyddedig cynghorwyr, llwyth gwaith, tâl cydnabyddiaeth, ac ymddygiad ac agweddau tuag at gynghorwyr. Cafodd canfyddiadau'r arolwg hwn, a'r darnau eraill o ymchwil eu cyhoeddi'r llynedd. Yn ogystal, cafodd dau weithdy eu cynnal i ymchwilio'n ddyfnach i ganfyddiadau'r ymchwil gyda rhanddeiliaid, ac mae gweithdy ar-lein arall wedi'i drefnu ar gyfer 17 Ionawr.

Rwyf i wedi gwneud trefniadau i swyddogion sy'n gweithio yn y maes polisi hwn fod ar gael i Aelodau'r Senedd mewn sesiwn galw heibio, a bydd Aelodau'n cael gwybod am ddyddiad y sesiwn cyn gynted ag y bydd wedi'i gadarnhau. Bydd hyn yn galluogi Aelodau'r Senedd i drafod yr ymchwil a rhannu unrhyw farn a phrofiadau y maen nhw'n teimlo y bydd yn ddefnyddiol wrth lunio ein dull gweithredu yn y dyfodol.

Un o'r prif faterion sydd wedi deillio o'r gwaith ymchwil yw'r disgwyliad sydd gan y cyhoedd ynglŷn â llwyth gwaith cynghorwyr a pha mor aml y maen nhw ar gael. Mae hyn yn arwain at gwestiynau ynghylch a yw'r disgwyliadau hyn yn deg a sut mae cynghorwyr yn ymateb i hyn. Roedd canlyniadau'r arolwg cyhoeddus yn nodi bod bron i ddwy ran o dair o'r ymatebwyr yn teimlo y dylai cynghorwyr

'fod ar gael i'r gymuned unrhyw bryd'.

O ran cynghorwyr, nododd 63 y cant eu bod ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae hyn yn dangos y lefel uchel o ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus ymhlith ein haelodau etholedig lleol, ond mae hefyd yn codi pryder, gan fod y pwysau amser hyn yn creu anawsterau i lawer o bobl a allai fod ag ymrwymiadau gofalu, teulu, cyflogaeth neu fusnes, ac felly gallai achosi rhwystr posibl rhag cynyddu amrywiaeth.

Gwnaeth yr ymchwil hefyd archwilio'r gefnogaeth bresennol i gynghorwyr a pha gefnogaeth arall a allai fod o gymorth, yn ogystal ag a ddylai hyfforddiant gorfodol craidd fod ar gael i gynghorwyr, a yw'r model taliadau ar gyfer cynghorwyr yn parhau i fod yn ddilys, a sut y gallwn ni fod yn glir ynghylch y rhan y mae cynghorwyr yn ei chwarae yn y gymdeithas. Er nad oedd canlyniad clir ar fater hyfforddiant gorfodol, roedd nifer o gynghorwyr tref a chymuned yn teimlo bod angen mwy o hyfforddiant, yn enwedig ar faterion yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth.

Roedd amrywiaeth eang o safbwyntiau ynghylch y trefniadau taliadau cydnabyddiaeth presennol, y byddwn ni eisiau eu harchwilio'n ehangach. Roedd yn ymddangos bod gan ymatebwyr i arolwg omnibws Cymru ym mis Mawrth 2021 ddealltwriaeth dda o ran cynghorwyr llywodraeth leol yng Nghymru, ac roedden nhw'n cynnig amrywiaeth o safbwyntiau am eu gwaith o ddydd i ddydd. Gan edrych ymlaen, mae gennym ni ymrwymiad rhaglen llywodraethu i ddiwygio etholiadau llywodraeth leol i leihau'r diffyg democrataidd ac ymestyn y gronfa mynediad i swyddi etholedig.

Mae amrywiaeth ein cynrychiolwyr etholedig lleol yn hanfodol i'n hiechyd democrataidd fel cenedl. Mae cefnogi ac annog ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol yn rhan annatod o annog pobl i ymgysylltu â'n democratiaeth ni. Byddwn ni felly'n defnyddio'r dystiolaeth o'r ymchwil hon, a'r gwaith arall yr ydym ni wedi'i gomisiynu o Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, i ddatblygu'r camau nesaf i gyflawni'r ymrwymiadau hyn.

Cyn bo hir, byddaf i'n cyhoeddi'r canlyniadau o arolwg ymgeiswyr mis Mai 2022. Ond, hyd yn oed heb y canlyniadau, rydym ni'n gwybod y bu cynnydd yn nifer y seddi gwag a diymgeisydd yn ein cynghorau tref a chymuned. Roedd ychydig dros 60 y cant o seddi cynghorau tref a chymuned â dim ond un ymgeisydd, ac roedd ychydig dros 20 y cant yn wag. Roedd 29 o gynghorau heb gworwm i ddechrau

Mae dau fater allweddol i ni weithio arnyn nhw. Yn gyntaf, sicrhau bod cymunedau'n teimlo cysylltiad â'u cyngor cymuned ac eisiau ymgysylltu â'u cyngor cymuned. Yn ail, gwneud yn siŵr bod pobl yn teimlo wedi'u hymgysylltu digon i fod eisiau cynnig eu hunain i gael eu hethol i gynghorau cymuned. Er mwyn ymdrin â'r materion hyn, rwy'n sefydlu gweithgor gweinidogol, grŵp gorchwyl a gorffen iechyd democrataidd. Rwy'n awyddus iawn bod hwn yn adolygiad cyflym, pragmatig o'r rhwystrau a'r cyfleoedd a fydd yn cyflwyno ffordd newydd o feddwl ynghylch sut yr ydym yn cynyddu cyfranogiad.

Yn olaf, er bod peth tystiolaeth o'r arolwg cenedlaethol sy'n awgrymu bod mwy o bobl yn teimlo'u bod yn rhan o benderfyniadau lleol ac yn teimlo fod ganddyn nhw berthynas gyda chynghorwyr, mae yna hefyd fwy o negyddiaeth tuag at gynghorwyr. Tynnodd arolwg y cynghorwyr sylw at bryderon penodol am y lefelau cynyddol o bolareiddio yn y ddadl gyhoeddus. Roedd llawer yn teimlo bod yr agwedd negyddol hon wedi dwysáu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi'u hysgogi gan y dadleuon ynghylch Brexit a'i effaith, sut yr ymdrinwyd â COVID-19, a lefelau ymddiriedaeth yn dirywio'n gyffredinol mewn gwleidyddion. Dangosodd canfyddiadau fod tua hanner yr ymatebwyr wedi wynebu neu wedi bod yn dyst i ymddygiad amhriodol gan aelodau'r cyhoedd tuag at gynghorwyr. Yn amlwg, mae hyn yn annerbyniol.

Rwyf i hefyd wedi cael fy siomi fod rhywfaint o'r gamdriniaeth y mae cynghorwyr wedi'i hwynebu wedi dod oddi wrth gynghorwyr eraill. Roedd dau o bob pum ymatebwr wedi bod yn dyst, neu wedi wynebu ymddygiad amhriodol gan gynghorwyr eraill. Mae risg bod camdriniaeth yn cael ei normaleiddio a'i gweld fel rhan o'r swydd, ond yn amlwg, nid ydyw. Rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i sefydlu dim goddefgarwch a nodi camau y gallwn ni eu cymryd i ymdrin â chamdriniaeth ac aflonyddu yn y dyfodol. Rwy'n cefnogi gwaith CLlLC yn y maes hwn, ac yn gofyn i'r Aelodau amlygu camdriniaeth ar bob cyfle.

Diolch i'r Aelodau am eu diddordeb parhaus yn yr agenda hon, ac rwy'n annog cyd-Aelodau i ddod i'r sesiwn galw heibio. Bydd Aelodau'n cael gwybod am y dyddiad cyn gynted ag y bydd yn cael ei gadarnhau.

17:15

Diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw, 'Amrywiaeth mewn Democratiaeth—Canlyniadau Arolwg'. Diolch, Gweinidog, am olwg o flaen llaw ar y datganiad i Aelodau heddiw hefyd. Fel y gwnaethoch chi ei amlinellu yn eich datganiad, Gweinidog, mae'r penderfyniadau y mae cynghorwyr yn eu gwneud yn cael yr effaith wirioneddol honno ar ein cymunedau ledled Cymru gyfan, ac ar yr ochr hon i'r meinciau, yn sicr, rydym ni'n croesawu'r datganiad heddiw, yn croesawu'r gefnogaeth sy'n cael ei rhoi i'n cynghorwyr gwych ac yn cymeradwyo eu hymdrechion i gynrychioli eu cymunedau orau.

Dim ond tri phwynt o'ch datganiad yr hoffwn i eu codi ac ehangu arnyn nhw. Mae'r cyntaf yn ymwneud â hyblygrwydd. Gwnaethoch chi amlinellu'r gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau mwy o hyblygrwydd ar gyfer cyfarfodydd y cyngor, sydd, wrth gwrs, i'w groesawu, i annog y gynrychiolaeth eang honno a gwella hygyrchedd. Fodd bynnag, mae'n hollbwysig nad yw ein cynghorwyr lleol yn colli golwg ar natur cyfarfod wyneb yn wyneb ychwaith. Yn aml, mae rhywfaint o'r gwaith gorau yn cael ei wneud yn bersonol. Yn anffodus, nid yw nifer o gynghorwyr yng Nghymru yn cwrdd mewn modd hyblyg—maen nhw'n mynnu cyfarfod ar-lein yn unig ac mae'n ymddangos eu bod yn manteisio ar y ffordd hon o gyfarfod, sydd, yn fy marn i, yn cyfyngu ar y broses ddemocrataidd. Felly, o ran hyn, byddai diddordeb gennyf i glywed am eich ystyriaeth o ganllawiau wedi'u diwygio ar sut y gellid neu y dylid cynnal cyfarfodydd hybrid mewn cynghorau i sicrhau, ie, yr hyblygrwydd hwnnw, sy'n bwysig iawn ar gyfer amrywiaeth, ond hefyd—ac mae rhai yn gwneud hyn nawr—atal cynghorau rhag golygu trafodion cyfarfodydd, ac i sicrhau bod ymddygiad rhithwir yn cyd-fynd â'r hyn a ddisgwylir wyneb yn wyneb. Dim ond y mis diwethaf y gwnaethom ni weld enghraifft o gynghorydd yn ôl y sôn yn pleidleisio wrth yrru. Rwy'n credu y byddai'r canllawiau hynny'n ddefnyddiol iawn, cyn gynted â phosibl.

O ran gwella democratiaeth ac amrywiaeth mewn democratiaeth, un o'r meysydd mwyaf o gyfle, rwy'n credu, yw gweithio gyda chyflogwyr i alluogi eu staff i gyflawni eu swyddogaeth fel cynghorwyr—yr hyblygrwydd hwnnw i weithwyr sydd â chyflogwyr. Yn ystod fy 14 mlynedd fel cynghorydd, am 10 mlynedd roedd gennyf swydd llawn amser, ond roeddwn i'n lwcus i weithio i gwmni a welodd fanteision fy swyddogaeth fel cynghorydd gan ganiatáu'r hyblygrwydd i mi gyflawni'r ddwy swyddogaeth. Ond, yn anffodus, nid yw llawer o sefydliadau yn deall o hyd y manteision hyn, sy'n ei gwneud hi'n anodd i gynghorwyr a'r rhai sydd eisiau bod yn gynghorwyr gyflawni eu swyddogaeth ynghyd â'u swyddi bob dydd. Felly, dyma gwestiwn, Gweinidog: yn sgil hyn, a fyddwch chi'n gweithio gyda chyflogwyr i'w hannog i ddarparu bod eu staff yn gallu cyflawni swyddogaeth cynghorydd, a fydd, wrth gwrs, yn cynyddu amrywiaeth?

Yr ail bwynt i'w ehangu arno, Gweinidog—mae'n fater yr ydw i wedi ei godi gyda chi nifer o weithiau yn y gorffennol, ac rydych chi'n sicr wedi gwneud sylwadau arno yma heddiw—yw'r ymddygiad drwg a ffiaidd a'r gamdriniaeth y mae llawer o gynghorwyr ac ymgeiswyr yn eu dioddef. Fel y gwnaethoch chi ei nodi, dywedodd 40 y cant o'r ymatebwyr i'r arolwg cyhoeddus hwnnw eu bod naill ai wedi gweld neu wedi wynebu ymddygiad amhriodol cynghorwyr eraill. Ac fel yr ydych chi'n ei amlinellu yn eich datganiad, mae risg bod camdriniaeth yn cael ei normaleiddio ac yn cael ei weld fel rhan o'r swydd, y mae'n rhaid i ni beidio â chaniatáu i hynny ddigwydd gan ei fod yn sicr yn perswadio pobl rhag sefyll mewn etholiadau ac yn sicr yn cael effaith ar amrywiaeth yn ein cynghorau. Felly, y cwestiwn yma, Gweinidog, yw: pa waith arall ydych chi'n credu y mae modd ei wneud i sicrhau ein bod ni'n gweld gostyngiad yn yr ymddygiad ffiaidd hwn?

A'r pwynt olaf i ehangu arno, Gweinidog, o ran y pwynt y gwnaethoch chi ei godi ynghylch lefel yr ymrwymiad y mae llawer o'n cynghorwyr yn ei roi. Oherwydd, fel y dywedoch chi, yn yr arolwg cyhoeddus, nododd 63 y cant o gynghorwyr eu bod ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, sy'n ymrwymiad mawr ac yn adlewyrchu'r gwaith sy'n cael ei wneud gan gynghorwyr, ond efallai y byddwn i'n dadlau ei fod yn ddisgwyliad anodd ei gynnal. Ac mae'r disgwyliad hwn yn ei gwneud hi'n anodd iawn i gynghorwyr a darpar gynghorwyr gydbwyso bywyd teuluol, gyrfa, ac yna hefyd gynrychioli eu cymuned. Byddwn i'n dadlau bod hyn yn gysylltiedig â nifer y seddi sydd yn ddiymgeisydd, oherwydd, i lawer o bobl nid yw'n realiti y gallan nhw ymrwymo iddo. Dyna pam yr ydw i hefyd yn credu ein bod ni'n gweld y ddemograffeg honno lle mae bron i hanner ein cynghorwyr dros 60 oed. Felly, tybed, Gweinidog, yng ngoleuni hyn, er fy mod i'n falch o'r gwaith y mae ein cynghorwyr yn ei wneud, o ran cael y cydbwysedd yn iawn ynghylch yr hyn a ddisgwylir o ran gallu cyrraedd ein swyddogion etholedig, pa waith gellir ei wneud, yn eich tyb chi, i sicrhau bod yr hyn a ddisgwylir gan ein pobl iau sydd eisiau dod yn gynghorwyr neu sydd eisoes yn gynghorwyr yn deg, o ran yr amser a'r egni y mae'n bosibl iddyn nhw eu rhoi i'r swyddogaeth hon? Diolch.

17:20

Rwy'n ddiolchgar iawn i Sam Rowlands am y cwestiynau a'r sylwadau yna. Rwy'n cysylltu fy hun yn llwyr â'i sylwadau agoriadol cychwynnol, a oedd ynghylch cydnabod a chymeradwyo ymdrechion pobl sy'n gwasanaethu bob dydd yn ein cymunedau fel cynghorwyr cymunedol, cynghorwyr tref, ac fel cynghorwyr sir hefyd. Rydym ni'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu holl waith.

Rwy'n credu ein bod ni wedi gwneud cynnydd da o ran hyblygrwydd drwy'r Ddeddf llywodraeth leol ac etholiadau. Gwnaeth hynny ddileu rhai o'r rhwystrau hynny drwy gyflwyno'r gallu i gael y cyfarfodydd hybrid hynny, yr ydym ni'n gwybod eu bod wedi bod yn bwysig iawn i bobl sydd â chyfrifoldebau gofalu, cyfrifoldebau teuluol, ymrwymiadau cyflogaeth sy'n golygu bod yr amseroedd y maen nhw ar gael yn fwy cyfyngedig. Mae perchnogion busnesau bach yn ogystal yn ei weld yn adnodd defnyddiol iawn.

Rwy'n cytuno y dylem ni ddisgwyl yr un ymddygiad gan bobl yn yr amgylchedd rhithwir ag yr ydym ni mewn bywyd go iawn, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth yr ydym ni wedi'i fabwysiadu yma yn y Senedd. Rwy'n credu bod gennym ni fodel da o ran sut yr ydym ni'n ymwneud â phobl a'u trin yn gyfartal, p'un a ydyn nhw yma yn bersonol neu beidio. A dim ond i gydnabod hefyd fod cyfarfodydd ffurfiol gosodedig pwyllgorau, o'r cyngor llawn, cyfarfodydd ein cynghorau tref a chymuned, yn hanfodol bwysig, ond dim ond rhan o'r swydd y mae cynghorwyr yn ei chyflawni ydyn nhw. Rwy'n gwybod bod llawer o gynghorwyr yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod nhw allan yn eu cymunedau—bob dydd, yn aml—yn cysylltu wyneb yn wyneb â phobl. Felly, rwy'n credu bod ffyrdd o gynnal y cyswllt wyneb yn wyneb hwnnw o hyd, hyd yn oed wrth gyfarfod mewn amgylchedd hybrid. Ond os oes mwy o gyngor ac arweiniad y gallwn eu rhoi, yna fe geisiwn ni wneud hynny.

Rwy'n credu bod y pwynt am ymgysylltu â chyflogwyr wedi'i wneud yn dda iawn. Ysgrifennais i at arweinwyr pob un o'n sefydliadau sector cyhoeddus yn weddol ddiweddar, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cynghorwyr a'r rhan y maen nhw'n ei chwarae yn ein cymunedau, a hefyd gofyn iddyn nhw ystyried ffyrdd y gallen nhw gefnogi eu gweithwyr i fod yn gynghorwyr, a nodi'r manteision, o bosibl, i'r sefydliad o gael cynghorwyr yn gweithio yno hefyd. Ond rwy'n credu, mwy na thebyg, fod mwy y gallwn ni ei wneud. Rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd drwy amrywiol fforymau gwahanol gyda Chonsortiwm Manwerthu Cymru, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a'r Ffederasiwn Busnesau Bach, ac rwy'n credu bod cyfleoedd yna i mi gyfleu iddyn nhw bwysigrwydd cefnogi pobl i fod yn gynghorwyr. Felly, yn sicr, fe wnaf i gymryd hyn fel gweithred yn deillio o'n trafodaethau yn y Siambr y prynhawn yma.

Mae'r pwyntiau am gamdriniaeth, rwy'n credu, yn bwysig iawn. Gwnaethom ni ganfod yn yr arolwg cynghorwyr fod hwn yn rhywbeth yr oedd llawer o gynghorwyr yn hynod bryderus yn ei gylch ac wedi ei hwynebu naill ai'n bersonol neu wedi'i gweld yn digwydd, ac roedden nhw'n ategu'r pwyntiau yr ydych chi wedi'u gwneud, mewn gwirionedd, sef bod hyn o bosibl yn rhwystro pobl. Rwy'n credu mai dyna pam y mae'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud drwy ganllawiau'r cynghorydd da mor bwysig, ond wedyn hefyd y gwaith mae CLlLC yn ei arwain hefyd gyda Debate Not Hate. Roedd hynny wir yn ymwneud â cheisio meithrin y math cywir o ddiwylliant ac amgylchedd o fewn lleoliad llywodraeth leol hefyd. Ond rwy'n credu bod y gwaith yr ydym ni wedi'i wneud drwy'r arolwg wedi ein helpu ni i ddeall bwlio'n well, a deall diwylliannau amharchus yn well, felly rwy'n credu y bydd y gwaith y byddwn ni'n parhau i'w wneud gyda CLlLC, ac wrth gwrs gydag Un Llais Cymru, sy'n gwneud gwaith gwych yn y maes hwn, yn gynyddol bwysig yn y dyfodol hefyd.

Mae'r hyn y mae'r cyhoedd yn ei ddisgwyl oddi wrth gynghorwyr yn enfawr—62 y cant o bobl yn credu y bydd eu cynghorwyr ar gael iddyn nhw 24/7 sy'n anhygoel. Mae'r ffaith bod cymaint o gynghorwyr—bron i ddwy ran o dair ohonyn nhw—ar gael 24/7 i'w hetholwyr yn dangos yr ymrwymiad sydd gan bobl i'r swyddogaeth hon, ond hefyd, rwy'n credu ei bod yn rhwystro pobl hefyd, efallai yn ormod o faich i rai cynghorwyr da a allai benderfynu nad yw'n rhywbeth y maen nhw eisiau'i wneud dros y tymor hwy. Felly, rwy'n credu bod llawer i ni ei ystyried yn yr arolwg yn y maes hwnnw hefyd.

Mae'r pwynt cyffredinol ynghylch sicrhau bod gan gynghorwyr y canllawiau cywir, rwy'n credu, yn bwysig. Rydym ni'n ymgynghori ynghylch a ddylai fod hyfforddiant gorfodol i gynghorwyr ai peidio, o ystyried yr hyn y mae cynghorwyr wedi dweud wrthym ni am y ffaith y bydden nhw'n aml, yn enwedig mewn cynghorau tref a chymuned, yn gwerthfawrogi hyfforddiant ac arweiniad, yn enwedig ym meysydd cydraddoldeb. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig. O bosibl, gallem ni gysylltu'r gwahanol bethau hyn o ran helpu pobl i ddeall yr hyn a ddisgwylir oddi wrthyn nhw a'r hyn sy'n rhesymol pan fyddan nhw'n dechrau'r swyddogaethau hyn, ond yna hefyd beth sy'n gyfystyr â diwylliant democrataidd iach o fewn sefydliadau. Felly, rwy'n credu bod yr arolwg wedi ein helpu ni i hogi ein ffordd o feddwl, mewn gwirionedd, am y pethau y mae angen i ni fod yn gweithio arnyn nhw ochr yn ochr, a gyda'n cydweithwyr. 

17:30

Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Dwi'n meddwl mai diolch yw'r hyn sydd angen inni ei wneud ar y cychwyn, sef diolch, wrth gwrs, i'r unigolion hynny sydd wedi rhoi eu hunain ymlaen i fod yn lladmeryddion dros eu cymunedau, er dwi'n siŵr efallai nad ydyn nhw'n teimlo mai dyna yw e yn aml iawn, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni o orfod torri gwasanaethau ac yn y blaen. Yn sicr, does neb yn mynd i mewn i lywodraeth leol er mwyn gwneud hynny. Ond mae yn cyfrannu, wrth gwrs, at y teimlad negyddol, efallai, sydd o gwmpas y rolau yma yn anffodus, a'r modd y mae'r gymuned ehangach—y canfyddiad sydd yna, efallai, o'r hyn y mae rhai o'r cynghorwyr yma'n ei wneud. Ond boed ein bod ni'n cytuno neu beidio â'i gwleidyddiaeth nhw, mae'n rhaid inni gyd gydnabod eu bod nhw wedi bod yn barod i gamu lan ac i gymryd y cyfrifoldeb yna a'u bod nhw'n ei wneud e am y rhesymau gorau, boed ein bod ni'n cytuno, wrth gwrs, fel roeddwn i'n dweud, neu beidio â'r penderfyniadau terfynol.

Ond mae'r disgwyl yma o fod ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, gallwn ni uniaethu â hynny, gallwn, ond rydyn ni'n broffesiynol, rŷn ni'n cael ein talu'n dda i wneud hyn fel swydd llawn amser. Fel rŷch chi'n dweud, mae disgwyl i bobl wneud hyn ar ben ymrwymiadau gwaith, ar ben ymrwymiadau teuluol. Rŷn ni dal â rhai cynghorau sy'n cwrdd yn ystod adegau o'r dydd sydd ddim yn addas i bobl allu cyfrannu fel y buasem ni'n dymuno. Felly, mae yna ffordd bell i fynd; mae yna lawer i fynd i'r afael ag e. Ac mae ystyried y sefyllfa o ran cydnabyddiaeth ariannol, ie, yn rhywbeth sydd angen ei wneud, fel rŷch chi'n dweud yn y datganiad. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn derbyn bydd rhyw £100 neu £200 yn ychwanegol ddim yn datrys y broblem, ac mae hynny'n dod â fi i ganolbwynt fy neges i, mewn gwirionedd. Dwi yn credu bod yn rhaid inni edrych ar faterion tipyn mwy strwythurol o safbwynt llywodraeth leol—cynghorau sir a chynghorau bro a thref—na jest edrych ar ambell i ymyriad i drio gwella'r amrywiaeth a'r gynrychiolaeth sydd gennym ni. 

Mae yna ddiffyg eglurder o ran rôl y cynghorau—cynghorau bro a thref yn enwedig—rŷch chi'n ei ddweud. Yn sicr, mae hwnna'n awgrymu i fi bod y gyfundrefn ddim yn gweithio. Mae methu 'connect-o' gyda'r cyngor bro a thref lleol, mae'r ffaith bod yna gymaint o seddi gwag, gymaint o seddi wedi mynd heb etholiad, mae hwnna'n sgrechian i fi yr angen i fynd i'r afael go iawn â'r haen yna yn enwedig o lywodraeth leol yng Nghymru. Felly, fy nghwestiwn i yw: faint o barodrwydd sydd yna o safbwynt y Llywodraeth i edrych ar ymyriadau mwy strwythurol o safbwynt llywodraeth leol yng Nghymru, yn enwedig efallai y lefel yna o gynghorau bro a thref? Oes angen inni edrych ar rymuso cynghorau bro a thref er mwyn denu mwy o bobl i gyfrannu, i ehangu'r rheini sydd â diddordeb, i rannu'r baich ychydig ar draws y gwahanol haenau o awdurdodau lleol? Nawr, gallaf glywed cynghorau sir efallai'n cwyno am hynny, ond mae angen cael y drafodaeth, dwi'n teimlo, am le mae nifer o'r cyfrifoldebau yma'n eistedd.

Does dim cysondeb ar draws Cymru o ran cynghorau bro a thref. Mae gennym ni 70, 80 o gynghorau bro a thref mewn rhai siroedd, ac wedyn does dim un o gwbl mewn rhai siroedd eraill. Mae rhai ohonyn nhw â precept efallai o £1,000 neu £2,000 y flwyddyn, ac wedyn mae rhywle fel cyngor Barri, dwi'n credu, yn cynrychioli poblogaeth sydd bron mor fawr â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae angen, dwi'n meddwl, o ddifrif ystyried rhyw fath o reset ar yr haen yna. Ac wrth gwrs, fel rhan o'r broses yna wedyn, mi allwn ni fod tipyn mwy rhagweithiol yn cyflwyno ymyriadau bwriadol wedyn. Rydyn ni wedi derbyn yr egwyddor o safbwynt y Senedd a diwygio'r Senedd yn fan hyn—ein bod ni eisiau symud, os gallwn ni, at system etholiadol sydd yn sicrhau cynrychiolaeth fwy hafal o safbwynt dynion a merched. Wel, os ydy'r egwyddor yna'n ddilys ar gyfer y Senedd, onid yw'r un egwyddor yn ddilys ar gyfer llywodraeth leol? Ydy'r Llywodraeth yn barod i ystyried rhyw fath o gamau tebyg i hynny? Mi fuaswn i'n falch i glywed hynny gennych chi.

Rydych chi'n sôn am y grŵp tasg a gorffen ar iechyd democratiaeth, ac wrth gwrs gwnawn ni gefnogi gwaith grŵp felly, ond a allwch chi ehangu ychydig ar remit y grŵp yna? I ba raddau y maen nhw'n mynd i fod yn edrych ar rai o'r cwestiynau ehangach yma? Neu, ydyn nhw jest yn mynd i ffocysu ar greu neu annog un neu ddau o ymyriadau in isolation? A dwi ddim yn teimlo bod hwnna, yn ei hanfod, yn mynd i chwildroi'r sefyllfa efallai yn y modd y buaswn i'n dymuno ei weld. Mae angen, wrth gwrs, herio unrhyw agweddau sy'n normaleiddio bwlio ac aflonyddu cynghorwyr—misogyny, hiliaeth, homoffobia; maen nhw i gyd yn elfennau y mae’n rhaid inni weithredu i gyfyngu arnyn nhw. Mi oedd hi'n hynod o siomedig gweld peth o’r dystiolaeth yn dweud bod rhai pobl yn teimlo ei bod hi'n anodd codi’r materion yma, ei bod hi'n anodd sicrhau eu bod nhw'n cael eu hymchwilio. Mae hynny, i fi, yn canu clychau o safbwynt yr angen i fynd i'r afael â hynny. Ond, mi gefnogwn ni'r Llywodraeth, ond mi fydden ni yn licio gweld ymrwymiad ehangach, mwy strwythurol i fynd i'r afael â rhai o'r problemau yma, yn hytrach, efallai, na jest trio delio gydag un neu ddau o issues ar y tro. Diolch.

17:35

Rwy'n ddiolchgar iawn am y sylwadau yna ac eto yn dechrau gyda'n gwerthfawrogiad o bobl sy'n cyflwyno eu hunain ar gyfer y swyddogaethau hyn, rwy'n credu mai un o'r pethau diddorol o'r arolwg cynghorwyr oedd bod cyfran fawr o'r ymatebwyr hynny wedi dweud eu bod wedi penderfynu cyflwyno eu hunain fel cynghorwyr yn y lle cyntaf i wella eu cymuned a'i gwneud yn lle gwell i fyw. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod yn llwyr mai dyna fan cychwyn pobl, ac wedyn wrth feddwl am y gamdriniaeth yr ydym ni wedi siarad amdani yn y Siambr y mae pobl yn ei dioddef am gyflwyno eu hunain o le mor dda, rwy'n credu bod hynny wir yn peri pryder mawr.

Rheswm arall a nodwyd yn glir yn yr arolwg ynghylch pam yr oedd pobl yn cyflwyno eu hunain oedd er mwyn iddyn nhw allu helpu pobl a rhoi llais i bobl leol, ac eto, rwy'n credu bod y pethau hynny mor gymeradwy. Dywedodd mwyafrif yr ymatebwyr i'r arolwg hefyd—felly dyna 91 y cant—mai swyddogaeth bwysicaf cynghorydd oedd cynrychioli barn ac anghenion trigolion lleol, ac yna, wedyn, cefnogi'r gymuned leol a gweithio gyda thrigolion i ymdrin â materion lleol. Felly, rwy'n credu y gallwn ni fod yn galonogol iawn oherwydd ansawdd a safon y bobl sy'n cyflwyno eu hunain ar gyfer y swyddogaethau hyn.

Un peth a oedd hefyd yn ddiddorol o'r arolwg, rwy'n credu, oedd bod tua hanner, mewn gwirionedd, ar ôl dechrau ar eu gwaith yn teimlo bod ganddyn nhw lai o ddylanwad a chyfle i newid pethau nag oedden nhw wedi dychmygu y byddai ganddyn nhw ar y cychwyn pan ddechreuon nhw eu swyddogaethau, a dim ond tua thraean oedd yn credu bod ganddyn nhw'r lefel o ddylanwad yr oedden nhw'n ei ddisgwyl. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth diddorol i ni fyfyrio arno hefyd.

Mae'n galonogol iawn i mi fod 80 y cant o gynghorwyr yn dweud y bydden nhw'n argymell i eraill hefyd gyflwyno eu hunain fel cynghorwyr. Dim ond 6 y cant ddywedodd na fydden nhw'n ei hargymell fel swyddogaeth, sydd wir yn gadarnhaol yn fy marn i. Ond, roedd y pwyntiau a gafodd eu gwneud am daliadau cydnabyddiaeth yn bwysig iawn. Edrychom ni'n fanwl iawn ar hyn, ac rydym ni'n gwybod, mewn gwirionedd, yn enwedig yn y sector cyngor tref a chymuned, fod yna wir amharodrwydd i hawlio unrhyw faint o'r arian sydd ar gael ac sydd ar gael yn briodol yno i'w hawlio i gefnogi pobl i ymgymryd â'u swyddogaethau. Roedd y mwyafrif o'r prif gynghorwyr yn ymwybodol y gallen nhw hawlio cyflog sylfaenol i gyflawni eu dyletswyddau, ac roedden nhw wedi hawlio eu cyflog yn llawn. Dim ond tua un o bob pump ohonyn nhw ddywedodd eu bod wedi hawlio ad-daliad llawn am gostau teithio a chynhaliaeth. Eto, mae'n bosibl bod pryder ynghylch canfyddiad y cyhoedd pan fyddwch chi'n hawlio costau teithio a chynhaliaeth, ond mae'r rhain yn gostau sydd ar gael i bobl mewn swyddi mewn pob math o feysydd, ond rwy'n credu, unwaith eto, fod cynghorwyr yn teimlo bod disgwyl iddyn nhw gadw at safonau gwahanol ac uwch nag eraill. Felly, eto, mae hynny'n rhywbeth rwy'n credu sydd angen i ni edrych arno o ran sut yr ydym ni'n cefnogi cynghorwyr i hawlio'r hyn mae ganddyn nhw berffaith hawl iddo i'w cefnogi nhw i wneud eu swyddogaethau penodol.

Ar ôl i ni gwblhau'r manylion, rwy'n credu efallai y byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig i roi'r cylch gorchwyl i gyd-Aelodau ynghylch y gwaith yr ydym ni'n ei wneud ar iechyd democrataidd, a hefyd mwy o wybodaeth am aelodaeth y grŵp a fydd yn cefnogi'r gwaith hwnnw, oherwydd rwy'n credu y bydd hynny'n ddefnyddiol iawn i gyd-Aelodau. Ac wedyn, mae'n rhan o ddarn ehangach o waith yr ydym ni'n ei wneud i gefnogi cynghorau tref a chymuned yn arbennig. Rwy'n gwybod bod gan fy ffrind lawer o ddiddordeb yn y maes penodol hwn, ac rwyf i bob amser yn paratoi fy hun ar gyfer y ddiweddaraf pan fyddaf yn dod at gwestiynau'r Gweinidog, rhag ofn y bydd yn ymddangos yr wythnos honno. Ond rwy'n gwybod ein bod ni wedi croesi cleddyfau sawl tro ar hyn, a bydd yn gwybod bod y gwaith yr ydym ni wedi bod yn ei wneud o ran y pecyn cymorth cyllid a llywodraethu ar gyfer cynghorau tref a chymuned wedi bod yn bwysig iawn o ran sicrhau bod gan aelodau'r cyngor hwnnw a'r clerc y mathau o adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i allu arfer eu cyfrifoldebau'n effeithiol. Cafodd hwnnw ei gyd-ddatblygu gydag Un Llais Cymru a hefyd Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol, ac mae ganddo gefnogaeth Archwilio Cymru hefyd. Felly, mae honno wedi bod yn ymyrraeth bwysig a diweddar iawn, yn ogystal â'r gefnogaeth yr ydym ni wedi'i rhoi i glercod ennill cymhwyster tystysgrif gweinyddiaeth cynghorau lleol. Rydym yn darparu'r gost lawn iddyn nhw wneud hynny, ac mae hynny'n bwysig, oherwydd dyna un o'r pethau sydd ei angen arnom ni, i gynghorau tref a chymuned arfer pŵer cyffredinol cymhwysedd, a allai, unwaith eto, fod yn chwyldroadol o ran cefnogi rhai cynghorau tref a chymuned i wir gyflawni i'r eithaf ar gyfer eu cymunedau.

Unwaith eto, rydym ni wedi darparu cefnogaeth ychwanegol ar gyfer hyfforddiant i gynghorwyr yn y sector hwnnw a chefnogaeth nawr gan y prif swyddog digidol, sy'n gweithio gyda chynghorau tref a chymuned i fanteisio i'r eithaf ar eu defnydd o dechnoleg yn y maes hwn hefyd. Felly, mae llawer o waith da iawn yn digwydd ar hyn o bryd yn y sector hwnnw, ond rwy'n cydnabod yn llwyr y pwynt sydd wedi'i wneud i mi nifer o weithiau sef bod y sector hwn mor amrywiol ac mae gennym ni gynghorau tref a chymuned hollol anhygoel sydd wedi ymgysylltu'n llwyr, ond mae yna eraill sydd angen dysgu gan edrych tuag at y rhai sy'n gwneud yn eithriadol o dda.

17:40

Rydym wedi defnyddio ein holl amser sydd wedi'i ddyrannu hyd yma, ond rwy'n bwriadu galw'r pedwar Aelod sy'n dymuno siarad. Felly, byddwch yn gryno, cadwch at eich amser, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn gwneud yn union yr un fath.

Fy nghwestiwn cyntaf, Gweinidog: mae symud at fodel arweinydd a chabinet wedi arwain at wneud penderfyniadau mwy strategol, fodd bynnag, gall hefyd leoli'r penderfyniadau hynny o fewn grŵp llai. Felly, pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r haen uchaf hon o lywodraeth leol a sut gallwn ni sicrhau bod y cabinetau hefyd yn adlewyrchu amrywiaeth cymunedau? Mae fy ail gwestiwn a'r olaf ynghylch pleidleisio yn 16 oed. Rwy'n croesawu eich sylwadau ynglŷn â hynny, ac rwy'n credu ei fod yn gam pwysig iawn, ond rydym ni'n gwybod, er enghraifft, mai ar amcangyfrif, dim ond un o bob pump o bobl ifanc 16 ac 17 oed yng Nghymru sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn etholiadau'r cyngor eleni. Felly, hoffwn i ofyn: pa waith parhaus sy'n digwydd ar draws y Llywodraeth i annog mwy o bobl ifanc 16 ac 17 oed i gofrestru?

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiynau yna. O ran cabinetau, rwy'n credu mai un o'r pethau pwysig iawn y gwnaethom ni ei gyflwyno drwy'r Ddeddf llywodraeth leol ac etholiadau oedd dileu'r rhwystrau rhag trefniadau rhannu swyddi ymhlith swyddogion gweithredol prif gynghorau. Felly, mae hynny wedi galluogi pobl na fyddai fel arall wedi gallu ymgymryd â'r swyddogaethau gweithredol hynny i allu camu i'r adwy a'i wneud ar sail rhannu swyddi; rwy'n credu bod hynny'n gyffrous iawn. Mae pedwar cyngor yn defnyddio hynny ar hyn o bryd, felly rydym ni'n dysgu llawer o'u profiadau nhw a phrofiadau'r cynghorwyr perthnasol er mwyn ein helpu ni i ystyried a oes yna swyddogaethau eraill o fewn llywodraeth leol a allai elwa ar y cyfle i rannu swyddi hefyd, felly rwy'n credu y bydd hynny'n helpu ac y mae'n helpu o ran cynyddu'r amrywiaeth yn y maes hwnnw. A hefyd y gwaith yr ydym ni wedi'i wneud drwy'r Ddeddf eto, sy'n rhoi dyletswydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i hyrwyddo safonau uchel o fewn eu grwpiau. Rwy'n credu bod hynny, unwaith eto, yn arloesedd pwysig yr ydym ni wedi'i gyflawni i geisio sicrhau ein bod ni'n parhau i wella amrywiaeth.

O ran y pleidleisiau ar gyfer 16 oed, rwy'n credu ein bod ni'n siomedig nad oedd y lefelau cyfranogi yn uwch ar y cyfle cyntaf a oedd ar gael iddyn nhw, felly rydym ni'n gwneud gwaith gyda nifer o sefydliadau sy'n ymdrin yn uniongyrchol â phobl ifanc. Bydd llawer ohonom ni wedi bod yn ymwneud â'r prosiect democratiaeth ac wedi treulio amser yn siarad â phobl ifanc am ein swyddogaeth. Felly, mae yna lawer mwy i'w wneud yn y maes hwn, ond rwy'n credu bod gennym ni gynghrair dda o sefydliadau sy'n arbenigwyr ar weithio gyda phobl ifanc sy'n ein helpu ni yn y maes hwnnw.

Roedd 36 y cant o'r cynghorwyr a gafodd eu hethol yn yr etholiadau yn 2022 yn fenywod—cynnydd o 8 y cant ers 2017, ond ymhell o fod ble ddylem ni fod o ran cydraddoldeb, wrth gwrs. Er bod dau gyngor yn gydradd o ran rhywedd, mae'r darlun mewn ardaloedd eraill yn annerbyniol, ble mae cynrychiolaeth menywod mor isel â 18 y cant. Pa gamau penodol, felly, ydy'r Llywodraeth yn eu cymryd i wella cynrychiolaeth menywod mewn llywodraeth leol? Fe sonioch chi yn y cyflwyniad i'ch datganiad fod y materion dan sylw yn berthnasol i bob rhan o'n democratiaeth, nid llywodraeth leol yn unig. Allaf i ofyn, felly, am ddiweddariad ar y gwaith sy'n cael ei wneud gan y Llywodraeth i archwilio dichonoldeb ac opsiynau posib ar gyfer rhannu swydd yn y Senedd fel rhan o'r gwaith ar gyfer Bil diwygio'r Senedd? Diolch.

Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau yna a'r pwynt pwysig am gynrychiolaeth menywod mewn llywodraeth leol. Rydym ni'n bell iawn o'r sefyllfa y dylem ni fod ynddi o ran nifer y menywod sy'n ymgymryd â swyddogaeth cynghorwyr, ond hefyd arweinwyr y cynghorau. Ychydig iawn, iawn o arweinwyr cynghorau benywaidd sydd gennym ni yng Nghymru, ac mae hynny'n rhywbeth y byddem ni eisiau'i weld yn cynyddu yn y dyfodol hefyd. 

Rwy'n credu bod y gwaith sy'n ymwneud â phresenoldeb o bell yn bwysig iawn i gefnogi menywod yn enwedig, sydd fel arfer â'r cyfrifoldebau gofalu a'r cyfrifoldebau teuluol, i allu cymryd rhan mewn cyfarfodydd mewn ffordd sy'n fwy cyfleus iddyn nhw—felly, mae hynny'n bwysig—a hefyd ymdrin â bwlio hefyd. Rydym ni'n gwybod bod menywod yn aml iawn yn y blaen—yn y rheng flaen—o ran dioddef camdriniaeth ar-lein ac yn bersonol ac ati, felly mae angen i ni, yn amlwg, fod yn dyblu ein hymdrechion yn y maes hwnnw hefyd. Rwy'n credu, ar sail wleidyddol bleidiol, fod yna swydd i bob un ohonom ni o ran meithrin talent o fewn ein pleidiau, gan nodi menywod a allai, dim ond gydag ychydig o anogaeth a chefnogaeth, ystyried cyflwyno eu hunain ar gyfer y swyddogaeth hon hefyd. Felly, rwy'n credu, yn unigol, y gallwn ni gyd gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am hynny hefyd. Felly, rwy'n credu bod gwaith da yn digwydd, ond rydym ni wir yn bell o ble fyddem ni'n dymuno bod yn y maes hwn. 

O ran rhannu swyddi yn y Senedd, nid yw hwnnw'n rhywbeth rwy'n ymwneud yn uniongyrchol ag ef. Rwy'n credu y byddai hynny'n gwestiwn o bosibl i'r Llywydd ar y pwynt hwn, neu gydweithwyr sy'n gweithio o fewn Llywodraeth Cymru ar hynny. Nid yw'n rhywbeth yr ydw i'n ymwneud ag e'n bersonol, ond gwnaf i geisio cael ateb ar hynny.

17:45

Diolch, Gweinidog, am yr wybodaeth ddiweddaraf heddiw. Rwyf i eisiau dechrau drwy grybwyll ein cyngor ieuenctid ardderchog ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd hefyd, fel cynghorwyr, yn gwneud llawer iawn o waith yn eu hamser eu hunain. Heddiw fe wnaethon nhw bostio eu cod ymddygiad y maen nhw wedi'i greu, sy'n cynnwys bod yn anfeirniadol, parchu gwerthoedd eraill, yn ogystal â dim iaith liwgar na fepio. Person ifanc gwych arall yr hoffwn i dynnu sylw ato yw Tyler o Gorneli, a gymerodd ran, yn ystod yr etholiadau llywodraeth leol y llynedd, yn y cynllun treialu ynghylch pleidleisio o'i ysgol, Ysgol Gyfun Cynffig, yn y Pîl, fel pleidleisiwr tro cyntaf 16 oed, ac anogodd lawer, llawer mwy o'i gyd-fyfyrwyr i wneud yr un peth.

Roeddwn i eisiau codi un pwynt cyflym. Y llynedd, fe wnes i noddi cynllun mentora arweinyddiaeth Chwarae Teg, pryd daeth llawer o ferched ifanc i gael eu mentora gan lawer ohonom ni yma heddiw. Ac mae un o'r rhai a gafodd ei mentora, sef Seren, sy'n dod o Borthcawl, wedi mynd ymlaen i greu deiseb yn galw am fwy o gynrychiolaeth yma yn y Senedd ac yn ehangach. Fel dywed hi, mae hi eisiau i bobl sy'n gwneud penderfyniadau ar ran pobl Cymru adlewyrchu pobl Cymru, ac rwy'n gofyn i bawb gymryd golwg ar yr hyn y mae hi'n ymgyrchu drosto.

Ac yna, i orffen, roeddwn i eisiau codi rhai pryderon yr wyf i wedi'u cael gan Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru, sydd wedi gwneud gwaith aruthrol ers iddyn nhw gael eu hethol gyntaf ym mis Rhagfyr 2018. Ond rwy'n gwybod, o siarad â rhai ohonyn nhw, y gall fod yn rhwystredig pan fydd argymhellion yn parhau yr un fath oherwydd nad ydyn nhw wedi cael eu gweithredu. Felly, er enghraifft, mae crynodeb yr adroddiad iechyd meddwl 'Meddyliau Iau o Bwys', a gafodd ei gyhoeddi ddiwedd y llynedd, bron yn union yr un fath ag adroddiad 2020. Gall hyn fod yn ddiflas iawn i Aelodau ein Senedd Ieuenctid, sydd, gobeithio, eisiau mynd ymlaen i fod yn eiriolwyr dros eraill, cynghorwyr ac Aelodau'r Senedd yn y dyfodol. Felly, fy nghwestiwn i, mewn gwirionedd, Gweinidog, yw: sut ydym ni'n mynd i sicrhau bod y canlyniadau hyn o'r arolwg hwn a'r gwaith sy'n cael ei wneud wir yn gwneud newid ystyrlon, gweladwy sy'n rhoi sicrwydd i'n pobl ifanc yn enwedig bod Llywodraeth Cymru yn weithredol ac yn gwrando? Mae yna lawer o bobl ifanc sy'n ceisio ymgysylltu â'r systemau hyn a'r strwythurau sydd ar waith, ond mae angen iddyn nhw weld mewn gwirionedd fod pethau'n cael eu gwneud.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y pwyntiau yna. Hoffwn i gydnabod y gwaith anhygoel y mae ein cynghorau ieuenctid yn ei wneud ledled Cymru a myfyrio ar rai trafodaethau y cefais i'n ddiweddar gydag Un Llais Cymru ynglŷn â'r swyddogaeth bosibl i gynghorau tref a chymuned ieuenctid; mae gennym ni rai eisoes yn dechrau ymddangos ar draws Cymru. Yr hyn a ddywedwyd wrthyf yw, yn ogystal ag ymgysylltu â phobl ifanc â'r materion lleol, ei fod wir yn darparu ffrwd o bobl dalentog a brwd, wedi ymgysylltu o fewn y gymuned a fydd yn gynghorwyr tref a chymuned y dyfodol. Felly, rwy'n credu po fwyaf y gallwn ni ei wneud i hyrwyddo a chefnogi'r gwaith hwnnw, gorau oll. Mae'r gwaith yr ydych chi wedi'i wneud gyda Chwarae Teg wedi bod yn bwysig iawn. Rydw i wedi bod yn fentor fy hun yn y gorffennol ac fe ges i lawer o'r profiad hwnnw hefyd, ac rwy'n gobeithio bod y person yr oeddwn i'n ei fentora wedi cael hynny hefyd, ond roeddwn i wir yn ei chael hi'n werthfawr iawn. Rwy'n gwybod ein bod ni i gyd yn awyddus i barhau i gefnogi'r mathau hynny o fentrau.

Ac o ran cwotâu rhywedd—, cafodd hyn ei godi gan Llyr Gruffydd, ac ni wnes i ymateb i hynny ar y pryd—rydym ni'n archwilio sut y gallen nhw gael eu cyflwyno i'r system etholiadol ar gyfer y Senedd, yn amlwg, ac rydym ni'n parhau i weithio gyda'r pleidiau gwleidyddol i annog a chefnogi ymgeiswyr o gefndiroedd mwy amrywiol i sefyll mewn etholiadau Cymreig datganoledig. Ond mae cynghorau tref a chymuned a chynghorau sir yn wahanol, yn yr ystyr eu bod nhw'n cael eu cynnal ar sail y cyntaf i'r felin. Felly, byddai'n ei gwneud hi'n anoddach, rwy'n credu, i ni ddod o hyd i ffordd i gyflwyno'r cwotâu hynny. Yn sicr, mae yna rywbeth y mae angen i ni ei archwilio i'r eithaf, ond rwy'n credu bod hynny wir yn creu'r angen i ni, mewn gwirionedd, fod yn ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud ar sail gwleidyddiaeth plaid hefyd.

Ac rwy'n credu bod y pwynt olaf, mewn gwirionedd, a oedd yn ymwneud â sut yr ydym ni'n ymgysylltu â phobl ifanc—mae angen i ni ei wneud drwy'r flwyddyn yn ein holl swyddogaethau gwahanol. Felly, i mi mae'n bwysig iawn fy mod i'n ymgysylltu â phobl ifanc ac yn clywed eu barn nhw drwy amrywiaeth o fforymau gwahanol pan ydym ni'n gosod cyllideb Llywodraeth Cymru. Yn y gorffennol, rydw i wedi ymgysylltu â myfyrwyr economeg ac wedi cael trafodaethau gyda nhw. Mae fy swyddogion wedi mynd i mewn i ysgolion a siarad am gyllidebau. Rydw i wedi mynd i ysgol hefyd ac wedi siarad â nhw am gyfraddau Cymreig o dreth incwm a phethau felly. Felly mae pethau fel yna, rwy'n credu—yr ymgysylltu gydol y flwyddyn—yn bwysig iawn hefyd.

17:50

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae ein hawdurdodau lleol yn gwneud gwaith rhagorol, ond weithiau maen nhw'n ei wneud gydag un llaw wedi'i chlymu y tu ôl i'w cefnau. Mae'r system gabinet mewn lle, ond mae'n ymddangos mai ychydig iawn o gefnogaeth sydd i Aelodau wneud gwaith craffu. Er mwyn craffu'n dda, maen nhw angen rhywfaint o gefnogaeth gan ymchwilwyr, ac, hyd y gwn i, mae hynny ar goll.

Felly, o ran y bobl hynny sy'n gyfrifol—ac rydyn ni wedi deall yn eithaf da heddiw mai dynion sydd yn y system gabinet yng Nghymru gan fwyaf—mae'n golygu, felly, bod yr ychydig fenywod sy'n cael eu gadael ar ôl yn gorfod gwneud y rhan fwyaf o graffu, gydag, fel rydw i'n ei ddweud, ychydig iawn o gefnogaeth i wneud hynny. Yn sicr, byddwn i'n croesawu rhai cwotâu, fodd bynnag, gallwn ni ei wneud, i gael mwy o fenywod i mewn i lywodraeth leol. Wrth gwrs, o ble rwy'n dod, yr ardal rwy'n ei chynrychioli, Canolbarth a Gorllewin Cymru, ni fydd hynny'n cael ei wneud drwy system y pleidiau oherwydd, yn y mwyafrif o'r awdurdodau lleol hynny, mae'r seddi'n cael eu dal gan annibynwyr—beth bynnag mae hynny'n ei olygu, dydw i'n dal heb ei weithio allan, ond mae'n ffaith, ac mae'n rhywbeth mae angen i ni fynd i'r afael ag ef o ddifrif, yn fy marn i.

Ydy, mae hwnnw'n bwynt pwysig a diddorol iawn, mewn gwirionedd, bod yr annibynwyr yn grŵp mawr iawn, iawn o unigolion o ran llywodraeth leol. Felly, mae'n anoddach i gael y math yna o ddull strategol y byddwn ni, gobeithio, yn ei ddefnyddio o fewn ein pleidiau o ran nodi a meithrin grŵp mwy amrywiol o bobl ar gyfer y dyfodol. Yn sicr, byddaf i'n rhoi rhywfaint mwy o ystyriaeth i'r pwynt hwnnw am gefnogaeth i graffu o ran cael mynediad at gyngor a'r ystod o gefnogaeth y bydd ei angen arnynt—y bydd cynghorwyr ei angen—o ran ymgymryd â chraffu'n effeithiol.

Rydym yn ystyried pa ganllawiau pellach allai fod eu hangen, ond hefyd y pwynt pwysig hwnnw ynglŷn â p'un a ddylai hyfforddiant gorfodol fod ar waith i gynghorwyr hefyd. Rwy'n credu, o bosib, mai un o'r meysydd hyfforddi y dylem ni fod yn ei ystyried fyddai craffu effeithiol hefyd. Oherwydd, pan fydd pobl yn dod yn gynghorydd am y tro cyntaf, mae hyn i gyd yn newydd. Dydych chi ddim yn gwybod pa gwestiynau i'w gofyn, o reidrwydd, a dydych chi ddim yn gwybod beth yw'r llwybrau cywir i'w dilyn i gael yr atebion rydych chi eu hangen.

Felly, rwy'n credu bod angen i ni fod yn ystyried pa gefnogaeth bellach allai fod yn angenrheidiol ar gyfer trefniadau craffu, ac roedd y pwynt wedi'i wneud yn dda iawn mai menywod sy'n aml yn gwneud y gwaith craffu, sy'n bwysig yn fy marn i hefyd, pan fyddwn yn meddwl am fod ag amgylcheddau lle mae pobl yn teimlo'n gyfforddus ac yn gallu ymgymryd â'r rôl. Felly, rwy'n credu bod y sesiwn y prynhawn yma wedi rhoi rhywbeth i mi gnoi cil drosto ar gyfer rhai pethau pellach y gallwn ni fod yn eu gwneud yn y gofod hwn.   

7. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Bioamrywiaeth

Eitem 7 sydd nesaf—datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, bioamrywiaeth. Galwaf ar y Gweinidog, Julie James.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ym mis Rhagfyr, fe es i i Gynhadledd Bioamrywiaeth y Cenhedloedd Unedig, a elwir yn COP15, i ychwanegu llais Cymru i alwadau i gytuno ar fframwaith byd-eang uchelgeisiol i droi'r llanw ar golli bioamrywiaeth cyn ei bod hi'n rhy hwyr. Ar ôl pythefnos o drafodaethau dwys, rwy'n falch o ddweud bod fframwaith bioamrywiaeth Kunming-Montreal wedi'i fabwysiadu'n ffurfiol, gan nodi pedair nod byd-eang, 23 targed a chyllid am yr wyth mlynedd nesaf i roi natur ar lwybr i adferiad. Mae hwn yn gyflawniad sylweddol a gwirioneddol gadarnhaol, gyda chytundeb gan dros 200 o wledydd ar draws y byd.

Roedd mynd i'r seithfed uwchgynhadledd ar gyfer Llywodraethau a dinasoedd is-genedlaethol yn un o'r uchafbwyntiau allweddol i mi yn COP15. Roedd yr uwchgynhadledd wedi ei neilltuo i arddangos gwaith Llywodraethau a dinasoedd is-genedlaethol ar adferiad natur, ac fe wnaeth yr uchelgais a'r egni i hybu camau gweithredu ar lefel leol greu cymaint o argraff arna i. Rydym ni wedi gwneud cysylltiadau gwerthfawr iawn ac rwy'n awyddus iawn i adeiladu ar y rhain ar draws ystod o feysydd gwaith i wir gyflawni ar gyflymder. Fe wnaeth fy nghyfarfodydd dwyochrog gydag ystod o Lywodraethau a rhanbarthau is-genedlaethol, gan gynnwys Quebec, Catalonia a Paraná State ym Mrasil, ddatgelu’r heriau cyffredin rydym ni’n eu hwynebu wrth fynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth, a rhai ffyrdd arloesol iawn y gallwn eu defnyddio i fynd i’r afael â’r rhain.

Fel partner i broses Caeredin a llofnodwr proses Caeredin, rwy'n falch o gadarnhau mabwysiadu cynllun gweithredu ar Lywodraethau is-genedlaethol, dinasoedd ac awdurdodau lleol eraill ar gyfer bioamrywiaeth. Mae'r penderfyniad pwysig hwn yn golygu bod y Cenhedloedd Unedig yn cydnabod yn ffurfiol y rôl hanfodol mae llywodraethau is-genedlaethol a llywodraethau lleol yn ei chwarae wrth hybu a chyflawni camau i sicrhau dyfodol natur-gadarnhaol.

Byddwn ni'n gweithio gyda RegionsWithNature, menter partneriaeth sy'n cefnogi swyddogion rhanbarthol ac is-genedlaethol y Llywodraeth a rhanddeiliaid eraill i wella adfer ecosystemau, cadwraeth bioamrywiaeth ac atebion sy'n seiliedig ar natur yn eu rhanbarthau. Roeddwn i’n falch iawn o gyfrannu astudiaeth achos gychwynnol ar ein rhaglen weithredu mawnogydd cenedlaethol i blatfform RegionsWithNature yn COP15.

Rwy'n falch bod fframwaith bioamrywiaeth byd-eang hanesyddol Kunming-Montreal wedi cytuno ar y targed 30x30 gyda rhai mân welliannau. Roedd y rhain yn cynnwys cryfhau hawliau seiliedig ar leoedd ar gyfer pobl frodorol a chymunedau lleol. Rwy'n croesawu hyn yn fawr, gan i mi glywed o lygad y ffynnon gan ddirprwyaeth Wampis am ganlyniadau negyddol posibl dynodiadau newydd eu tir. Wrth gyflawni'r fframwaith byd-eang cyffredinol mae'n rhaid i ni wir sicrhau bod lleisiau cymunedau lleol yn helpu i lywio a chyfrannu at ein dull o ddod yn gadarnhaol o ran natur.

Tra yn COP15, cymerais ran mewn gweithdy uchelgais uchel, yn canolbwyntio ar weithredu'r targed 30x30, gan rannu'r dull o ymdrin â'n hymchwil manwl a'r argymhellion a fabwysiadwyd. Roedd y gweithdy hefyd yn gyfle amhrisiadwy i ddysgu gan Lywodraethau is-genedlaethol eraill, fel California a São Paulo, am y dulliau maen nhw wedi'u cymryd. Rwy'n falch iawn y bydd y dull cydweithredol hwn yn parhau ar ôl COP wrth greu tasglu 30x30 uchelgais uchel ar gyfer Llywodraethau is-genedlaethol, lle bydd Cymru'n chwarae rhan weithredol iawn.

Bydd datgloi potensial ein tirweddau dynodedig yn allweddol i fod yn natur gadarnhaol yng Nghymru. Er mwyn llywio ein dull o gryfhau diogelu natur o fewn tirweddau dynodedig, cefais gyfarfod gwerthfawr ar y cyd â Parks Canada a Llywodraeth yr Alban. Roedd gen i ddiddordeb arbennig yn y dull a gymerwyd gan Parks Canada i ddeall gwir werth economaidd y gwasanaethau ecosystemau a ddarperir gan y parciau, megis rheoli llifogydd naturiol a gwella ansawdd dŵr. Mae Parks Canada wedi cytuno i rannu'r fethodoleg maen nhw wedi'i datblygu gyda ni fel y gallwn ni ddeall gwir werth ein tirweddau dynodedig ein hunain. Yn yr un modd, mae eu dull 'presgripsiwn ar gyfer parciau' yn cydnabod gwerth economaidd natur i’n hiechyd a'n lles drwy osgoi costau i'n systemau gofal iechyd. Gallwn ddysgu o'r ddau ddull ac edrychaf ymlaen at ddatblygu ein partneriaeth gyda nhw.    

Rhan bwysig arall o COP15 oedd y diwrnod bioamrywiaeth a chyllid. Roedd y sgyrsiau hyn ar lwyfan y byd yn cydnabod yr angen am gyllid ychwanegol i gyflawni’r camau sydd eu hangen. Codais fy mhryderon am wyrddgalchu a'r angen i sicrhau bod unrhyw fuddsoddiad ychwanegol yn foesegol ac o fudd i'n cymunedau lleol. Rhannwyd y farn hon ar draws y Llywodraethau is-genedlaethol, gyda galwad i sicrhau na ddylai cwmnïau sydd wedi dinistrio natur wneud elw o'i hadferiad wedyn.

Mae'r fframwaith bioamrywiaeth fyd-eang newydd yn cydnabod rôl cymdeithas gyfan wrth sicrhau ein bod yn amddiffyn bioamrywiaeth ar gyfer y dyfodol. Wrth siarad yn y gynhadledd ar y prif lwyfan, fe wnes i adlewyrchu ar bwysigrwydd dull Tîm Cymru o hybu gweithredu ar draws y llywodraeth gyfan a'r gymdeithas gyfan. Mae hyn yn golygu bod angen gweithredu gan bawb yn ein cymunedau, ein busnesau ac ar draws y gymdeithas ehangach. Rhaid i Dîm Cymru dynnu ynghyd os ydym ni am sicrhau Cymru gynaliadwy, iach a llawn natur.

Fel rhan o gefnogi dull Tîm Cymru, byddaf yn cyhoeddi'n fuan iawn y cyllid a fydd yn cael ei roi i'r prosiectau canolig llwyddiannus fel rhan o'n rhaglen rhwydweithiau natur. Yn ogystal â gweithredu i wella cyflwr a chadernid ein rhwydwaith safleoedd gwarchodedig, mae'n ofynnol i bob prosiect gefnogi cyfranogiad gweithredol cymunedau lleol drwy hyfforddiant, prentisiaethau, ymgysylltu ag ysgolion neu gryfhau canolfannau gwirfoddoli. Drwy'r rhaglen, ein nod yw creu rhwydweithiau ecolegol cadarn a rhwydweithiau o bobl sy'n ymgysylltu'n weithredol â natur. Bydd cyhoeddiadau pellach am ariannu prosiectau llwyddiannus ar raddfa fawr yn cael eu gwneud ym mis Mawrth.

Rwy'n cydnabod yn llwyr fod angen i ni gymryd camau uchelgeisiol ac integredig i gyflawni'r targedau hyn a rhoi natur ar y llwybr at adferiad. Byddwn ni'n gweithredu'r cytundeb byd-eang hwn drwy ddatblygu ein targedau natur sy'n gyfreithiol rwymol ein hunain, wedi’i ategu gan y cynllun gweithredu bioamrywiaeth strategol newydd. Mae wir yn amser i Dîm Cymru hawlio’r sylw a dangos yr hyn rydyn ni'n gallu ei wneud—rydyn ni'n gryfach gyda'n gilydd ac rydyn ni'n unedig yn ein huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol. Diolch.

17:55

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

18:00

Diolch, Llywydd, ac rwy'n dymuno blwyddyn newydd dda i chi a'r Gweinidog. Felly, diolch, Gweinidog. Mae'n swnio fel petaech chi wedi cael amser gwych a gwerth chweil ym Montreal, ac rwy'n siŵr, fel Aelodau eraill y Senedd, y byddwn i’n falch o glywed mwy am fethodoleg Parks Canada maes o law. Nawr, fel y gwyddoch chi, gwelodd COP15 fabwysiadu'r fframwaith bioamrywiaeth byd-eang ar ddiwrnod olaf y trafodaethau, a'r nodau mewn gwirionedd oedd mynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth, adfer ecosystemau a diogelu hawliau brodorol. Mae'r cynllun yn cynnwys mesurau pendant i atal a gwrthdroi colli natur, gan gynnwys rhoi 30 y cant o'r blaned a 30 y cant o ecosystemau diraddiedig dan warchodaeth erbyn 2030. Felly, rydym ni yn gwybod, Gweinidog, eich bod chi wedi ymrwymo i'r targed 30x30, ac eich bod chi heddiw wedi nodi y byddwch chi’n datblygu targedau natur sy'n gyfreithiol rwymol wedi’u hategu gan gynllun gweithredu bioamrywiaeth strategol newydd. Felly, a fydd y targedau sy'n gyfreithiol rwymol yn cynnwys y 30x30, a phryd fydd y rheoliadau'n cael eu cyflwyno i ni eu hystyried?

Targed 7 y cytunwyd arni yn COP15 yw lleihau'r risgiau o lygredd ac effaith negyddol llygredd o bob ffynhonnell erbyn 2030. Nawr, fis Mawrth diwethaf, cyhoeddodd ein Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith adroddiad ar orlifoedd storm yng Nghymru. Tynnodd sylw at ffeithiau mor erchyll ag y byddai, erbyn 2020, dros 105,000 o achosion o garthion heb eu trin yn cael eu gollwng i gyrsiau dŵr yng Nghymru, i fyny o 14,485 o achosion yn 2016. Yn eich ymateb i'n hadroddiad, fe wnaethoch chi gytuno bod lleihau effeithiau gorlifoedd storm yn bwysig iawn a chynghori bod Llywodraeth Cymru'n canolbwyntio ar atebion cynaliadwy ar sail natur er mwyn dargyfeirio a chael gwared â chymaint o ddŵr wyneb â phosibl o’r systemau carthffosiaeth i gynyddu capasiti'r rhwydwaith. Felly, faint o gynnydd sy'n cael ei wneud, Gweinidog, ar weithredu'r atebion hyn sy'n seiliedig ar natur er mwyn dargyfeirio a thynnu dŵr wyneb o systemau carthffosiaeth?

Mae targed 16 yn galw arnom ni i sicrhau bod pobl yn cael eu hannog a'u galluogi i wneud dewisiadau defnydd cynaliadwy ac, erbyn 2030, lleihau ôl troed byd-eang y defnydd mewn modd teg, gan haneru gwastraff bwyd byd-eang, lleihau gorddefnydd yn sylweddol, a lleihau cynhyrchu gwastraff yn sylweddol er mwyn i bawb fyw'n dda mewn harmoni â‘r Ddaear. Nawr, yn amlwg, drwy gefnogi fy nghydweithiwr Peter Fox a'i Fil Bwyd (Cymru), gallem ni helpu i gyrraedd y targed hwnnw. A siomedig yn ddiweddar oedd gweld yn gyntaf sut na chafodd hwn, er gwaethaf yr holl waith caled gan swyddogion o fewn y Comisiwn ac, yn wir, Peter Fox ei hun, ei gefnogi ar unrhyw ffurf. Felly, mae'n rhaid i ni weld gweithredu gennych chi, yn dilyn cefnogaeth unfrydol i'r cynnig ym mis Tachwedd, lle gwelwyd Senedd Cymru yn pleidleisio i weld Llywodraeth Cymru'n cymryd sawl cam, gan gynnwys datblygu system fwyd fwy hunangynhaliol i Gymru drwy greu map ffordd tuag at system fwyd sy'n addas ar gyfer y dyfodol ac sy'n rhoi ffynhonnell gynaliadwy o fwyd i gymunedau, ond hefyd defnyddio ysgogiadau caffael i greu gofyniad i gadwyni cyflenwi fod yn rhydd o ddatgoedwigo, trosi ac ecsbloetio cymdeithasol fel rhan o'r newid i ddefnyddio nwyddau sydd wedi'u cynhyrchu'n lleol ac sy'n gynaliadwy. Nawr, y cwestiwn sydd gen i i chi, Gweinidog, yw: pa gynnydd rydych chi wedi'i wneud ar symud ymlaen gyda chamau i fynd i'r afael ag effeithiau defnydd domestig Cymru ei hun ar y byd?

Yn olaf, mae’n deg cydnabod eich bod chi’n ceisio bod ar flaen y gad, trwy gyhoeddi'r ymchwil manwl i fioamrywiaeth ym mis Hydref. Mae gen i ddiddordeb arbennig yn eich cynlluniau ar gyfer yr amgylchedd morol, ac rwy’n eu cefnogi, gan gynnwys sefydlu cynllun wedi'i dargedu i gefnogi adfer cynefinoedd morwellt a morfeydd heli ar hyd ein harfordir, a hefyd gweithredu dull gofodol o gynllunio morol. Felly, er y byddwn i’n gwerthfawrogi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith i ddiogelu 30 y cant o'n moroedd, byddai gen i ddiddordeb dysgu p’un a wnaethoch chi glywed am unrhyw fentrau morol eraill tra roeddech chi’n bresennol yn COP15 y gallwn ni eu rhoi ar waith yma ac elwa ohonynt. Diolch.

18:05

Diolch yn fawr, Janet. Roedd yn anhygoel bod yn COP15, mae'n rhaid i mi ddweud. Rydych chi wir yn dod nôl yn teimlo'n efengylaidd am yr angen i symud ar y pethau yma. Un o'r pethau rwy'n dymuno'n fawr i gael ei rannu gyda'r holl Aelodau yma yn y Senedd yw, wrth fynedfa COP15, roedd yr hyn a alwyd yn 'ystafell ymgolli llwyr', lle roeddech chi’n mynd i mewn ac yn gwylio’r ffilm fwyaf anhygoel gan National Geographic ac amryw o wneuthurwyr ffilmiau natur eraill o bob cwr o'r byd. Roedd yn anhygoel achos roeddech chi'n teimlo fel eich bod chi yn y môr neu yn y glaswelltiroedd, y ffordd roedd wedi'i wneud. Ac yna, yn arswydus, dechreuodd ddweud wrthych chi'r holl bethau oedd wedi diflannu o'r ffilmiau yr oeddech chi'n edrych arnyn nhw. Roedd yn ddychrynllyd. Ac yna dechreuodd roi'r niferoedd o rywogaethau oedd wedi diflannu fesul blwyddyn o amgylch y wal. Rwy'n mynd yn oer hyd yn oed yn meddwl am y peth nawr. Felly, roeddech chi’n dechrau gyda'r blaned wych hon yr ydym ni’n byw arni ac yna'r dinistr a ddilynodd. Ac yna, yn olaf, daeth i ben gyda sbotolau yn dod i lawr o nenfwd pob gwlad ac yna llinell amser o'r golled bioamrywiaeth i bob gwlad. Roedd yn erchyll, ac fe allech chi weld pobl yn cael eu heffeithio yn amlwg ganddo. Rwy'n dymuno'n fawr y gallem ni gael hwnnw allan i gymaint o bobl â phosib. Fe wnaeth i mi sylweddoli y difrod rydyn ni eisoes wedi'i wneud a'r angen brys i wneud rhywbeth yn ei gylch. Felly, yr ateb byr yw, 'Byddwn, byddwn ni'n rheoleiddio'. Byddwn ni'n gwneud yn siŵr bod y nodau 30x30 mewn cyfraith yng Nghymru a'u bod yn dal ein traed at y tân. Ac nid yw'n ddigon i ni ddweud y byddwn ni’n sicrhau bod 30 y cant o'r tir, yr afonydd a'r moroedd wedi'u gwarchod, oherwydd rydym ni eisoes wedi gwneud hynny; mae gennym ni'r parciau cenedlaethol ac yn y blaen. Mae'n llawer pwysicach dweud beth yn union y byddwn ni’n ei wneud y tu mewn i'r ardaloedd gwarchodedig hynny, yr hyn y byddwn ni’n ei wneud ar ffiniau'r ardaloedd gwarchodedig, a'r hyn y byddwn ni’n ei wneud yn dilyn yr adolygiad bioamrywiaeth yr ydym ni eisoes wedi'i gael, i wneud yn siŵr y gall natur, o leiaf, roi'r gorau i waethygu, ond mewn gwirionedd ein huchelgais wrth gwrs yw ei wyrdroi a dechrau gwella.

Felly, Janet, byddwn ni'n gweithio'n agos iawn gyda chi ac eraill ar draws y Senedd i sicrhau bod y targedau uchelgeisiol rydym ni’n eu gosod yn fanwl. Rwy'n gwybod eich bod chi eisiau'r 30x30 wedi’i warchod, ond rwy'n gwybod nad ydych chi'n gwybod mwy na mi o ran beth yn union mae hynny'n ei olygu ym mhob rhan ohono. Felly, byddwn yn gweithio i sicrhau, ym mhob rhan o'n tirweddau dynodedig, ein bod ni wedi gwneud adolygiad o hynny erbyn 2030, ac yna ein bod ni wedi deall, o'r adolygiad hwnnw, beth sydd angen ei wneud yn yr ardal honno er mwyn mynd ymlaen. Mae'n uchelgeisiol gwneud adolygiad o bob ardal erbyn 2030, ond dyna un o'r targedau rwy'n benderfynol o'u gweld, fel bod yr adolygiad hwnnw'n ystyrlon ac mae'n dal ein traed i'r tân—pob un ohonom, nid y Llywodraeth yn unig—i wneud hyn. Felly, rwy'n benderfynol o wneud hynny. Rydyn ni'n gweithio gyda llywodraethau ledled y byd—mae llawer i'w rannu. Bydd yn rhaid i ni gael mwy o sesiynau na'r un sesiwn hon yn unig i ddweud wrthych chi am yr hyn rydyn ni'n gallu ei rannu. Mae llawer o ddysgu o gwmpas y byd, ond rwyf hefyd yn falch iawn o ddweud bod llawer o ddysgu gennym ni. Rydyn ni'n eithaf blaengar yn rhai o'r pethau rydyn ni'n eu gwneud. Roeddwn i’n fodlon iawn ac yn falch o gyflwyno'r rhaglen adfer mawnogydd, a oedd yn uchel ei pharch ledled y byd. Ond yn fwy na hynny—gallen ni wneud mwy gyda'n mawndiroedd ein hunain; gallem ni ledaenu hynny’n fwy.

Dydw i ddim yn mynd i fynd i'r afael â'r materion bwyd oherwydd maen nhw ym mhortffolio Lesley, ond fe glywson ni i gyd beth ddywedoch chi, Janet. Mae angen i chi eu codi nhw, a does gen i ddim amser beth bynnag. Ond o ran y ddau beth arall y gwnaethoch chi eu codi, ar yr amgylchedd morol, yn sicr byddwn ni’n gwarchod hwnnw, yn sicr byddwn ni’n adnewyddu ein hagwedd at yr amddiffyniad gofodol. Ond, eto fyth, rydyn ni eisiau gwybod beth mae hynny'n ei olygu. Beth yw parth cadwraeth forol? Beth yn union sy'n cael ei warchod ynddo? Beth allwch chi ac na allwch ei wneud ynddo? Wyddoch chi, a yw'n golygu wedi'i warchod yn llwyr, a yw'n golygu ei fod wedi'i warchod yn rhannol—beth mae'n ei olygu? Ac rwyf eisiau cyrraedd y pwynt lle, pe bawn i'n dweud wrthoch chi 'parth cadwraeth morol' neu 'dirwedd ddynodedig', ac mai chi oedd Mr a Mrs Jones o Preseli, y byddech chi'n gallu dweud wrthyf fi beth yn y byd yr oedd yn ei olygu. Oherwydd, ar hyn o bryd, allwn ni ddim o gwbl. Felly, fe wnawn ni gyrraedd y fan honno. Byddwn ni’n cyrraedd y pwynt lle rydyn ni'n gwybod beth mae pob un o'r rheiny'n ei olygu. Byddwn ni wedi gwneud hynny ochr yn ochr â'n cymunedau ein hunain, fel bod ein pysgotwyr gwerin a'n ffermwyr a phawb arall yn deall beth rydyn ni'n ei wneud a pham, a pham mae'n bwysig iddyn nhw i’r un graddau ag y mae i unrhyw un o'r gweddill ohonom. A byddwn ni'n gwneud hynny'n gyflym, fel ein bod ni, pan fyddwn ni’n cyflwyno’r Bil i’r Senedd hon, â'r targedau yn eu lle a’r corff llywodraethu amgylcheddol hwnnw, gyda grym, i ddal ein traed at y tân. Ac rwy'n benderfynol o'i wneud. Byddwn ni'n dysgu o'r hyn sydd wedi'i wneud yn barod, ac, fe ddyweda i wrthych chi, roedd hi mor dda mynd yno, oherwydd fe wnaeth i mi fod hyd yn oed yn fwy penderfynol o'i wneud.

18:10

Diolch, Gweinidog. Ro'n i'n mynd i ddweud bod e'n hyfryd eich clywed chi'n swnio mor evangelical am hyn, ond nid jest 'hyfryd', mae e'n rili pwerus, dwi'n meddwl. Blwyddyn newydd, gobaith newydd, dwi'n gobeithio. Dwi wir yn golygu hynny. Dwi'n meddwl bod lot o bethau rili i'w croesawu fan hyn. Yn sicr, mae hynny mewn cyferbyniad eithaf stark gyda pha mor argyfyngus ydy'r sefyllfa. Nawr, dŷn ni angen gobaith—wrth gwrs dŷn ni angen gobaith—ac mae hynny'n arbennig o wir oherwydd pa mor eithriadol o wael ydy'r sefyllfa, fel dŷch chi wedi bod yn gosod mas yn barod. Mae bioamrywiaeth yn dirywio'n gyflymach nawr nag ar unrhyw adeg yn hanes dynol. Dŷn ni'n sôn am yr ystadegau gwahanol yma yn aml, ond dwi'n meddwl bod hynny'n rhywbeth mor—. Mae e'n codi ofn mewn cymaint o ffyrdd. Mae'r niferoedd cyfartalog o rywogaethau brodorol yn y rhan fwyaf o gynefinoedd mawr ar y tir wedi gostwng o leiaf 20 y cant ers dechrau’r ugeinfed ganrif; mae 41,000 o anifeiliaid, yn fyd-eang, dan fygythiad o ddiflannu; mae un o bob chwe rhywogaeth yn wynebu peidio bodoli yng Nghymru; dŷn ni'n clywed yn aml yn y Siambr hefyd fod ecosystemau naturiol wedi gostwng 47 y cant ar gyfartaledd, o'i gymharu gydag amcangyfrifon cynt; a dŷn ni hefyd wedi clywed bod tua 75 y cant o wyneb y tir wedi newid yn sylweddol—mae dros 85 y cant o wlyptiroedd wedi eu colli hyd yn hyn.

Mae nifer o'r pethau roeddwn i eisiau eu codi yn benodol wedi cael eu codi'n barod gan Janet. Dwi ddim eisiau ailadrodd pwyntiau, ond dwi wedi cymryd i mewn, yn sicr, y pethau mae'r ddwy ohonoch chi wedi bod yn eu dweud. Dwi wir yn croesawu'r ffaith eich bod chi wedi mynd i COP15 a dwi'n croesawu’r ffaith, gyda hyn, gyda'r deep-dive ar fioamrywiaeth sy'n cael ei gynnal—. Mae hi'n braf gweld bod Llywodraeth Cymru, o'r diwedd efallai—. Dwi'n meddwl ein bod ni ar yr un dudalen. Yn sicr, mae eich brwdfrydedd ar hyn yn rhywbeth sydd mor dda i'w glywed eto.

Dŷch chi eich hunan wedi dweud taw gweithredu ydy'r peth allweddol yn hyn i gyd. Allwch chi ddweud mwy, er mwyn cael y maen i'r wal, dros gynnwys y ddeddfwriaeth—dŷch chi wedi addo am dargedau natur, am lywodraethu—o ran unrhyw amserlen? Oes yna unrhyw beth penodol y byddech chi’n gallu ei ddweud wrthym ni ar hyn o bryd?

Roedd beth roeddech chi'n dweud am Québec, am y sub-national government, y gwaith hynny, yn rhywbeth rili cyffrous, dwi'n meddwl. Pa bartneriaid ydych chi'n meddwl fydd fwyaf pwysig i ni yn y lle cyntaf ac wrth i'r gwaith yma fynd yn ei flaen? Mae hynny'n rhywbeth, dwi'n meddwl—. Byddai hynny'n gallu bod yn drawsnewidiol mewn cymaint o ffyrdd.

Dwi'n cytuno gyda beth oeddech chi'n dweud, yn sicr, am ba mor bwysig ydy gwarantu cynefinoedd cymunedau fel y Wampis. Mae hynny'n rhywbeth, yn sicr, y buaswn i yn cytuno gydag e.

Ac yn olaf—dwi ddim yn siŵr beth ydy 'immersive' yn Gymraeg—o ran y ffilm immersive roeddech chi’n ei thrafod a pha mor syfrdanol oedd gweld a phrofi o'ch cwmpas chi ba mor ffantastig o beth ydy'r byd sydd o'n cwmpas a'r blaned ac wedyn gweld y dirywiad a gweld cymaint y mae hynny o dan fygythiad, oes yna unrhyw ffordd y bydden ni'n gallu ceisio gweld os oes yna ffordd o gael profiad immersive fel yna, yn enwedig ar gyfer plant mewn ysgolion yng Nghymru—rhywbeth tebyg? Dwi'n dweud 'plant', ond dwi'n gwybod bod yn rhaid i ni fod yn gweithredu cyn bod y plant yn tyfu yn fwy. Oes yna ryw ffyrdd, ydyn ni'n gwybod, neu oes yna unrhyw lywodraethau eraill yn y byd yn ceisio efelychu'r profiad yna mewn unrhyw ffordd ar gyfer pobl yn y gymuned hefyd rywffordd?

Diolch, Delyth. [Anghlywadwy.]—y ffilm, er mor ddychrynllyd oedd hi. Mewn gwirionedd, rwyf wir eisiau gweld a allwn ni ei chael, neu fersiwn ohoni, yma. Bydd problemau yn ymwneud â hawlfraint ac yn y blaen. National Geographic oedd e, felly rwyf eisiau cydnabod hynny. Mae hwnnw, yn amlwg, yn gwmni sy'n gwneud elw. Ond gallwn ni gael golwg i weld a allwn ni ei wneud yma. Ac os na allwn ni, yna rwy'n siŵr y gallwn ni wneud rhywbeth gyda bioamrywiaeth Cymru. Ond rwy'n credu bod realiti plaen y rhifau, wedi edrych ar y blaned brydferth hon sydd gennym ni, y rhifau yn tician i fyny o'r difodiant ar draws y byd, ac yna, roedd ei wylio yn eich gwlad eich hun a gweld y gymhariaeth yn ddychrynllyd. Felly, mae'n fwy na dim ond natur arswydus yr hyn sy'n digwydd yma yng Nghymru; roedd yn ymwneud â maint byd-eang y peth. Fe wnaeth i mi wir sylweddoli, ac roedd yn ffordd glyfar iawn o gael cynrychiolwyr i fynd mewn a chanolbwyntio'n wirioneddol arno hefyd. Felly, roedd yn rhywbeth arbennig. 

Mae sawl peth yn yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud yn y fan yna y gallaf i ychwanegu atynt. Felly, yn gyntaf oll, bydd yn rhaid i ni weithio gyda grŵp o arbenigwyr ar greu adolygiad o dirluniau dynodedig, a thirweddau morol ac afonol hefyd, fel bod gennym ni adolygiad sy'n edrych yn iawn ar yr hyn maen nhw’n ceisio ei warchod; ydy hi'n dal yn werth ei warchod; ydi e'n gweithio; a beth fyddai angen digwydd yn y dirwedd ddynodedig arbennig hon. Ac os ydych chi'n meddwl am hynny—mae'n swnio'n hawdd i'w ddweud—ond os ydych chi'n meddwl am raddfa hynny, mae gennym ni barc cenedlaethol, sy'n ardal enfawr, neu mae gennym ni safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, sydd weithiau'n fach iawn. Ydyn nhw hyd yn oed yn gwarchod y pethau cywir bellach? Cafodd rhai o'r SoDdGA eu rhoi ar waith amser maith yn ôl ac maen nhw bellach, a dweud y gwir, yn feysydd parcio. Beth ydym ni'n ei wneud? Felly, adolygiad o'r holl beth, rwy'n credu.

Hefyd, SoDdGA, beth yw hynny i Mr a Mrs Jones ym Mhreseli? Efallai na ddylwn i barhau i ddefnyddio'r rheiny; fe wnaf i ddod o hyd i bobl eraill i'w defnyddio, ond rydych chi'n gwybod beth rwy'n ei olygu. Beth mae hynny'n ei olygu? Yr hyn rydyn ni'n ei olygu yw: dyma dirwedd lle mae rhywbeth gwerth ei warchod, ac rydym ni’n ei warchod trwy wneud hyn. Rwy’n meddwl gwell iaith, gwell disgrifiadau, gwell dealltwriaeth ohoni, ac mae hefyd yn annog pobl eraill i ddod i mewn—gwirfoddolwyr, a gall pobl sy'n byw o gwmpas gael gwell dealltwriaeth o beth yw'r dirwedd hon mewn gwirionedd a beth mae'n ei warchod.

Hefyd, beth rydyn ni'n ei olygu gyda gwarchod? Mae'r rhan fwyaf o'n tir yn cael ei ffermio. Dydyn ni ddim eisiau iddo beidio â chael ei ffermio. Rydyn ni am i'r ffermwyr warchod y ffordd o fyw sydd ganddyn nhw a'r bioamrywiaeth sydd yno. Ond, efallai, mewn rhai mannau yng Nghymru fod angen i ni fod â thir nad yw'n cael ei ffermio, mewn gwirionedd i fod â dim ond natur arno. Efallai—dydw i ddim yn gwybod. Dyna'r math o beth fydd rhaid i ni ei ystyried. Yr un peth i'r moroedd. Nid yw parth gwarchod morol yn atal y rhan fwyaf o bysgota. Beth mae'n ei atal ar hyn o bryd? Bydd yn rhaid i ni gael sgwrs iawn am beth rydyn ni'n ei olygu mewn gwirionedd gyda hyn. Beth sy'n cael ei warchod? Oes yna lefydd yn y môr lle, mewn gwirionedd, na ddylai unrhyw beth ddigwydd, neu, beth rydyn ni'n ei olygu? A'r gwir yw, dydyn ni ddim yn gwybod. Dylen ni wybod. Roedd y diffiniadau oedd yn bodoli yn y lle cyntaf yn golygu rhywbeth, ond, dros amser, maen nhw wedi diraddio. Ac mae hynny’n digwydd. Felly, mae nawr yn amser gwych i adolygu hynny i gyd a rhoi dealltwriaeth newydd o'r unfed ganrif ar hugain o'r hyn mae'r warchodaeth yma’n ei olygu.

Felly, rydym am weithio gyda chi yn y dyfodol agos i ddeall sut y gallai'r adolygiad edrych, sut y gallem ei gynnal, a beth rydym yn credu y bydd y canlyniadau. Ac, wrth i ni fynd trwy'r adolygiad, i ddechrau rhoi'r amddiffyniadau yn eu lle. Nid yw'n ddigon i mi ddweud mewn wyth mlynedd, ‘Waw, edrychwch, rwy'n gwybod pa mor ofnadwy yw'r cyfan.' Nid dyna yr ydw i ei eisiau o gwbl. Felly, wrth i ni ei wneud, a dewis beth sy'n mynd gyntaf, mae angen i ni ddechrau cynlluniau gweithredu sy'n dod yn ei sgil. Weithiau, dad-ddynodi'r dirwedd hon fydd hynny. Weithiau, 'Mewn gwirionedd, mae'r SoDdGA yma, ond dylai fod yn y fan honno, oherwydd mae'r rhywogaeth honno wedi dod draw yma nawr neu beth bynnag.' Mae gennym ni i gyd enghreifftiau o hynny. Felly, mae angen i ni gael golwg dda, eang, heb fod ofn cael golwg go iawn ar yr hyn sydd angen i ni ei adolygu, ac mae angen i ni gael hynny yng nghwmni cynllun gweithredu sy'n dod ar ei ôl, lle rydym ni’n cael ymgynghoriad da ledled Cymru am yr hyn rydyn ni ei eisiau, beth fydd pobl yn ei oddef, beth fyddan nhw'n byw gydag ef, beth fyddan nhw'n ei gefnogi, beth fyddan nhw eisiau ei wneud. Does dim pwynt i mi ddweud hyn i gyd os yw 50 y cant o Gymru i gyd yn mynd, 'O, dydw i ddim yn mynd i wneud hynny.' Felly, mae'n rhaid i ni wneud y ddau gyda'n gilydd.

Beth ddaeth o COP15 i fi oedd pa mor bwysig yw dod â'r bobl efo chi. Allwch chi ddim dweud, 'O, does dim ots am y bobl, gadewch i ni wneud hyn.' Mae'n rhaid i chi ddod â'r bobl gyda chi yn llwyr. Ac mae parciau cenedlaethol Canada yn ddiddorol iawn. Nhw sy'n berchen ar y tir i gyd yn y parc cenedlaethol. Yn amlwg, dydyn ni ddim yn y sefyllfa honno, ond yn y gorffennol—nid bellach—yn y gorffennol, fe wnaethon nhw glirio pobl oddi arno, gan gynnwys y bobl frodorol oedd yn ddig iawn, ac nid yw hynny'n syndod. Felly, roedd y genedl Cree yno mewn niferoedd yn y gynhadledd, ac yn cael eu trin yn hollol wahanol nawr gan Ganada wrth gwrs, fel cenedl annibynnol, yn sôn am eu ffordd o ddiogelu eu tiroedd a'r hyn maen nhw'n gwybod nad ydyn ni'n ei wybod. A dyna'r darn arall, onid e? Gallem ni ddweud hynny ledled Cymru. Mae'n debyg bod y bobl sy'n byw yno nawr, mae'n debyg eu bod nhw'n gwybod llawer mwy amdano nag y mae rhai ohonon ni'n ei wneud. Felly, mae'n ymwneud â harneisio grym y bobl frodorol, boed y bobl hynny mewn cenedl ddatblygedig neu ddim mewn cenedl ddatblygedig, am yr hyn maen nhw'n ei wybod am y tir a'r hyn sydd angen i ni ei wneud. Ac, mewn gwirionedd, mae hynny'n wers go iawn, oherwydd mae’r parciau gymaint gwell yng Nghanada nawr eu bod nhw wedi gwneud hynny nag yr oedden nhw o'r blaen, ac mae ganddyn nhw lwyth o ystadegau i'w dangos. Ac rwy'n siŵr bod gennym ni bethau tebyg i'w gwneud yma.

18:20

Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi derbyn y datganiad hwn heddiw. Mae'r argyfwng bioamrywiaeth o'r diwedd yn cael yr un sylw â newid amgylcheddol a chynhesu byd-eang, ac mae'r ddau ohonyn nhw yn amlwg yn effeithio ar fioamrywiaeth. Ynghyd â'r Gweinidog, rwy'n falch iawn bod fframwaith bioamrywiaeth Kunming-Montreal wedi'i fabwysiadu'n ffurfiol. Mae hwn yn gyflawniad sylweddol a gwirioneddol gadarnhaol, gyda chytundeb gan dros 200 o wledydd ar draws y byd. Rwy'n falch bod y fframwaith bioamrywiaeth byd-eang newydd yn cydnabod rôl cymdeithas gyfan wrth sicrhau ein bod yn gwarchod bioamrywiaeth.

Fy mhryder i, rwyf i wedi'i godi o'r blaen, yw colli ysglyfaethwyr uchelraddol, gan ganiatáu i anifeiliaid yn is i lawr y gadwyn fwyd ehangu'n sylweddol, gan ddinistrio'r rhai ymhellach i lawr y gadwyn fwyd. Does ond rhaid i mi sôn am lygod mawr fel anifail sydd wedi tyfu'n aruthrol oherwydd colli ei ysglyfaethwyr. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i sicrhau bod gennym ecwilibriwm, gan ganiatáu i bob rhywogaeth ffynnu?

Ie, diolch yn fawr, Mike. Rydych chi wedi ei godi o'r blaen, ac rwyf wedi dweud o'r blaen, yn do, am brosiect Yellowstone. Os ydych chi'n gwylio ailgyflwyno'r bleiddiaid a'r hyn sy'n digwydd i'r dirwedd, mae'n drawsnewidiad anhygoel wrth i'r ecosystem fynd yn ôl i ecwilibriwm. Felly, mae'n bwysig iawn i ni ddeall sut y dylai'r ecwilibriwm hwnnw edrych a gwneud hynny'n bwyllog lle mae hynny'n angenrheidiol. Rydym ni eisoes wedi gwneud hynny gyda rhai o'r rhywogaethau yng Nghymru. Felly, mae ganddon ni eryr a barcutiaid eto yng Nghymru, rhywbeth nad oedd ganddom ni o'r blaen yn sicr; prosiect y gweilch yn yr un modd. Mae gennym ni ddiddordeb mawr i ddeall beth sydd ei angen ar yr ecosystem hon a sut y dylai edrych, ac yna beth ydym ni'n ceisio ei adfer iddo. Mae'n ddrwg gen i ddefnyddio'r gyfatebiaeth hon, mewn ffordd, ond mae ychydig bach fel petaech chi'n adfer eiddo cyfnod—i ba gyfnod ydych chi'n ei adfer?

Rydyn ni wedi cael pobl ar ehangdir Prydain Fawr ers miloedd ar filoedd o flynyddoedd, felly nid yw wedi bod yn 'wyllt' ers amser hir iawn. Mae ein holl rywogaethau wedi addasu i fyw ochr yn ochr â bodau dynol—pob un ohonyn nhw, yn ddieithriad. Does dim lle gwyllt chwedlonol i fynd yn ôl ato, felly'r pwynt yw: i beth ydyn ni'n ei adfer, a sut ydyn ni'n helpu natur i addasu? Fel y gwnaethoch chi ddweud, Mike, yr ecosystem gyfan honno gydag ysglyfaethwr uchelraddol dan sylw, mae hynny'n bwysig iawn, ond weithiau ni yw'r ysglyfaethwr uchelraddol, wrth gwrs, ac mae angen i ni ystyried hynny.

A gaf i ddechrau nid yn unig drwy groesawu'r datganiad, ond gan wirioneddol groesawu'r arweinyddiaeth rydych chi, Gweinidog, a Llywodraeth Cymru wedi'i ddangos yn hyn? Roedd yn wych eich bod chi allan yna, eich bod chi nid yn unig allan yna, ond yn cymryd rhan weithredol yn y trafodaethau hynny, o safbwynt rhyngwladol, ond hefyd safbwynt domestig, ac yn dangos rhai o'r pethau fel prosiect mawnogydd Cymru, lle gallwn ni ddangos rhai enghreifftiau o ble gallwn ni arwain y ffordd hefyd.

Mae gennym ni gyfle go iawn yma. Rwyf wedi fy swyno gan angerdd y Gweinidog, fel arfer. Fe siaradodd mewn digwyddiad yn y Senedd cyn iddi fynd i COP15. Roedd hi'n amlwg iawn yno, ac roeddech chi'n hollol gyfforddus â'ch briff, ond rydych chi wedi dod yn ôl, fel rydych chi wedi'i ddweud, yn teimlo'n efengylaidd am hyn, yn chwilio am lywodraethu amgylcheddol nawr gyda grym, sy'n dda i'w glywed, a thargedau ystyrlon ar gefn COP15 yn ddomestig. Rydych chi'n gwybod bod y sefydliadau anllywodraethol wedi croesawu'n fras nid yn unig eich ymwneud yno, ond hefyd beth gafodd ei drafod a'r hyn y cytunwyd arno yno, ond nawr maen nhw'n edrych i weld sut mae hyn yn mynd i gael ei drosi i gyd-destun Cymreig. Felly, Gweinidog, a gaf i ofyn i chi, ble ydych chi'n gweld yr heriau mwyaf nawr wrth fwrw ymlaen â'r brys sydd ei angen, gyda'r uchelgais sydd ei angen, a sut ydych chi'n gwneud hynny mewn partneriaeth go iawn gyda thirfeddianwyr a ffermwyr, ond hefyd cyrff anllywodraethol, cyrff statudol ac yn y blaen? 

Ac wrth i mi eistedd i lawr, a gaf i sôn am fae Lyme—parth dim cymryd ar gyfer pysgodfeydd? Roedd yn un o'r penderfyniadau mwyaf amhoblogaidd ar y pryd erioed i'r Gweinidog a'i cymerodd, Jonathan. Nawr mae'r pysgotwyr i gyd yn edrych arno ac yn dweud, 'Dyna lwyddiant oedd hwnnw.'

Yn bendant, Huw. Ie, diolch yn fawr am hynny. Roedd y digwyddiad y bûm i'n siarad ynddo ychydig cyn i mi fynd, lle roedd gen i annwyd o hyd—mae rhai pethau gyda ni bob amser—roedd yn wych, ac fe wnes i gyfarfod â'r RSPB tra'r oeddwn i yno, ac eistedd yn yr union gadeiriau yr oedd y darn ohono ar y noson honno, i drafod gyda nhw bartneriaeth ar draws Prydain Fawr gyfan ar gyfer rhai o'r cynefinoedd sydd eu hangen arnom, sy'n bwysig iawn, iawn. Ac fe aethon ni â'r llyfr o leisiau gyda ni, ac fe wnaethon ni ei gyflwyno i bobl ifanc Quebec, oedd yn wych hefyd. A dweud y gwir, roedd hi’n Flwyddyn Cymru yng Nghanada tra o'n i yno, ac ro'n i yno yn yr wythnos gloi, felly fe wnaethon ni ambell brosiect wirioneddol wych fel rhan o Cymru yng Nghanada oedd â thema amgylcheddol, ond hefyd thema celf a diwylliant, ac fe wnaethom ni ddefnyddio llyfr y lleisiau ar gyfer hynny, felly rydyn ni wedi pasio hynny ymlaen iddyn nhw'n barod ac fe gawson ni lawer o luniau ac yn y blaen i basio ymlaen.

Ond, o ran yr her fwyaf, mae'n eithaf syml beth yw'r her fwyaf, a'r cyllid yw hynny. Felly, mae'r swm o arian rydyn ni ei angen i ni allu buddsoddi yn hyn i gyd i wneud yr hyn yr ydym ni wir eisiau ei wneud yn enfawr, a does gen i ddim. Felly, yr her fawr—ac roedd diwrnod cyfan wedi ei neilltuo ar gyfer hyn, ac aethon ni i gyd i lawer o wahanol weithdai ac ati, roedd yn bethau diddorol iawn—ond yr her fawr i ni, a chodais hyn ar y prif lwyfan hefyd, yw cael y cyllid i mewn i Gymru heb y gwyrddgalchu. Ac mae hynny'n bryder ledled y byd. Felly, sut ydyn ni'n llunio cynllun masnachu, os mynnwch chi, ble gall pobl fuddsoddi eu harian yng Nghymru mewn ffordd gynaliadwy, sy’n sicrhau’r buddsoddiad rydyn ni ei angen ac ei eisiau ar gyfer ein tirfeddianwyr, ein rheolwyr tir, ein bywyd gwyllt ac yn y blaen, ac nad yw'n sicrhau’r buddsoddiad rydyn ni'n amlwg iawn eisiau ei osgoi ar gyfer rhywogaethau anfrodorol nac i bobl sy'n meddiannu tir, neu beth bynnag? Sut mae taro deuddeg? Nid ydym ni ar ein pennau ein hunain wrth frwydro gyda hyn, ac roedd yn wych gweithio gyda'r cenhedloedd eraill ar yr hyn y maen nhw wedi'i wneud hyd yn hyn, ac yn y blaen. Siaradais ar un platfform lle roedd Banc y Byd ac un o'r cymunedau busnes mawr fel siaradwyr hefyd, a chawsom sesiwn holi ac ateb rhyngom ar sut y gallai hyn weithio. Oherwydd gallwch weld bod y banciau mawr bellach yn ymddiddori yn hyn fel cynnyrch buddsoddi hyfyw, mewn ffordd nad oedden nhw 10 mlynedd yn ôl. Maen nhw'n cyrraedd y nod.

Y mater mawr arall yw'r alwad uno. Mae sero net, er ei holl ddiffygion, wedi dod yn alwad uno fawr dros yr hinsawdd. Un o'r pwyntiau trist am COP15 oedd na wnaethom ni gytuno ar y peth natur gadarnhaol. Ond, rwy'n credu ein bod ni'n dal i'w wthio, ac roedd yr uwchgynhadleddau is-genedlaethol yn cytuno arno, felly gallwn ni ei wthio o hyd, ond mae angen yr alwad honno i uno, on'd oes e, i fynd gydag ef, fel bod pobl yn deall beth maen nhw'n ceisio ei wneud a gallan nhw ei ddeall o'r brandio yn unig, os mynnwch chi. Ac yna mae angen i ni wireddu hynny ar lawr gwlad.

Felly, yr her fawr, heb amheuaeth, yw trafod y maes ariannu hwnnw, a byddaf yn cyfarfod â Gweinidogion y DU a'r Alban yn fuan iawn i drafod sut rydyn ni'n mynd i geisio gwneud hynny yn y DU a sut rydyn ni'n mynd i annog pobl i beidio â chefnogi’r gwyrddgalchu hynny rydyn ni'n ei weld. A hefyd sut rydyn ni'n mynd i annog cwmnïau sy'n ceisio gwneud y peth iawn i wneud peth hyd yn oed gwell. Felly, i wneud hynny, mae angen i ni fod wedi gwneud yr adolygiad y bûm i'n siarad amdano ac mae angen i ni wybod beth rydyn ni ei eisiau ym mhob rhan o Gymru, fel y gallwn ni ddweud, 'Wel, mewn gwirionedd, rydyn ni'n gwybod ein bod ni eisiau hyn, felly ewch ati i ariannu hynny gyda'ch cynllun. Peidiwch â dod i mewn a gwneud rhywbeth y gallech chi feddwl sy'n iawn, ond mewn gwirionedd rydyn ni'n gwybod nad dyma’r hyn rydyn ni ei eisiau.' Felly, mae hynny'n her ddifrifol, nid yn unig i Gymru ond i'r byd. Ac rwy'n credu bod COP15 wedi gwneud cam gwirioneddol ymlaen yn y system gyllid fyd-eang honno i ganiatáu i hynny ddigwydd. Ond, mae ffordd bell i fynd.

18:25

Hoffwn ganmol popeth rydych chi'n ei wneud a'r flaenoriaeth sy'n cael ei roi i natur a bioamrywiaeth yng Nghymru. Mae wir yn cynhesu'r galon. Hoffwn siarad am atebion sy'n seiliedig ar natur ynglŷn â llifogydd, arafu dŵr, ac afancod. Felly mae afancod Ewrasia yn frodorol i Gymru, i Brydain, ac wedi bod yn byw yn wyllt yng Nghymru ers 2013. Rwy'n gwybod bod rhywun wedi cyflwyno un yn eithaf lleol i mi sydd wedi cael ei ddal ar gamera. Mae tystiolaeth ddiweddar wedi dangos bod afancod bellach yn bridio yn y gwyllt, yn fwyaf arbennig yn nalgylch Dyfi. Maen nhw'n darparu buddion ecolegol, amgylcheddol ac economaidd. Fodd bynnag, mae'r amddiffyniad sy'n cael ei gynnig i afancod yng Nghymru yn fratiog ac nid yw yn eu gwarchod yn ddigonol rhag erledigaeth nac ychwaith yn galluogi eu rheoli'n effeithiol. Gan fod y DU wedi llofnodi confensiwn Bern, mae'n ymddangos bod gan Gymru bellach ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu afancod yn ogystal o dan y confensiwn hwnnw, a chydnabuwyd hyn yn Lloegr a'r Alban, lle mae afancod bellach yn cael eu gwarchod. Felly, meddwl oeddwn i tybed pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu hystyried er mwyn sicrhau bod afancod yn cael eu gwarchod a'u rheoli'n effeithiol, ac a fydd CNC yn cael eu cyfarwyddo i gynorthwyo gyda'r gwaith o'u hail-sefydlu'n llwyddiannus yng Nghymru a'ch barn ynghylch hynny. Diolch. 

Ie, diolch yn fawr, Carolyn. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni wedi bod â diddordeb ynddo ers amser maith ac rwy'n cydnabod eich diddordeb chi ynddo hefyd. Bydd yn rhaid i hyn fod yn rhan o'r adolygiad, oherwydd yn sicr mae angen cyflwyno afancod, mae'n debyg, mewn rhai afonydd. Ond bydd yna rai eraill, lle nad oes angen eu cyflwyno, ac mae angen i ni ddeall sut olwg sydd ar yr ecosystem nawr. Felly, dyma un o'r problemau mawr o ymyrryd ag ecosystemau, onid e? Dydyn ni ddim yn gwybod sut beth yw ecwilibriwm ar gyfer llawer o'n llefydd a dydyn ni ddim wir yn deall beth fydd yn digwydd. Felly, mae'n ddiddorol gweld a cheisio rheoli rhywfaint ar sut rydyn ni'n cyflwyno'r rhaglenni hyn.

Felly, mae'r rhaglen barcud coch, rwyf wedi sôn amdani o'r blaen, wedi bod yn llwyddiant hollol ddi-ddiwedd yng Nghymru. Pan o'n i'n tyfu, doedd dim barcutiaid coch yng Nghymru a nawr rydych chi’n eu gweld nhw ym mhobman, ac onid ydy hynny’n wych? Ond, roedd llawer o bryder pan gawson nhw eu cyflwyno gyntaf bod eu hysglyfaeth naturiol wedi mynd ac y bydden nhw'n mynd ag ŵyn ac ati. Nid yw hynny wedi profi'n wir. Mae'r un peth yn digwydd gydag afancod; mae pobl yn poeni'n fawr am y peth. Felly, yr hyn sydd angen i ni ei ddeall yw beth mae’r cwrs dŵr penodol hwnnw ei angen i’w gael yn ôl i statws cadwraeth da a beth fydd yr afancod yn ei gyfrannu neu ddim yn ei gyfrannu at hynny. Ac rydyn ni'n gwybod nawr mai ail-naturioli afonydd yw un o'r pethau mwyaf y gallwn ni ei wneud.

Agorais y prosiect Four Rivers for LIFE i lawr yn sir Gaerfyrddin—un ohonynt yn etholaeth y Llywydd, mewn gwirionedd—a'r hyn rydyn ni'n ei wneud gyda'r prosiect hwnnw yw ail-greu pedair afon i lawr yn y gorllewin. Beth rwy'n ei olygu gyda hynny yw bod bodau dynol, dros lawer o flynyddoedd, wedi sythu'r afonydd a gosod ategion ar eu glannau a gwneud iddynt lifo'n gyflymach ac nid yw hynny'n ffafriol iawn i fywyd gwyllt, ond mae hefyd yn achosi llifogydd a phob math o broblemau eraill. Felly, yn y bôn, rydyn ni'n rhoi'r ystum yn ôl i'r Cleddau ac amryw o afonydd eraill. Mae'n ddigon posib y bydd afancod yn ffynnu yn yr amgylchedd hwnnw, ond mewn amgylchedd lle mae'r afon wedi'i hamgáu ac yn rhedeg yn gyflym, yn sicr ni fyddant yn gwneud hynny. Felly, mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr ein bod yn cael y cynllun cywir yn y lle iawn gyda'r ddealltwriaeth gywir ohono.

Bydd ariannu pethau fel y prosiect Four Rivers for LIFE—sef y prosiect olaf a ariennir gan Ewrop a fydd yn digwydd yng Nghymru, yr oeddwn i ychydig yn dorcalonnus amdano, fe wnaf i gyfaddef— yn rhannol, yn bwysig iawn, oherwydd byddwn yn cael y data o hynny i ddeall beth sydd ei angen ar yr ecosystem honno mewn gwirionedd er mwyn mynd yn ôl i ecwilibriwm. Rwy'n gwbl sicr y bydd hynny'n cynnwys afancod ac anifeiliaid eraill o'r fath sydd wedi diflannu o Gymru.

18:30

Diolch yn fawr i'r Gweinidog. Rwy'n gwybod nad ydw i i fod i ddweud rhywbeth fel hyn, ond ar noson ddiflas, dywyll ym mis Ionawr, rwyf wedi cael fy ysbrydoli'n llwyr gan y datganiad yna a'r cwestiynau a'r holl gyfraniadau. Pob lwc i chi i gyd ar y gwaith hwn a diolch am ddod â rhywfaint o'ch efengyliaeth yn ôl o Ganada i ni yma. 

Diolch yn fawr i bawb.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:31.