Y Cyfarfod Llawn

Plenary

30/11/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Prynhawn da. Dyma ni'n cychwyn ar ein cyfarfod ni heddiw. Yr eitem gyntaf yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Altaf Hussain.

Cronfeydd Ariannol

1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gyda chydweithwyr mewn llywodraeth leol am ddefnyddio cronfeydd ariannol? OQ58771

Rwyf wedi trafod cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol gydag arweinwyr fel rhan o’n trafodaethau parhaus ar bwysau a chyllid. Mae pob arweinydd wedi pwysleisio eu bod eisoes yn defnyddio cronfeydd wrth gefn i fynd i'r afael â'u pwysau presennol ac yn disgwyl gorfod parhau i wneud hynny y flwyddyn nesaf.

Diolch, Weinidog. Ym mis Mawrth 2020, nododd Llywodraeth Cymru fod cyfanswm holl gronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol yn £1.5 biliwn, ac roeddent wedi cynyddu 42 y cant i £2.13 biliwn erbyn mis Mawrth 2021. I roi hyn yn ei gyd-destun, yn y flwyddyn ariannol hon, roedd y grant cynnal refeniw a ddyrannwyd gennych i awdurdodau lleol yn £3.9 biliwn. Rwy’n derbyn bod angen i awdurdodau lleol gadw arian wrth gefn ac nad yw sut y gellir defnyddio’r cronfeydd wrth gefn hynny'n fater syml, ond wrth ichi drafod y sefyllfa ariannol gyffredinol gydag awdurdodau lleol dros y mis nesaf, a wnewch chi roi sicrwydd i’r Senedd na fydd symiau mawr o arian yn eistedd yng nghyfrifon banc awdurdodau lleol tra bod arweinwyr cynghorau, ar yr un pryd, yn cwyno am y diffyg arian i ddarparu gwasanaethau hanfodol? Diolch.

Cyfeiriaf yr Aelod at fy ateb gwreiddiol, sy’n rhoi sicrwydd i gyd-Aelodau o'r Senedd fy mod yn trafod cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol gyda hwy yn rheolaidd fel rhan o’n trafodaethau cyffredinol mewn perthynas â chyllid. Ond hoffwn ddweud yn glir iawn hefyd fod yr hyn a nodir yn y mecanwaith adrodd blynyddol yn cynrychioli un diwrnod o'r flwyddyn yn unig—diwedd y flwyddyn ariannol; nid yw'n adlewyrchu newidiadau i fyny ac i lawr o fewn y flwyddyn. Ac wrth gwrs, mater i'r aelodau etholedig lleol unigol yw lefel y cronfeydd wrth gefn, a byddant yn adlewyrchu'r cynlluniau mwy hirdymor sydd gan yr awdurdodau hynny yn ogystal â rheoli'r pwysau tymor byr, ac mae digon o'r pwysau tymor byr hynny ar hyn o bryd.

A chredaf fod angen i ni hefyd ystyried cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol yng nghyd-destun ehangach cyllideb gyffredinol llywodraeth leol. Ar lefel Cymru gyfan, y dehongliad ehangaf o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio yw 26 y cant o gyfanswm y gwariant blynyddol. Felly, dyna ddarpariaeth tri mis ar gyfer holl gostau llywodraeth leol. Ni fyddai cronfeydd wrth gefn cyffredinol neu gronfeydd wrth gefn heb eu dyrannu ond yn darparu ar gyfer 10 diwrnod. Felly, er bod cronfeydd wrth gefn awdurdodau yn uwch nag y maent fel arfer, credaf eu bod yn dal i gydnabod bod llawer iawn o alw am y cronfeydd wrth gefn hynny. Fel y dywedaf, mae awdurdodau eisoes yn defnyddio rhai ohonynt i reoli pwysau eithafol yr argyfwng costau byw ac effaith chwyddiant ar awdurdodau lleol, ac rwy'n disgwyl y byddent yn bwriadu gwneud hynny y flwyddyn nesaf hefyd. Felly, hoffwn roi sicrwydd i'm cyd-Aelodau fod gennyf hyder fod ein cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol yn ystyried y defnydd o gronfeydd wrth gefn mewn ffordd briodol, a chydnabod hefyd fod lefel y cronfeydd wrth gefn eleni yn cydnabod, ar ddiwedd y flwyddyn ariannol flaenorol, imi ddyrannu £50 miliwn yn ychwanegol i awdurdodau lleol, gan gofio, hyd yn oed cyn yr argyfwng costau byw a’r sefyllfa yn Wcráin, ein bod wedi cydnabod, oherwydd yr adolygiad o wariant tair blynedd, y byddai blynyddoedd 2 a 3 yn anos. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny’n rhoi awdurdodau mewn gwell sefyllfa nag y byddent ynddi fel arall i reoli’r pwysau y flwyddyn nesaf. Ond wedi dweud hynny, fe fyddwch wedi gweld bod awdurdodau lleol yn dweud wrthym eu bod eisoes yn disgwyl gweld bwlch o gannoedd o filiynau o bunnoedd yn y cyllid, sy'n amlwg yn bryder iddynt hwy ac i ninnau.

Diolch am gadarnhau’r hyn rwyf wedi’i glywed mewn sesiynau briffio a ddarparwyd i mi ac i Aelodau eraill o'r Senedd o bleidiau eraill, a oedd nid yn unig yn sôn am y pwysau cyllidebol sy’n wynebu awdurdodau lleol, ond hefyd yn trafod y cronfeydd wrth gefn. Ac o ran y ffigur hwnnw a ddyfynnwyd gennych, pe bai'r cyfan yn cael ei ddefnyddio i fynd i'r afael â'r pwysau presennol, efallai y byddai gennym dri mis cyn i'r holl gronfeydd wrth gefn hynny gael eu defnyddio, heb ystyried y ffaith bod y rhan fwyaf ohonynt wedi'u dyrannu ar hyn o bryd at ddibenion eraill—. Felly, a gaf fi ofyn, yn eich cyfarfodydd ag arweinwyr awdurdodau lleol yn y dyfodol, yn enwedig Andrew Morgan o Rondda Cynon Taf a Huw David o Ben-y-bont ar Ogwr yn fy ardaloedd i, a wnewch chi ofyn iddynt, os oedd unrhyw Aelodau o'r Senedd hon—y mae rhai ohonynt yn gyn-arweinwyr cynghorau—nad aethant i'r sesiynau briffio hynny i weld lefel y pwysau sy’n wynebu ein hawdurdodau lleol ar hyn o bryd, i’w gwahodd unwaith eto i eistedd gyda swyddogion yn yr awdurdod lleol hwnnw i weld pa mor bell y byddai'r cronfeydd wrth gefn yn mynd?

13:35

Yn sicr. Credaf fod awdurdodau lleol wedi bod yn hynod dryloyw o ran yr heriau ariannol y maent yn eu hwynebu, ac rwy'n falch eu bod wedi gallu cynnig cyfleoedd, ar sail ranbarthol, i holl Aelodau'r Senedd ddeall y pwysau hwnnw'n well ar lefel leol iawn. Gwn y byddent yn fwy na pharod i ymgysylltu eto ag unrhyw gyd-Aelodau nad ydynt wedi gallu mynd i un o'r sesiynau hynny. Yn y sesiynau hynny, rwy'n credu y byddech wedi clywed y byddant wedi wynebu pwysau ar draws llywodraeth leol, ond yn enwedig mewn perthynas â chwyddiant cyflogau, costau ynni, ysgolion yn enwedig, gofal cymdeithasol, yr ymateb i Wcráin ac ymfudo yn fwy cyffredinol, yn ogystal â thai a digartrefedd, ac yn amlwg, yr holl heriau'n ymwneud â setliad cyfalaf tynn hefyd. Felly, byddwn yn sicr yn annog pob un o'm cyd-Aelodau i ymgysylltu â'u hawdurdodau lleol er mwyn deall yr heriau hynny.

Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU

2. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi ei rhoi i effaith datganiad yr hydref ar y gefnogaeth ariannol fydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru? OQ58788

Cyn datganiad yr hydref, galwais ar y Canghellor i fuddsoddi mewn pobl a gwasanaethau cyhoeddus. Er bod rhywfaint o arian ychwanegol wedi'i ddarparu yng nghyhoeddiadau Llywodraeth y DU, nid oedd yn ddigon fynd i’r afael â’r bylchau sylweddol yn y cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.

Ie, byddwn yn cytuno, Weinidog. Mae ein hawdurdodau lleol yn wynebu pwysau ariannol enfawr, a hoffwn adleisio’r hyn a ddywedodd Huw Irranca-Davies ynglŷn â phwysigrwydd ymgysylltu nid yn unig yn y sesiynau briffio hynny, ond yng Nghastell-nedd Port Talbot, gwn fod y cyngor yn mynd allan i holl gymunedau ardal yr awdurdod lleol i gael cyfarfodydd cyhoeddus, fel bod pobl yn deall yn iawn beth sydd yn y fantol yma ac i ofyn am syniadau ynglŷn â sut y gellir rheoli pethau. Mae pwysau penodol ar gyllidebau awdurdodau lleol o ran y galw cynyddol ar ofal cymdeithasol yn fy rhanbarth. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, er enghraifft, bu cynnydd cyson mewn atgyfeiriadau at wasanaethau cymdeithasol oedolion a gwasanaethau plant a phobl ifanc dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn cydnabod yn ei eiriau ei hun fod bylchau'n bodoli mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol. Heb gyllid ychwanegol i ddiwallu’r angen am wasanaethau cymdeithasol i oedolion a phlant, bydd yn amhosibl datrys rhai o achosion yr argyfwng yn y gwasanaeth iechyd—er enghraifft, pobl yn methu gadael ysbytai, a mwy o bobl yn mynd i’r ysbyty oherwydd pwysau ar deuluoedd pan nad ydynt yn cael y cymorth cywir. Yn ôl tîm dadansoddi cyllid Cymru, mae datganiad hydref diweddar y Canghellor yn golygu y bydd £1.2 biliwn ychwanegol ar gael i Lywodraeth Cymru dros y ddwy flynedd nesaf o ganlyniad i gyllid canlyniadol Barnett. Felly, a wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd fod y cyllid sydd wedi'i gynnwys yn yr £1.2 biliwn hwn ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol llywodraeth leol yn cael ei basbortio'n llawn yn ystod y ddwy flynedd nesaf i setliadau llywodraeth leol?

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am ei chwestiwn, ac am ailadrodd yr un neges a glywaf gan arweinwyr hefyd o ran y pwysau penodol ar ofal cymdeithasol. Maent hefyd yn awyddus iawn i dynnu fy sylw at y pwysau ym myd addysg, a dyna ddau o'r prif feysydd gwariant ar gyfer awdurdodau lleol. A byddwn hefyd yn croesawu ac yn annog pobl i ymgysylltu â'r gwaith y mae awdurdodau lleol yn ei wneud yn ceisio estyn allan at y cyhoedd, fel bod y cyhoedd yn deall y pwysau real iawn sydd ar yr awdurdod yn lleol, ond hefyd wedyn fod awdurdodau yn gallu gwneud penderfyniadau ar ôl gwrando ar flaenoriaethau'r cyhoedd ar gyfer eu hardal benodol. Felly, cymeradwyaf y gwaith allgymorth y mae awdurdodau lleol yn ei wneud ledled Cymru.

Mae’n wir fod datganiad yr hydref wedi golygu y byddem yn cael £1.2 biliwn ychwanegol yng Nghymru dros y ddwy flynedd nesaf o ganlyniad i gyllid canlyniadol drwy ddatganiad yr hydref. Yr hyn a ddywedaf yw ei fod yn golygu £666 miliwn y flwyddyn nesaf, ond mae hynny'n dal i adael bwlch o oddeutu £1 biliwn yn ein cyllideb o ganlyniad i bwysau. Felly, mae’n anochel y bydd penderfyniadau anodd i ni eu gwneud fel Llywodraeth Cymru, a phenderfyniadau anodd hefyd i wasanaethau cyhoeddus yn fwy cyffredinol. Byddaf yn cyhoeddi ein cyllideb ar 13 Rhagfyr, felly nid wyf am roi gormod o fanylion ar hyn o bryd, yn enwedig gan nad ydym wedi gwneud y penderfyniadau terfynol hynny o hyd, ac rydym yn cael trafodaethau parhaus â phartneriaid—rwy'n siarad â chydweithwyr ynglŷn â'r pwysau y maent yn ei weld yn eu hardaloedd penodol. Ond rwyf wedi gwrando'n ofalus iawn ar yr hyn y mae'r Aelod wedi'i ddweud am y maes blaenoriaeth penodol hwnnw.

Byddwn hefyd yn dweud, mewn perthynas â'r £1.2 biliwn, ei bod yn ddefnyddiol pe bai ein cydweithwyr yn deall o ble y daeth y cyllid canlyniadol hwnnw. Nawr, rwy'n sicr o'r farn fod cyllid canlyniadol yn dod i Lywodraeth Cymru, a bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniadau mewn perthynas ag i ble mae'r cyllid hwnnw'n mynd; nid yw'n fater o basbortio arian ymlaen. Ac mae'n fater, mewn gwirionedd, o ddeall beth yw'r pwysau, gan y credaf ein bod yn gwneud anghymwynas â Thrysorlys Cymru, Llywodraeth Cymru, y Senedd hon, os ydym yn cael ein hystyried yn rhyw fath o flwch post ar gyfer cyllid canlyniadol yn unig. Felly, byddwn yw gwneud gwaith i edrych o ddifrif ar ble mae’r pwysau, ble mae ein blaenoriaethau fel Llywodraeth, ac yn fwyaf arbennig hefyd, yn edrych ar ein rhaglen lywodraethu. Yn amlwg, mae gennym ddiddordebau a rennir yn hynny hefyd.

Ac yn olaf, i ychwanegu at hynny, mae 44 y cant o'r £666 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf yn ymwneud â chynlluniau newydd ym maes ardrethi busnes. Felly, yn amlwg, rydym yn edrych yn ofalus iawn ar gymorth i fusnesau. Felly, yr hyn a ddywedaf yw pan roddodd y Canghellor yr argraff fod £1.2 biliwn ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, rwy'n credu bod hynny braidd yn gamarweiniol, ac mae llawer mwy o fanylion y tu ôl i'r ffigurau hynny.

13:40

Weinidog, yn yr ateb parod rydych newydd ei roi, fe wnaethoch alw ar y Canghellor i fuddsoddi mewn pobl a gwasanaethau cyhoeddus. Wel, rwy'n credu y gallwn alw arnoch chi i wneud yr un peth. Rydych wedi cael £1.2 biliwn ychwanegol gan Lywodraeth y DU, ar ben y setliad mwyaf erioed a oedd yn bodoli eisoes. Felly, faint y gall llywodraeth leol ei ddisgwyl? Gwyddom fod buddsoddi mewn gofal cymdeithasol yn arwain at well canlyniadau iechyd, at arbedion yn y GIG. Felly, efallai y gallwch ein goleuo heddiw ynglŷn â faint y gall llywodraeth leol ei ddisgwyl o’r arian annisgwyl gwych hwn?

Byddaf yn goleuo’r Aelod ar 13 Rhagfyr, Lywydd, pan fyddaf yn cyhoeddi’r gyllideb ddrafft. Nid oes llawer i aros tan hynny, ond mae llawer o waith y mae angen ei wneud yn gyflym rhwng nawr a'r adeg honno. Ond ar 13 Rhagfyr, byddwn yn cyhoeddi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ochr yn ochr â'r gyfres gyfan honno o wybodaeth rydym bob amser yn ei chyhoeddi—adroddiad y prif economegydd, ein naratif sy'n cyd-fynd â'r ddogfen, a rhywfaint o'n dadansoddiadau eraill hefyd. Rydym bob amser yn ceisio cyhoeddi cymaint o wybodaeth mewn cymaint o fanylder ag y gallwn.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox. 

Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Mae gennyf deimlad fy mod yn gwybod beth fydd yr ateb i fy nghwestiwn cyntaf. Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, Weinidog, rydym wedi siarad cryn dipyn am yr amgylchedd cyllidol heriol, yn ogystal ag ymateb Llywodraeth y DU i hyn yn ei datganiad hydref, a ddarparodd chwistrelliad o arian ychwanegol sydd i'w groesawu i Lywodraeth Cymru, yn ogystal ag amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Yn y teulu llywodraeth leol, fodd bynnag, ceir ansicrwydd a phryder ynghylch ymrwymiadau ariannu yn y dyfodol i awdurdodau lleol. Mae cynghorau’n galw am eu cyfran o arian ychwanegol i helpu i fynd i'r afael â diffygion yng nghyllidebau'r dyfodol, yn debyg iawn i’ch cydweithwyr gwleidyddol yng nghabinet Torfaen, a ddywedodd yr wythnos diwethaf y byddant yn 'lobio'n galed iawn' am i'r arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU gael ei basbortio i awdurdodau lleol. Weinidog, rwy’n siŵr fod arweinwyr cynghorau wedi rhannu eu pryderon yn glir yn y fforwm cyllid. A gaf fi ofyn, felly, a allant ddisgwyl cymorth ychwanegol wrth symud ymlaen, ac a wnewch roi sicrwydd y bydd unrhyw bolisïau neu feichiau newydd a roddir gan y Llywodraeth ar gynghorau yn cael eu hariannu’n llawn?

Cyfeiriaf at fy ateb blaenorol i gydweithiwr yr Aelod, ond rwyf am ddweud hefyd fy mod yn cyfarfod yn rheolaidd iawn ag arweinwyr llywodraeth leol. Mae fy swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd iawn â swyddogion, yn cynnwys trysoryddion ar draws llywodraeth leol, i drafod y pwysau penodol y maent yn ei wynebu. Rhaid imi ddweud bod y gwaith y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ei gyflwyno i ni bob amser yn ddefnyddiol iawn ar gyfer deall y pwysau penodol hynny, a deall y cwantwm cyllid y dywed llywodraeth leol wrthym y byddai ei angen arnynt er mwyn parhau i gynnal y gwasanaethau ac i barhau i ddarparu ar gyfer pobl yn eu cymunedau. Ac yna, wrth gwrs, bydd fy swyddogion yn rhoi’r ffigurau hynny ar brawf gyda llywodraeth leol er mwyn eu deall yn well. Felly, er sicrwydd, mae'r lefel honno o ymgysylltu yn mynd rhagddi. Rydym yn gwrando’n ofalus iawn ar yr hyn y dywed llywodraeth leol wrthym sydd ei angen arnynt, ac yn gwrando’n ofalus iawn hefyd ar yr hyn y dywed gwasanaethau cyhoeddus eraill wrthym sydd ei angen arnynt hwy, a rhannau eraill o fywyd Cymreig sydd â buddiant hefyd wrth gwrs.

Ond hoffwn ddweud mai'r gyllideb hon, mae'n debyg, yw'r un anoddaf inni ei hwynebu ers datganoli yn ôl pob tebyg, a bydd penderfyniadau anodd iawn i'w gwneud. Felly, nid yw'n gyllideb lle rydym yn ceisio gwneud llawer o bethau newydd; mae'n gyllideb lle rydym yn canolbwyntio, mewn ffordd debyg iawn i laser, ar y pethau sy'n wirioneddol bwysig ac y mae angen inni eu gwarchod.

Diolch, Weinidog, a chytunaf â Huw Irranca-Davies. Cadeiriais, neu cynhaliais gyfarfod i Aelodau ymuno ag arweinwyr awdurdodau lleol, ac yn anffodus, fi oedd yr unig un a ddaeth, er bod gennym 10 o arweinwyr de-ddwyrain Cymru ar yr alwad yn rhannu maint eu problemau. Ac mae'r her yn enfawr, ac mae'r rhagolygon ariannol yn heriol. Ond mae rhai cynghorau mewn sefyllfa well o lawer i wynebu hyn nag eraill. Weinidog, fel y dywedais ar sawl achlysur, mae’r fformiwla ar gyfer ariannu cynghorau wedi dyddio ac yn annheg. Golyga fod rhai cynghorau'n gallu cynilo symiau anferthol o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio, tra bod eraill yn ei chael hi'n anodd diwallu eu hanghenion. Rwy’n deall cronfeydd wrth gefn, gallaf amsugno’r atebion parod, ond rwy’n deall y sefyllfa, fel y bydd y rhan fwyaf o aelodau llywodraeth leol yma.

Fel y soniodd Altaf Hussain yn ei gwestiwn blaenorol, gwelsom gynnydd o dros 35 y cant yn y cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio ym mis Mawrth 2021 i £2.1 biliwn. Nawr, er mor drist yw hi fy mod wedi treulio amser yn pori drwy'r datganiad o gyfrifon drafft ar gyfer mis Mawrth 2022 dros y penwythnos, sylwais ar gynnydd o ymhell dros 30 y cant unwaith eto, bron i 50 y cant mewn rhai achosion, gyda chynnydd o oddeutu £600 miliwn, yn ôl pob tebyg, ym mis Mawrth 2022, sy'n gadael cyfanswm o £2.75 biliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio. Fodd bynnag, nid yw'n ddosbarthiad teg. Ym mis Mawrth eleni, roedd gan rai ymhell dros £200 miliwn, er bod gan eraill lawer iawn llai o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio.

Weinidog, a ydych yn credu, mewn cyfnod o bwysau ariannol o’r fath ar ein gwlad, ei bod yn iawn fod gan rai cynghorau gymaint o arian mewn cronfeydd wrth gefn? Gwn y bydd cyfran ohono'n falansau ysgolion a rhywfaint yn arian cyfalaf, ond mae gan rai cynghorau symiau sylweddol o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio mewn cyfrifon segur wedi'u clustnodi nad ydynt yn cael eu defnyddio. Felly, oni ddylai’r Llywodraeth ddod o hyd i ffyrdd gwell a thecach o ddosbarthu cyllid? Yn enwedig ar hyn o bryd, fel nad oes rhaid i gynghorau ddibynnu i'r fath raddau ar dalwyr y dreth gyngor, sydd o dan bwysau ac na allant fforddio—

13:45

Peidiwch â throi'r dudalen, gan eich bod eisoes ar 2 funud 20 eiliad. Felly, os gallwch ofyn y cwestiynau.

Rwy’n deall y cwestiwn, ac a bod yn deg â’r Aelod, mae’n gwestiwn y mae’n ei godi’n rheolaidd. Nid wyf yn rhannu’r lefel honno o bryder ynghylch lefel y cronfeydd wrth gefn sydd gan awdurdodau lleol, gan y credaf, a ninnau ar drothwy blwyddyn neu ddwy anodd iawn i awdurdodau lleol, ei fod yn beth da iddynt fod mewn sefyllfa ariannol well nag y byddent ynddi fel arall. Mae rhan o hynny'n ymwneud â'r cyllid ychwanegol rydym wedi'i ddarparu drwy argyfwng y pandemig, wrth gwrs. Hefyd, bydd pethau gwahanol yn effeithio ar awdurdodau lleol. Bydd yr Aelod yn gwybod bod llawer o weithgarwch na ddigwyddodd, a oedd wedi’i gynllunio yn ystod y pandemig, ac mae hynny wedi arwain, unwaith eto, at gynnydd yng nghronfeydd wrth gefn rhai awdurdodau. Ond mae'n llygad ei le fod lefelau'r cronfeydd wrth gefn yn wahanol ar draws gwahanol awdurdodau. Ni chredaf fod hynny'n ffactor sy'n ymwneud â'r setliad llywodraeth leol a'r fformiwla, fodd bynnag, gan fod y fformiwla'n edrych ar ystod gyfan o fesurau, gyda llawer ohonynt yn ymwneud â natur a chyd-destun y boblogaeth sy'n cael ei gwasanaethu a natur daearyddiaeth yr ardal sy’n cael ei gwasanaethu, ac nid yw'r naill na'r llall o’r pethau hynny’n ymwneud yn benodol â chronfeydd wrth gefn. Pe bai awdurdodau lleol am edrych ar y setliad drwy lens cronfeydd wrth gefn, gallem ofyn i’r is-grŵp dosbarthu wneud gwaith ar hynny, ond nid yw’n rhywbeth y mae arweinydd unrhyw awdurdod wedi’i godi gyda mi hyd yn hyn.

Diolch, Weinidog, ond nid yw’r system yn gweithio, gan ei bod yn caniatáu i gynghorau barhau i godi’r dreth gyngor tra bo cronfeydd wrth gefn yn cynyddu mewn rhai achosion. Roedd eich rhagflaenydd Leighton Andrews yn sylweddoli hyn, a chynhyrchodd ganllaw i gynghorau yn 2016 i’w helpu i ddeall a chraffu’n well ar gronfeydd wrth gefn a sut y gellir eu defnyddio. Weinidog, a wnewch chi ystyried adolygu'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd sydd gan rai cynghorau yn yr un modd ag y mae cynghorau'n ei wneud â’u hysgolion, i ddeall a yw cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn cael eu defnyddio at y dibenion a fwriadwyd, gan asesu efallai a ydynt wedi’u defnyddio yn y pum mlynedd diwethaf neu fwy, ac os nad ydynt, cwestiynu pam? Bydd cronfeydd craidd wrth gefn wedi bod gan rai ers blynyddoedd lawer. Mae'r cronfeydd refeniw a glustnodwyd yr un fath â chronfeydd wrth gefn cyffredinol, er eu bod yn cael eu storio mewn man gwahanol, ac maent ar gael i'w defnyddio mewn unrhyw ffordd. Felly, efallai y bydd rhai'n dweud eu bod ar gyfer diwrnod glawog. Wel, Weinidog, mae’n arllwys y glaw, ond mae gan rai cynghorau ymbarelau enfawr, tra bo gan eraill barasolau bach. Felly, a ydych yn cytuno y dylid cynnal dadansoddiad o’r fath o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd cyn gynted â phosibl er mwyn eich galluogi i ystyried dull mwy cynaliadwy o ariannu gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr ledled y wlad?

13:50

Byddwn yn dweud bod awdurdodau lleol yn dweud wrthym eu bod yn gweld pwysau a bylchau enfawr yn eu cyllideb, yn y flwyddyn ariannol hon a’r flwyddyn ariannol nesaf, a’u bod yn dibynnu ar eu cronfeydd wrth gefn, yn rhannol, i fynd i'r afael â'r her honno. Rwy’n fwy na pharod i ofyn i fy swyddogion gael trafodaethau pellach gyda’r Trysorlys ar y pwynt penodol ynglŷn â deall cronfeydd wrth gefn a’r defnydd ohonynt. Ni chredaf fod awdurdodau lleol wedi bod yn unrhyw beth ond gonest gyda ni pan fyddant yn dweud wrthym am y pwysau y maent yn ei wynebu ar hyn o bryd, ac rydym yn cael trafodaethau hir gyda hwy am y pwysau sydd o'u blaenau. Ond unwaith yn unig y gellir defnyddio cronfeydd wrth gefn. Mae llawer o'r pwysau y mae awdurdodau lleol yn ei wynebu yn ymwneud â chyflogau yn enwedig, ac yn amlwg, nid yw defnyddio cronfeydd wrth gefn i ddiwallu pwysau cyflog yn ateb cynaliadwy i'r broblem benodol honno. Rwy’n fwy na pharod i gael trafodaethau agored pellach gyda llywodraeth leol ynglŷn â'r mater.

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Cyfeiriwyd yn y Siambr hon yr wythnos diwethaf at waith craffu'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar gyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21, a ganfu y bu tanwariant o £526 miliwn, ac o ganlyniad, rhoddwyd £155 miliwn o gyllid a ddyrannwyd i Gymru yn ôl i'r Trysorlys. Rwy’n siŵr y byddech yn dymuno dweud rhywbeth am hynny. Ond yn fwy diweddar, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn yr ychydig wythnosau diwethaf, amcangyfrifodd Trysorlys Cymru fod oddeutu £80 miliwn o gyllid heb ei ddyrannu yng nghyllideb Cymru ar hyn o bryd. Nawr, fe wnaeth y Gweinidog iechyd, wrth gwrs, wrth-ddweud hynny’n uniongyrchol yn ei chyfraniad yma yr wythnos diwethaf, pan ddywedodd nad oes unrhyw wariant heb ei ddyrannu nac unrhyw danwariant ar hyn o bryd pan ofynnwyd iddi ynglŷn â chyllideb Llywodraeth Cymru a’r ffigur presennol ar gyfer cronfa wrth gefn Cymru. Felly, a wnewch chi egluro'r sefyllfa y prynhawn yma a rhoi eglurder i ni ynglŷn â'r amcangyfrif presennol o gyllid heb ei ddyrannu a thanwariant yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, fel y saif pethau ar hyn o bryd?

Rwy’n fwy na pharod i egluro'r sefyllfa ar y ddau fater hynny, ac rwy’n ddiolchgar am y cyfle i wneud hynny, yn enwedig mewn perthynas â’r cwestiwn cyntaf. Ar 5 Awst, ysgrifennais at y Pwyllgor Cyllid, ac ers hynny, mae’r llythyr hefyd wedi’i rannu â'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, sy’n dangos, ym mlwyddyn ariannol 2020-21, sef blwyddyn anghyffredin COVID wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu o fewn rheolaeth gyllidebol y terfyn gwariant adrannol cyffredinol a osodwyd gan y Trysorlys, ond yn anffodus, ni chynigiwyd lefel o hyblygrwydd inni symud arian o refeniw i gyfalaf i’n helpu i fynd i'r afael â'r mater penodol hwnnw. Ac o ganlyniad i'r anhyblygrwydd hwnnw, rhoddwyd rhywfaint o gyllid yn ôl i Lywodraeth y DU.

Ond credaf mai’r pwynt pwysicaf i’w nodi yma yw bod cyfanswm y tanwariant yn 2020-21 gan holl adrannau Llywodraeth y DU yn £25 biliwn, ac mae hynny’n cynrychioli bron i 6 y cant o gyfanswm y ddarpariaeth a ryddhawyd i’r adrannau hynny yn y flwyddyn honno. Rhoddwyd yr holl danwariant gan adrannau’r DU yn ôl i Drysorlys EM, ac mewn gwirionedd, cafwyd tanwariant o dros 9 y cant gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn unig, a rhoddodd yr adran honno yn unig £18.6 biliwn yn ôl i’r Trysorlys. Byddai cyfran Barnett o hwnnw'n gyfanswm o oddeutu £1 biliwn i Gymru, a chredaf fod hynny’n rhan o’r rheswm pam fod Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi bod mor amharod i gynnig lefel o hyblygrwydd i ni. Dyna un o'r problemau sydd gennym, wrth gwrs: mae angen ffordd lawer mwy sefydlog o ymdrin â'r materion hyn ar ddiwedd y flwyddyn, gan nad yw dibynnu ar hyblygrwydd, neu fel arall, pwy bynnag sy'n digwydd bod yn Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ar y pryd yn ffordd briodol o fynd yn ein blaenau.

Felly, i orffen y pwynt penodol hwn, roedd tanwariant cyffredinol Cymru yn y flwyddyn eithriadol honno yn 1 y cant yn unig o'r adnoddau a oedd ar gael, a chredaf fod hynny'n dangos pa mor effeithiol y rheolwyd ein hadnoddau yn yr amgylchiadau hynod heriol hynny. Ac mae'n parhau â record Llywodraeth Cymru o fod ymhlith adrannau gorau Llywodraeth y DU, fel y byddent yn ein hystyried, yn nhermau'r Trysorlys, ac ymhlith Llywodraethau datganoledig o ran defnyddio ein cyllidebau. Felly, rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gofnodi hynny. Rwy’n fwy na pharod i rannu’r llythyr a anfonais at y Pwyllgor Cyllid gyda’r holl gyd-Aelodau, efallai, drwy ei roi yn y Llyfrgell, Lywydd.

Ar gronfeydd wrth gefn, yn y gyllideb derfynol y cytunwyd arni ym mis Mawrth 2022, roedd y terfyn gwariant adrannol heb ei ddyrannu yn £100 miliwn o refeniw a chyllideb gyfalaf wedi’i gor-raglennu o £76 miliwn. Yn y gyllideb atodol gyntaf, felly, a ddyfynnwyd yn y drafodaeth gyda’r Gweinidog iechyd, roedd y terfyn gwariant adrannol heb ei ddyrannu yn £152 miliwn, ac roedd hynny’n bennaf o ganlyniad i gyllid canlyniadol o brif amcangyfrifon a datganiad gwanwyn Llywodraeth y DU, a gostyngodd swm y cyfalaf a oedd wedi'i or-raglennu i £68 miliwn yn dilyn gostyngiad mewn rhagolygon gwariant, ond gwrthbwyswyd hynny unwaith eto gan y cyfraniad o £30 miliwn mewn perthynas ag Wcráin.

Ers hynny, wrth gwrs, rydym wedi gweld yr argyfwng costau byw yn cydio, felly ni chredaf ei bod yn briodol rhoi cyfanswm parhaus o ble rydym arni o ran pwysau ar draws y Llywodraeth a lle mae gennym y gallu i ymateb i hynny o fewn y gronfa wrth gefn, gan fod y sefyllfa honno’n llythrennol yn newid o ddydd i ddydd. Felly, rwy'n cael adroddiadau monitro misol gan gyd-Weinidogion ar draws y Llywodraeth, yn nodi lle maent yn gorwario ac yn tanwario yn erbyn eitemau amrywiol; rwyf wedyn yn trafod y rheini gyda swyddogion, ac rydym yn ystyried pa fecanweithiau priodol sydd gennym i ymateb i hynny fel y gallwn sicrhau bod y gyllideb yn y sefyllfa y mae angen iddi fod ar ddiwedd y flwyddyn. Mae’r sefyllfa honno’n newid drwy’r amser, ond yr hyn a ddywedaf yw nad yw’r cyllid sydd ar gael gennym ar hyn o bryd yn y cronfeydd wrth gefn yn ddigon, o bell ffordd, i ddiwallu'r pwysau a welwn ar draws y Llywodraeth, sef yr hyn roedd y Gweinidog iechyd yn ceisio'i gyfleu, rwy'n credu, yn y drafodaeth honno.

13:55

Iawn, diolch am hynny, ond credaf y gallwn gymryd, felly, nad yw’n wir dweud nad oes unrhyw danwariant ar hyn o bryd. Rwy’n parchu eich dymuniad i beidio â rhoi sylwebaeth barhaus, ond pan fydd gennym wahanol negeseuon yn dod gan wahanol bobl, credaf fod angen rhywfaint o dryloywder arnom mewn perthynas â hynny. Cytunaf yn llwyr â’r pwynt a wnaethoch ynghylch hyblygrwydd ar ddiwedd y flwyddyn, ac mae hyn, unwaith eto, yn adlewyrchu ar y setliad a’r trefniadau presennol ynglŷn â chyllid, sy'n amlwg yn rhai rydym wedi tynnu sylw atynt ac y mae gennym farn debyg iawn yn eu cylch, byddwn yn dychmygu.

Nawr, mae’n tanlinellu, wrth gwrs, yr angen i sicrhau bod pob punt yn gweithio mor galed â phosibl, yn enwedig yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni. Sylwais yn ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar drefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE, y gwn ei fod yn destun dadl yn ddiweddarach y prynhawn yma, ond mae un pwynt penodol yn yr ymateb hwnnw roeddwn am dynnu eich sylw ato, sef bod y Llywodraeth yn ei hymateb yn dweud mai,

'Gweddill y gwariant ar raglenni ERDF ac ESF yng Nghymru yw £619 miliwn,'

ar ddiwedd y mis Hydref sydd newydd fod. Nawr, y gwariant rhagamcanol ar gyfer hynny erbyn diwedd mis Ionawr yw £170 miliwn. Felly, mae hynny'n gadael £450 miliwn i'w wario ar weithgaredd i'w gyflawni hyd at yr haf, ac yn amlwg, i'w hawlio erbyn mis Rhagfyr y flwyddyn nesaf. A ydych yn hyderus y bydd yr holl arian hwnnw’n cael ei ddefnyddio? A wnewch chi roi sicrwydd i ni na fydd unrhyw danwariant yn y cyswllt hwnnw ac na fydd unrhyw arian yn cael ei anfon yn ôl nac yn cael ei golli yng Nghymru? A ydych yn cydnabod, os bydd hynny’n digwydd, y bydd yn fethiant enfawr ar adeg, fel y dywedais, pan fo angen i Gymru ddefnyddio pob ceiniog y gallwn ei defnyddio?

Yn sicr, ein nod yw defnyddio’r holl arian Ewropeaidd sydd wedi dod i Gymru, ac mae hynny, a dweud y gwir, yn un o’r arfau sydd gennym i allu rheoli ein cyllideb o fewn y flwyddyn ariannol—i wneud penderfyniadau ynghylch pryd yn union rydym yn defnyddio'r cyllid Ewropeaidd hwnnw, i'n helpu i reoli'r gyllideb yn gyffredinol. Felly, mae'n arf y gallwn ei ddefnyddio ac rydym yn ei ystyried yn weithredol drwy gydol y flwyddyn. Ond yn sicr, ein bwriad yw defnyddio'r holl gyllid sydd wedi dod i Gymru, wrth gwrs.

Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU

3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith datganiad yr hydref Llywodraeth y DU ar reoli adnoddau Llywodraeth Cymru? OQ58770

Er gwaethaf rhywfaint o arian refeniw ychwanegol drwy ddatganiad yr hydref, nid yw hyn wedi bod yn agos ddigon i lenwi’r bwlch yng nghyllideb Llywodraeth Cymru. Golyga hyn fod Gweinidogion yn wynebu penderfyniadau anodd wrth inni baratoi ar gyfer y gyllideb ddrafft eleni.

Diolch, Weinidog. Ni allaf ond dychmygu pa mor anodd y bydd y penderfyniadau hynny, oherwydd, fel y dywedwch, nid yw’r arian sydd wedi dod o San Steffan, er ei fod yn gynnydd, yn ddigon i fynd i'r afael â'r pwysau chwyddiant ofnadwy y mae gwasanaethau cyhoeddus yn ei wynebu ledled Cymru. Weinidog, a wnewch chi roi syniad i ni o’r egwyddorion arweiniol a fydd yn cael eu dilyn wrth benderfynu ble a faint o arian y Llywodraeth sy’n cael ei wario? A wnewch chi addo y byddwch yn sicrhau, pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud, y bydd cynnal iechyd meddwl a llesiant y boblogaeth yn flaenoriaeth i bob Gweinidog?

Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn. Er mwyn rhoi syniad o sut rydym yn ymdrin â'r trafodaethau cyllidebol ar draws y Llywodraeth, rydym yn edrych, yn anad dim, ar dri nod penodol. Y cyntaf, yn amlwg, yw cyflwyno cyllideb gytbwys, ac mewn gwirionedd, mae hynny'n llawer anos nag y byddech yn ei ddychmygu, o ystyried y ffaith bod cymaint o fwlch yn y cyllid, a dyna ble fydd y penderfyniadau anodd yn cael eu gwneud, o ran beth y gallwn barhau i'w ariannu a lle bydd angen inni ailflaenoriaethu cyllid oddi wrtho, o bosibl. Ond hefyd, yr ail faes allweddol rydym am barhau i’w warchod yw gwasanaethau cyhoeddus. Felly, gwarchod gwasanaethau cyhoeddus yw ein hail biler. A'r trydydd yw parhau i gyflawni ein rhaglen lywodraethu, oherwydd wrth gwrs, mae honno'n cynnwys cymaint o'n haddewidion i bobl Cymru, ac rydym yn canolbwyntio ar eu cyflawni. Mae'n bosibl y byddwn yn cyflawni rhai pethau yn y pen draw dros gyfnod hwy nag roeddem wedi'i ragweld i ddechrau. Mae hynny’n rhywbeth y mae angen inni ei ystyried, yn enwedig, rwy'n credu, mewn perthynas â chyfalaf, lle mae ein cyllideb gyfalaf yn gostwng ym mhob blwyddyn yn yr adolygiad o wariant hwn, ac nid oedd unrhyw gyfalaf ychwanegol o gwbl yn natganiad yr hydref. Felly, unwaith eto, dyna'r math o benderfyniad anodd y gallai fod angen i gyd-Aelodau ei wneud. Ond hoffwn roi sicrwydd i’r Aelod y bydd gwasanaethau cyhoeddus, ac mae'n amlwg ein bod yn sôn am iechyd yn hynny, yn parhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer y broses gyllidebol.

14:00

A yw'r Gweinidog yn cytuno bod dyraniad Llywodraeth y DU o £1.2 biliwn yn adlewyrchiad o gynllun y Llywodraeth Geidwadol i godi'r gwastad yng Nghymru drwy fuddsoddi'n briodol yn ein gwlad, tra bod Llywodraeth Cymru yn gwario miliynau ar gyfres o brosiectau sosialaidd aflwyddiannus, megis perchnogaeth aflwyddiannus y wladwriaeth ar Faes Awyr Caerdydd, perchnogaeth aflwyddiannus y wladwriaeth ar fferm ym Mhowys, a pherchnogaeth aflwyddiannus y wladwriaeth ar wasanaethau trên, tra bo pobl yng ngogledd Cymru yn cael eu hamddifadu o'r cyllid hwn? Onid yw'n hen bryd i Lywodraeth Lafur Cymru gymryd perchnogaeth ar arian y trethdalwyr a'i wario'n briodol? Ac a wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd yn gweithio gyda Llywodraeth Geidwadol y DU fel nad yw fy etholwyr ar eu colled?

Bydd eich etholwyr yn cael eu hamddifadu. Bydd pob un o'n hetholwyr yn cael eu hamddifadu, am fod cymaint o fwlch mewn cyllid cyhoeddus, ac mae goblygiadau yn sgil hynny i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a'r gwasanaethau y mae pobl yn eu cael yn eu cymunedau. Felly, rwy'n credu bod angen inni feddwl o ddifrif am lefel yr heriau a wynebwn yn y gyllideb. Felly, mae hwnnw'n bwynt pwysig.

Felly na, nid yw datganiad yr hydref yn awgrymu mewn unrhyw fodd fod Llywodraeth y DU o ddifrif ynglŷn â chodi'r gwastad. I'r gwrthwyneb—gwrthodir cyfle i awdurdodau wario unrhyw arian o gyllid y gronfa ffyniant gyffredin yn y flwyddyn ariannol hon, yn groes i'r ymrwymiadau blaenorol gan Lywodraeth y DU. A phe baem wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd, gadewch inni gofio y byddai'r rhaglenni UE hirdymor, amlflwydd wedi dechrau bron i ddwy flynedd yn ôl yn 2021—byddai £375 miliwn o gyllid ychwanegol yn dod i ni yma yng Nghymru bob blwyddyn. Mae hwnnw wedi'i golli, felly nid yw'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei gyflwyno fel cynnig yn gyfnewid am hynny i godi'r gwastad yn dod yn agos at wneud hynny hyd yn oed.

Gwariant ar Lety Dros Dro

4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn ag effaith gwariant ar lety dros dro ar gyllidebau awdurdodau lleol? OQ58781

Mae digartrefedd yn flaenoriaeth ar draws y Llywodraeth, ac rwy'n cael sgyrsiau rheolaidd gyda chyd-Weinidogion ynglŷn â sut y gallwn weithio gydag awdurdodau lleol i roi atebion trawsbynciol ar waith.

Diolch, ac rwy'n datgan buddiant mewn perthynas â pherchnogaeth ar eiddo. Nawr, mae'r pecyn a baratowyd ar gyfer cyfarfod cabinet sir Conwy a gynhaliwyd yn ddiweddar ar 22 Tachwedd, yn nodi:

'Mae nifer y bobl sy'n cael mynediad at lety dros dro yn cynyddu ar raddfa ddychrynllyd, sy'n cael effaith sylweddol ar y gyllideb ddigartrefedd.'

Gan ystyried bod Llywodraeth Cymru yn parhau i anwybyddu ein rhybuddion, rwyf am ddyfynnu o'r adroddiad sydd wedi ei baratoi ar gyfer cabinet clymblaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy rhwng Llafur Cymru Conwy yn Gyntaf a Phlaid Cymru. Maent yn dweud:

'Mae’r galw’n cynyddu’n sylweddol ar hyn o bryd gan fod pobl yn cael eu troi allan o’r sector rhentu preifat. Y nifer uchaf o rybuddion A21 a gofnodwyd (troi tenantiaid allan heb fai) mewn wythnos yw 30, ac mae’r cyfartaledd bellach yn oddeutu 15 yr wythnos. Mae hyn yn gyfuniad o blygiadau Deddf Rhentu Cartrefi Cymru, morgeisi prynu i osod a’r cynnydd mewn cyfraddau llog.'

Felly, nid oes amheuaeth o gwbl fod deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn gwneud pobl yn ddigartref, ac mae hefyd yn cyfrannu nawr at bwysau cynyddol ar drethdalwyr fy awdurdod lleol. Weinidog, yn hytrach na disgwyl i gabinet Conwy, sydd eisoes dan ormod o bwysau ac yn cael ei danariannu gan eich Llywodraeth Lafur—. Pam y dylent ariannu costau uwch llety dros dro? Ac os caf ddweud—

Na. Na, na, na, na. Fe gewch gyfle eto i ddweud beth bynnag rydych chi eisiau ei ddweud wrthi. Rwy'n credu eich bod wedi gofyn y cwestiwn, onid ydych? 

14:05

Bron iawn. A wnewch chi ymrwymo nawr i dalu am y gost ychwanegol hon, ac a wnewch chi hefyd egluro i'r Senedd hon pa gamau rydych chi fel Llywodraeth yn eu cymryd mewn gwirionedd i adeiladu'r cartrefi y mae'r bobl hyn sy'n byw mewn llety dros dro eu hangen? Diolch. 

Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi diwedd ar ddigartrefedd ledled Cymru, ac i gefnogi hyn rydym yn buddsoddi dros £197 miliwn mewn gwasanaethau cymorth digartrefedd a thai, yn ogystal â'r buddsoddiad mwyaf erioed o £310 miliwn mewn tai cymdeithasol y flwyddyn ariannol hon yn unig. Ac rydym hefyd wedi sicrhau bod £10 miliwn ar gael i awdurdodau lleol i gefnogi'r ddarpariaeth o lety dros dro, wrth inni symud tuag at ddull ailgartrefu cyflym. Rydym hefyd wedi darparu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol ar gyfer darparu benthyciadau eiddo di-log, er enghraifft, i landlordiaid a pherchnogion tai ar gyfer gwelliannau yn y cartref i adnewyddu eiddo gwag a'i adfer i safon lle gellir ei ddefnyddio i gynyddu'r cyflenwad o dai yn lleol. Mae hyn hefyd, mewn gwirionedd, yn cynnwys troi eiddo masnachol yn dai neu'n fflatiau hefyd. 

Felly, mae llawer iawn o waith yn digwydd gydag awdurdodau lleol. Mae'r cynllun hwnnw ar ei ben ei hun wedi dod â dros 1,600 o gartrefi yn ôl i ddefnydd ledled Cymru, ac wedi cefnogi gwelliannau i 1,300 o gartrefi eraill. Ac yn ogystal â hyn hefyd, o safbwynt cyllid, rydym yn ymateb i'r pwysau yn y system, felly rydym wedi darparu £6 miliwn ychwanegol i gronfa ddewisol ar gyfer atal digartrefedd, ac mae honno'n darparu'r hyblygrwydd mwyaf posibl i awdurdodau lleol helpu pobl, pobl sy'n derbyn budd-daliadau sy'n gysylltiedig â thai a'r rhai nad ydynt yn eu derbyn, er mwyn osgoi digartrefedd. Felly, fel y gwelwch, rydym yn darparu symiau sylweddol o gyllid drwy awdurdodau lleol a'n partneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i helpu i atal digartrefedd, ond nid yw hynny am eiliad yn lleihau maint yr her sy'n dal i'n hwynebu. 

Weinidog, rwy'n ymwybodol fod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy bolisi ailgartrefu cyflym sydd wedi gweithio'n dda mewn amgylchiadau enbyd, a bod cynghorau hefyd yn cynghori tenantiaid preifat i aros lle maent os ydynt yn cael hysbysiadau troi allan heb fai tra'u bod yn ceisio eu helpu gyda'r cyllid rydych newydd ei grybwyll. Ac mae'n rhaid imi ddweud, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn wirioneddol gyfeiliornus yn rhoi'r bai ar Lywodraeth Cymru, sy'n gwneud popeth yn ei gallu, pan fo hyn o ganlyniad i doriadau'r Torïaid a phwysau ariannol sy'n cael ei greu ar lefel San Steffan yn bennaf. Weinidog, un o'r problemau mwyaf a glywsom yn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yw'r ffaith bod y lwfans tai lleol wedi cael ei rewi yn 2020 ar rent llawer is na'r farchnad, ynghyd â pholisïau Llywodraeth y DU fel y dreth ystafell wely. Fe glywsom yn y pwyllgor fod tŷ preifat tair llofft yn Abertawe yn £1,000 erbyn hyn, a dim ond £500 o'r rhent oedd yn cael ei dalu gan y lwfans tai lleol. Rwy'n deall bod y gronfa taliadau disgresiwn at gostau tai, y gellir ei defnyddio fel ychwanegiad, hefyd wedi cael ei thorri gan Lywodraeth y DU yn San Steffan. A yw hynny'n gywir? 

Mae'r cyllid taliadau disgresiwn at gostau tai, a weinyddir gan Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU, 26 y cant yn llai yn 2022-23 nag yn y flwyddyn flaenorol. A chan gofio ein bod mewn cyfnod ofnadwy, o ran y pwysau ar aelwydydd, nid dyma'r amser o gwbl i fod yn torri'r cymorth hanfodol hwnnw. Mewn gwirionedd, mae'r gostyngiad hwnnw'n dilyn gostyngiad o 18 y cant yn 2021-22 o'i gymharu â'r flwyddyn cynt. Cyllid y taliadau disgresiwn at gostau tai yn 2022-23 yw'r swm isaf y mae Cymru wedi'i gael ers dechrau polisi diwygio lles Llywodraeth y DU, ac rwy'n credu bod hynny'n dweud cyfrolau am ba mor heriol fydd y cyfnod hwn i bobl ledled Cymru a fydd yn dibynnu ar y cyllid hwn.

A dyna un o'r rhesymau pam ein bod wedi darparu'r £6 miliwn ychwanegol y cyfeiriais ato, a hefyd pam ein bod wedi ceisio sicrhau bod cymaint o hyblygrwydd â phosibl i awdurdodau lleol yno. Gall awdurdodau gynnig mesurau ataliol, megis cynnig gwarant rhent, gallant dalu am ôl-ddyledion rhent fel rhan o becyn gweithredu i gynnal tenantiaeth, a gallant hefyd ychwanegu at y cyllid taliadau disgresiwn at gostau tai yn lleol, ac rwy'n gwybod bod rhai awdurdodau wedi penderfynu gwneud hynny hefyd. Felly, rydym yn ceisio cefnogi awdurdodau cymaint â phosibl, ond rwy'n credu bod y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn tynnu'n ôl o'r cyllid taliadau disgresiwn at gostau tai yn destun gofid mawr i bob un ohonom.

Costau Byw Cynyddol

5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith costau byw cynyddol ar wasanaethau llywodraeth leol? OQ58786

Mae chwyddiant o dros 10 y cant wedi erydu gwerth cyllidebau llywodraeth leol i raddau pryderus. Yn ogystal ag effaith costau cynyddol ar gyfer ynni, cyflogau, trafnidiaeth a bwyd, mae cynghorau hefyd yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â'r effeithiau ar eu cymunedau.

14:10

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw? Ac fel rydych wedi'i ddweud, mae'n amlwg fod cyllid o dan bwysau gwirioneddol. Bydd y gwasanaethau yn cael eu hymestyn i bob cyfeiriad posibl, ond bydd yr angen i ymateb i lefelau cynyddol o dlodi yn anodd iawn. Pwy fyddai wedi meddwl, hyd yn oed flwyddyn yn ôl—flwyddyn yn ôl—y byddem yn sôn am ganolfannau cynnes yn cael eu darparu gan gynghorau lleol ledled Cymru, ym mhob un o'n cymunedau ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig? Weinidog, ymhlith pethau eraill, bydd bodolaeth mesuryddion rhagdalu yn llywio'r galw am y canolfannau cynnes hyn. Mae pobl yn cael eu trosglwyddo i fesuryddion rhagdalu ac yn cael eu gwthio ymhellach i dlodi. Yn wrthnysig, maent yn sicrhau bod y rhai lleiaf abl i dalu yn talu mwy am eu hynni, a hynny er budd i neb heblaw i wneud elw i'r cwmni ynni a chasglwyr dyledion. Weinidog, mae hwn yn fater o fywyd neu farwolaeth mewn gaeaf oer. A ydych yn cytuno y dylid cael moratoriwm ar unwaith ar eu gosod, ac y dylai Llywodraeth y DU anfon neges gref i'r cyflenwyr ynni hyn am y peryglon sy'n gysylltiedig â phobl yn cael eu datgysylltu bob tro y maent yn mynd yn brin o gredyd?

Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr: mae angen i Lywodraeth y DU fod yn defnyddio ei holl ddylanwad ar y cwmnïau ynni i leihau effaith yr argyfwng costau byw ar y bobl fwyaf agored i niwed. Ac i dawelu meddwl yr Aelod—a gallwn glywed llawer o gefnogaeth i'r hyn a ddywedodd gan eraill yn y Siambr—fe gyfarfu'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol â chyflenwyr ynni yn gynharach yn y mis, ac fe wnaeth bwyso arnynt ynghylch y mater penodol hwn. Ac mae hi hefyd wedi ceisio ac wedi cael sicrwydd yn y gorffennol gan gwmnïau ynni fod trefniadau yn eu lle i estyn allan at aelwydydd sy'n cael trafferth gyda biliau ynni. Ac fe wnaethant gydnabod yr angen i ymgorffori mecanweithiau cymorth priodol, yn seiliedig ar allu pobl i dalu, megis dileu dyledion ynni tymor byr, cytuno ar gynlluniau ad-dalu fforddiadwy, yn seiliedig ar y gallu i dalu, a lle bo'n briodol, cyfeirio aelwydydd at gynlluniau i wella eu defnydd effeithlon o ynni a lleihau biliau. Felly, rwy'n credu nawr fod angen inni bwyso ar gwmnïau ynni i ddangos beth y maent wedi'i wneud mewn ymateb i'r trafodaethau hynny.

A gaf fi ymuno â Jack Sargeant i gydnabod rhai o'r gwasanaethau pwysig iawn y mae ein hawdurdodau lleol yn eu darparu o ddydd i ddydd, yn enwedig ar adegau o anhawster y mae llawer yn eu profi ar hyn o bryd? Ac fel sydd wedi'i amlygu gan nifer o Aelodau o gwmpas y Siambr, mae'r awdurdodau lleol hynny unwaith eto'n profi heriau gyda'u sefyllfa ariannol. Un o'r pryderon allweddol sydd wedi'u dwyn i fy sylw yw'r ffaith bod rhai cynghorau yng Nghymru wedi dweud wrth eu hysgolion y dylent baratoi i leihau eu cyllidebau oddeutu 10 y cant yn y flwyddyn ariannol nesaf. Byddwn wedi meddwl bod ysgolion ac addysg yn un o'r gwasanaethau craidd y mae awdurdodau lleol yn eu darparu. Felly, fy nghwestiwn i, Weinidog, yw a fyddwch chi'n rhoi cyfarwyddyd neu arweiniad i awdurdodau lleol, wrth benderfynu ar eu cyllidebau yn y flwyddyn ariannol nesaf, ac a fydd rhan o'r cyfarwyddyd neu'r arweiniad hwnnw yn ymwneud â'r gwasanaethau craidd hanfodol hynny, megis cyllid ar gyfer ein hysgolion?

Wel, nid wyf am achub y blaen ar ganlyniad y trafodaethau cyllidebol parhaus sy'n digwydd yn gyffredinol ar hyn o bryd, ond rwyf am ddweud bod y pwysau ar addysg, fel y disgrifiodd yr Aelod, wedi cael ei ddwyn i sylw Llywodraeth Cymru yn amlwg iawn gan gydweithwyr llywodraeth leol, ac mae fy nghyd-Weinidog Gweinidog y Gymraeg ac Addysg bob amser yn cyflwyno achos cadarn iawn dros ysgolion ac addysg hefyd. Felly, nid wyf eisiau mynd yn llawer pellach na hynny ar hyn o bryd. Ond mewn perthynas â chyhoeddi'r gyllideb, yn amlwg fe fyddaf yn ceisio cyflwyno cymaint o wybodaeth ag y gallaf i gyd-Aelodau, ac rwy'n gwybod y bydd awdurdodau lleol eisiau gosod eu cynlluniau gwariant ar gyfer eu cydweithwyr hefyd.

A gaf fi gysylltu fy hun â sylwadau Jack Sargeant ynglŷn â mesuryddion rhagdalu? Maent yn anghywir, maent yn anfoesol, ac mae angen gweithredu arnynt cyn gynted â phosibl. Ond hoffwn wybod pa sgyrsiau sydd wedi digwydd gyda chwmnïau ynni mewn perthynas â chyflwyno tariff cymdeithasol posibl, yn debyg i'r hyn sydd gennym gyda'r cwmnïau dŵr a darparwyr band eang. Rwy'n credu y bydd hyn hefyd yn gwneud llawer i ddarparu ynni i bobl sy'n cael trafferth talu.

Yn hollol, ac mae hynny'n rhywbeth roeddem yn pwyso ar Lywodraeth y DU i'w ddarparu cyn datganiad yr hydref a chyn y gyllideb cyn honno, mewn gwirionedd. Ond o ran trafodaethau gyda chwmnïau ynni, mae'r rheini'n tueddu i ddigwydd rhwng y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Gweinidog Newid Hinsawdd; hwy fydd yn cael y trafodaethau uniongyrchol gyda'r cwmnïau ynni hynny. Efallai y gallwn ofyn i'r Gweinidogion hynny roi diweddariad i'r Aelodau.

14:15
Cronfeydd Wrth Gefn Llywodraeth Leol

6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gydag awdurdodau lleol am ddefnyddio cronfeydd wrth gefn llywodraeth leol? OQ58793

Rwyf wedi trafod cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol gydag arweinwyr fel rhan o'n trafodaethau parhaus ar bwysau a chyllid. Mae pob arweinydd wedi pwysleisio eu bod eisoes yn defnyddio cronfeydd wrth gefn i reoli eu pwysau presennol a'u bod yn disgwyl y bydd yn rhaid iddynt barhau i wneud hynny y flwyddyn nesaf. 

Mae hyn eisoes wedi cael ei drafod yma yn y Siambr sawl gwaith y prynhawn yma, Weinidog. Rydym hyd yn oed wedi clywed enw Leighton Andrews yn cael ei ddefnyddio y prynhawn yma hefyd—ysbryd y Nadolig a fu. Ond pe gallem geisio meddwl am y defnydd o'r cronfeydd wrth gefn hyn, oherwydd, fel rwy'n ei ddeall ac fel y mae cwestiynau blaenorol wedi'i amlygu, mae cynnydd o 35 y cant wedi bod yn y cronfeydd wrth gefn hyn, a bydd trethdalwyr lleol yn synnu at y naid honno yn y cronfeydd wrth gefn i £2.7 biliwn pan fyddant yn dechrau gweld eu gofynion treth gyngor eu hunain yn ymddangos yn y flwyddyn newydd. Felly, fel Gweinidog cyllid, a wnewch chi bopeth yn eich gallu i sicrhau nad oes unrhyw arian yn cael ei gelcio mewn neuaddau sir ac yn y pen draw y bydd y cronfeydd wrth gefn hyn yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau fel bod modd cadw'r dreth gyngor mor isel â phosibl yn y flwyddyn newydd ac y bydd yn talu eu cyfraniad gyda'r pwysau costau byw y mae pobl yn eu teimlo yng nghyllidebau eu haelwydydd?

Hoffwn ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth gyd-Aelodau yn gynharach mewn perthynas â thrafodaethau rwyf wedi bod yn eu cael gyda llywodraeth leol, maent yn llwyr gydnabod yr angen i ddefnyddio'r cronfeydd wrth gefn hynny eleni i reoli rhai o'r pwysau, a'r flwyddyn nesaf hefyd. A bod yn onest, rwy'n teimlo rhyddhad fod awdurdodau lleol mewn sefyllfa ariannol well i wynebu'r cyfnod anodd sydd o'n blaenau, yn enwedig pan fyddwch yn eu cymharu â'u cymheiriaid dros y ffin yn Lloegr, sydd wedi cael llawer o gyllid wedi'i dynnu oddi arnynt dros y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n siŵr y byddai'n llawer gwell gan awdurdodau yn Lloegr fod mewn sefyllfa lle mae ganddynt o leiaf rywfaint o gronfeydd wrth gefn i fynd â hwy i mewn i'r flwyddyn nesaf. Wedi dweud hynny, rwy'n llwyr gydnabod yr hyn a ddywedwyd am y ffaith nad yw'r sefyllfa'n gyfartal ledled Cymru. Mae'n amrywio o awdurdod i awdurdod. Mae yna rai awdurdodau sydd â llai o gronfeydd wrth gefn ac yn amlwg bydd ganddynt lai o allu i ddefnyddio'r cronfeydd wrth gefn hynny mewn cyfnod anodd. 

Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith datganiad yr hydref Llywodraeth y DU ar waith byrddau gwasanaethau cyhoeddus? OQ58773

Mae datganiad yr hydref yn cynyddu'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus. Mae'r arian sy'n cael ei ddarparu ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn cael ei dorri mewn termau real, gan gyfyngu ar eu hadnoddau hyd yn oed ymhellach. Mae hyn yn gwneud gwaith byrddau gwasanaethau cyhoeddus i wella llesiant eu cymunedau yn heriol, ond yn bwysicach nag erioed.  

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Er gwaethaf ymdrechion gorau'r Blaid Geidwadol y prynhawn yma, bydd unrhyw un sydd ag unrhyw ddealltwriaeth sylfaenol neu unrhyw ddealltwriaeth ariannol o gwbl yn deall y toriadau sy'n cael eu gwneud yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, eleni ac yn y dyfodol. Fodd bynnag, yr hyn a welwn yw gwasanaethau cyhoeddus sy'n wynebu toriadau flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, a chanlyniad hynny, wrth gwrs, yw llai o wasanaethau i'r bobl rydym i gyd yn eu cynrychioli yma. Ond Weinidog, rydym hefyd yn gweld llywodraethu mwyfwy cymhleth yng Nghymru. Rydym yn gweld llu o fyrddau a chomisiynau. Mae pawb ohonom yn gwybod bod llawer gormod o awdurdodau lleol yn y wlad. Ond rydym yn gweld cymhlethdod cynyddol sy'n rhwystro darpariaeth gwasanaethau, yn enwedig ar adeg pan fônt o dan bwysau ariannol sylweddol. Felly, a wnaiff y Llywodraeth ymrwymo nid yn unig i ddarparu arian ar gyfer gwasanaethau lleol yn y ffordd orau bosibl, ond hefyd i adolygu cymhlethdod llywodraethu yng Nghymru, gyda golwg ar symleiddio'r sector cyhoeddus i'n galluogi i ganolbwyntio cyllid sydd ar gael ar y rheng flaen a darparu gwasanaethau i'r bobl sydd eu hangen?

Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i weithredu ar yr argymhellion o'r adolygiad o'r partneriaethau strategol, a gytunwyd gan gyngor partneriaeth Cymru. Ond rydym o'r farn y dylai unrhyw newidiadau gael eu harwain yn lleol a'u llywio'n lleol. Rwy'n credu ein bod wedi gweld enghraifft dda o hynny yn y ffordd y mae'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus yng Ngwent wedi dod at ei gilydd a gweithredu fel un ôl troed yn y gofod hwnnw. Nid wyf yn siŵr a yw'r Aelod yn cytuno â mi 100 y cant, ond rwy'n fwy na pharod i'w archwilio ymhellach.

Lle mae cyfleoedd i gyrff weithio'n agosach gyda'i gilydd, rwy'n credu ei bod yn bwysig eu bod yn gwneud hynny. Dyna un o'r rhesymau rwy'n falch ein bod yn cyflawni gwaith drwy'r cytundeb cydweithio ar hyn o bryd sy'n edrych ar bartneriaethau strategol er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y diben, er mwyn sicrhau eu bod ar yr ôl troed iawn, er mwyn sicrhau bod ganddynt y cylch gorchwyl sydd ei angen arnynt, er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio ar draws ffiniau yn y ffordd orau bosibl, ac i nodi rhwystrau ar gyfer gweithio'n well fel y gellir lleihau'r rheini hefyd. Rwy'n credu y bydd y gwaith hwnnw o gymorth i geisio rhesymoli partneriaethau lle bo angen, ond hefyd i wneud yn siŵr fod ffocws gwell i'r gwaith a'i fod wedi'i symleiddio. Mae'r gwaith hwnnw ar y gweill ar hyn o bryd.

Y bwriad yw cyflwyno adroddiad i gyngor partneriaeth Cymru yn gynnar yn y flwyddyn newydd pan fyddwn wedi gwneud cyfweliadau, os mynnwch, gyda phob un o'r partneriaethau strategol. Mae Cefin Campbell a minnau wedi bod yn cael cyfarfodydd diddorol iawn gyda chadeiryddion yr holl fyrddau strategol i glywed eu safbwyntiau a'u profiadau i helpu i lywio'r gwaith, a byddwn yn cyflwyno syniadau ar y ffordd ymlaen o ganlyniad i hynny. Ond yr ateb byr yw ein bod yn parhau i ystyried y dirwedd partneriaeth strategol, er ein bod ychydig ymhellach i ffwrdd o'r nod mewn perthynas â mater llywodraeth leol ar hyn o bryd, mae'n debyg.

14:20
Trothwyon Treth Incwm

8. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o effaith datganoli gosod trothwyon treth incwm i Gymru? OQ58797

Byddai datganoli trothwyon y dreth incwm yn cyflwyno cyfleoedd a risgiau, a byddem eisiau ystyried hyn fel rhan o'n strategaeth ehangach ar gyfer trethi datganoledig. Mae angen i Lywodraeth y DU ymgysylltu â ni i adolygu'r broses ar gyfer sicrhau bod rhagor o bwerau treth yn cael eu datganoli i Gymru.

Diolch ichi am hynny. Wrth gwrs, mae e wedi'i ddatganoli i'r Alban, onid yw e? Mae hynny'n caniatáu iddyn nhw greu trothwyon sydd yn adlewyrchu'n well broffil talwyr treth incwm yn yr Alban. Ac os edrychwch chi ar broffil talwyr treth incwm yng Nghymru, wrth gwrs, mae'r mwyafrif llethol ohonyn nhw yn y band sylfaenol, sy'n wahanol, wrth gwrs, os ydych chi’n edrych ar y ffigurau, i weddill y Deyrnas Unedig, o safbwynt y ratio trethdalwyr, sy'n golygu wedyn, wrth gwrs, fod cael ein gorfodi i fabwysiadu trothwyon San Steffan yn golygu nad yw e'n adlewyrchu yr angen a'r sefyllfa yng Nghymru. Mae e, felly, yn fwy regressive nag y dylai fe fod, ac felly dwi eisiau neges glir eich bod chi'n awyddus iddo fe gael ei ddatganoli fel bod modd creu trothwyon mwy progressive, mwy adlewyrchiadol o sefyllfa incymau yma yng Nghymru. A gaf i ofyn a ydych chi fel Llywodraeth wedi ystyried gwneud rhyw ymchwil neu ryw fath o fodelu i weld beth fyddai’r opsiynau posib fel rhan o greu yr achos ar gyfer datganoli'r maes yma?

Roeddwn yn falch o weld yr Aelod yn ein cynhadledd drethi, a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf. Rwy'n gobeithio iddo ei mwynhau gymaint ag y gwnes i. Roedd un o'r sesiynau a gynhaliwyd gyda chynrychiolwyr o'r Alban a Gogledd Iwerddon yn ddiddorol iawn, lle roeddent yn ystyried gwahanol risgiau a chyfleoedd y gwahanol fframweithiau cyllidol sydd gennym.

Byddai datganoli'r trothwyon yn ein galluogi i gael mwy o hyblygrwydd o ran polisïau, a byddai'n ein galluogi i bennu ein dull ein hunain o ymdrin â chyfraddau treth incwm Cymreig mewn ffordd wahanol, gan gydnabod dosbarthiad incwm yng Nghymru a phwysigrwydd system fwy blaengar, lle mae'r rhai sy'n gallu fforddio talu mwy o dreth yn gwneud hynny. Fodd bynnag, byddai'n anodd datganoli'r trothwyon heb ddatganoli'r sylfaen dreth gyfan. Rwy'n credu y byddai hynny wedyn, o bosibl, yn ein gwneud yn llawer mwy agored i risg drwy refeniw a'r addasiad cysylltiedig i'r grant bloc. Rwy'n credu bod angen inni fod yn ofalus iawn fod gennym y capasiti a'r hyblygrwydd i reoli'r mathau hynny o risgiau. Nid oes ond rhaid inni edrych ar y profiad yn yr Alban i weld y gall bod yn agored i'r sylfaen dreth gyfan arwain at rai problemau cyllidebol mewn gwirionedd. Gofiwch chi am y twll du y buom yn sôn amdano ychydig flynyddoedd yn ôl pan oedd y cysoni'n digwydd mewn perthynas â'r derbyniadau treth rhagamcanol a beth a dderbyniwyd mewn gwirionedd? Felly, mae yna risgiau posibl.

Wedi dweud hynny, mae'n wir fod ein sylfaen dreth yn wahanol i un Lloegr. Mae gennym gyfran uwch o drethdalwyr y gyfradd sylfaenol. Mae cyflogau'n is yma yng Nghymru hefyd. Ar gyfer gweithwyr amser llawn, y cyflog wythnosol canolrifol ym mis Ebrill 2022 oedd 94 y cant o gyfartaledd y DU. Rwy'n credu y byddai angen inni ystyried yr holl ffactorau hynny mewn perthynas â'r awgrym i ddatganoli'r trothwyon, oherwydd byddai cryn risgiau yn dod ochr yn ochr â hynny. Hefyd, fel y dywedais yn y gynhadledd drethi, mae datganoli cyfraddau treth incwm Cymreig yn beth eithaf newydd. Nid ydym ond wedi bod yn ei chasglu ers blwyddyn neu ddwy. Rwy'n credu y byddai'n synhwyrol inni adael iddo ymwreiddio wrth inni archwilio sut fyddai pethau yn y dyfodol, ac mae edrych ar hynny yn rhan o rôl y comisiwn.

14:25

Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn hyn, Lywydd. Wrth roi ateb da a llawn iawn i fy nghwestiwn cynharach, cyfeiriodd y Gweinidog at Aelod arall, Cefin Campbell, mewn perthynas â chyflawni rôl weithredol o fewn y Llywodraeth. Rydym i gyd yn deall y cytundeb cydweithio, ac fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, rwy'n llwyr gefnogi'r cytundeb cydweithio. Fodd bynnag, nid oes gan Aelodau yn y Siambr hon gyfle i graffu ar Aelodau Plaid Cymru sy'n ffurfio rhan o hyn, ac nid oes cyfle i ddeall y rôl sy'n cael ei chwarae. O'r herwydd, cyfyngir ar ein cyfle i graffu ar y cytundeb a'r polisïau sy'n deillio o'r cytundeb hwnnw. Hoffwn ofyn i chi, Lywydd, a wnewch chi adolygu'r sefyllfa hon, oherwydd byddwn yn nodi blwyddyn ers sefydlu'r cytundeb cydweithio yr wythnos hon, i sicrhau bod Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn gallu craffu ar bob agwedd o waith y Llywodraeth.

Fe ystyriaf y pwynt a godwyd gan yr Aelod. Mae'r Gweinidog, wrth gwrs, yma i gael ei chraffu ar bob mater yn ei phortffolio, sy'n cynnwys gweithrediad y cytundeb cydweithio, ond fe roddaf ystyriaeth bellach i'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud yng ngoleuni'r ffaith ei bod yn flwyddyn ers  i'r cytundeb cydweithio gael ei roi ar waith. Rydym yn gwybod, wrth gwrs, ei fod yn destun craffu ym mhwyllgor craffu'r Prif Weinidog yr wythnos nesaf hefyd. Felly, mae'n amser addas inni fyfyrio ar y materion hyn. Diolch i'r Gweinidog am y craffu y prynhawn yma.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Y cwestiynau i'r Gweinidog materion gwledig a'r gogledd sydd nesaf. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Peredur Owen Griffiths.

Dyfodol Hyfyw i Ffermio

1. Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau dyfodol hyfyw i ffermio? OQ58785

Member
Lesley Griffiths 14:27:15
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Mae Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn sefydlu pedwar amcan rheoli tir yn gynaliadwy fel y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer polisi amaethyddol yn y dyfodol. Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig yn cynnwys camau a fydd yn helpu ffermwyr i wneud y defnydd gorau o'u hadnoddau a gwella cadernid eu ffermydd a'u busnesau.

Diolch am yr ateb yna.

Rwy'n cefnogi ymdrechion i sefydlu cyfres o gamau gweithredu ar gyfer holl ffermwyr Cymru yn gyfnewid am daliadau sylfaenol cyffredinol blynyddol a fydd yn hyrwyddo bioamrywiaeth ac yn rhoi hwb i'r amgylchedd yn ein gwlad. Fodd bynnag, rwy'n rhannu pryderon yr undebau amaeth y bydd ffermwyr tenant neu'r rhai sydd â hawliau tir comin, yn debyg i un yr ymwelais ag ef yn fy rhanbarth, yn ei chael hi'n anodd bodloni gofynion y cynllun. Sut y byddwch chi'n sicrhau y bydd eich egwyddorion cyffredinol ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy yn cynnwys ac yn gwarchod y mathau o ffermwyr rwyf wedi cyfeirio atynt? Maent yn rhan o draddodiad hir yng nghefn gwlad Cymru ac yn y Cymoedd rwy'n eu cynrychioli, ac mae'n rhaid inni sicrhau nad yw canlyniadau anfwriadol y cynllun yn bygwth eu dyfodol.

Diolch. Mae'n hynod bwysig fod y cynllun ffermio cynaliadwy yn gweithio i bob ffermwr ar bob math o fferm ym mhob rhan o Gymru. Felly, rydym wedi sefydlu hanner dwsin o weithgorau i edrych ar feysydd penodol. Mae ffermwyr tenant yn un maes, ac mae ffermwyr tir comin yn un arall. Mae'r ddau fath yn rhannau pwysig iawn o'r sector amaethyddol yma yng Nghymru. Gwyddom fod tir comin yn bwysig ar gyfer manteision amgylcheddol, er enghraifft, megis bioamrywiaeth a rheoli dŵr, ac mae'n bwysig i'r nifer fawr o ffermwyr sy'n dibynnu arno ar gyfer porthiant hefyd. Fe fyddwch yn gwybod ein bod newydd ddod i ddiwedd y gwaith o gyd-gynllunio'r cynllun ffermio cynaliadwy. Byddwn yn edrych ar yr ymatebion a gawsom a'r trafodaethau a gawsom cyn inni gynnal yr ymgynghoriad terfynol. Ond yn amlwg bydd yr allbynnau o'r gweithgorau rwyf newydd eu crybwyll yn cael eu cynnwys gyda'r holl ymatebion a gawsom i'r allbwn cyd-gynllunio, ynghyd â datblygiad polisi parhaus.

Weinidog, mae sicrhau bod gan ein ffermwyr ddyfodol hyfyw yn bwysig iawn, ond un sector yn arbennig sy'n wynebu pwysau enfawr yw ein diwydiant dofednod, gan eu bod yn gorfod ymdopi â ffliw adar a chynnydd enfawr mewn costau ynni. A wnewch chi amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi ein ffermwyr dofednod i sicrhau bod ganddynt ddyfodol cynaliadwy, hyfyw yn y diwydiant dofednod yma yng Nghymru?

Yn amlwg, rydym wedi gweld nifer digynsail o achosion o ffliw adar. Nid ydym wedi cael unrhyw seibiant o gwbl dros yr haf, cyfnod lle nad ydym yn gweld unrhyw glystyrau o achosion o gwbl fel arfer. Mae wedi bod gyda ni yn barhaus dros y tair blynedd diwethaf. Rydym yn dechrau cyfri'r achosion newydd o 1 Hydref bob blwyddyn, ac ers 1 Hydref 2022, rydym eisoes wedi cael tri chlwstwr o achosion yma yng Nghymru, felly mae'n gyfnod anodd iawn i'n cynhyrchwyr dofednod ar hyn o bryd, yn enwedig, oherwydd gwyddom fod llawer o ffermwyr wedi arallgyfeirio i ffermio dofednod. Mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar hyn ledled y DU. Ddydd Llun nesaf, byddaf yn cael fy nghyfarfod grŵp rhyngweinidogol rheolaidd gyda fy swyddogion cyfatebol ym mhob rhan o'r DU. Rwyf wedi gofyn i hyn fod yn eitem ar yr agenda, oherwydd, yn amlwg, mae angen inni weithio fel pedair gwlad i gefnogi ein ffermwyr dofednod.

14:30

A gaf fi dynnu eich sylw at y gofrestr fuddiannau a'r sawl sefydliad rwy'n perthyn iddynt sydd â buddiant yn y maes hwn, gan gynnwys Cymdeithas Milfeddygon Prydain, y Cerddwyr ac eraill? Ond a gaf fi ganmol y Gweinidog ar y modd y mae hi'n ceisio creu dyfodol i ffermio cynaliadwy yng Nghymru sy'n cydbwyso'r hyn sy'n ymddangos weithiau fel buddiannau sy'n cystadlu, ond nad ydynt yn fuddiannau sy'n cystadlu mewn gwirionedd?

A wnaiff hi ddweud wrthyf sut, o fewn y Bil amaeth—a chroesawodd Llyr a minnau y cyfle i fod yn rhan o'r Bil hwnnw y diwrnod o'r blaen, gan gymryd tystiolaeth gan y Gweinidog—ond hefyd yn y cynigion ar ffermio cynaliadwy yn y dyfodol yn ogystal, sut y gwnaiff hi sicrhau bod gennym fywoliaeth i ffermwyr a thirfeddianwyr wrth symud ymlaen, yn enwedig oherwydd yr effaith ar iaith a diwylliant Cymru, ond ar ffermydd bychain a chanolig hefyd? Ond hefyd, sut mae ehangu ac ychwanegu at y manteision cyhoeddus ehangach y soniodd amdanynt, fel lleihau perygl llifogydd, fel atafaelu carbon, ond hefyd, Weinidog, mynediad at y tir, bioamrywiaeth—sut mae cydbwyso'r cyfan? Mae hyn yn gymhleth, ond mae'n rhaid ei wneud oherwydd rwy'n credu bod hwn yn gyfle un-tro i wneud pethau'n iawn.

Diolch i chi. Rwy'n credu ei fod yn gyfle un-tro a dyma'r tro cyntaf, yn amlwg, y gallasom gael y polisi yma sy'n benodol i Gymru, ac mae'n hynod bwysig ei fod yn gweithio i'n ffermwyr ni yma yng Nghymru ac i sicrhau ein bod ni'n cadw ffermwyr ar y tir a'n bod yn gwarchod y tirweddau gwych sydd gennym yma yng Nghymru.

Fe fyddwch yn gwybod bod Bil amaethyddiaeth Cymru yn cynnwys pedwar amcan, ac fe wnaethoch chi sôn am un neu ddau o'r amcanion, yn enwedig canlyniadau diwylliannol, amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Dywedais yn fy ateb cynharach ei bod hi'n bwysig iawn i'r cynllun hwnnw fod ar gael i bawb. Nawr, rwy'n credu, ar hyn o bryd, fod llawer o'r canlyniadau amgylcheddol hynny'n cael eu cynhyrchu gan ein ffermwyr ac nad ydynt yn cael eu gwobrwyo amdanynt. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n ceisio cymell ein ffermwyr i fod yn rhan o'r cynllun. Yn sicr, hoffwn weld mwy o ffermwyr yn cymryd rhan yn y cynllun nag sy'n cymryd rhan yng nghynllun y taliad sylfaenol ar hyn o bryd, er enghraifft. Felly, mae gennym waith cyfochrog yn digwydd nawr gyda Bil amaethyddiaeth Cymru a'r cynllun ffermio cynaliadwy. Ond bydd gwaith ansawdd dŵr a phridd, a gwarchod ein cynefinoedd y mae ffermwyr yn ei wneud ar hyn o bryd ond nad ydynt yn cael eu gwobrwyo amdano yn sicr yn rhan o'r cynllun ffermio cynaliadwy.

Prynhawn da, Weinidog. Roeddwn yn awyddus i ddilyn cwestiwn Peredur, yn enwedig ynghylch ffermwyr sy'n ffermio ar dir comin. Ddydd Llun, roeddem yn y ffair aeaf—roedd llawer ohonom ni yno—ac fe gyfarfuom â ffermwyr, Gary Williams o sir Gâr, a Guto Davies o Glwyd, sydd ill dau yn ffermio ar dir comin. Roedd yn ddiddorol iawn clywed rhai o'r heriau a wynebant, heriau y byddwch chi'n ymwybodol ohonynt, yn ddiamheuaeth, yn enwedig y pryderon a nododd Peredur: gallu ffermwyr ar dir comin i gael mynediad at y cynllun ffermio cynaliadwy a chyflawni yn erbyn rhai o elfennau'r cynllun na fydd hyd yn oed yn bosibl i rai ohonynt. Fe wyddom fod rhaid i ffermwyr sydd â hawliau tir comin, y mae cynllun y taliad sylfaenol a Glastir yn ganolog i incwm eu ffermydd—eu bod yn gallu cael mynediad a chymryd rhan yn y cynllun ffermio cynaliadwy. Fe wyddom fod oddeutu 65 y cant o dir comin wedi'i gynnwys yn Glastir ac fe wnaeth dros 3,000 o fusnesau fferm ddatgan tiroedd comin at ddiben hawlio cynllun y taliad sylfaenol yn 2021. A gaf fi ofyn i chi ehangu ychydig mwy ar eich ymrwymiad i sicrhau bod y cynllun yn sensitif i anghenion ffermwyr tir comin? Diolch yn fawr iawn.

Diolch i chi, ac fel y dywedais yn fy ateb cynharach, rydym yn sefydlu gweithgor tir comin ac rwyf am i'r gweithgor hwnnw archwilio pa gymorth a chyngor penodol y gallai fod eu hangen, yn ogystal â pha hyblygrwydd y gallai fod angen inni ei gynnig i gyfrif am y cymhlethdodau sy'n cael eu hachosi gan dir comin. 

Fel y byddwch yn gwybod, yng nghynigion amlinellol y cynllun ffermio cynaliadwy, mae gennym dair haen: mae gennym yr haen gyffredinol, yr hen ddewisol a'r haen gydweithredol. Ac yn sicr, yn y trafodaethau a gefais gyda ffermwyr tir comin, rwy'n meddwl ei bod hi'n deg dweud nad yw'r gweithredoedd cyffredinol a'r gweithredoedd dewisol, fel y'u disgrifir yn y ddogfen amlinellol ar hyn o bryd, yn berthnasol i dir comin yn yr un ffordd ag y maent i ffermydd eraill. Felly gallai fod angen inni ganolbwyntio ar y lefel gydweithredol ar gyfer ein ffermwyr tir comin. Wyddoch chi, mae tir comin yn unigryw iawn, ac felly rwy'n credu bod angen dull sydd wedi'i deilwra'n llawer gwell.

14:35
Cynllun Lles Anifeiliaid

2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r cynllun lles anifeiliaid i Gymru? OQ58798

Diolch. Mae cynnydd wedi'i wneud ar draws ein pedwar ymrwymiad lles anifeiliaid, ac mae gwaith parhaus yn digwydd yn ôl yr amserlen. Mae gwaith ehangach wedi'i wneud ar bolisi lles anifeiliaid, ac mae'r prosiect gorfodi ar gyfer awdurdodau lleol yn sbarduno newid sylweddol, a lansiwyd yr ymgynghoriad 12 wythnos ar deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai ar 14 Tachwedd.

Diolch, Weinidog. Flwyddyn i mewn i'r broses pum mlynedd, fel y dywedwch, mae cynnydd da wedi bod, yn fwyaf arbennig yr ymgynghoriad ar deledu cylch cyfyng gorfodol mewn lladd-dai. Ond o ran blaenoriaethau, a gaf fi ofyn beth yw'r sefyllfa gyda'r defnydd o gewyll bridio ar gyfer adar hela? Rwy'n gwybod bod y cynllun yn cynnwys ymrwymiad i archwilio'r dystiolaeth ynghylch eu defnydd, ond gyda'r tymor saethu newydd wedi cychwyn, mae defnyddio cewyll bridio a sut mae hynny'n cyd-fynd â'n hymrwymiad i les anifeiliaid yn cael sylw, a hynny'n briodol. Felly, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y mater penodol hwnnw?

Diolch. Fel y nodwyd gennych, mae gennym ein blaenoriaethau ar gyfer lles anifeiliaid yn y cynllun. Mae'n rhaglen bum mlynedd, ac rydym yn edrych yn ôl dros y flwyddyn ar yr hyn y llwyddasom i'w gyflawni yn y flwyddyn gyntaf. Nid yw'n bosibl rhoi llinell amser i chi ar gyfer yr ymgynghoriad ar unrhyw newidiadau i'r ddeddfwriaeth les, na'r cod ymarfer, mewn perthynas â lles adar hela. Ac yn sicr, fel y byddwch yn deall, yn swyddfa'r prif swyddog milfeddygol, mae nifer sylweddol o swyddogion yn gorfod ymdrin â'r achosion o ffliw adar, sy'n sicr wedi cael blaenoriaeth, fel y gallwch ddychmygu. Ond yn sicr, wrth inni ddechrau ar ail flwyddyn y cynllun, byddwn yn edrych ar beth y gallwn ei wneud, ac rwy'n gwybod bod hwn yn faes o bwys mawr—gallaf ddweud wrth edrych ar fy mag post pa mor bwysig yw hyn.

Un o'r pethau a ddeilliodd o COVID yw bod llawer o bobl yn ystod y pandemig COVID wedi cael anifail anwes, a chyfrifoldeb am anifail anwes. Mae'r goblygiadau lles, wrth inni gefnu ar COVID, wedi golygu bod llawer o anifeiliaid anwes wedi cael eu gadael, a bod pwysau mawr ar y sector elusennol sy'n tueddu i'w cymryd a gofalu amdanynt a cheisio eu hailgartrefu. A yw'r Llywodraeth wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad o'r gwaith ychwanegol y mae elusennau sy'n gweithio yng Nghymru wedi gorfod ei wynebu oherwydd hyn, ac os yw'r Llywodraeth wedi gwneud dadansoddiad, a ydych chi'n ystyried gweithio gyda hwy yn ariannol ac yn gydweithredol mewn ffyrdd eraill, i gynnal y baich ychwanegol hwn sy'n eu hwynebu, fel bod modd ailgartrefu'r anifeiliaid hyn mewn ffordd synhwyrol, yn hytrach na gorfod eu rhoi i gysgu yn y pen draw, sy'n drasig?

Rydych chi'n hollol iawn—yn sicr fe welsom gynnydd sylweddol yn nifer yr aelwydydd a gafodd anifail anwes yn ystod y pandemig COVID-19. Ac wrth inni gefnu ar y pandemig, a phobl yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl bod yn gweithio gartref efallai, pan gawsant eu hanifeiliaid anwes, fe welsom angen i ailgartrefu llawer o anifeiliaid. Yn anffodus, rwy'n meddwl bod yr argyfwng costau byw hefyd nawr yn cynyddu nifer yr anifeiliaid anwes sydd angen eu hailgartrefu. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw ddadansoddiad arwyddocaol. Gwn fod swyddfa'r prif swyddog milfeddygol wedi gweithio gyda sefydliadau'r trydydd sector i weld beth y gallwn ei wneud i'w cynorthwyo. Rhaid imi fod yn gwbl onest—nid wyf yn meddwl y byddai fy nghyllideb yn caniatáu imi roi unrhyw gyllid pellach i'r trydydd sector, ond yn amlwg, pe bai modd ystyried hynny yn y dyfodol, byddwn yn hapus iawn i wneud hynny.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.

Diolch, Lywydd. Weinidog, dair wythnos yn ôl, fe fuoch chi a minnau'n trafod gwerth Gorchymyn cadw adar dan do i Gymru gyfan oherwydd ffliw adar. Yn eich ymateb i fy apêl am y polisi rhagataliol hwn, fe ddywedoch chi nad oedd y dystiolaeth a oedd gan bob prif swyddog milfeddygol yn galw am ymateb o'r fath yma yng Nghymru. Symudwn ymlaen i'r wythnos diwethaf, ac yn dilyn pwysau gennyf fi, y diwydiant, a chyda thystiolaeth newydd, fe wnaethoch chi adolygu rheoliadau Llywodraeth Cymru, ac o ddydd Gwener ymlaen, bydd gan Gymru ei Gorchymyn cadw adar dan do. Fodd bynnag, fel y gwyddoch, rwy'n siŵr, nid dyma'r unig her sy'n wynebu ein diwydiant dofednod. Mae'r cynnydd yng nghostau gorbenion, ac amharodrwydd yr archfarchnadoedd i dalu pris teg i gynhyrchwyr am eu hwyau, wedi golygu nad yw'r diwydiant yn gallu fforddio costau cynhyrchu, gan annog rhai cynhyrchwyr naill ai i gefnu ar y diwydiant neu leihau maint eu heidiau.

Pan wynebodd y diwydiant llaeth broblemau tebyg gyda'u contractau llaeth, gweithiodd Llywodraeth Cymru i ymgynghori a chyflwyno cytundebau llaeth tecach. Felly, o ystyried hyn—ac yn flaenorol, fe wnaethoch chi sôn bod gennych chi gyfarfod rhynglywodraethol ddydd Llun—a gaf fi ofyn i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ymchwiliad dichonoldeb i gontract dofednod i ddarganfod pam nad yw ein ffermwyr yn cael pris teg am eu cynnyrch?

14:40

Wel, gallaf sicrhau'r Aelod nad oherwydd pwysau ganddo ef y gwneuthum y penderfyniad ddydd Gwener diwethaf i'w gwneud yn orfodol i gadw adar dan do; deilliodd hynny o dystiolaeth wyddonol yn unig a'r cyngor a gefais gan y prif swyddog milfeddygol. Yn amlwg, cafodd y pedwar prif swyddog milfeddygol yr un cyngor. Mae sut y caiff ei ddehongli, felly, gan Weinidogion yn amlwg yn fater i bob Gweinidog unigol. Mae tair wythnos yn amser hir mewn achosion o'r fath, a daeth yn amlwg i mi, ganol yr wythnos diwethaf mae'n debyg—tua wythnos yn ôl siŵr o fod—fod y cyngor yn newid. A dyna pam y gwnaethom gyflwyno gorfodaeth i gadw adar dan do—. Wel, bydd yn cael ei gyflwyno ddydd Gwener yma, ond cyhoeddais ef ddydd Gwener diwethaf, ynghyd â gofynion bioddiogelwch llym, oherwydd mae bioddiogelwch yn hynod o bwysig, wrth inni geisio gwneud popeth a allwn yn wyneb y clystyrau digynsail hyn o achosion o ffliw adar. 

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn rydych chi'n ei ddweud ynghylch y ffaith nad dyma'r unig beth sy'n destun pryder i'r sector dofednod. Y pris a gânt—. Ac yn sicr, cefais drafodaethau diddorol iawn gyda ffermwyr yn y ffair aeaf ddydd Llun, a soniais mewn ateb cynharach ein bod wedi gweld llawer o ffermwyr yn arallgyfeirio i ffermio dofednod dros y blynyddoedd diwethaf. Yn sicr, fel y dywedais, mae'n drafodaeth sydd ar yr agenda ar gyfer y grŵp rhyngweinidogol ddydd Llun. Yn anffodus, rwy'n deall na fydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn y cyfarfod, sy'n anffodus yn fy marn i, ond yn sicr, byddaf yn codi'r hyn y gallwn ei wneud ar draws y DU yn y cyfarfod hwnnw. Ac os yw'n edrych fel pe bai'n rhaid inni wneud rhywbeth ar ein pen ein hunain, yn sicr gallwn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud. Ac rwy'n derbyn yr hyn roeddech chi'n ei ddweud am laeth, a gallai fod angen inni weld a oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i helpu ein cynhyrchwyr dofednod. 

Diolch. Rwy'n gwerthfawrogi'r ymateb, ac o ystyried eich cyfarfod ddydd Llun, byddai'n dda clywed gennych a yw datgan amod eithriadol yn y farchnad yn rhywbeth sy'n cael ei drafod yn y cyfarfod hwnnw ddydd Llun. Oherwydd, yn anecdotaidd, yn y brecwast Hybu Cig Cymru ddydd Llun yn y ffair aeaf, nid oedd unrhyw wyau yn y brecwast, sy'n dangos cymaint o anhawster y mae'r diwydiant yn ei wynebu yn y cyfnod digynsail hwn. 

Os caf symud ymlaen at bwnc gwahanol, cefais gipolwg yn ddiweddar ar ymateb rhyddid gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru i gais a oedd yn gofyn am wybodaeth ynglŷn â faint o garbon sy'n cael ei atafaelu drwy ddefnydd tir amaethyddol yng Nghymru. Ymateb Llywodraeth Cymru oedd: wel, nid ydych yn cadw'r data hwn, ac mae hynny'n destun pryder. Glaswelltir yw'r rhan fwyaf o dir amaethyddol Cymru—defnydd tir y mae astudiaethau wedi dangos sy'n gallu atafaelu carbon gystal â choed, neu hyd yn oed yn well mewn rhai hinsoddau penodol. Mae'r diwydiant amaeth yn gwybod beth yw'r rôl y mae'n rhaid iddo ei chwarae yn diogelu a gwella ein hamgylchedd a bioamrywiaeth, ond mae i Lywodraeth Cymru gyflwyno newidiadau polisi mor ysgubol heb wybod am y daioni y mae'r diwydiant yn ei wneud yn barod yn gic yn y dannedd braidd i ffermwyr gweithgar Cymru. 

Felly, pa ddata rydych chi'n ei ddefnyddio yn sail i'r Bil amaeth a'r cynllun ffermio cynaliadwy, os nad ydych chi'n gwybod pa garbon sy'n cael ei atafaelu ar hyn o bryd yn nhir amaethyddol Cymru?

Cyn i mi ateb eich ail gwestiwn, fe af yn ôl i'r cwestiwn cyntaf am y grŵp rhyngweinidogol. Rwyf bob amser yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn dilyn y grŵp rhyngweinidogol, felly bydd yr Aelod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â hynny. 

Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach ein bod yn gwybod bod ffermwyr eisoes yn darparu cymaint o ganlyniadau amgylcheddol—ac wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys storio carbon ar eu ffermydd—heb gael eu gwobrwyo amdanynt. Ac mae'r cynllun ffermio cynaliadwy yn ffordd o sicrhau eu bod yn cael eu gwobrwyo amdanynt mewn ffordd nad yw cynllun y taliad sylfaenol yn ei wneud. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud, yn gyffredinol, y byddai'r rhan fwyaf o ffermwyr yn dweud nad yw'r polisi amaethyddol cyffredin wedi eu gwobrwyo yn y ffordd y gallai fod wedi gwneud, ond mae'n bwysig iawn ein bod yn cael y cynllun hwn yn iawn nawr, fel bod pethau fel storio carbon yn cael eu gwobrwyo yn y ffordd y credwn y dylai gael ei wobrwyo, er mwyn ein helpu ni. Ac rydych chi'n hollol iawn—mae'r sector amaethyddol, wrth gwrs, yn cydnabod y rôl sylweddol sydd ganddo i'w chwarae er mwyn inni allu cyrraedd sero net. Ac mewn gwirionedd, mae gan Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, er enghraifft, dargedau uchelgeisiol iawn i'w galluogi i'n helpu ni gyda hynny. Felly, nid ydym yn cadw data ar bob un dim, ond wrth gwrs, os edrychwch ar fawndir neu fel y dywedwch, ar ffermydd yn gyffredinol ar draws y wlad, fe wyddom fod lefel sylweddol o storio carbon yn digwydd. Rwy'n cofio—cyn i chi ddod i'r Senedd, mae'n debyg, ac rwy'n ceisio meddwl pa ymgynghoriad a lansiais ydoedd—roedd ffermwr yn falch iawn o ddweud wrthyf ar y fferm lle gwnaethom y lansiad faint o garbon oedd yn cael ei storio fesul erw ar ei fferm.

14:45

Diolch, Weinidog. Mae'n peri pryder, os nad oes gennych chi'r wybodaeth llinell sylfaen honno ar gael, sut y gwyddom fod y prosiectau y mae'r cynllun ffermio cynaliadwy yn mynd i'w cyflwyno o fudd i atafaelu carbon mewn gwirionedd, gan nad oes gennym y ffigur sylfaenol i weithio ohono? Felly, er bod carboniaduron allan yno y gall pob fferm eu defnyddio, rydych chi a minnau'n gwybod fod carboniaduron amrywiol allan yno sy'n cynnig cyfrifiadau gwahanol iawn. Felly, rwy'n awyddus iawn i bwysleisio bod angen ffigur sylfaenol yma, lle gwyddom fod cynllun ffermio cynaliadwy a gyflwynwyd yn sicrhau'r manteision rydym yn ceisio'u cyflawni o fewn y sector amaethyddol. 

Ond gan gadw at y Bil amaeth a'r cynllun ffermio cynaliadwy, rwyf am dynnu eich sylw, fel y gwnaeth Peredur yn gynharach, at ffermwyr tenant a ffermwyr tir comin. Ar ôl cyfarfod â'r cynrychiolwyr yn ddiweddar a mynychu lansiad polisi NFU Cymru ar gyfer tir comin yn y ffair aeaf, ynghyd â thystiolaeth gref gan ffermwyr tenant a ffermwyr tir comin a gyflwynwyd yn fy mhwyllgor, rwy'n pryderu'n fawr am y diffyg ystyriaeth i'r mathau hyn o ffermydd ym mholisi Llywodraeth Cymru. Ffurfiwyd gweithgor tenantiaeth, er mai dim ond ychydig wythnosau'n ôl y cafodd ei gyfarfod cyntaf, a'r mis diwethaf gofynnais i chi am grŵp penodol ar gyfer ffermwyr tir comin, ond nid wyf wedi clywed am unrhyw gynnydd ar hynny—dwy enghraifft o'r modd y mae'r ddau fath o ffermio'n cael eu gweld fel ôl-ystyriaeth braidd gan Lywodraeth Cymru. Weinidog, ffermwyr tenant a ffermwyr tir comin yw cyfran fawr o'r ffermwyr actif yma yng Nghymru. Os bydd y Bil amaeth a'r cynllun ffermio cynaliadwy yn methu gweithio iddynt hwy, bydd yn arwain at ganlyniadau enfawr i hyfywedd ffermydd teuluol Cymreig ledled ein gwlad. Felly, pa sicrwydd y gallwch ei roi na fydd ffermwyr tenant na ffermwyr tir comin yn cael eu heffeithio'n negyddol yn sgil cyflwyno'r Bil amaeth a'r cynllun ffermio cynaliadwy yn benodol? Diolch.

Diolch. Unwaith eto, os caf fynd yn ôl at eich ail gwestiwn, rwy'n credu bod nifer y carboniaduron sydd ar gael yn broblem wrth inni geisio canfod faint o garbon sy'n cael ei storio. Un o'r pethau y gofynnais i swyddogion edrych arno yw a allwn ddefnyddio un yn unig, fel bod pawb yn gwybod ar beth y maent yn edrych a sut i'w ddefnyddio. Yn sicr, rwy'n credu y gallwn ei gael i lawr i ffigurau sengl, a ffigurau sengl isel iawn—tri, efallai, fel uchafswm pendant. Yn sicr, mae hynny'n rhywbeth y mae ffermwyr yn gofyn imi ei wneud, oherwydd rwy'n meddwl y bydd hynny'n eu helpu. 

Ar eich cwestiwn terfynol, nid wyf yn siŵr a glywsoch chi fi'n dweud ein bod ni'n cael gweithgor tir comin. Mae hwnnw'n cael ei sefydlu ar hyn o bryd. Bydd yn cyfarfod cyn y Nadolig, ac rydych yn hollol gywir fod y gweithgor tenantiaid eisoes wedi cyfarfod. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nawr ein bod yn gadael i'r gweithgorau hyn wneud eu gwaith gan ein bod wedi dod at ddiwedd ail gam y cyd-gynllunio, cyn yr ymgynghoriad terfynol ddiwedd y flwyddyn nesaf. Mae'r ddwy ran o'r sector amaethyddol y cyfeiriwch atynt—tenantiaid a thir comin—yn bwysig iawn i'r sector amaethyddol yma yng Nghymru. Mae'r Bil yn cynnwys addasiadau i Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 er enghraifft, felly mae'n bwysig iawn ein bod yn clywed gan y ddwy ran o'r sector, a bydd y ddau weithgor yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn adrodd yn ôl i mi.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Roedd yn dda eich gweld yn y ffair aeaf ddydd Llun, ac roedd yn gyfle gwych i glywed y diweddaraf gan rai o'r ffermwyr a gwrando ar eu pryderon. Fe fyddwch chi'n gwybod fel y gŵyr eraill mai un o'r pethau pwysicaf a wnaeth godi oedd y ffliw adar. Mae hynny'n bryder enfawr, ac rydym yn amlwg yn croesawu'r mesurau gorfodol i gadw adar dan do a gyflwynwyd gennych, neu a fydd yn cael eu cyflwyno ddydd Gwener yma. Wedi dweud hynny, bydd busnesau'n dal i wynebu tarfu andwyol ar eu gweithgareddau, a'r rhai sy'n ymdrin ag wyau a chigoedd dofednod yn benodol, a cheir pryderon yn y sector, a ffermwyr dofednod yn fy etholaeth, fod problem tarfu difrifol ar y farchnad yn sgil y ffliw yn y sector cig dofednod a'r sector wyau yn cael ei ddwysáu gan y chwyddiant enfawr ym mhrisiau bwyd anifeiliaid a chostau ynni. Nawr, yn eich ateb yn gynharach, fe ddywedoch chi y byddwch yn dwyn y mater i sylw Llywodraeth y DU ac yn gofyn beth y gallant ei wneud ac y byddwch yn archwilio pethau y gallech chi eu gwneud ar eich pen eich hun fel Llywodraeth Cymru. Ond wrth gwrs, gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael o dan Atodlen 5, Rhan 2 o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 i ddatgan amod eithriadol yn y farchnad, a fyddai'n ei gwneud hi'n bosibl darparu cymorth i gynhyrchwyr wyau a dofednod. Felly, a yw'r Gweinidog yn cytuno y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r pwerau hyn, ac os felly, a wnewch chi eu defnyddio?

14:50

Wel, unwaith eto, mae'n rhywbeth y gallem ei wneud. Nid ydym yn gwybod am ba hyd y mae hyn yn mynd i bara. Gallai fod angen inni ei wneud yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, er enghraifft, ond byddai'n well gennyf gael y drafodaeth honno, oherwydd nid ydym wedi cael y drafodaeth weinidogol honno'n iawn ar draws y DU, oherwydd yn amlwg mae'n integredig iawn ar draws y DU. Felly, byddai'n well gennyf glywed gan Lywodraeth y DU yn gyntaf i weld a ydynt yn cynnig unrhyw gymorth. Fel y gwyddoch, rydym wedi bod yn gofyn iddynt gyflwyno cyllid pellach oherwydd y costau mewnbwn sylweddol sydd gan y sector amaethyddol ac y mae'n parhau i ddioddef o'u herwydd. Fe fyddwch wedi clywed hynny yn y ffair aeaf—clywais fod chwyddiant yn 36 y cant nawr ar ein ffermydd. Yn gyffredinol, mae'n 11 y cant, ond mae chwyddiant ar y fferm gryn dipyn yn uwch. Felly, byddai'n well gennyf gael y drafodaeth honno ar lefel weinidogol ddydd Llun.

Mae fy swyddogion wedi bod yn mynychu cyfarfodydd wythnosol, fel y dywedais, ar lefel swyddogol, ond mae fy swyddogion yn yr is-adran fwyd hefyd wedi bod mewn cyswllt dyddiol ynglŷn â'r costau. Rydym wedi gweld rhai archfarchnadoedd yn dechrau cyfyngu ar nifer yr wyau y gall defnyddwyr eu prynu. Rydym yn bryderus oherwydd, fel y gwyddom, os yw'r cyfryngau'n rhoi sylw i hynny, mae'n anodd iawn atal pobl rhag prynu mewn panig yn sgil hynny. Felly, rwy'n falch iawn o weld nad yw hynny wedi digwydd. Yn ddiddorol iawn, fel Sam Kurtz, fe synnais innau na chawsom wyau ym mrecwast Hybu Cig Cymru, os mai felly roedd hi mewn gwirionedd. Mae'n amlwg iawn yn y ffair aeaf nad oes gennym adar yno, ond roeddwn i'n meddwl bod honno'n enghraifft fyw iawn o'r hyn rydym yn ei ddioddef ar hyn o bryd. Felly, byddwn yn hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn dilyn y grŵp rhyngweinidogol ddydd Llun nesaf. 

Diolch yn fawr iawn am yr ateb.

Diolch am hynny. O'r gorau. Gan symud ymlaen at bysgodfeydd, os caf, mae concordat pysgodfeydd 2012 yn nodi sut y rhennir dyraniad cwota'r DU rhwng y pedair gweinyddiaeth, ac mae'n darparu egwyddorion cyffredinol ar gyfer rheoli a thrwyddedu ymdrechion. Un elfen allweddol sydd wedi'i chynnwys yn y concordat yw'r set o amodau sy'n gysylltiedig â'r cyswllt economaidd. Amod trwyddedu pysgodfeydd yw'r cyswllt economaidd. Ar hyn o bryd mae'n berthnasol i bob cwch dros 10m o hyd a gofrestrwyd yn y DU sy'n glanio dros 2 dunnell o gwota DU y flwyddyn, gan gynnwys llongau treillio mawr. Yn fyr, mae'n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddangos cysylltiad go iawn ag economi'r DU drwy fodloni un o'r meini prawf a nodir yn amod trwyddedu cyswllt economaidd eu llong. Gellir crynhoi'r meini prawf hyn fel glanio o leiaf 50 y cant o gwota'r llong yn y DU, cyflogi criw gydag o leiaf 50 y cant ohonynt yn byw yn y DU, neu wneud o leiaf 50 y cant o'r gwariant gweithredu arferol yn ardaloedd arfordirol y DU. Fel y bydd y Gweinidog yn gwybod, mae'r cyswllt economaidd yn fater datganoledig. Mae'r amodau trwyddedu cyswllt economaidd yn bresennol yn nogfennau trwyddedau pysgota cyfredol Llywodraeth Cymru ar gyfer cychod pysgota masnachol. Ond gan fod mwyafrif fflyd Cymru'n cynnwys cychod bach dan 10m, mae'n anodd gwybod i ba raddau, os o gwbl, y mae cychod yn fflyd pysgota Cymru yn ddarostyngedig i'r amod trwyddedu cyswllt economaidd. Felly, o ystyried presenoldeb llongau treillio mawr niweidiol i'r amgylchedd yn nyfroedd Cymru, yn ogystal â chychod eraill sy'n fwy na 10m, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog i ba raddau y mae amodau cyswllt economaidd yn berthnasol i gychod sy'n pysgota yn nyfroedd Cymru? Mewn geiriau eraill, faint o longau sy'n ddarostyngedig i'r amodau cyswllt economaidd a pha fanteision economaidd y mae Cymru'n eu cael o'r trefniant hwn?

Diolch. Aeth hynny â fi'n ôl i drafodaethau pysgota cyngor mis Rhagfyr mewn bywyd blaenorol. Yn sicr, nid yw'r ffigurau hynny gennyf wrth law, ond fe fyddwn i'n hapus iawn i ysgrifennu at yr Aelod mewn perthynas â hynny. Rwy'n gwybod bod swyddogion yn cael trafodaethau ar hyn o bryd ynglŷn â nifer y trwyddedau sydd wedi'u dyrannu ers inni adael yr Undeb Ewropeaidd, wrth symud ymlaen, ond byddwn yn hapus iawn i ysgrifennu at yr Aelod am y cyswllt economaidd. 

Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy

3. Pa ystyriaeth y mae pwyllgor sefydlog y Cabinet ar ogledd Cymru wedi'i rhoi i gydweithio ar draws ffiniau drwy Gynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy? OQ58772

Diolch. Mae is-bwyllgor Cabinet gogledd Cymru wedi trafod meysydd polisi bras sy'n effeithio ar ardal Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy, gan gynnwys trafnidiaeth, sgiliau ac adferiad COVID. Mae Llywodraeth Cymru yn un o'r sylfaenwyr, ac rydym yn gwerthfawrogi'r bartneriaeth o sefydliadau sy'n gweithio i gefnogi'r economi drawsffiniol.

Weinidog, mae hynny'n wych i'w glywed oherwydd mae trafnidiaeth gyhoeddus yn fater allweddol wrth gwrs—y mater pwysicaf mae'n debyg—i'w ystyried ar sail drawsffiniol yn ardal Mersi a'r Ddyfrdwy. Y penwythnos diwethaf, fe aeth Carolyn Thomas a minnau i Gaer. Fe gyfarfuom â ffigyrau allweddol o dros y ffin yn Lloegr, gan gynnwys y meiri metro Steve Rotherham ac Andy Burnham, yn ogystal â Samantha Dixon, ac fe fuom yn siarad am yr angen i wella trafnidiaeth gyhoeddus wrth gwrs, yn enwedig gwasanaethau bws ar sail trawsffiniol. Fel Gweinidog gogledd Cymru, a fyddech yn cytuno i gynnull uwchgynhadledd ar gyfer gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr er mwyn canolbwyntio ar drafnidiaeth a'r manteision economaidd posibl o gydweithio'n drawsffiniol yn yr ardal hon, sydd â chyfraniad mor gryf i'w wneud i economi Cymru a'r DU? Ac a fyddech chi'n cytuno ei bod hi'n gwbl hanfodol ein bod yn ystyried gwelliannau pwysig i'r seilwaith trafnidiaeth, gan gynnwys gwelliannau i brif reilffordd Wrecsam-Bidston? 

14:55

Diolch. Yn sicr, byddwn yn cytuno â chi ar y pwynt olaf ac rwy'n gwybod ei bod yn bwysig iawn fod gennym bartneriaid yn cydweithio mewn perthynas â rheilffordd Wrecsam-Bidston, ac mae hynny'n cynnwys Trafnidiaeth Cymru, Merseyrail, a Llywodraeth Cymru ei hun.

Mewn perthynas ag uwchgynhadledd, ar hyn o bryd mae'n debyg, tra bo comisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru yn cael golwg ar yr hyn sydd angen iddo ei wneud yn dilyn cyhoeddi ei adroddiad cynnydd—. Cyfarfûm â chadeirydd y comisiwn, ac ar hyn o bryd mae'n ceisio siarad â rhanddeiliaid ynghylch trafnidiaeth drawsffiniol, oherwydd fel y dywedwch, mae hynny mor bwysig i ogledd Cymru, ac yn sicr, hoffwn annog rhanddeiliaid o'r rhanbarth trawsffiniol i ymgysylltu â'r comisiwn.

Fe fyddwch yn gwybod yn iawn, gan ichi gadeirio'r is-bwyllgor o'r blaen, ei bod hi'n bwysig iawn yn y pwyllgor hwnnw ein bod yn gwahodd pobl i ddod i mewn o'r tu allan i roi cyflwyniadau, felly rwyf wedi gofyn i swyddogion ofyn i Steve Rotherham ac Andy Burnham ddod draw i'r pwyllgor. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod cyd-Weinidogion yn clywed am y cysylltiadau sydd gennym â gogledd-orllewin Lloegr a pha mor bwysig ydynt i ogledd Cymru, a gogledd-ddwyrain Cymru yn enwedig, ac yn amlwg, mae arweinwyr yr awdurdodau lleol yn mynychu'r pwyllgor hwnnw hefyd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y ddau faer yn gallu dod draw naill ai i gyfarfod nesaf y pwyllgor neu'r un ar ôl hynny.

A gaf fi ategu galwad Ken Skates am amlygu'r cyfleoedd a geir yn sgil cydweithio trawsffiniol o'r fath yng ngogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, yn enwedig i drafnidiaeth yno, lle gwelwn oddeutu 200,000 o bobl yn croesi'r ffin yn ddyddiol? Ond yn wir, mae yna gyfleoedd eraill y credaf fod Cynghrair Mersi a'r Dyfrdwy, fel esiampl wych, yn ceisio manteisio arnynt, sef y cyfle i weithio ar draws Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol dros y ffin, ac un o'r rheini—. Cefais y fraint o fynychu cyfarfod gyda HyNet ddydd Llun yr wythnos hon, ac fe wnaethant rannu gyda mi eto eu prosiect arfaethedig nid yn unig i wneud yn siŵr fod hydrogen ar gael yn y rhanbarth, ond hefyd i dynnu carbon o lawer o'r diwydiannau yn y rhanbarth hefyd, a buddsoddi biliynau o bunnoedd yn yr ardal. Felly, Weinidog, tybed pa asesiad a wnaethoch o'r rôl y gall y pwyllgor sefydlog ei chwarae wrth weithio gyda Chynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy i sicrhau y bydd prosiectau fel HyNet a phrosiectau ecogyfeillgar cadarnhaol eraill o'r fath yn gwneud gwahaniaeth yn y rhanbarth.

Fel rwy'n dweud, mae'n bwysig iawn fod pob partner yn gweithio gyda'i gilydd ac rwy'n meddwl eich bod chi'n iawn ynghylch prosiect HyNet. Unwaith eto, cyfarfûm â Steve Rotherham ac Andy Burnham i drafod y rôl y gall HyNet a'r prosiect hydrogen ei chwarae ar draws y ffin, ac mae'r ddau'n awyddus iawn i gymryd rhan. Felly, gall y pwyllgor ddod â'r holl bartneriaid hyn at ei gilydd, ac fe glywsoch chi fi'n dweud yn fy ateb cynharach i Ken Skates ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn cael pobl o'r tu allan i allu ein helpu gyda'n trafodaethau, yn enwedig gan fod arweinwyr yr awdurdodau lleol o bob rhan o ogledd Cymru—y gogledd-orllewin a'r gogledd-ddwyrain—yn y cyfarfod hwnnw, i glywed pa mor agos y gallwn ni weithio gyda'n gilydd, oherwydd, fel y dywedoch chi, mae nifer sylweddol o bobl yn croesi'r ffin honno bob dydd.

Ymgysylltiad Cymunedau â Ffermio

4. A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru i annog cymunedau i ymgysylltu â ffermio? OQ58787

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella dealltwriaeth o sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu, yn ogystal â darparu buddion cymdeithasol drwy dyfu a gefnogir gan y gymuned. Mae cymorth ar gael ar gyfer amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned drwy raglen datblygu gwledig cymunedau gwledig Llywodraeth Cymru, o dan y cynllun datblygu cadwyni cyflenwi a chydweithio a LEADER.

Diolch am hynny, Weinidog. Rwy'n credu ei bod hi'n amlwg yn bwysig fod y gymuned ehangach yn deall ac yn teimlo cysylltiad â ffermio os ydym yn mynd i gael y math o gefnogaeth boblogaidd i'n polisïau a'r sector ffermio yr hoffem ei gweld. Mae'n ymwneud â deall yn well sut mae ein ffermydd yn gweithio, beth sy'n digwydd ar y tir a sut y caiff ein bwyd ei gynhyrchu. Rwy'n credu bod y Cerddwyr yn gwneud gwaith da, Weinidog, ar gysylltu cymunedau â thirfeddianwyr/ffermwyr drwy eu menter Llwybrau i Lesiant, sydd, drwy weithio mewn partneriaeth â thirfeddianwyr, yn cynllunio llwybrau ac yna'n rhoi hyfforddiant ac offer i'r gymuned allu gwella natur a gwella mynediad i'r tir hwnnw. Rwy'n gwybod bod Maendy yn fy etholaeth i yn Nwyrain Casnewydd yn un ardal sy'n rhan o'r prosiect hwn, Weinidog, a tybed a fyddech chi'n gweld y cynllun ffermio cynaliadwy fel ffordd o barhau a chryfhau'r gwaith hwn, sy'n bwysig iawn yn fy marn i, fel ein bod yn ei wneud ar y sail gymunedol ehangach y mae'r Cerddwyr yn ei datblygu, efallai, yn ogystal â chysylltu'r sector addysgol â ffermydd a ffermio.

15:00

Diolch. Credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, ac rwy'n sicr yn gweld y cynllun ffermio cynaliadwy yn y dyfodol yn cael ei ymgorffori i'r maes hwn. Fel y soniais yn yr ateb a gyflwynais i chi, mae gennym lawer o gynlluniau rydym yn eu cefnogi, ac mae'n dda iawn clywed am y prosiect yn eich etholaeth.

Rwyf wedi bod yn falch iawn o weld faint o ffermwyr sydd am ymgysylltu ag ysgolion, ac rwyf wedi bod ar lawer o ymweliadau fferm lle mae plant ysgol yn bresennol, yn dysgu ynglŷn â sut y caiff bwyd ei gynhyrchu, a'r hyn y mae'r sector amaethyddol yn ei wneud, oherwydd wrth gwrs, yn enwedig os ydych yn dod o ardal drefol, efallai nad oes gennych yr wybodaeth honno, ac mae'n wych gweld ein ffermwyr yn ymgysylltu. Pan oeddwn yn y ffair aeaf ddydd Llun—a chredaf fod hyn yn bwysig iawn, gan fynd yn ôl at yr hyn roeddwn yn ei ddweud am blant ysgol—roeddwn yn falch iawn o allu cefnogi, gyda chyllid ac adnoddau eraill, llyfryn y gellir ei ddarparu i blant ynglŷn â diogelwch fferm, gan y credaf, unwaith eto, fod ffermydd yn gallu bod yn lleoedd peryglus iawn, ac mae’n bwysig iawn fod ein plant, cyn mynd ar fferm, yn deall y peryglon sydd yno.

Mae gennym hefyd y strategaeth bwyd cymunedol, sy’n ffordd arall y credaf y gallwn ymgysylltu â’r gymuned, ac rwy’n cael trafodaethau ar hyn o bryd gyda Cefin Campbell, fel yr Aelod dynodedig yn rhan o’r cytundeb cydweithio, mewn perthynas â’r strategaeth bwyd cymunedol. Bwyd yw'r ffactor cyffredin, ond mae cymaint o fanteision cymdeithasol a all ddeillio o'r math hwn o waith hefyd.

Weinidog, mae’r diwydiant cig eidion byd-eang wedi mwynhau cyfres o ymgyrchoedd gwrth-gig yn ddiweddar o wahanol ffynonellau, sy'n gwneud honiadau difrifol am ddifrod amgylcheddol, problemau lles anifeiliaid a materion iechyd. Mae ffermio cig eidion yng Nghymru wedi dioddef o ganlyniad. Rwy’n gwerthfawrogi cwestiwn fy nghyd-Aelod i chi yn gynharach, ond un o’r ffyrdd o fynd i’r afael â’r gamwybodaeth hon, yn amlwg, fel y sonioch ac fel y soniodd yntau, fyddai annog disgyblion ysgol i ymweld â ffermydd. Hoffwn ganolbwyntio mwy ar alluogi plant o ysgolion anghenion arbennig, yn ogystal â’r bobl hynny o gefndiroedd mwy agored i niwed, i fynd i weld o ble y daw eu bwyd, a gallant ddysgu am gynaliadwyedd a phwysigrwydd ffermio i'r amgylchedd. Felly, hoffwn wybod, Weinidog, pa drafodaethau rydych wedi’u cael gyda sefydliadau ffermio, y Gweinidog addysg a Gweinidogion eraill posibl yn Senedd Cymru, i annog mwy o bobl ifanc, pobl o gefndiroedd anabl, lleiafrifoedd ethnig, yn ogystal â phobl o gefndiroedd difreintiedig efallai, i allu mynd i weld o ble y daw eu bwyd. Diolch.

Diolch. Rwyf wedi cael cryn dipyn o drafodaethau, yn sicr yn ystod sioeau’r haf. Roedd gan Gwartheg ar Daith gornel wych yn sioe sir Benfro, lle roedd ganddynt lif cyson o blant ysgol yn mynychu, lle roeddent yn adrodd hanes y daten, sut y dechreuodd y daten, gan fynd drwy fywyd taten a sut y mae'n cyrraedd ein platiau ar wahanol ffurfiau. Mae'r mathau hynny o bethau'n wirioneddol bwysig. Ni fyddwn yn dweud ei fod yn ymwneud â grwpiau penodol o blant; roedd yn ymwneud â phlant a phobl ifanc yn gyffredinol, ond roeddwn yn falch iawn o gefnogi hynny. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda’r Gweinidog addysg mewn perthynas â hynny, ac fel y dywedaf, gyda’r ffermwyr eu hunain, gan ei bod yn ddiddorol iawn gweld cymaint o ffermwyr yn annog ymweliadau gan eu hysgolion lleol. Credaf ei fod yn rhywbeth y byddwn yn falch iawn o barhau i'w gefnogi mewn unrhyw ffordd y gallaf.

Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir)

5. Pa gynnydd y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ran cydweithio â Llywodraeth y DU ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir)? OQ58791

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar y Bil lles anifeiliaid, sy’n gwneud darpariaethau i sicrhau diwygiadau pwysig ar gyfer lles anifeiliaid a gedwir. Mae memoranda cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer holl gymalau'r Bil wedi’u gosod yn y Senedd.

15:05

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwy’n siŵr fod y Gweinidog yn disgwyl cwestiwn am filgwn yma, ond nid ar yr achlysur hwn. Hoffwn nodi a mynegi fy mod yn rhannu pryderon RSPCA Cymru, sydd wedi galw ar Lywodraeth y DU i roi blaenoriaeth i gwblhau’r Bil, fel bod yr arferion creulon y mae’n ceisio mynd i’r afael â hwy yn dod i ben. Fodd bynnag, ceir pryderon fod ymrwymiad Llywodraeth y DU i’r Bil ar fin methu.

Nawr, yn ôl ym mis Tachwedd 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb i grŵp gorchwyl a gorffen arbenigol gan grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru. Roedd yr adolygiad wedi gwneud 55 o argymhellion a oedd yn ymwneud â materion fel gwell hyfforddiant i awdurdodau lleol, ond nid yw Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu’r rhan fwyaf o’r rhain eto. Felly, yn absenoldeb unrhyw gynnydd gweladwy ar ran Llywodraeth y DU, a oes unrhyw fwriad gan Lywodraeth Cymru i wella rheoliadau Cymru, i gryfhau'r ddeddfwriaeth mewn perthynas â bridio didrwydded a ffermio cŵn bach, yn ogystal â mewnforio ac allforio anifeiliaid anwes o Gymru?

Rwyf am gyfeirio at y ddau beth ar wahân. Felly, o safbwynt Llywodraeth Cymru, yn amlwg, ein blaenoriaeth yw lles anifeiliaid, fel y nodir yng nghynllun lles anifeiliaid Cymru. Ac mae pethau y gallwn eu gwneud ar ein pen ein hunain, ond hefyd, yn y cynllun hwnnw, mae'n cynnwys cydweithredu â Llywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig eraill lle mae gwneud hynny'n cynnig manteision amlwg.

Mewn perthynas â’r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir), rhannaf eich pryder ynghylch y diffyg cynnydd a welsom. Nid yw’r aflonyddwch rydym wedi’i weld a’r anhrefn llwyr yn Llywodraeth y DU wedi helpu, ond rydym yn obeithiol. Rwyf am geisio cael gwybodaeth fwy pendant ynglŷn â hyn yn y grŵp rhyngweinidogol, ond yn sicr, mae swyddogion sydd wedi cyfarfod â'u swyddogion cyfatebol yn DEFRA wedi clywed y bydd dyddiad Cyfnod Adrodd yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir, gobeithio, gan ein bod wedi gweld y Bil yn dod i stop dro ar ôl tro. Ond rydym yn cadw llygad barcud arno, ac unwaith eto, rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fydd gennym ragor o wybodaeth, oherwydd yn amlwg, mae'n Fil Llywodraeth y DU, a hwy sy'n nodi'r amserlen seneddol.

Weinidog, mae’r Bil hwn wedi’i gefnogi gan yr RSPCA, y Dogs Trust a Chymdeithas Milfeddygon Prydain, ac mae pob un ohonynt yn cydnabod y bydd y ddeddfwriaeth yn gwella safonau lles, yn anad dim drwy sicrhau mai dyma'r wlad gyntaf yn Ewrop i wahardd allforio anifeiliaid byw i’w lladd a’u pesgi. A yw’r Gweinidog yn derbyn bod y cyflawniad hwn, ynghyd â’r mesurau i fynd i’r afael â mewnforio cŵn bach, yn gam enfawr tuag at gyflawni’r safonau uchel hynny y mae pob un ohonom yn dymuno'u gweld?

Mae'n ddeddfwriaeth bwysig iawn ar sawl lefel. Fe gyfeirioch chi at ddwy ohonynt, ond mae’r rhan o’r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud ag ymosodiadau gan gŵn ar dda byw, i mi, yn bwysig iawn. Nid yw’r ddeddfwriaeth bresennol yn addas i’r diben o gwbl. Rwy'n edrych ar fy mhapur briffio i weld pa flwyddyn—cafodd y ddeddfwriaeth rydym yn gweithio iddi ar hyn o bryd ei llunio ym 1953. Wel, mae hynny cyn imi gael fy ngeni, felly amser maith yn ôl, ac yn amlwg, mae angen ei diweddaru i sicrhau ei bod yn addas i'r diben. Rwyf wedi cael rhai sgyrsiau gyda'r cydgysylltydd troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt ynglŷn a'r ffaith bod gwir angen inni sicrhau bod ein deddfwriaeth yn addas i'r diben, ac yn amlwg, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am lawer o hynny. Felly, rwy’n fwy na pharod i barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU. Fe sonioch chi am wahardd allforio gwartheg byw, sydd, unwaith eto, o safbwynt lles anifeiliaid, yn wirioneddol bwysig yn fy marn i.

Cynllun LEADER

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau hirdymor y Llywodraeth i olynu cynllun LEADER? OQ58794

Diolch. O ganlyniad i’r ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi anrhydeddu ei hymrwymiad i ddarparu cyllid llawn yn lle cyllid yr UE, mae Cymru oddeutu £1.1 biliwn ar ei cholled. Fodd bynnag, fy mwriad yw parhau i gefnogi datblygu lleol dan arweiniad y gymuned drwy ein fframwaith ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru.

Diolch am yr ateb yna. Dwi innau, wrth gwrs, yn rhannu'r rhwystredigaeth bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi mynd yn ôl ar ei gair o ran gwariant yn dilyn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r Gweinidog yn ymwybodol iawn o'r gwaith gwych sydd wedi cael ei wneud dan gynllun LEADER. Dwi'n arbennig o ddiolchgar i Menter Môn yn fy etholaeth i am y gwaith arloesol maen nhw wedi'i arwain yn tynnu arian i mewn ac yn cychwyn prosiectau drwy LEADER. Maen nhw wedi ysgrifennu at y Gweinidog—mi fydd y Gweinidog yn ymwybodol o hynny—ar ran y grwpiau gweithredu lleol, yn codi pryder am y ffaith nad oes gennym ni sicrwydd beth sy'n mynd i fod yn digwydd ar ôl 2023. Mae yna gynlluniau'n cael eu datblygu gan DEFRA ar gyfer Lloegr, ar gyfer rhyw fath o system levelling up gwledig yn Lloegr. Mae yna awgrym y gallai'r shared prosperity fund gael ei ddefnyddio, ond dydy hwnnw'n cynnig dim math o gysondeb gwariant na'r gallu i fod yn strategol yn yr hirdymor. Ond, ydy'r Gweinidog yn cytuno efo fi fod angen sicrwydd rŵan nad ydy'r cynlluniau yma, na'r strwythurau sydd wedi galluogi'r cynlluniau LEADER i ddatblygu, yn mynd i ddod i ben yn sydyn ar ôl 2023?

15:10

Rydych yn llygad eich lle, rwyf wedi cael llythyr ac rwyf wedi ymateb i Menter Môn mewn perthynas â'u pryderon ynghylch rhaglen yn lle LEADER yng Nghymru. Yn amlwg, ni allaf wneud unrhyw ymrwymiadau cyn y gyllideb ddrafft, ond mae fy swyddogion yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i weld sut y gallwn barhau i gefnogi cymunedau gwledig yn y dyfodol. Mae gwaith rhagorol wedi'i wneud drwy raglen LEADER dros gyfnod hir o amser. Rwyf wedi gweld drosof fy hun lawer o enghreifftiau o’r prosiectau arloesol sydd wedi’u cyflawni mewn llawer o gymunedau gwledig, ac fel y dywedaf, ein bwriad yw parhau i gefnogi datblygu lleol dan arweiniad y gymuned yn benodol.

Ffliw Adar

7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith yr achosion o'r ffliw adar presennol ar gynhyrchwyr wyau yng Nghymru? OQ58789

Diolch. Ers 1 Hydref 2022, mae tri achos o ffliw adar wedi’u cadarnhau yng Nghymru. Roedd dechrau epidemiolegol yr achosion presennol ym mis Hydref 2021, a gwelsom achosion yn parhau i gael eu cadarnhau drwy gydol yr haf am y tro cyntaf. Rydym yn parhau i fonitro sefyllfa’r clefyd yn ddyddiol.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Mae’r sector dofednod yng Nghymru a thu hwnt yn wynebu amrywiaeth o heriau ar hyn o bryd, gydag effeithiau’r achosion o ffliw adar yn cyfuno â chynnydd mewn costau mewnbynnau i greu rhagolygon anodd i gynhyrchwyr. Mae'r cyflenwad cyfyngedig, yn rhannol o ganlyniad i fesurau ffliw adar a galw uwch yr adeg hon o'r flwyddyn, wedi golygu bod argaeledd wyau yn is nag arfer. Mae hyn wedi arwain at nifer o archfarchnadoedd yn cyfyngu ar werthiant wyau i ddefnyddwyr. Mae undebau'r ffermwyr hefyd wedi codi pryderon fod rhai manwerthwyr wedi gwneud y penderfyniad siomedig i fewnforio wyau sgubor, nad ydynt yn cael eu cynhyrchu i’r un safonau uchel ag yma yng Nghymru.

Weinidog, gwn y byddwch yn cytuno â mi fod hwn yn gyfnod pryderus i gynhyrchwyr dofednod, sy’n gwneud eu gorau glas i gynnal hyder ehangach yn y sector. Felly, sut y mae’r Llywodraeth yn gweithio gyda chynhyrchwyr i helpu i gynnal y cyflenwad i’r graddau mwyaf posibl, yn ogystal â gweithio gyda manwerthwyr i sicrhau bod cynhyrchwyr yn cael pris teg am eu hwyau? Sut y byddech yn ymateb i alwadau gan undebau'r ffermwyr ichi ystyried defnyddio pwerau o dan Ddeddf Amaethyddiaeth y DU 2020 i archwilio a ddylid datgan amodau eithriadol yn y farchnad, fel y gall y Llywodraeth gefnogi cynhyrchwyr i ymdopi ag unrhyw golledion ariannol o ganlyniad i'r mesurau sydd ar waith i fynd i'r afael â ffliw adar?

Diolch. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach fod hynny, yn amlwg, yn rhywbeth y gallwn ei ystyried. Byddai'n well gennyf aros tan fy mod wedi cael fy nghyfarfod gweinidogol ddydd Llun i weld beth yw'r safbwyntiau eraill ledled y DU ac i weld a oes unrhyw beth y gallwn ei wneud ar y cyd. Credaf eich bod yn iawn; mae'r rhain yn adegau heriol i bawb, ac rwy’n derbyn yn llwyr fod pwysau arall o amrywiol fathau ar ein cynhyrchwyr wyau ar hyn o bryd.

Yn sicr, yr wybodaeth a roddir i mi—unwaith eto, soniais yn gynharach ein bod mewn cysylltiad dyddiol mewn perthynas â'r mater hwn—yw bod y cyflenwad yn dynn ond ei fod yn dal ei dir, a gwn fod rhai archfarchnadoedd wedi cyflwyno lefel isel o gyfyngiadau ar faint o wyau y gall cwsmer eu prynu, er enghraifft. Ond teimlwn mai'r perygl mwyaf i'r cyflenwad yw'r cyfryngau'n annog pobl i brynu mewn panig, felly rydym yn awyddus iawn i osgoi hynny.

Capasiti Prosesu Bwyd

8. Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ychwanegu at y capasiti prosesu bwyd yng Nghymru? OQ58792

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar ei hanes cryf o fuddsoddi yn y diwydiant bwyd, fel a ddisgrifiwyd yn fy ngweledigaeth strategol a gyhoeddwyd y llynedd. Y mis hwn, lansiais £40 miliwn o fuddsoddiad drwy’r cynllun sbarduno busnesau bwyd newydd i gefnogi buddsoddiad cyfalaf mewn offer prosesu a seilwaith.

Diolch, Weinidog. Un peth sydd bob amser wedi peri penbleth i mi yw gyrru ar hyd yr M4 a gweld tancer ar ôl tancer yn allforio llaeth o ardal laeth gorllewin Cymru. Rwy’n sylweddoli nad penderfyniad y Llywodraeth yw bod hynny’n digwydd—mae wedi bod yn benderfyniad masnachol y mae llaethdai wedi’i wneud ers degawdau lawer—ond drwy unrhyw gapasiti prosesu y mae Llywodraeth Cymru yn edrych arno, dylai fod yn flaenoriaeth i geisio sicrhau mwy o gapasiti prosesu i’r ardal laeth sylweddol honno—mae’n sylweddol—sydd gyda'r mwyaf yng ngorllewin Ewrop, fel y gellir ychwanegu gwerth at y cynnyrch, ac ie, ei allforio allan o Gymru wedyn i gyflawni’r gwerth llawn ar silffoedd y DU a thu hwnt. Felly, gyda'r strategaethau rydych wedi'u rhoi ar waith, pa mor hyderus ydych chi, erbyn diwedd tymor y Senedd hon yn 2026, y byddwn yn gweld cynnydd yn y capasiti prosesu yn ardal laeth gorllewin Cymru i ychwanegu'r gwerth hwnnw a chadw'r arian yma yng Nghymru ac wrth gât y fferm?

15:15

Credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, a gwelsom yr hyn a ddigwyddodd yng ngogledd-ddwyrain Cymru ar ôl inni golli prosesydd llaeth—yr anawsterau a achoswyd gan hynny. Felly, rwy’n awyddus iawn i weld mwy o brosesu llaeth yma yng Nghymru, ac nad ydym yn gweld y tanceri hynny, fel y dywedwch, yn croesi’r ffin. Mae’n benderfyniad masnachol, ond rôl y Llywodraeth yn fy marn i yw sicrhau bod gennym gynlluniau hygyrch i bobl sy’n awyddus naill ai i ehangu eu hadeiladau neu chwilio am gyllid ar gyfer buddsoddiad cyfalaf pellach. Soniais am y cynllun sbarduno busnesau bwyd—dim ond ar 17 Tachwedd yr agorodd—rydym wedi darparu £40 miliwn ar ei gyfer. Bydd ar agor cyhyd ag y bydd angen er mwyn i’r £40 miliwn hwnnw gael ei ddefnyddio, felly rwy'n gobeithio y caiff ei ddefnyddio’n llawn yn y ffordd rydych yn ei hawgrymu.

3. Cwestiynau Amserol
4. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 4 sydd nesaf, felly, y datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad cyntaf gan Jenny Rathbone. 

Mae bwyty The Clink yng Nghaerdydd wedi gweithredu ers dros 10 mlynedd o adeilad sydd wedi'i gysylltu â charchar Caerdydd. Mae'n un o bedwar bwyty a weithredir gan The Clink Charity—mae'r lleill yng ngharchardai Brixton, High Down a Styal. Mae cegin addysgu a bwyty Caerdydd y tu allan i furiau’r carchar, felly dim ond carcharorion categori C nad ystyrir eu bod yn debygol o ddianc y gellir eu recriwtio. Nid oes unrhyw garcharorion categori C yng ngharchar Caerdydd, felly mae’r holl ddysgwyr yn cael eu recriwtio o garchar Prescoed ym Mrynbuga.

Mae wedi rhoi gobaith ar y fwydlen i bron i 3,000 o ddysgwyr, sydd wedi graddio gyda chymwysterau City & Guilds mewn gweini bwyd, diogelwch bwyd, paratoi bwyd a choginio. Mae'r rhan fwyaf o raddedigion The Clink yn camu ymlaen i gyflogaeth amser llawn, ac nid yw'n syndod eu bod ddwy ran o dair yn llai tebygol o aildroseddu a mynd yn ôl i'r carchar na charcharorion eraill. Mae'n rhaglen adsefydlu sy'n gweithio.

Cyn COVID, enillodd Clink Caerdydd y wobr uchaf un am ei fwyd, ochr yn ochr â chyrchfannau bwyd enwog fel Le Manoir aux Quat'Saisons. Beth sydd ddim i'w hoffi am y stori lwyddiant hon? Yr wythnos diwethaf, yn anffodus, bûm mewn cinio ffarwelio yn The Clink. Roedd yn ddathliad ac yn wylnos. Cyfarfûm â graddedigion, hyfforddwyr a chyflogwyr a oedd wedi darparu lleoedd hyfforddi a chyflogaeth. Mae angen i CEF Caerdydd esbonio pam y gwnaethant benderfynu peidio ag adnewyddu les yr elusen hynod lwyddiannus hon. Bydd The Clink yn cau ar 16 Rhagfyr.

Ar 25 Tachwedd, dathlodd The Mousetrap 70 mlynedd ers agor yn theatr yr Ambassadors. Ers blynyddoedd lawer, mae campwaith theatrig Agatha Christie wedi dal record y byd am y ddrama lwyfan sydd wedi rhedeg hiraf. Mae wedi cael ei pherfformio bron i 29,000 o weithiau ar lwyfan yn Llundain ac wedi’i gweld gan dros 10 miliwn o bobl. Arweiniodd y West End allan o'r cyfyngiadau symud; y sioe gyntaf i ailagor yn ei chartref presennol yn theatr St Martin.

Rhoddwyd breindaliadau o'r ddrama gan frenhines y nofelau ditectif i'w hŵyr, Mathew Pritchard. Ym 1995, sefydlodd Mathew ymddiriedolaeth elusennol Colwinston, a ariennir yn bennaf gan y breindaliadau hynny, i gefnogi grwpiau celfyddydol. Bob blwyddyn, mae'r ymddiriedolaeth yn dosbarthu cannoedd o filoedd o bunnoedd, gyda sefydliadau celfyddydol yng Nghymru yn derbyn oddeutu 80 y cant o'r holl grantiau. Mae'r ymddiriedolaeth wedi cefnogi Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, Opera Cenedlaethol Cymru, y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama, a phrifysgolion Cymru. Mae hefyd wedi cefnogi mwy o sefydliadau a phrosiectau lleol, yn enwedig y rheini sy'n rhoi cymorth i blant a phobl ifanc neu sy'n gysylltiedig â gwella mynediad at y celfyddydau, fel Plant y Cymoedd. Bydd dathliadau pen-blwydd The Mousetrap yn 70 oed yn cynnwys ei ymddangosiad cyntaf ar Broadway a thaith o amgylch y DU, gan gynnwys perfformiadau yng Nghaerdydd ac Abertawe, yn ogystal â gwaddol o barhau i gefnogi’r celfyddydau yng Nghymru. Ond cofiwch gadw'r gyfrinach dan glo.

Gyda chwaraewyr, staff a chefnogwyr tîm pêl-droed dynion Cymru yn paratoi i adael Qatar i ddychwelyd adref, roeddwn eisiau cymryd y cyfle heddiw i gyfleu ein diolch i bob un ohonynt, ynghyd â’r Wal Goch oedd yn cefnogi yma yng Nghymru. Er bod ein siwrnai wedi dod i ben, a bod yna siom yn naturiol, mae yna gymaint hefyd i’w ddathlu, a dyna'r hoffwn adlewyrchu arno heddiw.

Roedd cyrraedd cwpan y byd am y tro cyntaf ers 1958 yn gamp aruthrol, ac yn destun balchder i’r genedl gyfan. Dyma’r tro cyntaf erioed i nifer fawr ohonom weld ein tîm cenedlaethol yn y gystadleuaeth, ac mae’r tîm wedi llwyddo i ysgogi cefnogwyr o bob oed a dangos i’r byd bod y wlad fach hon rydyn ni’n ei charu 'yma o hyd'.

Ar adeg sydd mor anodd i gynifer o bobl yn sgil COVID a rŵan yr argyfwng costau byw, onid ydy hi wedi bod yn wych gallu dathlu ein cenedl a gweld mor o goch a hetiau bwced ledled y wlad ac ar ein sgriniau teledu? Dwi’n siŵr nad fi oedd yr unig un i gael dagrau yn ei llygaid yn gwylio ein gêm gyntaf yn erbyn yr Unol Daleithiau ar y teledu a chlywed ein hanthem yn atseinio drwy’r stadiwm a sylweddoli mai dyma’r tro cyntaf erioed iddi gael ei chlywed gan gynifer o bobl.

A rhaid talu teyrnged arbennig i’r ffordd mae Cymdeithas Pêl-Droed Cymru, o dan arweiniad Noel Mooney a hefyd, wrth gwrs, Ian Gwyn Hughes, wedi sicrhau bod Cymru, nid dim ond y gymdeithas, wedi elwa o’r cyfle anhygoel hwn, gan adeiladu ar y gwaith gwych mae’r gymdeithas wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd bellach i foderneiddio a chydweithio â’r Wal Goch, a sicrhau bod pêl-droed yn perthyn i bawb yng Nghymru, a bod y gair 'Cymru' yn perthyn i bawb hefyd, pa un a’ch bod chi'n siarad Cymraeg neu beidio. 

Pinacl y gwaith hwn oedd gweld ein hanes, ein hiaith a’n gwerthoedd yn ganolog i’r holl ymgyrch cwpan y byd, ac ni wnaf byth anghofio tra byddaf fod yn stadiwm Dinas Caerdydd pan wnaethom sicrhau ein lle yng nghwpan y byd a gweld yr holl dîm, gyda Dafydd Iwan yn eu canol, yn morio canu 'Yma o Hyd', a hyd yn oed ambell i aelod o’r blaid Dorïaidd yn canu ‘Er gwaetha’r hen Fagi a’i chriw'—peidiwch â phoeni, wnaf i ddim eich enwi heddiw. Fel dywedodd Dafydd Iwan wrth gael ei gyfweld yn Qatar, beth bynnag y canlyniad yn y gystadleuaeth, heb os, mae Cymru wedi ennill, ac fel dywedodd Gareth Bale wrth gael ei holi neithiwr wrth edrych tuag at yr Ewros:

'Fe awn ni eto ym mis Mawrth.'

Gallant fod yn sicr, fel gall y tîm merched hefyd, beth bynnag fo unrhyw ganlyniad yn y dyfodol, bydd y Wal Goch yno i ddathlu a chydymdeimlo fel y mae wedi bod ar hyd y siwrnai hon. Gyda’n gilydd yn gryfach. Diolch, tîm Cymru. [Cymeradwyaeth.] 

15:20

Ac yn ysbryd gemau pêl-droed 90 munud nad ydynt byth o fewn y 90 munud y dyddiau hyn, fe wnes i ganiatáu i'r datganiad 90 eiliad hwnnw fynd y tu hwnt i'r 90 eiliad. [Chwerthin.] Ond nid yw hynny i’w ailadrodd.

Diolch i Heledd am adlewyrchu ein teimladau ni i gyd wrth feddwl am ein tîm pêl-droed a'r cefnogwyr, a phawb sydd wedi cynrychioli Cymru mor dda. 

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid—'Trefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE'

Eitem 5, felly, yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid, 'Trefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE', a dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Peredur Owen Griffiths. 

Cynnig NDM8149 Peredur Owen Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar drefniadau ariannu ar ôl ymadael â’r UE a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae’n bleser gennyf wneud y cynnig ac agor y ddadl hon ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ynghylch trefniadau ariannu ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r mater o osod trefniadau ariannu newydd yn lle rhai yr Undeb Ewropeaidd yn un hynod berthnasol yng Nghymru, gan mai ni oedd y wlad oedd yn cael y mwyaf o arian yr Undeb Ewropeaidd mewn perthynas â’n poblogaeth o blith gwledydd y Deyrnas Unedig. Fel pwyllgor, roedd y maes hwn yn un o flaenoriaeth i ni, ac fe aeth ein hymchwiliad ati i edrych yn fanwl ar yr hyn a fyddai’n cymryd lle arian yr Undeb Ewropeaidd, gyda’r nod o weld faint o arian yr oedd Cymru yn ei gael.

Fel rhan o hyn, fe wnaethom ni edrych ar gynlluniau ariannu newydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sef y gronfa adfywio cymunedol, y gronfa ffyniant bro a’r gronfa ffyniant gyffredin. Gan fod ein hymchwiliad yn drawsbynciol ei natur, roeddem yn falch o glywed gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a hoffwn ddweud pa mor ddiolchgar ydw i i’r Gweinidogion a wnaeth ymddangos gerbron y pwyllgor.

Mae’r trefniadau ariannu newydd a sefydlwyd ers i’r DU adael yr UE yn cynrychioli newid seismig yn y ffordd y caiff arian ei ddyrannu i Gymru a rôl Llywodraethau Cymru a’r DU yn y broses honno. Ein canfyddiad pennaf oedd bod gweithrediad llwyddiannus y cronfeydd newydd hyn yng Nghymru yn cael ei beryglu gan y diffyg ymgysylltu rhwng Llywodraethau Cymru a’r DU. Ni ddylai darpariaeth cyllid o dan y trefniadau hyn ymwneud â rhannu arian ar draws y DU yn unig; mae angen iddo hefyd ymwneud â rhannu syniadau a chyfrifoldebau os yw am fod yn ddull partneriaeth gwirioneddol.

Gwnaethom 20 o argymhellion yn ein hadroddiad, sy’n cynnwys argymhellion a anelwyd at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau am ddarparu ymateb ysgrifenedig i’n hargymhellion. Rydym yn sylweddoli nad yw Llywodraeth y DU yn atebol i’r Senedd. Fodd bynnag, er mwyn darparu cyllid yn lle cyllid yr UE yn llwyddiannus, bydd angen cydweithrediad y ddwy Lywodraeth, ac felly rydym yn ddiolchgar fod Llywodraeth y DU wedi bod yn rhan o’r broses graffu. Hoffwn ddiolch hefyd i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a Gweinidog yr Economi am eu hymateb ar y cyd i’n hadroddiad ac am dderbyn yr holl argymhellion sy’n berthnasol i Lywodraeth Cymru.

O ystyried yr amser heddiw, rwyf am sôn am ein prif bryderon a chanfyddiadau. Dechreuaf gyda lefel y cyllid ar gyfer Cymru. Pan ddechreuasom yr ymchwiliad hwn, un ystyriaeth allweddol i ni oedd sut y mae’r cyllid newydd a gynigiwyd ar gyfer Cymru yn cymharu â’r cyllid roeddem yn ei gael pan oedd y DU yn aelod o’r UE. Mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod £1.1 biliwn wedi'i golli yng Nghymru o ran cyllid yn lle cyllid yr UE. Dywedodd Llywodraeth y DU wrthym y byddai'r gronfa ffyniant gyffredin yn cynyddu wrth i weddill cyllid yr UE ddod i ben. Dywed nad oedd darparu'r ddau beth yn rhywbeth a addawyd erioed. Nid yw wedi bod yn bosibl cadarnhau’r honiadau cyferbyniol hyn, gan ei bod yn amlwg nad oedd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ystyried sut y mae’r cyllid newydd a gynigir i Gymru yn cymharu â’r cyllid a dderbyniwyd pan oeddem yn yr UE yn yr un modd. Felly, nid oeddem yn gallu llunio barn ynglŷn ag a yw Cymru i fod i gael mwy, llai neu’r un lefel.

Mae datganiad yr hydref Llywodraeth y DU yn ychwanegu at ansicrwydd ynghylch dyfodol y cronfeydd hyn a’u gwerth. Er ein bod yn deall bod angen archwilio’r gwahanol safbwyntiau ynghylch arian newydd yn ystod ein hymchwiliad, fe wnaethom dreulio llawer o amser yn dadansoddi egwyddorion sylfaenol dadl pob Llywodraeth mewn perthynas â lefel cyllid yr UE. Cawsom dystiolaeth a oedd yn awgrymu bod y cyllid a gyhoeddwyd hyd yn hyn gan Lywodraeth y DU yn llai na’r hyn y byddai Cymru wedi’i gael pe baem wedi aros yn yr UE, er mai amcangyfrif yn unig yw unrhyw gyllid gan yr UE yn y dyfodol, ac felly ceir lefel o ansicrwydd ynghylch y gwerth hwnnw.

Yn ystod yr ymchwiliad, rydym wedi gweld gwybodaeth fanylach yn cael ei chyhoeddi gan y ddwy Lywodraeth, ond nid yw’n ddefnyddiol i Lywodraethau anghytuno fel y gwnaethant, ac i beidio â chyhoeddi manylion eu safbwynt yn brydlon ac yn llawn. Mae’n siomedig fod lefel yr anghytuno rhwng y ddwy Lywodraeth yn parhau. Mae Llywodraeth Cymru yn honni bod datganiad yr hydref y DU yn golygu bod gwerth cyffredinol y gronfa ffyniant gyffredin ar gyfer y DU wedi gostwng £400 miliwn i £2.2 biliwn erbyn diwedd 2024-25. Fodd bynnag, ddoe ddiwethaf, cawsom ohebiaeth gan Weinidog ffyniant bro'r DU yn nodi bod hyn yn anghywir. Dyma’r union fath o anghytuno y credwn fod angen ei osgoi os yw’r cronfeydd hyn i lwyddo. Mae fy rhagflaenydd eisoes wedi ysgrifennu at y ddwy Lywodraeth, gan dynnu sylw at bwysigrwydd tryloywder wrth gyfrifo cyllid. Mae'n gwneud ein gwaith o graffu'n effeithiol hyd yn oed yn anos pan geir anghytuno fel hyn ynghylch lefelau cyllid.

15:25

A wnewch chi dderbyn ymyriad? A gaf fi ddweud yr hyn rydych wedi fy nghlywed yn ei ddweud droeon? Byddai’n ddefnyddiol pe bai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan ill dwy yn dangos eu gwaith cyfrifo yn hytrach na rhoi ffigur i ni ar y diwedd yn unig.

Diolch, Mike. Rydym yn argymell y dylai corff annibynnol asesu honiadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch lefelau cyllid yn y dyfodol a sut mae hyn yn cymharu â chyllid blaenorol yr UE. Rydym yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i’r argymhelliad hwn, ond yn anffodus, ni chawsom yr un ymrwymiad gan Lywodraeth y DU. Rydym yn annog y Gweinidog, felly, i fynd ar drywydd y mater yn y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid pan fydd yn cyfarfod nesaf.

Gadewch inni symud ymlaen at Lywodraeth y DU yn gweithredu mewn meysydd datganoledig. Un pryder mawr i ni yw Llywodraeth y DU yn defnyddio’r cronfeydd hyn fel ffordd o weithredu mewn meysydd datganoledig, yn benodol drwy’r pwerau cymorth ariannol yn Neddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a rhaglen Lluosi. Rydym hefyd yn cydymdeimlo â Llywodraeth Cymru am ei bod yn cael ei hanwybyddu yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae Pwyllgor Cyllid y pumed Senedd eisoes wedi archwilio materion sy’n ymwneud â Llywodraeth y DU yn ariannu meysydd datganoledig drwy Ddeddf y farchnad fewnol, felly nid wyf am ailadrodd y dadleuon hynny heddiw. Fodd bynnag, mae rhaglen Lluosi yn tresmasu ymhellach ar faes, fel y dywedodd Gweinidog yr Economi, ‘a ddatganolwyd yn bendant’. Rydym yn siomedig â’r dull o ddyrannu cyllid drwy raglen Lluosi, ac o gofio bod addysg yn faes sydd wedi’i ddatganoli, argymhellwyd gennym y dylai Llywodraeth y DU roi hyblygrwydd i wario arian o’r rhaglen mewn meysydd eraill. Rydym hefyd yn cydnabod safbwynt Llywodraeth Cymru fod ffocws y rhaglen yn rhy gul ac wedi arwain at ddyblygu darpariaeth. Dywed Llywodraeth y DU mai

'Bwriad Lluosi yw ategu darpariaeth bresennol Llywodraeth Cymru'

a bod

'Hyblygrwydd o hyd i leoedd addasu darpariaeth Lluosi mewn ymateb i'w hanghenion lleol.'

Fodd bynnag, rydym yn teimlo y dylai hyn fod wedi mynd ymhellach, er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru wario’r cyllid hwn mewn meysydd eraill. Mae’n destun pryder i ni hefyd fod y Senedd hon mewn perygl o gael ei hanwybyddu, a bod angen ystyriaeth bellach, er mwyn sicrhau craffu seneddol effeithiol ar y cronfeydd hyn a chronfeydd newydd yn y dyfodol yng Nghymru.

Er bod y pwyllgor yn gwerthfawrogi presenoldeb Ysgrifennydd Gwladol ac Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, gwrthododd Gweinidog y DU a oedd yn gyfrifol am yr arian fynychu. Fel pwyllgor, rydym hefyd wedi wynebu problemau tebyg yn y gorffennol wrth geisio ymgysylltu â Thrysorlys EM a hwythau'n gwrthod mynychu’r pwyllgor i drafod materion cyllidol sydd â’r potensial i gael effaith sylweddol ar Gymru. Os yw Llywodraeth y DU yn mynnu gweithredu mewn meysydd datganoledig, ni ddylai'r craffu ddigwydd yn San Steffan yn unig. Mae’r rhain yn drefniadau ariannu newydd, arwyddocaol sy’n galw am strwythurau cydnerth, tryloyw ac atebol ac sy’n adlewyrchu realiti cyfansoddiadol y DU, ac mae angen i’r Senedd hon ystyried ei rôl yn craffu ar y cronfeydd hyn.

Symudaf ymlaen at y tair cronfa benodol y soniais amdanynt ar y dechrau—y gronfa adfywio cymunedol, y gronfa ffyniant bro, a'r gronfa ffyniant gyffredin. Rydym yn bryderus iawn ynghylch y diffyg ymgysylltiad mewn perthynas â phob un o’r tair cronfa rhwng y ddwy Lywodraeth. Mae’r rhain yn ffrydiau ariannu newydd a hanfodol i Gymru, ac mae diffyg deialog yn golygu y bydd amcanion yn cael eu cam-alinio rhwng llywodraeth leol a Llywodraethau Cymru a’r DU. Er mwyn sicrhau gwerth am arian wrth gyflawni prosiectau, credwn ein bod yn gweithio orau i bobl Cymru pan fydd pob haen o lywodraeth yn cydweithio. Mewn perthynas â’r gronfa adfywio cymunedol a'r gronfa ffyniant bro, clywsom gan lywodraeth leol fod yr amserlenni ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi bod yn heriol, ac efallai fod y pwysau gweinyddol wedi bod yn ffactor allweddol yn y mathau o geisiadau a gyflwynwyd. Mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod y safbwynt hwn. Ymhellach, disgrifiwyd y broses fel un gynhenid wastraffus. Rydym yn falch felly fod y gronfa ffyniant gyffredin wedi symud oddi wrth broses gystadleuol y cronfeydd hynny, ac rydym wedi gwneud nifer o argymhellion yn y maes hwn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi siarad yn gadarnhaol am waith ar y cyd â Llywodraeth y DU ar raglen y porthladdoedd rhydd yng Nghymru. Yn yr un modd, dywedodd Llywodraeth y DU ei bod yn awyddus i gryfhau ei pherthynas waith â Llywodraeth Cymru drwy adeiladu ar ei chydweithrediad effeithiol ar y rhaglen. Yn ogystal, mae Llywodraeth y DU yn dweud ei bod yn dal yn agored i sgyrsiau gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â'u rôl mewn unrhyw fforwm gweinidogol DU gyfan, ac yn fwy cyffredinol, ynglŷn a'r cyfleoedd iddynt ymgysylltu â'r gronfa ffyniant gyffredin a chyfleoedd codi'r gwastad eraill. Gobeithiwn y bydd Llywodraeth Cymru yn manteisio ar y cynnig hwn i ymgysylltu, a gobeithiwn y gellir ailadrodd y dull a ddefnyddiwyd mewn perthynas â phorthladdoedd rhydd wrth ddarparu arian y gronfa ffyniant gyffredin ac arian yn y dyfodol, er mwyn sicrhau’r buddsoddiad mwyaf posibl yng Nghymru.

Yn olaf, hoffwn edrych ymlaen at gynlluniau ar gyfer cyllid yn y dyfodol. Cyflwynwyd rhaglenni ariannu’r UE dros gyfnod o 10 mlynedd, gyda’r hyblygrwydd a’r proffiliau gwariant hirach yn cael eu disgrifio’n hynod bwysig. Cylch ariannu tair blynedd yn unig sydd gan y gronfa ffyniant gyffredin, ac mae ganddi gyfyngiadau ar symud arian rhwng prosiectau a blynyddoedd ariannol. Ymhellach, gallai dychwelyd tanwariant o'r gronfa ffyniant gyffredin arwain at brosiectau'n cael eu cynnig er mwyn sicrhau bod arian yn cael ei wario, yn hytrach na sicrhau yr eir i'r afael â blaenoriaethau. Am y rhesymau hyn, rydym yn argymell bod Llywodraeth y DU yn cynyddu hyblygrwydd i symud cyllid y gronfa ffyniant gyffredin rhwng blynyddoedd ariannol a rhwng prosiectau, yn ogystal â chynyddu hyblygrwydd o ran sut y caiff tanwariant ei drin. Rydym yn nodi ymateb Llywodraeth y DU, a dyfynnaf:

'Mae cronfa ffyniant gyffredin y DU yn rhoi cyfle i arweinwyr lleol wario arian fel y gwelant yn dda, ac i alluogi lleoedd ledled Cymru i wireddu eu potensial unigryw.'

Fodd bynnag, mae’r ymateb hwn yn ategu ein barn fod Llywodraeth Cymru yn cael ei hanwybyddu yn y broses o wneud penderfyniadau. Gwnaethom ofyn hefyd am eglurder ynghylch cynlluniau hirdymor Llywodraeth y DU ar gyfer cyllid yn lle cyllid yr UE a statws y gronfa ffyniant gyffredin y tu hwnt i 2025. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd parhad unrhyw gronfeydd presennol neu gronfeydd olynol yn cael ei lywio gan gyfuniad o ymgysylltu â phartneriaid perthnasol a gwerthuso tystiolaeth, ac y byddai’n amhriodol ceisio achub y blaen ar strwythur a ffocws cyllid yn y dyfodol. Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, nid yw hyn yn rhoi llawer o sicrwydd, ac mae’r pwyllgor yn credu bod angen gwneud mwy hyd nes y gwelwn drefniadau ariannu sy’n diwallu anghenion Cymru. Diolch yn fawr.

15:30

A gaf fi groesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl heddiw fel aelod o'r Pwyllgor Cyllid, ac a gaf fi ddiolch i'r Cadeirydd am ddisgrifio'r sefyllfa mewn ffordd mor huawdl? Wrth gwrs, roedd gadael yr UE bob amser yn mynd i roi heriau, yn enwedig pan oedd cyllid o'r fath wedi ymwreiddio o fewn cymunedau dros gyfnod o amser, ond credaf hefyd ei fod wedi rhoi cyfle inni lunio cynlluniau ariannu newydd fel y gallem gefnogi pobl, busnesau a chymunedau mor effeithiol ac mor effeithlon â phosibl. 

Mae rhai gwahaniaethau gyda'r cronfeydd newydd a gafodd eu croesawu at ei gilydd gan y rhan fwyaf o randdeiliaid. Er enghraifft, mewn tystiolaeth, croesawodd CLlLC benderfyniad Llywodraeth y DU i ddyrannu'r arian hwn yn uniongyrchol i'r cynghorau fel y cyrff a etholwyd yn ddemocrataidd sydd agosaf at y bobl y maent yn eu gwasanaethu, ond rwy'n deall nad yw Gweinidogion Cymru wedi bod yn teimlo mor gadarnhaol ynglŷn â hyn, gan deimlo'u bod wedi'u gwthio i'r cyrion rywfaint. Mae'r adroddiad gan y pwyllgor yn argymell yn briodol y dylai Llywodraeth y DU ddarparu rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut y bydd y fforymau gweinidogol ledled y DU yn cefnogi'r gwaith o gynllunio a darparu'r cyllid.

O safbwynt personol, ac rwy'n ailadrodd y gair personol, mae lle i gefnogi gweinyddu'r cyllid newydd hwn yn fwy lleol. Fel cyn-arweinydd awdurdod lleol, rwy'n gredwr cryf ac yn eiriolwr dros egwyddorion sybsidiaredd. Fel y clywsom gan randdeiliaid, ac fel y gwn fy hun, cynghorau sydd yn y sefyllfa orau yn aml i reoli cynlluniau ariannu. Maent eisoes yn gweithio o fewn strwythurau lleol a rhanbarthol, maent yn gyfarwydd â phartneriaid a rhanddeiliaid, ac maent yn deall beth sydd ei angen yn eu hardal.

Daw hyn â fi at bwynt mwy sylfaenol. Fel y dywedodd y Cadeirydd, clywodd y pwyllgor mewn tystiolaeth fod diffyg ymgysylltu a chydweithio rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn rhwystro potensial cynlluniau cyllido newydd ôl-UE i gyflawni'r hyn y bwriadwyd iddynt ei gyflawni. Mae hyn hefyd yn ein hatal rhag dysgu'n briodol am yr hyn sy'n mynd yn iawn ar hyn o bryd a'r hyn sydd angen ei newid i sicrhau bod y ffrydiau cyllido'n gweithio gyda'i gilydd mewn ffordd gydlynol.

Mae yna bob amser rai problemau cychwynnol wrth sefydlu cronfeydd, ac mae'r rhain wedi cael eu harchwilio gan y Pwyllgor Cyllid, pethau fel amserlenni heriol ac a yw'r broses mor syml ag y gallai fod. Y gobaith yw bod Llywodraeth y DU yn gwrando ar y rhain ac yn nodi ffyrdd o fowldio'r cynlluniau fel eu bod yn gweithio'n fwy effeithlon. Ond rwy'n teimlo bod y ddwy Lywodraeth wedi cael eu tynnu i mewn i ddadl gynyddol gymhleth ynghylch maint y cyllid o'i gymharu â chyllid blaenorol yr UE, sydd wedi suro cysylltiadau'n ddiangen ac wedi rhwystro cynnydd.

Fel y mae'r adroddiad yn nodi, mae'r pwyllgor o'r farn fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn amcangyfrif bod lefel flynyddol gyffredinol y cyllid drwy gronfa gymdeithasol Ewrop a chronfa datblygu rhanbarthol Ewrop ar yr un lefel yn fras. Y gwahaniaeth yw'r ffordd y mae hyn yn ymwneud â'r cyllid UE sy'n weddill yn dirwyn i ben a dibyniaeth Llywodraeth Cymru ar gyllid a ragwelid o'r UE, sy'n dod â lefel o ansicrwydd o ran faint yn union y byddem wedi'i gael. 

Fel y mae'r Cadeirydd eisoes wedi nodi, ddoe yn unig y cawsom lythyr gan y Gweinidog ffyniant bro ynghylch honiad Llywodraeth Cymru bod gwerth y gronfa ffyniant gyffredin wedi gostwng £400 miliwn. Mae'r llythyr yn dweud bod y datganiad hwn yn ffeithiol anghywir, ac fe gadarnhaodd y Llywodraeth na fu unrhyw newid i gyfanswm cyllid cronfa ffyniant gyffredin y DU. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn mynd i'r afael â hyn yn eu hymateb, oherwydd mae'r drafodaeth wedi cael ei chymylu gan wleidyddiaeth yn rhy aml, ac mae'n dangos pam fod angen agwedd fwy agored a mwy o eglurder ar y ddwy ochr fel ein bod yn gwybod yn union beth sy'n digwydd a sut y bydd unrhyw faterion yn cael eu hunioni fel y gall Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU symud ymlaen o'r ddadl hon o'r diwedd.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

15:35

Fe wnaethoch chi dreulio'r cwestiynau cyllid yn pwysleisio pwysigrwydd y swm o arian sydd ar gael i lywodraeth leol. Nid wyf yn dadlau â hynny. Mae'n ymddangos eich bod bellach yn dadlau bod cyfanswm yr arian yn llai pwysig na materion eraill. Pwy yw'r Peter Fox go iawn?

Y cyfan rwy'n ei ddweud yw bod dwy blaid yma sy'n credu bod y cyfanswm yn wahanol, ond eto nid ydym wedi cael tystiolaeth i brofi y naill ffordd neu'r llall. Rwy'n ategu'r hyn a ddywedodd y Cadeirydd. Mae'r Peter Fox go iawn yn sefyll y tu ôl i chi, a bydd yn dweud wrthych chi beth yw beth.

Yn hytrach, gadewch inni ganolbwyntio ar yr hyn sy'n fwyaf pwysig, a'r hyn y mae adroddiad y pwyllgor yn ymwneud ag ef mewn gwirionedd, sef darparu'r cyllid sydd ei angen ar gymunedau, cael gwynt dan adain prosiectau, a sicrhau dyfodol gwell i'n cymunedau. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

A gaf fi argymell y dylai'r Aelodau ddarllen yr adroddiad llawn? Oherwydd mae yna rai pethau diddorol iawn ynddo, nid yn unig yr argymhellion a barn a chasgliadau'r pwyllgor, y mae'r rhan fwyaf ohonom yn eu darllen fel arfer mewn adroddiadau gan bwyllgorau nad ydym yn aelodau ohonynt.

Ar 1 Ionawr 2021, daeth y cytundeb masnach a chydweithredu i rym a sefydlodd hwnnw berthynas y DU â'r UE yn y dyfodol. Ni chytunwyd ar fynediad y DU at rowndiau rhaglenni ariannu strwythurol yr Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Roedd hynny'n golygu nad oeddem yn cael yr arian mwyach. Mae Llywodraeth y DU wedi datblygu ei chynlluniau ariannu newydd: cronfa adfywio cymunedol y DU, y gronfa ffyniant bro, a chronfa ffyniant gyffredin y DU. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod gostyngiad yn yr arian sy'n dod i Gymru. Mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud nad yw hynny'n wir. Cafodd y ddau ddatganiad eu gwneud yn hyderus ac yn rymus, fel pe na bai'n bosibl dadlau'n eu herbyn. Nid yw'r naill na'r llall wedi dangos eu gwaith cyfrifo, er i Simon Hart addo dangos cyfrifiadau San Steffan, ond nid oedd yn Ysgrifennydd Gwladol yn ddigon hir ar ôl y cyfarfod i gyflawni'r addewid hwnnw. Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu cyfrifiadau pan fyddant yn gwneud datganiadau ariannol. Yn y diwedd, fe wnaethom ddarganfod bod rhywfaint, neu bron y cyfan, o'r gwahaniaeth yn deillio o'r ffaith bod San Steffan wedi cynnwys cyllid Ewropeaidd parhaus a oedd yn dirwyn i ben, ac ni wnaeth Llywodraeth Cymru hynny. Os oedd Llywodraeth Cymru'n gwybod hynny, pam na wnaethant ddweud wrthym yn y lle cyntaf? Byddai wedi gwneud bywyd yn llawer haws i'r pwyllgor, ac wedi arbed cryn dipyn o amser i ni.

Cafodd y prosesau cystadleuol mewn perthynas â chronfa adfywio cymunedol y DU a'r gronfa ffyniant bro eu beirniadu gan awdurdodau lleol hefyd. Cyfeiriodd Cyngor Sir Penfro, nad yw'n ardal Lafur yn bendant, at y broses gystadleuol gyda'r gronfa adfywio cymunedol fel un 'gynhenid wastraffus'. Esboniodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, pan fyddwch yn ychwanegu cystadleuaeth am y cyllid, fod pob awdurdod lleol yn defnyddio llawer o adnoddau ac yn treulio llawer o amser, ac mae sefydliadau eraill yn defnyddio llawer o adnoddau, ac roedd rhaid iddynt roi amser ac ymdrech ar gyfer gwneud ceisiadau heb unrhyw sicrwydd o lwyddiant. Yna, wrth gwrs, roedd yn rhaid asesu'r holl geisiadau hynny. Rydych yn treulio llawer o amser, yn gwario llawer o arian, ac mae llawer o bobl yn cael siom yn y pen draw.

Lansiwyd y gronfa ffyniant gyffredin ar 13 Ebrill a bydd yn weithredol ar gyfer 2022-23 i 2024-25. Mae'n werth £2.6 biliwn ledled y DU. Mynegodd Pwyllgor Cyllid y pumed Senedd siom ynghylch y diffyg gwybodaeth a oedd ar gael am y gronfa ffyniant gyffredin yn ei hadroddiad ar baratoi ar gyfer cyllid yn lle cyllid yr UE yng Nghymru yn 2018. Daeth hyn ar ôl i'r Pwyllgor Materion Cymreig ddod i'r casgliad yn 2020 fod methiant wedi bod hyd at y pwynt hwnnw i ymgysylltu'n briodol â rhanddeiliaid a'r Senedd.

Mae dyraniadau lleol o'r gronfa ffyniant gyffredin yng Nghymru yn cael eu dosbarthu ar sail poblogaeth 40 y cant, mynegai cronfa adfywio cymunedol 30 y cant, a mynegai amddifadedd lluosog Cymru 30 y cant. O ran sut mae'r dosbarthiad yn wahanol i gyllid yr UE, fel y nodwyd, nid yw'n bosibl cymharu dyraniadau ar lefel awdurdod lleol gyda chyllid blaenorol yr UE oherwydd bod y rhan fwyaf o ddyraniadau prosiect yr UE yn rhychwantu mwy nag un ardal. Mae yna symudiad ymddangosiadol wedi bod o ranbarth gorllewin Cymru a'r Cymoedd tuag at ddwyrain Cymru. Fe fyddwn i'n ei roi mewn ffordd lawer symlach: o rannau tlotach Cymru i rannau mwy cyfoethog Cymru. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y gronfa ffyniant gyffredin yn symud o broses ariannu gystadleuol y gronfa adfywio cymunedol a'r gronfa ffyniant bro.

A gaf fi ddod at y pwynt pwysicaf, yn fy marn i? Rwy'n credu mai prifysgolion yw'r allwedd i wella gwerth ychwanegol gros ac incwm Cymru. Os edrychwn ar ddinasoedd, rhanbarthau a gwledydd llwyddiannus, mae rôl prifysgolion yn hanfodol i lwyddiant economaidd. Mae gan ardaloedd llwyddiannus bobl hynod addysgedig a medrus yn byw ynddynt hefyd. Pam fod Palo Alto a Chaergrawnt ddwy neu dair gwaith yn fwy llwyddiannus nag unrhyw le yng Nghymru? Pam fod Mannheim yr un fath? Mae ganddynt y pethau hyn. Mae'r rhain yn hynod o bwysig. Os ydym am fod yn gyfoethog, mae angen mwy o brifysgolion, mae angen gwario mwy o arian ar brifysgolion, ac mae angen cyflawni mwy o ymchwil. Mae perthynas ansicr barhaus y DU â Horizon Ewrop yn ychwanegu at y pwysau sy'n wynebu prifysgolion Cymru. Mae Prifysgolion Cymru wedi croesawu'r cadarnhad diweddar gan Lywodraeth San Steffan fod ymgysylltu â Horizon Ewrop yn parhau i fod yn uchelgais i Lywodraeth y DU. Yn y cyfamser, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad ynghylch pecyn ariannu i fuddsoddi yn sector ymchwil a datblygu'r DU. Bydd o fudd os bydd y DU yn parhau i gadw mewn cysylltiad agos â Horizon Ewrop yn y dyfodol, hyd yn oed os yw hynny'n unig er mwyn caniatáu i bobl â sgiliau gwych ddod i mewn i'r wlad hon a gweithio gyda phobl eraill yn Ewrop sydd â'r sgiliau gwych hynny er mwyn gwella ein cyfoeth. 

Mae'r buddsoddiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn cynnwys ychwanegiad o £100 miliwn mewn cyllid cysylltiedig ag ansawdd i brifysgolion Lloegr, ac rydym yn cael cyllid canlyniadol Barnett. Mae cyllid cysylltiedig ag ansawdd yn hanfodol i alluogi ein prifysgolion yng Nghymru gystadlu a denu buddsoddiad ychwanegol i Gymru, gan greu manteision i gymunedau ledled y wlad. Bydd darparu'r cyllid hwn i brifysgolion Cymru yn helpu i liniaru effaith yr ansicrwydd ynghylch y cysylltiad â Horizon Ewrop yn y dyfodol a cholli cronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd, ond yn y bôn, os ydych chi eisiau bod yn wlad gyfoethog, mae angen ichi gael gweithlu medrus iawn, addysgedig iawn, a phrifysgolion rhagorol. 

15:40

Diolch i'r Cadeirydd ac aelodau'r pwyllgor am eu gwaith ar y maes pwysig yma. I fi, man cychwyn yw atgoffa'n hunain, efallai, o rai o'r addewidion a wnaethpwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, a jest pwyso a mesur i ba raddau y mae'r addewidion yna wedi cael eu gwireddu neu eu cadw chwe blynedd lawr y lein. Nawr, mi ddywedwyd wrthym ni, fel rŷn ni wedi clywed, na fyddem ni geiniog allan o boced yng Nghymru. Mi ddywedwyd hefyd, wrth gwrs, y bydden ni'n cael budd o gael gwared ar y baich rheoleiddiol a'r holl dâp coch, ac y byddai hynny'n caniatáu buddsoddi wedi'i dargedu'n fwy effeithiol a buddsoddi mwy effeithlon hefyd. Mi ddywedwyd y buasai fe'n fodd i gymryd rheolaeth yn ôl, os cofiwch chi, ac ymbweru datganoli gwneud penderfyniadau. Dwi ddim yn gweld hynny eto, mae'n rhaid i fi ddweud, er ein bod ni chwe blynedd lawr y lein, fel sydd wedi cael ei nodi.

Mae'r ariannu a'r cyllido sydd wedi ei glustnodi i Gymru o dan gynllun y shared prosperity fund i fyny at 2025 yn disgyn yn fyr o'r lefelau y bydden ni wedi eu derbyn yn ystod yr un cyfnod petaem ni'n dal i fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd. Mae goblygiadau datganiad yr hydref gan Lywodraeth San Steffan, wrth gwrs, yn dweud y bydd yna £400 miliwn yn llai, er dwi yn nodi'r hyn a ddywedodd y Cadeirydd ynglŷn â llythyr sydd wedi dod i gyflwyno gwrthddadl i hynny. Ond, petasech chi ond yn edrych ar yr economi a pherfformiad yr economi yn ehangach, yn enwedig mewn cymhariaeth â gweddill y G7, mae'r awgrym ein bod ni, rywsut, yn well bant o fod lle rŷn ni nawr, i fi, yn addewid gwag. Ac, wrth gwrs, rŷn ni hefyd yn gwybod na chafodd Llywodraeth Cymru fod yn rhan neu gael ei hymgynghori â hi ar unrhyw gyfnod wrth ddatblygu a chynllunio'r ffordd y byddai'r cyllidebau yma yn cael eu defnyddio, er eu bod nhw, wrth gwrs, yn torri i mewn i feysydd datganoledig, ac mae hynny, wrth gwrs, i fi, yn anfon y neges yna fod Llywodraeth San Steffan yn trin y lle yma gyda dirmyg.

A gadewch i ni gymharu'r hyn sydd gennym â'r hyn sydd gennym, yw'r hyn rwy'n ceisio ei ddweud, oherwydd mae'r gronfa ffyniant gyffredin yn gysyniad gwleidyddol digydwybod, wedi'i daflu at ei gilydd ar frys i lenwi gwagle a adawyd ar ôl yn sgil Brexit, gan orfodi, i bob pwrpas, ail-greu'r olwyn a oedd eisoes yno. Roedd gan Lywodraeth Cymru fframwaith, a gyd-ddatblygwyd dros nifer o flynyddoedd gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, gydag awdurdodau lleol Cymru, gydag addysg uwch, addysg bellach, y sector busnes a'r trydydd sector—ac roedd y rhain oll yn ddarostyngedig i ymgynghori cyhoeddus hefyd. Ond na, mae angen inni adeiladu rhywbeth arall.

Clywsom gan Mike Hedges fod ceisiadau wedi bod yn defnyddio llawer o adnoddau awdurdodau lleol, wedi'u llywio'n fawr gan bwysau amser yn hytrach na dull mwy strategol o ddylanwadu ar ba brosiectau sy'n cael eu cyflwyno. Nid oes rhaid cyfeirio at fuddsoddiad arall, yn enwedig buddsoddiad Llywodraeth Cymru, felly rydych yn cael prosiectau nad ydynt yn ategu ei gilydd yn y pen draw, risg o ddyblygu, ac yn sicr risg o werth gwael am arian hefyd. Ac fe gyfeirir at Lluosi yn y gwaith wrth gwrs. Mae addysg a sgiliau wedi'u datganoli, ond ni chafodd Llywodraeth Cymru unrhyw rôl wrth ddatblygu'r cynigion hynny. Dylai fod larymau mawr yn canu yno ynghylch y ffordd y mae Llywodraeth San Steffan yn ymyrryd mewn meysydd sydd wedi'u datganoli, ac unwaith eto, yn creu risg o ddyblygu difrifol mewn perthynas â rhai o'r rhain.

Rydym bellach yn symud o gylchoedd ariannu'r UE o 10 mlynedd, gyda gorgyffwrdd o ddwy flynedd hefyd, a ddarparodd sefydlogrwydd a pharhad, ac a'i gwnâi'n bosibl cael rhagolwg strategol hirdymor, i gylch ariannu tair blynedd y gronfa ffyniant gyffredin. Rydym ar ddiwedd neu bron ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf nawr, ac mae awdurdodau lleol yn dal i aros am gadarnhad ynglŷn â chynlluniau buddsoddi'r gronfa ffyniant gyffredin. Nid dyma'r defnydd gorau o adnoddau.

Fel y maent yn cadarnhau yn eu hymateb i'r adroddiad, mae Llywodraeth y DU hefyd wedi creu tîm penodedig ar gyfer Cymru i redeg ochr fiwrocrataidd y ffrydiau cyllido ôl-UE hyn, ac mae hynny'n cynnwys gwaith ar adrodd, monitro, sicrwydd a gwerthuso. Mae pob un yn bwysig iawn—wrth gwrs—ond mae'r rhain i gyd eisoes yn bodoli yng Nghymru ac mae hyn i gyd yn ddyblygu, mae'n gymhlethdod ychwanegol, ac mae'n gost i drethdalwyr Cymru. Felly, fy nghasgliad i yw bod pethau'n edrych yn wael iawn hyd yma, ac mae gennym ffordd bell iawn i fynd i sicrhau y bydd yr addewidion a wnaed chwe blynedd yn ôl yn dod yn agos at gael eu cyflawni.

15:50

Fel aelod o'r Pwyllgor Cyllid hefyd, roeddwn yn awyddus iawn i'r pwyllgor ymgymryd â'r gwaith hynod bwysig hwn i Gymru fel mater o flaenoriaeth, er tegwch a gonestrwydd ac er ariannu teg fel egwyddor, ac er mwyn cyflawni addewid gwleidyddol ac ymddiriedaeth ac fel nad yw Cymru'n cael ei thrin gyda dirmyg ychwaith. Mae hyn oherwydd mai Cymru oedd y wlad a oedd yn derbyn y gyfran fwyaf o gyllid yr UE mewn perthynas â'i phoblogaeth o holl wledydd y DU. Mae'n hanfodol ein bod yn dal Llywodraeth y DU at ei haddewid ac yn ei dwyn i gyfrif, ac na fydd Cymru, yn ei geiriau ei hun, geiniog yn dlotach wedi i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n nodi ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad, lle maent yn datgan nad oes ceiniog o'r cyllid yn lle cyllid yr UE wedi cyrraedd Cymru.

Mae'n galonogol i mi fod Llywodraeth Cymru wedi parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i drafod ymhellach â Llywodraeth y DU, sy'n cynnwys trafodaeth ar y gronfa ffyniant gyffredin, lefelau cyllido a dyraniadau, ynghyd â sefydlu swyddogaeth gwneud penderfyniadau ar y cyd ddilys ar gyfer Gweinidogion, er mwyn gwella effaith a gwerth am arian y gronfa yng Nghymru. Mae pobl Cymru yn haeddu gweld Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ymroi ac yn gweithio'n adeiladol i sicrhau nad yw Cymru ar ei cholled yn ariannol. Erbyn hyn, cyfrifoldeb Rishi Sunak, trydydd Prif Weinidog Torïaidd y flwyddyn, yw anrhydeddu'r addewid blaenorol i Gymru, sef na fyddai pobl Cymru, unwaith eto, geiniog yn waeth eu byd ar ôl inni adael yr UE.

Ddirprwy Lywydd, wrth i'r argyfwng costau byw Torïaidd ddwysáu, ac ar ôl prif weinidogaeth fyrhoedlog Liz Truss a'i chyllideb fach, mae pobl Cymru yn haeddu ac yn mynnu bod Llywodraeth Dorïaidd y DU yn gwneud y peth iawn ac yn anrhydeddu eu haddewid i Gymru.

Ie, diolch yn fawr i'r Pwyllgor Cyllid am gyflwyno'r adroddiad hwn. Mae'n fanwl iawn ac mae'n glir iawn.

Diolch yn fawr iawn i Peredur a'r Aelodau eraill hefyd.

Mae gwrthwynebiad fy mhlaid i Brexit yn hysbys iawn. Mae Brexit wedi cael effaith ar ein safle yn y byd, ar ein gallu i deithio'n rhydd, ac yn bwysig, ar ein heconomi. Rwy'n tybio y gallem fod yn ennill y ddadl economaidd mewn gwirionedd, oherwydd yng ngoleuni'r argyfwng costau byw, fel y gall pawb ei weld, rydym yn debygol o fod yn waeth ein byd nag y byddem wedi bod pe baem wedi parhau i fod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd. Rydym ni, Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru, yn galw ar Lywodraeth y DU i ailymuno â'r farchnad sengl a'r undeb tollau, fel y gallwn roi diwedd ar y fiwrocratiaeth ddiangen sy'n effeithio ar ein gallu i fasnachu gyda'n cymdogion agosaf.

Gan ganolbwyntio ar ganfyddiadau'r adroddiad, mae'n amlwg na fydd Llywodraeth y DU yn darparu arian newydd llawn yn lle'r cronfeydd strwythurol a oedd ar gael i Gymru cyn Brexit, a bydd Cymru'n bendant yn waeth eu byd yn ôl y metrig hwn. Mae hyn er gwaethaf addewid y Ceidwadwyr yn eu maniffestos yn 2017 a 2019 y byddai'r gronfa ffyniant gyffredin yn darparu arian yn lle cronfeydd strwythurol yr UE yn uniongyrchol. Mae'n peri pryder pellach hyd yn oed nad oes yr un geiniog o arian y gronfa ffyniant gyffredin wedi cael ei wario yng Nghymru hyd yma, ac y bydd Cymru yn bendant yn cael llai nag y byddai wedi'i gael pe baem wedi aros yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd.

Rwyf eisiau canolbwyntio ar un peth bach i orffen, sef casgliadau'r adroddiad ar gyllid i'r gwyddorau. Mae angen i Lywodraeth y DU fynd i'r afael ar frys â'r diffyg y bydd gwyddoniaeth yng Nghymru yn ei wynebu drwy gronfa ffyniant gyffredin y DU—y £772 miliwn sydd wedi'i golli i Gymru ar draws y tair blynedd nesaf. Meddyliwch am y rhif hwnnw: £772 miliwn y dylem fod yn ei gael ar gyfer ein gwyddorau. Ond rydym yn gwybod bod gwyddoniaeth, yn enwedig y maes ffiseg, yn hwb i'n heconomi Gymreig, ac fe glywsom gan Mike Hedges ynglŷn â sut mae sgiliau a phrifysgolion a dysgu mor bwysig i'n gwlad. Mae'r Sefydliad Ffiseg yn amcangyfrif bod ffiseg ei hun yn werth tua £7.3 biliwn i economi Cymru. Mae'n amlwg fod gan Lywodraeth Cymru waith i'w wneud i ymgorffori gwyddoniaeth yn rhan o'r strategaeth arloesi sydd ganddi ar y gweill, ond hefyd i geisio argyhoeddi Llywodraeth bresennol y DU ynglŷn â phwysigrwydd y sector hwn mewn perthynas â buddsoddi. Diolch yn fawr iawn. 

15:55

Hoffwn ddechrau drwy gytuno'n gryf â Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar y pwynt am ailymuno â'r farchnad sengl a'r undeb tollau. Rwy'n credu y bydd y niwed a wnaed gan Brexit yn drychineb nid yn unig i'n cenhedlaeth ni ond i genedlaethau'r dyfodol, a gobeithio y bydd pob plaid wleidyddol yn cydnabod hynny. Nid wyf yn disgwyl i'r Gweinidog roi ateb i mi ar y pwynt hwn, ond rwy'n gobeithio ei bod hi a'i gwên enigmatig y prynhawn yma—efallai na ddylwn ddarllen gormod i mewn i hynny, ond rwy'n gobeithio ei fod yn golygu o leiaf nad yw hi'n anghytuno'n chwyrn â mi. 

O ran ein sefyllfa mewn perthynas â chyllid yr UE, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Cyllid am yr adroddiad hwn. Rwy'n credu ei fod yn adroddiad pwysig iawn, ac rwy'n ei groesawu'n fawr. Rwy'n credu bod angen i ni gael dadl realistig ar ein sefyllfa mewn perthynas â chyllid yr UE. Mae arnaf ofn ein bod wedi gweld llawer o—beth yw'r gair; rwy'n ceisio dod o hyd i air gwahanol i'r gair 'nonsens' sydd wedi'i ysgrifennu o fy mlaen—mae llawer o'r siarad a fu am gyllid yr UE yn gyfeiliornus i raddau helaeth yn fy marn i. Rwy'n cofio un cyn-Brif Weinidog Cymru yn ei ddisgrifio fel cyfle unwaith mewn oes i gael newid sylfaenol. Ond nid oedd hynny erioed yn wir, ac ni allwch ddadwneud canrif o ddirywiad economaidd â ffrwd ariannu bum mlynedd. Rydych angen ffrwd ariannu dros nifer o flynyddoedd. Ac wrth gwrs fe gynlluniwyd hen statws Amcan 1 er mwyn cyflawni hynny. Nid oedd erioed yn mynd i fod yn arbrawf ariannu un-tro, os mynnwch, roedd bob amser yn mynd i fod yn rhan o gyfle ehangach i fod yn sail i ddatblygiad economaidd dros nifer o flynyddoedd. Ac roedd cyllid yr Undeb Ewropeaidd, wrth gwrs, bob amser yn seiliedig ar egwyddor ychwanegedd. Ni ragdybiwyd erioed y byddai'n cymryd lle gwariant gan Lywodraethau cenedlaethol. Ac roedd y bartneriaeth honno bob amser yn hanfodol iddo. Felly, roeddem bob amser yn anghywir i dybio bod cyllid yr UE yn ateb i bob un o'n hanawsterau economaidd. Ac roedd cyllid yr UE yn rhan o'r jig-so a'n galluogai i wneud llawer mwy nag y gallem ei wneud ein hunain. Roedd yr ychwanegedd yn golygu bod gennym ffrydiau ar gyfer buddsoddi mewn pobl, seilwaith a llefydd. Ac rwyf wedi gweld hynny yn fy etholaeth fy hun.

Mae Llywodraeth y DU wedi torri ei haddewid, ac mae mewn perygl o dorri'r undeb. Adroddodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn y Senedd ddiwethaf ar hyn, a'r Dirprwy Lywydd, wrth gwrs, oedd yn cadeirio'r pwyllgor bryd hynny, ac fe fydd yn cofio, fel rwyf fi'n cofio, yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd yn rhoi ymrwymiad llwyr y byddai arian newydd yn dod yn lle pob ceiniog o gyllid yr UE o dan y system newydd. A beth bynnag yw'r cymhlethdodau rydym yn eu gweld nawr, mae'n amlwg nad yw'r ymrwymiad hwnnw wedi cael ei gyflawni. Ac rwy'n credu y gallwn fod yn glir iawn ynglŷn â hynny. Mae Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 yn ddeddfwriaeth ddinistriol sy'n ymosod ar y lle hwn ac yn tanseilio cyfansoddiad y DU ac ewyllys gytûn pobl Cymru. Mae'n rhaid i mi ddweud wrth Peter Fox fod hwn hefyd yn sefydliad a etholwyd yn ddemocrataidd, ac mae gan y lle hwn fandad, ac mae ganddo fandad a phwerau a roddwyd iddo nid yn unig drwy fympwy Ysgrifennydd Gwladol ond gan y bobl drwy refferendwm, ac mae ganddynt hawl i ddisgwyl i Lywodraeth barchu hynny. Ie?

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Rwy'n derbyn canlyniadau refferenda; mae'n drueni mawr na wnaethoch chi dderbyn canlyniad y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd. Yn eich etholaeth eich hun, pleidleisiodd 62 y cant o bobl dros adael. Sut ydych chi wedi eu cynrychioli hwy dros y blynyddoedd diwethaf?

Rwyf bob amser wedi sefyll—ac fe fyddwch chi, wrth gwrs, fel Ceidwadwr, yn gyfarwydd â gwaith Edmund Burke, tad Ceidwadaeth fodern. A'r hyn a ddywedodd yn glir iawn yn ei araith i etholwyr Bryste oedd y dylai Aelod etholedig fod yn ffyddlon i'r bobl a gynrychiolir ganddo, nid yn unig drwy ei waith ond hefyd drwy gyfleu'r hyn y mae'n ei gredu. A dyna rwyf fi wedi'i wneud, a byddaf yn parhau i wneud hynny. A byddaf yn dadlau dros fandad democrataidd i wrthdroi'r refferendwm yn 2016. Ni fyddwn yn ei wneud drwy'r drws cefn na chwaith drwy ddeddfu i'w wneud heb ymgynghori â'r bobl.

Felly, dros y blynyddoedd diwethaf gwelsom ddiffyg tryloywder, diffyg dealltwriaeth o bwrpas nac amcanion y rhaglenni newydd, diffyg cydlynu, cau Llywodraeth Cymru allan, sy'n sarhad ar ddemocratiaeth Cymru, ac rydym wedi gweld system yn ei lle sy'n anhrefnus ac yn draed moch—a hynny yng ngeiriau AS Ceidwadol. Felly, gadewch inni fod yn gwbl glir ynglŷn â'r hyn rydym ei angen. Ble mae'n ein gadael? Mae gennym system sydd wedi torri ac mae'n un sydd angen ei hatgyweirio. Ac mae model yr UE yn dangos sut i wneud hynny mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod angen—ac rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi dadlau dros hyn o'r blaen—cyngor o Weinidogion i ddod i gytundeb drwy gonsensws yn hytrach na derbyn dictadau a osodir drwy ddatganiadau i'r wasg. Rydym angen tryloywder i allu dadlau a mynegi ein barn, ac o safbwynt y Ceidwadwyr, mae angen inni ddeall beth yw dibenion ac amcanion ffrydiau ariannu cyn eu cyflwyno yn hytrach na dim ond adrodd arnynt ar ôl iddynt gael eu cyflwyno. Ac mae angen inni fynd yn ôl at y cydlyniant roedd Huw Irranca-Davies yn ei arwain fel Cadeirydd pwyllgor cyllido'r UE ar y pryd, er mwyn sicrhau eich bod yn dod â phobl at ei gilydd, sicrhau nad ydych yn eithrio pobl a sicrhau bod Cymru'n cael ei gwasanaethu gan yr holl bobl y mae'n eu cynrychioli. Ar hyn o bryd, yr hyn sydd gennym yw system doredig ac rydym mewn perygl o gael undeb toredig.

16:00

Alun, diolch am gymryd fy enw'n ofer, ond mewn ffordd glodfawr yn y fan honno am ennyd. Ond hoffwn ddweud bod yr adroddiad yn dal yno ac mae'n dal i fod yn ddilys, rhaid i mi ddweud, ac fe gafodd ei roi at ei gilydd—. Fe drof at yr adroddiad hwn yn y man, ond rhaid imi ddweud bod yr adroddiad hwnnw ar ariannu yn y dyfodol, ariannu rhanbarthol, yng Nghymru, wedi gosod y meincnod ar gyfer yr hyn y dylem ei wneud ledled y DU, ac fe'i diwygiwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, fel y dywedodd Llyr. Cafodd ei gefnogi nid yn unig gan y diwydiant, undebau llafur, y trydydd sector, cymdeithas sifil, addysg ôl-16 ac yn y blaen, ac mae yno ar y silff, ac i fod yn onest, un o'i elfennau allweddol oedd sut y gallem weithio'n drawsffiniol â Llywodraeth y DU, ac ar sail draws-Ewropeaidd hefyd. Felly, hoffwn ddweud wrth Lywodraeth y DU o hyd, yn ogystal ag wrth Aelodau sydd heb ei weld efallai: edrychwch ar yr adroddiad hwnnw. Ni cheir model gwell ar gyfer ariannu rhanbarthol, nid yn unig yma yng Nghymru, ond ar draws yr UE, ar hyn o bryd, a gallai Llywodraeth y DU ei droi'n bartneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a'r ffordd ymlaen.

Ond gadewch imi droi at yr adroddiad hwn. Rwy'n credu ei fod yn wych. Rwyf wedi mwynhau ei ddarllen yn fawr, sy'n syndod i gadeirydd y pwyllgor a'i aelodau efallai, ond y rheswm rwyf wedi'i fwynhau yw oherwydd ei fod yn hyddysg iawn ac mae hefyd yn adlewyrchu'r hyn y mae'n rhaid fy mod i ac eraill wedi bod yn ei glywed gan fusnesau ac eraill yn eu hetholaethau eu hunain. Ond hefyd, y grŵp y soniais amdano a wnaeth y gwaith, mae llawer ohonynt bellach yn rhan o'r fforwm strategol ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru, sy'n ceisio gweithio drwy rai o'r anawsterau a amlygwyd yn yr adroddiad hwn.

Gadewch imi fynd ar drywydd rhai o'r meysydd a nodwyd ganddynt sy'n cael eu hadlewyrchu yn yr adroddiad hwn. Wrth baratoi'r ceisiadau hyn gan awdurdod lleol, y baich amser aruthrol a roddodd—felly, ni symleiddiodd yn sydyn a lleihau beichiau, rhoddodd y baich yn gadarn ac yn llwyr ar ysgwyddau awdurdodau lleol i gynhyrchu ceisiadau mewn proses gystadleuol. Nid yn unig hynny, rhoddodd bwysau amser arnynt, a golygodd y pwysau amser na wnaethant ddewis y gorau weithiau, ni wnaethant edrych o gwmpas a chysylltu ag eraill—fe wnaethant eu gorau i'w wneud, ond roedd rhaid iddynt ddweud, 'Beth sydd gennym ar y silff sy'n barod? Mae gennym brosiect gwell ar y ffordd, pe bai ond gennym amser i weithio ar hwn, a gallem ei wneud gyda'r ddau neu dri awdurdod cyfagos, ond nid yw'n barod, felly bydd rhaid inni ddewis yr un acw, a dewis yr un acw a'i wthio ymlaen.'

Ac yna mae gennych chi'r ffaith nad dim ond y lle hwn sydd wedi cael ei anwybyddu, neu fod Llywodraeth Cymru wedi cael ei hanwybyddu, ac—[Anghlywadwy.]—ond y syniad, mewn rhannau o'r ffrydiau ariannu hyn yn y dyddiau cynnar, fod gennych chi Aelodau Seneddol mewn gwirionedd y gofynnwyd iddynt gyflwyno cynlluniau a oedd â'u henwau arnynt—nid Aelodau o'r Senedd, nid awdurdodau lleol, ond Aelodau Seneddol. Nawr, mae hyn yn eithaf diddorol, oherwydd gwleidyddiaeth y gasgen borc Americanaidd, hen ffasiwn yw hyn: 'Dyma brosiect sy'n agos at fy nghalon. Weinidog, fe wnaf eich cefnogi. Rhowch y prosiect hwn i mi. Efallai nad dyma'r un gorau i fy etholwyr, ond dyma'r un rwyf fi ei eisiau.' Nawr mae hyn yn anghywir. Y cyfan rwy'n ei ddweud wrth gyd-Aelodau yma ar fy llaw chwith ar y meinciau Ceidwadol yw: ni ddylech wneud hyn. Un o'r gwersi o ystodau blaenorol o arian Ewropeaidd oedd y feirniadaeth o gymhlethdod a'r amser a gymerai ac yn y blaen. Ond gallech ddweud un peth: roeddent yn atebol a chaent eu gyrru gan ddadansoddiad da o angen, a'u llywio gan ddulliau o'r gwaelod i fyny gan gymunedau a ddywedai, 'Dyma beth rydym ei eisiau.' Nawr gallai fod yna fodel gwahanol. [Torri ar draws.] Fe wnaf ildio, yn sicr.

Rwy'n ddiolchgar i chi am hynny. Fe fyddwch yn ymwybodol fod pont reilffordd Penprysg yn rhywbeth sy'n elwa o gronfa ffyniant bro Llywodraeth y DU, ac mae eich cyd-bleidiwr, Chris Elmore AS, wedi cefnogi honno. A ydych chi'n dweud bod hwnnw'n benderfyniad anghywir?

Na, dim o gwbl. Mewn gwirionedd, byddwn i'n cefnogi honno, ond fy mhwynt i yw hyn: a ddylai un AS, un cynrychiolydd etholedig, sy'n anwybodus ynghylch y fframwaith polisi yng Nghymru, yn anwybodus ynghylch anghenion ehangach y rhwydwaith rheilffyrdd yn yr ardal honno hefyd, fel croesfan Maesteg a Ton-du, sydd wedi bod yn aros ers 20 mlynedd am fuddsoddiad gan UK Network Rail—nid yw hynny'n cael sylw—a ddylai fod un AS yn cael ei ddweud, boed yn Chris Elmore neu Jamie Wallis neu unrhyw un arall? Ni ddylai fod yn wleidyddiaeth casgen borc, a dyna fy mhwynt. Mae ffordd well o'i wneud. Rwy'n brin o amser. Gadewch i mi fynd ymlaen at rai o'r pethau eraill—

16:05

Rwyf wedi rhoi ychydig o amser ychwanegol i chi. Mae gennych ymyriad arall, os ydych yn dymuno ei dderbyn.

A wnewch chi dderbyn ymyriad arall, gennyf fi? Rwy'n deall bod cais ariannol ffyniant bro ar gyfer seilwaith rheilffyrdd wedi cael ei wrthod gan Lywodraeth y DU ac mae'n rhaid i'r awdurdod ei roi yn ôl i mewn eto. Ond a ydych chi'n cytuno gyda mi fod swyddogion yr awdurdod lleol wedi dweud ei fod fel mynd yn ôl 10 mlynedd nawr er mwyn symud ymlaen gyda hyn, felly nid yw'n cyflawni llawer iawn mewn gwirionedd, nad ydy?

Rwy'n cytuno'n llwyr. Mae angen inni symud oddi wrth hyn, ac mae angen iddo fod yn seiliedig ar ddadansoddi da, mae angen dadansoddi, a lle dylai'r arian fynd yn briodol. Ac i ddilyn pwynt eithaf cywir Alun, nid dim ond ymwneud â'r swm presennol o gyllid a allai gael ei golli y mae, mae'n ymwneud â chyllid cynaliadwy hirdymor sy'n mynd i'r ardaloedd a'r cymunedau sydd ei angen fwyaf. Nid oes gennym y model hwnnw. Felly, gadewch i mi'n gyflym, gyda'r un neu ddau o ymyriadau hynny—

—Ddirprwy Lywydd. Dim eglurder ar hyn o bryd gan Lywodraeth y DU ar gyllid ôl-UE yn y tymor canolig ac yn hirdymor yn y dyfodol. Dim cytundeb nac eglurder ynghylch y swm a gollwyd i Gymru na fel arall. Ansicrwydd parhaus ynghylch Erasmus+, Horizon Ewrop, cytundebau cydweithio Ewropeaidd eraill. Ymgysylltiad gwael neu ddiffyg ymgysylltiad llwyr rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Nawr, byddwn yn dweud wrth fy nghyd-Aelodau Ceidwadol fod hyn wedi cael ei orfodi ar Gymru, heb ei wneud mewn partneriaeth, felly mater i Lywodraeth y DU yw estyn allan a dweud, 'Gadewch inni wneud hyn gyda'n gilydd.' Nid bai Llywodraeth Cymru yw'r diffyg ymgysylltiad hwn, ond bai Llywodraeth y DU.

Ac i gloi, diffyg rôl ffurfiol nid yn unig i Lywodraeth Cymru ond i'r Senedd hon, i Aelodau unigol y Senedd sy'n eistedd o amgylch y Siambr hon sy'n cynrychioli eu hetholaethau—dim rôl o gwbl. Ni allwn barhau fel hyn, felly rwy'n credu bod yr argymhellion a'r casgliadau'n gadarn, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Llywodraeth y DU a'r pwyllgorau yn y DU—y ddwy Senedd—yn gweld hyn ac yn gwrando arno, a'r Gweinidogion hefyd. Rwy'n gobeithio y gallai hyn fod yn rhan o'r drafodaeth pan fydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn ymweld â'r lle hwn yr wythnos hon. Adroddiad gwych—da iawn.

Diolch. Rwy'n croesawu'r cynnig heddiw a hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am ei waith ac am yr adroddiad ar drefniadau cyllido ôl-UE, ond hefyd i'r holl bartneriaid Cymreig sydd wedi dangos cymaint o ddiddordeb yn yr ymchwiliad yn ogystal â darparu tystiolaeth mor glir. Mae'n sicr yn gyfraniad amserol a phwysig i'r drafodaeth ar fater hollbwysig, gan fod dull Llywodraeth y DU o ymdrin â chyllid ôl-UE nid yn unig yn tresmasu'n fwriadol ac yn annerbyniol ar faes polisi datganoledig, ond mae hefyd yn costio mewn swyddi a thwf i Gymru.

Yn ei datganiad yn yr hydref, roedd yn ymddangos bod Llywodraeth y DU yn torri £400 miliwn o gronfa ffyniant gyffredin y DU yn 2024-25 ac nad yw'n dangos unrhyw wariant yn y flwyddyn ariannol hon. Fe wnaeth hynny er bod cynlluniau buddsoddi Cymru ar gyfer y gronfa wedi'u cyflwyno yn ystod yr haf ar gyfer prosiectau a ddylai fod wedi dechrau gweithredu'n barod. Ond rwyf wedi gweld y llythyr hwnnw heddiw sydd wedi'i anfon at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac fe fyddwn yn edrych ymhellach ar hyn, ond mae'n ymddangos, o'r hyn y mae'r llythyr yn ei awgrymu, fod y cyllid bellach wedi'i gynnwys yng nghyllideb adrannol yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn Llywodraeth y DU, ond rwy'n credu y bydd rhaid inni archwilio a chanfod i ba raddau y mae'n gwbl ychwanegol. Ond rwy'n credu bod hynny'n dangos diffyg tryloywder ar ran Llywodraeth y DU mewn perthynas â gwariant, a pha mor anodd yw hi, weithiau, i gael eglurder a pha mor bwysig yw hi fod Llywodraeth y DU yn gwella'r cyfathrebu gyda Llywodraethau datganoledig, yn enwedig mewn meysydd lle maent yn ceisio dylanwadu ar draws cymwyseddau datganoledig.

Rwy'n credu bod y camau hyn yn dangos methiant gwirioneddol a chlir Llywodraeth y DU i gyflawni ei haddewid maniffesto i roi cyllid newydd yn lle cyllid yr UE yn llawn. Nid yw hynny hyd yn oed yn destun dadl, mae'n ffaith absoliwt, oherwydd, pe baem wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd, byddem yn cael £375 miliwn ychwanegol bob mis Ionawr. Ond mae Llywodraeth y DU wedi debydu'r arian dilynol sydd gennym ar gyfer y blynyddoedd i ddod ar ôl Brexit. Felly, ni ellir dadlau nad oes llai o arian newydd yn dod i Gymru o ganlyniad.

Roeddwn yn falch o ddangos ein cyfrifiadau. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig i'r Senedd beth amser yn ôl nawr mewn ymateb i gwestiynau gan gyd-Aelodau yn y Siambr i nodi sut y daethom i'r casgliad hwnnw. Ond rwy'n credu na all yr un Aelod yma heddiw wadu'r ffaith bod methiannau Llywodraeth y DU i wneud yr hyn sydd orau i economi Cymru yn pentyrru fesul un.

Mae rhaglenni ariannu presennol a newydd yr UE yn gorgyffwrdd dros ddwy flynedd, ac roedd Llywodraeth Cymru'n barod i ddechrau rhaglen fuddsoddi ôl-UE bron i ddwy flynedd yn ôl, ym mis Ionawr 2021, ac erbyn hynny, roeddem eisoes wedi gwneud gwaith dwys iawn gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a chyda'n partneriaid Cymreig ar greu'r model cryfaf posibl ar gyfer Cymru. Ac mae'n dal i fod yn gwbl annerbyniol fod Llywodraeth y DU wedi diystyru'r gwaith manwl iawn hwnnw, a'r ymgynghoriad cyhoeddus a'i cefnogai yn wir, o blaid eu dull eu hunain, a gafodd ei daflu at ei gilydd ar y funud olaf, a bod yn onest, yn gynharach eleni. Ac mae canlyniadau dull ariannu ôl-UE Llywodraeth y DU yn amlwg iawn. Felly, mae fformiwla dosbarthu y gronfa ffyniant gyffredin yn ailgyfeirio cronfeydd datblygu economaidd oddi wrth yr ardaloedd yng Nghymru lle mae'r tlodi mwyaf dwys, ac rydym wedi gweld camau o'r fath yn cael eu dathlu gan ein Prif Weinidog presennol o ran symud cyllid o'r ardaloedd lle mae ei angen fwyaf i'r ardaloedd mwy cyfoethog.

Mae awdurdodau lleol yn cael eu rhoi dan bwysau enfawr oherwydd amserlenni na ellir eu cyflawni nawr ar gyfer datblygu cynlluniau a phrosiectau a rhoi'r trefniadau gweinyddol a'r trefniadau llywodraethu ar waith sy'n gorfod sefyll ochr yn ochr â'u cynigion. A hefyd, yn bwysig iawn, mae prifysgolion, colegau, y trydydd sector a busnesau wedi cael eu cau allan yn llwyr o allu cael mynediad uniongyrchol at y cyllid, ac mae'n gadael llawer o'r sectorau hynny bellach yn adrodd am ddiswyddiadau ac yn cau gwasanaethau hanfodol—effeithiau hollol niweidiol yn y byd go iawn yng Nghymru o ganlyniad i'r sefyllfa bresennol. 

Nid yw Llywodraeth Cymru yn cael defnyddio'r gronfa ffyniant gyffredin i gefnogi rhaglenni a ariannwyd drwy Gymru gan yr UE yn flaenorol sy'n hanfodol ar gyfer cynhyrchiant a thwf—er enghraifft, Busnes Cymru, prentisiaethau, y banc datblygu a'n cynlluniau arloesi. Ac oherwydd y lefelau ariannu isel, yr amserlenni byr, yr anhyblygrwydd, mae awdurdodau lleol yn cael eu gorfodi, fel y clywsom, i ddewis prosiectau llai na delfrydol, gyda'r perygl na fyddant yn cael effaith go iawn.

Mae ein cymunedau gwledig, wrth gwrs, £243 miliwn yn waeth eu byd na phe baem wedi aros yn yr UE, oherwydd bod Llywodraeth y DU wedi didynnu derbyniadau o'r UE a oedd yn ddyledus i Gymru am waith a oedd yn rhan o raglen datblygu gwledig 2014 i 2020. Ac wrth gwrs, mae oedi gwleidyddol wrth ffurfioli cysylltiad y DU â Horizon Ewrop yn golygu bod prifysgolion a busnesau yng Nghymru yn colli mynediad at gyllid ymchwil ac arloesedd hanfodol.

Mae anwybyddu Llywodraeth Cymru a'r Senedd hon yn creu perygl o ddyblygu ac atebolrwydd aneglur, ac mae hyn eisoes yn cael ei ddangos drwy'r ffordd y mae Llywodraeth y DU'n cyflawni'r cynllun Lluosi a'i fethiant i ymateb yn ystyrlon yn fy marn i i argymhellion penodol y Pwyllgor Cyllid ar hyn. Mae angen i'r camau hyn gael eu gweld yng nghyd-destun setliad ein cyllideb yng Nghymru, sydd, wrth gwrs, fel y clywsom yn gynharach heddiw, yn werth £1 biliwn yn llai y flwyddyn nesaf, ac mae'r dull gweithredu hefyd yn tanseilio datganoli ac nid yw'n rhoi fawr o ystyriaeth, mewn gwirionedd, i ddymuniadau partneriaid Cymreig.

Felly, gan droi at argymhellion adroddiad y pwyllgor, rydym yn derbyn pob un sy'n cael eu cyfeirio tuag at Lywodraeth Cymru, a byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i liniaru cymaint o'r tarfu hwn a'r canlyniadau ag y gallwn. Mae hyn yn cynnwys brocera cydweithrediad rhwng sectorau a chynorthwyo llywodraeth leol gyda'u cynlluniau. Rydym hefyd yn parhau i gynnal ein cyfarfodydd rheolaidd o'r fforwm strategol ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth Huw Irranca-Davies, er mwyn rhannu gwybodaeth a gwersi a ddysgwyd ymhlith partneriaid Cymreig. 

Ar argymhellion yr adroddiad ar gyfer Llywodraeth y DU, rydym yn ddiolchgar i'r pwyllgor am godi'r pwyntiau pwysig hyn. Yn anffodus, rwy'n credu bod ymateb Llywodraeth y DU i'r adroddiad yn ddiystyriol, ac mae'n methu mynd i'r afael yn ystyrlon â nifer o'r argymhellion ac unwaith eto, wrth gwrs, mae'n gwrthod derbyn cymaint o gyllid a gollwyd, fel sy'n cael ei deimlo gan gymunedau ledled Cymru bellach.

Byddai Llywodraeth gyfrifol yn y DU yn rhoi anghenion economi Cymru yn gyntaf ac yn gwrando arnom ni, ein partneriaid ac amrywiaeth o arbenigwyr annibynnol a grwpiau trawsbleidiol, sydd wedi annog Gweinidogion y DU i weithredu'n wahanol—i weithredu mewn modd sy'n cynnwys gwneud penderfyniadau ar y cyd ac a fyddai'n cynnig llawer mwy o werth am arian ac effaith economaidd. Mae trafodaeth sylweddol ar gyllid ôl-UE wedi'i threfnu yn y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid nesaf, sydd i fod i ddigwydd yn gynnar fis nesaf, rwy'n credu, ac fe fyddaf yn ei fynychu. 

Fel y clywsom, fe allasom weithio'n fwy adeiladol gyda'n gilydd, ac yn fwy llwyddiannus, ar fater porthladdoedd rhydd. Mae'n hanfodol fod Llywodraeth y DU yn efelychu'r dull mwy cynhyrchiol hwnnw wrth gyflwyno cronfeydd ôl-UE a chronfeydd eraill y DU gan ddefnyddio'r Ddeddf marchnad fewnol. Bydd hynny'n golygu, felly, y gallwn fynd i'r afael yn well â heriau strwythurol hirdymor Cymru a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i gefnogi ein cenhadaeth i greu Cymru gryfach, tecach a gwyrddach.

16:15

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb am gymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma.

Mae'n amlygu'r cymhlethdod a'r materion emosiynol rydym wedi bod yn eu trafod y prynhawn yma. Yn fyr, ychydig o sylwadau ar y siaradwyr. Soniodd Peter, i ddechrau, am y diffyg ymgysylltiad a'r cymhlethdod o beidio â siarad â'n gilydd. Mike, wedyn—un pwynt i'w wneud yw na wnaeth Simon Hart anfon y cyfrifiadau atom, ond fe wnaeth Robert Buckland, felly roedd gennym rywfaint o'r wybodaeth honno. Ond rwy'n credu eich bod wedi llunio ein harwyddair newydd fel pwyllgor, 'Dangoswch eich gwaith cyfrifo'. Rwy'n meddwl bod hynny'n dal i godi bob tro, felly i unrhyw Weinidog sy'n gwrando neu unrhyw un sy'n dod i siarad â ni yn y dyfodol, byddai 'Dangoswch eich gwaith cyfrifo' yn beth pwysig iawn.

Soniodd Llyr eto fod ffordd bell i fynd i gyflawni'r addewidion a wnaed. Diolch i Rhianon a Jane, hefyd, am siarad am yr addewidion a gafodd eu gwneud. Soniodd Alun a Huw am y trefniadau ariannu hirdymor a'r cynllunio hirdymor, a chafwyd geiriau caredig gan Huw am yr adroddiad ei hun ac yn amlwg, yr adroddiad arall a roddodd gychwyn ar rywfaint o'r broses hon. Gwn fod pwyllgorau eraill yn ystyried gwneud y gwaith hwn ac edrych ymhellach ar hyn. Rwy'n credu bod pwyllgor yr economi yn mynd i ddechrau ychydig o waith ar hyn y flwyddyn nesaf hefyd i gadw'r sgwrs i fynd ac i gadw'r ddeialog i fynd. Roedd yr ymchwiliad a wnaethom yn archwiliad dwfn—yn gipolwg cychwynnol ar hyn—ac mae angen ei archwilio ymhellach.

Wedyn, diolch i'r Gweinidog am ei sylwadau, a dynnai sylw eto at beth o'r anhyblygrwydd y soniais amdano yn rhai o'r cronfeydd hyn a'r ddeialog nad yw'n digwydd rhwng y ddwy Lywodraeth. Yr un peth y mae angen inni ei gofio yw mai ein cymunedau ni—ein cymunedau mwyaf bregus—sy'n cael eu heffeithio gan hyn i gyd, a'r bobl a welwn allan yno yn y byd go iawn, fel petai, sy'n cael eu heffeithio gan y cecru ynglŷn â phwy sy'n talu am beth a pha arian sy'n mynd i lle. Felly, mae angen inni gael cyfathrebu gwell.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, mae’r adroddiad hwn yn taflu goleuni ar y trefniadau ariannu hyn ac, yn bwysicach fyth, ar y cronfeydd sy'n gweithredu yng Nghymru a’u heffaith ar y cymunedau sydd eu hangen fwyaf. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau a’r Gweinidog am eu cyfraniadau heddiw. Rwy’n credu mai dyma’r tro cyntaf i ymchwiliad pwyllgor gael ei gynnal i'r mater yma yn y Senedd yma, a dwi'n gobeithio y bydd yn gosod sylfaen gref ac egwyddorion da ar gyfer craffu ar y cronfeydd hyn yn y dyfodol. Rŷn ni eisiau gweld Cymru’n cael ei chyfran deg a dwi’n gobeithio y bydd yr adroddiad yma yn cyfrannu ac yn sicrhau bod hynny'n digwydd.

Cyn cloi, yn sydyn, hoffwn ddiolch i’r sefydliadau a’r unigolion sydd wedi rhoi tystiolaeth i’r ymchwiliad, ac i'r tîm clercio, am eu hymroddiad i'r gwaith yn y broses. I sicrhau bod y cronfeydd newydd hyn yn cael cymaint o effaith â phosibl ac yn cyrraedd y mannau iawn a’r bobl iawn, rydyn ni angen dull gweithredu aeddfed sy’n seiliedig ar sgwrs aeddfed ac eglurder. Rwy’n falch bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfleoedd i’w gilydd ymgysylltu’n fwy, ac rwy'n cytuno y dylai fod swyddogaeth go iawn i gael penderfyniadau ar y cyd ar gyfer Gweinidogion Cymru er mwyn gwella effaith a gwerth am arian y cronfeydd a’r buddsoddiadau yng Nghymru. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes; felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

16:20
6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol—'Sicrhau chwarae teg: Adroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig'

Eitem 6 y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Sicrhau Chwarae Teg: Adroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Delyth Jewell.

Cynnig NDM8152 Delyth Jewell

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ‘Sicrhau chwarae teg: Adroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Awst 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n symud y cynnig ar ran y pwyllgor. Mae’n bleser gen i agor y ddadl heddiw ar ran ein pwyllgor i drafod ein hadroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig. Hoffwn ddiolch i bawb a oedd wedi cymryd rhan yn yr ymchwiliad hwn ac a rannodd eu profiadau gyda ni fel pwyllgor, i Aelodau eraill y pwyllgor, ac i’n tîm clercio ac ymchwil am eu gwaith ar yr ymchwiliad.

Mae ein hadroddiad, a’n dadl ni brynhawn yma, am y cyfleuoedd sydd gan bobl i fod yn actif pan fyddan nhw’n byw mewn naill ai ardaloedd difreintiedig neu’n byw bywydau difreintiedig. Dylsai chwaraeon fod yn faes cyfartal. Fel rŷn ni’n dweud yn Saesneg, it should be a level playing field. Ond yn anffodus, nid fel yna mae hi. Roedd testun ein hymchwiliad yn bwnc bu nifer o randdeiliaid yn gofyn inni fel pwyllgor edrych mewn iddo. Ac mae’n amlwg yn bwnc o bwys i’r Llywodraeth. Wedi’r cwbl, dywedodd y Llywodraeth inni mewn tystiolaeth ar y gyllideb ddrafft ym mis Ionawr y

'Gall chwaraeon fod yn offeryn iechyd ataliol mwyaf effeithiol y wlad.'

Sylwch: 'gall'. Mae potensial yma, ond, fel wnaethon ni fel pwyllgor ddarganfod, mae’r potensial hwn yn cael ei rwystro mewn gormod o ardaloedd gan dlodi a diffyg cyfleon, ac mae’r sefyllfa yn mynd yn waeth.   

Dirprwy Lywydd, mae’r pandemig wedi gwaethygu sefyllfa oedd yn barod yn wael. Mae data diweddaraf Chwaraeon Cymru, o fis Awst eleni, yn dangos bod 41 y cant o bobl yn dweud bod yr argyfwng costau byw hefyd nawr wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif. A dangosodd arolwg Chwaraeon Cymru o fis Chwefror fod 40 y cant o oedolion yn teimlo bod y pandemig wedi arwain at newidiadau negyddol i’w trefniadau ymarfer corff. Dynion, oedolion hŷn, y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is, a’r pobl sydd â chyflwr neu salwch hirsefydlog yw’r rhai mwyaf tebygol o deimlo fel hyn. Roedd pobl o gefndiroedd mwy llewyrchus yn tueddu teimlo’r gwrthwyneb.

Mae bwlch amddifadedd ystyfnig mewn cyfranogiad plant oedran ysgol mewn chwaraeon, hefyd. Eto, yn ôl ffigyrau Chwaraeon Cymru, yn 2022, cymerodd 32 y cant o blant o ardaloedd mwyaf difreintiedig ran mewn chwaraeon tu allan i’r cwricwlwm dair gwaith neu fwy’r wythnos. Y ffigwr ar gyfer disgyblion yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig oedd 47 y cant. Cyfle sydd gennym ni nawr i newid pethau. Ac o ystyried maent y broblem, mae e’n siom bod y Llywodraeth wedi gwrthod ein dau brif argymhelliad ni, ond rydym ni yn croesawu’r llefydd lle mae’r Llywodraeth wedi dweud y byddan nhw’n ystyried gwneud newidiadau.

Mae ein prif argymhelliad yn siarad am yr angen i newid y drefn o’r brig ar gyfer chwaraeon a gweithgaredd corfforol. Mae ein hadroddiad yn galw am ddull cydweithredol cenedlaethol newydd gan Lywodraeth Cymru. Cyfle byddai hyn i osod targedau mesuradwy ac amserlen diffiniedig dros gyfnod o bum mlynedd. Mae’r problemau rŷn ni wedi’u darganfod yn rhai sy'n rhy styfnig i’w newid heb newid syfrdanol o'r fath, a byddai ein hargymhelliad yn golygu pawb, pob asiantaeth, pob adran o’r Llywodraeth, yn gweithio tuag at yr un nod cyffredin hwn. Buasai hi ddim yn golygu dechrau o'r dechrau; byddai’n golygu bod y Llywodraeth yn gosod uchelgais pendant a dod ag arferion da at ei gilydd. Ac mae pob argymhelliad arall yn llifo o’r prif un yma.

Y prif rhai eraill buaswn i’n sôn amdanynt ydy’r grant datblygu gweithgaredd corfforol, oedd wedi’i dderbyn mewn egwyddor gan y Llywodraeth, a’r argymhelliad am gyllido, oedd wedi’i wrthod. Byddai’r grant, yn ôl ein hargymhelliad, yn dysgu o’r cynllun peilot Active Me—Kia Tū yn Seland Newydd, er mwyn gwella mynediad i’r rhai mewn ardaloedd difreintiedig at gyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Gan fod y Dirprwy Weinidog newydd ddychwelyd o Seland Newydd, lle ddysgodd am y gwaith yma, byddem yn croesawu mwy o ddiweddariad ganddi ar yr argymhelliad yna. Mae ein hargymhelliad yn wahanol i’r grant datblygu disgyblion, gan y byddai’n cyllido hefyd cefnogaeth i gael cyngor proffesiynol i ddatblygu cynlluniau, cit chwaraeon neu ffioedd tanysgrifiadau, mynediad i gyfleusterau, ac hefyd costau teithio.

Gwnaf siarad yn olaf, Dirprwy Lywydd, am ein hargymhelliad ar gyllido. Mi wnaf roi ychydig o gyd-destun i esbonio hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y gall chwaraeon fod yr arf iechyd ataliol mwyaf effeithiol. Mae rhestrau aros y gwasanaeth iechyd gwladol wedi tyfu 50 y cant rhwng Mawrth 2020 ac Ebrill eleni, felly byddai arf o’r fath i’w groesawu. Ond mae'r cyllid ar gyfer Chwaraeon Cymru wedi'i gwastadu; hynny ydy, it’s plateaued. Bydd cyllideb refeniw terfynol 2021-22 yn cynyddu o £22.4 miliwn i £22.7 miliwn yng nghyllideb derfynol 2022-23; hynny ydy, cynnydd o 1 y cant. Amcanir y bydd yn cynyddu 6 y cant erbyn 2024-25, sydd yn llawer is na chyfraddau chwyddiant cyfredol. Mae arian cyfalaf ar gyfer yr un cyfnod i lawr o £8.6 miliwn i £8 miliwn. 

Cyn i ni glywed gan Aelodau eraill yn y ddadl bwysig hon, buaswn i eisiau dweud bod pethau eithriadol o dda yn digwydd dros Gymru. Cymeradwyodd nifer o randdeiliaid waith Chwaraeon Cymru—y prosiectau dros Gymru sydd yn gwneud cymaint o waith anhygoel o dda a phwysig ym mywydau pobl. Ein dadl ni ydy, gyda'r adnoddau cywir, gallai hyn fod hyd yn oed yn well. Dros yr wythnosau diweddar, rŷm ni gyd wedi mwynhau gwylio Cymru yng nghwpan y byd. Heb fuddsoddiad amserol gan Lywodraeth Cymru, mae perygl i ni golli’r seilwaith i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr—y Bales, y Ramseys ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn berthnasol, wrth gwrs, ar gyfer pob camp, pob gweithgaredd. Rŷm ni eisiau i Gymru aros ar ben y byd o hyd. Buddsoddi yn iechyd y genedl fyddai hyn, mewn cymaint o ffyrdd, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed barn Aelodau eraill. Diolch.

16:25

Fel aelod o'r pwyllgor, a gaf fi dalu teyrnged i bawb a wnaeth roi tystiolaeth i ni ar y pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad, ac fel mae Delyth wedi gwneud, diolch i'r clercod a'r tîm ymchwil am sicrhau bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal mewn modd amserol a chadarnhaol? Roedd rhai ohonom angen eu help yn fwy nag eraill.

Nid yw'n gyd-ddigwyddiad fod yr adroddiad hwn yn cael ei drafod yn ystod cyfnod enfawr i bêl-droed Cymru a chwaraeon Cymru yn gyffredinol, wrth inni arddangos ein gwlad ar raddfa fyd-eang. Rwy'n credu ein bod o ddifrif wedi gweld pŵer chwaraeon elît, ond mae pob stori chwaraeon elitaidd yn dechrau o stori chwaraeon ar lawr gwlad, felly dyna oedd ffocws ein hymchwiliad. Mae'r adroddiad yn dechrau gyda dyfyniad gan Lywodraeth Cymru sy'n dweud

'Gall chwaraeon fod yn offeryn iechyd ataliol mwyaf effeithiol y wlad'.

Mae wedi profi hynny'n llwyr. Profwyd bod chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn darparu manteision lles corfforol a meddyliol enfawr, ond gresyn nad oes gennym gyfle wedi'i ledaenu'n gyfartal ledled y wlad i gael mynediad at y cyfleusterau hynny. Dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd yn 2020 nad oedd un o bob pedwar oedolyn yn cyrraedd y lefelau a argymhellir o weithgarwch corfforol. Cyn y pandemig, dim ond 32 y cant o oedolion a gymerai ran mewn gweithgaredd chwaraeon dair gwaith yr wythnos, tra bo 40 y cant heb fod yn cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd o gwbl. 

Yr hyn sydd wedi bod yn fwyaf syfrdanol i mi yw bod aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas wedi dweud eu bod yn gwneud llai o weithgaredd na chyn y pandemig. Yn ôl y dystiolaeth a gawsom yn y pwyllgor roedd nifer o rwystrau'n wynebu'r rhai mewn ardaloedd difreintiedig rhag cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae'r rhain yn amrywio o addasrwydd y cyfleusterau sydd ar gael, diffyg mannau diogel ar gyfer gwneud ymarfer corff, llai o amser wedi'i ddyrannu ar gyfer chwaraeon, ac ystrydebau sy'n perthyn i'r gorffennol a dweud y gwir. Fe wnaeth y Dirprwy Weinidog gydnabod yn ystod sesiwn dystiolaeth gyda'r pwyllgor mai'r ardaloedd mwyaf difreintiedig oedd wedi cael eu taro waethaf. 

Mae'r rhaglen lywodraethu'n cynnwys ymrwymiad byr i ddarparu mynediad cyfartal at chwaraeon, ond mae llythyr cylch gwaith Chwaraeon Cymru yn cynnwys gofyniad pwysig i sicrhau nad yw grwpiau sy'n agored i niwed yn cael eu heithrio rhag cymryd rhan mewn chwaraeon. Ac er bod croeso i rai o'r cynlluniau trawsadrannol sy'n cael eu cyflawni gan Lywodraeth Cymru, byddai'n ddefnyddiol gwybod pa drafodaethau y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'u cael gyda Chwaraeon Cymru i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'u cylch gwaith i sicrhau nad yw'r grwpiau bregus hynny'n cael eu heithrio o chwaraeon, a pha gamau y maent yn eu cymryd i leihau'r bwlch penodol hwn.

I symud ymlaen at yr argymhellion eraill yn yr adroddiad, roeddwn yn meddwl ei bod hi'n eithaf siomedig nad yw'r Llywodraeth wedi ystyried yr argymhellion hyn gyda'r meddwl agored a'r ysbryd a fwriadwyd i osod y safon genedlaethol hon ar gyfer mynediad at chwaraeon ledled Cymru. Ond roeddwn yn falch o weld bod y Llywodraeth yn derbyn argymhelliad 4 yn benodol mewn egwyddor. Mae agor cyfleusterau cymunedol mewn ardaloedd difreintiedig i gynyddu cyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant a dyfodol cael pobl o'r ardaloedd hynny i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

16:30

Diolch i Tom Giffard am ildio, a deallaf fod yr adroddiad penodol hwn yn ymwneud â chymryd rhan mewn chwaraeon, ond a ydych yn cytuno â mi ei fod ychydig yn ehangach na hynny hefyd mewn gwirionedd? Mae'n ymwneud â mynychu, cymryd rhan ac efallai gwylio chwaraeon yn yr ardaloedd difreintiedig hyn, gan fod hynny'n fuddiol iawn i iechyd meddwl hefyd, mewn ysbryd cymunedol.

Ydy, yn sicr, ac nid yn unig—ni allaf gofio'r union ddyfyniad, ond dywedodd un o'n tystion wrth y pwyllgor nad ar gyfer pobl sy'n dda iawn mewn chwaraeon yn unig y mae chwaraeon; dylai chwaraeon fod ar gyfer pawb.

Serch hynny, clywsom gan nifer a roddodd dystiolaeth yn ystod yr ymchwiliad nad yw hynny wedi digwydd bob amser mewn rhai ysgolion, er eu bod wedi elwa o arian prosiect ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a bod rhan o’r cyllid hwnnw ar gyfer sicrhau mynediad i'r cymunedau y maent yn darparu cyfleusterau ar eu cyfer. A lle roeddwn yn gynghorydd ym Mracla cyn hyn, gallaf dystio'n uniongyrchol nad oedd y cyfleusterau hynny, ar ôl iddynt gael eu hadeiladu, bob amser ar gael i gymunedau yn y ffordd y bwriadwyd iddynt fod, efallai, pan oeddent yn cael eu cynllunio. Gwn fod hwn yn un o’r meysydd lle mae portffolio’r Dirprwy Weinidog a phortffolio’r Gweinidog addysg yn gorgyffwrdd, ond yn ein hymdrechion i gau’r bwlch, mae angen inni sicrhau nad yw’r canlyniad hwn yn disgyn rhwng y bylchau hynny.

Dywedodd Mark Lawrie o GemauStryd wrthym y bydd teulu cyffredin sy’n byw mewn tlodi yn gwario oddeutu £3.75 yr wythnos ar chwaraeon a hamdden egnïol. Nododd mai ffigur 2019 oedd hwnnw, felly ni allwn ond rhagdybio y gallai'r ffigur fod yn is heddiw. A dywedodd yr Athro Melitta McNarry wrthym ei bod wedi gweld gwybodaeth a ddangosai mai’r swm cyfartalog a werir mewn ardaloedd difreintiedig oedd £1.50 yr wythnos, o gymharu â £10 mewn ardaloedd mwy cefnog. Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i bontio'r bwlch er mwyn sicrhau nad yw'r rheini o gefndiroedd difreintiedig yn cael eu rhwystro rhag cymryd mewn chwaraeon yn y lle cyntaf.

Ac yn olaf, i gloi, hoffwn dynnu sylw at rywbeth y mae Noel Mooney, prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, wedi’i ddweud am gyflwr cyfleusterau yma yng Nghymru, lle dywedodd fod,

'ein cyfleusterau ar lawr gwlad yn gwbl warthus yma. Rwyf wedi fy syfrdanu'n fawr gan ba mor wael yw'r cyfleusterau yma'.

Yn sicr, mae’n rhaid i’n huchelgais ar gyfer chwaraeon yng Nghymru fod yn llawer uwch na hynny. Os ydym o ddifrif am sicrhau gwaddol o gwpan y byd eleni, mae angen codi'r gwastad yn helaeth mewn cyfleusterau cymunedol—gadewch i hynny fod yn waddol a gadewch inni sicrhau chwarae teg. Diolch.

Rwyf am ddechrau fy sylwadau lle gorffennodd Tom Giffard. Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor ac ysgrifenyddiaeth y pwyllgor am yr holl waith a wnaethant ar gynhyrchu'r adroddiad hwn. Roedd yn un o'r ymchwiliadau pwyllgor dymunol hynny gan eich bod bob amser yn dysgu pethau ar bwyllgorau, ac mae gwrando ar brofiadau bywyd gwahanol bobl bob amser yn rhan bwysig o ddysgu am effaith, neu ddiffyg effaith weithiau, polisi a’r hyn y mae’r Llywodraeth yn ceisio'i wneud. Ac wrth ddwyn y Llywodraeth i gyfrif, mae bob amser yn ddefnyddiol gwrando ar yr hyn sydd gan bobl i'w ddweud, ac ni chredaf fod angen inni drafod lle chwaraeon yn ein bywydau y prynhawn yma. Nid oedd ond angen imi wrando ar fy mab 12 oed yn sôn ei fod yn gwisgo'i grys pêl-droed i'r ysgol ddydd Gwener diwethaf i wybod pa mor bwysig oedd hynny iddo. Ac roedd sefyll yn y stadiwm yn gwylio Cymru’n cerdded allan o’r twnnel, am y tro cyntaf yng nghwpan y byd ers 1958—prin y gallaf egluro sut roedd hynny'n teimlo—a chanu ein hanthem genedlaethol ymhlith yr holl gefnogwyr gwahanol o bob rhan o’r byd, a gwylio ein chwaraewyr yn sefyll yno ar y cae, yn rhywbeth a fydd yn aros gyda mi am weddill fy oes, ac mae'n rhywbeth sydd wedi bod yn uchelgais i mi ar hyd fy oes. Ac mae’n bwysig, felly, ein bod yn rhannu’r gallu i fwynhau chwaraeon a mwynhau gweithgarwch corfforol gyda phobl ar draws ein holl gymunedau.

Ac yn sicr, mae rhai problemau wedi’u nodi yn yr adroddiad, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ymateb i’r rheini yn ei sylwadau. Ond hoffwn ganolbwyntio, yn yr amser byr hwn, ar ddwy elfen o’r rhwystrau a allai ddal pobl yn ôl ac atal pobl rhag cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Daearyddiaeth yw'r cyntaf, a'r ail yw ffactorau economaidd-gymdeithasol. Yn rhy aml o lawer yn y Siambr hon, byddwn yn siarad am ddaearyddiaeth mewn termau du a gwyn iawn—y gwledig yn erbyn y trefol, y gogledd yn erbyn y de ac yn y blaen—ond os ydych yn byw ym Mlaenau'r Cymoedd, nid ydych yn ffitio’n hawdd i’r naill neu’r llall o’r categorïau penodol hynny, a gall y rhwystrau ddal i fod yn anorchfygol. Os nad oes gennych arian, neu os nad oes bws, nid yw'n gwneud gwahaniaeth a oes cyfleusterau chwaraeon ar gael yng Nghaerdydd neu'n rhywle arall gan na allwch gyrraedd yno, ac os ydych yn cyrraedd, ni allwch gyrraedd adref. Os na allwch fforddio talu'r bil gwresogi, a bod eich rhieni'n poeni nawr am fod y Nadolig ar y ffordd, nid ydynt yn mynd i allu talu i fynd i nofio na thalu'r ffioedd i fod yn aelod o dîm pêl-droed ac ati. Felly, mae’r rhwystrau hynny'n rhwystrau gwirioneddol, ac maent yn bodoli yn y cymunedau rydym yn eu cynrychioli heddiw, ac nid oes gwrthgyferbyniad amlwg rhwng un rhan o Gymru a rhan arall o Gymru, oherwydd os ydych yn dlawd yn Butetown, mae gennych yr un rhwystrau i'w goresgyn wrth geisio cael mynediad at gyfleusterau chwaraeon.

Ond fy nyhead i, wrth gynrychioli Blaenau Gwent, yw inni gael yr un cyfleoedd i gynhyrchu’r Gareth Bale nesaf ag sydd gan yr Eglwys Newydd yng nghanol Caerdydd. Rwyf fi eisiau i fy mhlant—. Mae fy mab yn byw yn y Gelli Gandryll; rwyf am iddo gael yr un cyfle â phlentyn sydd wedi'i fagu yn etholaeth Jenny yng nghanol Caerdydd. Yn rhy aml o lawer, nid ydynt yn ei gael, a dyna'r realiti. Yn rhy aml o lawer, nid oes gan ein cymunedau tlotaf y cyfleusterau sydd eu hangen arnynt i alluogi pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon fel sydd gan y cymunedau yn y dinasoedd ac yn y maestrefi cyfoethocach. Dyna realiti Cymru heddiw, ac mae angen i hynny newid.

Rwy'n croesawu'r cyllid y mae’r Llywodraeth wedi’i gyhoeddi—£24 miliwn, rwy'n credu—i alluogi ysgolion i ddatblygu fel hybiau cymunedol. Ond sefais ar y maniffesto hwnnw yn 2016—roedd angen inni fod yn cyflawni hynny yn 2016. Mae angen inni edrych a chael uchelgais i sicrhau bod ein cynlluniau gwariant gyda'r gorau yn y byd. Euthum â fy mab hefyd—nid wyf yn credu y bydd byth yn maddau i mi—i wylio'r rygbi yn gynharach yn yr hydref, ac euthum â fy merch i wylio Seland Newydd yn sgorio chwe chais yn ein herbyn mewn llai na hanner awr. Nawr, edrychwch, ni allwn gystadlu â'r timau hynny oni bai bod ein pobl, ein plant, ein pobl ifanc, yn cael yr un cyfleoedd â'u pobl ifanc hwy yr ochr arall i'r byd. Mae hynny’n golygu buddsoddi mewn lleoedd, cyfleusterau, a buddsoddi yn ein pobl ifanc.

Rwyf am gloi gyda hyn: un o'r pethau—rwy'n mynd yn rhy hen i hyn i gyd bellach, wrth gwrs—ond un o bleserau mawr fy mywyd—. Un o'r pethau sydd wedi rhoi pleser mawr i mi dros y blynyddoedd diwethaf oedd datblygiad chwaraeon tîm menywod. Oherwydd rydym bob amser yn cofio—. Rwy’n dal i gofio Mary Peters yn ennill medal yn y Gemau Olympaidd pan oeddwn yn ifanc, a gwnaeth argraff arnaf. Rydym bob amser wedi mwynhau gwylio tennis menywod, golff menywod ac ati. Ond rwy'n credu bod gwylio datblygiad pêl-droed a rygbi menywod, yn enwedig, yn ystod fy oes wedi bod yn un o'r pethau sydd wedi rhoi pleser gwirioneddol i mi yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae gwylio fy merch yn dechrau uniaethu, yn mynd â fi i wylio menywod Cymru yn chwarae rygbi, wedi bod yn un o'r pleserau mawr. Rwy’n cofio siarad â Laura McAllister flynyddoedd lawer yn ôl pan oedd yn mynd i chwarae pêl-droed i Ddinas Caerdydd, ac rwy’n cofio pa mor bwysig oedd hynny iddi. Felly, mae gweld chwaraeon menywod bellach yn dechrau cael y cyfleoedd a'r cydraddoldebau y mae bob amser wedi eu haeddu a'u hangen yn un o lwyddiannau mawr y blynyddoedd diwethaf yn fy marn i, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr. Ond gadewch inni sicrhau—

16:35

—fod bechgyn a merched yn cael y cyfle i fod yn sêr y dyfodol. Diolch.

Hoffwn hefyd ategu fy niolch i'r Cadeirydd, fy nghyd-Aelodau, y clercod, a phawb roddodd dystiolaeth i ni hefyd, a'r tîm ymgysylltu. Yn sicr, dwi'n ategu pwyntiau Alun Davies o ran bod hwn wedi bod yn ymchwiliad sydd wedi codi calon ar adegau o ran gweld angerdd pobl a lot o'r prosiectau gwych sydd yn digwydd o ran sicrhau bod yna well ymgysylltiad efo chwaraeon. Hoffwn ategu hefyd pwyntiau Tom Giffard o ran y pwysigrwydd roeddem ni'n clywed o ran gallu mwynhau chwaraeon. Does dim ots os dydych chi ddim yn dda iawn amdanyn nhw. Doeddwn i byth—sioc i chi i gyd, dwi'n siŵr—ond doeddwn i byth yn wych am chwaraeon yn yr ysgol. Ond, mae rhywun yn mwynhau gallu cael y cyfle, ac mi roeddwn i'n cael y cyfle hwnnw. Dwi'n meddwl mai dyna'r peth oedd yn tristáu rhywun o ran yr ymchwiliad hwn oedd gweld faint o gyfleoedd sy'n cael eu colli oherwydd amryw o resymau gwahanol.

Dwi'n sicr, o ran yr argymhellion, mae'n rhaid i ni feddwl amdanyn nhw yng nghyd-destun, dwi'n meddwl, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, bod hyn ddim jest ynglŷn â chwaraeon; mae o ynglŷn â chyfranogiad, mae o ynglŷn ag iechyd a lles, mae o hefyd ynglŷn ag atal gwaeledd yn y dyfodol oherwydd, yn sicr, yn nifer o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig mae'r problemau iechyd mwy hirdymor lle dŷn ni'n gweld pobl yn marw'n fwy ifanc oherwydd gorbwysau ac ati. A dwi'n meddwl bod yn rhaid inni edrych ar hyn, bod o ddim jest yn wariant o bortffolio chwaraeon; mae hwn yn gorfod bod yn wariant gan y Llywodraeth a buddsoddiad ar gyfer cendlaethau'r dyfodol, a hefyd bod chwaraeon ar gyfer pob oedran, ac ein bod ni'n sicrhau rhai o'r esiamplau gawson ni ynglŷn â phêl-droed—y walking football, a walking rugby, a hynny i gyd—pa mor bwysig ydy hynny o ran cymuned a dod â phobl ynghyd unwaith eto yn sgil COVID. Felly, mae hwn yn rhywbeth sydd y tu hwnt i bortffolio chwaraeon, yn sicr.

Byddwn i'n hoffi hefyd ein bod ni'n edrych yn ehangach o ran diwylliant a chyfranogiad efo diwylliant, oherwydd un o'r pethau eraill y clywsom ni gan y tystion oedd bod pethau fel dawnsio yn gallu bod yn y ddau gategori—yn aml yn dod drwy'r portffolio diwylliant neu’r celfyddydau, yn hytrach na chwaraeon, ond bod hwnnw hefyd yn rhywbeth dŷn ni angen edrych arno fel cyd-destun.

A dwi'n meddwl un o'r pethau mawr a oedd wedi cael eu codi efo Tom Giffard hefyd ydy: beth yw'r diben buddsoddi mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf, ac ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn benodol, os na all pawb sy'n dymuno eu defnyddio eu cyrraedd, os mai dim ond y rheini sydd efo rhieni neu ofalwyr sy'n gallu eu nôl nhw o fan hyn sydd yn mynd i allu defnyddio a chael budd ohonyn nhw? Ac yn sicr, mi oedd hynny'n dod drosodd yn glir iawn.

Dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn gytûn, fel Senedd, y dylai pawb gael y cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon, a bod hyn am hwyl neu ar lefel broffesiynol, ond mae'r adroddiad hwn yn dangos yn glir nad yw hyn yn wir ac nad ydy pawb sydd yn gallu mynd ymlaen i'r lefel uchaf yn cael y cyfle cyfartal hwnnw ar hyn o bryd. Mae'r ffaith bod mynediad at gyfleusterau yn loteri cod post yn rhywbeth y mae'n rhaid inni ei daclo, ac mi oedd Alun Davies yn llygad ei le—nid rhywbeth dwi'n ei ddweud yn aml, ond yng nghyd-destun hyn—o ran yr elfen ddaearyddol. Yn aml, wrth gwrs, mae yna broblemau o ran Cymru wledig, ond mae hon yn broblem ehangach, ac mae gennym ni bobl, yn y rhanbarth dwi'n ei chynrychioli o ran Canol De Cymru, sydd efo'r holl rwystrau hynny, felly nid dim ond daearyddiaeth mohono fo.

Dwi'n meddwl hefyd ein bod ni angen nodi tystiolaeth fel Nofio Cymru ac ati, yn gweld bod mwyafrif o'r tua 500 o byllau nofio yng Nghymru wedi’u lleoli yn ne Cymru. Hefyd nodi pethau o ran costau cynyddol efo pyllau nofio i'w cadw nhw i fynd. Nid dim ond chwaraeon ydy hynny—mae hyn yn sgil sy'n gallu achub bywyd, a dwi'n meddwl bod rhaid inni feddwl hefyd o ran sut rydym ni'n sicrhau bod pawb yn gadael yr ysgol yn gallu nofio fel sgil hanfodol bywyd. Felly, yr un peth dwi'n meddwl—mae'n rhaid inni edrych yn bellach o ran sicrhau nad yw cost neu ddiffyg trafnidiaeth cyhoeddus yn rhwystro mynediad i gyfranogiad.

Hoffwn dynnu sylw hefyd at y ffaith ddaeth drosodd yn yr ymchwil hefyd o ran merched yn benodol a hefyd sicrhau bod pawb, beth bynnag fo'u cefndir neu ethnigrwydd, yn teimlo'n gyfforddus ac yn hyderus o ran ymwneud efo chwaraeon. Mi gawson ni esiampl dda gan Undeb Rygbi Cymru o ran yr hyn maen nhw wedi bod yn ei wneud efo cynnyrch mislif a sicrhau bod adnoddau priodol yna. Mae'r math yma o bethau mor, mor bwysig, a dwi'n meddwl bod yna esiamplau da ac arfer da o ran hyn.

Rhaid imi gyfaddef, dwi yn siomedig gydag ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion, gyda dim ond pump o'r 12 cynnig yn cael eu derbyn, ac mi fyddwn i yn gobeithio, fel roeddwn i'n sôn, bod hwn yn rhywbeth sydd angen cael ei berchnogi gan y Llywodraeth gyfan os ydym ni eisiau sicrhau gwella cyfleoedd i bobl ifanc a phobl o bob oed i ymgysylltu. Dwi yn gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn ymrwymo i barhau i gydweithio gyda'r pwyllgor o ran craffu a gweithredu ar yr adroddiad hwn, a chydweithio gyda'r Gweinidogion i sicrhau bod chwaraeon i bawb, beth bynnag eu cefndir a lle bynnag y byddant yn byw yng Nghymru a pha bynnag lefel maen nhw'n ei chwarae neu'n cymryd rhan mewn chwaraeon. Diolch.

16:40

Hoffwn innau ddiolch i holl staff y pwyllgor a’r holl sefydliadau a roddodd dystiolaeth ar gyfer yr adroddiad.

Credaf mai’r neges sy’n sefyll allan yw y dylai chwaraeon fod yn gyfartal, ond mae llawer o rwystrau y mae angen eu goresgyn i gyflawni hynny. Mae amddifadedd yn wrthwynebydd aruthrol ym mhob agwedd ar lywodraethu, ac nid yw chwaraeon yn eithriad. Fel y dywedodd Tom Giffard yn gynharach, y swm cyfartalog sy'n cael ei wario ar chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig yw £1.50 yr wythnos, o gymharu â £10 mewn ardaloedd mwy cefnog. Bydd yr argyfwng costau byw'n ei gwneud yn anos byth i deuluoedd allu fforddio i’w plant gymryd rhan yn y dyfodol, a mynegodd un ymatebydd pa mor anodd yw hi i wylio plant yn gorfod peidio â chymryd rhan am na all eu rhieni fforddio talu iddynt chwarae. Gall hyn gael effaith sylweddol ar hyder plentyn yn ogystal â'u lles meddyliol. Rwy’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y cymorth a ddarparwyd drwy’r grant amddifadedd disgyblion i sicrhau ychwanegiad o £100, sydd wedi bod yn gymorth hanfodol i gael cit a chyfarpar addysg gorfforol eleni.

Ond nid teuluoedd yn unig y mae'r argyfwng yn eu taro. Mae hefyd yn cael effaith ar ddarparwyr chwaraeon eu hunain. Fel yr eglurodd Cymdeithas Chwaraeon Cymru wrthym, mae costau ynni ac adnoddau mewn pyllau nofio, cemegion, a chostau staffio oll yn mynd yn ddrud iawn, ac rwy’n bryderus iawn y bydd rhai ohonynt yn cau yn y dyfodol. Nododd Nofio Cymru, o oddeutu 500 o byllau nofio yng Nghymru, fod y rhan fwyaf ohonynt wedi’u lleoli yn y de, ac felly mae mynediad yn y gorllewin a’r gogledd yn dibynnu ar deithio, fel y crybwyllwyd yn gynharach. Mae angen sicrhau mynediad at chwaraeon o fewn cyrraedd hawdd i'n cymunedau, yn agos at lle mae pobl yn byw. Mae hynny mor bwysig. Ac fel yr eglurodd y Dirprwy Weinidog yn ystod y sesiwn dystiolaeth, gall cyfleusterau ysgolion greu manteision enfawr i’r gymuned leol, gan sicrhau y gall yr holl drigolion lleol fwynhau cyfleusterau chwaraeon o’r radd flaenaf lle mae ysgolion wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru, ac mae hynny wedi bod yn bwysig iawn er mwyn cadw ysgolion yn gyfleusterau cymunedol, sy'n cynnig chwaraeon mewn ardaloedd lleol.

Credaf ei bod yn bwysig fod Chwaraeon Cymru wedi cynnal arolwg sy'n rhoi cipolwg ar gyfleusterau ar draws gwahanol awdurdodau lleol, ac sy’n amlinellu’n fras y ddarpariaeth o gyfleusterau yn yr ardal sy’n gysylltiedig ag ysgolion, a bod Llywodraeth Cymru hefyd wedi comisiynu arolwg sylfaenol o ysgolion, sydd wedi cynnwys cwestiynau ynglŷn â'r defnydd o’r cyfleusterau. Felly, mae hynny wedi bod yn ddefnyddiol iawn wrth nodi a chofnodi'r cyfleusterau hynny. Dros y penwythnos, clywsom am rygbi a phêl-droed Cymru a phwysigrwydd buddsoddi ar lawr gwlad, ac mae angen inni alluogi mynediad i bawb a datblygu llwybrau ar gyfer datblygu ym mhob camp. Rwy'n gobeithio y bydd agor cyfleusterau ysgolion i’r cyhoedd yn ehangach yn helpu i wireddu hynny, yn ogystal â pharhau â chymorth cyfalaf drwy grant y rhaglen cyfleusterau cymunedol. Gwn fod cyllid wedi bod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer galluogi clwb rygbi’r Rhyl i symud, a chanolfannau cymunedol eraill hefyd i allu parhau i gynnig cyfleusterau chwaraeon. Ac er nad yw'r cyllid hwn wedi'i anelu'n benodol at gyfleusterau chwaraeon, gall clybiau llawr gwlad wneud cais amdano.

Mae hefyd yn bwysig cofio, fodd bynnag, fod arweinyddiaeth gref ar lawr gwlad yr un mor bwysig â mynediad at y cyfleusterau hyn. Mae hyfforddwyr yn fodelau rôl sy’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o athletwyr ac yn annog cyfranogiad ac ymroddiad, felly y rhwydwaith o wirfoddolwyr sydd gennym yma yng Nghymru yw’r grym sy'n gyrru clybiau chwaraeon lleol ledled y wlad. Fel yr eglurodd un cyfranogwr yn ein sesiynau tystiolaeth, mae gwirfoddolwyr yn,

'amhrisiadwy ac mae’r gwaith anweledig a wnânt i gefnogi cyfranogiad mewn chwaraeon yn anghredadwy.'

Y gwirfoddolwyr hyn sy'n gweithio'n galed i fynd i'r afael ag effaith costau cynyddol, ac rydym mor ddiolchgar iddynt am ddarparu'r manteision meddyliol a chorfforol y mae chwaraeon yn eu cynnig i gynifer o bobl. Diolch.

16:45

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol cyfan—mae'n dipyn o lond ceg—am eu gwaith caled ac am gynnal yr adolygiad hwn, am yr adroddiad, a'i argymhellion. Yn bersonol, roeddwn wrth fy modd eich bod wedi cynnal yr adolygiad, gan fod hwn yn gorff o waith roedd angen ei wneud, ac fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar chwaraeon, bydd yn ategu ein hadolygiad ninnau o gyflwr cyfleusterau chwaraeon yng Nghymru.

Mae’r adroddiad wedi datgelu rhai o’r problemau rydym ninnau hefyd yn eu clywed yn adolygiad ein grŵp trawsbleidiol, sef bod nifer o rwystrau'n atal pobl o ardaloedd difreintiedig rhag cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ac mewn llawer o ardaloedd ledled Cymru, gan gynnwys, fel y mae fy nghyd-Aelod Tom Giffard eisoes wedi dweud, cyfleusterau addas, diffyg mannau diogel, gostyngiadau yn yr amser a neilltuwyd ar gyfer chwaraeon, a diffyg cyfleusterau i’r anabl. Llwyddodd Cymru i gymryd rhan yng nghwpan y byd am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer, sy'n destun cymaint o falchder i bob un ohonom, a chyrraedd y gystadleuaeth er gwaethaf y diffyg buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru dros y ddau ddegawd diwethaf, nid oherwydd y gefnogaeth honno. Mae gweld cyflwr presennol llawer o'n cyfleusterau yng Nghymru yn embaras cenedlaethol, yr annhegwch o ran sut nad yw buddsoddiad wedi bod yn gyfartal i bob rhan o Gymru, a'r diffyg buddsoddiad enbyd yn ein chwaraeon ar lawr gwlad.

Mae pethau’n dechrau digwydd, ac rwy'n croesawu'r buddsoddiad hwnnw’n llwyr, ond nid yw'n llawer pan edrychwch ar y buddsoddiad ariannol mewn chwaraeon a chyfleusterau ledled gweddill y DU. Mae pob un ohonom yn ymwybodol o'r manteision aruthrol i iechyd, yn gorfforol ac yn feddyliol, a ddaw yn sgil ymarfer corff, yn ogystal â llu o fanteision eraill. Dywedodd astudiaeth gan Brifysgol Sheffield Hallam, a gomisiynwyd gan Chwaraeon Cymru, y ceir enillion cymdeithasol enfawr ar y buddsoddiad, gan fod enillion o £2.88 am bob £1 a fuddsoddir mewn chwaraeon yng Nghymru. Boed yn sicrhau o’r diwedd fod gan ogledd Cymru bwll nofio maint Olympaidd sy'n hollbwysig, stadia, neu sicrhau nad yw chwaraeon yn dod i stop mewn ardaloedd gwledig ar yr arwydd cyntaf o dywydd garw oherwydd diffyg cyfleusterau pob tywydd—rhwystr enfawr i bobl rhag cymryd rhan yn ystod misoedd y gaeaf—nawr yw'r amser i weithredu. Mae'r galw'n fawr, yn enwedig yn dilyn digwyddiadau chwaraeon mawr fel cwpan y byd. Mae angen inni ddarparu'r buddsoddiad i fynd gyda hynny nawr. Gŵyr pob un ohonom ein bod mewn cyfnod anodd a bod arian yn brin, ond gyda'r galw'n cynyddu ar ein gwasanaeth iechyd, mae angen inni ddechrau buddsoddi mewn atal, gan fod atal yn well na gwella, a buddsoddi yng nghenedlaethau’r dyfodol, buddsoddi ym mhawb.

Rydym wedi gweld Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gwneud dechrau da gyda hyn, fel yr amlinellodd Tom, ond mae angen ymwybyddiaeth a buddsoddiad cyffredinol mewn chwaraeon o bob math ym mhob rhan o Gymru. Gwn fod y Gweinidog yma heddiw i ymateb i’r ddadl hon, a byddwn i, fel llawer o rai eraill, yn gwerthfawrogi ymrwymiad pendant heddiw i sicrhau na fydd arian neu’r cod post anghywir yn golygu bod cenhedlaeth arall o Gymry yn colli'r cyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol fel y cânt wneud dros y ffin. Mae'n rhaid inni wneud yn well yma yng Nghymru. Mae gennym Ddirprwy Weinidog sy’n gwerthfawrogi chwaraeon, sy'n gweld ac yn gwybod am y manteision, ac rwy'n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn sbarduno'r buddsoddiad mawr sydd ei angen ar Gymru i sicrhau o’r diwedd, nid yn unig ein bod yn darganfod, yn datblygu ac yn cadw sêr chwaraeon y dyfodol yng Nghymru, ond bod pawb yn gallu cael mynediad at chwaraeon ym mhob rhan o Gymru, mewn ardaloedd gwledig yn ogystal â dinasoedd, ac yn bwysig, drwy gydol y flwyddyn. Diolch.

16:50

Mae gennyf gryn ddiddordeb yn y pwnc hwn, ac mae'n wych eich bod wedi cynhyrchu'r adroddiad hwn. Beth bynnag fo'ch brwdfrydedd dros chwaraeon tîm—pêl-droed, rygbi neu unrhyw beth arall—mae'n hanfodol fod pob plentyn, ni waeth beth fo'u gallu neu eu hanabledd, yn gallu (a) reidio beic a (b) dysgu nofio. Mae'r ddau beth yn sgiliau bywyd hanfodol yn yr un categori â gallu coginio pryd o fwyd syml neu glymu careiau eich esgidiau. Hoffwn gofnodi'r gwaith gwych a wnaed gan Pedal Power yng Nghaerdydd, am eu gwaith gyda phobl anabl. Maent wedi'u lleoli ym Mharc Bute, nad yw'n ardal gynnyrch ehangach o amddifadedd, ond mae eu gwasanaeth arbenigol yn darparu pleser a chyfleoedd hamdden i bobl o bob oedran nad ydynt yn gallu cymryd rhan mewn chwaraeon eraill. Felly, mae'n beth pwysig iawn.

Gan droi at nofio, rwy'n gwerthfawrogi'r arian a ddarparwyd i droi ysgolion yn hybiau cymunedol, ond nid yw £24 miliwn yn mynd i ddatrys y broblem sydd gennym gyda'n pyllau nofio. Mae'n anodd iawn dysgu rhywun i nofio oni bai eu bod mewn pwll nofio, ac mae'n llawer anos dysgu nofio fel oedolyn. Felly, roedd gennyf ddiddordeb arbennig yn y dystiolaeth a gafodd y pwyllgor gan Nofio Cymru, oherwydd, yn anffodus, os na allwch nofio, fe allech foddi, ac nid oes prinder lleoedd i wneud hynny yn unrhyw un o'n cymunedau. Felly, mae gennym 500 o byllau nofio ledled Cymru. Clywaf fod llai ohonynt yng ngogledd Cymru, ond mae’n dda fod 90 y cant ohonynt wedi ailagor ar ôl COVID, ond nid yw hyd at un o bob 10 wedi ailagor. A byddai'n ddiddorol iawn mapio ble'n union mae'r pyllau nofio hynny, ac a ydynt mewn ardaloedd difreintiedig.

Troednodyn i Alun Davies: mae fy nghymuned yn cynnwys rhai o’r teuluoedd tlotaf yng Nghymru gyfan; mae'n fwy na Chyncoed a Phen-y-lan yn unig. Felly, un o’r pyllau nofio sydd heb ailagor eto yw pwll nofio Pentwyn. Penderfynodd Cyngor Caerdydd allanoli'r rhan fwyaf o’i ganolfannau hamdden ychydig flynyddoedd yn ôl i gwmni ag iddo fwy nag un enw, gan gynnwys GLL—mae ei wreiddiau yn Greenwich—neu Better. Yn anffodus, i bobl Pentwyn, nid oedd 'better' yn golygu 'gwell'. Ni wnaed unrhyw waith allgymorth gan eu staff gyda'r ysgolion lleol, sef un o’r ffyrdd amlycaf o gynyddu nifer y defnyddwyr, ac nid yn unig na chafodd y cynnig nofio am ddim i blant, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, ei hysbysebu, ond roedd yn un o’r cyfrinachau mwyaf yng Nghymru, ac roeddwn yn arfer gorfod mynd yno'n bersonol cyn gwyliau hir yr haf i gael gwybod ganddynt pryd a sut y gallai teuluoedd fanteisio ar y cynnig nofio am ddim. Nid oedd yn brofiad llesol o gwbl. Ni chafodd ei hysbysebu o gwbl gan Better, yn y gobaith, mae'n debyg, y byddai pobl yn talu eto am yr hyn a oedd i fod wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, a dim ond am awr y dydd ar amser penodol y câi ei gynnig. Felly, pan ddaeth y cyfyngiadau symud i ben, gwrthododd Better ailagor canolfan hamdden Pentwyn, gan nodi nad oedd achos busnes dros wneud hynny. Mae’r pwll nofio hwn wedi’i leoli mewn ardal gynnyrch ehangach o amddifadedd, sy’n golygu bod y rhan fwyaf o’r plant o deuluoedd heb gar yn annhebygol iawn o deithio ymhellach i un o’r pyllau nofio sydd wedi ailagor, gan eu bod o leiaf ddwy daith bws i ffwrdd. Nodaf fenter RhCT i sicrhau bod llwybrau bysiau'n gwasanaethu canolfannau hamdden, ac mae hynny'n beth da iawn i'w wneud, ond yn anffodus, nid oes gan y rhan fwyaf o'r teuluoedd hyn arian mwyach ar gyfer dau docyn bws.

Dros dro—. Hoffwn dalu teyrnged i Steven Moates o Better, a gafodd ganiatâd dros dro i ailagor y ganolfan hamdden i alluogi sefydliadau cymunedol a gwirfoddol i wneud defnydd o’i llawr gwaelod ar gyfer pethau y gallent eu hariannu eu hunain. Ond yn anffodus, pe bai’r agwedd honno o estyn allan at y gymuned wedi bod ar gael yn gynharach, efallai na fyddem yn y sefyllfa rydym ynddi heddiw. Mae’r unigolyn rhagorol hwn bellach wedi symud ymlaen i swydd newydd, ac mae dyfodol canolfan hamdden Pentwyn, gan gynnwys ei phwll nofio, yn dibynnu ar ganlyniad trafodaethau cytundebol llwyddiannus rhwng Rygbi Caerdydd a Chyngor Caerdydd. Ac mae'r rhain wedi bod yn mynd rhagddynt ers misoedd, ac nid ydym wedi clywed unrhyw beth o gwbl, ac nid oes ffordd o wybod a ydynt yn mynd i arwain at ganlyniad da, ond rwy'n ofni'r gwaethaf.

Roedd Nofio Cymru wedi rhybuddio’r pwyllgor yn ôl ym mis Mai nad oedd unrhyw un o’r pyllau nofio sydd ar gau ar hyn o bryd yn debygol o ailagor—a hynny o ganlyniad i golli refeniw yn sgil y cyfyngiadau symud. Ond rwy’n ofni bod y rhan fwyaf ohonynt mewn ardaloedd difreintiedig, ac mae’r darlun hyd yn oed yn fwy tywyll yn dilyn datganiad yr hydref ar 17 Tachwedd.

Rwy'n credu bod angen inni ddeall yn iawn pam nad yw hanner y plant sy'n gadael yr ysgol gynradd yn gallu nofio o gwbl, ac mae hyn mor ddifrifol, gan y gall y plant hyn foddi, fel y dywedais, a dyna un o'r pethau allweddol y mae angen imi eu deall—beth a wnawn i atal hynny rhag digwydd.

16:55

Hefyd, sut rydym yn mynd i wresogi ein pyllau nofio, oherwydd, oni bai ein bod yn gwneud hynny, yn syml iawn, bydd yn rhaid inni nofio mewn dŵr sy'n cael ei gynhesu gan yr haul, sydd, yn y tywydd hwn, yn dipyn o her.

Member
Dawn Bowden 16:58:14
Deputy Minister for Arts and Sport, and Chief Whip

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r Aelodau am ddadl ddiddorol a phwysig iawn y prynhawn yma? Ac yn yr amser sydd ar gael i mi, yn amlwg, nid wyf am allu ymateb i bob pwynt a godwyd y prynhawn yma. Rwyf am geisio canolbwyntio fy sylwadau’n benodol ar yr adroddiad a’i argymhellion, ac rwyf am drafod un neu ddau o rai eraill wrth imi fynd drwyddo. Ond rwy’n ddiolchgar iawn i’r pwyllgor a’r staff cymorth am eu hamser a’u hymdrech yn llunio’r adroddiad hwn, yn ogystal â'r rheini a roddodd dystiolaeth.

Fel y dywedais wrth y pwyllgor, mae chwaraeon yn hanfodol i’n bywyd cenedlaethol. Mae ganddynt ddylanwad pwerus ar ein hunaniaeth genedlaethol. Maent yn ein huno fel gwlad ac yn rhoi presenoldeb rhagorol i ni ar lwyfan y byd, ac yn amlwg, rydym wedi gweld cryn dipyn o hynny dros yr ychydig wythnosau diwethaf, onid ydym? A byddai'n esgeulus imi beidio â diolch o galon i Rob Page a thîm Cymru am eu hymdrechion yn Qatar. Nid oedd hi i fod y tro hwn, a gwn ein bod i gyd yn siomedig am hynny, ond rwy'n credu mai dechrau taith hir iawn i’n tîm pêl-droed cenedlaethol yw hyn, ac edrychwn ymlaen nawr at gyrraedd pencampwriaeth yr Ewros.

Ond mae’n amlwg fod gan chwaraeon gyfraniad sylweddol i’w wneud wrth inni fynd ati i gyflawni ein rhaglen lywodraethu, gyda’u cyrhaeddiad a’u dylanwad yn ymestyn y tu hwnt i’r ymrwymiadau penodol ar wella mynediad cyfartal, gwella cyfranogiad ac adeiladu ar ein darpariaeth o gyfleusterau chwaraeon ledled y wlad. Yn y cyd-destun hwn, gan weithio gyda Chwaraeon Cymru, byddwn yn parhau i arwain y sector ac annog cydweithredu i feithrin a hwyluso cynnydd mewn gweithgarwch corfforol yn y boblogaeth ac i fuddsoddi ymdrech ac adnoddau lle mae eu hangen fwyaf—lle ceir amrywiadau sylweddol yn y niferoedd sy'n cymryd rhan a lle ceir diffyg cyfleoedd neu ddyhead i fod yn egnïol.

Rwy'n gwybod bod y pwyllgor wedi cael pryderon ynghylch nifer yr argymhellion a gafodd eu gwrthod, felly hoffwn ddefnyddio'r cyfle hwn i ehangu ar y rhesymau pam a hefyd i dawelu meddyliau'r Aelodau nad oherwydd fy mod o reidrwydd yn anghytuno â'r canfyddiadau y gwneuthum eu gwrthod.

Mae argymhelliad 1 yn gofyn am ddull cenedlaethol newydd o gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig. Nid wyf wedi fy argyhoeddi bod angen dull cwbl newydd. Y rheswm am hynny yw bod gweledigaeth a strategaeth Chwaraeon Cymru ar gyfer chwaraeon yng Nghymru, yn arfer bod, ac yn parhau i fod, yn cael eu datblygu gan y sector drwy ymgynghori eang. Un o'r elfennau pwysig niferus yn y weledigaeth yw sicrhau bod chwaraeon yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn fforddiadwy, gan adael neb ar ôl. Dyma sail i neges allweddol yn y strategaeth, sef bod gan bob person ifanc sgiliau, hyder a chymhelliant i'w galluogi i fwynhau a symud ymlaen drwy chwaraeon, gan roi sylfeini iddynt fyw bywyd egnïol, iach a chyfoethog.

Rwyf hefyd wedi egluro i Chwaraeon Cymru yn eu llythyr cylch gwaith fy mod yn disgwyl iddynt sicrhau bod yr ystod ehangaf o grwpiau agored i niwed yn gallu cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ac nad ydynt yn cael eu heithrio rhag cymryd rhan. Dylai hyn gynnwys nodi a chyflwyno cyfleoedd penodol sy'n galluogi pobl mewn grwpiau sy'n agored i niwed neu dan anfantais a'r rhai mewn cymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol i elwa ar chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae Chwaraeon Cymru, drwy ei gynllun busnes blynyddol, wedi ymateb yn gadarnhaol i'r amcanion hyn yn y llythyr cylch gwaith ac mae'n briodol y dylid rhoi cyfle ac amser iddynt gyflawni'r amcanion hynny. I ymateb i'ch pwyntiau chi yn benodol, Tom Giffard, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â Chwaraeon Cymru i gael diweddariadau ac i adolygu cynnydd, a byddaf yn parhau i wneud hynny.

Er nad yw'n argymhelliad penodol yn yr adroddiad, soniwyd am gyflyrau iechyd andwyol, ac rwy'n credu ei bod hi'n werth crybwyll mae'n debyg fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu fframwaith cenedlaethol sy'n ei gwneud hi'n bosibl darparu presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru sydd o safon gyson, effeithiol ac uchel. Mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gyflawni'r nodau hynny, a hynny'n bennaf yn y rhan fwyaf o'n hardaloedd difreintiedig. Yn fyr, ac rwy'n credu bod Delyth Jewell wedi cydnabod hyn, mae llawer o waith da yn digwydd eisoes i fynd i'r afael â niferoedd sy'n cymryd rhan mewn ardaloedd difreintiedig, wedi'i ategu gan y weledigaeth a'r strategaeth glir ar gyfer chwaraeon yng Nghymru, a ddaeth, fel y dywedais, yn uniongyrchol o'r sector. Mae cyflwyno dull gwahanol nawr yn creu perygl o danseilio'r cynnydd a wnaed eisoes.

Fe wnaeth nifer o'r argymhellion grybwyll ariannu, ac mae'n werth nodi bod y rhan fwyaf o arian Llywodraeth Cymru ar gyfer chwaraeon yn cael ei sianelu drwy Chwaraeon Cymru wrth gwrs. Rwy'n disgwyl iddynt ddefnyddio eu cyllid, a'r cyllid y maent yn ei gael drwy'r Loteri Genedlaethol, i gyflawni'r amcanion a nodir yn llythyr cylch gwaith y Llywodraeth, ond mae hefyd yn ymwneud â'r defnydd effeithiol o gyllid sy'n cael ei ddyrannu iddynt. Mae'n werth ailadrodd ein bod yn bwriadu buddsoddi mwy na £75 miliwn dros y tair blynedd nesaf i Chwaraeon Cymru gyflawni'r nodau a'r amcanion hynny. Daw hyn ar ben y cymorth a ddaw drwy raglenni ariannu eraill Llywodraeth Cymru, megis cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu a'r rhaglen cyfleusterau cymunedol, a gafodd eu crybwyll gan Carolyn Thomas.

Rydym hefyd yn buddsoddi dros £13 miliwn mewn ystod o raglenni ar draws 2022-24 fel rhan o'n cynllun cyflawni ar gyfer ein strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Ond wrth gwrs, nid cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yn unig yw cyllid—mae gan ffynonellau fel y Loteri Genedlaethol, gwobrau ariannol pencampwriaethau mawr a chyllidebau awdurdodau lleol ran i'w chwarae hefyd yn darparu cymorth i gymunedau difreintiedig. Mae'n rhaid imi gydnabod, fel y mae Heledd Fychan ac eraill wedi nodi, fod yna broblem ehangach gydag amddifadedd na ellir ei datrys drwy fuddsoddi mewn chwaraeon yn unig. Mae'n bwysig fod yna ddull Llywodraeth gyfan o fynd i'r afael â thlodi ac amddifadedd. Wrth gwrs, rydym i gyd yn gwybod ein bod newydd gael 10 mlynedd o gyni, ein bod ynghanol argyfwng costau byw a'n bod yn gwneud yr hyn a allwn fel Llywodraeth Cymru, ond mae'r ysgogiadau allweddol i fynd i'r afael â rhai o'r ffactorau allweddol hynny yn nwylo Llywodraeth y DU, nid Llywodraeth Cymru. Fe wnaeth y pwyllgor—

17:05

Rwy'n derbyn y pwynt a wnewch am gyni. Yn amlwg, fe fyddech chi a minnau'n cytuno ac yn gallu treulio gweddill y prynhawn yn cytuno arno. Ond mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldebau hefyd gyda'r materion hyn, a chyllidebau Llywodraeth Cymru yw'r cyllidebau rydym yn eu trafod yma heddiw, ac felly rwy'n credu ei bod yn bwysig fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod ei rôl ei hun wrth fynd i'r afael â'r materion hyn a sicrhau ein bod yn gallu darparu'r cyllid y mae ein pobl ei angen ac yn ei haeddu.

Rwy'n cytuno'n llwyr, Alun. Yr hyn rwy'n ei ddweud, yr hyn rwy'n ceisio ei osod yma heddiw, o safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r hyn y gallwn ei fuddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon, yn refeniw ac yn gyfalaf, yw ein bod yn ceisio sicrhau bod gennym gymaint o gyllideb â phosibl i sicrhau'r canlyniadau mwyaf effeithiol.

Roedd y pwyllgor hefyd yn argymell sefydlu cynllun peilot tebyg i raglen Active Me—Kia Tū Seland Newydd, ac roeddwn yn hynod o ffodus yn ystod fy nhaith ddiweddar i Seland Newydd i weld sut mae'r cynllun yn gweithredu. Cefais fy nharo gan y tebygrwydd i'r hyn rydym eisoes yn ei wneud yma yng Nghymru. Bwriad ein grant datblygu disgyblion yw helpu plant cymwys i dalu'r costau sy'n gysylltiedig â'r diwrnod ysgol, gan gynnwys cit ac offer chwaraeon ysgol, sef yn bennaf yr hyn y mae cynllun Kia Tū yn ei wneud. Ond mae ymyriadau eraill sydd eisoes ar waith y mae Active Me—Kia Tū yn eu hadlewyrchu yn cynnwys ein cynllun brecwast am ddim, ein grŵp gweithgarwch corfforol cenedlaethol, a chyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru. Rydym hefyd yn gweithio ar draws y Llywodraeth gyda'r adrannau iechyd ac addysg i ddatblygu rhaglen ysgolion egnïol fel rhan o ymrwymiad a nodir yn ein strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Rwyf eisoes wedi rhoi ymrwymiad i'r Siambr hon i drafod rhaglen Seland Newydd ymhellach gyda Chwaraeon Cymru i weld beth arall y gallwn ei ddysgu gan brosiect Active Me—

—a sut y gellid ei ddatblygu. 

Roedd un neu ddau o argymhellion yn canolbwyntio ar wella mynediad at gyfleusterau ysgol a chyfleusterau cymunedol, a bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi £24.9 miliwn i gynorthwyo ysgolion i weithredu a datblygu fel ysgolion bro, gan estyn allan i ymgysylltu â theuluoedd a disgyblion, yn enwedig rhai dan anfantais oherwydd tlodi. Mae hyn yn cynnwys £20 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf i ganiatáu i ysgolion ddatblygu ymhellach fel asedau cymunedol.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, rwyf am sôn am yr uwchgynhadledd chwaraeon a fydd yn digwydd wythnos i yfory. Ers dod yn Ddirprwy Weinidog, mae'r ysbryd cydweithredol sy'n rhedeg drwy'r sector wedi creu argraff arnaf. Bydd yr uwchgynhadledd yn gwneud y gorau o hyn, wrth iddi geisio dod ag arbenigedd a phrofiadau gwahanol at ei gilydd i ofyn sut beth yw system chwaraeon gynhwysol a pha rôl y gallwn i gyd ei chwarae yn ei darparu. Rydym yn gwybod bod llawer o heriau'n dal i wynebu pobl sydd eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ac rwy'n gyffrous i weld a dysgu gan y sector yng Nghymru beth y gallwn ei wneud i sicrhau mwy o gynnydd eto wrth fynd i'r afael â'r materion hyn. Rwy'n siŵr y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn ein cefnogi yn ein hymdrechion i wneud hynny.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r Gweinidog a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn ein dadl y prynhawn yma.

Roedd Tom Giffard yn nodi pa mor amserol yw'r ddadl hon a'r angen i gefnogi chwaraeon ar lawr gwlad. Nododd Jack Sargeant hyn mewn ymyriad am gymryd rhan mewn chwaraeon—do, roeddem wedi canolbwyntio ar gymryd rhan—ond mae'r gynulleidfa, ymgysylltu â'r gymuned, mynd i weld gemau, mor bwysig hefyd. Tom, y Farwnes Grey-Thompson a wnaeth y pwynt i ni fel pwyllgor, ac roedd yn bwynt mor bwerus, na ddylai chwaraeon ymwneud â bod yn dda mewn chwaraeon yn unig, dylai pobl allu mwynhau chwaraeon, nid rhagori. Mae hwnnw'n bwynt pwerus iawn, ac rwy'n falch eich bod wedi nodi hynny.

Alun, rwy'n cytuno'n llwyr fod yr ymchwiliad hwn wedi bod yn bleserus iawn, oherwydd er gwaethaf y darlun gwirioneddol ddifrifol a welem mewn cymaint o ffyrdd, roedd yr angerdd roedd cymaint o'r bobl y buom yn siarad â hwy yn ei deimlo dros chwaraeon yn gwbl ysbrydoledig. Rwy'n cytuno hefyd gyda'r pwynt a wnaethoch ynglŷn â'r ffordd y mae'n golygu cymaint pan fydd Cymru ar lwyfan y byd yn gwneud yn dda, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n sylfaen i gymaint o'r hyn y buom yn edrych arno fel pwyllgor, wrth gwrs.

Fel dywedodd Heledd hefyd, cododd ein hymgynghoriad galonnau, ac fe wnaeth ein tristáu ni hefyd. Soniodd Heledd hefyd am fframio hyn yng nghyd-destun Deddf cenedlaethau'r dyfodol, ac mae hwn yn bwnc sydd wedi cael ei godi nifer o weithiau yn ein dadl—dwi'n meddwl bod hwnna'n rhywbeth pwysig inni gofio.

Siaradodd Carolyn am y straen y mae costau ynni'n ei chael ar y diwydiant, yn enwedig pyllau nofio, pwynt a nododd Jenny hefyd. Rwy'n gobeithio y bydd agor cyfleusterau'n gwneud gwahaniaeth i sicrhau cyfleoedd cyfartal, ond fel y soniodd Jenny, mae yna broblem barhaus sy'n peri pryder difrifol gyda phyllau nofio—mae'n rhywbeth y bydd y pwyllgor yn ei ddilyn yn agos. Mae'n bryder difrifol. Fel roeddech chi'n dweud, mae'n sgìl bywyd hanfodol. Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad chi hefyd.

Diolch am eich geiriau, Laura. Mae mor ddefnyddiol gwybod y bydd y grŵp trawsbleidiol yn ystyried hyn hefyd. Mae buddsoddiad yn talu ar ei ganfed. Rwy'n credu mai Cymdeithas Chwaraeon Cymru a dynnodd ein sylw mewn tystiolaeth at y ffaith bod gwledydd eraill tebyg yn gwario pump i 10 gwaith y swm rydym ni'n ei wario ar chwaraeon elît, a bod Cymru'n gwneud yn dda iawn o fuddsoddiad cymharol fach. Felly, roedd hynny'n rhywbeth diddorol a nodwyd gennych.

Cytunaf yn llwyr â geiriau'r Dirprwy Weinidog. Rwyf am ychwanegu ein diolch ninnau hefyd i dîm Cymru. Maent yn ysbrydoliaeth i bawb ohonom. Mae eich angerdd dros chwaraeon yn glir i'w weld, ac mae'n dda gweld hynny ynoch chi, Ddirprwy Weinidog. Ar y pwynt a wnaethoch am ein prif argymhelliad, os nad yw'r polisi'n newid ac os nad yw'r buddsoddiad yn cynyddu, ein pryder fel pwyllgor fyddai na fyddem yn siŵr sut y gellid trechu'r anghydraddoldebau ystyfnig hyn. 

Dwi'n gwybod roeddech chi wedi gwneud y pwynt am y ffaith bod Chwaraeon Cymru yn helpu'r sector i gynhyrchu gweledigaeth genedlaethol, ac mae Chwaraeon Cymru, yn amlwg, yn gwneud gwaith mor bwysig, ond gall Llywodraeth Cymru gyfarwyddo Chwaraeon Cymru drwy lythyr cylch gwaith. Dwi'n gwybod mai llythyr cylch gwaith hyd tymor y Senedd sydd yna ar hyn o bryd, ond, fel dwi'n deall, does dim i ddweud na all Llywodraeth Cymru newid cwrs, petai'n dymuno gwneud. Felly, dwi'n gobeithio efallai y byddai hwnna'n rhywbeth y byddai'r Llywodraeth yn cymryd i ystyriaeth, o ran y grant datblygu gweithgaredd corfforol a beth roeddech chi'n ei weld yn Seland Newydd. Mae e'n eithriadol o dda eich bod chi wedi gallu gweld beth sy'n digwydd yn Seland Newydd, a dŷn ni'n edrych ymlaen yn fawr at glywed mwy fel mae eich cynlluniau yn y maes yna yn datblygu.

O ran y cyllido, byddwn i'n dweud—a dwi'n gwybod rôn i'n dweud hyn wrth agor hefyd—os ydy Llywodraeth Cymru wir yn golygu y gall chwaraeon fod yr arf ataliol mwyaf effeithiol ar gyfer y genedl, rhaid i'r gweithredoedd yna fodloni'r rhethreg. Dwi'n meddwl bod hyn yn densiwn sydd ddim yn mynd i fynd i ffwrdd.

Rwy'n cytuno â'r pwynt a wnaethoch chi, Weinidog, fod gwir angen edrych ar ddull Llywodraeth gyfan yn hyn o beth, gan gysylltu unwaith eto â'r hyn a ddywedodd Heledd am gyd-destun llesiant cenedlaethau'r dyfodol i hyn i gyd.

Roedd nifer o'r Aelodau wedi gwneud y pwynt ynglŷn â pha mor ystyfnig yw'r rhwystrau rydym yn edrych arnynt, boed hynny o ran daearyddiaeth neu o ran y ffyrdd rhyng-gysylltiedig y bydd anghydraddoldebau gwahanol yn effeithio ar fywydau pobl. Roedd rhai o'r straeon a glywsom fel pwyllgor yn sobreiddiol. Cawsom ein hatgoffa bod yr argyfwng costau byw yn ein peryglu yn ogystal â'n gwneud yn dlotach, drwy wneud ein bywydau'n llai boddhaol a hefyd mewn ffordd fwy difrifol a phryderus. Pan fydd cyllidebau'n dynn, gall wneud inni wynebu dewisiadau ofnadwy. Mae yna ddwy enghraifft wirioneddol enbyd a oedd yn sefyll allan i mi o'n tystiolaeth yr hoffwn eu nodi wrth gloi.

Yn gyntaf, pan fo prisiau bwyd yn codi, nododd Chwaraeon Cymru y bydd rhai plant, yn anecdotaidd, nid yn unig yn cael llai o fwyd, ond gall y cynnydd mewn prisiau bwyd olygu bod plant yn gwneud llai o ymarfer corff. Bydd rhai teuluoedd mewn sefyllfaoedd anodd yn gorfod atal eu plant rhag mynd i glwb pêl-droed ar ôl ysgol, rhag mynd i nofio, rhag mynd i hoci, nid yn unig oherwydd faint y mae'r gwersi'n costio, ond oherwydd bod ymarfer corff yn ein gwneud yn fwy llwglyd. Bydd angen mwy o fwyd arnynt, bwyd nad yw yno, i deimlo'n llawn ar ôl ymarfer corff. Mae rhai rhieni'n gorfod amddifadu eu plant o'r cyfleoedd hynny; rhaid iddynt eu hamddifadu fel nad ydynt yn dioddef boliau gwag. Dyna ddewis ofnadwy i orfod ei wynebu.

Mae dewis anodd arall sy'n codi o'r ffaith bod chwaraeon yn fwy anfforddiadwy yn ymwneud mewn ffordd uniongyrchol iawn â diogelwch. Daeth hyn, unwaith eto, o dystiolaeth Chwaraeon Cymru—y ffaith y bydd mwy o fenywod yn ei chael hi'n anodd fforddio ymaelodi â champfa. Mae'r gaeaf wedi cyrraedd ac mae'n dywyll cyn ac ar ôl amser gwaith llawer o bobl, felly bydd menywod sy'n methu fforddio mynd i gampfeydd wedi'u goleuo'n dda gyda melinau troed naill ai ddim yn teimlo y gallant wneud yr ymarfer corff hwnnw neu bydd yn rhaid iddynt fynd ar y palmentydd yn lle hynny. Nid oes angen imi atgoffa'r Siambr pa mor anniogel y mae cymaint o fenywod yn teimlo wrth redeg ar ôl iddi dywyllu.

Mae'r argyfwng hwn yn gwneud i bobl wynebu'r dewisiadau ofnadwy hyn, Ddirprwy Lywydd, ac nid ydynt bob amser yn amlwg. Mae gwahanol rannau o'n bywydau yn rhyng-gysylltu, a bydd mwy o fuddsoddiad mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig yn helpu bywydau pobl ddirifedi mewn cymaint o ffyrdd.

I gloi, Dirprwy Lywydd, mae pawb yn ymwybodol, bellach, bod arwain ffyrdd mwy iach a mwy egnïol o fyw yn cael effaith hynod fuddiol ar fesurau eraill, megis disgwyliad oes, iechyd meddwl, cyfleoedd economaidd-gymdeithasol a chyrhaeddiad addysgol. Mae cydnabyddiaeth bod arferion ffordd o fyw sy'n cael eu datblygu pan ydyn ni'n ifanc yn fwy tebygol o barhau pan fydden ni'n oedolion. Am y rhesymau hyn, gallai sicrhau chwarae teg o ran cymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru gael effaith ddramatig ar fywydau pobl o gefndiroedd difreintiedig, ac mi fyddem ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i dalu sylw i'n hargymhellion. Dwi'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan yn ein dadl heddiw ac rwy'n gobeithio y bydd mwy o gynnydd fel canlyniad i hyn. Diolch.

17:15

Y cwestiwn yw a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl ar ddeiseb P-06-1302, 'Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol'

Eitem 7, dadl ar ddeiseb P-06-1302, 'Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Jack Sargeant.

Cynnig NDM8146 Jack Sargeant

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb P-06-1302 ‘Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’ a gasglodd 20,889 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae 2022 yn nodi hanner canmlwyddiant cynlluniau a luniwyd i ddynodi mynyddoedd Cambria yn barc cenedlaethol cyntaf Cymru. Ni chafodd y cynlluniau hynny mo'u gweithredu. Felly, heddiw, yma wrth galon democratiaeth, mae Senedd Cymru—pobl Senedd Cymru—yn trafod deiseb a gyflwynwyd gan Celia Brazell, ac a lofnodwyd gan dros 20,000 o bobl sy'n gobeithio na fydd rhaid iddynt aros am 50 mlynedd arall i'w tirwedd, eu cynefinoedd a'u ffordd o fyw gael eu cydnabod a'u diogelu. 

Ddirprwy Lywydd, mae deiseb P-06-1302, 'Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol' yn dweud:

'Mynyddoedd Cambria: awyr agored ddiddiwedd, bioamrywiaeth eithriadol, bryniau a dyffrynnoedd ysblennydd, 5,000 o flynyddoedd o dreftadaeth, megis yr iaith Gymraeg, ffermio a mwyngloddio. Mae’r ymdeimlad o ehangder a heddwch yn neilltuol. Yn anffodus, ychydig o sylw a gaiff y dasg o warchod yr ucheldiroedd hyn. Caiff ffermydd eu prynu ar gyfer plannu coed conwydd neu ar gyfer adeiladu ffermydd gwynt mawr, a hynny er gwaethaf y diffyg seilwaith sydd yno. Mae angen gwarchod rhanbarth mor brydferth a sicrhau cyflogaeth yng nghefn gwlad yn y tymor hwy. Dylid dynodi Mynyddoedd Cambria fel yr ardal o harddwch naturiol eithriadol gyntaf yng Nghanolbarth Cymru.'

Bydd Aelodau'r Siambr yn ymwybodol fod Cymru ar hyn o bryd yn gartref i bedair ardal a hanner o harddwch naturiol eithriadol: Ynys Môn, bryniau Clwyd a dyffryn Dyfrdwy, penrhyn Llŷn a'r Gŵyr—oll yng Nghymru—yn ogystal ag ardal o harddwch naturiol eithriadol dyffryn Gwy, sy'n rhychwantu Cymru a Lloegr. Rydym hefyd yn gartref i dri pharc cenedlaethol: Bannau Brycheiniog, arfordir sir Benfro ac Eryri.

O dan adran 82 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, gall Cyfoeth Naturiol Cymru ddynodi unrhyw ardal yng Nghymru nad yw eisoes yn barc cenedlaethol yn ardal o harddwch naturiol eithriadol, os yw'n ardal o'r fath harddwch naturiol eithriadol fel y dylid ei gwarchod a'i gwella.

Nawr, rwy'n gwybod bod y Gweinidog sy'n ymateb i'r ddadl wedi estyn gwahoddiad i'r prif ddeisebydd gyfarfod â swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion CNC:

'i drafod rhai agweddau ar y cynnig i ddynodi yn fanylach.'

Rwyf fi ac aelodau'r pwyllgor yn edrych ymlaen yn fawr at glywed am unrhyw gynnydd a wneir yn hynny o beth.

Lywydd, mae rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i ddynodi parc cenedlaethol newydd i gynnwys bryniau Clwyd a dyffryn y Ddyfrdwy, ac rwy'n gwybod y bydd yr Aelod ar ochr arall y Siambr, Darren Millar, yn arbennig o falch ynglŷn â phenderfyniad y rhaglen lywodraethu. Gwn ei fod wedi bod yn gefnogwr naturiol ac wedi dadlau'n frwd ar brydiau wrth alw am bethau fel arsyllfa genedlaethol i Gymru, a phwy a ŵyr beth fyddai Mr Millar yn eu gweld yn yr awyr dywyll honno? Gwn ei fod ef yn arbennig wedi cyflwyno cwestiynau i'r Senedd hon ynglŷn â gwrthrychau hedegog anhysbys yn ei gyfnod fel Aelod.

Lywydd, rwy'n deall serch hynny y bydd y gwaith sy'n cael ei wneud gan swyddogion Llywodraeth Cymru a CNC yn ffocws i amser swyddogion yn y tymor byr. Ond y tu hwnt i hynny, a fyddai modd edrych eto ar yr achos o blaid mynyddoedd Cambria?

Mae'r Gweinidog hefyd wedi ysgrifennu at y pwyllgor yn nodi bod CNC:

'hefyd wedi ymrwymo i gynnal asesiad technegol ar gyfer Cymru gyfan o harddwch naturiol. Y bwriad yw asesu ardaloedd yn erbyn y meini prawf harddwch naturiol a fydd yn helpu i asesu eu hangen posibl i gael eu gwarchod yn y dyfodol.'

Mae Cymdeithas Mynyddoedd Cambria wedi gweithio'n ddygn ar yr ymgyrch hon, gan gasglu degau o filoedd o lofnodion mewn digwyddiadau ar hyd a lled canolbarth Cymru. Daeth grŵp o ymgyrchwyr i lawr i'r Senedd i gyflwyno'r ddeiseb ar 4 Hydref, a diolch yn fawr i Luke Fletcher, Joel James a Russell George am dderbyn y ddeiseb ar fy rhan a chyfarfod ag ymgyrchwyr.

Nawr, gwn fod rhannau eraill o Gymru â diddordeb mewn dynodi eu tirweddau, hefyd. Mae fy nghyd-Aelod John Griffiths wedi bod yn hyrwyddo gwastadeddau Gwent yn y blynyddoedd diwethaf. Cafwyd cynigion ehangach i ehangu ardal o harddwch naturiol eithriadol Penrhyn Gŵyr, a hefyd i ystyried y Berwyn. Ond am heddiw, oherwydd bod 20,000 o bobl wedi gofyn, rydym ni, Senedd Cymru, yn trafod deiseb yn cyflwyno'r cwestiwn ar ran mynyddoedd Cambria. Fel y mae'r deisebwyr yn dweud, mae hon yn ardal sy'n gartref i ystod eang o fioamrywiaeth: adar ysglyfaethus, gwiwerod coch, dyfrgwn, beleod, gloÿnnod byw, gweision y neidr, buchod coch cwta a 15 math o chwilod tail. Mae hefyd yn gartref i'r bobl sy'n byw a gweithio ar y tir, pobl angerddol sydd wedi arwain ymgyrch drawiadol i roi llais i'w rhan hwy o Gymru a'r statws y credant ei bod yn ei haeddu. 

I gloi, Lywydd, maent yn dweud hyn:

'Os caiff Mynyddoedd Cambria frand mawreddog fel ardal o harddwch naturiol eithriadol, ac os caiff y mynyddoedd eu rheoli mewn modd cydlynol, bydd y rhanbarth yn sicr yn ffynnu.'

Diolch yn fawr. 

17:20

Diolch am gyflwyno'r ddeiseb hon i'w thrafod, Jack. Mewn egwyddor, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r ddeiseb. Rydym yn cydnabod bod diogelu'r ardal unigryw hon gyda'i thirwedd eithriadol yn bwysig yn genedlaethol. Credwn y bydd statws ardal o harddwch naturiol eithriadol i fynyddoedd Cambria yn sicrhau manteision i'r ardal, gan helpu i wella'r gydnabyddiaeth i frandiau a chynhyrchion lleol, ac yn helpu i roi ffocws pellach ar brosiectau cymunedol, fel plannu coed, mynd i'r afael â rhywogaethau estron goresgynnol a gwella bioamrywiaeth, yn enwedig yn ein mawnogydd. Bydd yn helpu gyda rheoli gwaith cadwraeth a chadw sgiliau traddodiadol, a bydd yn helpu gyda hyfforddi sgiliau garddwriaethol a rheoli tir lleol. Yn ogystal â hynny bydd yn agor y drws ar fuddsoddiad drwy'r gronfa datblygu cynaliadwy a chynlluniau rheoli cynaliadwy, a fydd yn helpu busnesau o fewn yr AHNE i ffynnu.

Fodd bynnag, ar hyn o bryd, er ein bod o blaid dynodi mynyddoedd Cambria yn AHNE, rwy'n credu ei bod yn ddoeth inni gofio na fydd pawb yn ymwybodol o sut y bydd y statws yn effeithio'n gadarnhaol arnynt, ac fel gydag unrhyw newid, mae'n bosibl y bydd cymunedau'n nerfus pan nad ydynt yn deall y goblygiadau iddynt hwy a'u bywoliaeth yn llawn. Mae angen inni fod yn ymwybodol iawn y bydd yn dal i fod angen i'r gymuned ffermio yn yr ardal arfaethedig hon wneud bywoliaeth a rheoli'r tir i ddarparu ar ein cyfer. Bydd cymunedau'n dal i fod angen tai, a bydd pobl iau yn dal i fod angen economi sy'n tyfu i'w cynnal. Gyda hyn mewn cof, hoffwn annog pawb sydd â diddordeb sy'n cefnogi'r statws AHNE i wneud eu gorau glas i gyfleu'r effeithiau cadarnhaol, i weithio'n agos gyda ffermwyr a chymunedau eraill er mwyn deall eu pryderon yn well, ac yna i fod yn ymwybodol o'r pryderon hyn wrth benderfynu ar y ffiniau terfynol. Diolch. 

17:25

Diolch i Jack Sargeant am gyflwyno'r ddadl yma yn trafod y ddeiseb ynghylch mynyddoedd Elenydd a'r ardal i lawr i fynydd Mallaen. Dwi am ddatgan yma heddiw ein bod ni'n cydymdeimlo efo egwyddor y syniad o warchod elfennau o'n tir, ond yn benodol felly'r bywyd natur a'r amgylchedd sy'n rhan o'r tir hwnnw, ond rhaid peidio ag anghofio'r bobl a'r cymunedau yno. Mae'n bryder ein bod ni wedi gweld cwymp aruthrol yn ein byd natur dros yr 50 mlynedd diwethaf, efo rhywogaethau a oedd unwaith yn gyffredin bellach o dan fygythiad, a rhai wedi diflannu am byth. Dyna pam, wedi'r cyfan, ein bod ni wedi datgan argyfwng natur.

Mae'r ardal yma rydyn ni'n sôn amdani heddiw yn gyforiog o fyd natur, ac mae angen cymryd camau i sicrhau parhad. Ond ofnaf nad trwy osod dynodiad fath ag ardal o harddwch naturiol eithriadol, neu AHNE, ydy'r ffordd i wneud hynny. Y gwir ydy nad pwrpas AHNE ydy cyflawni'r pethau yma. Yn wir, os edrychwch chi ar ardaloedd sydd efo dynodiadau fath ag AHNE, safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig neu barc cenedlaethol, yna fe welwch eu bod hwythau wedi colli canran sylweddol o rywogaethau dros yr hanner canrif diwethaf yn gymaint ag unrhyw ardal sydd heb ddynodiad. Ond, mae'r Bil amaeth newydd sydd wedi cychwyn ar ei daith drwy'r Senedd hon rŵan yn mynd i edrych ar anghenion amgylcheddol ac ecolegol. Nid trwy roi dynodiad AHNE, felly, y mae mynd i'r afael â'r argyfwng natur yn yr ardal, ond trwy weithio mewn partneriaeth efo pobl sydd yn gweithio'r tir, yn byw ar y tir, ac yn mwynhau'r ardal. 

Dwi'n ofni fod ymgyrchwyr yn sôn yn benodol am bryderon am ffermydd gwynt. Mae'n werth nodi pryderon pobl, wrth reswm, ond byddai gosod dynodiad fath ag AHNE er mwyn atal datblygiadau o'r fath yn gamddefnydd o'r dynodiad hwnnw. Nid dyna bwrpas y dynodiad. Os ydy pobl wirioneddol yn pryderu am ddatblygiadau fath â melinau gwynt, yna'r fforwm i leisio'r pryderon yma ydy trwy'r broses gynllunio. 

Rŵan, nid dynodiad yn unig ydy AHNE; mae i AHNE statws a disgwyliadau, ac mae'r disgwyliadau yna yn disgyn, i raddau helaeth, ar y llywodraethau lleol sydd yn yr ardal. Byddai creu AHNE newydd yn rhoi pwysau cyllidol ychwanegol felly ar Geredigion, Powys a Sir Gâr, ac mae'r siroedd yma eisoes yn wynebu cyfnod cyllidol llwm, felly prin iawn y byddan nhw'n croesawu dynodiad fath ag AHNE. Mae'r parciau cenedlaethol ac AHNEau yn brin o'r cyllid angenrheidiol ar gyfer monitro, ac yn brin o staff arbenigol. Oes, mae'n rhaid i ni wella cyflwr ein hardaloedd naturiol, a'r ffordd orau o wneud hynny ydy i gyflwyno targedau adfer natur i fuddsoddi mewn cynefinoedd o dan berygl, mewn monitro ac mewn staff arbenigol. 

Does dim dwywaith nad ydy'r ardal yma yn ardal o harddwch eithriadol; mae'n ardal gwbl odidog ac yn llawn hanes. Mae'r potensial i ddatblygu economi gylchol efo mentrau twristaidd o dan berchnogaeth leol yn fawr yno. Felly, yn hytrach na dynodiad sydd yn gosod ardal mewn rhyw fath o stasis, rhaid yn lle edrych ar adeiladu ar waith da sydd eisoes yn mynd rhagddo. Mae menter mynyddoedd y Cambrian, sydd yn bartneriaeth rhwng y dair sir, wedi datblygu cynllun parc hydwythedd cymunedol a natur yn edrych ar sut mae datblygu a hyrwyddo'r ardal, gan ddysgu gwersi o barciau natur rhanbarthol Ffrainc. Mae'r parciau yma yn gwarchod natur, yn cydweithio efo cymunedau, ac yn datblygu cyfleoedd economaidd mewn modd sydd yn parchu amgylchedd a chymuned. Mae'r gwaith o ddatblygu cynlluniau cyffelyb eisoes ar y gweill gan fenter mynyddoedd Cambrian.

Felly, nid yw gosod dynodiad fel AHNE am fod o fudd i'r ardal yma, a dyna pam ein bod ni'n gwrthwynebu hyn. Ond mi rydyn ni yn credu fod cyfle i ddatblygu cynlluniau cyffrous, mewn cydweithrediad â chymunedau a phobl sy'n byw yno, a fydd yn galluogi pobl i fyw ar y tir i ddatblygu'r economi leol, tra'n parchu a chryfhau'r amgylchedd odidog naturiol sydd yn y rhan arbennig yma o Gymru.  

Diolch i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno hyn. Rwy'n mynd i ddargyfeirio tamaid bach, ac mae'r dargyfeiriad hwnnw'n rhedeg o Gas-gwent i Gonwy. 

Rhagwelwyd y syniad o lwybr Cambria drwy fynyddoedd Cambria am y tro cyntaf yn ôl ym 1968, ac ym 1994 chynhyrchodd y diweddar Tony Drake, un o'r mawrion yn y byd cerdded a mapio'r llwybrau cerdded hyn yng Nghymru, arweinlyfr cyntaf ffordd Cambria, a oedd yn mynd yr holl ffordd o Gas-gwent i Gonwy, drwy fynyddoedd Cambria. Yn ôl yn 2019, ymunais ag Oliver Wicks, Richard Tyler a Will Renwick—bydd rhai ohonoch yn dilyn Will Renwick; fe'i hadwaenir ar Twitter fel WillWalksWales—a'r Cerddwyr, i lansio arweinlyfr Cicerone ar ffordd Cambria, y canllaw diffiniol erbyn hyn i'r llwybr a elwir yn 'daith gerdded i arbenigwyr ar gerdded mynyddoedd'. Mae'n cyfateb i ddwy waith a hanner esgyniad a disgyniad Everest dros ddwy wythnos a hanner i dair wythnos, yn dibynnu ar ba mor gyflym rydych chi'n ei gerdded; pythefnos os ydych chi'n ei wneud yn gyflym fel y mae Will yn ei wneud. Ac yn ystod y 18 mis diwethaf, pob clod i'r Cerddwyr a gwirfoddolwyr sydd wedi nodi'r llwybr cyfan. Ond llwybr gwyllt yw hwn; ni ddylai neb geisio dilyn y llwybr heb wybod beth a wnânt. Nid yw'r nodwyr llwybr fel y rhai a welwch ar lwybrau eraill sydd wedi'u nodi'n dda. Yn 479 cilometr o hyd, mae taith gerdded yr arbenigwr ar gerdded mynyddoedd yn cynnwys Bannau Brycheiniog, eangdiroedd gwyllt mynyddoedd Cambria ac Eryri.

Felly, Ddirprwy Lywydd, rwy'n codi i ganmol harddwch gwyllt a gwefreiddiol—yn ystyr lythrennol y gair 'gwefreiddiol'—mynyddoedd Cambria. Nawr, cefais fy ngeni a fy magu yn Nhre-gŵyr. Fy nghae chwarae fel dyn ifanc drwy fy arddegau a fy 20au cynnar, oedd y Gŵyr mewn gwirionedd; dyna lle cefais fy magu. Dyna'r ardal gyntaf erioed o harddwch naturiol eithriadol yn y wlad i gyd. Roeddwn i'n arfer ymhyfrydu wrth ddweud wrth gyd-aelodau o senedd y DU: 'A ydych chi eisiau gweld lle dechreuodd AHNE? Yng Nghymru y digwyddodd hynny, yn ardal Gŵyr.' Ac wrth gwrs, rwy'n deall sut y gall dynodiad o'r fath helpu i warchod y pethau gorau yn y dirwedd, ond yn bwysig ac yn allweddol, gall gynnal cymunedau byw hefyd. Rhaid i'r rhain fod yn gymunedau bywiog, hyfyw—y pwynt nad ag amaethyddiaeth yn unig y mae'n ymwneud, ond â thwristiaeth a defnyddiau eraill o fewn yr ardal honno.

Nawr, gyda fy nghyfaill Hilary Benn, fe wneuthum dywys Bil drwy'r Senedd a greodd Barc Cenedlaethol South Downs—y cyntaf ers tri, pedwar degawd a grëwyd gennym—felly, rwy'n deall yr angen i gydbwyso penderfyniadau'n ofalus a phenderfyniadau lled-farnwrol yn wir, natur penderfyniadau o'r fath sy'n wynebu Gweinidogion, a sut mae'n rhaid i hyn fod yn seiliedig ar feini prawf llym iawn ac ymgysylltu da hefyd gyda chymunedau a rhanddeiliaid. Felly, mae gennyf ddiddordeb mewn clywed mwy am waith Llywodraeth Cymru ar ddynodiadau—a rheoli dynodiadau, yn hollbwysig, am ei fod yn fwy na rhoi label i rywbeth yn unig; dyma sut rydych chi wedyn yn rheoli hynny ac yn gweithio gyda phobl—ac mewn gwirionedd sut rydym yn gwneud hyn yn gyfredol yng ngoleuni pethau fel yr argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth hefyd. Felly, nid hen ddynodiadau sy'n addas ar gyfer y ganrif ddiwethaf, ond dynodiadau modern sy'n ystyried yr hyn sy'n digwydd yn ein gwlad.

Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, nid cystadleuaeth mo hon. Pan fyddaf yn sefyll ar ben mynydd Bwlch yn fy etholaeth, ac yn sefyll ar Bulpud-y-diawl yno, fel y gwnaf, ac edrych i lawr ar draws Nant-y-moel a chwm Ogwr, nid oes unman yn agosach at y nefoedd na hynny. Nid cystadleuaeth mohoni, ond llongyfarchiadau mawr i'r deisebwyr. Rydych chi wedi dechrau dadl nawr sy'n fwy na mynyddoedd Cambria yn unig.

17:30
Member
Lesley Griffiths 17:33:28
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r deisebwyr a gododd y mater pwysig iawn hwn, a hefyd i'r Pwyllgor Deisebau am ei ystyriaeth feddylgar o'r mater.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yn llawn y rôl hanfodol y mae ardaloedd o brydferthwch naturiol eithriadol a pharciau cenedlaethol yn eu chwarae yng Nghymru, ac mae'n cefnogi dynodiadau newydd posibl lle bo hynny'n briodol. Mae ardaloedd AHNE, er efallai'n cael eu gweld fel perthynas dlotach i'r parciau cenedlaethol, yn cynnig llawer o'r un manteision a gwarchodaeth. Mae timau AHNE yn aml yn fedrus am gynnull amrywiaeth o bartneriaid ynghyd i ddarparu gwelliannau i dirwedd. Oherwydd bod ganddynt lai o gyfrifoldebau statudol megis pwerau cynllunio, gellid dadlau y gallant fod yn fwy hyblyg a chanolbwyntio ar waith ymarferol ar lawr gwlad. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi cydnabod pŵer dynodiadau AHNE i weithio'n agos gyda phartneriaid a chymunedau ac wedi cynyddu'r cyllid a ddarparwn iddynt. Drwy ein cynlluniau tirweddau cynaliadwy, lleoedd cynaliadwy a'n cronfa datblygu cynaliadwy, rydym wedi ariannu amrywiaeth o brosiectau bioamrywiaeth, datgarboneiddio, twristiaeth a chymunedol, gan ddarparu cyfanswm o dros £5 miliwn ar gyfer y tair blynedd ddiwethaf.

Mae'n amlwg fod mynyddoedd Cambria yng nghanolbarth Cymru yn ardal hynod o brydferth a thangnefeddus, yn ogystal â bod o bwys mawr i'r Gymraeg ac i ffermio. Mae'r ddeiseb yn nodi'n huawdl rai o rinweddau'r dirwedd hon, ac rwy'n croesawu'r ddadl ar ei dyfodol. Rwy'n siŵr fod cyd-Aelodau'n ymwybodol fod y broses i ddynodi parc cenedlaethol newydd yng ngogledd-ddwyrain Cymru wedi dechrau y llynedd.  Rwy'n disgwyl i hyn fod yn ffocws i ymdrechion i ddynodi tirwedd am weddill tymor y Senedd hon. Mae dynodi yn broses gynhwysfawr a manwl. Mae gennym lawer i'w wneud hefyd i wella a grymuso dynodiadau cyfredol i gyfrannu'n fwy sylweddol at wrthsefyll yr argyfyngau natur a hinsawdd. Bydd ein hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a'n parciau cenedlaethol yn gyfryngau allweddol ar gyfer cyflawni wrth inni geisio cyrraedd y targed bioamrywiaeth 30x30 a gwella llawer mwy o'n tir er mwyn i natur allu ffynnu.

Wrth gwrs, rydym yn wynebu argyfyngau hinsawdd a natur, ac os nad ydym yn meddwl yn wahanol am ein dyfodol, er enghraifft drwy gymryd cyfrifoldeb dros ddiwallu ein hanghenion ynni mewn ffyrdd mwy cynaliadwy, ni chaiff y tirweddau hyn mo'u cadw. Dyma pam ein bod wedi ymrwymo i gynyddu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy. Mae angen inni gydweithio fel gwlad i feddwl yn wahanol a dod o hyd i atebion i'r heriau rydym i gyd yn eu hwynebu. Cyfoeth Naturiol Cymru sydd â'r cyfrifoldeb dros argymell dynodiadau AHNE a pharciau cenedlaethol. Mae hyn wedi'i nodi mewn deddfwriaeth, yn Neddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 a Deddf yr Amgylchedd 1995. Mae'n bwysig fod y broses ddynodi, ar ôl ei chychwyn, yn drwyadl, yn wrthrychol ac yn dryloyw. Byddai angen arddangos cefnogaeth gref yn lleol er mwyn i CNC ddechrau'r broses ddynodi, yn cynnwys cefnogaeth yr awdurdodau lleol perthnasol a chymunedau lleol. Rwy'n derbyn bod y ddeiseb y mae Cymdeithas Mynyddoedd Cambria wedi'i chyflwyno yn dangos llawer iawn o gefnogaeth yn lleol ac yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw'n rhywbeth rwy'n ymwybodol fod cynrychiolwyr etholedig yr ardal wedi ymgyrchu arno neu y mae awdurdodau lleol yr ardal wedi mynegi barn arno. Mae'r safbwyntiau hynny'n bwysig iawn i'w clywed wrth i CNC ystyried a fyddai'n briodol edrych ar ddynodiad i fynyddoedd Cambria yn y dyfodol.

Mae'n werth nodi hefyd fod canran fawr o fynyddoedd Cambria eisoes yn destun gwarchodaeth lem. Yn ôl ffigurau 2015, mae 17 y cant o fynyddoedd Cambria wedi'u dynodi'n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, gyda bron i 90 y cant o ardal y SoDdGA hefyd wedi'i ddynodi o dan gyfarwyddeb cynefinoedd Ewrop fel ardal gadwraeth arbennig, neu ardal warchodaeth arbennig, neu'r ddau. Ceir sawl gwarchodfa natur leol a chenedlaethol hefyd.

Ni fyddai'n briodol imi gytuno i ddynodiad AHNE newydd yma nawr, ond rwy'n agored i ddeialog wrth inni archwilio'r hyn rydym ei angen a'i eisiau o'n tirweddau. Rwy'n ddiolchgar iawn i sefydliadau fel Cymdeithas Mynyddoedd Cambria, sy'n gweithio'n ddiflino i hyrwyddo ac ymgyrchu dros warchodaeth rhai o'n hoff dirweddau. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion a swyddogion CNC gyfarfod â'r gymdeithas i drafod eu hymgyrch yn fanylach. Rwy'n deall bod cyfarfod wedi'i drefnu ar gyfer yr wythnos nesaf, ac rwy'n awyddus i gael adborth o'r drafodaeth honno. [Torri ar draws.]

17:35

Mae'r Gweinidog wedi gorffen. Mae'n ddrwg gennyf.

Galwaf ar Jack Sargeant i ymateb i'r ddadl.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am drefnu'r ddadl hon a hithau'n hanner can mlynedd ers y cynlluniau a'r galwadau gwreiddiol am ddynodiad ardal o harddwch naturiol eithriadol? Diolch i'r cyfranwyr hefyd. Fe siaradodd Joel James o blaid, mewn egwyddor, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, ond fe nododd hefyd rai o'r pryderon a'r hyn y byddai angen i'r ymgyrchwyr ei wneud i fynd i'r afael â hwy. Roedd gan Mabon ap Gwynfor farn ychydig yn wahanol i Joel, ond cynigiodd atebion mewn ffordd arall i gyflawni ein huchelgeisiau mewn perthynas â hinsawdd a bioamrywiaeth, a nododd fy nghyd-Aelod Huw Irranca-Davies yr argyfwng bioamrywiaeth a'r argyfwng hinsawdd drwy ein dargyfeirio ar hyd llwybr Cambria. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gwrw a thafarndai, rwy'n siŵr y bydd yn derbyn fy argymhelliad y tro nesaf y bydd yn ei wneud i alw heibio a cheisio ymweld â rhai o'r bragdai gorau ar hyd ffordd Cambria. Rwy'n hapus iawn i rannu'r ddolen o wefan Croeso Cymru gydag ef er mwyn iddo allu gwneud hynny.

Efallai na wnaf hynny. Fe wnaiff y Gweinidog, rwy'n siŵr. [Chwerthin.]

Ond i ymateb i'r Gweinidog yn uniongyrchol, os caf—fe wnaeth Huw Irranca fy rhoi ar y smotyn yn dda iawn yno—fe wnaeth y Gweinidog nodi'r gwaith pwysig y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, y gwaith y mae CNC yn ei wneud, a'r gofynion y byddai eu hangen i dderbyn cynnig ar gyfer ardal o harddwch naturiol eithriadol, yn enwedig un y credaf y bydd yn bwysig i'r ymgyrchwyr, sef y dylent gael safbwyntiau ac efallai ymgyrchu a lobïo'r cynrychiolwyr lleol, yr awdurdodau lleol, gan mai dyna'r rhan bwysig, ac roedd hynny'n glir yn ymateb y Gweinidog. Ond diolch iddi hi a'i swyddogion am ei gonestrwydd a'i gwaith, a diolch iddi am weithio gyda'r pwyllgor yn y ffordd honno.

Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, unwaith eto, dyma bwyllgor y bobl—pwyllgor pobl Cymru. Diolch i'r deisebwyr am gymryd rhan, yr 20,000 a mwy o bobl a lofnododd, a diolch yn fawr iawn am wrando ar y ddadl hon y prynhawn yma. Diolch.

17:40

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebu? Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Pwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru

Eitem 8 y prynhawn yma yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig—pwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru, a galwaf ar Russell George i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8150 Darren Millar, Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5:

1. Yn sefydlu pwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru

2. Yn cytuno mai cylch gwaith y pwyllgor yw:

a) nodi ble nad yw ymchwiliad COVID-19 y DU yn gallu craffu'n llawn ar ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus Cymru i bandemig COVID-19;

b) cynnal ymchwiliad i'r meysydd a nodwyd;

3. Yn cytuno y bydd y pwyllgor yn cael ei ddiddymu erbyn Rhagfyr 2024 yn dilyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ei adroddiad terfynol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig y prynhawn yma a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Mae ein cynnig heddiw yn argymell y dylai'r Senedd hon sefydlu pwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru a chytuno mai cylch gwaith y pwyllgor fyddai i (a) nodi ble nad yw ymchwiliad COVID-19 y DU yn gallu craffu'n llawn ar ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus Cymru i bandemig COVID, a (b) cynnal ymchwiliad i'r meysydd a nodwyd. A hoffwn geisio osgoi cyfuno dau fater heddiw. Mae gennym destun ein cynnig—y pwyllgor diben arbennig—a hefyd, yn ail, y farn y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi caniatáu ymchwiliad penodol i Gymru gyfan. Ac er nad wyf am gyfuno'r ddau, rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod yn gosod rhywfaint o gyd-destun ynglŷn â pham ein bod ni, fel Ceidwadwyr Cymreig, wedi cyflwyno'r cynnig yma heddiw. Mae'r Llywodraeth yn gyson wedi gwrthod y cais am ymchwiliad ar gyfer Cymru, ac maent wedi gwneud hynny gan wybod bod hanner Aelodau'r Siambr hon yn credu y dylid cynnal ymchwiliad penodol i Gymru. Mae llawer o gyrff iechyd a gweithwyr proffesiynol ledled Cymru'n credu hynny hefyd ac yn bwysicaf oll, wrth gwrs, grŵp Covid Bereaved Families for Justice Cymru, sy'n cynrychioli llawer o'r bobl sydd wedi marw yng Nghymru o COVID-19.

Nawr, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd ymchwiliad COVID y DU yn gwneud eu gwaith o graffu ar Lywodraeth y DU a'i weithredoedd, ond nawr rydym wedi gweld y glasbrint, rydym yn gwybod na all yr ymchwiliad graffu'n llawn ar Lywodraeth Cymru. Rydym yn gwybod hyn oherwydd, y mis hwn, mae'r Farwnes Hallet, sy'n arwain ymchwiliad y DU, wedi pwysleisio na fyddai'r ymchwiliad yn trafod pob mater yng Nghymru. Dyna a ddywedodd—ni fyddai'r ymchwiliad yn ymdrin â phob mater yng Nghymru. Ac wrth siarad yng nghynhadledd i'r wasg yr ymchwiliad, aeth rhagddi i ddweud,

'byddwn yn ceisio sicrhau ein bod yn ymdrin â'r holl faterion mwyaf arwyddocaol a phwysig'

ond

'ni allwn ymdrin â phob mater, ni allwn roi sylw i bob tyst, na galw pob tyst, bydd rhaid inni ganolbwyntio ar y penderfyniadau mwyaf arwyddocaol a'r penderfyniadau pwysicaf.'

Ac rydym hefyd yn gwybod, fis i mewn i'r cyfyngiadau symud, fod y Prif Weinidog wedi dweud,

'Fe wnawn ni'r peth iawn dros Gymru ar yr adeg y mae'n iawn i Gymru ac ni wnawn hynny drwy edrych dros ein hysgwydd ni ar beth y mae eraill yn ei wneud.'

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ei phenderfyniadau ei hun, a phenderfyniadau gwahanol iawn ar adegau, ac mae ganddi hawl i wneud hynny wrth gwrs, ond byddwn yn gobeithio y byddai'r Prif Weinidog yn derbyn y dylai fod craffu ar y penderfyniadau a wnaed, ac atebolrwydd yn eu cylch. Ac rydym yn gwybod nad yw ymchwiliad y DU yn gallu gwneud hynny. Felly, os yw'n parhau i fod mor hyderus, rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn gallu nodi pam nad oes galw am atebolrwydd na chraffu pellach ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru.

Lywydd, rwyf am fod yn glir ynghylch yr angen i'r pwyllgor hwn ddechrau ar ei waith yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Mae'n hanfodol fod y pwyllgor diben arbennig, fel y mae ein cynnig yn ei argymell, yn gweithio nid yn unig gydag ymchwiliad COVID y DU, ond hefyd y timau amrywiol sydd wedi'u sefydlu ar draws y Llywodraeth a'r cyrff cyhoeddus i roi'r wybodaeth i'r ymchwiliad, ac rwy'n ofni y byddai gwybodaeth hanfodol a gesglir gan y timau hyn yn cael ei cholli pe bai'r pwyllgor yn aros i ddechrau ar eu gwaith. Ac mae'n ymddangos yn glir i mi y gallai gwaith y pwyllgor ar nodi'r bylchau posibl yn yr ymchwiliad ddigwydd yn hawdd ochr yn ochr â llinell amser y DU, gan archwilio mewn amser real y meysydd na fyddant wedi'u cynnwys. Fodd bynnag, bydd y pwyllgor hefyd yn gallu defnyddio'r modiwlau a amlinellir yn yr ymchwiliad i archwilio elfennau a allai fod ar goll yn gynnar a gall ddechrau casglu data a gwybodaeth berthnasol, ac wrth gwrs, bydd y pwyllgor yn gallu gweithredu, drwy fod yn hylif ac yn hyblyg yn ei waith.

Rwyf am ddarllen datganiad yn fy sylwadau agoriadol yma, Lywydd. Datganiad ydyw a gafodd ei ddarparu gan grŵp Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru, cyn y ddadl heddiw. Dyma eu geiriau:

'Rydym yn croesawu'r weithred hon gan y gwrthbleidiau. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael pob cyfle i gynnal ymchwiliad Covid penodol i Gymru ond mae wedi dewis peidio. Cawsom sicrwydd gan Brif Weinidog Cymru mai cynnwys Cymru yn Ymchwiliad y DU oedd y peth cywir er bod penderfyniadau datganoledig wedi'u gwneud. Er hynny ni all Ymchwiliad y DU ymdrin â'r materion yng Nghymru yn fanwl ac yn y modd y dywedodd y Prif Weinidog ei fod ei eisiau. Y cyfan y dymunwn iddo gael ei gydnabod yw'r hyn a aeth o'i le i'n hanwyliaid ac i wersi gael eu dysgu. Mae ein pryderon am Ymchwiliad y DU yn dod yn wir ac nid yw Prif Weinidog Cymru wedi herio hyn. Yn y pen draw, rydym yn haeddu ymchwiliad penodol i Gymru  dan arweiniad barnwr. Yn anffodus, gwrthodwyd hyn i ni yng Nghymru, felly bydd y pwyllgor hwn o leiaf yn helpu i sicrhau craffu manwl ar Gymru na fydd Ymchwiliad y DU yn ei wneud.'

Felly, rwy'n gobeithio y bydd y datganiad hwnnw gan y grŵp Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru—. Rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog, wrth ymateb i'r ddadl hon heddiw, yn gallu gwneud sylw ar eu datganiad hwy hefyd, yn ogystal â rhai o fy sylwadau agoriadol eraill. Diolch, Lywydd.

17:45

Rwy'n siarad ar ran Plaid Cymru fel cyd-gyflwynydd y cynnig. Mae pob un ohonom yn y Siambr hon yn cynrychioli pobl yr effeithiwyd arnynt gan y pandemig ofnadwy hwn: pobl sydd wedi colli anwyliaid, pobl sydd eisiau gwybod, pan fydd hyn yn digwydd eto—nid yn ein hoes ni, gobeithio—y gall Cymru fod yn barod, mor barod â phosibl, ac wedi'i harfogi gystal ag y gallem fod i wneud y penderfyniadau cywir y tro nesaf.

Roedd hi'n amlwg y byddai angen ymchwiliad arnom. Fe wnaethom alw am un. Fe gytunodd Llywodraeth Cymru. Ond mae'n ymddangos ein bod yn siarad am ddau ymchwiliad gwahanol iawn. I ni, o'r cychwyn roedd yn rhaid iddo fod yn ymchwiliad sy'n benodol i Gymru, yn rhedeg ochr yn ochr ag un y DU—pam lai? Yn wir, cafodd penderfyniadau eu gwneud yn Whitehall a effeithiodd ar bob un ohonom, a meysydd o gyfrifoldeb cyffredin hefyd, ond fe gafodd cymaint o benderfyniadau eu gwneud yn gwbl briodol yng Nghymru gan Weinidogion Cymru, a gafodd eu dwyn i gyfrif yma yn y Senedd hon. Cafodd cyllidebau eu gosod yng Nghymru. Cafodd pobl driniaeth gan staff ymroddedig GIG Cymru. Bu farw miloedd ar draws y sectorau iechyd a gofal yng Nghymru. Dim ond ymchwiliad penodol i Gymru sy'n mynd i allu craffu'n briodol ar y camau gweithredu hynny.

Ond dewisodd y Llywodraeth Lafur optio allan o'r lefel fforensig honno o graffu, gan ddewis gadael y cyfan yn lle hynny yn nwylo pa ymchwiliad bynnag y penderfynodd Boris Johnson, ar y pryd, ei sefydlu. Ac rwy'n siŵr fod hynny'n gwneud cam â phobl Cymru, y rhai a gollodd anwyliaid oherwydd COVID, a phob un ohonom sydd am sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu. Ym mis Mawrth eleni—rwy'n dyfynnu o wefan Llywodraeth Cymru—dywedodd y Prif Weinidog fod 'sylwadau ar y cyd' wedi cael eu gwneud

'i Brif Weinidog y DU er mwyn sicrhau y bydd profiadau pobl Cymru'n cael eu hadlewyrchu'n briodol a thrylwyr yn yr ymchwiliad'.

Ym mis Ebrill, dywedodd:

'Rwy'n falch o weld bod arwyddion cryf eisoes y bydd yr ymchwiliad... wedi ymrwymo i sicrhau bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal mewn ffordd sy'n hygyrch i bobl yng Nghymru, ac yn rhoi'r atebion y maen nhw eu heisiau iddyn nhw.'

Ond y cadeirydd, y Farwnes Hallett ei hun, a roddodd y gwirionedd i ni. Pan ofynnwyd iddi ar ddechrau'r ymchwiliad ynglŷn â lefel y craffu y gellid ei roi i faterion yn ymwneud â Chymru, fe ddywedodd yn glir nad yw'n gallu rhoi sylw i bob mater. Ond mae'n rhaid i ni geisio gwneud hynny.

Nawr, er fy mod i'n dal o'r farn fod angen ymchwiliad Cymreig, mae cynnig heddiw yn argymell dewis arall pragmatig. Mae rhai wedi awgrymu y gallai pwyllgor o'r Senedd hon gynnal ymchwiliad Cymreig llawn—mae gennyf rai pryderon ynghylch capasiti ar gyfer hynny—ond mae'r cynnig hwn yn egluro'r hyn y gellid ei wneud. Os na all ymchwiliad y DU gynnwys yr holl faterion, gadewch inni wneud dadansoddiad o'r bwlch, os mynnwch; nodi'r hyn nad yw'n cael y craffu sydd ei angen, a chanolbwyntio wedyn ar chwilio am atebion i'r materion hynny. Pa wrthwynebiad posibl a allai fod gan y Llywodraeth ac Aelodau Llafur i hynny? Maent yn dweud wrthym eu bod yn cytuno â'r angen am atebion, fod angen inni ddysgu gwersi. Wel, dyma ffordd o'i wneud yn drawsbleidiol, gan ddefnyddio'r adnoddau seneddol sydd ar gael i ni fel Senedd.

Fe wyddom beth yw rhai o'r bylchau. Gallwn ddechrau ar y gwaith yn barod. Mae rhai o'r elfennau sy'n ymwneud â Chymru heb eu cynnwys yng nghwmpas ymchwiliad y DU. Ni wnaeth Llywodraeth Cymru herio'r ffaith nad oedd unrhyw elfen Gymreig i'r gwrandawiad rhagarweiniol ar fodiwl 1 ar barodrwydd ar gyfer y pandemig. Wrth edrych ar yr amserlen, mae'n amlwg na fydd amser—

17:50

A sôn am amser, bydd yn rhaid i chi ddod â'ch sylwadau i ben yma. Yr amser a ddyrannwyd ar gyfer cyflwyno'r ddadl hon, gan y Ceidwadwyr a chi eich hunain, yw 30 munud, ac felly—[Torri ar draws.] Rydych wedi cyfyngu eich hunain yn yr amser a ddyrannwyd gennych ar gyfer y ddadl hon, ac rydych wedi eich cyfyngu eich hun hefyd, Rhun. Felly, dewch â'ch sylwadau i ben.

Yn syml iawn, mae angen craffu ar benderfyniadau sy'n cael eu gwneud yng Nghymru yng Nghymru, a gofynnwn i bawb gefnogi'r cynnig hwn heddiw fel ffordd o sicrhau hynny. Diolch.

Er i Lywodraeth y DU gyhoeddi ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r ffordd yr ymdriniodd â'r pandemig COVID-19 yn y DU ym mis Mai 2021, a dri mis yn ddiweddarach, fod Prif Weinidog yr Alban wedi cyhoeddi y dylid creu ymchwiliad sy'n canolbwyntio ar yr Alban i effaith penderfyniadau Llywodraeth yr Alban ar sut yr ymdriniwyd â'r pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ein ceisiadau dro ar ôl tro am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r modd yr ymdriniwyd â'r pandemig yng Nghymru. Fel y dywedodd un etholwr wrthyf,

'Collais fy nhad i COVID-19 ym mis Tachwedd 2021. Cafodd ei ryddhau o'r ysbyty i fy ngofal tua phedair awr cyn marw gartref. Rwyf wedi fy syfrdanu bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod eu hymchwiliad eu hunain i'r ffordd yr ymdriniodd â'r pandemig.'

Ar ôl torri ei glun ym mis Tachwedd 2020, cafodd etholwr arall, Mr John Evans, ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Maelor Wrecsam, lle daliodd COVID ar ôl cael ei roi mewn ward wrth ymyl claf a oedd yn peswch yn barhaus. Bu farw ym mis Mehefin eleni yn dilyn niwed a achoswyd gan COVID hir i goesyn ei ymennydd, ei asgwrn cefn, y galon a'r ysgyfaint a'r anaf gwreiddiol i'w glun a'i goes. Fel y dywedodd ei weddw, Mrs Kathleen Evans, 

'Mae angen ymchwiliad yng Nghymru i weld pam, pam, pam fod cymaint o bobl wedi marw yn ysbytai Cymru—pobl fel John, a ddilynodd ganllawiau Mr Drakeford a Llywodraeth Cymru ac a gafodd gam er iddynt wneud popeth yn gywir.'

Cyn hir, bydd y grŵp trawsbleidiol ar ofal hosbis a gofal lliniarol yn lansio'r adroddiad ar ein hymchwiliad i brofiadau o ofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y gymuned yn ystod y pandemig COVID-19. Fe gawsom dystiolaeth yn dangos, er enghraifft, fod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru yn fwy tebygol o brofi prinder meddyginiaeth a phrinder staff o'i gymharu ag ardaloedd eraill yn y DU. 

Ar 28 Ebrill 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai profion COVID yn cael eu cynnig i holl staff a phreswylwyr cartrefi gofal yn Lloegr. Yng Nghymru, dywedodd y Prif Weinidog nad oedd yn gweld unrhyw werth mewn darparu profion i bawb mewn cartrefi gofal ar y pryd. Roedd honno'n foment allweddol i Mr a Mrs Hough, a oedd yn rhedeg cartref gofal nyrsio Gwastad Hall yn sir y Fflint. Ni chyflwynodd Llywodraeth Cymru brofion i bawb o staff a phreswylwyr cartrefi gofal tan 16 Mai 2020. Bum diwrnod yn ddiweddarach, fe laddodd Mr Hough ei hun. Roedd 12 o'u preswylwyr wedi marw yn ystod misoedd cyntaf y pandemig. Gofynnais i'r Prif Weinidog wedi hynny sut y gallai gyfiawnhau'r ffaith ei fod yn parhau i wrthod yr alwad gan weithwyr cartrefi gofal am ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru.

Felly, mae ein galwad heddiw am sefydlu pwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru yn gyfle i Lywodraeth Cymru ddangos nad ydynt yn ofni atebolrwydd i bobl yng Nghymru.

Rwy'n cofio eistedd yn swyddfa'r arweinydd yng Nghyngor Sir y Fflint ym mis Mawrth 2020 yn ystyried sut y gallem anfon pawb i weithio gartref a chadw gwasanaethau rheng flaen i redeg. Roeddem wedi ein syfrdanu ac roedd yn frawychus i'n gweithlu. Ar y dechrau, treuliais amser yn casglu cyfarpar diogelwch personol o unrhyw fath gan grwpiau chwarae, ysgolion, busnesau a gwirfoddolwyr a oedd wedi bod yn argraffu masgiau wyneb 3D. Roedd cartrefi gofal sir y Fflint a staff gofal cartref yn daer am gael unrhyw fath o gyfarpar diogelwch personol. Nid oedd cyfarpar diogelwch personol a archebwyd ganddynt yn cael ei gyflenwi, a chefais wybod bod Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn dargyfeirio'r holl gyfarpar diogelwch personol i'w mannau casglu hwy ac y byddent yn cael eu dosbarthu i Gymru wedyn. Fe gysylltais ag Airbus, oherwydd fe wyddwn fod awyren yn llawn o gyfarpar diogelwch personol yn dod i mewn, a chefais wybod wedyn fod y cyfan yn mynd i Lywodraeth y DU i gael ei ddosbarthu wedyn a bu'n rhaid inni aros.

Cafodd monitro ac olrhain yng Nghymru ei wneud drwy lywodraeth leol, sef yr arbenigwyr a oedd wedi arfer mynd i'r afael ag achosion o feirysau a chlefydau. Fe'i darparwyd ar ran fach iawn o gost y gwasanaeth yn Lloegr, a wnaed drwy gwmnïau preifat gan gostio biliynau, gyda lefelau llwyddiant gwael iawn. Rwy'n credu bod cyfradd llwyddiant Cymru yn 90 y cant drwy'r awdurdodau lleol, ond yn Lloegr, roedd yn 65 y cant ar gyfartaledd. Roedd yna waith partneriaeth gwych rhwng Llywodraeth Cymru ac arweinwyr awdurdodau lleol a phrif weithredwyr, gydag ymgysylltu wythnosol.

Gwastraffodd Trysorlys y DU £8.7 biliwn o arian cyhoeddus ar gyfarpar diogelwch personol na allai ei ddefnyddio; bron cymaint â holl wariant blynyddol GIG Cymru. Cafodd £4.3 biliwn arall o arian ei ddwyn drwy dwyll o gynlluniau cymorth COVID-19 a chafodd ei ddiystyru'n ddidaro. Cafodd llawer o'r cyfarpar diogelwch personol anaddas na ellid ei ddefnyddio ei gyflenwi gan gwmnïau a gafodd eu gosod ar lwybr cyflym gan ASau a Gweinidogion Torïaidd i gael contractau nad oeddent yn addas i'w cyflenwi, a gwelodd rhai o'r cwmnïau hyn eu helw'n tyfu fesul biliynau o bunnoedd. Rwy'n dweud hyn oherwydd gallai'r arian hwn fod wedi cael ei ddefnyddio bellach i dalu am gyflogau nyrsys, ar gyfer recriwtio gweithwyr gofal cymdeithasol, i lenwi'r twll du a achoswyd gan gostau ynni a chwyddiant cynyddol. [Torri ar draws.] Mae'n bwysig, oherwydd mae'n bwysig nawr i'r hyn y gallwn ei ddarparu i bobl sy'n sâl nawr.

Drwy gael ymchwiliad ledled y DU, fe fydd yn fwy cyflawn. Bydd gan Lywodraeth y DU bwerau ac adnoddau i allu cynnull yr holl wybodaeth angenrheidiol—[Torri ar draws.] Dim ond tri munud sydd gennyf—a'r pwerau sydd eu hangen i'w harchwilio. Mae Llywodraeth Cymru'n datgelu cannoedd o filoedd o ddogfennau i'r ymchwiliad ac rwyf am wybod pam yr effeithiwyd yn waeth ar rai carfanau: cymunedau BAME, pobl a oedd yn byw mewn ardaloedd difreintiedig. Fe wnaeth fy merch ddal COVID pan oedd hi 12 wythnos yn feichiog a datblygu cyflwr ar ei chalon wedyn a wnaeth iddi lewygu. Roeddwn eisiau gwybod a oedd hynny oherwydd ei bod yn feichiog neu oherwydd COVID; nid ydym yn gwybod o hyd. Ond wedi i adroddiad ymchwiliad y DU gael ei gyhoeddi, dylai'r Senedd allu ei ddadansoddi a dylid rhoi ystyriaeth bellach i sefydlu pwyllgor Senedd i gynnal ei ymchwiliad ei hun yn y meysydd sy'n galw am graffu pellach. Diolch.

17:55

Diar annwyl. Sôn am fod allan o gysylltiad.

Rydym wedi clywed dro ar ôl tro yn y Siambr hon am yr angen i ehangu'r Senedd i hyrwyddo craffu ar Lywodraeth Cymru, ond pan ddaw'n fater o hyrwyddo craffu nawr, mae Llywodraeth Cymru yn osgoi ac yn dweud eu bod wedi symud ymlaen. Ond nid yw pobl Cymru, anwyliaid sy'n galaru am ddioddefwyr COVID, y plant a gollodd addysg werthfawr, a'r rhai a gafodd bryderon ariannol a phroblemau cyflogaeth wedi symud ymlaen.

Mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cynnal ymchwiliad yn dangos nad craffu yw ei blaenoriaeth, ond ehangu ei phŵer ei hun dros bobl Cymru. Collodd pobl eu rhyddid yn ystod COVID ac fe wnaeth pobl aberthu, a lle'r Llywodraeth yw caniatáu i'w gweithredoedd a pham y gwnaeth y penderfyniadau a wnaeth ddod yn hysbys i bobl Cymru. Ni all y Prif Weinidog ei chael hi'r ddwy ffordd, drwy gael cyfrifoldeb llawn dros reoliadau COVID yng Nghymru a chuddio wedyn o dan yr ymchwiliad ar gyfer y DU. Rhaid iddo roi'r gorau i guddio a chymryd cyfrifoldeb a dangos arweiniad go iawn.

Mae'r Ceidwadwyr, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn aml yn anghytuno yn y Siambr hon ynglŷn â'r materion mwyaf dybryd sy'n wynebu Cymru heddiw, ond mae'r ffaith ein bod yn dod at ein gilydd ar y mater hwn yn dangos ei fod yn mynd tu hwnt i wleidyddiaeth ac ideoleg plaid, a'i fod yn ymwneud â gwneud y peth iawn i bobl Cymru. Felly, rwy'n annog Aelodau Llafur i edrych y tu hwnt i wleidyddiaeth plaid, neu bydd hanes yn edrych ar y lle hwn gyda dirmyg ynghylch y modd y mae'n osgoi caniatáu i Aelodau etholedig ddeall proses wneud penderfyniadau Llywodraeth Cymru. Diolch.

Mae'r mater hwn yn cymell cymaint o emosiynau, onid yw? Mae llawer ohonom yn adnabod pobl yr effeithiwyd arnynt, mae llawer ohonom wedi cyfarfod â phobl yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn cofio bod hyn yn dal i fod yno i lawer o'r teuluoedd sy'n dal i fyw gyda'r golled a'r boen. Ac nid wyf yn dweud y bydd y cynnig hwn nac ymchwiliad yn Llundain yn cael gwared ar hynny mewn gwirionedd, oherwydd ni fydd yn gwneud hynny, ond fe fydd—ac rydym yn gwybod ac rydym wedi clywed—yn helpu pobl i symud ymlaen rhyw ychydig.

Nawr yng Nghymru, fe wnaethom bethau mewn ffordd wahanol. Fe wnaethom rai pethau da. Soniodd Carolyn am rai pethau da, ac rwy'n canmol y Prif Weinidog am lawer o'r penderfyniadau a wnaed yma yng Nghymru, ac mewn gwirionedd, roedd yn ein gosod ar wahân fel cenedl, wrth inni wneud penderfyniadau a oedd er lles y bobl. Felly, er fy mod yn cefnogi'r cynnig hwn, rwy'n anghytuno â rhai o'r teimladau yma. Nid wyf yn credu eich bod yn cuddio rhag unrhyw beth o gwbl, Brif Weinidog; rydych chi yma ac rydych chi'n mynd i siarad ar hyn. Ond hoffwn apelio arnoch chi i ailfeddwl.

Dyna a ddigwyddodd i mi. Ar ddechrau'r drafodaeth hon, tua blwyddyn yn ôl, roeddwn i'n gwrthwynebu ymchwiliad penodol i Gymru, ac yna cyfarfûm ag Anna-Louise Marsh-Rees a gollodd ei thad ac mae hi wedi sefydlu Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru. Fe'm perswadiodd ei bod hi a'i grŵp eisiau ymchwiliad penodol i Gymru, ac fe newidiais fy meddwl. Felly, rwy'n apelio arnoch chi heno, ac ar fy nghyd-Aelodau Llafur, i feddwl eto a newid eich meddyliau. Diolch yn fawr iawn.

18:00

Hoffwn bwysleisio ar y dechrau, er ein bod yn cyd-gyflwyno, rwy'n credu ein bod yn dod at hyn o safbwyntiau gwahanol, ac i mi, rwy'n cefnogi'r hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth am ymchwiliad annibynnol yng Nghymru. Rwy'n credu bod yr Alban yn dangos y ffordd o ran yr hyn sydd angen inni allu ei graffu, oherwydd mae effaith COVID yn dal i'w theimlo ym mywydau pawb ohonom nawr. Ydy, mae'n ymwneud â chyfiawnder i'r rhai a gollodd anwyliaid, ond mae hefyd yn ymwneud â'r heriau i'r gweithlu, y ffaith ein bod bellach yn gweld y GIG ar ei liniau, ein bod yn gweld yr effaith iechyd meddwl ar bobl ifanc yn parhau nawr, a hyn oll oherwydd COVID. Mae'r Alban yn edrych ar bob elfen ac yn dysgu gwersi—dysgu gwersi fel ein bod mewn sefyllfa i allu ymdopi gystal ag y gallwn pan fyddwn yn y sefyllfa hon eto, oherwydd fe wyddom fod pandemigau'n mynd i ddigwydd yn amlach gydag effaith newid hinsawdd.

Nid oedd yr un ohonom yn genfigennus o rôl y Prif Weinidog. Yn sicr, nid oeddwn yn y Siambr pan darodd COVID, ac rwy'n cofio gwylio'r newyddion a meddwl pa mor anodd oedd hi i Lywodraeth Cymru. Nid mater o daflu bai yw hyn. Mae ymchwiliadau hefyd yn ymwneud â dysgu am yr hyn a wnaethom yn iawn a sicrhau bod y gwersi hynny hefyd yn rhan o hyn, oherwydd roedd rhai penderfyniadau yn rhai cywir ac fe wnaethant wahaniaeth a olygodd fod rhai pobl yn dal yn fyw heddiw, ac ni fyddent wedi bod yn fyw pe na bai'r penderfyniadau hynny wedi'u gwneud. Ond sut mae dysgu'r gwersi heb ymchwiliad?

Hoffwn ofyn: os nad ydym yn fodlon cael ymchwiliad annibynnol mewn perthynas â COVID-19 a'r heriau mwyaf y mae unrhyw Lywodraeth yn y Senedd hon wedi'u hwynebu ers ein sefydlu, ym mha amgylchiadau y gwelwn ni fyth ymchwiliad annibynnol gan Lywodraeth Cymru? Yn sicr, i mi, mae'n ymwneud â'r ffaith mai Canol De Cymru a welodd y gyfran uchaf o farwolaethau, ac fe wyddom fod effaith barhaus afiechyd yn dal i'w theimlo'n fawr.

O'r geiriau—. Nid yw Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru yn arddel safbwynt plaid wleidyddol; dyma eu profiadau bywyd. Maent wedi rhannu straeon dirdynnol gyda phob un ohonom, ac nid oes neb ohonynt—neb ohonynt—yn ceisio codi cywilydd ar y Llywodraeth. Maent ond eisiau gwybod: a allai unrhyw beth fod wedi newid pethau i fy mherthynas? A allai unrhyw beth fod wedi bod yn wahanol? I Catherine, a rannodd gyda mi ar Twitter:

'Bu farw fy nhad mewn cartref gofal...bydd ffarwelio gydag ef drwy ffenest ac yntau'n estyn ei freichiau ataf i'w helpu yn aros gyda fi am byth',

er mwyn rhywun annwyl i mi a fu farw o ganlyniad i ddal COVID yn yr ysbyty a phawb arall sydd wedi colli anwyliaid yn yr un modd, rhaid dysgu gwersi drwy gael ymchwiliad COVID i Gymru'n unig er mwyn ceisio sicrhau bod y gwersi hynny'n cael eu dysgu ac na fydd sefyllfaoedd tebyg yn digwydd eto. Rydym angen craffu yma yng Nghymru ar benderfyniadau a wnaed yng Nghymru. Mae angen ymchwiliad annibynnol. Cyfaddawd yw hwn, ond mae ei angen yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Lywydd. Cyffyrddodd y pandemig â bywydau pawb yng Nghymru, ond neb yn fwy na'r nifer o deuluoedd a gollodd anwyliaid oherwydd y feirws ofnadwy hwn. Mae'n gwbl angenrheidiol, am y rhesymau a nodwyd gan Jane Dodds ac eraill, fod y cwestiynau sydd gan y teuluoedd hynny'n cael eu craffu a'u hateb yn briodol. Ond rwy'n parhau i gredu mai'r ffordd orau o wneud hynny—yn wir, yr unig ffordd y gellir gwneud hynny'n llawn—yw drwy ymchwiliad COVID-19 ar gyfer y DU.

Dyna'r corff a fydd yn gallu craffu ar y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru a chyrff Cymreig eraill, a gâi eu llywio gan y berthynas rhwng penderfyniadau a wnaed yng Nghymru ac yn Whitehall, y cyngor gwyddonol a gafwyd, nid yn unig yng Nghymru, ond ar lefel y DU, y ffrydiau ariannu a oedd yn aml yn gymhleth ac a siapiodd y penderfyniadau a wnaed, penderfyniadau ynghylch caffael, penderfyniadau ynghylch canllawiau, y llu o faterion a oedd yn croesi'r ffin rhwng Cymru a'r Deyrnas Unedig bob dydd ac na fydd unrhyw beth heblaw ymchwiliad ar draws y DU yn gallu craffu arno, ac na fydd unrhyw beth ond ymchwiliad ar gyfer y DU yn gallu rhoi atebion i'r cwestiynau y mae pobl, gan gynnwys y teuluoedd hynny, eu hangen yn briodol iawn ac yn haeddu cael ateb iddynt.

A'r rheswm pam y gall ymchwiliad ar gyfer y DU edrych yn fforensig ar y penderfyniadau a gafodd eu gwneud yng Nghymru yw oherwydd y ffordd rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU i wneud yn siŵr y bydd cylch gorchwyl yr ymchwiliad hwnnw'n darparu—[Torri ar draws.] Na, nid wyf yn derbyn unrhyw ymyriadau. Y rheswm pam y gall ymchwiliad ar gyfer y DU wneud y gwaith yn y ffordd y bydd yn gallu ei wneud yw oherwydd y cytundeb rhyngom a Llywodraeth y DU y dywedodd y Prif Weinidog ar y pryd, Boris Johnson, y byddai'n gwarantu y byddai gan ymchwiliad y DU ddimensiwn Cymreig sylweddol i bopeth a wnâi. Ac rwy'n credu bod y ffordd y mae ymchwiliad y DU yn gwneud ei waith eisoes yn dangos yr ymrwymiad hwnnw: y ffordd y mae'n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg; y lle cyntaf yr ymwelodd y Farwnes Hallett ag ef oedd dod yma i Gymru, ac mae hi ei hun wedi cyfarfod ag aelodau o'r grŵp Covid-19 Bereaved Families for Justice yma yng Nghymru.

Ac mae gwaith yr ymchwiliad hwnnw eisoes wedi dechrau. Rydym ni yn Llywodraeth Cymru eisoes yn cael cyfres o geisiadau cymhleth am wybodaeth ac am ddatganiadau, a byddwn yn darparu'r cyfan, ac rydym eisoes yn y broses o ddethol a rhannu'r deunydd perthnasol o'r bron i 10 miliwn o ddogfennau y nodwyd gennym eu bod ym meddiant Llywodraeth Cymru yn unig sy'n ymwneud â dwy flynedd y pandemig. Bydd ein hymatebion a'n datganiadau yn helpu'r ymchwiliad i wneud yr ymholiadau y mae wedi ymrwymo i'w gwneud am y ffordd yr ymdriniwyd â'r pandemig yma yng Nghymru.

Lywydd, gadewch imi fynd i'r afael â chynnig heddiw yn uniongyrchol. Mae'n awgrymu y dylai un o bwyllgorau'r Senedd ystyried agweddau ar brofiad COVID yng Nghymru na fyddai efallai'n cael digon o sylw gan ymchwiliad Hallett, a gadewch imi fod yn glir, os yw'r pryder hwnnw'n cael ei wireddu, mae argymhelliad canolog y cynnig, pwyllgor diben arbennig, yn un y gall ac y bydd y Llywodraeth yn ei gefnogi. Roeddwn wedi gobeithio gosod gwelliant y prynhawn yma a fyddai wedi caniatáu i'r Senedd ganolbwyntio ar sut a phryd y byddai modd nodi unrhyw gwestiynau heb eu hateb neu feysydd lle na chafwyd craffu cyflawn fel y gallai gwaith pwyllgor diben arbennig ganolbwyntio ar hynny, ar y bylchau hynny. Nawr, fe fyddaf yn meddwl yn ofalus am y pwyntiau a glywais yn y ddadl heddiw, Lywydd, ond y dull mwyaf syml fyddai cael adroddiad Hallett, a gweld os a phryd a ble y daw unrhyw fylchau i'r amlwg, a chaniatáu i bwyllgor diben arbennig gyflawni'r cylch gwaith a awgrymir, sef llenwi unrhyw fylchau os nad yw ymchwiliad y DU yn gallu eu hateb ar gyfer Cymru.

Nawr, yn anffodus, nid ydym wedi gallu dadlau ynghylch y ffordd honno o fwrw yn ein blaenau y prynhawn yma, ac am y rhesymau hynny, bydd rhaid i ochr y Llywodraeth bleidleisio yn erbyn y cynnig presennol. Fodd bynnag, byddwn yn gwneud hynny er mwyn cyflwyno ein cynnig ein hunain ar gyfer dadl yn amser y Llywodraeth. Bydd y cynnig hwnnw'n derbyn yr achos dros bwyllgor diben arbennig ar y sail a nodais y prynhawn yma, a bydd yn caniatáu i'r Senedd roi ei hystyriaeth lawn i'n cynigion. 

18:10

Diolch, Lywydd, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Cyflwynwyd dadl nid oherwydd nad oes gennym ffydd yn ymchwiliad y DU—nid yw hynny'n wir—ac mae hynny wedi cael ei adleisio gan lawer o siaradwyr heddiw, fod ymchwiliad y DU yn gyfrwng pwysig inni ddeall sut y gwnaed penderfyniadau, i brofi'r penderfyniadau hynny a dod i gasgliad ynghylch canlyniadau'r penderfyniadau hynny.

Ac ar y pwynt hwnnw, rwy'n cytuno â Phrif Weinidog Cymru fod ymchwiliad y DU yn gyfrwng pwysig y mae angen i Lywodraeth Cymru, ac eraill yng Nghymru yn wir, gymryd rhan ynddo. Ond fel y mae Llywodraeth yr Alban wedi dangos, mae'n bosibl cynnal ymchwiliad penodol i'r Alban ochr yn ochr ag ymchwiliad ledled y DU i fynd at wraidd hyn, sef bod pethau wedi eu gwneud yn wahanol yng Nghymru, fel y cawsant eu gwneud yn yr Alban.

Fel y pwysleisiodd siaradwr ar ôl siaradwr, rydym angen llwybr ymchwilio ar wahân, ac yn yr achos hwn, mae'r cynnig yn gofyn am ganiatâd i Senedd Cymru ffurfio'r cyfrwng diben arbennig hwnnw. Dyna y dylem ei wneud fel seneddwyr: edrych ar y penderfyniadau mwyaf arwyddocaol a wnaed erioed gan Lywodraeth Cymru a chymdeithas ddinesig yng Nghymru, fel y mae siaradwyr eraill wedi nodi. 

Nid oes a wnelo hyn â gwyro oddi wrth Lywodraeth y DU a rhai o'r penderfyniadau a wnaethant hwy, fel y nododd yr Aelod dros Ogledd Cymru ar y meinciau Llafur; mae angen dwyn Llywodraeth y DU i gyfrif, ac yn y pen draw mae angen edrych ar benderfyniadau a oedd yn dda ac yn ddrwg, yn gwbl briodol felly. Ond fel y clywsom gan gadeirydd yr ymchwiliad ar draws y DU, ceir meysydd o'r ymchwiliad na fyddant yn gallu edrych arnynt mor fanwl ag y byddent yn ei hoffi mewn perthynas â phenderfyniadau Cymreig.

Pan edrychwch ar y strwythurau yma yng Nghymru, mae llywodraeth leol yn hollol wahanol i lywodraeth leol yn Lloegr. Mae gennym awdurdodau unedol ar draws Cymru gyfan. Roeddent yn bartneriaid pwysig ar gyfer cyflawni rhai o benderfyniadau Llywodraeth Cymru a'r mesurau cymorth a gafodd eu rhoi ar waith ym maes gofal cymdeithasol, er enghraifft, ac ym myd addysg. Mae'r gwasanaeth iechyd wedi'i strwythuro yn wahanol iawn yng Nghymru i'r modd y mae wedi'i strwythuro yn Lloegr, oherwydd penderfyniadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud. 

Mae'r rheini'n safbwyntiau unigryw a wneir yma yng Nghymru ac mae angen gwneud penderfyniad yng Nghymru i edrych arnynt, ac mae angen gwneud y penderfyniad hwnnw yma heno, i'w gwneud hi'n bosibl y y pen draw i ffurfio pwyllgor gan Senedd Cymru. Os na allwn ni fel seneddwyr ffurfio pwyllgor i edrych ar y materion hyn a chyflwyno adroddiad yn amserol cyn etholiad 2026, beth yw pwynt cael Senedd Gymreig? Dyna'r cwestiwn sylfaenol yma. Os caiff hyn ei wrthod a bod y Llywodraeth yn defnyddio eu pleidleisiau Llywodraeth i wrthod hynny—. 

Ac rwy'n erfyn ar y meinciau cefn Llafur i ystyried hynny. Fel seneddwyr, gofynnir i chi wrthod y gallu i gael pwyllgor a fyddai dan reolaeth y Senedd, nid plaid wleidyddol, dan reolaeth y Senedd—[Torri ar draws.]—dan reolaeth y Senedd, nid gohirio—. [Torri ar draws.] Mae fy amser wedi dod i ben, mae'n ddrwg gennyf, Alun. Rwy'n hapus i dderbyn yr ymyriad, ond—[Anghlywadwy.]

Os derbyniwch yr ymyriad, fe wnaf ganiatáu mwy o amser i chi. 

Dyna ni. Rydych chi wedi clywed y Prif Weinidog yn ateb y ddadl y prynhawn yma, ac roeddwn i'n teimlo ei fod wedi gwneud cynnig hael iawn ynglŷn â gweithio fel Senedd gyda'n gilydd ar y materion hyn. Oni fyddai'n fuddiol i'r Senedd hon bellach pe bai'r gwrthbleidiau'n trafod rhai o'r cynigion y mae'r Prif Weinidog wedi'u gwneud heddiw gydag ef, yn hytrach na gwthio'r mater hwn y prynhawn yma? A Lywydd, rwy'n credu y byddai'r Aelodau ar bob ochr i'r Siambr hefyd eisiau gwybod pam nad yw'r Llywodraeth wedi gallu cyflwyno busnes. 

Rwy'n hapus i weithio gyda'r Llywodraeth i hwyluso hyn. Fy mhroblem i gyda'r cynnig a wnaeth y Prif Weinidog oedd nad yw am weld y pwyllgor hwnnw'n dechrau ar ei waith nes bod ymchwiliad y DU wedi cwblhau ei holl ffrydiau gwaith. Mae hynny gryn dipyn o amser i ffwrdd, ac rwy'n credu bod angen i'r Senedd hon sy'n cyfarfod yma heddiw—sydd â chof, cof corfforaethol, o'r penderfyniadau hynny a goblygiadau'r penderfyniadau hynny—allu ymgymryd â'i gwaith seneddol. Fel y pwysleisiodd Russell George, mae llawer o'r penderfyniadau hynny'n fyw yng nghof pobl. Mae'r wybodaeth honno ar gael yn rhwydd, a gallai treigl amser gymylu'r dyfroedd rhag gallu cyrraedd y casgliadau rydym am eu gweld ynghylch y da a'r drwg.

A dyna fy mhroblem i gyda'r cynnig y mae'r Prif Weinidog wedi'i roi gerbron y Senedd heddiw, sef ei fod yn gwneud iddi aros nes bod ymchwiliad y DU wedi gorffen ei waith yn ei gyfanrwydd. Felly, rwy'n mynd yn ôl at fainc gefn y Blaid Lafur gan obeithio y gallai rhywun ar y meinciau cefn Llafur ystyried y cynigion ar y papur trefn. Rwy'n amheus y bydd hynny'n digwydd, ond gallaf bob amser roi cynnig arni. Mae Duw'n caru rhywun sy'n rhoi cynnig arni, ac fel Ceidwadwr, ni allwch fy nghyhuddo o beidio â rhoi cynnig arni. Ond yn y pen draw, rydym yn Senedd. Ein gwaith ni yw craffu ar yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud ar gwestiynau mwyaf sylfaenol y dydd. Mae'n siŵr mai goblygiadau'r penderfyniadau a wnaed ar COVID-19 yw'r cwestiwn sylfaenol a fydd yn dominyddu'r meddwl wrth symud ymlaen i seneddwyr a chymdeithas ddinesig—ceisio deall beth a ddigwyddodd gyda'r penderfyniadau hynny, eu goblygiadau, a'r mesurau y mae angen inni eu rhoi ar waith yn y dyfodol. Dyna pam rwy'n erfyn ar yr Aelodau ar draws y Siambr i gefnogi'r cynnig hwn heddiw, oherwydd rwy'n credu y byddai'n gadarnhaol nid yn unig i bobl Cymru ond i statws Senedd Cymru.

18:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais ar hynna tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Busnesau bach

Dadl nesaf y Ceidwadwyr Cymreig yw'r un ar fusnesau bach. Dwi'n galw ar Paul Davies i wneud y cynnig yma.

Cynnig NDM8151 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y bydd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn cael ei gynnal ar 3 Rhagfyr 2022.

2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach yn ei wneud o ran cynnal economïau lleol, datblygu cymunedau a chreu swyddi.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ganddi i gefnogi busnesau bach yng Nghymru yn well.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o wneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, dydd Sadwrn nesaf yw Dydd Sadwrn y Busnesau Bach, ac mae'n rhoi pleser mawr i mi agor dadl ar bwysigrwydd busnesau bach i gymunedau Cymru a'r economi. Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach wedi bod wrthi ers deng mlynedd yn y DU bellach, ac mae'n dychwelyd gyda chenhadaeth—i gefnogi a dathlu 5.6 miliwn o fusnesau bach y DU, yn enwedig wrth iddynt wynebu heriau economaidd cynyddol y gaeaf hwn. Yn ôl mynegai busnesau bach Ffederasiwn y Busnesau Bach, mae bron i 35,000 o fusnesau bach yng Nghymru yn disgwyl lleihau, cau neu werthu eu busnes dros y misoedd nesaf. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r ymgyrch drwy ymweld â busnes bach neu hyrwyddo busnes bach yn eu hetholaeth neu ranbarth, er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o fanteision prynu'n lleol.

Mae'r cynnig heddiw yn cydnabod cyfraniad hanfodol busnesau bach yn cynnal economïau lleol, datblygu cymunedau a chreu swyddi. Yng Nghymru, busnesau bach yw 99.4 y cant o fusnesau, ac maent yn cyfrannu 62.4 y cant o gyflogaeth y sector preifat, a 37.9 y cant o'r trosiant. Ond maent yn gymaint mwy na mentrau bach. Maent yn elfennau hanfodol o'n cymunedau ac yn allweddol i'n cymdeithas hefyd. Mae adroddiad Ffederasiwn y Busnesau Bach, 'SMEs as the key to rebuilding Wales's economy and communities', yn ei gwneud yn glir, mewn cyfnod o argyfwng neu angen, fod busnesau bach yno ar flaen y gad yn eu cymunedau, yn sicrhau sgiliau, capasiti a galluoedd ar gyfer ysgwyddo heriau cymdeithasol. Ac mae hynny'n hollol iawn. Mae busnesau bach yn gyfryngau newid cymdeithasol, ac rydym yn gweld hynny ledled Cymru, lle mae busnesau'n gwneud pethau anhygoel i gefnogi prosiectau lleol ac achosion da.

Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraethau ar bob lefel yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi ein busnesau bach yn y ffordd orau a darparu'r amodau sydd eu hangen arnynt i'w helpu i ffynnu a thyfu. Rhaid i Lywodraeth Cymru edrych ar sut y gall leihau'r baich ardrethi busnes yma yng Nghymru, drwy fesurau fel adfer y gwyliau rhyddhad ardrethi 100 y cant, er enghraifft. Fe wyddom mai busnesau Cymru sy'n talu'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain, a bod ardrethi busnes yn un o'r prif gostau i fusnesau bach. Dyna pam y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw ei safbwynt ar ardrethi busnes yn un sy'n anflaengar, ond yn hytrach ei bod yn cefnogi dyhead a thwf busnes. Bydd yr ailbrisiad ardrethi annomestig nesaf yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023, yn seiliedig ar werthoedd eiddo ar 1 Ebrill 2021, sy'n golygu y dylai'r gwerthoedd ardrethol adlewyrchu effaith y pandemig COVID, yn ogystal â newidiadau yn y sylfaen drethi ers yr ailbrisiad diwethaf. Ac felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r cyfle hwn i roi ystyriaeth ddifrifol i'r anawsterau y mae'r system ardrethi'n eu creu i fusnesau bach, a manteisio ar y cyfle i wneud newid cadarnhaol.

Wrth gwrs, mae pwysau costau byw'n taro busnesau bach yn galed, ac rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi darparu peth cymorth i helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru i ail-lansio, datblygu, datgarboneiddio a thyfu, er mwyn helpu i sbarduno adferiad economaidd. Mae'r cymorth hwnnw i'w groesawu wrth gwrs, ond mae busnesau'n dweud wrthym eu bod angen mwy o gymorth. Roedd adroddiad diweddar y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig ar bwysau costau byw yn ei gwneud hi'n glir iawn fod angen i Lywodraeth Cymru ymyrryd yn ariannol i helpu busnesau i oroesi'r pwysau costau byw presennol er mwyn gwarchod swyddi o ansawdd uchel. Gallai hyn naill ai fod ar ffurf grantiau i'r busnesau yr effeithir arnynt waethaf, neu'n wir fel benthyciadau cost isel i gefnogi prosiectau effeithlonrwydd a chynaliadwyedd. Ac felly, wrth ymateb i'r ddadl hon, efallai y gwnaiff y Dirprwy Weinidog ddweud mwy wrthym am y camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad hwnnw.

Lywydd, mae busnesau bach eisoes yn nodi cost gynyddol prinder llafur a sgiliau, a rhaid i Lywodraeth Cymru feddwl yn arloesol am y ffordd orau o fynd i'r afael â hyn. Mae'n hanfodol fod cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a llunwyr polisi i gyd yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod y system sgiliau yn darparu ar gyfer unigolion, busnesau ac economi Cymru. Rwy'n mawr obeithio bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu sgiliau fel maes sy'n galw am lawer mwy o amser a sylw wrth symud ymlaen. Busnesau bach Cymru yw anadl einioes ein gwlad, wrth iddynt arddangos y pethau gorau yn ein gwlad, ein harloesedd, ein cydlyniant cymunedol a'n pobl, ac felly y Dydd Sadwrn Busnesau Bach hwn, rwy'n gobeithio y bydd yr holl Aelodau yn manteisio ar y cyfle i ddathlu ein busnesau bach a dangos eu cefnogaeth i'r ymgyrch hon.

Mae gwytnwch busnesau bach yn parhau i gael ei brofi, ac mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru'n gwneud beth bynnag y gall ei wneud i leihau'r baich a chefnogi ein busnesau bach a chanolig. Boed hynny'n gael paned mewn caffi lleol, prynu anrheg Nadolig cynnar o siop fach neu ymweld â'ch cigydd lleol, mae yna fusnes bach allan yno sydd angen ein cefnogaeth. Yn fy etholaeth i, mae ansawdd uchel y cynnyrch sy'n cael ei gynnig gan lawer o fusnesau'n parhau i wneud argraff fawr arnaf, ac rwy'n gwybod bod Aelodau sy'n cynrychioli ardaloedd ar draws Cymru'n teimlo yr un fath. Felly, y dydd Sadwrn hwn, gadewch i bawb ohonom ddyblu ein hymdrechion a hyrwyddo ein busnesau bach a chanolig drwy brynu a hyrwyddo busnesau lleol. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.

18:20

Wrth inni nesáu at Sadwrn y Busnesau Bach, mae'n rhaid inni gydnabod ein bod yng nghanol yr argyfwng costau byw gwaethaf ers 40 mlynedd. Bydd yr effaith ar ein busnesau bach yn ddifrifol. Dyma un o'r prif bryderon economaidd sy'n wynebu busnesau bach ar hyn o bryd, gydag 89 y cant o gwmnïau yn nodi costau uwch na blwyddyn yn ôl. Ni fydd gan fusnesau bach y cronfeydd wrth gefn sydd gan fusnesau mwy, ac yn aml byddant yn wynebau costau uwch oherwydd eu maint. Bydd yr effaith yn waeth ar economi Cymru wrth gymharu â mannau eraill, o ganlyniad i nifer cymharol uwch o fusnesau bach. Fodd bynnag, mae gennym gyfle unigryw yma i fynd i'r afael â'r argyfyngau costau byw ac hinsawdd ar yr un pryd a chreu economi i'r dyfodol. Mae busnesau bach yn awyddus i helpu. Maen nhw'n awyddus i helpu cyrraedd y targedau newid hinsawdd, ond roedd 76 y cant yn teimlo bod angen gwell cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer mentrau ynni gwyrdd, fel gosod paneli solar, yn ogystal â gwelliannau i strwythur a ffabrig adeiladau, yn enwedig yn y diwydiannau ynni dwys. Byddai hyn nid yn unig yn gostwng costau i fusnesau ac yn eu diogelu'n well rhag newidiadau yn y farchnad ynni, ond byddai'n helpu i gyflawni ein targedau sero net a symud i economi wyrddach.

Lywydd, ni fyddai unrhyw gyfraniad i ddadl ar fusnesau bach yn y cyfnod yn arwain at Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach yn gyflawn heb imi fanteisio ar y cyfle i dynnu sylw at rai o'r busnesau lleol gwych yn fy rhanbarth. Y llynedd, dywedais wrth yr Aelodau ble rwy'n cael torri fy ngwallt; wel, yn wahanol i'r llynedd, rwyf bellach yn cael torri fy ngwallt yn Dappa Chaps ym Mhencoed gan farbwr gwych o'r enw Fletch—dim perthynas o gwbl. Ond achos cryn falchder i Bencoed oedd bod Dappa Chaps, ynghyd â salon ewinedd Mia Bella, ill dau wedi ennill gwobrau yng ngwobrau'r diwydiant harddwch yng Nghymru. Llongyfarchiadau i'r ddau fusnes, wrth gwrs. [Torri ar draws.] Ewch amdani, Jack.

Nid wyf yn mynd i siarad am dorri gwallt nawr, ac nid wyf yn cael fy ewinedd wedi'u trin. Ond mae'n cynnwys mwy na salonau ewinedd neu farbwyr neu siopau trin gwallt yn unig, mae yna bethau fel siopau tatŵs, a gallaf ddweud wrthych fy mod wedi cael fy nhatŵ ar gyfer cwpan y byd yn stiwdio tatŵs Purple Moon yng Nghei Connah. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch y mathau hynny o fusnesau hefyd?

Wrth gwrs, rwy'n fwy na pharod i ymuno â chi i'w llongyfarch. Bydd yr Aelodau hefyd yn falch o glywed fy mod yn dal i fynd i'r Sandwich Co, busnes gwych arall ym Mhencoed, ac rwy'n dal i archebu'r Arnie sarnie. Rwy'n greadur sy'n gaeth i arfer wedi'r cyfan. Ond i'r rhai sy'n dymuno profi bwydlen ehangach ac sy'n gyffrous ar gyfer y Nadolig, rhowch gynnig ar y cracer Nadolig—twrci, stwffin, selsig, saws llugaeron, bacwn crensiog, ysgewyll wedi'u malu a'r opsiwn i ychwanegu moch mewn blancedi. #Dimproblem.  

Arferiad arall sydd gennyf, wrth imi gerdded i fy swyddfa o'r orsaf drenau, yw aros ym mecws Beat ar waelod Station Hill am un o'r coffis gorau ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Rwy'n siŵr y byddai'r Torïaid gyferbyn yn falch iawn o wybod eu bod yn gwneud eu cartref yn hen swyddfa Suzy Davies. Ni allaf ddweud beth oedd ansawdd y coffi yn swyddfa Suzy, ond byddwn yn mentro dweud bod y coffi wedi gwella'n sylweddol. Wrth gwrs, nid yw paned o goffi'n gyflawn heb doesen, ac mae Whocult yn dal i fod yn frenin y toesenni i mi. Ers imi sôn wrth yr Aelodau am Whocult ddiwethaf, maent wedi ehangu'n sylweddol ac yn mynd o nerth i nerth.

Yn olaf, Lywydd, wrth i ni anelu at y Nadolig, efallai y byddwch eisiau prynu anrheg i'r Dirprwy Lywydd. A gaf fi awgrymu y dylech edrych yn ei etholaeth a chael rhywbeth iddo o San Portablo, siop ddillad yng nghanolfan siopa Aberafan sy'n falch o fod ym Mhort Talbot? Busnesau bach yw ein cymunedau. Ie, cefnogwch hwy ar Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach, ond cefnogwch hwy drwy gydol y flwyddyn hefyd.

18:25

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu yn y ddadl hon ac i dynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol busnesau bach i'n heconomi a hefyd i'n cymunedau. Mewn byd sy'n symud yn gyflym lle bydd busnesau i gyd yn chwilio am y cyfleoedd gorau, mae gan gwmnïau mawr fantais o allu adleoli i ranbarthau eraill a hyd yn oed gwledydd eraill i fanteisio ar drethi is a chymhellion eraill pe baent yn dymuno gwneud hynny. Ar y llaw arall, mae busnesau bach wedi'u gwreiddio yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, a chlywais gan lawer o fy nghyd-Aelodau yma heddiw eu bod hwy'n gefnogol i hynny hefyd. I mi, maent yn rhan hanfodol o economi Cymru, gan ddarparu swyddi i dros 62 y cant o gyfanswm y gweithlu cyflogaeth menter yma.

Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn ymwneud â phwysleisio pwysigrwydd busnesau bach yn eu cymunedau ac annog mwy o bobl i siopa'n lleol. Ond cyn imi siarad am rai o'r problemau sy'n eu hwynebu, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ganmol dewrder y bobl sy'n cymryd risg ac yn penderfynu sefydlu eu busnes eu hunain yn y lle cyntaf, oherwydd yn sicr nid yw'n hawdd. Amser maith yn ôl, roeddwn i eisiau sefydlu fy musnes colur fy hun, ac roedd maint y buddsoddiad yn syfrdanol, a bu'n rhaid i mi roi'r gorau i'r syniad. Y diffiniad safonol o entrepreneur yw,

'unigolyn sy'n sefydlu busnes neu fusnesau, gan ysgwyddo risgiau ariannol yn y gobaith o wneud elw.'

Mae pobl sy'n cymryd risg yn y byd busnes yn cymryd risg gyda'u bywoliaeth, eu henw da, a hyd yn oed eu perthynas er mwyn cyflawni eu nod terfynol. O greu ap, i agor siop, i lansio brand newydd, y gwir amdani yw bod pob entrepreneur wedi cymryd risgiau enfawr wrth benderfynu sefydlu eu busnes eu hunain. I ddarpar ddynion a gwragedd busnes, mae'r syniad o fod yn fos arnoch chi eich hun yn y tymor hir yn gorbwyso'r risg bosibl o fethu. Mae entrepreneuriaid yn mentro'n ofalus bob dydd, ond mae'n bosibl nad oes yr un risg yn fwy na'r penderfyniad cychwynnol i ddechrau busnes yn y lle cyntaf. Credaf yn ddiffuant gyda fy holl enaid y dylai Llywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i gefnogi'r rheini sy'n cymryd risgiau ac annog busnesau bach i dyfu ac i ffynnu. Mae hynny'n golygu gweithredu ar ardrethi busnes. Ardrethi busnes, rhenti a chyflogau yw'r tri alldaliad mwyaf i unrhyw fusnes bach. Ar adeg pan fo busnesau bach yn wynebu cynnydd digynsail yn eu costau, fel y soniodd fy nghyd-Aelod Paul Davies, gan roi gwleidyddiaeth o'r neilltu, dylai Llywodraeth Cymru ddilyn arweiniad Llywodraeth y DU a darparu mwy o ryddhad ardrethi busnes. Byddai hyn yn rhoi cymorth amserol i ganiatáu i gwmnïau ganolbwyntio ar ehangu eu busnes a chyflogi staff newydd.

Lywydd, eleni yw degfed pen-blwydd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach. Mae'n gyfle gwych i dynnu sylw at y rôl hanfodol y mae busnesau bach yn ei chwarae yn eu cymunedau, ac wrth greu swyddi yn y bôn. Ond dylem hefyd gydnabod a chanmol dewrder a mentergarwch y rhai sy'n penderfynu sefydlu eu busnesau eu hunain, oherwydd hebddynt, byddem i gyd yn llawer tlotach. Diolch.

Mae cyfarfod â busnesau bach bob amser yn gymaint o anrhydedd, onid yw, fel cynrychiolydd. Yn sicr, wrth siarad â nifer y penwythnos diwethaf o gwmpas Pontypridd, mae'r heriau y maent yn eu hwynebu yn enfawr o ran y prisiau hynny, wrth iddynt ddal i adfer wedi COVID. Ond hefyd, oherwydd bod gan bobl lai o arian, mae yna lai o wario yn y siopau hynny, ac mae'n heriol tu hwnt. 

Her arall i ardaloedd fel Pontypridd—ac mae hyn yn wir i lawer iawn o gymunedau ledled Cymru—yw'r her os ydynt hefyd yn wynebu ofn yn sgil perygl llifogydd. Bydd nifer ohonoch yn cofio ym mis Chwefror 2020 y lluniau o ganol tref Pontypridd dan ddŵr, a llawer iawn o gymunedau eraill. Wrth gwrs, cafodd cartrefi eu difetha, ond i'r busnesau hynny mae'n hynod o heriol os nad yn amhosibl nawr i allu cael yswiriant. Os ydych mewn ardal sydd wedi cael ei heffeithio gan lifogydd a bod gennych chi dŷ, rydych chi'n gallu cael yswiriant drwy'r cynllun Flood Re, ond nid oes cynllun o'r fath yn bodoli ar gyfer busnesau. Felly, pan fyddwn yn ystyried yng ngoleuni'r argyfwng hinsawdd, ac o wybod bod dyfodol canol trefi fel Pontypridd yn mynd i fod dan fygythiad, hoffwn hefyd ofyn i'r Llywodraeth ystyried yr ysgogiadau i gefnogi busnesau bach yn well, yr hyn a wnawn i gefnogi'r busnesau hynny na all gael yswiriant ac os oes opsiwn i gael yswiriant, y busnesau bach sy'n methu fforddio yswiriant ar hyn o bryd, oherwydd mae hyn wedyn yn effeithio arnynt os aiff unrhyw beth o'i le gyda'u busnes o ran eu gwytnwch. [Torri ar draws.] Sam.

Diolch. Rwy'n ddiolchgar i chi am ildio. Heriais y Gweinidog newid hinsawdd ar yr union bwynt hwn, oherwydd ar y Cei yn fy etholaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, mae busnesau fel Quayside Orthodontics a Towy Works wedi dioddef llifogydd. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi y dylai busnesau gael eu trin yn gyfartal ag ardaloedd preswyl mewn perthynas â diogelu rhag llifogydd?

Yn sicr. Rwy'n cytuno'n llwyr. Wrth weld y busnesau hynny wedi'u dinistrio—. Dim ond newydd ailagor ei ddrysau mae Clwb y Bont. Gofynnwyd i mi, ar y diwrnod y cafodd ei agor, 'A yw Clwb y Bont yn ddiogel yn y dyfodol nawr?' Wel, na, nid yw'n ddiogel. Os oes llifogydd bach, ydy, oherwydd bod giatiau amddiffyn rhag llifogydd yno, wedi'u darparu drwy gyllid, ond ni fyddai wedi helpu pe baem wedi gweld faint o ddŵr a ddaeth yn ystod y noson dyngedfennol honno.

I lawer iawn o fusnesau, rwy'n credu eu bod yn dal i ddioddef trawma nawr o fod wedi profi llifogydd ac mewn rhai achosion, ar ôl dioddef llifogydd ar fwy nag un achlysur. Rwy'n meddwl bod Sioned Williams wedi sôn yn ddiweddar am ei rhanbarth, am yr enghraifft honno. Felly, rwy'n credu bod angen inni edrych, o ran gwytnwch; mae'n ymwneud â mwy na'r sefyllfa economaidd. Ond yn sgil yr argyfwng hinsawdd, mae angen inni wneud popeth posibl oherwydd busnesau bach a chanol ein trefi yw'r hyn sy'n creu cymunedau. Dyma lle daw pobl at ei gilydd, dyma lle gallwn gyfarfod, mwynhau a bod â rhan allweddol i'w chwarae mewn perthynas â'n hymateb i argyfwng hinsawdd. Felly, rwy'n hapus iawn i allu cefnogi hyn heddiw, ond hefyd i apelio arnoch hefyd i ystyried y busnesau sy'n wynebu perygl llifogydd yn gyson. Maent hwy angen ein cefnogaeth hefyd.

18:30

Mae busnesau i fyny ac i lawr yn fy etholaeth, ac maent yn chwarae rhan enfawr yn fy nghymuned. Hoffwn eu rhestru i gyd, fel y gwnaeth Luke Fletcher, ond ar ôl fy nghyfraniad y llynedd, cefais e-byst gan bobl a oedd yn eithaf gofidus na wneuthum sôn amdanynt hwy, felly rwy'n credu ei bod hi'n well imi beidio â gwneud hynny mae'n debyg. Ond hoffwn ddweud bod nifer o fusnesau, yn y gogledd a'r de, y dwyrain a'r gorllewin yn fy etholaeth, ac maent yn darparu gwasanaethau, maent yn creu swyddi, maent yn creu cyfoeth ac mewn sawl achos, hwy yw canolfannau cymdeithasol cymunedau. Mae nifer o fusnesau bach yn yr ardal sy'n gwneud hynny, a bûm yn ddigon ffodus i fynd i wobrau busnes Powys ym marics Aberhonddu yr wythnos o'r blaen, ac roedd yn wych gweld cynifer o fusnesau ar draws Powys sy'n gwneud gwaith hollol wych yn hyrwyddo Cymru ac yn hyrwyddo ein hardal. Ac mae'r rhain yn cael eu rhedeg gan bobl sy'n gweithio'n galed ac yn arllwys eu bywyd a'u henaid i'r busnesau hyn. Nid corfforaethau hynod gyfoethog ydynt ac nid oes ganddynt lawer iawn o arian y tu ôl iddynt, ond maent yn bobl sy'n gweithio'n galed ac sy'n darparu swyddi a gwasanaethau pwysig, a'r swyddi hynny i'r bobl leol hynny sy'n cefnogi ein teuluoedd lleol. Dyna pam ei bod hi'n hanfodol ac yn bwysig fod ein busnesau bach yn cael eu cefnogi, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru, ond Llywodraeth y DU hefyd, a phob Llywodraeth ar draws y wlad mewn byd mwyfwy ansicr oherwydd costau ynni cynyddol a chostau nwyddau.

Ond mae yna bethau pendant y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud ynghylch ardrethi busnes, a hoffwn weld ardrethi busnes yn cael eu gostwng yma yng Nghymru i wneud ein busnesau'n fwy cystadleuol, oherwydd mae llawer o fusnesau rwy'n siarad â hwy yn fy etholaeth yn dweud eu bod o dan anfantais uniongyrchol o gymharu â rhannau eraill o'r DU ac mae'n gyrru pobl o'r stryd fawr am na allant fforddio'r ardrethi sy'n rhaid iddynt eu talu. A hoffwn i Weinidogion Llywodraeth Cymru gydnabod y cyfoeth a gynhyrchir a'r swyddi sy'n cael eu creu gan y busnesau bach hyn, oherwydd hwy yw anadl einioes llawer o'n cymunedau. Heb y busnesau bach hyn ar ein stryd fawr, byddant yn darfod, ac rwy'n siŵr fod hynny'n rhywbeth nad yw'r Dirprwy Weinidog eisiau ei weld, mae hynny'n rhywbeth nad wyf fi eisiau ei weld, ac rwy'n siŵr nad oes neb ar draws y Siambr eisiau gweld ein strydoedd mawr yn dod yn ardaloedd lle nad oes neb yn mynd iddynt a'u bod yn mynd yn ddiffaith ac yn wag.

Ond rwyf am weld mwy o fusnesau; rwyf am weld mwy ohonynt yn cael eu sefydlu, mwy o gyfleoedd, mwy o grantiau, mwy o argaeledd, mwy o siopau'n dod ar-lein i bobl gael mynediad at y busnesau hyn. Oherwydd pan fydd busnes yn ffynnu, mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn ffynnu, oherwydd heb eu cymorth i gyfrannu at yr economi, ni allwn gael y gwasanaethau cyhoeddus hanfodol sydd eu hangen ar bawb. Felly, rwyf am annog pob Aelod yn y Siambr i fynd allan i gefnogi Dydd Sadwrn y Busnesau Bach a gwneud eich siopa yno—rhowch y gorau i Amazon ac ymunwch â'r stryd fawr.

Dwi'n galw nawr ar Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon i gyfrannu, Dawn Bowden.

Member
Dawn Bowden 18:34:14
Deputy Minister for Arts and Sport, and Chief Whip

Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr i nodi pwysigrwydd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ac i gydnabod y cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach yn ei wneud drwy gynnal economïau lleol, datblygu cymunedau a chreu swyddi. Ac fel y mae eraill wedi dweud eisoes, busnesau bach a chanolig yw anadl einioes economi Cymru a dyna yw dros 99 y cant o fusnesau Cymru, gan gyfrannu bron i 63 y cant o'r holl gyflogaeth.

Ac fe allem i gyd ddangos ein cefnogaeth i fusnesau lleol drwy brynu ganddynt, ac mae digwyddiadau fel Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn ein hatgoffa'n bwysig y gallwn gefnogi ein busnesau bach a chanolig yn uniongyrchol drwy siopa'n lleol a sicrhau bod cyfran o'n harian yn cael ei fuddsoddi'n syth yn ôl i mewn i'n heconomïau lleol. Mae hynny'n rhywbeth y bûm yn ei wneud yn fy etholaeth, fel y gwn fod Aelodau eraill wedi bod yn ei wneud, a byddaf yn tynnu sylw at hynny ac yn ei hyrwyddo y penwythnos hwn. Fel James, nid wyf am fentro rhestru'r holl fusnesau gwych yn fy etholaeth, heblaw am y siop trin gwallt o'r enw Hairport sydd wedi bod yn troi fy ngwallt yn borffor dros y misoedd diwethaf. Ond mae hyn hefyd yn cynnwys cefnogi ein busnesau cymdeithasol yng Nghymru sy'n ffurfio sector deinamig, amrywiol, ac sydd wedi dangos twf sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Ar hyn o bryd, mae 2,309 o fusnesau cymdeithasol wedi'u nodi yng Nghymru, sy'n cyflogi tua 59,000 o bobl, ac mae'n bwysig ein bod yn dysgu o werthoedd ac egwyddorion mentrau cymdeithasol a mentrau cydweithredol sydd wedi ein helpu drwy'r pandemig i adeiladu yfory tecach, gwyrddach a mwy llewyrchus, ac roedd hynny'n rhywbeth a nodwyd gan Cefin Campbell yn ei ddadl fer yr wythnos diwethaf.

Nawr, rwy'n falch o'n hanes o ddatblygu diwylliant entrepreneuraidd cryf, ac mae entrepreneuriaeth ac arloesedd yn allweddol i dyfu'r economi yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i feithrin ysbryd entrepreneuraidd yn ein perchnogion busnesau bach a chenedlaethau'r dyfodol, gan gefnogi cyflwyno technolegau arloesol, cynhyrchion a gwasanaethau newydd i helpu busnesau i barhau'n gystadleuol, creu swyddi, a manteisio ar gyfleoedd sy'n codi i dyfu eu busnesau. Drwy Busnes Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio'n weithredol ar ymgysylltu a chefnogi ein microfusnesau a'n busnesau bach a chanolig, yn enwedig y rhai sydd wedi'u gwreiddio yn eu cymunedau lleol ac sydd wedi buddsoddi yng Nghymru yn hirdymor. Dyna pam ein bod yn buddsoddi £20.9 miliwn rhwng 2023 a 2025 yn ein gwasanaeth Busnes Cymru, i barhau i sicrhau bod gan fusnesau fynediad at yr wybodaeth, y canllawiau a'r cymorth busnes sydd eu hangen arnynt i ddechrau, i dyfu ac i ffynnu. Bydd hyn yn adeiladu ar y llwyddiant a welsom hyd yma gyda gwasanaeth Busnes Cymru.

18:35

Rwy'n ddiolchgar i chi am gymryd yr ymyriad. Mae'n cael ei dderbyn o bob rhan o'r Siambr ein bod i gyd yn dathlu busnesau bach y dydd Sadwrn yma, ond yn anffodus, heddiw yn y newyddion—rwyf newydd ei ddarllen nawr—mae HSBC wedi cadarnhau eu bod yn cau 114 o fanciau. Os meddyliaf am fy nhref leol fy hun, sef y Bont-faen, mae un o'r canghennau yno. Ni fydd un gangen stryd fawr ar y stryd fawr nawr. A oes gennych chi farn ar y cyhoeddiad hwnnw, ac yn fwyaf arbennig, beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i geisio annog cyfleoedd bancio i gynifer o fusnesau bach allu cael mynediad atynt i wneud iawn am golli gwasanaeth?

Mae'n broblem real iawn, Andrew, ac rwy'n ei weld yn fy etholaeth fy hun. Nid oes unrhyw gangen stryd fawr yng nghwm Rhymni uchaf nawr, ac rydym bellach wedi gorfod dibynnu ar ganghennau symudol. Felly, mae Banc Lloyd's yn dod â changen symudol i Rhymni. Rwy'n credu mai'r ateb o bosibl yw edrych ar fodel mwy tebyg i hyb ar gyfer canghennau sy'n gallu symud o gwmpas, ond mae hynny'n rhywbeth y mae gwir angen inni ei drafod gyda changhennau, oherwydd mae cymaint o bobl heb fynediad at gyfleusterau bancio; nid yw pawb ohonynt yn defnyddio bancio ar y rhyngrwyd, felly mae'n rhaid inni ddod o hyd i ffordd o wneud hynny. Felly, mae'n ddrwg iawn gennyf glywed y cyhoeddiad hwnnw, ac mae angen inni geisio dod o hyd i atebion ar gyfer hynny.

Fodd bynnag, o'r £20.9 miliwn rydym yn ei fuddsoddi, mae hwnnw'n adeiladu ar lwyddiant Busnes Cymru a welsom hyd yma. Ers 2016, mae Busnes Cymru wedi cynghori dros 45,000 o entrepreneuriaid a busnesau unigol, gan helpu i sefydlu bron i 800 o fentrau newydd a chefnogi busnesau i greu 32,500 o swyddi newydd.  O ran gwerth am arian, rydym yn gwybod y gall pob £1 a fuddsoddwyd ym Musnes Cymru gael ei chysylltu ag isafswm o £10 a hyd at £18 o gynnydd gwerth ychwanegol gros net y flwyddyn. Ac mae gan y busnesau sydd wedi cael cefnogaeth gyfradd oroesi o 77 y cant dros bedair blynedd, o'i gymharu â'r cyfartaledd o 33 y cant i rai nad ydynt yn cael cymorth.

Nawr, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi busnesau bach gyda'i chynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach. Ac er ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi busnesau bach, mae'n hanfodol fod Llywodraeth y DU yn cadw ei hymrwymiad ac yn gweithio i ychwanegu gwerth i ymyriadau Llywodraeth Cymru ac i ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ganddi i gefnogi busnesau bach yn well yng Nghymru. Drwy'r genhadaeth economaidd, rydym yn cymryd camau beiddgar i gefnogi economïau lleol cryfach a'r gwaith allweddol o drechu tlodi. Ac rwy'n clywed yr hyn y mae Heledd Fychan wedi'i ddweud am lifogydd ac anallu busnesau lleol i gael yswiriant ar gyfer hynny, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddaf yn siarad â fy nghyd-Weinidogion, y Gweinidog Newid Hinsawdd a Gweinidog yr Economi yn ei gylch, er na allaf roi unrhyw sicrwydd ynghylch hynny heddiw wrth gwrs.

Ond rydym hefyd yn defnyddio ein hysgogiadau caffael i alluogi busnesau bach i elwa ar gyfleoedd caffael y sector cyhoeddus. Caiff gwerth biliynau o bunnoedd o gontractau eu hysbysebu drwy GwerthwchiGymru a thrwy gydweithredu â phrynwyr y sector cyhoeddus. Mae Busnes Cymru yn annog ein busnesau bach i ddatblygu eu galluoedd tendro er mwyn ennill mwy o fusnes. Drwy ymrwymiad ehangach i wella cadwyni cyflenwi, rydym yn cynorthwyo busnesau i gefnogi codau ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi, ac rydym wedi ymrwymo i fanteision ysgogiadau caffael ac yn rhoi partneriaeth gymdeithasol ar sail statudol drwy Fil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). 

Felly, mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn fenter wych i daflu goleuni ar bwysigrwydd cefnogi'r sectorau manwerthu a lletygarwch, sydd, wrth gwrs, yn rhannau allweddol o'r economi sylfaenol. Felly, rwy'n cefnogi'r cynnig sydd wedi'i wneud, a byddwn yn parhau i wneud popeth a allwn i gefnogi microfusnesau, a busnesau bach a chanolig yma yng Nghymru, a hoffwn annog pawb ledled Cymru i siopa'n lleol a chefnogi ein busnesau bach annibynnol, nid yn unig ar Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach ond drwy gydol y flwyddyn fel y gallwn gadw a thyfu cyfoeth lleol mewn cymunedau ledled Cymru. Diolch yn fawr. 

18:40

Rwy'n galw nawr ar Sam Rowlands i ymateb i'r ddadl. Sam Rowlands. 

Diolch, Lywydd, ac a gaf fi ddweud cymaint o bleser yw cau dadl heddiw ar fusnesau bach, cyn Dydd Sadwrn y Busnesau Bach, wrth gwrs, sy'n digwydd y penwythnos hwn, fel y clywsom? Fel yr amlinellodd Paul Davies wrth agor y ddadl heddiw, hon fydd y ddegfed flwyddyn lle byddwn yn nodi Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ac yn dathlu gyda'n cymheiriaid ar draws y Deyrnas Unedig y 5.6 miliwn o fusnesau bach, gyda'r gorau o'r rheini yma yng Nghymru wrth gwrs. Hoffwn ddiolch yn gyntaf i'r Aelodau o bob rhan o'r Siambr a'r rhaniad gwleidyddol am eu cyfraniadau heddiw, ynghyd â'r gefnogaeth drawsbleidiol i'r cynnig yma heddiw hefyd.

Wrth gloi'r ddadl heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar dair thema allweddol a gafodd sylw gan Aelodau ym mhob rhan o'r Siambr. Y pwynt cyntaf sydd wedi bod yn amlwg iawn yw pwysigrwydd busnesau bach i economi Cymru ac i'n cymunedau lleol, fel yr amlygwyd ym mhwynt 2 o'r cynnig heddiw. Ac fel y nododd Paul Davies yn ei gyfraniad wrth agor y ddadl heddiw, a'r Dirprwy Weinidog wrth gau yn gynharach hefyd, busnesau bach yw 99.4 y cant o'r holl fusnesau yng Nghymru, ac maent yn cyfrannu 62.4 y cant o gyflogaeth y sector preifat a 37.9 y cant o drosiant—rhan wirioneddol arwyddocaol o'n heconomi. Ac mae wedi bod yn glir drwy'r ddadl heddiw, nid yn unig eu bod yn chwarae'r rhan honno yn ein heconomi ond maent hefyd yn chwarae rhan bwysig yn ein cymunedau lleol. Ac mae'r Aelodau wedi tynnu sylw at y ffaith bod busnesau bach, mewn cyfnod o argyfwng neu mewn angen, yn aml ar flaen y gad yn ein cymunedau lleol ac yn mynd i'r afael â llawer o'r heriau cymdeithasol a welwn o'n cwmpas. Ac mae busnesau bach yn gwneud cymaint i ddangos y gorau yn ein cymunedau lleol. Rwyf wedi mwynhau'r hysbysebu digywilydd gan rai o'r Aelodau o bob rhan o'r Siambr, wrth iddynt ddisgrifio rhai o'u hoff fusnesau bach yn eu hardaloedd. 

Yr ail bwynt a nodwyd gan yr Aelodau—a thynnodd Heledd Fychan sylw ato yn benodol—yw nifer yr heriau sy'n wynebu busnesau bach ar hyd a lled Cymru. A gwaetha'r modd, fel y gwyddom ac fel y nododd Natasha Asghar a James Evans, mae busnesau yng Nghymru yn talu rhai o'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain. Yn ogystal â hyn, tynnodd Luke Fletcher sylw at yr her costau byw ar hyn o bryd sy'n taro ein busnesau bach yn galed, a chanolbwyntiodd Heledd Fychan yn benodol, unwaith eto, ar yr heriau y mae rhai o'r bobl sy'n ceisio cael yswiriant yn eu hwynebu nawr gan lesteirio eu busnesau ar hyn o bryd o bosibl. Dyna pam fod angen inni weld cefnogaeth bellach yn cael ei darparu i fusnesau bach.

Ac fel pwynt olaf yn fy nghyfraniad y prynhawn yma, nododd James Evans, eto, pa mor hanfodol bwysig yw hi ein bod ni'n cofio nad busnesau yw'r gelyn. Mae angen inni wneud ein gorau glas i'w cefnogi. Dyna pam rwy'n edrych ymlaen at weld llawer o'r Aelodau o bob rhan o'r Siambr yn hyrwyddo neu'n ymweld â'r busnesau bach yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau dros y penwythnos hwn. Mae pwynt 3 ein cynnig yn nodi bod angen i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ei holl ysgogiadau i gefnogi busnesau bach yng Nghymru yn well, ac fe gafodd ei nodi gan Paul Davies, unwaith eto, fod disgwyl i tua 35,000 o fusnesau bach yng Nghymru leihau neu gau hyd yn oed yn ystod y misoedd nesaf. A Ddirprwy Weinidog, roeddwn yn falch o glywed am rai o'r cynlluniau a'r mentrau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu rhoi ar waith ac wedi eu rhoi ar waith dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae'n amlwg i mi, yn fwy nag erioed, mai un o'r pethau mwyaf arwyddocaol y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yw edrych ar leihau'r baich ardrethi busnes, a fyddai'n rhoi arian yn ôl i'r busnesau ar ein stryd fawr.

Felly, wrth gloi, Lywydd, fel y mae Aelodau o bob rhan o'r Siambr wedi nodi, mae busnesau bach yn hanfodol i economi Cymru, yn hanfodol i'n cymunedau lleol. Nawr yw'r amser i wneud popeth yn ein gallu i'w cefnogi a darparu amgylchedd iddynt allu ffynnu ynddo. Diolch i'r Aelodau am eu holl gyfraniadau heddiw, ac edrychaf ymlaen at eu cefnogaeth barhaus. Diolch yn fawr iawn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Does dim gwrthwynebiad. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

18:45

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Mae hynny'n dod â ni at y cyfnod pleidleisio, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, dwi'n symud at y bleidlais.

10. Cyfnod Pleidleisio

Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 7 a'r ddadl ar y ddeiseb ar warchod mynyddoedd y Cambria drwy eu dynodi yn ardal o harddwch naturiol eithriadol. A dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jack Sargeant. Agor y bleidlais. O blaid 43, 11 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 7: dadl ar ddeiseb P-06-1302—'Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol'. O blaid: 43, Yn erbyn: 0, Ymatal: 11

Derbyniwyd y cynnig

Y bleidlais nesaf yw'r bleidlais ar eitem 8, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar bwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, yn erbyn 27. Felly, fel sydd yn ofynnol i mi o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n defnyddio fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y cynnig. Canlyniad y bleidlais felly yw: o blaid 27, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod. 

Eitem 8: dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Pwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru. O blaid: 27, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig

Lywydd, fe wneuthum ofyn yn ystod y ddadl ar hynny—

O, dewch. Mae'n rhaid inni wybod pam na all y Llywodraeth gyflwyno busnes.

A gaf fi gadarnhau i'r Aelod, fy mod yn credu i mi nodi'r ffaith iddo gyfeirio at y ffaith nad oedd y Llywodraeth wedi gallu cyflwyno gwelliannau brynhawn dydd Gwener yr wythnos diwethaf i'r ddadl ar yr ymchwiliad COVID? Bu'n destun gohebiaeth rhyngof fi a'r Prif Weinidog, ac rwy'n hapus i gyhoeddi'r ohebiaeth honno fel bod pob Aelod yn ymwybodol o'r rheswm nad oedd y gwelliannau, fel y'u cynigiwyd gan y Llywodraeth, mewn trefn ar gyfer y ddadl honno. FootnoteLink

O'r gorau. Ac Alun Davies, i chi gael rhybudd, ni fyddwch yn cael dau bwynt o drefn ym mhob Cyfarfod Llawn o hyn ymlaen, iawn. Felly, nid yw hynny'n gosod cynsail.

11. Dadl Fer: Rhwyd ddiogelwch i blant: Gwarchod hawl plant i fod yn ddiogel ar-lein

Diolch. Yn y ddadl hon, rwyf wedi cytuno i roi amser i Peter Fox, Jayne Bryant a Heledd Fychan gyfrannu at y ddadl hon heddiw.

Mae'n ffaith bryderus fod graddau cam-drin plant yn rhywiol ar-lein wedi bod yn cynyddu'n raddol. Mae ymchwil gan yr NSPCC yn dangos cynnydd decplyg wedi bod yn y troseddau cam-drin rhywiol ar-lein a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr dros y degawd diwethaf. Erbyn hyn mae bron cymaint o droseddau'n cael eu cofnodi mewn mis ag a gofnodid mewn blwyddyn 10 mlynedd yn ôl. Nid oes amheuaeth fod technoleg yn datblygu ar raddfa aruthrol. Ac mae'r data'n dangos bod meithrin perthynas amhriodol yn cynyddu fwyfwy ar draws y platfformau ledled Lloegr, a Chymru hefyd, a chofnodwyd 70 o apiau a gemau gwahanol yn gysylltiedig â throseddau meithrin perthynas amhriodol yn ystod y 12 mis diwethaf yn unig. Roedd nifer o wefannau cymdeithasol yn aml yn cael eu defnyddio yn yr un drosedd. Mae merched yn cael eu heffeithio'n anghymesur, gydag ymchwil yn datgelu mai merched yw 80 y cant o'r dioddefwyr mewn troseddau meithrin perthynas amhriodol ar-lein.

Mae'r raddfa enfawr a'r cynnydd mewn cam-drin rhywiol ar-lein sy'n wynebu ein plant yn sylfaenol ac yn gwbl groes i'w hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, yn enwedig erthyglau 19 a 39, sy'n ymwneud â rhyddid rhag trais ac adferiad yn sgil trais.

18:50

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Mae'r Bil Diogelwch Ar-lein, sydd ar hyn o bryd yn y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Cyffredin, yn cyflawni ymrwymiad maniffesto Llywodraeth y DU i wneud y DU y lle mwyaf diogel yn y byd i fod ar-lein, gan amddiffyn rhyddid mynegiant ar yr un pryd. Mae'r Bil wedi cael ei gryfhau a'i egluro ers iddo gael ei gyhoeddi ar ffurf ddrafft ym mis Mai 2021, gan adlewyrchu canlyniad craffu seneddol helaeth. Felly, gadewch imi ddweud wrthych chi i gyd heddiw beth y mae'r Bil yn ei wneud. Mae'r Bil yn cyflwyno rheolau newydd i gwmnïau sy'n dangos cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, sydd yn y pen draw yn caniatáu i ddefnyddwyr bostio eu cynnwys eu hunain ar-lein neu ryngweithio â'i gilydd, ac ar gyfer peiriannau chwilio, a fydd â dyletswyddau wedi'u teilwra i ganolbwyntio ar gyflwyno llai o ganlyniadau chwilio niweidiol i'r defnyddiwr. Bydd angen i'r platfformau sy'n methu gwarchod pobl ateb i'r rheoleiddiwr a gallent wynebu dirwyon o hyd at 10 y cant o'u refeniw, neu gael eu hatal yn yr achosion mwyaf difrifol.

Roedd yn wych clywed am beth o'r gwaith sy'n cael ei wneud gan Twitter a TikTok i gadw pobl yn ddiogel ar-lein pan gyfarfûm â'r cewri cyfryngau cymdeithasol yn eu pencadlys yn ddiweddar. Mae Twitter, er enghraifft, yn caniatáu i ddefnyddwyr fudo rhai geiriau, ymadroddion, emojis a hashnodau, a hefyd i reoli pwy sy'n cael ateb trydariadau. Yn gynharach eleni, lansiodd y cwmni arbrawf Twitter Circle. Mae defnyddwyr yn dewis pwy sydd yn eu cylch Twitter a dim ond yr unigolion rydych chi wedi'u hychwanegu sy'n gallu ateb a rhyngweithio â'r trydariadau a rannwch. Dyma rai o'r arfau diogelwch y gall defnyddwyr Twitter eu cyrchu. Mae cwmnïau fel Twitter yn gyfan gwbl o ddifrif ynglŷn â diogelwch ar-lein, ac maent yn parhau i fod yn ymrwymedig i fuddsoddi yn y broses o safoni cynnwys anghyfreithlon neu niweidiol wrth iddynt ymdrechu i ddarparu gwasanaeth sy'n ddiogel ac yn cyfleu gwybodaeth i bawb. O fis Gorffennaf i fis Rhagfyr 2021, tynnodd Twitter 4 miliwn o drydariadau a oedd yn torri eu rheolau, ac o'r trydariadau a dynnwyd, cafodd 71 y cant ohonynt lai na 100 argraff cyn eu tynnu, gyda 21 y cant ychwanegol wedi cael rhwng 100 a 1,000 argraff. Dim ond 8 y cant o'r trydariadau a dynnwyd a gafodd fwy na 1,000 argraff.

I'r rhai sy'n hoffi rhifau ac ystadegau, fel fi, roedd cyfanswm yr argraffiadau o'r trydariadau hyn sy'n torri rheolau yn llai na 0.01 y cant o'r holl argraffiadau ar gyfer pob trydariad yn ystod y cyfnod hwn. Bydd angen i bob platfform fynd i'r afael a chael gwared ar ddeunydd anghyfreithlon ar-lein, yn enwedig deunydd sy'n ymwneud â therfysgaeth a chamfanteisio ar blant a cham-drin plant yn rhywiol. Bydd gan blatfformau sy'n debygol o gael eu cyrchu gan blant ddyletswydd enfawr i amddiffyn plant ifanc sy'n ddefnyddio eu gwasanaethau rhag deunydd cyfreithiol ond niweidiol fel cynnwys hunan-niweidio'n ymwneud ag anhwylderau bwyta. Mae TikTok wedi mabwysiadu agwedd 'diogelwch drwy gynllunio' i atal niwed ar-lein, sydd, rhaid imi gyfaddef, yn wirioneddol gymeradwy. Mae'r cwmni wedi gwneud nifer o newidiadau ar gyfer defnyddwyr o dan 18 oed, megis dylunio ei osodiadau i fod yn breifat yn ddiofyn. Er enghraifft, mae defnyddwyr rhwng 13 a 15 oed yn cael cyfrifon preifat yn ddiofyn, sy'n golygu mai dim ond pobl y maent yn eu cymeradwyo fel dilynwyr sy'n cael gwylio eu fideos. Mae gan TikTok nodweddion oedran priodol hefyd, sy'n cyfyngu ar yr hyn y gellir ei anfon drwy negeseuon preifat, mae ganddo archwiliadau a sicrwydd oedran. Mae hefyd yn caniatáu i rieni a gofalwyr gysylltu eu cyfrif TikTok ag un eu plentyn arddegol ac addasu gwahanol osodiadau diogelwch.

Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin eleni, mae'n werth nodi bod TikTok wedi tynnu mwy na 113 miliwn o fideos—tua 1 y cant o'r cynnwys a uwchlwythwyd i TikTok—am dorri ei ganllawiau cymunedol. O'r fideos hyn, mae'n werth sôn bod 95.9 y cant o'r cynnwys wedi'i dynnu'n rhagweithiol gan TikTok cyn i ddefnyddiwr adrodd yn ei gylch, tynnwyd 90.5 y cant o'r cynnwys cyn iddo gael ei weld un waith, a thynnwyd 93.7 y cant o'r cynnwys o fewn 24 awr.

Yn ogystal, bydd gofyn i ddarparwyr sy'n cyhoeddi neu'n gosod cynnwys pornograffig ar eu gwasanaethau atal plant rhag cael mynediad at y cynnwys hwnnw. Bydd yn rhaid i'r platfformau risg uchaf fynd drwy gategorïau a enwir o ddeunydd cyfreithiol ond niweidiol a welir gan oedolion sy'n debygol o gynnwys materion fel cam-drin, aflonyddu neu gysylltiad â chynnwys sy'n annog hunan-niweidio neu anhwylderau bwyta. Bydd angen iddynt wneud yn glir yn eu telerau ac amodau beth sydd a beth nad yw'n dderbyniol ar eu safle, a gorfodi hyn, a'i orfodi'n briodol. Bydd dyletswydd ar y gwasanaethau hyn i gyflwyno offer grymuso defnyddwyr, gan roi mwy o reolaeth i ddefnyddwyr sy'n oedolion dros bwy maent yn rhyngweithio â hwy a'r cynnwys cyfreithiol a welant, yn ogystal â'r opsiwn i wirio pwy ydynt.

Rydym i gyd yn caru ac yn gwerthfawrogi rhyddid mynegiant, a bydd yn cael ei ddiogelu, oherwydd nid yw'r deddfau hyn yn ymwneud â gosod rheoliadau gormodol na dileu cynnwys gan wladwriaeth, ond yn hytrach maent yn sicrhau bod gan gwmnïau systemau a phrosesau ar waith i sicrhau diogelwch defnyddwyr. I unrhyw un yma sy'n credu bod y Bil yn wan neu wedi'i lastwreiddio, gadewch imi eich sicrhau ei fod yn cynnig tarian driphlyg o amddiffyniad, felly yn sicr nid yw'n wannach mewn unrhyw ystyr. Mae'r darian driphlyg yn ei gwneud yn ofynnol i blatfformau, yn gyntaf, i ddileu cynnwys anghyfreithlon, yn ail, i ddileu deunydd sy'n torri eu telerau ac amodau, gan roi mesurau rheoli i ddefnyddwyr i'w helpu i osgoi gweld rhai mathau o gynnwys sydd i'w nodi gan y Bil, a hefyd dileu deunydd nad yw'n cydymffurfio â'u telerau ac amodau. Gallai hyn hefyd gynnwys deunydd sy'n hyrwyddo anhwylderau bwyta neu'n annog casineb ar sail hil, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol neu hyd yn oed ailbennu rhywedd. Ychwanegodd prif weithredwr y Ganolfan ar gyfer Gwrthsefyll Casineb Digidol, Imran Ahmed, ei fod yn croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth

'wedi cryfhau'r gyfraith yn erbyn annog hunan-niweidio a dosbarthu delweddau personol heb ganiatâd'.

Bydd llawer o'r gwaith ar orfodi'r gyfraith newydd yn digwydd gan y rheoleiddiwr cyfathrebu a'r cyfryngau, Ofcom, y clywn amdano'n aml mewn perthynas â theledu a darpariaeth ar-lein arall, a bydd yn gallu dirwyo cwmnïau—fel y crybwyllais yn gynharach—hyd at 10 y cant o'u refeniw byd-eang, sy'n cyrraedd y biliynau. Rhaid ymgynghori â chomisiynydd y dioddefwyr, y comisiynydd cam-drin domestig a'r comisiynydd plant nawr ynghylch y rheolau wrth lunio'r codau y mae'n rhaid i gwmnïau technoleg eu dilyn wrth symud ymlaen. Bydd mesurau cymesur yn osgoi beichiau diangen ar fusnes bach a risg isel. Yn olaf, bydd angen i'r platfformau mwyaf roi systemau a phrosesau cymesur ar waith er mwyn atal hysbysebion twyllodrus rhag cael eu cyhoeddi neu eu dangos ar eu gwasanaeth. Yn y pen draw, bydd hyn yn mynd i'r afael â'r hysbysebion sgam niweidiol sydd wedi bod yn cael effaith ddinistriol ar eu dioddefwyr, ni waeth beth fo'u hoedran a'u cefndir.

Rwy'n gwybod bod pryderon wedi'u codi am oedi canfyddedig i gynnydd y Bil hwn drwy'r Senedd, ac rwy'n croesawu'r sicrwydd a roddwyd gan lefarydd yn yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ac rwy'n dyfynnu:

'Mae diogelu plant a chael gwared ar weithgaredd anghyfreithlon ar-lein yn brif flaenoriaeth i'r llywodraeth a byddwn yn dod â'r Bil Diogelwch Ar-lein yn ôl i'r Senedd cyn gynted â phosibl.'

Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Bil yn pasio'r cyfnodau sy'n weddill cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Pan gyflawnir hyn, dylem ni yn y Senedd ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod y drefn reoleiddio newydd yn cael ei gweithredu mewn ffordd sy'n atal, diogelu, cefnogi, a hyrwyddo hawliau plant yn y byd ar-lein yma yng Nghymru. Fe fydd pasio'r ddeddfwriaeth yn garreg filltir arwyddocaol. Fodd bynnag, gadewch inni fod yn realistig—ni all unrhyw Fil diogelwch ar-lein gael gwared ar bob bygythiad a phroblem o fywydau plant. Bum mlynedd ar ôl cyflwyno cynllun gweithredu cyntaf Llywodraeth Cymru ar ddiogelwch ar-lein, mae'n bryd inni edrych, pwyso a mesur a diffinio rôl Cymru yn y drefn reoleiddio newydd. Mae'n hollbwysig fod lleisiau plant yn ganolog wrth siapio rôl Cymru ar ôl deddfu. Dylid gwneud pob ymdrech i gynnwys plant a phobl ifanc, i glywed eu pryderon, ond hefyd i ddod o hyd i atebion ar gyfer sut y gallwn wneud y byd ar-lein yn lle mwy diogel iddynt i gyd.

Hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru sefydlu ymchwiliad i ddiogelwch plant ar-lein er mwyn archwilio beth yn union yw'r bylchau sy'n weddill er mwyn gwireddu hawl plant i fod yn fwy diogel ar-lein. Fe allai ac fe ddylai meysydd i'r pwyllgor hwn eu hystyried gynnwys, yn gyntaf, sut rydym yn sicrhau bod y cwricwlwm addysg cydberthynas a rhywioldeb newydd yn cefnogi ac yn gwireddu hawl plant a phobl ifanc i fod yn ddiogel a chael eu hamddiffyn ar-lein. Yn ail, dylai edrych ar ba hyfforddiant ychwanegol y dylid ei gyflwyno ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Yn drydydd, dylai hefyd graffu ar gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella cadernid digidol mewn addysg, y cynllun gweithredu ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion sydd ar y gweill ac unrhyw gynllun i olynu'r cynllun gweithredu ar gyfer atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol. Byddai hyn yn sicrhau eu bod yn siarad â'i gilydd, yn rhoi gwleidyddiaeth o'r neilltu ac yn cyflwyno dull sy'n amddiffyn plant a phobl ifanc, ac yn eu galluogi i godi llais, i ofyn am y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, ac i'w chael, gan fod amddiffyn ieuenctid, unwaith eto, yn hollbwysig i ni. Ac yn olaf, gallai ystyried peryglon a digonolrwydd ymatebion yn ymwneud â chyfathrebu ar-lein drwy'r Gymraeg. Byddai archwilio anghenion a phrofiadau plant yn hyn o beth yn sicrhau bod pob plentyn yn cael ei amddiffyn yn gydradd.

Ddirprwy Lywydd, ni ddylai Bil Diogelwch Ar-lein Llywodraeth y DU fod yn ben draw ynddo'i hun ond yn hytrach, yn ffordd o gyrraedd y pen draw. Rhaid i Lywodraeth Cymru adeiladu ar y Bil i fynd i'r afael â'r hyn sy'n gyrru niwed ar-lein. Rhaid i'r cyfrifoldeb beidio â bod ar y plentyn yn unig i fod yn wydn ac i gadw eu hunain yn ddiogel ar-lein; rhaid i Lywodraeth Cymru gyflawni ei dyletswydd i blant Cymru o dan CCUHP a sicrhau ei bod yn ymateb i'r lefelau digynsail o feithrin perthynas amhriodol a cham-drin plant yn rhywiol a welwn ar-lein bob dydd ar hyn o bryd. Diolch.

18:55

Hoffwn ddweud 'diolch yn fawr' wrth Natasha am godi hyn heddiw. Mae'n ddadl hynod o bwysig, ac ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yma yn y Senedd, rydym eisoes wedi clywed am bwysigrwydd diogelwch ar-lein yn ein gwaith. Dywedodd ein hymchwiliad i aflonyddu rhywiol gan gyfoedion wrthym fod ymddygiad pobl ifanc mewn ysgolion yn adlewyrchiad o dueddiadau sydd eisoes wedi hen ennill eu plwyf ar draws y gymdeithas. Mae'n amlwg i ni fod y tueddiadau hynny'n cael eu gwaethygu a'u chwyddo gan fynediad anrheoleiddiedig plant at gynnwys ar-lein amhriodol neu anghyfreithlon. Nid yw'r rhyngrwyd bob amser yn niweidiol i bobl ifanc, ond gall darluniau afrealistig o ryw a pherthnasoedd greu agweddau afiach ymhlith pobl ifanc, a gall platfformau rhwydweithio cymdeithasol greu pwysau i bobl ifanc edrych neu ymddwyn mewn ffordd benodol.

Y gwanwyn diwethaf, clywsom gefnogaeth gyffredinol i Fil Diogelwch Ar-lein Llywodraeth y DU ac ar y pryd, roedd y Bil yn cydnabod y gall plant a phobl ifanc fod yn arbennig o agored i niwed ac angen eu hamddiffyn rhag cynnwys anghyfreithlon ac amhriodol. Mae ein hymgysylltiad fel pwyllgor gyda Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth y DU am y Bil hwn wedi bod yn gadarnhaol. Mae'n Fil enfawr, sy'n gannoedd o dudalennau o hyd, a byddwn yn cael briff technegol ar oblygiadau'r Bil gan swyddogion yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ddechrau'r gwanwyn. Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog yn edrych ar gynnydd y Bil yn ofalus iawn, a hoffwn annog Llywodraeth Cymru i wneud yr hyn y gall i sicrhau bod y Bil yn cadw'r darpariaethau sy'n diogelu plant wrth iddo barhau ar ei daith graffu yn San Steffan.

19:00

A gaf fi ddiolch i chi, Natasha, am gyflwyno'r ddadl hon a chaniatáu munud o'ch amser i mi? Rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn y Siambr yn croesawu'r camau a gymerwyd gan y Llywodraeth i greu rhwyd ddiogelwch i blant gyda'i Bil Diogelwch Ar-lein. Gyda'r defnydd o'r rhyngrwyd a'r defnydd o gyfryngau cymdeithasol gan blant yn cynyddu'n aruthrol, mae'n iawn ein bod yn gwneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel iddynt. Mae'n iawn ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed rhag y cynnwys niweidiol hwnnw, a bydd y Bil Diogelwch Ar-lein yn mynd cryn bellter i gyflawni'r nod hwn.

Ond rwy'n cydnabod rhai o'r pryderon a achoswyd gan newyddion diweddar ynghylch newidiadau a wnaed i'r Bil, yn fwyaf arbennig nad yw cewri technoleg yn cael eu gorfodi i gael gwared ar gynnwys sy'n gyfreithlon ond yn niweidiol. Fodd bynnag, cefais sicrwydd, ac rwy'n gobeithio bod eraill wedi cael sicrwydd, o glywed yr ysgrifennydd digidol, Michelle Donelan, yn amlinellu sut y bydd y Bil yn amddiffyn plant. Bydd yn troseddoli anogaeth i hunan-niweidio, gan ei gwneud yn ofynnol i fusnesau fandadu terfynau oedran defnyddwyr a mesurau amddiffynnol angenrheidiol eraill.

Rhaid i amddiffyn plant fod yn flaenoriaeth ar lefel genedlaethol a datganoledig. Byddwn ar fai'n peidio â chofnodi'r gwaith da sydd eisoes yn digwydd yn y maes, ond mae angen mwy. Fel y mae Natasha eisoes wedi awgrymu, cam credadwy ymlaen fyddai cyflwyno ymchwiliad i ddiogelwch plant ar-lein yng Nghymru er mwyn canfod unrhyw fylchau sydd heb eu llenwi gan y Bil Diogelwch Ar-lein. Mae angen inni adeiladu ar y Bil Diogelwch Ar-lein.

Fel tad-cu i saith, mae'n debyg fy mod yn siarad ar ran cymaint o bobl sydd â phlant, ac mae'r hynaf ohonynt yn bump oed a bellach yn cyrchu'r rhyngrwyd, credwch neu beidio—neu'n hytrach, technoleg, ac ni fydd yn hir cyn iddi gyrchu'r rhyngrwyd—rwy'n mawr obeithio y bydd y rheoliadau pellach a roddir ar waith yma ac yn y Llywodraeth yn ei hamddiffyn hi a'r miloedd lawer o blant fel hi, a chenedlaethau i ddod, oherwydd mae'n hollbwysig ein bod yn gwneud popeth a allwn i amddiffyn y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas rhag pobl ddiegwyddor allan yno. Diolch.

Diolch, Natasha, am ddod â hwn gerbron.

Mae'n rhaid i mi ddweud, nid wyf yn rhannu sicrwydd Peter Fox. Rwy'n bryderus wrth weld yr elfen 'cyfreithiol ond niweidiol' yn cael ei dileu. Yr hyn sy'n fy mhryderu i fwyaf yw'r oedi a fu. Rwy'n credu ei bod o fudd i bawb ohonom sicrhau bod pwysau'n cael ei roi ar Lywodraeth y DU i gyflawni hyn cyn gynted â phosibl.

Mae NSPCC Cymru wedi bod yn glir y bydd 200 a mwy o blant yn dioddef cam-drin rhywiol ar-lein ym mhob mis y mae’r Bil Diogelwch Ar-lein yn cael ei ohirio. Mae pethau'n newid mor gyflym yn y maes hwn, ac mae'n amhosib i ni ddiogelu plant yn llwyr, ond dwi yn pryderu'n fawr o weld y newidiadau, gyda Twitter rŵan hefyd yn diswyddo staff sydd wedi bod yn gweithio'n benodol yn y maes hwn. Rydym ni'n gallu gweld efo unrhyw blatfform fod newidiadau'n gallu digwydd yn gyflym. Felly, wrth gwrs, mae yna elfen gref i ni o ran Llywodraeth Cymru i edrych ar oblygiadau a'r pethau rydym ni eisiau eu gweld ac yn gallu eu cefnogi yma yng Nghymru, ond mae yna ddyletswydd ar Lywodraeth Prydain i ddod â'r Mesur hwn, i ailystyried yr elfennau fyddai yn cryfhau a diogelu plant, ac mae angen gwneud hynny ar fyrder, oherwydd mae'r ystadegau'n dangos i ni'n glir fod hyn yn cael effaith ar blant a phobl ifanc. Rhaid gweithredu rŵan.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a hoffwn i ddiolch i'r Aelod am gynnig y ddadl fer bwysig hon. Fel Llywodraeth, rŷn ni'n awyddus i ledaenu buddiannau'r rhyngrwyd ac annog defnydd diogel o dechnoleg.

Mae plant a phobl ifanc yn ddefnyddwyr rhyngrwyd brwd ar oedrannau cynyddol iau, fel y clywsom yn y ddadl heno. Nid yw'n syndod fod adroddiad diweddaraf Ofcom, 'Plant a rhieni: adroddiad ar ddefnydd o'r cyfryngau ac agweddau atynt 2022', wedi darganfod bod 99 y cant o blant wedi mynd ar-lein y llynedd. Wrth dyfu i fyny yn yr oes ddigidol hon, nid yw plant yn gwahaniaethu rhwng eu bywydau ar-lein ac all-lein yn yr un modd â chenedlaethau hŷn. Maent yr un fath â'i gilydd. Mae plant a phobl ifanc yn disgwyl i'w hawliau gael eu gwarchod ar-lein lawn cymaint ag y maent all-lein, ac maent yn iawn i ddisgwyl hynny. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i wneud egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn realiti i bob plentyn yng Nghymru, ac roeddwn yn falch fod y CCUHP, y llynedd, wedi mabwysiadu sylw cyffredinol 25, sydd bellach yn sicrhau bod hawliau plant yn berthnasol ar-lein fel y maent all-lein.

Mae diogelwch ar-lein yn fater cymdeithasol cymhleth. Mae mynd i'r afael ag ef yn galw am ddull amlasiantaethol o weithredu. Mae ein cynllun gweithredu cenedlaethol ar gadernid digidol yn amlinellu'r ymrwymiadau rydym yn eu cyflawni ar draws y Llywodraeth, gyda phartneriaid arbenigol, i wella diogelwch ar-lein i blant a phobl ifanc. Mae dull cydweithredol yn hanfodol er mwyn gwneud cynnydd go iawn ac felly, mae gweithio mewn partneriaeth yn cael lle canolog yn y cynllun gweithredu. Gan adlewyrchu natur sy'n esblygu'n barhaus y byd digidol, mae'r cynllun gweithredu'n cael ei ddiweddaru'n flynyddol, gan ychwanegu ffrydiau gwaith newydd, yn ogystal â darparu crynodeb o gynnydd y gwaith hyd yma. Mae'r cynllun gweithredu eleni yn nodi dros 70 o gamau gweithredu rydym yn eu cyflawni gyda'n partneriaid i wella darpariaeth ac ymarfer diogelwch ar-lein ledled Cymru, a hoffwn dynnu sylw at rai o'r gweithgareddau allweddol rydym yn parhau i'w datblygu.

Yn gynharach eleni, cefais y fraint o gyhoeddi enillwyr ein cystadleuaeth ffilm Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, 'Parcha fi. Fy rhyngrwyd, fy hawliau'. Roedd y ffilmiau'n procio'r meddwl ac roeddent yn pwysleisio grym lleisiau pobl ifanc a'u hawliau i fod yn ddiogel rhag niwed ar-lein. Mae'n hanfodol ein bod yn gwrando ar brofiadau pobl ifanc i ddeall y byd ar-lein yn iawn drwy eu llygaid hwy, ac mae eu llais yn ganolog i'n rhaglen ac yn llywio ein gwaith datblygu polisi.

Eleni, rydym wedi sefydlu panel ieuenctid newydd ar gyfer cadernid digidol. Mae'r panel yn dod â phobl ifanc at ei gilydd o bob cwr o Gymru i ddylanwadu ar, ac i lywio ein gwaith yn uniongyrchol er mwyn gwella diogelwch ar-lein. Rwy'n edrych ymlaen at glywed gan y panel, ac am ddiolch i'r bobl ifanc am roi eu hamser i gefnogi'r gwaith pwysig hwn.

Gyda chymaint o wybodaeth ar flaenau eu bysedd, gwyddom fod pobl ifanc yn aml yn mynd ar-lein i edrych am gymorth a chyngor. Yn gynharach eleni, lansiwyd 'Problemau a phryderon ar-lein', ardal newydd ar 'Cadw'n ddiogel ar-lein' Hwb, yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc. Cafodd y cyngor hwn ei gyd-gynllunio gyda phobl ifanc a'i nod yw eu cefnogi os ydynt yn poeni am broblem ar-lein. Mae'r cyngor newydd hwn yn ehangu cyrhaeddiad 'Cadw'n ddiogel ar-lein' Hwb, ein siop un stop bwrpasol, sy'n darparu newyddion, cyngor ac arweiniad ar amrywiaeth o faterion cadernid digidol. Mae'r ardal allweddol hon wedi parhau i esblygu. Bellach mae'n cynnwys dros 400 o adnoddau i gefnogi plant a phobl ifanc, yn ogystal â'u teuluoedd a chymunedau ysgol. Drwy 'Cadw'n ddiogel ar-lein', mae gan ysgolion fynediad at gynnig helaeth o adnoddau addysgu dwyieithog, yn ogystal â chyfleoedd hyfforddi, ac mae'r rhain yn ymdrin ag ystod o faterion diogelwch ar-lein amserol, gan gynnwys rhannu delweddau noeth, aflonyddu rhywiol gan gyfoedion ar-lein a chamwybodaeth.

Yn ddiweddar, llwyddais i fynychu lansiad adnoddau a ddatblygwyd gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, wedi'u targedu at fechgyn, ynghylch peth o'r niwed ar-lein y gellid ei achosi a hefyd, ymwelais ag ysgol yng nghwm Cynon i glywed gan fenywod ifanc yno am y profiadau a gawsant o weithio gyda chwmnïau technoleg i ddarparu arweiniad i'w cyfoedion. Mae cyfoeth o adnoddau'n cael eu cynhyrchu, gan gynnwys gan y bobl ifanc eu hunain.

Mae diogelwch ar-lein yn esblygu'n gyson, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bwysig ein bod yn gyfredol ac yn rhoi gwybodaeth i'n haddysgwyr am y tueddiadau a'r risgiau diweddaraf, a sut i gynorthwyo eu dysgwyr i'w llywio. Am y tro cyntaf, fis Mawrth nesaf, byddwn yn cynnal dwy gynhadledd genedlaethol cadernid digidol mewn addysg. Bydd y digwyddiadau hyn yn rhoi sylw i ddiogelwch ar-lein a bydd yn rhoi'r wybodaeth a'r adnoddau sydd eu hangen ar ysgolion i barhau i yrru datblygiad diogelwch ar-lein mewn addysg. Mae'n hanfodol fod diogelwch ar-lein wedi'i wreiddio'n gadarn o fewn diwylliant diogelu. Ni ddylid ei ystyried yn fater TG neu ddigidol yn unig. Erbyn hyn mae cadernid digidol yn rhan annatod o'n canllawiau diogelu mewn addysg statudol, ac yn gadarn ar agenda'r grŵp cenedlaethol diogelu mewn addysg.

Eleni, mae fy swyddogion yn gweithio mewn partneriaeth ag Estyn, yn cyfarfod ag awdurdodau lleol a phenaethiaid ysgolion i archwilio sut maent wedi gwreiddio diogelwch ar-lein yn eu polisi, darpariaeth ac ymarfer diogelu. Er bod addysg yn chwarae rôl bwysig, mae llawer o'r problemau diogelwch ar-lein y mae ysgolion yn adrodd yn eu cylch yn digwydd y tu hwnt i gatiau'r ysgol a thu allan i oriau ysgol. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn ymgysylltu â rhieni a gofalwyr, ac mae'r cynllun gweithredu'n cynnwys sawl cam gweithredu i roi cefnogaeth a chyngor i deuluoedd ar ystod o faterion diogelwch ar-lein. Gan gydnabod bod llawer o broblemau ar-lein yn digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol, datblygodd Llywodraeth Cymru 'Bydd Wybodus'. Mae'r gyfres yn rhoi gwybodaeth allweddol i rieni a gofalwyr am y cyfryngau cymdeithasol ac apiau gemau sy'n boblogaidd ymhlith plant a phobl ifanc. Rydym yn parhau i adeiladu ar y gyfres hon, yn ogystal ag archwilio ffyrdd eraill o gefnogi rhieni.

Ar draws y byd, mae yna ddadl gref ynglŷn â'r rôl y dylai deddfwriaeth ei chwarae wrth wneud y rhyngrwyd yn fwy diogel, a gwelwyd hynny yn y ddadl heddiw. Mae'n hanfodol na ddylai'r cyfrifoldeb fod ar blant i amddiffyn eu hunain rhag niwed ar-lein. Mae Llywodraeth y DU wedi amlinellu ei chynlluniau drwy gyflwyno'r Bil Diogelwch Ar-lein hirddisgwyliedig yn gynharach eleni. Rwy'n croesawu uchelgais y Bil mewn perthynas â'r amddiffyniad gwell i blant a phobl ifanc. Mae'n hanfodol fod Llywodraeth y DU nawr yn blaenoriaethu'r gwaith hwn, ac rwy'n cefnogi'r galwadau a wnaed gan lawer o'n partneriaid i fwrw ymlaen â'r Bil heb unrhyw oedi pellach, ac rwy'n adleisio'r pwynt a wnaeth Heledd Fychan yn y ddadl.

Roeddwn yn falch o weld y gwelliant diweddar a gyflwynwyd yn amlinellu'r bwriad i droseddoli cynorthwyo neu annog hunan-niweidio ar-lein, ac fe dynnodd Natasha Asghar sylw penodol at hyn. Ni ddylai ymddygiad ffiaidd o'r fath gael unrhyw le yn ein cymdeithas, ac rwy'n falch hefyd o weld y bydd ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol yn cael ei ychwanegu at y rhestr o droseddau blaenoriaethol yn y Bil.

Er bod Llywodraeth y DU yn ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng rhyddid mynegiant a diogelwch, mae'n hanfodol nad yw newidiadau a wneir i'r Bil yn digwydd ar draul diogelwch plant ac nad ydynt yn gwanhau'r effaith y gall y ddeddfwriaeth hon ei chael. Rwy'n eu hannog i ymrwymo i wneud y mwyaf o'r amddiffyniad y mae'r Bil yn ei roi i blant.

Rhaid herio'r cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau ar-lein yn y ffordd y clywsom yn y ddadl heddiw, er mwyn sicrhau eu bod yn mynd i'r afael â chynnwys niweidiol ar eu platfformau. Yn y pen draw, bydd Ofcom yn chwarae rhan allweddol wrth iddynt ddatblygu codau ymarfer cadarn i ddwyn platfformau ar-lein i gyfrif. Edrychwn ymlaen at barhau i ymgysylltu â hwy i wneud cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau ar-lein yn lleoedd mwy diogel a gwell i bawb.

Gadewch imi fod yn glir, Ddirprwy Lywydd, mae gan ein plant a'n pobl ifanc hawl i fod yn ddiogel ar-lein. Mae ganddynt hawl i fod yn rhydd o fwlio ar-lein, mae ganddynt hawl i fod yn rhydd o gasineb a thrais ar-lein, a'r hawl i fod yn rhydd o gam-drin ac aflonyddu ar-lein. Mae Llywodraeth Cymru'n chwarae ei rhan i sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn cael eu grymuso i fod yn ddinasyddion cyfrifol, moesegol a gwybodus. Fy ymrwymiad cadarn yw gyrru ein cenhadaeth i sicrhau bod eu hawliau i fod yn ddiogel yn cael eu gwireddu'n llawn, ac rwy'n galw ar Lywodraeth y DU i weithredu heb oedi pellach.

19:10

Daeth y cyfarfod i ben am 19:13.